Y Cyfarfod Llawn

Plenary

13/12/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. 

Mae heddiw wedi dod â newyddion i ni, ond fel Senedd, mae’n fusnes fel arfer. Cawsom Brif Weinidog yn ateb cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe, a bydd gennym yr un Prif Weinidog yn ateb cwestiynau pan fyddwn yn ailymgynnull ym mis Ionawr. Am y tro, gadewch inni ddiolch i Mark am ei arweinyddiaeth i Lywodraeth Cymru hyd yma, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at ei fisoedd olaf o weithgarwch yn y swydd yn y flwyddyn newydd.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Felly, yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn gyntaf gan Andrew R.T. Davies.

Cynllun Uwch-noddwr ar gyfer Ffoaduriad o Wcráin

1. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar rôl Llywodraeth Cymru yn y cynllun uwch-noddwr ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin? OQ60418

Diolch am eich cwestiwn. Mae dros 3,250 o bobl wedi cyrraedd y DU drwy lwybr uwch-noddwr Cartrefi i Wcráin Llywodraeth Cymru ers iddo agor ym mis Mawrth 2022. Mae pobl wedi cael eu cefnogi’n llwyddiannus ar ôl iddynt gyrraedd drwy lety cychwynnol dros dro, gyda’r rhan fwyaf o bobl bellach yn cael cymorth i setlo mewn llety mwy hirdymor.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mewn diweddariadau blaenorol, rydych chi wedi tynnu sylw at y ffaith bod nifer o ffoaduriaid sy'n dal i fod yn Wcráin, neu sydd wedi gadael Wcráin ond yn dal i fod ar dir mawr Ewrop, wedi gofyn am gael eu mabwysiadu o dan y cynllun uwch-noddwr. A allwch nodi heddiw nifer y ffoaduriaid o Wcráin sy’n dal i fod y tu allan i Gymru ac sy'n aros i ddod i Gymru o dan y cynllun uwch-noddwr a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru? Ac rwy'n eich cymeradwyo am drefnu hynny.

Diolch yn fawr iawn. Mae hwnnw’n gwestiwn pwysig. I roi nifer y bobl sy'n cyrraedd drwy'r cynllun ac sy'n gymwys ar hyn o bryd: mae 1,300 o bobl wedi cael fisâu ond heb deithio eto. O’r bobl hyn, mae oddeutu 500 wedi mynegi awydd i deithio i’r DU ar ryw adeg yn y dyfodol, ac nid oes modd gwneud cyswllt â'r gweddill. Yn amlwg, nid ydym yn gwybod pwy yw’r bobl hynny. Roeddent yn dweud bod ganddynt ddiddordeb yn ein cynllun. Ond hefyd, mae llawer wedi dweud nad oes angen unrhyw gymorth arnynt gan Lywodraeth Cymru, ond rydym yn amlwg yn cydnabod y ffigurau hynny, ac felly rydym bob amser yn barod felly i ddarparu'r cymorth hwnnw os byddant yn dod yma, i Gymru.

Rwyf wedi ysgrifennu atoch, Weinidog, am achos yn fy etholaeth—preswylydd a gysylltodd â mi am ei fod yn pryderu am lesiant ffoaduriaid y mae’n eu noddi, yn ogystal ag eraill, pan ddaw’r cynllun cyfranogiad i ben ym mis Mai 2024. Bydd llawer yn dibynnu ar gyllid gan Lywodraeth y DU, er enghraifft, ar y cyhoeddiad diweddar yn natganiad yr hydref y bydd y taliadau diolch i letywyr yn cael eu hymestyn i drydedd flwyddyn a sut y bydd hyn yn berthnasol yng Nghymru. Yn eich ymateb i’m llythyr, fe ddywedoch chi fod eich swyddogion wedi dechrau archwilio’r posibilrwydd o drosi’r trefniant lletywr-gwestai yn drefniant lojer-landlord, lle byddai’r gwestai yn talu cyn letywyr am eu llety yn absenoldeb taliad diolch. Mae fy etholwr wedi annog pwyll ar hyn, o ystyried bod y berthynas landlord-tenant yn dra gwahanol i’r trefniant presennol. Weinidog, a allwch chi gadarnhau felly y bydd yr holl gymorth angenrheidiol yn cael ei ddarparu i letywyr presennol sy’n dymuno newid i’r trefniant newydd hwn os na cheir taliadau diolch estynedig?

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Hefin David. Ac a gaf fi ddweud pa mor werthfawr oedd dod i Gaerffili yn yr haf a chwrdd â gwesteion o Wcráin a’r rhai sydd wedi croesawu’r teuluoedd hynny, ac yn wir, swyddogion o’r awdurdod sy’n gweithio’n agos iawn gyda’r gwesteion hynny sydd bellach wedi integreiddio yn eich cymuned?

Roedd yn bwysig, yr wythnos diwethaf, fy mod wedi cyfarfod â Gweinidog yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, Felicity Buchan, i drafod llawer o’r materion hyn o ran y cyfleoedd i Wcreiniaid ymestyn eu harhosiad yng Nghymru—beth sy’n digwydd mewn perthynas â'u fisâu? Mae hwnnw'n amlwg yn gwestiwn clir, ond hefyd, bu modd inni groesawu parhad y taliadau diolch i'r rhai sy'n rhoi llety i ddeiliaid fisâu Cartrefi i Wcráin yn eu trydedd flwyddyn. Felly, rydym yn edrych ar bob ffordd bosibl y gallwn gefnogi’r rheini sydd am aros yn hirach. Ydy, yn wir, mae hynny'n cynnwys y posibilrwydd o lwybr lojer-landlord. Ond hefyd, credaf hefyd fod y rhaglen gyfalaf £75 miliwn ar gyfer llety trosiannol yn helpu awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gyflwyno mwy o lety o ansawdd da—trosiannol efallai, yn ogystal ag o ran rhagolygon hirdymor—ac mae awdurdodau lleol hefyd yn gweithio'n agos gyda ni, gyda'r £4.74 miliwn, sy'n ymwneud yn benodol â helpu i atal digartrefedd, gan fod angen yr hyblygrwydd hwnnw arnynt gydag anghenion a blaenoriaethau lleol i helpu i barhau â'n croeso i ffoaduriaid o Wcráin.

13:35

Gwn y bydd y Gweinidog yn cofio ei hymweliad â Safe Haven ym Maesteg, a chyfarfod â’r teuluoedd a’r rhai a oedd yn cael eu lletya, ein ffrindiau o Wcráin, ym Maesteg, hefyd. Ond a gaf fi ofyn iddi, ar sail ymarferol iawn, pa gyfeirio, pa gyngor y byddai'n ei roi i deuluoedd a oedd naill ai am barhau i letya neu ddechrau lletya ffoaduriaid o Wcráin o'r newydd, ond hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, ffoaduriaid o rannau eraill o'r byd, sydd hefyd, efallai, yn ffoi rhag artaith, newyn, amgylchiadau enbyd, ac wedi cyrraedd y glannau hyn, gan ei bod yn bwysig, fel cenedl noddfa, nid yn unig ein bod yn croesawu Wcreiniaid sy'n ffoi rhag y gwrthdaro presennol, ond hefyd yn estyn y croeso hwnnw i lawer o bobl eraill o rannau eraill o'r byd?

Diolch yn fawr iawn, Huw Irranca-Davies. Fe wnaethom dreulio prynhawn gwirioneddol ysbrydoledig ym Maesteg gyda’r gwesteion sy’n ymgartrefu yn eich cymuned, ac yn gweithio yn eich cymuned, yn ogystal â byw a chael eu haddysgu yn eich cymuned. A gaf fi dalu teyrnged i Goleg Penybont am y ddarpariaeth Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill? A buom hefyd yn cyfarfod â gwirfoddolwyr a oedd yn gwneud yr holl waith hwnnw. Credaf fod hyn yn dangos ymrwymiad pobl Cymru i fod yn genedl noddfa, ac i roi croeso cynnes i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Felly, y bore yma, cyd-gadeiriais fwrdd noddfa newydd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'n fwrdd partneriaeth gyda llywodraeth leol, gan fod hyn yn ymwneud â ni yn edrych ar yr holl anghenion o ran y genedl noddfa. Rydym wedi croesawu nid yn unig ffoaduriaid o Syria, Wcráin, ond bellach, rydym yn gweithio'n weithredol iawn ar gynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan—dinasyddion sy'n dod o drydydd gwledydd ac sydd wedi gadael ers i'r Taliban ddod i rym. Ac mae ymrwymiad wedi'i wneud gan bob awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae hynny’n golygu pob cymuned, i gefnogi gyda'r gwasgaru.

Tywydd Oer a Thlodi Tanwydd

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y tywydd oer diweddar ar bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd? OQ60402

Diolch am eich cwestiwn, Mike Hedges. Er bod costau ynni uchel yn parhau i achosi caledi'r gaeaf hwn, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelwydydd sy’n wynebu tlodi tanwydd ledled Cymru ac sy’n ei chael hi’n anodd, drwy fentrau fel ein cynllun Cartrefi Clyd Nyth, ein cronfa cymorth dewisol, ac ariannu’r Sefydliad Banc Tanwydd i gyflwyno eu talebau tanwydd a'u cronfa wres.

A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei hymateb? Fodd bynnag, mae’n anochel y bydd llawer o bobl oedrannus yn marw cyn pryd y gaeaf hwn oherwydd y cynnydd yng nghost ynni, ac y bydd derbyniadau i’r ysbyty yn cynyddu hefyd. Mae iechyd pawb, yn enwedig yr henoed, yn cael ei effeithio gan dymheredd isel a'r anallu i fforddio gwresogi digonol. Pa gynnydd y mae’r Gweinidog wedi’i wneud ar gyflwyno tariff cymdeithasol i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan gostau ynni uchel, a rhoi diwedd ar greulondeb taliadau sefydlog, lle codir tâl ar bobl ar ddiwrnodau pan nad ydynt yn defnyddio unrhyw ynni? Ni allaf feddwl am unrhyw gam creulonach a gymerir yn y wlad hon na hynny.

Diolch, Mike Hedges, am godi’r ddwy alwad allweddol a wnawn ar Lywodraeth y DU. Mewn gwirionedd, cawsom ddadl ar hyn yn y Siambr yr wythnos diwethaf, oni chawsom, ac roedd y Senedd gyfan yn cefnogi'r angen i Lywodraeth y DU gyflwyno tariff cymdeithasol i amddiffyn yr aelwydydd mwyaf bregus. Mewn gwirionedd, gwnaed ymrwymiad yn ôl yn 2022, gan y Canghellor ar y pryd, yn natganiad yr hydref, y byddent yn datblygu’r dull newydd hwn o ddiogelu defnyddwyr, gan gynnwys edrych ar yr opsiwn o dariff cymdeithasol. Ac fe wneuthum barhau, gyda Gweinidog y DU dros Ddefnyddwyr Ynni a Fforddiadwyedd, i godi'r mater hwn, ar 8 Tachwedd; cefais eiriau cynnes, ond dim ymrwymiad ar ymgynghoriad neu gyhoeddiad. Ond maent yn gweithio, tariffau cymdeithasol, yn y sector dŵr, fel y gwyddom. Felly, diolch am yr alwad honno eto am eu cyflwyno yn y sector ynni, ac rydym yn ei chefnogi. Ac ar daliadau sefydlog, mae angen diwygio hyn ar frys, onid oes? Rydych wedi codi hyn droeon fel Aelod, a chodais hyn eto gyda’r Gweinidog. Ac awn yn ôl at y ffaith bod y taliadau uchaf yn y DU yng ngogledd Cymru, y pedwerydd uchaf yn ne Cymru—hynod annheg ar bobl sydd ar incwm isel a'r rheini sy'n dymuno lleihau eu defnydd o ynni. Ac ers 1 Hydref eleni, ar gyfer aelwydydd ar fesuryddion rhagdalu, un cam da yw bod y rhieni ar daliadau sefydlog yn talu llai na rhai sy'n talu drwy ddulliau eraill, sy'n gam cyntaf yn unig. Ond mae hyn yn rhywbeth unwaith eto, lle buaswn yn croesawu cefnogaeth y Siambr i'r alwad i roi diwedd ar daliadau sefydlog.

13:40

Weinidog, yn natganiad ymddiswyddo'r Prif Weinidog i’r cyfryngau'r bore yma, soniodd am nifer o flaenoriaethau deddfwriaethol a fyddai ganddo am weddill ei dymor fel Prif Weinidog. Un o'r pethau na chlywsom oedd rhaglen Cartrefi Clyd newydd. A gaf fi gymryd bod hynny’n golygu na fydd yn cael ei chyflwyno cyn y gwanwyn?

Credaf fy mod wedi ateb y cwestiwn ar raglen Cartrefi Clyd yr wythnos diwethaf pan gawsom y cynnig hwnnw a gafodd ei drafod a'i gefnogi gan y Siambr gyfan. Rydym yn ymestyn cynllun Nyth tan fis Ebrill 2024, a bydd rhaglen Cartrefi Clyd yn dechrau wedyn. Ni fydd unrhyw doriad, unrhyw fwlch. Mae’r caffael ar y gweill, a chredaf mai’r hyn sy’n bwysig yw ein bod yn ymestyn y cynllun Nyth tan fis Ebrill, fel y gallwn barhau i gefnogi aelwydydd bregus y gaeaf hwn.

Ni ddylai unrhyw un orfod byw mewn cartref oer, ond Weinidog, mae ffigurau diweddar gan Warm this Winter hwn yn dweud bod 30 y cant o oedolion yng Nghymru yn byw mewn cartrefi oer, llaith. Nawr, mae lleithder a gwresogi annigonol yn arwain at lwydni, a all arwain at salwch anadlol, a gall gynyddu'r risg o glefyd y galon. Mae cymdeithas i fod yn amddiffyniad rhag y lleithder a'r tywyllwch yn tresmasu i'r man lle rydym yn byw. Mae i fod i ddarparu rhwyd ddiogelwch i sicrhau nad yw'r oerfel yn dod drwy ein drws. Ond mae ysbryd Thatcher a'i phenderfyniad creulon i breifateiddio'r ffordd y gallwn aros yn fyw yn aflonyddu ar gartrefi pawb sy'n methu fforddio cadw eu cartrefi'n gynnes ac yn sych y gaeaf hwn. A wnewch chi ymuno â mi i alw am dariff ynni brys i helpu pobl sy'n dioddef mewn cartrefi llaith ac oer, ac a ydych chi'n cytuno ei bod yn sgandal fod cymaint o bobl yn agored i'r risg hon?

Diolch am eich pwynt. Pan wyf wedi cyfarfod â Gweinidog Llywodraeth y DU, rwyf wedi gofyn am gynllun wedi’i dargedu gan Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Nawr, y peth pwysicaf o ran eich cwestiwn am bobl sy'n byw mewn cartrefi oer, llaith yw ein bod yn buddsoddi mwy na £30 miliwn i leihau nifer y cartrefi incwm isel sydd yn y sefyllfa honno. Hefyd, mae’n bwysig fod cynllun Cartrefi Clyd Nyth yn cynnig cyngor a chymorth i aelwydydd, yn ogystal â mesurau effeithlonrwydd ynni am ddim i’r rhai sy’n gymwys. Roedd adroddiad blynyddol Nyth, a gyhoeddwyd ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd, yn dangos bod 198,000 o bobl wedi cael cyngor ynni gan raglen Cartrefi Clyd ers ei lansio.

Ond a gaf fi ddweud, i gloi, pan gyfarfûm â'r grŵp trawsbleidiol—dan gadeiryddiaeth Mark Isherwood—cafwyd cwestiynau a phwyntiau ynghylch sicrhau y gall deiliaid tai gysylltu â gwasanaethau eraill, megis cael mynediad at gynllun rhwymedigaeth cwmnïau ynni Llywodraeth y DU. Ac mewn gwirionedd, mae cyllid wedi'i ddarparu gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, gyda llywodraeth leol yng Nghymru, i helpu awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yn gallu estyn allan at y ffynonellau cyllid eraill hyn i helpu i fynd i'r afael â'r broblem. Mae’n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau y gallwn gefnogi’r bobl sydd yn y sefyllfaoedd hynny. Ond mae'n rhaid imi ddweud, fe wnaethom alw ar Lywodraeth y DU i roi'r cynllun tlodi tanwydd wedi'i dargedu ar waith, gan na hawliodd pawb y cynlluniau cymorth y gaeaf diwethaf, ac fe ddywedasom, 'Pam na allwch ddefnyddio'r cyllid na chafodd ei hawlio i gefnogi'r cynlluniau hyn?'

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae staff gofal a gwarcheidwaid wedi mynegi pryder fod y cynllun incwm sylfaenol y mae Llywodraeth Cymru yn ei dreialu'n achosi ymddygiad andwyol mewn rhai pobl sy’n gadael gofal. Mae rhai y rhagwelwyd y byddent yn gwneud yn eithaf da bellach wedi mynd oddi ar y radar yn llwyr, ac yn gwrthod rhyngweithio ag unrhyw gyswllt. Mae rhai wedi rhoi’r gorau i addysg bellach am eu bod yn credu y gallant oroesi’n annibynnol bellach, ac mae pryder o hyd fod rhai wedi cael eu targedu neu dan bwysau i roi eu harian i bobl eraill. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r pryderon hyn wrth gwrs, ac rydych wedi tynnu sylw at eu potensial yn y Siambr o'r blaen. Ond codwyd y pryderon hyn gyda mi ar yr amod fod y rhai a'u cododd yn aros yn anhysbys, gan fod gofalwyr, gweithwyr cymdeithasol, gwarcheidwaid, athrawon, ac ati, yn poeni ynghylch dial, yn broffesiynol ac yn bersonol. Gyda hyn mewn golwg, pa sicrwydd sydd gennym y bydd yr ystod lawn o safbwyntiau, yn gadarnhaol a negyddol, yn cael eu cofnodi'n gywir yn yr astudiaeth hon, ac y bydd holl gyfranogwyr uniongyrchol ac eilaidd y treial hwn yn cael eu hamddiffyn wrth roi'r farn honno? Diolch.

13:45

Wel, yn sicr, nid dyna’r adborth a gaf wrth gyfarfod â buddiolwyr y cynllun peilot incwm sylfaenol arloesol ar gyfer pobl sy’n gadael gofal yng Nghymru, a hefyd wrth gyfarfod â’r awdurdodau, y cynghorwyr, ledled Cymru. Aethom i gyfarfodydd yn ne Cymru, y canolbarth a'r gorllewin, a'r gogledd, gan gyfarfod â phobl sy’n cynghori pobl ifanc yn uniongyrchol, a chael adborth cadarnhaol am effaith y cynllun peilot incwm sylfaenol ar fywydau’r bobl ifanc hynny. A chredaf ei bod yn anhygoel gweld bod cyfradd o 97 y cant yn manteisio ar y cynllun, nifer uchel iawn yn manteisio ar y cynllun arloesol hwn, sy'n llawer uwch na'n disgwyliadau gwreiddiol. Joel James, rwy'n gwybod y byddwch wedi gweld a chlywed rhai o’r bobl ifanc yn sôn am yr effaith drawsnewidiol y mae hyn wedi’i chael ar eu bywydau—y bobl ifanc hynny sydd am rannu eu straeon ar y cyfryngau ac mewn cyfarfodydd â phawb arall sy'n cefnogi hyn hefyd. Rydym yn dathlu cynnydd y cynllun peilot hyd yn hyn, ond hefyd yn sicrhau ein bod yn cael yr adborth hwnnw, gan fod y gwerthusiad mor bwysig. A gwn y byddwch yn croesawu'r ffaith bod gennym dîm arbenigol, sy'n cael ei arwain gan y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd. Maent yn arwain y gwerthusiad eang o'r cynllun peilot.

Diolch, Weinidog. Ond rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno bod angen inni sicrhau bod yr astudiaeth hon yn gydnerth, ac nad yw’n dewis a dethol y data i fodloni agenda wleidyddol Llywodraeth Cymru a’r rheini sy’n dadlau o blaid incwm sylfaenol cyffredinol. Credaf y gall pob un ohonom gytuno, Weinidog, er gwaethaf y rhesymau dilys i helpu pobl sy’n gadael gofal, mai arbrawf gan y Llywodraeth ar grŵp o bobl agored iawn i niwed yw'r treial hwn yn y pen draw. Os canfyddir bod y treial wedi achosi canlyniadau negyddol i’r unigolion hynny, megis cynyddu ecsbloetiaeth ariannol, gan waethygu problemau camddefnyddio sylweddau, neu achosi i bobl orymestyn yr ymrwymiadau ariannol na fyddent wedi’u gwneud fel arall, ac nad ydynt yn gallu eu fforddio mwyach wedi i'r treial ddod i ben, fe fydd yna ddadl y bydd angen i Lywodraeth Cymru unioni’r niwed a achoswyd gan y treial. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa gyllideb a glustnodwyd gennych i ddigolledu’r rhai a allai wynebu canlyniadau negyddol o ganlyniad i’r treial incwm sylfaenol hwn? Diolch.

A gaf fi egluro unwaith eto i'r Aelod? Roedd cymryd rhan yn y peilot hwn yn digwydd ar sail wirfoddol. Cafodd pobl ifanc cymwys eu cefnogi gan eu hawdurdod lleol, cawsant gyngor, wedi’i ariannu gan y gronfa gynghori sengl, i benderfynu a ddylent gymryd rhan yn y cynllun peilot ac ai dyma'r dewis iawn iddynt. Ac mae awdurdodau lleol Cymru yn allweddol i hyn. Maent yn chwarae rhan allweddol yn gweithredu'r cynllun peilot incwm sylfaenol. Maent yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pobl sy'n gadael gofal. Nhw sy'n gyfrifol am arwain y bobl ifanc yn eu gofal. Ac fel y dywedais, rwyf wedi bod ledled Cymru ac wedi cyfarfod â phob awdurdod sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot hwn. Yn eich rhanbarth chi, yn etholaethau pawb, mae pobl ifanc yn elwa o’r cynllun peilot incwm sylfaenol hwn, a dylem gydnabod bod hwnnw’n gyfrifoldeb sydd gan bob un ohonom. Mae hwn yn gynllun peilot incwm sylfaenol arloesol.

Ac a gaf fi ddweud hefyd fod y tîm gwerthuso yn y cyfarfodydd hynny, dan arweiniad yr Athro Sally Holland, y cyn-gomisiynydd plant—rhoddodd gyflwyniad ar y gwerthusiad yn y cyfarfodydd hynny. Cyfrannodd arbenigwyr byd-eang at y gwerthusiad hwn—arbenigwyr byd-eang ar incwm sylfaenol, gofal cymdeithasol, ymyriadau nawdd cymdeithasol—drwy asesu profiad y cynllun peilot yn ogystal â’r costau a’r manteision i’r gymdeithas ehangach, ac rwy’n siŵr y byddent yn falch o roi sesiwn friffio i chi ar y peilot hwn. Mae prifysgolion yn cymryd rhan, nid yn unig o Gymru, ond o Loegr hefyd, ac fel y dywedais, mae’r gwerthusiad yn cyfrannu at dystiolaeth ryngwladol ar incwm sylfaenol a’i ganlyniadau.

Yn olaf, fel y gwyddom, Weinidog, mae plant mewn gofal a phobl sy’n gadael gofal, yn anffodus, wedi’u gorgynrychioli’n aruthrol yn y system cyfiawnder troseddol, ac amcangyfrifir fod dros 24 y cant o boblogaeth oedolion mewn carchardai wedi bod mewn gofal yn y gorffennol. O hyn, gallwn gyfrif, o’r garfan o 635 o bobl sydd wedi cymryd rhan yn y treial incwm sylfaenol hwn, ei bod yn ystadegol debygol y bydd oddeutu 152 yn mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol ar ryw adeg yn eu bywydau. Rwy’n gobeithio na fydd hyn yn wir, ond credaf y byddai’n fwy nag academaidd i ddeall a oes newid yn y niferoedd gwirioneddol o bobl sy’n gadael gofal sy’n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol ar ôl cymryd rhan yn y treial hwn. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hyn, mae angen cyllid mwy hirdymor i ymchwilwyr gadw golwg ar effaith hirdymor y treial ar bobl sy’n gadael gofal ac i ddilyn eu canlyniadau mewn bywyd. Mae angen gwneud ymchwil dros y pum, 10 a hyd yn oed 20 mlynedd nesaf er mwyn cael dealltwriaeth lawnach o effaith y treial ac i helpu i lywio unrhyw benderfyniadau polisi yn y dyfodol. O ystyried y bydd Llywodraeth Cymru yn gwario dros £25 miliwn ar y treial, mae’n ddoeth sicrhau felly ein bod yn cael y gorau ohono. Weinidog, pa ymrwymiadau sydd gennych i ddarparu adnoddau ariannol ar gyfer astudiaeth bellach o ganlyniadau mwy hirdymor y treial hwn? Diolch.

13:50

Wel, rydym wedi dweud yn glir ers dechrau'r cynllun peilot y byddai'n digwydd dros amser cyfyngedig ac y byddai'n cael ei werthuso’n briodol, fel rwyf wedi’i amlinellu, i bennu manteision incwm sylfaenol i’r grŵp penodol hwn o bobl ifanc wrth iddynt bontio o ofal i fywyd fel oedolion. A gadewch inni feddwl am y bobl ifanc a'u profiadau bywyd. Gadewch inni feddwl am y buddsoddiad a wnawn ynddynt a rhoi cyfleoedd iddynt ehangu eu gorwelion. A'r bobl ifanc a ddywedodd wrthym, 'Yr hyder; rydych yn credu ynom, rydych yn ymddiried ynom.' Wyddoch chi, rwy'n gobeithio ac yn awyddus i chi feddwl am y bobl ifanc hynny pan fyddwch yn ymosod ar y cynllun hwn, gan mai dyna sut mae'n teimlo, yn sicr.

Wrth gwrs, yr hyn sy’n bwysig yw ei fod yn cael ei werthuso’n briodol, ac wrth gwrs, bydd y gwerthusiad yn sicrhau ei fod yn ein helpu i ddeall beth mae’n ei olygu yng ngweddill—. Nid gwerthusiad untro mohono, bydd yn edrych ar amgylchiadau eu bywydau. Felly, Lywydd, rwy'n credu y byddai’n werthfawr iawn—ac rwy’n siŵr y gallwn drefnu hyn—pe bai'r Aelodau'n dymuno cael sesiwn friffio ar y gwerthusiad. Credaf y byddent yn cael dealltwriaeth lawn o'r hyn y mae'n ei olygu o ran awdurdod y gwerthusiad, ond hefyd yr effaith y mae eisoes yn ei chael ar fywydau pobl ifanc.

Diolch, Lywydd. Yn ddiweddar, cyflwynodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yr wyf yn aelod ohono, ei adroddiad ar strategaeth tlodi plant ddrafft y Llywodraeth. Y dyfarniad unfrydol, fwy neu lai, gan y rheini a roddodd dystiolaeth i ni oedd ei bod yn anghydlynol, yn ddiuchelgais ac yn brin o ffocws. Neges ganolog yr adroddiad yw bod angen i Lywodraeth Cymru weithio’n llawer mwy effeithiol a strategol gan ddefnyddio’r pwerau a’r adnoddau sydd ganddi i fynd i’r afael â'r lefelau cywilyddus o dlodi plant yng Nghymru. Yr adeg hon y llynedd, ar ddiwrnod olaf busnes y Senedd cyn toriad y Nadolig mewn gwirionedd, cyflwynodd Plaid Cymru gynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth tlodi plant wedi’i chefnogi gan dargedau statudol fel mater o frys. Roedd hynny mewn ymateb i’r ffaith bod y rhai sy’n ymgyrchu yn erbyn tlodi, fel y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, y comisiynydd plant, Archwilio Cymru, Sefydliad Bevan, fel Achub y Plant, wedi bod yn ailadrodd galwadau ers misoedd a blynyddoedd fod angen strategaeth newydd arnom, strategaeth sy'n cynnwys targedau i roi gwell ffocws, cydgysylltedd ac ysgogiad i'r gwaith hanfodol sydd angen ei wneud. Ond dyma ni eto, ar ddiwedd blwyddyn arall, heb strategaeth, er eich bod wedi dweud dro ar ôl tro, Weinidog, mewn ymateb i gwestiynau, fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i gyhoeddi’r strategaeth derfynol erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Felly, mae'n siomedig iawn nad oes gennym strategaeth derfynol, a'm cwestiwn yw hwn: a yw trechu tlodi plant yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru? Oherwydd os ydyw, pam fod y strategaeth tlodi plant wedi’i gohirio tan wanwyn 2024?

Wel, diolch am eich cwestiwn, Sioned Williams. Fe wyddoch ein bod wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thlodi plant, ac fe wyddoch fod hynny'n flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. A chredaf mai'r hyn sy'n bwysig am y strategaeth hon, a gaiff ei lansio yn y flwyddyn newydd, yw ei bod yn dangos yn glir ein blaenoriaethau a'n hamcanion mewn perthynas â'r strategaeth yn seiliedig ar yr ymgynghoriad a gynhaliwyd dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae gennym ddyletswydd, dyletswydd statudol, i gyhoeddi’r strategaeth tlodi plant hon; mae'n nodi ein hamcanion ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant ac rydym wedi ymrwymo i edrych ar y polisïau drwy'r lens tlodi a chydraddoldeb hwnnw. Ac wrth gwrs, mae'n ymwneud â sut rydym yn sicrhau gwell canlyniadau ar y cyd, fel y gwn y byddech yn cytuno, ar leihau tlodi ac anghydraddoldeb. Ond gadewch inni gofio, fe wnaethom ymgysylltu â dros 3,300 o blant, pobl ifanc a'u teuluoedd i'n helpu i gyrraedd pwynt y drafft y gwnaethom ymgynghori arno wedyn. Hefyd, roedd gennyf gryn ddiddordeb mewn gweld, o ran ein partneriaid, yr adroddiad diwedd blwyddyn gan Sefydliad Bevan, er enghraifft, a nododd rai o'r ffyrdd y maent wedi teimlo y dylem godi plant a theuluoedd allan o dlodi. Fe wnaethant ganolbwyntio ar rai o'r pethau yr ydym eisoes yn eu gwneud, fel sicrhau ein bod yn buddsoddi'n glir—ymddiheuriadau; gadewch imi gael fy ngwynt am eiliad—yn y gronfa cymorth dewisol, ond hefyd yn y lwfans cynhaliaeth addysg. Gwneud y gorau o incwm oedd un o bwyntiau allweddol y strategaeth.

13:55

Diolch, Weinidog. Oes, mae gwaith da yn mynd rhagddo. Gwelsom hynny yn ymchwiliad ein pwyllgor. Ond buom hefyd yn trafod y rheswm pam fod arnom angen targedau a cherrig milltir i fesur cynnydd, i fesur llwyddiant, ac mae’r alwad hon a wnaethom yn ein dadl yr adeg hon y llynedd wedi’i hailadrodd yn gadarn yn yr adroddiad ar gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Yn ystod y ddadl y llynedd, dyfynnais yr ateb a roddodd y Prif Weinidog i Blaid Cymru ar y pryd, ynghylch yr angen am strategaeth. Dywedodd ei fod am i gydweithwyr yn y gwasanaeth sifil a’r bobl y gweithiwn gyda nhw ganolbwyntio ar gamau ymarferol sy’n gwneud gwahaniaeth ym mywydau dinasyddion Cymru. Nid yw ysgrifennu strategaethau yn rhywbeth sy'n mynd i roi bwyd ar fwrdd unrhyw un. Wel, mae’r Cadeirydd, sy’n eistedd y tu ôl i chi—Jenny Rathbone o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol—yn datgan yn glir yn ei rhagair i’r adroddiad newydd hwn:

'Mae angen i’r Llywodraeth oresgyn ei gwrthwynebiad i osod targedau. Mae'r dystiolaeth...yn glir: mae targedau’n gweithio.'

Felly, pwy sy’n iawn, Weinidog? Ac ai’r amharodrwydd i lunio strategaeth â thargedau, fel y mynegwyd gan y Prif Weinidog, yw’r rheswm pam ein bod wedi gweld drafft cyntaf mor wael, ac oedi bellach? A fydd y drafft terfynol yn cynnwys targedau, Weinidog?

Rwy’n ddiolchgar iawn am adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar fynd i’r afael â thlodi plant, a gwn y byddwn yn ei drafod yn y flwyddyn newydd. Yr hyn sy'n bwysig am y strategaeth yw ei bod yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer y tymor hwy, ac mae'n amlinellu'n glir pa waith y byddwn yn ei wneud ar draws y Llywodraeth. Mae rhywfaint ohono eisoes ar y gweill—rhywfaint ohono y bu galw amdano hefyd, yr ydym yn gweithio arno mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru o ran cyflwyno prydau ysgol am ddim. Dyna oedd un o’r pethau cyntaf y cofiaf y comisiynydd plant blaenorol yn dweud y dylem fwrw ymlaen â nhw, a Sefydliad Bevan yn wir, ac rydym yn cyflawni hynny gyda’n gilydd. Ond mae'n ymwneud hefyd â sut rydym yn defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i ni ac yn gwneud y mwyaf o effaith yr ysgogiadau hynny, yr hyn y gallwn ei wneud ar gynnwys ein pwerau cynnull, sut rydym yn ymgysylltu â llywodraeth leol a phawb sy'n gallu cyflawni ar y strategaeth tlodi plant. Mae'n fframwaith y gallwn ei ddefnyddio i gyflawni polisïau a rhaglenni.

Ond wrth gwrs, bydd gennym fframwaith monitro cadarn er mwyn bwrw ymlaen â hyn yn gyflym. Bydd yn ystyried dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir cenedlaethol sydd gennym ar waith o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Credwn fod fframwaith monitro—. A gwn fod hyn wedi'i nodi gan bwyllgor Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, fod angen inni edrych ar ffyrdd y gallwn fonitro’r broses o gyflawni’r strategaeth tlodi plant hon. Ond ni allwn fabwysiadu dull gorsyml o ymdrin â hyn o ran yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n hysgogiadau, ac rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor a'r Aelodau yn edrych ac yn gweithio gyda ni ar sut y gallwn gyflwyno'r canlyniadau cadarn a geisiwn o’r strategaeth tlodi plant yn ddigonol, ac yna eu cyflawni.

Y Post Brenhinol

3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Post Brenhinol ynglŷn â sut y bydd yn ateb y galw dosbarthu uwch yn Rhondda y Nadolig hwn? OQ60415

Er bod gwasanaethau post yn parhau i fod yn fater a gedwir yn ôl, mae Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad rheolaidd â’r Post Brenhinol, yn enwedig ynghylch unrhyw faterion sy’n effeithio ar Gymru. Mae'r cwmni wedi dweud ei fod yn recriwtio 500 o weithwyr tymhorol yng Nghymru i fynd i'r afael â'r galw ychwanegol dros gyfnod y Nadolig.

Fel y gwyddom, mis Rhagfyr yw’r amser anoddaf i fod yn weithiwr post: boreau tywyll, cwymp yn y tymheredd, y gwynt a’r glaw—i gyd ar ben cynnydd enfawr yn y galw. Ni allaf ddiolch digon iddynt am eu hymdrechion drwy gydol y flwyddyn, ond yn enwedig yn ystod y gaeaf. Y Nadolig diwethaf, cafodd llythyrau apwyntiadau ysbyty, biliau a chardiau credyd newydd eu dosbarthu i drigolion yn Rhondda wythnosau’n hwyr oherwydd bod ein gweithwyr post wedi cael cyfarwyddyd i flaenoriaethu parseli dros lythyrau. Yn anffodus, dros y pythefnos diwethaf, rydym wedi gweld y patrwm hwn yn dechrau dod i'r amlwg eto, a'n gweithwyr post, ar lawr gwlad, sy'n dwyn baich y cwynion, ac nid yw hynny'n dderbyniol. A wnaiff y Dirprwy Weinidog gefnogi ein gweithwyr post, a thrigolion yn Rhondda a Chymru gyfran, drwy godi’r cwynion hyn yn uniongyrchol gyda’r Post Brenhinol, ac erfyn arnynt i unioni’r polisi o flaenoriaethu parseli dros lythyrau ar frys?

14:00

A gaf fi ddiolch i'r Aelod dros Rhondda am godi'r pwynt pwysig hwn ar adeg berthnasol iawn o'r flwyddyn hefyd? Rwy'n sicr yn hapus iawn i ymuno â chi, Buffy Williams, i ddiolch i bob gweithiwr post mewn cymunedau ledled y wlad am bopeth y maent yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, ac rydym yn gwybod bod yna alw a phwysau ychwanegol arnynt yn y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig. Rwy'n gwybod y bydd llawer ohonom yn mynd i swyddfeydd didoli lleol i ollwng rhai nwyddau Nadolig a dymuno'n dda i'n gweithwyr post, sy'n gwneud mwy na darparu gwasanaeth, maent yn cefnogi ein cymunedau, ac maent yn rhaff achub mewn llawer o gymunedau.

Mae'n hollol anghywir fod y gweithwyr post yn dwyn baich rhai o'r heriau hyn. Nid eu bai nhw ydyw; maent yn darparu gwasanaeth, gwasanaeth gwerthfawr, ac rydym yn gwybod bod yr heriau hynny ar lefel system. Ac er imi ddweud nad yw'r Post Brenhinol na'r gwasanaeth post wedi'u datganoli, rydym yn ymwybodol o'r heriau ac nad ydynt yn cyrraedd y targedau dosbarthu hynny ar hyn o bryd, ac mae'n golygu nad yw pobl yn y cymunedau a wasanaethwn yn cael y gwasanaethau y maent eu heisiau a'u hangen, ac mewn llawer o achosion, fel y dywedwch, Buffy Williams, gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt. Felly, rwy'n sicr yn siomedig o glywed bod gweithwyr post yn gorfod ymdrin â hyn yn bersonol, a byddaf yn fwy na hapus i godi hyn yn fy nghyfarfod nesaf gyda'r Post Brenhinol, yn dilyn y cwestiwn hwn, ac rwy'n fwy na hapus i fynnu amlinelliad clir o sut y byddant yn gwella gwasanaethau yn ein cymunedau, yn ogystal â sut y byddant yn cefnogi ein gweithwyr post wrth wneud hynny.

Diolch, Dirprwy Weinidog, am yr ymateb yna.

Hoffwn adleisio'r sylwadau a wnaed gan Buffy Williams. Mae nifer o drigolion wedi cysylltu â mi. Rwy'n gwybod fy mod wedi ei godi gyda chi ar sawl achlysur, ac mae gwelliant wedi bod ar adegau, ond mae pobl Ystrad yn enwedig wedi dweud wrthyf eu bod yn aros 10 diwrnod ar gyfartaledd am ddanfoniadau, fod disgwyl iddynt fynd i'r swyddfa ddidoli, sy'n anodd iawn os ydych chi'n gwneud gwaith shifft wrth gwrs neu os nad oes gennych drafnidiaeth eich hun, ac maent hefyd wedi sôn am apwyntiadau a gollwyd—apwyntiadau ysbyty—oherwydd nad ydynt wedi cael y llythyr mewn pryd. Rydym yn gwybod am y pwysau ar ein GIG hefyd, ac mae methu apwyntiadau yn rhywbeth na allwn ei fforddio mewn gwirionedd. A gaf fi ofyn, pan fyddwch chi'n cwrdd â'r Post Brenhinol ac yn gwneud sylwadau, a allwch chi fynd i'r afael â'r ffaith nad oes gan rai strydoedd weithiwr post wedi'i ddyrannu iddynt bellach, a bod disgwyl i'r staff presennol geisio gwasanaethu mwy o strydoedd, sydd hyd yn oed yn anos pan fo cynnydd yn y galw am wasanaeth? Ond rwy'n teimlo bod yna broblem prinder staff yma, a phobl yn ein cymunedau a'r staff eu hunain sy'n dwyn y baich.

Diolch am eich cwestiwn, Heledd.

Rwy'n gwybod bod hwn, fel y dywedwch, yn fater rydych chi wedi'i godi o'r blaen yn y Siambr ond hefyd mewn gohebiaeth â mi fy hun, a rwy'n sicr am fynd ar drywydd y pwynt olaf a wnaethoch ar brinder staff a'r pwysau o ran cynnwys strydoedd nad ydynt, o bosibl, wedi cael eu dyrannu i weithiwr post penodol. Rydym yn gwybod bod y Post Brenhinol wedi bod yn methu ei dargedau gwasanaeth yn gyson ers y pandemig, ac efallai y bydd—. Yn ogystal â chyfarfod â nhw fy hun, efallai y bydd amser, yn y flwyddyn newydd o bosibl, i drefnu cyfarfod gydag Aelodau, er mwyn i'r Aelodau allu codi'r pryderon hynny'n uniongyrchol, a bwydo'r pryderon hynny o gymunedau ledled y wlad hefyd. Oherwydd rydych chi'n codi pwyntiau pwysig, nid yn unig mewn perthynas â phobl nad ydynt yn cael eu llythyrau mewn pryd ar gyfer apwyntiadau pwysig, ond mewn perthynas â'r pwysau canlyniadol y mae hynny'n ei gael ar ein gwasanaethau cyhoeddus eraill hefyd. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn codi'r mater gyda'n gilydd ac yn sicrhau ein bod yn rhoi pwysau ar y Post Brenhinol i ddarparu'r gwasanaeth y dylent fod yn ei ddarparu i'n cymunedau. Ond hefyd, yn ogystal â chyfarfod â'r cwmni ei hun yn rheolaidd, dylwn ychwanegu fy mod yn cysylltu'n rheolaidd ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu a'r undebau llafur sy'n cynrychioli'r gweithlu yno, ac mae'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn ei godi gyda nhw i weld a oes ganddynt unrhyw bryderon pellach y dylem eu hychwanegu at y sylwadau hynny i'r Post Brenhinol hefyd.

