Y Cyfarfod Llawn
Plenary
20/03/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i Gyfarfod Llawn heddiw. Yr eitem gyntaf o fusnes heddiw yw enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8. A oes unrhyw enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog?
Rwy'n enwebu Vaughan Gething.
A oes unrhyw enwebiadau eraill?
Fel cadeirydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n enwebu Andrew R.T. Davies.
A oes unrhyw enwebiadau eraill?
Dirprwy Lywydd, enwebaf, I nominate, Rhun ap Iorwerth.
Neb arall? [Chwerthin.]
Gan fod tri enwebiad, byddaf yn cynnal pleidlais trwy alw cofrestr ac yn gwahodd pob Aelod sydd yn bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd. Byddaf yn galw pob Aelod sy'n bresennol yn nhrefn yr wyddor. Dywedwch enw'r ymgeisydd yr ydych yn ei gefnogi'n glir pan gewch chi eich galw, neu dywedwch yn glir eich bod yn dymuno ymatal. Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni chaniateir i'r Llywydd nac i finnau bleidleisio.
Iawn, gadewch inni ddechrau. Mick Antoniw.
Vaughan Gething.
Mabon ap Gwynfor.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth. [Laughter.]
Natasha Asghar.
Andrew R.T. Davies.
Hannah Blythyn.
Vaughan Gething.
Vaughan Gething.
Jayne Bryant.
Vaughan Gething.
Cefin Campbell.
Rhun ap Iorwerth.
Vaughan Gething.
Vaughan Gething.
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies. [Chwerthin.]
Gareth Davies.
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies.
Vaughan Gething.
Mark Drakeford.
Vaughan Gething.
Mae James Evans yn absennol. Rebecca Evans.
Vaughan Gething.
Janet Finch-Saunders.
Andrew R.T. Davies.
Luke Fletcher.
Rhun ap Iorwerth.
Andrew R.T. Davies.
Heledd Fychan.
Rhun ap Iorwerth.
Mae Russell George yn absennol. Vaughan Gething.
Vaughan Gething.
Andrew R.T. Davies.
John Griffiths.
Vaughan Gething.
Lesley Griffiths.
Vaughan Gething.
Llyr Gruffydd.
Rhun ap Iorwerth.
Siân Gwenllian.
Rhun ap Iorwerth.
Vaughan Gething.
Vikki Howells.
Vaughan Gething.
Altaf Hussain.
Andrew R.T. Davies.
Vaughan Gething.
Huw Irranca-Davies.
Vaughan Gething.
Mark Isherwood.
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies.
Vaughan Gething.
Delyth Jewell.
Rhun ap Iorwerth.
Laura Anne Jones.
Andrew R.T. Davies.
Samuel Kurtz.
Andrew R.T. Davies.
Jeremy Miles.
Vaughan Gething.
Mae Darren Millar yn absennol. Eluned Morgan.
Vaughan Gething.
Julie Morgan.
Vaughan Gething.
Sarah Murphy.
Vaughan Gething.
Lynne Neagle.
Vaughan Gething.
Peredur Owen Griffiths.
Rhun ap Iorwerth.
Mae Rhianon Passmore yn absennol. Adam Price.
Rhun ap Iorwerth.
Mae Jenny Rathbone yn absennol. Sam Rowlands.
Andrew R.T. Davies.
Jack Sargeant.
Vaughan Gething.
Vaughan Gething.
Carolyn Thomas.
Vaughan Gething.
Vaughan Gething.
Joyce Watson.
Vaughan Gething.
Mae Buffy Williams yn absennol. Sioned Williams.
Rhun ap Iorwerth.
Rwy'n credu imi fethu Mark Drakeford, oni wneuthum? Na. O, fe'i cefais, do.
Byddwn y nawr yn aros i'r Clerc gadarnhau canlyniad y bleidlais.
A gawn ni ofyn am ailgyfrif?
Gallech ofyn, ond ni chewch—[Chwerthin.]—nid oni bai fod y ffigurau—.
Trefn. Dyma ganlyniad y bleidlais a gynhaliwyd drwy alw'r gofrestr. Rwyf felly'n datgan bod Vaughan Gething wedi cael ei enwebu i'w benodi'n Brif Weinidog Cymru. Yn unol ag adran—
Pedwar deg saith. A yw hynny—? Iawn, o'r gorau. Dim ond gwirio. Yn unol ag adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, byddaf nawr yn argymell penodiad Vaughan Gething yn Brif Weinidog i’w Fawrhydi. Rwy’n gwahodd Vaughan Gething i annerch y Senedd. [Cymeradwyaeth.]
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelodau sydd wedi cefnogi fy enwebiad heddiw.
Diolch o galon i'm cyd-Aelodau sydd wedi cefnogi fy enwebiad heddiw. Rwy’n arbennig o ddiolchgar i’m rhagflaenydd, Mark Drakeford, am ei enwebiad, ac am y gefnogaeth y mae wedi’i chynnig i mi nid yn unig yn y dyddiau diwethaf, ond dros y blynyddoedd lawer yr ydym wedi gweithio mor agos gyda’n gilydd. Ni chredaf y byddai unrhyw un ohonom byth yn dymuno byw drwy ddyddiau tywyll y pandemig eto. Ond fel cyd-Aelodau eraill yma, roeddwn yn hynod ddiolchgar i gael Mark fel ein Prif Weinidog drwy’r cyfnod hwnnw. Bydd hanes, yn gywir ddigon, yn cofio Mark am yr arweinyddiaeth dosturiol, golegol a moesegol a ddisgleiriodd drwy’r dyddiau tywyll hynny i’n cenedl. Dywedir nad oes unrhyw waddol mor gyfoethog â gonestrwydd. Nodweddir cyfnod Mark yn arweinydd gan y geiriau hynny. Roedd cyfraniad ddoe yn nodi hynny’n glir ar y cofnod unwaith eto. Felly, a gaf i ddiolch yn fawr unwaith eto heddiw, Mark, am bopeth rydych wedi'i wneud dros Gymru? [Cymeradwyaeth.]
Nawr, yng nghyfraniad cyntaf Mark yn dilyn ei enwebiad yn Brif Weinidog, soniodd sut, ar ddiwrnodau anodd, y byddai Rhodri Morgan yn dweud y geiriau, 'Tin hat on', eiliadau cyn mynd i ateb y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Roedd hyn ym mis Rhagfyr 2018, ac rwy'n cofio Mark yn gofyn i’w deulu, a oedd yn gwylio, wneud yn siŵr y byddai Siôn Corn yn dod â helmed dun iddo y flwyddyn honno. Felly, i fy mherthnasau i sy'n gwylio heddiw, byddai'n well gennyf beidio ag aros tan y Nadolig; byddai rhywbryd yn ystod y tair wythnos nesaf yn wych.
Ond Ddirprwy Lywydd, wrth inni edrych yn ôl ar y straeon hynny am y bobl sydd wedi llywio datganoli yn ei chwarter canrif cyntaf, mae'n nodedig fod niferoedd cynyddol o bobl yma yng Nghymru bellach nad ydynt erioed wedi gweld amser hebddo. Yn fy ieuenctid afradlon braidd, treuliais rywfaint o amser yn ymgyrchu ar ran mudiad Ie dros Gymru, a helpodd i sicrhau'r refferendwm a wnaeth ddyddiau fel heddiw'n bosibl. I nifer cynyddol o Aelodau yn y Siambr hon, mae datganoli—atebion Cymreig i broblemau a chyfleoedd Cymreig—wedi bod yn nodwedd gyson o’n bywydau fel oedolion. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl gyda datganoli. Fe wnaethom hynny, er enghraifft, i gadw Cymru’n ddiogel. Ond yn yr un cyfnod, rydym wedi gweld gelyniaeth ddigynsail tuag at ddatganoli democrataidd yng Nghymru gan Lywodraeth y DU sy’n benderfynol o danseilio, rhwystro a diystyru Llywodraeth Cymru a’r Senedd hon. Yn ogystal â gadael Cymru â llai o lais dros lai o arian, mae’n hynod gyrydol, yn wastraffus ac yn annemocrataidd.
Fel Prif Weinidog, edrychaf ymlaen at sefyll dros Gymru a datganoli yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod, ond rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i gydweithio dros Gymru gyda Llywodraeth DU newydd sy’n buddsoddi mewn partneriaeth ac yn nyfodol Cymru. Rwy'n edrych ymlaen oherwydd, fel cymaint o Aelodau a ffrindiau yma heddiw, rwyf am i Gymru ffynnu yn yr heulwen y gall gobaith a chyfiawnder cymdeithasol eu cynnig i bob un ohonom, ni waeth beth fo'n cefndir, sut rydym yn edrych na phwy rydym yn eu caru.
Mae Cymru yn haeddu mwy nag ysbeidiau heulog.
O ysbeidiau heulog, lle mae'n aml yn anodd bod yn obeithiol, gallwn groesawu optimistiaeth o’r newydd ac uchelgais newydd ar gyfer Cymru decach, wedi’i hadeiladu gan bob un ohonom.
Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi sôn yn ystod y dyddiau diwethaf fy mod yn benderfynol o gynnig clust i wrando a chyfeillgarwch i unrhyw un yn y Senedd hon, a thu hwnt, lle rydym yn rhannu uchelgais ar gyfer dyfodol ein gwlad. Er mwyn diwallu anghenion pobl Cymru, mae angen ymrwymiad cyfunol i wrando. Yn wyneb grymoedd newydd ymrannol, mae adfer ymddiriedaeth ac adennill urddas yn y ffordd y siaradwn â’n gilydd yn bwysicach nag erioed. Mae'r rheini sy'n ceisio lledaenu poblyddiaeth annymunol yn dyheu am Gymru ranedig. Credaf mai ein tasg ni yw atal buddugoliaeth ymraniad a chasineb, drwy adeiladu pontydd, drwy wrando, drwy ail-greu ymddiriedaeth rhwng pobl a phŵer. Dyma gynhwysion gwleidyddiaeth fwy caredig a mwy effeithiol—un lle rydym yn goresgyn yr ymdrechion diflino i wneud i’n cenedl gynnes droi’n oer.
Fel Prif Weinidog, byddaf yn dod â Llywodraeth ynghyd sy’n dadlau'r achos cadarnhaol yn gyson dros wleidyddiaeth flaengar, i atgoffa pobl mai dim ond drwy ddod at ein gilydd y gallwn gyflawni ar gyfer y lliaws. Felly, rwy'n dewis gwneud safiad dros bositifrwydd, i beidio byth â megino'r fflamau sy’n niweidiol i bobl ac sy'n niweidio ein henw da yn y byd, i sefyll o blaid set o syniadau a datblygiadau polisi arloesol sydd wedi’u gwreiddio yng ngwerthoedd Cymru, i sefyll o blaid arweinyddiaeth sy'n seiliedig nid ar chwerwder, dicter neu'r ymdrech ofer i ail-greu gorffennol na fu erioed, ond arweinyddiaeth sy'n seiliedig ar obaith, i hyrwyddo'r achos dros hawliau dynol, dros undod, a thros ymrwymiad i chwarae rhan ryngwladol ar y cyd wrth fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu.
Ddirprwy Lywydd, ni allaf adael i'r enwebiad hwn fynd heibio heb ddweud rhywbeth am ei arwyddocâd hanesyddol. Fi, wedi’r cyfan, yw arweinydd etholedig cyntaf fy mhlaid, ac yn wir, fy ngwlad, gydag ‘ap’ yn eu henw. [Chwerthin.] Wrth gwrs, rydym wedi pleidleisio heddiw hefyd i sicrhau mai Cymru yw’r genedl gyntaf yn unrhyw le yn Ewrop i gael ei harwain gan unigolyn du. Rwy'n credu ei fod yn destun balchder i'r Gymru fodern, ond mae hefyd yn gyfrifoldeb dwys i mi, ac un nad wyf yn ei gymryd yn ysgafn. Ond heddiw, gallwn ddisgwyl hefyd i batrwm torcalonnus o gyfarwydd ddod i’r amlwg, gyda chamdriniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, ystrydebau hiliol wedi’u cuddio ag iaith gwrtais, pobl yn cwestiynu fy nghymhellion, a byddant, fe fyddant yn dal i gwestiynu neu wadu fy nghenedligrwydd, tra bydd eraill yn cwestiynu pam fy mod yn chwarae'r cerdyn hil. Wrth y bobl hynny, dywedaf unwaith eto: mae'n hawdd iawn peidio â malio am hunaniaeth pan nad yw eich un chi erioed wedi'i chwestiynu nac wedi eich dal yn ôl. Credaf y bydd Cymru heddiw ac yn y dyfodol yn eiddo i’r holl bobl weddus hynny sy’n cydnabod y dylai ein Senedd a’n Llywodraeth edrych fel ein gwlad, pobl sy’n cydnabod bod ein gobaith a’n huchelgais ar gyfer y dyfodol yn dibynnu ar ryddhau talent pob un ohonom, Cymru sy’n cydnabod y gallwn ddathlu ein gwahaniaethau ac ymfalchïo yn yr holl bethau sy’n ein dwyn ynghyd ac yn ein gwneud yr hyn ydym. Dyna’r Gymru rwyf am ei harwain, Cymru sy’n llawn gobaith, uchelgais ac undod. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch, bawb. [Cymeradwyaeth.]
Vaughan, a gaf i ddymuno’n dda i chi yn eich rôl newydd fel Prif Weinidog y Senedd hon a Chymru. Pob lwc. Ond er eglurder, hoffwn gofnodi'r pleidleisiau. Bwriwyd 51 pleidlais: 27 o blaid Vaughan Gething, 13 o blaid Andrew R.T. Davies, ac 11 o blaid Rhun ap Iorwerth, gyda neb yn ymatal. Diolch.
Yr eitem nesaf yw cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jane Dodds.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr Adolygiad Ymarfer Plant i farwolaeth Kaylea Titford? TQ1029
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Bu farw Kaylea, yn drist iawn, mewn amgylchiadau trasig ychydig ar ôl ei phen-blwydd yn un ar bymtheg oed, a chafwyd ei rhieni’n euog o’i dynladdiad, ac maent bellach yn y carchar. Bydd yr adolygiad ymarfer plant yn ein helpu i ddysgu beth arall y gallwn ei wneud i wella arferion diogelu amlasiantaethol i amddiffyn plant a phobl ifanc.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
Diolch yn fawr am yr ymateb.
Rwy'n gwybod pa mor ymroddedig ydych chi i blant a phobl ifanc, ac i’w diogelwch. Hoffwn ddweud ychydig eiriau am Kaylea, gan ei bod yn aml mor anodd cofio yn yr amgylchiadau hyn fod yma blentyn sydd wedi marw. Roedd Kaylea yn 16. Fe'i disgrifiwyd fel unigolyn bendigedig, hwyliog, penderfynol a phengaled—ac rwy'n hoffi hyn—ni fyddai'n derbyn cyngor dietegol pan fyddai'n cael ei gyflwyno mewn ffordd nawddoglyd. Credaf y gall pob un ohonom uniaethu â hynny, oni allwn? Fodd bynnag, yn anffodus, bu farw Kaylea, yn 16 oed, yn 22 stôn, a disgrifiwyd yr amodau y bu farw ynddynt, pan ddaethpwyd o hyd iddi, fel rhai a fyddai'n anaddas i anifail. Mae'n rhaid inni beidio byth ag anghofio mai’r bobl a oedd yn gyfrifol am hyn, fel y dywedwch, yn gywir ddigon, Weinidog, oedd ei rhieni.
Fodd bynnag, mae dwy elfen yma yr hoffwn eu codi. Mae’r cyntaf yn un yr wyf wedi’i chodi o’r blaen, sy’n ymwneud â gwaith amlasiantaethol, a wnaeth gam â Kaylea, ac a wnaeth gam â phlentyn arall a fu farw yng Nghymru, Logan Mwangi. Mae gwaith amlasiantaethol yn rhywbeth sydd mor bwysig, ac eto, am na wnaeth yr asiantaethau gyfathrebu'n dda, fe wnaethant golli golwg arni, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn dysgu o'r diffyg ffocws amlasiantaethol hwn. Ond mae'r ail elfen yn ymwneud â'r adolygiad ymarfer plant, ac mae hwn yn fater systemig. Mae'n ymwneud â llywodraethu. Pwy sy'n gyfrifol am fonitro'r camau gweithredu yn dilyn adolygiadau ymarfer plant? Gwyddom fod proses newydd yn cael ei datblygu o’r enw adolygiad diogelu unedig sengl, a ddylai fod yn dechrau fis nesaf, mis Ebrill 2024, ond nid oes unrhyw fanylion ar gael ar gyfer hynny.
Nawr, os ydym am gadw plant a phobl ifanc ledled Cymru yn ddiogel, mae’n rhaid inni gael proses sy’n sicrhau y ceir cyfrifoldeb nid yn unig am ddysgu o’r camau hynny a dwyn pobl i gyfrif amdanynt, ond sydd hefyd yn sicrhau ein bod yn eu rhoi ar waith yn llawn er mwyn sicrhau nad yw pobl fel Kaylea yn marw yn yr amgylchiadau hyn eto. Felly, hoffwn ofyn i chi, Weinidog: sut rydych chi a’r Llywodraeth yn mynd i sicrhau bod gennym weithio amlasiantaethol gwell, a bod gennym system sy’n diwallu anghenion y plant a’r bobl ifanc hyn sy’n agored iawn i niwed? Diolch yn fawr iawn.
Daeth Paul Davies i’r Gadair.
Diolch, Jane. Rwy'n credu bod pob un ohonom yn cofio ein bod yn sôn am drasiedi heddiw, lle bu farw menyw ifanc ychydig ddyddiau yn unig ar ôl ei phen-blwydd yn un ar bymtheg oed. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni barchu, yn ein dadleuon heddiw, y ffaith bod bywyd unigryw wedi’i golli a bod yn rhaid inni gynnal ein trafodaeth yma mewn modd sensitif.
Fel rydych wedi’i ddweud, Jane, mae rhieni Kaylea wedi’u cael yn euog o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol, ac maent yn bwrw dedfrydau hir o garchar. Nhw sy'n gyfrifol am ei marwolaeth. Credaf ei bod yn bwysig i’r Senedd glywed am yr hyn a ddywedodd y barnwr wrth roi'r ddedfryd yn yr achos hwn. Dywedodd:
'Roedd cymorth ar gael. Roedd yno ar eu cyfer. Roedd wedi'i roi o'r blaen.... Roedd y methiant i gael unrhyw gymorth o gwbl, hyd yn oed gan feddyg teulu Kaylea, yn arbennig o arwyddocaol yn y misoedd allweddol cyn marwolaeth Kaylea yn ystod y cyfyngiadau symud.'
