Y Cyfarfod Llawn

Plenary

02/10/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.

Safonau Gofal i Denantiaid

1. Pa safonau gofal i denantiaid y mae Llywodraeth Cymru yn eu disgwyl gan gymdeithasau tai? OQ61604

Mae’r safonau rheoleiddiol yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer cymdeithasau tai. Mae'r safonau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gymdeithasau ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a chartrefi diogel, yn ogystal â'i gwneud yn ofynnol i denantiaid allu dylanwadu ar benderfyniadau strategol a darpariaeth gwasanaethau. Caiff cydymffurfiaeth â'r safonau ei fonitro ac adroddir arno drwy ddyfarniadau rheoleiddio.

Felly, yng nghyd-destun yr angen i geisio nodi unrhyw un sy'n mynd heb gredyd pensiwn i allu cael taliad tanwydd y gaeaf, rwyf wedi bod yn siarad â'r cymdeithasau tai yn fy etholaeth i yng Nghanol Caerdydd i weld pa ddyletswydd gofal sydd ganddynt i les eu tenantiaid er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo a'u bod yn gwybod sut i wneud cais amdano cyn 21 Rhagfyr. Rwy’n falch iawn o ddweud bod Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd yn cymryd camau rhagweithiol i gysylltu â’r holl denantiaid perthnasol, ond nad yw eraill ond yn cynorthwyo preswylwyr pan ofynnir iddynt am wybodaeth. Ac rwy'n teimlo bod y mater llesiant hwn, i sicrhau bod pobl yn cael yr incwm sydd ei angen arnynt ac y mae ganddynt hawl iddo ar yr adeg anodd hon o ran biliau tanwydd cynyddol, yn rhywbeth y mae angen inni fynd ar ei drywydd. Felly, pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gyda chymdeithasau tai ynghylch eich disgwyliadau ynghylch llesiant tenantiaid yn ogystal â bod awdurdodau lleol yn mynd ati'n rhagweithiol i sicrhau nad oes unrhyw un sydd mewn perygl o golli credyd pensiwn a lwfans tanwydd y gaeaf yn cael eu hamddifadu am na allant wneud cais digidol, neu am nad oes ganddynt aelod o'r teulu i wneud hynny drostynt.

Diolch am eich cwestiwn, Jenny—mae'n un hynod bwysig, ac rwy'n eich canmol am y gwaith a wnewch yn eich ardal yn arbennig, ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau eraill yn gwneud hynny hefyd er mwyn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod pobl yn hawlio popeth y mae ganddynt hawl iddo. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl Cymru yn hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi. Mae gennym ein hymgyrch flaenllaw i sicrhau bod pobl yn manteisio ar raglen ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’, sydd wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol iawn, ac rydym yn sicrhau ein bod yn parhau i fynd ar drywydd hynny.

Rydym yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth y DU a’n partneriaid, gan gynnwys Cartrefi Cymunedol Cymru, i gynyddu’r nifer sy’n hawlio credyd pensiwn yng Nghymru, ac mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi datblygu hyb cymorth costau byw i rannu cyngor dysgu ac arferion da ymhlith pob cymdeithas dai er mwyn gefnogi tenantiaid mewn trafferthion ariannol. Hoffem annog pob landlord cymdeithasol cofrestredig ac awdurdod lleol i weithio gyda ni a’n partneriaid i helpu i gynyddu’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau, gan y gwyddom mai dyma’r porth yn aml i bobl gael mynediad at gymorth ariannol pellach. Felly, mae’n bwysig iawn, a byddaf yn parhau i fonitro hyn hefyd gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet.

Mae cymdeithasau tai wedi dweud pryderon wrthyf, am eu bod yn cymryd mwy o denantiaid oddi ar restrau blaenoriaeth ac felly’n gweithio gyda phobl sydd mewn argyfwng neu sydd wedi bod mewn argyfwng, fod hyn yn cael effaith fawr, lle mae anghenion tenantiaid yn dod yn fwyfwy cymhleth a’r galwadau arnynt yn cynyddu wrth iddynt weithio gyda theuluoedd yr effeithir arnynt a chynnal eu cartrefi, a'u bod hefyd yn ei chael hi'n anodd gyda dyheadau Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio lle mae eu gallu i gyflawni mewn gwirionedd, a dyfynnaf, yn 'amherthnasol', gyda thwll du enfawr yn y cyllid i'w wneud yn y ffordd y gofynnir iddynt ei wneud, a bod angen cydbwyso'r uchelgais gyda'r hyn sy'n realistig, gan weithio gyda thenantiaid i bennu'r ffordd orau ar gyfer cartrefi unigol. Felly, wrth bennu'r safonau y mae’n disgwyl i gymdeithasau tai eu darparu o ran gofal tenantiaid, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i’r pryderon hyn?

Diolch, Mark. Fel y dywedais, rydym yn gweithio’n agos iawn gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a chredaf fod hwnnw’n ddull partneriaeth pwysig, yn ogystal â llywodraeth leol, gan fod pob un ohonom am weld cymaint o bobl â phosibl yn cael mynediad at yr hyn y mae ganddynt hawl iddo. Mae Cartrefi Cymunedol Cymru, fel y dywedais, wedi datblygu hyb cymorth costau byw i rannu dysgu, cyngor ac arferion gorau â chymdeithasau tai, gan roi cymorth costau byw hanfodol i’w tenantiaid. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo. Mae gan landlordiaid cymdeithasol ddyletswydd gofal i’w tenantiaid drwy wahanol ddeddfwriaeth landlordiaid a thenantiaid, gan gynnwys Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Ond fel y dywedais, mae llawer o waith yn mynd rhagddo yn y maes hwn. Rydym yn ymwybodol iawn ohono. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn cadeirio’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Waith a Phensiynau nesaf, a bydd yn trafod pa mor bwysig yw hi fod y ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r rheswm pam nad yw pobl hŷn yn manteisio ar eu hawliau. Mae llawer o ffocws yn y maes hwn, ac rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am hyn maes o law.

13:35
Cyfleusterau Cymunedol yn Islwyn

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol yn Islwyn i sicrhau bod cyfleusterau cymunedol yn cael eu diogelu? OQ61623

Mae ein rhaglen adfywio Trawsnewid Trefi yn darparu pecyn cymorth cydgysylltiedig, gan roi cyfle i awdurdodau lleol fuddsoddi yng nghanol trefi ledled Cymru. Gall trefi unigol elwa drwy nodi'r cymysgedd o ymyriadau sy'n gweddu orau i'w cryfderau lleol, diwylliant, treftadaeth a nodweddion penodol.

Diolch. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi datgan bod ganddynt ddiffyg o £45 miliwn i'w lenwi yn eu cyllid. Mae bygythiad y bydd Sefydliad y Glowyr, Coed-duon yn cau o ganlyniad, gyda'r cyhoeddiad cyntaf ddiwedd mis Gorffennaf y byddai’n cau, o bosibl, bum mis yn ddiweddarach ar ddiwedd mis Rhagfyr. Felly, yn dilyn protest fawr a gorymdaith drwy Goed-duon, a deiseb wedi'i llofnodi gan filoedd, mae’r cynnig wedi'i oedi wrth i’r cyngor geisio awdurdod cyfreithiol i’w pwerau i wneud penderfyniadau cyfreithiol oherwydd statws elusennol y 'stiwt'.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r astudiaeth achos o Sefydliad y Glowyr, Coed-duon a’r sefyllfa ariannol a wynebir gan gynghorau Cymru yn galw am gamau gweithredu brys a dull ymyraethol o ran yr hyn sy’n digwydd ar lefel llywodraeth leol. Rhybuddiodd Harold Macmillan unwaith fod canlyniadau Thatcheriaeth fel gwerthu llestri arian y teulu. Mae gwerthu asedau

'yn gyffredin ymhlith unigolion ac ystadau pan fyddant yn mynd i drafferthion ariannol…. Yn gyntaf, mae'r llestri arian Sioraidd yn mynd, wedyn yr holl gelfi hyfryd a arferai fod yn yr ystafelloedd cyhoeddus, ac yna mae'r Canalettos yn mynd.'

Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod mesurau diogelu ar waith, fel bod gan awdurdodau lleol yr arbenigedd, y gefnogaeth a'r hyn sy'n ofynnol i weithio gyda phartneriaid allanol i sicrhau nad yw asedau cymunedol hynod werthfawr yn cael eu haberthu ar allor cyfrifyddiaeth?

Diolch am eich cwestiwn, Rhianon, ac rwy’n ymwybodol o’r sefyllfa yr ydych wedi'i nodi. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl allweddol y mae diwylliant yn ei chwarae mewn cymunedau ledled Cymru, ei gyfraniad i iechyd a llesiant, effeithiau economaidd, atyniadau i ymwelwyr, adnoddau ar gyfer ysgolion a dysgu gydol oes, ac mae'r pethau hyn oll yn hanfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r opsiynau anodd iawn y mae’n rhaid eu harchwilio yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Mater i'r corff llywodraethu yw rheoli ac ariannu lleoliadau fel Sefydliad y Glowyr, Coed-duon. Yn yr achos hwn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw hwnnw. Gwn fod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi bod yn trafod gyda chyngor Caerffili ynghylch yr ymgynghoriad y mae’r awdurdod lleol wedi’i gael, a gwn fod y swyddogion yno wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â thîm y sefydliad, a'u bod wedi cynnig cymorth ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru ynglŷn â datblygiadau.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n llwyr gefnogi pryder Rhianon Passmore ynghylch diffyg cefnogaeth cyngor Llafur Caerffili i leoliadau cymunedol. Fodd bynnag, mae cipolwg cyflym ar gyfrifon y cyngor yn dweud wrthych y gellir datrys y broblem. Mae cyngor Llafur Caerffili yn eistedd ar £220 miliwn o gronfeydd wrth gefn. Mewn cyferbyniad, mae gan gyngor sir Fynwy £20 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn. Mae bron i £0.25 biliwn yn eistedd mewn banc yn gwneud dim tra bo pobl yn galaru am golli cyfleusterau pwysig, ac asedau diwylliannol, fel y dywedwch, Ysgrifennydd y Cabinet. A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn gwbl warthus fod y cyfleuster cymunedol poblogaidd hwn yn Islwyn—y ddau gyfleuster yn Islwyn—yn mynd i gau oherwydd diffyg arian, pan fo symiau enfawr yn cronni mewn cyfrifon banc? A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gyfarfod gyda chyngor y celfyddydau a chyngor Caerffili i wneud iddynt geisio rhoi rhywfaint o'r arian sydd ganddynt yn y banc i'r gymuned lle dylai fod?

Diolch, Laura. Rydym yn deall sut y mae’r rhain yn benderfyniadau anodd i awdurdodau lleol. Fel y dywedais, mater i’r awdurdod lleol yw hwn. Credaf eich bod yn cyfuno dau beth ynghylch pwrpas y cronfeydd wrth gefn, ond rydym yn ymwybodol o’r sefyllfa. Gwyddom fod yr awdurdod lleol wedi ymgysylltu â’r cyhoedd. Bu ymgynghoriad llawn a chraffu effeithiol gan yr aelodau etholedig, ac mae honno’n elfen bwysig o benderfyniadau lleol ar y darpariaethau a’r gwasanaethau a ddarperir. Felly, fel y dywedais, mae trafodaethau o fewn—. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhan o'r trafodaethau—mae swyddogion yno. Gofynnwyd inni gadw mewn cysylltiad â’r trafodaethau hynny, felly gallaf roi sicrwydd i chi fod hynny’n digwydd.

13:40

Ysgrifennydd y Cabinet, mae tynged Sefydliad y Glowyr, Coed-duon yn y fantol, ac mae trigolion a staff yn bryderus iawn, yn enwedig ar ôl y newyddion yr wythnos diwethaf y bydd Llancaiach Fawr yn cau. Mae cyngor Caerffili, fel y dywedwyd, wedi gorfod oedi eu penderfyniad ynglŷn â dyfodol sefydliad y glowyr, ond mae gan ymgyrchwyr lleol lawer o gwestiynau. Mae sefydliad y glowyr wedi derbyn arian gan gyngor y celfyddydau. Roedd i fod i gael arian o'r gronfa ffyniant gyffredin—efallai fod yr arian a glustnodwyd ar gyfer y sefydliad eisoes wedi'i roi i ffynonellau eraill. Pa gymorth brys y gall Llywodraeth Cymru ei roi—credaf fod hyn yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru ei gefnogi—i sicrhau bod un o gonglfeini bywyd diwylliannol yn y gymuned yn parhau i fod ar agor? Mae risg wirioneddol y bydd cynyrchiadau’n tynnu allan hyd yn oed cyn i benderfyniad gael ei wneud oherwydd yr ansicrwydd parhaus, ac mae ysbryd staff yn syfrdanol o isel, yn rhannol, unwaith eto, oherwydd y penderfyniad yr wythnos diwethaf ynglŷn â Llancaiach Fawr. A all y Llywodraeth roi cymorth brys, gan y dylid rhoi cymorth cenedlaethol i leoliadau sydd o bwysigrwydd cenedlaethol?

Diolch, Delyth. Rwy'n deall y safbwyntiau angerddol sydd gan bob Aelod ynghylch Sefydliad y Glowyr, Coed-duon. Gwn fod ymgynghoriad yn mynd rhagddo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Fel y dywedais, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhan o'r trafodaethau. Fel y soniwch, maent wedi ariannu Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, ond gwn fod y trafodaethau hynny’n parhau. Felly, rwy’n deall pwysigrwydd yr adeilad. Mae hwn yn benderfyniad i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac fel y dywedaf, rwy'n deall y cefndir ariannol i hyn oll hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, a gaf i eich croesawu i’ch swydd newydd, Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy'n ddiffuant yn dymuno'r gorau i chi, a byddaf yn gwneud fy ngorau i fod mor gefnogol ag y gallaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ei blaenoriaethau ar gyfer y Llywodraeth hon. Rwy'n gobeithio y dowch â syniadau a safbwyntiau newydd ar fater cyllid llywodraeth leol. Ysgrifennydd y Cabinet, beth fydd eich cynlluniau ar gyfer cyllid cynaliadwy i lywodraeth leol?

Diolch, Peter. Diolch yn fawr iawn am y croeso cynnes, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi a chyd-Aelodau eraill ar draws y Siambr ar y portffolio hwn.

Mae'n ddyddiau cynnar i mi ar hyn—yn wir, dyma'r mis cyntaf, rwy'n credu, neu'r ychydig wythnosau cyntaf, beth bynnag. Rydym yn datblygu protocol real ar y cyd ag awdurdodau lleol, gan edrych ar sut y gallwn symud ymlaen i weld a oes yna her ariannol sylweddol. Felly, rydym yn ceisio mynd at wraidd hynny, mewn gwirionedd, gydag awdurdodau lleol. Edrychaf ymlaen at gael trafodaethau gydag arweinwyr awdurdodau lleol ledled Cymru—rwyf eisoes wedi dechrau ar hynny—ac edrychaf ymlaen at weithio gyda CLlLC. Felly, rwy’n awyddus i siarad ag awdurdodau lleol yn uniongyrchol a chlywed ganddynt ynglŷn â rhai o’r heriau a’r cyfleoedd y maent yn eu hwynebu.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n braf clywed hynny, ac rwy'n eich annog i gael y sgyrsiau hynny cyn gynted â phosibl. Yr wythnos diwethaf, clywsom gan arweinydd sir y Fflint ynglŷn â sut oedd yr awdurdod lleol yno mewn sefyllfa lle gallai fod angen iddynt ddatgan methdaliad ar ryw bwynt. Ac yna clywsom negeseuon tebyg yn nes ymlaen, oni wnaethom, ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, gan Gastell-nedd Port Talbot. Fe wyddom y bydd llawer o awdurdodau eraill yn hynod bryderus ynglŷn â'r sefyllfa. Gwyddom fod cyllideb y llynedd wedi golygu toriad mewn termau real o oddeutu 5 y cant i gynghorau, ac mae goblygiadau hyn, a’r blynyddoedd anodd blaenorol, yn bygwth cynaliadwyedd llywodraeth leol ar ei ffurf bresennol. Gyda hyn mewn golwg, pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau y gall pob cyngor barhau i ddarparu’r amryw wasanaethau hanfodol y mae ein cymunedau’n talu amdanynt ac yn eu disgwyl? A fyddwch chi eisiau adolygu’r trefniadau presennol ar gyfer cyllid llywodraeth leol? Gwn eich bod wedi dweud y byddwch yn siarad â CLlLC ac arweinwyr, ond a oes awydd yn eich portffolio, o fewn y Llywodraeth, i edrych yn agos ar fformiwla gyllido llywodraeth leol?

13:45

Diolch, Peter. Credaf fod cyfle yma hefyd i dalu teyrnged i’r holl bobl sy’n gweithio yn yr awdurdodau lleol a’r swyddogion sy’n gweithio’n galed bob dydd i sicrhau bod y gwasanaethau hynny’n cael eu darparu ar gyfer ein cymunedau lleol. Felly, rwy’n falch iawn fod gennyf y cyfrifoldeb dros lywodraeth leol yn fy mhortffolio, a hoffwn dalu teyrnged i’r gweithlu sy’n gweithio’n galed mewn sefyllfaoedd anodd.

Fel y nodwyd nawr, rydym yn datblygu protocol ar y cyd gydag awdurdodau lleol i'w ddefnyddio pan fydd yna her ariannol sylweddol. Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd yr is-grŵp cyllid yn cytuno ar y protocol hwnnw. Mae’n mynd i nodi ystod o opsiynau posibl ar gyfer cymorth. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn cynnwys mynediad at gyllid ychwanegol, ond yn hytrach at gamau anariannol a thechnegol, gan gynnwys, lle bo'n briodol, cyfarwyddiadau cyfalafu. Felly, mae rhywbeth yno yr ydym yn edrych arno rhag ofn, gan fy mod yn cydnabod y straen sydd ar y system ar hyn o bryd a’r hyn a welsom dros y ffin hefyd. Felly, rydym yn sicrhau ein bod yn gweithio gyda llywodraeth leol i baratoi. Felly, fel y dywedais, rwy’n awyddus iawn i gael y trafodaethau hynny gydag arweinwyr awdurdodau lleol a CLlLC, ac rwy’n siŵr y byddaf yn clywed rhai o’r pwyntiau a godwyd gennych heddiw.

Diolch. Rwy’n siŵr y bydd y sgyrsiau hynny’n gynhyrchiol. Credaf ei bod yn bwysig ac yn ddyletswydd arnaf i dynnu sylw at y materion ehangach. Fel y gwyddoch, o'm profiad yn y gorffennol, gwn fod gwahaniaeth sylweddol yn y gwytnwch sydd gan lawer o gynghorau. Clywsom achos yn gynharach am lefelau’r cronfeydd wrth gefn. Nid wyf am sôn am gronfeydd wrth gefn, gan y gwn eu bod eisoes yn cael eu defnyddio. Fodd bynnag, mae rhai mewn sefyllfa fregus am nad ydynt yn wydn, ac mae hynny o ganlyniad i’r system ariannu ac nid yw’n gynaliadwy.

Gan symud ymlaen, Ysgrifennydd y Cabinet, cur pen enfawr i gynghorau, fel y gwyddoch yn iawn, yw’r pwysau sy'n gysylltiedig â gofal cymdeithasol. Y llynedd, roedd awdurdodau lleol yn wynebu twll du ariannol o oddeutu £260 miliwn i fynd i’r afael â gofal cymdeithasol, ond fe fyddwch yn gwybod mai dim ond oddeutu 10 y cant o’r cyllid ychwanegol a gawsant gan Lywodraeth Cymru. Roedd hynny’n groes i'r angen i fynd i’r afael â’r sefyllfa o ran lles, gan gydnabod faint o arian sy'n mynd i faes iechyd. Yn amlwg, felly, mae yna ddiffyg ymagwedd gyfannol gan y Llywodraeth mewn perthynas ag iechyd a lles. Mae llywodraeth leol yn chwarae rhan hollbwysig yn cynnal lles ein cymunedau. Felly, gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, beth y gall y teulu llywodraeth leol ddisgwyl ei weld gennych chi a'ch cyd-Aelodau i unioni'r sefyllfa ar gyfer gofal cymdeithasol?

Diolch, Peter. Unwaith eto, diolch am yr holl waith a wnaethoch yn eich bywyd blaenorol, cyn dod yma, ym maes llywodraeth leol. Rydych chi'n sôn am wydnwch awdurdodau lleol, a gwn unwaith eto fod pobl yn gweithio’n galed iawn yn yr awdurdodau lleol hynny, mewn cyd-destun anodd o ran pwysau ariannol, disgwyliadau gan wasanaethau a’r hyn y mae awdurdodau lleol yn ei ddarparu, ac fel rydych chi wedi'i nodi, mae gofal cymdeithasol yn elfen mor hanfodol o hynny. Fe wyddom, ac rwyf eisoes wedi clywed fy hun gan arweinwyr awdurdodau lleol a chynghorwyr, am y pwysau sydd ar awdurdodau lleol oherwydd gofal cymdeithasol. Rwy’n awyddus i weithio gydag Aelod y Cabinet dros ofal cymdeithasol hefyd, y Gweinidog gofal cymdeithasol, ar hyn, ac Aelod y Cabinet dros iechyd a gofal cymdeithasol, oherwydd os oes ffordd y gallwn gael ffocws go iawn yn y maes hwn, yn enwedig i gael pobl allan o ysbytai, gwn fod hynny'n rhywbeth y mae'r Prif Weinidog wedi sôn amdano dros beth amser bellach. Felly, credaf y bydd cael y ffocws hwnnw a chydweithio ar draws portffolios o gymorth hefyd gyda llywodraeth leol, sy’n wirioneddol hanfodol.

Diolch, Llywydd. Rydw innau’n edrych ymlaen at gydweithio efo chi ar y portffolio tai. Ddoe, fe fuon ni’n trafod canfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru oedd yn dweud na fydd targed 20,000 o gartrefi cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn cael ei gyrraedd heb wariant ychwanegol sylweddol. I fod yn benodol, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dweud bod angen cymaint â rhwng £580 miliwn a £740 miliwn o gyfalaf ychwanegol ar ben tybiaethau cyllidebol presennol i fynd yn agos at gyrraedd y targed erbyn mis Mawrth 2026. Ydych chi'n cytuno efo canfyddiadau'r adroddiad yma? A beth ydy eich ymateb chi i hynny?

13:50

Diolch, Siân. Fel y dywedais, diolch eto am eich croeso cynnes hefyd—edrychaf ymlaen at weithio gyda chi yn y portffolio hwn—ac am y gwaith awdurdod lleol a wnaethoch chi'n flaenorol. Fel y soniais ddoe, rwy'n croesawu adroddiad Archwilio Cymru, a hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am y gwaith y maent wedi'i wneud. Rwyf wedi derbyn pob un o’r argymhellion yn yr adroddiad hwnnw ac mae swyddogion wedi ymateb i hynny.

Iawn. Ond dydy hynny ddim yn ateb y cwestiwn ynglŷn â'r cyllid maen nhw'n ei adnabod sydd yn hanfodol ar gyfer symud pethau ymlaen.

Fodd bynnag, fe nodwyd ddoe fod bron i 140,000 o bobl ar restrau aros tai cymdeithasol. Er bod y bobl yma yn aros am dai fforddiadwy, fydd yna lawer yn cael eu gwthio i ddigartrefedd, i ddyled ac i dlodi. Rydym ni yn gwybod bod y pwysau presennol ar wasanaethau digartrefedd yn aruthrol ac yn anghynaliadwy, ac rydym ni'n gwybod hefyd mai'r ffordd orau o helpu pobl a lleihau'r pwysau ar wasanaethau ydy symud pobl i lety hirdymor addas. Fydd hynny ddim yn bosib oni bai eich bod chi'n tyfu'r stoc tai cymdeithasol. Gaf i ofyn, felly, o faint ydych chi'n anelu at leihau rhestrau aros tai cymdeithasol erbyn diwedd tymor y Senedd yma? Neu, mewn geiriau eraill, faint o bobl ydych chi'n rhagweld bydd yn cael eu symud i dai cymdeithasol erbyn diwedd tymor y Senedd yma?

Diolch, Siân. A dylwn fod wedi dweud mewn ymateb i’r cwestiwn cyntaf, o ran y ffigur y cyfeiriwyd ato yn adroddiad Archwilio Cymru, wyddoch chi, mae’n ddarlun cymhleth. Maent wedi sôn am gyllid, ond mae agweddau eraill ar y cyflenwad sydd eu hangen o ran sgiliau. Nid mater ariannol yn unig mohono. Credaf mai'r pwynt arall yr hoffwn ei wneud ar yr adroddiad hwnnw, mewn gwirionedd, yw ein bod wedi edrych ar yr adroddiad, rydym wedi'i dderbyn, rydym wedi derbyn yr argymhellion ynddo. Ac o ran sut rwy'n edrych ar y rhan hon o'r portffolio, mae a wnelo â sut y gallwn ddatgloi'r potensial sydd gennym eisoes. Wyddoch chi, fe ysgrifennais lythyr, yn gynharach yn yr haf, i holi pob awdurdod lleol a landlord cymdeithasol cofrestredig ynglŷn â'u sefyllfa, sut y gallwn wneud mwy, a beth yw'r mannau problemus o fewn eu hardaloedd, er mwyn cael y manylion, a byddaf yn edrych ar hynny'n agos iawn i weld beth arall sydd angen i ni ei wneud. Felly, nid wyf yn credu bod y cyfan yn ariannol o reidrwydd.

Ac o ran y rhestr, gwyddom fod angen mwy o gartrefi arnom. Wyddoch chi, mae gan bob un ohonom awydd gwirioneddol i weld cymaint â phosibl o gartrefi’n cael eu hadeiladu, ac rydym am i hynny ddigwydd cyn gynted â phosibl, fel y dywedais yn fy natganiad ddoe, ond mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar rai o’r problemau real a wynebwn mewn gwahanol ardaloedd ledled Cymru.

Diolch yn fawr. Felly, rydych chi'n dweud bod yna yn fwy iddi na'r rhwystrau ariannol, ond mae'n hollol amlwg, onid yw, nad oes yna ddigon o arian ar gael i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru, fel mae pethau ar hyn o bryd. Ac mae canlyniadau hynny eisoes yn hysbys i ni: mwy o bobl yn cael eu gwthio i ddyled a thlodi a digartrefedd. Yn ddiweddar, mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn San Steffan, Angela Rayner, wedi bod yn awgrymu pecyn mawr o adeiladu tai cymdeithasol yn yr adolygiad o wariant fis nesaf. Mae hi wedi disgrifio hyn fel y don fwyaf o dai cyngor mewn cenhedlaeth,

'y don fwyaf o dai cymdeithasol ers cenhedlaeth.'

Mae'r elusen dai Shelter wedi dweud y byddai'n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig adeiladu 90,000 o dai a fflatiau rhent cymdeithasol yn Lloegr i fodloni ymrwymiadau adeiladu tai Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sef 1.5 miliwn. Yn ôl Shelter, mi fyddai hynny'n costio £11.8 biliwn i'r Llywodraeth yn San Steffan. Felly, pa drafodaethau ydych chi yn eu cael efo'r Llywodraeth honno ynglŷn â'u bwriadau i gynyddu cyllideb adeiladu tai cymdeithasol? Ac yn bwysicach na hynny, yn hytrach na dim ond trafod, beth fydd y goblygiadau o ran cyllid canlyniadol posib i Gymru? Sef, beth fydd y consequentials tebygol all ddod, sydd ynghlwm efo’r don fawr yma o dai cymdeithasol sydd yn mynd i gyrraedd, yn ôl Angela Rayner?

13:55

Diolch, Siân. Fe sonioch chi am rai o'r materion sy'n ymwneud â phobl. Fel y dywedais eto ddoe, mae’r niferoedd y gwyddom eu bod mewn llety dros dro, neu'n bobl ddigartref, rydym yn clywed y niferoedd a’r ffigurau, ond unigolion yw'r rhain, ac ni ellir diystyru’r straen sydd ar bobl ychwaith.

Mae un o'r pwyntiau eraill yr hoffwn eu gwneud yn ymwneud â'r tasglu a gyhoeddais, a bydd hynny'n digwydd, ac fe gawn ragor o fanylion ynglŷn â hynny y byddaf yn eu cyflwyno i'r Senedd. Mae'n cynnwys edrych ar sut y gallwn ddadflocio rhai ardaloedd penodol a chael ffocws gwirioneddol ar sut y gallwn adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru.

Rwyf wedi cael trafodaethau gyda swyddogion yn San Steffan. Roeddwn yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn ddiweddar, ac yno, llwyddais i gael trafodaeth gyda’r Farwnes Stevenage, sydd yn y portffolio tai yno, a buom yn trafod rhai o’r problemau, yr heriau sy'n ein hwynebu yma yng Nghymru. Yn yr un modd, yn Lloegr, ac edrych ar sut y gallwn gydweithio lle gallwn.

O ran y ffigurau y gofynnoch chi amdanynt, nid yw’r rheini gennyf, ac mae hynny’n rhywbeth y gallaf ei rannu pan fydd gennyf fwy o wybodaeth.

Safon Ansawdd Tai Cymru

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar safon ansawdd tai Cymru? OQ61597

Diolch. Lansiwyd safon ansawdd tai Cymru newydd ym mis Hydref 2023 ac fe’i rhoddwyd ar waith o 1 Ebrill 2024 ymlaen. Mae landlordiaid cymdeithasol eisoes yn gweithio tuag at fodloni'r safon feiddgar ac uchelgeisiol hon. Bydd yr adroddiadau cyntaf ar gynnydd tuag at fodloni'r safon yn cael eu llunio yn ystod haf 2025.

Diolch am eich ateb. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd o ran gosod set gadarn o safonau sydd wedi helpu i drawsnewid rhywfaint o’r stoc dai cymdeithasol yn fy ardal i yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Bydd y diweddariad diweddar i’r safon, a ddaeth i rym, fel y dywedoch chi, ym mis Ebrill, yn gwella’r stoc dai cymdeithasol ymhellach. Rwy'n croesawu'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol yn fy rhanbarth ar gyfer 2024-25, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny, yn ei dro, yn eu helpu i gyflawni’r newidiadau a osodwyd gan y safon newydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn hollbwysig fod safon ansawdd tai Cymru yn parhau i adlewyrchu'r ffordd y mae pobl yn byw, yn gweithio, a hefyd yn teimlo am eu cartrefi?

Diolch, Joyce, a diolch am eich cwestiwn, ac yn sicr, rwy’n cytuno bod hynny’n bwysig. Mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi arwain at newidiadau gwirioneddol gyflym ac annisgwyl, yn enwedig gyda'r pandemig byd-eang, ac mae hynny wedi newid yn llwyr sut y mae pobl yn byw ac yn gweithio a'r hyn sydd ei angen arnynt mewn cartref. Credaf fod pob un ohonom wedi meddwl am ein cartrefi ar ôl eistedd yno drwy'r pandemig. Ond mae gwerthfawrogiad o'n cartrefi yn uwch nag erioed, a dyna pam fod y safon ansawdd tai Cymru newydd yn canolbwyntio i'r fath raddau ar denantiaid, a chredaf fod hynny'n wirioneddol bwysig. Mae'r safon yn ymwneud â mwy na brics a morter, mae a wnelo â chreu cartrefi sy'n ddiogel, yn gyfforddus ac sy'n cynnal ffordd o fyw iach. Felly, rwy'n awyddus iawn fod hyn yn cael ei ddilyn. Rwy'n falch o weld hyn yn digwydd, ac rwy'n credu fy mod yn cytuno'n llwyr â'ch cwestiwn.

Rwy’n ddiolchgar i Joyce Watson am godi’r cwestiwn ar y safon ansawdd tai oherwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r gofynion yn y safonau yn helaeth ac yn gymeradwy, wrth gwrs, ond fe fyddwch yn gwybod yn well na neb fod miloedd o bobl, oddeutu 67,000 o bobl, ar restr aros am dai cymdeithasol ar hyn o bryd, ac mae’r gofynion yn y safon ansawdd tai, o ran ôl-osod ac o ran cartrefi newydd, yn ei gwneud yn anos adeiladu tai newydd, ac i fwy o dai gael eu hadeiladu i gefnogi’r bobl sydd ar hyn o bryd naill ai’n ddigartref, yn byw mewn gwely a brecwast neu angen eu cartref eu hunain yn ddybryd. A ydych chi'n credu bod y cydbwysedd yn iawn gennych ar hyn o bryd o ran chwarae ein rhan i fynd i’r afael â newid hinsawdd a sicrhau bod ein tai o safon briodol i gefnogi hynny ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan sicrhau hefyd fod gan genhedlaeth heddiw dŷ i fyw ynddo?

14:00

Diolch, Sam. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn meddwl am hynny, ond mae'n gydbwysedd go iawn, oherwydd rhaid inni beidio â chyfaddawdu ar y safonau yn y llefydd y gofynnwn i bobl fyw ynddynt. Fel y dywedais, cartref yw hwn, ac rydym am i bobl fyw mewn cartrefi a thai o ansawdd da. Mae'r safon yn adeiladu ar gyflawniadau rhagorol ei rhagflaenydd, ond mae'r safon newydd yn cadw'r gofyniad gwrth-dlodi sy'n sail i'r gwaith ac yn gwella effeithlonrwydd ynni gyda'r nod o roi mwy o arian ym mhocedi tenantiaid a chefnogi eu cysur a'u llesiant. Mae'n safon feiddgar a blaengar. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nad ydym yn cyfaddawdu, ond mae'n hanfodol edrych ar y cydbwysedd, oherwydd fel y dywedwch yn gywir ddigon, mae angen mwy o gartrefi arnom.

Mynd i'r afael â Chysgu Allan

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â chysgu allan? OQ61611

Diolch, John. Mae cysgu allan yn fater cymhleth, ac rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu allgymorth dyfal cefnogol nid yn unig i gynorthwyo pobl oddi ar y strydoedd i mewn i lety, ond i sicrhau eu bod yn cael cymorth i'w helpu i aros mewn llety.

Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae a wnelo un agwedd arwyddocaol ar ddigartrefedd â charcharorion a ryddheir o'r ddalfa. Mae 13 y cant o garcharorion Cymru a Lloegr yn cael eu rhyddhau heb gartref i fynd iddo, ac mae'r Prif Arolygydd Prawf yn dweud mai digartrefedd yw'r ffactor mwyaf sy'n gwneud i bobl aildroseddu neu'n dorri amodau eu trwydded. Mae ffigurau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos bod tua 332 o bobl a reolir gan wasanaethau prawf Cymru yn cysgu allan yn 2022-23, sef cynnydd o 210 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Felly, mae'n rhan bwysig o fynd i'r afael â chysgu allan yng Nghymru, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, mae'r bobl hyn yn agored i niwed, ac os ydym am iddynt gael eu hadsefydlu a pheidio ag aildroseddu, a fyddai'n gymaint o hwb iddynt eu hunain, eu teuluoedd a'u cymunedau, mae angen inni sicrhau bod ganddynt gartref sefydlog a digonol. Ysgrifennydd y Cabinet, yn enwedig o ystyried polisi presennol Llywodraeth y DU o ryddhau'n gynnar o'r carchar, sydd, yn amlwg, yn arwain at lawer mwy o bobl yn gadael y ddalfa ac angen cartref, a wnewch chi ystyried gweithio gydag awdurdodau lleol, carchardai ac eraill i weld pa gamau, pa fesurau y gellir eu rhoi ar waith i sicrhau bod gan bawb sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar yng Nghymru gartref i fynd iddo.

Diolch, John. Yn bendant, mae'n bwysig, ac unwaith eto, mae'r ffigurau a nodwyd gennych yn unigolion, onid ydynt, ac fe wyddom fod pwysau ar awdurdodau lleol ar hyn o bryd o ran faint o bobl sydd angen cartref. Fel rydych chi wedi dweud yn gywir ddigon, rhaid i nifer o bartneriaid weithio gyda'i gilydd ar hyn, oherwydd nid un cyfrifoldeb yn unig ydyw. Rwy'n credu mai un o'r elfennau hanfodol yw bod rhannu gwybodaeth o ansawdd uchel rhwng y gwasanaeth carchardai ac awdurdodau lleol yn amserol yn allweddol er mwyn sicrhau bod y timau opsiynau tai, sy'n gwneud gwaith mor wych, yn gallu cynllunio'n effeithiol i sicrhau nad yw pobl sy'n gadael sefydliadau diogel mewn perygl o fod yn ddigartref, felly ceisio gwneud hynny'n gynnar.

Gwn fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn adrodd bod rhyddhau'r gyfran gyntaf o bobl o dan gynllun Llywodraeth y DU ar 10 Medi wedi mynd yn weddol dda, felly rydym yn dysgu o hynny. Cefnogwyd hyn gan waith partneriaeth effeithiol iawn. Rydym yn gwybod y gall gwasanaethau datganoledig fel tai chwarae rhan bwysig iawn yn atal pobl rhag aildroseddu, ac fel y dywedais, rydym yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF i roi cymaint o feddwl i hyn ag y gallwn. Mae awdurdodau lleol yn gweithio'n gyflym i ddod o hyd i lety. Rwy'n credu, weithiau, y gallai ymddangos yn nifer fach ym mhob ardal awdurdod lleol, ond weithiau gall hynny fynd â nhw dros y dibyn, mewn gwirionedd. Felly, mae'r nifer sydd angen cymorth digartrefedd yn parhau'n uchel. Ond rwy'n gwybod bod awdurdodau lleol yn gweithio'n galed iawn yn y maes hwn, mae llawer o dimau'n gwneud hynny, ac rwy'n ddiolchgar iddynt am yr holl waith a wnânt ar hyn, oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn i atal hynny cyn bod pobl mewn perygl o ddigartrefedd.

14:05

Diolch, John, am godi'r mater pwysig hwn. Ysgrifennydd y Cabinet, yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd o 65 y cant yn nifer y bobl sy'n cysgu allan dros y 12 mis diwethaf. Mewn trefi ar draws fy rhanbarth i, a ledled Cymru yn wir, gorfodir pobl i gysgu mewn pebyll ar unrhyw ddarn o dir sydd ar gael. Ym Mhorthcawl, mae hyn yn cynnwys y gylchfan ar y prif lwybr i mewn i'r dref. Fodd bynnag, yr hyn a wnaeth fy synnu'n fwy oedd adroddiad arbennig Sky News ddoe, a siaradodd â charcharorion wedi eu rhyddhau'n gynnar a oedd wedi cael eu gorfodi i gysgu allan. Dywedodd un dyn a gafodd ei gyfweld ei fod yn byw mewn mynwent ym Mhen-y-bont ar Ogwr a'i fod yn ystyried aildroseddu cyn y gaeaf er mwyn iddo gael rhywle cynnes i fyw. Ysgrifennydd y Cabinet, sut ydych chi'n gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau bod cyn-droseddwyr yn cael llety ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar? Diolch.

Diolch, Altaf. Fel y dywedais, mae llawer o waith yn digwydd yn y maes hwn ac mae'n waith ar draws Llywodraethau, ar draws partneriaethau. Mae'r awdurdodau lleol yn chwarae eu rôl yn dda, ac mae'r timau tai sydd â'r dasg o wneud hyn yn dweud y gallent ymddangos yn nifer fach weithiau, ond mewn gwirionedd, gall fod yn bwynt critigol i awdurdodau lleol.

Fel y gwyddoch, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am reoli troseddwyr, ond mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn arwain ar sicrhau bod pobl yn y ddalfa a'r gymuned yn cael eu rheoli'n effeithiol fel bod y risg o aildroseddu'n cael ei lleihau, a'u bod yn cael cefnogaeth i adsefydlu. Felly, mae llawer o waith yn digwydd ar hyn. Fel y dywedais, rydym yn dysgu wrth inni fynd yn ein blaenau yma, am mai ar 10 Medi y cafwyd y gyfran gyntaf yn y cynllun hwnnw, felly mae'n ddyddiau cynnar o hyd, ond byddwn yn cadw llygad barcud ar hyn ac yn parhau i weithio mor agos â phosibl gyda phawb sy'n gysylltiedig â'r mater.

Toriadau Cyllid

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu awdurdodau lleol rhag toriadau cyllid? OQ61595

Fel Llywodraeth, rydym wedi diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen cyn belled ag y bo modd. Mae awdurdodau lleol wedi cael setliad o £5.72 biliwn eleni, cynnydd o 3.3 y cant ar sail debyg am debyg o'i gymharu â 2023-24.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol sy'n rhedeg Cyngor Sir Powys godi'r dreth gyngor 7.5 y cant eleni ac maent yn rhagweld y bydd yn codi 5 y cant y flwyddyn nesaf. Mae hyn i gyd wedi dod yn amlwg ar adeg pan fo nifer yr uwch-reolwyr yng Nghyngor Sir Powys sy'n cael dros £70,000 y flwyddyn wedi dyblu. Er eu bod wedi dyblu'r nifer honno, maent wedi penderfynu torri gwasanaethau ailgylchu cardbord cymunedol, wedi dileu gwasanaethau hamdden mewn trefi a hefyd wedi gadael i rai o'n ffyrdd fynd yn ôl i fod yn ddim ond cerrig mân, a'r cyfan er mwyn arbed arian. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y gallwch chi ei wneud i sicrhau bod y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghyngor Sir Powys yn gwario'r arian yn ddoethach ac yn diogelu gwasanaethau rheng flaen rhag toriadau ariannol? Oherwydd os na fydd rhywbeth yn cael ei wneud i amddiffyn Cyngor Sir Powys rhag y Democratiaid Rhyddfrydol, y cyfan a fydd gennym fydd uwch-reolwyr a dim staff rheng flaen i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom i gyd. 

Diolch, James. Rwy'n gweld beth rydych chi'n ceisio ei wneud, ond diolch am y cwestiwn. Mae'r cyllid craidd heb ei neilltuo, fel y gwyddoch; awdurdodau lleol sydd i benderfynu ar ddyraniad cyllid ar gyfer eu gwasanaethau. Mae awdurdodau lleol wedi blaenoriaethu gofal cymdeithasol ac addysg ers blynyddoedd lawer, ac mae hyn yn anochel wedi golygu bod gwasanaethau eraill wedi bod o dan fwy o bwysau am arbedion effeithlonrwydd. Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â Chyngor Sir Powys cyn bo hir a gobeithio y byddaf yn eu gweld yn fuan. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw, fel gydag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

14:10

Yn dilyn dros ddegawd o gyni, pwysau chwyddiant enfawr ac anghenion cynyddol, mae cynghorau bellach ar eu gliniau. Maent wedi ad-drefnu, ailstrwythuro a diwygio, gyda phob cyngor yn gorfod gwneud miliynau o bunnoedd o arbedion. Dywedodd llefarydd ariannol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Anthony Hunt, fod eleni'n hollbwysig. Maent yn gobeithio y bydd pwysau chwyddiant y flwyddyn nesaf yn lleihau, felly hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: a ydych chi'n cytuno y byddai cyllid dirprwyedig wedi'i glustnodi'n uniongyrchol i awdurdodau lleol yn helpu pethau fel na fyddai'n rhaid iddynt fynd trwy broses hir a thrwm ar adnoddau o gyflwyno ceisiadau am grantiau? Hefyd, pa sylwadau a gyflwynir gennych i Lywodraeth y DU? Maent yn sôn y bydd yn cymryd amser i ymdrin â'r diffyg ac y bydd y dyfodol yn well, ond mae eleni'n gwbl hanfodol i awdurdodau lleol, gan fod cynghorau ledled y DU, nid yng Nghymru'n unig, yn wynebu methdaliad. Diolch.  

Diolch am y cwestiwn, Carolyn. Rydym yn cydymdeimlo'n fawr â'r pwysau ariannol sydd ar awdurdodau lleol, yn enwedig cyflogau, gan gynnwys y cyflog byw gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol. Rydym yn gwneud popeth y gallwn ei wneud, ond rydym yn effro iawn i'r pwysau sydd arnynt. Rydym yn edrych ar leihau beichiau diangen ar awdurdodau lleol. O ran grantiau, gwnaed rhywfaint o waith eisoes, ac rwy'n awyddus i edrych ar ffyrdd eraill y gallwn wneud hynny. Bydd hynny'n cael ei wneud drwy drafod ac mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol, ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn rhywbeth a godir gyda mi ar yr ymweliadau niferus yr edrychaf ymlaen atynt yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Adeiladau Preswyl Tal sydd mewn Perchnogaeth Breifat

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar waith adfer sy'n cael ei wneud ar adeiladau preswyl tal sydd mewn perchnogaeth breifat yng Nghymru yn dilyn tân Tŵr Grenfell? OQ61584

Mae ein rhaglen adfer yn mynd rhagddi'n dda. Mae gwaith ar y gweill ar 50 o adeiladau'r sector preifat, ac mae pob un o'r 12 datblygwr mawr wedi ymrwymo i'n cytundeb datblygwyr.