Pobl Hŷn a Chostau Byw

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl hŷn yng Nghymru gyda'r costau byw cynyddol? OQ60410

Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Rydym yn cymryd camau i wella'r nifer sy'n manteisio ar daliadau a budd-daliadau lles, gan gynnwys credyd pensiwn, ac rydym yn targedu cymorth ychwanegol at yr aelwydydd sydd ei angen fwyaf, gan gynnwys pobl hŷn y mae'r argyfwng costau byw yn effeithio arnynt.

Diolch. Wel, mae adroddiad Gofal a Thrwsio, 'Pobl Hŷn yng Nghymru: Tlodi yn y Gaeaf 2023-24', wedi canfod, hyd yn oed gyda chymorth ariannol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, y bydd cleientiaid cyffredin Gofal a Thrwsio yn gwario, ar gyfartaledd, 19 y cant o'u hincwm ar gyfleustodau, gyda 15 y cant ar nwy a thrydan yn unig, gan roi eu cleient cyfartalog mewn tlodi tanwydd, ac mae 96 y cant o aelwydydd sy'n defnyddio eu gwasanaeth cyngor ynni yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae eu cleientiaid mewn perygl arbennig o oblygiadau iechyd sy'n deillio o gartrefi oer, fel y nodwyd yn gynharach, lle mae 75 y cant o farwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf yn bobl 75 oed a hŷn. Felly, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i flaenoriaethu pobl hŷn o fewn ei darpariaeth ar gyfer trechu tlodi tanwydd yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol?

14:05

Diolch am y cwestiwn hwnnw a'r dystiolaeth bwysig honno gan Gofal a Thrwsio, sy'n gwneud gwaith mor dda, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, ledled Cymru. Mae'n bwysig ein bod yn edrych ar ffyrdd y gallwn annog pobl hŷn i fanteisio ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, yn enwedig mewn perthynas â'r argyfwng costau byw, ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle mae pobl hŷn, nawr, yn flaenoriaeth allweddol i'n gwasanaethau cynghori sengl.

Felly, yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae dros 15,000 o bobl 65 oed a hŷn wedi cael cymorth i hawlio incwm budd-dal lles. Ond hefyd, cefais gyfarfod â Gweinidog Llywodraeth y DU am gynllun peilot y gwnaethom ymwneud ag ef, gyda Llywodraeth y DU a'n cyd-Aelodau mewn llywodraeth leol, sef ymgyrch benodol i annog pobl hŷn i fanteisio ar gredyd pensiwn. Gwn fod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi ymwneud â'r cynllun hefyd. Felly, bydd hwnnw'n helpu o ran gwneud y mwyaf o incwm, ond wrth gwrs, byddant hefyd yn elwa, fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i gwestiynau, o'r cynlluniau cyngor ynni sy'n cael eu darparu a'u cefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy Nyth. Ond dwy enghraifft yn unig yw'r rheini o sut y gallwn helpu pobl hŷn gyda'u hanghenion a'r hyn sy'n eu gwneud yn agored i niwed drwy fisoedd y gaeaf.

Cynlluniau ar gyfer Ffoaduriaid

5. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ffoaduriaid? OQ60429

Diolch yn fawr. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth yn ein gallu i wneud Cymru'n genedl noddfa go iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithredu ystod eang o gynlluniau i sicrhau y gall ceiswyr lloches yng Nghymru gael y cymorth sydd ei angen arnynt i gyfrannu'n llawn at ein cymunedau ac ailadeiladu eu bywydau.

Diolch am yr ateb yna.

Ers i'r trais ddechrau yn Gaza fis Hydref, mae nifer y marwolaethau bellach wedi pasio 18,000 mewn ychydig dros ddau fis. Mae dadansoddiad wedi dangos bod mwyafrif y marwolaethau wedi bod yn sifiliaid diniwed, a llawer ohonynt yn blant, sy'n hollol dorcalonnus. Dyna pam ei bod yn hanfodol sicrhau cadoediad parhaol, fel y galwyd amdano yng nghynnig Plaid Cymru a drafodwyd gennym yma. Hyd nes y cyflawnir hynny, mae'r sefyllfa'n ansicr, a dweud y lleiaf.

Cysylltodd un person sydd â theulu ym Mhalesteina â Phlaid Cymru i ddweud bod mwy na 30 o aelodau'r teulu wedi cael eu lladd yn eu cartrefi. Mae'r rhai sydd wedi goroesi yn byw mewn pebyll. Dywedodd, 'Mae hyd yn oed ardaloedd a oedd yn arfer cael eu hystyried yn ddiogel rhag lluoedd Israel, fel de Gaza, yn cael eu targedu'n ddi-baid erbyn hyn, sy'n golygu nad oes harbwr diogel, yn ôl sefydliad hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig.' Ychwanegodd, 'Rwy'n erfyn arnoch am gymorth i sicrhau bod fy nheulu yn gallu teithio o Gaza yn ddiogel ar unwaith, a hynny ar sail ddyngarol. Rydym yn gofyn am breswyliad dyngarol dros dro nes ei bod yn ddiogel iddynt ddod o hyd i ateb mwy parhaol.' Weinidog, mae Cymru wedi croesawu ffoaduriaid o Syria, Affganistan ac Wcráin â breichiau agored ac wedi eu cefnogi dros y blynyddoedd diwethaf. Pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sefydlu cynllun ffoaduriaid, a sut y gallai Cymru chwarae ei rhan mewn cynllun o'r fath, i gynnig llwybr diogel a noddfa i bobl Gaza sydd eisiau ffoi rhag y tywallt gwaed?

Wel, diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.

Mae'n rhywbeth sydd—. Ymunais â chyfarfod rhyng-weinidogol gyda'r Gweinidog ffoaduriaid, Felicity Buchan, yn ogystal â chyd-Aelod, Gweinidog Llywodraeth yr Alban, Emma Roddick, mewn cyfarfod a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf. Buom yn trafod ystod eang o faterion mewn perthynas â ffoaduriaid—ffoaduriaid o Wcráin, Affganistan, gwasgariad ehangach o geiswyr lloches—ond codwyd y cwestiwn hwn hefyd. Fe'i codwyd ynglŷn ag a a allai fod llwybr neu ffordd arall y gallem gefnogi'r rhai sydd wedi'u dal yn y gwrthdaro. Rwy'n credu bod gan bob un ohonom—llawer ohonom, beth bynnag—etholwyr sydd ag aelodau o'r teulu yno. Rydym newydd glywed am hyn mewn cyfarfod rydym newydd ei gynnal nawr, y Prif Weinidog a minnau, gyda'r gymuned Fwslimaidd. Wrth gwrs, yn amlwg, nid yw'r mater hwn wedi'i ddatganoli—mae unrhyw fater sy'n ymwneud â pholisi tramor yn fater i Lywodraeth y DU, nid i Lywodraeth Cymru na'r Senedd. Ac wrth gwrs, mae yna flaenoriaeth i ddarparu llawer mwy o gymorth i Gaza. Roedd y drafodaeth a gawsom yn ymwneud â chefnogi gwladolion Prydeinig i weld a oedd unrhyw ffyrdd o wneud hynny, oherwydd mae'n bwysig eu bod yn gwybod beth yw eu hawliau. Ond yn amlwg, rydym eisiau saib yn y gwrthdaro, a dyna fydd yn atal y sefyllfaoedd ofnadwy a ddisgrifiwyd gennych heddiw. 

14:10

Diolch i fy ffrind am godi'r cwestiwn hwn, ac rydym yn cael llawer o negeseuon e-bost gan bobl Palesteinaidd sydd â pherthnasau yma yng Nghymru. Weinidog, y broblem fwyaf gyda'r gwahanol gynlluniau preswylio ar gyfer ffoaduriaid yw'r gallu i ddod o hyd i lety hirdymor i'r rhai sy'n ceisio lloches yng Nghymru. Yn anffodus, nid oes gennym ddigon o ddarpariaethau llety, sy'n golygu bod ffoaduriaid yn aros mewn llety anaddas, neu, hyd yn oed yn waeth, yn cael eu gorfodi drwy hynny i godi pac a symud i rannau eraill o'r wlad ar ôl iddynt ymgartrefu mewn ardal. Nid oes gennym ddigon o dai fel y mae. Sut y gallwn ni obeithio bod yn genedl noddfa os na allwn ddarparu llety i ffoaduriaid? 

Yr wythnos diwethaf, cefais y pleser o gyfarfod â chwmni o Gymru sy'n ceisio cyflwyno adeiladu argraffu 3D i Gymru. Ar draws y byd, mae argraffu 3D yn chwyldroi'r diwydiant adeiladu, gyda chartrefi'n cael eu hadeiladu mewn dyddiau yn hytrach na misoedd neu flynyddoedd. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch defnyddio technegau o'r fath i gynyddu'r cyflenwad tai yn gyflym er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu ar gyfer y rhai sy'n ffoi rhag rhyfeloedd a dinistr dramor, fel ym Mhalesteina? 

Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain, am y cwestiwn atodol hwnnw. Roeddwn i'n meddwl fy mod wedi ateb cwestiwn Andrew R.T. Davies yn gynharach heddiw gydag ymateb cadarnhaol iawn o ran y ffyrdd y buom yn cefnogi ffoaduriaid o Wcráin, a chydnabod fy mod wedi gallu dweud bod 3,250 o bobl wedi cyrraedd y DU drwy lwybr uwch-noddwr Cartrefi i Wcráin, a'u bod wedi symud ymlaen i lety mwy hirdymor. Ac rwyf am fynd yn ôl a rhoi un neu ddau o ffigurau i chi ar y llwyddiant, diolch i'n hawdurdodau lleol. Cefnogwyd dros 2,750 o bobl gyda llety cychwynnol yng Nghymru, ac maent bellach wedi symud ymlaen i lety pellach. Mae bron i 1,600 wedi dewis ymgartrefu yng Nghymru yn fwy hirdymor, ac rydym wedi clywed enghreifftiau ar draws y Siambr yn gynharach o lwyddiant yr integreiddio hwnnw yng Nghaerffili a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae'n ymwneud ag awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector yn dod at ei gilydd i ddod o hyd i'r llety mwy hirdymor hwnnw. Rydym yn darparu llwybr i ddiogelwch. Mae rhai o'r ffoaduriaid Wcreinaidd wedi dewis symud i rannau eraill o'r DU, dychwelyd i Wcráin neu deithio i wledydd eraill. Mae 900 o bobl yn y sefyllfa honno.

Ond fe soniais hefyd wrth ymateb i'r cwestiynau yn gynharach am y buddsoddiad y mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi'i wneud mewn tai trosiannol—rhaglen gyfalaf llety trosiannol gwerth £75 miliwn. Wel, rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu ymweld â rhai o'r darpariaethau llety modiwlaidd, llety dros dro, sydd wedi'i ariannu drwy'r cynllun hwnnw, ac rwy'n credu bod eraill yn y Siambr heddiw wedi gwneud yr un peth yng Nghaerdydd. Ac mae hwnnw'n llety modiwlaidd sy'n cael ei ddarparu gan gwmni a gaffaelwyd gan yr awdurdod, gyda Llywodraeth Cymru, gyda'n cyllid ni. Felly, yn amlwg mae yna gadwyni cyflenwi a llwybrau i gwmnïau allu chwarae eu rhan. Ond rwy'n anghytuno'n gryf â'ch pwynt ynglŷn â'r ffaith bod pobl bellach yn cael trafferth mewn perthynas â llety. Mae anghenion tai enfawr yng Nghymru, a heddiw, fel y dywedais, fe gyd-gadeiriais gyfarfod cyntaf o fwrdd trosolwg y genedl noddfa gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Roedd y Swyddfa Gartref yno, ac roedd ymrwymiad cryf iawn i ddull tîm Cymru o gefnogi pawb sy'n chwilio am noddfa yma yng Nghymru, dros dro a hirdymor, ond roedd yna gydnabyddiaeth hefyd ein bod yn cefnogi llawer o deuluoedd sydd ag anghenion tai yng Nghymru hefyd. Pe bai gennym setliad gwell gan eich Llywodraeth chi, efallai y byddem yn gallu gwneud mwy i fynd i'r afael â'u hanghenion tai.

14:15

Prynhawn da, Weinidog. Yn ddiweddar, darllenais stori am Ryan, ffoadur a fentrodd bopeth i chwilio am ddiogelwch. Ar ôl wynebu carchar a cham-drin hiliol yn ei wlad ei hun, cychwynnodd ar daith beryglus ar draws llawer o wledydd gan droi at gwch bychan, gorlawn i groesi'r sianel, ac mae bellach yn byw yng Nghymru. Roedd y daith honno'n drawmatig iddo ac er gwaethaf hynny, mae'n dyfalbarhau yn y gobaith o fod yn athro mathemateg yma yng Nghymru rhyw ddydd. 

Mae stori Ryan yn dangos nad oes llwybrau diogel, cyfreithiol yn bodoli i ffoaduriaid sy'n ceisio diogelwch. Yn ôl adroddiad gan y Cyngor Ffoaduriaid eleni, byddai dwy ran o dair o'r rhai a wnaeth y daith hon ar draws y sianel yn cael eu cymeradwyo ar gyfer statws ffoadur pe bai ganddynt fynediad at weithdrefnau teg. Er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn parhau i ddyrannu miliynau i bolisïau anymarferol fel cynllun Rwanda, y clywsom amdano yn y bleidlais neithiwr, gan ddilorni pobl fel Ryan, nad ydynt yn ymfudwyr, ond sydd, yn hytrach, yn bobl nad oes ganddynt ddewis ond teithio mewn cychod peryglus. Nid wyf yn credu bod fy nghyd-Aelodau yma yn y Senedd yn rhannu'r farn honno, ond mae gan y Llywodraeth Geidwadol obsesiwn â chychod bach. Hoffwn ofyn i chi sut y gallwn hyrwyddo stori Ryan mewn modd cadarnhaol, ynghyd â'r cyfraniad cadarnhaol y mae eisiau ei wneud yma yng Nghymru, fel ffoaduriaid eraill, a hefyd ein bod angen llwybrau diogel, cyfreithiol, nid rhethreg greulon am gychod bach. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds, ac a gaf fi ddiolch yn fawr iawn i chi am adrodd stori Ryan? Nid wyf yn gwybod a welodd unrhyw un ohonoch—neu hyd yn oed os oeddech chi'n cerdded heibio—y digwyddiad anhygoel Noddfa yn y Senedd ddoe. Gwn mai Jenny Rathbone a'i cynhaliodd, a gallaf weld Aelodau yma heddiw a wnaeth ymuno a chlywed rhai o'r straeon hynny, ond hefyd y diolch a fynegwyd a'r ymrwymiad ynghylch gallu dod i fyw yng Nghymru, er bod yna heriau'n gysylltiedig â thai, er bod yna heriau'n gysylltiedig â chyflogaeth, yn gwbl briodol, ac mae angen inni glywed yr heriau hynny. Mae angen inni glywed gan y rhai sydd wedi ymuno â ni yng Nghymru, sydd wedi ceisio lloches yng Nghymru, ac mae angen inni eu deall mewn perthynas â'n polisïau. Felly, diolch am rannu gyda ni.

Mae dull Llywodraeth y DU o weithredu yn tanseilio ein gallu i fod yn genedl noddfa, nid yn unig, fel y dywedais, mewn perthynas â diffyg adnoddau gan Lywodraeth y DU ar gyfer ein cyllidebau yn gyffredinol, ond mae'n ei gwneud hi'n llawer anos i bobl integreiddio mewn cymunedau, i ni ddefnyddio'r sgiliau a'r profiad sydd ganddynt i'w gynnig, sy'n fudd mawr y mae ymfudo'n ei gynnig. Rydym wedi dweud bod Deddf Mudo Anghyfreithlon 2023 yn gyfystyr â gwaharddiad ar hawlio lloches yn y DU, ac mae'n gwbl amlwg, fel y dywedwch, Jane Dodds, fod yn rhaid cael llwybrau digonol a chyfreithiol i ddiogelwch yn y DU.

Rydym wedi profi ein bod yn gallu ei wneud, onid ydym? Rydym wedi profi ein bod yn gallu ei wneud gyda'r gefnogaeth i lwybr uwch-noddwr Wcráin; rydym wedi profi ein bod yn gallu ei wneud ar sail tîm Cymru. Ac mae'n rhaid imi ddweud bod swyddogion y Swyddfa Gartref gyda ni heddiw yn y cyfarfod gyda llywodraeth leol a oedd yn gadarnhaol iawn. Dywedasant y gallai Cymru helpu i ddangos y ffordd ymlaen. Ond rwy'n gobeithio y bydd llawer ohonom yma yn condemnio Bil Diogelwch Rwanda (Lloches a Mewnfudo) Llywodraeth y DU. Unwaith eto, credwn y bydd hwn yn dileu hawliau'r rhai sy'n hawlio lloches yn y DU, ac rwy'n gobeithio na fydd yn cael ei weithredu. Mae'n amlwg iawn ei fod yn mynd yn groes i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ar sawl lefel a dyma'r ffordd gwbl anghywir o gefnogi pobl sy'n ffoi rhag gwrthdaro i ddod i'n gwlad.

A gaf fi ddweud, hefyd, pan ddatgelwyd mai dim ond canran fach iawn o bobl sy'n dod drosodd ar gychod—ac rydym yn condemnio'r ffaith bod yn rhaid iddynt ddod drosodd ar gychod am nad oes gennym lwybr diogel a chyfreithiol priodol—fod y Llywodraeth wedi penderfynu penodi Gweinidog ymfudo cyfreithiol i geisio atal ymfudwyr cyfreithiol rhag dod i'r DU hefyd? Am gondemniad brawychus o'r Llywodraeth honno. 

14:20
Cenedl Noddfa

6. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y cynnydd o ran gwneud Cymru'n genedl noddfa? OQ60405

Diolch yn fawr, Ken Skates. Byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad cenedl noddfa 2023 cyn bo hir, sy'n dangos cynnydd da a pharhaus. Ar hyn o bryd rydym yn gwneud gwaith i adnewyddu ein 'Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' a byddwn yn ymgysylltu â'r rhai y mae ein gwaith yn effeithio'n uniongyrchol arnynt yn ystod yr wythnosau nesaf.

Wel, diolch yn fawr iawn, Weinidog, ac edrychaf ymlaen yn fawr at yr adroddiad hwnnw. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn dymuno hyrwyddo Cymru fel cenedl noddfa i bobl ledled y byd, a nid oes llawer o ffyrdd gwell o wneud hyn na thrwy ddigwyddiadau fel yr Eisteddfod Ryngwladol sy'n cael ei chynnal yn flynyddol yn Llangollen, ac eleni roedd nifer sylweddol o ffoaduriaid Wcráin yn bresennol, ffoaduriaid sydd wedi cael cymorth amhrisiadwy gan y Llywodraeth Lafur hon a chan drigolion lleol. Weinidog, a fyddech chi'n cytuno bod Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, ynghyd â digwyddiadau blaengar a rhyngwladol eraill, yn ddelfrydol ar gyfer hyrwyddo statws Cymru fel cenedl groesawgar?

Diolch am y cwestiwn pwysig hwnnw, a diolch hefyd am rannu pwysigrwydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen gyda ni unwaith eto ac yn enwedig presenoldeb sylweddol dinasyddion Wcráin yn y digwyddiad hwnnw. Rydym yn credu'n sylfaenol—ac rwyf wedi ymateb i gwestiynau y prynhawn yma—fod y gefnogaeth gan bobl Cymru i'r cynllun noddi cartrefi, gwirfoddoli, rhoddion i apeliadau argyfwng ffoaduriaid, maent yn dangos bod pobl yn awyddus i fod yn genedl noddfa, ond mae'n bwysig hyrwyddo hynny'n rhyngwladol. Mae digwyddiadau mawr yn ffordd wych o wneud hynny, felly mae Llywodraeth Cymru'n falch o gefnogi'r Eisteddfod Ryngwladol. Ond a gaf fi gofnodi'n gyflym iawn hefyd, Lywydd, y bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei chynrychioli yn y fforwm ffoaduriaid byd-eang yng Ngenefa, ochr yn ochr â dirprwyaeth y DU, i gyfleu ein gweledigaeth o genedl noddfa ac i roi ein haddewid y byddwn yn parhau i ddilyn y trywydd hwnnw, gan annog cenhedloedd eraill i weithio tuag at nod cyffredin?

Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu

7. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu? OQ60437

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Rydym yn falch o'n cyflawniad yn cefnogi swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a hyrwyddo diogelwch cymunedol yng Nghymru, ac rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr plismona i gadw cymunedau'n ddiogel.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb yna. Roeddwn i allan yn troi goleudau Nadolig Llanbedr, Meirionnydd, ymlaen nos Wener diwethaf, a thra yno ces i sgwrs hir a buddiol iawn gyda Llinos, un o'r swyddogion cymorth cymunedol sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Soniodd am y gwaith cymunedol roedd hi'n ei wneud gan ddangos yn glir bwysigrwydd ei rôl hi a'r hyn yr oedd hi'n ei gyflawni yn y cymunedau ar arfordir Meirionnydd.

Yna fe ges i sgwrs fuddiol gyda'r heddlu ym Mhorthmadog yr wythnos diwethaf hefyd, a hwythau'n mynegi canmoliaeth a gwerthfawrogiad o waith y swyddogion cymorth cymunedol. Ond roedd pob un ohonyn nhw yn bryderus bod y gyllideb ar gyfer y roliau yma am gael ei thorri. Felly, allwch chi roi sicrwydd i'r PCSOs yma fod eu swyddi nhw am barhau a bod y gyllideb am gael ei chynnal, os gwelwch yn dda?

Diolch yn fawr. Rydym yn wynebu sefyllfa ariannol hynod heriol, fel y gwyddoch yn iawn, y sefyllfa anoddaf ers datganoli, ac yn dilyn misoedd o waith trawslywodraethol dwys rydym yn datblygu cynllun darbodus i ymateb i'r pwysau ariannol eithriadol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yn 2023-24. Serch hynny, rydym yn cael ein harwain gan yr angen i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen cyn belled ag y bo modd ac rydym yn ceisio targedu cymorth tuag at y rhai sydd â'r angen mwyaf. Felly, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n heddluoedd, ac rydym wedi rhyddhau cyllid o gyllideb swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn y flwyddyn ariannol hon, gan ofyn i heddluoedd oedi'r gwaith o recriwtio swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, ond rydym yn dal i ddarparu dros £20 miliwn o gyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i gadw cymunedau Cymru'n ddiogel.

Mae'n rhaid i mi ddweud ei bod yn dda iawn clywed yr adborth hwnnw, ac rwy'n siŵr y byddai llawer yn rhannu'r math hwnnw o adborth gan swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a chydweithwyr plismona. Ond wrth gwrs, bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cael ei chyhoeddi yr wythnos nesaf, a bydd yn nodi ein sefyllfa ariannu yn y dyfodol. 

14:25
Tlodi Plant a Chyrhaeddiad yn yr Ysgol

8. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i fynd i'r afael ag effaith tlodi plant ar gyrhaeddiad yn yr ysgol, yng ngoleuni canlyniadau PISA 2022? OQ60436

Diolch yn fawr am eich cwestiwn.

Mae mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad yn ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg, fel y nodir yn y cynllun a gyhoeddwyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ym mis Mawrth, 'Cenhadaeth ein cenedl: safonau a dyheadau uchel i bawb'.

Diolch, Weinidog. Tybed a allech chi egluro, serch hynny, o ystyried mai dim ond yn ddiweddar y rhyddhawyd canlyniadau'r rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr, pa drafodaethau sydd wedi bod ers hynny, neu a oes cynlluniau i gael trafodaethau, o ystyried arwyddocâd y canlyniadau hynny. A hefyd yng ngoleuni nifer o adroddiadau a welsom ar y cysylltiad rhwng cyrhaeddiad a thlodi, fod yr anghyfartaledd rhwng plant yn tyfu, a hefyd rhai o'r cynigion a waned gan awdurdodau lleol oherwydd pwysau ariannol nawr, megis codi mwy o dâl am gludiant i'r ysgol, neu fynd yn ôl at yr hyn y mae'r Mesur yn ei ddweud ar hyn o bryd, yn hytrach na mynd y tu hwnt i hynny. Hefyd, rhai o'r pethau a welsom o ran mesurau i ddarparu cymorth yn uniongyrchol i deuluoedd, a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar absenoldeb disgyblion. Mae'n ymddangos bod y sefyllfa ar lawr gwlad yn gwaethygu. Dyna mae rhieni yn ei ddweud wrthym, nad ydynt yn gallu fforddio cludiant i'r ysgol, ac yn y blaen. Mae'r athrawon yn dweud hyn wrthym. Felly, pa drafodaethau brys sydd wedi digwydd, o ystyried ein bod yn gweld hyn yn effeithio'n uniongyrchol ar blant a phobl ifanc, fel y gwelir yng nghanlyniadau'r rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr?  

Wel, diolch i chi am y cwestiwn atodol pwysig hwnnw, yr ymdrinnir ag ef i raddau helaeth, rwy'n credu, yn ein strategaeth tlodi plant drawslywodraethol, y byddwn yn ei lansio yn y flwyddyn newydd, i fynd i'r afael â llawer o'r materion hynny. Credaf ei bod yn bwysig fod adroddiad y rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr wedi dangos bod dysgwyr Cymru yn gadarn yn academaidd, a bod y bwlch cyrhaeddiad rhwng ein dysgwyr mwyaf breintiedig a'n dysgwyr mwyaf difreintiedig yn llai yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill y DU ym mhob maes. Ond yn amlwg, gwyddom fod yn rhaid inni barhau i gefnogi ac ymestyn ein holl blant a phobl ifanc, a mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad.

Yn gyflym iawn, hoffwn ddweud bod hyn yn ymwneud â gweithio gydag athrawon yn fwyaf arbennig, gan gydnabod bod addysgu o ansawdd uchel yn arbennig o bwysig i blant a allai fod yn fwy difreintiedig oherwydd tlodi. Mae'r dysgu a'r addysgu cadarn hwn yn hanfodol. Mae gwaith gwych yn cael ei wneud gan ein pencampwyr cyrhaeddiad, arweinwyr ysgol llwyddiannus, ac wrth gwrs, cydweithrediad rhwng ysgolion sy'n canolbwyntio ar yr holl feysydd sy'n effeithio ar fywyd plentyn a bywyd cymuned, gan gydnabod bod mynd i'r afael â thlodi a chyflwyno prydau ysgol am ddim, ac yn wir, y grant hanfodion ysgol, yn rhan o'r ffordd yr awn i'r afael â'r materion hyn. 

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Carolyn Thomas.

Etholiadau'r Senedd

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o degwch y system etholiadol ar gyfer etholiadau'r Senedd? OQ60414

Diolch am eich cwestiwn. Mae nifer o elfennau mewn system etholiadol sy'n dylanwadu ar ei thegwch canfyddedig. Drwy ein rhaglen i ddiwygio'r Senedd, rydym yn cryfhau rhai o'r rhain, er enghraifft, drwy ddileu'r system cyntaf i'r felin anghymesur o'n trefniadau etholiadol.

Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Mae Llywodraeth y DU wedi defnyddio offeryn statudol i gynyddu terfyn gwariant yr etholiad cyffredinol nesaf gymaint ag 80 y cant, i £35 miliwn, heb unrhyw ddadl seneddol. Dim ond y Blaid Geidwadol sydd erioed wedi dod yn agos at y cap gwariant blaenorol ac mae'r Comisiwn Etholiadol wedi dweud nad yw wedi gweld unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r cynnydd. A ydych chi'n cytuno bod penderfyniad y Torïaid yn tanseilio tegwch ein democratiaeth ac yn ceisio dod â ni'n agosach at sefyllfa lle mai'r rhai sydd â fwyaf o arian fydd yn ennill?

14:30

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw? Rydych chi'n codi nifer o bwyntiau pwysig iawn. Mae newidiadau i roddion a threuliau ymgyrchu yn etholiadau seneddol y DU wedi cael eu disgrifio gan y Comisiwn Etholiadol fel rhai 'peryglus'. Dyma'n union y mae'r Comisiwn Etholiadol yn ei ddweud: 

'Nid ydym wedi gweld tystiolaeth i gefnogi'r newidiadau hyn.'

Maent yn dweud eu bod yn poeni bod y cynigion yn niweidio

'tryloywder rhoddion gwleidyddol, ac yn rhoi llawer mwy o gyfle i bleidiau sy'n gwario mwy o arian allu ymgyrchu.'

Wrth gwrs, mae'n cael ei wneud trwy offeryn statudol, felly i bob pwrpas mae wedi osgoi unrhyw drafodaeth seneddol go iawn. Y cyfraddau sy'n cael eu cynyddu yw gwariant ymgeiswyr, i fyny o £8,700 i £11,390; treuliau isetholiad, o £100,000 i £180,000; gwariant y pleidiau fesul etholaeth o £30,000 i £54,000; yn ogystal â chynnydd i drothwyon rhoddion. I ddweud y gwir, dyma ymgais ddigywilydd gan y Torïaid a'r miliwnyddion sy'n rhoi rhoddion iddynt i brynu etholiad nesaf y DU. Mae newidiadau wedi'u cyflwyno i osgoi hynny. Nid yw'n rhywbeth a wnawn ni yng Nghymru. Yma yng Nghymru, mae'n rhaid i bwerau Gweinidogion i ddiwygio'r terfynau i dreuliau ymgyrchoedd etholaethau ac unigolion fynd trwy broses seneddol briodol, nid y broses sy'n cael ei defnyddio gan Lywodraeth y DU i osgoi a cheisio prynu ein system ddemocrataidd.

Er mwyn dod â'r cwestiwn yn ôl at etholiadau'r Senedd, sef yr hyn yr oedd y cwestiwn a gyflwynwyd yn wreiddiol yn ymwneud ag ef, rwy'n bryderus, fel y mae fy mhlaid wedi bod ers amser maith, am gynlluniau Llywodraeth Cymru fel y maent yn ymwneud â diwygio'r Senedd: mae'r cynnydd i 96 Aelod heb refferendwm yn wrth-ddemocrataidd yn fy marn i, ond mae'r system rhestrau caeedig, yr ymddengys bod y Llywodraeth yn mynd ar ei thrywydd, yn rhoi pŵer anghymesur yn nwylo rheolwyr y pleidiau gwleidyddol hynny.

Os yw'r Llywodraeth yn mynd i fynd ar drywydd y broses honno, rwy'n gobeithio y bydd pob plaid wleidyddol yn rhoi proses ddemocrataidd a waith er mwyn dewis yr ymgeiswyr hynny. Nid yw hynny wedi digwydd yn ddiweddar. Yn y Blaid Lafur yn ddiweddar, cafodd pedwar ymgeisydd comisiynydd heddlu a throseddu eu dewis heb bleidlais, heb hustyngau. Galwodd un o gynghorwyr Llafur yn ne Cymru y peth yn 'stitch-up, heb gymaint â hustyngau, heb sôn am bleidlais'. Geiriau'r cynghorydd yw'r rheini.

Felly, pa gamau a gymerir gennych i sicrhau bod pob plaid wleidyddol, gan gynnwys eich plaid chi, yn mabwysiadu proses ddemocrataidd i ddewis yr ymgeiswyr hynny ac nid dim ond cytundeb ystafell gefn ym mhencadlys y Blaid Lafur?

A gaf fi ddweud mai arfer y Blaid Lafur yw ein bod bob amser yn mabwysiadu proses ddemocrataidd mewn perthynas â dewis ein hymgeiswyr? A gaf fi ddweud hefyd, ar ddiwygio'r Senedd, nad wyf o'r farn y gellir ystyried mewn unrhyw ffordd fod cyflawni addewidion maniffesto yn annemocrataidd? Y pwyntiau a godwyd, rwy'n credu, yn y cwestiwn hwn, ar fater costau etholiadol, yw bod gennych Lywodraeth Geidwadol ar hyn o bryd sy'n anelu at ganlyniad trychinebus yn yr etholiadau ac sydd, yn y bôn, yn cynllunio sut y gall brynu pleidleisiau mewn gwirionedd, naill ai trwy ddefnyddio'r cyllid ffyniant bro a'r gronfa ffyniant gyffredin wedi ei dargedu mewn ffyrdd penodol, neu trwy ddiwygio'n annemocrataidd y lwfansau a gwariant y gall ymgeiswyr eu hwynebu yn yr etholiad cyffredinol sydd i ddod.

Rwyf ar yr un ochr â Tom Giffard yma, oherwydd mae'r cwestiwn mewn gwirionedd yn ymwneud ag etholiadau'r Senedd a diwygio'r Senedd; fel rwy'n ei ddeall, nid yw'n ymwneud â threuliau etholiad yn San Steffan.

Gwnsler Cyffredinol, fe fyddwch yn gwybod fy mod am ofyn ynglŷn â diwygio'r Senedd a'r cynnig ar gyfer rhestrau caeedig, ac unwaith eto, rwyf ar yr un ochr—rwy'n hollol wrthwynebus i restrau caeedig. Hoffwn roi dyfyniad i chi:

'Mae rhestrau caeedig yn rhoi mwy o rym yn nwylo penaethiaid pleidiau, gan greu risg o wobrwyo teyrngarwch a hirhoedledd, yn hytrach na safon a chyfraniad. Mae rhestrau caeedig yn hyrwyddo ceidwadaeth a chydymffurfiaeth, gan greu risg o ras i'r gwaelod.'

Yr Athro Laura McAllister a ddywedodd hynny. A yw hi'n gywir, neu a yw hi'n anghywir? Diolch.

14:35

Mae ganddi farn, ac rwy'n anghytuno â'r farn honno. Yn gyntaf oll fe ddywedaf fod y system sy'n cael ei hymgorffori o fewn y ddeddfwriaeth yn gynnig sydd wedi dod gan bwyllgor diben arbennig, ac sydd eisoes wedi cael cefnogaeth mwyafrif o ddwy ran o dair yn y Senedd hon, sy'n allweddol, fel y gwyddoch, er mwyn ei gyflawni. Rwy'n credu mai'r hyn y mae'r diwygiadau yn ei wneud mewn gwirionedd—. Ac wrth gwrs, mae llawer iawn o wahanol safbwyntiau ynglŷn â gwahanol systemau pleidleisio; rhaid imi ddweud bod gan bob un fanteision, mae gan bob un anfanteision. Ond ar y cynigion, byddant yn arwain, yn gyntaf, at system well na'r un sydd gennym ar hyn o bryd, byddant yn arwain at Senedd fwy cyfrannol, byddant yn sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif mewn gwirionedd, bydd yn cael gwared ar y system gyntaf i'r felin anghyfiawn, sy'n golygu y gallwch gael eich ethol ar draean o'r pleidleisiau, ac mae'n darparu sylfaen ar gyfer hwyluso mwy o gydbwysedd rhwng y rhywiau ac amrywiaeth. Mae'r pethau hynny'n amlwg yn bethau sy'n welliannau ac yn well na'r system sydd gennym. Wrth gwrs, fe fydd yna adolygiad—ac mae hyn wedi'i gynnwys o fewn y ddeddfwriaeth—a bydd y Senedd nesaf hefyd yn cael cyfle i asesu sut mae'r diwygiadau a'r newidiadau wedi gweithredu. Ond mae'n ymddangos i mi yn annidwyll i fod yn beirniadu system sy'n sicr yn welliant, ac yn welliant sylweddol, o gymharu â'r system sydd gennym ar hyn o bryd.

Fframwaith Preifatrwydd Data yr UE a'r UD

2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch yr effaith ar Gymru yn sgil Fframwaith Preifatrwydd Data yr UE a'r UD? OQ60423

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i fusnesau Cymru elwa o drefniadau rhannu data cyfleus a diogel gyda thiriogaethau eraill. Ar yr un pryd, rydym yn glir y dylai dinasyddion fod â hawl i ddisgwyl i'w data gael ei ddiogelu a'i ddefnyddio at y dibenion cywir yn unig.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Ar 12 Hydref, daeth estyniad y DU, y bont ddata, i fframwaith preifatrwydd data trawsatlantig yr UE a'r UD i rym. Mae hwn yn gynllun gwirfoddol y gall cwmnïau'r UD ei ddefnyddio i rannu data personol yn rhydd gyda'r UE, ac fe'i cyflwynwyd ar ôl i Lys Cyfiawnder Ewrop ddarganfod nad oedd y fframwaith blaenorol—y darian breifatrwydd—yn darparu amddiffyniad digonol rhag gwyliadwriaeth anghyfreithlon gan asiantaethau gwladwriaethol yr UD. Serch hynny, mae Open Rights Group yn dal i fod wedi galw hyn yn ras preifatrwydd fyd-eang i'r gwaelod. Er bod Llywodraeth y DU yn dadlau na fyddai'r drefn newydd yn wahanol iawn i'r un a etifeddwyd o reoliad diogelu data cyffredinol yr UE, mae'r penderfyniad i fabwysiadu fframwaith preifatrwydd data yr UE a'r UD yn adrodd stori wahanol wrthym. Yn sicr mae yna lawer o dystiolaeth yn dweud nad yw'r un mesurau diogelu yn bodoli yn erbyn gwyliadwriaeth wladwriaethol—ein hun ni neu eraill. Felly, Gwnsler Cyffredinol, a allwch chi gadarnhau pa drafodaethau rydych chi hefyd wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r fframwaith, er mwyn sicrhau bod ein data yn parhau i fod wedi ei ddiogelu, yn saff ac yn perthyn i ni ein hunain?

Diolch am eich sylwadau. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn ynghylch y ffordd y mae data bellach yn ased fyd-eang—mae'n bwysig i fasnach, ac i gymaint o feysydd gweithgaredd, i ymchwil, ac yn y blaen. Mae ymgysylltu wedi digwydd, ac wrth gwrs, nodwyd pryderon, nid yn unig ynghylch fframwaith preifatrwydd data'r UE a'r UD, sy'n set o reolau a chytundebau rhwymol sy'n llywodraethu trosglwyddo gwybodaeth rhwng yr UE a'r UD, ond hefyd o ran ein trefniadau penodol ein hunain sydd ar waith, lle gall cwmnïau'r UD dderbyn data personol y DU trwy fframwaith, ond nid yw'n drefniant cilyddol, sy'n golygu nad yw data personol yr UD a drosglwyddir i'r DU yn llifo yn union yn yr un ffordd. Yn amlwg mae manteision i allu cael trosglwyddiad o'r fath, ond yn yr un modd, mae'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi nodi nifer o bryderon—rwy'n credu bod wyth pryder penodol. Felly, mae yna waith sy'n mynd rhagddo ar hyn. Cyfarfu swyddogion â'r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg ym mis Tachwedd i drafod y bont ddata yn fanylach. Nid oedd unrhyw wybodaeth wedi'i rhannu â ni cyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU, ac mae swyddogion yn sefydlu cyfarfodydd rheolaidd i gadw llygad ar y datblygiadau a'r gweithgareddau monitro risg.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Gan wrthod cais gan Lywodraeth Cymru i wrthdroi penderfyniad Llys Apêl y byddai adolygiad barnwrol yn gynamserol 16 mis yn ôl, daeth y Goruchaf Lys i'r casgliad nad oes diben defnyddiol mewn dyfarnu ar wrthdaro posibl rhwng pwerau Llywodraeth Cymru a darpariaethau Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 hyd nes y cyfyd achos penodol. Dywedodd yr Arglwyddes Ustus Nicola Davies

'y byddai'n annoeth i'r llys hwn fynd i'r afael â'r mater a nodwyd yn y datganiad yn absenoldeb deddfwriaeth benodol.'

Pa gyngor y gwnaethoch chi ei dderbyn a'i ddarparu cyn mynd ar drywydd y camau cyfreithiol hyn? Pa wersi a ddysgwyd gennych mewn perthynas â heriau cyfreithiol yn y dyfodol, a beth oedd cost hyn i'r pwrs cyhoeddus?

14:40

Yn gyntaf, nid yw'r materion cyfreithiol a godwyd gennym yn gwbl briodol mewn perthynas â'n setliad datganoledig—ein hawliau statudol fel Llywodraeth ddatganoledig, yn hytrach na Deddf y farchnad fewnol—wedi cael eu penderfynu y naill ffordd neu'r llall. Ein safbwynt bob amser yw bod ein setliad cyfansoddiadol statudol datganoledig yn cael blaenoriaeth ar Ddeddf y farchnad fewnol, sy'n amlwg yn ceisio awgrymu fel arall. Rydym yn credu ein bod ni ar dir cadarn iawn yno. Wrth gwrs, yr hyn y mae'r llys wedi'i ddweud yw, 'Wel, ni allwn benderfynu hynny, oherwydd mae angen inni weld deddfwriaeth sy'n cyflwyno dewisiadau eraill y gallwn eu hasesu a'u barnu'.

