Y Cyfarfod Llawn
Plenary
16/01/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit ar Orllewin Casnewydd? OQ60538
Diolch i Jayne Bryant am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae gadael y farchnad sengl wedi gwaethygu amodau masnachu gydag Ewrop, er anfantais i fusnesau a defnyddwyr ledled Cymru. Mae methiant Llywodraeth y DU i roi cyllid i gymryd lle mwy nag £1 biliwn o gyllid yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Cymru yn effeithio ar Orllewin Casnewydd hefyd, ac mae dadansoddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dod i'r casgliad y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn crebachu economi'r DU 4 y cant.
Diolch, Prif Weinidog. Diolch am y ffigurau llwm yna. Dywedwyd wrthym ni y byddai Brexit yn arwain at gyfleoedd di-ben-draw ar gyfer masnach ddi-ffrithiant a chytundebau newydd ledled y byd. Er bod rhai o'r addewidion a wnaed gan ymgyrch Vote Leave yn edrych yn dda ar bapur, mae'r realiti bellach yn wahanol iawn i bobl sy'n byw yn fy etholaeth i a ledled Cymru. Rydym ni wedi clywed yr wythnos hon am broblemau cadwyn gyflenwi yn achosi prinder meddyginiaeth i bobl â chyflyrau iechyd hirdymor, gan gynnwys diabetes, epilepsi a chanser y fron. Mae Brexit yn effeithio ar fewnforion, ac mae busnesau yng Nghymru sydd eisiau allforio eu cynnyrch bellach yn wynebu rhwystrau na fydden nhw'n bodoli pe baem ni'n rhan o'r UE. Ac mae'r Torïaid wedi torri eu hymrwymiad maniffesto i sicrhau cytundeb masnach gyda'r Unol Daleithiau. Mae methu â dod i gytundeb ar fynediad di-dariff at farchnadoedd Canada yn amharu'n arbennig ar ein hallforion caws, diwydiant yr wyf i'n gwybod bod y Prif Weinidog yn cymryd diddordeb brwd iawn ynddo. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi bod addewidion a dorrwyd ynghylch Brexit yn dangos unwaith eto na ellir ymddiried yn y Torïaid, eu bod nhw'n siomi pobl Cymru, a bod angen etholiad cyffredinol arnom ni ar frys?
Llywydd, bydd Aelodau'r Senedd yn cofio'n glir iawn yr addewidion a wnaed yma ar lawr y Senedd—sut na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Er, mewn gwirionedd, wrth gwrs, fel y gwyddom ni, rydym ni £1.3 biliwn yn waeth ein byd, a byddwn yn waeth ein byd bob blwyddyn o ganlyniad i'r addewid hwnnw a dorrwyd. Cyfeiriodd Jayne Bryant, Llywydd, at fasnach ddi-ffrithiant, ac, wrth gwrs, mae hi'n iawn, yn yr achos hwnnw o Ganada, bod—. A ydych chi'n cofio'r dyddiau pan oedd Liam Fox yn arfer mynd o gwmpas yn dweud wrthym ni mai'r rhain fyddai'r cytundebau masnach hawsaf i chi eu gweld erioed, sut y byddem ni'n eu taro nhw ledled y byd? Wel, dyma ni, gyda chytundeb masnach Canada, lle, ar 31 Rhagfyr, daeth gallu allforwyr o Gymru i ddarparu ar gyfer marchnad Canada i ben. Roeddem ni'n rhan o gwota caws yr UE; nid yw hwnnw ar gael i allforwyr o Gymru bellach. Mae'n rhaid i ni ddibynnu yn hytrach ar gwota gweddill y byd—cwota llawer llai, ac yn llawer anoddach ei werthu. Dim ond ddoe, cysylltodd cynhyrchwyr caws yn y gogledd â Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at y ffaith y bydd angen, o 15 Ionawr, dystysgrifau iechyd anifeiliaid newydd arnyn nhw er mwyn gallu allforio eu nwyddau i Ogledd Iwerddon. A ydych chi'n cofio'r hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU ar y pryd, Boris Johnson—sut na fyddai rhwystr masnach ar hyd Môr Iwerddon tra bod chwythiad ynddo? Dywedodd hynny, fel rwy'n cofio, sawl wythnos cyn iddo wneud cytundeb wedyn yn gwneud yn union hynny. A bydd canlyniad hynny yn cael ei deimlo bellach ymhlith cynhyrchwyr bwyd o Gymru yn y gogledd. Wrth gwrs mae Jayne Bryant yn iawn, Llywydd—mae'r bonws Brexit bondigrybwyll wedi cael ei amlygu dro ar ôl tro am yr hyn ydyw: rhwystrau newydd i fasnach, llai o gyfleoedd i fusnesau Cymru, ac economi sydd, i bob un aelwyd, yn werth llai nag y byddai pe baem ni'n dal wedi bod yn rhan o drefniadau masnachu'r Undeb Ewropeaidd.
Pleidleisiodd y mwyafrif o bobl dros Brexit yng Nghymru, ac yn y rhan fwyaf o'ch etholaethau, oni wnaethon nhw? Mae Brexit wedi datganoli—[Torri ar draws.] A ydych chi'n dal i fy nghlywed i?
Rwy'n gallu eich clywed chi. Ewch ymlaen.
Mae Brexit wedi darparu llu o gytundebau masnach, fel y gwyddoch chi'n iawn, Prif Weinidog, sydd o fudd mawr i Gymru a gweddill y DU. Mae gwefan eich Llywodraeth eich hun yn tynnu sylw at fuddion cronfa ffyniant gyffredin y DU hefyd, ac yn nodi,
'Bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin...yn darparu cyfleoedd newydd i gymunedau lleol, yn cefnogi datblygiad a thwf busnesau lleol yn ogystal â chefnogi adferiad canol ein trefi.'
[Torri ar draws.]
Nid wyf i'n gallu clywed yr aelod erbyn hyn. Felly, os gallwn ni fod ychydig yn dawelach fel y gallwn ni glywed yr hyn sy'n cael ei ofyn.
Prif Weinidog, mae'r gronfa wedi arwain at ddyfarnu miliynau o bunnoedd i brosiectau ledled Casnewydd, gan gyfrannu at adfywio cymunedau lleol. A wnewch chi ymrwymo i hyrwyddo'r gronfa ffyniant gyffredin a chydnabod yr effeithiau cadarnhaol y mae'r gronfa wedi eu cyflawni ledled Casnewydd a Chymru?
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, mae'r llu o gytundebau masnach y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw, ar y cyfan, yn gytundebau a oedd eisoes ar gael i ni ar well telerau tra oeddem ni y tu mewn i'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, y swyddfa y mae Llywodraeth y DU yn dibynnu arni am ei rhagolygon, yn dweud na fydd yr holl gytundebau masnach hynny—yr holl gytundebau masnach hynny—yn gwneud un tamaid o wahaniaeth i'r crebachiad o 4 y cant yn economi'r DU. Felly, nid yn unig y maen nhw'r un hen gytundebau ag yr oedd gennym ni eisoes, ond ni fyddan nhw'n lliniaru effaith niweidiol Brexit fel y mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, dro ar ôl tro, yn adrodd yn ei diweddariadau chwe misol ar economi'r DU.
Ac o ran y gronfa ffyniant gyffredin, wrth gwrs, nid yw Llywodraeth Cymru yn gallu hyrwyddo'r gronfa honno, cronfa sy'n bychanu Cymru, sy'n rhoi llawer llai o arian i ni na'r hyn a oedd gennym ni o dan y trefniadau blaenorol, ac y mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei heithrio ohoni'n fwriadol gan Lywodraeth y DU. Sut yn y byd allwn i hyrwyddo cronfa nad ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru arni, nad yw wedi bod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau ac sydd, mewn gwirionedd, yn arwain at ddarnio'r rhaglenni hynny a oedd fel arall ar gael yma yng Nghymru: y cynllun datblygu gwledig, diwedd hwnnw, a rhaglenni prentisiaeth a amddifadwyd o gyllid yr UE. Beth sydd yna i'w hyrwyddo yn y fath—yn y fath—yn y fath ffordd eilradd o ddarparu ar gyfer y pethau sydd eu hangen ar Gymru?
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu cludiant o'r cartref i'r ysgol yn Rhondda Cynon Taf? OQ60502
Llywydd, mae cludiant rhwng y cartref a'r ysgol yn ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol Cymru. Bydd cynigion a wnaed gan Rhondda Cynon Taf yn parhau i fodloni gofynion Mesur teithio gan ddysgwyr y Senedd hon.
Prif Weinidog, fel efallai yr ydych chi'n gwbl ymwybodol, ac fel rydych chi newydd ei grybwyll, er bod gan gyngor Rhondda Cynon Taf gronfeydd wrth gefn syfrdanol o £270 miliwn, maen nhw bellach yn bwriadu dod â chludiant rhwng y cartref a'r ysgol i ben i'r plant hynny sy'n byw o fewn dwy filltir i ysgolion cynradd a thair milltir i ysgolion uwchradd ar sail toriadau cyllidebol gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi gwylltio llawer o drigolion sy'n teimlo na ellir cyfiawnhau'r toriadau hyn o ystyried y cronfeydd wrth gefn gormodol sydd gan y cyngor a'r ffaith eu bod nhw'n talu rhai o'r cyfraddau treth gyngor uchaf yn y Deyrnas Unedig gyfan. Maen nhw hefyd yn ddig oherwydd bod ymarfer ymgynghori y cyngor ei hun wedi tynnu sylw at yr effaith niweidiol y bydd y toriadau hyn yn ei chael ar ddysgu Cymraeg, a fydd yn dioddef effaith niweidiol ac a fydd yn peri risg i'w targed o gynyddu'n sylweddol nifer y dysgwyr sy'n manteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg. Ar ben hynny, Prif Weinidog, bydd y cam hwn o gael gwared ar gludiant rhwng y cartref a'r ysgol ar gyfer y pellteroedd hyn bron yn sicr yn arwain at rieni yn cludo eu plant i'r ysgol ac yn cynyddu llygredd a thraffig lleol, y mae'n ymddangos sydd y gwrthwyneb llwyr i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei wneud. Mae hefyd yn mynd yn groes i'r hyn y mae Senedd Ieuenctid Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru wedi bod yn ei hyrwyddo. Gyda hyn mewn golwg, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i herio cyngor Rhondda Cynon Taf i ddefnyddio rhywfaint o'i gronfeydd wrth gefn gwerth £270 miliwn, y mae wedi eu casglu gan drethdalwyr sy'n gweithio'n galed, er mwyn cadw'r ddarpariaeth o gludiant rhwng y cartref a'r ysgol? Diolch.
Wel, Llywydd, fe wnaeth arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan, ymdrin yn effeithiol iawn â mater cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol ddydd Sul. Cynigiodd gael dadl ag unrhyw wleidydd Ceidwadol sydd eisiau ei herio o ran egluro sut mae cronfeydd wrth gefn ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru mewn gwirionedd, ac nid wyf i'n gweld yr un person sydd wedi dod ymlaen i wneud hynny.
O ran cludiant rhwng y cartref a'r ysgol, mae pedwar o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnig gwasanaeth ychwanegol i'r hyn a nodir yn y Mesur teithio gan ddysgwyr ar hyn o bryd. Mae bob un o'r pedwar yn gynghorau Llafur. Ni fyddech chi'n synnu at hynny. Byddai cyngor Rhondda Cynon Taf, pe bai'n cynnig safon sylfaenol y Mesur teithio gan ddysgwyr, fel y mae 18 o'n hawdurdodau lleol yn ei wneud, yn arbed £6.5 miliwn yn y gwariant y bydd fel arall yn ei ddarparu y flwyddyn nesaf. Bydd y newidiadau y mae'n bwriadu eu gwneud—yn cynnig eu gwneud—yn arbed £2.5 miliwn iddyn nhw. Mewn geiriau eraill, bydd cyngor Rhondda Cynon Taf, ar ôl y newidiadau, yn dal i ddarparu mwy na 18 o gynghorau eraill yng Nghymru—unrhyw gyngor lle mae'r Blaid Geidwadol wrth y llyw ac unrhyw gyngor lle mae Plaid Cymru wrth y llyw. Mewn cyfnod anodd iawn, rwy'n credu bod hwnnw'n gam gweithredu sy'n parhau i ddangos y flaenoriaeth y mae'r cyngor yn ei roi i'r gwasanaethau hyn.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Prif Weinidog, cyhoeddwyd adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddiwedd y llynedd, ac yn ddiweddarach y prynhawn yma rydym ni'n mynd i gael datganiad gan yr ysgrifennydd iechyd yn amlinellu pwysau'r gaeaf o fewn y GIG. Yn eu hadroddiad, maen nhw'n sôn am y ffaith y bu gwahanol fentrau ar waith i helpu i gynorthwyo gwasanaethau i ymdopi â'r galw di-ildio, ond ni allai eu gwaith, ar ochr arolygiaeth pethau, ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod y mentrau hyn yn gwneud gwahaniaethau clir ac arwyddocaol i'r gwasanaeth ar y rheng flaen. Pam mae Llywodraeth Cymru yn methu ei tharged o ran helpu ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill i ymdrin â phwysau'r gaeaf a'r galw di-ildio, fel y nodwyd gan yr arolygiaeth iechyd?
Wel, Llywydd, rwyf i wedi darllen adroddiad yr arolygydd. Mae'n llawer iawn mwy cytbwys, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, na'r cwestiwn gan arweinydd yr wrthblaid. Mae'n tynnu sylw at bwysau di-ildio ar y gwasanaeth, mae'n cyfeirio at gynnydd yn y galw, ond mae hefyd yn gwbl sicr yn cyfeirio at y mentrau a'r gwasanaethau newydd hynny sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y GIG. A phe na bai'r gwasanaethau hynny yno—y gwasanaeth '111 pwyso 2', y canolfannau gofal sylfaenol brys, y ddarpariaeth gofal brys ar yr un diwrnod yn ein hysbytai—mae'r adroddiad yn eglur na fyddai'r gwasanaeth yn ymdrin â'r pwysau yn y ffordd y mae.
Ac er bod y gwasanaeth, heb os, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, wedi bod o dan bwysau sylweddol iawn ar ddechrau'r flwyddyn—yr amser prysuraf i'r gwasanaeth iechyd, flwyddyn ar ôl blwyddyn—mewn gwirionedd, mae GIG Cymru wedi dangos, mewn rhai metrigau allweddol, bod pethau wedi bod yn well eleni, er gwaethaf y ffaith bod y galw yn sylweddol uwch. Felly, mae arosiadau ambiwlans y tu allan i ysbytai yn is eleni nag yr oedden nhw'r llynedd, mae perfformiad yn ein hadrannau brys wedi bod yn well yn y ffigurau diwethaf a gyhoeddwyd na'r un adeg y llynedd. Felly, er gwaethaf y pwysau, mae'r cyfrif cytbwys a gynigir yn adroddiad AGIC yn cael ei gadarnhau gan brofiad ar lawr gwlad.
Prif Weinidog, rydych chi'n sôn am gydbwysedd; rhoddais ddyfyniad uniongyrchol i chi o ragair yr adroddiad. Nid fy ngeiriau i oedd y rheini am y ffaith nad oedden nhw'n gallu dod o hyd i'r dystiolaeth hon. Eu geiriau nhw oedd y rhain. Ac rwy'n sylwi bod gennych chi arfer o geisio gwneud iddi edrych fel pe baem ni'n rhoi geiriau yng nghegau pobl, ond dyma ragair y prif weithredwr i'r adroddiad, ac nid yw'n afresymol, pan fo'r geiriau hynny yn ymddangos mewn adroddiad—yr adroddiad blynyddol—i ofyn beth yn union yr ydych chi'n ei wneud. Gyda 25,000 o bobl yn dal i aros am ddwy flynedd neu fwy am driniaeth o fewn GIG Cymru, gallwch weld beth yw'r pwysau di-ildio ar ein gwasanaethau. Ac un pwynt arall sydd wedi dod allan o ddarllen yr adroddiad yw nad yw 40 y cant o sefydliadau iechyd mawr, fel ysbytai ac ysbytai bwthyn, wedi cael eu harolygu ers pum mlynedd neu fwy. Nid yw rhai erioed wedi cael eu harolygu. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gyda'r arolygiaeth i wneud yn siŵr bod yr adnoddau ganddi i allu ymgymryd â rhaglen ystyrlon o arolygiadau fel bod y mathau hynny o sefydliadau yr wyf i newydd eu hamlinellu—ysbytai, ysbytai bwthyn a chyfleusterau mawr—yn cael eu harolygu'n rheolaidd ac yn cael eu cynorthwyo yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n amau am eiliad bod y dyfyniad a gynigiwyd gan arweinydd yr wrthblaid yn ddyfyniad uniongyrchol. Y pwynt yw ei fod yn ddyfyniad rhannol—ei fod yn cymryd rhan o'r hyn yr oedd yr adroddiad yn ei ddweud ac yn ceisio awgrymu i ni mai dyna'r stori gyfan, ac yn sicr nid dyna'r gwirionedd ac mae'r adroddiad yn dweud hynny. Dyna'r pwynt yr wyf i'n ei wneud—er bod yr adroddiad, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, yn cyfeirio at yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd, sy'n wirioneddol, yn tynnu sylw at y galw ar y gwasanaeth iechyd, sydd bob amser yn codi, mae wedyn yn dangos y ffyrdd y mae'r gwasanaeth iechyd wedi ymateb iddo.
Nid mater i Weinidogion yw'r rhaglen arolygu ar gyfer AGIC. Ceir gwahaniad eglur ac angenrheidiol iawn rhwng penderfyniadau gweithredol arolygiaeth a'r gwasanaeth y mae Gweinidogion yn gyfrifol amdano. Ni ddylwn ac ni fyddaf yn ymyrryd yn y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud o ran ble maen nhw'n mynd, yr hyn y maen nhw'n ei arolygu a sut maen nhw'n adrodd.
Yn y gyllideb ddrafft bresennol, rydych chi'n torri cyllideb Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Mae'n hollol gywir y pwynt yr ydych chi'n ei wneud nad mater i Weinidogion yw cyfarwyddo'r arolygiaeth o ran ble i fynd, ond mae gennych chi swyddogaeth uniongyrchol fel Llywodraeth yn yr adnoddau yr ydych chi'n sicrhau sydd ar gael. Os gwnewch chi ehangu'r drefn arolygu honno ar draws y 1,500 o sefydliadau iechyd ledled Cymru, nid yw dwy ran o dair o'r sefydliadau iechyd hynny wedi cael eu harolygu yn ystod y pum mlynedd diwethaf, neu nid ydyn nhw erioed wedi cael eu harolygu. Felly, rwy'n cytuno â'r pwynt yr ydych chi'n ei wneud y byddai'n anghywir i Weinidogion gyfarwyddo'r arolygiaeth, ond mae gennych chi swyddogaeth uniongyrchol yn y gallu i roi adnoddau i'r arolygiaeth. Fy nghwestiwn i chi, ar yr ail dro o ofyn, yw sut y byddwch chi'n ymateb i'r her o wneud yn siŵr bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cael adnoddau priodol fel y gall wneud ei gwaith—ei gwaith hanfodol—o gynorthwyo byrddau iechyd a gofal iechyd sylfaenol yn arbennig i ddarparu'r amrywiaeth o wasanaethau ledled Cymru gyfan, ac yn y pen draw ymateb i bryderon sydd gan bobl pan fyddan nhw'n canfod diffygion yn y ddarpariaeth honno o wasanaethau.
Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, y gyllideb a osodwyd gerbron y Senedd yw'r gyllideb anoddaf y bu'n rhaid i ni ei gosod erioed. Mae dewis i'w wneud, a gallwch weld yma y dewis sydd o'ch blaen. Mae'r Ceidwadwyr, drwy eu harweinydd, yn dweud y bydden nhw'n buddsoddi mwy mewn gwasanaethau arolygiaeth. Rydym ni wedi penderfynu buddsoddi mwy yn y gwasanaethau eu hunain. Dyna'r dewis sydd o'ch blaenau. Pan fo swm penodol o arian yn unig i fynd o gwmpas, sut ydych chi'n ei ddefnyddio? Rydym ni wedi cynyddu'n sylweddol iawn faint o arian sydd ar gael i'r gwasanaeth yng Nghymru: cynnydd o 4 y cant i gyllid GIG yng Nghymru y flwyddyn nesaf; cynnydd o 1 y cant yn Lloegr. Byddech chi eisiau ein gweld yn tynnu arian allan o wasanaethau cleifion a'i roi yn yr arolygiaeth. Fe wnaethom ni syllu ar y penderfyniad hwnnw; rydym ni wedi rhoi'r arian lle mae ein blaenoriaethau, ac mae gen i ddiddordeb mewn clywed ble mae eich rhai chi wedi cael eu mynegi y prynhawn yma.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Dwi eisiau siarad am fusnes, a'r stryd fawr yn arbennig. Mae Cymru angen llywodraeth sy'n cefnogi busnes er mwyn trio creu ffyniant economaidd a thegwch cymdeithasol, ac mae'n cymunedau ni angen stryd fawr sydd yn ffynnu.
Canfu adroddiad Ffederasiwn y Busnesau Bach 'A Vision for Welsh Towns' fod siopau bach ac annibynnol sy'n ffynnu yn brif flaenoriaeth i gael pobl yn ôl i'r stryd fawr, ond hefyd ceir dealltwriaeth gyffredinol bod yn rhaid i chi gynnig profiad ar y stryd fawr. Mae mynd am baned neu bryd o fwyd, neu gymdeithasu gyda ffrindiau a theulu, yn rhan fawr o hynny. Mae newidiadau i ardrethi busnes yn y gyllideb ddrafft, gan roi terfyn ar y rhyddhad o 75 y cant, yn taro siopau a lletygarwch yn galed. Sut mae hynny'n cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y stryd fawr?
Wel, Llywydd, rydym ni'n cychwyn cwestiynau Plaid Cymru gyda phwnc yr wythnos hon ar gyfer mwy o fuddsoddiad; wythnos arall a maes arall lle mae Plaid Cymru eisiau i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i fwy o arian. O ble mae'r arian hwn yn mynd i ddod? Nid oes gennym ni ateb i'r cwestiwn hwnnw, wrth gwrs. Rwy'n credu, dair wythnos yn ôl, mai amaethyddiaeth oedd hi; bythefnos yn ôl, prentisiaethau oedd hi. Rwyf i wedi anghofio beth oedd gofyniad yr wythnos diwethaf am fwy o arian. Ac yr wythnos hon, mwy o arian ar gyfer rhyddhad ardrethi yw hi. Wel, mae gen i ofn nad yw Llywodraeth yn gweithredu yn y modd hwnnw. Cynllun rhyddhad dros dro yw hwn; mae bellach yn ei bumed flwyddyn. Mae wedi rhoi mwy nag £1 biliwn mewn rhyddhad ardrethi ychwanegol i'r sector y mae arweinydd Plaid Cymru yn cyfeirio ato. Yng Nghymru, bydd y rhyddhad hwnnw yn parhau—nid ar 75 y cant, ond ar lefel yr ydym ni'n credu y bydd yn caniatáu i'r sector barhau i gael budd buddsoddiad cyhoeddus pellach, ar lwybr, fel y mae'n rhaid iddo fod yn anochel, i'r diwrnod pan ddaw'r cynllun dros dro hwn i ben.
Wrth gwrs, mae cyllid yn broblem, ond mae canlyniadau tymor hwy yn sgil toriadau fel hyn i lesiant economaidd a chymdeithasol Cymru. Byddai gen i ddiddordeb mawr pe bai'r Prif Weinidog yn rhannu gyda ni y cyfrifiadau bod hwn yn benderfyniad byrdymor nad yw'n arwain at oblygiadau hirdymor. Cefais gyfarfod ag arweinwyr lletygarwch Cymru heddiw, a rannodd gyda mi eu rhwystredigaethau a'u hofnau am ddyfodol y sector. Dim ond yn yr wythnos ddiwethaf, mae busnesau bwyd a diod enwog a sefydledig yn etholaeth y Prif Weinidog ei hun wedi cyhoeddi eu bwriad i gau, a disgrifiwyd y penderfyniad i dorri rhyddhad ardrethi busnes fel yr hoelen olaf yn yr arch i lawer o fusnesau annibynnol gan y Welsh Independent Restaurant Collective. Ni fwriadwyd erioed i'r rhyddhad ardrethi busnes presennol o 75 y cant barhau am gyfnod amhenodol, medd Gweinidogion, ond nid yw cyflwyno rhwyd ddiogelwch un munud ac yna ei dynnu i ffwrdd mewn cyfnod arbennig o anodd yn ddull cydlynol. A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder bod busnesau lletygarwch yn cau oherwydd hyn, ac a wnaiff ef wrando ar leisiau'r diwydiant ac ailystyried y penderfyniad hwnnw?
Ni fyddwn yn ailystyried y penderfyniad hwnnw, oni bai y gall Plaid Cymru ddweud wrthyf o ble mae'r arian sydd wedi cael ei arallgyfeirio o ryddhad ardrethi busnes i gefnogi llawer o raglenni eraill, gan gynnwys llawer o'r rhaglenni eraill y bydd Aelodau Plaid Cymru, wythnos ar ôl wythnos, yn dweud wrthyf i fod yn rhaid i ni ddod o hyd i fwy o arian ar eu cyfer—. Os gwnaiff ef ddweud wrthyf i o ble ddaw'r arian hwnnw, yna fe wnaf i ystyried a wyf i'n credu ei fod wedi gwneud dadl ddigon grymus.
Nid wyf i'n tynnu unrhyw beth allan o'r awyr ynghylch natur dros dro'r cynllun. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu drwy Lywodraeth y DU. Fe wnaethon nhw ddweud, yn y flwyddyn gyntaf un, ei fod yn gynllun un flwyddyn, ac nid oedd unrhyw arian o gwbl yn y gyllideb ar gyfer y math yma o ryddhad ardrethi, tan i Lywodraeth y DU wneud penderfyniad i'w barhau am flwyddyn arall. Mae wedi bod yn gynllun dros dro o'r cychwyn, a daw adeg pan fydd yn dod i ben. Rydym ni'n darparu llwybr allan o'r cymhorthdal ar gyfer y sector, ac rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad cywir.
Mae'n iawn i mi nodi, Llywydd, hefyd, ein bod ni, ar yr un pryd, yn darparu £20 miliwn ychwanegol mewn cynllun cyfalaf newydd a fydd yn caniatáu i'r busnesau hynny wneud gwelliannau i eiddo a fydd yn lleihau eu dibyniaeth ar ynni drud iawn yn barhaol, er enghraifft. Nid cynllun untro neu gynllun dros dro yw hwnnw; mae hwnnw'n gynllun a fydd yn golygu, o hynny ymlaen, y bydd y busnesau hynny yn gallu arbed arian a pharhau i fasnachu.
Ar y pwynt penodol hwnnw, dywedodd busnesau wrthyf i y bore yma nad dyna'r hyn y maen nhw ei eisiau. Byddan nhw'n derbyn arian, wrth gwrs, ond nid dyna'r math o gymorth maen nhw ei eisiau nawr. Mae'n rhaid i'r flaenoriaeth fod ar eu helpu nhw i ymdrin â'r problemau acíwt y maen nhw'n eu hwynebu nawr, ac mae'r toriad i ardrethi busnes yn achosi problemau mwy dwys iddyn nhw.
Yr wythnos diwethaf, fe wnes i ddadlau dros feddwl economaidd llai byrdymor gan Lywodraeth Cymru, ond onid yw'r dull o ymdrin ag ardrethi busnes yma yn enghraifft glasurol o hynny: penderfyniad byrdymor â goblygiadau hirdymor? Rwy'n gofyn i Weinidogion edrych eto ar y penderfyniad ardrethi busnes. Pwy a ŵyr, gallai fod yn achubiad munud olaf i fusnesau sy'n bwriadu dangos arwydd 'wedi cau' yn barhaol.
Ond y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod ardrethi busnes yn ardoll sydd wedi'i ddylunio'n eithaf gwael yn y lle cyntaf; erfyn di-awch braidd, sy'n dal gormod o'n hentrepreneuriaid yn ôl. Rwy'n barod am yr her o'i ddiwygio, gan fy mod i'n credu mai asedau mwyaf Cymru yw ei phobl, ac rwyf i eisiau eu cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn. A yw'r Prif Weinidog yn barod i sbarduno gwaith ar ddiwygiad gwirioneddol i ardrethi busnes, yn ystod ei ychydig wythnosau olaf fel Prif Weinidog, neu efallai alw ar ei olynwyr i wneud hynny?
Rwy'n sicr yn credu bod ardrethi busnes yn system y mae'n bryd ei diwygio ac mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi gwneud llawer iawn o waith ar system amgen yn hytrach nag ardrethi busnes. Ni fyddem ni'n dechrau gwaith nawr, gan ein bod ni wedi bod yn gweithio ar y pwnc hwn ers cyfnod sylweddol o amser. Rwy'n credu bod angen diwygio, ac rwy'n credu bod ffordd y gallwn ni ddefnyddio'r miliynau ar filiynau o bunnau yr ydym ni'n ei wario ar ryddhad ardrethi busnes bob blwyddyn—. Dim ond 20 y cant—20 y cant—o holl fusnesau Cymru sy'n talu ardrethi busnes llawn. Mae 80 y cant o fusnesau Cymru eisoes yn derbyn cymorth gan y cyhoedd i dalu'r bil hwnnw. Rwy'n credu y gellid targedu'r arian hwnnw yn well, rwy'n credu y gallai wneud mwy o les mewn busnesau yng Nghymru, ond dyna fu polisi Llywodraeth Cymru ers cyfnod sylweddol o amser. Dyna pam mae'r gwaith wedi cael ei wneud.
Fe wnes i sylwi, Llywydd, y trydydd tro y siaradodd yr Aelod ei fod wedi cael cyfle i ddweud wrthyf i o le y byddai'r arian yn cael ei gymryd y mae mor awyddus ei weld yn cael ei wario ar ryddhad ardrethi busnes, a sylwais, am y trydydd tro, na chynigiodd unrhyw ateb i mi i'r cwestiwn hwnnw o gwbl.
3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith y polisi terfyn diofyn 20 mya ar bobl yn Nyffryn Clwyd? OQ60509
Bydd pobl ledled Cymru, gan gynnwys Dyffryn Clwyd, yn elwa yn sgil llai o wrthdrawiadau mewn cymunedau, gan achub bywydau a lleihau nifer yr anafiadau. Yn ogystal â llai o farwolaethau ac anafiadau, gallwn ddisgwyl cynnydd i feicio a cherdded, a gwelliannau i iechyd y cyhoedd.
Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Gyda gorfodaeth y terfyn cyflymder o 20 mya yn dechrau ar yr wythfed o'r mis hwn, mae'r canlyniadau eisoes yn cael eu teimlo yn Nyffryn Clwyd, gyda Bysiau Arriva Cymru yn dileu eu gwasanaeth i ganolfan siopa boblogaidd Tweedmill, a godais yn y Senedd yr wythnos diwethaf.
Un pryder yr hoffwn ei godi gyda chi, Prif Weinidog, yw'r posibilrwydd y gallai'r ddeddfwriaeth, a methiant awdurdodau lleol yn y gogledd i lywio'r ddeddfwriaeth, fod yn rhoi Dyffryn Clwyd o dan anfantais o'i gymharu ag ardaloedd eraill o Gymru. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yr wythnos diwethaf bod 0.6 y cant o ffyrdd yn sir Ddinbych wedi'u heithrio o'r terfyn 20 mya, o'i gymharu â 10 y cant yn Abertawe, 10 y cant ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chanran uwch mewn llawer o awdurdodau lleol eraill, yn enwedig yn y de.