Fis Medi diwethaf, fe wnaeth Bellway Homes arwyddo cytundeb cyfreithiol gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â datblygiad Altamar. Roedd y cytundeb yn ei gwneud yn ofynnol cynnal arolwg annibynnol, a gwnaed hyn ym mis Chwefror 2024. Dim ond ar ddechrau'r mis hwn y rhyddhaodd Bellway ganlyniadau'r arolwg. Ers hynny mae Bellway wedi dweud bod angen gwneud arolygon pellach ar ddrysau tân a dur adeiladu. Pryd y gall pobl sy'n byw mewn datblygiadau fel hyn ddisgwyl i'r gwaith adfer ddechrau?

Diolch am y cwestiwn, Mike, ac fe wn am eich diddordeb hirsefydlog mewn diogelwch adeiladu yma yn y Senedd yn arbennig. Mae ein rhaglen adfer wedi mabwysiadu dull o weithredu ar sail adeilad cyfan, sy'n ystyried diogelwch tân mewnol ac allanol, felly nid cladin allanol yn unig, ac mae'n rhoi diogelwch pobl yn gyntaf. Ar hyn o bryd mae yna 238 o adeiladau daliadaeth breifat yng Nghymru; cadarnhawyd bod tri adeilad wedi'u cwblhau, ac mae gwaith wedi dechrau ar y safle ar y 50 adeilad y soniais amdanynt. Rydym wedi cael gwybod nad oes angen gwaith diogelwch tân ar saith adeilad. Ar eich pwynt penodol am Altamar yn eich etholaeth, mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda Bellway, datblygwr Altamar, i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud a bod gwaith yn dechrau cyn gynted â phosibl.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr fod llawer ohonom yma yn cael sawl e-bost bob dydd gan breswylwyr adeiladau uchel sy'n pryderu am ddiogelwch tân, arafwch y gwaith adfer a'r costau y mae'n ofynnol iddynt eu talu. Maent wedi cyrraedd pen eu tennyn, ac yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu'n llwyr a dweud y gwir. Yn dilyn y golygfeydd brawychus ddiwedd mis Awst mewn adeilad uchel yn Dagenham, ysgrifennodd y Welsh Cladiators atoch ddwywaith yn gofyn am gyfarfod. Byddai dweud eu bod wedi eu siomi'n ddirfawr gan eich gwrthodiad yn danosodiad. Maent wedi dweud ar sawl achlysur nad ydynt yn credu mai'r grŵp rhanddeiliaid yw'r fforwm priodol i leisio eu pryderon, a gall y rhai ohonom sydd wedi cyfarfod â hwy dystio i'r dystiolaeth bwerus sydd ganddynt, a'r dystiolaeth emosiynol iawn. Rwy'n deall eich bod yn brysur iawn—mae gennych bortffolio eang—ond a wnewch chi ailystyried a chytuno i gyfarfod â grŵp ymgyrchu y sgandal diogelwch adeiladau yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.

14:15

Diolch, Rhys, ac unwaith eto, rwy'n cydnabod eich gwaith chi yn y maes hwn hefyd. Mynychais gyfarfod o'r grŵp rhanddeiliaid strategol ar ddiogelwch adeiladu ddoe, lle roedd cynrychiolwyr o'r Cladiators, yn ogystal ag eraill yn y grŵp hwnnw sy'n cymryd rhan, ac mae hynny'n ddefnyddiol iawn. Rwy'n credu ei fod yn deimlad cyffredinol, gan imi ofyn sut oedd pobl yn teimlo am y grŵp, ac a oeddent yn gallu trafod pethau yno, ac rwy'n credu bod yna deimlad cryf fod y grŵp yn gweithio'n dda. Cafwyd diweddariad ar ddatblygwyr a gwaith adfer yn y cyfarfod hwnnw. Roeddwn i'n meddwl mai dyna'r cyfarfod gorau i fynd iddo ar unwaith mae'n debyg, gan mai ers amser byr yn unig y bûm yn y swydd. Rhoddodd hyn gyfle i mi glywed gan bawb sydd â diddordeb yn y maes ac sy'n canolbwyntio ar y gwaith hwnnw. Rwyf bob amser yn hapus i gyfarfod â phobl i drafod materion penodol, ond ar y cychwyn, rwy'n credu mai ddoe oedd y cyfarfod, a chafodd pawb gyfle i siarad â mi am hynny. Ond rwyf bob amser yn hapus i gyfarfod.

Grant Tai Cymdeithasol

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet sefydlu cymuned ymarfer ar gyfer y grant tai cymdeithasol? OQ61614

Er nad oes gennym gymuned ymarfer benodol ar gyfer y grant tai cymdeithasol ar hyn o bryd, mae gennym gydweithrediad helaeth a chysylltiadau cryf ar draws y sector tai, gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol. Fodd bynnag, rydym yn agored i archwilio cymuned ymarfer fwy ffurfiol.

Diolch am yr ateb. Mae cymunedau ymarfer wedi cael eu defnyddio'n llwyddiannus mewn gwahanol feysydd o weithgarwch Llywodraeth Cymru, gan gynnwys yr economi sylfaenol a rhaglen ddatgarboneiddio Llywodraeth Cymru, lle mae 70 o gyfranogwyr o bob sector yn cyfarfod bob yn ail fis i edrych ar sut y gallant ledaenu a chwyddo arferion da. O ystyried bod oddeutu £250 miliwn o wariant ar y grant tai cymdeithasol bob blwyddyn, a bod y Llywodraeth yn cael ei herio i gyrraedd ei tharged o 20,000 o gartrefi newydd, a fyddai'r Gweinidog yn ystyried sefydlu tasg benodol i gefnogi'r sector, i yrru'r defnydd o ddeunyddiau lleol, cefnogi'r economi sylfaenol, a helpu gweithredwyr gwahanol i gyrraedd ein targed?

Diolch, Lee. Diolch am hynny. Rwy'n gwybod eich bod wedi codi'r pwynt hwn gyda mi yn gyffredinol yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ychydig wythnosau yn ôl, ac yn sgil hynny, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion adolygu'r rhwydweithiau a'r fforymau presennol, ac i archwilio a fyddai cymuned ymarfer grant tai cymdeithasol mwy ffurfiol yn rhywbeth a allai fod o werth gwirioneddol. Felly, fe roddaf y wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynny, ond rydym yn ymchwilio i'r mater. Felly, diolch am yr awgrym.

Swyddogaethau Anstatudol

8. Pa gymorth y mae'r Llywodraeth yn ei roi i awdurdodau lleol i gynnal swyddogaethau anstatudol? OQ61600

Diolch, Peredur. Yn 2024-25, mae'r Llywodraeth yn darparu cyllid refeniw heb ei neilltuo o dros £5.72 biliwn a thros £1 biliwn mewn cyllid grant penodol i gefnogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau statudol ac anstatudol. Mae cynghorau lleol yn gyrff a etholir yn uniongyrchol gyda chyfrifoldeb am y dewisiadau a wnânt ynghylch blaenoriaethau gwasanaethau lleol.

Diolch am yr ateb, a chroeso i'ch rôl.

Dull arall posibl o wneud hyn fyddai hawl gymunedol i brynu. Rwy'n nodi datganiad diweddar y Llywodraeth ar y comisiwn asedau cymunedol, a gyhoeddwyd ar 24 Medi. Nid yw fy nghwestiwn mewn unrhyw fodd yn beirniadu'r bobl neu'r sefydliadau sy'n ymwneud â'r comisiwn hwnnw, ond mae'n rhaid imi ddweud pa mor siomedig yw hi fod Cymru, yn 2024, yn dal heb ddeddfwriaeth sy'n rhoi hawl i gymunedau brynu asedau lleol. Mae hyn yn rhywbeth y mae cymunedau yn Lloegr wedi ei fwynhau ers bron i ddegawd a hanner, ac mae'r Llywodraeth SNP hefyd wedi cyflwyno deddfwriaeth debyg ond llawer cryfach yn yr Alban. A yw'n syndod fod melin drafod y Sefydliad Materion Cymreig wedi disgrifio cymunedau Cymru fel y rhai sydd wedi'u grymuso leiaf ym Mhrydain o ran diogelu tir ac asedau? Mae hyn o ddiddordeb arbennig yn y rhanbarth a gynrychiolir gennyf, lle mae cabinet Llafur Caerffili newydd benderfynu cau plasty Tuduraidd gwych ac amgueddfa fyw Llancaiach Fawr. Byddai deddfwriaeth o'r fath wedi bod yn opsiwn amgen i'r awdurdod lleol a'r gymuned leol. Am ba hyd y bydd yn rhaid i gymunedau Cymru aros i fwynhau hawliau a manteision asedau cymunedol y mae eu cymheiriaid yn y DU wedi gallu ei wneud ers blynyddoedd? Am ba hyd y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol aros am ddulliau ychwanegol i allu helpu yn y maes hwn? A faint mwy o adeiladau y bydd ein cymunedau yn eu colli cyn i'r Llywodraeth hon fynd i'r afael â hyn?

14:20

Diolch, Peredur. Ar y comisiwn asedau cymunedol y sonioch chi amdano, cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig ar 24 Medi. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfleusterau cymunedol yn cael eu diogelu lle bynnag y bo'n bosibl. Mae'r ymrwymiad hwn wedi arwain at sefydlu'r comisiwn hwnnw, yn dilyn y gwaith a wnaed gan Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd, y mae fy nghyd-Aelod John Griffiths yn ei gadeirio. Fe ddatblygodd ac fe gyhoeddodd Ystadau Cymru ganllaw arferion gorau ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol yn 2019, ac roedd yn cynnwys canllaw ar ddiwydrwydd dyladwy, enghraifft ymarferol o'r broses drosglwyddo ac astudiaethau achos go iawn. Mae'r canllawiau i gael eu hadolygu yn 2025, yn unol ag argymhellion gan y comisiwn asedau cymunedol. Felly, mae yna gynlluniau ar y gweill. Fe wyddom pa mor bwysig yw asedau cymunedol, ac rwyf wedi gweld enghreifftiau lle mae hynny wedi gweithio'n dda dros ben. Ond fel y dywedais, trefnwyd adolygiad o hynny ar gyfer 2025.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Y cwestiwn cyntaf, Janet Finch-Saunders.

Unedau Cyfeirio Disgyblion yn Aberconwy

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y defnydd o unedau cyfeirio disgyblion yn Aberconwy? OQ61603

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy un uned cyfeirio disgyblion, Canolfan Addysg Conwy, sy'n darparu addysg i blant rhwng pump ac 16 oed. Mae'r uned cyfeirio disgyblion wedi'i lleoli ar dri safle ym Mhenmaenrhos, Penrhos a Llandudno.

Diolch. Deallaf fod rhywun wedi cysylltu â hwy am ymateb i'r cwestiwn hwn, sy'n ddiddorol iawn. Yn ôl adroddiad blynyddol Estyn, mae 22 uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru yn cefnogi 969 o fyfyrwyr. Ar un adeg, yr unedau cyfeirio disgyblion oedd y lleoliad a ddefnyddid amlaf, gyda bron 50 y cant o'r holl gofrestriadau. Mae Estyn wedi nodi, ers y pandemig, fod awdurdodau lleol wedi nodi cynnydd yn y cyfraddau cyfeirio. Ar ôl siarad â chyngor Conwy fy hun, maent wedi gweld cynnydd yn y ceisiadau am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol wedi'i hariannu a'i safoni gan yr awdurdod lleol dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn wir ar ymweliad o amgylch fy ysgolion lleol, maent yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd iawn cael lle yn yr unedau cyfeirio disgyblion yno. Mae hynny'n golygu bod yr unedau hyn, ac unrhyw gymorth ar gyfer anghenion ychwanegol, angen cyllid ychwanegol.

Nawr, ar nifer o achlysuron nodais fod y fformiwla ariannu'n gwbl annigonol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn y ddemograffeg hŷn, ond yn amlwg yma mae angen cyllid wedi'i dargedu i gefnogi plant sy'n ei chael hi'n anodd iawn. Pa gyllid ychwanegol, felly, y byddwch chi'n ei ddarparu yn 2025-26 i gynorthwyo gyda'r galw cynyddol am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol? Diolch.

A gaf i ddiolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn hwnnw, a chroesawu ei hymrwymiad hefyd i'r bobl ifanc sy'n derbyn addysg mewn lleoliadau heblaw yn yr ysgol? Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae hi wedi bod â diddordeb ynddo ers amser maith. Fel y gŵyr, mae unedau cyfeirio disgyblion yn rhan hanfodol o sicrhau bod plant na allant fynychu ysgol yn cael addysg addas, ac maent yn cefnogi dysgwyr i oresgyn yr heriau sy'n eu hwynebu, i gyflawni eu potensial ac i drosglwyddo'n gadarnhaol yn ôl i'r ysgol, i'r coleg neu i mewn i waith.

Fel y dywedodd yn gywir ddigon, rydym yn ymwybodol, ers y pandemig, fod y galw am leoedd yn yr unedau cyfeirio disgyblion wedi cynyddu'n sylweddol yng Nghymru, ac mae awdurdodau lleol yn gweithio i ymateb i'r cynnydd hwn ac yn cynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael mewn unedau cyfeirio disgyblion. Fel y sonioch chi, fe gysylltodd swyddogion â'ch awdurdod lleol ac rwy'n falch o ddweud nad oes ganddynt restr aros ar gyfer eu hunedau cyfeirio disgyblion ar hyn o bryd. [Torri ar draws.] Wel, dyna a ddywedodd eich awdurdod lleol chi wrth swyddogion. Cawsom wybod gan y cyngor nad oes unrhyw ddysgwyr yn aros am leoliad yng Nghonwy. Fodd bynnag, maent wedi gweld cynnydd yn y ceisiadau am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ariennir gan awdurdodau lleol, ac maent hefyd wedi ymestyn y ddarpariaeth arbenigol ar gyfer dysgwyr niwrowahanol yn enwedig.

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn falch o wybod hefyd ein bod yn rhoi trefniadau ar waith i gasglu data am amseroedd aros ar gyfer lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol ac unedau cyfeirio disgyblion yn genedlaethol, ac os yw'r Aelod yn ymwybodol o achosion lle mae'n teimlo nad yw'r cyngor yn ymwybodol eu bod yn aros, a gaf i awgrymu ei bod hi'n ysgrifennu ataf?

Cyfleoedd Dysgu Proffesiynol

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff yn y sector addysg? OQ61609

Mae sicrhau bod pob addysgwr yn gallu cael mynediad at ddysgu proffesiynol gydol eu gyrfa yn rhan annatod o'n gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru. Mae'r hawl i ddysgu proffesiynol cenedlaethol, a lansiwyd yn 2022, eisoes yn chwarae rhan allweddol yn darparu mynediad i'n haddysgwyr at ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel o ddechrau eu gyrfa i arweinyddiaeth systemau.

14:25

Rai wythnosau nôl, gofynnais i gwestiwn ysgrifenedig i chi ar y mater hwn, gan ofyn yn syml: faint o gyfleoedd dysgu proffesiynol sydd wedi bod ar gael i staff yn y proffesiwn addysg dros y bum mlynedd ddiwethaf? Nawr, fe ges i fy synnu'n fawr gyda'r ateb ges i wrthoch chi, sef, ac rwy'n dyfynnu:

'Nid yw Llywodraeth Cymru yn casglu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.'

Ac fe wnaethoch chi fy annog i gysylltu â rhanddeiliad eraill er mwyn cael yr ateb. Nawr, mae'n bwysig inni atgoffa ein gilydd bod Llywodraeth Cymru wedi gwario bron i £36 miliwn ar gynlluniau datblygu dysgu proffesiynol, a bod y Gweinidog addysg blaenorol wedi gwneud dau ddatganiad yn y Senedd hon ar y pwnc yma, gan amlinellu gwaith y Llywodraeth yn y maes yma. Felly, sut ar y ddaear gall yr Ysgrifennydd Cabinet fesur effeithiolrwydd ei chynlluniau o ran cyfleoedd dysgu proffesiynol os nad yw'r data mwyaf sylfaenol ar y mater yn cael ei gasglu a'i ddadansoddi? 

A gaf i ddiolch i Cefin Campbell am y cwestiwn hwnnw, ac yn amlwg, rwy'n cofio'n iawn yr ateb ysgrifenedig a roddais i chi? Mae dysgu proffesiynol yn flaenoriaeth i ni; dyma'r llinell sylfaen absoliwt ar gyfer sicrhau y gallwn godi safonau mewn ysgolion. Mae'r hawl i ddysgu proffesiynol cenedlaethol yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod pob addysgwr yn gallu cael mynediad at ddysgu proffesiynol o ansawdd drwy gydol eu gyrfa. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod, yn enwedig yn yr ymatebion a gawsom yn y gwaith ar yr adolygiad haen ganol, sef y rhaglen partneriaeth gwella ysgolion bellach, fod llawer o bryder ymhlith addysgwyr ac arweinwyr ysgolion am yr hyn a ddisgrifiwyd fel y cynnwrf ynghylch dysgu proffesiynol. Ac yn yr hyn a nodwyd gennych am y data Cyngor y Gweithlu Addysg, mae hyn yn enghraifft o hynny. 

Rydym yn dechrau darparu system ganolog fwy cydlynol, felly mae gennym un pwynt mynediad bellach at ddysgu proffesiynol o ansawdd drwy fan dysgu proffesiynol newydd a lansiwyd ar Hwb y llynedd. Ac rydym hefyd wedi rhoi camau ar waith nawr i warantu mynediad at ddysgu proffesiynol o ansawdd trwy broses ardystio drylwyr newydd, a lansiwyd ym mis Mawrth eleni, sy'n cael ei harwain gan banel cymeradwyo cenedlaethol dan gadeiryddiaeth yr Athro Ken Jones. 

Rwy'n ddiolchgar i chi am gydnabod y cyllid a fuddsoddwyd gennym mewn dysgu proffesiynol, ac rydym wedi parhau i'w gynnal gyda £12 miliwn arall wedi ei roi'n uniongyrchol i ysgolion eleni i alluogi pob addysgwr i gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol. Ac rwy'n gwybod o fy sgyrsiau gydag ysgolion eu bod yn gwerthfawrogi'r cyfle hwnnw'n fawr. Mae hefyd yn wir, fodd bynnag, fod gennym fwy o waith i'w wneud yn y gofod hwn. Fel y gwyddoch, rydym yn gweithio ar y rhaglen partneriaeth gwella ysgolion. Bydd cyhoeddiadau pellach am hynny maes o law, a byddaf mewn sefyllfa i ddweud beth arall y byddwn yn ei wneud ynglŷn â chynnig dysgu proffesiynol cenedlaethol cydlynol yn y gofod hwnnw.

Ysgrifennydd y Cabinet, pan fyddaf yn mynd i siarad ag athrawon ac arweinwyr ysgolion ar draws fy etholaeth, ac yn fy amser ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, bydd llawer o athrawon ac arweinwyr ysgolion yn dweud wrthyf fod y beichiau ychwanegol sy'n cael eu rhoi arnynt yn eu hamddifadu o amser i wneud y dysgu proffesiynol parhaus a dysgu proffesiynol, boed yn ofynion ychwanegol y mae'n rhaid i athrawon eu gwneud mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol, neu'n gysylltiedig â methu cael digon o athrawon neu staff cymorth ysgol yn yr ystafell ddosbarth i'w galluogi i fynd i wneud hynny. Felly, pa gamau rydych chi'n eu cymryd i geisio lleihau'r baich ar ein hathrawon ac arweinwyr ysgolion fel y gallant wneud y dysgu proffesiynol parhaus, oherwydd os nad ydynt yn ei wneud, rydym yn gwneud cam â'r athrawon hynny a'r bobl ifanc yn yr ystafell ddosbarth nad ydynt yn cael y dulliau addysg diweddaraf yr ydym am weld ein pobl ifanc yn eu cael, fel y gallant adael yr ysgol a chyrraedd y gweithle yn ddinasyddion llawn a chyflawn? 

Diolch, James. Ac rydych chi'n llygad eich lle, mae dysgu proffesiynol o ansawdd yn gwbl hanfodol, ac rydym am i'n hathrawon a'n staff cymorth allu cael mynediad at hynny. Ac mae'n her, ac rwyf wedi dweud droeon yn y Siambr hon ein bod yn gofyn llawer gan ein hysgolion gyda'r genhadaeth i godi safonau, diwygio'r cwricwlwm ac anghenion dysgu ychwanegol, ac rwy'n hynod ymwybodol o hynny. Dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi darparu'r cyllid ychwanegol ar gyfer dysgu proffesiynol y gellir ei ddefnyddio mewn rhai ysgolion, os ydynt yn dewis gwneud hynny, i ryddhau staff i fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol ac mae hynny'n bwysig iawn.

Ond rydych chi hefyd yn gwneud pwynt pwysig iawn am lwyth gwaith. Fe fyddwch yn ymwybodol fod hyn yn rhywbeth yr ydym yn gweithio'n agos arno gyda'n partneriaid yn yr undebau llafur. Mae gennym grŵp strategol ar lwyth gwaith mewn partneriaeth â'r undebau llafur yn Llywodraeth Cymru—mae iddo dair ffrwd waith—ac rydym hefyd yn datblygu offeryn effaith llwyth gwaith a ddefnyddir gennym yn Llywodraeth Cymru i asesu'r baich tebygol sy'n codi o unrhyw ddyletswyddau newydd a osodwn arnynt. Felly, rydym yn gweithio ar hyn, ond yn cydnabod bod mwy o waith i'w wneud.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, adroddodd ITV ddydd Iau diwethaf fod 20 y cant o'n plant yng Nghymru yn ymarferol anllythrennog ar yr adeg y byddant yn mynd i'r ysgol uwchradd. Gennym ni hefyd y mae'r sgiliau darllen gwaethaf yn unman yn y Deyrnas Unedig. Nid yw honno'n record i fod yn falch ohoni ar ôl 25 mlynedd o Lafur yn rhedeg ein system addysg yng Nghymru. A rhan o'r rheswm yw'r ffordd y caiff plant eu dysgu i ddarllen yng Nghymru. Mae dangos ciwiau—yr arfer o ddysgu darllen drwy ddefnyddio lluniau fel ciwiau—yn arfer sydd wedi ei feirniadu'n rhyngwladol, ac eto dyna sut y mae plant mewn rhannau helaeth o Gymru yn cael eu dysgu i ddarllen.

Dywedodd yr arbenigwr addysg, Rhona Stainthorp, ar ôl edrych ar y ffordd y caiff plant eu dysgu i ddarllen yng Nghymru, wrth ITV:

'Rwyf wedi fy synnu. Rwyf wedi fy synnu'n fawr. Rwy'n credu bod hynny'n erchyll.'

Aeth ymlaen i ddweud:

'Yr holl dystiolaeth o... America, Awstralia a'r DU, yw bod yn rhaid ichi ddysgu plant ifanc i ddarllen y geiriau. Efallai fod y lluniau'n braf ac yn bert, ond nid ydynt yn eich helpu i ddarllen.'

Felly, pam mae ciwiau'n dal i gael eu defnyddio yn ysgolion Cymru?

Diolch, Tom. Rwy'n credu fy mod wedi bod yn glir iawn gyda phawb yn y Siambr hon fod codi safonau yn flaenoriaeth, fod gwella llythrennedd yn rhan allweddol o hynny ac nad ydym yn llaesu dwylo fel Llywodraeth mewn unrhyw ffordd ynglŷn â'r gwaith a wnawn ar hyn. Rwyf wedi bod yn glir fod llythrennedd yn brif flaenoriaeth i mi, a nodais eisoes yn y Siambr hon amrywiaeth o gamau ychwanegol a gymerwn i gefnogi llythrennedd, y byddwch yn eu cofio o fy natganiad cwricwlwm yn ôl yn yr haf.

Rwyf am fod yn glir iawn gyda chi, serch hynny, ein bod yn llwyr ddisgwyl i ffoneg gael ei addysgu yn ein hysgolion yng Nghymru. Rydym yn disgwyl i bob ysgol ddefnyddio ffoneg i ddysgu plant i ddarllen. A gaf i ddweud hefyd mai adroddiad Estyn 2012 oedd yr adroddiad y cyfeirioch chi ato, ac a nodwyd yn y darn gan ITV, felly mae hwnnw bellach yn 12 oed. Ond nid yw hynny'n golygu ein bod mewn unrhyw ffordd yn llaesu dwylo ynghylch yr heriau sy'n ein hwynebu. Roedd canlyniadau ein hasesiadau personol yn peri pryder, felly, mae hyn yn sicr yn ffocws, ac rwyf hefyd yn cydnabod bod angen inni wneud mwy i fod yn glir gydag ysgolion am y disgwyliadau ynghylch ffoneg.

Rwy'n credu bod y darn gan ITV yn glir iawn nad ysgolion ac athrawon oedd y broblem ac mai'r cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru oedd y broblem yn y maes hwn. A rhan o'r cyngor hwnnw yw'r datganiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dweud nad oedd yn hyrwyddo dull penodol o addysgu darllen, sy'n gwrth-ddweud yr hyn a ddywedoch chi nawr am ffoneg. Ond dyna'n union yw'r broblem: mae addysgu drwy ddefnyddio ciwiau, fel sy'n cael ei wneud yn helaeth yn ysgolion Cymru, wedi cael ei disgrifio nid yn unig fel ffordd aneffeithiol o ddysgu pobl ifanc i ddarllen, ond ei bod yn niweidiol i blant ifanc, gan eu drysu, a hyd yn oed yn diddymu manteision ffoneg. Gwaharddwyd defnyddio ciwiau yn Lloegr yn 2005 am yr union reswm hwn. 

Dywedodd y Prif Weinidog ddoe y byddech chi'n gwneud datganiad ar hyn yn ystod y misoedd nesaf, ond rydych chi'n gwybod am y broblem hon ers 20 mlynedd. Ac ers diddymu ciwiau yn Lloegr, mae'r lefelau darllen yno ymhlith y goreuon yn y byd, ac yn lle hynny, yng Nghymru, mae gennym blant yn mynd i'r ysgol yn ymarferol anllythrennog—record y dylai eich plaid fod â chywilydd ohoni. Felly, ar ôl gwybod am yr effaith y mae ciwiau yn ei chael ar bobl ers 20 mlynedd, pam ar y ddaear nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwahardd hyn yn gynt?

Wel, yn gyntaf oll, a gaf i ddweud na ddywedais mai ysgolion ac athrawon oedd y broblem—eich geiriau chi oedd hynny, nid fy rhai i? Rwyf wedi dweud bod gennym ddisgwyliad clir y bydd pob ysgol yn defnyddio ffoneg synthetig i addysgu darllen. Rwyf hefyd wedi dweud ein bod yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i ail-bwysleisio'r disgwyliad hwnnw. Pe baech chi wedi bod yma ar gyfer fy natganiad cwricwlwm yn ôl yn yr haf, byddech yn cofio mai un o'r pethau a gyhoeddais oedd ein bod yn adolygu ein fframwaith llythrennedd a rhifedd ac rydym yn rhoi hynny ar sail statudol. Bydd hynny'n rhoi cyfle pellach i gryfhau disgwyliadau ar gyfer ysgolion mewn perthynas â ffoneg. Mae hyn wedi ei ysgrifennu mewn cyfraith yn y cwricwlwm ei hun yn rhan o fframwaith y cwricwlwm fod yn rhaid dysgu ffoneg ar gyfer ieithoedd a chyfathrebu. Felly, mae hynny'n glir iawn.

Nawr, o ran ciwiau, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod athrawon yn weithwyr proffesiynol, eu bod yn adnabod eu dysgwyr, ac y bydd rhai plant efallai nad ydynt yn barod ar gyfer ffoneg. Efallai fod yna blant—. Rydym yn gwybod ein bod yn gweld mwy o blant â phroblemau lleferydd ac iaith, yn enwedig ers y pandemig, felly efallai y bydd plant yn dod i'r ysgol heb ddigon o leferydd i allu hollti geiriau yn y ffordd y mae ffoneg synthetig yn galw am ei wneud. Felly, ar y sail honno, bydd gan athrawon ddulliau eraill yn eu harfogaeth i gefnogi'r dysgwyr hynny y maent hwy'n eu hadnabod yn well na neb arall, ond unwaith eto, rydym yn hollol glir—ffoneg synthetig yw'r hyn rydym yn ei ddisgwyl fel y blociau adeiladu ar gyfer darllen yng Nghymru.

14:35

Fe ddywedoch chi eich bod wedi hyrwyddo ffoneg yn glir. Dyma eich datganiad yr wythnos diwethaf. Dyfyniad: nid yw Llywodraeth Cymru

'yn hyrwyddo unrhyw un dull penodol ar gyfer addysgu darllen'.

Dyna oedd eich dyfyniad yr wythnos diwethaf. Nid oes ryfedd nad yw ysgolion yn credu eich bod wedi bod yn glir, Ysgrifennydd y Cabinet. Serch hynny, gallaf ddweud wrthych pam fod safonau darllen yng Nghymru mor wael. Llywodraeth Lafur Cymru sy'n parhau i flaenoriaethu ideoleg dros dystiolaeth; awydd i wneud pethau'n wahanol, hyd yn oed os yw'r canlyniad yn waeth. Unwaith eto, i roi syniad i chi o raddfa'r broblem yr ydym yn sôn amdani yma, rwy'n dyfynnu yr Athro Rhona Stainthorp eto,

'Nid yw hynny'n rhywbeth y buaswn yn disgwyl ei ddarllen am addysgu mewn ysgol yn yr 21ain ganrif. Rydym wedi symud yn bell eithriadol oddi wrth hynny.'

A phan oedd rhieni pryderus yn gwylio'r adroddiad hwnnw gan ITV ar ein safonau darllen truenus yng Nghymru, gan chwilio am sicrwydd gan Lywodraeth Lafur Cymru, beth a welsant? Ysgrifennydd Cabinet y gofynnwyd iddi siarad ag ITV sawl gwaith i drafod y mater, ond a wrthododd wneud hynny. Fe wnaethant hefyd anfon rhestr o gwestiynau at eich adran ac ni chawsant mo'u hateb. Ble oeddech chi? Fe ddywedaf wrthych ble oeddech chi: yn llaesu dwylo, yn absennol o'r gwaith, yn cysgu wrth y llyw, yn claddu eich pen yn y tywod ac yn esgus nad yw'n broblem. Ac nid yw hynny'n mynd i weithio. Bydd yn gwneud cam â'n pobl ifanc. Felly, a wnewch chi ymrwymo, am unwaith, i ddilyn y dystiolaeth yn hytrach na'r ideoleg, a newid y canllawiau heddiw, fel nad oes rhagor o ddisgyblion yn dioddef oherwydd anghymhwysedd Llafur ym maes addysg?

Wel, Tom, rwy'n credu pe baech yn fy adnabod yn well, y byddech yn gwybod mai fi yw'r person olaf y gallech ei disgrifio fel rhywun sy'n absennol o'i gwaith. Fi hefyd yw'r person olaf y byddech yn disgwyl iddi flaenoriaethu ideoleg dros anghenion plant a phobl ifanc. Rwyf wedi bod yn glir iawn ers dechrau'r swydd hon mai dyna'r unig beth y mae gennyf ddiddordeb yn ei gyflawni yn y portffolio hwn: yr hyn sydd orau i blant a phobl ifanc. Dyna pam mai un o'r pethau cyntaf a wneuthum pan ddechreuais yn y swydd oedd nodi bod angen mwy o gefnogaeth ar ysgolion gyda'r cwricwlwm, ac mae hynny'n cynnwys llythrennedd a rhifedd, ac fe wnaethom gyhoeddi ym mis Gorffennaf ein bod yn darparu'r gefnogaeth honno. Rhan o'r gwaith hwnnw yw'r gefnogaeth genedlaethol ddwys ar gyfer llythrennedd yr ydym yn ei chyflwyno ledled Cymru nawr.

Ac os gallwn osgoi'r sgorio pwyntiau gwleidyddol am eiliad, credaf ei bod yn bwysig ein bod hefyd yn cydnabod y gwaith da iawn sy'n digwydd yn ein hysgolion. Er enghraifft, nododd adroddiad blynyddol diweddaraf Estyn ar gyfer 2022-23 fod y rhan fwyaf o ysgolion cynradd yn cynllunio'n effeithiol i ddatblygu sgiliau siarad, gwrando a darllen disgyblion, a bod sgiliau darllen ac ysgrifennu llawer o ddisgyblion yn cael eu datblygu'n briodol gan addysgwyr. Mewn ysgolion uwchradd, nododd yr adroddiad fod llawer o ddisgyblion yn dangos sgiliau darllen sylfaenol cadarn.

Ond nid oes gennyf asgwrn hunanfodlon yn fy nghorff. Rydym yn cydnabod bod rhagor o waith y mae'n rhaid inni ei wneud. Dyna pam ein bod yn gwneud mwy na chyflwyno'r gefnogaeth genedlaethol ddwys hon yn unig, rydym yn gosod y fframwaith ar sail statudol. Rydym yn casglu data drwy ein hasesiadau personol, sy'n rhywbeth nad ydynt yn ei wneud yn Lloegr. Rydym yn cyhoeddi'r wybodaeth honno fel ei bod yn agored ac yn hygyrch. A thrwy gydweithio â'n gweithwyr addysgu proffesiynol rhagorol, rwy'n hyderus y byddwn yn gwneud cynnydd.

14:40

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Sawl blwyddyn gyfunol o brofiad sydd wedi gadael y proffesiwn addysgu yng Nghymru ers 2016?

Wel, os nad oes gennych y data, gallaf roi'r data i chi nawr. Yn ôl eich ystadegau eich hun, mae bron i 100,000—wel, tua 92,000, i fod yn fanwl gywir—o flynyddoedd cyfunol o brofiad wedi gadael y proffesiwn addysgu yng Nghymru yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf. Eich ystadegau chi yw'r rheini. Mae hynny'n gadael bwlch enfawr i'w lenwi. Ond yn y cyfnod hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi methu cyrraedd ei thargedau recriwtio ei hun yn gyson, ac mae nifer yr athrawon sy'n gadael y proffesiwn yn gynnar yn eu gyrfaoedd ar y lefel uchaf erioed—dros 1,200 ers 2016 yn unig. Ysgrifennydd y Cabinet, mae fy nghwestiwn yn syml iawn: 'ydy' neu 'nac ydy', a yw hyn yn gynaliadwy?

Wel, o ran y ffigurau yr ydych wedi'u cyflwyno, byddaf yn sicr yn mynd yn ôl i edrych ar y rheini, er fy mod yn ei chael hi'n anodd iawn credu bod y ffigurau'n cael eu cyflwyno yn y ffordd honno o ran blynyddoedd o brofiad, oherwydd fy mhrofiad i o ddata Llywodraeth Cymru yw nad yw'r manylion yn mynd i lawr mor bell â hynny, ond fe edrychaf ar hynny. Ond wrth gwrs, nid wyf yn dadlau mewn unrhyw ffordd nad ydym yn wynebu heriau o ran recriwtio a chadw ein hathrawon, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym wedi'i drafod sawl gwaith yma yn y Siambr. Mae hwnnw'n ddarlun cymhleth, onid yw, yn enwedig ers y pandemig, ac nid oes un ateb syml ar gyfer cadw ein hathrawon. Mae'n ymwneud â chymorth llesiant, mae'n ymwneud â sicrhau bod ein hysgolion yn fannau apelgar i athrawon weithio ynddynt, mae'n ymwneud â sut rydym yn eu gwobrwyo, sut rydym yn lleihau'r pwysau ar eu llwyth gwaith.

Nawr, o ran targedau recriwtio, fel rydych chi'n eu galw—. Fe'u gelwir yn ddyraniadau bellach, ond rydym yn nodi dyraniadau, yn enwedig ar gyfer pynciau â phrinder. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r ymateb a anfonais at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ddiweddar ein bod yn gwneud yn dda iawn ar recriwtio cynradd; mae recriwtio uwchradd yn llawer mwy heriol. Mae'n llawer mwy heriol yng Nghymru, ac mae'n llawer mwy heriol dros y ffin hefyd. Dyna pam y mae gennym y cymhellion ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, sy'n darparu arian ychwanegol ar gyfer pynciau fel gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, y Gymraeg, ieithoedd tramor modern. Ond mae mwy y gallwn ei wneud bob amser, ac rwy'n croesawu'r ymchwiliad y mae'r pwyllgor yn ei wneud yn fawr, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed eich barn, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd gennych, i weld a oes unrhyw beth pellach y gallwn ei wneud yn y gofod hwn.

Wel, dwi ddim yn siŵr iawn a ydw i wedi cael yr ateb 'ie' neu 'nage' roeddwn i'n chwilio amdano fe, ond, jest ar gyfer y cofnod, mae Plaid Cymru a'r undebau'n gwbl glir nad yw'r sefyllfa bresennol o ran recriwtio a chadw athrawon yn gynaliadwy o gwbl. Nawr, mewn atebion i gwestiynau ysgrifenedig a gyflwynais i i chi dros yr haf, mae'n rhaid i fi gyfaddef i mi gael sioc o glywed bod bwrdd cynghori recriwtio a chadw athrawon Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd i ffanffer fawr yn y Senedd ddiwethaf i roi cyngor arbenigol i chi ar y mater hwn, wedi cael ei ddiddymu y llynedd, yn dawel bach, heb yna siw na miw. Hefyd, trwy eich cyfaddefiad chi eich hunan, dyw Llywodraeth Cymru ddim yn casglu hyd yn oed y data mwyaf sylfaenol ar effeithiolrwydd eu cynlluniau cymhelliant hyfforddi athrawon.

Ysgrifennydd y Cabinet, faint o gynlluniau cymhelliant a fydd heb eu mesur, arbenigwyr a fydd yn cael eu hanwybyddu, targedau recriwtio a fydd yn cael eu methu a blynyddoedd o brofiad addysgu a fydd wedi'u colli cyn y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfaddef nad yw'r hyn y maent wedi bod yn ei wneud dros y 25 mlynedd diwethaf wedi gweithio?

Diolch am y cwestiynau hynny. Yn amlwg, cafodd y panel y cyfeirioch chi ato ei ddiddymu cyn imi ddod i'r swydd. Nid yw hynny'n golygu nad ydym yn cael cyngor arbenigol ar recriwtio a chadw athrawon. Ar hyn o bryd, rydym yn gwneud gwaith gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i edrych ar rai o'r problemau'n ymwneud â pham ei bod yn anodd recriwtio a chadw athrawon. Felly, rydym yn derbyn cyngor, ac rydym yn derbyn cyngor o amrywiaeth o ffynonellau. Nid yw'n wir dweud ychwaith na chaiff y cymhellion ar gyfer pynciau â blaenoriaeth mo'u mesur, oherwydd, fel y dywedais wrthych mewn ateb blaenorol, mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei wneud. Nid yw'n rhywbeth y gallwch ei wneud yn gyflym iawn. Felly, er enghraifft, gyda'r cymhellion cyfrwng Cymraeg, mae'n mynd i gymryd ychydig o amser i athrawon cyfrwng Cymraeg fynd drwy'r system, gwneud eu hyfforddiant, cael eu statws athro cymwysedig, dilyn eu proses sefydlu. Ond rwy'n gwbl ymrwymedig. Rwy'n meddwl bod data yn bwysig—mae'n eithriadol o bwysig. Mae'n rhywbeth a ddysgais yn fy rôl flaenorol. Rwy'n gofyn yn gyson am ragor o ddata ac yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i wella'r data fel y gallwn fesur cynnydd.

14:45
Ysgolion Annibynnol

3. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r cyfraniad y mae ysgolion annibynnol yn ei wneud i addysg disgyblion yng Nghymru? OQ61587

Ysgolion annibynnol yw 5.3 y cant o gyfanswm yr ysgolion yng Nghymru ac maent yn cyfrannu at addysg 2.1 y cant o'r holl ddisgyblion. Mae Estyn yn arolygu pob ysgol annibynnol i werthuso ansawdd yr addysg ac i sicrhau bod pob ysgol yn cydymffurfio â'r safonau deddfwriaethol ar gyfer ysgolion annibynnol.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, mae ysgolion annibynnol fel Haberdashers yn Nhrefynwy yn gwneud cyfraniad enfawr nid yn unig i addysg plant, ond hefyd i'r economi leol, gan mai nhw yw cyflogwyr mwyaf y dref ac mae'n denu ymwelwyr sy'n cefnogi busnesau lleol. Mae cynnig Llafur i godi TAW ar ffioedd ysgol yn fygythiad uniongyrchol i ddyfodol yr ysgol hon ac eraill sy'n debyg iddi, a gallai orfodi rhagor o ddisgyblion i fynd i'r sector gwladol sydd eisoes dan bwysau. Yn sir Fynwy, rydym wedi gweld problemau gyda gorlenwi, tanariannu, prinder athrawon mewn ysgolion gwladol, gyda disgyblion yng Nghil-y-coed, er enghraifft, yn cael eu haddysgu mewn dosbarth mathemateg ag ynddo 60 disgybl. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod y rôl hanfodol y mae ysgolion annibynnol yn ei chwarae yn lliniaru'r pwysau ar y sector gwladol? Ble fyddai'r plant yma i gyd yn mynd os byddai Haberdashers yn Nhrefynwy, er enghraifft, ac ysgolion eraill tebyg iddi, yn cau? A wnewch chi ymrwymo i wrthwynebu unrhyw bolisïau sy'n bygwth hyfywedd ysgolion annibynnol yng Nghymru, a fyddai'n gwaethygu'r heriau presennol yr ydych chi eisoes wedi'u hamlinellu heddiw? Diolch.

Diolch, Laura. Wel, rwy'n siŵr na fyddwch yn synnu clywed mai buddsoddi yn ein system addysg gyhoeddus ac ysgolion prif ffrwd yw fy mlaenoriaeth. Fel y gwnaethoch chi nodi, mae cynlluniau i godi TAW ar ysgolion preifat. Polisi gan Lywodraeth y DU yw hwnnw, ac nid yw wedi'i ddatganoli, ond mae'n un yr ydym yn cysylltu'n agos â nhw yn ei gylch i sicrhau ein bod yn cael y fargen orau bosibl a bod anghenion ein disgyblion yng Nghymru yn cael eu hystyried yn llawn.

O ran y disgyblion na fyddant efallai'n parhau i fynd i ysgolion preifat yn rhoi pwysau ar y sector gwladol, nid yw hynny'n rhywbeth yr ydym yn arbennig o bryderus yn ei gylch ar hyn o bryd, oherwydd mae 10,126 o ddisgyblion ysgolion annibynnol yng Nghymru, ac mae ein ffigurau diweddaraf yn dangos bod gennym 78,970 o leoedd gwag yn ein hysgolion gwladol yng Nghymru. A gaf i ddweud hefyd wrth yr Aelod y gallai fod eisiau edrych ar adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar y cynnig polisi hwn, a ddaeth i'r casgliad nad oedd yn debygol y byddai fawr o effaith ar niferoedd y bobl sy'n mynd i ysgolion preifat o ganlyniad i'r polisi hwn. Ond fe fyddwch hefyd yn falch o wybod ein bod wedi ysgrifennu at bob ysgol breifat yng Nghymru a phob awdurdod lleol, yn eu hannog i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar hyn, ac mae'r ymgynghoriad hwnnw wedi dod i ben bellach. Rwy'n gwybod bod asesiad effaith wedi'i gynnal ac y bydd canlyniad hwnnw'n dod yn hysbys yn y gyllideb ar 30 Hydref.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar waith grŵp llywio cenedlaethol anghenion dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg? OQ61588

Mae'r grŵp llywio anghenion dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg yn cynghori ar faterion sy'n ymwneud â gwella a chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr ag ADY. Mae'r arweinydd gweithredu cenedlaethol ADY cyfrwng Cymraeg wedi bod yn ei swydd ers y gwanwyn a bydd yn cymryd yr awenau fel cadeirydd y grŵp y mis hwn i yrru blaenoriaethau yn eu blaen.

Diolch yn fawr am yr ateb hynny. Diolch i waith arloeswyr fel Michael ac Ethni Jones, a'r ddiweddar annwyl Beryl Williams, a fu farw bythefnos yn ôl, ac a roddodd ddegawdau o waith yn y maes yma, mae yna draddodiad clodwiw o addysg cyfrwng Cymraeg i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yma yng Nghaerdydd. Cyn hynny, gall nifer o deuluoedd, gan gynnwys fy nheulu i, roi esiamplau i chi o blant gafodd eu gwrthod i dderbyn addysg yn eu mamiaith. Ond, yn anffodus, dangosodd rhaglen deledu ddiweddar, Y Gymraeg: Hawl Pob Plentyn, fod y frwydr yn parhau. Dyw'r ddarpariaeth Gymraeg ddim byd tebyg i'r ddarpariaeth yn Saesneg. Dwy enghraifft yn unig i chi, Weinidog: mae yna uned benodol Saesneg ar gyfer awtistiaeth yn ne Cymru, ond does dim un Cymraeg; a does dim ysgol arbenigol ddwys cyfrwng Cymraeg yma yn ne Cymru. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod pob plentyn, beth bynnag yr anghenion, yn gallu derbyn addysg cyfrwng Cymraeg? Diolch.

