Y Cyfarfod Llawn
Plenary
24/04/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni gychwyn ar yr eitem gyntaf, dwi'n moyn cyhoeddi canlyniad y balot ar gyfer Bil Aelod a gynhaliwyd heddiw, ac mae'n bleser gen i gyhoeddi y gall Mark Isherwood ofyn am gytundeb y Senedd ar gyfer ei gynnig ar gyfer Bil iaith arwyddion Prydain/BSL Cymru. Felly, llongyfarchiadau i Mark Isherwood, a phob dymuniad da gyda'r gwaith o hyrwyddo'r Bil yna.
Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Altaf Hussain.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth i blant a phobl ifanc? OQ60978
Gwnaf. Mae strategaeth drafnidiaeth Cymru yn nodi ein hagenda ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch, fforddiadwy, ddiogel a dibynadwy sy’n gweithio ar gyfer ein holl bobl a chymunedau, gan gynnwys plant a phobl ifanc. Mae ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth yn amlinellu’r ystod eang o gamau gweithredu yr ydym yn eu cymryd i wireddu’r weledigaeth hon.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae pobl ifanc fy mhentref yn gaeth i'r lle heb fynediad at gar, gan nad oes llwybrau teithio llesol yno, a gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn rhy gostus ar gyfer teithiau amlach. Tacsi mam a dad yw’r unig ddewis i lawer o bobl ifanc mewn rhannau mwy gwledig o Gymru, sy’n rhwystr i lawer o bobl ifanc. Er bod FyNgherdynTeithio i'w groesawu, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn dal i fod yn rhy ddrud i lawer o bobl ifanc. Ysgrifennydd y Cabinet, pa ystyriaeth rydych chi wedi’i rhoi i gynnig trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bawb rhwng 16 a 21 oed?
A gaf i ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, a dweud mai’r math hwnnw o awgrym yw’r union fath o beth y mae angen i ni ei ystyried wrth i ni symud tuag at ailreoleiddio'r gwasanaethau bysiau, a fydd yn rhoi llawer mwy o reolaeth i ni dros y rhwydweithiau yr ydym yn eu gweithredu yng Nghymru a sut y gallwn gymhwyso trefn decach ar gyfer prisiau siwrneiau? Rwyf wedi edrych ar y ffigurau amrywiol dros y blynyddoedd, ond mae’r darlun wedi newid yn eithaf dramatig ers COVID, a byddai’r gost ar hyn o bryd yn anfforddiadwy, o ystyried y cyfyngiadau ar gyllid cyhoeddus. Mae'n rhaid imi ddweud, o ran pobl ifanc, fod pobl ifanc yn dibynnu’n fawr iawn ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig gwasanaethau bysiau, ac ers eu preifateiddio yng nghanol y 1980au, mae’r defnydd o fysiau wedi gostwng draean ac mae costau bysiau wedi cynyddu dros 400 y cant o gymharu â 163 y cant o gynnydd i fodurwyr. Felly, mae pris defnyddio bws wedi cynyddu'n anghymesur, ac mewn gwirionedd, y bobl ar y cyflogau isaf sy'n aml yn gwneud y defnydd mwyaf o fysiau. Felly, mae anghyfiawnder cymdeithasol gwirioneddol yn hyn o beth, ac rydym am geisio mynd i'r afael â hynny drwy ddeddfwriaeth a thrwy drefn decach o ran prisiau siwrneiau.
Rwy’n fwy na pharod, serch hynny, i rannu rhywfaint o newyddion gyda’r Aelod heddiw ynglŷn â'r rôl y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei chwarae yn casglu mwy o wybodaeth gan bobl ifanc. Yn ôl yn 2022, gyda chymorth y comisiynydd plant, cyflwynodd Trafnidiaeth Cymru siarter plant a phobl ifanc, ond rydym wedi gofyn iddynt adeiladu ar hyn ac i gynnull grŵp cynghori pobl ifanc i allu casglu gwybodaeth a phrofiadau a fydd wedyn yn llunio polisïau trafnidiaeth yn y dyfodol, gan gynnwys teithiau bws am bris gostyngol, ac am ddim o bosibl, yng Nghymru.
Rwy'n falch iawn o glywed am y cam hwnnw, er ein bod eisoes yn gwybod beth yw barn pobl ifanc. Dywedodd Senedd Ieuenctid Cymru yn gryf iawn wrthym beth yw barn pobl ifanc ynglŷn â'r angen am drafnidiaeth am ddim—trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch a fforddiadwy. Y llynedd, fel y gwyddoch, arweiniodd toriadau i gyllid gweithredwyr bysiau at leihau neu golli llawer o lwybrau bysiau hanfodol i ysgolion a cholegau ar draws y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli. A diolch i ymdrechion gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, cafodd rhai ohonynt eu hadfer, ond mae bylchau sylweddol mewn gwasanaethau o hyd, sy'n gorfodi llawer o blant ysgol i orfod aros am gryn dipyn o amser am fws ar ddiwedd y dydd. Mae gwasanaethau eraill yn rhedeg mor agos at gapasiti fel y bu adegau pan orfodwyd iddynt aros am y bws nesaf, gan golli arholiadau, bod yn hwyr i'r ysgol, gan aros yn y glaw, ac er bod seddi gwag ar gael i'w prynu weithiau ar gludiant i'r ysgol, i lawer o deuluoedd nid ydynt yn fforddiadwy. Felly, er fy mod yn deall yr hyn a ddywedwch, y bydd y Bil bysiau yn cael ei gyflwyno yn nes ymlaen eleni, pa waith sy'n mynd rhagddo nawr i ehangu'r rhwydwaith bysiau a sicrhau y bydd plant a phobl ifanc bob amser yn cael mynediad hawdd a fforddiadwy at fysiau?
A gaf i ddiolch i Sioned Williams am ei chwestiwn? Ac rwy'n credu ei fod yn tynnu sylw at bwysigrwydd creu pont rhwng nawr a 2027, pan allwn weld gwasanaethau masnachfraint ar ein ffyrdd. Ac mae'n rhaid adeiladu'r bont honno ar y cyd â'n gweithredwyr bysiau—rhaid inni weithio gyda nhw. Ac felly, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio ar gynlluniau bysiau ledled y wlad, ar sail ranbarthol, ochr yn ochr â'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol.
Nawr, ar y gost a'r grantiau ar gyfer teithio ar fysiau, ar hyn o bryd, rydym yn darparu oddeutu £64 miliwn rhwng y grant rhwydwaith bysiau a'r grant cynnal gwasanaethau bysiau. Ac mae'r refeniw a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn fwy na hanner cyfanswm y refeniw sydd gan weithredwyr bysiau yng Nghymru. Felly, mae'n gymhorthdal enfawr ar gyfer gwasanaeth sydd wedi'i breifateiddio, a ddylai fod wedi'i redeg ar sail fasnachol yn unig, ond mae'r rhai ohonom sy'n credu mewn gwladoli bob amser wedi rhybuddio nad yw hynny'n bosibl y tu hwnt i ardaloedd trefol iawn. Felly, drwy ddeddfwriaeth, byddwn yn unioni'r camgymeriadau a achoswyd gan breifateiddio, ond yn y tymor byr, rydym wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau i greu pont, i gynyddu’r defnydd o wasanaethau, i gynyddu nifer y gwasanaethau, a lle bo modd, i nodi ffynonellau refeniw newydd er mwyn cefnogi gwasanaethau bysiau hanfodol bwysig.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r ffaith bod yr argymhellion teithio gan ddysgwyr bellach wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wedi bod yn codi hyn ar ran pobl ifanc yn fy nghymuned ers imi gael fy ethol, yn enwedig yng Nghorneli, lle mae myfyrwyr yn gorfod cerdded 45 munud bob ffordd, bob dydd i gyrraedd yr ysgol yng Nghynffig, yn y Pîl. Gwn i Luke Fletcher godi Caerau ddoe, ac mae hyn yn rhywbeth y mae Altaf Hussain hefyd wedi bod yn ei godi'n aml ar ran fy nghymuned. Y peth yw ein bod yn parhau i godi’r mater. Dyma'r prif beth y mae myfyrwyr yn ei godi gyda mi hefyd, a Leonard Cheshire. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y Bil bysiau, ond gwyddom nad oes unrhyw sicrwydd, fel rydych chi wedi'i nodi eisoes, o ran cyllid. Felly, rwyf wedi codi hyn gyda Llywodraeth Cymru sawl gwaith. Mae Dr Rhydian Lewis o Ysgol Fathemateg Prifysgol Caerdydd wedi cynllunio algorithm y gellir ei ddefnyddio i leihau'r defnydd o fysiau, pellter cerdded myfyrwyr ac amser teithio. Credaf y byddai hon yn ffordd wych o ddefnyddio technoleg newydd—ein hacademyddion ein hunain ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyflwyno rhywbeth a allai ddatrys llawer iawn o hyn. A yw hyn yn rhywbeth y byddech yn cyfarfod â mi i'w drafod ymhellach? Diolch.
Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â’r Aelod, a chyda Dr Rhydian, i drafod yr algorithm a sut y gallwn ddefnyddio hwnnw a thechnoleg arall sy'n datblygu. Diolch.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y newidiadau arfaethedig i amserlen rheilffordd Calon Cymru? OQ60971
Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi’n ceisio adborth gan randdeiliaid ar eu hadolygiad o amserlenni ar gyfer Cymru gyfan, sy’n ceisio alinio gwasanaethau’n well â’r galw am deithio ar ôl COVID-19, yn ogystal â lleihau’r cymhorthdal cyhoeddus sydd ei angen i redeg gwasanaethau rheilffyrdd.
Cyn i fi ymateb i'r Ysgrifennydd Cabinet, dwi'n gobeithio na fyddwch chi'n meindio, Llywydd, i fi roi ar record ein gofidiau ni i gyd, dwi'n credu, wrth glywed am y digwyddiad difrifol sydd wedi digwydd yn Ysgol Dyffryn Aman yn gynharach heddiw. Mae'n meddyliau ni i gyd, wrth gwrs, gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad hynny.
Mi oedd cyfeiriad at y newidiadau yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, onid oedd e? Mae'r gwasanaeth yma yn un o'r llinellau rheilffyrdd mwyaf ysblennydd yn y byd, a dweud y gwir—mae e newydd ennill gwobr gan y Lonely Planet guide fel un o'r goreuon yn Ewrop. Mi oedd yna gyfeiriad at y lefelau isel o ddefnydd, ond, wrth gwrs, beth sy'n digwydd yn aml iawn, wrth dorri'r gwasanaeth, yw bod llai o ddefnydd yn mynd i fod, yn arbennig ar gyfer pobl leol achos dyw hi ddim yn ymarferol i ddefnyddio'r peth. Nawr, mi oedd yna gyfeiriad gan y Prif Weinidog at yr ymgynghori a fu gydag Aelodau etholedig lleol. Doeddwn i ddim yn rhan o unrhyw drafodaeth, doedd Cefin Campbell fel Aelod rhanbarthol ddim, a dwi'n siŵr bod hwnna'n wir am Aelodau etholedig eraill a hefyd grwpiau o deithwyr. Felly, a fyddai hi'n bosib, Ysgrifennydd Cabinet, i ni gael trafodaeth o'r newydd gydag Aelodau etholedig, gyda phobl leol, i weld sut ydyn ni'n gallu gwneud y gorau o'r llinell yma, mewn ffordd integredig, fel ein bod ni'n gallu cynyddu'r defnydd i'r dyfodol?
A gaf i ddiolch i Adam Price am ei wahoddiad? Rwy'n fwy na pharod i siarad ag Aelodau a chyda'r bobl yr ydych yn eu cynrychioli yn eich etholaethau ynghylch y llwybr gwych hwn. Rydych chi'n llygad eich lle—mae wedi ennill gwobrau; mae'n syfrdanol o hardd, a byddem yn gobeithio y bydd mwy o ddefnydd yn cael ei wneud ohono yn y dyfodol. Anaml y defnyddid y gwasanaeth sydd wedi’i glustnodi i gael ei ddiddymu—mae hynny’n gywir. Ein nod yw sicrhau ein bod yn cynyddu nifer y defnyddwyr. Felly, mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd o gynyddu diddordeb yn y llwybr, fel y gellid ei adfer rywbryd yn y dyfodol. Credaf mai dim ond chwech oedd nifer cyfartalog y teithwyr, ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi nodi arbedion posibl o rhwng £1 miliwn ac £1.5 miliwn.
Yng nghyd-destun yr hyn y buom yn ei drafod eiliadau yn ôl ynghylch cymorthdaliadau ar gyfer y gwasanaethau bysiau, rwy'n credu ei fod yn dangos yr her sydd gennym o ran ceisio sicrhau mwy o gydraddoldeb rhwng cymorthdaliadau ar gyfer bysiau a rheilffyrdd. Yr unig ffordd y gallwn wneud hynny yw drwy sicrhau ein bod yn cynyddu nifer y defnyddwyr er mwyn lleihau’r cymhorthdal ar gyfer rheilffyrdd. Dyna'r unig ffordd, yn fy marn i, y gallwn dyfu ein ffordd allan o'r sefyllfa. Ond rwy’n fwy na pharod i gyfarfod â chi, a chyda thrigolion, i drafod hyn. Gwn fod Trafnidiaeth Cymru yn datblygu ymagwedd aml-ddull tuag at wella trafnidiaeth gyhoeddus i bobl sy’n byw yn ardal rheilffordd Calon Cymru. Rwy'n awyddus i wybod beth yn union y mae hynny'n ei olygu ac a fydd hynny'n ddigonol i gymryd lle'r gwasanaeth rheilffyrdd. Mae'n rhaid imi fynd yn ôl, serch hynny, at y cyllid yr ydym yn ei wynebu—pwysau cyllid cyhoeddus—a chynlluniwyd y newidiadau i sicrhau bod twf refeniw iach, ac yn y pen draw, llai o gymhorthdal cyhoeddus, wrth wraidd yr ystyriaethau ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd. Wedi dweud hynny, rwy'n cydnabod hefyd, yn rhinwedd y ffaith bod y Gymru wledig yn deneuach ei phoblogaeth, na fyddwn byth yn cael y math o ffigurau teithwyr yno y byddwn yn eu gweld ar reilffyrdd craidd y Cymoedd.
Ysgrifennydd y Cabinet, gallwch weld pam fod pobl yng nghefn gwlad Cymru yn siomedig, pan fo Trafnidiaeth Cymru yn torri gwasanaethau—fel y gwnaethant yn Llandrindod, yn fy etholaeth i—ar y rhwydwaith rheilffyrdd ledled y wlad. Mae Llywodraeth Cymru yn sôn llawer am annog y cyhoedd i ddefnyddio mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn lleihau ein hallyriadau carbon, ond mae pobl yng nghefn gwlad Cymru yn teimlo ar eu colled. Nid oes ganddynt rwydweithiau bysiau, ac yn awr, maent yn colli eu cysylltiadau rheilffyrdd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn yn fawr glywed gennych sut y gallwch roi sicrwydd i bobl sy'n byw yn fy etholaeth i, a chefn gwlad Cymru gyfan, fod y Llywodraeth hon o ddifrif ynghylch eu problemau a'u pryderon, gan fod llawer o bobl yn teimlo fel pe bai popeth yn digwydd yn yr amgylcheddau trefol ond nad yw'n ymddangos bod unrhyw beth yn digwydd yng nghefn gwlad Cymru.
Wel, a gaf i roi sicrwydd i'r Aelod ein bod yn wirioneddol o ddifrif ynghylch anghenion pobl sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru? Ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, mewn gwirionedd mae mwy o wasanaethau rheilffyrdd yn gweithredu yng Nghymru bellach nag a oedd cyn COVID. Ac nid yw hynny'n wir ledled y DU. Yn wir, rydym hefyd yn gweld mwy o drenau a cherbydau trên yn cael eu defnyddio yn ardaloedd gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, er bod Trafnidiaeth Cymru wedi etifeddu 270 o gerbydau yn ôl yn 2018, cyn bo hir, byddant yn gweithredu trenau sy’n cludo neu’n tynnu bron i 500 o gerbydau. Felly, mae mwy o wasanaethau. Mae mwy o gerbydau'n cael eu defnyddio, a bydd yr amserlen newydd hefyd yn cynnwys gwasanaethau ychwanegol i ac o Aberdaugleddau a Hwlffordd, a gwasanaethau bob awr rhwng Aberystwyth a'r Amwythig, gan wasanaethu cymunedau gwledig. Felly, bydd manteision i ardaloedd gwledig. Ond rwy’n derbyn y pwynt penodol ynghylch rheilffordd Calon Cymru. Mae'n bwynt dilys, ac rwy'n ei dderbyn, a byddaf yn cyfarfod â thrigolion ac Aelodau etholedig i drafod hyn.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae tagfeydd ofnadwy yn dal i fod yn bla ar lawer o’n ffyrdd, yn enwedig o gwmpas yr M4. Yr ardal benodol rwy’n mynd i ganolbwyntio arni yw twneli Bryn-glas yng Nghasnewydd. Fel rhywun sy'n gyrru ger y rhan honno o'r ffordd bron i bob dydd, gallaf dystio i'r sefyllfa enbyd hon, sydd wedi'i gwaethygu gan y terfynau cyflymder 50 mya diangen sydd yno ar hyn o bryd.
Heb os, mae tagfeydd a ffyrdd gwael yn gwneud Cymru yn lle llai deniadol i wneud busnes ac yn peri cryn dipyn o rwystredigaeth. Yn dilyn penderfyniad y Llywodraeth i roi'r gorau i ffordd liniaru’r M4, sefydlwyd comisiwn Burns i edrych ar wahanol opsiynau amgen ar gyfer mynd i’r afael â thagfeydd yn yr ardal. Cafodd cynlluniau i adeiladu parcffordd Caerdydd, datblygiad a fyddai'n creu 6,000 o swyddi ac yn darparu ar gyfer 800,000 o deithwyr y flwyddyn rhwng Caerdydd a Llundain, eu cynnwys yn argymhellion terfynol y comisiwn, ac eto, yn anffodus, gŵyr pob un ohonom fod y prosiect hwn mewn limbo yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i alw’r cais cynllunio i mewn er iddynt gefnogi'r prosiect yn wreiddiol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pryd y gallwn ddisgwyl penderfyniad ar y prosiect seilwaith hirddisgwyliedig hwn, a pha gynlluniau pellach sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thagfeydd, gan nad yw'n ymddangos bod unrhyw beth wedi gweithio hyd yn hyn ar y rhan honno o'r ffordd? Diolch.
Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau a dweud, yn gyntaf oll, ynghylch cais parcffordd Caerdydd, fel cais byw, yn amlwg, na allaf wneud sylw arno? Ond credaf ei fod o dan ystyriaeth weithredol, ac y bydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl.
Ar waith ehangach comisiwn Burns, a’r uned gyflawni a ddeilliodd ohono, cyfarfûm â Simon Gibson yn gynharach yr wythnos hon, ac mae’r gwaith y mae wedi’i arwain wedi bod yn hynod ddiddorol. Rwy'n credu ei fod yn hynod gyffrous hefyd. Bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl de-ddwyrain Cymru gyda thrydydd adroddiad blynyddol. Fodd bynnag, bydd yn fwy nag adroddiad blynyddol yn unig. Credaf ei fod yn rhoi cyfle gwych inni ystyried ariannu’r ymyriadau a amlinellwyd gan yr uned gyflawni a'r Arglwydd Burns yn y blynyddoedd i ddod. Bydd angen buddsoddiad eithaf sylweddol, ond dywedodd Llywodraeth Cymru, pan wnaed y penderfyniad ar yr M4, y byddai’n ystyried gwario arian cyfalaf ar ymyriadau gwahanol sy’n lleddfu tagfeydd. Rydym yn benderfynol o wneud hynny; rydym yn benderfynol o liniaru'r problemau sy'n wynebu modurwyr ar yr M4 ar hyn o bryd.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch yn fawr iawn am eich ateb, ac edrychaf ymlaen at glywed a gweld mwy o'r newidiadau hynny wrth symud ymlaen. Nawr, mae un bygythiad arall yn ein hwynebu, sef taliadau atal tagfeydd a chodi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, sydd wedi bod yn bygwth modurwyr Cymru ers llawer rhy gormod o amser. Honnodd Gweinidogion yn y Llywodraeth ddiwethaf nad oedd unrhyw fwriad o gyflwyno’r mesurau llym hyn, ac eto, aethant yn eu blaenau i roi’r pwerau iddynt eu hunain wneud yn union hynny. Ac rwy'n siŵr y byddwch yn derbyn ei bod hi'n gyfnod hynod o anodd i lawer o bobl ym mhob un o'n cymunedau, a gwario arian ychwanegol er mwyn byw eu bywydau bob dydd a gwneud bywoliaeth yw'r peth olaf sydd ei angen ar drigolion ym mhob cwr o Gymru. Yn bersonol, teimlaf na ddylem fod yn gorfodi modurwyr allan o'u ceir drwy wneud gyrru hyd yn oed yn fwy anodd. Yn hytrach, dylem fod yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn ei gwneud yn ddewis amgen hyfyw yn lle gyrru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ymrwymiad cadarn gennych chi yma heddiw na fydd y Llywodraeth hon, o dan eich gwyliadwriaeth chi, yn codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd nac yn cyflwyno unrhyw daliadau atal tagfeydd?
Rwy'n credu y dylwn amlinellu’r cyfrifoldebau ar gyfer codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd ledled y Deyrnas Unedig, fel bod Aelodau’n deall pwy sydd â'r cyfle i godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd. Credaf ei bod yn bwysig iawn cael y ddealltwriaeth honno. Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Drafnidiaeth sydd â'r pwerau i godi tâl cyffredinol ar ddefnyddwyr ffyrdd ac i dderbyn unrhyw refeniw hefyd, sy'n hollbwysig. Drwy Ddeddf Trafnidiaeth 2000, gall Gweinidogion Cymru roi pwerau i awdurdodau lleol roi cynlluniau lleol ar waith. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno taliadau ar ddefnyddwyr ffyrdd sy’n cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru. Materion i awdurdodau lleol yw materion i awdurdodau lleol. Ni fyddwn yn dymuno cyfarwyddo, ymyrryd na dweud wrthynt beth y dylent ei wneud.
Fy marn i, serch hynny, gyda’r cynnydd cyflym yn nifer y cerbydau trydan ar y ffyrdd, yw bod yn rhaid i Drysorlys y DU ystyried dulliau gwahanol i’r dreth ffyrdd draddodiadol o godi refeniw. Gwn fod yr Adran Drafnidiaeth wedi bod yn ystyried hyn ers peth amser. Y tro diwethaf imi fod yn y rôl hon, cofiaf gael sgyrsiau ynglŷn â hynny. Nid wyf yn gwybod beth yw cynlluniau’r Trysorlys yn y pen draw. Mae'n rhywbeth i Lywodraeth y DU neu Lywodraeth y DU yn y dyfodol ei benderfynu, a chyn gynted ag y gallaf ymgysylltu â Gweinidogion ar y pwnc, edrychaf ymlaen at gael sgwrs.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Y newyddion da yw—. Ac rwy'n falch iawn o glywed hynny gennych. Rwyf wedi cael llawer o gyfarfodydd gyda Mark Harper. Ar y sail honno, gwn ein bod wedi cael y sgwrs honno. Nid fu'n gefnogol iawn i daliadau atal tagfeydd, taliadau ULEZ ac ati. Roedd hwnnw’n bolisi Llafur y mae wedi'i weld yn Llundain ac yn y blaen, a’r ardaloedd cyfagos, ac fel ninnau, nid yw hynny’n rhywbeth y mae’n dymuno ei weld yng Nghymru. Felly, rwy'n falch ein bod yn cytuno ar hynny.
Nawr, er ei fod yn chwarae rhan hanfodol yn cysylltu cymunedau â'i gilydd a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, mae ein sector bysiau yn dal i wynebu cyfnod ansicr iawn. Mae'n faes yr oeddwn wedi gobeithio ei drafod gyda chi ddoe, ond yn anffodus, oherwydd amser, ni fu modd imi wneud hynny. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn llunio pecyn o fesurau diwygio bysiau, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn sicr yn ei drafod yn fanylach wrth symud ymlaen, ond mae'n amlwg fod angen gwneud mwy i gefnogi'r diwydiant hwn. Rwyf wedi galw dro ar ôl tro yn y Siambr hon am ymgyrchoedd i gymell teithio ar fysiau yng Nghymru ac ystyried capio prisiau siwrneiau mewn ymgais i hybu defnydd, ond yn anffodus, roedd y galwadau hynny'n ofer; hyd yn hyn, nid yw wedi digwydd. Felly, fel y saif pethau, mae'r diwydiant oddeutu 3,000 o yrwyr yn brin, yn ôl arolwg diweddar. Er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau diweddar i ostwng yr oedran gofynnol i yrru teithiau bysiau a choetsys hwy a chyflymu hyfforddiant i yrwyr. Gallai’r cam hwn arwain at gannoedd o swyddi ychwanegol, ac mae wedi’i groesawu gan sefydliadau blaenllaw yn y diwydiant. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru yma yng Nghymru i fynd i'r afael â'r prinder gyrwyr a chynyddu nifer y teithwyr wrth symud ymlaen? Diolch.
Wel, mae’r Aelod yn gwneud pwynt hanfodol bwysig, gan fod hwn yn fater yr ydym wedi’i weld yn effeithio ar wasanaethau bysiau yng Nghymru, i raddau helaeth iawn yn ddiweddar, yn enwedig—rwy’n credu—yn Abertawe, lle cafwyd problemau recriwtio a arweiniodd wedyn at fethu darparu gwasanaethau. Yn y mis neu ddau nesaf, byddaf yn cyfarfod â phob un o’r gweithredwyr bysiau mwyaf, a rhai o'r gweithredwyr gwasanaethau bysiau llai yng Nghymru yn wir, i gael darlun cliriach o’r heriau y maent yn eu hwynebu, ac yna, o’r cyfarfodydd hynny, byddwn yn gallu llywio’r cynlluniau bysiau sy’n cael eu llunio ar hyn o bryd. Bydd y cynlluniau bysiau yn creu’r bont dymor byr honno i fasnachfreinio eto yn 2027. Diolch.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Beth ydy Cabinet Secretary yn Gymraeg?
Ysgrifennydd.
Ysgrifennydd Cabinet, croeso eto i'r rôl. Ddoe, gwnaethoch chi wneud datganiad o'ch blaenoriaethau, ac roeddech chi'n dweud, ddoe, mai rhai o'ch blaenoriaethau oedd gweithio mewn partneriaeth, gwrando a gwneud newidiadau. Rwy'n croesawu hynny. Nawr, roedd cryn dipyn o'ch datganiad ac, wel, roedd cryn dipyn o'r sŵn dŷn ni wedi ei glywed yn ddiweddar, yn ffocysu ar newid cyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd trefol. A ydych chi'n pryderu bod cymaint o'ch ffocws yn eich wythnosau cyntaf wedi bod ar newid neu ail-esbonio polisi blaenorol? Allech chi osod mas, plîs, faint o arian sydd yn cael ei wario, a fydd yn cael ei wario, ar ddad-wneud unrhyw waith a buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud yn barod ar hyn? Faint o arian fyddai wedi gallu cael ei arbed petai'r Llywodraeth wedi gweithredu ar y gwelliant roedd Plaid Cymru wedi'i osod ac oedd wedi pasio chwe mis yn ôl? Faint byddwch chi'n ei wneud er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi'n blaenoriaethu gwella gwasanaethau a gwella cysylltiadau, yn hytrach na dad-wneud rhywbeth sydd wedi cael ei wneud yn barod?
A gaf i ddiolch i Delyth Jewell am ei chwestiynau a dweud fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at ein cyfarfod cyntaf? Edrychaf ymlaen hefyd at fy nghyfarfod cyntaf â Natasha Asghar. Edrychaf ymlaen at weithio gyda llefarwyr y gwrthbleidiau ar faterion yn ymwneud â thrafnidiaeth. Rwy’n siŵr y bydd yna anghytuno, ond rwy'n gobeithio hefyd y byddwn yn cytuno ar rai ffyrdd ymlaen, sut y gallwn gydweithio’n agosach a sut y gallwn gasglu eich syniadau a’ch mewnwelediad hefyd.
Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am faint o amser ac ystyriaeth y bûm yn eu rhoi i'r terfyn 20 mya. Mae wedi bod yn nodwedd flaenllaw o'r rôl hyd yn hyn, yn bennaf am fod anghydfod ac anghytundeb yn fy ngwneud yn anghyfforddus. Pan fyddaf yn edrych ar sylwadau ar wefannau newyddion, mae hynny'n fy ngwneud yr un mor anghyfforddus. Rwy'n dymuno dod â rhywfaint o undod a chonsensws i rywbeth sydd wedi bod yn begynol. Felly, mewn gwirionedd, mae'n werth yr egni, yn fy marn i, os yw'n golygu, yn y pen draw, y gallwn wneud y polisi'n llwyddiant ac y gallwn gyrraedd consensws lle rydym yn cydnabod mai gwneud Cymru'n fwy diogel drwy'r polisi hwn yw'r peth iawn i'w wneud, ond fod gwneud addasiadau iddo yr un mor gywir.
Ar y gost, bydd y gost yn ymwneud yn bennaf â llafur a chost ailosod yr arwyddion 30 mya. Rydym wedi cynnal amcangyfrifon cynnar o hynny. Credwn y bydd yn ffracsiwn o gostau gweithredu'r polisi, felly rhwng £3 miliwn a £5 miliwn yw’r hyn a amcangyfrifwn. Nid yr awdurdodau lleol fydd yn ysgwyddo'r gost honno; byddwn ni'n dod o hyd i'r arian hwnnw. Mae’r Gweinidog cyllid wedi dweud wrthyf fod yn rhaid iddo ddod o fy nghyllideb i, felly byddwn yn dod o hyd i ffordd o nodi’r arian hwnnw, gan fy mod ymwybodol iawn na all cynghorau fod yn chwilio am arian o wasanaethau cyhoeddus ar adeg pan fyddant o dan gymaint o bwysau.
Ac ar wasanaethau cyhoeddus, gwella trafnidiaeth gyhoeddus mewn perthynas â thrafnidiaeth yn gyffredinol yw fy mhrif flaenoriaeth, gan fy mod yn credu'n gryf, er mwyn ysgogi cyfiawnder cymdeithasol ac ysgogi newid dulliau teithio, fod yn rhaid ichi roi dewis amgen i bobl yn hytrach na'r car, a hwnnw'n ddewis amgen dymunol. Ni all fod yn ddewis eilradd; mae'n rhaid iddo fod yn werth chweil. Mae'n rhaid iddo fod ar gael, mae'n rhaid iddo fod yn fforddiadwy, ac mae'n rhaid iddo fod i bawb, boed mewn ardal wledig ai peidio, boed yn gwbl symudol yn gorfforol ai peidio. Mae'n rhaid iddo fod ar gyfer pawb. Felly, gwella trafnidiaeth gyhoeddus, a'i gwneud yn decach hefyd o ran cost defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yw’r brif flaenoriaeth yn fy mriff.
Diolch yn fawr am eich ateb. Mae fy nghwestiwn arall, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ymwneud â gwasanaethau bysiau. Mae gwir angen sylw a buddsoddiad arnynt. A allech chi amlinellu, os gwelwch yn dda, sut y bwriadwch i’r Bil bysiau a’i ddarpariaethau gael eu hariannu’n gynaliadwy? A allech chi nodi mewn mwy o fanylder, os gwelwch yn dda, sut mae lle i fysiau yn eich blaenoriaethau, sut y byddwch yn sicrhau na fydd y buddsoddiad hanfodol, hollbwysig sydd ei angen yn y rheilffyrdd yn cael ei wneud ar draul gwasanaethau bysiau, a sut y byddwch yn ymgorffori barn teithwyr yn eich cynlluniau, yn enwedig teithwyr sy’n byw mewn ardaloedd gwledig neu gymunedau lle na fydd rheilffyrdd yn eu cyrraedd, fel cymunedau yn y Cymoedd?
Yn olaf, gan gydnabod eich ateb cyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet—fe ddywedoch fod yn rhaid dod o hyd i £3 miliwn i £5 miliwn ar gyfer ad-drefnu neu ailfeddwl am beth o’r polisi 20 mya o fewn eich cyllideb—a allech chi roi sicrwydd na fydd hynny’n digwydd ar draul gwasanaethau bysiau, os gwelwch yn dda?
Gallaf roi’r sicrwydd hwnnw. Rwy'n dwli ar wasanaethau bysiau, ac ni fyddwn yn talu am ailgyflwyno unrhyw lwybrau 30 mya gydag arian a fyddai wedi’i wario fel arall ar ddarparu gwasanaethau bysiau yng Nghymru.
Rwyf eisoes wedi amlinellu'r her sydd gennym gyda chymhorthdal i rai gwasanaethau rheilffyrdd. Fy marn bendant i, yn y tymor hir—. Yn y tymor byr, mae gennym heriau gyda'r cymhorthdal, ond o ran ymarfer hirdymor, mae'n rhaid inni gynyddu'r elw a wneir drwy gynyddu'r nifer sy'n defnyddio'r gwasanaeth, er mwyn lleihau'r cymhorthdal cyhoeddus, y gellir ei ddefnyddio fel arall ar gyfer gwasanaethau bysiau.
Elfen hanfodol y Bil bysiau fydd y gallu inni reoli gwasanaethau. Ni fyddwn yn berchen arnynt o reidrwydd, ond byddwn yn gallu eu rheoli. Byddwn yn gallu llunio'r rhwydweithiau a chael gweithredwyr i ddarparu'r gwasanaethau. Mae hynny wedyn, yn ei dro, yn rhoi mwy o reolaeth i ni dros wariant hefyd. Mewn ffordd, dyma sut yr aethom ati i gaffael gwasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Ac felly, bydd yn cynyddu gwerth am arian, ond bydd hefyd yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol a'r rhanbarthau wneud penderfyniadau ynglŷn â llwybrau, ac rwy'n credu mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i allu llunio llwybrau a sicrhau bod pob cymuned yn cael ei gwasanaethu'n dda gan wasanaethau bysiau.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru wrth weithredu argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru? OQ60979
Gwnaf. Mae bwrdd cyflawni Burns yn gwneud cynnydd rhagorol ar gyflawni argymhellion y comisiwn. Cyfarfûm â chadeirydd y bwrdd, yr Athro Simon Gibson, yr wythnos hon, i drafod eu trydydd adroddiad cynnydd sydd ar y ffordd.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, yn gyntaf, a gaf i eich llongyfarch yn ffurfiol ar eich rôl ar ran pobl Islwyn, a diolch am eich ymateb? Un o lwyddiannau gwerthfawr datganoli yng Nghymru fu ailadeiladu ac uwchraddio’r rheilffordd o Lynebwy i Gaerdydd, a chydag ychwanegiad pellach, yn gynharach eleni, y gwasanaeth newydd i ac o Gasnewydd. Dyma Lywodraeth Lafur Cymru sydd wedi cyflwyno gwasanaethau teithwyr mawr eu hangen i gymunedau Islwyn sy’n lleihau nifer y cerbydau ar y ffyrdd. Mae adeiladu gorsafoedd trên ychwanegol yn ganolog i argymhellion Burns, fel y gwyddoch. Mae creu Parcffordd Caerdydd yn cynnig potensial i uwchraddio’r capasiti ar y rheilffordd sy’n gwasanaethu trigolion Islwyn ymhellach, a hynny’n ogystal â hyfforddi prentisiaethau a swyddi. Serch hynny, ddwy flynedd ar ôl y penderfyniad i roi caniatâd cynllunio i brosiect Parcffordd Caerdydd gan ei awdurdod cynllunio lleol, cafodd y penderfyniad ei alw i mewn gan Lywodraeth Cymru, y tro diwethaf ym mis Ionawr 2024, ac mae’r targed ar gyfer—. Mae'n rhaid iddo gael ei benderfynu, rwy'n credu, cyn 26 Ebrill, felly mae'n agos iawn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi amlinellu amserlenni amcangyfrifedig ar gyfer pryd y bydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi a sut y gwneir y penderfyniad hwnnw?
Diolch. A gaf i ddiolch i’r Aelod dros Islwyn a dweud, cyn iddi gael ei hethol a byth ers iddi gael ei hethol, ei bod bob amser wedi bod yn hyrwyddwr dros wasanaethau cyhoeddus ac yn enwedig trafnidiaeth gyhoeddus yn ei hetholaeth? Ac rwy'n falch o ddweud bod trenau newydd—trenau 197 newydd sbon—wedi dechrau gweithredu ar reilffordd Glynebwy yr wythnos hon. Mae hynny'n gyffrous iawn, yn enwedig gan iddynt gael eu hadeiladu gerllaw; cawsant eu hadeiladu yng Nghasnewydd, ac maent yn drenau CAF gwych. Felly, rwy'n falch iawn o'u gweld yn cael eu cyflwyno; rwy'n falch iawn o'u gweld yn weithredol.
Ar Barcffordd Caerdydd, fel y soniais wrth Natasha Asghar, mae'n anodd imi wneud sylwadau ar hyn, gan ei fod yn gais byw, ond caiff ei ystyried cyn gynted â phosibl. Ni allaf ddweud mwy, mae arnaf ofn, gan y gallai ragfarnu'r penderfyniad terfynol.
Iawn. Diolch.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ei gynlluniau ar gyfer gwella trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru? OQ60967
Wel, fy mlaenoriaethau ar gyfer gogledd Cymru yw gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, adeiladu ffyrdd gwell, a datganoli penderfyniadau i’r gogledd, gan gynnwys drwy’r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn sicr, rwy'n croesawu llawer o’r hyn rydych newydd ei ddweud, a gwrandewais hefyd ar eich datganiad ddoe gyda chryn ddiddordeb, fel y gwnaeth Aelodau eraill o’r Siambr. Rwy’n sicr yn croesawu eich newid cywair, gan yr ymddengys bod gan y Gweinidog trafnidiaeth blaenorol obsesiwn gwrth-ffyrdd, sydd wedi bod yn niweidiol iawn i fy nhrigolion yng ngogledd Cymru, y gwasanaethir rhai ohonynt gennych chithau hefyd, ac maent yn ysu am well rhwydwaith ffyrdd yn y rhanbarth, er mwyn iddynt allu symud o gwmpas yn haws. Oherwydd fe fyddwch yn gwybod, yn y gogledd, fod car yn aml yn hanfodol i bobl.
Fe sonioch chi am dri phrosiect ddoe a fydd yn mynd rhagddynt o ran adeiladu ffyrdd: croesfan yr A494 ar afon Dyfrdwy, gwelliannau i Ffordd yr Wyddgrug yn Wrecsam, a'r mesurau rheoli traffig ger croesfan Britannia, ac rwy'n sicr yn croesawu’r rheini. Ond rwy’n ymwybodol hefyd fod yr adroddiad dyfodol buddsoddiad ffyrdd, a gyhoeddwyd fis Chwefror diwethaf, yn dangos, o blith yr 19 o gynlluniau Llywodraeth Cymru, mai dim ond dau ohonynt a fydd yn cael eu cefnogi yn y dyfodol yn y gogledd, felly mae 17 o’r cynlluniau yn y gogledd yn cael eu diddymu'n gyfan gwbl. Felly, tybed a ydych chi'n ystyried adolygu'r adroddiad hwnnw, ac a fyddwch chi'n ystyried datblygu'r 17 cynllun a ddiddymwyd yn y dyfodol. Fel y gwyddoch, mae trigolion gogledd Cymru'n aml yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu gan Lywodraeth sy’n canolbwyntio ar Gaerdydd, ac maent am weld penderfyniadau ar eu cyfer ynghylch ffyrdd yng ngogledd Cymru'n cael eu gwneud yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.
Wel, a gaf i ddiolch i Sam Rowlands am ei gwestiynau? Credaf ein bod wedi gweithio’n dda gyda’n gilydd pan oeddwn ar y meinciau cefn, yn y grŵp trawsbleidiol ar gyfer gogledd Cymru. Buom yn trafod y materion hyn yn helaeth, a gallaf roi sicrwydd i Sam heddiw mai fy mlaenoriaeth gyntaf, o ran yr adolygiad ffyrdd, yw asesu effaith, ar lawr gwlad, y profion a oedd yn rhan o’r adolygiad. Hoffwn sicrhau bod gennym fframwaith sy’n gweithredu mewn ffordd sy’n ein galluogi i adeiladu ffyrdd gwell nag o’r blaen, sy’n gyson â’n hamcanion sero net, ond sy’n caniatáu inni fwrw ymlaen â’r prosiectau a ohiriwyd gennym.
Mae’n debyg mai’r prosiectau a nodais ddoe yw’r rhai yr oeddwn yn fwyaf cyfarwydd â nhw yn sgil tair blynedd ar y meinciau cefn ac o waith blaenorol, ond yn amlwg, byddaf yn edrych ar bob un o’r prosiectau a ohiriwyd fel rhan o’r adolygiad hwnnw. Hoffwn ailedrych ar ba waith sydd wedi’i wneud ers hynny hefyd, gan fod rhai ohonynt wedi mynd yn ôl i'r broses WelTAG, felly hoffwn archwilio pob un ohonynt i weld lle maent arni a sut y gellir bwrw ymlaen â nhw mewn ffordd sy'n cyflawni—mae'n rhaid imi bwysleisio eto—ein cyfrifoldebau mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd.
Cynhaliodd Arriva adolygiad o 90 y cant o'r rhwydwaith bysiau ar ôl gweithredu 20 mya. Cefais gyfarfod â nhw, ac roeddent yn dweud, pe bai modd adolygu rhai o'r llwybrau prifwythiennol, y byddent yn ailgyflwyno gwasanaethau i lefydd fel Llandegla ac i Tweedmill. Awgrymais eu bod yn codi'r mater gyda'r awdurdodau lleol, gan awgrymu pa lwybrau prifwythiennol y gellid eu hailgyflwyno. Fe wnaethant awgrymu ymyriadau a mentrau wedi'u targedu hefyd, megis defnyddio cyllid 106 o ddatblygiadau newydd ar gyfer pasys bysiau, fel y gallai preswylwyr newydd ddechrau defnyddio cludiant bysiau cyhoeddus. Maent yn gwneud hynny yng Nghaer. Felly, a wnewch chi gyfarfod ag Arriva, Ysgrifennydd y Cabinet, i sicrhau y bydd hyn yn digwydd mewn gwirionedd, oherwydd credaf fod y gwasanaeth bysiau dros dro i Landegla ar fin dod i ben, a hoffwn weld pethau'n symud yn gyflym fel y bydd Arriva'n ailgyflwyno'r gwasanaeth hwnnw?
