Y Cyfarfod Llawn
Plenary
26/06/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth. Mae'r cwestiwn cyntaf [OQ61306] wedi'i dynnu yn ôl, felly, cwestiwn 2, Buffy Williams.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus ar draws etholaeth Rhondda? OQ61317
Gwnaf, wrth gwrs. Rydym yn buddsoddi £1 biliwn er mwyn trawsnewid llinellau craidd y Cymoedd, gyda threnau trydan newydd yn dod i wasanaeth yn ddiweddarach eleni ar reilffordd Treherbert. Rydym wedi buddsoddi ar y cyd yng nghyfnewidfa drafnidiaeth y Porth, i gysylltu bysiau, tacsis, beicwyr a cherddwyr o’r Rhondda Fach â’r rhwydwaith rheilffyrdd drwy reilffordd Treherbert ar ei newydd wedd.
Diolch. Bydd y buddsoddiad yn rheilffordd Treherbert yn dyblu nifer y gwasanaethau yr awr, a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fy etholwyr.
Gan droi at fysiau, gwn fy mod eisoes wedi codi’r angen am docynnau drwodd i drigolion yn y Rhondda Fach fel y gallant ddefnyddio’r metro newydd hefyd, ac edrychaf ymlaen at ein cyfarfod yn nes ymlaen heddiw i drafod hyn ymhellach. Prisiau yw un o'r rhwystrau mwyaf sy'n atal trigolion rhag dal y bws. Mae Stagecoach Bus a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth dros y blynyddoedd diwethaf i ddarparu wythnosau ac weithiau misoedd lle mae tocynnau unffordd ond yn costio £1 yn ardal yr awdurdod lleol. Mae'r defnydd o fysiau yn ystod y cyfnodau hyn wedi cynyddu'n aruthrol. Gwn fod Llywodraeth Cymru hefyd yn awyddus i weld prisiau tocynnau tecach yng Nghymru, ac mae'n amlwg fod cyngor Rhondda Cynon Taf a Stagecoach yn y Rhondda yn rhannu'r weledigaeth hon. Felly, sut mae'r cynlluniau ar gyfer prisiau tocynnau tecach yn dod yn eu blaen yng Nghymru, ac a wnewch chi ystyried cynllun peilot yn ein Cymoedd o ystyried y gwaith partneriaeth sydd eisoes yn mynd rhagddo yn y Rhondda?
Wel, a gaf i ddiolch i Buffy Williams am ei chwestiwn? Yn fy marn i, buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau yw un o’r ffyrdd gorau o wella cyfleoedd i bobl ar draws ein cymunedau, ac rwy’n cydnabod manteision cynnig tocynnau symlach a llawer mwy fforddiadwy i deithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac edrychaf ymlaen at drafod yr union fater hwn gyda'r Aelod pan fyddwn yn cyfarfod y prynhawn yma.
Ac rwy'n cytuno ei bod hefyd yn galonogol iawn gweld yr hyn y mae cyngor Rhondda Cynon Taf yn ei wneud gyda threialu'r pris safonol o £1 ar gyfer teithiau lleol yn ardal y cyngor. Ac rwy'n awyddus iawn i ddysgu am yr effeithiau buddiol y mae hynny'n eu cael, gan y gwyddom, wrth inni fwrw ymlaen â'r Bil bysiau a deddfu'r cynigion ar gyfer un rhwydwaith bysiau, y byddwn yn gallu cyflwyno cynlluniau mwy arloesol a threfn docynnau lawer tecach, nid yn unig ar wasanaethau bysiau, ond ar ddulliau trafnidiaeth eraill. Ond cyn gallu gwneud hynny, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda gweithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol i wella’r cynnig tocynnau ar wasanaethau presennol, ond byddwn yn awyddus iawn i drafod potensial cynlluniau peilot gyda’r Aelod lleol a’r rôl y gallai'r cyngor ei chwarae yn hwyluso hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhyddhau data yn ddiweddar sy’n dangos y bu cynnydd o 28 y cant mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yng ngorsafoedd llinellau craidd y Cymoedd hyd yn hyn eleni. Pobl dan 17 oed sy'n gyfrifol am bron i 75 y cant o’r ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn, ac mae bron i 40 y cant yn ymwneud â thresmasu. Fe fyddwch yn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y risg o farwolaeth neu anafiadau difrifol i dresmaswyr wedi cynyddu’n sylweddol ers cyflwyno llinellau trydan uwchben ar y rheilffyrdd, sy’n cludo 25,000 folt o drydan. Efallai eich bod hefyd yn ymwybodol y gall trydan neidio rhwng bylchau ar y rheilffyrdd, sydd bellach yn golygu bod y risg o drydaniad heb gyswllt uniongyrchol yn sylweddol uwch. Gyda hyn mewn golwg, pa fuddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau gallu pobl i dresmasu ar linellau craidd y Cymoedd? Diolch.
Ie, a gaf i ddiolch i Joel James am ei gwestiwn a dweud pa mor amserol ydyw hefyd, gan imi gyfarfod â bwrdd Trafnidiaeth Cymru yr wythnos diwethaf i drafod materion pwysig, a chodais ymddygiad ar y rhwydwaith rheilffyrdd ac mewn gorsafoedd fel un o’r pryderon allweddol sydd gennyf yn y cyd-destun ehangach? Mae'n ymwneud nid yn unig â phobl ifanc yn tresmasu a’r risg i’w bywydau, ond hefyd â'r angen i sicrhau ein bod yn gwneud gorsafoedd a gwasanaethau’n fwy diogel i bobl drwy gydol y dydd a’n bod yn archwilio sut y gallwn wella ymddygiad ar wasanaethau rheilffyrdd hefyd, yn enwedig ar wasanaethau hwyr y nos ac yn ystod digwyddiadau mawr. Cytunodd bwrdd Trafnidiaeth Cymru y dylai hwn fod yn faes gwaith allweddol i swyddogion gweithredol, felly rwy'n disgwyl i'r adroddiad gael ei gwblhau yn y dyfodol agos ar y mater pwysig iawn hwn.
Yn y cyfamser, byddaf yn codi’r pryderon a fynegwyd gennych yn benodol ynghylch pobl ifanc o bosibl yn tresmasu ac yn peryglu eu bywydau eu hunain, gan fod rôl nid yn unig i Trafnidiaeth Cymru yn y cyswllt hwn ond hefyd i’r heddlu trafnidiaeth i sicrhau nad yw'r bywydau hynny'n cael eu peryglu.
3. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar ddiogelwch ar y ffyrdd? OQ61310
Rydym wedi ymrwymo i wella diogelwch ar y ffyrdd, achub bywydau a lleihau anafiadau, a byddwn yn parhau i fireinio ein polisi 20 mya yn seiliedig ar adborth. Rydym yn darparu cyllid diogelwch ar y ffyrdd i awdurdodau lleol, ac rydym yn gwneud gwelliannau diogelwch i’r rhwydwaith ffyrdd strategol hefyd drwy gynlluniau a nodir yn ein cynllun trafnidiaeth.
Diolch. Yn gynharach y mis hwn, fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig lle dywedoch chi fod data newydd ar wrthdrawiadau ffyrdd yn dangos bod nifer yr anafusion wedi lleihau ar y ffyrdd ers cyflwyno’r terfynau cyflymder 20 mya newydd ym mis Medi y llynedd. Fodd bynnag, mae’r data newydd a ddyfynnwyd gennych ar gyfer tri mis olaf 2023, o gymharu â’r un cyfnod yn 2022, yn dangos, hyd yn oed gyda’r eithriadau cyfyngedig ar gyfer terfynau 20 mya diofyn a ddarparwyd gan awdurdodau lleol sy’n gweithredu yn unol â meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer eithriadau, fod nifer y bobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ffyrdd 20 mya wedi codi 800 y cant, o lai na 5 y cant i 36 y cant o’r cyfanswm, tra bo'r nifer a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ffyrdd 30 mya wedi gostwng 88 y cant, o 49 y cant i ddim ond 5 y cant o’r cyfanswm, gyda nifer y beicwyr modur a’r beicwyr a gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ill dau’n cynyddu. Ymhellach, roedd anafiadau cyffredinol ar y ffyrdd wedi cynyddu dros 13 y cant. Sut ydych chi'n ateb y cwestiynau sy’n cael eu gofyn nawr ynglŷn ag a yw’r gostyngiad cyffredinol a addawyd mewn anafusion ffyrdd, ynghyd â’r arbedion a addawyd i’r GIG, wedi'i wireddu?
Wel, a gaf i ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn? Nid wyf yn cydnabod rhai o'r ystadegau a ddyfynnwyd. Credaf mai’r pwynt pwysicaf i’w godi, serch hynny, yw mai nifer yr anafusion ar ffyrdd 20 a 30 mya gyda’i gilydd—sef y ffordd allweddol o edrych ar hyn—ym mhedwerydd chwarter 2023 oedd y ffigur chwarterol isaf a gofnodwyd y tu hwnt i gyfnod COVID. Mae hynny’n ystadegol gywir; mae'n gadarn. Ond mae ffigurau'n amrywio. Felly, er fy mod yn croesawu’r gostyngiad hwnnw, bydd y ffigurau’n amrywio o un chwarter i’r llall, a’r pwynt pwysicaf oll i’w wneud, sef yr hyn roeddwn yn ei ddweud yn y pwyllgor yn gynharach y bore yma, yw bod yn rhaid inni edrych ar y duedd gyffredinol dros amser. Ond rwy'n croesawu'r ystadegau ar y foment. Mae gormod lawer o bobl yn dal i gael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yng Nghymru, ond o ran ardaloedd 20 mya a 30 mya, pan edrychwch ar yr ystadegau cyfunol ar gyfer ffyrdd 20 a 30 mya, mae'n ffigur is ar gyfer y chwarter a nodais.
Wel, mae nifer anghymesur—mi wnaf aros i'r Ysgrifennydd Cabinet gael ei offer cyfieithu—o ddamweiniau angheuol a difrifol ar ffyrdd Dwyfor Meirionnydd, a hynny oherwydd natur y ffyrdd yna yn rhai gwledig a throellog. Dwi wedi codi sawl gwaith efo'ch rhagflaenydd chi yr A494, yn enwedig y darn yna sydd yn mynd o Lanuwchllyn drwyddo i Gorwen a'r angen i wneud gwaith yno i'w wneud o'n fwy diogel. Fe ddaru i'ch rhagflaenydd ddweud ryw dair blynedd yn ôl y buasai yna waith yn mynd yn ei flaen er mwyn asesu pa waith sydd angen ei wneud ar y ffordd yna, ond does dim byd wedi digwydd eto—dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw fuddsoddiad yno. Dwi'n cael nifer cynyddol o bobl o Lanfor, o Glan-yr-afon, o Lanuwchllyn,yn cysylltu efo fi yn pryderu am y ffordd yna, yn ofni mynd ar y ffordd, yn ofni eu bod hwythau yn mynd i ddioddef damwain. Pa waith ydych chi'n mynd i'w wneud er mwyn sicrhau diogelwch y ffordd yna a beth ydy'r amserlen, os gwelwch yn dda?
Wel, a gaf i ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ac a gaf i ddatgan buddiant yma hefyd, sef bod y ffordd honno’n cael ei defnyddio gryn dipyn gan aelodau’r cyhoedd o fy etholaeth i? Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelod am y cynnydd a wnaed, ond credaf fod pwynt pwysig y mae angen i mi ei godi yma, un a wneuthum, unwaith eto, yn y pwyllgor yn gynharach y bore yma, sef fy mod am weld mwy o rôl i’r awdurdodau lleol wrth bennu blaenoriaethau trafnidiaeth, yn enwedig mewn perthynas â buddsoddi mewn ffyrdd, gan sicrhau bod unrhyw welliannau, yn enwedig o ran mesurau diogelwch, yn cael eu gwneud ar y lefel fwyaf priodol. A lefel awdurdod lleol yw honno yn fy marn i, nid lefel Llywodraeth Cymru. Ni ddylem fod yn dweud wrth awdurdodau lleol pa fesurau y mae angen eu rhoi ar waith i wella diogelwch. Mae angen inni weithio gydag awdurdodau lleol, ac yn y pen draw, rydym yn mynd i gyrraedd sefyllfa lle bydd awdurdodau lleol, yn unigol ac ar y cyd, drwy gyd-bwyllgorau corfforedig, yn gwneud y penderfyniadau allweddol hyn.
Roeddwn yn mynd i ofyn cwestiwn i chi am yr un peth. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â chynghorwyr ac awdurdodau lleol, ac mae ganddynt yr arbenigedd lleol hwnnw. Ac ar hyn o bryd, gall cyllid—cyllid grant—fod yn rhy ragnodol, a gall ceisiadau fynd â llawer o amser ac adnoddau. Felly, mae taer angen cyllid ychwanegol arnom ar gyfer cynnal a chadw palmentydd a phriffyrdd hefyd, gan eu bod yn dirywio'n gyflym. Rwyf wedi eich clywed yn sôn eich bod yn ystyried datganoli'r prosesau i awdurdodau lleol. Felly, a ydych chi'n ystyried datganoli’r cyllid i awdurdodau lleol hefyd, fel y gallant wneud penderfyniadau am lwybrau diogel ger ysgolion a chymunedau, 20 mya, yr holl gynlluniau hyn, ac ynghylch cynnal a chadw priffyrdd a phalmentydd ar y lefel leol honno?
Yn sicr. Lywydd, rydym yn edrych ar yr amlen gyffredinol o gyllid ar gyfer awdurdodau lleol drwy grantiau trafnidiaeth lleol a mathau eraill o gyllid. Fy marn i yw bod angen inni fod yn llai rhagnodol. Mae angen inni roi cymaint o hyblygrwydd ag y gallwn i awdurdodau lleol. Rydym am sicrhau y gallwn eu galluogi a’u grymuso i wneud y penderfyniadau sy’n iawn i’w cymunedau. Felly, byddwn yn edrych ar ddatganoli nid yn unig y prosesau gwneud penderfyniadau, ond y cyllid hefyd.
Cwestiynau llefarwyr nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, y mis hwn, gwelsom y data cyntaf a gyhoeddwyd gan heddluoedd ar ddamweiniau ers cyflwyno polisi'r terfyn cyflymder 20 mya. Er bod pob un ohonom, heb os, yn croesawu’r ffaith bod nifer cyffredinol y gwrthdrawiadau ledled Cymru wedi gostwng yn chwarter olaf 2023, roedd rhai agweddau ar y data y byddech yn cytuno, rwy'n siŵr, eu bod yn destun pryder. Fel yr adroddwyd gan North Wales Live, y ffigur ar gyfer anafiadau difrifol ar gyfer chwarter olaf y llynedd oedd yr uchaf ers 2018. Yn anffodus, roedd nifer y marwolaethau yn uwch yn chwarter olaf 2023 nag yn unrhyw un o'r pum mlynedd flaenorol. Hefyd, er bod y data’n dangos gostyngiad mewn gwrthdrawiadau ar draws gogledd Cymru ar ffyrdd 20 mya a 30 mya, yn ystod yr un cyfnod, bu cynnydd yn nifer y damweiniau ar ffyrdd 40 mya i 70 mya. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg fod yn rhaid inni gael dull gweithredu cyfannol o ymdrin â'r polisi hwn. Er bod rhywfaint o'r data yn gadarnhaol, mae'n hanfodol mynd i'r afael â'r tueddiadau sy'n peri pryder. Felly, yng ngoleuni'r data newydd hwn, sut rydych chi'n ystyried y canfyddiadau hyn gyda'ch adolygiad presennol o'r polisi 20 mya? Diolch.
A gaf i ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn a dweud, o ran ardaloedd 40 mya i 70 mya, fod hyn yn bryder allweddol i ni? Rydym wedi ymrwymo, drwy strategaeth drafnidiaeth Cymru, i lunio strategaeth diogelwch ar y ffyrdd, cynllun gweithredu ar gyfer gwella diogelwch ar y rhwydwaith ffyrdd. Drwy osod terfynau cyflymder lleol, byddwn yn gallu archwilio pa fesurau y gall fod angen eu rhoi ar waith. Hefyd, mae angen inni sicrhau ein bod yn darparu, ac yn parhau i ddarparu, refeniw hanfodol yn ogystal â chyfalaf i awdurdodau lleol allu gwella diogelwch a gwydnwch ffyrdd lleol, a’n bod yn gwneud hynny hefyd ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd. Mae'n wir, gyda'r data diweddaraf ar ddamweiniau, fod nifer cyffredinol y gwrthdrawiadau ar lwybrau 20 mya a 30 mya wedi gostwng yn chwarter 4 o gymharu â'r chwarteri blaenorol. Dyma hefyd oedd y lefel isaf y tu hwnt i gyfnod COVID. Ond fel y dywedais wrth Mark Isherwood, bydd amrywiadau o un chwarter i'r nesaf. Felly, byddaf yn disgwyl i ddata godi, byddaf yn disgwyl i ddata ostwng. Ni fyddaf yn gwneud môr a mynydd o'r peth pan fydd yn mynd i lawr, gan fy mod yn cydnabod y bydd yna adegau pan fydd yn codi.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan gadw at thema 20 mya am y tro, un o gefnogwyr mwyaf y cynllun yn wir yw sefydliad o’r enw Sustrans. Mae’r elusen feicio, cerdded ac olwyno wedi bod yn uchel ei chloch ac yn gyson ei chefnogaeth i’r polisi hwn, ond a yw’n syndod ei bod yn barod i ganu clodydd Llywodraeth Cymru pan fo Gweinidogion Llafur, yn y gorffennol, wedi darparu symiau syfrdanol o arian parod iddynt? Mewn gwirionedd, rhwng 2008 a mis Ebrill eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi talu mwy nag £20 miliwn i Sustrans. Mae'r newyddion am y symiau gwarthus o arian parod a roddwyd i Sustrans wedi achosi cryn dipyn o ddicter a phryder dealladwy ymhlith y cyhoedd. Mae pobl yn cwestiynu, yn gywir ddigon, pam fod yr elusen arbennig hon wedi cael triniaeth mor ffafriol. Ond efallai mai’r hyn sydd wedi gwneud hyn yn arbennig o anodd ei dderbyn ac wedi codi cryn dipyn o aeliau yw’r ffaith bod gan eich rhagflaenydd gysylltiadau agos iawn â Sustrans. Nid yw'n gyfrinach fod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gyfarwyddwr Sustrans flynyddoedd lawer yn ôl. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi nad yw hyn yn edrych yn dda? Rwy'n awyddus i wybod a fyddwch chi'n parhau i sianelu'r math hwn o arian i Sustrans, neu a fyddwch chi'n torri cysylltiadau, wrth symud ymlaen?
Yr un hen rwtsh.
Mae'n gwestiwn da iawn, mewn gwirionedd, John.
Dim ond penderfyniadau ar gyfer y dyfodol y gallaf eu gwneud. Ni allaf wneud penderfyniadau ar gyfer y gorffennol. Ar y cwestiwn ynghylch cefnogaeth i unrhyw sefydliad ac unrhyw gred y gallai fod penderfyniadau amhriodol wedi'u gwneud, mater i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a/neu’r Pwyllgor Cyllid fyddai ystyried hynny. Ni fyddwn yn dymuno rhoi barn ar unrhyw honiadau neu awgrymiadau.
Ond o ran cyllid, fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn blaenorol, rwyf eisoes wedi ymrwymo i edrych ar ddatganoli’r broses o wneud penderfyniadau a chyllid ar gyfer nid yn unig teithio llesol, ond hefyd grantiau trafnidiaeth leol i awdurdodau lleol, gan y credaf mai awdurdodau lleol sy’n gallu gwneud y penderfyniadau gorau a mwyaf priodol ar gyfer eu cymunedau.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, mae Caerdydd wedi croesawu enwau cerddorol mawr iawn yn ddiweddar, gan gynnwys Bruce Springsteen, Pink a Taylor Swift, gyda mwy o sêr yn dod i'r brifddinas dros yr haf, sy'n newyddion gwych i bob un ohonom. Yn y cyfnod cyn rhai o'r digwyddiadau hyn, yn enwedig Taylor Swift, rwy'n siŵr y gallwch dderbyn y cyhoeddwyd rhybuddion ynghylch yr anhrefn a ragwelid o ran teithio a chanslo gwasanaethau rheilffyrdd. Wynebodd modurwyr 19 milltir o dagfeydd ar yr M4 cyn cyngerdd Pink, bu oedi mawr ar y ffyrdd ar gyfer cyngerdd Foo Fighters neithiwr, ac fe achosodd rhwystr ar un o’r prif linellau rheilffordd lawer o darfu ar fore perfformiad Taylor Swift. Nawr, pan ddaeth y Boss i'r dref—ac nid wyf yn cyfeirio at Andrew R.T. Davies—rhoddodd Great Western Railway drenau ychwanegol ar waith i helpu i ateb y cynnydd yn y galw, ond hyd y gwelaf, ni wnaed hynny gan Trafnidiaeth Cymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, oni bai fod rhywbeth yn newid cyn bo hir a gwelliannau radical yn cael eu gwneud i ddarparu ar gyfer capasiti ychwanegol, teimlaf ein bod mewn perygl o golli digwyddiadau yma yng Nghymru yn y dyfodol. Cafodd y llinell sefydlogi digwyddiadau mawr, a fyddai wedi darparu mwy o gapasiti ac efallai wedi sicrhau bod gwasanaethau’n rhedeg yn fwy llyfn pan fo digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal, ei diddymu gan Lywodraeth Cymru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda'r prosiect seilwaith hwn ar y domen sgrap, sut yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ein rhwydwaith trafnidiaeth yn gallu delio'n effeithlon â'r dylifiad o bobl sy'n mynychu digwyddiadau mawr yma yng Nghymru, wrth symud ymlaen?
Wel, a gaf i ddiolch iddi am y cwestiynau y mae’r Aelod wedi’u codi, yn gywir ddigon, am ddigwyddiadau mawr, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond hefyd mewn rhannau eraill o Gymru, a’r angen i sicrhau bod gennym strategaeth ar waith i symud pobl o gwmpas yn effeithlon ac mor gyflym â phosibl? Dylwn ddweud, o ran Taylor Swift, do, fe gyhoeddwyd llawer o rybuddion, ond roedd symudiad traffig cyn ac ar ôl cyngerdd Taylor Swift yn hynod effeithlon mewn gwirionedd. A phan ddaw un o ddiddanwyr mwyaf y byd i'r ddinas, credaf y dylech ddisgwyl rhywfaint o oedi. Dylech ddisgwyl ciwiau. Credaf ei bod yn afresymol meddwl y dylai'r system draffig, yn enwedig y system reilffyrdd, symud i gêr uwch bob amser ar gyfer digwyddiadau mawr; nid yw'n bosibl symud y system drafnidiaeth i gêr uwch yn y ffordd honno yn gyson bob dydd. Ac yn hytrach, os ydych chi'n chwilio ar Google am anrhefn traffig digwyddiad mawr, neu anrhefn traffig cyngerdd cerddoriaeth, fe welwch fod dinasoedd ledled y byd yn wynebu'r un broblem wrth geisio sianelu pobl yn effeithlon ar drafnidiaeth gyhoeddus. Yn wir, mynychodd fy nith gyngerdd Taylor Swift, nid yng Nghaerdydd, ond yn Anfield yn Lerpwl. Felly, gwiriais y traffig cyn y digwyddiad hwnnw a gweld, ie, anhrefn traffig ar y traffyrdd oherwydd Taylor Swift. Mae hon yn broblem gyffredin, ac ni allwn ddianc rhagddi. Y peth allweddol yw bod Cyngor Caerdydd, Trafnidiaeth Cymru a gweithredwyr rheilffyrdd a’r rheini sy’n cynnal y digwyddiadau yn cydweithio’n agos iawn nawr i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl. Ac rwy'n credu bod hynny wedi llwyddo gyda chyngerdd Taylor Swift.
Ond fel y buom yn ei drafod yn y pwyllgor yn gynharach y bore yma, bydd materion yn codi ledled Cymru hefyd. Cyfarfûm yn ddiweddar ag un o gyd-berchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam a chyda’r awdurdod lleol a Trafnidiaeth Cymru i drafod sut, yn y dyfodol, o ystyried—roeddwn ar fin dweud ‘y tebygolrwydd’—y gobaith y byddant yn cael dyrchafiad arall, y bydd angen symud llawer mwy o bobl yn Wrecsam a’r cyffiniau, ac felly bydd angen cynllunio'n ofalus iawn ar gyfer diwrnodau gemau. Felly, rydym yn edrych ar ddigwyddiadau mawr, a sut y gallwn sicrhau bod pobl yn gallu mynd a dod ohonynt yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf, cafodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid dros Gymru, ei chyfweld ar raglen Newyddion. Gwrthododd ddweud ei bod yn anghywir nad yw Cymru wedi cael unrhyw gyllid canlyniadol ar gyfer HS2. Fel y gwyddom, nid oes yr un fodfedd o drac yn cael ei gosod yng Nghymru, ac mae Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cael cyllid canlyniadol. O ganlyniad, mae trethdalwyr Cymru £4 biliwn ar eu colled. Gwrthododd hefyd roi gwarant bendant na fyddai’r un peth yn digwydd o dan Lywodraeth Lafur yn San Steffan yn y dyfodol. Yn rhyfedd ddigon, ychwanegodd nad yw HS2 yn bodoli mwyach. Gwyddom fod y datganiad hwn yn gwbl anghywir.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gyfathrebu a fu rhyngoch chi a Jo Stevens i'w chywiro ar hyn? A ydych chi'n credu ei bod yn anghywir nad yw Cymru’n cael unrhyw gyllid canlyniadol yn sgil HS2? Ac a allwn fod yn sicr na fyddai’r un peth yn cael ei ganiatáu i ddigwydd eto gyda Keir Starmer yn Brif Weinidog y DU?
Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a dweud bod Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid dros Gymru—sef Ysgrifennydd Gwladol Cymru cyn bo hir, gobeithio—a minnau'n siarad yn rheolaidd iawn am bob math o feysydd polisi, gan gynnwys trafnidiaeth rheilffyrdd? Credaf y gellir dadlau bod cael y gallu i Gymru gyfeirio buddsoddiad o fewn Great British Railways yn fwy gwerthfawr na chyllid canlyniadol. Mae angen inni allu sicrhau bod y rhwydwaith cyfan yng Nghymru yn cael y buddsoddiad sydd ei angen arno er mwyn sicrhau ei fod mewn cyflwr addas. Rwyf wedi ei gymharu â hen gar sy'n rhydu, ac mae angen—mae taer angen—y buddsoddiad arno i'w adnewyddu. Pan fydd wedi cael y buddsoddiad hwnnw ac wedi’i adnewyddu, byddem am gymryd rheolaeth o’r ased hwnnw. Ar hyn o bryd, mae'n faich. Felly, mewn gwirionedd, mae angen gofyn am lawer mwy na chyllid canlyniadol yn sgil HS2 yn unig. Yr hyn sydd ei angen arnom, a’r hyn a addawyd i ni gyda maniffesto Llafur y DU, yw’r gallu drwy Great British Railways i lunio a chyfeirio buddsoddiad yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at allu gwneud hynny. Hefyd, bydd creu uned fusnes Cymru yn hanfodol bwysig i sicrhau ein bod yn gallu nodi blaenoriaethau a chael y buddsoddiad sydd ei angen ar eu cyfer.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Mae'n dal yn £4 biliwn.
Yn yr un cyfweliad, roedd Jo Stevens yn arbennig o ddiystyriol o ddatganoli; dywedodd na ddylem fod yn ffidlan gyda strwythurau a systemau pan fo pethau i'w gwneud ar frys. Dywedodd y Senedd hon ag un llais ychydig dros flwyddyn yn ôl y dylid ailddosbarthu HS2 yn brosiect Lloegr yn unig. Pan fuom yn trafod HS2 fis Ebrill diwethaf, dywedodd Lee Waters, y dirprwy Weinidog newid hinsawdd ar y pryd, ei bod yn sgandal nad oedd Cymru’n cael ei chyfran deg o’r cyllid canlyniadol. Nawr, yr unig ffordd o sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg o’r gwariant ar y seilwaith trafnidiaeth fyddai datganoli cyfrifoldeb am seilwaith trafnidiaeth i Gymru. Rydym yn gweld gyda metro de Cymru fod hyn wedi gorfod dod o brif gyllideb Llywodraeth Cymru. Pe bai'r seilwaith trafnidiaeth wedi’i ddatganoli, gallai’r arian hwn fod wedi’i wario yn rhywle arall. A yw hyn yn rhywbeth y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gefnogi er gwaethaf sylwadau ei gyd-aelod o'r Blaid Lafur?
Credaf fod yr Aelod yn codi pwynt gwirioneddol bwysig ynghylch datganoli'r seilwaith rheilffyrdd. Fy marn i yw y dylid meddwl am ddatganoli'r seilwaith rheilffyrdd fel proses yn hytrach nag un digwyddiad. Gwyddom, gyda throsglwyddo llinellau craidd y Cymoedd i Lywodraeth Cymru ac yna'r gwaith y mae Trafnidiaeth Cymru wedi’i wneud i uwchraddio llinellau craidd y Cymoedd, fod cyflwr yr ased, fel y’i gelwir, yn waeth nag a ragwelwyd gennym mewn gwirionedd, ac mae hynny’n adlewyrchu’r darlun ledled Cymru; nid ydym yn gwybod pa mor ddrwg a ffaeledig yw peth o'r rhwydwaith rheilffyrdd. Felly, byddai ei ddatganoli heb fod yn gwbl ymwybodol o gost lawn ei uwchraddio, fel sy'n ofynnol, braidd yn ffôl yn fy marn i. Yn hytrach, mae arnom angen proses ar waith er mwyn inni allu cyfarwyddo a dylanwadu ar waith uwchraddio seilwaith, ac yna, pan fyddwn yn hyderus ei fod yn ased, mewn cyflwr da, byddem yn disgwyl cael rheolaeth ohono gyda swm priodol o refeniw a chyfalaf i allu ei uwchraddio a'i gynnal yn llawn.
Mae hynny'n ddiddorol, a deallaf fod angen inni drafod hyn ymhellach, ond mae'n dal i fod yn gwestiwn a fydd gennych unrhyw ddylanwad neu allu i lywio hynny ai peidio, a fyddant yn gwrando arnoch ai peidio.
Gallai derbyn ein cyfran deg o gyllid HS2, o wariant ar seilwaith trafnidiaeth yn Lloegr yn y dyfodol, fod yn drawsnewidiol i’n systemau trafnidiaeth hen ffasiwn yma yng Nghymru, ac rydych chi wedi sôn am hynny’n gynharach. Boed yn gysylltu cymunedau'r gogledd a'r de neu sicrhau bod masnachfreinio bysiau yn llwyddiant, gallai’r effaith fod yn enfawr ar ein heconomi yn ogystal â llesiant pobl. Mae cynnydd enfawr i'w wneud o ran effeithlonrwydd hefyd drwy gefnogi cysylltedd trafnidiaeth leol.
Heb fod mor bell yn ôl â hynny, gwelsom gyllid brys ar gyfer bysiau yn cael ei ddiddymu, a arweiniodd, yn y pen draw, at dorri 10 i 15 y cant o wasanaethau ledled Cymru. Yn fy rhanbarth i, mae Tredegar wedi colli’r X4, a oedd yn arfer bod yn llwybr uniongyrchol i Gaerdydd. Nid oes rheilffordd yn Nhredegar, a bellach mae'n rhaid i drigolion ddal bws i Ferthyr Tudful a newid yno. Arferai fod tri bws yr awr i Bont-y-pŵl; dim ond un sydd yna nawr. Mater enfawr arall yw'r gostyngiad yn nifer y bysiau ar ôl 6.00 pm ac ar ddydd Sul. Roedd yr X15 yn arfer mynd o Flaenau Gwent i Gasnewydd ar ddydd Sul, ac mae hwnnw hefyd wedi mynd. Mae hyn yn ynysu ein cymunedau, yn cynyddu unigrwydd ymhlith pobl hŷn, ac yn cyfyngu ar gyfleoedd gwaith neu addysg i bobl heb geir.
Nawr, efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at fasnachfreinio bysiau fel yr ateb—
A allwch chi ddod at eich cwestiwn, os gwelwch yn dda?
Wrth gwrs.
Dyma eich trydedd set o gwestiynau.
Yn sicr. Sut y gallwn ni sicrhau y bydd hyn yn llwyddiant heb gyllid teg, a pha ateb y gallwch ei roi i’r trigolion rwy'n eu cynrychioli sy’n chwilio am newyddion da ar drafnidiaeth gyhoeddus?
Wel, mae’r Aelod yn llygad ei le: mae angen imi dynnu sylw at y Bil bysiau, ac mae masnachfreinio bysiau yn gyfle enfawr mewn cenhedlaeth i allu gwella trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, a chredaf y dylid meddwl am drafnidiaeth gyhoeddus fel y trydydd gwasanaeth cyhoeddus, ochr yn ochr ag iechyd ac addysg. Mae'n hynod o alluogol i bobl, mae'n fecanwaith ar gyfer codi'r gwastad go iawn, a thrwy'r Bil bysiau, ein nod yw creu un rhwydwaith gydag un drefn docynnau, ac amserlen ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd a gwasanaethau bysiau. Bydd hynny'n costio, mae hynny'n ddigon gwir, a bydd y gost honno'n darparu cyfleoedd bywyd anhygoel i bobl, felly bydd yn arian wedi ei wario'n dda.
Ond o ran yr her uniongyrchol sy'n wynebu gweithredwyr bysiau, rydym wedi dweud yn glir iawn ein bod am sicrhau y ceir cynnydd cwbl sefydlog a di-dor tuag at 2027, pan fydd y masnachfreintiau'n dechrau. Dyna pam ein bod wedi bod yn darparu cyllid yn ychwanegol at y grant cynnal gwasanaethau bysiau, felly, eleni, £39 miliwn, a dyna hefyd pam ein bod yn awyddus i Trafnidiaeth Cymru barhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol i nodi gwelliannau i'r gwasanaeth y gellir eu cyflwyno cyn y masnachfreinio.
Lywydd, dylwn ychwanegu hefyd fod datblygu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yn bwysig iawn yn hyn o beth, gan ddod ag awdurdodau lleol ynghyd ar lefel ranbarthol, a sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei chynllunio ochr yn ochr â Trafnidiaeth Cymru, yn hytrach nag ar wahân, yn annibynnol ar Trafnidiaeth Cymru. Bydd hynny'n bwysig iawn, sicrhau bod gennym drafnidiaeth integredig lle bynnag y gellir ei darparu cyn dechrau'r masnachfreinio.
4. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd ynglŷn â datblygu mwy o lwybrau diogel i ysgolion? OQ61335
Rydym yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd i gefnogi llwybrau mwy diogel i ysgolion, ac rydym yn darparu cyllid i'r awdurdod lleol ar gyfer hyfforddi cerddwyr a beicwyr ifanc, yn ogystal ag ar gyfer gwelliannau i ddiogelwch ar y ffyrdd a llwybrau cerdded a beicio i'r ysgol.