14:50

Diolch am y pwyntiau pwysig hyn. Fy mhrofiad cynnar o'r awdurdod lleol yng Nghaerdydd yw eu bod yn gweithio'n galed iawn ar eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Roeddwn mewn uned drochi yr wythnos diwethaf ac roeddent yn rhoi pob gewyn ar waith, ac roedd yn drawiadol iawn gweld yr ymrwymiad a oedd yno. Os oes angen darpariaeth ddysgu ychwanegol ar blentyn neu berson ifanc yn Gymraeg, rydych chi'n ymwybodol y dylid cofnodi hynny yn eu cynllun datblygu unigol a rhaid rhoi pob cam rhesymol ar waith i gael y ddarpariaeth yn Gymraeg. Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r heriau mewn perthynas ag ADY a'r Gymraeg. Mae darparwyr a theuluoedd cyfrwng Cymraeg yn parhau i fynegi pryderon ynghylch argaeledd gweithlu, asesiadau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg i gefnogi'r gwaith o nodi ADY a darparu ar eu cyfer. Dyna pam y mae penodiad ein harweinydd ADY Cymraeg yn bwysig iawn, oherwydd bydd hynny'n helpu i gydgysylltu'r ddarpariaeth hon ledled Cymru. Mae'r arweinydd hwnnw'n canolbwyntio ar fapio argaeledd darpariaeth ac adnoddau ADY Cymraeg ledled Cymru, gwella ansawdd ac argaeledd adnoddau a chefnogi'r gweithlu i fynd ar drywydd gwell profiadau addysgol i blant a phobl ifanc ag ADY sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg.

A gaf i ddweud yn ogystal fod Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Adnodd, sef y cwmni adnoddau addysgol dwyieithog, i wella'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg, fel bod pob dysgwr yn cael yr un cyfle i ddysgu a datblygu, ac ychwanegu hefyd fy mod yn falch iawn fod gennym waith yn cael ei ddatblygu ar offeryn asesu llythrennedd y mae â galw mawr amdano, sy'n cael ei ddatblygu gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, i helpu gyda phrofion safonol gyda'r nod o wella'r broses o nodi anawsterau llythrennedd ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd sy'n siarad Cymraeg. Felly, rwy'n cydnabod bod rhagor o waith i'w wneud ac mae ADY yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Ac fe fyddwch yn ymwybodol hefyd fod y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn allweddol i hyn a bod yn rhaid iddynt nodi sut y mae'r awdurdodau lleol yn bodloni eu gofynion o ran y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol hefyd. Mae pob un o'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg bellach yn nwylo Llywodraeth Cymru am eleni, maent yn cael eu hasesu, a bydd awdurdodau lleol yn cael adborth ar hynny, ac os down o hyd i unrhyw ddiffygion penodol, gallaf eich sicrhau y byddaf yn mynd ar drywydd y rheini gyda'r awdurdodau lleol.

Darpariaeth Addysgol yn Islwyn

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ansawdd y ddarpariaeth addysgol yn Islwyn? OQ61622

Roeddwn yn falch o ddarllen arolygiad diweddar Estyn o wasanaeth addysg Caerffili, a oedd, yn ôl yr adroddiad, yn rhoi buddiannau pennaf plant a phobl ifanc wrth wraidd y penderfyniadau a wnânt. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ganfyddiadau cadarnhaol yn ymwneud â darpariaeth, dulliau ac arferion addysg yr awdurdod.

Diolch. Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 27,576 o ddisgyblion ar draws 86 o ysgolion, gan gynnwys 73 o ysgolion cynradd ac un ysgol arbennig. Fel y dywedoch chi, fe gynhaliodd Estyn, y corff gwarchod addysg, arolygiad manwl o wasanaethau addysg y cyngor ym mis Mehefin. Ym mis Medi, cyhoeddodd Estyn eu casgliadau. Cafodd gwasanaeth addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili adolygiad disglair. Dywedodd Estyn: 

'Mae gwasanaethau addysg Caerffili yn cael eu harwain yn alluog iawn gan y Prif Swyddog Addysg a’i huwch dîm. Mae’r tîm yn rhoi pennaf les plant a phobl ifanc wrth wraidd y penderfyniadau a wnânt. Mae’r gwasanaeth addysg yn cael cymorth effeithiol gan y tîm rheoli corfforaethol. Mae’r gwasanaeth yn gwneud cyfraniad cryf at weledigaeth y Cyngor i sicrhau ‘dyfodol gwell i bawb’ yng Nghaerffili.'

Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch arweinwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dan arweiniad Llafur am sicrhau safonau addysgol uchel i blant Islwyn, ac a wnewch chi ymweld â ni yn Islwyn i weld drosoch eich hun y gwaith da sy'n digwydd?

14:55

Diolch, Rhianon, ac rydych chi wedi gwneud gwaith gwell nag y gallwn i ei wneud yn tynnu sylw at y pwyntiau cadarnhaol o adroddiad yr arolygiad. Hoffwn ddiolch i holl athrawon, staff cymorth, penaethiaid a staff yr awdurdod lleol gyda'i gilydd yn yr awdurdod lleol am eu gwaith, sydd wedi arwain at yr adroddiad rhagorol hwn, a oedd yn hyfryd iawn i'w ddarllen. Fel y dywedoch chi, mae yna strategaeth glir ar gyfer gwella ysgolion. Roedd yn wych gweld yr adborth ar arweinyddiaeth y prif swyddog addysg, sy'n darparu

'arweinyddiaeth strategol, empathetig, ac eto cadarn',

ac roedd hefyd yn wych clywed am eu dull o reoli swyddi gwag ymhlith arweinwyr ysgolion, sy'n golygu bod yr ysgolion yn gweithio'n gynaliadwy iawn o ran staffio. Felly, rwy'n hapus iawn i ddod i Islwyn i siarad â'r awdurdod lleol ac efallai i ymweld ag un o'ch ysgolion. A hoffwn gofnodi fy niolch eto i'r awdurdod a phawb arall yn yr ardal am eu gwaith caled.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae cymhwysedd nofio a dŵr yn rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer pob plentyn ysgol yng nghyfnod allweddol 2 yng Nghymru. Yn y cwricwlwm, mae'n nodi:

'Dylai disgyblion gael eu dysgu i:

'ddatblygu sgiliau diogelwch yn y dŵr a goroesi personol

'nofio heb gymorth am gyfnod penodol o amser'.

Fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, mae adroddiad a gyd-gynhyrchwyd gan Chwaraeon Anabledd Cymru a'r elusen wych Sparkle yn fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru wedi datgelu nad yw'r sgiliau hanfodol hyn yn cael eu haddysgu i blant ag anghenion ychwanegol yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn gwerthuso gwersi nofio arbenigol a gynigir i blant ag anableddau yn Serennu, yng Nghasnewydd, o'i gymharu â phrofiadau rhieni wrth geisio cael mynediad at wersi nofio ysgolion neu gymunedol ar gyfer y plant hynny heb y cyfleusterau arbenigol hyn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, ar hyn o bryd, mae 100 o blant ar restr aros am wersi nofio yng Ngwent yn unig. Felly, o ystyried bod y cwricwlwm yn nodi y dylai pob plentyn gael mynediad at y sgiliau hanfodol hyn yn eu haddysg, beth allwch chi ei wneud i gefnogi sefydliadau fel Sparkle i ddarparu mynediad at y rhan hon o'r cwricwlwm a sicrhau nad yw plant ag anableddau sylweddol neu anableddau dysgu yn cael eu heithrio o sgìl allweddol nofio? Diolch.

Diolch, Natasha, ac i fod yn dryloyw, rwy'n ymwybodol o'r adroddiad y cyfeiriwch ato oherwydd cyfarfûm â Sparkle fy hun, yn rhinwedd fy swydd fel Aelod o'r Senedd, i drafod eu pryderon am nofio i blant anabl. Roeddwn yn bryderus iawn o glywed am y sefyllfa, a byddaf yn trafod hynny gyda swyddogion a byddaf hefyd yn ei drafod gyda fy nghyd-Aelod, Jayne Bryant. Rwy'n deall bod y materion sy'n codi yn ei gylch yn eithaf cymhleth, oherwydd mae'n ymwneud â thymheredd dŵr, staffio, offer codi priodol, ond rwy'n awyddus iawn i blant anabl gael yr un cyfleoedd â phlant nad ydynt yn anabl, felly byddaf yn mynd ar drywydd hynny gyda swyddogion ac yn ysgrifennu atoch.

Codi TAW ar Ysgolion Preifat

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith penderfyniad Llywodraeth y DU, sef codi TAW ar ysgolion preifat, ar ysgolion yng Nghymru? OQ61615

Nid yw polisïau ynghylch treth ar werth wedi'u datganoli, ac nid oes gan Weinidogion Cymru unrhyw bwerau yn y maes hwn. Mae disgwyl i fanylion asesiad Llywodraeth y DU o effeithiau disgwyliedig y newidiadau polisi hyn gael eu cyhoeddi yng nghyllideb yr hydref ar 30 Hydref.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n ymwybodol eich bod wedi ateb rhai o fy mhwyntiau yn eich ymateb blaenorol i Laura Anne Jones. Ond yn groes i'r gred gyffredin, nid pethau ar gyfer plant miliwnyddion yn unig yw ysgolion preifat; mae llawer o rieni uchelgeisiol am gael yr addysg orau i'w plant ac wedi aberthu a chynilo am flynyddoedd i roi eu plant yn yr ysgolion hyn. Yn anffodus, bydd y TAW, a fydd yn cael ei osod o 1 Ionawr y flwyddyn nesaf, fel y gwyddom, yn rhoi baich ar ysgolion. Roeddwn gyda Haberdashers yn Nhrefynwy ddoe, ac nid ydynt o dan unrhyw gamargraff na fydd hyn yn effeithio ar bobl, yn enwedig ar fwrsarïau rhannol ac ati, a bydd yn gorfodi rhai rhieni i dynnu eu plant allan o ysgolion. Ac er y gallai'r niferoedd fod yn fach yn achos ysgolion unigol, ysgolion gwladol, a allai orfod derbyn plant, fe fydd, heb os, yn swm sylweddol pan gaiff ei gasglu ledled Cymru. Ac fel y clywsom yn gynharach, gwyddom fod ysgol yn agos at ble rwy'n byw yng Nghil-y-coed, ar hyn o bryd yn gweithredu gyda 60 o fyfyrwyr mewn dosbarth mathemateg, felly maent dan bwysau aruthrol. Felly, gyda hynny mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa sicrwydd a roddwyd i chi y bydd yr arian a godir drwy TAW gan ysgolion yng Nghymru yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru ac na chaiff ei ailddosbarthu i ysgolion yn Lloegr?

15:00

Diolch, Peter. Fel y dywedais, mae swyddogion wedi bod yn cael trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn, i sicrhau bod y polisi hwn yn arwain at y manteision mwyaf sy'n bosibl i Gymru. Cyfarfûm ag un o Weinidogion y Trysorlys yn fuan ar ôl yr etholiad, ac yn amlwg, rwyf wedi pwysleisio wrth Lywodraeth y DU y byddem yn disgwyl cyllid canlyniadol yng Nghymru yn sgil unrhyw arian a gaiff ei wario o’r polisi hwn ar gyfer gwasanaethau datganoledig. Mae hynny'n bwysig iawn i ni. Rydym hefyd yn ymwybodol fod darpariaethau’n cael eu gwneud ar gyfer plant sydd mewn ysgolion preifat oherwydd lleoliadau ADY cynlluniau datblygu unigol, ac rydym wedi dweud yn glir iawn wrth Lywodraeth y DU ei bod yn hanfodol, lle mae awdurdodau lleol yn ariannu’r lleoedd hynny oherwydd ADY, eu bod yn gallu hawlio'r arian hwnnw yn ôl. Felly, rydym yn canolbwyntio ar fynd ati'n rhagweithiol i ddiogelu buddiannau Cymru a sicrhau ein bod yn elwa o unrhyw gyllid sy'n deillio o'r polisi hwn.

Y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

7. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi’u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynglŷn ag effaith y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) ar ddisgyblion yn y de-ddwyrain? OQ61586

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru a minnau wedi trafod amrywiaeth o faterion yn ymwneud â theithio gan ddysgwyr ar wahanol achlysuron. Cyfarfuom eto yn gynharach yr wythnos hon i drafod y mater pwysig hwn, ac rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw hyn ar gyfer dysgu effeithiol.

Diolch yn fawr iawn am hynna. Mae gormod o rieni ar draws y de-ddwyrain yn ei ffeindio hi'n anodd danfon eu plant i ysgolion Cymraeg, a gall newidiadau i gynlluniau teithio i'r ysgol ychwanegu at yr heriau. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymgynghori ar gwtogi'r rhaglen cludiant i'r ysgol, sy'n debyg i ymgynghoriadau a welwyd dros yr haf mewn siroedd eraill, fel yn sir Fynwy. Mae risg real yma y gall cwtogi ar y cynlluniau danseilio blynyddoedd o waith yn y cymunedau hynny i roi cyfleoedd i blant i gael mynediad at addysg Gymraeg. Mae cymaint o rieni yn yr ardaloedd yn bobl sydd ddim yn siarad yr iaith eu hunain, ond maen nhw wedi brwydro i roi'r cyfle hwn i'w plant—cyfle na chawsant eu hunain. Ond heb fynediad at gludiant saff, rhad ac am ddim, gall mwy a mwy o rieni benderfynu peidio cymryd y naid honno. Dyw e ddim yn realistig, nac yn saff, nac yn deg i ddisgwyl i blant gerdded milltiroedd i'r ysgol ym mhob tywydd, a chofiwn, mewn lot o'r ardaloedd hyn, mae cyfraddau'r teuluoedd sydd â char preifat yn is. Felly, beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i wella'r sefyllfa, i roi hyder newydd i rieni, a rhoi'r cyfle euraidd hwn i'r plant i allu dysgu trwy'r iaith Gymraeg?

Diolch, Delyth. Fel y gwyddoch, mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, y mae fy nghyd-Aelod o'r Cabinet yn arwain arno, yn nodi dyletswyddau'r awdurdod lleol i asesu anghenion teithio dysgwyr yn eu hardal a darparu cludiant am ddim i ddysgwyr os ydynt yn gymwys, yn seiliedig ar oedran, pellter, cymhwyster a meini prawf diogelwch i ysgol addas agosaf y dysgwr fel y'i pennir gan yr awdurdod lleol yn unol â'r polisi derbyn i ysgolion.

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am asesu anghenion dysgwyr yn eu hardal, ac mae ganddynt bwerau disgresiynol i ddarparu cludiant yn unol â’r anghenion hyn, er enghraifft, islaw’r trothwyon milltiredd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu hyd yn oed ar gyfer dysgwyr ôl-16, mater i awdurdodau lleol yw penderfynu ar eu darpariaeth cludiant. Fel y gwyddoch, darperir cyllid ar gyfer cludiant i'r ysgol drwy’r grant cynnal refeniw, felly gall awdurdodau lleol flaenoriaethu eu cyllid yn ôl angen lleol, ac rydym yn cydnabod yr heriau ariannol a wynebir gan awdurdodau lleol o ran darparu cludiant i ddysgwyr.

Fel y gwyddoch, mae'n debyg, mae gwaith wedi dechrau ar ddiweddaru’r ddogfen canllawiau gweithredol statudol sy’n cyd-fynd â’r Mesur teithio gan ddysgwyr, gan nodi dyletswyddau cyfreithiol yn ogystal ag arferion gorau ar gyfer darparu cludiant i ysgolion. Mae’r canllawiau diwygiedig hyn yn adlewyrchu’r adborth gan randdeiliaid, yn ogystal â phlant a phobl ifanc a’u teuluoedd, i roi mwy o eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau ac i ymhelaethu ymhellach ar ddeddfwriaeth berthnasol.

15:05
3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yw'r cwestiwn amserol, i gael ei ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig heddiw, ac i'w ofyn gan James Evans.

Y Tafod Glas

1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i roi arweiniad i ffermwyr, ac i leihau lledaeniad y tafod glas, yng ngoleuni canfod yr achosion cyntaf mewn defaid yng Nghymru? TQ1185

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:05:29
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, James. Rwyf wedi cyhoeddi datganiad heddiw yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf yng Nghymru a fy nghyngor i ffermwyr. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad dyddiol â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a phartneriaid eraill i reoli'r tafod glas. Er bod y feirws wedi’i ganfod mewn rhai defaid a brynwyd i mewn i ogledd Cymru, nid oes gennym unrhyw dystiolaeth o haint actif yma ar hyn o bryd, a fy nod polisi o hyd yw cadw Cymru’n rhydd rhag y clefyd newydd hwn.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch hefyd i’r Llywydd am dderbyn y cwestiwn amserol pwysig hwn heddiw. Sylwais, fel y dywedwch, ar ôl i fy nghwestiwn amserol gael ei dderbyn, fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar ledaeniad y tafod glas, a oedd yn amseru gwych, rhaid dweud. Ond roedd yn drueni na allai Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad llafar ddoe, gan ei fod yn fater pwysig iawn i ffermwyr ledled Cymru, ac mae'n drueni ein bod wedi gorfod dod y ffordd hon er mwyn dod â chi i'r Siambr.

Fel yr amlinellwyd yn eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn wir, yn eich datganiad ysgrifenedig, mae lledaeniad y tafod glas yn peri cryn bryder i’n cymuned ffermio, ac mae’n hollbwysig ein bod yn mynd i'r afael â hyn ar unwaith. Rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd eisoes, gan gynnwys samplu helaeth a phrofion labordy, a wnaed gan APHA a Sefydliad Pirbright.

Serch hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, mae achosion o’r tafod glas wedi'u nodi yn ne-ddwyrain Lloegr ers mis Awst, ac mae cynlluniau a rhagofalon wedi’u rhoi ar waith yn Lloegr gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ac APHA, ond yn anffodus, nid yw'n ymddangos bod hyn wedi digwydd yng Nghymru. Yng ngoleuni hyn, a allwch chi ymhelaethu ar ba drafodaethau rydych chi'n eu cael gyda'ch swyddogion cyfatebol yn DEFRA ynglŷn â'r lledaeniad? Ac a fyddwch chi'n cyflwyno unrhyw fesurau bioddiogelwch, megis parthau dan gyfyngiadau ac ardaloedd heintiedig, sydd wedi eu cyflwyno yn Lloegr? Oherwydd credaf fod hynny'n rhywbeth y gallem ei weld yng ngogledd Cymru, ac a ydych chi'n fodlon gwneud hynny.

Hefyd, rydym ar anterth y tymor prynu stoc ar hyn o bryd, stoc bridio. Felly, mae gennyf ddiddordeb yn y cyngor y byddwch yn ei roi i ffermwyr, drwy Cyswllt Ffermio neu asiantaethau eraill, ynghylch prynu stoc o ardaloedd risg uchel yn Lloegr, gan fod llawer iawn o ffermwyr yn fy etholaeth yn mynd i Loegr i brynu eu stoc yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Ac yn ogystal â hyn, clywais gan ffermwyr nad oes unrhyw negeseuon gan Lywodraeth Cymru, er eu bod yn cael llawer o ddiweddariadau gan APHA am achosion yn Lloegr. Felly, hoffwn wybod a fyddech chi'n ystyried anfon hysbysiadau ffôn symudol at ffermwyr yng Nghymru ynglŷn ag achosion newydd, gan y credaf y byddai hynny'n rhywbeth y mae angen inni glywed amdano.

A hefyd, yn olaf, y drefn iawndal ar gyfer ein ffermwyr yng Nghymru. A allwch chi egluro sut y mae hynny’n mynd i weithio er mwyn sicrhau bod ein ffermwyr yng Nghymru yn cael iawndal priodol am y stoc y maent yn ei golli i’r tafod glas? Diolch, Lywydd.

James, diolch am eich cwestiynau, a Lywydd, dylwn egluro, mewn trafodaeth gyda'r prif swyddog milfeddygol a swyddogion APHA, roeddem wedi bwriadu cyflwyno datganiad heddiw—datganiad ysgrifenedig—pan oeddem yn gwybod holl fanylion yr anifeiliaid heintiedig presennol a gafodd eu prynu i mewn i Wynedd, ac nid cyn hynny, oherwydd roeddem yn awyddus i wneud datganiad priodol pan allem roi’r holl ffeithiau a manylion. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn deall mai'r rheswm dros yr amseru o ran cyflwyno’r datganiad ysgrifenedig oedd er mwyn ei gyflwyno gyda’r wybodaeth lawn, yn hytrach na gwybodaeth gynamserol. Felly, roeddwn yn falch o gyflwyno’r datganiad hwnnw.

Fe ofynnoch chi nifer o gwestiynau. Yn gyntaf, nid yw'n wir mewn unrhyw ffordd fod Llywodraeth Cymru neu APHA neu'r prif swyddog milfeddygol wedi bod yn hwyr yn ymateb i hyn. Mewn gwirionedd, mae strategaeth Prydain ar gyfer rheoli’r tafod glas wedi bod ar waith ers mis Awst 2014, ac mae wedi’i hadolygu’n rheolaidd. Rydym ni yn Llywodraeth Cymru a’n swyddogion a’n prif swyddog milfeddygol wedi ymgysylltu'n ddwys â’n swyddogion cyfatebol ar lefel y DU ac arbenigwyr clefydau yn y DU, a ledled Ewrop yn wir, gan wneud mwy o hynny, mewn gwirionedd, ers ymlediad BTV-3 yn yr Iseldiroedd ym mis Medi 2023, a ddaeth â'r clefyd yn nes atom. Felly, cynyddodd dwyster yr ymgysylltu.

Rydym wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ymhlith y gymuned ffermio a milfeddygol ers yr ymlediad yn yr Iseldiroedd, ac yn fwy dwys felly ers ymlediad y clefyd yn Lloegr fis Tachwedd diwethaf ac ym mis Awst eleni. Mae'r prif swyddog milfeddygol wedi sefydlu gweithdy ar gyfer rhanddeiliaid y diwydiant. Mae’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod y risgiau ac ymateb Llywodraeth Cymru i ymlediad neu brigiad o achosion yng Nghymru. Nodaf yn glir, unwaith eto, Lywydd, nad yw hwn yn haint a gludir gan wybed yng Nghymru: tri anifail yw'r rhain a nodwyd gennym, oherwydd effeithiolrwydd y system dracio gyfan yma, fel rhai a brynwyd i mewn i Gymru ar hyn o bryd. Nid yw'n haint a gludir gan wybed. Mae’r grŵp hwn, y grŵp rhanddeiliaid, yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y darlun o’r clefyd yn Ewrop, yn Lloegr, a’r risg gynyddol i Gymru ym mhob cyfarfod, ac fe wnaed y penderfyniad i ganiatáu symud anifeiliaid o barthau dan gyfyngiadau i gael eu lladd mewn lladd-dai dynodedig yn unig mewn ymgynghoriad â'r grŵp hwn.

Rydym mewn cysylltiad agos rheolaidd ag undebau ffermio a sefydliadau fel y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol. Maent yn bartneriaid pwysig iawn gyda ni yn y grŵp hwn, ac maent yn rhaeadru gwybodaeth ynglŷn â'r risgiau i'w haelodau. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu cydweithrediad ac am eu hymwneud â'r cymunedau amaethyddol. Rydym hefyd wedi cynnal gweminarau drwy Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Lywydd, ar gyfer practisau milfeddygon er mwyn codi ymwybyddiaeth a rhannu manylion am yr arwyddion clinigol, fel y gall milfeddygon drafod y clefyd gyda'u cleientiaid. Ac rydym yn annog ceidwaid anifeiliaid i geisio cyngor milfeddygol cyn caffael anifeiliaid o ardaloedd risg uchel, fel y gallant wneud asesiad gwybodus.

Ond yn hollbwysig, Lywydd, ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw dystiolaeth o haint tafod glas actif yng Nghymru. Yn ystod y dyddiau diwethaf, yr hyn a welsom yw nifer fach o ddefaid a brynwyd i mewn i Gymru o ddwyrain Lloegr. Nid yw hyn yn gyfystyr â brigiad o achosion neu haint a gludir gan wybed yng Nghymru. Ac mae'n rhaid inni atgyfnerthu’r neges honno, ond rydym yn gofyn i bobl fod yn wyliadwrus iawn.

Rwy'n credu eich bod wedi codi mater iawndal. Am y tri anifail sydd wedi eu difa, talwyd iawndal i'r ffermwr yr effeithiwyd arnynt. Bydd ffermwyr yn cael iawndal os ceir diagnosis o'r tafod glas a bod y prif swyddog milfeddygol neu’r dirprwy brif swyddog milfeddygol yn gorchymyn lladd anifeiliaid yr effeithiwyd arnynt, a hynny’n unol â’n protocol arferol. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n helpu i ateb rhai o'ch cwestiynau. Gallaf fanylu ymhellach wrth gwrs, ond rwy'n ymwybodol o'r amser hefyd.

15:10

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mae’n galonogol clywed yr hyn a ddywedwch ynglŷn â chadarnhau y bydd iawndal ar gael i’r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol a lle maent o bosibl yn gorfod difa a chael gwared ar anifeiliaid heintiedig, ond mae cwestiwn ehangach yma ynghylch yr effaith o fewn parthau dan gyfyngiadau neu barthau dan reolaeth, onid oes, gan fy mod yn ymwybodol o enghreifftiau yn Lloegr—. Roedd yna fferm yn Suffolk, er enghraifft, sy'n dweud eu bod wedi colli mwy na £50,000 eleni, gan eu bod yn gweithredu o fewn parth dan gyfyngiadau tafod glas. Nid ydynt wedi cael unrhyw achosion uniongyrchol ar eu fferm eu hunain, ond wrth gwrs, maent yn dweud ei bod yn amhosibl gwerthu anifeiliaid, ac wrth gwrs, mae'r cyfyngiad ar symud anifeiliaid yn cael effaith ganlyniadol. Felly, hoffwn wybod beth yw eich barn ynglŷn â photensial gweithio gyda'r diwydiant, efallai, i geisio eu cefnogi drwy'r effeithiau mwy anuniongyrchol hynny, oherwydd diolch byth, gyda'r achos hwn, mae gennym rywfaint o amser, o bosibl, i ystyried y pethau hyn.

Felly hefyd gyda’r brechlyn, deallaf fod tri brechlyn anawdurdodedig wedi’u cymeradwyo gan DEFRA. A allwch chi gadarnhau bod y rheini ar gael yng Nghymru pe bai eu hangen? A gwyddom nad yw'r brechlyn yn effeithiol 100 y cant. Credaf ei fod yn eithaf drud. Felly, beth y gallwch ei ddweud wrthym ynglŷn ag argaeledd a fforddiadwyedd brechlynnau i ffermwyr Cymru?

A hoffwn ailadrodd y pwynt ynglŷn â chyfathrebu. Credaf fod hwn yn gyfle, onid yw, i bwysleisio'r negeseuon, gan y bydd pobl yn llawer mwy ystyriol o effeithiau posibl y tafod glas ar ôl yr achos ynysig hwn yng Ngwynedd. Mae rhai ffermwyr wedi dweud wrthyf, er enghraifft, nad oeddent wedi sylweddoli pa mor fawr yw’r ardal dan gyfyngiadau yn Lloegr, a phan fo hynny'n ymwneud â phrynu gwybodus ac ati, fel y sonioch chi, mae hynny’n allweddol.

Yn sicr. Yn hollol. Ac rwy'n credu mai un o’r cymwynasau mwyaf y gallwn eu gwneud â'n hetholwyr, ac i gadw Cymru’n rhydd rhag y clefyd hwn, yw pwysleisio'r negeseuon hyn heddiw, a dyna’r gwaith y buom yn ei wneud nid yn unig ers sawl mis, ond ers inni ddod yn ymwybodol fod yr afiechyd hwn yn dod atom o'r cyfandir agos. Dylem bwysleisio mai clefyd a gludir gan wybed yw hwn. Diben cymryd y camau pendant a gymerwyd gennym—a diolch am y gwaith a wnaed gan APHA a’n prif swyddog milfeddygol a’i swyddogion hefyd—yw gweithredu'n bendant. Mae'r gwaith tracio'n effeithiol iawn. Yr hyn y buom yn ei wneud yw cydnabod bod y sefyllfa’n wahanol iawn ar hyn o bryd yn nwyrain Lloegr, ac rydym yn cydymdeimlo â hwy hefyd, gan eu bod yn gorfod ymdrin ag ardaloedd mawr lle maent wedi gorfod cyfyngu'n llwyr ar symud unrhyw anifeiliaid, ond mae hynny'n rhan o'r ymateb. Nid yw’r anifeiliaid sydd wedi cyrraedd gogledd Cymru, yn anffodus, wedi cyrraedd yno drwy dorri rheolau na phrotocol. Ni chafodd ei ganfod tan yn ddiweddarach, wedi i'r da byw hynny ddod o ddwyrain Lloegr, a chanfod bod y clefyd yn lledaenu yno, gan gynnwys haint a gludir gan wybed, ac yna fe wnaethom dracio ble y cawsant eu gwerthu drwy arwerthiant ac i ble yr aethant, a byddwn yn parhau i wneud hynny hefyd.

Ond mae'n bwysig fod ein hymgyrch gyfathrebu barhaus yn rhoi pwyslais ar brynu da byw yn ddiogel—credaf fod llawer o ffermwyr ledled Cymru bellach yn meddwl, 'Wel, gallwn weld maint y broblem yn nwyrain Lloegr, mae'n rhaid inni ofalu nad ydym yn prynu o ardaloedd risg uchel.' Byddwn yn parhau i atgyfnerthu hyn drwy ein cyfarfodydd rheolaidd â rhanddeiliaid, cynrychiolwyr, proffesiynau milfeddygol, Gwlad, erthyglau newyddion eraill, negeseuon eraill ar y cyfryngau cymdeithasol. Mewn gwirionedd, mae'r prif filfeddyg ei hun wedi bod yn nodi hyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd dros y flwyddyn ddiwethaf, ar ei gyfrif Twitter ei hun. Felly, rydym yn ceisio defnyddio pob ffordd bosibl o'i wneud.

O ran iawndal, ni allaf ond ailadrodd bod yna brotocolau wedi’u hen sefydlu. Felly, lle cafwyd heintio helaeth a heintio cylchredol gan wybed yn nwyrain Lloegr, maent wedi talu swm sylweddol o iawndal. Rydym yn ceisio osgoi’r sefyllfa honno yma yng Nghymru, wrth gwrs, drwy gadw’r clefyd allan. Ond pe bai hyn yn digwydd, yn amlwg, byddai'r un protocolau ac iawndal yn berthnasol. Ond mae'n rhaid inni fod yn ystyriol hefyd o'r trawma ychwanegol i'r ffermwyr dan sylw, oherwydd os oes gennych ardaloedd dan gyfyngiadau, mae hynny'n eithaf difrifol.

Ar frechu, mae'r sefyllfa'n wahanol iawn ar y cyfandir agos, mae'n wahanol iawn yn nwyrain Lloegr ar hyn o bryd. Y cyngor ar hyn o bryd gan ein prif swyddog milfeddygol, ac yn ei drafodaethau gyda swyddogion cyfatebol ar lefel y DU hefyd, yw mai ychydig iawn o ddiben sydd mewn cyflwyno a defnyddio’r brechlyn yng Nghymru tra bo Cymru'n rhydd rhag y clefyd. Yr hyn sydd gennym yw anifeiliaid sydd wedi cyflwyno'r clefyd i fuches, ac rydym yn cymryd y camau cywir. Mae materion sylweddol yn codi, ac fe gyfeirioch chi at hyn, gyda’r defnydd o rai o'r brechlynnau sydd ar gael ar hyn o bryd, gan gynnwys, mae’n rhaid imi ddweud, brechlynnau anawdurdodedig. Mae angen inni ystyried hyn yn ofalus. Rydym yn parhau i adolygu’r defnydd o frechlynnau, gan edrych yn arbennig ar statws y clefyd yng Nghymru nad yw yr un fath ag yn Lloegr ar hyn o bryd. Ond byddem yn ystyried trwyddedu'r defnydd o frechlyn yng Nghymru os ceir tystiolaeth fod feirws y tafod glas yn lledaenu. Nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd fod y feirws yn lledaenu'n lleol mewn gwybed, ond byddwn yn parhau i adolygu hyn, Llyr.

15:15
4. Datganiadau 90 Eiliad

Dychmygwch redeg nid yn unig i fyny pob un o dri chopa Cymru, ond rhedeg i a rhwng bob un ohonynt, i gyd o fewn 34 awr. Wel, dyna a wnaeth chwech o bobl fel rhan o daith gyfnewid i godi ymwybyddiaeth a thynnu sylw at waith elusen Max Appeal. Cenhadaeth Max Appeal yw cynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a chydgysylltu gofal ar gyfer pobl sydd wedi cael diagnosis o anhwylder genetig dileu 22q11.2 neu syndrom DiGeorge, sy'n effeithio ar gymaint ag un o bob 1,000 o bobl yng Nghymru. Gall yr anhwylder effeithio ar iechyd ac ansawdd bywyd o enedigaeth, drwy blentyndod ac i fywyd fel oedolyn, gyda thros 180 o effeithiau corfforol, gweithredol a seicolegol wedi'u nodi.

Cwblhaodd chwech o fy etholwyr her tri chopa Cymru fel rhan o dîm cyfnewid. Fe wnaethant gychwyn o Plas Robin Rural Retreats yn Llandysul, sir Drefaldwyn, i Ben y Fan yn y Bannau, i Gadair Idris, a gorffen gyda’r Wyddfa—gan ddringo'r tri mynydd mor gyflym â phosibl, a rhedeg y llwybr cyfan o’r dechrau i’r diwedd. Mae'n 200 milltir, sy'n cyfateb i saith marathon a hanner gefn wrth gefn. Llongyfarchiadau i Jordan Powell, a arweiniodd y tîm, a hefyd i Ria Davey, Connor Parry, Cameron Parry, Huw McGrath a Tim Davies. Maent wedi codi bron i £2,000, rwy'n credu, sy’n gyflawniad gwych, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r cyflwr hwn. A dylid diolch hefyd i’r noddwyr a’r llu o bobl a’u cefnogodd i gwblhau’r her er budd Max Appeal.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddymuno’n dda i’r Seintiau Newydd, ar foment hanesyddol i’r clwb, ac wrth gwrs, i bêl-droed Cymru, gan mai pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru, TNS, yw'r tîm cyntaf erioed yng Nghymru i gyrraedd cymal y grwpiau yng nghystadlaethau pêl-droed y clybiau Ewropeaidd. Ac o ganlyniad, nos yfory byddant yn wynebu Fiorentina yng Nghyngres UEFA.

Fel y gŵyr pob un ohonom, TNS yw un o’r timau mwyaf llwyddiannus yn hanes pêl-droed domestig Cymru. Maent wedi ennill teitl Uwch Gynghrair Cymru 16 o weithiau. Mae'r garfan bresennol yn chwaraewyr proffesiynol amser llawn dan arweiniad y rheolwr, Craig Harrison. Ac er bod y clwb yn cyrraedd cystadlaethau Ewropeaidd bron yn ddieithriad, mae wedi bod yn freuddwyd o hyd, yn enwedig gan gadeirydd y clwb, Mike Harris, i gyrraedd cymal y grwpiau, a’r tro hwn, maent wedi llwyddo.

Fel y tîm cyntaf o Uwch Gynghrair Cymru i gyrraedd cymal y grwpiau, maent bellach yn wynebu’r posibilrwydd anodd o chwarae rhai o enwau mawr pêl-droed Ewrop, a bydd y gêm hanesyddol gyntaf, wrth gwrs, yn cael ei chwarae nos yfory yn erbyn y cewri o’r Eidal, Fiorentina, yn y Stadio Artemio Franchi, sydd â lle i 43,000 o gefnogwyr, tipyn mwy na'r lle i 2,000 sydd gan TNS yn stadiwm Neuadd y Parc. Ac mae Fiorentina, gyda llaw, wedi colli yn rownd derfynol y gystadleuaeth hon yn y ddau dymor diwethaf, felly mae’n mynd i fod yn dipyn o brofiad i dîm Craig Harrison.

Mae sawl un yn cofio Bangor yn curo Napoli nôl yn 1962. Bydd ambell un yn cofio Merthyr yn curo Atalanta yn 1987. Wel, ai’r Seintiau, ys gwn i, fydd y tîm nesaf o Gymru i guro un o gewri’r Eidal yn Ewrop? Pob lwc i'r Seintiau Newydd gan bawb yn Senedd Cymru. Rhowch hell iddyn nhw, hogia. [Chwerthin.]

15:20
5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gofal iechyd menywod

Eitem 5 heddiw yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar ofal iechyd menywod, a galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8566 Delyth Jewell, Jenny Rathbone, Jane Dodds, Carolyn Thomas

Cefnogwyd gan Cefin Campbell, Hannah Blythyn, Lee Waters, Llyr Gruffydd, Mabon ap Gwynfor, Peredur Owen Griffiths, Rhianon Passmore, Rhun ap Iorwerth, Rhys ab Owen, Russell George, Samuel Kurtz, Siân Gwenllian, Sioned Williams

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu bod poen corfforol ac emosiynol menywod yn cael ei normaleiddio yn eu gofal iechyd, yn ogystal â'r disgwyliad bod poen yn agwedd anffodus ar iechyd menywod ond yn un na ellir ei hosgoi.

2. Yn credu, drwy ymgynghori â gynaecolegwyr, bydwragedd a grwpiau iechyd menywod, y dylai gweithwyr iechyd proffesiynol anelu at leihau sefyllfaoedd lle y mae poen yn ddisgwyliedig ac yn cael ei dderbyn fel rhywbeth normal yng ngofal iechyd y GIG.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cryfhau'r disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau'r GIG yn y Datganiad Ansawdd ar gyfer iechyd menywod a merched;

b) sefydlu gofyniad cyfreithiol i ddarparwyr gofal iechyd gasglu adborth yn rheolaidd gan gleifion benywaidd am eu profiadau a'u bodlonrwydd â'r gofal a gânt, yn enwedig mewn perthynas ag apwyntiadau gynaecolegol, bydwreigiaeth a gwasanaethau ôl-enedigol, iechyd meddwl amenedigol a menopos; ac

c) cyflwyno rhwymedigaethau statudol ar gyfer datblygu, cydgysylltu a gweithredu'r Cynllun Iechyd Menywod a ddatblygwyd gan GIG Cymru y mae gynaecolegwyr, bydwragedd a grwpiau iechyd menywod wedi ymgynghori arno, a ddylai gynnwys mesurau i fynd i'r afael â normaleiddio poen ym maes gofal iechyd menywod, ac atal y normaleiddio hwnnw.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd y rhan fwyaf o fenywod, ar ryw adeg yn eu bywydau, yn clywed y geiriau, 'Efallai y bydd hyn yn brifo'. Nid gan ymosodwr, ond gan eu meddyg neu nyrs, gan fod gormod o driniaethau personol mewn gofal iechyd menywod yn rhai poenus. Mae disgwyl i fenywod oddef y poen hwnnw. Ac nid bai meddygon neu nyrsys unigol mo hyn, ond oherwydd nad oes digon o ffocws nac adnoddau wedi'u rhoi i herio'r disgwyliad hwnnw. Mae'r triniaethau a gawn, boed yn brawf ceg y groth, gosod coil neu hysterosgopi yn boenus, maent yn anghyfforddus, ac o'r herwydd, yn rhy aml o lawer, mae menywod yn oedi rhag cael y cymorth sydd ei angen arnynt am eu bod yn poeni am y poen hwnnw.

Nid dyma'r unig ffordd y disgwylir i fenywod oddef poen. Mae'r ystadegau ofnadwy ar gyfer canserau gynaecolegol yn deillio'n rhannol o'r ffaith nad yw menywod yn cael eu credu pan fyddant yn siarad â'u meddygon am y poen y maent yn ei deimlo mewn rhannau o'r corff sy'n fwy lletchwith i sôn amdanynt. Mae ymchwil gan Target Ovarian Cancer wedi canfod bod chwarter menywod Cymru yn dweud eu bod wedi ymweld â’u meddyg teulu dair gwaith neu fwy cyn cael eu hatgyfeirio am brofion, a thraean yn dweud eu bod wedi aros mwy na thri mis ar ôl eu hapwyntiad cyntaf gyda’r meddyg teulu cyn cael diagnosis.

Mae meddygon naill ai heb gael yr hyfforddiant i nodi symptomau rhai canserau, neu nad oes digon o ymchwil wedi'i wneud i ddod o hyd i ffyrdd mwy cywir o ddehongli'r mathau aneglur hynny o boen. Wedyn, mae gennych y cyflyrau gwanychol sy'n effeithio ar fenywod nad ydym yn gwybod digon amdanynt o hyd, oherwydd diffyg ymchwil neu ddealltwriaeth. Mae endometriosis yn gyflwr sy'n effeithio ar oddeutu un o bob 10 menyw, ac mae'n cael ei achosi pan fydd y meinwe y tu mewn i'r groth yn dechrau tyfu y tu allan iddi, gan arwain at boen cronig.

Fel y mae Gwasanaeth Cynghori ar Feichiogrwydd Prydain yn ei nodi, er mor gyffredin yw endometriosis, nid yw'n cael ei ddiagnosio'n ddigon aml, ac yn rhy aml, caiff ei gamddeall. Gyda'r cyflwr hwn a chymaint o gyflyrau eraill, yn rhy aml caiff menywod eu dibwyllo, eu cynghori i beidio â phoeni, i aros i weld a yw pethau'n gwaethygu, neu cânt eu seicolegu, a gofynnir iddynt a ydynt yn dioddef o orbryder. Ac mae hyn oll yn gwneud menywod, unwaith eto, yn llai tebygol o ofyn am gymorth, am fod eu poen yn cael ei fychanu, os nad ei ddiystyru. Dywedir wrthynt am beidio ag ymddiried yn eu greddf eu hunain sy'n dweud wrthynt fod rhywbeth o'i le.

Faint o fywydau menywod sy'n cael eu colli neu eu gwneud yn annioddefol oherwydd poen am eu bod yn syrthio drwy'r rhwyd yn ein system gofal iechyd lle nad yw eu geiriau'n cael eu credu, lle caiff eu greddf ei hanwybyddu, lle caiff menywod glywed nad ydynt yn deall eu cyrff eu hunain a sut y maent yn gweithio? Mewn triniaethau, mae'r poen a achosir i fenywod yn cael ei dderbyn fel rhywbeth sy'n normal, neu'n cael ei fychanu, ac mae'r poen y mae menywod yn sôn amdano neu'n ceisio cymorth ar ei gyfer hefyd yn cael ei fychanu.

Pam y dylem orfod dioddef cymaint o boen? Pam y mae hynny'n normal? Roedd llythyr mewn papur newydd prif ffrwd ychydig flynyddoedd yn ôl lle roedd menyw'n sôn am y poen a ddioddefodd wrth gael hysterosgopi—lle caiff camera ei roi drwy'r wain a cheg y groth i mewn i'r groth. Ni chynigiwyd unrhyw anesthetig neu dawelydd iddi, ond rai blynyddoedd yn ddiweddarach, pan fu'n rhaid i'r un fenyw gael colonosgopi ar gyfer cyflwr arall, fe'i gwnaed dan dawelydd. Fel y dywedodd yn ei llythyr, 'Nid oedd unrhyw gwestiwn o'i wneud hebddo.'

Gyda thriniaethau mwy cyffredin hefyd, fel profion ceg y groth, disgwylir i fenywod oddef rhywfaint o boen fel pe bai'n normal. Rydym wedi cael dadleuon yn y Senedd hon dros y blynyddoedd diwethaf sy’n canolbwyntio ar y niferodd brawychus o isel o bobl sy’n manteisio ar brofion ceg y groth. Bydd lletchwithdod ac anghyfforddusrwydd y driniaeth, heb os, yn rhan o'r rheswm pam fod y ffigurau hynny mor isel. Nid wyf yn weithiwr meddygol proffesiynol, ac yn fwy na hynny, mae gennyf y parch mwyaf at y rheini sy'n rhoi eu bywydau proffesiynol i helpu eraill. Rwy'n siŵr fod y sefyllfa hon yn peri cryn bryder i'r mwyafrif helaeth o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd.

Unwaith eto, nid yw hyn yn ymwneud ag unigolion; mae a wnelo â'r diffyg ymchwil, adnoddau a meddwl systemig a roddir i leihau'r angen am boen mewn triniaethau gynaecolegol. Heb os, mae absenoldeb cynllun iechyd penodol i fenywod a merched yng Nghymru yn rhan o'r broblem. Mae Llywodraethau eraill, fel Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Norwy, Llywodraeth Sweden a Llywodraeth Canada wedi cyhoeddi cynlluniau iechyd ar gyfer menywod a merched, ac mae’r rheini wedi caniatáu i’r gwledydd hynny ganolbwyntio mwy ar sicrhau bod lleisiau menywod yn ganolog i’w gofal iechyd. Mae Cymru ar ei hôl hi. Mae'n ganmoladwy fod ein Prif Weinidog benywaidd cyntaf wedi siarad am fynd i’r afael â’r mater o’r diwedd, ond ni ddylai fod wedi cymryd cyhyd. Unwaith eto, faint o fenywod sydd wedi cael eu colli neu wedi gorfod dioddef lefelau annerbyniol o boen oherwydd yr oedi hwn? Mae’n oedi sy'n sicr wedi costio bywydau.