Gwyddom fod pandemig COVID-19 wedi gwaethygu ei hynysigrwydd a bod hyn wedi lleihau’r cyfleoedd i sicrhau bod cymorth ar gael i’r teulu, ond ni chredaf ei bod yn glir faint o’r cymorth hwn, os o gwbl, a fyddai wedi cael ei dderbyn.
Rydych yn nodi, yn gywir ddigon, pa mor bwysig yw gwaith amlasiantaethol, ac mae’r hyn a ddysgwyd o’r adolygiadau yn cael ei rannu ar hyn o bryd drwy sawl llwybr, cyfarfodydd byrddau diogelu rhanbarthol, sy’n cynnwys rhanddeiliaid allweddol, gwefannau byrddau a sesiynau briffio, ac fe'i defnyddir i lywio hyfforddiant amlasiantaethol ar draws y rhanbarth. Ers marwolaeth dorcalonnus y plentyn arall y cyfeirioch chi ato, mae cynnydd wedi’i wneud ar y gwaith hwnnw.
Mae gennym ein rhaglen waith gyfredol i ddatblygu adolygiad diogelu unedig sengl, gan gynnwys datblygu storfa o adolygiadau ymarfer plant, a fydd hefyd yn cynnwys adolygiadau ymarfer oedolion ac adolygiadau diogelu eraill. Bydd hyn yn cryfhau ymhellach ein gallu, yn genedlaethol, i ddysgu gan a mynd i’r afael ag argymhellion a wneir mewn adolygiadau diogelu fel rhan o welliant parhaus ymarfer amlasiantaethol.
Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw dysgu o bob set unigryw o amgylchiadau, gwella gwaith rhyngasiantaethol a chyfnewid gwybodaeth, ac mae'n rhaid inni wella sylfaen sgiliau a sgiliau gwneud penderfyniadau’r rheini ar y rheng flaen. Credaf fod hynny’n gwbl hanfodol, a dyna pam fod gennym fframwaith ymarfer a gyflwynwyd gennym fel rhan o’n gwaith o drawsnewidiad gwasanaethau plant. Credaf y bydd yr holl bethau a wnawn yn yr agenda drawsnewid honno'n helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn.
Ond yn y bôn, hoffwn ddweud fy mod yn cydymdeimlo'n llwyr â'i theulu, a bod angen inni ymdrin â hyn mewn modd sensitif iawn.
Hoffwn gofnodi fy nhristwch ynghylch y digwyddiad hwn. Rwy’n ymwybodol nad dyma’r tro cyntaf i hyn gael ei godi yn y Senedd. A minnau'n gyfrifol am bortffolio gwasanaethau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, rwyf wedi gweld drosof fy hun nad dyma'r unig achos a welsom yng Nghymru. Rydym wedi gweld achos Kaylea Titford, yr ydym yn sôn amdano nawr, ond hefyd achos Logan Mwangi, yr ydym hefyd wedi'i drafod gryn dipyn yn Siambr y Senedd hon.
Gyda Kaylea Titford, Logan Mwangi, mae thema'n datblygu yma, onid oes, Ddirprwy Weinidog? Rwyf wedi galw ers tro, ac mae fy mhlaid wedi galw am adolygiad Cymru gyfan o wasanaethau plant, ar draws y 22 awdurdod lleol, i ystyried pob un o’r materion y soniwn amdanynt heddiw, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llithro drwy’r rhwyd yma yng Nghymru a’n bod yn rhoi’r holl gyfleoedd i’r awdurdodau lleol gael y cyfle i fynd i’r afael â’r pryderon hyn ac atal unrhyw achosion posibl rhag codi yng Nghymru yn y dyfodol.
Nawr, yn amlwg, rydym newydd ethol Prif Weinidog newydd Cymru. Nid wyf yn siŵr a fyddwch yn dal yn eich rôl yn y dyfodol, neu a fydd yn olynydd posibl, ond a wnewch chi ymrwymo yn eich rôl nawr neu rôl eich olynydd posibl i gynnal adolygiad Cymru gyfan o wasanaethau plant? Oherwydd credaf mai Cymru yw’r unig eithriad yn y sefyllfa hon. Mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr wedi comisiynu adolygiadau cenedlaethol o’u gwasanaethau plant, felly pam y dylai Cymru fod yr unig eithriad yn y sefyllfa hon? Gallwn sôn am fyrddau polisi, gallwn sôn am fframweithiau a’r holl fesurau diogelu sydd ar waith ar hyn o bryd, ond beth sydd o’i le ar gael adolygiad cenedlaethol, yn unol â’r hyn y mae’r Alban a Lloegr wedi’i wneud yn barod? Rwy'n edrych ar yr achosion hyn, ac maent yn drasig, a gwyddom fod y bobl sy'n gyfrifol am yr esgeulustod o flaen eu gwell, ond beth sydd o’i le ar gael adolygiad Cymru gyfan er mwyn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llithro drwy’r rhwyd yng Nghymru, ac y gallwn wneud ein gorau glas i atal unrhyw achosion rhag datblygu yn y dyfodol, fel yr achos hwn ac achos Logan Mwangi a welsom ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad, Gareth, ac am eich cydymdeimlad yn y sefyllfa ofnadwy hon. Hoffwn nodi, Gareth, fod llawer o’r materion yn yr achos hwn yn ymwneud ag iechyd, gan fy mod yn siŵr eich bod yn ymwybodol fod gan Kaylea broblemau iechyd penodol, ac ni fyddai adolygiad o wasanaethau plant ledled Cymru yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r materion y buom yn sôn amdanynt. Mewn gwirionedd, rydym yn gwneud cynnydd sylweddol ar y materion iechyd a godwyd mewn perthynas â’r achos hwn ers i Kaylea farw, o ran rheoli pwysau, a hefyd yn ein rhaglen trawsnewid.
Felly, rydym wedi cynnal sawl adolygiad, a phan soniais am farwolaeth drasig Logan, rhestrais y nifer helaeth o adolygiadau a gawsom yng Nghymru i edrych ar y materion hyn. Ym mis Hydref 2022, fe wnaethom ofyn i Arolygiaeth Gofal Cymru arwain adolygiad cyflym amlasiantaethol o benderfyniadau mewn perthynas ag amddiffyn plant, a nododd yr adroddiad hwn feysydd o arferion da a meysydd lle gellir dysgu, ac mae hynny wedi’i ystyried fel rhan o'n hagenda trawsnewid. Felly, rydym yn sicr yn barod i gynnal adolygiadau, ac rydym wedi cynnal llawer o adolygiadau, ond mae ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r materion hyn yn hollbwysig. A chredaf ei bod hefyd yn bwysig nodi ein bod yn rhagweld cynnydd, yn 2024, yn nifer yr adolygiadau ymarfer plant a gyhoeddir, gan fod gwybodaeth gan fyrddau diogelu rhanbarthol yn cadarnhau bod hyn yn gysylltiedig â’r ffaith bod adolygiadau ymarfer plant wedi’u gohirio ac wedi eu hatal rhwng 2020 a 2022 oherwydd y pandemig. Ac roedd y pwysau ar wasanaethau amlasiantaethol yn ystod y pandemig yn golygu na chynhaliwyd yr adolygiadau ymarfer plant hyn, ac nad ydynt wedi'u cyhoeddi. Felly, rydym yn rhagweld y bydd mwy o'r rheini'n ymddangos nawr. Ond fel y dywedais o'r blaen, credaf fod yn rhaid inni ymdrin â phob un yn unigol, ac ystyried yr hyn a ddysgir o'r adolygiadau hynny a gweithio i greu system lle mae'r digwyddiadau hyn yn llai tebygol o ddigwydd.
Roedd Kaylea yn anabl. Roedd ganddi spina bifida ac roedd hi'n defnyddio cadair olwyn—y problemau iechyd hynny y sonioch chi amdanynt. Dywedodd adroddiad yr adolygiad ymarfer plant o'i marwolaeth drasig na wnaed asesiad o’r tebygolrwydd y gallai ddioddef niwed sylweddol yn ystod y pandemig, a dyfynnaf:
'roedd y dystiolaeth o'r ffordd y bu farw yn ein galluogi i ddod i'r casgliad fod effeithiau gyfrannol cwarantîn estynedig…yn niferus a chymhleth, gan waethygu ei bregusrwydd a lleihau'r seilwaith cefnogol yr oedd hi'n dibynnu arno.'
Mae’r achos ofnadwy hwn yn amlygu'n glir sut y cafodd hawliau pobl anabl eu hesgeuluso a’u gwadu yn ystod y pandemig, a daeth hyn i’r amlwg yn gryf iawn yn nhystiolaeth sefydliadau pobl anabl i ymchwiliad COVID y DU yn ystod ei sesiynau yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf. Felly, a yw’r Llywodraeth yn cydnabod ei chyfrifoldeb am y dioddefaint a ddigwyddodd o ganlyniad i’r ffordd yr aeth ati'n fwriadol i atal hawliau pobl anabl? Sut y gall ddangos bod gwersi wedi’u dysgu ar gyfer y dyfodol? A pha sicrwydd y gall y Llywodraeth ei roi i ni yng ngoleuni’r cyfyngiadau ariannol ar y gyllideb eleni fod gan wasanaethau cymdeithasol ddigon o adnoddau i sicrhau bod ein holl ddinasyddion yn cael y gofal a’r amddiffyniad priodol? Diolch.
Diolch am eich sylwadau, Sioned. Yn sicr, rwy'n credu ein bod yn derbyn bod pobl anabl wedi dioddef yn ystod y pandemig, ac mae hawliau pobl anabl yn amlwg yn fater yr ydym yn bryderus iawn yn ei gylch ac yn awyddus i fynd i'r afael ag ef. Wrth ddarllen drwy’r adroddiad, rwy'n credu bod rhai ffyrdd y gwnaed ymdrechion mawr, cyn y gyfres drasig hon o amgylchiadau, i Kaylea fyw bywyd llawn iawn, ac rwy’n siŵr eich bod wedi darllen am y cyswllt a wnaed gyda hi yn barhaus yn ystod y pandemig gan yr ysgol. Ond nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â'r ffaith ei bod wedi'i hynysu yno, nad oedd wedi gallu mynychu hyb—. Felly, credaf fod pobl yn y gymdogaeth wedi sylwi nad oedd hi o gwmpas, ond oherwydd COVID, nid oeddent yn disgwyl iddi fod o gwmpas. Felly, credaf fod yr amgylchiadau wedi golygu nad oedd yr amgylchiadau ofnadwy a oedd yn digwydd yn hysbys i bobl ac na sylwyd arnynt.
Ond o ran mynd i'r afael â'r materion a godwch, sy'n faterion iechyd, a'r ffaith ei bod yn dioddef o spina bifida, lle mae yna broblem heb os sy'n ymwneud â phwysau, ac mae'n bwysig iawn fod pwysau'n cael ei reoli a'i fonitro, yn 2021, fe wnaethom gyhoeddi llwybr rheoli pwysau Cymru gyfan ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd. Egwyddorion sylfaenol y llwybr yw ei fod yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn gymesur ag angen. Mae'r llwybr hwn yn rhoi cyfle i greu tîm amlddisgyblaethol ym maes iechyd a fyddai'n asesu ac yn adolygu anghenion yn rheolaidd mewn perthynas â rheoli pwysau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud y pwynt ein bod wedi gwneud cynnydd o ran rheoli pwysau ers marwolaeth ofnadwy Kaylea, ac mae hynny mor bwysig.
Hefyd, cafodd llawer o apwyntiadau eu colli ym mywyd Kaylea, ac mae ymateb y gwasanaeth iechyd i apwyntiadau a gollwyd yn achos Kaylea yn cael sylw yng nghynllun gweithredu gwasanaeth diogelu cenedlaethol y GIG. Credaf fod yn rhaid inni wneud popeth a allwn i leihau'r risgiau i blant ac i blant anabl a'u hamddiffyn rhag niwed. Ond yn anffodus, ni allwn ddileu'r risgiau'n llwyr, ac yn anffodus, ni allwn atal lladd plant yn gyfan gwbl, ond mae'n rhaid inni wneud ein gorau glas. Credaf ei bod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â phlant anabl a'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yn eu cylch.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Fe symudwn ni ymlaen nawr i'r cwestiwn amserol nesaf, sydd i'w ofyn gan David Rees. Oherwydd bod yr amser yn brin, byddaf yn galw un Aelod o bob grŵp. David Rees.
2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Tata yn dilyn y cyhoeddiad i gau'r ffyrnau golosg ym Mhort Talbot? TQ1034
Diolch am y cwestiwn.
Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Llun, trafodais y mater gyda phrif weithredwr Tata Steel UK ar yr un diwrnod. Mae hwn yn amlwg yn newyddion hynod siomedig. Fodd bynnag, mae’r cwmni a'r undebau llafur wedi codi’r pryderon ynghylch diogelwch gweithredol y ffyrnau golosg yn rheolaidd gyda ni. Yn amlwg, rhaid rhoi blaenoriaeth i faterion diogelwch gweithredol i weithwyr.
A gaf i ddiolch i'r darpar Brif Weinidog am yr ateb hwnnw? Rwy’n gyrru adref o'r lle hwn bob nos; rwy'n pasio'r ffyrnau golosg. Bydd yn drueni peidio â’u gweld yn gweithio mwyach. I mi, mae'n drueni na fyddaf yn gweld hynny mwyach, ond i'r gweithwyr yn y ffyrnau golosg a'r gweithwyr ar ben trwm y gwaith, bydd pryder enfawr am eu dyfodol, bydd eu teuluoedd yn poeni, a bydd y gymuned ehangach yn poeni, oherwydd beth fydd sgil-effaith yr holl gau? Mae hyn yn digwydd pan nad yw’r broses ymgynghori statudol wedi’i chwblhau eto, pan nad yw negodiadau’r undebau llafur â Tata eu hunain wedi'u cwblhau mewn perthynas â’r hyn y gallant ei wneud i gefnogi adleoli gweithwyr, neu efallai’r rhai a allai wynebu diweithdra. Felly, mae llawer yn y fantol o hyd oherwydd nid oes penderfyniadau wedi eu gwneud, ac mae pryderon yn mynd i gynyddu a bydd gennym bryderon difrifol am y dyfodol.
Felly, er fy mod yn croesawu’r ateb a roddodd y Prif Weinidog ar y pryd ddoe ynghylch y cyllid ychwanegol i gefnogi gweithwyr i hyfforddi, ailsgilio ac ennill y cymwysterau hynny er mwyn iddynt allu symud ymlaen at gyfleoedd newydd, mae llawer i’w wneud o hyd i lawer iawn o weithwyr sy'n dal i gael eu cyflogi gan Tata. Felly, pa gynlluniau y llwyddoch chi i’w paratoi i gefnogi gweithwyr i mewn i gyflogaeth newydd, gan edrych ar fecanweithiau i rannu cyllid neu arian cyfatebol ar gyfer cyfleoedd swyddi efallai mewn busnesau ar draws y rhanbarth? Pa gyfleoedd a nodwyd gennych ar gyfer denu cyfleoedd swyddi newydd i’r rhanbarth, fel y gall y rheini a allai gael eu diswyddo gan Tata—mae hynny’n cynnwys y contractwyr a’r gweithlu cyflenwi; byddant hwy’n cael eu heffeithio yr un mor ddrwg—fel y gallant ddod o hyd i waith yn gyflymach? Oherwydd mae'r penderfyniad hwn wedi cyflymu cyhoeddiad 19 Ionawr. Roedd y pen trwm i fod i gau'n rhannol ddiwedd mis Mehefin ac yn gyfan gwbl erbyn diwedd y flwyddyn hon. Mae misoedd nes hynny ac rydym yn gweld ffyrnau golosg yn cau heddiw, mewn gwirionedd, ac roedd ffwrnais chwyth 5 yn dibynnu ar fewnforio golosg, os gallant ei gaffael mewn gwirionedd, ac yna mae'n bosibl y bydd ffwrnais chwyth 4 yn dod i lawr ddiwedd mis Hydref. Felly, mae’n bwysig ein bod yn gweithredu nawr i roi sicrwydd i’r gweithwyr, y teuluoedd, y cymunedau y maent yn byw ynddynt, y byddwn yn gofalu amdanynt yn y dyfodol.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy’n credu bod yna ddwy ran wahanol i hyn: effaith uniongyrchol cau’r ffwrn olosg, a’r her ehangach ynghylch y cynlluniau sydd gan Tata ar gyfer y dyfodol a chanlyniadau posibl y rheini, ac rwy’n deall pam y bydd pobl yn bryderus ynghylch y ddau beth.
Felly, yn y sgyrsiau a gawsom gyda Tata, maent wedi bod yn glir y bydd y gweithlu presennol o amgylch y ffyrnau golosg yn cael eu cyflogi'n fuddiol am beth amser i ddod. Mae’r her yn ymwneud â’r ymgynghoriad sy’n dal i fynd rhagddo, ac sydd heb ei gwblhau, ynglŷn â pha mor hirdymor fydd hynny, pa fath o adleoli sydd i'w gael. Mae mater cau'r ffyrnau golosg yn ddiogel yn codi hefyd. Nid yw'n rhywbeth lle gallwch chi bwyso botwm a'i gau'n ddiogel; mae’n her beirianyddol eithaf cymhleth i ddatgomisiynu’n ddiogel, ac mae yna her mewn perthynas â’r gwaith ehangach hwnnw. Felly, mewn gwirionedd, rydym wedi bod yn glir yn ein sgyrsiau â'r undebau llafur a'r cwmni fod digon o olosg ar gael i gynnal y ffwrneisi chwyth yn unol â’r cynllun presennol sydd gan Tata, fel nad yw'n peryglu ffwrnais chwyth 4 a'i gallu i weithredu tan yr hydref. Bydd angen iddynt gaffael mwy o olosg nawr. Felly, dylai hynny fod o gymorth.
Mae’r ail ran ynghylch yr hyn a all ddigwydd nawr yn gymhleth, oherwydd mae yna set anorffenedig o drafodaethau yn mynd rhagddynt. Felly, rydym yn edrych, wrth gwrs, ar yr economi ehangach a beth yw'r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd i’r gweithlu uniongyrchol ac i gontractwyr, ac o bosibl, i’r grŵp o weithwyr yr effeithir arnynt yn anuniongyrchol. Mae hynny’n ymwneud â chyflogaeth sy’n bodoli o fewn y farchnad ehangach yn ogystal â’r potensial ar gyfer swyddi newydd.