Un o'r rhai yr oeddem yn edrych arnynt oedd y ddeddfwriaeth cynhyrchion plastig untro. O fewn y ddeddfwriaeth honno, cafodd Llywodraeth y DU gyfle i'w herio, pe baent wedi dewis gwneud hynny. Roedd y ddeddfwriaeth honno'n seiliedig ar, ac yn cefnogi ein dehongliad o'r sefyllfa gyfansoddiadol. Dewisodd Twrnai Cyffredinol Llywodraeth y DU beidio â herio hynny. Rwy'n cymryd yn bendant iawn o hynny fod Llywodraeth y DU yn derbyn uchafiaeth ein sefyllfa gyfansoddiadol. Ar y sail honno, fe gymerais y safbwynt nad oedd angen mynd ar drywydd y mater a'i ddwyn gerbron y llys, oherwydd roedd Llywodraeth y DU wedi penderfynu ei fod o fewn ein cymhwysedd, ac felly, fod ein sefyllfa wedi'i chadarnhau gan y Twrnai Cyffredinol. 

Fel y dywedais, dyfarnodd y Goruchaf Lys fod eich gweithred yn gynamserol, a do, fe aeth rhagddi serch hynny, ac am gost sylweddol yn ddiau.

Ym mis Ionawr, dywedodd y Prif Weinidog y dylai Cymru gael system hunanddiffinio rhywedd debyg i'r un a gymeradwywyd yn yr Alban, ac er nad oes gan Gymru yr un pwerau â'r Alban, y byddai ef yn eu ceisio gan Lywodraeth y DU, a phe'u ceid, byddai'n eu rhoi ar waith yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'n ymddangos nad oedd gan yr Alban bwerau i wneud hyn ychwaith, gyda Llys Sesiwn Caeredin yn dyfarnu ddydd Gwener diwethaf fod Llywodraeth y DU wedi gweithredu'n gyfreithlon wrth symud i rwystro cynlluniau'r Alban i'w gwneud hi'n haws newid rhywedd yn gyfreithiol. Mae Llywodraeth y DU wedi atal hyn rhag dod yn gyfraith oherwydd ofnau y byddai'n cael effaith andwyol ar gymhwyso Deddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Pa wersi a ddysgwyd gennych o'r dyfarniad hwn mewn perthynas â heriau cyfreithiol costus gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol ar weithrediad y gyfraith fel y mae'n berthnasol i faterion sydd wedi'u cadw'n ôl yn gyfansoddiadol i Senedd a Llywodraeth y DU?

O ran dyfarniad yr Alban, yr hyn a gadarnhaodd y llys oedd bod y ddeddfwriaeth a basiwyd yn yr Alban o fewn y cymhwysedd. Cytunwyd ar hynny gan Lywodraeth y DU. Y cwestiwn a godai oedd p'un a oedd yn effeithio ar y Ddeddf Cydraddoldeb ac yn ei haddasu, a dyna'r maes lle mae'r llys wedi dyfarnu. Ond yn yr un modd, mae'r mater hefyd yn ymwneud ag arfer y pwerau penodol a oedd gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban o dan Ddeddf yr Alban 1998. Nid yw cydnabod rhywedd yn fater sydd wedi'i ddatganoli. Mae'n fater a gadwyd yn ôl. Felly, nid yw unrhyw ddeddfwriaeth yn y cyd-destun hwnnw'n berthnasol i Gymru hyd nes y bydd y mater o fewn y cymhwysedd. 

Serch hynny, roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai'n ceisio'r pwerau sydd gan yr Alban, felly mae'r dyfarniad hwn yn arwyddocaol yn y cyd-destun hwnnw.

Bythefnos yn ôl, cafodd y cynlluniau ar gyfer Bil Llywodraeth Cymru a fwriadwyd i greu cwotâu rhywedd ar gyfer etholiadau'r Senedd eu tynnu'n ôl. Deellir bod y Llywydd wedi derbyn cyngor cyfreithiol na fyddai o fewn cymhwysedd seneddol Senedd Cymru. Fodd bynnag, roedd eisoes yn gwbl glir o'r cyngor cyfreithiol a roddwyd yn flaenorol i bwyllgorau'r Senedd nad oes gan y Senedd gymhwysedd i gyflwyno'r Bil hwn. Pa gyngor y gwnaethoch chi ei dderbyn a'i roi ynglŷn â hyn? Pam y gwnaethoch chi fynd ar drywydd hyn pan oedd tystiolaeth y byddai'n methu? Faint mae hyn wedi'i gostio i'r pwrs cyhoeddus? Ac onid yw'n wir y dylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru roi'r gorau i wastraffu arian trethdalwyr drwy fynd ar drywydd camau cyfreithiol dibwynt a chanolbwyntio yn hytrach ar y pwerau sydd ganddi a'r gwasanaethau y mae'n gyfrifol amdanynt mewn gwirionedd? 

14:45

Wel, a gaf fi, yn gyntaf, gywiro'r Aelod? Yn gyntaf, nid oes unrhyw Fil wedi'i dynnu'n ôl. Er mwyn tynnu Bil yn ôl, mae'n rhaid ei fod wedi'i gyflwyno. Roedd disgwyl i Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) gael ei gyflwyno ar 4 Rhagfyr. Fodd bynnag, mae gwaith pellach yn cael ei wneud ar y Bil a bydd diweddariad pellach yn cael ei ddarparu maes o law.

Mae nifer o arbenigwyr wedi rhybuddio yn ddiweddar am y bygythiad potensial mae technoleg newydd, deallusrwydd artiffisial yn cynrychioli o ran integriti mewn etholiadau a'n system ddemocrataidd yn fwy eang. Eisoes eleni, mi oedden ni wedi gweld yn Slofacia, er enghraifft, ledu recordiad ffug, deepfake, fel y'i gelwir, oedd efallai wedi cyfrannu tuag at fuddugoliaeth yr ymgeisydd poblyddol, Robert Fico, yn y wlad honno, ac rŷn ni wedi gweld enghreifftiau tebyg eleni yn yr Unol Daleithiau ac, hyd yn oed, yn y Deyrnas Gyfunol. Ydy'r Cwnsel Cyffredinol yn rhannu'r pryder yma, a pha waith mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud, neu yn bwriadu gwneud, er mwyn gweld sut gallwn ni warchod ein system ddemocrataidd ni rhag y perygl yma?

Wel, diolch i chi am godi mater hynod o bwysig, un yr ydym wedi'i weld yn datblygu dros y blynyddoedd diwethaf, sef y ffordd y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial a thechnoleg ddigidol i danseilio democratiaeth. Ac os yw'n cael ei ddefnyddio i danseilio democratiaeth, mae'n rhan sylweddol o'r rhyfela mawr sy'n digwydd rhwng Wcráin a Rwsia ar hyn o bryd, ac mae hefyd yn rhywbeth yr ydym yn ei ystyried yn elfen arwyddocaol iawn yng ngwleidyddiaeth yr UD, ond rydym yn ei weld yn rhyngwladol hefyd. Rwy'n credu mai'r pwynt cyntaf yw bod yr Aelod yn hollol gywir—mae'n fygythiad i ddemocratiaeth. 

Nawr, mae'r ymdrechion i ymdrin â gwybodaeth ddigidol niweidiol a gwybodaeth ffug hefyd yn faes anhygoel o anodd; mae'n fyd-eang. Yn sicr, mae'r UE wedi pasio deddfwriaeth ar ffurf Deddf Gwasanaethau Digidol, sy'n ceisio gwneud hynny, ac wrth gwrs, mae gennym Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 gan Senedd San Steffan. Buaswn yn dweud nad oes gan yr un o'r rheini allu eto i ymdrin yn iawn â rheoleiddio a rheoli gwybodaeth ddigidol yn iawn. Mae'n rhywbeth yr ydym yn ei fonitro. Rydym yn monitro pwysigrwydd ein data ein hunain sydd gennym, er enghraifft, a sut y caiff hwnnw ei ddefnyddio.

Rwy'n credu mai'r cyfan y gallaf ei ddweud ar hyn o bryd yw ei fod yn rhywbeth sy'n bendant ar y radar gwleidyddol. Mae'n rhywbeth sy'n hynod bwysig i'n strwythurau democrataidd. Mae llawer o'r meysydd lle mae rheoleiddio'n digwydd wedi eu cadw'n ôl wrth gwrs, ac mewn gwirionedd, mae bron wedi ei gadw'n ôl o safbwynt byd-eang—hynny yw, nid oes modd ymdrin ag ef ac eithrio ar sail fyd-eang. Rwy'n falch fod yr Aelod wedi codi hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd yn fater yr eir ar ei drywydd wrth i amser fynd yn ei flaen, oherwydd credaf ei fod yn rhywbeth a fydd yn effeithio ar bob un ohonom ac sydd â chanlyniadau i uniondeb ein systemau etholiadol a democrataidd.

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi gofyn am ragor o bwerau er mwyn eu galluogi nhw i reoleiddio yn y maes yma er mwyn atal y camddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial. Ond, maen nhw wedi dweud oni bai eu bod nhw yn cael y pwerau hynny yn gynnar yn y flwyddyn newydd, fydd e'n amhosibl atal camddefnydd yn digwydd yng nghyd-destun etholiad cyffredinol nesaf San Steffan, pan ddaw hynny. Ond, eto, mae gyda ni'r grymoedd, onid oes, i reoleiddio etholiadau o fewn Cymru, ac mae yna enghreifftiau yn yr Unol Daleithiau lle does yna ddim gweithredu deddfwriaethol ar lefel ffederal ar hyn o bryd, ond mae yna ddwy dalaith—Minnesota a Michigan—sydd wedi deddfu i atal camddefnydd o fewn cyd-destun etholiadau ar lefel daleithiol a lleol. Oni fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn fodlon edrych ar yr enghreifftiau hynny i weld a fyddai gwelliant, er enghraifft, i'r Bil etholiadau yn fodd i ni o leiaf sicrhau nad yw'r camddefnydd yma'n digwydd yng nghyd-destun etholiadau ar gyfer Senedd Cymru neu ar gyfer llywodraeth leol?

14:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Rwy'n credu bod unrhyw bethau y gallwn eu gwneud mewn deddfwriaeth ac o fewn y cymhwysedd sy'n ein galluogi i leihau effaith ymdrechion i ledaenu camwybodaeth yn bethau sy'n werth eu hystyried. Mae mater rheolaethau digidol a rheoli digidol yn faes gweddol gymhleth; mae wedi ei gadw'n ôl i raddau helaeth. Mae yna feysydd o fewn ein system etholiadol ein hunain lle rydym wedi edrych ar y materion hynny gyda phethau fel argraffnodau, ac yn y blaen. Mewn gwirionedd, dyna'r un maes y gwnaethom roi cydsyniad deddfwriaethol i Lywodraeth y DU ar ei gyfer yn eu Bil Etholiadau. Felly, mae'n faes y credaf ein bod yn ymwybodol ohono. Ond rwy'n sicr yn hapus i edrych ar unrhyw gynigion realistig, nid yn unig o ran ein deddfwriaeth bresennol sy'n mynd rhagddi, ond o ran cael gwell dealltwriaeth o'r hyn y gallwn neu y gallem ei wneud. Mae'n rhaid imi ddweud mai fy mhryder mwyaf ar hyn o bryd yw bod y rhan fwyaf o'r meysydd wedi eu cadw'n ôl, rwy'n credu. Fel y dywedaf, mae'r defnydd o gamwybodaeth yn fyd-eang i raddau helaeth iawn, yn hytrach na lleol, ond mae'n amlwg fod yna bethau y gallwn eu gwneud ynghylch gwybodaeth sy'n mynd allan yn ystod ein hetholiadau a nodi honno ac argraffnodau. Ac wrth gwrs, mae yna reoliadau sy'n ymdrin â chamwybodaeth, i raddau. A yw'n ddigonol? Nac ydy. A yw'r bygythiad yn cynyddu? Rwy'n credu ei fod yn fygythiad sy'n tyfu. Ond unwaith eto, rwy'n croesawu'r mewnbwn ar hyn a buaswn yn hapus i edrych ar unrhyw argymhellion neu gynigion a gyflwynir, nid yn unig ar gyfer nawr, ond ar gyfer yr agenda wleidyddol fwy hirdymor hefyd.

Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol

3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau cyfreithiol i Gymru sy'n deillio o Fil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Llywodraeth y DU? OQ60420

Mae Gweinidogion Cymru wedi asesu'r goblygiadau cyfreithiol i Gymru wrth i'r Bil symud ymlaen drwy Senedd y DU. Mae'r Prif Weinidog wedi gosod tri memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar faterion datganoledig.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. I ddilyn ymlaen o'r hyn y mae fy nghyd-Aelod Adam Price wedi bod yn cyfeirio ato, mae llawer o ddarnau o ddeddfwriaeth hollol ofnadwy wedi mynd trwy Lywodraeth y DU. Rydym wedi cael y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, diwygio'r Ddeddf Hawliau Dynol, rydym wedi cael y Bil Adolygiad Barnwrol a Llysoedd, y Bil Etholiadau, Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd a'r Bil Diogelwch Ar-lein. Os caf adleisio'r hyn a ddywedwyd gennych yn flaenorol, mae pob un ohonynt wedi bod yn annigonol, ac mae pob un ohonynt yn anelu at gael mwy o reolaeth a llai o dryloywder i'n dinasyddion. Yna, os caf ddod â chi at y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol sydd wedi'i dreialu gan Lywodraeth y DU, nad oedd yn fodlon ar gamu dros y llinell gyda gwaharddiad ar brotestiadau aflonyddgar y llynedd, mae'r Bil hwn, yn anffodus, yn gorymdeithio law yn llaw gyda Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022 tuag at ddyfodol cynyddol Orwellaidd. Mae'r Bil yn creu pwerau i fusnesa ar gyfrifon banc unrhyw un sy'n derbyn budd-dal, gan gynnwys pensiwn y wladwriaeth. Mae'n ei gwneud hi'n anoddach cael gafael ar eich data drwy roi mwy o bŵer i sefydliadau wrthod ceisiadau ac mae'n cynyddu ymyrraeth wleidyddol gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gwnsler Cyffredinol, mae hyn yn fwy na thestun pryder, mae'n frawychus. Rwy'n gwybod nad yw wedi'i ddatganoli, ond bydd yn effeithio ar bobl Cymru, felly pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU ynghylch y Bil hwn? Ac a ydych chi'n cytuno y dylid atal y duedd gynyddol bryderus hon tuag at awdurdodaeth? Diolch.

Rwy'n sicr yn cytuno â'r pryderon y mae'r Aelod wedi'u codi. Rwy'n credu bod y pryderon hynny'n cynnwys tanseilio hawliau unigolion, y posibilrwydd o colli ymgysylltiad â phethau fel digonolrwydd yr UE, er enghraifft, sy'n cael effaith fasnachol sylweddol, a gwanhau annibyniaeth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae yna ymgysylltiad parhaus, oherwydd, fel y gwyddoch, ar ôl cael tri memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, mae'n golygu bod sefyllfa sy'n newid trwy'r amser, gyda diwygiadau parhaus i'r ddeddfwriaeth, a deall yn union beth mae'n mynd i'w wneud a sut mae'n mynd i weithio—. Mae'n Fil cymhleth iawn; mae'n cymryd amser i fynd drwy'r Senedd. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i fonitro unrhyw welliannau a gynigir a dealltwriaeth. Rydym yn croesawu bwriad y Bil, ond mae angen llawer mwy o eglurder a hefyd mae angen mwy o sylw i'r pryderon sydd wedi'u codi. Rydym yn gwbl glir y dylai dinasyddion ddisgwyl bod unrhyw ddata sy'n ymwneud â nhw yn cael ei ddiogelu a'i ddefnyddio at y dibenion cywir yn unig, ac fel y dywedais, cafwyd tri memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ac mae'n debyg y bydd yna un arall.

A gaf fi longyfarch yr Aelod am ganolbwyntio ar hyn, ac am godi hyn yn benodol? Er ei fod yn bennaf yn faes a gedwir yn ôl i raddau helaeth, mae'n effeithio ar waith sefydliadau Cymru yn bendant, ac mae hefyd yn cael effaith ar ddinasyddion Cymru. Felly, mae'n bwysig iawn fod y mater yn cael ei godi yma ac y byddwch yn parhau i wneud hynny.

14:55
Oedran Pensiwn y Wladwriaeth

4. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru am y pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru i helpu menywod a anwyd yn y 1950au y gwrthodwyd eu pensiynau iddynt? OQ60443

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro am fenywod y codwyd eu hoedran pensiwn y wladwriaeth heb rybudd effeithiol neu ddigonol. Rydym yn parhau i gyflwyno sylwadau ar ran y menywod sydd wedi dioddef anghyfiawnder o'r fath.

Diolch am hynny. Yn ogystal â bod yn acronym a fabwysiadwyd gan fenywod sy'n protestio yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth ('Women Against State Pension Inequality') mae WASPI hefyd yn acronym sy'n dynodi bod y menywod hynny'n dal i aros ac i apelio am uniondeb ('waiting and still pleading for integrity')—uniondeb ar ran Llywodraeth San Steffan sydd wedi cefnu ar bob synnwyr o degwch, o wedduster o ran y ffordd y mae'n ymdrin â'r menywod hyn, y miliynau o fenywod a amddifadwyd o arian y mae ganddynt hawl iddo. Hoffwn ddiolch i chi am gyfarfod â rhai o ymgyrchwyr dewr ac ymroddedig WASPI gyda mi dros yr haf. Rwy'n siŵr y gallwch ddeall rhwystredigaeth y menywod hyn, yn enwedig pan fyddant wedi gweld rhai o'u cyd-ymgyrchwyr yn marw cyn i'r anghydfod hwn gael ei ddatrys. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu menywod a anwyd yn y 1950au sydd wedi cael eu hamddifadu o'u pensiynau, ac a wnewch chi ddatgan eto eich undod â'r menywod dewr hyn sy'n dal i apelio am i'r uniondeb hwn gael ei ddangos iddynt?

Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i chi am eich penderfyniad yn parhau i godi'r mater hwn? Nid wyf yn credu bod unrhyw un yn y Siambr hon nad yw'n adnabod rhywun sydd wedi cael ei effeithio gan newidiadau nad oeddent yn ymwneud o reidrwydd â chydraddoli oedrannau ymddeol, ond yn hytrach y ffordd y cafodd ei wneud, yr addewidion a dorrwyd a'r diffyg cyfathrebu a fyddai wedi galluogi pobl i baratoi ar gyfer newidiadau.

Yn ddiweddar, ysgrifennodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip a minnau at Ombwdsmon y Senedd a'r Gwasanaeth Iechyd i fynegi ein pryderon ynglŷn â faint o amser roedd yr ymchwiliad yn ei gymryd, ac fe wnaethom dynnu sylw at y rhwystredigaeth a'r dioddefaint a effeithiodd ar gynifer o fenywod, sy'n effeithio ar eu hiechyd corfforol a'u hiechyd meddwl, ac wrth gwrs, mae yna rai na fyddant byth yn cael cyfiawnder oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio. Yn ymateb yr ombwdsmon—fe ddaeth i law ar 5 Hydref—roedd yr ombwdsmon yn cydnabod y rhwystredigaethau a deimlid gan Lywodraeth Cymru ac Aelodau eraill o'r Senedd a'r menywod yr effeithir arnynt. Rhoddwyd sicrwydd fod yr ymchwiliad yn flaenoriaeth, yn cael digon o adnoddau a bod yr ombwdsmon yn parhau i fod yn ymrwymedig i gwblhau'r ymchwiliadau mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl. Fe wnaeth yr ombwdsmon gadarnhau, gan fod yn rhaid cynnal yr ymchwiliad yn breifat, nad oedd modd gwneud sylw ar y manylion, ond rhoddwyd sicrwydd fod yr ombwdsmon wedi ymrwymo i ddod â'r ymchwiliad i ben cyn gynted â phosibl. Rwy'n siŵr y byddwch yn parhau i ddwyn y mater i fy sylw, a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod barn Llywodraeth Cymru yn hysbys i'r ombwdsmon mor aml ag y bo angen.

Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion

5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch effaith y Bil Dioddefwyr a Charcharorion ar drigolion Cymru? OQ60404

Diolch am y cwestiwn. Mae swyddogion wedi cyfarfod â swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ar sawl achlysur. Rwyf wedi codi agweddau allweddol ar y Bil hwn gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU. Rydym yn parhau i geisio sicrhau bod darpariaethau o fewn y Bil yn bodloni ein dyheadau yng Nghymru.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. A gaf fi ddiolch iddo hefyd am ei arweinyddiaeth a'i gefnogaeth gyson i ymgyrch Hillsborough Law Now? Gwnsler Cyffredinol, nid yw'r Bil Dioddefwyr a Charcharorion yn mynd yn ddigon pell i amddiffyn teuluoedd sydd wedi profi trasiedi ac sy'n haeddu atebion. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno mai dim ond cyfraith Hillsborough fydd yn cynnig yr amddiffyniad hwnnw i deuluoedd ac mai Llywodraeth Lafur y DU fydd yn ymgorffori hynny mewn cyfraith?

15:00

Diolch am eich cwestiwn atodol, ac roeddwn yn ddiolchgar am eich gwaith hwyluso, i allu cyfarfod â dioddefwyr Hillsborough yn Lerpwl sawl mis yn ôl ac roedd yn gyfarfod emosiynol iawn.

Rwy'n credu mai'r hyn a oedd yn siomedig yw nad yw gweithredu cyfraith Hillsborough yn rhywbeth sydd mor gymhleth â hynny mewn gwirionedd. Mae galw wedi bod amdani oherwydd y camau—oherwydd y cyfyngiadau sydd wedi codi o ran argaeledd cyngor a chymorth cyfreithiol annibynnol. Rwy'n gwybod bod ymgyrch Hillsborough a llawer o rai eraill wedi beirniadu Llywodraeth y DU yn fawr, mae'n debyg, am honni eu bod yn cyflwyno cyfraith Hillsborough, ond cyfraith sy'n cael ei hystyried, neu gynigion sy'n cael eu hystyried yn aneffeithiol iawn. Rwy'n llawn edmygedd o'r hyn y mae Steve Reed, sy'n Weinidog yr Wrthblaid Lafur ar hyn, oherwydd mae newydd ddweud hyn yn ddiweddar—mae hyn yn yr ymateb diweddar—fe ddywedodd:

'Mae Llafur wedi ymrwymo i newid gwirioneddol. Mewn llywodraeth, byddwn yn sefydlu eiriolwr cyhoeddus cwbl annibynnol sy'n atebol i oroeswyr a theuluoedd dioddefwyr. Byddwn yn ei arfogi â'r pŵer sydd ei angen arno i gael gafael ar ddogfennau a data i ddatgelu'r gwir.'

Rwy'n credu bod hwnnw'n ddatganiad ac yn ymrwymiad cryf a phwysig iawn i ddeddfu yn y maes hwnnw.

A gaf fi ddweud bod un maes o'i fewn rwy'n arbennig o bryderus yn ei gylch hefyd, sef beth fydd rôl eiriolwr cyhoeddus annibynnol; mae'n gwbl aneglur o gynigion Llywodraeth y DU. Ond yn yr un modd, os mai'r cynghorwr i'r Llywodraeth sy'n sbarduno cyngor a chymorth cyfreithiol ac ati drwy'r system cymorth cyfreithiol, mae'n bwysig iawn hefyd fod angen rhoi ystyriaeth benodol i rôl Llywodraeth Cymru a beth fyddai'n digwydd mewn sefyllfaoedd yng Nghymru pe bai yna ddigwyddiad trasig, a dyna'r pethau lle ceir ymgysylltu parhaus yn eu cylch rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y ddeddfwriaeth benodol hon.

Newidiadau i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth

6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith y DU ynghylch diweddariad Ombwdsmon y Gwasanaeth Seneddol ac Iechyd ar eu hymchwiliad i'r modd y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfathrebu newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth? OQ60444

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro wrth Lywodraeth y DU am fenywod a welodd eu hoedran pensiwn y wladwriaeth yn codi heb rybudd effeithiol na digonol, a bydd yn parhau i wneud hynny. Mae angen adroddiad ymchwiliad diwygiedig yr ombwdsmon cyn gynted â phosibl i argymell camau unioni am yr anghyfiawnderau a ganfuwyd.

Diolch unwaith eto.

Rwy'n derbyn eich bod chi a'ch Llywodraeth wedi eich cyfyngu gan bwerau Llywodraeth Cymru, ond a oes modd ichi ymrwymo heddiw i gysylltu â Llywodraeth y DU i ofyn am eu hymateb ac iddynt amlinellu pa becyn iawndal y byddant yn ei roi ar waith i ddatrys y mater hwn y bu'n rhaid aros yn rhy hir am atebion iddo a digolledu'r holl fenywod 1950au yn deg?

A oes modd ichi ofyn i Ysgrifennydd gwaith a phensiynau y DU fynychu sesiwn gyfryngu gyda chynrychiolwyr o bob grŵp i gytuno ar becyn iawndal? Ac a ydych yn cytuno bod y syniad y maent wedi'i gyflwyno ynghylch honiadau twyllodrus yn gamarweiniol? Bydd pob un o'r menywod yr effeithir arnynt ar gronfa ddata Llywodraeth y DU ei hun; mae gan bob un ohonynt rifau yswiriant gwladol. Beth allai ei gwneud hi mor anodd ymdopi â hyn? A yw'n bosibl mai San Steffan sy'n chwilio am esgus cyfleus? Pam y credwch fod Llywodraeth San Steffan yn dal i osgoi cyfarfod â'r menywod hyn a gwrando arnynt?

Wel, rwy'n credu ei fod oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi gwneud camgymeriad mawr iawn ac nad yw am wneud yr hyn sy'n angenrheidiol er mwyn ei unioni. Mae'n rhaid inni gydnabod bod y menywod hyn wedi dioddef anghydraddoldeb rhywedd trwy gydol eu bywydau. Maent yn fenywod a anwyd yn y 1950au. Roedd ganddynt fywydau a chyfleoedd cyflogaeth gwahanol iawn i'r rhai yr ydym ni'n eu cymryd yn ganiataol. Felly, bydd llawer yn y grŵp hwn wedi gweithio'n rhan-amser, byddant wedi gwneud swyddi ar gyflogau isel, byddant wedi cymryd amser i ffwrdd. Maent wedi gweithio, maent wedi talu eu cyfraniadau yswiriant gwladol, maent wedi magu plant, maent wedi cyfrannu'n llawn at gymdeithas ac yna, cânt eu rhoi dan anfantais oherwydd eu rhywedd. Felly, mae'n hanfodol nad yw'r anghydraddoldeb y maent wedi'i brofi trwy gydol eu bywydau'n cael ei waethygu yn eu blynyddoedd hwyrach.

A gaf fi ddweud: byddwn yn ei gymryd ac yn gwneud popeth yn ein pwerau a'n cymhwysedd i gadw hyn ar yr agenda? Mae'n anghyfiawnder—un o nifer o anghyfiawnderau—sydd angen ei unioni, a phan fyddwn yn gweld yn glir fod anghyfiawnder wedi digwydd, rwy'n gobeithio y byddwn yn symud i amgylchedd lle byddwn yn rhoi'r camau angenrheidiol ar waith i'w unioni cyn gynted ag y bo modd. Nid ydym am weld y sefyllfa a gawsom, er enghraifft, gyda'r gwaed halogedig, sydd bellach yn dod i ben, ond ar ôl sawl blwyddyn ac ar ôl i gymaint o bobl farw cyn i gyfiawnder gael ei sicrhau. 

15:05
Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023

7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 a fydd yn machlud cyfraith yr UE ar ddiwedd y flwyddyn hon, ar gyfraith Cymru? OQ60427

Yn lle machlud cyfraith yr Undeb Ewropeaidd yn ddiofyn, cafodd rhestr benodol o gyfreithiau diangen ei chynnwys yn Atodlen 1 i’r Ddeddf, sydd i gael eu dirymu ar ddiwedd 2023. Rŷn ni’n bryderus o hyd am sut y gallai Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddefnyddio pwerau dan y Ddeddf, gan gynnwys i ddeddfu mewn meysydd sydd wedi’u datganoli.

Diolch, Cwnsler Cyffredinol, a dwi'n cytuno â'ch asesiad. Mae'n bryderus. 

Bydd machlud cyfraith yr UE ar ddiwedd y flwyddyn hon yn achosi aflonyddwch. Mae meddygon yn y GIG wedi codi pryderon am ddyfodol y gyfarwyddeb oriau gwaith a gostyngiad yn hawliau gweithwyr. Bydd hefyd yn tanseilio'r setliad datganoli. Mae Adran 4 o'r Ddeddf yn dileu egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE. Nawr, i rai, yn sicr ar feinciau'r Torïaid, gallai hyn ennyn ymdeimlad o rym a sofraniaeth, ond mae'r realiti yn wahanol iawn. Mae'n dileu egwyddorion triniaeth gyfartal, cymesuredd a pharch at hawliau sylfaenol o'n cyfraith. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno bod angen ailgodeiddio'r egwyddorion hyn drwy reoleiddio, ac a fydd yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i wneud hynny? Diolch yn fawr.

Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae'n rhywbeth yr ydym yn ei wneud ar bob cam posibl o ran yr ymgysylltu a wnawn. Fel y gwyddoch, yn gyntaf, roeddem yn gwrthwynebu deddfwriaeth cyfraith yr UE a ddargedwir ac wrth gwrs, y ddeddfwriaeth bellach sydd wedi dod i fodolaeth ers hynny, sef Deddf dirymu a diwygio 2023. Un o'r rhesymau pam ein bod yn bryderus yn ei chylch oedd oherwydd ein bod yn poeni, yn gyntaf, am y gallu i geisio gwneud newidiadau i bentwr o ddeddfwriaeth o fewn cyfnod machlud. Yn ffodus, rwy'n credu bod hyd yn oed Llywodraeth y DU wedi dod i gydnabod bod yr hyn a oedd yn cael ei gynnig yn anghyflawnadwy. Felly, mae trefniadau eraill wedi'u rhoi ar waith. Gwnaed y newidiadau hyn ar gam hwyr gan Lywodraeth y DU i ddisodli'r darpariaethau machlud awtomatig gwreiddiol gydag Atodlen 1 newydd, a'r hyn a wnâi honno oedd rhestru bron i 600 darn o ddeddfwriaeth i fachlud ar 31 Rhagfyr. Ac er nad oedd yr Atodlen hon yn cynnwys unrhyw offerynnau o gyfraith yr UE a ddargedwir a wnaed yng Nghymru, roedd yn cynnwys offerynnau mewn meysydd datganoledig.

Roeddem hefyd yn anhapus ynghylch y ddeddfwriaeth am ei bod hefyd yn cynnwys pwerau cydamserol i Lywodraeth y DU allu deddfu mewn meysydd datganoledig. Roeddem am weld newidiadau ar wyneb y Bil. Ni lwyddasom i sicrhau hynny, ond rydym wedi cael ymrwymiadau ysgrifenedig nad oes bwriad yn y bôn i ddefnyddio pwerau cydamserol i newid meysydd datganoledig heb gydsyniad. Hyd yn hyn, rwy'n fodlon y cedwir at yr addewid hwnnw. Mae'r prif faes newid sydd wedi bod yn digwydd yn ymwneud â llawer o ddarnau o ddeddfwriaeth sy'n newidiadau technegol a chanlyniadol yn y bôn. Ond mae'n un yr ydym yn ei fonitro'n agos iawn.

Rydym wedi cael trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth y DU ar yr amrywiol feysydd sydd wedi bod yn peri pryder ni. Mae gennym ddull deublyg o weithredu ar hyn: mae unrhyw faes sy'n cynnwys defnyddio pwerau cydamserol mewn meysydd datganoledig yn rhywbeth y byddwn yn canolbwyntio arno'n agos iawn ac ati, a byddwn hefyd yn ymrwymo i beidio â chydsynio i newidiadau lle credwn nad yw hynny'n briodol, yn enwedig lle gallai fod lleihau neu amrywio i'r safonau yr ydym am eu cynnal. Ond o ran effeithlonrwydd a darbodusrwydd defnyddio'r adnodd sydd gennym gyda'r darnau niferus iawn o ddeddfwriaeth, sy'n newidiadau technegol a chanlyniadol yn unig mewn gwirionedd, rydym yn mabwysiadu dull cymharol ysgafn o ymwneud â'r broses honno er mwyn gallu canolbwyntio'n iawn ar y meysydd pwysicaf yn ein barn ni.

15:10
Deddfwriaeth Cyflogaeth

8. Pa gyngor cyfreithiol mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i’r Llywodraeth o ran pa elfennau o ddeddfwriaeth cyflogaeth sydd o fewn cymhwysedd y Senedd neu Lywodraeth Cymru? OQ60442

Fel unrhyw gwestiwn am gymhwysedd deddfwriaethol, mae cyd-destun yn allweddol. Mae cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol ymysg y meysydd penodol sydd wedi’u cadw yn ôl yn Neddf llywodraeth Cymru 2017. Ond wrth ystyried a yw unrhyw agwedd yn perthyn i’r meysydd yma ai peidio, mae’n dibynnu ar y pwrpas a’i effeithiau yn yr amgylchiadau.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb. Mi fydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol bod deddfwriaeth giaidd Llywodraeth Geidwadol San Steffan ar streicio bellach yn Ddeddf. Mae'r Llywodraeth gul yn San Steffan yn gwneud pob dim o fewn ei gallu i dynnu hawliau oddi ar bobol, oll oherwydd eu bod nhw am gynnal eu breintiau a breintiau'r cyfoethog ac atal pobol rhag gallu byw gydag urddas er mwyn i eraill fedru elwa'n ariannol. Pe bai cyflogaeth wedi cael ei ddatganoli, yna byddai modd inni yma roi'r grymoedd angenrheidiol i weithluoedd Cymru. A wnewch chi gymryd y camau angenrheidiol i ddechrau ar y broses o fynnu datganoli'r maes yma i Gymru?

Wel, diolch am y sylwadau atodol hynny. Wrth gwrs, ar sawl achlysur yn y gorffennol, rydym wedi defnyddio'r pwerau sydd wedi bod gennym, er enghraifft yn Neddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017, Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 ac mewn deddfwriaeth arall, i geisio amddiffyn hawliau cyflogaeth a threfniadaeth. Ac wrth gwrs, rydym wedi cael Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn ddiweddar, sy'n rhoi sylfaen statudol i bartneriaeth gymdeithasol.

O ran Deddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) 2023, sef yr un a nodwyd gennych—ac, yn ddiweddar, cafwyd cynhadledd gan Gyngres yr Undebau Llafur yn benodol i drafod hynny—fe wnaethom fynegi ein gwrthwynebiad drwyddi draw, sef ein bod yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth hon am ei bod yn tanseilio partneriaeth gymdeithasol. Ond rydych chi'n iawn nad yw cysylltiadau diwydiannol, cyfraith cyflogaeth, yn faes datganoledig; rwy'n credu'n sicr fod lle i lawer mwy o ddatganoli yn y meysydd penodol hynny. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi cyflwyno sylwadau ar y Bil streiciau, er enghraifft, yn y cod sy'n cael ei ddatblygu. Rwy'n credu bod cytundeb bellach fod ein sylwadau na ddylid cynnwys gwasanaethau ambiwlans wedi'u derbyn. Yn anffodus, mae yna feysydd eraill hefyd yr oeddem yn dadlau na ddylid eu cynnwys oherwydd eu bod yn faterion datganoledig wedi cael eu diystyru a bydd deddfwriaeth yn mynd yn ei blaen. A dweud y gwir, yr hyn sydd ei angen yw newid Llywodraeth, ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Lafur y DU wedi rhoi ymrwymiad llwyr y bydd yn diddymu'r ddeddfwriaeth hon o fewn y 100 diwrnod cyntaf o Lywodraeth Lafur.

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

9. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y bydd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn ei chael ar ymddiriedaeth mewn gwleidyddion? OQ60430

Bydd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cynyddu capasiti craffu'r Senedd yn sylweddol. Bydd yn galluogi'r Aelodau y mae'r cyhoedd wedi ymddiried ynddynt i graffu ar bolisïau, deddfwriaeth a chynlluniau gwariant yn fwy effeithiol, ac i ddwyn Gweinidogion i gyfrif.

Diolch. Fel mae ein cyd-Aelod Jane Dodds eisoes wedi sôn, mae'r Athro Laura McAllister eisoes wedi dweud bod y system rhestrau caeedig yn rhoi gormod o bŵer yn nwylo pleidiau, gyda phleidleiswyr yn dewis rhyngddyn nhw yn lle ymgeiswyr. Fe ddywedodd:

'Mae'n ymddangos yn rhyfedd i mi, ar adeg pan fo cymaint o ddatgysylltiad rhwng y gwleidyddion a'r cyhoedd, ein bod yn ei ddatgysylltu ymhellach'.

Nawr, rydym i gyd yn gwybod bod y nifer sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd gryn dipyn yn llai nag yn etholiadau seneddol y DU, felly, rwy'n cytuno â hi. Mae'r Senedd wedi cael rhybudd y bydd y cyhoedd yn digio'n gyflym iawn pan sylweddolant na allant bleidleisio dros eu dewis o ymgeisydd. A fyddwch chi'n gweithredu ar bryderon yr Athro McAllister ac efallai'n diddymu'r rhestr gaeedig yn llwyr?

15:15

Wel, a gaf fi ddweud ei fod yn fy synnu bod yr Aelod mor bryderus am y nifer sy'n pleidleisio ac na siaradodd pan gawsom y trafodaethau yma ar gyflwyno cardiau adnabod, a oedd yn ymwneud yn y bôn ag atal pleidleiswyr a chyfyngu ar yr hawl i bleidleisio? Rwy'n sylwi nad yw'r Aelod wedi siarad eto—[Torri ar draws.]—heb siarad eto i gefnogi ein cynigion ar gyfer cofrestru awtomatig, a fyddai'n cynyddu nifer y bobl—y 4,000 o bobl nad ydynt ar y gofrestr etholiadol, gan roi cyfle iddynt bleidleisio. A phan siaradwch am hyder mewn gwleidyddion, rwy'n credu mai'r hyn y dylech boeni amdano mewn gwirionedd yw hanes eich Llywodraeth chi dros 13 mlynedd wrth y llyw, sydd, mae'n ymddangos i mi, wedi tanseilio hyder mewn gwleidyddion flwyddyn ar ôl blwyddyn. Roedd eich cyn-arweinydd, Boris Johnson, yn gelwyddgi diarbed y canfuwyd ei fod wedi camarwain y Senedd.

Ar bwynt o drefn, nid ydych i fod i ddefnyddio'r gair 'celwyddgi' mewn trafodion, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall.

Fe wnaeth yr arweinydd dilynol chwalu ein heconomi ac mae'n dal i fethu cymryd unrhyw gyfrifoldeb am y boen a achosodd hyn i deuluoedd. Nawr, mae'r arweinydd presennol a'r Prif Weinidog yn bwriadu tanseilio cyfraith ryngwladol eto, am ei fod yn llwyr dan ddylanwad yr asgell dde eithafol yn ei blaid. Felly, ni allwn gymryd unrhyw wersi ar hyder, ac os ydych am edrych ar un maes sydd wedi tanseilio hyder mewn gwleidyddion, llwybr llygredd VIP y Torïaid yn ystod y pandemig COVID yw hwnnw. Felly, rwy'n credu mai'r ffordd orau o adfer ymddiriedaeth mewn gwleidyddion yw cael gwared ar y Llywodraeth lygredig, aneffeithiol a thoredig hon a chael Llywodraeth Lafur yn ei lle.

Iawn. Felly, heddiw, nawr, mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi defnyddio'r geiriau 'celwyddgi', 'llygredd' a 'llygredig' am wleidyddion eraill a phleidiau gwleidyddol eraill. Mae gennym bobl yn y gynulleidfa, yn yr oriel gyhoeddus. Mae gennym bobl hefyd, gobeithio, yn gwylio hyn ar y teledu. Mae hwn yn amser o ewyllys da i'r holl bobl, wrth inni nesáu at dymor y Nadolig. A ydych chi wir yn meddwl bod hon yn esiampl dda i bobl—

Wel, hoffwn ofyn, fel mater o barch at ein trafodion yma, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol dynnu'r geiriau hynny yn ôl—'celwyddgi', 'llygredd' a 'llygredig'.

Gwnsler Cyffredinol, fe wnaf fi ymateb yn gyntaf, nid ar eich ôl chi. Rydym wedi adolygu hyn, ac ni chyfeiriodd yr Aelod at unrhyw Aelod arall yn y Siambr hon, pan na allwch ddefnyddio'r geiriau hynny, a dyna fydd yn ddisgwyliedig ohono gan y cod ymddygiad. Felly, er efallai nad yw Aelodau'n hoffi ei derminoleg—[Torri ar draws.] Er efallai nad yw Aelodau'n hoffi ei derminoleg, ni wnaeth dorri'r rheolau y tro hwn, ac felly, ni fyddaf yn gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol dynnu ei eiriau yn ôl, ond gall yr Aelodau dynnu sylw at ei ddefnydd o'r geiriau hynny, fel rydych chi eisoes wedi'i wneud.

