Y Cyfarfod Llawn

Plenary

15/05/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet

Prynhawn da, bawb, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood.

Diwygio'r Dreth Gyngor

1. Pa ystyriaeth y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei rhoi i ddiwygio'r dreth gyngor yng Nghymru? OQ61083

Ar ôl gwrando’n ofalus ar farn pobl drwy ein hymgynghoriad, roedd awydd clir am ddiwygiadau, ond wedi’u cyflwyno dros amserlen arafach. Byddaf yn cyflawni rhai gwelliannau i wneud y dreth gyngor yn decach y tymor hwn, ac yn parhau i ymgysylltu ar y diwygiadau strwythurol cywir ar gyfer 2028. Rwyf wedi cyhoeddi datganiad heddiw yn nodi'r cynlluniau.

Diolch. Wel, golyga'r rheol 182 diwrnod fod busnesau llety hunanddarpar lleol sefydledig, teilwng yn gorfod talu’r dreth gyngor, weithiau ar raddfa bremiwm. Pan gynigiwyd yr is-ddeddfwriaeth i gyflwyno’r trothwy hwn, rhybuddiodd y sector y byddai'n niweidio busnesau teilwng yng Nghymru ac yn niweidio ecosystem fregus yr economi ymwelwyr. Mae dros 1,500 o fusnesau hunanddarpar bellach wedi ymateb i arolwg newydd a gomisiynwyd gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality Cymru a Chymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU. Dim ond 25 y cant a ddywedodd y byddent yn cyrraedd y trothwy o 182 diwrnod eleni, mae 70 y cant yn cynnig llety am bris is er mwyn ceisio cyrraedd y trothwy o 182 diwrnod, ac mae 42 y cant naill ai'n rhoi eu heiddo ar y farchnad neu'n ystyried gwneud hynny, gyda'r tebygolrwydd y cânt eu prynu fel ail gartrefi. Sut ydych chi'n ymateb, felly, i’r cais a wnaed gan Gynghrair Twristiaeth Cymru yn eu llythyr at y Prif Weinidog am ymrwymiad i ddyddiad ar gyfer adolygiad o’r polisi 182 diwrnod, ac i drafod pa eithriadau pellach rhag premiymau’r dreth gyngor sydd eu hangen er mwyn ei gwneud hi'n bosibl i economi ymwelwyr gytbwys oroesi a ffynnu yng Nghymru?

Wel, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ailddatgan y pwrpas y tu ôl i'r trothwy 182 diwrnod a gyflwynwyd, a hynny gan fod Llywodraeth Cymru yn credu y dylai trigolion a pherchnogion eiddo, boed yn eiddo domestig neu fusnesau, dalu cyfraniadau teg i’r cymunedau y maent wedi’u lleoli ynddynt. Rwyf wedi gweld arolwg blaenorol, a gynhaliwyd gan y sector twristiaeth, ac mewn gwirionedd, roedd yr arolwg hwnnw’n awgrymu bod ein nodau drwy’r polisi yn dechrau cyflawni’r hyn rydym wedi ceisio ei wneud. Felly, nid wyf yn siŵr a yw hwn yn arolwg newydd sy'n darparu tystiolaeth wahanol. Os ydyw, rwy'n awyddus iawn i edrych arno.

Hoffwn ddweud yn glir iawn, fodd bynnag, o ran adolygiad: nid oes gennym unrhyw gynlluniau i gynnal adolygiad. Yn ddiweddar y cafodd y rheolau eu cyflwyno. Credaf ei bod yn bwysig iddynt ymsefydlu. Nid wyf am i’r sector fod o dan gamargraff y bydd adolygiad yn cael ei gynnal ar unwaith pan ddylai'r sector fod yn ymdrechu naill ai i gyrraedd y trothwy 182 diwrnod neu ystyried yr opsiynau sydd ar gael iddynt, ac mae opsiynau ar gael iddynt.

Ni fwriadwyd i'r dreth gyngor fod yn deg. Fe'i cyflwynwyd i ddisodli treth y pen, yr oedd pobl yn ei chasáu. Fel y mae’n bodoli ar hyn o bryd, mae’n atchweliadol, ond hefyd yn anodd iawn ei hosgoi, o gymharu â threth incwm, sy’n flaengar, ond yn hawdd iawn ei hosgoi, yn enwedig gan y cyfoethogion. Y broblem gyda’r dreth gyngor yw bod y bandiau’n rhy eang a bod tai drud iawn yn y band uchaf, ni waeth pa mor werthfawr ydynt, yn uwch na’r isafswm ar gyfer band I. A wnaiff y Gweinidog ystyried cyflwyno mwy o fandiau uwchlaw'r band I presennol a chynyddu nifer y bandiau is drwy rannu'r bandiau presennol yn ddau?

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn a'r gydnabyddiaeth glir honno fod trethi eiddo yn drethi sefydlog ond hefyd yn drethi sy'n llawer anos eu hosgoi mewn sawl ffordd. Am y rheswm hwnnw, credwn fod y dreth gyngor yn chwarae rhan bwysig yn ein strwythur treth lleol a’i bod wedi bod yn sefydlog ers amser maith. Ond wedi dweud hynny, rydym yn gwneud ymdrechion enfawr i wneud y dreth gyngor yn decach ar gyfer y dyfodol. Felly, rwyf wedi gwneud datganiad heddiw sy'n ystyried yr ymgynghoriad cam 2. Edrychodd yr ymgynghoriad cam 2 ar ddau beth: edrychodd ar gyflymder y diwygio ac edrychodd ar faint y diwygio. Mewn perthynas â chyflymder y diwygio, gwneuthum gyhoeddiad heddiw ein bod yn bwriadu cyflwyno'r ailbrisiad o 2028 ymlaen, ac y bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gwneud y gwaith angenrheidiol ar gyfer hynny.

Yna, ar faint y newidiadau, ac mae hynny’n cynnwys pethau fel cyflwyno bandiau newydd, cafodd hynny ei gynnwys yn ein hymgynghoriad, ac yn bendant, roedd peth cefnogaeth i wneud hynny, o ran bandiau ychwanegol ar y pen uchaf, ond o ran bandiau ychwanegol posibl ar y pen isaf hefyd i helpu'r bobl yn yr eiddo lleiaf drud. Ac yn sicr, bydd hynny'n rhan o'n meddylfryd wrth inni symud ymlaen. Hoffwn ddweud yn glir, serch hynny, y byddai’n rhaid cynnal ymgynghoriad pellach yn nes at 2028, a fyddai’n edrych eto ar y materion hynny mewn perthynas â maint y diwygio.

13:35
Adolygu'r Fframwaith Cyllido

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran adolygu fframwaith cyllidol Cymru? OQ61092

Gwnaf. Mae’r fframwaith cyllidol yn destun adolygiadau mewnol rheolaidd. Ar y cyfan, mae'n gweithredu'n dda. Fodd bynnag, mae elfennau'n ymwneud â hyblygrwydd cyllidol lle rwyf wedi bod yn dadlau'r achos dros welliannau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny, Lywydd. Erbyn diwedd tymor y Senedd hon, bydd bron i 10 mlynedd wedi bod ers i’r fframwaith cyllidol gael ei drafod gyntaf, ac eto, mae’r ffigurau ynddo, fel y clywsom, yn dal ar yr un lefel â'r hyn y cytunwyd arno bryd hynny. Yn y cyfamser, mae cyllidebau wedi codi, mae chwyddiant wedi erydu gwir werth y ffigurau hynny. Yn y cyfamser hefyd, daethpwyd i gytundeb yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i gael mwy o hyblygrwydd wrth reoli’r hyn sydd, wedi’r cyfan, yn arian sy’n perthyn i’r Senedd hon. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld unrhyw obaith o unioni hyn i Gymru yn ystod misoedd olaf Llywodraeth bresennol y DU, neu a oes yn rhaid inni aros i weinyddiaeth wahanol gael ei hethol yn Llundain a fydd yn trin Cymru yn deg ac yn synhwyrol, fel y gellir rheoli arian cyhoeddus yma yn y modd mwyaf effeithiol ac mewn ffyrdd sydd eisoes ar gael i bob rhan arall o’r Deyrnas Unedig?

Ydy, mae'n gwbl wir fod gwerth yr hyblygrwydd sydd gennym wedi erydu er pan y'i pennwyd. Felly, yn y flwyddyn ariannol hon, bydd ein capasiti wrth gefn a hefyd ein pwerau benthyca yn werth 23 y cant yn llai na phan gytunwyd arnynt yn wreiddiol. Felly, rydym yn sicr yn credu bod achos cryf iawn dros roi’r pwerau a’r hyblygrwydd a roddwyd i’r Alban yn ddiweddar i ni o ran mynegeio’r benthyca a’r cronfeydd wrth gefn. Byddaf yn sicr yn parhau i ddadlau'r achos hwnnw yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid. Rwy'n falch iawn o ddweud wrth fy nghyd-Aelodau fod gennyf gefnogaeth fy swyddogion cyfatebol yn yr Alban o hyd, a hefyd yng Ngogledd Iwerddon bellach, i'r mesurau hyn. Er eu bod wedi cael gwelliannau, maent yn dal i fod yn awyddus iawn i'n cefnogi i ddadlau'r achos, gan y gwyddant ei fod yn gwneud synnwyr i bob rhan o'r Deyrnas Unedig o ran y Llywodraethau datganoledig.

Unwaith eto, mae braidd yn ddoniol eich bod chi, fel y cyn Brif Weinidog, yn gofyn cwestiynau sy’n tynnu sylw at eich anhrefn cyllidol eich hun, ac eto, ni chafodd hyn mo'i godi pan oeddech chi yn y swydd. Nid yw'r materion hyn wedi codi ers i chi—[Torri ar draws.] Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, amcangyfrifwyd fod y ffigur yn 2022 ar gyfer y diffyg rhwng gwariant cyhoeddus a refeniw yng Nghymru yn £20.3 biliwn, sy'n swm syfrdanol. Mae gan Gymru'r balans cyllidol net uchaf y pen ym Mhrydain, gyda ffigur syfrdanol o £6,500 y pen. O gymharu, ble y credwn y daw Lloegr yn y siart honno? Oddeutu'r un peth? Hanner? Na. Roeddent chwe gwaith yn is, ar £1,100 y pen—gwlad sydd wedi wynebu'r un heriau â Chymru, ond sy'n amlwg yn llawer gwell am reoli eu cyllid cyhoeddus. Tybed beth yw'r gwahaniaeth? Mae cynghorau ledled Cymru yn wynebu dyledion o fwy na £5 biliwn. Pam mai Llywodraethau Llafur sydd bob amser yn gwneud llanast o arian trethdalwyr a chyllid cyhoeddus? A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno â mi fod gwario gwamal Llywodraeth Cymru wedi dinistrio fframwaith cyllidol Cymru, a'i bod yn amlwg fod y strategaeth economaidd sosialaidd o dreth a gwariant nid yn unig yn gwaethygu’r broblem, ond yn boddi’r ddraig Gymreig yn llwyr? Diolch.

Mae arnaf ofn nad wyf yn cydnabod unrhyw ran o'r cyfraniad hwnnw gan ei fod yn cymysgu llwyth o wahanol faterion, gan gynnwys y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol am bensiynau yma yng Nghymru, y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol am fudd-daliadau yma yng Nghymru. Bydd fy nghyd-Aelodau’n gwybod, wrth gwrs, fod gennym boblogaeth lawer hŷn ar y cyfan yma yng Nghymru na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ac y caiff hynny ei adlewyrchu wedyn o ran faint o arian sy’n cael ei wario ar bobl yma yng Nghymru. Credaf mai’r pwynt pwysig i’w gydnabod am y fframwaith cyllidol, serch hynny, yw, diolch i’r cytundeb a wnaed gan y cyn Brif Weinidog, a’r Gweinidog cyllid, fel yr oedd ar y pryd, yn ogystal â darparu’r arfau polisi ychwanegol—ac rydym wedi cael dadl ynglŷn â sut mae angen gwella'r rheini—mae'r trethi datganoledig a negodwyd gan Mark Drakeford wedi gwneud cyfraniad net cadarnhaol hyd yma i gyllideb Llywodraeth Cymru. Dros y blynyddoedd y mae alldro ar gael ar eu cyfer, daw hyn i gyfanswm o dros £400 miliwn, y gallasom ei fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Ac mae'r ffactor anghenion Barnett, a gyflwynwyd, unwaith eto, gan ran o'r cytundeb fframwaith cyllidol, o dan arweiniad Mark Drakeford, hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol, ac yn cyfrannu oddeutu £300 miliwn yn ychwanegol at setliad Llywodraeth Cymru yn 2024-25. Felly, yn sicr, mae rhannau o’r fframwaith cyllidol yn gweithio i ni; mater yr hyblygrwydd cyllidol sydd angen i ni ei ddiweddaru.

13:40

Mae’r cyn Brif Weinidog wedi dadlau'r achos o blaid adolygiad yn huawdl iawn. Nawr, mae'r mecanwaith awtomatig ar gyfer adolygiad o dan y cytundeb—yr adolygiad cyfnodol—rai blynyddoedd i ffwrdd. Ond mae'r cytundeb yn cynnwys y gallu, y pŵer, i Lywodraeth Cymru ofyn am adolygiad nawr. Felly, a ydych chi wedi gofyn am adolygiad, neu a fyddwch yn gwneud hynny, o ystyried yr hyn a glywsom?

Rwyf newydd nodi'r ffyrdd y mae'r fframwaith cyllidol yn sicr yn gweithio er ein budd ar hyn o bryd, ac yn enwedig o ran y ffactor anghenion Barnett, lle mae gennym £300 miliwn ychwanegol yn y setliad. Felly, credaf ei bod yn bwysig cydnabod hynny. Mae yna bethau nad ydynt yn gweithio i ni o gwbl, ond gadewch inni gofio ein bod yn ymdrin ar hyn o bryd â Llywodraeth y DU sy'n ystyried popeth yn gêm swm sero—popeth yn negodiad lle mae'n rhaid iddynt elwa mewn rhyw ffordd hefyd. Nid yw hon yn Llywodraeth y DU sydd â ddiddordeb mewn gweithio gyda Llywodraeth Cymru er budd pobl Cymru. Felly, pan edrychwch ar y ffordd yr adolygwyd fframwaith yr Alban, yn sicr, enillodd yr Albanwyr nifer o bethau, ond yna bu’n rhaid iddynt hefyd roi nifer o bethau ar y bwrdd i’w colli. Mae eu fframwaith nhw'n wahanol i'n hun ni. Nawr, os yw Llywodraeth y DU am inni roi unrhyw beth ar y bwrdd, y cyfan sy'n rhaid inni ei roi ar y bwrdd yn y negodiadau hynny mewn gwirionedd yw'r ffactor anghenion Barnett, ac rydym wedi clywed dro ar ôl tro gan feinciau'r Ceidwadwyr draw acw sut y credant ein bod yn cael ein gorariannu yng Nghymru. Felly, ni chredaf mai hon yw'r Llywodraeth iawn i gael y negodiadau hynny â hi. Fodd bynnag, gallai fod achos dros adolygiad yn y dyfodol gyda Llywodraeth sy’n fwy cefnogol i ddatganoli ac un sy’n parchu’r Llywodraeth a’r Senedd hon.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dyma’r cyfle ffurfiol cyntaf i'ch llongyfarch ar gadw eich swydd yn y Cabinet ac yn y Llywodraeth, ac edrychaf ymlaen at weithio’n adeiladol gyda chi dros y cyfnod sydd i ddod. Felly, heddiw, bu'n rhaid imi newid trywydd i raddau, gan ichi gyhoeddi eich datganiad y bore yma, ac roeddwn yn siomedig iddo gael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig ac na chafodd ei gyflwyno, efallai, i'r Senedd ddoe fel y gallem fod wedi cael dadl arno. Ac wrth gwrs, daeth ar ôl amser y cwestiynau amserol hefyd, felly ni roddodd hynny gyfle inni gael dadl. Ond mae gennyf gyfle nawr i ofyn rhai cwestiynau i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn eich datganiad ysgrifenedig, fe wnaethoch dynnu sylw at yr angen am gronfa bontio i gefnogi pobl drwy newidiadau i'r dreth gyngor—wel, dyna rwy'n cymryd yw ei diben—a dyna sydd wrth wraidd fy nghwestiwn. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi egluro sut olwg sydd ar y gronfa bontio a phwy fydd yn gymwys ar ei chyfer?

Ni allaf nodi’r manylion hynny heddiw, oherwydd, er bod y cyhoeddiad wedi dweud y bydd yr ailbrisio’n digwydd yn 2028, a byddwn yn diwygio Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) i adlewyrchu hynny, yr hyn nad yw gennym ar hyn o bryd yw'r penderfyniad ynglŷn â maint y diwygio. Felly, ar hyn o bryd, nid yw'r bandiau gennym ar hyn o bryd. Nid yw'r cyfraddau gennym ar hyn o bryd. Bydd y rhain yn destun gwaith pellach ac ymgynghori pellach yn nes at y dyddiad. Pan fydd y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud, fe fyddwch yn deall yr effaith ar aelwydydd ac yn y blaen, ac ar y pwynt hwnnw, felly, y byddech yn ystyried sut olwg a allai fod ar gynllun pontio. Ond rydym wedi dweud yn glir iawn o'r cychwyn cyntaf fod yn rhaid i hynny fod yn rhan o'r gwaith cyn cyflwyno unrhyw gynllun, fel bod sicrwydd i aelwydydd. Pan gafwyd ailbrisiad blaenorol, credaf mai’r consensws nawr efallai yw bod y trefniadau pontio hynny wedi dod yn rhy hwyr, a dyna pam ein bod yn awyddus iawn i roi sicrwydd i bobl o leiaf y bydd hynny’n rhan o’n ffordd o feddwl pan fyddwn yn cyrraedd y pwynt hwnnw. Ond nid ydym wedi cyrraedd y pwynt eto lle gallwn ddechrau rhoi ffigur arno, gan ein bod rai blynyddoedd i ffwrdd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd y gronfa bontio honno’n hollbwysig i gynifer o bobl pan fydd unrhyw beth yn digwydd, rwy’n siŵr, gan y bydd enillwyr a chollwyr bob amser pan fyddwch yn newid rhywbeth mor fawr â strwythur y dreth gyngor.

Efallai y byddai rhai sinigiaid yn dweud, gyda’r cyhoeddiad heddiw—ac ie, y cyhoeddiad ynghylch symud y taliad sengl i 2026—fod yn rhaid bod etholiadau ar y ffordd a allai fod yn llywio rhai o benderfyniadau’r Llywodraeth yma, ond nid wyf o reidrwydd yn un o'r sinigiaid hynny. Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich datganiad ysgrifenedig, rydych yn tynnu sylw at y defnydd o dechnoleg newydd a ddefnyddir ar gyfer dulliau prisio a fydd yn arwain at systemau sy’n darparu gwybodaeth gynhwysfawr a chadarn am werthoedd eiddo cyfredol. Weinidog, rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol o’r adroddiad a gafodd lawer o sylw yn wasg genedlaethol yr wythnos diwethaf y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio lloerennau i gael mynediad at newidiadau i werthoedd tai. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ymhelaethu ar y dechnoleg a ddefnyddir ac a fydd hyn yn cynnwys defnyddio lloerennau?

13:45

Y peth cyntaf i'w ddweud yw y bu llawer iawn o gamadrodd. Rwy’n ymwybodol fod y Ceidwadwyr wedi cael eu ceryddu am ddefnyddio’r ymadrodd 'gwaharddiad cyffredinol’ mewn perthynas â therfynau 20 mya ac ati. Felly, hoffwn annog y Ceidwadwyr i ystyried hynny ac i geisio cadw at y ffeithiau ynglŷn â diwygio’r dreth gyngor, er mwyn i bob un ohonom osgoi helynt.

Yr hyn a ddywedaf yw bod yr erthygl yn The Daily Telegraph yn anwybodus, a bod yn hael. Y ffaith amdani yw bod prisiadau eiddo at ddibenion y dreth gyngor yn cael eu cynnal yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Cânt eu cynnal gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Maent yn defnyddio'r un dechnoleg ar gyfer Cymru ag y byddent ar gyfer Lloegr, ac mae'n bwysig cydnabod ei bod yn broses gwbl ar wahân i'r Llywodraeth, lle rydym yn gwneud y penderfyniadau ynghylch cynllun cyffredinol y dreth. Mae'n bwysig cael y gwahaniad hwnnw.

Mae’r VOA yn gorff gweithredol i CThEF ac mae’r amrywiaeth o ffyrdd y maent yn defnyddio technoleg yn fater iddynt hwy, ond cawn sicrwydd fod y dulliau’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol fel arferion gorau a’u bod yn seiliedig ar wybodaeth sydd ar gael yn rhwydd. Mae’n bwysig fod biliau’r dreth gyngor yn seiliedig ar wybodaeth gywir a chadarn. Mae gennym gytundeb lefel gwasanaeth gyda'r VOA, sy'n darparu'r lefel honno o atebolrwydd ar y gwaith.

Nid wyf yn deall y syndod ein bod yn defnyddio gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd a'r dechnoleg ddiweddaraf i sicrhau'n fanwl gywir fod aelwydydd yn talu'r dreth gyngor gywir. Mae technoleg wedi cael ei defnyddio erioed, ond mae technoleg yn esblygu.

Sbardunwyd y cwestiwn gan y rhan o'ch datganiad lle roeddech yn llawn cyffro ynghylch y technolegau newydd a oedd yn cael eu defnyddio gan y VOA i wneud hyn, felly credaf ei bod yn gwbl briodol ein bod yn ei herio, yn enwedig yng ngoleuni’r trafodaethau cyhoeddus dros yr wythnosau diweddaraf lle gallai rhai ddadlau efallai fod Cymru yn agosáu at sefyllfa 'Big Brother' lle mae digwyddiadau nofel George Orwell, Nineteen Eighty-Four, i'w gweld yn digwydd. Dyna mae rhai pobl yn ein harwain i'w gredu. Rwy’n siŵr nad yw hynny’n wir.

Ond nid dyma'r unig bryder a fydd gan lawer ohonom yng Nghymru ynghylch y datganiad. Pryder arall yw’r ffaith y bydd yr ailbrisiadau hyn yn cael effaith aruthrol ar deuluoedd sydd â mwy o asedau nag arian. Efallai eu bod yn byw mewn tai gwledig mwy o faint, sydd mewn cyflwr gwael iawn o bosibl, ond sy'n dal i fod mewn band uwch o'r dreth gyngor. Mae’r rheini’n bobl fregus a phryderus iawn.

Felly, er fy mod yn croesawu—ac rwy'n bendant yn croesawu—y ffaith, gobeithio, y bydd y gostyngiad o 25 y cant yn parhau, rwy'n pryderu bod eich memorandwm esboniadol ar gyfer Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) sydd ar y ffordd yn tynnu sylw at y ffaith bod gan Weinidogion bwerau i ganiatáu i gynghorau, mewn rhai amgylchiadau, ddatgymhwyso neu leihau gostyngiadau yn eu hardal. Ysgrifennydd y Cabinet, os ydych chi wedi ymrwymo i’r gostyngiad o 25 y cant yn y dreth gyngor, pam eich bod yn rhoi pŵer i gynghorau lleol ddatgymhwyso’r gostyngiadau hyn?

Rwy’n cydnabod y pryderon ynghylch yr effaith ar aelwydydd yn ystod yr argyfwng costau byw, ac roedd hynny’n rhan ganolog o’n hystyriaethau wrth inni edrych ar gyflymder y diwygio. Y cyflymder arafach oedd yr ymateb a ffefrid o ran yr ymgynghoriad, felly fe wnaethom wrando'n ofalus iawn ar hynny. Roedd rhai o’r dadleuon hynny a wnaed i gefnogi’r cais am gyflymder arafach yn ymwneud â chostau byw a’r ffordd y gallai codiadau yn y dreth gyngor effeithio ar deuluoedd ac yn y blaen. Felly, credaf ein bod wedi ymateb yn dda i hynny.

Rydym hefyd yn cydnabod bod pobl yn byw mewn eiddo a allai fod o werth uchel ond y gallai fod ganddynt incwm is, ac am y rheswm hwnnw, rydym yn cynnal ein hadolygiad o'r gostyngiadau, y diystyriadau a'r eithriadau. Mae hynny’n digwydd ar hyn o bryd, ac ni fydd yn rhaid i hynny aros tan 2028; mae hwnnw'n waith a wnawn ar hyn o bryd i edrych ar hynny. Mae’n wir fod cynghorau’n gallu datgymhwyso biliau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo penodol. Felly, os oes rheswm pam y gallant wneud hynny, credaf fod ganddynt lefel dda o hyblygrwydd i allu gwneud hynny'n lleol. Ond fel y dywedaf, rydym yn gwneud y gwaith eithaf sylweddol hwnnw ar hyn o bryd, gan edrych ar y 53 o wahanol gategorïau o ostyngiadau ac eithriadau ac ati i sicrhau eu bod yn addas i'r diben. Mae ein gweithgor wedi awgrymu bod llawer ohonynt yn addas i'r diben, ond efallai y bydd angen rhywfaint o waith pellach ar rai, ac mae angen inni edrych hefyd ar y grwpiau eraill a ddylai elwa ar ddisgownt neu eithriad.

13:50

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ers ichi gael eich ailbenodi i Lywodraeth Cymru, rydym wedi clywed nifer o ymrwymiadau gan eich cyd-Aelodau mewn perthynas â'u portffolios. Mae'r cyhoeddiadau hyn yn effeithio ar gyllidebau ac ar linellau sylfaen pob adran. Mae fy nghwestiwn cyntaf heddiw, felly, yn ymwneud ag ad-drefniant diweddar y Cabinet a throsglwyddo cyfrifoldebau rhwng portffolios gweinidogol. Rydym wedi gweld, er enghraifft, y cyfrifoldeb dros amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol Cymru, y gwyddom eu bod yn wynebu argyfwng ariannol, yn cael ei drosglwyddo o bortffolio’r economi i bortffolio diwylliant a chyfiawnder cymdeithasol newydd. Yn yr un modd, mae'r cyfrifoldeb am y Gymraeg bellach yn rhan o bortffolio newydd yr economi, ynni a’r Gymraeg. Dim ond dwy enghraifft yw’r rhain o newidiadau lefel uchel. A gaf i ofyn pa asesiadau a wnaethoch o effaith y newidiadau mewn cyfrifoldebau gweinidogol ar gyllideb Cymru? Sut mae hynny wedi effeithio ar gyfansoddiad prif grwpiau gwariant Llywodraeth Cymru? A oes effeithiau canlyniadol i'r swm o arian sydd ar gael drwy bortffolios penodol? Ac a gaf i ofyn pryd y bydd unrhyw asesiad o'r fath yn cael ei gyhoeddi? Er enghraifft, a fydd yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r gyllideb atodol i roi cyfle i’r Senedd hon graffu ar y penderfyniadau hynny?

Wrth gwrs. Credaf fod yr hyn rydych newydd ei ddweud yn cyd-fynd i raddau helaeth â'n hymagwedd at y gyllideb atodol gyntaf, y byddwn yn ei chyhoeddi ym mis Mehefin, yn ôl yr arfer. Mae swyddogion wedi bod yn gweithio drwy oblygiadau’r newidiadau mewn cyfrifoldebau o ran y prif grwpiau gwariant, ond yn edrych hefyd i weld a oes unrhyw linellau gwariant yn y gyllideb y mae angen edrych eto arnynt os oes pethau, er enghraifft, y gellid eu gwneud nawr mewn gwahanol rannau o'r Llywodraeth. Mae hwnnw'n waith eithaf cymhleth o ran ailosod y prif grwpiau gwariant yn erbyn y strwythurau portffolio newydd. Ond mae’n waith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, a’r bwriad yw cyhoeddi’r manylion hynny’n llawn yn y gyllideb atodol gyntaf.

Diolch am eich ateb. Byddai’n ddefnyddiol iawn gweld hynny’n cael ei olrhain o ran i ble ac o ble y caiff ei symud. Rwy'n gobeithio y bydd lefel honno o fanylder ar gael yn hynny o beth. Fel y dywedoch chi, wrth i fis Mehefin agosáu, rydym yn rhagweld y bydd y gyllideb atodol gyntaf yn cael ei chyhoeddi. Yr adeg hon y llynedd, cawsom ein gwahodd i graffu ar a chymeradwyo'r gyllideb atodol gyntaf, yr honnwyd ei bod wedi rhoi cyfrif priodol am effaith chwyddiant, gan gynnwys drwy’r cynnydd yn y swm o arian a gafodd ei dynnu i lawr o gronfeydd wrth gefn Cymru. Fodd bynnag, ychydig fisoedd yn unig ar ôl i’r gyllideb atodol gael ei derbyn, dywedwyd wrthym fod Llywodraeth Cymru yn wynebu diffyg o £900 miliwn yn ei chyllideb, ac y gofynnwyd i Weinidogion ar draws pob adran wneud toriadau sylweddol mewn cyllid i wasanaethau cyhoeddus. Credaf ei bod yn rhesymol disgwyl i gyllideb atodol oroesi’r cyswllt cyntaf â realiti cyllidol a’i bod yn adlewyrchu gwir sefyllfa ariannol Cymru. A gaf i ofyn i chi gadarnhau, Ysgrifennydd y Cabinet, na fyddwn yn cael ein synnu eto eleni gan gyhoeddiad ariannol tebyg dros doriad yr haf, a bod y gwaith sy’n cael ei wneud i baratoi cyllideb atodol gyntaf eleni yn fwy cadarn a gwydn? A pha newidiadau a wnaethoch chi i'r broses er mwyn sicrhau hynny?

Ni fyddwn yn dweud bod y Senedd neu unrhyw un arall wedi’u synnu gan y gwaith a wnaethom i ymateb i effeithiau chwyddiant ar ein cyllidebau, gan inni fod yn glir iawn. Cawsom ddadleuon ynglŷn â'r mater yn y Llywodraeth, ac yn y pen draw, fe wnaethom benderfynu gwneud datganiad ym mis Awst y flwyddyn honno, er na chwblhawyd y gwaith tan fis Hydref. Felly, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig bod yn dryloyw ynghylch lefel y pwysau a oedd ar Lywodraeth Cymru ar y pryd, a hefyd, wedyn, y gwaith y byddem yn ei wneud, a arweiniodd at y newidiadau a wnaethom i’r gyllideb ym mis Hydref. Fe fyddwch wedi gweld bryd hynny fod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon wedi cynnwys rhai o’r newidiadau hynny yn y gyllideb sylfaenol. Felly, fe ymdriniwyd â'r pethau hynny, os mynnwch, ac rydym wedi symud ymlaen o hynny. Ond mae pwysau ar y gyllideb o hyd, wrth gwrs, ac mae fy nghyd-Aelodau'n rheoli eu cyllidebau'n ofalus iawn er mwyn cyflawni eu hymrwymiadau.

Rwy'n credu mai'r hyn y gallwch ei weld o’r gyllideb atodol gyntaf fydd y prif grwpiau gwriant yn cael eu had-drefnu ac ati. Mae'n rhaid inni reoli pethau wrth inni fynd drwy'r flwyddyn. Fe fyddwch yn gwybod bod lefelau ein cronfeydd wrth gefn yn fach iawn wrth inni ddechrau'r flwyddyn ariannol hon oherwydd y dewisiadau a wnaed gennym i ddyrannu cymaint ag y gallem. Efallai y bydd pethau’n codi yn y flwyddyn ariannol y bydd angen inni ymateb iddynt, felly bydd yn rhaid inni gynnal lefel o allu i ymateb yn y ffordd ystwyth honno os oes angen. Ond ar y cyfan, credaf ein bod wedi ymdrin ag effaith enfawr y chwyddiant a welsom y llynedd, gan gofio bod y cyllidebau hynny wedi’u gosod yn wreiddiol yn ôl yn 2021, pan nad oeddem yn ymwybodol o’r heriau a oedd ar y ffordd yn sgil chwyddiant a'r rhyfel yn Wcráin, prisiau uchel ynni ac yn y blaen.

13:55
Symiau Canlyniadol Barnett

3. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch symiau canlyniadol Barnett i Gymru o ganlyniad i ariannu gofal plant yn Lloegr? OQ61087

Cefais wybod am y cyllid canlyniadol Barnett i Gymru yn sgil y cyllid gofal plant yn Lloegr mewn galwad gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar fore cyllideb gwanwyn y DU 2023.

Diolch yn fawr iawn. Mae cost gofal plant yng Nghymru ar gyfer plentyn dwy oed yn 63 y cant o gyflog cyfartalog rhiant, ac fel rhiant merch o dan ddwy flwydd oed, gwn o brofiad uniongyrchol ei bod yn costio bron i £1,000 y mis iddi fod mewn meithrinfa yn llawnamser, ac mae llawer o rieni eraill yn Nyffryn Clwyd yn teimlo'r un fath. Gyda chysylltiadau agos rhwng gogledd-ddwyrain Cymru a Lloegr, mae pobl yn gweld, yn enwedig mewn ardaloedd ar y ffin, y newyddion cadarnhaol gan Lywodraeth y DU am gyllid gofal plant ar gyfer plant o naw mis oed ymlaen a’r gwahaniaeth amlwg rhwng hynny a'r sefyllfa yng Nghymru, lle nad yw'n cael ei gynnig tan eu bod yn ddwyflwydd oed. Mae gennyf lawer o etholwyr sy'n ysu i ddychwelyd i'r gwaith, maent yn mwynhau gweithio, maent yn ifanc, maent yn uchelgeisiol, maent yn dymuno gwneud pethau mewn bywyd ac maent yn dymuno mynd yn ôl i'r gwaith, gan wybod bod system feithrinfeydd gadarn ar waith i gefnogi eu huchelgeisiau. Felly, beth fyddai eich neges i fy etholwyr sy’n ysu i fynd yn ôl i’r gwaith ac sy'n gweld y gwahaniaeth amlwg a chynyddol rhwng y systemau yng Nghymru a Lloegr?

Rydym yn canolbwyntio ar gyflwyno ein mesurau gofal plant mewn ffordd sydd â ffocws, sydd wedi'i strwythuro ac sydd â chyllideb briodol ar ei chyfer, ac mewn ffordd lle mae'r sector yno'n barod, os mynnwch, i'w chyflawni, ac nid yw hynny'n wir yn Lloegr, gan y credaf y gall pob un ohonom gytuno eu bod wedi bod yn eithaf anhrefnus yn eu hymdrechion i gyflwyno’r polisi. Yng Nghymru, rydym yn buddsoddi mwy na £100 miliwn mewn darpariaeth gofal plant ledled Cymru. Mae hynny drwy ein cynnig Dechrau’n Deg, a hefyd ein cynnig gofal plant, ond ochr yn ochr â hynny, £70 miliwn o gyfalaf yn y sector, a hefyd drwy ddarparu cymorth i’r gweithlu yn uniongyrchol ar ffurf hyfforddiant, sgiliau a datblygiad ac yn y blaen.

Hefyd, gwn fod gan y Ceidwadwyr gryn ddiddordeb bob amser mewn rhyddhad ardrethi annomestig. Rydym yn darparu rhyddhad ardrethi busnes o 100 y cant ar gyfer safleoedd gofal plant cofrestredig yma yng Nghymru, ac mae hynny'n parhau tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf. Bydd hynny'n arbed oddeutu £10 miliwn i ddarparwyr gofal plant cofrestredig o ran cost gorbenion. A hefyd, rydym yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i ymateb i heriau recriwtio yn y sector, sydd hefyd yn bwysig iawn yn fy marn i.

Ond o ran cyflwyno ein rhaglen yma yng Nghymru, rydym yn canolbwyntio ein hadnoddau ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn y lle cyntaf, gan sicrhau bod y cymorth hwnnw'n cyrraedd y teuluoedd sydd â'r angen mwyaf cyn gynted â phosibl. Yn y pen draw, ein huchelgais yw i wasanaethau gofal plant Dechrau'n Deg fod ar gael i bob plentyn dwy oed yng Nghymru, ac rydym yn gweithio gyda'r sector i adeiladu capasiti i gyflawni hynny.

Cyllid ar gyfer Masnachfreinio Bysiau

4. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ynghylch cyllid ychwanegol ar gyfer masnachfreinio bysiau? OQ61110

Bydd penderfyniadau ynghylch y cyllid sydd ar gael ar gyfer masnachfreinio bysiau yn fater i’r broses o osod y gyllideb yn y blynyddoedd priodol, gan nodi’r rhagolygon cyllidol heriol sy’n ein hwynebu.

Mae llawer ohonom yng ngogledd Cymru yn edrych yn genfigennus ar y buddsoddiad sy’n cael ei wneud ym metro de Cymru, y gwaith uwchraddio gwasanaethau gwerth £1 biliwn a mwy, sydd, wrth gwrs, i’w groesawu, ond ar y llaw arall, mae gennym gymysgedd candi-fflos braidd yn amwys sydd wedi'i frandio yn fetro gogledd Cymru nad yw ond yn cysylltu gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau presennol. Mae gwasanaethau bysiau, fel y gwyddom, wedi bod yn berthynas wael i reilffyrdd ers tro, gyda gwasanaethau’n dirywio ers cyn COVID mewn gwirionedd. Rwy'n croesawu gynigion y Llywodraeth ynghylch masnachfreinio bysiau a llacio'r gafael sydd gan gwmnïau bysiau preifat ar y gwasanaethau hynny, ond er mwyn iddo weithio’n iawn, yn amlwg, mae’n rhaid ei ariannu’n briodol. Felly, a allwch chi roi sicrwydd i ni heddiw y byddwch yn buddsoddi mwy o arian mewn gwasanaethau bysiau i sicrhau bod y ddeddfwriaeth fysiau arfaethedig mor effeithiol ag y mae pob un ohonom yn gobeithio y bydd? Ac a allwch chi roi sicrwydd i ni hefyd y bydd y gogledd yn cael eu tafell deg o'r gacen?

14:00

Ni allaf ddweud unrhyw beth am y cyllidebau ar gyfer y blynyddoedd nad oes gennym setliad ar eu cyfer ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod angen cydnabod ein bod yn darparu cyllid sylweddol eisoes i gefnogi gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Ond bydd masnachfreinio yn caniatáu inni wneud gwell defnydd o'r cyllid a ddarparwn ac yn rhoi mwy o reolaeth inni dros y risg a hefyd y pŵer i reoli'r cyllid a fuddsoddwn, gan sicrhau y gellir ei wario lle mae'n cael yr effaith fwyaf, gan leihau aneffeithlonrwydd a gwella integreiddiad y gwasanaethau i wneud i'r cyllid hwnnw fynd mor bell ag y gall fynd. Rwy'n siŵr y byddwch yn gyfarwydd iawn â'r cynllun diwygio bysiau a gyhoeddwyd; mae hwnnw'n cydnabod y bydd cyllid yn y dyfodol yn heriol, felly mae'r ffordd y gwariwn yr adnoddau cyfyngedig sydd gennym yn bwysig.

Yn anffodus, ni allaf ddweud rhagor ynghylch cyllid ar gyfer masnachfreinio bysiau yn y dyfodol, a hynny am nad ydym wedi cael y trafodaethau hynny eto, nid ydym wedi cael ein setliad gan Lywodraeth y DU eto. Nid ydym wedi dechrau ar gyfnod adolygu gwariant o'r math hwnnw eto. Ond byddwn yn sicr yn ystyried pwysigrwydd gwasanaethau bysiau wrth inni ddechrau'r trafodaethau hynny.

Mae gogledd Cymru'n dibynnu ar fysiau, yn sicr yn Aberconwy—nid oes car at eu defnydd gan un aelwyd o bob pump, ac nid oes car at eu defnydd gan bedwar o bob pump defnyddiwr bysiau. Yn amlwg, mae cynnal ein system fysiau'n hanfodol. Fodd bynnag, rwy'n pryderu am y trefniadau ariannol ar gyfer y model masnachfreinio, y gwn eu bod yn dal i gael eu datblygu, ac yn wir, fe glywsom dystiolaeth yr wythnos diwethaf yn ein pwyllgor newid hinsawdd. Yn wir, ceir awgrymiadau y bydd masnachfreinio ar ffurf yr hyn a geir yn Llundain yn costio o leiaf £300 miliwn y flwyddyn. Rydych chi'n argymell mabwysiadu model cost gros sy'n seiliedig ar gymhelliant, y bydd Trafnidiaeth Cymru yn talu swm penodol i weithredwyr redeg gwasanaethau penodol, a bydd hyn yn cadw'r refeniw yn fewnol. Fodd bynnag, fe fydd hefyd yn golygu ei bod yn ofynnol i Trafnidiaeth Cymru redeg gwasanaethau sydd mewn perygl o weld lleihad yn nifer y teithwyr gan ariannu gwasanaethau nad ydynt yn hyfyw yn ariannol. 

Nawr, mae Trafnidiaeth Cymru yn gyfarwydd i'r Siambr hon am ei berfformiad gyda'r system reilffordd. Fel y mae prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price, wedi amlinellu, bydd cyllid ar gyfer y dyfodol yn her. Nawr, unwaith eto yr wythnos diwethaf, pan oeddem yn y pwyllgor newid hinsawdd gyda'r rhai sy'n gweithio ar y model masnachfreinio yn Lloegr, mynegwyd sawl pryder ynglŷn ag a oes gan Trafnidiaeth Cymru gapasiti, adnoddau neu'r gallu hyd yn oed i gyflawni'r model masnachfreinio yng Nghymru, ond hefyd o fewn yr amserlenni a bennwyd. Felly, Weinidog, sut fyddwch chi'n gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod ganddo'r adnoddau i wneud y cynllun masnachfraint yn llwyddiant? A pha gyllid ychwanegol y bwriadwch ei drosglwyddo er mwyn sicrhau nad yw hwn yn ymarfer aflwyddiannus? Diolch.

Y peth cyntaf i'w ddweud yw nad ydym eto wedi datblygu'r contractau y byddwn yn eu defnyddio ar gyfer masnachfreinio, ond bydd ein contractau presennol ar gyfer gwasanaethau TrawsCymru yn cael eu defnyddio fel man cychwyn oherwydd bod ganddynt rai o'r nodweddion y byddem yn disgwyl eu gweld eisoes mewn contractau masnachfraint. Mae'r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, felly byddai ef mewn sefyllfa well o lawer i roi atebion manwl i chi. Ond ar ei ariannu, fel y dywedais yn fy ateb blaenorol, nid oes gennym gyllidebau ar gyfer y blynyddoedd ariannol hyn eto, felly nid wyf yn gallu darparu unrhyw lefel o sicrwydd i gyd-Aelodau ar hyn o bryd. Ond pan ddaw'n adeg i graffu ar y gyllideb ar gyfer y blynyddoedd hynny, bydd hyn yn ffocws i gyd-Aelodau.

Polisïau Caffael

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gryfhau ei pholisïau caffael? OQ61082

Caffael yw un o'r ysgogiadau pwysicaf sydd gennym i gefnogi Cymru fwy cyfartal, fwy cynaliadwy a mwy ffyniannus. Gall gweithredu polisïau caffael cadarn ein helpu i gyflawni ein dyheadau sero net uchelgeisiol, cefnogi adferiad gwyrdd a chyfrannu at ein huchelgais cyffredin ar gyfer Cymru gwaith teg.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n credu y dylai sector cyhoeddus Cymru fod yn caffael nwyddau a gwasanaethau Cymreig gymaint â phosibl. Ac felly pan gysylltodd etholwr â mi gyda phryderon am gaffael nwyddau Cadw, roeddwn yn siomedig iawn o glywed yn ddiweddar mai dim ond tua 60 y cant o'r cyflenwyr sy'n darparu'r cynhyrchion a werthir yn safleoedd Cadw sydd wedi'u lleoli yma yng Nghymru.

Nawr, ers blynyddoedd lawer, mae Llywodraeth Cymru wedi sôn am yr angen i gefnogi busnesau Cymru, ac mae'n hanfodol ein bod yn gweld sefydliadau fel Cadw—sydd, wedi'r cyfan, yn sefydliad a ariennir gan Lywodraeth Cymru—yn gwneud popeth yn eu gallu i gefnogi cyflenwyr Cymreig. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud wrthym pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pob sefydliad a safle a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau Cymreig gymaint ag y gallant?

14:05

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, ac mae'n fy arwain i feddwl am waith y buom yn ei wneud drwy'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru mewn perthynas â deall gwariant Cymru yn well o ran caffael. Felly, rydym wedi bod yn edrych ar sut y gallwn gynllunio gwariant yn fwy manwl gywir yng Nghymru, ac mae llawer o gwestiynau, cwestiynau sylfaenol hyd yn oed, y mae'n rhaid inni eu hateb. Felly, sut yr ewch chi ati i ddiffinio cwmni Cymreig? Ai cwmni sydd â busnes yma yng Nghymru, neu god post yma yng Nghymru? Nid yw rhai busnesau sy'n cyfrannu llawer iawn at economi Cymru yn fusnesau Cymreig fel y cyfryw. Pa hygrededd y gallwn ei roi i nifer y gweithwyr yng Nghymru, y math hwnnw o beth. Felly, rydym wedi bod yn edrych yn fanwl iawn ar sut yr awn ati i ddiffinio'r gwaith hwnnw, ac rydym yn gobeithio dweud ychydig mwy am hynny maes o law.

Ond wedyn rydym hefyd yn ystyried sut y gallwn sefydlu rhyw fath o farc 'a wnaed yng Nghymru' y gall busnesau eu defnyddio eu hunain i nodi pwy ydynt, gan edrych ar y marc 'a wnaed yn Iwerddon' a roddwyd i fusnesau draw yno. Yn ôl yr hyn a ddeallwn, mae hynny'n helpu busnesau i allu marchnata eu hunain yn Iwerddon fel cynhyrchion Gwyddelig. Rydym yn edrych ymlaen at weld beth arall y gallwn ei wneud yma.

Mae gennym lawer iawn o hysbysiadau cyngor polisi cyhoeddus sy'n cael eu darparu i'r sector cyhoeddus i'w galluogi i gefnogi busnesau sydd yma yng Nghymru yn well, a hefyd i gyflawni rhai o'n blaenoriaethau eraill, megis cefnogi busnesau bach a chanolig yn enwedig. Felly, mae nifer o bethau'n digwydd ym maes caffael ar hyn o bryd, yn enwedig ein deddfwriaeth caffael newydd.

Yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, bu'n rhaid inni edrych yn sylfaenol ar y ffordd rydym yn caffael, felly drwy'r ddeddfwriaeth honno, gallwn roi mwy o ffocws ar gaffael yn y math hwnnw o gyd-destun lleol. Yn yr un modd, mae gennym y gwaith y buom yn ei wneud gyda Llywodraeth y DU ar hyn hefyd, a'n Bil partneriaeth gymdeithasol, sydd unwaith eto'n ceisio ysgogi'r nwyddau cyhoeddus hynny, os mynnwch, drwy ein prosesau caffael.

Ar hyd yr un llinellau â Paul Davies, un o’r pethau mwyaf rhwystredig i fi, yn sicr, o ran cyrff cyhoeddus yng Nghymru, yw’r ffaith bod nifer ohonyn nhw yn allanoli eu gwaith i gwmnïau eraill—cwmnïau sydd yn aml iawn heb bresenoldeb yng Nghymru, sydd heb hyd yn oed weithlu yn gweithio yma. Mae hyn hyd yn oed yn fwy rhwystredig pan rydych yn sylweddoli nad oes rhaid i’r gwaith hwnnw gael ei allanoli. Mae yna sgiliau o fewn y cyrff cyhoeddus hynny a fyddai’n medru ei wneud o, ond am ba bynnag reswm, mae’r corff cyhoeddus yn penderfynu mai’r penderfyniad gorau yw allanoli’r gwaith i gwmni allanol. Felly, pa gamau yr ydych chi’n eu cymryd er mwyn sicrhau nad oes gormod o’r projectau a'r cynlluniau yma yn cael eu hallanoli i gwmnïau allanol, ac os oes rhaid i bethau gael eu hallanoli, eu bod nhw’n cael eu hallanoli i gwmnïau sydd yn dod â budd economaidd i’r cymunedau hynny sydd yn cael y gwaith wedi’i wneud?

Gwyddom fod hyn yn bryder i nifer o gyrff cyhoeddus, a dyna pam ein bod wedi gweithio i ddatblygu pecyn cymorth mewnoli. Gwyddom fod gan nifer o awdurdodau lleol ddiddordeb mawr—awdurdodau lleol, ond fe allech chi gynnwys rhannau eraill o'r sector cyhoeddus—mewn gweld faint yn fwy y gallent ei fewnoli. Felly, fe wnaethom weithio'n galed gyda—. Nid wyf yn cofio enw'r sefydliad nawr, ond efallai y gwnaf ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o wybodaeth. Ond fe wnaethom ddatblygu pecyn cymorth mewnoli y teimlem ei fod yn diwallu'r anghenion yr oedd cyrff cyhoeddus yn dweud wrthym eu bod eu heisiau, o ran deall y dadleuon dros fewnoli ac yna profi sut y byddent yn cymharu un contract ag un arall, a sut y gallwch ddangos gwerth am arian mewn ffordd wahanol ac yn y blaen. Felly, rwy'n credu bod y pecyn cymorth hwnnw wedi cael derbyniad da, ac rwy'n hapus i anfon copi atoch chi.FootnoteLink

Ardrethi Annomestig

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith i ddiwygio'r system ardrethi annomestig? OQ61095

Rydym yn parhau i fod ar y trywydd iawn i gyflawni'r rhaglen ddiwygiadau a nodais ar gyfer tymor y Senedd hon. Mae nifer o welliannau eisoes wedi'u gwneud, gan gynnwys ailbrisio 2023. Drwy'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), byddwn yn cyflawni'r ystod o gynigion penodol y gwnaethom ymgynghori arnynt yn 2022.