Rhan o’r rheswm pam ein bod wedi sôn am amseriad unrhyw newidiadau yw bod y cyfle i gyflwyno cyflogaeth newydd ar lefel gymesur, gan gofio’r cyflogau y mae gweithwyr Tata a chontractwyr yn eu cael, yn rhan o’n pryder ynghylch cyflymder unrhyw newid. Ar gyfer y set benodol hon o weithwyr—ac mae’n bosibl y bydd cannoedd o swyddi’n cael eu heffeithio fel rhan o’r ymgynghoriad—mae honno’n her haws i’w rheoli. Mae gwaith gweddus ar gael i nifer o weithwyr. Ond mae’n ymwneud mewn gwirionedd â pha un a all yr ailsgilio a'r ailhyfforddi ddigwydd. Rwy'n hyderus y gallwn ddarparu cymorth o fewn ein cyllideb bresennol i hynny ddigwydd a gallwn gydlynu hynny gyda'r Ganolfan Byd Gwaith os oes angen, os oes pobl yn gadael y gweithlu, ac yn wir, gyda'r awdurdod lleol hefyd.
Mae’r her fwy yn parhau mewn perthynas â’r set ehangach o drafodaethau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, os oes pobl sy’n dymuno gadael ar delerau gwirfoddol, beth y gallai’r telerau hynny fod, a chanlyniad terfynol y trafodaethau sy’n mynd rhagddynt. Ni fyddwn yn gwybod hynny yn yr wythnos neu ddwy nesaf. Felly nid yw hyn yn mynd i fod yn rhywbeth a fydd yn cael ei ddatrys yn ystod y 45 diwrnod cyntaf; fe fydd yn cymryd mwy o amser na hynny. Felly, ni allaf roi golwg bendant i’r Aelod ar gyflogaeth yn y dyfodol, ni allaf roi golwg bendant i’r Aelod ar y sefyllfa bresennol, oherwydd nid oes yr un o’r sgyrsiau hynny wedi'u cwblhau. Os yw’r grŵp hwn o weithwyr yn wynebu diweithdra, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod cymorth ar gael gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid, ac ymrwymiad parhaus gan y Llywodraeth rwy'n disgwyl ei harwain i sicrhau ein bod yn parhau i ddadlau dros y pontio gorau posibl, ar gyfer gweithwyr, yr economi ehangach, ac yn wir, ein huchelgeisiau hinsawdd ein hunain.
Weinidog, er bod y newyddion hwn yn ergyd enfawr i’r gweithlu, eu teuluoedd, a’u cymunedau cyfan, nid yw’n annisgwyl. Rwy’n cofio cyfarfod â chyfarwyddwyr Tata pan gefais fy ethol gyntaf yn 2015, a buont yn trafod materion yn ymwneud ag oes y safle ac yn sôn am yr angen am fuddsoddi. Ers hynny, beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i weithio gyda Tata a Llywodraeth y DU i sicrhau hirhoedledd cynhyrchiant dur ym Mhort Talbot?
Ers i mi ddod i fy swydd bresennol fel Gweinidog yr Economi, mae deialog reolaidd wedi bod gydag undebau llafur, gyda’r cwmni, ac yn wir, gyda Llywodraeth y DU cyn belled ag y bu hynny’n bosibl. Un o’r pethau sy’n peri rhwystredigaeth wirioneddol i mi—a dylai fod yn peri rhwystredigaeth i'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd—yw’r ffaith nad oes sgwrs fwy ymgysylltiedig wedi bod â Gweinidogion olynol y DU. Byddem mewn sefyllfa lawer gwell, hyd yn oed gyda’r gwahaniaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, pe bai mwy o ddeialog rheolaidd a pharodrwydd i siarad yn fwy agored. Mewn gwirionedd, mae'r bwrdd pontio yn greadigaeth i reoli dirywiad y mae'r Senedd hon wedi dweud nad yw eisiau ei weld yn digwydd, yn y ffordd y mae wedi'i amlinellu a'i gynnig ar hyn o bryd ac fel rhan o'r negodi sy'n digwydd.
Rwy'n credu y byddem i gyd mewn lle gwell pe gallem fod wedi cael sgyrsiau dibynadwy yn gynt. Ac mae'n werth nodi nad yw Llywodraeth Cymru erioed wedi torri addewid mewn perthynas â thrafodaethau sy’n fasnachol sensitif. Byddem wedi bod mewn lle gwell i ddeall yr ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth y DU ac i ni, ond hefyd i ddeall a ydym yn rhannu’r un uchelgais yn y pen draw, oherwydd rwy’n credu bod dyfodol iach i gynhyrchiant dur yn y DU. Bydd ffwrneisi arc trydan yn rhan o hynny, ond mewn gwirionedd mae’r galluogrwydd i wneud dur sylfaenol o bwysigrwydd sofran hanfodol i’r DU, ac mae’r cynllun presennol yn peryglu hynny. Ac rwy’n ei chael hi'n anodd credu bod yna Aelodau Ceidwadol yn y Siambr hon, ac yn wir, ymhellach i ffwrdd, sy’n fodlon cymryd y risg honno mewn perthynas â’n galluogrwydd sofran yn y dyfodol a’r potensial ar gyfer ffyniant gwyrdd yn y dyfodol. Gydag ailgynhyrchu'r ffordd y mae ein heconomi’n gweithio o'r newydd, bydd yn dal i fod angen dur i'w gyflawni. Gallwn naill ai wneud y dur hwnnw yma yng Nghymru, neu gallwn ei fewnforio o rywle arall gyda’r holl swyddi a’r budd economaidd i gyd-fynd â hynny.
Ar gyfer y cofnod, hoffwn ddatgan fy mod yn aelod o un o is-grwpiau bwrdd pontio Port Talbot. Mae hwn, wrth gwrs, yn newyddion trychinebus, ac mae'r teimlad o bryder, fel sydd eisoes wedi'i nodi gan Dai Rees, yn y gymuned a'r gweithlu yn amlwg. Ac rwy'n deall yn llwyr pam nad yw'r Gweinidog yn gallu rhoi atebion manwl ynghylch ble rydym yn mynd o'r fan hon, ond nid yw hynny'n helpu'r pryder sy'n cael ei deimlo ymhlith y gweithlu a'r gymuned ehangach.
Nawr, wrth gwrs, rydym yn croesawu'r wybodaeth a gawsom ddoe am fuddsoddiad pellach mewn pecynnau cymorth ac ailhyfforddi. Fodd bynnag, nid wyf wedi gweld llawer o fanylion ar hynny. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi rhywfaint o fanylion am hynny yn fawr, oherwydd nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ein bod ni fel Senedd wedi ymrwymo i'n cenhadaeth i achub diwydiant dur Cymru, ond yr hyn y mae angen i ni ei wneud nawr, wrth gwrs, yw sicrhau bod gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael yn cyrraedd y gweithlu a'r gymuned ehangach. A hefyd beth mae hyn yn ei olygu nid yn unig i'r gweithlu a gyflogir yn uniongyrchol, ond hefyd i rai o'r contractwyr sy'n dibynnu ar Tata Steel o ran sicrwydd swyddi? Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Gweinidog fod diogelwch yn hollbwysig, ond mae sicrwydd mewn perthynas â bywoliaeth hefyd yn bwysig.
Rwy'n credu efallai fod yna ddau neu dri phwynt. Y cyntaf yw y bydd yna fwy o fanylion a datganiad ysgrifenedig ar y cymorth ychwanegol. Mae'r amgylchiadau mwy penodol ynghylch y grŵp unigol hwn o weithwyr yn dal i ddibynnu ar y trafodaethau a'r negodi sydd eto i'w gwblhau rhwng y cwmni a'r undebau llafur cydnabyddedig. Ac mae angen i ni fod yn gefnogol a galluogi hynny, gan ei gwneud yn glir ein bod yn disgwyl—fel rwyf wedi'i wneud yn gyson—ymgynghoriad gwirioneddol ystyrlon sy'n edrych yn gyntaf ar gyfleoedd i gadw'r gweithlu, yn hytrach na chwilio am gyfleoedd i leihau a chrebachu'r gweithlu. Felly, mae ymgynghoriad ystyrlon, a'r ffordd y mae'r cwmni'n ymgysylltu yn bwysig, a byddai'n helpu pe bai mwy o Aelodau ar draws y Siambr yn ei gwneud yn glir mai dyna yw'r disgwyl yn gyffredinol, ac nid disgwyliad y Llywodraeth yn unig.
Credaf fod yr ail bwynt ynghylch y dyfodol ehangach yn un sy'n dod yn ôl at y sgwrs ehangach sydd eto i'w chwblhau. Fe allwn ac fe fyddwn yn darparu mwy o adnoddau i gefnogi gweithwyr gyda'r pontio a fydd yn digwydd os oes dadleoli yn eu gwaith, ond rwy'n dal i gredu na allwn gael gwared ar orbryder tra bo'r ymgynghoriad yn dal i fynd rhagddo, tra nad oes eglurder am y dyfodol. Ond rwy'n dal i feddwl bod gobaith gwirioneddol a realistig ar gyfer y dyfodol, ac mae'n bwysig peidio â cholli golwg ar hynny. Felly, yng nghyfarfod nesaf y bwrdd pontio yr wythnos nesaf, rwy'n disgwyl y bydd diweddariad ar yr hyn sydd wedi digwydd ar y mater hwn, ond hefyd mewn perthynas â'r darlun ehangach.
Ac rwyf wedi dweud yn glir ym mhob un o fy nghyfarfodydd gydag arweinwyr Tata, ac nid dim ond cyfarfod â'r—. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â phrif weithredwr Tata Steel UK, a'r wythnos cynt, cyfarfûm â phrif weithredwr Tata Steel UK a phrif weithredwr Tata Global o Mumbai. Roeddwn yn glir iawn ynghylch yr angen i sicrhau bod yna ddyfodol i'r gweithlu, fod addewidion yn cael eu cadw i brentisiaid, ac yn yr un modd fod cydnabyddiaeth o gyfrifoldeb Tata i gontractwyr. I rai o'r contractwyr hynny, mae eu busnes yn ddibynnol ar Tata—nid ffracsiwn o'u busnes, ond rhan fawr iawn ohono. Efallai fod rhai ohonynt yn gyflenwyr sengl hyd yn oed. Ac mae Tata yn gwybod pwy yw'r contractwyr hynny, maent yn deall beth yw'r busnesau hynny. Mae'n rhan o'r pwynt a wneuthum yn y bwrdd pontio blaenorol ynghylch deall pwy ydynt a rhannu'r wybodaeth honno yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, fel bod y busnesau'n gwybod am yr effaith bosibl, ond hefyd fel bod Llywodraeth Cymru, y Ganolfan Byd Gwaith, ac yn wir, yr awdurdodau lleol yn gwybod pwy yw'r busnesau hynny, lle maent wedi'u lleoli a pha gymorth a chefnogaeth bosibl sydd ar gael. Gallai darganfod pwy ydynt yn rhy hwyr beryglu busnes, gallai beryglu hyfywedd y busnesau hynny a chael effaith sylweddol ar yr hyn y gallant ei wneud. Felly, dyna'r sgwrs rydym yn ei chael, fel y byddech chi'n disgwyl i ni ei wneud.
Fy mhryder i yw nad ydym yn cael sgwrs resymol—rwyf eisiau mwy o wybodaeth cyn gynted â phosibl—mae'n dal i ymwneud â'r dewisiadau sydd i'w gwneud dros y misoedd nesaf, ac yn fwyaf arbennig, a allwn gynnal un ffwrnais chwyth sy'n parhau'n weithredol hyd at yr hydref eleni, a'r dyfodol mwy hirdymor y mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i frwydro drosto ac i ddadlau'r achos drosto, gyda buddsoddiad newydd sydd ond yn bosibl gyda newid ar lefel y DU.
Ac yn olaf, Jack Sargeant.
Diolch, Lywydd dros dro. Mae'r newyddion o Bort Talbot yn hynod siomedig i Bort Talbot ac i gymunedau dur ledled Cymru, a hoffwn ddweud wrth yr Aelod sy'n cynrychioli'r ardal: mae Shotton yn sefyll gyda'r gweithlu ym Mhort Talbot a'u teuluoedd. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud o'r blaen, mae'r gallu i gynhyrchu dur crai yn rhywbeth sy'n hanfodol bwysig i economi Cymru, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn addewid Llafur y DU o £3 biliwn i adfywio diwydiant dur y DU. Tybed a yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryderon fod y cyhoeddiad hwn cyn unrhyw etholiad cyffredinol yn tanseilio Llywodraeth Lafur newydd a'u gallu i fuddsoddi yn y diwydiant pwysig hwn. A wnewch chi ddefnyddio eich swydd fel Prif Weinidog i annog Tata Steel i oedi'r cynlluniau hyn ac i aros am ganlyniad yr etholiad cyffredinol mawr ei angen hwnnw? Diolch.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig ail-wneud yr achos dros ddyfodol gwahanol, a bod yn glir iawn am safbwynt y Llywodraeth hon—mewn gwirionedd, y safbwynt a gymerodd y Senedd gyfan hon yn y ddadl a gawsom ychydig wythnosau yn ôl. Rwy'n ailddatgan safbwynt Llywodraeth Cymru yn gyson: nid ydym eisiau i ddewisiadau na ellir eu gwrthdroi gael eu gwneud, ac rydym eisiau gweld ffwrnais chwyth a fydd yn dal i weithredu drwy'r etholiad cyffredinol, pryd bynnag y daw. A dyna yw ein safbwynt ni o hyd.
Mae'r her bob amser yn ymwneud â'r hyn sy'n digwydd yn y negodiadau, yr hyn sy'n digwydd gyda'r busnes ei hun, ac yn wir, y gofynion sydd ar Tata i aildrefnu ac ailweithio'r archebion sydd ganddynt. Oherwydd maent yn gwybod, os byddant yn colli cwsmeriaid, bydd y cwsmeriaid hynny'n mynd i rywle arall ac ni fyddant yn dychwelyd. Mae hynny'n bwysig i'r busnes, ac wrth gwrs, mae'n hanfodol i'r gweithlu hefyd. Felly, mae yna rywbeth yma am yr amser pontio sydd ar gael, ac mae hynny er budd y busnes ei hun, ond mae hefyd yn ymwneud â dadlau'r achos dros fuddsoddiad ychwanegol sylweddol. Ac mewn gwirionedd, mae ein cyd-Aelodau Llafur y DU wedi bod yn glir y byddai Llywodraeth Lafur newydd yn y DU yn sicrhau bod y £3 biliwn ar gael dros bum mlynedd, nid 10. Felly, ceir arwydd mwy a chliriach mewn gwirionedd y bydd y buddsoddiad hwnnw'n cael ei wneud yn gynt.
Ac fel y dywedais, bydd yna uchelgeisiau ar gyfer dyfodol y DU a Chymru a fydd angen mwy o ddur, nid llai. Rwy'n glir iawn, fel y mae'r Llywodraeth gyfan yn wir, ein bod eisiau i'r dur hwnnw gael ei wneud yma yng Nghymru cyn belled ag y bo modd; rydym eisiau'r swyddi sy'n dod gyda hynny ac rydym eisiau'r cyfleoedd sy'n dod gyda'r seilwaith economaidd ehangach hwnnw. A phan fyddwn yn siarad am ffyniant gwyrdd, rydym yn glir iawn fod dur yn rhan ohono. Nid dur sydd wedi'i gynhyrchu i wahanol safonau mewn rhannau eraill o'r byd a'i fewnforio i Gymru i gael ei rolio a'i gyflwyno; dyna fyddai'r dyfodol economaidd gwaethaf, ac rwy'n glir iawn na fyddwn byth yn dadlau dros y llwybr hwnnw.
Diolch i'r Prif Weinidog Etholedig.
Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 2 ar ein hagenda, sef cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Ac mae'r cwestiwn cyntaf yn cael ei ofyn gan Ken Skates.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith newid hinsawdd ar y rhwydwaith trafnidiaeth? OQ60856
Gwnaf, rwy'n credu ein bod eisoes yn gweld effeithiau tywydd eithafol a newid hinsawdd ar ein holl rwydweithiau trafnidiaeth ac mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau ar frys i baratoi ar gyfer y peryglon cynyddol, gan adeiladu ar beth o'r gwaith da sydd eisoes ar y gweill.
Diolch yn fawr, Weinidog. Ac yn y gorffennol, nid oeddem ond yn gorfod mynd i'r afael â dail ar y rheilffyrdd ac eira ysgafn ar y ffyrdd, ond y dyddiau hyn, rydym yn gweld stormydd parhaus a thrwm, a glaw trwm yn effeithio arnynt. Fel rhywun sy'n derbyn ac yn deall yr argyfwng hinsawdd yn llawer mwy na'r rhan fwyaf, a fyddech chi'n cytuno bod angen inni ddiogelu ein seilwaith ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys seilwaith trafnidiaeth, ar gyfer yr heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod?
Diolch. Yn sicr. Mae diogelu ar gyfer y dyfodol yn hanfodol. Mae'n rhaid inni addasu i'r newid hinsawdd rydym yn ei wynebu nawr oherwydd y carbon sydd eisoes wedi cael ei allyrru, yn ogystal â lliniaru allyriadau yn y dyfodol i sicrhau nad yw'n gwaethygu. Ac i'r perwyl hwnnw, cefais fy nghalonogi'n fawr ddoe gan y ffaith bod Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi ei gynlluniau diwygiedig ar gyfer ffordd osgoi Llanharan, a wrthodwyd gan y panel adolygu ffyrdd, ond gan weithio'n adeiladol iawn gyda Trafnidiaeth Cymru, maent wedi ail-lunio'r cynllun, gan haneru ei garbon corfforedig, ac osgoi colli unrhyw goetir hynafol, haneru ei niwed i gynefinoedd, a chynhyrchu cynllun gyda hanner yr ôl troed carbon sy'n costio llai i'w adeiladu a'i gynnal. Felly, mae hynny'n dangos, yn hytrach na gwahardd adeiladu ffyrdd, ein bod yn lansio pennod newydd o adeiladu ffyrdd, lle rydym yn arwain y ffordd, ac edrychaf ymlaen at weld awdurdodau lleol eraill yn dilyn esiampl Rhondda Cynon Taf.