Ar ddiwrnod gwych fel heddiw, rydych chi'n meddwl tybed pam na fyddai unrhyw un yn teithio'n llesol i'r ysgol, gan ei bod yn bwysig iawn i bawb sylweddoli, os yw plentyn yn teithio i'r ysgol yn y car mewn ardal lle mae tagfeydd, eu bod yn anadlu llawer mwy o lygredd na'r unigolyn sy'n cerdded neu feicio ar yr un stryd. Felly, mae gwir angen inni gyfleu’r neges honno.
Hoffwn dynnu sylw at y gwaith a wnaed yn Ysgol Gynradd Parc y Rhath yn fy etholaeth, lle mae cynllun pum mlynedd wedi arwain at 90 y cant o blant blwyddyn 2 i flwyddyn 6 yn teithio'n llesol i’r ysgol, ac maent bellach yn gweithio ar y babanod i sicrhau cyfradd o 90 y cant ar gyfer yr ysgol gyfan. Mae wedi cymryd amser maith, ac mae wedi cymryd cydweithrediad rhwng Cyngor Caerdydd, yr heddlu, Sustrans a Cycling UK, gosod synwyryddion traffig, digwyddiadau strolio a rholio, yn ogystal â stryd ysgol yng nghyffiniau uniongyrchol yr ysgol, ac yn bwysicaf oll yn fy marn i, beiciau a sgwteri newydd i sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan weithredol. Mae ansawdd yr arweinyddiaeth a’r cydweithio hwn yn golygu mai’r ysgol hon yw’r drydedd yng Nghaerdydd a’r bumed yng Nghymru o ran disgyblion sy’n teithio’n llesol. O ystyried y llwyddiannau hyn, pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cael gyda Chyngor Caerdydd i ehangu’r arfer gorau gwych hwn ledled Cymru, yn enwedig i’n hysgolion trefol mwy difreintiedig?
A gaf i ddiolch i’r Aelod nid yn unig am ei chwestiwn, ond hefyd am amlinellu llwyddiant ysgubol rhaglenni, yn enwedig yn y Rhath, ond mae gennyf restr helaeth o raglenni sydd wedi bod yn llwyddiannus ledled Caerdydd ac sy’n haeddu cymeradwyaeth yn fy marn i? Gwn fod cynlluniau fel rhaglen cerdded i’r ysgol Living Streets, a gefnogir gennym, wedi bod yn hynod lwyddiannus, felly hefyd ein rhaglen teithiau llesol. Mae’r bwrdd teithio llesol yn bodoli i sicrhau ein bod yn nodi’r arfer gorau hwnnw a’n bod yn ei ledaenu ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. Credaf ei bod yn deg dweud bod Cyngor Caerdydd ymhlith yr enghreifftiau gorau o ran teithio llesol, yn enwedig—yn seiliedig ar bapur briffio rwyf wedi’i gael ar y cynlluniau amrywiol, nid yn unig cynlluniau cyfalaf ond cynlluniau refeniw—hyrwyddo teithio'n llesol i ac o ysgolion. Fel y dywed yr Aelod, ar ddyddiau fel hyn, mae'n anodd meddwl tybed pam y byddai unrhyw un am deithio mewn unrhyw fodd heblaw cerdded a beicio.
Weinidog, mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, a gyflwynwyd gan Lywodraeth flaenorol, i lawer o ddysgwyr, yn un o’r mecanweithiau llwybrau diogel i’r ysgol sy’n diogelu eu taith i’r ysgol ac yn mynd â nhw i'w man dysgu. Mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu’r ddeddfwriaeth hon ddwywaith dros y blynyddoedd diwethaf, yn 2021 ac yn fwy diweddar yn 2023. Gwnaed argymhellion newydd ym mis Mawrth 2024 ynghylch sut y gellid gwella’r Mesur teithio gan ddysgwyr er mwyn gwella diogelwch a gallu dysgwyr i gael llwybrau diogel i’r ysgol. Beth ydych chi'n ei wneud fel y Gweinidog sy’n gyfrifol i roi’r argymhellion hynny ar waith a gwella’r cyfleoedd i ddysgwyr gael llwybrau diogel i’r ysgol?
A gaf i ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n llygad ei le, cafwyd adolygiad ac adolygiad mewnol o'r Mesur teithio gan ddysgwyr. Y ffaith amdani yw, er bod pobl yn galw am wneud newid deddfwriaethol iddo, nid yw'r her o newid y trothwy pellter yn ymwneud o reidrwydd â chost yn unig, mae'n ymwneud hefyd ag argaeledd gyrwyr bysiau a bysiau. Gyda masnachfreinio bysiau, rwy'n credu y byddwn yn gallu integreiddio gwasanaethau wedi'u hamserlennu â gwasanaethau ysgol er mwyn gwneud y defnydd mwyaf posibl o’r rhwydwaith bysiau ledled Cymru, a thrwy wneud hynny, mynd i’r afael â phryderon rhieni a dysgwyr lle nad yw'r Mesur yn mynd i'r afael â nhw. Yn y cyfamser, rydym yn gweithio’n agos iawn gydag awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru i nodi lle ceir anghysondebau ac yna i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu dysgu arferion gorau oddi wrth ei gilydd i sicrhau bod y cyfleoedd gorau’n cael eu rhoi i bobl ifanc ledled Cymru allu cyrraedd ysgol o'u dewis.
5. Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i ddata'r heddlu a gyhoeddwyd ar wrthdrawiadau 20 mya? OQ61322
Rwyf wedi ystyried y data'n ofalus ac rwy'n falch o nodi bod gwrthdrawiadau ac anafiadau ar ffyrdd wedi lleihau ers cyflwyno 20 mya ym mis Medi 2023.
Diolch am hynny. Bu llawer o drafod am y data heddiw, ac rydym i gyd yn gwybod ei fod yn gipolwg mewn amser a bod y data hwnnw'n gallu amrywio a newid. Un o'r pethau diddorol sydd wedi codi yw bod y cwmni yswiriant Esure yn gweld gostyngiad o 20 y cant mewn hawliadau am ddamweiniau ceir yng Nghymru ers cyflwyno'r terfynau cyflymder newydd. Rhaid imi ddiolch iddynt am y dadansoddiad hwnnw, ac rwy'n galw ar gwmnïau yswiriant eraill i ddilyn eu harweiniad a'i fonitro. Oherwydd os yw'r duedd honno'n parhau, fe ddylent gynnig premiymau is yn unol â hynny, mantais arall i ostwng y terfynau cyflymder.
Wrth gwrs, mae'r system newydd yn dal i ymwreiddio ac mae croeso mawr i'r ffaith eich bod chi'n adolygu, eich bod chi'n gwrando, eich bod chi'n mireinio'r polisïau i gael y cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir. Ond rwy'n ddryslyd braidd fod y Torïaid yn dal i fynnu cael ymgyrch sydd ond yn creu rhaniadau ynghylch newid a gyflwynwyd er mwyn achub bywydau. Heb unrhyw beth cadarnhaol i'w ddweud, maent yn credu y gall dychryn pobl ennill rhai pleidleisiau iddynt, ond yn bersonol ni fyddwn i'n betio ar hynny.
Rwy'n credu bod Joyce Watson wedi gwneud nifer o bwyntiau gwerthfawr iawn. Mae'r data am hawliadau yswiriant yn ddiddorol iawn. Cyfarfûm â Chymdeithas Yswirwyr Prydain yn ddiweddar, a gofynnais a allai'r polisi hwn gael effaith ar bremiymau yswiriant. Mae yna nifer o ffactorau sy'n dylanwadu ar gostau yswiriant: mae dwyn a difrod sy'n gysylltiedig â chod post yn un ohonynt, ac mae argaeledd rhannau ceir yn un arall. A dyna'r broblem allweddol ar hyn o bryd—fod trwsio cerbydau, ceisio cael rhannau, yn enwedig o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig, yn heriol iawn, a dyna un o'r prif resymau pam ein bod wedi gweld premiymau'n cynyddu. Wedi dweud hynny, dros amser, a chyhyd ag y gall y duedd barhau, rwy'n gobeithio y byddem yn gweld effaith fuddiol i fodurwyr ar ffurf premiymau polisi is. Ni ellir ei warantu, ond rwy'n gobeithio y bydd hynny'n digwydd dros amser.
Rwy'n credu bod rhywbeth pwysig i'w ddweud am sicrhau ein bod yn symud y ddadl hon i le canolog lle gallwn i gyd gytuno bod 20 mya, lle mae'n gweithio'n dda, yn gweithio'n anhygoel o dda mewn perthynas â diogelu bywydau, gwneud lleoedd yn fwy diogel, ac yn bwysicaf oll efallai, i wneud i bobl deimlo'n fwy diogel. Ac os gallwn ni gytuno ar yr egwyddor honno—ac rwy'n siŵr y bydd gwahaniaethau barn ynghylch rhai llwybrau—rwy'n credu y gallwn dynnu'r gwenwyn o'r mater hwn, ei dynnu allan o'r rhyfeloedd diwylliant, a chytuno, at ei gilydd, lle mae 20 yn gweithio orau, ei fod yn gweithio'n anhygoel o dda.
Ysgrifennydd y Cabinet, ger mynedfa ochr Ysgol Gelli Aur ym Mhenfro yn fy etholaeth i mae St Daniel's Hill, a oedd yn 40 mya pan gyflwynwyd y polisi 20 mya, felly ni chafwyd gostyngiad yn y terfyn cyflymder y tu allan i fynedfa ochr y mae plant yn ei defnyddio, a lle na cheir croesfan pelican na chroesfan sebra. Rwyf wedi ysgrifennu atoch o'r blaen ar y mater hwn a'i godi gyda'r cyngor lleol ac rwy'n falch o gadarnhau bod arwydd 30 mya wedi'i roi wrth droed St Daniel's Hill, ond nid oes croesfannau pelican na chroesfannau sebra yno o hyd i sicrhau llwybrau diogel i'r ysgol i blant Gelli Aur sy'n defnyddio'r fynedfa ochr i gyrraedd yr ysgol a'u haddysg. Pan fyddwch yn cael trafodaethau gydag awdurdodau lleol a'r heddlu a rhanddeiliaid eraill i sicrhau'r terfyn cyflymder cywir yn y lle cywir, beth ydych chi'n chwilio amdano o ran tystiolaeth i sicrhau bod y terfyn cyflymder cywir yn cael ei weithredu, ac wedi ei gefnogi gan y gymuned y mae'n ei gwasanaethu?
Mae'n ymwneud yn fawr â'r data ar wrthdrawiadau. Byddwn yn gwneud gwaith pellach ar osod terfynau cyflymder lleol yng Nghymru yn ystod y misoedd nesaf, gan sicrhau y gall y data hwnnw lywio unrhyw fesurau eraill y mae angen eu rhoi ar waith mewn ardaloedd unigol. Rwy'n credu bod y gostyngiad yn y terfyn cyflymder yn y Gelli Aur yn werthfawr iawn i hyrwyddo gwell diogelwch. Nid oeddwn yn ymwybodol nad yw'r mesurau eraill y mae Samuel Kurtz wedi galw amdanynt yn cael eu hystyried. Roeddwn i'n meddwl eu bod yn cael eu hystyried, ond—
Nac ydynt, hyd y gwn.
Wel, yn sicr mae'n rhywbeth y credaf fod angen ei godi gyda'r awdurdod lleol. Mae sicrhau bod llwybrau'n fwy diogel yn ymwneud â mwy na'u gwneud yn fwy diogel mewn gwirionedd; mae'n ymwneud â sicrhau bod pobl yn teimlo'n fwy diogel hefyd, yn enwedig o amgylch ysgolion. Felly, byddwn yn cefnogi mesurau, os ydynt wedi eu costio'n ofalus ac yn fforddiadwy, sy'n gwella diogelwch o amgylch ysgolion ymhellach.
6. Pa gynlluniau hirdymor sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau rheilffordd yn Islwyn? OQ61336
Rydym wedi buddsoddi £70 miliwn i uwchraddio rheilffordd Glynebwy, gan ddyblu amlder y gwasanaeth a chyflwyno gwasanaethau uniongyrchol i Gasnewydd, ac rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi bod yn ymgyrchu'n frwd dros hynny. Fodd bynnag, mae'r rhan hon o'r rhwydwaith wedi'i chadw'n ôl i Lywodraeth y DU, ac rwy'n awyddus i weithio gyda phwy bynnag fydd y Gweinidog rheilffyrdd newydd i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol er mwyn adeiladu ar y buddsoddiad llwyddiannus hwn.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, mae cynnydd metro de Cymru yn parhau. Mae llinellau craidd y Cymoedd—y rhai sy'n cysylltu Caerdydd ag Aberdâr, Coryton, Merthyr Tudful, Rhymni a Threherbert—i gyd wedi eu trydaneiddio, a bydd gan y cymunedau hyn bedwar gwasanaeth yr awr i Gaerdydd. Wrth gyfarfod â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar, fe'i llongyfarchais ef ar y gwaith diweddar ar uwchraddio rheilffordd Glynebwy, y sonioch chi amdano, sy'n gwasanaethu Islwyn, ac sydd bellach â dau wasanaeth yr awr, sydd i'w croesawu, gyda threnau newydd yn mynd i Gasnewydd bellach.
Fodd bynnag, mae rheilffordd Glynebwy, yn wahanol i linellau craidd y Cymoedd, heb ei thrydaneiddio—ie, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU sydd wedi methu ac addewid heb ei gyflawni. Dim ond dau wasanaeth yr awr sydd arni o hyd, ac mae'n dal i aros ers dros ddwy flynedd bellach am unrhyw benderfyniad ar orsaf arfaethedig Parcffordd Caerdydd, a fydd ar y rheiffordd honno. Yn ogystal â mi fy hun, rwy'n credu fy mod yn gywir i ddweud, saith mlynedd yn ôl, fod ein diweddar gyd-Aelod yng Ngwent, Steffan Lewis, wedi mynegi ei siom wrthych chi yma yn y Siambr nad oedd gorsaf reilffordd Crymlyn, a gaeodd ar ddechrau'r 1960au, ar y rhestr o orsafoedd i'w hadeiladu neu eu hailagor ledled Cymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, gyda chyfansoddiad Llywodraeth nesaf y DU i ddod yn hysbys yn fuan, bydd angen cynnal llu o drafodaethau gyda'n cymheiriaid yn y DU ynghylch sut y gellir gwella a thrydaneiddio rhwydwaith rheilffyrdd Cymru ar ôl blynyddoedd o ddiffyg buddsoddiad cyfalaf ar ran Llywodraeth y DU. Felly, a wnewch chi gytuno i gyfarfod â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, i drafod y manylion ynglŷn ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer y rheilffyrdd yng Ngwent yn y dyfodol, ac a allwch chi ddweud wrth bobl Islwyn heddiw beth sydd gan Lywodraeth Cymru i'w ddweud wrthynt am drydaneiddio rheilffordd Glynebwy, cynyddu amlder gwasanaethau bob awr, penderfynu ar Barcffordd Caerdydd, ac unioni camweddau—
Rwyf wedi bod yn hael iawn. Dechreuodd y cwestiwn hwnnw 30 eiliad yn ôl, ac fe wneuthum ganiatáu iddo barhau am 30 eiliad. Os gallwch chi ateb y cwestiynau sydd wedi'u gofyn nawr, os gwelwch yn dda.
A gorsaf reilffordd Crymlyn.
Diolch. Rwy'n awyddus iawn i gyfarfod â'r Aelod i drafod gorsaf reilffordd Crymlyn a sut y gallem fynd ati i unioni camweddau Beeching ar draws ei hetholaeth. Fel y gŵyr yr Aelod, mae gennym hanes hir a balch iawn o fuddsoddi mewn gwasanaethau rheilffordd yng Nglyn Ebwy. Daeth hynny yn gyntaf oll yn 2008, gydag ailagor y rheilffordd, ac yna, yn 2014, yr orsaf newydd yn Pye Corner, ac ymestyn y rheilffordd i Lynebwy yn 2015. Wedyn, wrth gwrs, cyflwynwyd gwasanaethau rhwng Glynebwy a Chasnewydd yn gynharach eleni, felly rydym wedi profi ein gallu i wella gwasanaethau rheilffyrdd a seilwaith rheilffyrdd yn yr ardal. Ond rwy'n awyddus iawn i weithio gyda Llywodraeth newydd yn y DU i edrych ar sut y gallwn gyflwyno'r achos dros fuddsoddiad ychwanegol yn yr ardal, i gyflawni'r hyn y mae'r Aelod wedi'i amlinellu heddiw.
7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch datblygu ffordd osgoi Cas-gwent? OQ61320
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir Fynwy i wella teithio yng Nghas-gwent a'r cyffiniau drwy ystyried opsiynau i wella'r rhwydwaith ffyrdd a'r ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a darpariaeth teithio llesol hefyd.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr wythnos diwethaf, pleidleisiodd Plaid Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn erbyn ein cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig ar yr angen am ffordd osgoi ar gyfer Cas-gwent. Mae manteision cael un wedi cael eu hailadrodd droeon yn y Siambr hon, sef lleihau tagfeydd a llygredd aer a gwella diogelwch preswylwyr. Mae David T.C. Davies wedi bod yn allweddol yn ymrwymiad Llywodraeth y DU i'r ffordd osgoi. Maent wedi addo cynorthwyo gyda chyllid i Gyngor Sir Fynwy i symud ymlaen gyda ffordd osgoi Cas-gwent. Yn wir, mae llawer o waith wedi'i wneud eisoes dros y ffin i gyflawni hyn, gydag ymrwymiad ariannol cadarn gan Gyngor Swydd Gaerloyw hefyd. Er ein bod yn croesawu ymrwymiad gan y Llywodraeth hon i astudio problemau yng Nghas-gwent ac i nodi mesurau i helpu trafnidiaeth, fel y dywedoch chi yr wythnos diwethaf, mae'n teimlo fel cam yn ôl braidd. Ysgrifennydd y Cabinet, onid yw'n debyg i ailddyfeisio'r olwyn gan fod astudiaethau manwl eisoes wedi'u gwneud ar hyn, gyda'r ffordd osgoi yn unig opsiwn ymarferol i liniaru'r lefelau traffig dan sylw? Oni fyddai'n fwy doeth ac effeithlon i gymryd yr astudiaethau sydd ar y gweill a symud ymlaen ar hyn, nid yn unig i wella teithiau modurwyr, ond hefyd i ddiogelu iechyd y rhai sy'n byw yno, o ystyried y lefel uchel o lygredd aer ar Riw Hardwick, sy'n uwch na'r terfynau a osodwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, rhywbeth a fyddai'n sicr yn edrych yn dda ochr yn ochr â'ch ymrwymiad tybiedig i brosiectau adeiladu ffyrdd a fyddai'n lleihau llygredd aer? Diolch.
Lywydd, a gaf i wneud dau bwynt mewn ymateb i'r cwestiwn? Yn gyntaf oll, rydym yn cydnabod y problemau gyda thagfeydd yng Nghas-gwent—yn bendant. Dyna pam ein bod yn darparu cyllid i Trafnidiaeth Cymru eleni i wneud gwaith i nodi mesurau i wella trafnidiaeth yn y dref. Bydd y gwaith hwnnw'n digwydd mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy. Rwyf wedi dweud heddiw ar sawl achlysur nawr fy mod yn credu y dylid gwneud penderfyniadau ar drafnidiaeth ar y lefel fwyaf priodol, yn ddelfrydol ar lefel yr awdurdod lleol. Felly, drwy greu cyd-bwyllgorau corfforedig, a thrwy ddatganoli penderfyniadau a chyllid, gallwn gael penderfyniadau sy'n iawn ar gyfer ardaloedd lleol wedi'u gwneud gan gynrychiolwyr yr ardaloedd lleol hynny. Rwy'n credu felly y gwelwn y cynlluniau mwyaf priodol a phoblogaidd yn cael eu datblygu ledled Cymru.
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar ddeddfwriaeth arfaethedig ynghylch gwasanaethau bysiau? OQ61325
Bydd y Prif Weinidog yn nodi blaenoriaethau deddfwriaethol y Llywodraeth yn ei ddatganiad ym mis Gorffennaf. Bydd y ddadl flynyddol o dan y Rheolau Sefydlog sy'n ymdrin ag amcanion polisi a'r rhaglen yn rhoi cyfle pellach i'r Aelodau ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd.
Mae trigolion Dyffryn Ogwen—Tregarth a Rachub yn benodol—wedi eu gadael heb wasanaeth bws ar y Sul, ac erbyn hyn, does yna ddim bws yn mynd drwy Lys-y-gwynt, ar gyrion Dyffryn Ogwen, unrhyw ddydd o'r wythnos, sydd yn gwneud bywyd yn anodd iawn i bobl sydd yn ddigartref ac yn byw yno mewn llety dros dro yn y gwesty. Mae'n gwneud bywyd yn anodd i'r rhai sydd yn gweithio yn y gwesty, y bwytai ac yn yr orsaf betrol a'r siop goffi yn Llys-y-gwynt. Mae pobl leol yn teimlo mai cyflwyno'r gwasanaeth T10 sydd wedi arwain at ddileu'r gwasanaeth 67 oedd yn arfer rhedeg drwy'r cymunedau hyn, ac maen nhw'n galw i'r T10 alw yn Llys-y-gwynt ac am ddarparu gwasanaeth bws ar y Sul ar gyfer Rachub a Thregarth. A wnewch chi roi ystyriaeth i'r sefyllfa benodol honno? Dwi'n cytuno mai'r ateb tymor hir i'r math yma o ddiffyg cysylltedd a diffyg cynllunio mewn marchnad gystadleuol ydy ailreoleiddio gwasanaethau bysiau, felly a wnewch chi gadarnhau heddiw nad oes bwriad i oedi cyflwyno'r Bil bysiau? Beth yn union ydy'r amserlen ar gyfer dod â'r ddeddfwriaeth hon gerbron?
A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau hynny? Yn gyntaf oll, ar y manylion ynghylch y cymunedau sy'n cael eu heffeithio'n negyddol gan ddiffyg darpariaeth gwasanaeth ar hyn o bryd, byddaf yn gofyn i Trafnidiaeth Cymru gysylltu â'r awdurdod lleol i weld beth y gellir ei wneud i fynd i'r afael â'r pryderon hynny yn y tymor byr.
Ar y Bil bysiau, gallaf gadarnhau i'r Aelodau y bydd yn mynd drwy'r Senedd yn y tymor seneddol hwn. Y dyddiad allweddol yw 2027 mewn gwirionedd. Dyna'r flwyddyn pan fyddwn yn disgwyl i wasanaethau masnachfraint gael eu cyflwyno. Mae pryd y byddwn yn dechrau ar y gwaith ar y Bil yn y Siambr hon yn llai pwysig. Mewn gwirionedd, nid yw'n bwysig pa un a yw'n dechrau ym mis Medi, mis Hydref, mis Tachwedd, mis Rhagfyr neu i mewn i'r gwanwyn, oherwydd cyn belled â bod y Bil yn cael ei basio yn nhymor y Senedd hon, fe allwn gyrraedd y targed o ddarparu'r gwasanaethau masnachfraint yn 2027.
Rhwng nawr a'r adeg honno mae angen inni greu pont o sefydlogrwydd i weithredwyr bysiau, oherwydd fel y mae'r Aelod wedi nodi, ni allwn barhau i weld cymunedau ar eu colled am fod gweithredwyr yn methu darparu gwasanaethau gweddus a gwasanaethau rheolaidd iddynt. Felly, byddaf yn gofyn i Trafnidiaeth Cymru weithio gyda'r awdurdod lleol i edrych ar y T10 a gwasanaeth 67 i'r cymunedau sydd ar eu colled ar hyn o bryd.
9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dysgwyr yng Nghanol De Cymru i deithio i'r ysgol yn ddiogel? OQ61299
Mae diogelwch dysgwyr yn hollbwysig i Lywodraeth Cymru. Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i asesu anghenion teithio dysgwyr yn eu hardaloedd a darparu cludiant am ddim i ddysgwyr i'w hysgol addas agosaf ar sail oedran, pellter, cymhwyster, a diogelwch wrth gwrs.
Diolch am yr ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n clywed pryderon, oherwydd fe fyddwch yn ymwybodol, oherwydd oedi gyda gweithredu newidiadau i'r Mesur teithio gan ddysgwyr, fod rhai awdurdodau lleol, fel cyngor Rhondda Cynon Taf, a arferai fynd y tu hwnt i'r galw o ran y ddarpariaeth, bellach yn cyfyngu ar y ddarpariaeth i wneud y gwaith statudol yn unig. Fe fyddwch yn gwybod mewn ardal fel cyngor Rhondda Cynon Taf nad yw mor hawdd â hynny. Soniodd Jenny Rathbone am deithio llesol, ac yn amlwg nid tywydd yw'r rhwystr, ond y ffaith nad oes gennych lwybrau teithio diogel, yn aml, a hefyd nifer y bryniau sydd yno. Nid yw pawb yn gallu cerdded dros fryniau, ac mae'r pellteroedd yn sylweddol. Felly, a gaf i ofyn, sut ydych chi'n sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn colli diwrnod o ysgol oherwydd y newidiadau sy'n cael eu hargymell? A sut y gwnawn ni sicrhau bod llwybrau teithio llesol gwirioneddol ddiogel ar gael, pa un a yw'r cludiant ar waith ai peidio? Mae'n arbennig o bryderus clywed am rieni yn dewis peidio ag anfon eu plant i ysgol o'u dewis, un gyfrwng Cymraeg efallai, oherwydd bod gostyngiad yn nifer y bysiau sydd ar gael, neu newid i'r Mesur teithio gan ddysgwyr. Felly, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod yr hyn y ceisiwch ei gyflawni drwy'r Mesur teithio gan ddysgwyr yn digwydd ar lawr gwlad mewn gwirionedd?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Rwy'n cytuno ein bod ni'n buddsoddi symiau enfawr o gyfalaf mewn darpariaeth teithio llesol, ond i rai pobl, nid teithio llesol fydd yr ateb i'r problemau a wynebant wrth fynd o A i B, yn enwedig i bobl ifanc sy'n ceisio mynd i'r ysgol mewn ardaloedd lle nad yw'r dirwedd naturiol yn addas ar gyfer cyrraedd yr ysgol drwy gerdded neu feicio. A dyna pam y bydd masnachfreinio bysiau mor bwysig. Fel y dywedais yn gynharach, gallai'r gallu i integreiddio gwasanaethau bysiau ar gyfer ysgolion â gwasanaethau bws rheolaidd alluogi llawer mwy o bobl ifanc i gyrraedd yr ysgol ar fws lle na allant wneud hynny ar hyn o bryd. Rwy'n credu y bydd hynny, ochr yn ochr â seilwaith teithio llesol, yn cyfrannu'n helaeth at ddatrys yr heriau a godwyd drwy'r adolygiad o'r Mesur teithio llesol.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Felly, y cwestiynau nesaf fydd y rhai i’r Ysgrifennydd Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Hefin David.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei thrafodaethau gydag Opera Cenedlaethol Cymru ynghylch y pwysau cyllidebol y mae'n eu hwynebu? OQ61337
Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau yn cael ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. O dan yr egwyddor hyd braich, nid yw Llywodraeth Cymru yn ymyrryd ym mhenderfyniadau cyllido CCC. Cyfarfûm ag Opera Cenedlaethol Cymru ar 21 Mai a'u sicrhau y byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i'w helpu i lywio eu ffordd drwy'r cyfnod anodd hwn.
Ac rwy'n gwerthfawrogi popeth a wnewch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fy etholwr i, sy'n gantores gydag Opera Cenedlaethol Cymru, Angharad Morgan, a dynnodd hyn i fy sylw, ond rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Rhianon Passmore yn Islwyn hefyd wedi cael etholwyr yn ymgyrchu ar y mater hwn.
Roeddwn yn falch iawn o fynychu'r brotest wych—un o'r protestiadau gorau a welsoch erioed mae'n siŵr—ar risiau'r Senedd ychydig wythnosau yn ôl. Fel y dywedwch, toriadau yn y gyllideb gan Gyngor Celfyddydau Lloegr ac yna gan Gyngor Celfyddydau Cymru sydd wedi rhoi Opera Cenedlaethol Cymru yn y sefyllfa anodd hon. Ni cheir fawr o ecosystem os o gwbl yng Nghymru ar gyfer cerddorion llawrydd y gallai eu swyddi fod dan fygythiad i ychwanegu at eu horiau llai â gwaith ychwanegol mewn sector tebyg. Felly mae hyn yn golygu eu bod yn wynebu gorfod symud i ffwrdd, a'r holl effeithiau sy'n gysylltiedig â hynny. Felly, fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw beth y gallwch chi ei wneud i helpu a gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu'r swyddi hynny, ond hefyd efallai i gyfarfod â mi a Rhianon Passmore i siarad am rai o'n pryderon ynghylch y mater penodol hwnnw?
Diolch. Wel, byddaf yn sicr yn hapus iawn i gyfarfod â chi. Rwy'n credu fy mod i wedi cyfarfod â Rhiannon ar ryw dri achlysur nawr, ac mae hi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi oherwydd ei chysylltiadau agos ag Opera Cenedlaethol Cymru. Ac fel y dywedais, rwyf wedi cyfarfod â nhw fy hun. Rwy'n cydnabod y pryderon yn llwyr, pe byddem yn colli'r cerddorion anhygoel hyn o Gymru, y byddai'n anodd iawn eu cael yn ôl. Fel y gwyddoch, roedd y gyllideb a etifeddais pan gefais y portffolio wedi dioddef toriadau sylweddol, ac ar ben y cyllid a gâi Opera Cenedlaethol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Mae'n anarferol iawn i sefydliad yng Nghymru gael ei ariannu gan y ddau gyngor celfyddydau.
Rwy'n bwriadu ysgrifennu at brif weithredwyr y ddau gorff gyda hyn i weld a oes unrhyw beth pellach y gallwn ei wneud i gefnogi Opera Cenedlaethol Cymru, ond rwy'n credu mai'r peth pwysig oedd rhan olaf eich cwestiwn pan soniwch am weithio gyda'n gilydd. Rwy'n credu bod angen i bob un ohonom gydnabod nad creu cynyrchiadau anhygoel yn unig y mae Opera Cenedlaethol Cymru yn ei wneud; maent yn gwneud llawer yn y sector iechyd a llesiant. Maent yn gwneud llawer yn y sector addysg. Felly, rwy'n cael trafodaethau gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i'w cefnogi mewn perthynas â hynny. Ac wrth gwrs, fel y mae Rhianon Passmore yn aml yn dweud wrthyf, mae'n un o'n trysorau mwyaf o safbwynt allforio byd-eang.
Mae'r sector celfyddydau a diwylliant, fel y clywsom ac fel y gwyddom, yn bwysig iawn nid yn unig i economi Cymru ond i'n hiechyd, ac fe wnaethoch chi gyffwrdd â hynny yn fyr yn y fan honno. Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd gan y Grŵp Ymchwil Bioymddygiadol Cymdeithasol yng Ngholeg Prifysgol Llundain yn dangos bod pobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y celfyddydau yn rheolaidd mewn llai o berygl o brofi iselder yn ystod eu harddegau. A gwelwyd bod ganddynt lefelau uwch o hunan-barch hefyd, gyda sefydliadau fel Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflawni'r rhaglen Lles gyda WNO sy'n ceisio helpu gyda gorbryder. Fel y gwyddoch mae'n debyg, mae'n rhaglen ar-lein chwe wythnos o hyd a ddatblygwyd gyda gweithwyr meddygol proffesiynol GIG ac a lansiwyd ym mis Tachwedd 2021, yn wreiddiol i helpu gyda theimladau o ddiffyg anadl a gorbryder sydd wedi parhau ar ôl symptomau COVID-19. Felly, gallwn weld bod goblygiadau ehangach pwysig iawn i'r gwasanaeth hwn, ac Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a allwch chi addo gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau y bydd sector y celfyddydau a diwylliant yn cael ei ariannu i sicrhau y gall y cynlluniau penodol hyn, sy'n gysylltiedig ag iechyd, fynd yn eu blaen?
Gallaf, yn sicr. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, am fod Opera Cenedlaethol Cymru yn gwneud gwaith gwerthfawr iawn fel partner dibynadwy, ac mae hynny'n cynnwys ym maes iechyd. Ac rwy'n gwybod, ers 2021, fod byrddau iechyd ledled Cymru wedi derbyn cyllid yn arbennig ar gyfer rhaglenni lles, ac mae gennym raglen Lles gyda WNO, lle mae Opera Cenedlaethol Cymru yn mynd i mewn ac yn gweithio gyda chleifion, yn defnyddio eu harbenigedd, yn defnyddio eu technegau i gefnogi pobl. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod, a dywedais yn fy ateb cychwynnol i Hefin David fod Opera Cenedlaethol Cymru yn gwneud llawer mwy na'r cynyrchiadau anhygoel a welwn. Felly, yn sicr rwy'n addo parhau i weithio gyda nhw. Nid wyf yn bychanu'r ffaith bod hon yn her anodd. Yn anffodus, ychydig iawn o hyblygrwydd sydd gennyf yn fy nghyllid, ond rwy'n mynd i ddechrau cael trafodaethau cynnar iawn i edrych ar gyllideb y flwyddyn nesaf gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet.
Er iddi gael ei chrybwyll o leiaf bum gwaith yn ystod y cwestiwn hwn hyd yma, rwyf am alw ar Rhianon Passmore.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae cerddorfa ryngwladol enwog Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnal pleidlais ynglŷn â streicio wrth inni siarad, gyda disgwyl i gorws Opera Cenedlaethol Cymru wneud yr un peth yn fuan, ac mae hynny'n amlwg yn wirioneddol ddigynsail. Mae'n sefyllfa enbyd ym mywyd diwylliannol Cymru. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud nawr i ddiogelu contractau llawn amser y gerddorfa a'r corws er mwyn cadw'r ddawn y sonioch chi amdani yng Nghymru hyd nes y gellir negodi cyllid hirdymor cynaliadwy?
Rwy'n cydnabod bod y trafodaethau rhwng Opera Cenedlaethol Cymru a'r undebau llafur—a'r artistiaid y cyfeirioch chi atynt wrth gwrs—yn parhau. Yn amlwg, mae materion sy'n gysylltiedig â chyflogaeth, ac mae hynny'n cynnwys y telerau a'r amodau, a materion yn ymwneud â thâl, yn fater i Opera Cenedlaethol Cymru. Ond byddaf yn parhau i weithio gyda nhw i weld a oes unrhyw gyllid pellach y gallwn ei ddefnyddio i'w cefnogi.
2. Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i gefnogi chwaraeon cymunedol yn Aberconwy? OQ61303
Diolch. Drwy'r cyllid a ddarparwn i Chwaraeon Cymru, mae cyrff llywodraethu cenedlaethol a phartneriaid cenedlaethol eraill yn creu, hyrwyddo a chefnogi cyfleoedd i bobl o bob oed gymryd rhan mewn chwaraeon cymunedol ledled Cymru, gan gynnwys Aberconwy.