14:10

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mewn perthynas ag ardrethi busnes, ymhlith y materion y bydd etholwyr yn eu codi amlaf gyda mi mae pryder ynghylch yr hyn a all deimlo fel system anymatebol, gyda bwlch rhy hir rhwng ailbrisiadau. Felly, a wnewch chi ehangu ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â hyn yn y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), a pha fecanweithiau yr hoffech eu cyflwyno i sicrhau system fwy hyblyg, ymatebol sy'n cefnogi ein busnesau bach ar ein strydoedd mawr?

Rwy'n ddiolchgar iawn i Vikki Howells am godi hynny, a gwn ei bod wedi bod yn siarad llawer gyda busnesau yn ei hardal leol, ac maent wedi bod yn mynegi pryderon am y bylchau rhwng ailbrisiadau. Dyna un o'r rhesymau pam ein bod, drwy ein Bil cyllid llywodraeth leol, yn cyflwyno ailbrisiadau treigl tair blynedd nawr i fusnesau ar gyfer ardrethi annomestig. Rydym yn credu bod tair blynedd yn rhoi cydbwysedd rhwng sicrwydd i fusnes, ond hefyd yn adlewyrchu amodau marchnad mwy cyfredol a chyfoes. Felly, tair blynedd yw'r cyfnod y mae busnesau a'u cyrff cynrychiadol wedi bod yn dweud wrthym y byddent yn ei groesawu. Credaf fod hynny'n rhan arbennig o gadarnhaol o'r diwygiadau a gyflawnir gennym.

Roedd ailbrisiad 2023 yn rhyfeddol o esmwyth, felly rwy'n credu y gallwn gael cysur o ba mor dda yr aeth yr ailbrisio hwnnw. Gallasom ddarparu peth cefnogaeth drosiannol i fusnesau a welodd gynnydd yn eu biliau, ond pan fydd gennym gylch o ailbrisiadau amlach, dylem weld ychydig llai o gorddi yn y system.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn anffodus, i lawer o fusnesau lletygarwch, bydd y diwygiadau hyn yn llawer rhy hwyr. Mae'r sector yn wynebu corwynt perffaith, yng ngeiriau UKHospitality Cymru. Erbyn i'r system ardrethi busnes gael ei diwygio, byddwn wedi colli llawer o fusnesau, a bydd llawer o ganol trefi ledled y wlad yn dod yn drefi ysbrydion. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r diwydiant ar ei liniau. A wnewch chi, felly, roi camau brys ar waith i gefnogi'r sector trwy ddileu ardrethi annomestig i fusnesau lletygarwch nes bod system newydd decach yn cael ei chyflwyno? Diolch.

Mae arnaf ofn na allaf ddileu ardrethi annomestig ar gyfer sector mawr iawn o'n heconomi yma yng Nghymru, oherwydd bod ardrethi annomestig—. Gadewch inni gofio pwrpas y trethi annomestig hynny—maent yno i ddarparu cyllid hanfodol i'n gwasanaethau cyhoeddus. Felly, oni bai bod cyd-Aelodau eisiau dweud wrthyf lle mae angen imi ddod o hyd i'r arian o rywle arall, neu beth sydd angen imi ei dorri mewn ymateb i hynny, mae arnaf ofn nad yw hynny'n rhywbeth y gallaf ymrwymo iddo heddiw.

Cyllid Canlyniadol HS2

7. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r cyllid y mae Cymru wedi'i golli o ganlyniad i Lywodraeth y DU yn gwrthod dosbarthu HS2 fel prosiect i Loegr yn unig? OQ61108

Hyd at ddiwedd 2024-25, bydd Cymru wedi colli oddeutu £350 miliwn o ganlyniad i ddosbarthu HS2 yn anghywir fel prosiect i Gymru a Lloegr.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, mewn ateb ysgrifenedig i mi ddoe, dywedodd y Prif Weinidog fod cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth £700 miliwn yn llai na phan gafodd ei chytuno. Felly, os ychwanegwch at hyn y penderfyniad amlwg warthus gan Lywodraeth y DU i ddosbarthu HS2 fel prosiect i Gymru a Lloegr, er na fydd modfedd o drac—neu gentimetr, hyd yn oed—yn cael ei adeiladu ar bridd Cymru, gall unrhyw berson teg a gwrthrychol weld sut mae Cymru'n cael cam gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, tra bo'r blaid gyferbyn yn gwneud dim i sefyll dros Gymru a buddiannau Cymru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa wahaniaethau ymarferol, felly, y byddai'n eu gwneud i fywyd cyhoeddus Cymru a'r penderfyniadau ariannol anodd sy'n cael eu gwneud bob dydd gan Lywodraeth Cymru, a'n hawdurdodau lleol gweithgar sydd dan gymaint o bwysau, pe bai'r arian y dylai Cymru ei gael ac y mae'n ei haeddu yn cael ei roi i ni mewn gwirionedd, neu ai lladrad trên mawr arall yw hwn?

Wel, gallai £350 miliwn fod wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i ni yma yng Nghymru o ran y buddsoddiad y gallwn ei wneud mewn gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n credu y dylai Llywodraeth y DU ddychwelyd yr arian hwnnw i Gymru. Nid oes dadl o gwbl nawr fod prosiect HS2, sef rheilffordd rhwng Llundain a Birmingham yn y bôn, o unrhyw fudd i ni yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod y mathau hynny o ddadleuon simsan y byddem yn elwa yn y gorffennol wedi diflannu'n llwyr bellach, felly mae gwir angen dychwelyd yr arian hwnnw i ni. Rydym yn cael cam mewn cymaint o ffyrdd. Pan fyddwch chi'n meddwl am gyllid yn lle cyllid yr UE, er enghraifft, dyna enghraifft glasurol o Lywodraeth y DU sy'n gwneud cam â Llywodraeth Cymru, a phan edrychwch ar y ffyrdd y mae Llywodraeth y DU wedi darparu cyllid penodol i Ogledd Iwerddon i helpu Gogledd Iwerddon i oresgyn ei heriau o ran gwasanaethau cyhoeddus, ond heb ddarparu'r un peth i ni yma yng Nghymru, rwy'n credu unwaith eto fod honno'n enghraifft ohonom ni'n cael cam. Fel y dywedais wrth y Gweinidog yng Ngogledd Iwerddon, nid ydym yn gwarafun ceiniog. Rydym yn cydnabod y pwysau ar wasanaethau cyhoeddus yno, ond rydym eisiau triniaeth deg a chwarae teg ar draws y Deyrnas Unedig.

Felly, wrth inni ddechrau ein trafodaethau ar gyfer y cyfnod adolygu gwariant nesaf hoffwn weld y prosiect hwn yn cael ei gategoreiddio fel prosiect i Loegr yn unig, fel y dylai fod o'r dechrau.

14:15
Prosesau'r Gyllideb

8. Pa gamau mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i wella gallu'r Senedd i ddylanwadu ar y broses o lunio cyllideb y Llywodraeth? OQ61102

Rwy'n parhau i weithio gyda'r Pwyllgor Cyllid i gytuno ar welliannau i'n prosesau cyllidebol. Mae trafodaethau pellach wedi'u cynllunio dros yr haf gyda'r bwriad o gytuno ar ddiweddariad o brotocol busnes y gyllideb.

O dan systemau sydd yn seiliedig ar San Steffan, wrth gwrs, mae yna duedd i’r Weithrediaeth, i’r Llywodraeth, dal i afael yn dynn iawn ar y gallu i setio’r gyllideb. Rŷn ni yn y Senedd yma—a dweud y gwir, yn Senedd yr Alban hefyd—wedi etifeddu’r agwedd honno. Yn Senedd yr Alban mae gyda nhw Fil Cyllid, ond dim ond y Llywodraeth sy’n gallu dod â gwelliannau ymlaen.

Ond nid dyma’r unig ffordd o wneud pethau, wrth gwrs, ac, wrth i ni nawr diwygio’r Senedd, rŷn ni’n symud tuag at system Ewropeaidd o ran y system etholiadol, a phan ŷn ni’n edrych ar Seneddau yn y gwledydd hynny, gwledydd Sgandinafia, er enghraifft, oherwydd sail negodi rhwng y pleidiau, yn aml iawn lle mae’r Llywodraeth heb fwyafrif, maen nhw’n rhoi pŵer, llawer iawn mwy o bŵer, i, er enghraifft, pwyllgorau—pwyllgorau cyllid yn y Seneddau hynny—i roi gwelliannau penodol ymlaen i’r cyllidebau. Ac nid yn unig hynny yn Ewrop. Hefyd, mae yna ambell o Senedd sydd ar sail San Steffan—Canada, India, De Affrica—sydd hefyd yn rhoi’r gallu yna i bwyllgorau dod â gwelliannau penodol ymlaen. Pam nad ŷn ni’n efelychu hynny fan hyn?

Rwyf bob amser yn awyddus i ddarganfod beth sy'n digwydd mewn gwledydd eraill. Rwy'n credu bod y ffordd y gallwn weithredu mewn ffordd gydweithredol yma yng Nghymru yn cael ei ddangos drwy'r cytundeb cydweithio sydd gennym gyda Phlaid Cymru. Rwy'n credu fy mod wedi cael trafodaethau ardderchog iawn gyda Siân Gwenllian dros y blynyddoedd fel yr Aelod dynodedig ar ein paratoadau ar gyfer y gyllideb. Rwy'n gobeithio bod y trafodaethau hynny wedi eu cynnal mewn ffordd barchus, lle mae Plaid Cymru yn gallu gweld y dylanwad y mae wedi'i gael ar ein cyllideb ehangach. Felly, rwy'n credu bod y ffordd yr aethom ati i ymdrin â phethau yma wedi dilyn y math hwnnw o drywydd gwleidyddol, os mynnwch, tuag at osod cyllideb.

Wrth gwrs, mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill. Yn y pen draw, mae'n rhaid inni wneud i bethau gydbwyso, os mynnwch, fel y gallech fod mewn sefyllfa lle mae gennych newidiadau i wahanol faterion treth, er enghraifft, sy'n golygu bod canlyniad y newidiadau hynny'n eich arwain wedyn i orfod mynd yn ôl ac edrych ar eich cyllideb gyfan eto i sicrhau ei bod yn gytbwys. Ond wrth gwrs, rwy'n hapus i ystyried enghreifftiau da o'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill.

Rwy'n credu bod protocol y gyllideb wedi bod yn bwysig iawn i geisio dod o hyd i'r pwyntiau ychwanegol drwy'r flwyddyn gyllidebol lle gallwn gael yr ymgysylltiad hwnnw. Felly, mae'r ddadl a gawn yn bwysig iawn. Os na allwn gyhoeddi cyllideb gynnar oherwydd dewisiadau a wnaed yn San Steffan, rwy'n mynd at y Pwyllgor Cyllid i gael y trafodaethau hynny, a gwn fod y sesiynau gyda'r prif economegydd wedi cael derbyniad da hefyd. Felly, rwy'n credu ein bod wedi llwyddo i gytuno ar gryn dipyn o bethau o ran y newidiadau i'r protocol cyllidebol, ond mae rhai meysydd lle nad ydym eto wedi dod i gytundeb, ac rwy'n gwybod y byddwn yn cael mwy o drafodaethau dros yr haf ar hynny.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Y cwestiynau nesaf fydd i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf gan Siân Gwenllian.

Pwerdai Nwy Newydd yn Arfon

1. Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi gael gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg am effaith cynlluniau i adeiladu gorsafoedd nwy yn Arfon ar dargedau newid hinsawdd y Llywodraeth? OQ61091

14:20

Diolch, Siân. Ni allaf wneud sylwadau ar unrhyw gais penodol. Fodd bynnag, fel y gwnaeth y Prif Weinidog yn glir ddoe, nid yw ein polisi cyffredinol yn cefnogi adeiladu gweithfeydd pŵer newydd sy'n tanio ffosil. Rhaid inni leihau allyriadau o bŵer tanwydd ffosil a chynyddu cynhyrchiant o ffynonellau adnewyddadwy i gyrraedd ein targedau hinsawdd uchelgeisiol. 

Diolch i chi am ailddatgan safbwynt y Llywodraeth, ac roeddwn i'n falch iawn o glywed y Prif Weinidog hefyd yn dweud hyn yn ystod y drafodaeth yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe.

Mae cysylltiad Siân Gwenllian wedi rhewi. Fe wnawn ni symud ymlaen i gwestiwn atodol Mark Isherwood ar y pwynt yma gan obeithio bydd Siân Gwenllian wedi dychwelyd atom ni. Felly, Mark Isherwood. 

Diolch, Lywydd. Hefyd wrth holi'r Prif Weinidog am hyn ddoe, nodais fod yr Asiantaeth Ynni Rhyngwladol yn diffinio diogeledd ynni fel argaeledd di-dor ffynonellau ynni am bris fforddiadwy, fod lefelau presennol o dechnoleg a seilwaith ynni yn galw am ynni wrth gefn, sy'n parhau i ddibynnu ar danwydd ffosil, nwy yn bennaf, i ategu ynni adnewyddadwy ysbeidiol ar gyfer ymateb cyflym ac i gydbwyso'r galw, yn enwedig pan fydd allbynnau gwynt a solar yn isel, a'i bod yn debygol o fod felly am ran helaeth o'r cyfnod pontio i ddyfodol carbon niwtral, a byddai esgus fel arall yn gwneud cam â'r cyhoedd. Yna gofynnais iddo sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau diogeledd ynni yn ystod y blynyddoedd o bontio i ddyfodol carbon niwtral. Yn ei ymateb, ac fel y nodwch, dywedodd y Prif Weinidog fod yna ragdybiaeth yn erbyn cynhyrchiant tanwydd ffosil newydd yng Nghymru. Sut ydych chi'n argymell felly yn eich rôl newydd y dylid mynd i'r afael â'r realiti technolegol a gwyddonol nad yw hwn yn ddewis naill ai/neu, a bod methu derbyn a chynllunio ar gyfer y risgiau yn creu risg y bydd pobl yn oer, yn newynog, yn sychedig ac yn agored i ansefydlogrwydd sy'n peryglu bywyd?

Diolch am eich cwestiwn atodol, Mark, ac nid yw'n fater o naill ai/neu am mai cyfiawnder hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol yw ein dwy genhadaeth economaidd ac mae angen cydweithredu er mwyn cyflawni'r ddwy ohonynt. O'n rhan ni, mae pontio teg i sero net yn gwbl greiddiol i'r Llywodraeth hon; mae wedi'i ymgorffori ym mhopeth a wnawn. Byddwn yn sicrhau bod gweithwyr a defnyddwyr yn cael lle canolog yn y pontio i sero net a bod pobl Cymru yn elwa. Ond i fod yn gwbl glir, rydym angen cyflenwad ynni diogel, fforddiadwy a diwydiant cynaliadwy yng Nghymru.

Mae'r argyfwng hinsawdd a'n dibyniaeth bresennol ar danwydd ffosil drud o ffynonellau byd-eang yn tanlinellu pwysigrwydd ynni glân fforddiadwy sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru. Mae arnom angen diwydiannau cynaliadwy sy'n cefnogi lles ein heconomi a'n dinasyddion ac sy'n cyfrannu tuag at ddatgarboneiddio. Mae ein rhaglen lywodraethu yn mynnu ein bod yn ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn, felly rydym yn cynnal ein polisi o wrthwynebu cloddio am danwydd ffosil yng Nghymru, ar y tir ac yn nyfroedd Cymru, gan ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael.

Ac os caf atgoffa'r Senedd a chyd-Aelodau—rwy'n siŵr nad oes angen atgoffa neb—mai ein hymrwymiadau statudol yw lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 63 y cant erbyn 2030, 89 y cant erbyn 2040, ac o leiaf 100 y cant erbyn 2050, yn seiliedig ar lefelau 1990. Nid yw'r pethau hyn yn annibynnol ar ei gilydd. Mae angen inni sicrhau cyfiawnder hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol ar yr un pryd. 

Cynllun Dychwelyd Ernes

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd cynllun dychwelyd ernes Llywodraeth Cymru? OQ61100

Fe wnaf, Tom, a diolch yn fawr. Ar 25 Ebrill, cyhoeddwyd datganiad ar y cyd ar y cynllun dychwelyd ernes, yn amlinellu'r safbwyntiau rhyngweithredadwy y cytunwyd arnynt gan y pedair gwlad. Ar ôl gweithio'n agos gyda Lloegr a Gogledd Iwerddon ar ddatblygu eu deddfwriaeth, mae'n ffurfio sail i'n deddfwriaeth, sydd bellach yn cael ei drafftio.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb? Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru ar ei newydd wedd yn awyddus i greu'r argraff ei bod yn gwrando. Rydym wedi clywed hynny gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth mewn perthynas â 20 mya, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ddiwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol a gennych chi eich hun ddoe ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy. Felly, tybed a fyddech chi'n barod i wrando ar y bragdai ledled Cymru sy'n poeni am yr effaith y byddai cynnwys gwydr yn y cynllun dychwelyd ernes yn ei chael ar eu busnesau. Y llynedd, gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ymwelais â Bang-On Brewery ym Mhen-y-bont ar Ogwr—rwy'n gwybod eich bod yn gyfarwydd â'r lle; hynny yw, yn ddaearyddol yn hytrach na'ch bod yn gyfarwydd â'r cynnyrch, Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n siŵr eich bod yn gyfarwydd â Bang-On Brewery serch hynny. [Chwerthin.] Ac fe wnaethant fy hysbysu eu bod yn credu bod effaith y cynllun dychwelyd ernes yn golygu y gallai potel o gwrw yno gostio cymaint â £12.50 neu fwy. Felly, tybed a ydych chi wedi rhoi amser i ystyried y ffaith nad yw Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn symud ymlaen gyda gwydr yn y cynllun dychwelyd ernes ar y cychwyn, ac a fyddai Cymru nawr, o dan eich arweiniad chi fel Ysgrifennydd y Cabinet, am wneud yr un peth.

14:25

Wel, ychydig o bwyntiau i'w gwneud wrth ymateb, Tom. Yn gyntaf oll, rydym yn awyddus i ymgysylltu, ond yn fwy na hynny rydym wedi bod yn ymgysylltu, ac rwyf wedi cael dau neu dri chyfarfod bord gron, yn cynnwys gyda'r gadwyn gyflenwi, gyda bragwyr, y sector manwerthu a lletygarwch, dros yr wythnosau diwethaf ers imi fod yn y swydd. Rwy'n awyddus i ymgysylltu â nhw, yn awyddus i weithio drwy'r ffordd y bwriadwn fwrw ymlaen â hyn.

Ond os caf eich atgoffa pam ein bod yn ystyried gwydr mor dyngedfennol: am amrywiaeth o resymau, yn enwedig ein llwybr tuag at fod yn ddi-garbon, y cyffyrddwyd arno yn y cwestiwn blaenorol—. Mae'r ffaith bod yn rhaid inni gynhesu gwydr i 1,500 gradd cyn gallu ei droi'n gynnyrch ailgylchu yn bwysig. Mae ailddefnyddio gwydr yn gam mawr ymlaen ar ein llwybr di-garbon, ac mae Cymru ymhell ar y blaen i lawer o fannau eraill eisoes gydag ailgylchu plastig, yr hyn a wnawn gyda chynnyrch plastig untro, yr hyn a wnawn gydag alwminiwm ac yn y blaen. Rydym eisoes yn drydydd yn y byd ac o bosibl yn codi gyda'n hailgylchu, oherwydd camau beiddgar a gymerwyd gennym. Ond mae angen i wydr fod yno; mae angen iddo fod yn gynllun sy'n cwmpasu popeth. Nid yw'n gwestiwn o 'os' ond 'pryd'—nid yw'n gwestiwn o 'os' ond 'pryd'. Oherwydd mae hyn yn ymwneud â mwy na di-garbon yn unig, mae'n ymwneud â sbwriel ac effeithiau sbwriel ar gymunedau, a sbwriel a'r cysylltiadau ag amddifadedd, a sbwriel a'r cysylltiadau ag amddifadedd ac yna gyda throseddoldeb, os na chaiff ei oresgyn. Mae hefyd yn ymwneud â lles anifeiliaid. Felly, mae yna nifer o resymau.

Ond byddwn yn parhau i weithio'n agos iawn gyda phob busnes, Tom, wrth inni geisio symud ymlaen â'r datganiad pedair gwlad ar y cynllun dychwelyd ernes, yr ymrwymasom iddo, a hefyd ein safbwynt egwyddorol sylfaenol ar wydr. Mae yna resymau—rhesymau da iawn—pam y dylai gwydr fod i mewn, a rhesymau, gyda llaw, pam y bydd gadael gwydr allan yn rhy hir neu'n gynnar yn arwain at gostau ychwanegol i fusnesau hefyd. Edrychwch ar y cynnydd yn rhai o'r costau tirlenwi yn Lloegr ar hyn o bryd—rydym yn ceisio gwarchod rhag hynny.

Mae'n nodweddiadol iawn fod gennym dri Aelod o Ben-y-bont ar Ogwr yn cyfrannu at y cwestiwn hwn a'n bod i gyd eisiau siarad am Bang-On Brewery. Ond mae Bang-On Brewery yn enghraifft dda, fel y mae bragdai bach eraill ledled Cymru, o beth o'r pryder sydd gan bobl ynghylch gwydr yn cael ei gynnwys yn y cynllun dychwelyd ernes, yn enwedig y baich gweinyddol a roddir ar gynhyrchwyr llai, sydd, yn amlach na pheidio, yn debycach i 'brosiectau angerdd', wedi'u staffio gan un, dau neu efallai dri o bobl. Felly, fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw: sut mae sicrhau felly nad yw'r baich gweinyddol ar y cynhyrchwyr llai, nad ydynt, a bod yn deg, yn cyfrannu llawer at sbwriel ar strydoedd, mor fawr nes eu bod wedyn yn dechrau ystyried sut y byddant yn masnachu yng Nghymru yn y dyfodol?

Diolch, Luke, ac rwy'n cael y teimlad fy mod i'n mynd i gael gwahoddiad gan Bang-On Brewery ar ryw adeg i fynd i lawr i ymweld â'u safle. Byddaf yn amlwg yn hynod o amharod i dderbyn y gwahoddiad hwnnw—na, byddaf yn bendant yn ei dderbyn, os daw.

Ond os caf ddweud bod gwaith gyda busnesau eisoes wedi bod yn helaeth. A gaf i atgoffa'r holl gyd-Aelodau sy'n cyfrannu at hyn, fod yna sefyllfa, flwyddyn neu ddwy yn ôl, lle cafwyd cytundeb ledled y DU ar bopeth, gan gynnwys gwydr? Nid yw Cymru wedi newid ei safbwynt ac nid yw'r Alban wedi newid ei safbwynt; mae Lloegr wedi newid ei safbwynt. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, mae rhai sylwadau y tu ôl i mi'n dweud bod yr Alban wedi newid ei safbwynt. Roedd yr Alban yn wynebu gweinyddiaeth yn y DU a ddywedodd y byddent yn defnyddio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 i rwystro eu huchelgais i symud ymlaen. Ond mewn gwirionedd, roedd yna gytundeb ar draws yr holl wledydd ar yr ymgynghoriad mor ddiweddar â dwy flynedd yn ôl.

A gaf i ddweud, ar y bragdai bach, fod yna ffyrdd y gallwn fynd i'r afael â hyn, a chynhyrchwyr bach hefyd? Felly, er enghraifft, i gydnabod yr effaith bosibl ar gynhyrchwyr bach, gall cynhyrchwyr ddewis cofrestru llinellau cynnyrch gyda llai na 5,000 o unedau'n cael eu rhoi ar y farchnad ledled y DU bob blwyddyn fel cynnyrch y gwerthir ond ychydig ohono. Nawr, mae'r eithriad hwn wedi'i gynllunio i gefnogi cynhyrchwyr sydd â chynnyrch y gwerthir ond ychydig ohono neu gynhyrchion gwerthiant arbenigol a fyddai'n gweld gofynion y cynllun dychwelyd ernes yn anghymesur o feichus. Rydym eisiau gweithio gyda'n cynhyrchwyr bach yng Nghymru, fel y gallwn eu cefnogi i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd, o gadwyni cyflenwi mwy gwydn i gostau is am ddeunyddiau, ac yn enwedig drwy ein cynlluniau ar gyfer ailddefnyddio yng Nghymru. Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda'n holl gynhyrchwyr bach.

14:30

A gaf i groesawu'r cwestiwn hwn ac atebion Ysgrifennydd y Cabinet hyd yn hyn? Rwy'n nodi uchelgais Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch pwysigrwydd y dull pedair gwlad. Rwyf hefyd yn nodi ei sylwadau ynghylch gwydr yn cael ei gynnwys mewn cynllun. Yn debyg iawn i'r sylwadau a glywsom gan Tom Giffard a Luke Fletcher, yn fy rôl fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar gwrw a thafarndai, rwyf wedi siarad â nifer o fragdai bach a microfragdai sydd â'r pryderon a godwyd y prynhawn yma, yn enwedig ynghylch gwydr, a phryd y byddai hynny'n cael ei gyflwyno.

Mae croeso mawr i'ch ymrwymiad i'r diwydiant. Rwy'n credu eich bod yn dangos hynny eisoes trwy gyfarfod nifer o weithiau, trwy gyfarfodydd bord gron a llwybrau eraill, gyda'r diwydiant a rhanddeiliaid y diwydiant. A gaf i ofyn ichi felly: a wnewch chi barhau i ymgysylltu a siarad â'r diwydiant—efallai drwy'r grŵp trawsbleidiol fel cyfrwng i ymgysylltu â llawer o fragdai bach a microfragdai ledled Cymru—i wneud yn siŵr nad yw unrhyw gynllun yn anfanteisiol i fragdai bach a microfragdai ledled Cymru, sy'n chwarae rhan hynod bwysig yn ein heconomi yng Nghymru? Diolch.

Jack, wrth gwrs, byddwn yn parhau â'r ymgysylltiad hwnnw. Diolch am eich cyfranogiad yn y rôl hon, ac am gadeirio'r grŵp hwnnw hefyd, sy'n grŵp trawsbleidiol poblogaidd iawn yma yn y Senedd, mae'n rhaid imi ddweud.

Byddwn yn parhau â'r ymgysylltiad hwnnw, ond i ailadrodd: nid Cymru yw'r eithriad yma. Dyma Gymru'n ceisio gwneud y peth iawn i'n planed, i ddeunydd eildro hefyd, a hefyd ar gyfer diwydiant gwydn. Rhaid imi ddweud bod costau go iawn i gyflwyno gwydr yn raddol yn nes ymlaen, neu ei rwystro rhag cael ei gyflwyno'n raddol. Mae problemau sylweddol yn deillio o hynny. Felly, er enghraifft, mae'n eithrio'r deunydd sydd â'r ôl troed carbon mwyaf a'r hyn sydd â'r potensial mwyaf o ran cynaliadwyedd, ond mae hefyd yn golygu y gallem gyrraedd y 2030au cyn inni gyflwyno gwydr. Cofiwch fod dros 50 o wledydd yn gweithredu hyn nawr a'r mwyafrif yn cynnwys gwydr hefyd. Os ydym yn ei gyflwyno heb wydr ar y cychwyn, dychmygwch gostau ailgymhwyso'r offer a fyddai wedyn yn derbyn gwydr wedi hynny. Felly, mae nifer o resymau pam—. A hefyd ni fyddai cydbwysedd. Felly, rhwng alwminiwm a phlastig a dur a gwydr, ni fyddai cydbwysedd.

Ond Jack, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â chi, y grŵp, ond hefyd gyda'r busnesau ar raddfa ehangach, busnesau bach a chanolig, sydd mor bwysig i fwyd a diod yng Nghymru, ar ba gynigion bynnag a ddatblygwn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.

Diolch, Lywydd. Y llynedd, fe wnaethom ni ar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ddisgrifio ymdrechion Llywodraeth Cymru ar lywodraethiant amgylcheddol fel rhai annigonol. Dros sawl mis, rydym wedi, neu yn sicr fe ddywedais i ei fod yn druenus o annigonol. Mae'r argyfwng yma yng Nghymru yn waeth erbyn hyn. Cymru yw'r unig ranbarth yn y DU o hyd heb gorff parhaol sy'n ymroddedig i graffu ar berfformiad amgylcheddol ei Lywodraeth. Mae Dŵr Cymru wedi torri rheoliadau fwy na 200 o weithiau ers 2018, ond ddwywaith yn unig y cafodd ddirwy. Cytunodd rhwydwaith amgylchedd Cymru hefyd nad yw'r trefniadau interim presennol yn llwybr at lywodraethiant amgylcheddol da.

Mae gwaith gorfodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi arwain at 50 o ddirwyon yn unig ar draws 880 o achosion o dorri rheolau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. A hyd yn oed ar ôl i CNC gynnal ymchwiliad blwyddyn o hyd i ollwng gwastraff yn anghyfreithlon mewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig ar wastadeddau Gwent, ac i David John Neal gael dedfryd o dri mis wedi'i gohirio, roedd y Prif Weinidog o'r farn ei bod yn dderbyniol derbyn rhodd o £200,000. Cafodd hyn sylw yn y Senedd hon gan Paul Davies ac Andrew Davies, ein harweinydd, ac mae Vaughan Gething AS, y'i gelwir fel arall yn Brif Weinidog, wedi gwerthu unrhyw hygrededd ynghylch yr argyfwng natur ar wastadeddau Gwent er mwyn dod yn Brif Weinidog. A fyddech chi, Weinidog, wedi derbyn y rhodd hon? A ddylid ei dychwelyd? A sut mae lliniaru'r embaras a deimlir, rwy'n siŵr, gan Aelodau eraill o Lywodraeth Cymru, y meinciau cefn ac yn wir, gennym ni, fel Aelodau o'r Senedd?

Wel, Janet, a gaf i ymdrin â sylwedd eich cwestiwn yn hytrach na'r pwyntiau gwleidyddol a wnewch? Mae sylwedd eich cwestiwn yn ymwneud â'r llywodraethiant amgylcheddol yng Nghymru, ac mae'n ffactor o'r ffaith inni adael yr UE ein bod wedi colli'r fframwaith hwnnw, ac mae'n rhaid inni nawr roi ar waith—. Ac rwy'n rhoi clod, mae'n rhaid imi ddweud, i'r asesydd dros dro, ac uned fach iawn, am y gwaith y maent wedi ei wneud eisoes. Ond rwy'n falch, rwy'n credu, o'r sylwadau a wnaethoch, eich bod yn cefnogi'r gwaith y byddwn yn ei gyflwyno ar y Bil llywodraethiant amgylcheddol a thargedau bioamrywiaeth, a fydd yn llenwi'r bylchau yr ydym wedi'u colli bellach. Bydd hynny nid yn unig yn rhoi corff llywodraethiant amgylcheddol parhaol ar waith, sy'n bwysig—mae angen hynny arnom—ond bydd yn sefydlu'r egwyddorion amgylcheddol hynny. Rydym wedi dweud yn glir bob amser yng Nghymru na fyddwn yn cymryd cam yn ôl, a hoffwn ofyn am gysondeb gan holl Aelodau'r Siambr hon, pan ddown at benderfyniadau anodd ar faterion amgylcheddol, y byddwn yn sefyll yn gadarn ag ef, yn unol â dull llesiant cenedlaethau'r dyfodol hefyd. Ac yn dilyn y COP ar fioamrywiaeth y llynedd, a fynychwyd gan fy rhagflaenydd Julie James, byddwn yn sefydlu'r holl dargedau sy'n deillio o dargedau uchel y Cenhedloedd Unedig yn nhargedau domestig Cymru. Dyna'r ffordd ymlaen. Os nad oes ots gennych, fe anwybyddaf y wleidyddiaeth y ceisiwch ei gwneud o rywbeth sy'n fater difrifol a sylweddol iawn, ond diolch i chi am eich cefnogaeth.

14:35

Nid oedd hwnnw'n ateb i'r cwestiynau a ofynnais ichi. Wrth gyfeirio at yr achos yn erbyn Mr Neal, dywedodd CNC:

'Mae canlyniad yr achos hwn yn dangos na fydd cwmnïau ac unigolion sy'n ceisio manteisio ar y fframwaith rheoleiddio...yn cael eu goddef gan Cyfoeth Naturiol Cymru.'

Mae CNC wedi tynnu llinell goch glir nad ydynt yn goddef y rhai sy'n ceisio manteisio ar reoliadau sy'n diogelu'r cyhoedd a'n hamgylchedd. Fodd bynnag, fel yr adroddwyd ym mis Mawrth, yn gywilyddus, fe ofynnodd y Prif Weinidog i CNC, yn ôl yr honiad, i leddfu cyfyngiadau ar un o gwmnïau Mr Neal, Atlantic Recycling. Pe bai ond wedi diwedd yn y fan honno. Wedyn, fe dderbyniodd y Prif Weinidog £100,000 ym mis Rhagfyr 2023, £100,000 ym mis Ionawr 2024. Yn gywilyddus, roedd hyn yn cyd-daro â Mr Neal yn pledio'n euog i drosedd arall ym mis Ionawr—nid unwaith, nid ddwywaith, ond deirgwaith. Mae hyn i gyd yn drewi. Mae Jeremy Miles AS a Mick Antoniw AS ill dau wedi dweud na fyddent wedi derbyn yr arian hwn.

Onid ydych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn credu bod y Prif Weinidog wedi croesi ei linell goch ei hun a'i fod wedi tanseilio Llywodraeth Cymru nid yn unig drwy oddef, ond drwy gefnogi unigolyn a chwmnïau sydd wedi tanseilio ein hamgylchedd yn sylfaenol, ac wedi achosi trallod i gymaint o bobl?

Wel, Lywydd, heddiw ar lawr y Senedd, y fraint sydd gennym i fod yma, mae yna 101 o faterion amgylcheddol pwysig y gallai Janet fod wedi tynnu fy sylw atynt fel llefarydd y fainc flaen. Yn hytrach na hynny, mae'n canolbwyntio ar faterion y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi rhoi sylw iddynt dro ar ôl tro. A gadewch imi ddweud o ran y llinellau coch ar hyn hefyd: mae yna Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig—fi yw hwnnw. Dyna yw fy nghyfrifoldebau i. Yn yr un modd ag y mae gan CNC y llinellau cadarn hynny ar yr hyn a wnânt, heb ddylanwad, ac yn y blaen, felly y mae gennyf innau. Dyna fy rôl. Felly, oni bai, Janet, eich bod yn cwestiynu fy uniondeb yn uniongyrchol, rwy'n dweud wrthych, gadewch inni siarad am faterion sydd o ddiddordeb o bwys i Gymru a phobl Cymru ac ansawdd ein hamgylchedd naturiol, a gadewch inni ddychwelyd at wneud ein gwaith bob dydd.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Ni fyddwn yn breuddwydio cwestiynu eich uniondeb chi oherwydd ni wnaethoch chi dderbyn yr arian. Ond mae'r ffaith bod arweinydd Llafur Cymru wedi derbyn arian yn gyhoeddus gan dorrwr cyfraith amgylcheddol yn annerbyniol, ac ni ddylem dderbyn hyn. Rwy'n meddwl ei bod hi'n warthus nad yw'n ymddangos bod unrhyw atebolrwydd am safonau moesegol a moesol y Prif Weinidog.

Edrychwch ar y dioddefaint yn sir Benfro: Iechyd Cyhoeddus Cymru yn teimlo'r angen i ddweud wrth drigolion y dylent gadw eu ffenestri ar gau, a drysau, yn ystod yr hyn sydd bellach—gobeithio a diolch byth—yn dywydd cynnes, oherwydd y gall yr allyriadau fod yn niweidiol i iechyd, ac i gysylltu ag unrhyw ddarparwr iechyd os oes unrhyw bryderon. Yr wythnos hon, dywedodd pennaeth gweithrediadau'r de-orllewin ar ran CNC:

'Rydym yn deall y teimladau cryfion a’r diffyg amynedd cynyddol ymhlith pobl sy’n byw ac yn gweithio yn y cymunedau cyfagos.'

A ydych chi'n cydnabod bod penderfyniad y Prif Weinidog i wrthod dychwelyd y rhodd yn achosi iddo ef, a'ch Llywodraeth, gael eu hystyried fel rhywun sy'n cefnogi rhoddwr yn hytrach na'r gymuned leol, sydd bellach yn amlwg yn dioddef o'r trychineb amgylcheddol hwn? Pa bwysau y byddwch chi'n ei roi ar CNC nawr i sicrhau bod yr achosion hyn o dorri rheolau yn dod i ben nawr? A hefyd, a ydych chi'n edrych, gyda CNC, ar y drwydded y mae'r gweithredwr hwn yn ei defnyddio i barhau'r sefyllfa frawychus hon sy'n effeithio ar fywydau cymaint o bobl? Diolch.

14:40

Diolch, Janet, am symud ymlaen at y mater penodol sy'n achosi pryder mawr ynghylch safle tirlenwi Withyhedge. Os gwnewch chi fy esgusodi, unwaith eto, rwy'n dewis peidio â'i gyfuno â'r pwyntiau gwleidyddol ehangach a wnewch, oherwydd, ar lawr gwlad, mae yna sefyllfa lle mae gennyf empathi enfawr â'r unigolion hynny, a chlywsom yn gynharach, ac yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe hefyd am rai o'r pryderon yno.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac CNC wrth gwrs, yn gweithio ar lawr gwlad. Rwy'n gwybod bod gennym gwestiwn arall ar hyn yn fuan hefyd. Ond rwyf wedi nodi'n glir, pan ofynnwyd imi am hyn mewn cwestiynau blaenorol—ac mae'r Prif Weinidog wedi gwneud hynny hefyd—fod CNC, fel y corff rheoleiddio a gorfodi ar lawr gwlad, nid yn unig yno, a hefyd yn ymgysylltu â thrigolion, ond wedi gweithredu'r mesurau y maent yn gofyn amdanynt gan y gweithredwr, ac os nad yw'r mesurau hynny'n digwydd ac nad ydynt yn dod i rym, ac os na eir i'r afael â phryderon trigolion, mae ganddynt bwerau gorfodi i'w defnyddio. A ddoe oedd un o'r dyddiadau ar gyfer gweithredu mesurau. Felly, ar y sail honno, yn hytrach na chymryd—. Rwy'n credu y byddwn yn dychwelyd at y cwestiwn hwn gydag Aelod arall, a rhoddaf sylw manylach iddo bryd hynny. 

Diolch, Llywydd. Dwi eisiau gofyn i chi am dueddiadau mapio bydol o ran newid hinsawdd, plis, a sut mae hynny'n effeithio ar ein gwaith ni yng Nghymru. Mae yna gonsensws nawr ymysg rhai o'r gwyddonwyr hinsawdd mwyaf blaenllaw bod y byd ar gwrs hynod niweidiol. Bydd ein tymheredd yn cynyddu o leiaf 2.5 gradd C, a gyda hynny, bydd mwy o lifogydd, tân, cynhesu a stormydd—senario reit hunllefus.

So, yn gyntaf, pa effaith fydd hyn yn ei gael ar Gymru? Ond, ar yr un pryd, mae creisis arall o ran cyfathrebu'r her yna. Mae gwleidyddiaeth San Steffan fwyfwy yn chwarae lawr pwysigrwydd cyrraedd net zero. Mae'r Ceidwadwyr, wrth gwrs, wedi arwain ar hyn yn San Steffan, ond mae Llafur ar lefel Brydeinig yn pellhau oddi wrth yr uchelgais rŷn ni ei angen. Felly, pa effaith mae'r pellter neu'r gwacter yna rhwng yr hyn sydd angen digwydd fel mater o frys, a'r ffordd mae gwleidyddion San Steffan yn siarad am y peth—? Pa effaith mae hynna'n ei gael ar hyder y cyhoedd, a hefyd yr ymdeimlad o ddyfalbarhad?

Delyth, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw. Mae'r tueddiadau byd-eang yn hynod bryderus, ac nid ydym yn ddiogel rhag hyn. Gallwn weld hyn yn y gwaith mapio diweddar a wnaed yng Nghymru ar lifogydd a llifogydd arfordirol, sef y set ddiweddaraf o fapiau. Nid yw'n syndod i ni mwyach, ac mae angen inni roi'r pecyn cymorth ar waith ar gyfer sut rydym yn ymateb i hynny. Fe'i gwelsom, nid yn unig dros y gaeaf, ond yn y tueddiadau a welsom dros y degawd a mwy diwethaf yn y gymuned ffermio, ac i wneud hynny, mae angen inni roi'r pecyn cymorth ar waith. Rhan o hynny, gyda llaw, yw'r cynllun ffermio cynaliadwy a drafodwyd gennym ddoe, ynghylch sut y gallwn sicrhau gwytnwch yn ein ffermio hefyd, gan gydnabod eu bod yn mynd i gael tywydd gwlyb eithafol am gyfnodau hir, ac yna sychder hefyd yng Nghymru. Felly, mae'n effeithio arnom yn uniongyrchol. Ac weithiau, mae angen i ni fel llunwyr polisi, ac fel seneddwyr, wneud popeth yn ein gallu i egluro mewn termau uniongyrchol iawn beth mae hyn yn ei olygu.

Felly, os na fyddwn yn ymdrin â hyn, bydd yn golygu bwyd drytach ar ein platiau. Os na fyddwn yn ymdrin â hyn, bydd mwy o bobl yn eu cartrefi yn profi perygl i'w heiddo, ond i fywyd hefyd. Dyna raddfa'r peth. Dyna pam mae angen inni ei wneud. Ar gyfer nawr, yn ogystal â'n plant a'n hwyrion. Oherwydd fel hynny, gallwn ddod â'r cyhoedd gyda ni. Ond nid yw'n fater o godi ofn ar y cyhoedd, na'u gwneud mor ddiobaith nes eu bod yn credu na allwn wneud dim byd. Mae'n ymwneud â bod yn realistig am yr heriau aruthrol sy'n ein hwynebu bellach, oherwydd mae'r amcanestyniadau ar ble rydym arni gyda'r hinsawdd yn cynhesu, fel mae llawer o bobl yn cyfeirio ato, yn hytrach na chynhesu byd-eang, yn amlwg ac yn glir. A dyna pam—fel y rhybuddiodd yr Arglwydd Stern yr holl flynyddoedd yn ôl—po gynharaf y gwnawn fuddsoddi yn y ffyrdd lluosog o ymdrin â hyn, ar draws fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, ym maes tai, trafnidiaeth, ffermio, ac ati, y cynharaf y gwnawn ddechrau troi'r llanw eto. Ac mae'n rhaid inni roi'r optimistiaeth honno i bobl er mwyn dod â phobl gyda ni, ond gan beidio â throi ein cefnau ar ddewisiadau anodd. 

Diolch am hynny. A fyddech yn cytuno, ar yr un pryd—ac rwy'n cytuno â chi, na ddylem godi ofn ar bobl—fod ei fychanu yr un mor niweidiol, ac yn niweidiol nid yn unig i'r hinsawdd, ond i wleidyddiaeth, ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, a phob math o bethau?

Diolch am hynny. Rydyn ni wedi clywed eich bod chi'n cytuno â hynny.

Nawr, mae nifer ohonom ni, y mwyafrif yn y Senedd, am gael mwy o bwerau wedi'u datganoli, fel Ystad y Goron, pwerau dros y grid, pwerau ynni cynaliadwy ar raddfa lot yn fwy. Beth ydych chi’n mynd i'w wneud i sicrhau bod y pwerau hyn yn dod i Gymru? Ym mha ffyrdd fyddwch chi'n gweithio gyda’r Ysgrifennydd Cabinet dros ynni, y Cwnsler Cyffredinol a’r Prif Weinidog i gael y rhain? Mae lot o siarad ac mae lot o eiriau da wedi cael eu dweud ynglŷn â pham dylem ni gael y pwerau hyn, ond a fyddwch chi'n gosod mas strategaeth ynglŷn â sut fyddwch chi’n sicrhau bod y pwerau hyn yn dod—strategaeth i ddelio gyda'r Llywodraeth yn San Steffan, ond hefyd y darpar Lywodraeth allai ddod o'r Blaid Lafur hefyd ar ôl yr etholiad nesaf?

14:45

Pwynt da iawn i orffen. Rwy'n credu mai'r ffordd y gwnawn hyn yw—rwy'n gwybod nad oedd yn rhan o'r cwestiwn—yn hytrach nag ysgrifennu strategaeth, mae'n gynllun yr ydym eisoes yn rhan ohono. Mae'n golygu dadlau'r achos yn gyson, boed hynny mewn llythyr neu mewn cyfarfodydd dwyochrog gyda'r Llywodraeth bresennol neu gydag unrhyw Lywodraeth bosibl yn y dyfodol hefyd. Mae hefyd yn golygu gweithio ar hyn ar draws y Llywodraeth, felly ei wneud law yn llaw ag Aelodau eraill y Cabinet, gan gynnwys fy nghyd-Aelod Jeremy Miles hefyd, fel ein bod yn dweud yr un peth yn union ym mha gyfarfod bynnag yr awn iddo ac yn ei ailadrodd hyd at syrffed nes ei fod yn digwydd.

Yn y cyfamser, ar faterion fel Ystad y Goron, mae'n dal i fod angen—a byddai Ysgrifennydd y Cabinet, fy nghyd-Aelod, yn cytuno â mi hefyd—parhau i weithio gyda nhw'n agos iawn cyn datganoli'r pwerau hynny mewn unrhyw fodd i wneud yn siŵr fod y manteision y gallwn eu cael yng Nghymru yn cael eu cadw yma yng Nghymru. Ond mae'r pwynt wedi'i wneud yn dda. Mae gennym safbwynt clir a nodir nid yn unig yn y rhaglen lywodraethu, ond hefyd fel rhan o'r cytundeb cydweithio, ar ddatganoli Ystad y Goron ac edrychwn ymlaen at weld naill ai'r Llywodraeth hon neu Lywodraeth wahanol yn y dyfodol, efallai, yn ein helpu i gyflawni hynny.

Y Cynllun Cymorth Organig

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet egluro'r rhesymeg dros y gwahaniaethau mewn cyfraddau talu ar gyfer gwahanol fathau o dir o dan gynllun cymorth organig 2024? OQ61103

Yn wir. Diolch yn fawr, Adam. Mae'r gwahaniaeth mewn cyfraddau talu yn adlewyrchu'r costau a ysgwyddwyd a'r incwm a roddwyd ar gyfer ymgymryd ag arferion ffermio organig yn y pedwar categori gwahanol o ddefnydd tir. Mae'r cynllun yn cynnig cyfraddau talu uwch ar dir lle gellir sicrhau'r budd amgylcheddol mwyaf drwy arferion rheoli organig.

Rwy'n deall yr ateb hynny, ond y gefnlen i hyn yw bod y cyfraddau talu wedi disgyn i bawb. Os ydych chi'n digwydd bod yn un o'r categorïau llai—y sector defaid, er enghraifft—mae'r sefyllfa nawr yn fregus tu hwnt. O'r math o sgyrsiau dwi wedi cael gyda ffermwyr sydd yn y categorïau hynny, maen nhw wedi ffermio yn llwyddiannus yn organig am ddegawdau o dan y gwahanol gynlluniau sydd wedi bod, a nawr maen nhw'n wynebu sefyllfa lle maen nhw un ai yn gorfod gadael ffermio yn llwyr, neu maen nhw'n gorfod dwysáu eu ffermio am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith, sydd yn mynd yn hollol i'r gwrthwyneb o ran cyfeiriad polisi'r Llywodraeth. 

Bydd cynllun Cynefin yn gorfod parhau nawr am flwyddyn arall. Roedd i fod yn stopgap, onid oedd e? Rwy'n croesawu, wrth gwrs, y cyfle i gael mwy o drafod ynglŷn â'r SFS, ond a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet edrych ar fyrder ar effaith cynllun Cynefin ar ffermwyr yn y meysydd bregus yma a'r effaith mae hynny'n mynd i gael ar organig, lle mae stori dda wedi bod gyda Chymru dros flynyddoedd maith?

Yn wir, Adam, rydym yn awyddus iawn i barhau â'n cymorth i'r sector organig a byddwn yn parhau i siarad â'r rhai sydd am barhau i ffermio'n organig hefyd. Rydych yn tynnu sylw at y ffaith bod pethau eraill y tu hwnt i'r cymorth a ddarparwn i'r pedwar categori tir gwahanol yn gallu bygwth cynaliadwyedd ffermydd penodol o fewn hynny. Gall hynny fod, fel y dywedwch, yn brisiau am ŵyn ar y bryniau, neu gallai fod yn ostyngiad mewn prisiau, er enghraifft, am gymorth organig i gynnyrch llaeth hefyd, y byddai llawer yn dadlau nad yw'n gwobrwyo gyda'r pris premiwm sydd ei angen ar ffermwyr organig ar gyfer eu buddsoddiad mewn cynlluniau organig. Felly, mae pethau y tu hwnt i'r cymorth y gallwn ei roi fel Llywodraeth hefyd. Ond byddwn yn parhau, yn anad dim wrth inni fwrw ymlaen dros y flwyddyn nesaf yn y cyfnod paratoi gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy, cyn inni symud ymlaen, i sicrhau bod yr elfen organig yn gadarn yno fel rhan o'r ystyriaeth honno. A byddwn yn parhau i siarad yn uniongyrchol â'r ffermwyr hynny, oherwydd gwyddom fod rhai wedi gadael y farchnad am nad ydynt yn cael eu gwobrwyo yn y ffordd y teimlant fod ei hangen yn sgil y buddsoddiad ychwanegol a wnaed ganddynt. Mae rhywfaint o hyn, serch hynny, y tu hwnt i daliad y strwythur ffioedd; mae'n ymwneud â grymoedd ehangach y farchnad, ond mae angen inni fod yn effro i hynny hefyd.