Ac wrth gwrs, mae'r rheilffyrdd dan straen sylweddol hefyd, ac mae'r gost o fynd i'r afael â'n rheilffyrdd, gyda nifer fawr ohonynt ar yr arfordir fel y gwyddom, yn mynd i fod yn enfawr yn y blynyddoedd i ddod. Rwy'n credu bod y ffordd y cynlluniwn ein huchelgais ar gyfer datganoli rheilffyrdd yn llawn i'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn rhywbeth i feddwl yn galed amdano, oherwydd oni bai ein bod yn ofalus byddwn yn mabwysiadu rhwymedigaeth cynnal a chadw ac addasu enfawr. Felly, bydd hwn yn fater pellgyrhaeddol yn y blynyddoedd i ddod, a bydd yn costio mwy a mwy o arian i ni, a dyna pam, unwaith eto, fod yr adolygiad ffyrdd yn bwysig: er mwyn darparu mwy o arian ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac addasu.
O ganlyniad i'r newidiadau hinsawdd a'r tywydd garw, rydym wedi gweld yn nyffryn Conwy, yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2023, fod 178 o drenau wedi cael eu canslo. O'r rheini, cafodd 36 eu canslo o ganlyniad i brinder unedau, tra bod y 142 arall wedi cael eu canslo o ganlyniad i lifogydd. Mae cefnffordd yr A470 yn Nyffryn Conwy yn aml yn gorfod cau o ganlyniad i law trwm. Roedd hynny'n arfer digwydd pan oeddem yn cael llifogydd difrifol; nawr, gall glawiadau trwm, mynych achosi problemau go iawn ar y ffordd honno. Mae'r darn rhwng Tal-y-cafn a Llanrwst yn aml ar gau oherwydd llifogydd a dŵr yn gorlifo. Yn wir, yn ystod y 24 awr ddiwethaf, mae'r ffordd wedi'i chau'n llwyr ym Maenan, felly ni all pobl fynd i ddyffryn Conwy na Llanrwst, er enghraifft, o ganlyniad i law trwm a llifogydd ar y ffordd.
Rwyf wedi siarad o'r blaen am yr angen i ni wella diogelwch a gwytnwch seilwaith trafnidiaeth yn nyffryn Conwy, ond rydym yn dal i obeithio gweld hynny'n digwydd. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i drigolion Aberconwy y bydd Trafnidiaeth Cymru ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn gweithio gydag adran amgylchedd, ffyrdd a chyfleusterau'r awdurdod lleol i wella gwytnwch y rheilffordd a'r A470 yn nyffryn Conwy? Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Diolch. Wel, mae'r Aelod yn tynnu sylw yn briodol at yr ystod o effeithiau rydym eisoes yn eu gweld o ganlyniad i newid hinsawdd a achosir gan bobl, a dyna pam ein bod yn gweithredu i fynd i'r afael ag ef. A hoffwn ddweud eto fy mod yn croesawu'r gefnogaeth ar feinciau'r Ceidwadwyr i gyrraedd ein targedau sero net ac i symud yn gyflymach, ond mae'n rhaid iddynt gefnogi'r prosiectau sy'n llifo o hynny wedyn i fynd i'r afael â gwraidd y broblem. A hyd yn hyn, bob tro y cyflwynwyd camau gennym i fynd i'r afael â newid hinsawdd, maent wedi eu gwrthwynebu. Mae'r ddau beth hyn yn gwrthgyferbynnu'n uniongyrchol â'i gilydd. Felly, mae'n iawn iddi fod yn bryderus a gofidus ynghylch effaith tywydd mwy anrhagweladwy ar ein cymunedau. Y llynedd oedd y flwyddyn boethaf erioed, ac ni fydd hyn ond yn gwaethygu, ond mae'n rhaid inni danio'r ewyllys i fynd i'r afael â hyn gyda'n gilydd, yn hytrach na dim ond mopio'r broblem wedi iddi ddigwydd. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn cyhoeddi strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer gwrthsefyll newid hinsawdd, ac rydym yn edrych ar geisiadau i'r gronfa ffyrdd cydnerth ar hyn o bryd, a bydd hwn yn fater cynyddol bwysig yn y dyfodol.
Rwy'n gweld mwyfwy o dirlithriadau, ymsuddiant, cerrig a chreigiau'n ymddangos ar ffyrdd a thyllau yn y ffyrdd yn tyfu. Rwy'n poeni'n fawr am gydnerthedd y rhwydwaith lleol. Yn y gorffennol, roedd yna gyllid grant ar gyfer ffyrdd a gynhelir yn lleol, ac mae wedi dod i ben, ac rwy'n gwybod am un awdurdod nad oes ganddo unrhyw gyllid ar ôl yn y flwyddyn ariannol hon i lenwi tyllau yn y ffyrdd, felly mae'n rhaid iddynt aros tan fis Ebrill cyn y gallant barhau. Mae'n ofnadwy.
Rwy'n gwybod bod pwysau cyllidol yn cystadlu am adnoddau cyfalaf, ar gyfer ysgolion, ar gyfer tai. Fel arfer, priffyrdd sydd ar waelod y rhestr i gael eu hariannu. Felly, hoffwn ofyn i chi, Ddirprwy Weinidog: a ydych chi'n credu bod angen i ni gael terfyn sylfaenol, fel y gallwn barhau i gynnal ein ffyrdd? A hefyd, a ydych chi'n cytuno bod angen i dirfeddianwyr hefyd gymryd cyfrifoldeb am eu ffosydd a'u draeniau i sicrhau nad ydynt yn gorlifo ar y priffyrdd yn y dyfodol?
Mae yna bwysau ar bob rhwydwaith trafnidiaeth—ffyrdd, rheilffyrdd a theithio llesol—ac fel y dywedais, bydd y sefyllfa'n dwysáu. Mae gennym gyllid ar gyfer y gronfa ffyrdd cydnerth, ac rwy'n credu y bydd hon yn rhan gynyddol bwysig o'r ffordd yr awn i'r afael â newid hinsawdd. Fel y dywedais, dros amser, drwy ailgyfeirio cyllid o ffyrdd newydd nad ydym yn eu cynnal, mae angen inni wario mwy ar gynnal a chadw'r ffyrdd sydd gennym ac addasu'r seilwaith i ymdopi. Enghraifft dda o hynny yn ddiweddar yw pont newydd Dyfi, i'r gogledd o Fachynlleth, lle cafodd cynllun y draphont ei wneud yn hwy o ganlyniad i'r asesiad o lifogydd. Felly, mae hynny bellach yn rhan allweddol o'n meddylfryd wrth i ni lunio cynlluniau newydd. Ond mae hi'n iawn, mae yna ystod o gyfrifoldebau ar gyfer hyn, ac nid yw cynnal a chadw erioed wedi bod yn fater deniadol iawn, fel y noda, ac mae angen i bob un ohonom ddeall bod angen cyfeirio mwy o arian tuag at hynny.
2. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau ei bod yn cyflawni ei hymrwymiad i Gymru ddod yn garbon niwtral? OQ60878
Diolch. Mae gan Gymru darged i gyrraedd sero net erbyn 2050. Mae sero net yn fwy uchelgeisiol na charbon niwtral. Cefnogir ein targed gan dargedau dros dro a chyllidebau carbon y mae'n rhaid i Lywodraethau'r dyfodol gydymffurfio â nhw. Cyhoeddwyd y cynllun ar gyfer y gyllideb garbon bresennol, 'Cymru Sero Net', yn 2021.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Weinidog.
Yng ngoleuni'r ddadl Cyfnod 3 a gawsom ddoe, a hefyd deiseb a drafodwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Deisebau ddydd Llun, hoffwn glywed eich barn ar y cydbwysedd rhwng datblygiadau solar ar raddfa fawr a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Pa amddiffyniadau sydd yn y Bil newydd nawr, fel y'i diwygiwyd ddoe? Ac wrth siarad â'r deisebwyr yn erbyn y datblygiad ar wastadeddau Gwent, codwyd dau fater arall gyda Chadeirydd y pwyllgor, Jack Sargeant, a minnau. A allwch chi gadarnhau pryd y byddwch chi'n cyhoeddi'r canllawiau ar bennod 6 o bolisi cynllunio newydd Cymru? A pha bryd y byddwch chi'n cyhoeddi'r astudiaeth fonitro ar ôl adeiladu sydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn barod i gael ei chyhoeddi?
Mae hwnnw'n gwestiwn ardderchog, ac mae angen sicrhau cydbwysedd bob amser, onid oes, rhwng gwarchod tirweddau dynodedig o bob math, boed yn SoDdGA neu mae gennym nifer o ddynodiadau eraill hefyd wrth gwrs, a sicrhau'r ynni adnewyddadwy yr ydym ei eisiau a'r seilwaith yr ydym ei eisiau yng Nghymru. Rwy'n credu bod yn rhaid inni sicrhau'r cydbwysedd hwnnw mewn ffordd ddoeth iawn. Felly, yn ddiweddar iawn, fel Senedd, rydym wedi cryfhau'r offeryn statudol sy'n llywodraethu tirweddau dynodedig, a thrwy hynny wedi cryfhau'r amddiffyniad i dirweddau dynodedig yn erbyn unrhyw ddatblygiadau o gwbl.
Un o'r pethau a ddywedais yn ystod y ddadl honno oedd fy mod yn credu, pe byddech yn gofyn i Mr a Mrs Jones yn rhywle yng Nghymru a allech chi balmantu dros rywbeth mewn tirwedd ddynodedig, y byddent yn synnu clywed y gallech chi wneud hynny mewn gwirionedd. Felly, rydym wedi cryfhau hynny fel Senedd. Cafodd ei dderbyn yn unfryd. Rwy'n falch iawn o ddweud hynny. Ac mae'n ymwneud â cheisio dod o hyd i'r cydbwysedd cywir rhwng yr hyn a ganiateir a'r hyn nas caniateir mewn tirwedd ddynodedig.
Mae ffermydd solar yn fater cymhleth, oherwydd yn gyffredinol ystyrir nad yw ffermydd solar yn barhaol oherwydd eu bod yn para llai na 50 mlynedd, fel arfer. Rwy'n credu bod 50 mlynedd yn eithaf parhaol; yn sicr bydd yn para'n hwy nag y gwnaf i. Felly, wyddoch chi, mae hynny'n eithaf parhaol yn fy marn i. Ond gallwch lunio fferm solar, ac rwyf wedi gweld sawl enghraifft o hyn o gwmpas Cymru, fel ei bod gryn dipyn yn uwch na lefel y ddaear, fel bod ganddi baneli sy'n troi, gyda choed neu dirweddau gwarchodedig eraill o'i hamgylch—nid coed o reidrwydd, ond mawndir neu beth bynnag—a bod ganddi ddôl llawn rhywogaethau oddi tani, er enghraifft. Felly, mae'n anodd ateb eich cwestiwn yn benodol iawn, oherwydd mae'n dibynnu ar y math o fferm solar y siaradwn amdani, y strwythur sydd yno ac yn y blaen.
Ni allaf wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio unigol am resymau amlwg, ond rydym wedi bod yn annog y diwydiant ffermydd solar yn arbennig i lunio eu ffermydd solar mewn ffordd sy'n golygu, os ydynt ar dir—mae ar doeau adeiladau yn ardderchog hefyd—ond os ydynt ar dir, nad yw'r tir hwnnw wedi'i niwtraleiddio mewn unrhyw ffordd, a'i fod yn gallu cynnal pethau eraill. A gall hynny fod yn unrhyw beth o bori i ddolydd llawn blodau, fel y gwelais. Rwyf wedi gweld pob math o bethau oddi tanynt. Fodd bynnag, rydych chi'n dal i weld ffermydd solar sydd mor agos at y ddaear nes eu bod wedi lladd y tir oddi tano fwy neu lai. Mae'n debyg nad dyna'r gair cywir, ond maent wedi'i gwneud yn llawer anos iddo gynhyrchu unrhyw beth o gwbl. Rydym wedi bod yn annog pobl i wrthod cynlluniau o'r fath, ac mae hynny eisoes wedi'i nodi yn 'Polisi Cynllunio Cymru'.
Rydym yn parhau i adolygu pob polisi cynllunio, ac yn fwyaf arbennig, rydym yn ceisio eu hadolygu ar gyfer technolegau sy'n dod i'r amlwg. Nid wyf yn arbenigwr ar hyn, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, mewn perthynas â chynllun paneli solar, mae'n llawer haws gwneud iddynt ogwyddo tuag at yr haul drwy'r amser, er enghraifft, ac felly nid yw'r tir oddi tanynt yn cael ei gysgodi'n barhaol ac yn y blaen. Felly, ni allaf ateb eich cwestiwn am dirweddau dynodedig penodol, ond gallaf ddweud tri pheth wrthych: rydym wedi cryfhau'r canllawiau, rydym yn gweithio gyda gweithredwyr ffermydd solar i geisio sicrhau'r cynllun gorau, ac mae gan 'Polisi Cynllunio Cymru' nifer fawr o'r pethau hynny eisoes, er ein bod yn ei adolygu'n barhaus drwy'r amser.
Sut mae adeiladu mwy o orsafoedd pŵer nwy, fel yr awgrymwyd gan y Ceidwadwyr yn San Steffan, yn mynd i'n helpu tuag at gyrraedd y targed carbon niwtral? Rydym yn gweld newid hinsawdd yn effeithio ar ein tywydd yn barhaus. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod morlyn llanw Abertawe yn bwysig iawn ac a wnaiff y Gweinidog barhau i bwyso am adeiladu morlyn llanw Abertawe wrth inni weld bod nwy yn mynd yn fwyfwy costus gydag amser?
Yn amlwg, Mike, rwy'n cytuno'n llwyr â chi nad yw adeiladu gorsafoedd pŵer nwy yn cyfrannu at unrhyw beth o gwbl heblaw mwy o newid hinsawdd a mwy o gynhesu. Yn eithaf brawychus, rydym newydd weld, flwyddyn ar ôl blwyddyn, fod pob blwyddyn yn boethach na'r flwyddyn flaenorol. Dyma'r flwyddyn boethaf erioed. Y llynedd oedd y flwyddyn boethaf erioed; cyn hynny, y flwyddyn cynt oedd y boethaf a gofnodwyd. Rydym hefyd newydd gael y mis Chwefror gwlypaf a gofnodwyd. Mae'r pethau hyn yn digwydd i ni—maent yn digwydd i ni wrth i ni siarad. Rydym wedi gweld sychder yng Nghymru—pwy fyddai wedi meddwl y byddem yn gweld sychder yng Nghymru? Mae'r pethau hyn yn real; maent yn wirioneddol real. Ac felly, wrth gwrs, yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw rhoi'r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil.
Mae'n rhaid i ni wneud pethau gweithredol i helpu'r argyfwng hinsawdd. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Lee Waters, un peth yw i feinciau'r Ceidwadwyr ddweud wrthym eu bod yn cytuno â hyn, ond maent bob amser yn gwrthwynebu popeth y ceisiwn ei wneud yn ei gylch. Mae'n rhaid i chi, yn y pen draw, roi eich arian ar eich gair. Ni ddylem fod yn adeiladu mwy o orsafoedd pŵer nwy o gwbl. Yn hytrach, dylem fod yn manteisio ar ynni'r llanw. Rydym yn byw ar ynys sydd wedi'i hamgylchynu gan y moroedd mwyaf eithriadol—gallant bweru Ewrop gyfan. Wrth gwrs y dylem fod yn gwneud hynny.
Roeddwn falch iawn o fod yn y gynhadledd ynni morol yn Abertawe ddydd Mercher diwethaf, ac roeddwn yn gallu cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei hymrwymiad rhaglen lywodraethu i gynnal her y morlyn llanw. Cronfa grant o £750,000 yw'r her, i leihau neu ddileu rhwystrau i ddatblygiad y morlyn llanw. Roedd gennym set gref o geisiadau, a chefais y fraint wirioneddol o gyhoeddi enillwyr y ceisiadau hynny. Bellach mae gennym dri phrosiect yn mynd rhagddynt ledled Cymru i weld sut y gallwn gyflymu datblygiad morlyn llanw, nid yn unig yn Abertawe, rhywbeth yr hoffwn ei weld yn fawr iawn, ond ym mhob ardal arall yng Nghymru a fyddai'n addas ar gyfer datblygu morlyn llanw.
Weinidog, rydym i gyd eisiau Cymru lanach a gwyrddach. Rwy'n credu ei bod yn anonest dweud unrhyw beth arall, ond fel y mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod, mae'n rhaid i chi ddod â'r cyhoedd gyda chi ar y daith honno a sicrhau nad yw'n eu cosbi'n ariannol. Felly, ar hynny, Weinidog, a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau synnwyr cyffredin, fel Llywodraeth y DU, i sicrhau nad yw pobl Cymru'n cael eu cosbi'n ariannol ar y daith hon tuag at sero net?
Nid wyf yn credu bod Llywodraeth Geidwadol wedi gwneud unrhyw benderfyniadau y gallwn eu hargymell i'r cyhoedd yng Nghymru ar unrhyw fath o ateb carbon niwtral, felly'r ateb i hynny yw 'na'.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, ac yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Ddirprwy Weinidog, a gaf i achub ar y cyfle hwn i ddweud diolch am fagu dewrder o'r diwedd i siarad â rhai o'r protestwyr gwrth-20 mya cyffredinol yn Senedd Cymru yr wythnos diwethaf? Clywais gan y mynychwyr fod y cyfarfod yn sicr yn ddiddorol a'i fod yn llawn tensiwn ar brydiau hefyd, gyda chi mae'n tebyg yn galw rhai o'r grŵp, ac rwy'n dyfynnu, yn 'blentynaidd'. A ydych chi'n credu'n onest, Ddirprwy Weinidog, mai dyma'r ffordd y dylai gwleidyddion siarad â'r bobl y cawsom ein hethol i'w gwasanaethu?
Fel gwleidydd nawddoglyd, fe wnaethoch chi ddweud wrth y grŵp hefyd, mae'n debyg, fod angen y cynllun 20 mya i, ac rwy'n dyfynnu er budd pawb, 'ailaddysgu gyrwyr Cymru'. Mae hwnnw'n sylw eithaf syfrdanol, Ddirprwy Weinidog. Ond efallai mai rhan fwyaf diddorol y cyfarfod oedd pan ddywedoch chi y byddai'r polisi 20 mya yn cael ei newid os na fydd nifer y marwolaethau'n lleihau. Felly, Ddirprwy Weinidog, er yr hoffwn yn fawr weld y polisi hwn yn cael ei ddileu unwaith ac am byth, o ystyried eich bod ar fin gadael y rôl, sut y gallwch chi fwrw ymlaen a gwneud ymrwymiadau fel hyn, neu a oedd yn fater o ddweud wrth bobl beth roeddent eisiau ei glywed er mwyn gadael y cyfarfod yn gyflymach?
