Y Cyfarfod Llawn

Plenary

03/07/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Davies.

Gofal Iechyd Cymunedol yn Sir Ddinbych

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth gofal iechyd cymunedol yn Sir Ddinbych? OQ61372

Ein gweledigaeth yn 'Cymru Iachach' yw i bobl gael mynediad cyfartal at amrywiaeth gynyddol o wasanaethau cymunedol i'w cefnogi i aros yn iach a byw'n annibynnol. Disgwylir i bartneriaid lleol gydweithio i adeiladu capasiti cymunedol a llunio a darparu mwy o wasanaethau integredig ac ataliol.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, mae'r diffyg darpariaeth gofal iechyd yn sir Ddinbych yn affwysol ac yn gwaethygu o wythnos i wythnos, ac ni ellir ei anwybyddu mwyach. Mae trigolion ar draws sir Ddinbych wedi gorfod dioddef ysbyty sydd â’r adran ddamweiniau ac achosion brys sy’n perfformio waethaf, gyda’r amseroedd aros gwaethaf yn y bwrdd iechyd sy’n perfformio waethaf, ers llawer gormod o amser. Mae 11 mlynedd wedi mynd heibio ers yr ymrwymiad i adeiladu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl yn fy etholaeth, ac mae pobl wedi anobeithio y bydd byth yn digwydd. Mae Ysbyty Glan Clwyd yn llythrennol ar ymyl y dibyn, ac eto, ymddengys nad oes unrhyw frys i wneud rhywbeth am hyn. Rydym wedi cael 11 mlynedd o din-droi a thorri addewidion, gyda’r Prif Weinidog yn dweud ym mis Ebrill fod cynigion yn cael eu llunio ar gyfer cyfleuster sy’n cynnwys uned mân anafiadau, gwelyau gofal canolraddol a gofal integredig, ond bod yn rhaid cyflwyno achos busnes cryf i Lywodraeth Cymru. Mewn geiriau eraill, nid oes ganddo unrhyw fwriad o weld hyn yn digwydd byth, ac nid yw dioddefaint pobl yn fy etholaeth yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Felly, gall dyn 80 oed aros dros ddwy flynedd mewn poen aruthrol am glun newydd am y byddai’n well gan Lywodraeth Cymru wario £120 miliwn ar ragor o wleidyddion ym Mae Caerdydd a'r terfyn 20 mya na gwario arian ar ddarpariaeth gofal iechyd cymunedol yng ngogledd Cymru. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu'r gofid, a gyfaddefodd y cyn Brif Weinidog, na chafodd yr ysbyty mo'i adeiladu pan oedd ef wrth y llyw? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen o'r diwedd â'r gwasanaeth hanfodol a hirddisgwyliedig hwn i bobl Dyffryn Clwyd? Diolch.

Wel, diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Gareth. Mae'n rhaid imi ddweud wrthych fod y GIG ym mwrdd Betsi Cadwaladr yn gwneud mwy o gysylltiadau nag erioed gyda'r boblogaeth yno. Hefyd, os edrychwch ar nifer y meddygon teulu a’r ffaith bod pob un ohonynt wedi llofnodi’r contract newydd, golyga hynny fod mynediad at feddygon teulu yn llawer gwell. Rwy'n gobeithio eich bod wedi gweld gostyngiad sylweddol yn eich bag post yn nifer y bobl sy’n cwyno am gael mynediad, ac yn enwedig yn ystod y dagfa 8 a.m.

Gadewch imi droi nawr at safle Ysbyty'r Royal Alexandra, yn amlwg, pan oedd hwn yn gynnig cychwynnol, roedd y dangosydd costau gryn dipyn yn llai na’r £100 miliwn y byddai’n ei gostio bellach i’w adeiladu, ac mae hynny'n rhannol am fod y Llywodraeth Dorïaidd wedi caniatáu i chwyddiant fynd allan o reolaeth yn llwyr. Felly, mae'n rhannol o'ch herwydd chi. Ond gadewch imi ddweud wrthych hefyd ein bod yn disgwyl i'r bwrdd iechyd lleol adolygu ei gynigion ar gyfer Ysbyty'r Royal Alexandra. Rwyf wedi bod yn Ysbyty'r Royal Alexandra; mae gennyf synnwyr o’r hyn y maent yn gobeithio ei wneud a'r dull gweithredu—y ​​dull gweithredu newydd yr ydych chi wedi’i amlinellu—mewn cyfarfod bwrdd ar 28 Mawrth. Rydym nawr yn aros iddynt ddatblygu achos busnes llawn ar gyfer yr opsiwn newydd a ffefrir, a bydd y bwrdd iechyd yn ceisio cymeradwyaeth gennym ni ar gyfer ffioedd i ddatblygu’r achos busnes llawn. Felly, rydym yn aros iddynt gyflwyno hwnnw. Mae’r cynllun hwnnw’n un sydd wedi’i flaenoriaethu gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol i gael ei gyflwyno i’r gronfa gyfalaf integreiddio ac ailgydbwyso iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer cyllid rhannol i fynd tuag at y costau y byddai eu hangen arno. Felly, mae’n sicr yn dal ar y bwrdd, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi’r gorau i ledaenu straeon codi bwganod, unwaith eto, i'r bobl yng ngogledd Cymru.

Bwydydd wedi'u Prosesu'n Helaeth

2. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar ddarparu bwydydd sydd wedi'u prosesu'n helaeth i gleifion yn ysbytai'r GIG? OQ61371

Mae adolygiad cynhwysfawr o safonau maeth ac arlwyo Cymru ar gyfer bwyd a diod i gleifion mewnol ysbytai yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Bydd yr adolygiad hwn yn cael ei lywio gan gyngor arbenigol gan y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg, a fydd yn cynnwys tystiolaeth sy'n datblygu ar fwyd wedi'i brosesu'n helaeth.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, fe wyddom yn iawn fod cyfyngiadau cyllidebol yn gwthio rheolwyr y GIG i gaffael bwyd am y pris isaf posibl, ac yn rhy aml o lawer, mae hyn yn golygu defnyddio bwyd wedi'i brosesu'n helaeth. Ddoe, lansiwyd ymgynghoriad gennych ar Fil newydd i gyfyngu ar hyrwyddo a gwerthu bwydydd nad ydynt yn iach, ac eto rydym yn dal i ganiatáu i fwydydd o’r fath gael eu darparu i gleifion yn ein hysbytai. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau a gymerir gennych i sicrhau bod yr holl brydau a ddarperir yn y GIG nid yn unig yn faethlon, ond hefyd yn defnyddio’r cynnyrch lleol gorau ac yn adlewyrchu gofynion dietegol unigolion?

13:35

Diolch yn fawr iawn, Altaf, ac fel y dywedaf, rydym yn edrych ar hyn. Mae'r adolygiad hwn yn mynd rhagddo ac rwy’n disgwyl iddo adrodd ym mis Awst. Ac mae gennym grŵp o arbenigwyr ardderchog sy'n edrych yn benodol yn yr adolygiad hwnnw ar fater bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth. Rydych chi'n iawn—mae'n rhaid inni fod o ddifrif ynglŷn â hyn. Mae gennym argyfwng gordewdra yng Nghymru. Mae 60 y cant o'r boblogaeth dros eu pwysau neu'n ordew. Mae’n rhaid i ni wneud ymyriadau penodol. Mae'n rhaid i ni ei gwneud yn haws i bobl fwyta'r bwyd iawn. Dyna ran o'r rheswm pam ein bod wedi dechrau ymgynghori yr wythnos hon ar y rheoliadau newydd, sy'n mynd i'w gwneud yn anos i archfarchnadoedd, er enghraifft, roi'r math o fwydydd sy'n temtio pob un ohonom wrth ymyl y ddesg dalu, a sicrhau, er enghraifft, na allwch barhau i fynd yn ôl i ail-lenwi eich diod ysgafn llawn siwgr dro ar ôl tro—yr holl bethau hyn. Mae'n rhaid i ni ei gwneud yn haws i bobl, a dyna ran o'r rheswm pam y byddwn yn cyflwyno'r rheoliadau hynny.

Ond rydych chi'n llygad eich lle—mae'n rhaid inni fod o ddifrif ynghylch bwyd ysbyty. Dyna pam y comisiynwyd yr adroddiad hwn. A gadewch inni beidio ag anghofio bod Archwilio Cymru hefyd wedi cynnal nifer o adolygiadau o faeth ac arlwyo mewn ysbytai, ac archwiliodd y comisiwn archwilio yng Nghymru y mater yn 2011 a 2016, ac roedd 10 o'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi'u rhoi ar waith erbyn mis Rhagfyr 2019. Felly, rydym yn gwneud cynnydd, ond yr hyn a welwn yw bod bwyd wedi ei brosesu’n helaeth yn dod yn broblem fwy enbyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddydd Llun, datgelodd y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru fod mwy na thri chwarter yr holl shifftiau yng Nghymru heb ddigon o nyrsys cofrestredig. Mae arolwg shifftiau diwethaf y Coleg Nyrsio Brenhinol, a ofynnodd i staff nyrsio yng Nghymru ynglŷn â'u profiadau ar eu shifft ddiweddaraf, wedi datgelu prinder brawychus sy’n effeithio ar ddiogelwch cleifion. Dywedodd dros dri chwarter y nyrsys yng Nghymru a gymerodd ran yn yr arolwg nad oedd nifer y staff nyrsio yn ddigonol i ddiwallu anghenion cleifion yn ddiogel. Mae oddeutu wyth o bob 10 o ymatebwyr yn credu y byddai’r lefel staffio ar eu shifft olaf o’r dydd yn y gwaith wedi bod yn fwy diogel pe bai uchafswm y gymhareb cleifion i nyrsys ar waith yn eu gweithle. Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn galw am ddiwygio Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i leihau’r cymarebau nyrsys i gleifion ym mhob lleoliad, ac i roi amser i nyrsys ofalu. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau rydych chi'n eu cymryd i fynd i’r afael â’r prinder difrifol hwn, ac i fynd i’r afael â phryderon ein nyrsys?

Wel, diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain, ac fe fyddwch yn gwybod ein bod o ddifrif ynglŷn â hyn. Y ffaith amdani yw ein bod yn hyfforddi mwy o nyrsys nag erioed o'r blaen. Rydym wedi rhoi mwy o arian tuag at hyn. Mae gennym ymarferion recriwtio rhyngwladol, gan gynnwys gydag India, ac yn benodol, Kerala, i ddenu mwy o nyrsys rhagorol o dramor. Hefyd, rydym yn sicrhau y caniateir hyblygrwydd yn ddiofyn. Mae pobl yn dymuno cael yr hyblygrwydd hwnnw. Yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw ein bod yn fwy tebygol o'u cael fel swyddi parhaol yn hytrach na nyrsys asiantaeth. Ac os edrychwch ar yr hyn sy'n digwydd mewn perthynas â nyrsys asiantaeth, mae'r swm a wariwn ar staff asiantaeth wedi gostwng yn sylweddol o ganlyniad i'r newid hwnnw. Felly, rwy'n falch o weld bod hynny'n digwydd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, y brif her yw cadw staff nyrsio. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 2,700 o swyddi nyrsys cofrestredig gwag yn GIG Cymru. Os ydym am gael unrhyw obaith o lenwi’r swyddi gwag hynny a chadw staff presennol, mae’n rhaid i ni, yng ngeiriau cyfarwyddwr gweithredol y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, sicrhau

'bod nyrsys yn cael eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo os ydym am gael cyflenwad parhaus i fodloni'r lefelau staffio hynny.

'Mae hyn yn golygu cyflawni pob addewid a wnaed i'n haelodau i ddod â'n gweithredu diwydiannol i ben. Mae'r ateb i'r argyfwng hwn yn dechrau gyda gwerthfawrogi staff nyrsio a rhoi'r amser iddynt ofalu.'

Mae nyrsys wedi dweud eu bod yn teimlo bod yr hyn a gynigiwyd iddynt o gymharu â meddygon y GIG yn sarhad. Yn anffodus, mae hyn yn ychwanegu at y naratif nad yw nyrsys yn cael eu gwerthfawrogi. Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethoch chi nifer o ymrwymiadau i nyrsys er mwyn iddynt roi'r gorau i'w gweithredu diwydiannol. Pryd fyddwch chi'n gwireddu'r addewidion hynny?

13:40

Diolch yn fawr. Wel, rydym yn amlwg yn aros tan ar ôl yr etholiad cyffredinol, ac yna byddwn yn aros i argymhellion y bwrdd adolygu cyflogau gael eu cyhoeddi, ac yna, yn amlwg, bydd angen inni ddechrau negodi ar ble rydym yn setlo mewn perthynas â chyflogau eleni. Credaf ei bod yn werth edrych ar y ffaith ein bod newydd ddod allan o gyfnod negodi anodd iawn gyda'r meddygon, fel y dywedwch. Roedd rhai o’r meddygon iau hynny ar gyflogau llai na nyrsys mewn gwirionedd, a chredaf fod yn rhaid inni gydnabod bod angen codiad cyflog sylweddol ar feddygon iau yn enwedig, ac yn sicr, dyna rydym wedi’i roi iddynt.

A gaf i ddweud hefyd eich bod yn llygad eich lle ynglŷn â chadw'r staff presennol, a dyna pam ein bod wedi cynnwys yr hyblygrwydd hwn, a dyna pam fod gennym gynllun gweithredu ar gyfer y gweithlu? Mae llawer o hynny eisoes yn cael ei gyflawni. Ond rydych chi'n llygad eich lle—credaf mai un o'r materion y mae'n rhaid inni eu hystyried hefyd—. Fe sonioch chi am gael y gymhareb gywir o nyrsys, ac wrth gwrs, mae gennym Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, ond mae'n ddiddorol fod pwyllgor iechyd y Senedd wedi ysgrifennu adroddiad ar hyn yn ddiweddar, ac ni wnaethant ddilyn yr argymhellion a amlinellwyd gan y Coleg Nyrsio Brenhinol, a oedd yn awgrymu y dylem gael y gymhareb honno y tu allan i leoliadau ysbytai penodol. Rwy'n credu bod yn rhaid inni fabwysiadu'r dull tîm hwn, sydd mor hanfodol yn y GIG. Gadewch inni gadw nyrsys yn gweithio ar frig eu trwydded, ac os gallwn gael pobl eraill i fynd â rhywfaint o'r straen oddi arnynt, ar raddfeydd gwahanol efallai, pam fod hynny'n beth drwg?

Diolch eto, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, mae canlyniadau uniongyrchol y prinder nyrsys nid yn unig yn effeithio ar ddiogelwch cleifion, ond hefyd ar nifer y bobl sy’n aros mewn poen am driniaeth yn ein GIG. Mae gennym y rhestrau aros hiraf yn y DU, a thros 21,000 o bobl yn aros yn hwy na dwy flynedd am driniaeth. Mae hyn yn gywilyddus. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Syr Keir Starmer yn ceisio dod yn ddeiliad nesaf Rhif 10. Mae wedi addo trin 2 filiwn yn rhagor o gleifion bob blwyddyn er mwyn mynd i’r afael â rhestrau aros yn Lloegr. Sut y bwriadwch chi fynd i’r afael â’r rhestrau aros cynyddol yng Nghymru? Beth yw cynllun Llywodraeth Cymru?

Diolch yn fawr. Fel y gwyddoch, Altaf, mae’r amseroedd aros hiraf wedi gostwng 70 y cant ers eu lefel uchaf ym mis Mawrth 2022, ac nid wyf yn mynd i ymddiheuro am y ffaith ein bod yn trin yr achosion mwyaf difrifol yn gyntaf. Wrth gwrs, rydym hefyd yn cyfrif amseroedd aros yn wahanol iawn i Loegr. Fel y gwyddoch, rydym yn cyfrif diagnosteg a therapïau, ac nid ydynt yn gwneud hynny yn Lloegr, felly credaf ein bod yn fwy gonest gyda’r cyhoedd. A chredaf ei bod yn werth pwysleisio hefyd mai'r amser aros cyfartalog am driniaeth yw 22 wythnos. Hefyd, wrth gwrs, rydym yn byw gyda phoblogaeth lawer hŷn, salach a thlotach nag sydd ganddynt yn Lloegr. Wrth gwrs, os caiff Llafur eu hethol a bod yr arian hwnnw’n mynd i’r GIG, byddwn yn cael cyllid canlyniadol yn sgil hynny, ac yn amlwg, mater i’r Cabinet fydd penderfynu sut y gwariwn yr arian hwnnw. Byddaf yn sicr yn dadlau'r achos, a chredaf fy mod wedi llwyddo i ddadlau'r achos dros gyfran o'r arian hwnnw, o leiaf, os nad y cyfan, i’n helpu i fynd i’r afael â’r rhestrau aros hynny, sef y pen tost mwyaf, mae'n debyg, i mi ar hyn o bryd.

13:45

Diolch, Lywydd. Wel, ymateb diddorol gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y diwedd yno. Fel rydym wedi amau ​​ers tro, fodd bynnag, dim ond un peth y bydd derbyniad y Llywodraeth Lafur newydd o reolau cyllidol y Torïaid wrth iddynt wrthod ystyried mesurau codi treth blaengar, megis alinio treth ar enillion cyfalaf â threth incwm, yn ei olygu: mwy o gyni. Yr wythnos diwethaf, cyfrifodd Canolfan Llywodraethiant Cymru y bydd cynlluniau gwariant Llafur y DU yn arwain at ddiffyg i feysydd nad ydynt wedi'u clustnodi yng nghyllideb Cymru o £248 miliwn yn 2025-26, gan godi i £683 miliwn erbyn 2028-29. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau felly sut y bydd hyn yn effeithio ar y gyllideb gofal cymdeithasol yng Nghymru y flwyddyn nesaf, a ble mae'n rhagweld y bydd y toriadau canlyniadol yn cael eu gwneud?

Wel, fe fyddwch yn ymwybodol mai ni sydd i benderfynu i ble mae'r arian yn mynd yng Nghymru, a'r ffaith amdani yw ein bod yn penderfynu'n wahanol ac mae'n debyg y byddwn yn parhau i benderfynu'n wahanol, gan y byddwn yn gwneud yr hyn y credwn ei fod yn iawn ar gyfer poblogaeth Cymru. Eleni, er enghraifft, rydym wedi gwario 4 y cant yn ychwanegol ar y GIG, er mai 1 y cant yn unig o gynnydd a welwyd yn Lloegr. Byddwn yn aros i weld sut olwg sydd ar y llyfrau, byddwn yn aros i weld pa arian ychwanegol a ddaw i mewn, ac yna, wrth gwrs, bydd yn rhaid inni benderfynu sut y gwariwn yr arian hwnnw, ac mae llawer o alwadau ar yr arian hwnnw, fel y gwyddoch. Mae’n ddiddorol, mae Plaid Cymru, wrth gwrs, am drethu a threthu a threthu; dyna yw stori Plaid Cymru—maent yn credu bod coeden arian hud i'w chael sy'n rhoi ac yn rhoi. Credaf fod hynny'n rhywbeth y gobeithiaf y bydd y cyhoedd wedi’i glywed y prynhawn yma, sef bod Plaid Cymru yn dymuno trethu a threthu a threthu.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn swnio fel rhywun o’r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain pan fo'n siarad yma. Wrth gwrs, canlyniadau gweledigaeth Starmer ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yw y bydd Llywodraeth Lafur newydd y DU yn disgyn i’r un fagl ag y mae’r Llywodraeth hon yng Nghymru wedi bod yn sownd ynddi ers blynyddoedd o ran ariannu gwasanaethau iechyd—economi ffug gwario arian ar lenwi bylchau yn y rheng flaen, tra bo'r adnoddau ar gyfer rhaglenni gofal cymdeithasol ac iechyd y cyhoedd yn cael eu gadael i wywo.

Felly, gadewch inni fod yn onest gyda’r cyhoedd mewn ffordd nad yw Llafur wedi bod hyd yma. Yn gyntaf, daeth cynhadledd drethi Llywodraeth Cymru ei hun i'r casgliad y bydd angen gwariant ychwanegol o £1.5 biliwn ar y GIG dros y tair blynedd nesaf i ateb y galw presennol yn unig. Yn ail, bydd cyllid Llafur y DU dros yr un cyfnod ar gyfer gwasanaethau wedi'u clustnodi yn sicrhau cyllid canlyniadol i Gymru sydd, hyd yn oed pe caiff ei ddyrannu'n llawn i iechyd, yn annigonol i ateb y galw hwn. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn, yn seiliedig ar y rhagolygon cyllidol yr wyf newydd eu disgrifio, y bydd cynlluniau gwariant y Llywodraeth Lafur newydd yn gadael Llywodraeth Cymru heb unrhyw opsiwn arall ond dod o hyd i arbedion sylweddol o fannau eraill yn y gyllideb er mwyn cadw GIG Cymru yn weithredol?

Wel, nid oes dwywaith amdani, rydym yn byw mewn cyfnod heriol. Ni chredaf fod unrhyw un yn deall hynny'n well na ni yn y Cabinet. Bu’n rhaid inni wneud penderfyniadau gwirioneddol anodd y llynedd, ac fe wyneboch chi benderfyniadau anodd pan oeddech chi mewn cytundeb cydweithio â ni. Roeddem yn cytuno bod gofal cymdeithasol yn wirioneddol bwysig, a bod gofal cymdeithasol yn gwbl ganolog i hynny, ond roedd hefyd yn dweud llawer na roesoch chi'r un geiniog tuag at y gyllideb o ran sut i weithredu'r gwahaniaeth mewn perthynas â gofal cymdeithasol. Felly, os ydych chi'n mynd i wneud awgrymiadau yn y cyswllt hwn, rwy'n credu y byddai wedi bod yn dda eich gweld chi'n rhoi arian ar y bwrdd mewn perthynas â'r materion yr ydych yn eu blaenoriaethu.

Ymateb syfrdanol eto gan Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf i ei hatgoffa nad ydym mewn Llywodraeth a'i bod hi mewn Llywodraeth ac mai chi sy'n gyfrifol am iechyd yma? Bydd y toriadau'n dod, a chi a fydd yn gorfod eu gwneud. Yr agwedd fwyaf rhwystredig ar y rhagolygon llwm hyn yw bod dewis arall i'w gael, sef cael gwared ar fformiwla Barnett, sydd wedi hen ddyddio, a chyflwyno model ariannu yn ei lle sy’n adlewyrchu anghenion iechyd ein cymdeithas yn llawn. Rydym wedi cael atebion dros dro wedi'u gwaethygu gan flynyddoedd o gyni a phandemig y bu bron iddo ddinistrio ein GIG, ac eto mae'r heriau'n parhau i dyfu. Mae ein poblogaeth yn heneiddio’n gyflymach na gweddill y DU, a bydd yn cymryd blynyddoedd i ddadwneud y difrod a wnaed gan gyni yn gwaethygu anghydraddoldebau iechyd sy’n costio £322 miliwn i’n GIG bob blwyddyn. Felly, pan glywn y Prif Weinidog yn dweud bod ganddo bopeth y gofynnodd amdano mewn maniffesto Llafur, nad yw'n dweud unrhyw beth o gwbl ynglŷn â chyllid teg i Gymru, mae hynny’n dweud wrthym nad oes gan y Blaid Lafur unrhyw fwriad o newid o’r llwybr anghynaliadwy y mae ein GIG arno ar hyn o bryd. Nid newid mohono, ond mwy o'r dirywiad wedi'i reoli yr ydym wedi dod i arfer ag ef yng Nghymru. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu’n gryf fod y frwydr dros degwch economaidd i Gymru yn rhan annatod o sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n GIG. Pam nad yw eich Llywodraeth yn credu hynny?

13:50

Wel, gallaf ddweud wrthych fod ein Llywodraeth wedi blaenoriaethu'r GIG uwchlaw popeth arall. Rydym wedi gweld cynnydd o 4 y cant mewn perthynas â chyllid i'r GIG, pan nad ydynt ond wedi rhoi cynnydd o 1 y cant yn Lloegr. Felly, nid yw hynny'n rhywbeth inni ymddiheuro yn ei gylch, mae'n rhywbeth sy'n dangos beth yw ein blaenoriaethau. Ac rwy'n credu ei bod yn werth pwysleisio'r ffaith—ac rwy'n gresynu at y ffaith nad ydym mewn cytundeb cydweithio mwyach—mae'n debyg ei bod yn werth pwysleisio ein bod, mewn gwirionedd, yn sôn am gyllideb o £22 biliwn. Ond o fewn y gyllideb honno, roedd rhywfaint o arian yr oedd Plaid Cymru am ei glustnodi ar gyfer y prosiectau yr oeddent am eu gweld, ac nid oedd unrhyw arian ar gyfer iechyd na gofal cymdeithasol, ac rwy'n credu bod yn rhaid ichi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am hynny. Gallech fod wedi blaenoriaethu hynny. Nid oedd hynny’n flaenoriaeth i chi.

Canser yr Ysgyfaint

3. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella canlyniadau i bobl yng Nghwm Cynon a gaiff eu heffeithio gan ganser yr ysgyfaint? OQ61362

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi polisi ar gyfer canser sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau diagnostig a thriniaeth o ansawdd uchel ar gyfer cyflyrau fel canser yr ysgyfaint. Mae ein hymagwedd yn seiliedig ar gefnogi sefydliadau'r GIG i ddarparu gofal yn unol â safonau clinigol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae diagnosis cynnar o ganser yr ysgyfaint yn hollbwysig. Mae chwech o bob 10 o bobl yn goroesi eu canser am bum mlynedd neu fwy os gwnaed diagnosis ar ei gam cynharaf, o gymharu â llai nag un o bob 10 ar ei gam hwyraf. Gall archwiliadau iechyd yr ysgyfaint wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac yn ddiweddar, mae tîm o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ennill y wobr canfod a diagnosis cynnar am eu rhaglen beilot drawsnewidiol o archwiliadau iechyd yr ysgyfaint yng Ngwobrau Canser Moondance. Mae'n rhaglen beilot ardderchog. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gwybod y gwnewch chi ymuno â mi i longyfarch yr holl enillwyr. Ond pa gynlluniau sydd ar y gweill i gyflwyno’r prosiect hwn ledled Cymru, fel y gallwn ganfod achosion o ganser yr ysgyfaint cyn gynted â phosibl?

Diolch yn fawr iawn. Ac mae'n rhaid imi ddweud wrthych fy mod yn y seremoni wobrwyo honno, ac roedd yn un o'r pethau mwyaf calonogol imi gymryd rhan ynddynt eleni. Felly, llongyfarchiadau i bawb a enwebwyd, ond yn enwedig i'r rheini a enillodd, ac yn enwedig i'r cynllun peilot hwnnw yng Nghwm Taf y sonioch chi amdano. Ac mewn gwirionedd, roeddwn yn falch iawn o allu ymweld â'r cynllun peilot yn Ysbyty Cwm Rhondda yn ôl ym mis Ionawr, ac roedd yn hynod ddiddorol gweld sut maent yn targedu pobl, sut maent yn gweithio gyda meddygon teulu a sut maent yn dal y canser hwnnw'n gynnar, fel y dywedoch chi. Felly, mae’n fodel yr ydym yn awyddus i’w ddatblygu. Fe wnaethom ariannu Iechyd Cyhoeddus Cymru i wneud y gwaith cwmpasu ar gyfer hyn, ac rydym yn disgwyl iddynt adrodd erbyn chwarter 3 y flwyddyn nesaf, ac ar ôl hynny, wrth gwrs, byddwn yn edrych i weld sut y gallai fod yn bosibl ei gyflwyno ledled Cymru gyfan.

Hoffwn grybwyll hefyd, mewn perthynas â'ch etholaeth, Aberdâr—roeddwn yn darllen AberdareOnline, fel y gwnaf ar brynhawn dydd Mercher, ac roedd yn wych gweld, ym mwrdd Cwm Taf Morgannwg, y claf cyntaf yng Nghymru—neu un o’r cyntaf yng Nghymru—i gael llawdriniaeth robotig ar gyfer canser y coluddyn. Felly, rydym yn sôn am dechnoleg flaengar iawn yn eich ardal chi, a dylech fod yn falch iawn.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydym newydd glywed, dechreuodd y cynllun peilot gweithredol ar gyfer archwiliadau iechyd yr ysgyfaint yng Nghymru yn rhanbarth Canol De Cymru y llynedd, ac mae bellach wedi sgrinio 500 o bobl. Fodd bynnag, mewn cyferbyniad, mae dros 1 filiwn o bobl wedi eu sgrinio am iechyd yr ysgyfaint yn Lloegr. Mae Gofal Canser Tenovus yn awgrymu y gallai archwiliadau iechyd yr ysgyfaint arbed oddeutu 190 o fywydau y flwyddyn yng Nghymru, oherwydd os caiff canser yr ysgyfaint ei ganfod ar y camau cynnar, mae modd ei drin a’i oroesi. Mae gan gymunedau yng Nghymoedd de Cymru a hen ardaloedd diwydiannol rai o’r cyfraddau uchaf o ganser yr ysgyfaint, ac felly nhw sydd â’r mwyaf i’w ennill o archwiliadau iechyd yr ysgyfaint. Gwn eich bod yn cytuno â mi fod pawb sydd mewn perygl o gael canser yr ysgyfaint yn haeddu cyfle i oroesi. Felly, pa ymrwymiad y byddwch yn ei wneud i gyflwyno archwiliadau iechyd yr ysgyfaint fesul cam i’r ardaloedd sydd â’r angen mwyaf yn gyntaf, a’u hyrwyddo mewn ffordd sy’n sicrhau bod cymaint â phosibl o'r bobl sydd â'r risg fwyaf o ddatblygu canser yr ysgyfaint yn manteisio ar yr archwiliadau hynny? Diolch.

13:55

Diolch yn fawr. Wel, rydych chi wedi clywed ein bod eisoes wedi dechrau, ac mae'r archwiliadau iechyd yr ysgyfaint wedi'u targedu hynny eisoes wedi'u treialu, ac rwy'n credu ein bod yn gweithio'n llwyddiannus iawn. Rydym yn asesu hynny nawr ac yn dadansoddi'r data. Yr hyn sydd wedi digwydd yw bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi cyflwyno hyfforddiant digidol i feddygon teulu ar eu cyfrifiaduron i sicrhau eu bod yn gwybod sut i gefnogi’r gwaith o wella arferion atgyfeirio a nodi symptomau. Hefyd, wrth gwrs, mae gennym ganolfannau diagnosis cyflym nawr, felly mae hynny'n cyflymu'r broses. Ond y peth allweddol yw bod yn rhaid inni sicrhau bod ein holl systemau ledled Cymru hefyd yn dilyn yr un llwybr, y llwybr gorau posibl, er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau. Nid yw hynny'n digwydd bob amser, a dyna pam mae'n rhaid ichi wneud y cynlluniau peilot hyn, er mwyn gweld ai dyna'r ffordd o gael y gorau o ddull o'r fath. Fel y dywedais, mae hynny'n cael ei asesu.

Rwy’n ymrwymedig iawn i sicrhau y gallwn gyflwyno hyn ar raddfa fawr, gan fod canser yr ysgyfaint yn lladdwr mawr, yn enwedig, fel y dywedwch, yn rhai o gymunedau’r Cymoedd sydd â’r cefndiroedd diwydiannol hynny lle mae pobl wedi bod yn dioddef yn aruthrol. Felly, mae'n ymwneud â'i ganfod yn gynnar, ond hefyd meddygon teulu yn nodi ysmygwyr. Pwy yw'r bobl sydd wedi ysmygu? Galwch y bobl hynny i mewn—gofynnwch iddynt ddod am archwiliad iechyd. Os llwyddwn i'w dal yn gynnar, gallwn ddal eu canser yn gynnar ac mae eu gobaith o oroesi yn llawer iawn uwch. Felly, mae pethau’n gwella. Mae'n rhywbeth yr ydym yn canolbwyntio'n agos arno.

Bwydo ar y Fron

4. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi diweddariad ar gynllun bwydo ar y fron Cymru gyfan? OQ61390

Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n rhoi’r cynllun gweithredu bwydo ar y fron ar waith, ac mae’r cynllun yn cyrraedd targedau allweddol, gan gynnwys cynnydd parhaus mewn cyfraddau bwydo ar y fron. Mae'r arweinwyr strategol yn gweithio gyda gwledydd eraill y Deyrnas Unedig a’r byrddau iechyd trwy Gymru i rannu arferion gorau ac i nodi pwyntiau mesur data allweddol ar gyfer meincnodi yn y dyfodol.

Diolch am yr ymateb. Mae etholwyr o Fro Morgannwg sydd ar hyn o bryd yn derbyn gwasanaethau cefnogi bwydo ar y fron yn bryderus iawn o glywed bod y bwrdd iechyd yn bwriadu cau un grŵp cymorth bwydo ar y fron a thynnu cymorth ymwelydd iechyd arbenigol yn ôl mewn grŵp arall, gan olygu y bydd angen i unrhyw un sydd angen cymorth bwydo ar y fron arbenigol ofyn am atgyfeiriad i system apwyntiad yn unig a fydd ar gael yn Llanedern, neu drwy ymweliad cartref.

Bydd disgwyl, felly, i famau deithio o Fro Morgannwg i Gaerdydd gyda babanod ifanc ac o bosib, wrth gwrs, brodyr a chwiorydd hŷn. Nid yw hyn yn ymarferol i bobl nad ydynt yn gyrru neu sydd, wrth gwrs, ddim yn cael gyrru wedi llawdriniaeth wrth eni’r babi. Mi ydw i wedi ysgrifennu at y bwrdd iechyd ac yn aros am eu hymateb. Ond mi glywais fod un fam a oedd wedi manteisio ar y gefnogaeth arbenigol mewn amgylchedd grŵp nid yn unig wedi cael ei chefnogi gyda bwydo, ond yn emosiynol. Ni fyddai cael cyngor arbenigol yn y cartref yn arwain at y fath yma o gefnogaeth.

Dŷch chi'n gwybod bod gan Gymru un o’r cyfraddau bwydo ar y fron isaf yn y Deyrnas Unedig, a bod gan y Deyrnas Unedig un o’r cyfraddau bwydo ar y fron isaf yn y byd, felly mae'r math yma o gefnogaeth yn angenrheidiol. A all y Gweinidog fynd i’r afael â’r mater hwn gyda bwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro a rhoi sicrwydd y bydd rhieni ymhob man yng Nghanol De Cymru yn gallu derbyn cymorth arbenigol yn brydlon ac mewn amgylchedd cefnogol?

Diolch yn fawr. Rwy’n ymwybodol fod newidiadau wedi bod i ddarpariaeth grwpiau cymorth bwydo ar y fron yng Nghaerdydd a’r Fro. Nawr, rhoddwyd sicrwydd i swyddogion fod y trefniadau amgen yn diwallu anghenion menywod a theuluoedd. Rwy’n falch iawn o nodi tuedd ar i fyny yn 2022 ac sy'n parhau drwy bob chwarter yn 2023 o fabanod yng Nghymru sy’n cael eu bwydo ar y fron yn 10 diwrnod oed ac yn chwe wythnos oed. Mewn gwirionedd, gan Gaerdydd y mae un o’r cyfraddau bwydo ar y fron uchaf yng Nghymru, ond yn amlwg, rydym yn awyddus iawn i gynyddu hynny. I fabanod sydd newydd eu geni, mae'r gyfradd bwydo ar y fron yng Nghymru yn 65 y cant. Dyna'r ail lefel uchaf a gofnodwyd erioed, ac ar ôl 10 wythnos, gallwn weld ei fod yn 56 y cant—mae'n ddrwg gennyf, 10 diwrnod, 56 y cant. Unwaith eto, dyna'r uchaf a gofnodwyd. Ychydig llai na thraean o fabanod Cymru sy'n cael eu bwydo ar y fron yn chwe mis oed. Rwy'n awyddus iawn i'r ffigur hwn godi, i barhau i godi a chodi a chodi, ond rydym yn sicr ar y trywydd iawn mewn perthynas â bwydo ar y fron.

14:00

Mae rhywfaint o waith i'w wneud yma. Gan gadw at Gaerdydd a’r Fro, mae menyw a roddodd enedigaeth yn ysbyty’r Mynydd Bychan yn ddiweddar yn adrodd bod ei gofal cyn ac ar ôl geni yn wych, ond bod yna ddiffyg cefnogaeth gwirioneddol mewn perthynas â bwydo ar y fron, ac mae’n dweud ei fod yn druenus. Rhoddodd y staff y babi ar ei brest heb unrhyw gymorth i gael y babi i gydio, a dim ond pan lwyddwyd i ddod o hyd i dîm bwydo ar y fron arbenigol Seren y cafodd hi’r cymorth yr oedd hi ei angen, a dywedodd y byddai wedi rhoi potel i'w babi fel arall. Dywedodd fod rhywun wedi gofyn i dîm Seren beidio ag ymweld â chleifion ar y wardiau. Mae'n amlwg fod hyn yn rhywbeth y mae angen i’r bwrdd iechyd edrych arno, ond mae'n codi pryderon ynglŷn â'r ffordd y mae ein polisi bwydo ar y fron yn cael ei weithredu, oherwydd mae menywod angen cyngor cyson ac effeithiol ar fwydo ar y fron gan y tîm cyfan sy'n cynnig gofal mamolaeth, nid yr arweinydd bwydo babanod yn unig. Fel arall, rwy’n ofni y caiff llawer o famau newydd a mamau beichiog sy’n awyddus i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w babanod eu hamddifadu o'r cymorth sydd ei angen arnynt i ddechrau bwydo ar y fron. Felly, pa archwiliad a wnaed o gysondeb ac effeithiolrwydd cymorth bwydo ar y fron yn unedau mamolaeth ysbytai ac yn y gymuned?

Diolch yn fawr, Jenny. Fe fyddwch yn gwybod bod gennym gynllun gweithredu Cymru gyfan ar fwydo ar y fron ac mae'n bwysig fod byrddau iechyd yn cadw at y cynllun gweithredu hwnnw, a byddaf yn gwneud ymholiadau yn sgil y cwestiwn hwn er mwyn gwneud yn siŵr fod y ddarpariaeth yn gyson—rwy’n siomedig iawn o glywed am brofiadau’r rhieni newydd hyn, ac os gallwch roi’r manylion i mi, fe wnaf edrych i weld a all fy swyddogion ymchwilio i hynny. Ond roeddwn yn falch iawn o glywed am brofiad Jack Sargeant a’i deulu a'r gofal a gafodd yn ysbyty’r Mynydd Bychan, oherwydd fe wneuthum ei holi yr wythnos hon a dywedodd ei fod yn gwbl ganmoladwy. Felly, rydych chi'n llygad eich lle, mae angen inni gael gwared ar yr anghysondeb.