14:50

Yn ystod sesiwn dystiolaeth Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy yr wythnos diwethaf, dywedodd Cymdeithas Pridd Cymru, sy'n cynrychioli fforwm organig Cymru,

'dim ond yn ddiweddar y cafwyd y math hwn o gydnabyddiaeth fod angen rhywbeth penodol ar systemau organig o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy.'

Gwnaed sylwadau tebyg gan y Gymdeithas y Ffermwyr Tenant hefyd, a ddywedodd fod gormod o bobl yn y cyfarfodydd bord gron yn y blynyddoedd blaenorol i anghenion ffermwyr tenant gael eu clywed. Ddoe, fe wnaethoch eich cyhoeddiad am yr oedi i'r cynllun ffermio cynaliadwy a'r gwaith bord gron a fydd yn cael ei wneud i unioni camgymeriadau'r polisi presennol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y cyfarfodydd bord gron hyn yn llawer llai na'r rhai blaenorol fel na chollir unrhyw bwyntiau penodol sy'n ymwneud â ffermwyr tenant a ffermwyr organig, er enghraifft. Ond gan gadw at thema cyfraddau talu, a ydych chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, wedi gwneud unrhyw gyfrifiadau i benderfynu beth fydd yn ei gostio i gyflawni'r cynllun ffermio cynaliadwy, ac os felly, a ydych chi wedi cyflwyno unrhyw sylwadau i Drysorlys EF am y gost honno? Diolch, Lywydd. 

Sam, i ateb eich cwestiwn olaf yno, 'Na, nid ydym wedi gwneud hynny', oherwydd byddwn yn penderfynu ar y gost pan fyddwn wedi cwblhau'r cynllun terfynol, fel y soniais ddoe. Rwy'n awyddus iawn i barhau i ymgysylltu â chi a'r holl Aelodau ar hyn wrth inni fwrw ymlaen ag ef, ond bydd y cynllun terfynol yn pennu'r gost. Ar hyn o bryd, rwy'n ailadrodd yr hyn a ofynnais i chi a chyd-Aelodau—a'r holl gyd-Aelodau yma—mewn unrhyw ymgysylltiad y byddant yn ei gael â Llywodraeth y DU ar hyn o bryd. Mae'r amlen sydd gennym i gefnogi cynhyrchiant bwyd sylfaenol yng Nghymru yn llai nag a addawyd i ni. Nid yw'n bwynt gwleidyddol; mae'n ddatganiad ffeithiol. Nawr, ar y sail honno, mae llawer o ffermwyr yn Lloegr hefyd yn dweud, 'A allwn ni gael y swm o gyllid a addawyd inni pan wnaethom adael yr UE?' Byddwn yn croesawu hynny, oherwydd, ar y pryd, roedd rhai pobl yn dweud wrthynt, 'Peidiwch â phoeni, pan fyddwn wedi gadael yr UE'—nid ail-ymladd y peth Brexit yw hyn gyda llaw, ond rwy'n cofio ei glywed ar blatfformau i ffermwyr—'Pan fyddwn yn gadael yr UE, bydd gennych fwy o gyllid'. Ac roedd pobl doethach na fi ar y pryd yn dweud, 'Pan fyddwch yn wynebu'r dewis rhwng gwasanaethau cymdeithasol, ac iechyd, ac addysg a llawer o bethau eraill, mae'r syniad wedyn y byddai ffermwyr—'. Sam, rwy'n gwybod fy mod mewn rhai ffyrdd yn pregethu pethau yr ydych eisoes yn ymwybodol ohonynt. Ond pe bai Llywodraeth y DU yn dweud eu bod am rhoi mwy o gyllid, a dyma lle rwy'n gofyn am eich help, yna byddwn i gyd mewn lle gwell. Am y tro, fodd bynnag, byddwn yn cynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy, a byddwn yn dweud, 'Dyma sut y bydd y taliadau ynddo wedi'u gosod ac mae o fewn yr amlen gost sydd gennym ar hyn o bryd', oni bai bod newid sydyn a bod Llywodraeth y DU yn dweud, 'Rydym yn mynd i wireddu'r addewid a wnaethom yr holl flynyddoedd yn ôl'. Ond ar hyn o bryd, dyma lle'r ydym. Ac rwy'n credu bod yr undebau ffermio ac eraill yn realistig ynglŷn â hynny hefyd. Maent yn gwybod mai dyna'r amlen rydym yn gweithio o'i mewn ar hyn o bryd. 

Blaenoriaethau Amgylcheddol

4. Beth yw blaenoriaethau amgylcheddol Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro? OQ61079

Diolch, Paul. Mae diogelu a gwella ein hamgylchedd yn sir Benfro a ledled Cymru yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rydym wedi rhoi pwerau i Cyfoeth Naturiol Cymru roi camau gweithredu cryf ar waith i reoleiddio a gorfodi mesurau rheoli amgylcheddol ar weithgareddau sy'n llygru. Yn ogystal, penodwyd asesydd diogelu'r amgylchedd dros dro i Gymru i oruchwylio gweithrediad cyfraith amgylcheddol.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydych chi newydd ei ddweud, rhaid mai un o flaenoriaethau amgylcheddol Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro yw cadw pobl rhag niwed, ac eto, fel rydym newydd glywed, mae trigolion sy'n byw o amgylch safle tirlenwi Withyhedge yn dal i fyw mewn ofn oherwydd y drewdod a allai fod yn wenwynig o'r safle hwn. Nawr, fel y dywedwyd, ddydd Gwener, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gyngor yn dweud y gallai'r arogleuon a'r allyriadau sy'n dod o'r safle fod yn niweidiol i iechyd pobl, ac fe wnaethant annog pobl â symptomau i ofyn am gyngor meddygol. Nawr, rwy'n synnu nad ydym wedi clywed mwy gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ond y bore yma, rwyf wedi ysgrifennu atynt, yn gofyn iddynt pa gamau y maent wedi bod yn eu cymryd i ddatrys y mater annerbyniol hwn. Ond mae'n amlwg i mi fod y mater hwn wedi cael ei drin yn wael iawn, ac rwy'n credu bod angen ymchwiliad cyhoeddus annibynnol nawr i'r ffordd yr ymdrinnir â hyn i gyd, o ystyried ei fod wedi bod yn mynd rhagddo ers tua naw mis, a'r ffordd y mae cymaint o fy etholwyr wedi'u heffeithio'n wael ganddo. Fodd bynnag, yn y tymor byr, o ystyried y pryderon amgylcheddol ac iechyd cyhoeddus enfawr hyn, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi'u cael gyda chi ynglŷn â'r mater hwn, ac a allwch chi ddweud wrthym hefyd pa mor ddrwg y mae'n rhaid i'r sgîl-effeithiau fod cyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd i dynnu'r gweithredwr hwn oddi ar y safle'n barhaol?

14:55

Diolch yn fawr, Paul. Yn gyntaf oll, ar y dechrau, a gaf i ailadrodd fy nghydymdeimlad â'r trigolion sydd wedi gorfod dioddef yr hyn y bu'n rhaid iddynt ei ddioddef dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf yno? Mae angen datrys hyn, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. I dawelu eich meddwl, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a minnau, a'n swyddogion, mewn cysylltiad agos ar hyn oherwydd mae'r ddau sefydliad sy'n allweddol i ddatrys hyn yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd, wrth gwrs, wedi rhoi cyngor i drigolion lleol a phobl ar lawr gwlad. Deallaf hefyd eu bod yn bwrw ymlaen â gwaith i gael data monitro i lywio asesiad risg i iechyd llawn. Maent wedi rhoi cyngor i'r cyhoedd ar hyn o bryd. O'm safbwynt i fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, mae CNC yn glir iawn beth yw ein cyfeiriad a beth yw ein blaenoriaeth: fod angen gwneud y gorchmynion gorfodi sydd wedi'u rhoi ar waith i wneud y gwaith ar lawr gwlad ac i ddatrys y broblem er budd trigolion lleol. Mae dyddiadau ar gyfer cyflawni hyn, fel y gwyddoch yn iawn, ac mae CNC yn ymwybodol fod ganddynt amrywiaeth o bwerau gorfodi y gallant eu defnyddio os na lynir at y mesurau hynny er budd pobl leol, a dyna fyddwn i'n ei ddweud. Nid wyf yn credu ei fod yn fater o ymchwiliad; rhaid imi ddweud, i chi ac i'r trigolion hefyd, mae'n fater o weld y cyrff gorfodi ar lawr gwlad, CNC, ond Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd, yn gwneud y gwaith y dylent ei wneud er mwyn datrys y materion hyn yn sydyn ac yn gyflym iawn nawr, oherwydd mae wedi bod yn mynd ymlaen yn rhy hir i'r trigolion lleol hynny.

Rwyf innau hefyd am gefnogi Paul Davies a dweud bod yn rhaid gweithredu ar safle Withyhedge. Rwy'n teimlo na ddylai unrhyw un orfod dioddef y mygdarth, a allai fod yn wenwynig neu beidio, na'r straen fawr ar bobl. Ar hyn o bryd, nid wyf yn cefnogi unrhyw ymchwiliad cyhoeddus, ond rwy'n gofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, am inni gael ein gweld yn cefnogi, lle bo hynny'n briodol, y camau y dylid eu cymryd ar lawr gwlad. Rwy'n gwybod bod nifer o gamau wedi'u cymryd a bod nifer ohonynt wedi'u cyflawni hyd yma. Mae nifer o gamau gweithredu eto i'w gweithredu sy'n peri pryder gwirioneddol i'r trigolion, ac mae angen eu cyflawni. Felly, fy nghwestiwn i chi yw pa sgyrsiau rydych chi'n eu cael gyda CNC a'r awdurdod lleol i helpu i gefnogi'r bobl sydd gymaint o angen y cymorth y gallwn ei roi iddynt.

Diolch yn fawr iawn, Joyce. Rwy'n falch o weld bod cefnogaeth wirioneddol gan yr holl Aelodau o'r Senedd yma i leddfu'r problemau hyn i drigolion lleol. Mae'n annerbyniol ac mae'n rhaid ymdrin ag ef. A gaf i fod mor glir yma ag y gallaf? Mae CNC ar lawr gwlad—maent wedi cynyddu eu presenoldeb oherwydd y materion sy'n parhau. Byddant yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned hefyd. Rwy'n deall bod llawer o gyfathrebu wedi bod, gan gynnwys cylchlythyrau. Maent wedi cyflwyno hysbysiadau gorfodi i'r gweithredwr tirlenwi hefyd, ac mae'n ofynnol iddo orchuddio'r holl wastraff agored, cwblhau'r gwaith peirianneg yn y safle tirlenwi, a dal a chasglu'r nwy o'r safle tirlenwi. Mae hynny'n eithaf amlwg, yn eithaf clir. Os yw'r gweithredwr yn methu cydymffurfio â dyddiad terfynol yr hysbysiad, bydd CNC yn ystyried cymryd camau gorfodi yn unol â'u polisi gorfodi ac erlyn. Felly, mae CNC yn ymateb fel blaenoriaeth i ddatrys y mater hwn. Fodd bynnag, hoffwn eich annog chi a Paul i ddweud wrth yr holl drigolion barhau i roi gwybod, fel y maent wedi bod yn ei wneud, am unrhyw achosion o ddrewdod i CNC, gan y bydd hyn yn helpu CNC i lywio effeithiolrwydd eu gwaith gorfodi.

Prosiectau Bioamrywiaeth

5. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effeithiolrwydd prosiectau bioamrywiaeth yng ngogledd Cymru? OQ61086

15:00

Diolch yn fawr, Gareth. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ni fonitro ac adrodd ar ein hamgylchedd yn gadarn drwy'r 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol'. Mae ein rhaglen monitro a modelu materion gwledig a'r amgylchedd yn darparu tystiolaeth bellach ar lefel Cymru gyfan ac ar sail cynllun ar effeithiolrwydd ein prosiectau.

Diolch yn fawr iawn. Mae bioamrywiaeth yn parhau i ddirywio yng Nghymru. Mae nifer y rhywogaethau adar yng Nghymru sydd wedi'u categoreiddio fel rhai sy'n 'dirywio' wedi cynyddu 122 y cant yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, er enghraifft. Mae'r 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' hefyd yn amlygu'r ffaith nad yw Cymru wedi cyflawni unrhyw un o'i phedwar nod ar reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae adroddiad newydd 'Sefyllfa Byd Natur Cymru' 2023 yn datgelu graddfa ddinistriol y golled natur ledled y wlad a'r perygl y bydd llawer o rywogaethau'n diflannu. Mae bywyd gwyllt Cymru wedi gostwng 20 y cant ar gyfartaledd ers 1994, ac mae un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu. Yn fy etholaeth i, mae'r ymdrech i ddiogelu môr-wenoliaid bychain wedi bod yn llwyddiannus, a gwelwn rai prosiectau yn esgor ar ganlyniadau. Ond ar y cyfan, er gwaethaf yr arian sy'n cael ei fuddsoddi mewn prosiectau bioamrywiaeth, nid ydym yn gweld y canlyniadau. Mae'r UE wedi bod yn rhoi mwy o bwyslais ar atebion sy'n seiliedig ar natur, ac yn ddiweddar cyhoeddodd Ysgol Economeg a Gwyddoniaeth Wleidyddol Llundain adroddiad ar ymgorffori natur ym maes cyllid, gosod mwy o gymhellion ariannol ar fioamrywiaeth, a denu mwy o fuddsoddiad preifat tuag at brosiectau ecolegol. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi adolygu effeithiolrwydd prosiectau bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru yng ngogledd Cymru? A pha ymdrechion sydd wedi'u gwneud i weithio gyda mentrau preifat yn ogystal ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill? Diolch.

Diolch, Gareth. Rydych yn codi pwyntiau pwysig. Soniais sut rydym yn monitro'r effeithiolrwydd yn fy ymateb cychwynnol, ond mae'r cwestiwn ehangach ynglŷn â sut yr awn y tu hwnt i adnoddau cyhoeddus i ddenu buddsoddiad gwyrdd moesegol, sydd ag uniondeb gwirioneddol yn sail iddo, yn un diddorol. Yr hyn nad ydym eisiau ei wneud, a buom yn trafod hyn yn fyr yn y ddadl ar y cynllun ffermio cynaliadwy ddoe, yw agor marchnad i fasnachu nwyddau, os mynnwch, sy'n mynd â'r holl werth o Gymru ac efallai'n esgor ar ganlyniadau negyddol. Ond mae yna rywbeth o fewn y gofod hwnnw y mae angen i ni ei ystyried yn ofalus, sy'n ymwneud â sut rydym yn denu cyllid ychwanegol am y rhesymau cywir, i wella bioamrywiaeth, adfer bioamrywiaeth, ond hefyd i sicrhau rheolaeth ehangach ar ddefnydd tir hefyd.

Mae rhywfaint o hyn yn rhan o'r gwaith a wnawn gyda'r rhaglen rhwydweithiau natur, er enghraifft, ac rydym newydd gyhoeddi £17 miliwn o gyllid ychwanegol ledled Cymru ar gyfer y cynlluniau hynny, ac fe fyddwch yn gweld y rhain yn eich ardal leol hefyd. Ond mae rhywfaint ohono'n ymwneud â, 'Wel, a yw popeth a wnawn yn ddigonol, neu a allai fod rhywfaint ychwanegol y gallem ei ddenu i mewn rywsut?' Ond pe byddem yn gwneud hynny, byddai'n rhaid iddo fod yn safon aur o ran buddsoddiad moesegol yng Nghymru fel bod ardaloedd lleol yn elwa, fod pobl leol yn elwa, yn hytrach na mynd â'r gwerth i gyd o Gymru'n llwyr i fuddsoddwyr rhyngwladol ac yn y blaen. Ond mae'n syniad diddorol, a byddai gennyf ddiddordeb mewn gweld, dros amser, beth yw barn y Siambr ehangach ar hyn hefyd.

Diogelwch Dŵr ac Atal Boddi

6. Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i wella diogelwch dŵr ac atal boddi? OQ61111

Diolch yn fawr, John. Yr wythnos diwethaf, roedd yn fraint gennyf gyhoeddi'r bartneriaeth newydd rhwng Diogelwch Dŵr Cymru a'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau. Mae'r bartneriaeth hon yn gwella ein hymdrechion cyfunol i leihau damweiniau sy'n gysylltiedig â dŵr, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu hyd at £150,000 ar gyfer 2024-25 i gefnogi'r ymdrechion hyn.

Roeddwn yn falch iawn o noddi digwyddiad y gynghrair ddiogelwch dŵr yn adeilad y Pierhead yr wythnos o'r blaen, ac roedd yn dda iawn eich cael chi yno i siarad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe wyddoch fod mam Mark Allen, a foddodd mewn cronfa ddŵr yng Nghymru, yno i siarad am bwysigrwydd cael cortynnau taflu mewn cronfeydd dŵr, llynnoedd a chamlesi mewn ymdrech i wella ein diogelwch dŵr. A chlywsom hefyd mai ychydig iawn o blant sy'n dysgu nofio nawr fel rhan o raglenni nofio ysgolion cynradd.

Yn ogystal â mynd i'r afael â'r ddau beth hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i sôn hefyd am SARA, gwasanaeth bad achub dan arweiniad gwirfoddolwyr sy'n gweithredu yn aber afon Hafren a'r cyffiniau ac yn cynnwys afon Wysg? Fel rhan o'r gwaith o wella diogelwch dŵr, hoffent sefydlu canolfan newydd ar afon Wysg ger canol y ddinas yng Nghasnewydd fel y gallent fynd i mewn i'r afon honno'n gyflymach pe bai pobl mewn trafferthion yn y dŵr. Tybed a allech chi ddweud wrthym sut y gallai'r polisïau yr ydych chi'n eu datblygu a'r buddsoddiad yr ydych chi wedi'i grybwyll eu helpu i sefydlu'r ganolfan newydd honno, a fyddai'n bwysig iawn i wella diogelwch ar afon Wysg yng nghanol Casnewydd.

15:05

Diolch yn fawr, John, a diolch i chi am gynnal y digwyddiad hwnnw yr wythnos diwethaf, oherwydd roedd yn wirioneddol wych. Roedd yn bleser ac yn fraint cael siarad â Leeanne. Fe wnaeth hi annerch y gynulleidfa o'r prif lwyfan yn y Pierhead. Rwy'n credu bod ei gwaith a'i hymgyrchu, a aeth i'r Pwyllgor Deisebau hefyd, wedi bod yn allweddol yn ein gwthio ymlaen a'n hannog i fynd ymhellach ac yn gyflymach. Rwy'n credu bod y ddau ohonom eisiau defnyddio llawr y Senedd hon i ddiolch iddi am yr holl waith y mae hi wedi'i wneud, ac y mae hi'n parhau i'w wneud, oherwydd nid oes gwaddol gwell i gof Mark Allen na hynny. Bydd yr hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni yn achub bywydau.

Mae rhan o hynny, o fewn y bartneriaeth hon, yn ymwneud â mesurau ymarferol iawn megis gwella mesurau diogelwch mewn lleoliadau risg uchel gyda dŵr agored ac ar yr arfordir, gwell arwyddion i gyfleu'r neges, gosod offer achub bywyd, asesiadau risg rheolaidd o'r cyrff dŵr mawr hynny hefyd, ac yn y blaen. Mae'r rhain yn gamau syml ond eithriadol o bwysig i leihau damweiniau a marwolaethau sy'n gysylltiedig â dŵr. Rydym yn gweld gormod o farwolaethau. A'r agweddau eraill, wrth gwrs, yw'r hyn y gallwn ei wneud mewn ysgolion, nid yn unig mewn perthynas â nofio ond ar ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr, ac ymgysylltu â'r cymunedau lleol eu hunain, sy'n adnabod y cyrff dŵr hyn, i gyfleu'r neges yno ynglŷn â sut y gall pobl ofalu amdanynt eu hunain yn briodol hefyd.

Ar SARA a'r hyn y gallant ei gyfrannu, mae'n anhygoel gweld faint o sefydliadau allan yno a allai fod yn rhan o hyn. Hoffwn ddysgu mwy, John, os gwnewch chi anfon neges ataf neu gael sgwrs bellach gyda mi, a gadewch inni siarad ynglŷn â sut y gallant hwy ac eraill gymryd rhan yn y gwaith pwysig hwn. Rydym yn agosáu at yr adeg honno o'r flwyddyn nawr pan fydd llawer o bobl o bob oed eisiau mynd allan. Mae'r agwedd at nofio dŵr agored yn ddiddorol, ond gwnewch hynny'n ddiogel ac yn y blaen. Bydd pobl ifanc, yn arbennig, eisiau mynd allan a mwynhau eu hunain yn yr awyr agored. Mae hynny'n wych, ond gwnewch hynny'n ddiogel. Byddwch yn ymwybodol. Byddwch yn ymwybodol o'ch terfynau a byddwch yn ymwybodol o'r hyn y dylech chi fod yn ei wneud yn y lle iawn ac yn y blaen. Felly, rwy'n credu mai gweithio gyda sefydliadau fel yr un rydych chi wedi tynnu sylw ato heddiw yw'r ffordd ymlaen, a gweithio gyda chymunedau lleol. Mae gwaith mawr i'w wneud, ond os gwnawn ni achub bywydau dros yr haf hwn—. Rydym yn gwybod bod yna ormod o farwolaethau, ond gadewch inni wneud ein gorau glas, ac mae'r dull partneriaeth hwn yn allweddol i hynny.

Cymunedau sydd mewn Perygl o Lifogydd yng Nghanol De Cymru

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghanol De Cymru? OQ61097

Diolch, Heledd. Byddwn ni'n rhoi dros £75 miliwn i awdurdodau rheoli risg llifogydd ledled Cymru yn y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn cynnwys £5,706 miliwn i awdurdodau rheoli risg yng Nghanol De Cymru a fydd yn cael ei ddefnyddio i wella seilwaith rheoli perygl llifogydd, gan helpu tua 5,706 eiddo.FootnoteLink

Diolch yn fawr iawn ichi. Yn amlwg, mae peth o'r gwaith hwnnw yn deillio o'r cytundeb cydweithio.

Hoffwn ofyn yn benodol i chi er hynny am y cymorth ymarferol i gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r trawma y mae llawer yn ei deimlo am flynyddoedd ar ôl llifogydd difrifol, y trawma y maent yn ei deimlo bob tro y bydd hi'n bwrw glaw'n drwm. Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu rhywfaint o waith fforwm llifogydd, i ddatblygu grwpiau gweithredu llifogydd, ond mae hyn yn eithaf anghyson ledled Cymru. Nid oes gennym fforwm llifogydd cenedlaethol yma yng Nghymru. Mae un yn yr Alban ac un sy'n gweithredu yn Lloegr, sydd weithiau'n cael ei ariannu i weithio yma yng Nghymru. A ydych chi'n credu bod gwerth mewn archwilio fforwm llifogydd yng Nghymru yn benodol i gefnogi grwpiau gweithredu llifogydd? A sut y gallwn ni rymuso cymunedau? Oherwydd rwy'n credu bod rhywfaint o'r cyngor ynghylch gosod eich socedi yn uwch ac yn y blaen yn iawn, ond i bobl sy'n wynebu risg barhaus, ac nad ydynt efallai'n gwybod sut i lenwi ffurflenni neu'n gwybod sut i ffurfio pwyllgor, sut y gallwn ni ddarparu cymorth ymarferol fel eu bod yn teimlo eu bod wedi'u grymuso pan allai'r gwaethaf ddigwydd eto?

Rydym yn aml yn edrych y tu hwnt i ffiniau Cymru, a weithiau dylem edrych ar yr hyn y mae ardaloedd eraill yn ei wneud i weld a yw'n gweithio, ond mae yna ddulliau gwahanol y gallwn eu mabwysiadu hefyd, sy'n unigryw i Gymru. Nid yw fforwm llifogydd cenedlaethol yn ddull rydym yn ei fabwysiadu yng Nghymru ar hyn o bryd. Ni chafodd ei ystyried fel opsiwn, gan fod CNC yn cael eu hariannu i ymgymryd â'r gwaith hwn, ond mewn gwirionedd, yn fy nghymunedau fy hun, rwyf wedi wynebu'r un her yn union. Nid ydym wedi wynebu dinistr ar yr un raddfa enfawr ag eraill, ond rydym wedi gweld eiddo nad ydynt wedi dioddef llifogydd ers degawdau yn cael eu heffeithio nawr gan fflach-lifogydd ar lefel y stryd yn fwy rheolaidd. Felly, rydym wedi ceisio gweithio gyda nhw gan ddweud, 'Mae'r arbenigedd ar gael i ni', ac mewn gwirionedd rydym wedi trefnu bod y gwahanol asiantaethau sydd gennym yng Nghymru yn dod i siarad gyda nhw, gan gynnwys partneriaid lleol, yr awdurdod lleol, yn ogystal â CNC, a dweud, 'Dyma sut y gallwn ni sefydlu eich ymateb lleol iddo.'

Ond rydym yn rhoi arian i mewn i hyn. Rydym yn ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymwybyddiaeth llifogydd a chydnerthedd drwy gydol y flwyddyn. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi darparu canllawiau ar eu gwefan sy'n amlinellu beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd. Rydym yn ariannu grwpiau cymunedol ac aelodau unigol o'r cyhoedd i weithio gyda chyngor a chanllawiau. Ac wrth gwrs, mae Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda'n cefnogaeth ni, yn gweithio mewn partneriaeth agos â sefydliadau eraill i ddarparu cefnogaeth ac i gyfeirio grwpiau at eraill a all eu helpu. Mae hynny'n cynnwys, er enghraifft, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Flood Re, y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, y Swyddfa Dywydd a Chymdeithas Yswirwyr Prydain. Yn wir, dyma a wnaethom yn ein cyd-destun lleol hefyd. Mae yna wasanaeth rhybuddio am lifogydd hefyd wrth gwrs yr ydym yn ei weithredu nawr o afonydd yng Nghymru ac sy'n cael ei weithredu gan CNC, ac mae mwy.

Byddwn bob amser yn cadw meddwl agored ynglŷn â sut y gallwn wella hyn, oherwydd rydym eisiau cymunedau cydnerth sy'n gwybod beth i'w wneud, sy'n gwybod, pan allant, sut y gallant chwarae rhan, drostynt eu hunain fel deiliaid tai unigol neu berchnogion eiddo, ond hefyd dros eu cymuned ehangach. A phan fydd hyn yn gweithio'n dda, mae'n gweithio'n dda iawn. Rydym bob amser yn cadw meddwl agored, ond ar hyn o bryd, rydym eisiau cyflwyno'r broses gyfeirio, y cyngor a'r arferion gorau fel y bydd unrhyw gymuned sydd eu hangen yn gallu eu cael.  

15:10
Brechlyn TB Buchol i Wartheg

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddefnyddio'r brechlyn TB buchol i wartheg? OQ61107

Mae treialon maes i gasglu data at ddefnydd TB gwartheg yn parhau. Ochr yn ochr â'r gwaith ymchwil a datblygu, rydym yn ystyried strategaethau ar gyfer ymgorffori brechlyn TB buchol yn ein rhaglen dileu TB. Byddai graddfa'r defnydd yn y dyfodol yn cael ei lywio gan ddadansoddiad o'r effeithiau yn dilyn yr awdurdodiad cychwynnol.

Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y dysgodd pob un ohonom yn ystod COVID, mae torri cadwyni heintio yn bwysig, ac mae brechu, yn ogystal â hylendid, yn rhan allweddol o hyn. Mae astudiaethau wedi dangos gostyngiad yn y lefelau trosglwyddo mewn gwartheg sydd wedi'u brechu, gyda chyfanswm effeithiolrwydd brechlyn o 89 y cant. Mae'r rhain yn awgrymu y gallai brechu fod yn offeryn pwysig ar gyfer rheoli bTB. Ers 2024, mae'r DU wedi difa 330,000 o wartheg, gyda thua £150 miliwn yn cael ei dalu i gefnogi colledion ffermwyr bob blwyddyn, ac mae hyn yn cael ei ychwanegu at y 210,000 o foch daear sydd wedi'u difa ar gost o £58.8 miliwn. Nid yw'r ffigurau hyn yn swnio'n effeithiol iawn ac maent yn yn parhau i ddilyn y trywydd hwn yn Lloegr. Ysgrifennydd y Cabinet, a allech chi amlinellu amserlen ar gyfer cyflwyno brechlyn gwartheg, sut rydych chi'n rhagweld y bydd hyn yn ein helpu i fynd i'r afael â TB buchol yn y dyfodol, a pham mai hon yw'r strategaeth fwyaf effeithiol, ynghyd â hylendid? Diolch.

Carolyn, diolch yn fawr iawn. Rydych yn iawn y gallai hwn fod yn newid sylweddol yn y ffordd yr awn i'r afael â bTB, sy'n salwch mor ddinistriol i wartheg ond hefyd i'r ffermwyr sy'n gweld cymaint o'u gwartheg yn cael eu difa o ganlyniad iddo. Mae gennym reswm i fod yn optimistaidd, ond yr hyn na allwn ei wneud yw gosod amserlen, oherwydd mae'n rhaid inni brofi effeithiolrwydd hyn. Felly, er mwyn inni allu defnyddio brechlyn gwartheg, yn gyntaf oll, mae'n rhaid inni gael prawf diagnostig sy'n gallu gwahaniaethu rhwng anifeiliaid sydd wedi'u heintio ac anifeiliaid sydd wedi'u brechu. Mae hynny'n angenrheidiol. Pan fydd prawf o'r fath ar gael ac wedi'i ddilysu, gellid cymeradwyo brechlyn gwartheg, ynghyd â phrawf gwahaniaethu rhwng anifeiliaid wedi'u brechu ac anifeiliaid wedi'u heintio (DIVA). Ond nid oes gennym amserlen ar gyfer hynny. Mae'n rhaid i'r gwaith gael ei wneud. 

Mae'r treialon maes i gasglu'r data diogelwch ar gyfer defnyddio brechlyn TB i wartheg a'r prawf croen DIVA ategol, ac i gasglu data ychwanegol ar benodolrwydd y prawf DIVA, ac i archwilio opsiynau i optimeiddio perfformiad y prawf newydd, yn parhau. Rydym yn parhau i weithio'n gyflym, ond er eglurder, ni fyddwn ni ond yn defnyddio'r brechlyn a'r prawf croen DIVA ategol pan fydd gennym yr holl dystiolaeth gywir a'r camau cywir ar waith, ac rwy'n credu y bydd gwledydd y DU yn gwneud yr un peth. Felly, ein nod yw cyflawni strategaeth effeithiol i frechu gwartheg o fewn y blynyddoedd nesaf i gyflymu ein cynnydd parhaus tuag at ddileu TB mewn gwartheg yng Nghymru. Diolch.

Gan eich bod yn dal i fod yn Weinidog newydd brwd, rwyf am droi'n ôl at gwestiwn 1 [OQ61091] a'r cwestiwn atodol y ceisiodd Siân Gwenllian ei ofyn. Rwyf am ganiatáu iddi ofyn y cwestiwn atodol eto er mwyn iddo gael ei ateb. 

15:15

Diolch yn fawr am eich amynedd, Llywydd. Roeddwn i'n falch o glywed y Prif Weinidog ddoe, a chithau, Ysgrifennydd y Cabinet, heddiw, yn ailddatgan safbwynt y Llywodraeth, sef rhagdybiaeth yn erbyn gorsafoedd nwy newydd yn Arfon a thu hwnt, ac roeddwn i'n falch iawn hefyd o glywed eich pwyslais ar greu cyflenwad ynni fforddiadwy a glân. Ond, yn anffodus, nid dyna safbwynt y Torïaid, ac fe fydd etholwyr yn Arfon yn siomedig iawn ac yn bryderus iawn o glywed bod y Torïaid yn cefnogi codi gorsaf nwy mewn hen chwarel yng Nghaernarfon, gorsaf fyddai’n allyrru nwyon tocsig, ac yn peryglu iechyd pobl leol, o gofio bod tai, ysbyty ac ysgol gerllaw. Yn ogystal â'r problemau iechyd, ydych chi'n cytuno efo fi fod effaith datblygiadau tanwydd ffosil newydd yn niweidiol iawn i fioamrywiaeth ac yn mynd yn hollol groes i ddeddfwriaeth y Senedd hon, yn cynnwys Deddf cenedlaethau'r dyfodol, a'r Ddeddf amgylchedd a'r Ddeddf aer glân?

Diolch, Siân, a neis i weld ti eto.

Mae'n dda eich cael chi'n ôl. Lywydd, byddai'n ddefnyddiol os caf ailddatgan ein dull o weithredu yma ac yn Cymru Sero Net—mae'n ymwneud â sut rydym yn cynyddu ynni adnewyddadwy yng Nghymru gan ymrwymo ar yr un pryd i ddod â chynhyrchiant nwy heb systemau rheoli carbon i ben, a hynny am y rhesymau rydych chi'n eu hamlinellu. Lle gelwir ar Lywodraeth Cymru i benderfynu ar gynigion yn y dyfodol, ac ni allaf, fel y dywedais yn fy ymateb i chi yn gynharach, Siân, wneud sylwadau ar gynigion unigol a allai gael eu cyflwyno, ond yn gyffredinol, lle gelwir arnom i benderfynu ar gynigion yn y dyfodol i adeiladu cynhyrchiant pŵer heb systemau rheoli carbon yng Nghymru, bwriad Gweinidogion Cymru fyddai cynnal y rhagdybiaeth gref honno yn erbyn gorsafoedd ynni tanwydd ffosil newydd, a hefyd i osgoi, rhaid imi ddweud, cael dewisiadau amgen yn lle ein fflyd bresennol o orsafoedd a allai ddod eu hunain yn ffynonellau allyriadau nwyon tŷ gwydr neu hyd yn oed yn fflyd gostus o generaduron segur yn ogystal. Felly, mae'n ddigon posibl y bydd y rhagdybiaeth hon yn annog penderfynwyr lleol rhag cydsynio i orsaf tanwydd ffosil newydd ar raddfa fach. Ond Siân, mae'r sylwadau hynny'n amlinellu ein hymagwedd gyffredinol yn Llywodraeth Cymru, ac rwy'n hapus i ailddatgan hynny, ond nid mewn perthynas ag un cynnig unigol, Lywydd.

3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiwn amserol heddiw yw'r cwestiwn i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, a'r cwestiwn i'w ofyn gan Luke Fletcher.

Carchar Parc EF

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y materion sydd wedi dod i'r amlwg yng Ngharchar Parc EF? TQ1083

Diolch. Rwy'n cydymdeimlo'n ddiffuant â phawb sydd wedi'u heffeithio gan y marwolaethau diweddar yng ngharchar EF y Parc. Mae rhedeg carchardai yn fater a gedwir yn ôl, ond mae Llywodraeth Cymru yn cysylltu â Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn dilyn y marwolaethau. Fel gyda phob marwolaeth yn y ddalfa, bydd yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth yn ymchwilio.

Diolch am yr ateb, Cabinet Secretary.

Ac wrth gwrs, mae'n dda clywed bod cysylltu'n digwydd, ond pa sgyrsiau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda swyddogion G4S yng ngharchar EF y Parc? Mae'r straeon sy'n dod o garchar EF y Parc yn peri pryder mawr: dwy farwolaeth o fewn oriau i'w gilydd, a'r rheini yw'r wythfed a'r nawfed farwolaeth mewn cyfnod o ddau fis, yn ogystal â honiadau o ddefnyddio cyffuriau'n agored, esgeuluso iechyd carcharorion—gallwn fynd ymlaen. A fyddai hi hefyd yn cefnogi galwadau ei chyd-Aelod Beth Winter y dylid dod â charchar EF y Parc yn ôl o dan reolaeth y Llywodraeth yn y pen draw, ac a fyddai hi hefyd yn cytuno y byddai'r cam hirddisgwyliedig i ddatganoli cyfiawnder yn ein helpu ni i fynd i'r afael â'r sefyllfa ein hunain?

Diolch. Fel y dywedais, mae gennym y dull partneriaeth wrth symud ymlaen. Er bod cynnal carchardai yn fater a gedwir yn ôl wrth gwrs, mae iechyd carcharorion yma yng Nghymru wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â Gweinidog Llywodraeth y DU dros Garchardai, Parôl a'r Gwasanaeth Prawf, Edward Argar, fis diwethaf. Rwyf wedi ysgrifennu ato yr wythnos hon hefyd. Fel y sonioch chi, mae dwy farwolaeth arall wedi bod y mis hwn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod nad ydym yn gwybod beth yw achos marwolaeth yr unigolion. Mae hwnnw'n fater i'r crwner yn amlwg, ac mae'r Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth yn edrych ar y rhain a bydd yn cyhoeddi adroddiadau maes o law, ond wrth gwrs, cadarnhaodd yr heddlu ym mis Mawrth eu bod yn credu bod rhai o'r marwolaethau'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau.

Clywais yr alwad gan Beth Winter yn Senedd y DU, ddoe rwy'n credu, y dylai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder redeg y carchar yn lle G4S. Ar hyn o bryd, yr hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod i gyd yn dod at ein gilydd i gydweithio i sicrhau diogelwch carcharorion a staff yng ngharchar EF y Parc, ond mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn siarad â'r Gweinidog yn Llywodraeth y DU yn ei gylch, ac fel y gwyddoch, mae'r Llywodraeth yn cefnogi datganoli cyfiawnder.

15:20

Diolch, Lywydd, am ganiatáu’r cwestiwn amserol hwn heddiw. Fel yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, rwy'n amlwg yn cael llawer o etholwyr yn cysylltu â mi, ac rwyf hefyd eisiau cyfeirio at Chris Elmore, AS Ogwr, a ofynnodd gwestiwn brys yn San Steffan yr wythnos hon hefyd. Rwy'n cydymdeimlo, wrth gwrs, â'r carcharorion nad ydynt bellach gyda ni a chyda'u teuluoedd. Mae pob marwolaeth yn drasiedi, ni waeth beth fo'r amgylchiadau, a hoffwn ddiolch hefyd i Heather Whitehead, llywodraethwr carchar y Parc, am ymgysylltu â mi dros y misoedd diwethaf wrth i nifer y marwolaethau gynyddu.

Cyfeiriodd Gweinidog y DU yn ei araith at y sbeis yn y carchar a chwestiynau ynghylch naloxone, sydd ei angen, yn amlwg, yn yr amgylchiadau enbyd hynny i atal trasiedi. Mae pryderon hefyd o fewn cymuned Pen-y-bont fod y carchar yn gatalydd ar gyfer sbeis, oherwydd caiff ei drosglwyddo i mewn ac allan o'r carchar. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ehangu ar y gwaith sy'n cael ei wneud gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, swyddogion Iechyd Cyhoeddus Cymru a thimau ymyrraeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau rhyw fath o reolaeth ar y camddefnyddio cyffuriau sy'n digwydd o fewn a'r tu allan i'r carchar?

Rwyf hefyd eisiau talu teyrnged i staff y carchar. Maent yn gweithio mewn amgylchiadau anodd iawn. Nid yw problemau gyda chymarebau staff/carcharorion wedi cael eu datrys o hyd, ac mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod swyddogion carchar sydd wedi gorfod ymdrin â'r marwolaethau dros y naw i 10 wythnos diwethaf yn cael y cymorth iechyd meddwl y maent ei angen yn daer. Hoffwn ddweud bod yr aelodau hynny o staff yn destun llawer o ddyfalu, cyhuddiadau a chamdriniaeth ar-lein. Nid ydynt yn gallu gwneud sylw na dweud unrhyw beth yn ôl, ond rwy'n credu ei fod yn gwneud pethau'n anodd iawn iddynt hwy.

Yn olaf, a all Ysgrifennydd y Cabinet ehangu ar unrhyw waith sy'n cael ei wneud gyda'n bwrdd iechyd, Cwm Taf Morgannwg? Rwyf wedi cael cyfarfodydd adeiladol gyda'r darparwyr iechyd dros yr wythnosau diwethaf, ond mae'n ymddangos bod diffyg cysylltiad rhwng y realiti o fewn y carchar a'r hyn y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i'w weld yn ei ddweud. Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw ddiweddariad y gallech ei roi i geisio gostegu'r dyfroedd, fel y gofynnodd fy nghyd-Aelod Chris Elmore AS amdano yn San Steffan, i'r ystad garchardai a chymuned ehangach Pen-y-bont ar Ogwr hefyd. Diolch.

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwyntiau pwysig iawn, ac rwyf hefyd eisiau rhoi teyrnged i'r staff yn y carchar sy'n gorfod ymdrin â sefyllfa anodd iawn, ac rwy'n credu mai dyna roeddwn i'n ceisio ei ddweud yn fy ateb i Luke Fletcher—mae llawer o hyn yn ymwneud â dyfalu. Mae'n bwysig iawn nad yw pobl yn dyfalu ac mae'n bwysig ein bod yn aros i'r adroddiadau gael eu cyhoeddi gan yr ombwdsmon, a hefyd i achosion y marwolaethau gael eu cyhoeddi gan y crwner.

Fel y dywedais, mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar sicrhau eu bod yn casglu gwybodaeth ynglŷn â lle mae cyffuriau'n mynd i mewn. Rwy'n credu bod hwnnw'n waith pwysig y mae angen ei wneud. Symudiadau o fewn y carchar—bu chwiliadau helaeth, rwy'n gwybod, o garcharorion a staff, ac maent wedi cynnal amnestau cyffuriau, er enghraifft, ac wedi ehangu'r defnydd o naloxone yn y carchar. Fel Llywodraeth, yn amlwg, rydym yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi'r bwrdd iechyd i ddarparu gofal iechyd yn ein carchardai. Fel y gwyddoch, fel Llywodraeth, rydym yn gwneud gwaith ar strategaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, mae gennym hefyd fframwaith triniaethau camddefnyddio sylweddau newydd ar gyfer ein carchardai yma yng Nghymru. Felly, byddaf yn hapus iawn i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i ni fynd drwy'r broses hon nawr.

Diolch am y diweddariad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gwybod bod cymheiriaid yn San Steffan, fel y dywedoch chi, wedi mynegi pryderon wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Gweinidog carchardai. Mae nifer y marwolaethau yng ngharchar y Parc yn peri pryder mawr, a cheisiais godi cwestiwn amserol ar y pwnc yr wythnos diwethaf. Rwy'n cydymdeimlo â theuluoedd y rhai a fu farw. Er nad ydym yn gwybod beth yw'r darlun llawn ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod llawer o'r marwolaethau hyn yn gysylltiedig â chyffuriau, ac er mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am redeg yr ystad garchardai, mae gan Lywodraeth Cymru rôl i'w chwarae yn sicrhau iechyd a llesiant y rhai sydd ar yr ystad. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â sicrhau bod digon o wasanaethau adsefydlu cyffuriau ar gael i garcharorion y Parc a nifer y carcharorion sydd ar gofrestri camddefnyddio sylweddau?

15:25

Diolch. Rwy'n ailadrodd nad wyf eisiau clywed unrhyw ddyfalu, ond rwy'n derbyn rhan Llywodraeth Cymru yn llwyr yn y gwaith o ddarparu gofal iechyd yng ngharchar EF y Parc. Nid wyf wedi cael cyfarfod penodol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ond yn amlwg, mae ein swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd, gyda phartneriaid eraill—Iechyd Cyhoeddus Cymru, er enghraifft—i sicrhau bod staff y carchar yn gallu cael mynediad at y gofal iechyd y mae'r carcharorion ei angen. Pan fydd yr ombwdsmon wedi cyhoeddi'r adroddiadau, pan fydd adroddiadau'r crwner gennym hefyd, rwy'n credu y bydd gwir angen inni edrych ar ddysgu gwersi, nid ni yn unig, ond Llywodraeth y DU hefyd, a bydd gwir angen inni fanteisio ar arbenigedd yr ombwdsmon.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Mae'n amser allweddol i ni ganolbwyntio ar ein llesiant ein hunain. Y thema eleni, a osodwyd gan y Sefydliad Iechyd Meddwl, yw 'Symud: symud mwy ar gyfer ein hiechyd meddwl'. Lywydd, mae'n ymwneud â dod o hyd i weithgaredd sy'n symud eich corff a'ch meddwl, boed yn bêl-droed, cerdded neu unrhyw weithgaredd arall y gallech ei fwynhau. Gall wella eich hwyliau a'ch llesiant cyffredinol yn sylweddol.

Nid wyf yn hoff iawn o redeg, ac nid wyf yn mynd i'r gampfa'n rheolaidd, ond fel y gŵyr y Llywydd, rwyf wrth fy modd gyda phêl-droed ac yn ddiweddar dechreuais chwarae i dîm seneddol y Senedd. Lywydd, fe wnaeth ein buddugoliaeth ddiweddar o 5-4 dros y BBC yn Stadiwm Dinas Caerdydd, cartref y wal goch, godi fy ysbryd dros benwythnos gŵyl y banc. Cafwyd ymdrech wych gan y ddau dîm, ond yn bwysig, fe wnaethom godi arian dros achos gwych, sef elusen iechyd meddwl Mind Cymru. A gaf i ddiolch i bawb am gefnogi'r achos pwysig hwn? Ac a gaf i ddiolch i'r Sefydliad Iechyd Meddwl a phawb sydd wedi ymwneud â threfnu'r digwyddiad pwysig i godi ymwybyddiaeth yr wythnos hon, ond hefyd diolch i'r rhai sy'n gweithio bob dydd i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl? 

Lywydd, hoffwn atgoffa pawb a allai fod yn ei chael hi'n anodd, neu sy'n adnabod rhywun sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl: gofynnwch am help, mae cymorth ar gael i chi. Diolch.

Diolch, Lywydd. Llongyfarchiadau i Lauren Price o Ystrad Mynach am ddod yn bencampwr bocsio'r byd. Mae Lauren wedi creu hanes drwy fod y Gymraes gyntaf i wneud hyn. Ar ôl ennill teitl y byd, cyflwynodd y wobr i'w mam-gu, Linda, ac er cof am ei diweddar dad-cu, Derek, a wnaeth nodi a meithrin ei thalent chwaraeon o oedran ifanc. Fe wnaethant ei magu o pan oedd hi'n dri diwrnod oed ac mae hi wedi talu teyrnged i'r cariad a'r gefnogaeth a roesant iddi. Ac mae'r gymuned yn Ystrad Mynach wedi dangos eu cefnogaeth hefyd, drwy ei chroesawu'n ôl ddydd Sul diwethaf mewn steil.

Mae Lauren wedi cywasgu cymaint i mewn i'w 29 mlynedd, o chwarae pêl-droed rhyngwladol i Gymru, cynrychioli ei chenedl yng Ngemau'r Gymanwlad ac, wrth gwrs, ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd. Ac mae hi wastad yn dangos ei balchder o fod yn fenyw o Gymru. Mae wedi dweud wrth y Caerphilly Observer yn ddiweddar:

'Mae Cymru'n wlad fach ond pan fyddwn ni'n cefnogi ein gilydd rydym ni'n genedl falch iawn.'

Am neges bwysig i bobl ifanc arall yr ardal ei chlywed. Felly, llongyfarchiadau i Lauren, wrthym ni yn y Senedd. 

Rwy'n siŵr bod y gorau i ddod eto i chi.

Llongyfarchiadau i Ysgol Pentrecelyn ar ddathlu ei phen-blwydd yn 150 mlwydd oed yr wythnos yma. Fel cyn-riant a Llywodraethwr yno ar hyn o bryd, dwi ishe nodi’r garreg filltir nodedig yma i’r ysgol fechan wledig hon yng ngogoniant Dyffryn Clwyd.

Nawr, fe agorwyd yr ysgol ar 11 Mai 1874, gyda 34 o blant ar y gofrestr a Mr Owen Henry Owen, Gaerwen yn bennaeth. Sarah Ann Winter o Siop Pentrecelyn oedd yr enw cyntaf ar y gofrestr, ac mae yna gannoedd lawer o ddisgyblion wedi dilyn yn ôl ei thraed hi ar y gofrestr honno ers hynny, wrth gwrs. Pobl fel yr actorion Rhys Ifans a'i frawd Llyr Ifans, yr actores Victoria Pugh, y pianydd rhyngwladol Teleri Siân a’r cantorion nodedig Sera Baines ac Elis Jones, ac mae Elis, gyda llaw, hefyd yn bencampwr byd ar saethu colomennod clai, a dim ond rhai o’r cyn-ddisgyblion yw'r rheini.

Ac mae’r ysgol wrth gwrs yn dal i fynd o nerth i nerth, gydag arolwg disglair gan Estyn llynedd yn amlygu bod Ysgol Pentrecelyn yn ysgol ragorol sy’n darparu addysg a phrofiadau dysgu o ansawdd uchel i’w disgyblion.

Fe gafwyd cyngerdd dathlu gyda channoedd lawer yn dod iddi rai wythnosau nôl ac mi fydd yna ddiwrnod dathlu a pharti pen-blwydd mawr yn cael ei gynnal yn yr ysgol ddydd Sadwrn yma. Fel ysgrifennodd Gareth Neigwl yn ei englyn hyfryd diweddar i'r ysgol:

'A’i haddysg imi’n wreiddyn—hyd fy oes, / I’w hiard fach rwy’n perthyn; / Lle bo’r daith daw llwybrau dyn / Yn ôl i Bentrecelyn.'

Pen-blwydd hapus i Ysgol Pentrecelyn gan bawb yn Senedd Cymru.

15:30

Diolch am y datganiadau yna.

Yr eitem nesaf yw'r cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau, ac, yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, os nad oes unrhyw wrthwynebiad, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod ac ar gyfer pleidleisio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hyn? Nac oes. Felly, does yna ddim gwrthwynebiad.

Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

Cynnig NNDM8583 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhianon Passmore (Llafur Cymru) yn lle John Griffiths (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.

Cynnig NNDM8584 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sarah Murphy (Llafur Cymru) yn lle Jack Sargeant (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

Cynnig NNDM8585 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol John Griffiths (Llafur Cymru) yn lle Sarah Murphy (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cynigiwyd y cynigion.

Y cynigion wedi eu gwneud. A oes yna unrhyw wrthwynebiadau? Nac oes. Felly, mae'r cynigion yna wedi eu derbyn.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Rheoli cynhyrchion tybaco a nicotin

Yr eitem nesaf fydd dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar reoli cynhyrchion tybaco a nicotin, a Mabon ap Gwynfor sy'n cyflwyno'r cynnig yma. 

Cynnig NDM8571 Mabon ap Gwynfor, John Griffiths, Altaf Hussain

Cefnogwyd gan Carolyn Thomas, Delyth Jewell, Heledd Fychan, Jack Sargeant, Julie Morgan, Llyr Gruffydd, Mark Isherwood, Peredur Owen Griffiths, Rhys ab Owen, Sioned Williams, Vikki Howells

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod ysmygu yn lladd 5,600 o bobl y flwyddyn yng Nghymru ac yn rhoi baich enfawr ar GIG Cymru o fwy na £300 miliwn bob blwyddyn;

b) mai ysmygu yw prif achos afiechydon y gellir eu hatal a marw cyn pryd yng Nghymru, gan achosi 3,100 o achosion o ganser bob blwyddyn;

c) bod cynnydd amlwg i'w weld yng Nghymru yn nifer y bobl ifanc sy’n fepio, ynghyd â chynnydd sydyn yn nifer y manwerthwyr sy'n gwerthu cynhyrchion nicotin;

d) y bydd mwy o ddibyniaeth ar nicotin ymhlith pobl iau yn cynyddu’r galw am wasanaethau cymorth i roi'r gorau i nicotin yng Nghymru; ac

e) bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymrwymo i weithredu penodau 2, 3 a 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn llawn a fyddai'n ei gwneud yn bosibl:

i) sefydlu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin;

ii) ychwanegu troseddau a fyddai’n cyfrannu at orchymyn mangre o dan gyfyngiad yng Nghymru, gan alluogi swyddogion gorfodi i wahardd manwerthwr rhag gwerthu tybaco neu gynhyrchion nicotin am hyd at flwyddyn; a

iii) gwahardd rhoi tybaco a chynhyrchion nicotin i berson o dan 18 oed;

b) sicrhau bod y Bwrdd Strategol ar gyfer Rheoli Tybaco yn blaenoriaethu gweithredu cofrestr o fanwerthwyr tybaco a nicotin fel rhan o ail gam y cynllun gweithredu ar reoli tybaco ar gyfer Cymru 2024-2026;

c) ymrwymo i ymgyrch gyfathrebu wedi'i hariannu'n llawn i gefnogi'r broses weithredu a newidiadau dilynol i reoliadau a deddfwriaeth; a

d) sefydlu gweithgor i:

i) goruchwylio'r broses o weithredu'r gofrestr o fanwerthwyr yn brydlon;

ii) archwilio sut y gallai'r gofrestr o fanwerthwyr arwain y ffordd at gynllun trwyddedu a/neu adnoddau ar gyfer mesurau gorfodi ychwanegol; a

iii) cyflwyno'r data a gasglwyd o'r gofrestr i helpu i dargedu ymdrechion i roi'r gorau i ysmygu a diogelu'r cyhoedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Ers 2017, mae mwy nag 20,000 o blant yng Nghymru wedi ysmygu eu sigarét gyntaf. Erbyn hyn, bydd 15,000 o’r plant hynny ar eu ffordd i fod yn ysmygwyr hirdymor. Ac mewn dyfodol na all yr un ohonynt ei weld eto, bydd 10,000 o'r plant hyn yn marw yn y pen draw o'u caethiwed angheuol.

Er mor syfrdanol ydynt, nid yw'r niferoedd hyn ond yn gyfran fach iawn o'r bywydau Cymreig ifanc y mae canlyniadau creulon ysmygu yn effeithio arnynt. Cyfeiriaf at 2017, oherwydd, ar 16 Mai y flwyddyn honno, pasiodd y Senedd ddeddfwriaeth a allai fod wedi, ac a fyddai wedi lleihau rhywfaint o’r niwed hwn ac achub rhai o’r bywydau hyn. Fe wnaeth y Gweinidog ar y pryd ei ddatgan yn ddiwrnod a oedd yn garreg filltir i iechyd y cyhoedd yng Nghymru, a bron i saith mlynedd i’r diwrnod yn ddiweddarach, nid yw’r gyfraith i gyflwyno cofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin wedi’i rhoi ar waith o hyd. Rydym wedi gwastraffu amser ar gost enfawr i iechyd plant. Mae'n rhaid inni unioni hynny nawr.

Mae ysmygu'n gaethiwed sy'n dechrau yn ystod plentyndod. Cafodd y rhan fwyaf o bobl sy'n ysmygu yng Nghymru eu sigarét gyntaf pan oeddent yn blant neu yn eu harddegau. Pan gawsant eu holi gan ASH Cymru, dywedodd 71 y cant o’r ysmygwyr hyn eu bod yn difaru dechrau yn y lle cyntaf, ac er bod mwy na'u hanner yn awyddus i roi’r gorau iddi, mae llawer yn gaeth i gaethiwed eu plentyndod.

Ysmygu yw prif achos marwolaethau y gellir eu hatal o hyd—mae 5,600 o bobl yn marw o ysmygu bob blwyddyn. Sigaréts yw'r unig gynnyrch defnyddwyr, a fydd, pan gaiff ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, yn lladd dau o bob tri defnyddiwr hirdymor. Pe bai tybaco yn cael ei gyflwyno i'r farchnad heddiw, ni fyddai byth yn cael ei gymeradwyo i gael ei werthu.

Yn ogystal â chanser, clefyd y galon a chlefyd yr ysgyfaint, mae ysmygu hefyd yn ffactor cyfrannol mawr mewn marw-enedigaethau, strôc a dementia. Mae ysmygu yn parhau i achosi gwahaniaethau dinistriol mewn canlyniadau iechyd. Mae'r diwydiant tybaco yn tueddu i gadw'n dawel ynghylch y ffaith eu bod wedi gwneud pobl yn gaeth i'w cynhyrchion unigryw o beryglus, ac yn anffodus, maent wedi cael y llwyddiant mwyaf yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Mae data newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan ASH Cymru yn dangos, er bod 9 y cant o berchnogion tai yn ysmygu, pan edrychwn ar y bobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol, mae’r ffigur yn codi i 30 y cant. Ond mae gennym gyfle enfawr o fewn ein gafael i wneud rhywbeth am hyn—i gau’r bylchau presennol, lleihau niwed i iechyd, achub bywydau a diogelu cenedlaethau’r dyfodol. Gallwn ddefnyddio’r ddeddfwriaeth bresennol i gyflwyno cofrestr o fanwerthwyr tybaco a nicotin yma yng Nghymru. Byddai cofrestr yn ei gwneud yn ofynnol i bob busnes a manwerthwr sy’n gwerthu naill ai cynhyrchion tybaco neu gynhyrchion nicotin yng Nghymru gofrestru, a byddai’n drosedd gwerthu cynhyrchion tybaco neu nicotin o fangreoedd, gan gynnwys unedau symudol a siopau dros dro, os nad oedd y busnesau hynny ar y gofrestr genedlaethol.

15:35

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mae’r mecanwaith deddfwriaethol ar gyfer cofrestr o fanwerthwyr tybaco a nicotin eisoes wedi’i gynnwys yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Pe bai’n cael ei roi ar waith, byddai o fudd i bawb, o fanwerthwyr i ddefnyddwyr a thimau gorfodi. Yn bwysicaf oll, byddai'n lleihau niwed i iechyd ac yn achub bywydau. Gallai gynnig cymorth, cyngor a hyfforddiant i’r mwyafrif helaeth o fanwerthwyr, a fyddai ond yn gwerthu cynnyrch y mae treth wedi'i thalu arnynt i oedolion. Ac yn hytrach nag is-gontractio’r cyfrifoldeb hwn i genedlaethau’r dyfodol, byddai cyflwyno'r gofrestr o fanwerthwyr yn dangos bod y Senedd hon wedi defnyddio ei phwerau, wedi gwneud yr hyn a allai, pan allai, ac wedi gweithredu ar ei hymrwymiad i sicrhau Cymru ddi-fwg erbyn 2030.

Dros y blynyddoedd, mae rheoliadau a chyfreithiau ar hyrwyddo sigaréts a phrisiau wedi chwarae rhan enfawr yn y broses o reoli tybaco. Ond yn y farchnad heddiw, gyda’r cynnydd mewn siopau manwerthu heb eu cofrestru ac ymchwydd mewn fepio ymhlith pobl ifanc, mae angen dull newydd o weithredu, ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r her gynyddol hon. Hyd yn hyn, ni roddwyd y sylw y dylid bod wedi ei roi i fynd i'r afael ag argaeledd sigaréts a fêps yn ein cymunedau. Bydd cofrestr o fanwerthwyr ar gyfer Cymru yn helpu i fynd i’r afael â’r bwlch hwnnw. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod i sicrwydd ai ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru sydd â’r dwysedd uchaf o fanwerthwyr tybaco a siopau fêps. Gallwn ddyfalu, oherwydd yr hyn a welwn yn ein cymunedau, ond rydym yn brin o dystiolaeth go iawn.

Mae argaeledd sigaréts yn lleol yn hynod bwysig i iechyd. Mae ymchwil gan Dr Jamie Pearce o Brifysgol Caeredin yn dangos bod pobl ifanc mewn ardaloedd a chanddynt ddwysedd uchel o fanwerthwyr tybaco yn fwy tebygol o fod wedi ysmygu. Mae oedolion mewn ardaloedd dwysedd uchel yn fwy tebygol o fod yn ysmygwyr presennol ac yn llai tebygol o roi’r gorau iddi, ac mae menywod beichiog mewn ardaloedd dwysedd uchel yn fwy tebygol o ysmygu yn ystod eu beichiogrwydd cyntaf ac yn llai tebygol o roi’r gorau iddi. Fel rhan o'i ymchwil hefyd, defnyddiodd Dr Pearce system leoli fyd-eang i dracio 700 o wirfoddolwyr 10 ac 11 oed am wythnos. Dangosodd fod plant o ardaloedd difreintiedig o ran incwm saith gwaith yn fwy tebygol o fod yn agored i fanwerthu tybaco na phlant o ardaloedd cefnog.

Mae gwybod ble yn union y caiff y cynhyrchion hyn eu gwerthu, a chan bwy, hefyd yn bwysig i dimau iechyd y cyhoedd, er mwyn sicrhau bod adnoddau gwerthfawr yn cael eu defnyddio yn yr ardaloedd sydd â’r angen mwyaf. Byddai cofrestr o fanwerthwyr yn rhoi data newydd i ni nad oedd ar gael yn flaenorol ar gyfer lle mae’r cyfraddau uchaf o gynhyrchion nicotin yn cael eu gwerthu, gan ganiatáu i ymdrechion i gefnogi pobl i roi’r gorau i ysmygu gael eu targedu yn y cymunedau hynny. Ac i bob Aelod sydd wedi cael etholwr yn cysylltu â nhw i fynegi pryderon am y cynnydd yn niferoedd siopau fêps yn eu hardal, dychmygwch sut y byddai cofrestr o fanwerthwyr, pe bai wedi’i rhoi ar waith yn 2017, wedi ein helpu i fonitro, rheoli a lliniaru’r hyn sydd wedi digwydd ar bob stryd fawr yng Nghymru.

Hoffwn dawelu eich meddwl ar un pwynt pwysig arall hefyd. Mewn arolwg gan ASH Cymru, dywedodd 86 y cant o’r bobl a holwyd eu bod eisoes yn cytuno â'r syniad o gynllun manwerthwyr ar gyfer cynhyrchion tybaco, a’u bod yn ei gefnogi. Mae hyn yn cynnwys 65 y cant o ysmygwyr presennol yng Nghymru a 74 y cant o fepwyr presennol. Nid yn unig hynny; mae cefnogaeth ehangach i reoli tybaco yn tyfu yng Nghymru. Os caf fynd â chi'n ôl i 2015, pan gynhaliodd ASH Cymru eu harolwg YouGov blynyddol, roedd bron i bedwar o bob 10 o bobl yn credu nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwneud digon. Ymlaen i 2024, a phan ofynnwyd yr un cwestiwn yn union ganddynt eto, roedd cyfran y bobl yng Nghymru a ddywedodd nad yw'r Llywodraeth yn gwneud digon wedi cynyddu i 52 y cant.

Cefnogir y gofrestr o fanwerthwyr hefyd yn argymhellion yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan grŵp ymateb i ddigwyddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar fepio ymhlith pobl ifanc, gan elusennau iechyd blaenllaw, gan gynnwys ASH Cymru, Cancer Research UK, British Heart Foundation Cymru, ac Asthma and Lung UK Cymru, a hefyd gan safonau masnach a gweithwyr meddygol proffesiynol. Mae iddi gefnogaeth drawsbleidiol yma yn y Senedd hefyd. Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i roi’r ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer y gofrestr o fanwerthwyr tybaco a nicotin ar waith heb oedi pellach, a defnyddio’r cyfle enfawr sydd gennym o fewn ein gafael i ddiogelu ein pobl fwyaf agored i niwed.

15:40

Rwy’n llwyr gefnogi’r hyn a glywsom gan Mabon ap Gwynfor, sydd, yn fy marn i, yn dadlau achos clir a chryf iawn dros gofrestr o fanwerthwyr. Gwn o fy etholaeth fy hun—rwy'n siŵr fod hyn yn wir am Aelodau eraill—pa mor gyffredin yw’r problemau a achosir gan dybaco a fepio ar hyn o bryd. Mae fepio, er enghraifft, yn broblem gynyddol hyd yn oed mewn ysgolion cynradd, lle mae penaethiaid yn bryderus iawn am effeithiau fepio ar iechyd a lles a chadw trefn yn yr ysgol a’r problemau a ddaw yn sgil fepio. Ac mae rhieni, wrth gwrs, yn bryderus iawn hefyd. Ac fel y dywedaf, mae hynny ar lefel ysgolion cynradd, heb sôn am yr hyn sy'n digwydd yn ein hysgolion uwchradd.

Fel y clywsom gan Mabon, mae'r defnydd o dybaco yn dal i fod yn broblem mor enfawr i’n hiechyd a’n lles yng Nghymru, onid yw? Ac unwaith eto, mae pob un ohonom yn gyfarwydd iawn â'r ystadegau, a bod ysmygu yn achosi'r fath nifer o farwolaethau a niwed y gellir eu hosgoi, y ffaith ei fod yn effeithio ar ein cymunedau mwy difreintiedig i raddau mwy ac yn achosi anghydraddoldebau iechyd a'r bwlch mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach rhwng ein cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig. Felly, mae llawer iawn i'w wneud o hyd ar dybaco.

Mae tybaco anghyfreithlon yn broblem fawr iawn, ac mae’r gweithredwyr anghyfreithlon hynny’n gwerthu fêps anghyfreithlon, yn ogystal â thybaco anghyfreithlon. Ac yn aml iawn, mae'r ddau'n dod gyda'i gilydd fel pecyn, fel petai. Felly, mae llawer iawn i safonau masnach ei wneud o ran gorfodi. Ac yn ddiweddar, yn y grŵp trawsbleidiol ar ysmygu, daethom â rhai o'r chwaraewyr allweddol ynghyd—dirprwy gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, academyddion, safonau masnach, ASH Cymru, wrth gwrs, y sector iechyd—i edrych ar rai o'r problemau hyn, a buom yn myfyrio ar rai o’r ystadegau y mae Mabon eisoes wedi’u crybwyll o ran yr arolwg a’r ystadegau allweddol y tynnodd ASH Cymru ein sylw atynt.

Mae’n achos clir iawn, ac mae cefnogaeth gref iawn iddo ymhlith y cyhoedd. A chredaf fod hynny'n rhoi gwynt yn ein hwyliau o ran yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud gyda phartneriaid allweddol i sefydlu cofrestr o fanwerthwyr a chael cynllun trwyddedu. A chredaf fod y grŵp trawsbleidiol hwnnw, gyda’r holl bartneriaid allweddol dan sylw, yn bendant iawn ynghylch yr angen am y gofrestr, y cynllun trwyddedu, a’r manteision a fyddai’n dod yn sgil hynny.

Fel y dywedais wrth agor fy sylwadau, Ddirprwy Lywydd, ar ddechrau'r ddadl bwysig hon, rwy'n credu bod Mabon wedi amlinellu achos clir a chryf iawn dros y cam hwn—cofrestr o fanwerthwyr a chynllun trwyddedu. Mae Mabon eisoes wedi dweud llawer o'r hyn roeddwn yn mynd i'w ddweud. A hoffwn gefnogi'r cynnig hwn, y cynigion hyn, ac rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru—ac rwy'n eithaf hyderus ei bod—yn gweld y synnwyr mewn mabwysiadu'r dull hwn o weithredu, ac y bydd yn gwneud popeth yn ei gallu i gyflwyno'r gofrestr a'r cynllun trwyddedu.

Roeddwn yn falch iawn o'r cyfle i gyd-gyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Yn anffodus, mae ysmygu'n parhau i fod yn un o'r lladdwyr mwyaf yng Nghymru. Er gwaethaf blynyddoedd o ymyriadau iechyd cyhoeddus, rydym yn dal i weld miloedd o bobl bob blwyddyn yn colli eu bywydau'n ddiangen, a dyna pam fy mod yn cefnogi cofrestr o fanwerthwyr tybaco a nicotin er mwyn targedu ein mentrau rhoi’r gorau i ysmygu yng Nghymru a’u cysylltu â Bil tybaco a fêps Llywodraeth y DU. Mae’n rhaid inni atal y marwolaethau, ac mae hynny’n golygu atal pobl rhag dod yn gaeth i nicotin yn y lle cyntaf. Credaf y byddai cofrestr o fanwerthwyr o gymorth yn y frwydr i atal pobl ifanc rhag mynd yn gaeth i ysmygu.

Mae’n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau'n sôn am y problemau sy’n gysylltiedig â sigaréts, fel y gwnaeth Mabon, ac mae John wedi sôn am hynny hefyd. Felly, rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar ysmygu shisha. Mae mwy a mwy o bobl ifanc yn mynd yn gaeth i hookah. Ers y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus, bu cynnydd o 210 y cant mewn bariau a chaffis shisha. Mae shisha, a elwir hefyd yn hookah, narghile, pibell ddŵr, hubble bubble neu jajeer mewn Kashmireg, yn ddull o ysmygu tybaco a ddyfeisiwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg gan feddyg o'r enw Hakim—mae 'hakim' yn golygu meddyg, homeopath—Abdul Fateh Gilani. Roedd yn feddyg yn y durbar Mughalaidd, neu gallwch ddweud 'llys'. Pwrpas y ddyfais oedd pasio mwg drwy ddŵr mewn ymgais i buro'r mwg, myth sydd wedi'i wrthbrofi ers hynny gan wyddoniaeth feddygol, ond un sy'n parhau hyd heddiw, yn anffodus.

Mae shisha yn defnyddio tybaco wedi'i baratoi'n arbennig ac sy'n cael ei gynhesu i gynhyrchu mwg gyda swigod drwy bowlen o ddŵr ac i mewn i bibell hir i'w anadlu i mewn. Gall y tybaco ddod mewn gwahanol flasau, a weithiau, caiff ei gymysgu â thriagl neu siwgr, sy'n aml yn gwneud i'r mwg arogli'n felys. Fel arfer, caiff ei gynhesu drwy losgi pren, glo neu siarcol. Mae ysmygu shisha yn boblogaidd yn ne-ddwyrain Asia, y dwyrain canol a chymunedau gogledd Affrica, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Mae'n dod yn fwyfwy poblogaidd yma yn y Deyrnas Unedig. Mae sesiwn shisha fel arfer yn para oddeutu 45 munud. Awgrymodd ymchwil a gyflawnwyd gan Lywodraeth De Cymru Newydd fod pob sesiwn yn cyfateb i ysmygu 100 sigarét. Mae mwg shisha yn wenwynig, mae'n cynnwys cemegion gan gynnwys carbon monocsid a thar, sy'n ddrwg i iechyd—eich iechyd chi, fy iechyd i a'r rheini o'n cwmpas—ond mae llawer o bobl ifanc yn dal i feddwl ei fod yn ddiogel.

Yn y tymor byr, gall shisha gynyddu cyfradd curiad eich calon a'ch pwysedd gwaed, lleihau cynhwysedd eich ysgyfaint, effeithio ar eich ffitrwydd corfforol, ac mewn rhai achosion, mae wedi achosi gwenwyno carbon monocsid. Yn y tymor hir, gall ysmygu shisha achosi canserau yn y pen, y gwddf, yr ysgyfaint a chanserau eraill, afiechydon y galon, afiechydon yr ysgyfaint, ac arwain at heneiddio'n gynnar. Mae ysmygu shisha, ymhell o fod yn ddewis diogel, yr un mor beryglus os nad yn fwy peryglus na sigaréts. Mae ei flas a'i seremoni yn apelio at bobl ifanc ac mae'n eu gwneud yn gaeth i nicotin yn anhygoel o gyflym. Gall sicrhau bod angen trwydded dybaco ar gaffis a bariau shisha helpu i reoleiddio’r diwydiant hwn sy’n tyfu ac atal defnyddwyr dan oed. Byddai hynny, ynghyd â’r Bil Tybaco a Fêps, yn sicrhau y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn rhydd rhag niwed a marwolaethau sy’n gysylltiedig ag ysmygu. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr.

15:45

Diolch, Mabon, am ddod â'r ddadl bwysig yma gerbron i ni. Mae hi'n broblem, ac mae'n rhaid i ni gydnabod bod yna broblem fawr. Fel llefarydd addysg Plaid Cymru, dwi'n aml yn cael athrawon, ond hefyd dysgwyr, yn dod ataf fi yn dweud pa mor bryderus ydyn nhw yn benodol o ran fepio, ond hefyd mae ysmygu ymysg pobl ifanc yn dal i fod yn broblem.

Fe ges i fy magu yn yr 1980au, dwi'n 43 erbyn hyn, a'r normal oedd bryd hynny fod bron pob oedolyn o fy nghwmpas i'n ysmygu. Roeddech chi'n gallu ysmygu ym mhob man, a dyna'r norm. Ond, mi oedd yna ymgyrch wych yn ein hysgolion cynradd ni, ac ysgolion uwchradd, a oedd yn uwcholeuo'r peryglon hynny. Oherwydd mi oedden nhw'n wybyddus erbyn hynny. Mi oedden nhw'n gweld yr effaith ar y cenedlaethau blaenorol, nifer o bobl oedd wedi bod yn ysmygu o oed ifanc iawn. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, roeddwn i'n eu ffeindio nhw'n effeithiol iawn. Roeddwn i'n un o'r rhain oedd yn mynd adref ac yn pregethu at yr oedolion o fy nghwmpas i ynglŷn â pheryglon ysmygu. Yn sicr, mi gafodd yr ymgyrchoedd hynny ddylanwad arnaf i. 

Rydyn ni wedi gweld newid aruthrol hefyd ynglŷn â'r holl newidiadau sydd wedi bod o ran peidio â gallu ysmygu mewn ceir efo plant ynddyn nhw, peidio â gallu ysmygu ar yr iard mewn ysgolion, mewn parciau at ati, a hefyd ein bod ni'n sicrhau pan rydyn ni'n mynd allan—. Pwy sy'n cofio bod mewn tafarn yn hwyr yn y nos a'ch dillad chi'n drewi y bore wedyn, eich gwallt chi a phopeth? Mae yna newidiadau mawr wedi bod, ond dwi'n meddwl, drwy weld y newidiadau hynny, ei bod hi'n hawdd llaesu dwylo. A'r hyn rydyn ni wedi gweld ydy bod cwmnïau, sy'n gallu manteisio'n ariannol ar hyn, yn ffeindio ffyrdd bob amser i gymryd mantais. A'r hyn rydyn ni'n ei weld rŵan ydy targedu pobl ifanc yn benodol. Mi hoffwn i ddweud, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig pwysleisio hyn, fod cefnogaeth i fepio ar gyfer y rhai sydd yn ceisio rhoi'r gorau i ysmygu. Mae yna le pwysig iawn ar gyfer fêps yn ein cymdeithas ni, ond mae'n rhaid i ni eu cael nhw wedi'u rheoleiddio. A dwi'n meddwl bod cofrestr genedlaethol yn gyfan gwbl allweddol.

Os edrychwn ni ar arolwg fepio ieuenctid Cymru gan ASH Cymru, mae'r ystadegau yna yn frawychus, o ran bod 24 y cant o'r holl blant rhwng blwyddyn 7 ac 11 wedi rhoi cynnig ar fêp, 7 y cant yn fepio'n rheolaidd, a 37 y cant o'r 7 y cant hefyd yn ysmygu. Mae 92 y cant o'r rheini sy'n defnyddio fêp yn defnyddio rhai sy'n cynnwys nicotin, a 45 y cant methu mynd drwy'r diwrnod ysgol heb fepio. Wel, mae hyn yn creu problemau enfawr yn ein hysgolion ni. Mae'n golygu bod disgyblion yn methu mynd drwy wers, eu bod nhw'n gorfod mynd i gael fêp, a bod ysgolion wedyn ddim yn gwybod sut mae delio efo'r sefyllfa, yn aml yn cloi tai bach er mwyn trio delio efo'r peth, sydd hefyd ddim yn deg os ydyn ni'n meddwl wedyn am y dysgwyr hynny sydd angen mynediad i'r tŷ bach. Mae o'n cael effaith fawr ar bob lefel. 

Os ydyn ni hefyd yn edrych ar yr ystadegau gan ASH Cymru, mae 55 y cant o'r holl ddisgyblion sydd wedi fepio wedi defnyddio cynhyrchion fêp sy'n debygol iawn o fod yn gynhyrchion anghyfreithlon. Wel, mae hyn hefyd yn bryderus dros ben. Rydyn ni'n gwybod, o'r ystadegau gan safonau masnach, fod rhai fêps anghyfreithlon yn cyfateb i smocio 20 sigarét mewn un tro. Ac fel sydd eisoes wedi ei grybwyll, maen nhw'n targedu plant. Does dim amheuaeth am hynny. Rydych chi'n gweld y siopau, ac maen nhw'n edrych yn hollol ddeniadol i blant—yr holl liwiau. Rydyn ni'n gwybod bod fêps eu hunain yn edrych mor ddeniadol, onid ydyn nhw? Pam arall fyddech chi'n cynhyrchu rhai sydd yn edrych fel potel Prime ac ati, neu efo blasau anhygoel, neu efo'r lliwiau llachar yma, os nad oeddech chi'n targedu plant? Mi fyddai cofrestr genedlaethol yn ymateb i rai o'r heriau hynny.

Ond mae'n rhaid i ni hefyd edrych ar yr elfen ar-lein, a bod nifer fawr o blant a phobl ifanc yn prynu'r fêps yma rŵan ar-lein—disgyblion ysgol gynradd yn hollol, hollol onest efo fi mai TikTok Shop ydy'r ffordd hawsaf i'w cael nhw. Mae nifer o blant rŵan yn gallu cael mynediad i brynu pethau eu hunain ar-lein efo cardiau debyd. Mae'n rhaid i ni gael y negeseuon hefyd. Felly, mae'r gofrestr yn un elfen bwysig, ond mae'n rhaid i ni wella'r adnoddau sydd yn ein hysgolion ni i gael y neges allan ynglŷn â pha mor beryg ydy'r fêps yma, a sut ydyn ni'n stopio plant a phobl ifanc rhag cael eu hecsploetio. Mae yna le i fêps i stopio pobl sy'n smygu, ond dylai'r un person ifanc fod yn fepio yn ein hysgolion ni.

15:50

Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Rwyf wedi bod yn edrych ymlaen at gyfrannu a dweud y gwir, gan imi wneud astudiaeth o ysmygu ar gyfer fy ngradd sylfaen yn ôl yn 2018, a rhoddais gyflwyniad i Brifysgol Bangor. A wyddoch chi mai un o’r lleoedd cyntaf i gyflwyno gwaharddiad ar ysmygu dan do oedd Dau Dŷ'r Senedd yn San Steffan, yn ôl yn y 1800au, rwy’n credu? Fe wnaethant ei wahardd mewn ystafelloedd pwyllgora, i ddechrau. Roedd yn wirioneddol arloesol ar y pryd. A hyd at 2006—. Roedd mor hwyr â 2006, pan wnaethant gyflwyno gwaharddiad ar hysbysebu sigaréts yn Fformiwla 1, ac roedd hynny, bobl bach, lai nag 20 mlynedd yn ôl. Rwy’n cofio’r brandiau sigaréts ar gefn car Schumacher, a Mika Häkkinen a Damon Hill a phob un ohonynt. Felly, mae'n dangos pa mor bell y daethom mewn cyfnod cymharol fyr, a dweud y gwir.

Mae adfywiad gwirioneddol wedi bod yn y sylw a roddir i roi'r gorau i ysmygu a nicotin dros y blynyddoedd diwethaf, a chredaf efallai fod hynny oherwydd y ffrwydrad yn nifer y bobl ifanc sy'n defnyddio fêps a dyfeisiau e-sigaréts. Ac rwy'n rhannu'r pryderon ynghylch pobl ifanc dan 18 oed yn defnyddio e-sigaréts a fêps tafladwy, ac mae'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU gyda'r gwaharddiad ar ysmygu a fêps wedi bod yn eithaf helaeth. Mae'r ddadl ar nicotin a thybaco, fodd bynnag, i'w gweld yn dod yn fwyfwy gorfodaethol, ac mae'n arwydd o rywfaint o rethreg waethaf gwladwriaeth faldodus. A chredaf fod ffyrdd gwell o ymdrin â materion iechyd y cyhoedd na'r hyn a wnawn ar hyn o bryd. Gwyddom fod effeithiau niweidiol ysmygu yn dra hysbys bellach. Mae ysmygu'n ddinistriol i'ch iechyd. Mae hefyd yn rhoi pwysau enfawr ar y GIG. Ond rwy’n cael yr argraff weithiau ein bod yn aredig tywod, yn parhau i ymladd brwydr yr ydym eisoes wedi’i hennill, a bod brwydrau pwysicach i’w hymladd o ran iechyd y cyhoedd. Nid wyf yn siŵr os yw hyn oherwydd dylanwad y lobi gwrth-ysmygu, neu'n ymgais i ddangos ein bod ar yr ochr iawn i hanes.

Rheolau gwrth-ysmygu'r DU yw'r rhai llymaf ond un yn Ewrop. Mae data o 2022 yn dangos mai dim ond 14 y cant o oedolion yng Nghymru sy’n ysmygu, ac mae’r nifer yn gostwng. Mae data o 2021 yn dangos bod 12 y cant o bobl ifanc 11 i 15 oed wedi rhoi cynnig ar sigarét o leiaf unwaith, ac nid yw’r mwyafrif helaeth o’r rhain yn ddefnyddwyr tybaco rheolaidd. Mae hyn hefyd i lawr o 50 y cant ym 1996. Rydym wedi gwneud mwy na gwledydd eraill yn y byd i leihau ysmygu, ac yn aml ar gost fawr i ryddid yr unigolyn a dewis personol, sy'n gwneud imi deimlo'n anesmwyth iawn yn reddfol.

15:55

Diolch yn fawr iawn. Mae’r ddadl hon am ryddid personol yn cael ei hailadrodd yn eithaf aml yn y ddadl hon. A fyddech chi'n cytuno bod gwrthddywediad sylfaenol yn y syniad o roi rhyddid i rywun ddod yn gaeth? Mae'n ocsimoron. Mae'n gwrth-ddweud ei hun. Yn ogystal â hynny—os caf, yn fyr, Ddirprwy Lywydd—pan ddywedoch chi fod risgiau ysmygu yn dra hysbys, ac felly mai mater i bobl, mae'n debyg, yw gwneud y dewis hwnnw, byddai canlyniad rhesymegol y ddadl honno yr un peth ar gyfer heroin, oni fyddai? Felly, a fyddech chi'n awyddus i gyfreithloni heroin hefyd?

Delyth, nid wyf yn credu bod honno'n gymhariaeth deg, a bod yn onest. Nid yw heroin yn gymhariaeth deg o gwbl. Mae heroin yn difetha bywydau pobl, ac mae'r gwahaniaeth rhwng tybaco a heroin o ran lefel y caethiwed—nid yw honno’n gymhariaeth deg o gwbl, ac nid wyf yn derbyn hynny o gwbl.

Ni chredaf fod y mater hwn bob amser yn galw am fwy a mwy o ddeddfwriaeth, ac yn aml nad ei bwriad yw sicrhau canlyniadau, ond dangos yn hytrach fod ein calonnau yn y lle iawn. Yn hytrach, mae angen inni orfodi'r cyfreithiau sydd eisoes ar ein llyfrau statud yn well. Mae eisoes yn drosedd i werthu cynhyrchion sy'n cynnwys nicotin i bobl o dan 18 oed, ond nid yw'r wladwriaeth yn rhoi adnoddau digonol i sicrhau y cedwir at y cyfreithiau a'r rheoliadau hyn.

Rydym wedi gweld ei bod yn anhygoel o hawdd i bobl ifanc brynu fêps ac e-sigaréts ar y stryd fawr, ac mae angen inni wneud mwy na deddfu i sicrhau nad yw'r dyfeisiau hyn yn mynd i ddwylo plant. Rwy’n deall sut y gallai cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr, y mae Mabon yn dadlau o'i phlaid, fod yn fanteisiol ar gyfer hynny, ac rwy’n gefnogol i'r syniad at ei gilydd. Er imi nodi fy mhryder ynghylch rhai o'r camau mwy gorfodaethol, tadofalaethol a gymerir gan y wladwriaeth, rwy'n awyddus i atal cynhyrchion nicotin rhag mynd i ddwylo plant, rwy'n awyddus i leihau cyfraddau alcoholiaeth a gordewdra, ac rwy'n awyddus i gael gwared ar fwyd wedi'i brosesu'n helaeth o ddeiet plant, mater y mae Jenny Rathbone wedi'i godi droeon o'r blaen.

Mae GIG Cymru ei hun wedi cyhoeddi bod ein deiet a bod dros bwysau neu’n ordew yn cael llawer mwy o effaith na’r defnydd o dybaco. Wrth i gyfraddau ysmygu ostwng, mae nifer y bobl sydd dros bwysau, ac yn ordew yn enwedig, yn cynyddu. Dylem ganolbwyntio ar y materion pwysicach hyn, gan y bydd ein hiechyd yn parhau i ddirywio oni bai ein bod yn trin problemau eraill gyda’r un brwdfrydedd. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mabon ap Gwynfor, John Griffiths ac Altaf Hussain am gyflwyno’r ddadl Aelodau hon heddiw, ac am y pwyntiau a wnaed am dybaco a nicotin. Bydd yr Aelodau’n cofio’r datganiad a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ychydig dros bythefnos yn ôl, lle nododd y mesurau ym Mil Tybaco a Fêps y DU a fydd yn berthnasol i Gymru.

Cyn imi droi at y Bil, rwyf am ailadrodd rhai o’r ffeithiau syfrdanol am ysmygu. Cododd Mabon hynny yn ei ddatganiad agoriadol, a chredaf ei bod bob amser yn bwysig cofio’r ffeithiau llwm hynny. Dylem eu cofio bob amser. Ysmygu yw prif achos niwed a marwolaethau y gellir eu hosgoi yng Nghymru o hyd. Mae ysmygu yn niweidio bron i bob organ o'r corff, ac yn unigryw, mae'n niweidio nid yn unig yr ysmygwr, ond y bobl o'u cwmpas. Mae’n cael effaith ddinistriol ar ein hiechyd, ni waeth beth fo'n hoedran, ac rwy’n falch fod Altaf wedi gallu sôn am shisha yn ei gyfraniad.

Mae’r Bil yn parhau i wneud ei ffordd drwy Senedd y DU, a rhoddodd Prif Swyddog Meddygol Cymru dystiolaeth yn ystod y Cyfnod Pwyllgor am bwysigrwydd y cynigion i Gymru. Mae'n darparu cyfle unigryw i gymryd camau pendant i ryddhau cenhedlaeth rhag caethiwed i nicotin a thybaco. Mae’r Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i gryfhau’r system orfodi drwy gyflwyno dirwyon yn y fan a'r lle am werthu tybaco a chynhyrchion fêps i rai dan oed yng Nghymru a Lloegr, a fydd yn galluogi swyddogion safonau masnach i weithredu'n fwy cyflym pan fo angen.

Rwy'n bendant nad y mesurau yn y Bil yw'r unig gamau y mae angen inni eu cymryd yn ein brwydr barhaus i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Fel y trafodwyd heddiw, mae darpariaethau yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 sydd wedi dod i rym. Enillwyd y darpariaethau hyn drwy waith caled ac maent yn rhoi arfau pwysig i ni eu defnyddio. Ond mae'n bwysig cydnabod ein bod wedi gwneud cynnydd ar ddod â darpariaethau eraill yn y Ddeddf bellgyrhaeddol hon i rym, megis diogelu pobl ifanc rhag tyllu cosmetig amhriodol, asesiadau o anghenion fferyllol a darparu strategaethau toiledau lleol. Fel rhan o'n hymdrechion i ddadnormaleiddio ysmygu, gwnaethom dir ysgolion, meysydd chwarae a thir ysbytai yn ddi-fwg yn 2021, ac rydym yn datblygu rheoliadau ar hyn o bryd i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru drwy wreiddio'r defnydd o asesiadau o'r effaith ar iechyd.

Ceir rhannau eraill o'r Ddeddf lle mae pwerau ar gael i gryfhau ein dull o weithredu ar dybaco a fêps, yn enwedig cyflwyno cofrestr o fanwerthwyr, sydd eto i ddod i rym. Fel y gwyddom, mae'r diwydiant hwn yn symud yn gyflym. Rydym wedi parhau i adolygu’r polisi hwn ac rydym yn trafod yn rheolaidd gyda rhanddeiliaid yr hyn sydd ei angen arnynt. Rydym wedi darparu cyllid i Safonau Masnach Cymru i weithredu camau gorfodi ar fêps anghyfreithlon, wedi hyfforddi swyddogion ac wedi codi ymwybyddiaeth o effaith cynhyrchion anghyfreithlon ar ein cymunedau. Ond mae cyflwyno Bil Tybaco a Fêps y DU yn newid y dirwedd yr ydym yn gweithio ynddi.

Bydd angen inni ystyried hefyd—[Torri ar draws.] Iawn.

16:00

Diolch. Rwy'n chwilfrydig i wybod yr ateb i'r cwestiwn—oherwydd roeddwn i fyny yn y swyddfa cyn meddwl wrthyf fy hun—os cytunir ar y materion y mae Mabon yn eu cynnig i'r Senedd, yna gyda deddfwriaeth Llywodraeth y DU, a yw hynny wedyn yn creu system ddyblyg yng Nghymru, a'n bod yn gweld gwahaniaeth mewn deddfwriaeth ysmygu a gwahaniaethu ar draws gwledydd y DU? Oherwydd os ydym yn edrych ar ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus bwysig, rhaid inni fabwysiadu dull cyffredinol fwy neu lai er mwyn atal unrhyw ffordd o osgoi cydymffurfio, os mynnwch, o fewn y systemau hynny, fel y gellir cyflawni beth bynnag y cytunir arno ar sail gyffredinol, lle mae pawb yn gwybod lle maent yn sefyll a bod y wybodaeth yn gyffredinol ac yn hawdd ei deall.

Diolch, Gareth. Fel Llywodraeth, rydym yn glir fod yn rhaid inni ystyried ein holl opsiynau i gefnogi ein huchelgais i fod yn Gymru ddi-fwg, ac mae hyn yn cynnwys ystyried a ydym am ddatblygu system drwyddedu, neu a ydym yn bwrw ymlaen â gweithredu'r gofrestr o fanwerthwyr. Fel y gwyddoch, mae'r Bil Tybaco a Fêps yn mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd a disgwylir iddo newid y dirwedd yn sylweddol. Mae hefyd yn bwysig cydnabod y gwahaniaeth rhwng safbwyntiau ar hyn o bryd, a'r hyn y bydd ei angen yn y dyfodol. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn edrych arno.

Bydd angen inni ystyried unrhyw ddiwygiadau i'r Bil, ac roedd un ohonynt yn cynnig cyflwyno'r cynllun trwyddedu, ac ystyried yr argymhellion yn adolygiad annibynnol Khan i gefnogi cymdeithas ddi-fwg. Os bydd y Bil yn pasio, boed wedi'i ddiwygio ai peidio, bydd yn rhoi hyd yn oed mwy o offer i ni i gefnogi ein huchelgais i wneud Cymru'n ddi-fwg. Oherwydd y dirwedd ddeddfwriaethol newidiol hon, rydym wedi penderfynu gohirio gweithredu'r meysydd sy'n weddill o'r Ddeddf iechyd cyhoeddus mewn perthynas â thybaco. Fodd bynnag, byddwn yn cynnal adolygiad llawn o'n hoffer deddfwriaethol yn ein cynllun cyflawni nesaf ar reoli tybaco, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Mae'n ddigon posibl y bydd y gofrestr o fanwerthwyr yn offeryn gorfodi effeithiol, ac mae fy swyddogion ar hyn o bryd yn trafod ac yn dysgu o'r dulliau gweithredu mewn mannau eraill, gan gynnwys yr Alban, lle mae cofrestr o fanwerthwyr ar waith.

O ran rhan arall y cynnig ar ymgyrch gyfathrebu, rwy'n cytuno ei fod yn rhan hanfodol o'n dull gweithredu ac yn faes y mae fy swyddogion yn parhau i weithio arno gyda gwledydd eraill y DU. Rydym am i ddefnyddwyr a manwerthwyr yng Nghymru fod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i'r gyfraith mewn perthynas â thybaco a fêps, ac fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fis diwethaf, byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith ar reoli gwerthiant a defnydd o tybaco a fêps, sydd mor bwysig er mwyn diogelu pobl ifanc ac iechyd y cyhoedd. Diolch yn fawr. 

16:05

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma. Mae wedi bod yn ddifyr iawn, ac ar y cyfan, mae'r Senedd i'w gweld yn gefnogol, a dwi'n edrych ymlaen i weld y Senedd yma a'r Siambr yn pleidleisio, gobeithio, i gefnogi'r cynnig.

Fe ddechreuaf gyda phwynt Gareth. Cyflwynodd y dadleuon libertaraidd ynglŷn ag ysmygu. Yn gyntaf oll, yn ystod eich cyfraniad, fe ddywedoch chi eich bod eisiau gweld, er enghraifft, bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth yn cael eu rheoli. Nid yw hynny'n cyd-fynd â'ch dadleuon libertaraidd ar ysmygu. Os ydych chi am i bobl gael mynediad at ysmygu drwy eu hewyllys rydd eu hunain, dylent allu defnyddio'r ewyllys rydd honno i fwyta bwyd wedi'i brosesu'n helaeth. 

Mae'n amlwg fod gwahaniaeth rhwng ysmygu a bwyd wedi'i brosesu'n helaeth. Y gwahaniaeth yw bod sigaréts a chynhyrchion ysmygu wedi cael eu trethu'n sylweddol gyda chynnydd mewn prisiau dros gyfnod cynyddrannol dros nifer o flynyddoedd, ond mae bwyd wedi'i brosesu'n helaeth yn rhad iawn. Nid wyf yn galw am godi prisiau, dim ond am fwyd o ansawdd gwell sy'n fwy hygyrch i bobl, fel y gall unrhyw un, beth bynnag y bo'u cefndir na'u cyllideb, gael gafael ar fwyd o ansawdd da.

Felly efallai y dylem anelu at gael sigaréts o ansawdd gwell, neu fêps o ansawdd gwell. Mae arnaf ofn nad yw'r ddadl yn dal dŵr. Rydych chi hefyd wedi dweud bod y frwydr eisoes wedi'i hennill, ond dywedwch hynny wrth y 5,600 o bobl sy'n marw yng Nghymru bob blwyddyn o ganlyniad i ysmygu. Dywedwch hynny wrth eu teuluoedd—degau o filoedd o bobl sy'n dioddef profedigaeth oherwydd ysmygu.

Diolch, Mabon. Mae'n rhaid inni ddal i gofio bod ysmygu'n gyfreithlon. Nid yw'n anghyfreithlon, ac fel y dywedais yn fy sylwadau, mae'n ddewis gwybodus, oherwydd os ydych chi dros oedran penodol, rydych chi wedi dysgu o oedran eithaf ifanc yn yr ysgol fod ysmygu'n ddrwg i'ch iechyd. Mae pawb yn derbyn hynny. Rwy'n deall hynny. Bûm yn gweithio yn y GIG am 11 mlynedd. Rwy'n deall goblygiadau iechyd ysmygu yn iawn. Felly, mae'n ddewis gwybodus, oherwydd maent wedi bod yn ymwybodol o'r goblygiadau iechyd o oedran eithaf ifanc erbyn hyn.

Diolch, Gareth. Mae arnaf ofn ei bod yn ymddangos yn ddadl ddryslyd, ond serch hynny, rwy'n pryderu eich bod wedi camddeall y cynnig beth bynnag. Nid yw'r cynnig yn ymwneud ag effeithio ar hawl pobl i ysmygu. Mae'n ymwneud â chyflwyno cofrestr o fanwerthwyr fel y gallwn reoli pwy sy'n gwerthu tybaco a chynhyrchion nicotin. Bydd pobl yn dal i allu prynu'r cynhyrchion hynny. Felly, gobeithio y bydd hynny'n eich argyhoeddi mai'r cynnig yw'r ffordd iawn i fynd, oherwydd nid yw'n effeithio ar eich pryderon libertaraidd.

Fel y dywedais, mae ysmygu yn lladd 5,600 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn. Gwnaeth John Griffiths ac Altaf Hussain bwynt o egluro sut mae ysmygu yn dal i effeithio ar fywydau pobl, ac fe wnaethant hynny'n gryf iawn. Rydym hefyd yn gwybod ei fod yn costio dros £300 miliwn i'r GIG bob blwyddyn. Ysmygu sydd i gyfrif am 5 y cant o'r holl dderbyniadau i'r ysbyty. Dyna effaith ysmygu, a dyna beth mae'r cynnig hwn yn anelu at geisio ei leihau a'i helpu. 

Hefyd, diolch i John Griffiths, a gyfeiriodd at waith y grŵp trawsbleidiol. Mae'r grŵp trawsbleidiol wedi bod yn gwneud gwaith ardderchog, ac rwy'n diolch iddo am hynny. Fe sonioch chi am ysgolion yn eich cyfraniad, John, fel y gwnaeth Heledd, a'r effaith ar ysgolion, a'r ffaith bod llawer o blant ifanc bellach yn dechrau fepio—fepio yn enwedig, sy'n eu harwain ymlaen at ysmygu sigaréts. Drwy gyd-ddigwyddiad, roedd gennyf ddwy ysgol o fy etholaeth yma ddoe, Treferthyr a Llanystumdwy. Siaradais â nhw am y cynnig arfaethedig, ac roeddent yn cytuno gant y cant ynghylch yr angen am gofrestr o fanwerthwyr. Roeddent yn dweud eu bod yn adnabod plant a brodyr a chwiorydd a oedd yn fepio, a'u bod yn gweld y budd y gallai'r cynnig hwn ei greu. 

Roedd y Gweinidog yn iawn i ddiolch i Altaf am gyfeirio at shisha. Rwyf wedi gweld pobl yn ysmygu shisha ac yn meddwl, oherwydd ei fod yn mynd drwy ddŵr, ei fod yn ei wneud yn well rywsut, heb sylweddoli'r effaith ar eu hiechyd. Ac fel y dywedwch, mae effaith un sesiwn shisha yn cyfateb i ddwsinau o sigaréts. Byddai'r cynnig hwn yn helpu i drwyddedu'r caffis a'r bariau hynny hefyd, felly diolch am eich cefnogaeth, Altaf. 

Weinidog, diolch am yr ymateb. At ei gilydd, rwy'n credu bod cefnogaeth gyffredinol i'r egwyddor. Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet oddeutu tair wythnos yn ôl y byddai'n barod iawn o ran egwyddor i ystyried a yw hyn yn rhywbeth y gallent edrych arno fel Llywodraeth. Mae'n ymddangos bod hynny wedi ei lastwreiddio ers hynny, oherwydd yn eich ymateb, Weinidog, fe ddywedoch chi fod pethau wedi newid nawr—rwy'n credu ichi ddweud bod y tirlun wedi newid oherwydd y Bil newydd arfaethedig.

Rwy'n gwybod eich bod wedi sôn y byddai'r Bil yn caniatáu dirwyon yn y fan a'r lle, sy'n dda, ond byddai cael cofrestr o fanwerthwyr hyd yn oed yn well. Ni fyddai angen y dirwyon yn y fan a'r lle o reidrwydd. Ni fyddai angen ichi erlid pobl i lawr y stryd. Ni fyddai'n rhaid ichi edrych am bobl. Fe fyddech chi'n gwybod lle roedd y cynhyrchion yn cael eu gwerthu. Fe fyddech chi'n gwybod pa bobl oedd â thrwydded i werthu'r cynhyrchion hyn.

