Y Cyfarfod Llawn
Plenary
05/12/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Hefin David.
1. Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar Fil Diwygio Lesddaliadau a Rhydd-ddaliadau Llywodraeth y DU? OQ60365
Diolch yn fawr i Hefin David am y cwestiwn, Llywydd. Er bod cyfrifoldeb dros dai wedi cael ei ddatganoli, mae'r gyfraith eiddo yn fater a gedwir yn ôl. Mae diwygio lesddaliadau yn dibynnu ar y ddwy agwedd. Bydd Llywodraeth Cymru yn gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol sy'n cefnogi'r Bil, a fydd yn gwella hawliau perchnogion tai yng Nghymru.
Rwy'n credu bod rheswm da iawn i gefnogi'r Bil hwn nid yn unig ar gyfer lesddaliadau, ond hefyd i'r rhydd-ddeiliaid hynny. Mae'r Bil yn cyflwyno amddiffyniadau ar gyfer rhydd-ddeiliaid sy'n destun taliadau rheoli ystadau, fel y rhai yng Nghwm Calon yn fy etholaeth i, ac yn etholaethau eraill Aelodau yn y Siambr. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am dystiolaeth ar hyn, ac rydym ni'n falch o weld bod Llywodraeth y DU wedi gweithredu o'r diwedd i fynd i'r afael â pherchnogion tai sy'n ddarostyngedig i'r taliadau sydd wedi cael ychydig iawn o amddiffyniad cyfreithiol, a bydd y Bil yn mynd i'r afael â'r diffyg hwnnw trwy fynnu tryloywder wrth godi taliadau, a thrwy gyflwyno hawl i rydd-ddeiliaid herio eu rhesymoldeb trwy dribiwnlys.
Ond rwy'n credu y gallai Llywodraeth Cymru fynd ymhellach, ac mae fy nghyd-Aelod uchel ei barch, Jack Sargeant, fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, wrthi'n ymchwilio i hyn—mae ei bwyllgor yn ymchwilio iddo. Yr hyn yr hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn ei wneud yw cyflwyno pwyllgor cyswllt cwmnïau rheoli ystadau gorfodol i breswylwyr, fel bod pwyllgorau rheoli yn atebol i breswylwyr heb wneud preswylwyr yn atebol am gynnal a chadw eu hystadau, a hefyd cyflwyno dyletswydd ar awdurdodau lleol fel mai taliadau rheoli ystadau yw'r opsiwn olaf un.
Wel, diolch i Hefin David am y pwyntiau pellach yna, Llywydd. Mae'n iawn i ddweud bod y Bil yn ddatblygiad arwyddocaol, nid yn unig o ran hawliau lesddeiliaid, ond hawliau rhydd-ddeiliaid o dan yr amgylchiadau a nodwyd ganddo. Ac rwy'n gwbl ymwybodol o'r ymgyrch y mae wedi helpu i'w chefnogi yn ei etholaeth ei hun, ac rwy'n eithaf sicr y bydd cyd-Aelodau o gwmpas y Siambr sydd ag enghreifftiau yn eu hetholaethau eu hunain lle mae rhydd-ddeiliaid wedi bod yn destun taliadau sy'n anodd eu deall ac mae'n anodd iawn olrhain yr atebolrwydd amdanyn nhw hefyd.
Felly, mae'r Bil yn cyflwyno wyth mesur newydd. Rydych chi wedi clywed rhai ohonyn nhw, Llywydd, gan Hefin David. Ond bydd y ffaith y bydd y drefn newydd yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i daliadau ystadau adlewyrchu costau perthnasol, y bydd terfyn amser o 18 mis i godi taliadau, y bydd yn rhaid cael adroddiad blynyddol gan y cwmni sy'n derbyn y taliadau hynny i ddangos yr hyn y maen nhw wedi ei wneud i wella amodau i rydd-ddeiliaid, mae'r rheini i gyd, a mesurau eraill, yn ddatblygiad gwirioneddol, a bydd Llywodraeth Cymru yn falch o wneud cynnig cydsyniad deddfwriaethol maes o law, lle byddwn yn argymell cefnogaeth i'r Bil. Rydym ni'n parhau i fod mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU am rai manylion sy'n weddill. Nid y Bil fel y'i cyhoeddir fydd y Bil terfynol; mae ychwanegiadau i'w hychwanegu wrth iddo fynd drwy'r broses seneddol, a chefais gyfle i drafod hyn gyda'r Gweinidog cyfrifol, Michael Gove, pan gwrddais ag ef yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ychydig wythnosau yn ôl. A bydd Llywodraeth Cymru yn falch o ystyried y pwyntiau pellach y mae'r Aelod wedi eu gwneud ynghylch sut y gallem ni ychwanegu at yr amddiffyniadau ar gyfer rhydd-ddeiliaid yma yng Nghymru.
Dyna ddechrau cadarnhaol iawn i gwestiynau'r Prif Weinidog. Rwy'n sicr yn croesawu Bil Diwygio Lesddaliadau a Rhydd-ddaliadau Llywodraeth y DU. Ac mae'r ffaith eich bod chi'n mynd i gyflwyno cydsyniad deddfwriaethol hefyd, Prif Weinidog, yn wych. Effeithir ar tua 235,000 eiddo â miloedd o feddianwyr, a lesddaliadau yw tua 16 y cant o'r holl eiddo yng Nghymru. Mae'r Bil hwn yn mynd i'r afael ag un o'r heriau hirdymor y mae'r wlad yn eu hwynebu, sef tegwch yn y farchnad dai. Roedd gennyf i sefyllfa yn fy etholaeth i hyd yn oed pan oedd pobl—perchnogion cartrefi—wedi prynu eu heiddo gan feddwl eu bod nhw wedi prynu rhydd-ddaliad, a dim ond tair blynedd yn ddiweddarach y gwnaethon nhw ddarganfod, pan ofynnwyd iddyn nhw am £3,000 i brynu rhydd-ddaliad eu heiddo, cymaint yw amwysedd y maes hwnnw. Bydd y mesurau yn mynd i'r afael â chydbwysedd hanesyddol rhwng lesddeiliad a rhydd-ddeiliad, i roi bargen decach i berchnogion tai. Ac rydym ni wedi gweld, gyda'r problemau diogelwch adeiladu cladin tân, mai'r lesddeiliaid eu hunain sydd wedi cael eu hunain yn y pen draw mewn eiddo na allan nhw eu gwerthu na'u rhentu. Felly, mae'r newidiadau helaeth yn cynnwys ei gwneud yn rhatach ac yn haws i bobl—
A allwn ni gael y cwestiwn, os gwelwch yn dda, Janet Finch-Saunders?
—i ymestyn eu les neu brynu eu rhydd-ddaliad. A wnewch chi egluro sut mae Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chyflwyno cydsyniad deddfwriaethol, eisoes yn cydweithredu â Llywodraeth y DU yn ystod hynt eu Bil? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau pellach yna. Llywydd, ceir Aelodau o'r Senedd sy'n credu mewn egwyddor na ddylem ni fyth ganiatáu i ddarn o ddeddfwriaeth gael ei gymryd drwy Dŷ'r Cyffredin ar ein rhan. Nid dyna fu barn Llywodraeth Cymru erioed, oherwydd bydd achlysuron lle mae hynny o fantais i bobl yng Nghymru. Ac yn yr achos hwn, lle mae'r gyfraith yn gymhleth, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, mae tai yn gyfrifoldeb datganoledig, ond nid yw cyfraith eiddo, ac mae diwygio lesddaliadau yn dibynnu, yn hollbwysig, ar y ddau. A cheir materion yn ymwneud â'r ffin sy'n gymhleth yma hefyd, gan fod angen, rwy'n credu, i'r gyfraith ar ddwy ochr y ffin fod yr un fath, er mwyn, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, Llywydd, creu system sy'n symlach, yn haws ac yn rhatach i bobl ei defnyddio. Cafodd Llywodraeth Cymru ei chynnwys o'r cychwyn, oherwydd, wrth gwrs, mae hon yn gyfres o ddiwygiadau a arweiniwyd gan Gomisiwn y Gyfraith. Eu hadroddiad nhw sydd wedi arwain at y ddeddfwriaeth fel y mae wedi cael ei chyhoeddi bellach. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â swyddogion cyfatebol yn San Steffan a Whitehall, oherwydd, Llywydd, fel y dywedais, nid y Bil fel y'i cyhoeddwyd yn wreiddiol yw'r Bil terfynol, ac roedd Llywodraeth y DU yn eglur ynghylch hynny. Ceir gwelliannau y byddan nhw'n eu gosod, a byddwn ni eisiau ymgysylltu'n agos yn y trafodaethau hynny.
2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r gwasanaethau cymorth emosiynol sydd ar gael ar hyn o bryd i blant troseddwyr rhyw a gafwyd yn euog? OQ60389
Diolch i Peter Fox am hynna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cadeirio grŵp cyswllt teuluol Cymru ar y cyd, ynghyd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF. Mae'r grŵp hwnnw yn dod ag arweinwyr ar draws y system gyfiawnder at ei gilydd o amgylch yr un bwrdd, i wella'r cymorth sydd ar gael i blant pobl yn yr ystad garchardai.
Diolch, Prif Weinidog, am hynna. Rwy'n gwybod y byddech chi'n cytuno â mi y dylai dioddefwyr troseddwyr rhyw gael yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw wrth iddyn nhw fynd trwy sefyllfa eithriadol o ffiaidd. Fodd bynnag, yr un grŵp hwnnw o ddioddefwyr sy'n tueddu i gael ei anwybyddu yw plant y troseddwyr eu hunain. Daeth hyn i'm sylw drwy rywfaint o waith achos diweddar. Yn aml, mae'r plant hyn yn cael eu gadael yn teimlo'n anniogel, wedi'u gwrthod a'u cywilyddio gan y gweithredoedd nad oedd ganddyn nhw ddim i'w wneud â nhw o gwbl. Maen nhw eu hunain yn ddioddefwyr o ymddygiad eu rhiant, ac maen nhw'n gallu bod yn eithriadol o agored i niwed ac yn gallu dioddef yn sylweddol, gan arwain at lawer o heriau a chyflyrau—hyd yn oed pethau fel anhwylder straen wedi trawma. Pryder gwirioneddol arall i deuluoedd yw y gall troseddwyr rhyw a gafwyd yn euog yn aml gael mynediad at eu plant eu hunain, er eu bod nhw wedi'u gwahardd yn gyfreithiol o fod o fewn pellter penodol i blant eraill, sy'n peri'r un faint o bryder. Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i sicrhau bod plant troseddwyr rhyw yn cael eu nodi'n ffurfiol fel dioddefwyr ac yn cael y gefnogaeth y maen nhw'n ei haeddu fel plant diniwed?
Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â Peter Fox fod plant sy'n cael eu dal yn yr amgylchiadau hyn eu hunain yn ddioddefwyr o'r amgylchiadau hynny. Ac rwy'n cydnabod yn union yr hyn a ddywedodd Peter Fox, Llywydd, am yr ymdeimlad o gywilydd y mae'r plant yn ei deimlo am yr hyn sydd wedi digwydd o fewn eu teulu eu hunain. Yma yng Nghymru, gan ddefnyddio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, rydym ni'n gallu rhoi rhai gwasanaethau ychwanegol ar waith i helpu'r bobl ifanc hynny. Maen nhw'n cael eu darparu mewn gwahanol safleoedd yr ystad garchardai gan Barnardo's, gan sefydliad PACT, a chan sefydliad trydydd sector o'r enw Invisible Walls. Ac rydym ni hefyd yn gweithio gyda Sefydliad Lucy Faithfull. Bydd rhai cyd-Aelodau yma yn gwybod mai'r Farwnes Faithfull oedd y gweithiwr cymdeithasol cyntaf erioed i gael ei phenodi i Dŷ'r Arglwyddi. Yn ei 80au, sefydlodd sefydliad Faithfull, i atal cam-drin o dan y mathau hyn o amgylchiadau, ond yna i weithio gyda'r rhai yr effeithir arnynt pan fydd cam-drin wedi digwydd. Ac mae Llywodraeth Cymru yn gallu darparu rhywfaint o gyllid—mae'n fach, ond mae'n gyllid—ar gyfer y sefydliad er mwyn caniatáu iddyn nhw hysbysebu a chyflwyno eu gwaith mewn gwahanol rannau o Gymru.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Os caf i rannu fy nghydymdeimlad â chymuned Aberfan, sy'n mynd drwy ddigwyddiad ar hyn o bryd. Wnaf i ddim mynd ymhellach ar hynny, achos yn amlwg mae'n datblygu, wrth i ni siarad. Ond rwy'n siŵr bod meddyliau pawb gyda'r gymuned honno a'r rhai sy'n ymwneud â cheisio gwella'r sefyllfa yn ysgol gynradd Aberfan.
Prif Weinidog, heddiw, ar thema addysgol, mae canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr wedi cael eu cyhoeddi a dydyn nhw ddim yn edrych yn dda i Gymru, yn anffodus. Nid yw hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei ddweud gydag unrhyw hapusrwydd, oherwydd yn amlwg mae plentyn sy'n mynd drwy ein system addysg yn cael un tro rownd y trac. Ond, yn anffodus, y canlyniadau hyn yw rhai o'r gwaethaf erioed ac rydym ni wedi gweld y dirywiad mwyaf serth o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Mae'n deg tynnu sylw at COVID fel rhan o'r broblem, ond mae pob gwlad wedi wynebu pandemig byd-eang COVID. Mae'r dirywiad serth hwn i berfformiad yn arbennig o wael yma yng Nghymru. Mae'r ffigurau hyn gennych chi ers cryn amser. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o'r ffigurau heddiw? Ac, yn benodol, beth fydd ymateb Llywodraeth Cymru i'r ffigurau hyn?
Llywydd, yn gyntaf oll, a gaf fi adleisio'r hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid am ddigwyddiadau sy'n datblygu yn Aberfan? Roeddwn i'n ddiolchgar am y briff a gefais yn gynharach yn y dydd gan Dawn Bowden, yr Aelod etholaethol. Mae'r digwyddiadau yn parhau i ddatblygu, ac, rwy'n credu, am y tro fod ein meddyliau gyda phobl sy'n rhan ohonyn nhw a bydd mwy, rwy'n siŵr, y byddwn ni'n ei ddarganfod.
Gan droi at ganlyniadau PISA, mae'r canlyniadau yn siomedig—does dim dianc rhag hynny—ond dydyn nhw ddim yn syndod chwaith. Rwy'n credu bod y Gweinidog wedi bod yn dweud wrth y Senedd ers wythnosau lawer am y straen y mae'r system ysgolion yn ei wynebu, gyda phresenoldeb, gyda chyrhaeddiad, ac rydym ni'n ymwybodol o hyn mewn nifer o wahanol fesurau. Ac nid yw'r pethau hyn, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, yn unigryw i Gymru. Bu gostyngiadau i ganlyniadau 71 o'r 81 o wledydd sy'n cymryd rhan yn rhaglen PISA, ac maen nhw'n amlwg wedi'u cysylltu'n agos iawn, iawn ag effaith COVID. Y peth pwysig nawr yw gwneud yn siŵr y bydd y cynlluniau sydd gennym ni ar waith yn caniatáu i'r canlyniadau hynny wella eto, fel y gwnaethon nhw yn y set ddiwethaf o ganlyniadau PISA. Dyna pam mae gennym ni gynllun llythrennedd, cynllun rhifedd a chwricwlwm newydd—cwricwlwm newydd wedi'i ddylunio gyda chyngor y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, y corff sy'n gyfrifol am sgoriau PISA hefyd. Felly, er bod heddiw yn ddiwrnod siomedig, mae Cymru yn yr un sefyllfa â phob gwlad arall yn y Deyrnas Unedig. Fe wnaeth canlyniadau PISA ym mhob un o'r tri maes ym mhob gwlad arall ostwng. Rydym ni yn y sefyllfa honno hefyd, ond yn benderfynol y byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein pobl ifanc i wella a rhoi'r system ei hun yn ôl ar y trywydd iawn i wella.