Gofal Cymdeithasol

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru? OQ61359

Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn hanfodol i bobl Cymru. Mae data blynyddol yn dangos bod llywodraeth leol, ar unrhyw un adeg, yn darparu gofal a chymorth i fwy na 70,000 o ddinasyddion. Rydym yn parhau i weithio ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau y gall pobl gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt a chael cymorth i fyw’n dda gartref, neu mor agos i’w cartrefi â phosibl.

Diolch. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd gofal cymdeithasol, nid yn unig i hwyluso rhyddhau cleifion o’r ysbyty'n gyflym, ond hefyd i leihau nifer y bobl y mae angen iddynt fynd i’r ysbyty a gwella profiadau bywyd y rhai sy’n cael gofal cymdeithasol. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen inni hyrwyddo cydraddoldeb gydag iechyd o ran statws a pharch, fod angen inni recriwtio mwy o bobl i’r sector gofal, a bod angen inni ddysgu o'r rhaglen ailalluogi yn Abertawe a lleihau nifer y bobl sy'n gadael yr ysbyty y mae angen iddynt symud i gartref gofal?

A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am y cwestiwn atodol hwnnw? Rwy'n cytuno’n llwyr ag ef ynghylch pwysigrwydd gofal cymdeithasol, yn enwedig yn y ddwy enghraifft yr ydych chi newydd sôn amdanynt—yr oedi wrth drosglwyddo gofal. Rwy'n gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet i edrych ar sut y gweithiwn ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i gyflymu taith cleifion drwy'r system, ac rwy'n credu bod y ddwy enghraifft a nodwyd gennych, adeiladu cadernid cymunedol i atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf a'r llwybrau gofal, yn dangos pam fod angen parch cydradd i iechyd a gofal cymdeithasol.

Rwy'n credu ei bod yn deg dweud nad yw gofal cymdeithasol bob amser wedi cael parch cydradd ag iechyd, ac mae hynny wedi bod yn un o'r heriau sydd yn draddodiadol wedi ei gwneud hi'n anodd iawn inni allu recriwtio i faes gofal cymdeithasol. Ond oherwydd bod darparu iechyd a gofal cymdeithasol yn gwbl ddibynnol ar ein gweithlu, fe wnaethom lansio strategaeth y gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a ddarparodd gynllun 10 mlynedd o flaenoriaethau. Ac rydym newydd gyhoeddi cynllun cyflawni gofal cymdeithasol yn ddiweddar, sy'n canolbwyntio'n benodol ar y gweithlu gofal cymdeithasol a recriwtio, cadw a chadernid y gweithlu hwnnw. Rwy'n credu ei bod hefyd bwysig siarad am y gwaith gwirioneddol dda sy'n mynd rhagddo yn y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, gydag undebau llafur, gyda chyflogwyr, Llywodraeth Cymru, sydd oll yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ar y camau y gallwn eu cymryd i wella telerau ac amodau gweithwyr gofal cymdeithasol a sicrhau ei fod yn weithlu llawer mwy gwydn. Rydym bellach wedi sefydlu is-grŵp o'r fforwm i ddatblygu fframwaith cynnydd tâl ac amodau drafft, sy'n ymwneud â sicrhau cysondeb ar draws cyflogau, telerau ac amodau gweithwyr gofal cymdeithasol, nid yn unig mewn awdurdodau lleol, lle mae gennym y cysondeb hwnnw, ond yn y trydydd sector a darpariaeth gofal preifat hefyd. Rwy'n credu y bydd yn rhaid inni barhau ar y llwybr hwnnw os ydym am sicrhau'r parch cydradd y gwnaethoch chi gyfeirio ato i'r gweithlu gofal cymdeithasol.

14:05
Ariannu Cartrefi Gofal

6. A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet ddatganiad ar gysondeb ariannu gofal o fewn y gyfundrefn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru? OQ61377

Diolch. Mae gan yr awdurdodau lleol gyfrifoldeb statudol dros gynllunio a darparu gofal ar gyfer eu dinasyddion lleol, a fyddai'n cynnwys darparu cartrefi gofal. Yn flynyddol, mae awdurdodau lleol yn pennu ac yn cytuno ar eu cyfraddau ffioedd comisiynu eu hunain ar gyfer gwasanaethau, gan gynnwys cartrefi gofal.

Mae nifer o gartrefi gofal ar hyd y gogledd wedi cysylltu â fi yn ddiweddar yn codi pryderon, wrth gwrs, am gyflwr cyllido'r sector. Mae cartrefi gofal yn derbyn llai o gyllid gan Betsi Cadwaladr ar gyfer darparu gwasanaeth continuing healthcare nag y maen nhw'n ei gael gan awdurdodau lleol am ofalu am unigolion sydd ag anghenion gofal llai dwys; yng Nghonwy, er enghraifft, mae'n £6,000 yn llai bob blwyddyn i bob preswylydd. Nawr, mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud y penderfyniad cyllido ar gyfer y flwyddyn bresennol heb ymgynghori â'r sector, er eu bod nhw bellach, gyda llaw, yn sgil ymateb chwyrn y sector ac ymyriad gan wleidyddion, wedi cytuno cyfarfod i drafod ffordd ymlaen.

Ond a gaf i ofyn a ydych chi'n cytuno â fi bod peidio ag ariannu cartrefi gofal yn iawn yn economi ffals? Hynny yw, os yw'r cartrefi yma yn gwrthod cymryd preswylwyr, neu'n cau oherwydd tanariannu gan y bwrdd iechyd, yna'r bwrdd iechyd ei hun fydd ar ôl, wedyn, yn gorfod delio â'r sefyllfa, gyda mwy o welyau ysbyty wedi'u blocio ac yn y blaen, a nhw fydd yn talu'r pris. Felly, pa gamau y mae'r Llywodraeth am eu cymryd i ddatrys y sefyllfa anghynaliadwy yma? Pa gyngor sydd gennych chi i Betsi Cadwaladr ynglŷn â thalu ffioedd teg i gartrefi gofal er mwyn osgoi sefyllfa lle mae'r gwasanaeth gofal yn dadfeilio, a fyddai wedyn yn costio llawer iawn yn fwy i Betsi Cadwaladr yn y pen draw?

Diolch am y cwestiwn atodol, Llyr. Fe wnaethoch chi gyfeirio at ddau beth yno: ffioedd cartrefi gofal a'r ffioedd am ofal iechyd parhaus, ac maent yn bethau gwahanol, ac mewn gwirionedd, maent mewn portffolios gweinidogol gwahanol hefyd, ond fe ddof at hynny mewn eiliad. Credaf mai'r man cychwyn, ac fe fyddwch yn deall ac yn derbyn hyn, yw ein bod yn darparu cyllid i awdurdodau lleol sy'n mynd tuag at eu grant cynnal ardrethi, ac yna maent yn penderfynu sut y caiff yr arian hwnnw ei ddyrannu i'w holl wasanaethau, gan gynnwys gofal cymdeithasol, ac mae hynny'n cynnwys darpariaeth cartrefi gofal. Eu cyfrifoldeb statudol nhw yw sicrhau eu bod yn diwallu anghenion gofal a chymorth eu dinasyddion lleol, a mater i'r awdurdodau lleol yw pennu a chytuno ar eu cyfraddau ffioedd eu hunain ar gyfer darparu lleoliadau cartrefi gofal yn flynyddol a chyhoeddi'r rhain.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, fodd bynnag, yw bod awdurdodau lleol yn cael eu hannog i weithio o fewn y fframwaith 'Gadewch i ni gytuno i gytuno', ac nid wyf yn gwybod a yw'r awdurdodau lleol y cyfeiriwch chi atynt yn gwneud hynny. Ond fe'u hanogir i wneud hynny wrth osod cyfraddau ffioedd cartrefi gofal, oherwydd mae hynny'n cynnwys gweithio mewn partneriaeth â darparwyr i ddeall costau, ac yna gosodir cyfraddau gan ddefnyddio methodoleg ffioedd a ddefnyddir naill ai gan yr awdurdod lleol ar lefel awdurdod lleol neu ar lefel ranbarthol. Felly, dyna'r dull o bennu ffioedd cartrefi gofal a pham fod diffyg cysondeb, weithiau, yn y modd y caiff ffioedd cartrefi gofal eu gosod ar draws pob awdurdod lleol, oherwydd bydd pob awdurdod lleol yn gosod eu ffioedd eu hunain.

Fodd bynnag, fe wnaethoch chi ofyn, wedyn, beth a wnawn i geisio datrys y broblem benodol honno. Ni allwn ddweud wrth awdurdodau lleol sut i wario eu harian—mae'r arian hwnnw yn y grant cynnal ardrethi; nhw sy'n penderfynu sut maent yn gwario'r arian hwnnw. Ond rydym wedi datblygu cod ymarfer newydd. Felly, mae gennym y fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth, sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd, ac rydym yn gobeithio y bydd hwnnw'n dod i rym ym mis Medi. Nawr, bydd y fframwaith cenedlaethol yn gosod yr egwyddorion a'r safonau ar gyfer arferion comisiynu gyda'r nod o leihau cymhlethdod a hwyluso cysondeb cenedlaethol mewn perthynas ag arferion comisiynu ac ailgydbwyso'r ffocws comisiynu ar ansawdd canlyniadau. Felly, pan ddaw'r fframwaith cenedlaethol yn weithredol yn ddiweddarach yn y flwyddyn—y gobaith yw y daw'n weithredol ym mis Medi—rwy'n gobeithio y bydd hwnnw’n ysgogi dull mwy cyson o weithredu, nid yn unig yn ymarferol, ond wrth bennu ffioedd cartrefi gofal hefyd. Hoffwn ei weld yn cael ei gyflwyno’n weddol gyflym, a bod awdurdodau lleol yn ei weithredu, ac fel y dywedaf, ein bod yn gweld cysondeb o ran ymarfer a phennu ffioedd.

14:10

Mark Isherwood. Bydd angen agor eich meic cyn i chi ddechrau eich cwestiwn, Mark Isherwood. Os gallwch ddechrau eto. Rydych chi'n iawn nawr.

Iawn. Yn ystod y datganiad busnes ddoe, galwais am ddatganiad brys ar ffioedd cartrefi gofal ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ysgrifennu at ddarparwyr yng ngogledd Cymru yn nodi bod ffioedd cartrefi gofal yn codi 3.17 y cant ar gyfer 2024-25. Fel y dywedais, cyfarfu Gareth Davies a minnau â Fforwm Gofal Cymru ddydd Gwener diwethaf, ac roeddent yn dweud wrthym mai gogledd Cymru sydd â’r ffioedd cartrefi gofal isaf yng Nghymru erbyn hyn, gan roi pwysau ar ddarparwyr i roi’r gorau i dderbyn cleifion gofal iechyd parhaus newydd ac i roi rhybudd i’w preswylwyr presennol a ariennir gan ofal iechyd parhaus, canlyniad gofidus nad oes neb eisiau ei weld ar yr union adeg pan nad yw’r angen erioed wedi bod yn fwy a phan fo byrddau iechyd angen y gwelyau hyn mewn cartrefi gofal yn daer. Yn ei hymateb, dywedodd y Trefnydd

'mae hynny'n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn mynd i'r afael ag ef'

ar sail drawsweinidogol. Felly, sut rydych chi'n ymateb i'r alwad am ymyrraeth frys gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau setliad cynaliadwy a dull cenedlaethol o osod ffioedd, i ddarparu ffigur sylfaenol sy'n dderbyniol i'r sector ac sy'n sicrhau gwerth da am arian i'r trethdalwr?

Diolch i Mark Isherwood am y cwestiwn hwnnw. Fe’ch cyfeiriaf yn ôl at yr ateb a roddais i Llyr Gruffydd, a oedd yn ymwneud â’r broses gyffredinol o bennu ffioedd cartrefi gofal. Rydych chi wedi dod—. Mae'n ddrwg gennyf, Llyr, ni roddais sylw i'r pwynt a godwyd gennych am ofal iechyd parhaus, ac fe wnaf hynny nawr mewn ymateb i gwestiwn Mark. Mater i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw gofal iechyd parhaus a phennu polisi ynghylch hynny, ond hoffwn ddweud mai cyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw pennu’r cyfraddau ffioedd priodol ar gyfer darparwyr o dan ofal iechyd parhaus. Nid oes methodoleg genedlaethol ar gyfer cytuno ar y gyfradd gofal iechyd parhaus. Telir y gyfradd wythnosol honno ar gyfer gofal iechyd parhaus gan y bwrdd iechyd, a gall amrywio yn dibynnu ar yr asesiad o anghenion ar gyfer yr unigolyn sy’n derbyn y gofal hwnnw. Felly, mae'r gofal sydd ei angen a'r cyfraddau ffioedd gofal preswyl yn cael eu gosod yn unol â'r anghenion penodol.

Caf air pellach gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol am hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae’r cyfrifoldebau’n gorgyffwrdd. Nid yw gosod y gronfa gofal iechyd parhaus yn rhan o fy mhortffolio i; ond mae gosod ffioedd cartrefi gofal ynddo. Felly, fe gawn sgwrs, ac rwy’n siŵr y gallwn baratoi rhywbeth a’i gyflwyno i’r Senedd, neu ei anfon at Aelodau, fel bod ganddynt ddealltwriaeth well o’r hyn sy’n digwydd.

Ysbyty Athrofaol y Faenor

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am wasanaethau brys yn Ysbyty'r Faenor? OQ61363

Rydym wedi bod yn agored am yr heriau y mae gwasanaethau gofal brys yn eu hwynebu. Nid yw’r rhain yn unigryw i Gymru, ac nid yw ysbyty'r Faenor yn eithriad. Mae'r digwyddiad parhad busnes diweddar yn yr ysbyty yn adlewyrchu lefel y pwysau sydd ar y system yn sgil y galw am wasanaethau a phroblemau gyda llif cleifion.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydych chi newydd ei nodi, yr wythnos diwethaf yn ysbyty'r Faenor, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ei fod o dan bwysau aruthrol, gan annog pobl i beidio â dod yno oni bai bod ganddynt anafiadau difrifol. Euthum i'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn ysbyty'r Faenor bythefnos yn ôl, y penwythnos cyn i'r cyhoeddiad pryderus hwn gael ei wneud, ac nid wyf erioed wedi ei weld mor brysur—roedd tua 20 o ambiwlansys y tu allan, a llond y lle o bobl yn yr ystafell aros, nad yw’n addas i’r diben, gyda phobl yn gorlifo drwy’r drysau, yn llythrennol. Nid yw’r seilwaith erioed wedi bod yn addas i’r diben. Fel y gwyddoch, fe'i cynlluniwyd at ddiben arall yn wreiddiol.

Ond nid y seilwaith gwael yn unig yw'r broblem, nid oedd y systemau'n gweithio ychwaith. Ac rwy’n gwybod bod yna bwysau aruthrol ar ofal cymdeithasol, wrth gwrs, a bod hynny'n effeithio ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Cefais brofiad uniongyrchol o amseroedd aros 18 awr yn adran ddamweiniau ac achosion brys ysbyty'r Faenor fis Medi diwethaf, ac yn sicr nid oedd yn edrych fel pe bai unrhyw beth wedi gwella ers hynny. Mewn gwlad fel ein gwlad ni, nid yw'r sefyllfa hon yn dderbyniol. Mae angen blaenoriaethu cyllid i wneud beth bynnag sydd ei angen i wella'r sefyllfa enbyd hon. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd inni heddiw ei bod yn blaenoriaethu gwaith i wella’r adran ddamweiniau ac achosion brys yn ysbyty'r Faenor, o ran seilwaith a rheolaeth, gan weithio gyda bwrdd iechyd Aneurin Bevan, wrth gwrs, i wella pethau'n gyflym ac yn sylweddol i'n hetholwyr? Mae’n bryd i’r Llywodraeth Lafur hon roi'r gorau i wastraffu arian ar hoff brosiectau a'i roi lle mae ei angen yn ddybryd.

14:15

Wel, gallaf eich sicrhau, Laura, fy mod yn benderfynol iawn o gadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd mewn perthynas ag ysbyty'r Faenor. Dyna pam, mewn perthynas â gofal brys, eu bod yn destun monitro uwch, sy'n golygu bod fy swyddogion yn cadw llygad barcud arnynt. Ond hefyd, mae'n debyg ei bod yn werth pwysleisio ein bod wedi darparu cyfalaf ychwanegol o £14 miliwn i gefnogi’r gwaith o ehangu'r adran ddamweiniau ac achosion brys, ac rwy'n disgwyl i'r gwelliannau hynny gael eu cwblhau erbyn gwanwyn 2025. Bydd hynny’n dyblu'r capasiti aros o 38 i 75 sedd. Ond fel yr awgrymwch, mae'n ymwneud â mwy na'r seilwaith yn unig, mae'n ymwneud â'r llif hefyd, mae'n ymwneud â chael yr holl bethau eraill hynny'n iawn. Dyna pam fod Aneurin Bevan wedi cael £6 miliwn ychwanegol o'r rhaglen chwe nod, a bydd yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn derbyn £2.7 miliwn arall o’r rhaglen honno. Felly mae llawer iawn o arian yn mynd tuag at hyn. Rydym yn disgwyl gweld gwelliannau.

Fel y dywedwch, mae'r galw'n parhau. Mae'r galw a welwn mewn gofal brys yn fwy nag erioed o'r blaen. Ac mae'n anodd iawn inni wella hynny'n gyflym, a dyna pam, o'r holl bwysau enfawr sydd arnom o ran cyfalaf—a pheidiwch ag anghofio mai dim ond £1 filiwn o gynnydd mewn cyfalaf a roddodd y Llywodraeth Geidwadol i Lywodraeth Cymru gyfan eleni—mae i ni geisio dod o hyd i £14 miliwn o gyfalaf, i ni ei wario ar yr adran frys yn Aneurin Bevan, rwy’n gobeithio, yn tanlinellu pa mor ddifrifol yw’r mater hwn i ni.

Ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

8. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o ddigonolrwydd y ddarpariaeth gwasanaeth yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan? OQ61389

Y llynedd, mynychodd dros 850,000 o bobl ysbytai ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy’n adlewyrchu cynnydd parhaus yn y galw a phwysau sylweddol. Ond mae cyfleoedd i wella ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i wella mynediad at wasanaethau iechyd a gofal diogel ac amserol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac nid yw gofyn y cwestiwn hwn yn rhoi unrhyw bleser i mi. Mae’n dilyn cwestiwn Laura Jones, rwy’n credu, ond teimlwn nad oedd gennyf ddewis ond codi fy mhryderon dybryd unwaith eto am gapasiti yn ysbyty'r Faenor yn enwedig.

Dros y ddwy neu dair wythnos ddiwethaf cefais waith achos difrifol. Roedd un achos yn codi pryderon gwirioneddol, lle’r oedd etholwr sâl a gofidus iawn wedi fy ffonio o’i wely yn yr ysbyty. Gofynnwyd iddo adael ei ystafell a symud i'r coridor i wneud lle i glaf arall. Ymdriniwyd â hyn yn gyflym, a hoffwn ddiolch i dîm cyswllt cleifion yr ysbyty, a ymgysylltodd â’r etholwr ar unwaith a rhoi sicrwydd iddo na fyddai angen iddo symud.

Hefyd, cysylltodd etholwr pryderus â mi'n gofidio'n fawr ynghylch y diffyg cyfathrebu ac ymgysylltu â nhw ynghylch aelod o’r teulu a oedd yn ddifrifol wael yn ysbyty'r Faenor, ac a fu farw ychydig ddyddiau’n ddiweddarach. A’r wythnos diwethaf, gwelwyd postiad ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud wrth bobl am beidio â mynd i’r ysbyty oni bai eu bod mewn cyflwr lle roedd eu bywyd yn y fantol oherwydd pwysau aruthrol ar eu gwasanaethau.

Ysgrifennydd y Cabinet, beth ellir ei wneud i liniaru'r pwysau yn ysbyty'r Faenor? Yn amlwg, mae pwysau aruthrol yno ar hyn o bryd ac mae'n rhaid cael ateb, ac mae’n rhaid inni ddod o hyd i rywbeth, hyd yn oed os yw’n ateb tymor byr, oherwydd mae’r ffaith bod pobl sâl yn fy ffonio o'u gwely yn yr ysbyty yn rhy ofnadwy. Diolch.

Rwy'n cytuno â chi. Rwy'n credu bod y pwysau'n ddwys iawn. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr, nid yn unig â’r cleifion, ond â’r staff hefyd a'r pwysau sydd arnynt, yn enwedig os edrychwch ar nifer y cleifion. Felly, mae’r galw ar y gwasanaeth yn enfawr. Ym mis Mai 2024, gwelodd yr adran frys bron i 8,000 o gleifion, sy'n nifer enfawr o bobl. Ond er hynny, roedd gostyngiad o 8 y cant yn nifer y trosglwyddiadau ambiwlans un awr, o gymharu â mis Ionawr 2024, a gallwch edrych ar y ffaith mai’r amser canolrifol, yr amser cyfartalog o gyrraedd hyd nes y cewch eich derbyn, eich trosglwyddo neu eich rhyddhau yw dwy awr a 15 munud. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig gwneud yn siŵr ein bod yn canolbwyntio ar yr achosion sy’n cymryd amser hir, a’r ffaith nad yw gofal coridor yn dderbyniol, ond gadewch inni beidio ag anghofio bod y mwyafrif helaeth o bobl yn cael eu gweld o fewn dwy awr a 15 munud. Felly, rwy'n credu bod angen inni gadw rhywfaint o bersbectif, ond mae llawer iawn o arian wedi'i roi i mewn. Mae yna wasanaeth newydd gofal argyfwng yr un diwrnod sydd wedi ysgwyddo llawer o'r baich; mae tua 600 o gleifion y mis bellach yn cael eu trin yn y ganolfan honno ar gyfer gofal argyfwng yr un diwrnod, ac mae tua 75 y cant o'r rheini'n osgoi gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty mewn modd diogel. Felly, rydym yn rhoi mesurau ar waith, rydym yn gweld gwelliannau. Nid yw'n ddigon da, a dyna pam eu bod yn destun monitro uwch ar hyn o bryd.  

14:20
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg

Eitem 2 sydd nesaf, cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg. Y cwestiwn cyntaf, Julie Morgan. 

Gwyddorau Bywyd

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu twf gwyddorau bywyd yng Nghymru? OQ61386

Mae gan y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru nifer o alluoedd o'r radd flaenaf, ac rydym yn cefnogi ei dwf mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys drwy'r cymorth ariannol a ddarparwn i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a thrwy noddi digwyddiadau MediWales fel BioCymru a NHS Connects.

Diolch am yr ateb. 

Fis diwethaf, agorodd cyfleuster gweithgynhyrchu gwyddorau bywyd blaengar newydd yng Ngogledd Caerdydd. Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi mynychu'r agoriad. Bydd safle Molecular Devices yn cynhyrchu modelau 3D o feinwe organau dynol, a elwir yn organoidau, wedi'u tyfu o fôn-gelloedd dynol ar gyfer ymchwil i glefydau ac ar gyfer datblygu cyffuriau. Ac fe arloeswyd y gwaith o ddiwydiannu ymchwil organoid gan brifysgolion Caerdydd a Chaerfaddon, drwy gwmni newydd sydd bellach wedi'i gaffael gan Molecular Devices, ac mae'r gweithlu wedi dyblu a bydd rhagor o swyddi'n cael eu creu. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod hon yn enghraifft wych o'r hyn yr oedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei gyflawni gyda'r cynllun gweithgynhyrchu? A beth arall y gellir ei wneud i ddenu cwmnïau gwyddorau bywyd blaengar eraill i Gymru?

Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn pellach hwnnw. Rwy'n credu bod hon yn enghraifft dda iawn o arloesedd gwirioneddol flaenllaw yng Nghymru, gan bwyso ar ymrwymiad gan y Llywodraeth, ond hefyd y cryfderau sylfaenol yn ein heconomi a'n gwasanaeth cyhoeddus. Ac rwy'n credu ei bod yn enghraifft dda iawn o gydweithrediad academaidd a diwydiannol, gyda'r nod o chwyldroi gofal iechyd a dod â manteision economaidd i Gymru. Mae'n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau wedi siarad amdano ar sawl achlysur. 

Roedd Julie Morgan yn gofyn beth mae hyn yn ei olygu o safbwynt ein cynllun gweithredu ar weithgynhyrchu. Byddwn yn mapio cadwyni cyflenwi presennol a phosibl ar gyfer gwyddorau bywyd, ac yn trafod gyda'r GIG—parhau â'r trafodaethau yr ydym eisoes wedi'u dechrau, mewn gwirionedd—sut y gallwn ei gefnogi i ddod o hyd i weithgynhyrchwyr yng Nghymru, annog cwmnïau i fuddsoddi yng Nghymru a helpu gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i arallgyfeirio i'r cadwyni cyflenwi hyn. Rwy'n credu ei fod yn gyfle da iawn o safbwynt economaidd, a chredaf y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn cytuno ei fod yn gyfle pwysig o safbwynt gofal iechyd hefyd. 

Diolch am ofyn y cwestiwn, Julie Morgan. Mae cefnogi ein sector gwyddorau bywyd yn hynod o bwysig i hyrwyddo economi ffyniannus, a gwyddom fod cyfleoedd enfawr yma yng Nghymru, ond mae angen inni ennyn diddordeb mewn gyrfaoedd gwyddorau bywyd yn ifanc. Mae'n hanfodol sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr bywyd yn chwilfrydig, yn dangos diddordeb ac yn cael eu hyfforddi, ac mae hynny, wrth gwrs, yn dechrau yn ein hysgolion, ond mae yna broblem.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud y penderfyniad gwleidyddol, drwy'r cwricwlwm newydd, i leihau'n sylweddol faint o wyddoniaeth a gynigir ar lefel TGAU. Yn hytrach na chynnig y dewis i bobl ifanc astudio gwyddoniaeth driphlyg, fel y'i gelwid yn flaenorol, yr uchafswm sydd ar gael i ddisgyblion yn rhan o'r cwricwlwm newydd yw'r hyn a elwid gynt yn wyddoniaeth ddwbl, felly traean yn llai. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa sylwadau a wnaethoch ac y byddwch chi'n eu gwneud i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i adolygu'r penderfyniad annoeth hwn i amddifadu pobl ifanc o'r lefel fwy trwyadl o wyddoniaeth ar lefel TGAU, sy'n amlwg yn dal i gael ei gynnig dros y ffin?  

Wel, rhaid i mi fod yn ofalus i beidio â thresmasu ar fy nghyfrifoldebau Cabinet blaenorol wrth ateb y cwestiwn. Ond bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, fod y penderfyniad a wnaed gan Cymwysterau Cymru i ddiwygio'r cymwysterau hynny wedi cael ei gymeradwyo gan y cymdeithasau brenhinol ar gyfer cemeg, bioleg a ffiseg. A'r rheswm y credaf eu bod wedi cefnogi'r penderfyniadau hynny yw oherwydd eu bod yn gwybod, ar sail tystiolaeth, y bydd pobl sy'n symud ymlaen at Safon Uwch yn gwneud yn dda iawn ar sail y cymwysterau hynny—mae tystiolaeth o hynny'n digwydd—ac yn seiliedig ar drafodaethau gyda phrifysgolion. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig, mae'r pwynt ehangach y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig, sef bod yn rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i annog pobl ifanc i astudio'r gwyddorau a phynciau STEM yn ehangach. Dyna pam rwy'n falch iawn o'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo ysgolion i wneud hynny.

14:25
Maes Awyr Caerdydd

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd? OQ61366

Mae Maes Awyr Caerdydd yn elfen hanfodol o seilwaith economaidd a thrafnidiaeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal maes awyr yng Nghymru oherwydd y manteision y mae'n eu cynnig i economi Cymru a'i gadwyn gyflenwi ranbarthol.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Nid yw fy marn ar Faes Awyr Caerdydd yn gyfrinach i unrhyw un o fewn neu'r tu allan i'r Siambr hon; credaf yn gryf y dylid cael gwared ar law farw'r Llywodraeth a dychwelyd Maes Awyr Caerdydd i berchnogaeth breifat. Fodd bynnag, er gwaethaf galwadau dro ar ôl tro, mae'n ymddangos na fydd Llywodraeth Cymru yn ildio'r maes awyr, sy'n parhau i lyncu miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr. Felly, gyda hynny mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, gan fod y maes awyr bellach yn rhan o'ch briff chi, pa syniadau newydd y bwriadwch eu cyflwyno i wella ffyniant y maes awyr?

Hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, tua wythnos yn ôl, gwelwyd anhrefn llwyr ym Maes Awyr Manceinion yn dilyn toriad pŵer. Cafodd hyd at 90,000 o deithwyr eu heffeithio, gyda hediadau'n cael eu canslo ac awyrennau a oedd ar fin cyrraedd yn cael eu dargyfeirio. Nawr, rwy'n derbyn, Weinidog, na ellir cymharu maes awyr Manceinion â Chaerdydd, ond pa gynlluniau wrth gefn sydd gan Lywodraeth Cymru, pe bai digwyddiad tebyg yn digwydd yma yng Nghymru? Diolch.

Bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, fod y maes awyr yn gweithredu hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, fel y byddai hi'n ei ddisgwyl, ac rwy'n disgwyl y byddai'n cymeradwyo hynny. Rwy'n credu ei bod yn cyfeiliorni yn ei safbwynt ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r maes awyr. Mae'n rhan hynod bwysig o'n seilwaith economaidd yng Nghymru. Mae'r dadansoddiad economaidd diweddaraf sydd gennym yn awgrymu bod ôl troed economaidd uniongyrchol y maes awyr oddeutu £87 miliwn o werth ychwanegol gros, yn seiliedig ar oddeutu 2,000 o weithwyr a gyflogir ar y safle ac o'i gwmpas. Amcangyfrifir bod y gweithgarwch economaidd anuniongyrchol y mae'r maes awyr yn ei gefnogi oddeutu £159 miliwn arall o werth ychwanegol gros.

Wrth nesu at ddiwedd cyfnod cynllun presennol Llywodraeth Cymru, fy ffocws, wrth dderbyn y portffolio hwn, oedd ystyried strategaeth fwy hirdymor ar gyfer tyfu'r busnes mewn modd a fyddai'n gwneud y gorau o gryfderau diamheuol y maes awyr. Rwyf am wneud y mwyaf o fudd posibl y maes awyr i'r economi ranbarthol, ac i lywio'r meddylfryd hwnnw, rydym wedi comisiynu ymgynghorwyr i ddarparu amcangyfrifon wedi'u diweddaru o fudd economaidd cyfredol a phosibl y maes awyr, fel bod gennym drywydd hirdymor, sy'n bwysig iawn, ac rwy'n gwbl hyderus fod gennym y tîm cywir yn y maes awyr, yn gwneud y penderfyniadau cywir. Ac fe fydd hi'n gwybod am y cynnydd mewn llwybrau teithwyr yr haf hwn, ac rwy'n siŵr y bydd miloedd lawer o bobl yn manteisio arnynt.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae 96 y cant o feysydd awyr y byd mewn perchnogaeth gyhoeddus, ac mae bob amser yn fy mhoeni bod y Ceidwadwyr yn awyddus i hyrwyddo Maes Awyr Rhyngwladol Teesside a'i fodel perchnogaeth gyhoeddus, ond eto maent bob amser yn awyddus i ladd ar Faes Awyr Caerdydd a'i bwysigrwydd rhyngwladol i ni a'i arwyddocâd economaidd hefyd. O gofio'r ffigurau gwerth ychwanegol gros yr ydych chi newydd eu dyfynnu, a'r ffaith bod y maes awyr yn cynnal 4,000 o swyddi yn ymwneud â hedfan ym Mro Morgannwg yn unig, a fyddech chi'n cytuno â mi fod y ffordd y mae'r Torïaid yn lladd ar Faes Awyr Caerdydd yn gyson yn dangos diffyg uchelgais ar ran Cymru, ac o bosibl, diffyg dealltwriaeth o'r modelu economaidd?

Wel, fel yr Aelod, rwyf wedi cael llond bol ar glywed y Ceidwadwyr Cymreig yn lladd ar Gymru. Nid oes ganddynt unrhyw—[Torri ar draws.] Nid oes ganddynt unrhyw—[Torri ar draws.] Nid oes ganddynt unrhyw hyder yn ein sefydliadau cenedlaethol, ac nid ydynt yn gweld sut y gall Llywodraeth gadarnhaol sy'n ymwneud â'r economi ddod â manteision i Gymru. Yn hytrach na chwyno am y dull a fabwysiadwn fel Llywodraeth, rwy'n credu ei bod yn hen bryd iddi gydnabod yr ymrwymiad a wnaethom ar ran pobl Cymru i'r maes awyr, sy'n rhan mor bwysig o'n seilwaith economaidd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae digwyddiadau mawr yng Nghymru yn ffynhonnell refeniw hanfodol i lawer o fusnesau. Maent yn denu ymwelwyr i Gymru, sy'n aml yn aros am sawl diwrnod, ac maent hefyd yn darparu swyddi hanfodol, yn enwedig i bobl iau sy'n chwilio am waith dros dro tra byddant yn astudio. Mae digwyddiad Ironman Wales, a gynhelir yn Ninbych-y-pysgod bob mis Medi, yn un o nifer o ddigwyddiadau o'r fath ar draws Cymru. Mae'n denu athletwyr o bob cwr o'r byd, ac mae'n cyd-fynd â'r ethos o annog gweithgareddau chwaraeon a herio pob un ohonom i wneud mwy o ymarfer corff, rhywbeth y gallwn i wneud ychydig mwy ohono, mae'n debyg. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, mae carthion amrwd wedi gollwng unwaith eto i draeth y gogledd Dinbych-y-pysgod, lle mae'r athletwyr yn nofio, sydd wedi arwain Cyfoeth Naturiol Cymru i gyhoeddi rhybudd perygl llygredd, nid yn unig ar y traeth hwn, ond ar draeth y de Dinbych-y-pysgod, traeth y Castell a thraeth Penalun gerllaw hefyd. Mae etholwyr wedi dweud wrthyf eu bod wedi cael llond bol ar weld dyfroedd Cymru'n cael eu llygru â charthion. Pe bai'r llygredd hwn wedi digwydd ym mis Medi, mae'n debyg y byddai'r gystadleuaeth Ironman wedi cael ei chanslo, rhywbeth a fyddai wedi cael effaith ddifrifol ar dwristiaeth, yr economi leol, ac yn y pen draw, ar enw da Cymru am gynnal digwyddiadau o'r fath.

Mae'r potensial i hyrwyddo digwyddiadau mawr yn nyfroedd Cymru yn enfawr. Fodd bynnag, mae'r methiant i ddwyn Dŵr Cymru i gyfrif am beidio â gwneud digon i atal carthion amrwd rhag mynd i mewn i ddyfrffyrdd Cymru yn ffactor sylfaenol i beri i ddigwyddiadau nofio dŵr agored mawr edrych ar lefydd eraill. Ysgrifennydd y Cabinet, mae digwyddiadau mawr fel Ironman Cymru yn dda i economi Cymru. Fodd bynnag, mae cael dyfroedd llygredig yn barhaus yn niweidio ein henw da a'n potensial ar gyfer digwyddiadau yn ddifrifol. Pa sgyrsiau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i roi pwysau ar gwmnïau dŵr i wneud mwy i atal carthion amrwd rhag mynd i mewn i ddyfrffyrdd Cymru? Diolch.

14:30

Rwy'n cefnogi'r gwaith y mae fy nghyd-Aelod Cabinet yn ei wneud mewn perthynas â hyn ac mae'n gweithio'n galed iawn i sicrhau ei fod yn dwyn yr asiantaethau sy'n gyfrifol a'r rhai sy'n achosi'r llygredd i'n hafonydd a'n moroedd i gyfrif. Ar ei bwynt ehangach am ddigwyddiadau mawr, rwy'n credu ei fod yn iawn i ddweud y gall digwyddiadau mawr fod yn gyfranwyr arwyddocaol iawn i economi Cymru. Mae gennym enghreifftiau da o hynny ar draws Cymru. A dyna pam mae cefnogi digwyddiadau mawr yn rhan bwysig iawn o'r hyn y ceisiwn ei wneud fel Llywodraeth. Hoffwn awgrymu wrth Natasha Asghar, er hynny, wrth iddi fyfyrio ar bwysigrwydd y maes awyr, fod ein gallu i ddenu llawer o ddigwyddiadau mawr yn deillio i raddau helaeth o'r ffaith bod gennym faes awyr y gŵyr pobl y gallant ei ddefnyddio i gyrraedd y digwyddiadau hynny'n gyflym iawn. Felly, dyna reswm arall eto pam fod cael y rhan hanfodol honno o'n seilwaith mor bwysig.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan droi at drafnidiaeth, daeth taith Eras Taylor Swift i Gaerdydd ar 18 Mehefin eleni, ac fel y gwyddoch, cafodd un o'r prif reilffyrdd i mewn i dde Cymru ei rhwystro gan offer peirianneg wedi torri, gan darfu'n helaeth ar y trenau am sawl awr. Oherwydd hyn, dewisodd llawer mwy o bobl yrru i Gaerdydd ar gyfer y cyngerdd, gan greu traffig helaeth a thagfeydd hir iawn. Yn ddiddorol, pan aeth taith Eras i Lerpwl a Chaeredin, ni chofnodwyd unrhyw broblemau o'r fath.

Ddwy flynedd yn ôl, profodd gyrwyr 19 milltir o dagfeydd ar yr M4 pan ddaeth Pink i Stadiwm Principality, a phan ddaeth Ed Sheeran i Gaerdydd, cafodd llawer o bobl eu dal mewn ciwiau 15 milltir ar yr M4 i mewn i dde Cymru, gyda phobl yn dweud eu bod wedi colli'r cyngerdd i gyd. Mae hyn yn annifyr iawn i'r gyrwyr sy'n sownd mewn ciwiau, gan roi profiad gwael iawn iddynt, ac mae'n rhwystredig iawn hefyd i bobl sy'n byw yn ne Cymru os oes rhaid iddynt ddioddef yr anhrefn traffig heb hyd yn oed gael y mwynhad o fynychu'r cyngerdd. Ac mae'n amlwg fod cael 19 milltir o dagfeydd yn achosi llawer iawn o lygredd, gan ddadwneud yr holl ymdrechion i wella problem gynyddol ansawdd aer yn ne Cymru yn ôl pob tebyg. 

Y llynedd, fe wnaethoch chi gyhoeddi diwedd ar y cynllun i adeiladu llinell sefydlogi digwyddiadau mawr, gyda Trafnidiaeth Cymru yn cofnodi colled o £10.5 miliwn ar y prosiect, a fyddai heb os wedi cynyddu capasiti i gefnogi digwyddiadau mawr, sy'n dangos nad ydych chi'n poeni llawer am helpu i ddatblygu profiad cadarnhaol i'r rhai sy'n mynychu digwyddiadau yng Nghymru. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda hyn mewn golwg, pa sgyrsiau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth i ddeall effaith cysylltiadau trafnidiaeth mor wael a bregus ar ddenu digwyddiadau mawr i dde Cymru a pha gynlluniau sydd gennych i newid hyn? Diolch.