Mae ffigurau a anfonwyd ataf gan Ymgyrch Claire yn amlygu maint y broblem. Y targed ar gyfer menywod sy'n dechrau eu triniaeth ar gyfer canser gynaecolegol o fewn 62 diwrnod yw 75 y cant, ac eto, ym mis Gorffennaf eleni, 26.9 y cant yn unig o fenywod yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan a lwyddodd i wneud hyn. Dim ond saith o bob 26 claf yw hynny. Mae rhwng 20 a 30 o gleifion yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol bob mis, ond dim ond saith neu wyth o fenywod sy'n dechrau eu triniaeth o fewn y targed yn y bwrdd iechyd. Dyma un rheswm yn unig pam y buaswn yn cytuno ag Ymgyrch Claire fod yn rhaid i gynllun iechyd menywod gynnwys ffocws penodol ar ganserau gynaecolegol. Buaswn yn falch o wybod a fydd hyn yn digwydd ac a fydd y cynllun hefyd yn edrych ar ddiwylliant clinigol a rhai o'r rhwystrau sy'n costio bywydau menywod.

Mae'n rhaid i'r cynllun iechyd menywod ddysgu o brofiadau cleifion, gynaecolegwyr, bydwragedd a grwpiau iechyd menywod. Dyna pam y byddai fy nghynnig yn sefydlu gofyniad cyfreithiol i ddarparwyr gofal iechyd gasglu adborth gan gleifion benywaidd am eu profiadau, yn enwedig apwyntiadau gynaecolegol, bydwreigiaeth a gwasanaethau ôl-enedigol, iechyd amenedigol a menopos. Mae gormod o fenywod yn cael eu gadael i deimlo'n ynysig, yn doredig ac mewn poen ar ôl yr apwyntiadau hyn. Ni ddylai hyn fod yn normal. Mae dyletswydd arnom i sicrhau nad yw'n normal.

Mae cymaint o ysgogiadau o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r broblem endemig hon. Mae gan Lywodraeth Cymru allu i ddylanwadu ar gwricwlwm cyrsiau gofal iechyd a ddarperir ac a ariennir yng Nghymru i ddarparu hyfforddiant ychwanegol mewn gofal iechyd menywod. Gall ddylanwadu ar gyrff rheoleiddio cenedlaethol fel y Cyngor Meddygol Cyffredinol a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol i deilwra agweddau ar ei safonau hyfforddi neu i roi mentrau ar waith i fynd i'r afael ag iechyd menywod yn well.

Ddirprwy Lywydd, gall gyhoeddi canllawiau hefyd i sefydliadau'r GIG yng Nghymru, a buaswn am i'r canllawiau hynny ganolbwyntio'n arbennig ar fynd i'r afael â rhagfarn ar sail rhywedd mewn perthynas â rheoli poen. Rhaid i’r canllawiau hynny ddod law yn llaw â’r gofyniad cyfreithiol i sefydliadau’r GIG yng Nghymru gasglu adborth gan gleifion benywaidd, fel y crybwyllais eisoes, i nodi meysydd y mae angen eu gwella o ran mynd i’r afael â’r poen corfforol a seicolegol sy'n cael ei dderbyn fel elfen normal o ofal iechyd menywod. Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi ymchwil i faterion iechyd menywod, yn enwedig i ganfyddiad o boen a chanserau gynaecolegol. Dylem fod yn dysgu gan rannau eraill o'r byd sydd wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â chyfraddau diagnosis isel a hwyr, fel cyflwyno pecynnau profion canser ceg y groth i'w hanfon drwy'r post. Mae hynny'n digwydd yn Denmarc.

Gwn y bydd sylwadau rhai o'r Aelodau eraill hefyd yn canolbwyntio ar sut y mae'n rhaid inni wella’r driniaeth ar gyfer menywod sy’n mynd drwy’r menopos a menywod sy’n dioddef o iselder ôl-enedigol. Gall y poen a ddioddefir gan fenywod yn eu gofal iechyd fod yn gorfforol; gall fod yn seicolegol hefyd. Ac mae'n annerbyniol, mae'n costio bywydau. Os caiff y cynnig hwn ei dderbyn, rwy'n gobeithio y bydd yn arwain at ganllawiau gwell, at newidiadau mewn triniaethau a gwell hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol. Menywod yw hanner ein poblogaeth. Ni ddylid trin eu dioddefaint fel rhywbeth normal.

15:30

Hoffwn ddiolch i'r Aelod, Delyth Jewell, am ddod â'r ddadl bwysig hon yma heddiw. Drwy gydol eu bywydau, mae'n rhaid i fenywod ddioddef llawer: y mislif, genedigaeth, bod yn brif ofalwr yn aml, y trefnydd, ac yna daw'r menopos. Ac yn aml caiff ei weld fel gwendid yn hytrach na dangos pa mor gryf yw menywod, sy'n goddef y cyfan ac yn gwneud popeth a wnânt. Gall y rhain i gyd fod yn wanhaol, yn gorfforol, yn feddyliol ac yn hormonaidd, gan geisio dal i fynd ar yr un pryd, jyglo cyfrifoldebau a cheisio gofalu am ddibynyddion. Pan fydd menyw'n teimlo'n sâl, y rhagdybiaeth yw mai un o'r rhain yw'r rheswm, ac felly mae popeth yn iawn, oherwydd fe'i hystyrir yn normal i fenywod fyw mewn poen ac anghysur. Cafodd llawer o afiechydon eu cuddio y tu ôl i'r rhagdybiaethau hyn.

Bydd llawer ohonoch yn gwybod am ymgyrch Claire dros newidiadau polisi ar gyfer canserau gynaecolegol. Cafodd Claire ddiagnosis o ganser y groth ddwy flynedd ar ôl sôn wrth ei meddyg teulu gyntaf am ei symptomau, a chafodd gamddiagnosis o syndrom coluddyn llidus. Cyfradd oroesi canser y groth, sy'n ganser ymosodol, yw 65 y cant. Os caiff ei ddal ar gam diweddarach, dim ond 14 y cant o bobl sy'n goroesi hyd at bum mlynedd. Ac yn drist iawn, nid oes modd gwella canser Claire, ac mae hi'n brwydro'n ddewr dros y newid diwylliant sydd ei angen yn fawr yn ein system gofal iechyd. Mae angen gwrando ar fenywod a'u clywed ac rwy'n talu teyrnged i Claire am bopeth a wna.

Gall newidiadau hormonaidd trwy gydol bywyd menyw gael effaith enfawr ar eich corff. Mae'n ei gwneud hi hyd yn oed yn anos ymdopi â'r pwysau y mae cymdeithas yn ei roi ar ymddangosiad menywod. Yn ystod genedigaeth, gall y gwallt dewhau, a byddwch yn ei golli wedyn wrth fynd trwy'r menopos. Yn ystod y mislif gall y stumog chwyddo. Ar ôl rhoi genedigaeth, mae cymdeithas yn disgwyl i chi allu ffitio'n ôl i'ch dillad cyn beichiogrwydd yn fuan. Poen mislif, y lletchwithdod, y rhwystredigaeth sy'n eich atal rhag byw'n normal. Rwyf wedi siarad â sawl menyw y dywedwyd wrthynt gan feddyg ei bod yn debygol fod ganddynt endometriosis, ond bod cael diagnosis yn broses boenus ac na fyddai'n gwneud fawr o wahaniaeth i'w cyflwr oherwydd diffyg opsiynau triniaeth. Ni ddylai 'dioddefwch a daliwch i wenu' fod yn gyngor diofyn i fenywod sy'n cael trafferth gyda phroblemau mislif.

Mae'r disgwyliad y dylai menywod fod yn gyfrifol am atal cenhedlu, neilltuo amser ar gyfer apwyntiadau meddyg lluosog, gorfod ymdopi ag ôl-effeithiau hormonaidd a chael triniaethau poenus weithiau heb gyffur lleddfu poen, hefyd yn rhywbeth y mae'n rhaid i fenywod ei ddioddef. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â chynsail y cynnig y dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol anelu at leihau sefyllfaoedd lle caiff poen ei ddisgwyl a'i dderbyn fel rhywbeth normal yng ngofal iechyd y GIG. Byddai hyn yn gwneud cymaint o wahaniaeth i brofiad cymaint o fenywod.

Yn anad dim, mae angen inni gydnabod bod menywod yn deall eu cyrff a'r newidiadau a brofant—dylid eu cymryd o ddifrif. Mae mor bwysig mewn gofal iechyd i gleifion deimlo eu bod yn cael eu clywed a'u deall, heb deimlo eu bod yn cael eu diystyru a bod neb yn eu clywed. Pan gefais fabi yn yr ysbyty, nid oedd neb yn derbyn fy mod i yn y broses o esgor. Roeddwn i'n gwybod hynny, ond nid oeddent hwy'n ei dderbyn. Felly, fe ymdopais ar fy mhen fy hun i raddau helaeth. Penderfynais gael fy mabi olaf gartref. Rwy'n cofio cael fy nghanmol yn yr ysbyty am roi genedigaeth heb gyffur lleddfu poen. Nid oes unrhyw anrhydedd mewn dioddef poen. Mewn gwirionedd, gall rhoi genedigaeth fod yn hynod o drawmatig. Gall y sgil-effeithiau iechyd meddwl fod yn drychinebus. Yn anffodus, mae llawer o fenywod yn casáu mynd am archwiliadau iechyd am nad ydynt yn hoffi gwastraffu amser—rwy'n meddwl fy mod i'n un o'r bobl hynny hefyd—eu hamser eu hunain, fel prif ofalwr hefyd, neu amser y gweithiwr iechyd proffesiynol, sy'n gallu bod yn ddiystyriol.

Yn y Pwyllgor Deisebau yr wythnos hon, roedd y deisebydd Delyth Owen o Ynys Môn eisiau codi ymwybyddiaeth o ddiffyg gwasanaethau yn Ysbyty Gwynedd. Mae'n rhaid iddynt deithio i Wrecsam, a allai olygu taith o dair awr i gyd. Felly, os ydych chi'n ofalwr, mae hynny'n anodd iawn, a cheisio jyglo hynny i gyd, ac felly, yn aml iawn, ni fyddant yn trafferthu.

Rwy'n credu y dylid gwahodd menywod i gael archwiliadau iechyd rheolaidd, os nad ydynt wedi gweld rhywun ers tro, a hynny gyda rhywun sy'n cydymdeimlo. Byddai'n gwneud iddynt fynd i drafod pethau gyda rhywun. Byddai'n gyfle i leisio pryderon heb i fenyw feddwl y gallai fod yn gwastraffu ei hamser ei hun neu amser y gweithiwr proffesiynol. Er y gall archwiliadau fod yn brofiadau cyffredin i'r meddyg neu'r nyrs sy'n eu cyflawni, gall fod yn brofiad anghyfforddus i fenywod.

Hefyd, mae angen inni weld cynllun iechyd menywod yn cael ei gyflwyno, fel yr addawyd. Gall rhoi amser i esbonio'r driniaeth a gwrando ar bryderon wneud gwahaniaeth enfawr i barodrwydd rhywun i ddod yn ôl ar gyfer eu hapwyntiad nesaf. Ac rwy'n credu y byddai casglu adborth yn rheolaidd ar ôl apwyntiadau yn annog newid cadarnhaol wedi ei arwain gan gleifion yn y ffordd y caiff apwyntiadau eu cynnal, a hoffwn weld hynny'n cael ei barhau.

Fe wnaeth fy merch roi genedigaeth i'w hail blentyn yr wythnos diwethaf. Mae'r ddau'n gwneud yn dda iawn, ac mae hi'n brydferth—wel, fy merch a'i babi [Chwerthin.] Ond roedd yn ofidus clywed mam ifanc yn y gwely drws nesaf iddi'n beichio crio. Roedd yn drist iawn, ac roedd y llenni wedi'u tynnu o'i chwmpas. Felly, dywedodd fy merch ei bod wedi dod yn ffrind iddi a'i bod hi'n mynd i wneud yn siŵr ei bod hi'n iawn, ond roedd hynny—

15:35

Iawn, fe wnaf, mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n falch o gyd-gyflwyno'r cynnig, ac rwy'n gobeithio y bydd eraill yn y Siambr yn ei gefnogi. Diolch. 

Mae yn siomedig, mae’n rhaid imi ddweud—. Dwi’n gwybod bod y Gweinidog yma sydd â chyfrifoldeb dros iechyd menywod, ond fe wnaeth y Prif Weinidog ddweud wrthon ni, a gwneud sioe fawr o’r ffaith, ei bod hi’n gwrando, a bod iechyd menywod yn rhywbeth roedd hi wedi clywed, ond, yn anffodus, dyw hi ddim yma y prynhawn yma i glywed y ddadl bwysig hon.

Mae gan Lywodraeth SNP yr Alban gynllun iechyd menywod ers 2021, ac er inni gael addewidion gan Lywodraeth Cymru, a’r Prif Weinidog ei hunan, oedd yn gyfrifol, wrth gwrs, am iechyd ers y flwyddyn honno tan Awst eleni, rŷn ni’n dal i aros.

Hoffwn i ganolbwyntio yn fy nghyfraniad i ar effaith y diffyg blaenoriaeth, pwyslais a chyflawni o ran gofal iechyd menywod o safbwynt un peth sy'n taro pob un sydd â chroth—dros hanner ein poblogaeth, felly—sef y menopos. Mae nifer o ymgyrchoedd uchel eu cloch wedi bod, yn rhoi sylw i'r symptomau, ceisio sicrhau bod gweithleoedd a chyflogwyr yn ystyriol o bobl sy'n eu profi, ac rŷn ni wedi cael sawl trafodaeth yn y Siambr hon am bwysigrwydd addysgu pobl am y menopos ac i dorri'r tabŵ hanesyddol yn ei gylch. Ond mae'r diffyg cynllun penodol o ran sut mae'r gwasanaeth iechyd yn cefnogi cleifion sydd â symptomau menopos, ac yn cynnig triniaeth amserol a phriodol iddynt, yn creu sefyllfa cwbl annerbyniol.

Er y clywon ni Eluned Morgan, er enghraifft, yn mynnu na ddylai neb yng Nghymru bellach gael eu gorfodi i aros yn y ciw 8 o'r gloch yna ar y ffôn os ŷn nhw am weld eu meddyg, dyw hynny ddim yn arfer cyson dros Gymru, os ydych chi'n moyn apwyntiad o flaen llaw ac nid apwyntiad brys, ac mae nifer o feddygfeydd yn dal i fethu â chynnig modd i bobl fwcio apwyntiad wyneb yn wyneb o flaen llaw. Mae nifer o'm hetholwyr wedi cysylltu â fi yn cadarnhau ac yn cwyno am hynny. Achos os nad ŷch chi off gwaith yn sâl, gallwch chi ddim aros am oriau ac oriau am yr alwad ffôn yna i ddod yn ôl atoch chi, ac wedyn oriau ac oriau i gael y sgwrs yna gyda’ch meddyg, achos rŷch chi’n gorfod gweithio. Ac os ŷch chi am drafod y menopos, mae’n ddealladwy hefyd eich bod chi eisiau gwneud apwyntiad gyda’ch meddyg, wyneb yn wyneb, i allu gwneud hynny, yn unol â’r rhesymau gwnaeth Carolyn osod mas.

Rwyf am rannu profiad un fenyw oedd am gael sgwrs gyda'i meddyg teulu am y symptomau, gan eu bod yn effeithio ar ei hiechyd corfforol a'i hiechyd meddwl. Roedd hi wedi aros yn y ciw boreol yna, ac wedyn fe wnaethon nhw ddweud wrthi hi nad oedd modd iddi fwcio apwyntiad o flaen llaw. Cafodd hi alwad ffôn nôl gan y meddyg ar yr un dydd, er doedd dim modd rhoi ryw fath o slot amser iddi hi o awr neu ddwy, felly roedd hi wedi methu â sicrhau ei bod hi mewn man preifat i dderbyn yr alwad. Ac roedd rhai o'r symptomau oedd ganddi hefyd yn rhai corfforol roedd hi am eu dangos i'r meddyg. Dywedwyd wrthi fod angen i'r meddyg, wedyn, orffen yr alwad ar ôl rhai munudau gan fod ganddo restr hir iawn o bobl i'w galw. Gofynnodd hi a oedd yna ryw fath o glinig neu nyrs y gallai hi fynd atyn nhw i gael sgwrs ynglŷn â'r symptomau ac unrhyw driniaethau posib. Dywedwyd wrthi nad oedd.

Dywedodd wrtha i ei bod hi wedi cael ei gwneud i deimlo fel ei bod hi’n niwsans, ei bod hi’n poeni'r meddyg am ddim byd. Doedd hi ddim yn beio’r meddyg am hyn; roedd hi’n dweud ei bod yn gallu clywed y blinder a'r straen yn llais y meddyg. Ond mae’n amlwg nad yw'r modd rŷn ni’n cynnig gwasanaethau menopos yn iawn. Rhoddodd hi’r gorau i geisio cael triniaeth, ac mae hi nawr jest wedi penderfynu rhoi lan gyda'r poenau yn ei chymalau, y trafferthion cysgu, y cyfnodau o fwd isel. Yr hyn oedd waethaf, meddai, oedd ei bod yn gwybod bod rhai o'i chyfeillion oedd yr un oedran wedi cael profiad hollol wahanol ac yn cael gwellhad yn sgil derbyn therapïau a meddyginiaeth gan eu meddyg. Felly, mae yna ddarlun anghyson iawn dros Gymru.

Y meddyg teulu yw'r allwedd ar gyfer y drws at ofal iechyd cyson, safonol, sy'n ystyried ac yn cwrdd yn effeithiol ag anghenion penodol menywod. Ond mae'r pwysau sydd ar y system gofal sylfaenol, ynghyd â'r diffyg cynllun yna i sicrhau cysondeb a thegwch i bob menyw yng Nghymru, yn golygu bod yr un hen stori yn dal i fod yn wir i nifer o fenywod, sef gorfod rhoi lan gydag effeithiau y menopos heb gymorth—dioddef yn dawel, sydd wrth gwrs yn medru cael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl, ynghyd ag iechyd corfforol, y gallu i weithio a llwyddo yn eich gwaith, y gallu i ofalu, y gallu i gadw'n heini, y gallu i chwarae rhan lawn mewn cymdeithas.

Felly, dyw hi ddim yn ddigon i drafod y menopos, i gynnal ymgyrchoedd gwleidyddol i godi ymwybyddiaeth, heb gynllun iechyd penodol i sicrhau bod y dyddiau o ddioddef yn dawel ar ben am byth.

15:40

Rwy'n ddiolchgar iawn i Delyth Jewell am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ar ofal iechyd menywod, lle mae'r cynnig yn amlygu'r angen am gydnabyddiaeth i'r agweddau unigryw a phoenus iawn yn aml ar iechyd menywod. Ym mhob maes iechyd menywod, mae ein hanatomeg yn aml yn creu anawsterau a chymhlethdodau unigryw, sy'n cael eu derbyn fel y norm a rhywbeth y mae'n rhaid i fenywod a merched eu dioddef ac ymdopi â hwy. Boed yn brofion ymwthiol, symptomau heb eu diagnosio neu drafferthion mislif, rydym yn dueddol o oddef gormodedd o boen, amrywiadau hormonaidd ac anghysur cyffredinol, oherwydd y daith anhygoel, llafurus ac anodd yn aml y mae ein cyrff yn mynd arni, a hynny ar hyd ein hoes. O gyflyrau fel syndrom cyn mislif, syndrom ofari polysystig ac endometriosis, i feichiogrwydd, ffrwythlondeb, iechyd y pelfis a'r menopos, fe geir llu o gyflyrau yn ogystal â heriau corfforol a meddyliol sy'n dod gyda nhw hefyd. Rydym yn aml yn eu gweld yn cael eu derbyn mewn cymdeithas, ac a dweud y gwir, nid oes digon o drafod arnynt. Er fy mod yn credu ei bod yn bwysig nodi bod datblygiadau i ofal iechyd menywod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o ran agweddau technegol, megis profion, a thrafodaethau ynghylch y nifer gynyddol o opsiynau sydd gennym bellach yn gwella, mae gennym ffordd bell i fynd.

Mae cymaint o bwyntiau y gallwn eu nodi yn y ddadl hon. Fodd bynnag, rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar un maes penodol yma heddiw. Yr wythnos hon cefais y pleser o gyfarfod â Breast Cancer Now, sefydliad gwych sy'n cefnogi pobl sy'n cael diagnosis o ganser y fron, yn ogystal â'u teuluoedd. Buom yn siarad am yr angen am fwy o drafodaeth ynglŷn â gwyddoniaeth a symptomau canser y fron, ochr yn ochr â'r angen am ddull holistaidd o fewn gofal iechyd menywod, a sgrinio ar gyfer cyflyrau fel canser y fron mewn canolfannau iechyd. Byddai gwella trefniadau casglu data ar gyfer cleifion canser y fron yn benodol, yn ogystal â chynyddu nifer y safleoedd lle gellir cynnal y profion, ochr yn ochr â hybu ymwybyddiaeth o'r arwyddion a'r symptomau, nid yn unig yn lleihau'r pwysau ar feddygon teulu ac ysbytai, ond yn y pen draw byddai'n helpu cymaint o bobl i nodi arwyddion o ganser yn gynharach, ac felly'n atal diagnosis ar gam diweddarach, gobeithio.

Rhywbeth arall y gwnaethom gyffwrdd ag ef oedd yr angen i lawdriniaeth—i lawer o fenywod, llawdriniaeth adluniol yw hon, yn dilyn triniaethau a llawdriniaethau ar gyfer canser y fron—gael ei gweld a'i chynnwys yn rhan o'r driniaeth, a'r daith iachau hefyd yn y pen draw. Fel arall, os na wneir hynny, rydym mewn perygl y bydd llawer o fenywod yn aros blynyddoedd am eu llawdriniaeth adluniol, gan ei bod yn aml yn cael ei hystyried fel rhywbeth ar wahân yn y system gofal iechyd, ac mae'n rhywbeth a all gael effaith ddifrifol ar eu hiechyd meddwl yn ogystal â'u llesiant cyffredinol yn dilyn triniaethau dwys o'r fath.

Arweiniodd y sgwrs hon yn naturiol at gynllun iechyd menywod arfaethedig Llywodraeth Cymru a'r gwahaniaeth rhwng cynlluniau gofal iechyd sy'n cael eu creu yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr. Yng Nghymru, fel y gwyddom, mae Gweithrediaeth GIG Cymru a byrddau iechyd yn creu ac yn gweithredu'r cynlluniau gofal iechyd i fenywod a gwella canser. Fodd bynnag, yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, y Llywodraethau sy'n darparu'r cynlluniau hyn. Rwy'n credu'n ddiffuant fod angen atebolrwydd yn y maes hwn, a lle mae Llywodraeth Cymru wedi dyfeisio'r cynllun iechyd, dylai fod cyfeiriad strategol y gallant ei ddarparu wedyn i fyrddau iechyd, yn ogystal â thîm Gweithrediaeth GIG Cymru, i helpu i arwain a gweithredu'r gwaith hanfodol hwn, a allai fod o fudd i gynifer o fenywod a merched ledled Cymru.

Yn ogystal, mae'n bwysig nodi na chafodd yr agweddau hyn, fel llawdriniaeth adluniol, eu cynnwys yn y cynllun gwella canser 2023 i 2026, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid yw canser yn debygol o gael ei gynnwys yn y cynllun gofal iechyd menywod ychwaith. Rwy'n credu'n gryf y dylai, gan fod llawer o ganserau menywod y mae'n rhaid inni barhau i godi ymwybyddiaeth yn eu cylch a chefnogi'r rhai sy'n eu cael. Mae llawer yn gweld y gellid gwella canlyniadau'r rheini drwy eu cynnwys yn y cynllun ei hun.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch unwaith eto i Delyth Jewell am gyflwyno'r ddadl hynod bwysig hon yma heddiw. Rwy'n gobeithio ein bod gyda'n gilydd yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif yn y maes hwn, er mwyn sicrhau bod y gofal a'r canlyniadau gorau posibl ar gael i fenywod a merched ym mhob cwr o Gymru. Diolch.

Fedraf i ddim dirnad beth mae merched yn gorfod ei ddioddef. Wrth gwrs, mae gennym ni yma yng Nghymru ddeilliannau gwaith mewn gofal canser, iechyd y llygad—a byddaf i'n cyfeirio at hynny maes o law, mewn dadl arall. Rydyn ni'n gweld gwasanaethau mamolaeth yn gwegian, a gwasanaethau erthylu sydd ddim yn bodoli mewn sawl ardal yng Nghymru. Ond mae gen i empathi, ac mae gen i gariad—cariad at wraig, dwy ferch, mam a chwaer, a'r holl ferched eraill sydd wedi bod yn rhan mor bwysig o’m mywyd i. Mae clywed straeon y merched sydd yn dod i fy nghymorthfeydd i yn gyrru ias lawr fy nghefn.

Cyn cael fy ethol i’r lle yma, doeddwn i byth wedi clywed am endometriosis. Ond, yn fuan iawn ar ôl cael fy ethol, fe ddaeth etholwraig i un o fy nghymorthfeydd a rhannu ei stori. Roedd hi wedi dioddef mewn poen ers blynyddoedd maith, a’r meddyg yn methu adnabod y gŵyn. Oherwydd ei bod hi’n dioddef o ffibro hefyd, fe gymerodd y meddygon yn ganiataol mai dyma oedd gwraidd y broblem a’i chyfeirio at arbenigwyr yn y maes yna ym Manceinion. Ond doedd yna ddim gwellhad i’w chyflwr. Fe gafodd hi ddiagnosis pellach o IBS, ac yna ME, ond eto doedd dim gwellhad. O ganlyniad, mae hi wedi gorfod talu miloedd o bunnoedd am wahanol sganiau a chyngor meddygol preifat. Y pen draw oedd ei bod hi wedi gorfod cael hysterectomi llwyr—a hynny yn erbyn ei hewyllys, gyda llaw. Ond, wrth gario allan y driniaeth yna, bu iddyn nhw ddarganfod ei bod hi’n dioddef o endometriosis, sydd bellach wedi lledaenu. Mae’r ddynes yma bellach yn ei 50au. Mae hi wedi bod yn dioddef ers ei bod hi’n 18 oed, ac wedi talu dros £12,000 yn ystod y blynyddoedd diwethaf er mwyn ceisio cael diagnosis. Mae’r cyfan yn deillio o gamddiagnosis gwreiddiol, a methiant y proffesiwn meddygol i adnabod ei symptomau.

Mae gen i ferched yn eu harddegau wedi dod ataf yn byw efo endometriosis. Mae un ohonyn nhw newydd orfod talu £8,000 am driniaeth, ac un arall ar restr aros o bron i ddwy flynedd, a hithau eisoes wedi aros dros chwe mis. Nid yn unig mae eu cyflwr nhw’n cael effaith niweidiol corfforol, ond maen nhw’n dioddef yn feddyliol hefyd, ynghyd â’u hanwyliaid, a hefyd yn methu â chadw gwaith i lawr, er eu bod nhw yn ferched dawnus ac abl. Ond ym mhob un achos—o’r fferyllfa drwy’r feddygfa ac ymlaen i’r ysbyty ac arbenigwyr clinigol—mae’r merched yma, dro ar ôl tro, wedi cael eu gadael i lawr, a hynny oherwydd y diffyg dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o ddifrifoldeb eu sefyllfa. Ac un cyflwr yn unig ydy endo, wrth gwrs.

Roedd y dystiolaeth a dderbyniodd y pwyllgor iechyd ar ganserau gynaecolegol yn hynod bwerus, a phob un yn adrodd stori debyg o sut yr oedden nhw’n cael eu hanwybyddu ac yn cael eu pasio o biler i bostyn oherwydd naill ai sexism systematig yn y system neu ddiffyg dealltwriaeth elfennol o’r corff benywaidd. Dylai’r ffaith bod ystadegau diagnosis canser yn parhau i fod yn beryglus o isel mewn rhai ardaloedd, gyda merched yn cael ei heffeithio yn arbennig o wael oherwydd y methiant i adnabod y clefyd, fod yn bryder anferthol i’r Llywodraeth yma, ac mae angen dysgu gwersi ar fyrder.

Oherwydd dydy’r cynnig yma ddim yn gofyn am lawer, mewn gwirionedd. Bobl bach, os edrychwch chi ar y cynnig, mae’n sôn am gasglu adborth am brofiadau merched, ac mi ddylai hynny fod yn rhan gwbl elfennol o unrhyw broses iechyd. Mae eBay, Amazon a bron i bob cwmni yn casglu adborth am brofiadau eu defnyddwyr. Mae’n synnwyr cyffredin os ydy rhywun am ddysgu a gwella. Ond nid, mae’n ymddangos, pan fo’n dod at brofiad merched o’u triniaethau meddygol.

Data cyfoethog a defnyddiol ydy sylfaen unrhyw fusnes neu sector neu fudiad llwyddiannus. Mae hyn wedi bod yn arferiad ers i’r Swmeriaid gasglu data am gynaeafau ar dabledi clai dros 5,000 o flynyddoedd yn ôl, ond dydyn ni ddim yn ei wneud o yn y sector iechyd yng Nghymru. Ac mae'n resyn ein bod ni’n dal i aros, felly, am gynllun iechyd merched cynhwysfawr heddiw. Felly, diolch i bawb sydd wedi cyflwyno’r cynnig yma—diolch i Delyth am y geiriau agoriadol—a hyderaf y bydd y Senedd yma yn gweld yn dda i’w gefnogi.

15:45

Hoffwn ddiolch i Delyth a'i chyd-gyflwynwyr a'i chefnogwyr am godi mater hynod o bwysig. Rydym i gyd yn gwybod, ers gormod o amser, fod profiad menywod o boen, boed yn fislif, yn atgenhedlol neu'n gronig, wedi cael ei ddiystyru neu ei fychanu. Nid mater iechyd unigol mohono, ond methiant systematig sy'n effeithio ar les dros hanner ein poblogaeth. Mae menywod yn aml yn wynebu amseroedd aros hirach cyn cael diagnosis a thriniaeth ac mae eu pryderon yn aml yn cael eu hanwybyddu mewn lleoliadau clinigol. Mae'r normaleiddio hwn yn creu diwylliant lle mae menywod yn teimlo nad oes neb yn eu clywed ac yn aml heb eu cefnogi ac yn ei dro, mae hynny'n gwaethygu'r problemau iechyd sydd ganddynt.

Mae un cyflwr iechyd menywod penodol lle mae hyn i'w weld yn aml yn ymwneud â phoen mislif. Gall normaleiddio poen mislif achosi oedi difrifol cyn cael diagnosis o gyflyrau gynaecolegol, yn enwedig endometriosis, a gall yr oedi hwnnw gael ôl-effeithiau difrifol iawn, gan effeithio ar les corfforol a meddyliol menywod, eu bywyd o ddydd i ddydd ac o bosibl eu gobaith o feichiogi, os ydynt am gael plant. Rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn ac yn achos endometriosis, mae nyrs arbenigol wedi'i chyflogi ar gyfer pob ardal bwrdd iechyd. Wrth gwrs, buaswn yn cwestiynu a yw un nyrs iechyd arbenigol ar gyfer pob ardal gofal iechyd yn ymrwymiad difrifol. Ond yn fwy na dim, mae'n rhaid inni herio'r stigma sy'n gysylltiedig â phoen menywod a sicrhau bod proffesiynau gofal iechyd yn cael eu hyfforddi i'w adnabod a mynd i'r afael ag ef yn briodol. Rydym yn datblygu cynllun gofal iechyd menywod, ac mae'n rhaid inni ganolbwyntio yn y cynllun hwnnw ar y maes penodol hwn.

Ond rwyf hefyd am godi cwestiwn nad yw wedi ei godi eto, sef y gwahaniaeth mewn triniaeth a'r disgwyliad o boen yn achos menywod du ac Indiaidd. Cafwyd llawer o adroddiadau—adroddiadau lluosog—ac mae'r BBC hefyd wedi gwneud ymchwiliadau iddo yn Lloegr, lle cafodd menywod eu galw'n 'princess', lle cyfeirir atynt mewn ffordd wahanol i'r ffordd y cyfeirir at fenywod gwyn, lle cafodd eu poen ei fychanu a lle cawsant eu hanwybyddu'n llwyr. Felly, yn ogystal â'r pethau yn yr adroddiad hwn, rwyf am alw heddiw am inni siarad â'r gymuned honno neu'r cymunedau hynny o fenywod a chael dealltwriaeth o'r hyn a deimlant, a gadael i'w lleisiau gael eu clywed, oherwydd yn y pen draw math o hiliaeth ydyw pan fyddwch chi'n cyfeirio at bobl mewn ffordd na fyddech chi'n cyfeirio at bobl wyn, pan fyddwch yn eu hamddifadu o lais a phan fyddwch chi'n anwybyddu eu pryderon. Nid yw'n faes yr ydym wedi edrych arno ar y pwyllgor iechyd; ni chafodd ei ystyried pan oeddem yn cynnal ein hymchwiliad. Ond os ydym o ddifrif eisiau cynrychioli nid yn unig yr 50 y cant o'r boblogaeth, ond yr holl bobl o fewn yr 50 y cant, mae'n rhaid inni newid ein ffocws a'i ymestyn hefyd. 

15:50

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Delyth Jewell am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac rwy'n ddiolchgar fy mod yn gallu cyfrannu ati a'i chefnogi hefyd. Er mai menywod a merched yw mwy na hanner poblogaeth Cymru, mae iechyd a lles menywod yn aml yn cael eu tanbrisio a'u tanariannu, ac mae gwir angen lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella tegwch gwasanaeth a gwella canlyniadau iechyd i fenywod Cymru, sy'n dechrau trwy roi sylw a pharch cyfartal i iechyd menywod. 

Hoffwn ddechrau trwy drafod trawma genedigaeth, sy'n gallu bod yn ddinistriol i fywyd menyw, yn enwedig gyda'r cyfrifoldebau ychwanegol sy'n dod gyda bod yn fam, ac yn aml mae'n rhywbeth sy'n cael ei leihau neu ei ymyleiddio. Mae un o bob 25 yn datblygu anhwylder straen ôl-drawmatig ar ôl rhoi genedigaeth, ac eto nid yw'n denu'r sylw na'r ystyriaeth y mae'n ei haeddu o hyd. Roedd adroddiad gan y grŵp seneddol hollbleidiol ar drawma genedigaeth yn cynnwys thema gylchol ar ofal ôl-enedigol gwael, gyda menywod yn aml yn dweud eu bod yn cael eu gadael i orwedd ar gynfasau ag arnynt staeniau gwaed neu eu bod wedi canu'r seiniwr am help a heb gael ymateb; cafodd rhai eu ceryddu am fethu gallu bwydo ar y fron, a hynny heb gael unrhyw gymorth i wneud hynny. Dywedodd Dr Kim Thomas o'r Gymdeithas Trawma Genedigaeth fod menywod y clywsant hwy ganddynt wedi dweud wrth weithwyr mamolaeth proffesiynol eu bod yn poeni bod rhywbeth wedi mynd o'i le gyda'r esgor, ddim ond i gael eu diystyru ar y sail eu bod yn orbryderus. Arweiniodd y methiant hwn i wrando ar fenywod at ganlyniadau trychinebus; at farw-enedigaeth mewn un achos. Mae'r tystiolaethau trallodus hyn yn cadarnhau pa mor bwysig yw hi i drawma geni gael ei gydnabod fel rhywbeth dilys, a'i fod yn cael sylw, ac rwy'n awyddus i wybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd i fynd i'r afael â'r materion hyn mewn gofal ôl-enedigol ar sail ranbarthol ledled Cymru.

Hoffwn nodi hefyd mai Cymru yw'r unig wlad ym Mhrydain heb gynllun iechyd menywod. Cyhoeddodd Llywodraeth Geidwadol y DU ei strategaeth iechyd menywod ar gyfer Lloegr ym mis Awst 2022, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi eu cynllun iechyd menywod erbyn diwedd 2024. Dylai'r Senedd gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynnydd ar yr ymrwymiad hwn. Mae'r cynnig hwn hefyd yn galw am ei gwneud yn ofyniad i ddarparwyr gofal iechyd gasglu adborth ynghylch bodlonrwydd cleifion â'r gofal a gawsant mewn arbenigeddau sy'n gysylltiedig ag iechyd menywod. Rwy'n credu bod hwn yn syniad ardderchog a fydd yn caniatáu i ddarparwyr gofal iechyd nodi lle gellir gwella gwasanaethau ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhan o gynllun iechyd menywod Llywodraeth Cymru.

Yn olaf hefyd, hoffwn drafod y prinder cenedlaethol o therapi adfer hormonau, rhywbeth a godais yn y Senedd o'r blaen ac mae'n fater hirsefydlog sy'n effeithio ar lawer o fy etholwyr. Unwaith eto, fel llawer o'r materion eraill a godwyd yn y ddadl hon, nid yw'n cael ei drin â'r lefel o ddifrifoldeb y mae'n ei haeddu, gyda llawer yn anymwybodol o ba mor annymunol yw'r menopos heb therapi adfer hormonau. Oherwydd prinder cenedlaethol ohono, mae fferyllfeydd yn aml yn darparu dewisiadau amgen, ond oherwydd diofalwch yn y protocolau ar gyfer prinder difrifol, mae llawer o fenywod yn methu gwirio argaeledd cynhyrchion therapi adfer hormonau amgen ar draws fferyllfeydd gwahanol, sydd wedi gadael rhai o fy etholwyr heb feddyginiaeth ar adegau. Gall canlyniadau hyn gynnwys symptomau fel chwiwiau poeth, magu pwysau cyflym, pyliau o banig, risgiau i iechyd esgyrn ac iechyd cardiofasgwlaidd a llawer mwy. Buaswn hefyd yn dadlau na ddylid gadael rhywun â phwysedd gwaed uchel heb feddyginiaeth pwysedd gwaed o dan yr un amgylchiadau. Felly, dylai prinder therapi adfer hormonau gael sylw cydradd yn hyn o beth.

Er mai menywod a merched yw mwy na hanner poblogaeth Cymru, fel y nodwyd yn flaenorol, mae iechyd a lles menywod yn aml yn cael ei danbrisio a'i dangyllido. Mae angen lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella tegwch gwasanaeth a gwella canlyniadau iechyd i bob menyw yng Nghymru. Diolch.

15:55

Rwy’n ddiolchgar iawn i Delyth am gyflwyno’r ddadl hollbwysig hon, ac am y cyfle i’w chefnogi hi ar lawr y Senedd.

Fel rŷn ni wedi'i glywed yn barod, mae’r heriau a'r siomedigaethau mae’n rhaid i fenywod eu hwynebu wrth frwydro am ofal iechyd teg a thrylwyr yn aml yn rhai sylweddol a rhwystredig iawn. Yn amlach na pheidio, mae’r ffactorau hyn yn anghymesur o amlwg yng Nghymru wledig. Yma, yn llawer rhy aml, ceir diffyg arbenigedd mewn iechyd menywod, gyda'r gallu meddygol a'r gefnogaeth yn amrywio’n sylweddol iawn o ardal i ardal. Wrth gwrs, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu yn ddiweddar, wrth inni weld mwy o feddygfeydd gwledig yn cau a hefyd toriadau i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, sy'n gwneud mynediad at wasanaeth iechyd menywod yn fwy anodd, ac mae hyn yn golygu bod gormod o'n menywod, o ganlyniad, yn dioddef yn dawel.

Nawr, rhyw ddwy flynedd yn ôl, fe wnes i amlygu, ar lawr y Siambr, esiampl o'r dioddefaint mae etholwraig 23 mlwydd oed ar y pryd yn fy rhanbarth i wedi dioddef oherwydd y cyflwr endometriosis ac adenomyosis. Er iddi fynnu sylw meddygol, dro ar ôl tro, roedd ei chyflwr yn cael ei esgeuluso gan ddoctoriaid, yn cael ei ystyried fel cyflwr iechyd meddwl ac yn cynnig cyffuriau iddi am wrth-iselder ac yn y blaen, yn hytrach na mynd i wraidd y broblem. Yn y diwedd, bu’n rhaid iddi droi, wrth gwrs, fel rŷn ni wedi'i glywed gan Mabon yn barod, at wasanaeth preifat, ar ôl dioddef artaith gorfforol a meddyliol am flynyddoedd maith, a hynny ar gost ariannol sylweddol iawn i'r teulu. A hyn i gyd er mwyn medru adnabod cyflwr sy’n effeithio ar un ymhob 10 o fenywod ledled Cymru. Ers hynny, mae'r mater yma wedi dod yn fwy agos ataf i'n bersonol, gan fod un aelod o fy nheulu i erbyn hyn wedi cael diagnosis o adenomyosis. Pan oedd hi'n ferch ifanc, mi oedd hi'n dioddef poenau adeg y mis ac yn cael tabledi dofi poen am flynyddoedd. Mi oedd hi'n gwybod, achos ei bod hi'n adnabod ei chorff, fod hynny ddim yn ateb y broblem. Wedyn, yn emosiynol iawn, aeth hi i weld doctor a chael awgrym y dylai hi gael cefnogaeth iechyd meddwl, a oedd yn beth difrifol iawn i ferch a oedd yn gwybod nad dyna beth oedd ei angen arni hi.

Rwy'n falch iawn o ddweud erbyn hyn ei bod hi wedi cael y diagnosis ar ôl blynyddoedd o ddioddef, a, gobeithio, mae hi'n aros, ac wedi aros yn rhy hir a dweud y gwir, i glywed—ac yn dal i aros—beth yw'r camau nesaf. Pan aeth hi i edrych ar wefan y Llywodraeth sbel fach yn ôl, doedd adenomyosis ddim wedi cael ei restru ymhlith y cyflyrau oedd merched yn debygol o ddioddef; mae hynny, yn dilyn deiseb gan nifer o fenywod, erbyn hyn wedi cael ei gywiro.

Felly, beth rydw i'n ei ddweud yw, fel rŷn ni wedi clywed gymaint: mae'r problemau yma wedi bod gyda ni, ac mae'r menywod wedi dioddef, ers blynyddoedd lawer a does dim byd wedi newid. Gallaf i ddweud wrthych chi o brofiad personol gymaint o boen mae hynny wedi golygu i fi, fel rhiant, a hefyd i aelod agos o fy nheulu i. Felly, mae'n rhaid inni symud yn gyflym er mwyn mynd i'r afael â'r cyflyrau yma a rhoi tegwch i fenywod er mwyn gwella iechyd menywod yn gyffredinol, yn enwedig, efallai, yn ein cymunedau gwledig ni, ond ym mhob man hefyd.

16:00

Mae gan Gymru rai o’r cyfraddau goroesi gwaethaf yn Ewrop ar gyfer canser yr ofarïau. Mae dros 300 o fenywod yn cael diagnosis o ganser yr ofarïau bob blwyddyn yng Nghymru, ac mae mwy o fenywod yn marw o ganlyniad i ganser yr ofarïau yn y DU nag unrhyw un neu bob canser gynaecolegol arall gyda’i gilydd, ac eto mae’r clefyd hwn yn parhau i gael ei anghofio. Wrth siarad yma ym mis Ionawr 2022, anogais Lywodraeth Cymru i ymateb i’r alwad am ymgyrch ymwybyddiaeth o ganser yr ofarïau yng Nghymru. Nodais hefyd, po gynharaf y gwneir diagnosis o ganser yr ofarïau, yr hawsaf yw hi i'w drin, ac eto yng Nghymru, dim ond 15 y cant o fenywod a fyddai’n gwneud apwyntiad brys i weld meddyg teulu pe bai ganddynt fol chwyddedig parhaus fel symptom, ac mae angen i hynny newid.

Ym mis Ebrill y llynedd, cynhaliais dderbyniad Braenaru Cymru Target Ovarian Cancer yn y Senedd, lle gwneuthum bwysleisio, neu fynegi siom, er gwaethaf y ffaith bod Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y'i gelwid ar y pryd wedi llunio adroddiad yn 2017 yn galw am ymgyrch ymwybyddiaeth o ganser yr ofarïau ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru, hyd hynny, nid oedd unrhyw ymgyrch ymwybyddiaeth benodol wedi bod ar gyfer canser yr ofarïau.

Yn rhy aml, nid yw poen ac anghysur menywod wedi cael eu hystyried o ddifrif, ac nid ydynt wedi cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt am gyflyrau a chanserau gynaecolegol. Mae 'Iechyd Menywod yng Nghymru—Adroddiad Darganfod: Sylfeini Cynllun Iechyd Menywod' yn nodi 'yn aml ni roddir digon o bwys ar iechyd a lles menywod ac ni ddarperir digon o adnoddau ar eu cyfer'. Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod ymchwil yn awgrymu bod llawer o fenywod hefyd yn teimlo'n anghyfforddus wrth drafod materion iechyd neu nad ydynt yn cael eu clywed pan fyddant yn gwneud hynny.

Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gryfhau’r disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau’r GIG yn y datganiad ansawdd ar gyfer iechyd menywod a merched, gan helpu i wella ymwybyddiaeth ac addysg meddygon teulu. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried sut y bydd yn cymryd camau i wella ymwybyddiaeth o ganserau gynaecolegol nad oes rhaglen sgrinio hyfyw ar eu cyfer, fel canser yr ofarïau. Mae'n rhaid i fenywod deimlo eu bod wedi'u grymuso mewn perthynas â'u hiechyd a bod ganddynt hyder i ymweld â'u meddyg teulu os ydynt yn teimlo bod rhywbeth o'i le.

Fel y nodwyd, mae dros 300 o fenywod yn cael diagnosis o ganser yr ofarïau bob blwyddyn yng Nghymru; mae dros 150 o fenywod yn colli eu bywydau i ganser yr ofarïau bob blwyddyn yng Nghymru; mae ychydig dros draean o fenywod yn cael diagnosis yn gynnar, pan fydd canlyniadau'n well; dim ond 36 y cant o fenywod sy’n cael diagnosis yn gynnar yng ngogledd Cymru; ac mae 64 y cant o fenywod yn cael diagnosis yn hwyr yng ngogledd Cymru, pan fydd y clefyd yn fwy anodd ei drin.

Canfu adroddiad 'Pathfinder 2022: Faster, Further and Fairer' gan Target Ovarian Cancer fod ymwybyddiaeth o symptomau yn parhau i fod yn ddifrifol o isel a bod gormod o oedi o hyd yn y llwybr diagnostig, a bod angen mwy o hyfforddiant a chymorth ar feddygon teulu. Dim ond 27 y cant o fenywod a all enwi bol chwyddedig fel symptom. Mae 42 y cant o fenywod yng Nghymru yn credu, yn anghywir, y bydd sgrinio serfigol yn canfod canser yr ofarïau. Dywedodd chwarter menywod Cymru eu bod wedi ymweld â'u meddyg teulu deirgwaith neu fwy cyn cael eu hatgyfeirio am brofion. Mae 43 y cant o feddygon teulu a arolygwyd yng Nghymru yn credu, yn anghywir, mai dim ond yng nghamau hwyr y clefyd y ceir symptomau. Mae ffyrdd newydd o weithio hefyd yn heriol, gyda 70 y cant o feddygon teulu yng Nghymru yn dweud wrthynt eu bod yn credu y gall ymgynghoriadau o bell lesteirio diagnosis. Mae Target Ovarian Cancer, felly, yn galw yn gywir ddigon am ymgyrch ymwybyddiaeth a ariennir gan y Llywodraeth, fel bod pawb yn gwybod beth yw symptomau canser yr ofarïau, a llwybr diagnostig byrrach ar gyfer canser yr ofarïau gyda chymorth a hyfforddiant i feddygon teulu. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i wrando ar eu galwad.

Rwyf hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i wrando ar ganfyddiadau Marie Curie y gall rhywedd effeithio ar brofiadau o ofal lliniarol a gofal diwedd oes. Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, bydd oddeutu 37,000 o bobl yn marw gydag anghenion gofal lliniarol bob blwyddyn erbyn y 2040au. Bod yn rhydd rhag poen yw blaenoriaeth fwyaf pobl ar ddiwedd eu hoes. Fodd bynnag, mae ymchwil yn dangos bod ffactorau'n gysylltiedig â rhyw a rhywedd wedi arwain at anghysondebau yn y modd y mae rhai menywod yn adrodd am symptomau, y poen y maent yn ei ddioddef a'r driniaeth a gânt wrth iddynt nesáu at ddiwedd eu hoes. Mae rhywfaint o ymchwil yn awgrymu y gall normau cymdeithasol a rhagfarn ar sail rhywedd effeithio ar ddealltwriaeth a barn menywod am ofal lliniarol a gofal diwedd oes, a allai arwain at anghydraddoldebau yn y ffordd y mae menywod yn meddwl am, yn gwneud penderfyniadau ynghylch, ac yn y pen draw, yn cael mynediad at driniaethau a allai wella ansawdd eu bywydau. Felly, mae angen gwell mynediad at ddata a thystiolaeth am fynediad menywod at ofal lliniarol a gofal diwedd oes, a'u profiad ohono, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n diwallu anghenion menywod. Ac mae'n rhaid cynnwys gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y cynllun iechyd menywod a merched.

16:05

A gaf i ddiolch o galon i Delyth Jewell am ddod â'r ddadl bwysig hon gerbron? Mae yn fy nhristáu bod yn rhaid dod â hi gerbron. Yn adeiladu ar yr hyn ddywedodd Cefin: dydy'r rhain ddim yn bethau newydd inni fod yn eu trafod. Yn Nhachwedd 2022, fe gyhoeddwyd yr adroddiad, 'Iechyd Menywod yng Nghymru—Adroddiad Darganfod: Sylfeini Cynllun Iechyd Menywod'. Mi ddylai'r cynllun fod wedi cael ei roi mewn lle yn 2023. Mi ddylen ni fod yn dechrau gweithredu ar hynny erbyn hyn. Dyna a gyhoeddwyd yn 2022. Roedd 3,800 o fenywod wedi rhoi o'u hamser, wedi rhannu eu profiadau, ac mae cymaint o'r pethau rydyn ni wedi bod yn eu trafod heddiw, a'u clywed, yn bethau oedd yn yr adroddiad hwnnw. Mae'n fy nhristáu i ein bod ni'n dal yn cael—. Mae'n amlwg bod pawb ohonom ni'n dal i dderbyn gwaith achos yn rheolaidd—yn sicr, mi ydw i—gan ferched lle, yn anffodus, mae naill ai'n rhy hwyr iddyn nhw—bod y diagnosis wedi dod yn llawer rhy hwyr a'u bod nhw'n edrych ar farw gymaint yn iau nag y dylen nhw—. Hefyd ein bod ni'n clywed am bobl sydd, fel roedd Mabon yn sôn, yn methu gweithio.

Rydyn ni hefyd yn clywed am ferched ifanc sydd yn colli cymaint o ddyddiau yn yr ysgol. Rydyn ni'n gwybod bod absenoldebau dysgwyr yn rhywbeth sydd wedi bod yn y penawdau eto ddoe. Faint ydyn ni'n holi o ran faint o ddyddiau ysgol mae merched ifanc yn eu colli oherwydd y cyflyrau yma? Mae'n rhaid inni hefyd gysylltu efo'r system addysg, oherwydd mae'n eithriadol o bwysig ein bod ni'n dysgu merched o oed ifanc fod poen ddim yn normal. Dyna pam mae pethau fel gwneud cynhyrchion mislif am ddim yn beth hynod o bwysig. Mi fyddwn i'n hoffi gweld hynna'n dod yn Ddeddf, ein bod ni'n normaleiddio hyn, oherwydd y mwyaf rydyn ni'n siarad, y mwyaf yn y byd mae pobl yn dod yn ymwybodol. A dwi'n gweld mai un o'r unig bethau da—un o'r ychydig bethau da—i ddod allan o gyfryngau cymdeithasol ydy bod mwy o ferched yn rhannu profiadau fan hyn, eu bod nhw'n rhannu symptomau, a bod pobl yn meddwl, 'Dwi ddim yn od; mae yna rywbeth posib yn bod arnaf fi', a'u bod nhw'n mynd at y doctor. 

Mae yna ddau beth dwi eisiau inni fod yn edrych arnyn nhw fan hyn, oherwydd mae yna un peth sydd wedi dod yn amlwg, ac rydyn ni i gyd yn ei weld drwy ein gwaith achos hefyd, o ran y merched hynny sydd ddim yn cael eu credu pan fyddan nhw'n cymryd y cam hwnnw o fynd at y meddyg—diystyru hynny. Roedd Carolyn yn sôn bod pobl ddim yn credu eich bod chi ar fin rhoi genedigaeth—mae honno'n stori dwi wedi'i chlywed gan gymaint o bobl. Mi ddylech chi allu adnabod eich corff eich hun, a phan fo rhywun yn dweud wrthych chi, 'Na, dydych chi ddim yn cael babi', rydych chi'n teimlo'n od. Ac mae'n amlwg o ran yr effaith ar iechyd meddwl pobl hefyd. Os ydy rhywun yn dweud wrthych chi, 'Na, na, chi sy'n methu ymdopi', neu 'Does yna ddim byd yn bod arnoch chi', mi ydych chi'n dechrau cwestiynu'ch hun—y gaslighting yma—ond mae'n digwydd yn llawer rhy aml. Ac mae effaith wedyn o ran iechyd meddwl. Faint mae hynny'n costio'r gwasanaeth iechyd wedyn o gael pobl yn cael meddyginiaeth i fynd i'r afael efo'r ffaith eu bod nhw'n gorbryderu? Dydy o ddim yn gwneud dim synnwyr. A phobl yn colli dyddiau yn y gwaith, hefyd. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hyn.

Ond yr elfen bwysig arall hefyd—Cefin, gwnaethoch chi sôn ynglŷn â mynediad at feddygfeydd, ac ati. Rydyn ni'n gwybod yr hyn oedd Sioned hefyd yn ei ddweud, ynglŷn â phobl—. Rydyn ni'n gwybod mai merched sy'n gorfod gwneud y mwyaf o ofalu. Dydyn nhw ddim yn mynd at y doctor heblaw bod yn rhaid iddyn nhw. Maen nhw ofn gwneud ffys, ond mae yna gymaint o rwystrau wedyn. Rydyn ni'n gwybod bod yna gymaint o dai ac aelwydydd yng Nghymru lle does yna ddim ceir, neu un car, ac yn aml mae'r un car yna gyda'r dyn sy'n mynd i'r gwaith. Efo'r toriadau sydd wedi bod i drafnidiaeth gyhoeddus, dwi'n gwybod drwy waith achos faint o fenywod sydd wedyn yn ei chael hi'n anodd cyrraedd apwyntiad mewn pryd. Felly, hyd yn oed os ydych chi'n cael apwyntiad a bod rhywun yn fodlon gwrando arnoch chi, mae cyrraedd yna yn gallu bod yn rhwystr. A gyda'r argyfwng costau byw hefyd, dwi'n pryderu'n fawr fod pobl yn ei gadael hi'n rhy hwyr, eu bod nhw'n meddwl, 'Mae'n ormod o drafferth, mae'n rhy anodd i fi gyrraedd y meddyg.' Felly, mae yna gymaint o rwystrau fan hyn.

Dwi jest eisiau crybwyll yn fyr hefyd ynglŷn ag ADHD ac awtistiaeth. Rydyn ni'n gwybod bod y symptomau yn wahanol i ferched, ac yn aml mae hyn yn cael ei ddiystyru. Mae yna gysylltiad clir rhwng hormones merched a sut mae ADHD ac awtistiaeth yn gallu amlygu ar wahanol adegau o'u bywydau nhw. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n deall yn well sut mae gwahanol gyflyrau yn effeithio yn wahanol ar ferched a dynion.

Felly, dwi'n falch iawn o fod yn cefnogi dadl Delyth heddiw. Ond pam ydyn ni'n dal i siarad am hyn? Rydyn ni angen gweld y newid hwnnw, a dwi'n gobeithio y clywn ni bryd fydd Llywodraeth Cymru yn dechrau gweithredu, fel nad ydym ni'n gorfod parhau i ailadrodd y dadleuon hyn.

16:10

Rwy’n ddiolchgar iawn i Delyth Jewell a’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw. Yn bersonol, credaf mai gorau po fwyaf y byddwn yn sôn am y mater. Sioned Williams, fe sonioch chi am y tabŵ sy’n dal i fodoli, a chredaf ein bod yn gwneud llawer o ddaioni yma yn y Siambr drwy siarad am y materion hyn gymaint â phosibl.

Rwy'n cytuno'n llwyr, ond y pwynt roeddwn i'n ceisio ei wneud oedd, po fwyaf y siaradwn amdano, rydych chi wedyn yn codi disgwyliadau, ac ar hyn o bryd, nid yw’r gwasanaeth iechyd yn bodloni’r disgwyliadau hynny.

Yn hollol, a dof at hynny yn ddiweddarach yn fy natganiad, ond fe nodaf y pwynt. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn gadarnhaol clywed nad oedd Mabon ap Gwynfor wedi clywed am endometriosis cyn iddo ddod i’r rôl hon, ac mewn gwirionedd, drwy gael llawer o fenywod yn siarad yma, yn rhoi llais i fenywod eraill yng Nghymru, rwy'n credu ein bod yn gwneud gwahaniaeth.

Cadarnhaodd y Prif Weinidog yn y Senedd yn ddiweddar fod iechyd menywod yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Rydym wedi gwneud ymrwymiad clir i wella gwasanaethau iechyd i fenywod a merched, i sicrhau bod menywod yn cael eu clywed, y gallant gael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt mewn modd amserol, a’u bod yn cael gwasanaethau iechyd sy’n ymateb i’w hanghenion.

Mae llawer ohonoch chi wedi nodi cyflyrau heddiw—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Diolch, Weinidog. Rwy'n falch iawn o'r ddadl hon heddiw, ac roedd llawer o'r hyn a ddywedodd Delyth Jewell yn cyd-fynd ag adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ganserau gynaecolegol. Roedd cymaint ohono'n cyd-fynd â'r hyn a ddywedodd Delyth. Wrth gwrs, Weinidog, roeddech chi ar y pwyllgor hwnnw, ac mewn gwirionedd, roeddech chi'n un o’r Aelodau allweddol a oedd yn awyddus iawn inni wneud y gwaith hwnnw hefyd. Nawr, nid oedd y pwyllgor yn arbennig o fodlon ar ymateb y Llywodraeth. Mae'n debyg fy mod yn bod yn gwrtais wrth ddweud hynny. Roeddent yn anhapus iawn â’r ymateb, gallaf ddweud—ac mae'r Gweinidog yn nodio—gyda’r ymateb i’n 26 o argymhellion. Felly, o ystyried eich bod yn Weinidog newydd, a'ch bod yn edrych o'r newydd ar y gwaith hwn, a ydych chi'n credu y byddai'n briodol ailwerthuso'r 26 argymhelliad a chyflwyno ymateb newydd gan y Llywodraeth i'r argymhellion hynny? Tybed a fyddech chi'n agored i hynny.

Buaswn yn dweud, i ateb y cwestiwn hwnnw’n gadarn iawn, nid ar hyn o bryd, gan fod gennyf derfyn amser mor llym i sicrhau fy mod yn dod gerbron pob un ohonoch ar 10 Rhagfyr, ac yn cyflwyno'r cynllun hwn. Felly, ar hyn o bryd, ni fuaswn yn agored i hynny, ond rwy'n gobeithio eich bod yn deall y bydd cymaint o’r hyn a oedd yn yr adroddiad hwnnw, y bûm yn rhan o’i gynhyrchu, yn cael ei ymgorffori yn y cynllun. Credaf inni gynnal ymchwiliad arloesol, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2023. Bydd llawer ohonoch chi wedi bod ar bwyllgorau gyda mi. Rwy'n ddi-flewyn-ar-dafod ynghylch yr ymatebion a gawsom, ac rwy'n cofio fy rhwystredigaeth fy hun, gan fy mod yn teimlo ar y pryd, 'Pam fod hyn yn mynd i gymryd blwyddyn arall?' Fodd bynnag, mae’n cymryd amser am fod yn rhaid i hyn ddigwydd o dan arweiniad clinigol; mae'n rhaid i hyn ddod gan y GIG. Fel arall, nid yw’n mynd i fod yn wir ac nid yw’n mynd i fod yn real, ac nid yw’n mynd i fod yn gynaliadwy. Ond byddaf yn dod ato yn nes ymlaen yn fy araith hefyd, ac nid yw’n golygu nad yw pethau wedi bod yn digwydd. Felly, hoffwn roi sicrwydd i bawb o hynny, ond rwyf hefyd yn gwerthfawrogi pawb sydd wedi siarad am yr ymchwiliad hwnnw, a hefyd am Ymgyrch Claire.

Mae llawer ohonoch chi wedi nodi llawer o gyflyrau sy’n gysylltiedig ag iechyd gynaecolegol ac atgenhedlol, fel rydym newydd fod yn trafod, ond mae hefyd yn bwysig inni gryfhau’r agweddau hyn ar ofal iechyd, a phrofiadau menywod yn gyffredinol—y ffaith y gall fod yn anodd, ei fod yn amrywio'n fawr, nad oes digon o bwys yn cael ei roi i symptomau, y gallant gael eu bychanu, eu hanwybyddu neu hyd yn oed eu diystyru, fel symptomau cardiofasgwlaidd, fel meigryn, fel anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd. Felly, byddwn yn sicr yn defnyddio dull cwrs bywyd pan gaiff y cynllun hwn ei gyflwyno. Hoffwn ddiolch hefyd i’m cyd-Aelod, Joyce Watson, am drafod yr amrywiaeth y mae angen ei hymgorffori yn hyn o beth. Roeddwn yn amgueddfa Sain Ffagan ddydd Sadwrn yn nathliadau Mae Bywydau Du o Bwys Race Council Cymru. Roedd cymaint o sôn yno am iechyd meddwl, ond am iechyd menywod hefyd, ac mae hynny’n mynd i gael ei ymgorffori.

Rwyf hefyd yn rhannu pryderon yr Aelodau ynghylch y profiadau a godwyd yn y ddadl hon heddiw ynghylch normaleiddio poen corfforol ac emosiynol menywod. Mae tystiolaeth am drin poen, boed yn boen symptomatig, ar ôl llawdriniaethau neu mewn lleoliadau brys, yn awgrymu y gall menywod fod yn aros yn hirach na dynion am feddyginiaeth lleddfu poen, ac mae llawer o fenywod yn dweud bod cael eu symptomau wedi eu diystyru yn normal, neu'n cael eu priodoli, yn anghywir, i achosion seicolegol. Pan oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, dechreuodd y Prif Weinidog y broses o wella gwasanaethau ar gyfer iechyd menywod a phrofiad menywod o wasanaethau iechyd, ac mae bron i 4,000 o fenywod a merched wedi rhannu eu profiadau o ofal iechyd yng Nghymru, gan ddweud wrthym beth sy’n wirioneddol bwysig iddynt. Mae a wnelo un o themâu allweddol y cynnig hwn â chael yr adborth hwnnw am eu pryderon iechyd a sut na chawsant eu cymryd o ddifrif, gan gynnwys poen a sut y caiff ei ddiystyru neu ei normaleiddio.

Hoffwn roi sicrwydd i bawb y bydd yr adroddiad yn cynnwys argymhellion clir a fydd yn cael eu cefnogi drwy ddatblygiad y cynllun iechyd menywod 10 mlynedd. Bydd galwad am ymchwil yn cael ei chynnwys hefyd, gan ganolbwyntio'n llwyr ar flaenoriaethau iechyd menywod, a bydd yn cael ei lansio y flwyddyn nesaf, ac rydym wedi ymrwymo £750,000 tuag at brosiectau iechyd menywod allweddol. O ystyried pwysigrwydd iechyd menywod a chryfder fy ymrwymiad i wella gwasanaethau iechyd i fenywod a merched, rwy’n falch o allu cefnogi byrdwn y cynnig hwn. Fodd bynnag, nid wyf yn cytuno ar hyn o bryd fod angen deddfwriaeth ar hyn, na rhwymedigaethau statudol ar gyfer y maes. A'r rheswm am hynny, os caf ddod at yr hyn y soniodd Natasha Asghar amdano yn gynharach—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, Gareth.

16:15

Diolch yn fawr. Yn fy araith, soniais am y gwahaniaeth ar draws gwledydd y DU. A ydych chi'n meddwl ei bod hi'n dderbyniol fod gan Loegr gynllun iechyd menywod ers 2022, ac eto yng Nghymru, rydym yn dal i aros? A nawr, gyda'ch sylwadau, mae gennym Lywodraeth nad yw'n cefnogi'r cynnig hwn. Pa neges y credwch y bydd hynny'n ei hanfon at fenywod ledled Cymru?

Fel y dywedais eisoes, rydym yn cefnogi byrdwn y cynnig hwn, a byddwn yn pleidleisio o’i blaid heddiw oherwydd hynny—gan ein bod o ddifrif yn ei gylch—ond nid ydym yn cefnogi’r angen am ddeddfwriaeth ar hyn o bryd. Rydym wedi cyhoeddi datganiad ansawdd—i ddod yn ôl at yr hyn a godwyd gan Natasha Asghar yn gynharach—nad ydym yn gadael hyn i fod; yn sicr, mae trosolwg gan Lywodraeth Cymru. Lluniwyd y datganiad ansawdd hwnnw gan y Prif Weinidog erbyn hyn. Rydym wedi dweud yn glir iawn beth rydym yn ei ddisgwyl. Rydym wedi cael 4,000 darn o adborth ac rydym yn gyfan gwbl o ddifrif yn eu cylch.

Fe sonioch chi am Loegr hefyd. Yn ddiddorol, ddydd Llun, cyfarfu'r rhwydwaith clinigol ar gyfer menywod. Cawsom dri chyflwyniad gan glinigwyr o Loegr, yn sôn sut y mae pethau wedi digwydd yn Lloegr mewn gwirionedd, a chafwyd pethau da, ond cafwyd llawer o bethau negyddol hefyd. Credaf ein bod yn ffodus iawn yng Nghymru ein bod yn mynd i ddysgu o’r profiadau hynny nawr.

Nid yw'n bosibl cymryd yr hyn a wnaed yn Lloegr a'i efelychu'n llwyr yng Nghymru. Clywsom heddiw am ein cymunedau gwledig; mae pethau'n wahanol iawn yma. Mae gennym 60 o glystyrau meddygon teulu ledled Cymru. Dylai pob un o’r rheini allu rhoi’r cymorth sy’n angenrheidiol i fenywod mewn gwirionedd. Ac mae cymaint o bethau da yn digwydd. Bellach, mae gennym rywun ar gyfer endometriosis ym mhob bwrdd iechyd, fel y soniwyd, ac ar gyfer cynnal archwiliadau iechyd y pelfis. Nid yw fel pe na bai unrhyw beth wedi'i wneud.

Pan gynhyrchir y cynllun hwn ym mis Rhagfyr—fel yr addawyd, fel y sicrhawyd—bydd popeth a drafodwyd gennych yn cael ei ymgorffori ynddo. Ond hoffwn ddweud hefyd fod hon yn mynd i fod yn ddogfen fyw. Nid ydym yn mynd i'w chyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn ac yna dyna ni; mae hon yn mynd i fod yn ddogfen fyw, bydd adborth yn dod drwodd yn gyson. Rwy'n ystyried hyn yn gyfle gwirioneddol i ni yma yng Nghymru wrando o ddifrif ar fenywod ac i wneud gwahaniaeth go iawn. Rydym yn wynebu anghydraddoldebau hanesyddol, systemig iawn yma sydd wedi bodoli ers cenedlaethau, sy'n deillio o hanes o feddyginiaeth, o driniaethau'n cael eu profi ar ddynion ac yna'n cael eu defnyddio ar fenywod. Rydym wedi cael ein diystyru—a soniodd Delyth Jewell am yr enghraifft o beidio â chael meddyginiaeth lleddfu poen ar gyfer archwiliadau sy’n amlwg yn boenus.

I gloi, gadewch imi roi sicrwydd i chi fy mod yn falch o'r sgwrs hon heddiw ac yn ei chroesawu. Rwy'n gobeithio y byddwn yn parhau i gael mwy ohonynt, ac edrychaf ymlaen at gyflwyno’r cynllun iechyd menywod i chi, a fydd yn cynnwys y metrigau mesuradwy hynny, a phopeth a drafodwyd gennych heddiw, a bydd llais menywod Cymru yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir. Diolch.

16:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon.

Carolyn, diolch yn fawr. Fe sonioch chi sut y gellir rhannu cylch bywyd menywod yn gyfnodau o boen a sut y mae’n aml yn cael ei ystyried yn wendid. A dweud y gwir, mae’n brawf o'u cryfder, ond fel y dywedwch, ni ddylai fod yn rhaid inni fynd drwy hyn. Fe sonioch chi sut y ceir disgwyliad y dylai menywod orfod gwenu a goddef poen, ac yn sicr, nid yw hynny'n dderbyniol. Fel y dywedwch, dylem gredu menywod. Dylem wrando arnynt. Pam y mae menywod yn cael eu canmol am roi genedigaeth heb gyffur lleddfu poen? Mae'n rhywbeth sydd bob amser wedi fy mhoeni innau hefyd. Pam y dylid ystyried hynny'n rhywbeth anrhydeddus? Ni allaf ddychmygu unrhyw driniaeth feddygol fawr arall, neu os yw weithiau'n cynnwys agweddau ar lawdriniaeth—. Pam y dylid ei weld fel, 'O, ac fe'i gwnaeth heb gyffuriau'? O, bobl bach, mae hyn yn beth mawr. Pam y dylid canmol hynny? Diolch, Carolyn.

Dwi yn cytuno gyda Sioned y byddai hi wedi bod yn dda i'r Prif Weinidog fod yma i glywed y ddadl hon; dwi'n gobeithio'n wir y bydd hi yn gwylio nôl. Canolbwyntiodd Sioned ei chyfraniad ar y menopos a'r angen i dorri'r tabŵ hwnnw. Mae angen apwyntiad wyneb yn wyneb i drafod pethau sensitif. A'r fenyw yma oedd yn cael ei gwneud i deimlo ei bod hi'n niwsans—dŷn ni'n clywed pethau fel hyn o hyd, a'r ffaith roedd hi nawr wedi rhoi lan ac mae hyn jest yn rhan o'i bywyd hi; mae'r boen yn rhan o'i bywyd hi. Mae ein gwasanaeth iechyd yn methu menywod fel hon, y rhai sydd yn dioddef yn dawel. Dyw e ddim yn ddigon da. Dyw e ddim yn dderbyniol.

Soniodd Natasha am y disgwyliad fod yn rhaid i fenywod dderbyn ac ymdopi â phoen. Diolch, Natasha, am sôn am waith Breast Cancer Now—sefydliad gwych. Mae'n rhaid inni ei gwneud hi'n haws i gael eich profi. Ac ie, eich pwynt ynghylch llawdriniaethau adluniol a sut y cânt eu trin o bosibl fel pe baent yn driniaethau cosmetig, rhywbeth braf i'w gael, ond na, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â menywod yn gallu adnabod eu cyrff eu hunain eto ar ôl iddynt fynd drwy'r trawma hwn ac erchyllterau canser. Dylai allu teimlo fel eu corff eu hunain, felly gallaf ddeall yn llwyr a chytuno â'ch pwyntiau yn hynny o beth.

Diolch, Mabon, am siarad. Mae'n bwysig bod dynion wedi bod yn rhan o'r ddadl hon. Y fenyw roedd Mabon wedi sôn amdani, oedd yn dioddef o endometriosis—y blynyddoedd o aros, ac wedyn popeth ofnadwy wnaeth ddigwydd iddi hi. Ac fel roedd Mabon yn ei ddweud, mae'r cyfan wedi bod yn ganlyniad i fethiant yn y gwasanaeth roedd hi wedi'i gael. Pam ddylai menywod orfod talu'n breifat, cael eu 'gaslight-io' achos doedd pobl ddim yn eu credu nhw? Dyw e ddim yn ddigon da, fel roedd Mabon yn ei ddweud. Mae casglu'n data'n rhywbeth normal yn ein byd cyfalafol; pam yn y byd y byddem ni ddim yn gallu gwneud hwnna yn ein gwasanaeth iechyd ni?

Soniodd Joyce am y methiannau systemig, systematig sy’n effeithio ar fywydau hanner ein poblogaeth, ac mae normaleiddio poen mislif yn un o’r pethau y soniodd Joyce amdanynt. Credaf fod normaleiddio poen mislif yn arbennig o greulon, gan fod hynny'n golygu, o oedran ifanc iawn, fod merched yn cael eu haddysgu bod poen yn mynd i fod yn rhan o’u bywyd a’i fod yn anochel, ac na ellir ei osgoi. A'r stigma sy'n gysylltiedig â phoen mislif menywod, eu cyrff—pam y dylai fod yn anos siarad amdano? Felly, diolch yn fawr, Joyce. Rydym bob amser yn dweud, onid ydym, 'Mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hynny'. Gwyddom beth sy'n rhaid inni ei wneud. Mae cymaint o'r negeseuon a glywsom dro ar ôl tro yr un fath. Ond Joyce, diolch i chi yn arbennig am sôn am y problemau dwysach a haenog y mae menywod du ac Indiaidd yn eu hwynebu, y gall eu trawma fod hyd yn oed yn fwy cuddiedig. Mae'n rhaid i'w lleisiau gael eu clywed. Diolch yn fawr, Joyce.

Diolch, Gareth, am siarad am drawma genedigaeth. Mae un o bob 25 o fenywod yn datblygu anhwylder straen wedi trawma ar ôl rhoi genedigaeth. Mae hwnnw'n ystadegyn llwm. A'r hyn roeddech chi'n sôn amdano, y syniad o fenywod yn cael eu gadael i orwedd ar gynfasau wedi'u staenio â gwaed, mae hynny'n dorcalonnus, nid yw'n dderbyniol. Mae'n rhaid credu menywod pan fyddant yn sôn am eu cyrff eu hunain. Unwaith eto, mae'n codi dro ar ôl tro.

Soniodd Cefin am, fel roedd e'n dweud, y profedigaethau a siomedigaethau, a sut mae hyn yn waeth fyth mewn ardaloedd gwledig. Dwi wedi sôn yn barod bod menywod yn cael eu hynysu gan eu triniaeth gan y gwasanaeth iechyd; gwaeth fyth yw hi yng nghefn gwlad. O ran y profiad mae rhywun yn eich teulu, Cefin, wedi'i gael, dylai hi byth fod wedi gorfod brwydro am y diagnosis yna—mae'n hollol annerbyniol. Fel rydych chi'n dweud, mae pethau fel endometriosis, am y fenyw arall, mor, mor normal yn ein bywydau ni ac mae'n effeithio ar gymaint o fenywod—pam roedd hi'n gorfod brwydro? Mae'n ofnadwy.

Soniodd Mark am ganser yr ofarïau, un o’r clefydau hynny lle caiff symptomau eu camddeall mor aml, lle nad yw menywod yn cael eu cymryd o ddifrif; yn rhy aml, nid ydynt yn cael eu credu. Mark, fe ddywedoch chi nad yw menywod yn cael eu clywed. Fel y gwyddoch, nid yw hynny oherwydd diffyg ymdrech. Mae menywod yn eu ffordd eu hunain wedi bod yn sgrechian am help, i'r fath raddau nes bod llawer ohonynt wedi colli eu llais. Fe ddylid eu credu.

Soniodd Heledd am y miloedd o fenywod oedd wedi rhoi testament, eu llais nhw, ond mae dal oedi. Mae cost i hyn i gyd, fel roedd Heledd yn dweud—y diwrnodau ysgol coll, y diwrnodau gwaith coll. Rhaid cysidro hynny: cyfri'r gost hwnnw'n economaidd ond hefyd o ran safonau byw. Dwi'n ymwybodol fy mod i'n rhedeg mas o amser. 

Diolch i’r Gweinidog. Rwy'n edrych ymlaen at y cynllun. Rwy'n falch o glywed eich bod yn cytuno â'r angen i herio normaleiddio poen. Rwy'n siomedig nad ydych yn credu bod angen deddfwriaeth, ond nid wyf yn pryderu llawer sut y caiff y newidiadau hyn eu cyflwyno, rwyf eisiau newidiadau, dyna i gyd. Heb rwymedigaethau cyfreithiol i goladu adborth, rwy'n ofni na fyddwn yn gweld newid, ond mae'r mater hwn mor endemig—rwy'n dirwyn i ben, Ddirprwy Lywydd, rwy'n addo—mae'n fater mor endemig, os caiff y cynnig hwn ei basio heddiw, rwy'n gobeithio'n fawr y caiff ei adlewyrchu yn y cynllun ym mis Rhagfyr. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan, ac os oes un peth lle gallwn sicrhau newid, dylai lleisiau menywod gael eu clywed ac mae'n rhaid credu menywod. Diolch yn fawr.

16:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Cyfoeth Naturiol Cymru—Gwaith Craffu Blynyddol 2023-24'

Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Cyfoeth Naturiol Cymru—Gwaith Craffu Blynyddol 2023-24'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM8678 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Cyfoeth Naturiol Cymru—Gwaith Craffu Blynyddol 2023-24', a osodwyd ar 21 Mai 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Hwn yw'r trydydd adroddiad blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru y mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi'i gyhoeddi yn ystod y Senedd yma. Er i ni weld rhywfaint o gynnydd yn y blynyddoedd blaenorol, mae arnaf i ofn bod yr heriau ariannol sylweddol y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu hwynebu, a'r effaith bosib y byddai hynny wedyn yn ei gael ar allu Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei rôl, yn bwrw cysgod dros y ddadl unwaith eto. Rwy'n gobeithio, serch hynny, y bydd y ddadl yn rhoi cyfle pwysig i Aelodau i drafod yr heriau a'r cyfleoedd allweddol y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu hwynebu'n ehangach hefyd.

Yn gyntaf oll, mae angen i ni wynebu realiti llwm sefyllfa ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru. Ers dechrau’r Senedd hon, mae'r pwyllgor wedi mynegi pryder, dro ar ôl tro, ynghylch y pwysau ariannol cynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru. Eleni, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn wynebu bwlch o £13 miliwn yn ei gyllideb, ac mae yna ragweld y bydd y bwlch hwnnw'n codi i £17 miliwn erbyn 2026-27 os na fydd unrhyw gamau'n cael eu cymryd.

Bydd yr Aelodau'n gwbl ymwybodol bod y diffyg cyllid hwn eisoes yn arwain at ganlyniadau difrifol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu torri, fel rŷn ni'n gwybod, 265 o swyddi. Mae ymgyrchwyr wedi galw'r toriadau yma yn 'greulon', ac mae pryderon y gallai colli'r swyddi hyn adael Cymru heb ddigon o staff ar lawr gwlad i orfodi rheoliadau, i warchod bioamrywiaeth, ac i ymateb i ddigwyddiadau.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:30

Nawr, rŷn ni wedi clywed y bydd y pwysau ariannol yn arwain at gau canolfannau ymwelwyr, o bosib, a'r rheini, wrth gwrs, yn rhoi cyfle pwysig, fel y maen nhw ar hyn o bryd, i bobl gysylltu â byd natur a phrofi’r manteision llesiant sydd yn dod yn sgil hynny. Dwi’n ymwybodol bod y Pwyllgor Deisebau wedi bod yn ystyried deiseb yn ymwneud â chau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas. Dwi eisiau diolch i’r deisebwyr hynny, a hefyd i’r pwyllgor, am eu gwaith ar y mater yma.

Rŷn ni hefyd wedi clywed yn uniongyrchol gan Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth, sydd wedi mynegi pryderon ynghylch y posibilrwydd o gau gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ac wedi esbonio wrthym ni sut y bydd hyn yn effeithio ar uniondeb a hygrededd Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r darlun ehangach o ran gwybodaeth ac ymchwil arbenigol o fewn y Deyrnas Unedig.

Mae'n bwysig i’r Aelodau wybod fod y rhain yn doriadau dwfn ac yn doriadau pellgyrhaeddol, ac mae’r effaith bosib ar wasanaethau allweddol yn peri cryn bryder i ni fel pwyllgor. Rŷn ni wedi annog Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i ystyried pob opsiwn i liniaru’r toriadau hyn, ond mae’r rhagolygon, wrth gwrs, yn parhau i fod yn ansicr iawn. Ar adeg pan ddylai Cymru fod yn cymryd mwy a mwy o gamau i ddod â natur yn ôl o’r dibyn a chyflawni ei hymrwymiadau bioamrywiaeth byd-eang, allwn ni ddim fforddio colli unrhyw gapasiti hanfodol oddi mewn i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cyn i fi symud ymlaen, mi licien i, ar y nodyn yna, estyn fy nghefnogaeth i i aelodau staff Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n mynd drwy gyfnod anodd tu hwnt ar hyn o bryd, cyfnod ansicr iawn ac, fel pwyllgor, rŷn ni jest eisiau nodi ein cefnogaeth i chi fel tîm o staff rŷn ni'n gwybod sydd yn ymroddedig iawn i'r rolau rŷch chi’n eu cyflawni, ac maen nhw'n rolau rŷn ni i gyd yn eu gwerthfawrogi yn fawr hefyd.

Dwi'n troi nawr at ran allweddol arall o’n hadroddiad ni, sef trefniadau llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru. Nawr, y llynedd, fe wnaethon ni groesawu’r cam o gyflwyno cytundebau lefel gwasanaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru. Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd ganmol y cytundebau yma fel mecanwaith clir a gwerthfawr i helpu i unioni adnoddau yn erbyn y dyletswyddau statudol y mae disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru eu cyflawni. Roedd y pwyllgor yn cefnogi hyn fel ffordd o helpu i sicrhau sefydlogrwydd, a'r sefydlogrwydd yna sydd ei angen yn ddirfawr ar Cyfoeth Naturiol Cymru.

Flwyddyn yn ddiweddarach, mi oedd hi yn syndod gweld bod y dull hwn wedi cael ei roi o’r neilltu yn dawel bach. Ni fydd yna gytundebau lefel gwasanaeth newydd, mae'n debyg. Yn lle hynny, rŷn ni wedi cael gwybod y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn canolbwyntio nawr ar fframwaith cyllidebu amlflwyddyn. Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, mae’r dull newydd hwn yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddyn nhw. Wel, efallai fod hynny’n wir, ond rŷn ni'n teimlo nad oes unrhyw reswm pam na all cytundebau lefel gwasanaeth gael eu defnyddio ochr yn ochr â fframwaith cyllidebu amlflwyddyn. Mi fyddem ni felly yn ddiolchgar am esboniad gan Ysgrifennydd y Cabinet o ran pam ei fod e’n teimlo nad oedd modd parhau â’r dull cytundebau lefel gwasanaeth.

Beth bynnag am hynny, mi fyddwn ni, wrth gwrs, yn monitro'r broses cynllunio ariannol newydd hon yn agos, a dwi'n siŵr bod hyn yn fater y byddwn ni’n ei drafod ymhellach gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod y cylch nesaf o waith craffu ar y gyllideb ddrafft.

Ar nodyn mwy cadarnhaol, rŷn ni yn falch bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor ar ddangosyddion perfformiad strategol. Nawr, mae'r mesurau hyn, wrth gwrs, yn hanfodol i asesu cynnydd Cyfoeth Naturiol Cymru wrth gyflawni ei nodau a mynd i'r afael â heriau amgylcheddol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i fireinio’r dangosyddion hyn, a bydd yn rhoi diweddariad yn ddiweddarach eleni i ni. Mi ddisgwylir i’r dangosyddion yma gael eu gweithredu’n llawn yn 2025-26, ac mi fydd y pwyllgor, unwaith eto, wrth gwrs, yn parhau i graffu ar y datblygiadau yma er mwyn sicrhau eu bod nhw’n rhoi cipolwg ystyrlon i ni ar berfformiad y corff.

Yn olaf, mae adroddiad y pwyllgor yn ymdrin â sawl maes polisi pwysig sy'n ymwneud, wrth gwrs, â chyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru. A duw a ŵyr, mae'r rheini’n gyfrifoldebau eang iawn. O ran llygredd amaethyddol, rŷn ni i gyd, wrth gwrs, yn gyfarwydd â'r safbwyntiau gwahanol sydd gan randdeiliaid ac Aelodau'r Siambr yma ar y dull mwyaf effeithiol o reoli llygredd maetholion. Wel, gan roi hynny o’r neilltu am funud, efallai, os yw’r dull rheoli maethynnau uwch presennol am fod yn effeithiol, mae’n hanfodol cael adnoddau digonol ar gyfer monitro ac ar gyfer gorfodi. Mae'n destun pryder, felly, fod yr agwedd hon ar waith Cyfoeth Naturiol Cymru yn destun cytundeb lefel gwasanaeth a fydd yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn eleni. Felly, mi fyddem ni'n gwerthfawrogi diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater yma a ble rŷn ni'n mynd nesaf gyda hyn.

O ran plannu coed, mae'r pwyllgor wedi pwysleisio pa mor bwysig yw cynnal adolygiad rheolaidd o gynlluniau adnoddau coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Rŷn ni wedi annog Cyfoeth Naturiol Cymru i ganolbwyntio ar gynyddu'r defnydd o rywogaethau brodorol a phlannu cymysg er mwyn gwella bioamrywiaeth a gallu coedwigoedd, hefyd, gyda llaw, i wrthsefyll clefydau. Rŷn ni'n falch bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn yr argymhelliad yna.

Yn olaf, fe wnaethon ni fynegi pryderon am y drefn o reoli ardaloedd draenio mewnol, sy'n chwarae rhan hanfodol, wrth gwrs, wrth reoli perygl llifogydd, a hefyd wrth ddiogelu'r amgylchedd. Nawr, yn ei ymateb, fe ddywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrthon ni na fu unrhyw drafodaethau ffurfiol rhwng y corff ac Ysgrifennydd y Cabinet, ond fe allai fod yn amserol cynnal adolygiad. Dyna maen nhw wedi'i ddweud. Nawr, rŷn ni'n deall bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi gwybod i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd yma ym mis Mai ei fod wedi penderfynu peidio â chynnal adolygiad ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau adnoddau. Mi fyddem ni, felly, yn gwerthfawrogi cael y wybodaeth ddiweddaraf am hyn pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb i'r ddadl.

Llywydd, i gloi, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn wynebu un o'i heriau anoddaf erioed. Mae cwestiynau difrifol yn cael eu gofyn am ei allu parhaus i gyflawni ei gyfrifoldebau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddiogelu amgylchedd Cymru, ac mae'n hanfodol inni ddod o hyd i ffordd o sicrhau'r adnoddau a'r capasiti sydd eu hangen arno fel corff i gyflawni'r gwaith yma. Nid oes angen i fi atgoffa'r Aelodau ein bod ni'n wynebu argyfyngau hinsawdd a natur, a dim ond hyn a hyn y gallwn ni ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru ei wneud gyda'r gyllideb sydd ganddo.

Mi fyddwn ni wrth gwrs yn parhau i graffu ar gynnydd Cyfoeth Naturiol Cymru dros y flwyddyn nesaf, a dwi yn gobeithio y bydd y ddadl y flwyddyn nesaf, efallai, yn fwy cadarnhaol. Ond am y tro, mae'r llwybr o'n blaenau ni yn edrych yn anodd, ac mae'n rhaid inni fod yn gefn i Cyfoeth Naturiol Cymru mewn modd priodol, wrth iddyn nhw wynebu'r heriau yma sydd i ddod. Ond dwi'n sicr yn edrych ymlaen at glywed yr hyn fydd gan Aelodau i'w ddweud fel rhan o'r ddadl yma, ac yn bendant yr hyn fydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud, wrth iddo fe egluro, efallai, nes ymlaen, pa gamau y bydd e yn eu cymryd i gyflawni hyn. Diolch.

16:35

Diolch i Llyr Gruffydd am gyflwyno'r adroddiad hwn i'r Siambr, ond hefyd am ei gadeiryddiaeth alluog i'n pwyllgor. Nawr, wrth gwrs fe wyddom fod y cynllun corfforaethol wedi glanio wedi oedi—llawer o oedi—yn 2023, ac roeddem wedi bod yn gofyn ac yn gofyn amdano. Dyma'r cyntaf ers 2018. Dyna'r un cyntaf ers i Lywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd, yr un cyntaf ers COVID, yr un cyntaf ers y gwahanol gyhoeddiadau amrywiol gan Lywodraeth y DU ynglŷn â pha mor ddifrifol yr oeddent yn ystyried newid hinsawdd. Felly, er ein bod ni'n teimlo rhyddhad fel pwyllgor wrth dderbyn yr adroddiad hwn, mae'n rhaid imi fod yn onest, nid yw'r oedi hwn yn argoeli'n dda, ac nid yw'n adlewyrchu lefel yr ymrwymiad y byddem yn ei ddisgwyl gan brif gorff rheoleiddio amgylcheddol Cymru. Nawr, roedd rhai o'r pwyntiau a wnaethoch chi yno, Gadeirydd, yn ymwneud â'u gallu i wneud eu gwaith, ac o ystyried nifer y cwynion a gaf gan ffermwyr o bob math, ynglŷn â llygredd tir, ynglŷn â llygredd dŵr a phethau—. Rwy'n gwybod bod yr adnoddau'n brin, ond yn y pen draw, mae angen tîm gorfodaeth amgylcheddol arnom sy'n gallu gweithio, a gweithio'n briodol.