Byddai fy etholwyr yn ddiolchgar pe bai ganddyn nhw esboniad am y gwahaniaeth rhwng lefel yr eithriadau a gymeradwywyd mewn awdurdodau lleol yn y gogledd o'u cymharu â'r rhai yn y de, a pham eu bod nhw mor araf yn y gogledd. Anfonais lythyr at Gyngor Sir Ddinbych gyda rhestr o briffyrdd arfaethedig a awgrymwyd gan etholwyr y dylid eu heithrio, yn dilyn ymgynghoriad â thrigolion. Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych wrthyf y bydden nhw'n adolygu'r priffyrdd hyn, ond nid ydym ni wedi gweld unrhyw gynnydd ers hynny.
A allai'r Prif Weinidog daflu goleuni ar y mater hwn, ac egluro a yw'r oedi o ran eithriadau 20 mya ar gyfer sir Ddinbych oherwydd awdurdod lleol llipa? A yw oherwydd rhwystr gan Lywodraeth Cymru, neu ai'r awdurdod lleol sy'n ei chael hi'n anodd llywio'r ddeddfwriaeth newydd? Os mai'r olaf sy'n wir, beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i helpu awdurdodau lleol yn y gogledd i lywio'r ddeddfwriaeth a sicrhau bod yr eithriadau priodol yn cael eu cymeradwyo yn brydlon?
Rwy'n hapus i helpu'r Aelod cystal ag y gallaf, ac i ddweud eto yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud yma a'r hyn a gyflwynodd y Dirprwy Weinidog yn fanwl yr wythnos diwethaf. Rydym ni wedi ymrwymo i adolygiad o'r canllawiau yr ydym ni'n eu darparu i awdurdodau lleol. Os nad ydyn nhw wedi bod yn ddigon eglur i rai awdurdodau lleol, byddwn yn gweithio gyda nhw i wneud yn siŵr ei fod yn rhoi'r eglurder sydd ei angen arnyn nhw. Yna bydd yn rhaid cael adolygiad gan bob awdurdod lleol wrth weithredu'r canllawiau hynny o dan yr amgylchiadau y maen nhw eu hunain yn eu hwynebu, ac mae'r amgylchiadau hynny yn newid o un awdurdod lleol i'r llall. Mae'r topograffi yn wahanol, gall dwysedd y boblogaeth fod yn wahanol. Un o'r pethau yr wyf i'n credu ein bod ni wedi ei ganfod yn yr ymarfer cyfan hwn yw bod dulliau gwahanol o ddynodi ffyrdd 30 mya mewn gwahanol rannau o Gymru beth bynnag.
Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yw bod mor eglur ag y gallwn, gan weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol ar y canllawiau. Mater iddyn nhw fydd hi wedyn, Llywydd; awdurdodau lleol sy'n dehongli'r canllawiau hynny o dan yr amgylchiadau y maen nhw'n eu hwynebu. Rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth y Dirprwy Weinidog yr wythnos diwethaf yn un pwysig: bod bwlch annisgwyl o lydan rhwng yr awdurdodau lleol hynny sydd wedi eithrio llai nag 1 y cant o'u ffyrdd a'r awdurdodau lleol hynny sydd wedi eithrio cynifer â 10 y cant. Bydd yr ymarfer rwy'n credu yn ceisio gweld a oes anghysonderau yno y gellir eu datrys, a bydd yn cael ei wneud yn y ffordd bartneriaeth honno—adolygiad o'r canllawiau gan Lywodraeth Cymru i helpu gydag eglurder, ac yna penderfyniadau gweithredu y mae awdurdodau lleol eu hunain yn gyfrifol amdanyn nhw.
Rydym ni'n gwybod bod amrywiad ledled Cymru o ran y ffyrdd sydd wedi aros ar 30 mya. Mae'r adolygiad yn mynd i edrych ar y mater hwn, ac mae angen i ni ymgysylltu â'n partneriaid mewn llywodraeth leol a gweithredwyr bysiau yn rhan o hynny. Rydym ni wedi gweld bod y sgrymiau rhanbarthol a'r cyd-bwyllgorau corfforaethol yn gweithio'n dda o ran dod ag awdurdodau lleol ynghyd i ymdrin â rhai o'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant bysiau yng Nghymru. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi eu bod nhw'n darparu fforwm delfrydol ar gyfer y drafodaeth fanwl honno ar gyfer edrych ar effaith terfynau cyflymder ar lwybrau prifwythiennol a phrydlondeb, yn ogystal â helpu i nodi ardaloedd lle gallai mesurau blaenoriaeth i fysiau wneud gwahaniaeth go iawn?
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt y mae Carolyn Thomas wedi'i wneud mai mesurau blaenoriaeth i fysiau yw'r ateb cywir i wneud yn siŵr bod bysiau yn gallu symud trwy gymunedau, yn enwedig lle ceir llawer iawn o draffig. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi darparu miliynau o bunnau yn y gyllideb eleni, ac y bydd yn gwneud hynny eto yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, i helpu awdurdodau lleol gyda chostau creu lonydd blaenoriaeth i fysiau i alluogi trafnidiaeth gyhoeddus i symud yn gyflym drwy'r ardaloedd hynny.
Rwyf i hefyd yn cytuno â'r pwynt a wnaeth Carolyn Thomas. Rwy'n credu iddi adleisio, mewn ffordd, bwynt yr oeddwn i'n ceisio ei wneud yn fy ateb gwreiddiol, sef y bydd dull partneriaeth rhwng cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a chyfrifoldebau awdurdodau lleol yn mireinio'r polisi hwn ac yn dileu unrhyw anghysonderau sydd wedi bod yn amlwg yn ystod misoedd cyntaf ei weithrediad.
Rwy'n credu bod gweithio rhanbarthol rhwng awdurdodau lleol yn seiliedig ar gyd-bwyllgorau corfforaethol a'r trefniadau rhanbarthol hynny a roddwyd ar waith ar gyfer gwasanaethau bysiau yn ffordd synhwyrol iawn i hyn ddigwydd, ac, yn yr adolygiad y byddwn ni'n ei gynnal o'r canllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu darparu, byddwn ni'n sicr yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol ar yr olion traed rhanbarthol hynny.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelwydydd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn ystod yr argyfwng costau byw? OQ60527
Diolch i Cefin Campbell am y cwestiwn, Llywydd. Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw, gan gynnwys y rhai yn y canolbarth a’r gorllewin. Rydyn ni’n helpu pobl i fanteisio ar eu hawliau ariannol, gan ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf, a darparu ystod o gynlluniau sy'n helpu i gadw arian ym mhocedi pobl.
Diolch yn fawr iawn. Os caf i ofyn i chi ymhelaethu rhywfaint, bach, ar yr ateb hwnnw, mae budd-daliadau Cymreig, yn cynnwys y cynllun gostwng y dreth gyngor a'r lwfans cynhaliaeth addysg, er enghraifft, yn werth gymaint â rhyw £4,000 i aelwydydd ledled Cymru. Felly, roedd e'n bryder i mi ddarllen wythnos diwethaf fod miliynau o bunnoedd o'r math hwn o gymorth yn mynd heb ei hawlio yng Nghymru. Mae Sefydliad Bevan yn dweud bod o gwmpas £73 miliwn bob blwyddyn yn mynd heb ei hawlio, oherwydd efallai diffyg ymwybyddiaeth bod yr arian yna ar gael, neu fod y prosesau hawlio yn rhy gymhleth. Rwyf am roi enghraifft i chi o hybiau Cyngor Sir Gâr, lle mae pobl yn gallu cerdded mewn a chael help gyda phob math o fudd-daliadau, a sicrhau eu bod nhw'n cael yr arian sydd yn ddyledus iddyn nhw. Mae yna enghreifftiau o rai sydd wedi elwa gan ryw filoedd o bunnoedd. Felly, a gaf i ofyn i chi, Brif Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn sicrhau bod pob aelwyd yn hawlio'r budd-daliadau hyn? Beth sy'n cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth a symleiddio'r broses i hawlio? Ac ydych chi'n cytuno ei fod yn amser resymoli'r broses o dan un system o fudd-daliadau Cymreig?
Wel, diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiwn ychwanegol, Llywydd. Wrth gwrs, dwi'n cytuno bod gwaith pwysig i'w wneud, ac rŷn ni'n ariannu pobl i wneud e yma yng Nghymru i helpu pobl tynnu i lawr y budd-daliadau sydd ar gael iddyn nhw mas o'r system dros y Deyrnas Unedig. Mae ymdrech gyda ni ar hyn o bryd, ymgyrch genedlaethol, ble rŷn ni'n rhedeg pethau i dynnu sylw pobl at y ffaith bod budd-daliadau yna iddyn nhw, a rhoi help iddyn nhw er mwyn cael arian mas o'r system.
Ble mae pethau yn nwylo Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, rŷn ni wedi cytuno nawr gydag awdurdodau lleol a phobl eraill ar siartr ble rŷn ni'n gallu gwneud rhai o'r pethau yr oedd Cefin Campbell yn cyfeirio atyn nhw, i symleiddio'r broses a chael y broses yn yr un lle, ble bynnag mae pobl yn byw yng Nghymru. Trwy wneud pethau fel yna, rŷn ni'n cydweithio â phobl eraill. Er enghraifft, rŷn ni'n gweithio yn agos gyda'r comisiynydd pobl hŷn yma yng Nghymru. Mae hi wedi gwneud lot o waith arbennig o dda a phwysig i helpu pobl hŷn i roi i mewn am gredyd pensiwn—yr enghraifft fwyaf lle dyw pobl yng Nghymru ddim yn tynnu mas o'r system yr arian sydd gyda nhw i'w gael. So, trwy gydweithio gyda phobl eraill, ariannu gwasanaethau ar lawr gwlad, symleiddio'r pethau sydd yn ein dwylo ni, gallwn ni wneud mwy, a dwi eisiau, ac mae'r Llywodraeth eisiau gwneud mwy yn y dyfodol.
Prif Weinidog, fel y gwnaethoch chi a Cefin Campbell ei ddweud, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal nifer o ymgyrchoedd i dynnu sylw at y cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi o ran taliadau costau byw, boed hynny ar y teledu, y radio neu gyfryngau cymdeithasol. Ond Prif Weinidog, yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw faint o bobl sydd wedi ymweld â thudalen we 'Yma i helpu' llyw.cymru a'r rhif 0808 y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu, fel y gallwn ni fod yn sicr yma fel Aelodau o'r Senedd bod y gwaith hyrwyddo y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud wir yn dilyn y dull wedi'i dargedu hwnnw, fel bod pobl sydd angen y cymorth yn cael gafael ar yr wybodaeth honno mewn gwirionedd, ac yn cael y cymorth y mae ganddyn nhw hawl iddo.
Llywydd, nid yw'r ffigurau gen i ar gyfer y ffrydiau penodol hynny yn yr ymdrech yr ydym ni'n ei gwneud wrth law, ond rwy'n siŵr y gellir eu darparu nhw i'r Aelod. Edrychwch, rwy'n credu mai'r pwynt allweddol yw hwn—a rhai o'r pethau yr ydym ni wedi eu dysgu dros y blynyddoedd yw—er mwyn cael ymgyrch lwyddiannus mae'n rhaid i chi fod ag amrywiaeth o wahanol ffyrdd y gall pobl gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Oherwydd bydd yn well gan rai pobl ddefnyddio gwefan yn eu cartrefi eu hunain, llywio eu ffordd eu hunain drwy'r system; heb os, bydd yn well gan bobl eraill gael sesiwn wyneb yn wyneb gyda chynghorydd a fydd yn gallu eu cynorthwyo nhw'n uniongyrchol.
Felly, nid yw'n fater o ddweud, yn fy marn i, 'A yw'r ffrwd yma'n gweithio, a yw'r ffrwd yna'n gweithio?' Mae angen i chi fod ag amrywiaeth eang o ffyrdd y gall pobl fanteisio ar y cymorth sydd ar gael iddyn nhw, sy'n perthyn iddyn nhw fel hawl. Oherwydd bydd ffordd a fydd y dull cywir i un person yn wahanol i'r person sy'n byw drws nesaf iddo. A dyna pam mae gennym ni ffordd aml-ffrwd o geisio cynnig cymorth i bobl sydd ei angen.
Hoffwn eich gwahodd chi, Prif Weinidog, i ymuno â mi i groesawu'r ffaith y bydd pob awdurdod lleol yn fy rhanbarth yn cwblhau'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim cyffredinol i ysgolion cynradd cyn dyddiad cau Llywodraeth Cymru ym mis Medi. Ac rwy'n siŵr eich bod chi'n rhannu fy rhwystredigaeth bod y Ceidwadwyr—y blaid sydd wedi gwneud cymaint i achosi a hyrwyddo'r argyfwng costau byw—yn parhau i wrthwynebu'r cynllun hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd iddyn nhw fynd.
Wel, mae'n gyferbyniad eglur iawn, Llywydd, onid ydyw? Dyma gynllun hynod lwyddiannus. Ym mis Medi 2022 yr aeth yr Aelod dynodedig, Siân Gwenllian, a minnau i ranbarth yr Aelod i lansio'r gwasanaeth prydau ysgol am ddim cyffredinol. Ac mae'n dda iawn clywed, fel y mae Joyce Watson wedi dweud, bod pob awdurdod lleol yn ei rhanbarth—. Mae rhai wedi ei gyflawni eisoes—mae sir Benfro wedi ei gyflawni eisoes, mae sir Gaerfyrddin wedi ei gyflawni eisoes—ond bydd yr holl awdurdodau lleol yn yr ardal honno wedi sicrhau prydau ysgol am ddim cyffredinol i bob myfyriwr ysgol gynradd cyn y dyddiad cau. Mae hynny'n newyddion anhygoel o dda ac yn newyddion da iawn i'r plant hynny, ac yn newyddion da iawn i'r teuluoedd hynny sy'n cael trafferth gyda chostau byw.
Yma, ar yr ochr hon i'r Siambr, a chyda'n partneriaid cytundeb cydweithio, rydym ni'n falch o'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni yn y maes hwn, ac mae gwrthwynebiad parhaus y Blaid Geidwadol i bolisi mor llwyddiannus yno i unrhyw un ei weld.
5. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sgandal Horizon? OQ60503
Llywydd, mae Llywodraeth y DU wedi addo gweithredu o'r diwedd i ryddhau pobl yr effeithiwyd arnynt gan y camweinyddiadau cyfiawnder ofnadwy hyn o fai a'u digolledu. Ond mae'r sgandal yn dangos ffactorau ehangach o ran mynediad at gyfiawnder, ffactorau a amlygwyd yn adroddiad comisiwn Thomas ac y mae Gweinidogion Cymru wedi mynd ar eu trywydd gydag Ysgrifenyddion Gwladol olynol dros gyfiawnder byth ers hynny.
Diolch, Prif Weinidog. Byddai gen i ddiddordeb mawr mewn gwybod a oes gennych chi syniad o raddfa'r anghyfiawnder ledled Cymru, ac a fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n hen bryd cael iawndal a diddymu euogfarnau a bod yn rhaid mynnu hynny gan Lywodraeth y DU cyn gynted â phosibl.
Wel, Llywydd, mae gennym ni syniad o'r raddfa yn yr ystyr ein bod ni'n gwybod, ym mhob un rhan o Gymru—o Hwlffordd yn y de yr holl ffordd i'r gogledd—y bu unigolion yr effeithiwyd arnynt yn ofnadwy gan y sgandal hwn. Nid oes gennym ni niferoedd pendant, gan ein bod ni'n gwybod mai rhan o'r sgandal fu'r ffaith bod pobl a oedd yn ddieuog o unrhyw gamwedd yn teimlo rheidrwydd i bledio'n euog i drosedd. Rydym ni'n gwybod mai canlyniad y rhaglen deledu ddiweddar yw bod mwy o bobl wedi dod ymlaen i dynnu sylw at y ffordd y cawson nhw eu hunain eu trin. Felly, rydym ni'n gwybod bod y sgandal wedi effeithio ar bob rhan o Gymru, ac mae'n debyg bod yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yn tanamcangyfrif maint yr anhawster hwnnw.
Wrth gwrs, fel y mae Ken Skates yn ei ddweud, Llywydd, rwyf i eisiau gweld Llywodraeth y DU yn dod ymlaen cyn gynted â phosibl. Mae cannoedd o bobl y mae eu bywydau a'u bywoliaethau wedi cael eu difetha gan y sgandal hwn. Mae'n rhaid iddyn nhw weithredu nawr. Bydd llawer o bobl yn gofyn lle maen nhw wedi bod yr holl flynyddoedd hyn. Ond nawr mae angen iddyn nhw weithredu, mae angen iddyn nhw wneud yn siŵr bod y bobl hynny yn cael eu nodi yn briodol a bod iawndal am y camweddau yn eu herbyn yn cael ei dalu iddyn nhw cyn gynted â phosib.
Rhwng 1999 a 2015, cafwyd mwy na 700 o is-bostfeistri yn euog o dwyll, lladrad neu gyfrifyddu ffug—y camweinyddiad cyfiawnder mwyaf yn hanes y DU. Yn ei drafodaeth gyda Chymdeithas Hansard yr wythnos diwethaf, nododd y cyn Aelod Seneddol Ceidwadol, sydd bellach yn Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, James Arbuthnot, a arweiniodd ymgyrch seneddol i ymchwilio i gamymarfer yn Swyddfa'r Post, pan oedd wedi ysgrifennu at Weinidog y DU ar y pryd yn 2009, y dywedwyd wrtho,
'mae hwn yn fater cytundebol ar wahân i swyddfa'r post. Mae gennym ni drefniant sefyll yn ôl gyda swyddfa'r post, ac felly nid oes ganddo ddim byd i'w wneud â'r llywodraeth.'
Nododd y drafodaeth hon hefyd bod 17 o Weinidogion y DU wedi bod yn gyfrifol am Swyddfa'r Post dros gyfnod y sgandal hwn, ac y bydd Tŷ'r Arglwyddi yn ystyried Bil Iawndal Swyddfa'r Post (System Horizon), sef y ddeddfwriaeth a addawyd yn Araith y Brenin ac a gyflwynwyd. Pa sylwadau, felly, ar ran is-bostfeistri yr effeithiwyd arnynt yng Nghymru fydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud ynghylch hyn a'r ddeddfwriaeth gyffredinol a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog y DU i ddifeio is-bostfeistri a gafwyd yn euog o gamweddau o ganlyniad i'r sgandal hwn?
Wel, Llywydd, bydd Gweinidogion Cymru yn manteisio ar bob cyfle sydd gennym ni i barhau i godi hyn gyda Gweinidogion y DU, ond nid ydym ni'n ei wneud am y tro cyntaf. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cyfarfod â chyd-Weinidogion ar draws y Deyrnas Unedig yn ddiweddarach y mis hwn, a bydd hwn yn fater a fydd yn cael ei godi gyda nhw bryd hynny. Ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr adran gyfiawnder ar 1 Medi 2021, Llywydd. Mae'n llythyr y mae'n werth i'r Aelodau ei weld, oherwydd mae'n sicr yn taflu goleuni ar gyfres gyfan o faterion sydd ddim ond wedi dod i sylw'r cyhoedd yn ddiweddarach. Cymerodd dros chwe mis i'r llythyr hwnnw dderbyn ateb, a phan wnaeth, ni ddaeth oddi wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder; daeth oddi wrth Weinidog a oedd yn gyfrifol, meddai ei lythyr, am fusnesau bach, defnyddwyr, marchnadoedd llafur ac fel Gweinidog dros Lundain. Wel, wyddoch chi, rwy'n credu ei fod yn dweud wrthych chi—mae'n dweud wrthych chi pa fath o flaenoriaeth yr oedd Llywodraeth y DU wedi ei roi i'r mater hwn, pan nad yw llythyr gan un o Weinidogion Cymru sy'n gofyn cyfres o gwestiynau perthnasol iawn, sydd ers hynny wedi dod yn rymus i'r wyneb, yn cael ei ateb am fisoedd ar fisoedd ac yna gan rywun y mae'n anodd iawn gweld sy'n berthnasol i'r cwestiynau a godwyd yn y lle cyntaf.
Mae'r hyn rydych chi'n ei amlinellu yn y fan yna, Prif Weinidog, yn sicr yn peri pryder. Ar bwynt ychydig yn wahanol, mae hefyd yn peri pryder, onid ydyw, bod Trafnidiaeth Cymru wedi dyfarnu contract pum mlynedd yn 2019 i Fujitsu, y cwmni a ddyluniodd Horizon; mae wedi cael ei ymestyn hyd at fis Ebrill 2026. Nawr, tan ddoe, nid oedd Llywodraeth Cymru wedi datgelu faint o gontractau gweithredol eraill sy'n bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Fujitsu. A allwch chi ddweud wrthyf i a ydych chi'n adolygu'r contractau hynny bellach yng ngoleuni'r brotest gyhoeddus yn ymwneud â'r hyn sydd wedi digwydd yn Swyddfa'r Post?
Pryderon am sgandal Horizon, fel yr ydych chi newydd ei amlinellu, roedden nhw'n hysbys iawn cyn i Toby Jones ymgymryd â'r rhan deledu honno. Pa ystyriaeth a roddwyd i'r pryderon hynny cyn dyfarnu'r contract hwnnw? Yn bwysicach o lawer, a fydd gwersi yn cael eu dysgu nawr? Os ceir Fujitsu yn euog o gam-drin corfforaethol bwriadol, a fyddan nhw ar gosbrestr o ran cael unrhyw gontractau yn y dyfodol? Oherwydd mae hynny'n rhywbeth, rwy'n credu, y bydd y cyhoedd eisiau ei wybod.
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, mae'r ddau gontract sy'n bodoli ar hyn o bryd yn eu misoedd olaf ac nid oes amheuaeth y byddan nhw'n cael eu hadolygu wrth i'r contractau ddod i ben. Rwy'n credu bod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ar ddiwedd ei chwestiwn yn bwynt eithaf anodd mewn gwirionedd. Nid wyf yn siŵr beth allai'r sail gyfreithiol fod ar gyfer atal cwmni cwbl gyfreithlon rhag cystadlu am fusnes yng Nghymru ar sail methiant mewn un rhan o'u gweithrediad, er mor ddifrifol y bu'r methiant hwnnw yn sicr. Yn y dyfodol, byddwn yn parhau i gadw at y rheolau sy'n cwmpasu caffael cyhoeddus yma yng Nghymru. Mae llunio cosbrestr, rwy'n credu, yn gam gweithredu sy'n amheus yn gyfreithiol ac y byddai'n rhaid pwyso a mesur yn ofalus iawn o dan amgylchiadau unrhyw achos caffael unigol.
A gaf i ddiolch i Ken Skates am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn? Rwy'n cofio, Prif Weinidog, codi'r sgandal hwn ar sawl achlysur gyda'r Cwnsler Cyffredinol ar lawr y Siambr, yn enwedig nifer y diffygion a amlygwyd o ran y diffygion yn y system gyfiawnder yn y Deyrnas Unedig. Ac un o'r diffygion hynny fu amharodrwydd swyddogion gweithredol uwch mewn sefydliadau grymus i ddod ymlaen gyda'r hyn yr oedden nhw'n ei wybod a phryd roedden nhw'n ei wybod. Mae dyletswydd gonestrwydd yn gwbl hanfodol os yw pobl gyffredin yng Nghymru yn mynd i gael cyfiawnder wrth herio'r sefydliad a sefydliadau grymus. Dyma un o ddaliadau allweddol ymgyrch Hillsborough Law Now. Gwn, Prif Weinidog, eich bod chi eich hun wedi bod yn gefnogol i'r ymgyrch a'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion eraill o fewn Llywodraeth Cymru, ond beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi ymgyrch Hillsborough Law Now?
Diolch i Jack Sargeant am hynna, Llywydd. Mae ef yn llygad ei le: mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol i ymgyrch Hillsborough Law Now. Ac roeddwn i'n falch iawn o weld Syr Keir Starmer yn ailddatgan ymrwymiad y Blaid Lafur i ddiwygio dim ond yr wythnos diwethaf. Er mwyn atal anghyfiawnderau yn y dyfodol lle mae'r wladwriaeth dan sylw, dywedodd y bydd y Llywodraeth Lafur nesaf nid yn unig yn cyflwyno dyletswydd gonestrwydd statudol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ond byddwn ni hefyd yn cyflwyno system newydd lle y bydd modd penodi eiriolwr cyhoeddus annibynnol i weithredu er lles pennaf y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw.
Llywydd, rwy'n credu bod Jack Sargeant yn gwneud pwynt pwysig iawn. Mae'n ymddangos i mi mai un o'r rhesymau pam mae'r achos hwn wedi taro tant o'r fath gyda'r cyhoedd yw, wrth gwrs yr anghyfiawnderau unigol eu hunain, ond hefyd yr ymdeimlad hwnnw o annhegwch awdurdod cyhoeddus pwerus, gydag adnoddau da iawn yn defnyddio'r holl bwerau sydd ganddo ar bobl nad oedd ganddyn nhw unrhyw un o'r manteision hynny eu hunain. Mae'n ymwneud â'r ymdeimlad hwnnw o annhegwch, onid ydyw; mae'n ymwneud â'r diffyg tegwch sydd yn fy marn i wedi taro'r fath dant gyda phobl. A bydd cyfraith Hillsborough a'r camau y mae'r Blaid Lafur wedi ymrwymo iddyn nhw pe baem yn ffurfio'r Llywodraeth nesaf yn mynd tipyn o'r ffordd i unioni'r fantol.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol? OQ60536
Llywydd, mae awdurdodau lleol yn atebol i'w cymunedau eu hunain am y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud. Maen nhw'n cael eu monitro gan Archwilio Cymru, yr arolygiaethau a'u prosesau craffu mewnol eu hunain. Pan fo Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i gyflawni polisïau cenedlaethol penodol, mae trefniadau monitro ac adolygu yn cael eu rhoi ar waith.
Yr wythnos hon, yng nghyllideb ddrafft cyngor Pen-y-bont ar Ogwr y mae Llafur yn ei redeg, mae'r cyngor yn cynnig cau gorsaf fysiau'r dref a thorri'r gyllideb addysg 5 y cant, yn ogystal â chynnydd enfawr arfaethedig o 9.5 y cant yn y dreth gyngor. Mae hynny oherwydd bod y cyngor wedi methu â chael trefn ar ei gostau droeon. Dro ar ôl tro, mae'r cyngor ei hun wedi cyfaddef gorwariant sylweddol yn yr adran gwasanaethau cymdeithasol, ac yn enwedig gorddibyniaeth ar staff asiantaeth, sy'n gwneud y gwasanaeth yn ddrytach ac yn llai diogel. Dywedodd adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru y llynedd bod nifer fawr o staff asiantaeth yn dal i gael eu defnyddio mewn gwasanaethau rheng flaen a swyddogaethau rheoli yn y cyngor. Nododd y cyngor ei hun y diffyg cynnydd yn y maes hwn yn gynharach eleni mewn adroddiad mewnol. Felly, Prif Weinidog, mae anallu parhaus cyngor Llafur Pen-y-bont ar Ogwr i reoli gorwariant ar y staff asiantaeth yn golygu bod pobl yn colli gwasanaethau y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw ac yn wynebu cynnydd o 9.5 y cant yn y dreth gyngor i dalu amdano. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro gwariant cyngor Llafur Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau nad yw trigolion yn cael eu cosbi am anallu'r cyngor i wneud y penderfyniadau cywir?
Llywydd, mae Pen-y-bont ar Ogwr yn gyngor Llafur oherwydd bod pobl Pen-y-bont ar Ogwr wedi pleidleisio dros gynghorwyr Llafur. Dyna'r hyn y ceisiais i ei egluro i'r Aelod yn fy ateb gwreiddiol: bod awdurdodau lleol yn gyfrifol i'w hetholwyr lleol a bydd yn rhaid iddyn nhw gyfiawnhau i'w hetholwyr lleol y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gyngor sy'n cael ei redeg yn dda ac sydd wedi wynebu dros ddegawd o gyni; flwyddyn ar ôl blwyddyn, pwysau Llywodraeth y DU nad yw erioed wedi gwerthfawrogi'r hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wneud, a lle mae awdurdodau lleol yn Lloegr yn genfigennus o'r ffordd y mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cael eu cefnogi. Rwy'n credu bod pobl Pen-y-bont ar Ogwr, sydd, mewn etholiadau olynol, wedi dewis cyngor Llafur—dyna pam ei fod yno; mae hynny oherwydd ei fod wedi cael ei ddewis gan bobl Pen-y-bont ar Ogwr—rwy'n credu y byddan nhw'n parhau i ddeall a chefnogi'r camau y mae'r cyngor hwnnw'n eu cymryd.
Un o fesurau effeithiolrwydd awdurdodau lleol yw'r ffordd y maen nhw nid yn unig yn gwneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain, ond mewn gwirionedd, y ffordd y maen nhw'n cydweithio ag eraill. Felly, un o'r pethau diddorol sy'n digwydd yn fuan iawn yw cyflwyno partneriaeth rhwng y GIG ac awdurdodau lleol ledled Cymru, gan weithio gydag ysgolion i ddarparu brechlyn feirws papiloma dynol, HPV, hynod effeithiol i ymdrin â chanser ceg y groth a chyflyrau eraill hefyd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth i ni agosáu at Fis Ymwybyddiaeth Canser Ceg y Groth. Bydd rhaglen imiwneiddio HPV yn dechrau mewn ysgolion yng Nghymru o ddechrau tymor y gwanwyn, ac mae'n werth nodi, ers cyflwyno'r brechlyn HPV yn 2008, bod cyfraddau canser ceg y groth wedi gostwng bron i 90 y cant mewn menywod yn eu 20au a gafodd gynnig y brechlyn yn 12 i 13 oed. Felly, a fyddai ef yn ymuno â mi i ddymuno'r llwyddiant gorau i'r awdurdodau lleol, darparwyr y GIG a hefyd ysgolion, a fydd yn cyflawni hyn mewn partneriaeth, oherwydd ei fod yn ymyrraeth wirioneddol, effeithiol yn iechyd ein pobl ifanc?
Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn atodol yna, Llywydd, ac, wrth gwrs, mae e'n gywir mai'r unig ffordd y gallwn ni ddarparu'r brechlyn hynod effeithiol hwn yw trwy bartneriaeth rhwng y GIG a llywodraeth leol. Os ydych chi'n ystyried y cwestiwn gwreiddiol a ofynnwyd i mi, a oedd yn ymwneud â monitro effeithiolrwydd penderfyniadau, rwy'n hapus iawn i ysgrifennu at Tom Giffard ar hyn os nad yw'n dewis gwrando ar yr ateb, yna byddwn ni'n ei fonitro, wrth gwrs, oherwydd byddwn ni'n gwybod yn union faint o bobl ifanc mewn ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mewn rhannau eraill o Gymru fydd yn elwa ar y brechiad hwn. Llywydd, fi oedd y Gweinidog iechyd yn Llywodraeth Cymru ar adeg cyflwyno'r brechlyn hwn, rwy'n cofio iddo gael ei wrthwynebu gan Aelodau Ceidwadol, y mae rhai ohonyn nhw dal yma yn y Senedd, ond mae wedi dangos dros y degawd dilynol, pa mor effeithiol y mae wedi bod i fenywod ifanc, ond i ddynion ifanc hefyd, yng Nghymru. Rwy'n llongyfarch y llywodraeth leol, yr holl awdurdodau lleol hynny, a'r gwasanaeth iechyd, dan bwysau fel y maen nhw, am eu penderfyniad i wneud hyd yn oed mwy yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser Ceg y Groth i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael eu diogelu, yn llwyddiannus iawn, rhag profiadau ofnadwy pobl eraill na chawsant yr un cyfle.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ba mor hir mae pobl yn aros am driniaeth yn y gwasanaeth iechyd? OQ60539
Llywydd, mae cynnydd yn cael ei wneud. Mae amseroedd aros dros ddwy flynedd wedi gostwng 53 y cant yn ystod y flwyddyn diwethaf ac maen nhw bellach ar eu hisaf ers mis Awst 2021. Mae gwelliannau pellach ar y gweill, gan adlewyrchu ymroddiad ac ymrwymiad staff y gwasanaeth iechyd gwladol.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ond, wrth gwrs, bydd streic tri diwrnod aelodau Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru yn dwysáu'r broblem o restrau aros a hynny oherwydd methiant y Llywodraeth i roi cynnig teg i'r meddygon iau o ran tâl. Dwi wedi siarad â nifer fawr o feddygon y tu allan i'r Senedd yma heddiw, ddoe yn Wrecsam Maelor, er enghraifft, ac mae nifer cynyddol yn sôn eu bod nhw am ddilyn eu ffrindiau i weithio yn Awstralia neu Seland Newydd neu du hwnt. Gyda chi'n dweud fel Llywodraeth na allwch chi fforddio talu mwy, all yr NHS a Chymru fforddio colli mwy o feddygon?