Rwy'n credu fy mod am dynnu sylw at y cyferbyniad llwyr rhwng y darlun y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio a'r profiad y mae'r bobl a aeth i weld Taylor Swift ac i gyngherddau eraill wedi gallu ei rannu. Mae fy nghyd-Aelod Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, yn canolbwyntio'n agos iawn ar fuddsoddi yn ein rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru. Rydym wedi gweld gwelliant amlwg dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd buddsoddiad ychwanegol yn ein rhwydweithiau rheilffyrdd a bysiau. Rwy'n siŵr ei fod yn rhannu fy uchelgais ar ran economi Cymru i sicrhau bod ein rhwydwaith trafnidiaeth yn gallu cefnogi'r digwyddiadau mawr yr ydym yn awyddus i'w cynnal ac sy'n dod â hapusrwydd, llawenydd ac adloniant i gynifer o filoedd o bobl.

Diolch. Ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd lleoedd ledled Cymru yn cynnal digwyddiad mawr, rwy'n credu y dylai fod elw net cyffredinol i'r ardal lle cânt eu cynnal, nid yn unig mewn swyddi a thwristiaeth, ond hefyd o ran enw da a gwelliannau i'w hamwynderau. Mewn geiriau eraill, ni ddylid cam-drin ardaloedd drwy adael tunelli o sbwriel a phroblemau amrywiol i'r cyngor lleol eu datrys. Rwyf wedi argymell ar sawl achlysur fod taer angen mwy o gyfleusterau cyhoeddus, er enghraifft, ar strydoedd mawr Cymru, ac un ffordd o fuddsoddi yn y rhain yw drwy gael digwyddiadau mawr i fuddsoddi yn amwynderau'r ardal, sy'n creu budd i'r ddwy ochr, wrth i'r boblogaeth leol deimlo'n fwy brwdfrydig ynghylch y digwyddiadau a ddaw, yn ogystal â gwella profiad y rhai sy'n ymweld, a rhoi hwb economaidd eilaidd i'r ardal drwy ddarparu'r amwynderau sydd eu hangen i gefnogi ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn. Gyda hyn mewn golwg, pa gamau a gymerwyd gennych i annog rhai sy'n cynnal digwyddiadau mawr i fuddsoddi yn y trefi a'r dinasoedd lle maent yn cynnal eu digwyddiadau? Diolch.

14:35

Mae llawer o'r ffyrdd sydd gennym o gefnogi digwyddiadau mawr yn rhoi ystyriaeth i'r effaith y gall digwyddiadau mawr ei chael ar yr amgylchedd, ac rydym yn gweithio, yn aml, gyda'r sefydliadau a'r cwmnïau sy'n cynnal y digwyddiadau hynny, a'r lleoliadau sy'n eu cynnal, er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd. Yn fwyaf arbennig, rydym wedi gwneud gwaith arloesol mewn perthynas ag atebion sero net i'r digwyddiadau sy'n cael eu cynnal. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn arddel safbwynt cyfannol o'r fath, fel y mae'r Aelod yn awgrymu—ein bod yn gweld y budd economaidd, ond hefyd fod gennym lygad ar yr effaith amgylcheddol. Ac rydym am sicrhau, wrth gwrs, ein bod yn cefnogi ac yn gweithio gyda'n partneriaid sy'n darparu digwyddiadau mawr i sicrhau ymagwedd gyfannol tuag at yr economi a'r amgylchedd.

Diolch, Lywydd. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi darparu mwy o gymorth gyda dyledion ynni a chymorth argyfwng nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae llawer wedi'i wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf o Great British Energy, ers i Keir Starmer ei gyhoeddi. Mewn cyfweliad yn ddiweddar, cadarnhaodd Pat McFadden, cydlynydd ymgyrch genedlaethol Llafur, na fydd GB Energy yn gwmni sy'n cynhyrchu ynni, ac mai'r hyn a fydd i bob pwrpas fydd cwmni cyllid a gynlluniwyd i gynhyrchu buddsoddiad yn y sector preifat, cyfrwng dadrisgio i sybsideiddio cwmnïau ynni preifat, a fydd, heb os, yn berchen ar seilwaith adnewyddadwy allweddol yn y blynyddoedd i ddod o ganlyniad. Ar y sail ei fod yn cael y canlyniad y mae ef am ei weld yfory, sut y bydd GB Energy yn rhyngweithio ag Ynni Cymru? A fu unrhyw drafodaethau gyda chymheiriaid yn y DU yn amlinellu'r berthynas honno, ac a roddwyd unrhyw ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru i sut y byddent yn rhyngweithio?

Gadewch inni obeithio y cawn y canlyniad y gobeithiaf amdano'n fawr yfory, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn annog eraill i wireddu'r canlyniad hwnnw hefyd, fel y gallwn gael y dull mwy cydweithredol o weithredu y gwn y byddai ef a minnau'n ei gefnogi. Rydym wedi cael trafodaethau mewn perthynas â'r gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud yng Nghymru drwy Trydan Gwyrdd Cymru, gyda'r bwriad o sicrhau llais gan y cyhoedd yn natblygiad ynni adnewyddadwy, a sicrhau ei fod yn arloesol ac yn gallu dychwelyd gwerth i'r cymunedau sy'n cynnal y datblygiadau hynny, a hefyd, gwaith Ynni Cymru yn buddsoddi mewn prosiectau ynni cymunedol. 

Felly, rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol i weld cynlluniau Llywodraeth Lafur newydd, gobeithio, yn cydblethu'n dda iawn gyda'r cynlluniau sydd gennym ar waith eisoes yma yng Nghymru. Cefais drafodaeth gynhyrchiol iawn yr wythnos diwethaf yng nghynhadledd RenewableUK Global Offshore Wind, gydag Ed Miliband—a allai fod yn Weinidog ynni newydd mewn Llywodraeth Lafur newydd—ac rwy'n hyderus iawn y ceir perthynas waith agos a chydweithredol, a fydd yn golygu bod Cymru hefyd yn gallu manteisio ar y datblygiadau ledled y DU.

Gallai'r model a bennwyd ar gyfer GB Energy fod yn destun pryder o ran ei ryngweithiad ag Ynni Cymru, oherwydd, yn y bôn, yr hyn y gallem ei gael yma yw menter cyllid preifat ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy. Felly, mae hyn yn rhywbeth y mae angen inni gadw llygad barcud arno os yw am ryngweithio a gweithio mewn partneriaeth ag amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer Ynni Cymru.

Mae angen i'r wladwriaeth ymyrryd ar ben cynhyrchu, pen trawsyrru, a phen manwerthu'r farchnad ynni, wrth gwrs—nid wyf yn dadlau â hynny. Ond nid yw'r system yn gywir ar hyn o bryd. Nid yw'n gyfrinach nawr fod elw'n cael ei gynyddu i'r eithaf a'i dynnu o'n cymunedau ar bob lefel. Cawsom ddadl ar hyn yr wythnos diwethaf. Rydym yn siarad yma am gyfleustodau sylfaenol sy'n angenrheidiol i bawb yn eu bywydau bob dydd, ac mae cwmnïau'n gwneud pentwr o arian ohono.

Un o'r honiadau yw y bydd GB Energy yn ariannu gwynt ar y môr, y bydd ei ddifidendau yn ôl pob tebyg yn llenwi coffrau'r DU. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y dylem, yn yr achos hwn, gael gwared ar y dyn yn y canol, y dylem geisio pwerau llawn dros Ystad y Goron, gan ganiatáu inni elwa'n uniongyrchol yma yng Nghymru o ddatblygiad ynni adnewyddadwy ar y môr, gan sicrhau bod y difidendau'n mynd yn syth i goffrau Trysorlys Cymru?

Cefais sgwrs dda iawn—sgwrs anffurfiol, dylwn ddweud—yn y gynhadledd honno gydag Ystad y Goron. Rwy'n gobeithio cyfarfod â nhw'n fuan iawn i drafod ein hanghenion yng Nghymru, a sicrhau, mewn rowndiau lesio yn y dyfodol, y gallwn fanteisio i'r eithaf ar y cyfle ynni glân i Gymru, ond hefyd y cyfle economaidd i gefnogi cymunedau sy'n cynnal prosiectau cynhyrchu ynni, a Chymru'n fwy eang na hynny. Ein safbwynt ni fel Llywodraeth yw yr hoffem weld datganoli pwerau dros Ystad y Goron. Rwy'n credu y gallai hynny gyfrannu'n sylweddol iawn at ein hanghenion ynni ond hefyd at ein hanghenion economaidd. Ond yn allweddol, yr hyn y credaf y gallwn i gyd gytuno arno yw y bydd cael Llywodraeth yn San Steffan sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, yn seilwaith ynni adnewyddadwy'r wlad hon, yn y grid cenedlaethol, yn newid sylweddol yn ein gallu fel cenedl i fachu ar y cyfle hwnnw, i Gymru a'r DU yn gyffredinol.

14:40

Dyna'r union bwynt, onid e? Mae datganoli Ystad y Goron yn ein galluogi i gael mynediad cyflym a hawdd at yr arian y gallwn ei ddefnyddio wedyn er budd ein cymunedau. Yn y bôn, rydym am weld cronfa gyfoeth sofran yn cael ei sefydlu yma gan ddefnyddio'r elw a gymerir o ffermydd gwynt ar y môr i fuddsoddi'n uniongyrchol mewn cymunedau ledled Cymru. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai nifer o ffermydd gwynt ar y môr newydd sydd wedi'u cynllunio yn nyfroedd Cymru gynhyrchu £43 biliwn mewn rhenti, a fyddai'n sylfaen sylweddol i gronfa o'r fath. Sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gyda chyd-Aelodau fel Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd a'r Cwnsler Cyffredinol i sicrhau pwerau llawn dros Ystad y Goron cyn gynted â phosibl? A all roi amserlen i ni ar ryw bwynt yn y dyfodol ar gyfer pryd y gallwn ddisgwyl i'r trafodaethau hynny ddigwydd? A pha ystyriaeth y mae wedi'i rhoi i adroddiad is-grŵp ynni'r comisiwn annibynnol ar ddyfodol Cymru, sy'n argymell adolygiad brys o'r setliad datganoli mewn perthynas â pholisi ynni, Ofgem ac Ystad y Goron?

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwyntiau diddorol am y setliad datganoli a'n gallu i wneud mwy o benderfyniadau ynghylch ynni yma yng Nghymru, ac rwy'n cefnogi hynny. Ar y model y mae'n ei grybwyll, a chredaf iddo ei ddisgrifio fel cronfa gyfoeth sofran yng nghyd-destun ynni—ac yn amlwg, mae gwledydd eraill wedi gwneud hynny yng nghyd-destun olew mewn degawdau a fu, onid ydynt—yr egwyddor honno, mewn gwirionedd, sy'n sail i sefydlu Trydan Gwyrdd Cymru, sy'n amlwg ar gam cynnar iawn. Ond yr egwyddor yno yw mai pwrs cyhoeddus Cymru i bob pwrpas sy'n derbyn elw o ddatblygu prosiectau, ac o bosibl, o adeiladu neu weithredu, yn dibynnu ar y model cyflawni ac yn dibynnu ar fynediad at gyfalaf. Y pwynt hollbwysig yw y gellir defnyddio'r elw o hynny wedyn i gefnogi'r rhai sy'n agos at y datblygiadau, fel rwy'n dweud, ond hefyd i gefnogi blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer y genedl gyfan. Rwy'n credu bod hwnnw'n fodel diddorol ac rwy'n gyffrous iawn i weld beth arall y gallwn ei wneud yn y gofod hwnnw.

Ffermydd Gwynt ar Raddfa Fawr

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar drafodaethau gyda datblygwyr ffermydd gwynt ar raddfa fawr ym Mrycheiniog a Maesyfed? OQ61376

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda datblygwyr unigol ynghylch prosiectau gwynt ar raddfa fawr mewn lleoliadau penodol yng Nghymru. Rwy'n parhau i ymgysylltu â'r diwydiant ynni adnewyddadwy drwy drafodaethau bwrdd crwn a thrwy RenewableUK Cymru er mwyn deall y cyfleoedd a'r heriau sy'n deillio o ddatblygu ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yng Nghymru.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gyda Llywodraeth Cymru yn anelu at 70 y cant o ddefnydd ynni o ynni adnewyddadwy erbyn 2030, bydd angen gorchmynion prynu gorfodol ar lawer o'r datblygiadau ffermydd gwynt hyn er mwyn cael tir. Felly, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod a fydd Llywodraeth Cymru yn helpu'r cwmnïau hyn gyda gorchmynion prynu gorfodol ar gyfer eu datblygiadau ar raddfa fawr. Yn ogystal â hynny, os bydd rhai o'r ffermydd gwynt arfaethedig hyn yn dod yn anhyfyw yn fasnachol yn y dyfodol neu os bydd rhai o'r cwmnïau sy'n eu rhedeg yn mynd i'r wal, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud heddiw na fydd Llywodraeth Cymru yn camu i mewn ac yn bwrw ymlaen ag unrhyw rai o'r cynlluniau hyn fel rhan o gwmni ynni Llywodraeth Cymru?

Nid wyf yn credu bod unrhyw awgrym wedi ei wneud o hynny. Ein polisi fel Llywodraeth yw cefnogi'r egwyddor o ddatblygu ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel o amrywiaeth o dechnolegau. Fe fydd yn gwybod, o safbwynt cynllunio a chydsynio, y bydd Deddf Seilwaith (Cymru) 2024, a fydd yn newid sylweddol, yn cyflwyno prosesau cydsynio newydd, yn symleiddio ac yn cyfuno'r trefniadau cydsynio ar gyfer ynni adnewyddadwy, yn ogystal â phrosiectau seilwaith datganoledig eraill ar raddfa fawr yng Nghymru. O safbwynt cynllunio a chydsynio, fy niddordeb i fel y Gweinidog ynni yw sicrhau bod digon o gapasiti yn y rhan honno o'r system i gwneud hi'n bosibl datblygu prosiectau mewn ffordd sy'n cydymffurfio â gofynion cynllunio ac yn parchu anghenion cymunedau lleol. Rydym eisoes wedi cyflwyno nifer o welliannau i brosesau, yn ogystal â chyllid pwrpasol ychwanegol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n gwneud cyfraniad sylweddol.

14:45
Gwaith Teg a Gwell Amodau Gwaith

4. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cael gyda chyflogwyr ac undebau llafur i hyrwyddo gwaith teg ac annog gwell amodau gwaith i weithwyr yng Ngogledd Cymru? OQ61378

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i hyrwyddo gwaith teg ac annog gwell amodau gwaith. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu'n ffurfiol a rheolaidd â chyflogwyr ac undebau llafur yn y cyngor partneriaeth gymdeithasol, cyngor partneriaeth y gweithlu a threfniadau ar gyfer sectorau penodol fel y fforwm manwerthu, ac fel y crybwyllodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol yn gynharach, y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol.

Wel, er mor falch yr wyf i o glywed hynny i gyd, efallai eich bod yn ymwybodol fod tua 1,200 o weithwyr yn Rowan Foods yn Wrecsam yn wynebu dyfodol ansicr oherwydd cynlluniau gan y perchnogion, Oscar Mayer, i ddiswyddo gweithwyr a newid amodau gwaith, ac mae hynny'n cynnwys toriad o £3,000 i'r cyflog blynyddol. Mae'n bolisi o gyflogi ac ailgyflogi ar amodau gwaeth, arfer sy'n perthyn i oes Fictoria. Rwy'n galw am ymrwymiad nawr, fel y mae'r 1,200 o weithwyr a'u hundeb, Unite, y bydd y Llywodraeth hon yn gwneud popeth yn ei gallu i wrthwynebu polisi mor anflaengar. Felly, a ydych chi'n cytuno ei bod hi'n gwbl warthus fod cwmni fel hwn ar y naill law yn gallu talu £0.5 miliwn y flwyddyn i'w brif weithredwr ac ar y llaw arall, yn trin ei weithwyr fel hyn? Os ydych chi, beth y bwriadwch ei wneud i sicrhau na chaniateir i gyflogi ac ailgyflogi o'r fath ddigwydd?

Diolch yn fawr. Rwy'n datgan fy mod yn aelod o undeb Unite wrth imi ateb y cwestiwn hwn. Yn amlwg, nid wyf o blaid cyflogi ac ailgyflogi. Nid yw'n rhywbeth yr ydym ni, fel Llywodraeth Lafur Cymru, o'i blaid ychwaith. Rwy'n gwybod weithiau eu bod yn ceisio ei alw'n rhywbeth arall hefyd. Ond yn bersonol, rwyf wedi gweithio gydag undebau llafur dros y blynyddoedd i wthio'n ôl ar hyn, gyda'r ysgogiadau sydd gennym ar hyn o bryd yn Llywodraeth Cymru. Yn amlwg, ein safbwynt ni a fy safbwynt i fel y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol yw na fyddem byth eisiau cyrraedd sefyllfa lle mae hyn yn digwydd, ac yn digwydd i weithwyr mewn ffordd sy'n sioc iddynt, yn annisgwyl, ac yn eu gadael yn ddiymgeledd ond hefyd heb gefnogaeth i uwchsgilio a chamu ymlaen i waith arall. Hoffwn ddechrau drwy ddweud mai dyna beth y ceisiwn ni ei wneud bob amser. Nid dyna sydd wedi gallu digwydd yn y sefyllfa hon.

Yr unig ffordd y gallwn wneud unrhyw gynnydd ar hyn—ac nid wyf eisiau bod yn wleidyddol ynglŷn â hyn, ond rwy'n mynd i fod am mai dyma'r gwir—yw'r fargen newydd i weithwyr sy'n cael ei hyrwyddo. Rydym wedi gwneud llawer o waith gyda'r undebau llafur er mwyn cyrraedd lle mae arni ar hyn o bryd. Gobeithio y daw i mewn a bod ymrwymiad i wneud rhywbeth ar hyn yn gynnar iawn. Mae'n un o'r pethau sydd ar frig yr agenda o ran undebau llafur, oherwydd mae cyflogi ac ailgyflogi o'r fath, sy'n aml yn cael ei wneud yn fwriadol er mwyn dod â phobl i mewn ar lai o arian, fel y crybwylloch chi, ond hefyd ar delerau ac amodau gwaeth, yn dileu hawliau a enillwyd i weithwyr drwy lawer o waith caled. Mae'n tanseilio gwaith teg yr ydym yn hyrwyddwyr mawr ac yn gefnogwyr iddo yng Nghymru. Rwy'n gwneud llawer o waith ar hyn o bryd ar y cyflog byw gwirioneddol, er enghraifft, ac yn ceisio cael cwmnïau preifat mawr hyd yn oed, ac yn enwedig manwerthwyr, i ymrwymo i hynny. Felly, rwy'n drist iawn o glywed hyn. Mae'n dod o dan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi. Rydym yn teimlo pob ergyd o'r fath. Yn y pen draw, rydym am sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto, wrth symud ymlaen. Ond gadewch imi nodi nad wyf yn cytuno â'r dull hwn o weithredu, ac rwyf am sicrhau na all hyn ddigwydd yn y dyfodol. Diolch.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar waith teg yn rhoi enghraifft ymarferol o sut olwg allai fod ar waith teg mewn amgylchedd gwaith, gan ddarparu cyfleoedd cynhwysol i gael gwaith, i gaffael a datblygu sgiliau a dysgu, ac i gamu ymlaen mewn gwaith. Roedd cyfarfod diwethaf y grŵp awtistiaeth trawsbleidiol yn cynnwys safbwyntiau pobl awtistig ynghylch mynediad at gyflogaeth, gyda siaradwyr o sir Ddinbych a sir y Fflint. Fel y dywedodd rhywun wrthym, mae hi'n cael trafferth dod o hyd i swydd—mae hi'n gwneud cais am swyddi lefel mynediad ac yn cael ei gwrthod bron ar unwaith, ac mae hi'n teimlo mai ei hawtistiaeth yw'r rheswm. Mae hi hefyd yn rhan o grŵp cymdeithasol ehangach lle mae ei chyfoedion yn wynebu problemau tebyg. Dywedodd wrth y cyfarfod fod gan bobl systemau gweithredu gwahanol ond eu bod yn gyfartal, ac nad oedd angen help arni i newid ei CV gan mai'r broblem oedd agweddau cyflogwyr tuag at ei chymuned. Ar ôl blynyddoedd o eiriau cefnogol, pa gamau ymarferol yn canolbwyntio ar ganlyniadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i fynd i'r afael â hyn?

Diolch am y cwestiwn, Mark Isherwood. Rwy'n siomedig o glywed bod hynny'n digwydd a'r ffordd y mae pobl yn cael eu gwneud i deimlo pan fyddant yn ceisio dod yn rhan o'r gweithlu ac aros yn rhan ohono. Roeddech chi'n sôn am waith teg, ac mae hynny'n ymwneud â chael gweithle tecach, mwy saff a diogel. Ond fel y dywedoch chi, mae hefyd yn ymwneud â chael mynediad at y gweithle hwnnw, ymuno â'r gweithlu, a chael eu parchu, yn union fel pawb arall.

Rwyf ar hyn o bryd yn goruchwylio ac yn rhan o sefydlu'r cyngor partneriaeth gymdeithasol a gadeirir gan y Prif Weinidog. Mae'n ddiddorol iawn ein bod bellach yn gyflym iawn yn dechrau siarad, er enghraifft, am yr is-grwpiau a'r darnau o waith a gaiff eu gwneud, oherwydd mae pawb sy'n ymwneud â'r cyngor partneriaeth gymdeithasol yn awyddus iawn i fwrw ymlaen nawr a dechrau cynhyrchu'r camau hynny, fel y dywedoch chi. Un o'r pethau a gododd, y mae pobl wedi'i argymell, yw eu bod eisiau mwy ar gynwysoldeb, ar amrywiaeth ac ar gydraddoldeb. Byddaf yn fwy na pharod i fwydo'r hyn rydych chi wedi ei ddweud yn ôl, ac os hoffech chi ysgrifennu ataf hefyd, hoffwn glywed mwy am hyn a'r anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu.

Dyma'n union beth yw gwaith teg mewn gwirionedd, Mark. Mae hyn yn ymwneud â sefyll dros bawb, a bod gan bawb yr un hawl i fod yn y gweithlu, a chael eu parchu, cael eu talu'n deg, gallu symud ymlaen a bod yn rhan o'r gweithlu yng Nghymru. Felly, diolch yn fawr iawn am godi hyn. Mae'n rhywbeth y byddaf yn gallu adrodd yn ôl i chi yn ei gylch wrth inni barhau i wneud mwy o waith yn y maes hwn. Diolch.

14:50
Gweithwyr yn Berchnogion ar Fusnesau

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gweithwyr i fod yn berchnogion ar fusnesau? OQ61375

Mae rhan o Busnes Cymdeithasol Cymru, sef Perchnogaeth y Gweithwyr Cymru, yn darparu cyngor pwrpasol wedi'i ariannu'n llawn i gefnogi perchnogaeth gweithwyr ar fusnesau. Erbyn hyn mae 75 o fusnesau'n eiddo i weithwyr yng Nghymru, cynnydd o 38 ers dechrau'r tymor seneddol hwn.

Roeddwn yn falch iawn o weld eich bod wedi cyrraedd eich targed, ac rwy'n credu bod y nod o gyrraedd 74 o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru i fod i ddigwydd erbyn 2026. Felly, mae hynny'n golygu ein bod ddwy flynedd o flaen yr amserlen. Un busnes o'r fath yn fy ardal i yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru sydd wedi elwa o'r cymorth hwn yw'r felin wlân yn sir Benfro, Melin Tregwynt, a daeth yn fusnes sy'n eiddo i'r gweithwyr yn 2022. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno y bydd cynnig y cymorth hwn i weithwyr ddod yn berchnogion y cwmnïau y byddant yn gweithio iddynt yn helpu'r busnesau hyn i ffynnu, ac yn bwysicach, yn eu helpu i aros yng Nghymru, yn ogystal â chynnig mantais enfawr i bobl sy'n dymuno aros a gweithio yn yr ardal lle maent yn byw?

Diolch i Joyce Watson am godi hyn fel cwestiwn yn y Senedd heddiw. Fel cyd-weithredwr, a gwn ei bod yn rhannu'r farn hon hefyd, mae'r gallu i gefnogi gweithwyr i fod yn berchnogion y busnesau y maent yn gweithio ynddynt yn rhan bwysig iawn o'r weledigaeth honno. Ac rwy'n talu teyrnged i fy nghyd-Aelod Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig, yn rhinwedd ei swydd flaenorol fel Cadeirydd y grŵp cydweithredol yn y Senedd, am y gwaith a wnaeth ar ddeddfwriaeth a ysbrydolwyd gan Marcora a dulliau eraill o gynyddu perchnogaeth gan y gweithwyr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i ddarparu cyngor arbenigol fel y gallwn gefnogi pryniannau gan y gweithwyr nid yn unig yn achos busnesau sydd mewn trafferthion, ond hefyd, yng nghyd-destun Melin Tregwynt yn enwedig, lle mae'n rhan o gynnig a gynlluniwyd. Os cofiaf yn iawn, rwy'n credu ei fod wedi digwydd pan oedd y cwmni'n dathlu 110 mlynedd ers ei sefydlu, felly roedd yn rhan o gynllun i drosglwyddo rheolaeth i'r gweithwyr, sy'n ffordd wych o'i wneud yn fy marn i. Y peth allweddol, fel sy'n wir gyda Melin Tregwynt—ac mae eraill yn rhanbarth yr Aelod, wrth gwrs—yw bod gwreiddiau'r busnesau hyn yn eu hardaloedd lleol yn y rhanbarthau, ac maent yn ffordd dda iawn o sicrhau swyddi o ansawdd da ar gyfer y tymor hwy. Ac mae gennym dystiolaeth dda y gall busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr fod â lefelau arbennig o uchel o gynhyrchiant, sydd, yn fy marn i, yn agwedd go bwysig i'w hystyried hefyd.

Rhyddhad Ardrethi Busnes

6. Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith rhyddhad ardrethi busnes ar yr economi? OQ61370

Mae rhyddhad ardrethi busnes yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi. Mae ein pecyn cymorth, gwerth £384 miliwn eleni, wedi lleihau neu ddileu atebolrwydd ardrethi annomestig i fwy na 100,000 eiddo. Bydd llai nag 20 y cant o eiddo'n talu cyfraddau llawn, ac mae'r pecyn yn cydnabod y pwysau y mae talwyr ardrethi wedi'u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf, a'i nod yw cefnogi adferiad economaidd parhaus.

14:55

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Y llynedd, cofnodwyd bod un o bob tair siop ar stryd fawr Casnewydd yn wag, ac mae llawer mwy o siopau gwag ar draws fy rhanbarth yn Nwyrain De Cymru, a dyna'r norm, mae'n ymddangos, sy'n sefyllfa drist. Ar adeg pan fo busnesau'n dal i ymadfer ar ôl COVID, mae'r Llywodraeth Lafur hon yn penderfynu gostwng y rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant, gan wneud i fusnesau Cymru dalu dwbl yr hyn y bydd eu cymheiriaid yn Lloegr yn ei dalu i bob pwrpas. Nid wyf yn deall pam fod Llywodraeth Lafur Cymru bellach yn galw am yr adolygiad 12 mis i ryddhad ardrethi busnes, gan wastraffu arian cyhoeddus ac amser pan ydym i gyd yn gwybod am y gwahaniaeth y mae cymorth ychwanegol gan y Llywodraeth Geidwadol yn ei roi i fusnesau dros y ffin yn Lloegr. Dyma'r adeg y dylai'r Llywodraeth wneud popeth yn ei gallu i helpu busnesau i ffynnu, a hyd yn oed goroesi, heb sôn am ddenu mwy o fusnesau i agor, gan nad nhw'n unig sy'n elwa o hynny, ond pawb ohonom, wrth gwrs, gyda'r effaith ar yr economi. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnaiff y Llywodraeth hon wneud y peth iawn o'r diwedd a lleihau eu toriadau i ryddhad ardrethi busnes?

Wel, mae'r Aelod yn siarad am y pwysau ar y sector manwerthu yn arbennig. Rydym yn buddsoddi £78 miliwn ychwanegol i ddarparu rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am y bumed flwyddyn yn olynol, gan adeiladu ar bron i £1 biliwn o ryddhad a ddarparwyd ers 2020. Bydd y rhai sy'n gymwys yn cael rhyddhad o 40 y cant ar gyfer y flwyddyn ariannol ar ei hyd. Nid yw hyn yn digwydd yn ddiofyn; penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ydyw i gefnogi busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch y deallwn eu bod yn wynebu cyfnod anodd iawn. Mae'r Aelod yn gofyn imi gymharu'r sefyllfa yng Nghymru â'r un yn Lloegr. Mae'r sylfaen dreth yng Nghymru yn wahanol iawn i'r hyn ydyw yn Lloegr. Fel mae'n digwydd, mae ein rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn cefnogi hyd at ddau eiddo fesul pob awdurdod lleol i fusnesau yng Nghymru, sy'n llawer mwy hael nag yn Lloegr, lle na all busnesau ond hawlio am un eiddo'n unig. Mae busnesau bach yn talu cyfran lawer uwch o gyfanswm y refeniw ardrethi yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr—mwy na dwbl. Mae cost y rhyddhad ardrethi busnesau bach yng Nghymru yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Mae'n 10 y cant o gyfanswm y refeniw ardrethi o'i gymharu â 4 y cant yn Lloegr, a thrwy gapio'r cynnydd i'r lluosydd ar 5 y cant yn y flwyddyn ariannol hon, o'i gymharu â 6.7 y cant yn Lloegr, rydym wedi lleihau'r gwahaniaeth rhwng y lluosydd yng Nghymru ac yn Lloegr. Felly, mae'r holl fesurau hynny'n dweud wrthych ein bod wedi ymrwymo'n llwyr i wneud popeth yn ein gallu drwy ein polisi ardrethi i gefnogi busnesau a'r economi yng Nghymru, ond mae'n anochel fod y setliad ariannol y mae hi'n ei ddathlu, y mae ei chymheiriaid yn San Steffan wedi ei wthio ar Lywodraeth Cymru, nad yw'n cydnabod y costau cynyddol ac sydd wedi methu cadw'r addewid o gyllid llawn yn lle'r hyn a gollwyd gennym wrth adael yr Undeb Ewropeaidd wedi achosi pwysau anhygoel ar ein cyllideb. Mae honno'n ffaith anochel sy'n deillio o bolisi economaidd y Ceidwadwyr. Ond yng Nghymru, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi ein busnesau a chefnogi ein heconomi.

Prosiectau Ynni Adnewyddadwy

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw prosiectau ynni adnewyddadwy yn cael effaith negyddol ar gymunedau cyfagos? OQ61379

Mae deddfwriaeth gynllunio, 'Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol' a 'Polisi Cynllunio Cymru' yn darparu fframwaith cadarn i sicrhau bod effaith datblygiadau ar gymunedau yn cael ei hystyried yn llawn mewn perthynas â phenderfyniadau ynghylch ceisiadau ynni adnewyddadwy.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, mae llawer o gymunedau yn fy rhanbarth yn cael eu defnyddio fel mannau ar gyfer profi technolegau ynni adnewyddadwy. Mae'n edrych yn debyg y bydd pentref Bryn yn dod dan gysgod 18 o dyrbinau gwynt, pob un yn fwy na'r Shard yn Llundain. Nid wyf yn gofyn i chi wneud sylwadau ar gais cynllunio unigol, ond yn hytrach, i roi sylw i'r egwyddorion. Sut y gallwn ystyried prosiectau o'r fath yn ddiogel pan nad oes gennym unrhyw beth i bwyso arno? Fel y dywedodd eich cyd-Aelod mewn ymateb i gwestiwn, nid yw'r polisi cynllunio cenedlaethol yn nodi lefelau cysgodion symudol neu gysgodi llygaid sy'n cael eu hystyried yn dderbyniol. Felly, yma mae gennym gynlluniau ynni adnewyddadwy sy'n defnyddio tyrbinau a oedd ond wedi eu gosod yn y môr o'r blaen, ac nid oes gennym ganllawiau cenedlaethol i ddiogelu cymunedau. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi annog adolygiad nawr o ganllawiau cynllunio i sicrhau nad yw'r cam hanfodol tuag at ddatgarboneiddio ein grid ynni yn effeithio ar iechyd a diogelwch trigolion Cymru?

15:00

Gwn fod hwn yn gwestiwn y mae’r Aelod wedi mynd ar ei drywydd ar nifer o achlysuron blaenorol yn y Siambr, felly rwy’n cydnabod ei ddiddordeb ynddo, ac mae’n iawn—yn amlwg, ni fyddaf yn gwneud sylwadau ar unrhyw gais cynllunio penodol am y rhesymau amlwg. Ond mae pob cais, wrth gwrs, yn ddarostyngedig i ofynion statudol, mewn perthynas ag ymgynghori cyn ymgeisio, ond hefyd cyfleoedd eraill drwy gydol y broses i gymunedau ymgysylltu â datblygwyr a chodi pryderon, fel y dylent, ynghylch effaith bosibl cynlluniau, pan fydd hynny'n codi. Mae'n bwysig iawn fod cymunedau'n cael y cyfle hwnnw, ond hefyd eu bod yn manteisio ar y cyfle hwnnw i leisio'u pryderon. Dyna’r ffordd orau o sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn ystyried yr holl ffactorau perthnasol.

Fel Llywodraeth, fel y soniais yn gynharach wrth eich cyd-Aelod, James Evans, rydym yn cefnogi egwyddor datblygu ynni adnewyddadwy a charbon isel o bob technoleg a phob maint i ddiwallu ein hanghenion ynni. Rwy'n cydnabod y bydd rhai yn ddadleuol, ac mae angen inni ystyried y rheini’n ofalus, ond y gwir amdani, er mwyn gallu gwneud cynnydd ar ein hamcanion ynni adnewyddadwy, bydd angen amrywiaeth o dechnolegau, ar y tir ac ar y môr, a’n tasg ni, felly, yw sicrhau ein bod yn rhoi ystyriaeth lawn i effaith hynny ar gymunedau ac yn rhoi ystyriaeth lawn i’r hyn a glywn gan gymunedau.

Mae polisi 18 yn 'Cymru’r Dyfodol' yn sicrhau bod ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol yn darparu'r cyfle hwnnw, fel bod cymunedau, ardaloedd dynodedig, a thirweddau yn cael eu diogelu rhag effeithiau niweidiol annerbyniol, ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod cymunedau'n gallu ymgysylltu’n weithredol â’r rheini sy’n cynnig datblygiadau newydd.

Economi Gogledd Cymru

Rydym wedi amlinellu ein cynllun ar gyfer gwella economi Cymru, a'r gogledd yn arbennig yng nghyd-destun y cwestiwn hwn, yn ein cenhadaeth economaidd a’n fframwaith economaidd rhanbarthol. Rydym yn cydweithio â’n partneriaid i arddangos ei fanteision unigryw ac i sicrhau bod y gogledd yn cael ei gyfran deg o'r pontio teg i economi fwy gwydn a chynaliadwy.

[Anghlywadwy.]—o fargen twf gogledd Cymru i gynhyrchu cyfanswm buddsoddiad o dros £1 biliwn ar gyfer gogledd Cymru, i bryniant safle niwclear Wylfa ar Ynys Môn am £160 miliwn ar gyfer datblygiadau ynni niwclear newydd, o'r penderfyniad i sefydlu porthladd rhydd yng Nghaergybi, gyda hyd at £26 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU a'r disgwyl iddo gynhyrchu biliynau o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat, i’r penderfyniad i sefydlu parth buddsoddi newydd gwerth £160 miliwn o amgylch Wrecsam a sir y Fflint, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cymryd y cam cyntaf ac yna wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gyflawni'r pethau hyn. Mae’r rhain oll a mwy, gan gynnwys yr ymrwymiad i fuddsoddi £1 biliwn yn y gwaith o drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, wedi'u cynnwys ym maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer yr etholiad cyffredinol yfory. Pa gynlluniau sydd gennych chi felly i fwrw ymlaen â’r rhaglenni hyn gyda Llywodraeth nesaf y DU?

Diolch i Mark Isherwood am ei ddyfeisgarwch yn trosi datganiad i’r wasg yn bolisi yn ei gwestiwn. Fel y gŵyr yn iawn, nid yw'r cyllid a ymrwymwyd i seilwaith trafnidiaeth gogledd Cymru wedi cael cymeradwyaeth derfynol o gwbl, sy'n rhywbeth y credaf y byddai pob un ohonom yn derbyn bod ei angen.

Yn ei gwestiwn, mae'n disgrifio ffyrdd o weithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Gyda llaw, nid yw'n rhestru unrhyw un o'r buddsoddiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud yn unrhyw un o'r prosiectau hynny, sy'n datgelu'r cymhelliant y tu ôl i'r cwestiwn, os caf ddweud, yng nghyd-destun etholiad. Y pwynt yw bod llawer mwy o le i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio. Cafwyd enghreifftiau da iawn, mewn gwirionedd—ac mae wedi rhestru rhai ohonynt yn ei gwestiwn. Edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth Lafur Cymru yma yng Nghymru yn gallu gweithio gyda Llywodraeth Lafur y DU yn San Steffan i adeiladu hyd yn oed ymhellach ar y cydweithio hwnnw fel y gallwn gyflawni ar gyfer pob rhan o Gymru.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad 90 eiliad cyntaf heddiw gan Carolyn Thomas.

Diolch, Lywydd. Bob blwyddyn, mae'r dydd Sadwrn cyntaf ym mis Gorffennaf fel arfer yn Ddiwrnod Cenedlaethol y Dolydd. Eleni, fe'i cynhelir ar ddydd Sadwrn, 6 Gorffennaf. Mae'n gyfle inni ddathlu ein cynefinoedd mwyaf cyfoethog eu rhywogaethau pan fyddant ar eu gorau yn ystod yr haf, ac i ymweld ag un o bosibl. Maent yn wych ar gyfer cysylltu â natur ac adfer iechyd a lles.

Gall glaswelltiroedd a dolydd llawn blodau storio 500 y cant yn fwy o garbon yn eu priddoedd na chaeau ungnwd o laswellt pur. Mae carbon mewn pridd yn storfa arbennig o werthfawr. Mae'n llawer mwy sefydlog a pharhaol na charbon mewn coed, sy'n agored i danau coedwig, plâu a chlefydau.