Prif Weinidog, tynnais sylw yn fwriadol at bandemig COVID ac amlygais y pwynt ei fod yn bandemig byd-eang. Yn y DU, dyma'r gostyngiadau mwyaf serth i safleoedd a sgoriau PISA o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Mae cyfarwyddwr sefydliad PISA sy'n cynnal yr asesiadau hyn wedi dweud ei fod yn rhywbeth i gnoi cil drosto o ran yr hyn y mae angen ei wneud yn wahanol. Rwy'n deall, yn amlwg, fel y mae pob Aelod yn y lle hwn yn ei ddeall, bod cwricwlwm newydd ar ei ffordd, ond mae'r gostyngiadau hyn yr ydym ni wedi eu gweld mewn mathemateg, llythrennedd a'r gwyddorau yn ddirywiad mawr sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y mae gwledydd eraill wedi ei weld oherwydd y pandemig. O gofio nad fy asesiad i yw hwn, ond asesiad cyfarwyddwr sefydliad PISA, am yr hyn y mae angen ei wneud yn wahanol a bod hwn yn rhywbeth i gnoi cil drosto, a yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i'r hyn y gall ei wneud yn ystyrlon i gynorthwyo ysgolion yma yng Nghymru i wella eu perfformiad rhyngwladol? Peidiwch ag anghofio, ers i Lywodraeth Cymru gynnwys ysgolion Cymru ym mhroses arholi PISA, dim ond yn 2006, mewn gwyddoniaeth, y maen nhw erioed wedi rhagori ar gyfartaledd PISA—2006, Prif Weinidog. Mae'n haeddu ymateb mwy sylweddol na'r un yr wyf i newydd ei glywed i'm cwestiwn cyntaf, Prif Weinidog.
Wel, Llywydd, rwy'n ddiolchgar iawn i'r 2,500 o bobl ifanc hynny yng Nghymru a ymunodd â chyfundrefn PISA eleni, ac ni ddylai unrhyw beth yn y canlyniadau hyn fwrw sen arnyn nhw nac, yn wir, ar eu hysgolion. Mae llawer yr ydym ni eisiau ei wneud a llawer y byddwn ni'n ei wneud i adeiladu ar y cyngor sydd gennym ni eisoes gan yr OECD ei hun o ran sut y gellir sicrhau gwelliant.
Nid wyf i eisiau cael fy nhynnu'n ormodol i gymariaethau, Llywydd, oherwydd nid dyna yw PISA i fod. Nid tabl cynghrair mohono, ac nid yw i fod yn rhywbeth sy'n cael ei weld orau drwy lens cymhariaeth. Ond rwy'n meddwl, dim ond ar gyfer y cofnod, i fod yn eglur, bod y sgoriau mathemateg wedi gostwng yng Nghymru; fe wnaethon nhw ostwng o'r un rhif yn union ag y gostyngodd y sgoriau mathemateg yn Lloegr. Gostyngodd y sgoriau darllen yng Nghymru, fel y gwnaethon nhw ostwng ym mhob rhan arall o'r Deyrnas Unedig. Fe wnaethon nhw ostwng o'r un nifer o bwyntiau yn union ag y gostyngiad sgoriau darllen yr Alban. Mewn gwirionedd, os edrychwch chi ar draws y tri maes, roedd y gostyngiad i berfformiad mathemateg yng Nghymru yn llai nag yr oedd yn Norwy neu'r Iseldiroedd neu'r Almaen; roedd y gostyngiad i'r sgoriau darllen yn llai na'r gostyngiad yng Nghanada neu Ffrainc neu Sweden. Mae'r rhain yn ganlyniadau pwysig. Rydym ni'n eu cymryd o ddifrif. Maen nhw'n siomedig. Nid wyf i'n meddwl ei fod yn rhoi chwarae teg i bobl ifanc na'r athrawon hynny sy'n gweithio mor galed i esgus bod Cymru rywsut yn allanolyn ynddyn nhw. Rydym ni'n rhannu'r un patrwm â 71 o'r 81 o wledydd a ymunodd â chyfundrefn PISA.
Gyda pharch, Prif Weinidog, nid fy sylwadau ydy'r rheini am 'rywbeth i gnoi cil drosto' o ran yr hyn y mae angen ei wneud yn wahanol. Dyna sylwadau cyfarwyddwr system arholi PISA, nid fy rhai i fel gwleidydd, a dydw i ddim yn ceisio bychanu'r disgyblion sy'n ymuno â'r broses arholiadau hon na'r ysgolion; chi sydd yn dod â hynny at y bwrdd. Y cwbl rwyf i'n chwilio amdano gennych chi, o ystyried y perfformiad truenus yn y canlyniadau hyn—. Ac rwy'n derbyn y pwynt am y pandemig yn cael effaith, ond rydym ni wedi gweld y dirywiad mwyaf serth o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. A hyd yn oed gyda'r dirywiad y mae Lloegr wedi'i wynebu, mae eu canlyniadau nhw'n well na'r canlyniadau gorau y mae Cymru erioed wedi eu sicrhau yn y tablau arholiadau hyn. Mae hynny'n dangos lefel yr her sydd ei hangen.
Ar ôl bod yma ers rhai blynyddoedd bellach, gallaf gofio Carwyn Jones yn dod yma fel Gweinidog addysg, Huw Lewis yn dod fel Gweinidog addysg, Leighton Andrews yn dod fel Gweinidog addysg, Kirsty Williams yn dod fel Gweinidog addysg, a nawr y darpar arweinydd sy'n eistedd dwy sedd oddi wrthych chi, Jeremy Miles fel Gweinidog addysg, yn dod yma ac yn bychanu arwyddocâd y canlyniadau hyn pan fyddan nhw'n cael eu cyflwyno i'r Senedd. Ceir diffyg enfawr dros ben i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r gymuned addysg yma yng Nghymru i'n gwneud ni'n fwy cystadleuol yn rhyngwladol. Yn anffodus, nid wyf i wedi clywed gennych chi heddiw am unrhyw beth sylweddol yr ydych chi a'ch Llywodraeth wedi ei ystyried yng ngoleuni'r dirywiad serth hwn i berfformiad. Felly, a wnewch chi o leiaf ymddiheuro wrth y dysgwyr a'r athrawon hynny a'r rhai sydd â budd gorau addysg yn agos at eu calonnau yma yng Nghymru am berfformiad truenus Llywodraeth Cymru ym maes addysg dros 25 mlynedd, ac a wnewch chi gynyddu eich ymdrechion i wneud yn siŵr, pan fydd plentyn yn mynd i ysgol yng Nghymru, y bydd yn cael yr addysg orau bosibl?
Wel, Llywydd, pan ddaeth Kirsty Williams yma i adrodd ar y canlyniadau PISA diwethaf, adroddodd mai Cymru oedd yr unig ran o'r Deyrnas Unedig i weld gwelliant ym mhob un maes o PISA. Rwyf i eisiau gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yng Nghymru yn gwneud cystal ag y gallan nhw. Mae PISA yn un mesur o hynny; ond yn sicr nid dyna'r unig un. Bydd yr un plant a safodd y profion PISA yng Nghymru yn bobl ifanc a fydd, ar sail pob mesur arall, yn mynd ymlaen i gael gwell canlyniadau Safon Uwch, a gwell canlyniadau Safon Uwch mathemateg yn arbennig, na'u cymheiriaid mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Dywedais yn fy ateb gwreiddiol, Llywydd, bod y rhain yn ganlyniadau siomedig. Maen nhw, a dyna pam y byddwn ni'n eu cymryd o ddifrif ac maen nhw'n rhywbeth i feddwl amdano; rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r OECD wedi ei ddweud am hynny. Ond rwyf i hefyd yn credu ei bod hi'n bwysig cael dealltwriaeth gyflawn o'r hyn y mae ein pobl ifanc yn ei gyflawni yma yng Nghymru, o'r ymdrechion enfawr y mae'r system addysg yn eu gwneud i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwneud y gorau posibl o'u galluoedd.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes—oherwydd nid yw PISA yn syndod, o gofio'r hyn yr ydym ni eisoes wedi'i ddarganfod am effaith COVID yn ein hysgolion—mae gan Lywodraeth Cymru eisoes gynllun llythrennedd, cynllun rhifedd, cynllun i ddod ag arweinwyr addysg o gwmpas y bwrdd at ei gilydd ym mis Ionawr i fyfyrio ar y set hon o ganlyniadau ac yna i wneud yn siŵr bod y llwybr gwelliant yr oeddem ni arno y tro diwethaf y cyhoeddwyd canlyniadau PISA yn llwybr yr ydym ni'n dychwelyd iddo ar gyfer y dyfodol.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn. A gaf innau hefyd gysylltu fy hun â'r sylwadau ynglŷn â'r adroddiadau sy'n dod allan o Aberfan, a hefyd mynegi fy nghydymdeimlad â'r gymuned a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr ymateb brys?
Fel y gwelsom ni o ganlyniadau PISA heddiw, mae diffyg adnoddau ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol a'u gweithlu yn arwain at ganlyniadau negyddol. Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei pholisi mudo newydd mympwyol, gwrthgynhyrchiol ac, mewn rhai achosion, creulon, a fydd yn rhannu teuluoedd ac yn amddifadu ein gwasanaethau cyhoeddus o weithwyr hanfodol. Nawr, 'Rwy'n hoffi'r syniad,' yw sut yr ymatebodd un AS yng Nghabinet gwrthblaid Lafur y DU i'r cyhoeddiad—edmygydd arall o Thatcher, efallai—ond rwy'n gobeithio y gall y Prif Weinidog gadarnhau nad yw ef yn ei hoffi. Mae diraddio a chosbi'r rhai sy'n gofalu amdanom ni ac sy'n gallu cyfrannu at lesiant cymdeithasol ac economaidd ein cenedl yn cyd-fynd â gwerthoedd fy mhlaid. A yw'r Prif Weinidog yn arddel y gwerthoedd hynny hefyd?
Ydw, Llywydd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cael polisi mudo nad yw wedi'i fesmereiddio gan niferoedd, ond sy'n canolbwyntio ar yr anghenion sydd yma yn y wlad hon y mae angen eu diwallu a'r cyfraniad y mae pobl sy'n dod yma i helpu gyda'r anghenion hynny yn ei wneud at ein cymdeithas yma yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod na fyddai cynifer o'n gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, yn gallu diwallu anghenion pobl yma yng Nghymru pe na baem ni wedi gallu recriwtio pobl o fannau eraill i ddod i fod yn rhan o'r gweithlu hwnnw. Nid yw'r cyhoeddiad ar lefel y Deyrnas Unedig yn ddim i'w wneud â gwasanaethau cyhoeddus, nid yw'n ddim i'w wneud â pharchu pobl sy'n gweithio ynddyn nhw, mae'n ymwneud yn llwyr â gwleidyddiaeth chwiban ci cyn etholiad.
Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fuddsoddi mewn adeiladu ein gweithlu ein hunain. Mae'n amlwg mai dyna'r flaenoriaeth o hyd, ond mae hynny'n dal yn ein gadael ni'n fyr, onid ydyw? Yn ôl Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mae llai o fewnfudo ers Brexit yn cyfrannu at y lefel uchel o swyddi heb eu llenwi ym maes gofal cymdeithasol. Er bod Llywodraeth Cymru wedi rhedeg, yn glodwiw, cynllun y llynedd a lwyddodd i recriwtio tua 400 o nyrsys GIG o dramor, mae gennym ni 3,700 o swyddi nyrsio gwag o hyd, ac mae hynny wedi arwain at fil asiantaeth a gyrhaeddodd £325 miliwn y llynedd. Ond bydd y rheolau mewnfudo newydd, nad ydyn nhw'n caniatáu i weithwyr iechyd a gofal ddod â dibynyddion teuluol gyda nhw, yn gwneud yr her recriwtio hyd yn oed yn fwy. Os yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y bydd y polisi mudo hwn yn gwaethygu'r argyfwng sy'n wynebu'r sectorau nyrsio a gofal yng Nghymru, pa gynigion y mae'n bwriadu eu cyflwyno i ddiogelu nid yn unig gweithluoedd iechyd a gofal, ond hefyd sectorau allweddol eraill o'r economi hefyd?
Llywydd, ceir rhai heriau sylfaenol i ni yng Nghymru. Os edrychwch chi ar y set ddiwethaf o ffigurau ar boblogaeth Cymru, daw'r unig dwf—yr unig dwf—ym mhoblogaeth Cymru ymhlith pobl sydd wedi symud i fyw yng Nghymru. Mae ein poblogaeth ein hunain yn boblogaeth sy'n heneiddio ac yn syml nid yw'n gallu cyflenwi'r llafur sydd ei angen ar gyfer y nifer fawr o swyddi y mae angen eu gwneud. Felly, mae llawer o bethau y gallwn ni ac yr ydym ni'n eu gwneud yn fewnol o ran sgiliau, buddsoddiad, popeth yr ydym ni wedi ei wneud trwy fforwm gofal cymdeithasol fforwm partneriaeth Cymru i ganolbwyntio nid yn unig ar lefel y cyflog y mae pobl ym maes gofal cymdeithasol yn ei dderbyn, ond eu hamodau gwasanaeth a'r gwerth yr ydym ni'n ei roi i'r proffesiwn hwnnw drwy'r broses gofrestru ac ati. Felly, mae llawer y gallwn ni ei wneud, a llawer yr ydym ni'n ei wneud, ond, ar ei ben ei hun, nid yw'n cael gwared ar yr angen i ni allu recriwtio pobl o fannau eraill, ac rydym ni'n ffodus iawn eu bod nhw'n dod, i wneud eu bywydau yn rhan o'n dyfodol ni yma yng Nghymru.
Ac ar hynny, mae'r Prif Weinidog a minnau yn cytuno. Un polisi a hyrwyddwyd ers tro gan Blaid Cymru yw i Gymru gymryd y mater o fewnfudo i'w dwylo ei hun trwy sefydlu gwasanaeth cynghori ar ymfudo i Gymru. Rydym ni eisoes wedi gweld canlyniadau trychinebus, a bod yn blaen, system fewnfudo'r Torïaid ar ôl Brexit. Fe wnaethom ni ei weld pan aethon nhw i sefyllfa o banig ar ôl darganfod nad oedd ganddyn nhw ddigon o yrwyr cerbydau nwyddau trwm yn ystod yr argyfwng tanwydd. Rydym ni wedi ei weld pan fu'n rhaid gadael cnydau yn pydru mewn caeau, a nawr, wrth iddyn nhw foddio'r asgell dde Dorïaidd, wrth i boblogrwydd Prif Weinidog y DU blymio, mae ganddyn nhw danseilio'r GIG yn eu golygon hefyd. Nawr, gyda hyn oll mewn golwg, a yw'r Prif Weinidog yn cefnogi galwadau Plaid Cymru i Gymru allu gosod ei pholisi mewnfudo ei hun, ac a fydd yn dadlau dros hynny gydag arweinydd ei blaid ei hun, neu a ddylid gadael tynged GIG Cymru ar drugaredd polisi mudo'r Torïaid neu hyd yn oed Gweinidogion Llafur sy'n hoffi'r syniad?