Ac onid yw'n eironig fod gennym system ar waith sy'n trwyddedu gwerthu alcohol, ymhlith pethau eraill, ond nid tybaco a nicotin, sydd yr un mor beryglus os nad yn fwy felly mewn rhai achosion? Rwy'n pryderu hefyd ichi ddweud eich bod wedi cyllido Safonau Masnach Cymru i wneud gwaith gorfodi. Unwaith eto, ni fyddai angen ichi ariannu'r elfennau hynny pe bai gennych gofrestr o fanwerthwyr, oherwydd gallai safonau masnach fonitro pwy yn union sy'n gwerthu tybaco a chynhyrchion nicotin.

Wedyn, fe ddywedoch chi eich bod chi'n gohirio gweithredu oherwydd y Bil newydd. Rwy'n ofni nad wyf yn derbyn hynny, oherwydd mae'r gallu wedi bod gennym i gyflwyno cofrestr o fanwerthwyr ers 2017, ymhell cyn y Bil fepio arfaethedig yn San Steffan. Felly, mae dadl gref yma o hyd dros gael y Llywodraeth i gyflwyno cofrestr o fanwerthwyr. Rwy'n credu bod y ddadl wedi'i chyflwyno'n dda gan bawb yma heno, felly carwn annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig heno. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. 

16:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 'Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol'

Eitem 6 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 'Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Russell George, i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8581 Russell George

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol’, a osodwyd ar 6 Rhagfyr 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i. Bob blwyddyn, mae tua 1,200 o bobl yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol yng Nghymru. Mae'r gyfradd achosion ar gyfer canser gynaecolegol yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd y DU ac felly hefyd y gyfradd farwolaethau. Yn anffodus, mae tua 470 o bobl yn marw o ganser gynaecolegol yng Nghymru bob blwyddyn. Fel Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cytunwyd y dylai iechyd menywod fod yn un o'n blaenoriaethau, a dyna pam y gwnaethom benderfynu cynnal ymchwiliad i ganser gynaecolegol a phrofiadau menywod â symptomau canser gynaecolegol.

Roedd y pwyllgor yn ffodus o gael cymorth yn ei waith gan fenywod hynod o ddewr, y gwn fod rhai ohonynt yn yr oriel heddiw, a oedd eisiau rhannu eu straeon a chael eu clywed. A gallwch weld peth o'u tystiolaeth mewn fideos yn y dogfennau ategol sydd ynghlwm wrth yr agenda heddiw. Hoffwn annog Aelodau nad ydynt wedi gweld y fideos hynny i wneud amser i'w gwylio, ond rwy'n eich rhybuddio eu bod yn bendant yn anodd eu gwylio. Rwyf eisiau achub ar y cyfle, er hynny, i dalu teyrnged i'w gonestrwydd, eu dewrder a'u penderfyniad i sicrhau bod newidiadau'n digwydd i'r ffordd y caiff iechyd menywod ei drin. 

Gan siarad yn bersonol, rwyf wedi bod yn Aelod ers 13 mlynedd ac wedi bod yn aelod o sawl pwyllgor gwahanol ac wedi bod yn rhan o ddwsinau o ymchwiliadau, ond byddwn yn dweud mai'r dystiolaeth a glywais drwy'r menywod dewr a siaradodd â ni oedd y dystiolaeth fwyaf pwerus ac emosiynol y deuthum ar ei thraws yn fy 13 mlynedd fel Aelod yma.

Nawr, roedd y dystiolaeth a glywsom yn ystod yr ymchwiliad hwn yn eithaf brawychus. Dywedodd y menywod a rannodd eu straeon gyda ni sut y teimlent nad oedd eu pryderon iechyd yn cael eu cymryd o ddifrif gan weithwyr iechyd proffesiynol a sut y caent eu trin ganddynt. Roedd y menywod yn gwybod bod rhywbeth o'i le ar eu cyrff, ond roeddent yn ei chael hi'n anodd cael unrhyw weithwyr iechyd proffesiynol i wrando arnynt. Roedd eu symptomau'n aml yn cael eu diystyru neu eu bychanu a gwnaed iddynt deimlo, weithiau, eu bod yn niwsans, a disgrifiwyd hyn i ni yn fwyaf cofiadwy fel dibwyllo meddygol.

Nawr, fe wnaeth ein hadroddiad 26 o argymhellion i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ogystal â hyn, manteisiodd y pwyllgor ar y cyfle i rannu ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i adroddiad ein pwyllgor gyda'n rhanddeiliaid, a hoffwn rannu peth o'u hadborth gyda chi.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn uchelgeisiol dros newid i iechyd menywod a merched. Fodd bynnag, byddwn yn awgrymu bod ei hymateb i'n hadroddiad yn brin o fanylder wrth flaenoriaethu anghenion penodol menywod. Mae'n amlinellu camau i gefnogi gwelliannau mewn gofal canser yn gyffredinol, gan gynnwys cynlluniau fel canolfannau diagnostig cyflym a rhaglenni adferiad amseroedd aros, ond mae yna ddiffyg camau gweithredu wedi'u targedu sy'n mynd i'r afael â'r heriau penodol sy'n wynebu menywod â chanserau gynaecolegol. Ac fe wnaeth Claire O'Shea, claf canser sydd wedi cael profiad o wasanaethau canser gynaecolegol yng Nghymru, y cyfarfu rhai ohonom â hi ychydig cyn y ddadl hon heddiw, unwaith eto—fe ddogfennodd ei phrofiadau ar fideo a dywedodd hyn wrthym: dywedodd wrthym ei bod wedi cael ei siomi'n fawr gan gywair a diffyg ymrwymiadau pendant i unrhyw newid trawsnewidiol a all ateb heriau ac anghenion menywod yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. Ac yn arwyddocaol, er i Ysgrifennydd y Cabinet dderbyn 24 o'n hargymhellion, naill ai'n llawn neu'n rhannol, nid yw ei hymateb yn ymrwymo i unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer gweithredu argymhellion y pwyllgor, nac i ailflaenoriaethu'r cyllid presennol at y diben hwn. Yn wir, bydd yr argymhellion y mae wedi'u derbyn yn cael eu gweithredu o fewn yr adnoddau presennol. Nawr, dywedodd Gofal Canser Tenovus wrthym fod hyn yn anfon neges anffodus i fenywod yr effeithiwyd arnynt gan ganser gynaecolegol na cheir buddsoddiad i ddatrys y problemau a ddatgelwyd gan yr ymchwiliad, er ei fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a'r GIG. Yn yr un modd, dywedodd Claire O'Shea nad yw'n ymddangos bod uchelgais a'r adnoddau angenrheidiol ar gael i gyd-fynd â'r rhethreg fod iechyd menywod yng Nghymru yn flaenoriaeth.

Nawr, hoffwn dynnu eich sylw at sylwadau agoriadol ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i adroddiad ein pwyllgor, a oedd yn nodi:

'bod y mwyafrif helaeth o'r rhai sy'n derbyn gofal canser gynaecolegol yn adrodd lefelau uchel o fodlonrwydd cleifion â gwasanaethau'r GIG yn gyson.'

Mewn ymateb i'r datganiad hwn cafwyd cryn syndod a siom gan nifer o'n rhanddeiliaid a deimlai nad oedd hyn yn cynrychioli eu profiadau nhw na'u teuluoedd. Dywedodd Claire O'Shea wrthym: 'Fel claf, ni ofynnwyd i mi ar unrhyw adeg am fy lefelau bodlonrwydd â'r gwasanaethau a dderbyniais'. A dywedodd Sioned Cash, y bu farw ei mam Judith Rowlands yn fuan ar ôl i'w thystiolaeth fideo gael ei dangos yn y pwyllgor, fod gwneud yr honiad hwn ar ddechrau ei hymateb yn gosod y cywair i weddill yr adroddiad fod yn un nad yw'n ystyried fod yna unrhyw broblemau. Felly, rwy'n gobeithio, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn ystyried y sylwadau hyn ac yn cynnig sicrwydd i'r menywod a rannodd eu profiadau gyda ni y bydd y newidiadau mawr eu hangen a argymhellir yn ein hadroddiad yn cael eu gwireddu.

Rwyf am siarad nawr am rai o'r pwyntiau a'r argymhellion yn ein hadroddiad. Yn 2019 argymhellodd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr y dylai pedair gwlad y DU gyhoeddi cynllun iechyd menywod i fynd i'r afael â meysydd lle nad oedd angen yn cael ei ddiwallu mewn perthynas ag iechyd menywod. Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei chynllun ym mis Awst 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei strategaeth iechyd menywod ar gyfer Lloegr ym mis Awst 2022. Nid oes gan Gymru gynllun iechyd menywod o hyd, ac yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n dweud y bydd y cynllun hwn yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn galendr, ond mae hynny'n dal i fod oddeutu saith mis i ffwrdd, felly hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet nodi pam yn ei sylwadau heddiw—pam ein bod ni gymaint ar ei hôl hi yng Nghymru?

Yn ein hadroddiad, argymhellwyd bod cynllun iechyd menywod yn cynnwys ffocws penodol ar ganser gynaecolegol, a'r nod oedd helpu i wella anghydraddoldebau iechyd menywod trwy godi ymwybyddiaeth ynghylch y problemau, gwella mynediad at ofal iechyd a gwella canlyniadau canser i fenywod sy'n cael diagnosis o ganser gynaecolegol. Felly, mae'n siomedig fod y Gweinidog wedi dewis peidio ag ymrwymo'n llawn i gynnwys ffocws penodol ar ganser gynaecolegol o fewn y cynllun. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu esbonio'r rhesymeg y tu ôl i'w phenderfyniad yn hynny o beth.

Mae adroddiad y pwyllgor yn trafod pwysigrwydd cyllid ar gyfer ymchwil canser gynaecolegol, ac yn ystod ein hymchwiliad clywsom nad yw ymchwil yn y maes hwn wedi'i flaenoriaethu'n ddigonol o dan y trefniadau presennol, a bod anghenion penodol menywod yn cael eu hanwybyddu o blaid ariannu ymchwil i fathau eraill o ganser. Felly, mae'n anodd gweld yn union o ymateb Ysgrifennydd y Cabinet sut y bydd ymchwil canser gynaecolegol yn cael ei flaenoriaethu yn y dyfodol, yn enwedig pan fo Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud na fydd unrhyw gyllid penodol ar gael yn y maes hwn. Afraid dweud, wrth gwrs, fod yr ymateb wedi esgor ar gryn siom a phryder ar ran ein rhanddeiliaid, a oedd yn teimlo bod hwn yn gyfle a gollwyd.

Nawr, rydym yn deall y gwneir diagnosis o nifer o achosion canser bob amser  trwy dderbyniadau brys. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae'r ffigur hwn yn annerbyniol o uchel, ac yn ystod ein hymchwiliad clywsom y gall derbyn diagnosis o ganser mewn lleoliad brys fod yn llethol i gleifion a'u teuluoedd, gydag adrannau damweiniau ac achosion brys heb eu paratoi ar gyfer cefnogi cleifion i ymdopi â'r diagnosis. Mae nifer y menywod sy'n cael diagnosis o ganser gynaecolegol yn sgil eu derbyn i adrannau damweiniau ac achosion brys yn awgrymu bod rhywbeth o'i le mewn gofal sylfaenol, ac rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol i gyrff iechyd flaenoriaethu ymdrechion i ddeall a mynd i'r afael â'r ffactorau sy'n cyfrannu at ymgyflwyniadau brys â chanser gynaecolegol. Dyna pam yr argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad brys o'r ymgyflwyniadau hyn. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethoch chi wrthod yr argymhelliad hwn hefyd, gan ddweud nad oes digon o adnoddau i gynnal adolygiad ffurfiol. Nawr, fel y dywedwch yn eich ymateb, gall ymgyflwyniadau brys o ganserau arwain yn aml at ganlyniad israddol i gleifion, felly gyda hyn mewn golwg, rwy'n gobeithio y gallwch ymrwymo i archwilio opsiynau eraill ar gyfer cynnal adolygiad o'r fath o fewn yr adnoddau sydd ar gael.

Yn olaf, rwyf am siarad am effaith barhaol y pandemig a'r angen i'r gwasanaethau sy'n gysylltiedig â chanser gynaecolegol a gollwyd yn ystod yr amser hwnnw gael eu hadfer. Ysgrifennydd y Cabinet, fe wrthodoch chi ein hargymhelliad ar hyn hefyd. O'r dystiolaeth a glywsom, mae'n amlwg fod problemau hirsefydlog mewn gwasanaethau canser gynaecolegol a oedd yn rhagddyddio COVID-19. Mae amseroedd aros am driniaeth yn hir, ac mae cydymffurfiaeth â thargedau llwybr canser sengl ymhlith yr isaf o'r holl ganserau a gofnodwyd. Clywsom hefyd am broblemau capasiti sylweddol, gan gynnwys prinder adnoddau, cyfleusterau a gweithlu, felly mae'n sicr y dylem anelu fan lleiaf oll at gael gwasanaethau yn ôl i'r lefel cyn COVID.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae eich ymateb yn amlinellu bwriad polisi i drawsnewid y ffordd y mae llwybrau cleifion a chlinigau'n cael eu trefnu a'u darparu i gyflawni targedau amseroedd aros canser. Rydych chi'n dweud efallai na fydd y model gwasanaeth clinigol cyn y pandemig yn addas o ystyried cymhlethdod cynyddol darparu gwasanaethau a chapasiti cyfyngedig. Felly, a allwch chi roi mwy o fanylion i ni ynglŷn â sut olwg fydd ar y trawsnewid hwn a sut y bydd yn helpu i wella amseroedd aros canserau gynaecolegol a sut y bydd y trawsnewid hwn yn mynd i'r afael â'r pwyntiau a wnaed gan Gymdeithas Canser Cynaecolegol Prydain ynghylch yr angen i wasanaethau fod yr un mor hygyrch a chael eu darparu'n unffurf ledled Cymru?

Rwy'n mynd i orffen fy sylwadau yno, ac fe wnaf sylwadau eraill yn yr amser sydd gennyf ar ôl ar gyfer sylwadau i gloi, ond rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau yn y ddadl hon y prynhawn yma.

16:20

Wel, dwi am ddechrau fy nghyfraniad i'r drafodaeth hon drwy ategu yr hyn ddywedodd y Cadeirydd, Russell George, rŵan a dweud bod yr ymchwiliad yma ymhlith yr ymchwiliadau mwyaf dirdynnol ac emosiynol yr ydw i wedi bod yn rhan ohonynt yn ystod fy nhair blynedd yn y Senedd. Mae'n amlwg i mi ac i bawb oedd yn rhan o'r ymchwiliad, a gobeithio i bawb sydd yma heddiw, ein bod ni'n gadael merched Cymru i lawr yn ddifrifol. O'r ymwybyddiaeth, y diagnosis, triniaeth a phob cam ar hyd y daith, dŷn ni'n gadael llawer gormod o’n chwiorydd i lawr ac mae'n rhaid newid hyn. Dwi am atseinio yr hyn mae Russell wedi'i ddweud a mynegi fy niolch diffuant at bawb a fu’n rhan o'r ymchwiliad, ac estyn fy nghydymdeimladau dwysaf a diolch i deulu Judith Rowlands, a fu farw ar ôl cyflwyno ei thystiolaeth.

Roedd y dystiolaeth yn dorcalonnus—o'r frwydr gyson yr oedd merched yn gorfod mynd drwyddo er mwyn cael gwrandawiad, yn cael eu hanwybyddu, a’u gwneud i gredu eu bod nhw'n hypochondriacs neu'n niwrotig, er eu bod nhw'n byw yn gwybod bod yna broblem, o'r ffordd yr oedden nhw'n cael eu diystyru ac yn gorfod derbyn diagnosis yn llawer iawn rhy hwyr, a sut mae bywydau o ganlyniad wedi cael eu torri yn fyr, a theuluoedd yn colli eu hangor. Fel y dywedodd Tenovus wrth y pwyllgor, mae'r rhain yn broblemau strwythurol, ac mae angen atebion strwythurol arnyn nhw.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn llawer o argymhellion y pwyllgor, ond a gaf i awgrymu ei bod hi'n sgandal nad yw argymhellion yr adroddiad hwn wedi eu derbyn yn llawn, argymhellion sydd, fel yr awgrymais, wedi'u seilio ar brofiad go iawn menywod a gafodd gam gan ein system iechyd? Dyma'r lleiafswm sydd ei angen i sicrhau'r math o newid strwythurol y mae angen inni ei weld.

Fel sy'n digwydd mor aml, mae'n ymddangos i mi fod methiant yma ar ran Llywodraeth Cymru i gydnabod maint y broblem—y cam cyntaf angenrheidiol ar unrhyw daith i'w datrys. Mae'r ffaith mai ymateb greddfol y Llywodraeth yw honni bod mwyafrif y bobl yn hapus gyda'r gwasanaeth yn golygu bod y menywod hyn yn cael eu dibwyllo ddwywaith. Nid yn unig eu bod yn cael gwybod nad ydynt yn deall beth sydd o'i le arnynt gan yr arbenigwyr iechyd, ond i waethygu pethau, cânt glywed yr un peth nawr gan y Llywodraeth hon. Mae'n sarhad eithafol, a dylai'r Llywodraeth fod â chywilydd o fod wedi cyhoeddi ymateb o'r fath.

Mae'n werth ailadrodd bod cydymffurfiaeth â tharged llwybr canser sengl ar ei hisaf ar gyfer canserau gynaecolegol; mae'r ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain. Hoffwn gyfiawnhad cliriach, er enghraifft, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn barod i weithio gyda'r byrddau iechyd i sicrhau bod gwasanaethau a gollwyd yn ystod pandemig COVID yn cael eu hadfer ar frys. Yn ei thystiolaeth i'r ymchwiliad, roedd Dr Louise Hanna o grŵp safle canser gynaecolegol Rhwydwaith Canser Cymru yn gwbl glir ynghylch yr angen i arolygu yng Nghymru pa wasanaethau a gollwyd oherwydd COVID, ac y byddai adfer y gwasanaethau hynny yn ofyniad sylfaenol absoliwt.

Yn fwy penodol, rwy'n arswydo bod Llywodraeth Cymru yn parhau i lusgo ei thraed ar gynllun iechyd menywod. Tynnwyd sylw at yr angen am gynllun o'r fath gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr yn 2019. Cyhoeddwyd un yr Alban ym mis Awst 2021, a chyhoeddodd Llywodraeth y DU ei strategaeth iechyd menywod ar gyfer Lloegr ym mis Awst 2022. Er gwaethaf addewidion parhaus gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, yng Nghymru rydym yn dal i aros am gynllun iechyd menywod. Yn fwy diweddar, mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi ceisio osgoi cyfrifoldeb y Llywodraeth dros gyflawni'r cynllun drwy fynnu mai mater i'r GIG ydyw:

'Ni allaf benderfynu beth maent yn mynd i'w wneud, am mai eu cynllun nhw ydyw—cynllun y GIG. Rwy'n gwneud y datganiad ansawdd, nhw sy'n ei gyflawni.'

Yn anffodus, mae hyn yn rhan o batrwm ailadroddus, lle mae Gweinidogion iechyd Cymru yn gyson wedi ceisio osgoi cyfrifoldeb am broblemau sy'n rhan bendant o'u briff. A dywedwyd wrthym hefyd, os a phan fydd yn ymddangos o'r diwedd, na fydd cynllun iechyd menywod Cymru yn cynnwys ffocws penodol ar ganserau gynaecolegol. Nid oes dim o hyn yn ddigon da.

Dwi am orffen drwy ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet edrych eto ar yr argymhellion sydd wedi eu gwneud ac mae hi wedi’u gwrthod, ac i ailystyried hyn, a gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet pryd fydd cynllun iechyd merched Cymru yn cael ei gyhoeddi, ac iddi sicrhau bod canserau gynaecolegol yn cael y sylw priodol yn y cynllun hwnnw. Diolch yn fawr iawn.

16:30

Hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd, fy nghyd-aelodau o’r pwyllgor a'r clercod am gynnal yr ymchwiliad hwn. Rwy’n falch o’r adroddiad trylwyr a hanfodol a gynhyrchwyd gennym. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i Judith Rowlands, nad yw gyda ni mwyach. Roedd tystiolaeth Judith o'i phrofiad bywyd yn dorcalonnus a phwerus ac yn allweddol wrth inni gynhyrchu ein hadroddiad. Rwy'n cydymdeimlo â’i merch, Sioned Cash, yn ogystal â theulu a ffrindiau Judith, a diolch, Sioned, am ymateb i ymateb Llywodraeth Cymru ar ran eich mam.

Mae Claire O'Shea yma yn yr oriel heddiw gyda ni, Ddirprwy Lywydd. Mae Claire yn ffrind i mi, ac mae llawer ohonom yn y Siambr yn ei hadnabod, ac ar hyn o bryd, mae'n cael triniaeth cemotherapi i ymestyn ei bywyd, er iddi wneud popeth yn iawn, fel y dywedant—'popeth yn iawn'—gan gynnwys gofalu am ei hiechyd, ymgyflwyno'n gynnar â symptomau, ceisio trefnu rhagor o apwyntiadau pan gafodd ei diystyru a chael gafael ar ei chofnodion meddygol ei hun i adolygu safonau gofal. Ar y cyd â Gofal Canser Tenovus, mae wedi lansio Ymgyrch Claire i roi mwy o lais i fenywod sy'n teimlo eu bod wedi cael eu hanwybyddu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan arwain at gamddiagnosis, gofal annigonol a chanlyniadau trasig. Dyna pam y rhoesom y teitl 'Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol' ar yr adroddiad, oherwydd, fel y mae Claire wedi'i grynhoi, mae menywod â chanser yn aml heb lais ac yn cael eu troi ymaith, eu bychanu a'u camddiagnosio gan feddygon teulu.

Mae rhagfarn ar sail rhywedd wedi golygu bod llawer o bryderon menywod wedi'u priodoli i faterion emosiynol neu seicolegol, oherwydd, yn hollbwysig, nid yw targed y llwybr lle'r amheuir canser y mae Llywodraeth Cymru yn cyfeirio ato, er mwyn sicrhau bod y rhan fwyaf o'u cleifion yn cael profion diagnostig am ganser mewn modd amserol ac yn dechrau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod o'r pwynt cyntaf lle'r amheuir canser, yn cael ei gyrraedd. Dim ond 34 y cant o ganserau gynaecolegol sy’n cyrraedd targed y llwybr lle'r amheuir canser, a gwn yn sicr nad yw’n cael ei gyrraedd ar gyfer menywod ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, gan eu bod yn cael eu hanfon i fwrdd iechyd Bae Abertawe ar hyn o bryd, ac rwyf wedi cael sicrwydd y byddant yn dod drosodd i fwrdd Cwm Taf Morgannwg cyn gynted â phosibl, ond mae hyn yn cymryd amser nad oes gan lawer ohonynt mohono. Rwy’n annog Ysgrifennydd y Cabinet i weithio gyda fy mwrdd iechyd i ac eraill i flaenoriaethu hyn. Rwy’n deall y gallai hyn fod oherwydd y gweithlu, recriwtio, adnoddau, ond dyna pam y byddai o fudd pe gallai’r rhanddeiliaid ofyn am adolygiad cynhwysfawr o’r gweithlu canser gynaecolegol yng Nghymru, fel y nodir yn argymhelliad 19. Os gwelwch yn dda, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam na chafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn?

Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i wella iechyd menywod. Y mis diwethaf, penodwyd arweinydd clinigol newydd i helpu i ysgogi gwelliannau ym maes iechyd menywod, gyda Llywodraeth Cymru yn dyrannu £750,000 i gomisiynu ymchwil sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar iechyd menywod. Ond pam na wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo felly i sicrhau bod hwnnw'n mynd tuag at ymchwil canser gynaecolegol yn benodol? Pam na dderbyniwyd yr argymhelliad hwnnw? A hefyd, nid yw'n gwneud synnwyr i lawer ohonom, yn ogystal â rhanddeiliaid, i beidio ag ymrwymo i gynnwys canser gynaecolegol yn y cynllun iechyd menywod a fydd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd y flwyddyn. Gwn fod byrddau iechyd yn datblygu’r cynllun, a hefyd bod angen peidio â dyblygu gwaith, felly oni ellir ymgorffori targed y llwybr lle'r amheuir canser—nid ei ddyblygu, ond ei gynnwys yn rhan o'r cynllun iechyd menywod, fel ei fod yn rhan o’r nod a rennir i fynd i’r afael â diagnosis hwyr ym maes iechyd menywod, a newid y naratif fod angen cadw canser gynaecolegol ar wahân, a’i fod yn cael ei ystyried yn rhy anodd neu’n rhy brin i'w ddiagnosio? Oherwydd, i’r gwrthwyneb, bob blwyddyn, mae bron i 1,000 o achosion o ganserau gynaecolegol yng Nghymru, a’r canserau hyn yw’r pedwerydd achos mwyaf cyffredin o farwolaethau canser ymhlith menywod yma yng Nghymru. Ond mae llawer yn cael diagnosis pan fyddant yn cyrraedd yr adran achosion brys, fel y soniodd Russell George, yn aml ar ôl misoedd—hyd yn oed blynyddoedd—o geisio cael meddyg teulu i'w hatgyfeirio am brofion.

Felly, roedd argymhelliad 15 yn wirioneddol hanfodol er mwyn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Rhwydwaith Canser Cymru i gomisiynu adolygiad brys o nifer yr achosion, tueddiadau a phoblogaethau risg uchel mewn perthynas ag ymgyflwyniadau brys gyda chanser gynaecolegol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes digon o adnoddau ar gael i gynnal adolygiad ffurfiol o fewn yr amserlen y gofynnwyd amdani. Os mai'r ffrâm amser y gofynnwyd amdani oedd y broblem, rwy'n ei gymryd yn ôl. Fe wnaethom nodi chwe mis gan ein bod am ei gwneud yn gwbl glir ei fod yn fater brys. Os mai dyna'r rhwystr, fe'i cymerwn yn ôl, gan fod Cymdeithas Canser Gynaecolegol Prydain, Sioned Cash a Tenovus wedi dweud bod angen gwneud hyn—pennwch ffrâm amser wahanol, ond gwnewch hyn, os gwelwch yn dda.

Ac felly, Ddirprwy Lywydd, rwyf am gloi drwy ddyfynnu Claire O'Shea mewn perthynas â'r defnydd o'r term 'symptomau amhendant', gan na chredaf y gall unrhyw un ei ddweud yn well:

'Mae gennyf gais ychwanegol i roi diwedd ar y defnydd o'r term 'symptomau amhendant'—mae'n rhaid inni ymbellhau oddi wrth yr iaith hon... Mae'r defnydd o 'amhendant' yn llawn ystyron ac mae'n creu amheuaeth. Mae'n amlwg fod symptomau a gaiff eu grwpio gyda'i gilydd fel rhai 'amhendant' yn aml yn symptomau o ganser Gynaecolegol neu ganserau eraill. Pe baem yn defnyddio iaith a oedd yn adlewyrchu hynny, efallai y byddai'r symptomau'n cael eu trin gyda difrifoldeb a brys.'

Claire, o'm rhan i, mae’n ddrwg calon gennyf eich bod chi a llawer o fenywod wedi cael cam, ac rwy’n annog pob un ohonom, a Llywodraeth Cymru, i sicrhau y bydd eich Ymgyrch Claire yn waddol parhaus ac yn newid y canlyniadau i genedlaethau o fenywod yn y dyfodol. Diolch.

16:35

Rwy’n sicr yn ddiolchgar i fy nghyd-Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl bwysig hon hyd yma. Diolch i’r pwyllgor, gan gynnwys y clercod a’r Cadeirydd, Russell George, am y gwaith caled a wnaed ar yr adroddiad, ond yn sicr, hoffwn ymuno â fy nghyd-Aelodau i ddiolch i’r menywod a gyfrannodd eu profiadau eu hunain ar gyfer yr adroddiad hwn hefyd. Rwy'n ymwybodol iawn nad wyf ond wedi ymuno â'r pwyllgor iechyd ers pythefnos neu dair wythnos, ond roeddwn yn awyddus i gyfrannu heddiw a chydnabod pa mor bwysig yw'r adroddiad hwn. Rwy'n obeithiol y bydd yr adroddiad a'i gynnwys yn cael effaith gadarnhaol ar y ffordd yr eir i'r afael â chanser gynaecolegol yng Nghymru.

Ac efallai, cyn imi fynd ymlaen at y prif bwyntiau rwyf am eu codi, hoffwn gydnabod yr hyn y mae cyd-Aelodau wedi’i grybwyll ynglŷn â theitl yr adroddiad hwn. Fe’m trawodd wrth ei ddarllen mai geiriau cyntaf y teitl hwnnw yw ‘heb lais’. A chredaf mai dyna sy'n sail i lawer o'r hyn rydym yn sôn amdano yma heddiw, fod angen gwrando ar bobl, fod pobl, pan fyddant yn ymgyflwyno â symptomau—nid symptomau amhendant, ond symptomau clir, symptomau y mae angen siarad yn iawn amdanynt—yn cael eu clywed. Ac rydym eisoes wedi clywed ein cyd-Aelodau'n sôn am y gair 'dibwyllo', pobl yn cael eu gwneud i amau'r hyn y maent yn ei deimlo. Mae angen cael gwared â hynny’n gyfan gwbl o brofiad pobl pan fyddant yn ymweld â’u meddygon teulu neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill.

Ac ochr arall y geiniog i wrando, wrth gwrs, yw'r gwrando gan Lywodraeth Cymru, y mae ein cyd-Aelodau wedi'i godi yma heddiw hefyd. Rydym wedi cael llond bol ar ymateb tôn-fyddar, a dweud y gwir, yr hyn a welwn yma heddiw. Ac rwy’n mawr obeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet, a hithau yma heddiw, yn clywed, ac nid yn unig yn clywed, ond yn gwrando ar y geiriau sy’n cael eu dweud, ac edrychaf ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r cyfraniadau hyn heddiw. Ond hoffwn ganolbwyntio ar un neu ddau o'r argymhellion a'm trawodd pan ddarllenais yr adroddiad, a'r argymhellion sydd naill ai heb eu derbyn o gwbl neu heb eu derbyn yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Byddaf hefyd yn mynd i'r afael â pham y credaf y dylid eu derbyn, ac i mi, maent yn argymhellion gweddol sylfaenol, gweddol syml i Lywodraeth eu derbyn.

Yr un cyntaf a’m trawodd oedd argymhelliad 4, a gafodd ei wrthod yn llwyr, a chrybwyllwyd hyn gan Russell George hefyd yn ei gyfraniad. Roedd yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithio gyda byrddau iechyd i sicrhau y gwneir asesiad o'r gwasanaethau sy’n gysylltiedig â chanserau gynaecolegol a gollwyd yn ystod y pandemig a sicrhau bod y gwasanaethau hynny’n cael eu hadfer yn gyflym. Mae'n fy nharo nad yw hwnnw'n argymhelliad anodd iawn i Lywodraeth ei dderbyn. Gwyddom fod y pandemig wedi cael effaith ddinistriol ar ddarpariaeth iechyd yng Nghymru a thu hwnt. Ni ellir gwadu hynny. Nid dyna’r mater yr ydym yn sôn amdano. Mae’r cyd-destun o amgylch y model gwasanaethau clinigol wedi newid, ond mae’r angen i adfer y capasiti clinigol hwnnw yno o hyd. Clywsom yn gynharach gan Russell George am nifer y bobl sy’n cael diagnosis o ganserau gynaecolegol, ac yn anffodus, mae oddeutu 470 ohonynt yn marw yng Nghymru bob blwyddyn. Dyfynnaf Dr Louise Hanna o Rwydwaith Canser Cymru, a alwodd am weithredu ar unwaith ar yr arolwg hwn i wybod pa wasanaethau a gollwyd oherwydd COVID a'u hadfer ar unwaith. A gwnaeth Dr Hanna y pwynt hefyd fod angen inni fynd y tu hwnt i hynny mewn gwirionedd, ond o leiaf, byddai gwneud y dadansoddiad hwnnw'n fan cychwyn i ddeall yr hyn a gollwyd a’r hyn sydd angen ei adfer.

Yr ail argymhelliad a’m trawodd, Ddirprwy Lywydd, oedd un sydd am i Lywodraeth Cymru weithio gyda gwahanol grwpiau, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar gyfres o ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth am symptomau canser gynaecolegol, sef argymhelliad 12. Nawr, fe'i derbyniwyd yn rhannol, a bod yn deg, ond mae pryderon nad yw ymgyrchoedd blaenorol wedi bod mor effeithiol ag y dylent fod, ac i ddyfynnu Gofal Canser Tenovus, dywedant nad oes fawr ddim cysondeb a chydgysylltu ar yr ymgyrchoedd hyn, ac maent hefyd wedi dweud

'am symiau cymharol fach o gyllid, gallai Llywodraeth Cymru, drwy Rwydwaith Canser Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill, ddatblygu amrywiaeth o ymgyrchoedd, ar-lein ac all-lein, wedi'u targedu at gynulleidfaoedd sydd mewn perygl.'

Felly, unwaith eto, mae argymhelliad eithaf syml yno a fyddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau menywod ledled Cymru, ac rwy'n ddryslyd pam nad oedd Llywodraeth Cymru yn teimlo y gallent dderbyn yr argymhelliad hwnnw hefyd, gan y gwyddom mai codi ymwybyddiaeth yw hanner y frwydr yn erbyn salwch o'r fath, ac mae ymgyrchoedd effeithiol yn golygu bod mwy o bobl yn ymwybodol o symptomau posibl, ac yn hollbwysig, y gallant gael eu harchwilio cyn i’r canser fynd yn rhy dreiddiol, ac mae hon yn ffordd gymharol syml o helpu i achub bywydau, a ffordd gymharol rad o helpu i achub y bywydau hynny hefyd.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn eich annog i ailystyried gwrthod argymhelliad 12 y soniais amdano yno yn rhannol, a gwrthod argymhelliad 4. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei waith, ac rwy'n ddiolchgar o allu ymuno â'r pwyllgor ar y pwynt hwn, ac yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi ystyriaeth i'r argymhellion hyn a amlinellais yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.

16:40

Diolch i’r pwyllgor; diolch i bawb a fu mor ddewr wrth rannu eich profiadau. Mae’n sefyllfa drist pan welwn fenywod yn cael eu gwthio’n ôl eto, yng Nghymru, lle mae pobl yn dweud wrthynt am fynd yn ôl i'w bocs, am beidio â chwyno, am beidio ag achwyn, gan fod gadael y broblem yn y tywyllwch yn golygu ei bod yn gwaethygu ac yn gwaethygu. Mae’r adroddiad hwn wedi taflu goleuni ar faes sy’n peri llawer o bryder, ac rwy’n diolch i’r pwyllgor, ond yn bennaf oll, rwy’n diolch am y profiadau dewr a gyflwynwyd i’r pwyllgor gan y menywod a roddodd dystiolaeth.

Y sefyllfa sydd ohoni yw ei bod mor heriol fod gormod o fenywod yn dioddef canser gynaecolegol. O ddiystyru eu symptomau i'r oedi annerbyniol cyn derbyn triniaeth, mae'r adroddiad hwn yn amlygu'r methiannau systemig na ellir eu hanwybyddu mwyach. Er hynny, mae'n ddigalon iawn fod ymateb Llywodraeth Cymru i'w weld braidd yn ddifater. Drwy dderbyn y rhan fwyaf o argymhellion pan fyddant yn niwtral o ran cost yn unig, ymddengys ein bod yn anwybyddu'r angen dybryd am fuddsoddiad ac ymchwil cadarn, gwasanaethau cymorth a diwygiadau cynhwysfawr. Yn anad dim, mae'n rhaid inni ail-bwysleisio pwysigrwydd cwblhau a chyhoeddi’r cynllun iechyd menywod hirddisgwyliedig ar gyfer Cymru. Ddwy flynedd yn ôl, cydnabu Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yr angen dybryd am gynllun o’r fath. Ac eto, ers hynny, mae anghenion gofal iechyd penodol menywod wedi bod mewn limbo, gyda Chymru ymhell y tu ôl i'r Alban a Lloegr, sydd wedi cyhoeddi eu cynlluniau. Sut y gallwn obeithio mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sydd wedi hen ymsefydlu ac sy’n amharu ar fenywod a’u hiechyd os na allwn gydgysylltu ein hymdrechion? Rwy’n annog Ysgrifennydd y Cabinet i ymrwymo nid yn unig i gyhoeddi’r cynllun cyn gynted â phosibl, ond i wrando ar leisiau’r menywod y mae’n bwriadu eu gwasanaethu a chynnwys ffocws clir a chynhwysfawr ar fygythiad canserau gynaecolegol.

Y tu hwnt i hyn, hoffwn dynnu sylw at dri maes. Yn gyntaf, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y diffyg ymwybyddiaeth brawychus ynghylch symptomau canser gynaecolegol. Fel y gŵyr pob un ohonom, gan fod diagnosis cynnar yn hollbwysig er mwyn achub bywydau, mae'n rhaid imi gytuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru fod ymgyrchoedd rheolaidd lluosog parhaus yn gwbl hanfodol. Mae’n rhaid inni weithio gyda sefydliadau cymunedol, gan sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael i’n holl gymunedau ym mha iaith bynnag, a sicrhau ei bod yn cyrraedd menywod sy’n anodd eu cyrraedd ar adegau. Nid yw postio'n achlysurol ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Llywodraeth yn ddigon da. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 12 yn awgrymu bod yr ymdrechion presennol yn ddigonol. Fodd bynnag, ceir prinder ymgyrchoedd cenedlaethol cyson, cydgysylltiedig wedi’u hariannu’n dda i godi ymwybyddiaeth, felly hoffwn annog Ysgrifennydd y Cabinet i fynd i'r afael â hynny.

Yn ail, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r gostyngiad yn y nifer sy'n manteisio ar ddarpariaeth sgrinio am ganser ceg y groth yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae'n 69.5 y cant, sy'n ddigalon. Mae'r duedd ar i lawr hon yn fygythiad difrifol i'n hymdrechion i atal a chanfod yn gynnar, ac ni allwn barhau i adael i hynny ddigwydd.

Yn olaf, hoffwn weld blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ofal lliniarol a gofal diwedd oes i fenywod â chanserau gynaecolegol. Mae’r realiti llwm fod y cleifion hyn yn dioddef 13 cysylltiad â gofal heb ei drefnu ym mlwyddyn olaf eu bywyd, bron i ddwbl y cyfartaledd ar gyfer y boblogaeth, yn dyst anffodus i annigonolrwydd y gofal cymunedol sydd ar gael. Byddwn yn croesawu eglurhad gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â pha ymdrechion rydych yn eu gwneud i gau’r bwlch gweithredu gyda gofal lliniarol a sut y bwriadwch weithredu a grymuso’r rhaglen yn llawn i oruchwylio’r gwaith o gyflawni’r datganiad hwnnw.

Yn y pen draw, ac yn olaf, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos ei bod yn benderfynol o ymateb i’r her a amlinellir yn yr adroddiad hwn ac ymdrechu i sicrhau dyfodol lle nad oes unrhyw fenyw yng Nghymru yn wynebu’r profiad dirdynnol o ganser gynaecolegol ar ei phen ei hun, yn anwybodus a heb gefnogaeth. Diolch yn fawr iawn.

16:45

Rwy’n wirioneddol ddiolchgar i Russell a’i bwyllgor am edrych ar hyn, ac rwyf am dalu teyrnged i bob un o’r menywod a’u teuluoedd sydd wedi rhoi tystiolaeth. Rwyf innau'n credu ei bod yn wirioneddol bwerus mai teitl yr adroddiad yw 'Heb lais’, gan fod canserau gynaecolegol yn dwyn bywydau gormod o fenywod, yn rhy aml, fel y clywsom eisoes, am na chafodd eu symptomau eu canfod tan ei bod yn rhy hwyr, neu am nad oedd meddygon yn gwrando ar bryderon menywod eu hunain. Nid yw lleisiau menywod yn cael hanner digon o sylw mewn perthynas â gofal iechyd, ac mae'n rhaid i hynny newid.

Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar ganser yr ofarïau, ond gwn fod yn rhaid sôn am ganserau'r groth, ceg y groth, y fwlfa, a'r wain hefyd. Rhan o'r broblem yw bod rhai o'r geiriau hynny'n cael eu hystyried yn dabŵs, braidd yn anghwrtais. Os yw hyd yn oed y geiriau ar gyfer y rhannau hynny o’r corff yn cael eu hystyried yn anghrybwylladwy, pa syndod fod rhai menywod yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r geiriau i siarad â’u meddyg am yr hyn sydd o’i le yn y mannau hynny? Ond fel y clywsom hefyd, mae llawer o fenywod yn gweiddi am eu symptomau, maent wedi dod o hyd i'r geiriau hynny, ond nid ydynt yn cael eu clywed, nid ydynt yn cael eu credu.

Dim ond 31 y cant o fenywod yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan sy’n cael diagnosis cynnar o ganser yr ofarïau, hynny yw, ar gamau 1 neu 2. Mae 69 y cant yn cael diagnosis hwyr, pan fo’r clefyd yn llawer anos ei drin. Mae mwy na 300 o fenywod ledled Cymru yn cael diagnosis o’r math hwn o ganser bob blwyddyn, ac mae oddeutu hanner y nifer honno'n marw o ganser yr ofarïau bob blwyddyn. Mae’r ffigurau hynny’n llwm. Rwy'n dyfynnu Target Ovarian Cancer, sydd wedi rhoi pecyn briffio i mi ar gyfer y ddadl hon.

Rwy'n cytuno â’r hyn a ddywedwyd: mae'n rhaid inni godi ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ofarïau ochr yn ochr â’r holl ganserau eraill hyn. Mae hynny'n amlwg yn wir pan fo 27 y cant o fenywod, dim ond 27 y cant, yn gallu nodi bol chwyddedig fel symptom o ganser yr ofarïau. Nawr, rwy’n cytuno ag ymgyrchwyr y bydd menywod yn marw os bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru aros i ragor o arian ddod ar gael i ariannu ymgyrch ymwybyddiaeth o symptomau. Beth arall y gellir ei wneud i annog mwy o fenywod i fod yn ymwybodol a theimlo y gallant siarad am eu symptomau? Mae cymaint o fenywod yn bychanu sut maent yn teimlo. Maent yn goddef gormod o boen. Mae arnynt ofn mynd at y meddyg. Mae'n rhaid inni newid hynny, neu unwaith eto, bydd rhagor o fenywod yn marw.

Mae yna lawer iawn o newidiadau ynghylch y ffordd yr awn ati i gyflawni sgrinio serfigol, yn enwedig, unwaith eto, mewn perthynas â derbyn poen menywod. Gwn fod adroddiad y pwyllgor yn dadlau dros wella'r wybodaeth a roddir i fenywod pan fyddant yn cael eu prawf ceg y groth. Unwaith eto, yn ôl Target Ovarian Cancer, mae 42 y cant o fenywod yng Nghymru yn credu, yn anghywir, y gall prawf ceg y groth ganfod canser yr ofarïau. Gallai’r dryswch hwnnw gostio bywydau, ac rwy’n falch fod y Llywodraeth wedi cytuno i ddiwygio’r wybodaeth a roddir i gleifion, gan fod cael y wybodaeth honno’n grymuso menywod. Os caiff canser yr ofarïau ei ddiagnosio'n gynnar ar gamau 1 neu 2, mae 93 y cant o fenywod yn goroesi am bum mlynedd neu fwy, ac mae’n disgyn i 13 y cant ymhlith y rheini sy'n cael diagnosis ar gam 4.

Nid yw pob meddyg teulu yn sylweddoli y gellir canfod symptomau'n gynnar gyda'r clefyd. Bydd chwarter y menywod sy’n cael diagnosis wedi ymweld â’u meddyg teulu deirgwaith neu fwy cyn iddynt gael eu hatgyfeirio am brofion. Nawr, nid wyf yn lladd ar feddygon teulu, maent yn gwneud gwaith gwych, ond mae angen inni sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth a'r hyfforddiant sydd ei angen arnynt i newid yr ystadegau hynny. Gadewch inni roi mwy o rym i feddygon teulu drwy gyflwyno addysg a hyfforddiant ar y symptomau hyn. Ysgrifennydd y Cabinet, a allem leihau'r amser y mae'n ei gymryd? Beth am wneud profion gwaed ac uwchsain ar yr un pryd, gan fod hwn yn ganser ffyrnig? Gall oedi rhwng y profion hynny wneud gwahaniaeth dinistriol.

Gellir dweud cymaint o'r hyn rwyf wedi'i ddweud am ganser yr ofarïau am y canserau gynaecolegol eraill hynny, y canserau eraill mewn rhannau o'r corff nad ydym yn siarad amdanynt, y rhannau o'n cyrff lle rydym yn fwy tebygol o anwybyddu poen, y rhannau o'n cyrff sy'n fwy lletchwith eu crybwyll. Mae yna ddihareb sy'n sôn sut y collwyd esgid am ei bod yn brin o hoelen. Os gwelwch yn dda, gadewch inni atal sefyllfa lle mae bywydau anwyliaid hefyd yn cael eu colli oherwydd diffyg geiriau, a diffyg gwrando ar eiriau.

16:50

Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon. Bu farw fy chwaer o ganser yr ofarïau, ac roedd hyn ar ôl tri achos gwahanol o ganser y fron. Mae'n llawer anos gwneud diagnosis o ganser yr ofarïau na'r dasg o hunanarchwilio eich bronnau. Mae digon o gamsyniadau diwylliannol ynghylch bronnau, ond mae llawer mwy o embaras ac anwybodaeth ynghlwm wrth y drafodaeth ynglŷn â sut olwg sydd ar fwlfa neu wain iach, fel y mae Delyth eisoes wedi nodi. Mae llawer o bobl, er enghraifft, yn methu mynychu apwyntiadau sgrinio canser ceg y groth am resymau tebyg, ac mae hyn yn arbennig o gyffredin ymhlith cymunedau ethnig leiafrifol, ac mae’r rhain yn faterion difrifol y mae angen i bob un ohonom eu cadw mewn cof.

Trafododd y grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod fater y pum canser hyn ym mis Rhagfyr 2022. Clywsom gan ddau dyst pwerus iawn a ysgogodd drafodaeth ddefnyddiol tu hwnt. Yn gyntaf, Athena Lamnisos, prif weithredwr The Eve Appeal, sy'n canolbwyntio ar atal, rhagfynegi risg a diagnosis cynnar. Ledled Cymru a Lloegr, mae 60 o bobl yn cael diagnosis o un o'r pum canser gynaecolegol hyn bob dydd o'r flwyddyn, a bydd 21 ohonynt yn marw. Felly, gwyddom fod diagnosis cynnar yn cynyddu’r gobaith o oroesi yn aruthrol, a dyna pam fod The Eve Appeal yn ymgyrchu i wneud menywod yn fwy ymwybodol o’u ffactorau risg eu hunain a rhoi sylw i’r hyn y mae eu cyrff yn ei ddweud wrthynt, a dyna pryd y gallant wynebu'r materion clinigol y mae llawer o bobl eisoes wedi sôn amdanynt.

Ein hail dyst oedd dyn o’r enw Jim Sweet—dyn hynod—yr oedd ei wraig, Sian, wedi marw o ganser yr ofarïau yn 48 oed. Roedd wedi cael gwybod mai syndrom coluddyn llidus oedd y boen yn ei stumog. Fodd bynnag, ar ôl iddi gael ei derbyn i ward gastroenteroleg yr uned damweiniau ac achosion brys, cafodd ddiagnosis o ganser yr ofarïau, a rhoddwyd chwe wythnos iddi fyw. Yn drasig, bu farw bythefnos ar ôl ei diagnosis.

Mae Jim yn ddyn gwirioneddol eithriadol, oherwydd, fel gŵr gweddw, mae wedi rhoi ei amser i ddysgu popeth sydd i’w wybod, popeth y gall ei ddysgu, am ganser yr ofarïau, a dechreuodd ymchwilio i’r ffactorau risg. Canfu ei ymchwil fod 23 o ffactorau sy'n awgrymu y gallai menyw fynd ymlaen i ddatblygu canser yr ofarïau, ond nid oedd unrhyw ymchwil a oedd yn ystyried y ffactorau risg hyn yn gyfannol ac yn cydbwyso'r tebygolrwydd y byddai un ohonynt yn bwysicach na'r lleill. Felly, fel mathemategydd, datblygodd fformiwla ar gyfer ystyried yr holl ffactorau risg hyn, ac mae wedi bod yn gweithio gyda gweithwyr meddygol proffesiynol ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i ddatblygu algorithm yn seiliedig ar yr algorithm mathemategol hwn. Mae iddo gywirdeb o 88 y cant, sensitifrwydd o 81 y cant a phenodolrwydd o 95 y cant, ac mae'n mynd drwy'r broses o werthuso clinigol ar hyn o bryd, gyda'r gobaith y bydd yn helpu clinigwyr gyda diagnosteg yn y dyfodol.

Ond o ystyried y cyfraniad rhyfeddol hwnnw, mae'n rhaid imi ddweud mai'r peth mwyaf pwerus a ddywedodd Jim Sweet wrthym oedd ei fod ef ei hun yn oroeswr canser y prostad a myfyriodd ar y ffaith ei fod wedi cael gwasanaeth Rolls-Royce, gyda ward bwrpasol a llwybr clinigol clir, a pha mor wahanol oedd y sefyllfa i’w wraig.