Wel, Ddirprwy Lywydd, yn sicr ni fyddaf yn gweld colli hyn. Rwyf wedi bod yn ystyried lefel y craffu yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog wrth imi baratoi i ddychwelyd i'r meinciau cefn, ac mae'n rhaid imi ddweud bod y craffu gan y Ceidwadwyr wedi bod yn wael iawn. Rwy'n credu bod nifer o feysydd lle gallem gael ein profi a'n herio'n briodol, ac rwy'n croesawu her. Yn hytrach, clywn refru rheolaidd, wedi'i gynllunio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, nad yw'n cyflawni unrhyw graffu, ac yn llawn o sarhad a sylwadau personol difrïol, sydd islaw'r Siambr hon yn fy marn i. Ond rwyf wedi rhoi'r gorau i ddisgwyl gwell.
Ar ei chyfrif rhannol iawn o sgwrs breifat a gefais gyda'r deisebwyr a threfnydd y brotest ddiweddaraf, roedd yn sgwrs hanner awr neu fwy adeiladol a chalonogol iawn mewn gwirionedd. O ran dweud eu bod yn blentynnaidd, ar un pwynt, pan oedd un ohonynt yn torri ar fy nhraws yn barhaus, rwy'n credu imi ddweud, 'Roedd hynny'n blentynnaidd, a dylem gael sgwrs aeddfed', ac fe gawsom un. Felly, mae hi'n dyfynnu'n ddetholus ac yn anghywir o sgwrs breifat.
Fel y dywedais yn gyhoeddus, rydym yn monitro'r broses o gyflwyno'r polisi hwn. Rydym yn dilyn y dystiolaeth. Mae'r dystiolaeth wedi bod yn glir y bydd hyn yn gostwng cyflymder, yn lleihau nifer y gwrthdrawiadau, yn achub bywydau, ac yn gwella cymdogaethau lleol. Ac mae canlyniadau'r chwe mis cyntaf yn cadarnhau hynny: mae cyflymder wedi gostwng, mae nifer y bobl sy'n teithio o fewn y trothwy cyflymder gorfodol dros 90 y cant. Felly, rwy'n falch iawn o sut mae'n mynd. Mae'r arolygon barn hefyd yn dangos bod agweddau'n dechrau newid, fel y rhagwelwyd y byddent pan ddechreuasom ar y llwybr hwn. Mae hwn yn faes datblygu polisi anodd, ac unwaith eto, yn ôl at y cwestiwn cynharach, o ran penderfyniadau i fynd i'r afael â newid hinsawdd, mae angen i chi ddangos arweinyddiaeth eofn. Ac unwaith eto, mae'r Ceidwadwyr yn sarhau pob ymgais i wneud hynny.
Rwy'n falch o'r hyn a wnawn. Rwy'n falch iawn o fy nghyflawniad fel Gweinidog. Rwy'n falch iawn fod aelodau o fy swyddfa breifat a fy nhîm cynghorwyr arbennig yn y Siambr y prynhawn yma, tîm sydd wedi fy nghefnogi dros y tair blynedd diwethaf. Rwy'n credu ein bod wedi bod yn barod i fynd i'r afael â rhai o'r materion anodd, fel y mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn dweud wrthym fod yn rhaid i ni ei wneud—ac fe gefnogodd y Ceidwadwyr honno hefyd. Amser a ddengys. Bydd angen mân newidiadau, bydd angen ei addasu, bydd angen ei fireinio, a dyna'n bendant a wnawn drwy'r adolygiad. Rwy'n hyderus, ymhen amser, y byddwn yn gweld mai dyma'r peth iawn i'w wneud, ac unwaith eto, fe welir ei bod hi ar yr ochr anghywir i hanes.
Ddirprwy Weinidog, mae'n debyg mai dyma'r tro olaf y byddwch chi a minnau'n mynd benben yn y Siambr hon ar bynciau trafnidiaeth. Gyda phob parch, rwy'n gwerthfawrogi popeth a ddywedoch chi. Ond ni allwch wadu ac ni allwch anwybyddu bod ychydig o dan 0.5 miliwn o bobl wedi llofnodi deiseb yn galw am ddiddymu eich polisi hurt.
Rydych chi wedi bod yn y rôl hon ers mis Mai 2021, ac wedi gwneud eich marc yn yr amser hwnnw—am y rhesymau anghywir, byddwn i'n dadlau, ac rwy'n siŵr na fyddwch chi'n hoffi imi ddweud hyn. Felly, cyn i chi neidio i mewn i'ch car sy'n cael ei yrru gan chauffeur am un tro olaf, ar yr hyn rydych chi newydd ei ddweud, a ydych chi o ddifrif yn wirioneddol falch o'ch cyflawniad ym maes trafnidiaeth yng Nghymru? Oherwydd, yn onest, byddwn i'n dweud bod y cyhoedd yn meddwl i'r gwrthwyneb.
Nid wyf yn siŵr iawn beth yw'r cwestiwn yn y fan honno. Ar y rhan fwyaf o ddyddiau rwy'n teithio ar fy meic i'r gwaith. Ond fel mae'n digwydd, rwy'n mynd adref mewn car heno, am fod gennyf lun mawr i'w gario gyda fi—gobeithio bod hynny wedi'i ganiatáu. Mae'r pwynt yn aros: ydy, wrth gwrs bod y polisi hwn yn ddadleuol. Yn bendant, mae yna lawer o bobl sy'n ei wrthwynebu, ac fe wnaethant lofnodi deiseb, a oedd yn frith o gamgymeriadau, yn seiliedig i raddau helaeth ar y gamwybodaeth y mae hi a'i phlaid wedi'i lledaenu, ac yn dal i'w lledaenu, a'r celwyddau am ein polisïau. Rwy'n gweld eto yr wythnos diwethaf ei bod yn dweud ein bod wedi gwahardd adeiladu ffyrdd yng Nghymru, pan fo'n amlwg nad yw hynny'n ffeithiol wir. Ac eto, ddoe, fe wnaethom ddangos sut byddwn yn mabwysiadu cynlluniau ffyrdd i'w gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol. Nid ydym yn atal cynlluniau ffyrdd. Hoffwn pe bai hi'n atal y celwydd. Hoffwn pe bai'n ystyried y cyfraniad y mae'n ei wneud tuag at anelu casineb tuag at wleidyddion pan fo'n cyfrannu at ddiwylliant gwenwynig o iaith a chamwybodaeth. Rwy'n credu bod hynny'n warthus. [Torri ar draws.] Mae'r—
Ddirprwy Weinidog, rwy'n credu bod angen i'r iaith fod yn ofalus iawn yn y cyfraniadau—[Torri ar draws.]—ar bob ochr, rwy'n cytuno. Ond nid wyf yn credu bod yr Aelod yn annog casineb o gwbl, ac rwy'n credu y dylid tynnu hynny'n ôl.
Wel, rwy'n ofni bod hwnnw'n bwynt hynod ddadleuol. Yn fy marn i, mae cywair a natur—[Torri ar draws.] Mae cywair a natur y cyfraniadau yn cyfrannu at wneud y ddadl hon yn bersonol, sydd wedyn yn tanio ymgyrchoedd ar-lein, sy'n cael eu tanio gan y gamwybodaeth y mae Natasha Asghar yn parhau i'w rhoi allan, ac sydd â chanlyniadau i bob un ohonom, Ddirprwy Lywydd. Mae arnaf ofn na wnaf ei dynnu'n ôl oherwydd rwyf wedi wynebu canlyniad uniongyrchol hynny. Mae hwn yn bolisi dadleuol, a dros amser, rwy'n credu y profir ei fod yn gywir.
Fe wnawn drafod y pwynt ymhellach. Mae gennych un cwestiwn olaf, Natasha.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Ddirprwy Weinidog, rwyf am fod yn onest gyda chi, rwy'n ffieiddio at eich sylw yn y fan honno. Mae'r ffaith eich bod wedi fy meio i am gasineb—a ydych chi o ddifrif? Ond gadewch inni fynd yn ôl at y cwestiynau, oherwydd, yn y pen draw, dyna beth rydym yma i'w wneud. Rwyf am fynd ar daith i lawr lôn atgofion ac edrych ar eich cyflawniad yma yng Nghymru yn eich amser fel Dirprwy Weinidog.
Gadewch inni ddechrau gyda Rhif 1. Rydych chi wedi gosod terfynau cyflymder 20 mya cyffredinol ledled y wlad er gwaethaf—[Torri ar draws.] Gyda phob parch, Weinidog, ac rwy'n mynd i'ch atgoffa chi eto, adroddwyd am hyn wrth y comisiynydd safonau, a ddywedodd yn ei adroddiad mewn gwirionedd fod angen i unrhyw un sydd â phroblem gyda'r gair 'cyffredinol' ei oddef. Unwaith ac am byth—nid oes unrhyw gasineb ynghlwm wrth hynny—goddefwch ef. [Torri ar draws.]
A gaf i atgoffa'r Aelodau, os gwelwch yn dda, ar bob ochr, y dylent sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu cadw ar lefel resymol, a bod cyfraniadau'n parchu pawb arall?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae eich polisi yn sicrhau ergyd o £9 biliwn i'n heconomi, yn arafu pobl ac yn costio £33 miliwn i'w weithredu.
Yn ail, rydych chi'n cyflwyno taliadau tagfeydd, sy'n mynd i fod yn hofran uwchben pobl, gan wasgu hyd yn oed mwy o arian allan o bobl ar adeg pan fyddant eisoes yn gorfod tynhau eu gwregysau.
Yn drydydd, mae gwahardd adeiladu ffyrdd yng Nghymru, ni waeth beth mae eich cyd-Aelodau yn ei ddweud, yn amddifadu cymunedau o seilwaith mawr ei angen ac yn gwneud Cymru'n lle llai deniadol i wneud busnes. Mae hynny'n ffaith. Rydych hefyd wedi bwrw ymlaen i wneud lle i £3 miliwn o gyllid i'ch cyn-gyflogwr, Sustrans, dros y tair blynedd diwethaf ar adeg pan honnir bod cyllidebau'n dynnach nag erioed. [Torri ar draws.] Mae'n wir. Mae cyllid hanfodol wedi ei dorri i'n sector bysiau, gan arwain at doriadau sylweddol i wasanaethau a newidiadau, gan adael pobl o bob cwr o Gymru wedi'u hynysu. Rydym hefyd wedi gweld symiau anweddus o arian trethdalwyr yn cael ei bwmpio i mewn i Trafnidiaeth Cymru, sy'n dal i fethu darparu gwasanaeth dibynadwy ac effeithiol. A hefyd, Ddirprwy Lywydd, cafodd swm parhaus—miliynau o bunnoedd eto—ei wario'n syth o'r pwrs cyhoeddus i gynnal Maes Awyr Caerdydd.
Ddirprwy Weinidog, dim ond rhai o'r eitemau ar frig y mynydd iâ yw'r rhain; mae'r rhestr o gamau gweigion yn parhau. Felly, yng ngoleuni'r hyn a ddywedais nawr, a ydych chi am adolygu eich atebion blaenorol? Oherwydd dyma gyflawniad i fod â chywilydd ohono ac yn ddim byd o gwbl i fod yn falch ohono.
Rwy'n credu bod ailadrodd camwybodaeth, gwybodaeth ffug a chelwyddau'n barhaus yn ein Siambr ddemocrataidd yn druenus, ac mae hynny'n rhywbeth i fod â chywilydd ohono. Nid yw hwn yn bolisi cyffredinol. Nid ydym wedi gwahardd adeiladu ffyrdd. Nid ydym yn taflu arian tuag at Trafnidiaeth Cymru. Rydym yn ariannu uwchraddio am y tro cyntaf ers oes Fictoria yn y rhan fwyaf poblog o Gymru i greu gwasanaeth 'cyrraedd a theithio' a gefnogwyd gan ei phlaid hi. Nid wyf wedi rhoi arian i fy nghyflogwr blaenorol. Bydd y cofnod yn dangos bod yr elusen yn derbyn arian gan bob Llywodraeth o bob lliw ar draws y DU. Câi gyllid cyn i mi ymuno â nhw, ac nid wyf wedi gweithio iddynt ers 10 mlynedd. Ac mae'r cyllid y mae'n cyfeirio ato yn ariannu gwaith mewn ysgolion. Yr awgrym, sydd unwaith eto wedi cael ei adleisio gan y trolwyr ar-lein, yw fy mod yn cael budd personol o hyn. Mae'r mathau hyn o sylwadau, a'r gamwybodaeth y mae'n parhau i'w lledaenu, yn cyfrannu at ddiwylliant o gasineb ac yn cael eu cyfeirio at boblogaethau unigol. Mae angen iddi ysgwyddo cyfrifoldeb am ganlyniadau'r geiriau a'r iaith y mae'n ei defnyddio a'r ffordd y mae'n siarad yn y Siambr hon yn gyson mewn ffordd annymunol a phersonol iawn.
Fel y dywedais, ni fyddaf yn gweld colli'r dadleuon hyn, ond nid ydynt yn ychwanegu at hybu ein democratiaeth ac nid ydynt yn fy nwyn i gyfrif. Mae llawer y gallech fod wedi'i ddweud heddiw am y ffordd y gwnaethom gyflwyno'r terfyn cyflymder 20 mya a fyddai'n feirniadaeth deg. Mae llawer y gallwch ei ddweud am y ffordd y mae costau'r prosiect metro yn cynyddu. Mae llawer y gallwch ei ddweud am y cymhorthdal i Faes Awyr Caerdydd. Mae digon o bethau lle mae dadl onest i'w chael a chyflawniad i'w graffu'n briodol, a dyna yw gwaith y Senedd hon. Nid yw'r Aelod erioed wedi cyflawni unrhyw graffu difrifol. Y cyfan y mae'n ei wneud yw codi ar ei thraed a difrïo.
Cyn imi symud ymlaen, a gaf i dynnu sylw at y pwynt—? Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog yn bwysig. Cyfrifoldeb pob un ohonom yw sicrhau bod ein cywair a'n hiaith yn parchu pawb, nid yn unig yn y Siambr hon, ond y tu allan i'r Siambr hon hefyd, fel nad yw ein hymddygiad yn cael ei ddefnyddio fel modd i eraill ymosod ar gynrychiolwyr, boed hynny yn y Siambr hon, neu hyd yn oed yn siambrau cynghorau a mannau eraill. Mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb pwysig yn ein cyfraniadau. Ar gyfer y cofnod, rwyf am nodi ac adolygu'r hyn a ddywedwyd y prynhawn yma ac fe ddeuaf yn ôl at bawb sy'n gysylltiedig â'r mater.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, hoffwn ddweud eto cymaint o bleser yw hi wedi bod i'ch cysgodi yn y rôl hon. Rwy'n gobeithio y bydd yn parhau. Yn ystod eich cyfnod yn y swydd hyd yma, mae'r Senedd hon wedi datgan argyfyngau hinsawdd a natur. Nawr, rwy'n falch mai cynigion Plaid Cymru oedd y rhain, ond maent yn perthyn i'n Senedd. Rwy'n gwybod pa mor ddwfn yw eich dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â'r argyfyngau hyn gyda'n gilydd. Felly, a ydych chi'n meddwl ein bod yn cael y cydbwysedd yn iawn? Gyda'r Bil Seilwaith (Cymru) yn pasio'n fuan yn erbyn cefndir o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr sy'n cael eu cynnig neu sy'n mynd rhagddynt ar safleoedd ledled Cymru, fel ffermydd solar ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, rydym yn dechrau ar gyfnod mwyfwy peryglus. A ydych chi'n teimlo'n hyderus fod Llywodraeth Cymru wedi cael y cydbwysedd hwn yn iawn, a sut y gall y Cabinet newydd sicrhau bod y cydbwysedd yn cael ei daro a'i ddiogelu?
Mae'n gwestiwn ardderchog, Delyth, ac mae wedi bod yn bleser mawr gweithio gyda chi dros y blynyddoedd hyn hefyd, oherwydd rydym wedi anghytuno'n rymus ond hefyd rydym wedi dod o hyd i lawer i fod yn unedig yn ei gylch, a dyna fel y dylai fod.
Rwy'n credu ei fod yn gydbwysedd anodd iawn i'w daro. Rydym wedi ymdrechu'n galed i gael y cydbwysedd yn iawn. Rydym eisiau'r buddsoddiad, y swyddi a'r ynni adnewyddadwy sy'n dod gyda'r diwydiannau y siaradwn amdanynt, ac a dweud y gwir, mae gennym gyfle unigryw i fod ar y blaen mewn diwydiant byd-eang o ran gwynt arnofiol yma, sydd, o ystyried y sgwrs am Tata yn gynharach, yn gwneud i chi sylweddoli'r angen am y buddsoddiad hwnnw. Ond wrth gwrs, tra byddwn yn gwneud hynny, mae gennym rwymedigaeth absoliwt i sicrhau bod y diwydiant newydd hwnnw'n cael ei weithredu mewn ffordd sy'n amgylcheddol gynaliadwy, nad yw'n gwneud niwed ac sy'n dod â daioni i'n byd. Nid oes diben defnyddio gwynt arnofiol os mai'r hyn a wna yw niweidio gwely'r môr Celtaidd, er enghraifft. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn ynglŷn â hynny.
Rydym wedi datblygu cyfres o bethau sy'n ymwneud â chasglu data, gan weithio gydag Ystad y Goron, ar y ffordd y mae'r contractau wedi'u gweithredu, ar y ffordd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio fel rhan o'i adolygiad o drwyddedu morol, er enghraifft, ar sut y cawn y data, fel y gallwn dreialu gweithredu, a phe bai'r data hwnnw'n dangos bod rhywbeth wedi'i osod yn anghywir, fod modd ei symud mewn gwirionedd. Rwy'n awyddus iawn i wneud hynny oherwydd, fel arall, byddai'n rhaid i ni aros nes bod gennym 10 mlynedd o ddata a byddem yn colli'r ras fyd-eang. Ond rwyf hefyd yn awyddus iawn i sicrhau bod y trysorau sydd gennym yn yr amgylchedd morol o'n cwmpas yn cael eu diogelu yn y ffordd honno, ac rydym wedi gweithio'n galed i wneud hynny. Bydd llawer mwy i'w wneud, wrth i'r data hwnnw ddod ar gael, i sicrhau bod gennym amddiffyniadau ar waith. Ond rwy'n credu ein bod wedi gosod ein hunain ar y trywydd iawn ar gyfer hynny, ac rwy'n credu bod y Bil seilwaith yn dystiolaeth wirioneddol ein bod yn rhoi ein harian ar ein gair.