Wel, Llywydd, mae hwn yn syniad cymhleth, a cheir llawer o anfanteision iddo yn ogystal â manteision—ac mae manteision iddo, ac rwy'n gwybod hynny gan fy mod i wedi bod yn rhan o drafodaethau manwl iawn ochr yn ochr â swyddogion cyfatebol o'r Alban yn ystod y trafodaethau Brexit, lle'r oedd posibilrwydd difrifol ar un adeg y byddai set o fisâu wedi cael ei neilltuo i Gymru a'r Alban y byddem ni wedi gallu eu defnyddio ar ein telerau ein hunain, ac archwiliwyd y syniad hwnnw yn drwyadl iawn. Yn y pen draw, cafodd ei wrthod, ac rwy'n credu, o'r cof, iddo gael ei wrthod gan ein swyddogion cyfatebol yn yr Alban hefyd, ar sail y telerau y'i cynigiwyd, gan y byddech chi wedyn yn cystadlu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig sydd â fisâu hefyd ac yn gallu eu defnyddio mewn ffordd sy'n rhagori ar leoedd y tu mewn i'r un wlad.
Nawr, ar y pryd, nid oedd yn ymddangos i mi fod hwnnw yn gam a oedd yn debygol o fod yn fanteisiol i Gymru, ac, yn y diwedd, roedd yn gam na aethpwyd ar ei drywydd. Ond, yn ystod y trafodaethau, archwiliwyd yr anfanteision yn ogystal â manteision y camau y mae Plaid Cymru bellach yn eu cefnogi, a'r cwbl y byddwn i'n ei ddweud wrth yr Aelod yw ei fod ychydig yn fwy cymhleth nag y mae'n ymddangos ar yr olwg gyntaf.
3. Sut mae'r Lywodraeth yn gwneud yn siŵr fod pob person yng Nghymru sydd yn derbyn diagnosis o awtistiaeth neu ADHD yn derbyn gwybodaeth safonol am ffynonellau cefnogaeth, effaith y ddiagnosis, a beth yw eu hawliau o safbwynt gwasanaethau a budd-daliadau? OQ60372
Diolch yn fawr i Heledd Fychan, Llywydd, am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwerthusiad o’r cod ymarfer ar gyflawni gwasanaethau awtistiaeth. Mae'r adroddiad diweddaraf yn nodi meysydd o arfer da, ond mae hefyd yn awgrymu bod angen safoni gwybodaeth a bod angen gwella mynediad at y wybodaeth honno cyn ac ar ôl diagnosis.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog, am y gydnabyddiaeth yna.
Cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda Stiwdio 37, cwmni budd cymunedol sy'n ymroddedig i gynnig cyfleoedd cyflogaeth cynhwysol. Maen nhw'n cynorthwyo yn benodol unigolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth a rhwystrau eraill yn y gweithle yn Rhondda Cynon Taf. Yn ystod ein trafodaeth, dysgais am rai o'r heriau a wynebir gan eu cleientiaid, gyda rhai ohonynt wedi cael diagnosis yn ddiweddar yn unig. Un her fawr yw'r anghysondeb hwnnw o ran gwybodaeth, ac mae'r tîm staff yno yn cynnwys 18 o bobl niwroamrywiol a chafodd 12 ohonyn nhw eu diagnosis fel oedolion. Cafodd llai na hanner ohonyn nhw wybodaeth am eu diagnosis a sut i gael gafael ar gymorth, a arweiniodd at rwystredigaeth ac anawsterau, y mae rhai ohonyn nhw'n parhau.
O'u gwaith yn y gymuned ehangach, amlygodd Stiwdio 37 hefyd bod dosbarthiad gwybodaeth ar ôl diagnosis yn anghyson ar y gorau. Felly, mae'r ddau ohonom ni'n cydnabod bod problem, felly sut fydd Llywodraeth Cymru yn gwella'r cysondeb hwnnw o ran gwybodaeth a roddir i unigolion ag awtistiaeth neu ADHD yn dilyn eu diagnosis ar draws Canol De Cymru a thu hwnt?
Diolch i Heledd Fychan am y cwestiwn pellach yna, Llywydd. Mae'n tynnu sylw at fater pwysig, bod y rhain yn gyflyrau niwroddatblygiadol, ac y gallan nhw ddod i'r amlwg ar wahanol adegau yng nghwrs bywyd pobl, ac mae'r pwyslais a'r sefyllfa o ran gwybodaeth a fu am oedolion, lle mae niwroamrywiaeth yn dod i'r amlwg yn y rhan honno o'u cwrs bywyd, wedi bod yn llai nag y bu yn y gorffennol lle mae plant yn y cwestiwn. Felly, mae'r sefyllfa o ran gwybodaeth a dealltwriaeth ei hun yn datblygu. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi £11.5 miliwn yn y rhaglen gwella niwrowahaniaeth. Yn gynharach y mis diwethaf, ar 14 Tachwedd, gwnaeth Julie Morgan, y Gweinidog sy'n gyfrifol, ddatganiad llafar yma ar lawr y Senedd, lle nododd sut y bydd rhaglen £12 miliwn arall yn cael ei chanolbwyntio i wneud rhai o'r pethau y mae'r Aelod wedi tynnu sylw atyn nhw yma heddiw. O ran y ddarpariaeth o wybodaeth, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, Llywydd, mae'r adroddiad cyntaf hwnnw sy'n gwerthuso'r cod ymarfer awtistiaeth, er ei fod yn dod o hyd i arferion da—yn Aneurin Bevan, er enghraifft—mae'n tynnu sylw at yr angen i safoni'r wybodaeth sydd ar gael ac i wneud yn siŵr bod pob rhan o Gymru yn dilyn yr arferion gorau sydd ar gael yma. Felly, mae £4.5 miliwn o'r £12 miliwn wedi cael ei ryddhau i'r gwasanaeth eleni, ac mae rhoi sylw i'r ddarpariaeth honno o wybodaeth yn rhan bwysig o'r hyn y bwriedir i'r £4.5 miliwn hwnnw ei gefnogi.
Prif Weinidog, fel y gwyddoch, cynigiais y Bil Awtistiaeth (Cymru) rai blynyddoedd yn ôl, ac, yn fy marn i, roedd yn un ffordd o fynd i'r afael â'r bylchau o ran anghysondeb yn y ddarpariaeth ledled Cymru. Yn wir, roedd yn Fil a oedd yn bwriadu gweithio ochr yn ochr â strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru, nid yn eu herbyn, ac efallai ei fod yn gyfle i ddangos i'r gymuned awtistiaeth bod ymrwymiad trawsbleidiol gwirioneddol i wella eu bywydau. Wrth gwrs, dewisodd y Llywodraeth beidio â mynd i lawr y llwybr hwnnw, ac eto mae arosiadau am ddiagnosis yn parhau i fod yn eithriadol o uchel, a hyd yn oed ar ôl diagnosis mae bylchau ac anghysondeb yn y ddarpariaeth sydd ar gael. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni am un cam cadarnhaol sydd wedi mynd i'r afael â'r bylchau hyn yn y ddarpariaeth ers i'm Bil fethu? Ac o gofio mai ychydig iawn o gynnydd sydd wedi bod, a wnaiff Llywodraeth Cymru ailystyried bellach cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn?
Wel, Llywydd, rwy'n credu bod ymrwymiad trawsbleidiol o hyd i wella gwasanaethau ar gyfer pobl â chyflyrau niwroamrywiol, ac mae'r rhaglen wella niwroamrywiol yn un enghraifft yn unig o waith a roddwyd ar waith ers y dadleuon hynny gryn amser yn ôl. Felly, mae'r cyfuniad o fuddsoddiad newydd, gwell dealltwriaeth, arolwg gweithlu diweddar i wneud yn siŵr y gallwn ni wella'r hyfforddiant sydd ar gael i bobl sy'n dod i gysylltiad â phobl â chyflyrau niwrowahanol, mae'r rheini i gyd, rwy'n credu, yn gamau ymarferol y gall Llywodraeth Cymru gyfeirio atyn nhw o ran bwrw ymlaen â'r ymrwymiad trawsbleidiol i wneud mwy i helpu pobl â chyflwr. Oherwydd, er bod amseroedd aros yn rhy hir, mae llawer mwy o bobl yn cael gwasanaeth heddiw nag oedd erioed yn cael gwasanaeth yn y gorffennol gan fod llawer mwy o bobl yn ymwybodol o'r cyflyrau hyn a llawer mwy o bobl yn cyflwyno eu hunain am gymorth nag erioed o'r blaen. Felly, mewn ffordd baradocsaidd, mae'n llwyddiant o godi ymwybyddiaeth, mae'n llwyddiant o fod â mwy o wasanaethau ar waith sy'n dod â'r galw hwnnw, y galw nas bodlonir hwnnw i'r wyneb.
Wel, Prif Weinidog, mae fy nghoesau yn dal i frifo ar ôl mynd â'm merch awtistig i drampolinio yn Buzz gyda grŵp anghenion dysgu ychwanegol y Sparrows, sy'n grŵp gwirfoddol yng Nghaerffili, ac maen nhw'n gwneud gwaith anhygoel.
Rwy'n gwybod sut beth yw'r daith pan fyddwch chi'n mynd am ddiagnosis, ond nid wyf i'n credu mai Bil yw'r ateb; rwyf i'n credu bod yr ateb yn bodoli yn adroddiad 'Dim Drws Anghywir' y comisiynydd plant, sy'n dangos, ble bynnag y byddwch chi'n mynd i mewn i'r system, eich bod wedyn yn cael eich tywys drwy'r system honno gyda chyfarwyddyd a chymorth effeithiol. Mae llawer o hynny yno; rydych chi wedi cydnabod y camau cadarnhaol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Rwy'n credu hefyd, bod angen i ni edrych ar ymddygiadau, yr ymddygiadau hynny y mae pobl ifanc ac oedolion yn eu harddangos cyn diagnosis, a chefnogi hynny hefyd; ac rwy'n gwybod fy mod i wedi cael sgyrsiau gyda'r Dirprwy Weinidog am hynny hefyd. Felly, a wnewch chi ymrwymo'r Llywodraeth felly i barhau i gefnogi'r dull 'dim drws anghywir' hwnnw?
Wel, Llywydd, rwy'n eithaf sicr mai'r dull 'dim drws anghywir' yw'r un cywir. Gall pobl ifanc ag anghenion cymhleth dorri trwy wyneb gwasanaethau ar bron unrhyw adeg, a'r hyn nad ydym ni ei eisiau yw i'r bobl ifanc hynny wedyn gael eu hatgyfeirio i rywle arall am gymorth. Pa bynnag ddrws y byddwch chi'n dod trwyddo, rydym ni eisiau i wasanaethau fod yn barod i roi gwybodaeth a chyngor i'r teuluoedd hynny, ac os oes angen gwasanaethau mwy arbenigol arnyn nhw, i gael eu cynorthwyo ar eu taith tuag atyn nhw. Dyna pam y cynhaliwyd yr arolwg gweithlu diweddar hwnnw, oherwydd er mwyn i hynny weithio'n effeithiol, er mwyn i'r dull 'dim drws anghywir' hwnnw weithio'n effeithiol, mae angen i bawb yn y system fod â lefel ddigonol o ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a hyfforddiant i allu cynnig y lefel honno o gymorth.
4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith datganiad yr hydref Llywodraeth y DU ar bwysau costau byw yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? OQ60398
Llywydd, nid oedd datganiad yr hydref yn cynnwys unrhyw gymorth wedi'i dargedu i bobl yn y canolbarth a'r gorllewin, y bobl hynny sy'n cael trafferth gyda'r argyfwng costau byw ac sy'n wynebu penderfyniadau eithriadol o anodd y gaeaf hwn. Roedd y datganiad hefyd yn drychineb i wasanaethau cyhoeddus y mae trigolion Cymru gyfan yn dibynnu arnyn nhw.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ac, fel y gwnaethoch chi ei ddweud mewn ymateb i Alun Davies yr wythnos diwethaf, ni fydd unrhyw beth yn natganiad yr hydref yn helpu'r rhai sydd ar ben caletaf yr argyfwng costau byw. Ond efallai mai dyna fwriad y Llywodraeth Dorïaidd hon. Cefais fy syfrdanu o ddarllen cwestiwn diweddar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig i'r Gweinidog newid hinsawdd, yn gofyn pa asesiad yr oedd wedi ei wneud o ran a yw pobl yn gwneud eu hunain yn ddigartref yn fwriadol i gael tai fforddiadwy. Rwy'n meddwl bod hynny'n eithaf anhygoel. A hoffech wneud sylw ar hynny, Prif Weinidog, ac a allwch chi amlinellu sut mae eich Llywodraeth wedi ymateb i ddatganiad y Canghellor, yn enwedig y toriadau i fudd-daliadau a gwasanaethau cyhoeddus? Dim ond 49 diwrnod gymerodd hi i Liz Truss achosi oes o ddioddefaint i'r bobl hynny yr oedd gan yr arweinydd yma yr hyfdra i ofyn a oedden nhw'n gwneud eu hunain yn fwriadol ddigartref.
Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â Joyce Watson. Mae'n rhaid mai cael eich hun yn ddigartref yw un o'r pethau mwyaf digalon a all ddigwydd i rywun. Mae'r syniad bod pobl yn gwneud eu hunain yn fwriadol ddigartref, ei fod, fel y dywedodd y cyn-Ysgrifennydd Cartref, 'yn ddewis o ffordd o fyw', yn dangos yn syml y gagendor enfawr rhwng pobl nad yw eu bywydau byth yn cael eu cyffwrdd gan drasiedïau o'r fath a'r bobl hynny sy'n gorfod ymdopi â nhw drwy'r amser. Ni allaf ddychmygu bod llawer o Aelodau o'r Senedd na fu'n rhaid iddyn nhw helpu pobl sy'n cael eu hunain yn ddigartref ac sy'n cael eu cynorthwyo gan y system. Mae'n ffordd faith a charegog o'r eiliad y byddwch chi'n cael eich hun heb do uwch eich pen i'r pwynt lle gallwch fyw mewn llety parhaol a braf eich hun, ac mae hynny oherwydd y straen enfawr sydd ar y system. Mae'r syniad bod rhywun yn rhoi eu hunain yn y sefyllfa honno yn fwriadol, rwy'n credu yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am bobl sy'n credu y gallai hynny fod yn wir.
Llywydd, penderfyniadau bwriadol datganiad yr hydref oedd rhoi mwy o arian ym mhocedi'r rhai sydd ag arian eisoes, ac amddifadu gwasanaethau cyhoeddus a'r 4 miliwn o bobl hynny y mae Sefydliad Joseph Rowntree yn dweud sy'n byw mewn amddifadedd ym Mhrydain gyfoes. Mae angen mabwysiadu cyfres wahanol iawn o flaenoriaethau, ac mae dirfawr angen dechrau newydd ar y wlad hon i ganiatáu i hynny ddigwydd.