Wel, a gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am ei chwestiwn? Mae hi'n hyrwyddo anghenion ei thrigolion yn Llandegla'n rheolaidd. Rwy'n gyfarwydd iawn â'r pentref wrth gwrs, ac rwy'n gwybod pa mor bwysig yw'r gwasanaeth bws i ac o'r pentref. Byddaf yn cyfarfod ag Arriva yn fuan iawn. Byddaf yn edrych ar yr effaith y mae 20 mya wedi'i chael ar ei wasanaethau, a gwn fod Trafnidiaeth Cymru wedi cynnal ymarfer cynhwysfawr i fapio'r holl lwybrau bysiau yn y rhanbarth i asesu effaith y terfyn 20 mya ar amseroedd teithio. Felly, byddaf yn siarad ag Arriva ynglŷn â hynny a sut y gallwn symud ymlaen mewn partneriaeth.
Credaf fod yr hyn sy'n digwydd yng Nghaer yn hynod ddiddorol. Mae yna gynrychiolwyr etholedig a swyddogion o Gaer sy'n rhan o Growth Track 360. Rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â nhw a dysgu mwy am y cynllun hwnnw a sut y gallai cynllun trafnidiaeth rhanbarthol gogledd Cymru elwa o'r math hwnnw o arloesedd.
5. Beth yw asesiad yr Ysgrifennydd Cabinet o'r cynnydd o ran gweithredu polisïau teithio llesol yng Nghymru? OQ60969
Diolch. Wel, ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru, rydym yn parhau i ddarparu gwell cyfleoedd ar gyfer cerdded, olwyno a beicio ledled Cymru. Drwy'r gronfa teithio llesol a'r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, rydym wedi dyrannu dros £55 miliwn i awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn ariannol hon i alluogi mwy o deithiau o'r mathau hyn bob dydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o ddarpariaethau pwysig Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw'r gofyniad i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol gymryd camau rhesymol i wella cyfleusterau ar gyfer cerddwyr a beicwyr wrth wella neu gynnal y briffordd. Mae ymgorffori'r darpariaethau teithio llesol hyn yn y gwaith o adeiladu a chynnal a chadw ffyrdd yn llawer mwy costeffeithiol nag ôl-osod wrth gwrs, ond yn anffodus mae gormod o brosiectau ffyrdd yn dal i fethu cadw at y darpariaethau hyn yn y Ddeddf. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i weithio gyda phawb sy'n ymwneud â'r gwaith o lunio a chyflawni prosiectau priffyrdd yng Nghymru, i sicrhau eu bod yn ystyried y potensial ar gyfer gwella teithio llesol yn y camau cynharaf o ddatblygu'r prosiectau hyn?
A gaf i ddiolch i John Griffiths fel rhywun sy'n hyrwyddo teithio llesol? Mae John Griffiths bob amser wedi hyrwyddo teithio llesol, ac rwy'n edrych ymlaen at drafod y materion, fel yr un y mae wedi'i godi heddiw, gyda'r bwrdd teithio llesol a chydag awdurdodau lleol, i sicrhau bod gennym ddull cyson ledled Cymru a bod ffyrdd a llwybrau teithio llesol yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda. Rwy'n dweud ffyrdd hefyd oherwydd, wrth gwrs, mae ffyrdd yn dal i gael eu defnyddio gan feicwyr hefyd, ac maent yn gallu bod yn beryglus iawn pan fo tyllau yn y ffyrdd. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag awdurdodau lleol, y bwrdd teithio llesol, a phartneriaid sy'n darparu llwybrau teithio llesol.
Cwestiwn 6, Tom Giffard.
Rwy'n ymwybodol cyn gofyn y cwestiwn nad yw ein meicroffonau, neu rai meicroffonau, yn gweithio ar hyn o bryd. Gallwn barhau, ond rydym yn ceisio ailosod y meicroffonau, a gobeithio y bydd popeth yn ailgychwyn, ond mae popeth yn cael ei glywed. Rhaid imi ymddiheuro i Russell George. Edrychais amdanoch yn eich sedd flaenorol a gweld nad oeddech chi yno, a nawr rwyf newydd eich gweld yno—nid wyf am ddweud ar y meinciau cefn—yn eich sedd newydd, a gallaf alw arnoch i ofyn cwestiwn atodol i'r cwestiwn diwethaf cyn imi alw ar Tom Giffard.
Roeddwn i'n gallu eich gweld chi'n edrych draw tuag at fy hen sedd, Lywydd, felly dyna pam fy mod i'n chwifio fy mreichiau. Diolch. A yw fy meicroffon ymlaen neu beidio?
Na, ond fe allwn eich clywed. Rydym yn gallu eich clywed chi.
Rydym yn gallu eich clywed, felly ewch amdani.
Rydych yn fy nghlywed. Fe wnaf weiddi. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi derbyn ceisiadau gan drigolion, dros gyfnod hir, yn ardal Llanbrynmair, ac yn fwy diweddar gan Gyngor Cymuned Llanbrynmair, ynghylch llwybr teithio llesol ar hyd cefnffordd yr A470 o Ddolfach i Lanbrynmair, er diogelwch cerddwyr, a hefyd i ddod â'r ddwy gymuned at ei gilydd.
Cefais ymatebion braidd yn anghyson gan eich rhagflaenydd a'r awdurdod lleol. Felly, dywedodd eich rhagflaenydd wrthyf, fis diwethaf, 'Nid yw'r cynllun hwn yn ein rhaglen bresennol; rydym yn blaenoriaethu cynlluniau sydd wedi'u nodi gan Gyngor Sir Powys', ac roeddwn i'n meddwl bod hynny'n rhyfedd o ystyried bod hon yn gefnffordd hefyd. Ymatebodd yr awdurdod lleol gan ddweud bod dyletswydd statudol ar y cyngor i fapio llwybrau teithio llesol posibl yn y dyfodol o fewn 11 anheddiad dynodedig yn y sir, ac mai Gweinidogion Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r aneddiadau hyn. Aethant ymlaen i ddweud, 'Gan mai cefnffordd yw hon, Llywodraeth Cymru fyddai'n gyfrifol am unrhyw waith, a mater iddynt hwy yw penderfynu ar flaenoriaethau.'
Felly, rwy'n gobeithio, Weinidog, y gallwch chi roi asesiad o beth y credwch chi yw'r blaenoriaethau. Ond yn y pen draw, a allwch chi ddweud wrthyf pryd y gall fy etholwyr ddisgwyl gweld polisi teithio llesol a fydd yn cynnwys llwybrau mewn ardaloedd gwledig, nid mewn trefi'n unig, ac yn fwy penodol, pryd y gall trigolion Llanbrynmair ddisgwyl gweld llwybr teithio llesol ar hyd cefnffordd yr A470?
A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiwn, ac a gaf i ofyn am ychydig mwy o amser i drafod y materion sy'n ymwneud â'r cynigion ar gyfer teithio llesol ar hyd yr A470? Fy ymateb uniongyrchol i'r hyn rydych chi wedi'i amlinellu heddiw yw awgrymu y gellid rhoi blaenoriaeth i ffyrdd a llwybrau a ddatblygwyd gan yr awdurdod lleol yn hytrach na chan Lywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am y gefnffordd. Ond byddai angen i mi wirio a yw hynny'n wir ac yn gywir, ond rwy'n sicr yn hapus i ystyried y materion y gofynnwch amdanynt heddiw.
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus? OQ60975
Yn sicr. Fy mlaenoriaeth yw datblygu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus dibynadwy, fforddiadwy a chynaliadwy sy'n darparu ar gyfer pobl a chymunedau ledled Cymru. Byddwn yn grymuso ein rhanbarthau i ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol sy'n diwallu anghenion eu hardal, ac yn darparu cefnogaeth i'w cyflawni.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Dywedodd nifer o weithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus fod y ddeddfwriaeth 20 mya yn rheswm allweddol pam eu bod yn diddymu llwybrau mewn llawer o achosion. Cyfeiriodd Adventure Travel at y polisi 20 mya fel y rheswm dros ddiddymu rhai llwybrau yr oedd pobl yn dibynnu arnynt yn Abertawe. A allech chi roi sicrwydd y byddwch chi'n gweithio, nid yn unig gyda rhanddeiliaid o'r cyhoedd ac awdurdodau lleol, ond hefyd y gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus hynny, i sicrhau, lle mae 20 mya wedi bod yn rhwystr yn y gorffennol i ddarparu gwasanaeth hyfyw, na fydd hynny'n wir wrth symud ymlaen?
Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw, a hoffwn ddweud hefyd y byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda'r diwydiant bysiau ar y canllawiau diwygiedig ar gyfer y polisi, ac mae hynny'n gwbl hanfodol, o ystyried y posibilrwydd y bydd yn effeithio ar wasanaethau bws. Ac fel y dywedais wrth Carolyn Thomas, rwyf wedi gweld gwaith cynnar gan Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â'r ymarfer mapio. Mae'n wirioneddol gynhwysfawr. Mae'n gallu nodi llwybrau penodol sydd wedi cael eu heffeithio, felly byddwn yn gallu defnyddio'r wybodaeth honno yn ein trafodaethau gyda gweithredwyr bysiau.
Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw'r sefyllfa gyda'r Bil bysiau? A wnewch chi amlinellu'r amserlen? Oherwydd roeddwn o dan yr argraff y byddem wedi'i weld erbyn hyn. Mae'n bosibl ei fod wedi cael ei gyflwyno neu byddai ar fin digwydd. Hefyd, os bydd unrhyw oedi, efallai y gallech esbonio pam hynny, a sut, neu a allai eich dull o weithredu fod yn wahanol i ddull eich rhagflaenydd mewn unrhyw ffordd.
A gaf i ddiolch i Llyr Huws Gruffydd am y cwestiwn? Mae'r Bil bysiau'n hanfodol bwysig i'r Llywodraeth hon. Mae'n un o'n prif flaenoriaethau. Dyma fy mhrif flaenoriaeth o ran deddfwriaeth a fy mwriad yw cyflwyno'r Bil hwnnw erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf. Rwy'n gobeithio y bydd yn cael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl. Gellid ei gyflwyno yn yr hydref eleni. Mae'n flaenoriaeth i mi, ac rwy'n benderfynol o sicrhau ei fod yn mynd drwy'r Senedd hon yn ystod y cyfnod seneddol hwn. Felly, erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf, bydd wedi cael ei gyflwyno, ond rwy'n gobeithio ei gyflwyno'n gynt.
7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwasanaethau bysiau yng nghymunedau'r cymoedd? OQ60973
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau ar sail ranbarthol i wella rhwydweithiau a gwasanaethau bysiau gan ddefnyddio'r cyllid ychwanegol o'n grant rhwydwaith bysiau. Bydd hyn yn helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno masnachfreinio mewn deddfwriaeth newydd i ddarparu gwasanaeth integredig sy'n canolbwyntio ar deithwyr.
Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Mae gwasanaethau bws yn achubiaeth i bobl yn y Cymoedd. Oni bai eich bod yn byw o fewn pellter cerdded i orsaf drenau, bysiau yw'r unig drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael. Ond yn anffodus, ac yn rhy aml, nid yw'r bysiau hynny ar gael. Mae cymaint o lwybrau wedi'u torri yn ystod y misoedd diwethaf, a dim ond llwybrau bws sydd gan lawer o bentrefi, fel fy un i, sy'n gorffen cyn 5 o'r gloch ac sy'n ei gwneud hi'n amhosibl i unrhyw un sydd â swydd naw tan bump hyd yn oed eu defnyddio ar gyfer eu gwaith. Roedd preifateiddio'r rhwydwaith bysiau yn yr 1980au yn drychineb. Roedd yn anflaengar yn gymdeithasol ac yn niweidiol iawn i'n cymunedau. Rydym i gyd wedi talu'r pris am obsesiwn Thatcher â gwneud arian i'r ychydig bobl ar y brig. Nawr, gyda'r Bil bysiau sydd ar y ffordd, pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni, os gwelwch yn dda, y bydd y gwasanaethau bysiau y mae cymunedau'r Cymoedd eu hangen yn dod ac yn parhau i ddod yn seiliedig ar anghenion y gymuned, ac nid yr hyn sy'n broffidiol i gwmnïau yn unig?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn? Prif amcan y Bil bysiau yw sicrhau ein bod yn rhoi teithwyr o flaen elw, fel y gallwn ddarparu gwasanaethau yn seiliedig ar yr hyn sydd ei angen ar bobl mewn cymunedau, gan gynnwys cymunedau'r Cymoedd. Cefais fy nharo ddoe, wrth glywed am yr her sy'n cael ei hwynebu yng nghymunedau'r Cymoedd, yn enwedig pan siaradodd Buffy Williams am bobl y Rhondda Fach. Dangosodd i mi pa mor hanfodol yw gwrando ar bobl wrth gynllunio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn perthynas â'r gwasanaethau sy'n hanfodol bwysig, lle nad oes opsiwn arall.
Gwyddom mai gwasanaethau bysiau yw tri chwarter y teithiau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ac yn hollbwysig, cânt eu defnyddio gan bobl nad oes ganddynt gar at eu defnydd yn y rhan fwyaf o amgylchiadau. Felly, bydd y Bil bysiau'n hanfodol bwysig, ond mae gwaith i'w wneud yn y cyfamser hefyd. Felly, rydym wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru weithio'n agos ac yn gyflym gydag awdurdodau lleol yn y Cymoedd i sicrhau y gallwn wella gwasanaethau bysiau lleol cyn 2027, pan fyddwn yn disgwyl gallu cyflwyno gwasanaethau wedi'u masnachfreinio, oherwydd mae pobl yn disgwyl gwasanaethau gwell heddiw.
Fis diwethaf, cynhaliodd Wayne David AS a minnau gymhorthfa fysiau yn Neuadd y Gweithwyr Bedwas. Roedd yn un o'r cymorthfeydd gorau i mi eu cynnal. Roedd pobl yn codi'r pryderon y soniodd Buffy amdanynt ddoe ac y mae Delyth Jewell newydd sôn amdanynt. Un rheswm cyffredin dros gwyno yw nad yw gwasanaethau sy'n mynd ag etholwyr i'r gwaith neu apwyntiadau meddygol yn ddibynadwy. Roeddem yn siomedig hefyd nad oedd y gwasanaeth peilot o Gaerffili i Ysbyty Athrofaol y Faenor yn parhau am nad oedd cwmnïau sector preifat yn credu ei fod yn hyfyw. Un o'r problemau mwyaf inni eu gweld cyn hyn oedd y gwasanaethau rheilffyrdd, ac mae cwynion y gwasanaeth rheilffyrdd wedi gostwng yn anfesuradwy ers y gwelliant i reilffordd Rhymni i Gaerdydd. Hoffem weld gwelliannau tebyg gyda gwasanaethau bysiau. Un o'r llwybrau tuag at sicrhau hynny fyddai system un tocyn integredig. I ba raddau y byddai'r Bil bysiau yn caniatáu darparu gwasanaeth un tocyn integredig i breswylwyr, a beth mae'r Gweinidog yn ei gredu fyddai'r amserlen ar gyfer cyflawni hynny?
Wel, mae Hefin David yn codi nifer o gyfleoedd gwych gyda'r Bil bysiau, rwy'n credu, o ran y potensial i gyflwyno un tocyn integredig; y potensial i gael amserlenni gwirioneddol integredig; y potensial i gael trefn lawer tecach ar gyfer costau teithio. Rydym yn disgwyl gallu cyflwyno gwasanaethau wedi'u masnachfreinio yn 2027—dyna ein bwriad—a chyda hynny, byddwn yn gallu gwneud gwaith ar y system brisiau a fydd yn cael ei chyflwyno a'r system docynnau a fydd yn cael ei chyflwyno a'r amserlenni integredig cyn cyflwyno hynny. Ond rwy'n credu, unwaith eto, fod yn rhaid inni wrando ar bobl a sicrhau bod hyn wedi'i gynllunio'n rhanbarthol gyda'n partneriaid llywodraeth leol, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau—bysiau a rheilffyrdd—yn sicr yn ateb anghenion pobl ledled Cymru.
8. Sut mae'r Llywodraeth yn gwella hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru? OQ60952
Rydym yn cyflawni gwelliannau nawr i hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus, gyda fflydoedd newydd, gorsafoedd newydd a deddfwriaeth cyn bo hir i ganiatáu darparu gwasanaethau bysiau er budd y cyhoedd. Bydd y datblygiadau hyn yn gwireddu rhwydwaith integredig o fysiau, rheilffyrdd a theithio llesol, gyda mwy o wasanaethau a gwell mynediad i bawb.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Ysgrifennydd Cabinet.
Ac yn dilyn thema cwestiwn Delyth Jewell, nid yw'r rhwydwaith bysiau yn fy rhanbarth yn cyrraedd y safon os ydym o ddifrif am hybu symudedd cymdeithasol a ffyniant. Rwy'n cynrychioli cymunedau lle nad oes unrhyw ffordd o deithio i mewn nac allan gyda'r nos, sy'n golygu eich bod yn cael eich ynysu os nad oes gennych gar neu os na allwch fforddio tacsi. Mae hyn yn gwneud bywyd yn anodd i unrhyw un sy'n gweithio patrymau shifft. Mae un o'r problemau mawr gyda'r diffygion yn y rhwydwaith bysiau, ynghyd ag agenda canoli iechyd y Llywodraeth Lafur, yn golygu ei bod yn anodd cyrraedd ysbyty'r Faenor. Dyma'r prif ysbyty dosbarth ar gyfer rhannau helaeth o fy rhanbarth, yn ymestyn o Fedwas i'r Fenni. Rhoddwyd sylw mawr i'r gwasanaeth bws uniongyrchol a gyhoeddwyd o fwrdeistref sirol Caerffili i'r ysbyty, ond cafodd ei ddiddymu'n ddistaw bach tua chwe mis yn ôl, fel y crybwyllodd Hefin David nawr. Fel Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros drafnidiaeth, a allwch chi ailedrych ar gynlluniau trafnidiaeth sy'n sicrhau bod modd i bawb gyrraedd ein hysbytai mewn modd amserol, nid dim ond y rhai sydd â thrafnidiaeth breifat at eu defnydd?
Gallaf ddweud wrth yr Aelod ein bod wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru edrych eto ar gysylltiadau bysiau i gyfleusterau gofal iechyd allweddol ledled Cymru fel rhan o'r gwaith cynllunio bysiau rhanbarthol sy'n digwydd ar hyn o bryd. Rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith y mae'r gwasanaeth hwnnw i ysbyty'r Faenor wedi'i chael ar drigolion. Maent yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a byddant yn defnyddio profiad y gwasanaeth peilot fel rhan o'r adolygiad. Rwy'n credu ei bod yn anffodus na wnaeth Stagecoach gynnal y gwasanaeth ar sail fasnachol. Mae'n anffodus, ond mae'n adlewyrchiad o'r system sydd gennym ar hyn o bryd—system sydd wedi'i phreifateiddio, system sydd wedi'i dadreoleiddio. Felly, unwaith eto, mae'n rhywbeth y byddwn yn gallu mynd i'r afael ag ef yn fwy hirdymor drwy ddeddfwriaeth.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Bydd angen imi alw am doriad technegol dros dro nawr oherwydd ein problemau electronig parhaus. Fe wnawn ailymgynnull cyn gynted â phosibl.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:17.
Ailymgynullodd y Senedd am 14:20, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Rŷn ni'n barod i ailgychwyn. Byddwn ni'n ailgychwyn ar eitem 2, a'r eitem hwnnw yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Jane Dodds.
1. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i osod targedau ar gyfer lleihau tlodi plant? OQ60985
Rydym yn datblygu fframwaith o ddangosyddion a mesurau tlodi plant sydd wedi'u llywio gan yr Athro Rod Hick o Brifysgol Caerdydd a'n grŵp cyfeirio allanol. Bydd adroddiad cynnydd polisi a thystiolaeth gan y rhai sydd â phrofiad bywyd o dlodi hefyd yn cael eu darparu ar y pwynt adrodd cynnydd nesaf yn 2025.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, mae'r ystadegau tlodi plant diweddaraf ar gyfer Cymru a ryddhawyd fis diwethaf yn rhoi darlun digalon iawn o ddiffyg cynnydd—mae 29 y cant o blant bellach yn byw mewn tlodi cymharol, sef 190,000 o blant. Roedd adroddiad 'Cyflwr Cymru' diweddar Sefydliad Bevan yn dangos y realiti creulon mai plant yw'r demograffig sy'n wynebu'r risg uchaf o dlodi o hyd, gyda phlant o aelwydydd lle nad yw'r oedolion mewn cyflogaeth lawn, yn ogystal â'r rhai mewn cartrefi rhent, yn wynebu risg uwch fyth o amddifadedd. Ni allwn laesu dwylo ynghylch y ffigurau hyn na derbyn y diffyg cynnydd. Y tu ôl i'r ffigurau hyn, fel y dywedwch, mae profiadau bywyd plant sy'n llythrennol yn dioddef. Mae'r ffigurau hyn yn dangos yr angen brys am dargedau mesuradwy a chlir i leihau tlodi plant, fel yr argymhellodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn eu hadroddiad fis Tachwedd diwethaf. Ac rwy'n siomedig iawn o glywed na fydd y rhain yn cael gyda ni tan 2025, oherwydd mae'n cymryd amser inni roi'r targedau hynny ar waith wedyn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a wnewch chi ymrwymo i greu targedau clir, mesuradwy ar frys ar gyfer lleihau tlodi plant? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Gallaf yn sicr sicrhau Jane Dodds a'r holl Aelodau nad wyf yn llaesu dwylo. Yn amlwg, rwyf newydd gael y portffolio hwn, ac fel y dywedwch, yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y plant mewn tlodi cymharol. Mae wedi codi 1 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Felly, gallaf eich sicrhau'n bendant nad oes unrhyw laesu dwylo ar fy rhan i nac ar ran Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod y dulliau sydd gennym—. Ac yn amlwg, nid yw'r holl ddulliau gennym at ein defnydd i fynd i'r afael â thlodi. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu gyda'r hyn sydd gennym fel Llywodraeth Cymru. Ac rwyf wedi cael sgwrs gychwynnol gyda'r Prif Weinidog ynglŷn â sut y gallwn sicrhau, fel Llywodraeth, fod pob Ysgrifennydd Cabinet a Gweinidog yn cyfrannu at y ffordd yr awn i'r afael â thlodi.
Cyfarfûm â Sefydliad Bevan fy hun ddydd Llun yr wythnos hon, oherwydd rwy'n awyddus iawn i glywed am yr ymchwil y maent wedi'i wneud, i sicrhau bod y cynlluniau a'r cyllid sydd gennym ac a ddefnyddiwn yn benodol i fynd i'r afael â thlodi yn mynd i'r mannau cywir. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y strategaeth tlodi plant wedi cael ei lansio gan fy rhagflaenydd, Jane Hutt, sydd newydd gerdded i mewn i'r Siambr, ym mis Ionawr, ac nid ydym wedi ymrwymo i dargedau yno. Rwyf wedi edrych ar wledydd sydd â thargedau ac wedi edrych ar arferion gorau mewn gwledydd nad oes ganddynt dargedau, ac i mi, rwy'n credu mai'r peth pwysicaf mewn perthynas â mynd i'r afael â thlodi yw sicrhau bod gennym system les dosturiol a theg. Edrychais ar Seland Newydd, er enghraifft. Nid oes gennym y dulliau mewn perthynas â hynny, ond mae ganddynt hwy. Felly, rwy'n awyddus iawn i edrych ar ba arferion gorau y gallwn eu cael ar gyfer hynny. Unwaith eto, ymrwymodd fy rhagflaenydd i gael cymorth academaidd i'n llywio gyda'r strategaeth tlodi plant, a soniais am yr Athro Hick, sy'n cynghori ar ddatblygu'r fframwaith monitro.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi'n sôn am y dulliau a allai fod ar gael i chi neu beidio, ond rhaid eich bod yn cydnabod bod rhai o'r dulliau mwyaf sylweddol mewn perthynas â herio tlodi plant ar gael i chi, yn enwedig mewn perthynas ag addysg, yr economi ac iechyd hefyd. Felly, hoffwn glywed sut rydych chi'n bwriadu defnyddio'r dulliau sydd ar gael i chi i leihau tlodi plant. Yn eich ymateb i Jane Dodds, roeddech chi'n dweud bod cyfres o fesurau ar waith. Yn amlwg, mae mesurau'n wahanol i dargedau, ac mae targedau'n ymwneud ag atebolrwydd a chyfrifoldeb mewn gwirionedd. Felly, tybed a allwch chi gadarnhau heddiw y byddwch chi'n rhoi targedau ar waith, yn hytrach na mesurau'n unig, fel y gellir eich dwyn i gyfrif a'ch dal yn gyfrifol, yn amlwg gyfrifol, am yr heriau sy'n gysylltiedig â thlodi plant?
Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch y ffordd y gallwn fynd i'r afael â thlodi plant, ac fe soniais amdano: mae'n rhaid iddo fod yn ddull trawslywodraethol. Nid oes gennym yr holl ddulliau o fewn Llywodraeth Cymru, ond o fewn fy mhortffolio fy hun, nid oes gennyf yr holl ddulliau, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio'n drawslywodraethol. Ac fel y dywedaf, rwyf wedi cael sgwrs gychwynnol gyda'r Prif Weinidog am y mecanwaith ar gyfer gwneud hynny.
Rwy'n credu bod perygl y bydd dull sy'n seiliedig ar dargedau'n rhy syml. Rwy'n credu weithiau y gall dynnu oddi ar dystiolaeth pobl sydd â phrofiad bywyd o dlodi. Credwn mai'r ffordd orau ymlaen yw sefydlu fframwaith sy'n seiliedig ar ystod o fesurau tlodi perthnasol ochr yn ochr ag asesiad o gynnydd ar gyflawni ein hymrwymiadau polisi, a bydd yn ein helpu i ystyried yn fwy manwl effaith ein dull o ymdrin â set gymhleth iawn o broblemau sy'n effeithio ar dlodi, yn hytrach na thargedau.
Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig i mi—ac mae hon yn drafodaeth a gefais gyda Sefydliad Bevan—yw gwneud yn siŵr fod y dulliau a'r arian sydd gennym yn cael ei ddefnyddio i drechu'r tlodi hwnnw.
Rwy'n eich croesawu'n gynnes i swydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol. Yng nghyfraniad olaf Frank Field yn Nhŷ'r Arglwyddi, siaradodd am waith y gymuned sy'n bwydo'r bobl ym Mhenbedw nad ydynt yn gallu bwydo eu hunain. Disgrifiodd blentyn a ddygwyd i mewn a oedd yn llythrennol yn crio o newyn. Ar ôl iddo fwyta, cafodd wahoddiad i fynd i ddewis rhywbeth o'r gornel deganau, a oedd hefyd yn cynnwys pecynnau cinio—a dyfalwch beth a ddewisodd. Ni ddewisodd degan, dewisodd becyn cinio. Dyma ddisgrifiad byw o'r hyn y mae llawer o blant ledled Cymru ac ym Mhenbedw yn ei brofi wrth inni siarad heddiw. Felly, tybed a gaf i ailadrodd cais Jane Dodds am darged mesuradwy a chlir ar gyfer ceisio dileu nifer y plant sy'n cael eu gorfodi i fynd i fanciau bwyd.
Diolch. Cyn imi ddod i mewn i'r Siambr, gwelais fod Frank Field wedi marw, ac yn amlwg fe wnaeth lawer iawn o waith yn y maes hwn. Rwyf eisoes wedi amlinellu'r gwaith sydd wedi'i wneud ac a fydd yn parhau i gael ei wneud a sut mae'r strategaeth tlodi plant yn nodi uchelgeisiau sydd gennym fel Llywodraeth ar gyfer y tymor hwy, a sut y byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth a hefyd gyda phartneriaid—rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod y gwaith mewn partneriaeth sy'n digwydd yn y maes hwn hefyd—i wneud y mwyaf o effaith y dulliau sydd ar gael i ni. Rwy'n credu bod yna gyfres uchelgeisiol iawn o amcanion a blaenoriaethau, ac i mi, mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn gweithredu'r rheini yn y ffordd gywir a'n bod yn lleihau tlodi plant. Mae'n rhaid inni sicrhau bod trechu tlodi plant yn flaenoriaeth absoliwt, nid yn unig i'r Llywodraeth hon, ond i bob Llywodraeth.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i liniaru effaith tlodi plant yng Nghwm Cynon? OQ60944
Diolch. Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i liniaru effaith tlodi plant ledled Cymru, gan gynnwys y rhai sy'n byw yng Nghwm Cynon. Mae ein strategaeth tlodi plant yn amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant a gwella canlyniadau i'r rhai sy'n byw ar incwm isel.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'r ffocws yn natganiad y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ar godi plant allan o dlodi. Heb os, mae'n un o'r materion pwysicaf i'n Llywodraeth Lafur yng Nghymru fynd i'r afael ag ef. Ond gan nad yw rhai o'r dulliau cryfaf mewn perthynas â thlodi plant wedi eu datganoli, fel y gwnaethoch chi nodi yn eich ateb blaenorol i Jane Dodds, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y gall Llywodraeth Cymru wneud cynnydd gwirioneddol a pharhaol ar y mater hollbwysig hwn?
Fel y dywedwch, fe ddywedodd y Prif Weinidog yn glir iawn yr wythnos diwethaf yn y Cyfarfod Llawn y bydd y frwydr i godi plant allan o dlodi yn gwbl ganolog i genhadaeth Llywodraeth Cymru a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod plant yn tyfu i fyny yn teimlo'n hapus ac yn obeithiol am eu dyfodol. Rydym yn gwybod gan randdeiliaid annibynnol a'n gwaith ymgysylltu fod yna bethau y gallwn eu gwneud a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau'r rhai hynny sy'n byw mewn tlodi, ac mae'r strategaeth tlodi plant y cyfeiriais ati yn fy ateb blaenorol yn nodi'n glir iawn beth fyddwn ni'n ei wneud. Gallwn ganolbwyntio gwaith ar draws y Llywodraeth i ddod o hyd i atebion fforddiadwy ar gyfer gofal plant, er enghraifft. Gallwn wneud yn siŵr fod costau trafnidiaeth yn cael gwared ar rwystrau er mwyn galluogi rhieni i fynd i'r gwaith, oherwydd, yn amlwg, os yw plentyn yn byw mewn tlodi, rydym yn gwybod mai'r rheswm pennaf am hynny yw oherwydd bod ei rieni'n byw mewn tlodi. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud i waith dalu a'n bod yn buddsoddi mewn creu llwybrau allan o dlodi drwy ganolbwyntio ar ein blynyddoedd cynnar, ar gydraddoldeb cyrhaeddiad addysgol a chyflogadwyedd a sgiliau. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth, a byddaf yn sicrhau bod hynny'n ganolog yn y strategaeth tlodi plant wrth symud ymlaen. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig iawn ein bod yn parhau i gefnogi galwad Sefydliad Joseph Rowntree ar Lywodraeth y DU i ddiwygio credyd cynhwysol. Rydym angen system fudd-daliadau dosturiol a chefnogol yma yng Nghymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch o strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, canfuwyd bod dull Marmot yn ffordd effeithiol o helpu i fynd i'r afael ag annhegwch. Gwyddom hefyd fod 39 o awdurdodau lleol ledled Lloegr bellach wedi'u cofrestru fel lleoedd Marmot. Fodd bynnag, yng Nghymru, oni bai fy mod yn anghywir, mae'n ymddangos mai dim ond un sydd gennym, sydd wedi'i restru fel bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Gwent. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, ac o gofio bod gan Rhondda Cynon Taf rai o'r lefelau uchaf o dlodi plant yng Nghymru, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog cynghorau, megis Rhondda Cynon Taf, i ddod yn lleoedd Marmot? Diolch.
Diolch. Cefais gyfarfod y bore yma gyda'r Cynghorydd Anthony Hunt, fel rhan o'i gyfrifoldebau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i weld beth arall y gallwn ei wneud yn ein brwydr yn erbyn tlodi fel y cyfryw, nid tlodi plant yn unig. Felly, byddaf yn bwrw ymlaen â'r sgyrsiau hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, llongyfarchiadau ar eich rôl newydd, Ysgrifennydd y Cabinet. Am friff. Mae fel rhestr siopa o bopeth sydd o'i le, ac sydd wedi cael cam, gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf gwelsom y cyhoeddiad hirddisgwyliedig am yr adroddiad terfynol gan Dr Cass, y mae ei ganlyniad—canfyddiadau Dr Cass—yn hynod arwyddocaol i Gymru, yn ogystal ag i Loegr. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r Llywodraeth hon ac Ysgrifenyddion y Cabinet wedi parhau i gladdu eu pennau yn y tywod ar fater diogelu ein plant a'n pobl ifanc yng Nghymru. Mae'n gwbl amlwg nad yw'r cynllun gweithredu LHDTC+ yn addas i'r diben bellach. Fel y gwelwn o adroddiad terfynol Dr Cass, mae'r rhai ddifrïwyd am fentro awgrymu hynny, fel fi, bellach wedi eu cyfiawnhau.
Cafwyd o leiaf wythnos o ddatganiadau gwleidyddol, penawdau, craffu gan y cyfryngau, cwestiynau anodd a dadlau ffyrnig yn Lloegr. Fodd bynnag, mae'r ymateb gan y Llywodraeth Lafur hon wedi bod yn hynod o dawedog. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried ei fod yn ddigon pwysig i wneud datganiad llawn yn ei gylch, gan fodloni ar ymateb byr adweithiol i'm cais am ddatganiad ar adolygiad Cass a dyfodol gwasanaethau rhywedd gan yr Ysgrifennydd busnes yr wythnos diwethaf ac eto ddoe.
Nid yw'n ddigon da. Mae'n amlwg fod angen adolygu'r cynllun gweithredu hwn o'ch eiddo ar frys, ac eto nid oes gennym ddatganiad i'r perwyl hwnnw am y cynllun gweithredu LHDTC+, sydd wedi'i gysylltu'n annatod a'i gydblethu ag adolygiad Cass. Yn syml iawn, mae'r Llywodraeth hon yn ceisio bwrw yn ei blaen, ni waeth beth yw pwysau'r dystiolaeth yn erbyn ei chynlluniau bellach. Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnaf i chi eto: pryd y gallwn ni ddisgwyl adolygiad o'r cynllun gweithredu, ac onid yw'n iawn tynnu'r cynllun gweithredu yn ôl nes bod hyn wedi digwydd?
Wel, mae'n hawdd rhagweld beth fydd gan Laura Anne Jones i'w ddweud. Gallaf eich sicrhau ein bod yn parhau i weithio tuag at ein hymrwymiad yn y cynllun gweithredu LHDTC+, i ymgysylltu â phlant, gyda phobl ifanc a'u teuluoedd pan fyddwn yn ystyried opsiynau ar gyfer ystod o wasanaethau. Rwy'n ymwybodol iawn o adolygiad Cass. Roeddwn wedi gobeithio y gallai fod cywair gwahanol i'r ddadl wenwynig sy'n digwydd yn y Siambr rhyngoch chi ac amrywiaeth o Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion heddiw, ond yn anffodus nid yw hynny wedi digwydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw'n ddadl wenwynig; chi sy'n ei gwneud hi felly. Mae'n bwysig iawn diogelu plant a phobl ifanc yng Nghymru, ac mae'n frawychus iawn eich bod mor anystyriol. Mae adroddiad Cass yn rhybuddio yn erbyn gorfodi athrawon i wneud penderfyniadau cynamserol, a chlinigol i bob pwrpas, am gadarnhadau fel trawsnewid cymdeithasol, ac eto mae hynny ymhlyg yng nghynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru drwyddo draw.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ystyried opsiynau ar gyfer datblygu gwasanaeth rhywedd i bobl ifanc yng Nghymru yn ei chynllun gweithredu LHDTC+, a lansiwyd ym mis Chwefror 2023. Rydym wedi clywed gan gydweithwyr, gweithwyr proffesiynol a rhieni ledled Cymru sy'n pryderu'n fawr am ymrwymiad o'r fath i ddatblygu'r gwasanaeth hwn nawr ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed. Byddai gwneud hynny nawr, yng ngoleuni canfyddiadau adolygiad Cass, yn anghyfrifol a gallai beryglu plant a phobl ifanc o bosibl. Mae angen adolygu cynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru yng ngoleuni canfyddiadau Dr Cass. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnaf eto: pryd y gall dinasyddion pryderus yng Nghymru a'r Senedd hon ddisgwyl gweld eich cynllun yn cael ei adolygu?
Wel, yn sicr nid wyf yn anystyriol. Rwyf eisiau—. Rwy'n credu mai'r hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau ei wneud a'i ddweud yw'r peth iawn, ac maent yn aml yn ystyried y drafodaeth sy'n digwydd yma yn ddryslyd iawn ac yn llethol. Ac rwy'n ceisio sicrhau—rwy'n siŵr y byddwch chi a minnau'n sôn am hyn sawl gwaith dros y misoedd nesaf—ein bod yn ei wneud mewn ffordd llai pegynol. Gallaf eich sicrhau ein bod wedi ymrwymo i wneud Cymru yn genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ Ewrop. Ac ers inni gyhoeddi ein cynllun gweithredu, ym mis Chwefror 2023, rydym wedi canolbwyntio ein hymdrechion ar weithredu ac ar gael effaith sylweddol a chadarnhaol ar fywydau pobl LHDTC+ yng Nghymru. Byddwn yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed yn erbyn pob gweithred a gweithgaredd yn y cynllun y gellir ei fonitro ar y traciwr LHDTC+. Ac mae gennym fframwaith asesu a gwerthuso i fesur effaith y cynllun gweithredu—mae hwnnw wedi'i ddatblygu gyda grŵp cynghori, sy'n cynnwys rhanddeiliaid a sefydliadau, ac mae hynny'n cael ei ffurfioli ar hyn o bryd hefyd. Felly, nid oes oedi.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ddrwg gennyf eich bod yn teimlo felly, ond rwy'n teimlo fy mod yn codi pethau pwysig y mae angen eu trafod yn y Siambr hon, yn y Senedd hon. Ac edrychaf ymlaen at wneud rhywbeth ar hyn, ac edrychaf ymlaen at eich clywed yn dweud wrthym amdano, a'r hyn rydych chi'n ei wneud, a rhoi dyddiadau'r adegau pan fyddwch yn darparu'r wybodaeth honno. Oherwydd mae pawb eisiau gwybod beth fydd canlyniadau'r canfyddiadau hynny. Drwy wneud dim, nid ydych yn diogelu plant a phobl ifanc agored i niwed yng Nghymru. Drwy wneud dim, rydych chi'n gwadu gwyddoniaeth ac yn diystyru diogelwch yn enw ideoleg. A thrwy wneud dim, rydych chi'n mynd ati i weithio yn erbyn pobl Cymru, nid gyda nhw.
Yn eich rôl newydd, mae gennych chi ddulliau chwaraeon Cymru ar gael i chi. Mae'n hen bryd i'r dylanwad hwn fod yn un cadarnhaol a rhagweithiol oherwydd, yn anffodus ar hyn o bryd, mae'n un y mae angen i chi edrych arno er mwyn gwarchod diogelwch a thegwch chwaraeon menywod a merched. Mae hyn yn golygu na ddylai unrhyw ddynion neu fechgyn biolegol gystadlu yn erbyn menywod. Ysgrifennydd y Cabinet, mae cystadleuwyr benywaidd yn haeddu'r un hawliau â chystadleuwyr gwrywaidd. Rydym i gyd yn gwybod am y manteision enfawr y gall chwaraeon eu cynnig, ond heb yr amddiffyniadau hyn, gallem weld cenhedlaeth o fenywod biolegol yn ymatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon, ac yn cael eu hamddifadu o'r medalau y maent yn eu haeddu. Yn wahanol i'ch rhagflaenydd, ac fel rhywun sy'n dwli ar chwaraeon eich hun, a wnewch chi dawelu ofnau menywod a merched Cymru heddiw, a chadarnhau y byddwch chi'n gwneud popeth yn eich gallu i ddiogelu chwaraeon menywod?
Rwy'n credu y dylai chwaraeon fod yn fan lle gall pawb fod yn nhw eu hunain ynddo, lle gall pawb gymryd rhan, lle caiff pawb ei drin â charedigrwydd, urddas a pharch. Mae'n bellgyrhaeddol iawn, ac rwy'n credu nad oes modd inni gael un dull unffurf o weithredu mewn perthynas â'r mater cymhleth hwn. Mae'n heriol iawn, ac rwyf wedi cael trafodaethau cynnar. Ond rwy'n credu, os edrychwch chi, fod y gymuned drawsryweddol yn parhau i fod yn un o'r cymunedau mwyaf gwrthodedig a lleiaf diogel, ac mae methiant i gydnabod a mynd i'r afael â hyn yn fethiant yn ein dyletswyddau ac yn ein cenhadaeth. Mae chwaraeon yn bellgyrhaeddol iawn fel y dywedaf, ac os edrychwch chi ar chwaraeon tîm, yn enwedig chwaraeon cyswllt, mae hynny'n wahanol iawn i chwaraeon unigolion sy'n seiliedig ar sgiliau, er enghraifft. Felly, rwy'n credu bod llawer o ystyriaethau, ar wahanol lefelau o gystadlu—rhyngwladol, cenedlaethol, cymunedol—pan ddaw'n fater o osod polisïau trawsryweddol ar gyfer chwaraeon.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Llywydd. Croeso i'r portffolio cyfiawnder cymdeithasol, Ysgrifennydd Cabinet. Sicrhau tegwch efallai yw rôl bwysicaf Llywodraeth.