Diolch. Mae'n ddrwg gennyf fod yn rhaid imi godi hyn yma, ac rwy'n chwilio am help drwoch chi mewn gwirionedd, i weld a allech chi ysgrifennu at yr awdurdod lleol. Felly, yn ystod y misoedd cynhesach, mae plant, pobl ifanc ac oedolion yn Aberconwy wrth eu bodd yn padlo yn un o'r tri phwll padlo yn Aberconwy. Mae un ohonynt yng Nghraig-y-Don, ond mae wedi bod ar gau ers dros flwyddyn a hanner bellach, a hynny yn ôl pob sôn i sicrhau y byddai'n cael ei ailbeintio ag arwyneb gwrth-lithro. Mae 660 diwrnod wedi mynd heibio ers i'r pwll gael ei gau. Mae trigolion ac ymwelwyr yn gweld gwerth y pwll hwn. Mae'n enwog pan ddowch i Landudno. Rwyf wedi ysgrifennu at yr arweinydd niferoedd o weithiau, rwyf wedi ysgrifennu at yr aelod cabinet hefyd, ac nid ydym wedi cael amcangyfrif o ddyddiad ar gyfer cwblhau'r gwaith hyd yn oed. Roeddwn yno ddydd Llun, ac maent yn dal i osod rhyw fath o arwyneb yno, ac mae pryder nawr na fydd ar agor ar gyfer gwyliau'r haf hyd yn oed.
A yw eich cylch gwaith yn eich galluogi i ysgrifennu at yr awdurdod lleol, i godi'r pryderon sydd gennyf? Oherwydd mae'r holl blant bach hynny'n colli cyfle i wneud ymarfer corff gwerthfawr, ac mae'n anghywir. Rwy'n credu bod yr arweinydd ei hun yn rhwystredig, ond rwy'n meddwl mai'r contractwr sydd—nid wyf yn gwybod, fe fyddaf yn holi ynghylch y materion cytundebol. Ond rwyf angen help i ddarganfod pam yn union ei bod hi wedi cymryd 660 diwrnod i beintio gwaelod pwll padlo. Diolch.
Diolch. Nid wyf yn siŵr a yw pyllau padlo yn fy mhortffolio, ond rwy'n tybio, fel cyfleuster chwaraeon—ac rwy'n adnabod y pwll padlo'n dda iawn, fel cyd-ogleddwr. Ond rwy'n hapus iawn i ysgrifennu at arweinydd y cyngor, oherwydd, fel y dywedwch, yn enwedig wrth edrych ymlaen at wyliau'r haf, rwy'n credu ei fod yn gyfleuster pwysig iawn.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Joel James.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae International Distribution Services, sy'n berchen ar y Post Brenhinol, wedi derbyn cynnig gan EP Group Daniel Kretinsky, i brynu'r busnes. Mae hyn wedi arwain grwpiau busnes sy'n cynrychioli miloedd o gwmnïau bach ledled Cymru i alw ar reoleiddwyr i ddiogelu amddiffyniadau presennol y gwasanaeth mewn perthynas â phryderon ynghylch amlder dosbarthiadau ail ddosbarth a'r cynnydd parhaus ym mhris postio dosbarth cyntaf. Yn ddiweddar, mae prif weithredwr Cymdeithas Manwerthwyr Annibynnol Prydain wedi dweud y byddai gwasanaeth llai yn ei gwneud hi'n anos i fusnesau bach gystadlu, a bydd hyn wrth gwrs yn effeithio'n anghymesur ar fusnesau Cymru sy'n dibynnu mwy ar y Post Brenhinol na rhannau eraill o'r DU. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad a wnaethoch o effaith gwerthu'r Post Brenhinol ar fusnesau Cymru, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gyfleu'r canfyddiadau hyn i Lywodraeth y DU? Diolch.
Diolch. Wel, fel y gwyddoch, nid yw materion Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol wedi'u datganoli. Rwy'n ymwybodol o'r cais y cyfeiriwch ato a byddaf yn sicr yn ceisio cael cyfarfod gyda'r Gweinidog perthnasol, pan fydd Llywodraeth newydd y DU wedi'i ffurfio.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rhaid imi gyfaddef, Lywydd, ei bod bob amser yn eithaf rhwystredig dod yma, pan fydd gennym faterion fel y Post Brenhinol a Swyddfa'r Post, swyddi cyfrifoldeb arweiniol, i gael yr ymateb, 'Nid yw wedi'i ddatganoli' wedyn. Nid wyf o reidrwydd yn gweld pam fod angen cael y cyfrifoldebau hynny o fewn y Cabinet.
Ond beth bynnag, rwy'n parhau, os caf. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym i gyd wedi ein syfrdanu gan sgandal TG Horizon a'r modd y cafodd staff eu trin gan Swyddfa'r Post wedyn. Er gwaethaf y cyfiawnder sydd bellach wedi cael ei weinyddu i'r rhai a oedd yn gyfrifol, gwelwyd canlyniadau difrifol. Mae brand Swyddfa'r Post bellach yn wenwynig i lawer o bobl, ac mae hyn wedi golygu bod perchnogion canghennau Swyddfa'r Post yn cael trafferth recriwtio staff newydd ac yn ei chael hi'n eithriadol o anodd gwerthu eu busnesau i berchnogion newydd. Yn anffodus, mae is-bostfeistri bellach wedi eu clymu wrth fusnesau na allant eu gwerthu, sy'n golygu, pan fyddant yn ymddeol, fod y busnesau hyn yn cael eu dirwyn i ben yn hytrach na'u gwerthu ymlaen, ac mae hyn wrth gwrs yn golygu bod swyddfeydd post, ledled y wlad, yn cau a bod cymunedau lleol mewn perygl o golli eu canghennau. Pa asesiad a wnaethoch chi o effaith colli swyddfeydd post ledled Cymru, wrth i is-bostfeistri ymddeol heb allu gwerthu eu busnesau? Diolch.
Rwy'n aneglur braidd a oeddech chi'n dweud y dylid datganoli Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol i Gymru neu na ddylid eu datganoli i Gymru. Ond fel y dywedais, mae'n fater a gadwyd yn ôl, ac ni chefais gyfle i siarad â'r Gweinidog perthnasol cyn i etholiad Llywodraeth y DU gael ei alw, ers imi gael y portffolio. Ond yn amlwg, rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn am gau swyddfeydd post yn rhai o'n cymunedau lle mae diffyg cyfleusterau eraill i rai o'n cymunedau a'n trigolion gwledig yn enwedig. Ac yn sicr, o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol, rwy'n credu bod swyddfa'r post yn darparu gwasanaethau y mae pobl yn eu hystyried yn bwysig iawn, ac fe gyfeirioch chi at sgandal Horizon, sydd—. Cymerodd amser hir i Lywodraeth y DU gydnabod maint a difrifoldeb y sgandal, felly roeddem yn croesawu'r cyhoeddiad a ddaeth yn fawr. Ond fel y dywedwch, rwy'n credu efallai nad yw'r brand yn rhywbeth y mae pobl eisiau ei arddel mwyach. Ac unwaith eto, bydd yn drafodaeth y credaf y gallaf ei chael gyda'r Gweinidog ynglŷn â sut y gwnawn oresgyn hynny.
Ond rwy'n siŵr y bydd pawb yn falch iawn o weld bod Alan Bates, a oedd â rôl mor ganolog yn sicrhau bod y sgandal hon yn cael ei chlywed, wedi cael ei urddo'n farchog yn y rhestr anrhydeddau yn ddiweddar.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, yn olaf, eto o ran sgandal TG Horizon, mae Cyngres yr Undebau Llafur wedi honni yn ddiweddar fod Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu wedi'i rwystro rhag trefnu'n effeithiol yn y swyddfa bost, ac maent hefyd wedi honni bod Ffederasiwn Cenedlaethol yr Is-bostfeistri wedi cael arian yn amrywio rhwng £500,000 a'r swm anhygoel o £2.5 miliwn gan Swyddfa'r Post er mwyn cefnogi eu gwasanaethau. Mae hyn wedi arwain at gyhuddiadau fod George Thomson, cyn-bennaeth Ffederasiwn Cenedlaethol yr Is-bostfeistri, yn rhy agos at Swyddfa'r Post, heb gydymdeimlad â'r rhai a gafwyd yn euog ar gam ac yn y pen draw, o dan ei wyliadwriaeth, wedi methu yn ei ddyletswydd i ddiogelu ei aelodau. Yng ngoleuni'r cyhuddiadau hyn, a yw gweithwyr Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol yng Nghymru yn cael eu cynrychioli'n briodol gan eu hundebau? Diolch.
Wel, nid wyf yn ymwybodol o'r mater yr ydych yn ei godi, ond byddwn yn hapus iawn i'w archwilio. Os oes gennych unrhyw wybodaeth bellach, efallai y gallech ysgrifennu ataf.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Llywydd, a phrynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet.
Rydych wedi dweud mai mynd i'r afael â thlodi plant yw un o'ch prif flaenoriaethau, ac mae croeso i hynny wrth gwrs, o gofio bod oddeutu un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Ac yn unol â hynny wrth gwrs, trafodwyd dyfnder tlodi plant yng Nghymru a'i effeithiau niweidiol ar genedlaethau'r dyfodol yn y Siambr hon lawer gwaith gan Aelodau a Gweinidogion a Phrif Weinidogion. Dywedodd eich rhagflaenydd, Jane Hutt, er enghraifft, y dylai Llywodraeth y DU ddiddymu'r
'cap gwarthus ar fudd-daliadau a'r terfyn dau blentyn ar fudd-dal plant'
gan mai
'Dyna mewn gwirionedd sy'n gyrru plant i fyw mewn tlodi.'
A dywedodd pe bai Llywodraeth y DU yn gweithredu rhywfaint i helpu i fynd i'r afael â thlodi a lleihau'r angen am fanciau bwyd, y byddent yn dileu'r cap ar fudd-daliadau a'r terfyn dau blentyn.
Fe wnaeth y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford, feirniadu cyllideb y gwanwyn Llywodraeth y DU am nad oedd
'dim byd i ddiddymu'r cap ar fudd-daliadau a'r terfyn dau blentyn, y prif sbardun i dlodi plant.'
Ac fe wnaeth Vikki Howells gyhuddo Llywodraeth y DU o fynd yn groes i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn drwy weithredu'r terfyn dau blentyn. Hoffwn ofyn i chi, felly: os nad yw Llywodraeth nesaf y DU yn cael gwared ar y terfyn dau blentyn i fudd-daliadau, a ydych chi'n barnu y byddent yn torri Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn?
Wel, yn sicr, nid wyf wedi gwneud yr asesiad hwnnw. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn y Siambr, yr wythnos diwethaf rwy'n credu, fy mod yn credu y byddai diddymu'r terfyn dau blentyn i fudd-daliadau yn ysgogiad pwerus yn yr ymdrechion i leihau tlodi plant. Felly, mae'n sicr yn drafodaeth bwysig y byddaf yn ei chael gyda Llywodraeth newydd y DU, ond nid wyf wedi gwneud yr asesiad y cyfeirioch chi ato, ond mae'n sicr yn rhywbeth y gallwn edrych arno.
Diolch, oherwydd, yn syfrdanol, nid yw mynd i'r afael â thlodi plant yn un o'r chwe cham ar gyfer newid yng Nghymru a restrir ym maniffesto Llafur Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer yr etholiad hwn. Mae lansio trefn ddiogelwch y ffin newydd yno, sy'n fwy o flaenoriaeth yn ôl pob golwg. Rwy'n siŵr fod pobl o leoedd fel sir Fynwy a Phowys wedi dychryn ac yn synnu ar yr un pryd.
Yn ei ymateb i'r maniffesto Llafur, mae'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi datgan
'na ddaw newid gwirioneddol i'r 4 miliwn o blant mewn tlodi hyd nes y caiff y terfyn dau blentyn a'r cap ar fudd-daliadau eu dileu... nid oes unrhyw lwybr at blant iach, hapus ac economi gref yn dechrau gyda thlodi plant sy'n uwch nag erioed.'
A dywedodd prif weithredwr Gweithredu dros Blant am y maniffesto:
'Ni allwch roi'r dyfodol yn ôl i'n plant na rhoi hwb i dwf heb roi diwedd ar dlodi plant, sy'n gwneud pawb ohonom yn dlotach. Ni fydd strategaeth arfaethedig y Blaid Lafur i leihau tlodi plant yn llwyddo nes iddynt roi'r gorau i bolisïau creulon y terfyn dau blentyn a'r cap ar fudd-daliadau.'
Felly, a gaf i ofyn pa lefel o fewnbwn oedd gennych chi, fel yr Aelod o Lywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y strategaeth tlodi plant, ar yr ymrwymiadau ym maniffesto Llafur y DU, gan gofio bod hynny'n gymaint o flaenoriaeth i chi a'r Prif Weinidog?
Diolch. Wel, rydym yn sicr yn gweld gormod o lawer o'n plant yn byw mewn tlodi ac rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi dweud ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ein bod wedi gwneud cynnydd o dan Lywodraeth Lafur flaenorol y DU yn y 2000au cynnar, ond ers 2010, rwy'n credu ein bod wedi gweld 0.5 miliwn yn rhagor o blant yn cael eu gwthio i dlodi. Felly, mae'n gwbl briodol ein bod yn edrych ar bob ysgogiad sydd gennym fel Llywodraeth Cymru, ond wrth gwrs, mae gan Lywodraeth y DU lawer o ysgogiadau i'n helpu mewn perthynas â hynny.
Cefais fewnbwn i faniffesto Llafur y DU, i'r graddau fy mod wedi rhoi adborth ar bethau sy'n bwysig iawn yn fy marn i. Ni all popeth fod yn brif flaenoriaeth; nid yw'n golygu nad yw yn y maniffesto. Ond yn amlwg, ni all popeth fod yn y chwe blaenoriaeth uchaf y gwnaethoch chi gyfeirio atynt. Ond rwy'n credu bod llawer o drafodaethau, nid yn unig mewn perthynas â'r terfyn budd-dal plant, ond hefyd am agweddau eraill ar les, y bydd angen inni siarad amdanynt yn gyflym iawn, ac fel mater o frys. Yn amlwg, ers imi fod yn y swydd, nid wyf wedi cael cyfle i gael y trafodaethau dwfn hynny, (1) oherwydd ei bod hi'n anodd iawn ymgysylltu—. Felly, er enghraifft, nid yw'r grŵp rhyngweinidogol mewn perthynas â lles wedi cyfarfod ers imi gael y portffolio. Roeddwn wedi cael un cyfarfod gydag un o'r Gweinidogion perthnasol, ac yn ceisio sefydlu grŵp rhyngweinidogol arall, ac nid wyf wedi gallu gwneud hynny. Felly, i mi, mae'r ymgysylltu rhyngweinidogol hwnnw'n rhywbeth yr wyf bob amser wedi ei ystyried yn bwysig iawn gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU. Felly, byddaf yn gwthio hynny i ddechrau cael y sgyrsiau pwysig hyn.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Da clywed eich bod wedi rhoi mewnbwn, ond mae'n siomedig clywed na wrandawodd Llafur y DU. Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi beirniadu effaith ddinistriol 14 mlynedd o gyni ar eu cyllidebau, yn gywir ddigon, ac rydym yn cofio, wrth gwrs, mai'r gyllideb cyfiawnder cymdeithasol a welodd y toriad mwyaf yn ei chyllideb yn y rownd ddiwethaf. Felly, beth yw eich ymateb i'r dadansoddiad heddiw gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru o addewidion treth a gwariant y Blaid Lafur y byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu toriadau dwfn pellach i wariant heb ei ddiogelu, fel y rhai yn eich portffolio? Mae'n ddadansoddiad sy'n tanseilio'n llwyr yr honiad y byddai Llywodraeth Lafur yn y DU yn dda i Gymru. A fydd eich blaenoriaethau datganedig presennol, gan gynnwys tlodi plant, a'r pwysau ar wasanaethau awdurdodau lleol sy'n cefnogi'r teuluoedd hynny, yn gwrthsefyll cyfres arall o doriadau?
Wel, rwy'n credu bod yn rhaid i bawb ohonom gydnabod, yn anffodus, nad yw popeth yn mynd i gael ei unioni, hyd yn oed os oes gennym Lywodraeth Lafur, ac wrth gwrs, dyna rwy'n ei obeithio. Ond mae'n rhaid inni gydnabod bod cyllid cyhoeddus yn mynd i fod yn anodd iawn, ac mae'n ymwneud â defnyddio'r cyllid cyhoeddus hwnnw mewn ffordd lawer gwell nag a welsom dros y 14 mlynedd diwethaf, a pheidio â gweld y diffyg tosturi a welsom yn y system les gan Lywodraeth y DU.
Rwyf wedi gweld pennawd yr adroddiad y cyfeiriwch chi ato, ond nid wyf wedi edrych arno mewn dyfnder. Ond yn amlwg, gallwch weld beth sydd ym maniffesto Llafur y DU, ac mae popeth wedi'i gostio, felly pe bai'r swm hwnnw o gyllid yn mynd tuag at eu diwygiadau, yn amlwg, bydd y cyllid canlyniadol Barnett y dylem ei gael yn rhoi rhagor o arian inni allu ei roi tuag at ein blaenoriaethau ni. Ond y peth pwysicaf yw bod pobl yn ethol Llywodraeth Lafur ar 4 Gorffennaf.
3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu preswylwyr sy'n berchen ar eiddo sydd wedi'u rhestru gan Cadw i gynnal a datblygu eu cartrefi? OQ61340
Mae Cadw wedi cyhoeddi cryn dipyn o ganllawiau arferion gorau ar gyfer perchnogion adeiladau rhestredig, sydd ar gael ar ei wefan. Mae'r cyngor yn ymdrin â phynciau gan gynnwys deall rhestru, rheoli newid i adeiladau rhestredig, addasu capeli ac adeiladau fferm hanesyddol, ac addasu ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy.
Diolch am yr ateb.
Rwyf wedi bod yn gweithio gyda thrigolion Pentref Gardd Rhiwbeina yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd, sydd wedi'i restru gan Cadw fel gradd II ers 2001. Ac rwyf wedi bod yn gweithio gyda thrigolion sy'n profi llawer iawn o straen ac yn poeni am orfod gosod cwarelau gwydr lluosog yn lle ffenestri pren, oherwydd mae cwarelau gwydr lluosog yn nodwedd o'r datblygiad yn Rhiwbeina. Mae'n rhaid i drigolion ofyn am gydsyniad adeilad rhestredig nawr, a hyd at y llynedd, caniatawyd iddynt gael unedau gwydr dwbl pren, gyda bariau allanol i roi edrychiad tebyg i ffenestri cwarelau lluosog. Fodd bynnag, ers y llynedd, mae'r polisi hwnnw wedi newid, ac erbyn hyn, mae'n rhaid gwneud ffenestri i fanylebau llym iawn, dair gwaith pris y ffenestri blaenorol, a chyda fawr iawn o gwmnïau'n gallu eu hadeiladu. Felly, mae'r adeiladau hyn dros 100 mlwydd oed. Mae llawer o ffenestri wedi pydru, mae'n rhaid gosod rhai newydd, ac ni all trigolion fforddio gwneud hynny. Roedd y tai i fod ar gyfer byw ynddynt, ac mae'r polisi gor-ragnodol hwn yn achosi problemau gwirioneddol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet drafod y mater gyda Cadw, a gweld a ellir gwneud penderfyniad mwy rhesymol i alluogi trigolion lleol i fyw mewn cartrefi cynnes, wedi'u cynnal a'u cadw'n dda?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch. Ddirprwy Lywydd, cyn imi ymateb i'r cwestiwn penodol, mae angen imi nodi y byddai'n amhriodol imi wneud sylwadau ar achosion penodol gan nad wyf i fod i niweidio rôl Gweinidogion Cymru ym mhroses y cydsyniad adeilad rhestredig. Felly, er enghraifft, mae gan berchennog hawl i apelio at Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad yr awdurdod cynllunio lleol.
Os caf godi'r pwynt cyffredinol ynghylch ffenestri mewn adeiladau rhestredig, credaf eu bod yn un o elfennau pensaernïol pwysicaf adeilad, ac mae'r arddull a'r mesuriadau yn effeithio'n fawr ar gymeriad a golwg. Felly, mae angen cydsyniad adeilad rhestredig bob amser i newid ffenestri mewn adeilad rhestredig, a dylid cadw ffenestri gwreiddiol a'u hatgyweirio lle bynnag y bo modd. Mae'n bosibl gwella effeithlonrwydd thermol ffenestri wedi'u hatgyweirio gyda gwydr eilaidd mewnol, er enghraifft. Ond os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf, yn sicr fe ofynnaf i fy swyddogion sicrhau bod y canllawiau'n briodol ac yn gymesur, ac yna fe allaf ymateb i chi.
Mae busnesau yn ogystal â thrigolion—rwy'n credu eich bod yn gwybod i ble rwy'n mynd gyda hyn—angen cymorth gan Lywodraeth Cymru i gynnal yr eiddo hanesyddol y mae gan Cadw ddiddordeb ynddynt. Mae Castell Gwydir yn Nyffryn Conwy yn dŷ Cymreig rhestredig trawiadol, un o'r tai Tuduraidd gorau yng Nghymru, wedi'i amgylchynu gan ardd restredig gradd I 10 erw hardd, sy'n cynnwys, ymhlith amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid, cedrwydd hynafol a choed yw sy'n dyddio'n ôl 1,000 o flynyddoedd. Erbyn 1994, roedd y tŷ a'r gerddi wedi dirywio, ac mae wedi cymryd dros 20 mlynedd i'r perchnogion presennol eu cwblhau. Mae'r gwaith yn dal i fynd rhagddo. Maent wedi gallu cael rhai o'r dodrefn gwreiddiol a oedd yno; fe ddaethant o hyd i rai ohonynt yn America ac maent wedi dod â nhw draw. Ond maent yn egluro wrthyf mai ychydig iawn o gymorth a gânt gan Cadw a Llywodraeth Cymru. Mae gwarchod a diogelu ein safleoedd anhygoel yng Nghymru o'r pwys mwyaf. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet weithio gyda Cadw ac awdurdodau eraill i geisio gweld lle gallech ddarparu rhagor o gymorth i Gastell Gwydir, efallai? Diolch yn fawr.
Fel y dywedais ar ddechrau fy ateb i Julie Morgan, mae'n amhriodol imi wneud sylwadau ar achosion penodol. Ond mae'r awdurdod cynllunio lleol yn gyfrifol am reoleiddio newidiadau i adeiladau rhestredig, er enghraifft, drwy'r gofyniad am gydsyniad adeilad rhestredig. Maent yn gallu rhoi cyngor i berchnogion, ac rwy'n gwybod—. Rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud, er bod eich adeilad wedi ei restru—ac rwy'n derbyn bod canllawiau llym iawn sy'n mynd law yn llaw â hynny—mae'n bosibl newid pethau. Credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Yn sicr, ers imi gael y portffolio, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth nad yw pobl yn ei gydnabod.
Diolch yn fawr iawn i Julie Morgan am y cwestiwn ardderchog yma. Dwi wedi codi mater tebyg sawl gwaith yma yn y Senedd yn barod, sef adeiladau wedi cael eu cofrestru a'r ffaith bod y bobl sy'n byw ynddyn nhw methu eu haddasu nhw ar gyfer anghenion yr oes fodern. Mae Julie wedi sôn am y mater o ffenestri, ond mae'r un peth yn wir pan fo'n dod i baneli solar, er enghraifft, neu dyrbinau gwynt, neu unrhyw beth arall sydd ei angen ar bobl sydd yn byw yn yr adeiladau yma er mwyn gwneud y tai yn well o ran ansawdd defnyddio ynni ac yn y blaen. Does ganddyn nhw ddim hawl i roi paneli solar, er enghraifft. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael efo'r Ysgrifennydd Cabinet dros tai er mwyn sicrhau bod hawl gan berchnogion yr adeiladau yma i addasu yr adeiladau yn unol ag anghenion yr oes fodern, er mwyn eu gwneud nhw'n addas i fyw ynddynt a chadw gwres ynddyn nhw?
Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros dai, ond rwy'n cytuno'n llwyr â chi, mae rhesymau da iawn dros wella effeithlonrwydd ynni adeiladau hanesyddol. Rydym am eu gweld yn lleihau eu hallyriadau carbon. Mae angen iddynt leihau eu biliau tanwydd. Mae angen iddynt wneud yr adeiladau'n llawer mwy cyfforddus i'r preswylwyr hefyd. Fel y dywedwch, maent i fod ar gyfer byw ynddynt, onid ydynt? Mae angen inni sicrhau bod modd eu haddasu yn y ffordd y credant sy'n addas. Ond wrth gwrs, mae angen bod yn ofalus i sicrhau bod unrhyw newidiadau yn cyd-fynd â'r mesurau arbennig iawn a buddiannau'r adeilad, a sut mae'n perfformio hefyd. Felly, rwyf wedi cael trafodaethau gyda swyddogion Cadw i gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rheoliadau a'r canllawiau, i sicrhau bod y canllawiau fel y dylent fod. Ac i fynd yn ôl at fy ateb i Julie Morgan, rwy'n hapus iawn i weld a oes angen uwchraddio unrhyw ganllawiau er mwyn i bobl allu gwneud y dewisiadau gorau ar gyfer unrhyw adeilad rhestredig y maent yn byw ynddo.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar baratoadau i Gymru gymryd cyfrifoldeb am weinyddiaeth lles? OQ61341
Diolch. Drwy weithredu siarter budd-daliadau Cymru, rydym yn sefydlu'r seilwaith ar gyfer system fudd-daliadau sy'n dosturiol ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddai unrhyw weinyddu pwerau lles yn y dyfodol yn cael ei gyflawni yn unol ag ymrwymiadau'r siarter.
Mae'n hynod siomedig nad oes bwriad gan eich plaid chi i gael gwared ar y cap dau blentyn creulon, fyddai'n gallu codi miloedd ar filoedd o deuluoedd allan o dlodi. Ac mae'n siomedig hefyd nad oes unrhyw sôn am ddatganoli gweinyddu lles i Gymru yn yr ymgyrch etholiadol presennol, er gwaethaf ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i ystyried pa seilwaith sydd ei angen er mwyn paratoi at hynny. Rydyn ni, wrth gwrs, yn cytuno y byddai angen trosglwyddo cymorth ariannol priodol hefyd wrth drosglwyddo pŵer o'r math. Mae'n debyg, felly, Ysgrifennydd Cabinet, mai chwilio am ymrwymiad personol gennych chi, fel y deilydd portffolio newydd, ydw i'r prynhawn yma—ymrwymiad na fydd unrhyw rwyfo nôl ar y maes gwaith hwn, er gwaethaf diffyg diddordeb y Llywodraeth Lafur yn Llundain. Fedrwch chi gadarnhau y bydd y gwaith ar yr anghenion seilwaith yn bwrw ymlaen, ac a wnewch chi roi amserlen ar gyfer y gwahanol gerrig milltir sydd angen eu cyrraedd?
Diolch. Wel, fel y gŵyr Siân Gwenllian, roedd siarter budd-daliadau Cymru yn rhan gwbl ganolog o'n paratoadau, gan ei bod yn nodi'r ymrwymiad y credwn ei fod yn angenrheidiol ar gyfer cynllun a darpariaeth budd-daliadau sy'n dosturiol ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn fel y nodais. Ac rwy'n gwybod eich bod wedi gweithio'n agos iawn gyda fy rhagflaenydd fel rhan o'r cytundeb cydweithio. Yr hyn y gallaf ei roi i chi yw ymrwymiad personol i ddechrau cael y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU pan fydd wedi'i ffurfio ar ôl 4 Gorffennaf, ac yn amlwg, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r sgyrsiau hynny ddigwydd, ond ni allaf roi amserlen gyda cherrig milltir i chi.
Roeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a gyhoeddodd adroddiad yn 2016, sef 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well', a argymhellodd fod
'Llywodraeth Cymru yn ceisio datganoli’r broses asesu ar gyfer budd-daliadau salwch ac anabledd.'
Daethom i'r casgliad, fel y dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru,
'mai problem fwyaf pobl gyda’r system yw’r broses asesu a’r trefniadau gweinyddu',
gyda phobl yn cyfeirio at y lefelau uchel o apeliadau llwyddiannus. Fodd bynnag, roedd ein hadroddiad yn cydnabod, yn yr Alban, nad yw'r cyllid gan Lywodraeth y DU wedi talu am yr holl gostau gweinyddol. Roeddem hefyd yn argymell
'bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu 'system fudd-daliadau Gymreig' gydlynol ac integredig ar gyfer yr holl fudd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd y mae’n gyfrifol amdanynt.'
Bron i bum mlynedd yn ddiweddarach, pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd felly i fynd i'r afael â'r materion hyn, y cafwyd tystiolaeth dda ohonynt yn ein hadroddiad?
Diolch. Rwy'n credu eich bod wedi codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â chyllid. I mi, mae'n bwysig iawn, pan fyddwn yn ceisio datganoli unrhyw bwerau pellach, ein bod yn gwybod pam ein bod am gael y pwerau hynny. Rydym yn gwybod y byddant o fudd i bobl Cymru, ond mae'n bwysig iawn fod y cyllid yn dod hefyd. A phan oedd gennyf bortffolio blaenorol ac roedd gennym bwerau cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor ac ni chawsom y cyllid, rwy'n gwybod am yr effaith y gall hynny ei chael wedyn. Rydym yn sicr yn credu y byddai datganoli pwerau yn sicrhau bod rhagor o fudd-daliadau'n cael eu darparu yn unol â'n cred y dylai ganolbwyntio ar yr unigolyn, y dylai fod yn dosturiol. A dyna a wnaethom gyda siarter budd-daliadau Cymru.
Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, yn aml, fod canlyniadau annisgwyl, felly, gallwch gael y gost weinyddol uwch honno. Felly, mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni edrych arno'n ofalus iawn. Ac rydym yn cyflawni ymchwil i roi trosolwg o ddatganoli'r weinyddiaeth i Lywodraeth Cymru—beth allai fod yn fuddion posibl, ond hefyd beth allai fod yn ganlyniadau anfwriadol. Felly, mae'r gwaith ymchwil hwnnw'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Rwy'n gobeithio y daw i ben erbyn diwedd y flwyddyn hon, ond yn sicr yn gynnar y flwyddyn nesaf.
5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant? OQ61302
Diolch. Mae ein strategaeth tlodi plant yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru drwy fentrau i leihau costau, cynyddu incwm a datblygu llwybrau allan o dlodi fel y gall pob plentyn fwynhau ei hawliau a chael pob cyfle i gyrraedd ei botensial.
Diolch. Rwy'n credu y cytunir yn gyffredinol fod record Llywodraeth Lafur Cymru ar drechu tlodi plant yn un wael. Yn wir, mae fy nghyd-Aelod, Sioned Williams, wedi ein hatgoffa eisoes heddiw o fethiant systematig eich Llywodraeth i fynd i'r afael â hyn. Yn hytrach na gweithio'n galetach i gyrraedd targedau, rydych chi wedi'u dileu, ac rwyf wedi dweud o'r blaen yma ac mewn mannau eraill fod Llywodraethau Llafur, gyda chymorth Llywodraeth Geidwadol yn y DU, yn gadael traean o'n plant wedi'u condemnio i fywyd wedi'i greithio gan dlodi. Felly, fel yr amlygwyd gan gynghrair Plant yng Nghymru, mae'r cap budd-daliadau dau blentyn ymhlith y pethau creulonaf mewn degawd a hanner o gyni Torïaidd a orfodwyd ar Gymru, felly byddai ei godi yn helpu ar unwaith i dynnu 60,000 o blant yng Nghymru allan o dlodi. Nawr, gwn fod Aelodau Llafur y Senedd hon yn gwybod yn eu calonnau fod y cap dau blentyn yn anghywir, felly beth yw pwynt Llywodraeth Lafur yng Nghymru os na allwch berswadio eich penaethiaid yn Llundain ynghylch yr anghyfiawnder hwn?
Yn sicr, nid ydynt yn benaethiaid i mi. Nid wyf yn anghytuno â chi ynglŷn â'r effaith y credaf y gallai dileu'r cap budd-daliadau dau blentyn hwnnw ei chael. Yn sicr, mae popeth a ddarllenais ers imi gael y portffolio yn gwneud imi gredu hynny. Hynny yw, un o'r rhesymau pam y gwnaethom ddileu ein targedau oedd oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi dileu eu targedau nhw, ac mae'n rhaid inni gydnabod mai Llywodraeth y DU sy'n dal cymaint o'r ysgogiadau hynny. Felly, rwy'n credu, ar y drafodaeth honno gyda nhw, o'r cychwyn cyntaf, os cawn Lywodraeth Lafur yn y DU—a hyd yn oed os na chawn; os cawn Lywodraeth Dorïaidd yn y DU eto, Duw a'n gwaredo—mae angen inni gael y sgyrsiau hynny, ond rwy'n llawer mwy gobeithiol y byddwn yn gallu cyflawni llawer mwy mewn perthynas â threchu tlodi os oes gennym Lywodraeth Lafur yn y DU.
Ysgrifennydd y Cabinet, clywodd cyfarfod diweddar o'r grwpiau trawsbleidiol ar dlodi a thlodi plant am waith gan Sefydliad Bevan mewn perthynas ag ymchwil a wnaethant yng Nghymru a ddangosai fod 29 y cant o'n plant yn byw mewn tlodi cymharol, ac un o'r problemau gwirioneddol yw nad ydynt yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol, fel y mae eu cyfoedion yn ei wneud, er enghraifft dysgu sgiliau a chymdeithasu yn yr ysgol yn ystod teithiau ysgol. Felly, o ystyried natur drawslywodraethol tlodi plant, tybed pa waith y byddwch chi'n ei wneud gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i geisio sicrhau nad yw ein plant yn dioddef yn eu profiad yn yr ysgol a'r tu allan iddi oherwydd amgylchiadau ariannol eu teulu.