Aeth datganiad hydref y DU gryn ffordd i helpu pobl â phwysau costau byw: toriad i yswiriant gwladol, un o'r toriadau treth mwyaf mewn cenhedlaeth; y cynnydd i'r isafswm cyflog; a hefyd, budd-daliadau cynyddol yn unol â chwyddiant, sy'n rhywbeth yr ydym ni wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol arno yma ers nifer o flynyddoedd. Ond mae rhai o'r ysgogiadau i helpu pobl gyda chostau byw hefyd yn perthyn i Lywodraeth Cymru. Un ffordd y gallwch chi helpu pobl gyda chostau byw yw cael pobl i swyddi sgiliau uwch sy'n talu'n well. Felly, hoffwn wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y canolbarth i helpu pobl i gael swyddi sgiliau gwell â chyflogau uwch, a all eu helpu gyda'r argyfwng costau byw. Mae hynny'n rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd.
Wel, Llywydd, rwy'n mynd i roi o'r neilltu yr honiadau a wnaeth yr Aelod yn y rhagymadrodd i'w gwestiwn. Ond gadewch i mi ei atgoffa bod gan Gymru fwy o bobl mewn gwaith heddiw nag erioed o'r blaen; mae gennym ni lefelau diweithdra is na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig; mae'r bwlch rhwng gweddill y Deyrnas Unedig a Chymru, o ran pobl sydd y tu allan i'r farchnad lafur, wedi haneru yn ystod cyfnod datganoli; ac mae'r Resolution Foundation yn dweud, o'r swyddi sydd wedi cael eu creu dros y 10 mlynedd diwethaf yng Nghymru, bod mwy ohonyn nhw'n llawnamser yn hytrach na rhan-amser, bod mwy ohonyn nhw yn hanner uchaf y dosbarthiad incwm na'r hanner isaf, a bod mwy ohonyn nhw'n cael eu cymryd gan fenywod nag sy'n cael eu cymryd gan ddynion. Mae llawer iawn, iawn wedi cael ei wneud yma yng Nghymru eisoes, ac nid oedd yr un darn ceiniog yn natganiad yr hydref i gynorthwyo'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu pobl i sicrhau'r union sgiliau y cyfeiriodd James Evans atyn nhw.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau tlodi plant yn Nwyrain De Cymru? OQ60397
Llywydd, mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod 28 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol. Mae tlodi plant wedi dwysáu o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraethau Ceidwadol olynol y DU. Rydym ni yng Nghymru yn defnyddio'r holl ddulliau sydd gennym ni ar gael i'n helpu i gynorthwyo'r rhai sy'n byw mewn tlodi.
Diolch, Prif Weinidog. Prif Weinidog, mae'r cyfraddau tlodi plant yn fy ardal i yn destament o gywilydd. Mae 36 y cant o blant ym Merthyr yn byw mewn tlodi, a 35 y cant yng Nghaerffili. Y tu ôl i'r ystadegau hynny y mae plant sy'n cael eu magu i fynd heb bethau, y mae eu rhieni yn wynebu'r Nadolig sydd i ddod gydag anobaith, gan feddwl tybed sut y gwnân nhw esbonio i'w plant pam nad yw Siôn Corn wedi dod â'r hyn y gwnaethon nhw ofyn amdano. Nid yw tlodi plant yn ymwneud â methu prydau bwyd neu foliau gwag yn unig: mae'n ymwneud â difetha ymdeimlad plant o lawenydd a rhyfeddod, a'u hamddifadu o'r hapusrwydd y dylen nhw ei gael o fod yn blant. Un o'r strwythurau sy'n cadw'r teuluoedd hynny'n dlawd yw creulondeb system fudd-daliadau'r DU, gyda chap dau blentyn ar fudd-daliadau sy'n cosbi plant am gael eu geni, ac y mae'r glymblaid Dileu Tlodi Plant wedi canfod sy'n effeithio ar un o bob 10 plentyn yng Nghymru. A wnewch chi fynnu bod yn rhaid diddymu'r polisi creulon hwn? Ac a wnewch chi'r alwad honno ar Lywodraeth bresennol y DU a'r nesaf?
Wel, Llywydd, mae rhanbarth yr Aelod ei hun yn dangos yn eglur y profiad gwahaniaethol hwnnw sydd gan blant yng Nghymru. Blaenau Gwent sydd â'r gyfran uchaf o blant sy'n byw mewn tlodi cymharol yng Nghymru, a drws nesaf, sir Fynwy sydd â'r isaf. A dyna ni'r cyferbyniad hwnnw, rhwng profiadau plant sy'n tyfu i fyny ar yr un pryd, mor agos at ei gilydd. Mae tlodi yn brofiad gofodol yn ogystal ag un unigol.
Llywydd, cefais y fraint o siarad ddoe yn lansiad adroddiad diweddaraf y Resolution Foundation, gan drafod anghydraddoldeb a'r mesurau a all fynd i'r afael ag ef, a dywedais bryd hynny ei fod yn angen brys i roi arian ym mhocedi'r bobl hynny sy'n wynebu'r amddifadedd gwaethaf yma yn y Deyrnas Unedig—4 miliwn o bobl, fel y dywedais yn fy ateb blaenorol, y mae miliwn ohonyn nhw'n blant. Ac er bod llawer o bethau y mae'r bobl hynny eu hangen yn eu bywydau, y peth sydd ei angen fwyaf oll arnyn nhw, ac ar frys, yw arian yn eu pocedi i wneud y pethau y mae pobl eraill yn eu cymryd yn gwbl ganiataol. Mae chwalfa'r system nawdd cymdeithasol fel rhwyd ddiogelwch wirioneddol i bobl sy'n syrthio i gyfnodau yn eu bywydau yr effeithir arnynt gan salwch, neu ddamweiniau, neu'r holl bethau eraill y mae'r system nawdd cymdeithasol yno i'w gwneud, yn cael ei adlewyrchu yn y ffigur rhyfeddol hwnnw o 4 miliwn o bobl, sydd nid yn unig yn byw mewn tlodi, ond mewn amddifadedd, a bydd yn waith i Lywodraeth Lafur newydd ailadeiladu'r system nawdd cymdeithasol honno, ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n gwneud anghenion plant yn gwbl flaenllaw yn yr ymdrech honno.
Prif Weinidog, mae'r ffigurau diweddaraf wedi dangos bod 28 y cant o holl blant Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol, sy'n cyfateb i tua wyth o blant mewn dosbarth o 30. Cyhoeddodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd adroddiad damniol yn ddiweddar yn dweud nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynllun nac uchelgais eglur i fynd i'r afael â thlodi plant. Mae Llafur wedi bod yn uniongyrchol gyfrifol am fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru ers dros ddau ddegawd fwy neu lai, ac eto mae'n amlwg fod Llywodraethau Llafur olynol wedi methu yn anffodus. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi wrando ar adroddiad damniol y pwyllgor a dilyn galwadau'r Ceidwadwyr Cymreig trwy lunio strategaeth gydlynol a chadarn i roi terfyn ar dlodi plant? Ac os bydd y Llywodraeth yn methu â gwneud hyn, byddan nhw'n parhau i fethu plant Cymru, nad wyf i'n credu bod yr un ohonom ni, mewn unrhyw blaid yma, eisiau ei weld. Felly, Prif Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi eich ateb i'm cyd-Aelod Delyth Jewell yn flaenorol, ond beth yw'r cynllun sydd ar waith nawr, Prif Weinidog, i ni?
Llywydd, mae angen nerfau o ddur arnoch chi i sefyll ar eich traed ar y meinciau Ceidwadol yma a chwyno am dlodi plant. Onid yw'r Aelod yn gwybod—? Onid yw hi'n gwybod, yn y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, bod tlodi plant wedi gostwng, yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn? [Torri ar draws.] A'ch plaid chi o hyd, pan ddaeth eich plaid chi, sydd â'r holl ysgogiadau mawr o dlodi o dan eu rheolaeth, pan ddaethon nhw i rym, fe arweiniodd y penderfyniadau bwriadol a wnaed at filoedd o blant, cannoedd o filoedd o blant yn byw mewn tlodi nad oes angen iddyn nhw fod mewn tlodi. [Torri ar draws.] Mae hyn yn dlodi y gellir ei atal. Llywydd, rwy'n clywed Aelodau'r wrthblaid yn gweiddi arnaf i gan wadu'n llwyr eu cyfrifoldeb am yr hyn y maen nhw wedi ei wneud. Yma yng Nghymru, bob un dydd, rydym ni'n gwneud pethau i ddiogelu plant yng Nghymru rhag polisïau eich plaid, ac mae gennych chi'r cywilydd—mae gennych chi'r cywilydd—i sefyll ar eich traed yma a gofyn i mi am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud.
Wrth gwrs, er mwyn dileu tlodi mae angen partneriaeth o lywodraethau sydd wedi ymrwymo i ddileu tlodi. Gwyddom ni fod dileu tlodi yn DNA y Llywodraeth hon. Fe wnaethom ni ddysgu'r wythnos diwethaf fod datganiad hydref Llywodraeth y DU wedi symud arian o Gymru i Lundain a chymryd arian gan y rhai tlawd i dalu am doriadau trethi i'r rhai cyfoethog. Ddoe fe wnaethom ni ddysgu gan y Resolution Foundation ein bod ni nid yn unig wedi cael degawd a hanner o farweiddio, ond ar ddiwedd Senedd bresennol y DU, bydd gan y rhan fwyaf o deuluoedd yng Nghymru safon byw is nag ar ei dechrau, a'r safon byw isaf yn ein hoes ni, a dyna sy'n creu tlodi. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai'r hyn sydd ei angen arnom ni gan Lywodraeth y DU yw iddi ymrwymo a chanolbwyntio'n llwyr i ddileu tlodi ac anghydraddoldeb, a'r hyn nad oes ei angen arnom ni yw mwy o folawdau i Margaret Thatcher?
Wel, Llywydd, y Canghellor—[Torri ar draws.]
Gadewch i'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn. Rydych chi wedi rhoi cyfnod o fyfyrio iddo nawr pryd y mae'n gallu llunio ei ateb.
Llywydd, mae meinciau'r Ceidwadwyr yn y Senedd yn credu'u bod yn gallu gorchuddio eu cywilydd drwy weiddi, ond nid yw hynny'n llwyddo, ac yn sicr nid yw'n gweithio ymhlith y bobl yr effeithir ar eu bywydau gan y polisïau y maen nhw'n eu harddel. Ni wnaeth y Canghellor sôn am blant unwaith yn ei ddatganiad yr hydref cyfan, er gwaethaf popeth yr ydym ni'n ymwybodol sydd wedi digwydd ym mywydau'r rhai a oedd angen ei help fwyaf. Rwy'n cytuno'n llwyr ag Alun Davies bod angen Llywodraeth sy'n benderfynol—yr un mor gwbl benderfynol o roi buddiannau'r plant hynny ar frig yr agenda ag yr oedd Margaret Thatcher yn fodlon rhoi buddiannau'r rhai yr oedd hi'n eu cefnogi ar frig ei hagenda hi.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo ac annog cyfranogiad mewn chwaraeon ar lawr gwlad? OQ60399
Rydyn ni'n cefnogi clybiau chwaraeon ar lawr gwlad ledled Cymru gyda'r £31 miliwn wedi'i fuddsoddi drwy Chwaraeon Cymru yn y flwyddyn ariannol hon.
Prif Weinidog, un o sawl mantais wych o fod yn dad-cu yw mynd ag wyrion ac wyresau i nifer o weithgareddau—pêl-droed, tennis, nofio a chriced—a gweld yn uniongyrchol waith bendigedig gwirfoddolwyr a chlybiau chwaraeon ar lawr gwlad yn ogystal ag ymddiriedolaethau hamdden fel Casnewydd Fyw. Hefyd, un o'r manteision mawr, wrth gwrs, o fod yn AS yw gweithio gyda chlybiau chwaraeon lleol. Mae dau o'r rheini yn fy etholaeth i, clwb pêl-droed Newport Saints a chlwb pêl-droed Undy yng Nglannau Hafren, ag uchelgais fawr iawn i dyfu. Maen nhw eisoes yn darparu cyfleoedd i gannoedd o bobl ifanc, a phobl o bob oed, bechgyn a merched, gymryd rhan mewn pêl-droed ac yn wir, gweithgareddau corfforol eraill yn wythnosol.
Mae'n bwysig iawn, rwy'n credu, ein bod ni'n datblygu rhwydweithiau a phartneriaethau rhwng sefydliadau fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Chwaraeon Cymru, ymddiriedolaethau hamdden a chlybiau chwaraeon proffesiynol, er mwyn caniatáu i'r clybiau hynny dyfu a datblygu yn y ffordd yr hoffen nhw. Hoffwn i gael cadarnhad y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r cydweithio hwnnw, y partneriaethau hynny a'r rhwydweithiau hynny fel y gall chwaraeon ar lawr gwlad ddarparu mwy fyth o gyfleoedd i'n cymunedau yma yng Nghymru, gyda'r holl fanteision cymdeithasol, corfforol ac iechyd a llesiant a ddaw yn eu sgil.
Diolch i John Griffiths am hynna, Llywydd. Wrth gwrs, mae'n iawn; mae'n fraint i ni yn y swyddi yr ydyn ni'n eu cyflawni, ac weithiau yn ein bywydau ein hunain, i weld yn uniongyrchol y gwaith y mae'r sefydliadau gwych hynny yn ein holl gymunedau yn ei wneud. Maen nhw'n haeddu cael eu cefnogi gan bartneriaethau rhwng a gyda'r sefydliadau cyhoeddus hynny sy'n gallu'u helpu a'u cefnogi yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru gyfarfod yn ddiweddar iawn gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i drafod eu harchwiliad diweddar. Maen nhw wedi bod yn archwilio nifer a chyflwr safleoedd pêl-droed ar draws Cymru—caeau bach, pafiliynau, ystafelloedd newid ac ati—er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n buddsoddi yn y mannau hynny lle mae modd denu amrywiaeth wirioneddol cymunedau Cymru i gymryd rhan mewn chwaraeon yn union fel y dywedodd John Griffiths. Ac mae partneriaethau ehangach eto, onid oes? Mae'r rhaglen ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn ffordd arall y mae'n bosibl cefnogi'r ymdrech gymunedol honno.