Yr wythnos diwethaf cafwyd protest fawr y tu allan i'r Senedd wedi'i threfnu gan Bywydau wedi'u Dwyn, grŵp o deuluoedd a gofalwyr yn galw am ryddhau pobl ag anabledd dysgu a/neu bobl awtistig o leoliadau ysbyty diogel yng Nghymru. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd dysgu, roeddwn yn falch o annerch y brotest 'cartrefi nid ysbytai', a thynnu sylw at y ffaith bod hawliau dynol pobl ag anabledd dysgu yn cael eu tramgwyddo pan gânt eu gosod ar gam yn yr unedau hyn am nad yw'r gwasanaethau yno iddynt yn eu cymunedau.
Nid problem iechyd meddwl yw anabledd dysgu. Mae hyn yn fater o anghydraddoldeb, ac rydym wedi clywed tystiolaeth bwerus, a rennir gan aelodau ymgyrch Bywydau wedi'u Dwyn, fod yna bobl ag anableddau dysgu a phobl awtistig o Gymru yn cael eu cadw mewn lleoliadau iechyd meddwl diogel am ddim rheswm ar wahân i'r ffaith eu bod yn anabl. Mae hon yn sgandal hawliau dynol, mae'r bywydau hyn yn cael eu dwyn. Dywedodd y Llywodraeth yn y 'Cynllun Cyflawni a Gweithredu Anabledd Dysgu 2022-2026' ei bod wedi ymrwymo i leihau nifer y bobl ag anabledd dysgu sydd wedi'u gosod yn y lleoliadau hyn. Felly, pa gynnydd a wnaed, a pha gamau y byddwch chi'n eu cymryd nawr i sicrhau bod yr anghydraddoldeb hwn yn dod i ben?
Diolch yn fawr iawn. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Aelod ar lawer o faterion ar yr agenda a rennir wrth symud ymlaen. Rwy'n awyddus iawn i gyfarfod â phobl o Bywydau wedi'u Dwyn. Pan oeddwn yn Weinidog iechyd, fe wneuthum waith sylweddol ar hyn, oherwydd roedd yn amlwg iawn fod pobl yn y lleoliad cwbl anghywir, yn enwedig mewn ysbytai. Felly, mae'n rhywbeth rwy'n awyddus iawn i'w ddatblygu. Ni allaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y pwynt penodol a ofynnwyd gennych, ac rwy'n hapus iawn i ysgrifennu atoch ar hynny.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch yn fawr. Yr hyn sy'n allweddol i wneud cynnydd ar hyn, wrth gwrs, yw data cywir wedi ei gasglu a'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar nifer y bobl ag anabledd dysgu sydd wedi'u lleoli mewn lleoliadau fel hyn, ac yn wir, y nifer sy'n byw yng Nghymru, i alluogi gwell cynllunio a darparu gwasanaethau. Yn y cynllun cyflawni a gweithredu ar anabledd dysgu, ceir cyfeiriad at sefydlu arsyllfa anabledd dysgu genedlaethol erbyn mis Ebrill eleni. Gallai arsyllfa gasglu a dadansoddi data i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a brofir gan bobl ag anabledd dysgu ac anabledd datblygiadol. Rydym bellach yn wythnos lawn olaf mis Ebrill, ond nid oes unrhyw ddiweddariad wedi bod. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny?
Y peth arall sy'n allweddol i gynnydd ar y mater hwn yw'r ffaith na ddylid trin anabledd dysgu fel mater iechyd meddwl, oherwydd fel y gwyddoch, ers dros 40 mlynedd, ers y strategaeth ar gyfer Cymru, mae pobl ag anabledd dysgu a'u gofalwyr, wedi brwydro'n hir ac yn galed i sicrhau cydnabyddiaeth nad yw anabledd dysgu'n gyflwr iechyd meddwl. Mae'n wahaniaeth pwysig iawn, ac fe'i gwnaed yn glir yng nghynnydd yr wythnos diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd, ac eto mae'r Cabinet newydd wedi cynnwys anableddau dysgu o dan y portffolio iechyd meddwl, sy'n awgrymu ymagwedd fwy meddygol, hyd yn oed os yw hynny'n anfwriadol. Fel Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am gydraddoldeb, a ydych chi'n cytuno y dylai anableddau dysgu ddychwelyd i'r portffolio gofal cymdeithasol, er mwyn osgoi dryswch a gofid diangen i'r gymuned anabledd dysgu?
Wel, nid yw'r pwynt hwnnw wedi cael ei ddwyn i fy sylw. Yn amlwg, mater i'r Prif Weinidog yw'r portffolios, ond rwy'n hapus iawn i siarad â fy nghyd-Aelod, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y blynyddoedd cynnar a iechyd meddwl a chyda'r Prif Weinidog, i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i sicrhau nad yw'r pryder hwnnw yno. Byddwn hefyd yn hapus iawn i ddod i'ch grŵp trawsbleidiol i ymgysylltu ar y lefel honno hefyd, os hoffech chi fy ngwahodd.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddyfodol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd? OQ60977
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y posibilrwydd o gau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd? OQ60954
Ddirprwy Lywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 3 a 4 gael eu grwpio. Rydym yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru i ddatblygu cynllun i fynd i'r afael â'r materion cynnal a chadw yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Cyfarfûm â'r prif weithredwr a'r cadeirydd yr wythnos diwethaf. Nid oes unrhyw gynlluniau i gau'r amgueddfa. Fodd bynnag, rwy'n llwyr ddeall y buddsoddiad sylweddol sydd ei angen i fynd i'r afael â'r gwaith adfer sydd ei angen.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr wythnos diwethaf clywsom y bydd amgueddfeydd cenedlaethol Cymru yn colli o leiaf 90 o swyddi ar ôl toriad mawr i'w cyllid, gyda sôn am y posibilrwydd o fwy o doriadau yn y dyfodol. Fel y gwyddoch, efallai y bydd un o'i adeiladau mwyaf adnabyddus, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, hefyd yn cael ei gorfodi i gau oherwydd bod ei chyflwr yn dirywio, ac oni bai yr eir i'r afael â hynny, bydd yn peryglu staff a'r cyhoedd. Ar ôl blynyddoedd o fethiant cyffredinol y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, boed ym maes iechyd neu addysg, rydych chi bellach yn caniatáu i'n treftadaeth a'n diwylliant cenedlaethol ddirywio'n araf hefyd. Mae gennym ni yng Nghymru hanes a diwylliant i fod yn falch ohono. Mae'n bwysig ein bod yn arddangos hanes Cymru, ac yn ei rannu gyda'n cenedlaethau iau ac yn eu haddysgu.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf am wybod pa gamau y byddwch yn eu cymryd nawr i ddiogelu dyfodol yr ased cenedlaethol pwysig hwn, ac a oes gennych chi unrhyw fwriad o gynyddu lefel y cyllid cyfalaf i Amgueddfa Cymru.
Wel, mae Amgueddfa Cymru yn rhan gwbl annatod o'n treftadaeth a'n cymdeithas. Rydym wedi ceisio gweithredu i liniaru graddau llawn y pwysau ariannol, ond nid oedd unrhyw hyblygrwydd yn y gyllideb, yn anffodus, a allai atal gostyngiadau sylweddol i'r gyllideb. Cytunwyd gyda'r Aelod dynodedig o Blaid Cymru fod yn rhaid i'n ffocws uniongyrchol a thymor byr fod ar gynnal swyddi. Felly, gweithiodd fy rhagflaenydd yn agos iawn gyda'r amgueddfa ar y mater hwnnw.
Soniais fy mod wedi cyfarfod â'r prif weithredwr ddwywaith yr wythnos diwethaf. Cyfarfûm â'r cadeirydd hefyd. Ymwelais ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fy hun bore ddoe i weld y gwaith adfer y bydd galw am ei wneud. Maent wedi fy sicrhau bod y casgliadau'n ddiogel ac nid oes cynlluniau i gau'r amgueddfa. Fodd bynnag, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol i chi, mae'n amlwg fod gwaith adfer sylweddol i'w wneud. Felly, unwaith eto, roedd fy rhagflaenydd wedi dechrau'r sgwrs gyda'r amgueddfa i lunio cynllun busnes i weld yn union beth sydd ei angen a pha gyllid y gallai fod modd inni ddod o hyd iddo i'w cefnogi, oherwydd yn amlwg mae angen inni ddiogelu ein hadeiladau eiconig. Mae'r adeiladau hyn yn hen iawn. Mae gennym nifer ohonynt ledled Cymru ac yn anffodus, pan fyddwch chi'n dechrau canfod bod rhywbeth o'i le, po agosaf yr edrychwch, pan ewch at graidd yr adeiladau hynny, fe ddowch o hyd i fwy o broblemau. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu'r casgliadau. Fel y dywedais, maent wedi fy sicrhau nad oes perygl i'r casgliadau hynny, a'u bod yn ddiogel. Pan ddaethant atom ni am gyllid—gallodd fy rhagflaenydd roi cyllid—maent wedi ymateb bob tro, ond rwy'n credu bod angen inni edrych yn fwy hirdymor nawr a gwneud yn siŵr ein bod yn cynllunio i ddod o hyd i unrhyw gyllid sydd gennym i'w helpu i gynnal adeilad sy'n amlwg yn heneiddio'n ddybryd.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Er eich bod wedi dweud eich bod wedi cael sicrwydd nad oes unrhyw gynlluniau uniongyrchol i gau'r amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd, nid yw hynny'n newid y ffaith bod prif weithredwr Amgueddfa Cymru wedi datgan yn gyhoeddus,
'Oni bai ein bod ni'n gallu sicrhau mwy o gyllid ar gyfer yr adeilad hwnnw, bydd yn rhaid iddo gau'
sydd, pa ffordd bynnag yr edrychwch chi arno ac er gwaethaf unrhyw sicrwydd a roddir, yn golygu, oni bai bod modd dod o hyd i filiynau o bunnoedd yn wyrthiol i dalu am y gwaith cynnal a chadw sylweddol sydd ei angen, ar y gorau a chyda'r holl ewyllys da yn y byd, ei bod hi'n debygol mai dim ond ateb dros dro fydd unrhyw waith cynnal a chadw brys ac mae'n debyg y bydd yn fwy costus yn y tymor hir. Yr hyn sy'n fy mhoeni fwyaf, ac fe fydd yn peri pryder i fwrdd yr amgueddfa yn ddiau, yw a fydd yr adeilad yn anniogel i ymwelwyr ymhen amser ac yn wir, i'r casgliadau, ac fel Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, yn cau am gyfnod byr, a'r cau hwnnw'n cael ei ymestyn yn barhaus. Mae hyn yn amlwg ar feddwl y prif weithredwr, sydd hefyd wedi dweud bod cwestiwn ynghylch dyfodol yr adeilad hwnnw beth bynnag. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda hyn mewn golwg, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi, er gwaethaf yr heriau cynnal a chadw ac ariannol presennol sy'n wynebu amgueddfa genedlaethol Cymru, na fydd Llywodraeth Cymru yn gadael i'r amgueddfa gau ei drysau i ymwelwyr? Diolch.
Ni allaf ond ailadrodd yr hyn a ddywedodd y prif weithredwr, Jane Richardson, wrthyf yr wythnos diwethaf, sef na fydd yr amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd yn cau. Soniais yn fy ateb cynharach i Laura Anne Jones am y gwaith y mae fy swyddogion yn ei wneud gyda'r swyddogion yn Amgueddfa Cymru i wneud yn siŵr ein bod yn edrych ar y tymor hir, ond efallai yn y tymor byr—y pum neu chwe blynedd nesaf efallai—i weld pa gyllid cyfalaf a fyddai ei angen arnynt i sicrhau bod hynny'n parhau. Yn sicr, ar ôl ymweld â'r amgueddfa ddoe, efallai y bydd yn rhaid iddynt gau un rhan fach, cadw'r gweddill ar agor ac atgyweirio'r gwaith hwnnw, oherwydd, fel y dywedais, pan ddechreuwch chi fynd i mewn—. Mae'n debyg fod yna lawer o bibellau plwm y tu ôl i'r waliau, ac ati. Yn amlwg, mae problemau gyda'r to mewn rhai rhannau, ac rydym i gyd yn gwybod, onid ydym, os yw'r to'n gollwng, fod angen i chi ei drwsio. Yn anffodus, nid yw'n trwsio ei hun.
Felly, rwy'n credu mai'r peth pwysig i'w wneud nawr yw sicrhau ein bod yn gweithio gyda nhw. Nhw yw'r bobl orau i ddweud wrthyf sut i ddiogelu'r casgliadau, nhw yw'r bobl orau i ddweud wrthyf sut i gadw'r adeilad ar agor, nhw sydd yn y sefyllfa orau i arwain y gwaith cynllunio. Ond pan gefais y portffolio fis diwethaf, roeddwn i'n hynod o falch o weld bod swyddogion wedi gweithio'n agos iawn gyda'r amgueddfa wrth symud ymlaen. Fel y dywedais, fe gawsant rywfaint o gyllid cyfalaf ychwanegol—tua £5 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, rwy'n credu. Rydym wedi cadw hynny yn y flwyddyn ariannol hon, er gwaethaf yr amseroedd economaidd anodd iawn a wynebwn, fel y gallant fynd i'r afael â'r materion cynnal a chadw dybryd hynny. Ond nid wyf yn tanamcangyfrif y gwaith sydd ei angen.
Roedd yn hyfryd gweld lluniau pawb yn gwenu o'ch ymweliad ddoe, ac a gaf i groesawu'r newid cywair ac ymagwedd tuag at y mater hwn? Rwy'n siŵr fod gennych nifer o ddogfennau'n aros i gael eu darllen gyda'r portffolio newydd. Nid wyf yn siŵr a ydych chi wedi cael cyfle eto i edrych ar adolygiad Simon Thurley o Amgueddfa Cymru yn 2017, a oedd yn amlwg yn gwneud nifer o argymhellion yn ymwneud â gwariant cyfalaf sydd ei angen, a hefyd roedd ganddo weledigaeth ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, fel rhan o'n cynnig diwylliannol, gan weithio gyda'r cyngor ac yn y blaen. Hoffwn pe gallech roi sylw hefyd, fel y gwnaeth Dr Simon Thurley, i fethiant y berthynas rhwng Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru, rhywbeth y teimlaf fod llawer ohonom yn ofni ei fod wedi digwydd tan yn ddiweddar iawn. Felly, a gaf i ofyn i chi ailedrych ar argymhellion Simon Thurley a gweld pa mor berthnasol ydynt i ni nawr, er mwyn i ni weithredu'r rheini o'r diwedd, a sicrhau bod gennym amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd y gallwn fuddsoddi ynddi a pharhau i fod yn falch ohoni, a hefyd ei harddangos i ymwelwyr o bob cwr o'r byd, oherwydd maent yn gasgliadau anhygoel ac yn rhai o'n cymunedau yng Nghymru hyd yn oed, heb sôn am yn rhyngwladol, nid oes neb yn gwybod amdanynt. Felly, sut y gallwn ni fwrw ymlaen â'r argymhellion hynny o'r diwedd?
Diolch. Nid wyf wedi darllen adroddiad Simon Thurley, ond byddaf yn sicr yn ei ychwanegu at y pentwr mawr o waith darllen y mae angen imi ei wneud. Yn sicr fe wnaeth argraff arnaf fore ddoe—euthum i'r amgueddfa yn gynnar iawn, ac roeddwn i'n teimlo gymaint yn well yn dod i mewn i'r gwaith yn Nhŷ Hywel ddoe, ac fe fûm yn myfyrio ar ba mor bwysig yw amgueddfeydd a'r celfyddydau a diwylliant a diwydiannau creadigol er ein lles. Rydych chi'n hollol iawn—roeddem yn arddangosfa Celf yr Hunluniau, a chymerwyd hunlun ohonom i gyd. Roedd yn ffotograff hyfryd, o flaen y dyn mawr ei hun—hunanbortread Van Gogh. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i wneud yr hyn a allwn. Fel y dywedwch, mae cannoedd o filoedd o ymwelwyr, nid yn unig o Gymru ond o bob cwr o'r byd, yn ymweld â'n teulu o amgueddfeydd. Byddaf yn sicr yn hapus iawn i fynd i lawr yno. Rwy'n teimlo bod gennyf berthynas dda iawn. Rwyf wedi adnabod Jane Richardson ers amser maith mewn agwedd arall ar fywyd. Yn sicr, soniais yn fy ateb cynharach i Joel James fy mod yn falch iawn o weld y ffordd yr oedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'r amgueddfa, gyda'r cadeirydd, gyda'r prif weithredwr, ers iddynt ddod i mewn ar ddiwedd y llynedd, a chyda swyddogion, oherwydd rwy'n credu'n angerddol mai nhw yw'r bobl orau i ddweud wrthym beth sydd ei angen.
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddyfodol Llyfrgell Genedlaethol Cymru? OQ60948
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r casgliadau y mae'n gofalu amdanynt yn rhan annatod o'n treftadaeth a'n cymdeithas. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r llyfrgell i'w chefnogi i wasanaethu pobl Cymru a sicrhau bod y casgliadau cenedlaethol yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, a chroeso i'ch swydd. Rwy'n falch iawn o fod yn un o gefnogwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fe ymwelais â hi yr wythnos diwethaf gyda fy nghyd-Aelod Sam Rowlands. Aethom ar daith o amgylch archif ddarlledu newydd Cymru, a sefydlwyd nifer o flynyddoedd yn ôl gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Un o'r problemau sydd gan y llyfrgell, nid o ran ei chyllid ei hun, yw y bydd yr arian sbarduno i gael yr archif ddarlledu newydd honno i Gymru ar ei thraed yn dod i ben yn y pen draw. Yn amlwg, mae angen archif ddigidol ar Gymru, a'r llyfrgell genedlaethol, fel ein prif sefydliad cenedlaethol ar gyfer pethau o'r fath, yw'r lle iawn ar ei chyfer. Ond pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr er mwyn sicrhau parhad yr archif ddarlledu bwysig honno yng Nghymru o fewn y casgliadau gwych eraill sydd gan y llyfrgell genedlaethol i'w cynnig?
Diolch. Nid wyf wedi cael cyfle i ymweld â'r llyfrgell genedlaethol yn ystod y mis diwethaf, ond gallaf eich sicrhau yn bendant ei bod ar fy rhestr o ymweliadau yn ystod yr wythnosau nesaf. Nid wyf yn siŵr os caf ddangos tuedd, ond mae'n sicr yn un o fy hoff lefydd yng Nghymru. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i ymweld â hi sawl gwaith. Euthum i briodas yno heb fod mor bell yn ôl â hynny, ac mae'n un arall o'r adeiladau anhygoel, eiconig hynny, fel y dywedwch, sy'n gofalu am ein trysorau yma yng Nghymru. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw faterion yn ymwneud â'r cyllid mewn perthynas â'r gronfa archif ddarlledu. Roedd y gronfa dreftadaeth genedlaethol, fel y gwyddoch, yn y Senedd yr wythnos diwethaf—rwy'n credu mai dyna oedd y digwyddiad cyntaf imi wneud anerchiad ynddo yn y portffolio hwn ac roeddwn yn falch iawn o siarad ynddo. Rwy'n sicr yn mynd i'w cyfarfod, felly mae'n fater y gallaf ei drafod a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau maes o law.
Os caf fentro ailadrodd fy hun, yn amlwg, fe welwch y diddordeb brwd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru. Cyffyrddwyd â hyn mewn cwestiynau blaenorol, ond os caf, ar y lefelau staffio, sy'n rhywbeth y mae'r llyfrgell genedlaethol wedi ei bwysleisio, a rhai o'r risgiau sy'n gysylltiedig â hynny—. Felly, pan fyddwch yn ymweld, a gaf i ofyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd wedyn am y trafodaethau a gawsoch ynghylch y gallu nid yn unig i ddiogelu'r casgliadau, ond hefyd i alluogi mynediad atynt a dod â nhw'n fyw oherwydd, yn amlwg, maent yn adnodd addysgol cyfoethog hefyd, ac mae'n bwysig eu bod yn gallu cynnal y mynediad hwnnw. Felly, byddwn yn falch iawn pe gallem gael yr ymrwymiad hwnnw.
Yn sicr. Roeddwn i'n meddwl am fy ymweliad cyntaf, rwy'n credu, â'r llyfrgell genedlaethol, tua 16 mlynedd yn ôl, mae'n debyg, pan gefais fy ethol gyntaf, a chefais wahoddiad i fynd fel yr Aelod Cynulliad dros Wrecsam ar y pryd. Rwy'n eu cofio'n dweud wrthyf fod yna fyfyrwyr trydedd flwyddyn o Brifysgol Aberystwyth yn gwneud gwaith ymchwil, ac nid oedd hynny wedi bod yn digwydd ers amser hir iawn. Cefais dipyn o syndod cyn lleied o amser y bu hynny'n digwydd mewn gwirionedd, oherwydd, fel y dywedwch, mae cael y mynediad hwnnw—a chofiaf fod ganddynt gymaint o ddogfennau o Wrecsam yr oeddent eisiau eu rhannu gyda mi, ac roeddwn i'n sylweddoli fy mod i'n freintiedig ac yn ffodus iawn i fod yn y sefyllfa honno—mae mynediad at y casgliadau a'r trysorau hyn yn bwysig iawn. Pan oeddwn yn yr amgueddfa genedlaethol ddoe, mae ganddynt arddangosfa Gwen John wedi'i chynllunio ar gyfer 2026, ac maent eisoes yn dechrau paratoi ar gyfer honno. Mae ganddynt nifer o luniau Gwen John yno, ond cyfran fach yn unig fydd modd iddynt ei harddangos, felly ni fydd y gweddill ar gael nac yn hygyrch i bobl. Felly, rwy'n sicr yn credu bod mynediad yn rhan bwysig iawn o sicrhau bod ein hamgueddfeydd a'n llyfrgelloedd—. Wrth gwrs mae angen staff arnynt ac yn anffodus, oherwydd sefyllfa'r gyllideb, rwy'n sylweddoli eu bod wedi gorfod diswyddo eleni.
6. Pa gamau brys mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau nad oes rhaid i Amgueddfa Cymru gau unrhyw un o'i safleoedd? OQ60981
Diolch. Ar hyn o bryd nid oes gan Amgueddfa Cymru unrhyw gynlluniau i gau unrhyw un o'i safleoedd. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yw'r flaenoriaeth frys, ac rydym yn gweithio gyda nhw i ddatblygu cynllun busnes i fynd i'r afael â'r ôl-groniad sylweddol o waith cynnal a chadw.
Diolch yn fawr iawn. Fel y clywsom eisoes y prynhawn yma, cafwyd pryderon eang am y posibilrwydd o gau'r amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd. Nawr, gwn fod modd gorddefnyddio'r gair 'trysor', ond rwy'n credu, yn yr achos hwn, ei fod yn hollol addas. Roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn dweud yr wythnos diwethaf na fydd yn cau o dan eich goruchwyliaeth chi, ac rydych chi wedi dweud yr un peth i bob pwrpas y prynhawn yma, am mai dyna un o'r safleoedd sydd, fel y clywsom, ochr yn ochr ag eraill, yn gartref i gasgliadau cenedlaethol sy'n drysorau. Rwyf wedi gwrando'n astud ar yr hyn y buoch chi'n ei ddweud y prynhawn yma. A wnewch chi ymrwymo, os gwelwch yn dda, i sicrhau na fydd yn rhaid inni weld na chlywed am aelodau staff yn gorfod mynd i mewn i'r amgueddfa yng nghanol y nos i dynnu paentiadau oddi ar y waliau oherwydd bod y glaw'n dod i mewn drwy'r nenfwd? A wnewch chi ymrwymo na fydd hynny'n digwydd eto, nid yn unig oherwydd buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, ond oherwydd sylw o'r newydd i hyn efallai? A wnewch chi roi sicrwydd pellach i mi, os gwelwch yn dda, y bydd y safleoedd yn fy rhanbarth i, fel Big Pit a'r amgueddfa Rufeinig yng Nghaerllion, hefyd yn parhau ar agor i'n dinasyddion eu mwynhau?
Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol i chi, Delyth, maent yn fy sicrhau nad oes unrhyw gynlluniau i gau unrhyw safleoedd. Felly, mae hynny'n ateb eich pwynt olaf. Mae'n amlwg eu bod wedi symud llawer o'r casgliad o gwmpas i sicrhau nad yw'n cael ei effeithio gan ddŵr sy'n dod i mewn trwy'r to, er enghraifft. Yn amlwg, mae rhai atgyweiriadau wedi cael eu gwneud. Ni fyddwn am i hynny ddigwydd, ond nid wyf yn credu y gallaf roi'r sicrwydd hwnnw. Yn sicr, mae'r prif weithredwr a'r cadeirydd wedi fy sicrhau bod y casgliadau'n ddiogel. Y rheswm pam mae'r amgueddfa genedlaethol yn flaenoriaeth—. Cyfeiriais at hunanbortread Van Gogh. Dyma'r tro cyntaf iddo fod allan o Ffrainc; mae fel arfer yn y Musée d'Orsay ym Mharis, ac mae wedi ei gyfnewid â Blue Lady Renoir o'r amgueddfa genedlaethol. Dim ond amgueddfa genedlaethol sy'n cael cyfnewid yn y ffordd honno, felly gallwch weld pwysigrwydd yr amgueddfa genedlaethol. Dyna pam mae'n flaenoriaeth.
Mae Amgueddfa Cymru a'i safleoedd yn hynod bwysig ar gyfer adrodd hanes a diwylliant Cymru, fel y mae amgueddfeydd eraill ledled Cymru. Nawr, yn fy etholaeth i, mae Canolfan Treftadaeth Doc Penfro yn un enghraifft o'r fath. Yng nghanol yr unig iard longau frenhinol yng Nghymru, mae'r ganolfan dreftadaeth yn adrodd hanes y dref adeiladu llongau hon, gan gynnwys cychod hedfan Sunderland, cysylltiadau milwrol balch y dref ac i rai sy'n ymddiddori yn Star Wars, mae'r ganolfan dreftadaeth hefyd yn gartref i fodel graddfa o'r Millennium Falcon, gan i'r un gwreiddiol gael ei adeiladu yn yr iard longau yn ôl yn y 1970au. Nawr, mae'r rhain yn rhannau pwysig iawn o hanes a stori ddiwylliannol a hanesyddol y dref hon. Gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, deddfwriaeth a glodforwyd fel y gyntaf o'i bath yn gywir ddigon yn gwarantu bod diwylliant bywiog yn cael ei gadw a'i ddatblygu i'r rhai sy'n dod ar ein holau ni, tybed a wnewch chi gadarnhau, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaeth gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ynghylch yr effaith bosibl ar Amgueddfa Cymru ac amgueddfeydd eraill, ac o ganlyniad, unrhyw effaith yn y dyfodol ar y rhai sy'n dod ar ein holau? Diolch.
Diolch. Mae gennyf ddyddiad yn y dyddiadur ar gyfer cyfarfod â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ond nid wyf wedi gwneud hynny eto. Fel y gallwch ddychmygu, mae gennyf restr hir iawn o bobl i'w cyfarfod mewn portffolio estynedig iawn, ond gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, rwy'n credu ei fod ym mis Mai ac yn sicr gallaf gael y drafodaeth honno gydag ef. Mae amrywiaeth o faterion o fewn y portffolio y mae angen imi eu trafod gydag ef, fel y gallwch ddychmygu, ond fe wnaf yn siŵr fy mod yn trafod hynny.
Roedd yr Aelod yn glyfar iawn i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn cwmpasu math gwahanol o amgueddfa yn ei etholaeth ei hun.
Cwestiwn 7, Natasha Asghar.
7. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ynghylch sicrhau mynediad cyfartal i drafnidiaeth gyhoeddus i bobl anabl? OQ60966
Diolch. Edrychaf ymlaen at barhau â'r trafodaethau a gynhaliwyd gan ein rhagflaenwyr ynghylch gwaith y tasglu hawliau pobl anabl. Ac rwyf i fod i gyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ddydd Llun. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu clywed a bod eu hanghenion yn cael eu hadlewyrchu'n well wrth ddatblygu polisi a chynllunio gwasanaethau trafnidiaeth.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Heb fod yn rhy bell yn ôl, ymwelais â Japan a chefais fy synnu gan agweddau niferus ar eu rhwydwaith trafnidiaeth. Un maes yr oeddwn yn arbennig o falch o'i weld oedd pa mor hygyrch oedd eu gorsafoedd trenau a'u gorsafoedd bysiau i bobl ag anableddau. Mae palmentydd botymog yn gyffredin yng nghanolfannau trafnidiaeth gyhoeddus y wlad, ynghyd â phethau fel braille ar ganllawiau a mannau allweddol eraill; tinciadau offerynnol, er enghraifft, yn chwarae mewn gwahanol orsafoedd trenau wrth gyrraedd ac ymadael. Mewn cyferbyniad llwyr, Ysgrifennydd y Cabinet, mae trigolion ag amhariad ar eu golwg wedi codi pryderon ynghylch problemau y maent yn eu hwynebu, yn enwedig yng ngorsaf fysiau Merthyr Tudful. Nawr, nid oes palmentydd botymog, mae diffyg cyhoeddiadau ar uwchseinyddion, mae'r arwyddion yn wael ac mae'n anodd iawn darllen byrddau electronig. Gellid gwneud newidiadau syml, a fyddai, pe baent yn cael eu gweithredu, yn gwneud byd o wahaniaeth i bobl ag amhariad ar eu golwg. Hoffwn gofnodi fy mod wedi codi'r pryderon hyn gyda'r awdurdod lleol, ond Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gysylltu â chyngor Merthyr Tudful hefyd i bwyso am welliannau i wneud yr orsaf fysiau hon yn wirioneddol hygyrch i bawb? Diolch.
Diolch. Credaf fod yr Aelod yn nodi pwyntiau pwysig iawn. Braille ar ganllawiau—mae hynny'n rhywbeth eithaf syml sy'n amlwg yn gallu helpu pobl. Rydym yn gwneud cryn dipyn o waith i sicrhau bod pobl yn gallu teithio ar ein rhwydwaith trafnidiaeth. Ddoe, cyfarfûm â chyd-gadeirydd y tasglu hawliau pobl anabl; roedd wedi bod yn cyd-gadeirio'r tasglu gyda fy rhagflaenydd, Jane Hutt, ac yn amlwg byddaf i'n bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw. Roedd ffrwd waith benodol yn ymwneud â thrafnidiaeth, yn canolbwyntio ar deithio. Ac fe fyddwch yn ymwybodol fod y tasglu wedi'i gyfansoddi o bobl anabl ac mae'n seiliedig ar egwyddor eu profiad bywyd a'r hyn y maent yn ei ddysgu. Felly, rwy'n hapus iawn i edrych ar lawer o wahanol gyfleoedd y gallwn eu cael i sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio ein system drafnidiaeth.
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau ar gyfer Amgueddfa'r Gogledd? OQ60983
Diolch. Yn yr hinsawdd ariannol anodd sydd ohoni, rwy'n falch ein bod wedi parhau i fuddsoddi yn amgueddfeydd gogledd Cymru, gan gefnogi datblygiad arwyddocaol Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis a sefydlu'r amgueddfa bêl-droed yn Wrecsam. Rydym hefyd wedi rhoi cefnogaeth ariannol i nifer o amgueddfeydd llai yng ngogledd Cymru drwy grantiau cyfalaf trawsnewid.
Wel, dwi'n ofni efallai dyw'r Ysgrifennydd Cabinet ddim wedi deall fy nghwestiwn i, oherwydd gofyn am amgueddfa'r gogledd yr oeddwn i, sef yr amgueddfa arfaethedig yma y mae'r Llywodraeth wedi'i chynnwys yn eich rhaglen lywodraethu, y byddwch chi yn ei chreu. Dyna'r oeddwn i eisiau gofyn amdani, nid ynglŷn ag amgueddfeydd yn y gogledd.
Nawr, efallai fod hyn yn esbonio llawer, oherwydd mi ofynnais i'ch rhagflaenydd chi yn y pwyllgor diwylliant nôl ym mis Ionawr esbonio i fi beth oedd hwn yn mynd i fod, a ches i ddim eglurder ynglŷn â beth oedd y cysyniad y tu ôl i greu amgueddfa'r gogledd—efallai ble fyddai'n mynd, pwy fyddai'n ei rhedeg, a pha bwrpas y mae amgueddfa'r gogledd yn ei wasanaethu neu'n ei gyflawni. Nawr, fy nghwestiwn i, felly, yw: yn yr hinsawdd sydd ohoni, rŷn ni wedi clywed nifer o Aelodau'n poeni am ddiffyg buddsoddiad mewn amgueddfeydd sy'n bodoli ar hyn o bryd a'r perig, efallai, y bydd rhai ohonyn nhw'n cau; ai dyna'r flaenoriaeth iawn pan fo'n dod i greu amgueddfa newydd, yn enwedig os yw'r cysyniad yn annelwig ac yn sicr yn aneglur?
Wel, rwy'n credu bod ychydig o bwyntiau y mae angen imi eu pwysleisio i'r Aelod. Ymrwymiad y rhaglen lywodraethu yw datblygu cynlluniau ar gyfer amgueddfa gogledd Cymru. Rwy'n credu ei bod yn iawn ein bod yn rhoi amser i sicrhau bod hynny'n gywir. Fe fyddwch yn ymwybodol mai dim ond ers mis y bu'r portffolio gennyf. Rwy'n credu bod rhywfaint o waith wedi'i wneud o'r blaen, ac fe wnaethoch sôn am y sefyllfa ariannol bresennol. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn archwilio amrywiaeth lawn o opsiynau ar gyfer amgueddfa gogledd Cymru, yn ffisegol ac yn rhithwir, i weld beth fyddai orau wrth symud ymlaen. Ond fel y dywedais, rydym eisoes yn cefnogi datblygiadau amgueddfaol sylweddol yng ngogledd Cymru.
Os caf ehangu ar y pwynt a gododd Llyr Gruffydd, i gael rhagor o eglurder efallai ynglŷn â beth y gallai ystyr amgueddfa gogledd Cymru fod. Hoffwn ddeall hefyd, wrth archwilio hynny, a fydd hynny'n cael ei wneud gyda sefydliadau partner, naill ai'n sefydliadau preifat, neu sefydliadau sector cyhoeddus neu'r trydydd sector hefyd, i helpu i alluogi rhywbeth i ddigwydd yn y rhanbarth.
Wel, fel y dywedais, roedd ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddatblygu cynlluniau ar gyfer amgueddfa gogledd Cymru. Nid wyf yn meddwl bod ymrwymiad erioed, oni bai eich bod am fy nghywiro—. O edrych ar ymrwymiad y rhaglen lywodraethu, nid wyf yn credu bod disgwyliad y byddai amgueddfa'n cael ei chyflwyno yn nhymor y Senedd hon. Yr ymrwymiad oedd datblygu'r cynlluniau hynny. Yn bersonol, nid wyf wedi gwneud unrhyw beth mewn perthynas â'r cynlluniau hynny. Rwy'n gwybod bod rhywfaint o waith wedi'i wneud. Ond rwy'n credu bod yn rhaid inni dderbyn y sefyllfa ariannol, lle'r ydym yn gweld diswyddiadau mewn amgueddfeydd eraill. Mae'n rhaid ichi ystyried hynny pan fyddwch yn cynllunio i gael amgueddfa newydd. I mi, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i gefnogi amgueddfeydd eraill yng ngogledd Cymru. Cefais fy synnu'n fawr o weld faint o amgueddfeydd sydd gennym ar draws gogledd Cymru. Mae'n debyg mai dim ond llond llaw ohonynt y bûm ynddynt, felly mae'n dda iawn gweld yr amrywiaeth sydd ar gael.
9. Beth yw gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol Cymru? OQ60976
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod treftadaeth hanesyddol a diwylliannol yn cael ei phrofi a'i mwynhau gan bobl Cymru a'n hymwelwyr. Bydd ein blaenoriaethau newydd ar gyfer diwylliant yn annog dathlu a hyrwyddo ein treftadaeth ddiwylliannol gartref ac yn rhyngwladol.
Diolch am yr ateb yna. Wrth gwrs, mae angen inni weld y Llywodraeth yma’n gweithio yn drawsadrannol. Felly, fel man cychwyn, dwi am wybod faint o gydweithio sydd, neu fydd, rhwng eich adran chi â’r adran addysg, er mwyn sicrhau bod gan ddisgyblion ysgol fynediad i amgueddfeydd a llyfrgelloedd fel rhan o’u cwricwlwm. Ond, hefyd, pa gydweithio sydd rhwng eich adran chi ac adran yr economi, er mwyn sicrhau bod budd economaidd amlwg yn dod allan o’n treftadaeth ddiwylliannol, gan osgoi’r sefyllfa bresennol o fygythiadau i ddyfodol adnoddau pwysig fel yr amgueddfa genedlaethol a’r llyfrgell genedlaethol?
Diolch. Un o'r pethau a ddysgais ddoe pan oeddwn yn yr amgueddfa genedlaethol oedd mai dyma'r darparwr addysg mwyaf y tu allan i ysgolion yng Nghymru. Felly, gallwch weld pwysigrwydd yr amgueddfa genedlaethol o safbwynt arall. Pan ddychwelais, fe ddeuthum ar draws Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a dweud, 'rwyf angen cyfarfod gyda chi i drafod hyn', oherwydd, yn amlwg, mae'n llawer iawn o waith. Mae'n debyg imi weld 50 o blant ysgol yn yr amgueddfa genedlaethol ar ôl iddi agor i'r cyhoedd fore ddoe.
Nid wyf wedi siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg hyd yma, ond rydych chi'n hollol gywir: mae'n ganolog, onid ydyw, ar draws y Llywodraeth. Nid i fy mhortffolio i'n unig y mae diwylliant yn perthyn. Mae'n bwysig iawn fod cenedlaethau'r dyfodol a phlant ifanc a phobl ifanc nawr yn dysgu am dreftadaeth a stori Cymru.
Ac yn olaf, Rhianon Passmore.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ers dros dri chwarter canrif, mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyfrannu'n helaeth tuag at hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol Cymru. Mae'n em yn ein coron ar draws y DU, yn enwog yn rhyngwladol, a'r cyflogwr celfyddydol mwyaf yng Nghymru. Roeddwn yn ddiolchgar iawn am yr amser y gwnaethoch ei roi i gyfarfod â mi i drafod y pryderon gwirioneddol a difrifol am ganlyniadau toriadau i gyllid Opera Cenedlaethol Cymru, yn sylweddol gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Mae'n amlwg iawn fod cynnal côr a cherddorfa lawn amser yn hanfodol ac yn ganolog i gynnal cynnig diwylliannol Opera Cenedlaethol Cymru i Gymru, a chynnal y gronfa o dalent elît, at ddibenion cadw a recriwtio. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu ymagwedd ddi-ymyrraeth tuag at holl gyrff hyd braich Llywodraeth Cymru, a'r hinsawdd ariannol yr ydym ynddi. Ond a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gyfarfod â Christopher Barron, cyfarwyddwr cyffredinol dros dro Opera Cenedlaethol Cymru, i gael dealltwriaeth lawnach o'r pryderon sy'n cael eu mynegi ledled Cymru ynghylch treftadaeth ddiwylliannol ein cenedl?
Diolch, a diolch am gyfarfod â mi ddoe. Fel y soniais wrthych, gwn fy mod i fod i gyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru—rwy'n credu bod hynny ddydd Llun, nawr—i drafod sefyllfa bresennol sector y celfyddydau yng Nghymru. Bydd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys y sector cerddoriaeth. Rwyf hefyd wedi cytuno i gwrdd ag Yvette Vaughan Jones, cadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru, yn ystod y misoedd nesaf, a byddwn yn hapus iawn i gyfarfod â Christopher Barron hefyd.
Fel y gwyddoch, mae holl gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau yn cael ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Nid ydym yn ymyrryd, fel y dywedoch chi, ym mhenderfyniadau cyllido Cyngor Celfyddydau Cymru. Gwn eu bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd eithriadol ynghylch cyllido, ond nodais fod opera yn derbyn 71 y cant o gyfanswm gwariant y sector cerddoriaeth ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 3 yw cwestiynau i Gomisiwn y Senedd—dim ond un sydd heddiw. Cwestiwn 1, James Evans.
1. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i gefnogi Aelodau a staff i fod yn fwy egnïol yn gorfforol yn y gweithle? OQ60937
Mae lles corfforol a meddyliol Aelodau, staff Aelodau a staff y Comisiwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Gall staff y Comisiwn gymryd rhan mewn cynlluniau beicio i'r gwaith, a gellir benthyg beiciau i'w defnyddio'n lleol i deithio i gyfarfodydd yng Nghaerdydd ac i gefnogi'r rhai sy'n dymuno ymarfer corff yn ystod y dydd. Mae cyfleusterau sied feiciau a chyfleusterau cawod ar y safle, a phwyntiau gwefru beiciau trydan ar gael i bawb.
Mae staff y Comisiwn hefyd wedi gweithio'n agos gyda John Griffiths, Aelod o'r Senedd, i hyrwyddo Parkrun, a sefydlwyd y grŵp Senedd Steppers yn ddiweddar, gan annog cydweithwyr o bob gallu i gerdded a rhedeg, i wella eu lles corfforol a meddyliol.
Diolch yn fawr iawn am hynny, Lywydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn rhoi gwybod i'n staff a'n Haelodau am y grwpiau sydd ar gael yn y Senedd. Dim ond y diwrnod o'r blaen y darllenais ar y fewnrwyd am gymdeithas golff y Senedd sy'n bodoli, ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gellid casglu'r holl gymdeithasau hynny mewn un lle gyda'i gilydd ar dudalennau'r fewnrwyd, boed hynny'n rygbi, criced, golff, pêl-droed, ni waeth beth yw'r gamp—rhedeg. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i Aelodau a staff ein bod yn teimlo'n rhan o gymuned gyda'n gilydd, a phe bai un pwynt ar y fewnrwyd lle gallai pawb gael mynediad at y rheini, rwy'n credu y byddai'n helpu, mewn gwirionedd, gyda phobl yn dod yn fwy egnïol yn gorfforol, a hefyd yn helpu pawb i ddod i adnabod ei gilydd. Rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig iawn o weithio mewn lle fel hwn yma yng Nghaerdydd.