Fe alwodd y Prif Weinidog blaenorol yn gelwyddgi. [Torri ar draws.] Mae hynny'n ymddygiad ofnadwy.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
Cyfarfodydd Hybrid

1. Beth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i sicrhau y gall y Senedd barhau i gyfarfod fel senedd hybrid? OQ60416

Mae'r Comisiwn yn cefnogi’r Senedd i barhau i gwrdd fel Senedd hybrid yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Busnes, drwy fuddsoddiad parhaus yn ein hisadeiledd technoleg.

Diolch. Roeddwn yn falch o gynrychioli Senedd Cymru yn nigwyddiad Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn Ghana, a mynychais weithdai ar e-Seneddau a chwotâu rhywedd, ac roedd canmoliaeth i'r modd rydym yn bod yn flaengar ac yn arwain y ffordd yma yng Nghymru.

Drwy COVID, gwelsom newidiadau mewn patrymau gweithio. Mae fy staff yn gweithio o gartref; maent wedi parhau i wneud hynny, ac maent yn gweithio'n galed i gefnogi fy etholwyr ledled gogledd Cymru. Nid oes gennyf swyddfa. Oherwydd yr argyfwng costau byw a biliau ynni cynyddol aelwydydd, a ydych chi'n cytuno bod y lwfans gweithio gartref presennol a delir gan y Senedd yn hanfodol i sicrhau y gall staff barhau i weithio gartref ac nad ydynt dan anfantais oherwydd hynny? Diolch.

Wel, ydw. Mae darparu'r gallu i staff ac Aelodau weithio gartref, gweithio o swyddfeydd etholaeth neu weithio o adeilad y Senedd yma yn agwedd bwysig ar yr hyblygrwydd sydd gennym i gyd yn ein bywydau gwaith erbyn hyn. Rwy'n credu ei fod wedi bod yn ddefnyddiol ac yn cael ei werthfawrogi yn ystod cyfnod COVID, ac rydym wedi dysgu gwersi cadarnhaol iawn o'r cyfnod anodd hwnnw.

15:20

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n derbyn y dadleuon o blaid y trafodion hybrid yma yn y Senedd, ond rwy'n credu bod y cyhoedd yn ein hanfon yma. Maent yn disgwyl inni fod yma ym Mae Caerdydd. Yn amlwg, Lywydd, rydych wedi cael eich ethol ers llawer mwy o amser na mi, ond fe fyddwch yn gwybod nad yn y Siambr hon yn unig y mae gwaith Aelod o'r Senedd yn bodoli, ond yn yr adeilad yn fwy cyffredinol, yn y coridorau a'r holl gyfarfodydd eraill a fynychwn. Rwy'n credu y bydd y cyhoedd yn ei chael hi'n anodd deall bod yna rai Aelodau ond yma'n anaml iawn. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n fy mlino'n arbennig, ac y bydd y cyhoedd yn ei chael hi'n anodd deall, yw'r Aelodau a fydd yma ar brynhawn dydd Mawrth ar gyfer cwestiynau'r Prif Weinidog, a byddwn yn eu gweld yn ôl gartref yn pleidleisio yn ddiweddarach yr un diwrnod. Felly, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i ddull ychydig yn wahanol o ganiatáu i'r Aelodau hynny gymryd rhan yn rhithwir, ar sail achosion unigol a gyflwynir i chi yn ymwneud ag angen, efallai, yn hytrach nag o ran cyfleustra i'r Aelodau hynny?

Wel, byddai'n gas gennyf fod yn Llywydd a fyddai angen gwneud penderfyniadau unigol yn seiliedig ar achosion penodol unigolion o ran a ddylent fod yn gweithio gartref neu'n gweithio fan hyn yn y Siambr. Nid wyf yn credu ei fod yn ddefnydd priodol o fy amser na fy marn i benderfynu ynglŷn â phobl eraill a etholwyd yma i'r Siambr—i benderfynu sut y gwnânt eu gwaith. Bydd eu hetholwyr yn edrych ac yn cwestiynu pob Aelod, fel y gwnânt, ar ein perfformiad a'n presenoldeb, yma yn y Siambr ac ar-lein.

Cyflogau Staff Cymorth yr Aelodau

2. Pa drafodaethau y mae Comisiwn y Senedd wedi'u cael gyda'r Bwrdd Taliadau ynghylch cyflogau staff cymorth yr Aelodau? OQ60425

Wel, diolch am y cwestiwn. Wrth gwrs, y bwrdd taliadau annibynnol sy'n pennu cyflogau staff cymorth yr Aelodau, ac mae'r prif weithredwr a'r clerc, fel swyddog cyfrifyddu ac ar ran y Comisiwn, eisoes wedi ymgysylltu â'r bwrdd taliadau ynghylch gofynion y gyllideb staffio a gynhwysir yng nghyllideb y penderfyniad ar gyfer 2024-25. 

Ymgynghorir â'r Comisiwn, ynghyd â'r Aelodau a'r rhanddeiliaid, ynghylch yr adolygiad blynyddol o'r penderfyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, sy'n cynnwys materion staffio, y dywedodd y bwrdd y bydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos hon. Mae'r bwrdd wedi dechrau ei adolygiadau o gyflogau a graddfeydd staffio hefyd cyn y seithfed Senedd. Mae swyddogion y Comisiwn yn ymgysylltu'n llawn â'r adolygiad hwn, a bydd yr holl Aelodau a'u staff yn cael cyfle i gyfrannu ato.

Diolch yn fawr iawn. Ddoe, cyhoeddodd y bwrdd taliadau ei ddiweddariad ar gyfer mis Tachwedd i'r Aelodau a'u staff cymorth. Hoffwn groesawu'r argymhellion a wnaed yn y diweddariad hwn gan fod eu hangen yn fawr, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw, ac yn enwedig y diweddariad a wnaed i bwynt cyflog 1 band 3, i ganiatáu i bawb sy'n cael eu cyflogi gan y Senedd aros ar y cyflog byw gwirioneddol. Hoffwn gofnodi fy niolch hefyd am waith cynrychiolwyr ac aelodau'r undebau llafur yn negodi cynnydd llwyddiannus o 5.7 y cant i'r holl staff, a sicrhau taliad costau byw y gwanwyn hwn. Maen nhw, ynghyd â gweddill staff cymorth y Senedd, staff y Comisiwn, pob un ohonynt sydd—. Hebddynt, ni fyddai'r Senedd hon yn gallu gweithredu, na bod mor dryloyw ac ymgysylltiedig â dinasyddion Cymru ag y mae. O ystyried hyn oll, a fyddech yn gallu cadarnhau i mi pa waith pellach rydych chi'n ei wneud i weithio gyda'r undebau ac aelodau eraill o'r gweithlu i sicrhau bod y Senedd yn parhau i fod yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol? Diolch.

Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i barhau i fod yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol ac i sicrhau ein bod yn cefnogi'r holl staff gystal ag y gallwn, boed yn staff cymorth neu staff y Comisiwn, a'n bod yn eu talu'n gywir ac yn briodol. Ac fel y dywedais, mae'r bwrdd taliadau yn cynnal adolygiad o gyflogau a graddfeydd staff cymorth. Mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Mawrth, ac nid yw'r math hwn o adolygiad wedi'i gynnal ers cryn amser, felly, mae'n hanfodol bwysig, a rhoddir cyfle i'r Aelodau ddarparu mewnbwn iddo. Mae swyddogion y Comisiwn wedi bod yn rhan o'r gwaith hwn hefyd.

Wrth gwrs, mae'r bwrdd taliadau ei hun yn annibynnol ar y Comisiwn, ond fel Comisiwn, rydym yn edrych ar sut y gallwn sicrhau bod mwy o dryloywder a dealltwriaeth o bwy sy'n gyfrifol am beth—pwy sy'n gyfrifol am benderfynu ar gyflogau Aelodau, cyflogau staff cymorth, cyflogau staff y Comisiwn, pwy sy'n gyfrifol am weithredu'r Senedd o ddydd i ddydd. Mae'r gwaith hwnnw wedi dechrau, ac rydym yn gobeithio gallu cyflwyno'r diffiniadau cliriach hynny i'r Aelodau yn y dyfodol agos.

Cronfeydd Pensiwn

3. Pa gamau mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i sicrhau bod cronfa pensiwn ddim yn ariannu datgoedwigo? OQ60445

15:25

Wel, a gaf fi ddiolch i Delyth Jewell am y cwestiwn? Mae'n gwestiwn ardderchog. Mewn gwirionedd, mae tri chynllun pensiwn yn gysylltiedig â'r Senedd. Mae cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil, sydd ar gael i staff y Comisiwn, ac mae hwnnw'n gynllun heb ei ariannu, ac felly nid oes ganddo asedau i'w buddsoddi. Telir buddion trwy refeniw trethi yn hytrach nag o asedau a neilltuir ar gyfer talu amdanynt. Ac yna mae'r ail gynllun ar gyfer staff cymorth. Nawr, mae'r cynllun pensiwn staff cymorth yn cael ei weithredu gan Aviva, ac nid yw'r Comisiwn yn ymwneud â phenderfynu sut y caiff yr asedau eu buddsoddi. Nawr, mae'r trydydd cynllun pensiwn ar gyfer Aelodau'r Senedd, ac nid oes gan y Comisiwn unrhyw fodd o ddylanwadu ar ddyraniad asedau cynllun pensiwn yr Aelodau. Mae'r pŵer i wneud hynny yn llwyr yn nwylo'r bwrdd pensiwn, sy'n annibynnol ar y Comisiwn, ond wrth gwrs, mae dau Aelod ac un cyn Aelod o'r Senedd yn aelodau o'r bwrdd pensiwn annibynnol.

Diolch am yr ateb hwnnw. Dwi'n siŵr eich bod chi wedi gweld yr ymchwil gan Maint Cymru a Global Canopy, a oedd wedi cael ei gyhoeddi mis diwethaf, fod £14 biliwn, neu 55 y cant o'r buddsoddiadau sydd wedi'u gwneud gan wyth cronfa pensiwn cyhoeddus yng Nghymru, maen nhw mewn perygl o ariannu datgoedwigo, ac mae hyn weithiau yn gallu bod yn rhywbeth cudd, bron. Diolch am osod mas mwy o sicrwydd am hynny, dwi'n rili gwerthfawrogi fe. A fyddech chi'n cytuno â mi fod modd i gronfeydd pensiwn eraill efallai yng Nghymru edrych i mewn i beth sy'n digwydd, gyda'r global responsibility sydd gyda ni yng Nghymru, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n cymryd pob cam posibl dyw hynny ddim yn rhywbeth sydd dim ond yn y Senedd, ond efallai ar gyfer Cymru, i ni allu dangos arweiniad dros y sector hefyd?

Rwy'n cytuno'n fawr â'r Aelod. Mae hyn yn rhywbeth y gwn fod Jack Sargeant wedi mynd ar ei ôl sawl tro hefyd, ac rwyf wedi cael llawer o drafodaethau gyda Jack. Mae'n rhaid imi gofnodi fy niolch i fy nghyd-Aelod a'm cyfaill Mike Hedges, sydd wedi bod yn aelod o'r bwrdd pensiwn ers cryn dipyn o amser ac sydd wedi bod ar flaen y gad yn pwyso am fuddsoddi moesegol. Rwy'n falch o ddweud, o ran cymhwyster amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu, ein bod yn defnyddio Aviva, sy'n arwain y farchnad yn hyn o beth, ac mae gweithredu eu hegwyddorion yn eu buddsoddiadau pensiwn yn hynod bwysig. Rydym yn craffu ar hynny bob tro y byddwn yn cyfarfod fel bwrdd pensiwn. Ond rwy'n credu bod Delyth Jewell yn gwneud pwynt hynod bwysig fod angen rhannu arferion gorau o ran sut y gwneir buddsoddiadau ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat i sicrhau, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, nad ydym yn niweidio ein hamgylchedd naturiol trwy brosesau buddsoddi ein cronfeydd pensiwn.

Rwy'n cytuno â Delyth Jewell na ddylai cronfa bensiwn Aelodau'r Senedd fuddsoddi mewn datgoedwigo, ac rydym yn gweithio'n galed i leihau ein buddsoddiadau mewn olew. Nid yw mor hawdd â dweud, 'Nid ydym am ei wneud mwyach'; mae'n rhaid ichi dynnu allan ohono, ac rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar hynny. Ond ymddiriedolwyr sy'n rheoli'r gronfa bensiwn. Rwy'n eich cynrychioli chi fel yr Aelodau; mae Ken Skates yn cynrychioli'r Comisiwn; mae Nick Ramsay, sy'n gyn-Aelod, yn aelod o'r comisiwn ac yn gadeirydd annibynnol, gan gwblhau'r rhestr o ymddiriedolwyr. A wnaiff y Comisiwn ystyried rhywun ar ran y bwrdd pensiwn i ateb cwestiynau fel eitem agenda ar ôl i'r adroddiad pensiwn blynyddol gael ei ddarparu i'r Aelodau, gan roi cyfle i'r Aelodau yn y Siambr ofyn cwestiynau fel yr un a ofynnodd Delyth Jewell nawr?

Wel, a gaf fi ddiolch i Mike Hedges a dweud bod hwnnw'n awgrym gwych ac rwy'n credu y dylwn fynd ag ef yn ôl i gyfarfod nesaf y Comisiwn? Ni fyddai gennyf wrthwynebiad o gwbl; rwy'n credu y byddai hynny'n sicr yn helpu o ran craffu a thryloywder, ac felly byddaf yn dwyn hynny i sylw fy nghyd-Gomisiynwyr.

4. Cwestiynau Amserol
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ynghylch ei hasesiad o Gyllideb Ddrafft 2024-25 Llywodraeth Cymru yr wythnos nesaf? TQ939

Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn darparu rhagolygon o'r refeniw trethi datganoledig yng Nghymru, sy'n elfen bwysig o rifyddeg cyllideb Llywodraeth Cymru. Bydd yn cyhoeddi ei hargraffiad diweddaraf o ragolygon trethi Cymru ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft ar 19 Rhagfyr.

Diolch yn fawr, Weinidog. Byddwch wedi cael llythyr a anfonais atoch ar 1 Rhagfyr yn gofyn ichi gysylltu â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i adolygu eich memorandwm cyd-ddealltwriaeth cyfredol gyda nhw i gynnwys rhagolwg economaidd a chyllidol ehangach i Gymru yn seiliedig ar eich cynigion ar gyfer y gyllideb. Pan ysgrifennais, roeddwn yn ymwybodol y byddai'r gyllideb yn cael ei chyhoeddi ymhen tair wythnos yn unig, ond roeddwn yn teimlo'n wirioneddol y byddai gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol drosolwg cyffredinol eisoes o'r holl sefyllfaoedd cyllidol datganoledig ac y dylai fod yn hawdd rhoi asesiad, a dylai hynny fod wedi bod yn eithaf syml ac yn sicr yn fanteisiol i ni.

Weinidog, byddai asesiad annibynnol o'ch cyllideb yn allweddol i alluogi craffu effeithiol yn ogystal ag asesu effaith hirdymor llunio polisïau, gan nad ydym am weld ailadrodd y panig rhwng blynyddoedd a welsom yn ddiweddar. Yn syml, ni allwn fforddio blwyddyn arall lle gwelwn ymateb byrbwyll i ddiffyg ariannol rhagamcanol o £900 miliwn, na ddylai fod wedi digwydd, gan gydnabod bod yr holl bwysau chwyddiant yn hysbys ymhell cyn i'r gyllideb gael ei gosod.

Gan gofio hyn i gyd, a allwch roi gwybod i'r Senedd ynglŷn â'ch ystyriaeth i fy nghais, ac os nad ydych am fynd ar ei drywydd, a allwn ddisgwyl adolygiad o'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol cyn cyllidebau yn y dyfodol?

15:30

Wel, yn amlwg, buaswn yn anghytuno â disgrifiad yr Aelod o’n gweithgarwch yn ystod y flwyddyn mewn ymateb i effaith chwyddiant ar y gyllideb, ond rwy’n derbyn nad dyna hanfod y cwestiwn heddiw, ac mae gennyf lythyr yr Aelod, a byddaf yn darparu ymateb iddo o fewn yr wythnos nesaf.

Ar rôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, serch hynny, mae'n ymwneud â darparu rhagolygon annibynnol o'n refeniw trethi datganoledig yng Nghymru, ac mae hynny'n unol â chytundeb fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon o drethi cyfatebol yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon, ac maent yn sail i’r cyfrifiadau ar gyfer pennu’r addasiadau i'r grant bloc sy’n gysylltiedig â datganoli trethi. Ac wrth gwrs, mae’r mwyafrif helaeth o gyllideb Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar y grant bloc a’r newidiadau sy'n ymateb i benderfyniadau Llywodraeth y DU ynglŷn â chyllid. A chredaf ei bod yn bwysig cydnabod hefyd, ar lefel y DU, fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn darparu rhagolygon ar gyfer yr economi a chyllid cyhoeddus, ynghyd ag asesiadau i weld a fydd Llywodraeth y DU yn cyrraedd ei thargedau cyllidol, oni bai, wrth gwrs, mai chi yw Lizz Truss a'ch bod yn cyflwyno un o'r cyllidebau bach. Ond credaf fod hynny'n nodi rôl bwysig y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o ran y sefyllfa gyffredinol ar gyfer y DU.

Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ei hun wedi dweud nad yw’n glir y byddai cynhyrchu unrhyw ragolygon macro-economaidd Cymreig yn gwella'n sylweddol ei gallu i ragweld yma yng Nghymru. Prin yw'r dystiolaeth o debygrwydd neu wahaniaeth mewn twf y pen rhwng Cymru a'r DU yn gyffredinol. Yn lle hynny, wrth greu rhagolygon o drethi Cymru, gwnaed addasiadau i benderfynyddion treth y DU lle ceir tystiolaeth benodol o wahaniaeth yn y penderfynyddion penodol hynny yng Nghymru.

Felly, nid wyf yn siŵr pa fudd y byddai’r gweithgarwch a ddisgrifiwyd yn ei wneud i’r gyllideb, yn enwedig oherwydd na ddylai’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol roi sylwebaeth normadol ar rinweddau penodol polisïau’r Llywodraeth, fel y nodwyd yn y siarter ar gyfer cyfrifoldeb cyllidebol. Byddai hynny’n berthnasol i bolisïau Llywodraeth Cymru yn yr un modd ag y byddai i bolisi Llywodraeth y DU. Felly, nid wyf yn siŵr beth fyddai’r gwaith y gofynnir amdano yn ei ychwanegu, o ystyried y ffaith nad yw ein sefyllfa gyffredinol yn wahanol iawn i'r sefyllfa a ddisgrifiwyd ganddynt yn natganiad yr hydref, yn eu gwaith yno.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Hoffwn gydnabod yn llawn yr anawsterau sy’n wynebu Llywodraeth Cymru. Mae’r cyni a orfodir gan y Torïaid a’u hanghymhwysedd economaidd wedi gadael cyllid cyhoeddus mewn cyflwr enbyd. Mae hyn wedi arwain at leihad sylweddol yn y pŵer gwario sydd ar gael i Gymru.

Yn y cyfnod hwn, mae craffu ac atebolrwydd ar faterion cyllidebol yn dod yn fwyfwy pwysig. Ddoe, gofynnodd fy nghyd-Aelod Heledd Fychan i’r Senedd ailymgynnull yr wythnos nesaf i’r Aelodau gael dadl ar y gyllideb, ond cafodd ei chais ei wrthod. A wnewch chi ymhelaethu ar benderfyniad y Llywodraeth ac egluro pam nad ydych yn credu bod y sefyllfa’n ddigon difrifol i gyfiawnhau cyfarfod mewn Cyfarfod Llawn arbennig yr wythnos nesaf?

Hoffwn glywed eich barn hefyd am y sefyllfa ariannol y bydd awdurdodau lleol ledled Cymru yn ei hwynebu cyn bo hir. Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi dweud bod hyd at un o bob pum cyngor yn Lloegr yn wynebu methdaliad. A ydych chi'n disgwyl y bydd unrhyw gynghorau yng Nghymru yn wynebu methdaliad y flwyddyn nesaf, ac os felly, pa fesurau wrth gefn sydd gan Lywodraeth Cymru i liniaru’r posibilrwydd hwn?

Ac yn olaf, a ydych chi'n cytuno y bydd torri gwasanaethau llywodraeth leol hyd at yr asgwrn yn creu cylch dieflig a allai achosi niwed anadferadwy i'n cymunedau? Diolch.

15:35

Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cyfres o gwestiynau. Felly, mewn perthynas ag unrhyw gais i adalw'r Senedd, mae yna broses wedi'i nodi yn y Rheolau Sefydlog, ac mae honno wedi'i dilyn. Fy marn i yw bod digon o gyfle i graffu ar y gyllideb ddrafft. Wrth gwrs, byddwn yn ailymgynnull—fi a'r Pwyllgor Cyllid—yr wythnos nesaf i graffu ar y gyllideb, ac yna, byddwn yn cael oriau lawer o graffu manwl gan y pwyllgor, ym mhob un o'r meysydd portffolio. Wedyn, mae nifer o gyfleoedd i drafod y gyllideb—y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol wedyn—yn y Senedd hefyd. Felly, credaf fod digon o gyfleoedd i graffu. Hoffwn atgoffa fy nghyd-Aelodau hefyd na fydd dim o hyn yn dod i rym tan fis Ebrill y flwyddyn nesaf beth bynnag, felly mae gennym amser hefyd, felly ni chredaf fod hyn o reidrwydd yn un o'r sefyllfaoedd brys hynny y byddech fel arfer yn disgwyl i’r Senedd gael ei hadalw ar eu cyfer. Ond fy marn i yn unig yw hynny, a gwn fod proses briodol wedi’i nodi yn y Rheolau Sefydlog i ymdrin â hynny.

Byddwn yn cyhoeddi'r setliad drafft i awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn nesaf cyn bo hir wrth gwrs, felly nid wyf am achub y blaen ar unrhyw beth sy'n mynd i gael ei gyhoeddi yn y broses honno. Ond wrth gwrs, yn dechnegol, ni all awdurdodau lleol wynebu methdaliad beth bynnag—mae'n rhaid iddynt gyhoeddi'r hysbysiadau gofynnol. Nid oes unrhyw awdurdod yn dymuno bod yn y sefyllfa honno, a bydd pob awdurdod yn gwneud popeth yn ei allu i reoli ei gyllideb, i gyflwyno cyllideb wedi'i mantoli ar gyfer pleidleisio arni’n lleol. Nid wyf am eiliad yn diystyru pa mor anodd fydd hynny i rai awdurdodau lleol, yn enwedig o ystyried y pwysau eithafol sydd ar ein cyllidebau a chyllidebau awdurdodau lleol. Dywedodd yr Aelod fod gwasanaethau awdurdodau lleol wedi eu torri i'r asgwrn. Credaf fod awdurdodau lleol, ers peth amser, wedi bod mewn sefyllfa lle nad ydynt wedi gallu gwneud llawer o'r pethau yr hoffent eu gwneud, am fod ganddynt gymaint o ddyletswyddau statudol y maent yn eu cyflawni. Felly, oni bai fod gwelliant cyffredinol mewn cyllid cyhoeddus, ac oni bai fod gennym Lywodraeth yn y DU sydd eisiau buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, rwy'n credu ein bod yn wynebu cyfnod anodd.

Roedd yn ddiddorol meddwl am y ffigurau a gawsom yn natganiad yr hydref. Ac ym maes iechyd, er enghraifft, rwy'n credu bod y cyllid ychwanegol a gafwyd ar gyfer iechyd yn talu am werth llai na phum awr o'r GIG yma yng Nghymru. A phan ystyriwch y lefel honno o ddiffyg diddordeb gan Lywodraeth y DU mewn gwasanaethau cyhoeddus, rwy'n credu bod hynny'n dangos o ddifrif pa mor anodd yw’r her sy'n ein hwynebu. [Torri ar draws.] Rwy’n clywed y grwgnach y tu ôl i mi, ond credaf mai’r pwynt pwysig i’w gofio yma yw bod ein cyllideb y flwyddyn nesaf yn werth £1.3 biliwn yn llai na'r hyn ydoedd adeg yr adolygiad o wariant. [Torri ar draws.] Efallai fod hynny’n ddiflas i’r Ceidwadwyr, ond nid yw’n ddiflas i’r rheini ohonom sy’n malio am wasanaethau cyhoeddus ac sy'n dymuno gweld buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Diolch i'r Gweinidog.

Cyn symud ymlaen, ac er eglurder yn dilyn y pwynt o drefn gan Janet Finch-Saunders, hoffwn dynnu sylw at y ffaith na ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod unrhyw Aelod o’r Senedd wedi dweud celwydd neu gamarwain y Senedd, ac felly nid aeth yn groes i'r ymddygiad disgwyliedig. Fodd bynnag, buaswn yn gobeithio bod pob Aelod yn myfyrio ar eu defnydd o dermau o’r fath cyn eu cyfraniadau, ac wedi hynny, er mwyn sicrhau nad yw’r geiriau a ddefnyddir yn anseneddol. Byddaf yn sicrhau bod y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol o'r datganiad hwn hefyd.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch. Ers 1985, blaenoriaeth ddyngarol allweddol Rotari yw cael gwared ar glefyd polio drwy'r byd. Roedd Rotari yn arwain yr ymgyrch ar adeg pan oedd dros 1,000 o achosion o glefyd polio y dydd, mewn 125 o wledydd, yn parlysu a hyd yn oed yn lladd plant. Heddiw, mae nifer yr achosion wedi gostwng 99.9 y cant. Dros y 35 mlynedd diwethaf, mae aelodau Rotari, sy'n gweithio gyda chymunedau ledled y byd, wedi cyfrannu mwy na $2 biliwn, ac oriau gwirfoddol dirifedi, at y frwydr i ddileu polio. Ac wedi'i hysbrydoli'n rhannol gan ymrwymiad gwirfoddol Rotari a'u llwyddiant wrth godi arian, lansiwyd y fenter dileu polio fyd-eang ym 1988. Ac oherwydd yr ymdrechion hyn hefyd, mae bron i 19 miliwn o bobl, a fyddai fel arall wedi'u parlysu, yn cerdded, a mwy na 1.5 miliwn o bobl a fyddai wedi marw fel arall yn dal yn fyw. Er mai dim ond llond dwrn o achosion sydd ar ôl yn y byd, maent yn parhau i ymgyrchu, ac mae aelodau Rotari yn parhau i fod yn ffigurau allweddol mewn sawl agwedd ar y rhaglen polio. Gallai’r methiant i ddileu polio arwain at hyd at 200,000 o achosion newydd ledled y byd bob blwyddyn, o fewn degawd. Dyna pam fod yn rhaid inni barhau i weithio, a hoffwn ddiolch i aelodau Rotari ym Mhrydain ac Iwerddon sydd wedi chwarae rhan enfawr ac wedi cefnogi End Polio Now. Diolch yn fawr iawn, a diolch i bawb arall sydd wedi chwarae eu rhan yn hyn. Diolch.

15:40
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.14 i ethol Aelod i bwyllgor

Yr eitem nesaf yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 17.14 i ethol Aelod i bwyllgor. A galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Darren Millar. 

Cynnig NNDM8441 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Samuel Kurtz (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn lle James Evans (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynigiwyd y cynnig.

Neb arall.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod: Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru)

Eitem 6 heddiw yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod: Bil safonau gofal iechyd meddwl (Cymru). A galwaf ar James Evans i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8422 James Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

Yn cytuno y caiff James Evans AS gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyhoeddwyd ar 22 Tachwedd 2023 o dan Reol Sefydlog 26.91A.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i. Heddiw, rydym yma i drafod mater o bwysigrwydd mawr: datblygu fy Mil safonau gofal iechyd meddwl (Cymru). Cyn imi ddechrau, hoffwn ddweud rhai geiriau am y bobl sydd wedi fy helpu i gyrraedd y cam hwn yn natblygiad y Bil.

Hoffwn dalu teyrnged yn gyntaf i’r Dirprwy Weinidog, Lynne Neagle, sydd wedi gweithio gyda mi mewn ffordd gydweithredol ac adeiladol iawn i ddatblygu’r cynnig hwn. Ac roeddwn yn teimlo ar un adeg fy mod yn treulio mwy o amser ar y pumed llawr na Gweinidogion y Llywodraeth, ac roeddwn yn edrych ymlaen at gael fy nesg fy hun yno ar un pwynt. Ond edrychaf ymlaen at weithio gyda chi, Ddirprwy Weinidog, a’ch swyddogion, os rhoddir caniatâd i hyn fynd yn ei flaen heddiw.

Hoffwn ddiolch hefyd i Oliver John o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae gwybodaeth ac arbenigedd y coleg brenhinol wedi bod yn allweddol wrth lunio’r Bil hwn. A hoffwn ddiolch hefyd i fy nhîm, a hefyd i'r tîm yma yn y Senedd am eu cymorth. Rwyf wedi ymgysylltu ag elusennau fel Mind Cymru ac Adferiad, ac rwyf wedi fy nghalonogi gan eu cefnogaeth a’u hagwedd bositif tuag at y Bil. A ddoe ddiwethaf, nododd Comisiynydd Plant Cymru ei chefnogaeth i’r Bil hwn hefyd, sydd i’w groesawu’n fawr iawn.

Mae iechyd meddwl yn rhan annatod o’n llesiant cyffredinol, ac mae’n galonogol gweld ymrwymiad llawer o bobl yn y Senedd hon, pobl y gweithiais gyda nhw ar ddatblygu’r Bil hwn i fynd i’r afael ag anghenion pobl sy’n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl yma yng Nghymru. Yn gyntaf oll, gadewch inni gydnabod y newid cymdeithasol sydd wedi rhoi lle blaenllaw i iechyd meddwl mewn sgwrs gyhoeddus. Mae'r dyddiau pan oedd cyflyrau iechyd meddwl yn destun stigma a chyfrinachedd wedi mynd, pan oedd pobl yn aml yn llawer rhy ofnus i geisio cymorth. Rydym yn dyst i ddeffroad cyfunol, sylweddoliad fod iechyd meddwl, yn rhy hir o lawer, nid yn unig yn fater personol, ond hefyd yn fater cymdeithasol y mae angen mynd i’r afael ag ef.

Mae’r Bil rwy'n cynnig ei gyflwyno yn ymateb i’r esblygiad diwylliannol hwn, gan gynrychioli ymrwymiad i sicrhau bod anghenion iechyd meddwl pob unigolyn yn cael eu diwallu, mewn dull sy’n seiliedig ar hawliau, a thrin yr unigolyn fel unigolyn. Mae hyn yn adeiladu ar rai o ganfyddiadau allweddol y gwaith gwych a wnaed yn adolygiad Wessely. Roedd yn destun cryn ofid i mi, fodd bynnag, na phenderfynodd Llywodraeth y DU ddiweddaru’r ddeddfwriaeth iechyd meddwl yn San Steffan. Fodd bynnag, mae gennym bwerau yma yng Nghymru i wneud newid cadarnhaol, a chredaf fod gennym ddyletswydd i weithredu er lles ein dinasyddion. Ymdrech gyfunol sy'n sail i'r Bil hwn, wrth i mi, Llywodraeth Cymru, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, elusennau, ac yn bwysicaf oll, lleisiau'r rhai sydd wed cael profiad bywyd ddod at ein gilydd. Mae union fframwaith y ddeddfwriaeth arfaethedig hon wedi’i blethu ag edafedd empathi a chynwysoldeb.

Un o golofnau sylfaenol Bil safonau gofal iechyd meddwl (Cymru) yw dewis ac ymreolaeth. Yn y Bil hwn, rwy’n bwriadu disodli'r darpariaethau perthynas agosaf yn Neddf Iechyd Meddwl 1983 â rôl newydd unigolyn enwebedig. Bydd yr unigolyn enwebedig yn gallu cynrychioli'r unigolyn hwnnw ac arfer swyddogaethau statudol perthnasol ar eu rhan. Mae'r newid hwn wedi'i lywio gan adolygiad annibynnol 2018 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl, a nododd fod defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid wedi canfod yn gyson fod y modelau presennol o gynnwys teuluoedd a gofalwyr yn hen ffasiwn ac yn annigonol.

Elfen allweddol arall o’r Bil yw gwneud gwelliannau i Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a gyflwynwyd gan gyn-Aelod yma, Jonathan Morgan, i sicrhau nad oes terfyn oedran ar bwy all ofyn am ailasesiad o’u cyflwr iechyd meddwl, ac i ehangu'r argaeledd i ofyn am ailasesiad. Ar hyn o bryd, dim ond i oedolion y mae'r cyfle i ofyn am ailasesiad ar gael. Mae hyn yn rhoi pobl ifanc a phlant dan anfantais. Bydd y newid hwn yn sicrhau cydraddoldeb mewn gwasanaethau, ac yn ceisio mynd i'r afael â'r stigma a deimlir yn aml wrth ofyn am gymorth iechyd meddwl ac wrth ei gael. Bydd y gwelliant hwn hefyd yn sicrhau bod y Mesur yn cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, lle mae gan blant hawl i’r safon orau bosibl o ofal iechyd, a hawl i fynegi eu barn ac i'r farn honno gael ei chymryd o ddifrif.

Yn ychwanegol at hynny, mae’r Bil yn newid y meini prawf ar gyfer cadw. Mae cod ymarfer y Ddeddf Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru eisoes yn nodi y dylid darparu gwasanaethau yn unol â'r rhagdybiaeth o alluedd, y dylid defnyddio'r dull lleiaf cyfyngol, y dylent fod er budd pennaf yr unigolyn ac y dylent sicrhau cymaint o annibyniaeth â phosibl i'r unigolyn. Mae’n bwysig iawn fod hyn wedi'i gynnwys mewn deddfwriaeth yma yng Nghymru.

Yn olaf, bydd y Bil yn ceisio cyflwyno asesiadau rhithwir o bell a darpariaethau penodol yn ymwneud â meddygon ail farn penodedig ac eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol. Mae hwn yn faes na chafodd ei gynnwys yn neddfwriaeth ddrafft y DU. Mae hwn yn ddatblygiad unigryw Gymreig sy'n galw am ddeddfwriaeth sylfaenol i’w gyflawni, ac mae hynny’n rhywbeth y credaf y byddai’n gwella'r gefnogaeth i ddewis ac ymreolaeth y claf.

Mae’r meysydd polisi a amlinellais heddiw yn fwriadol benodol a chyfyng eu cwmpas er mwyn cyflawni canlyniadau cyflawnadwy a realistig. Edrychais ar feysydd eraill lle gallai’r Bil wneud newidiadau. Fodd bynnag, oherwydd cymhlethdod y setliad datganoli a’r angen i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y materion hyn, nid y Bil yw’r mecanwaith i fynd ar drywydd y rhain. Rwyf hefyd wedi fy nghalonogi gan ymrwymiadau’r Dirprwy Weinidog mewn cyfarfodydd a gawsom i ddatblygu’r meysydd hyn drwy'r pwerau gwneud rheoliadau sydd ar gael at ddefnydd Llywodraeth Cymru. Ac yn bersonol, ni fuaswn am weld rhai o'r diwygiadau’n cael eu harafu pan ellir cyflawni’r diwygiadau hynny drwy fecanwaith deddfwriaethol arall.

I gloi, credaf fod datblygu Bil safonau gofal iechyd meddwl (Cymru), yn rhoi gobaith i lawer o bobl, ac yn dyst i’n hymrwymiad cyffredin i feithrin Cymru iach ar gyfer heddiw a’r dyfodol. Drwy flaenoriaethu dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar hawliau a dadstigmateiddio iechyd meddwl, rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol lle gall pob unigolyn ffynnu. Felly, gofynnaf i bawb yn y Siambr hon, gadewch inni sefyll yn unedig yn ein hymrwymiad i’r gwaith hwn heddiw, gan sicrhau bod y camau a gymerwn wrth ddatblygu’r Bil hwn yn troi’n gamau gweithredu ystyrlon sy’n cyffwrdd â bywydau’r rhai mewn angen. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau Aelodau eraill wrth inni fynd drwy’r ddadl hon y prynhawn yma, a charwn annog pob Aelod ar draws y Siambr hon i gefnogi fy nghynnig heddiw.

15:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i James Evans am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Diolch yn arbennig i James am ei ddull cydweithredol iawn o ddatblygu’r ddeddfwriaeth hon ac am ei ymgysylltiad adeiladol a defnyddiol.

Rwyf wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon fod gan bob un ohonom iechyd meddwl. Weithiau, fe fydd yn dda; weithiau, fe fydd yn wael. Felly, mae hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob un ohonom. Ond mae ein cyfrifoldeb mwyaf am y rhai y mae eu hiechyd meddwl mor wael fel eu bod yn dibynnu ar ein gwasanaethau mwyaf arbenigol, ac yn enwedig y rhai y mae’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn cyfyngu ar eu rhyddid. Dyna pam y gwnaethom ymrwymo, fel Llywodraeth, i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ddiwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl, ac roeddem yn siomedig iawn na chyhoeddwyd Bil yn Araith y Brenin ym mis Tachwedd. Rwy’n falch iawn, felly, fod yr Aelod yn ceisio defnyddio ei ddeddfwriaeth i roi rhai o’r diwygiadau a ragwelwyd ar lefel y DU ar waith.

Rydym wedi edrych yn ofalus iawn ar y mesurau y mae’r Aelod yn eu cynnig. Maent yn gamau cadarnhaol, ac maent yn gyson â pholisïau’r Llywodraeth hon a’n nodau cyffredinol o sicrhau dull sy’n seiliedig ar hawliau i sicrhau bod gan bawb yr iechyd meddwl gorau posibl ac y bydd gofal a chymorth yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn dosturiol ac yn canolbwyntio ar adferiad, gyda phwyslais ar wella ansawdd, diogelwch a hygyrchedd.

Byddai newid i ‘unigolyn enwebedig’ yn lle ‘perthynas agosaf’ yn cefnogi ein nod o sicrhau mwy o reolaeth ac ymreolaeth, drwy gefnogi pobl i wneud eu dewisiadau eu hunain ynghylch pwy fyddent eisiau eu cael i arfer hawliau ar eu rhan. Rhaid inni beidio ag anghofio mai’r rhai sy’n cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yw rhai o’r bobl fwyaf di-lais yn ein cymdeithas, ac rwy'n croesawu'r cam hwn i wella eu llais a’u rheolaeth.

Mae meddygon ail farn yn amddiffyniad hanfodol i bobl er mwyn sicrhau bod gofal a thriniaeth yn briodol ac i sicrhau bod barn a hawliau'r unigolyn wedi'u hystyried. Byddai galluogi asesiadau o bell yn cefnogi ein nod o wella hygychedd a sicrhau gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gyda’r nod o wneud gwasanaethau'n fwy effeithlon. Yn yr un modd, byddai ehangu’r hawl i wneud cais am ailasesiad o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) yn cefnogi ein nod o ehangu dewis ac ymreolaeth a gwella mynediad at gymorth amserol. Rwy'n arbennig o awyddus i ymestyn y cyfle i ofyn am ailasesiad i blant a phobl ifanc, gan eu gwneud yn gydradd ag oedolion yn y gyfraith.

Fodd bynnag, mae angen inni fod yn ofalus ynglŷn â sut rydym yn bwrw ymlaen â diwygiadau i system sy’n gweithredu ar sail Cymru a Lloegr ar hyn o bryd. Mae canlyniadau i greu system gynyddol ymwahanol, a all ychwanegu cymhlethdod mewn system sydd, ar hyn o bryd, yr un fath at ei gilydd yng Nghymru a Lloegr, ac sy'n cynnwys swyddogaethau datganoledig a rhai a gedwir yn ôl. Ac wrth ddeddfu i newid rhannau o’r system ac nid rhannau eraill, bydd angen inni osgoi darnio tirwedd sydd eisoes yn gymhleth a pheri dryswch i weithwyr proffesiynol a rhai sy’n derbyn gofal. Gallai’r cymhlethdod hwnnw gynyddu pe ceid deddfwriaeth ehangach yn y DU ynghylch rhannau eraill o’r system yn y dyfodol.

Rwyf bob amser wedi credu na ddylem ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol heblaw ar gyfer cyflawni pethau na allwn eu cyflawni hebddi, ac mae gennym raglen waith uchelgeisiol barhaus i wella iechyd meddwl a chymorth iechyd meddwl yng Nghymru. Yn y flwyddyn newydd, byddwn yn cyhoeddi ein strategaeth iechyd meddwl newydd i Gymru, a fydd yn sefydlu ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd meddwl. Caiff ei hategu gan gyfres o gynlluniau cyflawni a fydd yn nodi’n fanylach y camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd yn y tymor byr a chanolig i weithio tuag at y weledigaeth honno.