Roeddwn i'n ffodus, Llywydd, ychydig wythnosau yn ôl, i fod yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yma yng Nghaerdydd, y buddsoddiad unigol mwyaf mewn ysgol yr unfed ganrif ar hugain y byddwn ni'n ei wneud yn nhymor y Senedd hon. Ac mae'r buddsoddiad ar y lefel honno oherwydd bod holl gyfleusterau'r ysgol honno yno i'w defnyddio gan y gymuned ehangach, gan gynnwys clwb pêl-droed Treganna a chlwb rygbi Treganna, os caf roi sylw i gwpl o sefydliadau yn fy etholaeth i fy hun. Ond mae'n wir yn etholaeth John Griffiths hefyd—mae Ysgol Uwchradd Casnewydd ym Metws yn enghraifft arall o le mae buddsoddiad yn caniatáu cefnogi'r grŵp ehangach hwnnw o bobl a sefydliadau sydd, p'un ai yw hynny mewn chwarae, hyfforddi, gwirfoddoli neu ddim ond dod i wylio hyd yn oed, yn gwneud eu cyfraniad at yr effaith gadarnhaol y gall chwaraeon ei chael ym mywydau pobl Cymru.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y bobl yng Nghymru sy'n cael cymorth drwy'r llinell gymorth Byw Heb Ofn? OQ60395
A gaf i ddiolch i Buffy Williams am hynna, Llywydd? Mae'r flwyddyn nesaf yn nodi 20 mlynedd ers sefydlu llinell gymorth Byw Heb Ofn yng Nghymru sy'n cael ei hariannu'n llawn. Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023, cafodd 34,348 o gysylltiadau fel rhan o'r strategaeth genedlaethol i ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Y mis hwn, fe wnes i gwblhau fy adroddiad cam-drin domestig a thrais sy'n benodol i'r Rhondda, a chynhaliais i gynhadledd ddydd Iau diwethaf gyda phartneriaid, darparwyr cymorth statudol ac anstatudol ac aelodau o'r gymuned i drafod maint y broblem a sut y gallwn ni gyflawni Cymoedd heb ofn. Yn y Rhondda, rhwng Mai 2022 a Mai 2023, cofnododd Heddlu De Cymru 2,605 o ddigwyddiadau cam-drin domestig a thrais. Mae hyn yn 674 yn fwy o ddigwyddiadau na'r ardal â'r nifer fwyaf nesaf yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr. Mewn dwy o'n trefi, mae un o bob 10 aelwyd yn adrodd am ddigwyddiadau cam-drin domestig a thrais.
Fel rhan o'r adroddiad, gwnes i gwrdd â dioddefwyr a dderbyniodd gefnogaeth gan weithwyr proffesiynol arbennig yng Nghanolfan Rhondda Ddiogelach yn Nhonypandy, ac eraill a oedd wedi galw'r llinell gymorth Byw Heb Ofn. Un argymhelliad y gwnaeth yr holl ddioddefwyr a oedd wedi galw'r llinell gymorth Byw Heb Ofn godi gyda mi oedd yr angen i gyfeirio at wasanaethau cymorth lleol. A wnaiff y Prif Weinidog ystyried yr argymhelliad hwn ac archwilio'r posibilrwydd o greu cronfa ddata o ddarparwyr cymorth cam-drin domestig a thrais lleol er mwyn i gynghorwyr llinell gymorth Byw Heb Ofn allu cyfeirio atyn nhw?
Diolch yn fawr iawn i Buffy Williams am y cwestiwn arall yna ac rwy'n ei llongyfarch hi, wrth gwrs, ar y gwaith y mae hi wedi bod yn ei wneud ar y mater hwn yn ei chymuned. Gwn i fod fy nghyd-Weinidog Jane Hutt wedi siarad yn y gynhadledd a gafodd ei threfnu gan Buffy Williams y penwythnos diwethaf, ac mae'r ffigurau y mae'r Aelod wedi'u nodi i ni y prynhawn yma yn sobreiddiol iawn.
Mae'r llinell gymorth Byw Heb Ofn yn un o'r ffyrdd y gallwn ni helpu pobl yr effeithir ar eu bywydau gan y math o drais y mae Buffy Williams wedi'i amlinellu. Cefais i'r cyfle fy hun beth amser yn ôl i ymweld â chanolfan alwadau yn Wrecsam, yn etholaeth Lesley Griffiths, a gweld sut y cafodd galwadau i'r llinell gymorth eu hateb. Cefais i wir fy nharo yno gan y ffaith bod y rhai a oedd yn ateb galwadau yn gallu rhoi ffynonellau o gymorth lleol iawn i bobl ar y sgrin. Felly, fe wnaf ystyried ymhellach y syniad y mae'r Aelod wedi'i roi i ni y prynhawn yma a sicrhau bod cronfa ddata o wasanaethau cymorth lleol ar gael drwy'r llinell gymorth Byw Heb Ofn, fel y gall gynnwys fersiwn wedi'i diweddaru o'r gwasanaethau sydd ar gael yn ardal Rhondda Cynon Taf.
Cwestiwn 8, yn olaf. Luke Fletcher.
8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r ddarpariaeth o brentisiaethau? OQ60400
Er gwaethaf y ffaith i ni golli arian cronfeydd cymdeithasol Ewrop ac er gwaethaf ein cyllideb sy'n gostwng yn barhaus, bydd y Llywodraeth hon yn parhau i fuddsoddi mewn prentisiaethau o safon sy'n cyd-fynd ag anghenion economi Cymru ac yn darparu dyfodol llwyddiannus i'n pobl ifanc.
Diolch am yr ateb, Brif Weinidog.
Yr wythnos diwethaf, lansiodd Gweinidog yr Economi genadaethau economaidd Llywodraeth Cymru. Mae maes blaenoriaeth 2 yn pwysleisio'r angen i gefnogi pobl ifanc a'u mynediad at gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth, ac eto rydyn ni'n disgwyl i'r nifer sy'n dechrau ar raglenni prentisiaeth ddisgyn yn sylweddol. Mae dadansoddiad cychwynnol gan y sector addysg bellach mewn ymateb i doriadau arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn dangos mai 24.5 y cant fydd cyfanswm y gostyngiad i'r rhaglen brentisiaethau. Mae'r sector yn rhybuddio y bydd hyn yn arwain at 10,000 yn llai yn dechrau ar raglenni prentisiaethau yn 2024-25, gostyngiad o tua 50 y cant, y dirywiad cyflymaf mewn cyfleoedd hyfforddi ers datganoli, a hynny heb sôn am golli swyddi mewn gweithlu dysgu yn seiliedig ar waith. O ystyried y brotest gan y sector a chanlyniadau toriad o'r fath, a fydd Llywodraeth Cymru yn ailystyried ei chynlluniau gwariant cyn iddi gyhoeddi ei chyllideb ddrafft yn ddiweddarach y mis hwn? Mae datblygu gweithlu Cymru yn y dyfodol yn gwbl hanfodol i'n ffyniant economaidd.
Diolch i Luke Fletcher am y cwestiwn ychwanegol.
Nid wyf i'n cytuno ag ef y bydd niferoedd y dechreuwyr newydd yn lleihau'n sylweddol. Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £100 miliwn—dros £100 miliwn—mewn rhaglenni prentisiaeth yn y flwyddyn ariannol nesaf. Yr wythnos diwethaf, roedd arweinydd Plaid Cymru yn fy annog i wneud yn siŵr nad oedd toriadau mewn cyllid i amaethyddiaeth yng Nghymru. Heddiw, mae'r Aelod eisiau i mi sicrhau nad oes toriadau i gyllid mewn prentisiaethau yng Nghymru. Rwy'n dweud wrtho'r hyn y dywedais i wrth ei arweinydd yr wythnos diwethaf: os ydych chi'n wynebu cyllideb sydd â £1.3 biliwn yn llai i wneud popeth yr ydym ni eisiau'i wneud y flwyddyn nesaf, nid oes unrhyw ran o gyllideb Llywodraeth Cymru a all barhau heb ei chyffwrdd. A phob tro y bydd rhywun yn pledio y dylai'r maes gwariant penodol hwn fod yn eithriad, mae gan y person hwnnw gyfrifoldeb i egluro i mi ble arall y bydden nhw'n dod o hyd i'r arian hwnnw.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd, Lesley Griffiths, i wneud y datganiad hwnnw.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad deddfwriaethol ar Fil Senedd Cymru (rhestrau ymgeiswyr etholiadol) wedi cael ei dynnu'n ôl. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Hoffwn i alw am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod anhwylder deubegynol yn cael triniaeth gyfartal, ac yn cael ei ystyried yn gyfartal bwysig i afiechydon iechyd meddwl difrifol eraill fel sgitsoffrenia a seicosis. Hoffwn i hefyd i'r Gweinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau diagnosis cynharach ar gyfer anhwylder deubegynol, sydd ar gyfartaledd ar hyn o bryd yn 11.9 mlynedd ar ôl rhoi gwybod gyntaf i glinigwr am y symptomau. Yr amcangyfrif yw bod 2 y cant o'r boblogaeth oedolion yng Nghymru yn byw gydag anhwylder deubegynol, ac yn anffodus, mae cymaint ag un o bob pump o bobl sydd ag anhwylder deubegynol yn lladd eu hunain.
Mae gan gyflyrau eraill, fel y pwl cyntaf o seicosis, eu llwybr gofal arbenigol eu hunain, a chyn bo hir bydd hyn yn wir o ran anhwylderau bwyta hefyd, sy'n newid mawr. Nid yw llwybr gofal arbenigol yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer anhwylder deubegynol ac mae'r driniaeth yn rhy generig. Dylai creu llwybr gofal arbenigol arbed arian i'r GIG yn y tymor hir hefyd. Hoffwn i ofyn i'r Gweinidog a oes unrhyw gynlluniau i arbenigo triniaeth anhwylder deubegynol er mwyn sicrhau cyfartaledd ag afiechydon meddwl difrifol eraill. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau diagnosis cynharach ar gyfer anhwylder deubegynol, sydd tua dwy flynedd yn hirach nag yn Lloegr ar hyn o bryd? Diolch.
Diolch. Fel y gwyddoch chi, mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth iechyd meddwl ac mae'r Gweinidog yn amlwg yn rhoi cyllid i bob bwrdd iechyd lleol, sydd wedyn yn gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu ar gyfer salwch iechyd meddwl yn cael eu dosbarthu yn y ffordd fwyaf priodol. Sonioch chi am sawl salwch iechyd meddwl yn eich cais am ddatganiad, a byddem ni'n tybio y byddai byrddau iechyd yn rhoi'r cyllid ar gyfer yr anhwylderau hynny ac ar gyfer y gwasanaethau i sicrhau bod modd trin eu poblogaeth leol fel y bo'n briodol.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad ynglŷn â chlybiau brecwast ysgol. Efallai eich bod chi'n ymwybodol fod rhai awdurdodau lleol, oherwydd pwysau ariannol, gan gynnwys cyngor Rhondda Cynon Taf, yn ystyried cyflwyno ffi am yr elfen gofal plant cyn hanner awr y clwb brecwast am ddim. Nid yw'n syndod fod llawer o etholwyr wedi cysylltu â mi, yn bryderus iawn am hyn. Efallai nad yw'n swnio fel rhyw lawer—£1 y dydd—ond mae'n dâl safonol o £60 sy'n cael ei gynnig. Ac i'r teuluoedd hynny sy'n ei chael hi'n anodd iawn, iawn—rydyn ni'n gwybod am lwyddiant y clybiau brecwast, a pham y cawson nhw eu sefydlu ac ati. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran pa sgyrsiau sydd wedi digwydd gydag awdurdodau lleol ynghylch unrhyw gynigion i glybiau brecwast ysgolion, ac a oes unrhyw gynlluniau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau sydd wedi'u darparu? Diolch.
Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, i lawer o deuluoedd, mae £1 y dydd yn swm sylweddol o gyllid. Ac fel y dywedwch chi, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y clybiau brecwast at ddiben penodol iawn, ac maen nhw wedi bod yn llwyddiannus iawn. Llywodraeth Cymru sy'n talu am y clybiau brecwast ac yn amlwg, felly, mae'n rhaid i awdurdodau lleol ystyried y cyllid sydd ar gael ar gyfer gofal plant, ac mae hon yn amlwg yn drafodaeth sydd wedi bod yn mynd rhagddi drwy'r cyllidebau.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad eto am y prinder meddyginiaeth anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd sy'n digwydd ar hyn o bryd ledled y DU. Gofynnais i am ddatganiad yn flaenorol ac, ar y pryd, roedd y gwneuthurwr yn dweud y dylai pethau gael eu datrys rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr eleni, ond, yn anffodus nawr, mae hynny wedi'i ymestyn tan fis Ebrill 2024, mae'n debyg. Mae ADHD UK wedi dweud nad yw mwy na chwarter cleifion ADHD yn y DU wedi cael unrhyw feddyginiaeth ers i'r rhybudd diogelwch cychwynnol i gleifion gael ei gyflwyno ym mis Medi 2023. Fel y gallwch chi ddychmygu, mae pobl yn ofidus. Mae hyn yn effeithio ar blant ac oedolion. Nid yw pobl yn gallu gwneud eu gwaith yn iawn. Ni allan nhw gyflawni eu cyfrifoldebau gofalu chwaith.
Gwnes i gyfarfod â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae ganddyn nhw gronfa ddata wych nawr lle gallan nhw weld ble mae pobl, mewn ffordd, ym mha ranbarth, a sut mae pobl yn ei chael hi'n anodd, a thargedu'r ymyraethau hynny, a thargedu'r gefnogaeth a'r negeseuon hynny. Ac roeddwn i'n meddwl tybed beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i weithio gyda'n byrddau iechyd i sicrhau bod pobl yn iawn yn ystod yr amser pryderus iawn hwn. Diolch.
Diolch. Wel, fel y cyfeirioch chi, oherwydd cynnydd yn y galw byd-eang a materion gweithgynhyrchu, mae tarfu ar y cyflenwad o nifer o feddyginiaethau sy'n cael eu defnyddio i drin ADHD ar hyn o bryd. Mae'n effeithio ar bob rhan o'r DU, ac mae disgwyl i'r sefyllfa gyflenwi wella erbyn diwedd eleni. Ac fe fyddem ni'n disgwyl i'r tarfu fod wedi cael ei ddatrys yn llwyr erbyn mis Chwefror. Mae'n cymryd amser ychwanegol i gyflenwadau lleol mewn fferyllfeydd cymunedol sefydlogi. Mae cyflenwadau o baratoadau eraill sy'n cynnwys methylffenidad—yr un cynhwysyn actif â rhai o'r cyffuriau—wedi cael eu datrys yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Fe wnaethoch chi ofyn beth allwn ni ei wneud fel Llywodraeth, a byddwn ni'n parhau i weithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, GIG Cymru, meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol, fel bod cleifion ledled Cymru yn gallu parhau i dderbyn y meddyginiaethau sydd eu hangen arnyn nhw.
Mae oedi mewn ambiwlansys erbyn hyn mor ddisgwyliedig ac arferol fel bod ysbyty yn fy ardal i wedi gorfod gosod ffaniau y tu allan i'w adran damweiniau ac achosion brys i geisio gwasgaru'r llygredd aer sy'n dod o'r pibellau gwacáu o gerbydau brys sy'n aros. Mae'r bwrdd iechyd wedi gosod y ffaniau y tu allan i ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân i greu amgylchedd mwy diogel i staff, ond hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, yn ymdrin â'r sefyllfa o argyfwng barhaus, y bu'n rhaid cynllunio ar ei chyfer a'i derbyn fel hyn. Gwnaeth Nation Cymru adrodd yr wythnos hon mai'r amser hiraf yr oedd ambiwlans yn aros y tu allan i'r adran damweiniau ac achosion brys gyda chlaf y tu mewn oedd 16 awr a hanner, a'r amser cyfartalog yw dwy awr.
Yn gynharach eleni fe wnes i godi pryderon yn y Senedd bod ambiwlansys yn cael eu defnyddio fel ystafelloedd aros. Fe wnes i godi'r un pryder yma am y llygredd aer sy'n dod o ambiwlansys sy'n aros, ac mae'n ymddangos bod y sefyllfa wedi gwaethygu. Rydyn ni'n mynd i mewn i'r gaeaf nawr, pan fydd y tymheredd oer yn golygu bod hyd yn oed mwy o angen i ambiwlansys sy'n aros gadw'r injan yn troi, i gadw'r cleifion yn gynnes, a bydd yr holl lygredd aer yn gwaethygu.