Diolch. Credaf eich bod wedi codi pwynt pwysig iawn. Cyfarfûm â Sefydliad Bevan yn gynnar iawn ar ôl cael y portffolio hwn i siarad am amrywiaeth o faterion ac yn sicr, mae llawer o'r adroddiadau y maent wedi'u cyflwyno yn ddefnyddiol iawn i'n helpu i fynd i'r afael â thlodi. Ac rydych chi'n iawn, nid tlodi plant yn unig ydyw; mae'n ymwneud â mynd i'r afael â thlodi, oherwydd fe wyddom fod plant yn byw mewn tlodi am fod eu rhieni hefyd yn byw mewn tlodi. Rwyf i fod i gael cyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i drafod amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â phlant yn yr ysgol, a'r effaith pan fyddant yn gweld cam-drin domestig, er enghraifft, a phethau eraill hefyd mewn perthynas â threchu tlodi, felly byddaf yn sicr yn trafod hynny gyda hi hefyd ac yn adrodd yn ôl i chi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi beio polisïau Llywodraeth y DU yn gyson am lefelau tlodi plant yma yng Nghymru, sydd wedi cael eu beirniadu gan Sefydliad Joseph Rowntree, a nododd fod llawer o fesurau lleihau tlodi plant o fewn pwerau Llywodraeth Cymru, ac ar wahân i'r rhethreg, mae gweithredu ar hyn wedi bod yn ddi-fflach. Mae 28 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi cymharol—sy'n uwch na'r Alban a Gogledd Iwerddon—ac mae Gweithredu dros Blant a Barnardo's ill dau wedi beirniadu targedau di-uchelgais Llywodraeth Cymru i ostwng hyn, gyda thargedau'n anaml yn cael eu cyrraedd. Yng ngogledd Cymru, mae'r sefyllfa'n fwy enbyd oherwydd bod gan holl etholaethau'r gogledd, ac eithrio Alun a Glannau Dyfrdwy, gyfraddau uwch o dlodi plant ar gyfartaledd. Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o liniaru tlodi plant yw sicrhau bod cyflogau'n codi, ond yng Nghymru, mae gennym y gyfradd gyflogaeth isaf a'r cyflogau canolrifol isaf yn y DU. Yn sir Ddinbych, fy etholaeth i, mae'r incwm canolrifol yn £27,400 o'i gymharu â'r incwm canolrifol o £34,963 yn y DU, ac mae gennym 3,500 o blant yn byw mewn tlodi yn fy etholaeth. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i'r feirniadaeth o Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r targedau ar gyfer trechu tlodi plant ac amlinellu sut maent yn bwriadu mynd i'r afael â'r cyfraddau tlodi plant anghymesur o uwch yng ngogledd Cymru? Diolch.
Nid oes yr un aelod o Lywodraeth Cymru yn hapus â'r lefelau tlodi plant sydd gennym ar hyn o bryd, ond mae'n rhaid inni wynebu'r ffaith bod llawer o'r ysgogiadau yn nwylo Llywodraeth y DU a'n bod, hyd at 2010 pan ddaeth y Torïaid i mewn, wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y plant a oedd yn byw mewn tlodi.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch yr economi a phwysigrwydd yr economi, ac yn sicr, rwyf wedi cael trafodaethau cynnar gyda fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg oherwydd mae'n cydnabod yn llwyr yr ysgogiadau sydd ganddo. Felly, mae tlodi plant yn fy mhortffolio i, ond mae pob Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod bod ganddynt gyfraniad i'w wneud i leihau ffigur sy'n rhy uchel o lawer. Ac fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn y Siambr ers imi ddod i'r swydd mai un o'r pethau rwy'n awyddus iawn i'w gwneud yw cael cyfarfodydd dwyochrog gyda phob Gweinidog i wneud yn siŵr fy mod yn gwybod beth maent yn ei wneud i geisio lliniaru tlodi plant, a fy mod hefyd yn gallu gofyn iddynt am eu polisïau i weld beth y gallant ei wneud i ystyried a lleihau'r lefelau hynny.
6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo mynediad i hanes a threftadaeth Cymoedd y de? OQ61334
Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo mynediad at hanes a threftadaeth Cymoedd de Cymru drwy ei hymgyrchoedd marchnata lleol a rhyngwladol ac yn gweithio i addysgu cenedlaethau'r dyfodol am bwysigrwydd ein hamgylchedd hanesyddol a diwylliannol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Drwy brosiect Ail-ddweud Stori'r Cymoedd, bu pwyllgor Pwll Gerddi Lee ym Mhenrhiw-ceibr yn fy etholaeth yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru i ddod â threftadaeth gyfoethog y pentref yn fyw. Cefnogodd yr amgueddfa oedolion a phlant i gasglu a churadu straeon ac arteffactau lleol, gan ddysgu sgiliau gwerthfawr a gwarchod eu treftadaeth, gan arwain at lwybr celf ac arddangosfeydd mewn sawl lleoliad yn y gymuned, gyda'r prosiect yn gorffen gydag eitemau a gasglwyd yn cael eu harddangos yn amgueddfa Caerdydd. Roedd yn brosiect ardderchog. Rwy'n deall yr heriau enfawr sy'n gysylltiedig â chyllid o ganlyniad i 14 mlynedd o fethiannau'r Torïaid, ond sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mentrau o'r fath fel y gall cymunedau archwilio a hyrwyddo eu hanes a'u hunaniaeth?
Diolch. Wel, rwy'n credu eich bod wedi rhoi darlun ardderchog o sut y gall ein cyrff treftadaeth cenedlaethol weithio'n rhagweithiol gyda chymunedau ac amgueddfeydd lleol fel y gallant ymchwilio ac adrodd eu straeon i'r gymuned ehangach, a'r hyn sy'n bwysig iawn yw nad ydym yn colli'r straeon hynny. Mae'n bwysig iawn eu bod gyda ni a'n bod yn eu cadw ac yn eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n deall bod y prosiect wedi ymgysylltu â chymunedau o bob oed, o'r ysgol gynradd i fyny, ac mae hynny wedi gwneud cannoedd o weithiau celf a gwrthrychau yn hygyrch. Rwy'n gwybod bod y prosiect wedi cyfrannu at arddangosfa Amgueddfa Cymru, sydd i'w gweld yn yr amgueddfa genedlaethol tan tua mis Tachwedd, rwy'n credu, a rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid i sicrhau bod mynediad am ddim i'r arddangosfa. Ond rydym yn archwilio gydag Amgueddfa Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru i weld sut y gallwn ehangu'r gwaith partneriaeth hwnnw wrth symud ymlaen.
7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu amgylchedd hanesyddol Cymru? OQ61332
Pan ddaw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 i rym yn ddiweddarach eleni, Cymru fydd â'r ddeddfwriaeth fwyaf blaengar yn y DU ar gyfer rheoli a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol. Caiff ei hategu gan bolisïau cynllunio sy'n diogelu nodweddion unigryw ein hamgylchedd hanesyddol.
Diolch yn fawr am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, yn fy etholaeth i ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, mae cynigion gan Bute Energy a Green GEN Cymru i godi ffermydd gwynt a pheilonau yr holl ffordd drwy fy etholaeth. Mae hyn yn mynd i gael effaith enfawr ar yr amgylchedd hanesyddol yn fy etholaeth, ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i sicrhau bod amgylchedd hanesyddol Brycheiniog a Sir Faesyfed yn cael ei warchod rhag y datblygiadau mawr hyn yn fy etholaeth.
Diolch. Wel, byddai'n amhriodol imi wneud sylwadau ar gynigion penodol, Ddirprwy Lywydd. Fel y gwyddoch, Gweinidogion Cymru sy'n penderfynu a ddylid cymeradwyo ceisiadau ai peidio. Ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig, fel y dywedais, yw bod gennym y ddeddfwriaeth fwyaf blaengar yn y maes hwn. Daw i rym yn yr hydref, ac rwy'n credu y bydd yn rhoi cyfraith hygyrch, ddwyieithog inni ar gyfer ein hamgylchedd hanesyddol unigryw, wedi'i chefnogi gan ystod o is-ddeddfwriaeth. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r system gynllunio ystyried ein hamcanion i ddiogelu, gwarchod, hyrwyddo a gwella'r amgylchedd hanesyddol.
Mae cwestiwn 8 [OQ61309] wedi ei dynnu yn ôl felly, yn olaf, cwestiwn 9, Tom Giffard.
9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn hawdd eu cyrraedd i bobl â nam ar eu golwg? OQ61338
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu gwasanaethau hygyrch, ymatebol o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y dinesydd ac sy’n diwallu anghenion holl bobl anabl Cymru, gan gynnwys y rheini sy’n ddall neu sydd ag amhariad ar y golwg. Mae gwaith y tasglu hawliau pobl anabl yn rhan annatod o'r ymrwymiad hwn.
Diolch yn fawr. Mewn llythyr at brif weithredwr Cyngor Caerdydd, nododd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall fethiant y cyngor i roi cyfrif am anghenion pobl ddall a rhannol ddall. Er bod y materion a godwyd yn y llythyr hwnnw’n ymwneud yn benodol â'r mannau ar gyfer mynd ar fysiau yng Nghaerdydd, mae llawer o'r bobl ddall a rhannol ddall y siaradais â nhw yn fy rhanbarth yn dweud eu bod yn berthnasol mewn mannau eraill hefyd. Mae pobl ddall a rhannol ddall yn wynebu'r risgiau posibl ac amodau anniogel a achosir gan fannau ar gyfer mynd ar fysiau wrth geisio defnyddio’r system drafnidiaeth yng Nghymru, ac mae’n bwysig nodi bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y pryd wedi cydnabod nad oedd y cynlluniau bob amser yn cydymffurfio â chanllawiau Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, lle mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau mynediad at wasanaethau cyhoeddus a darpariaeth drafnidiaeth addas i bawb mewn ardal benodol. Mae clywed am anawsterau y mae pobl ddall a rhannol ddall yn eu hwynebu wrth geisio byw eu bywydau bob dydd yn amlwg yn destun gofid, felly pa waith sy’n mynd rhagddo ar draws Llywodraeth Cymru, a chydag awdurdodau lleol yng Nghymru, i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau eraill yn cael eu gwneud yn hawdd ac yn ddiogel i bobl sy'n ddall neu'n rhannol ddall?
Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn. Mae'n gwbl hanfodol fod pobl ag amhariad ar y golwg yn gallu teithio'n annibynnol, eu bod yn gallu gwneud hynny'n hyderus, ac yn sicr, mae'r gweithgor trafnidiaeth a luniodd yr argymhellion i Lywodraeth Cymru, argymhellion yr ydym yn gweithio drwyddynt ar hyn o bryd gan y tasglu hawliau pobl anabl y cyfeiriais ato, yn mynd i'n helpu gyda'r gwaith hwnnw. Byddaf yn cyfarfod â'r RNIB yr wythnos nesaf, felly byddaf yn sicr yn codi hynny gyda nhw.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 3 yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd yr unig gwestiwn heddiw gan Carolyn Thomas.
1. Sut mae'r Comisiwn yn denu ymwelwyr i'r Senedd? OQ61326
Llynedd, gwnaethom groesawu dros 150,000 o ymwelwyr i'r Senedd. Rydym yn defnyddio llawer o ddulliau i annog pobl i ymweld, gan gynnwys hysbysebion ac erthyglau mewn cyhoeddiadau arbenigol. Rydym yn hyrwyddo'r Senedd yn rheolaidd fel atyniad i ymwelwyr ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gydag ymgyrchoedd mwy o faint yn ystod yr haf. Hefyd, ym mis Chwefror 2024, caffi'r Senedd oedd y lleoliad cyntaf a'r unig un yng Nghymru i gael ei achredu â safon caffi teuluol Kids in Museums.
Diolch. Mae'n wych clywed hynny oll. Pan fyddaf yn cerdded o gwmpas y bae ac yn siarad â phobl, nid ydynt bob amser yn siŵr a ydynt yn cael picio i mewn i'r Senedd, i mewn i'r adeilad, ac maent yn ansicr sut i gael mynediad iddo hefyd—ble mae'r drws, yn y bôn. Felly, tybed a oes gennych gynlluniau i wella'r arwyddion. A hefyd, os nad yw pobl yn adnabod yr ardal o gwbl, gallant edrych ar y tri adeilad gwych, sef Canolfan Mileniwm Cymru, y Pierhead, a’r Senedd ei hun, ac os nad oes ganddynt wybodaeth gefndirol, maent yn gofyn pa adeilad ydyw—os ydych chi'n siarad ag ymwelwyr tramor. Ac fel y dywedwch, mae gennym y caffi bendigedig.
Roedd gennyf ddigwyddiad bioamrywiaeth yn ddiweddar hefyd, ac roeddwn yn awyddus i'w agor i’r cyhoedd fel ei fod yn fwy na digwyddiad preifat yn unig, ac roedd yn wych gweld aelodau’r cyhoedd yn ymweld â’r stondinau cyn i’r Aelodau fod ar gael i ymweld. Felly, tybed a ellir agor rhai o'n digwyddiadau i aelodau'r cyhoedd, a'u hyrwyddo.
Wel, yn sicr, mae’r syniad o wneud y Senedd yn lle croesawgar i bawb yn un deublyg. Un agwedd yw denu’r bobl sy’n meddwl am ddod yma, sy’n bwriadu dod yma o bob rhan o Gymru a thu hwnt, ond hefyd, fel y dywedoch chi, y bobl sy’n digwydd bod ym Mae Caerdydd ac yn crwydro o gwmpas ar ddiwrnod braf fel heddiw ac yn meddwl tybed beth sydd yn yr adeilad hwn, mae angen i'r rheini ddod i mewn hefyd. Rydym wedi gwneud ymdrech yn ddiweddar, ac mae gennym faneri y tu allan, ac arddangosfeydd clyweledol, i sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn deall eu bod yn cael galw i mewn. Yn amlwg, mae gennym system ddiogelwch ar y drws, ac mae’n rhaid i ni gael honno am resymau eithaf amlwg, ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn gallu mynd drwy’r system ddiogelwch heb ormod o drafferth, gobeithio.
Felly, rydym am sicrhau bod pobl yn ymwybodol y gallant ddod i ddarganfod beth rydym yn ei wneud yma, ei fod yn rhywle sy'n perthyn i bobl Cymru ac y gall pobl Cymru ddod i mewn, nid yn unig fel ymwelwyr ac i edrych o gwmpas, ond hefyd, fel rydych chi newydd ddweud, gallant gymryd rhan a gwrando ar unrhyw beth sy'n digwydd bod yn cael ei gynnal ar ein hystad ar unrhyw adeg benodol. A byddaf yn nodi o'r cwestiwn yr angen i sicrhau nad oes unrhyw wrthanogaeth i aelodau'r cyhoedd deimlo y gallant eistedd a gwrando ar sgwrs sy'n digwydd bod yn cael ei chynnal yn ein mannau mwy cyhoeddus, neu ymgysylltu ag unrhyw un sydd ag arddangosfa yn y Senedd ar y pryd.
A chan ein bod yn sôn am ymwelwyr â'r Senedd, a gaf i groesawu'r ymwelwyr yn yr oriel? Mae hynny’n amlygu’r ffaith bod aelodau’r cyhoedd yn gallu cael mynediad at ein busnes.
Nid oes unrhyw gwestiynau amserol wedi eu derbyn heddiw.
Felly, symudwn ymlaen at eitem 5, y datganiadau 90 eiliad, a bydd y datganiad cyntaf gan Vikki Howells.
Roedd 23 Mehefin yn nodi 130 o flynyddoedd ers trychineb glofa’r Albion, yr ail drychineb glofaol gwaethaf yng Nghymru. Collodd 290 o ddynion a bechgyn eu bywydau, gyda'r ieuengaf yn ddim ond 13 oed. Roedd y rhan fwyaf yn dod o Gilfynydd, y dywedodd gohebwyr ei bod fel tref y meirw. Siaradais am y trychineb yma dair blynedd yn ôl, pan soniais am fy ngobeithion y byddai digwyddiad yr oeddwn yn ei gynnal yn dod yn goffâd blynyddol, er mwyn inni gofio’r drasiedi. Heddiw, yn ogystal â chofio colled aruthrol y diwrnod ofnadwy hwnnw, gallaf roi diweddariad mwy cadarnhaol ar sut mae’r cynlluniau hynny wedi datblygu.
Mae grŵp cofeb trychineb glofa'r Albion, a sefydlwyd gennym, wedi gweithio’n galed iawn. Mae ei wirfoddolwyr ymroddedig wedi cyflwyno ystod o brosiectau, gan gynnwys arddangosfa addysgiadol iawn yn neuadd eglwys Sant Luc yn y pentref, ac uchafbwynt y cyfan oedd dadorchuddio cofeb barhaol newydd i’r trychineb yn y pentref. Cynhaliwyd seremoni gyflwyno ddinesig ar gyfer cofeb ar ffurf dram yn llawn o lo ddydd Sul diwethaf, lle roedd y cyfranogwyr yn cynnwys aelodau o’r gymuned a Chôr Meibion Abercynon. Cefais y fraint o gymryd rhan yn y gwasanaeth hwnnw, er mwyn inni sicrhau ein bod yn cofio'r rhai a gollodd eu bywydau, fel y gallwn wneud yn siŵr nad yw trychineb glofa’r Albion yn angof mwyach. Diolch.
Yn ei stori fer, 'Adrodd Cyfrolau', mae Jon Gower yn sôn am y pleser o grwydro ar hyd strydoedd cul Pontcanna, yr ardal debycaf o holl ardaloedd Caerdydd i Greenwich Village yn Efrog Newydd, ac yna taro i mewn i siop lyfrau Caban. Sefydlwyd y siop yn wreiddiol i gynnig gwaith i bobl ag anghenion dysgu. Pobl sy’n gwneud siop lyfrau da, ac mae hynny yn sicr yn wir am Caban—pobl fel Meinir Phillips a fuodd farw'r wythnos diwethaf. Roedd Meinir yno ar gyfer pob carreg filltir bywyd, o brynu llyfr i fabi newydd hyd at y cerdyn cydymdeimlo. Roedd Meinir yn gallu awgrymu llyfrau da i'w darllen ar wyliau, a dwi’n siŵr bod cannoedd o bobl ar hyd y blynyddoedd wedi darllen un o’i hargymhellion hi ar lan y môr neu wrth ymyl pwll. Llongyfarchiadau i Elin a’r tîm yn Caban ar ennill y wobr siop lyfrau orau yng ngwobrau manwerthwyr annibynnol Cymru eleni.
Yn y stori fer, awgrymir mai er cof am y caban yn y chwarel, lle byddai gweithwyr yn cyfnewid storis a newyddion, yr enwyd y siop lyfrau. Ac mae’r siop, awgryma Jon Gower, yn debyg mewn sawl ffordd i’r caban hwnnw. Ffrwyth dychymyg Jon yw hynny, ond mae ei ddisgrifiad o’r siop yn agos iawn i’r gwirionedd. Diolch yn fawr.
Eitem 6 heddiw yw'r cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog: trefniadau cadeirio Pwyllgor y Llywydd. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Jane Hutt.
Cynnig NDM8622 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Trefniadau cadeirio Pwyllgor y Llywydd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2024.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18B, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheoi Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil buddion ynni cymunedol. Galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8616 Adam Price
Cefnogwyd gan Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil buddion ynni cymunedol.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) sicrhau bod datblygiadau ynni adnewyddadwy o fudd uniongyrchol i gymunedau lleol, a bod colli amwynder i gymunedau yn ystyriaeth allweddol wrth benderfynu a yw prosiectau seilwaith ynni mawr yn mynd rhagddynt;
b) ei gwneud yn ofynnol i elw o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy gael ei gadw yn yr ardal leol;
c) gwneud perchnogaeth leol yn elfen orfodol ym mhob datblygiad cynhyrchu ynni;
d) gwneud y defnydd o dechnoleg adnewyddadwy yn orfodol yn yr holl adeiladau newydd, datblygiadau sylweddol ac estyniadau; ac
e) defnyddio'r holl opsiynau tir llwyd hyfyw cyn y gellir ystyried unrhyw safle maes glas, yn enwedig os bydd yn effeithio ar gynefinoedd anghysbell ac amrywiol a/neu fod mynediad a seilwaith yn gyfyngedig neu'n anfodol.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cyflwyno’r cynnig hwn, sy’n galw am ddeddfwriaeth ar ynni adnewyddadwy, ac yn enwedig gyda ffocws ar sicrhau bod cymunedau lleol yn cael y buddion mwyaf—yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ecolegol—o fuddsoddiadau ynni adnewyddadwy. Oherwydd credaf mai’r perygl gwirioneddol ar hyn o bryd yw bod y gorffennol yn ailadrodd ei hun yn hanes Cymru. Rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o’r effaith a gafodd yr economi echdynnol yng ngorffennol Cymru: mae’r holl gyfoeth mwynol a gynhyrchwyd yng Nghymru, popeth a allai wneud elw, wedi’i gloddio o’r ddaear yng Nghymru, ar wahân i ddiemwntau, ac os arhoswn ychydig filiynau o flynyddoedd, mae'n debyg y bydd rheini gennym hefyd.
Ond y pwynt yw hyn: er inni dalu llawer o gost ddynol yr economi echdynnol honno, ni chawsom y budd economaidd i'r graddau llawn. Echdynnwyd yr elw o Gymru er budd eraill, ac yn anffodus, credaf ein bod yn gweld yr un model, yr un patrwm yn ailadrodd ei hun nawr gydag adnoddau naturiol Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain, mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy. Felly, rydym yn gweld cwmnïau mawr—cwmnïau rhyngwladol yn aml, neu'n sicr, yn eiddo i endidau allanol—yn arwain datblygiadau a'r elw hwnnw'n cael ei golli o Gymru. Yn eironig, wrth gwrs, mewn rhai achosion, maent yn fentrau sy'n eiddo i'r wladwriaeth, onid ydynt? Ond wrth gwrs, serch hynny, erys y pwynt fod yr elw hwnnw wedyn yn mynd i drethdalwyr a dinasyddion gwlad arall, yn hytrach na threthdalwyr a dinasyddion Cymru.
A'r hyn y ceisiwn ei gyflawni gyda'r cynnig hwn a'r Bil a awgrymir yw ein hysgogi i fabwysiadu model gwahanol yng Nghymru, model sydd mewn perchnogaeth leol, lle mae'r budd yn cael ei gadw yn y gymuned. A hefyd, o ran y mathau o ddatblygiadau a welwn, nad ydynt wedyn ond yn cael eu llywio gan gymhelliad i wneud elw yn unig. Felly, mae tuedd naturiol ar hyn o bryd, onid oes, i gael datblygiadau ar raddfa anferthol yn unig, datblygiadau sydd wedi'u crynhoi mewn un lle. Pam? Am mai dyna'r ffordd i sicrhau'r lefel fwyaf o elw, ac ni ddylai hynny fod yn flaenoriaeth wrth inni wneud ein penderfyniadau. Yr hyn a awgrymwn yma yw mabwysiadu model mwy dosranedig, gwasgaredig: dosranedig a gwasgaredig, datganoledig, yn ystyr ffisegol y rhwydwaith cynhyrchu ynni yr ydym am ei weld yn yr unfed ganrif ar hugain yma yng Nghymru, ond sydd hefyd yn ddosranedig ac yn wasgaredig o ran ei berchnogaeth ac o ran ei fudd hefyd, ac mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw.
Ac i fynd ar drywydd rhai o’r pwyntiau penodol: polisi’r Llywodraeth yw gwneud perchnogaeth leol, elfen o berchnogaeth leol, yn elfen orfodol o leiaf ym mhob datblygiad, ac mae wedi bod yn bolisi Llywodraeth Cymru ers 2020, ond nid yw’n orfodol, ac felly mae'n cael ei anwybyddu, a dyna pam fod gennym gymaint o ddatblygiadau heb unrhyw elfen ystyrlon o berchnogaeth leol. Ac wrth gwrs, yn Nenmarc, sydd wedi bod mor llwyddiannus wrth wreiddio datgarboneiddio mewn perchnogaeth leol, gan gyflymu’r broses drwy hynny, gan fod pobl yn cefnogi'r syniad, mae ganddynt ofyniad cyfreithiol, ac maent wedi cael un ers blynyddoedd lawer, ers 2009—fan lleiaf, yn eu hachos nhw, rwy'n credu—fod 20 y cant yn cael ei gynnig mewn perchnogaeth leol, ac yn ddiweddar, mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi llunio adroddiad yn dadlau o blaid trothwy tebyg o oddeutu 15 y cant o leiaf.
Ceir agweddau eraill ar y cynnig y gallaf gyfeirio atynt yn fy sylwadau clo, ond gadewch inni fachu ar y cyfle: mae gennym botensial yng Nghymru, ond gadewch inni wneud hyn mewn ffordd sy’n dysgu o’r gorffennol, nid ailadrodd ei gamgymeriadau, ac sy'n sicrhau bod Cymru a'i phobl yn cael y budd mwyaf posibl o’r cyfle hwn.
Yn y bôn, rwy'n cytuno â chynsail y cynnig heddiw. Lle ceir datblygiad ynni adnewyddadwy, rwy'n credu y dylai pobl leol elwa, ac fel y dywedais yn flaenorol yn y Siambr, rwy'n credu y dylai'r elw o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol fynd tuag at leihau biliau ynni trigolion, ac rydym eisoes wedi gweld o fuddsoddiadau ynni adnewyddadwy sut y gall fod o fudd i gymunedau mewn ffyrdd eraill. Felly, yng ngogledd Cymru, mae gennym y tyrbinau gwynt ar y môr, ac maent yn rhoi arian tuag at gronfeydd cymunedol a weinyddir drwy'r cynghorau gwirfoddol ar gyfer gwahanol gynlluniau. Ond a ydynt yn cyrraedd ble mae eu hangen mewn gwirionedd? Dyna'r peth hefyd. Os gwelwn yr ynni hwnnw'n cael ei gynhyrchu, rydych chi'n meddwl bod angen i ni gael yr ynni hwnnw—y disgownt ar ein biliau, yn y bôn.
Rwy'n cytuno hefyd fod angen defnyddio safleoedd tir llwyd yn gyntaf. Rydym yn byw mewn argyfwng byd natur, ac yn aml, mae safleoedd gwyrdd yn cael eu datblygu gyntaf am ei bod yn rhatach ac yn haws gwneud hynny. Ond yn aml iawn, dim ond mewn rhai safleoedd y gellir cynhyrchu ynni, felly fel arfer, mae hynny i fyny ar y bryniau, ond wedyn maent yn dirweddau gwarchodedig hefyd, felly mae'n anodd iawn. Dylem sicrhau bod adeiladau newydd yn addas at y dyfodol, gan ddefnyddio paneli solar lle bynnag y bo modd, casglu dŵr glaw, deunyddiau effeithlon o ran ynni. Mae angen inni ofyn neu orfodi datblygwyr i wneud hyn. Gosod blychau gwenoliaid duon, plannu ar gyfer peillwyr—mae cymaint mwy y gallwn ei wneud.
Rwy’n deall bod angen sicrhau cydbwysedd wrth ymgymryd â phrosiectau seilwaith ar raddfa fawr. Mae gennym broblem wirioneddol gyda seilwaith ynni hefyd os ydym am gyflawni ein nodau sero net. Gwn fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn ymwybodol o’r buddsoddiad enfawr mewn prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr. Mae’n debyg fod angen inni gael y cydbwysedd hwnnw, ond mae angen inni sicrhau bod gennym brosiectau ynni cymunedol sy’n helpu'r cymunedau lleol hynny. Felly, rwy'n deall yr hyn a ddywedwch yma yn llwyr, Adam. Yr allbwn a’r canlyniad gorau, am wn i, yw ein bod yn lleihau effaith amgylcheddol uniongyrchol seilwaith newydd angenrheidiol, wrth symud tuag at ddyfodol cynaliadwy, gan ystyried popeth.
Gwn inni drafod gosod ceblau o dan y ddaear yn lle peilonau yr wythnos diwethaf, ac rwy'n gwybod ei fod yn fater sensitif iawn. Dylem osod seilwaith o dan y ddaear lle bynnag y bo modd, yn sicr, oherwydd yr amwynder, yr effaith a gaiff ar bobl, ond hefyd, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, ceir ystyriaethau'n ymwneud â'r amgylchedd naturiol—os yw'n fawndir, os oes glaswelltir hynafol a ffyngau. Rwy'n glynu wrth hynny hefyd, gan fod yn rhaid inni barchu ein hamgylchedd naturiol. Mae’r rheini oll yn rhan o’r ystyriaeth. Diolch.
Ymbweru cymunedau ydy ffocws y cynnig deddfwriaethol hwn, ac rwyf i wir yn croesawu'r ffaith bod Adam Price wedi dod â hwn ymlaen. Mae'n sôn am roi llais cryfach i gymunedau yn wyneb nid yn unig maint a phŵer y system cynllunio, ond heriau’r argyfwng hinsawdd. Achos mae cymaint o’n cymunedau yn bennu lan yn teimlo bod datblygiadau ynni yn cael eu gorfodi ar ardaloedd, yn hytrach na bod datblygiadau a phenderfyniadau’n cael eu gwneud ar y cyd gyda nhw, ac er eu budd nhw. Dyna pam mae’r cynnig yma'n sôn am yr angen i ddatblygiadau gynnig buddion uniongyrchol i’r gymuned leol, a hefyd am yr angen i elw ariannol gael ei gadw’n lleol.
Dŷn ni wedi clywed hyn yn barod gan Adam. Mae straeon ein gorffennol i’w gweld fel creithiau ar ein tirluniau ni yng Nghymru. Yn ardaloedd fel y Cymoedd, mae hanes o gwmnïau yn gwneud elw ar draul trigolion lleol. Dyna sydd yn ein cefndir ni—hanes o ecsbloetiaeth. Rhaid inni wneud yn siŵr nad ydy’r straeon hynny’n cael eu hailadrodd yn y dyfodol. Mae cyfle gennym i fuddsoddi yn ein cymunedau, ymbweru pobl leol i ddatblygu ffyrdd amgen o greu ynni a sicrhau na fydd ein tirluniau unwaith eto yn safle ar gyfer elw ac ecsbloetiaeth.
Ein hetifeddiaeth ni yw ein gwlad: y darn o dir sy’n dyst ein bod wedi mynnu byw, chwedl Gerallt. Ein dyletswydd ni ydy sicrhau ein bod yn gadael etifeddiaeth gwell i’n plant, achos eu heiddo nhw ydy’n gwlad ni, eiddo ein cymunedau lleol. Rhaid ei diogelu a’i meithrin nawr, ac am flynyddoedd i ddod i’r dyfodol. Felly, er budd ein cymunedau ni heddiw ac yn y dyfodol, rwyf wir yn gobeithio y bydd hyn yn pasio.
Diolch ichi, Adam, am ddod â'r ddadl yma heddiw.
Mae hyn yn fy nghyffroi’n fawr, gan fod cyfleoedd adnewyddadwy, yn enwedig yn fy rhan i o’r byd, ein rhan ni o’r byd yng ngorllewin Cymru, yn fy etholaeth, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, ac nid yn unig fy nghyffroi i ond y gymuned gyfan, gan eu bod yn gweld y cyfleoedd a ddaw nid yn unig o ran y gyflogaeth a ddaw yn sgil y prosiectau adnewyddadwy hyn i’r cymunedau, ond hefyd y budd cymunedol. Rwy'n credu bod angen archwilio’r diffiniad o ‘fudd cymunedol’ cyn unrhyw beth arall, gan ein bod wedi gweld enghreifftiau o gwmnïau ynni ledled Cymru ac ardaloedd eraill yn cyflawni eu budd cymunedol drwy roi nawdd tuag at gitiau newydd i dîm pêl-droed. Mae'n dda iawn mewn ystyr uniongyrchol o'r fath, ond beth yw'r budd hirdymor i'r gymuned? Os nad ydych yn gysylltiedig â’r clwb pêl-droed hwnnw, nid ydych yn gweld budd cymunedol—pwynt a wnaeth Luke Fletcher yn dda iawn yn y pwyllgor y bore yma.
Os archwiliwn y budd cymunedol ehangach sydd ar gael i ni drwy gyflawni prosiectau adnewyddadwy, credaf fod hynny’n agor drws ar sut y gallwn fanteisio fel cymdeithas ehangach ar y cyfleoedd y mae ein hadnoddau naturiol yn eu rhoi i ni yma yng Nghymru. Rwy'n meddwl, yn enwedig yn y tywydd hwn, am yr haul gwych sydd gennym, y gwynt sy'n chwythu oddi ar arfordir sir Benfro a'r cyfleoedd sydd gennym gyda'r llanw hefyd, ar ein harfordir. Mae hwn yn gyfle cyffrous i Gymru. Sut y gallwn sicrhau ein bod yn elwa ar hynny, nid yn unig o ran cyflogaeth, ond o ran y gymuned nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â hynny?
Ac nid y prosiectau eu hunain yn unig sydd angen gweld budd cymunedol. Byddwn yn dweud yr un peth am y deunyddiau cysylltiol hefyd, y seilwaith cysylltiol. Os ydym yn sôn am brosiectau ffermydd gwynt arnofiol ar y môr yn sir Benfro, er enghraifft, mae llawer o'r ceblau sy'n dod i'r lan yn mynd drwy ardal Castell Martin a Hundleton, gan weithio'n agos iawn gyda Steve Alderman, y cynghorydd lleol yno. Mae’r gymuned yn derbyn yn llwyr fod y seilwaith hwn yn angenrheidiol, ond beth yw budd cymunedol y seilwaith cysylltiol hwnnw, yn hytrach na’r prosiect ei hun, sydd wedi’i leoli oddeutu 40 km oddi ar arfordir Cymru? Sut y gallwn glymu hynny at ei gilydd i weld y budd yn cael ei wireddu?
Pwynt arall yr hoffwn yn ei wneud wrth ddiffinio budd cymunedol, rhywbeth y credaf nad yw wedi ei archwilio'n ddigonol—ac efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno sôn am hyn, ond credaf fod cyfle yno hefyd—yw sut mae'r grid, y gwyddom ei fod angen cryn dipyn o fuddsoddiad a gwaith uwchraddio o ran ei seilwaith, yn gallu bod yn fath o grid cylch cyfyng sy’n canolbwyntio ar y gymuned, fel bod prosiectau ynni sy’n cynhyrchu trydan mewn ardal benodol, nad yw trydan o reidrwydd yn mynd i’r grid, sydd angen y gwaith uwchraddio hwnnw i'w seilwaith, ond yn mynd i grid lleol, gan gefnogi cartrefi lleol. Os ydym yn sôn am yr angen am fwy o dai yn yr ardaloedd hyn, sut y gall yr ynni adnewyddadwy hwnnw fynd i'r tai hynny, a dileu’r effaith sydd ei hangen wrth fuddsoddi yn y grid drwy gael grid mwy lleol? Ac felly, gyda hynny, rwy'n credu'n wirioneddol fod hyn yn rhywbeth y gallwn fod yn falch ohono yma yng Nghymru, a byddaf yn sicr yn rhoi fy nghefnogaeth iddo y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Mae hon, wrth gwrs, yn ddadl bwysig ac yn un i'w chroesawu, ac mae arnaf ofn fod rhywfaint o thema'n dod i'r amlwg ar feinciau Plaid Cymru wrth drafod hyn yng nghyd-destun hanes. Oherwydd dyma yw hanes Cymru, ynte, echdynnu elw o’n cymunedau, ac mae’r un peth yn digwydd nawr gydag ynni adnewyddadwy. Rwyf am sôn yn benodol am yr elfen hon yn y cynnig deddfwriaethol, gan fod creithiau echdynnu elw yn y gorffennol yn dal i'w gweld ar y cymunedau rwy'n eu cynrychioli.