Ochr yn ochr â’r strategaeth iechyd meddwl, byddwn hefyd yn ymgynghori ar ein strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed. Mae’r ddwy strategaeth yn adeiladu ar ein dull trawslywodraethol ac amlsector presennol o wella iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru. Rydym hefyd wedi darparu adnoddau pwrpasol i weithrediaeth y GIG er mwyn ysgogi gwelliannau yn ansawdd a pherfformiad ein gwasanaethau GIG. Gwneir hyn drwy sefydlu rhaglen strategol ar gyfer iechyd meddwl a rhaglen diogelwch cleifion iechyd meddwl. Ein nod yw sicrhau canlyniadau, hygyrchedd a phrofiad gwell a thecach, lleihau amrywio na ellir ei gyfiawnhau a gwella iechyd meddwl y boblogaeth. Y rhaglen genedlaethol yw’r rhyngwyneb hollbwysig rhwng polisi Llywodraeth Cymru a darparu gwasanaethau sy'n rhoi cyfeiriad a chymorth i sefydliadau GIG Cymru a chyrff cyhoeddus a thrydydd sector.

Mae yna gamau eraill y bwriadwn eu cymryd i wella darpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru y gallwn eu cymryd heb ddeddfwriaeth sylfaenol. Mae hyn yn cynnwys archwilio gyda phartneriaid sut y gallwn ddefnyddio’r gweithlu’n well drwy ehangu’r ystod o weithwyr iechyd proffesiynol sy’n gallu cynnal asesiad o wasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ac ymgymryd â’r rôl gydgysylltu gofal o dan y Mesur iechyd meddwl; archwilio cyflwyniad dogfennau dewisiadau a wneir ymlaen llaw gyda phartneriaid; ac archwilio sut i alluogi'r defnydd o dechnoleg ddigidol i wneud gwasanaethau'n fwy effeithlon ac ymatebol, a allai gynnwys llofnodion digidol a throsglwyddo dogfennau statudol yn ddigidol. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am ei gydnabyddiaeth i’n cynlluniau yn hyn o beth heddiw.

I gloi, mewn perthynas â’r egwyddorion arfaethedig, rwy'n cytuno mai dyma’r egwyddorion cywir a ddylai lywio’r ffordd y caiff pob gwasanaeth ei ddarparu. Rwy’n ystyried y rhain yn bethau diwylliannol y mae angen eu gweu drwy’r system gyfan, yn hytrach na’u cyflwyno mewn rhai agweddau ar y system ac nid eraill, a bydd angen ystyried hyn yn fanylach i'w gael yn iawn. Hoffwn gloi drwy gydnabod ymrwymiad diffuant yr Aelod i wneud gwelliannau mewn cymorth iechyd meddwl i rai o’n dinasyddion mwyaf bregus. Hoffwn roi cyfle i’w gynigion gael eu hystyried yn fanylach. Felly, bydd y Llywodraeth a minnau'n cefnogi’r cynnig sydd ger ein bron heddiw. Diolch.

15:50

Hoffwn ddiolch i James Evans am ddod â’r Bil arfaethedig hwn ger bron y Senedd heddiw. Mae'n hen bryd gwneud newidiadau i'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae’r Ddeddf Iechyd Meddwl bellach yn 40 mlwydd oed, ac mae angen inni ddod â chyfreithiau iechyd meddwl i mewn i’r unfed ganrif ar hugain, felly rwy'n llongyfarch James ar ei ymdrechion a’i waith yn hyrwyddo iechyd meddwl yn y Siambr.

Fel rwyf wedi sôn yma droeon, mynd i’r afael ag iechyd meddwl yw un o heriau polisi mawr ein hoes. Amlygodd arolwg a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Iechyd Meddwl yng Nghymru ym mis Mai faint y broblem ledled Cymru. Canfu fod chwech o bob 10 oedolyn yng Nghymru wedi profi gorbryder a oedd wedi tarfu ar eu bywydau bob dydd ar ryw adeg yn ystod y pythefnos blaenorol, a bod dros chwarter yr oedolion yng Nghymru a oedd wedi profi gorbryder wedi'i brofi i’r graddau ei fod yn eu hatal rhag gwneud yr hyn y maent yn hoffi ei wneud neu angen ei wneud y rhan fwyaf o'r amser neu drwy'r amser.

Mae'n ddisgwyliadwy fod effaith y pandemig wedi gwaethygu'r materion hyn. Datgelodd astudiaeth gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru fod cyfran y bobl sy’n dioddef problemau iechyd meddwl difrifol wedi cynyddu o 11.7 y cant yn ystod y cyfnod yn arwain at y pandemig i 28.1 y cant erbyn mis Ebrill 2021. Hefyd, dylem ystyried y rhwystrau arbennig sy’n wynebu pobl ifanc, sydd ar hyn o bryd yn wynebu amseroedd aros am wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol sy’n sylweddol hwy na’r rhai ar gyfer oedolion. O ystyried nad yw targed y Llywodraeth i ddarparu asesiad i 80 y cant o blant a phobl ifanc o fewn 28 diwrnod i gael eu hatgyfeirio wedi’i gyrraedd ers peth amser, nid yw’n syndod fod adroddiad 'Llesiant Cymru' ar gyfer 2023 wedi dangos tuedd ar i lawr ym moddhad bywyd pobl ifanc 11 i 16 oed rhwng 2017-18 a 2021-22.

Diolch byth, dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld newid hirddisgwyliedig mewn agweddau cymdeithasol tuag at iechyd meddwl. Mae mwy o barodrwydd bellach i drafod materion iechyd meddwl yn agored mewn modd anfeirniadol, ac i herio stigma cymdeithasol niweidiol sy’n aml yn atal pobl sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl rhag cael mynediad at gymorth angenrheidiol. Fel gwleidyddion, mae’n hanfodol ein bod yn harneisio’r newid cadarnhaol hwn mewn agweddau i sicrhau manteision ymarferol pendant, a diolch i’n cytundeb cydweithio â Llywodraeth Cymru, dyna'n union y mae Plaid Cymru yn ei wneud.

Er enghraifft, rydym wedi darparu’r hyb iechyd meddwl 24/7 cyntaf erioed yng Nghymru yng Nghaerfyrddin, sy’n darparu cymorth pwrpasol i bobl ifanc pan fydd ei angen arnynt, gan fynd rywfaint o’r ffordd felly tuag at fynd i’r afael â’r problemau gyda'r rhestrau aros hir y cyfeiriais atynt yn gynharach. Ar sail llwyddiant y cynllun hwn, rydym hefyd yn disgwyl i brosiectau tebyg gael eu rhoi ar waith ar draws y byrddau iechyd eraill yng Nghymru yn ystod y flwyddyn newydd. Ond rydym yn llwyr gydnabod mai un cam yw hwn ar daith hir, ac y gellir ac y dylid gwneud llawer mwy.

Fel y mae’r memorandwm esboniadol i’r Bil hwn yn nodi'n gywir ddigon, mae mynd i’r afael â’r diffygion yn Neddf Iechyd Meddwl y DU yn fan cychwyn amlwg. Mae hyn yn adleisio’r hyn y mae Plaid Cymru wedi bod yn ei ddweud ers tro ynglŷn â chyflwr deddfwriaeth iechyd meddwl, sydd wedi dyddio ac nad yw’n gwasanaethu anghenion pobl Cymru yn llawn.

Rwy'n cymeradwyo James Evans felly am gyflwyno’r mater hwn heddiw. Mae’n cyferbynnu’n llwyr â methiant Llywodraeth San Steffan i gynnwys ymrwymiad penodol i adolygu’r Ddeddf Iechyd Meddwl ar yr agenda ddeddfwriaethol bresennol. Yn wir, mae effaith ddinistriol 13 mlynedd o gyni ar wasanaethau iechyd meddwl yn tanlinellu esgeulustod San Steffan ar y mater hollbwysig hwn yn glir. I ddyfynnu erthygl yn yr International Journal of Environmental Research and Public Health,

'mae cyni a pholisïau cysylltiedig wedi cyfuno i gynyddu baich cyffredinol trallod meddwl ac ymyleiddio yn y DU.'

Un o fanteision mawr datganoli, felly, yw bod gennym allu, ni waeth pa mor gyfyngedig ydyw ar hyn o bryd, i o leiaf lenwi rhywfaint o'r bylchau a adawyd gan San Steffan mewn perthynas â materion pwysig fel iechyd meddwl. Bydd y diwygiadau hyn a gynigir gan yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed heddiw yn rhoi ystyriaeth gwbl briodol i bobl nid yn unig fel cleifion ond fel unigolion â hawliau, dewisiadau ac arbenigedd, sy’n gallu dibynnu ar system sy’n eu cefnogi ac sydd ond yn ymyrryd yn gymesur. Gallai hon fod yn foment arwyddocaol yn y ffordd y cefnogwn bobl â phroblemau iechyd meddwl difrifol a pharhaus, a fydd yn rhoi mwy o ymreolaeth i bobl dros eu gofal ac yn mynd i’r afael ag anghyfartalwch i bawb sy’n defnyddio gwasanaethau. Bydd y gwelliant i’r Mesur iechyd meddwl yn sicrhau cydraddoldeb i bobl ifanc yn y ffordd y gallant gael cymorth o fewn y gwasanaethau hyn, ac felly mae hwn yn gyfle i wneud newid ystyrlon.

Gan droi at fanylion eraill y Bil arfaethedig, tybed a allai’r Aelod egluro pa asesiad y mae wedi’i wneud o’i ryngweithio â deddfwriaeth bresennol Cymru megis Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r memorandwm esboniadol hefyd yn sôn am yr angen i hybu urddas yr unigolyn ac i arfer swyddogaethau'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn y modd lleiaf cyfyngol a lleiaf mewnwthiol, egwyddorion yr ydym yn eu cymeradwyo'n llwyr. O ystyried y ffaith—[Torri ar draws.] Rwyf ar fin dirwyn i ben; diolch, Ddirprwy Lywydd. O ystyried y ffaith bod canlyniadau iechyd meddwl gwael yn arbennig o gyffredin ymhlith pobl draws, gydag adroddiad Stonewall ar ysgolion Cymru yn 2017 yn datgelu bod 77 y cant o blant traws wedi niweidio eu hunain yn fwriadol, 92 y cant wedi meddwl am ladd eu hunain, a 41 y cant wedi ceisio lladd eu hunain, a yw’r Aelod yn cytuno â mi y dylai cynnal ysbryd yr egwyddorion hyn gynnwys ymdrech ymwybodol ar ran pob gwleidydd i ddangos mwy o sensitifrwydd ac empathi yn y modd y maent yn trafod materion sy'n ymwneud â hunaniaeth rhywedd?

Diolch am eich amynedd. 

16:00

Hoffwn longyfarch fy nghyd-Aelod James Evans yn gyntaf ar ei Fil pragmatig ac amserol, sy'n ceisio diogelu dyfodol darpariaeth iechyd meddwl yn unol â dealltwriaeth therapiwtig fodern. Mae fy etholaeth i, sef Mynwy, yn debyg iawn i etholaeth yr Aelod ei hun, yn neilltuol mewn sawl ffordd oherwydd ei daearyddiaeth wledig. Yn fwyaf nodedig mae gennym gyfran sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru o bobl sy'n gweithio yn y sector amaethyddol. Ceir llawer o ymchwil sy'n dweud wrthym fod pobl yn y byd amaeth a chymunedau gwledig yn debygol o fod yn wynebu cyfraddau uwch na'r cyfartaledd o iselder a hunanladdiad, gyda'r Sefydliad Diogelwch Fferm yn adrodd bod un ffermwr yr wythnos yn y DU yn marw drwy hunanladdiad.

Rwy'n falch fod y Bil hwn yn ceisio cyflwyno asesiadau rhithwir ar gyfer cymorth iechyd meddwl, gan fy mod yn teimlo y bydd hyn yn mynd yn bell i fynd i'r afael â'r problemau hygyrchedd y mae cynifer o bobl yn eu hwynebu yn y gymuned wledig. Os ydych chi'n byw mewn ardal wledig, mae pethau fel teithio i gyfleusterau meddygol yn llawer mwy heriol, felly mae sicrhau bod modd gwneud asesiadau iechyd meddwl o bell yn agor y llwybr i gymaint o bobl ledled Cymru. Mae'r newid syml hwn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i gefnogi'r gymuned wledig yn unig. Bydd mynediad at ddiagnosis iechyd meddwl yn cael ei wneud yn llawer iawn haws i bobl anabl, rhai sydd â dyletswyddau gofalu 24 awr a'r henoed—unwaith eto, grwpiau sydd oll yn anghymesur o agored i iechyd meddwl gwael.

Ni ellir dadlau ychwaith nad yw'r gyfradd gynyddol o broblemau iechyd meddwl ymhlith ein plant a'n pobl ifanc yn frawychus. Heddiw ddiwethaf, yn dilyn ei thaith 19 diwrnod o Gas-gwent, cyrhaeddodd Emma Webb Lundain gyda'i model o geffyl i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc. Bu farw ei merch 16 oed, Brodie, a oedd yn farchog brwd, drwy hunanladdiad yn 2020. Drwy gydol y daith hon tynnodd Emma sylw at y stigma y mae pobl ifanc yn ei wynebu wrth ofyn am gymorth. Drwy sicrhau nad oes terfyn oedran ar gyfer pwy sy'n gallu gofyn am ailasesiad o'u hiechyd meddwl, bydd y Bil yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael tegwch mewn gofal. Bydd hyn yn mynd gryn dipyn o ffordd i sicrhau bod gan ein pobl ifanc yng Nghymru alluedd, ac na fyddant yn wynebu amheuaeth.

Hoffwn longyfarch James unwaith eto a chofnodi fy nghefnogaeth i'w Fil gwirioneddol fuddiol. Nid yn unig y mae'r Bil hwn yn sicrhau bod iechyd meddwl yn addas ar gyfer heddiw, mae hefyd yn diogelu dyfodol ein dinasyddion yng Nghymru am flynyddoedd i ddod. Mae gennym ddyletswydd yn y Senedd hon i roi deddfwriaeth ar waith, neu ddiwygio'r ddeddfwriaeth bresennol, i ddiogelu'r rhai sy'n fregus am gyfnodau yn eu bywydau wrth iddynt ymdopi â'u hiechyd meddwl. Rwy'n annog pob Aelod i ganiatáu i'r Bil drafft hwn fynd rhagddo a datblygu mewn modd sy'n gwella'r ffordd y cefnogwn y rhai sy'n dioddef. Diolch.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i James am wneud hyn. Mae'n golygu llawer iawn i nifer fawr o bobl. Mae cryn dipyn o waith wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf i adolygu'r ffordd y mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn gweithredu, gan gynnwys gwrando ac ymateb i ystod sylweddol o brofiadau bywyd o fod yn destun gorchymyn cadw o dan y Ddeddf. Mae'r profiad bywyd hwnnw mor hanfodol. Oni bai eich bod chi neu rywun annwyl wedi dod yn agos at gael eich cadw o dan y Ddeddf honno, nid wyf yn credu y gallwch chi byth ddeall pa mor frawychus yw hynny, ac fel y crybwylloch chi, Mabon, pa mor bell o allu dadlau drosoch chi eich hun ydych chi a chyn lleied o alluedd sydd gennych ar yr adeg honno.

Er gwaethaf llawer o siarad—rydych chi'n iawn, James—am iechyd meddwl, a llawer mwy nawr am orbryder ac iselder, rwy'n credu bod llawer llai o siarad am rai o'r achosion mwy difrifol o iechyd meddwl a llesiant, ac mae'n dal i fod gormod o stigma ynglŷn â hynny. Rwy'n credu'n gryf y gallwch wella o'r adeg honno o argyfwng. Rwy'n credu bod llawer ohono weithiau'n deillio o gamddefnyddio sylweddau, ac unwaith eto, rwy'n credu'n gryf y gallwch wella ohono os byddwch chi'n cael y gofal a'r cymorth cywir. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle i bob un ohonom ddweud wrth bobl na ddylech byth boeni am ofyn am help, ni ddylech byth boeni am fod angen cymryd meddyginiaeth, os mai dyna yw cyngor eich clinigydd, a'n bod am fyw mewn byd lle rydych chi'n cael eich clywed, lle mae rhywun yn gwrando arnoch a lle rydych chi'n dal i gael eich trin fel bod dynol. Rwy'n credu mai dyna sy'n cael ei grynhoi yn yr holl egwyddorion sydd gennych yma: dewis ac ymreolaeth, dull lleiaf cyfyngol, budd therapiwtig a'r person fel unigolyn. Rwy'n cytuno â phob un ohonynt, ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta, fe wnaethom gyffwrdd â hyn yr wythnos diwethaf a gallai llawer ohonynt gydymdeimlo â'r hyn rydych chi'n ceisio'i gyflawni yma. Mae nifer ohonynt wedi yn destun gorchmynion cadw, wrth gwrs, yng Nghymru a thu hwnt. 

Roeddwn am ganolbwyntio ar y meini prawf ar gyfer cadw. Bydd y Bil yn cyflwyno newidiadau i'r meini prawf ar gyfer cadw er mwyn sicrhau mai dim ond os ydynt yn peri risg o niwed difrifol iddynt eu hunain neu i eraill y gellir cadw pobl, a rhaid bod disgwyliad rhesymol o fudd therapiwtig i'r claf. Rwy'n gwybod fy hun—mae gennyf etholwr a gedwir y tu allan i Gymru—mae wedi bod bron yn amhosibl i mi na'i theulu neu unrhyw un yng Nghymru ddarganfod beth yn union yw'r cynllun hirdymor. A yw hi wedi cael ei rhoi dan glo am byth? Neu a oes cynllun therapiwtig clinigol i sicrhau y gall ddychwelyd adref un diwrnod a byw bywyd cyflawn. Mae hyn yn allweddol. 

Hefyd, mae cod ymarfer Cymru eisoes yn nodi y dylid darparu gwasanaethau yn unol â rhagdybiaeth o alluedd. Rhaid mai dyma'r opsiwn lleiaf cyfyngol. Dylai fod er budd pennaf yr unigolyn, a dylai sicrhau cymaint o annibyniaeth â phosibl i'r unigolyn. Mae gennyf bobl ifanc sy'n cysylltu â mi yn rheolaidd ar fy negeseuon Instagram—maent yn gwylio heddiw yn ôl pob tebyg—sy'n dweud eu bod wedi cael eu rhoi mewn ward gyffredinol yn un o'n hysbytai oherwydd eu bod angen—fel arfer—eu bwydo â bwyd llawn egni. Cwbl amhriodol ac roeddent yn dweud pethau fel:

'Byddai'n well gennyf fynd i mewn am fy nhriniaeth a dychwelyd adref wedyn at fy mam.'

Ac rwy'n credu y bydd hyn yn eu helpu i ddweud:

'Dyma beth rwyf ei eisiau, dyma beth sydd ei angen arnaf, dyma fyddai'r gofal gorau i mi.'

Ac yn olaf, mae dileu'r terfynau oedran ar gyfer ailasesu yn gwbl hanfodol. Byddaf bob amser yn cefnogi mwy o alinio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Rhaid i leisiau plant a phobl ifanc gael eu clywed bob amser. Rwy'n deall weithiau na ellir gofalu amdanynt o reidrwydd yn y ffordd y byddent ei eisiau, ond mae'n dal i fod angen clywed eu lleisiau a gofyn beth maent ei eisiau a gwrando arnynt. Mae gennyf brofiad uniongyrchol o ba mor frawychus a hynod anfuddiol yw hi pan nad yw hyn yn digwydd. 

Diolch unwaith eto, James Evans, a phawb sydd wedi eich helpu gyda hyn hefyd. Mae Mind Cymru wedi cysylltu â mi, yn ogystal ag aelodau fy ngrŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta. Heddiw, byddaf yn rhoi fy nghefnogaeth i gyflwyno eich Bil Aelod, y Bil safonau gofal iechyd meddwl (Cymru), ac rwy'n gobeithio archwilio hyn ymhellach yn y dyfodol. Diolch. 

16:05

Rwy'n falch iawn o weld y Bil hwn yn cael ei gyflwyno gan James Evans. Rwy'n credu bod un o'r sgyrsiau cyntaf a gefais i a James ar ôl cael ein hethol yn ymwneud ag iechyd meddwl, ac yn enwedig iechyd meddwl dynion. Rwy'n credu mai'r dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yw'r ffordd gywir ymlaen yma, a'r hyn rwy'n gobeithio y gallwn ei drafod ymhellach wrth i'r Bil hwn fynd rhagddo yw'r her sydd ynghlwm wrth estyn allan at y rhai sy'n ei chael hi'n anodd neu sy'n amharod i ofyn am help yn y lle cyntaf. Rwy'n sôn yn fwyaf arbennig am fy nghenhedlaeth i. Cefais fy magu mewn cymdeithas a ddywedai wrthyf ei bod yn bwysig trafod sut rwy'n teimlo, i ddeall fy emosiynau, ond cefais fy magu gan genhedlaeth nad yw'n gwybod sut i wneud hynny. Ac felly mae bron yn baradocsaidd. Ni allaf ddweud wrthych pa mor anodd yw hi i fod yn eistedd neu'n sefyll yn rhywle gan wybod bod angen imi ddweud sut rwy'n teimlo, ond bod yna amharodrwydd dwfn wedi'i wreiddio ynof. Ac rwy'n credu mai parhad o hen ddiwylliant yw hynny. Rwy'n credu ei fod yn arbennig o gyffredin mewn cymunedau dosbarth gweithiol hefyd.

Felly, rwy'n gobeithio'n fawr mai'r hyn a gawn o'r Bil hwn a thrafodaethau ynghylch y Bil yw'r ffordd yr estynnwn allan at y bobl hynny. Oherwydd fe wn fy mod i wedi gorfod gweithio drwyddo; rwy'n gwybod bod llawer o fy ffrindiau wedi gorfod gweithio drwyddo hefyd. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr fod y Senedd yn cymeradwyo'r Bil hwn heddiw—[Torri ar draws.]—er mwyn inni gael trafodaeth bellach ar y mater. Fe wnaf ildio i Jack Sargeant. 

Rwy'n ddiolchgar ichi am dderbyn yr ymyriad, Luke Fletcher. Ac mae'n ymwneud â'r sylw lle roeddech chi'n dweud eich bod chi wedi cael trafferth weithiau i siarad am iechyd meddwl. Rwyf wedi cael sawl sgwrs gyda James Evans hefyd am fy nhrafferthion fy hun gydag iechyd meddwl. A ydych chi'n credu bod yr union reswm y gall rhywun fel James siarad â mi a siarad â chi am ein brwydrau ein hunain yn profi pa mor bwysig yw hi fod y Bil hwn yn mynd drwodd heddiw?

Ydw, 100 y cant. Rwy'n credu mai dyna pam ei bod yn bwysig, neu pam y teimlwn reidrwydd o leiaf, i siarad yn y ddadl hon heddiw hefyd. Oherwydd rwy'n credu bod cael pobl fel fi, fel chi, Jack, fel James sy'n gallu trafod y materion hyn yma ar lawr y Senedd, mewn man cyhoeddus iawn hefyd, yn bwysig iawn i ddangos i'r bobl sy'n amharod i ofyn am gymorth, yn enwedig pobl ein hoedran ni, ei bod yn iawn i wneud hynny. Mae'r stigma'n dal i fod yno. Rydym yn clywed yn gyson fod y stigma wedi mynd neu yn mynd, ond gallaf ddweud wrthych nawr fod y stigma'n dal i fod yno, yn enwedig mewn cymunedau dosbarth gweithiol. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Bil hwn yn rhoi lle i ni drafod hyn, ac yn caniatáu i'r Senedd hefyd drafod y materion hyn, fel y gallwn wella gwasanaethau iechyd meddwl ymhellach i bobl ledled Cymru. 

16:10

Llongyfarchiadau i James Evans am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn ar gyfer Bil yma heddiw. Rwy'n falch iawn o allu codi i gefnogi'r Bil pwysig hwn sydd ger ein bron, a hefyd i fyfyrio ar fy amser fy hun yn y 18 mis diwethaf gyda Bil Aelod, a dymuno'r gorau i chi am y 12 mis i ddod—12 mis o waith caled. Rwy'n siŵr y byddwch chi a'ch tîm yn gweithio'n galed arno a'i weld yn symud ymlaen yn dda. Mae'n braf clywed cefnogaeth drawsbleidiol mor dda yn y Siambr yma heddiw.

Wrth gwrs, mae agweddau tuag at iechyd meddwl wedi newid cymaint dros y blynyddoedd, ac fe wnaeth Luke Fletcher dynnu sylw at rywfaint o'r newid hwnnw. Mae mwy i'w wneud, wrth gwrs. Mae'r ffordd y siaradwn am iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth ledled y gymdeithas wedi esblygu llawer. Mae'n dda i siarad, ond mae'n bwysicach fyth fod y negeseuon cadarnhaol hynny a'r pethau braf i'w dweud yn cael eu cefnogi gan ddeddfwriaeth gadarn, effeithiol. Mae'n debyg mai dyna yw pwynt yr hyn y mae James Evans yn ei gyflwyno i ni yma heddiw. Gyda fy Mil Aelod fy hun yn mynd drwy'r broses ar hyn o bryd, mae hynny'n rhywbeth rwy'n dal i ddod yn ôl ato. Rydym yn deddfu ar gyfer yr hyn y credwn sy'n bwysig. Rydym yn deddfu pan fyddwn am warantu bod rhywbeth yn ei le ar gyfer pobl Cymru. Ac fel y nododd y Gweinidog, mae bregusrwydd llawer o bobl sy'n dioddef naill ai argyfwng acíwt neu rywbeth mwy parhaus—mae'n rhaid inni fyfyrio ar eu bregusrwydd a sicrhau bod deddfwriaeth ar waith i roi'r cyfle gorau posibl iddynt. Mae'r grŵp hwn o bobl yn tyfu hefyd. Yn anffodus mae mwy a mwy o bobl yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru. Felly, mae'r Bil y mae  James Evans wedi ei gyflwyno i ni yma heddiw yn sicr yn un amserol.

Felly, bydd y Bil hwn yn gam mawr tuag at weld y gwelliant hwn yn ein gwasanaethau, gan ymgorffori set o egwyddorion drwy ein gwasanaeth iechyd a fyddai'n arwain y ddarpariaeth ofal am ddegawdau i ddod. Rydym i gyd yn gwybod y gall y ddarpariaeth iechyd meddwl bob amser fod yn well, ac yn sicr felly yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru, lle rydym wedi gweld llawer gormod o fylchau yn y system y mae pobl yn syrthio drwyddynt, a hynny ers llawer gormod o amser, yn anffodus. Felly, yn fy marn i, mae unrhyw beth sy'n mynd i helpu'r gwasanaethau iechyd meddwl hynny, boed yn ddeddfwriaeth neu fel arall, yn beth da.

Mae cyd-Aelodau eisoes wedi sôn am nifer o'r darpariaethau yn y Bil, ond hoffwn danlinellu eu pwysigrwydd yma heddiw. Mae'r ddarpariaeth perthynas agosaf yn y Ddeddf yn golygu y byddai'r claf ei hun yn gallu dewis unigolyn enwebedig i'w cynrychioli ac arfer swyddogaethau statudol perthnasol. Rwy'n credu bod hynny'n bwerus iawn, gan roi mwy o ddewis i'r claf a sicrhau bod ganddynt y person pwysicaf ar gael i'w cynrychioli ar adeg anodd. Mae'n bwysig iawn.

Yn ogystal, bydd cyflwyno asesiadau rhithwir mewn perthynas â meddygon ail farn penodedig ac eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol yn sicr o foderneiddio'r system yng Nghymru ymhellach ac yn helpu i gefnogi pobl pan fyddant ar eu mwyaf bregus. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r Bil sydd i'w groesawu'n fawr iawn hefyd, James.

Yn sicr, rhaid i mi ganmol James Evans am gyflwyno cynnig pragmatig ar gyfer Bil, gyda chefnogaeth Coleg Brenhinol y Seiciatryddion hefyd. Bydd yn cryfhau'r ddarpariaeth iechyd meddwl, yn gwneud bywyd yn well i'r rhai sy'n dioddef, ac yn sicr mae'n deilwng o'r gefnogaeth a glywsom ar draws y Siambr yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i James Evans am gyflwyno'r cynnig hwn am Fil y prynhawn yma. Mae croeso mawr iddo, ac mae'n bleser cael dilyn yr Aelodau ar draws y Siambr yn eu cyfraniadau, a chlywed y gefnogaeth drawsbleidiol y mae James wedi'i hadeiladu o amgylch y Bil hwn.

Mae iechyd meddwl yn effeithio ar bob un ohonom, ac wrth inni ddod yn fwy ymwybodol o'n hiechyd meddwl ein hunain a cheisio cymorth pan fo angen, mae'r Bil hwn yn gam clir i'r cyfeiriad cywir i wella ymhellach y ffordd y darperir cynlluniau iechyd meddwl, drwy helpu i wella canlyniadau a phrofiadau i bobl sy'n dioddef gyda'u hiechyd meddwl.

Rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad y prynhawn yma ar y cynnig i ddiwygio Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, i gynnwys plant a phobl ifanc yn y gallu i ofyn am ailasesiad. Mae 13 mlynedd wedi mynd heibio ers y Mesur fel y'i cyflwynwyd. Rydym wedi byw drwy bandemig byd-eang ac wrth inni edrych ymlaen a pharhau i ymadfer ac ailadeiladu o'r pandemig, nid yw ond yn iawn inni fyfyrio ar effaith y Mesur ac ystyried beth arall y gellid ei wneud i wella cefnogaeth.

Er bod y Mesur yn ddi-os wedi gwella gwasanaethau iechyd meddwl, dangosodd gwaith ymchwil fod llawer mwy i'w wneud o hyd i gyflawni'r newidiadau a fwriadwyd gan y Mesur, ac mae hyn yn arbennig o wir am blant a phobl ifanc. Ar hyn o bryd, mae'r cyfle i ofyn am ailasesiad ar gael i oedolion yn unig. Mae gan oedolion sydd wedi derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn y gorffennol yn y tair blynedd diwethaf hawl i hunanatgyfeirio yn ôl at y gwasanaethau hynny os teimlant fod eu hiechyd meddwl yn dirywio. Mae cyflwyno Rhan 3 o'r Mesur wedi gweld miloedd o bobl yn cael mynediad at asesiad mewn ffordd fwy amserol a heb orfod cael atgyfeiriad gan feddyg teulu. Dylai plant a phobl ifanc gael yr un hawl, ac mae ymestyn y gallu i ofyn am ailasesiad i bobl a bennir gan y claf yn cryfhau'r gefnogaeth honno ymhellach. Mae anghenion plant a phobl ifanc wedi newid ac mae nifer y plant a phobl ifanc sy'n profi problemau iechyd meddwl yn cynyddu, ac felly mae'n naturiol y dylai'r cymorth a gynigir newid gyda hynny.

Mae data a rennir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos mai merched rhwng 16 a 19 oed yw'r rhai mwyaf tebygol o brofi argyfwng iechyd meddwl. Mae'r astudiaethau hyn wedi tynnu sylw hefyd at yr ystadegau real fod plant a phobl ifanc sy'n byw yn yr 20 y cant o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd yng Nghymru yn dioddef bron i ddwbl y cyfraddau o ddigwyddiadau argyfwng, o gymharu â'r rhai sy'n byw yn yr 20 y cant o ardaloedd mwyaf cefnog. Mae rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd yng Nghymru yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Casnewydd, ac mae'n hanfodol ein bod yn ceisio sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn fwy grymus, yn cael mwy o ddewis a dylanwad ar eu triniaeth ac yn cael yr urddas a'r parch y maent yn eu haeddu.

Yn 2015, canfu adroddiad 'Y Ddyletswydd i Adolygu' Llywodraeth Cymru fod plant a phobl ifanc dan anfantais o gymhwyso ailasesiad i bobl dros 18 oed yn unig. Argymhellodd yr adroddiad y dylid diwygio'r Mesur i sicrhau nad oes terfyn oedran ar y rhai sy'n gallu gofyn am ailasesiad o'u hiechyd meddwl ac i ymestyn y gallu i ofyn am ailasesiad i bobl a nodwyd gan y claf, ond yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny. Cefnogir y gwelliant arfaethedig hwn gan Mind Cymru, sy'n croesawu ei gynnwys. Yn adolygiad 10 mlynedd Mind Cymru o'r Mesur, argymhellwyd bod Llywodraeth Cymru yn diwygio rheoliadau i ddileu'r terfyn oedran ac ymestyn yr hawliau o dan Ran 3 i gynnwys plant a phobl ifanc. Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi dweud y bydd y gwelliant hwn yn golygu bod pethau'n cyd-fynd â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, lle mae gan blant hawl i'r safonau gofal iechyd gorau posibl a hawl i fynegi eu barn a chael y safbwyntiau hynny wedi eu hystyried o ddifrif. Mae hyn yn hanfodol.

Rwy'n falch fod y Bil hwn wedi cael ei groesawu gan y comisiynydd plant hefyd. Nod y cynnig yw cryfhau'r gwasanaethau cymorth presennol a bydd yn mynd rywfaint o'r ffordd i gefnogi ymhellach y profiad y mae plant a phobl ifanc sy'n dioddef gyda'u hiechyd meddwl yn ei gael, ac mae hynny mor bwysig. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i James a'i dîm am yr holl waith caled sydd wedi'i wneud. Rwy'n gwybod cymaint y mae James yn malio am hyn a hoffwn ddiolch hefyd i'r Dirprwy Weinidog am ei chefnogaeth a'i gwaith ar hyn hefyd. Mae gennym gyfle gwych yma i symud ymlaen a gweithredu newid ystyrlon, diolch i'r cynnig hwn, ac rwy'n falch o allu cefnogi Bil James i'r cam nesaf. Diolch.

16:15

A gaf fi ddiolch i James Evans am gyflwyno ei gynnig heddiw? Mae geiriau'r Gweinidog yn dangos y bydd eich cynnig yn llwyddiannus heddiw ar y cam pleidleisio, James, felly rwy'n falch iawn o hynny, ac o glywed y gefnogaeth drawsbleidiol heddiw.

Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei adroddiad, 'Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru', a drafodwyd yma yn y Siambr hon ym mis Mai, a gwn eich bod chi, James Evans, wedi cymryd rhan yn y ddadl honno hefyd. Felly, pan fydd pwyllgorau'n gwneud adroddiadau, pan fyddant wedi cael eu trafod yn y Siambr hon, rwy'n awyddus iawn i weld nad ydynt yn casglu llwch ar silff yn rhywle. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr, James, y gallwch edrych ar yr adroddiad hwn, oherwydd fe'i cefnogwyd gan lawer o weithwyr iechyd proffesiynol, a thrwy dîm ymgysylltu'r Senedd, roedd gennym grŵp cynghori hefyd a oedd yn cefnogi gwaith yr adroddiad. Felly, aeth llawer o waith i mewn i hyn, nid yn unig gan y pwyllgor, ond gan lawer o bobl eraill hefyd, felly rwy'n gobeithio y bydd hwnnw o gymorth i chi wrth i'ch Bil symud yn ei flaen.

Fe glywsom gan eraill—Mabon ap Gwynfor, Peter Fox, Jayne Bryant—am yr anghydraddoldebau iechyd sy'n bodoli mewn sectorau penodol o'r gymuned, a'r neges ganolog yn ein hadroddiad na fydd iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth yn gwella mewn gwirionedd ac y gallent waethygu oni chymerir camau effeithiol i gydnabod a mynd i'r afael â rhai o effeithiau trawma a gwrthsefyll anghydraddoldebau mewn cymdeithas ac achosion ehangach iechyd meddwl. Roedd ein hadroddiad ni hefyd yn awyddus iawn i beidio â dyblygu gwaith cyn-bwyllgorau, fel y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon blaenorol—rwy'n credu efallai fod y Dirprwy Weinidog yn aelod o'r pwyllgor, oedd—a gwaith arall ar iechyd meddwl hefyd. Nid oeddem am ddyblygu gwaith o'r fath, felly mae hyn yn ymwneud yn benodol iawn â mynd i'r afael â rhai o'r anghydraddoldebau sy'n bodoli, James, a gobeithio, wrth i'ch Bil symud yn ei flaen, y gwnewch chi edrych ar ein hadroddiad a'i ganfyddiadau a gwaith y grŵp cynghori a gefnogai'r pwyllgor yn ogystal.

16:20

Llongyfarchiadau i James ar eich Bil y prynhawn yma, ac yn fwyaf arbennig ar gael cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd. Nid oeddwn yn mynd i siarad yn wreiddiol, ond roeddwn i eisiau codi un pwynt a gofyn a oes unrhyw beth yn y Bil y gallwn edrych arno ar gyfer cleifion o Gymru sy'n cael eu cadw mewn ysbytai y tu allan i Gymru, yn Lloegr a'r Alban, ac edrych i weld a allwn ni —. Fe roddaf un enghraifft i chi. Mae gennyf etholwr ar hyn o bryd sy'n cael ei chadw yn yr ysbyty, ond mae'n derbyn gofal yn Nottingham, ac ar hyn o bryd mae'n ysu am gael dod adref. Mae hi'n deall bod angen iddi fod yn yr ysbyty, ond mae hi eisiau bod mewn ysbyty yn nes at adref er mwyn iddi gael ymweliadau gan rieni, teulu ac yn y blaen. Felly, a oes unrhyw beth y gallwn edrych arno yn y Bil i gynnwys hynny, oherwydd rwy'n siŵr ei fod yn digwydd ar lefel ehangach hefyd, fel y gallwn gael cleifion yn ôl i Gymru a gofalu amdanynt yng Nghymru o dan bwerau'r Bil hwn? Felly, gadawaf fy sylwadau yn y fan honno; roeddwn eisiau gofyn i chi ynglŷn â hynny y prynhawn yma. Ond llongyfarchiadau a da iawn y prynhawn yma.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddweud fy mod i wedi fy ysgwyd braidd mewn gwirionedd, oherwydd mae'r holl gefnogaeth a gefais yma heddiw wedi fy nghyffwrdd? Felly, fe geisiaf fynd drwy hyn heb fynd braidd yn emosiynol, nid wyf yn gwneud 'emosiynol' yn aml iawn, ond fe wnaf fy ngorau.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei chymeradwyaeth i'r Bil heddiw, a'i hymrwymiad i weithio gyda mi yn y gwaith o'i ddatblygu. Gwn nad y Dirprwy Weinidog yn unig ydyw, ond Llywodraeth Cymru yn ehangach a'r Gweinidogion o amgylch bwrdd y Cabinet gyda chi, a'r Prif Weinidog hefyd. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eich cefnogaeth i'r Bil hwn. Gwn am eich ymrwymiad personol chi, Lynne, o'ch cyfnod yn y Senedd pan oeddech yn Gadeirydd pwyllgor a nawr, fel Dirprwy Weinidog, i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda chi os caf rwydd hynt i fwrw ymlaen heddiw. Hefyd, cawsom y trafodaethau ynghylch y diwygiadau ehangach yr ydych chi'n eu cyflwyno yn y maes iechyd meddwl yma yng Nghymru. Rydym wedi siarad am y rheini, ac rwy'n gefnogol iawn i'r hyn y byddwch chi'n ei gyflwyno, ac fe drafodwn y rheini rywdro eto. Nid wyf yn yn meddwl bod amser i drafod y rheini heddiw.

Hoffwn ddiolch hefyd i Mabon am eich cyfraniad a'ch cymeradwyaeth i'r Bil hwn heddiw. Roeddech chi'n sôn am y chwech o bob 10 oedolyn yng Nghymru sydd bellach yn wynebu gorbryder ar draws Cymru. Mae hynny'n rhywbeth y gobeithiaf ei wneud yn y Bil hwn, chwalu'r rhwystrau hynny, chwalu'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yma yng Nghymru. Fe wnaethoch chi ofyn rhai cwestiynau penodol, sut mae hyn yn gweithio gyda'r Mesur iechyd meddwl sydd gennym nawr a Deddf cenedlaethau'r dyfodol a llesiant. Yn amlwg, gyda Deddf cenedlaethau'r dyfodol a llesiant, mae'n ymwneud â chreu Cymru iachach, sy'n rhan allweddol o hynny, ac mae hynny'n rhywbeth y gallwn edrych arno gyda'r Llywodraeth os caiff rwydd hynt i symud ymlaen heddiw, sut y gall weithio a sut mae hynny'n rhyngweithio â'r Mesur iechyd meddwl, oherwydd rwy'n cytuno â'r Gweinidog; nid wyf yn hoffi deddfu er mwyn deddfu. Os gallwn wneud pethau mewn ffyrdd eraill, nid wyf eisiau gorwneud hynny.

Roeddech chi hefyd yn sôn am bobl draws, pobl ifanc draws. Nid oes unrhyw un, boed yn bobl draws neu LHDT neu unrhyw beth ar draws Cymru—os ydych chi'n dioddef gyda'ch iechyd meddwl, mae angen i chi gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Rwy'n credu, weithiau, fel cymdeithas, fod angen inni fod yn fwy goddefgar o'r bobl sy'n dioddef ar draws ein cymdeithas a sicrhau ein bod yn eu cefnogi gymaint ag y gallwn.