Wel, Llywydd, wrth gwrs, mae beth mae'r Aelod yn ei ddweud yn wir, bydd y streic yn cael effaith ar y gwasanaeth sydd ar gael i gleifion yma yng Nghymru. Ond dwi'n deall, mae'r Llywodraeth yn deall pam fod pobl yn teimlo mor gryf ar ôl cyfnod hir o gyni.
Ond dyma ni eto, Llywydd, ar ôl clywed y galw am wario mwy o arian ar ardrethi annomestig, gofynnir am fwy o arian nawr ar gyfer meddygon yng Nghymru. Pe byddem ni mewn sefyllfa i wneud hynny, wrth gwrs, rydyn ni eisiau gweld gweision cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu talu'n briodol am y gwaith y maen nhw'n ei wneud, ond mae'r cynnig yr ydyn ni wedi'i wneud ar derfyn eithaf y cyllid sydd gennym ni at y diben hwn. Fe wnaf i wneud y pwynt i'r Aelod, fel y gwnes i ei wneud i'w arweinydd: rydych chi'n dweud wrthyf i fod yn rhaid i mi ddod o hyd i fwy o arian i feddygon i'w cadw nhw yn GIG Cymru. Dywedwch chi wrthyf i o ble y daw'r arian hwnnw, oherwydd mae swm penodol o arian ar gael i ni, a byddai'n rhaid cymryd arian o rywle arall i wneud yr hyn yr ydych chi'n ei awgrymu. A yw i ddod o brentisiaid? A yw i ddod o'r gyllideb amaethyddol? A yw i ddod o ardrethi annomestig? Wel, mae'r rhain i gyd yn bethau y mae'ch plaid eisiau i mi wario mwy o arian arnyn nhw, nid llai. Ac mae hi'n weithred anghyfrifol i Aelodau godi ar eu traed yn y Siambr hon a dweud wrthyf i, 'Mwy o arian i hwn, mwy o arian i'r llall, mwy o arian i rywbeth arall,' a heb feddwl byth—nid unwaith—bod ganddyn nhw unrhyw gyfrifoldeb i awgrymu o ble y dylai'r arian hwnnw ddod.
8. Sut mae'r Prif Weinidog yn mynd ati i gyflwyno Senedd gryfach sy'n gallu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn well? OQ60520
Bydd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn creu Senedd fwy effeithiol, gyda mwy o allu a chapasiti i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, gan hefyd adlewyrchu'r ychwanegiadau sylweddol yn swyddogaeth a chyfrifoldebau'r ddeddfwrfa hon ers 1999.
Bydd y Prif Weinidog, fel fi, yn gyfarwydd â In Place Of Fear gan Aneurin Bevan, ac nid yw'n gyd-ddigwyddiad mai teitl pennod gyntaf y llyfr hwnnw yw 'Poverty, Property and Democracy'. Roedd Aneurin Bevan yn deall y cysylltiadau rhwng ymdrin â materion anghydraddoldeb a thlodi a phwysigrwydd sylfaenol democratiaeth. Mae'n bwysig grymuso'r Senedd hon i sicrhau nad ydyn ni'n grymuso gwleidyddion yn unig, ond yn grymuso'r wlad hon, yn grymuso'n pobl, yn grymuso Cymru, i sicrhau y gallwn ni ymdrin â materion tlodi. Rydyn ni'n gwybod nad yw'r Torïaid yn ei hoffi, ond nid ydyn nhw'n poeni—[Torri ar draws.] Nid ydyn nhw'n poeni bod mwy o wleidyddion—[Torri ar draws.] Nid ydyn nhw'n poeni bod mwy o wleidyddion—. Roedd yr Arglwydd Cameron yn falch iawn o gael ei swydd newydd. Nid ydyn nhw'n poeni bod mwy o wleidyddion, Prif Weinidog, pan fyddant yn gyfeillion, pan fyddant yn aelodau o'r teulu, pan fyddant yn rhoddwyr. Yr hyn y maen nhw'n poeni amdano yw gwleidyddion sy'n cael eu hethol gan y bobl, sy'n atebol i'r bobl ac sy'n gyfrifol i'r bobl.
A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai democratiaeth rymus yng Nghymru yw'r peth mwyaf y gallwn ni ei wneud i ymdrin â democratiaeth, i ymdrin â thlodi a chadw'r bobl hynny allan o rym?
Wel, Llywydd, rwyf i wedi deall ers tro fod perthynas uniongyrchol ar lawr y Senedd rhwng y sŵn y mae'r grŵp Ceidwadol yn ei wneud ac ansawdd eu dadl. Y gwannaf eu dadl, yr uchaf eu cloch, ac yn sicr, rydych chi wedi clywed hynny y prynhawn yma. [Torri ar draws.] Mae hon yn daith 20 mlynedd, Llywydd. [Torri ar draws.] Wel, maen nhw wrthi eto, Llywydd. Maen nhw wrthi eto. Mae hon yn daith 20 mlynedd. Gwnaeth comisiwn Richard, gan fyfyrio ar dymor cyntaf un profiad y Senedd hon, ddod i'r casgliad nad oedd digon o niferoedd yn y Cynulliad—fel yr oedd bryd hwnnw—i gyflawni'r cyfrifoldebau a gafodd eu gosod yn eu dwylo gan bobl Cymru. Ers hynny, mae swyddogaethau a chyfrifoldebau'r Senedd hon wedi tyfu y tu hwnt i adnabyddiaeth. Yr hyn fydd gennym ni ger ein bron yw Bil sy'n deillio o'r pwyllgor diben arbennig a gafodd ei greu at y diben hwnnw, a fydd yn sicrhau bod democratiaeth yma yng Nghymru yn cael ei rhoi ar sail lle bydd modd craffu ar weithredoedd Llywodraeth Cymru yn briodol, lle bydd modd gwneud y penderfyniadau gorau. Bydd llawer o sŵn; bydd llawer o sŵn gan y bobl hynny a fydd yn elwa ar y penderfyniadau y bydd y Senedd hon yn eu gwneud, ond rwy'n gobeithio, fel y dywedodd Alun Davies, na fyddwn ni'n cael ein llywio oddi ar yr hyn yr ydyn ni'n gwybod sy'n iawn i'w wneud. Bydd ganddyn nhw ddiddordeb mewn ofn, byddan nhw'n dweud wrth bobl fod hwn yn rhywbeth na ddylai ddigwydd; bydd gennym ni'r optimistiaeth y mae pobl Cymru yn ei disgwyl, i gael y penderfyniadau hynny yn eu dwylo nhw, ac i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud gan Senedd sy'n addas at y dibenion sy'n cael eu harfer ar eu rhan.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf y prynhawn yma fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon: bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar bwysau'r gaeaf ar ofal iechyd. O ganlyniad, mae'r datganiad ar drefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd wedi'i ohirio tan yr wythnos nesaf, 23 Ionawr. Mae'r busnes drafft am y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf fi alw am ddatganiad gan y Gweinidog perthnasol ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i wasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus? Rwy'n bryderus iawn ar hyn o bryd fod Cyngor Sir Ddinbych yn cynnig cwtogi oriau agor y llyfrgell. Ar y dechrau roedden nhw'n cynnig toriad o 50 y cant. Maen nhw nawr yn cynnig toriad o 40 y cant, yn dilyn protest gyhoeddus enfawr mewn ymateb i'r ymgynghoriad cychwynnol. Nawr, gwyddon ni fod llyfrgelloedd yn ymwneud â llawer mwy na llyfrau y dyddiau hyn. Maen nhw'n lleoedd addysg a dysgu gydol oes, mae llawer o bobl yn mynd yno hefyd i fwynhau'r cyfleusterau TG nad oes ganddyn nhw gartref efallai, ac, wrth gwrs, maen nhw hefyd yn hyrwyddo iaith a diwylliant lleol. Felly, mae hwn yn fater pwysig iawn i fy etholwyr. Rwy'n sylweddoli bod gan awdurdodau lleol ddewisiadau anodd eu gwneud o ystyried y pwysau ar eu cyllidebau, ond nid yw awdurdodau lleol eraill yn cynnig torri eu gwasanaethau llyfrgell yn eu hanner drwy ofyn iddyn nhw gau eu drysau am 50 y cant o'r amser. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd bod Llywodraeth Cymru yn mynnu bod gan ein llyfrgelloedd rai safonau gofynnol o ran oriau agor, a byddwn i'n gwerthfawrogi pe gallai Gweinidog gyflwyno datganiad ar hynny.
Yn ogystal â hynny, rydyn ni wedi clywed, yn amlwg, fod Cymdeithas Feddygol Prydain wedi bod yn protestio y tu allan. Rydyn ni'n ymwybodol hefyd fod Llywodraeth Cymru mewn anghydfod â deiliaid contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol. Mae ein meddygfeydd ar draws Cymru gyfan o dan lawer o bwysau hefyd, yn enwedig gyda chyfnod y gaeaf ar y gorwel, ac mae ein meddygon teulu a'r staff yn y meddygfeydd hynny yn gweithio'n anhygoel o galed. Yn amlwg, mae setliad wedi bod o'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol yn Lloegr, gyda mwy o gynnydd ym maint y cymorth nag sydd ar gael i feddygfeydd yma yng Nghymru. Mae hynny'n amlwg yn anfoddhaol i'r meddygon teulu. Ymwelais i â meddygfa gyda Gareth Davies yn Y Rhyl—Meddygfa Tŷ Madryn—sy'n cynnal gwasanaeth rhagorol ac sy'n ei ddarparu i lawer o bobl yn yr ardal honno, ond, yn amlwg, maen nhw'n chwilio am fwy. Ac mae angen setliad teilwng sy'n cydnabod y cyfraniad enfawr y mae'r meddygfeydd hynny'n ei wneud. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â'r mater penodol hwnnw, os gwelwch yn dda?
Diolch. Wel, nid wyf i'n anghytuno ag unrhyw beth y gwnaethoch chi ei ddweud am werth gwasanaethau yn ein llyfrgelloedd. Lle yr wyf i'n anghytuno â'r Aelod yw ei fod, yn amlwg, yn fater i bob awdurdod lleol. Maen nhw'n cael cyllideb gan Lywodraeth Cymru. Rydyn ni wedi rhoi'r setliad gorau iddyn nhw yr ydyn ni wedi gallu ei fforddio, oherwydd, yn amlwg, mae ein cyllideb werth £1.3 biliwn yn llai y flwyddyn nesaf, ar ôl iddi gael ei gosod yn 2021. Felly, rwy'n credu mai ymreolaeth i awdurdodau lleol, sy'n adnabod eu poblogaeth leol yn llawer gwell na ni, yw'r ffordd y dylen nhw wneud penderfyniadau ar y gwasanaethau cyhoeddus y maen nhw'n eu darparu ar gyfer eu poblogaeth.
O ran eich cwestiwn ynghylch meddygon teulu a chontract y Cyngor Meddygol Cyffredinol, unwaith eto, byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud o ran cwestiwn ynglŷn â chyflog meddygon iau y bydden ni eisiau rhoi mwy o gyllid i'n gweision cyhoeddus, ond, yn anffodus, mae'r holl gyllidebau wedi'u cwtogi a gallwn ni ond rhoi'r hyn y gallwn ni o'n cyllideb gyfyngedig hefyd.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Y datganiad cyntaf yr wyf i'n gofyn amdano yw'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu tai cydweithredol yng Nghymru. Fel sy'n hysbys, mae gan Gymru a gweddill Prydain lawer llai o dai cydweithredol na gorllewin Ewrop a gogledd America. Gyda phrinder tai, ni allwn ni fforddio anwybyddu unrhyw ddull o ddarparu tai.
Yn ail, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddyfodol papurau newydd lleol. Mae hysbysebu tai ar werth a cheir ar werth ar dudalennau atodol wedi diflannu, yn ogystal â swyddi gwag hefyd yn diflannu o bapurau lleol. Rwyf i eisiau tynnu sylw at bwysigrwydd hysbysiadau statudol o ran ariannu papurau lleol. Mae'n bwysig ein bod ni'n cefnogi papurau newydd lleol i sicrhau eu bod yn cyflogi digon o newyddiadurwyr fel y gallwn ni gael ein dwyn i gyfrif gan y newyddiadurwyr a gan y papurau newydd. Rwy'n ffodus i gael y South Wales Evening Post ardderchog sy'n ymdrin â fy etholaeth i, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gennym ni bapurau newydd lleol da.
Diolch. Wel, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi datblygu tai cydweithredol a thai o dan arweiniad y gymuned yng Nghymru. Gwyddom ni mai un o'r ffyrdd gorau o gynyddu'r ddarpariaeth yw rhoi cefnogaeth i'r rhai sydd â diddordeb mewn tai cydweithredol neu dai o dan arweiniad y gymuned. Mae ein cefnogaeth ni, drwy Cwmpas, wedi'i gynllunio i wneud yn union hynny, ac rwy'n falch fod Cwmpas yn gweithio gyda grwpiau ledled Cymru. Ac rwy'n gwybod bod un yn Abertawe, ac mae un hefyd ym Merthyr Tudful a Chasnewydd a sir Benfro. Drwy Cwmpas, rydyn ni wedi cynyddu cyllid refeniw i £180,000 am dair blynedd o 2022 hyd at 2024-25. Felly, byddwn ni'n parhau i gefnogi grwpiau tai cydweithredol a grwpiau tai o dan arweiniad y gymuned sy'n dymuno datblygu cartrefi newydd drwy'r grant tai cymdeithasol hefyd.
O ran eich cwestiwn ynghylch dyfodol papurau newydd lleol a hysbysiadau statudol, maen nhw wedi'u nodi yn y gyfraith. Ar adeg o gyfyngiadau enfawr mewn gwariant cyhoeddus, mae'n bwysig iawn ein bod ni bob amser yn ceisio'r gwerth gorau am arian, wrth sicrhau bod y cyhoedd yn cael gwybod am ddatblygiadau sy'n effeithio arnyn nhw yn eu hardaloedd lleol.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i elusennau a sefydliadau? Y rheswm yr wyf i'n gofyn yw bod Sparkle, elusen wirioneddol ryfeddol sy'n darparu cymorth i bron i 1,000 o blant a phobl ifanc gydag anableddau ac anghenion cymhleth ledled Gwent, yn wynebu cyfnod hynod ansicr a phryderus. Mae'r elusen yn gorfod adolygu'r gwasanaethau y mae'n eu darparu, sy'n cynnwys cyfleusterau hamdden, fel bod plant anabl yn gallu cael yr un cyfleoedd â phlant nad ydyn nhw'n anabl. Mae hyn o ganlyniad i faterion ariannu sylweddol a pharhaus, ac mae angen i Sparkle godi tua £750,000 bob blwyddyn i gynnal ei gwasanaethau cymorth a hamdden, ond mae gostyngiad yn ei gweithgareddau codi arian, wedi'i waethygu gan bandemig COVID a gostyngiad hefyd mewn cymorth grant, erbyn hyn yn golygu bod costau'r elusen yn fwy na'i hincwm. Mae adolygiad o'r holl wariant wedi digwydd ac mae mesurau arbed costau, fel rhewi recriwtio a dileu hyfforddiant nad yw'n orfodol, wedi'u cyflwyno, ond, Gweinidog, nid yw hyn yn ddigon. Felly, ni allaf i fynegi yn ddigon cryf yn fy ngeiriau fy hun pa mor bwysig yw Sparkle, ac, ar ôl ymweld â hi ar sawl achlysur, gallwch chi weld yn glir faint y mae'n ei olygu i'r plant a'u teuluoedd wrth y wên ar eu hwynebau. Ac rwy'n gwybod y gall fy nghyd-Aelodau Jayne Bryant a Julie Morgan dystio i hyn, ochr yn ochr ag AS Casnewydd Ruth Jones. Mae Sparkle yn cynnig cyfleoedd i deuluoedd, ac yn enwedig i blant, nad oes modd iddyn nhw eu cael yn unrhyw le arall, a byddai'n drychinebus gweld y gwasanaethau hyn yn cael eu colli. Mae ymgynghoriad ar y gweill i weld sut y gall yr elusen gynyddu ei hincwm drwy godi arian, ceisiadau grant, rhoddion corfforaethol. Ond, Gweinidog, a oes unrhyw gymorth, ariannol neu fel arall, y gall Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, ei ddarparu? Byddai datganiad gan y Llywodraeth i'r perwyl hwnnw i'w groesawu'n fawr. Diolch.
Diolch. Wel, nid wyf i'n amau pwysigrwydd yr elusen yr ydych chi'n cyfeirio ati. Mae gan bob un ohonom ni elusennau a sefydliadau'r trydydd sector yn ein hetholaethau sy'n darparu'r gwasanaethau hynny y mae mawr eu hangen. Ond, yn anffodus, rydyn ni'n mynd nôl at sefyllfa'r gyllideb. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, y mae'r mater hwn yn rhan o'i phortffolio wedi gweld ei chyllideb yn lleihau, yn amlwg, yn union fel pob Gweinidog arall yn Llywodraeth Cymru, er mwyn rhoi'r cyllid ychwanegol hwnnw ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Felly, mae gen i ofn, nid wyf i'n gwybod yr ateb i'ch cwestiwn. Byddwn i'n eich annog i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ond byddai rhybudd iechyd arno, yn amlwg, gyda'r sefyllfa gyllidebol bresennol, mae hi'n anodd iawn deall o ble y byddai hi'n gallu cael gafael ar y cyllid hwnnw.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os caf i, gennych chi, fel Trefnydd a'r Gweinidog materion gwledig, o ran rhai ymholiadau gan ffermwyr. Mae'r un cyntaf yn ymwneud a'r cynllun bwyd cynaliadwy, sy'n galluogi ffermwyr i arallgyfeirio. Cysylltodd cwpl o Aber-miwl â mi a oedd eisiau datblygu cynllun cynhyrchu dofednod a wyau cynaliadwy, a chawson nhw grant o dan y cynllun sbarduno bwyd. Yn anffodus, oherwydd oedi sylweddol, nid oedden nhw'n gallu tynnu'r holl gronfeydd i lawr, ond fe wnaethon nhw, yn amlwg, wario rhywfaint o'r arian—eu harian eu hunain—i ddatblygu'r cynllun. Mae'r cynllun, fel yr wyf i'n ei ddeall, wedi dod i ben erbyn hyn, ac mae'r ffermwyr arbennig hyn yn pryderu y bydd hynny'n golygu na fyddan nhw'n gallu cael y dewis o ddefnyddio arian o'r cynllun sbarduno bwyd yn y dyfodol pan fyddan nhw'n gallu cael caniatâd i ddatblygu'u cynlluniau cynaliadwy.
Mae'r ail o ran Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sydd, rwy'n deall, wedi ysgrifennu at ffermwyr ynghylch diwygiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y dreth gyngor. Mae hyn yn rhoi, yn anffodus, straen ychwanegol ar ffermwyr ar adeg anodd iawn, pan fyddan nhw'n ymdrin â llawer o ffurflenni a llawer o waith papur. Felly, tybed a wnewch chi egluro'r sefyllfa o ran ein ffermwyr ynghylch y ddau fater hynny. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Wel, o ran eich cwestiwn cyntaf ynghylch y cynllun sbarduno bwyd, yn amlwg, ni allaf i wneud sylw ar achosion unigol. Ond rwy'n credu y byddai'n well petaech chi'n ysgrifennu ataf i, a gofynnaf i fy swyddogion ymchwilio i'r achos yr ydych chi, yn amlwg, yn ymdrin ag ef fel gwaith achos, i weld beth yw'r rheswm y tu ôl i'r penderfyniadau yr ydyn ni'n eu cymryd.
O ran y llythyrau sy'n cael eu hanfon gan yr asiantaeth prisio tir, rwy'n credu mai'r peth cyntaf i'w ddweud yw na ddylai'r llythyrau hyn achosi braw i unrhyw un sy'n eu derbyn. Mae cael yr wybodaeth fwyaf cywir am bob eiddo ledled Cymru yn gwbl hanfodol i sicrhau bod gennym ni system dreth gyngor deg ac effeithiol. Felly, nid wyf i'n credu y dylai achosi unrhyw straen ar unrhyw un. Nid oes dim byd anghyfiawn am y peth. Mae hyn, yn amlwg, yn dilyn y datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch diwygio'r dreth gyngor—a dim ond rhan o hynny ydyw. Mae hi wedi gofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio ysgrifennu a gwneud y gwaith cefndirol hwn. Rwy'n credu mai treth gyngor decach yw un o'r camau mwyaf buddiol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i leihau anghydraddoldeb.
Gweinidog busnes, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Yn ddiweddar, yn eu cynllun trafnidiaeth leol drafft, roedd Cyngor Sir Fynwy sy'n cael ei redeg gan Lafur yn nodi cynnig i bwyso am ailgyflwyno tollau ar bont Hafren am resymau amgylcheddol—cynnig a gafodd ei ganmol yn ddiweddarach gan gyd-gynghorwyr Llafur mewn pwyllgor craffu ar wasanaethau cyhoeddus, ac wedyn fe gafodd hynny ei wadu. Fe fyddai'r cam hwnnw'n un trychinebus oherwydd wrth gwrs fe fyddai'n niweidio busnesau lleol—rhan o'r rheswm y gwelodd Llywodraeth y DU yn dda i gael gwared arnyn nhw—yn peri i fewnfuddsoddiad beidio â digwydd, yn atal twristiaid rhag dod i'm rhanbarth i o Gymru, ac fe fyddai cynllun y Blaid Lafur i adfer tollau ar bont Hafren yn dreth arall eto ar drigolion a busnesau sydd dan bwysau. Felly, fe hoffwn i'r Gweinidog roi datganiad yn nodi pa sgyrsiau a gafodd ef gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn, gan ei bod hi'n hanfodol i'r syniad hwn gael ei ladd yn yr egin cyn iddo fynd ymhellach.
Yn ogystal â hynny, fe hoffwn i gael ail ddatganiad, gan y Gweinidog addysg, os gwelwch chi'n dda, Gweinidog. Efallai y bydd teuluoedd yn sir Fynwy yn gorfod gwario £360 y flwyddyn ddim ond er mwyn i un plentyn gael mynd i glwb brecwast mewn ysgolion cynradd ar draws y sir. Ar hyn o bryd, y tâl i fynychu clwb brecwast yn sir Fynwy yw £1 y dydd y plentyn, ond mae cyllideb ddrafft y cyngor Llafur wedi cynnig dyblu hynny fel y byddai'n rhaid i rieni ddod o hyd i £2 y dydd ar gyfer pob plentyn sy'n mynychu'r clybiau cyn ysgol. Mae'r brecwast i fod am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Mae hwn wedi bod yn un o'ch polisïau hirsefydlog chi yn Llywodraeth Cymru. Felly, fe hoffwn i'r Gweinidog gyhoeddi datganiad ynglŷn â pha mor bwysig yw hi yng ngolwg y Llywodraeth nawr fod brecwast ar gael am ddim a pha effaith a fyddai tâl o £2 yn ei gael, yn enwedig ar deuluoedd incwm isel ledled Cymru. Diolch i chi.
Mae hi'n dda iawn gweld bod yr Aelod wedi dod o'r diwedd i gefnogi clybiau brecwast am ddim. Roeddwn i o'r farn fod y Ceidwadwyr yn gwrthwynebu'r rhain. Ni fydd yna ddatganiad i ailadrodd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i glybiau brecwast am ddim. Mae ein safbwynt ni'n adnabyddus iawn yn y cyswllt hwnnw.
O ran eich cwestiwn cyntaf, fy nealltwriaeth i yw mai arfarniad o ddewisiadau oedd hwnnw. Nid wyf i, unwaith eto, yn ei ystyried yn fater i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
Diolch i'r Trefnydd.
Mae eitem 3 wedi ei ohirio.
Felly, eitem 4 fydd nesaf, sef y datganiad gan y Gweinidog iechyd ar bwysau'r gaeaf mewn gofal iechyd. Eluned Morgan i wneud y datganiad yma.
Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i chi am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â phwysau'r gaeaf sydd ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol eleni. Mae hi'n bwysig nodi, er gwaethaf y cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau ar yr adeg hon o'r flwyddyn, fod y GIG yn parhau i wneud ei waith yn dda i'r mwyafrif llethol o gleifion. Mae staff y GIG yn cefnogi dros 2 filiwn o bobl bob mis, gan gynnwys 1.5 miliwn mewn gofal sylfaenol ac o leiaf 70,000 o alwadau bob mis i wasanaeth 111.
Mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn cael eu cyflogi yn y GIG yng Nghymru, gyda mwy o feddygon, nyrsys, staff ambiwlans a gweithwyr gofal iechyd cynorthwyol yn rhoi gofal o safon uchel bob dydd. Mae'r gwaith cynllunio ar gyfer y gaeaf yn dechrau ym mis Ebrill ar gyfer galluogi ymateb cyfunol, sy'n cynnwys y system yn ei chyfanrwydd. Eleni, fe ddyrannwyd £25 miliwn i gefnogi'r chwe nod ar gyfer y rhaglen i wella gofal brys ac argyfwng, gan ganiatáu cynnydd yng nghapasiti rhannau allweddol y system.
Cafodd 'GIG 111, Pwyso 2' ei gyflwyno ledled Cymru, ac mae hi'n werth nodi bod mwy na 400 o bobl wedi gallu cael cymorth brys gydag iechyd meddwl drwy gyfrwng y gwasanaeth hwn ym mis Rhagfyr. Rydym ni wedi sefydlu 13 o ganolfannau gofal sylfaenol brys newydd a chanolfannau llywio o bell newydd, a helpodd tua 10,000 o bobl y mis i gael gofal i ffwrdd o'r adran frys. Rydym ni wedi sefydlu 23 o wasanaethau gofal argyfwng yr un diwrnod, gan ddargyfeirio tua 5,000 o gleifion o'r ysbyty bob mis.
Y llynedd, buddsoddwyd £3 miliwn gennym ni hefyd mewn staff ambiwlans ychwanegol, gyda 76 o staff cyfwerth ag amser llawn ychwanegol yn cael eu recriwtio ers y gaeaf y llynedd. Y gaeaf eleni, fe ddarparwyd cyllid i gynyddu gallu i drefnu trafnidiaeth ar gyfer cleifion sydd wedi cael dod allan o adrannau brys, ac ar gyfer caniatáu hefyd i fyrddau iechyd gyflwyno'r gofal diweddaraf sy'n defnyddio technoleg i gefnogi pobl i allu osgoi mynd i mewn i ysbyty neu wrth iddyn nhw ddod adref o'r ysbyty mewn ffordd ddiogel pan fyddan nhw'n barod i wneud hynny.
Dros yr wythnosau diwethaf, fe ymwelais i â nifer o adrannau brys. Rwy'n gwybod yn iawn am y pwysau sydd ar y staff a pha mor galed y maen nhw'n gweithio i sicrhau bod pob claf yn cael profiad cadarnhaol. Fe wrandawais i ar gleifion ac ar staff, ac mewn ymdrech i gefnogi profiad gwell, mae adrannau brys ac unedau mân anafiadau wedi derbyn cyfran ychwanegol o £2.7 miliwn i wella eu hamgylcheddau dros gyfnod y gaeaf.
Uchelgais hirsefydlog polisi yw cefnogi mwy o bobl yn nes at y cartref. Rhoddwyd tua £8.24 miliwn i fyrddau iechyd a'u partneriaid rhanbarthol i gynyddu eu gallu i gynllunio, monitro a darparu gofal cymunedol gwell i bobl sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth yn ein cymunedau ni fel dewis diogel arall yn hytrach na derbyniadau i'r ysbyty. Hefyd, fe gynyddodd y cyllid y gallu sydd gan ein gweithlu nyrsio gofal lliniarol arbenigol ac ardal i ganiatáu gwasanaeth saith diwrnod yr wythnos sy'n fwy cydnerth.
Beth yw'r sefyllfa yn y system ar hyn o bryd? Dros gyfnod y Nadolig hyd y flwyddyn newydd, er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi profi galw parhaus nas gwelwyd ei debyg erioed ar ein gwasanaethau ni, fe gafodd y mwyafrif llethol o bobl ofal diogel ac mewn da bryd. Ond roedd clinigwyr yn awyddus i bwysleisio nad cynnydd yn y galw yn unig y maen nhw'n ceisio ymdopi ag ef; maen nhw'n sôn am gynnydd sylweddol yn yr achosion acíwt a chymhlethdodau o ran anghenion cleifion, sydd wedi arwain at rai sefydliadau yn datgan digwyddiadau o ran parhad busnes dros y tair wythnos diwethaf. Er enghraifft, yn ystod dyddiau cyntaf mis Ionawr, ymatebodd y gwasanaeth ambiwlans ar adegau hyd at 12 y cant yn uwch na'r rhagolygon uchaf o weithgaredd ambiwlansys. O ran natur y galw, roedd cynnydd yn nifer y bobl yn ffonio 999 gydag anawsterau anadlu a chleifion difrifol wael ag anghenion cymhleth ag angen iddyn nhw fynd i adrannau brys.
Fe gyhoeddais i fframwaith iechyd y cyhoedd ar gyfer feirysau anadlol ym mis Medi, a oedd yn nodi ein dull ni o ymateb i feirysau anadlol dros y gaeaf. Ar y cyfan, mae dangosyddion haint COVID-19 yn dal i fod yn sefydlog, ond ar lefel genedlaethol yn ystod yr wythnos adrodd ddiweddaraf fe gynyddodd nifer y derbyniadau achosion a gadarnhawyd i ysbytai a nifer yr achosion sy'n gleifion mewnol. BA.2.86 yw'r amrywiolyn mwyaf cyffredin yng Nghymru o hyd ac mae'n gyfrifol am 59.5 y cant o'r holl achosion a ddilyniannwyd.
Fe fu cynnydd yn nifer yr achosion o ffliw yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond ar gyfraddau cymharol fach o'i gymharu â thymhorau blaenorol, ac mae derbyniadau i'r ysbyty oherwydd ffliw wedi prinhau yn ystod yr wythnos adrodd ddiweddaraf. Yn unol â chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru, fe gyhoeddwyd rhybudd gan y prif swyddog meddygol i feddygon teulu ar 15 Rhagfyr i ysgogi argaeledd triniaeth wrthfeirysol ar gyfer y ffliw. Yn galonogol iawn, mae niferoedd hysbysiadau streptococol grŵp A ymledol a'r dwymyn goch yn parhau i fod ar gyfraddau disgwyliedig yn dymhorol, ac, yn dilyn uchafbwynt yn gynnar yn y gaeaf, mae gweithgaredd feirws syncytiol anadlol mewn plant o dan bump oed wedi lleihau.