Yr hyn sydd ei eisiau arnom yw sector ynni adnewyddadwy, prosiectau ynni adnewyddadwy, y gall cymunedau fod yn falch ohonynt ac elwa ohonynt. Ar hyn o bryd, mae cymunedau'n cael swm o arian mewn pot cymunedol gan ddatblygwr—pot, gyda llaw, nad yw'n ddim o gymharu â'r elw sy'n cael ei echdynnu. Mae’r arian hwnnw wedyn yn cael ei roi tuag at anghenion uniongyrchol grwpiau yn y cymunedau: parc chwarae newydd fan hyn, cit rygbi newydd fan draw. Cyfeiriodd Sam at y dadleuon a gawn ym Mhwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynglŷn â sut mae angen inni edrych ar hyn mewn ffordd fwy strategol. Sut rydym yn edrych ar hyn yn y tymor hir fel rhywbeth sy'n effeithio ar y gymuned er gwell?
Er enghraifft, beth am gadw’r elw hwnnw’n lleol yn gyntaf? Beth am ddefnyddio’r elw hwnnw wedyn i fuddsoddi mewn prosiectau fel ôl-osod tai, fel mynd i'r afael â chysylltiadau trafnidiaeth, a sefydlu cysylltiadau trafnidiaeth nad oeddent yn bodoli yn y lle cyntaf hyd yn oed? Dyna lle gwelwn effaith gadarnhaol weledol ar y gymuned, ac un sy'n mynd ymhell i gefnogi ein cyllid cyhoeddus. Gallem hyd yn oed sefydlu cronfa gyfoeth sofran yn ei sgil sy’n buddsoddi mewn sgiliau, yn buddsoddi yn ein hasedau fel cenedl, gan fynd o nerth i nerth. Mae cymaint o botensial yn cael ei golli yma ar hyn o bryd, a byddwn yn gobeithio y gall Aelodau ar draws y Siambr weld budd y dull hwn o weithredu. Byddaf yn pleidleisio dros y cynnig deddfwriaethol, a hoffwn annog yr Aelodau eraill i wneud hynny.
Hoffwn wneud ymyriad byr i danlinellu fy nghefnogaeth i’r egwyddorion y tu ôl i’r cynnig heddiw. Yn amlwg, mae arnom eisiau mwy na sbarion, ac mae arnom eisiau dysgu gwersi’r gorffennol lle mae’r model echdynnol yn gwneud niwed i Gymru. Yn amlwg, mae ein hasedau adnewyddadwy a naturiol ymhlith ein cryfderau mwyaf wrth inni geisio adfywio ein heconomi, ac mae'n hollbwysig ein bod yn cael trefn ar bethau er mwyn gwneud y mwyaf o hynny.
Wrth gwrs, mae realiti ymarferol hynny yn hynod o gymhleth. Roeddwn yn falch o ddechrau gwaith yn y Sefydliad Materion Cymreig ar nodi trywydd ar gyfer gwneud Cymru’n gwbl ddibynnol ar ynni adnewyddadwy, a thua dwy flynedd yn ôl, arwain yr archwiliad dwfn yn Llywodraeth Cymru, i edrych gyda'r diwydiant ac arbenigwyr eraill, ar lefel fanwl iawn, ar y cyfyngiadau a'r pethau sy'n creu anghytundeb. Mae’r adroddiadau hynny ar gael ar-lein ac yn werth eu darllen.
Cafwyd diweddariad yn gynharach eleni ar yr archwiliad dwfn a ddangosodd fod cynnydd sylweddol wedi’i wneud. Ond gwyddom fod angen inni sicrhau bod pob un o'r ysgogiadau gwahanol wedi'u halinio, ac ar hyn o bryd, nid ydynt. Rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr gan y cynnig ym maniffesto Llafur ar gyfer cronfa gyfoeth sofran, ond hefyd ar gyfer datblygwr ynni gwyrdd cenedlaethol sy'n eiddo cyhoeddus. Rwy'n credu y bydd hynny'n hollbwysig, a bydd yn adeiladu ar rywfaint o’r gwaith cynnar a wnaethom o ganlyniad i’r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru ar greu cwmni ynni yng Nghymru.
Fe wyddom, ac rydym wedi sôn droeon yn y Siambr hon, am y rôl y mae angen i Ystad y Goron ei chwarae er mwyn sicrhau bod Cymru’n elwa o’r cyfoeth enfawr oddi ar ein glannau, ond mae’n mynd i gymryd mwy na datganiadau i wneud hynny. Mae’r ffordd y mae buddsoddiad tramor yn ysgubo i mewn yn her wirioneddol i ni, ac mae’r gallu i ymateb ar raddfa fawr i hynny yn rhywbeth y mae angen inni fynd i’r afael ag ef. Felly, ar ryw ystyr, nid Bil sydd ei angen mewn ymateb i hyn. Nid prinder pwerau yw'r broblem. Y broblem yw nad oes gennym y capasiti a'r modd a'r cyllid i allu cymryd camau ar y raddfa angenrheidiol i fachu'r cyfleoedd hyn.
Credaf ei bod yn werth tynnu sylw at rai tensiynau y mae angen inni eu cydnabod. Gwyddom fod Deddf cenedlaethau’r dyfodol yn gosod cyfrifoldeb arnom i beidio â chyfnewid buddiannau hirdymor y genhedlaeth nad yw wedi'i geni eto am ein buddiannau tymor byr ni heddiw. Fe wyddom fod prosiectau ynni—nid rhai adnewyddadwy yn unig, ond unrhyw brosiect ynni—yn wynebu gwrthwynebiad lleol sylweddol. Mae Carolyn Thomas, yn gywir ddigon, wedi tynnu sylw at rai o ganlyniadau anfwriadol cael safbwynt diysgog iawn ar osod ceblau o dan y ddaear, er enghraifft, a allai niweidio ecosystemau hynod werthfawr, sy’n mynd yn groes i’r hyn rydym am ei wneud.
Gwyddom hefyd fod yn rhaid inni gydbwyso’r bygythiadau a wynebwn. Ddoe ddiwethaf, cyhoeddwyd ymchwil newydd yng nghyfnodolyn Nature Geoscience, a ddangosai pa mor gyflym y mae gwyddoniaeth newid hinsawdd yn datblygu a sut y gallai cynnydd bach iawn yn y tymheredd arwain at bwynt tyngedfennol, sydd wedyn yn arwain at golli llawer mwy o iâ môr, er enghraifft. Dangosodd yr astudiaeth fod pwynt tyngedfennol a nodwyd o'r newydd o ran colli—
Bydd angen ichi ddirwyn i ben os gwelwch yn dda, Lee.
—iâ yn yr Antarctig yn datblygu ar gyfradd lawer cyflymach nag a ragwelwyd gennym. Felly, bydd angen dod â chymunedau gyda ni, ond drwy ohirio gweithredu yn erbyn newid hinsawdd, byddwn yn rhoi’r cymunedau hynny mewn perygl llawer mwy nag y byddem yn dymuno. Mae'n bwysig ein bod yn deall y cyfaddawdau hynny, a'n bod yn eu hwynebu mewn ffordd ddoeth. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl bwysig hon, a thynnu sylw at ein hymrwymiad cadarn i sicrhau bod cyfranogiad a pherchnogaeth gymunedol wrth wraidd ein huchelgeisiau ynni. Hoffwn wneud dau brif bwynt heddiw. Y pwynt cyntaf yw ein bod wedi ymrwymo'n llwyr i’r ymdeimlad a fynegir yn y cynnig. Mae'n rhaid i Gymru elwa, drwy fwy o gyfranogiad a pherchnogaeth leol a chymunedol, o’r pontio hanfodol i ynni adnewyddadwy. Rydym wedi mabwysiadu targed i sicrhau bod o leiaf 1.5 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol erbyn 2035, gan adeiladu ar ein targed blaenorol o 1 GW erbyn 2030. Ac mae 97 y cant o’r targed 1 GW eisoes wedi’i gyflawni.
Yr ail bwynt yw bod angen cymysgedd o ymyriadau i gyflawni ein nodau, yn y ffordd a ddisgrifiwyd gan Lee Waters, a bod rhai canlyniadau anfwriadol os mai deddfwriaeth sylfaenol yw’r arf y byddwn yn estyn amdano yn gyntaf. Mae ynni adnewyddadwy yn sector sy’n tyfu’n gyflym ac yn newid, ac mae angen i’n polisïau fod yn hyblyg, fel y gallwn ymateb er mwyn gwneud y gorau o’r amgylchiadau newydd hynny. Rwy’n deall yr awydd i sicrhau bod trefniadau’n cael eu hymgorffori mewn deddfwriaeth sylfaenol, a gallaf ddychmygu rhyw bwynt yn y dyfodol lle gallai rhyw elfen o ddeddfwriaeth fod o gymorth. Ond mae'n rhaid i’n polisïau, yn ogystal â bod yn uchelgeisiol ac yn ymestynnol, fod yn ddigon hyblyg fel y gallwn ymateb yn gyflym ac yn hawdd i newidiadau allanol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi ynni cymunedol a lleol ers 15 mlynedd, ac rydym yn darparu cymysgedd o ymyriadau i helpu i gynyddu perchnogaeth gymunedol, gan gefnogi cymunedau o’r cam cysyniad hyd at gwblhau'r agweddau ariannol a chyflawni'r prosiect. Mae gennym gronfa o £12 miliwn i gynorthwyo mentrau cymunedol i wireddu eu syniadau.
Mae ein canllawiau ar berchnogaeth leol yn berthnasol i bob datblygiad ynni newydd. Mae hwn yn fframwaith i sicrhau bod prosiectau'n cael eu cynllunio a'u cyflwyno mewn cytgord â'r bobl a'r lleoedd y cânt eu lleoli ynddynt. Mae Ynni Cymru yn rhoi cyfle gwirioneddol i ehangu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy lleol a chymunedol yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i gyflawni ein targed o sicrhau bod 100 MW o ynni adnewyddadwy newydd yn cael ei gynhyrchu gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol erbyn 2026. Mae grantiau eisoes wedi’u hymrwymo i helpu grwpiau cymunedol i gyflymu’r prosiectau hyn. Y perygl gyda’r cynnig deddfwriaethol hwn yw na fydd yn mynd i’r afael â’r ffaith bod rhai rhwystrau ymarferol i berchnogaeth leol, gan gynnwys, weithiau, y capasiti a’r awydd weithiau, y bydd rhai grwpiau busnesau lleol ac unigolion yn eu rhannu gyda ni o ran eu gallu i gymryd perchnogaeth ar yr asedau hyn, ac mae'n rhaid ystyried hynny yn y dull cyffredinol. Y perygl a wynebwn gyda deddfwriaeth fel y mae, o ran ei bod yn mandadu perchnogaeth leol, yw y gallwn atal y buddsoddiad hanfodol sydd ei angen arnom ac a fydd o fudd i bob cymuned.
Roeddwn yng nghynhadledd Global Offshore Wind yr wythnos diwethaf yn trafod y ffordd y mae ynni gwynt ar y môr yn gyfle economaidd a allai fod yn drawsnewidiol, yn ogystal â chyfle ynni glân—newid a fyddai’n cefnogi iechyd economaidd cymunedau ledled Cymru, ac rydym am i Gymru allu arwain y gwaith hwnnw. Ac mae perygl y gallai deddfwriaeth o’r math hwn lesteirio’r nod hwnnw, er mor anfwriadol.
Y gwaith y gall Banc Datblygu Cymru ei wneud i helpu prosiectau i sicrhau perchnogaeth leol, rôl Trydan Gwyrdd Cymru—dyma ddwy enghraifft o’r math o gymysgedd o ymyriadau sydd ar y gweill gan y Llywodraeth, yn ogystal ag annog buddsoddiad mewn sgiliau, swyddi, y gadwyn gyflenwi ac mewn bioamrywiaeth. Rydym am ddenu’r math hwnnw o fuddsoddiad sy’n cefnogi ein holl gymunedau yng Nghymru.
Mae’r cynnig a drafodwn heddiw yn ceisio canolbwyntio, yn gwbl ddealladwy, ar gadw budd ac elw yng Nghymru, ac rwy’n deall yr hyn y mae Aelodau ar feinciau Plaid Cymru wedi’i ddweud heddiw. Ond mae'r ymyriadau rwyf newydd eu rhestru eisoes yn ein helpu i gyflawni hynny. Mae angen inni fonitro’r ymyriadau hynny a’u hadolygu’n barhaus.
Gan droi'n gryno at y cynigion ar gyfer mandadu'r defnydd o ynni adnewyddadwy mewn adeiladau newydd, yn ddiweddar, rydym wedi diwygio'r rheoliadau perthnasol a arweiniodd at welliannau sylweddol ym mherfformiad adeiladau newydd o ran allyriadau carbon. Ein gweledigaeth yw newid adeiladau i ddefnyddio dŵr poeth a gwres carbon isel. Bydd ymgynghoriad sy'n cynnwys y cynigion technegol llawn yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen eleni, ac mae gennym raglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a rhaglen Cartrefi Clyd, sy’n cefnogi ein sector tai.
Dirprwy Lywydd, i grynhoi, mae perchnogaeth gymunedol wrth wraidd ein polisi ynni adnewyddadwy ac mae'n elfen hanfodol o'n cynllun cyffredinol i fanteisio ar fuddsoddiadau ynni gwyrdd. Rwy'n credu bod deddfwriaeth fel hyn yn gallu bod yn arf rhy lawdrwm i gyflawni hyn ac mae peryg o gyfyngu ar y buddsoddiad sydd ei angen ar ein cymunedau ni a'n hamgylchedd ni. Mae angen y cymysgedd cywir o ymyriadau arnom ni. Mae ein dull ni o gefnogi perchnogaeth trwy dargedau uchelgeisiol, annog cymunedau a datblygwyr i weithio gyda'i gilydd a hyrwyddo perchnogaeth Gymreig drwy Trydan Gwyrdd Cymru ac Ynni Cymru eisoes yn darparu canlyniadau. Fe wnawn ni gadw'r polisïau hyn o dan drosolwg, wrth gwrs, ond dyma ran o'n hateb 'gwnaed yng Nghymru' ni i gyfranogiad a pherchnogaeth gymunedol.
A galwaf ar Adam Price i ymateb.
Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Buaswn i'n dechrau trwy ddweud hyn: rwy'n credu bod yr Aelodau sydd wedi siarad o'r meinciau cefn wedi dangos y perygl os nad ŷn ni yn deddfu. Hynny yw, bydd yna fwy eto o bwyslais dim ond ar safleoedd tir glas yn hytrach na defnyddio safleoedd mwy addas—byddai yna fethiant, a dyna'r pwynt yr oedd Carolyn yn gwneud. Ac wrth gwrs, mae angen, o ran y grid—dŷn ni yn gryf iawn o blaid tanddaearu, ond mae eisiau osgoi, wrth gwrs, tanddaearu mewn llefydd lle byddai hynny yn broblemus, a does neb o blaid hynny nac yn annog hynny. Mi fydd dal sefyllfa gyda ni lle bydd datblygiadau gyda ni yn lleol, ond dŷn ni'n methu cael y mynediad hyd yn oed—heb sôn am yr elw—at y trydan, oherwydd bod gyda ni system grid hen ffasiwn, a dweud y gwir, sydd wedi cael ei adeiladu ar gyfer y ganrif ddiwethaf, yn hytrach na'r math o smart grids lleol sydd yn caniatáu i ddatblygwyr lleol gael eu trydan nhw i mewn i ddefnydd lleol.
Ac wedyn, wrth gwrs, y thema o ecsbloetio—unwaith eto, buaswn i'n dweud wrth y Gweinidog, ond bai ein bod ni'n deddfu, mae'r datblygwyr yma wastad yn mynd i anwybyddu eich anogaeth ar gyfer perchnogaeth leol. Mae'n ffantastig bod Ynni Cymru yno er mwyn annog pobl leol i sefydlu cwmnïau cymunedol, ond nid yw datblygwyr mawr, oni bai bod rheidrwydd deddfwriaethol arnyn nhw, yn mynd i wrando. A buaswn i'n dweud, o ran y risg o ran deddfu i greu isafswm o berchnogaeth leol—bod yna risg ein bod ni'n colli buddsoddiad. Wel, mae Denmarc yn awgrymu fel arall—hynny yw, gwlad sydd wedi llwyddo i'r uchelfannau o ran datgarboneiddio, ac eto wedi gwneud hynny mewn ffordd gymysg. Hynny yw, mae yna ddatblygiadau mawr yn bodoli yn Nenmarc hefyd, ond maen nhw wedi gwneud hynny mewn model sydd hefyd yn rhoi pwyslais mawr yn llwyddiannus ar berchnogaeth leol, ac wedi gwneud hynny trwy ddeddfu.
Rhan arall, wrth gwrs, o ddeddfu—a dwi'n derbyn, efallai, mai, yn rhannol, defnyddio'r pwerau is-ddeddfwriaethol sydd yna'n barod—ydy creu'r rheidrwydd i roi solar ar y to, yn sicr mewn adeiladau newydd. Mae'r Undeb Ewropeaidd, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wedi deddfu i'w gwneud hi'n ofynnol i chi gael solar ar do unrhyw adeilad newydd neu unrhyw estyniad. Mae'r un peth wedi digwydd yn yr Alban ac mewn nifer o wledydd. Pam nag ŷn ni'n gwneud hynny fel pecyn yng Nghymru? A dyna pam mae deddfu yn rhan o'r ateb. Dwi'n derbyn y pwynt roedd Lee Waters yn ei wneud—dyw e ddim yr ateb i gyd. Dwi'n meddwl, gyda Great British Energy, a chyda'r national wealth fund, mae'n gallu mynd un o ddwy ffordd, achos pan wnaeth y faner yna godi uwchben y pyllau glo yn ein hardal ni—
'Mae'r pwll glo hwn bellach yn cael ei reoli ar ran y bobl'—.
Yn anffodus, mewn blynyddoedd wedi hynny, gwnaethon ni ffeindio mas nad oedd y penderfyniadau yn cael eu gwneud er budd pobl leol. Felly, mae perchnogaeth gyhoeddus yn rhan o'r ateb, ond mae'n rhaid bod y berchnogaeth hynny hefyd wedi'i gwreiddio yma yng Nghymru. Mae'n rhaid i ni gael ein cronfa cyfoeth ein hunain. Mae'n dda bod Trydan Gwyrdd Cymru yno, ond, yn sicr, dyna'r cerbyd ar gyfer sicrhau y dyfodol gorau posib i Gymru, nid dibynnu ar sefydliadau o'r tu allan, boed yn y sector gyhoeddus neu'r sector breifat.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8 yw'r ddadl ar ddeiseb P-06-1437, 'Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol'. A galwaf ar Rhianon Passmore i wneud y cynnig ar ran y pwyllgor.
Cynnig NDM8623 Rhianon Passmore
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb 'P-06-1437 Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a'r Comisiwn Brenhinol' a gasglodd 12,075 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon heddiw ar bwnc na fydd yn ddieithr i'r Aelodau yma. Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Susan Jane Jones-Davies, gyda 12,075 o lofnodion. Mae'r ddeiseb yn darllen: 'Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a'r Comisiwn Brenhinol'.
'Galwn ar Lywodraeth Cymru i dyfu gwariant ar sefydliadau sy’n diogelu treftadaeth a hanes Cymru—Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol—ac nid torri’r cyllid o 10.5-22.3 y cant. Mae’r sefydliadau yma yn gwarchod hanes a diwylliant ein cenedl, yn casglu, yn rhoi ar gadw, ac yn ei gyflwyno i bawb sy’n byw yng Nghymru. Maent hefyd yn gosod ffenest i’r byd o’n hanes unigryw.'
Ddirprwy Lywydd, mae'n bwysig nodi bod y ffigurau a ddyfynnir yn y ddeiseb hon yn seiliedig ar ddrafftiau cynharach o'r gyllideb, ac nad oedd y ffigurau terfynol mor llwm. Ond fel y noda'r deisebydd, mae pob £1 a fuddsoddir yn y sector yn arwain at werth £5 o dwf economaidd. Maent yn dadlau bod cadw'r sefydliadau sy'n cynnal ac yn tyfu ein gwlad a'n cymunedau, a chaniatáu i genedlaethau'r dyfodol adeiladu ar sylfeini cadarn llwyddiannau'r gorffennol, yr un mor bwysig ag erioed.
Mae cyllid ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru wedi bod yn bwnc mawr yn fy ngwaith dros y misoedd diwethaf. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag uwch ffigyrau yn Undeb y Cerddorion, sydd wedi bod yn cynnal deiseb yn galw am weithredu nawr i achub Opera Cenedlaethol Cymru, sefydliad cenedlaethol arall o fri byd-eang sy'n gweld dyfodol llwm iawn wrth i gyllid gael ei wasgu ac wrth i dalent ddechrau llifo ymaith.
Ddydd Llun yn y Pwyllgor Deisebau, fe wnaethom ystyried deiseb arall a oedd yn ceisio diogelu cyllid ar gyfer adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a'u rhaglen gerddoriaeth ieuenctid. Mae'r rhan fwyaf o'u myfyrwyr talentog ar fwrsarïau ac ar frig pyramid dilyniant sgiliau Cymru. Felly, byddwn yn ceisio trafod y ddeiseb bwysig honno maes o law hefyd.
Mae'n adeg heriol yn economaidd, Ddirprwy Lywydd, ac rydym i gyd yn ymwybodol o ba mor heriol. Mae Llywodraeth Cymru'n wynebu penderfyniadau amhosibl lle mae'r galw am gyllid yn fwy na'r pot o arian sydd ar gael. Rwy'n siŵr fod honno'n thema y byddwn yn ei chlywed yn ystod y ddadl hon heddiw. Mae'n amlwg fod cefnogaeth sylweddol iawn gan bobl Cymru i'n sefydliadau cenedlaethol, ein celfyddydau eiconig, sefydliadau cerddoriaeth a rhaglenni addysg Cymru. Dyna asgwrn cefn ein cenedl a chalon ein henw da rhyngwladol fel gwlad y gân, barddoniaeth a diwylliant—yn fyr, brand Cymru.
Rwy'n ymwybodol o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus sy'n craffu ar gyfrifon Amgueddfa Cymru ar gyfer 2021-22, a byddaf yn ei adael i eraill rannu'r pryderon a ddaeth i'r amlwg yn ystod y gwaith hwnnw. Edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw ac at glywed mwy am yr heriau sy'n wynebu ein sefydliadau cenedlaethol allweddol a sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i rannu'r pot yn gyfartal nawr ac yn y blynyddoedd i ddod i sicrhau bod ein llyfrgell genedlaethol a'n hamgueddfeydd cenedlaethol yn gallu ffynnu. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Diolch i’r Pwyllgor Deisebau am gynnal y ddadl hon. Fel y gwyddoch, mae’r pwyllgor diwylliant wedi bod yn cadw llygad ar y mater yma ers peth amser. Yn anffodus, mae hwn yn fater sydd wedi tyfu ac esblygu ers nifer o flynyddoedd bellach.
Yn hydref 2022 edrychodd fy mhwyllgor ar effaith costau cynyddol ar ddiwylliant a chwaraeon. Roedd y sectorau hyn yn dal i adfer o'r pandemig pan ddaeth graddau costau byw cynyddol i'r amlwg. O ganlyniad i'r ymchwiliad hwnnw, fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau trafodaethau brys i ddiogelu'r casgliadau cenedlaethol yn y llyfrgell genedlaethol. Fe wnaethom alw hefyd ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Whitehall i sicrhau pecyn cymorth ledled y DU i gefnogi'r sectorau diwylliant a chwaraeon mewn ymateb i bwysau costau byw. Cafodd yr awgrym olaf ei wrthod gan Lywodraeth Cymru ar y pryd.
Yn y misoedd ers hynny, mae fy mhwyllgor wedi galw'n gyson am lefelau digonol o gyllid i'n cyrff diwylliannol cenedlaethol o ganlyniad i bryderon sydd wedi'u codi gyda ni. Mae Amgueddfa Cymru wedi dweud wrthym fod angen iddi gael dwywaith y dyraniad cyfalaf sydd ganddi i wneud dim mwy na mynd drwy'r gwaith hanfodol y mae angen iddi ei wneud. Yn yr un modd, nododd y llyfrgell na fyddai treblu eu grant yn ddigon i gynnal eu hadeilad. Ddirprwy Lywydd, nid gor-ddweud yw hyn. Dyma'r realiti sy'n wynebu ein cyrff diwylliannol cenedlaethol. Fel y clywsom gan Rhianon, mae yna bryderon eraill ehangach na hyn hefyd.
Drwy gydol ein gwaith yn lleisio a mynd i'r afael â'r pryderon hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd i ni y byddant yn darparu cymorth lle gallant. Mae'n amlwg, fodd bynnag, nad yw gosod y baich o ddiogelu ein casgliadau cenedlaethol ar un adran o'r Llywodraeth yn ymarferol. Dyna pam ein bod wedi galw am wneud diogelu ein casgliadau cenedlaethol yn genhadaeth drawslywodraethol. Byddai sicrhau bod ymdrech ar y cyd gan y Llywodraeth i warchod y trysorau hyn yn golygu eu bod yn cael eu diogelu nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Oherwydd bod pob adran o'r Llywodraeth yn elwa o'r cyrff diwylliannol hynny—boed yn addysg gydag ysgolion yn ymweld â safleoedd ein hamgueddfeydd cenedlaethol, neu'r gwasanaeth iechyd yn defnyddio celf fel therapi i wella pobl sâl—mae gan bob adran o'r Llywodraeth ran i'w chwarae yn hyn.
Mae'n dda iawn fod yr Ysgrifennydd Cabinet newydd wedi cytuno gyda'r pwyllgor fod angen—ac rwy'n dyfynnu—mynd i'r afael â'r mater hwn nawr drwy gydweithredu ar draws y Llywodraeth, yn hytrach na chan un adran.
Mae gormod yn y fantol y gellid ei golli os nad ymdrinnir â hyn ar frys. Fel y dywedodd cyfaill ein pwyllgor, y cerddor Gwyddelig Philip King:
'mae diwylliant a'r celfyddydau yn hanfodol i'n lles ac yn werthfawr yn eu hawl eu hunain fel gweithgareddau dynol unigryw na all dim gymryd eu lle.'
Dyna pam mae diogelu mynediad at ein cyrff cenedlaethol diwylliannol mor bwysig. Ni ellir mesur gwerth yr hyn y maent yn ei ddarparu i ni, o ran llesiant, ar fantolenni: maent yn gyfoeth unigryw, amhrisiadwy sy'n catalogio ac yn ategu ein profiad o fod yn Gymry ac o fod yn ddynol. Pan gollir y dreftadaeth ddiwylliannol honno, fe'i collir am byth.
Gobeithiwn yn gryf y bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda ni, gyda’n cyrff diwylliannol cenedlaethol, ac ymateb gyda’r brys sydd ei angen.
Ym mis Ionawr eleni, ces i’r cyfle i ymweld â Philadelphia. Tra yno, fe es i ymweld â Delta yn Pennsylvania. Yno, roedden nhw yn parchu'r dreftadaeth Gymreig: bythynnod chwarelwyr o Ddyffryn Nantlle, capel Cymraeg a mynwent gerllaw yn llawn englynion. Penwythnos yma, fe wnes i gyfarfod ag ymwelwyr o Califfornia. Roedden nhw wrth eu bodd yn ymweld â chestyll Cymru. Mae’n hanes a’n diwylliant ni yn hollbwysig i fywyd Cymru. Fel mae’r ddeiseb yn dangos, mae’r manteision yn amlwg: o bob £1 a fuddsoddir, cawn £5 o fudd economaidd. Ond nid gormodedd yw dweud bod hyn nawr yn y fantol.
Mae Amgueddfa Cymru yn wynebu toriad o 10.5 y cant, gyda chyllideb Cadw a'r Comisiwn Brenhinol yn gostwng 22 y cant. Mae Grŵp Treftadaeth Cymru wedi dweud y byddai'n
'amhosibl gweld dyfodol gweithredol i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn dilyn toriad mor ddifrifol.'
Mae cyn-brif lyfrgellydd hynaws Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi dweud yn gadarn a chryf:
'Pam mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i ryfel yn erbyn diwylliant?'
Mae Llywodraeth yr Alban eisoes yn ymwybodol iawn o'r ffaith hon, ac wedi teilwra eu polisi i adlewyrchu'r realiti hon. Cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog y llynedd y byddai'r Alban yn cynyddu ei chyllideb ddiwylliant £15.8 miliwn i gefnogi'r sector. Tra bo'r Alban yn cefnogi eu diwylliant a'u treftadaeth, rydym ni'n diberfeddu ein diwylliant ni. Nid yw'n gynaliadwy.
Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa anodd. Rydym wedi profi effaith polisi economaidd y Torïaid. Mae ein setliad £700 miliwn yn llai mewn termau real, a £3 biliwn yn is na phe bai wedi tyfu yn unol â chynnyrch domestig gros ers 2010. Rwy'n deall hynny i gyd. Rwy'n deall bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Rwy'n derbyn hynny, ond mae angen y sector hwn arnom. Fel cenedl, mae angen y sector arnom. Mae ei angen arnom yn economaidd, ond yn bwysicach fyth, mae angen inni allu dangos i'n plant a'u plant hwythau sut beth oedd Cymru, beth y gallwn ei ddysgu o'r gorffennol, i'w galluogi hwythau i ddysgu am ein hanes cyfoethog a rhannu hynny wedyn gyda gweddill y byd. Diolch yn fawr.
Dwi’n falch o’r cyfle i gael cyfrannu i’r ddadl hon heddiw, a datgan fy nghefnogaeth ddi-amheuol i’r ddeiseb, gan ddiolch i’r rhai sydd wedi cyflwyno, hyrwyddo ac arwyddo ei chynnwys.
Wrth gwrs, mae polisïau llymder Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r toriadau sydd wedi eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn sgil hyn wedi bod yn drychinebus i’n sefydliadau diwylliannol, a gadael sector sy’n bwysig nid yn unig o ran ein heconomi, ond o ran ein hunaniaeth fel cenedl, mewn sefyllfa argyfyngus.
Gwyddom, wrth gwrs, am y rhybuddion o ran yr adeiladau a’r risg i’r casgliadau cenedlaethol oherwydd cyflwr yr adeiladau. Ond mae risg real hefyd i’r casgliadau yn sgil y swyddi a’r arbenigedd sydd wedi eu colli. A dwi ddim yn credu bod digon o sylw wedi ei roi i hyn a’r effaith andwyol mae hyn yn barod yn ei gael ar waith Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r comisiwn brenhinol. Wrth reswm, mae yna nerfusrwydd o fewn y sefydliadau hyn wrth siarad yn agored am y sefyllfa. Ond mae’n glir imi, o siarad â chynifer o staff, pa mor eithafol mae’r toriadau wedi bod a pha mor bellgyrhaeddol yw’r effaith.
Fel y mae Aelodau eraill o'r Senedd wedi dweud heddiw, ein hamgueddfeydd cenedlaethol, ein llyfrgell genedlaethol a'r comisiwn brenhinol yw porthorion ein casgliadau cenedlaethol a'n cof cenedlaethol. Nid yn unig eu bod yn diogelu'r casgliadau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, maent hefyd yn dod â'r casgliadau'n fyw yma nawr, ac yn hollbwysig, maent yn eu gwneud yn berthnasol i fwy o bobl nag erioed o'r blaen drwy waith allgymorth ac addysg gwych.
Fel y bydd llawer o Aelodau'r Senedd yn gwybod, bûm yn gweithio i Amgueddfa Cymru cyn cael fy ethol, ac yn bersonol, cefais fy llorio gan faint a dyfnder y toriadau a wnaed yn ystod y misoedd diwethaf wrth i'r rheolwyr presennol geisio mantoli'r llyfrau. Dywed undebau fod 144 o rolau wedi'u colli, ac ar hyn o bryd mae'r rolau blaen tŷ yn cael eu hailstrwythuro mewn ffordd a fydd yn effeithio'n ddifrifol ar staff ar y graddau is ac yn gwaethygu eu telerau a'u hamodau—hyn mewn sefydliad a enillodd wobr Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn Sain Ffagan yn 2018, gwobr fwyaf mawreddog y byd i unrhyw amgueddfa.
Gwyddom hefyd am yr effaith ar ein llyfrgell genedlaethol, gydag aelodau blaenllaw o staff wedi gadael a gwasanaethau eisoes wedi eu cyfyngu. Mae colli'r swyddi hyn nid yn unig yn effeithio ar waith y llyfrgell, ond hefyd ar yr economi leol yng Ngheredigion. Erfyniaf, felly, ar yr Ysgrifennydd Cabinet i nid yn unig nodi'r ddeiseb hon, ond ymateb drwy gomisiynu ymchwil annibynnol o effaith y toriadau ar y sefydliadau hyn, a'r effaith nid yn unig ar y casgliadau cenedlaethol o ran eu diogelwch, ond hefyd o ran yr ymgysylltu. Gofynnaf hefyd iddi sicrhau bod y gwaith hwn yn annibynnol.
Os ydym am lwyr werthfawrogi diwylliant, mae'n rhaid inni weithredu a sicrhau bod y toriadau'n cael eu gwrthdroi. Mae'r swm sydd ei angen yn fach iawn o gymharu â chyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru, ond mae'r effaith yn bellgyrhaeddol. Gadewch inni wneud y ddadl heddiw yn ddechrau ar drafodaethau pellach, nid yn ddechrau'r diwedd. Rwy'n credu ei bod yn amlwg i bob un ohonom nad yw gwneud dim yn opsiwn, ac mae cynyddu cyllid yn hanfodol os ydym am ddiogelu ein casgliadau cenedlaethol, ond hefyd y sefydliadau cenedlaethol, ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhaid i gyllidebu seilo ddod i ben. Rydym yn gwybod bod y sefydliadau cenedlaethol hyn yn cyfrannu mor effeithiol tuag at addysg, tuag at iechyd a lles. Mae angen inni edrych yn wahanol ar gyllidebau.
Dywedodd Raymond Williams fod diwylliant yn gyffredin, felly gadewch inni normaleiddio buddsoddi mewn diwylliant a sicrhau bod sefydliadau diwylliannol cenedlaethol ar gyfer y lliaws, nid yr ychydig. Rwy'n poeni bod ein celfyddydau a'n diwylliant yn dod yn fwyfwy elitaidd bob dydd ar adeg pan allent fod yn drawsnewidiol—trawsnewidiol wrth fynd i'r afael â thlodi plant, trawsnewidiol i'n heconomi. Mae gennych ein cefnogaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, i frwydro am yr arian angenrheidiol, ond mae angen inni gael sgwrs ddifrifol a rhoi'r gorau i osod y celfyddydau a diwylliant yn erbyn y GIG. Maent i gyd yn hanfodol i ddyfodol Cymru.
Diolch i'r deisebydd am dynnu sylw at y mater pwysig hwn ac i'r pwyllgor am ganiatáu inni ei drafod heddiw. Dangoswyd bod amgueddfeydd, llyfrgelloedd a safleoedd treftadaeth yn cefnogi addysg, cynhwysiant cymdeithasol, yn ogystal â gwella iechyd a llesiant. Maent hefyd yn helpu i hybu balchder lleol a chydlyniant cymunedol, gyda phedwar o bob pump o bobl yn dweud bod safleoedd treftadaeth yn gwneud eu tref yn lle gwell i fyw. Wrth gwrs, ceir llawer o fanteision economaidd hefyd. Canfu adroddiad gan Cadw fod ymwelwyr domestig a rhyngwladol i atyniadau treftadaeth Cymru wedi cyfrannu £1.7 biliwn amcangyfrifedig i economi Cymru.