Diolch am hwnna, Weinidog.
Rwy'n hyrwyddwr rhywogaethau balch ar ran y gardwenynen feinlas, sydd â'i chynefin ar wastadeddau Gwent, a dim ond un o'r rhywogaethau sydd mewn perygl o ddiflannu yw honno. Mae un o bob chwech o'n rhywogaethau yn wynebu'r bygythiad hwn. Bellach, fel y gwyddoch, mae Cymru yn un o'r gwledydd lle mae natur wedi dirywio fwyaf ar y blaned, ac mae ein hamgylchedd dan fygythiad cynyddol yn sgil gweithgarwch dynol, a phethau fel llygredd, newid hinsawdd, ecsbloetio adnoddau. Maent yn rhoi pwysau enfawr ar ein byd naturiol gwerthfawr sy'n wynebu perygl. Nawr, nid yw pwerau gorfodi yn ddigon cadarn i ymdrin â graddfa a maint y troseddau amgylcheddol ledled Cymru. Mae cwmnïau preifat wedi bod yn dympio slwtsh gwenwynig anghyfreithlon ar safleoedd gwarchodedig, mae cwmnïau dŵr wedi rhyddhau carthion yn anghyfreithlon i gyrsiau dŵr Cymru, heb gymaint â slap ar yr arddwrn, os ydych chi am siarad amdano yn y termau hynny. Mae'r sefyllfa'n enbyd. Rwy'n gwybod eich bod yn poeni'n arw am hyn, Weinidog. Nawr, rwy'n gobeithio y bydd y Bil sydd ar ffordd ar lywodraethiant amgylcheddol yn mynd i'r afael â'r sefyllfa. Ond a allwch chi nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod canlyniadau effeithiol ar waith i'r rhai sy'n diystyru deddfwriaeth amgylcheddol yng Nghymru a bod yr unigolion hyn yn cael eu dwyn gerbron llys? Ac a yw hynny'n rhywbeth yr hoffech ei weld fel rhan o'ch gwaddol hyd yma yn y rôl hon?
Unwaith eto, cwestiwn ardderchog, Delyth, ac mae cryn dipyn o wahanol bethau anodd yn codi. Felly, y cynigion llywodraethiant amgylcheddol a gaiff eu cyflwyno gan y Llywodraeth—. Rwyf wedi mynd â'r Bil drafft yn bell, felly rwy'n eithaf sicr y bydd yn cyrraedd ar ei ffurf bresennol. Rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd. Yr arwyddion cychwynnol o'r ymgynghoriad hwnnw—nid yw'n gyflawn o bell ffordd—yw ei fod wedi ei gyflwyno'n dda, fod y bobl sydd wedi gweithio gyda ni yn meddwl ein bod wedi gwneud gwaith da ar adlewyrchu eu pryderon, ac yn y blaen. Felly, rwy'n eithaf sicr y bydd gennym rywbeth sy'n edrych yn debyg iawn i'r hyn sydd gennym. Wrth gwrs, bydd rhai elfennau gwahanol o'r ymgynghoriad yno. Mae hwnnw wedi'i anelu at awdurdodau cyhoeddus, nid awdurdodau preifat. Rwy'n gobeithio y bydd yn cynnwys y cwmnïau dŵr hefyd. Byddem yn gofyn iddynt gael eu cynnwys yn wirfoddol beth bynnag. Mae ychydig o broblem gyda'u dynodiad, ond rwy'n siŵr y gallwn oresgyn hynny.
Rwy'n siŵr mai un o'r pethau y dadleuir yn eu cylch yn y Senedd pan fydd y Bil hwnnw'n mynd drwodd yw beth y dylai'r cosbau fod i awdurdodau cyhoeddus nad ydynt yn gwneud yr hyn y dylent ei wneud. Mae'n hysbys nad wyf yn cefnogi dirwyo pobl. Mae yna ddarpariaeth yn y ddeddfwriaeth ailgylchu, er enghraifft, i ddirwyo cynghorau nad ydynt yn cyrraedd eu targedau ailgylchu. Fy marn i erioed, a barn bersonol yw hi, yw bod mynd ag arian oddi wrth awdurdodau cyhoeddus i geisio gwneud iddynt wneud mwy yn sicr o fethu, gan mai'r cyfan a wnewch yw eu hamddifadu o'r adnoddau angenrheidiol i fuddsoddi. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar hynny'n ofalus. Ond mae'n rhaid inni hefyd ddwyn adnoddau dynol yr awdurdod hwnnw i gyfrif, os mynnwch, a sicrhau eu bod yn gwneud y peth iawn. Felly, rwy'n gobeithio, y bydd y Bil yn cydbwyso hynny. Byddai'n rhaid i'r awdurdod ymateb i'r awdurdod goruchwylio mewn ffordd briodol a byddai'n rhaid iddo wella'i ffyrdd a rhoi trefn ar bethau. Felly, byddwn i'n dilyn y llwybr hwnnw.
Gyda chwmnïau preifat, mae hynny'n fwy cymhleth. Weithiau, dirwy yw'r hyn y dylid ei orfodi oherwydd eich bod yn mynd ag elw. Fodd bynnag, mae problem o hyd ynglŷn â buddsoddi i beidio â pharhau'r llygredd. Felly, bydd yna enghreifftiau—gallaf feddwl am enghreifftiau go iawn—lle rydym wedi cael camgysylltiadau carthffosydd yn mynd i mewn i afonydd, er enghraifft. Mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen yw buddsoddiad i'w hailgysylltu yn y ffordd briodol. Felly, er fy mod yn credu na ddylai unrhyw un elwa o fod wedi ei wneud yn anghywir, rwyf hefyd yn credu y dylent allu cael yr adnodd angenrheidiol i'w gywiro. Nid wyf ychwaith yn credu mewn gwthio pobl allan o fusnes fel bod pobl yn colli eu swyddi.
Felly, fel bob amser, mae'n ymwneud â chydbwysedd, onid yw? Mae'n ymwneud â tharo'r cydbwysedd rhwng gorfodi, enwi a chodi cywilydd, ac unioni, a sicrhau nad yw pobl yn elwa ohono, sy'n bwysig iawn hefyd yn fy marn i.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiwydiant ynni adnewyddadwy Cymru? OQ60886
Diolch yn fawr, Luke. Rydym yn benderfynol o fanteisio ar y cyfleoedd o'r pontio i system ynni adnewyddadwy. Rydym yn gweithio gyda diwydiant a'r gadwyn gyflenwi i greu buddion economaidd parhaus, gan gadw cyfoeth a gwerth yng Nghymru. Rydym hefyd yn arwain y ffordd drwy ein datblygwr sector cyhoeddus Trydan Gwyrdd Cymru.
Diolch am yr ateb, Weinidog.
Wrth gwrs, gwyddom fod Llywodraeth Cymru yn weithgar iawn yn y sector hwn, ond roeddwn i eisiau gofyn yn benodol am rôl y Llywodraeth a chyllid y sector cyhoeddus wrth ddadrisgio prosiectau ynni adnewyddadwy. Un peth a oedd yn amlwg iawn i mi yng nghynhadledd Ynni Morol Cymru, y soniodd y Gweinidog amdani ynghynt, oedd yr ymdeimlad o angen i Gymru gael strategaeth gydlynol yn y maes hwn. Felly, er enghraifft, cafwyd trafodaethau ynghylch cronni asedau a sefydlu asedau pwrpasol i gefnogi technolegau newydd a'r rôl bosibl i Lywodraeth yma. Felly, byddai croeso mawr i syniadau gan y Gweinidog ar y pwynt hwnnw.
Rwy'n cytuno. Fe wneuthum fwynhau eu cynhadledd yn fawr. Rwyf wedi siarad ynddi sawl gwaith. Un o'r cwestiynau mawr, nid yn unig i ynni adnewyddadwy, ond i fioamrywiaeth a'r argyfyngau natur a hinsawdd, yw sut y gallwn ddenu arian sector preifat go iawn, sydd ar gael yn rhwydd ledled y byd, mewn ffordd nad yw'n gwyrddgalchu. Felly, rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn gwneud mwy na mynd ag arian oddi ar gwmnïau sy'n barod i barhau i lygru'r byd cyn belled â'u bod yn gallu rhoi rhywfaint o arian i ni a gwneud rhywbeth ag ef. Ond mae'n rhaid i ni hefyd ddenu cyllid preifat priodol i mewn a fydd yn caniatáu inni wneud yr holl bethau yr ydym am eu gwneud yn y ffordd yr ydym yn awyddus i'w gwneud. Nid oes unrhyw ffordd y gall y Llywodraeth wneud hynny gyda'i hadnoddau ei hun, hyd yn oed ar lefel y DU. Felly, mae angen i ni gael cyllid sector preifat. Mae angen i ni ei gael mewn ffordd sy'n gynaliadwy, yn ddealladwy ac yn dryloyw. Felly, mae gennym bobl sy'n gweithio ar hynny.
Rwy'n aelod balch iawn o Beyond Oil and Gas Alliance. Roedd fy nghyd-Aelod, Lee Waters, yn falch iawn o'i llofnodi ar ein rhan tra oeddem i fyny yn Glasgow yn y COP. Rydym yn cydweithio ag ystod eang o—enw ofnadwy—lywodraethau isranbarthol, cenedlaethol a dinesig. Enw ofnadwy, ond rydych chi'n deall y pwynt. Rwy'n casáu'r enw; rydym wedi bod yn ceisio meddwl am un gwell. Os ydych chi'n ei ddweud yn Almaeneg, ICLEI ydyw; mae'n llawer gwell. Felly, rydym yn cydweithredu â nhw, ac un o'r pethau y maent yn gweithio arno ar hyn o bryd ac yr ydym ni wrthi'n gweithio gyda nhw yw prosiect gyda Banc y Byd a nifer o fanciau ffederal ledled y byd i weld sut y gallwn gael didwylledd a thryloywder i gyfalaf sector preifat fel y gallwn ei ddenu i mewn mewn mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn dryloyw, ond sydd hefyd yn gwneud y prosiectau yr ydym yn awyddus i'w gwneud yn ariannol hyfyw am y tro cyntaf.
Mae gennym gyfleoedd ynni adnewyddadwy gwych yng ngogledd Cymru a phrosiectau ar y gweill i'n helpu i gyrraedd ein nod sero net. Mae gennym bedwar datblygwr tyrbin yn gweithio ar brosiect Morlais a phrosiect ynni llanw Ynys Môn. Dyfarnwyd y contractau hyn gan arwerthiant ynni adnewyddadwy Contractau ar gyfer Gwahaniaeth Llywodraeth y DU, sy'n rhoi hyder i fuddsoddwyr fuddsoddi mewn cynhyrchiant trydan carbon niwtral, sy'n golygu y gallwn gyrraedd sero net yn gyflymach nag y byddai'r marchnadoedd yn ei ganiatáu fel arall.
Mewn rhanbarthau eraill yn y DU, cafwyd buddsoddiad mewn ffynonellau eraill o ynni adnewyddadwy, fel ynni geothermol yng Nghernyw. Mae gan y buddsoddiad hwn botensial i ddenu dros £50 miliwn o fuddsoddiad i ogledd Cymru ac mae ganddo gyfleoedd gwaith lleol sylweddol. Ar sail ddomestig lai o faint hefyd, mae gennym gwmnïau ynni adnewyddadwy gwych yng ngogledd Cymru, megis Carbon Zero Renewables, wedi'u lleoli yn Llanelwy yn fy etholaeth i, sy'n gosod ac yn cynnal a chadw paneli solar wedi'u gosod yng nghartrefi pobl i sicrhau eu bod yn parhau i weithio ar eu lefel fwyaf effeithlon. Felly, a all y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar arallgyfeirio marchnad ynni adnewyddadwy Cymru yn ehangach fel nad ydym yn rhoi ein hwyau i gyd yn y fasged wynt a solar?
Gyda phleser. Cefais ymweliad gwych gyda fy nghyd-Aelod Siân Gwenllian â phrosiect trydan dŵr yn eich ardal chi, rwy'n credu, Siân, enghraifft wych iawn o gymuned a oedd wedi dod at ei gilydd i harneisio grym y rhaeadr yno. Yn anffodus, nid oedd gennyf amser i gerdded yr holl ffordd i'r pen uchaf, ond rwy'n bwriadu dychwelyd dros yr haf i wneud hynny. Roedd yn gymuned a oedd wedi dod at ein gilydd eu hunain ond a oedd bellach yn gallu cael help gan Ynni Cymru, a dyna pam roedd Siân a minnau yno, oherwydd drwy ein gwaith gydag Ynni Cymru, drwy'r cytundeb cydweithio, rydym yn annog cymunedau ledled Cymru i ddod ynghyd i fanteisio ar beth bynnag yw'r ynni adnewyddadwy a fyddai'n gweddu i'w cymuned, ac mae hynny'n cynnwys ystod eang o bethau, mewn gwirionedd.
Yn ddiweddar iawn fe ymwelais â chymuned y Dirprwy Lywydd yn Sgiwen ar ôl llifogydd ofnadwy o hen bwll glo, ond mae hynny wedi golygu mewn gwirionedd fod gennym brosiect ar ynni geothermol yn deillio o hen weithfeydd yr ydym yn gweithio arno gyda'r Awdurdod Glo. Roedd honno'n gymuned a wynebodd gryn drawma yn sgil y llifogydd hynny, ac ni fyddaf yn anghofio'r marciau melyn ar y wal, ymhell uwch fy mhen, a nodai uchder y llifogydd. Ond roedd y dŵr yn gynnes, felly mae wedi bod yn ddiddorol iawn edrych ar sut y gallwn fanteisio ar yr hyn sy'n dreftadaeth ddiwydiannol a all, ac roedd yn sgwrs rhwng y Prif Weinidog—y Prif Weinidog blaenorol; mae'n od dweud hynny, onid yw?—yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, am fwyngloddiau metel. Gall y pethau hyn fod yn beryglus i iechyd pobl—rwy'n credu mai Aelod o'ch meinciau chi a ofynnodd y cwestiwn—ond maent yn gyfleoedd hefyd, ac mae llawer ohonynt yn llawn o ddŵr cynnes, ac rydym yn bendant yn edrych ar hynny.
Rwyf newydd drafod morlynnoedd llanw gyda fy nghyd-Aelod Mike Hedges. Rwy'n dod o Abertawe; nid yw'n gyfrinach y byddem yn hoffi morlyn llanw yn ein hardal, ac wrth gwrs, mae gennym nifer o rai eraill, nad wyf am sôn amdanynt nawr, ond mae gennym nifer fawr o rai eraill. Rwy'n falch iawn o broject Menter Môn yn y Fenai, y gwnaeth y Prif Weinidog a minnau, Gweinidog yr Economi ar y pryd, y Prif Weinidog bellach, Vaughan Gething, a nifer o rai eraill ymweld ag ef yr haf diwethaf i weld yr ynni anhygoel sy'n dod i mewn o'r ffrwd lanw yno.
Ar yr AR6, roedd yn fwy llwyddiannus, rydych chi'n iawn, ac roeddwn wrth fy modd yn gweld hwnnw, ond rydym yn annog Llywodraeth y DU i roi mwy o gyfran o'r rownd nesaf o gyllid Contractau ar gyfer Gwahaniaeth i brosiectau nad ydynt yn rhai gwynt mewn gwirionedd fel y gallwn gael gwell cyllid i rai o'r prosiectau morol yn enwedig sydd gennym ledled Cymru, gan gynnwys prosiectau ffrwd lanw yn y Fenai ac yn Swnt Dewi, i lawr yn ardal Paul Davies, er mwyn iddynt allu gweithredu ar raddfa fwy.
4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen buddsoddi i atal llifogydd Llywodraeth Cymru? OQ60860
Diolch yn fawr, Jack. Ddoe, cyhoeddais ein rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol 2024-25, drwy ddatganiad ysgrifenedig yn anffodus, oherwydd y pwysau ar amser y Senedd ddoe. Rwy'n falch iawn ein bod yn cynnal ein lefel uchaf erioed o gyllid eleni, sef £75 miliwn. Mae hyn yn cyfateb i'r dyraniad y llynedd fel y gwariant blynyddol uchaf erioed ar reoli perygl llifogydd yng Nghymru hyd yma.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Fel y gŵyr y Gweinidog, rwyf wedi bod yn codi buddsoddiad i raglenni atal llifogydd yn Sandycroft a Brychdyn yn eithaf di-baid yn y Senedd dros beth amser bellach, ac roeddwn yn falch o weld y datganiad ysgrifenedig a chyhoeddi arian, gan gynnwys darparu £800,000 i Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud gwaith cyfalaf yn Sandycroft, a £60,000 arall ar gyfer cynlluniau cydnerthedd llifogydd yn Sandycroft, Brychdyn a Bretton. Weinidog, a gaf i ddiolch i chi ar ran y cymunedau hyn? Cafodd y cymunedau hynny a bywoliaeth pobl eu difetha gan lifogydd yn ddiweddar, ac mae croeso mawr i'r arian, ond mae'n bwysig cyflawni'r gwaith cyn gynted â phosibl nawr, a tybed a wnewch chi ddefnyddio'ch swydd yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hyn yn digwydd. Diolch yn fawr.
Diolch, Jack. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn tystio i ddyfalbarhad eich ymholiadau ar hynny. Rwy'n hoff iawn o ddyfalbarhad—mae'n un o'r nodweddion y credaf fy mod yn meddu arni fy hun, felly roeddwn yn falch iawn o weld hynny. Rwy'n falch iawn fod y cyhoeddiad wedi'i groesawu, ac mae'n dangos ein hymrwymiad parhaus i'r gwaith hwn ledled Cymru. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r awdurdodau rheoli risg, yr awdurdodau lleol, i sicrhau bod y cynlluniau’n cael eu cyflawni mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl. Bydd cynlluniau busnes wedi’u cyflwyno, ac rwy’n bendant y gallwn barhau i wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau bod y cynlluniau hynny’n cael eu cyflawni yn unol â’r rhaglen. Mae gan ogledd Cymru hanes rhagorol o gyflawni cynlluniau yn unol â'r gyllideb a'r rhaglen, felly rwy'n siŵr y bydd hynny'n parhau.
Prynhawn da, Weinidog.
5. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i sicrhau cyfranogiad cymunedol mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy? OQ60882
Diolch am eich cwestiwn, Jane. Mae perchnogaeth leol a chynnwys cymunedau yn rhan hollbwysig o'n polisi ynni. Rydym eisoes wedi cyflawni 97 y cant o'n targed i sicrhau bod 1 GW o ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol erbyn 2030. Mae ein buddsoddiad mewn cynlluniau ynni ardal leol yn rhoi cyfle pellach i gymunedau gymryd rhan yn y cynlluniau hynny.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb.
Rydych wedi ateb rhan o fy nghwestiwn wrth gyfeirio at y cynllun y buoch yn ymweld ag ef gyda Siân Gwenllian, ond un o’r heriau allweddol, pan fyddwn yn pontio i ynni gwyrdd, yw sicrhau bod y manteision yn cael eu teimlo gan gymunedau lleol, oherwydd yn rhy aml, mae'r elw'n mynd o brosiectau ynni adnewyddadwy mawr ac nid ydynt yn aros yn yr ardal leol. Ceir dulliau gwahanol o ddarparu buddion diriaethol i gymunedau, er enghraifft, mae gan Octopus Energy eu 'Fan Club' ynni, hynny yw, clwb ffaniau—os na allwch fy ngweld—sy’n caniatáu biliau ynni gostyngol i’r rhai yr effeithir arnynt gan eu tyrbinau gwynt, a phan fydd y gwynt yn chwythu, maent yn cael arian oddi ar eu biliau. Felly, tybed beth yw eich barn am y cwmnïau mawr hynny sy'n dod i ardaloedd—sut y byddech chi'n teimlo ynglŷn â'r syniad eu bod yn cynnig gostyngiadau i gymunedau ar eu biliau ynni, am gyfnod hir o amser, er mwyn galluogi cymunedau i elwa'n wirioneddol. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Jane. Byddwn wrth fy modd yn gwneud hynny, ond nid yw yn y rheolau, yn anffodus. Mae gan Octopus esemptiad penodol o'r rheolau. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ers peth amser i sicrhau y gallwn ddiwygio’r farchnad ynni er mwyn ein galluogi i wneud hynny. Mae problem wirioneddol gyda'r ffaith bod ynni adnewyddadwy yn gysylltiedig â phris ymylol nwy, a dyna pam fod y biliau ynni mor uchel. Nid oes angen i'r farchnad ynni weithio yn y ffordd honno, ond dyna'r ffordd y mae'n gweithio ar hyn o bryd.
Felly, rydym yn gwneud cyfuniad o bethau, ac a dweud y gwir, mae'n rhaid imi dalu teyrnged i Adam Price, sydd wedi ymdrechu'n galed iawn i gynnwys hyn yn y Bil seilwaith, am resymau rwy'n eu deall yn llwyr, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi, pa bynnag het y byddaf yn ei gwisgo, i sicrhau y gallwn wneud hynny yn y ffordd gywir o ran polisi. Ond yr hyn rydym am ei wneud yw sicrhau bod pobl yn berchen ar ran o bob gorsaf sy'n cynhyrchu ynni adnewyddadwy, ni waeth beth ydyw, ni waeth pa fath o ynni adnewyddadwy ydyw, nid ynni gwynt yn unig—fod pobl yn berchen ar ran ohoni. Oherwydd os ydynt yn berchen ar ran ohoni, gallant fwynhau rhywfaint o'r elw ohoni ar ffurf ynni rhatach. Os nad ydynt yn berchen ar ran ohoni, yna rydych wedi eich cyfyngu i fuddion cymunedol. Gall buddion cymunedol fod yn anhygoel, gallant wneud pob math o bethau adfywiol yn eich ardal, ond ni allant roi ynni rhatach i chi. Ond rydym wedi gallu cytuno â’r diwydiant ynni adnewyddadwy mai’r hyn y gallent ei wneud yw ôl-osod y tai, fel y byddent yn fwy effeithlon ac effeithiol. Felly, mae hynny'n rhywbeth rydym wrthi'n mynd ar ei drywydd ar hyn o bryd, yn ogystal â'r hyn a elwir yn safon aur buddion cymunedol y buom yn gweithio arni ers tro. Yn y cyfamser, rydym wedi bod yn gweithio, drwy'r cytundeb cydweithio, ar ehangu ynni cymunedol cymaint ag y gallwn ledled Cymru, gan mai dim ond drwy fod yn berchen arno y gallwch sicrhau nad yw'r elw i gyd yn cael ei ecsbloetio.
6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc? OQ60874
Diolch, Jayne. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phob math o ddigartrefedd ac rydym yn buddsoddi bron i £220 miliwn mewn gwasanaethau cymorth ac atal digartrefedd y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys dros £7 miliwn wedi'i dargedu'n benodol at nodi digartrefedd ymysg pobl ifanc yn gynnar a chymorth i helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau bywyd sydd eu hangen arnynt i fyw'n annibynnol.
Diolch, Weinidog. Mae pobl ifanc niwrowahanol, pobl sy'n awtistig, dyslecsig, dyspracsig ac sydd â mathau eraill o niwrowahaniaeth, mewn perygl arbennig o ddod yn ddigartref. Mae ymchwil wedi dangos, pan fydd pobl ifanc niwrowahanol yn dod yn ddigartref, fod cael mynediad at wasanaethau yn eu rhoi dan fwy o anfantais. Cyfarfûm yn ddiweddar ag End Youth Homelessness Cymru i drafod eu hadroddiad newydd 'Impossible to Navigate’, sy’n canolbwyntio ar ddigartrefedd ymysg pobl ifanc drwy lens niwroamrywiaeth. Bydd yr adroddiad yn cael ei lansio yma yn y Senedd ar 17 Ebrill. Bydd cyfle i siarad â rhai o’r ymchwilwyr cymheiriaid, ac rwy’n annog pob un o fy nghyd-Aelodau i fynychu. Mae cynnwys pobl ifanc niwrowahanol fel ymchwilwyr cymheiriaid yn y prosiect ymchwil o'r cychwyn cyntaf yn rhoi hygrededd gwirioneddol i'w ganfyddiadau. Weinidog, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gynyddu hygyrchedd ac annog cydgynhyrchu gwasanaethau digartrefedd ymysg ieuenctid ledled Cymru?
Diolch, Jayne. Rwy'n ymwybodol iawn o adroddiad 'Impossible to Navigate', ac yn croesawu ei ganfyddiadau'n fawr. Rydym wedi ariannu End Youth Homelessness Cymru, mewn gwirionedd—£83,155 yn 2023-24. Roedd rhan o’r cyllid hwnnw ar gyfer cynnal y grwpiau ffocws ieuenctid a oedd yn caniatáu i’r bobl ifanc gyfrannu at yr ymchwil. Credaf fod cael profiad bywyd o'r system yn gwbl ganolog i'n polisi, nid profiad bywyd o ddigartrefedd yn unig—ac nid wyf yn dweud 'yn unig' mewn unrhyw ffordd ddifrïol—ond profiad o'r system ei hun. Ac rydym wedi gwneud llawer o waith drwy ein panel cynghori, a oedd yn cynnwys nifer fawr o bobl â phrofiad bywyd, nid yn unig y profiad o fod yn ddigartref ond y profiad o ryngweithio â'r fiwrocratiaeth, os mynnwch, yn eich ymdrech i ddod allan o'r sefyllfa honno.
Rwy'n credu y bydd y Bil newydd y bydd y Llywodraeth yn ei gyflwyno ar roi diwedd ar ddigartrefedd yn mynd i’r afael â llawer o hyn drwy wreiddio’r rhannau o hynny sy'n ymwneud â chydgynhyrchu a phrofiad bywyd ym mholisi parhaus y Llywodraeth. A chredaf hefyd y bydd y dull 'dim drws anghywir'—y mae fy nghyd-Aelod Lynne Neagle wedi'i hyrwyddo ar gyfer iechyd meddwl, ond sy'n berthnasol i bob gwasanaeth cyhoeddus, wrth gwrs—yn helpu hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Bil newydd, pan fydd yn mynd drwy’r Senedd, yn golygu na all unrhyw awdurdod cyhoeddus yng Nghymru ryddhau unrhyw un i ddigartrefedd, a bydd hynny’n golygu y bydd yn rhaid iddynt eirioli ar eu rhan i’w helpu drwy’r system. Felly, rydym yn credu y byddai hynny o gymorth mawr, am fod y bobl ifanc wedi dweud hynny wrthym, ond bydd mwy y gallwn ei wneud, ac edrychaf ymlaen at wneud hynny.
7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau ei bod yn cyflawni ei rhwymedigaethau amgylcheddol i bobl Sir Benfro? OQ60851
Diolch, Paul. Mae diogelu ein hamgylchedd yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth. Rydym wedi rhoi pwerau llym i'r rheoleiddiwr amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru, i gymryd camau i reoleiddio a gorfodi rheolaethau amgylcheddol mewn achosion o lygru, ac mae asesydd interim diogelu'r amgylchedd Cymru yn goruchwylio gweithrediad cyfraith amgylcheddol yng Nghymru.
Diolch am eich ymateb. Nawr, fe fyddwch yn ymwybodol o'r pryderon amgylcheddol ac iechyd cyhoeddus difrifol mewn perthynas â safle tirlenwi Withyhedge yn fy etholaeth, lle mae trigolion yn dal i gael eu gorfodi i fyw gydag arogleuon erchyll o'r safle hwnnw. Nid oes gan drigolion unrhyw hyder ychwaith yn y camau a gymerwyd i fonitro ansawdd aer yn yr ardal wedi iddi ddod yn amlwg fod un o weithwyr Dauson Environmental Group, yr un grŵp sy’n berchen ar y cwmni sy’n gweithredu safle Withyhedge, yn gwneud y gwaith monitro, ac mae hynny’n peri cryn bryder i mi.
Nawr, rwy'n siŵr y gallwch ddeall pryderon trigolion, yn enwedig o ystyried bod gan y cwmni hwn, fel y gŵyr pob un ohonom, gysylltiad uniongyrchol â'r Prif Weinidog newydd. Felly, Weinidog, os byddwch yn parhau yn eich rôl bresennol, a fyddech yn fodlon cyfarfod â thrigolion i wrando ar eu pryderon, a rhoi sicrwydd fod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei rhwymedigaethau amgylcheddol i’r gymuned? A pha gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i ddatrys y mater hwn i drigolion unwaith ac am byth?
Diolch, Paul. Rwy'n ymwybodol iawn o'r mater, fel y gwyddoch, a chawsom drafodaeth fer amdano yn ddiweddar iawn. Fy nealltwriaeth i yw bod hysbysiad gorfodi ar y safle a bod angen cydymffurfio â hwnnw erbyn 6 Ebrill. Mae nifer o fesurau yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau nad dyddiad yn unig mo hwnnw—ei bod yn bosibl cydymffurfio, os mynnwch, erbyn 6 Ebrill—ac os na cheir cydymffurfiaeth, y bydd canlyniadau difrifol i hynny. Ond rwy'n deall pryderon y trigolion yn llwyr. Mae'n ardal nad wyf yn byw ynddi fel rydych chi, ond rwy'n ymweld â hi'n aml iawn, fel y gwyddoch, ac nid yw'n rhywbeth y dylem fod yn ei oddef.
Felly, rwy'n falch fod y camau gorfodi wedi'u cymryd. Byddwn yn sicrhau bod yr hysbysiad yn cael ei orfodi’n llym. Nid oes unrhyw syniad gennyf pwy sy'n mynd i fod yn sefyll lle rwy'n sefyll pan fyddwn yn cyfarfod nesaf, ond rwy'n gwbl sicr y byddai pwy bynnag ydynt yn fwy na pharod i gyfarfod â'r trigolion, ac i sicrhau bod CNC wedi gwneud popeth o fewn eu pwerau i weithredu'r camau gorfodi hynny.
Wrth gwrs, byddwn yn cyflwyno Bil diogelu'r amgylchedd a'r targed bioamrywiaeth—nid dyna fydd ei deitl yn y pen draw, rwy'n siŵr, ond rydych chi'n gwybod pa Fil rwy'n ei feddwl. Ac rwy’n awyddus iawn, felly, fod y Bil hwnnw'n sicrhau ei fod yn rhoi rhwymedigaethau ychwanegol ar awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol yn yr achos hwn i sicrhau eu bod yn cydweithio er mwyn sicrhau nad ydym yn gweld y math o broblemau amgylcheddol a welsom ar y safle tirlenwi hwnnw. Ac nid oes ei angen. Rwyf wedi ymweld â safleoedd tirlenwi drwy yrfa hir ym maes gwastraff cyn imi ddod i'r Senedd. Rwyf wedi gweithio yn y rhan honno o—. Roeddwn yn gyfreithiwr llywodraethiant amgylcheddol am amser maith, ac nid oes angen i safle tirlenwi fod yn ddrewllyd nac yn anodd. Dylent gael eu rheoli'n dda, dylai fod pibellau yno a dylent fod wedi eu capio'n briodol. Felly, nid wyf yn credu bod unrhyw esgus dros hyn, ac rwy’n siŵr y bydd yr hysbysiad yn cael ei orfodi'n llym, ac rwy’n mawr obeithio hynny er lles y trigolion yn yr ardal hyfryd honno.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Janet Finch-Saunders.
8. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro a gwarchod llamhidyddion rhag bygythiadau fel mynd ynghlwm mewn rhwydi pysgota, llygredd cemegol a sŵn, hela, traffig cychod, a diffyg bwyd? OQ60865
Diolch, Janet. Cwestiwn pwysig iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ystod o gamau ar waith i sicrhau bod llamhidyddion yn cael eu diogelu rhag bygythiadau. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i gyflawni’r fenter lleihau sgilddalfa i leihau achosion o fynd ynghlwm mewn rhwydi pysgota, y cynlluniau rheoli pysgodfeydd i ddarparu pysgodfeydd cynaliadwy sy’n darparu bwyd, a rheolaeth gadarn ar ein rhywogaethau mudol mewn ardaloedd cadwraeth arbennig.
Diolch, Weinidog. Rwy’n falch iawn, gan mai fi yw hyrwyddwr llamhidyddion Cymru. Mae tri safle oddi ar arfordir Cymru a de-orllewin Lloegr wedi’u nodi fel ardaloedd pwysig ar gyfer y mamaliaid morol hyn. Mae ganddynt arwynebedd cyfunol o 16,477 km, gan amrywio mewn dyfnder o'r dyfroedd bas ar hyd yr arfordir i oddeutu 100m. Mae’r prif fygythiadau i’r llamhidyddion hyn yn cynnwys cael eu dal fel sgilddalfa mewn offer pysgota, ac maent hefyd yn sensitif i lygredd ac aflonyddwch. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymgynghori ar ardaloedd cadwraeth arbennig posibl ar eu cyfer. A allech chi egluro pa gynnydd sy’n cael ei wneud gyda CNC nid yn unig i’w diogelu, ond i sicrhau y cesglir data y gellir ei ddefnyddio wedyn i fonitro a fydd y camau a gymerwyd yn effeithiol yn y tymor hir? Diolch.
Diolch, Janet. Fel y gwn eich bod yn gwybod, ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun cenedlaethol am ddim i bysgotwyr gael gwared ar ac ailgylchu offer pysgota sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes mewn nifer o safleoedd ledled y wlad, ac rydym wedi casglu dros 10 tunnell ohono hyd yma. Os ystyriwch beth mae hynny'n ei gynnwys, mae'n llawer iawn o bethau. Felly, mae'n lleihau'r perygl y byddant yn cael eu gadael yn y môr, lle gall creaduriaid fynd yn sownd ynddo—nid yn unig llamhidyddion, mae'n rhaid imi ddweud, ond pob bywyd mudol arall yn y môr, sef bron y cyfan ohono, wrth gwrs.
Hoffem gael rheolaeth effeithiol ar ein rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig i sicrhau eu bod mewn cyflwr ffafriol, a bod yr egwyddorion sy’n llywio’r gwaith o ddatblygu hynny’n cael eu cyflawni drwy gynllun grant rheoli'r ardaloedd morol gwarchodedig. Rydym wedi cael golwg ar y codau ymddygiad morol y sonioch chi amdanynt a chyflwyno ap crwydro Cymru, a fydd yn caniatáu i bobl ddweud wrthym ble maent.
Rydych yn llygad eich lle, Janet, wrth ddweud nad oes gennym yr holl ddata sydd ei angen arnom er mwyn gallu gwneud hyn, ac felly mae gennym brosiect data ar y gweill. Dywedodd yr 'Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol' diweddaraf fod cyflwr llamhidyddion yn ansicr oherwydd diffyg data. Felly, hoffwn annog pobl, Ddirprwy Lywydd, os ydynt allan yn yr awyr agored dros y Pasg, i lawrlwytho'r ap, ac os ydych yn gweld pethau o'r fath—a bydd pob un ohonom, rwy'n siŵr, wedi clywed bod morfilod cefngrwm wedi'u gweld yn ddiweddar oddi ar arfordir sir Benfro, rhywbeth yr oeddwn yn falch iawn o'i glywed, yn bersonol—gallwch eu cofnodi ar yr ap, ac felly gallwn olrhain eu symudiadau. Mae'n eithaf anodd eu holrhain mewn gwirionedd. Efallai ei fod yn edrych yn hawdd, ond mae'n eithaf anodd eu holrhain, ac mae hynny'n gymorth mawr. Rydym yn annog dull gwyddoniaeth dinasyddion o wneud hynny, ac mae gennym hefyd—. Mae gennym brosiectau penodol ar gyfer trefnu'r data hwnnw ar ffurf y gellir ei defnyddio.
Cawsom ddigwyddiad trist iawn lle daethpwyd o hyd i lamhidydd gyda'i ben wedi'i dorri i ffwrdd ar arfordir Ynys Môn ym mis Chwefror eleni. Gwyddom bellach ei bod yn debygol i'w ben gael ei dorri i ffwrdd ar ôl iddo farw, ond hoffem wneud yn siŵr na cheir digwyddiadau o'r fath ar ein traethau hyfryd. [Torri ar draws.] Roedd rhywun wedi mynd â'r pen, yn anffodus, felly nid oedd modd inni edrych arno. Felly, un o’r rhesymau rwyf am annog pobl i ddefnyddio’r ap yw ein bod am i bobl ddweud wrthym am ddigwyddiadau o’r fath, fel y gallwn sicrhau ein bod yn gallu gofalu amdanynt. Os oes mamaliaid morol mawr o’r fath yn tirio, mae’n bwysig iawn inni ddeall beth sydd wedi digwydd a chynnal post-mortem, felly hoffwn annog pobl i beidio ag ymyrryd ag anifail, ond i roi gwybod amdano os dônt o hyd i un.