Trefnydd, rydyn ni newydd basio deddfwriaeth yn y Senedd hon i ddiogelu aer glân. Yn sicr, un o'r lleoedd i gael aer glân ar frys yw y tu allan i ysbytai lle mae pobl eisoes yn wael. Felly, a allai datganiad nodi pa gamau fydd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â hyn ar frys?
Diolch. Mae'r Gweinidog wedi bod yn glir iawn gyda'r byrddau iechyd ynghylch ei disgwyliad am well perfformiad trosglwyddo ambiwlansys i ryddhau capasiti ambiwlansys, ac mae hi'n buddsoddi mewn gofal argyfwng yr un diwrnod a gwelyau cymunedol ychwanegol, yn ogystal ag atebion integredig gyda'n gwasanaethau gofal cymdeithasol, i wella llif cleifion trwy ysbytai ac ymdrin ag oedi trosglwyddo ambiwlansys. Mae pob bwrdd iechyd wedi cael £3 miliwn ychwanegol i gyflawni gwelliannau yn y meysydd hyn.
Trefnydd, yr wythnos hon yn Nhŷ'r Cyffredin, pleidleisiodd Aelodau'r Senedd i gyflymu'r cynllun iawndal i ddioddefwyr sgandal gwaed heintiedig y GIG a diolch am hynny, a bydd yn rhaid i Weinidogion y DU nawr sefydlu corff i gynnal y cynllun o fewn tri mis ar ôl i Fil newydd ddod yn gyfraith. Cafodd hyn ei weld, yn briodol, rwy'n credu yn gam pwysig ymlaen yn yr hyn sydd wedi bod yn frwydr eithriadol o hir dros gyfiawnder, ond wrth gwrs nid dyna'r diwedd. Roedd fy etholwyr Colin a Janet Smith, yn Nwyrain Casnewydd, Gweinidog, ymhlith teuluoedd yng Nghymru yr oedd eu plant wedi dioddef o dderbyn gwaed wedi'i halogi, neu gynhyrchion gwaed wedi'u halogi â HIV neu hepatitis C. Ac yn drasig bu farw eu mab, hefyd o'r enw Colin, yn 1990, ar ôl cael HIV a hepatitis C—roedd Colin ifanc wedi cael diagnosis o haemoffilia yn fabi. Tybed, Gweinidog, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar oblygiadau'r bleidlais hon ar gyfer trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar sut y byddai iawndal a'r cynllun iawndal yn cael eu gweinyddu a'u cyflwyno i deuluoedd yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn, roedd hi'n sicr yn bleidlais bwysig iawn. Gwnaeth i mi feddwl am yr holl waith a wnaeth Julie Morgan mewn bywyd blaenorol, pan oedd hi'n AS, a'r trafodaethau y cawson ni nôl yn gynnar yn y degawd diwethaf; tua 2011 rwy'n cofio cael sgyrsiau gyda chi. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bleidlais bwysig, bwysig iawn, ac yn un nodedig, mewn gwirionedd. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw drafodaethau y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi'u cael o ran y mater, ond gwn i y bydd hi'n gwylio hyn gyda diddordeb, a byddaf i'n gofyn iddi hi gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Gaf i ofyn am ddiweddariad gan Weinidog yr Economi am sefyllfa argyfyngus bancio yn ein cymunedau gwledig? Dros yr wythnosau diwethaf, rŷn ni wedi gweld sefyllfa drychinebus, lle mae banciau, neu ganghennau o fanciau, yn cau un wrth un. Ac yn yr ardaloedd prin yna lle mae yna ganghennau yn aros, maen nhw'n cau mewn llefydd fel Pwllheli, Llanelli, Llanfair-ym-Muallt, y Drenewydd a Thyddewi. Ac rŷn ni hefyd wedi gweld, wrth gwrs, dorri ar wasanaethau, fel penderfyniad cywilyddus HSBC i gael gwared ar y llinell Gymraeg, a banc Lloyds hefyd yn diddymu eu gwasanaeth symudol yng Nghrucywel.
Nawr, mae Gweinidog yr Economi wedi sôn nifer o weithiau yn y Siambr yma am yr hyn sydd wedi datblygu'n ddiweddar ynglŷn â Banc Cambria, ac rŷn ni'n croesawu'r cynllun yma'n fawr iawn, iawn. Ond yn sgil y ffaith bod cymdeithas adeiladu Mynwy wedi tynnu nôl o'r cynllun, fe ddywedodd y Gweinidog ei fod e'n mynd i weithio er mwyn archwilio'r holl opsiynau o safbwynt creu banc cymunedol yng Nghymru. Gaf i ofyn, felly, am ddatganiad ynglŷn â'r sefyllfa o safbwynt datblygu'r banc pwysig yma i Gymru?
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi wedi codi pwynt pwysig iawn. Yn sicr, rydyn ni wedi gweld nifer sylweddol o fanciau'n cau, ar draws ein cymunedau yma yng Nghymru. Yn amlwg, mae'n fater a gedwir yn ôl, ond, yn amlwg, mae'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd diddordeb agos iawn ynddo. Roeddech chi'n sôn am benderfyniad HSBC i gael gwared ar y llinell Gymraeg. Rwy'n gwybod bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyflwyno sylwadau; nid wyf i'n dweud eu bod yn mynd i newid eu meddwl, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eu bod yn deall cryfder y teimladau sydd gennym ni yma yng Nghymru. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, ymrwymodd Gweinidog yr Economi i weithio yn y ffordd yr ydych chi'n ei awgrymu, a bydd yn hapus iawn i gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf, yn y flwyddyn newydd mae'n debyg.
Ac yn olaf, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, mae mater chwarel Ty Llwyd yn Ynys-ddu wedi cael ei godi sawl gwaith yn y Siambr gennyf i a fy nghyd-Aelod Delyth Jewell. Mae'r ardal hon, ar yr wyneb, yn edrych yn brydferth, ond mae'n cuddio cyfrinach dywyll, wrth i gwmni cemegol drwg-enwog yr Unol Daleithiau Monsanto ddympio a chladdu maint anhysbys o wastraff gwenwynig yn y ddaear. Mae Monsanto wedi hen ddiflannu, heb dalu ceiniog mewn iawndal am y gwaddol gwenwynig maen nhw wedi'i adael. Yn y cyfamser, mae trigolion lleol yn dal i orfod wynebu canlyniadau'r troseddau amgylcheddol hyn. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy'n cael ei redeg gan y Blaid Lafur, y mae'n hysbys ei fod yn bychanu'r peryglon y mae Ty Llwyd wedi'u hachosi ar hyd y blynyddoedd, wedi cyfaddef bod yr argyfwng hinsawdd a'r lefelau uchel o law yr ydyn ni nawr yn eu cael yn ei gwneud hi'n anoddach rheoli'r bygythiad sy'n cael ei achosi gan y cemegau sydd wedi cael eu dympio. Dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod lleol, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae'r her o reoli'r trwytholch yn fater tymhorol sydd wedi gwaethygu gan ein hinsawdd sy'n newid a chyfnodau o law sylweddol yn ystod misoedd y gaeaf.'
Gweinidog, a yw'n bryd i'r Llywodraeth hon gydnabod nad yw awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru ar eu pennau eu hunain yn gallu ymdrin â'r bygythiad cynyddol sy'n cael ei achosi gan safleoedd gwenwynig sydd wedi'u gadael o ganlyniad i'n treftadaeth ddiwydiannol? A allwn ni gael datganiad ar greu strategaeth i wella'r safleoedd gwenwynig hyn mor gyflym ac effeithiol â phosibl a mynd ar drywydd y llygrwyr gyda'r holl bwerau sydd ar gael i ni?
Diolch. Wel, mae hwn yn fater lle mae'n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth. Gallwn ni ddim ei adael i awdurdodau lleol na Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda'n holl bartneriaid o ran gwaith adfer ac yn amlwg i sicrhau bod llygrwyr yn talu. Rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn, mae e wir—. Bydd hynny'n fater i Cyfoeth Naturiol Cymru ei orfodi, ond mae'n bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru yn cydweithio.
Diolch i'r Trefnydd.
Rwyf wedi derbyn pwynt o drefn gan Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, cyfeiriodd yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, nad yw yn ei lle nawr, at gwestiwn ysgrifenedig y gofynnais i Lywodraeth Cymru ei ateb am ddigartrefedd a phobl yn gwneud eu hunain yn ddigartref yn fwriadol. Cyfeiriais yn y cwestiwn ysgrifenedig hwnnw at y ffaith mai cyfarwyddwr tai a gwasanaethau oedolion Cyngor Caerdydd wnaeth y sylwadau hynny i bwyllgor craffu ar 20 Tachwedd. Nid fy sylwadau i oedden nhw. Roedden nhw'n cyfeirio at gyngor yr wyf yn ymdrin ag ef yn fy rôl fel Aelod rhanbarthol. A byddwn yn ddiolchgar pe byddai'r Aelod yn cywiro'r Cofnod i ddangos hynny, yn hytrach na cheisio awgrymu mai fy sylwadau i a'm meddyliau i oedden nhw. Mae'n amlwg nad dyna oedden nhw, ac mae'r cwestiwn yn pwysleisio'n glir y pwynt mai cyfeirio at swyddogaeth cyngor arall sy'n gyfrifol yn fy ardal etholiadol oeddwn i.
Diolch am yr eglurhad yna. Fe wnawn ni wirio'r Cofnod i sicrhau bod popeth yn gywir. Fe ddown ni nôl atoch chi ar y mater hwnnw.
Eitem 3 yw datganiad gan Weindog yr Economi ar yr economi sylfaenol. A galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf wedi amlinellu'n flaenorol pam y mae'r economi sylfaenol yn un o ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu ac yn rhan ganolog o'n cenhadaeth economaidd. Mae'n darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol yr ydym i gyd yn dibynnu arnyn nhw, gan gynnwys gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, ac adeiladu. Mae amcangyfrifon yn dangos y gall gyfrif am oddeutu 40 y cant o gyflogaeth yng Nghymru. Mae tyfu'r economi sylfaenol neu'r economi bob dydd yn flaenoriaeth drawslywodraethol. Mae cefnogaeth gyfunol Gweinidogion yn helpu i ymgorffori'r dull gweithredu ar draws ein portffolios. Ym mis Mehefin eleni ymrwymodd y Cabinet i ddatblygu cynlluniau economi sylfaenol mewn tri maes lle mae buddsoddiad sylweddol: trafnidiaeth, ynni a thai.
Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn wasanaeth craidd o ran yr economi sylfaenol. Rwyf am iddo hefyd ddod yn gyflogwr lleol allweddol mewn cadwyn gyflenwi sy'n dod i'r amlwg. Wedi'u hysgogi gan ein targedau sero net, mae rhai awdurdodau lleol yn gweithredu bysiau trydan newydd erbyn hyn. Mae'r rhan fwyaf o'r fflyd honno'n cael ei hadeiladu dramor, gyda chyfran fach o'r cyfarpar yn dod o Gymru. Rydym yn dadansoddi'r cyfleoedd o ran y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys telemateg, peiriannau tocynnau ac echelau ôl-osod trydan i sicrhau bod mwy o gynnyrch o Gymru yn mynd i mewn i'r cerbydau hynny. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn gweithio gyda Fforwm Modurol Cymru i ymchwilio i'r cwmpas ar gyfer datblygu gallu cyflenwi lleol i ail-bweru'r fflyd bresennol. Mae hyn yn cynnwys y potensial i ôl-osod trenau trydan neu gelloedd tanwydd hydrogen tymor hwy.
Rwyf am dynnu sylw yn benodol at ddull caffael ehangach Trafnidiaeth Cymru. Mae'r contract diweddar ar gyfer gwisgoedd i 2,000 o aelodau staff wedi'i ddyfarnu i gonsortiwm o ddarparwyr, dan arweiniad Elite Clothing Solutions, y cefais y pleser o ymweld â nhw yr wythnos diwethaf ym Mlaenau Gwent. Maen nhw'n cyflogi pobl leol ddifreintiedig yn bennaf. Mae'r consortiwm maen nhw'n ei arwain hefyd yn cynnwys Brodwaith yn Llangefni, Menter Gwnïo Treorci a Fashion Enter yn y Drenewydd. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i hyrwyddo dulliau uchelgeisiol tebyg a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl leol ac economïau lleol. Ochr yn ochr â hynny, bydd ein hymrwymiad i ad-drefnu teithio ar fysiau yng Nghymru yn newid trefniadau caffael, gan sicrhau bod mwy o ddylanwad ar y gwasanaeth a'r gadwyn gyflenwi.
Mae buddion o ran yr economi sylfaenol yn cael eu sicrhau hefyd drwy'r gronfa cerbydau allyriadau isel iawn. Mae cwmnïau cartref fel Dragon Charging o sir Benfro yn gosod ac yn gweithredu rhan o'r rhwydwaith hwnnw yn barod. Byddwn yn cefnogi partneriaid cyflawni i sicrhau bod cronfa'r flwyddyn nesaf yn darparu gwerth economaidd lleol pellach.
Yn y sector ynni, mae gan Gymru yr asedau naturiol i ysgogi cyfleoedd sy'n deillio o ynni a diwydiant adnewyddadwy. Yn y gogledd, mae prosiect llif llanw Morlais wedi creu tua 100 o swyddi yn y cyfnod adeiladu, ac mae Jones Bros o Ruthun ac OBR Construction o Langefni wedi ennill contractau gwerth dros £25 miliwn. Byddwn yn nodi'r hyn a ddysgwyd o hyn fel bod rhaglenni mwy yn gallu sicrhau gwerth lleol tebyg i'n busnesau a'n cymunedau.
Mae adroddiadau annibynnol yn awgrymu y gallai'r gigawat cyntaf o ynni gwynt arnofiol yn y môr Celtaidd gynnal tua 3,000 o swyddi a gwerth bron i £700 miliwn o gyfleoedd o ran y gadwyn gyflenwi yn y degawd nesaf. Mae hwn yn amgylchedd cyflenwi hynod gystadleuol. Rwy'n benderfynol ein bod ni, yng Nghymru, yn defnyddio llawer o'r buddsoddiad hwn er budd ein heconomïau lleol. Mae hyn, wrth gwrs, yn ystyriaeth allweddol i ni wrth ystyried dyfodol Tata Steel yng Nghymru. Mae gwaith ar y gweill, unwaith eto, i ystyried gallu'r gadwyn gyflenwi, i dynnu sylw at unrhyw fylchau, ac i gysylltu â'n rhaglenni arloesi a sgiliau.
Ar draws y Llywodraeth, rydym yn sefydlu Trydan Gwyrdd Cymru i arwain prosiectau gwynt mawr ar y tir i gadw cymaint o werth â phosibl yng Nghymru, gan gynnwys, wrth gwrs, drwy'r gadwyn gyflenwi. Fel rhan o'n cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, lansiwyd Ynni Cymru ar 7 Awst. Nod Ynni Cymru yw gosod Cymru ar flaen y gad o ran datblygu a chyflawni prosiectau ynni lleol clyfar, gan sicrhau bod Cymru'n cael y gwerth a'r budd lleol mwyaf posibl o'r datblygiadau hyn.