Rŷn ni'n dal i fuddsoddi er mwyn monitro unrhyw newidiadau yn y nifer o achosion o firysau, a hynny i gefnogi'r broses o gynllunio. Brechu yw un o'r ffyrdd mwyaf diogel ac effeithiol o ddiogelu ein dinasyddion a'n gwasanaeth iechyd, a dwi'n falch iawn bod 1.6 miliwn o frechiadau rhag y ffliw a COVID wedi cael eu rhoi yng Nghymru fel rhan o'r rhaglen bresennol, gan roi'r cyfle i bobl sy'n wynebu'r risg fwyaf o salwch difrifol i gael eu diogelu.
Mewn fferyllfeydd, roedd cynnydd sylweddol o tua 50 y cant yn y defnydd o’r gwasanaeth anhwylderau cyffredin. Cafodd y gwasanaeth yma ei ddefnyddio dros 25,000 o weithiau ym mis Rhagfyr 2023.
Mae gwybodaeth gan y gwasanaeth iechyd hefyd yn dangos bod perfformiad y gwasanaeth 111 wedi parhau i fod yn gadarn dros gyfnod yr ŵyl; bod y gwasanaeth ambiwlans yn ymateb i nifer uchel iawn o bobl y mae eu bywyd yn y fantol; ac, er bod amrywiaeth yn y data, bod byrddau iechyd yn rhyddhau mwy o ambiwlansys i ymateb yn gynt i bobl sy’n aros.
Mae'r wybodaeth yma'n galonogol ac yn awgrymu bod paratoi a chynllunio ar gyfer y gaeaf wedi cael effaith gadarnhaol. Mae arwyddion bod pethau'n gwella'n raddol o hyd wrth inni nesáu at ganol y mis. Er hynny, rŷm ni'n dal i weld rywfaint o oedi hir ar gyfer gofal yn y gymuned ac o ran derbyn cleifion i'r ysbyty o adrannau achosion brys. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i faterion sy'n ymwneud â llif cleifion a heriau o ran rheoli heintiau, sy'n cyfyngu ar y gwelyau a'r gofod sydd ar gael. Wedi dweud hynny, rŷm ni wedi gweld gostyngiad o tua 60 y cant yn yr oedi cyn dyrannu gweithwyr cymdeithasol, o'i gymharu â'n llinell sylfaen ym mis Ebrill.
Ar ben hynny, mae dadansoddiad o ddata dŵr gwastraff wedi dangos lefel uchel o norofeirws yn y gymuned. Dylai byrddau iechyd fod yn gweithredu canllawiau atal a rheoli heintiau i atal lledaeniad a diogelu ein llwybrau cleifion dros y gaeaf.
Yn amlwg, rydym ni'n disgwyl effaith sylweddol oherwydd streiciau'r meddygon iau'r wythnos hon. Er ein bod ni'n deall yr angerdd ymhlith meddygon iau ac yn wir werthfawrogi'r gwaith y maen nhw'n ei wneud ar y rheng flaen, mae hi wedi bod yn amhosibl i ni gynnig mwy na 5 y cant o gynnydd yn eu cyflogau eleni. Mae 5 y cant wedi bod yn eu pecynnau cyflog ers mis Medi a dyna'r un cynnig a gafodd pawb arall yn y gwasanaeth iechyd. Er ei bod hi'n wir fod y cynnig eleni yn llai na'r hyn a gynigiwyd i feddygon iau yn Lloegr—6 y cant—fe ddylid nodi mai dim ond cynnydd o 2 y cant a roddodd Lloegr y llynedd, tra ein bod ni yng Nghymru wedi dyfarnu cynnydd o 6 y cant yma ynghyd â thaliad untro ychwanegol o 1.5 y cant i feddygon iau.
Er ein bod ni'n awyddus i weithredu adferiad o ran tâl i'r meddygon iau, eleni, gyda'r pwysau ariannol eithafol ar ein cyllidebau ni, ni fu hi'n bosibl cynnig mwy na'r 5 y cant hwnnw. Mae byrddau iechyd wedi gweithio yn galed i sicrhau diogelwch cleifion a sicrhau bod gofal argyfwng a brys yn cael ei ddiogelu. Serch hynny, fe wyddom ni y bydd amharu sylweddol ar ofal a gynlluniwyd. Ddoe, fe gafodd tua 6,500 o apwyntiadau cleifion allanol eu canslo—fel arfer, mae tua 14,000 o apwyntiadau cleifion allanol bob dydd—ac ar ben hynny, fe gafodd tua 400 o lawdriniaethau eu canslo, gyda thua 1,300 yn cael eu cynnal fel arfer. Ond fe hoffwn i sicrhau cleifion na fyddan nhw'n cael eu hanfon i gefn y ciw gan fyrddau iechyd ac y bydd ymdrechion yn cael eu gwneud i aildrefnu'r apwyntiadau hynny cyn gynted â phosibl.
Yn y cyfamser, mae byrddau iechyd yn parhau i fod o dan bwysau mawr mewn perthynas ag oedi mewn llwybrau gofal o'r ysbyty i'r gymuned, ond mae tystiolaeth o weithio integredig rhwng y byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn lleddfu'r pwysau. Rŷm ni eisoes wedi gweld gostyngiad yn y ffigurau oedi cyffredinol ers inni ddechrau adrodd yn ffurfiol ar hyn fis Ebrill diwethaf.
Er bod y pwysau ar wasanaethau wedi bod yn aruthrol, mae llai o weithwyr iechyd allweddol wedi bod yn absennol o'r gwaith y gaeaf yma oherwydd y ffliw a COVID, ac mae hynny wedi helpu gyda chadernid y system.
Yn olaf, mae gofal sylfaenol yn dal i fod yn brysur, ond mae'r galw'n cyd-fynd â phatrymau arferol y gaeaf. Does dim cynnydd wedi bod tu hwnt i'r lefelau uchel rŷm ni'n eu gweld yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae trefniadau monitro parhaus ar waith i gefnogi meddygfeydd i ddarparu gwasanaethau dros y gaeaf, ac fe fyddaf i'n parhau i roi gwybod i'r Aelodau am y sefyllfa wrth i'r gaeaf fynd yn ei flaen. Diolch.
Diolch yn fawr, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Fe hoffwn i ddiolch ar goedd i staff gweithgar y GIG ledled Cymru mewn cyfnod anodd iawn iddyn nhw dros y gaeaf. Wrth gwrs, fe fydd yna bryderon a mwy o ofid iddyn nhw ar yr adeg arbennig hon o'r flwyddyn. Wrth gwrs, mae'r datganiad hwn gennym ni heddiw yng nghyd-destun bod un o bob pump o bobl ar restr aros y GIG a bod dros 25,000 o bobl o hyd yn aros am ddwy flynedd am driniaeth—yn arbennig felly, wrth gwrs, y bobl sy'n disgwyl mewn poen am ragor o amser, gyda rhagor o boendod hefyd.
Gweinidog, yn eich datganiad chi heddiw, roeddech chi'n sôn bod arian ar gael ar gyfer monitro gofal sylfaenol, ond rwy'n awyddus i weld proses symlach ar gyfer monitro cyffredinol ledled y GIG hefyd. Er enghraifft, yn GIG Lloegr, mae adroddiad dyddiol yno o sefyllfa'r GIG sy'n monitro nifer y gwelyau ar gael, niferoedd mewn gofal critigol, cau a dargyfeiriadau adrannau damweiniau ac achosion brys, gwelyau yn cael eu llenwi gan gleifion arhosiad hir, derbyniadau oherwydd ffliw, ac ati. Felly, a gaf i ofyn i chi pa ystyriaeth a ydych chi wedi ei rhoi i ehangu eich prosesau monitro? Beth a wnaethoch chi ei ystyried o ran dull cyffelyb yma? Roeddwn i'n crybwyll GIG Lloegr, wrth gwrs, ond mae effaith pwysau'r gaeaf yma. Rydych chi'n dweud yn aml, Gweinidog, eich bod chi'n awyddus iawn i ddal y byrddau iechyd i gyfrif. Drwy fod ag adroddiad monitro fel hwnnw, fe fyddwn i'n awgrymu y byddech chi'n gallu gwneud hynny'n well.
Rwy'n falch eich bod chi, Gweinidog, yn eich datganiad wedi sôn am feirysau COVID, ffliw ac anadlol. Fe wnaethoch sôn am frechiadau ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed, a sôn bod 1.6 miliwn wedi cael y brechiadau ffliw a COVID eleni. A wnewch chi roi ychydig mwy o fanylion i ni ynglŷn â hynny, ac efallai'r niferoedd sy'n manteisio arnyn nhw, o ran canran y rhai sy'n gymwys i gael y brechiadau? Rwy'n credu y byddai hynny o fwy o ddefnydd i ni. Ac yn arbennig hefyd o ran yr hyn y gellid ei wneud i gynyddu'r niferoedd sy'n elwa ar hynny, oherwydd roeddech chi eich hun yn dweud yn eich datganiad mai'r ffordd orau o gadw pobl sydd yn y categori bregus hwnnw'n ddiogel yw derbyn brechiad. Ac, wrth gwrs, fe fyddai hynny wedyn yn ysgafnu'r pwysau ar y GIG, sef holl ddiben datganiad heddiw.
Rwy'n awyddus iawn i wybod beth rydych chi'n ei wneud, Gweinidog, i roi'r ddau frechiad ar gyfer ffliw a COVID gyda'i gilydd. Rwy'n gwybod y gall hynny fod yn anodd oherwydd amserlenni cyflenwad amrywiol, ond lle bo hynny'n bosibl, a wnewch chi roi rhywfaint o wybodaeth i ni o ran a yw pobl yn gallu cael y ddau frechiad ar yr un pryd ac ar yr un safle? A pha sgyrsiau a gawsoch chi hefyd gyda chydweithwyr ledled y DU efallai, eich prif swyddog meddygol, a chwmnïau fferyllol am y cynnydd tuag at frechiad cyfun, oherwydd rwy'n credu y byddai hynny'n cynyddu'r niferoedd sy'n manteisio hefyd.
Rwy'n falch eich bod wedi sôn am y mater na ellir mo'i anwybyddu, Gweinidog—streiciau'r meddygon iau. Fe es innau allan, fel gwnaeth cyd-Aelodau eraill o amgylch y Siambr hon, amser cinio heddiw i siarad â rhai o'r 450 o feddygon iau a oedd yn y brotest honno. Roedd ymdeimlad o anobaith yn eu plith nhw. Rwy'n siomedig nad oeddech chi'n gallu cynnig y gyfradd gyflog leiaf a argymhellodd y corff adolygu. Fe wnaethoch chi fanylu ar effaith y streiciau hynny yn eich datganiad chi heddiw, ond oni bai y ceir datrysiad, mae'r tebygolrwydd yn fawr iawn y bydd streiciau eraill eto, felly tybed a wnewch chi nodi pa gynlluniau wrth gefn sydd gennych ar waith fel arall ynglŷn â hyn. Ond, yn y pen draw, beth yw eich cynllun chi i ddod â'r streiciau hyn i ben?
Gweinidog, roeddech chi'n sôn hefyd am wella amseroedd aros. Ni chyflawnwyd y nod ar gyfer gwelliant o ran byrhau amseroedd aros cleifion allanol hyd at lai na 52 wythnos erbyn mis Rhagfyr 2022. Ni chyflawnwyd y nodau diwygiedig ar gyfer mis Rhagfyr 2023. Ni chyflawnwyd y nodau o ran amseroedd aros dwy flynedd o fis Mawrth 2023. Mae 25,000 o bobl gennym ni'n aros fel hyn yng Nghymru o hyd. Rwy'n tybio, Gweinidog, y cwestiwn yw pryd y byddwn yn cael y nodau diwygiedig ar gyfer y meysydd hynny. Os nad ydych chi'n credu bod nodau yn briodol, pam wnaethoch chi bennu nodau yn y lle cyntaf? Fe hoffwn i ddychwelyd at eich dihareb chi: rydych chi'n dweud yn aml eich bod chi'n awyddus i ddal y byrddau iechyd i gyfrif. Yn sicr, nodau yw'r ffordd i wneud hynny. Felly, pryd fyddwn ni'n gweld y nodau diwygiedig hynny? A pha effaith yn eich barn chi, Gweinidog, y bydd buddsoddi'r £170 miliwn ar gyfer gwella gofal a gynlluniwyd yn ei gael o ran cyflymu at y nodau gydag adfer gofal a gynlluniwyd?
Yn olaf, Gweinidog, fe glywais i'r ymryson heddiw rhwng Andrew R.T. Davies a'r Prif Weinidog, a oedd yn nodi nad oedd adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn eglur iawn yn y rhagair hwnnw, yn nodi unrhyw dystiolaeth bod strategaethau a mentrau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phwysau mewn lleoliadau gofal iechyd acíwt ag unrhyw effaith ar y rheng flaen. Mae hwnnw'n ddatganiad o bwys a wnaethpwyd mewn rhagair i adroddiad. Beth yw eich ymateb chi i'r elfen benodol honno yn yr adroddiad? Sut ydych chi am fonitro, gwerthuso ac asesu'r effaith y mae'r mentrau hyn yn ei chael ar y rheng flaen i sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei wario gydag effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd?
Diolch yn fawr iawn i chi. Yn amlwg, mae hwn yn gyfnod o bwysau eithafol heb sôn am unrhyw streiciau, felly, yn amlwg, rydym ni wedi cynllunio llawer iawn ar gyfer y gaeaf beth bynnag, ond fe allaf i eich sicrhau chi, o ran monitro, fy mod i ar hyn o bryd yn cael tri diweddariad y dydd o ran yr hyn sy'n digwydd yn y GIG ledled Cymru. Felly, mae'r monitro hwnnw'n digwydd yn rheolaidd dros ben. Rwy'n falch o ddweud, ynglŷn â materion fel oedi wrth drosglwyddo gofal, mai un o'r elfennau sydd gennym nawr yw'r dull Cymru gyfan. Fe wyddom ni'n union pam mae pobl yn yr ysbyty, ac mae'r cyfan wedi cael ei godio—nid wyf i'n credu bod honno'n system sydd ganddyn nhw yn Lloegr—felly fe allwn ni fanylu llawer iawn ar rai o'r elfennau hynny. Felly, fe allaf i eich sicrhau chi bod llawer iawn o fonitro yn digwydd gan Weithrediaeth GIG Cymru a chan fy swyddogion ac rydym ni'n herio'r system trwy'r amser.
O ran y niferoedd sy'n cael eu brechu, fe allaf i ddweud wrthych chi, hyd yn hyn, yn y categori 65 a hŷn, bod 74 y cant o bobl wedi cael eu brechiad rhag y ffliw. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud ein bod yn siomedig bod staff y GIG sydd â chysylltiadau uniongyrchol â chleifion ar gyfradd o ddim ond 41 y cant. Felly, mae hi'n siomedig iawn i weld hynny. Ac rwy'n siomedig hefyd fod nifer y bobl sydd mewn perygl clinigol—41 y cant yn unig yn manteisio.FootnoteLink Felly, rydym ni'n annog pobl i ymgyflwyno. Mae'r cyfle yno o hyd. O ran COVID, cafodd 85 y cant o breswylwyr cartrefi gofal eu brechu, a 69 y cant o blith pobl 65 a throsodd. Dim ond—yn siomedig iawn unwaith eto—33 y cant o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, rheng flaen, sydd wedi manteisio ar y cyfle hwnnw. Felly, unwaith eto, rydym ni'n eu hannog nhw i achub ar y cynnig hwn, oherwydd mae honno'n weithred ataliol, sy'n ysgafnu'r pwysau sydd ar y gyfundrefn.
O ran cael y brechiadau gyda'i gilydd, yn amlwg rydym ni'n aros i'r grŵp arbenigol yn y DU ddyfeisio'r brechlyn newydd hwnnw. Mae hyn yn amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru o ran a yw pobl yn cael y brechiadau hynny ar yr un pryd. Mae rhai ardaloedd lle mae'r meddygon teulu yn arwain gyda'r brechiadau ffliw yn benodol. Felly, dyna pam mae hyn yn cael ei wneud ar wahân, ac rydym yn rhoi cyfle iddyn nhw wneud y penderfyniadau hyn ar lefel leol.
O ran y gweithredu diwydiannol, rydym ni'n deall rhwystredigaeth y meddygon yn llwyr. Rydym ninnau'n rhwystredig o ran y dirywiad enfawr sydd wedi bod gyda'r cyllid a ddaeth oddi wrth Lywodraeth y DU mewn termau real. Rydym ni'n siomedig nad ydym ni wedi gallu cyflawni argymhellion y corff adolygu cyflogau, ond, fel dywedais i, fe aethom ni lawer ymhellach y llynedd na'r hyn a ddigwyddodd yn Lloegr o ran y cynnydd hwnnw. Rwy'n awyddus iawn i barhau i siarad â Chymdeithas Feddygol Prydain, nid yn unig o ran y meddygon iau, ond hefyd o ran y meddygon ymgynghorol a'r meddygon arbenigol a chysylltiedig, a fydd yn mynd allan i bleidleisio yn fuan iawn hefyd. Rwy'n credu ei bod hi'n debyg y bydd angen i ni negodi cytundeb newydd, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n gobeithio y byddwn yn gallu ei roi gerbron yn y dyfodol.
O ran y targedau rhestrau aros, wel, mae'n debyg iawn eich bod wedi gweld adroddiadau'r wythnos hon nad yw'r targedau wedi eu cyrraedd yn unrhyw fan yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n siomedig i ni gyd, ac yn amlygu'r ffaith hefyd, mewn gwirionedd, mai'r hyn a welsom ni yw cynnydd aruthrol fawr yn y galw. Felly, cyn gynted ag y byddwch chi'n tynnu pobl i ffwrdd, rydych chi'n gweld y cynnydd enfawr yn y galw, ac yn amlwg mae hi'n ddiddorol nodi bod y cynnydd yng Nghymru wedi cynyddu 1 y cant, ac wedi cynyddu 6 y cant yn Lloegr. Rydym ni wedi pennu targedau newydd ac effeithiol. Un ohonyn nhw oedd ceisio sicrhau y byddai 97 y cant o bobl wedi cael eu triniaeth—y rhai sydd wedi aros am dros ddwy flynedd—erbyn diwedd y flwyddyn galendr. Felly, rydym ni'n aros am y data diweddaraf i weld a ydym ni wedi cyrraedd y targed hwnnw. Felly, rydym ni'n gobeithio y byddwn yn llwyddo. Yn amlwg, rhan o'm gwaith i yw gyrru'r system. Rwy'n cael cyfarfodydd bob pythefnos gyda'm staff i wthio o ran yr amserodd aros hwyaf: 'Beth sy'n digwydd?', 'Ym mha le y mae'r trafferthion?' Rydym ni'n archwilio yn ddwfn bob pythefnos i sicrhau ein bod ni'n hofran uwchben y byrddau iechyd, ac yn amlwg mae'r £170 miliwn wedi bod o gymorth yn hynny o beth.
O ran adroddiad AGIC, yn amlwg, fe fyddwn ni'n trafod hwnnw gyda rhagor o fanylder yfory, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nodi pe na fyddem wedi rhoi mesurau ar waith fel canolfannau gofal sylfaenol brys, sydd wedi cyfeirio cymaint o bobl oddi wrth ein hadrannau brys, systemau Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod newydd, y system 111, sydd wedi dargyfeirio 70,000 o bobl oddi wrth y gwasanaethau arferol, y gwasanaeth 'GIG 111, Pwyso 2', y gwasanaeth fferylliaeth—. Nid yw'r holl bethau hyn wedi cael eu cydnabod, yn fy marn i, y ffordd y dylen nhw fod wedi cael eu cydnabod yn yr adroddiad hwn.
Does dim llawer o bethau yn sicrach, pan fo’n dod i bolisi iechyd cyhoeddus, na’r ffaith bod misoedd y gaeaf yn dwysau'r pwysau ar wasanaethau iechyd. Mae’n siom, felly, ein bod ni eleni, fel llynedd, yn clywed y Llywodraeth yn gwneud datganiad yn sôn am statws pethau ar ôl i bethau ddechrau ymddatod yn hytrach na chynllun cadarn ar gyfer gweithredu sydd wedi cael ei ddatblygu a’i drafod ymhell o flaen llaw. Wrth gwrs, mae’r Gweinidog yn gwrthwynebu hyn ac yn dweud eu bod nhw wedi dechrau paratoi ar gyfer y gaeaf nôl ym mis Ebrill. Os felly, pam yr ydym ni unwaith eto yn canfod ein hunain mewn sefyllfa ble mae wardiau yn cau a chleifion yn aros mewn ambiwlansys am oriau oherwydd heintiau sydd yn gysylltiedig â’r gaeaf? Mae’n rhaid bod rhywbeth mawr o’i le.
Canlyniad anochel y cynllunio sâl yma ydy gwasanaeth iechyd sydd yn gwegian, fel yr ydym ni wedi'i weld yn ddiweddar yn Ysbyty Treforys ac Ysbyty Maelor Wrecsam. Yn wir, roedd gen i etholwr, yn ddiweddar, oedd wedi gorfod aros deuddydd yn yr ambiwlans y tu allan i’r Wrecsam Maelor, a chysgu dros nos yn yr ambiwlans hwnnw, oherwydd norofeirws. Ai dyma ganlyniad yr whole-system approach mae'r Gweinidog yn sôn amdano? Rŵan, os ydy’r Llywodraeth o ddifrif am fynd i’r afael â phwysau gaeafol, yna y gwir ydy fod yn rhaid llenwi'r swyddi gwag sydd yn y maes nyrsio. Mae yna bron i 3,000 o swyddi nyrsio gweigion yng Nghymru. Heb y nyrsys yma, yna mae yna bwysau anferthol yn cael eu rhoi ar wasanaethau cymunedol a gwasanaethau ar lawr ward ein hysbytai, ac, heb hyn, yna mae heintiau yn fwy tebygol o ledaenu yn yr ysbytai sydd yn orlawn gennym ni. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog: beth ydy cynlluniau'r Llywodraeth i lenwi'r swyddi nyrsio gwag yma?
Dwi'n nodi, yn yr ateb i Russell George rŵan hefyd, fod y Gweinidog wedi dweud ei bod hi'n awyddus i edrych ar y rhestrau aros, a'r rhai sydd wedi aros hiraf. Oni fyddai'n gallach edrych ar y rhai mwyaf anghenus sydd yn aros am driniaeth, yn hytrach na'r rhai hynny sydd yn aros am amser maith? Gall rhywun aros dwy flynedd yn eisiau triniaeth, ond rhywun aros chwe mis yn eisiau triniaeth brys iawn. Felly, onid gwell fyddai mynd ar ôl y rhai brys mwyaf anghenus?
Yn amlwg, mae'r Llywodraeth yn ymwybodol o raddfa'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r mathau hyn o glefydau yn ystod y gaeaf. Er enghraifft, roedd modelu gwyddonol y Llywodraeth ei hun, y llynedd, yn dangos bod bron i 15,000 o dderbyniadau i ysbytai Cymru oherwydd ffliw tymhorol a niwmonia. Felly, pam nad yw'r Llywodraeth wedi cynllunio cynllun gaeaf penodol ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol ers 2021-22?
Gadewch i ni droi at fater arall sy'n hysbys: y berthynas rhwng oerfel a chanlyniadau iechyd andwyol. Mae gostyngiad tymheredd o 1 gradd yn gysylltiedig â chynnydd o 5 y cant mewn salwch anadlol, cynnydd o 3 y cant mewn marwolaethau o glefydau anadlol, a chynnydd o 2 y cant mewn clefyd cardiofasgwlaidd ymhlith pobl dros 65 oed. Fe wyddom ni hefyd fod 30 y cant o farwolaethau ychwanegol yn digwydd yn y gaeaf oherwydd tai oer, ac mae'r GIG yn gwario o leiaf £2.5 biliwn y flwyddyn yn trin pobl â salwch sy'n uniongyrchol gysylltiedig â byw mewn cartrefi oer, llaith a pheryglus. Am y rheswm hwn, rwy'n ei chael hi'n anfaddeuol nad yw'r Llywodraeth wedi gweithredu ei rhaglen Cartrefi Clyd wedi'i diweddaru eto, dros 18 mis ar ôl i argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar y mater hwn gael eu cyhoeddi gyntaf.
Pan fyddaf i'n sôn am frys annigonol o ran yr agenda ataliol, mae hon yn enghraifft glasurol. Am eu bod hi'n llusgo traed o ran unrhyw fesurau i gryfhau cydnerthedd hirdymor iechyd y cyhoedd yng Nghymru, mae'r Llywodraeth hon yn gorfod ymrwymo mwy fyth o adnoddau i gyllideb fwyfwy gyfyngedig i ddatrysiadau dros dro a byrdymor. Beth fu'r gost i'r gwasanaeth iechyd o ganlyniad i fethiant y Llywodraeth hon i weithredu'r rhaglen Cartrefi Clyd mewn pryd ar gyfer y gaeaf eleni?
Yn olaf, fe hoffwn i fyfyrio ar effeithiau pwysau'r gaeaf ar staff y GIG. Fel soniais i sawl gwaith yn y Siambr hon, heb ei llengoedd ymroddedig o staff, nid yw'r GIG o unrhyw werth. Dyna pam roeddwn i'n falch o fod yn sefyll ar y llinellau piced gyda meddygon iau tu allan i Ysbyty Maelor fore ddoe, ac unwaith eto ar risiau'r Senedd yn gynharach y prynhawn yma. Mae'r galwadau am wrthdroi dros ddegawd o erydiad cyflogau yn gyfiawn ac yn haeddu cael eu clywed. Ni allwch chi ddisgwyl iddyn nhw ymdopi â llwyth gwaith sydd wedi mynd yn drymach eto hyd yn oed, yn enwedig yn ystod y gaeaf, am lai o arian mewn termau real.
Rwy'n gwybod hefyd na fydd y penderfyniad i gychwyn streicio wedi cael ei wneud yn ddifeddwl. Mae clust fyddar wedi cael ei throi at eu rhybuddion nhw ynglŷn â chyflwr y gweithlu a'r cysylltiad â phwysau'r gaeaf dros nifer o flynyddoedd. Ac mae'r ffaith bod cefnogaeth i'r dewis olaf hwn o streicio wedi dod oddi wrth fwyafrif llethol o blith Cymdeithas Feddygol Prydain yn dangos i ba raddau y mae eu haelodau nhw'n teimlo nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn cael eu tanbrisio. Fe fyddai hi'n gwbl anghyfrifol ac anonest i'r Llywodraeth geisio dodi'r bai am y problemau yr ydym ni'n eu gweld heddiw gyda'r amseroedd anoddaf erioed yn y GIG ar weithwyr sy'n streicio.
Felly, i sicrhau bod y trafodaethau'n mynd yn ôl ar y trywydd iawn ac yn gallu dod i gasgliad boddhaol cyn gynted â phosibl, a wnaiff y Gweinidog gydnabod heddiw mai symptom anochel o bwysau'r gaeaf cynyddol ar y GIG yw'r streiciau hyn ac nid ffynhonnell y pwysau? Ac a wnaiff y Gweinidog gytuno i ail-drafod a dychwelyd at y bwrdd i siarad gyda Chymdeithas Feddygol Prydain cyn gynted ag y bo modd?
Diolch yn fawr iawn. Dwi eisiau cadarnhau ein bod ni wedi bod yn paratoi, fel roeddech chi'n ei ddweud, ymhell o flaen llaw ar gyfer y gaeaf, ond beth rŷm ni'n ei wneud yw sicrhau dydyn ni ddim yn cael cynllun ar wahân ar gyfer y gaeaf ond fod hwn yn cael ei baratoi. Does dim pwynt dechrau cael cynllun ar wahân os nad ŷch chi yn dechrau paratoi ym mis Ebrill, achos dyw e jest ddim yn barod os ŷch chi'n wneud e yn hwyrach.
Mae'n wir bod rhai wardiau yn sicr wedi cael eu heffeithio gan norofeirws, a mae hwnna yn sicr wedi effeithio ar gogledd Cymru, ac rŷm ni wedi gweld pobl yn gofyn i bobl beidio â dod mewn i ymweld â phobl yn yr ysbytai. A dwi'n meddwl mai dyna'r peth iawn i'w wneud; mae'n rhaid inni sicrhau ein bod ni'n ceisio atal yr heintiau yma yn ein hysbytai ni.
Jest o ran llenwi swyddi gwag, wrth gwrs, rŷm ni wedi recriwtio lot fawr o nyrsys ychwanegol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd hi'n dda i glywed, wrth i mi ymweld â lot o ysbytai dros y flwyddyn newydd, bobl ar y rheng flaen yn sôn eu bod nhw wedi torri lawr lot nawr ar weithwyr asiantaeth a'u bod nhw wedi recriwtio mwy o nyrsys i fod yn barhaol yna. Felly, mae hwnna'n help. Wrth gwrs, mae rhai o'r rheini yn newydd a ddim cweit â'r un profiad â phobl eraill, ond mi ddaw hynny mewn amser. Ac o ran beth rŷm ni'n ei wneud i wella'r sefyllfa, wrth gwrs, rŷm ni'n hyfforddi yn fwy nag erioed o'r blaen, a dechrau mis Mawrth fyddaf i'n mynd mas i Kerala i ofyn am recriwtio mwy ac i gwrdd â'r Llywodraeth yna i geisio cael mwy o'r rheini i ddod—nyrsys sy'n hynod o dda—o India i ddod yma i weithio gyda ni yng Nghymru.
O ran y ffliw, rŷch chi'n eithaf iawn ein bod ni yn gweld mwy o bobl, ac os yw'r tymheredd yn gostwng wedyn mae'n effeithio ar y ffordd mae pobl yn anadlu. A dyna un o'r rhesymau pam mae'n siomedig i weld does dim mwy o bobl wedi cymryd y cyfle i gymryd y vaccination ar gyfer y ffliw.
Jest o ran pwy sydd â'r cyfrifoldeb, rŷm ni'n hollol glir bod cyfrifoldeb ar draws y Llywodraeth i gynllunio ac i ystyried iechyd, a dyna pam ar hyn o bryd mae yna consultation allan ar yr health impact assessment i sicrhau bob tro fydd unrhyw beth yn cael ei ystyried o ran polisi newydd, mi fydd hynny gydag ongl iechyd yn cael ei ystyried. Felly, wrth gwrs, fe fydd y Warm Homes programme yn rhan o hynny. Ac, wrth gwrs, un o'r pethau mae'n rhaid ichi ystyried yw, os ŷch chi moyn mwy o arian i mewn i'r Warm Homes programme, o ble rŷch chi'n mynd i dynnu hynny oddi wrtho? Mae'n rhaid inni jest gael y balans yn iawn rhwng y prevention a'r holl bethau eraill rŷm ni'n trio eu hystyried ar hyn o bryd.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
O ran y streiciau, yn amlwg rydym ni'n siomedig bod y meddygon iau wedi penderfynu cymryd y camau a wnaethon nhw, ond rydym ni'n deall pam; rydym ni'n deall y rhwystredigaethau. Ac yn wir, rydym ninnau'n teimlo yn rhwystredig oherwydd y diffyg arian ychwanegol oddi wrth Lywodraeth y DU. Yn amlwg, rwy'n deall y byddech chi'n dymuno bod ar y rheng flaen, ond rwy'n gobeithio y bydden nhw'n eich herio chi ynglŷn â'r meysydd y byddech chi'n cwtogi arnyn nhw. Pe byddech chi'n mynd i ddod o hyd i'r arian ychwanegol hwnnw, ym mha le y byddech chi'n dod o hyd i'r arian ychwanegol hwnnw? Gan mai'r unig le arall y gallai hwnnw ddod ohono o hyn ymlaen yw'r gyllideb iechyd ei hun, ac nid wyf i'n gwbl siŵr y byddai'r cyhoedd yn diolch i ni, na Chymdeithas Feddygol Prydain yn wir, pe byddem ni'n dechrau cwtogi ar rannau eraill o'r gyllideb iechyd.