Felly, hoffwn adleisio’r pryderon y mae pobl eraill wedi’u nodi am y dibwyllo meddygol hwn, gan na chredaf, o ystyried y sefyllfa ariannol wirioneddol heriol sydd gennym yn y gwasanaeth iechyd, ein bod ar fin cael gwasanaethau newydd, ond yn bendant, gallwn weithio ar y diwylliant o wrando ar fenywod, o sicrhau bod menywod yn deall eu cyrff eu hunain, ond hefyd, pan fyddant yn ymgyflwyno ac yn dweud, 'Nid yw hyn yn normal; gwn fod rhywbeth o'i le arnaf', eu bod yn cael sylw ac yn cael eu cymryd o ddifrif, ac na chânt eu troi ymaith ac y dywedir wrthynt ddod yn ôl yn nes ymlaen, neu os bydd y broblem yn newid. Dyna’r un peth y gallwn wneud rhywbeth yn ei gylch nawr, a bydd hynny’n helpu lleisiau menywod i gael eu clywed, ac yna i roi sylw iddynt yn gynharach er mwyn gallu ymladd y canser hwn.

16:55

A gaf i ddechrau drwy ddiolch yn ddiffuant i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am gynnal yr ymchwiliad a chynhyrchu’r adroddiad hwn? Dros amser, rwy'n gobeithio y bydd eich canfyddiadau a'ch argymhellion yn achub bywydau. Anaml y byddaf yn darllen adroddiad sy’n gwneud imi wylo, ond fe wnaeth yr un hwn, a diolch i bawb a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor hwnnw. Roedd yn waith mor bwysig.

Roedd yn dorcalonnus dysgu bod cynifer o fenywod yn teimlo nad oes unrhyw un yn gwrando arnynt, ac yn anffodus, mae llawer yn colli eu bywydau i ganser o ganlyniad. Ni ddylai hynny ddigwydd yn yr oes sydd ohoni. Mae pobl yn adnabod eu cyrff. Maent yn gwybod pan nad yw pethau’n iawn, ac fel y cyfryw, dylid gwrando arnynt bob amser, a dylent gael yr amser sydd ei angen arnynt gan weithwyr iechyd proffesiynol i nodi a thrin cyflyrau mewn modd amserol, oherwydd yn amlwg, fel y clywsom, mae amseru mor hanfodol gyda chanserau gynaecolegol.

Hoffwn ddiolch i bob un o’r sefydliadau ac etholwyr sydd wedi cysylltu â mi yn ddiweddar i leisio’u pryderon, gan gynnwys Target Ovarian Cancer a Sefydliad y Merched. Ers cael fy ethol, rwyf wedi cyfarfod â phobl wych. Mae Jim Sweet, sy’n etholwr, yn un o’r rheini y cyfarfûm â nhw droeon, a chlywais eu straeon dirdynnol am ddioddefaint a cholled drist.

Dywed yr adroddiad fod pryderon menywod, yn rhy aml, yn cael eu diystyru o ganlyniad i ragdybiaethau am eu hemosiynau neu eu gallu i oddef poen. Yn anffodus, mae diffyg ymchwil feddygol wedi bod i broblemau benywaidd, a all arwain at gamddiagnosis neu ddarparu gofal sy'n annigonol. Ac er nad yw pob menyw sy'n ymweld â'i meddyg teulu â symptomau canser gynaecolegol yn cael profiad gwael, pan fo pethau'n mynd o chwith, mae'r canlyniadau'n enbyd, fel y clywsom.

Fel yr amlygodd yr adroddiad, ac fel y rhannodd Russell, mae oddeutu 1,200 o fenywod y flwyddyn yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol yng Nghymru. Mae hefyd yn ffaith, yn anffodus, fod gan Gymru rai o'r cyfraddau goroesi gwaethaf ar gyfer canser yr ofarïau yng Nghymru. Clywsom gan Delyth yn gynharach fod 300 o fenywod yn cael diagnosis o ganser yr ofarïau bob blwyddyn yng Nghymru, ac yn drasig, mae hyd at 150 ohonynt yn colli eu bywydau.

Rwy'n canmol elusennau fel Ovarian Cancer Action, a llawer o rai eraill, sy’n gweithio tuag at ddiagnosis cynnar o ganser yr ofarïau, a’r gwaith hollbwysig, fel y clywsom, y mae Jim Sweet yn ei wneud ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, sydd mor bwysig. Mae hwn yn waith hollbwysig. Yn rhy aml, mae menywod yn dioddef o glefyd difrifol, ac nid yw eu hanwyliaid yn gwybod hynny hyd yn oed.

Unwaith eto, mae hyn yn bennaf oherwydd bod menywod yn cael diagnosis yn llawer rhy hwyr. Felly, mae'n dilyn bod diagnosis cynnar yn hanfodol i wella canlyniadau. Mae’r adroddiad yn cydnabod y bydd arloesi a buddsoddi mewn diagnosis cynnar yn allweddol. Gwn fod dulliau diagnostig cynnar i'w cael, fel y clywsom gan Jenny, y mae pobl fel Jim Sweet yn eu dwyn ynghyd, a fydd yn chwyldroadol i helpu i nodi’r rheini sydd mewn perygl o gael canserau gynaecolegol.

Mae angen inni weld y datblygiadau arloesol hyn cyn gynted â phosibl, ac rwy’n sicr yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn eu croesawu ac yn buddsoddi mewn ffyrdd i helpu’r rheini sy’n wynebu’r risg fwyaf. Fel y dywed yr adroddiad hwn, bydd nifer benodol o achosion canser bob amser yn cael eu diagnosio drwy dderbyniadau brys. Fodd bynnag, mae’r ffigur hwn yn annerbyniol o uchel yng Nghymru, ac mae diagnosis drwy dderbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys yn awgrymu bod rhywbeth sylfaenol o’i le gyda'n gofal sylfaenol.

Fel gyda phob canser, mae diagnosis cynnar yn hanfodol ar gyfer cynyddu’r gobaith o oroesi, ond yn anffodus, dim ond traean o fenywod yng Nghymru sy’n cael diagnosis ar gamau 1 neu 2. Yn amlwg, mae angen inni sicrhau bod y system yn gwrando ar fenywod. Mae angen inni sicrhau hefyd fod meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael mynediad at addysg feddygol sy’n canolbwyntio ar ganserau gynaecolegol, ac mae angen cymorth arnynt hefyd gan ofal eilaidd i’w cynorthwyo i asesu ac atgyfeirio cleifion â symptomau posibl o ganser gynaecolegol.

Dylid blaenoriaethu llwybrau diagnosis canser gynaecolegol i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu dechrau eu triniaeth cyn gynted â phosibl. Nid yw'r sefyllfa bresennol lle nad oes ond 34 y cant o fenywod yn cael triniaeth ganser o fewn y targed 62 diwrnod yn dderbyniol. Gwrandewais ar Claire O'Shea ar y radio ar y ffordd yma y bore yma. Roedd yn emosiynol iawn, ac rwy'n dymuno'n dda i chi gyda'ch ymgyrch. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru roi mwy o adnoddau tuag at weithio gyda phrifysgolion a gwneud mwy o ymchwil i iechyd menywod i sicrhau bod ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn dysgu mwy am y canserau gynaecolegol hyn a sut i'w diagnosio yn gynt.

Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 18 o'r 26 argymhelliad yn yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, fel y clywsom, mae pryder ehangach fod Llywodraeth Cymru yn amlwg yn gwrthod derbyn maint y broblem yma. Dim ond drwy newid ystyrlon y gall Cymru ddod yn genedl lle mae gan fenywod hyder i siarad â’u meddyg teulu gan wybod y byddant yn cael eu cefnogi ac yn derbyn y gofal y maent yn ei haeddu. Rwy’n mawr obeithio y gwelwn y newid hwnnw’n fuan. Diolch.

17:00

Gallwn dreulio fy amser yn gofyn am gael fy nghlywed; gallwn dreulio'r pum munud cyfan yn dweud, 'Gwrandewch arnaf, gwrandewch arnaf, gwrandewch arnaf.' A byddai hynny rywsut yn adlewyrchu'r hyn y mae'r menywod hyn wedi'i wneud, wedi'i ofyn ac wedi treulio eu hamser gyda'r gweithwyr iechyd proffesiynol yn ei wneud. Ond byddai hynny'n gwneud cam â nhw, oherwydd mae yna bethau eraill sy'n gorfod digwydd. Cawsant eu hanwybyddu, cawsant eu gwthio o'r neilltu, ac fe gawsant eu gwawdio—fe welsom hynny—ac mae'r dystiolaeth honno yno yn y fideo. Mae'n adroddiad pwysig ac emosiynol, ond mae'n tanlinellu'r brys i fynd i'r afael â gwahaniaethau mewn mynediad at ofal, i wella gwasanaethau cymorth ac i hyrwyddo ymwybyddiaeth ac addysg ledled Cymru.

Rwyf am dalu teyrnged i onestrwydd a dewrder y menywod a roddodd dystiolaeth. Mae eu straeon yn deimladwy ac maent yn ddadlennol. Dywedwyd wrth Judith dro ar ôl tro na allai ei phoen difrifol fod wedi ei achosi gan ei chanser endometriaidd yn dychwelyd. Erbyn iddi gael sgan yn y diwedd, roedd y canser wedi dychwelyd ond nid oedd modd ei wella. Gwnaed diagnosis o ganser prin a ffyrnig Claire ddwy flynedd ar ôl iddi sôn wrth ei meddyg teulu gyntaf am ei symptomau. Tylinwr Twrcaidd a nododd yr hyn yr oedd ei meddyg teulu wedi ei gamddiagnosio fel syndrom coluddyn llidus. Dywedodd Linda sut y cafodd ei chanser ofarïaidd hi hefyd ei gamddiagnosio fel syndrom coluddyn llidus a heintiau'r llwybr wrinol. Yn anffodus, mae'n digwydd yn rhy aml, ac rydym wedi clywed llawer o straeon yma heddiw.

Fe'i gelwir yn lladdwr tawel, ac mae'n lladdwr tawel, oherwydd erbyn y gwneir diagnosis o'r symptomau, mae'n aml yn rhy hwyr, sy'n dod â mi yn ôl i ble y dechreuais: rhaid ichi wrando ar fenywod. Gall pob un ohonom chwarae ein rhan drwy fod yn ymwybodol o'r symptomau posibl, drwy beidio ag anwybyddu'r symptomau hynny, ond hefyd drwy wneud yr holl brofion sydd ar gael i ni. Ond oni bai bod meddygon teulu neu weithwyr iechyd proffesiynol yn ymwybodol o'r symptomau hynny, a'u bod yn barod i wrando ar fenywod pan fyddant yn ymgyflwyno â'r symptomau hynny, ni fydd unrhyw beth yn newid.

Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr adroddiad i raddau helaeth, ond yn fy marn i dylai canser gynaecolegol fod yn y cynllun iechyd menywod. Rwyf am gydnabod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yma, oherwydd mae hi wedi bod o ddifrif ynglŷn ag iechyd menywod. Mae hi'n gyrru cynllun iechyd menywod yn ei flaen. Dyna'r cyntaf o'i fath yn ystod yr holl amser a'r nifer o Weinidogion iechyd a aeth o'i blaen. Felly rwy'n diolch iddi am hynny.

Mae'n rhaid i'r adroddiad arwain at sicrhau bod pobl fel Judith, Claire a Linda yn cael eu clywed a'u cymryd o ddifrif, gan ein bod i gyd yn gwybod am y canlyniadau dilynol os na fydd pobl yn cael eu clywed. Bydd yn galw am newid diwylliannol o fewn y gwasanaeth iechyd ac o fewn cymdeithas yn gyffredinol. Ers dechrau amser, mae menywod wedi cael eu galw'n 'hysterig' ac yn 'emosiynol'. Dyna eiriau a ddefnyddiwyd wrth rai o'r menywod hyn pan oeddent yn disgrifio eu symptomau eu hunain. Mae'n hawdd iawn dweud y geiriau hynny wrth fenywod yn hytrach nag edrych a gwrando.

Mae'n rhaid inni gael newid wedi'i dargedu. Mae ei angen ar frys, ac mae rhywfaint o hynny wedi cael ei grybwyll eisoes. Mae angen ymchwil arnom. Mae angen dychwelyd at lefelau gwasanaeth cyn y pandemig, ond fe wnawn dderbyn efallai fod rhai o'r llwybrau hynny'n wahanol, ac rwy'n credu bod hynny'n deg. Ond mae arnom hynny i'r menywod a ddaeth o'n blaenau, i'r menywod a ddaeth o'n blaenau ac nad ydynt yma mwyach, ac i'w teuluoedd, a hefyd i helpu'r gweithwyr proffesiynol i helpu'r menywod hynny.

17:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i holl Aelodau Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd am eu gwaith ar yr adroddiad pwysig hwn ar ganser gynaecolegol, a'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Ond yn bennaf oll hoffwn ddiolch i'r holl fenywod a roddodd dystiolaeth i ymchwiliad y pwyllgor. Diolch am ddod ymlaen ac am rannu eich profiadau personol. Rwy'n gwybod ei fod wedi cael effaith ddofn ar aelodau'r pwyllgor, fel y nododd y Cadeirydd.

Rwyf am ddechrau drwy ymddiheuro i chi ar ran y GIG lle cawsom eich gofal yn anghywir a lle gwnaethom gam â chi. Nid wyf yn diystyru casgliadau'r adroddiad mewn unrhyw ffordd. Rwy'n gobeithio eich bod wedi nodi ein bod wedi derbyn bron bob un o'r argymhellion, ac rwy'n derbyn maint yr her sydd o'n blaenau'n llwyr. Rydym i gyd eisiau ac yn disgwyl i'r GIG ddarparu'r safonau gofal uchaf posibl a thrin pobl â'r urddas a'r parch y maent yn eu haeddu. Yn anffodus, mae yna adegau lle nad yw hyn yn digwydd, ac nid yw'r GIG bob amser yn ei gael yn iawn. Er gwaethaf gwaith caled ac ymroddiad pobl, weithiau mae pethau'n mynd o chwith. Pan fydd pethau'n mynd o chwith, rwy'n disgwyl i'r GIG fod yn agored ac yn onest am yr hyn a ddigwyddodd, i unioni pethau, ac yn bwysicaf oll, i ddysgu o'i gamgymeriadau. Dyna pam y gwnaethom gyflwyno'r ddyletswydd gonestrwydd, fel y gallwn ni a'r GIG wneud yn union hynny.

Nid yw gwasanaethau iechyd a gofal iechyd i fenywod yr un fath â'r rhai i ddynion. Dylai pob menyw deimlo'n hyderus y bydd eu hanghenion iechyd penodol yn cael eu diwallu ac y bydd eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif. Mae hyn yn rhywbeth y gallais ei drafod yng nghyd-destun hyfforddiant gyda chynrychiolwyr o'r Cyngor Meddygol Cyffredinol y bore yma. Dyna pam y gwnaethom gyflwyno'r datganiad ansawdd ar gyfer iechyd menywod a merched yn 2022, a dyna pam mae'r GIG yn datblygu cynllun iechyd menywod. Rhaid i'r GIG ei berchnogi fel bod ganddynt ymdeimlad o berchnogaeth arno, fel bod ganddynt angen i'w gyflawni, ac rwy'n falch fod gennym fenyw dda iawn i arwain y dull clinigol yr ydym yn chwilio amdano.

Fe fydd yn barod ar ddiwedd y flwyddyn galendr hon, ac o'i fewn, byddaf yn gofyn iddynt fod yn arbennig o ofalus gyda'r defnydd o iaith y gwn ei bod yn tramgwyddo rhai menywod, fel y cyfeiriad at symptomau amhendant. Hefyd, mae angen inni sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi i siarad mewn iaith hygyrch sy'n helpu pobl i ddeall yr hyn y mae clinigwyr yn ei ddweud. Rwy'n gwybod bod llawer o fenywod yn teimlo nad ydynt yn cael eu clywed, a chlywsom hyn eto yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon yn Lloegr ar drawma genedigaeth.

Rwyf am droi nawr at y materion a amlygwyd gan yr ymchwiliad hwn ac argymhellion y pwyllgor. Fel y dywedais yn fy nhystiolaeth i'r pwyllgor ac yn fy ymateb dilynol i adroddiad y pwyllgor, mae gwella gofal canser wedi bod ac yn parhau i fod yn un o fy mlaenoriaethau ar gyfer y GIG yng Nghymru. Dyna pam fy mod yn falch o dderbyn y mwyafrif helaeth o argymhellion y pwyllgor. Rydym yn gweithio'n galed i wella amseroedd aros canser a sicrhau bod pobl yn cael mynediad cyflymach at ddiagnosis a thriniaeth. Rydym yn gwybod nad yw lle rydym arni ar hyn o bryd yn ddigon da.

Ym mis Mawrth eleni, cafodd dros 14,000 o bobl y newyddion da nad oedd canser arnynt. Rwy'n gwbl glir fod gan fyrddau iechyd lawer mwy o waith i'w wneud o hyd ar wella eu perfformiad yn erbyn y targed canser 62 diwrnod, ac mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer canser gynaecolegol. Nid yw'n esgus, ond mae'n ffaith ein bod, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn wynebu cynnydd yn y galw am archwiliadau a thriniaeth canser na allwn ei ddiwallu yn y ffordd y câi gwasanaethau eu darparu yn y gorffennol. Er mwyn rhoi syniad i chi o raddfa'r cynnydd yn y galw, mae'n werth nodi bod cynnydd o 34 y cant wedi bod yn nifer y menywod a atgyfeiriwyd yn sgil amheuaeth o ganserau gynaecolegol rhwng 2019 a 2023.

Gyda'r ewyllys orau yn y byd, mae'n anodd inni gael y math hwn o gapasiti mewn amser mor fyr. Mae mynd i lwybrau a systemau cyn y pandemig yn wyneb y cynnydd hwnnw'n sicr o fethu, felly cael llwybrau newydd ar waith yw'r ffordd gywir a phriodol o wneud pethau. Ond mae'n rhaid inni wneud newidiadau er mwyn diwallu'r cynnydd hwnnw yn nifer yr atgyfeiriadau, a byddaf yn cynnal uwchgynhadledd genedlaethol ym mis Gorffennaf i ganolbwyntio sylw'r GIG ar wasanaethau gynaecolegol, gan gynnwys canser. 

Allwn ni ddim mynd nôl at wasanaethau'r gorffennol a sut roedd pethau cyn y pandemig. Dwi eisoes wedi cyhoeddi rhaglen adfer genedlaethol gwerth £2 filiwn drwy'r NHS executive, a bydd hwn yn canolbwyntio ar dri math o ganser, gan gynnwys canser gynaecolegol. Mae'r NHS executive wedi cytuno ar y camau y byddan nhw yn eu cymryd i fynd i'r afael â chanser. Bydd yn newid sut mae gwasanaethau yn cael eu cynllunio a'u darparu i fenywod mewn achosion posibl o ganser gynaecolegol. 

Dwi am esbonio pam nad allwn ni dderbyn argymhelliad i adolygu data a gweithgarwch am ganser gynaecolegol o fewn chwe mis i gyhoeddi adroddiad y pwyllgor. I wneud hyn, byddai angen symud adnoddau i ffwrdd o ymdrechion i wella amseroedd aros a gwasanaethau canser. Mae'r data sydd gyda ni'n barod yn dangos beth sydd angen i ni ei wneud. Rŷm ni'n mynd ati i gymryd camau o ran ymwybyddiaeth meddygon teulu o symptomau ac arferion atgyfeirio. Mae canolfannau diagnosis cyflym ar waith ar hyd a lled y wlad. Mae gyda ni lwybrau cenedlaethau ac offer data clyfar sy'n ein helpu ni i gynllunio gwasanaethau gwell, ac mae hyn yn cynnwys archwiliad clinigol newydd o ganser o'r ofari. 

Rŷm ni'n datblygu ffyrdd newydd o ddatblygu gwasanaethau ac yn cyflymu llwybrau gofal. Rŷm ni'n edrych ar wella cyfraddau pobl sy'n cymryd rhan mewn gwaith sgrinio mewn ardaloedd ac o fewn grwpiau o'r boblogaeth sy'n llai tebygol o gymryd y cyfle i gael eu sgrinio. Rŷm ni'n buddsoddi mewn offer diagnosis a radiotherapi newydd, ac mae'n cronfa triniaethau newydd yn helpu i wneud yn siŵr bod cyffuriau sydd newydd gael eu cymeradwyo yn dechrau cael eu defnyddio'n gynt. Byddwn ni hefyd yn buddsoddi mewn galluoedd ymchwil newydd fel rhan o'r cynllun iechyd menywod, a gobeithio eich bod chi wedi sylwi ers i fi ymateb i'r adroddiad dwi wedi ailgyfeirio dros £700,000 i ymchwil iechyd menywod.

Dyma becyn cynhwysfawr o gamau a fydd yn ein helpu i wella gwasanaethau. Wedi ei roi yn syml, ar hyn o bryd nid yw perfformiad y byrddau iechyd ar y mater yma yn ddigon da. Mae llawer o waith i'w wneud gan yr NHS executive hefyd i'w cefnogi, ac i sicrhau bod llwybrau gofal clir sydd wedi eu pennu yn cael eu dilyn. Byddaf yn fwy na parod i roi gwybod sut mae'r gwaith yma yn mynd yn ystod gweddill tymor y Senedd. Diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad, a diolch yn arbennig i'r rheini sydd wedi rhoi evidence. Diolch.   

17:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r menywod anhygoel a'n helpodd gyda'n gwaith. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i Judith Rowlands, a fu farw ar 21 Mai y llynedd. Rhoddodd Judith dystiolaeth bwerus iawn i'n pwyllgor drwy fideo y llynedd, ac rwy'n awyddus iawn i estyn diolch y pwyllgor i'w gŵr, Gwilym a'i merch, Sioned, am eu cefnogaeth barhaus i'n gwaith. Hoffwn ddiolch hefyd am y gefnogaeth a gawsom gan y tîm clercio a'r tîm integredig ehangach, ac yn enwedig tîm ymgysylltu'r Senedd, a wnaeth ein helpu yn ein gwaith ar yr ymchwiliad hwn i grynhoi'r dystiolaeth gan y menywod a roddodd dystiolaeth mor bwerus i ni. 

Os caf wneud sylwadau ar rai o'r pethau sydd wedi cael eu dweud heddiw, tynnodd Mabon sylw at fethiant Llywodraeth Cymru i gydnabod maint y broblem, a dyna'r broblem a oedd yn thema ar draws ein hadroddiad, fel y nododd Peter Fox hefyd. Tynnodd Gofal Canser Tenovus sylw at y ffaith bod nifer y menywod sy'n dechrau eu triniaeth canser o fewn 62 diwrnod—y targed 62 diwrnod—ar ei lefel isaf erioed, a gwnaeth Sarah Murphy sylw ar hynny yn ei chyfraniad ei hun. A dyna pam, fel pwyllgor, y cawsom ein syfrdanu gan y ffaith na wnaeth y Llywodraeth dderbyn rhai o'r argymhellion ynghylch adfer gwasanaethau yn sgil y pandemig COVID, a chyfeiriodd Sam Rowlands at hynny yn ei gyfraniad, am y siom nad oedd ein hargymhelliad 4 ar hynny wedi ei dderbyn.

Diolch i Jane Dodds am ei chyfraniad hithau hefyd. Wrth gwrs mae'r cynllun iechyd menywod yn hwyr iawn yn ymddangos mewn gwirionedd; rydym ar ei hôl hi'n fawr yng Nghymru. Rydym wedi gweld y cynllun hwnnw yn yr Alban, yn Lloegr, ac nid oes gennym y cynllun hwnnw yng Nghymru eto, ac mae hynny mor siomedig, fel y nododd Delyth hefyd yn ei chyfraniad. A diolch i chi, Jane Dodds am dynnu sylw at y ffaith bod angen mynd i'r afael â chyrhaeddiad sgrinio canser ceg y groth hefyd.

Diolch, Delyth, am eich cyfraniad yn tynnu sylw at y pwnc tabŵ, sy'n aml yn broblem, y cyfeiriodd Jenny ato yn ei chyfraniad hefyd. A Jenny, diolch i chi am siarad am eich profiad teuluol eich hun. Ond menywod sy'n adnabod eu cyrff orau. Roedd honno'n thema a glywsom dro ar ôl tro yn ein sesiwn dystiolaeth a sut nad yw gweithwyr iechyd proffesiynol yn gwrando, gan anwybyddu menywod sy'n adnabod ac yn deall eu cyrff eu hunain, fel y nodwyd gennych yn eich cyfraniad. A Jenny a Peter, fe wnaethoch chi gyfeirio at Jim Sweet, ac rwy'n deall bod Jim yn yr oriel heddiw, felly diolch, Jim, am eich gwaith a'ch cefnogaeth yn y maes hwn.

A Peter, rydych chi'n gobeithio y bydd bywydau'n cael eu hachub, ond o ganlyniad i'n hadroddiad—. Dyna'n union yw ein hadroddiad, adroddiad gydag argymhellion, ac rydym ni fel pwyllgor eisiau gweld y Llywodraeth yn myfyrio eto ar ei hymateb. Ac wrth gwrs, Joyce, rwy'n cytuno â'ch sylwadau am yr angen am newid diwylliant ehangach ac mae'r geiriau amhriodol sy'n aml yn cael eu dweud am fenywod gan rai gweithwyr iechyd proffesiynol hefyd yn rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef.

Weinidog, diolch am eich ymateb. Rwy'n credu bod eich cywair yn iawn, wrth gynnig yr ymddiheuriad—nid yw'r GIG yn cael pethau'n iawn bob amser. Ac rwy'n deall, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn dweud eich bod wedi ymateb yn gadarnhaol i'r rhan fwyaf o'r argymhellion yn yr adroddiad, ond pan edrychwn ar yr ymateb i'r argymhellion, roeddem yn teimlo eich bod wedi eu derbyn, ond roeddem yn teimlo, fel aelodau o'r pwyllgor a rhanddeiliaid hefyd, fod eich ymateb i ddilyn i'w weld yn awgrymu bod rhai o'r pethau yr awgrymwn y dylech eu gwneud yn cael eu gwneud eisoes, ac nid ydym yn credu bod hynny'n wir. Ond na, byddem yn croesawu deialog bellach gyda chi, ac rwy'n credu eich bod wedi cynnig hynny yn eich sylwadau olaf heddiw. Rwy'n gobeithio y bydd ein hadroddiad yn arwain at y newidiadau sydd eu hangen mor ddybryd i wella profiadau menywod yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

17:15

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Practisau meddygon teulu a chyllido

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: practisau meddygon teulu a chyllido. Galwaf ar Sam Rowlands i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8582 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r adroddiad Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd practisau meddygon teulu o ran lliniaru'r pwysau ar ysbytai a chefnogi cleifion ledled Cymru.

2. Yn gresynu bod gan Gymru 473 o bractisau meddygon teulu yn 2012, ond bod hyn wedi gostwng i 374 ym mis Rhagfyr 2023.

3. Yn gresynu ymhellach mai dim ond 6.1 y cant o gyllid GIG Cymru aeth tuag at ymarfer cyffredinol yn y flwyddyn 2020-21 a bod llai nag 8 y cant o gyllid GIG Cymru yn mynd tuag at ymarfer cyffredinol ar hyn o bryd, sy'n is nag yn 2005-6.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cymryd camau brys i sicrhau nad yw'r 100fed practis meddygon teulu yn cau yng Nghymru mewn ychydig dros ddegawd;

b) mabwysiadu galwadau allweddol ymgyrch Achubwch Ein Meddygfeydd BMA Cymru Wales i 11 y cant o gyllid GIG Cymru gael ei wario ar ymarfer cyffredinol ac i lunio strategaeth gweithlu i sicrhau bod Cymru'n hyfforddi, recriwtio a chadw digon o feddygon teulu i symud tuag at nifer cyfartalog yr OECD o ran meddygon teulu fesul 1000 o bobl; ac

c) sicrhau bod y swm canlyniadol Barnett llawn, sy'n deillio o wariant ar y GIG gan Lywodraeth y DU, ar gael ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig ger ein bron heddiw yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Ac Aelodau, mae'r niferoedd yn llwm: mae 99 yn llai o bractisau meddygon teulu yng Nghymru heddiw nag a oedd yn 2012, ac mae'n ymddangos i mi nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud fawr ddim i atal y nifer hwnnw rhag codi i 100. A dyma duedd ar i lawr sydd wedi dilyn lefelau gostyngol o gyllid gan Lywodraeth Lafur Cymru. Ar hyn o bryd, mae llai nag 8 y cant o gyllid GIG Cymru yn mynd tuag at ymarfer cyffredinol, sy'n is na lefelau 2005 a 2006. Wrth gwrs, mae hyn ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru yn gwrthod gwario'r swm llawn o arian gan Lywodraeth y DU ar ein GIG, ac rydym yn sicr yn gweld sgil-effeithiau hynny.

Mae'r gostyngiad yn nifer y meddygfeydd meddygon teulu yn taro ein cymunedau'n galed. Rydym wedi mynd o system draddodiadol o feddygon teulu sy'n adnabod pobl, sy'n adnabod eu perthnasau a'u hafiechydon, i sefyllfa lle mae gennym fannau heb feddygon teulu, gyda darpariaeth wael yn rhoi hyd yn oed mwy o straen ar y meddygfeydd meddygon teulu sydd ar ôl. Mae'r realiti'n cyferbynnu'n amlwg iawn â nodau datganedig Llywodraeth Cymru.

Rydym wedi hen arfer â geiriau braf yn dod o Fae Caerdydd, Weinidog, fel cynllun 'Cymru Iachach', sydd am sicrhau bod pobl yn aros yn iach ac yn annibynnol cyhyd â phosibl, a phwy all ddadlau yn erbyn hynny? Ond mae'r tonnau enfawr o feddygfeydd meddygon teulu sy'n cau yn rhwystro'r dyhead hwnnw. Nid yw bod eisiau symud tuag at ofal sylfaenol ac ataliol sy'n nes at gartrefi pobl yn cyd-daro â'r sefyllfa sy'n ein hwynebu nawr. Mae ein cymunedau'n colli practisau meddygon teulu lle mae eu hangen fwyaf, ac o ganlyniad, mae'r math hwnnw o ofal ymhellach i ffwrdd, ac o ganlyniad yn llai effeithiol.

Rydym yn gwybod bod hyn yn cael effaith arbennig o negyddol ar rai o'n pobl hŷn fwyaf bregus. Yn wir, fel y mae ein cynnig yn nodi, roedd yr adroddiad 'Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru', a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw practisau meddygon teulu i liniaru'r pwysau ar ysbytai a chefnogi cleifion ledled Cymru. Mae practisau meddygon teulu cryf ac wedi'u hariannu'n dda yn lleihau'r straen ar ysbytai ac yn caniatáu i bobl hŷn yn enwedig fyw bywydau mwy annibynnol. Pobl hŷn hefyd yw'r rhai sydd wedi arfer â'r ffordd draddodiadol o gael mynediad at feddygon teulu a amlinellais eiliad yn ôl, a gall llywio ffyrdd newydd o wneud pethau fod yn anodd iddynt ar adegau, yn enwedig pan fydd rhestrau aros yn hirach a phan fo'n frwydr i gael eu gweld gan feddyg teulu.

Mae'n amlwg fod llawer o'n trigolion ledled Cymru yn anfodlon iawn â'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn rhedeg y GIG a'n practisau meddygon teulu yma yng Nghymru. Mae meddygon teulu hefyd yn anfodlon iawn â'u hamodau gwaith. Nawr, canfu data gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol nad oes gan 67 y cant o feddygon teulu amser i gymryd seibiant, y byddai ei angen arnynt bob dydd, a bod 70 y cant o feddygon teulu yn gweithio mwy na'r oriau contract ar y rhan fwyaf o ddyddiau. Nid yw'n syndod fod gennym argyfwng recriwtio a chadw meddygon teulu yma yng Nghymru. Mae eu data hefyd yn dangos nad yw 25 y cant o feddygon teulu yng Nghymru yn disgwyl bod yn gweithio yn y proffesiwn ymhen pum mlynedd, ac er bod rhywfaint o'r gostyngiad hwnnw o 25 y cant yn gysylltiedig ag ymddeoliadau, y ddau brif reswm a roddir yw bod ymarfer cyffredinol yn ormod o straen a gorfod gweithio gormod o oriau mewn ymarfer cyffredinol. Felly, mae'n amlwg fod y system bresennol dan straen ddifrifol ac na all barhau mewn ffordd sy'n darparu gofal o ansawdd uchel i gleifion a chydbwysedd priodol rhwng bywyd a gwaith i feddygon teulu. Mae'n amlwg yn anghynaliadwy.

Ond nid y meddygon teulu eu hunain yn unig sydd angen cefnogaeth. Mae eraill, wrth gwrs, yn gweithio yn ein meddygfeydd meddygon teulu. Enghraifft sy'n dod i'r meddwl yw ein nyrsys practis cyffredinol. Maent yno i ddarparu gofal uniongyrchol i gleifion a helpu cleifion â chyflyrau mwy hirdymor, ac mae gan y Coleg Nyrsio Brenhinol bryderon am nifer y gweithlu yno yn benodol, ac maent am i Lywodraeth Cymru sicrhau bod nyrsio mewn lleoliadau meddygon teulu yn cael ei ystyried yn opsiwn gyrfa deniadol i nyrsys sydd newydd gymhwyso. Byddem ni ar y meinciau hyn yn croesawu strategaeth hirdymor gyda'r nod o wella lles corfforol, meddyliol ac emosiynol y gweithlu, boed yn feddygon teulu, yn nyrsys practis cyffredinol, neu'n unrhyw un arall sy'n gweithio yn y meddygfeydd. Byddai'r cynlluniau hirdymor hynny'n rhoi hyder i bobl y gallant aros mewn ymarfer cyffredinol am flynyddoedd i ddod a pheidio â cholli ffydd yn y system. Mae hefyd yn berthnasol ar gyfer strategaeth gweithlu fwy cyffredinol gyda'r nod o hyfforddi, recriwtio a chadw, oherwydd mae'r bobl hynny'n allweddol i wasanaeth iechyd ffyniannus, a dylid mynd benben â'r pethau sy'n eu gwthio i ffwrdd o ymarfer cyffredinol a mynd i'r afael â nhw fel bod ein perthnasau'n gwybod y gallant ddibynnu ar y system am ddegawdau i ddod. 

Gyda'r sefyllfa bresennol fel y mae, rwy'n pryderu'n ddifrifol na fydd yn cael ei ystyried yn opsiwn gyrfa deniadol o gwbl. Rydym mewn perygl o golli llawer o bobl dalentog sy'n gallu, ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymunedau. Rhan sylweddol o ddatrys hyn fyddai i Weinidogion Llywodraeth Cymru sicrhau bod y cyllid canlyniadol Barnett llawn sy'n dod gan Lywodraeth y DU ar gael ar gyfer gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru. Ond mae angen cynllun a strategaeth ehangach, ac un golofn yn unig yw cyllid, ac rwy'n defnyddio geiriau'r BMA: 

'Mae ymarfer cyffredinol yn cael ei orfodi i geisio ymdopi ag adnoddau annigonol, llwyth gwaith anghynaliadwy, a gweithlu dan bwysau ar draws Cymru gyfan, gyda rhai meysydd mewn argyfwng. Mae gorweithio a thraul yn effeithio ar y proffesiwn ac yn gwaethygu'r materion hyn.'

Nod ymgyrch Achubwch ein Meddygfeydd BMA yw mynd i'r afael â'r problemau hyn a gwneud gwasanaethau meddygon teulu yn gynaliadwy ymhell i'r dyfodol. Felly, mae ein cynnig heddiw yn galw am fabwysiadu galwadau'r ymgyrch, sy'n cynnwys 11 y cant o gyllid GIG Cymru i'w wario ar ymarfer cyffredinol, a chynhyrchu strategaeth gweithlu i sicrhau bod Cymru'n hyfforddi, recriwtio a chadw digon o feddygon teulu i symud tuag at nifer cyfartalog y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yr UE o feddygon teulu fesul 1,000 o bobl.

Ac ar y syniad o wasanaethau meddygon teulu yn y dyfodol, hoffwn drafod un o welliannau Llywodraeth Cymru sydd ger ein bron yma heddiw, sef gwelliant 3(b). Mae'r gwelliant hwn yn galw'r gostyngiad yn nifer y practisau yn rhan o duedd tuag at bractisau mwy o faint. Rwy'n credu bod hyn ychydig yn anonest gan fy nghyd-Aelodau Llafur. Mewn gwirionedd, yr hyn sy'n digwydd yw bod meddygfeydd yn cael eu gorfodi i gau oherwydd problemau ariannu a staffio, ac nid oherwydd rhyw fath o uwchgynllun gan Lywodraeth Cymru ar gyfer practisau mwy o faint. Felly, hoffwn wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich ymateb yn nes ymlaen efallai, a ydych chi'n credu bod colli 99 o feddygfeydd meddygon teulu wedi arwain at well darpariaeth a chyrhaeddiad i'r bobl a gynrychiolwn ledled Cymru. Neu a yw colli 99 o feddygfeydd meddygon teulu wedi gwneud pethau'n waeth? Mewn gwirionedd, mae'r practisau sydd ar ôl dan fwy o straen nawr am eu bod yn cymryd cleifion o'r practisau sydd wedi gorfod cau. Mae hynny'n golygu rhestrau aros hirach, mwy o bwysau ar feddygon teulu a staff arall sydd â llawer mwy i ymdopi ag ef, ac nid ydym wedi gweld unrhyw gynnydd mewn cyllid i gyd-fynd â'r cyfrifoldeb ychwanegol hwnnw. Felly, nid yw'n syndod fod yr aelodau hynny o staff yn aml yn teimlo wedi'u gorlethu. Ac mae'n ymwneud ag un arall o bwyntiau allweddol y BMA, sy'n gysylltiedig â chapasiti, y dywedant ei fod yn annigonol, oherwydd mae lleihau nifer y practisau, wrth gwrs, yn lleihau capasiti, ac yn golygu bod staff yn y practisau sydd ar ôl yn gwneud swydd y byddant yn llai tebygol o aros ynddi yn y tymor hir, gan gyfrannu at 25 y cant o feddygon teulu'n dweud na fyddant yn y swydd ymhen pum mlynedd.

Os caf ei roi yn blaen, mae nifer y cleifion yn cynyddu tra bo nifer y meddygfeydd a meddygon teulu yn lleihau. Mae'n rhywbeth na all barhau fel y mae, oherwydd mae pethau ar fin torri nawr. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'r Senedd ar draws y Siambr yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig, sy'n uchelgeisiol, ond yn realistig i bractisau cyffredinol yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

17:25

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd practisau meddygon teulu.

2. Yn croesawu’r cynnydd o ran y Model Gofal Sylfaenol i Gymru sy'n cefnogi gofal mewn cymunedau lleol, yn nes at gartrefi pobl.

3. Yn nodi:

a) bod nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi aros yn sefydlog;

b) bod y gostyngiad yn nifer y meddygfeydd yn adlewyrchu tuedd tuag at feddygfeydd mwy o faint wrth i feddygon teulu geisio lleihau costau a gwneud y mwyaf o adnoddau ar gyfer gweithgarwch sy'n wynebu cleifion;

c) bod y targed recriwtio presennol o 160 o feddygon teulu newydd dan hyfforddiant bob blwyddyn yn cael ei gyflawni'n gyson; a

d) bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r proffesiwn meddygon teulu ar raglen o ddiwygio contractau i leihau biwrocratiaeth i feddygon teulu a gwella profiadau i gleifion.

4. Yn cydnabod bod Cyllideb Cymru ar gyfer 2024-25 wedi cynyddu’r cyllid i’r GIG yng Nghymru dros 4 y cant, o'i gymharu â llai nag 1 y cant yn Lloegr.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Dileu is-bwynt 4(b) a rhoi yn ei le:

mabwysiadu galwadau ymgyrch allweddol Achubwch Ein Meddygfeydd BMA Cymru Wales o adfer cyfran cyllideb GIG Cymru a gaiff ei wario mewn ymarfer cyffredinol i 8.7 y cant gyda dyhead i gynyddu i fod yn agosach at 11 y cant ac i lunio strategaeth gweithlu i sicrhau bod Cymru'n hyfforddi, recriwtio a chadw digon o feddygon teulu i symud tuag at nifer cyfartalog yr OECD o ran meddygon teulu fesul 1000 o bobl;

Gwelliant 3—Heledd Fychan

Dileu is-bwynt 4(c) a rhoi yn ei le: 

gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth y DU am adolygiad cynhwysfawr o fformiwla Barnett i sicrhau cyllid teg ar gyfer pob maes cyllideb yng Nghymru, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol;

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Fel rydym ni ar y meinciau hyn wedi nodi dro ar ôl tro yn y Siambr, nid oes unrhyw amheuaeth fod yna argyfwng mewn gofal sylfaenol yng Nghymru. Ar ddiwedd 2023, dim ond 374 o bractisau meddygon teulu oedd ar ôl yng Nghymru, gostyngiad o naw ers mis Rhagfyr 2022. Dros yr un cyfnod, bu gostyngiad o 0.3 y cant yn nifer y meddygon teulu cyfwerth ag amser llawn, a thuedd gynyddol mewn partneriaid yn trosglwyddo contractau'r GIG yn ôl oherwydd pwysau cynyddol. Ac mae hwn yn argyfwng sydd wedi bod yn datblygu ers amser hir. Mae cyfanswm nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi gostwng mwy na 400 mewn 10 mlynedd. Rydym bellach ar fin gweld y canfed practis yn cau yng Nghymru mewn ychydig dros ddegawd. Mae cyfanswm nifer y practisau wedi gostwng 18 y cant, gyda'n cymunedau gwledig yn dioddef y gwaethaf o'r argyfwng.

Mae gwelliant arfaethedig y Llywodraeth i'r cynnig hwn yn awgrymu bod gostyngiad yn nifer y meddygfeydd yn rhyw fath o fesur effeithlonrwydd, yn rhywbeth i'w groesawu. Ond nid wyf yn cytuno, yn debyg i'r hyn a ddywedodd Sam wrthym nawr, fel Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn wir, sydd wedi dadlau nad ydym yn edrych ar fodel practis mwy o faint drwy gynllun, ond ar argyfwng o ran cynaliadwyedd ymarfer cyffredinol. Rydym yn gweld cylch dieflig o feddygon teulu yn ymddeol yn gynharach neu'n gadael y proffesiwn oherwydd llwyth gwaith cynyddol, gan arwain at straen pellach ar y gweithlu sydd ar ôl.

Mae llwyth gwaith meddygon teulu yn parhau i gynyddu, ac mae meddygon teulu unigol yn gyfrifol am fwy a mwy o gleifion. Ym mis Medi 2022 roedd y meddyg teulu llawn amser cyfartalog yn gyfrifol am 2,210 o gleifion, o gymharu â 1,676 yn 2013. Dyna gynnydd o 32 y cant yn nifer y cleifion fesul meddyg teulu amser llawn, cynnydd sylweddol yn llwyth gwaith pob meddyg unigol. Yn y cyfamser, mae meddyg iau yn mynd i mewn i'r gweithlu gan ennill, fel y mae, tua £13.65 yr awr yng Nghymru. Mae hyn i gyd yn symptom o ddiffyg adnoddau cronig gan Lywodraeth Lafur Cymru, sydd wedi methu cydnabod gwir raddfa'r broblem hyd yn oed, ac fel yr adlewyrchir yn ein gwelliant i'r cynnig, setliad ariannol annheg i Gymru gan Lywodraeth Dorïaidd y DU yn San Steffan, sy'n methu darparu lefel o gyllid i'n gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar sail angen.

Mae'r rhain yn ddadleuon cyfarwydd iawn bellach—felly, hefyd, y mwmian oddi ar y meinciau gyferbyn. Mae'r cyfrifoldeb am yr argyfyngau lluosog yn ein GIG ar ysgwyddau San Steffan a Pharc Cathays. Maent yn gynnyrch 25 mlynedd o gamreoli, wedi'i waethygu gan fwy na degawd o gyni. Mae angen gweithredu beiddgar nawr yn fwy nag erioed i achub y GIG, ac rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi dweud yn glir beth fyddai hyn yn ei olygu. Rydym yn cydnabod bod y problemau yn ein gwasanaeth iechyd yn rhai dwfn a byddem yn gweithredu ar unwaith i fynd i'r afael â'r problemau ym maes gofal sylfaenol. Ochr yn ochr â gwrthdroi degawd o doriadau ac adfer y gyllideb ymarfer cyffredinol i 8.7 y cant o wariant y GIG, byddem yn gweithio gyda'r proffesiwn i ddatblygu rhaglen cadw a hyfforddi, gyda'r bwriad o recriwtio 500 yn rhagor o feddygon teulu dros gyfnod o ddau dymor. Ein nod yn y pen draw, wrth gwrs, yw cyrraedd cymhareb gyfartalog y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o 1,000 o bobl fesul meddyg teulu, ond rydym yn realistig—fe wyddom y bydd unioni llanast Llafur yn cymryd amser. Janet.

17:30

Diolch, Mabon. Os ydych chi mor bryderus, fel rydych chi'n ei honni yma heddiw, pam na wnaethoch nodi hyn fel un o’ch rhannau o’ch cytundeb cydweithio?

Ie, rwy'n credu ei bod yn eithaf amlwg nad ydym yn cytuno â’r Llywodraeth. Nid wyf yn siŵr a ydych chi'n deall cydweithio, ond mae’n rhaid ichi gytuno ar bethau i’w rhoi mewn dogfen yr ydych chi'n mynd i gydweithio arnynt. Nid oeddem yn cytuno ar hyn. Felly, dyna'r rheswm syml pam nad yw yno. A hefyd, yn ogystal ag adfer y gyllideb ymarfer cyffredinol, mae hyn yn golygu gweithio gyda’r sector i ddatblygu rhaglen hyfforddiant a llesiant ar gyfer meddygon teulu a fyddai’n rhoi’r amser sydd ei angen arnynt gyda phob claf ac i ddatblygu eu sgiliau. Byddem yn gweithio i sicrhau bod meddygon teulu yn cael eu cadw a bod gweithio yng Nghymru yn gynnig deniadol i'r rheini sydd am wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Byddai hyn oll o reidrwydd yn rhan o becyn ehangach o ddiwygiadau sy’n edrych ar ddiwylliant sefydliadol y GIG yng Nghymru, bod yn glir ynghylch pwy sy’n gyfrifol a sicrhau nad yw Gweinidogion yn gallu taflu'r bai am fethiannau polisi. Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru gymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu a gwrthdroi’r dirywiad yn ein gwasanaeth gofal sylfaenol. Byddai hyd yn oed cydnabod gwir raddfa'r mater yn ddechrau. Fel y cyfryw, rwy'n croesawu'r ddadl hon heno ac edrychaf ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.

Rwy’n argyhoeddedig ynghylch pwysigrwydd gofal sylfaenol yng Nghymru. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r rheini sy’n gweithio ym maes gofal sylfaenol am yr hyn y maent yn ei wneud i ni fel cleifion. Pan fo gofal sylfaenol yn gweithio’n dda, mae’n lleihau’r pwysau ar bob rhan arall o’r gwasanaeth iechyd. Mae angen iddo fod ar gael yn hawdd i gleifion, ac mae angen iddo weithio'n agos gyda darparwyr gofal cymdeithasol i leihau'r angen i fynd i'r ysbyty. Pan nad yw'n gallu diwallu anghenion cleifion, y cam diofyn nesaf yw ymweld ag adran ddamweiniau ac achosion brys ac aros i weld meddyg yno, gan y gwyddoch y gallai fod yn rhaid ichi aros 24 awr, efallai y bydd yn rhaid ichi aros 18 awr, ond byddwch yn sicr o weld meddyg, a phan na allwch wneud hynny gyda meddyg teulu, dyna lle mae’r system yn methu.

Nid yw gofal sylfaenol wedi adfer ar ôl i ofal sylfaenol a gofal eilaidd gael eu huno, sydd wedi arwain at y gyfran o'r gyllideb a werir ar ofal sylfaenol yn lleihau'n barhaus. Mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn chwarae rhan hanfodol yn y system iechyd a gofal ehangach yng Nghymru. Mae gwasanaethau wedi dod o dan bwysau cynyddol yn sgil galw cynyddol a chyfyngiadau ar gapasiti. Mae angen gwneud newidiadau i sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol yn gynaliadwy ac yn gallu chwarae’r rôl allweddol y mae'n ofynnol iddynt ei chwarae o fewn y GIG yng Nghymru.

Mae gofal sylfaenol yn ymwneud â’r gwasanaethau sy’n darparu’r man gofal cyntaf, ddydd neu nos, i fwy na 90 y cant o gysylltiadau â’r GIG yng Nghymru. Mae ymarfer cyffredinol yn elfen graidd o ofal sylfaenol. Nid dyna'r unig elfen. Mae gofal sylfaenol yn cwmpasu llawer mwy o feysydd gwasanaeth iechyd, gan gynnwys fferylliaeth, deintyddiaeth ac optometreg. Mae hefyd, yn bwysig, yn ymwneud â chydgysylltu mynediad i bobl at yr ystod eang o wasanaethau yn y gymuned leol i helpu i ddiwallu eu hanghenion iechyd a llesiant. Nododd Vaughan Gething, pan oedd yn Ysgrifennydd iechyd, dair blaenoriaeth bwysig ar gyfer gofal sylfaenol yng Nghymru: cynnal cynaliadwyedd y sector, gwella mynediad at wasanaethau, a darparu mwy o ofal mewn canolfan yn y gymuned. Mae'r clystyrau meddygon teulu neu'r rhwydweithiau gofal sylfaenol yn ganolog i gyflawni'r amcanion hyn. Mae 64 o rwydweithiau neu glystyrau yng Nghymru, gyda phoblogaeth o rwng 30,000 a 60,000 o gleifion. Mae'n seiliedig ar hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth a chydweithio. Mae’r rhwydweithiau’n caniatáu i ymarfer cyffredinol ac ystod o ymarferwyr gofal sylfaenol a chymunedol eraill ddod ynghyd gyda’u bwrdd iechyd lleol i rannu gwasanaethau yn y gymuned ar gyfer eu poblogaeth. Lle mae pethau'n mynd yn dda, mae ystod eang o wasanaethau newydd yn cael eu darparu, gan ddefnyddio modelau gofal newydd yn aml. O fewn clwstwr, bydd meddygon teulu a fydd yn arbenigo mewn gwahanol rannau o'r corff. Ac i fynd yn ôl at y ddadl flaenorol, bydd yna feddygon teulu sy'n arbenigo mewn iechyd menywod.