Nawr, rydym yn pryderu ynglŷn â ddiddymu cytundebau lefel gwasanaeth a sut y bydd hynny'n effeithio ar allu Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod eu hadnoddau'n adlewyrchu eu dyletswyddau a'u swyddogaethau statudol llawn. Yn ein hadroddiad, fe wnaethom nodi y gall cytundebau lefel gwasanaeth gyflawni diben gwerthfawr ar gyfer blaenoriaethu, ac yr hoffem i CNC rannu amlinelliad o gam nesaf y gwaith ar gytundebau lefel gwasanaeth gyda ni, gan gynnwys y meysydd sydd i'w cynnwys ac amserlen ar gyfer eu datblygu a'u gweithredu. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn teimlo y dylid cefnu arnynt, ac rwy'n poeni nawr na fyddwn yn gallu nodi a chraffu ar y 10 maes y mae CNC eu hunain yn eu hystyried yn flaenoriaethau. Mae Llywodraeth Cymru yn egluro y byddant yn dysgu o ddatblygu a gweithredu'r cytundebau lefel gwasanaeth. Nid wyf yn hollol siŵr beth y mae hynny'n ei olygu. Hoffwn wybod sut y bydd hyn yn bosibl, yn enwedig o ystyried, fel y nodwyd gan Prys Davies yn y pwyllgor, fod cytundebau lefel gwasanaeth wedi cael eu hoedi

'yn rhannol oherwydd pwysau ariannol'.

Ac yn fy marn i, ni ddylai pwysau ariannol fyth olygu llai o graffu. Os yw cyfyngiadau ariannol wedi rhwystro datblygiad a gweithrediad y cytundebau lefel gwasanaeth yn flaenorol, sut y mae CNC yn bwriadu diffinio'n glir yr adnoddau sydd eu hangen nawr i sicrhau bod y cynllun corfforaethol hwn, sydd wedi cymryd cymaint o amser i'w lunio, yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus? Yn ogystal, sut y bydd Llywodraeth Cymru'n pennu pa adnoddau sy'n angenrheidiol i ddarparu gwahanol lefelau gwasanaeth ar draws y 10 maes blaenoriaeth?

Yn unol ag argymhelliad 3, ac yn seiliedig ar yr hyn rwyf newydd ei grybwyll, mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at dderbyn y diweddariad a addawyd, ar ôl 31 Hydref, ar gynnydd ar ddatblygu'r dangosyddion strategol terfynol a'r metrigau perfformiad a sut y maent yn cyd-fynd â'r cynllun corfforaethol newydd. Ond mae angen sicrwydd arnom hefyd. Mae CNC yn wynebu diffyg sylweddol yn ei gyllideb ac o'r herwydd, mae'n gorfod gwneud toriadau ysgubol i feysydd hanfodol. Ac rwyf am gymeradwyo pwynt a wnaethoch chi yno, Llyr—nid yw hyn yn ymwneud â staff CNC. Maent hwy'n gweithio'n anhygoel o galed, ac yn aml iawn, cânt eu secondio i wahanol brosiectau. Ac fe allwch ddweud bod hwn yn sefydliad sy'n jyglo ei flaenoriaethau. 

Mae Cynghrair Llwybr MTB y DU eisoes wedi cysylltu â mi yn bryderus iawn am fod gennym 500 km o lwybrau beicio mynydd ledled Cymru, ac mae CNC wedi awgrymu bod rhai o'r gweithgareddau a'r pethau hyn—a fyddant yn gallu cynnal y llwybrau hynny. Mae honno'n gamp iachus wirioneddol dda, onid yw, pobl yn mynd i'r goedwig ar feiciau mynydd. Felly, bydd yn lleihau mynediad cyhoeddus at weithgareddau hamdden awyr agored yn fawr, a gallai hynny yn ei dro gael effaith negyddol ddifrifol ar iechyd a llesiant. Felly, mae'n rhaid i chi edrych ar gostau hynny i'r diwydiant twristiaeth, y mae gogledd Cymru mor ddibynnol arno. Rwy'n deall o ymateb CNC eu bod wedi nodi rhai meysydd lle maent wedi penderfynu rhoi'r gorau i weithgareddau yn gyfan gwbl, gan gredu nad nhw sydd yn y sefyllfa orau i'w darparu mwyach. Felly, sut y mae'r meysydd hynny'n mynd i fod—ble mae'r pontio? Pwy sy'n mynd i ysgwyddo'r baich yn y meysydd a gafodd flaenoriaeth yn y gorffennol? A ydych chi fel Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am ba feysydd yw'r rhain? Os felly, a fydd CNC yn egluro sut y bwriadant drosglwyddo'r cyfrifoldebau hyn? A fydd angen i sefydliadau, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr eraill gamu i mewn?

Mae disgwyl i CNC roi gwybod i'r pwyllgor o fewn chwe mis ynglŷn â statws ei ganolfannau ymwelwyr. Unwaith eto, mae pobl sy'n eu hystyried yn werthfawr wedi mynegi pryderon wrthyf ynglŷn â hyn. Argymhelliad 7 yw hwnnw. Ond yn anffodus, mae'n ymddangos eu bod yn hynod o anymwybodol o bron i hanner y nodweddion ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig—ac rydym yn gweld gwerth y rheini yng Nghymru—am nad oes digon o staff ac adnoddau i gynnal y lefelau cadwraeth gofynnol. Yn syml, mae llawer o feysydd cyfrifoldeb yn disgyn o fewn cylch gwaith CNC, ac mae'n ymddangos bod y diffyg cyllid yn golygu bod cymaint o'r rhain, nawr, mewn perygl difrifol, gyda thorri swyddi pellach—

16:40

Rwyf wedi bod yn hael iawn eisoes, Janet, felly os gallwch dynnu eich sylwadau i ben. 

Iawn, diolch. Felly, yn y bôn, rwy'n gofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet: rhowch rywfaint o sicrwydd i ni yma heddiw ynglŷn â sut y bydd rhai o'r blaenoriaethau y byddant yn cyfyngu arnynt nawr yn cael eu cyflawni yn y dyfodol. Diolch.

Diolch i’r tîm pwyllgor, Cadeirydd y pwyllgor a’r Aelodau am y gwaith ar yr ymgynghoriad hwn. Hoffwn i ddechrau drwy gydnabod y rôl hanfodol y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chwarae wrth ddiogelu ein hamgylchedd, rheoli ein hadnoddau naturiol a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Nawr, mae'n amlwg bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn wynebu diffyg ariannol sylweddol. Mae hwnna wedi ei waethygu gan gostau cynyddol. Mae hyn yn codi pryderon niferus am allu Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni'r dyletswyddau craidd sydd ganddo.. 

Rydyn ni yn deall bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru weithio gyda'i gilydd i liniaru effeithiau negyddol y gyllideb gyfyngedig hon. Fodd bynnag, rwy'n bryderus iawn am y realiti y mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn ei wynebu, yn enwedig, fel sydd wedi cael ei sôn amdano, y rhewi recriwtio. Gallai hynny danseilio ei allu i ddarparu gwasanaethau allweddol. Sut yn union mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r rhewi recriwtio hwn i sicrhau nad yw swyddogaethau amgylcheddol hollbwysig yn cael eu peryglu? Ac os ydym yn graddio neu yn tynnu gwasanaethau yn ôl mewn unrhyw ffordd, pa fecanweithiau sydd ar waith i sicrhau bod yr ardaloedd mwyaf agored i niwed a risg uchel yn cael eu gwarchod?

Mae penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i flaenoriaethu rhai gwasanaethau a lleihau eraill, mae hynny'n ddealladwy, ond mae'n hanfodol bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd strategol a thryloyw. A ydy Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithredu proses flaenoriaethu gynhwysfawr, tybed, sy'n sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol, fel rheoli llifogydd, er enghraifft, yn cael eu gwarchod? Fe fuaswn i'n annog Llywodraeth Cymru i bwyso am hyn, i ffeindio mas, a hoffwn wybod sut bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu eu cefnogi nhw yn hyn o beth.

Un mater sy'n fy mhoeni i ydy’r diffyg ymgynghori â'r cyhoedd sydd wedi digwydd am y newidiadau hyn. Mae'r cyhoedd, dwi'n meddwl, yn haeddu bod yn rhan o'r sgwrs hon, yn enwedig y cymunedau hynny sydd yn fwyaf dibynnol ar wasanaethau Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, a allai'r Ysgrifennydd Cabinet, pan fydd yn ymateb, plis, gadarnhau a oes unrhyw gynlluniau i wneud yn siŵr bod ymgynghoriad cyhoeddus yn digwydd am benderfyniadau'r gyllideb a gwasanaethau yn ymwneud â Cyfoeth Naturiol Cymru yn y dyfodol? 

Dwi hefyd am dynnu sylw at y mater parhaus o fylchau cyllido, yn enwedig gan ei fod yn ymwneud â staffio. Mae hyn wedi cael ei grybwyll yn barod gan y Cadeirydd. Mae pryderon difrifol am allu Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni nodau cadwraeth, yn enwedig pan ystyriwn fod hanner y nodweddion ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn parhau heb eu monitro. Rydym ni wedi clywed y gallai fod angen i Cyfoeth Naturiol Cymru ddyblu ei lefelau staffio i fynd i'r afael â'r heriau hyn yn effeithiol, felly sut y bydd y Llywodraeth yn cysoni'r anghenion staffio ychwanegol â'r cyfyngiadau cyllidebol presennol? Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno y gallai methu â buddsoddi yng ngweithlu Cyfoeth Naturiol Cymru arwain at ganlyniadau hirdymor difrifol i'n hamgylchedd naturiol ni? 

Ac fe fuaswn i jest eisiau dweud yn olaf, wrth gloi, Llywydd, fe fuaswn i'n hoffi ategu yn union beth mae'r Cadeirydd wedi ei ddweud ynglŷn â'r pwysigrwydd o ddiolch i staff Cyfoeth Naturiol Cymru am y gwaith hollbwysig maen nhw'n ei wneud. Fe fuaswn i'n hoffi gwybod pa gynlluniau sydd mewn lle i gefnogi eu lles nhw, achos mae’n rhaid bod y cyfyngiadau hyn yn anodd eithriadol i aelodau staff, a hoffwn i roi, eto, ar y record ein diolch iddyn nhw. Maen nhw'n clywed straeon negyddol o hyd, maen nhw'n gorfod rhoi lan gyda rhwystredigaeth pobl am y pethau allen nhw ddim eu gwneud, felly pa gymorth sydd ar gael i’r rhai sydd yn stryglan neu sydd dan bwysau ychwanegol, a fydd dan bwysau ychwanegol yn y misoedd i ddod? Diolch.

16:45

Hoffwn innau hefyd dalu teyrnged i staff CNC a'r cyfan y maent yn ei wneud mewn amgylchiadau anodd. Cyhoeddwyd cynllun corfforaethol diweddaraf CNC, 'Byd Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda'n Gilydd' ym mis Ebrill y llynedd, ac mae'n cyd-fynd â thelerau llythyr cylch gwaith y Llywodraeth ac yn canolbwyntio ar y tri amcan llesiant: mae natur yn ymadfer, mae cymunedau'n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd ac mae llygredd yn cael ei leihau. Ond rwy'n poeni na ellir bodloni'r rhain i gyd. Pwysleisiodd adroddiad perfformiad CNC ar gyfer 2022-23 fod recriwtio'n parhau i fod yn her sylweddol, yn enwedig ar gyfer rheoli risg llifogydd a pheirianneg. Rwy'n ymwybodol fod awdurdodau lleol yn wynebu'r un heriau—hyn oll ar adeg pan fo llifogydd yn destun pryder mawr.

O ddechrau mis Awst y llynedd, roedd recriwtio, i bob pwrpas, wedi ei rewi a'r ymateb oedd bod CNC wedi dod yn well am symud staff o amgylch y sefydliad i feysydd lle roedd angen adnoddau staffio. Ond gyda phwysau chwyddiant parhaus a diffyg cyllid cyhoeddus gan Lywodraeth y DU, maent bellach yn wynebu toriadau difrifol, fel y disgrifiwyd, ac mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn bryderus iawn.

Mae'r gweithlu eisiau bod yn rhan o gynllunio'r ateb i'r pwysau hyn a chredwn fod yn rhaid i CNC ymateb i'r cyfyngiadau cyllidebol hyn trwy wella datblygiad a symudedd mewnol staff i sicrhau y gellir mynd ati'n gyflym i lenwi'r swyddi gwag hyn sy'n hanfodol i'w waith. Os na wnaiff hynny, bydd staff sydd â blynyddoedd o brofiad yn cael eu colli ac ni fydd olyniaeth na pharhad cynllunio, sy'n bwysig iawn. Ar hyn o bryd mae ein pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i fioamrywiaeth ac i ystyried a yw'r Llywodraeth ar y trywydd iawn i atal y dirywiad erbyn 2030. Hyd yn hyn, mae'n ddigalon, ac mae angen i ni gryfhau cadwraeth amgylcheddol, ac rwy'n poeni na fydd hyn yn digwydd.

Mae trigolion a sefydliadau eisiau bod yn rhan o ymgynghoriad ynghylch y canolfannau ymwelwyr, ac fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, gallaf ddweud bod y pwyllgor yn ystyried dwy ddeiseb yn ymwneud â'r canolfannau ymwelwyr ar hyn o bryd, a byddwn yn cynnal ein dadl ein hunain ar y mater ddydd Mercher nesaf. Deiseb P-06-1474 yw 'Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas' a hefyd deiseb P-06-1447 yw 'Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau’r ganolfan ymwelwyr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas'. Mae'r ddeiseb gyntaf wedi casglu 13,245 lofnodion, a'r ail wedi casglu 2,422 o lofnodion. Credaf fod nifer y llofnodion yn dangos y pryder cyhoeddus dwfn sy'n deillio o'r cynigion a'r effaith bosibl y gallai'r penderfyniadau hyn ei chael ar ddyfodol y safleoedd hynny.

Cafodd y pwyllgor ohebiaeth gan CNC ddoe sy'n rhoi mwy o bwyslais ar gynnal y cyfleusterau hyn nawr, ond gan ddod ag arbenigedd allanol i mewn i redeg cyfleusterau arlwyo a manwerthu. Fodd bynnag, mae amser yn bwysig, fel y mae parhad, felly mae gennym bryderon ynglŷn â hynny. Byddaf yn ymweld ag Ynyslas dros y penwythnos, ac edrychaf ymlaen at weld y cyfleusterau presennol drosof fy hun a chlywed barn defnyddwyr ynglŷn â'r newidiadau y gallem eu gweld.

Mae llyfrgell amgylcheddol bwrpasol CNC ym Mangor ar fin cau, ac fe'i defnyddir i helpu gyda cheisiadau cynllunio a monitro rhywogaethau prin. Hoffwn wybod a oes asesiad effaith wedi'i wneud ynglŷn â hyn ac a oes dewisiadau eraill ar gael, fel defnyddio Cofnod. Mae amgylcheddwyr yn pryderu y bydd troseddu'n mynd heb ei ganfod a digwyddiadau nad oes gan CNC gapasiti i ymdrin â hwy.

Rwy'n deall bod cyrff cyhoeddus ar draws y Llywodraethau, gan gynnwys cynghorau, ledled y DU yn wynebu penderfyniadau ofnadwy ar ôl cymaint o flynyddoedd o gyni a phwysau chwyddiant enfawr, ond Cymru a'r DU yw un o'r gwledydd lle mae natur wedi teneuo fwyaf yn y byd. Mae angen monitro safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, rydym wedi llygru afonydd, ac mae bywyd morol yn dioddef. Caiff ceisiadau cynllunio eu hoedi wrth aros am ymatebion gan CNC, ac wrth ddatblygu deddfwriaeth fel y cynllun ffermio cynaliadwy, mae angen i arbenigwyr allu gweithio gyda ffermwyr. Diolch.

16:50

Nid wyf ar y pwyllgor hwn, ond rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Bydd yn gyfraniad byr ar rywbeth sy'n chwarae ar fy meddwl. Yn amlwg, mae llawer i'w drafod mewn perthynas â CNC, ac rwy'n cytuno â phopeth y mae fy nghyd-Aelodau wedi'i ddweud ar draws y Siambr hyd yn hyn.

Ond roeddwn i eisiau siarad am rywbeth a wneuthum yn ddiweddar. Yr wythnos diwethaf, cefais y pleser o fynychu digwyddiad 'croeso i olwyno oddi ar y ffordd' yn ddwfn yng nghoedwigoedd Dyffryn Gwy. Roedd yn ddigwyddiad dadlennol a dyrchafol iawn, lle roedd defnyddwyr cadeiriau olwyn yn rhoi cynnig ar gadeiriau olwyn wedi'u haddasu i fynd dros y tir i wneud llwybrau cerdded mewn coedwigoedd a phethau'n fwy hygyrch. Roedd yn anhygoel. Roedd CNC yno a llawer o sefydliadau perthnasol eraill, ac roedd y cyfan yn ymwneud â gwella mynediad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, oedd fy mod wedi siarad â'r sefydliadau perthnasol ar yr ymweliad hwn, ac fe wnaethant godi pwynt, pwynt da, ac roeddent yn poeni am y ffaith eu bod wedi clywed y byddai gwefan CNC yn cael ei cholli oherwydd toriadau staff. Roeddent yn dweud bod gwefan CNC ar hyn o bryd yn tynnu sylw at y llwybrau hygyrch sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, ac os caiff y wefan ei cholli, pwy arall sy'n mynd i wneud hynny, pwy arall sy'n mynd i wneud y gwaith hwnnw a hyrwyddo a gadael i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn wybod pa lwybrau a fydd ar gael iddynt? Felly, mae'n rhywbeth i'w gofio pan fyddwn yn siarad am gyllid, ond hefyd, o ganlyniad i hynny, rwy'n poeni am barhad addasiadau mawr eu hangen i lwybrau cerdded, a chael gwared ar gatiau mochyn a'r math hwnnw o beth, pethau syml a fydd yn gwneud ein llwybrau cerdded yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn yn y dyfodol. Diolch.

Gaf i hefyd ddiolch i’r pwyllgor am eich gwaith ar hwn? Dwi’n meddwl dylen ni fod yn pryderu’n fawr am y sylwadau wnaeth y Cadeirydd wrth gyflwyno yr adroddiad a’r ddadl hon am y pwysau cynyddol sydd ar Cyfoeth Naturiol Cymru. Os edrychwch chi, yn dilyn llifogydd dinistriol 2020, ar adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru ar y llifogydd hynny, mi ddaeth hi'n glir bod diffyg staff wedi bod yn broblem ddirfawr. Mi oedd yr adroddiad hwnnw yn glir bod yna 70 yn fwy o staff eu hangen er mwyn diwallu'r anghenion sydd gan y corff hwnnw. Felly, mi oedd Delyth Jewell yn crybwyll hwnna, ond mi hoffwn i wybod ar ba lefel ydyn ni erbyn hyn o ran y staff sydd yn ymwneud efo llifogydd, oherwydd, fel clywsom ni ddoe yn dilyn datganiad gan y Gweinidog, mae hon yn mynd i fod yn broblem gynyddol oherwydd yr argyfwng hinsawdd. Dŷn ni'n gwybod bydd yna fwy o dywydd eithafol, dŷn ni'n gwybod bydd yna fwy o lifogydd; mae hynny'n amlwg i ni i gyd. Ond ydy Cyfoeth Naturiol Cymru efo'r adnoddau i ymdopi efo'r her honno? Oherwydd dwi ddim eisiau gweld adroddiad arall ar ôl llifogydd dinistriol ar y raddfa welsom ni—oherwydd mi fydd yna, ar ryw bwynt, yn anffodus; dyna realiti'r sefyllfa—yn dweud unwaith eto ein bod ni ddim jest yn brin o un neu ddau o staff, ond 70 o staff ar y tîm hwnnw.

Mae pwysau aruthrol ar staff, a dwi yn falch ein bod ni wedi cydnabod, yn y Siambr hon heddiw, y staff gwych sy'n gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru, a'n bod ni'n cydnabod hefyd y straen aruthrol sydd arnyn nhw. Mae hi'n glir iawn bod yna gymaint o bobl o fewn y sefydliad hwnnw sydd yn pryderu'n fawr am ein cyfoeth naturiol ni, ond eu bod nhw hefyd yn gwybod eu bod nhw methu gwneud rhai o'r pethau. Os edrychwch chi ar y gwaith cefnogi grwpiau llifogydd lleol, bach iawn ydy'r tîm hwnnw yn Cyfoeth Naturiol Cymru. A'r hyn sy'n fy mhryderu fi fwyaf o'r toriadau rŵan hefyd ydy gweld y bydd peth o'r gwaith ymgysylltu hwnnw'n gorfod dod i ben, bydd peth o'r gwaith addysgu hefyd, a'u bod nhw hefyd yn dweud y byddan nhw'n methu gwneud cymaint i fynd i'r afael efo'r argyfwng hinsawdd. Wel, ni, yn y Siambr hon, wnaeth ddatgan argyfwng hinsawdd a natur ac o ran bioamrywiaeth. Felly, mae'r ffaith dydyn nhw ddim yn mynd i allu gwneud yr hyn dyn ni wedi gofyn iddyn nhw ei wneud a phleidleisio arno fo fel blaenoriaeth, mae o'n bryder.

Felly, mae yna gymaint o feysydd fan hyn, a dwi'n meddwl ei bod hi'n hen bryd i ni gael sgwrs, oherwydd, yn amlwg, mi wnaed y penderfyniad i greu un corff mawr, i uno'r holl gyrff unigol yma, a'r hyn dyn ni wedi'i weld ydy torri a thorri a straen aruthrol. Felly, dwi'n falch o waith y pwyllgor, ond o ran y gwaith wedyn sydd yn cael ei drosglwyddo i'n cymunedau ni ac ar lawr gwlad, dwi'n meddwl ein bod ni angen dechrau cael datrysiadau, nid dim ond derbyn bod y sefyllfa gyllidol yn heriol a'n bod ni'n mynd i golli rhai o'r swyddi pwysig yma.

Felly, gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet yn benodol, o edrych ar y gwaith lliniaru effaith llifogydd, cefnogi cymunedau, ydych chi'n hyderus bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ers adroddiad i lifogydd Chwefror 2020, y staff sydd eu hangen, fel y gwnaethon nhw rybuddio pe na fyddem ni yn gwneud hynny fydden nhw ddim yn gallu ymateb yn y dyfodol? Felly, buaswn i'n hoffi sicrwydd ar ran y cymunedau hynny bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar Cyfoeth Naturiol Cymru.

16:55

Es i ati i ddarllen yr adroddiad yma. Dwi, fel Laura, ddim yn aelod o'r pwyllgor, ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn codi'n gyson yng ngwaith achos. Fel sydd wedi cael ei ddweud, mae'r cyfrifoldebau'n eang ac mae'r disgwyliadau yn uchel gyda phobl. Fel mae pawb sydd wedi cyfrannu'n barod wedi'i ddweud, mae'n glir o'r adroddiad bod y toriadau llym yma'n tanseilio'r gwaith bron a bod yn llwyr.

Fe wnaeth tri maes fy nharo; tri maes o ddiddordeb i mi hefyd. Y cyntaf yw'r pwynt y cyfeiriodd Janet ato eisoes am y nodweddion ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig—mae hwn yn fater sydd wedi ei godi yn ardal Pentyrch yng Nghaerdydd—a bod hanner y nodweddion hynny mewn cyflwr anhysbys. Rwy'n credu bod hynny'n anhygoel.

Mae'r lefel staffio bresennol yn annigonol at ddibenion cadwraeth. Dywed Cyswllt Amgylchedd Cymru y byddai angen dyblu'r lefelau staffio presennol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n debyg—nid yn unig yn cynyddu, ond dyblu—er mwyn mynd i'r afael â'r heriau bioamrywiaeth yma yng Nghymru. Wel, fel y soniodd Heledd Fychan, nid oes unrhyw bwynt datgan argyfyngau os nad ydym yn rhoi'r adnoddau i fynd i'r afael â'r problemau hyn. Nid yw geiriau'n ddigon. Mae diffyg cyllid yn dinistrio meysydd o ddiddordeb gwyddonol a fyddai'n gwella dealltwriaeth academaidd o'r amgylchedd yma yng Nghymru a chyda hynny, ar draws y byd.

Yn ail, mae Heledd eisoes wedi sôn am lifogydd. Fel y dywed Clare Pillman yn ei thystiolaeth i'r pwyllgor, mae ardaloedd draenio yng Nghymru bellach yn profi mwy o lifogydd—mae'n gwaethygu. Rhan o'r achos, yn ei hôl hi, yw diffyg ailwerthuso strategol, gyda rhai meysydd heb fod mor effeithlon ag eraill am ddefnyddio'r cyllid cyfyngedig sydd ganddynt.

Yn drydydd, plannu coed. Nawr, clywsom lawer yn y Senedd hon am blannu coed, gan mai dyna un o flaenoriaethau allweddol cynllun newid hinsawdd Llywodraeth Cymru—plannu coed i ddal carbon. Ond cyfyngwyd ar hyn hefyd gan doriadau cyllidebol. Nid yw'r cynnydd ar blannu coed newydd wedi datblygu agos cymaint ag y dylai, os ydym am gyrraedd sero net erbyn 2050.

Unwaith eto, nid oes unrhyw bwynt cael targedau os na allwn eu cyflawni. Yn y bôn, mae'r toriadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud i gyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru wedi peryglu ei thargedau hinsawdd ei hun. Oni bai ein bod yn gweithredu nawr i wella recriwtio a chadw staff arbenigol sy'n gallu gofalu am yr amgylchedd, rwy'n poeni y bydd hyn yn parhau flwyddyn ar ôl blwyddyn, fel y mae eraill wedi nodi eisoes.

Dywedodd y Prif Weinidog newydd wrth iddi gael ei hethol y gallai Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â sawl her, fel yr argyfwng hinsawdd, tra'n canolbwyntio ar iechyd. Ond, fel y dywedodd Llyr Huws Gruffydd wrth agor, mae ein hamgylchedd yn hanfodol i'n hiechyd; does dim iechyd heb yr amgylchedd. Oni bai ein bod yn cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddigonol, yna rŷn ni mewn perygl o niweidio nid yn unig yr amgylchedd, nid yn unig ein cefn gwlad a'n dyfroedd, ond ein cenedl ac, yn bwysicach fyth, ein plant a chenedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr.

17:00

Rwy'n ddiolchgar i Llyr Gruffydd a'r pwyllgor am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad yr ydym yn ei drafod yma heddiw. Hefyd, rwyf am adleisio sylwadau a wnaed gan Aelodau eisoes, o ran y gwaith a wnaed gan dimau CNC ledled Cymru. Rwy'n siarad yn fyr heddiw, Lywydd, yn rhinwedd fy swydd fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar weithgareddau awyr agored—fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod—gydag amrywiaeth eang o grwpiau ac unigolion sy'n gwneud gwaith gwych i hyrwyddo'r sector awyr agored yng Nghymru. Ac rwy'n gwybod bod cefnogaeth bersonol a chyfranogiad Ysgrifennydd y Cabinet yn y maes yn bwysig iddo hefyd, ac fe fydd yn gwybod bod y sector hwnnw'n gwneud llawer iawn o waith ochr yn ochr â Cyfoeth Naturiol Cymru wrth iddynt wneud eu gwaith hwy.

Cawsom gyfarfod ychydig wythnosau yn ôl yma yn y Senedd, ac roedd yn ymwneud yn bennaf â'r cynigion presennol ynghylch yr ailstrwythuro a'r toriadau sy'n gysylltiedig â Cyfoeth Naturiol Cymru. Roeddwn eisiau bod yn glir fod yna bryderon difrifol wedi'u mynegi gan aelodau'r grŵp trawsbleidiol ynghylch gallu gweithredol CNC yn y dyfodol, ynghylch y toriadau arfaethedig y mae Aelodau eisoes wedi'u hamlinellu yn y Siambr y prynhawn yma, ond yn enwedig yr effaith ar fynediad cyhoeddus a darpariaeth hamdden—soniodd Janet Finch-Saunders am hyn hefyd—yn ogystal â rheolaeth a chynnal seilwaith presennol ar y safleoedd hyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod y sefydliadau yn y grŵp trawsbleidiol yn sicr yn deall rhai o'r problemau a'r rhesymeg y tu ôl i rywfaint o hyn, ac maent hefyd am fod yn rhan o'r ateb i ddarparu cefnogaeth. Ond maent wedi mynegi pryderon fod biwrocratiaeth ormodol o fewn CNC mewn perthynas â grwpiau cymunedol i gefnogi rhai o'r safleoedd hyn, ac rwy'n credu y byddent yn falch o ddeall sut y gellid dileu peth o'r fiwrocratiaeth honno. Oherwydd fe wyddom ei bod hi'n bwysig fod pobl yn gallu cael mynediad at y mannau hyn, gyda llawer ohonynt dan reolaeth CNC, gan y gwyddom eu bod yn chwarae rhan enfawr yn hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â gwneud cynnig twristiaeth Cymru hyd yn oed yn well ac yn fwy deniadol.

Cefais fy nharo gan sylwadau Cadeirydd y pwyllgor, ac yn briodol ddigon, fe siaradodd am y rôl bwysig sydd gan CNC yn diogelu'r amgylchedd. Mae hynny'n hollol gywir. Ond mae gan CNC rôl hefyd yn hyrwyddo'r amgylchedd sydd gennym o'n cwmpas, a'r defnydd o'r amgylchedd hwnnw, fel bod pobl yn gorfforol iach, ac yn gallu cael mynediad at y mannau hynny i helpu eu hiechyd meddwl hefyd.

Lywydd, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod y grŵp trawsbleidiol wedi ysgrifennu llythyr—mae ar ei ffordd ato nawr, os nad yw eisoes wedi cyrraedd—yn amlinellu'r pwyntiau hyn yn fanylach. Ond hoffwn glywed heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei ymateb, am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar edrych ar effaith toriadau yn y meysydd, fel y disgrifiwyd, ac a fyddai'n fodlon cyfarfod â mi, yn rhinwedd fy swydd fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, i drafod y pwyntiau hyn yn fanylach. Diolch yn fawr iawn.

17:05

Diolch i Llyr Gruffydd, y pwyllgor a'r tîm clercio ac ymchwil am y gwaith cynhwysfawr maen nhw wedi'i wneud yn yr adroddiad yma. Pan oedd y Llywydd presennol yn Weinidog dros Faterion Gwledig, sawl blwyddyn yn ôl bellach, fe ddangosodd Cymru weledigaeth ac arweiniad sydd wedi esgor ar ddiwydiant sydd yn werth cannoedd o filiynau o bunnoedd bellach i'r economi Brydeinig, sef beicio mynydd lawr elltydd—downhill mountain biking. Oherwydd gellir dweud i hyn ddechrau yng nghanolfan godidog Coed y Brenin, ger Ganllwyd, Meirionnydd. Os nad ydych chi wedi bod yno, Ysgrifennydd Cabinet, yna mi fuaswn i'n eich annog chi i ymweld â'r lle. Mae o'n wirioneddol odidog o le, ac mae o wedi magu statws ac enw sydd yn cael eu hadnabod yn rhyngwladol. Yn ôl Llywodraeth yr Alban, mae beicio mynydd lawr allt yn cyfrannu hyd at £150 miliwn at economi'r wlad. Does yna ddim asesiad cyffelyb wedi cael ei wneud yma yng Nghymru eto, ond gellir bod yn sicr bod y sector yma yn cyfrannu gwerth degau o filiynau o bunnoedd, beth bynnag arall, i economi Cymru.

Ond mae man geni'r sector yma, crud y sector, sydd yn parhau i fod yn atyniad poblogaidd, sef Coed y Brenin, bellach o dan fygythiad. Pan ysgrifennwyd yr adroddiad yma, roedd yna ansicrwydd ynghylch dyfodol y canolfannau ymweld. Mae pethau wedi newid bellach, ac mae'r corff, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn edrych i gau canolfannau ymwelwyr Coed y Brenin, Nant yr Arian—canolfan beicio arbennig arall, gyda llaw—ac Ynyslas, er mwyn gwneud arbedion o £1.2 miliwn y flwyddyn ariannol yma. Er mai edrych i gau'r canolfannau ymwelwyr mae Cyfoeth Naturiol Cymru, y gwir ydy y byddai cau'r canolfannau ymwelwyr yn cael effaith andwyol ar y llefydd yma fel atyniadau i ymwelwyr, ac yn effeithio ar waith cynnal a chadw'r llwybrau hefyd. Er nad ydym ni'n gwybod beth ydy gwerth ariannol beicio mynydd lawr allt i economi Cymru, mae asesiad wedi cael ei wneud o werth economaidd y canolfannau yma i economi canolbarth Cymru, ac maen nhw'n cyfrannu hyd at £67 miliwn i economi'r rhanbarth.

Rwy'n deall bod Cyfoeth Naturiol Cymru o dan bwysau ariannol sylweddol, ond mae grwpiau lleol, profiadol a deallus yn barod i gydweithio efo'r corff er mwyn cymryd yr asedau yma ymlaen. Y drafferth ydy fod amserlen dynn iawn wedi cael ei gosod ar Gyfoeth Naturiol Cymru, a bydd staff y canolfannau ymwelwyr yn cael eu gwneud yn ddi-waith erbyn mis Ebrill. Unwaith y bydd hyn yn digwydd, a'r canolfannau'n cau, yna bydd yn anos ailagor y canolfannau, ac felly, wrth gwrs, mae amser yn brin.

Os ydym ni am warchod y perlau yma, sydd yn denu cynifer o bobl, a sicrhau eu bod nhw yn parhau i gyfrannu dwsinau o filiynau o bunnoedd i economi'r rhanbarth, yna mae'n rhaid i'r Llywodraeth gamu i'r adwy. Y cais, felly, sydd gen i i chi, Ysgrifennydd Cabinet, ydy i chi a'r Llywodraeth roi'r £1.2 miliwn angenrheidiol yma i Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cynnal y canolfannau am y flwyddyn hon, a rhoi amser i'r cwmnïau roi cynllun busnes ynghyd, ac i fynychu a bod yn rhan o'r broses dendro, heb fod y canolfannau yn cau. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno mai cyfraniad bach iawn fyddai hynny er mwyn cynnal yr atyniadau gwerthfawr yma.

Yn olaf, dwi am ddiolch i'r pwyllgor hefyd am gymryd yr amser i edrych ar yr ardaloedd draenio mewndirol. Mae arnaf ofn fod polisi'r Llywodraeth ar amddiffyn rhag llifogydd wedi profi i fod yn wrthgynhyrchiol. Wrth flaenoriaethu eiddo a phobl yn unig, canlyniad hynny ydy nad ydy afonydd a nentydd yn cael eu carthu. Mae hyn yn niweidiol ar draws Cymru gan ei fod yn golygu bod dŵr yn bacio yn ôl a ddim yn llifo allan i’r môr i’r graddau y dylai, gan fod gwely a cheg yr afon yn llawn silt. Ond mae’n waeth fyth mewn ardaloedd draenio mewnol. Mae'n rhaid, felly, edrych unwaith eto ar y polisi yma, a sicrhau buddsoddiad cyfalaf ar gyfer gwaith hirdymor neu edrych eto ar yr holl gyfundrefn gan rymuso tirfeddianwyr er mwyn iddyn nhw fedru cario allan y gwaith angenrheidiol.

Felly, fe hoffwn glywed beth ydy bwriadau'r Gweinidog yn y meysydd yma. Diolch, Llywydd.

17:10
Member (w)
Huw Irranca-Davies 17:10:37
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor, a hefyd i'r siaradwyr eraill heddiw sydd wedi siarad yn huawdl ac yn angerddol iawn, naill ai ar faterion lleol neu ar faterion penodol o ddiddordeb, ond hefyd ar faterion strategol yn gysylltiedig â CNC. A gadewch imi ddweud ar y dechrau, a gaf i ategu'r sylwadau sydd wedi'u gwneud am staff CNC, sy'n gweithio'n galed bob dydd i helpu i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol? Mae llawer o siaradwyr wedi gwneud y pwynt hwnnw heddiw ac rwy'n ei adleisio. Y peth arall yr hoffwn ei adleisio yw bod mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur yn rhan allweddol o amcanion y Llywodraeth hon, i mi yn bersonol, a hefyd i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae gennym ran i'w chwarae yn yr hyn a wnawn.

Rydym yn boenus o ymwybodol, fel y gwelsom mewn dadleuon yn gynharach yr wythnos hon, o'r risgiau y mae pobl a natur yn eu hwynebu, o lifogydd i lygredd afonydd, i batrymau tywydd mwy eithafol a mwy, a staff CNC sydd ar flaen y gad yn ymdrin â'r argyfyngau hyn yn ein gwlad ni. Gyda llaw, rwy'n croesawu gwaith craffu'r pwyllgor a'r sylwadau a wnaed heddiw, yn enwedig yng ngoleuni'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'n rhaid inni gael rheoleiddiwr cryf ac effeithiol i ddiogelu'r byd naturiol. Mae o'r pwys mwyaf, a dyna pam ei bod hefyd yn bwysig o ran y swyddogaeth adrodd fod CNC a'i dîm arweinyddiaeth yn cael eu craffu a'u dwyn i gyfrif ynghylch y modd y mae'n cyflawni ei swyddogaethau deddfwriaethol a statudol, a hynny mewn cyfnod heriol yn enwedig. Felly, gadewch imi droi yn gyntaf at fanylion yr adroddiad, ac fe geisiaf fynd i'r afael â rhai o'r materion a godwyd, Lywydd, ond nid wyf yn credu y gallaf wneud pob un ohonynt o fewn yr amser sydd ar gael i mi. Rydym wedi cael nifer o siaradwyr, ond fe ngwnaf fy ngorau.

Mae'r pwyllgor wedi gwneud 13 o argymhellion, gyda 10 ohonynt wedi'u derbyn, ac ni chafodd y tri arall eu derbyn, ond gyda rhesymau a nodwyd gennym yn ein hymateb ysgrifenedig. Fe wnaethom gyhoeddi'r ymateb ysgrifenedig llawn i adroddiad y pwyllgor ar 4 Gorffennaf, ac yn gyntaf, gadewch imi ymdrin ag argymhellion 1, 2 a 9, sef y rhai na chawsant eu derbyn. Roedd argymhelliad 9 yn ymwneud â CNC yn rhoi diweddariad i'r pwyllgor ar gynnydd y gwaith o ddatblygu targedau bioamrywiaeth statudol. Nid yw wedi'i dderbyn am mai Llywodraeth Cymru yn hytrach na CNC sy'n gyfrifol am hyn, ac rydym wedi rhoi rhagor o fanylion yn yr ymateb ysgrifenedig ynglŷn â sut y byddwn yn bwrw ymlaen â hynny.

Roedd argymhellion 1 a 2 yn canolbwyntio ar gytundeb lefel gwasanaeth CNC. Fel yr eglurwyd, oherwydd bod y ffocws bellach ar gynllunio aml-flwyddyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno â CNC i roi'r gorau i broses y cytundeb lefel gwasanaeth. Felly, nid yw'r ddau argymhelliad cysylltiedig wedi eu derbyn, a Janet, fe gyfeirioch chi at y dystiolaeth a roddwyd gan Prys Davies, ei fod yn dweud bod hyn

'yn rhannol oherwydd pwysau ariannol'.

Aeth ymlaen i ddweud ei fod hefyd yn ymwneud â'r 

'gwaith y mae CNC eisiau ei wneud o ran ymwreiddio’r cynllun corfforaethol,'

y dywedodd y cadeirydd wrth y pwyllgor, pan ymddangosodd o'i flaen, ei bod yn foment seismig—y bu hir ddisgwyl amdani, fel y dywedodd pobl, ond moment seismig. Ac aiff Prys Davies yn ei flaen,

'datblygu’r dangosyddion strategol, edrych eto ar ei drefniadau fframwaith perfformiad a’i brosesau adrodd.'

Felly, byddem yn cytuno â hynny. Bydd CNC yn nodi'r lefel o adnoddau sydd eu hangen i'w gwneud hi'n bosibl cyflawni amcanion ei gynllun corfforaethol yn llwyddiannus, a bydd fy swyddogion yn profi'r dull hwn trwy gydol 2025 a 2026. Bydd CNC yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am ddatblygiad y dangosyddion strategol a'r metrigau perfformiad yn ddiweddarach eleni, sy'n ymwneud ag argymhelliad 3 o adroddiad y pwyllgor, sydd wedi'i dderbyn, ac sy'n clymu hynny gyda'i gilydd yn ein rhesymeg.

Roedd rhan sylweddol o adroddiad y pwyllgor yn canolbwyntio, yn ddealladwy, ar sefyllfa ariannol CNC, rhywbeth a nodwyd gan lawer o'r Aelodau heddiw, ac sy'n ymwneud ag argymhellion 4 i 7, y mae pob un ohonynt wedi'u derbyn gennym. Nid oes amheuaeth fod sefyllfa gyllidebol CNC wedi bod ac yn parhau i fod yn heriol, ond bydd yr Aelodau'n ymwybodol nad ydym yn cael y drafodaeth hon mewn gwagle. Mae'n bwysau cyllidebol sy'n wynebu pob un o'n cyrff sector cyhoeddus, oherwydd y darlun economaidd ledled y DU—ac nid oes unrhyw sefydliadau, gan gynnwys CNC, wedi'u heithrio o'r sgyrsiau cyllidebol a'r penderfyniadau cyllidebol anodd iawn y mae'n rhaid eu gwneud.

Felly, fel y gwyddom, ym mis Gorffennaf, dechreuodd CNC y broses ymgynghori ffurfiol gyda'r undebau llafur mewn perthynas â'i raglen arfaethedig ar gyfer yr achos dros newid. Daeth hyn wedi'r adroddiad, ac yn y blaen, ond maent wedi dechrau arni. Mae'r rhaglen yn amlinellu sut y gellir ail-lunio CNC fel y gall weithredu o fewn y gyllideb sydd ar gael. Rhan allweddol o'r gwaith hwn yw canolbwyntio'r adnoddau hynny ar ei swyddogaethau statudol a rheoleiddiol—y rhai sy'n gysylltiedig â'r argyfwng natur a'r argyfwng hinsawdd. Mae'r gwasanaethau hanfodol hyn, sy'n hanfodol ar gyfer natur ac i bobl, yn cael eu diogelu, neu wedi eu diogelu i'r graddau y bo'n bosibl gwneud hynny. Mae CNC wedi cynnal asesiad manwl o'i weithgarwch cyfredol yn erbyn y blaenoriaethau—y rhai a nodwyd yn y strategaeth gorfforaethol—i asesu lle gellir lleihau capasiti i fynd i'r afael â bwlch cyllido sy'n fwlch cyllido real o £13 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025-26. 

Daeth ymgynghoriad ffurfiol CNC gyda'i undebau llafur i ben ar 13 Medi. Mae bellach yn adolygu'r adborth i benderfynu a oes angen unrhyw newidiadau, gan barhau i ymateb i'w heriau cyllidebol. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda CNC i ddeall effaith a goblygiadau ei gynnig, ac yn enwedig mewn perthynas â darparu'r gwasanaethau rheng flaen hyn a'u rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol, y mae cymaint o Aelodau wedi dweud wrthyf amdanynt, 'Dyna lle mae'n rhaid canolbwyntio'. 

Wedi'i gynnwys yn ei achos dros newid mae'r cynnig i roi'r gorau i ddarparu gwasanaethau manwerthu ac arlwyo yn ei ganolfannau ymwelwyr. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth sydd wedi cael llawer o sylw dros y misoedd diwethaf, gyda llawer o ddefnyddwyr lleol—rhywbeth a adleisiwyd yn y ddadl heddiw—yn mynegi pryderon ynghylch y perygl o gau'r canolfannau. O safbwynt CNC, maent wedi dweud yn glir—maent wedi ailadrodd—nad yw ei ganolfannau ymwelwyr yn cau ac y bydd y safleoedd yn aros ar agor ar gyfer yr holl weithgareddau a ddisgrifiwyd—cerdded, beicio, mannau chwarae, cyfleusterau parcio a thoiledau.

Ond maent yn ystyried llu o opsiynau posibl y maent wedi'u gwneud yn glir ar gyfer manwerthu ac arlwyo, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer busnesau lleol a gweithio mewn partneriaeth gyda grwpiau cymdeithasol a chymunedol er enghraifft—mae gan rai ohonynt ddiddordeb—a fydd mewn sefyllfa well i ddarparu'r gwasanaethau hyn i gadw'r gweithgareddau hynny i fynd. Hoffwn eu gweld yn cael eu cadw i fynd, heb amheuaeth. Ond unwaith eto, o ystyried y cyllidebau tynn sy'n cyfyngu ar wasanaethau cyhoeddus y mae ein sefydliadau cyhoeddus yn eu hwynebu yn gyffredinol, mae gwir angen—[Torri ar draws.] Un eiliad. Mae gwir angen i CNC ganolbwyntio ar y swyddogaethau statudol a rheoleiddiol craidd, a'u gwarchod. Sam, rwy'n ildio.