Fe gwrddais i â Chymdeithas Feddygol Prydain ddydd Iau diwethaf. Rwyf i bob amser yn agored i gwrdd â nhw i weld a allwn ni gyrraedd sefyllfa well yn hyn o beth. Yn amlwg fe fyddai ceisio setlo'r streic cyn gynted ag y bo modd yn fuddiol iawn i bob un ohonom ni.
Diolch i chi, Gweinidog, am y gwaith caled anhygoel yr ydych chi'n ei wneud, ac i holl staff y GIG sydd wedi gweithio mor galed i ymateb i'r galw a'r cymhlethdod cynyddol.
Yn gyntaf, roeddwn i'n dymuno gofyn am eglurhad ynglŷn â chyfanswm yr arian a gynigiodd Lloegr i'w meddygon, sydd, rwy'n credu, yn cyrraedd hyd at 8.8 y cant. A gafodd Cymru swm canlyniadol sy'n adlewyrchu'r cynnig hwnnw a dalwyd i feddygon GIG Lloegr, ac os felly, a wnewch chi egluro pam nad yw hi'n bosibl talu swm tebyg i'n meddygon ni? Efallai fod hynny'n adlewyrchu'r ffaith eich bod wedi talu mwy o arian iddyn nhw'r llynedd. Beth bynnag, mae hi'n bwysig iawn i ni glywed am y toriad o ran staff asiantaeth a swyddi mwy sylweddol—rwy'n croesawu hynny'n fawr.
Roeddwn i'n awyddus i ofyn i chi am rywbeth y darllenais amdano ychydig cyn y Nadolig, na chafodd y cyhoeddusrwydd y mae'n ei haeddu o ganlyniad i hynny, sef fod papur newydd cenedlaethol wedi adrodd am dros 800,000 o gleifion yng Nghymru a Lloegr yn cael eu derbyn mewn ysbyty oherwydd camfaethiad a diffygion maethol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roeddech chi'n sôn am y galw acíwt a'r cymhlethdod cynyddol yn eich datganiad, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oeddech chi wedi clywed unrhyw adroddiadau am hynny, oherwydd mae hynny'n amlwg yn rhywbeth y mae angen i ni weithredu mewn ffordd ragweithiol arno, nid yn unig yn y gaeaf—digwyddiad "byth" yw hwnnw, fel mynegodd yr Athro Hawthorne, cadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol. Mae hi'n gwbl warthus, yn ein cenedl ni, ein bod ni â phlant sy'n dioddef oherwydd diffyg maeth. Felly, tybed a wnewch chi egluro pa wybodaeth a gawsoch chi oddi wrth y staff iechyd rheng flaen ynghylch a ydym ni wir yn gweld mwy o bobl yn mynd i'r ysbyty oherwydd diffyg maeth.
Diolch yn fawr iawn, ac fe hoffwn innau ddiolch i staff y GIG hefyd, a fu dan bwysau aruthrol dros gyfnod y gaeaf. Roedd hi'n galonogol iawn cwrdd â rhai ohonyn nhw pan wnes i daro i mewn yn ddirybudd i sawl ysbyty dros gyfnod y gaeaf, ac roedd hi'n hyfryd iawn gallu mynd at y gweithwyr rheng flaen i wrando ar eu rhwystredigaethau nhw. Yn arbennig, cefais fy nharo gan weithiwr ambiwlans a dorrodd i wylo oherwydd rhwystredigaeth ynghylch y sefyllfa a'r anawsterau, a'r ffaith eu bod nhw wedi cael eu hyfforddi ar gyfer rhywbeth a'u bod yn awyddus i fynd yn ôl allan ar y rheng flaen. Roedd hi'n bleser o'r mwyaf cael treulio'r diwrnod gyda'r gwasanaeth ambiwlans cyn y Nadolig hefyd. Felly, mae gwaith anhygoel yn cael ei wneud gan y bobl hyn o ddydd i ddydd.
O ran y canlyniad, fe wn i fod y Gweinidog cyllid wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i roi eglurder yn hyn o beth, ond nid ydym ni wedi cael eglurder o'r fath eto. Felly, mae hi'n aneglur o ran y cyllid canlyniadol, nid yn unig a fydd yr hyn a oedd yno'r llynedd yn cael ei ystyried yn llinell sylfaen—nid yw hynny'n eglur i ni, felly mae hynny'n ei gwneud hi'n anodd dros ben i ni gynllunio—ond nid oes eglurder chwaith o ran y cynnig a gafodd ei wneud i feddygon ymgynghorol yn Lloegr, a yw hwnnw'n arian a ddaw o gyllideb y GIG neu'n ganolog. Os daw yn ganolog, yn amlwg, fe fyddwn ni'n cael swm canlyniadol. Mae hi'n anodd iawn ac mae hyn yn dangos bod angen ail-lunio'r system mewn ffordd radical, mewn gwirionedd, er mwyn i ni i gyd fod yn dryloyw ac y gallwn ni i gyd ddeall yr hyn sy'n digwydd. Fe geir gormod o guddio a chelu o ran sut caiff iechyd ei ariannu yn Lloegr.
Fe hoffwn i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Fel gwyddoch chi'n iawn, mae ein meddygfeydd dan bwysau enfawr y gaeaf eleni gyda'r galw cynyddol am eu gwasanaethau nhw. Mae nifer fawr o etholwyr wedi cysylltu â mi yn gofidio am y gostyngiad posibl yn y gwasanaethau ym meddygfa Llandrindod oherwydd y cyfyngiadau ariannol sydd arnyn nhw. Ac fe geir llawer o bryder na fyddan nhw'n gallu cynnig rhai o'r gwasanaethau yr oedden nhw'n eu cynnig yn flaenorol, yn ystod y gaeaf eleni. Felly, tybed, Gweinidog, a wnewch chi amlinellu heddiw yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a'r cynigion y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi ein practisau meddygon teulu drwy'r gaeaf, i sicrhau y bydden nhw'n gallu goroesi'r sefyllfa ariannol ansicr y maen nhw ynddi hi ar hyn o bryd.
Fel mae James yn gwybod, meddygon ymgynghorol annibynnol yw'r rhan fwyaf o feddygon teulu. Maen nhw'n gweithio yn annibynnol ac mae'n rhaid iddyn nhw fantoli'r cyfrifon pan fydden nhw'n llunio cytundeb gyda ni. Felly, rydym ni'n cael trafodaethau cytundebol gyda nhw. Un o'r pethau a wnaethom ni o ganlyniad i negodi cytundebol fel hyn yw newid y ffordd y mae'r cyhoedd yn rhyngweithio â meddygon teulu, fel nad ydym ni'n gweld y mathau o broblemau y maen nhw'n eu cael yn Lloegr o ran tagfeydd 8 y bore. Felly, mae pethau yn wahanol iawn yma yng Nghymru nawr ac mae hwnnw'n ostyngiad sylweddol o ran swm niferoedd y cleifion sy'n cael mynediad at wasanaethau meddygon teulu yng Nghymru. Felly, mae'n rhaid i hwnnw fod yn benderfyniad iddyn nhw ei wneud mewn gwirionedd o ran sut y bydden nhw'n defnyddio eu harian, faint o bobl y bydden nhw'n eu cyflogi, ond, yn amlwg, rydym ni'n cynnal trafodaeth ledled Cymru ynglŷn â hyn.
Fe hoffwn i ddod yn ôl at bwynt Jenny o ran camfaethiad, ac rwy'n ymddiheuro am fethu ag ymdrin â hyn yn gynharach. Fe geir problem neilltuol, yn fy marn i, o ran pobl hŷn. Felly, yr hyn sydd gennym ni, efallai, yw llawer o bobl â dementia, ac mae llawer o bobl sy'n dod i'r ysbyty gyda dementia nad ydyn nhw'n ymwybodol o'r ffaith bod angen iddyn nhw fod â deiet cytbwys. Felly, mae hi'n ddiddorol iawn gweld rhai o'r strwythurau cymorth sy'n cael eu rhoi ar waith yn y gymuned, yn barod ar gyfer pobl a ddaw o'r ysbytai, cyn i bobl adael yr ysbyty; a bod deietegwyr yn rhan o'r gofal hwnnw yn y tîm cymunedol. Yn sicr roedd hwnnw'n rhywbeth cadarnhaol iawn a welais i yn sir Benfro cyn y Nadolig.
Yr wythnos diwethaf, Weinidog, yn sgil cau wardiau yn Ysbyty Treforys ac atal ymwelwyr, mi wnes i'ch holi chi am gyngor diweddar Sefydliad Iechyd y Byd i ystyried gwneud gwisgo mwgwd yn fandadol mewn lleoliadau iechyd. Mae'n alwad sydd wedi cael ei adleisio gan Goleg Brenhinol y Nyrsys mewn llythyr at y prif swyddog nyrsio. Maen nhw hefyd yn galw am wella awyru mewn wardiau, clinigau cleifion allanol a mannau aros, i'r un diben. Byddai hyn, wrth gwrs, yn atal lledaeniad rhwng cleifion, yn cadw wardiau ar agor, a hefyd, wrth gwrs, yn helpu gwarchod y gweithlu rhag mynd yn sâl ac efallai fod hynny'n fwy pwysig nag erioed nawr ein bod ni wedi clywed y ffigyrau siomedig rŷch chi wedi'u hadrodd y prynhawn yma ynglŷn â'r ymateb o ran y gweithlu i'r rhaglen frechu. Byddai hyn, wrth gwrs, yn lleihau pwysau'n gyfan gwbl. Ac felly, pam dydych chi ddim yn credu bod mygydau ac awyru, fyddai'n lleihau lledaeniad fel hyn, yn gam synhwyrol o ran y gaeaf yn benodol, yn enwedig yn sgil yr ymateb siomedig yma, fel oeddwn i'n sôn, i'r rhaglen frechu?
Ac o ran y rhaglen frechu ffliw a COVID, ces i waith achos lle'r oedd pobl â chyflyrau cronig fel asthma heb dderbyn gwahoddiad am frechiad yn y lle cyntaf, wedi dal COVID ac wedi bod yn sâl iawn, cyn cael gwybod bod y cyngor anghywir wedi'i roi. Felly, sut mae'r Llywodraeth yn monitro bod pawb sy'n gymwys yn cael y wybodaeth gywir ac yn cael eu hannog i fynd am frechlyn? Ac o ran y rhaglen, a oes unrhyw ystyriaeth wedi'i rhoi i ymestyn y brechiadau i fwy o'r boblogaeth, os yw pawb a oedd yn gymwys bellach wedi cael eu gwahodd a'i bod yn swnio fel bod yna frechlynnau sbâr ar gael?
Diolch yn fawr. Rwy'n cael fy nghynghori, yn amlwg, gan fy swyddogion a chan fyrddau iechyd o ran eu barn nhw ynglŷn â'r amser priodol i ni fod yn dechrau gwisgo mygydau yn ein hysbytai. Ac rwy'n credu bod adegau, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n aros am yr amser iawn i hynny digwydd, pan fo'r cyfraddau yn sylweddol uwch. Ar hyn o bryd, mae cyfraddau COVID yn gymharol isel o gymharu â blynyddoedd blaenorol ac felly'r ffliw hefyd, er bod yna broblem gyda norofeirws, yn amlwg, a'r hyn a ddigwyddodd yn yr amgylchiadau hynny yw bod safleoedd fel Treforys wedi dweud yn syml, 'Gwrandewch, peidiwch â dod i mewn, peidiwch ag ymweld.' A hwnnw yw'r amddiffyniad gorau un, yn hytrach na dod i mewn a gwisgo mwgwd.
O ran brechiadau, dim ond i chi fod yn ymwybodol, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ar fin dechrau ymgyrch arall i geisio cael pobl i fanteisio ar y cyfle hwnnw i gael eu brechu. Rydym ni'n dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu o ran pwy ddylai fod yn cael y brechiadau hynny, ac fe fyddwn ni'n cadw at y cyngor hwnnw.
Ac yn olaf, Andrew R.T. Davies.
Gweinidog, mewn ymatebion blaenorol rydych chi wedi sôn am streic y meddygon iau, gyda'r protestiadau y tu allan i'r Senedd heddiw. Rwy'n deall yr elfennau ariannol; mae'n amgylchedd heriol. Mae gan y BMA hawliad y maen nhw wedi ei gyflwyno y mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd wedi'i wrthod, ond yr hyn y mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi gallu ei wneud yw cyflawni setliad yr adolygiad cyflog annibynnol. Beth bynnag fo'r fformiwla ariannu, a allech chi ddweud faint, pe baech chi'n cyflawni'r argymhelliad hwnnw, y byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddod o hyd iddo o ran arian i fodloni'r argymhelliad hwnnw? Rwy'n deall ei fod tua 1 y cant, neu ychydig dros 1 y cant. Beth yw hynny yn nhermau ariannol y byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddod o hyd iddo i ddatrys yr anghydfod, pe bai'n dderbyniol i'r BMA—sef y byddai'r ffigur hwnnw'n cael ei dderbyn ganddyn nhw?
Diolch yn fawr. Rwy'n credu mai un o'r pethau y mae'n rhaid i ni gofio yw nad yw'n ymwneud â'r hyn sy'n cael ei roi eleni yn unig, ond ein bod, mewn gwirionedd, wedi rhoi cynnydd sylweddol y llynedd. Felly, yng Nghymru, fe wnaethom roi cynnydd o 6 y cant, ac ar ben hynny roedd cynnydd anghyfunol o 1.5 y cant, o'i gymharu â'r 2 y cant a roddwyd yn Lloegr. Felly, os ydych chi'n cymharu'r llynedd â'r hyn sy'n digwydd eleni, mae'n wahanol iawn. Wrth gwrs, yn Lloegr—rydych chi'n hollol iawn—maen nhw wedi cynnig llawer mwy eleni, ond rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi nad yw'r streic wedi'i datrys yn Lloegr. Yn amlwg, y peth arall yw nad ydym yn gwybod o ble mae'r arian hwnnw'n dod, felly byddai'n ddefnyddiol iawn pe byddem yn gwybod o ble roedd yn dod ac a oes swm canlyniadol yn mynd i fod.
Rhan o'r broblem sydd gennym yw fod pawb arall ar draws GIG Cymru, o ran 'Agenda ar gyfer Newid', wedi derbyn y cynnig hwnnw o 5 y cant. Nawr, os byddwch chi'n dechrau dweud, 'Na, ond rydyn ni'n mynd i roi ychydig mwy i'r rheini', gallwch fod yn sicr y bydd rhannau eraill o'r GIG yn dweud, 'Beth amdanom ni? Onid ydym ni mor deilwng neu mor werthfawr?" Felly, mae'n rhaid i ni gydnabod mai'r hyn yr ydym yn sôn amdano yw gorfod dod o hyd i sawl miliwn o bunnau, nid yn unig eleni, ond yn barhaus i'r dyfodol. Ond, yn fwy na hynny, mae'n annhebygol o ddatrys y streic ac, ar ben hynny, byddai'n agor y drysau i bobl eraill. Gallwn weithio allan y ffigur yn eithaf rhwydd, ond, yn amlwg, mae'n anodd iawn gweld y byddai hynny'n datrys y streic.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 5 yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar Ystadau Cymru, a galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.
Diolch. Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Ystadau Cymru. Mae Ystadau Cymru yn dwyn ynghyd reolwyr asedau o bob rhan o'r ystad gyhoeddus yng Nghymru. Mae ein hystad gyhoeddus yn amrywiol, yn amrywio o asedau adeiledig fel ysbytai ac ysgolion, a'r henebion a'r adeiladau treftadaeth a reolir gan Cadw, i'r amgylchedd naturiol helaeth sy'n cynnwys ein parciau cenedlaethol a choedwig genedlaethol Cymru. Mae gwaith Ystadau Cymru wedi'i ategu gan egwyddorion cydweithio, rhannu asedau a phrofiadau i sicrhau'r nifer mwyaf o gyfleoedd y mae ein hystad gyhoeddus yn eu cynnig.
Mae rheolwyr asedau, wrth gwrs, wedi wynebu heriau sylweddol yng ngoleuni cyni parhaus, gan gydbwyso'r angen i dorri costau a chadw gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r heriau hynny'n parhau wrth i ni symud i gyfnodau ariannol anos fyth. Fe wnaeth y pandemig greu pwysau ychwanegol. Arweiniodd y dulliau cydweithredol ac arloesol gan reolwyr asedau at addasu ein hadeiladau cyhoeddus yn gyflym i greu ysbytai maes a chanolfannau brechu. Mae yna lawer o enghreifftiau o ble y bu gwasanaethau cyhoeddus yn cydleoli cyn y pandemig. Mae ffyrdd o weithio ar ôl y pandemig yn gosod heriau arbennig i reolwyr asedau, sy'n parhau i ymdrechu i ddangos gwerth am arian, yn enwedig gan ein swyddfeydd cyhoeddus.
Mae Ystadau Cymru wedi parhau i ddilyn yr agenda hon gan annog partneriaid yn y sector cyhoeddus i gydweithio'n agosach. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn arwain drwy esiampl, gan fynd ati i chwilio am gyfleoedd i optimeiddio meddiant o'n hadeiladau swyddfeydd ein hunain a rhai eraill. Mae ein swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno, Aberystwyth a Chaerdydd bellach yn cael eu rhannu gan nifer o bartneriaid yn y sector cyhoeddus. Yn Llandrindod, rydym wedi gadael ein hen swyddfeydd ac wedi symud i le llai, gan feddiannu lle sydd ar gael yn swyddfeydd Cyngor Sir Powys. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar leihau carbon a sicrhau gwerth am arian o fewn y sector cyhoeddus.
Mae ein hadeiladau a'n tir dros ben hefyd wedi cael eu defnyddio i gefnogi ein partneriaid yn y sector cyhoeddus. Ein polisi yw cynnig asedau dros ben yn y sector cyhoeddus cyn eu rhoi ar y farchnad i'w gwerthu. Mae'r dull hwn wedi ei gwneud hi'n bosibl i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ddefnyddio ein hen swyddfeydd yn Llandrindod fel rhan o'i ddull strategol o resymoli ei ystad, ac, yn y tymor hir, bydd yn gwella'r ddarpariaeth o wasanaeth iechyd yn y dref.
Mae newid hinsawdd, datgarboneiddio a bioamrywiaeth yn parhau i fod yn flaenoriaethau allweddol i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys i'r graddau y mae'r ystad gyhoeddus yn y cwestiwn. Mae ein rhaglen gyllido £11 miliwn yng Nghymru yn darparu benthyciadau i gefnogi ein partneriaid cyhoeddus gyda mesurau effeithlonrwydd ynni ac adnewyddadwy ar yr ystad gyhoeddus. Cefnogir hyn gan waith partneriaid Ystadau Cymru gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu offeryn mapio atafaelu carbon. Mae llawer o'n tirfeddiannaeth ar y cyd eraill yn cynnwys ystod eang o gynefinoedd a rhywogaethau gwerthfawr. Mae rheoli bioamrywiaeth yn gadarn yn sail i waith Llywodraeth Cymru ac Ystadau Cymru yn y maes hwn, gan atgyfnerthu ein swyddogaeth arweinyddiaeth ymhellach.
Ategir y gwaith hwn gan Raglen Cydweithio Asedau Cymru a arweinir gan Ystadau Cymru, sydd wedi darparu cyllid ar gyfer amrywiaeth o brosiectau cydweithredol. Bydd y buddsoddiad hwn mewn arolygon, astudiaethau dichonoldeb, a gweithredu mesurau datgarboneiddio yn cefnogi cydnerthedd a hirhoedledd ein hasedau cyhoeddus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae cyllid y Rhaglen Cydweithio Asedau Cymru hefyd wedi mynd i'r afael â rhai o'r materion a nodwyd yn ymchwiliad y Senedd i drosglwyddiadau asedau cymunedol. Mae cynghorau Powys a Bro Morgannwg, er enghraifft, wedi gallu defnyddio'r grant hwn i gefnogi cymunedau i wella a datgarboneiddio eu hasedau cymunedol. Trwy ddefnyddio sgiliau technegol a phroffesiynol y cynghorau, mae cymunedau wedi elwa'n uniongyrchol ar fuddsoddiad ar y cyd o amser, arbenigedd a chyllid.
Mae llwyddiannau cydweithio asedau wedi cael eu dathlu yng nghynhadledd flynyddol a gwobrau Ystadau Cymru ers 2019. Rwyf wedi cael y pleser o gyflwyno gwobrau i amrywiaeth eang o brosiectau cydweithredol o bob rhan o Gymru, pob un yn canolbwyntio ar yr ystad gyhoeddus. Mae llawer, fel Prosiect Bwyd Llanilltud a phrosiect Cyfeillio Tyddewi yn Solfach, wedi dangos y ffordd y gall cymunedau a phartneriaid yn y sector cyhoeddus, gan weithio gyda'i gilydd, arloesi i ddatrys problemau lleol a sicrhau budd sylweddol ac eang i'n cymunedau. Mae eraill, fel digwyddodd gydag Adeiladau'r Goron yn Wrecsam, wedi dangos y gall dull ffabrig yn gyntaf o foderneiddio a datgarboneiddio sicrhau canlyniadau trawiadol, ac nad dymchwel adeiladau presennol yw'r opsiwn gorau neu fwyaf cost-effeithiol bob amser. Mae rhannu'r profiadau hyn drwy Ystadau Cymru yn werthfawr iawn i'n partneriaid cyhoeddus i gyd.
Rwyf wedi cyfeirio at ymchwiliad y Senedd i drosglwyddiadau asedau cymunedol. Mae Ystadau Cymru wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu methodoleg gadarn i ddatblygu argymhellion y pwyllgor. Bydd y gwaith hwn yn cael ei arwain gan fwrdd Ystadau Cymru, gyda mewnbwn gan randdeiliaid allweddol eraill, a bydd yn cynnwys ymgysylltu cymunedol helaeth. Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'n cydweithwyr wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.
Mae'r ystod o faterion y mae cydweithwyr Ystadau Cymru yn ymdrin â nhw yn eang, ond diogelwch y cyhoedd a'n gweithlu yw'r ystyriaeth bwysicaf. Mae asbestos a choncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth yn parhau i beri pryder. Ymatebodd aelodau Ystadau Cymru yn gyflym i'm cais am wybodaeth am goncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth yn ein hadeiladau cyhoeddus, ac mae grŵp diogelwch adeiladu Ystadau Cymru yn parhau i weithio gyda chyngor partneriaeth y gweithlu i godi ymwybyddiaeth a gwella gwybodaeth am reoli asbestos yn ein hadeiladau cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw'r meysydd iechyd a diogelwch hyn wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rwyf eisiau sicrhau Aelodau'r Senedd eu bod yn flaenoriaeth i Ystadau Cymru a Llywodraeth Cymru serch hynny.
Mae Ystadau Cymru yn parhau i fod yn adnodd ar y cyd pwysig ar gyfer ein hystad gyhoeddus yng Nghymru. Yr elfen hanfodol o'r holl enghreifftiau hyn o'u gwaith yw cydweithredu—ymddygiad craidd ein hymrwymiadau llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Nid yw'r heriau y mae ein rheolwyr asedau wedi'u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf wedi diflannu, ond, gyda chefnogaeth Ystadau Cymru, gallwn barhau i ddarparu cymorth i greu effeithlonrwydd, gwella gwasanaethau cyhoeddus a chynnal sylfaen asedau sy'n cefnogi ein cymunedau a'n hamgylchedd ledled Cymru.
Diolch, Gweinidog, ac rwyf wir yn golygu hynny. Rwy'n croesawu'r hyn y mae Ystadau Cymru yn ei wneud ac y mae wedi bod yn ei wneud, gan annog rhagoriaeth o ran rheoli ystad sector cyhoeddus Cymru, neu'r canllawiau cydweithredu strategol ac arfer da, ac mae'n rhaid i ni groesawu hynny. Mewn gwirionedd, dyma un o'r mentrau mwy synhwyrol y mae eich Llywodraeth wedi'u cyflwyno, felly rwy'n eich llongyfarch ar hynny. Mae'r sefydliad yn gweithio i annog cydweithredu strategol a datblygu canllawiau arfer da gan ddefnyddio'r meini prawf hynny, gan gynnwys creu twf economaidd, darparu gwasanaethau mwy integredig sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, cynhyrchu derbyniadau cyfalaf, lleihau costau rhedeg a datgarboneiddio'r ystad gyhoeddus—i gyd yn bwysig iawn. Ac mae'r rhain yn amcanion yr wyf i a'r grŵp yn cytuno â nhw'n llwyr. Rwy'n credu y gallai pob un ohonom gytuno bod swyddogaethau sefydliadau fel Ystadau Cymru yn dod yn bwysicach fyth gan fod ein cyllid cyhoeddus yn cael ei ymestyn gan y pwysau cynyddol. Ac mae'n rhaid i ni gydnabod y cyfraniad cadarnhaol y mae'r sefydliadau hyn yn ei wneud mewn gwirionedd wrth gyflawni'r dyheadau hynny sydd gennym.
Fodd bynnag, roeddwn yn siomedig o weld yn y gyllideb ddrafft ei bod yn ymddangos bod y gyllideb adnoddau i Ystadau Cymru yn debygol o weld toriad o £300,000—bron â chael ei haneru. Byddwn yn gobeithio y byddai swyddfa sy'n annog defnydd effeithiol o gyllid cyhoeddus a'r ystad gyhoeddus yn parhau i dderbyn y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, er fy mod yn cydnabod yr heriau y mae'r Llywodraeth yn eu hwynebu. Ond, gan fod ein cyllid cyhoeddus yn gweld pwysau cynyddol, mae angen i ni ddyrannu cyllid yn ofalus er mwyn cael y gwerth mwyaf. Dyma pam mae angen i ni fuddsoddi mewn sefydliadau sy'n gwella'r defnydd o wariant cyhoeddus yng Nghymru i bob pwrpas, gan fod y rhain yn feysydd a fydd, mewn gwirionedd, yn cyfiawnhau eu buddsoddiad—byddant yn creu enillion o'r buddsoddiad hwnnw. Gyda hyn mewn golwg, Gweinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y toriadau cyllidebol hyn ar Ystadau Cymru a'i allu i gyflawni ei swyddogaeth yn effeithiol? Ac ymhellach, gyda'r toriadau i'r cyllid, pa effaith y bydd hyn yn ei chael ar gyflymder ac effeithiolrwydd y gweithgor trosglwyddo asedau cymunedol i weithredu'r argymhellion y maent wedi'u gwneud yn ymchwiliad y Senedd? Diolch.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Peter Fox am y cwestiynau yna y prynhawn yma, a hefyd am y croeso y mae wedi'i roi i waith Ystadau Cymru. Rwy'n credu, yn aml, fod Peter Fox a minnau yn cael dadleuon ar draws llawr y Senedd am gyllidebau ac, yn aml, rydym yn sôn am rai agweddau llwm iawn ar fywyd cyhoeddus yma yng Nghymru, pan fyddwn yn siarad am rannau o'r portffolio sy'n ymwneud â cham-drin mewn gwleidyddiaeth a'r math yna o beth. Ond, mewn gwirionedd, mae Ystadau Cymru yn un o'r meysydd hynny o heulwen, rwy'n credu, yn y portffolio, oherwydd mae wir yn rhoi cyfle i'r sector cyhoeddus ddod at ei gilydd yn yr ysbryd hwnnw o gydweithio a sicrhau manteision gwirioneddol dda, gwerth chweil i gymunedau ledled Cymru, ac mae'n hyfryd gweld hynny'n cael ei gydnabod ar draws y Siambr. Ac rwy'n cytuno mai dyma'r amser nawr pan fydd yn dod yn bwysicach fyth i ni wneud y math o waith cydweithredol sy'n bwysig drwy Ystadau Cymru.
Mae'n bwysig cydnabod mai rhan yn unig o waith Ystadau Cymru yw'r cyllido penodol, drwy Raglen Cydweithio Asedau Cymru. Ond dim ond i ateb y pwynt yna, mewn gwirionedd—y pwynt pwysig am y gyllideb—mae penderfyniadau anodd wedi eu gwneud, fel y gŵyr cyd-Weinidogion ar draws pob portffolio, a dyma un o'r penderfyniadau anodd a wnaed yn fy mhortffolio, fel y gallem ailflaenoriaethu rhywfaint o gyllid tuag at y GIG ac yna hefyd i sicrhau ein bod yn gallu cadw ein hymrwymiad i lywodraeth leol. Felly, mae'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25 yn gweld cyllideb refeniw Ystadau Cymru yn gostwng o £800,000 i £500,000, ond rwyf wedi gallu cadw'r gyllideb gyfalaf ar £1 miliwn. Ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig, oherwydd mae gennym rai enghreifftiau da iawn o bethau sydd wedi'u cynnal drwy'r gronfa gyfalaf honno. Er enghraifft, yn 2022-23, roedd 13 prosiect gwahanol a gymeradwywyd ar gyfer cyllid. Rwy'n credu bod rhai enghreifftiau da iawn, megis adnewyddu cyfleuster chwaraeon adfeiliedig yn Llanelli, gardd law ddinesig yng Nghasnewydd, a datblygu fferm solar ar raddfa fawr yn RhCT. Ac, yn y flwyddyn ariannol hon hyd yn hyn, mae saith prosiect wedi'u cymeradwyo ar gyfer cyllid grant, ac maent yn cynnwys adnewyddu cyfleuster pellach yn Llanelli a hefyd datblygiad parhaus y fferm solar honno yn RhCT. Felly, er bod y gyllideb ar yr ochr refeniw yn gostwng y flwyddyn nesaf, bydd cyllid cyfalaf pwysig ar gael o hyd i gefnogi'r prosiectau hyn.
Ac rwy'n credu mai rhywfaint o'r gwir werth a gawn gan Ystadau Cymru yw drwy'r gwaith thematig y mae'n ei wneud o ran edrych ar ddiogelwch adeiladau, ac maent yn darparu adnodd ardderchog ar gyfer yr ystad gyhoeddus gyfan o ran rheoli asbestos, ond maent hefyd wedi profi eu gwerth yn ddiweddar o ran cefnogi'r sector cyhoeddus i ymateb i'r pryderon a godwyd ynghylch concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth. Mae asedau cymunedol, unwaith eto, yn rhan bwysig iawn arall o waith Ystadau Cymru, gan ymateb yn rhannol i'r argymhellion pwysig hynny a wnaed gan bwyllgor y Senedd a edrychodd ar asedau cymunedol. Ac yna, hefyd, mae cynaliadwyedd yn un arall o'u meysydd thematig allweddol. Unwaith eto, maent yn darparu arweinyddiaeth ragorol o ran datgarboneiddio'r ystad gyhoeddus a hefyd yn sicrhau ein bod yn manteisio ar gyfleoedd i gefnogi bioamrywiaeth ar draws yr ystad gyhoeddus hefyd.
Felly, mae'r gwaith y maent yn ei wneud drwy'r rhaglen benodol honno a ariennir yn bwysig, ond mewn gwirionedd mae llawer y mae Ystadau Cymru yn ei wneud y tu hwnt i hynny nad oes angen yr un lefel o gefnogaeth. Ac i gloi, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â chreu ffordd wahanol o feddwl yn y sector cyhoeddus, cefnogi meddwl yn greadigol ac, wrth gwrs, mae gan y sefydliadau sector cyhoeddus hyn eu cyllidebau eu hunain y gallant eu defnyddio wedyn. Ac yn amlwg, hoffem annog y defnydd cydweithredol o gyllidebau i gefnogi gwaith ar draws y sector cyhoeddus hefyd.
Diolch yn fawr ichi am y datganiad y prynhawn yma. Mae'n newid o fod yn siarad am y gyllideb efo chi, felly mae'n dda i gael trafod rhywbeth ychydig yn wahanol.