Mae rôl ffyngau wrth storio carbon yn enfawr, ac mae Cymru’n gartref i rai o’r safleoedd mwyaf gwerthfawr yn y byd ar gyfer ffyngau glaswelltir prin, fel capiau cwyr a thegyll pinc llwydwyn. Ac mae tegeirianau'n symbiotig â ffyngau, ac rwy'n falch o fod yn hyrwyddwr rhywogaeth ar ran y blodau prin a hardd, y tegeirian llydanwyrdd a'r tegeirian llydanwyrdd bach.

Mae dolydd hefyd yn gartref i dros 700 o rywogaethau planhigion y DU ac oddeutu 1,400 o rywogaethau infertebratau. Mae glaswelltiroedd a thir pori cyfoethog eu rhywogaethau yn gynefin amaethyddol a gallant chwarae rhan bwysig yng nghynaliadwyedd tir fferm yn wyneb newid hinsawdd. Mae tir pori cyfoethog ei rywogaethau yn llawer mwy gwydn rhag sychder neu ddwrlenwi na thiroedd sy’n cynnwys llond llaw o rywogaethau glaswellt yn unig, ac eto, mae glaswelltiroedd cyfoethog eu rhywogaethau wedi lleihau 97 y cant yn y ganrif ddiwethaf, ac erbyn hyn, nid ydynt ond yn gorchuddio 1 y cant o dir y DU, a dyna pam fy mod mor falch o weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a chymunedau ar brosiect o'r enw 'Iddyn nhw', lle rydym wedi bod yn rheoli lleiniau glas a glaswelltir amwynder ar gyfer bioamrywiaeth. Ac wrth imi grwydro o gwmpas, rwy'n gwneud archwiliadau bioamrywiaeth bach, ac roeddwn yn falch iawn o weld tegeirianau gwenynog hyfryd ger Tyddewi, lle mae'r glaswellt wedi cael ei adael i dyfu. Diolch.

15:05

Mae eleni yn nodi 150 o flynyddoedd ers creu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru, digwyddiad oedd yn arwyddocaol iawn yn ein hanes ni fel cenedl. Mae hefyd yn 150 o flynyddoedd ers y cloi allan yn chwarel Dinorwig. Sefydlwyd yr undeb yn nhafarn y Queen's Head yng Nghaernarfon mewn ymateb i'r gwrthdaro parhaus rhwng y gweithwyr a'r rheolwyr am degwch o ran diogelwch, cyflogau ac amodau gwaith. Bu'r undeb hefyd yn gefn i'r holl chwarelwyr drwy'r streiciau a'r cau allan wrth iddyn nhw ymladd dros eu hawliau, megis yr hawl i ddiwrnod o wyliau y mis a'r hawl i helpu yn eu cymuned drwy gasglu gwair a llawer iawn mwy. Fe roddodd yr undeb lais i'r chwarelwyr ac roedd yn ysgol gymdeithasol, yn darparu addysg i'r gweithlu. Ond hefyd, yn ôl Saunders Lewis, roedd yn sylfaen at ffurfiant Plaid Genedlaethol Cymru hanner can mlynedd yn ddiweddarach. 

Mae'r mynyddoedd o lechi yn dyst parhaol i waith caled y dynion a'u teuluoedd, ond yn eu canol mae'r ponciau a'r sinciau a grëwyd ganddynt. Mae'r enwau cynhenid Cymraeg ar y nodweddion yma, megis Bonc Wyllt, Sinc Harriet a Phonc Allt Ddu yn cael eu colli a'u hailenwi fel Mordor, Never-never Land, neu Far Out Level. Buasai gwarchod yr enwau sydd yn perthyn i hanes y graig yn un ffordd dda i gofio aberth ein cyndeidiau. Diolch. 

Un o blant Morfa Nefyn oedd Eirlys Parri, neu Eirlys Eckley, ac fe arhosodd swyn y môr gyda hi ar hyd y blynyddoedd. 'Cerrig Gleision' oedd enw hyfryd ei chartref yma yng Nghaerdydd. Roedd Eirlys yn amlwg iawn yn nyddiau cynnar y byd teledu a byd canu pop Cymraeg. Fe enillodd hi Cân i Gymru yn 1986, ac roedd ei llais a’i phersonoliaeth swynol wedi ennill serch y genedl. Des i i adnabod Eirlys pan oeddwn i yn fy arddegau cynnar, pan ddechreuodd fy mam weithio gyda hi fel athrawes ymgynghorol y Gymraeg yng Nghyngor Caerdydd. Bu Eirlys hefyd yn gweithio yn ddiwyd fel athrawes ym Mhontypridd, yn ailgyflwyno'r iaith Gymraeg i drigolion y cwm hynny.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd Eirlys yn yr un cartref gofal â fy nhad, ac wrth i fi gyrraedd un dydd, dyma rai o’r preswylwyr yn canu carioci, rhai o ganeuon poblogaidd yr ail ryfel byd, â bunting Jac yr Undeb o amgylch. Yn naturiol ddigon, roedd golwg digon diflas ar Eirlys, ac roedd hi'n eistedd yno heb ganu. Gofynnais i’r gofalwyr chwarae 'Yfory'. Ac wrth i’r bariau agoriadol adleisio dros yr ystafell, dyma ei llygaid yn goleuo, ac fe gyd-ganon ni'r gân. Fe ofynnodd y gofalwyr inni ganu 'Yfory' gyda’n gilydd sawl gwaith wedi hynny. Ddim yn aml mae person yn gallu canu cân eiconig gyda’r gantores a wnaeth y gân mor enwog.

Rwy’n cofio Eirlys yn sôn sut y dylai hi fod wedi marw yn 1974. Roedd hi i fod ar awyren. Roedd tocyn wedi bwcio gyda hi. Roedd hi i fod ar awyren o Baris i Heathrow. Fe wnaeth yr awyren yna ffrwydro gan ladd pawb ar y flight. Dim ond trwy berswâd ambell aelod o Gymdeithas Gymraeg Paris y gwnaeth Eirlys aros am ychydig o ddiwrnodau ychwanegol. Diolch amdanynt, a chafodd Eirlys y boddhad i ddod yn fam-gu i bedwar o wyrion.

Erys ei dylanwad yn y cannoedd o blant wnaeth hi eu dysgu a bydd ei llais hyfryd i’w glywed am byth. 'Mae gwaith y dydd wedi darfod'. Ein braint ninnau yw dweud, 'Diolch a ffarwél, Eirlys.' Diolch yn fawr.

15:10
5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Trydydd adroddiad ar ddeg i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9'

Eitem 5 sydd nesaf, y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Trydydd adroddiad ar ddeg i'r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9'. Cadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig yma—Vikki Howells.

Cynnig NDM8629 Vikki Howells

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Trydydd Adroddiad ar Ddeg i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 26 Mehefin 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol. Mae'r pwyllgor wedi ystyried adroddiad gan y comisiynydd safonau mewn perthynas â chwyn a wnaed yn erbyn Mick Antoniw AS ynghylch trydariad sarhaus. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd, ac mae ein hadroddiad yn nodi dyfarniad y pwyllgor ynghylch y sancsiwn sy’n briodol yn yr achos hwn. Mae’r ffeithiau sy’n ymwneud â’r gŵyn a rhesymau’r pwyllgor dros ei argymhelliad wedi’u nodi’n llawn yn adroddiad y pwyllgor.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i dynnu sylw’r holl Aelodau at bwysigrwydd cadw at yr un egwyddorion a fyddai’n berthnasol wrth ryngweithio wyneb yn wyneb wrth ryngweithio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dyma’r pedwerydd adroddiad sylweddol yn y Senedd hon yn ymwneud â'r cyfryngau cymdeithasol, a hoffwn atgoffa’r Aelodau fod cymorth ar gael ar y pwnc. Mae’n bosibl herio pobl â safbwyntiau gwahanol yn gadarn heb fod yn sarhaus, a thrwy wneud hyn, gall Aelodau osod esiampl yn unol ag egwyddor bwysig arweinyddiaeth. Mae’r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Senedd i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor.

Does gyda fi ddim siaradwyr ar y ddadl yma, a dwi'n—. O, mae gyda fi siaradwr. Mick Antoniw.

Nid wyf yn anghytuno â’r adroddiad. Rwy’n cydnabod ei gynnwys ac mae’n cynnwys fy ymddiheuriad, ac rwy'n ei ailadrodd heddiw.

Hoffwn gloi drwy ddiolch i'r Aelod am y ffordd gadarnhaol a pharchus y mae wedi ymgysylltu â'r pwyllgor a'r broses safonau.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Hyfforddiant deintyddol

Eitem 6 sydd nesaf, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv). Hyfforddiant deintyddol yw'r ddadl yma. Siân Gwenllian sy'n gwneud y cynnig.

Cynnig NDM8600 Sian Gwenllian, Jane Dodds

Cefnogwyd gan Heledd Fychan, Llyr Gruffydd, Peredur Owen Griffiths, Rhun ap Iorwerth, Sam Rowlands

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r pryderon a gaiff eu codi’n rheolaidd gan Aelodau o’r Senedd am ddiffyg argaeledd gwasanaethau deintyddol y GIG.

2. Yn nodi’r rhwystrau a ddogfennir a’r argymhellion a wneir ar gyfer y ffordd ymlaen yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddeintyddiaeth.

3. Yn nodi’r heriau penodol yn ymwneud gyda chynllunio, hyfforddi, recriwtio a chadw deintyddion yng Nghymru.

4. Yn nodi cyhoeddi y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Deintyddol gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru ym Mai 2024 a’r cyfeiriadau a wneir yn y cynllun hwnnw, yn benodol:

a) fod Cymru yn fewnforiwr net o ddeintyddion;

b) fod Cymru yn dibynnu ar ysgolion deintyddol y tu hwnt i Gymru i gynhyrchu digon o ddeintyddion i’w recriwtio i’r gweithlu; ac

c) mai’r Deyrnas Unedig sydd â’r nifer isaf o ddeintyddion fesul person o’i gymharu ag aelodau mawr eraill y G7 yn Ewrop.

5. Yn nodi fod nifer y lleoedd yn yr unig ysgol ddeintyddol yng Nghymru wedi’u cyfyngu bob blwyddyn.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi prifysgol ar gyfer deintyddion yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae diffyg gwasanaeth deintyddol drwy’r NHS yn bwnc sy’n cael ei godi’n gyson ar lawr y Senedd yma ac yn sicr mae o'n fater sy’n pryderi fy etholwyr i yn Arfon. O’r chwe deintydd NHS yn Arfon, pan wnaethon ni eu ffonio nhw ym mis Ebrill, doedd yna ddim un ohonyn nhw—dim un—yn derbyn cleifion newydd ar yr NHS, ac mae yna ddarlun tebyg ar draws y wlad a llawer o heriau angen eu goresgyn, yn cynnwys natur y cytundeb. Ond prynhawn yma, dwi am amlinellu dadl dros gynyddu nifer y llefydd hyfforddi prifysgol yng Nghymru ar gyfer deintyddiaeth. Dwi'n dadlau bod hynny yn gorfod digwydd law yn llaw â newidiadau eraill os ydyn ni am weld gwelliant parhaol a phellgyrhaeddol ar gyfer fy etholwyr i yn Arfon ac ar draws Cymru.

Mae’r 'Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Deintyddol' newydd yn dangos bod Cymru yn fewnforiwr net o ddeintyddion. Mae o’n dangos bod Cymru yn dibynnu ar ysgolion deintyddol y tu hwnt i Gymru i gynhyrchu digon o ddeintyddion i'w recriwtio i’r gweithlu, ac mae o’n dangos mai'r Deyrnas Unedig sydd â'r nifer isaf o ddeintyddion fesul person o'i gymharu ag aelodau mawr eraill yr G7 yn Ewrop, a dŷn ni'n gwybod hefyd fod mwy o ddeintyddion o Gymru yn mynd allan o Gymru i astudio nag sy’n aros yma: 20 yn aros, 40 yn mynd allan. Dydy sefyllfa felly ddim yn gynaliadwy.

Mae'r prinder deintyddion yma heb os yn cyfrannu at ac yn gwaethygu'r system dair haen yr ydym yn symud tuag ati yn ôl pwyllgor iechyd y Senedd yma. Ac mae'r system yma yn un mae fy etholwyr i yn Arfon yn llawer rhy gyfarwydd â hi: system tair haen lle mae rhai yn ddigon ffodus i gael mynediad at ddeintydd yr NHS, mae rhai eraill yn gallu talu i fynd yn breifat, a'r drydedd haen, yn anffodus, yw'r rhai sydd yn methu cyrchu deintyddiaeth y gwasanaeth iechyd ac yn methu talu i fynd yn breifat. Does dim rhaid i fi ymhelaethu am y problemau sy'n deillio i'r rhai sydd yn y drydedd haen. Mae Aelodau ond yn rhy gyfarwydd â storïau erchyll am sepsis a deintyddiaeth do-it-yourself.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:15

Rŵan, fe fyddai rhywun yn dychmygu mai mater o synnwyr cyffredin, felly—synnwyr cyffredin eithaf sylfaenol—fyddai cynyddu'r lleoedd hyfforddi sydd ar gael yng Nghymru er mwyn meithrin gweithlu i ddarparu'r gwasanaeth deintyddol cyhoeddus sydd mawr ei angen. Ond, i'r gwrthwyneb, mae'r Llywodraeth yn gosod cap ar y nifer o lefydd y gellir eu cynnig yn ein hunig ysgol ddeintyddol yn Nghaerdydd, cap fesul blwyddyn o 74 lle. O ystyried y cyd-destun yma, roedd disgwyl mawr am y cynllun gweithlu deintyddol strategol gan gorff cynllunio gweithlu'r Llywodraeth a gyhoeddwyd ganol mis Mai eleni. Ac mae o yn rhoi darlun a dadansoddiad rhagorol o'r problemau, ond yn anffodus mae o'n syrthio'n brin fel cynllun strategol, yn anad dim am nad ydy o'n ymrwymo i unrhyw gynnydd penodol mewn darpariaeth addysgu a hyfforddi deintyddion.

Mi gawson ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet am fuddsoddiad y Llywodraeth mewn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yr wythnos diwethaf. Ac er mor gynnes ydy'r croeso i'r twf mewn meddygaeth ym Mangor, wrth gwrs, wrth i'r ysgol feddygol yno gymryd cam sylweddol ymlaen ym mis Medi, doedd yna ddim gair yn y datganiad yma am gynnydd mewn lleoedd prifysgol deintyddiaeth. Ac yr un oedd hi ddydd Mawrth, wrth i'r Prif Weinidog ateb cwestiwn am y gweithlu iechyd—dim sôn am gynyddu hyfforddi deintyddol mewn prifysgolion. 

Mae hyd yn oed y Ceidwadwyr yn eu cynllun adfer deintyddol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni wedi cyhoeddi ymrwymiad i gynyddu'r lleoliadau hyfforddi deintyddol israddedig yn Lloegr, a hynny o 24 y cant i 1,000 o lefydd erbyn 2028-29. Yn anffodus, dydy plaid Aneurin Bevan ddim wedi dangos uchelgais o'r fath, ac mae o'n ddigalon ac yn staen ar Gymru fod gallu nifer o'n hetholwyr i gael deintydd yn ddibynnol ar eu gallu i dalu. Y gwir amdani ydy bod y Blaid Lafur yng Nghymru wedi cael 25 mlynedd i gynllunio, ond mae'n ymddangos dydyn ni ddim nes at gael trefn gynaliadwy lle mae y gallu i ddweud i sicrwydd faint o ddeintyddion sydd yng Nghymru, lle maen nhw'n byw ac yn gweithio, faint yn rhagor o weithlu sydd angen i gyfarch anghenion ein pobl a chynllun ymarferol i gyflawni hynny. Mae hynny'n syfrdanol. Ar ben hynny, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi comisiynu cynllun 10 mlynedd arall cyfochrog, gan y prif swyddog deintyddol. Dydy hynny chwaith ddim yn gwneud llawer o synnwyr imi. Nes bod ymrwymiad o ddifrif ac mewn termau penodol i gynyddu lleoedd, yna gallwn ni ond casglu mai geiriau gwag ydy'r gefnogaeth gan y Blaid Lafur i wasanaeth iechyd cyhoeddus efo deintyddiaeth yn rhan allweddol o hynny, gwasanaeth am ddim ar sail angen.

I droi at yr unig ysgol ddeintyddol sydd yma yng Nghymru, honno ym Mhrifysgol Caerdydd, 111 allan o 1,442, neu tua 8 y cant, o ymgeiswyr i ysgol ddeintyddol Caerdydd ar gyfer mynediad yn 2023-24 oedd o Gymru. Rydyn ni'n gwybod o'r data diweddaraf sydd ar gael mai wyth o'r 111 myfyriwr yna o Gymru fu'n llwyddiannus i gael lle yng Nghaerdydd y flwyddyn yna—wyth ohonyn nhw oedd o Gymru. O'r holl fyfyrwyr sy'n astudio yn yr ysgol ddeintyddol yng Nghaerdydd, hanner y rheini, wedyn, sy'n aros yng Nghymru ar ôl hyfforddi. Rŵan, dydy hyn ddim yn feirniadaeth o'r ysgol ddeintyddol yng Nghaerdydd o gwbl, nac o'r staff sy'n gweithio yno, na'r rhai sy'n mynd yno i astudio. Ond mae hi'n bur amlwg na fydd y ddarpariaeth yng Nghaerdydd fyth yn ddigonol i ddiwallu anghenion cenedl cyfan. Ac mae'n hysbys hefyd fod cysylltiad rhwng lle mae myfyrwyr yn gwneud eu hyfforddiant deintyddol sylfaenol a chraidd a lle maen nhw'n aros wedyn i weithio ac i fwrw gwreiddiau yng nghyfnod ffurfiannol bywyd.

Felly, beth sydd angen ei wneud? Un ysgol ddeintyddol newydd sydd wedi agor ei drysau yn y Deyrnas Gyfunol ers 40 mlynedd, ac Ysgol Ddeintyddol Peninsiwla yn Plymouth oedd honno yn 2006. Fe ddechreuwyd ysgol feddygol yno yn y flwyddyn 2000. Ym mis Medi eleni, mi fydd hyd at 80 o fyfyrwyr yn dechrau ar astudiaethau meddygol ym Mangor—y cohort llawn cyntaf—gan ychwanegu at y gwaith sydd yn digwydd yno hefyd ym maes gwyddorau iechyd ac, i fod yn deg, cynyddu hyfforddiant therapyddion, deintyddion a hylenwyr. Efallai eich bod chi'n gweld lle dwi'n dechrau mynd efo hyn. Mae yna gyfleusterau arbennig ar gael ym Mangor yn yr academi ddeintyddol, er bod yna heriau cychwynnol yn fanno, ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor iechyd y dylid sefydlu ysgol ddeintyddol newydd yn y gogledd. Ac rydych chi wedi ymrwymo hefyd i rannu efo'r pwyllgor y gwaith mae'r adran iechyd wedi bod yn ei wneud, a hynny erbyn toriad yr haf. Mi fyddai Bangor, heb os, yn lleoliad pwrpasol sy'n gwahodd ei hun ar gyfer yr ysgol, a byddai modd teilwra'r ddarpariaeth i gyfarch her ardal sy'n cyfuno'r gwledig a'r trefol.

Ond dadl at ddiwrnod arall ydy honno. Mi ddof i nôl at hyn. Dwi wedi comisiynu gwaith i edrych ar yr achos dros ysgol ddeintyddol ym Mangor a dwi'n edrych ymlaen at rannu hynny efo'r Senedd maes o law. Dwi'n deall hefyd bod Prifysgol Aberystwyth efo diddordeb mewn gweithio efo eraill i gyflwyno hyfforddiant deintyddiaeth mewn ardaloedd gwledig. Yr hyn rydym ni'n ei ofyn i'r Senedd ei wneud heddiw ydy cyfarwyddo Llywodraeth Cymru i osod allan safbwynt polisi clir o blaid cynyddu'r lleoedd prifysgol deintyddiaeth, efo ffigur penodol i yrru cynnydd, ac i amlinellu cynlluniau clir y gellir eu craffu arnyn nhw i wneud hynny. Mae'n ddadl at ddiwrnod arall lle y dylai'r llefydd newydd yma fynd. Diolch.

15:20

Diolch i Siân Gwenllian am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw. Ledled y DU, mae pobl yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at ddeintyddion y GIG, gyda naw o bob 10 heb fod yn derbyn cleifion newydd. Yn gynharach eleni, gwelsom gannoedd o bobl ym Mryste yn ciwio am oriau i gofrestru gyda meddygfa a oedd newydd agor, sy’n symptom o flynyddoedd o danfuddsoddi gan San Steffan mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac ni allwn ganiatáu sefyllfa lle na all neb ond y bobl ffodus fforddio cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd sylfaenol.

Fel y mae’r cynnig yn cydnabod, mae heriau penodol i Gymru o ran hyfforddi, recriwtio a chadw deintyddion. Hoffwn weld mwy o bobl yn hyfforddi ym mhrifysgolion Cymru ac yn penderfynu gweithio yma yn ein GIG. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r heriau hyn, ac yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru, mae nifer o gamau arloesol wedi’u cymryd i geisio gwella’r sefyllfa. Mae academi ddeintyddol Bangor yn gwella mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yn y gogledd, gan ddarparu gofal i 12,000 i 15,000 o bobl bob blwyddyn pan fydd yn gweithredu'n llawn. Nod Academi Ddeintyddol Gogledd Cymru yw rhoi cyfle i weithwyr deintyddol proffesiynol sefydledig a rhai sydd newydd gymhwyso hyfforddi, gweithio ac uwchsgilio tra byddant yn byw yn ein rhan brydferth o ogledd Cymru. Mae mor bwysig hyrwyddo manteision byw a gweithio yng Nghymru wrth annog pobl i ymuno â'r GIG yng Nghymru.

Ym mis Tachwedd 2023 hefyd, gwelsom glinig deintyddol cymunedol newydd yn agor yn swyddogol yn Ysbyty Bryn Beryl, a bydd yn darparu ystod lawn o wasanaethau deintyddol cymunedol i bobl na ellir eu trin yn hawdd mewn practis deintyddol cyffredinol, gan gynnwys pobl sydd â chyflyrau iechyd penodol, anabledd dysgu neu fater iechyd meddwl. Mae’n cymryd lle gwasanaeth a arferai weithredu o uned symudol ar y safle, nad oedd yn hygyrch i gadeiriau olwyn—gwelliant pwysig iawn. Her arall sy’n cael sylw yw iechyd deintyddol pobl ifanc, ac roedd uned ddeintyddol symudol yn Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog yn darparu gofal deintyddol i bob plentyn 11 a 12 oed gyda chaniatâd rhieni, ac nid oedd y rhan fwyaf ohonynt wedi gweld deintydd ers cyn y pandemig. Yr ymateb cychwynnol i’r gwerthusiad yw bod hwn yn ymyriad hynod gadarnhaol, ac fe’i croesawyd gan rieni a’r gymuned ehangach, sy’n newyddion gwych. Mae'r uned symudol i fod i symud i ail safle yn Ysgol Godre'r Berwyn yn y Bala, gyda thair ysgol arall wedi eu nodi ar gyfer gweddill y flwyddyn academaidd, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr.

Ar lefel y DU, mae gan y Blaid Lafur gynllun wedi’i gostio’n llawn ac wedi’i ariannu’n llawn i achub deintyddiaeth y GIG, gan ddarparu 700,000 o apwyntiadau deintyddol brys y flwyddyn, ac i ddiwygio contract deintyddol y GIG yn y tymor hir. Bydd hyn yn golygu cyllid canlyniadol mawr ei angen i Gymru. Mae peth ffordd i fynd eto i gyrraedd lle mae angen inni fod, o ran argaeledd triniaeth ddeintyddol y GIG, ond rwy'n hyderus ein bod ar y trywydd cywir i gyflawni hynny. Os cawn y Blaid Lafur yn Llywodraeth y DU, ac os caiff y cyllid canlyniadol hwnnw ei ddarparu i ni, bydd yn gam mawr i’r cyfeiriad cywir. Diolch.

15:25

Diolch yn fawr iawn i Siân Gwenllian am ddod â'r ddadl amserol a phwysig yma o flaen y Senedd heddiw. Dwi'n nodi, ac mae'n ddifyr nodi, fod Keir Starmer wedi bod yn ymgyrchu dipyn ar ddeintyddiaeth, gan gyfeirio'n aml iawn at ymweliad a wnaeth o ag Alder Hey, a sôn am y nifer o blant sydd yn gorfod mynd i fanna er mwyn cael eu dannedd wedi'u tynnu allan. Wrth gwrs, mae pawb yn ymwybodol o'r broblem felly yn Lloegr, ond Llafur sydd wrth y llyw fan hyn yng Nghymru a Llafur sydd wedi methu â delifro ar gyfer plant a phobl Cymru pan fo'n dod i ddeintyddiaeth yma.

Wrth drafod deintyddiaeth, fel ym mhob sector arall, mae angen yn gyntaf mynd at wraidd y broblem, sef methiant i gadw deintyddion yma a methiant mwy fyth i hyfforddi deintyddion newydd. Fel yr ydym ni wedi clywed eisoes gan Siân Gwenllian, dim ond Prifysgol Caerdydd sydd yn cynnig cwrs deintyddol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac, fel y soniodd hi, dim ond wyth o Gymru oedd yn llwyddiannus i gael mynediad at y cwrs hwnnw y flwyddyn ddiwethaf. Er gwaethaf ymdrechion gwych—pethau megis y bwrsariaeth—gan y Llywodraeth yma, dim ond tua hanner y garfan o fyfyrwyr deintyddol sydd yn dewis aros yng Nghymru er mwyn gweithio yma yn flynyddol, ac mae'r rhai hynny yn rhai tymor byr yn amlach na pheidio.

Mae hyn yn golygu bod pres prin Llywodraeth Cymru sydd yn mynd at ariannu a hyfforddi'r myfyrwyr yma yn mynd i ariannu gwasanaethau sydd yn mynd dros y ffin neu'n mynd i lefydd eraill. Dydy'r myfyrwyr yma ddim yn aros yng Nghymru, felly mi ydym ni'n colli allan ar hynny. Mae Prifysgol Caerdydd yn gwneud gwaith rhagorol yn hyfforddi'r deintyddion yma, a diolch byth amdanyn nhw, ond mae’n amlwg na all y brifysgol, felly, ddiwallu anghenion Cymru gyfan.

Os edrychwn ni ar fy etholaeth i yn Nwyfor Meirionnydd, does yna ddim un deintydd yn cymryd cleifion newydd ymlaen drwy’r gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd. Dwi, neu mae fy swyddfa i, er tegwch, wedi cysylltu â phob un deintydd yn yr ardal a gweld nad ydyn nhw'n gwneud hynny. Bu i mi gynnal holiadur drwy'r etholaeth a chael dros 1,000 o atebion, gyda phobl yn dweud eu bod nhw'n cael trafferth yn cael mynediad at ddeintydd yr NHS, efo'r enghraifft fwyaf eithafol efo un o fy etholwyr yn gorfod teithio i Dunbarton yn yr Alban er mwyn gweld ei ddeintydd, a bron pob un yn nodi eu bod nhw'n gorfod teithio dwsinau o filltiroedd er mwyn mynd i weld deintydd. 

Mae nifer y deintyddion sydd gennym ni yn y gogledd yn prysur leihau hefyd, ac o'r rheini sydd yn ddigon ffodus o fod ar lyfr deintydd yn y gogledd, dim ond un o bob tri pherson oedd wedi derbyn triniaeth yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Mae o, felly, yn argyfwng arnom ni. Mae’r ffigurau dwi wedi cyfeirio atynt yng ngogledd Cymru dipyn yn is o'i gymharu â’r ffigurau cenedlaethol, ac mae yna amryw resymau am y gwahaniaethau rhanbarthol; un amlwg ydy bod yn rhaid i fyfyrwyr o’r gogledd deithio'n bellach er mwyn mynd i gael eu haddysg, lawr i Gaerdydd, neu dros y ffin i brifysgol yn Lloegr, er mwyn arbenigo yn y maes.

Er gwaethaf ymdrechion y Llywodraeth i gynyddu nifer y Cymry sydd yn astudio yn yr ysgol ddeintyddol yng Nghaerdydd, mae’n amlwg nad ydy o'n ddigon. Mae angen ailstrwythuro’r drefn fwrsariaeth bresennol, er enghraifft, er mwyn denu pobl i aros yng Nghymru ar ôl iddyn nhw gyflawni’r ddwy flynedd ofynnol o waith. Yn ogystal â hyn, gellir cynnig cydweithrediad gwell rhwng yr ysgol yng Nghaerdydd a’r gogledd, boed hynny’n ymestyn cyfnod lleoliadau gwaith myfyrwyr yn y gogledd neu'n cyhoeddi cydweithrediad â Phrifysgol Bangor fel man cychwyn i ddatblygu’r ymdrechion er mwyn agor ysgol annibynnol ym Mangor, mewn cydweithrediad ag Aberystwyth, yn y pen draw. Ar sail y wybodaeth yma felly, tybed a all y Gweinidog ateb, pa gynlluniau penodol sydd gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod myfyrwyr deintyddol o Gymru yn aros yng Nghymru ac efo'r cyfleoedd er mwyn ehangu eu sgiliau trwy arbenigo a gweithio ar y cyd?

15:30

Diolch i Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddadl hon. Mae'n amlwg o'r cyflwyniadau sydd wedi bod yn barod fod hwn yn broblem ledled Cymru. Prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn i godi un gwendid amlwg iawn a hefyd sôn am enghraifft o fy ngwaith achos.

Ynglŷn â'r gwendid, dwi'n methu'n lan â deall pam mae gap mor fawr yn y data ynglŷn â deintyddiaeth yng Nghymru. I fi, mae e'n rhyfeddol ein bod ni methu dweud nawr, fan hyn yn y Senedd, faint o bobl sy'n aros i weld deintydd o dan y gwasanaeth iechyd. Does dim ychwaith y data i ddweud faint o bobl sy'n cael triniaeth breifat gyda deintydd preifat yng Nghymru.

Gwn fod rhai byrddau iechyd wedi ceisio llenwi'r gap trwy greu rhestrau aros eu hunain, ond does dim byd ledled Cymru—does dim byd canolog i gynllunio. Felly, sut mae modd i chi gynllunio i wella deintyddiaeth yng Nghymru os nad ydych chi'n gwybod ateb i ambell i gwestiwn sylfaenol iawn: faint sy'n aros i weld deintydd? Faint sy'n derbyn triniaeth breifat? A faint, felly, yn drydydd, sydd ddim yn cael unrhyw driniaeth o gwbl? Faint o bobl sy'n syrthio rhwng y cracks? Faint o bobl sy'n mynd i ddiweddu lan yn cael eu dannedd wedi'u tynnu, fel roedd Mabon yn sôn am blant yn mynd i Alder Hey? Rwy'n siŵr bod nifer ohonom ni'n cofio perthnasau a oedd â dim dannedd. Doedd gan fy nhad-cu ddim dannedd. Collodd ei ddannedd i gyd pan oedd yn 19 mlwydd oed. Dyna oedd y drefn bryd hynny. Ydym ni'n gweld hwn yn digwydd unwaith eto yng Nghymru 2024?

Yn absenoldeb data sylfaenol a hanfodol, fe roddaf stori bersonol i chi o fy ngwaith achos. Daeth etholwr i gysylltiad â mi eleni i sôn am bryderon tebyg iawn i'r rhai a godwyd eisoes yn y ddadl hon, a dyma reswm allweddol pam rwy'n siarad y prynhawn yma. Mae fy etholwr yn fam i fachgen yn ei arddegau a gafodd ei atgyfeirio gan ei ddeintydd yn 2021 am driniaeth orthodontig. Ni chafodd ei roi ar restr aros yn y flwyddyn honno am nad oedd ond yn 11 oed ac nid oedd yn ddigon hen i gael y driniaeth.

Yn 2022, dywedwyd wrtho y byddai'r driniaeth yn fwy helaeth nag a feddyliwyd ar y dechrau ac fe'i hanfonwyd i Ysbyty'r Tywysog Siarl i gael rhagor o archwiliadau. Gwaethygodd yr aros. Ar ôl gweld y meddyg ymgynghorol, dywedwyd wrth y teulu y byddai'n cymryd chwe blynedd arall iddo gael y driniaeth. Ar ôl cael ei asesu am y tro cyntaf yn 11 oed, dywedir wrtho bellach y bydd yn rhaid iddo aros tan ei fod yn 20 oed i gael triniaeth. Drwy hyn i gyd, mae mab fy etholwr wedi dioddef bwlio, ac mae ei hyder a'i hunan-barch wedi dioddef.

Ysgrifennais atoch am fy etholwr i ofyn a fydd ganddo hawl i driniaeth ar ôl iddo gael ei ben-blwydd yn ddeunaw; os yw'n symud i ffwrdd i fynd i brifysgol, a fydd yn dal i allu cael triniaeth gan ddeintydd GIG Cymru, neu a fyddai GIG Cymru yn ariannu triniaeth iddo yn rhywle arall, os nad oes capasiti o fewn y system. Er fy mod yn derbyn ateb Ysgrifennydd y Cabinet i mi na allai ymateb yn uniongyrchol i unrhyw achosion unigol, mae'n amlwg i mi o'r enghraifft hon nad yw'r system yn gweithio, nad oes gennym ddata cywir i wneud i'r system weithio. Rwy'n derbyn eich bod chi eich hun wedi cydnabod y broblem gyda data a'ch bod wedi sôn y bydd yna wybodaeth am restrau aros erbyn diwedd y flwyddyn. Felly, a yw hynny'n dal i fod ar y trywydd iawn, oherwydd yn amlwg, ar hyn o bryd, nid yw pethau'n gweithio i fy etholwr ac yn anffodus, fel y clywsom y prynhawn yma, mae'n bell o fod yn achos unigryw? Diolch yn fawr.

A gaf innau hefyd ddiolch i Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddadl Aelodau hon heddiw? Hefyd, a gaf i ymddiheuro i'r Aelod gan fy mod wedi gobeithio bod yn un o gyd-gyflwynwyr y ddadl, ond llwyddais i fethu'r dyddiad cyflwyno o ychydig funudau, ac rwyf i lawr fel cefnogwr yn lle hynny? Ond roeddwn i'n gobeithio bod yn gyd-gyflwynydd gyda chi ar y ddadl yma heddiw.

Gwyddom fod darpariaeth ddeintyddol yn rhan mor bwysig o'r system gofal iechyd ac mae'n rhan bwysig o'r agenda ataliol. Nid wyf yn siŵr fod hynny wedi ei grybwyll eto—pwysigrwydd yr agenda ataliol mewn gofal iechyd, ac wrth gwrs, mae deintyddiaeth yn rhan mor bwysig o hynny drwy leihau problemau llawer mwy, a llawer drutach yn nes ymlaen. Ac rydym yn gwybod bod hyn yn arbennig o bwysig i blant, sy'n gallu, ac a ddylai fod yn meithrin arferion glanhau dannedd iach erbyn pan fyddant yn oedolion. Ac rwy'n arbennig o bryderus am y problemau sy'n datblygu yma yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc ac oedolion yn nes ymlaen. Ac yn anffodus, i'r bobl rwy'n eu cynrychioli yma yng ngogledd Cymru—ac mae eraill wedi siarad yn barod—nid yw'r ddarpariaeth yn ddigon da, a chawn ein gadael â'r hyn y mae rhai yn ei ddisgrifio fel 'anialwch deintyddol' ar draws y rhanbarth. Ac mae'r diffyg cysondeb hwn yn sicr yn gwaethygu'r problemau yn nes ymlaen y soniais amdanynt eiliad yn ôl, gan gynyddu problemau mawr yn y dyfodol, a chostio mwy i'r trethdalwyr hefyd yn y pen draw. 

Fel y mae'r cynnig yn amlinellu heddiw, mae deintyddiaeth yn rhywbeth y mae pawb ohonom yn cael llawer o ohebiaeth yn ei gylch, yn enwedig am anallu ein hetholwyr i gael mynediad at ddeintydd GIG. Ac ni ddylid anwybyddu neu ddiystyru hyn. Ac oherwydd y nifer o weithiau y mae'r mater yn cael ei godi, rwy'n poeni weithiau ein bod yn dod i arfer ag ef ac yn rhyw fath o godi ein hysgwyddau a dweud, 'Efallai mai dyna sut mae pethau, a dyna ni.' Ond rwy'n credu ei bod yn gwbl resymol i bobl sy'n talu eu trethi, neu'r rhai sydd wedi gwneud hynny ar hyd eu hoes, ddisgwyl cael mynediad at ddeintydd GIG. Nid wyf yn credu bod hynny y tu hwnt i'r hyn y dylai pobl fod yn disgwyl ei gael fel rhan sylfaenol o'u hanghenion iechyd. Ond yn anffodus, mae gormod o bobl yn cael eu siomi gyda'r disgwyliad mwyaf sylfaenol hwn. 

Ac fel y mae'r cynnig yn ei amlinellu—ac y mae cyd-Aelodau eisoes wedi ei rannu—mae'r broses o ddarparu gwasanaeth deintyddol digonol yn dechrau gyda hyfforddiant ac addysg a chael y nifer cywir o bobl. Ac Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi cadarnhau yn ddiweddar mai 74 y flwyddyn yw nifer y lleoedd i fyfyrwyr ar gyfer addysg israddedig mewn deintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, nifer nad yw'n ddigon, fel y mae, i lenwi'r bwlch. Ac fel y soniodd cyd-Aelodau eisoes, roedd adroddiad y pwyllgor iechyd ar ddeintyddiaeth y llynedd yn cynnwys nifer o argymhellion defnyddiol, ac un ohonynt oedd edrych ar ysgol ddeintyddol yng ngogledd Cymru, mewn partneriaeth â'r brifysgol. Byddai ysgol ddeintyddol a ariennir yn llawn ac sy'n gweithredu'n llawn yn ein hardal ni yng ngogledd Cymru yn sicr yn cyfrannu'n helaeth at ddarparu'r gweithlu deintyddol sydd ei angen ar Gymru a gogledd Cymru, ar gyfer y cleifion sydd angen y gwasanaeth hwnnw.

Mae'n angenrheidiol ac yn deg cydnabod, fodd bynnag, fod cost ynghlwm wrth ehangu lleoedd hyfforddi, ac mae'n rhaid inni ystyried cost hyfforddiant, capasiti lleoliadau clinigol prifysgol, yn ogystal â chael staff academaidd o safon sy'n gallu llunio a chyflwyno'r cyrsiau hynny. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n dadlau bod yn rhaid cael achos busnes gwario i arbed cryf yma, a hoffwn eich annog i fynd ar drywydd hyn mor gadarn â phosibl. Ac felly, i gefnogi cynigion Siân Gwenllian heddiw, hoffwn eich annog chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i gynyddu nifer y deintyddion a staff cymorth ochr yn ochr â deintyddion traddodiadol. Hoffwn weld cynyddu'r niferoedd hynny yn dod yn rhan ganolog o waith y Llywodraeth hon, a byddai cael trefn ar gynllun hirdymor eang yn sicr o gyfrannu'n helaeth at wireddu hynny, fel y gall ein hetholwyr gael mynediad at y deintyddion GIG sydd eu hangen arnynt. Diolch yn fawr iawn.