Felly, diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, ac rwy'n siŵr y byddwn yn parhau, Janet, i weithio gyda'n gilydd ar ein pryder cyffredin am y math hwnnw o fywyd morol.
Diolch i'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog.
Eitem 3 yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Ken Skates.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd o ran creu ysgol feddygol yng Ngogledd Cymru? OQ60855
Mae ysgol feddygol gogledd Cymru yn dod yn ei blaen yn dda, gyda myfyrwyr i fod i ddechrau ar eu hastudiaethau ym mis Medi. Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn fodlon â’r cynnydd yn dilyn eu hymweliad sicrhau ansawdd cam 5 ym mis Gorffennaf y llynedd, gan ganiatáu i’r ysgol fwrw ymlaen â'r broses o recriwtio myfyrwyr, a ddigwyddodd fis Rhagfyr diwethaf ac ym mis Ionawr eleni.
Weinidog, a gaf i gofnodi fy niolch am yr holl waith a wnaethoch wrth fynd i'r afael â hyn? Bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ogledd Cymru a’r wlad gyfan. A fyddech yn cytuno mai dyma'n benodol yw'r hyn sydd angen i ni ei wneud er mwyn diogelu GIG Cymru at y dyfodol?
Diolch yn fawr, Ken. Rwyf wrth fy modd ynglŷn â hyn, ac mae gweld pobl bellach yn cael eu recriwtio'n uniongyrchol i'r ysgol feddygol yn y gogledd yn wirioneddol galonogol. Bydd y derbyniad uniongyrchol yn dechrau yn yr hydref, a bydd yn cynyddu i gyrraedd ei gapasiti llawn—felly, erbyn 2029, bydd 140 o fyfyrwyr y flwyddyn. O’r rheini sydd wedi’u recriwtio i ysgol Caerdydd ond sydd wedi cael eu lleoli yn y gogledd wedyn, fe wyddom fod oddeutu 50 y cant ohonynt nid yn unig wedi aros yng ngogledd Cymru, wedi aros yng Nghymru, ond wedi aros ym mwrdd Betsi. Dyna’r union fath o ganlyniad roeddem yn chwilio amdano, felly rwy’n siŵr y bydd Siân Gwenllian yn falch iawn o glywed hynny hefyd.
Diolch yn fawr, ac efallai eich bod chi'n mynd i ddyfalu beth sydd gen i i'w ddweud ar y pwnc yma. Mae'r ffaith bod gyda ni ysgol feddygol ym Mangor, fydd yn derbyn ei myfyrwyr cyntaf ym mis Medi, i'w groesawu'n fawr iawn, ac mae'n rhaid inni ddiolch i bawb fu'n gwneud yr achos dros hyfforddi doctoriaid yn y gogledd. Mi wnes i fy hun godi'r angen am ysgol feddygol 14 o weithiau ar lawr y Senedd yma, ac, yn 2017, dwi'n cofio'r darpar Brif Weinidog, tra roedd o'n Weinidog iechyd, yn dweud nad oedd achos am ysgol feddygol ym Mangor. Ond, dyna ni, mae dyfalbarhad wedi talu ei ffordd, ac mae yna wers i ni i gyd yn hynny, dwi'n siŵr.
Dwi bellach yn gwneud yr achos dros ddatblygu Bangor yn ganolfan o ragoriaeth o ran hyfforddiant meddygol, ac mi glywch chi fwy am hyn hefyd—byddai'n dyfalbarhau efo hynny hefyd. Mae yna ysgol fferylliaeth ar y gweill ym Mangor, ond a gaf i ofyn i chi, onid y cam naturiol nesaf, o ran hyfforddi yn y gogledd, ydy sefydlu ysgol ddeintyddiaeth ym Mangor, a hynny ar fyrder?
Diolch yn fawr. Wrth gwrs, bydd yn rhaid inni weld sut mae pethau'n datblygu yn y gogledd, ond a gaf i ddiolch i Siân Gwenllian, yn arbennig am ei brwdfrydedd hi dros hwn? Roedd hi, wrth gwrs, yn rhan o faniffesto'r Blaid Lafur hefyd, ac yn rhan o raglen y llywodraeth, ond mae'n dda ein bod ni wedi gallu cydweithredu ar y pwnc pwysig yma.
Un o'r pethau dwi wedi bod yn gwthio arno'n ddiweddar yw gofyn—a dwi'n gwybod bod diddordeb gyda Siân Gwenllian yn y pwnc yma hefyd—sut maen nhw'n dysgu am iechyd menywod yn y cwricwlwm. A dwi'n falch o glywed, yn y cwricwlwm yng Nghaerdydd, fod gwaith yn cael ei wneud—ac, wrth gwrs, ar hyn o bryd, maen nhw'n dilyn cwricwlwm Caerdydd—i sicrhau ein bod ni'n gweld newid yn y ffordd mae meddygon yn ymdrin â menywod. Felly, dwi'n meddwl bod hyn yn gam pwysig ymlaen, ac fe gawn ni weld beth arall fydd yn datblygu yn y dyfodol.
Wrth gwrs, mae hyfforddi a datblygu pobl yn y gogledd yn wych, i gadw pobl yn y rhanbarth, ac yn wir, yn hyfforddi i lefel uchel. Hoffwn ofyn yn benodol ynghylch hyfforddi a datblygu pobl a staff sydd eisoes yn gweithio yn y GIG. Bu cynnydd yn y blynyddoedd diwethaf o ran hyfforddi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i lefelau nyrsio, ond pa waith penodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda byrddau iechyd, megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i hyfforddi pobl mewn proffesiynau eraill, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd efallai, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion, fel y gallwn barhau i chwalu'r nenfwd gwydr ac y gall pobl yn y GIG ddatblygu eu gyrfaoedd os ydynt yn dymuno gwneud hynny?
Diolch yn fawr iawn, Gareth. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw fy mod wedi cyhoeddi ar 14 Chwefror y bydd y buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael ei gadw ar £281 miliwn, nad yw’n swm bach o arian, ac wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf ohono’n cael ei wario ar bobl sydd eisoes yn gweithio yn y GIG i'w huwchsgilio, i'w hyfforddi.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru, wrth gwrs, yn cael eu mandad, i bob pwrpas, gan y byrddau iechyd eu hunain. Felly, maent yn penderfynu—mae'r byrddau iechyd yn penderfynu—'Iawn, beth sydd ei angen arnom?' Maent yn nodi hynny wrth AaGIC, ac yna maent hwy'n comisiynu ar sail yr hyn y mae'r byrddau iechyd yn dweud eu bod am ei weld. Rwy’n falch iawn o weld bod hynny wedi digwydd, ac wrth gwrs, yr hyn sydd wedi digwydd, sy'n galonogol iawn yn fy marn i, yw ein bod wedi llwyddo i gynnal lefel y llynedd ar gyfer eleni, er gwaethaf yr holl bwysau ariannol sydd arnom.
2. Sut mae GIG Cymru yn cefnogi teuluoedd â phlant anabl? OQ60853
GIG Cymru sydd â chyfrifoldeb gweithredol am ddarparu’r gwasanaethau hanfodol sy’n cefnogi teuluoedd â phlant anabl a’u hanghenion gofal iechyd. Darperir y gwasanaethau hyn gan ystod o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac maent wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion iechyd cymhleth plant a phobl ifanc.
Fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddodd yr Athro Luke Clements a Dr Ana Laura Aiello o Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Leeds adroddiad ymchwil ar fynychder ac effaith honiadau o salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill, neu FII, a fu'n ystyried mynychder ac effaith cyhuddiadau o greu neu orliwio anawsterau eu plentyn, math eithafol o feio rhiant neu ofalwr, ar deuluoedd yn Lloegr, yr Alban a Chymru. Cyn hynny, bu'r Athro Clements yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd am 15 mlynedd.
Dengys yr ymchwil fod honiadau anghywir o FII o leiaf yr un mor gyffredin yng Nghymru ag y maent yn Lloegr a'r Alban. Tynnodd sylw hefyd at yr effaith ddinistriol y gall honiad o FII ei chael ar y teulu cyfan, gan gynnwys y plant yr honnir bod angen eu hamddiffyn, a bod hyn wedi bod yn bryder arbennig i rieni awtistig a phlant awtistig, gyda mamau plant awtistig 100 gwaith yn fwy tebygol o fod yn destun ymchwiliad FII gan y gwasanaethau plant.
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwasanaethau plant awdurdodau lleol, ysgolion ac ymarferwyr y GIG ledled Cymru yn deall negeseuon yr adroddiad hwn, pan fo mamau awtistig plant niwrowahanol yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn parhau i gysylltu â mi i ddweud eu bod wedi bod, ac yn parhau i fod, yn destun honiadau o FII ac yn cael eu bygwth ag achosion diogelu?
Diolch yn fawr iawn. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Aelod anfon copi o’r adroddiad hwnnw ataf fel y gallaf edrych arno’n fanwl. Credaf mai’r hyn y mae’n rhaid i ni ei ystyried o ran plant, bob amser, yw sut rydym yn rhoi eu diogelwch a’u cydraddoldeb yn gyntaf, ac mae'n rhaid inni edrych ar hynny drwy lygaid y plentyn. Felly, dyna ein dull cyffredinol o weithredu yn Llywodraeth Cymru, ond fe wnaf ofyn i fy swyddogion edrych ar yr adroddiad hwnnw er mwyn gweld a oes unrhyw beth ynddo y gallwn fynd ar ei drywydd.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, ac yn gyntaf llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Gareth Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn pe gallai’r Gweinidog sôn am y newyddion syfrdanol ei bod yn cymryd 10 mlynedd i fenywod sy’n dioddef o endometriosis gael diagnosis. Yn anffodus, mae'r amser y mae'n ei gymryd i gael diagnosis wedi cynyddu flwyddyn ers dechrau’r pandemig. Mae’r cyflwr, am ba bynnag reswm, yn aml yn cael ei fethu, gyda gweithwyr meddygol proffesiynol yn dweud wrth fenywod yng Nghymru eu bod yn gwneud ffws am ddim byd, neu mai dim ond poen mislif yr oeddent yn ei brofi, ond rwy’n siŵr fod y Gweinidog yn gwybod bod endometriosis yn gyflwr poenus iawn sy'n cyfyngu'n ddifrifol ar ansawdd bywyd. Ni ddylai pobl orfod byw gyda'r cyflwr heb ei drin am amser mor hir â hyn. Penododd y Gweinidog nyrsys endometriosis arbenigol i bob bwrdd iechyd yng Nghymru yn 2022, ac eto mae’r problemau gyda chamddiagnosis wedi gwaethygu. Felly, a allai’r Gweinidog amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad oes achosion o endometriosis yn cael eu methu neu eu camddiagnosio gan glinigwyr yn GIG Cymru fel nad yw menywod yn gorfod aros degawd cyn iddynt gael y driniaeth briodol?
Gwych. Wel, diolch yn fawr iawn, Gareth. Mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi canolbwyntio cryn dipyn arno yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog iechyd. Nid oedd yn gyflwr yr oeddwn yn ofnadwy o ymwybodol ohono o'r blaen, ond rwy'n ymwybodol iawn ohono bellach. Mae un o bob 10 o fenywod yn dioddef o’r cyflwr poenus iawn hwn, ac mae’n warthus ei bod yn cymryd cymaint o amser i gael diagnosis ohono. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod wedi bod yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd ar ôl iddynt gael diagnosis a pha mor gyflym y cânt eu trin. Yn amlwg, mae rhestrau aros ar gyfer gwahanol bethau, ond nid yw'r rhestr aros, ar ôl cael diagnosis, yn hwy nag ar gyfer cyflyrau eraill, felly y diagnosis yw'r broblem. Mewn gwirionedd, mae'n eithaf anodd gwneud diagnosis heb driniaeth fewnwthiol iawn. Felly, mae cwestiynau'n codi ynglŷn â hyn, ac un o'r pwyntiau a wneuthum i Siân Gwenllian yn gynharach yw bod gennym ddatganiad ansawdd ar gyfer menywod bellach, sy'n edrych ar sut rydym yn gwella ansawdd y gofal i fenywod yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Rydym wedi penodi arweinydd clinigol i ysgogi newid yn y maes, fel bod mwy o ymwybyddiaeth, fel bod gwell hyfforddiant i bobl, yn enwedig meddygon teulu, i wybod beth yw'r pethau sy'n codi, beth i gadw llygad amdanynt. Ond y peth allweddol yw y dylem wneud hynny wrth iddynt ddechrau hyfforddi i fod yn feddygon, a dyna pam fy mod wedi bod yn gofyn yn benodol ynglŷn ag a ydym yn hyfforddi pobl i ganfod y problemau sy'n gysylltiedig ag endometriosis.
Rwy’n derbyn yr uchelgais hwnnw, Weinidog, ond erys y ffaith bod cleifion yn dal i aros am 10 mlynedd, felly credaf ei bod yn mynd i gymryd mwy na geiriau cynnes yn unig i fynd i’r afael â’r problemau ehangach hynny. Ond yn anffodus, y methiant o ran diagnosis endometriosis yw’r llanast diweddaraf ar restr hir o fethiannau Llywodraeth Cymru yn fwy cyffredinol ym maes iechyd. Efallai’n wir mai dyma’r cyfle olaf i’ch holi, Weinidog, tra byddwch yn dal yn gyfrifol am y portffolio iechyd, felly hoffwn pe gallech wneud asesiad o’ch llwyddiant yn y rôl. Mae blwyddyn wedi bod ers i’r Gweinidog oroesi pleidlais o ddiffyg hyder o drwch blewyn oherwydd ei chamreolaeth o fethiannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru, bwrdd iechyd a gafodd ei dynnu allan o fesurau arbennig am resymau'n ymwneud â chyfleustra gwleidyddol ac a roddwyd yn ôl mewn mesurau arbennig gan y Llywodraeth Lafur hon ar ôl yr etholiad. Ond ble'r ydym arni heddiw? A beth fydd gwaddol y Farwnes Morgan o Drelái yn rôl y Gweinidog iechyd?
Gwaddol y Gweinidog fydd iddi lywyddu dros wasanaeth iechyd lle mae pob un bwrdd iechyd yn destun rhyw fath o fonitro uwch neu fesurau arbennig, targedau damweiniau ac achosion brys na chafodd eu cyrraedd, targedau aros canser na chafodd eu cyrraedd, targedau i ddileu arosiadau o ddwy flynedd na chafodd eu cyrraedd ddwywaith. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthyf, pan fydd yn edrych yn ôl dros ei chyfnod yn y portffolio—a heb wneud unrhyw esgus os yn bosibl—a yw'n cytuno â mi fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru mewn cyflwr llawer gwaeth heddiw na phan ddaethoch i'ch rôl?
Wel, nid wyf yn gwybod pwy fuoch chi'n siarad â nhw, ond byddwn yn synnu'n fawr pe bai Vaughan Gething wedi bod yn siarad gyda chi cyn unrhyw un arall yn y grŵp Llafur, felly efallai eich bod yn gwybod rhywbeth nad wyf yn ei wybod—bydd yn rhaid inni weld beth sy'n digwydd.
Gadewch imi ddweud wrthych, mewn gwirionedd, fy mod yn credu bod llawer iawn o newid wedi bod yn ystod fy nghyfnod yn y rôl hon. I ddechrau, y gostyngiad yn y rhestrau aros: mae’r amseroedd aros hiraf wedi gostwng am 22 mis yn olynol. Mae gennym ganlyniadau gwell mewn adrannau achosion brys o gymharu â Lloegr, ac mae hynny wedi bod yn wir am 14 o'r 17 mis diwethaf. Ac mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyfiawnhau ein safbwynt, y gwnaethoch gymaint o ffws yn ei gylch o'r blaen, fel y gwnaeth Plaid Cymru, ynglŷn â’r ffaith ein bod yn cyfrif yn wahanol. Na, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyfiawnhau ein safbwynt, ac yn amlwg, rydym yn dal i aros am ymddiheuriad gennych chi a'r BBC mewn perthynas â hynny. Rydym wedi gweld gostyngiad enfawr mewn costau asiantaeth—£55 miliwn. Rydym wedi gweld newid ym mwrdd Betsi, yn amlwg, o sefyllfa anodd iawn i newid y credaf fod pawb ar lawr gwlad wedi’i gydnabod. Rydych chi hyd yn oed, Gareth, wedi cydnabod bod newid wedi digwydd ym mwrdd Betsi, a hynny er gwell. Yn amlwg, mae llawer o ffordd i fynd, ond rwy'n credu bod sefydlogi bwrdd a oedd mewn anawsterau aruthrol yn un o’r cyflawniadau mwyaf mewn gwirionedd.
Wel, nid wyf yn credu y byddwn yn dechrau hawlio llwyddiannau mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Er fy mod wedi cydnabod newidiadau yn y gorffennol, credaf fod llawer o ffordd i fynd o hyd, a chredaf mai wrth ei flas y mae profi pwdin, Weinidog—yn enwedig o ystyried bod y problemau'n dal i fodoli ar ôl degawd o addewidion ffug a geiriau cynnes. Felly, bydd pobl gogledd Cymru yn ei gredu pan fyddant yn ei weld, yn anffodus.
Felly, gan symud ymlaen o hynny, mae amseroedd aros yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Treforys yn Abertawe wedi bod mor ddrwg yr wythnos hon fel bod pobl wedi bod yn cerdded allan ar ôl aros am fwy na naw awr i gael eu gweld. Mae’r rhestrau aros dwy flynedd wedi’u dileu yn Lloegr, ac eto ceir dros 24,000 o achosion yng Nghymru o hyd, dros 1,300 o achosion o oedi cyn rhyddhau cleifion meddygol iach o'r ysbyty ym mis Rhagfyr y llynedd, mae dros 3,000 o blant wedi bod ar restr aros y GIG am fwy na blwyddyn, gyda 1,000 o'r rhain wedi aros mwy na dwy flynedd. Nid yw’r targedau o 75 y cant i gleifion canser ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod erioed wedi’u cyflawni, yn anffodus. A dyma’r gwaddol y bydd y Gweinidog yn ei adael. Ac am bob £1 a werir ar iechyd yn Lloegr, mae Llywodraeth Cymru yn cael £1.20 i’w wario ar iechyd, ac eto, mae’r arian hwn wedi’i roi tuag at gynlluniau porthi balchder nad oes unrhyw un yng Nghymru wedi gofyn amdanynt.
Gareth, mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.