Yn ystod cyfnod o galedi ariannol difrifol, mae'n hanfodol bod yr asedau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn cael eu defnyddio'n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o adeiladau cyhoeddus sy'n dod o dan gylch gwaith Ystadau Cymru. Yn y byd ôl-COVID hwn, sydd wedi cynnwys toreth o ffyrdd hybrid o weithio, mae cyfle unigryw bellach i ailwerthuso'r defnydd o adeiladau cyhoeddus er mwyn sicrhau'r budd cymdeithasol mwyaf. Yn gyntaf, a allech chi roi syniad o gyfraddau meddiannu adeiladau'r Llywodraeth ar gyfartaledd ar hyn o bryd, fel Parc Cathays? Sut mae hyn yn cael ei fonitro ac ar ba gam fyddech chi'n ystyried gwerthu, rhentu neu addasu adeiladau at ddibenion gwahanol sy'n cael eu tanddefnyddio'n gyson?
Mae angen i ni hefyd ystyried sut y gall rheoli adeiladau cyhoeddus gynyddu bywiogrwydd a chydlyniant ein cymunedau. Rwy'n gobeithio eich bod yn ymwybodol o'r ymchwil ddiweddar a wnaed gan yr Ymddiriedolaeth Cymunedau Adeiladu ar adeiladu cymunedau cydnerth, sydd wedi amlygu'r rhwystrau sy'n wynebu grwpiau cymunedol yng Nghymru i gaffael a rheoli adeiladau cyhoeddus. Efallai nad yw'n syndod bod y rhwystrau hyn yn fwy amlwg mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Rhan o'r broblem yw deddfwriaeth. Mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU o ran hawliau ei dinasyddion i gychwyn trosglwyddiadau asedau oddi wrth gyrff cyhoeddus. Yn ôl y Sefydliad Materion Cymreig, mae hyn wedi gadael ein cymunedau fel y rhai lleiaf grymus yn yr ynysoedd hyn. Ond, mae problem ehangach yma i'r graddau nad yw'r mecanweithiau cymorth a'r canllawiau sydd ar gael i grwpiau cymunedol ar drosglwyddiadau asedau yn arbennig o gadarn chwaith. Unwaith eto, mae hyn yn arbennig o amlwg mewn ardaloedd mwy difreintiedig. A allwch chi felly esbonio pa fesurau sy'n cael eu cymryd gan Ystadau Cymru i gryfhau modelau perchnogaeth gymunedol ledled Cymru? A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu hwyluso hyn drwy gyflwyno deddfwriaeth a chanllawiau gorfodol i wella gallu dinasyddion Cymru i gychwyn trosglwyddiadau asedau?
Ac yn olaf, fel yr ydym wedi clywed o wahanol ardaloedd, mae'r cynlluniau gwariant yn y gyllideb ddrafft hefyd yn mynd i wneud niwed mawr i'r sector elusennol yng Nghymru. Mae Oxfam Cymru wedi rhybuddio y bydd toriadau i'r portffolio cyfiawnder cymdeithasol yn pentyrru'r pwysau ar sector sydd eisoes dan bwysau oherwydd effaith drychinebus cyni'r Torïaid. Ar ddechrau fy natganiad, siaradais am sicrhau'r budd cymdeithasol mwyaf posibl i adeiladau cyhoeddus. Un opsiwn, fel yr wyf eisoes wedi'i grybwyll, fyddai gwerthu asedau sydd heb eu defnyddio'n ddigonol neu eu haddasu at ddibenion gwahanol i gefnogi mentrau sy'n canolbwyntio ar y gymuned. A allai ateb amgen gynnwys cartrefu rhai elusennau penodol yn ddi-rent yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny liniaru'r wasgfa ar eu capasiti gweithredol? Yn y pen draw, gallai hyn arwain at greu hybiau elusennol rhanbarthol ledled Cymru, gan annog cydweithio o fewn y sector. Un o egwyddorion diffiniol Plaid Cymru yw'r defnydd blaengar o adnoddau cymdeithas er lles pawb. Rydym hefyd yn angerddol am rymuso cymunedau ar hyd a lled ein cenedl, gan symud i ffwrdd o'r strwythurau pŵer sydd wedi'u canoli'n ormodol ac sydd wedi ymwreiddio cyhyd o fewn cyd-destun Cymru gyfan a ledled y DU. Yn yr ysbryd hwn yr ydym wedi cyflwyno'r syniadau hyn gerbron y Senedd, ac rwy'n gobeithio bod y Llywodraeth yn barod i ymgysylltu'n adeiladol â ni i'r perwyl hwn. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn unwaith eto am y cwestiynau yna y prynhawn yma. Rwy'n cytuno'n llwyr fod y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei hystad weinyddol ei hun yn gosod y naws ar gyfer y sector cyhoeddus cyfan. Ac, wrth gwrs, roedd cydnabyddiaeth yna o'r ffordd y mae pethau wedi newid yn dilyn y pandemig, gyda'r lefel uwch o hyblygrwydd sydd gan bobl nawr, ac yn aml yn ei ddymuno, o ran gweithio o swyddfa rhan o'r amser, ond o bell mewn ffyrdd eraill. Gall hynny gynyddu cynhyrchiant a gall wella eich cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac ati, ac, wrth gwrs, cael y buddion lleihau carbon hynny hefyd.
Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am ein hystad yng Nghymru yn rheolaidd; mae'n adroddiad yr wyf yn ei gyhoeddi'n flynyddol a elwir yn adroddiad 'Cyflwr yr Ystad'. Mae hynny'n cynnwys manylion, mewn gwirionedd, ystod eang o bethau, gan gynnwys defnyddio'r ystad, ond hefyd effeithlonrwydd a chynaliadwyedd yr ystad. Yn bwysig iawn, mae'n ein galluogi i feincnodi ein defnydd ein hunain o'n hystad gyhoeddus, yn enwedig ystad Llywodraeth Cymru, o'i gymharu â llywodraethau eraill, fel y gallwn brofi sut rydym yn perfformio o gymharu â meincnodau a ddarperir gan eraill ledled y DU. Rwy'n credu bod defnyddio ein hystad mewn ffordd ddychmygus yn ein galluogi i symud tuag at yr un gwasanaeth cyhoeddus hwnnw yng Nghymru y gwn fod llawer ohonom wedi ymrwymo iddo.
Fe wnaf roi rhai enghreifftiau o sut rydym eisoes yn ceisio defnyddio ein hystad ein hunain mewn ffordd wahanol. Mae Cymorth Cyfreithiol a Trydan Gwyrdd Cymru ill dau bellach wedi'u lleoli yn ein swyddfa ym Merthyr Tudful; mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ein swyddfa yn Aberystwyth; bellach mae gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, Gweithrediaeth y GIG, Uchelgais Gogledd Cymru, Archwilio Cymru a Chomisiwn y Senedd le yn ein swyddfa yng Nghyffordd Llandudno; ac mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Dyna rai o'r enghreifftiau, a gwn ein bod bob amser yn gweithio i ddod â phartneriaid at ei gilydd ar ystad Llywodraeth Cymru. Mae'n amlwg bod yna ystod eang o fuddion yn ogystal â defnyddio'r ystad yn well, mewn gwirionedd; mae'n eich galluog i gael y cysylltiadau a'r trafodaethau dynol hynny hefyd. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o gyrff cyhoeddus eraill ledled Cymru i fwrw ymlaen â thrafodaethau pellach ar feddiannaethau prydlesol ar ein hystad weinyddol. Mae gennym hefyd strategaeth weithle 10 mlynedd ar gyfer y dyfodol ar gyfer 2020-30 ar gyfer yr ystad weinyddol ac rydym yn parhau i adolygu hynny drwy'r amser.
Roedd y maes pwysig arall o gwestiynu yn ymwneud ag asedau cymunedol. Yn amlwg, mae'n bwysig ein bod yn cefnogi'r agenda hon ac yn cymryd o ddifrif adroddiad pwyllgor y Senedd. Mae Ystadau Cymru wedi canolbwyntio ar asedau cymunedol ers nifer o flynyddoedd, ac mae pwysleisio pwysigrwydd asedau cymunedol yn parhau i fod yn rhan bwysig o waith Ystadau Cymru. Disgrifiais y tri phwyslais thematig hynny sydd gan y grŵp, ac un o'r rheini yw asedau cymunedol. Yn 2019, comisiynwyd y rhaglen ymchwil fewnol ar y cyd gan Ystadau Cymru a'r tîm polisi cymunedau a'r trydydd sector yn Llywodraeth Cymru. Gwnaeth honno waith ymchwil i ehangu a dyfnhau'r sylfaen dystiolaeth ynghylch trosglwyddo asedau cymunedol. Roedd nifer o argymhellion yn deillio o hynny, sydd wedi llywio rhai o'r camau nesaf. Arweiniodd hefyd at Ystadau Cymru yn datblygu canllaw arfer gorau trosglwyddo asedau cymunedol, ac roedd hynny'n cynnwys canllaw diwydrwydd dyladwy, enghraifft ymarferol o'r broses drosglwyddo ac astudiaethau achos bywyd go iawn i helpu'r sectorau hefyd.
Rydym wedi parhau i gyfleu enghreifftiau o arfer gorau drwy Ystadau Cymru. Mae astudiaethau achos wedi cynnwys Neuadd Llanrhymni yng Nghaerdydd, Triongl Maendy yng Nghasnewydd a phrosiect Agor y Drenewydd, ac unwaith eto, y cyfleuster chwaraeon hwnnw y cyfeiriais ato mewn ymateb i Peter Fox, sydd yn Llanelli. Ond wrth symud ymlaen, rydym yn cydnabod bod angen i ni godi pethau i lefel newydd nawr, felly rwyf wedi cytuno i gomisiwn gael ei sefydlu i edrych yn fanwl ar yr amrywiol ffactorau sy'n ymwneud â throsglwyddiadau asedau cymunedol, yn dilyn y gwaith a wnaed gan Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd. Mae'r gwaith hwnnw, o ran ei sefydlu nawr, wedi datblygu'n dda. Bydd hynny'n cael ei oruchwylio a'i ariannu gan Ystadau Cymru. Felly, yn sicr, nid dyma ddiwedd y stori mewn unrhyw ffordd, o ran ymateb i'r pwyllgor, ac mae'n rhywbeth dylwn i ddweud, yr wyf yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd arno.
Ac yn olaf, Sam Rowlands.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am y datganiad pwysig hwn yma heddiw. Rwy'n ymuno â Peter Fox i roi croeso gwirioneddol iddo, oherwydd rwy'n gweld y gwerth yn y gwaith sy'n cael ei wneud yma. Fel aelod o'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, rwy'n falch iawn o'ch gweld yn cymeradwyo ein hargymhelliad i sefydlu comisiwn ar berchnogaeth gymunedol. Cafwyd nifer o sylwadau yn eich datganiad yn cyfeirio at argymhellion eraill gan y pwyllgor, ac mae hynny i'w groesawu hefyd.
Rwyf eisiau cefnogi cyd-Aelodau yn yr ystafell sydd eisoes wedi sôn yn eu sylwadau am yr unigolion gweithgar hynny mewn llawer o'n cymunedau sydd eisiau manteisio i'r eithaf ar yr asedau hynny sydd yn eu cymunedau, wrth gwrs, sy'n helpu i roi hwb nid yn unig i fywyd cymdeithasol trefi a phentrefi ledled Cymru, ond hefyd economïau lleol hefyd. Fel y nodoch, mae rhai cyfleoedd i sicrhau bod trosglwyddo asedau yn digwydd yn haws i'r rhai sydd am gael gafael ar yr asedau hynny.
Rwyf am ofyn a gwneud sylwadau penodol ar rai o'r cyfleoedd sy'n ymarferol iawn, iawn mewn cysylltiad â'r argyfwng tai, Gweinidog. Byddwch yn cydnabod bod cyfle i Lywodraeth Cymru geisio rhyddhau tir ac eiddo i gefnogi landlordiaid cymdeithasol neu ddatblygwyr, yn fwy cyffredinol, i adeiladu tai fforddiadwy, yn benodol. Roeddwn i eisiau clywed gennych chi efallai'r hyn rydych chi'n ei ddisgwyl gan Ystadau Cymru o ran cefnogi mynediad i'r tir a'r eiddo hwnnw i alluogi'r gwaith o adeiladu tai fforddiadwy, yn enwedig ar dir sy'n eiddo i'r sector cyhoeddus ar hyn o bryd, i gael y cydbwysedd hwnnw'n iawn rhwng gwerth am arian o ran buddsoddi'r ased a galluogi adeiladu tai yn ein cymunedau mewn gwirionedd. Diolch am eich amynedd.
Diolch unwaith eto am gydnabod gwaith Ystadau Cymru. Y pwynt hwnnw, mewn gwirionedd, am asedau'r gymuned ac ati, yr wyf yn gwybod ei fod hefyd yn rhywbeth yr ydych yn cymryd diddordeb arbennig ynddo, dylwn fod wedi cyfeirio mewn ymateb i'r siaradwr blaenorol at strategaeth rheoli asedau corfforaethol Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom gyhoeddi hynny yn 2021, ac mae hynny'n nodi dull mwy uchelgeisiol o reoli ein hasedau ein hunain. Gobeithiwn y bydd hynny'n ysbrydoli eraill ar draws y sector cyhoeddus i edrych yn fanwl ar y strategaeth honno i archwilio'r hyn y gallant ei dynnu o hynny o ran gwneud y gorau o'u hasedau eu hunain. Yn benodol, mae rhai pethau diddorol ynghylch sut y byddem yn cefnogi'r trydydd sector trwy gydweithio'n effeithiol drwy hynny. Rwy'n credu bod honno'n agwedd bwysig.
Rwy'n credu bod cymaint o feysydd lle gall y sector cyhoeddus barhau i weithio, a gweithio'n agosach fyth gyda'i gilydd, gyda thai yn un o'r rheiny. Rwy'n falch iawn ein bod wedi sicrhau bod £25 miliwn ar gael drwy'r gronfa rhyddhau tir, a'r bwriad yw cefnogi'r uchelgais ar gyfer datblygiadau carbon isel sy'n effeithlon o ran ynni ar raddfa fach. Mae'r gronfa honno'n caniatáu i dir nad yw wedi'i ddatblygu eto am ryw reswm—efallai y bydd angen rhywfaint o waith adfer, efallai y bydd materion mynediad, er enghraifft—gael ei ryddhau. Mae hynny'n gyfalaf trafodiadau ariannol hefyd, felly mae'n golygu y gallwn barhau i fuddsoddi ac ailgylchu'r arian hwnnw, sydd, unwaith eto, yn rhywbeth eithaf cyffrous. Hefyd, wrth gwrs, mae gennym y grant cymorth tai fel rhan o'n buddsoddiad ehangach yn yr ystad gyhoeddus yng Nghymru, ac unwaith eto, mae'r prosiectau hynny'n bwysig iawn o ran atal digartrefedd a helpu pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain ac ati.
Ond wedyn, yn olaf, byddwn yn cyfeirio at waith yr is-adran tir o fewn Llywodraeth Cymru. Mae honno'n rhywbeth a sefydlwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac unwaith eto, mae gan honno swyddogaeth bwysig iawn o ran nodi'r darnau hynny o dir cyhoeddus sy'n addas ar gyfer tai. Yna gallwn weithio gyda phartneriaid yn y sector tai cymdeithasol, er enghraifft, i ryddhau'r tir hwnnw ar gyfer tai, gan ddefnyddio'r gronfa rhyddhau tir. Rwy'n credu bod llawer o wahanol feysydd polisi yn dod at ei gilydd i gefnogi'r hyn rwy'n credu sy'n agenda bwysig iawn o ran gwella a chynyddu nifer y tai cymdeithasol carbon isel sydd ar gael.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 6 yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Cynnig NDM8450 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r rheoliadau diwygio hyn heddiw. Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024 yn diwygio rheoliadau cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor 2013. Mae'r cynllun yn darparu cymorth ariannol uniongyrchol i lawer o aelwydydd ledled Cymru drwy leihau eu biliau treth gyngor, ac mae'r gwelliannau hyn a gyflwynwyd heddiw yn sicrhau bod yr hawliau hynny'n cael eu cynnal. Diddymodd Llywodraeth y DU fudd-dal y dreth gyngor yn 2013 a phasiodd y cyfrifoldeb dros ddatblygu trefniadau newydd i Lywodraeth Cymru. Ynghyd â phenderfyniad Llywodraeth y DU cafwyd toriad o 10 y cant i'r cyllid ar gyfer y cynllun.
Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy lenwi'r bwlch cyllido i gynnal hawliau i gael cymorth yn ôl yn 2013, ac rydym wedi parhau i gynnal hawliau bob blwyddyn ers hynny drwy sicrhau bod y cynllun yn cael ei ddiweddaru bob blwyddyn. Ar hyn o bryd mae'r cynllun yn cefnogi tua 261,000 o'r aelwydydd tlotaf yng Nghymru. Wrth i'r argyfwng costau byw barhau i roi mwy o bwysau a chyni ar bobl, mae'n bwysicach fyth ein bod yn sicrhau bod systemau ar waith i gefnogi pobl, bod y rhain mor deg ag y gallant fod, a'u bod yn cael eu diweddaru.
Mae angen diwygio deddfwriaeth bob blwyddyn i sicrhau bod y ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl pob aelwyd i ostyngiad yn cael eu cynyddu i ystyried cynnydd yng nghostau byw. Mae rheoliadau 2024 yn gwneud yr addasiadau uwchraddio hyn ac yn cynnal hawliau presennol i gymorth. Mae'r ffigurau ariannol ar gyfer 2024-25 ar gyfer pobl oedran gweithio, pobl anabl a gofalwyr yn cynyddu yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr o 6.7 y cant. Mae ffigurau ar gyfer aelwydydd oedran pensiwn yn parhau i gael eu cynyddu yn unol â gwarant isafswm safonol Llywodraeth y DU, ac yn adlewyrchu uwchraddio budd-dal tai.
Rwyf hefyd wedi manteisio ar y cyfle i gynnwys mân newidiadau technegol i'r rheoliadau a gwneud diwygiadau ychwanegol i adlewyrchu newidiadau eraill i fudd-daliadau cysylltiedig. Er enghraifft, rwy'n diwygio'r rheoliadau i sicrhau nad effeithir yn negyddol ar bobl sydd wedi derbyn taliadau gan gynllun iawndal Swyddfa'r Post oherwydd eu bod wedi derbyn taliad. Bydd gwelliant pellach yn sicrhau na fydd unrhyw ymgeisydd sy'n byw yng Nghymru yn dioddef effaith negyddol oherwydd ei fod wedi derbyn ad-daliad lwfans rhiant gweddw neu daliad cymorth profedigaeth ôl-weithredol. Bydd y gwelliant canlyniadol arfaethedig yn diystyru'r taliad a dderbyniwyd yn sgil cyfrifo cyfalaf ymgeisydd o dan y cynllun.
Mae'r rheoliadau hyn yr wyf yn eu cyflwyno heddiw yn cynnal hawliau i ostyngiadau mewn biliau'r dreth gyngor i aelwydydd yng Nghymru. O ganlyniad i'r cynllun, ni fydd yr aelwydydd sydd fwyaf dan bwysau ariannol sy'n derbyn cymorth yn talu unrhyw dreth gyngor yn 2024-25. Mae'r cynllun hwn yn parhau i fod yn un o ysgogiadau allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi flwyddyn ar ôl blwyddyn, sy'n gonglfaen i'n cefnogaeth wedi'i thargedu i bobl a theuluoedd, yn enwedig y rhai sy'n dioddef fwyaf o effeithiau'r argyfwng costau byw.
Yn olaf, rwy'n ddiolchgar am adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Mae ymateb gan y Llywodraeth wedi'i gyhoeddi i'r pwyllgor ac, fel yr amlinellwyd yn yr ymateb hwnnw, bydd dau gamgymeriad technegol mân yn y rheoliadau yn cael eu cywiro cyn iddynt gael eu gwneud. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i gyfyngu fy sylwadau heddiw, mewn gwirionedd, oherwydd rydym wedi cael yr ymateb gan Weinidog Llywodraeth Cymru. Felly, diolch yn fawr iawn. Diolch am y cyfle.
Dim ond i ddweud diolch i Gadeirydd y pwyllgor am waith y pwyllgor, ac rwy'n falch bod yr ymateb wedi ei dderbyn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar ffyniant bro, a galwaf ar Weinidog yr Economi i wneud y cynnig. Vaughan Gething.
Cynnig NDM8449 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU yn golygu bod gan Gymru lai o lais dros arian, a hefyd yn tanseilio datganoli a’r Senedd hon;
b) bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi bod yn fethiant llwyr nad yw wedi llwyddo i gymryd lle cronfeydd yr UE yng Nghymru, gan adael diffyg o bron i £1.3 biliwn; ac
c) bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin, Cronfeydd Ffyniant Bro a’r Rhaglen Lluosi wedi’u llesteirio gan oedi a chamreoli gan Lywodraeth y DU, gan roi straen ar awdurdodau lleol ac arwain at gau rhaglenni pwysig.
2. Yn galw am ailgyflwyno cyllid buddsoddi rhanbarthol i Lywodraeth Cymru fel bod modd cyflawni yn unol â pholisïau datganoledig sy’n llwyr atebol i’r Senedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig ger ein bron. Mae'n realiti trist bod cynlluniau ffyniant bro Llywodraeth y DU yn siomi ein pobl, ein busnesau a'n cymunedau. Roedd y rhain i fod i gymryd lle hen gronfeydd yr UE. Mae'n fradychiad syfrdanol o refferendwm ac addewidion maniffesto bod Cymru bellach bron i £1.3 biliwn yn waeth ei byd mewn termau real. Mae gan bob cynllun gan Lywodraeth y DU, boed y gronfa ffyniant bro, y gronfa ffyniant gyffredin, y gronfa perchnogaeth gymunedol, neu'r cynllun trefi, yr un pethau yn gyffredin: maent i gyd yn llanast anghydnaws gydag ychydig iawn o gynllunio, ymgynghori neu resymeg economaidd. Mae eu gweithrediad yn anhrefnus, gan adael rhanddeiliaid yn ddryslyd neu wedi'u gwahardd yn llwyr. Ar yr un pryd, maent yn rhoi pwysau aruthrol ar lywodraeth leol i wario arian yn gyflym, er gwaethaf oedi Llywodraeth y DU a therfynau amser anhygoel. Maent wedi anwybyddu gwersi 20 mlynedd o brofiad, gyda phrosiectau tameidiog bach sy'n cael llawer llai o effaith economaidd na'r buddsoddiadau strategol mwy y mae'r Senedd hon wedi argymell y dylid defnyddio'r arian ar eu cyfer. Maen nhw'n tynnu arian a phwerau oddi ar Gymru, gan eu rhoi yn nwylo Gweinidogion Torïaidd yn Whitehall. Mae gan Gymru lai o lais dros lai o arian. Mae hynny'n ddewis Torïaidd bwriadol—i ganoli cronfeydd a chyfrifoldebau sydd yn glir wedi'u datganoli.
Ers 2021, mae'r gronfa ffyniant bro wedi'i melltithio gan anhrefn ac oedi. Wrth gwrs, yn wreiddiol cyhoeddodd Llywodraeth y DU y gronfa ffyniant bro fel cynllun i Loegr yn unig; fe wnaethon nhw wedyn newid eu meddyliau a'i gosod ar Gymru heb unrhyw fath o brotest gan y Torïaid Cymreig. Mae hyn wedi amddifadu Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon o unrhyw lais neu unrhyw allu i graffu ar benderfyniadau a wneir mewn meysydd sy'n glir wedi'u datganoli. Y canlyniad yw cronfa sydd wedi dodi ein hawdurdodau lleol yn erbyn ei gilydd, gwastraffu adnoddau, ac sy'n dewis peidio â chydnabod yr anghenion cymharol yng Nghymru.
Ni fydd sir y Fflint, Merthyr Tudful na Chasnewydd yn gweld ceiniog o'r gronfa ffyniant bro na'r gronfa ffyniant gyffredin—mae'n ddrwg gennyf, y gronfa ffyniant bro—tra bod llawer iawn o amser a chost wedi cael eu gwastraffu gan gynghorau ledled Cymru ar geisiadau sydd wedi cael eu gwrthod gan Lywodraeth y DU. Dirprwy Lywydd, nid dyma'r ffordd y byddem yn dewis buddsoddi yng Nghymru a gweithio gyda'n partneriaid.
Mae oedi Llywodraeth y DU wrth wneud penderfyniadau wedi cynyddu costau yn ystod argyfwng costau byw Torïaidd, gyda chwyddiant cynyddol sydd wedi llwytho pwysau ychwanegol ar ein cynghorau. Amlygwyd y raddfa hon o'r effaith hon gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ym mis Tachwedd. Adroddwyd bod prosiectau ffyniant bro yn annhebygol o fodloni terfynau amser oherwydd:
'Pwysau chwyddiant, prinder sgiliau a heriau cyflenwi ehangach y diwydiant adeiladu'
ac oedi Llywodraeth y DU wrth wneud penderfyniadau a gweithredu.
A yw'n syndod bod cymaint o sefydliadau annibynnol a grwpiau trawsbleidiol wedi dod i'r casgliad bod dull ffyniant bro fel y'i gelwir gan Lywodraeth y DU yn methu?
Y llynedd, dywedodd Sefydliad y Llywodraeth fod y gronfa ffyniant bro
'yn gronfa gyllido gystadleuol aneffeithiol arall nad yw'n ddigon mawr nac wedi'i thargedu'n ddigon i wneud tolc mewn anghydraddoldebau rhanbarthol.'
Dywedodd pwyllgor ffyniant bro Senedd y DU:
'Mae'n destun pryder ei bod yn ymddangos nad yw'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau hyd yn oed yn gwybod pa gronfeydd o arian ar draws y Llywodraeth sy'n cyfrannu tuag at ffyniant bro.'
Ac yn 2022, dywedodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol:
'Mae'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi derbyn cyngor arbenigol y gallai adfywio ffisegol mawr wella canlyniadau economaidd lleol yn sylweddol, ond nid yw'r buddsoddiadau seilwaith llai y mae'n eu hariannu drwy'r Gronfa Ffyniant Bro fel arfer yn sbarduno twf sylweddol.'
Mae hynna'n ffordd gwrtais o ddweud: maen nhw wedi dylunio rhywbeth sydd ddim yn mynd i weithio; maen nhw'n gwastraffu arian cyhoeddus.
Gallwn roi llawer o enghreifftiau eraill, ond nid wyf yn credu bod digon o amser ar gyfer hynny heddiw. Fodd bynnag, hoffwn ddiolch unwaith eto i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am ei adroddiad, sy'n rhannu ein pryderon. Mewn termau real, mae Cymru wedi dioddef diffyg o bron i £1.3 biliwn mewn cyllid o’r UE nad oes cyllid wedi dod yn ei le oherwydd effaith barhaus chwyddiant yn y cyfnod hwn.
Mae sectorau twf allweddol fel prifysgolion eisoes wedi adrodd bod cynlluniau hanfodol wedi cau a 1,000 o swyddi wedi'u colli. Mae ymchwil a datblygu yn faes lle bu diffyg buddsoddiad hanesyddol eisoes gan Lywodraeth y DU; mae hynny bellach yn cael ei waethygu drwy golli cyllid i ddisodli cyllid yr UE, ond mae addysg uwch ac addysg bellach wedi'u heithrio o ymchwil a datblygu. Yn y cyfamser, byddai bwriad Llywodraeth y DU i gynyddu cyllid Ymchwil a Datblygu y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr 40 y cant yn golygu dim ond £9 miliwn ychwanegol o wariant ychwanegol yng Nghymru erbyn 2030.
Gwnaeth y Torïaid ddewis clir i rewi Llywodraeth Cymru allan o gyllid sy'n disodli cyllid yr UE. Mae hynny wedi gorfodi toriadau yn y gyllideb a gefnogodd prentisiaethau, Busnes Cymru a chynlluniau arloesi CAMPUS.
Yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, gwelsom ddagrau ffug yn llifo lawr wynebau'r Torïaid, wrth iddyn nhw gwyno am doriadau cyllideb yn y Siambr gan gefnogi a bod yn godwyr hwyl ar gyfer rownd newydd Llywodraeth y DU o fesurau cyni, yn hytrach nag adfer cyllid i wasanaethau cyhoeddus bregus, arian i gefnogi'r economi. Mae hyn yn golygu, ar ben y golled o bron i £1.3 biliwn o gyllid yr UE, bod ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na'r disgwyl ar ddechrau adolygiad gwariant 2021. Rwy'n gwybod bod llefarydd y Ceidwadwyr yn rholio ei lygaid, ond dyna'r ffeithiau, a bob hyn a hyn fe ddylai hyd yn oed Tori Cymreig fod yn barod i sefyll dros Gymru.
I gymhlethu'r pwysau ariannol presennol, mae perygl gwirioneddol na fydd y cronfeydd hyn, sydd wedi'u brandio'n fras fel ffyniant bro, yn cyrraedd Cymru o gwbl. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud wrth awdurdodau lleol yng Nghymru na fydd yn rhyddhau cyllid ffyniant cyffredin llawn ar gyfer y flwyddyn i ddod nes eu bod yn cyrraedd trothwyon gwariant o flynyddoedd blaenorol, ac eto dyluniad anhrefnus ac oedi Llywodraeth y DU yw gwraidd y broblem. Nid cyfrifoldeb llywodraeth leol oedd yr oedi; Gweinidogion Torïaidd yn Whitehall oedd yn gyfrifol am yr oedi yn llwyr.
Gadewch i ni beidio ag anghofio y byddai cymaint o'r problemau hyn wedi cael eu hosgoi pe bai Llywodraeth y DU wedi parchu datganoli ac wedi caniatáu i ni reoli cyllid drwy ein fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol, pe bai'r Torïaid wedi parchu dau refferendwm datganoli, etholiadau lluosog a mwy nag 20 mlynedd o ddatganoli. Mae ein fframwaith yn defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel sylfaen llunio polisïau. Fe'i datblygwyd yn iawn, gyda phartneriaid Cymreig a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac fe'i cefnogwyd gan ymgynghoriad cyhoeddus. Ni ddigwyddodd dim o hynny wrth i'r Torïaid yn Whitehall ddylunio agenda ffyniant bro.
Mae Cymru eisoes yn wynebu'r setliad ariannol anoddaf ers dechrau datganoli, ac eto mae gwelliant Darren Millar yn honni bod Cymru well ei byd o £2.5 biliwn, diolch i gronfeydd ffyniant bro. Nid yw'n cymharu cyllid yr UE â'r cyllid tybiedig i ddisodli cyllid yr UE. Nid yw'r honiad ein bod £2.5 biliwn yn well ein byd yn wir, ac maen nhw'n gwybod nad yw'n wir. Gwaddol ffyniant bro yw dyblygu, prosiectau tameidiog lleol, ac ychydig iawn o effaith economaidd gwerthfawr.
Mae Plaid Cymru yn codi'r methiannau hyn yn eu gwelliant eu hunain, ond ni allwn gefnogi'r gwelliant gan nad ydym eto wedi gweld manylion y Bil tegwch economaidd arfaethedig, ac rydym eisoes wedi nodi ym mhapur 'Diwygio'r Undeb' Llywodraeth Cymru yr angen am ddull newydd, sy'n seiliedig ar egwyddorion o ariannu'r DU, a oruchwylir gan gorff annibynnol.
Mae cyflwyno'r agenda ffyniant bro yn anfaddeuol ac yn niweidiol iawn. Gyda hurtrwydd a dihidrwydd, mae Llywodraeth y DU wedi gwastraffu'r cyfle i gyflawni newid ystyrlon y mae Cymru a gweddill y DU ei angen gymaint. Edrychaf ymlaen at gynnwys y ddadl bwysig hon trwy weddill y prynhawn.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar Paul Davies i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod cyllid ffyniant bro Llywodraeth y DU yng Nghymru yn fwy na £2.5 biliwn, a'i fod yn cyflwyno prosiectau i drawsnewid cymunedau, creu swyddi a thyfu'r economi.
2. Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar Gyllid Datblygu Rhanbarthol ar ôl Gadael yr UE a'i argymhellion.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gynnal adolygiad ynghylch a ddylid darparu gwahanol elfennau o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar lefel leol, ranbarthol neu ledled Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Rwy'n siomedig iawn bod y Gweinidog wedi defnyddio'r ddadl hon i wneud Llywodraeth y DU yn gocyn hitio gwleidyddol unwaith eto, yn hytrach na chanolbwyntio ar sut y gellir gwella'r system ar gyfer y dyfodol. Dylai fod yn bwrw ymlaen â'i waith, yn hytrach na chorddi'r mater dim ond i ddangos ei hun o flaen aelodau ei blaid. Go brin y gellir galw hwn yn ymddygiad gwladweinydd gan rywun sy'n gobeithio bod y Prif Weinidog nesaf.
Nawr, i'r rhai ohonoch nad ydych eisoes wedi manteisio ar y cyfle i ddarllen adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar gyllid datblygu rhanbarthol ar ôl yr UE, byddwn yn eich annog yn gryf i wneud hynny. Beth bynnag a ddywed y Gweinidog, mae'r adroddiad trawsbleidiol hwnnw'n darparu dadansoddiad gwrthrychol, diduedd a manwl o'r ddarpariaeth o gyllid ôl-UE hyd yma ac mae'n cynnig rhai argymhellion gwirioneddol adeiladol i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac rwy'n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad hwnnw ac a helpodd y pwyllgor i lunio'r argymhellion hynny. Trwy eu tystiolaeth, llwyddodd yr Aelodau i gael dealltwriaeth wirioneddol o rai o'r heriau a wynebwyd gan sefydliadau a chlywed am rai o'r cyfleoedd a allai helpu i gryfhau'r system ar gyfer y dyfodol.
Nawr, mae cwantwm y cyllid a ddyfarnwyd i Gymru yn y gronfa ffyniant gyffredin wedi bod yn faes anghytuno allweddol rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU, ac mae'r cynnig heddiw, yn anffodus, yn adlewyrchu'r anghytundeb hwnnw. Nawr, disgrifiodd yr Athro Steve Fothergill o'r Ganolfan Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Rhanbarthol ym Mhrifysgol Hallam Sheffield yr anghytundeb hwn wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor, trwy egluro, a dyfynnaf:
'Mae'n sefyllfa od iawn i fod ynddi, i ddweud bod y ddwy ochr yn iawn yn hyn i gyd, ond maen nhw, oherwydd maen nhw'n edrych ar bethau eithaf gwahanol. Mae un yn edrych ar wariant gwirioneddol mewn blynyddoedd ariannol, ac, yn yr ystyr hwnnw, mae Llywodraeth y DU yn gywir; mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar ymrwymiadau ariannol, sy'n fesur gwahanol, ac mae Vaughan Gething yn gywir o ran hynny.'
Diwedd y dyfyniad. A thra bo'r ddwy Lywodraeth yn parhau â'u hanghydfod rhynglywodraethol ar y cwantwm cyllid, mae angen i ni gofio y gallai'r anghytundeb hwn fwrw trafodaethau ynghylch effeithiolrwydd gwariant ac a yw'r buddsoddiad, fel y dywedodd Sefydliad Bevan, yn ddigonol i raddfa angen, i'r cysgod.
Felly, gadewch i ni siarad am effeithiolrwydd gwariant ac a yw cyllid ffyniant bro yn darparu buddion mewn cymunedau yng Nghymru. Mae Canolfan Dechnoleg Bae Baglan ym Mhort Talbot bellach ar agor ar gyfer busnes a hi yw'r gyntaf o'i bath yng Nghymru, gan gynnig swyddfeydd uwch-dechnoleg a lle i labordai i lu o gwmnïau arloesol. Derbyniodd Rhondda Cynon Taf ychydig dros £20 miliwn o gyllid ar gyfer prosiectau fel canolfan drafnidiaeth y Porth, Canolfan Gelfyddydau'r Miwni a chynllun deuoli Coed Trelái ar yr A4119.
Mae prosiectau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth, a phan fydd canlyniadau cadarnhaol fel hyn yn cael eu gwneud, dylem eu dathlu. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu bod darparu'r cyllidau hyn wedi bod yn syml. Bu oedi a, gellid dadlau, diffyg eglurder ynghylch darparu'r cyllidau hyn, a dyna pam mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi galw am gynnal adolygiad i archwilio gwahanol elfennau'r gronfa ffyniant gyffredin ac edrych ar yr hyn y dylid ei gyflawni ar lefel leol, ranbarthol neu Gymru gyfan, Yn dibynnu ar yr hyn sy'n gweithio orau.
Roedd y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor yn dangos bod awdurdodau lleol Cymru yn falch o'r cyfle i benderfynu ar flaenoriaethau'n lleol a chael rheolaeth dros gyflawni. Fodd bynnag, clywodd y pwyllgor hefyd fod amserlenni tynn i ddatblygu cynlluniau buddsoddi, oedi cyn cymeradwyo'r rhain a ffrâm amser byr i wario arian wedi cael effaith ar allu awdurdodau lleol i gynllunio a chyflawni prosiectau. Ac felly mae'n rhaid dysgu gwersi i osgoi ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol, a barn y pwyllgor yw bod angen perthynas rynglywodraethol lawer mwy adeiladol wrth symud ymlaen, wrth wraidd hyn. Pan fydd y ddwy Lywodraeth yn cydweithio mewn partneriaeth, mae Cymru'n elwa. Ac rydym wedi gweld tystiolaeth o hynny gyda'r rhaglen porthladdoedd rhydd, y bargeinion dinesig a thwf, ac, yn fwy diweddar, creu parthau buddsoddi yng Nghymru.
Nawr, rwy'n deall barn y Gweinidog y dylai cyllid ar gyfer swyddogaethau datganoledig ddod i Lywodraeth Cymru i Weinidogion Cymru ddyrannu yn unol â'i blaenoriaethau a bod yn destun craffu gan y Senedd. Ond, Dirprwy Lywydd, mae dwy Lywodraeth yn gwasanaethu pobl Cymru, a'r broblem gyda'r mater hwn yw bod Llywodraeth Cymru yn credu mai hi yn unig ddylai fod yn gyfrifol am ddarparu'r cronfeydd hyn, ond, ar y llaw arall, mae Llywodraeth y DU yn credu mai hi yn unig ddylai fod yn gyfrifol am ddarparu'r cronfeydd hyn. Fodd bynnag, mae fy marn yn glir—dylent fod yn gweithio gyda'i gilydd ar y mater hwn, oherwydd, trwy weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth, gellir trawsnewid ein cymunedau. Ac felly rwy'n annog y ddwy Lywodraeth i fwrw ati a chydweithio er budd pobl Cymru. Credaf y gallai'r ddwy Lywodraeth ganolbwyntio llai ar wleidyddiaeth y cyllid ac yn hytrach defnyddio eu hamser a'u hymdrechion i wella'r system fel y gall wneud yn union yr hyn y mae wedi'i chynllunio i'w wneud, sef trawsnewid a chefnogi arloesedd yn ein cymunedau.
Mae hwn yn fater byw, ac yn un y bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn parhau i'w fonitro, a gallwch fod yn sicr o hynny. Ond heddiw rwy'n galw am rywfaint o wleidyddiaeth aeddfed wrth nodi'r problemau a welwyd wrth ddarparu'r cyllid hwn, ac ymrwymiad i fynd i'r afael â'r problemau hynny ar y cyd fel na fyddant yn parhau yn y dyfodol. Felly, Dirprwy Lywydd, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant, sy'n ddatganiad ffeithiol, gwrthrychol sy'n ymrwymo i weld cynnydd gwirioneddol yn y maes hwn fel y gallwn weld cyllid yn cael ei ddatganoli i brosiectau—
A wnewch chi ildio, Paul?
—fydd yn trawsnewid ein cymunedau.
Roedd yr Aelod eisoes wedi mynd y tu hwnt i'r amser a neilltuwyd iddo; fyddwn i ddim wedi caniatáu'r ymyrraeth.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynir yn ei enw ei hun.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1, ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn credu nad yw polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU yn ffafriol i degwch o fewn Cymru ac wedi arwain at loteri cod post o ran cymorth economaidd ledled Cymru, gan waethygu anghydraddoldebau rhanbarthol rhwng cymunedau yng Nghymru y mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi methu â mynd i'r afael â hwy.
Yn credu y dylai pob penderfyniad ynghylch sut y caiff arian ei wario yng Nghymru gael ei wneud yng Nghymru.
Yn gresynu at y ffaith i Gymru gael ei thanariannu'n hanesyddol o ganlyniad i Fformiwla Barnett sydd wedi dyddio, gan fod hyn yn gwaethygu effaith y diffyg mewn cyllid o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r Gronfa Ffyniant Bro.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw am:
a) dychwelyd cyllid buddsoddi rhanbarthol i Lywodraeth Cymru i ddarparu yn unol â pholisïau datganoledig sy'n gwbl atebol i'r Senedd;
b) Bil Tegwch Economaidd (Cymru)—gwarantu cyllid teg yn seiliedig ar anghenion Cymru;
c) mynd i'r afael â'r annhegwch ar draws setliadau cyllido ac ariannol presennol Cymru, er enghraifft drwy ailddynodi HS2 a Northern Powerhouse Rail fel prosiectau ar gyfer Lloegr yn unig, gan roi cyllid canlyniadol i Gymru o ganlyniad i hynny.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac mae Plaid Cymru wedi cyflwyno nifer o welliannau, a hynny er mwyn trio tanlinellu rhai o'r anghyfiawnderau sydd wedi cael eu creu gan agenda ffyniant bro y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain. ‘Ffyniant bro’, y teitl eironig, yn aml iawn, sydd wedi cael ei fathu fel cyfieithiad o 'levelling up'—y gwir amdani ydy bod trefniadau cyllido ôl-Undeb Ewropeaidd, fel y cynllun ffyniant bro, ddim ond yn un esiampl, wrth gwrs, o’r system gyllido annheg ac anghyfiawn mae Cymru’n ffeindio ei hun yn rhan ohoni hi, un sydd yn amddifadu ein cymunedau ni o fuddsoddiad, un sy'n gosod un gymuned yn erbyn y llall yn llawer rhy aml, ac sydd yn ein dal ni'n ôl fel cenedl rhag gallu cyrraedd ein potensial. Ac er bod fy mhlaid i a phlaid Llywodraeth Cymru yn rhannu llawer o dir cyffredin o ran ein hagweddau ni tuag at y sefyllfa ôl-Brexit, mae cynnig y Llywodraeth heddiw, fel y mae o, yn methu â mynd i'r afael â’r broblem ehangach yna.
Mae gwendidau sylweddol yn agweddau'r Lywodraethau, y Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur, ar egwyddorion sy'n ymwneud â thegwch yn y DU ac yng Nghymru. O ran tegwch yng Nghymru, mae'r fformiwla ar gyfer dyrannu'r gronfa ffyniant gyffredin yn amrywio'n sylweddol i gyllid blaenorol yr UE. Nid oes ganddi fecanwaith sy'n seiliedig ar anghenion wrth ei gwraidd, sy'n gadael rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig yn waeth eu byd. Mae hyn er gwaethaf, wrth gwrs, y Torïaid yn addo dro ar ôl tro y cai cyllid Ewropeaidd ei ddisodli bunt am bunt.
Canfu'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol, o dan drefniadau ariannu'r UE, fod y rhanbarthau mwyaf difreintiedig, fel gorllewin Cymru a'r Cymoedd, wedi derbyn 83 y cant o gyfanswm cyllid yr UE a roddwyd i Gymru—bron i deirgwaith cymaint y pen ag ardaloedd gwell eu byd yng Nghymru; dyna beth mae ffyniant bro yn ei olygu mewn gwirionedd. Ond, o dan gronfa ffyniant gyffredin newydd y DU, mae'r ffigur hwnnw'n gostwng i 73 y cant, a'r hyn y mae hynny'n ei ddweud wrthyf yw ein bod yn mynd i'r cyfeiriad anghywir o ran ceisio ymladd yn erbyn yr anghydraddoldebau sy'n rhemp yn ein cymunedau.
O ran ffyniant bro, yr arian ffyniant bro ei hun, yn ei rownd ddiweddaraf, ni wnaeth 11 awdurdod lleol yng Nghymru dderbyn un geiniog ohono, ac mae hyn yn cynnwys rhai o'n cymunedau mwyaf gwledig a difreintiedig, lle mae argyfyngau tai, seilwaith gwael a thanariannu parhaus gan Lywodraethau'r DU a Chymru wedi dod yn gyffredin. Ac oherwydd diffyg y cyllid cyfatebol hynny yn lle'r arian a ddoi gan yr UE, mae'r sefyllfa anodd yr oedd y cymunedau hynny eisoes yn ei hwynebu yn dirywio hyd yn oed ymhellach. Rydym ni wedi gweld, onid ydym ni, yn ddiweddar, gyda gwasanaeth Fflecsi Bwcabus yng ngorllewin Cymru, diwedd gwasanaeth a oedd yn anhepgor i bobl, gan atal y rhai a oedd yn ddibynnol arno, fel pobl hŷn a myfyrwyr, efallai, rhag teithio i gefnogi busnesau lleol, cael mynediad at wasanaethau hanfodol, cyrraedd y gwaith, cyrraedd addysg, gweld eu ffrindiau, gweld eu hanwyliaid.
Ar ben hynny, mewn etholaethau a gafodd arian o'r gronfa ffyniant bro, fel fy etholaeth i Ynys Môn, mae proses ymgeisio gyfyngol gyda therfynau amser afresymol o dynn yn golygu nad yw'r arian sy'n cael ei ddyfarnu yn cael ei wario er budd yr ardal gyfan, ond yn hytrach dim ond un rhan fach ohoni. Rydw i wedi gweithio'n agos iawn gyda phrosiectau yng Nghaergybi, ac rydw i wrth fy modd bod prosiectau yno wedi gallu derbyn cyllid, ond mae'n rhwystredig iawn, iawn—[Torri ar draws.] Os hoffech chi ildio.
Rwy'n hapus iawn i ildio. Rwy'n falch iawn o glywed eich bod yn gwneud rhywfaint o ymdrech i weithio gyda phobl yng Nghaergybi. Rwy'n gobeithio y bydd yr ymdrech honno'n cynnwys gweithio gyda'r AS lleol, Virginia Crosbie, sydd wrth gwrs wedi bod yn cyflawni ei hymrwymiadau i'r ynys, gan weithio'n galed i ddarparu'r statws porthladd rhydd a fydd wir yn helpu'r ynys honno i ffynnu. Ac o ran ffyniant bro, oni fyddech chi'n cytuno â mi bod angen i ni weld rhywfaint o ffyniant bro yng Nghymru, lle gwelwn ni ragfarn gynhenid yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn dosbarthu arian yn y wlad hon yn y de, ac nid yn y gogledd?
Rwyf mor falch eich bod wedi rhoi cyfle i mi atgoffa pawb bod AS Ceidwadol Ynys Môn, fel gyda'r Blaid Geidwadol yn ei chyfanrwydd, yn fwy na pharod i Gaergybi, i Ynys Môn, dderbyn £8 miliwn o gyllid porthladd rhydd o'i gymharu â'r £26 miliwn a roddwyd i bob porthladd rhydd yn Lloegr. Fe wnaethom ni sefyll yn gadarn, a gweithiais gyda Llywodraeth Cymru ar hyn. Fe wnaethom ni dderbyn—
Fe wnaethoch chi ei wrthwynebu.
Mae'r Aelod yn dweud fy mod i'n gwrthwynebu porthladdoedd rhydd. Fe wnes i ddadlau dros borthladd rhydd gyda'r maint o gyllid roeddem ni'n ei gael, nad oeddem ni'n cael ei gynnig gan y Ceidwadwyr. Fe wnes i ddadlau dros borthladd rhydd yn amddiffyn hawliau gweithwyr pan nad oedd yr AS Ceidwadol yn hidio botwm corn, ac fe wnes i ddadlau dros reoliadau amgylcheddol. Ac, fe wnes i ddadlau—[Torri ar draws.]
Darren, gadewch i'r Aelod ymateb i'ch ymyrraeth.
Ac fe wnes i ddadlau, fel yr oeddwn i'n ei fynegi, dros ddosbarthu cyllid ffyniant bro ar draws yr ynys gyfan. Roeddwn i wrth fy modd pan lwyddodd cymunedau yng Nghaergybi i dderbyn cyllid, ond rwy'n ddig y gwarafunwyd y cyfle i gymunedau yn Amlwch gael y cyllid hwnnw. Nid oedd cymunedau sydd wedi bod yn dioddef o dlodi ers blynyddoedd lawer, oherwydd gweithredoedd Llywodraeth Geidwadol, yn gallu cael yr arian sy'n ddyledus iddyn nhw. Mae hynny oherwydd y diffyg hyblygrwydd a oedd yn rhemp yn y system.
Nawr, mae agenda ailflaenoriaethu Llywodraeth y DU yn ailflaenoriaethu clir i ffwrdd o anghenion materol Cymru, ac mae o fudd anghymesur i feysydd sydd eisoes yn cael budd anghymesur. Rydym ni wedi gweld o ddadansoddiad The Guardian bod seddi ymylol y Ceidwadwyr wedi derbyn un a hanner gwaith swm yr arian fesul person nag etholaethau eraill. Yn seddi'r wal goch lle'r enillodd y Ceidwadwyr yn 2019, dwywaith y swm o arian oedd hi. Gwleidyddiaeth nawddoglyd yw hyn. Llygredd democrataidd yw hwn gan y Blaid Geidwadol. Mae'n hen bryd—[Torri ar draws.] Mae'n hen bryd i'r Ceidwadwyr dderbyn eu bod wedi gwneud cam â'n cymunedau drwy gyfeirio arian tuag at eu prosiectau eu hunain yn hytrach na chreu ffyniant go iawn, sef yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei geisio, drwy'r ddeddfwriaeth yr ydym ni'n ei cheisio yn San Steffan, gan alw am—
Rwyf wedi bod yn hael gyda'r amser i ganiatáu ymyrraeth i chi, ond mae angen i chi ddod i ben nawr, Rhun.
Roedd yr ymyrraeth ei hun yn hael, ac rwy'n hapus i dderbyn eich amser ychwanegol hael.
Ond mae angen y Bil tegwch economaidd hwnnw arnom ni i sicrhau bod annhegwch cyllido Cymru yn cael sylw, a gofynnaf ichi gefnogi gwelliannau Plaid Cymru heddiw.
Er mwyn i ffyniant bro weithio, mae'n rhaid iddo ymwneud â chynyddu gwerth ychwanegol gros a chyflog canolrifol. Nid yw'n ymwneud â gwneud pethau neis na harddu ardaloedd, er mor bwysig yw hynny; mae'n ymwneud â chreu mwy o gyflogaeth sy'n talu'n dda. Mae Llywodraeth San Steffan yn dweud:
'nid yw pawb yn rhannu'n gyfartal yn llwyddiant y DU. Er bod talent yn cael ei ledaenu'n gyfartal ar draws ein gwlad, nid yw cyfle.'
Mae hynny'n gywir.
'Mae ffyniant bro yn genhadaeth i herio, a newid, yr annhegwch hwnnw. Mae ffyniant bro yn golygu rhoi cyfle i bawb ffynnu. Mae'n golygu bod pobl ym mhobman yn byw bywydau hirach sy'n rhoi mwy o foddhad iddyn nhw, ac yn elwa o gynnydd parhaus mewn safonau byw a lles.'
Beth allwch chi ddadlau â hynny?
'Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddod â'r anghydraddoldeb daearyddol i ben sy'n nodwedd mor drawiadol o'r DU. Mae angen iddo ddechrau trwy wella dynameg economaidd ac arloesedd i ysgogi twf ledled y wlad gyfan, gan ryddhau pŵer y sector preifat i greu swyddi a chyfle i bawb. Er bod busnesau ac arloeswyr blaengar a mentrus ledled y DU, mae twf economaidd a'r cynhyrchiant uwch sy'n ei ysgogi wedi ei or-ganolbwyntio mewn ardaloedd penodol'—
yn y bôn, Llundain a de-ddwyrain Lloegr.
'Mae cynffon hir o fusnesau a lleoedd cynhyrchiant isel yn egluro pam fod twf cynhyrchiant y DU yn rhy isel o'i gymharu â chystadleuwyr.'
Y ffigurau diweddaraf yr wyf wedi gallu cael gafael arnyn nhw ar werth ychwanegol gros yw ei fod yn £48,857 y pen yn Llundain; £29,415 yn y de-ddwyrain; a £19,899 yng Nghymru. O ran cyflog canolrifol, Llundain £49,899; de-ddwyrain Lloegr £36,580; a Chymru £32,000. A pham mae hyn? O ran gwyddorau bywyd, mae 24 y cant o'r gyflogaeth gwyddor bywyd yn ne Lloegr; mae 11 y cant o gyflogaeth gwyddorau bywyd yn Llundain; mae 4 y cant o gyflogaeth gwyddorau bywyd yng Nghymru. Pe bai gennym ni gyfran ein poblogaeth yn unig, byddai'n hyd at 5 y cant. Y 10 dinas orau yn y DU ar gyfer cyflogaeth TGCh yw Bryste, Manceinion, Birmingham, Nottingham, Llundain, Caeredin, Leeds, Belfast a Newcastle. Efallai eich bod wedi sylwi nad oes yr un ohonyn nhw yng Nghymru. Dyna pam mae angen ffyniant bro arnom.
Ond yr hyn y mae ffyniant bro wedi'i ddarparu hyd yma yw prosiectau da, prosiectau neis, ond pethau nad ydyn nhw'n mynd i gynyddu gwerth ychwanegol gros na chyflog canolrifol. Cafwyd £18 miliwn i annog ffyrdd iachach o deithio ym Mhowys; £20 miliwn i drawsnewid safle glannau'r Barri yn ardal gyhoeddus fywiog; mwy na £15 miliwn tuag at adnewyddu nifer o adeiladau adfeiliedig a chreu mwy o ardaloedd gwyrdd yng nghanol tref Llanelli; £20 miliwn ar gyfer datblygiadau prosiect i hybu ardaloedd yn sir Ddinbych, fel y Rhyl, sy'n cynnwys adfywio canol y dref; a £12 miliwn i adfer ac ailagor y bont newydd restredig Gradd II. Hynny yw, mae'r rhain i gyd yn bethau neis. Mae'r rhain i gyd yn bethau da. Mae'r rhain i gyd yn dda i'r gymuned. Yr hyn nad ydyn nhw'n ei wneud yw sicrhau ffyniant bro. Er mwyn sicrhau ffyniant bro, mae angen cyflogaeth â chyflogau uwch arnom. Mae angen swyddi o ansawdd da arnom ni.
Felly, yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw o leiaf rhai o'r rhain: cael o leiaf ugain mil o swyddi gwasanaeth sifil ychwanegol ar bob lefel wedi'u hadleoli i Gymru. Fel y mae pobl sy'n adnabod Abertawe yn ymwybodol iawn, mae swyddi'r gwasanaeth sifil yn yr ardal yn darparu swyddi o ansawdd da. Dylai hynny ddigwydd ym mhob man. Cymorth ariannol i brifysgolion gefnogi ymchwil a datblygu. Codwyd hyn gan y Gweinidog. Mae angen i ni wneud mwy o ymchwil a datblygu. Os ydym ni’n bwriadu dod yn ardal gyfoethocach, mae angen i chi gael ymchwil a datblygu. Mae angen i chi dyfu allan o'r prifysgolion i ddatblygu cyflogaeth mewn sectorau â chyflog uchel a sgiliau uchel, fel TGCh, gwyddorau bywyd a gwasanaethau ariannol. Mae angen mwy o swyddi sy'n talu'n dda. Dyna hanfod ffyniant bro, ac os yw ffyniant bro wedi gweithio, byddwn yn gweld mwy o werth ychwanegol gros a chyflog canolrif uwch yng Nghymru. Dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni anelu ato. Llawer o bethau neis, iawn, ond dyw hynny ddim yn sicrhau ffyniant bro; dim ond gwneud pethau neis yw hynny. Diolch yn fawr, Llywydd.
Rydym ni eisoes wedi clywed sôn am adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am gyllid yr UE, a byddwn i'n adleisio'r Cadeirydd wrth ddweud, os oes Aelodau yn y Siambr sydd heb ei ddarllen—er fy mod i'n tybio bod pawb wedi treulio'r amser i'w ddarllen—yna darllenwch e' da chi. Roedd yn ddarn da iawn o waith, ac rwy'n credu ein bod fel pwyllgor yn falch iawn o'r gwaith a gynhyrchwyd gennym ni yn yr ymchwiliad hwnnw.
Wrth gwrs, mae'n tynnu sylw at lawer o ddiffygion a llawer o faterion sy'n gysylltiedig â disodli ffrydiau cyllido rhanbarthol er gadael yr Undeb Ewropeaidd: y natur tymor byr, dyblygu gwaith, atebolrwydd, gosod cymunedau yn erbyn ei gilydd yw dim ond rhai o'r diffygion hyn. Ond un maes penodol rydym ni bellach yn ei weld sy'n hynod amlwg yw'r effaith y mae'n ei chael ar brentisiaethau. Ac mae'n siŵr y byddwn yn clywed mwy yfory, ond rydym ni eisoes yn gwybod am effaith ddinistriol bosibl colli cyllid yr UE yn y maes hwn. Does dim dadlau am hyn, a bydd yn effaith sy'n mynd y tu hwnt i addysg yn unig. Bydd hefyd yn cael ei deimlo ar draws yr economi.
Fodd bynnag, roedd arna i eisiau adleisio pryderon fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth ynglŷn â thegwch. Yn y pen draw, mae'n rhaid dweud y dylid gwneud yr holl benderfyniadau ynghylch sut mae arian yn cael ei wario yng Nghymru yng Nghymru, ond nid yw'n ymwneud dim ond â Llywodraeth Cymru â rheolaeth dros weinyddu'r gronfa ffyniant gyffredin a'r gronfa ffyniant bro; mae hefyd yn ymwneud â'r ffaith nad yw'r cwantwm yn ddigon, ac nad yw'r mecanweithiau a'r fformiwla y tu ôl i'r cronfeydd yn deg. Os oes arnom ni eisiau gweld datblygiad economaidd gwirioneddol yng Nghymru a chydraddoldeb gwirioneddol rhwng ein cymunedau, mae'n rhaid i ni gael rheolaeth dros ein cyllid ein hunain, dros ein holl benderfyniadau ein hunain, ac nid dictad o San Steffan.
Ond unwaith y bydd y pwerau hynny yn ein dwylo ni, mae her arall yn bod: sut mae sicrhau bod datblygu rhanbarthol yn digwydd mewn gwirionedd? Sut ydym ni'n sicrhau ein bod yn dod â loteri cod post datblygiad economaidd i ben a buddsoddiad sy'n werth chweil i'n cymunedau? Dyna lle rwy'n credu bod y syniad o Fil tegwch economaidd yn berthnasol. Rydym yn ei ymwreiddio yn ein system newydd. Oherwydd mae profiad wedi dangos i ni, hyd yn oed pan oedd gennym ni'r grym i gyfarwyddo cyllid yr UE, roedd yr effaith ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn fach iawn.
Felly, ie, ni chewch chi unrhyw well gynigydd o'r egwyddor y dylid penderfynu ar wariant yng Nghymru yng Nghymru, ond os a phryd daw'r amser i'r pwerau hynny fod yn nwylo Llywodraeth Cymru, sut ydym ni'n sicrhau nad ydym ni'n ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol? Sut mae sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei wneud yn iawn a'i wneud yn deg ar draws holl gymunedau Cymru? Dyma'r cwestiynau y mae'n rhaid i ni eu hystyried hefyd.
A wnewch chi ildio ar y pwynt hwnnw?
Roeddwn i ar fin gorffen, ond wrth gwrs fe wnaf i ildio; mae gen i amser.
Diolch yn fawr iawn am ildio. A gaf i awgrymu—? Rwy'n credu bod yr adroddiad a gyflwynwyd gan y pwyllgor yn dda iawn, iawn, ond a gaf i awgrymu eich bod yn mynd yn ôl ac edrych yn ogystal ar y fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol? Roedd hwnnw'n ddarn o waith 18 mis a oedd yn cynnwys pob agwedd ar gymdeithas ddinesig Cymru, y sector gwirfoddol, busnesau, colegau, prifysgolion—roedd pawb yn rhan ohono. Roedd yn cyd-redeg â darn o waith gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithredu a Datblygiad Economaidd hefyd. Ac ers i ni ei gyflwyno, yn anffodus, oherwydd amharodrwydd Llywodraeth y DU i ymgysylltu â ni—. A byddai, Paul, wedi ymdrin â'r mater hwnnw o Lywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd, ond hefyd yn lleol, yn rhanbarthol, o lawr gwlad i fyny, eu syniadau o'r hyn a allai weithio. Edrychwch ar hynny eto oherwydd bod y model yno ac mae angen ychydig bach o gaboli arno, ond mae'r model yno ynglŷn â sut rydym ni'n lledaenu'r tegwch hwnnw i bob rhan o Gymru.
Byddwn yn cytuno nad oes diben ailddyfeisio'r olwyn lle mae gennym ni ddigon o waith sydd eisoes wedi'i wneud ar hyn, a chredaf mewn gwirionedd y bydd edrych ar sut y gallwn ni sicrhau bod awdurdodau lleol, y lefel llawr gwlad honno, yn cael eu grymuso gan unrhyw system newydd a gyflwynwyd gennym ni yn mynd i fod yn allweddol yma, oherwydd yn y pen draw mae ein cymunedau lleol yn gwybod beth sydd ei angen arnyn nhw ac yn gwybod beth sy'n gweddu orau iddyn nhw. Ac ar y nodyn hwnnw, Dirprwy Lywydd, fe ddof i ben.
Rwy'n cymryd safbwynt ychydig yn wahanol i Aelodau eraill yn y ddadl hon. Fy marn i yw bod ffyniant bro yn farw. Dim ond ymarfer cysylltiadau cyhoeddus oedd e. Nid oedd erioed yn bolisi economaidd difrifol. Dim ond cyfleoedd i dynnu lluniau a gwleidyddiaeth nawddoglyd oedd hi erioed. Ond yr hyn a laddodd ffyniant bro a lladd unrhyw synnwyr bod ffyniant bro yn bolisi difrifol y Llywodraeth oedd y cyhoeddiad ar HS2. Mae'r ffaith na fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig nawr yn gwario arian yn cysylltu dinasoedd Lloegr yn golygu bod unrhyw esgus bod bwriad polisi difrifol wedi dod i ben. Mae HS2 bellach yn rheilffordd gyflym sy'n cysylltu Birmingham a Llundain, mae'n debyg mor bellgyrhaeddol i Gymru y naceir cyllid inni oherwydd y budd economaidd y byddwn yn ei deimlo o ganlyniad i hyn. Dyw hynny yn syml ddim yn economeg ddifrifol. Nid oes neb yn cymryd hyn o ddifrif.