17:15

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ymyriad cyflym ar y pwynt ynghylch gweithio gyda grwpiau cymunedol, sefydliadau'r trydydd sector neu'r sector preifat sydd am ymgymryd â pheth o'r gwaith hwnnw, efallai. A fyddwch chi'n gallu ymrwymo i sicrhau, oherwydd yr amserlenni tynn sy'n bodoli ar hyn o bryd, na fydd y broses hon yn cael ei hoedi, fel nad ydym yn gweld sefyllfa lle bydd rhai pethau'n cau efallai, oherwydd yr amserlenni tynn, gyda bwlch tra bo'r broses gaffael yn digwydd—fel nad ydym yn gweld hynny'n digwydd, a'i fod yn bontio llyfn os oes angen? 

Rwy'n credu bod y pwynt hwnnw wedi dod drosodd yn glir gan lawer o sefydliadau allan yno sydd eisiau gweld pontio llyfn—os gallant lunio achosion i redeg y cyfleusterau hyn, ni fyddant eisiau bwlch yn y canol. Rwy'n credu bod hynny'n glir iawn i CNC, ac yn sicr mae fy swyddogion wedi bwydo hynny yn ôl hefyd, yn seiliedig ar rai o'r pryderon y tynnodd y cyhoedd ein sylw atynt. Felly, maent yn ymwybodol iawn o hynny, Sam, ond diolch am ei godi.

I droi at yr argymhellion sy'n weddill yn yr adroddiad—oherwydd rydym wedi ymdrin â llawer o bethau yn y ddadl yma heddiw ac mae rhai eiliadau'n weddill—maent yn canolbwyntio ar feysydd gwaith penodol, ac rydym wedi derbyn pob un ohonynt. O ran cadwraeth bioamrywiaeth, rydym yn edrych ar ffyrdd o gydlynu ein harian yn well ar hynny. O ran datblygu dull newydd o ymdrin â chyllid cynaliadwy ar gyfer adfer natur, yn seiliedig ar egwyddorion buddsoddi cynaliadwy cadarn, rydym yn gweithio ar hynny. Rwy'n edrych ymlaen at ddod gerbron y pwyllgor a siarad ychydig mwy am hynny, oherwydd nod yr egwyddorion hyn fyddai cynyddu ac arallgyfeirio'r cyllid sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a'r pwysau sy'n arwain at golli bioamrywiaeth. Ac rwy'n credu ei fod yn gydnabyddiaeth, gyda llaw, na fydd gennym fyth ddigon o arian o boced y trethdalwr i gyflawni'r her sydd o'n blaenau'n llawn, felly mae angen inni edrych yn greadigol ar egwyddorion moesegol da iawn i allu dod â chyllid ychwanegol i mewn iddo. 

Lywydd, mae llygredd amaethyddol yn parhau i fod yn un o brif achosion llygredd yng Nghymru, felly mae'n rhaid inni weithio gyda phob sector. Rydym yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid ynghylch mater cymhleth llygredd gan ffermwyr. Rydym yn darparu mwy o gyllid grant i gefnogi ffermwyr yn y maes hwn. Rydym yn addasu ein ffordd ymlaen gyda'r uwchgynadleddau afonydd hefyd er mwyn canolbwyntio'n iawn ar y canlyniadau yr hoffem eu gweld yn cael eu cyflawni. Ac mewn gwirionedd, cawsom y bumed o'r uwchgynadleddau hyn yn Sioe Frenhinol Cymru, wedi'i chyd-gadeirio gan y Prif Weinidog. Ac wrth gwrs, rydym yn cynnal yr adolygiad o reoliadau llygredd amaethyddol ar hyn o bryd gyda'r cadeirydd annibynnol newydd. 

Mae fy amser wedi dod i ben. A gaf i orffen drwy ddiolch i'r pwyllgor am ei waith craffu diwyd a'r Aelodau sydd wedi siarad heddiw? Bydd y pwyntiau wedi cael eu clywed, nid yn unig gennyf i a fy swyddogion, ond gan CNC, wrth iddynt fynd drwy broses anodd o weithio gyda'r undebau llafur, ac edrych ar yr achos dros newid y maent yn ei gyflwyno, gan gydnabod hanfodion lluosog yr hyn y maent yn ceisio ei wneud, ond gan ganolbwyntio ar y gofynion statudol a chyfreithiol sydd ganddynt i'n helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Nid yw'n dasg hawdd, ond nid oes unrhyw dasg sy'n wynebu unrhyw un o'n cyrff cyhoeddus ar hyn o bryd yn hawdd. Diolch, Lywydd.

17:20

Yn amlwg, dwi eisiau diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r drafodaeth y prynhawn yma. Fyddaf i ddim yn mynd trwy bopeth mae pawb wedi ei ddweud, ond, yn amlwg, mae yna themâu cyson yn dod trwyddo, fel roedd llefarydd y Ceidwadwyr yn ei ddweud.

Mae CNC wedi bod ar lwybr anghynaladwy yn rhy hir: mae mwy a mwy o gyfrifoldebau'n cael eu taflu i'w cyfeiriad, llai a llai o adnoddau i gyflawni'r rheini. Roedd y cytundebau lefel gwasanaeth yn ffordd effeithiol o fynegi i'r Llywodraeth, i CNC, ac i'r cyhoedd yn ehangach, 'Dyma beth y mae'r Llywodraeth yn disgwyl i chi ei gyflawni am yr arian hwn'. Rwy'n credu bod symud oddi wrth hynny yn ein gadael mewn limbo, yn nhir neb, lle mae CNC yn ceisio mynd o un toriad i'r llall, gan benderfynu yn union beth yw eu blaenoriaethau yn erbyn faint yn union o arian sydd ganddynt. Felly, rwy'n credu ei bod yn anffodus nad ydym yn debygol o weld symud i'r cyfeiriad hwnnw'n fuan, ond fel y dywedaf, fel pwyllgor, byddwn yn ddiwyd wrth edrych ar ba fodelau bynnag a gaiff eu defnyddio i ariannu'r sefydliad.

Fel roedd Delyth yn ei ddweud, un allbwn amlwg yw y sefyllfa staffio ddyrys mae'r corff yn ei hwynebu. Rŷn ni fel Aelodau a fel pwyllgor eisiau deal beth yw blaenoriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru, yn symud ymlaen, sydd, wrth gwrs, yn rhoi cyd-destun wedyn i'r diswyddiadau yma—265 o swyddi sy'n cael eu torri. Beth sy'n cael ei warchod, beth fydd yn cael llai o adnodd, beth fydd yn cael llai o bwyslais arno fe o safbwynt delifro gwasanaethau? Y tristwch, mae'n ymddangos i fi hefyd, yw dwi ddim yn siŵr os yw'r staff eu hunain yn gwybod beth yw'r cynllun ehangach.

Mae yna rai wedi cysylltu â fi yn dweud wrthyf fi, 'Dŷn ni ddim yn gwybod siwd ŷn ni'n mynd i ffitio mewn. Maen nhw dweud wrthym ni bydd yna bosibilrwydd i chi ymgeisio am swyddi pan fydd y broses yma yn rhedeg ei chwrs, ond dwi ddim yn gwybod os dwi'n mynd i ffitio mewn i'r blaenoriaethau, achos dwi ddim yn gwybod beth ŷn nhw'. Felly, mae yna gwestiwn yn fanna, dwi'n meddwl, sydd angen ei ateb.

Wrth gwrs, mae'r rhain yn heriau sydd yn cael eu hwynebu ar draws y sector gyhoeddus yng Nghymru, ac fe'n hatgoffwyd ni dyw awdurdodau lleol ddim yn anghyfarwydd â phwysau tebyg. Ond mae yna impact ddwbl wedyn, onid oes e, pan fo awdurdod lleol yn torri adnoddau llifogydd, a Cyfoeth Naturiol heb adnoddau llifogydd digonol, mae e'n effaith ddwbl, ac felly mae'r impact yn waeth.

Ond ŷn ni wedi clywed sawl enghraifft o ganlyniadau, goblygiadau ymarferol y toriadau hyn, boed yn gynlluniau mynediad yn Nyffryn Gwy i ymateb i lifogydd yn y cymoedd, a'r diffyg staffio yn y cyd-destun yna. Yr impact ar y SSSIs, sydd ddim yn cyrraedd y lefel y dylai nhw fod yn eu cyrraedd, yn sicr, o hynny, a'r effaith ar weithgarwch awyr agored hefyd. Yr ateb, wrth gwrs, yng Nghoed y Brenin, ac mewn mannau eraill, yw i Cyfoeth Naturiol Cymru ymrwymo i beidio â diddymu a chau'r gwasanaeth tan bod yna drefniadau amgen yn eu lle. Dwi'n siŵr y byddai hynny yn diwallu peth o'r gofid.

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddyletswyddau a chylch gorchwyl sy'n wahanol iawn i'r cyrff rhagflaenol, y cyrff oedd yn dod o'i blaen hi, ac mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a deddfwriaeth arall wedi golygu bod y rôl Cyfoeth Naturiol Cymru efallai'n un sy'n anodd i'w chymharu â rolau y cyrff ddaeth o'i blaen hi. Ond y cwestiwn sydd gyda fi i'w ofyn yw: gyda'r toriadau yma'n digwydd, beth yw'r rôl a'r remit yna sy'n torri trwyddo? Beth fydd ar ôl ar ôl y toriadau yma, ac i ba raddau mae'r Llywodraeth yn gyrru y weledigaeth yna yn hytrach nag efallai ei adael e i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru i flaenoriaethu yr hyn y maen nhw yn teimlo sydd ei angen?

Dwi'n meddwl fy mod i'n iawn i ddweud bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli tua 7 y cant o arwynebedd Cymru, felly yn hynny o beth, mae dylanwad y corff jest mor bellgyrhaeddol. Ac nid dim ond mewn cyd-destun amgylcheddol, ond mewn cyd-destun economaidd, cymdeithasol, diwylliannol, addysgiadol, iechyd cyhoeddus, ac yn y blaen ac yn y blaen.

Mae yna sawl neges wedi cael eu cyfleu gan Aelodau fan hyn yn y ddadl yma prynhawn yma. Mae'r pwyllgor wedi cyfleu neges glir ynglŷn â sicrhau bod Cyfoeth Naturiol mewn sefyllfa i weithredu ac i gyflawni ei dyletswyddau'n effeithiol, a dwi'n hyderu'n fawr bod yr Ysgrifennydd Cabinet, y Llywodraeth, a bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru'n gwrando'n astud iawn y prynhawn yma.

17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau offthalmoleg

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Eitem 7 sydd nesaf, felly. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig yw hon ar wasanaethau offthalmoleg, a Sam Rowlands sy'n gwneud y cynnig.

Cynnig NDM8679 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) pryderon a godwyd gan RNIB Cymru bod tua 80,000 o bobl sydd â'r risg uchaf o golli golwg na ellir ei wrthdroi yn aros y tu hwnt i'w dyddiad targed ar gyfer apwyntiad;

b) bod dros 104,000 o lwybrau cleifion yng Nghymru yn aros am apwyntiad offthalmoleg ym mis Ebrill 2024; ac

c) bod Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yn amcangyfrif bod disgwyl i'r galw am wasanaethau gofal llygaid yng Nghymru gynyddu 40 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf.

2. Yn gresynu:

a) bod y cynnydd mwyaf yn nifer y llwybrau cleifion sy'n aros dros flwyddyn mewn offthalmoleg;

b) bod y gweithlu offthalmig wedi gweld gostyngiad o 2 y cant yn ei weithlu ynghyd â chynnydd o 56 y cant mewn atgyfeiriadau yn ystod y degawd diwethaf; ac

c) nad yw'r system cofnod ac atgyfeiriad cleifion electronig, a lansiwyd gyntaf yn 2021, yn weithredol ledled Cymru o hyd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) derbyn argymhellion y Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Offthalmoleg ac ymrwymo i wneud y buddsoddiad angenrheidiol i atal gwasanaethau gofal llygaid rhag chwalu'n ddiymatal ledled Cymru;

b) pennu targedau a therfynau amser ar gyfer gwella ôl-groniadau rhestrau aros, gan sicrhau bod cleifion sy'n aros yn cael neges am eu risg glinigol; ac

c) cyhoeddi amserlen ar gyfer datblygu a chyflwyno'r system cofnod ac atgyfeiriad cleifion electronig.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Mae'n bleser agor y ddadl hon ar ran y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw Darren Millar ar y papur trefn.

'Ton fawr o ddallineb'—dyna rybudd llwm gan feddyg blaenllaw am gyflwr gofal llygaid yma yng Nghymru. A gadewch inni beidio ag anghofio, daw hynny ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae dros 80,000 o bobl yng Nghymru yn wynebu'r risg uchaf o golli golwg na ellir ei wrthdroi, a gofal llygaid yw'r rheswm pam y mae un o bob wyth claf ar restr aros GIG Cymru. 

Mae nifer y cleifion offthalmoleg sy'n aros y tu hwnt i'w dyddiad targed wedi mwy na dyblu yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac yn ystod y degawd diwethaf, mae atgyfeiriadau at wasanaethau offthalmig wedi cynyddu dros 50 y cant. Ond nid yw'r gweithlu, wrth gwrs, wedi gweld cynnydd cyfatebol, gan roi straen aruthrol ar wasanaethau iechyd ac ar y bobl sy'n gweithio mor galed ar y rheng flaen.

Amcangyfrifir bod gan 69,000 o bobl yng Nghymru ryw fath o retinopathi diabetig, gydag offthalmolegydd ymgynghorol yn Abertawe'n dweud,

'Rydym yn llenwi clinigau yn gyflymach nag y gallwn eu staffio'.

Dywedodd yr RNIB fod disgwyl i'r galw am wasanaethau gofal llygaid godi cymaint â 40 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf, gan roi mwy fyth o bwysau ar wasanaeth sydd eisoes yn gwegian o dan straen aruthrol rhestrau aros hir a seilwaith hen ffasiwn.

Aelodau, mae'r niferoedd yn syfrdanol, ond yr hyn sy'n drasig yw'r straeon personol y mae pawb ohonom, rwy'n siŵr, yn clywed amdanynt yn ein mewnflwch a thrwy alwadau ffôn. Yn rhy aml, gall trafodaethau yn y lle hwn deimlo'n ddamcaniaethol, ymhell o realiti bywydau pobl, ond gadewch inni beidio ag anghofio mai penderfyniadau Gweinidogion yn y lle hwn sy'n cael effaith lem ar y bobl y cawn ein hethol i'w cynrychioli. 

Fe wnaeth unigolyn gysylltu â mi yr wythnos hon yn dweud eu bod ar restr aros am lawdriniaeth gataract mewn ysbyty yng ngogledd Cymru. Cawsant wybod bod amser aros o ddwy flynedd a hanner am y llawdriniaeth. Gall y ddwy flynedd a hanner honno gael effaith enfawr ar fywyd rhywun. Mae'n eu newid, nid yn unig dros y ddwy flynedd a hanner honno, ond am byth; mae'n golygu y gallant fynd yn ddall pan nad oes raid i hynny ddigwydd, gallant golli eu golwg.

Ond mae'n ymwneud â mwy na'r golwg yn unig. Mewn cymaint o amgylchiadau, yn anffodus, fe wyddom fod diffyg gweithredu ar golli golwg graddol y gellir ei drin yn rhwydd iawn yn cael effaith enfawr ar rannau pwysig eraill o'n bywydau. Os na chaiff y pethau hyn eu trin yn gyflym, gall fod effaith sylweddol ar iechyd meddwl y rhai sy'n dioddef, a'u teuluoedd wrth gwrs, a risg o fwy o unigrwydd wrth i bobl ei chael hi'n anos mynd i fannau y gallent fynd iddynt yn y gorffennol. Rydym yn ymwybodol o'r effeithiau ar iechyd corfforol drwy gynnydd mewn cwympiadau pan na chaiff llygaid pobl sylw iawn, ac wrth gwrs, mae yna effaith economaidd i'r rhai nad ydynt yn gallu parhau i weithio. Mae'n dangos pa mor bwysig yw ffocws ar ofal iechyd llygaid priodol.

O fewn hyn oll, gadewch inni beidio ag anghofio bod modd trin colli golwg yn aml iawn, ond bod pobl yn colli eu golwg oherwydd eu bod yn aros yn rhy hir ar y rhestrau hyn, sy'n gyfrifoldeb i Weinidogion Llafur yn y lle hwn yn y pen draw. Heb unrhyw amheuaeth, mae'r sefyllfa hon ar bwynt argyfwng. Ond nid wyf wedi fy argyhoeddi bod y Blaid Lafur yma yng Nghymru yn deall pwysigrwydd yr argyfwng a wynebwn yma heddiw. 

Darllenwn mewn cyfweliad yn y Western Mail heddiw fod cwestiwn penodol i Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn, os oedd claf yn Abertawe yn aros am lawdriniaeth cataract, pam na ddylid caniatáu iddynt gael y llawdriniaeth honno yn swydd Amwythig, lle byddent yn cael eu gweld fisoedd, neu, gadewch inni fod yn onest, flynyddoedd hyd yn oed, yn gyflymach. Ac am ryw reswm, ni chafodd y cwestiwn ymateb cadarnhaol iawn gan Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n ymddangos bod yna gefnu ar ymrwymiad a glywsom gwta wythnos yn ôl am weithio'n agosach yn drawsffiniol â chydweithwyr yn Lloegr, yn hytrach na bod croeso i'r cymorth trawsffiniol y gwyddom ei fod mor bwysig. Mae'n ymddangos yn wallgof i mi. Ni allaf ei ddeall. Pam na fyddem eisiau i bobl yng Nghymru gael eu gweld yn gyflymach os yw'r cyfle yno i wneud hynny?

Mae'n ymwneud â mwy na chysylltiadau trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr yn unig; collir cyfleoedd i weithio gyda sectorau eraill, boed yn elusennau, y sector preifat, neu eraill sy'n gweithio ar y rheng flaen.

Yn ddiweddar, ymwelais â Specsavers yng ngogledd Cymru, ym Mrychdyn, sy'n gweithio i drin pobl â phroblemau llygaid. Ac ar lefel genedlaethol, maent am allu darparu cymorth, drwy hyfforddi a datblygu optometryddion, fel y maent wedi'i wneud mewn rhannau eraill o'r DU. Gall sefydliadau o'r fath helpu i dynnu'r straen oddi ar y GIG, a sicrhau bod pobl yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl yn lle aros, yn llythrennol, am flynyddoedd. Treuliais amser gyda'r RNIB yn Llandudno dros doriad yr haf. Cefais y fraint o gerdded o gwmpas y dref gyda chynrychiolydd o'r RNIB yn gwisgo set o gogls a oedd yn fy ngalluogi i weld pethau fel y maent hwy'n gweld pethau o gwmpas y dref. Fe wnaeth fy helpu i ddeall eu profiad. Ac maent yn ysu am chwarae rhan bwysig yn cynorthwyo i atal pobl rhag colli eu golwg.

Felly, yn fyr, yn fy marn i, mae angen i agwedd y Blaid Lafur newid, i groesawu dewis cleifion a chefnogi eraill. Felly, galwn ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu mesurau i fynd i'r afael â'r problemau dwys sy'n effeithio ar ofal iechyd llygaid yng Nghymru. Ac i ddechrau, dylai Llywodraeth Cymru dderbyn argymhellion y strategaeth glinigol genedlaethol ar gyfer offthalmoleg a gwneud y buddsoddiad sydd ei angen er mwyn atal gwasanaethau gofal llygaid ledled Cymru rhag chwalu'n llwyr.

Rydym hefyd yn galw ar Weinidogion yma i osod targedau a therfynau amser ar gyfer gwella ôl-groniadau rhestrau aros, ac i gyhoeddi amserlen ar gyfer datblygu a chyflwyno system electronig ar gyfer cofnodi ac atgyfeirio cleifion mewn gwasanaeth iechyd gwirioneddol fodern. Ac rydym o'r farn y gellir gwneud hyn trwy weithio ar draws sectorau a thrwy weithio ar draws Llywodraethau, gan roi dewis i bobl er mwyn sicrhau nad yw pobl yng Nghymru yn dioddef yn ddiangen ar restrau aros. Heb amheuaeth, mae'n waith mawr. Ond mae'n rhaid iddo ddechrau yn rhywle, ac mae'n rhaid iddo ddechrau nawr. Byddai unrhyw beth llai yn parhau'r cam a wneir â phobl Cymru yn ddiangen ac yn drist. Rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr iawn.

17:30

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod nad yw amseroedd aros offthalmoleg yn cynrychioli dymuniadau Llywodraeth Cymru na'r cyhoedd yn hyn o beth.

2. Yn nodi bod nifer y llwybrau offthalmoleg a oedd yn aros mwy na dwy flynedd ar ddiwedd mis Gorffennaf 2024 44 y cant yn is na’r uchafbwynt ym mis Mawrth 2022.

3. Yn cydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud gan Weithrediaeth y GIG a'r rhwydwaith clinigol offthalmoleg i ddiwygio llwybrau offthalmoleg ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd.

4. Yn croesawu'r diwygiadau i optometreg, sy'n golygu bod optometryddion cymunedol bellach yn gallu rhoi diagnosis, trin, a rheoli mwy o bobl ym maes gofal sylfaenol, gan ddarparu mynediad cyflymach a haws.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd, a diolch i Sam Rowlands am gyflwyno y ddadl amserol yma, ac mi fyddwn ni yn ei gefnogi. Oherwydd fel mae geiriad y cynnig yn awgrymu, mae gwasanaethau offthalmoleg ar y dibyn, a does yna ddim amser i golli er mwyn adfer y sefyllfa. Yn wir, mae’r ffaith bod cyn-lywydd Pwyllgor Cymru Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr wedi disgrifio’r strategaeth genedlaethol newydd fel

'y cyfle olaf sydd gennym i gynllunio dyfodol hyfyw ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru',

a'r llywydd presennol wedi rhybuddio bod yna

 'ton fawr o ddallineb'

yn ein hwynebu yn tanlinellu’r brys yma. Ac wrth edrych ar gyflwr gofal llygaid yn ein gwasanaeth iechyd, yna does yna ddim syndod o gwbl eu bod nhw wedi dod i’r casgliad hwn. Mae tua un o bob wyth o bobl sydd ar restr aros yno oherwydd anghenion offthalmoleg. Hyn, felly, ydy’r arbenigedd gyda’r pwysau mwyaf dwys o fewn y gwasanaeth iechyd. O ganlyniad i hyn, mae llai na hanner y cleifion sydd â’r risg uchaf o droi’n ddall yn derbyn eu triniaeth o fewn y dyddiad targed estynedig.

Mae’r sefyllfa yn arbennig o fregus yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ble dim ond 44 y cant o’r cleifion sy’n derbyn triniaeth o fewn y cyfnod estynedig yma. Mae’r rhestr aros o 42,809 yn uwch nag yn unrhyw le arall yng Nghymru. A dwi'n gweld hynny yn fy mewnflwch ac yn fy ngwaith achos i yn wythnosol. Ac fel y mae ymchwil yr RNIB yn ei ddangos yn glir, bydd y pwysau ar wasanaethau offthalmoleg dim ond yn cynyddu dros y degawdau i ddod, gyda chynnydd mewn achosion glawcoma, dirywiad maciwlaidd a chataractau yn ganlyniad anochel i’r ffaith bod ein poblogaeth yn heneiddio.

Ond fel sy’n gyffredin ar draws sawl rhan o’r sector iechyd, mae’r un hen baradocs niweidiol yn tanseilio ein gwaith paratoadol ar gyfer yr heriau sydd i ddod, sef tra bod y galw ar wasanaethau iechyd yn parhau i gynyddu, mae capasiti y gweithlu yn crebachu, sydd yn dod i’r amlwg o ran y niferoedd staff a’r diffyg gweithredu ar systemau cyfeirio digidol Cymru gyfan.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn ymyriad. Fel y gwyddoch, mae Uned Llygaid Stanley wedi ei leoli yn Ysbyty Abergele, yn fy etholaeth i. Mae'r ysbyty hwnnw'n mynd i gael cyfle i ehangu ei gapasiti o wasanaethau yn y dyfodol, gan fod llawer o'r gweithgarwch orthopedig yno yn cael ei drosglwyddo i ysbyty Llandudno ar hyn o bryd. A wnewch chi ymuno â mi i annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i helpu i glirio ei ôl-groniad trwy fuddsoddi yn Uned Llygaid Stanley i sicrhau bod ganddi gapasiti i ddarparu'r llawdriniaethau ychwanegol y mae pobl eu hangen mor daer? Ac a wnewch chi hefyd ymuno â mi i annog y GIG yn ehangach i ddefnyddio ei adnoddau'n fwy effeithlon trwy ei annog i wneud y ddwy lygad ar yr un pryd, os oes angen llawdriniaethau cataract ar bobl, yn hytrach na mewn apwyntiadau ar wahân, sydd i'w weld yn nonsens i mi?

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

17:35

Mae'r Aelod dros Orllewin Clwyd yn gwneud pwynt arbennig o bwysig. Mae ysbyty Stanley yn darparu gwasanaeth gwych, ac wrth gwrs mi fyddwn i'n cytuno efo'r angen i ehangu'r ddarpariaeth yno a sicrhau bod mwy yn cael ei wneud. Mae yna gwestiwn ehangach yn fanna o ran y ddarpariaeth iechyd a'r diffyg buddsoddi yn yr isadeiledd sydd gennym ni yng Nghymru o ran gwasanaethau. Felly, dwi'n cefnogi'r sylwadau hynny.

Mae'n werth hefyd, wrth gwrs, gofio bod triniaeth llygaid effeithiol a phrydlon yn allweddol ar gyfer yr agenda ataliol, yn enwedig wrth ganfod cyflyrau iechyd eraill yn gynnar, megis diabetes.

Beth sy'n arbennig o siomedig am hyn i gyd, wrth gwrs, ydy'r ffaith taw Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol i ddatblygu targedau penodol ar gyfer y categori uchaf o risg dallineb, ac fel y gwnaethon ni sôn yn ystod ein dadl yr wythnos diwethaf, mi rydyn ni fel Plaid o hyd yn annog targedau clir fel sail i waith llywodraethu effeithiol. Ond unwaith eto, dŷn ni'n gorfod wynebu'r realiti o'r Llywodraeth yma yn methu â phriodi eu bwriadau da gyda chanlyniadau cadarnhaol.

Mae'n greiddiol, felly, fod y strategaeth genedlaethol newydd hon yn cynrychioli trobwynt yn ymdrechion y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r bygythiad sylweddol i ddarpariaeth offthalmoleg yng Nghymru. Yn hyn o beth, mi rydyn ni'n annog y Llywodraeth i weithredu ar unrhyw argymellion ar hyd targedau a meincnodau clir, a darpariaeth adnoddau sy'n gymesur ac anghenion cleifion a staff, yn unol â'r pwynt ddaru Darren Millar ei wneud.

Gan fod tua dau o bob tri o bobl yng Nghymru sy'n dioddef o golled golwg yn ferched, a bod merched, yn enwedig y rhai o gefndir llai breintiedig, yn fwy tebygol o wynebu rhwystrau wrth geisio derbyn triniaeth, mi rydyn ni hefyd yn galw am bwyslais priodol yn y cynllun gweithredu i fynd i'r afael â hyn, sy'n adlewyrchiad o'r anghydraddoldebau rhywedd ehangach sydd yn ein system iechyd roedd Delyth Jewell yn sôn amdanyn nhw ynghynt. Mi ddylai hyn fynd law yn llaw â'r gwaith ehangach o wella cyflwr y gweithlu, ac mi fyddwn ni'n ddiolchgar am ddiweddariad yn ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet am gynllun Addysg a Gwella Iechyd Cymru i gynyddu cyfleon CPD i staff yn y maes yma.

Mae'r Prif Weinidog wedi datgan yn gyson dros yr wythnosau diwethaf ei bwriad i arwain Llywodraeth sydd â ffocws di-baid ar gyflawni. Felly, profwch fod yr uchelgais yma yn fwy na dim ond geiriau gan gefnogi'r cynnig. Diolch.

Yr hyn sy'n fy nharo i yng nghynnig y Ceidwadwyr Cymreig heddiw yw'r nifer enfawr o bobl sydd mewn perygl o golli eu golwg a faint o bobl sy'n aros y tu hwnt i'r targed a faint ohonynt sy'n aros y tu hwnt i'r dyddiad targed am apwyntiad. Ac mae'r ffigurau a nodir yn ein cynnig heddiw ac a nodwyd gan Sam Rowlands yn ei sylwadau agoriadol yn eithaf brawychus yn fy marn i. Yr hyn sydd hefyd yn fy nharo, fel y nodwyd yn ein cynnig hefyd, yw y disgwylir i'r galw cynyddol fod 40 y cant yn uwch dros y ddwy flynedd nesaf. Nawr, oni ddylai hynny ganu larymau i'r Llywodraeth fod angen iddynt fod o ddifrif ynghylch y mater hwn ac y dylai fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Nawr, fe wyddom mai gennym ni yma o dan y Llywodraeth hon y mae'r amseroedd aros hiraf yn y DU, ond mae ein cynnig yn nodi heddiw fod y cynnydd mwyaf yn nifer y llwybrau cleifion sy'n aros dros flwyddyn i'w weld mewn offthalmoleg mewn gwirionedd, a hynny ar adeg pan fo'r gweithlu yn y maes penodol hwn wedi gweld gostyngiad o 2 y cant yn ei weithlu, ochr yn ochr â chynnydd o 50 y cant yn nifer yr atgyfeiriadau dros y degawd diwethaf. Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet—rwy'n gwybod ei fod yn newydd i'w swydd—efallai y gall godi i ddweud wrthym fod gan y Llywodraeth gynllun a'u bod wedi ymrwymo i leihau rhestrau aros, ond y peth trist yw ein bod wedi clywed hyn o'r blaen gan Weinidogion iechyd yn y gorffennol. Yn 2001 lansiwyd y system electronig ar gyfer cofnodi ac atgyfeirio cleifion, ond credwch neu beidio, mae'n dal i fod heb ei rhoi ar waith yng Nghymru. Nawr, mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cyhoeddi adroddiad monitro tymhorol, ac mae'r adroddiad hwnnw'n olrhain amseroedd aros yn erbyn targedau Llywodraeth Cymru ei hun—dogfen wirioneddol werthfawr ac un sydd ar gael i'r cyhoedd hefyd. Nawr, mae'r adroddiad diweddaraf a gynhaliwyd yn yr haf yn dangos i ni mai mewn offthalmoleg y gwelwyd y cynnydd mwyaf dros y chwe mis diwethaf yn nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros dros 53 wythnos. Dyna lle mae'r nifer fwyaf o lwybrau cleifion yn aros, a hefyd y nifer fwyaf o lwybrau cleifion sy'n aros dros 53 wythnos.

Nawr, mae'r adroddiad monitro yn mynd rhagddo i roi peth sylwebaeth hefyd. Mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio cyflwyno rhai mesurau, ochr yn ochr â byrddau iechyd, i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hir mewn offthalmoleg, fel y mesurau gofal llygaid a gyflwynwyd yn 2019, lle dynodir ffactor risg i iechyd cleifion er mwyn blaenoriaethu'r rhai sydd â'r risg fwyaf o golli golwg na ellir ei wrthdroi. Ond mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod llai na hanner—48.6 y cant mewn gwirionedd—y cleifion risg uchel yn cael eu gweld o fewn eu dyddiad targed diogel yn glinigol, sy'n dangos bod angen gweithredu gwell a gwella ymwybyddiaeth. Felly, nid wyf yn credu bod hynny'n ddigon da o gwbl. Nawr, pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb i'r ddadl heddiw, hoffwn iddo roi sylw i'r broblem adnoddau—yr adnoddau sy'n cael eu dyrannu i fynd i'r afael â'r prinder—a hefyd pa mor effeithiol yn ei farn ef y mae'r clinigau cymunedol wedi bod yn lleihau amseroedd aros ac yn darparu gofal cyflym ac effeithiol.

Roeddwn yn falch fod Sam Rowlands wedi sôn am yr agweddau trawsffiniol; mae'n arbennig o bwysig yn fy etholaeth i. Ond rwy'n gwybod fy hun fod yna gapasiti yn swydd Amwythig. Mae yna gapasiti yno, ond ni ellir ei ddefnyddio. Pam? Oherwydd nad yw GIG Cymru yn barod i dalu am y gwasanaethau hynny. Fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym am weld Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion y strategaeth glinigol genedlaethol ar gyfer offthalmoleg ac yn ymrwymo i wneud y buddsoddiad angenrheidiol i atal y gwasanaethau gofal llygaid ledled Cymru rhag chwalu'n llwyr. Ond hefyd, rwy'n credu mai'r hyn sy'n siomedig iawn yw bod y Llywodraeth wedi dileu ein cynnig cyfan heddiw. Mae'r cynnig hwnnw'n nodi sefyllfa ffeithiol ac yna'n mynd i'r afael â'r hyn sydd angen i'r Llywodraeth ei wneud, ac mae'n siomedig nad oedd y Llywodraeth yn gallu cefnogi ein cynnig fel yr oedd.

17:40

Mae ein llygaid a'n golwg yn werthfawr. Mae triniaeth frys ar gyfer cymaint o gyflyrau llygaid yn hanfodol, gan gynnwys glawcoma, retinopathi diabetig a dirywiad macwlaidd gwlyb sy'n gysylltiedig ag oedran. Fodd bynnag, gall cyflyrau llygaid nad ydynt yn rhai brys, fel cataractau, os na chânt eu trin, gael effaith sylweddol ar fywyd unigolyn, ar eu gallu i wneud eu gwaith ac aros yn annibynnol os na chânt sylw mewn modd amserol. Er bod amseroedd aros am lawdriniaeth yn lleihau, fel y dywed gwelliant Llywodraeth Cymru, nid ydynt lle mae pawb eisiau iddynt fod.

Cafwyd gwelliannau meddygol enfawr mewn gwasanaethau offthalmig ac optometreg, ond mae angen ateb cynaliadwy os yw'r galw am wasanaethau llygaid yn mynd i gael ei fodloni yn y dyfodol, ac mae'n mynd i gynyddu gyda phoblogaeth sy'n heneiddio. Arferwn weithio mewn adran offthalmig gryn dipyn o flynyddoedd yn ôl bellach, pan gâi cataractau eu tynnu dan anesthetig cyffredinol a gallech ddisgwyl bod yn glaf mewnol am tua 10 diwrnod. Nawr, fe wneir y llawdriniaeth dan anesthetig lleol, mae'n cymryd tua 30 munud, ac rydych chi'n ôl adref yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Mae gofal llygaid wedi esblygu, ac mae'n rhaid iddo barhau i esblygu. Un maes lle mae hyn wedi digwydd yw mewn gofal sylfaenol, lle mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cyllid sylweddol mewn gwasanaethau optometreg. Mae hyn wedi galluogi byrddau iechyd i sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld ar yr adeg iawn, gan yr unigolyn iawn ac yn y lle iawn, boed yn wasanaeth eilaidd arbenigol neu mewn lleoliad gofal sylfaenol. 

Yn hanesyddol, dim ond optometryddion a arferai wneud profion llygaid ac asesiadau lensys cyffwrdd. Nawr, maent yn darparu nifer o driniaethau a gwasanaethau, gan ryddhau lle mewn gofal arbenigol, ac mae ganddynt lawer mwy o gyfrifoldeb clinigol. Mae'r gweithlu proffesiynol wedi sicrhau eu bod wedi uwchsgilio, ac yn cyflawni cymwysterau uwch. Mae'r gwaith o drawsnewid y ddarpariaeth o wasanaethau mewn gofal llygaid wedi digwydd yn gyflym, a rhaid iddo barhau i wneud hynny yn y dyfodol. Rwy'n falch fod Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrthi'n ystyried strategaeth glinigol genedlaethol.

Mae technoleg ddigidol yn chwarae rhan bwysig iawn hefyd, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod offthalmoleg yn arfer bod ar ei hôl hi, ac mae buddsoddiad yn hanfodol yn y maes hwn er mwyn gwneud cynnydd a'i gynnal. Yn bwysig, Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd â gwasanaeth golwg gwan. Gwasanaeth yw hwn sy'n darparu cyngor, cefnogaeth a chymhorthion i helpu pobl i gadw'n annibynnol a chynnal ansawdd bywyd. Mae'r holl ddiwygiadau hyn ac ehangu gwahanol wasanaethau llygaid yn bwysig a rhaid i ddiwygio llwybrau a lleihau amseroedd aros barhau i fod yn flaenoriaeth i'n byrddau iechyd. Diolch.

17:45

Mae'r ddadl hon wedi tynnu sylw at nifer o ystadegau a ffigurau am effaith peidio â thrin gofal llygaid ledled Cymru, ond rwyf am fynd ar drywydd ychydig yn wahanol y prynhawn yma. Rwyf am siarad am wasanaeth a fydd o dan bwysau aruthrol os na lwyddwn i reoli hyn, sef ein cŵn tywys ledled Cymru. Os na chaiff pobl sy'n dioddef o golli golwg driniaeth amserol, neu os yw pobl yn colli eu golwg, rydym i gyd yn gwybod bod angen ci tywys arnynt i fyw eu bywydau o ddydd i ddydd, ac nid wyf yn credu ein bod yn siarad digon am hynny yn y Siambr. Rydym yn siarad llawer am ystadegau a'r bobl sydd angen yr help, ond os na lwyddwn i ddatrys hyn, bydd llawer o bwysau i gael mwy o gŵn tywys i mewn i'r wlad. Nododd arolwg diweddar fod 2 filiwn o bobl ar draws y Deyrnas Unedig wedi colli eu golwg, a chyda'r ffigurau hyn, mae llawer o'r bobl hynny'n dibynnu, fel y dywedais, ar gŵn tywys i fyw eu bywydau bob dydd yn ddiogel. Mae rôl y cŵn hyn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r hyn y mae pobl yn ei feddwl. Maent yn gwella ansawdd bywyd pobl, maent yn meithrin ymdeimlad o ryddid yn yr unigolion hynny, ac maent yn eu galluogi i ymgysylltu â chymdeithas, rhywbeth y credaf y dylem i gyd ei hyrwyddo yn y Siambr hon.

Un o'r ystadegau mwyaf trawiadol yw bod perchnogion cŵn tywys 80 y cant yn fwy tebygol o adael eu cartrefi ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol o'i gymharu â phobl heb gi tywys. Mae'r cynnydd hwn mewn rhyngweithiad cymdeithasol yn allweddol. Mae'n brwydro yn erbyn unigrwydd, sydd hefyd yn costio arian i'r Llywodraeth, ac mae hefyd yn hybu iechyd meddwl a llesiant ac mae hynny'n bwysig tu hwnt ar adeg yng Nghymru pan fo llawer o bobl yn teimlo'n ynysig ac yn dioddef o unigrwydd a phroblemau gyda'u hiechyd meddwl. Mae angen inni sicrhau bod pawb ar draws y gymdeithas, hyd yn oed os ydynt yn colli eu golwg, yn gallu mynd allan o'u cartrefi ac ymgysylltu â'r gymdeithas. Dychmygwch y gwahaniaeth y gall ci tywys ffyddlon ei wneud, gan ganiatáu i rywun gerdded yn hyderus i mewn i gaffi, mynychu cyngerdd, neu fwynhau cerdded o amgylch y parc.

Yng Nghymru, mae Cŵn Tywys Cymru wedi bod yn allweddol yn y gwaith o ddarparu'r gwasanaethau hyn. Ar hyn o bryd maent yn cefnogi nifer enfawr o bartneriaethau cŵn tywys ledled y wlad ac mae'r nifer yn cynyddu'n gyson, gan adlewyrchu'r cynnydd yn y galw am gymorth gan bobl ag amhariad ar eu golwg. A'r hyn a ddywedwn yn y ddadl hon yw bod angen inni fynd i'r afael â'r gwasanaethau hyn i sicrhau nad ydynt yn rhoi mwy o bwysau ar Cŵn Tywys Cymru. Bob blwyddyn mae'r elusen yn hyfforddi tua 20 o gŵn tywys newydd, gan sicrhau y gall mwy o unigolion elwa o'r gwasanaeth amhrisiadwy hwn. Caiff cŵn tywys eu hyfforddi i lywio amrywiaeth o amgylcheddau, o strydoedd dinesig prysur yma yng Nghaerdydd i drafnidiaeth gyhoeddus, lle bo'n bodoli. Ac maent hefyd yn dysgu osgoi rhwystrau a helpu eu perchnogion i wneud penderfyniadau diogel. Mae'r hyfforddiant hwn nid yn unig yn eu paratoi ar gyfer heriau'r byd y tu allan ond yn meithrin hyder yn eu defnyddwyr, ac mae'r ystadegau'n dangos bod 93 y cant o ddefnyddwyr cŵn tywys yn dweud eu bod yn teimlo'n fwy diogel wrth fynd allan gyda'u cŵn. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi gwaith Cŵn Tywys Cymru a sefydliadau tebyg. Maent yn dibynnu'n fawr ar roddion a gwirfoddolwyr i gyflawni'r genhadaeth bwysig y maent yn ei chyflawni. Mae pob cyfraniad, ni waeth pa mor fach, yn helpu i hyfforddi ci tywys a chefnogi'r rhai sydd eu hangen fwyaf. Felly, hoffwn annog pawb heddiw i gefnogi'r cynnig hwn a gyflwynwyd gennym, oherwydd, os na wnawn hynny a bod iechyd llygaid poblogaeth Cymru'n gwaethygu, bydd angen llawer iawn mwy o gefnogaeth ar elusennau fel Cŵn Tywys Cymru i helpu pobl fregus ledled Cymru sydd angen ci i allu byw eu bywydau bob dydd.

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon heno ar bwnc pwysig iawn sy'n cael ei godi'n fwyfwy mynych gan etholwyr. Yn gyntaf, hoffwn ei gwneud yn glir fod fy etholwyr wedi cael triniaeth offthalmoleg ardderchog, ac nid wyf wedi cael unrhyw gwynion ynglŷn â'u triniaeth glinigol, ond mae'r amseroedd aros hirfaith yn arwain at ganlyniadau dinistriol, ac mae angen mynd i'r afael â nhw ar frys. Mae rhai o'r tystiolaethau personol a glywais gan etholwyr sy'n aros am driniaethau offthalmoleg wedi peri gofid mawr, ac yng ngogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â'r amseroedd aros gwaethaf o bell ffordd yng Nghymru ar gyfer gwasanaethau offthalmoleg, gyda bron i 43,000 o bobl wedi eu hasesu fel rhai â ffactor risg iechyd R1 wrth aros am apwyntiad. Mae hynny'n golygu bod dros chwarter yr holl bobl yng Nghymru sydd ar y rhestr aros mewn bwrdd iechyd sy'n gwasanaethu dim ond 22 y cant o boblogaeth Cymru. Fel y soniodd fy nghyd-Aelod Darren Millar, uned llygaid Stanley yn Abergele—. Ac yn gyffredinol, mae pobl o fy etholaeth i'n cael eu cyfeirio at yr ysbyty hwnnw, sy'n darparu tua 40,000 o apwyntiadau bob blwyddyn, ond mae angen buddsoddiad ar frys ar yr ysbyty i gynyddu capasiti. Cyfarfûm ag etholwyr a gafodd eu hatgyfeirio at glinig llygaid Ysbyty Abergele gan eu hoptegydd lleol a chael clywed bod yn rhaid iddynt aros dros ddwy flynedd am driniaeth. Mae nifer anghymesur o boblogaeth cleifion offthalmoleg sir Ddinbych a Chonwy yn oedrannus, ac yn aml yn gorfod ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu am eu partner. Felly, mewn gwlad ddatblygedig, mae'n annerbyniol fod menyw oedrannus ac unig ofalwr ei phartner sydd â salwch angheuol yn gorfod dioddef dros ddwy flynedd o ddiflastod byw gyda chataractau cyn iddi gael triniaeth. Mae'n sarhad ar urddas ddynol, a rhaid i'r Llywodraeth fynd i'r afael â hyn fel blaenoriaeth.

Mae cleifion offthalmoleg oedrannus hefyd yn cael eu hatgyfeirio'n rheolaidd at glinigau y tu allan i ogledd Cymru, ac nid yw hwnnw'n ateb derbyniol na chynaliadwy i'r mwyafrif o gleifion sy'n oedrannus ac sy'n gweld teithio'n heriol. Mae angen buddsoddiad digonol, a chapasiti felly, yn eu hardal.

Agwedd arall ar iechyd llygaid sy'n ychwanegu at bwysigrwydd triniaeth gyflym yw bod llawer o gyflyrau sy'n effeithio ar y llygaid yn ddirywiol ac yn parhau i waethygu os na chânt eu trin. Rwyf wedi siarad â llawer o etholwyr sy'n byw gyda dirywiad macwlaidd ac sy'n colli eu golwg yn raddol wrth aros ar restr aros. Mae'r RNIB wedi tynnu sylw at y ffaith bod dros 80,000 yng Nghymru â'r risg uchaf o golli golwg na ellir ei wrthdroi am eu bod yn aros yn rhy hir am apwyntiadau. Rwy'n credu y gallwn i gyd ddeall pa mor frawychus yw'r posibilrwydd o golli ein golwg, ac rwy'n meddwl bod angen i ni—wel, Llywodraeth Cymru—gael rhywfaint o gydymdeimlad ag unigolion sy'n wynebu'r realiti hwnnw.