15:35

Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch yn gyntaf i Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae deintyddiaeth y GIG wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i mi ers i mi gael y portffolio, ac rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau heddiw.

Mae'r cynnig a gyflwynwyd heddiw yn cyfeirio at argymhellion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn dilyn eu hymchwiliad i ddeintyddiaeth. Nawr, un o'r argymhellion a wnaed oedd sefydlu rhestr aros ganolog i Gymru gyfan ar gyfer pobl sydd am gael mynediad at ofal deintyddol rheolaidd y GIG. Ac rwyf am ateb yn uniongyrchol y cwestiwn a ofynnwyd gan Rhys ab Owen am y data. Rwy'n falch iawn o gadarnhau heddiw fod Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cwblhau eu cynllun cychwynnol ar gyfer porth mynediad deintyddol, a fydd yn rhoi un pwynt cyswllt i bobl ledled Cymru gofrestru eu diddordeb mewn derbyn gofal deintyddol y GIG. Mae iteriad cyntaf y system yn cael ei dreialu ar hyn o bryd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys—Powys yw un o'r byrddau iechyd a oedd eisoes yn gweithredu rhestr aros leol—ac mae gwaith ar y gweill i drosglwyddo eu rhestr bresennol i'r system newydd cyn i'r elfen wynebu cleifion fynd yn fyw yr wythnos nesaf.

Felly, mae wedi cymryd mwy o amser na'r hyn a obeithiwn, ond rydym bron yno. Ar ôl cael ei phrofi'n llawn ym Mhowys, byddwn yn cyflwyno'r system hon i bob bwrdd iechyd arall yn yr hydref. Fel y dywedaf, mae hyn yn hwyrach na'r hyn a obeithiwn, ond rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod hwn yn gam mawr ymlaen o ran gallu mesur y galw heb ei ddiwallu am wasanaethau deintyddol y GIG, ac rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi ffordd lawer tecach i gleifion gael mynediad at ofal deintyddol y GIG. Nawr, pan fydd y galw heb ei ddiwallu wedi cael ei nodi'n iawn, gallwn gael sgwrs sy'n seiliedig ar dystiolaeth wedyn ynghylch y bwlch gwirioneddol yn y ddarpariaeth. Nid wyf yn siŵr a fyddwn yn gallu dweud faint sy'n mynd yn breifat, oherwydd yn amlwg, nid yw'r data hwnnw gennym yn fwy nag y gallwn ddweud wrthych faint o bobl sy'n mynd i Tesco dros y penwythnos. Nid mater i'r Llywodraeth yw gwneud hynny. Ond gallwn o leiaf—. Lle mae pobl eisiau darpariaeth y GIG, gallwn o leiaf fesur hynny.

Hoffwn roi eiliad heddiw i dynnu sylw at y driniaeth ddeintyddol y mae'r GIG yn ei darparu. Dangosodd yr ystadegau swyddogol diwethaf fod dros 1 filiwn o bobl wedi cael triniaeth ddeintyddol y GIG yn 2022-23, ac mae gwybodaeth reoli yn dangos bod y lefel hon o wasanaeth wedi cynyddu ychydig yn 2023-24. Bydd yr Aelodau'n gwybod mai un o fy nodau allweddol ar gyfer diwygio deintyddiaeth oedd gwella mynediad i gleifion newydd—y bobl sydd wedi cael trafferth yn hanesyddol i gael mynediad at ofal deintyddol y GIG. Mae'r adroddiad rheoli diweddaraf yn dangos bod bron i 380,000 o gleifion newydd wedi cael cwrs llawn o driniaeth ac mae 114,000 arall wedi cael triniaeth frys ers i'n diwygiadau ailgychwyn ym mis Ebrill 2022. Nid yw'r rhain yn niferoedd bach, ac maent yn golygu bod bron i 500,000 o bobl nad oeddent wedi cael gofal deintyddol y GIG ers dros bedair blynedd wedi cael mynediad erbyn hyn. Nawr, rwy'n derbyn bod llawer mwy i'w wneud wrth gwrs, ond rwy'n gobeithio bod y niferoedd hyn yn dangos ein bod wedi cyflawni ein nod. Mae'n ddiddorol nodi bod y Llywodraeth Lafur newydd hefyd yn bwriadu darparu apwyntiadau GIG newydd, ond yn gyfrannol, rydym ymhell ar y blaen i lle roedd Llywodraeth Dorïaidd y DU arni gyda mynediad at y GIG i gleifion newydd.

Os caf droi at fater cynyddu lleoedd hyfforddiant deintyddol, mae angen inni gael safbwynt hirdymor yn seiliedig ar dystiolaeth ar hyn. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Addysg a Gwella Gofal Iechyd Cymru eu cynllun ar gyfer y gweithlu deintyddol, fel yr awgrymwyd gan Siân Gwenllian, ac mae nifer o ymrwymiadau ynddo a fydd yn ein helpu i nodi'r ffordd orau o ddatblygu'r gweithlu deintyddol sydd ei angen yng Nghymru. Y pwynt cyntaf yr hoffwn ei wneud yw y bydd unrhyw gynnydd yn y broses o gomisiynu lleoedd hyfforddi yn dibynnu ar ddata a modelu cadarn ar gyfer y gweithlu, ac mae ymrwymiad penodol yng nghynllun y gweithlu i ddatblygu modelau gweithlu deintyddol yn seiliedig ar anghenion a chynllunio senarios i lywio siâp, maint, a chomisiynu addysg a hyfforddiant yn y dyfodol, ac mae hynny'n mynd i lywio maint a chyfansoddiad y gweithlu y bydd ei angen arnom yn y dyfodol. Felly, mae'n rhaid inni gydnabod, rwy'n credu, nad deintyddion yn unig sy'n creu'r gweithlu deintyddol. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn, felly gadewch inni fod yn ofalus nad ydym yn gor-ganolbwyntio ar ddeintyddion. Mae'r cymysgedd sgiliau yn ddyhead clir gennym ar gyfer deintyddiaeth.

Rŷn ni eisoes wedi cymryd camau i gynyddu nifer yr hylenwyr a therapyddion deintyddol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu rhaglen hylendid deintyddol ym Mangor a chynyddu nifer y llefydd hyfforddi ar gyfer therapi deintyddol yng Nghaerdydd. Serch hynny, dwi eisiau mynd llawer ymhellach o ran gweithio ar y gwaith tîm yma. Mae camau clir yn y cynllun gweithlu deintyddol hefyd i gynyddu'r niferoedd sy'n cael eu hyfforddi. Mae hyn yn cynnwys cymhwyster newydd sy'n galluogi hylenwyr i astudio am flwyddyn ychwanegol er mwyn cymhwyso fel therapyddion deintyddol. Ac, wrth gwrs, rydyn ni nawr wedi datrys y broblem rheoleiddio er mwyn galluogi'r aelodau yma o'r tîm i agor a chau cyrsiau triniaeth yr NHS a chwarae eu rhan yn llawn.

Dwi am orffen drwy sôn am sefydlu ail gyfleuster ar gyfer cwrs gradd mewn deintyddiaeth. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n ariannu tua 74 o lefydd bob blwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae cyllid ar gael ar gyfer yr un faint o lefydd hyfforddiant sylfaen i fyfyrwyr ar ôl graddio. Bydd Aelodau'n ymwybodol ein bod ni'n ceisio annog y rhain drwy roi arian ychwanegol iddyn nhw wneud yr hyfforddiant yna mewn ardaloedd cefn gwlad.

Byddai cynnydd pellach yn anodd oherwydd heriau ariannol a diffyg lle yn yr ysgol ddeintyddol, felly fy ffocws i ar hyn o bryd yw sicrhau bod mwy o fyfyrwyr o Gymru yn cael lle ym Mhrifysgol Caerdydd. Fe wnes i gwrdd â'r ysgol ddeintyddol yn ddiweddar, ac fe wnaethon nhw sôn am y mentrau sydd gyda nhw i gefnogi'r myfyrwyr yma i ymgeisio. Maen nhw hefyd wedi ymrwymo i gynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n cael eu derbyn i astudio yna o 8 y cant i 40 y cant dros y ddwy i dair blynedd nesaf.

Roeddwn i'n falch iawn i gymryd rhan mewn digwyddiad bythefnos yn ôl a oedd yn annog disgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne Cymru i ymgeisio ac i ddilyn cwrs mewn deintyddiaeth yng Nghymru, a dwi eisiau diolch i brifathro Ysgol Glantaf, Matthew Evans, am drefnu'r digwyddiad yna.

Yn sicr, sefydlu ail gyfleuster yng Nghymru fyddai'r opsiwn orau, ond byddai hynny yn golygu llawer o fuddsoddiad a dyw'r pwysau ariannol ddim yn caniatáu hynny ar hyn o bryd. Serch hynny, yr wythnos ddiwethaf, fe ges i sgwrs gydag is-ganghellor newydd Prifysgol Aberystwyth ac fe ddywedodd e ei fod e'n gweithio ar gynnig ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor. Dwi wedi eu hannog nhw i ddatblygu'r cynigion yma. Dwi'n ymwybodol iawn na allwn ni oedi wrth aros i gyllid fod ar gael, ac mae angen cael cynllun yn ei le er mwyn bod yn barod i weithredu.

Dwi'n gobeithio bod y diweddariad yma wedi bod yn ddefnyddiol ac wedi rhoi sicrwydd i Aelodau bod llawer o'r materion sydd wedi'u trafod y prynhawn yma ar fy agenda i a bod camau gweithredu yn cael eu cymryd. Diolch yn fawr.

15:45

Diolch yn fawr iawn. Diolch hefyd i Jane Dodds, sydd wedi cydgyflwyno'r cynnig, ond mae hi'n ymddiheuro ei bod hi'n methu bod yma heddiw. A diolch i Sam Rowlands, sydd yn gydgyflwynydd mewn egwyddor os nad yn dechnegol. Diolch i Carolyn am ei chyfraniad hi, a hithau yn cyd-weld bod eisiau gweld mwy o bobl o Gymru yn cael eu hyfforddi yma yng Nghymru. Fe wnaeth hi sôn am ddisgyblion ym Mlaenau Ffestiniog sydd heb weld deintydd ers y cyfnod clo—mae hynny'n dangos maint yr argyfwng—ac amlinellu'r gwaith sydd yn digwydd yna i gyfarch hynny.

Roedd Mabon yn sôn am fethiant i gadw deintyddion a chadw deintyddion yma yng Nghymru, ac felly bod Cymru'n colli allan. Soniodd o hefyd am y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan ei swyddfa yn Nwyfor Meirionnydd, yr holiadur ac yn y blaen, a thrafferth un etholwr yn benodol a oedd wedi gorfod mynd i'r Alban i gael gwasanaeth. Dydy sefyllfa fel yna jest ddim yn ddigon da, nac ydy?

Diolch i Rhys ab Owen am sôn am y data a'r bwlch rhyfeddol yma sydd yn y data, a dweud y gwir, lle rydyn ni'n methu â dweud faint o ddeintyddion sydd yn cael eu hyfforddi yma, sydd yn aros yma, a dydyn ni ddim yn gwybod faint o bobl sy'n cael darpariaeth breifat. Mae'n anodd cynllunio yn y math yna o sefyllfa. A'i stori frawychus o efo'r etholwr efo'r gwasanaeth orthodeintyddiaeth yn benodol—a dweud y gwir, buaswn i wedi gallu gwneud dadl arall ar broblemau orthodeintyddiaeth. Mae'r un broblem yn wynebu etholwyr yn ardal Betsi Cadwaladr, does yna ddim dwywaith am hynny. 

Roeddwn i'n falch o weld, ar yr agwedd ddata, o leiaf bod yna rywfaint o symud o ran cael un pwynt cyswllt ar gyfer pobl i gofrestru. Ond os nad ydy'r gwasanaeth yna ar ôl i chi gofrestru—. Mae angen i'r ddau beth ddigwydd. Ond rwy'n falch o weld bod yna symud yn digwydd efo hynny. 

Roedd Sam Rowlands yn sôn am ei bryder penodol o ynglŷn â phobl ifanc, a'n bod ni'n creu problemau ac yn storio problemau ar gyfer nes ymlaen mewn bywyd. A soniodd e hefyd am yr anialdir deintyddol rydyn ni ond yn rhy gyfarwydd ag o. Ac rwy'n falch o gael cefnogaeth gan Sam Rowlands i sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor, a'r angen hefyd am gynllun tymor hir. 

I droi at sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet, dwi'n falch eich bod chi rŵan yn mynd i fedru casglu data ynglŷn â'r cleifion newydd sydd angen y gwasanaeth, ac, yn sgil hynny, ein bod ni'n mynd i fedru cynllunio. Ond mae hyn yn hwyr iawn yn y dydd. Mae yna gyfnod hir wedi bod lle dylai'r math yma o beth fod wedi bod yn digwydd, fel ein bod ni ddim yn yr argyfwng rydym ni ynddo fo ar hyn o bryd.

Roeddech chi'n sôn am yr angen i gael y gymysgedd sgiliau yma: yr hylenwyr a'r therapyddion. Dwi'n cytuno'n llwyr efo chi, ond ddylai hynny ddim digwydd yn lle hyfforddi deintyddion. Mae o angen bod yn rhan o'r pecyn sydd yn digwydd, yn enwedig yn yr ysbytai. Mae llawer iawn o'r gwaith sydd yn digwydd yn yr ysbytai yn cael ei wneud gan ddeintyddion—yr oral surgery ac yn y blaen. Ond dwi yn cydnabod bod yna le arbennig ar gyfer y hylenwyr a therapyddion, er mae yna broblem yn yr academi ddeintyddol ym Mangor. Buaswn yn leicio ichi sbio mewn i hynna. Dydy'r therapyddion ddim yna. Dydyn nhw dal ddim wedi dod i ddealltwriaeth ynglŷn â'r agwedd yna o'r academi ym Mangor. 

Dwi yn siomedig eich bod chi ddim wedi gallu rhoi ymrwymiad clir i ddatblygu mwy o lefydd hyfforddi prifysgol yng Nghymru y prynhawn yma. Rydych chi wedi sôn am y gwaith rydych chi'n mynd i'w wneud efo Prifysgol Caerdydd er mwyn gwneud yn siŵr bod yna fwy o bobl o Gymru yn cael lle yn y brifysgol, ac mae hynna i'w groesawu. Rydych chi hefyd wedi dweud mai ail gyfleuster newydd ydy'r ateb i'r broblem. Dwi'n falch o glywed hynny—hynny yw, nid datblygu mwy a mwy o lefydd yng Nghaerdydd, ond creu un arall.

Dwi'n falch o glywed eich bod chi yn annog trafodaethau rhwng Bangor ac Aberystwyth, a bod yna awydd yn dod o'r ddau gyfeiriad yna ar gyfer cynllunio ar y cyd. Mae'n bwysig. Ac, fel roeddwn i'n sôn, mi rydw i wedi comisiynu darn o waith ynglŷn â Phrifysgol Bangor a'r posibiliadau yn fanna, ac mi fyddaf i'n dod yn ôl i'r Senedd efo canlyniadau'r gwaith yna yn fuan iawn, gobeithio. Diolch yn fawr. 

15:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adroddiad ar wasanaethau rheilffyrdd a pherfformiad Trafnidiaeth Cymru 2023-24'

Eitem 7 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adroddiad ar wasanaethau rheilffyrdd a pherfformiad Trafnidiaeth Cymru 2023-24'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd. 

Cynnig NDM8628 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adroddiad ar wasanaethau rheilffyrdd a pherfformiad Trafnidiaeth Cymru 2023-24', a osodwyd ar 3 Mai 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch o galon, Dirprwy Lywydd. Dyma’r ail adroddiad ar Trafnidiaeth Cymru a gwasanaethau rheilffyrdd y mae’r pwyllgor wedi’i gyhoeddi yn ystod tymor y Senedd yma. Cyn trafod y materion penodol sy’n codi yn yr adroddiad, mae’n bwysig cydnabod bod 2023 wedi bod yn flwyddyn heriol iawn i Trafnidiaeth Cymru, gyda phroblemau gyda’r fflyd, materion dibynadwyedd a chostau cynyddol i gyd yn chwarae eu rhan. Mae’r argymhellion yn ein hadroddiad yn canolbwyntio ar dri maes allweddol lle mae angen gwelliannau yn ein barn ni: yn gyntaf, llywodraethu corfforaethol Trafnidiaeth Cymru; yn ail, sut caiff y gwasanaethau rheilffyrdd eu darparu; ac yn drydydd, rôl Trafnidiaeth Cymru o ran newid moddol. A dwi am ddiolch, gyda llaw, i Trafnidiaeth Cymru ac i Lywodraeth Cymru am ymateb yn gadarnhaol i’r argymhellion sydd yn ein hadroddiad ni. 

Yn gyntaf, gwnaf sôn ychydig am y mater o lywodraethu corfforaethol. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwmni hyd braich sydd â chyllideb o tua £0.5 biliwn o arian cyhoeddus. Ac felly, mae’n hanfodol ei fod e'n gweithredu mewn ffordd sy'n dryloyw, fel bod modd ei ddwyn i gyfrif. Mae ein hadroddiad ni yn cynnwys nifer o argymhellion penodol ar y mater hwn. Yn ystod 2023, roedd Trafnidiaeth Cymru yn wynebu diffyg o £100 miliwn oherwydd twf refeniw is na’r disgwyl gan wasanaethau rheilffyrdd. Fe gymerodd Llywodraeth Cymru gamau penodol i fynd i’r afael â’r diffyg hwn drwy ddarparu cyllid i Trafnidiaeth Cymru i gau'r bwlch yna.

Ond, fel pwyllgor, rŷn ni'n parhau i bryderu am ei sefydlogrwydd ariannol yn y dyfodol. Dyw rhedeg rhwydwaith rheilffyrdd ddim yn beth rhad i'w wneud, yn amlwg, a does dim modd rhoi arian diderfyn i Trafnidiaeth Cymru oherwydd y pwysau sydd ar wasanaethau cyhoeddus. Mewn ymateb, mae Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru wedi dweud bod ganddyn nhw gynlluniau ar waith i reoli diffygion refeniw posib a gwneud y mwyaf o gyfleoedd masnachol. Mi fyddwn ni fel pwyllgor, felly, yn parhau i adolygu effeithiolrwydd y cynlluniau hyn, yn enwedig pan fyddwn ni'n craffu ar y gyllideb ddrafft.

Fel y bydd yr Aelodau'n gweld yn yr adroddiad, un o'n prif bryderon ni yw pa mor dryloyw yw'r broses o bennu'r gyllideb. Rŷn wedi argymell y dylai Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi ei gynlluniau busnes ac ariannol cyn pob blwyddyn ariannol, a bydd hyn yn golygu wedyn y gallwn wneud gwaith craffu gwell. Rŷn ni hefyd wedi argymell y dylai cyllideb lawn Trafnidiaeth Cymru fod ar gael ar yr un pryd â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru er mwyn inni allu gwneud gwaith craffu cynhwysfawr, a dwi yn falch bod Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion.

Mae tryloywder a monitro perfformiad yn hanfodol er mwyn gallu dwyn Trafnidiaeth Cymru i gyfrif. Mae'r pwyllgor wedi galw ar Trafnidiaeth Cymru i gyhoeddi ac i ddiweddaru ei ddangosyddion perfformiad allweddol yn rheolaidd. Unwaith eto, dwi'n falch bod Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad ni, ac y bydd yn cyhoeddi ei ddangosyddion perfformiad allweddol diweddaraf ar ôl yr etholiad cyffredinol yn nes ymlaen yr wythnos yma.

I symud ymlaen, felly, at ail thema allweddol yr adroddiad, yr ail thema honno yw'r ffordd y caiff gwasanaethau rheilffyrdd eu darparu. Mae'n rhaid i deithwyr fod wrth galon unrhyw wasanaeth rheilffyrdd llwyddiannus. Yn anffodus, fe gafwyd cyfraddau canslo gwasanaeth uchel ac, yn wir, sgoriau boddhad teithwyr isel i Trafnidiaeth Cymru yn 2023. Rhaid, serch hynny, i mi ddweud bod 2024 wedi dechrau dipyn yn fwy cadarnhaol, a bod perfformiad wedi gwella ers cyflwyno trenau newydd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud yn ei ymateb i'r adroddiad fod dros 85 y cant o drenau wedi cyrraedd ar amser ym mis Mawrth 2024, a bod canslo ar draws y rhwydwaith wedi aros yn is na'r targed blynyddol cyfartalog o 5 y cant. Yn bersonol, dwi wedi gweld gwasanaeth llawer gwell ar fy nhaith i rhwng y gogledd a'r de. Dyw hynny ddim i ddweud nad oes ambell i eithriad, ond mae'n rhaid inni roi clod lle mae'n ddyledus. Mae'r gwelliant wedi bod yn sylweddol, ac mi ddylid canmol staff Trafnidiaeth Cymru am y cynnydd hwn.

Dyw rhedeg rhwydwaith rheilffyrdd, wrth gwrs, ddim yn beth hawdd, ac mae'n anochel y bydd pethau'n mynd o chwith bob hyn a hyn. Pan fydd hyn yn digwydd, wrth gwrs, mae angen gwybodaeth brydlon a chywir ar deithwyr, a dylai neb gael ei adael heb opsiynau trafnidiaeth amgen. Fe wnaethon ni nifer o argymhellion i fynd i'r afael â hyn, gan gynnwys rhoi arian i deithwyr drefnu trafnidiaeth amgen os nad yw gwasanaethau bws yn lle trên ar gael, ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor bod angen gwella prosesau lle caiff gwasanaethau eu terfynu'n gynnar. Unwaith eto, felly, byddwn ni fel pwyllgor yn parhau i adolygu hyn ac yn gobeithio'n wir gweld gwelliannau erbyn y flwyddyn nesaf.

Roedd gwasanaethau rheilffyrdd ar gyfer digwyddiadau mawr yn fater a godwyd gyda'r pwyllgor, ond, unwaith eto, rhaid inni roi clod i Trafnidiaeth Cymru yn y fan hyn. Mae cyfres o gyngherddau yng Nghaerdydd wedi denu tyrfaoedd mawr, ac, ar y cyfan, mae'r gwasanaethau wedi gwella'n sylweddol. Yn ei ymateb, mae Trafnidiaeth Cymru yn cydnabod yr ymdrech sylweddol gan ei staff gweithredol i gadw'r rhwydwaith i symud pan fydd digwyddiadau fel hyn yn digwydd, a dwi hefyd am roi ar gofnod, os caf i, Dirprwy Lywydd, faint dwi i a'r pwyllgor yn gwerthfawrogi ymdrechion y staff hynny. Wrth gwrs, nid dim ond Caerdydd sy'n cynnal digwyddiadau mawr. Mae disgwyl i'r Ewros pêl-droed o dan 19 oed ddod i ogledd Cymru yn 2026, ac mi fydd hynny, yn amlwg, yn denu torfeydd sylweddol i'r gogledd. Mi fydd hyn, fel y gallwch chi ddychmygu, yn gosod heriau newydd i Trafnidiaeth Cymru, ac rŷn ni fel pwyllgor yn eiddgar i weld sut y bydd Trafnidiaeth Cymru yn ymateb i'r rheini. 

Wrth edrych ymlaen, mae Trafnidiaeth Cymru yn wynebu'r targed uchelgeisiol o sicrhau bod 95 y cant o deithiau ar y rheilffyrdd yn digwydd ar drenau newydd erbyn diwedd 2024—eleni. Rŷn ni'n cael ar ddeall bod Trafnidiaeth Cymru bellach wedi cael tua 70 y cant o'r fflyd newydd, gyda mwy o drenau'n cyrraedd drwy'r amser. Mae rhai eisoes—fel rŷn ni wedi gweld, dwi'n siŵr—yn rhan o’r gwasanaeth dyddiol, ac mae rhai yn cael eu defnyddio hefyd i hyfforddi gyrwyr. Mae hwn yn gam mawr ymlaen ac mi fyddwn ni'n parhau i gadw llygad ar hyn.

Y mater olaf dwi eisiau cyfeirio ato fe, y trydydd mater, yw newid moddol. Mae Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, yn datblygu i fod yn llawer mwy na dim ond darparwr gwasanaethau rheilffyrdd. Yr uchelgais yw i Trafnidiaeth Cymru fod yn gyfrifol am systemau trafnidiaeth gyhoeddus sy’n wirioneddol amlfoddol. Bydd yn chwarae rhan flaenllaw yn y system masnachfreinio bysiau arfaethedig. Mae hon yn ei hun yn her enfawr, ac rŷn ni wedi ceisio sicrwydd bod Trafnidiaeth Cymru yn paratoi ar gyfer y rôl newydd yma, a bod ganddo ddigon o gapasiti a digon o arbenigedd i ymateb i’r her yna yn effeithiol.

Mae hefyd gan Trafnidiaeth Cymru rôl allweddol i’w chwarae o ran hyrwyddo teithio llesol, a hynny drwy ddatblygu’r cynllun cyflawni cenedlaethol a hefyd drwy reoli cronfa teithio llesol Llywodraeth Cymru. Bydd gwaith ar y cyd gyda’r cyd-bwyllgorau corfforedig ar ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yn hanfodol o ran cynyddu cyfraddau teithio llesol. Felly, mi fydd y pwyllgor yn cadw llygad ar gynnydd yn y maes yma yn ogystal.

I gloi, felly, Dirprwy Lywydd, roedd 2023 yn amlwg yn flwyddyn heriol i Drafnidiaeth Cymru, ond yr arwyddion cynnar yw y bydd 2024 yn fwy cadarnhaol, gyda mwy o gerbydau yn dod ar-lein, cynnydd sylweddol o ran metro de Cymru, a pherfformiad yn gwella. Fodd bynnag, os ydyn ni am weld cynnydd parhaus, mae’n rhaid i Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r materion y mae’r pwyllgor yn eu codi. Mi fyddwn ni yn parhau i fonitro cynnydd dros y flwyddyn sydd i ddod. Dwi’n gobeithio, adeg y ddadl ar ein hadroddiad nesaf ni fel pwyllgor, mai gwelliant parhaus fydd yr hanes adeg hynny. Diolch.

16:00

Diolch i glercod y pwyllgor am lunio'r adroddiad hwn. Hoffwn ddechrau drwy nodi bod y data bodlonrwydd cwsmeriaid a gynhwysir yn yr adroddiad yn dyddio'n ôl i'r llynedd, ac mae gwelliannau wedi bod dros yr ychydig fisoedd diwethaf wrth i Trafnidiaeth Cymru drosglwyddo i gerbydau newydd ac mae mwy o gerbydau wedi'u cyflwyno. Fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru archebu 71 o drenau newydd gyda dau a thri cherbyd, a gwn fod 46 wedi cael eu darparu erbyn mis Mai. Mae rhai ohonynt wedi cael eu defnyddio ar reilffordd Aberystwyth ac mae eraill wedi cael eu defnyddio i gynyddu capasiti mewn mannau problemus ac ar lwybrau hir. Fel Llyr Gruffydd, rwyf innau hefyd wedi sylwi ar y gwahaniaeth yn y gwasanaeth o'r gogledd i'r de. Roeddwn i'n aros ar y platfform yr wythnos diwethaf ac roedd nifer enfawr o deithwyr, cannoedd ohonynt, yn aros ar y platfform, ac roeddwn i mor falch o weld cerbydau ychwanegol, a llwyddodd pawb i gael sedd, diolch byth. Felly, mae'n ymddangos bod mwy o bobl yn dewis teithio ar y rheilffyrdd hefyd.

Rwy'n deall bod problemau wedi cael eu datrys gyda chapasiti gyrwyr flwyddyn yn ôl hefyd, yn wahanol i wasanaethau dros y ffin, ac nid oedd Trafnidiaeth Cymru ar streic, a oedd yn rhyddhad mawr, ac nid ydym yn edrych ar leihau nifer y swyddfeydd tocynnau yng Nghymru, na chael gwared ar staff ar drenau, sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae staff y platfform yn amhrisiadwy, yn ogystal â'r cymdeithion newydd sy'n gwisgo tabardiau glas. Rwy'n aml yn gweld pobl yn cael help i fynd ar ac oddi ar y trenau ar fy nhaith. Mae staff yn ffonio ymlaen i sicrhau bod staff ar gael i helpu ar y pen arall hefyd. Roedd trên yr oeddwn arno yn ddiweddar 10 munud yn hwyr am fod coeden wedi cwympo ar y rheilffordd, ac roedd yn brysur iawn wrth iddo gasglu'r rhai a oedd wedi wynebu oedi ac wedi methu defnyddio'r gwasanaeth cynharach. Ond gweithiodd y staff trafnidiaeth ar y trên gyda staff y platfform, gan drefnu tacsis i fynd â'r rhai a oedd wedi wynebu oedi i'w cyrchfannau.

Dywedwyd wrthyf ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ym mis Mai fod Trafnidiaeth Cymru wedi ychwanegu capasiti hwyr y nos ar gyfer y ddwy gêm ddiwethaf, ac fe aeth un i amser ychwanegol a chiciau cosb, ond fe wnaethant ddal y trenau'n ôl tan ddiwedd y gêm, a chafodd hynny ei werthfawrogi'n fawr. O ran digwyddiadau yn Stadiwm Principality, mae llawer o welliannau wedi'u gwneud eleni gyda thrafnidiaeth yn dilyn y cyngherddau hwyr, ac rwy'n credu bod Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda'r sefydliad, gyda Stadiwm Principality, ac maent yn gallu darparu dadansoddiad o godau post y bobl sy'n mynychu, felly os bydd llawer o fynychwyr cyngherddau yn dychwelyd i Lundain, bydd Trafnidiaeth Cymru yn siarad â Great Western Railway ac yn trefnu gyda nhw hefyd, ac mae hynny'n cael ei werthfawrogi.

Mae rhai cwmnïau trenau yn galluogi pobl i gadw lle ymlaen llaw, felly ni allant orwerthu, ond nid yw Trafnidiaeth Cymru yn gwneud hynny. Fodd bynnag, dywedir wrthyf fod gan y trenau newydd gamerâu arnynt, felly gallant gyfrif nifer y teithwyr sy'n mynd ar ac oddi ar y trenau a gallant gynyddu capasiti mewn rhai gorsafoedd, er enghraifft yng Nghaer.

Mae bore Sul i Fangor yn broblem, felly mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwella gwasanaethau trenau ar ddydd Sul. Y rheswm am hyn yw bod Avanti wedi tynnu'r trên o'r amserlen ac felly maent wedi gorfod cynyddu capasiti. Ond rwyf wedi sylwi ar bobl yn rhannu teithiau gorlawn ar y cyfryngau cymdeithasol eto yn ddiweddar, lle nad oes ond dau gerbyd wedi bod ar reilffordd gogledd Cymru, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n gwella wrth i fwy o gerbydau gael eu cyflwyno. Mae yna ganfyddiad fod teithio ar y rheilffyrdd yn wael oherwydd bod pobl yn aml yn rhannu lluniau negyddol ar gyfryngau cymdeithasol, ac rwy'n gobeithio y gallwn hyrwyddo'r ffaith ei bod yn dda iawn i deithio ar ein gwasanaethau rheilffordd, a'u bod yn gwella'n fawr. Mae angen inni rannu teithiau cadarnhaol hefyd. 

Mae angen i Lywodraeth y DU gyflwyno rhaglen fuddsoddi mewn cynnal a chadw ar gyfer Network Rail. Ni chafodd y buddsoddiad o £1 biliwn i drydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru, a argraffwyd ar ddeunydd ymgyrchu ar gyfer etholiadau'r DU, ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU; mae'n dal i eistedd ym mewnflwch rhywun. Mae rheilffordd arfordir gogledd Cymru yn hanfodol ac mewn perygl o lifogydd, felly mae angen inni gynyddu capasiti yng ngorsaf reilffordd Caer. Mae angen buddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw a gwelliannau i groesfannau.

Ac o ran cyflwyno masnachfreinio trafnidiaeth gyhoeddus ac unrhyw gynlluniau diogelwch priffyrdd, mae angen inni weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, gweithredwyr a phreswylwyr. Mae dibynadwyedd a gwybodaeth glir yn bwysig iawn ar gyfer cynyddu nifer y teithwyr sy'n defnyddio bysiau, yn union fel y mae ar y rheilffyrdd, ac mae gwir angen inni ymgysylltu. Nid wyf yn hollol siŵr mai cyd-bwyllgorau corfforedig yw'r lle iawn o hyd i wneud hyn, oherwydd mae trafnidiaeth yn gymhleth iawn, yn enwedig trafnidiaeth bysiau cyhoeddus, ac nid wyf yn siŵr y gall cyd-bwyllgorau corfforedig fod yn lle iawn i'w wneud.

Mae cyllid teithio llesol wedi treblu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i swm anghymesur o fawr, tra bod y grant cynnal a chadw priffyrdd wedi dod i ben. Nid oes llawer o ardaloedd lle gallwch gael llwybrau beicio dynodedig yn fy ardal i yng ngogledd Cymru, ac mae angen i bobl deithio ar ddwy olwyn ar briffyrdd a cherdded ar balmentydd. Mae angen iddynt fod yn gadarn ac mae angen i ni fuddsoddi ynddynt. Byddai'n dda defnyddio'r arian teithio llesol ar gyfer llwybrau caniataol oddi ar y ffordd, fel hen reilffyrdd a llwybrau gleision, fel prosiect Lôn Las Môn ar Ynys Môn, ac rwy'n siŵr fod Llyr yn ymwybodol o hwnnw hefyd, yn hytrach nag ar gyfer cynlluniau nad ydynt yn gwneud fawr mwy na lledu palmentydd, neu gymryd lle ar ffyrdd sydd eisoes yn orlawn ac nad ydynt yn cael eu defnyddio wedyn. Mae angen inni sicrhau bod unrhyw gynlluniau trafnidiaeth hefyd yn cynnwys cerdded diogel. Diolch. 

16:05

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith am eu gwaith yn cyflwyno'r ddadl bwysig hon, ac rwy'n ddiolchgar fy mod yn gallu cyfrannu heddiw. Fel y dywedodd y Cadeirydd wrth agor y ddadl, mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu Trafnidiaeth Cymru a Grŵp Trafnidiaeth Cymru fel endid corfforaethol, ac felly mae'n edrych ar strwythur corfforaethol a rheolaeth o fewn y sefydliad yn ogystal â swyddogaeth ac effeithlonrwydd y rhwydwaith rheilffyrdd ei hun.

Roeddwn eisiau dechrau drwy edrych ar y canfyddiadau corfforaethol yn yr adroddiad, gan fy mod wedi fy synnu a fy mrawychu o ddarganfod bod gan sefydliad sy'n cael ei redeg gan y Llywodraeth fwlch cyflog mor fawr rhwng y rhywiau yn yr oes sydd ohoni. Mae'r adroddiad yn nodi bod y bwlch wedi lleihau'n sylweddol i 14 y cant yn 2023-24, i lawr o 33.2 y cant yn ystod 2022-23. Mae hefyd yn nodi cydnabyddiaeth James Price o heriau hanesyddol sy'n wynebu gweithwyr benywaidd yn y sector trafnidiaeth. Yn fy marn i, os ydym am ddileu'r heriau hyn mewn gwirionedd, drwy gael gwared ar unrhyw olion o fantais ar sail rhywedd neu ddiwylliannau gwahaniaethol yn y gweithlu, byddai sicrhau cyflog cyfartal yn ffordd wych o ddechrau, gan y byddem yn sicr o ddenu mwy o fenywod i'r diwydiant gyda meritocratiaeth wrth galon y broses recriwtio, a chreu amgylchedd priodol sy'n gyfartal i bawb. Felly, hoffwn wybod sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu arwain Trafnidiaeth Cymru i leihau'r ffigur o 14 y cant i ddim yn y flwyddyn ariannol nesaf. Fel y byddwch chi'n cytuno, rwy'n siŵr, mae hon yn sefyllfa sydd angen ei hunioni ar frys.  

Yn ail, rhaid imi nodi canfyddiad yr adroddiad a ddatgelodd fod Trafnidiaeth Cymru wedi methu cyflawni eu hymrwymiad eu hunain i gyhoeddi dangosyddion perfformiad allweddol mewn fformat cliriach, a fyddai wedi caniatáu i ni gymharu perfformiad y sefydliad â meincnodau clir. Credaf fod y math hwn o gymhariaeth yn hanfodol wrth nodi problemau o fewn y sefydliad er mwyn gallu eu hunioni wrth symud ymlaen. Gwnaed yr ymrwymiad i gyhoeddi'r dangosyddion perfformiad allweddol newydd hyn mewn sesiwn graffu yn 2022 gan James Price, ac eto, erbyn y sesiwn graffu flynyddol ganlynol, nid oedd yr un wedi cael ei gyhoeddi oherwydd canfyddiad, ac rwy'n dyfynnu, o 'golli momentwm'. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg fod angen arweiniad a chymorth gwell i sicrhau bod targedau sydd wedi'u gosod yn cael eu cyrraedd. Mae'n rhaid i sefydliadau mawr fel Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi targedau i olrhain cynnydd a nodi meysydd i'w gwella a chanolbwyntio arnynt, oherwydd heb feincnodau cymharol mae yna risg sylweddol o ddiffyg twf, neu o ddirywiad yn wir.

Ochr yn ochr â hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r adroddiad wedi nodi nad oes gan Trafnidiaeth Cymru fawr o gynllun ariannol os o gwbl os na fydd refeniw tocynnau yn llwyddo i gyrraedd y lefelau disgwyliedig. Rhaid imi ailadrodd ei bod yn bwysig nodi bod cyfraddau adfer yn sgil y pandemig wedi bod yn anodd eu rhagweld, sy'n ddealladwy. Ac eto, rydym yn wynebu sefyllfa lle mae'n ymddangos fel pe bai'r cyfraddau twf a ragwelwyd cyn y pandemig yn cael eu defnyddio i ragfynegi elw, ac felly arian a ailfuddsoddir yn y sefydliad. Yn naturiol, nid yw'r ffigurau hyn wedi cyfateb i ddisgwyliadau rhagolygon cyn y pandemig ac maent wedi arwain at ddiffyg elw. Felly, roedd angen llawer o arian ychwanegol yn ystod y flwyddyn i gynnal cyllid Trafnidiaeth Cymru.