Gallaf glywed llawer o gefnogaeth ar draws y Siambr i'r cynnig hwnnw, felly, nid wyf am sefyll yn ei ffordd a bod yn negyddol o gwbl. Rwy'n credu ei fod yn syniad ardderchog, ac edrych a allwn gyfuno'r holl wybodaeth mewn un lle, cyfuno ymdrech ar y cyd i ysgogi pob un ohonom i fod ychydig yn fwy egnïol. Nid oeddwn yn gwybod bod cyfle i chwarae golff yn y Senedd. Mae bob amser wedi bod yn freuddwyd gennyf i dreulio ychydig o amser yn chwarae golff fy hun rhyw ddiwrnod. Nid wyf wedi cyrraedd yno eto, ond mae'n dda gwybod bod y cyfleoedd hynny ar gael, a byddaf yn ei ystyried fel pwynt gweithredu, i feddwl sut y gallwn ddod o hyd i le ar y fewnrwyd, ac o bosibl mewn mannau eraill ar yr ystad, i roi ychydig o ddyrchafiad i'r hyn sy'n digwydd eisoes a beth arall y gall rhagor ohonom gymryd rhan ynddo.
Diolch i'r Llywydd.
Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol, a galwaf ar Mabon ap Gwynfor.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ganlyniad terfynol adolygiad y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys i ddarparu gwasanaethau ambiwlans awyr yng Nghymru yn y dyfodol? TQ1050
Rwy'n nodi bod Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru wedi gwneud penderfyniad, yn dilyn proses ymgysylltu 18 mis, i gyfuno gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd yng nghanolfannau'r Trallwng a Chaernarfon mewn un ganolfan yng ngogledd Cymru. Bydd hyn yn ychwanegol at wasanaeth ymateb aciwtedd uchel pwrpasol newydd ar gyfer rhannau gwledig ac anghysbell o ganolbarth a gogledd Cymru. Cefnogir y penderfyniad hwn gan elusen Ambiwlans Awyr Cymru a chyfarwyddwr clinigol Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys Cymru.
Diolch am yr ateb yna. Mae'r penderfyniad a gymerwyd ddoe yn un hynod ddadleuol am sawl rheswm, ac mae trigolion gogledd orllewin a chanolbarth Cymru yn syfrdan. Mae yna ddau ranbarth iechyd yn benodol am gael eu heffeithio yn sgil y penderfyniadau yma: ardaloedd Betsi Cadwaladr a Phowys. Onid yw'r Gweinidog yn credu ei fod o'n dweud cyfrolau bod y ddwy ardal hynny wedi mynegi pryderon am y cynlluniau a heb gefnogi'r penderfyniad yma ddoe, ac ydy'r Gweinidog yn credu ei fod o'n iawn fod ardaloedd sydd ddim am gael eu heffeithio i'r un graddau gan y penderfyniad wedi medru gwthio'r penderfyniad yma ymlaen yn erbyn ewyllys y bobl sydd yn byw yn yr ardaloedd hynny? Mae hefyd, gyda llaw, yn werth nodi bod yr hofrenyddion yma o Ddinas Dinlle a'r Trallwng wedi mynychu'r digwyddiad erchyll yn Ysgol Dyffryn Aman heddiw, gan ddangos bod yna impact ar ardaloedd y tu hwnt i'r gogledd ac i'r canolbarth hefyd.
Dwi am ofyn hefyd beth yn union mae'r Llywodraeth yma wedi'i wneud yn ystod y broses hon. Pan wnaethon ni godi'r mater yma yn gyntaf 18 mis yn ôl, a sawl gwaith wedi hynny, roedd y Prif Weinidog ar y pryd, a'r Llywodraeth, yn gwadu unrhyw gyfrifoldeb ac yn dweud mai mater i'r elusen oedd hyn, ond eto byrddau iechyd Cymru, o dan eich rheolaeth chi, sydd wedi gwneud y penderfyniad yma ddoe—staff ac offer iechyd y gwasanaeth iechyd sydd yn cael eu cyflogi gan y gwasanaeth. Mi wn beth ydy'r dadleuon sy'n cael eu rhoi gerbron o blaid yr argymhelliad, ac mae’r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud gan Sue Barnes yn benodol, pennaeth yr elusen, yn dweud nad ydy pobl wedi deall yr argymhellion, ac yn wir ei bod hi wedi chwerthin ar rai o'r argymhellion yna, yn sarhaus ac yn ddilornus. Dwi ac eraill yn deall yn iawn beth ydy'r argymhellion, ond dydyn ni ddim wedi cael ein hargyhoeddi.
Wrth gwrs ein bod ni am weld yr angen sydd heb ei ddiwallu yn cael ei gyfarch. Wrth gwrs ein bod ni am weld y gwasanaethau yn gwella ac yn cryfhau. Ond mae’n amlwg bod yna fethiannau mawr yn y cynlluniau hyn gan eu bod nhw heb ein hargyhoeddi ni na'r cyhoedd—y cyhoedd hynny sy'n ddibynnol ar wasanaethau ac sy'n ariannu’r gwasanaethau, naill ai drwy roddion hael neu drwy eu trethi. Mi wn i nad gwasanaeth trafnidiaeth ydy’r ambiwlans awyr, er bod yna gwestiwn yma: os oes yna dan-ddefnydd mewn rhai ardaloedd, yna pam cyfyngu’r gwasanaeth, yn enwedig pan fo angen dybryd am drafnidiaeth ambiwlans awyr mewn ardaloedd gwledig?
Mi wn hefyd mai gwasanaeth critigol ydy o, a dyna ydy’r pwynt. Mae’r hofrennydd ei hun yn methu a hedfan am gyfran o amser, ac felly rydym ni’n ddibynnol ar y cerbydau ffyrdd i gyrraedd ardaloedd diarffordd. Cerbydau gofal critigol ydy’r rhain, nid ambiwlansys cyffredin. Rŵan, mae'r argymhellion newydd yn cynnig darparu rhyw fath o wasanaeth ffordd, ond does yna ddim manylion, yn sicr dydy o ddim yn ofal critigol, ac mae’r cyfan yn parhau yn gwbl amwys. Dyna pam, o leiaf yn rhannol, na chefnogodd byrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Phowys y cynlluniau. Felly, pa wasanaeth ofal critigol sydd am fod ar gyfer pobl pen draw Llŷn, arfordir Meirionnydd, gogledd Môn, gogledd Ceredigion, Maldwyn? Mae yna gynlluniau amgen eraill ar gael, ond dydy'r rhain ddim wedi cael eu hystyried yn llawn.
Felly, yn olaf, Weinidog, ydych chi yn bersonol yn fodlon gyda’r penderfyniad yma? Ydych chi’n dawel eich meddwl na fydd pobl gogledd-orllewin a chanolbarth Cymru yn gweld dirywiad yn y ddarpariaeth? Ydych chi’n credu mai dyma’r unig gynllun ar gyfer ateb y galw ar gyfer gofal critigol yn ein cymunedau yng ngogledd Cymru a chanolbarth Cymru?
Diolch yn fawr. Cyn imi ateb, roeddwn am nodi bod dau ambiwlans awyr yng Nghymru wedi bod yn rhan o'r digwyddiad mawr sydd wedi digwydd yn Rhydaman heddiw. Rwy'n gwybod ei fod yn gyfnod pryderus iawn i'r ysgol, i'r rhieni ac i'r gymuned, a hoffwn ddiolch yn arbennig i'r holl bobl a gymerodd ran yn ymateb y gwasanaeth iechyd, yn enwedig y rhai sy'n gweithio yn ambiwlans awyr Cymru.
Rwy'n deall cryfder y teimladau a fynegir gan bobl sy'n byw mewn rhannau o ganolbarth a gogledd Cymru. Yn y pen draw, bydd y penderfyniad hwn yn gwella'r gofal a'r canlyniadau i bobl yng ngogledd a chanolbarth Cymru, yn enwedig yn y nos, pan na roddir y gwasanaeth hwnnw ar hyn o bryd. Dros y 18 mis diwethaf, byddai 310 o gleifion a allai fod wedi cael y gwasanaeth ar ôl 8 p.m. wedi ei gael o dan y model newydd, ond ni wnaethant. Felly, mae cost i beidio â gwneud hyn. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn i'w nodi.
Ond hefyd, gwn fod yr elusen yn bryderus iawn nad yw arian cyhoeddus, nid dim ond eu harian eu hunain, yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon o dan y model presennol, ac rwyf am roi rhai enghreifftiau i chi. Dros y tair blynedd diwethaf, cafwyd 439 o ddiwrnodau pan na welodd y criw yng Nghaernarfon glaf. Yn y Trallwng, cafwyd 402 diwrnod pan na welodd y criw glaf. Mae hwn yn adnodd enfawr nad yw'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Gwn fod yr arbenigwyr sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaethau hyn, elusen ambiwlans awyr Cymru, cyfarwyddwr clinigol y gwasanaeth a'r comisiynwyr i gyd yn gytûn mai cyfuno gwasanaethau yw'r penderfyniad cywir i bobl Cymru.
Nawr, cyfrifoldeb Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru oedd y penderfyniad, a rhaid iddo barhau i fod felly. Nid yw'n benderfyniad i Lywodraeth Cymru ei wneud, ac ni ddylai fod ychwaith. Penderfyniad gweithredol ydyw, nid penderfyniad i'r Llywodraeth.
Rwy'n cysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaeth y Gweinidog am bresenoldeb y gwasanaeth ambiwlans awyr yn y digwyddiad heddiw.
Weinidog, nid wyf yn credu y gallaf wneud cyfiawnder â sut mae pobl yn teimlo ar draws canolbarth a gogledd Cymru. Nid wyf wedi cael un etholwr yn dod ataf—ac rwy'n amau bod Mabon yr un peth—i ddweud, 'Mae hwn yn syniad da; bydd hyn yn arwain at well gwasanaeth i ni.' Felly, nid wyf yn derbyn bod hwn am fod yn well gwasanaeth i Gymru o gwbl, ac os ydych chi'n credu hynny, Weinidog, ac os yw'r elusen ambiwlans awyr a chlinigwyr yn credu hyn—ac nid wyf yn credu eu bod, gyda llaw—sut nad ydych chi wedi gwerthu hyn i boblogaeth canolbarth a gogledd Cymru?
Nawr, nid oes gennym ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys a dyna'n union pam mae pobl ym Mhowys yn teimlo mor angerddol dros gadw eu gwasanaeth ambiwlans awyr Cymru, oherwydd mae'n bwysig eu bod yn gallu cael eu trosglwyddo i ofal meddygol cyn gynted â phosibl pe baent yn cael damwain. Mae clinigwyr wedi mynegi eu pryderon proffesiynol a gweithredol difrifol. Nodaf yn eich ateb i Mabon eich bod wedi nodi bod clinigwyr yn cefnogi hyn. Nid yw hynny'n wir. Nid wyf yn credu hynny. Mae clinigwyr wedi mynegi eu pryderon difrifol i'r rheolwyr ac nid ydynt wedi cael atebion digonol i'w pryderon, ac maent wedi gwneud hynny ar sail weithredol a diogelwch.
Nid yw byrddau iechyd Powys a Betsi gyda'i gilydd, sydd nid yn unig yn cynrychioli'r ardal dan sylw, ond yn cwmpasu tua 50 y cant o ardal ddaearyddol Cymru, yn gallu cefnogi'r argymhelliad hwn ychwaith. Felly, ar yr awgrym fod hyn yn cael ei gefnogi gan yr elusen ac eraill, nid yw'n cael ei gefnogi gan ddau fwrdd iechyd, degau o filoedd o bobl ledled canolbarth a gogledd Cymru, a chlinigwyr eu hunain sy'n gweithredu ac yn gweithio o'r canolfannau hynny. Nawr, rydych chi wedi dweud mai felly mae hi, ond byddwn i'n dweud, Weinidog: gosodwch eich her eich hun i'r sefydliad i weld a ydynt wedi gwrando o ddifrif ar bryderon y byrddau iechyd a phryderon clinigwyr hefyd.
Roedd yna egwyddor gyntaf pan gynhaliwyd yr adolygiad hwn. Dyma ydoedd: os yw pobl yn derbyn y gwasanaeth nawr, dylent barhau i dderbyn y gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol. Dyna oedd yr egwyddor gyntaf. Yn amlwg, nid yw hynny'n mynd i ddigwydd. Nid yw'n mynd i ddigwydd. Os bydd y ddwy ganolfan yn symud ymhellach oddi wrth gymunedau gwledig, bydd yn cymryd rhagor o amser i'r ambiwlans awyr gyrraedd lleoliad a chynnig sylw meddygol brys, a throsglwyddo pobl i ofal cyn gynted â phosibl. Ni fydd hynny'n digwydd os bydd canolfannau'n symud ymhellach oddi wrthynt. Felly, y cwestiwn yw: o ran yr egwyddor fod pobl yn derbyn y gwasanaeth nawr, ac y byddant yn parhau i'w dderbyn, egwyddor a gafodd ei hailadrodd drwy gydol yr ymgynghoriad a'i hailadrodd eto yr wythnos hon, a ydych chi'n teimlo bod yr egwyddor gyntaf honno wedi'i chyflawni? Ac os ydych yn teimlo bod yr egwyddor honno wedi'i chyflawni, a allwch esbonio sut y daethoch chi i'r casgliad hwnnw?
Weinidog, fe wnaethoch sôn am 310 yn rhagor o ddigwyddiadau'n cael eu cyflawni yn eich ymateb. Cwestiwn, Weinidog. Ewch at eich swyddogion. Gofynnwch iddynt gwestiynu a herio hynny, oherwydd bron i ddwy flynedd yn ôl yn unig, dywedwyd wrthym y byddai 583 o ddigwyddiadau ychwanegol. Fe'i cyflwynwyd i ni fel ffaith, bron i ddwy flynedd yn ôl yn unig, y byddai hynny'n cael ei gyflawni. Felly cafodd y data hwnnw ei ddiystyru. Nid oedd yn ddilys ar ôl craffu, a byddwn yn awgrymu'r un peth ar gyfer y ffigur o 310 a nodwch hefyd.
Fe fyddwn yn dweud bod yr adolygiad cyfredol hefyd yn seiliedig ar ddata amheus. Felly, yn eich barn chi, a yw'r canlyniad cywir wedi'i gyflawni, pan ystyriwch y bydd enillion ychwanegol ymylol o'r fath yn ôl yr adolygiad, sy'n amheus beth bynnag, yn mynd i gael eu cyflawni, pan fyddwch yn cydbwyso hynny yn erbyn y newid enfawr o gau dwy ganolfan ac agor canolfan newydd, a'r pryder na fydd clinigwyr yn symud i'r ganolfan newydd honno hefyd? A ydych chi'n gwbl fodlon yn eich meddwl eich hun, Weinidog, mai dyna'r penderfyniad cywir, yn enwedig—
A gaf i atgoffa'r Aelodau mai cwestiwn amserol yw hwn, ac nad yw'n rhoi cyfle i areithiau gael eu gwneud? Rhaid i gwestiynau fod yn gwestiynau, iawn, felly canolbwyntiwch ar y cwestiynau, Russell, os gallwch.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, fe wnaf. Weinidog, pan fo opsiynau'n cael eu cyflwyno—. Mae yna opsiynau a gyflwynwyd a fyddai'n cyflawni'r hyn a nodwyd i'w gyflawni heb gau'r ddwy ganolfan. Felly, Weinidog, a wnewch chi ystyried yr opsiwn hwnnw eto? Eisteddwch gyda'ch swyddogion, edrychwch ar yr opsiwn a gyflwynwyd a fyddai'n cadw'r pedair canolfan ar agor a hefyd yn sicrhau'r un canlyniad ag a awgrymwyd, a hefyd yn cyrraedd yr un canlyniad ag yr edrychwyd arno'n wreiddiol, gyda llawer llai o risg hefyd. A ydych chi wedi edrych ar yr opsiwn hwnnw?
Weinidog, roedd gan y ddau fwrdd iechyd bryderon nad yw'r mesurau lliniaru a oedd i'w rhoi ar waith, pe bai'r ddwy ganolfan yn cau, wedi cael sylw ac na chawsant sylw yn y cyfarfod yr wythnos hon, a dyna pam na allent gefnogi'r cynigion. Felly, a gaf i ofyn, Weinidog, a ydych chi wedi gofyn am y lefel honno o fanylder eich hun? A beth fyddai'n digwydd, Weinidog—a gaf i ofyn eich barn, beth fyddai'n digwydd, yn eich barn chi—os nad yw'r mesurau lliniaru a fydd, fel y dywedir wrthym, yn cael eu cyflwyno yn y gwaith a fydd yn digwydd yn ddiweddarach eleni, os nad yw'r mesurau lliniaru hynny'n foddhaol i'r ddau fwrdd iechyd ac yn wir, i'r byrddau iechyd eraill, i aelodau'r Cyd-bwyllgor Comisiynu? Beth sy'n digwydd wedyn? A yw hynny'n golygu y bydd y penderfyniad hwn yn cael ei ailystyried eto, os na ellir cynnig y lefel honno o sicrwydd?
Ac yn olaf, Weinidog, a wnewch chi alw'r penderfyniad hwn i mewn? Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch, ei fod yn benderfyniad clinigol, ond o ystyried cryfder y teimladau a gwrthwynebiad clinigwyr a byrddau iechyd eu hunain yn yr ardaloedd, a wnewch chi alw'r penderfyniad hwn i mewn i Weinidogion Cymru, fel y gall Gweinidogion Cymru benderfynu ac y gellir trafod hyn a gofyn cwestiynau ar lawr y Senedd hon?
Diolch yn fawr. Wel, rwy'n gwybod pa mor gryf yw'r teimlad sydd gan bobl yn y Trallwng ac yn sir Drefaldwyn ac yng ngogledd Cymru mewn perthynas â'r gwasanaeth ambiwlans awyr, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig sicrhau bod yna ddealltwriaeth y bydd system gymorth sylweddol well nawr, o ran cymorth yn ystod y nos, a'n bod yn meddwl y gallai tri pherson y dydd yn ychwanegol elwa, nad yw'n digwydd ar hyn o bryd. Gwn fod gan yr elusen a'r byrddau iechyd ddiddordeb mewn sicrhau mai'r hyn a gawn yw system sy'n rhoi diogelwch cleifion yn gyntaf, a system sy'n cael y gwerth gorau am arian am y swm sylweddol o roddion a roddir i'r elusen.
Rwy'n credu ei bod yn werth nodi, yn y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig Cymru, yn enwedig ym Mhowys, lle mae'r rhwydweithiau ffyrdd yn heriol, fod rhagweld y galw manwl yn anodd, ond y gwir amdani yw bod yr ymateb cyfartalog i gleifion oren ymhlith y gorau yng Nghymru, ac mae hynny'n cynnwys, er enghraifft, pobl sy'n cael strôc neu drawiad ar y galon. Ond bydd y cerbydau ymateb aciwtedd uchel newydd yn ategu'r ymateb hwn ac nid yw'n dod yn lle'r gwasanaeth casglu a throsglwyddo meddygol brys. Nawr, rwy'n nodi bod bwrdd iechyd Powys yn teimlo na allent gefnogi'r argymhellion heb gynllun ar gyfer y cerbydau ymateb aciwtedd uchel ychwanegol. Sicrhawyd y bydd cynllun ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn yn cael ei ddatblygu erbyn mis Hydref 2024 ac y bydd yn cael ei ddarparu ymhell cyn i'r gwasanaethau gael eu cyfuno yn y ganolfan newydd.
Rwy'n gwybod bod pobl angen sicrwydd ynghylch ansawdd y data. Rhoddwyd sicrwydd manwl yng nghyfarfod y pwyllgor ynghylch ansawdd y data a ddefnyddiwyd, trylwyredd y broses ymgysylltu, a'r gwerth ychwanegol drwy gyfuno gwasanaethau. Rwy'n ofni na fydd yn bosibl imi alw'r penderfyniad penodol hwn i mewn. Yn amlwg, mae gennyf wrthdaro, oherwydd mae hon yn ardal yr wyf innau hefyd yn ei chynrychioli. Ond byddai ymyrryd yn yr hyn sydd, yn ei hanfod, yn fater gweithredol, yn gam nad yw Llywodraeth Cymru wedi'i gymryd ers amser maith.
Y gwir amdani ydy y bydd etholwyr yn y gogledd-orllewin yn colli gwasanaeth sydd wedi achub bywydau yn y gorffennol, wrth gau canolfan ambiwlans awyr Caernarfon. Mae pobl yn fy etholaeth i wedi bod yn falch iawn bod Dinas Dinlle yn gartref i wasanaeth mor bwysig. Mae yna reswm pam bod gwasanaeth yr ambiwlans awyr wedi'i sefydlu yn Arfon: mae o'n lleoliad canolog i gyrraedd pobl ar draws y gorllewin sydd mewn argyfwng iechyd, a hynny mewn amser prydlon. Efo'r symud i'r dwyrain, a fedrwch chi fy argyhoeddi i heddiw y bydd hi yn bosib cynnal yr un lefel o wasanaeth, ddydd a nos, ar gyfer yr ardal wledig eang sydd o fewn cyrraedd amserol ar hyn o bryd, neu a fyddwn ni eto fyth yn colli gafael ar wasanaeth ac yn creu gwasanaeth eilradd, fel sydd wedi digwydd wrth symud yr uned fasgwlar draw i'r dwyrain, er enghraifft?
Ydych chi'n derbyn bod angen ichi, fel y Gweinidog iechyd, sydd â throsolwg dros faterion iechyd, fod yn gwbl hyderus fod y penderfyniad i gau'r canolfannau wedi cael ei wneud am resymau cadarn ac wedi ei dystiolaethu gan ddata dibynadwy? Ac i’r perwyl yna, mi fuaswn i yn gofyn ichi gynnal adolygiad gweinidogol o’r penderfyniad. Efallai eich bod chi'n dadlau nad eich penderfyniad chi ydy o, ond does bosib rhaid i chi, sydd efo'r cyfrifoldeb dros faterion iechyd, fod yn hollol hyderus mai hwn yw'r peth iawn i fod yn ei wneud.
Diolch yn fawr. Dwi'n siŵr y bydd rhai o’ch etholwyr chi hefyd yn hapus y bydd gwasanaeth ychwanegol nawr yn y gogledd gyda’r nos, ac mae hynny’n gam ymlaen. Ar hyn o bryd, dyw'r gwasanaeth yna ddim ar gael. Dwi yn meddwl ei bod hi hefyd yn werth dweud bod y case load yn hollol wahanol yn y gogledd a'r canolbarth, o'i gymharu â’r de. Yn y canolbarth ac yn y gogledd, dŷn nhw ddim yn ymateb am fwy na 130 diwrnod y flwyddyn, ond dim ond am 10 diwrnod dŷn nhw ddim yn ymateb yng Nghaerdydd. Felly, os ŷch chi'n edrych ar effeithlonrwydd y system, mae hwnna’n bwysig. Ac rŷn ni yn siarad am helicopters fan hyn—mae'r rhain yn gallu symud yn bell yn gyflym.
Mae'r Gweinidog yn dweud nad ydy hi'n gallu ymyrryd ac nad penderfyniad iddi hi ydy o, ond mae’n berffaith eglur ei bod hi'n cefnogi’r penderfyniad yma. Os ydy hi'n dweud ei bod hi'n beth anarferol i’r Llywodraeth gamu i mewn, a dydy o ddim wedi digwydd ers talwm, gadewch imi ddweud yn fan hyn, mi wnaf gefnogi'r Llywodraeth os ydyn nhw'n penderfynu camu i mewn yn fan hyn er mwyn gwarchod buddiannau pobl yn y canolbarth a'r gogledd.
Y gwir amdani—ac mi glywsom ni'r Gweinidog yn dweud y bydd y cynllun yma yn cael ei ddatblygu erbyn diwedd y flwyddyn—yw bod y penderfyniad wedi cael ei wneud cyn i’r cynllun gael ei ddatblygu'n llawn. Ac fel y mae Llais, cynrychiolwyr y cleifion, yn ei ddweud, mae yna gwestiynau cwbl ganolog sydd ddim wedi cael eu hateb eto. Mae yna sôn am gynllun i sicrhau bod yna gerbydau ffordd yn gwneud i fyny am golled, i bob pwrpas, yr ambiwlans awyr. Yr holl bwrpas ydy bod cerbydau ar y ffordd mewn ardaloedd gwledig yn methu â chyrraedd, yn cael trafferth cyrraedd, lle mae'r ambiwlans awyr wedi gallu gwneud hynny. Mae clinigwyr—pob un o'r rhai dwi wedi siarad efo nhw—yn meddwl fod hwn yn gam gwag.
Ydy’r Gweinidog yn derbyn yn fan hyn y dylai bod gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a bwrdd iechyd Powys mwy o lais na’r byrddau iechyd eraill yng Nghymru oherwydd y nhw sydd yn cynrychioli ac yn gofalu am y cleifion dan sylw yn fan hyn, ac mae'r ddau fwrdd iechyd yna wedi ei gwneud hi'n berffaith glir nad ydyn nhw'n credu bod yr atebion rydyn ni yn eu hangen wedi cael eu darparu ar ein cyfer ni eto? Mae’r darlun yn aneglur, ond mae’r penderfyniad wedi cael ei gymryd, a chleifion y gogledd a'r canolbarth sydd yn dioddef.
Dwi'n meddwl ei bod yn werth tanlinellu unwaith eto y bydd yna nawr wasanaeth dros nos yn y gogledd a bydd yna wasanaeth gwell yn y gogledd achos bydd y gwasanaeth yna ar gael. Dyw hi ddim ar gael ar hyn o bryd—mae'n rhaid iddyn nhw ddod yn bell iawn o'r de.
Mae yna assurance wedi cael ei wneud bod cerbydau ffordd yn mynd i fod yn eu lle erbyn hydref 2024. Beth rŷn ni'n sôn amdano yn fan hyn yw gwasanaeth Cymru i gyd, felly doedd yna ddim requirement am unanimous decision yn y JCC. Maen nhw'n penderfynu ar y cyfan o ran beth sy’n fuddiol o ran lles pobl ar draws Cymru, ond hefyd effeithlonrwydd y system ar draws Cymru i gyd.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 5 yw'r datganiadau 90 eiliad. Bydd y datganiad gyntaf gan Sioned Williams.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae mis Ebrill yn Fis Ymwybyddiaeth o Adenomyosis, ac os bu cyflwr erioed sydd angen mwy o ymwybyddiaeth, adenomyosis yw hwnnw. Mae'n effeithio ar o leiaf un o bob 10 merch, menyw a phobl a bennwyd yn fenywod ar adeg eu geni, gan ei wneud mor gyffredin â diabetes neu asthma mewn menywod, ac eto ni chaiff ei grybwyll ar wefannau 111 A i Y GIG Cymru.
Felly, beth ydyw? Mae'n gyflwr lle mae leinin y groth yn dechrau tyfu i mewn i'r cyhyr yn wal y groth. Golyga fod dioddefwyr yn aml yn cael mislif poenus a thrwm a stumog chwyddedig, a gall y boen hon ledaenu i'r cefn a'r coesau. Yn rhyfeddol, yn aml ddim ond pan wneir hysterectomi ac archwilio'r groth o dan ficrosgop y gwneir diagnosis o'r cyflwr. Mae symptomau'r cyflwr hwn yn aml yn gorgyffwrdd â'r cyflwr mwy cyfarwydd, endometriosis. Felly, os clywch gleifion yn dweud bod eu symptomau endometriosis wedi gwella ar ôl cael tynnu eu croth, mae'n debygol eu bod wedi bod ag adenomyosis hefyd, a dyna oedd yn achosi'r rhan fwyaf o'u problemau, ond nad ydynt erioed wedi cael gwybod na chlywed amdano.
Dyna pam fod Triniaeth Deg i Fenywod Cymru wedi sefydlu deiseb yn galw ar y Senedd i gyfarwyddo GIG Cymru i ychwanegu adenomyosis at ei gwefannnau 111 A i Y. Heb wybodaeth swyddogol ar wefannau'r GIG a byrddau iechyd, gwyddant mai ychydig iawn o wybodaeth gywir am y cyflwr sydd ar gael i lawer o gleifion, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd, a bod camwybodaeth yn rhemp. Felly, mae'n rhaid i gleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r gymuned ehangach allu cael mynediad at wybodaeth ddwyieithog, gywir, hygyrch a swyddogol, nid yn unig i godi ymwybyddiaeth o adenomyosis, ond i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r symptomau, y triniaethau a’r opsiynau rheoli symptomau sydd ar gael. Diolch.
Dydd Llun oedd Diwrnod y Ddaear. Mae'n ddiwrnod pan fo pobl ledled y byd yn uno i fynnu bod eu llywodraethau, eu busnesau a'u cyd-ddinasyddion yn cymryd camau pendant i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Digwyddodd Diwrnod y Ddaear gyntaf ym 1970, a heddiw, mae'n gweithio gyda dros 150,000 o bartneriaid, mewn 192 o wledydd. Thema Diwrnod y Ddaear 2024 yw 'Planed yn erbyn plastigion'. Ei fwriad yw tynnu sylw at fater difrifol llygredd plastig a sut mae'n niweidio natur. Ei nod yw lleihau cynhyrchiant plastig 60 y cant erbyn 2040, ac adeiladu dyfodol di-blastig y y pen draw. Mae Earthday.org yn cynnwys galwad i hyrwyddo ymwybyddiaeth eang o beryglon iechyd cynhyrchion plastig untro. Maent yn gwthio'n galed am gytuniad cryf gan y Cenhedloedd Unedig ar lygredd plastig ac yn mynnu diwedd ar ffasiwn cyflym.
Mae cynhyrchion plastig yn berygl i ddynoliaeth ac i bob creadur byw, gan amharu ar gydbwysedd bregus bywyd ar y ddaear. Mae gwyddonwyr yn credu y gall microblastigion yn ein cyrff fod yn gyfrifol am bopeth o ganser i namau geni a chwymp mewn cyfraddau ffrwythlondeb. Gallem arbed llawer o amser pe bai'r diwydiannau olew, nwy a phlastig yn dweud wrthym beth maent yn ei wybod. Darllenais unwaith fod yr amgylchedd yma i wasanaethu’r economi. Am ddatganiad peryglus o drahaus i'w wneud. Ein bioamrywiaeth yw ein system cynnal bywyd. Rhaid inni ei gwarchod, ei chadw a'i meithrin yn gyfnewid. Gwae inni ei diystyru neu ei chymryd yn ganiataol.
Mae'r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Stelcio. Hoffwn dynnu sylw at y drosedd gyffredin a niweidiol hon. Diffinnir stelcio fel patrwm o ymddygiad obsesiynol sy'n tarfu ar ddioddefwyr ac yn gwneud iddynt fyw mewn ofn rhag trais a thrallod difrifol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, roedd dros 1.6 miliwn o ddioddefwyr stelcio yng Nghymru a Lloegr. Mae oddeutu 20.6 y cant o fenywod ac 8.7 y cant o ddynion 16 oed a hŷn wedi dioddef yn sgil y drosedd. Mae'n cael effaith ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol, ac mae llawer o ddioddefwyr yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt. Dywedodd Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh mai dim ond 6.6 y cant o adroddiadau o stelcio i'r heddlu yng Nghymru a Lloegr sy’n arwain at gyhuddiadau, a dim ond 1.4 y cant sy'n arwain at euogfarn, sy'n ffigur ofnadwy.
Gwraidd yr argyfwng yw diffyg dealltwriaeth yn ein llysoedd a’n swyddogion gorfodi’r gyfraith ynglŷn â stelcio. Mae arnom angen cydgysylltu amlasiantaethol effeithiol a buddsoddiad mewn hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer yr heddlu, erlynyddion a barnwyr. Thema Wythnos Ymwybyddiaeth Stelcio eleni yw 'Ymuno â'n gilydd yn erbyn stelcio'. Gadewch inni wrando ar yr alwad honno, a sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr o'r diwedd. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, bawb.
Eitem 6 yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil i wella diogeledd bwyd. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8504 Janet Finch-Saunders
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai’n gwneud darpariaethau ar gyfer targedau i atgyfnerthu diogeledd bwyd yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i bennu targedau i wella diogeledd bwyd yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Gadewch imi ddechrau drwy ddweud fy mod yn cydnabod pwysigrwydd y mater a godaf heddiw. Cymeradwyaf fy nghyd-Aelodau, yn enwedig Peter Fox, am waith ar y mater hwn dros y blynyddoedd, ac am gefnogi hyn nawr. Bydd llawer yn gwybod fy mod wedi codi yn y Senedd y ffaith bod y diweddar Brynle Williams yn arfer codi materion ynghylch diogeledd bwyd.
Rwy'n credu bod Cymru’n genedl falch a chanddi hanes cyfoethog o gynhyrchu cynnyrch ffres, iach sy’n cael ei allforio, ond sydd hefyd yn cael ei fwynhau yma. Gwn fod y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford AS, a minnau'n aml yn trafod ein cariad at dyfu bwyd, ein llysiau ein hunain ac ati. A gwn fod Lesley Griffiths, pan oedd yn gyfrifol am y portffolio blaenorol, wedi bod o ddifrif ynghylch materion bwyd a’r cynnyrch y gallwn ei weithgynhyrchu yng Nghymru. Felly, gwn fod cefnogaeth drawsbleidiol i hyn.
Nododd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Derek Walker, yr wythnos diwethaf fod angen i Gymru fod o ddifrif ynghylch diffyg diogeledd bwyd, a bod angen cynllun arnom ar gyfer bwydo’r boblogaeth yn y dyfodol. Felly, beth a olygwn wrth ddiogeledd bwyd? Yn ôl Uwchgynhadledd Bwyd y Byd 1996, mae diogeledd bwyd yn golygu bod gan bawb fynediad cyson at ddigon o fwyd diogel a maethlon sy'n bodloni eu gofynion deietegol a'u hoffterau ar gyfer bywyd iach ac egnïol. Gwyddom hefyd fod gennym rai o’r plant mwyaf gordew yng Nghymru. Felly, mae'n wirioneddol hanfodol ein bod yn gweithio tuag at fwy o gynhyrchiant bwyd, a bwyd gwell, mwy maethlon i'n plant.
Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi amlinellu pum thema diogeledd bwyd: argaeledd bwyd byd-eang, ffynonellau cyflenwi bwyd y DU, cadernid cadwyni cyflenwi, diogeledd bwyd ar lefel aelwydydd, diogeledd bwyd a hyder defnyddwyr. Fodd bynnag, credaf y gallwn feddwl amdano mewn dau gategori er mwyn canolbwyntio rhywfaint o ddeddfwriaeth ar hyn. Yn gyntaf, ceir diogeledd bwyd, sef y darlun macro-fwyd ledled Cymru, lle Cymru o fewn y system gyflenwi bwyd ryngwladol, ein cynhyrchiant bwyd cenedlaethol gan ein ffermwyr gwych, a chynhyrchwyr bwyd eraill, a'u priod gadwyni cyflenwi.
Yn ail, ceir diffyg diogeledd bwyd, sy'n ymwneud â phen micro'r raddfa, ac sy'n edrych ar yr unigolyn, eu mynediad at fwyd, tlodi bwyd, ac yn anffodus, eu dibyniaeth ar fanciau bwyd. Mae hon, yn fy marn i, yn ffordd ddefnyddiol inni fynd i’r afael â’r mater hynod bwysig hwn. Yn wir, canfu adroddiad diogeledd bwyd y DU 2021—yr adolygiad cynhwysfawr cyntaf o ddiogeledd bwyd y DU ers 2010—fod newidiadau sylweddol a dramatig wedi digwydd yn y degawd diwethaf. Mae effaith newid hinsawdd ar gyflenwad bwyd a ffermio wedi dwysáu'n sylweddol. Yr wythnos diwethaf, gofynnais gwestiwn am yr hyn roeddem yn ei wneud i gefnogi’r ffermwyr sydd wedi cael eu llesteirio gan bron i dri mis o law parhaus, lle nad ydynt yn gallu plannu eu cnydau fel arfer am fod y lefel trwythiad wedi bod yn rhy uchel. Mae WWF Cymru wedi amcangyfrif bod y newid mewn patrymau tywydd yn costio £175 miliwn y flwyddyn i ffermwyr Cymru. Rwyf eto i weld unrhyw beth o sylwedd gan Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi sicrwydd i lawer o ffermwyr y gwyddom eu bod, oherwydd y protestiadau, yn teimlo eu bod wedi cael eu trin yn wael yng Nghymru.
Oherwydd y tywydd gwlyb yn yr hydref, maent wedi gorfod parhau i fwydo silwair a dwysfwydydd, gan ychwanegu rhwng £15,000 a £20,000 at y bil porthiant ar gyfer fferm gyda, dyweder, 700 o wartheg. Gwyddom hefyd fod ffermwyr ŵyn wedi gorfod dod â nhw i mewn gyda’r nos yn fwy diweddar, ac mae hynny, unwaith eto, yn creu mwy o angen am fwyd iddynt. Ar hyn o bryd, mae ffermwr llysiau yn sir Benfro yn cael eu taro’n galed gan lawiad hirfaith. Mae tatws yn y ddaear a oedd i fod i gael eu cynaeafu fis Awst neu fis Medi diwethaf, ac nid ydynt wedi gallu gwneud hyn. Fel y dywedaf, ni allant fwrw ymlaen â'r gwaith o blannu’r cnwd nesaf—dim ond 20 erw yn y ddaear, lle dylai fod cannoedd o erwau erbyn hyn. Yr wythnos diwethaf, gwelsom effeithiau dinistriol glaw parhaus ar y tymor wyna yng ngogledd Cymru, gyda hectarau o dir pori o dan ddŵr. Nid yw'r tueddiadau hyn yn mynd i ddiflannu. Mewn gwirionedd, mae pob tystiolaeth i awgrymu y bydd hyn ond yn dod yn fwy anghyson a dramatig. Rydym wedi gweld tir, yn ystod misoedd yr haf, sydd wedi bod mor sych fel bod ffermwyr wedi gorfod bwydo porthiant ychwanegol.
Felly, mae pandemig COVID-19, y rhyfel yn Wcráin, ynghyd â newidiadau mewn masnach, ffermio a physgodfeydd wedi rhoi straen aruthrol ar ein cadwyn gyflenwi, ac mae hefyd wedi datgelu ei fregusrwydd. Tynnodd y pandemig sylw hefyd at raddfa a chwmpas diffyg diogeledd bwyd aelwydydd, lle, yng Nghymru, mae un o bob pump oedolyn wedi cael profiad o hyn yn y 12 mis diwethaf. Os bu angen galwad i weithredu erioed, nawr yw'r amser. Nid yw sefyllfa bresennol Cymru yn gynaliadwy. Rydym yn dibynnu'n ormodol ar fewnforio bwyd, gyda bron i hanner ein bwyd yn cael ei fewnforio. Er enghraifft, mae’r DU yn mewnforio dros 240,000 tunnell o gig eidion a mwy na 46,000 tunnell o gig dafad. Ac i unrhyw un, fel fi, sy’n mwynhau fy nghig eidion a fy nghig oen, nid oes cynnyrch gwell na chig oen Cymru, ac wrth gwrs, ein cig eidion, a’n porc a’n dofednod. Fodd bynnag, mae’r orddibyniaeth ar fewnforion yn golygu ein bod ni fel cenedl yn agored i ansefydlogrwydd byd-eang.
Roeddwn yn falch iawn o gefnogi—
Janet, dylwn roi gwybod i chi mai dim ond 30 eiliad y byddwch yn ei adael i chi'ch hun gloi ar hyn o bryd.
Na, mae hynny'n iawn. Iawn. Mae 12 o bolisïau a chyfreithiau gwahanol yn llywodraethu ein system fwyd, ond mae’n hen bryd dod â hyn o dan un ymbarél cydlynol a chynhwysfawr. Mae Senedd Cymru wedi'i gorymestyn. Ni allwn, ac ni ddylem, gadw'n dawel. Yr hyn rwy'n ei ofyn yw ichi adeiladu’r pyst gôl hyn drwy gytuno i greu dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i osod targedau i wella diogeledd bwyd yng Nghymru, gan gychwyn taith gyfreithiol a pholisi hynod bwysig ar fater sy’n effeithio ar bob unigolyn yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Mae’r Athro Tim Lang yn un o’r arbenigwyr mwyaf blaenllaw ar fwyd yn y wlad hon, a dyna pam ei fod wedi'i wahodd i baratoi adroddiad ar gyfer Comisiwn Parodrwydd Cenedlaethol y DU, ac mae’n galw arnom i baratoi ar gyfer y siociau bwyd anochel o ganlyniad i system fwyd fyd-eang sy'n ansefydlog. Ni allwn gymryd yn ganiataol mwyach y bydd gweddill y byd yn diwallu anghenion bwyd Cymru a’r DU. Mae hynny wedi hen fynd. Mae Llywodraeth y DU yn ein hatgoffa bod angen inni fod yn barod ar gyfer rhyfel nawr, a hoffwn ofyn iddynt ganolbwyntio mwy ar sut mae bwyd neu ddiffyg bwyd yn dod yn arf yn erbyn pobl Gaza gyda chanlyniadau echrydus, ac mae'r syniad na fyddai hyn yn digwydd yma, pe baem yn wynebu rhyfel arall, yn gwbl gyfeiliornus.