Mae'r galw am wasanaethau offthalmoleg yn cynyddu hefyd, gyda chynnydd o 40 y cant yn y galw dros yr 20 mlynedd nesaf. Eto i gyd, nid ydym wedi gweld unrhyw gynlluniau'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer y galw hwn. Mae nifer y cleifion offthalmoleg sy'n aros y tu hwnt i'w dyddiad targed wedi mwy na dyblu yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac nid oes fawr o arwydd ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir. Fel y dywedodd cyn-lywydd Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yng Nghymru, rydym yn wynebu 'ton fawr o ddallineb' ledled y wlad gyfan os na chaiff y ddarpariaeth ei gwella ac os na chaiff amseroedd aros eu lleihau. Rhaid i Lywodraeth Cymru werthuso ei blaenoriaethau a chydnabod brys y sefyllfa a gweithredu cynllun i leihau amseroedd aros yn gyflym a buddsoddi mewn gwasanaethau ledled Cymru i gynyddu capasiti yn unol â'r galw. Diolch yn fawr iawn.

17:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i’r ddadl hon ac esbonio sut ŷn ni’n gweithio gyda’r gwasanaeth iechyd i leihau amseroedd aros a gwella mynediad at wasanaethau gofal llygad yn y gymuned ac yn yr ysbyty. Rwyf i hefyd yn edrych ymlaen i glywed dadl fer Julie Morgan nes ymlaen y prynhawn yma. Bydd e’n gyfle pellach i drafod sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cefnogi pobl ddall a rhannol ddall i fyw eu bywydau’n llawn mewn byd sydd wedi ei ddylunio ar gyfer pobl sy’n gallu gweld.

O dan y gwasanaeth iechyd bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu gweld gan wasanaethau gofal sylfaenol. Os bydd angen gofal llygaid arnyn nhw, optometrydd fydd yn eu gweld. Mae’r gwasanaeth iechyd yn darparu gofal llygaid amserol o ansawdd uchel i bobl ledled Cymru. Bydd angen i rai gael ymchwiliad neu driniaeth bellach yn yr ysbyty. Rwyf i eisiau pwysleisio o’r dechrau, er bod cynnydd wedi ei wneud i leihau amseroedd aros hir ar gyfer gofal llygaid, mae gwaith i’w wneud o hyd i gael gwared ar y backlog wnaeth gronni yn ystod y pandemig. Rhwng 2023 a 2024, mae’r galw am wasanaethau gofal llygaid arbenigol mewn ysbytai wedi cynyddu oddeutu 13 y cant, a hynny’n bennaf o ganlyniad i effeithiau hir y pandemig.

Er bod gwasanaethau’n gweithredu eto ar yr un lefel ag yr oedden nhw cyn y pandemig, mae backlog o bobl sydd wedi aros yn rhy hir, ac mae rhestr aros gynyddol am wasanaethau llygaid mewn ysbytai, sy’n adlewyrchu iechyd cyffredinol y genedl. Mae nifer y bobl sy’n aros mwy na dwy flynedd wedi, serch hynny, lleihau 44 y cant ers yr uchafbwynt ym mis Mawrth 2022. Ond, i ormod o bobl sy’n cael eu cyfeirio i’r ysbyty, mae’r amseroedd aros yn dal yn rhy hir. Rhaid i ni fynd ymhellach ac yn gyflymach.

Yn 2019, fel y clywson ni yn y ddadl, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno targedau newydd ar gyfer gofal llygaid mewn ysbytai i flaenoriaethu'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf o golli'u golwg.

Ni yw'r unig wlad yn y DU sydd â'r targed hwn hyd yn oed. Mae'n fesur clinigol, sy'n hanfodol i'r nifer fawr o bobl sydd angen gofal dilynol amserol. Mae'n galluogi'r GIG i nodi cleifion newydd a chleifion dilynol a blaenoriaethu'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o golli eu golwg. Rydym wedi gwneud hyn ar adeg pan fo nifer yr atgyfeiriadau newydd ar gyfer triniaeth wedi cynyddu'n sylweddol yng nghanol yr hinsawdd ariannol anoddaf ers dechrau datganoli, wrth inni barhau i weld tonnau rheolaidd o heintiau COVID.

Er ein bod yn cydnabod nad yw'r ffigurau perfformiad diweddaraf i Gymru yn agos at ble y byddem yn dymuno iddynt fod, rydym yn gweld gwelliannau mewn byrddau iechyd sydd wedi cyflwyno'r llwybrau optometreg newydd yn rhagweithiol. Fel y dywedodd llawer o Aelodau yn y Siambr yn y ddadl eisoes, fe wyddom y bydd y galw am wasanaethau gofal llygaid yn cynyddu ar gyflymder sylweddol dros y 10 mlynedd nesaf, wrth i'n poblogaeth barhau i heneiddio. Bydd hyn yn parhau i herio mynediad amserol at wasanaethau gofal llygaid arbenigol os byddwn yn parhau i wneud yr un peth. Rydym wedi cydnabod ers tro fod angen darparu gwasanaethau gofal llygaid mewn ffordd wahanol; gallwn reoli'r gwasanaethau hyn mewn mannau eraill yn ogystal ag ysbytai erbyn hyn.

Ar adnoddau, y gofynnodd Russell George i mi roi sylw iddynt, fel rhan o'n gwaith i leihau amseroedd aros a chynyddu mynediad at wasanaethau arbenigol, rydym wedi ymrwymo £30 miliwn ychwanegol bob blwyddyn i symud mwy o ofal llygaid allan o ysbytai i wasanaethau optometreg gofal sylfaenol yn y gymuned. Mae hyn nid yn unig yn lleihau'r galw ac yn cynyddu capasiti gwasanaethau ysbyty, ond yn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn gweld y cleifion cywir ar yr adeg iawn, ac yn hollbwysig, yn y lle iawn, gyda gofal yn cael ei ddarparu yn llawer agosach at adref. Ystyrir mai llwybrau optometreg gofal sylfaenol yng Nghymru, sy'n defnyddio optometryddion â chymwysterau ôl-raddedig ychwanegol, yw'r rhai mwyaf blaengar yn y DU. Mae'n galluogi optometryddion i reoli, monitro a thrin mwy o bobl yn y gymuned. Mae gennym weithlu gofal llygaid medrus iawn mewn gofal sylfaenol, ac ers blynyddoedd lawer, ni wnaed digon o ddefnydd ohonynt mewn gwirionedd. Ond maent yn gymwys i ateb heriau gofal iechyd llygaid yn ein poblogaeth sy'n heneiddio.

Mae'r llwybrau clinigol optometreg ychwanegol wedi dechrau cael effaith ar fynediad i bobl â phroblemau llygaid acíwt yn y lle cyntaf, gyda mwy na 2,000 o gleifion y mis bellach yn cael eu gweld gan optometryddion presgripsiynu annibynnol yn y gymuned. Rydym yn cydnabod yn llwyr fod yn rhaid ailadrodd y gwaith diwygio trawsnewidiol sydd wedi'i wneud mewn optometreg i wella mynediad at wasanaethau gofal llygaid mewn ysbytai. Ym mis Medi 2021, comisiynwyd adolygiad annibynnol allanol o wasanaethau gofal llygaid yng Nghymru. Ers hynny, rydym wedi gofyn i weithrediaeth y GIG weithio gydag offthalmoleg glinigol a'r gymuned gofal llygaid ehangach i benderfynu sut y gellir troi argymhellion yr adroddiad yn atebion ymarferol. Fel rhan o'r broses hon, rydym wedi gweithio gyda'r tîm Gwneud Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf, sydd wedi datblygu cynlluniau byrddau iechyd unigol i wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant llwybrau cataract a glawcoma.

Ddirprwy Lywydd, mae torri amseroedd aros a sicrhau bod pobl yn cael mynediad amserol at ofal er mwyn achub eu golwg yn hanfodol bwysig i ni. Byddaf yn cynnal uwchgynhadledd weinidogol yn ddiweddarach y mis hwn i drafod y strategaeth glinigol newydd ar gyfer offthalmoleg, a ddatblygwyd rhwng gweithrediaeth y GIG a'r rhwydwaith gweithredu clinigol cenedlaethol ar gyfer offthalmoleg. Rwyf am adeiladu ar y gwaith trawsnewidiol a ddatblygwyd gennym mewn gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol, a byddaf yn gweithio gyda fy nghyd-Aelodau yn y Llywodraeth ac ar draws y GIG i gyflawni hynny.

17:55

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o fod yn siaradwr olaf, a sôn am yr hyn a glywais gan bob un o'r siaradwyr, ac roeddech chi'n wych. Mae gennych gymaint o wybodaeth glinigol fel nad wyf am sôn am unrhyw fewnbwn clinigol yn y ddadl hon.

Hoffwn ddiolch i’m cyd-Aelodau, yn enwedig Sam Rowlands, am gyflwyno dadl mor bwysig ac amserol, ac i bawb a gymerodd ran yn y trafodaethau y prynhawn yma. Mae mynd i’r afael â'r don fawr o ddallineb yn hanfodol nid yn unig i iechyd ein dinasyddion, ond i iechyd ein cenedl. Diolch, Mabon, am gefnogi ein cynnig, ac rwy’n ddiolchgar i Lesley Griffiths, a gododd fater retinopathi, sy'n rhywbeth y mae angen inni ei ystyried. Rwy'n ddiolchgar i James, a soniodd am ddallineb parhaol—pam fod angen ichi gael y cŵn tywys—ac mae honno'n ddadl ynddi'i hun, mewn gwirionedd. Yr hyn rydym yn sôn amdano yma yw dallineb y gellir ei adfer, fel bod y claf yn mynd yn ôl i'r byd lle gall weld y golau drwy oleuni.

Felly, os rhown y gost ddynol i'r naill ochr—y drasiedi ddynol yn wir—ac edrych ar hyn mewn golau cwbl economaidd, bydd mynd i’r afael ag amseroedd aros offthalmoleg ac atal colli golwg na ellir ei wrthdroi yn helpu i leihau’r straen ar gyllid cyhoeddus. Bydd derbyn argymhellion y strategaeth glinigol genedlaethol ar gyfer offthalmoleg ac ymrwymo i wneud y buddsoddiad angenrheidiol i atal gwasanaethau gofal llygaid rhag chwalu'n llwyr ledled Cymru yn helpu i atal anableddau y gellir eu hosgoi a’r angen am gymorth y wladwriaeth. Ond ni allwn anwybyddu’r gost ddynol, ac er bod yn rhaid inni apelio ar y biwrocratiaid yn Nhrysorlys Cymru, mae'n rhaid inni ddangos hefyd fod Cymru’n genedl garedig a thosturiol sy’n rhoi anghenion y dinesydd uwchlaw popeth arall.

Fel y mae fy nghyd-Aelodau wedi'i nodi, rydym yn methu yn y ddyletswydd honno. Byddai Llywodraeth Cymru am inni gredu eu bod yn mynd i’r afael ag amseroedd aros offthalmoleg o’r diwedd, ac anwybyddu’r ffaith mai hwy sydd wedi bod yn rhedeg pethau dros y 25 mlynedd diwethaf. Pan gefais fy ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyntaf am y cyfnod byr rhwng 2015 a 2016, cofiaf nodi bryd hynny fod pobl yn mynd yn ddall ar restrau aros, ac eto, nid oes unrhyw beth wedi newid. Bron i ddegawd yn ddiweddarach, mae amseroedd aros wedi mynd i’r cyfeiriad cwbl anghywir, ac os nad awn i’r afael â’r mater hwn nawr, bydd pethau'n gwaethygu eto.

Mae adroddiadau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn nodi y bydd hanner poblogaeth y byd yn fyr eu golwg yn y chwarter canrif nesaf. Fel y nododd Sam wrth agor y ddadl hon, mae cost bersonol yr amseroedd aros hyn yn ofnadwy, a siaradodd am brofiad uniongyrchol o’r heriau a wynebir gan bobl sy'n colli eu golwg a sut y mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau ein bod nid yn unig yn eu helpu i oresgyn yr heriau hyn, ond hefyd i sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i roi diwedd ar golli golwg y gellir ei atal.

Dywedodd Russell George, Cadeirydd y pwyllgor iechyd, fod y pwyllgor wedi canfod mai mewn offthalmoleg y cafwyd y cynnydd mwyaf dros y chwe mis diwethaf yn nifer y llwybrau cleifion sy'n aros dros flwyddyn. Dyna hefyd lle mae'r nifer fwyaf o lwybrau cleifion yn aros. Dywedodd Russell fod angen canolbwyntio ar offthalmoleg, ac rwy'n cytuno'n llwyr.

Tynnodd Gareth Davies sylw at y ffaith mai gogledd Cymru sydd â’r amseroedd aros gwaethaf yng Nghymru o bell ffordd ar gyfer gwasanaethau offthalmoleg. Soniodd, ac fe soniodd Darren hefyd, am yr angen i ehangu’r gwasanaethau yn uned llygaid Stanley yn Ysbyty Abergele, sy’n ymdrin ag oddeutu 40,000 o apwyntiadau wedi’u trefnu bob blwyddyn. Mae gennym wasanaeth iechyd gwladol i fod. Dylai eich triniaeth a’ch amseroedd aros fod yr un fath, boed eich bod yn byw ym Mhorthcawl neu unrhyw le yn y gogledd. Mae'n rhaid inni gymryd camau ar unwaith i fynd i’r afael â cholli golwg y gellir ei atal a rhoi’r gorau i orfodi pobl i fyw yn y tywyllwch pan fo'r gallu gennym i weld y golau.

Roeddwn yn Kashmir dros yr haf, ac yno, mae gennym glinigau symudol yn ymweld â chymunedau, fel sy’n gyffredin yn Awstralia a gwledydd eraill y dwyrain pell, gan nodi achosion o golli golwg y gellir ei atal a darparu triniaeth. Os gallant wneud hynny ar odre mynyddoedd Himalaya, pam na allwn wneud hynny yma yng Nghymru? Felly, rwy’n annog pob un ohonoch i gefnogi ein cynnig ac i wrthod gwelliannau’r Llywodraeth. Diolch yn fawr.

18:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Ac rydym ni wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio hwnna nawr. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dim ond ar eitem 7 y byddwn yn pleidleisio heddiw. Yn gyntaf, galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Gwasanaethau offthalmoleg. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 22, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.

Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Gwasanaethau offthalmoleg. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 23, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8679 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod nad yw amseroedd aros offthalmoleg yn cynrychioli dymuniadau Llywodraeth Cymru na'r cyhoedd yn hyn o beth.

2. Yn nodi bod nifer y llwybrau offthalmoleg a oedd yn aros mwy na dwy flynedd ar ddiwedd mis Gorffennaf 2024 44 y cant yn is na’r uchafbwynt ym mis Mawrth 2022.

3. Yn cydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud gan Weithrediaeth y GIG a'r rhwydwaith clinigol offthalmoleg i ddiwygio llwybrau offthalmoleg ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd.

4. Yn croesawu'r diwygiadau i optometreg, sy'n golygu bod optometryddion cymunedol bellach yn gallu rhoi diagnosis, trin, a rheoli mwy o bobl ym maes gofal sylfaenol, gan ddarparu mynediad cyflymach a haws.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Gwasanaethau offthalmoleg. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 23, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

A dyna gwblhau ein pleidleisio am heddiw. Os oes Aelodau’n gadael y Siambr, gwnewch hynny’n dawel os gwelwch yn dda, cyn inni symud ymlaen at y ddadl fer.

9. Dadl Fer: Cyfle teg—Sicrhau bod pobl ddall a rhannol ddall yn gallu byw'r bywyd o'u dewis

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Cŵn Tywys Cymru a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) am eu harbenigedd ar y pwnc hwn, ac rwy'n croesawu aelodau o Cŵn Tywys Cymru a rhai o’m hetholwyr, sydd wedi dod i lawr yma i weld y ddadl, i'r oriel gyhoeddus. Hoffwn roi munud yr un, Ddirprwy Lywydd, i Sioned Williams, Carolyn Thomas, Cefin Campbell a Mark Isherwood.

Dylai pob unigolyn yng Nghymru gael cyfle i fyw y bywyd yr hoffent ei fyw. Ni ddylai fod unrhyw rwystrau, ni waeth beth fo'ch oedran, rhyw, rhywedd, ethnigrwydd, anabledd neu rywioldeb. Dylech fod yn rhydd i fyw eich bywyd fel y mynnoch. Ond mae wedi dod yn fwyfwy amlwg fod pobl ddall a rhannol ddall yn wynebu rhwystrau wrth fyw eu bywydau, ac ni ddylai hyn ddigwydd. Gall y rhwystrau hyn gynnwys pethau y gellir eu hunioni neu eu hatal yn hawdd pe bai pobl yn ymgynghori â grwpiau anabledd pan wneir penderfyniadau—pethau nad yw pobl sy'n gallu gweld yn meddwl amdanynt hyd yn oed.

Hoffwn ganolbwyntio ar un neu ddau o feysydd gwahanol yn y ddadl hon heddiw. Y cyntaf yw'r ffordd y mae pobl ddall a rhannol ddall yn defnyddio trafnidiaeth a’n strydoedd, a’r ail yw mynediad at gyflogaeth. Yn ôl yr RNIB, mae oddeutu 112,000 o bobl yn byw gyda chanlyniadau colli golwg yng Nghymru, a disgwylir i hyn ddyblu erbyn 2050. Mae 4,200 o bobl wedi’u cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall yng Nghymru, ond nid yw’r byd o’n cwmpas bob amser yn lle diogel neu hawdd i bobl ddall a rhannol ddall. Bob dydd, mae pobl sy'n gallu gweld yn cymryd yn ganiataol eu bod yn gallu gweld beth sy'n digwydd o'n cwmpas, yn gallu gweld pa fws sy'n dod, yn gallu gweld beiciwr yn agosáu, neu'n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng y palmant a'r ffordd. Nawr, dychmygwch eich bod yn ddall ac yn gorfod gwneud yr holl bethau hynny, a dyma ble y daw elusennau fel Cŵn Tywys Cymru i mewn. Hwy yw prif ddarparwyr hyfforddiant a chymorth i bobl ddall a rhannol ddall allu dysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i symud o gwmpas yn annibynnol. Maent hefyd yn angerddol am gael gwared ar rwystrau fel bod pobl ddall a rhannol ddall yn cael hyder a chefnogaeth i fyw y bywyd yr hoffent ei fyw. Ac wrth wneud ymchwil ar gyfer y ddadl hon, mae wedi dod yn amlwg fod symud o gwmpas ar ein strydoedd yn ddiogel a heb ofn yn rhywbeth y mae pobl ddall a rhannol ddall yn cael trafferth arbennig i'w wneud.

Nawr, mae parcio ar balmentydd yn un broblem. Dywedodd 81 y cant o bobl sy'n dioddef o golli golwg fod lleihau rhwystrau ar balmentydd yn bwysig er mwyn gwella ansawdd eu bywyd, ac mae hyn yn rhywbeth y mae pobl ddall a rhannol ddall yn brwydro yn ei erbyn bob dydd gan nad oes gan awdurdodau lleol y pwerau sydd eu hangen arnynt i fynd i'r afael â’r materion hynny. Mae 95 y cant o bobl sy'n dioddef o golli golwg wedi cael eu gorfodi i gerdded ar y ffordd am fod cerbydau wedi'u parcio ar balmentydd. Mae pedwar o bob pump o bobl ddall neu rannol ddall wedi dweud bod hyn yn digwydd yn wythnosol, ac wrth gwrs, mae hyn yn broblem i bawb, gan gynnwys pobl â phlant ifanc a phramiau a phobl mewn cadeiriau olwyn. Mae llawer ohonom yn gallu gweld y peryglon, fel ceir a beicwyr yn dod tuag atom, ond nid dyna’r profiad i bawb. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried gwahardd parcio ar balmentydd, ond rwy'n credu bod angen gwneud hynny cyn gynted â phosibl.

Mae’n wych ein bod, yng Nghymru a Chaerdydd, wedi gweld symudiad sylweddol tuag at deithio llesol, ond arweiniodd at rai canlyniadau i bobl ddall a rhannol ddall. Fodd bynnag, hoffwn nodi nad yw Cŵn Tywys yn erbyn teithio llesol mewn unrhyw ffordd. Maent yn ei ystyried yn gam cadarnhaol iawn y dylid ei ddathlu. Fodd bynnag, maent wedi nodi pryderon am y ffordd y mae rhai o’r cynlluniau’n cael eu rhoi ar waith, sy’n rhoi pobl ag amhariad ar eu golwg mewn perygl. Ni ddylai hyn ddigwydd. Yn ddiweddar, comisiynodd Cŵn Tywys ymchwil gyda Choleg Prifysgol Llundain ar yr heriau y mae rhywfaint o'r seilwaith teithio llesol yn eu hachosi i bobl ddall a rhannol ddall. Mae'r canfyddiadau'n dangos gwahanol gynlluniau safleoedd bws, gan gynnwys safleoedd bws arnofiol ac ymylon safleoedd bws ar lwybrau cyd-ddefnyddio, yn hynod beryglus i bobl ddall a rhannol ddall. Mae'r cynllun yn golygu bod yn rhaid i ddefnyddwyr bysiau groesi lonydd beiciau er mwyn cyrraedd y safle bws neu fynd ar y bws. Mae'r palmentydd ochrau crwm yn aml yn gul, ac mae perygl bob amser y bydd beiciwr yn dod ar hyd y lôn feiciau. Rwyf wedi clywed sawl enghraifft gan etholwyr sy'n ystyried y mathau hyn o safleoedd bws yn beryglus iawn, a hoffwn ddarllen un ohonynt nawr.

'Rwy'n defnyddio bysiau i ac o ganol dinas Caerdydd yn gyson. Mae dal y bws yng Nghaerdydd yn anodd gan fod sawl bws gwahanol yn gadael o'r un safle bws, felly mae'n rhaid imi ofyn i gyd-deithwyr neu bobl sy'n cerdded heibio pa fws sydd wedi cyrraedd. Os nad oes unrhyw un o gwmpas, mae'n rhaid imi groesi'r lôn feiciau i ofyn i'r gyrrwr i ble mae'r bws yn mynd. Os nad dyna'r bws cywir, mae'n rhaid imi groesi'r lôn feiciau eto yn ôl at y palmant. Ar un achlysur, roeddwn hanner ffordd yn ôl at y palmant pan wibiodd beiciwr heibio i mi. Yn ffodus, stopiodd Jason, fy nghi tywys, yn sydyn, ond fe gododd y digwyddiad ofn arnaf a'm gwneud yn bryderus iawn, ac roeddwn yn bryderus nid yn unig am fy niogelwch i, ond ei ddiogelwch ef. Roeddwn yn teimlo'n sigledig ac yn ddryslyd wrth anelu'n ôl at y palmant.'

Dyma un o’r nifer o enghreifftiau a ddaeth i law, ac yn anffodus, yr un yw’r stori i’r rhan fwyaf. Yn yr ychydig wythnosau diwethaf yn unig, mae Cŵn Tywys wedi clywed am sawl digwyddiad ar Stryd y Castell yng Nghaerdydd, a chafodd un perchennog ci tywys ei daro gan feiciwr. Mae gosod palmentydd di-dor ar rai strydoedd mawr hefyd yn achosi problemau. Palmentydd di-dor yw'r mannau lle daw'r ffordd i lefel y palmant er mwyn creu croesfan. Fodd bynnag, nid oes palmant botymog wedi'i osod bob amser ar y palmant y naill ochr a'r llall i'r ffordd, felly nid oes unrhyw ffordd i bobl ddall a rhannol ddall wybod eu bod yn croesi ffordd. Rhoddodd un etholwr enghraifft ar Heol y Bont-faen yn Nhreganna, lle ceir palmant o'r fath, ond gwn fod llawer o’r palmentydd hyn ar draws y ddinas. Pan fydd ein strydoedd yn cael eu cynllunio neu eu haddasu, mae'n hollbwysig fod profiad pobl anabl o ddefnyddio’r nodweddion hyn yn cael ei ystyried, oherwydd fel arfer, mae ffordd ymarferol o ymdrin â hyn, ond gan nad ydym yn ymgynghori digon, nid ydym yn clywed y sylwadau hynny'n ddigon cynnar.

Ac wrth gwrs, mae hefyd yn berthnasol i lwybrau beiciau wedi eu harwahanu. Yr unig arwydd o arwahanu yn aml yw llinell wen ar hyd canol y llwybr, ac os ydych chi'n ddall neu'n rhannol ddall, ni fyddwch yn gwybod eich bod hefyd yn rhannu eich gofod gyda beicwyr, ac yn fynych bydd pobl yn croesi i'r ochr anghywir. Gall hyn fod yn beryglus iawn i gerddwyr a beicwyr. Rwy’n teimlo'n angerddol iawn ynglŷn â theithio llesol, ac rwy'n hynod falch, fel y mae'r elusennau anabledd, fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cymaint ynglŷn â theithio llesol. Ond mae'n rhaid i'r seilwaith gael ei wneud yn gywir, fel nad yw pobl anabl o dan anfantais neu'n cael eu rhoi mewn perygl wrth geisio defnyddio'r seilwaith hwnnw.

Ac rwy'n credu fy mod wedi siarad yma yn y Siambr o’r blaen am yr heriau y mae perchnogion cŵn tywys yn eu hwynebu wrth gael tacsis, a soniais yn benodol am brofiad fy etholwr Ryan, a’i gi tywys Jamie, pan wrthododd gyrrwr tacsi eu codi, yn gyntaf oll, ac yna yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, gofynnodd gyrrwr tacsi i Ryan dalu mwy am fod Jamie gydag ef. Ac yn aml, gwrthodir mynediad i siopau a safleoedd eraill i berchnogion cŵn tywys am fod ganddynt gi tywys, a gall hyn fod yn nychus ac yn fychanol. Mae’r arferion hyn yn gwbl anghyfreithlon ac yn drosedd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Ni chredaf fod digon o ymwybyddiaeth o'r Ddeddf Cydraddoldeb, na digon o hyfforddiant yn ei chylch, a’r hyn y mae’n ei olygu’n ymarferol. Nid anifeiliaid anwes nac ategolion yw cŵn tywys; maent yn gymhorthion symudedd sydd wedi'u hyfforddi'n broffesiynol. Cânt eu dosbarthu yn yr un modd â chadeiriau olwyn neu unrhyw gymorth arall, ond gwrthodwyd mynediad i fusnes neu wasanaeth i 80 y cant o berchnogion cŵn tywys oherwydd eu ci tywys, a gwn fod gennym bobl yn yr oriel heddiw sydd wedi cael profiad o hynny.

Mae diffyg gwybodaeth am y Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn treiddio i allu pobl ddall a rhannol ddall i gael cyflogaeth. Yn ôl yr RNIB, roedd 20,000 o bobl ag amhariad ar eu golwg yng Nghymru yn y grŵp oedran gweithio o 18 i 64, ac yn syfrdanol, dim ond un o bob pedwar o bobl o oedran gweithio sydd wedi’u cofrestru’n ddall neu rannol ddall sydd mewn cyflogaeth, yr un fath ag ym 1991, felly nid yw wedi codi o gwbl.

Gall chwilio am waith fod yn arbennig o anodd i bobl ddall neu rannol ddall, am fod y broses gyfan wedi’i chynllunio ar gyfer pobl sy'n gallu gweld—o’r ffordd y caiff swyddi eu hysbysebu ar-lein, y gofyniad i ddatgelu amhariad neu anabledd yn ystod y broses ymgeisio heb wybod sut y bydd y cyflogwr yn ymateb, i ymdopi â chyfweliadau lle nad oes unrhyw ffordd o ddarllen iaith y corff neu giwiau dieiriau.

Ac yna, pan fydd pobl yn cael y swydd, ychydig iawn o wybodaeth neu ddealltwriaeth sydd gan gyflogwyr yn aml iawn o sut y byddai unigolyn ag amhariad ar eu golwg yn gwneud eu swydd, neu ba addasiadau sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys cyflogwyr sydd wedi ymuno â chynllun Hyderus o ran Anabledd. O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae dyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer y staff. Fodd bynnag, mae ymchwil a wnaed gan yr RNIB wedi canfod bod 23 y cant o gyflogwyr wedi dweud nad oeddent yn fodlon gwneud addasiadau i gyflogi rhywun ag amhariad ar eu golwg, er gwaethaf rhwymedigaethau cyfreithiol i wneud hynny. Dyna pam y dywedodd traean o’r bobl nad ydynt mewn gwaith mai’r rhwystr mwyaf iddynt rhag cael swydd oedd agwedd cyflogwyr tuag at eu hanabledd.

Ni ddylai hyn fod yn digwydd. Rydym eisiau i bobl ddall a rhannol ddall fyw bywydau boddhaus. Mae angen mwy o ymwybyddiaeth ac addysg am bob rhan o’r Ddeddf Cydraddoldeb a sut i’w rhoi ar waith, ac mae angen inni sicrhau bod proses symlach i bobl allu gweithredu os nad yw sefydliadau’n cydymffurfio â’r gyfraith. Mae angen inni sicrhau bod canllawiau statudol ar gyfer pob agwedd ar gynllun ein strydoedd yn gwbl gynhwysol. Ac yn anad dim, mae angen inni ddefnyddio profiad bywyd a gwybodaeth pobl anabl.

Mae angen inni wneud yn well. Rwy'n credu ein bod wedi cyflawni llawer. Gall pobl anabl eu hunain sicrhau ein bod yn gwybod beth sydd ei angen arnynt, a chredaf mai mater i ni nawr yw sicrhau ein bod yn ymgorffori hynny yn ein holl syniadau. A gwn fod y gallu gennym i wneud hynny yng Nghymru. Diolch.

18:15

A gaf i ofyn i'r pedwar siaradwr gadw at eu hamser os gwelwch yn dda, oherwydd yn llythrennol, dim ond yr amser hwnnw sydd gennym ar ôl? Carolyn Thomas.

Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am gyflwyno’r ddadl fer bwysig hon. Rwy’n defnyddio’r rheilffordd yn aml, ac rwy'n aml yn gweld gweithwyr Trafnidiaeth Cymru mewn tabard glas yn helpu teithwyr ag anableddau i ddefnyddio’r gwasanaeth rheilffordd. Hoffwn nodi pa mor werthfawr yw cael staff ar blatfformau i helpu teithwyr ar y trenau ac oddi arnynt, ac i ddarparu gwybodaeth. Maent hefyd yn cyfathrebu â'r orsaf gyrchfan ar eu rhan.

Mewn digwyddiad yn y Senedd gan Gymdeithas Cŵn Tywys y Deillion soniwyd wrthyf fod problemau gyda bylchau rhwng y trên a’r platfform. Gwn fod y trenau newydd sy’n cael eu cyflwyno gan Trafnidiaeth Cymru yn rhai â mynedfa ar lefel y platfform, felly bydd mynd ar y trenau hynny ac oddi arnynt yn brofiad cwbl ddi-dor. Fodd bynnag, mewn mannau lle mae ganddynt drenau hŷn, weithiau gall fod bylchau sylweddol o hyd, ac rwyf wedi clywed am achosion lle mae cŵn tywys wedi cwympo i'r bylchau hynny. Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod gan blatfformau arwynebau botymog digonol, fel bod pobl ddall a rhannol ddall yn gwybod pryd y maent yn agosáu at berygl, megis ymyl y platfform a’r grisiau, ond hefyd lle disgwylir i’r trên stopio ac i’r drysau agor. Mae'r rhain yn bethau syml y gellir eu gwneud i wneud byd o wahaniaeth. Diolch.

18:20

Diolch, Julie, am ddod â'r ddadl bwysig yma ger ein bron, a diolch am y cyfle i gyfrannu.

Wrth ryfeddu at y Gemau Paralympaidd dros yr haf, cefais fy atgoffa o fy ymddangosiad diweddaraf ar y maes chwarae—gêm hynod gystadleuol rhwng fy swyddfa a chlwb bowls Llanelli ar gyfer pobl ag amhariad ar eu golwg, i lawr yng Nghanolfan Selwyn Samuel yn Llanelli. Nawr, i aralleirio'r sylwebaeth chwaraeon enwog, 'Fe gafodd ein bechgyn ni uffern o grasfa' ac roeddwn i'n gwegian yn sgil perfformiad meistrolgar gan y tîm cartref.

Nawr, er inni golli, roedd yn fore gwych, gyda thua 15 o aelodau'r clwb o bob oed â phob math o amhariad ar y golwg yn bresennol. Sylweddolais pa mor hanfodol y gall chwaraeon fod i ddod â phobl ynghyd, gan gynnig nid yn unig gweithgaredd chwaraeon, ond yn hollbwysig, cyfle i gymdeithasu, rhannu profiadau a meithrin cyfeillgarwch, ac i brofi nad oes yn rhaid i unrhyw anabledd neu amhariad ar y golwg fod yn rhwystr rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.

Felly, rydym yn chwilio am ail gêm—cyfle i ddial, gobeithio—ond a gaf i ddiolch i'r clwb bowls am y croeso bendigedig a gawsom? Ac mae'n dangos pa mor wych yw'r gwaith a wnânt, a gadewch inni obeithio y gall Llywodraeth Cymru a chyrff y trydydd sector gefnogi'r math hwn o weithgarwch, wrth symud ymlaen. Diolch.

Mae 21 mlynedd bellach ers imi fynychu digwyddiad Cŵn Tywys Cymru yma am y tro cyntaf, lle amlygwyd yr angen i wneud strydoedd a rennir a mannau cyhoeddus awyr agored yn fwy hygyrch i bobl ag amhariad ar eu golwg. Yn fwy diweddar, mae eu hymgyrch dros strydoedd mwy diogel hefyd wedi pwysleisio, er na ddylai mesurau teithio llesol fyth roi cerddwyr mewn perygl, fod llawer o lwybrau beicio wedi’u gosod ar droedffyrdd heb unrhyw linellau clir rhwng y llwybrau beicio a llwybrau cerddwyr, ac maent wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno archwiliadau llawer mwy trylwyr cyn dyrannu cyllid i lwybrau teithio llesol newydd.

Gan weithio gyda Chyngor Cymru i'r Deillion, Vision Support ac RNIB Cymru, maent hefyd wedi rhoi tystiolaeth i'r grŵp trawsbleidiol ar anabledd, gan dynnu sylw at brinder hyfforddiant sefydlu a chymorth i blant a phobl ifanc ag amhariad ar eu golwg. Dim ond drwy gynnwys pobl ddall a rhannol ddall yn gynnar yn y broses gynllunio a darparu gwasanaethau y bydd modd iddynt fyw y bywyd y dewisant ei fyw.

Diolch, Julie Morgan, am ddod â'r ddadl bwysig yma i'r Senedd.

Hoffwn dynnu sylw’n benodol at sefyllfa pobl ifanc ddall neu rannol ddall, gan ein bod ni yng Nghymru yn ymfalchïo, onid ydym, yn y ffaith ein bod yn arwain y ffordd ar hawliau plant, ac mae rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Dywed erthygl 23

'fod gan blentyn ag anabledd hawl i fyw bywyd llawn a gweddus gydag urddas a, chyn belled ag y bo’n bosibl, annibyniaeth ac i chwarae rhan weithredol yn y gymuned.'

Ond fel rydych chi wedi'i amlinellu mewn gwirionedd, fe wyddom fod llawer o bobl ifanc ag amhariad ar eu golwg yn cael eu hamddifadu o gefnogaeth i fyw mor ymreolaethol ac annibynnol ac mor rhydd ag y mae ganddynt hawl i'w wneud.

Mae erthygl 26 yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau hefyd yn ymgorffori’r hawl hon, ac roedd yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ymgorffori’r confensiwn yng nghyfraith Cymru. Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i ni ble rydym ni arni gyda’r gwaith pwysig hwnnw? Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol ac aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, rwyf wedi clywed tystiolaeth sy'n peri pryder nad yw Llywodraeth Cymru yn rhoi digon o flaenoriaeth ac adnoddau i'r gwaith hwnnw. Diolch.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Julie Morgan am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n fater pwysig, fel ŷn ni wedi clywed, sy'n cyffwrdd bywydau cymaint o bobl ledled Cymru. Mae hefyd yn amserol, yn dilyn y ddadl yn gynharach heddiw am wella gwasanaethau iechyd, fel na fydd pobl yn colli eu golwg oherwydd cyflyrau sy'n gallu cael eu trin.

Gall colli golwg gael effaith ddwys ar les unigolyn. Mae adroddiad 'Time to Focus', a lansiwyd gan yr elusen Fight for Sight, yn nodi effaith bersonol a chostau ehangach colli golwg. Mae'n datgelu bod saith o bob 10 o bobl yn teimlo bod rhyw agwedd ar eu bywydau wedi'i chyfyngu gan gyflwr eu llygaid, ac mae bron i chwarter yn credu bod colli eu golwg yn cael effaith negyddol ar eu perthnasoedd personol; dywedodd un o bob pump fod colli eu golwg yn cyfyngu ar eu gallu i ddatblygu'r perthnasoedd hynny. Mae hyn yn dangos i ni fod yna ganlyniadau pellgyrhaeddol o safbwynt ansawdd bywyd a hefyd o safbwynt ariannol, yn enwedig i bobl o oedran gweithio sy'n colli eu golwg.

Mae'r RNIB yn amcangyfrif y bydd bron i un o bob pump o bobl yn colli eu golwg yn barhaol yn ystod eu hoes, gydag un o bob tri yn colli rhywfaint o'u golwg yn ystod eu hoes. Yng Nghymru, amcangyfrifir fod 3.5 y cant o'r boblogaeth yn byw gyda cholli golwg sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Hoffwn roi sicrwydd i'r Aelodau ein bod wedi ymrwymo i wneud Cymru’n wlad fwy cynhwysol ar gyfer pobl sy'n colli eu golwg. Yn ganolog i hyn mae datblygu gwasanaethau hygyrch, ymatebol sy’n canolbwyntio ar y dinesydd ac sy’n diwallu anghenion pobl ddall a rhannol ddall yng Nghymru. Mae'n hanfodol fod rhwystrau'n cael eu dileu ym mhob agwedd ar fywyd er mwyn galluogi pobl ddall a rhannol ddall i gyfranogi'n llawn, yn y ffordd a nododd Julie Morgan yn ei chyfraniad.

Mae ein hymrwymiad wedi’i ymgorffori yn y gwasanaeth golwg gwan, lle mae mwy nag 8,000 o asesiadau’n cael eu cynnal bob blwyddyn gan optometryddion ac optegwyr cyflenwi ar ein strydoedd mawr. Cymru yw’r unig wlad yn y DU i ddarparu’r gwasanaeth hwn mewn gofal sylfaenol, yn agos at gartrefi pobl, ac yn aml yng nghartrefi pobl, ac mae'n cefnogi pobl ag amhariad neu amhariad difrifol ar eu golwg. Mae'r gwasanaeth yn darparu cymhorthion golwg gwan i bobl sydd eu hangen, yn cyfeirio pobl at wasanaethau eraill, ac yn darparu gwybodaeth am fywyd bob dydd a chyflyrau llygaid, gyda'r nod o gynnal annibyniaeth unigolion.

Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol o’r pryderon a fynegwyd gan yr RNIB ynghylch nifer yr arbenigwyr adsefydlu gweledol sy’n cefnogi oedolion ag amhariad ar eu golwg. Mae’n hanfodol bwysig fod pobl ddall a rhannol ddall yn gallu cael mynediad at wasanaethau adsefydlu. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Cymru i'r Deillion i archwilio atebion i hyn. Fel y clywsom eisoes, mae teithio llesol yn alluogwr allweddol i sicrhau bod pobl ddall a rhannol ddall yn gallu byw y bywyd y dymunant ei fyw. Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru â'r RNIB yn ddiweddar i drafod sut y gallwn wneud strydoedd a thrafnidiaeth gyhoeddus yn ddiogel ac yn hygyrch i bobl ddall a rhannol ddall yng Nghymru.

O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, fel y nododd Julie Morgan, mae dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i wneud addasiadau rhesymol i’r amgylchedd adeiledig, er mwyn sicrhau bod cynllun seilwaith newydd yn hygyrch i bawb. Yn ein canllawiau, gofynnwn i awdurdodau lleol sicrhau bod grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu cynnwys drwy gydol y broses gynllunio ar gyfer seilwaith teithio llesol. Mae’r bwrdd teithio llesol yn ailgynnull y grŵp teithio llesol cynhwysol sy'n cynnwys yr RNIB.

Gall materion ymarferol, fel parcio ar balmentydd fod yn rhwystr sylweddol, fel y clywsom, ac wrth gwrs, yn rhwystr corfforol i bobl ddall a rhannol ddall. Mae'r rhan fwyaf o deithiau'n dechrau gyda cherdded neu olwyno, hyd yn oed os nad yw'n hwy nag o ddrws eich tŷ i'r car. Mae palmentydd a llwybrau troed yn seilwaith hanfodol i bobl sy'n teithio i amwynderau lleol, trafnidiaeth gyhoeddus a mwy, ac mae'n bwysig fod pobl yn ystyriol wrth barcio eu ceir. Mae rhwystro palmentydd a llwybrau fel nad oes gan gerddwyr unrhyw ddewis ond mynd ar y gerbytffordd i barhau â’u taith yn amlwg yn beryglus, ac yn broblem arbennig i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac rydym yn ymgysylltu ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol i archwilio sut y gallwn eu cynorthwyo i fynd i’r afael â’r broblem hon.

Mae gwasanaethau bws hefyd yn bwysig i alluogi pobl ddall a rhannol ddall i fyw eu bywydau yn rhydd ac yn annibynnol. Mae'r Adran Drafnidiaeth yn cyflwyno rheoliadau gwybodaeth hygyrch newydd ar gyfer gweithredwyr gwasanaethau bysiau a fydd yn berthnasol ledled Prydain. Rydym yn llwyr gefnogi’r newidiadau hyn, a fydd yn darparu gwybodaeth glywadwy a gweladwy gyson i deithwyr ar fysiau, a byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau y cydymffurfir â’r rhain yng Nghymru. Rydym yn edrych ar amrywiaeth o opsiynau i wneud teithio ar fysiau ledled Cymru yn haws ac yn fwy hygyrch drwy symleiddio prisiau tocynnau a’r system docynnau, gan gynnwys tocynnau bws a thrên cyfun. Mae ein Papur Gwyn 'Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn' yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer trawsnewid gwasanaethau bysiau yng Nghymru. Rydym yn edrych ar amrywiaeth o ddiwygiadau, gan gynnwys masnachfreinio gwasanaethau bysiau, a fydd yn caniatáu i awdurdodau lleol greu cwmnïau bysiau newydd sy'n eiddo i gynghorau. Mae ein cynllun gorfodol ar gyfer tocynnau teithio consesiynol i bobl 60 oed a hŷn a phobl anabl eisoes yn galluogi teithio am ddim ar wasanaethau bysiau lleol a rhai gwasanaethau trên.

Mae gwasanaethau trên eu hunain yn achubiaeth i bobl ddall neu rannol ddall, ac rydym wedi buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd, a fydd â chyfleusterau i gynorthwyo pawb i gael mynediad at wasanaethau rheilffyrdd. Rydym yn cytuno y dylai gorsafoedd fod yn hygyrch, gydag arwynebau botymog ar bob platfform, ac rydym yn trawsnewid cyfleusterau gorsafoedd ar linellau craidd y Cymoedd, gan gynnwys gosod palmentydd botymog, gwell systemau gwybodaeth sain i deithwyr, ac yn hollbwysig, mynediad heb risiau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru y tu hwnt i linellau craidd y Cymoedd, a byddwn yn gweithio’n adeiladol gyda hi i wella cyfleusterau gorsafoedd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig gwasanaeth teithio â chymorth i deithwyr i’w cefnogi ar hyd eu taith, o gynorthwyo gyda bagiau, cadw lle ar gyfer cŵn cymorth, arweiniad o gwmpas gorsafoedd a chymorth gyda chysylltu gwasanaethau.

Fel y soniais yn gynharach y prynhawn yma, mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio gwasanaethau offthalmig gofal sylfaenol i wella mynediad at wasanaethau iechyd llygaid. Fel rhan o’r diwygio, mae'n rhaid i fyrddau iechyd gynnal asesiad o anghenion iechyd llygaid bob tair blynedd i nodi anghenion y cyhoedd wrth ddarparu gwasanaethau llygaid mewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Yn ganolog i'r ymarfer hwn mae anghenion pobl ddall a rhannol ddall. Gyda’i gilydd, bydd yr asesiad o anghenion, ynghyd â chyflawni ar batrwm clwstwr, yn sicrhau bod anghenion y boblogaeth leol, ac yn enwedig anghenion pobl ddall a rhannol ddall, yn cael eu hystyried a'u diwallu'n llawn.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn bwysleisio cymaint rwy'n croesawu'r ddadl hon. O safbwynt Llywodraeth Cymru, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo’n llwyr yn ein hymdrechion i ganolbwyntio ar sicrhau bod pobl ddall a rhannol ddall yn gallu byw y bywyd y dewisant ei fyw.

18:30

Daeth y cyfarfod i ben am 18:32.