Gyda'r cyswllt cynhenid rhwng dangosyddion perfformiad allweddol ac enillion ariannol, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n bwysicach nag erioed fod gennym gynllun ar waith mewn perthynas â sut y byddwch yn ceisio hybu twf a defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru. Gyda'r angen dybryd am fwy o arian i wasanaethau cyhoeddus eraill, rwy'n siŵr y gallwch gytuno na allwn fforddio gwneud mwy o'r buddsoddiadau mawr hyn i Trafnidiaeth Cymru yng nghanol y flwyddyn ariannol, buddsoddiadau o hyd at £125 miliwn, fel yr un a wnaed yn 2023. Felly, gyda'r canfyddiadau cynyddol bryderus hyn yn cael eu datgelu yn yr adroddiad, rwy'n gobeithio heddiw y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi ei gynllun a'i weledigaeth glir i roi Trafnidiaeth Cymru yn ôl ar y trywydd cywir maes o law.

Er bod mwy o ganfyddiadau corfforaethol yr oeddwn am eu cynnwys, rwy'n ymwybodol o'r amser, ac rwyf am symud ein ffocws tuag at effeithlonrwydd a gweithrediad y rhwydwaith rheilffyrdd ei hun. Er gwaethaf honiad parhaus y Prif Weinidog mai Trafnidiaeth Cymru yw'r gweithredwr sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran prydlondeb, efallai y byddai'n werth nodi bod Trafnidiaeth Cymru yn falch o weithredu'r mwyafrif helaeth o lwybrau, a'u bod yn un o ddim ond pedwar gweithredwr yma yng Nghymru. Ochr yn ochr â hyn, mae'r tri gweithredwr arall yn rheoli llwybrau i mewn ac allan o Gymru a Lloegr, a phan edrychwch ar y DU gyfan, Trafnidiaeth Cymru oedd y gwaethaf o ran prydlondeb.

Dangosodd yr adroddiad hefyd mai Trafnidiaeth Cymru oedd y gwaethaf yn y DU o ran boddhad cwsmeriaid, ym mis Medi y llynedd, a hoffwn grynhoi rhai o'r canfyddiadau eraill sy'n gysylltiedig â gweithrediad yn fyr: yn ystod 2023 i 2024, methodd Trafnidiaeth Cymru gyrraedd y targed fod 95 y cant o'r holl wasanaethau yn digwydd ar drenau newydd; yn hytrach, roeddent yn gweithredu ar 29 y cant. Ym mis Gorffennaf fe wnaethant gyhoeddi na fyddent yn gallu cyflawni eu hymrwymiad o ychwanegiadau i'r amserlen, ac roedd yr amser a gollwyd i deithwyr yn waeth na'r flwyddyn flaenorol. Rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2023, eu gorsafoedd ledled Cymru oedd â'r gyfradd uchaf o drenau wedi'u canslo ym Mhrydain, ac i goroni'r cyfan, daethant yn olaf mewn arolwg defnyddwyr rheilffyrdd ledled y DU am brydlondeb a dibynadwyedd, amlder gwasanaethau, glendid a boddhad â'r wybodaeth a ddarperir yn ystod y daith. Felly, os mai dyna yw syniad y Prif Weinidog o lwyddiant, nid yw'n syndod fod ei ddiffyg crebwyll wedi gwneud iddo dderbyn rhai pethau na ddylai fod wedi'u derbyn yn y gorffennol.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, i mi, mae'r adroddiad hwn yn wirioneddol bryderus. Un agwedd sy'n fy mhryderu fwyaf yw'r nifer cynyddol o staff mewn rolau corfforaethol yn Trafnidiaeth Cymru. Er nad yw'r gwasanaethau o ddydd i ddydd ar lawr gwlad yn ddigon da, nid oes gennyf unrhyw ddadl ynglŷn ag aelodau o staff sy'n gwneud eu gwaith, ac rwy'n deall pwysigrwydd rheolaeth briodol sy'n angenrheidiol i gynnal sefydliad fel Trafnidiaeth Cymru. Nid yw'n gywilydd, ac mewn gwirionedd mae'n ffaith bod gweithlu Trafnidiaeth Cymru wedi cynyddu 30 y cant rhwng 2023 a 2024, ac eto, fel y gwelwch o'r datganiadau blaenorol a wneuthum yn fy nghyfraniad, nhw sydd wedi perfformio waethaf ar bron bob categori—

16:10

—ar gyfer arolwg rheilffyrdd. Felly, os mai barn y bobl ar draws Cymru yw nad yw Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaethau digonol beth bynnag, sut rydym i fod i'w cymell i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn yn y lle cyntaf? Felly, Ysgrifennydd trafnidiaeth, rwy'n gobeithio y gallwn gael dealltwriaeth gliriach o sut y bwriadwch ryddhau potensial ein sector trafnidiaeth gyhoeddus, drwy Trafnidiaeth Cymru, a darparu'r diwygiadau y mae'r sefydliad eu hangen mor daer. Diolch.

Diolch yn fawr iawn i'r pwyllgor am yr adroddiad yma. Dylai fod yn gymhelliad brys i'r Llywodraeth ynglŷn â rheolaeth gwasanaethau trên.

Yn anffodus, mae oedi hir, canslo aml, gorlenwi parhaus a darpariaeth annigonol o wasanaethau yn ystod digwyddiadau mawr wedi dod yn brofiadau cyfarwydd i deithwyr Trafnidiaeth Cymru. Nid yw'n syndod, yn hyn o beth, fod Trafnidiaeth Cymru wedi dod yn olaf o blith holl brif weithredwyr rheilffyrdd y DU, mewn perthynas â boddhad cyffredinol cwsmeriaid, yn arolwg diweddaraf Transport Focus. Fel y mae'r adroddiad yn ei ddweud yn briodol, nid yw hyn yn ddigon da. Er gwaethaf y methiannau cronig hyn, mae teithwyr Trafnidiaeth Cymru wedi gorfod ymgodymu â chynnydd sylweddol arall o 4.9 y cant ym mhrisiau tocynnau trên eleni.

Rwy'n arbennig o bryderus, felly, fod Trafnidiaeth Cymru yn agored i'r awgrym o gael gwared ar ei gynllun iawndal ar gyfer teithwyr sy'n wynebu oedi o rhwng 15 a 30 munud. Yn hytrach na mynd i'r afael â'r broblem o oedi yn uniongyrchol, a sicrhau bod teithwyr yn cael gwerth am arian, mae'n ymddangos bod y gweithredwr rheilffordd yn symud y pyst gôl ar sut y caiff ei ddwyn i gyfrif. Nid yw oedi o 15 munud yn ddibwys; gall olygu'r gwahaniaeth rhwng dal trên cyswllt, fel y cynlluniwyd, neu orfod aros mewn gorsaf reilffordd am oriau. O ystyried cyflwr datgysylltiedig ein rhwydwaith rheilffyrdd, mae hon yn broblem i lawer o deithwyr Cymru. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai'r Llywodraeth gadarnhau ei safbwynt ar y mater hwn. Os gwneir penderfyniad i ddod â'r cynllun ad-daliad ar gyfer oedi o 15 munud neu fwy i ben, pa ffordd arall fydd ar gael i ddefnyddwyr ddwyn Trafnidiaeth Cymru i gyfrif mewn perthynas â materion perfformiad?

Mae'r adroddiad hefyd yn ystyried y sefyllfa ariannol ansicr sy'n wynebu Trafnidiaeth Cymru, a oedd angen buddsoddiad ariannol o £230 miliwn yn ddiweddar. Daeth hyn o ganlyniad i'r ymarfer ailgyllidebu canol blwyddyn a gynhaliwyd ar frys ym mis Hydref y llynedd. Rwy'n cydnabod yn llwyr fod effaith y pandemig ar nifer y teithwyr yn ddifrifol ac yn gwbl annisgwyl, ond mae mwy na dwy flynedd wedi bod ers codi'r set olaf o gyfyngiadau COVID yng Nghymru, a bron i bedair blynedd ers codi'r cyfyngiadau ar ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn dal i geisio dal i fyny o gymharu â gweithredwyr eraill yn yr Alban a Lloegr. Mae llawer o sefydliadau cyfatebol eisoes wedi rhagori ar eu niferoedd teithwyr cyn y pandemig.

Brig y mynydd iâ yn unig yw'r pryderon a godwyd yn yr adroddiad mewn perthynas â phroblemau cyllido yn Trafnidiaeth Cymru. Mae sefydliadau fel y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi tynnu sylw'n briodol at gynllwyn mudandod y ddwy blaid yn San Steffan mewn perthynas â chyflwr cyllid cyhoeddus y DU. Yr wythnos diwethaf, asesodd Canolfan Llywodraethiant Cymru oblygiadau cynlluniau gwariant y ddwy blaid ar gyfer Cymru, a fydd, fel rydym wedi amau ers tro, yn golygu mwy fyth o gyni. Mewn termau real, amcangyfrifir y bydd y diffyg disgwyliedig ar gyfer meysydd polisi nad ydynt wedi'u clustnodi, sy'n cynnwys gwasanaethau rheilffordd, yn £248 miliwn yn 2025-26, gan godi i £683 miliwn erbyn 2028-29. Yn ogystal â chynllwyn mudandod lawn mor niweidiol y blaid Lafur a'r blaid Dorïaidd mewn perthynas â symiau canlyniadol HS2 i Gymru, ni fu canlyniadau niweidiol tanfuddsoddiad San Steffan yn ein rhwydwaith rheilffyrdd erioed yn fwy amlwg. Ysgrifennydd y Cabinet, os na fyddwn yn gweld newid radical yn agwedd Keir Starmer tuag at wariant cyhoeddus, a ddylai gynnwys darparu cyfran deg o HS2 i Gymru, a ydych chi'n derbyn bod y Llywodraeth Lafur newydd yn condemnio ein gwasanaeth rheilffyrdd i ddyfodol ansicr iawn?

Yn olaf, hoffwn eich atgoffa o rywbeth a ddywedoch chi yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Chwefror 2018. Fe ddywedoch chi wrth y Cyfarfod Llawn:

'Nid Llywodraeth Cymru yw achos y problemau ar rwydwaith Cymru ar hyn o bryd, ond Llywodraeth Cymru fydd yn eu datrys.'

A ydych chi gam yn nes at ddod o hyd i'r datrysiad hwnnw?

16:15

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu cyfraniadau gwerthfawr, a oedd, yn fy marn i, yn deg a chytbwys, a gwrthrychol a chalonogol heddiw. Mae'r adroddiad yn rhagorol, ac yn adlewyrchu'r sefyllfa yr oedd Trafnidiaeth Cymru ynddi yn 2023, ac rwy'n croesawu asesiad y pwyllgor o berfformiad Trafnidiaeth Cymru, ac rwy'n falch o dderbyn yr holl argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a'r rhai ar faterion gweithredol ar ran Trafnidiaeth Cymru.

Cefais fy nharo gan rywbeth a gododd Carolyn Thomas. Cododd Carolyn werth gwasanaethau cymdeithion ar y rhwydwaith rheilffyrdd, a chredaf fod hyn yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru yn ystyried trafnidiaeth gyhoeddus fel y trydydd gwasanaeth cyhoeddus ac fel sbardun dros gyfiawnder cymdeithasol. Nawr, mae newidiadau sylweddol wedi digwydd ers i Trafnidiaeth Cymru gael ei sefydlu yn ôl yn 2015. O ganlyniad i'r angen i ddod â gweithrediadau rheilffyrdd yn fewnol, oherwydd y pandemig, yn ogystal â throsglwyddo teithio llesol a rhaglenni grant eraill, a'r twf sylweddol yng nghwmpas a maint y cylch gwaith bysiau i gefnogi'r Bil bysiau sydd ar y ffordd, mae Trafnidiaeth Cymru, yn naturiol, wedi gorfod tyfu ac ehangu a chefnogi Llywodraeth Cymru a chefnogi'r cyhoedd.

Oherwydd y cyfrifoldebau ychwanegol hyn, rydym hefyd wedi gorfod gwella'r dulliau llywodraethu yn ogystal â'r trefniadau goruchwylio, gan gynnwys mwy o ddiogelwch ariannol a dangosyddion perfformiad newydd, a chynnwys arsylwyr ar fwrdd Trafnidiaeth Cymru. Rydym yn debygol o weld twf pellach yng nghwmpas a maint y sefydliad yn y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i newidiadau yn ei gylch gwaith bysiau a chynllunio trafnidiaeth rhanbarthol. Mae'r newidiadau hyn a'r heriau cyllidebol diweddar yn cynyddu'r gofyniad i adolygu trefniadau llywodraethu a chyllido'n rheolaidd ac yn barhaus, ac mae gan y pwyllgor rôl bwysig yn yr union broses hon. Felly, er mwyn cefnogi ein gwaith craffu ein hunain a gwaith craffu'r Senedd ar eu perfformiad, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi eu dangosyddion perfformiad amlfoddol a chorfforaethol newydd y mis hwn. Bydd y rhain yn gwella tryloywder, byddant yn gwella craffu ategol, a byddant yn caniatáu i bob un ohonom fonitro eu perfformiad.

Rwy'n croesawu'r cynnydd y mae'r sefydliad wedi'i wneud mewn meysydd fel cau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau drwy gynyddu cynrychiolaeth menywod ymhlith uwch arweinwyr a gyrwyr trenau, lleihau rhwystrau i gyflogaeth a gwella lefelau cadw staff benywaidd, ond rwy'n cytuno'n llwyr â Natasha Asghar na allwn fod yn fodlon hyd nes y byddwn wedi cael gwared ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau'n llwyr.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod y cynlluniau busnes ac ariannol yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd, fel sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae gwaith cynllunio eisoes yn mynd rhagddo ar gyfer y cynllun busnes nesaf i sicrhau bod blaenoriaethau'n glir o'r cychwyn cyntaf ac i lywio penderfyniadau cyllido y bydd angen eu gwneud. Ac mae amserlen ar gyfer cytuno ar gyllideb nesaf Trafnidiaeth Cymru yn cael ei datblygu i gyd-fynd â phroses osod cyllidebau Llywodraeth Cymru ei hun i ganiatáu craffu ar Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru ar yr un pryd; fel y nododd Cadeirydd y Pwyllgor, mae hyn mor bwysig.

Nawr, rwy'n cydnabod nad oedd perfformiad Trafnidiaeth Cymru yn 2023 yn ddigon da. Fe wnaethom osod her enfawr iddynt, i fod yn deg, pan wnaethom eu sefydlu. Fe wnaethant etifeddu un o'r fflydoedd trên hynaf ym Mhrydain, ac ar yr un pryd, cawsant y dasg o uwchraddio seilwaith llinellau craidd y Cymoedd, ac rwy'n falch o weld bod y buddsoddiad bellach yn dwyn ffrwyth. Mae'r holl waith seilwaith mawr rhwng Caerdydd a Threherbert, Aberdâr a Merthyr wedi'i gwblhau bellach, ac mae hyn wedi ein galluogi i redeg gwasanaethau ychwanegol a chyflwyno rhai gwasanaethau metro, 'cyrraedd a gadael' yn ardal llinellau craidd y Cymoedd. Y tu hwnt i linellau craidd y Cymoedd, mae 70 y cant o wasanaethau ledled Cymru ac ardal y ffin bellach yn cael eu gweithredu ar fflyd newydd sbon, gyda mwy yn cael eu hychwanegu at y gwasanaeth bob wythnos. Ac erbyn diwedd y rhaglen, fel y nododd y Cadeirydd, bydd 95 y cant o'r holl deithiau gyda Trafnidiaeth Cymru yn digwydd ar drenau newydd sbon. Rydym hefyd wedi cyflawni'r gwelliant mwyaf o ran prydlondeb ledled Prydain eleni. Mae hyn yn rhywbeth i'w ganmol, a Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod Trafnidiaeth Cymru yn camu i'r adwy. Maent wedi troi'r gornel. Eleni, maent wedi cynyddu capasiti, maent wedi darparu gwasanaethau ychwanegol, maent wedi gwella prydlondeb, maent wedi gwella dibynadwyedd ac maent wedi cynyddu refeniw. Rwy'n hyderus, o ganlyniad i hyn, y bydd boddhad teithwyr yn gwella hefyd, ac mae'n rhaid iddo wella.

Fodd bynnag, yn ogystal â gweithredu gwasanaethau rheilffordd, mae Trafnidiaeth Cymru yn ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol, fel y mae'r Aelodau wedi dweud. Bydd y Bil bysiau, er enghraifft, yn ei gwneud yn ofynnol i Trafnidiaeth Cymru arwain gwaith cynllunio ac ymgysylltu i ddarparu masnachfreinio bysiau yng Nghymru, a bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cryfhau eu cefnogaeth i awdurdodau lleol ddatblygu a darparu cynlluniau teithio effeithiol.

Ond fel y nododd Peredur, mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn cynnig ateb i'r gofidiau ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus y mae pobl wedi'u hwynebu ers blynyddoedd lawer. Rydym yn gwneud hyn drwy gyflwyno un o fflydoedd trenau mwyaf newydd Prydain, gyda £800 miliwn yn cael ei wario arni. Byddwn yn gwneud hyn drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth newydd y DU i sicrhau bod y seilwaith, sy'n gwegian i'r fath raddau ledled Cymru, yn cael y buddsoddiad sydd ei angen arno.

Ac rwy'n croesawu cydnabyddiaeth gadarnhaol y Cadeirydd o'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar draws pob dull teithio, ac rydym wedi gwneud hynny ers sefydlu Trafnidiaeth Cymru yn ôl yn 2015. Mae'r newid gwirioneddol y mae teithwyr yn ei brofi bellach yn sylweddol, ac mae yna gynlluniau cyffrous pellach ar gyfer integreiddio drwy un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn ac un tîm. Yn y cyfamser, rwy'n falch iawn o dderbyn argymhellion yr adroddiad pwyllgor rhagorol hwn. Diolch yn fawr iawn.

16:20

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r drafodaeth yma?

Soniodd Carolyn am ddata bodlonrwydd cwsmeriaid. Mae yna wahanol ddehongliadau o'r hyn y mae sefydliadau penodol a'r gwaith sydd wedi mynd rhagddo yn ei ddweud wrthym o bosibl, ond rydym i gyd eisiau gweld mwy o bobl yn dewis defnyddio'r trenau, onid ydym, ac er mwyn i hynny ddigwydd, mae'n rhaid iddynt fod yn ddibynadwy ac mae'n rhaid iddo fod yn brofiad dymunol. Ac os na chawn ni'r pethau hynny'n iawn, gallwn drafod hyn cyhyd ag y dymunwn. Ond mae'n rhaid inni hefyd, ar yr un pryd, ddisgwyl y bydd yna oedi, y bydd yna broblemau'n codi nawr ac yn y man, ac mae'n ymwneud â lleihau'r rheini a mynd i'r afael â'r sefyllfaoedd hynny mor effeithiol â phosibl pan fyddant yn codi. Ac rwy'n credu bod y cyfeiriad at y pêl-droed—wyddoch chi, er bod amser ychwanegol, er bod ciciau cosb, cafodd y trên ei ddal yn ôl, a dyna yw hanfod gwasanaeth cyhoeddus. Nid yw'n fater o'r cyhoedd yn gorfod cyd-fynd â'r hyn y mae'r system yn ei ddweud; mae'n ymwneud ag adeiladu'r system o amgylch yr hyn y mae pobl ei angen. Ac fel rhywun sydd wedi codi pryderon o brofiadau blaenorol o ddefnyddio trenau ar gyfer gemau pêl-droed yng Nghaerdydd, maent i'w canmol am ymateb yn gadarnhaol i hynny. 

Mae Natasha yn llygad ei lle am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a gwyddom fod Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i ymateb, neu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, ym mis Tachwedd. Gallaf roi sicrwydd i chi, fel pwyllgor, os nad ydym yn hapus fod digon o gynnydd yn cael ei wneud, byddwn yn dwyn Trafnidiaeth Cymru i gyfrif, oherwydd rwy'n cytuno'n llwyr nad cau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau y dylid ei wneud—dylid cael gwared arno'n gyfan gwbl. Ac mewn perthynas â'r dangosyddion perfformiad allweddol wrth gwrs, maent wedi ymrwymo i gyhoeddi'r rheini cyn gynted ag y bydd yr etholiad ar ben; oherwydd y cyfnod cyn-etholiadol a phopeth, efallai nad yw'n bosibl iddynt wneud hynny. 

Nawr, rydym ar odre adferiad yma, rwy'n credu. Mae gennym ffordd hir iawn i fynd. Fe wnaethoch chi gyfeirio at fod yn olaf o ran prydlondeb; rwy'n credu mai Peredur a ddywedodd eu bod yn olaf o ran boddhad cyffredinol cwsmeriaid. Mae'r cynnydd ym mhrisiau tocynnau trên yn broblem. Mae angen iddo fod yn fforddiadwy. Pan fo prisiau'n codi, fel y maent yn ei wneud bob blwyddyn, mae hynny'n heriol iawn. Ac mewn perthynas â'r cynllun ad-dalu yn sgil oedi, er tegwch, roedd yn rhywbeth a godwyd gan y pwyllgor, ac roeddent yn teimlo y dylid ei adolygu—nid ei ddiddymu, ond gweld a yw Trafnidiaeth Cymru yn teimlo bod y cydbwysedd cywir yn cael ei daro ar hyn o bryd, oherwydd mae refeniw, fel y mae pawb ohonom yn cytuno, yn broblem, ac roedd yn gwestiwn a oedd y cynllun ad-dalu yn sgil oedi ychydig yn rhy hael a'i fod yn dod yn weithredol yn rhy gyflym, o bosibl, gan dderbyn y bydd gennych rywfaint o oedi. Ond mae hynny'n agored i drafodaeth. Nid wyf yn dweud bod gennym farn benodol ar y mater fel pwyllgor; roeddem yn meddwl efallai fod hwnnw'n rhywbeth y dylai Trafnidiaeth Cymru ei gadw mewn cof. Ond o ran arian, wrth gwrs, mae cyllid canlyniadol HS2 yn fater sy'n codi, ac sydd eto'n tynnu sylw yn fwy cyffredinol, rwy'n credu, at yr angen am fwy o fuddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd, sy'n dod â ni'n ôl at Network Rail a rhai o'r pwyntiau a wnaed gan Aelodau eraill. 

Nawr siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet—a diolch am eich ymateb—am drafnidiaeth fel y trydydd gwasanaeth cyhoeddus a sbardun i gyfiawnder cymdeithasol. Yn bendant. Ond, o'i gael yn anghywir, wrth gwrs, gallai fod yn sbardun i anghyfiawnder cymdeithasol. Ac fe welsom, oni wnaethom, mewn perthynas â gwasanaethau bysiau yn ystod COVID, fod cymunedau tlotach wedi colli lefel anghymesur o wasanaethau bws yn y cyfnod hwnnw. Felly, efallai fod angen mynd yn ôl cyn y gallwn symud ymlaen o'r sefyllfa roeddem ynddi. Ac mae'r oedi cyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth bysiau i gyflwyno masnachfreinio bysiau yn golygu efallai y bydd hynny'n dilyn trywydd gwahanol, ond bydd yn drywydd y bydd y pwyllgor yn awyddus i'w ddilyn pan fydd y Bil yn cael ei gyflwyno. 

Mae alinio gwaith craffu ar y gyllideb â gwybodaeth am gyllideb Trafnidiaeth Cymru yn hanfodol, ac rydym yn croesawu'r ymateb cadarnhaol gan y Llywodraeth a Trafnidiaeth Cymru yn hynny o beth. 

Credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ein bod wedi troi'r gornel. Wel, y pwyllgor sydd i benderfynu hynny, o'n rhan ni. Yn sicr, byddwn yn cyfaddef bod yr arwyddion cynnar—. Wel, rwy'n dweud 'arwyddion cynnar', rydym wedi bod yn siarad am hyn ers amser maith, ond mae'r arwyddion yn gadarnhaol nawr, ond mae gennym ffordd bell i fynd. A phan fo gennych sefydliad y gofynnir iddo wneud mwyfwy o gyfrifoldebau ychwanegol, nid yn unig trenau, ond bysiau, teithio llesol, a thacsis hefyd yn y dyfodol, rwy'n credu, mae'n hanfodol fod ganddynt yr adnoddau a'r capasiti i allu cyflawni'r swyddogaethau hynny'n effeithiol.

Felly, yn briodol, rwy'n credu y gallwn ddweud bod Trafnidiaeth Cymru ar daith; mae'n fater arall a fydd yn cyrraedd ar amser. Ond yn sicr, credwn fod y sefyllfa'n edrych yn well nawr na'r tro diwethaf inni ystyried ein gwaith craffu blynyddol. Diolch.

16:25

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhestrau aros y GIG

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Eitem 8 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, rhestrau aros y gwasanaeth iechyd gwladol. Galwaf ar Sam Rowlands i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8630 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn dathlu gwaith caled ac ymroddiad y rhai sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru.

2. Yn cydnabod cynnig Llywodraeth y DU i helpu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhestrau aros y GIG.

3. Yn gresynu at y canlynol:

a) bod nifer yr achosion o aros dwy flynedd am driniaeth wedi cynyddu i 21,290 yng Nghymru, y tro cyntaf iddynt gynyddu mewn dwy flynedd, o'i gymharu â 275 yn Lloegr;

b) bod amseroedd aros canolrifol am driniaeth y GIG yn 22 wythnos yng Nghymru, o'i gymharu â 13.9 wythnos yn Lloegr;

c) bod nifer y llwybrau cleifion yng Nghymru wedi cynyddu eto i 775,031, sef y ffigur uchaf a gofnodwyd, tra bod rhestrau aros wedi gostwng dros y chwe mis diwethaf yn Lloegr; a

d) nid yw 54.2 y cant o alwadau coch am ambiwlans yn cyrraedd o fewn wyth munud.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dechrau dileu technolegau hen ffasiwn y GIG;

b) cyflwyno cynllun gweithlu sylweddol gydag ad-daliad ffioedd dysgu i weithwyr gofal iechyd sy'n aros yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl eu hastudiaethau;

c) sicrhau bod y swm llawn o gyllid canlyniadol Barnett sy'n deillio o wariant Llywodraeth y DU ar y GIG ar gael ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; a

d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddeall arfer gorau wrth dorri rhestrau aros y GIG.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu agor y ddadl heddiw ar restrau aros y GIG yng Nghymru a chyflwyno'r cynnig o'n blaenau yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Mae hon, wrth gwrs, yn ddadl bwysig iawn ar fater sy'n effeithio ar bob cwr o Gymru ac yn effeithio ar ein holl etholwyr y cawsom ein hethol i'w cynrychioli. Ac yn bennaf oll hoffwn gydnabod ymdrechion anhygoel y rhai sy'n gweithio yn ein gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru a diolch iddynt am eu hymroddiad i wasanaeth cyhoeddus a gwella iechyd a llesiant pobl ledled y wlad. Ond ni allwn anwybyddu'r ffaith nad yw GIG Cymru mewn lle da ar ôl chwarter canrif o gamreolaeth Lafur, a rhestrau aros yw'r dystiolaeth o'r gamreolaeth hon.

Rhaid cydnabod bod mwy na 21,000 o bobl yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth a gadewch inni gymharu hynny â dim ond ychydig gannoedd o bobl yn Lloegr, gyda phoblogaeth gymharol lawer mwy hefyd. Rydym yn gwybod bod yr amser aros canolrifol yn 22 wythnos, o'i gymharu ag ychydig llai na 14 wythnos yn Lloegr. Mae gennym y ffigurau uchaf erioed o lwybrau gofal i gleifion, gydag un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn aros ar lwybr gofal, gan roi hyd yn oed mwy o straen ar y rhai sy'n gweithio mor galed ar y rheng flaen. Mae hyn i gyd o ganlyniad i danariannu cronig, a'r ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru yng Nghaerdydd wedi bod yn rhedeg ein gwasanaeth iechyd yn aneffeithiol.

Mae cleifion yn fy etholaeth i ac etholaethau'r Aelodau yn dihoeni ar y rhestrau aros hir a nodais ac ni allant gael mynediad bob amser at feddygon teulu yn y ffordd sy'n gweithio orau iddynt, neu fel y clywsom ychydig funudau yn ôl mewn dadl yma yn y Siambr, ni allant gael mynediad at ddarpariaeth ddeintyddol y GIG y maent ei hangen yn fawr. Mae pobl yn dioddef go iawn. A dychmygwch fod ar restr aros am ddwy flynedd, mewn poen difrifol efallai ac mewn angen dybryd am lawdriniaeth: mae'n brofiad trawmatig ac mae'n annerbyniol. Mae'r ffaith bod mwy na 21,000 o bobl yn y sefyllfa honno mewn gwlad o faint Cymru yn gywilyddus a dweud y gwir.

Nid wyf yn hoffi gwneud cymariaethau ar draws ffiniau, ond rwy'n credu bod angen inni fod yn ofalus i beidio â gadael i'n hunain ddod i arfer â'r lefel hon o wasanaeth a'r rhestrau aros hyn a derbyn y sefyllfa yr ydym ynddi. Rydym wedi bod yn y sefyllfa hon ers gormod o amser yng Nghymru, ond nid oes rhaid i bethau barhau ac nid oes rhaid inni fod yn y sefyllfa hon am byth. Rhaid inni gydnabod unwaith eto ei fod yn amgylchedd gwaith hynod o anodd i staff y GIG fod ynddo, boed yn feddygon, nyrsys, gweithwyr cymorth gofal iechyd neu weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a llawer o rai eraill sy'n gweithio'n galed ac yn gwneud eu gorau o dan straen anhygoel, diolch i ddiffyg buddsoddiad a meddwl strategol gan y Blaid Lafur yng Nghaerdydd.

Mae yna rai atebion i'r argyfwng Llafur hwn, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu amlinellu'r rheini yn ein cynnig yma heddiw. Yn gyntaf oll, yn sylfaenol i hyn i gyd, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y symiau canlyniadol Barnett llawn, yr arian a ddaw gan Lywodraeth y DU, ar gael i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Gadewch inni gofio, Lywodraeth Cymru, eich bod chi'n cael £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yn Lloegr. Ac eto mae'r un Lywodraeth yng Nghymru yn dewis peidio â gwario'r swm llawn hwnnw ar ein GIG, sydd o dan bwysau eithriadol. Byddai buddsoddi yn y gwasanaethau hyn yn briodol, er enghraifft, yn galluogi'r GIG i fuddsoddi mewn technoleg newydd, mewn ffyrdd newydd mwy effeithlon o ddarparu gwasanaethau, a chyflymu'r broses o gael gwared ar dechnoleg hen ffasiwn, fel peiriannau ffacs, nad oes lle iddynt mewn gwasanaeth iechyd modern.

Hefyd, dylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru gyflwyno cynllun gweithlu sylweddol, fel y gallwn gael gwasanaeth iechyd sy'n addas ar gyfer yr oes fodern, ac yn bwysig, dylai gynnwys ad-daliad ffioedd dysgu i weithwyr gofal iechyd sy'n aros yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl eu hastudiaethau. Byddai hyn yn gymhelliant gwych i sicrhau ein bod yn cadw'r ddawn a'r sgiliau hynny yma yng Nghymru. Dylai'r cynllun gweithlu gynnwys pwyslais ar hyfforddi a chadw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o safon. Fel y mae, ac fel y clywsom yn y ddadl yr wythnos diwethaf, mae Llywodraeth Cymru yn cwtogi nifer y lleoliadau hyfforddi ym maes iechyd, ac nid ydynt wedi gallu llenwi'r nifer llai o leoedd sydd ar gael hyd yn oed.

Felly, i grynhoi, ni allwn osgoi'r ffaith bod y GIG yng Nghymru wedi cael ei redeg ar wahân i rannau eraill o'r DU ers 1999, pan ddechreuodd datganoli. Llafur sydd wedi bod wrth y llyw yn Llywodraeth Cymru drwy gydol y cyfnod hwnnw, ac mae'n ymddangos bod pethau'n waeth nag erioed. Nid yw hyn yn ddigon da i bobl Cymru, nac i'r rhai sy'n gweithio mor galed yn ein gwasanaeth iechyd. Maent oll yn haeddu gwell, a Lywodraeth, mae'n rhaid i'ch gwleidyddion yn y lle hwn gyflawni hyn. Hoffwn annog holl Aelodau'r Senedd i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig a chefnogi gwasanaeth iechyd gwladol sy'n wirioneddol addas ar gyfer 2024 a thu hwnt. Diolch yn fawr iawn.

16:30

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

16:35

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu'r popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi methiant y Prif Weinidog i gyflawni ei amcan ei hun o ddod â rhestrau aros i lawr yng Nghymru.

Yn gresynu yng Nghymru

a) bod nifer yr arosiadau dwy flynedd am driniaeth wedi cynyddu i 21,290;

b) bod arosiadau canolrifol 22 wythnos am driniaeth y GIG;

c) bod nifer y llwybrau cleifion wedi cynyddu eto i 775,031, y ffigur uchaf a gofnodwyd; a

d) nad yw ambiwlans yn cyrraedd o fewn wyth munud ar gyfer 54.2 y cant o alwadau ambiwlans coch.

Yn gresynu:

a) bod cynlluniau gwariant Plaid Geidwadol y DU a Phlaid Lafur y DU yn awgrymu toriadau mewn termau real i feysydd heb eu clustnodi yng nghyllideb Cymru a fydd yn gwaethygu'r pwysau ar y GIG; a

b) bod Plaid Geidwadol y DU a Phlaid Lafur y DU yn agor y drws i ddarparwyr preifat elwa ar y GIG.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i ddechrau dileu hen dechnolegau'r GIG;

b) i gyflwyno cynllun gweithlu sylweddol gydag ad-daliad ffioedd dysgu i weithwyr gofal iechyd sy'n aros yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl eu hastudiaethau;

c) i ddiogelu'r GIG fel sefydliad cwbl gyhoeddus sydd am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen; a

d) i wneud cais ffurfiol i Lywodraeth nesaf y DU ddod â fformiwla annheg Barnett i ben i sicrhau cyllid teg i Gymru a fydd yn galluogi buddsoddi yng ngweithlu'r GIG a recriwtio 500 o feddygon teulu.

Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddod â fformiwla annheg Barnett i ben, ac ariannu Cymru yn ôl yr angen, er mwyn buddsoddi'n briodol yn yr holl feysydd cyllideb yng Nghymru, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yn gynharach eleni, wrth gwrs, fe wnaethon ni nodi 75 mlwyddiant ein gwasanaeth iechyd cenedlaethol, llwyddiant sosio-wleidyddol mwyaf yr ugeinfed ganrif ac un sydd wedi ei wreiddio yma yng Nghymru. Ond yn dilyn 25 mlynedd o gamreoli gan y Blaid Lafur a 14 mlynedd o lymder Torïaidd, mae'r NHS yn wynebu argyfwng, ac heb driniaeth brys, yna mae'n anodd gweld sut gall yr NHS barhau am 75 mlynedd arall. Mae etholwyr yn galw allan am wleidyddion i ddelio â hwn gyda'r difrifoldeb, y gonestrwydd a'r brys y mae'n ei deilyngu, ond yn anffodus dydy'r pleidiau Llundeinig ddim yn cynnig hyn iddyn nhw. Mae'r syniad bod Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Gyfunol wedi bod yn baragon o arfer da wrth reoli'r NHS, fel sy'n cael ei awgrymu yn y cynnig gwreiddiol, mor chwerthinllyd ag ydyw yn sarhaus.

Gyda’u Brexit caled trychinebus a achosodd i brisiau cyffuriau godi i’r entrychion, polisi mudo creulon sydd wedi gwaethygu'r pwysau ar y gweithlu, gwastraffu biliynau ar gyfarpar diogelu personol diffygiol a gyflenwyd gan eu ffrindiau, erydiad hirhoedlog mewn termau real cyflogau’r GIG a 14 mlynedd o gyni sydd wedi creu anghydraddoldebau iechyd sydd wedi costio £322 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru, does bosibl y gellir ymddiried yn y Ceidwadwyr i ofalu am y GIG.

Ond nid oes gan Blaid Lafur y DU, sy'n hwylio tuag at fuddugoliaeth ddiofyn, unrhyw fath o weledigaeth flaengar ar gyfer adnewyddu'r GIG, ac mae'n dilyn agenda a fydd yn rhoi mwy fyth o halen ar y briw. Drwy barhau â rheolau cyllidol a luniwyd gan y Torïaid, maent yn gosod trywydd ar gyfer toriadau mwy poenus fyth mewn gwariant cyhoeddus, y mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi amcangyfrif y byddant yn cael effaith o £248 miliwn ar Gymru drwy gydol y flwyddyn ariannol nesaf, a £683 miliwn erbyn 2028-29. Mae'n amlwg hefyd nad oes ganddynt unrhyw broblem gydag agor y drws i ddarparwyr preifat elwa o'n system iechyd. Mae’n blaid sydd wedi newid yn wir, un sydd wedi troi ei chefn am byth ar waddol balch Nye Bevan.

Ac yma yng Nghymru, rydym wedi gwybod ers tro nad oes gan Lafur yr atebion i broblemau'r GIG. Ar ôl dechrau yn ei swydd, nododd y Prif Weinidog ei bod yn brif flaenoriaeth ganddo i leihau rhestrau aros, ond gydag un o bob pump o boblogaeth Cymru bellach ar restrau aros—y lefel uchaf erioed—mae wedi methu ar y cam cyntaf. Wrth wneud hynny, yn hytrach na throi'r ddalen ar dros chwarter canrif o safonau'n gostwng o dan reolaeth ei blaid, mae'n dilyn hen lwybr cyfarwydd Llafur o ddirywiad wedi'i reoli.

Byddem yn cydymdeimlo llawer mwy â’r Blaid Lafur yng Nghymru oni bai am eu gwrthwynebiad llwyr i fod yn atebol am y cyfrifoldebau sydd ganddynt dros iechyd ers dechrau datganoli. Rydym wedi gweld y nodwedd hon ar ei gwaethaf drwy gydol yr ymgyrch etholiadol hon. Mae’r ffaith bod lleihau amseroedd aros y GIG yn un o chwe addewid Llafur i Gymru ar gyfer yr etholiad cyffredinol yn feirniadaeth hallt o blaid y mae ei myopia bwriadol ar eu cyflawniad mewn Llywodraeth yn ymylu ar ddibwyllo etholiadol. Rydym hefyd wedi gweld toreth o ddeunydd ymgyrchu yn honni y bydd Llafur Cymru yn bwrw ymlaen â digidoleiddio yn ein GIG, pan wyddom fod ysbytai ledled Cymru yn parhau i wegian dan faich technolegau hen ffasiwn megis peiriannau ffacs. Maent hefyd yn parhau i wrthsefyll yr achos cryf dros gynnal ymchwiliad COVID cwbl annibynnol i Gymru.