Dangosodd tystiolaeth o arolwg gan Gymdeithas Feddygol Prydain fod gan 80 y cant o feddygon teulu a ymatebodd bryderon am gynaliadwyedd eu practisau. Cafodd ymdrechion Llywodraeth Cymru i hybu recriwtio er mwyn gwella cyflwr ymarfer cyffredinol eu cefnogi gan lawer, ac rwyf innau hefyd yn eu cefnogi. Mae angen inni wella cyflwr ymarfer cyffredinol. Yn rhy aml o lawer, ymddengys ein bod—ac nid wyf yn eithrio'r Aelodau yma—yn credu bod gofal eilaidd, mewn rhyw ffordd, yn well. Nid yw hynny'n wir. Ymarfer cyffredinol yw’r rhan bwysicaf o’r gwasanaeth iechyd, gan mai dyna'r rhan yr ydych chi'n fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad â hi.

Mae'r angen i ddychwelyd gwasanaethau i leoliad cymunedol a gwella mynediad wedi'i gydnabod yn eang. Mae rhai gwasanaethau, megis y defnydd o fferyllwyr, gwell defnydd o ffisiotherapyddion cartref a gwasanaethau therapi galwedigaethol ac ailalluogi cymunedol ar gyfer cyflyrau anadlol a chardiaidd yn adeiladu ar ymarfer sydd wedi'i sefydlu'n dda. Mae presgripsiynu cymdeithasol hefyd yn bwysig fel ffordd i ofal sylfaenol leihau’r perygl o salwch drwy wneud gwell defnydd o ymyriadau anfeddygol ac i ddylanwadu ar benderfynyddion cymdeithasol. A phe gallem wneud un peth, byddem yn ymdrin â'r argyfwng gordewdra, a byddai hynny'n achosi gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl y mae angen iddynt ymweld â meddygon teulu.

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, mae ganddynt ddull cartref yn gyntaf, sef term ambarél ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau i gleifion, a ddarperir ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r ysbyty, gyda mynediad at ofal parhaus ac asesiadau ar ôl eu rhyddhau o'r ysbyty i leoliad cymunedol. Mae gwasanaethau cartref yn gyntaf yn cynnig adsefydlu yn y cartref neu mewn gwely mewn cyfleuster ailalluogi, cymorth therapi yn unig, rheoli meddyginiaethau, cymorth nyrsio a gweithwyr cymdeithasol, gwasanaethau llesiant drwy’r trydydd sector neu asesiadau anghenion cymhleth, sy’n cynnwys asesiadau parhaus mewn cartref gofal. Unwaith eto, mae a wnelo hyn oll â chydweithio. Y nod bob amser yw darparu ethos cartref yn gyntaf i gleifion a hyrwyddo'r hyn sy'n bwysig iddynt, gyda'r timau'n gweithio ar y cyd â'r holl bartneriaid, cleifion a'u teuluoedd.

Mae'r ganran o'r gyllideb iechyd sy’n cael ei gwario ar ofal sylfaenol wedi gostwng yn barhaus, ac mae’r ganran sy’n cael ei gwario ar ofal eilaidd wedi cynyddu’n barhaus. Fel cam cyntaf, a gaf i annog Llywodraeth Cymru i roi'r diogelwch y mae'n ei roi i wariant ar iechyd meddwl—h.y. mae'r ganran honno'n sefydlog—i ofal sylfaenol? Nid yw hynny’n un o’r prif benawdau, yn wahanol i'r penderfyniad hwn, ond mae’n rhywbeth y gellir ei wneud, fe ellir ei wneud eleni, a gallwn atal y gostyngiad parhaus mewn gwariant ar ofal sylfaenol.

Ac yn olaf, mae Plaid Cymru yn dweud o hyd fod popeth o'i le ar San Steffan: pam nad ydynt yn cyflwyno dadl i ni ar annibyniaeth?

17:35

Rwy’n siŵr nad oedd llawer ohonom yn synnu wrth ddarllen adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a ryddhawyd yr wythnos diwethaf, a chredaf ei bod hefyd yn bryd ailfeddwl ein gwasanaethau gofal sylfaenol yn llwyr. Dylem gofnodi eich bod yn llygad eich lle gyda'r manylion a roesoch yn eich araith wrth agor y ddadl hon, Sam. Ni allwn fforddio colli'r un practis meddyg teulu arall.

Yn 2023, nodwyd bod pobl hŷn yn dioddef yn aruthrol, gyda mwy na 40 y cant o bobl hŷn 60 oed yn dweud eu bod yn llai tebygol o geisio cael apwyntiad meddyg teulu, cael gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau neu wneud cais am ymweliad cartref oherwydd yr adroddiadau am y pwysau ar y GIG. Dywedodd 89 y cant o bobl hŷn eu bod yn teimlo'n bryderus am gyflwr eu gwasanaethau meddyg teulu. Dywed yr adroddiad diweddaraf wrthym fod y mwyafrif helaeth o bobl hŷn yn wynebu heriau wrth drefnu apwyntiadau addas, gydag oddeutu dwy ran o dair yn nodi anawsterau wrth gysylltu neu gyfathrebu â’u practis meddyg teulu, boed hynny dros y ffôn neu hyd yn oed drwy fynd ar-lein.

Yr adroddiad diweddaraf hwn—mae'n ddrwg gennyf. Nid mynediad yw'r unig broblem. Yn wir, mae bron i 60 y cant o bobl hŷn yn credu nad yw meddygon teulu wedi bod yn cyfathrebu’n effeithiol â gwasanaethau cysylltiedig, fel nyrsys ardal, fferyllwyr a darparwyr gofal eilaidd, gan arwain, mewn rhai achosion, at ddogfennaeth feddygol yn cael ei cholli neu ei chamffeilio. Nid wyf yn beio'r meddygon teulu. Mae gennym y practisau meddygon teulu mwyaf anhygoel yn Aberconwy, ond pryd bynnag y byddaf yn siarad ag unrhyw un ohonynt, y meddygon teulu eu hunain, eu staff, mae pawb o dan bwysau difrifol ac wedi blino'n lân. A dywedant wrthyf fod angen i Lywodraeth Cymru sylweddoli na fyddant yno am byth. Pwy sy'n mynd i gymryd eu lle? Dyma'r datgysylltiad yr wyf am ei amlygu. Nid yw'r gwasanaethau yn addas i'r diben ac nid ydynt wedi gallu addasu i ofynion ein poblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio. Yr hyn a welaf sydd wrth wraidd hyn yw fframwaith gofal sylfaenol sydd wedi dyddio, sy'n aneffeithlon ac nad yw'n gallu meithrin perthynas effeithiol o ymddiriedaeth rhwng claf a meddyg. Ac mae'n rhaid imi fod yn onest, i raddau helaeth nid wyf yn beio'r Gweinidog am beth o hyn, gan fod rhai o'r practisau meddygon teulu hyn yn rhedeg eu hunain, os mynnwch, yn debyg i fusnes, ac rwy'n gwybod weithiau, os yw pethau'n mynd o chwith o fewn y practis hwnnw, gall fod yn anodd iawn i ni—. Oherwydd maent yn hunanwerthuso.

Mae'n rhaid inni archwilio ffyrdd gwell o nodi cleifion nad oes angen apwyntiad brys wyneb yn wyneb arnynt. Ers COVID, yn fy mhractis fy hun bellach, os byddwch yn ffonio i wneud apwyntiad y diwrnod hwnnw, byddant yn dweud, 'Fe ofynnwn i'r meddyg teulu eich ffonio', mae'r meddyg teulu yn eich ffonio, rydych chi'n esbonio beth yw'r broblem, a byddant yn penderfynu a oes angen ichi ddod i mewn i'w gweld, neu a allant weinyddu rhywbeth, yn dibynnu ar y broblem. Felly, credaf fod angen inni edrych ar foderneiddio ein—. Rydym yn rhy gaeth, bron, i'r syniad fod angen ichi weld meddyg teulu ar gyfer pob anhwylder.

I ddechrau datrys mater mynediad, gallem edrych ar gyfeirio cleifion at offer ymgynghori ar-lein sy'n galluogi meddygon teulu a darparwyr gofal iechyd sylfaenol eraill i frysbennu cleifion mewn modd sy'n cymryd llai o amser ac sy'n defnyddio llai o adnoddau. Byddai ap GIG Cymru yn allweddol yma, ond cofiwch nad yw 37 y cant o fy nhrigolion yn Aberconwy yn defnyddio’r rhyngrwyd—nid oes ganddynt fand eang, neu nid oes ganddynt y sgiliau i'w ddefnyddio. Felly, unwaith eto, mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn nad ydym yn ymyleiddio ein pobl hŷn. Ysgrifennodd un etholwr ataf yn ddiweddar i ddweud bod eu system ar-lein flaenorol yn Lloegr yn ardderchog, gyda chofnodion meddygol ar gael yn hawdd, a ffordd gyflym o ofyn am bresgripsiynau. Fodd bynnag, ar ôl symud i Gymru, fe wnaethant sylwi bod diffyg ap GIG yn golygu bod practisau meddygon teulu yn dibynnu ar systemau lleol nad ydynt yn gallu cyfathrebu â systemau eraill, megis byrddau iechyd, sy’n golygu nad oedd cofnodion iechyd am alergeddau lle mae bywyd yn y fantol, er enghraifft, yn cael eu trosglwyddo'n iawn.

Mae gallu cyfeirio ac ymgysylltu â chleifion ar-lein yn hanfodol i GIG modern yng Nghymru. Fodd bynnag, fel yr amlygwyd yn yr adroddiad, mae allgáu digidol yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol i lawer o’n henoed. Mae'n rhaid inni dderbyn nad yw rhai ohonom yn gwybod sut i ddefnyddio technoleg fodern. Hoffwn feddwl fy mod i, mewn gwirionedd, ond mae yna bobl na allant wneud hynny, chwarae teg. Felly, dyma sut y gall Llywodraeth Cymru addysgu a helpu, a wyddoch chi, systemau lle gallwn ailddechrau cynnal dosbarthiadau, efallai, neu helpu pobl hŷn i ymgysylltu. Ond bydd yna nifer sylweddol o bobl bob amser sy'n awyddus i allu defnyddio'r dulliau traddodiadol o gysylltu â'u meddyg teulu. Yr hyn y dylem ei wneud i alluogi hyn yw cynyddu ymwybyddiaeth o wasanaethau digidol.

17:40

Oes, rwy'n gwybod. Rwy'n gwybod. Gan mai cyllid, yn amlwg, yw’r brif broblem i’n gwasanaeth iechyd, credaf ei bod yn bryd inni symud ein ffocws oddi wrth addewidion diddiwedd ynghylch ariannu a dechrau mabwysiadu ymagwedd fwy cyfannol a modern tuag at leihau’r pwysau ar ein meddygon teulu drwy ddiwygio’r system fel ei bod yn addasadwy, yn effeithlon ac yn bersonol, a chredaf, serch hynny, Weinidog, mai dyma ble mae gennych ran y gallech ei chwarae, a byddai’n rhan wirioneddol effeithiol i chi ei chwarae. Diolch.

Efallai y gwnaf i ddechrau drwy ymateb i Mike Hedges. Mi fedraf i addo ichi, Mike, mi ydyn ni wedi cael trafodaethau am annibyniaeth yn aml iawn wedi eu cyflwyno gan Blaid Cymru, ond, os ydych chi'n awyddus am un arall, mi wnawn ni drafod yn ein cyfarfod grŵp yr wythnos nesaf, a hapus iawn i gael y drafodaeth yna. [Torri ar draws.] Edrych ymlaen yn fawr, oherwydd mae hyn yn fater rydym ni yn galw amdano o ran yr ariannu teg i Gymru, wrth gwrs. Ond mae hwn yn fater sydd yn haeddu ein sylw ni.

Mi fyddwn ni i gyd, wrth gwrs, yn gwybod bod hwn yn bwnc llosg, lle bynnag yr ydym ni'n ei gynrychioli. Yn amlwg, mae yna gyfeiriadau wedi bod o ran cymunedau gwledig. Dwi'n cynrychioli Canol De Cymru; mi fyddech chi'n meddwl bod mynediad at feddygfeydd yn rhywbeth fyddai'n hawdd i nifer o’n cymunedau ni, ond dydy o ddim, ac un o’r pethau mae’n rhaid inni gadw golwg arno fo ydy pa mor gysylltiedig ydy mynediad at feddygfeydd gyda gymaint o bolisïau eraill. Yn benodol, yn fy rhanbarth i, bysiau ydy'r broblem fawr. Os nad oes gennych chi fynediad at gar, yna mae cael mynediad at feddyg teulu yn gallu bod yn anodd eithriadol, a dwi ddim yn sôn rŵan am yr heriau o gael apwyntiad—rydyn ni i gyd yn gwybod bod apwyntiadau yn brin dros ben.

Ond mae yna ddwy feddygfa ar y funud yn fy rhanbarth i sydd yn wynebu cau: meddygfeydd Cilfynydd ac Ynysybwl. Does yna neb arall efo diddordeb mewn cymryd drosodd y ddwy feddygfa yma. Maen nhw wedi ceisio, ond does neb gyda diddordeb. Mae'r model wedi newid, mae yna ganoli gwasanaethau mewn safleoedd mwy sydd â rhai manteision o ran gallu cynnig mwy o arbenigedd, ond i'r rheini sydd fwyaf bregus, mae o'n eithriadol o heriol.

Yn Ynysybwl, er enghraifft, i gyrraedd y feddygfa y bydd angen i bobl fynd iddi, mae angen mynd ar ddau fws. Os ydych chi mewn cadair olwyn, un gadair olwyn sy'n gallu mynd ar y bws, felly weithiau maen nhw'n gorfod aros. Os oes yna fwy nag un person mewn cadair olwyn, maen nhw'n tsiecio, 'Faint o'r gloch mae dy apwyntiad di?' Felly, mae pethau fel yna'n heriol eithriadol. Ond hefyd, beth os ydy'r bws ddim yn troi i fyny ac rydych chi'n cyrraedd apwyntiad yn hwyr, sydd yn digwydd yn eithriadol o aml? Mae rhai doctoriaid yn hyblyg ac yn fodlon gweld y person yna, ond nid pob un. Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar y system yn holistig. Dwi wedi bod yn siarad efo'r doctoriaid sydd yn wynebu'r sefyllfa o gau Cilfynydd ac Ynysybwl a chanoli'r gwasanaethau ym Mhontypridd, ac maen nhw hefyd yn erfyn arnaf i, 'Fedrwch chi wella'r gwasanaethau bws?', oherwydd maen nhw'n deall yr heriau. Mae tacsi'n eithriadol o ddrud.

Ond y prif beth rydyn ni yn ei weld ydy pa mor anodd ydy hi ar feddygon teulu ar y funud, y straen aruthrol sydd arnyn nhw a pham felly eu bod nhw yn ystyried rhoi'r gorau iddi hi, ymddeol yn gynt ac ati, a pham nad oes mwy o bobl eisiau cymryd drosodd meddygfeydd pan fôn nhw'n dod ar gael. Mi gawson ni nifer o feddygon yn dod i'n gweld ni yn y Senedd fel rhan o ymgyrch Achubwch ein Meddygfeydd y BMA, ac mi oedd hi'n glir o hynny yr angerdd oedd gan y meddygon teulu hyn. Maen nhw eisiau bod yn gwneud gwaith da, ond rydyn ni eisoes y prynhawn yma wedi clywed am yr heriau pan nad ydy pobl yn cael eu clywed.

Ond mae'n rhaid inni ofyn hefyd pam efallai dydy meddygon teulu ddim yn clywed rhai o'r pethau y dylen nhw fod yn eu gwneud, ddim yn gweithredu fel y dylen nhw. Mae o'n gallu bod y straen aruthrol, a'r un peth wnaeth fy nharo i o siarad efo'r meddygon teulu hynny, roedden nhw'n onest iawn ynglŷn â swydd mor anodd ydy hi ar y funud, yr effaith ar eu hiechyd meddwl nhw, y straen aruthrol hefyd. Rydyn ni wedi clywed ynglŷn ag absenoldebau oherwydd eu bod nhw'n gweld, oherwydd y rhestrau aros sydd gennym ni, pobl yn dirywio, yn dod atyn nhw yn fwy cyson, a'r straen mae hynny yn ei achosi, felly. Wedyn dydy un datrysiad ddim yn ddigon fan hyn, nac ydy, rydyn ni'n edrych ar nifer o elfennau gwahanol.

Ond y gwir amdani ydy bod yn rhaid gweld gweithredu. Rydyn ni'n gwybod beth ydy rhai o'r heriau. Mae yna ddatrysiadau yn y cynigion hyn a'r hyn rydyn ni wedi eu rhoi fel gwelliannau, a dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn gytûn, ein bod ni eisiau system sydd yn gweithio lle bynnag eich bod chi'n byw yng Nghymru, bod yr hyfforddiant ar gael, bod y gwasanaethau ar gael. Mae o i gyd yn gysylltiedig, dydy o ddim jest am feddygon teulu, ond yr holl isadeiledd sydd ei angen. Felly, dwi'n falch o gefnogi, a dwi yn gobeithio y bydd yna gefnogaeth hefyd i'n gwelliannau ni. Mae'n rhaid inni gael y cyllid teg er mwyn inni gael y gwasanaethau cyhoeddus mae ein cymunedau ni'n eu haeddu.

17:45

Ar gyfer fy nghyfraniad, hoffwn ganolbwyntio ar gyfres o ymweliadau diweddar a wneuthum o amgylch Canolbarth a Gorllewin Cymru i gasglu barn meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig am y materion mwyaf enbyd y maent yn eu hwynebu. Yn gyntaf, gadewch inni edrych ar realiti llwm demograffeg y Gymru wledig. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae gan Gymru boblogaeth hŷn na bron i bob un o ranbarthau Lloegr, gyda'r nifer uchaf yn y sir rwy'n byw ynddi, Powys, lle mae 27.8 y cant o bobl yn 65 oed a throsodd.

Mae gan boblogaethau gwledig nodweddion a heriau unigryw. Mae yna broblemau iechyd meddwl yn gysylltiedig â byw mewn ardaloedd anghysbell. Mae heriau unigryw o ran cael mynediad at ofal meddygol amserol. Ym Mhowys, nid oes gennym ysbyty cyffredinol, felly mae'n rhaid i bawb fynd i ysbyty cyffredinol dros y ffin yn Lloegr. Ac mae heriau o ran teithio hefyd, fel y mae Heledd newydd sôn.

Rwyf am siarad am ein cymunedau ffermio hefyd. Mae ganddynt rwystrau arbennig; pan fydd ffermwyr yn mynd yn sâl, yn aml, ni allant gael triniaeth brydlon gan eu meddygon teulu lleol am na allant adael y fferm—yn llythrennol. Yn hytrach, mae'n rhaid iddynt aros i feddygon teulu sydd wedi'u gorweithio ddod o bell i wneud ymweliad cartref, gan ganiatáu i gyflyrau y gellir eu trin ddirywio yn y cyfamser. Ac mewn ardaloedd gwledig, mae gennym stoc dai wael iawn. Mae llawer ohoni'n eiddo i landlordiaid sy’n gyndyn iawn i drin cyflwr gwael y cartrefi hynny, sy’n gwaethygu'r afiechydon hynny.

Felly, mae gennyf y tri chais canlynol, os caf. Mae trafnidiaeth wedi’i chrybwyll, ond mae’n waeth byth mewn ardal wledig; yn llythrennol, nid oes unrhyw opsiynau. Rydym wedi clywed am yr arolwg gan y comisiynydd pobl hŷn: nododd ymatebwyr oedrannus fod diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn rhwystr mawr sy’n eu hatal rhag ceisio mynediad at bractisau meddygon teulu. Byddai'n dda gennyf glywed, felly, gan Ysgrifennydd y Cabinet pa sgyrsiau a gawsoch chi gyda’r Ysgrifennydd trafnidiaeth i sicrhau bod llwybrau sy’n galluogi mynediad at ofal iechyd yn ystyriaeth go iawn yn y Bil bysiau sydd ar y ffordd.

Yn ail, mae gwariant mewn lleoliadau meddygon teulu gwledig yn llawer uwch mewn gwirionedd, oherwydd yr heriau gweithredol unigryw sydd ganddynt heb unrhyw ysbyty cyffredinol gerllaw. Mae practisau lleol yr ymwelais â nhw wedi dweud wrthyf fod yn rhaid iddynt ddarparu gwasanaethau ychwanegol, megis fflebotomi, a fyddai efallai ar gael yn haws mewn ardaloedd trefol.

Yn drydydd, recriwtio a chadw. Clywsom lawer am hyn heddiw, ond mewn ardaloedd gwledig, roedd gennym gynllun o'r enw 'cynllun recriwtio wedi'i dargedu', a ddaeth i ben ym mis Chwefror eleni. Fe wnaeth ardaloedd gwledig elwa o’r cynllun penodol hwnnw, ac mewn gwirionedd, mewn un practis meddyg teulu yr ymwelais ag ef, cyfarfûm ag un o’r meddygon teulu a oedd wedi dod drwy’r cynllun hwnnw a phenderfynu aros yn y feddygfa wledig honno, felly fe fu’n llwyddiannus. Felly, hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet pa faterion y gall feddwl amdanynt sy'n peri heriau rhag bwrw ymlaen â hynny. Rwy'n credu—

17:50

Diolch i’r Aelod, ac rwy’n gwerthfawrogi’r sylwadau y mae’r Aelod wedi’u gwneud heddiw. Tybed a gaf i bwyso am eich cefnogaeth i bedwaredd alwad. Mae'r sgyrsiau a gefais gyda meddygfeydd lleol yn ymwneud â landlordiaid yn gorelwa'n fwriadol o bractisau meddygon teulu heb unrhyw reswm cyfiawn. A fyddech chi'n cefnogi galwadau am sgwrs genedlaethol, yma yng Nghymru ac yn y DU, i atal yr arfer hwnnw, fel y gall meddygon teulu, sydd eisoes dan bwysau, fwrw ymlaen â'r gwaith o ganolbwyntio ar eu cleifion, yn hytrach na’r biliau hyn sy'n uchel am ddim rheswm?

Hoffwn ddiolch i’r Aelod am hynny, ac roedd hwnnw'n fater a gododd pan ymwelais â’r practisau meddygon teulu, sef bod eu costau'n uwch ac nid oedd ganddynt unrhyw reolaeth drostynt, yn enwedig, fel y dywedwch, pan oedd landlordiaid yn cyflwyno bil iddynt na allent ei dalu ac a oedd yn eu gorfodi i mewn i sefyllfa benodol. Felly, diolch am eich ymyriad.

Rwy’n mynd i orffen, a hoffwn orffen gyda galwad am bremiwm meddygon teulu gwledig. Hoffwn i Lywodraeth Cymru ystyried sut y gallech ddeddfu hyn. Byddai hyn yn helpu i sefydlogi ein practisau gwledig; byddai'n denu ac yn cadw talent ac yn sicrhau bod ein meddygfeydd lleol yn gallu parhau i ddarparu meddygfeydd â gwasanaethau ychwanegol y mae ein cymunedau gwledig yn dibynnu arnynt. Rydym wedi clywed, onid ydym, mai'r realiti yw bod ein practisau meddygon teulu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn gwegian o dan bwysau aruthrol. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau pellach, ond hefyd at glywed barn Ysgrifennydd y Cabinet ar bremiwm meddygon teulu gwledig. Diolch yn fawr iawn.

Mae practisau meddygon teulu nid yn unig yn achubiaeth leol i gleifion, ond maent hefyd yn lleddfu’r pwysau ar ysbytai Cymru, gan arbed costau i fyrddau iechyd. Felly, roedd toriadau cynyddol i'w cyfran o gyllid GIG yn enghraifft o'r math gwaethaf o economeg iechyd anneallus. Wrth gwrs, nid yw hyn yn newydd, ac mae Llywodraethau Llafur Cymru wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd lawer.

Mae 12 mlynedd wedi bod bellach ers i Gymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ail-lansio ymgyrchoedd yn rhybuddio bod Cymru yn wynebu argyfwng o ran meddygon teulu, fod 90 y cant o gysylltiadau cleifion yn cael eu gwneud ag ymarfer cyffredinol, ond bod eu cyllid fel cyfran o gacen y GIG wedi lleihau, a’u bod wedi ail-lansio eu hymgyrchoedd am nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwrando. Mae degawdau wedi bod bellach ers sesiwn friffio gan BMA Cymru yn y Cynulliad, fel y'i gelwid ar y pryd, pan ddywedodd cadeirydd pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru:

'fod ymarfer cyffredinol yn y gogledd mewn argyfwng, nad oedd sawl practis wedi gallu llenwi swyddi gwag, a bod llawer o feddygon teulu yn ystyried ymddeol o ddifrif oherwydd y llwyth gwaith sy'n cynyddu ar hyn o bryd.'

Mae wyth mlynedd wedi bod bellach ers i feddygon teulu yn y gogledd ysgrifennu at y Prif Weinidog ar y pryd, yn ei gyhuddo o fod wedi colli gafael ar realiti’r heriau sy’n eu hwynebu. Dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu bryd hynny fod ymarfer cyffredinol yng Nghymru yn darparu 90 y cant o ymgynghoriadau’r GIG am 7.8 y cant yn unig o’r gyllideb—mae hyd yn oed yn is nawr. Dywedasant fod tanfuddsoddi hirdymor yn golygu bod cyllid ar gyfer ymarfer cyffredinol wedi bod yn gostwng o gymharu â GIG Cymru yn gyffredinol, ac eto, rydym yn wynebu heriau sylweddol poblogaeth sy’n heneiddio ac yn tyfu.

Dywedasant fod ymgynghoriadau yn mynd yn hirach ac yn fwy cymhleth, wrth iddynt ymdrin â nifer gynyddol o gleifion â chyflyrau cronig lluosog. A dywedasant fod bron i bedwar o bob 10 claf yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd trefnu apwyntiad cyfleus gyda’r meddyg teulu; roedd 84 y cant o feddygon teulu yng Nghymru yn poeni eu bod wedi methu rhywbeth difrifol gyda chlaf oherwydd pwysau gwaith; roedd mwy na 52 y cant o feddygon teulu yn wynebu problemau recriwtio sylweddol; ac roedd angen i Gymru gyflogi 400 yn rhagor o feddygon teulu.

Mae mwy na phum mlynedd wedi bod bellach ers i adroddiad gan BMA Cymru ddangos nad yw practisau meddygon teulu a reolir yn darparu gwerth am arian. Mae bron i dair blynedd bellach ers i BMA Cymru ysgrifennu at y Gweinidog iechyd ar y pryd, sydd bellach yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn annog ad-drefnu'r system iechyd a gofal yng Nghymru yn radical, gyda chadeirydd pwyllgor meddygon ymgynghorol Cymru y BMA yn dweud:

'Ar ôl codi pryderon dro ar ôl tro dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf fod y sefyllfa’n gwaethygu, yn anffodus, rydym yn gweld ein hofnau’n cael eu gwireddu. Os na chymerir camau ar unwaith i ddatrys y sefyllfa hon, bydd cleifion yn marw'.

Gan neidio ymlaen, nid yw’n syndod fod ymgyrch Achubwch ein Meddygfeydd BMA Cymru bellach yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i sicrhau bod 11 y cant o gyllid GIG Cymru yn cael ei wario ar ymarfer cyffredinol, a bod Cymru’n hyfforddi, yn recriwtio ac yn cadw digon o feddygon teulu i symud tuag at nifer cyfartalog y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o feddygon teulu fesul 1,000 o bobl.

Roeddwn yn un o sawl Aelod trawsbleidiol o'r Senedd a fynychodd gyfarfod ar 8 Mawrth gyda meddygon teulu yng gogledd-ddwyrain Cymru, ar eu cais, i glywed am yr heriau niferus y maent yn eu hwynebu mewn gofal sylfaenol. Dywedasant wrthym nad yw practisau a reolir gan y bwrdd iechyd yn darparu’r un lefel o barhad gofal, cyfraddau boddhad cleifion, cyfraddau mynychu y tu allan i oriau, gwaith ataliol, nac atebolrwydd â phractisau gwasanaethau meddygol cyffredinol, a'i bod o fudd i'r bwrdd iechyd gefnogi model ymarfer y gwasanaethau meddygol cyffredinol.

Dywedasant wrthym yr hoffai meddygon teulu ddarparu mwy o wasanaethau yn nes at gartrefi cleifion fel rhan o 'Cymru Iachach’; fod ganddynt yr arbenigedd i wneud hyn, ond fod angen cefnogaeth wleidyddol arnynt i symud y cyllid o ofal eilaidd a chael y cyfleusterau priodol i wneud hynny; y byddent yn hoffi gallu brysbennu cleifion sy'n aros mewn ambiwlansys y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys, a fyddai'n gwella profiad y claf ac yn lleihau amseroedd aros a derbyniadau i'r ysbyty; a bod angen diogelu dyfodol gofal sylfaenol drwy ddarparu'r adnoddau priodol ar unwaith. Dyna a ddywedodd y meddygon teulu wrthym.

Mae mynediad cyfleus at ofal iechyd gan feddygon teulu mewn ymarfer cyffredinol yn allweddol i ddyfodol GIG Cymru. Mae gofalu am gleifion mewn lleoliad gofal sylfaenol yn fwy costeffeithiol nag mewn mannau eraill yn y gwasanaeth iechyd. Drwy sicrhau mynediad addas at wasanaethau meddygon teulu, gallwn helpu i gadw ein poblogaeth yn iachach am gyfnod hwy, galluogi mwy o bobl i reoli eu cyflyrau'n llwyddiannus yn y gymuned, ac osgoi derbyniadau diangen a drud i’r ysbyty. Ond ni all ymarfer cyffredinol wneud hyn heb adnoddau digonol. Mae'n hen bryd i Lafur roi'r gorau i wadu a rhoi camau gweithredu hanfodol ar waith.

17:55

Rwy'n codi heddiw i gefnogi’r gwelliant a gyflwynwyd gan Jane Hutt. Yn gynharach eleni, ymwelais â meddygfa Gogledd Celynen yng Nghrymlyn, yn fy etholaeth yn Islwyn, a’r staff sy’n gweithio yno ar reng flaen ein hannwyl wasanaeth iechyd gwladol. Dywedant wrthyf o lygad y ffynnon am y cynnydd esbonyddol a graddfaol yn y galw gan gleifion. Dywedant wrthyf am gymhlethdod cyflyrau cydafiachedd ar ôl COVID, a difrifoldeb yr ymgyflwyniadau hynny. A hyn oll ochr yn ochr â'r datblygiadau rhyfeddol mewn meddygaeth ac ymwybyddiaeth cleifion. Mewn byr eiriau, rydym yn wynebu storm berffaith o feddygon teulu ac ymarferwyr yn ymddeol, a'r newid dilynol yn y gweithlu a chapasiti.

Ond mae’n wir dweud mai’r broblem wirioneddol nad ydym yn sôn amdani yw’r biliynau o bunnoedd yn llai nad yw Cymru’n eu cael o ganlyniad uniongyrchol i benderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, ac mae’n anodd ac yn feichus i staff. Ond yn y pen draw, mae ein practisau'n gwybod, ac maent yn dweud wrthyf, mai rhan fawr o hyn iddynt yw'r ymdrech i sicrhau bod ein gofal iechyd am ddim i bawb lle bynnag y bo’i angen, ni waeth beth fo'ch cyfoeth. Dywedwyd wrthyf gan weithwyr proffesiynol fod tensiynau’n dal i fodoli o ran sicrhau y gellir rhoi apwyntiadau i gleifion ac y gellir treulio amser digonol gyda chleifion oherwydd y galw.

Ym mis Ebrill 2022, sefydlodd Llywodraeth Cymru yr ymrwymiad mynediad at wasanaethau meddygol cyffredinol—addewid y byddai anghenion pobl yn cael eu diwallu y tro cyntaf iddynt gysylltu â’u practis, heb orfod galw’n ôl ar adeg arall. Erbyn 31 Mawrth 2023, fodd bynnag, dywedodd 95 y cant o bractisau meddygon teulu eu bod wedi cyflawni’r ymrwymiad hwn, ac felly mae’n hanfodol fod hynny’n parhau ac yn cael ei gynnal. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £12 miliwn dros dair blynedd o fis Ebrill 2022 ymlaen i helpu practisau meddygon teulu i adeiladu eu capasiti drwy staff ychwanegol i gefnogi’r ymrwymiad pwysig hwn, a gwelliannau eraill, i sicrhau mynediad cyfartal. Felly, mae’r ymrwymiad mynediad sy’n ei gwneud yn ofynnol i bractisau meddygon teulu fabwysiadu model mynediad cyfunol, gan gynnig cymysgedd o apwyntiadau o bell, wyneb yn wyneb, brys, yr un diwrnod ac apwyntiadau y gellir eu trefnu ymlaen llaw yn rhan o hynny.

Ddirprwy Lywydd, nid oes ond angen ichi ddarllen y llythyrau yn y Western Mail heddiw i wybod pa mor annwyl yw ein GIG yn parhau i fod i bobl. Ysgrifennodd Elaine Ryan, 'Breuddwydiodd Nye Bevan am system ofal iechyd o'r radd flaenaf am ddim lle bynnag y bo’i hangen, felly, heddiw, cefais brofiad o ofal rhagorol gweledigaeth Nye.' Felly, gadewch i bob un ohonom gefnogi a choleddu'r hyn a all barhau am flynyddoedd lawer i ddod. Ond gadewch i ni yn y Senedd beidio â bod dan unrhyw gamargraff, serch hynny, nad yw 14 mlynedd hir o reolaeth Dorïaidd yn San Steffan wedi golygu bod pob agwedd ar fywyd cyhoeddus wedi dioddef oherwydd y toriadau y mae'r Torïaid wedi dewis eu gwneud, neu os yw'n well gennych, cyni. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

18:00

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl heddiw, ond yn anffodus, fel pob un ohonom, mae llawer gormod o fy etholwyr yn methu cael y driniaeth a'r gofal y maent yn ei haeddu. Ond cyn i mi ddechrau, a gaf i achub ar y cyfle i fynegi fy niolch i'r holl feddygon, nyrsys a staff meddygol, yn ogystal â staff anfeddygol, sy'n darparu'r gofal gorau posibl i fy etholwyr, er gwaethaf yr heriau a ddaw yn sgil polisïau Llywodraeth Cymru?

Mae practisau meddygon teulu yn anhepgor i gymunedau lleol ac mae mynediad atynt pan fo'u hangen yn hanfodol. Maent yn llythrennol yn darparu achubiaeth i bobl, yn enwedig pan fo gallu i deithio i ardaloedd eraill o'r sir wedi'i gyfyngu oherwydd salwch neu anabledd. Mae mynediad at feddygfeydd meddygon teulu hefyd yn helpu i leddfu'r pwysau ar agweddau eraill ar y GIG, yn fwyaf arbennig adrannau damweiniau ac achosion brys. Yn fy etholaeth i, mae gennym feddygfa Grŵp Meddygol Argyle yn Noc Penfro, y cyfeiriais ati yn y Siambr hon o'r blaen. Mae'r feddygfa yn un o'r rhai mwyaf yng Nghymru, sy'n gwasanaethu dros 20,000 o bobl. Yn anffodus, mae nifer y meddygon teulu cofrestredig wedi gostwng o naw yn 2021 i wyth. Yn wir, ar eu gwefan eu hunain, mae'n dweud,

'Mae gennym lai o feddygon yn gweithio i ni nag erioed o'r blaen',

cyn mynd ymlaen i ddweud y bydd mân afiechydon ac anafiadau'n cael eu trin gan staff meddygol hyfforddedig arall. Mae hyn, ynghyd â phroblemau eraill—y system apwyntiadau dros y ffôn sy'n rhy brysur yn ystod oriau brig, a mynediad at apwyntiadau ar yr un diwrnod neu apwyntiadau yn y dyfodol sy'n ad hoc—wedi arwain at anawsterau sylweddol rhag cael mynediad at wasanaethau'r feddygfa. Fodd bynnag, hoffwn gofnodi fy niolch i'r staff sy'n gweithio'n galed yn Stryd Argyle am eu hymroddiad i ddarparu'r gofal iechyd o'r ansawdd gorau posibl mewn cyd-destun anodd, na chaiff ei helpu, unwaith eto, gan bolisïau Llywodraeth Cymru.

Mae'r sefyllfa hon yn amlwg yn fethiant o ran cynllunio hirdymor gan Lywodraeth Cymru, gan nad oes digon o feddygon teulu yn cael eu hyfforddi na'u cymell, naill ai drwy dâl neu amodau, i ateb y galw angenrheidiol. Mae'n afresymol disgwyl apwyntiadau meddyg teulu ar yr un diwrnod pan nad yw'r cyllid ar gyfer practisau'n ddigonol, ac felly a yw'n iawn fod llai nag 8 y cant o gyllideb GIG Cymru yn cael ei ddyrannu iddynt? Mae'n rhaid inni wrando ar gyngor y BMA ac adfer cyllid ar gyfer practisau meddygon teulu i lefelau hanesyddol o 8.7 y cant o'r gyllideb iechyd, gyda'r nod o'i gynyddu i 11 y cant yn y pum mlynedd nesaf. Bydd hyn yn helpu i atal y dirywiad yn nifer y practisau a meddygon teulu, gan sicrhau y gall meddygfeydd fel Stryd Argyle weld gwelliant yn eu hamgylchiadau. Nid oes yr un ohonom eisiau gweld meddygfeydd yn cael eu gorweithio a'u tanstaffio, gan ei fod yn niweidiol iddynt hwy ac i iechyd a lles eu cleifion.

Yn ogystal, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r heriau unigryw sy'n wynebu meddygfeydd meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig wrth recriwtio. Heb recriwtio cyson, mae meddygfeydd gwledig yn cau, gan adael cymunedau heb fynediad at wasanaethau gofal iechyd hanfodol. Rhaid inni wneud rolau y tu allan i brif ganolfannau trefol Cymru yn fwy deniadol yn broffesiynol ac yn gymdeithasol. Gwelsom hyn yn fy etholaeth i ym meddygfa Talacharn, practis meddyg teulu gwledig, gan amlygu prinder staff, ac sy'n ystyried cau. Mae'r premiwm gwledig y siaradwn amdano'n aml yn real iawn o ran cael mynediad at ofal iechyd. Ni cheir unffurfiaeth na chydraddoldeb rhwng gwasanaethau a darpariaeth ar draws Cymru.

Hoffwn orffen fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ailadrodd fy niolch i'r holl staff mewn meddygfeydd meddygon teulu am eu gwaith caled a'u hymroddiad yn gofalu am gleifion ledled Cymru. I'r rhai sy'n gwylio neu fel arall, rwyf am ddweud wrthych nad ydych chi ar eich pen eich hun, ac rydym ni ar y meinciau hyn yn cydnabod eich anghenion. Os yw eraill yn y Siambr hon yn cydnabod eu hanghenion hefyd, rwy'n eich annog i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig heno. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

18:05

Fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod yn iawn, yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, mae'r her o gadw meddygfeydd gwledig ar agor yn dwysáu. Y newid yn ffabric cymdeithasol ein cymunedau gwledig yw un o'r ffactorau sydd yn bennaf cyfrifol am y straen ar wasanaethau meddygol. Nid yw'n syndod i'r rhai ohonom ni sydd yn byw mewn cymunedau gwledig i weld bod newidiadau demograffig dros y degawdau diwethaf wedi cyfrannu'n fawr at y broblem—ein pobl ifanc yn gadael, a phobl hŷn yn symud i'n hardaloedd gwledig yn eu lle.

Nawr, mae'r sifft ddemograffig hon yn golygu bod gyda ni erbyn hyn ar draws y rhanbarth boblogaeth sydd yn heneiddio. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu dros y degawd diwethaf, ac rŷn ni wedi clywed am hyn gan Jane Dodds yn barod. Mewn siroedd fel Ceredigion a Phowys, er enghraifft, rŷn ni wedi gweld cynnydd o 5 y cant yn nifer y rhai dros 65 oed. Beth mae hyn yn dangos yw bod angen i Lywodraeth Cymru wneud llawer mwy i geisio cadw ein pobl ifanc yng nghefn gwlad, a denu'r rhai sydd wedi gadael yn ôl, os ydyn nhw'n dymuno. 

O ganlyniad i'r boblogaeth hon sy'n heneiddio, rydym bellach yn wynebu problem real iawn sy'n gwaethygu'n gyflym. Ar y naill law, mae'n debyg na fu anghenion gofal iechyd ein cymunedau gwledig erioed yn fwy. Fodd bynnag, fel y clywsom eisoes y prynhawn yma, mae gwasanaethau meddygon teulu rheng flaen mewn mwy a mwy o berygl o symud ymhellach ac ymhellach i ffwrdd o'r cymunedau gwledig y maent yn eu gwasanaethu. Yn ogystal â hyn, mae poblogaeth sy'n heneiddio yn golygu bod cymhlethdod anghenion cleifion unigol yn aml ar lefelau digynsail, ac mae'r apwyntiadau 10 munud traddodiadol bellach ymhell o fod yn addas i'r meddyg teulu neu'r claf ar gyfer darparu pecyn iechyd cyfannol. Ychwanegwch y cymhlethdod hwn at ymchwydd o 32 y cant yn nifer cyfartalog y cleifion fesul meddyg teulu amser llawn dros y degawd diwethaf, ac mae'r darlun a'r straen ar ein meddygfeydd i'w weld yn gliriach byth.

Wrth gwrs, nid dim ond ein cymunedau gwledig sy'n heneiddio, chwaith. Mae nifer cynyddol o'n meddygon teulu hefyd yn heneiddio ac yn ymddeol. Fel rŷn ni wedi gweld yn ddiweddar iawn yn Nhalacharn yn sir Gâr ac ar hyn o bryd yn Nhyddewi yn sir Benfro, mae posibilrwydd gwirioneddol y gallem ni weld nifer o gymunedau heb unrhyw feddyg teulu o gwbl, a hynny ar adeg pan fo'n cysylltiadau trafnidiaeth wledig yn crebachu'n gyflym, sydd yn ei gwneud hi'n fwy anodd eto i bobl hŷn yn arbennig gyrraedd meddygfeydd.

Mae'n amlwg, Ysgrifennydd Cabinet, fod y system fonws bresennol i feddygon ifanc wedi methu â chyflawni ei fwriad. Felly, hoffwn i yn benodol weld y Llywodraeth yn meddwl yn fwy tu fas i'r bocs, a dwi'n hapus i gefnogi'r alwad gan Jane Dodds i chi ystyried, efallai, y mater o fonws gwledig i feddygon, a meddwl hefyd sut y gallwn ni leihau'r pwysau ar ein meddygon teulu. Un ffordd ymlaen, efallai, fyddai gweld mwy o bresgripsiynau yn cael eu rhoi gan fferyllwyr lleol. Fel mae'n digwydd, ces i gyfle'n ddiweddar i ymweld â fferyllydd, neu fferyllfa yn hytrach, yn Llanidloes, Powys, a oedd yn cynnig gwasanaeth presgripsiwn gan dynnu pwysau sylweddol oddi ar y feddygfa leol, a byddai'n dda gweld y math hwn o fodel yn cael ei ehangu ar fyrder ar draws Cymru gyfan.

I gloi felly, fel y gwnaeth Mabon amlinellu yn gynharach, mae mawr angen datblygu system sy'n sicrhau bod gweithio yng Nghymru, a'r Gymru wledig yn benodol, yn ddeniadol i'r rhai sy'n awyddus i wasanaethu ein cymunedau fel meddygon teulu. 

18:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy gofnodi faint rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith y mae meddygon teulu a'u timau yn ei wneud bob dydd i gadw pobl Cymru'n ddiogel ac yn iach. Ymarfer cyffredinol yw conglfaen y gwasanaeth iechyd gwladol, ac mae'n darparu gofal o ansawdd uchel yn agos at ein cartrefi, yn aml yn wyneb galw anhygoel o uchel. Mae hwn yn wasanaeth hanfodol ac annwyl iawn gan bobl. Mae meddygon teulu a'u timau o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ffynhonnell ddibynadwy o gyngor a gofal, a nhw yw'r porth i weddill y gwasanaeth gofal iechyd, wedi'u gwreiddio yn ein holl gymunedau lleol. Mae'r rhan fwyaf o ofal iechyd yn cael ei ddarparu mewn gofal sylfaenol. Mae'r hyn sy'n cyfateb i bron i hanner poblogaeth Cymru yn cysylltu â'u meddyg teulu bob mis, ond gall pob un ohonom gefnogi ymarfer cyffredinol trwy ofalu am ein hiechyd ein hunain trwy fwyta'n well, bod yn gorfforol egnïol a chynnal perthnasoedd a chysylltiadau cymdeithasol. Gallwn helpu i gefnogi ein meddygon teulu lleol hefyd drwy ddewis y gwasanaeth cywir ar gyfer ein hanghenion iechyd, ac nid yw hynny bob amser yn golygu ffonio'r meddyg am apwyntiad bob tro y byddwn yn teimlo'n sâl. Mae fferyllfeydd bellach yn darparu cyngor a thriniaeth am ddim ar gyfer 27 o anhwylderau cyffredin, o'i gymharu â saith y gallant helpu gyda nhw yn Lloegr. Mae hyn, yn ogystal â chyflwyno'r gwasanaeth 111 sy'n ymdrin â 70,000 o alwadau'r mis, wedi helpu i dynnu pwysau oddi ar feddygon teulu, oherwydd rydym am sicrhau bod meddygon teulu yn parhau i fod yno i ni pan fydd eu hangen arnom, ac rydym am iddynt wneud y gwaith y maent hwy'n unig wedi'u hyfforddi ar ei gyfer. Ond yn union fel gweddill y GIG, byddant hwy a'u gwasanaethau yn parhau i addasu i ddiwallu anghenion newidiol y proffesiwn gofal iechyd a'r cyhoedd.

Dros y blynyddoedd diwethaf ac yn wyneb y costau ynni uwch nag erioed a chwyddiant cyson o uchel, y duedd ar draws y DU fu i bartneriaid meddygon teulu gydgrynhoi eu gwasanaethau i leihau costau. Mae meddygon teulu, wrth gwrs, yn ddarparwyr annibynnol—ni chânt eu cyflogi'n uniongyrchol gan y GIG, er mai'r GIG yn gyffredinol yw eu hunig gontractwr. Mae llawer yn awyddus i adeiladu gwytnwch ychwanegol eu practisau meddygon teulu fel y gallant gyflogi fferyllwyr, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ymarferwyr nyrsio cymwys iawn, sydd oll yn helpu i dynnu'r pwysau oddi arnynt. Ac mae'n llawer haws gwneud hyn os byddwch yn uno eich practis ag eraill, ac mae hyn wedi arwain at ostyngiad yn niferoedd cyffredinol y practisau, ac at bractisau mwy o faint. Mae practis fy ngŵr yn Nhrelái yn enghraifft o hyn. Fe unodd â phractis arall, ond mae'n darparu'r un gwasanaeth yn union o'r un safle, ond mae mwy o wytnwch yn y system. Gobeithio y gwnaiff y Siambr—

A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny, Weinidog? Diolch yn fawr iawn. Pam fod gwahaniaeth, felly, rhwng y contract gwasanaethau meddygol cyffredinol ar gyfer meddygfeydd meddygon teulu a'r rhai sy'n cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan fyrddau iechyd, oherwydd fe wnaeth Darren Millar a minnau ymweld â Meddygfa Tŷ Madryn yn y Rhyl ychydig fisoedd yn ôl, a dyna'r dystiolaeth a glywsom gan gontractwr gwasanaethau meddygol cyffredinol? Rwy'n gweld gwaith achos yn fy etholaeth lle mae cwynion difrifol am wasanaethau meddygon teulu sy'n cael eu rhedeg gan fyrddau iechyd, lle nad yw o reidrwydd yn wir gyda gwasanaethau contract y gwasanaethau meddygol cyffredinol.  

Wel, maent yn cael eu cyflogi gan wahanol bobl, felly mae eu contractau o reidrwydd yn mynd i fod yn wahanol. Ond rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn caniatáu ychydig eiliadau imi nodi y bydd fy ngŵr yn ymddeol o bractis meddyg teulu mewn 12 diwrnod gwaith ar ôl 30 mlynedd o wasanaeth yng nghymuned Trelái. Felly, hoffwn ddiolch i Rhys am ei wasanaeth i'r gymuned honno. [Cymeradwyo.] Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl feddygon teulu ledled Cymru. Hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad o'r gwaith y mae meddygon teulu yn ei wneud yn eu timau bob dydd i'n cadw ni'n iach.

Y gwir amdani yw bod nifer y meddygon teulu yng Nghymru yn parhau'n gyson. Mae nifer y staff ar wahân i feddygon teulu eu hunain sy'n gweithio mewn practisau meddygon teulu yn cynyddu'n sylweddol, ond hyd yn oed i feddygon teulu, mae'r targed o 160 o hyfforddeion meddygon teulu newydd bob blwyddyn yn cael ei ragori'n gyson. Rwy'n credu ei bod yn werth nodi bod mwy o bartneriaid meddygon teulu y pen yng Nghymru nag a geir yn Lloegr. Rydym hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y meddygon teulu sy'n ymgymryd â swyddi cyflogedig, naill ai mewn gwasanaethau meddygon teulu annibynnol neu'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan fyrddau iechyd. Mae'n ymddangos bod llawer o feddygon teulu iau yn amharod i fod yn bartneriaid ac i ysgwyddo'r cyfrifoldeb o redeg yr hyn sydd, i bob pwrpas, yn fusnes bach a chymhleth wedi'i lapio mewn rheoliadau cymhleth sydd yno i ddiogelu'r cyhoedd.