Pan gyflwynwyd mynediad am ddim ar draws ein hamgueddfeydd yn 2001, dyblodd nifer yr ymwelwyr, a rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024, derbyniodd Amgueddfa Cymru 1.4 miliwn o ymwelwyr drwy'r drysau ar draws pob safle. Mae ymchwil a wnaed gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, yn awgrymu y byddai codi tâl am fynediad i sefydliadau'r DU yn arwain at haneru niferoedd ymwelwyr, ac nid wyf yn credu mai codi tâl am fynediad yw'r ffordd ymlaen. Ond yn sgil ymweliad diweddar gyda'n pwyllgor diwylliant â'r amgueddfa genedlaethol, rwy'n gwybod eu bod yn edrych ar ffyrdd a chymhellion eraill ar gyfer denu incwm. Ac rwy'n gwybod bod Amgueddfa Cymru wedi edrych ar hynny yn Sain Ffagan hefyd—felly, mae gennym Westy'r Vulcan newydd symud yno yn gweini cwrw wedi'i fragu'n lleol—ond mae angen i fwyafrif helaeth y cyllid ddod gan Lywodraeth Cymru.
Gwn mai'r realiti anffodus yw ein bod yn wynebu grym llawn camreoli economaidd y Torïaid. Nid wyf yn genfigennus o Weinidogion Llywodraeth Cymru sydd wedi gorfod ceisio dod o hyd i arbedion diolch i dwll du o bwysau chwyddiant. Mae'n anodd iawn penderfynu sut i dorri'r gacen gyllido pan fo'r gacen yn rhy fach yn y lle cyntaf. Mae cyni wedi bod yn gibddall, yn anflaengar ac yn ddinistriol i safleoedd treftadaeth a diwylliant a ariennir yn gyhoeddus ledled y DU. Nid wyf yn credu bod Llywodraeth y DU erioed wedi ei wneud yn flaenoriaeth, ac felly rwy'n gobeithio y gwelwn newid Llywodraeth a pholisi yn San Steffan. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r deisebwyr am lansio'r ddeiseb i ddiogelu ein sector diwylliannol a'r gwaith a wnaiff y rhai sy'n gweithio ynddo i wneud i'n diwylliant Cymreig a'n hanes a'n cynnig Cymreig yr hyn ydyw heddiw? Rwy'n credu, ac mae cymaint o rai eraill yn y Siambr hon yn credu, a Chymru gyfan mae'n debyg, fod angen inni weithio'n galed i ddiogelu ein diwylliant Cymreig a sicrhau bod ein treftadaeth yn cael ei chadw, ei diogelu a'i datblygu i'r safon orau bosibl. Ac rydym i gyd yn ymwybodol, fel yr amlinellwyd heddiw yn y ddadl hon, o'r anawsterau y mae'r sector yn eu hwynebu yn ddiweddar.
Mae wedi dod yn amlwg nad yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi ei flaenoriaethu'n ddigon da yn y blynyddoedd diwethaf yn y setliad cyllidebol. Fe wyddom, er enghraifft, yn y gyllideb ddiwethaf mai'r sector diwylliannol a welodd y toriad mwyaf i gyfraniadau i'w gyllideb, a gadawyd sefydliadau ar eu pen eu hunain yn rhy aml. Clywsom rybuddion, oni wnaethom, gan yr amgueddfa, y llyfrgell genedlaethol, y comisiwn brenhinol a chymaint o rai eraill a oedd yn rhybuddio am y niwed y byddai diffyg cymorth yn ei wneud. Fe wnaethant rybuddio am nenfydau'n gollwng, toeau toredig, casgliadau mewn perygl, a gwaith cynnal a chadw drud ond angenrheidiol yn cyfrannu at y pwysau sy'n wynebu ein sefydliadau cenedlaethol. Ac mae'n bechod, felly, na chafodd y rhybuddion hynny mo'u clywed na'u cefnogi mewn ffordd a fyddai wedi diogelu dyfodol ein hanes a'n diwylliant yng Nghymru.
Mae'r rheini yn y sector sy'n cynrychioli'r Gymraeg, celf a diwylliant Cymru a hanes Cymru i gyd wedi disgrifio eu dicter a'u gofid ynghylch penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur Cymru. Dywedodd Cymdeithas yr Iaith, er enghraifft, y bydd y toriadau'n cael effaith drychinebus ar y Gymraeg a diwylliant Cymru. Fe soniodd Amgueddfa Cymru am
'y toriad cyllid mwyaf yn hanes yr amgueddfa',
ac fe'n hanogodd i beidio â bychanu'r effaith hirdymor, barhaol y byddai'r toriadau hyn yn ei chael, oherwydd, fel y gwyddom, pan fo diwylliant yn diflannu—ein treftadaeth, ein hanes—ni allwn ei gael yn ôl.
Ac o ystyried y syniad fod pob £1 yn y sector yn arwain at werth £5 o dwf economaidd, mae'n ymddangos yn benderfyniad cwbl resymol, yn fy marn i, i Lywodraeth Cymru fynd ar drywydd hyn. A phan ystyriwch fod y toriadau—rwy'n credu bod Heledd Fychan wedi gwneud y pwynt hwn—yn arbediad o 0.02 y cant i gyllideb Llywodraeth Cymru, mae'n anoddach fyth deall y rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniadau.
Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog diwylliant yr wrthblaid i gyfarfod â phobl sy'n gweithio yn y sector, ac rwyf wedi gweld y gwaith sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni gan bobl sy'n malio'n wirioneddol, a phobl sy'n wirioneddol angerddol am warchod ein diwylliant a'n treftadaeth. Mae hynny'n amlwg iawn, ac mae'r sefydliadau hynny wedi cael eu gorfodi yn ystod y blynyddoedd diwethaf i addasu'n gyflym iawn i ganllawiau, a mynd i'r afael â phroblemau'n codi o gyfyngiadau llym COVID, er enghraifft, a delio â materion mwy, a bod ar gau am gyfnod hwy, efallai, nag y byddai sectorau eraill wedi bod. Ac mae'n ymddangos yn annheg felly eu bod yn cael eu cosbi ar ôl y pandemig, ar yr union adeg y maent yn ceisio adfer ohono.
Yn amlwg mae pob sector wedi dioddef o'r argyfwng costau byw, effaith rhyfeloedd dramor, ac yn sgil COVID. Ond rwy'n credu bod y gwaith caled yn y sector hwn yn amlwg iawn, ac yn anffodus, gwobrwywyd y gwaith caled gan y sefyllfa ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ynddi nawr, ac nid yw'n ymddangos yn deg i mi nad yw'r gwaith caled yn cael ei wobrwyo, nac ychwaith yn cael ei werthfawrogi fel y mae'n ei haeddu am wynebu'r anawsterau aruthrol y mae ein sefydliadau cenedlaethol yn eu hwynebu.
Felly, lle rydym ni nawr? Fe wyddom fod angen gwneud gwerth miliynau o bunnoedd o waith. Felly, mae sefydliadau cenedlaethol, atyniadau mawr, yn gwneud penderfyniadau nawr ar gyfer y dyfodol a fydd yn arwain at ganlyniadau difrifol yn y tymor hir. Ac un o'r rhai mwyaf amlwg, efallai, yw'r bygythiad i'n casgliadau cenedlaethol. Rwy'n credu bod hynny'n rhan enfawr o'r rheswm dros y ddeiseb yma heddiw. Ni allwch adnewyddu eiddo gwerthfawr ac arteffactau a chasgliadau fel y gallwch ei wneud weithiau gyda thechnolegau ac offer arall. Pan gollir y rhain, ni allwch eu cael yn ôl.
Felly, rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Lafur Cymru yn ymwybodol iawn o hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn camu i'r adwy ac yn cefnogi'r sector, nid yn unig yn ariannol, ond gyda chefnogaeth a rheolaeth effeithiol hefyd. Felly, rwy'n gobeithio yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet y byddwn yn clywed yr angerdd, yn clywed yr ymrwymiad i'n diwylliant, i'n treftadaeth, fel sydd i'w weld gan y bobl sy'n gweithio yn y sector, y bobl sy'n gwerthfawrogi'r sector, a'r bobl sydd am ei weld yn ffynnu ymhell i'r dyfodol. Diolch.
Diolch yn fawr i'r Pwyllgor Deisebau am ddod â'r ddadl yma ger bron, a diolch i'r deisebwyr am eu dygnwch yn dod â'r pwyntiau yma heddiw. Roeddwn i'n aelod o'r pwyllgor pan wnaethom ni drafod hwn i gychwyn, a dwi'n falch iawn fod y ddadl yma wedi dod yma heddiw, a dwi'n ategu beth oedd Heledd, Delyth ac eraill wedi ei ddweud ynglŷn â hyn. Ond mi fuaswn i'n licio hefyd amlygu y lleol yn beth dwi'n mynd i'w drafod heddiw, i ddangos enghraifft o beth sydd yn digwydd ar draws Cymru.
O ran treftadaeth yn fy rhanbarth i, un cysylltiad hanfodol â’n gorffennol yw Big Pit. Mae'n un o'r trysorau mwyaf gwerthfawr. Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, daeth cyfanswm o 107,995 o ymwelwyr drwy'r drysau. Golyga hyn fod dros 100,000 o bobl wedi cael profiad o hanes Cymru, ac yn benodol, ein treftadaeth lofaol ym Mlaenafon. Fodd bynnag, gydag Amgueddfa Cymru yn wynebu toriad o 10.5 y cant, byddwn yn gweld amgueddfeydd ledled Cymru, gan gynnwys Big Pit, yn methu darparu ar gyfer yr un nifer o ymwelwyr mwyach, a darparu’r gwasanaeth y maent yn enwog amdano.
Ac fel y clywsom eisoes gan gangen Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn yr amgueddfa, mae Big Pit wedi gorfod lleihau ei nifer o staff blaen y tŷ; mae tywyswyr y lofa'n gorfod cyflawni dyletswyddau mewn mannau eraill yn yr amgueddfa a hyfforddi staff eraill, yn hytrach na gallu arwain teithiau o dan y ddaear; nid yw tocynnau teithiau tanddaearol ar werth ar ôl 1 p.m., ac mae ffreutur y pwll wedi colli'r rhan fwyaf o'i staff ac nid yw bellach yn gweini bwyd i ymwelwyr.
Wrth gwrs, bydd hyn nid yn unig yn cael effaith andwyol ar ein heconomi, ar swyddi pobl a’r cyfraniad ariannol y mae’r amgueddfa hon yn ei wneud i Dorfaen ac i Gymru, ond byddai hefyd yn ein gwneud yn dlotach yn ddiwylliannol. Mae’r lleoedd hyn yn borth i’n gorffennol, i’n treftadaeth, gyda llawer o’n teidiau a’n hen deidiau wedi bod yn lowyr yn y pyllau hyn. Ond heb fuddsoddiad teilwng yn y mynediad hanfodol hwn at ein treftadaeth falch ac unigryw, fe fydd yn parhau i ddirywio.
Dyna pam fod y ddeiseb hon heddiw mor bwysig. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn ei gefnogi’n gryf. Oni bai fod Llywodraeth Cymru yn cymryd sylw priodol o'r toriadau hyn i'n diwylliant a'n celfyddydau, a hefyd yn cydnabod yr effaith y bydd yn ei chael, byddwn yn parhau i weld y sector hwn yn marw o flaen ein llygaid. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n falch iawn o ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Credaf fod y ddeiseb hon yn adlewyrchu'n dda pa mor bwysig yw'r sefydliadau hyn i'n cenedl. Fodd bynnag, rydym yn wynebu’r heriau ariannol mwyaf ers dechrau datganoli, heb unrhyw atebion hawdd. Felly, mae'n rhaid inni weithio gyda'n gilydd i ddiogelu ein sefydliadau cenedlaethol, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau am eu cefnogaeth i wneud hynny.
Rwy’n gwbl ymwybodol o’r effaith y mae gostyngiadau yn y gyllideb wedi’i chael ar Amgueddfa Cymru, y llyfrgell genedlaethol a’r comisiwn brenhinol. Wrth baratoi cyllideb eleni, bu’n rhaid i Weinidogion wneud penderfyniadau anodd i ail-siapio ein cynlluniau gwariant yn sylweddol. Yn anffodus, nid oedd gan y gyllideb a etifeddais pan ddechreuais yn y swydd unrhyw hyblygrwydd i atal toriadau i’r cyllidebau hynny. Ers dechrau yn y swydd, rwyf wedi cyfarfod â chadeiryddion, prif weithredwyr, aelodau staff, aelodau undebau llafur pob un o'r sefydliadau, ac rwyf wedi ymrwymo i'w cefnogi i ffynnu ac nid i oroesi'n unig.
Gwyddom fod eu staff medrus iawn yn allweddol yn y gwaith o ofalu am ein casgliadau cenedlaethol, ac mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i gadw swyddi. Rydym wedi ailflaenoriaethu cyllid a ddyrannwyd i gyflawni’r strategaeth ddiwylliant i liniaru yn erbyn colli swyddi ym mhob un o’n cyrff diwylliannol hyd braich.
Mae Amgueddfa Cymru a’r llyfrgell yn wynebu heriau sylweddol wrth gynnal a chadw eu hadeiladau hanesyddol ac eiconig. Rwyf wedi cael sicrwydd fod y casgliadau’n ddiogel ar hyn o bryd, ond fod angen cymorth ychwanegol. Blaenoriaeth Amgueddfa Cymru yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Amcangyfrifir bod angen £30 miliwn dros chwe blynedd i fynd i'r afael â phroblemau sylweddol, gan gynnwys y to. Mae angen £3 miliwn ar y llyfrgell hefyd ar gyfer ei tho a phroblemau ehangach. Rwyf i a fy swyddogion yn gweithio gyda’r ddau sefydliad ar hyn o bryd ar ddatblygu cynlluniau priodol a nodi opsiynau ariannu posibl.
Ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw sicrwydd ynghylch cyllid yn y dyfodol, ond rydym yn disgwyl setliad ariannu amlflwyddyn arall. Mae ansicrwydd ynghylch ei amseriad, ac ni chawn wybod mwy tan ar ôl etholiad cyffredinol y DU. Felly, bydd unrhyw benderfyniadau ar gyllid yn y dyfodol yn ffurfio rhan o’r trafodaethau'n ymwneud â’r gyllideb a'r adolygiad o wariant blynyddol nesaf.
Gŵyr pob un ohonom fod y rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus yn parhau i fod yn heriol, ac o'r herwydd, mae'n rhaid inni fod yn bragmatig. Rydym yn adolygu ein hymrwymiadau presennol i archwilio’r hyn y gallwn ei wneud yn wahanol i ryddhau cyllid yn y flwyddyn ariannol hon, gyda’n sefydliadau cenedlaethol, eu lleoliadau a’r casgliadau sydd yn eu gofal yn flaenoriaeth lwyr. Mae'n bwysig hefyd fod ein sefydliadau cenedlaethol yn gweithio’n fwy cydweithredol, i wneud y mwyaf o’u potensial, yn ogystal â pharhau i archwilio’r holl gyfleoedd sydd ar gael i godi arian a chreu incwm. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, fel y sefydliadau, fantoli ei chyfrifon, ond rwy’n awyddus i weithio gyda phawb yn y Siambr hon i weld beth y gallwn ei wneud.
Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad? Mae'n ddrwg gennyf, Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch yn fawr iawn am dderbyn ymyriad. A fyddech chi'n derbyn, serch hynny, fod eu gallu i gynhyrchu incwm yn cael ei gyfyngu? Rydym wedi clywed enghreifftiau o staff yn cael eu colli os yw'r ffreutur yn cau neu os na allwch groesawu cymaint o ymwelwyr. Onid oes anhawster felly, os ydych chi'n cyfyngu ar eu gallu i gynhyrchu incwm, gyda llai o staff ar gael, sut ydych chi'n disgwyl iddynt ddod yn fwy proffidiol gyda llai o staff a llai o gyfleoedd i gynhyrchu incwm?
Mae'n rhaid imi ddweud, yn y cyfarfodydd a gefais, yn enwedig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, fod ganddynt syniadau anhygoel ynghylch codi arian a sicrhau eu bod yn manteisio i'r eithaf ar bob cyfle, ac ni chredaf eu bod yn ystyried hynny'n rhwystr; credaf eu bod wedi dod dros hynny ac yn cydnabod bod yn rhaid inni wneud pethau'n wahanol, a bod ffyrdd y gallant weithio'n wahanol i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Mae ein blaenoriaethau drafft ar gyfer diwylliant yn nodi ein blaenoriaethau a’n huchelgeisiau ar gyfer diwylliant dros y pum mlynedd nesaf. Nid ydym wedi dal yn ôl yn ein huchelgeisiau ar gyfer y sector, ac rwy'n gobeithio bod hyn yn arwydd o fy ymrwymiad i barhau i archwilio pob cyfle i gefnogi ein sefydliadau cenedlaethol gwerthfawr. Diolch.
Galwaf ar Rhianon Passmore i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Aelodau ar draws y Siambr am eu cyfraniadau, Cadeirydd y pwyllgor diwylliant, Delyth Jewell; Rhun ap Iorwerth; Heledd Fychan a Peredur Owen Griffiths am eu hapeliadau angerddol i ddiogelu a thyfu ein sefydliadau a'n hasedau cenedlaethol a’r gyllideb ddiwylliant, ac i Tom Giffard am ei sylwebaeth. Fel y dywedodd Carolyn Thomas, rwy'n credu bod cyni yn gibddall.
Felly diolch, Weinidog, am eich ymateb a’ch ymrwymiad i gydweithio yn y dirwedd anodd hon a chyn yr etholiad cyffredinol. Hoffwn ddiolch hefyd i’r Pwyllgor Busnes am roi amser ar gyfer y ddadl ar ddeiseb bwysig hon y prynhawn yma, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r deisebydd, Susan Jones-Davies, ac ymgyrchwyr angerddol eraill, am eu hymdrechion arwrol i godi ymwybyddiaeth o’r mater hwn.
Felly, a minnau ond newydd ymuno â’r Pwyllgor Deisebau, dyma gyfle cyntaf i arwain dadl o’r fath yma yn y Siambr hon, ac i glywed yr ystod o safbwyntiau ar draws y Siambr. Ond mae’r consensws yn glir: mae'n rhaid inni wneud popeth a allwn i sicrhau bod gan ein sefydliadau diwylliannol y dulliau gweithredu a’r ysgogiadau sydd eu hangen arnynt, nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu mewn adeg o ansicrwydd, gan fod ganddynt enw da haeddiannol am y gwaith a wnânt, yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Boed i'r gwaith hwnnw barhau, a boed i'r lle hwn barhau i'w cefnogi i wneud hynny. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt.
Eitem 9 sydd nesaf, dadl Plaid Cymru: Cymru a Llywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig. Galwaf ar Heledd Fychan i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8624 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol HS2; a
b) ymrwymiad blaenorol Llywodraeth Cymru i ddatganoli cyfiawnder ac asedau Ystâd y Goron yng Nghymru yn llawn.
2. Yn gresynu at fethiant maniffestos Plaid Lafur y DU a'r Ceidwadwyr i ymrwymo i gyflawni ar ewyllys bendant y Senedd a Llywodraeth Cymru ar y materion hyn.
3. Yn credu bod hyn yn dangos ymhellach fod swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dyddio ac nad yw'n gwasanaethu buddiannau pobl Cymru mewn modd effeithiol.
4. Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i ddiddymu rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac eleni’n nodi 25 mlynedd ers datganoli, mae’n gyfle i edrych nôl ar y chwarter canrif diwethaf ond hefyd edrych ymlaen. Wrth edrych yn ôl, amhosib ydy peidio â meddwl am effaith polisïau llymder y Ceidwadwyr dros y 14 mlynedd diwethaf ar ein cenedl, heb sôn, wrth gwrs, am Brexit. Amhosib hefyd ydy anghofio sawl gwaith rydym ni wedi clywed, ers hynny, 'Wel, mi fuasai pethau’n wahanol petasai'r Blaid Lafur yn dal mewn grym yn San Steffan', neu, fel yn fwy diweddar, 'Pan fyddan nhw mewn grym.'
Fodd bynnag, fel y daeth yn amlwg mewn cyfweliad diweddar ar S4C gyda'r un y disgwylir yn eang iddi fod yn Ysgrifennydd Gwladol nesaf Cymru, nid yw hyn wedi'i warantu mewn unrhyw ffordd. Ac fel y dangosodd ei geiriau’n glir, mae anghydbwysedd pŵer amlwg a dwfn yn parhau i ddiffinio’r berthynas rhwng Cymru a San Steffan.
Cymerwch, er enghraifft, ddatganoli cyfiawnder a phlismona, safbwynt polisi sefydledig Llywodraeth Cymru, y mae ei fanteision clir yn cael eu cadarnhau gan gorpws sylweddol o ymchwil academaidd ddibynadwy, gan gynnwys y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a wfftiwyd yn ddi-hid gan Jo Stevens fel ffidlan gyda strwythurau; gwrthod adfer yn llawn ein pwerau i wneud penderfyniadau ynghylch cyllid ôl-UE—a ddisgrifiwyd, yn gywir ddigon, gan y Prif Weinidog ei hun ychydig dros ddeufis yn ôl fel ‘gwrthdroi lladrad Llywodraeth y DU’—gyda chynrychiolwyr Cymru, yn hytrach na Llywodraeth Cymru yn benodol, yn rheoli sut y caiff ei wario; gwadu datganoli Ystad y Goron i Gymru a'i hamddifadu o werth £4 biliwn o gyllid HS2, a diystyru'r anghyfiawnder fel pe bai'n ddibwys; ac unwaith eto, mynegiant democrataidd y Senedd, penderfyniad nad oes unrhyw un yn ei wneud yn ysgafn wrth bleidleisio o blaid pleidlais o ddiffyg hyder mewn Prif Weinidog, yn cael ei fychanu fel dim mwy na 'stỳnt wleidyddol'. Pe na byddech yn gwybod ei bod hi'n Aelod Llafur, fe gaech faddeuant am gymryd mai darpar Ysgrifennydd Gwladol Torïaidd oedd hi, yn anrhydeddu traddodiad ei phlaid o geisio tanseilio llwybr datganoli, rhywbeth y maent wedi'i wneud yn arbennig o frwd dros y blynyddoedd diweddar.
Ond mae’r ffaith mai Jo Stevens oedd yn siarad, sef prif lais Cymru o fewn Llywodraeth Lafur y DU yn ôl pob golwg o'r wythnos nesaf ymlaen, yn tanlinellu, ni waeth pwy sydd yn Rhif 10 Stryd Downing, fod dirmyg a hunanfodlonrwydd San Steffan mewn perthynas â Chymru yn nodwedd gyson. Am y rheswm hwn, nid oes gennym unrhyw hyder yn rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac rydym yn galw am ddileu’r swydd a throsglwyddo ei swyddogaethau i Lywodraeth Cymru. Mewn gwirionedd, mae'n hen bryd gwneud hyn, gan fod esblygiad datganoli yng Nghymru wedi amlygu natur gynhenid hynafol y swydd. I ddyfynnu John Morris, deiliad y swydd yn ystod gweinyddiaethau Wilson a Callaghan:
'Y bumed olwyn ar y goets seneddol yw bodolaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Alban a Chymru... Ychydig o ddyletswyddau sydd ganddynt yn dilyn dyfodiad datganoli, a llai fyth ar ôl trosglwyddo pwerau deddfwriaethol i'r Cynulliad. Yn fy mhrofiad i fel deiliad y swydd am dros bum mlynedd, mae'n amhosibl cyfiawnhau'r swyddi hyn heddiw.'
Wel, dyfyniad o araith a wnaeth yn ôl yn 2013 oedd hwnnw, ac ers hynny, wrth gwrs, mae soffistigeiddrwydd cymwyseddau datganoledig y Senedd wedi parhau i aeddfedu yn unol ag ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru, ac eto, nid yw'n ymddangos bod y ddwy brif blaid yn gallu diosg eu hen agwedd mai San Steffan sy'n gwybod orau, ac maent yn mynnu sbecian dros ysgwydd deddfwrfeydd Cymru ar bob cyfle. Ymhellach, mae geiriau John Morris hefyd yn awgrymu paradocs sylfaenol ynghylch cwmpas y rôl, sef bod gan y swydd fraint weithredol bwerus ac anghymesur dros faterion Cymreig er bod ei chyfrifoldebau dydd i ddydd wedi crebachu’n sylweddol dros y 25 mlynedd diwethaf.
Mewn termau deddfwriaethol, ymgorfforir hyn gan ddarpariaeth adran 114 yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i roi feto ar ddeddfwriaeth y Senedd, yr ‘opsiwn niwclear’ fel y'i gelwir, a ddefnyddiwyd gan Ysgrifennydd yr Alban i rwystro Bil cydnabod rhywedd Llywodraeth yr Alban. Ond yn fwy na hyn, mae swyddfa sydd i fod i hyrwyddo buddiannau Cymru yn Llywodraeth y DU wedi cael ei defnyddio fwyfwy yn lle hynny fel llwyfan i bardduo llais unigryw’r Senedd, yn ogystal â megino'r syniad nawddoglyd fod angen i San Steffan afael yn llaw Cymru bob amser. Nid yw hynny'n wir.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch am dderbyn yr ymyriad. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn eich cynnig heddiw, gan fy mod wedi gweld dicter gan Blaid Cymru wrth iddynt ddweud bod colli wyth AS o Gymru yn sgil adolygu'r ffiniau yn golygu rywsut fod llai o lais gan Gymru ar lefel Llywodraeth y DU, ond yn yr un modd, yr hyn y mae eich cynnig yn galw amdano heddiw yw dileu llais Cymru o amgylch bwrdd Cabinet Llywodraeth y DU. Onid dicter ffug llawn o anghysondeb cyn etholiad cyffredinol yw hyn gan Blaid Cymru?
Dim o gwbl. Os edrychwch ar fanylion y cynnig, rydym yn sôn am drosglwyddo’r grym i Lywodraeth Cymru, fel y byddai mwy nag un unigolyn yn gwneud y penderfyniad hwnnw, a byddai gennym ni yma yn y Senedd, gan eich cynnwys chi, lais yn y penderfyniad hwnnw. A yw’n iawn fod un unigolyn yn dweud eu bod yn siarad ar ran Cymru? Ni chredaf fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dangos ei fod yn llais i’r Senedd hon, ac ni chredaf fod Jo Stevens ychwaith, yn ôl pob golwg, yn llais i’r Senedd hon. Bydd Llywodraeth Cymru mewn gwell sefyllfa i wneud y penderfyniadau hynny. A hefyd, dylai pob un o Weinidogion Cabinet y DU ddangos diddordeb yng Nghymru ac edrych ar y Deyrnas Unedig gyfan. Nid ydynt yn gwneud hynny. Pam cyfyngu hynny i un rôl nad yw'n rheoli na'n mynegi ein barn mewn gwirionedd? Felly, na, nid wyf yn derbyn bod hyn yn gysylltiedig â'r etholiad mewn unrhyw ffordd.
Drwy gyfnod yr Ysgrifennydd Gwladol sydd ar fin gadael yn ei swydd, boed o ran y ffordd y maddeuodd anwireddau ynghylch terfynau cyflymder diofyn, ei fethiant llwyr i ddadlau y dylai Cymru gael ei chyfran deg o gyllid HS2, a'r ffordd y gwnaeth fwrw amheuaeth ar ddidueddrwydd awduron adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, fe welsom nad yw’r sedd honno o amgylch y bwrdd yn golygu unrhyw beth os na all llais unigryw Cymru a llais y Senedd hon ddylanwadu ar y penderfyniadau a wneir. Ac ar sail ar y cyfweliad y soniwyd amdano eisoes, nid yw'n ymddangos bod gan ei olynydd, Jo Stevens, unrhyw fwriad o gwbl i newid trywydd ac ymddiried yng Nghymru i reoli meysydd polisi lle ceir achos cadarn dros ddatganoli pellach.
Nid oes angen amau democratiaeth Gymreig. Mae'n haeddu'r parch a'r urddas y mae ganddi hawl iddynt ar ôl y mandad a sicrhawyd gan ddau refferendwm a chwe etholiad cenedlaethol yn olynol, sydd bob amser wedi dychwelyd mwyafrif clir o blaid datganoli. Am y rheswm hwn, rwy'n annog yr Aelodau yma i gefnogi ein cynnig a sicrhau bod y penderfyniadau a wneir gennym yma yn y Siambr hon yn cael eu parchu a’u cynnal.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw nawr ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru a'r ffaith mai Cymru yw'r unig genedl bargeinion twf yn y DU.
Yn credu bod hyn yn dangos bod swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gwasanaethu buddiannau pobl Cymru yn effeithiol.
Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i sicrhau bod llais Cymru yn parhau i gael amlygrwydd yn y Cabinet drwy benodiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 1 a chyfeiriaf hefyd at dystiolaeth ddogfennol yn fy areithiau blaenorol sy'n dangos mai Blair, Brown a Balls oedd penseiri cyni.
Fel pob plaid yma, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi darparu cyllid canlyniadol i Gymru yn sgil HS2. Byddai’r amcangyfrif o £4 biliwn yn hwb i’r economi, a gellid ei ddefnyddio i uwchraddio seilwaith yng Nghymru. Mae fy nghyd-Aelodau a minnau wedi dadlau dros hyn yn gyson gyda Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, rydym hefyd yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i fuddsoddi £1 biliwn ar gyfer trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru. Fodd bynnag, ar ôl chwarter canrif o Lafur Cymru yn methu defnyddio’r pwerau sydd ganddynt eisoes yn effeithiol, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn sefyll yn gadarn yn erbyn rhagor o ddatganoli cynyddol nawr. Nid yw datganoli cyfrifoldeb yn fecanwaith sy'n siŵr o wella pethau, ddim o bell ffordd. Edrychwch ar y GIG yng Nghymru, gyda mwy na 21,000 yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth, o gymharu ag oddeutu 200 yn Lloegr, gyda phoblogaeth ugain gwaith yn fwy o faint. Ac yn anffodus, mae ein sector addysg wedi dod yn adnabyddus am dangyflawni'n gyson ac yn ddifrifol o gymharu â gweddill y DU, er gwaethaf ymroddiad y staff.
Nid yw Plaid Lafur y DU eu hunain wedi ymrwymo i ddatganoli’r heddlu a chyfiawnder oedolion, gydag Ysgrifennydd yr wrthblaid dros Gymru, Jo Stevens, yn datgan bod y problemau presennol gyda throseddu yn rhy bwysig i ddechrau ffidlan gyda chyfrifoldebau’r heddlu, llysoedd a charchardai yng Nghymru, gyda maniffesto Llafur y DU ond yn datgan, 'Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru i ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid.' Yn y cyd-destun hwn, dylid nodi, pan adawodd Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU, fod troseddu’n rhemp, ond fod cyfraddau troseddu wedi mwy na haneru o dan Lywodraethau Ceidwadol y DU ers 2010.
Fel y nodais dro ar ôl tro wrth y Cwnsler Cyffredinol, mae nifer o ffactorau sy’n cael eu hanwybyddu’n rhy aml mewn trafodaethau ar ddatganoli cyfiawnder, yn enwedig mater real iawn troseddau trawsffiniol. Yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, mae gan Gymru ardal boblog iawn sy'n ffinio â Lloegr, a dyna pam fod oddeutu 95 y cant o’r troseddu yn y gogledd, er enghraifft, yn gweithredu'n drawsffiniol, gyda'r nesaf peth i ddim ar sail Cymru yn unig. Beirniadais gomisiwn Thomas eto ddoe am wneud un cyfeiriad yn unig at droseddau trawsffiniol, gydag uned droseddu cyfundrefnol rhanbarthol gogledd-orllewin Lloegr yn dweud wrthyf fod eu tystiolaeth i’r comisiwn ar hyn wedi’i hanwybyddu i raddau helaeth.
Fel y dywedodd cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, nid oes unrhyw awydd cyhoeddus i ddatganoli Ystad y Goron yng Nghymru, a byddai gwneud hynny’n darnio’r farchnad ac yn gohirio datblygiad pellach prosiectau allweddol yn y sector ffermydd gwynt arnofiol ar y môr. Fel yr ychwanegodd,
'daw'r pwyslais a'r ysgogiad gan fuddsoddwyr, aelodau'r cyhoedd ac awdurdodau porthladdoedd, nid gan genedlaetholwyr sy'n dymuno edrych ar bopeth drwy brism eu sylfaen bŵer eu hunain.'
Mae Ystad y Goron yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli cynaliadwyedd hirdymor y tir a gwely’r môr, yn ogystal â manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach i Gymru. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, flwyddyn yn ôl wrth y rheini sy’n dal i fynnu cipio mwy o rym, peidiwch â gwastraffu amser y Senedd yn parablu am fwy o ddatganoli pan allem fod yn gwneud y defnydd gorau yn lle hynny o’r pwerau sydd gennym eisoes a gwneud Cymru'n llwyddiant.
O ran swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mae’n ddiflas fod yr un testun siarad cenedlaetholgar wedi codi ei ben unwaith eto, wedi’i ysgogi gan ddyhead ac awydd Plaid Cymru i hollti ac ansefydlogi. Swyddfa Cymru yw eiriolwr gorau Cymru yn San Steffan. Ni all Plaid Cymru ddadlau nad yw Llywodraeth y DU yn gwrando digon ar Gymru gydag un anadl, a dadlau wedyn dros dawelu ei llais yng Nghabinet y DU gyda'r anadl nesaf. Nid oes ond angen inni edrych ar drafnidiaeth, gyda mwy na £2.3 biliwn o fuddsoddiad gan y DU yn rheilffyrdd Cymru ers 2019, y mwy na £2.5 biliwn o gyllid ffyniant bro sydd wedi’i wasgaru ledled Cymru, a’r parodrwydd i weithio gyda chymunedau lleol i helpu i’w grymuso i wrthwynebu agendâu digroeso fel y mandadau 20 mya gan Lywodraeth Cymru, i weld manteision diweddaraf cael eiriolwr cryf o blaid Cymru yn eistedd wrth fwrdd y Cabinet yn San Steffan.
Fe fyddwn ni felly—ni fyddwch yn synnu fy nghlywed yn dweud—yn pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru yn ogystal â gwelliant Llywodraeth Cymru. Dim ond Llywodraeth Geidwadol yn y DU fydd yn torri trethi pobl ymhellach, yn darparu £1 biliwn i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, yn dod ag ynni niwclear yn ôl i ogledd Cymru, yn cadw pont Hafren yn rhydd o dollau, yn rhoi caniatâd i gymunedau wneud penderfyniadau ynghylch terfynau cyflymder 20 mya, ac yn darparu £1 biliwn mewn cyllid ffyniant bro parhaus ar gyfer cymunedau Cymru.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet i gynnig yn ffurfiol welliant 2.