Tra bo pleidiau San Steffan yn pedlera atebion cyflym ac yn osgoi cyfrifoldeb, Plaid Cymru, felly, yw’r unig blaid sydd â’r atebion difrifol i adfer y GIG i ble y dylai fod. Yn gyntaf, mae hyn yn golygu cael gwared ar fformiwla annheg Barnett sy’n anaddas i’n hanghenion. Lluniwyd y fformiwla fel ateb dros dro 40 mlynedd yn ôl, plastr sydd wedi dyddio ac wedi'i dynnu hyd at dorbwynt ar ôl cyni a'r pandemig. Mae’r frwydr dros degwch economaidd sy’n ganolog i’n hymgyrch etholiadol yn hanfodol i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r GIG. Mae hyn yn cynnwys ailadeiladu clymau yfflon gofal iechyd yn y gymuned drwy recriwtio 500 o feddygon teulu ychwanegol; codi’r cyflog byw gwirioneddol £1 yr awr i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan fynd â ni gam yn nes at weithlu sydd wedi’i alinio’n llawn. Hefyd, gallwn greu contract canser newydd i Gymru i warantu darpariaeth gofal amserol bob amser. Yn bwysicaf oll, gallwn sicrhau bod y GIG yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol fel y bwriadwyd: yn sefydliad cyhoeddus sydd am ddim lle bynnag y bo'i angen ac nad yw byth yn cael ei fygwth gan fwgan preifateiddio. Yn yr etholiad cyffredinol hwn, mae pleidleiswyr yn haeddu plaid sy’n mynd ati'n ddiedifar i hyrwyddo’r GIG yn ei holl ogoniant. Yng Nghymru, Plaid Cymru yw’r blaid honno.

16:40

Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, er nad yw'r pwnc yn bleserus, sef methiant enbyd Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag amseroedd aros yn GIG Cymru.

Pan ymddeolais fel meddyg ymgynghorol orthopedig, ni fu gennyf fawr o restr aros. A dweud y gwir, mynnais fod rheolwyr yr ysbyty yn caniatáu imi weld cleifion oedrannus yn breifat, yn rhad ac am ddim, er mwyn sicrhau nad oeddent yn cael eu gorfodi i ddioddef mewn poen. Felly, rwy'n digalonni wrth weld pa mor ddrwg yw pethau bellach. Gennym ni y mae'r amseroedd aros gwaethaf yn y DU; mae degau o filoedd o bobl yn cael eu gorfodi i aros blynyddoedd am driniaeth. Hyd yn oed pe baem yn anwybyddu dynoldeb y peth, yn anwybyddu'r ffaith ein bod yn gorfodi pobl i fyw gyda phoen gwanychol, yn eu gorfodi i ddioddef, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o safbwynt economaidd pur: mae'r cynhyrchiant a gollir a'r effaith ar ein cynnyrch domestig gros yn aruthrol. Nid yw’n syndod mai Cymru yw’r economi sy’n perfformio waethaf yn y DU yn ogystal â'r wlad sydd â'r amseroedd aros gwaethaf. Ond ni allwn anwybyddu'r dioddefaint. Ni allaf i, yn sicr.

Rwy'n ffieiddio at y ffaith bod y GIG, y treuliais fy ngyrfa yn gweithio ynddo, wedi dirywio i'r fath raddau, er gwaethaf ymdrechion aruthrol ein staff ymroddedig ar y rheng flaen. Diolch i arweinyddiaeth y GIG, o Weinidogion Llywodraeth Cymru i reolwyr byrddau iechyd lleol, ein gwasanaethau iechyd, mae pob un ohonynt wedi methu ar ran eu poblogaethau. Mae bron i un o bob pedwar o boblogaeth Cymru ar restr aros. Rydym yn methu yn ôl pob metrig posibl, o gyfraddau goroesi canser i ofal brys a phopeth yn y canol, gan fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu cynllunio dros y chwarter canrif ddiwethaf.

Fe wnaethant dorri degau o filoedd o welyau, cau ysbytai a methu hyfforddi, recriwtio na chadw staff ar draws ystod eang o ddisgyblaethau. Nid oes gennym ddigon o nyrsys i ddarparu gofal diogel i gleifion. Nid oes gennym ddigon o feddygon teulu i sicrhau nad yw cleifion yn aros am fisoedd am apwyntiad ac nid oes gennym seilwaith addas i fodloni'r galwadau ar system ofal iechyd fodern.

Mae gennym lawfeddygon a meddygon ymgynghorol nad ydynt yn gallu trin cleifion gan nad oes gennym gapasiti theatr. Dyma un o'r symptomau mwyaf difrifol o'r pydredd y mae'r diffyg arweinyddiaeth wedi'i ganiatáu. Rydym wedi recriwtio mwy o feddygon ymgynghorol a llawfeddygon arbenigol heb feddwl am ble fydd y bobl hyn yn trin y cleifion. Ni wnaethom gynyddu capasiti llawfeddygol, gwelyau na recriwtio nyrsys ychwanegol. Na, canmolodd y Llywodraeth ei hun, a dweud wrth y cyhoedd, 'Edrychwch, fe wnaethom recriwtio mwy o feddygon yn ein GIG.' Y meddylfryd datgysylltiedig hwn sydd wedi dod â’n GIG i’w liniau, wedi lladd ysbryd ei staff ac wedi gadael i gleifion fynd yn ddall, colli eu clyw a cholli eu bywydau hyd yn oed am na chawsant eu trin mewn pryd.

Dyma'r unfed ganrif ar hugain; rydym yn byw mewn oes o robotiaid a deallusrwydd artiffisial, ond eto, fel y dywedwyd yn gynharach, mae ein GIG yn dal i ddefnyddio peiriannau ffacs. Mae ein harweinwyr yn gwneud cam â'n GIG, ac rwy'n annog y Llywodraeth i gyflwyno cynllun integredig manwl i fynd i’r afael ag amseroedd aros yn y tymor byr, canolig a hir. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau’n cefnogi ein cynnig heddiw. Diolch yn fawr.

16:45

Mae’r gwasanaeth iechyd gwladol yn wych; rydym mor ffodus, ac mae'n rhaid inni beidio â'i golli. Mae ein GIG yn cynnig gwerth anhygoel am arian mewn gwirionedd, os edrychwch ar systemau gofal iechyd eraill dros y byd. Fodd bynnag, mae ein gallu i fuddsoddi’n briodol yn y GIG wedi’i effeithio’n ddifrifol gan 14 mlynedd o gamreolaeth Dorïaidd, gan gynnwys effaith ddinistriol degawd o gyni Torïaidd a phwysau chwyddiant enfawr yn effeithio ar bob gwasanaeth cyhoeddus. Rwy’n cofio GIG Cymru yn wynebu bil gwresogi ychwanegol o £20 miliwn pan gododd prisiau ynni, a bu’n rhaid dod o hyd i’r arian hwnnw o fewn y gwasanaeth.

Cyn 2010, o dan Lafur y DU, cododd cyllid ar gyfer y GIG yn unol ag angen gyda chynnydd o 5.4 y cant, a gallech weld y budd. Ond yn y degawd hyd at bandemig 2020, o dan y Ceidwadwyr, gostyngodd hyn yn sylweddol, gan gynnwys pedair blynedd pan syrthiodd gwariant y pen, mewn gwirionedd, gan achosi marweidd-dra. Gallech weld yr effaith yn dechrau taro yn 2013 a 2014, ac mae disgwyliad oes i fenywod wedi dechrau cwympo—mae wedi dechrau gostwng. Gwelais siart yn ddiweddar lle mae taldra cyfartalog plant pum mlwydd oed wedi dechrau lleihau, sy’n wirioneddol frawychus.

Ni allwch barhau i feio rhyfel Wcráin a COVID am gyflwr yr economi. Yn 2010, rwy'n cofio bod George Osborne yn awyddus i leihau cyllid cyhoeddus a Philip Hammond yn dweud yn 2017 fod yn rhaid tynhau’r gwregys ymhellach, er nad oedd unrhyw dyllau ar ôl yn y gwregys dychmygol. Roeddwn yn gynghorydd yn meddwl tybed o ble ar y ddaear y gallai’r toriad nesaf ddod, ac am flynyddoedd lawer ers 2013, dim ond codiad o 1 y cant ar godiadau cyflog blynyddol a gafodd gwasanaethau cyhoeddus.

Ledled y DU, mae angen cynnydd sylweddol yn y gwariant ar y GIG i gynyddu cynhyrchiant a lleihau rhestrau aros. Mae cyllid cyfalaf i Gymru wedi’i gyfyngu a benthyca hefyd, ac mae angen i hyn newid. Dros y degawd diwethaf, roedd gan y DU lefel is o fuddsoddiad cyfalaf mewn gofal iechyd o gymharu â gwledydd yr UE14. Pe bai wedi cadw ar yr un lefel â nhw, byddai’r DU wedi buddsoddi £33 biliwn yn fwy rhwng 2010 a 2019, oddeutu 55 y cant yn uwch na’r buddsoddiad a wnaed yn ystod y cyfnod hwnnw. Er gwaethaf yr heriau ariannol hyn, mae Cymru yn buddsoddi 15 y cant yn fwy mewn iechyd a gofal cymdeithasol na Lloegr. Yn gynharach, dywedwyd bod mwy o gyllid yn cael ei dderbyn yng Nghymru, ond mae mwy o arian yn cael ei wario ar y GIG a gofal cymdeithasol; ni allwch eu gwahanu. Mae presgripsiynau am ddim a pharcio am ddim yn helpu llawer o bobl yng Nghymru, gan gynnwys staff.

Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol mewn llwybrau gofal, gan gadw pobl yn iach am fwy o amser y tu allan i'r ysbyty a galluogi cleifion i gael eu rhyddhau adref yn gynt ac yn fwy diogel. Mae'r sector yn chwarae rhan allweddol wrth ddiogelu capasiti'r GIG a'i allu i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel. Yn 2024-25, bydd Cymru yn cynyddu cyllid ar gyfer y GIG fwy na 4 y cant, o gymharu â llai nag 1 y cant yn Lloegr. Yn wahanol i Loegr, caiff y gyllideb iechyd ei gwario ar iechyd yng Nghymru. Nid oes marchnad fewnol ddrud, dim rhaniad rhwng y prynwr a'r darparwr a dim cawl o sefydliadau a biwrocratiaid yn dargyfeirio cyllid o ofal y rheng flaen.

Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am bob agwedd ar ofal pobl, o ofal sylfaenol a chymunedol i ofal ysbyty a gofal iechyd meddwl. Nid yw’n deg nac yn gywir cymharu amseroedd aros rhwng Cymru a Lloegr yn y ffordd y mae’r cynnig hwn yn ei wneud. Caiff data ei gasglu, ei godio a'i adrodd yn wahanol yn y ddwy wlad, sy'n golygu nad oes modd cymharu perfformiad yn uniongyrchol. Nid yw'r cynnig hwn ychwaith yn ystyried demograffeg. Ar y cyfan, mae gan Gymru boblogaeth hŷn, fwy gwledig a llai cyfoethog. Mae hyn yn effeithio ar ganlyniadau iechyd, a dylid deall hynny a rhoi cyfrif amdano.

Mae recriwtio a chadw staff yn y GIG yn flaenoriaeth, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog wedi gwneud datganiad yn ddiweddar ynglŷn â chynnig hyblygrwydd i’r gweithlu. Wrth siarad â nyrsys ar y llinell biced, roedd hon yn broblem enfawr. Codwyd trefniadau rhannu swyddi, oriau addas ar gyfer gofal plant a shifftiau rheolaidd fel posibiliadau defnyddiol. Mae buddsoddiad yn cael ei ddarparu bellach mewn lleoedd hyfforddi ychwanegol ar gyfer recriwtio ar draws y gogledd ym Mhrifysgol Wrecsam, Bangor—ysgol feddygol gogledd Cymru—a thrwy Goleg Llandrillo.

Y GIG yw ei weithlu, ac ni allwch feirniadu’r GIG yn barhaus heb niweidio a lladd ysbryd y gweithlu. Hoffwn dalu teyrnged i bawb sy’n gweithio ynddo, gan ddiolch iddynt am eu gwaith caled a’u hymroddiad, a diolch i’r GIG am fod yno i fy nheulu a fy ffrindiau, yn rhad ac am ddim lle bynnag y caiff ei ddefnyddio. Diolch.

16:50

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ar bwnc sy’n effeithio ar bawb yng Nghymru, ac mae hynny hefyd yn bwysig i mi yn bersonol, ar ôl gweithio yn ein GIG am 11 mlynedd—cyn cael fy ethol i’r Senedd—ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwy'n gwybod o fy mhrofiad fy hun am y gwaith anhygoel a’r ymroddiad y mae staff yn ein GIG yn ei ddangos bob dydd, ac rwy’n siŵr fod pawb yn y Senedd hon yn ddiolchgar am y gwaith a wnânt. Ond maent wedi cael cam, fel y mae'r cleifion. Ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi fy synnu braidd wrth weld Plaid Lafur Cymru yn hysbysebu yn ystod yr ymgyrch etholiadol fod Llywodraeth Cymru yn gwario mwy y pen ar iechyd na Lloegr—yn gwario mwy am enillion lleihaol. Nid wyf yn siŵr a yw hynny'n rhywbeth i frolio yn ei gylch i ddarpar bleidleiswyr. Caniatewch imi fanylu ar yr enillion lleihaol hyn, os caf.

Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn destun rhyw fath o fonitro uwch neu fesurau arbennig. Nid yw’r targed ar gyfer dechrau triniaeth cleifion canser erioed wedi’i gyflawni, sy’n golygu, o blith 33 o wledydd tebyg o ran cyfoeth, fod Cymru yn y deuddegfed safle ar hugain ar gyfer cyfraddau goroesi canser y stumog, ac yn unfed ar ddeg ar hugain ar gyfer canser y pancreas a chanser yr ysgyfaint. Nid yw'r targed o 95 y cant ar gyfer cleifion yn aros am lai na 26 wythnos yng Nghymru wedi'i gyflawni ers degawd. Nid yw'r targed amseroedd aros pedair awr ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys erioed wedi'i gyflawni. Mae dros 21,000 o bobl yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, o gymharu â 275 yn Lloegr. Mae’n wasanaeth iechyd gyda thechnoleg teyrnas feudwyol, ac ni allwn ddisgwyl rhedeg gwasanaeth iechyd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ar Windows XP a pheiriannau ffacs.

Clywn yr un esgusodion yn y Siambr bob wythnos, yn rhoi’r bai am y methiannau hyn ar Lywodraeth y DU, gyda’r un hen ystrydebau sy'n swnio fel placardiau o olygfa brotest yn un o ffilmiau Ken Loach. Mae pobl yn dymuno clywed rhywbeth o sylwedd, nid ystrydebau na gwrthgyhuddiadau. Mae gwrthodiad ystyfnig i ddilyn esiampl Llywodraeth y DU wedi golygu bod Cymry ar eu colled. Ac wrth i GIG Lloegr gyflwyno hybiau llawfeddygol a chanolfannau diagnostig i sicrhau nad oes ôl-groniadau'n tyfu, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud yr un peth yma, sy'n golygu bod gennym bellach dros 100,000 o bobl yn aros am driniaeth trawma ac orthopedeg—dros 60 y cant yn uwch na'r lefelau cyn COVID.

Gan fynd yn ôl at gyllid, y soniais amdano ar ddechrau fy nghyfraniad, Llafur Cymru, plaid Nye Bevan gynt, yw’r unig blaid yn y DU i dorri cyllideb y GIG, ac maent wedi gwneud hynny sawl gwaith. Mae’r cynnydd mewn gwariant mewn termau arian parod ar gyfer iechyd yng Nghymru bron i 10 y cant yn llai na’r cynnydd mewn gwariant mewn termau arian parod y gwnaeth y Blaid Geidwadol ei fuddsoddi yn y GIG yn Lloegr yn 2010. Ar bron bob metrig, mae GIG Cymru yn tangyflawni. Ac nid lladd ar Gymru na rhoi’r bai ar weithwyr diwyd ein GIG mo hyn; mae'n ymwneud â dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am y tangyflawniad y maent yn gyfrifol amdano.

Mae arolygon yn dangos bod y Cymry'n tueddu i gytuno. Canfu arolwg eleni o agweddau cymdeithasol Prydain mai dim ond 21 y cant o bobl sy’n fodlon ar y GIG yng Nghymru—y lefel isaf yn y DU. Mae pobl yn haeddu gwell na hyn. Ni ddylent orfod aros dwy flynedd i ddechrau eu triniaeth. Dylent allu ffonio'r gwasanaethau brys a chael ambiwlans yn cyrraedd o fewn wyth munud. Ac yn fwyaf cywilyddus oll efallai, ni ddylent orfod gweld disgwyliad oes eu cyd-Gymry yn gostwng fel y mae. Ni fydd unrhyw dincera gyda chynigion prynu un a chael un am ddim, bargeinion prydau bwyd nac unrhyw orymestyn hurt arall gan wladwriaeth faldodus Llywodraeth Cymru yn gwrthdroi hyn. Mae arnom angen gwasanaeth iechyd sy'n cael ei ariannu'n briodol. Dyna mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw amdano, ac wedi galw amdano’n gyson.

Y ffigur rwy'n siŵr fod pawb yn ymwybodol ohono bellach yw, am bob £1 a werir ar iechyd yn Lloegr, mae Cymru'n cael £1.20 ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Ond nid yw Llywodraeth Cymru yn gwario’r holl arian hwn ar iechyd. Ni all Llywodraeth Cymru ddod o hyd i'r cyllid ar gyfer ysbyty newydd yn sir Ddinbych, ond gall ddod o hyd i £120 miliwn ar gyfer 36 o wleidyddion newydd yn y Senedd a'r terfyn 20 mya.

I gloi, mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun clir ar gyfer gwrthdroi’r 25 mlynedd o ddirywiad wedi'i reoli yn y GIG yng Nghymru. Rydym wedi galw’n gyson am ymrwymiad i wario'r holl gyllid canlyniadol Barnett ar gyfer iechyd ar iechyd. Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn diweddaru technoleg, yn cydweithio â Llywodraeth y DU i rannu arferion gorau a gwasanaethau er mwyn lleihau rhestrau aros ledled y DU, ac i ofal cymdeithasol gael y cymorth sydd ei angen arno, fel nad yw'r rheini sy’n ffit yn feddygol i gael eu rhyddhau yn llenwi wardiau ysbytai ac yn defnyddio gwelyau gwerthfawr. Byddem hefyd yn efelychu'r broses lwyddiannus o gyflwyno hybiau llawfeddygol a chanolfannau diagnostig, sydd wedi gostwng amseroedd aros yn Lloegr. Diolch yn fawr iawn.

16:55

Rydym yn sôn cryn dipyn yn y Siambr hon am amseroedd aros y GIG, a sut maent yn waeth nag unrhyw wlad arall yn y DU. Fodd bynnag, rwy'n teimlo mai dim ond brig y mynydd iâ yw’r amseroedd aros, a’u bod mewn gwirionedd yn ganlyniad i lawer o ddiffygion endemig yn y GIG yng Nghymru. Yn y pen draw, rwy'n credu bod y rhan fwyaf o’r problemau yn y GIG yng Nghymru yn ganlyniad i fethiant polisi Llafur Cymru mewn meysydd eraill, yn enwedig addysg, a’r ffaith nad yw polisi a chyfeiriad polisi yn gweithio mewn synergedd er gwaethaf yr hyn y mae Ysgrifenyddion Cabinet Llafur yn ei ddweud o hyd.

Ers cael fy ethol, rwyf wedi siarad â llawer o adrannau'r GIG, ymddiriedolaethau canser, elusennau, hosbisau, ac mae un mater yn codi dro ar ôl tro: prinder staff cymwys yn y meysydd diagnosteg. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae prinder mwy nag erioed o ffisegwyr, y mae eu hangen ym maes oncoleg ymbelydredd, sy'n cael effaith aruthrol ar gyflymder diagnosis, ac mae prinder mwy nag erioed o weithwyr mewn peirianneg glinigol, sy'n defnyddio technoleg feddygol i optimeiddio'r gwaith o lunio darpariaeth gofal iechyd a datblygu a chynnal yr offer meddygol a ddefnyddir i wneud diagnosis o salwch ac i drin cleifion.

Ond sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i hyn? Maent yn cael gwared ar y dyfarniad gwyddoniaeth triphlyg, sydd ond yn mynd i waethygu prinder yn y meysydd hyn am flynyddoedd i ddod. Mae cael gwared ar y dyfarniad gwyddoniaeth triphlyg yn syniad hollol hurt sydd wedi’i gondemnio gan lawer iawn o gyrff gwyddonol, a GIG Cymru sy’n mynd i deimlo’r effaith fwyaf yn sgil hyn. Mae hynny mor rhwystredig, Ddirprwy Lywydd.

Fe wneuthum i'r hyn sy'n cyfateb i wyddoniaeth driphlyg, sef TAG cemeg, ffiseg a bioleg. A wnaethoch chi?

Mae'n ddrwg gennyf, a wnewch chi ailadrodd hynny? Ni wneuthum eich clywed tan i'r meicroffon agor.

Fe wneuthum wyddoniaeth driphlyg, fel yr oedd bryd hynny, sef TAG cemeg, ffiseg a bioleg. A wnaethoch chi?

A dweud y gwir, cefais fy nghynghori i beidio â gwneud ffiseg am fod fy mathemateg yn ofnadwy. Fe wneuthum y lleill, serch hynny. Diolch.

GIG Cymru fydd yn teimlo baich hyn. Mae hi mor rhwystredig, Ddirprwy Lywydd, fod Llafur Cymru naill ai'n gwbl anwybodus ar y pwynt, neu'n waeth o lawer, eu bod yn ei wneud yn fwriadol. Mae'n fy nrysu'n wirioneddol na allant weld y cysylltiad. Fel llawer o Aelodau eraill yn y Siambr hon, mae sefydliadau'n cysylltu â mi drwy'r amser i apelio am sgrinio cenedlaethol—sgrinio’r afu, sgrinio awdioleg, sgrinio’r ysgyfaint, fel y clywsom heddiw, i enwi rhai'n unig. Ond pam nad yw'r sgrinio ar waith gennym yn y lle cyntaf? Oherwydd bod angen ichi gael nyrsys clinigol arbenigol sydd wedi cael yr addysg wyddonol gywir i allu ei ddarparu. Byddai cael y rhaglenni sgrinio cenedlaethol hyn yn arbed cymaint o waith i’r GIG gan eu bod yn galluogi i broblemau gael eu canfod yn gynnar, gan arbed adnoddau gwerthfawr drwy drin cyflyrau ar y camau cyntaf, yn hytrach na cheisio delio â phroblemau mwy cymhleth yn nes ymlaen.

Yr hyn na all Llafur Cymru ei ddeall ychwaith yw bod polisi addysg yn debygol iawn o atal pobl a allai wneud y swyddi hyn rhag dod i Gymru. Nid yn unig fod canlyniadau PISA gwael yng Nghymru yn golygu bod plant Cymru’n cael eu mesur fel rhai sydd â chanlyniadau addysgol gwaeth; maent hefyd yn golygu ei bod yn debyg nad yw pobl sy’n byw yn rhywle arall yn mynd i fod yn awyddus i anfon eu plant i ysgolion Cymru. Mae Cymru’n dibynnu llawer gormod ar ddenu gweithlu’r GIG o fannau eraill y tu allan i’r wlad, a'r ffaith nad oes digon o bobl yn cael eu haddysgu yma i lenwi’r rolau hyn yw un o'r prif resymau dros y broblem.

Mae’n rhaid inni gydnabod hefyd nad yw pobl yng Nghymru yn gofalu am eu hiechyd cystal ag y dylent fod, ac mae hyn hefyd yn deillio o'n haddysg wael. Nid yw ysgolion yn cael eu galluogi i annog chwaraeon a gweithgarwch corfforol am eu bod naill ai'n gorfod ymdopi â llwythi gwaith gormodol, diffyg cyfleusterau, neu'n fwy pryderus, prinder arian. Rwy’n cyfaddef nad yw hyn yn mynd i fod yn wir am bob ysgol, ond byddwn yn dadlau ei fod yn wir am lawer o ysgolion. Dychmygwch yr hyn a allai fod wedi digwydd pe bai Llywodraeth Lafur Cymru wedi derbyn a chefnogi Bil addysg awyr agored fy nghyd-Aelod Sam Rowlands. Gellid bod wedi mynd i'r afael â llawer o'r materion hyn.

Mae iechyd y genedl hefyd yn ganlyniad i bolisi gwael wrth ofalu am ein hamgylchedd, gyda cholli ein hamgylchedd trefol poblogaidd, colli ein mannau gwyrdd poblogaidd, ac fel y soniais, y llygredd parhaus yn ein dyfrffyrdd a'n harfordiroedd poblogaidd.

Yn olaf, mae'n rhaid inni gydnabod hefyd fod y rhestrau aros hir yn ganlyniad anuniongyrchol i orweithio staff y GIG. Rydym wedi cael COVID, ac mae staff y GIG wedi perfformio'n ddewr ac wedi mynd y tu hwnt i'r galw. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos y bydd y gwaith sydd angen ei wneud i adfer y sefyllfa yn lleihau, ac mae Llywodraeth Cymru yn ystyfnig yn eu dull o helpu. Rwyf wedi sôn sawl gwaith yn y Siambr sut y gellir defnyddio awdioleg breifat i leihau amseroedd aros ar gyfer materion clyw. Maent yn gwneud hyn yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Rydym yn gwneud hyn ar gyfer meddygon teulu, deintyddion a fferyllwyr yng Nghymru, ac eto mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod caniatáu hyn ar gyfer awdioleg, sy’n od iawn gan y byddai hynny'n gwella canlyniadau’n ddramatig i gynifer o bobl ac ni fyddai’n costio ceiniog i GIG Cymru. Efallai mai problem GIG Cymru yw amseroedd aros hir yn GIG Cymru, ond mae'n bell o fod yn fai ar GIG Cymru. Polisïau aflwyddiannus Llywodraeth Lafur Cymru sydd ar fai. Diolch.

17:00

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi clywed ymgais i sgorio pwyntiau gwleidyddol o'r Siambr y prynhawn yma yn yr hyn y credaf iddi ddod yn ddadl draddodiadol ar drothwy etholiad am y GIG yng Nghymru. Nawr, mae'n amlwg fod yna gryn dipyn nad ydym yn cytuno arno, ond mae yna un peth y gobeithiaf y gallwn ddod at ein gilydd arno. Fel y soniodd Carolyn, y staff gwych sy'n galon i'r GIG yw'r rheini. Bob dydd maent yn darparu gofal sy'n newid bywydau ac yn achub bywydau. Maent wrth ein hymyl ar rai o adegau mwyaf heriol a thrawmatig ein bywydau, a dyna un o'r rhesymau pam fy mod mor falch ein bod ni wedi gallu sicrhau cytundeb gyda Chymdeithas Feddygol Prydain sy'n golygu, yn wahanol i Loegr, ein bod ni wedi dod i gytundeb ar gyflogau ar gyfer y llynedd, gan atal y meddygon iau, atal y meddygon ymgynghorol ac atal y meddygon arbenigol ac arbenigedd rhag streicio, sy'n golygu na fydd tarfu ar ofal cleifion mwyach fel sy'n digwydd yn Lloegr o dan y Torïaid. 

Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod yr hyn y maent yn parhau i'w gyflawni, yn aml mewn amgylchiadau heriol iawn yn wyneb disgwyliadau cyhoeddus a gwleidyddol enfawr. Ac mae'r galwadau hynny'n sylweddol yma ac ar draws gweddill y DU. Mae'r GIG, fel y gŵyr pawb ohonom, yn wasanaeth hynod ddibynadwy ac yn cael defnydd da. Bob mis mae'n ymdrin â 2 filiwn o gysylltiadau gan y cyhoedd ledled Cymru, nifer rhyfeddol mewn poblogaeth o ychydig dros 3 miliwn o bobl. Nawr, rwyf wedi treulio'r wythnosau diwethaf yn curo ar ddrysau ar hyd a lled Cymru, ac rwyf wedi clywed cymaint o straeon am ofal a chefnogaeth anhygoel a chariad at y gwasanaeth ardderchog hwn. Ydynt, maent wedi clywed y sŵn ynghylch heriau, ond pan ofynnwch am eu profiad personol, mae'r ateb bron bob amser yn gadarnhaol. 

Mae'n werth atgoffa pobl ar garreg y drws bob amser o'r gwahaniaeth y mae Llafur yn ei wneud. Yng Nghymru rydych chi'n cael presgripsiynau am ddim. Yng Nghymru rydych chi'n cael parcio am ddim mewn ysbytai. Yng Nghymru, rydych chi'n cael brecwast ysgol am ddim, gan helpu plant i gael y dechrau gorau o ran bwyta'n iach. Yng Nghymru rydym yn talu'r cyflog byw gwirioneddol i'n gweithwyr gofal. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r rhan fwyaf o'r cymorth yn cael ei gyflawni mewn gofal sylfaenol yn ein cymunedau lleol, a diolch i'n contract meddygon teulu newydd rydym bron â bod wedi cael gwared ar y dagfa 8 a.m. ac wedi gwella mynediad. Ac mae'n dda gweld y bydd Llywodraeth Lafur yn y dyfodol yn edrych ar sut maent yn sicrhau gwell mynediad at ofal sylfaenol yn Lloegr i gleifion yno. Mae'n ddiddorol nodi, onid yw, fod 60 y cant yn fwy o bobl Lloegr wedi cofrestru gyda meddygon teulu yng Nghymru ar y ffin nag o bobl Cymru sydd wedi cofrestru gyda meddygon teulu yn Lloegr. Rwy'n credu bod hynny'n dweud y cyfan, felly gadewch inni obeithio er lles pobl yn Lloegr y cawn Lywodraeth Lafur yn ystod y dyddiau nesaf. 

Rydym yn gwybod bod miloedd o bobl angen gofal brys yma. Mae'r cynnydd enfawr yn y galw yn y maes hwn yn golygu bod miloedd o ambiwlansys yn ymateb i argyfyngau meddygol a damweiniau ar ben y degau o filoedd o driniaethau wedi'u cynllunio, a'r cannoedd o filoedd o apwyntiadau cleifion allanol sy'n digwydd bob mis. Nawr, mae'r rhain yn heriau yn ein hadrannau brys wrth gwrs, ond gadewch inni beidio ag anghofio bod perfformiad yn erbyn y targed pedair awr yn ein prif adrannau brys wedi bod yn well nag yn Lloegr mewn 15 o'r 21 mis diwethaf. Wrth gwrs, rydym yn gofyn llawer iawn gan ein GIG, ac mae'n parhau i gyflawni bob dydd o'r flwyddyn.  

Ers inni lansio ein cynllun adfer ym mis Ebrill 2022, mae'r GIG wedi lleihau amseroedd aros hir 70 y cant. Mae mwy na 2.5 miliwn o lwybrau wedi'u cau ar gyfradd gyfartalog o 102,000 y mis. Ac mae'n gas gennyf eich cywiro, Altaf, oherwydd rwy'n credu eich bod chi'n ddyn hyfryd, ond mewn gwirionedd, nid ni yw'r rhan sy'n perfformio waethaf o'r DU, ac mae angen i chi a'r BBC archwilio rhywfaint o'r ffeithiau ar hynny. A hefyd fe awgrymoch chi fod gennym ni lai o feddygon a nyrsys; rydym wedi cynyddu'r niferoedd 17 y cant ers 2019. Mae gennym gymhareb uwch o feddygon teulu na'r hyn sydd ganddynt yn Lloegr. Mae gennym fwy o welyau y pen o'r boblogaeth na'r hyn sydd ganddynt yn Lloegr. Ac os edrychwch chi ar y cynnydd yn y galw—edrychwch ar ganser: 50 y cant o atgyfeiriadau ychwanegol ar gyfer amheuaeth o ganser, yn ystod y tair blynedd diwethaf yn unig. Felly, gyda'r ewyllys orau yn y byd, mae'n anodd iawn cynllunio ar gyfer cynnydd enfawr o'r fath, ond dyna'n union yr ydym yn ceisio ei wneud. Ac mae'n anodd iawn ymateb iddo, os yw Llywodraeth Dorïaidd ond yn rhoi £1 filiwn o gyfalaf ychwanegol i ni ar gyfer y cyfan sydd angen inni ei wneud yn Llywodraeth Cymru.

Clywsom honiadau heddiw ynglŷn â sut mae'r GIG yng Nghymru yn cymharu â'r GIG mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, a chadarnhaodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ychydig wythnosau yn ôl, fod ein hystadegau'n cofnodi mwy o elfennau o amseroedd aros pobl nag a wnânt yn Lloegr. Yn Lloegr, nid ydynt yn cyfrif aros am ddiagnosteg. Nid ydynt yn cyfrif aros am therapïau Rydym yn adrodd ar y llwybr cyfan, nid rhannau o'r llwybr yn unig, fel yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Y gwir amdani yw ein bod yn fwy gonest gyda'r cyhoedd yng Nghymru.

Mae angen inni ddeall y galw hefyd. Mae anghenion poblogaeth Cymru yn wahanol. Mae pobl yng Nghymru yn tueddu i fod yn hŷn ac yn fwy sâl. Mae anghenion ein poblogaeth yn cael effaith uniongyrchol ar faint ein rhestrau aros a hyd ein hamseroedd aros. Ond mae gan holl wledydd y DU yr un nod, sef lleihau'r ôl-groniad a achoswyd gan y pandemig, ac mae'n amlwg fod gan bawb ohonom fwy o waith i'w wneud, gan gynnwys y GIG yn Lloegr—

17:05

Na, nid wyf yn derbyn ymyriadau, diolch. Ar hyn o bryd, os edrychwch chi ar y rhestr aros yn Lloegr, 7.57 miliwn—nid wyf yn siŵr a fyddwn i eisiau mynd i etholiad gyda'r mathau hynny o restrau aros.

Ar adeg o her ariannol sylweddol, rydym wedi gwneud penderfyniadau anodd iawn i flaenoriaethu iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym wedi gwario 15 y cant yn fwy y pen ar iechyd a gofal cymdeithasol nag a wnânt yn Lloegr, ac eleni rydym yn buddsoddi mwy na 4 y cant yn ychwanegol yn y GIG, o'i gymharu â'r cynnydd o 1 y cant yn Lloegr. Wrth gwrs, rydym am drawsnewid ein gwasanaethau ac rydym am ganolbwyntio ar atal. Rydym am fod yn fwy cynhyrchiol ac effeithlon, ac rydym yn ceisio blaenoriaethu buddsoddiadau mewn meddyginiaethau, triniaethau a thechnoleg newydd. Ond fe allem wneud mwy i foderneiddio'r GIG pe baem yn cael mwy o arian o San Steffan, a dyna fydd yn digwydd os caiff Llafur eu hethol yfory.

Y daith y bydd Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan—[Torri ar draws.] Na, nid wyf yn derbyn unrhyw ymyriadau. Na. Mae angen imi fynd allan i ymgyrchu. Y daith y bydd Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan yn cychwyn arni, os cânt eu hethol yr wythnos hon, yw symud cymorth i'r gymuned, a dyna un o'r pethau yr ydym eisoes yn ei gyflawni yma yng Nghymru. Yn y DU mae Llafur eisiau newid y gyfraith fel y gall optometryddion y stryd fawr wneud gwaith a wnaed yn flaenorol mewn ysbytai. Rydym eisoes wedi gwneud hynny yng Nghymru. Maent am i fferyllwyr allu presgripsiynu mwy; rydym filltiroedd ar y blaen ar hyn, gydag un o bob pedwar o'n fferyllfeydd eisoes yn presgripsiynu'n uniongyrchol. Mae ein fferyllfeydd lleol yn cynnig triniaeth am ddim ar gyfer 27 o wahanol fân afiechydon. Yn Lloegr, dim ond saith cyflwr y gallant roi cymorth ar eu cyfer. Pan ddaw Llafur i rym, byddant yn cyflwyno rhaglen glanhau dannedd; rydym eisoes wedi gwneud hynny yng Nghymru, ac rydym wedi darparu bron i 400,000 o apwyntiadau deintyddol GIG newydd. Rydym yn clustnodi arian ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl eisoes, mae gennym gymorth iechyd meddwl ym mhob ysgol, mae gennym y gwasanaethau '111 pwyso 2'—yr holl bethau hyn nad oes ganddynt yn Lloegr, a dyna'r gwahaniaeth y bydd Llafur yn ei wneud yn y dyddiau nesaf, gobeithio. Ac os ydym yn defnyddio diffiniad Llywodraeth Dorïaidd y DU o ysbyty newydd, sy'n ddiffiniad eithaf eang, rydym ar y trywydd iawn i adeiladu chwe gwaith yn fwy o ysbytai na'r Torïaid yn Lloegr—addewid Torïaidd arall wedi ei dorri.

Yng Nghymru mae'r GIG yn cael ei barchu'n fawr, mae pobl yn ymddiried yn fawr ynddo, ond mae'r galw amdano'n fawr hefyd. Dywedodd Aneurin Bevan, wrth iddo sefydlu'r GIG—

—76 mlynedd yn ôl i'r dydd Gwener hwn,

'bydd y GIG yn para cyhyd â bod pobl ar ôl gyda'r ffydd i ymladd drosto.'

Y rhodd orau y gallem ei rhoi i'r GIG y dydd Gwener hwn yw Llywodraeth Lafur, nid yn unig yma yng Nghymru, ond yn San Steffan hefyd. Dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd, a'r ddwy wedi ymrwymo i ymladd dros y GIG, yn union fel y byddai Nye wedi'i ddymuno.

17:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi, Aelodau, am eich cyfraniadau heddiw i'r ddadl Geidwadol bwysig hon. Nid wyf yn credu bod unrhyw beth yn fwy o bwnc llosg i bobl Cymru—dim llawer o bethau sy'n fwy na hyn; mae'n effeithio ar bawb o un dydd i'r llall. A gaf i gytuno â phawb sydd wedi cydnabod gwaith caled y gweithlu yn ein GIG? Nid oes neb erioed wedi anghytuno â'r teimlad hwnnw, oherwydd maent yn gweithio drosom bob dydd o'r flwyddyn, ond maent yn cael cam—rhaid inni gydnabod hynny.

Felly, yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i Sam Rowlands am agor y ddadl heddiw? Nododd fod y mater hwn yn cyffwrdd â phob cornel o Gymru, a diolchodd eto i'n staff GIG am ei fod yn cydnabod yr hyn a wnânt, fel y gwnawn i gyd, ond ni allwn anwybyddu'r ffaith nad yw'r GIG mewn lle da ar hyn o bryd. Mae ceisio dod o hyd i ffordd o gelu hynny'n ddibwrpas, oherwydd nid yw mewn lle da, ac ni allwn anwybyddu hynny, ac mae'n deillio o 25 mlynedd, meddai, o gamreolaeth Lafur yma. Rhoddodd yr ystadegau real iawn sy'n sail i hynny. Tynnodd sylw'n glir iawn at sut mae Llafur wedi gwneud cam â staff ein GIG, ac mae'r bobl yn dioddef go iawn, ac mae hyn yn gywilyddus, ac mae'n argyfwng a wnaed gan Lafur, meddai, ac rwy'n credu y gall llawer ohonom gytuno â hynny. Mae staff ein GIG a'n dinasyddion yn haeddu gwell.