Peter Fox, hoffwn ddiolch i chi am eich cyfraniad, yn sôn am asesiadau rhithwir. Mae'n rhywbeth a oedd yn allweddol iawn i mi; rwyf wedi cael gwaith achos ar hyn fy hun—rwy'n siŵr y bydd hynny'n wir am lawer o'r Aelodau—ar bwy sy'n methu cael mynediad at y cymorth hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn, yn enwedig i bobl mewn ardaloedd gwledig sy'n ei chael hi'n anodd gweld pobl. Felly, mae hynny'n rhywbeth rwy'n awyddus i'w gyflwyno. Hefyd, fe sonioch chi am y flaenoriaeth i ofal a chymorth i bobl ifanc. Mae hynny'n rhywbeth a oedd yn allweddol iawn i mi yn fy rôl fel aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—fe ddof at hynny maes o law, pan fyddaf yn siarad am Aelod arall yn y Siambr—a sut y gallwn ni helpu bywydau ein pobl ifanc ledled Cymru.

Sarah, diolch i chi hefyd am eich cefnogaeth i'r Bil hwn, a rhan allweddol o'r rheswm pam fy mod am wneud hyn yw gwrando ar y bobl sydd â phrofiadau bywyd, yn enwedig ar fater unigolion enwebedig. Rwyf wedi siarad ag ambell Aelod yn gynharach am beth o'r profiad bywyd a'r rheswm dros newid—. Fe wnaf dderbyn ymyriad.

16:25

Diolch yn fawr, James. Rwy'n falch fod y ddarpariaeth perthynas agosaf yn cael ei disodli gan yr unigolyn enwebedig, fel rydych chi newydd ddweud. Mae'n bwysig fod cleifion iechyd meddwl yn cael dweud pwy fyddent yn hoffi ei gael yn brif gyswllt, fel y gwyddom. Gall hynny nid yn unig eu helpu i deimlo'n fwy cyfforddus ac wedi'u cefnogi ar eu taith, gall hefyd helpu mewn achosion o drais domestig a rheolaeth drwy orfodaeth. A yw'r Aelod yn credu bod y newid hwn yn mynd yn ddigon pell?

Rwy'n credu bod y newid hwn yn mynd yn ddigon pell ac mae'r sgwrs, yr hyn rydym newydd ei grybwyll, am drais yn y cartref yn un o'r rhesymau pam fy mod am newid hyn. Mae yna bobl sydd wedi dioddef trais domestig gan eu partner a phan fo'r bobl hynny'n ceisio cymorth a chefnogaeth gan wasanaethau iechyd meddwl y partner camdriniol hwnnw sy'n rheoli eu gofal, ac rwy'n credu y dylai'r unigolyn sy'n dioddef allu enwebu rhywun ar eu rhan i wneud dewisiadau, rhywun a all eu cynrychioli ac nid rhywun sy'n ceisio eu gorfodi a'u rheoli. Felly, dyna pam rwy'n awyddus iawn i weld y mesur hwn yn cael ei newid.

Ond soniodd Sarah hefyd am egwyddorion y Bil ac mae'n rhywbeth y credaf y gallwn edrych arno, nid ar wyneb y Bil efallai, ond ystyried rhoi pwerau rheoleiddio i mewn i weld sut y gall hynny newid, ond rwy'n awyddus iawn i weld yr egwyddorion wedi'u hymgorffori yma yng Nghymru i sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i bawb gael yr help a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.

Luke Fletcher, mae'n wir mai'r sgwrs gyntaf a gawsom oedd yn fy swyddfa i fyny'r grisiau am yr hyn y gallem ei wneud i ddadstigmateiddio iechyd meddwl ymhlith dynion yma ledled Cymru, ac rwy'n credu, ar y cyd yn y Siambr hon, fel y mae ambell un arall wedi ei grybwyll, yr hyn y gallwn ei wneud mewn gwirionedd—chi, Jack Sargeant, ac eraill rwy'n siarad â nhw am fy mrwydrau iechyd meddwl personol, ac rwy'n gwybod bod Aelodau eraill wedi siarad am eu brwydrau nhw, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn siarad. Pan fyddwn yn ei chael hi'n anodd, mae'n bwysig iawn ein bod yn estyn allan, ein bod yn siarad ag Aelodau eraill ac yn trafod ein safbwyntiau, a sut y gallwn ddefnyddio ein hunain fel modelau rôl yn ogystal â cheisio annog pobl i ddweud eu bod yn ei chael hi'n anodd. Fel y dywedais, fe wnaeth Jack Sargeant ymyriad hefyd ac mae'n debyg mai Jack yw un o fy ffrindiau gorau yn y Siambr hon—yn drawsbleidiol, ond mae Jack a minnau'n edrych ar ôl ein gilydd a hoffwn ddiolch iddo am ei gymeradwyaeth i'r Bil hwn hefyd, a gwn ei fod wedi bod yn gefnogol iawn i mi dros yr wythnosau diwethaf gyda'r straen a ddioddefais wrth geisio cael hyn drwodd.

Ond soniodd Sam Rowlands hefyd am newid agweddau tuag at iechyd meddwl ac fel y dywedais o'r blaen, rwy'n credu y gall y Bil hwn wneud hynny. Rwy'n credu y gallwn newid agweddau tuag at iechyd meddwl. Dim ond un cam yw hwn yn y broses o newid agweddau. Gallwn eu newid yma, ond weithiau gallwn newid drwy fesurau ac ymyriadau eraill nad ydynt yn galw am ddeddfwriaeth, ac mae hynny'n rhywbeth y gwn y bydd y Dirprwy Weinidog yn ei gyflwyno yn ei strategaeth.

Jayne Bryant, Cadeirydd fy mhwyllgor yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a hefyd ffrind i mi yn y Siambr hon, diolch am eich cefnogaeth, ac rwy'n gwybod am y gwaith rydych chi'n ei wneud yn cynrychioli plant a phobl ifanc ar draws y wlad a rhoi llais iddynt. Fel y dywedoch chi, bydd y miloedd o bobl ifanc sy'n gallu elwa drwy newid Rhan 3 o'r Mesur iechyd meddwl—mae'n mynd i'w agor fel y gallant helpu iechyd meddwl a chymorth i'w pobl ifanc. Fe ddywedoch chi am yr 20 y cant o bobl yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Os gallwn eu helpu i wella eu hurddas a'u parch a'u hiechyd meddwl, dyna rydym ni yma i'w wneud; rydym yma i helpu'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, a chredaf mai dyna fydd y ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn ei wneud.

Hoffwn ddiolch hefyd i fy nghyd-Aelod Russell George, cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, am ddangos ei adroddiad 'Cysylltu'r dotiau' i ni. Gallaf gofio darllen llawer o'r argymhellion hynny pan ddaeth i'r Senedd, ac rwy'n awyddus i edrych arno wrth symud ymlaen, ond rwyf am gadw ffocws cul iawn ar yr hyn yr edrychwn arno yma. Os gwnawn y Bil yn rhy eang, gallai rwystro gobaith y Bil o symud ymlaen, felly rwy'n awyddus i edrych arno, ond o ran sut y gallwn ei weithio i mewn i rai o fframweithiau'r hyn sydd gennym wedi'i gynnig o'n blaenau heddiw.

A Gareth, rwy'n mynd i swnio fel Gweinidog Llywodraeth Cymru nawr: ni allaf wneud sylwadau ar eich gwaith achos unigol—[Chwerthin.]—ond os hoffech ysgrifennu at un o'r Gweinidogion, rwy'n siŵr y byddant yn dod yn ôl atoch ar y mater.

Ond ar bwynt difrifol, mae'n bwysig ein bod yn malio, nid yn unig am gleifion yma yng Nghymru, ond am gleifion o Gymru sydd yn yr Alban, sydd yn Lloegr hefyd, a sicrhau bod eu hiechyd meddwl yn cael ei ddiogelu, oherwydd mae gennym ddyletswydd gofal i holl ddinasyddion Cymru ledled y wlad.

Felly, i gloi, hoffwn ddiolch i bawb a siaradodd yn y ddadl hon wrth gwrs. Fel y dywedais, rwy'n teimlo'n ostyngedig iawn ac wedi fy nghyffwrdd gan y gefnogaeth a gafodd. Fel y dywedais, mae hwn yn ddatblygiad a gyflwynwyd gennyf fi, ond rwyf am dalu teyrnged eto i'r Dirprwy Weinidog. Mae hon wedi bod yn ymdrech gydweithredol rhwng fy nhîm a Llywodraeth Cymru, ac rwy'n gobeithio y gallwn barhau â'r ymgysylltiad hwn, parhau â'r cydweithio a fu rhyngom, i greu deddfwriaeth ystyrlon yma a all sicrhau gwelliant go iawn i fywydau pobl yma yng Nghymru. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

16:30

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar reoleiddio casglwyr dyledion

Eitem 7 heddiw yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar reoleiddio casglwyr dyledion. Galwaf ar Jack Sargeant i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8419 Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio casglwyr dyledion yng Nghymru ymhellach.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio casglwyr dyledion sydd wedi cofrestru i god ymddygiad sy'n amddiffyn pobl fregus mewn argyfwng costau byw yn unig;

b) cyflwyno cod ymddygiad Cymru gyfan ar gyfer yr holl asiantau casglu dyledion sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru; ac

c) grymuso awdurdodau safonau masnach lleol ymhellach i weithredu yn erbyn asiantau sy'n camarwain preswylwyr ynghylch eu pwerau a hawliau preswylwyr.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'r syniad ar gyfer y cynnig hwn wedi datblygu ers i mi wylio gydag arswyd pur y dadleniad gan The Times y gaeaf diwethaf, a oedd yn dangos casglwyr dyledion yn gweithio ar ran Nwy Prydain yn chwerthin ac yn cellwair wrth iddynt wthio eu ffordd i mewn i gartrefi cwsmeriaid bregus. A pho fwyaf y darllenwn am ymddygiad casglwyr dyledion a beilïaid, y mwyaf penderfynol y deuthum i wneud rhywbeth. Pwrpas y ddadl hon heddiw yw archwilio sut y gallwn ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael i ni yn y Senedd hon i amddiffyn trigolion Cymru. 

Yn aml, mae yna ddryswch ynghylch y gwahaniaeth penodol rhwng beilïaid a chasglwyr dyledion, ac at ddiben y ddadl hon, rwyf eisiau archwilio sut y gallwn ddefnyddio ein pwerau i amddiffyn trigolion Cymru rhag ymddygiad gwael ymhlith y ddau grŵp. Lywydd, hoffwn ddiolch i Cyngor ar Bopeth Cymru am eu cymorth ac am y gefnogaeth y maent wedi'i rhoi i mi wrth ymchwilio i'r pwnc hwn. Mae'r enghreifftiau o ymddygiad gwael rwyf ar fin eu rhoi wedi deillio o'u gwaith yn cefnogi pobl ar adeg o angen.

Lywydd, mae un o bob tri o bobl y mae beilïaid wedi cysylltu â nhw yn ystod yr argyfwng costau byw wedi profi ymddygiad a oedd yn torri'r rheolau. Mae llawer wedi wynebu ymddygiad sy'n codi ofn arnynt. Er enghraifft, cafodd mam sengl ei deffro am 6 y bore, tra oedd hi'n dal yn dywyll, gan feilïaid gwrywaidd yn curo ar y drws. Roedd ofn ar ei phlant a thros y dyddiau canlynol, roedd hi'n rhy bryderus i allu cysgu.

Ac fel y gwelsom drwy gydol sgandal y mesuryddion rhagdalu, mae'r defnydd o gamwybodaeth hefyd yn gyffredin. Er enghraifft, Lywydd, mae cwmni sy'n gweithio yng Nghymru yn parhau i ddweud wrth eu cleientiaid y gellir eu carcharu yn y llythyrau y maent yn eu hanfon atynt. Rydym yn gwybod, onid ydym, Lywydd, nad yw hyn wedi bod yn wir ers mis Ebrill 2019.

Mewn digwyddiad arall, clampiodd beilïaid olwyn car cleient a oedd ar dramwyfa cymydog. Roeddent wedi llogi'r car hwnnw drwy'r GIG. Fe wnaeth hyn ei hatal rhag cyrraedd ei gwaith yn y gwasanaeth ambiwlans. Ac roedd hyn er gwaethaf y ffaith ei bod wedi talu'r ddyled dreth gyngor wreiddiol gydag arian a oedd yn weddill gan ei diweddar ŵr a bod y swm a oedd y ddyledus ar gyfer ffioedd y beilïaid yn unig. 

Lywydd, y gaeaf diwethaf, daethom yn ymwybodol o raddfa'r sgandal mesuryddion rhagdalu, gyda miloedd o bobl fregus wedi cael eu gorfodi i osod mesuryddion rhagdalu er bod angen cysylltiad cyson â thrydan oherwydd salwch, offer meddygol a phresenoldeb plant bach ar yr aelwyd. A daeth yn amlwg yn gyflym fod y cwmnïau'n ymddiried mewn casglwyr dyledion i farnu pa mor agored i niwed oedd pobl.

Nid yw'r sefyllfa hon yn unigryw, ac mae'n ymddangos bod casglwyr dyledion wedi'u grymuso i farnu ar ran llu o sefydliadau eraill, gan gynnwys llywodraeth leol. Mewn gwirionedd, mae hanner y trigolion sy'n troi at Cyngor ar Bopeth am gymorth gyda chasglwyr dyledion yn gwneud hynny o ganlyniad i ôl-ddyledion y dreth gyngor. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cod ymarfer statudol sy'n llywodraethu'r gwaith o gasglu dyledion y dreth gyngor yng Nghymru. Dylai hwn nodi camau i'r awdurdodau lleol eu cymryd cyn y gellir gwneud gorchymyn dyled, megis ceisio sefydlu cynllun ad-dalu fforddiadwy ac asesu pa mor agored i niwed yw pobl.

Yr hyn rydym yn ei wybod am dlodi a dyled yw ei fod yn effeithio'n anghymesur ar unigolion agored i niwed, a bod dyled, ac yn benodol, cyfranogiad casglwyr dyledion a beilïaid, yn cael effaith enfawr ar iechyd corfforol a meddyliol pobl. Lywydd, gallwn sefyll yma am beth amser a rhoi llawer mwy o enghreifftiau i chi o'r ymddygiad gwael hwnnw. Yn wir, ar ôl darllen drwy'r holl dystiolaeth sydd ar gael i mi, nid yw'n anodd dod i'r casgliad mai ymddygiad gwael yw'r norm ac ymddygiad da yw'r eithriad, a bod cynghorau lleol a llawer o sefydliadau eraill yma yng Nghymru yn ymddiried yn y bobl hyn i weithredu ar eu rhan. Lywydd, mae'n amlwg i mi fod angen mwy o reoleiddio; rwy'n gobeithio bod y ddadl heddiw yn dechrau'r broses honno. Ac fel y dywedodd fy ffrind da, ein Prif Weinidog, yn sesiwn y pwyllgor ychydig fisoedd yn ôl, fe allai ac fe ddylai'r Senedd hon wneud mwy mewn perthynas â rheoleiddio casglwyr dyledion. Rwy'n cytuno ag ef, rwy'n gobeithio y bydd ein cyd-Aelodau yn cytuno hefyd. Diolch.

16:35

O ystyried y straeon arswyd rydym i gyd wedi'u clywed, rydym yn rhannu'r pryder am y mater y mae'r Bil arfaethedig hwn yn ceisio mynd i'r afael ag ef ac yn amlwg rydym yn cefnogi'r bwriad y tu ôl iddo. Fodd bynnag, mae cyfreithwyr y Senedd wedi cynghori y byddai Bil i reoleiddio asiantaethau gorfodi dyledion y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Maent yn dweud bod hyn ar y sail fod gorfodi gorchmynion y llys yn fater a gedwir yn ôl. Mae cyfreithwyr y Senedd hefyd yn cynghori y byddai Bil i reoleiddio asiantaethau casglu dyledion hefyd yn debygol o fod y tu hwnt i gymhwysedd y Senedd. Maent yn dweud bod hyn ar y sail bod agweddau ar gasglu dyledion yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, ac felly yn debygol o ymwneud â gwasanaethau ariannol sy'n fater a gedwir yn ôl. Nodwyd hefyd y gallai'r Bil arfaethedig greu cyfyngiad cyffredinol i ryw raddau ar addasu cyfraith contract breifat mewn rhai amgylchiadau.

Y tu hwnt i hynny, mae'r manylion yn bwysig ac mae'n anodd asesu pan nad oes gennym ar hyn o bryd—nid beirniadaeth yw hon—ddim mwy na syniadau generig neu bynciau i'w trafod, er y caf fy nghynghori bod pwyntiau 2(a) a 2(c) yn ymddangos yn iawn yn y cynnig. Fodd bynnag, o ran 2(a), sy'n ceisio gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio casglwyr dyledion sy'n cofrestru i god ymddygiad sy'n amddiffyn pobl fregus mewn argyfwng costau byw yn unig, mentraf ddweud bod angen inni amddiffyn pobl fregus bob amser. Ond o ran y cod ymddygiad, ychwanegodd cyfreithwyr y Senedd, er mwyn i hyn fod o fewn y cymhwysedd, byddai'n rhaid iddo fod yn god gwirfoddol ac na ellid ei orfodi gan y byddai hyn yn gyfystyr â rheoleiddio. Hynny yw, ni allai fod yn statudol. Felly, hoffwn pe gallai'r Aelod egluro sut y byddai'n sicrhau bod cod ymddygiad o'r fath o fewn cymhwysedd y Senedd, ac os bwriedir iddo fod yn wirfoddol yn unig, pa mor effeithiol neu ymarferol fyddai hynny. Er enghraifft, cyfeiriaf at y cod morgais a gyflwynwyd yn y 1990au, yn fy swydd flaenorol, a oedd yn galluogi'r union bobl a achosodd gwymp bancio 2008 yn y pen draw i gofrestru.

Dylid nodi hefyd ei bod eisoes yn ofyniad cyfreithiol i asiantaeth casglu dyledion gofrestru fel asiantaeth casglu dyledion sy'n gallu gweithredu'n gyfreithiol ac adennill dyled ar ran credydwr. Ar ben hynny, pan fyddant wedi cofrestru, rhaid iddynt ddilyn y canllawiau a nodwyd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol a'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, a gall pob un ohonynt oruchwylio'r busnesau hynny hefyd. Mae camau adfer y gellid eu hystyried yn aflonyddgar neu'n ymosodol ac nas caniateir eisoes yn cynnwys mynd i mewn i gartref dyledwr heb gydsyniad a phwyso ar ddyledwr i wneud taliadau na allant eu fforddio. Felly, mae'n ymddangos bod y broblem go iawn yn ymwneud â gorfodaeth, ac nid deddfwriaeth, na ellir ei gorfodi, i raddau helaeth, yn anffodus, fel y byddai'r Bil hwn yn ei chyflwyno.

Rwy'n credu os gallwch ddeddfu bod Rwanda yn wlad ddiogel, mae'n debyg y gallwch ddod o hyd i ffordd o ddeddfu i amddiffyn pobl fregus.

Rwy'n ddiolchgar i Jack Sargeant am ddod a'r cynnig hwn gerbron y Senedd ac rwy'n gobeithio y bydd yna gefnogaeth unfrydol iddo. Mae Plaid Cymru yn cefnogi'r galwadau hyn er mwyn sicrhau nad yw rhai o bobl fwyaf diamddiffyn ein cymdeithas yn wynebu niwed pellach yn sgil ymddygiad beilïaid a chasglwyr dyled a'r amrywiaeth yna sydd yn y gyfundrefn o gasglu dyledion, sy'n cynnwys yr arfer o ychwanegu at ddyled sy'n ei gwneud hi'n anos i bobl ad-dalu a ffeindio'u ffordd allan o'r ddyled yna.

Mae hi bron yn ddiwedd y flwyddyn a does dim dwywaith bod 2023 wedi bod yn flwyddyn ddyled, fel dwi wedi clywed Citizens Advice Cymru yn ei galw hi. Dyled oedd testun yr ymchwiliad pwyllgor cyntaf y bues i'n rhan ohono fel Aelod newydd o'r Senedd gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r dystiolaeth glywais i ynglŷn â'r angen yna i wneud mwy i gynorthwyo teuluoedd i gadw eu pennau uwchben y dŵr, fel nad ydynt yn cael eu boddi gan y llif o ddyledion sy'n eu gwthio'n ddyfnach i'r dyfnderoedd, wir wedi aros gyda fi. Roedd yr ymchwiliad yna yn edrych ar effaith y pandemig ar ddyled, ac roedd yn glir bod y dyledion hyn wedi eu dyfnhau ac nid eu hachosi gan y pandemig. Un o alwadau canolog ein hadroddiad, bron yn union ddwy flynedd yn ôl, oedd gofyn i Lywodraeth Cymru i asesu a ddylid cryfhau protocol y dreth gyngor, gan gynnwys a ddylid ei roi ar sail statudol. Derbyniwyd hyn gan y Llywodraeth, ond eto mae'r cynnig yma heddiw yn ei gwneud hi'n glir nad yw hyn wedi cael ei weithredu'n ddigonol.

Ac yn awr, a Chymru ar ganol argyfwng arall, fel mae'r cynnig yn sôn, yr argyfwng costau byw, sydd eto yn taro'r rhai sydd mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn yr un modd anghymesur ag a wnaeth COVID, mae'r dystiolaeth yr un mor frawychus. Ac roedd y rhybuddion yn ein hadroddiad ni yn 2021 yn anffodus yn gywir. Mae pobl wedi cael eu gwthio i dlodi ar lefel Fictorianaidd. Cyflwynwyd adroddiad dilynol y pwyllgor ar ddyled ym mis Medi eleni, ac roedd yn paentio'r un fath o ddarlun tywyll. Yr hyn sy'n rhwystredig yw nad oedd y gweithredu brys i warchod pobl sy'n syrthio i ddyled, sy'n cael ei annog yn nifer o'n hargymhellion pwysicaf, eto wedi'i gyflawni.

Mae'r cynnig ger ein bron yn sôn yn benodol am sicrhau y cysondeb yna a rheoli ansawdd o ran safon y rhai sy'n casglu dyledion, a gosod y ddyletswydd yna ar gyrff cyhoeddus i ddefnyddio'r rhai sy'n cydymffurfio â'r gofynion hyn. Gwnaeth y pwyllgor, yn ein dau adroddiad ar ddyled, godi'r mater hwn, ac fe wnaethom ni hefyd glywed tystiolaeth am ddiffyg cysondeb a dulliau llawdrwm, fel gwnaethoch chi, Jack, eu hamlinellu, o ran casglu dyledion y dreth gyngor, er enghraifft. Er inni groesawu'r ffaith i'r Llywodraeth gyhoeddi adolygiad o brotocol y dreth gyngor yn sgil ein hargymhelliad, roedd yn bryderus gweld nad oedd y cam o gyflwyno'r protocol yn 2019 ar arferion casglu a gorfodi cynghorau lleol wedi cael braidd dim effaith. Eto, yr hyn rŷm ni angen gofyn—

16:40

—a'r hyn sydd angen ei sicrhau yw atal y grwpiau hyn rhag syrthio i fagl ddyled yn y lle cyntaf. Mae'n rhaid inni ofyn i'n hunain am faint yn rhagor y gwnawn ni dderbyn y sefyllfa anghynaliadwy yma, yr undeb anghytbwys sy'n achosi bod incwm gormod o bobl yn annigonol a'u triniaeth yn anghyfiawn. Dyna'r cwestiwn sy'n bwrw cysgod dros y cynnig hwn.

A gaf fi ddechrau drwy longyfarch Jack am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol gan Aelod heddiw, a thalu teyrnged i Cyngor ar Bopeth hefyd, am y gwaith da iawn y maent yn ei wneud gyda chymaint o bobl sy'n dibynnu ar eu gwasanaethau, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng costau byw? Mae'n eithaf amlwg fod problemau gwirioneddol yma y mae angen mynd i'r afael â nhw.

Yr un agwedd yr hoffwn ganolbwyntio arni yw'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi, a chael cynlluniau ar waith i sicrhau bod cynghorau yng Nghymru wedi ymrwymo i'r bwrdd hwnnw, ie, efallai ar sail wirfoddol, ond rwy'n credu ei bod yn eithaf clir fod angen sail statudol ar gyfer hynny, ac yn sicr dyna farn Cyngor ar Bopeth, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall. Mewn cyfarfod diweddar, rwy'n credu eu bod wedi egluro eu safbwynt ar hynny. Felly, pa bynnag fodd sydd ar gael, credaf y dylem ddarparu'r sail statudol honno. Yn sicr, ni allwn ddibynnu ar Lywodraeth y DU i wneud hynny drosom ni, ac rwy'n credu bod angen inni archwilio ffyrdd y gall Cymru arwain y ffordd i sicrhau bod hynny'n digwydd, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y gall Jack ymateb iddo wrth iddo grynhoi. Diolch yn fawr.

Jack, rydych chi'n hyrwyddo'r mater penodol hwn, ac rwy'n talu teyrnged i chi. Rydych chi'n codi hyn gyda ni yn gyson, ac mae'n bwysig iawn. Rwy'n llwyr gefnogi eich dull o ymdrin â hyn, ond hoffwn ddweud bod gan bobl sy'n dlawd, sydd mewn dyled, ddyledion i nifer o bobl, yn anffodus. Rwyf wedi cefnogi'r cysyniad o goelcerth ddyledion, ac mewn gwirionedd fe wnaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol—roedd hynny ddwy flynedd yn ôl, yn anghredadwy—argymhelliad fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar sut y gallem edrych ar gronfa fach i fynd i'r afael â'r nifer fach iawn o bobl hynny, unwaith eto, sydd â dyledion sylweddol. Mae'r dyledion hynny'n achosi problemau iechyd meddwl aruthrol, straen aruthrol, ac mewn gwirionedd pe gallem edrych ar rywfaint o'r arferion a'r arloesedd sy'n gysylltiedig â choelcerth dyledion, byddai hynny'n helpu. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn glywed gan y Gweinidog am gynnydd yr adolygiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud ar goelcerthi dyledion, er mwyn sicrhau bod gennym safbwynt llawer mwy cwmpasog mewn perthynas â'n teuluoedd tlotaf. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:45

Rwy'n cefnogi'r Bil a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Jack Sargeant. Pam mae pobl yn mynd i ddyled, a beth y gellir ei wneud i'w helpu? Mae rhai'n mynd i ddyled oherwydd cam-drin sylweddau neu gaethiwed gamblo. Yr hyn sydd ei angen ar y bobl hyn yw cymorth a chefnogaeth, nid casglu dyledion. Mae'r rhan fwyaf yn mynd i ddyled oherwydd digwyddiad trychinebus yn eu bywydau. Mae angladd aelod agos o'r teulu, hyd yn oed ar ei rataf, yn gostus. Un o'r achosion mwyaf cyffredin o ddyled yw gostyngiad sydyn ac annisgwyl mewn incwm, yn gysylltiedig â benthyciadau a gafwyd pan oedd incwm yn gymharol uchel a chyson. Gall hyn gael ei achosi gan salwch sydyn, fel strôc, lle mae llawer o bobl ar dâl salwch statudol ac yn methu gweithio nes iddynt wella. Mae yna rai sydd ar oriau gwarantedig isel hefyd, sy'n gweld eu horiau'n cael eu torri i'r lleiafswm a gontractiwyd. Gallwch gyfarfod â'r bobl hyn mewn banciau bwyd lleol. Wedyn mae yna bobl sy'n colli eu cyflogaeth yn annisgwyl. Yr hyn sydd ei angen ar yr holl bobl hyn yw cefnogaeth a chyngor. I lawer, dyma'r tro cyntaf iddynt orfod llywio'r system fudd-daliadau. Mae angen cymorth a chefnogaeth arnynt.

I lansio asiantaeth casglu dyledion, mae angen gofod swyddfa proffesiynol, offer swyddfa a seilwaith technoleg, gan gynnwys cyfrifiaduron, ffonau, dodrefn swyddfa a meddalwedd casglu dyledion, ac mae angen iddynt gofrestru. Gallem ei wneud yfory pe bawn i eisiau gwneud hynny. Mae America yn aml yn darparu astudiaethau mwy cywir ar y meysydd hyn. Yn America, mae cwmnïau'n anwybyddu hanes troseddol eu gweithwyr fel mater o drefn. Mae un cwmni casglu dyledion mawr wedi'i gyhuddo o fod ag o leiaf 81 o weithwyr sydd ag euogfarnau yn ei weithlu. O ganfyddiadau'r adran fasnach, mae'n ymddangos nad yw gwiriadau cefndir yn bodoli, i bob pwrpas, pan fo rhai cwmnïau casglu dyledion yn cyflogi staff. Yn 2017, tynnodd y Daily Mirror sylw at broblem lle mae cwmnïau casglu dyledion diegwyddor y DU yn honni eu bod yn broffesiynol, ond eto maent yn gweithredu agenda dywyll ac ymddangosiadol droseddol.

Yn olaf, rwyf am orffen gydag astudiaeth achos gan Cyngor ar Bopeth: Maddie yn ne Cymru, amgylchiadau agored i niwed, cynlluniau ad-dalu anfforddiadwy. Mae Maddie yn byw'n lleol. Roedd hi newydd adael perthynas ymosodol pan gysylltodd beili â hi dros ôl-ddyledion y dreth gyngor. Am ei bod yn poeni ynghylch beilïaid yn ymweld â'r man lle roedd hi'n byw, cytunodd i gynllun ad-dalu o £200 y mis, er ei bod hi'n gwybod y byddai'n ei chael hi'n anodd fforddio hyn. Daeth Maddie i weld cynghorydd Cyngor ar Bopeth gan fod yr ad-daliadau hyn yn arwain at lawer o bryder, ac roedd hi'n poeni beth fyddai'n digwydd os na allai hi barhau i'w talu. Pan edrychodd y cynghorydd ar y datganiadau ariannol gyda Maddie, roedd ganddi ddiffyg o fwy na £80 y mis. Ffoniodd cynghorydd yr asiantaeth orfodi, a gofyn i'w chyfrif gael ei rewi i adlewyrchu ei hamgylchiadau eithriadol o fregus, ond dywedwyd wrthi na fyddai hyn yn bosibl oherwydd bod eu system yn un awtomatig. Nid dyma'r byd rwyf eisiau byw ynddo, ac rwy'n cefnogi Jack Sargeant yn gryf iawn.

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl a diolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r cynnig. Wrth i'r argyfwng costau byw barhau, rwy'n gwybod bod lefelau dyledion yng Nghymru yn cynyddu, gan gynnwys dyledion sy'n ddyledus i gredydwyr sector cyhoeddus. Gwn hefyd y gall effaith dyledion problemus ar lesiant unigolion a'u teuluoedd, fel a ddisgrifiwyd heddiw, fod yn negyddol ac y gall bara'n hir. Dyna pam na allwn ganiatáu i arferion gorfodi achosi mwy fyth o niwed i bobl sy'n cael trafferth gyda dyledion. Y gaeaf diwethaf, fe welsom ni i gyd y trallod a achoswyd i filoedd o bobl gan ymddygiad brawychus cyflenwyr ynni a'u hasiantaethau, pan gafodd mesuryddion rhagdalu eu gosod dan orfod, a thynnodd Jack Sargeant ein sylw at hyn yn fedrus iawn.

Nid yw rheoleiddio'r diwydiant gorfodi yn fater datganoledig, ond mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau nad yw'r math hwn o sefyllfa byth yn digwydd eto, ac rwy'n falch fod yn rhaid i gyflenwyr ynni ddilyn rheolau llym bellach cyn y gellir gosod mesurydd rhagdalu yn anwirfoddol. Bydd y rheolau hyn yn sicrhau bod cyflenwyr ynni yn gweithredu mewn ffordd deg a chyfrifol, ac nad ydynt ond yn gosod mesurydd yn anwirfoddol fel dewis olaf un. Fe gefais gyfarfod ag Ofgem yn ddiweddar a dywedais yn glir y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r sefyllfa'n agos i sicrhau bod y rheolau'n cael eu dilyn.

Rwyf hefyd yn cydnabod y rôl bwysig sydd bellach yn cael ei chwarae gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi, fel y nodwyd heddiw, i sicrhau nad yw arferion gorfodi yn achosi unrhyw niwed pellach i bobl sy'n cael trafferth gyda dyledion. Mae'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi yn gwybod bod ganddynt gefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru yn yr ymdrech hon, ac rwy'n croesawu eu cynllun achredu a gyflwynwyd yn ddiweddar, sydd â'r nod o godi safonau a gwella atebolrwydd asiantaethau gorfodi. Mae'r cynllun hefyd yn annog credydwyr i ysgogi arferion da drwy sicrhau mai dim ond gyda chwmnïau achrededig y gallant gontractio, ac rwy'n falch fod holl arweinwyr awdurdodau lleol Cymru wedi rhoi eu hymrwymiad na fyddant ond yn defnyddio cwmnïau sydd wedi'u hachredu gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi i gasglu trethi lleol, a Chymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i fabwysiadu'r dull hwn.

Lywydd, ni allwn danamcangyfrif yr heriau ariannol sy'n wynebu aelwydydd ledled Cymru ar hyn o bryd. Mae pobl yn cael trafferth talu eu biliau, ond byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i atal pobl rhag mynd i ddyled. Un o'r camau pwysicaf y gallwn eu cymryd yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi. Mae gwneud y mwyaf o incwm aelwydwydd yn helpu pobl i aros allan o ddyled, ac mae'n flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Yn ddiweddar, cymeradwyais gyllid ychwanegol a fydd yn cadw 71 o gynghorwyr 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' yn eu swyddi tan fis Mawrth 2024. Mae'r cynghorwyr hyn yn helpu i ateb y galw a gynhyrchir gan yr argyfwng costau byw a chan ein hymgyrch lwyddiannus i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau, sydd ar waith unwaith eto y gaeaf hwn. 

Mae ein hymrwymiad i ariannu budd-daliadau Cymreig, fel y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor a phrydau ysgol am ddim, hefyd yn helpu aelwydydd incwm isel ledled Cymru i dalu eu biliau. Fodd bynnag, pan fydd pobl yn mynd i ddyled, rhaid i'r defnydd o gamau gorfodi fod yn ddewis olaf bob amser. Gall pobl adfer o ddyled, ond yr hyn sydd ei angen arnynt yw cyngor am ddim o ansawdd, nid ymweliad gan feilïaid. Dyna pam rwy'n falch o ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i ariannu gwasanaethau cynghori. Mae gwasanaeth y gronfa gynghori sengl yn helpu pobl i ymdrin â'u problemau ariannol, ynghyd â phroblemau eraill sydd ganddynt, er enghraifft gyda budd-daliadau neu dai. Mae hyn yn sicrhau bod achosion sylfaenol dyledion unigolyn yn cael sylw, a bod eu trefniadau ariannol yn cael eu rhoi ar sail fwy cynaliadwy. Ers mis Ionawr 2020, mae gwasanaeth y gronfa gynghori sengl wedi helpu dros 250,000 o bobl i ymdrin ag 1 filiwn o broblemau lles cymdeithasol. Enillodd y bobl hyn incwm ychwanegol o £132 miliwn, ac fe gafodd £36 miliwn o'u dyledion eu dileu. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r egwyddorion a nodwyd gan gynigion deddfwriaethol Jack Sargeant, ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau newid drwy gynnull, addysgu a pherswadio. Rydym yn cydnabod y pwerau cyfyngedig sydd gennym yn ein dwylo ni, ac rydym yn ymuno â galwadau am reoleiddio mwy effeithiol ar lefel y DU. Rwy'n credu ei bod hi'n ddiddorol dweud ar y pwynt hwn—gan gydnabod nad yw rheoleiddio'r diwydiant gorfodi yn fater datganoledig—ein bod ni fel Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau o fewn ein pwerau i sicrhau bod casglu ôl-ddyledion y dreth gyngor, er enghraifft, yn cael ei reoli mewn ffordd gyfiawn a sensitif. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i weithredu protocol treth gyngor Cymru, cam pwysig tuag at newid diwylliant gorfodi'r dreth gyngor yng Nghymru. Mae'n nodi dull arfer da ar gyfer awdurdodau lleol ac asiantaethau cyngor dyledion i sicrhau bod unrhyw gamau a gymerant yn gymesur, yn deg ac yn gyson. Un o ofynion allweddol y protocol yw bod pob cyngor yn darparu cymorth effeithiol i bobl fregus reoli eu dyled treth gyngor, ac yn cynnig cymorth addas os ydynt yn mynd i ddyled. Mae a wnelo hynny ag atal problemau dyledion rhag mynd allan o reolaeth drwy annog ymgysylltiad cynnar. Mae'n darparu sylfaen ar gyfer perthynas fwy adeiladol gyda thalwyr y dreth gyngor, yn enwedig pobl sy'n ei chael hi'n anodd talu.

Fel sy'n arferol gyda chynigion deddfwriaethol gan Aelodau, bydd Gweinidogion yn ymatal yn y bleidlais a bydd gan y meinciau cefn Llafur bleidlais rydd. Pan fydd pobl mewn dyled, byddwn yn eu helpu i gael gafael ar y cyngor y maent ei angen i gael rheolaeth ar eu dyledion, a byddwn yn eu hamddiffyn rhag arferion gorfodi gwael drwy ein cefnogaeth barhaus i'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi. Diolch unwaith eto, Jack Sargeant, rydych yn codi llais dros y bobl sydd wedi'u heffeithio. Diolch am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn heddiw. 

16:50

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am gyfraniadau'r Aelodau ac ymateb y Gweinidog i'r ddadl heddiw. Dylwn ddweud hefyd, fel y nododd John Griffiths, unwaith eto, diolch i Cyngor ar Bopeth Cymru, sydd wedi ymchwilio i'r pwnc hwn gyda mi ac ar fy rhan, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw ar y mater yn y dyfodol.

Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth cyd-Aelodau, yn enwedig Mike Hedges, Jane Dodds, John a Sioned, sy'n siarad am y materion hyn, rwy'n credu, lawn cymaint ag y gwnaf fi; nid fi yw'r unig berson yn y Senedd hon sy'n codi llais ynghylch y materion hyn. Rwy'n credu bod hynny'n cael ei gydnabod yn y cyfraniadau rydych chi'n eu gwneud, yn enwedig Mike Hedges: dylai 'Pam fod pobl yn mynd i ddyled, a sut y gallwn ni eu helpu?' fod yn gwestiwn y mae pawb ohonom yn ei ofyn i ni'n hunain. Sioned Williams: 'Mae angen inni atal grwpiau o bobl rhag mynd i ddyled. Ond pan fyddant yn mynd i ddyled—a bydd hynny'n digwydd—sut ydym ni'n eu hamddiffyn?' Siaradodd Jane Dodds am ymchwiliad y pwyllgor cyfiawnder cymdeithasol ar rai o'r camau a allai helpu gyda hynny. Unwaith eto, John Griffiths, rwy'n credu bod gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi rôl i'w chwarae. Yn ymateb y Gweinidog i ni heddiw, dywedodd fod cynghorau wedi cofrestru i ddefnyddio casglwyr dyledion achrededig drwy'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi yn unig, ond rydych chi'n iawn; gallai sylfaen statudol fod yn ffordd y gallem geisio cyflawni hynny, a buaswn yn cytuno.

Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood hefyd am ei gefnogaeth i egwyddorion y Bil, a'i waith ar y materion hyn hefyd, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd. Mae'n dweud, yn ei sylwadau, fod y manylion yn bwysig, ac roedd eisiau nodi rhywfaint o gymhwysedd y cynnig o'i flaen. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrtho yw fy mod yn cytuno. Rwy'n credu bod y Gweinidog wedi dweud nad yw hwn yn fater datganoledig, ond mewn gwirionedd, mae yna feysydd lle mae gennym gymhwysedd, ac os edrychwn ar lywodraeth leol yn arbennig, mae gennym bŵer dros ein hawdurdodau lleol. Ac mae'r manylion yn bwysig wrth gwrs; os bydd y cynnig hwn yn cael ei dderbyn heddiw ac os caiff gefnogaeth y Senedd, byddai'n fraint gennyf ddod yn ôl i edrych ar y manylion a sut y gallwn gyflwyno Bil, fel rydym newydd ei weld gan yr Aelod cyn yr eitem hon heddiw.

Lywydd, gorffennais fy nghyfraniad agoriadol gyda dyfyniad gan y Prif Weinidog yn y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog rai misoedd yn ôl, lle dywedodd y gallai'r Senedd hon wneud mwy ac y dylai wneud mwy ar reoleiddio casglwyr dyledion. Rwy'n dal fy hun, fel y mae llawer wedi'i wneud heddiw, yn myfyrio ar eiriau'r Prif Weinidog a llawer o'r hyn a ddywedodd. Araith enwog arall ganddo eleni, mewn gwirionedd, oedd yr un lle dywedodd ei fod yn teimlo ymdeimlad o bwrpas moesol ac ymdeimlad o ddyletswydd pan fydd yn deffro yn y bore. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Senedd gyda'r geiriau hynny mewn golwg. Ac ar ôl gweld y fideos lle gwelsom gasglwyr dyledion yn chwerthin ac yn cellwair wrth dorri i mewn i gartrefi pobl fregus, mae gennym ni, fel Aelodau o'r Senedd, ddyletswydd, mae gennym ni ymdeimlad o bwrpas moesol, i amddiffyn trigolion Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd hwn yn cael ei dderbyn. Rwy'n gobeithio gallu dod yn ôl i'r Senedd gyda Bil manwl yn y dyfodol. Diolch.