Mae'n ddrwg gennyf, roedd fy enw i lawr i siarad ar hyn.
Gwelliant 2—Jane Hutt
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi llwyddiant datganoli dros y 25 mlynedd diwethaf o ran cyflawni newid radical i bobl Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda pha Lywodraeth bynnag a etholir nesaf yn y DU i helpu i gyflawni argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Yn cytuno bod un llywodraeth Geidwadol ar ôl y llall yn y DU wedi tanseilio setliad datganoli Cymru ac yn nodi gyda phryder bod maniffesto'r blaid Geidwadol yn cynnwys mesurau a fyddai'n tanseilio datganoli ymhellach, gan gynnwys diddymu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) sy'n helpu i amddiffyn gweithwyr y sector cyhoeddus ac ehangu'r Bil Cefnogi Gyrwyr i gynnwys Cymru.
Yn nodi pwysigrwydd cael perthynas adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Yn cydnabod yr angen am Lywodraeth yn y DU sy'n parchu ac yn hyrwyddo datganoli gan greu Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau a ategir gan waith rhynglywodraethol cryf ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru penodedig ar gyfer materion Cymreig yng nghabinet y DU.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Yn ffurfiol.
Peidiwch â phoeni, Jenny Rathbone. Dim ond cynnig y gwelliant mae hi.
Mae'n ddrwg gennyf.
Mae'n iawn. Nid wyf wedi anghofio. Galwaf ar Adam Price nawr ac yna byddaf yn galw arnoch chi, Jenny. Sut y gallwn eich anghofio?
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd Gwladol Cymru—mae'n fy atgoffa o un o'r swyddi gweddilliol hynny o'r gorffennol pell y rhythwn arnynt yn ystod seremonïau'r wladwriaeth. Mae mor ddiangen, waeth iddynt wisgo hetiau plu neu ysgwyddarnau ddim. Mae'n debyg i Arglwydd Uchel Lyngesydd y Deyrnas Unedig. Yn hanesyddol, dyna oedd teitl swyddog uchaf y Llynges Frenhinol, ond ers 1964, mae fel arfer yn swydd a lenwir gan aelod o'r teulu brenhinol. Y Brenin ydyw ar hyn o bryd. Fe'i disgrifir fel teitl heb reolaeth weithredol uniongyrchol, a chredaf mai dyna'r diffiniad o Ysgrifennydd Gwladol Cymru i bob pwrpas, teitl a grëwyd, wrth gwrs ym 1964, 60 mlynedd yn ôl. Mae bron mor ddefnyddiol i Gymru â swydd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn i drigolion Caerhirfryn. Nid cynrychiolydd Cymru yn y Cabinet mo'r swydd hon, ond cynrychiolydd y Cabinet yng Nghymru. Dyna'r gwirionedd. Cafodd ei chreu a’i chynnal er mwyn creu naratif amgen o ran lle mae’r mandad democrataidd, felly mae yno i gystadlu â dilysrwydd democrataidd y sefydliad hwn a’r Llywodraeth y mae'n dibynnu ar ei hyder wrth gwrs.
Pe bai unrhyw un o ddifrif yn credu ei bod yn swydd effeithiol, a fyddem wedi cael sgandal HS2 a’r arian a gafodd ei ddwyn oddi ar Gymru? A fyddai’r diwydiant dur ym Mhort Talbot yn gwegian ar ymyl y dibyn fel y mae pe bai’n ddull effeithiol, yn darian go iawn i bobl Cymru? Nid dyna ydyw. Edrychwch ar yr hanes ers 1964. Cafwyd 22 o Ysgrifenyddion Gwladol Cymru. Dim ond pump ohonynt, gallech ddweud, oedd yn ddatganolwyr o argyhoeddiad. Pe baech yn bod yn arbennig o hael, efallai y gallech ychwanegu Alun Michael fel chweched. Roedd y gweddill i gyd yn amheus o ddatganoli, yn Llafurwyr a Cheidwadwyr, ac wrth gwrs, yr hyn sydd gennym yn Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid dros Gymru ar hyn o bryd yw rhywun o'r traddodiad hwnnw sy'n amheus o ddatganoli. Nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Sut arall y gallech fynd o gomisiwn Thomas yn argymell yn glir y dylid datganoli cyfiawnder troseddol yn gyfan gwbl i Gymru—am resymau blaengar, da iawn—i gomisiwn Brown, a oedd yn dipyn o fatsien wleb, a dweud, 'Gallwch gael y gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid', i faniffesto Llafur Cymru, sy'n dweud:
'Bydd Llywodraeth Lafur y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru i ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid'?
Nid yw'r math hwnnw o iaith amwys yn golygu unrhyw beth o gwbl, mewn gwirionedd. A
'bydd Llywodraeth Lafur nesaf y DU yn edrych ar ddatganoli gwasanaethau'.
Credaf ein bod yn gweld y cyfeiriad teithio'n glir, ac unwaith eto, o dan Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid sy'n amheus o ddatganoli.
Nid wyf yn nihilydd. Efallai fy mod yn genedlaetholwr, ond nid wyf yn nihilydd. Tra byddwn yn y Deyrnas Unedig hon, rwyf am i sefydliadau'r Llywodraeth ar bob lefel weithio ar ran pobl Cymru. Felly, y rheswm pam fy mod yn erbyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw am nad yw'n gweithio i Gymru. Nid oes pwysau na grym i'w llais. Llestr gwag, ym mhob ystyr, yn llythrennol ac yn drosiadol, yw Tŷ Gwydyr. Yn hytrach na chael Ysgrifennydd Gwladol Cymru, pe byddech chi'n creu rhywbeth tebyg i Ganada er enghraifft, sefydliadau ffederal neu led-ffederal a chanddynt lefelau gwahanol o lywodraeth, yn creu Ysgrifennydd Gwladol dros gysylltiadau rhynglywodraethol ac yn creu strwythurau a chytundebau statudol, yn hytrach na chonfensiwn fformiwla Barnett, fod gennych rywbeth wedi’i ysgrifennu mewn rheolau y gellid ei orfodi, ac ochr yn ochr â hynny wedyn fod gennych strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol y gellid eu cynnal gan adran bwerus ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol, byddai hwnnw'n strwythur gwleidyddol a fyddai’n parchu natur amlwladol y Deyrnas Unedig hon. Onid yw hynny, hyd yn oed o safbwynt unoliaethol, yn well na’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd, sef deilen ffigys, ffasâd? Nid yw'n real ac nid yw'n cyflawni, a dyna pam fod angen inni gael gwared arno.
Jenny Rathbone.
Rwy'n ymddiheuro, Lywydd.
Roeddech yn rhy awyddus, ac nid yw hynny'n broblem.
Wel, rhywbeth felly. Beth bynnag, rwy'n ymddiheuro am dorri ar eich traws.
Er ei bod yn gyfleus i Blaid Cymru bersonoli’r gwrthwynebiad i ddatganoli ar sail sylwadau a wnaed gan un unigolyn, sef Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid dros Gymru, rwy'n credu bod angen inni symud y tu hwnt i hynny, gan fod angen inni ddechrau creu cynghreiriau. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn cytuno bod dynodi HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr yn afluniad a chamddefnydd gwarthus o’r Saesneg ac yn sarhad ar y strwythurau y mae angen inni eu creu i gael set fwy cydlynol a chytûn o reolau, nid yn unig i Gymru ond i Brydain gyfan. Mae rhanbarthau Lloegr yn cael eu gwasanaethu lawn cyn waethed â Chymru gan y trefniadau presennol.
Yn gynharach eleni, galwodd Andy Burnham am gyfansoddiad newydd wedi’i godio ar gyfer y DU i fynd â grym oddi ar San Steffan, wrth iddo feirniadu'r giwed fach sy'n rhedeg gwleidyddiaeth Prydain. Ac mae llyfr newydd gan yr Athro Paul Collier o Brifysgol Rhydychen yn rhoi’r bai am yr anghydraddoldeb cynyddol ledled y DU ar hen uniongrededd economaidd sy’n blaenoriaethu grymoedd y farchnad i adfywio rhanbarthau a adwyd ar ôl yn ein gwlad a thu hwnt. Yn anad dim, mae’n condemnio dull gweithredu anymyraethol a thrahaus un maint i bawb biwrocratiaeth ganolog fel Trysorlys y DU, lle gellir dod o hyd i'r rhan fwyaf o’r 50 o bobl fwyaf pwerus yn y DU. Ni allwn barhau fel hynny. Nid dyna'r ffordd ymlaen, ac nid yw'n adlewyrchu difrifoldeb yr argyfwng gwleidyddol yn ein gwlad.
Rwy'n siŵr fod pob un ohonom wedi taro ar lefelau o ddifaterwch a dihidrwydd ar garreg y drws ymhlith pobl sy'n teimlo nad oes unrhyw un byth yn gwrando arnynt, felly pam trafferthu pleidleisio pan nad ydynt yn rhagweld unrhyw newid yn eu bywydau a'u brwydr i oroesi. Mae angen i bob un ohonom fod o ddifrif ynghylch y niferoedd o bobl na fyddant yn trafferthu pleidleisio neu sydd wedi wynebu rhwystrau bwriadol rhag pleidleisio, sy'n gwahaniaethu yn erbyn pobl nad ydynt yn gyrru, nad ydynt byth yn teithio dramor ac nad ydynt yn gymwys eto i gael pàs bws. Mae hyn, ynddo'i hun, yn warthus ac yn sarhad ar ddemocratiaeth.
Mae angen i ni dalu sylw hefyd i'r niferoedd sy'n llyncu addewidion y prosiect poblyddiaeth o dan arweiniad Nigel Farage. Mae Farage yn wych am fanteisio ar drallod ac anobaith cymunedau a adawyd ar ôl. Dyna pam ei fod yn sefyll yn Clacton; dyna pam y lansiodd ei—credaf iddo gael ei alw'n 'brosiect'; yn sicr, nid oedd yn faniffesto—ym Merthyr Tudful, er na weithiodd hynny'n rhy dda, am fod pobl Merthyr Tudful yr un mor ddig gydag ef ag yw ef gyda ni. Ac mae Clacton ei hun yn enghraifft dda o gymuned a adwyd ar ôl, er ei bod yn ne-ddwyrain Lloegr, sy’n gyfoethog ar y cyfan. Mae’n rhannu llawer o nodweddion cyffredin â chymunedau glan môr sy’n crebachu ledled Prydain.
Nid yw dim newid yn opsiwn, a newidiadau cyfansoddiadol yw’r hyn sydd ei angen arnom i estyn allan at bobl eraill ledled Prydain i geisio cael rhywfaint o gonsensws. Roeddwn yn arbennig o hoff o adroddiad y comisiwn ar ddyfodol y DU o dan arweiniad Gordon Brown, a chredaf ei fod yn gynghreiriad yn ei ymgais i ddatrys setliad cyfansoddiadol a fydd yn rhoi’r pwerau sydd eu hangen ar Gymru i gael dull mwy cydlynol o ddelio â'r materion sy’n ein hwynebu. Fel y dywed Andy Burnham, byddai cyfansoddiad ysgrifenedig yn codeiddio'r berthynas rhwng llywodraethau cenedlaethol, lleol a rhanbarthol fel bod democratiaeth yn gweithio'n iawn. Nid yw'n gweithio'n iawn ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid gwneud penderfyniadau gan roi ystyriaeth briodol i wahanol safbwyntiau o ble bynnag rydych chi'n digwydd bod yn byw ac yn ei gynrychioli. Felly, mae'n rhaid inni ymgynghreirio â maer Manceinion Fwyaf a holl arweinwyr rhanbarthol eraill Lloegr, boed yn feiri neu’n benaethiaid awdurdodau lleol.
Mae'n rhaid inni gefnogi'r syniad o ailwampio'r ail Siambr anetholedig lawn sgandal. Hoffem weld cynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer Tŷ’r Cyffredin. Gallem gael canlyniad gofidus iawn yn sgil y trefniadau cyntaf i’r felin ar 4 Gorffennaf, lle bydd gennym fwyafrif afiach o fawr i'r blaid rwy'n falch o’i chynrychioli, ond byddai cael mwyafrif mor fawr yn wael iawn i ddemocratiaeth. Felly, bydd gennym waith meddwl o ddifrif, ac mae angen inni estyn allan at gymunedau eraill a ffurfio achos cyffredin dros y newidiadau cyfansoddiadol sydd eu hangen arnom.
Roeddwn yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd Jenny a'r ysbryd y gwnaethoch chi ei ddweud ynddo, a gwn eich bod wedi gofyn inni beidio â gwneud y ddadl hon yn un bersonol, ond i mi, roedd y ffordd drahaus y gwnaeth Jo Stevens ddiystyru'r achos dros ddatganoli pwerau cyfiawnder a phlismona yn llawn fel 'ffidlan' yn arwyddocaol iawn, oherwydd rwy'n credu bod pawb ohonom wedi cael gweld y ddeilen ffigys a ddisgrifiwyd gan Adam Price. Roedd yn bradychu'r anwybodaeth, neu'r haerllugrwydd efallai, a arddangosir yn aml gan wleidyddion—yn y ddwy blaid unoliaethol—nad yw datganoli o ddiddordeb nac o bwys i neb ond anoracs cyfansoddiadol. Byddai unrhyw un sy'n malio'n wirioneddol am les cymdeithas Cymru yn gwybod na allai unrhyw beth fod ymhellach o'r gwir, fel yr amlinelloch chi, Jenny, ac yn achos pwerau cyfiawnder a phlismona yn benodol, mae cymaint o dystiolaeth ymarferol, y tu hwnt i'r drafodaeth gyfansoddiadol, sy'n dangos bod y status quo yn anfantais fawr i Gymru.
Gadewch inni edrych ar y system cyfiawnder troseddol. Yr wythnos diwethaf clywsom rybuddion enbyd gan swyddogion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn dweud y bydd carchardai ledled Cymru a Lloegr yn orlawn mewn mater o ddyddiau ar ôl yr etholiad cyffredinol, ac fel y nododd llywydd Cymdeithas y Llywodraethwyr Carchardai yn gywir ddigon, mae hon yn sefyllfa a ragwelwyd ers peth amser oherwydd camreoli Llywodraeth y DU, sydd ynddo'i hun yn adlewyrchiad o'r modd y mae dull San Steffan o ymdrin â chyfiawnder troseddol mor sylfaenol doredig. Fe wyddom wrth gwrs mai Cymru a Lloegr sydd â'r cyfraddau carcharu uchaf yn Ewrop gyfan, gyda nifer y carcharorion fesul 100,000 o'r boblogaeth ddwywaith y lefel a welwyd ganrif yn ôl, ac eto, mae dull mor llawdrwm o ymdrin â throseddu wedi profi'n rhyfeddol o aneffeithiol fel ffordd o atal troseddu. Mae cyfraddau aildroseddu yn parhau'n uchel; mae lefelau troseddu yng Nghymru—ac eithrio'r flwyddyn yr effeithiwyd arni gan COVID yn 2020—wedi codi flwyddyn ar ôl blwyddyn dros y degawd diwethaf, ac nid yw rhagfarnau ac anghydraddoldebau cymdeithasol byth yn bell o'r wyneb yn ein system cyfiawnder troseddol, megis y ffaith—y ffaith gywilyddus—fod pobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig wedi eu gorgynrychioli ar bob lefel o'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. O'r ystadegau diweddaraf sydd gennym, roedd 51 o bob 10,000 o Gymry du yn y carchar o'i gymharu â 14 o bobl wyn, a mwy o bobl ddu o dan ofal y gwasanaethau prawf hefyd. Mae hyd eu dedfrydau'n hirach hefyd, a'r ddedfryd gyfartalog rhwng 2010 a 2020 wyth mis a hanner yn hirach i bobl ddu na diffynyddion gwyn. Mae'r rhain yn arwyddion clir o anghydraddoldeb systemig yn seiliedig ar hil, sy'n tanseilio ein nodau polisi cyfiawnder cymdeithasol yn llwyr.
Yn y cyfamser wrth gwrs, mae'r digwyddiadau diweddar pryderus, ac ofnadwy yn wir, yng ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn arwydd o fethiant llwyr y model preifateiddio a orfodwyd ar Gymru ac o dueddiadau ehangach o gynnydd mewn achosion o ymosodiadau gan garcharorion ar garcharorion a chan garcharorion ar staff. Ni ellir caniatáu i hyn barhau.
Felly, gadewch inni droi at gyflwr plismona. Mae effaith cyni'r Torïaid wedi'i gofnodi'n dda; mae'n gondemniad o'u cyfnod mewn grym mai dim ond newydd ddychwelyd i'r lefel yr oeddent arni yn 2010 y mae niferoedd yr heddlu yng Nghymru. Mae ein heddluoedd wedi cael eu gorfodi hefyd i weithredu deddfwriaeth anystyriol a didostur, megis Deddf Trefn Gyhoeddus 2023, sy'n cyflawni fawr o ddim heblaw gosod beichiau diangen ar eu hadnoddau.
Nawr, rwy'n siŵr y bydd Aelodau Llafur, o bosibl, yn ysu i ddweud wrthyf mai'r personél sydd mewn grym, yn hytrach na'r system ei hun sydd ar fai yma, ac mae'n deg dweud, wrth gwrs, mai anaml y bu gennym Lywodraeth yn y DU sydd wedi trin rheolaeth y gyfraith gyda'r fath ddibristod â'r Llywodraeth Dorïaidd hon. Ond bydd unrhyw un sy'n gobeithio gweld adfywio sefydliadau cyfraith a threfn o dan Starmer yn siomedig iawn. Mae twll du o hyd at £18 biliwn fan lleiaf yng nghynlluniau gwariant Llafur. A chan nad yw cyllideb y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi'i chlustnodi, heb newid radical i'r strategaeth ariannol, golyga hyn y gallwn ddisgwyl toriadau pellach i gyfiawnder a phlismona o San Steffan a fydd yn effeithio'n uniongyrchol ar Gymru.
Wrth gwrs, mae'r adroddiad heddiw gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn dangos y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru, sy'n cynnal llawer o'r bylchau hyn yn ymyl garw datganoli, yn wynebu toriadau dwfn, ac yn cynnal y gweithredoedd yn y glasbrintiau sy'n ceisio lliniaru effeithiau'r ymyl garw sy'n creu cymaint o niwed i ddinasyddion Cymru, yn enwedig menywod Cymru, yn y system cyfiawnder troseddol, fel sydd wedi'i amlinellu mewn adroddiad ar ôl adroddiad. Felly, nid yw newid gan Keir Starmer ond yn golygu'r un peth i Gymru, sef status quo sy'n ein cosbi o ran pwerau ac adnoddau. Felly, na, nid ffidlan yw hyn, mae'n ymwneud â'r angen am ddiwygio sylfaenol a radical i wasanaethu buddiannau gorau pobl Cymru, diwygiad yr ydym am ei weld ac y dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ei gefnogi. Ond ni all ddigwydd pan fydd ewyllys y Senedd a Llywodraeth ein gwlad yn cael ei anwybyddu, ei wadu a'i wyrdroi gan Ysgrifennydd Gwladol yn eistedd wrth fwrdd Cabinet yn Llundain.
Mae maniffesto Keir Starmer a sylwadau aelodau o’i Gabinet yn awgrymu’n gryf y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ati i ailgloddio ffos ar y gyfer y dŵr coch croyw. Roeddwn i ychydig yn ansicr o’r alwad yn y cynnig i ddileu swydd yr Ysgrifennydd Gwladol. Fel Tom Giffard, gwnes i bendroni am ychydig ai gwell yw sicrhau rhyw lais i Gymru o amgylch y bwrdd yn 10 Downing Street? Ond fel gwnaeth Adam Price ddweud yn gryf ac yn groyw, y gwir amdani, os ŷn ni'n edrych ar hanes y rôl, yw ein bod ni wedi cael llawer gormod o George Thomas a John Redwood, a dim digon o gwbl o Cledwyn Hughes a Ron Davies.
Ers gormod o amser yn Whitehall, mae Cymru wedi bod yn ôl-ystyriaeth ar y gorau. Ar y gwaethaf, rydym wedi gweld dirmyg llwyr tuag at anghenion pobl Cymru. Trefnodd George Thomas fod £0.25 miliwn yn cael ei ddwyn oddi wrth deuluoedd dioddefwyr Aberfan er mwyn arbed rhywfaint o arian i'r Trysorlys, tra bo John Redwood wedi anfon £100 miliwn o grant bloc Cymru yn ôl i'r Trysorlys ar ôl difrïo teuluoedd un rhiant yn Llaneirwg.
Yn fwy diweddar, fe gaewyd llysoedd ac fe adeiladwyd carchardai heb unrhyw ystyriaeth o wir angen pobl Cymru. Fe anfonwyd menywod ein gwlad i garchardai cannoedd o filltiroedd o’u cartrefi. A nawr rydym yn gweld methiant llwyr y rôl i sicrhau cyllido teg i Gymru.
Dylai anghenion pobl Cymru gael eu hystyried gan holl adrannau Whitehall wrth wneud penderfyniadau polisi. Ni ddylai fod yn ôl-ystyriaeth ac ni ddylai fod yn fater o un unigolyn yn ceisio eu hatgoffa. Ar hyn o bryd, rydym yn gweld dro ar ôl tro fod Llywodraeth Cymru yn cael ei diystyru a'i heithrio o'r bwrdd gwneud penderfyniadau. Ac rwy'n cytuno efo Jenny, mae angen inni gydweithredu; nid wyf yn nihilydd, nac Adam ychwaith. Mae angen inni gydweithio gyda'n gilydd er budd pobl Cymru.
Ond mae rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dyddio. Mae angen ei hanfon i'r llyfrau hanes. Mae angen iddi ymuno ag Ysgrifennydd Gwladol India a'r Ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau. Nawr, yn 2024, mae gennym Lywodraeth ac mae gennym Senedd. Mae gennym lais democrataidd pobl Cymru y dylid ei gydnabod a'i barchu yn Whitehall. Hyd y gwelaf i, nid yw'r sefyllfa bresennol yn creu unrhyw fudd i bobl Cymru. Fe'i gwelir gan sefydliad y DU fel swydd is yn y Cabinet heb fawr o ddylanwad, os o gwbl. Ond fe roddodd y rôl gyfle o leiaf i John Redwood ymarfer ei sgiliau meimio. Diolch yn fawr.
Sawl gwaith rydym ni yn y Siambr hon wedi cytuno y dylid datganoli Ystad y Goron i Gymru? Dyma ewyllys sefydledig y Senedd hon. Ni ddylem orfod parhau i wneud y pwynt. Mae Llywodraeth Cymru yn honni eu bod yn cytuno â ni. Yr unig drafodaeth y dylem ei chael yw pryd a sut—a hynny gyda mwy o frys—ac nid 'os'. Ac eto, yng nghyd-destun yr etholiad cyffredinol hwn, dyma ni eto. A hoffech chi wybod beth mae maniffesto Llafur i Gymru yn ei ddweud am ddatganoli Ystad y Goron? Dim byd. Nid yw'r geiriau 'Ystad y Goron' yn cael eu crybwyll. A wnaeth Llafur Cymru geisio eu cael i mewn yno hyd yn oed? Unwaith eto, Plaid Cymru yw'r unig rai sy'n cyflwyno'r achos y gallwn ac y dylem fod â rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol yng Nghymru ac y gellir ac y dylid eu rhoi i weithio er budd pobl a chymunedau Cymru.
Felly, gadewch inni ailadrodd y dadleuon eto. Mae rheolaeth dros asedau Ystad y Goron yn yr Alban eisoes wedi'i ddatganoli, ac yn 2021-22, cynhyrchodd y rhain dros £15.7 miliwn yn uniongyrchol i drysorlys yr Alban, a hynny heb sôn am y cyfleoedd buddsoddi a thwf, tua £25.5 biliwn i gyd, a gynrychiolir gan raglen economi las yr Alban y mae'r rheolaeth dros asedau Ystad y Goron yn ei gwneud yn bosibl. Nid oes unrhyw reswm nac achos y gellir dadlau drosto pam y dylai'r Alban fod â rheolaeth dros y cyfryw asedau a refeniw, heb i Gymru allu cael hynny hefyd. Mae asedau Ystad y Goron yng Nghymru yn werth £853 miliwn. Byddai rheolaeth drostynt yn rhoi'r refeniw sydd ei angen arnom i greu cronfa gyfoeth sofran Gymreig—rhywbeth, unwaith eto, y mae Llywodraeth Cymru yn honni ei bod yn ei gefnogi mewn egwyddor, ond nad yw wedi gwneud dim oll i'w gyflawni.
Gwyddom fod gan Ystad y Goron rôl ganolog i'w chwarae yn y pontio i sero net yng Nghymru. Mae moroedd Cymru yn eiddo delfrydol mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy ar y môr—eto, rydym wedi clywed hyn oll gymaint o weithiau, onid ydym? Mae potensial economaidd ynni adnewyddadwy ym môr Iwerddon a'r môr Celtaidd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer swyddi a hyfforddiant gwyrdd newydd, yn ogystal â chynhyrchu ynni cynaliadwy. Ond er mwyn gwireddu unrhyw un o'r addewidion hyn ynghylch buddion cymunedol, twf gwyrdd a chynhwysol a chyfleoedd gwaith, mae angen rheolaeth ar Ystad y Goron arnom; mae angen i ni allu pennu'r telerau ar gyfer dyfarnu lesoedd a chytundebau datblygu, gan gynnwys gofynion ar fuddion cymunedol, sgiliau a datblygu cadwyni cyflenwi lleol. Fel y mae, rwy'n poeni'n ddifrifol y bydd y cyfleoedd hyn yn llithro—mae'n bosibl eu bod eisoes yn llithro—drwy ein bysedd.
Ddydd Gwener, yn ystod dadl arweinwyr BBC Cymru, haerodd Vaughan Gething ei fod wedi cael popeth y gofynnodd amdano ar ddatganoli pellach i Gymru. O hyn, rwy'n cymryd felly na wnaeth ofyn am ddatganoli Ystad y Goron, heb sôn am gyllid teg na symiau canlyniadol HS2. Daw ymrwymiadau maniffesto Llafur y DU ar Ynni Prydain Fawr yn syth o lyfr syniadau Boris Johnson ynglŷn â chodi'r gwastad. Mae'n endid niwlog, yn gwmni ynni neu'n gyfrwng buddsoddi, gyda phencadlys yn yr Alban a swyddfa gangen yng Nghymru efallai. Bydd yn darparu cyllid ar gyfer datblygiadau gwynt ar y môr, y bydd eu helw'n llifo'n ôl i dde-ddwyrain Lloegr yn y pen draw. Nid yw'n addo dim mwy na pharhad o'r duedd oesol i'n hadnoddau naturiol gael eu defnyddio i lenwi'r coffrau yn Llundain.
A dyna'r patrwm ehangach sy'n ailadrodd yma, onid e? Cymru'n cael ei chymryd yn ganiataol ar y gorau, gyda phŵer ac elw'n llifo i lawr ac allan ar hyd yr M4. Ar ei ddarllediad etholiadol ar gyfer y BBC, rhybuddiodd yr Athro Richard Wyn Jones fod Llafur yn bwriadu troi'r cloc yn ôl ar ddatganoli, gan ddychwelyd pŵer i Swyddfa Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol mewn ffordd nad yw hyd yn oed y Torïaid wedi'i wneud. Rwy'n meddwl ei fod yn llygad ei le, a'r hyn sy'n waeth yw fy mod yn credu bod Llywodraeth Lafur Cymru yn hapus i eistedd nôl a gadael i hynny ddigwydd. Mae cynsail yno hefyd, onid oes? Yn 2018, pleidleisiodd Llywodraeth Cymru yn erbyn cynnig Plaid Cymru o ddiffyg hyder yn yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, Alun Cairns, ar ôl iddo roi feto ar forlyn llanw Bae Abertawe.
Dylai trechu'r Llywodraeth Geidwadol fod yn ffynhonnell gobaith. Ond mewn cymaint o ffyrdd, fe fydd yn fwy o'r un peth i Gymru: mwy o'r un crebachu o San Steffan; mwy o'r un marweidd-dra economaidd; mwy o'r un cyni, gyda chymaint â £935 miliwn o bosibl o doriadau i wasanaethau cyhoeddus ar y ffordd. Yn yr etholiad hwn, mae Plaid Cymru wedi gwneud achos cadarnhaol dros fwy o degwch ac uchelgais i Gymru, dros fwy o reolaeth dros ein ffawd economaidd, a mwy o atebolrwydd wrth wneud penderfyniadau economaidd. Mae'n achos y byddwn yn parhau i'w wneud wrth inni edrych y tu hwnt i'r etholiad hwn, wrth inni fynd â'r frwydr at Lywodraeth newydd y DU. Ni wnawn adael iddynt gymryd Cymru yn ganiataol. Diolch yn fawr.
Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a'r cyfansoddiad yn awr—Rebecca Evans.
Diolch. Bum mlynedd ar hugain yn ôl i ddydd Llun nesaf, trosglwyddodd y rhan fwyaf o'r swyddogaethau yr arferid eu gwneud gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol cyntaf erioed Cymru. Am y tro cyntaf, cafodd penderfyniadau ar iechyd, addysg, tai, trafnidiaeth, datblygu economaidd a llawer o feysydd eraill eu gwneud gan Aelodau'r Cynulliad a etholwyd yma gan bobl Cymru.
Mae'r chwarter canrif hwn wedi rhoi bywyd i bolisïau di-ri, gan ymateb i anghenion a dyheadau penodol ein gwlad. Yn bwysig, mae'r trefniadau llywodraethu sy'n ein galluogi i gyflawni'r polisïau hyn wedi dod yn nodwedd barhaol o dirwedd gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig.
Ni fu heb ei heriau. Mae'r tensiynau yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd a'r straen a achoswyd gan unoliaetholdeb cyhyrog Llywodraeth ddiwethaf y DU wedi amlygu gwendidau ein setliad cyfansoddiadol. Mae'r Ceidwadwyr yn San Steffan wedi bwrw ymlaen dro ar ôl tro gyda deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig heb ganiatâd y Senedd. Fe wyddom y byddent yn mynd ymhellach pe byddent yn cael cyfle, ar ôl ymrwymo i ailgymhwyso Deddf Undebau Llafur 2016, ac addo ymestyn y Bil cefnogi gyrwyr i gynnwys Cymru, er bod terfynau cyflymder yn fater datganoledig. Byddai hyn yn sarhad ar ein democratiaeth.
Fe wnaethom sefydlu'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i helpu i archwilio'r modd y diogelwn ein setliad datganoli ac i ystyried atebion newydd ar gyfer cryfhau a diogelu ein sefydliadau a etholir yn ddemocrataidd. Yn gynharach eleni, fe wnaethom gyhoeddi ein hymateb i adroddiad terfynol y comisiwn. Fe wnaethom dderbyn casgliadau'r comisiwn a'i 10 argymhelliad, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithredu'r argymhellion hynny. Mae'r camau yr ydym eisoes wedi'u cymryd yn dangos yr ymrwymiad hwnnw'n glir. Rydym wedi dyrannu £1 filiwn ychwanegol i gefnogi'r agenda uchelgeisiol hon drwy ein trafodaethau cyllidebol fel rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, ac rydym wedi dechrau ar y gwaith o sefydlu panel cynghori arbenigol i gynorthwyo gyda'r argymhelliad ar arloesedd democrataidd.
Wrth gwrs, ni ellir cyflawni rhai o argymhellion y comisiwn heb gydweithrediad a chytundeb Llywodraeth y DU. I'r perwyl hwnnw, mae'n werth myfyrio ar ein llwyddiannau yn y gorffennol wrth weithio gyda Llywodraethau olynol y DU i sicrhau bod cynigion a wnaed gan gomisiynau blaenorol yn cael eu cyflawni. Gwireddwyd llawer o argymhellion comisiwn Richard yn sgil pasio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, gan roi'r gwahaniad rhwng y Llywodraeth a'r Ddeddfwrfa a phwerau deddfu sylfaenol ar gyfer y Senedd. Ac arweiniodd cyflwyno argymhellion Comisiwn Silk, drwy ddwy Ddeddf Cymru arall, at ddatganoli cyllidol a'r gallu i ddiwygio ein Senedd a'i siapio i adlewyrchu a gwasanaethu'r bobl a gynrychiolwn yn well.
Ni allem fod wedi sicrhau'r datblygiadau hynny a'r setliad cyfansoddiadol sydd gennym heddiw heb berthynas adeiladol rhyngom ni a Llywodraeth y DU. O'n rhan ni, byddwn yn parhau i geisio cydweithrediad, yn hytrach na rhaniad, er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl Cymru.
Yn gynharach y mis hwn, pleidleisiodd y Senedd yn unfrydol o blaid galw am ei chyfran deg i Gymru o gyllid o wariant Llywodraeth y DU ar HS2, ac mae'r cynnig yn nodi'r gefnogaeth drawsbleidiol honno'n briodol. Ac rwy'n manteisio ar y cyfle hwn i dynnu sylw cyd-Aelodau at fy llythyr yr wythnos hon mewn perthynas â symiau canlyniadol HS2, er mwyn i bawb ohonom ddefnyddio'r ffigurau cywir yn y gofod hwnnw, oherwydd pan fyddwn yn gwneud yr achos hwnnw gyda'n gilydd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn defnyddio'r ffigurau cywir, sef, yn y bôn, fod £350 miliwn wedi'i golli i Gymru o ganlyniad i gamgategoreiddio HS2. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU—unrhyw Lywodraeth y DU—i ailgategoreiddio HS2 fel prosiect ar gyfer Lloegr yn unig ac i roi ein cyfran deg i ni o'r cyllid canlyniadol, ac i gynnal adolygiad ehangach o gymhariaeth gyda'r Adran Drafnidiaeth i sicrhau mwy o wrthrychedd mewn penderfyniadau ariannu ac i fynd i'r afael ag effaith y categoreiddiad mewn prosiectau rheilffyrdd yn y dyfodol.
Soniais yn gynharach ein bod wedi derbyn argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a'n hymrwymiad parhaus i'w cyflawni, ac mae hynny'n cynnwys ein hymrwymiad i ddatganoli Ystad y Goron a chyfiawnder. Mae ein safbwynt ar ddatganoli Ystad y Goron i Gymru, yn unol â'r sefyllfa yn yr Alban, yn un hirsefydlog. Mae'r setliad presennol mewn perthynas ag ynni yn cyfyngu ar ein gallu i gyflawni polisi yng Nghymru sy'n adlewyrchu ein blaenoriaethau ac anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Fe wnaethom groesawu argymhellion y comisiynwyr ynglŷn â grŵp arbenigol i gynghori ar sut y gellid diwygio'r setliad datganoli i gefnogi ein huchelgeisiau, a'r pwyslais ehangach ar wella cysylltiadau rhynglywodraethol, o ystyried y rhyngweithio rhwng polisi Llywodraeth y DU a pholisi datganoledig mewn perthynas ag ynni a newid hinsawdd. Rydym am weithio gyda Llywodraeth y DU i ddatganoli Ystad y Goron mewn ffordd sy'n cynnal y cynnydd allweddol sy'n cael ei wneud ar weithgarwch yng Nghymru, gan gynnwys ar ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, ac i ddod â setliadau cyllid tecach i Gymru.