Soniodd Mabon am 75 mlynedd ein GIG a'r 25 mlynedd o gamreolaeth, a chydnabu eto sut mae GIG Cymru yn wynebu argyfwng ac mae angen atebion ar frys. Ond trodd ei sylw at y GIG yn Lloegr, gan ymbellhau oddi wrth y GIG yng Nghymru y gwnaeth Plaid Cymru helpu i'w redeg a'i gefnogi a chaniatáu i gyllidebau gael eu pasio lawer iawn o weithiau dros nifer o flynyddoedd, gan geisio ein twyllo i gredu nad oedd gan Blaid Cymru ddim i'w wneud â dirywiad y GIG yng Nghymru, ond mae'n amlwg nad yw hynny'n wir.

Tynnodd Altaf Hussain sylw at fethiant llwyr Llywodraeth Cymru, a soniodd am ei wasanaeth proffesiynol ef yn y gorffennol, dyn sydd wedi bod ar y rheng flaen: mae'n gwybod sut oedd hi pan oedd pethau'n dda a sut rydym ni nawr yn gorfodi pobl i ddioddef, ac mae'r effaith yn ddifrifol ar ein cynhyrchiant a'n cynnyrch domestig gros, ac mae'r sefyllfa'n peri gofid iddo gan iddo dreulio cymaint o flynyddoedd yn ceisio helpu pobl a oedd mewn poen, ac mae hyn yn ofnadwy a ninnau'n methu mewn cymaint o feysydd bellach. Tynnodd sylw at sut rydym yn methu hyfforddi digon o nyrsys a meddygon teulu, ac mae diffygion yn ein seilwaith. Mae meddylfryd datgysylltiedig wedi dod â'n GIG i'w liniau, ac mae angen cynllun integredig ar frys. 

Carolyn Thomas, rydym yn cytuno â chi. Unwaith eto, rwy'n cytuno: mae ein staff yn wych, ond fe aethoch yn eich blaen i feio Llywodraeth y DU eto, ac rydych chi'n anghofio—rydych chi'n anghofio—mai Llafur sy'n rheoli'r cyllidebau yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth Cymru ddewisiadau, ac maent wedi dewis ariannu pethau mewn ffyrdd gwahanol. Gallant ddewis gwneud hynny: maent yn Llywodraeth, a gallant ddewis tangyllido iechyd i roi mwy o arian i wahanol brosiectau dros y blynyddoedd. Rydym wedi gweld dewisiadau gwael yn cael eu gwneud dros sawl blwyddyn, lle nad ydym wedi gweld digon o fuddsoddiad mewn pethau fel gofal cymdeithasol—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, Mike.

Rydym wedi cael y drafodaeth hon yn breifat, gadewch i ni ei chael yn gyhoeddus: a fyddwch chi'n cyflwyno cyllideb Geidwadol pan gynhelir y ddadl ar y gyllideb?

Fe wnawn hynny pan ddown i rym yn 2026. Felly, Carolyn, mae'n rhaid i chi ganolbwyntio ac edrych ar eich dewisiadau eich hun. Nid oes dim o'i le ar gyfaddef bod y Llywodraeth wedi gwneud y dewisiadau anghywir yma. Gadewch inni ddechrau gweithio gyda'n gilydd i'w roi yn ôl at ei gilydd. 

Bu Gareth Davies yn gweithio yn y GIG am dros 11 mlynedd, ac unwaith eto fe ganmolodd ein gweithlu, ond fe nododd eu bod wedi cael cam, a dangosir hynny gan y ffaith bod pob un o'n byrddau iechyd yn destun rhyw fath o fesurau arbennig, a thynnodd sylw at doriadau blaenorol i'r GIG yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd.

A nododd Joel mai brig y mynydd iâ yw amseroedd aros. Mae'n credu bod rhywbeth dyfnach yma, camgyfliniad polisi sydd wedi arwain at leihad, dirywiad ein GIG, a thynnodd sylw at absenoldeb y dyfarniad gwyddoniaeth triphlyg, sy'n mynd i danseilio'r bobl sy'n dod drwy'r system, y bobl a allai helpu i adfer ein GIG.

Ysgrifennydd y Cabinet, ydy, mae sgorio pwyntiau gwleidyddol yn rhywbeth y byddwn yn ei wneud, fel rydych chi wedi'i wneud, ac fe fyddwn ni'n ceisio gwneud hynny, ond ni allwn ddianc rhag y ffeithiau serch hynny—mae hon yn broblem ddifrifol a real iawn yma. Gallwn dylino'r ffigurau i gyfiawnhau pam y gallai edrych yn well yn rhywle arall nag y mae'n ei wneud yma, ond ni ellir cyfiawnhau'r sefyllfa sydd gennym.

Nawr, rydych chi wedi sôn am y straeon gwych a glywsoch ar garreg y drws yn ddiweddar—. Wel, mae angen i chi ddod i siarad â rhai o'r bobl yn ein drysau ni, oherwydd anaml iawn y clywaf unrhyw un yn siarad yn y drysau am ymwneud cadarnhaol gyda'r cysylltiad cyntaf. Pan fydd pobl yn y system ac yn cael y driniaeth y maent ei heisiau, rwy'n clywed ei bod yn wych. Ond mynediad cyntaf i'r system—problemau mawr, problemau enfawr fel y gwnaethom sôn yn gynharach yn y Siambr heddiw.

A phractisau meddygon teulu—rwyf wedi siarad yn y Siambr hon sawl gwaith ynglŷn â sut mae meddygon teulu yn anhapus gyda'r contractau, sut maent yn gadael y system, sut maent yn ei chael hi'n anodd darparu llawer o'r pethau yr oeddent yn arfer gallu eu darparu yn rhad ac am ddim, ond nad ydynt yn gallu eu cynnwys nawr am nad yw'r contractau yn caniatáu iddynt wneud hynny.

Ac rydym yn gweld problemau gyda meysydd eraill mewn gofal sylfaenol—systemau deintyddol. Mae cymaint o bethau yn cael eu tanseilio. Fe wnaethoch chi siarad am yr arian ychwanegol rydych chi wedi'i roi tuag at ofal cymdeithasol. Wel, efallai fod hynny'n wir, ond nid ydym yn gweld manteision gwirioneddol cael digon o arian yn mynd tuag at ofal cymdeithasol. Mewn gwirionedd, nid wyf yn credu bod hynny wedi digwydd. Gwelsom lawer o arian yn mynd tuag at iechyd y llynedd—tua £800 miliwn mae'n debyg, £900 miliwn—ond rydym wedi gweld gostyngiad, toriad mewn termau real, i ofal cymdeithasol drwy lywodraeth leol. Felly, sut mae cau'r cylch i sicrhau y gallwn gael gwared ar y broblem?

Wrth gloi, Lywydd, nid yw'n iawn fod dros 21,000 o bobl yn aros am driniaeth ers dwy flynedd yng Nghymru dan arweiniad Llafur, o'i gymharu â dim ond 275 yn Lloegr dan y Ceidwadwyr. Ni allwn gyfiawnhau'r ffigurau, ac ni ellir eu hesgusodi. Nid yw'n iawn fod amseroedd aros canolrifol am driniaeth GIG yn 22 wythnos yng Nghymru, o'i gymharu â 14 wythnos yn Lloegr. Ac yn olaf, nid yw'n iawn fod nifer y llwybrau cleifion yng Nghymru wedi cynyddu eto i dros 775,000 o bobl, y ffigur uchaf a gofnodwyd, a hynny tra bod rhestrau aros yn Lloegr wedi gostwng dros y chwe mis diwethaf. Mae angen inni weld Llywodraeth Lafur Cymru yn rhoi camau rhagweithiol ar waith i dorri rhestrau aros y GIG a nodwyd yn ein dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, a galwaf ar Aelodau o bob rhan o'r Siambr i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig heb ei ddiwygio. Ni ddylai neb amddiffyn y rhestrau aros enfawr hyn yng Nghymru. Diolch.

17:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 6, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, roedd 15 yn ymatal a neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

17:20

Eitem 6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Hyfforddiant deintyddol: O blaid: 29, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 32 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 32, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. 

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 9, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Felly, nawr galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn. 

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 23, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8630 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn dathlu gwaith caled ac ymroddiad y rhai sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru.

2. Yn cydnabod:

a) bod arosiadau hir wedi lleihau 70 y cant ers y brig ym mis Mawrth 2022;

b) bod amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn cael eu cyfrifo mewn ffyrdd gwahanol ar draws y DU—yng Nghymru maent yn cynnwys amseroedd aros am therapïau a diagnosteg; ac

c) bod Cymru yn gwario 15 y cant yn fwy y pen ar iechyd a gofal cymdeithasol nag yn Lloegr a bod Llywodraeth Cymru, yn 2024-25, yn buddsoddi mwy na 4 y cant yn ychwanegol yn y GIG o gymharu hynny â llai nag 1 y cant yn Lloegr.

3. Yn croesawu buddsoddiad a chymorth parhaus Llywodraeth Cymru fel y gall GIG Cymru fanteisio ar y diweddaraf o ran meddyginiaethau, triniaethau a thechnolegau.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 23, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

10. Dadl Fer: Diogelu'r croen: Rôl ysgolion wrth atal canser y croen

Mae yna un eitem ar ôl, sef y ddadl fer, a galwaf ar Sioned Williams i siarad am y pwnc a ddewisiwyd ganddi. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd fy nadl ar ddiogelu'r croen, pwysigrwydd addysg i atal canser y croen. 

A byddaf yn rhoi munud o fy amser i Mabon ap Gwynfor ac i Siân Gwenllian. 

Mae'r tywydd twymach yma o'r diwedd—wel, dwi'n meddwl ei fod e, beth bynnag—ac felly bydd mwy o bobl yn rhoi heibio eu dillad trwm ac yn treulio mwy o amser yn yr awyr agored, boed yn mwynhau yn yr ardd neu'n cael hwyl ar y traeth neu yn y parc. Ac mae'r haf yn rhoi cyfle inni i gyd, wrth gwrs, fwynhau mwy o'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig o ran ein llecynnau awyr agored hardd. 

Pan oeddwn i'n blentyn, roedd mam bob amser yn gwneud yn siŵr bod gen i eli haul ymlaen, a phan oedd fy mhlant i yn iau roeddwn i'n eu gwylltio nhw yn gyson drwy eu hatgoffa i ddefnyddio eli haul ac i wisgo het. Pan ges i losg haul—ydyn, rŷn ni i gyd wedi bod yna, a dwi'n siŵr bod llawer ohonom wedi llosgi tipyn bach tra ein bod ni mas yn canfasio strydoedd Cymru am oriau dros yr wythnosau diwethaf—byddwn i, fel llawer o bobl dwi'n siŵr, yn ei ddiystyru fel rhywbeth annifyr a diflas yn unig a jest yn rhybudd bach i fod yn fwy gofalus yn yr haul y tro nesaf. Ond nid rhywbeth bach diflas ac annifyr mo niwed croen gan yr haul mewn gwirionedd.

Cysylltiad ag UV o'r haul yn ogystal â defnydd o welyau haul yw prif achos canser y croen. Yn 2019, canserau'r croen oedd bron i hanner yr holl ganserau yng Nghymru—hanner. A dyma'r canser mwyaf cyffredin o bell ffordd sy'n effeithio ar bobl Cymru ac yn anffodus, mae'r cyfraddau'n cynyddu. Rhwng 2016 a 2019, cynyddodd cyfraddau canser y croen 8 y cant, ac mae'r cyflwr bellach yn ffurfio cyfran gynyddol o lwyth gwaith dermatolegwyr. Mae hyn, wrth gwrs, yn gost sylweddol i'n GIG, ac mae iddo sgil-effaith ar ofal ar gyfer cyflyrau eraill y croen. 

O'r pedair gwlad yn y DU, Cymru sydd â'r cyfraddau uchaf o ganser y croen ac erbyn hyn mae gennym—pob un ohonom—risg o un o bob pump o'i ddatblygu yn ystod ein bywydau. Mae symptomau cyffredin yn cynnwys dolur neu ran o'r croen nad yw'n gwella o fewn pedair wythnos, sy'n edrych yn anarferol, yn brifo, yn cosi, yn gwaedu, yn ffurfio cramen neu'n magu crachen am fwy na phedair wythnos, a dylai unrhyw un sy'n arddangos y symptomau hyn fynd at eu meddyg teulu rhag ofn.

Er bod modd trin canser y croen ac er bod y gyfradd oroesi yn uchel iawn ac yn gwella, bydd dros 2,000 o bobl yn dal i farw bob blwyddyn ar draws y DU; mae hynny'n fwy na chwech o bobl bob dydd. Mae'n hanfodol, felly, fod pobl yn ceisio lleihau eu risg yn y lle cyntaf, a dyna pam mae gwir angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar y dull ataliol. Fel gyda llawer o faterion iechyd a drafodir gennym yn y Siambr, byddwn yn dadlau bod angen gwell ffocws ar atal. Oherwydd mai cysylltiad â'r haul yw'r prif achos, gellir atal y rhan fwyaf o ganserau'r croen yn llwyr drwy newidiadau ymddygiadol bach a mesurau diogelwch. Drwy dreulio peth amser yn y cysgod, yn enwedig pan fydd yr haul ar ei uchaf a'i boethaf, gwisgo dillad golau, llac, hetiau cantel llydan, sbectol haul amddiffyniad UV, yn ogystal â gosod eli haul SPF 30 neu uwch gyda sgôr amddiffyniad UVA pedair seren neu uwch yn gyson ac yn helaeth, gallem leihau nifer yr achosion o ganser y croen yn sylweddol.

Ac rwy'n credu y gall ein hysgolion chwarae rhan hanfodol yn hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth o beryglon cysylltiad â'r haul a chamau syml fel y rhain y gellir eu cymryd i leihau risg. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell diogelwch rhag yr haul mewn ysgolion, gan ei alw'n gonglfaen diogelwch canser y croen. Yn Lloegr, mae'n ofynnol i ysgolion sicrhau y gall disgyblion, erbyn blwyddyn olaf yr ysgol gynradd, wybod am gysylltiad diogel ac anniogel â'r haul, a sut i leihau'r risg o niwed haul. Mae'r elusen Skcin yn cynnig rhaglen achredu sy'n darparu adnoddau am ddim i ysgolion cynradd i'w cynorthwyo yn eu dyletswydd gofal i ddiogelu plant rhag UV ac atal canser y croen. Mae nifer cyfyngedig wedi cael eu cyflwyno yng Nghymru, ond mae'r ysgolion sydd wedi defnyddio'r adnoddau hyn wedi eu canmol am y ffordd y maent wedi helpu i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith disgyblion a staff.

O ran yr hyn a wnawn yma, argymhellir diogelwch rhag yr haul fel rhan o gynllun rhwydwaith ysgolion iach Iechyd Cyhoeddus Cymru, er nad yw'n orfodol. Mae 'Cynllun Gwella Canser ar gyfer GIG Cymru 2023-2026' yn nodi bod rhwng 30 y cant a 50 y cant o ganserau'n digwydd o ganlyniad i gysylltiad â risgiau y gellir eu hosgoi, a bydd atal yn faes ffocws allweddol.

Ddeuddeg mlynedd yn ôl, yn dilyn deiseb gan Tenovus yn galw am ddarparu eli haul am ddim i bob plentyn dan 11 oed, cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ymchwiliad i bolisi diogelwch rhag yr haul mewn ysgolion. Ar ddiwedd yr ymchwiliad, fe wnaethant sawl argymhelliad, yn cynnwys y dylai fod yn ofynnol i ysgolion gael dogfen yn nodi dull yr ysgol o ymdrin ag ystod o ffactorau amgylcheddol a allai effeithio ar blant yn ystod y diwrnod ysgol, megis cynnwys gofynion amddiffyniad rhag yr haul a chysgod; dylid ystyried yr offer a ddarperir i blant yn y cyfnod sylfaen a gofynion yr ysgol ar eu cyfer, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu'n briodol i fod allan mewn amrywiaeth o amodau tywydd; dylai Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ysgolion a sefydliadau'r trydydd sector barhau i weithio gyda'i gilydd i ddarparu addysg amddiffyniad rhag yr haul i blant.

Yn anffodus, er i 12 mlynedd fynd heibio ers i'r pwyllgor adrodd yn ôl, ac ymateb calonogol gan Lywodraeth Cymru ar y dechrau, mae prosiect ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe wedi canfod bod nifer o argymhellion heb eu cyflawni. Canfu'r prosiect ymchwil hwnnw, Sunproofed, dan arweiniad Dr Julie Peconi o'r Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe, a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mai dim ond 39 y cant o ysgolion a ymatebodd i'w harolwg oedd yn meddu ar bolisi diogelwch rhag yr haul, ac nad oedd pob ysgol a oedd â pholisïau yn eu gweithredu. Roedd ysgolion â chanrannau uwch o blant â hawl i brydau ysgol am ddim a chyda lefelau presenoldeb is yn llai tebygol o fod â pholisi. Dim ond 29 y cant o ysgolion sy'n dysgu diogelwch rhag yr haul fel rhan o'r cwricwlwm ym mhob grŵp blwyddyn. Dim ond 5 y cant o ysgolion oedd â digon o gysgod ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau awyr agored egnïol. Dim ond 8 y cant o ysgolion sy'n cynnwys hetiau i amddiffyn rhag yr haul fel rhan o'r wisg ysgol. Roedd ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion yng ngogledd Cymru yn fwy tebygol o fod â pholisi, sy'n dangos, rwy'n credu, nad yw diogelwch rhag yr haul yn cael ei addysgu mewn ffordd gyson ar draws y sector addysg yng Nghymru ac ardaloedd awdurdodau lleol.

Roedd ysgolion a oedd â pholisi neu weithdrefn diogelwch rhag yr haul ffurfiol dros chwe gwaith yn fwy tebygol o gysylltu â llywodraethwyr ysgol ynghylch diogelwch rhag yr haul; dros bum gwaith yn fwy tebygol o gynnwys canllawiau ymwybyddiaeth o'r haul yn eu llawlyfr staff; dros dair gwaith yn fwy tebygol o anfon cyfathrebiadau at rieni ynglŷn â diogelwch rhag yr haul; a dros ddwywaith yn fwy tebygol o gynnwys amddiffyniad rhag yr haul yn rhan o'r cwricwlwm ym mhob grŵp blwyddyn na'i gynnwys mewn rhai grwpiau blwyddyn yn unig a thrafod mewn gwasanaeth pan fo'r angen yn codi yn unig. A hefyd, roeddent yn fwy tebygol o annog staff i fodelu ymddygiadau diogelwch rhag yr haul i fyfyrwyr, i fod â hetiau sbâr y gallai disgyblion eu benthyca ac roeddent yn fwy tebygol o drefnu gweithgareddau awyr agored er mwyn lleihau amser yn yr awyr agored rhwng 10am a 3pm yn nhymor yr haf neu pan oedd y mynegai UV yn uwch na 3.

Roedd yr ymchwil hynod ddadlennol a phwysig hwn hefyd yn cynnwys cwisiau diogelwch rhag yr haul gyda disgyblion blynyddoedd 3 i 6 mewn pum ysgol gynradd yn ne Cymru. Canfu mai dim ond 5.7 y cant o'r disgyblion hynny oedd yn ymwybodol fod angen amddiffyniad rhag yr haul pan fydd y mynegai UV yn cyrraedd 3, a dim ond 36 y cant oedd yn gwybod y gallent gael llosg haul ar ddiwrnodau cymylog.

Rwy'n deall bod Ysgrifenyddion y Cabinet dros addysg, newid hinsawdd ac iechyd, yn ogystal â Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg presennol wedi cael llythyr gan Dr Peconi ynghylch canfyddiadau ei hymchwil. Yng ngoleuni'r ymchwiliad blaenorol a'r gwaith ymchwil mwy diweddar hwn, rwy'n awyddus i ddysgu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo addysg diogelwch rhag yr haul yn ein hysgolion.

Bydd addysg yn mynd yn bell tuag at leihau cyfraddau canser y croen, ond nid ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yw'r unig heriau sy'n ein hwynebu wrth gwrs. Mae'r argyfwng costau byw wedi codi prisiau holl hanfodion y cartref, gan gynnwys amddiffyniad rhag yr haul. Dangosodd dadansoddiad diweddar o ddata'r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod cost eli haul wedi codi bron 30 y cant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, tra bo ffigurau gwerthiant diweddar yn awgrymu y gallai fod rhywfaint o effaith ar nifer y cynhyrchion gofal haul a brynir.

Dywedodd Dr Bav Shergill o Gymdeithas Dermatolegwyr Prydain:

'Wrth i brisiau eli haul godi mae posibilrwydd pendant y bydd pobl yn gwneud llai o ddefnydd ohono, a allai eu rhoi mewn perygl mawr o ganser.'

Atgyfnerthir y pwynt hwn gan arolwg y llynedd gan Melanoma Focus a ganfu fod bron i hanner yr ymatebwyr yn credu bod eli haul yn rhy ddrud, a mynegodd Gofal Canser Tenovus bryderon y byddai amddiffyniad rhag yr haul yn cael ei adael oddi ar restr flaenoriaethau'r aelwyd. Yn fwyaf pryderus, dywedodd 10 y cant o'r ymatebwyr nad oeddent byth yn defnyddio eli haul.

Hyd yn oed ymhlith y rhai sy'n prynu eli haul, mae'n bosibl fod pryderon ynghylch costau yn eu hannog i ddefnyddio llai nag y dylent. Gwyddom nad oedd y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio digon o eli haul cyn yr argyfwng costau byw, ac mae'n annhebygol y byddai'r sefyllfa hon wedi gwella wrth i'r pris godi wrth gwrs. Fel canllaw, dylai oedolion anelu at osod tua dwy lwy de o eli haul os ydych chi'n gorchuddio'ch pen, eich breichiau a'ch gwddf yn unig, neu ddwy lwy fwrdd os ydych chi'n gorchuddio'ch corff cyfan, wrth wisgo gwisg nofio er enghraifft, oherwydd os caiff ei osod yn rhy denau, mae maint yr amddiffyniad y mae'n ei gynnig yn lleihau'n fawr. Ac wrth gwrs, dylid ei ailosod bob dwy awr.

Er gwaethaf ei rôl hanfodol yn diogelu ein hiechyd, ar hyn o bryd caiff eli haul ei ddosbarthu fel cynnyrch cosmetig ac mae'n ddarostyngedig i'r gyfradd lawn o TAW. Lansiodd Amy Callaghan, a oedd tan yn ddiweddar yn AS Dwyrain Swydd Dunbarton, ymgyrch i gael TAW wedi'i dynnu oddi ar eli haul fel sy'n digwydd mewn llawer o wledydd eraill. Cefnogir yr ymgyrch hon gan nifer o elusennau ac mae hefyd wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn Nhŷ'r Cyffredin. Rwy'n gwybod, wrth gwrs, nad oes gennym ni bŵer i amrywio TAW, ond rwy'n awyddus i wybod a fyddai cael gwared ar TAW ar eli haul yn rhywbeth y byddai'r Llywodraeth hon yn ei gefnogi ac yn mynd ar ei drywydd gyda Llywodraeth nesaf y DU.

Mae rhai banciau bwyd hyd yn oed wedi dechrau cynnwys eli haul fel eitem y maen nhw'n ei ddarparu, ond dim ond nifer fach o fanciau bwyd sy'n gwneud hyn ar hyn o bryd. Mae’r Llywodraeth, yn gwbl briodol, wedi buddsoddi mewn gwella mynediad at gynnyrch mislif mewn ysgolion, felly hoffwn wybod a yw’r Llywodraeth wedi meddwl am ymchwilio i ddichonoldeb darparu eli haul effeithiol o ansawdd uchel i ysgolion. Hefyd, o ran yr elfen o gost, mae gweithgareddau awyr agored sy’n gallu rhoi plant mewn golau haul uniongyrchol am gyfnodau hir, fel mynd i’r traeth a pharciau ac ati, yn dueddol o fod yn rhad ac am ddim ac felly’n fwy deniadol i’r rhai sydd â chyllidebau tynnach.

Yn ystod y pandemig, cymerodd Llywodraethau ledled y byd fesurau digynsail i amddiffyn iechyd y cyhoedd. Ar hyn o bryd, rydym yn wynebu cyfraddau cynyddol o ganser y croen, mwy o bobl yn cael gwybod bod ganddynt ganser ac yn cael triniaeth, yn ogystal â'r costau yna, rhai cynyddol i'r gwasanaeth iechyd gwladol. Gwelsom yn ystod y pandemig sut y gwnaeth hylif diheintio dwylo, er enghraifft, fod ar gael yn rheolaidd ac am ddim i'r cyhoedd. Tybed a ellid sicrhau bod eli haul ar gael mewn teclynnau dosbarthu tebyg mewn gweithleoedd sector cyhoeddus, ysgolion ac ysbytai Cymru. Gellir atal y rhan fwyaf o ganserau'r croen, ond gallant fod yn farwol. Felly, beth ydym ni'n mynd i'w wneud i sicrhau eu bod yn cael eu hatal yn effeithiol?

Mae hwn yn fater o'r pwys mwyaf. Gwyddom fod newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar gyfraddau canser y croen ac y bydd yn parhau i gael effaith wrth i'r tymheredd barhau i godi. Drwy weithredu polisïau iechyd cyhoeddus cadarn nawr, gallwn liniaru yn erbyn yr argyfwng iechyd cynyddol hwn, a fydd yn cael ei waethygu gan newid yn yr hinsawdd. Rhaid inni weld hyn drwy lens llesiant cenedlaethau’r dyfodol, a rhaid inni roi’r sylw difrifol iddo y mae’n ei haeddu. Rwy'n edrych ymlaen at glywed sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu i sicrhau hyn. Diolch.

17:35

Mae canser yn neu wedi cyffwrdd bron bob teulu yng Nghymru. Pum mlynedd ar hugain yn ôl, bu farw fy ngŵr i, Dafydd, ar ôl cael diagnosis o ganser y croen, melanoma. Roedd yn 47 oed ac roedd yn dad i bedwar o blant bach, gyda'r ieuengaf ond tair oed. Bryd hynny, doedd dim llawer o sôn am melanoma na thrafod amdano fo, ond, erbyn hyn, mae'n hysbys mai canser y croen ydy un o'r canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru, ac mae'r achosion ar gynnydd. Ond does dim digon o sôn amdano o hyd, a'r camau ymarferol y gall pawb eu cymryd, dydy'r rheini, ychwaith, ddim yn cael digon o sylw—camau ymarferol i warchod croen rhag pelydrau peryglus yr haul. A dwi'n cytuno, felly, fod angen ffocws ar addysgu plant a phobl am y camau ataliol ymarferol y gallan nhw eu cymryd i leihau'r risgiau.

Mae melanoma yn dwyn anwyliaid oddi wrthym ni, ond mae yna ffyrdd o helpu, mae yna ffyrdd o leihau'r risgiau, a rhaid tynnu sylw pobl Cymru at y rheini, a dwi'n credu bod yna ddyletswydd ar y wladwriaeth yma yng Nghymru i arwain ar y gwaith.

Diolch yn fawr iawn i ti, Sioned, am ddod â'r ddadl yma gerbron. Roedd hi'n ddiddorol iawn clywed yr argymhellion am faint o eli haul i roi ar y corff. Bydd fy mhlant i'n falch iawn o glywed hynna, achos rydyn ni'n dueddol o 'lather-io' nhw efo gormod ac maen nhw'n edrych fel zombies ar ôl i ni orffen efo nhw. [Chwerthin.]

Ond mae o'n bwysig wrth ystyried bod achosion canser y croen sydd gennym ni yng Nghymru ar gynnydd, fel roeddet ti wedi'i ddweud, a bod gennym ni fwy o achosion yma yng Nghymru nac unrhyw genedl arall o'r Deyrnas Gyfunol. Ac mae'n gallu digwydd mor hawdd i ni ac yn gwbl ddiarwybod, sef pam mae dadl Sioned mor bwysig, ac yn iawn, felly, i alw am gael plant i ddysgu am y cyflwr yn yr ysgolion ac ar oedran ifanc iawn. Ac roedd deall mai dim ond un o bob tri o blant yng Nghymru sy'n cael eu haddysgu'n dangos y gwendid yna yn y drefn.

Wrth ystyried, felly, fod achosion ar gynnydd, mae hwn yn dangos yr angen i ni ddatblygu cynllun canser cynhwysfawr yng Nghymru, fel y cynllun canser mae Plaid Cymru yn ei roi ymlaen—cynllun a fydd yn arwain at adnabod cleifion ynghynt a gwell diagnostics ymhlith canserau eraill. Felly, dwi'n edrych ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog ac, yn benodol, sut mae'r Gweinidog yn credu y gellir mynd i'r afael â'r cwestiwn yna o sut mae addysgu plant a phobl ifanc o'r peryglon efo canser y croen. Felly, diolch yn fawr iawn i ti, Sioned.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf i ddiolch i Sioned am gyflwyno'r ddadl hon, sydd wedi bod yn addysgiadol iawn ac sydd wedi ysgogi'r meddwl yn fawr? Fel y nododd Sioned, canser y croen yw'r canser mwyaf cyffredin yng Nghymru o bell ffordd. Cofnodwyd tua 15,000 o achosion o ganser y croen nad yw'n felanoma a 1,000 o achosion o felanoma yn 2019. Ac fel y dywedodd Sioned, mae'r achosion yn cynyddu. Siân, nid oeddwn yn ymwybodol fod eich gŵr wedi marw o felanoma, mae'n ddrwg iawn gennyf glywed hynny, a diolch i chi am rannu'r profiad hwnnw gyda ni heddiw.

Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi ymrwymo i wella ansawdd bywyd i bawb yng Nghymru, ac mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys ffocws ar atal canser ac addysg sy'n cefnogi iechyd a llesiant yn ehangach. Mae diogelwch rhag yr haul yn rhan allweddol o atal canser y croen, ac mae addysg yn y maes hwn yn allweddol. Ar hyn o bryd, fel y nododd Sioned, cefnogir hyn gan rwydwaith Cymru o ysgolion sy'n hybu iechyd a llesiant, gyda chefnogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r rhwydwaith yn gyfrifol am gynnal a hyrwyddo llesiant pob dysgwr. Mae cydgysylltwyr lleol yn cyfeirio ac yn rhannu gwybodaeth ac adnoddau gydag ysgolion i gefnogi diogelwch rhag yr haul ledled Cymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn darparu ystod o gyfleoedd datblygu'r gweithlu er mwyn i gydgysylltwyr ysgolion lleol sy'n hybu iechyd a llesiant gael yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion cyfredol sy'n ymwneud â diogelwch rhag yr haul, y gallant eu rhannu'n uniongyrchol ag ysgolion, fel eu bod yn mynd i'r afael â materion sy'n codi gyda dysgwyr a'u rhieni. Mae safonau gofynnol arfaethedig y rhwydwaith yn disgrifio elfennau craidd dull ysgol gyfan, ac er nad yw'r rhain yn ymwneud â phynciau penodol, mae nifer o'r safonau hyn yn cefnogi datblygiad polisïau ac arferion priodol ar gyfer diogelwch rhag yr haul, gan gynnwys dysgu drwy'r cwricwlwm.

Rwy'n ymwybodol o'r prosiect a arweinir gan Brifysgol Abertawe, sy'n gweithio gydag ysgolion ar hyn o bryd i helpu i archwilio'r canfyddiadau cyfredol ynglŷn â lliw haul ymhlith plant, rhieni, gofalwyr ac addysgwyr, a bydd canlyniadau'r prosiect hwn yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu adnoddau addysgol newydd sy'n cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru. Nid wyf wedi derbyn—neu o leiaf, nid wyf wedi gweld—llythyr gan yr ymchwilydd eto, ond byddaf yn siŵr o fynd ar ei drywydd a gofyn am gopi o'i gwaith ymchwil. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi trefnu i'r academydd sy'n arwain y prosiect i ddod i'w rwydwaith o gyfarfodydd mewn ysgolion i hybu iechyd a llesiant, sy'n cael eu cynnal yr wythnos hon yng ngogledd a de Cymru.

Yn ogystal â'r gwaith iechyd cyhoeddus hanfodol hwn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyngor ac arweiniad i bob ysgol a lleoliad i'w cefnogi i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar ddiwrnodau poeth iawn. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys cyngor ymarferol ar bwysigrwydd cael cymaint o gysgod ag sy'n bosibl, cyfyngu amser yn yr haul yn ystod gweithgareddau awyr agored a defnyddio gorchuddion haul. O fewn y canllawiau, mae gwahanol asesiadau risg y gall ysgolion eu defnyddio i weithredu mesurau diogelwch ychwanegol ar gyfer eu plant a'u pobl ifanc yn ôl yr angen.

Mae addysg, wrth gwrs, yn hanfodol i gefnogi dysgwyr i ddatblygu ymddygiad sy'n hybu iechyd, ac wrth wraidd fframwaith y Cwricwlwm i Gymru mae pedwar diben sy'n ganolog i bob penderfyniad a wneir am y cwricwlwm newydd. Un o'r pedwar diben yw cefnogi plant a phobl ifanc i ddod yn unigolion iach a hyderus. Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn sicrhau bod iechyd a llesiant yn faes dysgu a phrofiad gorfodol am y tro cyntaf, gan danlinellu ein hymrwymiad i iechyd a llesiant dysgwyr. Am y tro cyntaf, mae gan iechyd a llesiant statws cydradd yn y gyfraith â meysydd pwysig eraill yng nghwricwlwm yr ysgol, a disgwylir i ysgolion ddarparu addysgu fel rhan o'u cwricwlwm o'r blynyddoedd cynnar hyd at 16 mlwydd oed. Ers cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, rydym wedi gweithio'n agos gyda'n partneriaid, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, i gefnogi athrawon i gyflawni hyn.

Mae'r maes hwn o'r cwricwlwm yn darparu strwythur cyfannol ar gyfer deall iechyd a llesiant. Mae'r cod datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn nodi bod yna fanteision gydol oes i ddatblygu iechyd a llesiant corfforol. Nod hyn yw helpu dysgwyr i ddeall y ffactorau sy'n effeithio ar iechyd a llesiant corfforol, gan gynnwys cyflyrau iechyd, gweithgarwch corfforol, maeth a phwysigrwydd deiet cytbwys. Wrth i ddysgwyr symud ymlaen, mae datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig sy'n berthnasol i'r pwnc hwn yn ystyried asesu risg, pwysigrwydd gwneud penderfyniadau da a rôl dylanwadwyr cymdeithasol yn eu bywydau. Bydd y ffocws newydd hwn yn helpu plant a phobl ifanc i feithrin dewisiadau iachach a mwy diogel mewn perthynas â'u ffordd o fyw drwy gydol eu bywydau ac yn eu cefnogi i ddeall risgiau a pheryglon ystod o heriau a phroblemau. Mae cysylltiad â'r haul neu ddefnyddio gwelyau haul, sydd wedi'i wahardd i bobl ifanc dan 18 oed yng Nghymru, yn enghreifftiau amlwg lle gall dysgu yn y Cwricwlwm i Gymru gefnogi dysgwyr i wneud dewisiadau iachach wedi'u llywio gan y dystiolaeth.

Mae gwaith ac addysg arloesol ar ymwybyddiaeth o ganser ac atal canser yn digwydd mewn ysgolion yng Nghymru. Mae prosiect a gydlynwyd gan sawl ysgol uwchradd ar draws Rhondda Cynon Taf wedi datblygu rhaglen ddysgu gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn. Cafodd hwn ei weithredu drwy waith Ysgol Uwchradd Pontypridd gyda Menter Canser Moondance. Drwy ddull partneriaeth, a oedd yn cynnwys y cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, cynhyrchodd y rhaglen brofiadau ac adnoddau dysgu i'w dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys deall sgrinio am ganser, sut i ddefnyddio pecyn prawf, a datblygu deunyddiau i ennyn diddordeb rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach, a hyrwyddodd hynny negeseuon allweddol ynghylch atal, sgrinio a symptomau cynnar. Helpodd y rhaglen i wella dealltwriaeth y dysgwyr o ganser, a chanser y coluddyn yn arbennig, o'r achosion i sgrinio a chyfraddau gwella. Roedd pwysigrwydd sgrinio yn rhan o'r dysgu hwn yn hanfodol, oherwydd mae diagnosis a thriniaeth gynnar yn arwain at gyfraddau goroesi llawer uwch. Roedd hon yn rhaglen effeithiol a oedd yn mynd i'r afael â phwnc sensitif ond pwysig mewn modd arloesol a chreadigol. Mae hon yn enghraifft wych o sut mae ysgolion wedi cydweithio â dysgwyr a'u teuluoedd, gyda'r nod o wella canlyniadau i'w cymuned, gyda gwerthoedd y Cwricwlwm i Gymru yn ganolog iddi.

Er mai canser y coluddyn, yn benodol, oedd ffocws y prosiect, gellid mabwysiadu dull tebyg o gefnogi'r gwaith o atal canser y croen a chyflyrau eraill. Dyma'r mathau o gyfleoedd y mae'r Cwricwlwm i Gymru yn eu darparu i ysgolion, ac rwy'n awyddus i weld mwy o'r mathau hyn o brofiadau dysgu arloesol, sydd mor berthnasol i ddysgwyr a'u cymunedau. Dyna'r rôl y gall ysgolion ei chwarae mewn materion fel hyn, gan ddarparu dysgu sy'n helpu dysgwyr i ddeall materion sy'n ymwneud ag iechyd, a meithrin hyder ynddynt fel y gallant ddeall y pynciau hyn a gwneud penderfyniadau gwybodus sy'n cefnogi eu hiechyd a'u llesiant eu hunain. Ond ni allwn anghofio ychwaith fod atal canser yn fater i'r gymdeithas gyfan, ac nid yw'n rhywbeth y gallwn ei roi ar ysgwyddau ysgolion yn gyfan gwbl. 

A gaf i orffen drwy ddiolch i Sioned Williams am gyflwyno'r ddadl? Mae Eluned Morgan hefyd wedi clywed y ddadl heddiw. Hoffwn roi sicrwydd iddi y byddaf yn edrych ar yr ymchwil yn ogystal â'r cysylltiadau ag argymhellion blaenorol y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, nad wyf yn credu fy mod yn rhan ohono am ryw reswm nad wyf yn ei ddeall. Byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn edrych i weld beth sydd wedi digwydd gyda'r argymhellion hynny. Diolch.

17:45

Daeth y cyfarfod i ben am 17:47.