Mae ein sefydliadau addysg eisoes yn estyn allan i fusnesau ac eraill i helpu i ddarparu cyrsiau ysgol ar ynni adnewyddadwy. Rydym eisiau i'r genhedlaeth nesaf elwa ar y gwaith rydym yn ei wneud ar ynni a'r sgiliau a'r swyddi sydd eu hangen ar Gymru ac y dylai eu creu. Rwyf hefyd wedi ymrwymo cyllid eleni i Sgiliau Adeiladu Cyfle yn sir Gaerfyrddin i ddatblygu rhaglen profiad gwaith sero net ar gyfer dysgwyr plymio a thrydan. Dylai hynny gefnogi 120 o bobl ifanc i ennill sgiliau newydd hanfodol a'u helpu i gael gwaith.
Mae'r cynnydd o ran y gwaith ar y môr yn dal i gael ei rwystro gan faterion a grëwyd gan broses ymgeisio Ystad y Goron. Dylwn ddweud bod y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cael cyfarfod adeiladol gydag Ystad y Goron yr wythnos diwethaf. Ac, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, mae Gweinidogion a swyddogion yn gweithio'n galed i ddatrys yr heriau ac i fanteisio'n iawn ar y cyfleoedd er budd Cymru.
Mae tai yn sector allweddol o ran yr economi sylfaenol. Mae data yn dangos bod 84 y cant o wariant yn cael ei wario gyda busnesau yng Nghymru, gan helpu dros 1,000 o bobl i gael gwaith a chreu bron i 800 o gyfleoedd prentisiaeth. A byddwn yn defnyddio'r cyfraniad gwych hwn i'n heconomi i lywio sut rydym yn sicrhau'r gwerth mwyaf posibl o fuddsoddiad mewn tai arloesol a'n rhaglenni ôl-osod er mwyn optimeiddio.
Yn y gogledd-ddwyrain, mae prosiect cydweithredol yn sefydlu hwb datgarboneiddio, sy'n cynnwys y byd academaidd, cymunedau, busnesau a Llywodraeth Cymru, a'i nod yw ôl-osod 18,000 o gartrefi dros y 10 mlynedd nesaf. Mae wedi'i leoli ym mro Sage Todz, ym Mhen-y-groes, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y cynnydd sy'n cael ei wneud ar y prosiect hwnnw dros y blynyddoedd nesaf. Bydd yr hwb hwnnw'n hwyluso ac yn cyflymu datgarboneiddio stoc dai'r rhanbarth trwy ddarparu rhaglenni hyfforddi achrededig mewn diwydiannau gwyrdd, datblygu a chymhwyso deunyddiau a chynhyrchion newydd ac arloesol, a darparu ar gyfer gweithlu medrus gydag arbenigedd i weithio ar gynlluniau datgarboneiddio. Bydd yr hwb yn ganolbwynt ar gyfer tyfu'r sector adeiladu lleol. Bydd perthnasoedd agos hefyd yn cael eu datblygu gyda sefydliadau gan gynnwys Gyrfa Cymru ac ysgolion lleol i annog llwybrau gyrfa i bobl ifanc, yn enwedig merched, i'r sector adeiladu ac i ddiwydiannau gwyrdd y dyfodol.
Rwy'n gwybod bod capasiti yng nghadwyn gyflenwi'r sector adeiladu yn heriol. Mewn ymateb i hyn, y llynedd fe wnes i ariannu Simply Do, sef BBaCh o Gymru, i weithio yn y sector tai i helpu i fynd i'r afael â'r her hon. Maen nhw wedi helpu cymdeithas dai Caredig i ddod o hyd i bum contractwr lleol newydd. Rwyf wedi comisiynu gwaith pellach eleni i helpu i gynyddu hyn. Erbyn hyn mae Simply Do yn ymgysylltu â phum landlord cymdeithasol arall i ddod o hyd i gontractwyr lleol newydd i helpu i gyflawni rhaglenni tai yn y dyfodol.
Byddwn yn parhau i helpu i ddatblygu a thyfu'r economi sylfaenol. Mae'r cynnydd rydym yn ei wneud yn galonogol, ar draws y Llywodraeth a'r sectorau busnes. Edrychaf ymlaen at adeiladu ar y gwaith rydym wedi'i wneud hyd yma yn y flwyddyn sydd i ddod ac, wrth gwrs, at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Mae yna gysylltiad cynhenid rhwng yr economi sylfaenol a'r ffordd rydym yn byw, ac mae'n cynnwys popeth o'r gofal a gawn i'r bwyd rydym yn ei fwyta. O'r herwydd, mae potensial enfawr yn yr economi sylfaenol i adeiladu cydnerthedd yn ein heconomïau lleol ac i gryfhau ein cadwyni cyflenwi. Nawr, mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio'n benodol at gynlluniau'r economi sylfaenol mewn tri maes lle mae buddsoddiad sylweddol: trafnidiaeth, ynni a thai. O ran trafnidiaeth, mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud bod rhai awdurdodau lleol yn gweithredu bysiau trydan newydd erbyn hyn, ond nid oes gan bob awdurdod lleol y cerbydau hyn yn anffodus. Serch hynny, rwy'n falch o glywed bod rhywfaint o waith da wedi'i wneud wrth ddadansoddi cyfleoedd cadwyn gyflenwi ledled Cymru o'r newid i fysiau trydan. Ac mae'r Gweinidog wedi cyfeirio heddiw at delemateg, peiriannau tocynnau ac echelau ôl-osod trydan i sicrhau bod mwy o gynnyrch Cymreig yn mynd i mewn i'r cerbydau. Mae'r cynnydd hwn mewn rhai rhannau o Gymru i'w groesawu, wrth gwrs, ond mae angen i ni sicrhau bod pob rhan o Gymru yn datblygu galluoedd cyflenwi lleol yn effeithiol, ac felly efallai y gallai ddweud mwy wrthym am sut mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno arferion gorau ledled Cymru.
Nawr, mae'r datganiad heddiw hefyd yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ad-drefnu teithio ar fysiau yng Nghymru, ac mae'r Gweinidog yn cyfeirio at newid trefniadau caffael i sicrhau bod mwy o ddylanwad ar y gwasanaeth a'r gadwyn gyflenwi. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud ychydig wrthym am y newid hwnnw o ran arferion caffael a sut mae'n edrych, yn ogystal ag egluro sut mae'r arferion caffael newydd hynny'n darparu gwell gwerth i'r gwasanaeth ac, yn wir, y gadwyn gyflenwi.
Mae'r Gweinidog wedi sôn am ynni, ac rwy'n falch iawn ei fod wedi cyfeirio at Dragon Charging o sir Benfro. Mae'r datganiad heddiw yn ei gwneud hi'n glir iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi partneriaid cyflawni i sicrhau bod cronfa cerbydau allyriadau isel iawn y flwyddyn nesaf yn darparu gwerth economaidd lleol pellach, ac rwy'n gobeithio y gall ddweud wrthym sut mae'r gefnogaeth honno yn edrych mewn gwirionedd. Mae'r datganiad hefyd yn cyfeirio at yr ynni gwynt arnofiol yn y môr Celtaidd, yr ydym yn gwybod y gallai gynnal tua 3,000 o swyddi a gwerth bron i £700 miliwn o gyfleoedd cadwyn gyflenwi yn ystod y degawd nesaf. Mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud bod hwn yn amgylchedd cyflenwi hynod gystadleuol, ac mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn defnyddio cymaint o'r buddsoddiad hwn er budd ein heconomïau lleol. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw drafodaethau y mae wedi'u cael gyda datblygwyr a rhanddeiliaid lleol ynghylch atgyfnerthu'r cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi y mae ynni gwynt arnofiol ar y môr yn eu cynnig i'r economïau hynny, yn enwedig yn y de-orllewin.
Mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at sefydlu Trydan Gwyrdd Cymru, y bwriedir iddo arwain prosiectau ynni gwynt mawr ar y tir ac sydd â'r bwriad o gadw cymaint o werth â phosibl yng Nghymru. Ychydig o wybodaeth sydd wedi bod am y datblygiad hwn ers i'r Gweinidog Newid Hinsawdd gyhoeddi penodiad y prif weithredwr nôl ym mis Awst. Rwy'n deall bod disgwyl i'r cwmni gael ei lansio ym mis Ebrill 2024, ac efallai y gallai'r Gweinidog gadarnhau a yw hynny dal yn wir a rhoi diweddariad cyffredinol ar ddatblygiad y cwmni. Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir ei bod yn canolbwyntio ar gynnwys cwmnïau o Gymru a darparu gwerth cymdeithasol i Gymru, ac rwy'n awyddus i ddeall mwy am sut mae hynny'n digwydd.
Mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud bod tai yn sector allweddol o ran yr economi sylfaenol, ac mae cymaint o gyfleoedd i adeiladu cadwyni cyflenwi lleol cryfach, mwy cydnerth yn y maes hwn. Rwy'n falch o glywed bod hwb datgarboneiddio yn cael ei sefydlu yn y gogledd-ddwyrain sy'n cynnwys rhanddeiliaid lleol, y byd academaidd, busnesau a Llywodraeth Cymru, sy'n anelu at ôl-osod 18,000 o gartrefi dros y 10 mlynedd nesaf. Mae angen i ni weld mwy o'r gweithgarwch hwnnw mewn rhannau eraill o Gymru hefyd, ac felly efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym sut mae'n lledaenu'r arfer da hwnnw fel y gall rhannau eraill o Gymru ddysgu o'r prosiect hwn.
Nid yw'r datganiad heddiw yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at adeiladu cyfoeth cymunedol a'r cyfleoedd y gallai hynny eu cynnig i Gymru. Fel y soniwyd yn gynharach yn y Siambr hon, mae anawsterau sylweddol wedi bod o ran datblygiad Banc Cambria, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig nad ydym yn gweld y cynigion ar gyfer banc cymunedol yng Nghymru yn cael eu colli. Nodaf fod y Trefnydd yn gynharach heddiw wedi crybwyll bod posibilrwydd y byddai'r Gweinidog yn cyflwyno datganiad ar hyn ddechrau'r flwyddyn nesaf, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai gadarnhau a yw hynny'n wir. Ond byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog heddiw roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ynghylch y cynigion ar gyfer banc cymunedol, ac unrhyw fentrau eraill sy'n cael eu hystyried o ran adeiladu cyfoeth cymunedol yma yng Nghymru.
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, rwyf eisiau crybwyll contract economaidd Llywodraeth Cymru, yr wyf yn credu y gallai chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu rhai sectorau yn yr economi sylfaenol. Er enghraifft, mae nifer fach o fusnesau mawr yn chwarae rhan annatod yn y diwydiant bwyd, yn enwedig archfarchnadoedd, ac mae gennym gyfle drwy gontract economaidd y Llywodraeth i annog archfarchnadoedd yng Nghymru i ddefnyddio mwy o gynhyrchwyr a chyflenwyr o Gymru ac i wella eu telerau cyflenwi. Felly, efallai y gallai ddweud ychydig mwy wrthym am sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r offer sydd ganddi, fel y contract economaidd, i annog busnesau mwy i ddefnyddio mwy o gynnyrch ein busnesau a'n cynhyrchwyr domestig llai. Felly, i gloi, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac edrychaf ymlaen at glywed mwy yn y maes hwn yn y dyfodol. Diolch.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Wrth gwrs, fe roddais i enghreifftiau ym mhob un o'r tri maes, ynni a thrafnidiaeth a thai, yn fy natganiad, a doedd hynny ddim yn gamgymeriad; roedd yn ddiweddariad ar y gwaith rydyn ni'n ei wneud, a dyna pam rwy'n dweud bod gennym ni gynnydd gwirioneddol i adeiladu arno, ac rwy'n ddiolchgar am y sylwadau a'r cwestiynau adeiladol.
Ac rwy'n credu bod eich dau gwestiwn cyntaf yn mynd gyda'i gilydd yn gyffredinol. Pan fyddwn ni'n ystyried aildrefnu'r sector bysiau yng Nghymru, bydd hynny'n ein galluogi i gyfuno'r galw a dylai ganiatáu i ni gael mwy o ran caffael, sy'n anghyfartal ar hyn o bryd. Dylai hefyd ganiatáu i ni wneud mwy o gynnydd ar ddatgarboneiddio ac yna'r enillion lleol yr ydym yn disgwyl eu cael o hynny. Ac mae gennym nifer o gyfranogwyr i weithio gyda nhw eisoes o ran bysiau trydan, yr wyf wedi sôn amdanyn nhw, ond hefyd y potensial i dreialu bysiau hydrogen yng Nghymru hefyd. Rydym yn argyhoeddedig bod cerbydau trydan yn rhan o'r ateb ar gyfer y dyfodol. Rydym hefyd yn argyhoeddedig y bydd gan hydrogen ran i'w chwarae hefyd. Ac felly, o ystyried topograffi gwahanol rannau o Gymru, mae'n bosibl mai celloedd tanwydd hydrogen fydd yr ateb, yn hytrach na cherbydau trydan. Nawr, er mwyn gweld hynny'n digwydd, mae angen i ni feddwl am ble rydym yn cael y cyflenwad hydrogen—hydrogen gwyrdd yn ddelfrydol—ac wedyn meddwl am sut gallwn ni gael mwy o weithgynhyrchu o hynny hefyd. Os ydym mewn sefyllfa lle mae mwy o ddisgwyliadau gan bobl yr ydym yn caffael cyfran fwy o'n gwasanaeth oddi wrthyn nhw, rwy'n credu y gallwn ni hefyd ddisgwyl mwy o ran caffael yr hyn maen nhw'n ei wneud, naill ai o ran ôl-osod neu o ran adeiladu newydd hefyd. Felly, rydym eisoes yn siarad â nifer o gwmnïau am hynny, ac mae hon yn enghraifft dda o'r croesiad rhwng Gweinidogion newid hinsawdd a'r economi a deall yr hyn sy'n bosibl ac yna sut rydym yn gweithredu arno yn ymarferol.
Mae hynny hefyd yn berthnasol, er enghraifft, i'r pwynt wnaethoch chi am Dragon Charging. Rwy'n falch bod yr Aelod wedi nodi'r cyfeiriad at sir Benfro—o leiaf un ohonyn nhw; mae mwy a allai ddod, i feddwl am yr hyn y gallwn ni ei wneud. Felly, maen nhw wedi cael eu cefnogi gyda rhywfaint o gymorth gan y gronfa cerbydau allyriadau isel iawn. Rydym hefyd yn edrych ar y gwahanol bethau y gallwn ni eu gwneud drwy ein prosiectau prif ffrwd. Felly, os ydych chi'n meddwl am y gwaith y mae Busnes Cymru eisoes yn ei wneud, yn edrych ar sut mae'r cyfleoedd hynny'n bodoli, gyda'r cyngor busnes yn ogystal â'u helpu i ddeall ble mae'r cyfleoedd hynny, dylai hefyd gael ei wneud yn fwy gweladwy gan rywfaint o'r gwaith rydym yn parhau i'w wneud yn y gwahanol sectorau yn ein cynllun gweithredu gweithgynhyrchu. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn hyrwyddo'n barhaus y ffaith bod gweithgynhyrchu yn cyfrif am gyfran fwy o'n heconomi yng Nghymru na'r DU yn gyffredinol. Mae gan weithgynhyrchu uwch ddyfodol da, ac roeddwn i'n falch iawn o glywed y Canghellor yn sôn am weithgynhyrchu uwch yr wythnos diwethaf. Hoffwn weld mwy yn mynd i mewn i'r cymorth ymarferol ar gyfer hynny, ond, mewn gwirionedd, dylai cael sgwrs am ddyfodol gweithgynhyrchu ar lefel y DU a Chymru fod yn newyddion da i bob un ohonom.