Rydym wedi cefnogi meddygon teulu yn gyson, rydym wedi gweithio'n gyson gyda Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru, ac wedi cymryd camau i gynnal a chryfhau ymarfer cyffredinol. Ac mae hynny'n wir mewn ardaloedd gwledig hefyd. Y gwir amdani yw bod gennym gymhelliant gwledig i hyfforddi meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig, ac rydym newydd gynyddu'r swm a roddwn iddynt o £5,000 i £7,000. Ac ar ben hynny, pan fo angen ceisio denu pobl i ardaloedd penodol, fe roddodd y byrddau iechyd yr arian ychwanegol ar y bwrdd. Gallwn roi enghraifft i chi. Ym mhractis Wdig, a oedd ar fin cau, fe wnaethant gynnig £20,000 yn ychwanegol i geisio denu pobl yno, ac roeddent yn dal i fod yn gyndyn i ddod, felly nid yw bob amser yn ymwneud ag arian; maent eisiau bod mewn gwasanaeth mwy gwydn. Nid yw pobl eisiau gweithio ar eu pen eu hunain. Mae'n ymddangos mai dyna'r patrwm a welwn.

Fis Hydref diwethaf, fe wnaethom gyflwyno'r contract unedig sy'n symleiddio'r gwasanaethau y mae'n rhaid i bob practis meddyg teulu eu darparu ac yn lleihau biwrocratiaeth ddiangen, fel y gellir rhyddhau mwy o amser meddygon teulu i ofalu am gleifion. Nawr, am y tro cyntaf, drwy'r contract unedig, rydym wedi gallu gwneud ein disgwyliadau ynghylch mynediad at wasanaethau yn ofyniad cytundebol. Mae hyn yn sicrhau dull cyson o weithredu ledled Cymru, a'r cysondeb hwn sydd wedi ein helpu i fynd i'r afael â'r dagfa 8 y bore yng Nghymru, sy'n dal i fod yn broblem sylweddol yn Lloegr o hyd. Mae'r contract newydd hefyd yn darparu sylfaen ar gyfer gwelliannau digidol yn y dyfodol trwy bresgripsiynau electronig a'r defnydd o ap y GIG. Bydd y rhain o fudd ac yn gyfleus i bractisau a'r cyhoedd. Datblygwyd y contract newydd i gydnabod bod meddygon teulu yn rhan o system ofal ehangach. Oherwydd wrth wraidd ein model gofal sylfaenol i Gymru mae'r egwyddor y dylai pobl allu cael mynediad at ofal sy'n diwallu eu hanghenion ar yr adeg iawn mor agos at eu cartref â phosibl.

18:15

Diolch am dderbyn ymyriad. Rydych chi'n hollol iawn, dylai pobl allu cael y gofal sydd ei angen arnynt mor agos â phosibl at eu cartref. Ond yn amlwg, gyda 99 o feddygfeydd wedi cau ledled Cymru yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, mae cael mynediad wyneb yn wyneb i'r gwasanaethau hynny wedi mynd yn fwyfwy anodd i lawer o bobl, yn enwedig yn ein cymunedau gwledig. A fyddech chi'n cydnabod hynny?

Yr hyn a wnaethom yw rhoi canolfannau gofal sylfaenol brys newydd ar waith, ond rwy'n cydnabod, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, fod honno'n her i bobl nad oes ganddynt gerbydau at eu defnydd. Mae'n rhywbeth a nodais yn ddiweddar wrth gadeirydd newydd Hywel Dda, i geisio cydnabod bod pobl yn wynebu heriau mewn gwirionedd. Mae'n rhaid i fyrddau iechyd wneud hynny'n rhan o'u hystyriaeth wrth gynllunio ar gyfer sut y dylid darparu gwasanaethau. Y gwir amdani yw bod llawer o ddewisiadau amgen nawr o ran lle gallwch chi gael cymorth. Meddyliwch am fferyllfeydd, lle gwnaeth 600,000 o ymgynghoriadau dynnu pwysau oddi ar wasanaethau meddygon teulu. Mae 70,000 o bobl yn manteisio ar y gwasanaeth 111 bob mis.

Rŷn ni wedi buddsoddi £5 miliwn mewn gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a mwy na £8 miliwn i sicrhau bod mwy o nyrsys cymunedol ar gael ar y penwythnosau, a bydd hyn yn sicrhau mwy o gymorth i feddygon teulu, trwy dimau adnoddau cymunedol, ac yn helpu pobl sy'n byw gyda salwch. Mae buddsoddi mewn gwasanaethau gofal sylfaenol yn werthfawr iawn, a dyna lle mae'r rhan fwyaf o ofal iechyd yn digwydd; mae'n ganolog i'r agenda ataliol. Allwn ni roi mwy o arian i ofal sylfaenol? Gallwn. Ond y ffaith yw, ers 2005, rŷn ni wedi cynyddu faint rŷn ni'n rhoi iddyn nhw gan £250 miliwn.

Felly, er eich bod yn iawn i ddweud bod y gyfran a wariwn ar wasanaethau meddygon teulu wedi gostwng, mae'r swm wedi cynyddu'n sylweddol ers 2005. Pam ei fod wedi mynd i lawr? Mae wedi mynd i lawr oherwydd ein bod yn fwriadol wedi ceisio ymateb i'r pandemig a'r rhestrau aros hir. Fe wnaethom ddweud ein bod yn mynd i wario £1 biliwn ar glirio'r ôl-groniad. Mae'r ôl-groniad mewn gofal eilaidd, nid mewn gofal sylfaenol, a dyna pam nad yw'r cydbwysedd lle rydym am fod. Ond rydym yn clirio'r ôl-groniad, a gobeithio eich bod chi'n deall y rheswm, oherwydd yn ein strategaeth, 'Cymru Iachach', rydym yn glir iawn mai'r cyfeiriad rydym am deithio iddo yw mwy o gymorth yn ein cymunedau ac mewn gofal sylfaenol.

Dirprwy Lywydd, er mwyn cyflawni uchelgais—[Torri ar draws.]

18:20

Na, mae'n ddrwg gennyf, Russell. Mae amser y Gweinidog eisoes ar ben, ac rwyf wedi rhoi peth amser iddi ar gyfer yr ymyriadau.

—ein strategaeth 'Cymru Iachach', dyna beth rŷn ni'n mynd i wneud: ailgydbwyso. Ond mae'n rhaid i ni ddod â'r rhestrau aros yna i lawr. I wneud hyn, mae'n rhaid i ni edrych ar y system gyfan. Ond hoffwn i jest orffen drwy ddiolch yn fawr i'n meddygon ni, yn arbennig rheini sy'n gweithio yn ein cymunedau.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw? O wrando arnoch i gyd, nid oes amheuaeth fod rhywbeth yn amlwg iawn o'i le ar ein gwasanaeth iechyd yng Nghymru fel y mae'n ymwneud â phractisau meddygon teulu pan welwn ostyngiad mor sylweddol yn nifer y meddygon teulu ledled Cymru.

A gaf i ddiolch i Sam Rowlands am agor ein dadl? Roedd ei gyfraniad yn nodi'r pryderon ynghylch ein practisau meddygon teulu. Rhannodd Sam y nifer o 99 yn llai o bractisau meddygon teulu bellach—mae hynny'n sylweddol iawn—a thynnodd sylw at y gostyngiad yn y lefelau ariannu a sut mae blynyddoedd o danariannu wedi arwain at y sefyllfa yr ydym ynddi. Mae'n taro pobl yn galed. Tynnodd sylw at y ffaith bod angen strategaeth gweithlu arnom. Mae recriwtio a chadw mor sylfaenol; mae yna argyfwng yma yng Nghymru. 

Nododd Mabon, fel y gwnaeth eraill, yr argyfwng mewn gofal sylfaenol ac yn sicr felly yn y Gymru wledig. Clywsom am niferoedd llai o feddygon teulu a chontractau'n cael eu trosglwyddo'n ôl. Rwy'n credu ein bod i gyd wedi gweld hynny yn ein cymunedau, gyda nifer y meddygfeydd wedi gostwng dros 18 y cant, meddai Mabon. Mae'n amlwg fod angen diwygio'r GIG yn ehangach.

Diolchodd Mike Hedges i'r gwasanaethau gofal sylfaenol ledled Cymru, gan gydnabod y rhan hanfodol y maent yn ei chwarae, ond roedd yn cydnabod y problemau a achosir pan aiff pethau o chwith. Ond fe wnaeth ein hatgoffa hefyd am agweddau eraill ar ofal sylfaenol, sydd mor bwysig, a phwysigrwydd cynaliadwyedd practisau meddygon teulu. 

Tynnodd Janet sylw at adroddiad y comisiynydd pobl hŷn a sut na allwn fforddio colli hyd yn oed un practis meddyg teulu arall. Roedd yn peri pryder mawr fod pobl oedrannus yn cael trafferth cysylltu â meddygon teulu fel y mae angen iddynt ei wneud.

Dywedodd Heledd mai dyma'r pwnc llosg ble bynnag rydym ni ar draws Cymru, a gofynnodd sut yr edrychwn ar bethau fel trafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd mae'n atal pobl rhag cael mynediad at eu meddygon teulu. Mae'n anodd i feddygon teulu ar hyn o bryd, fe wyddom hynny, ac maent dan straen ddifrifol. Diolch i Heledd a grŵp Plaid Cymru, oherwydd rwy'n deall y byddwch yn cefnogi ein cynnig heno.

Rhannodd Jane Dodds y safbwyntiau, fel y gwnaeth eraill, am yr ymarferwyr gwledig a'r problemau a gânt hwy gyda demograffeg hŷn ar draws ardal mor eang, ac adleisiwyd hynny gan Sam Kurtz yn nes ymlaen. Mae'r heriau gwledig yn sylweddol, ac maent yn wahanol mewn sawl ffordd i lawer o ardaloedd eraill, yn enwedig lle na allwch gael mynediad i ysbyty cyffredinol hyd yn oed ac mae'n rhaid ichi groesi'r ffin i gael y pethau sydd eu hangen arnoch. Fe wnaeth ein helpu hefyd i ddeall y pwysau ar y gymuned ffermio a sut y gall stoc dai wael gael dylanwad pwysig yn ogystal.

Tynnodd Mark Isherwood sylw at y ffaith bod meddygon teulu yn achubiaeth. Nododd y toriadau i gyllid y GIG yma dros y blynyddoedd a dywedodd fod y BMA wedi dweud wrth y Llywodraeth sawl gwaith dros y blynyddoedd am y bygythiad i gynaliadwyedd practisau meddygon teulu. Mae'n amlwg fod y pryderon hyn yn hysbys.

Chwaraeodd Rhianon y gêm arferol o feio Llywodraeth y DU—gwadu llwyr. Carwn awgrymu ei bod yn ymweld â'i meddyg teulu lleol ac yn gofyn iddynt hwy beth yw eu teimladau am y practis presennol a'r contractau y gallent fod wedi ymrwymo iddynt.

Fel y dywedais, soniodd Sam Kurtz, unwaith eto, am ardaloedd gwledig, ond roedd hefyd eisiau diolch, fel pawb ohonom, i'r bobl sy'n gweithio—yr holl ymarferwyr a'u timau—o un diwrnod i'r llall ar ein rhan. Roedd yn cydnabod nad eu bai nhw yw hyn. Rhannodd esiampl Stryd Argyle a sut maent wedi gweld gostyngiad. A dyma beth a welaf yn fy etholaeth fy hun: mae meddygon teulu yn cyflogi gwahanol fathau o ymarferwyr, ond mewn gwirionedd maent eisiau cyflogi meddyg teulu arall, ond ni fydd y contractau'n caniatáu iddynt wneud hynny, a dyna'r broblem go iawn.

Nododd Cefin, unwaith eto, yr heriau sy'n gysylltiedig â phractisau meddygon teulu gwledig a sut na fu'r angen am ofal iechyd erioed yn fwy yn yr ardaloedd hynny, a chymhlethdod poblogaethau sy'n heneiddio, a bod cynnydd o 32 y cant yn nifer y cleifion fesul meddyg teulu—faint yn fwy o bwysau y mae hynny'n ei gyfrannu.

Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am werth meddygon teulu a'u timau. Rwy'n gwybod eich bod yn credu hynny ac rydym i gyd yn cydnabod mai nhw yw'r sylfaen, maent yn wasanaethau sy'n annwyl iawn i ni. Ac mae llawer o alwadau. Fe ddywedoch chi fod nifer sy'n cyfateb i hanner y boblogaeth yn cysylltu â'u meddyg teulu bob mis. A dyna pam mae hyn mor bwysig, dyna pam ein bod yn cael y ddadl hon yma, oherwydd rydym yn clywed gan gannoedd o bobl—rhaid bod pob un ohonoch. Hyd yn oed os nad ydych chi'n ei ddweud yn y Siambr hon, mae'n rhaid eich bod yn clywed gan eich practisau, ac yn rhannu'r pryderon hynny, oherwydd pam mai ni'n unig sy'n eu clywed? Rhaid eich bod yn eu clywed.

18:25

Un o'r pryderon rwy'n parhau i'w cael yw'r dagfa am 8 y bore. Mae cyd-Aelodau'n cytuno â hynny. 

Fe wnaf. Rwy'n ymyrryd ar hyn, oherwydd rwy'n credu yn ymateb y Gweinidog fod y Gweinidog wedi awgrymu nad oedd hynny'n wir. Mae'r Gweinidog yn dweud wrthyf am ysgrifennu ati ynglŷn â hynny. Rwy'n credu bod yn rhaid i bawb ohonom wneud hynny pan fyddwn yn cael y profiad hwnnw, oherwydd mae'n amlwg fod y Gweinidog yn cael gwybod rhywbeth gwahanol. Felly, rwy'n awyddus iawn fod y Gweinidog yn dod i wybod am y materion hyn.

Diolch am yr ymyriad hwnnw. Yn bendant, rwy'n credu ein bod i gyd yn profi'r dagfa honno am 8 y bore, ac os na allwch chi gael apwyntiad, mae'n rhaid ichi ddechrau eto y diwrnod canlynol.

Ond ni wnânt ateb y ffôn. Sut mae cwyno? Neu mae'n rhaid i chi wneud cais am apwyntiad dros ap, sy'n cymryd dros 10 munud i chi ei lenwi.

Felly, mae'n eithaf syml, Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid inni gydnabod pwysigrwydd sylfaenol gwasanaeth gofal sylfaenol cynaliadwy, ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw ffordd y gallem awgrymu bod ein gofal sylfaenol, ar ei ffurf bresennol, yn gynaliadwy. Yn fy etholaeth fy hun, fel y nodais, rwyf wedi siarad ag o leiaf ddau bractis yn ddiweddar. Maent yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Nid yw'r contractau'n cynnwys y gwasanaethau dewisol gwerthfawr y mae meddygon teulu yn eu cynnig i'n hetholwyr, a chodais hyn yn ddiweddar mewn dadl fer. Mae'r drefn ariannu yn ein gwasanaeth iechyd yn gyson yn ffafrio gofal eilaidd. Yn wir, mae llai o'n harian GIG yng Nghymru, fel y clywsom, yn mynd tuag at ymarfer cyffredinol, ac mae hwnnw'n gam yn ôl. Mae hyn yn eu harwain i roi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau pwysig hyn wrth symud ymlaen.

Mae hyn yn arwain at bwysau enfawr ar y bobl agored i niwed sydd wedyn yn gorfod gwneud teithiau hir neu wynebu amseroedd aros maith i gael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Yn amlwg, mae'r trefniant unllygeidiog hwn o fewn y system iechyd yma yn cael effaith negyddol iawn ar lawer o'r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Mae'n effeithio'n fawr ar eu lles ac yn eironig, yn rhoi pwysau ychwanegol ar ofal eilaidd sydd dan bwysau. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig, gan fod peidio â gwneud hynny yn gyfystyr â throi eich cefnau ar yr ymarferwyr cyffredinol a throi eich cefnau, drwy wneud hynny, ar ein dinasyddion.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rydym wedi cyrraedd y cyfnod hwnnw nawr. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, roedd 20 yn ymatal, a phedwar yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

18:30

Eitem 5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—Rheoli cynhyrchion tybaco a nicotin: O blaid: 29, Yn erbyn: 4, Ymatal: 20

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Practisau meddygon teulu a chyllido. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 16, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais nawr ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Practisau meddygon teulu a chyllido. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Cynnig NDM8582 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd practisau meddygon teulu.

2. Yn croesawu’r cynnydd o ran y Model Gofal Sylfaenol i Gymru sy'n cefnogi gofal mewn cymunedau lleol, yn nes at gartrefi pobl.

3. Yn nodi:

a) bod nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi aros yn sefydlog;

b) bod y gostyngiad yn nifer y meddygfeydd yn adlewyrchu tuedd tuag at feddygfeydd mwy o faint wrth i feddygon teulu geisio lleihau costau a gwneud y mwyaf o adnoddau ar gyfer gweithgarwch sy'n wynebu cleifion;

c) bod y targed recriwtio presennol o 160 o feddygon teulu newydd dan hyfforddiant bob blwyddyn yn cael ei gyflawni'n gyson; a

d) bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r proffesiwn meddygon teulu ar raglen o ddiwygio contractau i leihau biwrocratiaeth i feddygon teulu a gwella profiadau i gleifion.

4. Yn cydnabod bod Cyllideb Cymru ar gyfer 2024-25 wedi cynyddu’r cyllid i’r GIG yng Nghymru dros 4 y cant, o'i gymharu â llai nag 1 y cant yn Lloegr.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Practisau meddygon teulu a chyllido. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Dyna ddiwedd y pleidleisio am heddiw, ond cofiwch nad ydym wedi gorffen ein busnes. Felly, os ydych chi'n gadael yr ystafell, gwnewch hynny'n dawel.

9. Dadl Fer: Strategaeth tlodi gwledig i Gymru

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gyda fi gynnig y ddadl hon ar ddatblygu strategaeth tlodi gwledig i Gymru, a dwi'n hapus iawn i roi munud yr un i Siân Gwenllian, i Sam Kurtz ac i Mabon ap Gwynfor.

Dwi'n credu mai'r lle amlwg i ddechrau yw gofyn y cwestiwn, 'Pam fod angen strategaeth tlodi gwledig?' Wel, i ni sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, beth rŷn ni'n ei weld o'n cwmpas ni yw darlun o ddirywiad—banciau'n cau, ysgolion, swyddfeydd post, tafarnau, ac yn y blaen, yn cau; pobl ifainc yn gafael cefn gwlad i chwilio am waith, i chwilio am dai fforddiadwy, neu fywyd gwell a chyfleusterau hamdden gwell. Mewn ardaloedd gwledig, yn gyffredinol, dyma'r darlun mae pawb yn gyfarwydd ag ef. Mae lefelau incwm y pen yn is na chyfartaledd Cymru; lefelau GVA a lefelau cynhyrchedd hefyd yn is. At ei gilydd, mae lefelau difreintedd mewn ardaloedd gwledig yn is nag mewn ardaloedd trefol. Pwy feddyliau bod gan Geredigion, sydd â'r prisiau tai ymhlith yr uchaf yng Nghymru, 30 y cant o blant sydd yn byw mewn tlodi—yr ail uchaf yng Nghymru gyfan. A beth mae hyn yn dangos yw bod yr olwg allanol o gyfoeth cymharol yn medru cuddio tlodi enbyd dan y wyneb, a dyna, mewn gwirionedd, yw'r sefyllfa yng nghefn gwlad Cymru drwyddi draw: tlodi sylweddol yn llechu o'r golwg, ac yn anweledig, i raddau.

I ychwanegu at hyn, mae'r argyfwng costau byw diweddar wedi cael effaith niweidiol ar ein cymunedau gwledig. Mae Sefydliad Bevan wedi sôn am y wasgfa driphlyg ar ein cymunedau gwledig, sef costau uchel, incwm isel a mynediad gwael at wasanaethau cyhoeddus drwy ddiffyg cefnogaeth gan Lywodraethau o wahanol liw. Fel mae'r Athro Calvin Jones o adran economeg Prifysgol Caerdydd yn nodi, a dwi'n dyfynnu:

18:35

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

'Mae'r Gymru wledig mewn trafferthion. Mewn mwy o drafferth nag ers cyn cof, ac yn sgil grymoedd a thueddiadau sy'n annhebygol o ddiflannu'n fuan. Mae camweithrediad economaidd yn hen stori yma wrth gwrs. Mae'r problemau cymdeithasol sy'n deillio o gyflogau gwael, gwerth ychwanegol isel, a diffyg cyfle economaidd ac incwm marchnad yn niferus ac yn hirsefydlog. Mae'r rhain yn cynnwys tlodi, trefi gwag, darpariaeth wael o wasanaethau ar gyfer ardaloedd gwledig, a phobl ifanc yn allfudo.'

Dyna yw'r patrwm rŷn ni gyd sydd yn byw yn yr ardaloedd yma yn gyfarwydd ag ef. Ac er mor ddifrifol yw'r sefyllfa, bob tro dwi wedi galw ar Lywodraeth Cymru yn y Siambr hon i ddatblygu strategaeth wedi'i theilwra'n benodol i ddelio gyda thlodi gwledig—a dwi wedi gwneud hynny sawl gwaith, fel mae rhai ohonoch chi'n gwybod—mae'r Llywodraeth wedi dweud 'na', gan ddadlau taw tlodi yw tlodi, lle bynnag rŷch chi'n byw. Wel, dwi'n anghytuno. Mae ymchwil yn dangos bod tlodi trefol a thlodi gwledig yn wahanol, a dylent gael eu trin yn wahanol.

Felly, yn sgil diffyg ymateb gan y Llywodraeth, fe benderfynais i gymryd yr awenau a chomisiynu ymchwil, ac i ddatblygu strategaeth fy hunan, drwy gymryd cyngor gan arbenigwyr a thynnu ar yr ymchwil diweddaraf mewn meysydd perthnasol. Felly, ar sail hyn, dwi wedi datblygu argymhellion mewn nifer o feysydd polisi, o drafnidiaeth, tai, ynni, gofal plant, gwasanaethau digidol a'r economi wledig, a hefyd dwi wedi dod i'r casgliad bod yn rhaid i'r Llywodraeth, a gwneuthurwyr polisi ymhob rhan o Gymru, roi gwell ystyriaeth i gefn gwlad ym mhopeth maen nhw'n ei wneud—yn yr holl strategaethau, yr holl bolisïau a'r holl raglenni gwaith maen nhw'n eu creu a'u gweithredu.

Gyd-Aelodau, un peth sydd wedi dod yn gwbl glir yn fy ymchwil yw'r ffaith nad yw'r prosesau llunio polisïau presennol yn rhoi cydnabyddiaeth briodol i anghenion gwahanol a phenodol ein cymunedau gwledig. Nawr, yng Ngogledd Iwerddon, er enghraifft, mae gan gyrff cyhoeddus ddyletswydd statudol i gynnal prawfesur gwledig ar bob dim a wnânt—pob strategaeth, polisi a rhaglen waith. Daw hyn o dan Ddeddf Anghenion Gwledig (Gogledd Iwerddon) 2016. Byddai Llywodraeth Cymru'n dadlau bod ganddi offeryn prawfesur gwledig a all fod ar gyfer asesiadau effaith integredig. Ond canfu Archwilio Cymru yn 2018 mai

'ychydig iawn o enghreifftiau a geir o gyrff cyhoeddus yn defnyddio Offeryn Prawfesur Gwledig Llywodraeth Cymru wrth adolygu neu ddatblygu gwasanaethau. Yn rhy aml, mae hyn yn arwain at un dadansoddiad cyffredinol a all fethu ac anwybyddu gwahaniaethau.'

Felly, datblygwyd y Ddeddf anghenion gwledig yng Ngogledd Iwerddon oherwydd bod gofyniad anstatudol tebyg wedi methu diwallu anghenion cymunedau gwledig yno. Felly, os oes un peth—a dim ond un peth—y gobeithiaf y bydd pobl yn ei gael o'r gwaith a wneuthum ar dlodi gwledig, yr angen am ddeddf debyg i'r Ddeddf anghenion gwledig yma yng Nghymru yw hynny. Hefyd, mae gwir angen targedau priodol arnom ar gyfer lleihau tlodi yng nghefn gwlad Cymru, rhywbeth y gwyddom nad yw wedi'i gynnwys yn strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru ar dlodi plant, er enghraifft.

Ac yn olaf, rŷn ni'n gwybod nad yw pobl mewn ardaloedd gwledig yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw, a dylem ni wneud mwy i sicrhau eu bod yn gwneud hynny. Mae enghreifftiau o arfer da yma, gan gynnwys, er enghraifft, Hwb Bach y Wlad yn sir Gaerfyrddin. Mae'r cynllun yn cynnwys mynd ag uned deithiol o gwmpas cymunedau gwledig i siarad â phobl a chynnig cefnogaeth a chyngor iddyn nhw, i unigolion a theuluoedd fel ei gilydd. Mae hwn yn rhyfeddol. Dros y pedwar mis diwethaf, mae Hwb Bach y Wlad yn sir Gâr wedi rhoi cefnogaeth lwyddiannus i dros 4,800 o bobl, sy'n gwbl anhygoel, a does dim angen dweud bod angen efelychu'r model hwn o ymgysylltu cymunedol ar draws holl ardaloedd gwledig Cymru. 

Dwi nawr eisiau troi at feysydd polisi penodol ac amlinellu rhai o'r materion penodol pwysicaf, a chynnig atebion o bosibl iddyn nhw. Yn gyffredinol, rŷn ni’n gwybod bod pob un o’r ffactorau hyn yn cyfrannu at dlodi gwledig: cysylltiadau trafnidiaeth a chysylltedd digidol gwael; tlodi tanwydd, yn benodol mewn tai off-grid; costau tai uchel, diffyg tai fforddiadwy lleol, a gormod o dai gwyliau, Airbnbs ac yn y blaen; mynediad gwael at wasanaethau gofal plant; economi fregus—mae naw o bob 10 meicrofusnes mewn ardaloedd gwledig yn cyflogi llai na 10 o bobl; diffyg cymorth i fusnesau gwledig; ac ansicrwydd yn wynebu'r sector amaeth, fel sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod yr wythnos hon.

Felly, mae nifer o'r problemau hyn yn gorgyffwrdd, wrth gwrs, ac mae angen atebion sydd yn cydgysylltu â'i gilydd. Nawr, rŷn ni wedi awgrymu yn y strategaeth a fydd yn cael ei chyhoeddi yn fuan iawn, iawn ystod o fesurau o'r tymor byr i'r hirdymor ar draws pob maes polisi, felly dwi ddim yn bwriadu mynd trwy bob un. Felly, wrth dynnu at y terfyn, dwi jest eisiau cyfeirio at ambell un yn benodol.

Ym maes trafnidiaeth, mae angen aildafoli'r cyllid sy'n cael ei ddyrannu i fysiau o gymharu â'r cyllid sy'n cael ei roi i drenau, gyda golwg yn arbennig ar sicrhau cludiant bws am ddim i'n pobl ifanc.

Ynglŷn â thai, mae angen inni adeiladu ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni drwy'r cytundeb cydweithio, ac mae rhaid inni fynd ymhellach, gan gynnwys dilyn esiampl Cyngor Gwynedd o brynu cartrefi nôl ar y farchnad agored a'u gosod nhw i deuluoedd lleol. Ar ynni, mae rhaid inni sicrhau bod y rhaglen Cartrefi Cynnes yn addas at y diben ar gyfer ymdrin â chartrefi gwledig, sydd yn tueddu i fod off-grid, a rhai sydd wedi cael eu hinswleiddio'n wael oherwydd eu bod nhw'n hen. Mae 74 y cant o gartrefi yng Ngheredigion a 55 y cant ym Mhowys yn gartrefi off-grid, sydd yn golygu bod y cap ar ynni ddim yn berthnasol i'r rhai sydd yn dibynnu'n llwyr ar olew. 

Mae angen inni ehangu'r cynnig gofal plant am ddim fel rhan o becyn i frwydro yn erbyn tlodi plant ehangach, ac ystyried mesurau interim fel taliadau i neiniau a theidiau, mam-gus a thad-cus, sy'n ofalwyr am wyrion ac wyresau. Ar ddiwedd y dydd, gofalwyr ydyn nhw, a dylen nhw fod yn cael eu cydnabod yn ariannol am y gwaith amhrisiadwy maen nhw'n ei wneud.

Gyda'r maes digidol, mae dal gormod o fannau'n bodoli heb gysylltedd digidol digonol. Mae'n rhaid inni weld rhaglen newydd yn cael ei gweithredu er mwyn sicrhau bod band eang ffeibr ar gael i bawb, a hynny drwy gwmni band eang cenedlaethol, a sefydlu hwnnw'n flaenoriaeth.

Ac yn olaf, mae'n rhaid inni greu bargen newydd ar gyfer pobl sy'n hunangyflogedig; mae nifer anghymesur o'r rhain yn byw mewn cymunedau gwledig, fel roeddwn i'n sôn amdanyn nhw ar y dechrau. 

Hefyd, rŷn ni'n awgrymu creu model newydd i hybu economi cefn gwlad Cymru, gan gynnwys ehangu cynllun Arfor a'r posibilrwydd o sefydlu bwrdd datblygu gwledig newydd i Gymru. Fel dywedodd yr athro Calvin Jones:

'Mae'r Gymru Wledig mewn trafferthion. Mewn mwy o drafferth yn ôl pob tebyg nag ers cyn cof'.

Rwy'n erfyn ar y Llywodraeth, felly, i gymryd yr heriau hyn o ddifrif a gweithio gyda ni i ddatblygu strategaeth fydd yn mynd i'r afael â thlodi gwledig ac adfywio ardaloedd gwledig yn economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Diolch.

18:45

Wel, diolch yn fawr iawn i ti, Cefin, am ddod â'r ddadl yma ger ein bron ni. Fel ti, Cefin, mae hwn wedi bod yn pwyso arno innau, sy'n cynrychioli ardal gwledig. Mae pawb, wrth gwrs, yn ymwybodol bod yna ddiboblogi gyda ni'n digwydd. Mae'n digwydd yn Nwyfor Meirionnydd ac yng Ngwynedd; dŷn ni'n gweld yr oedran yn heneiddio a dŷn ni'n gweld y niferoedd sy'n mynd i'r ysgol yn mynd yn llai a'r niferoedd o fabanod sy'n cael eu geni yng Ngwynedd, er enghraifft, a'r fro Gymraeg, yn disgyn. Felly, pam? Dyna beth dwi'n awyddus i'w weld: yr ymrwymiad yna gan y Gweinidog i wneud tamaid o waith i edrych i mewn i pam mae hyn yn digwydd, pam rydym ni'n dioddef y pethau yma. Mae un peth sydd yn sicr, sef bod yna lai o fuddsoddi gyda ni yn ein hardaloedd gwledig, yn yr isadeiledd, ac mae angen i ni weld y Llywodraeth yn ymrwymo i hynny. Sut mae gwneud hynny? Wel, liciwn i glywed y Gweinidog heno yn ymrwymo i alw ar Lywodraeth San Steffan i roi ariannu teg i Gymru. Meddyliwch beth y gallen ni ei wneud efo pres y Goron a phres HS2: mi fuasai hwnna'n trawsnewid ein hardaloedd gwledig ni. Diolch.

Diolch am gael cymryd rhan yn y drafodaeth bwysig yma. Mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Sefydliad Bevan ar dlodi yn Arfon, fe danlinellwyd y ffaith bod yna bremiwm costau byw i bobl yn rhannau gwledig Arfon, a hynny'n codi o ddiffyg gofal plant, diffyg trafnidiaeth gyhoeddus, costau uchel trafnidiaeth gyhoeddus, costau tai uchel, costau egni uchel oherwydd stoc tai o safon isel, a diffyg mynediad at archfarchnadoedd oherwydd heriau trafnidiaeth, sydd yn arwain at gostau byw uchel. 

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at anialdir bwyd, food deserts, ac mae'r rhain yn bodoli ar draws gwledydd Prydain, ac maen nhw'n bodoli hefyd mewn rhai o gymunedau Arfon, fel Dyffryn Nantlle a Deiniolen, lle does yna ddim archfarchnad, lle mae isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus yn wael, a lle mae pobl yn wynebu gorfod talu mwy am fwyd oherwydd costau teithio a diffyg dewis yn lleol. Mae Dyffryn Nantlle ymhlith y 10 y cant uchaf o food deserts ar draws Cymru a Lloegr. Mae'n gylch anodd, a rhan o'r ateb yn sicr ydy gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn sylweddol. Siom, felly, ydy'r posibilrwydd bod y Llywodraeth am ohirio cyflwyno'r Bil bysus. Mae rhoi'r gallu i gynghorau lleol gomisiynu gwasanaethau bysus yn ôl yr angen yn allweddol i ddatrys tlodi gwledig. Siom ydy deall nad ydy hynny bellach yn flaenoriaeth, ac mi fyddwn i'n hoffi clywed beth yw barn yr Ysgrifennydd Cabinet ar hynny.

Diolch i chi, Cefin, am y cyfle i gyfrannu y prynhawn yma. 

Maddeuwch imi os tynnaf sylw unwaith yn rhagor at ymchwiliad y grŵp trawsbleidiol ar dwf gwledig i gynhyrchiant gwledig, lle credaf fod cyfle i fynd i'r afael â thlodi gwledig drwy wella ffyniant y rhai sy'n gweithio ac yn byw yng nghefn gwlad Cymru. Tybed a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rôl newydd wedi cael cyfle i edrych ar yr adroddiad. Os na, byddwn yn croesawu'r cyfle i drafod rhywfaint o hyn gydag ef, gan wybod bod llawer o'r 19 argymhelliad yma yn rhai trawsbortffolio, ond gan ddeall ei rôl fel aelod arweiniol y Cabinet dros gefn gwlad Cymru. Ond mae cyfleoedd gwirioneddol yn yr adroddiad hwn nad ydynt yn galw am wario arian helaeth i wella cynhyrchiant yng nghefn gwlad Cymru. Dyma newidiadau bach y gellir eu gweithredu a all sicrhau newid gwirioneddol yng nghefn gwlad Cymru, ac a fyddai o fudd i bobl a gynrychiolir gennym ledled Cymru. Mae gwybod bod 80 y cant o Gymru yn dir gwledig, amaethyddol, yn dangos pa mor bwysig yw sicrhau bod y Gymru wledig yn cael ei chyfle i fod yn llewyrchus, yn union fel rhannau eraill o Gymru. Diolch, Lywydd.

18:50

Diolch yn fawr iawn. Diolch, Cefin, am gyflwyno'r ddadl fer hon ar dlodi gwledig, a hefyd i Mabon a Siân a Sam am eu cyfraniadau. Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno bod hwn yn fater hollbwysig, gan ein bod ni'n gwybod, ledled Cymru, gan gynnwys yn ein cymunedau gwledig, fod llawer o bobl yn cael trafferth gyda chostau byw, felly mae'n iawn ein bod ni'n edrych ar sut mae tlodi'n cael ei brofi mewn gwahanol gymunedau, a hefyd ar yr hyn y gallwn ni fel Llywodraeth Cymru helpu gydag ef, a beth y dylem ofyn amdano'n ychwanegol hefyd, rhaid imi ddweud. I'r perwyl hwnnw, byddwn yn hapus iawn i dderbyn eich adroddiad a chael golwg arno, Cefin. A Sam, os caf ddweud, rydym yn ystyried adroddiad eich grŵp trawsbleidiol chi hefyd ar gynhyrchiant gwledig, a byddwn yn hapus i siarad drwyddo gyda chi maes o law. Rydym wedi bod yn brysur braidd yn ddiweddar, ond fe wnawn.

Rydym yn sôn yma am dros 80 y cant o Gymru sy'n cael ei ystyried yn wledig, gyda thua thraean o'n poblogaeth, un o bob tri o bobl, yn byw mewn ardaloedd gwledig. Ac mae'r ardaloedd gwledig hynny yn dra gwahanol hefyd. Mae yna wledigrwydd dwfn ac mae yna wledigrwydd ar ben uchaf cwm Garw hefyd, sy'n eithaf diddorol o ran rhywfaint o'r cymorth, pan fyddwn yn sôn am roi cymorth gwledig. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y dull o weithredu rydym yn ei gymryd i helpu pobl ledled Cymru, ac i sicrhau bod gennym fynediad cyfartal at y cymorth sydd ar gael, boed eich bod yn byw mewn ardal wledig iawn neu ardal drefol neu ardaloedd yn y canol. Ac ar y sail honno, rydym yn credu'n sylfaenol mai mabwysiadu agwedd strategol at Gymru gyfan yw'r ffordd gywir ymlaen, gan gydnabod hefyd y gwahanol heriau mewn gwahanol gymunedau, yn cynnwys mewn ardaloedd gwledig.

Felly, fe wnawn hyn, er enghraifft, drwy'r strategaeth tlodi plant. Rydym yn glir fod angen inni weithio gyda'n gilydd yn y tymor hir i helpu i wella bywydau plant, pob plentyn ym mhob rhan o Gymru, ledled Cymru. Ni ddylai unrhyw blentyn dyfu i fyny mewn tlodi. Dylai pob plentyn ym mhob rhan o'r wlad allu edrych ymlaen at fyw bywyd hapus a gobeithiol a bywyd bodlon. Felly, er mwyn helpu i gyflawni hyn, rydym yn ysgogi cydweithrediad o fewn y Llywodraeth ac yn ehangach ledled Cymru i ailgydbwyso camau tuag at atal tlodi, gan liniaru ei effeithiau gwaethaf ar yr un pryd.

Gyda llaw, Cefin, mae'r strategaeth hefyd yn cydnabod y gall cymunedau gwledig wynebu heriau penodol. Felly, dyma pam mae gwaith ehangach y Llywodraeth i gefnogi cymunedau gwledig mor hanfodol. Ac mae hynny'n golygu ystod eang o bolisïau. Felly, ddoe, er enghraifft, nodais fy nghynlluniau i ddatblygu cymorth i'r sector ffermio dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rydym yn gwybod, fel y nodoch chi, fod cyfran uwch o bobl hunangyflogedig mewn ardaloedd gwledig, sy'n fwy tebygol o fod yn byw ar incwm is. Mae llawer o bobl hunangyflogedig yn gweithio yn y diwydiant ffermio neu'r cadwyni cyflenwi cysylltiedig. Felly, rydym wedi ceisio dangos yma ein bod ni fel Llywodraeth Cymru yn gwrando, yn mynd i barhau i wrando ar gymunedau gwledig, a chyda rhai o'r diwygiadau sydd ar y gweill, gobeithio y bydd cymunedau gwledig yn elwa'n sylweddol o gefnogaeth barhaus i'r sector bwyd a ffermio hefyd.

Ond gadewch imi droi at feysydd eraill. Rydych chi wedi nodi bod rhai agweddau ar dlodi yn fwy cyffredin, yn fwy dwys, mewn ardaloedd gwledig. Felly, er enghraifft, mae'r risg o dlodi tanwydd yn uwch, gyda thua 28 y cant o aelwydydd yn defnyddio tanwydd oddi ar y grid. Mae hon yn broblem go iawn. Nawr, ers mis Mehefin 2022, rydym wedi penderfynu dyrannu bron i £4.5 miliwn o gyllid i alluogi'r Sefydliad Banc Tanwydd i gyflwyno taleb tanwydd genedlaethol a chronfa wres yng Nghymru, a dyma lle mae cwm Garw'n eithaf diddorol, oherwydd mae'r cynllun talebau, sydd wedi darparu mwy na 57,000 o dalebau tanwydd hyd yn hyn, yn cefnogi pob cartref cymwys sy'n rhagdalu am eu tanwydd ac sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu. Mae cwm Garw'n ddiddorol, yn ogystal â chefn gwlad gwledig iawn canolbarth Cymru, oherwydd mae'r gronfa wres yn enwedig yn ymateb i anghenion cymunedau gwledig drwy ddarparu ar gyfer danfon olew a nwy i'r rhai nad ydynt wedi'u cysylltu â rhwydwaith nwy y prif gyflenwad, a gwn fod yna bobl yng nghefn gwlad Ceredigion, yn ogystal â chefn gwlad cwm Garw, wedi cael cymorth drwyddi. Mewn gwirionedd, mae wedi cynorthwyo 311 o gartrefi i brynu tanwydd oddi ar y grid, a hyd yma, mae'r ymyriadau hyn wedi cynorthwyo cyfanswm o dros 143,000 o bobl.

Rydym hefyd yn gweithredu i wella mynediad at wasanaethau mewn ardaloedd gwledig, gan gydnabod y gwahaniaeth. Mae cysylltiadau trafnidiaeth, y sonioch chi amdanynt, Cefin, ac y soniodd eraill amdanynt, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn hanfodol ar gyfer cysylltiadau rhwng pobl a chymunedau a gwasanaethau ac ar gyfer mynediad at gyfleoedd hefyd. Felly, dyna pam mae Fflecsi, hyd yn oed mewn cyfnod heriol, yn cynnig mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus lle nad oedd ar gael yn flaenorol. Rydym bellach yn treialu Fflecsi mewn 11 ardal wledig, lle rydym yn gweld—mae'n dda ei weld—cynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr, gyda'r treialon bellach wedi cael eu defnyddio ar gyfer dros 100,000 o deithiau. 

Nawr, yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, drwy gyllid trafnidiaeth leol 2023-24, rydym yn rhoi ychydig llai nag £1 filiwn i seilwaith bysiau TrawsCymru yng Ngheredigion, a thros £3 miliwn tuag at ddatblygu gorsaf fysiau Hwlffordd. Rwy'n rhoi enghreifftiau yma o sut y cyfeiriwn fuddsoddiad tuag at ein cymunedau gwledig. 

Fe wnaethoch chi grybwyll cysylltedd digidol mewn ardaloedd gwledig. Nid yw bob amser cystal ag y mae mewn ardaloedd trefol, ond rwy'n edrych ar Luke yma—nid yw bob amser yn dda yn rhai o'n hardaloedd gwledig o fewn yr hyn a ystyrir yn ardaloedd lled-drefol neu ardaloedd amdrefol. Mae'n rhaid inni weithio ar hyn yn gyffredinol. Ond byddwn yn parhau i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i ni i gefnogi busnesau, cartrefi a'r sector cyhoeddus yng Nghymru i gael y cysylltedd sydd ei angen arnynt.

Felly, mae'r gwaith o gyflwyno ffeibr llawn gydag Openreach bellach wedi darparu band eang ffeibr llawn i dros 44,000 o gartrefi a busnesau ledled Cymru. Caiff ei gefnogi gan dros £50 miliwn o arian cyhoeddus. Dyna'r gwahaniaeth y gall y sefydliadau datganoledig hyn ei wneud mewn gwirionedd. 

Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r cynlluniau presennol hyn, gan gynnwys Allwedd Band Eang Cymru, yn ogystal â chynnal perthynas waith agos â Llywodraeth y DU, i sicrhau bod anghenion Cymru yn cael sylw trwy Brosiect Gigabit. Mae'n rhaid i hwnnw gyrraedd pob rhan o Gymru. 

Felly, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn ei gwneud yn glir i'r Senedd, fel rhan o strategaethau ledled Cymru, gan gydnabod y gwahaniaethau, fod cefnogaeth sydd o fudd arbennig i'r rhai sy'n byw mewn cymunedau gwledig i helpu i fynd i'r afael â thlodi gwledig. Ac os caf ddweud, fe wyddom nad yw'r 14 mlynedd diwethaf wedi bod yn garedig i bobl mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol, a phob man yn y canol. Mae gennym gymunedau a theuluoedd ledled Cymru, gan gynnwys ar draws cefn gwlad, sy'n teimlo effeithiau niwed i economi'r DU. Rydym yn gwybod bod angen cymorth, felly rydym wedi rhoi'r gronfa cymorth dewisol a'r gronfa gynghori sengl ar waith, gan ddarparu cymorth sy'n wirioneddol hanfodol i'r rhai sy'n cael trafferth gyda chostau byw. Ym mis Chwefror 2024 yn unig, gwnaed dros 2,200 o ddyfarniadau o'r gronfa cymorth dewisol honno yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn unig. Aeth cyfanswm o dros £257,000 i bobl a wynebai'r angen ariannol mwyaf. A rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2023, yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn unig, mae dros 18,700 o bobl wedi defnyddio gwasanaethau'r gronfa gynghori sengl ac fe'u cefnogwyd i hawlio dros £10.4 miliwn o fudd-daliadau lles ychwanegol. Rydym yn ceisio targedu a lledaenu'r neges mewn ardaloedd gwledig, yn ogystal â'r Gymru ehangach.

Mae cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn helpu pobl sydd ar incwm isel, neu'n hawlio budd-daliadau penodol, i dalu rhywfaint neu'r cyfan o'u bil treth gyngor. Yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn unig, mae dros 47,000 o aelwydydd yn derbyn arian drwy'r cynllun. Nid yw bron i 37,500 o aelwydydd yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl. Ac wrth gwrs, dylid ystyried gwledigrwydd a'r effaith ar bobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig bob amser wrth ddatblygu polisïau. Fel y bydd pob un ohonom ar draws y Siambr yn gwybod, rwy'n siŵr fod lles y Gymru wledig yn annatod gysylltiedig â pherfformiad economi Cymru. Am y rhesymau hyn mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru gynnal asesiad effaith integredig wrth ddatblygu unrhyw bolisi. Mae'r broses yn dod ag ystod o asesiadau effaith at ei gilydd yn fframwaith cydlynol, yn hytrach na darnau o bob dim, ond mae hyn yn cynnwys cydraddoldeb, y Gymraeg, y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, hawliau plant a phrawfesur gwledig. Ysgrifennais lythyr atoch yr wythnos diwethaf—gobeithio eich bod wedi ei gael—yn nodi ein dull o weithredu a'r cwestiynau y mae angen i swyddogion eu hystyried yng nghyd-destun prawfesur gwledig wrth ddatblygu'r polisïau hynny, ac mae'n eithaf helaeth. Cefin. 

18:55

Fe wnaethoch chi ddefnyddio'r gair 'dylai' ddwywaith, deirgwaith efallai, wrth ddisgrifio'r prawfesur gwledig a ddylai ddigwydd gan Lywodraeth Cymru. Nawr mae Archwilio Cymru, fel y soniais yn gynharach, wedi dangos yn glir nad yw hyn yn digwydd i'r graddau y dylai. Felly, er mwyn osgoi'r dull mympwyol, ad hoc sy'n amlwg wedi digwydd yn y gorffennol, a fyddech chi o blaid tynhau hynny drwy edrych ar Ogledd Iwerddon ac efelychu'r hyn sydd ganddynt hwy, sef Deddf anghenion gwledig, ac mae prawfesur gwledig yn dod yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei wneud yn hytrach na rhywbeth efallai y dylem ei wneud?

19:00

Cefin, edrychwch, mae'n bwynt teg, ond a gaf i awgrymu—? Mae'n ofynnol i swyddogion, ar draws y Llywodraeth, gynnal asesiad effaith integredig, gan gynnwys prawfesur gwledig. Mae'n rhaid i swyddogion ystyried pob polisi yng nghyd-destun prawfesur gwledig. Os yw'n helpu, rwy'n fwy na pharod i siarad â chyd-Aelodau eraill yn y Cabinet, gan fod hyn yn fy mrîff, ac ail-bwysleisio'r angen i wneud hyn, ond mae'n rhaid ei wneud. Mae yno o fewn y ffordd y gwnawn hyn o fewn y Llywodraeth. Ac os oes gwaith i'w wneud ar hynny, yn hytrach na'i roi ar sail statudol, rwy'n fwy na pharod i yrru'r maen i'r wal ar hyn ar draws pob portffolio wrth ddatblygu polisïau.

Rwy'n deall pwysigrwydd gwneud popeth a allwn i fynd i'r afael â thlodi yn ein hardaloedd gwledig. Nid wyf yn argyhoeddedig mai strategaeth tlodi gwledig ar ei phen ei hun yw'r dull cywir. Byddai'n well gennyf ein gweld yn canolbwyntio ar y gweithredoedd, ac rwyf wedi nodi rhai ohonynt yn barod—efallai y bydd rhagor y gallwn eu hystyried, a dyna pam y byddai gennyf ddiddordeb mewn derbyn yr hyn rydych chi wedi ei lunio, Cefin—canolbwyntio ar y camau yr ydym yn eu cymryd ar hyn o bryd, a chamau gweithredu y gallwn eu cymryd wrth symud ymlaen, drwy'r cynlluniau, y camau gweithredu a'r strategaethau sydd gennym eisoes ar waith, i wneud gwelliannau diriaethol ym mywydau beunyddiol pobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig ledled Cymru.

Ond diolch o galon am gyflwyno'r ddadl a'r cyfraniadau gan Aelodau eraill. Mae'n iawn ein bod yn trafod hyn, ac mae'n iawn ein bod yn trafod y ffordd y gallwn godi bywydau pawb yng Nghymru, nid yn unig allan o dlodi, ond datblygu bywydau sy'n llawn cyfoeth a chyfle hefyd. Mae codi pobl allan o dlodi yn un peth. Mae eu codi i dir hyd yn oed yn uwch na hynny yn rhywbeth y dylem i gyd anelu ato. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet ac i bawb am y ddadl yna. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:02.