Mae angen i ni fod yn hollol glir, os ydym ni o ddifrif am unrhyw ffurf o—rydych chi wedi disgrifio ffyniant bro ar draws y Deyrnas Unedig—buddsoddiad yn y Deyrnas Unedig, yna mae angen gwleidyddiaeth ddifrifol arnom ni i wneud hynny. Nid yw'n ymwneud dim ond â'r cwantwm cyllid sydd ar gael, er yn amlwg mae hynny'n bwysig. Mae hefyd yn ymwneud â sut gaiff y cyllid hwnnw ei ddosbarthu. Yr hyn sy'n fy siomi'n fawr am rywfaint o'r wleidyddiaeth ynghylch ffyniant bro a'r materion polisi sy'n ymwneud â ffyniant bro yw bod Llywodraeth y DU wedi ailadrodd yr un camgymeriadau ag a wnaeth Llywodraeth Cymru gydag Amcan 1 ugain mlynedd yn ôl. Ni ddefnyddiwyd ddim o'r gwaith na'r gwersi a ddysgwyd wrth gymhwyso unrhyw un o'r ffrydiau ariannu yr ydym ni wedi'u gweld yn cael eu darparu yn ystod y pum mlynedd. Felly ni welsom ni ddysgu gwersi, fe welsom ni ailadrodd camgymeriadau.
Ond nid enghraifft yn unig o fethiant polisi unigol yw hyn. Rwy'n credu ei fod yn fwy na hynny, Dirprwy Lywydd. Mae'n fethiant athroniaeth, meddylfryd, methiant diwylliant—methiant hanesyddol y Deyrnas Unedig i fod yn Deyrnas Unedig. Rydym ni i gyd yn gwybod, pob un ohonom ni, ni waeth ym mha ran o'r Siambr hon yr ydym ni'n eistedd, pe bai'r arian oedd ei angen i gysylltu Manceinion, Leeds a dinasoedd gogledd Lloegr ag HS2 ei angen yn Llundain neu dde-ddwyrain Lloegr, y byddai'r arian hwnnw wedi ei ganfod. Pe bai'r arian i drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe wedi bod yn ofynnol yn Llundain, byddai'r arian wedi ei ganfod. Rydym ni i gyd yn gwybod bod hynny'n wir, pob un ohonom ni, oherwydd fe ddaethpwyd o hyd iddo, i gyflwyno Crossrail.
Y Deyrnas Unedig yw'r wladwriaeth fwyaf anghyfartal yng ngorllewin Ewrop. Yn y modd hwn, rwy'n credu bod y Deyrnas Unedig yn fwy na dim ond gwladwriaeth ag anghydraddoldeb—mae'n wladwriaeth fethedig. Ac nid Cymru yw'r unig un sy'n profi canlyniadau dynol y methiant hwn. Mae'r Deyrnas Unedig wedi creu cyfoeth mawr gan y bobl sy'n byw yn yr ynysoedd hyn drwy'r ganrif ddiwethaf, ond mae'r cyfoeth hwnnw wedi ei ganoli mewn un dosbarth ac un ardal ddaearyddol, ac nid damwain yw'r crynodiad hwnnw o gyfoeth a braint—mae'n ganlyniad uniongyrchol polisi. A gadewch i ni fod yn hollol glir ynglŷn â hyn: mae'r un polisi hwnnw wedi'i gyflawni pwy bynnag sydd wedi bod yn byw yn Downing Street.
Wrth gwrs, mae'r Deyrnas Unedig yn diffygio heddiw. Mae'r cyfuniad gwenwynig o dwf isel a gweithgarwch economaidd sy'n gostwng o ganlyniad i gyni a Brexit yn golygu bod llawer o'r bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli yma yn dioddef fwyaf, yn gweld gwirionedd hyn. Ond gadewch i ni hefyd fod yn glir: roedd Prydain yn sylfaenol anghyfartal, yn gymdeithas anghyfartal, ymhell cyn cyni, ymhell cyn yr argyfwng ariannol. Mae Prydain, mewn gwirionedd, wedi'i chynllunio i fod yn anghyfartal. Felly mae angen i ni fynd i'r afael â'r materion hyn, ac nid oes angen i ni ail-frandio ffyniant bro fel rhywbeth gwahanol— ffyniant bro Llafur rywsut yn wahanol i ffyniant bro y Ceidwadwyr. Rwy'n credu bod yr argyfwng rydym ni'n ei wynebu, a'r argyfwng ar ben argyfwng yr ydym ni wedi'u hwynebu, yn ein gorfodi ni i feddwl yn galetach am yr heriau sy'n ein hwynebu ni.
Fe welsom ni cyn y Nadolig fod y Llywodraeth Geidwadol yn fodlon darparu fformiwla ariannu ar sail anghenion ar gyfer Gogledd Iwerddon, felly pam ddim Cymru? Pam ddim Cymru? Pam nad y bobl rwy'n eu cynrychioli? Pam nad oes ganddyn nhw'r hawl i'r un tegwch ag y mae'n ymddangos bod gan bobl Gogledd Iwerddon yr hawl iddo? Mae'n rhaid i ni fod yn llawer mwy radical yn ein meddylfryd. [Torri ar draws.] Fe wnaf i ildio.
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyrraeth. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi bod fformiwla Barnett yn perthyn i oes a fu a bod angen fformiwla newydd yn seiliedig ar anghenion arnom ni. Pan ystyriwyd y mater hwn ddiwethaf, gan y comisiwn a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, roedd mewn gwirionedd yn cynnig lefel o gyllid a oedd yn llai na'r trefniadau presennol, sydd ar hyn o bryd yn £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario ar wasanaeth datganoledig. Felly mae yna berygl, wrth gwrs, y gallai fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion roi setliad gwaeth i ni nag sy'n cael ei dderbyn ar hyn o bryd o ganlyniad i'r cytundeb rhwng Llywodraethau'r DU a Chymru.
Yn hollol. Nid wyf yn awgrymu bod sicrwydd am y dyfodol. Ni allwn ni warantu beth sy'n mynd i ddigwydd nos yfory, heb sôn am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd yn y degawd nesaf. Ond yr hyn y gallwn ni ei warantu yw gradd o degwch, a fy mrawddeg nesaf, Darren, oedd y cai'r materion hyn eu pennu gan gomisiwn cyllido annibynnol ac nid gan y Trysorlys. Oherwydd yr un peth y bydd pob adran wladol, ble bynnag y maen nhw'n eistedd, boed hynny yn Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban neu unrhyw ran o system San Steffan, yn dweud wrthych chi yw bod y Trysorlys bob amser yn ennill. Mae'r Trysorlys bob amser yn ennill. A'r hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw symud y penderfyniadau hyn oddi wrth y Trysorlys. Mae model da iawn o hynny yn gweithio yn Awstralia ac mewn mannau eraill yn y byd.
Ond mae'n rhaid i ni fod yn fwy radical. Mae angen i ni fod yn fwy radical am yr heriau sy'n ein hwynebu. Mae angen i ni gael golwg llawer cliriach o degwch yn yr ynysoedd hyn. Mae Cymru wedi dioddef annhegwch ers degawdau, drwy'r ganrif ddiwethaf, ond hefyd rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae'r Deyrnas Unedig wedi ei sefydlu—
Mae angen i chi ddod i ben nawr, Alun, os gwelwch yn dda.
—fel gwladwriaeth i ariannu'r cyfoethog a de-ddwyrain Lloegr a chymuned ariannol Llundain. Os yw'r Deyrnas Unedig yn mynd i lwyddo, yna mae'n rhaid iddi fod yn fwy na hynny.
Am flynyddoedd, roedd cyllid yr UE yn llenwi bylchau allweddol yn ein cyllid. Siawns fod pawb yn cytuno ar hynny. A ninnau'n methu codi trethi na benthyca'n sylweddol ar gyfer prosiectau mawr, roeddem ni'n dibynnu ar eu cynlluniau fel ffynhonnell buddsoddi hanfodol. Fel rhan o'r UE, sicrhaodd Cymru arian ar gyfer anghenion ein gwlad. Mae'r arian newydd o San Steffan yn cynnig llai o arian gyda rheolaethau llymach.
O ran awdurdodau lleol, erydir democratiaeth leol yn hytrach na'i grymuso gan y system gynnig. Mae'n gosod awdurdodau yn erbyn ei gilydd mewn ymgiprys ar gyfer cyllid cyfyngedig a defnyddio capasiti prin awdurdodau lleol. Mae'n anochel bod y model cystadleuol hwn yn dewis enillwyr a chollwyr yn ôl disgresiwn y Llywodraeth Geidwadol. Gall cynghorau sydd ag adnoddau toreithiog gydag awduron arbenigol yn llunio ceisiadau gyflwyno mwy o gynigion caboledig, tra bod cynghorau llai cefnog yn dargyfeirio adnoddau prin i geisiadau sydd, yn anffodus, yn aflwyddiannus.
Wrth gamu'n ôl, siawns na allwn ni i gyd gytuno ar egwyddorion cyllid cenedlaethol. I Gymru, fe ddylem ni fod yn penderfynu ar ein cyllid, ein bod yn penderfynu ar sail deg yn ôl yr angen yma yng Nghymru—na ddylai hynny osgoi datganoli. Dylai fod ar gyfer prosiectau strategol sy'n gwella Cymru, megis seilwaith, sydd wedi cael ystyriaeth ofalus ac sydd â thystiolaeth dda. Ni ddylai osod ein hawdurdodau lleol yn erbyn ei gilydd, ac ni ddylai ymwneud â'r adnoddau sydd gan awdurdodau lleol, neu'r hyn nad oes ganddyn nhw. Ac ni ddylai ddyblygu prosiectau.
Ar y mater hwn, mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi nodi, drwy beidio â chynnwys Llywodraeth Cymru mewn penderfyniadau, bod risg gynhenid o ddyblygu a gorgyffwrdd, yn enwedig lle gallai mentrau sero-net o dan y gronfa ffyniant gyffredin wrthdaro â'r rhai sydd ar gael o dan Fanc Datblygu Cymru.
Yn olaf, os oes arnom ni eisiau sicrhau gwir ffyniant bro mewn difrif, ac rwy'n credu bod arnom ni i gyd eisiau hynny, mae angen datganoli gwell ar gyfer Cymru. Mae angen i ni sicrhau bod Cymru'n darparu datblygiad cynaliadwy sy'n gweithio i bob un person yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Pe bai ar Lywodraeth y DU wir eisiau codi'r gwastad, dylai ariannu gwasanaethau cyhoeddus a phawb a gyflogir ynddyn nhw'n briodol. Maen nhw'n un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru. Rwy'n falch o weld bod adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y tymor diwethaf ar gyllid ers gadael yr UE yn dweud y cai'r ddarpariaeth ei gwella'n fawr gyda chyfranogiad Llywodraeth Cymru. Roedd Cymru yn fuddiolwr net o gyllid yr UE. Roedd yn cydnabod yr anghydraddoldeb.
Fel y dywed yr adroddiad, roedd GDP fesul pen gorllewin Cymru a'r Cymoedd oddeutu 70 y cant o gyfartaledd yr UE, o'i gymharu â Gorllewin Llundain fewnol, sydd â GDP y pen o ymhell dros 600 y cant o gyfartaledd yr UE. Mae'r broses o gyllido codi'r gwastad yn hynod gystadleuol ac yn rhoi pwysau enfawr ar awdurdodau lleol sydd eisoes dan bwysau. Mae datblygu cynigion o'r math hwn yn feichus ac yn ddrud o ran adnoddau. Rwy'n ymwybodol bod un cais aflwyddiannus wedi costio tua £100,000. Fe roddodd Llywodraeth y DU rywfaint o gyfraniad, ond dim digon. Ac achosodd y ceisiadau ddargyfeiriad enfawr o ran sylw.
Pe gallai cynghorau roi mynegiant cynnar o ddiddordeb i'r ceisiadau cyllido, megis gyda'r loteri a'r ffrydiau cyllido blaenorol, ac yna cael sêl bendith i fynd i'r cam nesaf, byddai hynny'n ddefnyddiol a byddai'n arbed gwastraffu llawer o amser ac arian. Mae sir y Fflint, er enghraifft, wedi bod yn aflwyddiannus ym mhob un o'r rowndiau ariannu ar gyfer prosiectau mawr. Dywedwyd wrthyn nhw fod y cynigion yn gryf ond bod y broses yn rhy gystadleuol. Roedd hyn yn hynod siomedig, gan mai un cais ar y cyd oedd gwella'r llinell rhwng Wrecsam a Bidston ac i orsaf ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, y mae ei ddirfawr angen i drigolion y gogledd gael mynediad at swyddi a llenwi'r swyddi gwag y mae cyflogwyr yn ysu i'w llenwi. Byddai hynny wedi bod yn enghraifft fuddiol iawn o ffyniant bro.
Mae cynghorau lleol hefyd wedi gorfod gweithio gwyrthiau i wneud llwyddiant o gyllid y gronfa ffyniant gyffredin, yn wynebu taliadau hwyr gan Lywodraeth y DU, diffyg eglurder llwyr ar sut i ddyrannu arian, ac amserlenni sy'n llawer rhy dynn. Mae llyfrau rheolau y DU mor sylfaenol nes bod y Llywodraeth i'w gweld fel pe bai'n dyfeisio pethau wrth iddyn nhw fynd ymlaen, gan adael unedau gweinyddol cynghorau i weithio yn y tywyllwch.
Er gwaethaf yr heriau hyn, mae awdurdodau lleol wedi defnyddio eu harbenigedd i ddarparu cyllid ar gyfer prosiectau sydd mewn gwirionedd yn ddefnyddiol iawn ar lawr gwlad, fel yr oedden nhw o dan y rhaglen datblygu gwledig flaenorol. Ond, yn anffodus, mae wedi cymryd cymaint o amser i gyflawni'r rhaglen, mae'r prosiectau cymunedol, sydd i'w croesawu'n fawr, yn fyrhoedlog ac fe ellid â bod wedi eu cyflawni gyda thair blynedd gyfan o'r gronfa ffyniant gyffredin.
Mae'r toriad mewn cyllid o dros £1 biliwn o gyllid yr UE i Lywodraeth Cymru wedi effeithio ar sefydliadau a phobl yn genedlaethol a rhanbarthol; er enghraifft, prentisiaethau, addysg bellach, ymchwil a seilwaith mawr ffyrdd a rheilffyrdd. Gwn, ar gyfer y prosiect seolwaith mawr diwethaf ar yr A55 yn y gogledd-orllewin, fod hanner hwnnw wedi'i ariannu o gyllid yr UE—roedd yn brosiect gwerth £30 miliwn—ac rydym ni'n dweud nawr, 'Nid oes arian ar gyfer adeiladu ffyrdd'. O ran y cyllid ar gyfer amaethyddiaeth, rwy'n deall bod £243 miliwn wedi'i golli o'r UE ar gyfer taliadau fferm, a bydd colled fawr ar ei ôl.
Er mwyn i brosiectau newydd a ariannwyd gan yr UE o'r blaen gael eu cyflawni ar lefel ranbarthol, crëwyd haen newydd o fiwrocratiaeth, ac mae wedi bod yn anodd iawn ar adegau i weithio gyda'r holl awdurdodau lleol, felly mae hynny wedi creu mater arall ar y lefel honno. Yna mae'r rhaglen Lluosi. Rwyf wedi clywed ei fod mewn cystadleuaeth uniongyrchol â rhaglenni eraill sydd eisoes ar gael yng Nghymru, ond hefyd ei fod yn cael ei orgyllido mewn gwirionedd ac mae awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd iawn gwario'r arian mewn pryd. Felly, maen nhw'n gofyn a oes modd ei symud i elfen arall o'r gronfa ffyniant gyffredin o dan bobl a sgiliau—byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.
Yn gyffredinol, mae angen gwneud cryn waith er mwyn i gyllid Llywodraeth y DU ar ôl Brexit fod yn wirioneddol drawsnewidiol. Dylai cyllid ar gyfer cymwyseddau datganoledig ddod o dan Lywodraeth Cymru gyda'r Senedd yn craffu ar y modd y caiff ei wario.
Mae hwn yn bwnc pwysig iawn, felly hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn i ni ei drafod heddiw. Mae'n bwysig oherwydd, i ddechrau, mae'n ymwneud ag uniondeb mewn gwleidyddiaeth, anrhydeddu eich addewidion a chyflawni eich addewidion. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cofio'r ymbiliau o ddifrif am Gymru yn derbyn 'nid ceiniog yn llai' yn ystod refferendwm 2016. Mae'n amlwg bod hon yn addewid nad yw Llywodraeth y DU wedi ei hanrhydeddu na'i chyflawni.
Yn ogystal â thynnu sylw at ddiffyg uniondeb, mae gan y penderfyniad hwn ganlyniadau dwys hefyd—canlyniadau dwys i'r arian sydd ar gael i ni yma yn Senedd Cymru i ariannu'r prosiectau a'r seilwaith sydd mor fuddiol i'r bobl rydym ni'n eu cynrychioli. Mae hwn yn bwnc yr wyf wedi gallu ei archwilio dro ar ôl tro drwy'r grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol, yr wyf yn ei gadeirio. Rwy'n croesawu'r ffordd y mae'r grŵp wedi gallu cyfrannu at y ddadl, gan weithio'n barchus gyda chyd-Aelodau o San Steffan a'r Alban mewn ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi methu â gwneud yn amlwg, a hefyd, gan dynnu ar arbenigedd grwpiau fel y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol. Mae eu 'Six Principles for Streamlined Levelling-Up Funding', a gyhoeddwyd tua blwyddyn yn ôl, efallai'n allweddol yma. Mae'n dadlau nid yn unig yn erbyn gostyngiad cyffredinol mewn cyllid, ond mae'n awgrymu bod angen arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw cymunedau ar eu colled, gyda ffigwr tair blynedd o ryw £15 biliwn. Galwodd am broses sy'n annog ymrwymiadau ariannol tymor hwy, a chael gwared ar gyfyngiadau'r Trysorlys sy'n ffafrio'r tymor byr. Dylid targedu'r cyllid yn bendant iawn, dileu'r angen o orfod cynnig trwy gystadlu a symleiddio'r rheolau, ac, yn hollbwysig, rhaid parchu'r setliad datganoli yn llawn.
Oes, mae'n rhaid i ni sicrhau bod cynghorau Cymru yn rhan o'r ffordd y mae'r cynlluniau hyn yn gweithredu ac yn yr hyn sy'n cael ei flaenoriaethu yn eu hardal, ond ni ddylai hynny esgeuluso llais y Seneddau datganoledig. Rydym ni'n gwybod, ac mae'r cynnig yn cydnabod, bod creu a gweithredu'r gronfa ffyniant gyffredin wedi amddifadu Cymru o £1.3 biliwn. Ar ben hynny, mae'r gronfa ffyniant gyffredin wedi profi i fod yn llai o faint, yn llai hyblyg ac yn fwy cyfyng o ran cwmpas na'r cyllid yr UE yr honnir y mae'n ei ddisodli. Gyda chyllid yr UE roedd modd mabwysiadu dull rhanbarthol cydweithredol cydgysylltiedig o lunio polisïau, yn enwedig ym maes datblygu economaidd. Yn hytrach, yn lle hynny, mae Llywodraeth y DU wedi dewis ymgorffori model cyllido Darwinaidd peryglus a niweidiol. Nododd y Sefydliad Llywodraethu fod cynghorau, hyd yn oed cyn rownd 3 o ffyniant bro, wedi gwastraffu, heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, o leiaf £27 miliwn ar y weithred fiwrocrataidd o baratoi ceisiadau. I ddyfynnu o chwe egwyddor Cynghrair y Cymunedau Diwydiannol, mae cynnig cystadleuol rhwng awdurdodau lleol yn wastraffus iawn o ran amser ac adnoddau ac nid yw'n dda iawn am gyflawni canlyniadau.
Mae'r Sefydliad Materion Cymreig a'r Gymdeithas Llywodraeth Leol hefyd wedi beirniadu'r agwedd hon ar ddull Hunger Games y cynllun—
A wnewch chi ildio?
—i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
Rydych chi'n cyfeirio at gyflawni canlyniadau. Ydych chi'n ymwybodol mai dim ond dros dro oedd y tair cyfran o gyllid Ewropeaidd a dderbyniodd Cymru i fod? Dim ond ar gyfer ardaloedd yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yr oedd, gan gynnwys pedwar cyngor yn y gogledd, lle'r oedd GDP neu ffyniant y pen yn is na thri chwarter cyfartaledd yr UE. A gwnaeth Cymru barhau i gael y cyllid dros dro hwn dim ond oherwydd, yn wahanol i rannau eraill o Ewrop a'i derbyniodd, na wnaeth gau'r bwlch ffyniant hwnnw, arhosodd yn is na 75 y cant yn yr ardaloedd hynny yn y gorllewin a'r Cymoedd, ac oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi ei ddefnyddio fel cyllid craidd rheolaidd yn hytrach nag at y diben a fwriadwyd.
Wel, byddwn i'n dweud bod hynny'n fethiant llywodraethu anghyfartal y Deyrnas Unedig yn hynny o beth. Byddwn hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw fy etholaeth i, Cwm Cynon, a oedd wedi dibynnu ar gronfeydd strwythurol Ewropeaidd yn flaenorol fel cyllid annhepgor, wedi derbyn un geiniog o gronfa ffyniant bro Llywodraeth y DU. Rwy'n credu bod hynny'n yn dweud y cyfan.
Ond i fynd yn ôl at y ddadl roeddwn i'n ei dilyn, o ran y dull Hunger Games hwn o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, mae canlyniad y broses hon yn sefyllfa lle mae prosiectau lleol yn cael eu ffafrio yn hytrach na'r mentrau trawsnewidiol eang hynny y gellid defnyddio'r arian hwn i'w cefnogi. Mae'n arwain at loteri cod post lle mae rhai cyfleoedd ar gael mewn rhai meysydd yn unig ac, yn hollbwysig, amgylchedd tameidiog ar gyfer cymorth busnes a darparu sgiliau. Nid yw hynny'n ddigon da. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod ar flaen y gad wrth ddadlau y gall ac y dylai Cymru ddisgwyl mwy. Yn benodol, hoffwn ddiolch i Weinidog yr economi sydd wedi hyrwyddo'r mater hwn ac wedi ceisio sicrhau bod dull cydweithredol mwy seiliedig ar dystiolaeth yn cael ei fabwysiadu. Rwy'n gwybod, pan siaradodd y Gweinidog â'r grŵp trawsbleidiol yn ôl ym mis Hydref 2022, cyfeiriwyd at Lywodraeth Cymru yn ceisio proses a oedd yn ymgorffori cydnabyddiaeth o fynegai amddifadedd lluosog Cymru, er enghraifft.
Yn olaf, hoffwn gydnabod y datganiad cadarnhaol gan Keir Starmer y bydd Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn adfer y swyddogaeth o wneud penderfyniadau i Gymru o ran cael rhywbeth yn lle'r cronfeydd strwythurol. Fel y dywedodd Keir wrth wneud y cyhoeddiad, mae'n bryd i Gymru adfer rheolaeth.
Galwaf ar Weinidog yr Economi i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Aelodau a gyfrannodd at y ddadl hon heddiw, ac sydd yn wir wedi parhau i graffu ar y pwnc hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf? Rwy'n croesawu'r ffaith y bu nifer o gyfraniadau adeiladol o bob rhan o'r Siambr. Wrth edrych ymlaen, rwy'n credu mai un o'r pwyntiau y byddwn i'n eu codi yw, er enghraifft, dyluniad a darparu'r cronfeydd, nid yn unig eu swm a'u maint, ond mewn gwirionedd sut y cânt eu darparu. Ac i godi'r pwynt a wnaeth Carolyn Thomas ynghylch Lluosi, nid yw'n croesi ardal sydd wedi'i datganoli'n glir; oherwydd ei natur flynyddol o gyllid, ni allwch chi ddylunio rhaglen dreigl o weithgarwch, ac fe'i cynlluniwyd yn fwriadol mewn ffordd lle na all weithio ochr yn ochr â rhaglenni ac ymyrraeth ddatganoledig. Ac mae hynny'n llawer mwy tebygol o fod yn wariant gwastraffus o arian cyhoeddus, neu, mewn gwirionedd, y potensial y bydd yr arian hwnnw'n cael ei ddychwelyd i'r Trysorlys. Nid dyna beth oedd diben cronfeydd ffyniant bro.
Wrth i ni ddirwyn y cynlluniau ffyniant bro hynny i ben tua diwedd y flwyddyn, mae'n hanfodol dysgu gwersi o'r methiant i fuddsoddi yn economi Cymru a pheidio â gweithio gyda ni fel partneriaid ystyrlon wrth wneud penderfyniadau ar y cyd. Mae rhai meysydd lle gallai Llywodraeth Cymru a'r DU gydweithio, lle mae gorgyffwrdd yn yr hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r hyn sydd ddim. Mae cronfeydd ffyniant bro bron i gyd wedi'u datganoli'n llwyr. Ond, os edrychwch chi ar ble rydym ni wedi llwyddo i ddarparu maes o ymgysylltu adeiladol, unwaith i ni roi gorau i'r gweiddi—a soniwyd am rywun a oedd yn mynnu ein bod yn derbyn porthladd rhydd am £8 miliwn fel swm blynyddol—fe gyrhaeddon ni i'r pwynt lle roedd gennym ni'r un faint o arian â phorthladdoedd rhydd yn Lloegr, roedd gennym ni'r un faint o arian ar gyfer parthau buddsoddi yng Nghymru. Fe lwyddon ni i wneud hynny oherwydd y ffordd roedden ni'n gweithio yn y Llywodraeth hon ac fe wnaethon ni sefyll dros Gymru wrth wneud hynny. Roedd yn ddull pragmatig a sicrhaodd mewn gwirionedd fod blaenoriaethau Cymru bellach yn cael eu hadlewyrchu mewn datganiad y cytunwyd arno ar y cyd ar gyfer parthau buddsoddi a phorthladdoedd rhydd—yr hyn y mae'n ofynnol i bobl ei gyflawni gyda'i gilydd, mewn ffordd sy'n gyson â'n cenhadaeth economaidd, a fydd yn cyfrannu at ein huchelgeisiau sero-net, yn cyflawni ein dyletswyddau yn Neddf cenedlaethau'r dyfodol ac, fel y dywedais i, cydraddoldeb o ran cyllid ac, yn hollbwysig, hyrwyddo gwaith teg. Ni fyddwch yn gweld yr ymrwymiad hwnnw ym mhorthladdoedd rhydd Lloegr neu barthau buddsoddi.
Fodd bynnag, ni ellir gwadu bod Llywodraeth y DU sy'n dewis osgoi Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon gyda chronfeydd datblygu rhanbarthol ynghyd ag addewidion cyllid heb eu diwallu yn creu bylchau buddsoddi sylweddol mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru. Yr enghraifft amlycaf yw'r hyn sydd wedi digwydd gyda gwariant ar brentisiaethau. Yn syml, nid yw'r arian hwn ar gael mwyach. Nid oes gennym ni'r degau o filiynau o bunnoedd ychwanegol bob blwyddyn i gynnal a diogelu'r rhaglen. Os yw pobl yn meddwl bod arian ar gael, byddai gen i ddiddordeb mawr deall o ble ddylai'r arian hwnnw ddod i'w symud i'r rhaglen honno.
A wnaiff y Gweinidog ildio ar y pwynt yna?
Fe wna i.
Mae'n gwneud pwynt da iawn, ond ni ddylem ni fod yn meddwl mai Gweinidogion Llafur yn unig sy'n gwneud y pwynt hwn hefyd. Siaradodd Paul am y Llywodraeth aeddfed yn gynharach a gweithio rhwng Llywodraethau yn y DU, ac mae'n bwynt dilys, ond yr hyn sy'n syndod yw bod y cynigion gan Lywodraeth y DU a welsom ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ar ôl Brexit, wedi osgoi adolygiad Dunlop yn llwyr, a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU, a ddywedodd yn benodol pan fyddwch chi'n ymdrin â materion sy'n ffinio â meysydd cymhwysedd datganoledig neu sydd o fewn y meysydd hynny'n llwyr, fe ddylech chi weithio gyda'r Llywodraeth ddatganoledig i wneud hynny. Mae'r cwestiwn arall hefyd, Paul, byddwn i'n ei ddweud, a, Gweinidog, byddwn yn ddiolchgar o glywed eich barn ynghylch hyn, o ran yr agwedd ynghylch a oes cymhwysedd a'r rhwydweithiau yn Llywodraeth y DU, nad ydyn nhw wedi gweld y raddfa hon o fuddsoddiad ers amser maith, yr ydyn ni wedi ei sefydlu yma yng Nghymru eisoes.
Mae'n un o'r agweddau trist hynny sydd, mewn termau pragmatig, yn dadwneud llawer o'r gwaith da hwnnw. Mae wedi mynd yn ôl at ddull tameidiog, mae wedi cael ei ddewis yn fwriadol i beidio â gweithio gyda Llywodraeth Cymru, i'n heithrio nid yn unig rhag gwneud penderfyniadau am y cronfeydd ond, mewn gwirionedd, pan ofynnodd awdurdodau lleol i Lywodraeth y DU a allen nhw eu hunain lunio rhaglen Cymru gyfan, dywedwyd wrthyn nhw na allen nhw wneud hynny. Dyna sydd wedi digwydd yn y dewisiadau ynglŷn â sut mae'r arian wedi cael ei wario. A do, maen nhw wedi gorfod ceisio creu rhwydwaith cwbl newydd mewn meysydd nad ydyn nhw'n gyfrifol amdanyn nhw, yn hytrach na gweithio gyda ni mewn gwirionedd, ac mae hynny'n ddefnydd gwastraffus o adnoddau cyhoeddus; mae'n ddiystyriad gwastraffus o'r arbenigedd sydd wedi'i feithrin. Mae'n rhy swil i ddweud hyn, ond mae'r rhain yn wersi a ddysgodd Alun Davies pan oedd gynt yn Weinidog rhaglenni cyllido Ewropeaidd, yn edrych ar y dull tameidiog braidd i gael dull mwy strategol wedyn ar gyfer sut rydym ni'n defnyddio'r arian, gwersi yr anogodd y Senedd hon, gan gynnwys pwyllgorau y cymerodd Paul Davies ran ynddynt, i'w dysgu mewn rownd arall o gronfeydd Ewropeaidd nad ydyn nhw bellach wedi dod i Gymru.
Fel y dywedodd Vikki Howells, cawsom addewid ar lawr y Siambr hon, ac, yn wir, y tu allan, na fyddai Cymru'n colli un geiniog mewn cronfeydd a fyddai'n disodli rhai yr UE. Rydym ni i gyd yn gwybod nad yw hynny'n wir. Erbyn hyn mae gan Gymru lawer llai o lais dros lai o arian.
Rwy'n obeithiol y bydd y flwyddyn nesaf yn dod â chyfle newydd i ddatblygu gwell dull gweithredu a chanlyniadau gwell i'n cymunedau, un sy'n cyd-fynd â'n gwaith parhaus gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar ddatblygu rhanbarthol yng Nghymru, a fframwaith newydd ar gyfer datblygu buddsoddiad mewn partneriaeth â'n rhanddeiliaid. Edrychaf ymlaen at newid yn Llywodraeth y DU sy'n parchu datganoli, y Senedd hon a'r Llywodraeth hon sydd gan Gymru a'n mandad gan y bobl sy'n pleidleisio drosom ni. Fel y soniwyd yn gynharach, mae'n bryd i'r pwerau a'r arian gael eu hadfer i Gymru, lle maen nhw'n perthyn. Gallem gyflawni cymaint mwy a gwneud cymaint mwy na'r dull codi'r gwastad presennol. Gofynnaf ichi gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pledleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Bydd y bleidlais gyntaf ar welliant 1, a galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl: Ffyniant Bro. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais yn awr ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Carolyn, ydych chi'n dal ddim yn pleidleisio? Ar lafar—fe wnawn ni bleidlais lafar felly, iawn.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl: Ffyniant Bro. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth: O blaid: 11, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi ei wrthod hefyd.
Eitem 7. Dadl: Ffyniant Bro. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth: O blaid: 11, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 7. Dadl: Ffyniant Bro. Cynnig: O blaid: 37, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr.
Daeth y cyfarfod i ben am 16:58.