16:55

Y cwestiwn yw a ddylid nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Fe gymrwn ni bleidlais ar y cynnig yma ar ddiwedd y gwaith heddiw.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Amaeth

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Yr eitem nesaf, felly, fydd dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar amaeth, a dwi'n galw ar Sam Kurtz i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8440 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y rôl eithriadol y mae'r sector amaethyddol yn ei chwarae yng Nghymru, gydag amaethyddiaeth yn cyfrannu at dros 220,000 o swyddi.

2. Yn nodi, am bob £1 a fuddsoddir yn y sector amaethyddol, y cynhyrchir £9 i'r economi ehangach.

3. Yn dathlu'r rôl y mae ffermydd teuluol yn ei chwarae wrth gefnogi'r Gymraeg a gwead cymdeithasol cefn gwlad Cymru.

4. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno toriadau i gyllideb 2023-24 materion gwledig, sef cyfanswm o £37.5 miliwn.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd unrhyw doriadau yn cael eu gwneud i gyllideb cynllun y taliad sylfaenol ar gyfer 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Mae'n bleser agor y ddadl hon a gwneud y cynnig yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar—cynnig sy'n cydnabod, sy'n dangos gwerthfawrogiad o, ac sy'n ceisio cefnogi'r rôl hanfodol y mae ffermwyr yn ei chwarae yn ein heconomi ac yn ein cymdeithas ehangach. Ffermio yw'r llinyn arian sy'n rhedeg drwy wead hunaniaeth genedlaethol Cymru. Nid yn unig y mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn rhan hanfodol o'n heconomi, mae'n rhan o'n diwylliant cyfoethog, gan ddiogelu ein hiaith a'n harddwch amgylcheddol, gan gynhyrchu bwyd o'r ansawdd uchaf ar yr un pryd.

A minnau wedi fy magu ar y fferm deuluol yn sir Benfro, gwelais drosof fy hun y gwaith sy'n mynd i mewn i ddiwrnod ym mywyd ffermwr, ddydd ar ôl dydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yr oriau anhygoel o hir a'r gwaith caled, yn aml yn gweithio gyda'r tymhorau, er yn aml yn brwydro yn eu herbyn—dyma'r norm i ffermwyr ledled Cymru, ond eto ni ddylid cymryd yr ymroddiad hwn yn ganiataol. Mae ein ffermwyr yn gweithio drwy'r dydd, bob dydd er budd ein tir a'n pobl. Nid swydd yn unig yw'r gwaith; ni allwch glocio i mewn a chlocio allan pryd bynnag y byddwch chi'n teimlo fel gwneud hynny. Mae'n ffordd o fyw. Galwedigaeth sy'n galw am ymroddiad, aberth a sefydlogrwydd. Heb y sefydlogrwydd, y gefnogaeth a'r sicrwydd hwn, bydd y diwydiant yn dioddef, a byddem yn sicr yn gweld tystiolaeth o hynny ar draws cymunedau Cymru.

Tra bo ffermwyr yn brwydro yn erbyn natur anrhagweladwy'r tywydd, maent hefyd yn brwydro yn erbyn natur anrhagweladwy Llywodraeth Cymru bellach. Un effaith negyddol bosibl o ddiffyg sicrwydd a diffyg cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant yw llai o gymhelliant i bobl ifanc ymuno â'r diwydiant neu, mewn rhai achosion, i barhau ag etifeddiaeth eu ffermydd teuluol. Un sefydliad y siaradais amdano yn y Siambr hon o'r blaen yw'r clwb ffermwyr ifanc, sefydliad sydd wedi fy helpu i'n bersonol a miloedd o bobl eraill ledled Cymru i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol, a chan ddarparu cyfleoedd gwych ar ben hynny. Heb sector ffermio gwydn, deniadol wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn colli ein cenhedlaeth nesaf o ffermwyr i ddiwydiannau eraill.

Yng Nghymru, rydym yn falch o'n treftadaeth amaethyddol gyfoethog, gyda ffermwyr wedi bod yn meithrin y tir ac yn bugeilio anifeiliaid ers mwy na 4,000 o flynyddoedd. Gall ein tir mynyddig, ein llethrau serth a'r glawiad uchel greu heriau, ond mae ffermwyr wedi addasu a ffynnu, gan lunio ein tirwedd a chynhyrchu'r bwyd sy'n ein cynnal. Mae ystadegau diweddar yn amlygu pwysigrwydd amaethyddiaeth Cymru. Mae 90 y cant o arwynebedd tir Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth. Mae'r sector amaethyddol yn cynhyrchu canran uwch o gyfanswm gwerth ychwanegol gros Cymru na'r cyfartaledd ar draws y DU. Er gwaethaf eu cyfraniadau sylweddol, ffermwyr Cymru sy'n ennill yr elw cyfartalog isaf o bob un o bedair gwlad y DU.

Ar gyfartaledd, mae 67 y cant, dwy ran o dair o incwm ffermydd Cymru yn dod o gymorthdaliadau, ac o'r £238 miliwn a roddwyd i ffermwyr mewn cymorth drwy gynllun y taliad sylfaenol yn 2022, cynhyrchwyd allbwn gros o £2.1 biliwn. Mae hynny'n elw syfrdanol o naw i un ar fuddsoddiad cyhoeddus. Mae'r ffigurau hyn yn tanlinellu pwysigrwydd cefnogi busnesau fferm tuag at arferion ffermio cynaliadwy a sicrhau hyfywedd hirdymor amaethyddiaeth Cymru. 

Mae'r ansicrwydd ynghylch y gyllideb sydd i ddod ar gyfer y portffolio materion gwledig yn peri pryder mawr i ffermwyr ac amgylcheddwyr fel ei gilydd. Rydym wedi gweld toriad gwerth £37.5 miliwn yn ystod y flwyddyn i'r gyllideb. Mae disgwyl i gytundebau cynllun Cynefin Cymru ddechrau ymhen pythefnos, ar ôl i'r gyllideb ddrafft gael ei gosod, gan adael ein ffermwyr mewn limbo. Mae amharodrwydd Llywodraeth Cymru i ymrwymo i ddiogelu cynllun y taliad sylfaenol ar gyfer 2024, tra bo'n dyrannu arian ar gyfer blaenoriaethau eraill, yn anfon neges bryderus ynglŷn â'u hymrwymiad i amaethyddiaeth Cymru. Gadewch inni fod yn glir, mae gan Lywodraeth Cymru fynediad at y £339.6 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU sydd ei angen ar gyfer cynllun y taliad sylfaenol y flwyddyn nesaf, ac eto maent wedi methu cadarnhau y bydd hwn yn cael ei ddyrannu'n llawn i gynllun y taliad sylfaenol. Mae hyn yn awgrymu y bydd toriadau i'r gyllideb materion gwledig yn ddewis bwriadol. Dylai diogelwch a diogeledd ein sector bwyd a ffermio yng Nghymru fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ond mae cynnydd araf yn golygu ei bod yn anodd iawn i fusnesau fferm reoli'r gwaith o wneud penderfyniadau hanfodol.

Mae gan y sector hwn gymaint i'w gynnig. Cymunedau gwledig Cymru yw ceidwaid ein hiaith a'n diwylliant. Mae ffigurau'r Cyfrifiad wedi dangos bod 43 y cant o bobl mewn cymunedau amaethyddol yn siarad Cymraeg, o gymharu â dim ond 19 y cant ym mhoblogaeth ehangach Cymru. Mae ein priddoedd Cymreig yn dal cryn dipyn o garbon, sy'n eu gwneud yn adnodd gwerthfawr yn ein brwydr yn erbyn newid hinsawdd. Mae diwydiant bwyd a diod Cymru, y cyflogwr mwyaf yng Nghymru, yn dibynnu'n helaeth ar y cynhwysion crai a gynhyrchir gan ein ffermwyr, ac mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen. 

I gloi agoriad y ddadl hon, Lywydd, rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod cyfraniadau amhrisiadwy ffermwyr Cymru, ac ymrwymo i wario'r £339.6 miliwn ar gynllun y taliad sylfaenol y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn hanfodol nid yn unig ar gyfer ein bwyd, ein ffermwyr a'n cymunedau gwledig ond hefyd ar gyfer ein hanes, ein diwylliant a'n heconomi. Mae'r diwydiant ffermio yng Nghymru angen ffrind, ac mae ganddynt ffrind ar yr ochr hon i'r Siambr, ond carwn annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig i sefyll ochr yn ochr â ffermwyr Cymru yn eu brwydr am ddyfodol cynaliadwy a diogel, fel y gallant ddod o hyd i ffrindiau ym mhob cwr o'r Siambr hon. Diolch, Lywydd. 

17:00

Rwyf wedi dethol un gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig yn ffurfiol welliant 1. 

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cytuno ag egwyddor Llywodraeth Cymru fod yn rhaid i’w pholisi gadw ffermwyr Cymru ar y tir.

2. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2023 ac i beidio â dilyn y penderfyniad yn Lloegr i leihau taliadau i ffermwyr hyd at 55 y cant.

3. Yn gresynu at y niwed a achosir i allu ffermio yng Nghymru i greu gwerth economaidd a swyddi yn sgil:

a) polisi Llywodraeth y DU ar fewnfudo ers ymadael â’r UE;

b) deiliadaeth drychinebus Prif Weinidog blaenorol y DU;

c) penderfyniad Llywodraeth y DU i dynnu £243 miliwn oddi ar y cyllid ar gyfer cefnogi ffermydd yng Nghymru; a

d) penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â rhoi ymrwymiad hirdymor o ran cyllid i gefnogi ffermydd.

4. Yn cytuno bod angen cyfnod pontio teg a chyflym tuag at ddulliau ffermio cynaliadwy ar draws Cymru, er mwyn atgyfnerthu sefyllfa economaidd ffermwyr Cymru ac er mwyn osgoi effeithiau gwaethaf yr argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae Plaid Cymru yn falch iawn i gefnogi'r cynnig yma i amddiffyn taliadau sylfaenol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae e'n ategu, wrth gwrs, beth rŷn ni wedi bod yn ei godi fan hyn yn y Senedd yn gyson dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf. Dim ond yr wythnos nesaf, mi gododd arweinydd Plaid Cymru yr angen yn uniongyrchol gyda'r Prif Weinidog i fod yn warchodol o'r gyllideb wledig ar gyfer y flwyddyn nesaf. Wnes i godi gyda chi yn uniongyrchol wythnos diwethaf hefyd, Weinidog, yr angen i sicrhau bod yna gyllideb ddigonol. Ac mi ategaf i'r pwynt eto y gwnes i bryd hynny. Rŷch chi, drwy Ddeddf amaeth, yn galw ar y sector nawr i ddelifro tu hwnt i gynhyrchu bwyd pan fo'n dod i'r nwyddau cyhoeddus rŷn ni i gyd, wrth gwrs, yn awyddus i weld yn cael eu cyflawni, ond mae yna risg ar y llaw arall wedyn fod yr adnoddau sydd ar gael i gyflawni y nodau uwch yna yn cael eu lleihau. Dyw hynny ddim yn gynaliadwy. Mae'n sefyllfa annheg, ac mae'r trajectory yna, fel roeddwn i’n dweud, yn anghynaladwy. A'r risg yw, wrth gwrs, yn y pen draw y bydd ffermwyr yn cerdded i ffwrdd o raglen fel y cynllun ffermio cynaliadwy a fydd yn olynu CAP ar ôl y flwyddyn nesaf. Canlyniad hynny wedyn yw y bydd e’n tanseilio gallu'r Ddeddf amaeth i gyflawni'r nodau a'r uchelgais sydd wedi cael ei amlinellu yn y Ddeddf honno. Mi fyddai hynny'n drueni mawr, wrth gwrs, oherwydd mae'n tanseilio rhywbeth y mae'r Senedd gyfan wedi'i gefnogi yn y Ddeddf amaeth, ac rŷn ni’n falch iawn o'r elfennau rŷn ni wedi llwyddo i'w cryfhau yn y Ddeddf honno.

Mae yna gydnabyddiaeth o impact economaidd ehangach y sector—rhywbeth rŷn ni wedi clywed amdano fe nawr. Rŷn ni’n gwybod am y return on investment; wel, mae hwnna’n cael ei gydnabod yn y Ddeddf amaeth erbyn hyn. Mae yna gydnabyddiaeth o impact ieithyddol a diwylliannol y sector. Mae yna gytundeb nawr y bydd yna setliad aml-flwyddyn; wel, dyw setliad aml-flwyddyn ddim yn werth ryw lawer oni bai fod yr hyn sy’n cael ei gynnig yn y lle cyntaf yn werth i’r sector fod yn rhan ohono fe.

Felly, y risg yw, a dwi yn teimlo bod y gyllideb wythnos nesaf yn rhyw fath o litmus test pan fo’n dod i hyn o beth—mae amddiffyn taliadau uniongyrchol i’r sector yn mynd i osod y tôn ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol. Mae’n mynd i osod beth yw’r disgwyliadau yn symud ymlaen o safbwynt lefel y gefnogaeth i’r sector, a dwi’n meddwl, fan lleiaf, y dylai’r Llywodraeth fod yn edrych i warchod y BPS.

Mi drïais i holi i chi y bore yma, yn y sesiwn graffu yn y pwyllgor, ynglŷn â beth oedd eich blaenoriaethau chi oddi mewn eich cytundeb chi. Beth ŷch chi’n fwyaf gwarchodol ohono fe o fewn eich cytundeb chi? Dwi’n meddwl fy mod i wedi deall eich bod chi wedi cydnabod bod mai taliadau uniongyrchol i ffermwyr oedd y flaenoriaeth hynny. Efallai y gallech chi gadarnhau hynny, achos roedd e ychydig yn amwys, y ffordd y gwnaethoch chi ymateb i hynny.

Felly, mi fyddwn ni’n cefnogi, wrth gwrs, y cynnig yma. Dwi’n edrych ar y gwelliant gan y Llywodraeth, ac mae’n welliant ‘delete all’, ac rŷch chi’n gwybod, ar ôl y ddau air yna—wel, dyma ni eto. Efallai ein bod ni wedi bod yn euog o hynny yn y gorffennol, dwi ddim yn gwybod, ond dwi yn teimlo weithiau, os ŷch chi ddim yn cytuno, pleidleisiwch yn ei erbyn ef, a dyna fe, yn lle trio ailysgrifennu’r peth. Ond mae’n rhaid i fi fod yn onest—does dim byd i anghytuno gydag e yn y gwelliant, yn fwy na’r ffaith, wrth gwrs, eich bod chi wedi dileu’r elfen ganolog i’r cynnig yma yn y lle cyntaf, sef i warchod y BPS yn 2024. Ond dwi yn teimlo ei bod hi’n iawn eich bod chi’n tynnu sylw at agweddau fel y ffaith bod yna ostyngiad sylweddol wedi bod yn y gefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i’r hyn sy’n dod i Gymru ar gyfer gwarchod amaeth, fod yna heriau eithriadol yn mynd i fod o safbwynt y rheoliadau neu’r goblygiadau i fewnfudo pan fo’n dod i’r gadwyn gyflenwi bwyd, a’r impact andwyol mae hynny’n mynd i gael ar y sector amaeth yng Nghymru. Rŷn ni hefyd yn gweld—dechrau gweld—canlyniadau uniongyrchol negyddol o gyfeiriad rhai o’r cytundebau masnach y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’u taro hefyd, ac mae hynny’n destun consérn.

Ond fel dwi’n dweud, does dim byd i wrthwynebu per se yng ngwelliant y Llywodraeth, yn fwy na’r ffaith eich bod chi’n trio dileu pwrpas canolog y cynnig yma. Rŷn ni fel plaid yn amlwg yn mynd i gefnogi’r cynnig oherwydd, fan lleiaf, mi fyddem ni yn disgwyl i’r Llywodraeth yma amddiffyn lefel y BPS ar gyfer 2024.

17:05

Mae’n siomedig pan fyddwn yn cyflwyno dadleuon pwysig fel yr wrthblaid swyddogol, yn enwedig felly pan fo’r cynnig penodol hwn heddiw yn dangos cefnogaeth i’n ffermwyr gweithgar—. Mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'r pum pwynt roeddem yn galw amdanynt yn ffeithiau diamheuol, y buaswn wedi meddwl y gallech fod wedi’u cefnogi, Weinidog. Fel y saif pethau, mae eich penderfyniad i 'ddileu popeth' yn darllen fel a ganlyn. Mae fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, wedi datgan ar goedd ein cefnogaeth fel grŵp cyfan i’r diwydiant ffermio, ac mae eich penderfyniad yn dweud y cyfan—mae’n dweud nad yw Llywodraeth Lafur Cymru yn cydnabod y rôl eithriadol y mae’r sector amaethyddol yn ei chwarae yng Nghymru, gydag amaethyddiaeth yn cyfrannu at dros 222,000 o swyddi. Mae’n dweud nad yw Llafur Cymru yn cydnabod bod £9 yn cael ei gynhyrchu ar gyfer yr economi leol ac ehangach am bob punt a fuddsoddir yn y sector amaethyddol, ac nad yw Llafur Cymru yn dathlu’r rôl y mae ffermydd teuluol yn ei chwarae yn cefnogi’r Gymraeg a gwead cymdeithasol y Gymru wledig. Yn amlwg, mae eich ymateb i’r cynnig yr un mor ddiofal â’r geiriau a lefarwyd yn y Siambr hon yn ddiweddar, ac a oedd mor ddiangen gan Joyce Watson. A bod yn deg, mae hi wedi ymddiheuro ers hynny, ond ar y pryd—ac fe achosodd lawer o ofid yn y gymuned ffermio—fe awgrymodd efallai y gallai fod angen i ffermydd â statws haint twbercwlosis parhaol ddod o hyd i fusnes arall. Rydym yn sôn am genedlaethau o ffermwyr sydd wedi gweithio’n galed ym mhob tywydd, drwy gydol y flwyddyn, yn gorfod dod o hyd i fusnes arall. Wel, nid wyf am iddynt orfod gwneud hynny. Rwyf am iddynt barhau i wneud yr hyn y maent yn ei wneud mor dda. Rydym wedi gweld sut mae gennych agwedd wahanol yma yng Nghymru tuag at TB, ac rydym wedi gweld sut mae eu model yn gweithio yn Lloegr. Ac eto, nid ydych yn gwneud unrhyw beth i newid eich agwedd at brofi.

Symudwn ymlaen at gig oen. Rwyf wedi codi hyn sawl tro. Mae oes silff cyfartalog cig oen Cymru bellach yn 36.5 diwrnod, tra bo Seland Newydd yn parhau i osod y safon fyd-eang gyda dros 60 diwrnod ar gyfer cig oen wedi'i oeri ac wedi'i becynnu dan wactod, a hyd at 110 diwrnod ar gyfer cig oen wedi'i lanhau â nwy carbon deuocsid. Onid yw hynny'n dweud y cyfan: cig oen wedi'i lanhau â nwy carbon deuocsid, pan fo gennym y cynnyrch godidog sydd gennym, a hyn oll—[Torri ar draws.]—mae'n ddrwg gennyf—a hyn oll o ganlyniad i waith ein ffermwyr gweithgar.

Synnwyr cyffredin yw ei gwneud yn genhadaeth gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Hybu Cig Cymru yn darparu’r un cyfraddau â chig oen Seland Newydd. Ochr yn ochr â hyrwyddo cig Cymru dramor, mae angen inni fynd i’r afael â’r broblem ddifrifol ei bod yn anodd iawn dod o hyd i gig oen Cymreig ar y fwydlen mewn bwytai yng Nghymru erbyn hyn. Fel y Gweinidog, beth ydych chi'n ei wneud am hynny?

Rwyf eisoes wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol i fy nghynnig i gyflwyno siarter bwyd lleol, a chafodd ei anwybyddu gan Lafur Cymru. Byddai fel y sgôr hylendid bwyd ar y drws a fyddai’n grymuso cwsmeriaid i wybod a yw’r busnes y maent ar fin mynd iddo yn caffael ac yn gwerthu cynnyrch Cymreig lleol. Nid oes ffordd well o gefnogi ffermwyr, cynnyrch Cymreig a’r amgylchedd na'n bod ni, bobl Cymru, yn prynu cynnyrch Cymreig lle gallwn. Mae data’n dangos bod 70 y cant o bobl yng ngogledd Cymru am i gynhyrchiant bwyd y DU fod mor hunangynhaliol â phosibl, ac o’r rhai sy'n dymuno hynny, mae 71 y cant yn credu y gall Cymru chwarae rhan arweiniol neu flaenllaw mewn hunangynhaliaeth. A dweud y gwir, byddai 83 y cant o bobl sy’n byw yng gogledd Cymru hefyd yn cefnogi gweld Llywodraeth Cymru yn darparu’r cymorth ariannol ychwanegol sydd ei angen ar ffermwyr i gynhyrchu ein bwyd.

Gan fynd yn ôl at y TB—a mynd i’r afael â’r rheol ymddangosiadol afresymegol fod yn rhaid cynnal y prawf TB blynyddol rhwng 7 Gorffennaf a 8 Medi, pan fo'r gwartheg allan ar y tir gyda lloi mewn llawer o ffermydd, a byddai gallu cynnal y prawf rhwng mis Ionawr a mis Mawrth, pan fydd y stoc dan do, yn llawer mwy ymarferol ac yn ddefnyddiol iawn i’n ffermwyr. Mae angen synnwyr cyffredin hefyd wrth weithredu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Fel y gwyddoch, o 1 Awst 2024, bydd gwasgaru slyri yn cael ei wahardd am wahanol gyfnodau, megis rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr, ar bridd tywodlyd neu denau. Nid oes gan Lafur Cymru na Phlaid Cymru allu i ragweld y tywydd na’r newidiadau a welwn bellach yn ein tymhorau. Felly, mae mynnu mynd ar drywydd dyddiadau mympwyol fel y gwnewch chi yn dangos diffyg synnwyr cyffredin.

Siaradais ddoe ynglŷn â'r risg o gyfyngu ar gynhyrchiant yng Nghymru a chynyddu dibynadwyedd ar fewnforion. Felly, rwy’n cytuno â'r mwyafrif helaeth o bobl sy’n dweud eu bod yn awyddus iawn i weld mwy o gynnyrch lleol ar ein silffoedd. Weinidog, rydych yn Aelod dros etholaeth yn y gogledd, felly a wnewch chi gymryd y cam synhwyrol o gefnogi ein ffermwyr a’n hetholwyr drwy sicrhau na fydd unrhyw doriadau'n cael eu gwneud i gyllideb cynllun y taliad sylfaenol ar gyfer 2024? A wnewch chi edrych eto ar y cynllun creu coetir? Bydd cynlluniau plannu coed ar 10 y cant o'r tir ar ambell un o fy ffermydd yn Aberconwy yn golygu na fydd y fferm honno’n hyfyw.

Mae yna gymaint o ffyrdd, ac nid ydynt yn rhy anodd eu deall. Nid yw hyn yn gymhleth, wedi'r cyfan. Ond gallech chi, fel Gweinidog, wrando ar apeliadau ffermwyr Cymru, ac yn wir, arnom ni’r Ceidwadwyr Cymreig ar y meinciau hyn. Gwnewch bopeth yn eich gallu i gefnogi ein ffermwyr. Rydym wedi gweld y rhyfel yn Wcráin, ac rydym wedi gweld erchyllterau ofnadwy mewn digwyddiadau diweddar. Mae'n bwysicach nag erioed nawr. Roedd fy niweddar gyd-Aelod, Brynle Williams, yn arfer codi mater diogeledd bwyd yng Nghymru. Nawr yw’r amser, Weinidog, ichi ddangos yr ymrwymiad hwnnw i’n ffermwyr.

17:15

Dadl siomedig gan y Ceidwadwyr, oherwydd mewn gwirionedd, ni chredaf eich bod yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn y byd. Llofnododd y DU, yr wythnos diwethaf—rwy'n credu mai'r wythnos diwethaf oedd hi; gallai fod wedi bod yr wythnos cyn hynny—ddatganiad COP ar amaethyddiaeth gynaliadwy a systemau bwyd cydnerth. Felly, rydym wedi ymrwymo i gyflawni hyn ar y cyd ledled y DU, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, yn ogystal â ni ein hunain.

Felly, rhag ofn nad ydych wedi'i ddarllen, mae'n ymgorffori

'yr hawl i fwyd digonol yng nghyd-destun diogeledd bwyd cenedlaethol'

a

'sicrhau mynediad at fwyd diogel, digonol, fforddiadwy a maethlon i bawb'.

Yng nghyd-destun rhai o’r dadleuon a gawsom dros yr wythnosau diwethaf ynghylch cymaint o bobl sy'n methu cael bwyd digonol, ac nad ydym yn gallu darparu’r diogeledd bwyd hwnnw iddynt, mae’n rhaid inni newid. Ni allwn barhau â'r un hen drefn. Rydym yn ymrwymo ein hunain fel bod yn rhaid i amaethyddiaeth a systemau bwyd addasu a thrawsnewid ar fyrder er mwyn ymateb i effeithiau newid hinsawdd.

Un o effeithiau newid hinsawdd yw nad yw’r bwyd y buom yn fodlon ei fewnforio o dde Ewrop yn mynd i gyrraedd mwyach. Mae'n 29 gradd yn Sbaen ym mis Rhagfyr. Felly, rydym yn gwbl sicr na fydd yn bosibl cynhyrchu bwydydd yr ydym wedi dod i arfer â nhw o'r ffynonellau hynny. Mae angen inni ddod yn fwy gwydn a dibynnol ar ein systemau bwyd ein hunain.

Rwy'n deall yn iawn fod dwy ran o dair o incwm ffermio'n dod o gymorthdaliadau, ac nid oes gennyf unrhyw broblem o gwbl gyda pharhau i ddarparu cymorthdaliadau er mwyn cefnogi’r agwedd bwysig hon ar ein diogeledd bwyd. Ond mae'n rhaid inni sicrhau ei fod yn gwneud yr hyn y mae'n ei ddweud ar y tun, pan soniwn am amcanion rheoli tir yn gynaliadwy, a'r pwysicaf ohonynt yw rheoli bwyd yn gynaliadwy. Felly, mae'n rhaid i ni—. Mae'n rhaid i'n harferion ffermio cynaliadwy gynnwys camau i wella iechyd y pridd. Mae parhau i daflu ffosffad ar y tir mewn ymgais anobeithiol i wneud iawn am ddirywiad pridd yn achosi problemau mewn mannau eraill, wrth i ffosffad gronni yn ein dyfroedd a lladd ein pysgod. Felly, mae'n rhaid inni wneud pethau gwahanol er mwyn adfer iechyd ein pridd, sydd hefyd yn un o'r pwyntiau bwled a grybwyllwyd yn y datganiad COP hwn.

Rwy’n derbyn y pwyntiau y mae’r Aelod yn eu codi. Ond onid ydych yn cydnabod, o ystyried bod y cynllun ffermio cynaliadwy—yr union bwyntiau y cyfeiriwch atynt—yn dechrau yn 2025, ac nad oes unrhyw gyfnod pontio o gynllun y taliad sylfaenol i'r cynllun ffermio cynaliadwy, fod yr angen i gefnogi ffermwyr yn llawn yn ariannol y flwyddyn nesaf, ar gyfer blwyddyn olaf cynllun y taliad sylfaenol, yn gwbl angenrheidiol er mwyn sicrhau eu bod yn barod ar gyfer y newid i'r cynllun ffermio cynaliadwy?

Yn amlwg, nid ydym am i bobl symud oddi ar y tir, ac yna ein bod yn gorfod ailadeiladu hynny. Mae gennym drefniadau interim ar waith, ond yn y cyfamser, mae gennym gyfle byr iawn i sicrhau bod y trefniadau rheoli tir yn gynaliadwy yn iawn. Nid ydym wedi gwneud y gwaith hyd yn hyn, ac mae angen gwneud llawer iawn o waith ar hyn.

Yn yr ymateb i adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd a gyhoeddwyd gan Julie James yr wythnos diwethaf, mae rhai pethau ynddo ynglŷn â sut mae angen inni drawsnewid ein hamaethyddiaeth, ond mae’n denau, ac mae angen inni wneud llawer iawn mwy o waith. Nid gwaith Llywodraeth Cymru yn unig yw hyn. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn a’n bod yn rhoi arian tuag at y pethau cywir.

Mae angen inni siarad â’n holl ffermwyr, a’n holl sefydliadau ffermwyr, i sicrhau bod pawb yn deall nad yw peidio â newid yn opsiwn o gwbl. Ni allwn barhau yn yr un ffordd ag o'r blaen. Gallwn barhau i ddarparu cymorthdaliadau i bobl wneud y pethau y mae angen iddynt eu gwneud nawr, ac mae angen i hynny ddigwydd o fewn cynllun cydlynol ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy.

17:20

A gaf fi ddechrau drwy ddatgan buddiant fel ffermwr actif? Rwy’n falch o allu cyfrannu at y ddadl hon ar amaethyddiaeth heddiw, rhywbeth sy’n agos at fy nghalon. Mae ein ffermwyr yn hollbwysig i gadwraeth a chynaliadwyedd y wlad hon y mae pob un ohonom yn ei charu ac mor falch ohoni. Mae ein ffermwyr nid yn unig yn geidwaid y dirwedd sy’n gwneud Cymru mor arbennig, maent hefyd yn chwarae rhan enfawr yn y gwaith o'n bwydo, fel y clywsom eisoes, deirgwaith y dydd, bob dydd o’r flwyddyn. Ac mae'n rhaid inni beidio ag anghofio hynny a’r ffaith bod y diwydiant yn cyflogi dros 50,000 o bobl yn uniongyrchol.

Yng Nghymru, gallwn ymffrostio'n onest fod gennym fwyd o’r safon uchaf wedi’i gynhyrchu’n lleol, wedi’i gyflenwi yn ôl y safonau gorau yn y byd, wedi’i ategu gan allu i olrhain o’r radd flaenaf a’r safonau lles uchaf. Am ased wych yw hynny—rhywbeth sy’n aml yn cael ei anghofio gan gynifer o bobl ac sy’n cael ei gymryd yn ganiataol. Mae ffermio'n ffordd o fyw. Mae'r gwaith yn anodd, mae'r enillion yn fach, ac mae'r disgwyliadau ar ein ffermwyr yn enfawr eisoes, ond maent yn cynyddu, gan fod disgwyl iddynt wneud mwy o hyd, gan orfod bodloni un cynllun ar ôl y llall, cynlluniau sy'n aml heb gael eu cynllunio'n iawn neu heb unrhyw synnwyr cyffredin neu ddefnyddioldeb ymarferol. Mae disgwyliadau newydd yn dod â lefelau cynyddol o fiwrocratiaeth yn eu sgil, gan arwain at bwysau, straen a gorbryder aruthrol i lawer yn y gymuned ffermio. Mae llawer o ffermwyr yn bobl ymarferol; nid ydynt wedi dysgu gwneud—. Nid yw ymdrin â deddfwriaeth a'r holl fiwrocratiaeth sy'n llifo drwyddi yn dod yn naturiol.

Yn amlwg, gyda'r Nadolig ar y gorwel, bydd pobl yn edrych ar y twrci Nadolig, a byddant yn aml yn mynd at y cigyddion lleol ar gyfer hynny. Tybed a ydych yn cytuno â mi y dylai pobl fod yn ymweld â’u cigydd lleol drwy gydol y flwyddyn mewn gwirionedd, i gefnogi ffermwyr lleol, prynu’n lleol a chefnogi busnesau lleol hefyd.

Yn sicr, Tom, rwy’n cytuno. Roedd hi’n Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach yn ddiweddar, ac fe wnaethom annog pobl i fynd allan i gefnogi eu busnesau lleol a’u cigyddion lleol, ac mae hynny wedyn yn cefnogi ein ffermwyr lleol. Mae hynny’n hollbwysig. Felly, ydw, rwy’n cytuno’n llwyr.

Os adiwch yr holl fiwrocratiaeth at ei gilydd, ac ychwanegu pwysau fel TB, gallwch weld pam fod cymaint o ffermydd teuluol yn rhoi'r gorau iddi, ac yn sicr, nid oes yr un ohonom yn dymuno gweld hynny. Mae angen inni weld ein busnesau ffermio'n ffynnu, yn meithrin y genhedlaeth nesaf o ffermwyr a cheidwaid tir yng Nghymru.

Peter, rydych yn gwneud pwynt da iawn, ac rwy’n cytuno â chi ynglŷn â'r angen i gynnal ffermydd teuluol bach a chanolig oherwydd yr holl resymau a nodwyd. Mae rhywbeth wedi torri yn y farchnad, lle rydym yn gweld unedau ffermio'n cael eu cyfuno'n fwyfwy aml bellach. Mae rhywbeth o'i le gyda chynhyrchwyr, gyda manwerthwyr ac eraill os yw'r gofynion ariannol yn golygu eich bod yn gwerthu ac yn cyfuno. Mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffordd o dorri hynny hefyd, ac mae hynny'n golygu trafodaeth gyda banciau a chynhyrchwyr, proseswyr a manwerthwyr.

Huw, mae rhywbeth sylfaenol o'i le. Mae llawer o'r ffermydd teuluol bach yn cael eu rhedeg gan boblogaeth ffermio oedrannus. Nid oes llawer i gadw gwaed ifanc, dynamig yn y gymuned ffermio, gan ei bod wedi colli’r cymorth sydd ei angen arni. Mae ffermwyr ifanc yn teimlo bod angen iddynt greu bywyd iddynt eu hunain yn rhywle arall, er nad ydynt yn dymuno gadael, a dyna pam ei bod mor bwysig fod y Llywodraeth yn eu cefnogi, fod mynediad ar gael at gyfalaf rhad. Mae ffyrdd o wneud pethau, fel roedd fy Mil bwyd yn ceisio'i wneud, ceisio creu dyfodol, arallgyfeirio.

Dyna'n union yw fy mhwynt. Mae mynediad at gyfalaf rhad ar gael i rai ffermwyr, ond mae’r cyfalaf rhad hwnnw'n eu harwain i gyfeiriad penodol, a’r cyfeiriad hwnnw yw cyfuno, yn hytrach nag olyniaeth i aelodau’r teulu neu eraill, ffermwr tenant sydd am ddod i wneud y gwaith hwnnw, am fod cyfuno'n fwy proffidiol.

Mae'n ddilema i’r fferm deuluol fach ac mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i’r Llywodraeth fynd i’r afael ag ef, ac mae’r cynlluniau ychwanegol a’r pwysau a’r fiwrocratiaeth a’r pethau hynny yn achosi i bobl roi’r gorau iddi. A dyna sy'n rhaid i ni ei adolygu a meddwl amdano, ac rydym am i'n Llywodraeth fod yn bragmatig.

Mae amaethyddiaeth yn fuddsoddiad da i’r Llywodraeth, ac rydym wedi clywed y cynhyrchir £9 am bob £1 a fuddsoddir. Ar gyfer cynllun y taliad sylfaenol fe wyddom fod—. Buddsoddodd y Llywodraeth £238 miliwn yng nghynllun y taliad sylfaenol y llynedd; cynhyrchodd £2.1 biliwn. Mae hynny’n dangos bod cynllun y taliad sylfaenol yn ysgogiad allweddol i hybu’r economi yma, felly mae’n hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu’r cymorth mawr ei angen hwn i'n cymuned ffermio, yn enwedig os ydym am iddynt barhau i gyflawni popeth a wnânt ar hyn o bryd a phopeth y mae'r Llywodraeth yn ei ddisgwyl ganddynt bellach.

Yng nghyllideb y llynedd, fel y clywsom hefyd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru dorri dros 30 y cant mewn termau real oddi ar y gyllideb materion gwledig, a dilynwyd hyn, fel y gwyddom, gan doriadau arian parod pellach o oddeutu £37.5 miliwn. Golygodd hyn bron i 8 y cant o doriad i gyllideb nad yw wedi gweld cynnydd ers degawd. Ni ddylai ein diwydiant ffermio gael ei ystyried yn darged hawdd ar gyfer gwneud arbedion ariannol parhaus. Mae llawer o bobl yn y diwydiant, gan gynnwys yr undebau ffermio, yn bryderus iawn ac yn ofni toriadau pellach neu dynnu cymorth ariannol yn ôl. Gallaf ddeall pam; yn wir, yn y Siambr hon, rwyf wedi lleisio pryderon dilys cynhyrchwyr organig yn fy etholaeth sy'n wynebu ymyl dibyn yn ariannol wrth i gymorth Glastir a Glastir Uwch ddod i ben. Mae hyn mor anodd iddynt, ac i lawer o bobl eraill mewn sefyllfa debyg iddynt ledled Cymru, yn enwedig y rheini sy’n ffermio ar y gororau, lle mae ffermydd organig tebyg yn Lloegr yn dal i gael cymorth.

Fel y dywedwyd droeon, mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn hollbwysig i economi’r wlad, ac yn hollbwysig i warchod ein diwylliant a’n hiaith. Fodd bynnag, er ei fod mor bwysig am y rhesymau hyn a llawer o resymau eraill, mae’r data diweddaraf yn amlygu’r ffaith mai ffermydd yng Nghymru oedd â’r incwm isaf o bob un o’r pedair gwlad. Nid yw ein ffermwyr yn gofyn am lawer, ond mae angen i Lywodraeth Cymru eu cefnogi drwy gymorth ariannol parhaus a thrwy sefyll ochr yn ochr â’r diwydiant, gan weithio gyda nhw, nid yn eu herbyn, fel y mae’n teimlo’n rhy aml. Lywydd, rwy’n sicr yn gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cefnogi ein cynnig heddiw, yn enwedig er mwyn sicrhau na wneir unrhyw doriadau i gynllun y taliad sylfaenol y flwyddyn nesaf, cronfa hynod bwysig sy’n darparu cymorth hollbwysig i ffermwyr ledled y wlad. Diolch.

17:25

Credaf yn gryf fod arnom angen cyfnod pontio teg a chyflym i ddulliau ffermio cynaliadwy ac adfywiol er mwyn cryfhau’r sefyllfa economaidd i ffermwyr a gweithwyr amaethyddol Cymru ac i osgoi effeithiau gwaethaf yr argyfyngau hinsawdd a natur. Yn yr Almaen, mae ffermwyr yn goedwigwyr a choedwigwyr yn ffermwyr; maent yn defnyddio'r gair hwnnw ar y fferm. Roedd gennyf ddiddordeb mewn ymweld â fferm leol lle mae ffermwr ifanc yn defnyddio gwyndwn llysieuol ac roedd yn sôn am atafaelu carbon, sy’n rhoi gobaith i mi ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn siarad am ddiogeledd bwyd—mae Jenny Rathbone yn sôn amdano—ond mae ydau a dyfir yng Nghymru yn gorchuddio llai na 3 y cant o gyfanswm yr arwynebedd amaethyddol, ac un o’r ardaloedd gorau ar gyfer cynhyrchu cnydau yng ngogledd Cymru yw Sealand. Fodd bynnag, fel yr awgryma'r enw, mae’n dir isel ac yn gynyddol agored i lifogydd yn sgil newid hinsawdd. O fewn 20 mlynedd, gallai fod o dan ddŵr yn barhaol. Defnyddir 80 i 90 y cant o dir ar gyfer ffermio, ond yn bennaf ar gyfer gwartheg a defaid. Y DU yw trydydd allforiwr mwyaf y byd o gig defaid. Mae’n werth llawer i’r economi, fel y clywsom, ond ar ba gost i natur a’r hinsawdd ac i’r ffermwyr eu hunain? Pwy sy'n elwa o'r economi honno mewn gwirionedd? Nid y fferm deuluol fach.

Bwyd tymhorol sy’n cael ei dyfu’n lleol ac a gaiff ei werthfawrogi'n briodol, bwyd nad yw wedi teithio milltiroedd lawer mewn cynhwysyddion aer a chargo yw’r ffordd ymlaen, fel y mae pob un ohonom yn cytuno, rwy’n credu. Mae angen inni optimeiddio iechyd pridd, diogelu bioamrywiaeth, dal a chadw dŵr ar gyfer y cyfnodau sych cynyddol hynny, ynghyd â'r glawiadau monsŵn sy’n dod yn fwy ac yn fwy mynych.

Cafodd bron i 50 y cant o wrychoedd y DU eu colli rhwng 1945 a 1990, gan arwain at ddileu cynefinoedd pwysig, a gostyngiad mewn poblogaethau ffermydd. Arweiniodd colli'r gwrychoedd hynny at fwy o erydiad pridd, gan nad oedd gwrychoedd mwyach i weithredu fel atalfeydd gwynt. Mae'r defnydd cynyddol o blaladdwyr a chwynladdwyr wedi cynyddu llygredd dŵr, wrth iddynt gael eu golchi o gaeau mewn dŵr ffo a thrwytholch. Rydym wedi colli 97 y cant o weirgloddiau blodeuog ers y 1970au, gan arwain at golli cynefin unwaith eto i beillwyr hanfodol, sydd oll yn rhan o’r ecosystem ffermio. Mae mwy o ddealltwriaeth nawr na allwn oroesi ar ffermio ungnwd dwys ar raddfa enfawr; mae angen dull ecosystem arnom.