Mae Brexit wedi cynyddu’r risgiau’n aruthrol, gyda Llywodraeth y DU yn gohirio arolygu’r bwyd a fewnforiwn ymhellach oherwydd y siociau y byddai'n eu hachosi i’r system ddosbarthu mewn union bryd a weithredir gan ein harchfarchnadoedd, sy’n dominyddu ein rhwydweithiau bwyd. Mae’r rhan fwyaf o’r bwyd rydym yn ei fwyta yn cynnwys ychwanegion wedi’u prosesu’n helaeth, sy’n fethiant rheoleiddio, y byddai Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, yn ôl pob tebyg, yn ein hatal rhag deddfu yn ei gylch, hyd yn oed pe bai Cymru, fel Dafydd, yn meiddio herio Goliath y diwydiant bwyd mawr sy'n dominyddu'r system fwyd fyd-eang. Byddai’n braf meddwl y byddai hynny’n digwydd, ond mewn gwirionedd, nid yw hwn yn gynnig difrifol ar gyfer cynnig deddfwriaethol gan Aelod unigol. Mae'n amlwg fod yn rhaid inni roi sylw i'r mater hwn, yn anad dim am y bydd salwch sy'n gysylltiedig â deiet yn dinistrio'r GIG oni bai ein bod yn ailgyfeirio mwy o adnoddau i fynd i'r afael ag achosion hynny gyda gwasanaethau atal. Fel arall, bydd yn rhaid inni ddyblu'r adnoddau rydym yn eu pwmpio i mewn i'n gwasanaeth afiechyd. Rydym eisoes yn gwario 17 y cant o gyllideb y GIG ar ddiabetes yn unig.
Mae cinio ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yn bolisi i’w groesawu’n fawr. Nid yn unig ei fod yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwglyd yn yr ysgol, ond yn bennaf, mae’n ymyriad i ddechrau newid y diwylliant bwyd sy’n gyrru pobl i feddau cynnar, yn enwedig mewn cymunedau tlotach. Nid yw'r rhan fwyaf o gynhwysion y prydau ysgol hyn yn dod o Gymru, yn wahanol i’r hyn y mae Janet yn ei awgrymu. Mae’n rhaid i’r cynllun ffermio cynaliadwy fod yn allweddol i wella gwytnwch ein system fwyd. Nid yw 'mewn union bryd' yn addas i'r diben, ac mae angen i 'rhag ofn' fod yn arwyddair ymhlith y rhwymedigaethau y mae'n rhaid inni gadw atynt er mwyn osgoi argyfwng hinsawdd.
Gofynnodd Derek Walker ddau gwestiwn i bedwar aelod y panel, Cefin Campbell, Peter Fox, Jane Dodds a minnau: 'Sut mae Cymru'n ymbaratoi'n well i ymateb i heriau gwytnwch bwyd?' a 'Beth sydd angen digwydd yng Nghymru i fynd i'r afael â diogeledd a gwytnwch bwyd?' Ni awgrymodd yr un ohonom mai deddfwriaeth oedd yr ateb, er bod Peter Fox, rwy'n cyfaddef, yn dal i alaru am ei Fil bwyd.
Diolch, Jenny.
Rwy'n croesawu diddordeb Janet, ond mae arnaf ofn fy mod yn mynd i bleidleisio yn ei erbyn.
Does dim amheuaeth yn fy marn i fod awydd y cyhoedd yn gryf o safbwynt yr angen i weld a chryfhau diogelwch bwyd. Mae polau piniwn wedi dangos bod dwy ran o dair o'r cyhoedd yn awyddus i weld Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn y broses yma. Ond, wrth gwrs, mae'r realiti yn wahanol iawn. Mae ystadegau DEFRA o 2022 yn dangos bod y Deyrnas Unedig ddim ond yn 60 y cant hunangynhaliol o safbwynt bwyd. Felly, mae yn fregus, fel mae pethau'n sefyll.
Mae digwyddiadau domestig a rhyngwladol wedi amlygu bod rhaid inni beidio â chymryd unrhyw beth yn ganiataol. Rŷn ni wedi clywed cyfeiriad at Wcráin a'r rhyfel yn y fan yna a'r effaith mae hynna'n cael. Rŷn ni'n gwybod am ddigwyddiadau tywydd eithafol a sut mae hynny wedi achosi problemau. Mae chwyddiant bwyd, wrth gwrs, wedi bod dros 19 y cant yn 2023—bron i 20 y cant mewn chwyddiant bwyd y llynedd. Ar ben hynny, rŷn ni'n clywed am gostau cynhyrchu bwyd yn mynd i fyny 32 y cant rhwng 2019 a nawr. A phan rŷch chi'n ychwanegu yr argyfwng costau byw ehangach, prinder o ran gweithlu, fel y clywon ni, a hynny wedi gwaethygu yn sgil Brexit, yna pa syndod bod gyda ni fusnesau amaeth yn y Deyrnas Unedig sydd wedi gorfod lleihau eu cynhyrchiant bwyd, sydd yn cyfrannu at wneud y sefyllfa wael yn waeth? Rŷn ni'n gwybod bod gwerth £60 miliwn o fwyd wedi gorfod cael ei adael yn pydru mewn caeau yn 2022, sydd yn sen lwyr ar yr holl sefyllfa. Ac mae'r holl ffactorau hyn wedi arwain at ostyngiad o 7,000 yn nifer y busnesau amaethyddol yn y Deyrnas Unedig rhwng 2019 a 2022.
Felly, mae'n dangos bod angen cymryd golwg llawer mwy fforensig ar y sefyllfa yna o safbwynt y Llywodraeth, a gwneud llawer mwy i flaenoriaethu diogelwch bwyd. Nid dim ond oherwydd ei fod yn bwydo'r genedl, ond mae'n cynnal a chreu swyddi a gweithgarwch economaidd pan fyddech chi'n cynhyrchu bwyd lleol, a hynny'n enwedig mewn ardaloedd gwledig, sef yr ardaloedd mwyaf ymylol yn economaidd. Mae angen i hynny ddigwydd mewn ffordd gynaliadwy sy'n amgylcheddol a natur bositif, wrth gwrs. Ond mae hyn oll wedyn yn rhoi cynhaliaeth i'r sector amaeth, a'r sector amaeth wedyn yn rhoi cynhaliaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac ieithyddol i gymunedau ledled Cymru. Felly, mae'n gylch—. Virtuous circle, dwi'n trio dweud—dwi ddim yn siŵr beth yw hwnna'n Gymraeg, ond mae e'n gylch cadarnhaol yn fy marn i.
Mae bwyd, felly, yn holl gwmpasog ac mae'n bwysig ein bod ni yn ynysu ein hunain rhag y siociau bwyd yna rŷn ni wedi clywed amdanyn nhw, oherwydd mae oblygiadau siociau bwyd yn economaidd, yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol, a dyna ichi bedwar conglfaen Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Mae'r egwyddor o osod targedau wedi'i derbyn gan Lywodraeth Cymru mewn cyd-destunau eraill, pan fo'n dod i leihau carbon a phan fo'n dod i gryfhau bioamrywiaeth, fel rŷn ni'n disgwyl ei weld yn cael ei gyflwyno cyn bo hir. Felly, mae'n ffocysu ymdrechion, yn gyrru newid, a dylai targedau o ran diogelwch bwyd ddim fod dim gwahanol. Diolch.
A gaf i ddiolch i Janet Finch-Saunders am gyflwyno’r cynnig deddfwriaethol hwn, sydd unwaith eto, yn gywir ddigon, yn ceisio ymgorffori polisi bwyd mewn deddfwriaeth? Mae ffocws y cynnig hwn yn cyd-fynd ag elfen allweddol Bil bwyd (Cymru), a drafodwyd gennym y llynedd, ac y credaf fod ei angen yn ddybryd o hyd, yn enwedig ar ôl gwrando ar y newyddion heddiw fod 34 y cant o oedolion yn cael eu hystyried yn ordew—y lefelau gwaethaf yn y DU. Mae'n bwysig fod ein diogeledd bwyd yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel ar agenda Llywodraeth Cymru, ac rwy'n falch o fod wedi ymuno â'r digwyddiad yr wythnos diwethaf y clywsom amdano, a gynhaliwyd gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn y Pierhead. Ein siaradwr gwadd, fel y soniodd Jenny, oedd yr Athro Tim Lang, a soniodd am bwysigrwydd diogeledd bwyd a gwytnwch bwyd, a’r dull amlweddog sydd ei angen i gyflawni'r agenda bwysig hon. Er fy mod yn hynod siomedig, fel cymaint o bobl a sefydliadau ledled Cymru, fod fy Mil bwyd wedi methu, rwy'n ddiolchgar fod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â mater pwysig diogeledd bwyd.
Diben y Bil arfaethedig heddiw yw creu dyletswydd ar y Llywodraeth i lunio targedau i wella diogeledd bwyd yng Nghymru. Nawr, yn amlwg, mae targedau'n hollbwysig er mwyn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir, ac mae hyn yn sicr yn wir mewn perthynas â darparu system fwyd fwy diogel, ond mae angen i dargedau gael eu seilio ar ddata da, a thrwy ein gwaith ar ddatblygu Bil bwyd (Cymru), daeth yn amlwg yn fuan iawn mai prin yw'r data hygyrch sydd ar gael i lywio'r ddadl gyfan ynghylch pa fwyd sydd ei angen arnom, beth rydym yn ei dyfu a ble caiff ei dyfu. Felly, mae Biliau fel un Janet heddiw—mae'r cynnig hwnnw'n creu cyfle pellach inni drafod y pwnc pwysig hwn ac i annog dull mwy cydgysylltiedig o ymdrin â pholisi bwyd yng Nghymru, gan nad yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Mae’n amlwg mai ychydig o gynnydd a wnaed ar greu system fwyd sydd â bwyd lleol cynaliadwy yn greiddiol iddi, ac sydd wedyn yn cyfrannu at ddull cyfannol o ddefnyddio bwyd wrth fynd i’r afael â materion iechyd a chymdeithasol sy’n niweidio cyfleoedd bywyd cenedlaethau’r dyfodol, fel sy’n amlwg yn y newyddion heddiw y soniais amdano’n gynharach.
Ddirprwy Lywydd, byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn, gan ei fod yn rhoi cyfle i'r Senedd hon gymryd camau pellach i gyflawni'r angen hollbwysig i gryfhau ein diogeledd bwyd. Diolch.
Mae ymchwilwyr yn Ysgol Economeg Llundain wedi cyfrifo bod traed moch Brexit wedi costio swm enfawr o £7 biliwn i aelwydydd y wlad, wrth inni frwydro yn erbyn y gyfradd chwyddiant bwyd uchaf yn y byd diwydiannol, diolch i rwystrau masnach ychwanegol diangen. Nid yw cytundebau masnach a wnaed gyda Seland Newydd ac Awstralia o unrhyw fudd i ffermwyr Cymru, gan adael ffermydd bach yn methu cystadlu â chig oen am bris gostyngol o gorfforaethau tramor mawr. Nid yw'r cytundebau hyn yn dod yn agos at fynd i'r afael â'r fasnach a gollwyd gyda gwledydd Ewropeaidd o ganlyniad i Brexit. Nid yw bwyd wedi'i brosesu sy'n llawn siwgr, olew a halen yn dda i bobl. Mae angen inni ddechrau coginio gyda bwyd ffres—bwyd tymhorol a gyrchir yn lleol ac o ffynonellau lleol.
Gwn fod rhai ffermwyr wedi penderfynu arallgyfeirio er mwyn ymdopi â’r pwysau sydd arnynt, a siaradais yn ddiweddar ag Abi Reader o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, ffermwr godro sydd wedi arallgyfeirio drwy dyfu salad mewn twnelau polythen, ac mae gan Swans Farm Shop siop fferm erbyn hyn, ac maent yn gwerthu cynnyrch lleol a chynnyrch a dyfir ar y fferm, ac maent wedi ennill gwobrau Farm to Fork.
Mae cynhyrchu bwyd yn hanfodol, ond yr argyfwng hinsawdd yw’r prif risg i gynhyrchu bwyd yn y tymor hir, a’n hecosystemau naturiol yw’r amddiffyniad gorau sydd gennym wrth addasu a lliniaru'r newid yn yr hinsawdd, ac mae buddsoddi yn ein hecosystemau naturiol yn fuddsoddiad mewn diogeledd bwyd yn y dyfodol. Ond unwaith eto, mae Brexit ac ymwahanu oddi wrth ddeddfwriaeth Ewropeaidd yn golygu bod yr amddiffyniadau amgylcheddol Ewropeaidd yn diflannu. Mae 85 y cant o gnydau’n cael eu peillio gan wenyn, ac eto mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi torri ei gair ac wedi caniatáu'r defnydd o blaladdwyr sy’n lladd gwenyn, sydd wedi'u gwahardd yn yr UE. Mae’r rhain yn gemegau hynod beryglus, gyda llond llwy de yn ddigon i ladd 1.25 biliwn o wenyn mêl, ond eto, rydym yn caniatáu iddynt gael eu chwistrellu ar gnydau. Mae’n rhyddhad gwybod y bydd Llywodraeth Lafur y DU yn gwahardd cemegau o’r fath. Dim peillwyr: dim bwyd. Mae mor syml â hynny. Mae angen mesurau ar waith i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol, ac rwy'n gobeithio y bydd cynllun ffermio cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn mynd rywfaint o’r ffordd tuag at fynd i’r afael â hyn.
Rydym wedi colli 95 y cant o’n gweirgloddiau blodeuog wrth i gartrefi ar gyfer byd natur gael eu dinistrio, ac rwyf wedi bod yn falch o weithio ar ymgyrch 'Iddyn Nhw' Llywodraeth Cymru, i droi mannau gwyrdd yn gynefinoedd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt. Bydd angen llawer mwy o waith fel hyn os ydym am fynd i'r afael â'r argyfwng natur. Fel y dywedais yn gynharach yn y datganiad 90 eiliad ar Ddiwrnod y Ddaear, ein bioamrywiaeth yw ein system cynnal bywyd. Mae'n rhaid inni ei gwarchod, ei chadw a'i meithrin yn gyfnewid am hynny. Gwae inni ei diystyru neu ei chymryd yn ganiataol. Diolch.
Mae'n bleser trafod y cynnig deddfwriaethol pwysig hwn heddiw, oherwydd credaf yn gryf fod angen fframwaith cyfreithiol ledled y DU sy'n blaenoriaethu diogeledd bwyd ac yn sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at fwyd diogel o ansawdd uchel. Nod y cynnig hwn yw cryfhau ein diogeledd bwyd, ac fel llefarydd newydd y Ceidwadwyr ar faterion gwledig, rwy'n cefnogi ei amcanion yn gryf, fel y gwneuthum pan gyflwynodd Peter Fox ei Fil bwyd i'r Senedd hon.
Mae gan Gymru draddodiad balch o gefnogi'r sector amaethyddol. Mae'n cyfrannu'n sylweddol at ein cadwyni cyflenwi bwyd cenedlaethol; mae'n cyfrannu £8.21 biliwn i'r sector bwyd a diod yma yng Nghymru. Fodd bynnag, mae globaleiddio a newid arferion defnyddwyr wedi ein gwneud yn fwyfwy dibynnol ar fewnforion, gan ein gwneud yn agored i ffactorau allanol na ellir eu rhagweld. Drwy leihau ein dibyniaeth ar fewnforion, gall Cymru wella'i gallu i wrthsefyll aflonyddwch yn y cadwyni cyflenwi bwyd byd-eang a achosir gan wrthdaro, newid hinsawdd ac ansefydlogrwydd economaidd. Byddai'r cynnydd hwn mewn hunangynhaliaeth yn gweithredu fel rhwyd ddiogelwch, gan sicrhau cadwyn gyflenwi bwyd sefydlog, hyd yn oed yn ystod heriau annisgwyl, fel y tywydd eithafol y bu'n rhaid i'n ffermwyr ledled Cymru ei wynebu eleni.
Os na wnawn unrhyw beth i gefnogi ein ffermwyr a'n busnesau gwledig a'n cefn gwlad, byddwn i gyd yn dioddef, a bydd ein diogeledd bwyd mewn perygl. Ni allwn fforddio dod yn genedl sy'n dibynnu ar fwyd wedi'i fewnforio a gynhyrchir gan ddefnyddio arferion anghynaliadwy a safonau amgylcheddol a lles is o bosibl. Gall cefnogi cynhyrchiant bwyd lleol roi hwb i economi Cymru. Mae'n creu swyddi mewn amaethyddiaeth, prosesu a dosbarthu. Mae buddsoddi mewn cynhyrchiant bwyd domestig yn cryfhau busnesau a chymunedau lleol, ac mae'n meithrin economi fwy gwydn. Mae hefyd yn helpu i greu'r system fwyd lawer gwell y mae pawb ohonom eisiau ei gweld yma ledled Cymru.
Ond mae cydbwysedd bregus rhwng diogeledd bwyd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Fodd bynnag, rwy'n credu bod angen deddfwriaeth sy'n gosod targedau bwyd clir a mesuradwy, a chredaf na ellir gwneud hynny yma yng Nghymru'n unig—mae angen ei wneud ar sail y DU gyfan. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ymwneud â mwy na rhoi bwyd ar ein byrddau; mae'n ymwneud â mapio llwybr i ddyfodol llawer mwy cynaliadwy i Gymru. Mae'n ymwneud â sicrhau cydbwysedd rhwng hunangynhaliaeth a chyfrifoldeb amgylcheddol. Drwy flaenoriaethu cynhyrchiant domestig ochr yn ochr ag arferion cynaliadwy, gallwn greu system fwyd wydn a all wrthsefyll siociau byd-eang, gan warchod ein hamgylchedd ar yr un pryd. Nid wyf yn credu y dylem aros i argyfwng ddigwydd cyn gweithredu, felly gadewch inni groesawu'r cyfle i fuddsoddi yn ein dyfodol, dyfodol ein cymunedau gwledig, a'r dyfodol i'n busnesau gwledig ledled Cymru. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, a diolch i'r Aelodau hefyd.
Mae'n bleser dilyn cyfraniadau mor dda yma, cyfraniadau amrywiol iawn.
Rwy'n falch o'r cyfle hwn i drafod pwysigrwydd diogelwch bwyd heddiw. Mae fy mhortffolio newydd yn eang, ond mae bwyd yn llinell euraidd drwyddo, ac yn rhywbeth sy’n cysylltu newid hinsawdd â materion gwledig, felly hoffwn ddiolch i Janet am ddod â’r ddadl hon ar ddiogelwch bwyd. Rwy'n croesawu hynny. Rwy’n awyddus i weithio gyda hi a'r holl Aelodau ar y ffordd orau o sicrhau diogelwch bwyd fel rhan o'r diddordeb cyffredin mewn materion bwyd, sy'n cynnwys llesiant, sicrhau bod bwyd yn fforddiadwy, cynaliadwyedd, ansawdd, tegwch, cydweithredu a thwf.
Rydym i gyd yn cytuno yma yn y ddadl hon heddiw fod diogeledd bwyd yn hanfodol, ond y cwestiwn a ofynnir heddiw yw ai deddfwriaeth a thargedau yw'r ffordd o fynd i'r afael â'r mater. Nid ydym yn credu mai dyma'r bwled hud, ond credwn fod teilyngdod yn yr hyn y mae llawer o bobl wedi'i ddweud a'i gyfrannu. Mae gennym ffyrdd gwell a ffyrdd mwy uniongyrchol o ddylanwadu ar hyn nawr. Mae gwella diogeledd bwyd yn ymwneud â chamau gweithredu, sicrhau cydlyniad. Yn wir, Peter, yn y ddadl ynghylch eich Bil, buom yn siarad am hynny, natur gydgysylltiedig rhai o'r mesurau sydd gennym ar waith eisoes, a sicrhau cydlyniad mewn polisi bwyd, miniogi'r ffocws, miniogi'r cydweithio ymhlith y rhanddeiliaid niferus a all gryfhau gwytnwch ein system fwyd. Mae'n ymwneud â deall y darlun mawr, yr ystod o arfau sydd gennym eisoes ar gael, ac yna eu defnyddio'n dda ac yn ddoeth, ac mae cyd-Aelodau eisoes wedi myfyrio ar rai o'r ffyrdd y gallwn wneud hynny. Nid un bwled hud, ond sut rydym yn gyrru popeth at ei gilydd o gynhyrchwyr bwyd sylfaenol, a rhoi gwytnwch a sefydlogrwydd iddynt hwy, i dyfwyr cymunedol, i ehangu garddwriaethol, a chymaint mwy hefyd. Ac un peth yr hoffwn ei ddweud yn glir iawn yw nad oes cyfaddawd rhwng diogeledd bwyd a chynhyrchiant bwyd o'r math da a wnawn yng Nghymru, a chynhyrchu bwyd da, fforddiadwy, a'r pethau sy'n rhaid wrthynt yng nghyd-destun yr amgylchedd a newid hinsawdd. Down â nhw at ei gilydd. Rydym yn eu gwneud mewn ffordd gyflenwol.
Nawr, bydd yr Aelod sydd wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw yn ymwybodol na ellir mynd i'r afael â diogeledd bwyd yng Nghymru ar ei phen ei hun. Nid oes modd ei wneud. Mae cadwyni cyflenwi bwyd wedi'u hintegreiddio'n llawn bellach, ledled y DU yn wir, ond ymhellach i ffwrdd hefyd. Ni all Cymru gael diogeledd bwyd 100 y cant ar ei phen ei hun, a chyda llaw, rwy'n tynnu sylw hefyd at y ffaith bod gennym farchnad allforio wych gyda ffermwyr. Nid ydym am ddweud wrthynt hwy, 'Mae'n rhaid i chi gynhyrchu popeth—popeth—i fynd ar y byrddau yma,' pan fo awydd ac archwaeth mewn mannau eraill yn golygu eu bod yn cael prisiau premiwm yn cael eu talu am allforio eu cynnyrch.
Ond yr hyn y gallwn ei wneud yw gweithredu lle gallwn wneud gwahaniaeth go iawn, gan ddefnyddio'r arfau sydd gennym eisoes i gynllunio a gweithredu ar gyfer y tymor hir, i adeiladu o gymunedau i fyny, i ddefnyddio ein rhaglenni cymorth busnes bwyd sydd ar waith ar hyn o bryd, i hyrwyddo ein polisïau iechyd y cyhoedd—mae hynny wedi cael ei grybwyll heddiw yn y ddadl—ac addysg, ar gyfer cynaliadwyedd, ar gyfer diwygiadau amaethyddol, hyrwyddo garddwriaeth a chymaint mwy. Fel fi, mynychodd llawer o'r Aelodau yma ddigwyddiad siociau bwyd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ddydd Mawrth diwethaf yn y Pierhead. Roedd yn ddigwyddiad gwych. Roeddwn i'n falch o ddweud ambell air ar y dechrau, a'r Athro Tim Lang, arbenigwr byd-eang arloesol ar bolisi bwyd—rhaid ei fod yn teimlo embaras gan ba mor aml mae pobl yn dweud hynny amdano, ond mae'n wir, a ddau ddegawd yn ôl, mae'n debyg, y dechreuodd fy sgwrs gyda Tim Lang—soniodd am siociau bwyd a'r ffaith bod yn rhaid inni wneud yn well a siarad am wytnwch. Ond soniodd am yr ystod eang o ffyrdd y mae'n rhaid inni wneud hyn, a dwyn ynghyd y cydlyniad hwnnw ar draws polisi bwyd yng Nghymru ond ledled y DU. Cefais fy nharo gan y thema a ddaeth allan ynglŷn â'r ffordd y mae angen ffocws a gweithredu ar y cyd ar atebion. Mae angen mwy o gydweithrediad amrywiol a phwrpasol arnom i wneud y camau breision ymlaen sydd eu hangen. A siaradodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, yn y digwyddiad hwnnw, am ei strategaeth saith mlynedd, 'Cymru Can', lle mae wedi rhoi pwyslais cryf iawn ar berthnasedd bwyd i nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n herio cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael iddynt ar gyfer newid.
A gadewch imi gyffwrdd â diogeledd bwyd yn y ddadl dda hon eisoes. Mae'n rhaid mai'r allwedd i bolisi llwyddiannus ar ddiogeledd bwyd yw canolbwyntio ar yr hyn sy'n bosibl yma nawr, a'r tymor hir hefyd, a'r hyn sy'n gynaliadwy, o fewn realiti'r system fwyd amrywiol hon sydd gennym. Felly, y prif bethau y gallem ganolbwyntio arnynt yw adeiladu seilwaith sefydliadol a chymdeithasol ar gyfer cydgysylltu llawer cryfach ar lawr gwlad; arweinyddiaeth ar fentrau o bob math sy'n gysylltiedig â bwyd; annog cyrff cyhoeddus i ystyried bwyd o ddifrif ym mhob ffordd wrth gynllunio llesiant a darparu gwasanaethau; cyfuno cynlluniau ar lawr gwlad a chynlluniau cyrff cyhoeddus; symud cydbwysedd cyflenwad mewn caffael cyhoeddus; defnyddio dyfodol ffermio cynaliadwy yng Nghymru ar y cyd, ond hefyd yr haenau cydweithredol a dewisol yr oedd Llyr a minnau, yn rhyfedd ddigon, pan oedd ef a minnau ar y pwyllgor newid hinsawdd gyda'n gilydd, yn siarad amdanynt yn ddiweddar iawn, felly i annog cadwyni cyflenwi lleol a gweithgareddau newydd; defnyddio rhaglenni cymorth busnes sy'n bodoli eisoes i helpu busnesau Cymru i werthu i siopau a gwasanaethau mawr; ac fel y nododd Peter yn gywir, gall archwilio mesurau data am y system fwyd ein harwain ar y cyd ar y daith hon. A Janet, rwy'n falch o ddweud eich bod wedi cydnabod bod y ddadl heddiw yn rhan o'r daith honno, oherwydd mae'n dda ein bod yn cael y ddadl hon yma. Mae angen system fwyd a all ein harwain ni i gyd gyda'r data hwnnw, gan gefnogi cynhyrchiant ar raddfa fach, a thyfu garddwriaeth hefyd.
Nawr, deall y cyd-destun yma, gosod y cyfeiriad polisi, ysgogi gweithredu ymysg rhanddeiliaid, a'r alwad i'r gad, fel y dywedodd rhywun—gall y rhain i gyd elwa o ymdeimlad clir o bwrpas, a dyna pam rwy'n croesawu'r ddadl heddiw. Nid wyf yn argyhoeddedig, Janet, mai targedau deddfwriaethol yw'r arf cywir neu'r bwled hud ar gyfer hyn, oherwydd rydym i gyd yn ymwybodol o sut y gallant hefyd lesteirio'r bwriadau gorau'n anfwriadol weithiau. Ond fel y soniais, mae cwestiwn dilys iawn i'w ystyried: a oes gan Gymru set gynhwysfawr, gydlynol a phriodol o fesurau data sy'n gysylltiedig â bwyd, a all arwain ein meddwl a'n gweithredu ar y cyd. Eisoes, mae gennym—[Torri ar draws.]
O, mae'n ddrwg gen i.
Fe ddof i ben—mae'n ddrwg gennyf. Yr hyn roeddwn am ei ddweud oedd: mae gennym eisoes rywfaint o'r data hwn yno, ond byddwn yn barod iawn i ystyried, Ddirprwy Lywydd, ar y cyd â phartneriaid, gyda syniadau gan Aelodau, y pethau y gallem eu monitro a chytuno pa ffynonellau y dylem eu defnyddio ar y cyd i'n harwain. Felly, Ddirprwy Lywydd, mae fy amser wedi dod i ben. Rydym i gyd yn cytuno bod polisi bwyd yn gyffredinol a diogeledd bwyd yn benodol yn bwysig, ond mae angen gweithredu cydgysylltiedig, cydlynol arnom mewn llawer o feysydd. Mae hefyd yn dibynnu ar ein gallu i fod yn bragmatig ynghylch cyd-destun diogeledd bwyd. Bydd llwyddiant i'w gael o sicrhau partneriaeth gryfach ledled y system, gwell cydgysylltiad, ffocws cryfach, a bydd hynny'n ein rhoi ar lwybr tuag at ddiogeledd bwyd a dyfodol cynaliadwy i Gymru. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf yn awr ar Janet i ymateb i'r ddadl. Ond Janet, ni allech weld yr amser yma yn y Siambr; fe aethoch chi dros eich dyraniad amser ar gyfer agor a chau wrth agor, felly, dim ond munud sydd ar ôl gennych i gau, o'r gorau.
O'r gorau. Wel, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at hyn—nid oedd yr un ohonynt yn anghytuno ein bod mewn sefyllfa anodd iawn o ran prinder bwyd. Rwy'n croesawu geiriau o anogaeth y Gweinidog, ond rwy'n anghytuno â chi ynglŷn â'r angen am ddeddfwriaeth. Cyflwynodd Peter Fox Fil da. Os na wnawn ni ddim byd, rydym yn caniatáu i Nero chwarae ei ffidil wrth i Rufain losgi. Diolch yn fawr.
Diolch, Janet. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adroddiad ar berfformiad Dŵr Cymru'. A galwaf ar y Cadeirydd, Llyr Gruffydd.
Cynnig NDM8544 Llyr Gruffydd
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adroddiad ar berfformiad Dŵr Cymru', a osodwyd ar 8 Chwefror 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ar ôl inni glywed am ddirywiad ym mherfformiad Dŵr Cymru, gyda'r cyfryngau yn tynnu sylw at ollyngiadau anghyfreithlon o garthion o nifer o weithfeydd trin dŵr gwastraff y cwmni, fe gytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i drafod y materion yma.
Nawr, mae ein hadroddiad ni'n cynnwys 12 o argymhellion: pedwar i Lywodraeth Cymru, chwech i Dŵr Cymru, un i Ofwat ac un arall i Cyfoeth Naturiol Cymru. A dwi'n falch o ddweud bod yr ymatebion sydd wedi dod i law, ar y cyfan, beth bynnag, wedi bod yn reit gadarnhaol. Mae'n werth nodi, er tegwch, mi oedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn aelod o'r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad, ac, o ystyried y sefyllfa anarferol y mae yn ei ffeindio'i hun ynddi heddiw, mi fyddai o ddiddordeb i ni i gyd, dwi'n siwr, glywed os yw e am ychwanegu unrhyw beth at yr ymateb a gawson ni gan ei ragflaenydd i'r adroddiad. Felly, edrychwn ni ymlaen at hynny.
Ond mae'r pwysau, wrth gwrs, sy'n wynebu cwmnïau dŵr yng Nghymru, ac, yn wir, gweddill y Deyrnas Unedig, yn hysbys i bawb: seilwaith hynafol, twf poblogaeth, effeithiau newid hinsawdd ac yn y blaen. Ond, wrth gwrs, mae'n dal i fod gan gwmnïau dŵr ddyletswyddau statudol i'w cyflawni, yn ogystal â gofynion rheoliadol i gadw atyn nhw ac ymrwymiadau gwasanaeth i'w bodloni hefyd.
Ac er bod statws nid-er-elw Dŵr Cymru yn golygu ei fod e efallai wedi osgoi peth o'r feirniadaeth lem sydd wedi'i hanelu at gwmnïau dŵr dan berchnogaeth breifat—ac rheini, nifer ohonyn nhw, â dyledion mawr—mae eu hadroddiadau perfformiad diweddar nhw yn dangos bod angen i Dŵr Cymru hefyd godi ei gêm i gyflawni ar gyfer ei gwsmeriaid a'r amgylchedd.
Ar berfformiad amgylcheddol, mae Dŵr Cymru bellach wedi disgyn o sgôr o 4*, sef ei fod yn arwain y diwydiant, i sgôr o 2* yn unig, ac mae ei berfformiad cyffredinol wedi'i gategoreiddio fel 'ar ei hôl hi' os mai dyna yw'r cyfieithiad o 'lagging' yn Saesneg, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol. Llygredd, gollyngiadau, ansawdd a thoriadau cyflenwad yw dim ond rhai o'r problemau y mae Dŵr Cymru yn ei chael hi'n anodd ymdopi â nhw. Ar ben hyn, mae dicter y cyhoedd, wrth gwrs, yn dilyn gollyngiadau carthion hefyd yn cynyddu. Yn gryno, felly, o ran llygredd, rŷn ni wedi pwysleisio i Dŵr Cymru mai'r unig lefel dderbyniol o ddigwyddiadau llygredd yw sero. Rŷn ni'n disgwyl i'r cwmni ddangos ei fod yn cynllunio i ymdrin â phwysau newid hinsawdd yn y dyfodol i liniaru'r risg o ddigwyddiadau llygredd difrifol. Hefyd, rŷn ni'n disgwyl i'r cwmni fod yn fwy uchelgeisiol o ran targedau lleihau llygredd yn y dyfodol.
Rhwystrau mewn pibau, neu blockages yn Saesneg, yw prif achosion y digwyddiadau llygredd, a hynny'n costio £7 miliwn y flwyddyn i Dŵr Cymru. Arian fel arall, wrth gwrs, y gellid ei wario'n well ar faterion eraill. Mae bron i chwarter y rhwystrau yn cael eu hachosi gan weips gwlyb, neu wet wipes. Ac rŷn ni'n falch iawn, wrth gwrs, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau yn gynharach yr wythnos hon ei bod yn bwriadu rhoi gwaharddiad ar gyflenwi a gwerthu wet wipes sy'n gynnwys plastig. Rŷn ni'n disgwyl gweld, yn sgil hynny, gostyngiad mawr mewn llygredd o'r fath pan ddaw'r gwaharddiad hwnnw i rym.
Gan symud ymlaen at ollyngiadau carthion, fe ddaeth y mater hwn yn ôl o dan y chwyddwydr yn ddiweddar, wrth gwrs—llynedd, dwi'n meddwl, roedd hi, ontefe—yn dilyn sylw yn y cyfryngau i ganfyddiadau'r Athro Peter Hammond mewn perthynas â gollyngiadau o nifer o weithfeydd Dŵr Cymru. Nawr, ar y pryd, fe gyfeiriodd yr Athro Hammond, sydd wedi dadansoddi data ar gyfer gweithfeydd yng Nghymru a Lloegr, at Aberteifi fel y safle gwaethaf iddo fe ddod ar ei draws yn y cyd-destun yma. Yr hyn sy'n amlwg o'r stŵr a ddilynodd yw bod canfyddiad yn parhau ymhlith y cyhoedd fod Dŵr Cymru yn gallu gollwng carthffosiaeth yn anghyfreithlon a hynny heb gosb.
Nawr, roedd achos Aberteifi, wrth gwrs, yn gymhleth, a does gen i ddim amser i drafod y manylion yn llawn heddiw, heblaw i ddweud iddi gymryd llawer gormod o amser i ddod o hyd i ddatrysiad boddhaol yn fanna. Mae'r pwyllgor wedi ei gwneud yn glir nad ydyn ni'n disgwyl i'r profiad hwn gael ei ailadrodd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad iddo adolygu ei ymateb i’r achos o safbwynt rheoleiddio a gorfodi, i nodi pwyntiau dysgu a gwelliannau i brosesau sy’n bosib eu gwneud. Ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gael adroddiad ar eu canfyddiadau nhw.
Yn fwy cyffredinol o ran gollyngiadau carthion, mae’r dull presennol o ymdrin â gollyngiadau, wrth gwrs, yn rhoi blaenoriaeth i ddileu niwed amgylcheddol yn hytrach efallai na lleihau pa mor aml y mae gollyngiadau’n digwydd yn y lle cyntaf. Nawr, mi fydd hi'n cymryd amser i’r dull hwn gael effaith, ac mi fydd angen buddsoddiad hirdymor sylweddol er mwyn sicrhau llwyddiant. A beth mae hynny'n ei olygu, wrth gwrs, yw cynnydd mewn biliau i gwsmeriaid, sy'n golygu bod cefnogaeth y cyhoedd yn hanfodol i hyn. Ac fel cam cyntaf, mae'n rhaid i'r cyhoedd ddeall y dull sy’n cael ei ddilyn. A nod argymhelliad 8 yn ein hadroddiad ni yw i geisio hwyluso hynny.
Nawr, ar hyn o bryd, mae Dŵr Cymru yn gweithio tuag at ddileu niwed amgylcheddol o orlifoedd storm erbyn 2040. Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn gallu gweld cynnydd, felly, o flwyddyn i flwyddyn. Ac rydyn ni wedi argymell bod Dŵr Cymru yn cyhoeddi manylion ei raglen waith i ymdrin â gollyngiadau, a bod hynny'n cynnwys targedau, a hefyd eu bod nhw'n ymrwymo i gyhoeddi adroddiadau cynnydd rheolaidd. A dwi yn falch o ddweud bod y cwmni wedi ymateb yn gadarnhaol i'r argymhellion hyn.
Mae Dŵr Cymru yn awyddus, wrth gwrs, i fwrw ymlaen â datrysiadau mwy arloesol, er enghraifft rhai sy'n seiliedig ar natur, rhai sy'n creu gwlypdiroedd ar y cyd, efallai, â’r sector amaethyddiaeth neu amgylcheddol er mwyn ymdrin â’r llygredd sy’n llifo i mewn i’n hafonydd. Ond mae hynny, wrth gwrs, yn dod â manteision lluosog eraill hefyd, yn cynnwys rheoli llifogydd a dal a storio carbon. Felly, mae angen i’r camau hyn gael eu cefnogi gan brosesau rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n eu cydnabod fel y dewis gorau o ran gweithredu. Ond dwi yn rhannu ychydig o rwystredigaeth ynglŷn ag arafwch y broses honno er mwyn i'r datrysiadau yn seiliedig ar natur yma gael eu caniatáu a'u gweithredu ar fyrder.
Cyn cloi, mi fyddai'n esgeulus i mi beidio â sôn am gynllun buddsoddi Dŵr Cymru yn y dyfodol. Os bydd y cynllun yma yn cael ei gymeradwyo gan Ofwat, mi fyddwn ni'n gweld buddsoddiad o £3.5 biliwn rhwng 2025 a 2030. Ac mae hyn yn cynnwys buddsoddiad i leihau'r niwed amgylcheddol sy’n deillio o ollyngiadau. Ac rydyn ni yn disgwyl i Ofwat ystyried y dull y mae Cymru yn ei ddefnyddio i ymdrin â gollyngiadau wrth benderfynu a ddylid cymeradwyo'r cynllun.
Nawr, mae gan y cynllun y potensial i gyflawni gwelliannau mawr eu hangen mewn seilwaith, gan ganiatáu i'r cwmni ymdrin â rhai o'r heriau parhaus sy'n effeithio ar ei berfformiad presennol. Ond mi fydd hynny, wrth gwrs, fel roeddwn i'n dweud gynnau, yn arwain at gynnydd mewn biliau cwsmeriaid, a dyw biliau uwch i gwsmeriaid byth yn rhywbeth i’w croesawu, ond mae angen dirfawr am y buddsoddiad yma, ac felly yn anffodus rŷn ni'n teimlo bod dim dianc rhag biliau uwch. Ond mae Dŵr Cymru wedi dweud y byddan nhw'n cynyddu capasiti eu cynlluniau tariff cymdeithasol i helpu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd i fforddio talu, ac mae hynny i'w ganmol.
Felly, mae yna lawer iawn o faterion wedi cael sylw yn yr adroddiad. Mi fyddwn ni'n parhau i graffu ar Dŵr Cymru, wrth gwrs, wrth inni fynd yn ein blaenau, ond yn ei hanfod, rŷn ni eisiau gweld y label yma o gwmni sydd ar ei hôl hi, neu yn lagging, yn cael ei ddileu, a gorau po gynted y mae’n hynny'n digwydd.
Mae hwn yn amlwg yn fater pwysig iawn ac rwy'n siŵr fod ein holl etholwyr yn bryderus iawn yn ei gylch. Mae gennym system ddraenio Fictoraidd nad yw'n addas i'r diben o gwbl, nid yn unig oherwydd y cynnydd yn ein poblogaeth, ond oherwydd y newidiadau yn ein hinsawdd a'r tywydd eithafol sy'n gallu taro ar unrhyw ddiwrnod ac yn cyfateb i lawiad mis mewn amgylchiadau blaenorol. Felly, ni ddylai neb ddadlau bod heriau difrifol yn wynebu Dŵr Cymru, ond mae'n rhaid iddo wneud yn well.
Un peth cadarnhaol i Dŵr Cymru yw nad Thames Water mohono. Mae ganddo sgôr risg buddsoddiad sy'n ei gwneud yn gwbl bosibl i Ofwat ystyried ei gynllun busnes a'i gael yn fforddiadwy gobeithio. Ond yn amlwg, mae hynny'n dechrau o sylfaen isel iawn. Mae'r biliynau o bunnoedd a gafodd eu dwyn o asedau Thames Water wedi hen ddiflannu, byth i'w hadfer, ac erbyn hyn mae pobl sy'n byw yn ardal Llundain yn wynebu cynnydd o 40 y cant yn eu biliau. Mae'n gwbl anghynaliadwy, ac ni fydd hyd yn oed hynny'n datrys unrhyw un o'r problemau sy'n dal i fodoli gyda llygru'r afonydd a'r môr o amgylch afon Tafwys.
Felly, Dŵr Cymru, cawsom sesiwn drylwyr iawn gyda nhw am yr achosion difrifol o lygredd sydd wedi digwydd, ac mae'n dda darllen yn eu hymateb i'n hadroddiad eu bod bellach yn anelu at ddim achosion o lygredd difrifol. Mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond mae llawer iawn o waith i'w wneud i adfer hyder y cyhoedd yng Nghymru, y gallant ganiatáu i'w plant nofio yn ein hafonydd a'n moroedd yn ddiogel heb iddynt fynd yn ddifrifol wael. A dyna lle rydym arni, ac mae'n sefyllfa ddifrifol iawn. Felly, mae'n rhaid inni obeithio y byddant yn llwyddo i ddefnyddio eu cyfleusterau trin carthion mewn ffordd na fydd yn arwain at sefyllfa mor ddifrifol â'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol.
Fel y dywedais, mae'n rhaid inni ailfeddwl yn llwyr y ffordd y rheolwn ein dŵr, oherwydd ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o'r dŵr llwyd sy'n disgyn o'r awyr yn mynd i mewn i'r system garthffosiaeth, felly mae'n cael ei drin fel pe bai'n garthion, ac mae hynny'n gwbl anghynaliadwy. Fe ellid ac fe ddylid defnyddio'r rhan fwyaf o'r dŵr llwyd i ddyfrio'r ardd, i lanhau'r strydoedd, i fflysio ein toiledau, pethau nad oes angen dŵr yfed arnynt mewn gwirionedd, ac rydym filiynau o filltiroedd o lle mae angen inni fod ar hyn, a bydd angen lefel enfawr o fuddsoddiad ar gyfer ei wneud yn addas at y diben. [Torri ar draws.] Ie.