Argymhellodd y comisiwn hefyd y dylid datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru, ac unwaith eto, mae hynny'n adlewyrchu ein huchelgais hirdymor iddynt gael eu datganoli yn eu cyfanrwydd. Ond rydym hefyd wedi bod yn glir fod datganoli maes mor fawr ac mor gymhleth yn galw am ddull graddol, ac roedd y comisiwn yn cytuno. Rydym wedi galw dro ar ôl tro am ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf fel dau faes lle gallwn ddechrau cyflawni gwelliannau cydgysylltiedig go iawn i ddinasyddion Cymru, ac rydym yn gobeithio cael cyfle i weithio gyda Llywodraeth y DU sydd wedi ymrwymo i archwilio'r opsiynau ar gyfer cyflawni.
Ym mhob un o'r meysydd hyn, ac eraill, mae datblygu a chynnal perthynas gref ac effeithiol gyda Llywodraeth y DU, ac yn wir, gyda rhannau eraill o'r undeb, yn hanfodol. Rhaid i'r cysylltiadau hynny gael eu hategu gan fecanweithiau priodol sy'n cefnogi ac yn hwyluso cydweithredu. Er bod ein perthynas o ddydd i ddydd fel Gweinidogion â Llywodraeth y DU, yn gwbl briodol, gyda'n cymheiriaid portffolio yn Whitewall—felly, pan fyddwn eisiau siarad am ynni, rydym yn siarad â'r Gweinidog ynni; ar ffiniau, rydym yn siarad â'r Gweinidog ffiniau; ar gyllid, rydym yn siarad â Gweinidogion y Trysorlys; ac ar gaffael, rydym yn siarad â'r Gweinidogion sy'n gyfrifol am gaffael—credwn y gall Ysgrifennydd Gwladol Cymru chwarae rôl gadarnhaol ac adeiladol, a sicrhau bod gan Gymru lais ar y lefel uchaf o wneud penderfyniadau yn Llywodraeth y DU. Rydym eisiau gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni dros bobl Cymru, ac rydym angen Llywodraeth y DU—[Torri ar draws.] O'r gorau. Rwy'n tynnu tua'r terfyn, ond ewch amdani.
Da iawn. Rwy'n ceisio deall eich mathemateg ar HS2. Fe ddywedoch chi eich bod yn credu ei fod yn £350 miliwn. Hoffwn i chi ymhelaethu ar hynny—o ble rydych chi'n cael y £350 miliwn? Mae hynny'n awgrymu bod gwir gost HS2 oddeutu £7 biliwn, ond fe wyddom fod rhan Euston ohono oddeutu £5 biliwn. Mae cymal cyntaf HS2 yn £44 biliwn, a byddai HS2 yn gyfan yn golygu ein bod yn cael swm canlyniadol o tua £4 biliwn. Felly, a wnewch chi egluro o ble rydych chi'n cael eich £350 miliwn?
Rwy'n fwy na hapus i wneud hynny. Ysgrifennais at bob cyd-Aelod yr wythnos hon, ac anfon esboniad i bawb, gan gynnwys faint roeddem wedi'i gael gan Lywodraeth y DU ym mhob un o'r blynyddoedd ariannol drwy ein mecanweithiau—neu y byddem wedi ei gael gan Lywodraeth y DU ym mhob un o'r blynyddoedd ariannol—ers dechrau adeiladu HS2. Felly, rwy'n hapus i ailddosbarthu hwnnw ar ôl y cyfarfod heddiw. Rwyf wedi rhoi briff technegol i arweinydd Plaid Cymru gan swyddogion ar y mater hwn, ac esboniad dwy dudalen, ond rwy'n hapus i ddosbarthu hwnnw i'r holl gyd-Aelodau yn ogystal er mwyn sicrhau ein bod i gyd ar yr un dudalen.
Lywydd, rydym i gyd ar yr un dudalen, rwy'n credu, pob un ohonom, ar draws pob plaid, yn yr ystyr fod yn rhaid i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid. Ond yn yr un modd, mae'n bwysig ein bod yn defnyddio'r ffigurau cywir, oherwydd maent yn cael eu defnyddio yn y Siambr hon, ond yn y cyfryngau hefyd nawr, ac rwy'n meddwl bod eglurder yn bwysig. Ond rwy'n hapus i ddosbarthu'r holl wybodaeth y byddant ei hangen i'r holl gyd-Aelodau.
Hoffwn orffen felly, Lywydd, drwy ddweud bod angen Llywodraeth arnom yn y DU sy'n parchu datganoli ac sy'n barod i weithio gyda ni hefyd, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r gwelliant.
Heledd Fychan nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl hon.
Gwnaeth Mark Isherwood y pwynt ein bod wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol i HS2, ond nid wyf yn deall pam, felly, fod hynny'n cysylltu ag amddiffyn yr Ysgrifennydd Gwladol. Wedi'r cyfan, maent wedi methu darparu'r swm canlyniadol hwnnw i Gymru, felly mae'n siŵr fod eich pwynt yn dangos, hyd yn oed pan fo Llywodraeth Geidwadol yn y DU, hyd yn oed pan geir Ysgrifennydd Gwladol Cymru sy'n cynrychioli etholaeth Gymreig, eu bod yn methu cyflawni dros Gymru. Felly, gallant anwybyddu ewyllys y Senedd, ewyllys unedig y Senedd, a dal i beidio â chyflawni dros Gymru. Felly, nid wyf yn deall sut mae'r pwyntiau hynny'n cysylltu â'i gilydd.
Fe wnaethoch chi sôn hefyd am Simon Hart, a ddywedodd nad oes awch cyhoeddus am ddatganoli Ystad y Goron. Unwaith eto, Ysgrifennydd Gwladol Cymru—neu un blaenorol—sy'n honni ei fod yn siarad dros bobl Cymru ac nad yw'n dangos unrhyw ddealltwriaeth o ewyllys y Senedd hon ychwaith. Felly, rwy'n credu eich bod wedi darlunio gyda'r ddau bwynt hynny pam mae swydd yr Ysgrifennydd Gwladol mor ddiangen bellach.
Fe darodd Adam yr hoelen ar ei phen o ran bod yn gynrychiolydd y Cabinet yma yng Nghymru. Dyna'r union bwynt, onid e? A'r hyn y ceisiwn ei ddweud yma, a'r hyn rwy'n siomedig amdano yn safbwyntiau Ysgrifennydd y Cabinet, yw: pam nad yw Llywodraeth Cymru am gael y cyfrifoldeb hwn? Pam eich bod chi eisiau i un unigolyn wneud y galwadau hyn ac esgus siarad dros Gymru, yn hytrach na chael y llais hwnnw i'n Senedd a'n Llywodraeth ein hunain yng Nghymru? Nid yw hynny—. Wel, nid yw'n gwneud synnwyr.
Jenny Rathbone—rwy'n cytuno. Roeddech chi'n dweud am un unigolyn ac nad yw'n bersonol, ond rwy'n credu ei fod yn mynd y tu hwnt i hynny, fel y dangosodd Sioned Williams wrth ymateb. Nid yw'n ymwneud ag un unigolyn, ond mae'n symptomatig o'r swydd honno y gall un person ddiystyru mewn gwirionedd, oherwydd, pan soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am yr holl bethau yr ydym yn cytuno arnynt yma, wel, yn sicr felly, rydym am i rywun gael y drafodaeth honno gyda Llywodraeth y DU sy'n cynrychioli ein safbwyntiau, nid i fynd yn groes i lais cyfunol y Senedd hon. Mae pawb ohonom yma wedi cyfeirio at yr holl bethau yr ydym yn cytuno yn eu cylch, ac nid dim ond ni fel gwleidyddion. Lle ceir arbenigwyr, lle ceir paneli, lle ceir tystiolaeth ddiamheuol i ddangos pam mae angen y newidiadau hyn mewn cymaint o wahanol feysydd, ac yna gallwch gael un unigolyn i siarad dros Gymru yn y Cabinet nad yw'n cytuno o gwbl gyda ni. Felly, dyna pam nad ydym yn cytuno, a dyna pam y credwn y dylai Llywodraeth Cymru gael y llais hwnnw. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn eich ymyriad.
Rwy'n cytuno nad un unigolyn yw'r blaid gyfan, ond dyna pam mae'n bwysig ein bod yn ffurfio cynghreiriau. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r achos a wnaed gan Sioned Williams dros ddatganoli cyfiawnder troseddol. Rwy'n credu bod yr achos wedi'i wneud yn dda ac mae'n hen bryd ei wneud, oherwydd ni fydd yr Ysgrifennydd Cartref yn Llundain byth yn cyflawni'r polisïau blaengar sydd eu hangen ar gyfer cyfiawnder troseddol tra'u bod wedi'u lleoli yn Llundain. Bydd bob amser yn cael ei ddominyddu gan y Daily Mail, pa bynnag blaid sydd mewn grym. Dyna pam y gallwn roi cynnig ar bolisïau a fydd yn gweithio mewn gwirionedd a dangos y ffordd ymlaen iddynt, oherwydd ar hyn o bryd mae'r system wedi torri'n llwyr.
Diolch, ac rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchu'r hyn oedd Adam Price yn ei ddweud am ailddiffinio'r berthynas honno. Nid dim ond bachu penawdau yw hyn ar gael gwared ar rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru; mae'n ymwneud â chael sgwrs aeddfed ynglŷn â sut olwg sydd ar y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ein bod yn diweddaru prosesau, oherwydd yn sicr nid yw'n gweithio i Gymru pan fo barn unedig yma, gyda chefnogaeth arbenigwyr, ac eto fod yn rhaid inni ymladd, fod yn rhaid inni barhau i ddadlau'r achos. Felly, rwy'n credu mai dyna lle mae'r rhwystredigaeth. Mae angen inni sicrhau bod yr undeb yn gweithio i Gymru, ac ar hyn o bryd nid yw hynny'n wir.
Rhys ab Owen, diolch am ein hatgoffa am John Redwood a'i berfformiad ofnadwy o 'Hen Wlad fy Nhadau'. Mae angen i hynny gael ei gloi yn y llyfrau hanes, ac nid y rôl yn unig. Ond yn sicr, y pwyntiau a wnewch, a'r ffaith eich bod chi wedi myfyrio, oherwydd mae'n rhywbeth y mae angen i chi ei gydbwyso o ran y rôl honno, a dyna pam ein bod ni angen sgwrs aeddfed ynglŷn â sut olwg sydd ar y berthynas honno.
Fodd bynnag, roeddech chi'n iawn i nodi o ran Ystad y Goron nad yw hyd yn oed yn cael ei grybwyll ym maniffesto'r Blaid Lafur. Felly, yn hollbwysig, sut y gallwn ni gyflawni dros Gymru?
Fe sonioch chi yn eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y rhan fwyaf o swyddogaethau wedi trosglwyddo i Lywodraeth Cymru 25 mlynedd yn ôl, ac fe sonioch chi am ddiogelu'r setliad datganoli. Wel, mae'n ymddangos i mi o'r cyfweliadau a welsom hyd yma y bydd angen inni ddiogelu'r setliad datganoli rhag Ysgrifennydd Gwladol Llafur dros Gymru, yn ogystal â'r hyn a welsom gan un Ceidwadol yn y DU. Mae angen i berthynas adeiladol ddechrau yn ystod ymgyrch etholiadol hefyd; ni allwn obeithio y bydd hi'n newid ei chywair a'i hagwedd yn dilyn yr etholiad. A dyna pam ein bod yn bryderus, wrth edrych ar faniffesto Llafur y DU, wrth edrych ar y sylwadau a wnaed, fod yna ddiffyg parch at safbwyntiau'r Senedd hon.
Felly, dyna pam ein bod yn gofyn heddiw i'r Senedd gytuno â'n cynnig, ac mae hynny'n ymwneud â chael gwared ar swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru gael y gair olaf ar y pethau allweddol y dylid eu datganoli yma i Gymru, a'r pwerau sydd eu hangen arnom yma yng Nghymru. Ni ddylai unrhyw un gael feto dros ewyllys y Senedd hon. Rydym yn uchelgeisiol dros Gymru. Rydym am weld Llywodraeth y DU yn cyflawni dros Gymru. Ni fydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cyflawni dros Gymru. Mae hynny'n amlwg, beth bynnag fo lliw eu plaid.
Felly, gadewch inni gael hyder yn Llywodraeth Cymru, yn y penderfyniadau a wneir yma yng Nghymru, ailddiffinio'r berthynas, ond os gwelwch yn dda, Lafur Cymru, byddwch yn ddigon dewr i wneud penderfyniadau dros bobl Cymru, ac nid dim ond gobeithio am y gorau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan i ni gyrraedd y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ac rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod hynny nawr. Ac oni bai bod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud yn syth i'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma. Mae'r bleidlais hynny ar eitem 7 a'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar y Bil buddion ynni cymunedol, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Adam Price. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, 25 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Eitem 7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil buddion ynni cymunedol: O blaid: 23, Yn erbyn: 0, Ymatal: 25
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 9 fydd y pleidleisiau nesaf. Dadl Plaid Cymru oedd hon ar Gymru a Llywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Y cynnig yna wedi ei wrthod.
Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Cymru a llywodraeth nesaf y DU. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 fydd nesaf felly, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 36 yn erbyn, ac mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Cymru a llywodraeth nesaf y DU. Gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2 sydd nesaf. Pleidlais felly ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.
Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Cymru a llywodraeth nesaf y DU. Gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 25, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Y bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio gan welliant 2.
Cynnig NDM8624 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol HS2; a
b) ymrwymiad blaenorol Llywodraeth Cymru i ddatganoli cyfiawnder ac asedau Ystâd y Goron yng Nghymru yn llawn.
2. Yn nodi llwyddiant datganoli dros y 25 mlynedd diwethaf o ran cyflawni newid radical i bobl Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda pha Lywodraeth bynnag a etholir nesaf yn y DU i helpu i gyflawni argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
4. Yn cytuno bod un llywodraeth Geidwadol ar ôl y llall yn y DU wedi tanseilio setliad datganoli Cymru ac yn nodi gyda phryder bod maniffesto'r blaid Geidwadol yn cynnwys mesurau a fyddai'n tanseilio datganoli ymhellach, gan gynnwys diddymu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) sy'n helpu i amddiffyn gweithwyr y sector cyhoeddus ac ehangu'r Bil Cefnogi Gyrwyr i gynnwys Cymru.
5. Yn nodi pwysigrwydd cael perthynas adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
6. Yn cydnabod yr angen am Lywodraeth yn y DU sy'n parchu ac yn hyrwyddo datganoli gan greu Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau a ategir gan waith rhynglywodraethol cryf ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru penodedig ar gyfer materion Cymreig yng nghabinet y DU.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 22 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Cymru a llywodraeth nesaf y DU. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ddiwedd ar y pleidleisio, ond mae yna un eitem ar ôl, sef y ddal fer.
Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Heledd Fychan. Fe wnaf i ofyn i Heledd Fychan gychwyn ei dadl fer unwaith y bydd rhai Aelodau wedi gadael, a hynny'n weddol o dawel. Heledd Fychan.
Diolch, Lywydd. Wel, rwy’n falch o'r cyfle i gyflwyno’r ddadl fer hon heddiw, a byddaf yn rhoi munud o fy amser i Vikki Howells a Joel James.
Chwarel ar gyrion Pontypridd ger cymuned Glyn-coch yw chwarel Craig-yr-Hesg. Mae’n gweithredu ers 1885, ac mae’n darparu tywodfaen pennant glas, un o’r agregau arwynebu atal sgidio o’r ansawdd uchaf yn y DU, ac fe’i defnyddir ar draffyrdd a rhedfeydd meysydd awyr. Roedd y gwaith o gloddio a gweithio mwynau neu ddyddodi gwastraff mwynau ar y safle i fod i ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2022, gyda rhaglen adfer ac ôl-ofal i ddilyn. Roedd hwn yn addewid a wnaed i’r gymuned leol pan wnaed y cais cynllunio. Fodd bynnag, torrwyd yr addewid hwnnw. Yn dilyn hynny, cyflwynodd y cwmni a oedd yn gyfrifol am y chwarel ddau gais cynllunio i ehangu'r ardal i'w chloddio yn ogystal ag oes y chwarel. Derbyniwyd dros 400 o wrthwynebiadau gan drigolion lleol, Cyngor Tref Pontypridd, a llawer o gynrychiolwyr etholedig, gan gynnwys Vikki Howells a minnau. Yn wir, roedd y dadleuon a gyflwynwyd mor gymhellol fel y gwrthododd yr awdurdod cynllunio lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, y ddau gais ar sail effaith ffrwydro ar iechyd a lles pobl. Gollyngodd y gymuned ochenaid o ryddhad. Ond bu'r rhyddhad hwn yn fyrhoedlog, wrth i apêl gynllunio gael ei chyflwyno i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
Ym mis Hydref 2022, cadarnhaodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd, Julie James, yr apêl gan Hanson Aggregates. Cyfeiriodd y Gweinidog at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei dyfarniad, ar y sail fod niwed posibl wedi’i bwysoli yn erbyn yr angen tebygol am fwynau ym maes adeiladu ac adeiladu a chynnal a chadw ffyrdd a manteision economaidd ehangach y cynllun. Mae'r disgrifiad o'r datblygiad yn nodi y byddai'r ehangu yn hwyluso'r gwaith o echdynnu 10 miliwn o dunelli o dywodfaen ac yn eu galluogi i echdynnu'r 5.7 miliwn o dunelli sy'n weddill. Felly, mae gennym chwarel bellach sydd wedi'i gwrthwynebu gan y gymuned leol, ac sydd nid yn unig yn dal i fod ar waith tan 2047, ond sydd hefyd yn ehangu. Mae dweud bod y trigolion yn gandryll yn danddatganiad; mae'r penderfyniad wedi torri eu calonnau, ac maent yn ysu am i Lywodraeth Cymru wrando ar eu pryderon a chymryd camau i gau'r chwarel.
Felly, pam y gwrthwynebiad? Mae'r chwarel yn dominyddu'r dirwedd ger cymuned Glyn-coch ac mae'n agos at nifer o gartrefi, ysgol a chaeau chwarae. Mewn gwirionedd, mae stad gyfagos lai na'r 200m a ganiateir o ffin ardal yr ehangu arfaethedig. Unwaith yr wythnos, mae'r gymuned yn dioddef effaith ffrwydro ar y safle. Ers blynyddoedd, maent wedi sôn am y trallod a achosir gan y ffrwydradau uchel. Maent hefyd wedi dangos tystiolaeth sy’n awgrymu, ar ddiwrnod y ffrwydro, fod eu cartrefi’n ysgwyd, gan arwain at graciau yn waliau eiddo, yn fewnol ac yn allanol, yr honnant eu bod wedi ymddangos ar waliau yn sgil gwaith ffrwydro. Dywedodd un preswylydd wrth siarad yn y gwrandawiad apêl, 'Mae fy nheulu wedi byw yn yr ardal ers dros 50 mlynedd. Rydym wedi treulio amser a gwario arian ar ein cartref iddo gael ei ddifrodi nawr gan waith ffrwydro yn y chwarel. Mae hyn yn cynnwys difrod i'n wal derfyn, waliau allanol ein tŷ a waliau mewnol. Mae llawr y lolfa hefyd wedi cwympo, gan adael twll mawr.' Darparodd llawer o drigolion eraill dystiolaeth debyg, ynghyd â lluniau, ac eto, gwrthodwyd hyn gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru gan nad oedd wedi'i ddilysu gan arbenigwyr.
Mae llwch yn bryder mawr. Yn dilyn ffrwydro, gellir gweld cymylau enfawr o lwch yn teithio dros y gymuned gyfagos. Maent yn gadael eu hôl ar gartrefi a cheir, ac mae trigolion yn pryderu bod y gronynnau yn y llwch yn peri risg i'w hiechyd. Wedi'r cyfan, gall cloddio am agregau, yn enwedig cerrig pennant, gynhyrchu llwch silica. Mae silica i'w gael yn naturiol mewn creigiau, tywod a chlai, a phan fydd y deunyddiau hyn yn cael eu drilio, eu torri neu eu naddu yn ystod gwaith cloddio, cynhyrchir llwch mân sy'n cynnwys silica crisialog anadladwy. Gall anadlu silica crisialog anadladwy arwain at silicosis, clefyd galwedigaethol difrifol ac anwrthdroadwy ar yr ysgyfaint. Codwyd hyn hefyd yn ystod y gwrandawiad apêl, gyda phreswylydd lleol yn dweud, 'Y broblem fwyaf a ddioddefwn yw'r llwch ar holl arwynebau ein cartref. Mae'n amlwg fod y llwch yn dod o'r chwarel, a bydd yn achosi effeithiau iechyd hirdymor.'
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Dywedodd y Cynghorydd Doug Williams, cynghorydd ward Glyn-coch, ymhellach:
'Rwyf wedi ymchwilio i ansawdd yr aer a chanfod lefelau uwch na thargedau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd mewn sawl cod post lleol. Mae lefelau uwch o ganserau ac iechyd gwael yn fy ward, sy'n un o’r rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Dim ond llwch o'r chwarel a all esbonio hyn. Mae'r llwch i'w weld ar ffenestri, paneli solar a thu mewn i eiddo ar gownteri cegin.'
Roedd y rhain yn bryderon a godwyd gan Vikki Howells a minnau wrth roi tystiolaeth, ac eto, gwrthodwyd pob un ohonynt gan yr arolygiaeth gynllunio, gan nad ystyrid bod y dystiolaeth wedi’i chadarnhau. Mewn gwirionedd, beirniadwyd Vikki a minnau am beidio â chynhyrchu tystiolaeth gadarn, gyda’r arolygiaeth yn ysgrifennu,
'Braidd yn hwyr yn y dydd, cytunir bellach nad oes unrhyw risg i iechyd corfforol. Nid yn unig nad yw'r honiad o effeithiau ar iechyd meddwl wedi'i gadarnhau, ond ni fu unrhyw ymdrech i'w gadarnhau gyda thystiolaeth.'
Mewn gwirionedd, cawsom ein beirniadu a’n cyhuddo o godi bwganod am nad oeddem mewn sefyllfa i gomisiynu ein bargyfreithwyr a’n tîm o ymchwilwyr ein hunain ar ran y gymuned, yn wahanol i’r apelyddion.
Cafodd hyn sylw yng nghyhoeddiad The Planner mewn erthygl ddiddorol yn dilyn y penderfyniad i ganiatáu i'r chwarel ehangu. Gofynasant i CB, bargyfreithiwr cyfraith gyhoeddus yn Cornerstone Chambers, am ei barn ar fater cymunedau’n cael eu prisio allan o ddarparu tystiolaeth, a dywedodd,
'Yr anhawster mawr wrth i drigolion orfod cyflwyno tystiolaeth mewn ymchwiliad cynllunio yw bod gofyn i'r safon fod yn uwch ac yn uwch.
'Mae gweithrediadau fel Cymorth Cynllunio a Community Planning Alliance yn cynnig cymorth ac adnoddau, ond gall tystiolaeth sy'n debygol o gael ei hystyried yn bwysig gan arolygwyr, megis arolygon, ac asesiadau effaith, fod y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl.'
Ac mae'r erthygl yn cloi gyda'r pwynt canlynol:
'Mae a wnelo cynllunio â chydbwysedd: cydbwyso'r negyddol â'r buddion, y risgiau â'r gwobrau. Golyga hyn mai dim ond tystiolaeth gadarn o ansawdd uchel y gall ei derbyn—a dylai’r trothwy uchel aros. Ond a yw'n deg, os caiff cymunedau eu difreinio gan gost cynhyrchu'r dystiolaeth hon?'
Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Trefnydd ystyried hyn yn ei hymateb, gan y credaf fod hyn yn arbennig o berthnasol pan fyddwch yn ystyried y gymuned o dan sylw, yng Nglyn-coch. Wedi’r cyfan, mae Glyn-coch yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y wlad, ac mae’r rhan fwyaf o'r tai yn dai cymdeithasol. Sut y gall cymuned fel Glyn-coch gystadlu â chwmni gwerth miliynau o bunnoedd?
Pryder arall yw'r lorïau sy'n gweithredu i mewn ac allan o'r safle. Maent yn lorïau enfawr sy'n teithio oddi ar yr A470 a thros yr hen bont ym Mhontypridd ac i lawr Ffordd Berw. Mae'r effaith ar draffig yn sylweddol, ac mae'r ffordd yn anaddas ar gyfer traffig mor drwm. Mae trigolion wedi cael llond bol nid yn unig ar y sŵn a’r dirgryniadau wrth i'r lorïau fynd heibio i'w cartrefi, ond hefyd ar y llwch a ddaw ohonynt, sy’n gadael ei ôl ar ddrysau a ffenestri. Canfu arolwg a gynhaliwyd gan drigolion lleol ddydd Mercher diwethaf fod 70 o gerbydau nwyddau trwm wedi defnyddio'r ffordd; 34 ohonynt rhwng 7 a.m. a 9 a.m., gan achosi pwysau sylweddol ar y ffyrdd yn ystod oriau brig, ac roedd y chwarel ei hun yn cydnabod y perygl hwn, fel yr amlinellwyd yn eu gwaharddeb gan yr Uchel Lys. Y terfyn y cytunwyd arno i fod yw pum cerbyd nwyddau trwm yr awr.
Maent hefyd wedi dangos—mae trigolion wedi dangos—craciau sydd wedi ymddangos mewn ffenestri ac ar waliau y credant eu bod yn gysylltiedig â'r lorïau, ac o ystyried bod y traffig wedi ansefydlogi'r wal amddiffyn rhag llifogydd gerllaw, mae hynny'n gwbl bosibl. Mae trigolion hefyd yn bryderus am yr effaith ar eu diogelwch gan fod y ffordd yn gul iawn mewn mannau, a'r palmant hyd yn oed yn gulach, gyda lorïau'n aml yn mynd ar y palmant i allu pasio.
Ac fel pe na bai hyn oll yn ddigon, mae'r gwaith o ehangu’r chwarel hefyd yn effeithio ar natur a bioamrywiaeth yn yr ardal, ac eisoes wedi mynd â thir sydd wedi'i ddefnyddio gan y gymuned ers canrifoedd. I lawer, gweld y ffensys yn cael eu codi oedd y cyntaf a wyddent am ehangu'r chwarel, ac mae hyn wedi achosi cryn ofid. Mae niferoedd mawr o bobl bellach wedi ymuno â grŵp ymgyrchu, ac maent yn gwneud pethau fel codi ymwybyddiaeth, deisebu i gau’r chwarel, a gweithredu uniongyrchol hefyd—maent wedi bod yn rhwystro cerbydau’r chwarel. Ond yn syml iawn, mae’r gymuned wedi cael digon, ac maent am weld y chwarel yn cau. Maent yn poeni nad oes unrhyw un yn gwrando.
Felly, beth ddylai ddigwydd nesaf? O ystyried bod Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd yn y blynyddoedd diwethaf, ac o ystyried bod Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 bellach mewn grym, mae cymuned Glyn-coch yn gofyn i Lywodraeth Cymru wrando ar eu pryderon a’u cefnogi i fonitro effaith y safle yn effeithiol, a’u helpu naill ai i gadarnhau neu leddfu eu hofnau ynghylch effaith y chwarel ar eu hiechyd a’r amgylchedd. Mae hyn yn golygu gorchymyn i'r chwarel roi'r gorau i weithredu ar y safle hyd nes y gellir rhoi sicrwydd nad yw'r chwarel yn peri unrhyw risg i iechyd na'r amgylchedd lleol. Mae trigolion Glyn-coch eisiau i Lywodraeth Cymru gymryd camau a chau'r chwarel, a mynnu bod y safle'n cael ei adfer fel yr addawyd.
Nid Glyn-coch yw'r unig gymuned yn y sefyllfa hon yng Nghymru. Mae cymunedau eraill yn ymladd brwydrau tebyg, pob un ohonynt yn ysu i wybod a ydynt yn ddiogel yn byw yn eu cartrefi. Dylent gael eu cefnogi yn eu hymdrechion, a dylai Llywodraeth Cymru adolygu deddfwriaeth a rheoliadau i sicrhau bod cwmnïau sy’n echdynnu mwynau yng Nghymru yn cael eu mesur yn ôl y safonau uchaf posibl er mwyn sicrhau na all pobl a natur gael eu niweidio gan waith echdynnu mwynau yn agos at eu cartrefi. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â chymunedau fel Glyn-coch ac yn gwrando ar eu pryderon. Ni ddylid eu prisio allan o gael eu llais wedi'i glywed.
Ers cael fy ethol yn 2016, rwyf wedi cyd-sefyll gyda thrigolion Glyn-coch i wrthwynebu’n ffurfiol bob cais cynllunio i ehangu chwarel Craig-yr-Hesg, ac mae’n braf iawn cael cwmni Heledd yn hynny o beth ers iddi hi gael ei hethol. Credaf ein bod wedi ffurfio perthynas waith drawsbleidiol ragorol ar y mater hwn i gefnogi ein hetholwyr. Mae’r holl bryderon y mae Heledd wedi’u hamlinellu yn cael eu gwaethygu'n sylweddol oherwydd agosrwydd y chwarel at y pentref. Mae rheoliadau cynllunio yn nodi 200m o dir clustogi fel isafswm pellter addas rhwng chwareli ac ardaloedd preswyl, ond mae'r ehangiad diweddaraf hwn yn dod â'r ardal waith o fewn 142m i lawer o dai, a dim ond 109m o'r eiddo agosaf. Nid yw'n syndod fod trigolion yn ei chael hi'n anodd cadw gwerth eu cartrefi a gwerthu eu cartrefi. A gadewch inni beidio ag anghofio disgyblion Ysgol Gynradd Cefn, sydd bellach 164m yn unig o'r safle. Mae'n amhosibl i ni, i drigolion, ac yn wir, i bwyllgor cynllunio RhCT, a wrthwynebodd yr ehangu, ddirnad sut y gellir barnu bod hyn yn ddigon o dir clustogi. Ddirprwy Lywydd, rhoddaf fy ngair i drigolion Glyn-coch y byddaf yn parhau i wrthwynebu chwarel Craig-yr-Hesg, ac ni fyddaf yn gorffwys hyd nes y bydd yn cau.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Heledd am gyflwyno dadl fer mor bwysig ac am roi munud o’i hamser i mi? Fel Heledd, rwyf wedi treulio cryn dipyn o amser yn siarad â thrigolion ac yn codi’r mater hwn gyda’r cyngor ac Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n rhannu siom pawb fod y penderfyniad wedi’i wneud i ehangu’r chwarel yng Nglyn-coch.
Rwy'n teimlo'n gryf dros y trigolion sy'n byw yn y pentref. Maent wedi colli mynediad at dir gwerthfawr a oedd yn cael llawer o ddefnydd, mae eu tai’n cael eu difrodi, ac ni allaf ddychmygu beth maent yn ei anadlu. Fel y nodwyd eisoes, nid yw amseroedd ffrwydro'n cael eu hysbysebu’n gywir, sy'n golygu na roddir unrhyw rybudd ymlaen llaw i'r gymuned, ac ar ben hyn oll, mae'n rhaid iddynt fyw gydag ôl-gryniadau'r ffrwydradau hyn. Yn ddealladwy, mae trigolion yn bryderus iawn fod eu hiechyd yn cael ei effeithio bellach, ac rwy'n credu'n gryf y gellid bod wedi atal y sefyllfa hon pe bai mwy o bwyslais wedi'i roi ar anghenion a llais y gymuned leol.
Dro ar ôl tro, rydym yn sefyll yn y Siambr hon yn ymladd dros drigolion am nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed gan awdurdodau lleol na Llywodraeth Cymru. A'r gwir trist amdani yw bod y sefydliad hwn a datganoli yn gwneud cam â phobl Glyn-coch. Nid yw wedi rhoi'r llais a addawyd iddynt. Diolch.
Galwaf ar y Trefnydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar 11 Hydref 2022, caniataodd Gweinidogion Cymru ddwy apêl gynllunio'n ymwneud â cheisiadau cynllunio a wnaed gan Hanson UK Ltd ar gyfer mwyngloddio yn chwarel Craig-yr-Hesg. Oherwydd cyfraith gynllunio ac arfer sefydledig, ni allaf wneud sylwadau ar y penderfyniadau hynny.
Un o sylfeini hollbwysig y system gynllunio yw sicrwydd—sicrwydd i’r cyhoedd fel eu bod yn gwybod sut y bydd eu hardaloedd yn datblygu, a sicrwydd i ddatblygwyr, fel y gallant fwrw ymlaen â phenderfyniadau buddsoddi. Am y rheswm hwn, y tu hwnt i gyfnod o chwe wythnos ar ôl rhoi caniatâd, nid yw'n bosibl herio caniatâd cynllunio drwy’r llysoedd bellach. Pan fydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi penderfyniad ar gais cynllunio, nid oes ganddynt awdurdodaeth bellach yn y mater. Mae effaith gyfunol colli awdurdodaeth a’r angen am sicrwydd cyfreithiol yn golygu nad yw’n agored i unrhyw un yn Llywodraeth Cymru drafod rhinweddau’r penderfyniad, y rhesymeg y tu ôl iddo, nac i ailystyried y penderfyniad. Pan fydd apêl gynllunio a adferwyd wedi’i phenderfynu gan Weinidogion Cymru, dim ond drwy adolygiad barnwrol o fewn chwe wythnos i’r penderfyniad y gellir herio’r penderfyniad, a dim ond ar y sail fod y modd yr ymdriniwyd â’r mater yn gyfreithiol ddiffygiol. Mae’r cyfle i wneud hynny wedi hen basio yn yr achos hwn, ac fel y nodir mewn cyfraith gynllunio, mae’r penderfyniad yn derfynol.
Rwy'n deall bod trigolion wedi mynegi pryderon ynglŷn â gweithgareddau yn y chwarel, fel y disgrifiwyd heddiw. I egluro'r sefyllfa, mae'r ddau benderfyniad apêl yn destun amodau cynllunio sy'n ceisio rheoli a lliniaru unrhyw effeithiau posibl yn sgil y datblygiad. Mae gan awdurdodau cynllunio lleol bwerau i ymchwilio i achosion posibl o dorri rheolau cynllunio. Mae'r cyfrifoldeb am orfodi rheolaeth gynllunio, gan gynnwys amodau sydd ynghlwm wrth ganiatâd a roddwyd yn dilyn apêl lwyddiannus, bellach yn nwylo'r cyngor. Mae’r posibilrwydd o gamau gorfodi hefyd yn golygu y gellir cyflwyno’r achos eto i Weinidogion Cymru, y tro hwn i benderfynu apêl orfodaeth. Mae’r posibilrwydd hwn yn golygu na allaf wneud sylw ar rinweddau cynllunio’r safle er mwyn osgoi niweidio’r achos hwnnw. Diolch yn fawr.
Diolch, bawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:22.