Fodd bynnag, mae angen buddsoddiad i newid, ac mae arnom angen Trysorlys Llywodraeth y DU sy’n credu yn y system fudd-daliadau a chyllid cyhoeddus ar gyfer cymorthdaliadau, yn enwedig gan fod Cymru bellach wedi colli cymaint ar ôl gadael yr UE. Wrth gwrs, y cyflog byw gwirioneddol i weithwyr amaethyddol yng Nghymru, maent yn aml yn cael eu cyflogi ar gyflogau isel a chontractau tymhorol, ac yn natganiad yr hydref, clywsom fod Llywodraeth y DU wedi torri hawliau gwyliau ar gyfer gweithwyr tymhorol rhan-amser, a bydd honno'n ergyd arall.

Y llynedd, cyhoeddodd y Canghellor y byddai Cymru’n cael £252.19 miliwn ar gyfer cymorth amaethyddol yn 2022-2023 yn lle cyllid polisi amaethyddol cyffredin yr UE, gyda ffermwyr Cymru’n colli £106 miliwn arall ar ben y £137 miliwn o gyllid na chafodd ei ddarparu gan y Trysorlys yn y flwyddyn flaenorol. Felly, mae methiant parhaus Llywodraeth y DU i addasu lefelau cyllid er mwyn ymdrin â chostau cynyddol yn gwaethygu effaith eu camreolaeth economaidd, yn enwedig o dan Brif Weinidog blaenorol y DU Liz Truss, gan greu pwysau chwyddiant enfawr, sydd wedi effeithio ar bawb, ac sydd wedi effeithio ar bob gwasanaeth cyhoeddus, cymhorthdal a chyllid grant.

17:30

Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl heno. Oherwydd fy rôl fel Aelod dynodedig, dwi'n mynd i orfod cyfyngu fy sylwadau i un neu ddau o feysydd allweddol yn unig, ond mae’r rhain yn feysydd perthnasol i ffermwyr, pobl a chymunedau ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Fydd hi ddim yn syndod i neb yn Siambr hon i wybod bod cynaliadwyedd cymunedau gwledig yn rhywbeth sydd yn agos iawn at fy nghalon i. Mae'n rhaid i fi ddweud bod cymaint yn y cynnig gan y Torïaid heno dwi'n cytuno ag e ar y wyneb. Ond mae'n rhaid i fi ddweud fy mod i'n ei ffeindio hi'n gwbl eironig fod y geiriau hyn yn dod gan yr wrthblaid. Dwi'n dweud hyn am dri rheswm yn benodol, ac mae’r rhain yn bethau sy’n cael eu codi gyda fi dro ar ôl tro pan dwi'n siarad â ffermwyr ar draws y rhanbarth: y cyntaf yw effaith Brexit ar y sector; yr ail yw'r toriadau ariannol gan San Steffan i'r sector amaeth; a'r trydydd yw'r cytundebau masnach y mae Llyr eisoes wedi eu crybwyll.

Mae effaith negyddol Brexit hynod galed y Torïaid ar ffermio yn real ac yn niweidiol. Fel cynifer o bobl ledled Cymru a’r DU gyfan, mae ffermwyr ac eraill yn y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth a’r sectorau lletygarwch cysylltiedig ar draws fy rhanbarth wedi tynnu fy sylw at yr effaith ddinistriol yn aml y mae cytundeb Brexit parod i'w bobi'r Ceidwadwyr wedi’i chael ar gost eu mewnforion, eu gallu i recriwtio a chadw’r staff sydd eu hangen arnynt, a’u gallu i werthu i’r farchnad Ewropeaidd. Mae’r gost a’r gwaith papur ychwanegol sy’n gysylltiedig â gwerthu i Ewrop wedi lleihau maint yr elw yn derfynol i rai cynhyrchwyr, yn anffodus. Roedd y math arbennig hwn o Brexit yn ddewis a wnaed gan y Torïaid er anfantais i ffermwyr Cymru.

Mae angen ailadrodd, wrth gwrs, na fyddem yn cael trafodaeth nawr am wasgfa ariannol ôl-Brexit ar ffermwyr Cymru oni bai am Brexit. Byddai hynny wedi dod yn awtomatig, fel y gwnaeth ers blynyddoedd lawer. Mae hyn yn ychwanegol at yr effaith ddinistriol y mae mwy na degawd o gyni dan law'r Torïaid wedi’i chael ar gyllidebau Cymru a’n cymunedau gwledig. Mae'r dull o weithredu a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU mewn adolygiadau dilynol o wariant ers 2021 wedi golygu y bydd cyllideb amaethyddol Cymru wedi colli oddeutu £248 miliwn erbyn 2025, swm syfrdanol o arian a gollwyd i economi Cymru a ffermio yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn. A fyddech yn derbyn, serch hynny, gyda Brexit, ei fod wedi agor cyfleoedd i fasnachu â gwledydd eraill, megis allforio cig oen Cymru i America, hyd yn oed? Economi fwyd enfawr yn America, a’r budd y gall hynny ei gynnig i ffermwyr Cymru, a gwledydd eraill ledled y byd hefyd. Mae'r byd yn fwy na'r UE yn unig, onid yw?

Gareth, diolch. [Torri ar draws.] Diolch, Gareth. Amserol iawn—rwy'n dod at y pwynt hwnnw nesaf.

Felly, y mater cysylltiedig olaf y mae ffermwyr o dde sir Benfro i ben draw Pen Llŷn wedi’i ddwyn i fy sylw yw canlyniadau cytundebau masnach newydd y Torïaid. Arweiniodd cytundebau ag Awstralia a Seland Newydd at gynnydd o 17 y cant—17 y cant—yn y cig oen sy'n cael ei fewnforio i’r DU o’r gwledydd hynny ar ddiwedd 2022, a gostyngodd y pris a delid i gynhyrchwyr domestig cig oen o'r ansawdd gorau 90c y cilogram, Gareth. Mae hynny'n ganlyniad uniongyrchol i'r cytundebau masnach yr ydych yn eu canmol. Ac er eu bod wedi'u canmol fel llwyddiant ysgubol pan gawsant eu llofnodi gan Weinidogion Torïaidd, yn y misoedd ers hynny, maen nhw, hyd yn oed, wedi ildio—gan gynnwys un cyn Weinidog yr amgylchedd, George Eustice—a chyfaddef bod y cytundebau masnach hynny'n fargen ofnadwy i'n ffermwyr. Dyna waddol y cytundebau diwerth a wnaed gyda gwledydd eraill dros y—

17:35

Credaf fy mod yn clywed pwynt eithriadol o dda, ond a fyddech yn nodi hefyd fod agor rhai o'r cytundebau masnach hyn yn tanseilio'n llwyr y dull o weithredu a fabwysiadwyd gennym yng Nghymru, sef dweud wrth ein ffermwyr, 'Os buddsoddwch mewn safonau lles anifeiliaid a hwsmonaeth uwch, fe gewch eich gwobrwyo'? Nawr, mae gennym Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan sy'n agor cytundebau masnach gyda safonau lles anifeiliaid is, effeithiau mawr ar newid hinsawdd, ac yn eu mewnforio i silffoedd ein harchfarchnadoedd.

Ac mae hynny'n wir. Pan edrychwch ar y safonau yn Awstralia a Seland Newydd, maent yn israddol o gymharu â'r safonau a osodwyd gan ein ffermwyr ni yma yng Nghymru. Felly, rydych yn llygad eich lle ynglŷn â hynny.

I orffen, Llywydd, mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn ei chael yn anodd cymryd pryder y Torïaid am ddyfodol ffermio yng Nghymru a'n cymunedau gwledig o ddifrif, a byddwn i'n gofyn iddyn nhw, yn garedig iawn, i hunanfyfyrio ac ystyried o ddifrif yr effaith niweidiol mae eu polisïau nhw wedi eu cael ar y sector amaeth yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn, Llywydd. [Torri ar draws.]

Diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl hon, a Weinidog, hoffwn ddweud wrthych, mae’n debyg, fy mod yn cytuno at ei gilydd â'r tri phwynt cyntaf, yn enwedig pwynt 3 y cynnig:

'Yn dathlu'r rôl y mae ffermydd teuluol yn ei chwarae wrth gefnogi'r Gymraeg a gwead cymdeithasol cefn gwlad Cymru.'

Ac mae'n sicr yn wir, fel y dywedodd Sam yn ei sylwadau agoriadol, o ran ymroddiad ac ymrwymiad ffermwyr. Ni chafodd mam a thad fy ngwraig wyliau iawn am 30 mlynedd a mwy, ac eithrio’r rhai a drefnwyd gan y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol, pan fyddent yn mynd ar wyliau gweithio i weld beth oedd yr arferion mewn gwledydd eraill a dod yn ôl wedyn i geisio eu rhoi ar waith. Y broblem yw bod dwy ran olaf eich cynnig wedi’u hysgaru oddi wrth y realiti, fel y clywsom yn y cyfraniadau gan Cefin ac eraill, o fygythiad y sefyllfa ariannol wirioneddol rydym ynddi bellach a’r ansicrwydd ynghylch cyllid yn y dyfodol. Ac mae’n rhaid i’r Gweinidog ymgodymu â hyn, gan nad yw wedi cael unrhyw sicrwydd ar hyn o bryd.

Wyddoch chi, rwy'n cytuno â chi yn yr hyn a ddywedwch? Yn ddelfrydol, wrth inni geisio gwneud yn union fel y dywedodd Carolyn, sef pontio i fodel newydd, sy'n cael ei grynhoi yn y bedwaredd ran o gynnig Llafur:

'Yn cytuno bod angen cyfnod pontio teg a chyflym tuag at ddulliau ffermio cynaliadwy ar draws Cymru, er mwyn atgyfnerthu sefyllfa economaidd ffermwyr Cymru ac er mwyn osgoi effeithiau gwaethaf yr argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd.'

Ac mewn byd delfrydol, Lywydd, byddem yn rhoi llawer iawn o gyllid tuag at hynny. Mewn byd delfrydol, byddai Llywodraeth y DU yn ein cefnogi i wneud yn union hynny, ac nid am flwyddyn yn unig, ond am ddwy, tair, pedair blynedd a phum mlynedd wedi hynny. Er yr holl feirniadu ar yr hen bolisi amaethyddol cyffredin—ac roedd llawer o feirniadu, ac roedd yn feirniadaeth ddilys—yr hyn a oedd gennych, o leiaf, oedd sicrwydd dros gyfnodau amlflwydd. Nid yw'r sicrwydd hwnnw gennym bellach. Rydym yn byw o'r llaw i'r genau o flwyddyn i flwyddyn, heb wybod.

Felly, y cwestiwn mawr i ni o ran sicrhau dyfodol ffermio gyda ffermydd teuluol bach a chanolig sy’n gwarchod gwead ein hysgolion lleol, ein siopau lleol, yr iaith Gymraeg ac ati, yw: sut y gallwn ni gyrraedd yno? Yn y cyfamser, mae'r Gweinidog yn wynebu sefyllfa anodd. Ni fuaswn yn dymuno bod yn ei hesgidiau hi ar hyn o bryd, gan ei bod yn ceisio gweithio gyda'r gymuned ffermio i ddweud, 'Wel, sut mae cyrraedd yno?' Nawr, i gyrraedd yno, mae'n rhaid inni ymdrin â phethau anodd yn ogystal. Nid wyf am fanylu arnynt heddiw gan fy mod yn siŵr y bydd cyfle arall, ond mae gennym rannau o’r system ffermio sydd wedi torri’n llwyr. Nid ydynt yn gwasanaethu'r ffermwyr na'r amgylchedd.

Buom ar ymweliad yn ddiweddar lle buom yn edrych ar rai o effeithiau ffermio llaeth dwys, ac yn y ffermydd llaeth dwys hynny, mae pridd yn dirywio. Wel, ni allwch ei alw'n bridd mwyach, gan mai mwd ydyw mewn gwirionedd: mwd gyda glyffosad, mwd heb unrhyw gnwd gorchudd o gwbl, yn rhedeg yn syth i'r nentydd, lle mae'r pyllau slyri'n gorlenwi, ac mae'n mynd yn syth i mewn i'r nentydd hyn, ac mae'r nentydd yn farw. Nid yw'r ffermwr yn ennill, gan fod y ffermwr bellach ynghlwm wrth gytundebau rhad gyda'r banc sy'n ei orfodi i gyfeiriad penodol, i gyfuno, i adeiladu ysguboriau enfawr, lle nad yw'r gwartheg byth yn gweld golau dydd na glaswellt—nid ydynt byth yn gweld porfa. Ac mae'r nentydd hynny'n farw. Ac oherwydd bod y nentydd hynny'n farw, nid yw'r eog, yr anifail rwy'n ei hyrwyddo, yn cael ffynnu yn y dyfodol ychwaith, a gwyddom pa mor anodd yw'r sefyllfa honno—a sewin ac yn y blaen.

Felly, mae rhannau o’r system ffermio wedi torri, ac wrth inni bontio ymlaen, mae angen inni atgyweirio'r rhannau hynny hefyd—a bydd cyfleoedd eraill i drafod hyn—ond mae'n ymwneud â mwy na grantiau'r Llywodraeth a chymorthdaliadau'r Llywodraeth yn unig. Mae'n ymwneud â'r cynhyrchwyr, y dosbarthwyr, cwmnïau fel Arla a Müller, y banciau mawr sy'n rhoi arian hawdd i'r ffermwyr wneud rhai pethau, wedyn mynd yn ôl a dweud, rydym am weld ffermydd teuluol bach a chanolig sy’n cynnal pob un o’n cymunedau, sy’n darparu cymunedau byw a bywiog ac yn cynnal y Gymraeg ac yn cynnal pob rhan o gefn gwlad Cymru—a chyda llaw, rhywbeth nad yw’n cael ei ddweud yn aml—sydd nid yn unig yn cynnal y gymuned wledig, ond yn creu llinyn bogail gyda chymunedau trefol hefyd. Rydym yn aml yn anghofio sôn am hynny. Mae'n ymwneud â mwy na Sadyrnau fferm agored a Suliau fferm agored yn unig; mae'n ymwneud â sut rydym yn dadlau'r achos sy'n dweud, 'Nid rhywbeth draw acw yn y cymunedau gwledig'—sef 40 y cant o fy nghymuned—'yw ffermio', mae hefyd yn ymwneud â sut rydym yn bwydo'r ysgolion, yn bwydo'r archfarchnadoedd, yn rhoi cig oen ar y silffoedd yn lleol, yn ogystal ag anfon cynnyrch da ledled y byd. Rwy'n fwy na pharod i ildio.

17:40

Diolch yn fawr iawn, Huw. A fyddech yn derbyn, serch hynny, fod y parthau perygl nitradau, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar lefel gyffredinol, wedi cosbi rhai o’r bwriadau da hynny a nodwch? Ond mae'r parthau perygl nitradau—fe sonioch chi am gemegau'n mynd i mewn i nentydd—mae'n rhaid ichi gofio nad oes nentydd ar lawer o ffermydd a thir amaethyddol, ac mae ffermydd yn fy etholaeth i'n teimlo eu bod wedi cael eu cosbi am eu bod yn byw ar dir ac nid ydynt yn ddarostyngedig i nitradau, ond teimlant eu bod yn cael eu cosbi gan y system honno am gyflawni rhai o'r nodau a grybwyllwyd gennych.

Gadewch imi fod yn onest: yn gyntaf, mae'n rhaid imi ddweud bod pob fferm yn wahanol, mae pob fferm a phob dalgylch dŵr yn wahanol ac yn y blaen, ond mae'r hyn sydd gennym wedi'i gynnig nawr—fe ddaw mewn rheoliadau hefyd—mae angen craffu gwirioneddol, cadarn, manwl sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar y rheoliadau hynny. Oherwydd os nad ydym yn gwneud hyn, bydd y sefyllfa'n parhau. Mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn diogelu, yn enwedig, y ffermydd llai a chanolig eu maint sy'n ei chael hi'n anodd buddsoddi mewn cynwysyddion slyri ac ati, ond ni allwn ganiatáu'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd: fod ffermwyr nawr yn gallu hunanatgyfeirio os ydynt yn meddwl eu bod wedi rhoi gormod ar y caeau ac ati. Mae angen inni feddwl am hyn gyda'n gilydd wrth i’r rheoliadau gael eu cyflwyno, a hynny er lles ffermio, ond er lles yr amgylchedd hefyd.

Nawr, gadewch imi ddweud hyn: mae gennyf innau gefndir gyda theulu yn y byd amaeth hefyd, nid yw'n fater o'r Ceidwadwyr yn erbyn Llafur, yn erbyn Plaid Cymru, yn erbyn y byd a'r betws; dylai pob un ohonom fod yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n dda i'r amgylchedd ac yn dda i ffermio. A gallwn ei wneud hefyd, ond i'w wneud, byddai angen sgyrsiau di-flewyn ar dafod, ac ni allwn bwyntio at y Gweinidog a dweud yn syml, 'Agorwch eich waled a rhowch yr holl arian y gallwch ei roi i ni', gan fod pob Gweinidog sy'n eistedd wrth y prif fwrdd acw'n wynebu galwadau i wneud toriadau ar hyn o bryd; a byddant yn doriadau mewn addysg mewn cymunedau gwledig ac yn doriadau mewn iechyd mewn cymunedau gwledig ac yn doriadau mewn meysydd eraill. Felly, os taflwn bopeth at gynnal y ffermwyr oherwydd y problemau y mae Llywodraeth y DU wedi’u creu nawr ar gyfer setliadau amlflwydd, yna beth arall i’r cymunedau gwledig? Ac mae'n ymwneud â mwy na ffermio'n unig: mae gan y ffermwyr hynny aelodau o'u teuluoedd sy'n addysgu, sy'n gweithio i fusnesau ar y stryd fawr ac ati. Mae'n rhaid inni wneud hyn yn iawn ar ran yr holl gymunedau gwledig, yn ogystal â sicrhau dyfodol newydd i ffermwyr, a gallai fod yn ddyfodol cyffrous iawn hefyd.

Diolch, Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r cynnig heddiw, sy’n dathlu cyfraniad economaidd ffermio yng Nghymru a phwysigrwydd buddsoddi arian cyhoeddus yn y sector. Fel y nodir yng ngwelliant y Llywodraeth, rwy'n gwahodd y Ceidwadwyr Cymreig i achub ar y cyfle yn y ddadl hon i nodi eu gwrthwynebiad i bolisïau Llywodraeth Dorïaidd y DU, sydd wedi gwneud cymaint o niwed i ffermio yng Nghymru ac i’n cymunedau Cymreig.

Mae cynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am fuddsoddiad cyhoeddus parhaus mewn ffermio a gwrthdroi gostyngiadau yn y gyllideb. Mae’n nodi gostyngiad o £37.5 miliwn yn y gyllideb materion gwledig yng Nghymru, er nad yw'n sôn fod hyn yn llai nag 20 y cant o’r £243 miliwn a dynnwyd o’r union gyllideb honno gan Lywodraeth Geidwadol y DU dros y ddwy flynedd flaenorol. Yr hyn y dylai’r Ceidwadwyr Cymreig ei wneud heddiw yw galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi’r penderfyniad hwnnw a darparu’r arian a addawyd i sector amaethyddol Cymru ym maniffesto etholiadol y Ceidwadwyr eu hunain yn 2019. Pe bai Llywodraeth y DU yn gwneud hynny, byddai gennym fwy na digon o gyllid ychwanegol i ymdrin â’r diffygion sylweddol iawn yn fy nghyllideb.

Mewn gwirionedd, er eu bod yn gresynu at bolisi Llywodraeth Cymru sydd wedi cynnal lefelau o gymorth ariannol uniongyrchol i ffermwyr, mae eu plaid yn Lloegr wedi gwneud gostyngiadau mawr iawn mewn cyllidebau ar gyfer cymorth i ffermwyr. Dros y ffin yn Lloegr, bydd y taliadau a gaiff y ffermwyr fel cymorth ariannol uniongyrchol hyd at 55 y cant yn is. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cynlluniau amaeth-amgylcheddol tameidiog i ffermydd wneud cais amdanynt ar gyfer prosiectau unigol, ac mae llawer ohonynt wedi bod yn anhygyrch a heb ddenu digon o geisiadau. Mae ffermwyr yng Nghymru wedi dweud wrthyf yn ddi-flewyn-ar-dafod pa mor falch ydynt nad yw’r polisïau hyn yn ymestyn i Gymru, a pha mor falch ydynt eu bod yn byw yng Nghymru ac nid yn Lloegr.

Tra oeddem yn aelod o’r UE, roedd cyllid fferm yn dilyn proses gyllidebol saith mlynedd, gan alluogi’r math o gynllunio hirdymor sydd ei angen er mwyn rheoli tir. Ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu peri ansicrwydd blynyddol i gyllid fferm. Y gwir amdani yw bod camreolaeth y Ceidwadwyr wedi erydu ein heconomi a’n cyllid cyhoeddus i’r graddau mai prin y gallant roi sicrwydd ariannol tan ddiwedd yr wythnos, heb sôn am ddiwedd y degawd.

Mae ein dull o weithredu yng Nghymru yn gwbl wahanol, am ein bod yn dechrau o egwyddor yr angen i gadw ein ffermwyr ar y tir. Mae polisi yn Lloegr yn fwriadol yn mynd ar drywydd dull arbed tir, gan dynnu ffermio oddi ar y tir drwy ddwysáu, ar y sail eu bod yn credu mai dyma’r opsiwn rhataf. Credwn mai dull y Ceidwadwyr yw’r presgripsiwn economaidd anghywir ar gyfer ffermio yng Nghymru. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gweld dyfodol economaidd disglair i ffermwyr Cymru, gan ddiogelu’r clytwaith presennol o fentrau fferm bach a chanolig eu maint drwy eu cefnogi i gynhyrchu bwyd mewn ffyrdd sy’n gynaliadwy—yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol.

Nid yw cynhyrchu bwyd cynaliadwy a hyfywedd economaidd ffermio yn cystadlu yn erbyn ei gilydd; mae cyswllt anorfod rhyngddynt. Yr argyfyngau hinsawdd a natur yw’r bygythiad mwyaf i allu ffermio yng Nghymru i gynhyrchu’r bwyd sydd ei angen ar bob un ohonom. Gyda'r cymorth cywir, gall treftadaeth naturiol Cymru fod yn brif amddiffyniad i'n cymunedau rhag effaith newid hinsawdd, gyda rôl ffermwyr Cymru yn allweddol i sicrhau bod ecosystemau hanfodol Cymru yn gryf ac yn gydnerth.

Wrth gwrs, mae defnyddwyr a'r gadwyn gyflenwi hefyd yn mynnu bod bwyd yn cael ei gynhyrchu mewn ffyrdd cynaliadwy. Lle mae prynwyr cynnyrch amaethyddol, i raddau mwy a mwy, yn chwilio am rinweddau amgylcheddol, mae cymorth Llywodraeth Cymru yn helpu ein ffermwyr a busnesau cadwyni cyflenwi i gyflawni safonau lles ac amgylcheddol uchel. Mae ein cymorth nid yn unig yn helpu’r gymuned ehangach, ond drwy eu cefnogi i gymryd y camau y mae’r farchnad yn gofyn amdanynt, mae’n helpu ffermwyr Cymru yn y farchnad hefyd.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cydnabod sefyllfa economaidd ffermio, ac ni fyddai’n cefnogi polisïau’r Blaid Geidwadol, sydd wedi gwneud cymaint o niwed economaidd i ffermwyr yng Nghymru. Mae polisi’r Ceidwadwyr yn Lloegr yn golygu bod ffermwyr yn wynebu toriadau cyllidebol, cynlluniau amaeth-amgylcheddol anrhagweladwy ac anghydweddol na allant gael mynediad atynt, gofynion mewnfudo a masnachu newydd cymhleth, a chyd-destun economaidd sy’n tyfu’n fwy llwm bob dydd y bydd Prif Weinidog presennol y DU yn glynu’n daer wrth rym, yn erbyn dymuniadau llawer, hyd yn oed ar ei ochr ef ei hun.

Mae angen cymorth ar ffermwyr Cymru i newid er mwyn iddynt ffynnu yn y dyfodol. Nid ydym yn credu y byddai dull y Ceidwadwyr o arbed tir, lle caiff ffermwyr eu symud oddi ar y tir, yn iawn i Gymru. Rydym yn canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau amgylcheddol drwy ffermio. Ymagwedd Llywodraeth y DU, sy'n ystyried ffermio’n sector economaidd yn union fel unrhyw sector arall, heb ystyried eu cyfrifoldebau arbennig fel stiwardiaid y tir a hoelion wyth ein cymunedau gwledig, gan fygwth tanseilio hyfywedd economaidd y sector.

Dim ond drwy newid Llywodraeth yn y DU y gellir sicrhau'r budd economaidd yr hoffwn ei weld i ffermio yng Nghymru. Ni allwn ganiatáu i fethiant Llywodraeth Geidwadol y DU i ddirnad gwerth ffermio ein dargyfeirio oddi wrth ein hymrwymiadau ein hunain. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru a’r sector ffermio fel ei gilydd yn ddiogel rhag effeithiau anghymhwysedd economaidd a chyflwr digalon cyllid cyhoeddus o dan Gangellorion Ceidwadol olynol. [Torri ar draws.] Iawn.

17:45

Diolch. Rydych yn dweud o hyd sut nad oes croeso i syniadau'r Ceidwadwyr a pholisïau'r Ceidwadwyr yn Lloegr, felly pam fod ffermwyr yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru ar eu hochr nhw ac nad ydynt at ei gilydd yn tueddu i bleidleisio dros y Blaid Lafur mewn etholiadau?

17:50

Wel, nid dyna fy mhrofiad i. Rwyf eisoes wedi dweud bod cymaint o ffermwyr Cymru wedi dweud wrthyf eu bod yn falch iawn nad ydym yn dilyn polisi arbed tir, nad ydym yn dilyn polisïau Llywodraeth y DU, a’u bod yn byw yma yng Nghymru.

Dywedaf wrth y Ceidwadwyr Cymreig heddiw mai nawr yw’r amser i sefyll dros Gymru. Mae’n bryd sefyll dros ffermwyr Cymru ac ymuno â ni i ddadlau bod angen i Gymru ddilyn ei llwybr ei hun, ac un sy’n cadw ein ffermwyr ar y tir. Heddiw, rwy’n rhoi cyfle i chi ar yr ochr honno i’r Siambr ymbellhau oddi wrth yr arbrawf polisi marchnad rydd cyfeiliornus sy’n mynd rhagddo yn Lloegr. Gallwch alw ar eich ffrindiau yn Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid llawn yn lle cyllid fferm yr UE, fel yr addawodd y Ceidwadwyr eu hunain yn y maniffesto y gwnaethant sefyll etholiad arno. Ac yn bwysicaf oll, gallwch ddweud wrth eich cyfeillion yn San Steffan ei bod hi ar ben arnynt ac y dylent wynebu’r etholwyr nawr, nid rhygnu ymlaen am 12 mis arall, fel y gall ein ffermwyr yng Nghymru, a’n holl gymunedau, gael cyfle i gael y newid y mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn teimlo ei bod yn hen bryd iddo ddigwydd bellach.

Mae'n anodd pan fyddwch yn sgriblo nodiadau ac yn ceisio dal popeth a ddywedodd pawb neu grynhoi. Ond dechreuaf drwy gyfeirio at agoriad Sam Kurtz. Fel y dywedodd, mae’r cynnig yn ceisio cefnogi’r rôl hanfodol a chwaraeir gan ein ffermwyr yn cynhyrchu bwyd, cefnogi economïau lleol a diogelu diwylliant. Soniodd fod llai a llai o gymhelliad i bobl ifanc ymuno â’r diwydiant ffermio, a’r rôl wych a chwaraeir gan ein ffermwyr ifanc. Nododd y ffaith bod dwy ran o dair o incwm ffermio Cymru yn dod o gymorthdaliadau, gan gynhyrchu elw crynswth o 9.1 y cant ar fuddsoddiad cyhoeddus. Ond wedyn, rydym wedi cael toriad yn ystod y flwyddyn i gyllidebau, a methiant i gadarnhau a fydd cyllid ar gyfer cynllun y taliad sylfaenol yn cael ei ddyrannu'n llawn i'r cynllun y flwyddyn nesaf. Fel y dywedodd, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod y cyfraniad amhrisiadwy a wneir gan ffermwyr Cymru, a dyrannu’r £339.6 miliwn llawn i gynllun y taliad sylfaenol y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Llyr Gruffydd—ac rwy'n croesawu ei sylw y bydd Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig—fod risg y bydd ffermydd yn troi eu cefnau ar raglenni fel y cynllun ffermio cynaliadwy. Cyfeiriodd at effaith ddiwylliannol ac ieithyddol y sector. Soniodd sut y byddai diogelu taliadau uniongyrchol ar gyfer y sector yn gosod y cywair ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol, a bod gwelliant ‘dileu popeth’ Llywodraeth Cymru yn achos o ‘dyma ni eto’, gan ddileu elfen ganolog y cynnig, sef diogelu cynllun y taliad sylfaenol ar gyfer 2024.

Dywedodd Janet Finch-Saunders, yn gywir ddigon, ei bod yn siomedig pan fyddwn yn cyflwyno dadleuon pwysig gyda chynigion sy'n seiliedig ar ffeithiau diamheuol, a bod Llywodraeth Lafur Cymru yn ceisio'u dileu. Soniodd am genedlaethau o ffermwyr diwyd yn gweithio drwy’r flwyddyn, a'r ymagwedd wahanol gan Lywodraeth Cymru, sy’n gadael Cymru ar ei hôl hi. Cyfeiriodd at y ffaith ei bod wedi cynnig siarter bwyd lleol, ond fe'i hanwybyddwyd gan Lywodraeth Cymru, a bod 83 y cant o bobl yng ngogledd Cymru'n cefnogi'r syniad o Lywodraeth Cymru yn darparu’r cymorth ariannol ychwanegol hwn i gynhyrchu bwyd. Mae pobl yn dymuno gweld mwy o fwyd a gynhyrchir yn lleol ar y silffoedd.

Jenny Rathbone a'i chyfraniad am y 'ddadl siomedig'—[Chwerthin.] Dyna a ddywedodd; dim ond gwneud sylw wyf fi. Dyna’n union a ddywedodd: 'dadl siomedig’. Nododd fod cytundeb cynhadledd newid hinsawdd COP yn ymgorffori’r hawl i fwyd, ond methodd nodi bod ein cynnig ni'n cefnogi hyn, ac mai Llywodraeth Cymru yw’r bygythiad posibl i’r cynllun ffermio cynaliadwy os nad yw’n ymateb yn gadarnhaol i’r cynnig hwn.

Cyfeiriodd Peter Fox at y disgwyliad—

Hoffwn nodi na allwn fod yn gwneud un peth yn COP ac yn gwneud rhywbeth arall yma. Mae'n rhaid inni gael trefn ar ein hunain er mwyn mynd ymlaen wedyn i gefnogi gweddill y byd, lle mae newid hinsawdd yn cael cymaint o effaith arnynt.

Credaf fod nifer o siaradwyr wedi gwneud y pwynt, os nad ydych yn cefnogi'r cynnig hwn yn ei hanfod, yn enwedig ei elfennau canolog, ac yn eu dileu, y byddwch chi mewn gwirionedd yn niweidio’r potensial i’r cynllun ffermio cynaliadwy fod yn llwyddiant yn y dyfodol.

Dywedodd Peter Fox fod y disgwyliadau ar ffermwyr yn cynyddu wrth iddynt wynebu gofynion parhaus i wneud mwy, gyda lefelau cynyddol o fiwrocratiaeth a phwysau. Dywedodd mai dyma pam fod cymaint o ffermydd teuluol yn rhoi'r gorau iddi pan fo angen inni eu gweld yn ffynnu. Dywedodd fod amaethyddiaeth yn fuddsoddiad da i Lywodraeth Cymru, a'i bod yn hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant. Dywedodd nad yw ein ffermydd yn gofyn am lawer, ond bod angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda nhw, nid yn eu herbyn, a sicrhau na wneir unrhyw doriadau i gynllun y taliad sylfaenol y flwyddyn nesaf.

Carolyn Thomas: rwy'n falch o’i chlywed, unwaith eto, yn ailadrodd ei chred gadarn mewn pontio i ddulliau ffermio cynaliadwy, ond dyna mae ein cynnig yn ceisio'i gefnogi, a’r hyn y byddai pleidlais yn ei erbyn yn ei beryglu. Ar wahân i hynny, yn anffodus, fe wnaeth hi osgoi'r bai drwy ailgylchu hen ymosodiadau diflas Llafur ar Lywodraeth y DU.

Soniodd Cefin Campbell, yn gywir ddigon, am bwysigrwydd y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth. Cawsom ein hatgoffa'n fanwl ganddo ei fod yn parhau i fod yn Brexiteer. Cyfeiriodd at effeithiau cyni Torïaidd. Hoffwn ei atgoffa bod y Trysorlys Llafur wedi gadael y nodyn yn dweud, 'Dim arian ar ôl’. Hoffwn ei atgoffa—ac nid jôc yw hyn—mai diffyg y DU oedd yr uchaf yn y G20. Yn yr UE, roedd y tu ôl i Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig, a dilynodd y ddwy wlad y polisïau a argymhellir gennych, ac yn y pen draw, bu’n rhaid eu hachub, gyda thoriadau enfawr yn cael eu gorfodi arnynt. Felly, byddai'r hyn rydych yn ei argymell wedi arwain at doriadau mwy nag unrhyw beth y gallech fod wedi'i ystyried.

Dewisodd Huw Irranca-Davies siarad am gronfeydd y dyfodol, nad ydynt wedi’u gwarantu—[Torri ar draws.] Nid wyf hyd yn oed wedi cyrraedd yr hyn a ddywedoch chi eto.

17:55

Wel, dyna ymyriad siomedig iawn, Lywydd. [Chwerthin.] Dewisodd yr ymyrrwr siomedig sôn am gronfeydd y dyfodol, nad ydynt wedi’u gwarantu, yn hytrach na benthyciadau, sy’n dod tuag atom. Dywedodd fod angen atgyweirio rhannau o'r system ffermio, ond wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth nad yw ffermwyr a'r undebau ffermio byth yn rhoi'r gorau i'n hatgoffa yn ei gylch.

Unwaith eto, tynnodd y Gweinidog, Lesley Griffiths, ein sylw i ffwrdd oddi wrth y materion y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt drwy ganolbwyntio ar Lywodraeth y DU ac etholiad cyffredinol nesaf y DU. Mae’n gweld dyfodol economaidd disglair i’n ffermwyr Cymreig, a dyna’n union y mae ein cynnig yn ceisio'i gefnogi, gan mai nawr yw’r amser i sefyll dros ffermwyr.

Byddai methiant gan Lywodraeth Cymru i ymateb yn gadarnhaol i’r cynnig hwn hefyd yn gwaethygu mater penodol tlodi gwledig ymhellach. Mae'n rhaid inni gydnabod y dystiolaeth y gallai tlodi gwledig gael ei guddio gan gyfoeth canfyddedig ardaloedd gwledig, a chan ddiwylliant o hunanddibyniaeth mewn cymunedau gwledig. Mae ffactorau cyfrannol allweddol yn cynnwys breuder rhai economïau gwledig, mynediad gwael at gyfleoedd cyflogaeth a gwasanaethau cyhoeddus, cyflogau isel, prinder tai fforddiadwy, ac ynysigrwydd cymdeithasol.

Gwyddom fod sylfaen sgiliau isel rhai economïau gwledig yn rhwystr i dwf economaidd a chyfleoedd cyflogaeth cyfyngedig, a all arwain at weithwyr medrus yn allfudo. Gall prinder cyfleoedd hyfforddi hefyd gyfrannu at gadw incymau'n isel. Mae nifer yr achosion o gyflogaeth fregus a chyflogau isel yn cyfrannu at y risg o dlodi mewn gwaith. Mae diffyg mynediad at wasanaethau yn ei gwneud yn anodd i rai unigolion gael gwaith. Mae trafnidiaeth gyhoeddus mewn llawer o ardaloedd gwledig yn anfynych, yn annigonol ac yn ddrytach na mewn mannau eraill. Golyga hyn ei bod yn anodd i bobl heb gludiant preifat deithio i'r gwaith. Mae prinder gofal plant fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig a mynediad cyfyngedig at y rhyngrwyd hefyd yn rhwystrau i gyfleoedd cyflogaeth.

Ceir premiwm gwledig ar rai nwyddau a gwasanaethau allweddol oherwydd diffyg marchnadoedd cystadleuol ar gyfer bwyd, tanwydd, ynni a thrafnidiaeth, gan gyfrannu at dlodi gwledig. Mae'n hysbys fod aelwydydd gwledig yn agored i dlodi tanwydd. Gall costau tai sefydlog lyncu cyfran fawr o incymau aelwydydd isel, ac mae gan lawer o ardaloedd gwledig brinder tai fforddiadwy. Yn 2020, nid oedd 19 y cant o eiddo domestig yng Nghymru wedi’u cysylltu â’r grid nwy. Dyma’r ffactorau allweddol y tu ôl i dlodi gwledig yng Nghymru y mae angen mynd i’r afael â nhw ar ôl bron i 25 mlynedd o Lywodraethau Llafur, neu Lywodraethau Cymru a arweinir gan Lafur, a gadewch i hynny fod yn rhybudd i bleidleiswyr yn Lloegr.

Rwyf am gloi drwy atgoffa’r Aelodau mai rhan ganolog o’n cynnig yw’r alwad allweddol i gynllun y taliad sylfaenol gael ei ddiogelu’n llawn y flwyddyn nesaf, a heb hynny, bydd y protestiadau, yr ymrwymiadau a’r safbwyntiau a fynegwyd gan bawb yn y Siambr hon heddiw yn creu’r gwrthwyneb i’r bwriad y mae pawb i’w weld yn dyheu amdano, sef cymuned, economi wledig a diwydiant ffermio llwyddiannus, ffyniannus, modern a chynaliadwy ledled Cymru. Os ydych yn credu yn hynny, ni ddylech gefnogi cynnig dileu popeth y rhain, dylech ddilyn bwriad y cynnig, uno y tu ôl iddo a phleidleisio o'i blaid. Diolch yn fawr.

18:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio tan y cyfnod pledleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Ac oni bai fod yna dri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud yn syth at y pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Fe fydd y bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl eitem 7, sef y cynnig deddfwriaethol gan Aelod ar Fil i reoleiddio casglwyr dyledion. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jack Sargeant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 25 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.

Eitem 7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod—Bil ar reoleiddio casglwyr dyledion: O blaid: 27, Yn erbyn: 0, Ymatal: 25

Derbyniwyd y cynnig

Bydd y pleidleisiau nesaf ar eitem 8, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar amaeth. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mi fyddaf i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y cynnig ac, felly, canlyniad y bleidlais yw bod 26 o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Amaeth. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Byddwn ni'n cynnal pleidlais, felly, ar welliant 1, a dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Amaeth. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Byddwn ni'n cynnal pleidlais nawr ar y cynnig wedi ei ddiwygio gan welliant 1. 

Cynnig NDM8440 fel y'i diwygiwyd

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn cytuno ag egwyddor Llywodraeth Cymru fod yn rhaid i’w pholisi gadw ffermwyr Cymru ar y tir.

2.  Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2023 ac i beidio â dilyn y penderfyniad yn Lloegr i leihau taliadau i ffermwyr hyd at 55 y cant.

3.  Yn gresynu at y niwed a achosir i allu ffermio yng Nghymru i greu gwerth economaidd a swyddi yn sgil:

a)  polisi Llywodraeth y DU ar fewnfudo ers ymadael â’r UE;

b)  deiliadaeth drychinebus Prif Weinidog blaenorol y DU;

c)  penderfyniad Llywodraeth y DU i dynnu £243 miliwn oddi ar y cyllid ar gyfer cefnogi ffermydd yng Nghymru; a

d)  penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â rhoi ymrwymiad hirdymor o ran cyllid i gefnogi ffermydd.

4.  Yn cytuno bod angen cyfnod pontio teg a chyflym tuag at ddulliau ffermio cynaliadwy ar draws Cymru, er mwyn atgyfnerthu sefyllfa economaidd ffermwyr Cymru ac er mwyn osgoi effeithiau gwaethaf yr argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r bleidlais yna wedi ei chymeradwyo.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Amaeth. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Dyna ni, dyna ddiwedd ar ein pleidleisio ni am heddiw ac am 2023. A gaf i gynnig Nadolig llawen ichi i gyd? Ac a gaf i ddymuno eich gweld chi nôl yn y flwyddyn newydd, wedi cyfnod a thoriad o lonydd ac o dawelwch ac, os caf i ddweud, llond bola o fwyd wedi'i gynhyrchu gan ffermwyr Cymru? Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:03.