Rydych chi newydd fy atgoffa am gasgenni dŵr. Pe bai pob cartref a ffermwr yn cyflwyno casgenni dŵr, a hyd yn oed pe gallem gyflwyno hynny fel rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy—adeiladau fferm—mae'n amlwg iawn, ond yn rhywbeth y mae pawb yn meddwl amdano; rydym yn cael llawer o gyfnodau o law trymach, ond cyfnodau sych hirach hefyd. A ydych chi'n meddwl bod hynny'n syniad da?
Yn bendant. Roedd cynghorau'n arfer dosbarthu casgenni dŵr yng Nghaerdydd, ond yn anffodus, oherwydd y toriadau, nid ydynt yn gwneud hynny mwyach. Ond serch hynny, gall y rheini sy'n gallu gwneud hynny gynaeafu eu dŵr oherwydd mae'n well dŵr ar gyfer y planhigion am nad oes fflworid ynddo. Ond mae'n rhywbeth—.
Rydym wedi atal adeiladau newydd, datblygiadau tai newydd rhag peidio â gwahanu eu dŵr llwyd oddi wrth eu carthion, ac mae'n amlwg mai dyna'r ffordd ymlaen, ond nid yw hynny'n golygu nad oes gennym waddol enfawr o'r hen system, nad yw'n addas at y diben ar hyn o bryd, ac mae'n golygu ein bod yn gwastraffu dŵr sydd fel aur, ac rydym o bosibl yn wynebu sychder yn y dyfodol. Felly, mae'n rhaid inni ddal ati gyda'r mater hynod bwysig hwn.
Felly, rydym yn gwybod, onid ydym, fod adroddiadau perfformiad diweddar ac ymchwiliadau ein pwyllgorau yn dangos mai prin droedio'r dŵr y mae Dŵr Cymru wrth gyflawni ar ran eu cwsmeriaid, a'n hamgylchedd yn wir. Gwelodd cyfanswm yr achosion o lygredd carthion ddirywiad mewn perfformiad, gan ddisgyn o wyrdd i oren, gyda digwyddiadau llygredd yn cynyddu tua 7 y cant o'i gymharu â 2021 hyd yn oed. Cafwyd pum digwyddiad difrifol o lygredd carthion, sy'n golygu bod perfformiad ar y metrig hwn hefyd wedi dirywio, gan ddisgyn o oren i goch, ac mae perfformiad ar hunangofnodi digwyddiadau wedi dirywio, gan ostwng 7 y cant unwaith eto. Ym mis Medi 2023, cyhoeddodd Ofwat ei adroddiad cwmni dŵr, gan ddangos bod Dŵr Cymru yn un o saith cwmni sydd wedi'u categoreiddio fel rhai sydd ar ei hôl hi, ac ond wedi cyflawni pump yn unig o'i 12 targed perfformiad allweddol, a dyna'r ail flwyddyn i Dŵr Cymru fod yn y gwaelod.
Gallwn barhau drwy restru data sydd, yn briodol ddigon, yn achosi pryder ar ôl pryder, ond mae'n rhaid inni sylweddoli na allwn wneud cynnydd dros nos. Mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod bod y cwmni dŵr yn gwneud gwelliannau. Mae hynny'n ffaith, ond mae angen i bethau gyflymu. Fis Hydref diwethaf, fe wnaethant gyflwyno cynllun busnes arfaethedig ar gyfer 2025-30 i Ofwat, a bydd yn arwain at y rhaglen fuddsoddi fwyaf erioed gan y cwmni, gwerth £3.5 biliwn dros y pum mlynedd. Ond bydd unrhyw un sy'n talu biliau dŵr yn dweud, 'Wel, yn y pen draw, rydym yn talu symiau sylweddol am ein dŵr.'
Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi bron i £1.9 biliwn yn yr amgylchedd yn 2025-30, ac mae ymrwymiadau cadarnhaol eraill yn cynnwys lleihau nifer y gollyngiadau o chwarter a gosod pibellau yn lle pibellau plwm 7,500 o gwsmeriaid, a chyfrannu £13 miliwn y flwyddyn rhwng 2025 a 2030 i helpu i gynnal ac ehangu eu cynllun tariff cymdeithasol i gyrraedd 190,000 o gwsmeriaid. Ond os ydynt yn gwylio'r ddadl hon, rwy'n gobeithio y byddant yn gwrando pan ddywedaf wrthych fy mod i'n gwybod, yn eithaf aml, pan fydd etholwyr yn dweud wrthyf eu bod wedi adrodd am bibellau sy'n gollwng, lle mae galwyni a galwyni o ddŵr yn cael eu gwastraffu, fod yr amser ymateb i'r mathau hynny o ddigwyddiadau yn llawer rhy hir.
Roeddwn yn falch o glywed Peter Perry yn egluro nad ydym eisiau unrhyw ddigwyddiadau llygredd. Na ninnau ychwaith. Y brif broblem yw rhwystrau. Mae lle i'r Llywodraeth hon yng Nghymru ddarparu cap sugno, ac rwy'n cytuno, ac rwyf wedi dadlau ers tro o blaid y gofyniad yn argymhelliad 4. Dylai Llywodraeth Cymru wahardd weips gwlyb. Rydym newydd wahardd cynhyrchion plastig untro. Rwy'n gwybod bod cymhlethdodau gyda weips gwlyb, ond dylai hynny nawr—. Dylai'r Gweinidog newydd edrych ar hynny. Gallai camau o'r fath leihau nifer y digwyddiadau 25 y cant.
Mae angen i Dŵr Cymru roi mwy o gamau ar waith hefyd. Nid yw'r ymrwymiad i leihau cyfanswm yr achosion o lygredd 24 y cant erbyn 2030, gan ddarparu targed o 69 digwyddiad neu lai, yn ddigon cryf. Rwy'n credu'n gryf fod un digwyddiad llygredd yn un digwyddiad llygredd yn ormod. Fel y nodwyd yn argymhelliad 3, dylem i gyd gytuno mai sero yw'r unig lefel dderbyniol. Mae Dŵr Cymru wedi ymateb gan ddweud ei bod yn afrealistig disgwyl i hyn gael ei gyflawni'n ymarferol. Fodd bynnag, os nad ydym yn anelu'n uchel, ni fydd y nifer hwnnw byth yn cael ei gyflawni. Yn y pen draw, y cyfaddawd fyddai, pe ceid digwyddiad llygredd, na ellid caniatáu iddo achosi niwed amgylcheddol. Unwaith eto, yn rhy aml, rydym yn adrodd am achosion o lygredd a gall gymryd sawl diwrnod, ac wythnosau mewn gwirionedd, cyn i CNC ymwneud â'r mater ac i gamau gael eu rhoi ar waith a chyn cael eglurder ynglŷn â beth oedd y digwyddiad llygredd.
Ar ôl darllen ymateb Dŵr Cymru i argymhelliad 5, rwy'n glir nad yw dau gyfarfod llawn y flwyddyn lle mae perfformiad yn brif eitem ar yr agenda yn ddigon da. Mae angen trafod hyn yn fwy a mwy aml. Nawr, rwy'n derbyn bod gan aelodau Glas Cymru opsiwn i fynychu cyfarfodydd rhanbarthol; nid yw hynny'n gwarantu eu bod yn gwneud hynny. Mae angen i fwy o atebolrwydd helpu i sicrhau bod yna benderfyniadau amserol. Er enghraifft, fel pwyllgor, fe wnaethom gwestiynu, yn briodol ddigon, a oedd ymatebion Dŵr Cymru ac CNC mor gyflym ag y gallent fod wedi bod fel arall i'r argyfwng yn Aberteifi. Os yw'r gwaith ailadeiladu'n cael ei gyflawni o fewn yr amser, erbyn mis Ebrill 2027, bydd wedi cymryd ymhell dros ddegawd i ddatrys y mater hyd yn oed. Nid yw'n ddigon da. Felly, edrychaf ymlaen at weld yr adroddiad sy'n cael ei gynhyrchu gan CNC ac y cyfeirir ato mewn ymateb i argymhelliad 11.
Yn olaf, nodais o'r blaen ei bod yn wendid nad yw CNC yn gallu derbyn ymrwymiadau amgylcheddol am dorri rheolau o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, yn wahanol i Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr. Felly, unwaith eto, hoffwn ofyn i'r Gweinidog edrych ar hyn yn fanwl. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhelliad yn wan. Yn hytrach nag ymrwymo i wneud i hyn ddigwydd, rydych chi am ddod yn ôl atom maes o law. Nid yw'n ddigon da.
Yn y pen draw, rydym am gyrraedd sefyllfa lle nad yw seilwaith Dŵr Cymru byth yn arwain at unrhyw niwed amgylcheddol. Rwy'n obeithiol fod Dŵr Cymru yn adeiladu tuag at ddarparu gwasanaeth sy'n cyflawni hynny, ond yn y cyfamser, mae angen inni weld Llywodraeth Cymru yn dangos ei chyhyrau a gwneud llawer mwy i helpu'r cwmni dŵr i gyflawni. Diolch.
Diolch i’r pwyllgor, i Gadeirydd y pwyllgor a'r tîm am eu gwaith ar yr ymgynghoriad hwn. Mae'r sialensiau sy’n wynebu cwmnïau dŵr yn adnabyddus i ni i gyd: isadeiledd hen, twf yn y boblogaeth, a sgil-effeithiau newid hinsawdd. Ond, er gwaethaf y sialensiau, rhaid dal Dŵr Cymru i gyfrif yn sgil eu dyletswyddau statudol, a'r gofynion sydd arnynt o ran rheoleiddio. Yn anffodus, mae adroddiadau perfformiad diweddar wedi amlygu tueddiadau problemus. Dros ddwy flynedd yn unig, fel y clywsom ni, gwelwyd gostyngiad ym mherfformiad amgylcheddol Dŵr Cymru o bedair seren i ddwy seren. Bu beirniadaeth hallt o gyfeiriad Ofwat.
Mae haenau yma y mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol ohonynt. Mae maint y pibellau yn issue. Mae'r ffordd y mae'r diwydiant yn mesur llygredd weithiau yn gallu bod yn anffafriol ar gwmnïau fel Dŵr Cymru sydd gyda maint pibellau a CSOs lot llai nag, er enghraifft, Thames Water. Rhaid unioni’r ffyrdd o gasglu data i adlewyrchu realiti'r sefyllfa yn well. Ond mae yna broblem yma, wrth gwrs, o hyd. Buaswn i eisiau hefyd ddweud pa mor galed mae eu haelodau staff nhw’n gweithio. Rhaid ei bod hi'n anodd iddynt glywed straeon negyddol o hyd pan fyddan nhw'n gweithio i wella pethau. Felly, diolch iddynt am eu gwaith.
Rwy'n cydnabod y bydd y buddsoddiad sydd ar y gweill ar gyfer 2025-30 yn sylweddol, ac wrth gwrs, yn sylweddol fwy na'r gyfundrefn fuddsoddi bresennol. Erys yr angen am gadarnhad, wrth gwrs, gan Ofwat. Bydd cydbwyso anghenion cwsmeriaid heddiw yn ystod y creisis costau byw a'r angen i fuddsoddi mewn isadeiledd yn dasg anodd. Ond dylem ni ddim fod yn y mès hwn—yn llythrennol, neu yn egwyddorol. Camgymeriad pellgyrhaeddol oedd preifateiddio’r system cyflenwad dŵr. Ac oes, mae gennym ni system sy'n well na'r un yn Lloegr, ond mae'r cysyniad hwn fod angen inni fod yn siarad am gwsmeriaid am gyflenwad sydd mor sylfaenol angenrheidiol â dŵr yn wrthnysig. Dylem ni ddim fod yn y sefyllfa hon.
Bydd y buddsoddiad hwn gan Dŵr Cymru, sydd yn angenrheidiol, yn arwain, fel dŷn ni wedi clywed, at filiau uwch, ac mae'r biliau ymysg yr uchaf yn y sector. Croesawon ni fel pwyllgor yr ymrwymiad y mae Dŵr Cymru wedi'i wneud i ehangu eu cynlluniau social tariff, ond rhaid gwneud mwy, nawr. Mynnon ni fel pwyllgor bod Dŵr Cymru yn blaenoriaethu gwelliannau yn eu systemau rheoli llygredd a hunanadrodd. Bydd unrhyw beth llai na dychwelyd i dair seren yn eu perfformiad amgylcheddol yn annerbyniol. Ac eto, mae atebolrwydd yn bwysig. Rŷn ni'n cwestiynu'r cyfiawnhad dros roi bonysau i uwch staff ar adeg pan fo disgwyl i gwsmeriaid dalu biliau mor andros o uchel am gyflenwad mor sylfaenol.
Ac i gloi, Dirprwy Lywydd, mae atebion, wrth gwrs, sy'n fwy radical, sy'n mynd ymhellach na sgôp ein hadroddiad, fel ailwladoli’r system. Yn sicr, mae rhyw obaith ar y gorwel fel canlyniad i'r buddsoddiad hwn, ond dylem ni byth wedi bod yn y sefyllfa hon, a byddwn ni fel pwyllgor yn cario ymlaen i gadw golwg ar hyn oll.
Os caf ddechrau'n fyr drwy gydymdeimlo â disgyblion, athrawon a theuluoedd Ysgol Dyffryn Aman. Mae nifer ohonom yn y Siambr hon yn gyn-ddisgyblion, ac mae pob un ohonom yn bryderus o weld yr hyn sy'n digwydd yno y prynhawn yma.
Rwy'n falch iawn o weld bod y gwaith o graffu ar berfformiad Dŵr Cymru yn mynd rhagddo. Mae llawer o ewyllys da i'w gael tuag at gwmni sydd, fel y dywed, er lles Cymru, nid er elw. Ond ar adegau, rwy'n credu bod yr ewyllys da hwnnw wedi cyfyngu ar y craffu a’r her sydd eu hangen ar bob sefydliad. Fel y dywedodd y rheoleiddiwr, Ofwat, wrth y pwyllgor, ni ddylai’r model di-ddifidend esgusodi perfformiad gwael ac ni ddylai esgusodi aneffeithlonrwydd, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Heb bwysau a chraffu gan gyfranddalwyr, mae angen penodol i sicrhau bod perfformiad y cwmni'n cael ei gwestiynu'n gadarn, ac nid wyf wedi fy argyhoeddi bod y model craffu ar aelodau Dŵr Cymru, fel y'u gelwir, wedi profi ei hun.
Ac mae cwestiynau i'w hateb gan Ofwat hefyd. Ymddengys i mi nad yw’r model gwahanol yng Nghymru wedi cael y sylw pwrpasol gan Ofwat y mae ei angen ac yn ei haeddu, ac mae hynny yr un mor berthnasol i berfformiad, ar y naill law, ag y mae i gydnabod amcanion hirdymor Dŵr Cymru, nad ydynt yn berthnasol i'r cwmnïau dŵr eraill y mae'n eu rheoleiddio. Mae Ofwat wedi defnyddio un dull sy'n addas i bawb o reoleiddio, dull nad yw, mewn gwirionedd, wedi gwasanaethu pobl Cymru yn dda. Dywedodd Ofwat wrth y pwyllgor fod diffyg atebolrwydd wedi deillio o statws nid-er-elw Dŵr Cymru. Wel, a dweud y gwir, eu gwaith nhw yw rheoleiddio hynny. Nid eu rôl nhw yw beirniadu'r model perchnogaeth. Eu rôl nhw yw gweithio gydag ef, caniatáu i Dŵr Cymru gyflawni ei fandad i'w gwsmeriaid, ond craffu arno hefyd.
Rydym wedi gweld gan Thames Water fod cwmnïau cyfranddalwyr yn tanberfformio hefyd, a'u bod yn cael eu llywodraethu'n wael, ac na wnaeth Ofwat eu gwaith yno ychwaith. Rwy’n falch nad yw Dŵr Cymru yn gwmni confensiynol sy’n cael ei redeg gan gyfranddalwyr. Mae’r sgandal yn Thames Water a’r swm anweddus o arian y caniatawyd ei dynnu o’r cwmni a’i droi’n ddyled yn feirniadaeth ddamniol o breifateiddio’r cyfleustod hollbwysig hyn sy’n hanfodol i les. Yn union fel preifateiddio bysiau, lle mae nifer y teithwyr wedi cwympo, neu breifateiddio'r rheilffyrdd, lle mae’r holl fasnachfreintiau bellach wedi’u rhoi’n ôl i’r Llywodraeth, neu breifateiddio nwy neu drydan, lle mae argyfwng ynni wedi arwain at yr elw mwyaf erioed ochr yn ochr â'r lefelau tlodi tanwydd uchaf erioed, mae preifateiddio dŵr hefyd wedi methu gwireddu'r addewidion a wnaed gan Margaret Thatcher. Credaf y dylai’r Ceidwadwyr fod yn ddigon gwylaidd i gydnabod mai canlyniad eu cynlluniau nhw yn y 1980au yw hyn.
Nawr, mae'n rhaid inni unioni'r methiant hwn yn y farchnad. O ganlyniad i’r diffyg yn y buddsoddiad hirdymor sydd ei angen, rydym yn gweld y canlyniadau yn Llanelli. Mae systemau carthffosiaeth wedi'u gorlethu yn arwain yn rheolaidd at ollyngiadau sy'n niweidio ansawdd dŵr. Mae adeiladu tai heb seilwaith priodol yn rhoi pwysau ar system garthffosiaeth sydd eisoes wedi’i gorlethu, ac mae hynny’n arwain at gyfeintiau gormodol o elifiant, nad oes unman ganddo i fynd heblaw am ein hafonydd a’n moroedd.
Mae cocos a physgod cregyn eraill wedi diflannu o'r aber yn gyfan gwbl, gan achosi niwed gwirioneddol i ddiwydiant lleol gwerthfawr. Rwy’n falch o ddweud y gallwch gael bag o gocos Pen-clawdd o farchnad hyfryd Llanelli o hyd, ond maent yn aml yn fach iawn, ac mae’r nifer a gesglir gan y casglwyr cocos yn llai o lawer. Dywed yr ymgyrchwyr lleol Bill Thomas a Robert Griffiths wrthyf fod Dŵr Cymru wedi cyfaddef ei fod wedi gollwng dros 6 miliwn o dunelli metrig o garthion amrwd i’r aber, gan halogi’r gwelyau cocos. Roedd hynny chwe blynedd yn ôl, ac maent yn mynnu bod y casglwyr cocos yn dweud bod y sefyllfa wedi gwaethygu.
Mae CNC yn ei chael hi'n anodd cyflawni ei ddyletswyddau fel rheoleiddiwr. Mae adroddiad y pwyllgor yn dweud nad yw’n fodlon fod Dŵr Cymru wedi cael sgôr o ddwy seren am berfformiad amgylcheddol, a dywed CNC mai ei nod yw dim un achos o lygredd. Ond yn ei dystiolaeth, dywed mai dim ond unwaith y flwyddyn y mae'n cyfarfod â Dŵr Cymru, ochr yn ochr â’r rheoleiddiwr arall, Ofwat, ar gyfer cyfarfod rheoleiddio. Nid yw hynny'n ddigon da. Anaml y mae'n mynd ar drywydd erlyniadau am dorri amodau, ac yn wahanol i Loegr—fel y crybwyllwyd—ni all fynnu ymgymeriadau amgylcheddol fel dewis amgen yn lle erlyn.
Nid oes unrhyw atebion syml, ac rwy'n cydymdeimlo â safbwynt Dŵr Cymru y byddai angen buddsoddiad cyfalaf o rhwng £7 biliwn ac £11 biliwn er mwyn uwchraddio ein system garthffosiaeth yn llwyr. Nid yn unig y byddai cost cyfle bwysig i hynny, ond byddai’n cynhyrchu llawer iawn o garbon ymgorfforedig, a fyddai’n ychwanegu at niwed amgylcheddol ehangach. Rwy'n credu mai dyma’r hyn y mae'r academyddion yn ei alw'n broblem enbyd.
Rwy'n credu mai'r broblem sylfaenol yw bod y fframwaith preifateiddiedig y mae Dŵr Cymru wedi gorfod gweithredu oddi mewn iddo, a maint y buddsoddiad sydd wedi’i ganiatáu o ganlyniad, yn methu cyflawni ein hanghenion. Mae angen newid y fframwaith deddfwriaethol ar lefel y DU. Yn y cyfamser, mae gan Dŵr Cymru ac Ofwat lawer mwy i’w wneud, a gadewch i’r cam cyntaf fod yn gamau gweithredu ar bob un o argymhellion y pwyllgor. Diolch.
Gofynnodd y pwyllgor am ddadl 30 munud, ond mae gennym ddiddordeb gan ddau Aelod arall, sy’n mynd â ni ymhell dros hynny. Rwy’n mynd i ganiatáu i’r ddau Aelod arall siarad ar yr achlysur hwn. Efallai y gallwn edrych ar hyn mewn dadleuon yn y dyfodol, o ran pa mor hir y dylent fod.
Rydw i'n cytuno gyda'r cyfeiriad yr oedd Lee Waters yn mynd â ni ar ei hyd, a dweud y gwir, ac rydw i eisiau ffocysu, yn fy sylwadau i, ar y cwestiwn o lywodraethiant ac atebolrwydd. Mae yna fwlch atebolrwydd yma, yn sicr. Mae hynny'n eithaf amlwg, ac mae e yno am nifer o resymau, oherwydd y math o fodel perchnogaeth, ond hefyd oherwydd ble ydyn ni o ran y fframwaith datganoli. Ond, yn sicr, ddylen ni ddim derbyn y sefyllfa sydd ohoni. Yn y nodyn briffio gawson ni gan y cwmni, maen nhw'n cyfeirio at y map lle mae modd edrych ar y sefyllfa gyfredol o ran gorlif storm, ac os ŷch chi'n mynd ar y map, mae e'n dangos, ar rai o draethau mwyaf enwog Cymru—Amroth, Pendine, Llangrannog, Poppit Sands—mae yna orlif wedi bod y mis yma, heb sôn am y ffigurau yn mynd dros gyfnod y flwyddyn. Mae'n sefyllfa hollol annerbyniol.
Dwi'n croesawu'r ymchwiliad byr yma i mewn i berfformiad y cwmni, ond a gaf i ofyn i'r pwyllgor, neu'r Llywodraeth, am ymchwiliad dyfnach i'r holl gwestiwn o lywodraethiant, a hynny mewn tri maes ac am ddau reswm? Yn gyntaf, ar berchnogaeth, mae'n rhaid inni gwestiynu a ydy model Glas Cymru yn gweithio. Mae yna fodelau eraill, yn sicr y model o berchnogaeth cyhoeddus. Os ydyn ni'n cymharu'r sefyllfa perfformiad yn yr Alban dros y ddau ddegawd diwethaf, ar sawl mesur, mae e'n well na'r perfformiad sydd wedi bod yng Nghymru. Felly, mae'n rhaid gofyn y cwestiwn: a ddylen ni symud i'r model hwnnw o berchnogaeth? Ac, wrth gwrs, ddylen ni ddim anghofio Hafren Dyfrdwy, lle mae yna gwmni preifat, wrth gwrs, yn cyflenwi dŵr ar hyn o bryd i rai o'n dinasyddion ni.
Yr ail gwestiwn o lywodraethiant ydy'r cwestiwn o reoleiddio. Mae gyda ni sefyllfa ryfedd. Mae gyda ni rywfaint o ddatganoli, ond mae gyda ni gyrff Cymru a Lloegr sydd yn rheoleiddio: Ofwat a'r Drinking Water Inspectorate. Dwi'n meddwl ein bod ni'n colli mas fan hyn, achos mae profiad yr Alban yn dangos y fantais o gael agosatrwydd rhwng rheoleiddwyr a'r cwmnïau maen nhw'n rheoleiddio. Mae gyda ni system, fel roedd Lee Waters yn dweud, sydd ddim yn gweithio i ni, oherwydd mae'r fframwaith, y model rheoleiddio, wrth gwrs, wedi cael ei ddatblygu ar gyfer yn bennaf cwmnïau preifat gyda chyfranddalwyr. Wel, beth am i ni newid hynny? Mae gyda ni y pŵer nawr i ddeddfu. Does dim rhaid i ni ofyn i San Steffan i ddeddfu i gael gwared ar system reoleiddio Lloegr a Chymru. Fe allen ni greu system Gymreig, fel sydd yn yr Alban. Mae gyda nhw, wrth gwrs, y Water Industry Commission for Scotland a'r Drinking Water Quality Regulator for Scotland. Fe allwn ni ddeddfu fan hyn i gael gwared ar Ofwat. Os ydyn ni'n meddwl bod hwnna'n broblem, bod hwnna'n ein hatal ni rhag symud ymlaen, mae modd i ni ddeddfu i'r cyfeiriad hwnnw.
Ac yn drydydd, wrth gwrs, mae'r gallu gyda ni i ddatganoli'r cyfan oll o ran pwerau dros ddŵr, ond, fel rydyn ni wedi clywed o'r blaen, dydyn ni ddim wedi gwneud y cais i San Steffan eto. Felly, a gaf i glywed gan y Gweinidog newydd a ydyn ni'n mynd i wneud y cais yna, fel ein bod ni'n gallu cael y pwerau llawn?
Pam gofyn y cwestiynau yma ynglŷn â llywodraethiant? Wel, mae bron yn 25 mlynedd nawr ers creu Glas Cymru, felly mae'n amser i ni gael asesiad ar a ydy e'n gweithio. Mae yna etholiad ar y gorwel yn San Steffan, sydd efallai yn mynd i olygu eu bod nhw'n mynd i wladoli—wel, efallai fod Thames Water yn mynd i fynd, beth bynnag, mewn i berchnogaeth gyhoeddus; efallai fydd y cwbl lot yn newid—ac mae yna oblygiadau yn mynd i fod i ni, beth bynnag, o hynny. Ond y rheswm arall, wrth gwrs, yw, gyda'n hetholiad ein hunain ar y gorwel yn 2026, nawr yw'r amser i ni gael trafodaeth eang yng Nghymru ar a ydy'r model sydd gyda ni o fewn y sector dŵr yn gweithio i ni, ac os nad yw e—a dwi'n meddwl bod yna ddigon o dystiolaeth ei fod e ddim—fe ddylen ni nawr drafod pa fodel amgen dŷn ni am ei greu.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad hwn, a hefyd i bawb a ymatebodd iddo. Mae'n eithaf cymhleth, a dweud y gwir, onid yw, gan eich bod wedi rhoi argymhellion i wahanol bobl, gwahanol sefydliadau, ond Ysgrifennydd y Cabinet, dim ond chi sydd yma heddiw i ateb ein cwestiynau. Ac fel y gwyddoch, mae'r gollyngiadau difrifol yn effeithio'n arbennig ar fy nghymuned, sef Porthcawl. Rydym wedi cael protestiadau heddychlon, er enghraifft, ar draeth Newton, a drefnwyd gan y Bluetits, gan eu bod yn nofio bob dydd, boed law neu hindda, a nhw yw’r rhai sy'n fwyaf ymwybodol o effaith ac amlder y gollyngiadau hyn.
Yn anecdotaidd, wrth gwrs, rwy'n cytuno â fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone—mae’n effeithio ar iechyd pobl. Mae cynnydd wedi bod mewn heintiau, heintiau eithaf cas hefyd. Hoffwn nodi hefyd, serch hynny, fod Dŵr Cymru wedi trefnu digwyddiad ymgysylltu â’r gymuned ym Mhorthcawl yn ddiweddar a fynychwyd gan nifer, yn eich cynnwys chi yn rhinwedd eich swydd fel yr Aelod o'r Senedd dros Ogwr, ac fe’i croesawyd yn fawr iawn gan y gymuned, am iddynt gael cyfle i ofyn yr holl gwestiynau hyn iddynt. A byddwn yn cytuno â'u hymateb fod yn rhaid gwneud mwy o hyn, ac rwyf hefyd am gydnabod eu bod wedi bod yn ceisio hybu ymgyrch Stopio'r Bloc, sy'n cael ei daflu i'r cysgod gan bopeth a godwyd yn yr adroddiad hwn. Ond maent yn gwneud ymdrech.
Fodd bynnag, mae'n rhaid imi ganolbwyntio heddiw ar y dystiolaeth a ganfuwyd yn yr adroddiad hwn. Roedd data ar weithfeydd trin dŵr gwastraff Dŵr Cymru a gafwyd gan yr Athro Hammond drwy gais rheoliadau gwybodaeth yr amgylchedd yn dangos 2,274 diwrnod gydag achosion o dorri trwyddedau yn ymwneud â gollyngiadau carthion heb eu trin rhwng 2018 a 2023, ac yn ôl Windrush Against Sewage Pollution (WASP), roedd 77 yn ollyngiadau sych, sef dim glaw ar y diwrnod neu'r diwrnod cyn y gollyngiad, gyda llif gwaith trin uwchlaw’r capasiti. Hefyd, adroddwyd bod Dŵr Cymru wedi torri ei drwyddedau fwy na 200 o weithiau yn ystod y chwe blynedd diwethaf, ond ddwywaith yn unig y cafodd ddirwy, ac mewn ymateb, cyfaddefodd Dŵr Cymru fod ganddo rhwng 40 a 50 o weithfeydd trin dŵr gwastraff yn gweithredu yn groes i'w trwyddedau ar hyn o bryd.
Rwy'n mynd i fod yn blwmp ac yn blaen, a gwn nad yw hynny'n nodweddiadol ohonof, ond rwyf am ddweud nad oes ots gan fy etholwyr, ar y pwynt hwn—nid oes ots o gwbl ganddynt—pwy sy'n gyfrifol am hyn. Nid oes ots ganddynt pwy sy'n ei ariannu. Nid ydynt hyd yn oed yn gofyn am ddirwyon neu sancsiynau neu unrhyw beth felly ar hyn o bryd. Maent yn gwybod ei fod yn mynd i gymryd amser, ond maent wedi bod yn amyneddgar iawn hefyd, a phopeth sy'n cael ei ddweud heddiw—maent ond eisiau gwybod pryd y gallant fynd i nofio mewn dŵr glân heb boeni am gael heintiau a heb boeni am anfon eu plant i mewn iddo. Felly, dyna sydd ei angen arnom ar y pwynt hwn. Popeth rydych chi wedi'i ddweud, yr holl argymhellion—ond a gawn ni amserlen os gwelwch yn dda? Achos ni allaf barhau i fynd yn ôl atynt a dweud nad ydym yn gwybod. Diolch.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i gyfrannu i'r ddadl. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ymateb i'r pwynt olaf hwnnw? Rydym wedi ymateb i’r heriau hyn o’r blaen. Rydym wedi gwneud hynny o'r blaen. Mae’r hyn a wnaethom ar bethau fel ansawdd dŵr ymdrochi arfordirol, mewn degawdau blaenorol, yn dangos, lle ceir ewyllys a’r gallu, ein bod yn ei wneud, ond rydym yn ei wneud ar y cyd ac rydym yn ei wneud gyda’n gilydd. A gofynnwn i bawb sydd â rhan i'w chwarae i chwarae eu rhan ac i wneud hynny gyda'r brys sydd ei angen.
Ond gadewch imi droi at yr adroddiad, ac rwy'n teimlo braidd fel potsiwr wedi troi'n giper.
Diolch yn fawr iawn i'r pwyllgor am ei adroddiad ac i Llyr Gruffydd hefyd am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, ac i'r Aelodau eraill sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl.
Cyn imi ddechrau, rwyf yn nodi ar gyfer y cofnod yr oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor a luniodd yr adroddiad hwn cyn imi ddechrau yn fy rôl bresennol. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd blaenorol eisoes wedi ymateb i argymhellion y pwyllgor i Lywodraeth Cymru drwy lythyr ym Mawrth. Felly, mewn ymateb i'r ddadl hon, byddaf i'n achub ar y cyfle i ganolbwyntio ar yr heriau mwyaf dybryd i Dŵr Cymru a'r sector dŵr ehangach.
Ni fydd yn syndod i unrhyw un yma heddiw fod newid hinsawdd yn berygl gwirioneddol ac uniongyrchol i'r sector dŵr. Fel y clywsom heddiw, mae Cymru’n wynebu gaeafau gwlypach, hafau poethach a sychach, digwyddiadau tywydd eithafol amlach a mwy dwys fel sychder. Yn anochel, mae hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar ein cyflenwadau dŵr a’n seilwaith, yn ogystal â’n hecosystemau ac allbwn sectorau allweddol fel amaethyddiaeth hefyd. Felly, mae ein sector dŵr yn wynebu her ddigynsail ac uniongyrchol. Mae'n rhaid iddo ddatgarboneiddio, adeiladu gwytnwch i wrthsefyll newid hinsawdd, gwrthdroi colli bioamrywiaeth—oll yn erbyn cefndir o argyfwng costau byw.
Nawr, rydym yn dibynnu ar ein cwmnïau dŵr i gamu i'r adwy a chyflawni gydag uchelgais gwirioneddol ar ran y cwsmeriaid, y cymunedau a'r amgylchedd. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’n cwmnïau dŵr gyflawni gwelliannau ar draws pob maes gweithredu, ac mae sector dŵr Cymru, fel y nodwyd, yn wahanol i weddill y DU. Mae gennym berthynas unigryw gyda Dŵr Cymru fel ein prif gyflenwr dŵr. Mae'n gweithredu fel cwmni nid-er-elw heb gyfranddalwyr. Mae gennyf ddiddordeb yn y pwyntiau a wnaed gan Adam ac eraill am drefniadau yn y dyfodol. Rwy'n siŵr y byddwn yn dychwelyd at hynny maes o law, ond mae gennym eisoes sefyllfa unigryw lle na chaiff yr elw ei ddychwelyd mewn difidendau i gyfranddalwyr, caiff ei ailfuddsoddi yn y sefydliad. Serch hynny, fe wnaethom osod ein disgwyliadau yn ein datganiad blaenoriaethau strategol a gyhoeddwyd i Ofwat yn 2022, ac mae'r datganiad blaenoriaethau strategol hwnnw'n nodi'n glir y dylai cwmnïau dŵr ragweld tarfu, ac y dylent gynnal gwasanaethau i bobl a diogelu'r amgylchedd naturiol, nawr ac yn y dyfodol.
Nawr, dengys adroddiadau perfformiad diweddaraf Dŵr Cymru gan Ofwat, fel y rheoleiddiwr economaidd, a Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y rheoleiddiwr amgylcheddol, fel y dywedwyd yn wir, ei fod yn ddarlun cymysg. Mae rhai meysydd lle mae Dŵr Cymru yn perfformio'n dda, yn enwedig boddhad cwsmeriaid, darparu gwasanaethau i gwsmeriaid agored i niwed ac ymateb i doriadau ac atgyweiriadau heb eu cynllunio, ac mae'r rhain i'w canmol.
Fodd bynnag, mae'r cwmni'n parhau i fod yng nghategori 'ar ei hôl hi' Ofwat gan fod meysydd lle mae'r perfformiad yn is na'r cyfartaledd, gan gynnwys gollyngiadau, defnydd y pen, toriadau i'r cyflenwad, atgyweirio'r prif gyflenwad a chydymffurfiaeth gweithfeydd trin carthion, fel y nodwyd. Ac yn ychwanegol at hynny, mae asesiad CNC o adroddiadau perfformiad amgylcheddol Dŵr Cymru wedi golygu bod y cwmni wedi disgyn o bedair seren i ddwy seren rhwng 2021 a 2023. Felly, dywed hynny wrthym fod gan Dŵr Cymru lawer o waith i'w wneud i fynd i’r afael â’r heriau sy'n cael eu hachosi gan yr argyfyngau hinsawdd a natur.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda Dŵr Cymru, yn ogystal ag Ofwat a CNC, i fynd i’r afael â methiannau a gwella gweithdrefnau a goruchwyliaeth. Mae gwella perfformiad a chyflawni ar ran pobl Cymru yn brif flaenoriaeth. Yn wir, cyfarfûm â Dŵr Cymru ddoe i amlinellu fy nisgwyliadau uchel a dangos y ffordd yr hoffwn weithio dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.
Gan droi at rai materion penodol iawn, mae ein cwmnïau dŵr yn darparu amrywiaeth enfawr o wasanaethau dŵr wrth gwrs, ond yr agwedd sy’n cael y sylw mwyaf ar hyn o bryd yw asedau gorlifoedd storm. Mae gorlifoedd storm yn chwarae rhan hollbwysig yn galluogi ein rhwydwaith o garthffosydd i weithredu ar adegau o bwysau mawr yn dilyn glawiadau trwm, sy’n digwydd yn amlach gyda’n hinsawdd newidiol. Bydd llawer ohonoch wedi gweld y data monitro hyd digwyddiadau, y data EDM, ar gyfer 2023 a gyhoeddwyd ar 27 Mawrth. Mae hwn yn dangos yr heriau parhaus, er y dylid nodi, er diddordeb yn unig, fod y cynnydd yn nifer y gollyngiadau o 2022 i 2023, yn wir, 17 y cant yn is yng Nghymru na’r cynnydd yn Lloegr, ond mae angen inni wneud llawer mwy o hyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud dro ar ôl tro y byddai cael gwared ar yr holl orlifoedd storm presennol yn brosiect carbon-ddwys hirdymor a fyddai'n costio biliynau o bunnoedd. Nid dyma fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol o wella ansawdd dŵr nac ychwaith y ffordd fwyaf gwydn rhag pwysau cynyddol newid hinsawdd. Felly, ein blaenoriaeth yw sicrhau nad oes unrhyw orlif storm yn achosi niwed amgylcheddol i statws ecolegol ein hafonydd. Felly, rydym yn gweithio'n agos gyda Dŵr Cymru ac eraill drwy'r tasglu gwella ansawdd afonydd i werthuso'r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifoedd storm yng Nghymru. Mae'r tasglu wedi nodi cynlluniau manwl i ysgogi newid a gwelliant cyflym drwy gyfres o gynlluniau gweithredu sydd ar gael ar-lein.
Mae adroddiad—. Rwy'n sylweddoli fy mod wedi mynd dros yr amser yma. Ymddiheuriadau, Lywydd. Mae adroddiad 'Tystiolaeth Cymru ar orlifoedd storm' a gyhoeddwyd gan y tasglu ym mis Hydref y llynedd yn dangos nad oes unrhyw atebion cyflym; mae'n rhaid inni gael dull gweithredu hirdymor. Ond fel y mae cyd-Aelodau wedi'i nodi, rydym yn gwneud cynnydd mewn rhai meysydd, yn enwedig gyda systemau draenio cynaliadwy, sydd bellach yn orfodol ar bron bob datblygiad adeiladu newydd. Dyma'r ffordd i fynd i'r afael â phroblemau'r dyfodol.
Felly, i gloi, Lywydd, mae'r adolygiad pris wedi'i grybwyll. Mae’r adolygiad pris parhaus hwnnw’n cynnig cyfle i Dŵr Cymru a’n holl gwmnïau dŵr gyflawni newid sylweddol yn eu buddsoddiad mewn gwelliannau amgylcheddol. Y garreg filltir nesaf yw 12 Mehefin pan gyhoeddir y penderfyniadau drafft. Rwy'n gobeithio y bydd cynlluniau busnes y cwmni yn dangos yr uchelgais y mae’r cyhoedd yn haeddu ei weld, a byddwn yn parhau i ymgysylltu’n agos â’r broses.
Diolch yn fawr i'r pwyllgor a diolch yn fawr i'r Aelodau eraill hefyd.
Llyr Gruffydd felly, Cadeirydd y pwyllgor, i ymateb.
Diolch, Llywydd. Yn yr ychydig eiliadau sydd gen i i ymateb, a gaf i ddiolch i bawb am eu cyfraniadau? Dwi yn teimlo bod hon yn drafodaeth sydd yn mynd i barhau, wrth gwrs, ac mae'n bwysig bod hynny yn digwydd. Roedd nifer o bwyntiau diddorol—yr awgrym ynglŷn ag ymchwiliad dyfnach gan y pwyllgor i edrych ar lywodraethiant ac atebolrwydd, yn enwedig yng nghyd-destun y model perchnogaeth a rheoleiddio, a'r holl sefyllfa o ran gwneud cais am ddatganoli pwerau llawn dros ddŵr. Dwi yn meddwl bod yna merit yn hynny. Mater ymarferol yw hi o pryd fydd hynny yn gallu digwydd a phryd fydd yr amser gorau i hynny ddigwydd, ond mae'n sicr yn rhywbeth awn ni nôl ag e i'w ystyried fel pwyllgor.
A gaf i ddiolch yn benodol i Sarah Murphy am ein hatgoffa ni? Rŷn ni'n sôn am yr effeithiau amgylcheddol yn gyson pan fyddwn ni'n cael y drafodaeth yma, ac mae yna dueddiad i anghofio, wrth gwrs, fod hynny yn dod ag effeithiau iechyd uniongyrchol i nifer o ddefnyddwyr, ac mae hynny yn rhywbeth inni beidio ag anghofio.
Yr hyn rŷn ni eisiau dweud yw y dylai lefel perfformiad Dŵr Cymru, fel y mae e, ddim dod yn rhyw fath o norm. Mae'n rhaid i Dŵr Cymru weithio'n galetach, yn gyflymach i ddychwelyd i flaen y gad o fewn y diwydiant o ran eu perfformiad amgylcheddol. Mae hynny yn rhywbeth, wrth gwrs, maen nhw eisoes wedi dangos eu bod nhw'n gallu ei wneud yn y gorffennol. Mae hefyd rhaid i'r cwmni ddangos eu bod yn gwneud cynnydd wrth ymdrin â gollyngiadau carthion, ac mae'n rhaid iddynt hefyd gymryd camau breision i gael gwared ar y label annymunol yna mae nifer ohonom ni wedi'i grybwyll, sef eu bod nhw'n 'lagging' neu ar ei hôl hi, a gorau po gynted y maen nhw'n gwneud hynny.
Ond fel dwi'n dweud, mi fydd y pwyllgor yn parhau i graffu ar Dŵr Cymru a'r sector dŵr ehangach yng Nghymru, ac mi fyddwn ni, wrth gwrs, yn gyson, gobeithio, yn cael cyfle i wyntyllu hynny fan hyn yn y Siambr hefyd. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae hwnna wedi'i nodi.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dwi wedi cytuno i dderbyn cwestiwn brys i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, i'w ofyn gan Adam Price.
Dwi'n ddiolchgar, Llywydd.
1. A wnaiff y Llywodraeth ddatgan pa wybodaeth y gall ei rhannu parthed y digwyddiad difrifol yn Ysgol Dyffryn Aman heddiw? EQ40
Rwy’n bryderus iawn o glywed am y digwyddiad ofnadwy yn Ysgol Dyffryn Aman yn gynharach heddiw, ac rwy'n cydymdeimlo gyda’r disgyblion, y staff a’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Rwy'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau, ac mae fy swyddogion yn darparu cymorth lle bo angen. Mae’n rhy gynnar i gael darlun clir o fanylion yr hyn sydd wedi digwydd. Hoffwn gynnig fy niolch a fy nghefnogaeth i staff yr ysgol, yr awdurdod lleol a’r gwasanaethau brys, a ymatebodd i’r sefyllfa mor gyflym a phroffesiynol.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb hynny. Mi oedd e'n ysgytwad i gymaint ohonom ni. Fyddai neb ohonom ni wedi meddwl am unwaith y byddem ni'n wynebu'r sefyllfa yma. Fy ysgol i yn fy nhref i, fel sawl Aelod arall fan hyn, ac, wrth gwrs, o ran y gymdogaeth gyfan, mae Ysgol Dyffryn Aman yn gymaint o ganolbwynt i'r gymuned gyfan. Dwi'n ategu yn fawr y diolchiadau mae'r Gweinidog wedi'u rhoi i staff yr ysgol a'r gwasanaethau brys am y ffordd gwnaethon nhw ymateb mor gyflym i'r sefyllfa. Ac, wrth gwrs, mae ein meddyliau ni i gyd, yn bennaf ar hyn o bryd, wrth gwrs, gyda'r sawl sydd wedi cael eu hanafu, ac mae ein gweddïau ni gyda nhw i gyd. Dwi'n croesawu, wrth gwrs, y geiriau o ran unrhyw gefnogaeth fydd angen ar yr ysgol, ar y gymuned ysgol, plant, teuluoedd a fydd wedi cael eu hysgwyd, wrth gwrs—cymaint o ansicrwydd. Mae y rhai ohonom ni sydd yn rhieni ond yn gallu dychmygu beth fyddai'r oriau yna o aros i glywed mwy wedi'u golygu.
Fel rŷch chi'n dweud, Gweinidog, wrth gwrs, mi fydd mwy o fanylion yn dod mas ar yr amser iawn yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Mae'n bwysig bod yr heddlu nawr yn cael y gofod sydd ei angen er mwyn ymchwilio yn gywir, ond a ydy'r Gweinidog yn cytuno—ac mae'n siŵr eich bod chi—na ddylai unrhyw un ddod i'r ysgol, boed yn aelod o staff neu ddisgybl, ac wynebu sefyllfa lle maen nhw'n mynd i gael eu hanafu, fel oedd wedi digwydd heddiw? Felly, ar yr adeg iawn, a heb dorri ar draws nawr, wrth gwrs, y gwaith pwysig sydd yn gorfod digwydd yn ystod y dyddiau nesaf—ar yr adeg iawn, a fyddai'r Llywodraeth yn barod i gynnull, i gomisiynu gwaith ynglŷn â'r cwestiwn yma o sut rŷn ni'n gallu gwneud yn sicr—pa bethau mwy dŷn ni'n gallu eu gwneud dŷn ni ddim yn eu gwneud, pa wersi sydd yna, er mwyn sicrhau bod ein hysgolion ni yn llefydd diogel i bawb sydd yn mynd yno am un rheswm, ontefe, i ddysgu, ac a ddylai fod yn gallu cael eu sicrhau bod y mannau hynny yn cael eu gwneud mor ddiogel ag sy'n bosib?
Diolch yn fawr, Adam Price, am eich cwestiwn atodol. Rwy’n ymwybodol ichi fynychu’r ysgol, fel y gwnaeth Aelodau eraill yn y Siambr, a bod hynny’n peri cryn ofid, ac mae pob un ohonom wedi ein syfrdanu'n fawr gan y digwyddiadau heddiw, ac fel chi, rwy'n falch iawn fod y gwasanaethau brys wedi gallu ymateb mor gyflym. Ein ffocws nawr, wrth inni adael i’r heddlu gynnal eu hymchwiliad, yw sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i gefnogi’r ysgol, y teuluoedd a’r gymuned ehangach yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad hwn. Rwyf am i’n holl ysgolion fod yn lleoedd diogel, meithringar. Fel rydych chi wedi'i nodi, mae'n rhaid i'r heddlu ymchwilio i hyn nawr i weld beth yn union a ddigwyddodd. Byddaf yn darparu diweddariadau pellach. Cefais i a’r Prif Weinidog ein briffio gan uwch swyddogion heddlu Dyfed-Powys yn gynharach heddiw, a byddant yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni, a bydd pob asiantaeth yn edrych ar unrhyw wersi y gellir eu dysgu o’r sefyllfa hon.
Er na chaf yr anrhydedd o gynrychioli Rhydaman yma yn y Senedd, cefais fy magu yn y dref honno, rwy'n ei hadnabod yn dda iawn, ac rwy'n adnabod yr ysgol yn dda iawn hefyd, a phan welwch y golygfeydd o arswyd a thrais annisgrifiadwy yn ymddangos mewn lle rydych chi'n ei adnabod, rydych chi'n meddwl y dylai fod yn rhywbeth sy'n digwydd filltiroedd i ffwrdd ar gyfandir pell, ond mae ei weld yn digwydd ar stryd rydych chi'n gyfarwydd â hi, mewn ysgol rydych chi'n ei hadnabod, rhieni rydych chi'n eu hadnabod yn aros y tu allan i'r ysgol i wybod a yw eu plant y tu mewn i'r ysgol yn ddiogel, mae hwnnw'n ddarlun anhygoel o anodd i'w brosesu, ac roeddwn i'n ei chael hi'n anodd iawn heddiw hefyd.
Yr hyn yr oeddwn am ei ofyn i chi, er hynny, Weinidog, yw y bydd hyn yn amlwg yn cael effaith hirdymor, rwy'n credu, ar dref Rhydaman ac ar ddisgyblion ledled Cymru a fydd yn gweld rhai o'r lluniau hyn ac yn poeni ynglŷn â mynd i'r ysgol eu hunain y diwrnod wedyn. Yn gyntaf oll, tybed a fyddech chi'n ymuno â mi i alw ar rai cyfrifon cyfryngau cymdeithasol sydd wedi rhannu lluniau o'r digwyddiad ar Twitter heddiw, cyn i deuluoedd gael gwybod hyd yn oed fod eu hanwyliaid yn ddiogel—. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl anghyfrifol ac rwy'n meddwl tybed a wnewch chi ymuno â mi i'w hannog i ddileu'r rheini cyn gynted â phosibl os nad ydynt wedi gwneud hynny'n barod.
Yn ail, a allech chi sôn am y gefnogaeth fugeiliol a fydd ar gael nid yn unig i'r ysgol, ond i dref Rhydaman a'r ardal ehangach? A hefyd pa neges sydd gennych i'r rhai sydd, efallai, wedi gweld rhai o'r digwyddiadau, wedi clywed am natur y digwyddiadau graffig a ddigwyddodd yn sir Gaerfyrddin heddiw, a pha sicrwydd y gallwch chi ei roi i'r rhai a allai fod yn poeni am fynychu'r ysgol, wrth symud ymlaen? Diolch.
Diolch am y pwyntiau pwysig hynny, a byddwn yn sicr yn adleisio'r hyn rydych chi wedi'i ddweud am y cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn gwybod bod yr heddlu wedi bod yn glir iawn wrth ofyn i bobl beidio â rhannu unrhyw luniau cyfryngau cymdeithasol o'r ysgol wrth iddynt ymchwilio i'r digwyddiad hwn. Nid yw'n ddefnyddiol, ac mae'n achosi gofid ar adeg pan fo pobl eisoes yn ofidus oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd heddiw.
O ran cefnogaeth fugeiliol, rydych chi wedi gwneud pwyntiau pwysig iawn. Rydym am i blant fod yn gyfforddus a theimlo'n ddiogel yn dod i'r ysgol yn yr un ffordd ag yr ydym am i'n staff wneud hynny. Rwy'n credu y bydd yna ymateb ar unwaith o ran cefnogaeth fugeiliol, ac rwy'n cael y wybodaeth ddiweddaraf ac rwyf wedi bod yn glir iawn ein bod am wneud popeth yn ein gallu i gefnogi cymuned yr ysgol, ac rwy'n ymrwymo hefyd, wrth symud ymlaen, i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yn fwy hirdymor. Yn ffodus, mae digwyddiadau fel hyn yn hynod o brin, ond nid yw hynny'n lleihau maint y gofid a'r trawma i gynifer o bobl heddiw.
Y peth cyntaf rwyf am ei ddweud, ac adleisio'r hyn a ddywedwyd eisoes, yw bod fy meddyliau a fy nymuniadau gorau gyda phawb sydd wedi cael eu hanafu, ond hefyd pawb sydd wedi bod yn dyst ac wedi bod yn rhan ohono, ac felly wedi'u trawmateiddio ganddo. Rwyf am dalu teyrnged i'r athrawon a weithredodd yn gyflym, i Gyngor Sir Caerfyrddin a oedd wedi rhoi hyfforddiant ar drefniadau cloi a diogelu, a'r ffaith ei bod yn ymddangos, o'r hyn a ddarllenais hyd yn hyn, fod pawb wedi deall y broses honno. Mae hynny'n hanfodol pan fyddwch chi mewn sefyllfa beryglus. Wrth gwrs ein bod wedi ein syfrdanu, ac wrth gwrs ein bod yn yn drist. Rwyf wedi gweithio gyda disgyblion yn yr ysgol honno, ac mae ethos da yno, ethos da, cyfeillgar, a'r hyn y mae angen inni fod yn ymwybodol ohono—ac rwy'n siŵr eich bod—yw peidio â difetha'r ethos da, cyfeillgar hwnnw sy'n croesawu disgyblion ac athrawon ar sail un digwyddiad. Ond serch hynny, bydd yn rhaid inni ddysgu gwersi ohono: sut y digwyddodd, a ellid bod wedi'i atal. Mae'r rhain i gyd yn gwestiynau. Ac rwy'n mynd i ailadrodd yr hyn a ddywedodd Tom Giffard—y cais sydd wedi'i roi allan gan yr heddlu i beidio â rhannu lluniau na sylwadau, ond i ganiatáu i'r broses briodol ddigwydd fel nad ydych chi'n achosi braw a gofid pellach i'r rhai sy'n gysylltiedig.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys ymateb yn gyflym ac yn effeithiol iawn, ac o'r hyn y gallaf ei gasglu, fe wnaethant dawelu'r sefyllfa'n weddol gyflym, yn enwedig gyda'r rhieni a'r plant a oedd yn yr ysgol.
Roeddech chi'n dweud eich bod chi'n edrych ar gynnig cwnsela a help i'r disgyblion hynny, ac wrth gwrs, bydd angen i hynny ddigwydd, ac nid dim ond heddiw, oherwydd nid yw pobl bob amser yn deall i ddechrau fod angen help arnynt; efallai y bydd ei angen yn y dyfodol agos. Felly, hoffwn wybod y bydd hynny i gyd yn ei le, nid yn unig yn y tymor byr, ond yn fwy hirdymor wrth i'r effeithiau ddatblygu, o bosibl, ym meddyliau pobl.
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau hynny, Joyce, ac am ail-bwysleisio pa mor bwysig yw hi i bobl beidio â rhannu lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol o'r hyn a ddigwyddodd heddiw. Rwyf hefyd yn adleisio'r hyn rydych chi wedi'i ddweud am broses y cyngor ar gyfer ymdrin â'r sefyllfa heddiw. Mae gan bob ysgol gynlluniau ar waith ar gyfer ymdrin ag argyfyngau, ac mae'r cynlluniau heddiw, yn amlwg, wedi cael eu gweithredu'n gyflym ac yn briodol mewn sefyllfa anodd iawn, ac rwy'n diolch iddynt ac yn eu canmol am hynny.
Os caf ail-bwysleisio, ar y cymorth bugeiliol, rwy'n cydnabod bod yna ddisgyblion a staff ac aelodau o'r gymuned y bydd angen cymorth ar unwaith arnynt o ganlyniad i'r digwyddiad hwn, ond rwyf hefyd yn rhoi ymrwymiad fy mod yn llwyr gydnabod yr angen am gymorth mwy hirdymor. Fel y gwyddoch, rwy'n teimlo'n angerddol am y cymorth iechyd meddwl a ddarparwn yn ein hysgolion. Rwyf am iddynt fod yn lleoedd diogel, meithringar, a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i weithio gyda'r awdurdod lleol a'r ysgol i sicrhau bod cymorth yno cyhyd ag y bydd ei angen.
Diolch. Rwyf innau hefyd yn siarad fel un o gyn-ddisgyblion yr ysgol a rhywun sy'n cynrychioli rhan o'r dalgylch, ac rwyf am gydymdeimlo'n fyr â phawb sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad a'r rhai sydd wedi ymateb.
Gwelsom i gyd y lluniau o rieni'n rhuthro at gatiau'r ysgol yn poeni am eu plant, a gall pob un ohonom sy'n rhieni ac sydd â phlant yn ein teuluoedd ddychmygu pa mor ofidus oedd hynny. Fel y dywedwyd, mae Rhydaman yn gymuned glos a chroesawgar. Rwy'n credu bod y ffaith fod hyn wedi digwydd nawr yn oes y cyfryngau cymdeithasol yn ychwanegu trallod pellach.
Ac rwy'n credu y dylem oll fyfyrio a gofyn i bobl beidio â rhuthro i ffurfio barn. Nid ydym yn gwybod yr amgylchiadau. Nid ydym yn gwybod beth a arweiniodd at hyn. Nid ydym yn gwybod beth yw profiad y person sydd wedi cael ei arestio a'r amgylchiadau'n gysylltiedig â hynny. Yn amlwg, mae rhywbeth wedi mynd o’i le yn ddrwg iawn yma. Ac fel y dywedwch, mae'r ymateb wedi bod yn galonogol iawn, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn oedi cyn ffurfio barn, cyn bod pobl yn ymateb yn emosiynol, ac yn ddealladwy felly, ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond rwy'n meddwl bod angen i bob un ohonom oedi, a bod yn falch fod y nifer a anafwyd yn fach o ran nifer—mae ein meddyliau gyda nhw; gobeithio y byddant yn gwella'n iawn—ond rhoi'r amser sydd ei angen i feddwl am oblygiadau llawn ac achosion hyn.
Diolch yn fawr iawn, Lee, ac rwy'n cydnabod bod hyn yn arbennig o frawychus i bobl a oedd yn adnabod yr ysgol, ac yn arbennig o ofidus. Mae eich pwyntiau ar y cyfryngau cymdeithasol wedi'u gwneud yn dda iawn, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gadael i'r heddlu gynnal eu hymchwiliad. Roeddent yn glir iawn gyda mi a'r Prif Weinidog yn gynharach nad yw dyfalu diangen o unrhyw ddefnydd. Mae angen inni adael iddynt wneud eu gwaith ar yr un pryd â sicrhau ein bod yn cefnogi'r ysgol a'r gymuned drwy'r cyfnod anodd hwn.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Yr eitem nesaf fydd y ddadl gan y Ceidwadwyr ar addysg, a dwi'n galw ar Tom Giffard nawr i wneud y cynnig hwnnw.
Cynnig NDM8545 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r adroddiad 'Major Challenges for Education in Wales' a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a amlygodd:
a) bod sgoriau PISA wedi gostwng mwy yng Nghymru nag yn y mwyafrif o wledydd eraill yn 2022;
b) mai deilliannau addysgol ôl-16 yng Nghymru yw'r gwaethaf yn y DU;
c) bod disgyblion yng Nghymru dim ond yn perfformio cystal â phlant difreintiedig yn Lloegr;
d) bod yr esboniad am berfformiad addysgol is yng Nghymru yn debygol o adlewyrchu polisi a dull gweithredu Llywodraeth Cymru; ac
e) bod y cwricwlwm newydd i Gymru a diwygiadau Llywodraeth Cymru yn peri risg o ehangu anghydraddoldebau, cynyddu llwyth gwaith athrawon, a chyfyngu ar gyfleoedd addysg yn y dyfodol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) comisiynu adolygiad annibynnol i'r diwygiadau addysg presennol sy'n cael eu cyflwyno;
b) blaenoriaethu addysg plant drwy gael 5,000 yn fwy o athrawon yn ôl i ystafelloedd dosbarth;
c) sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth cywir yn gynt; a
d) cyflwyno academïau ac ysgolion rhydd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae angen inni siarad am gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru. Roedd canlyniadau PISA a welsom ddiwedd y llynedd yn hynod siomedig. Yn anffodus, gwelsom y sgoriau isaf yn y Deyrnas Unedig ym mhob un pwnc. Boed yn fathemateg, gwyddoniaeth neu ddarllen, roeddem yn gyson ar waelod tablau cynghrair y DU gyfan yma yng Nghymru. Ac roedd hyd yn oed y dirywiad yma yn fwy amlwg nag yng ngwledydd eraill y DU. Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, y mae ein cynnig yn sôn amdano, yn darlunio hynny hyd yn oed yn gliriach.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r bai ar bandemig COVID-19, ac mewn rhai ffyrdd rwy'n deall yr amddiffyniad hwnnw. Nid oes amheuaeth fod newid y ffordd yr oeddem yn dysgu ac yn addysgu a'r rhwystrau a roddwyd ar waith yn ystod y pandemig wedi gwaethygu'r broblem gyda chyrhaeddiad addysgol. Ond yr hyn nad yw'n ei esbonio yw pam oedd y dirywiad yma yng Nghymru mor amlwg. Fel y dywedais eisoes, dyma'r dirywiad mwyaf yn safonau canlyniadau addysgol yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, a hynny gan Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru nad yw erioed wedi codi o waelod yn y tablau cynghrair yn y pynciau hyn. Nid oes amheuaeth fod pobl ifanc Cymru yr un mor alluog â'r rhai a welwn mewn mannau eraill yn y DU, ond nid yw'r hyn y maent yn ei gyflawni yn ein hysgolion yn eu helpu i'w gyrraedd. Mae hynny er gwaethaf ymdrechion anhygoel ein staff addysgu gweithgar ledled y wlad.
Nawr, mae adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn awgrymu bod y gwahaniaeth yn ymwneud â pholisi a dull o weithredu. Mae Llywodraeth Cymru wedi dewis canolbwyntio ar ddull sy'n seiliedig ar sgiliau. Mae sgiliau, wrth gwrs, yn gwbl hanfodol i baratoi ein pobl ifanc ar gyfer byd gwaith. Ond efallai mai'r broblem yw'r dull o weithredu. Gadewch imi ddyfynnu dau bwynt o'r adroddiad a allai esbonio'r broblem. Rhif 1 yw ei bod yn anodd mesur y cynnydd a wneir gan fyfyrwyr sy'n dilyn cwricwlwm seiliedig ar sgiliau. Yn hytrach na dod o hyd i ffyrdd o fesur cynnydd myfyrwyr yn effeithiol, mae Llywodraeth Cymru wedi methu casglu digon o wybodaeth ystadegol i fesur anghydraddoldebau sgiliau a chynnydd disgyblion yn ein system addysg. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar ganlyniadau PISA i adrodd y stori, ond wedyn, pan fydd y canlyniadau hynny'n siomedig, cânt eu diystyru lawn mor barod.
A'r ail bwynt o'r adroddiad yr hoffwn ei nodi oedd y gellir gweld dirywiad yng nghanlyniadau PISA pob gwlad sydd wedi mabwysiadu dull seiliedig ar sgiliau. O ystyried bod adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn glir ynghylch gwendidau'r dull gweithredu, tybed a yw Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod wedi dewis y llwybr cywir i'n disgyblion. Mae ein pobl ifanc yn haeddu cyflawni eu potensial, a gwybod y gallant gyflawni beth bynnag y maent eisiau ei wneud. Dyna'r uchelgais sydd gan rieni ar gyfer eu plant, a'r un sydd gan athrawon i'w disgyblion, ac rwy'n siŵr ei fod yn uchelgais sydd gan bob Aelod o'r Senedd hon i'n pobl ifanc hefyd. Felly, mae angen inni wneud popeth yn ein gallu i gyflawni hynny. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas er mwyn gadael dyfodol gwell i'r genhedlaeth nesaf. Ac os mai cael y gostyngeiddrwydd a'r gonestrwydd i edrych eto ar y dull gweithredu yw'r ffordd y gallwn ei gyflawni, dyna ddylem ei wneud. Edrychaf ymlaen at wrando ar weddill y ddadl.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i welliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol fel prif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
2. Yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru).
3. Yn mynegi diolch i'r gweithlu addysg am eu gwaith caled parhaus drwy gydol y flwyddyn.
4. Yn nodi, er gwaethaf camreolaeth Llywodraeth y DU o'n cyllid cyhoeddus, bod Llywodraeth Cymru wedi diogelu’r cyllid sydd ar gael i ysgolion trwy'r setliad llywodraeth leol a chyllid grant.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Wedi ei gynnig yn ffurfiol. Diolch. Heledd Fychan nawr i gynnig gwelliant 2.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Dileu is-bwynt 2d).
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am osod y cynnig hwn. Gaf i groesawu hefyd yr Ysgrifennydd Cabinet i'w rôl? Edrychaf ymlaen i gydweithio.
Mae hwn yn bwnc eithriadol o bwysig, a dwi'n credu ei fod o'n gyfle da, gobeithio, i'r Ysgrifennydd Cabinet egluro i'r Senedd beth fydd hi yn ei flaenoriaethu hefyd fel ymateb i hyn.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn rhoi amser i fyfyrio ar adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Un o'r pethau yr hoffwn ei wybod yw beth yw barn Ysgrifennydd y Cabinet ar gynnwys yr adroddiad, a hefyd ei myfyrdodau ar y canlyniadau PISA. Yn amlwg, yr hyn sydd gennym yn yr adroddiad yw sylwadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar ymateb Llywodraeth Cymru, neu'r ymateb swyddogol, i PISA. Gyda pheth o'r feirniadaeth a welwyd, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i ni fel gwrthbleidiau ddeall yn iawn sut rydych chi'n teimlo am y sylwadau a'r feirniadaeth honno, a hefyd, os oes unrhyw amddiffyniad, gadewch inni ei gael, ac a oes unrhyw bethau i'w hystyried o ran hynny. Oherwydd ni wnaf ailadrodd yr ystadegau a ddarllenwyd gan Tom Giffard; mae'r rheini'n siarad drostynt eu hunain, nid oes dadl yn eu cylch. Ac fe allem gael dadl am PISA ei hun wrth gwrs a sut yr awn ati i fesur ac yn y blaen, ond y gwir amdani yw ein bod ni'n clywed yn barhaus gan undebau athrawon, athrawon eu hunain a disgyblion eu bod nhw'n teimlo bod yna argyfwng o fewn ein system addysg, ac nid yw hynny'n adlewyrchiad o'r gweithlu.
Hoffwn ddweud yn bendant fod angen inni werthfawrogi a diolch i'n staff gweithgar yn ein hysgolion sy'n gwneud gwaith arwrol o ddydd i ddydd. Byddwn i gyd yn gwybod am athrawon sydd wedi trawsnewid ein cariad neu ein hangerdd tuag at bwnc, ac rydym yn gwybod am y rhai sy'n mynd y tu hwnt i'r galw ddydd ar ôl dydd i sicrhau'r gorau i'r disgyblion yn eu gofal. Ond mae'n rhaid inni gydnabod hefyd yr hyn y mae undebau athrawon ac athrawon yn ei ddweud wrthym, nad oes digon o staff, eu bod yn pryderu nad oes digon o gynorthwywyr addysgu, rhywbeth a welwn, unwaith eto, oherwydd toriadau, ac ysgolion yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â staff a chymorth addysgu, a phryderon penodol wedyn ynglŷn â'r hyn y mae hynny'n ei olygu i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac fe fyddwch chi'n gwybod bod ein hymchwiliad wedi bod yn bellgyrhaeddol a'n bod ni wedi clywed tystiolaeth dorcalonnus. Fel Aelod rhanbarthol o'r Senedd, cynhaliais arolwg tebyg i un Buffy Williams, ac rwy'n siŵr fod y ddwy ohonom wedi cael cannoedd o sylwadau gan blant a phobl ifanc a'u rhieni a'u gofalwyr, nad ydynt yn gweld y newidiadau a addawyd yn dod drwodd gyda'r diwygiadau. Rydym hefyd yn clywed yn barhaus gan ysgolion y mae eu cyllidebau ar ymyl y dibyn, lle maent yn ei chael hi'n anodd meddwl am ddiwygiadau'r cwricwlwm. Er eu bod yn gwbl gefnogol, ni allant eu gwireddu am nad yw'r cyllidebau yno i roi bywyd iddynt.
Felly, rwy'n credu bod angen inni oedi a myfyrio, a dyna pam mae Plaid Cymru yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw, ar wahân i bwynt (d), gan nad ydym yn cefnogi cyflwyno ysgolion rhydd ac academïau. Ond rwy'n credu bod yr hyn y mae'r cynnig yn galw amdano, sef rhoi eiliad i oedi a myfyrio, ac edrych go iawn ar y newidiadau a roddwyd ar waith ac sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd, i weld a ydynt yn gweithio i'n plant a'n pobl ifanc, a hefyd i athrawon, yn bwysig iawn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cymryd y cynnig hwn fel y mae wedi'i gyflwyno a gofyn, 'A allwn ni wir edrych ar addysg a gweld a yw'r pethau yr ydym i gyd am eu gweld yn datblygu yn gyraeddadwy o fewn y gyllideb sydd ar gael ar hyn o bryd?'
Fy mhryder mawr yn hyn oll yw ein bod yn clywed dro ar ôl tro am blant a phobl ifanc nad ydynt yn yr ysgol o gwbl neu sydd wedi ymddieithrio o fyd addysg, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i ganlyniadau yn y dyfodol hefyd. Felly, eich myfyrdodau ar adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, beth yw eich ymateb, ac a gawn ni weld newid cywair gan y Llywodraeth i ddeall difrifoldeb canlyniadau PISA, a'n bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd—yn drawsbleidiol, ar draws y Senedd, a chyda'r undebau—i sicrhau'r math o system addysg rydym ei hangen ac yn ei haeddu yma yng Nghymru?
Rhaid imi ddweud, yn sgil sgorau PISA Cymru, sy'n destun embaras, mae'r adroddiad hwn gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn bur ddamniol. Ar un lefel, rwy'n teimlo'n flin dros yr Ysgrifennydd Cabinet newydd, ond mewn sawl ffordd, nid yw ond yn cadarnhau'r hyn rydym eisoes yn ei wybod a'r hyn rydym wedi bod yn ei ddweud ers amser maith: fod diwygiadau addysg Llafur Cymru wedi bod yn drychinebus ac wedi ehangu anghydraddoldeb. Ac rydym i gyd yn cofio blaenoriaethau blaenorol Llafur, sef 'addysg, addysg, addysg', nad ydynt yn gweithio yma yng Nghymru, mae'n amlwg.
Yn wir, mae'r diwygiadau hyn, y cymerodd flynyddoedd lawer i'w llunio, yn systematig yn dal plant difreintiedig yn ôl. Y ffaith fwyaf rhyfeddol yw bod perfformiad plant difreintiedig yn Lloegr naill ai'n uwch neu'n debyg i'r cyfartaledd ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Meddyliwch am hynny am eiliad. Dylai'r ystadegyn hwnnw ar ei ben ei hun beri pryder i unrhyw un yng Nghymru sy'n poeni am ddyfodol ein gwlad. Ac yn y lle hwn, mae Llafur yn hoffi awgrymu cymaint y maent yn poeni am gyfiawnder cymdeithasol a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Fe glywn foesoli cyson oddi ar feinciau'r Blaid Lafur. Yn y pen draw, mae eu Llywodraeth nhw'n cosbi plant a phobl ifanc dan anfantais.
Felly, ble mae cyfiawnder i blant o deuluoedd tlawd y mae eu cyfleoedd mewn bywyd wedi'u crebachu diolch i fympwyon ideolegol Llywodraeth allan o gysylltiad yma yng Nghaerdydd? Gwyddom nad yw Llafur yn hoffi cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd ac y byddant yn beio unrhyw un, yn enwedig San Steffan, ond fel y mae'r adroddiad yn nodi,
'Mae'n annhebygol y bydd modd egluro gwahaniaethau rhwng perfformiad addysgol Cymru a pherfformiad addysgol Lloegr drwy wahaniaethau mewn adnoddau a gwariant.'
Dyna ddyfyniad uniongyrchol o adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Ac maent hefyd yn nodi
'Mae'r esboniad am berfformiad addysgol is yn llawer mwy tebygol o adlewyrchu gwahaniaethau hirsefydlog o ran polisi a dulliau gweithredu, megis lefelau is o atebolrwydd allanol a llai o ddefnydd o ddata.'
Ac rydym ni, ar y llaw arall, yn ymwybodol fod diwygiadau addysg yn Lloegr wedi dwyn ffrwyth go iawn. Fel yr amlinellais, mae addysg yn Lloegr ymhell ar y blaen i addysg yng Nghymru. Nid wyf yn dweud hynny gyda balchder, ond gyda thristwch. Mae gennyf dri o blant yn y system addysg yma yng Nghymru. Mae'r gwannaf yn ysgolion Lloegr yn gwneud cystal neu'n well na chyfartaledd Cymru, diolch i uchelgais, yr academïau ac ysgolion rhydd. Diolch hefyd i gwricwlwm sy'n drylwyr, gyda ffocws ar ganlyniadau a phynciau fel ffoneg, sydd wrth gwrs yn flociau adeiladu cyflawniad i gynifer o blant. Ac mae llawer y gallai Gweinidogion Llafur yma ei ddysgu o'r diwygiadau hynny, ond yn waeth na dim i ni yng Nghymru, mae llawer mwy o fandaliaeth addysgol i ddod gan y Llywodraeth Lafur hon.
Fe wyddom fod y diwygiadau TGAU sydd ar y ffordd, yng ngeiriau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid,
'mewn perygl o ehangu anghydraddoldebau, cynyddu llwyth gwaith athrawon a chyfyngu ar gyfleoedd addysg yn y dyfodol.'
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gobeithio'n fawr eich bod yn myfyrio ar y geiriau gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid sy'n cael eu dyfynnu yno. Gwyddom fod addysg, ac addysg o safon, yn un o wastatwyr mawr bywyd, un o'r ffyrdd gorau o ddod â phobl, plant, allan o dlodi, ac mae'n alluogwr i chwalu caledi sy'n pontio'r cenedlaethau. Mae plant Cymru yn ysu am gyfle teg mewn bywyd ac nid ydynt yn cael y cyfle teg hwnnw o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Mae angen ateb gwell a dyfodol mwy disglair i'r plant hyn, felly rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio dros gynnig y Ceidwadwyr Cymreig. Diolch yn fawr iawn.
Lywydd, mae'r dirwedd addysg yng Nghymru yn mynd drwy newid mawr, wedi'i sbarduno gan Gwricwlwm newydd Cymru a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Ychwanegwch at hyn yr heriau ymddygiadol a wynebwn ar draws ysgolion yn sgil COVID a'r argyfwng costau byw, mae'r cyfrifoldeb ar ein hathrawon yn ymestyn yn llawer ehangach nag addysgu. Mae'n hollbwysig caniatáu digon o amser i'r newidiadau hyn wreiddio mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru, yn ogystal â gwrando ar athrawon a darparu'r cymorth sydd ei angen arnynt oddi mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Wrth ymweld ag ysgolion ledled y Rhondda, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol ymroddiad ac arloesedd athrawon i gyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc fel rhan o'r cwricwlwm newydd. Croesawyd yr ymreolaeth newydd â breichiau agored a brwdfrydedd yn ein hystafelloedd dosbarth. Heb os, mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiadau Estyn llwyddiannus diweddar ar ysgolion ledled y Rhondda. Mae llyfr gwaith Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn ar gyfer pob grŵp blwyddyn yn dyst go iawn i hyn, gyda disgyblion yn gallu cyflwyno eu gwaith yn hyderus drwy gydol y flwyddyn ysgol mewn dyfnder a dealltwriaeth.
Heb os, bydd rhannu arferion gorau ar draws clystyrau a rhanbarthau yn ateb nodau'r cwricwlwm ar gyfer dysgwyr mwy uchelgeisiol a galluog. Ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ategu ymdrechion athrawon a disgyblion â chamau i fynd i'r afael ag absenoldeb disgyblion, i ddiwallu anghenion disgyblion sy'n ffynnu i ffwrdd o amgylchedd yr ystafell ddosbarth, ac i greu cysylltiadau llawer cryfach rhwng ysgolion a gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, er mwyn mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl. Bydd parhau i fuddsoddi yn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn hanfodol. Byddwn wrth fy modd pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld ag ysgol newydd, Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn, pan fydd yn agor ei drysau yn nes ymlaen eleni.
Bydd adeiladu ar brosiectau llwyddiannus fel y prosiect Golau Gwyrdd ar draws Rhondda Cynon Taf yn allweddol hefyd, gan ganiatáu i ddisgyblion ddysgu mewn amgylchedd sy'n gweddu'n well i'w hanghenion. Mae croeso hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet gyfarfod ag athrawon a phlant yn y Rhondda i drafod y llwyddiant hwn ymhellach. Ac wrth gwrs, bydd cynyddu'r adnodd a chryfhau'r berthynas i gefnogi iechyd meddwl ein plant a'n pobl ifanc yn hanfodol. Yn dilyn sylwadau brawychus gan rai ysgolion yn y Rhondda a gwybod sut mae iechyd meddwl bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyfathrebu rhwng ysgolion a CAMHS yn waith yr hoffwn yn fawr ei chyfarfod i'w drafod ymhellach.
Gan droi at y Ddeddf ADY, hoffwn ddiolch i'r rhieni a'r gwarcheidwaid a rannodd eu profiad o lywio'r system ADY gyda mi ar gyfer fy adroddiad ADY yn y Rhondda. Er bod llawer iawn o ganlyniadau cadarnhaol ac agweddau cadarnhaol tuag at y Bil gan ein hathrawon, mae gormod o blant yn dal i gael cam. Rhaid inni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r heriau y mae'r system yn parhau i'w cyflwyno, boed yn wahaniaethau yn y ddarpariaeth rhwng ysgolion, y pryder y mae teuluoedd ac athrawon yn ei deimlo yn ystod prosesau panel cymhleth, neu'r llif llethol o geisiadau panel a ddaw i law awdurdodau lleol.
Yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, mae ein hymrwymiad i gasglu tystiolaeth uniongyrchol ar gyfer ein hymchwiliad i ddiwygiadau addysg yn parhau i fod yn ddiwyro, gydag ymweliadau pellach yn digwydd mewn ysgolion ledled Cymru dros y pythefnos nesaf, a byddwn yn cynnal sesiwn graffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar ddechrau'r mis nesaf. Ar yr un pryd, byddwn yn parhau i graffu a thrafod y dystiolaeth a gafwyd gan randdeiliaid i lunio argymhellion gyda'r nod o sicrhau mynediad teg at addysg a gofal plant i blant anabl.
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny, Buffy. Rydych chi newydd ddod yn gadeirydd y pwyllgor addysg. Un o'r problemau mwyaf yn yr hyn a adawyd ar ôl yn sgil pandemig COVID yw absenoldeb mewn ysgolion. Mewn rhai cymunedau difreintiedig, mae cymaint â 40 y cant o blant heb fod yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd, ac mae honno'n her fawr i'r Llywodraeth, ac yn amlwg mae Gweinidog newydd yn ei swydd nawr. Rwy'n obeithiol y bydd y pwyllgor addysg yma yn gwneud gwaith ar hynny. A ydych chi o'r un farn â minnau fod hwn yn fater eithriadol o bwysig y mae angen mynd i'r afael ag ef a sicrhau adnoddau ar ei gyfer, yn bwysig, fel bod y plant hynny'n dychwelyd i'r ysgol ac yn cael yr addysg sydd ei hangen arnynt?
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod; rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod. Dyma rywbeth yn y Rhondda—. Mae pob ysgol a fynychais yn y Rhondda wedi dod yn ôl ataf a dweud yn union yr un peth, fod ganddynt broblem enfawr gyda phresenoldeb, felly mae hyn yn rhywbeth y byddwn ni, fel pwyllgor, yn edrych arno ac yn edrych arno'n ofalus iawn.
I orffen, Lywydd, hoffwn ddiolch i'n hathrawon, staff ysgolion a swyddogion cyswllt teuluol ledled y Rhondda. Yng nghanol trallod economaidd ac yn ogystal â rhedeg ysgolion o ddydd i ddydd, mae'r arloesedd a'r haelioni a welir yn rhyfeddol. O bantri Ysgol Gynradd Clydach i'r Big Bocs Bwyd yn Ysgol Gynradd Treorci ac Ysgol Gynradd Gelli, yr archwilwyr sbwriel yn Ysgol Gynradd Maerdy ac Ysgol Gymunedol y Porth, a Chwtsh y Cwm Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, mae gwead yr ysgolion yn y Rhondda yn ymgorffori gwir ystyr teulu a chymuned. Diolch.
Hoffwn ddweud fy mod wedi fy syfrdanu o ddarllen canfyddiadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, ond mae'r casgliadau a gynhwysir yn yr adroddiad 'Major challenges for education in Wales' yn ailddatgan yr hyn yr oedd llawer ohonom yng Nghymru eisoes yn ei wybod: fod ein system addysg yn gwneud cam â chenedlaethau'r dyfodol; mae'n methu darparu'r canlyniadau addysg priodol, ac yn methu gwella cyfleoedd bywyd y plant mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn a'n cynnig heddiw yn canu larymau i Lywodraeth Cymru, ac mae angen iddynt wrando, nid yn unig ar y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, ond ar arweinwyr ysgolion ledled y wlad.
Ddydd Llun, siaradais â phennaeth un o'r ysgolion mwyaf yn fy rhanbarth a amlinellodd yr her y maent yn ei hwynebu. Mae'r gwelliannau mawr y maent wedi bod yn eu cyflawni i gyrhaeddiad a mynd i'r afael â materion ymddygiad i gyd mewn perygl oherwydd toriadau i gyllid. Gallai gwaith hanfodol a wneir i wella bywydau pobl ifanc ag anghenion ychwanegol gael ei atal am na allant fforddio parhau i gyflogi'r gweithwyr cymorth.
Ar adeg pan fo angen buddsoddiad o'r fath yng nghenedlaethau'r dyfodol, mae cyllidebau'n cael eu cwtogi a mwy o feichiau'n cael eu gosod ar staff addysgu ac arweinwyr ysgolion. Mae'n amlwg fod angen mwy o athrawon, ond mae angen system addysg sefydlog sy'n gweithredu ar lefel uchel arnom hefyd, ac nid dyna sydd gennym yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Mae pryderon a godwyd gan nifer yn y Siambr hon dros y chwarter canrif diwethaf wedi cael eu gwthio o'r neilltu gan Weinidogion olynol Llywodraeth Cymru, a feiai bawb a phopeth ar wahân iddynt hwy eu hunain. Eto i gyd, dyma ddarllen mewn du a gwyn mai'r achos sylfaenol dros fethiant addysg yw'r system ei hun. Ni allwn feio tlodi, ni allwn feio demograffeg, ond fe allwn roi'r bai ar lunwyr polisi. Mae gennym Brif Weinidog newydd a Chabinet newydd. Mae'n hen bryd inni gael cyfeiriad newydd.
Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dweud bod y diwygio arfaethedig mewn perygl o ehangu anghydraddoldebau, cynyddu llwyth gwaith athrawon a chyfyngu ar gyfleoedd addysg yn y dyfodol. Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i wella addysg yng Nghymru, ac mae hynny'n cynnwys oedi newidiadau ac adolygiad annibynnol trylwyr o'r diwygiadau addysgol. Mae llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn dibynnu ar gael hyn yn iawn. Yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, nid ydym ar y trywydd cywir ac mae angen cywiro hynny ar frys. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi ein cynnig y prynhawn yma felly, ac i wrthod y gwelliannau. Diolch yn fawr iawn.
Nid oeddwn wedi bwriadu siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma, ond credaf ei bod yn bwysig iawn, os ydym yn mynd i wella’r canlyniadau addysgol i bobl yng Nghymru, ein bod yn rhoi cydnabyddiaeth i'r bobl sydd yn ein hystafelloedd dosbarth, yn addysgu ein pobl ifanc ledled Cymru, sef ein staff addysgu. Weithiau, ni chredaf ein bod yn gwneud digon yn y Siambr hon i gydnabod y gwaith gwych y mae ein hathrawon yn ei wneud bob dydd ledled Cymru i ysgogi’r gwelliannau sydd eu hangen arnom i baratoi'r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc ar gyfer y gweithle. Y rheswm pam fy mod yn siarad heddiw yw fy mod yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sy'n mynd o gwmpas gyda Buffy ac Aelodau eraill, yn clywed yn uniongyrchol gan athrawon am y trafferthion y maent yn eu hwynebu ym myd addysg ar hyn o bryd.
Mae nifer yr athrawon a phenaethiaid sy'n cael trafferth aruthrol gyda'u hiechyd meddwl yn anghredadwy. Mae gennyf athrawon sy'n anfon e-bost ataf yn wythnosol yn dweud nad ydynt am fynd i'r gwaith mwyach, am na allant wynebu gwneud hynny. Maent yn codi am 7 o'r gloch y bore ac yn gweithio tan 8 o'r gloch, 9 o'r gloch y nos i baratoi pethau ar gyfer y diwrnod wedyn. Ni allant reoli eu dosbarthiadau mwyach, am fod ymddygiad yn mynd allan o reolaeth, ac yna maent hefyd yn edrych ar y bobl sy'n dioddef gyda phroblemau ADY. Gan nad ydym yn mynd i’r afael â’r problemau sylfaenol gydag ADY yn ein hysgolion ac yn darparu'r cymorth sydd ei angen ar y disgyblion hynny, mae rhai o’n hathrawon a rhai o’n penaethiaid yn treulio eu holl amser yn gofalu am y disgyblion hynny pan ddylai fod ganddynt y mecanweithiau cymorth cywir sydd eu hangen arnynt. Rwy'n credu, ac roedd fy rhagflaenydd, Kirsty Williams, hefyd yn credu, ei bod yn bwysig iawn i ni yma fel llunwyr polisi ddwyn y Llywodraeth i gyfrif ar y diwygiadau ADY a gyflwynwyd gan y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod y cymorth yn cyrraedd y disgyblion hynny, fel bod ein pobl ifanc ledled Cymru yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac fel nad yw dysgwyr eraill yn yr ystafelloedd dosbarth hynny yn cael eu trin yn waeth am nad ydynt yn cael y cymorth priodol sydd ei angen arnynt hwythau hefyd.
Ond yn fwy cyffredinol na hynny, rwy'n credu bod angen inni hyrwyddo addysg. Mae angen inni hyrwyddo addysg yng Nghymru. Rydym yn sôn am gael 5,000 yn rhagor o athrawon i mewn i'r ystafelloedd dosbarth. Ni chyflawnwn hynny os nad ydym yn siarad am y gwaith gwych a wnânt a diolch iddynt bob dydd am y gwaith anhunanol a wnânt yn addysgu pobl ifanc ledled Cymru, fel y dywedais o’r blaen. Oherwydd nid lladd ar ein system addysg yw'r ffordd o annog rhagor o athrawon i mewn i'r ystafell ddosbarth. Nid yw hynny'n mynd i annog unrhyw un i ymgymryd â'r proffesiwn addysgu. Felly, rwy’n annog pob Aelod yn y Siambr hon heddiw, os ydym am gael mwy o athrawon ac os ydym am ysgogi gwelliannau i’n system addysg ledled Cymru, mae angen inni ddechrau rhoi cydnabyddiaeth i'r bobl hynny yn yr ystafell ddosbarth am y gwaith gwych a wnânt bob dydd, a dwyn y Llywodraeth i gyfrif, ie, i sicrhau eu bod yn cefnogi’r athrawon hynny, yn rhoi cymorth iechyd meddwl ar waith ar gyfer yr athrawon hynny ac yn sicrhau bod ganddynt gydbwysedd priodol rhwng bywyd a gwaith, fel eu bod, pan fyddant yn codi yn y bore i fynd i ofalu am bobl ifanc, yn gwneud hynny hyd eithaf eu gallu a heb fod wedi ymlâdd yn llwyr ar ôl gorfod gwneud popeth arall hefyd.
Rwy’n annog pobl i gefnogi ein cynnig heddiw, ond rwy'n erfyn ar Ysgrifennydd y Cabinet hefyd i fynd allan i gyfarfod ag athrawon a phenaethiaid o bob rhan o Gymru a deall y trafferthion gwirioneddol y maent yn eu hwynebu bob dydd, oherwydd hebddynt, ni fydd gennym y system addysg rydym ei heisiau a’i hangen yma.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl hon heddiw? Ni fydd grŵp y Ceidwadwyr yn synnu fy nghlywed yn dweud fy mod yn anghytuno â llawer o gynnwys eu cynnig, ond rwy'n cydnabod difrifoldeb y materion a godwyd, yn enwedig y cyfeiriad at adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a'r gwaith sydd eto i'w wneud er mwyn darparu’r system addysg y mae pobl Cymru yn ei disgwyl ac yn ei haeddu. Ac nid wyf, mewn unrhyw ffordd, yn hunanfodlon ynghylch y dasg honno.
Bythefnos yn ôl, nododd y Prif Weinidog ei flaenoriaethau mewn datganiad yn y Siambr hon. Roedd gwelliannau parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol, ynghyd â chymorth ehangach i blant a phobl ifanc, ymhlith ei brif flaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru. Y gwelliant parhaus mewn cyrhaeddiad fydd fy ffocws fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a byddaf yn cyflwyno datganiad manylach ar fy mlaenoriaethau maes o law.
Ni fyddai unrhyw un yn gwadu bod y canlyniadau PISA a gyhoeddwyd y llynedd yn siomedig, ond ni allwn eu hystyried heb gyd-destun. Cynhaliwyd y profion hyn yn 2022, pan oedd effeithiau'r pandemig yn dal yn amlwg a COVID yn dal i amharu ar addysg. Gwyddom ein bod wedi gwneud cynnydd cyn COVID, gyda gwelliant yn y sgorau PISA, ac roedd gennym hyder cynyddol fod ein hymdrechion cyfunol i wella perfformiad addysgol yn dechrau dwyn ffrwyth. Bydd ein ffocws newydd ar lythrennedd a rhifedd yn hanfodol fel bod pob dysgwr, ni waeth beth fo’u cefndir, yn gallu cyflawni eu potensial. Rydym wedi buddsoddi £5 miliwn mewn rhaglenni cymorth a darllen o ansawdd uchel, ochr yn ochr â phecyn cymorth llafaredd a darllen newydd i ysgolion a’n cynllun mathemateg a rhifedd. Mae gennym raglen ddiwygio uchelgeisiol ac eang, sydd ond newydd ddechrau cael ei chyflwyno.
Mae ein Cwricwlwm i Gymru, na chafodd ei asesu o dan PISA, bellach wedi’i gyflwyno ym mhob ysgol yng Nghymru. Rydym wedi gweld cynnydd gwirioneddol ar weithredu'r cwricwlwm, a hyder cynyddol a pherchnogaeth ar gynllunio'r cwricwlwm ymhlith addysgwyr. Mae ysgolion yn addasu eu dulliau ac yn parhau i gefnogi'r newidiadau.
Fy ffocws cynnar fu gwrando’n astud ar ysgolion. Lle mae’n amlwg fod ysgolion yn awyddus i gael mwy o sgaffaldiau, byddaf yn sicrhau eu bod yn cael y cymorth manylach hwnnw. Mae'n rhaid imi ddweud yn glir na ellir ystyried cyrhaeddiad heb ystyried y ffordd y daw plant a phobl ifanc at eu haddysg. Mae eu hiechyd meddwl a’u llesiant a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol yn hollbwysig ar gyfer cyrhaeddiad, fel y mae llesiant y gweithlu. Yn fy rôl weinidogol flaenorol, roeddwn yn falch o fwrw ymlaen â’r dull ysgol gyfan o weithredu ar iechyd meddwl a llesiant, a byddaf yn parhau i hyrwyddo hynny fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Nid PISA yw’r unig ddangosydd o ba mor dda y mae ein system addysg yn perfformio. Cyhoeddwyd ein hadroddiad cenedlaethol ar asesiadau personol ym mis Tachwedd, a byddwn yn dilyn hyn gydag adroddiad blynyddol. Mae adroddiad blynyddol Estyn yn rhoi cyfrif annibynnol pwysig o sut mae ysgolion, addysg a darparwyr hyfforddiant yn perfformio. Mae Estyn wedi tynnu sylw at faterion llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ers COVID, a byddaf yn parhau i ystyried eu canfyddiadau ac yn gwrando ar brofiadau athrawon a dysgwyr ar yr un pryd.
Mae ein harweinyddiaeth genedlaethol yn allweddol i'r gwaith o godi safonau addysg, drwy ymestyn dysgwyr a lleihau'r bwlch cydraddoldeb. Rydym yn cynnull uwch-gyfarfodydd arweinwyr addysg cenedlaethol i sicrhau bod y system yn gweithredu gyda’i gilydd a bod y cyfrifoldeb am weithredu yn cael ei rannu gan bawb ar y cyd. Rydym hefyd yn parhau i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae rhoi'r Ddeddf a'r diwygiadau ADY ar waith yn flaenoriaeth allweddol, a dyna pam fod y lefelau uchaf erioed o gyllid gan y Llywodraeth yn cefnogi’r maes hwn bellach.
Bydd yr adolygiad haen ganol hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn llywio ein dull o gydgysylltu gwelliant ar bob lefel. Rydym hefyd yn diwygio addysg ôl-16 drwy reoli colegau, prifysgolion, prentisiaethau a lleoliadau chweched dosbarth fel un system, drwy’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER). Bydd CTER yn gyfrifol am hyrwyddo cyfle cyfartal mewn addysg ôl-16, gan sicrhau canlyniadau tecach i bawb. Ac mae ein gwarant i bobl ifanc eisoes wedi helpu dros 27,000 o bobl ifanc 16 i 24 oed i gael mynediad at raglenni cyflogadwyedd a sgiliau.
Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, fod llwyth gwaith yn bryder i lawer o staff addysgu. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid, undebau llafur a chyflogwyr i leihau llwythi gwaith a dileu biwrocratiaeth ddiangen. Sefydlwyd y grŵp cydgysylltu strategol ar lwyth gwaith ym mis Chwefror, ac mae'r grŵp hwnnw’n goruchwylio’r holl faterion sy’n ymwneud â lleihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth. Mae adolygiad cyfochrog yn ystyried llwyth gwaith darlithwyr addysg bellach. Byddwn yn parhau i gefnogi recriwtio drwy achredu rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon, parhau'r TAR cyflogedig a chymhellion i annog unigolion o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol i'r proffesiwn.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn yn fy araith heddiw i ddiolch i'r gweithlu addysg am eu holl waith caled parhaus drwy gydol y flwyddyn hon, a phob blwyddyn—fe'i gwerthfawrogir yn fawr. Rwy'n gwybod na ellir cyflawni newid a gwelliant heboch chi, ac rwy'n ymrwymo heddiw i weithio gyda chi, mewn partneriaeth â chi, i gyflawni ar ran dysgwyr ledled Cymru. Gwyddom fod yna heriau ym maes addysg, llawer ohonynt nad ydynt yn unigryw i Gymru, ond rydym yn mynd i’r afael â’r rhain drwy gydweithio â’n partneriaid i adeiladu’r system ragorol, gadarn ac uchelgeisiol y mae pobl Cymru yn ei haeddu. Diolch.
Galwaf ar Samuel Kurtz i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl y prynhawn yma, ac ailadrodd y geiriau a grybwyllwyd eisoes ein bod yn cydymdeimlo fel grŵp gyda’r rheini yn Ysgol Dyffryn Aman ar ôl y digwyddiad heddiw?
Wrth agor y ddadl, soniodd Tom Giffard am y sgorau PISA ac adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, gan nodi bod pobl ifanc yng Nghymru yr un mor alluog â phobl ifanc eraill ledled y DU, ond yn anffodus, eu bod yn cael cam yma yng Nghymru. Dywedodd fod angen gwneud popeth sy'n bosibl i sicrhau dyfodol gwell i bobl ifanc a phlant Cymru, a chredaf y dylai pob un ohonom gytuno ag ef.
Yn ei chyfraniad, gofynnodd Heledd gwestiynau clir i Ysgrifennydd y Cabinet am ei blaenoriaethau a’i barn ar adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a'r sgorau PISA. Galwodd Heledd yr ystadegau a grybwyllwyd gan Tom Giffard yn 'ystadegau diamheuol'. Roedd thema gyffredin drwy’r holl gyfraniadau heddiw, sef cydnabyddiaeth i athrawon a staff ysgolion, a’u gwaith da yn ein sefydliadau addysg. Roeddwn yn siomedig o glywed na fydd Plaid Cymru yn cefnogi ein galwadau am academïau ac ysgolion rhydd. Credaf fod hon yn un elfen o'r diwygiadau addysgol yn Lloegr sydd wedi bod yn llwyddiant, gan godi safonau, ac felly credaf y dylid archwilio unrhyw gyfle i wella canlyniadau addysgol.
Yn ei gyfraniad ef, galwodd Sam Rowlands adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn ‘embaras’ ac yn ‘bur ddamniol’, a dywedodd ei fod yn ehangu’r anghydraddoldebau yma yng Nghymru. Ailadroddodd y neges enwog honno gan Brif Weinidog Llafur blaenorol, 'addysg, addysg, addysg'. Yn anffodus, yma yng Nghymru, 'methiant, methiant, methiant' ydyw. Mae plant difreintiedig yn Lloegr ar lefel debyg o ran cyrhaeddiad i bob plentyn yma yng Nghymru. Ac nid yw'n fater o adnoddau na chyllid, fel y mae adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn ei nodi; mae'n rheswm sy'n ymwneud â pholisi a dull gweithredu.
Soniodd Buffy Williams—llongyfarchiadau ar gael eich penodi'n Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—am y newidiadau mawr a wnaed i addysg yma yng Nghymru, a bod angen digon o amser i'r newidiadau ddigwydd ac ymwreiddio. Pa mor hir yw digon o amser? Pa mor hir y mae'n rhaid inni aros i'r newidiadau hynny ymwreiddio cyn inni ddweud, 'A dweud y gwir, nid ydynt yn gweithio'? Soniodd hefyd am adroddiadau Estyn ar ysgolion lleol—byddai’n esgeulus imi beidio â defnyddio’r cyfle i longyfarch ysgol Maenorbŷr yn fy etholaeth i, a gafodd adroddiad gwych gan Estyn, a hynny ar ôl dioddef tân yn eu hysgol a’i symud i neuadd bentref am sawl mis. Llongyfarchiadau i bob un ohonynt ar hynny. Ond roedd Buffy hefyd yn iawn i nodi'r gwahaniaeth o ran iechyd meddwl, y brwydrau a'r berthynas waith agosach rhwng ysgolion a CAMHS—credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig.
Mewn ymyriad, cododd Andrew R.T. Davies fater absenoliaeth, ac rwy’n falch y bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn edrych ar hyn, gan y credaf fod hwnnw’n bwynt gwerth chweil i ni ei archwilio'n fanwl.
Yn ei gyfraniad, mynegodd Altaf Hussain ei syndod ynghylch adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. 'Methu ar ran cenedlaethau'r dyfodol', meddai Altaf, ac mae hyn yn rhywbeth sydd wedi'i ailadrodd ar y meinciau hyn. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i wrando—credaf fod hynny’n hynod o bwysig. Dylid gwrando ar y rheini sy'n gwybod sut i wella'r pethau hyn. Gyda Phrif Weinidog newydd, Cabinet newydd, fe ellid cael cyfeiriad newydd, meddai.
Roedd James Evans, mewn cyfraniad nad oedd yn bwriadu ei wneud, yn hynod o resymegol ac eglur wrth nodi'r angen i gydnabod y staff addysgu, nid yn unig yr athrawon eu hunain, ond yr holl staff mewn sefydliadau addysg yma yng Nghymru, sy’n gweithio’n galed ar ran cenedlaethau'r dyfodol.
Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gloi, fe wnaethoch chi gydnabod difrifoldeb y mater dan sylw, maint y dasg, ac fe ddywedoch chi nad oeddech yn hunanfodlon. Digon o rethreg gadarnhaol ynghylch hyn, mae'n rhaid dweud. Roeddech yn siomedig gyda'r canlyniadau PISA, ond fe ddywedoch fod COVID yn ffactor sylfaenol. Nawr, nid yw hyn bob amser yn gwneud synnwyr fel rheswm dros y canlyniadau PISA, pan oedd gwledydd eraill y DU yn ymrafael â COVID hefyd, ac nid oedd y gostyngiad yn eu safonau yn agos at yr hyn a welsom yma yng Nghymru. Yr hyn yr hoffwn ei weld rywbryd yn y dyfodol yw cynnydd ar leihau’r llwyth gwaith i staff, ac edrychwn ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ar y gwaith hwnnw wrth inni symud ymlaen.
Yn y rôl hon fel Aelodau o'r Senedd, mae gennym y cyfle a'r fraint o fynd i ysgolion i siarad â'r genhedlaeth nesaf, ac rwyf bob amser yn teimlo bod angen imi eu gadael â rhywbeth i geisio eu hysbrydoli, ac rwyf bob amser yn teimlo atyniad at—bydd y rheini ohonoch sydd wedi defnyddio gorsaf drenau Abertawe wedi gweld llinell wedi'i hysgrifennu ar y llawr, neu os ydych chi wedi gweld ffilm o'r enw Twin Town, fe fyddwch chi'n gyfarwydd â'r llinell—'Ambition is critical', dyfyniad gan David Hughes. Mae uchelgais yn gwbl hanfodol. Gadewch inni fod yn uchelgeisiol ar ran ein plant ysgol, gadewch inni fod yn uchelgeisiol ar ran ein pobl ifanc, gadewch inni fod yn uchelgeisiol wrth sicrhau nad system addysg yn unig yw’r system addysg sydd gennym yma yng Nghymru, ond y system addysg orau oll. Dylem fod yn arweinwyr, nid yn ddilynwyr, a chyda hynny, rwy’n annog pob Aelod i bleidleisio gyda’r Ceidwadwyr Cymreig heno. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ac rydym wedi cyrraedd y cyfnod hwnnw. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 6, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, roedd 14 yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod—Bil i wella diogeledd bwyd: O blaid: 24, Yn erbyn: 11, Ymatal: 14
Derbyniwyd y cynnig
Bydd y bleidlais nesaf ar eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Addysg. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf am bleidlais ar welliant 1 nesaf, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Addysg. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM8545 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i welliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol fel prif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
2. Yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru).
3. Yn mynegi diolch i'r gweithlu addysg am eu gwaith caled parhaus drwy gydol y flwyddyn.
4. Yn nodi, er gwaethaf camreolaeth Llywodraeth y DU o'n cyllid cyhoeddus, bod Llywodraeth Cymru wedi diogelu’r cyllid sydd ar gael i ysgolion trwy'r setliad llywodraeth leol a chyllid grant.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Addysg. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
A dyna ddiwedd ar y pleidleisio am heddiw, ond symudwn ymlaen nawr at y ddadl fer. Ac os oes Aelodau'n gadael, gwnewch hynny'n dawel os gwelwch yn dda.
A galwaf yn awr ar Peter Fox i gyflwyno'i ddadl ar y pwnc y mae wedi’i ddewis heddiw.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Thema’r ddadl heddiw yw gofal sylfaenol a’r agenda ataliol, a hoffwn roi munud o fy amser i Sam Rowlands, Mark Isherwood a James Evans.
Mae'n ddywediad cyfarwydd fod atal yn well na gwella, dywediad sy'n arbennig o ingol pan fyddwn yn ystyried y pwysau eithafol sydd ar ein sector iechyd a gofal cymdeithasol. Yn wir, mae pob un ohonom wedi clywed straeon dirdynnol yn ein hetholaethau am gleifion sy’n aml yn cael eu gadael mewn poen ar restrau aros neu’n aros am driniaeth. Gwyddom fod ein gwasanaethau gofal sylfaenol yn chwarae rhan hynod o bwysig yn ein GIG, o drin anhwylderau mwy cyffredin i reoli salwch hirdymor. Ni ellir gorbwysleisio'r gwaith y mae’r sector yn ei wneud, ond yn anffodus, gofynnir i’n gwasanaethau gofal sylfaenol wneud llawer gormod gyda llawer rhy ychydig.
Yn wahanol i ysbytai, sy’n cael eu rhedeg a’u hariannu’n ganolog gan bob bwrdd iechyd, mae meddygon teulu a phractisau deintyddol yn dilyn model partneriaeth i raddau helaeth. Golyga hyn fod y practis yn fusnes preifat i bob pwrpas, sy’n eiddo i un neu lond llaw o ymarferwyr sy’n cael cyllid contract gan y bwrdd iechyd i ddarparu gwasanaethau a thalu eu staff. Mae'n rhaid talu am unrhyw gostau ychwanegol yr eir iddynt drwy gaffael, cynnydd mewn costau neu godiadau cyflog drwy refeniw’r busnes, nid drwy unrhyw gynnydd mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru. Ac o ganlyniad, mae partneriaid bellach yn gorfod talu staff a biliau cyfleustodau allan o’u cyflogau eu hunain oherwydd diffyg cyllid cytundebol, nad yw’n cael ei godi yn unol â chostau cynyddol a chodiadau cyflog a drafodir rhwng undebau a Llywodraeth Cymru.
Mae sawl meddyg teulu wedi dweud wrthyf mai dim ond oherwydd y model partner a'u dibyniaeth ariannol ar lwyddiant y busnes y mae gofal sylfaenol yn gweithio'n llwyddiannus. Fodd bynnag, o ganlyniad i'r problemau ariannol hyn, mae practisau meddygon teulu bellach yn rhoi'r gorau i fwy a mwy o'u gwasanaethau, gan orfodi ysbytai i ymgymryd â mwy o waith am nad yw'r cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru. Datgelodd data a ryddhawyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fod saith practis yn y bwrdd iechyd wedi rhoi'r gorau i ddarparu gwasanaethau estynedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Golyga hyn fod rhai o fy etholwyr yn gorfod teithio cyfanswm o 50 milltir i gyrraedd ysbyty ac yn ôl er mwyn cael gwasanaeth a arferai gael ei gynnig gan eu meddyg teulu lleol. Yn ychwanegol at hyn, gallent aros 50 wythnos i gael yr un triniaethau ag a gyflawnid fel mater o drefn ac yn amserol yn y practis meddyg teulu.
Mae’r hyn a ddechreuodd fel cynnydd mewn llwyth gwaith fel arwydd o ewyllys da gan feddygon teulu i gefnogi eu cymuned leol nid yn unig wedi dod yn norm, ond hefyd wedi arwain at sefyllfa lle mae'r gwasanaeth iechyd yn dibynnu’n helaeth ar y gwaith hwn. Os ydym yn credu o ddifrif yn yr agenda ataliol i fynd i’r afael â llesiant pobl a lleihau’r pwysau ar ofal eilaidd, dylem ddefnyddio pob agwedd ar ofal sylfaenol mewn ffordd lawer mwy rhagweithiol a’u cefnogi’n ariannol yn unol â hynny. Ni allaf bwysleisio hyn ddigon. Bydd parhau â busnes fel arfer ond yn arwain at lai a llai o wasanaethau’n cael eu darparu gan feddygon teulu, gan arwain at fwy o bwysau ar wasanaethau gofal eilaidd sydd eisoes yn gwegian.
Rwy’n falch fod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi bod y GIG yn mynd i gael ei flaenoriaethu, a ddoe, clywsom awgrymiadau cadarnhaol, ond wrth ei flas y mae profi pwdin. Rwy'n awyddus iawn i weld sut olwg sydd ar y gweithredoedd hyn mewn gwirionedd. Ac fel y gwyddom yn rhy dda gyda'r Llywodraeth hon, bydd y manylion yn bwysig. Nid yn unig fod ein meddygon teulu yn ei chael hi'n anodd, ond mae gwasanaethau deintyddol y GIG hefyd yn gweld dirywiad cyflym yn dilyn cyflwyno'r contract deintyddol newydd. Nid yw'r contractau hyn yn gweithio i ddeintyddion nac i gleifion. Mewn gwirionedd, mae’r fformiwla ariannu yn ffafrio metrig Llywodraeth Cymru ar gyfer llwyddiant, sef cael cleifion newydd drwy’r drysau. Fodd bynnag, drwy alinio contractau â’r metrig hwn, nid yw cleifion sydd â phroblemau mwy cymhleth yn gallu cael apwyntiadau. Mae ganddynt ddewis rhwng rhestrau aros blynyddoedd o hyd neu dalu cannoedd o bunnoedd am ofal preifat.
Ers cyflwyno'r contractau newydd, mae gostyngiad o 60 y cant wedi bod yn nifer y swyddi deintyddol yn y GIG yng Nghymru o gymharu â’r flwyddyn flaenorol yn 2021. Mae’r sector wedi adleisio’r pryder ynghylch y contractau deintyddol hyn, gyda llythyr agored Cymdeithas Ddeintyddol Prydain at Lywodraeth Cymru yn rhybuddio ein bod yn wynebu trychineb posibl oherwydd y ffordd y mae'r pandemig wedi arwain at ddiwygio contractau a diffyg ymatebolrwydd gan y Llywodraeth. Mae’r diffyg hygyrchedd hwn wedi arwain at bobl yn cymryd camau eithafol mewn perthynas â gofal deintyddol, o straeon torcalonnus am bobl yn tynnu eu dannedd eu hunain â gefeiliau neu bobl yn cael eu gorfodi i fynd ar deithiau 200 milltir i gael apwyntiadau deintyddol. Yn amlwg, mae hyn yn gwbl annerbyniol yn yr unfed ganrif ar hugain.
Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud? I ddechrau, mae angen inni fynd i’r afael â mater contractio ein sector gofal sylfaenol. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn gweithio gyda meddygon teulu i sicrhau eu bod yn cael eu hariannu’n a'u paratoi'n briodol i allu ymdopi â’r cynnydd mewn llwyth gwaith. Mae angen inni adolygu ein contractau meddygon teulu, gan sicrhau bod ganddynt y cymorth sydd ei angen arnynt i gyflawni’r gwaith ychwanegol y mae’n ofynnol iddynt ei wneud. Nid yn unig hynny, ond mae angen diwygio contractau deintyddol ar fyrder i sicrhau y gallwn gadw darpariaeth GIG yma yng Nghymru. Fel ein cymheiriaid yn Lloegr, byddai cynyddu cyfradd yr uned o weithgaredd deintyddol ar gyfer triniaethau cymhleth yn mynd rywfaint o'r ffordd i annog deintyddion i aros yn y GIG.
Ac yn olaf, fy marn bersonol i yw bod angen adolygiad cyffredinol o ofal eilaidd, gan sicrhau bod pob £1 a werir yn ein GIG yn cael ei defnyddio'n effeithiol. Byddai hyn yn nodi meysydd i’w gwella, ond hefyd gallai ryddhau arian y gellid ei ddefnyddio i ariannu ein gwasanaethau gofal sylfaenol ledled Cymru, gan helpu i wneud mwy ar yr agenda ataliol. Rwy’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y pwyntiau hyn ac yn sicrhau bod ein gwasanaethau gofal sylfaenol nid yn unig yn dal eu gafael, ond y gallant ffynnu a chefnogi cymunedau lleol ledled Cymru. Diolch.
Diolch i Peter Fox am roi munud o’ch amser yn y ddadl fer hon yma heddiw. Fel y dywedwch, yn ddiamau, atal yw’r peth gorau i bobl, o ran materion iechyd, ac fel y dywedoch chi, mae hefyd yn arbed llawer o arian yn nes ymlaen yn ogystal, ac yn sicr, mae gan ofal sylfaenol ran bwysig i’w chwarae yn yr agenda hon.
Darllenais erthygl heddiw am gyfraddau gordewdra yng Nghymru, ac roedd eich cyfeiriad mai wrth ei flas y mae profi pwdin ar fater gordewdra yn ddiddorol. Ond dywed elusen Nesta mai’r ffigur cywir ar gyfer cyfraddau gordewdra ymhlith oedolion yng Nghymru yw 34 y cant, sydd ychydig o bwyntiau canran yn uwch na’r ffigur swyddogol. A hwnnw, mewn gwirionedd, yw'r ffigur uchaf ymhlith gwledydd y DU, cyfradd ordewdra o 34 y cant. Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn yn falch o’ch clywed yn sôn am—. Mae mynd i'r afael â gordewdra wedi bod yn un o'ch prif flaenoriaethau, ac yn sicr, mae llawer y gellir ei wneud ym maes atal wrth fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â gordewdra. Ond hoffwn glywed heddiw, yn eich ymateb i'r ddadl hon, a deall rhywfaint o'r syniadau a allai fod gennych ar weithio gyda gofal sylfaenol i fynd i'r afael â gordewdra, ond hefyd ar sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng cyfrifoldeb personol yn y maes hwnnw a fframweithiau'r Llywodraeth hefyd, sydd weithiau'n gydbwysedd anodd ei daro. Felly, hoffwn glywed rhai o'ch syniadau yn y maes hwnnw'n benodol, a sut y gall gofal sylfaenol helpu i ysgogi agenda ataliol mewn perthynas â gordewdra yn enwedig. Diolch yn fawr iawn.
Mae darparwyr gofal sylfaenol annibynnol yn cael eu comisiynu gan bob un o fyrddau iechyd y GIG yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau iechyd llygaid arbenigol yn y gymuned, ond caiff gwasanaethau colli clyw oedolion yng Nghymru eu darparu gan fyrddau iechyd y GIG yn unig. Yn yr un modd â gwledydd datblygedig eraill, mae gan Gymru boblogaeth fawr a chynyddol o oedolion â cholled clyw sy’n gysylltiedig ag oedran. Ceir tystiolaeth sylweddol fod awdioleg gymunedol yn gosteffeithiol iawn ac y gellir ei darparu’n ddiogel gan ddarparwyr annibynnol a gefnogir gan y modelau darparu gwasanaeth sy'n gweithredu yn Lloegr a Gweriniaeth Iwerddon. Er bod model Cymru o awdioleg gofal sylfaenol yn gwella hygyrchedd, mae cleifion yn parhau i wynebu oedi sylweddol. Mae angen gwasanaeth awdioleg gofal sylfaenol llawn yng Nghymru, sy’n darparu triniaeth amserol o ansawdd uchel yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau rheoli cwyr clustiau, a ddarperir gan ddarparwyr gofal sylfaenol annibynnol a gomisiynir gan GIG Cymru. Byddai hyn yn helpu i atal myrdd o gymhlethdodau iechyd pellach ar lefel gofal sylfaenol fel rhan ganolog o agenda ataliol.
Mae'n dda iawn fod Peter Fox wedi dod â'r ddadl hon i'r Siambr heddiw oherwydd mae atal bob amser yn well na gwella. Gall y rhan fwyaf o gyflyrau iechyd y mae pobl yn eu hwynebu gael eu hatal pe bai ganddynt ffordd iachach a mwy egnïol o fyw. Fel y dywedodd Sam Rowlands am ordewdra, mae'n chwarae rhan enfawr mewn cyflyrau, ond un peth sy'n mynd ar fy nerfau'n barhaus yw ein bod weithiau'n gweld llawer gormod o arian yn cael ei roi i'r rhaglenni hyn am fod llawer o'r arian yn cael ei amsugno i greu'r strategaeth. Mewn byrddau iechyd, maent yn gwario miliynau ar filiynau o bunnoedd yn creu strategaeth hyfryd y maent yn ei rhoi ar y silff ac nad yw byth yn cael ei gweithredu, ac yna pan fyddant eisiau ei gweithredu, maent yn sylweddoli bod y rheolwr a gyflogwyd wedi mynd â'r holl arian fel na allant roi'r arian i'r gwasanaeth i'w ddarparu. Felly, yr hyn yr hoffwn ei glywed gan y Gweinidog mewn gwirionedd yw sut rydych chi'n dilyn arian y strategaethau atal hyn, oherwydd bûm yn siarad am y strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' gyda meddygfeydd yn fy etholaeth sy'n dweud wrthyf fod y bwrdd iechyd yn creu dogfen hyfryd sy'n segur ar y silff, ac nad oes gan y meddygfeydd arian eu hunain i weithredu'r newidiadau hyn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Peter Fox am ddod â'r ddadl hon i lawr y tŷ heddiw. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad am bwnc pwysig yr agenda atal a gofal sylfaenol. Mae ein strategaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru, 'Cymru Iachach', yn pwysleisio pwysigrwydd llesiant, atal ac ymyrraeth gynnar i sicrhau bod systemau iechyd a gofal yn fwy effeithiol, teg a chynaliadwy, nid yn unig ar gyfer heddiw ond ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n tynnu sylw at yr angen i alluogi ac annog iechyd da a llesiant gydol oes, gan ragweld a darogan bod iechyd a llesiant gwael ein dinasyddion yn rhywbeth nad oes yr un ohonom eisiau ei weld.
Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio, a dylem ddathlu ein bod yn byw'n hwy ac yn goroesi afiechydon a digwyddiadau a oedd unwaith yn dod â bywyd i ben, a hynny oherwydd gwelliannau mewn meddygaeth a safonau byw. Ond mae newid yn y ddemograffeg, ynghyd â chynnydd mewn cyflyrau cronig ac ymddygiadau ffordd o fyw afiach yn gosod galwadau newydd a allai fod yn anghynaliadwy ar y GIG a'n gwasanaethau gofal. Er mwyn ymateb a chynnal gwasanaeth cyffredinol y GIG, mae'n rhaid inni symud o ganolbwyntio ar drin afiechydon i gefnogi a hyrwyddo iechyd gwell ar draws y boblogaeth, gydag atal yn ganolog i hynny. Ond mae gennym gyfrifoldeb fel Llywodraeth i gefnogi pobl i ofalu am eu hiechyd eu hunain, i atal afiechyd yn ddiweddarach mewn bywyd drwy annog pobl i roi'r gorau i ysmygu, i gyfyngu ar faint o alcohol y maent yn ei yfed, ac i fabwysiadu ffyrdd iachach o fyw drwy fwyta'n well, bod yn egnïol yn gorfforol a chynnal perthnasoedd a chysylltiadau cymdeithasol.
Nawr, nid rôl y gwasanaeth iechyd yn unig mo hon; mae pob un ohonom fel unigolion yn gyfrifol am yr agenda ataliol. Rydych chi wedi clywed bod gordewdra yn mynd i fod yn un o brif flaenoriaethau newydd fy nghyfrifoldebau i. Rwyf wedi gofyn i hynny ddod yn rhan o fy mhortffolio. Sam, rwy'n fwy na hapus i roi ychydig mwy o fanylion i chi am hynny; rwy'n gweithio ar raglen gynhwysfawr, ond mae'n mynd i gymryd amser imi gyrraedd yno, felly os caf ofyn am eich amynedd. Rwy'n cydnabod bod hwn yn fom amser y mae gwir angen inni fynd i'r afael ag ef. Ond mae gan iechyd a lles gwell ei sylfeini yn y 1,000 diwrnod cyntaf hefyd, mewn addysg dda, yn y sgiliau sydd gennym i ennill cyflog byw teg, mewn tai o ansawdd da ac yn y cymunedau bywiog lle rydym yn byw.
Rwyf am droi nawr at ffocws y ddadl fer hon, at ofal sylfaenol. Mae mwyafrif y cysylltiadau â'r GIG yn digwydd mewn gofal sylfaenol—hyd at 1.5 miliwn o gysylltiadau y mis mewn poblogaeth o 3 miliwn o bobl. Fel y pwynt cyswllt cyntaf, gall gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol chwarae rhan allweddol a dibynadwy mewn gwaith atal drwy gefnogi pobl i gynnal eu hiechyd a'u lles eu hunain, ond mae ein model gofal sylfaenol i Gymru yn cefnogi ystod lawer ehangach o wasanaethau lleol—nid yw'r cyfan yn ymwneud â'r meddyg teulu—gan gynnwys y trydydd sector, gan sicrhau bod atal a hunanofal yn ganolog. Felly, er mai meddygon teulu yw'r pwynt cyswllt cyntaf yn aml ar gyfer cyngor dibynadwy, yn ogystal â bod yn ddrws blaen i wasanaethau arbenigol eraill, mae'n bwysig nodi y gallai'r gwasanaethau eraill hynny fod yn fwy priodol weithiau, ac rwy'n gwybod, yn enwedig o fod yn briod â meddyg teulu, am y pwysau eithafol sydd arnynt ar hyn o bryd. Ar y contract y llynedd, os caf egluro, fe wnaethom roi codiad cyflog iddynt, 5 y cant, nid yn unig i'r meddygon teulu, ond hefyd i'r staff sy'n gweithio yn eu meddygfeydd. Maent yn gwneud mwy na thrin salwch i gadw'r boblogaeth yn iach, ac mae'n bwysig ein bod yn gwneud i bob cyswllt â meddyg teulu gyfrif, wrth iddynt fynd ati i hyrwyddo a gweinyddu ein rhaglenni brechu, cynnig cyngor am ddewisiadau ffordd o fyw, sgrinio am ffactorau risg ar gyfer ystod eang o gyflyrau, ac wrth iddynt gyfeirio ac atgyfeirio at wasanaethau eraill, gan gynnwys rhoi'r gorau i ysmygu, rheoli pwysau a chefnogaeth trydydd sector. Ond gellid tynnu rhywfaint o hyn oddi ar eu hysgwyddau a'i roi i weithwyr proffesiynol eraill yn y gymuned.
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Rwy'n cytuno'n llwyr ynglŷn ag ymyrraeth gymunedol, fferylliaeth gymunedol, optometreg ac ati, ond y broblem yw bod comisiynu'r gwasanaethau hynny'n amrywio rhwng un bwrdd iechyd a'r llall, yn enwedig rhwng Caerdydd a'r Fro, er enghraifft, a bwrdd iechyd bae Abertawe, a ddefnyddir yn aml iawn fel enghraifft yn fy rhanbarth etholiadol fy hun. Felly, mae'r anghysondeb gyda chomisiynu'n llesteirio datblygiad gwasanaethau cymunedol y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei groesawu. Rwyf wedi eistedd yn y Siambr hon ers 2007 a chlywais amryw o Weinidogion iechyd yn dweud eu bod eisiau mwy o wasanaethau cymunedol, ond nid yw'n ymddangos ei fod yn gyson ledled Cymru.
Wel, mae'n gytundeb cenedlaethol. Mae'r contract fferylliaeth yn gontract cenedlaethol, felly nid wyf yn deall hynny'n iawn. Yn amlwg, os nad oes gennych optometrydd stryd fawr yn eich ardal leol, mae'n anodd inni ddarparu'r gwasanaeth hwnnw os nad yw'n bodoli. Ond mae'n gytundeb cenedlaethol.
Gadewch imi roi rhai enghreifftiau i chi o ble y gallwn helpu. Felly, mae'r rhaglen atal diabetes dan arweiniad deietegydd eisoes wedi cefnogi pobl sydd â risg uwch o ddiabetes math 2 i newid eu deiet a chynyddu gweithgarwch corfforol. Felly, os ydych chi'n ei ddal yn gynnar, gallwch eu hatal rhag datblygu diabetes math 2. Os ydych chi'n cael diabetes math 2, rydych chi'n wynebu ystod eang o gymhlethdodau newydd, felly mae ei ddal yn gynnar yn allweddol.
Ac mae ein rhaglen Dechrau'n Deg yn diwallu anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu plant i sicrhau eu bod yn barod ar gyfrer yr ysgol. Mae ein rhaglen ddeietegol arobryn wedi cyflwyno cynlluniau fel 'dewch i goginio gyda'ch plentyn' yng ngogledd Cymru, gan helpu teuluoedd i wneud prydau iach a fforddiadwy o'r dechrau. Felly, rydym wedi bod yn diwygio gofal sylfaenol ers nifer o flynyddoedd. Nid yw hyn yn rhywbeth newydd. Nid yw'n syniad newydd. Rydym wedi bod yn cyflawni hyn mewn gwirionedd. Ac fel y mae rhai ohonoch chi wedi nodi, mae deintyddion ac optegwyr yn chwarae rhan allweddol yn atal problemau iechyd y geg a'r llygaid. Rwy'n gwybod bod Mark wedi sôn am awdioleg gymunedol. Mae bob amser yn cefnogi pobl sydd â cholled clyw. Mae'n bwysig ein bod yn gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru. Rydym yn ceisio datblygu'r systemau awdioleg gymunedol hyn, wedi'u darparu gan y GIG. Ac mae yna opsiwn i fynd i'r sector preifat. Fodd bynnag, nid yw'n opsiwn rhad ac am ddim, Mark. Mae'n rhaid ichi ddod o hyd i'r arian i'w roi i'r sector preifat er mwyn gwneud hynny, ac ar hyn o bryd, yn amlwg, rydym yn wynebu heriau ariannol mawr.
Mae clefyd y gymiau a phydredd dannedd yn aml yn gallu cael ei atal drwy fyw’n iach a brwsio dannedd yn iawn. Rŷn ni am ddiwygio contract deintyddol y gwasanaeth iechyd ar sail atal, risg ac angen, ac rŷn ni wedi cyflwyno i fyny at 300,000 o apwyntiadau i gleifion NHS newydd.
I wella gofal llygaid, rŷn ni wedi cyflwyno deddfwriaeth newydd a rhoi cyllid ychwanegol i wneud yn siŵr bod mwy o wasanaethau ar gael yn lleol. Rŷn ni wedi gwneud hyn yn unol â’r syniad o atal. Mae fferyllfeydd cymunedol yn cynnig gwasanaethau hanfodol ac yn hyrwyddo ffyrdd iach o fyw. Maen nhw'n helpu i leihau’r pwysau ar feddygon a rhannau eraill o'r system iechyd a gofal. Mae'r rhan fwyaf o fferyllfeydd Cymru yn darparu gwasanaeth am ddim ar gyfer anhwylderau cyffredin. Yng Nghymru, mae 27 math o anhwylder yn gallu cael eu trin o gymharu â saith sy'n gallu cael eu trin mewn fferyllfeydd yn Lloegr. Gan fod mwy o wasanaethau ar gael mewn fferyllfeydd cymunedol, mae cannoedd o filoedd o bobl wedi osgoi’r angen i weld meddyg. Rŷn ni'n ymgynghori ar ddwy strategaeth newydd, sef y strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol, a'r strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Ein nod yw hyrwyddo a chefnogi lles a rhoi’r gallu i bobl wella eu hiechyd meddwl a’u lles.
Mae atal yn hanfodol i sicrhau dyfodol cynaliadwy i ofal iechyd yng Nghymru. Yr unigolyn sydd â'r cyfrifoldeb i ddechrau'r daith at fod yn iach. Bydd y camau ar eu newydd wedd ar gyfer 'Cymru Iachach' yn nodi sut byddwn ni'n cyfleu hyn i'r cyhoedd. Dyw atal ddim yn rhywbeth sy'n cael ei wneud ar ben ei hun. Mae'n strategaeth eang sy'n rhan annatod o'n system iechyd. Rŷn ni am roi'r gallu i bobl reoli eu hiechyd eu hunain, rŷn ni am gefnogi ein gweithwyr gofal iechyd yn eu gwaith hanfodol, ac rŷn ni am gryfhau adnoddau cymunedol. Drwy wneud hyn, byddwn yn lleihau baich clefydau ac yn gwella ansawdd bywyd i bawb. Diolch yn fawr.
Diolch i bawb. Daw hynny â busnes heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:10.