Ac o ran rhai o'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw ar rywfaint o'r dyfodol ar gyfer y cyflenwad hwnnw, mae'n rhan o'r rheswm pam rydym wedi bod yn cael sgyrsiau gyda chwmnïau o Japan sydd eisoes yn buddsoddi ac yn meddwl am gynlluniau treialu a allai fynd ymhellach o ran creu hydrogen gwyrdd, ei ddefnyddio a'r hyn y byddai hynny'n ei olygu. Ac, yn wir, roedd yn rhan allweddol o'r sgwrs a gefais gydag RWE pan oeddwn i yn yr Almaen yn ddiweddar, gan feddwl, eto, am yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn sir Benfro a rhai o'r mentrau ar y cyd sydd ganddyn nhw. Felly, mae'r holl bethau hynny'n bosibl, ac rydym yn dal i fod yn y cyfnod arddangos o ran llawer o'r pethau hyn, ond, mewn gwirionedd, bydd deall yr hyn y byddwn ni'n ei gael o hynny yn werthfawr o ran cadarnhau maint y cyfle sy'n bodoli i ni yma yng Nghymru. Y risg yw, os na fyddwn yn gwneud hynny, bydd yr holl arddangoswyr hynny'n digwydd mewn rhannau eraill o'r byd a bydd y llinellau cyflenwi yn cael eu creu o'u cwmpas, ac fe fyddan nhw'n aeddfed a byddwn ni wedyn yn mewnforio hynny a dim ond y gwaith cynnal a chadw lleol fydd gennym ni.
Yn olaf, o ystyried eich bod wedi gofyn am Fanc Cambria ac adeiladu cyfoeth cymunedol, rwy'n credu bod adeiladu cyfoeth cymunedol yn fwy na mynediad at gymorth ariannol lleol yn unig. Mae'n rhan ohono. Mae'n rhan o'r rheswm pam rydym yn siarad cymaint am gaffael, am sut rydych chi'n cadw cyfoeth mewn ardal, gan fwriadu adeiladu ar yr hyn rydych chi'n ei wario, a pham. Ac mae hynny'n rhan o'r sgyrsiau rydym yn eu cael am ein contract economaidd lle rydym yn cael sgyrsiau rheolaidd â chyflogwyr mwy ynghylch o ble mae eu cadwyn gyflenwi'n dod, pwy sy'n cymryd rhan ynddi, ac nid dim ond y bobl y maen nhw'n eu cyflogi'n uniongyrchol, ond yr holl gontractau o'i chwmpas. Ac, mewn gwirionedd, yn y byd ar ôl COVID, mae llawer o fusnesau yn ceisio cwtogi eu cadwyni cyflenwi. Felly, mewn gwirionedd, i'n busnesau mwy sydd yma eisoes, a'r rhai yr ydym yn dal i ddisgwyl y byddwn ni'n eu denu yn y dyfodol, bydd y gadwyn gyflenwi leol honno'n bwysicach iddyn nhw ac i ni wrth ddeall gwerth eu buddsoddiad.
Luke Fletcher.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad.
Ar ei lefel fwyaf sylfaenol, mae'r economi yn ymwneud â phobl, onid yw? Felly, mae'r economi sylfaenol yn cyd-fynd â'r egwyddor hon yn eithaf taclus. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cyfres o flaenoriaethau ar gyfer cryfhau'r economi sylfaenol, ond, fel pob amser, y manylion sy'n bwysig.
Mae'n iawn fod trafnidiaeth, ynni a thai yn flaenoriaethau, ond, yn debyg iawn i lefarydd y Ceidwadwyr, roeddwn i'n poeni am y ffaith na chafwyd sôn am adeiladu cyfoeth cymunedol. Wrth gwrs, rwy'n derbyn yn llwyr ei fod yn mynd y tu hwnt i fancio, ond mae bancio, yn benodol, yn bryder i nifer o Aelodau ar draws y Siambr. Felly, rwy'n edrych ymlaen at ddatganiad y Gweinidog yn y flwyddyn newydd ar fanc cymunedol i Gymru.
Nawr, o ran trafnidiaeth yn benodol, mae gennyf i ddiddordeb yn yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am gyfleoedd o ran y gadwyn gyflenwi a'r posibilrwydd o gynhyrchu mwy yma yng Nghymru. Gallaf weld y byddai dibyniaeth ar Trafnidiaeth Cymru i gyflawni rhywfaint o hyn. Byddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod faint o ran y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chwarae yn y prosesau a amlinellwyd, oherwydd, er ei bod yn dda gweld hyn ar bapur, gallwch hefyd weld, ar bapur, ac mewn gwirionedd, bod Trafnidiaeth Cymru yn ei chael hi'n anodd cyflawni'r hyn y mae i fod i'w gyflawni nawr, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cael hyn yn iawn i wneud y mwyaf o allu Cymru i gynhyrchu llawer o'i hanghenion ei hun.
Nawr, mae yna uchelgais i dyfu'r sector bach a chanolig hefyd, rhywbeth sydd wedi'i drafod dim ond yr wythnos diwethaf yn eich datganiad blaenorol. Mae ein busnesau bach a chanolig domestig yn parhau i'w chael hi'n anodd gyda diffyg cymorth ar gyfer cynllunio olyniaeth, bwlch sgiliau yn y gweithlu a rhwystrau rhag arloesi. Mae hefyd y mater o gydweithredu rhanbarthol â sefydliadau cyhoeddus lleol, rhywbeth a godais yr wythnos diwethaf fel rhan allweddol o fodel mittelstand yr Almaen.
Er bod y byrddau gwasanaethau cyhoeddus a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i fod yn sianeli ar gyfer hyn o fewn cyd-destun yr economi sylfaenol, mae'r adroddiad diweddaraf gan Archwilio Cymru wedi nodi pryderon difrifol am eu perfformiad. Yn arbennig o berthnasol oedd y ffaith mai dim ond un bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a ddisgrifiwyd fel un sydd â lefel dda o ymwneud â busnesau bach a chanolig drwy'r fforymau busnes rhanbarthol. Mae hyn yn adlewyrchu tuedd ehangach o ddiffyg arweinyddiaeth lleoedd o ran meithrin sefydliadau llywodraethu rhanbarthol, sydd wedi bod yn allweddol wrth ymwreiddio anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol ledled y DU. Felly, mae angen i ni rymuso sefydliadau angori yn well yn ein cymunedau lleol, fel prifysgolion a busnesau bach, i gymryd rôl flaenllaw mewn datblygu economaidd rhanbarthol, fel yr arloeswyd trwy fodel Preston o adeiladu cyfoeth cymunedol. Felly, i'r perwyl hwnnw, sut mae hyn yn cyd-fynd â gweledigaeth y Gweinidog?
Nawr, mae adeiladu economi sylfaenol gydnerth a deinamig hefyd yn dibynnu ar fframwaith polisi hirdymor, oherwydd, mae natur y gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu yn golygu na all cyfranogwyr yn yr economi sylfaenol ddarparu'r mathau o enillion cyllidol uniongyrchol a diriaethol a fyddai'n ddisgwyliedig fel arfer o fuddsoddiad y wladwriaeth yn y sector preifat. Ond, fel y nodwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig, ymhlith eraill, mae risg y bydd dull cyffredinol Llywodraeth Cymru o ddatblygu economaidd sy'n seiliedig ar sectorau yn gwthio gwasanaethau yn yr economi sylfaenol allan, gan eu bod yn cael eu gorfodi i gystadlu â chyrff sydd â phwyslais mwy masnachol. Wrth gwrs, mae'r dull eang hwn o ymdrin ag economi Cymru wedi bod yn amlwg byth ers i Awdurdod Datblygu Cymru gael ei ddiddymu. Felly, mae angen i ni feddwl yma sut y gallem roi cylch gwaith penodol naill ai i sefydliad newydd neu i un sy'n bodoli eisoes i oruchwylio gwelliannau strwythurol hirdymor yn yr economi sylfaenol. A yw'r Gweinidog wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i hyn?
Rwy'n cydnabod ymhellach bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa her yr economi sylfaenol sy'n werth £4.5 miliwn hefyd i gefnogi cyfres o brosiectau arbrofol yn y maes hwn. Ond ar ba bwynt ydym yn symud ymlaen o gyfnod arbrofol a thuag at lwyfan polisi mwy parhaol? Ac a fydd hyn wedyn yn cynnwys sefydlu academi economi sylfaenol yng Nghymru hefyd, fel yr argymhellwyd gan yr astudiaeth cwmpasu a dichonoldeb a gomisiynwyd gennych yn gynharach eleni?
Yn olaf, mae'r Gweinidog yn tynnu sylw at Ystad y Goron fel rhwystr. Rydym wedi arddel y farn honno ers tro ar y meinciau hyn, ac mae'n dda gweld cytundeb trawsbleidiol ar hyn. Ond i ba raddau mae'r Gweinidog yn gwthio hyn gyda'i swyddogion cyfatebol yn y DU yn y Llywodraeth bresennol, ac a yw'n ei wthio gydag arweinyddiaeth Llafur yn San Steffan?
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rydym yn parhau i gyflwyno'r achos i bob rhanddeiliad ynghylch dyfodol Ystad y Goron a rhan Cymru ynddi. O ran eich pwynt am sut rydym yn cefnogi'r dull ehangach o ymdrin â'r economi sylfaenol, rydym yn parhau i weithio gyda Cynnal Cymru i helpu i adeiladu gwaith a gallu ar draws ystod o feysydd a sut i hyrwyddo hynny'n effeithiol ledled Cymru.
O ran sectorau a lleoedd, nid wyf yn derbyn bod yna rwystr caled rhwng canolbwyntio ar sectorau allweddol, pan ydym yn deall bod gennym ni gyfle gwirioneddol i dyfu. Os meddyliwch chi am y sector creadigol, mae'n tyfu'n sylweddol. Mae'r trydydd clwstwr creadigol mwyaf yn y DU yma yng Nghymru, ar ôl Llundain a Manceinion, ac mae hynny oherwydd ein bod wedi canolbwyntio ar hynny, ynghyd â thechnoleg ac ystod eang o feysydd eraill lle mae gennym asedau go iawn i feddwl amdanyn nhw a'u cynnig a'u gweld yn cael eu hehangu.
Ond mae gennym ddiddordeb hefyd mewn lle. Os meddyliwch chi am y gwaith rydym wedi'i wneud ar Arfor, er enghraifft, mae yna ddull seiliedig ar le yn y fan honno sydd hefyd yn ymwneud â'r iaith. Meddyliwch am brosiect y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd—rwy'n edrych ar y Gweinidog addysg yn yr ystafell—mae hwnnw'n gyfle sylweddol rydym wedi'i greu gyda buddsoddiad dan arweiniad y sector cyhoeddus. Rydym yn chwilio am fuddsoddiad gan y sector preifat a dylai fod cyfleoedd am lawer o swyddi da yno na fyddai'n cael eu gweld pe na baem yn arwain y potensial buddsoddi hwnnw yn y lle cyntaf. Ni fyddai'r farchnad wedi cyflawni hynny ar ei phen ei hun.
Felly, mewn gwirionedd, mae hon yn Llywodraeth sy'n cymryd lle o ddifrif, ochr yn ochr â sectorau, a byddwch chi'n gweld hynny yn y gwaith rydym yn ei wneud, nid yn unig drwy'r cytundeb cydweithio ond y gwaith rydym eisoes wedi'i gomisiynu drwy'r OECD, sy'n edrych i weld a yw ein strwythurau yn y lle gorau posibl i wneud hynny. Rwy'n credu bod hynny'n berthnasol i'r pwynt roeddech chi'n ei wneud am fyrddau sector cyhoeddus hefyd. Rwy'n credu mewn gwirionedd mai ein rhanbarthau economaidd ni yw'r lleoedd pwysicaf, ynghyd ag awdurdodau lleol unigol, o ran yr hyn y gallan nhw ei wneud gyda'i gilydd i gefnogi'r economi sylfaenol yn ymarferol. Mae modelau Preston a Plymouth yn bethau y mae gennym ddiddordeb ynddyn nhw fel Llywodraeth ac, yn wir, mae gan awdurdodau lleol ddiddordeb ynddyn nhw hefyd. Mae diddordeb arbennig ganddyn nhw yn y ffordd maen nhw'n defnyddio eu gwariant eu hunain i sicrhau mwyfwy o fudd i fusnesau lleol. Ac mae cynnydd gwirioneddol wedi bod yn y 10 mlynedd diwethaf o ran gwneud hynny. Rwy'n credu y gallai awdurdodau lleol eu hunain ddweud stori dda wrthych chi am yr hyn maen nhw'n ei wneud. A gan ein bod ni eisiau i'r rhanbarthau economaidd hynny, dan arweiniad awdurdodau lleol, gymryd mwy o rôl arweinyddiaeth a rôl partneriaeth gyda'r Llywodraeth ar ddatblygu economaidd, gallwch chi ddisgwyl iddyn nhw nid yn unig edrych ar brosiectau magned mwy, ond beth gallan nhw ei wneud gyda'i gilydd i gefnogi'r economi sylfaenol leol.
O ran bysiau, wrth gwrs, bydd yna Fil gerbron y Senedd. Bydd craffu ar hwnnw, nid yn unig o ran y gyfraith a'r hyn y mae'n ei ddweud, ond, mewn gwirionedd, o ran yr uchelgais a'r ffordd rydym eisiau ailreoleiddio bysiau i ddarparu gwasanaeth gwell sy'n cynnig gwell gwerth am yr arian rydym yn ei wario, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu wedyn o ran ble mae'r bysiau'n dod, sut maen nhw'n cael eu cynnal a'u gweithredu, y cyfle i ôl-osod, ac, yn wir, y cyfle i adeiladu bysiau newydd hefyd.
Edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, nid yn unig yn y Siambr ond o'i chwmpas a'r tu allan iddi, ar yr hyn rydym yn ei wneud gyda Banc Cambria a'r weledigaeth ar gyfer bancio cymunedol. Rydym yn dal i siarad â grwpiau sydd â diddordeb am sut y gallwn fwrw ymlaen â hynny. Nid yw'n fater o roi'r gorau i'r syniad—i'r gwrthwyneb. Rwy'n gobeithio y bydd gennyf i rywbeth adeiladol i'w ddweud yr wyf yn credu y bydd yn adeiladu ar y consensws trawsbleidiol gwirioneddol sydd yn y Siambr hon, sy'n gryfder gwirioneddol, ein bod ni am weld mwy o wasanaethau bancio ar y stryd fawr unwaith eto ac mae Banc Cambria yn fodel da rydym yn parhau i weithio gydag ef i geisio gwneud hynny.
Pe byddem yn trafod yr economi sylfaenol yn Llundain, bydden nhw'n nodi bancio a chyllid, yn Nyffryn Silicon, bydden nhw'n nodi TGCh, ac, yng Nghaergrawnt, gwyddoniaeth, ymchwil, peirianneg a thechnoleg; yng Nghymru, rydym yn nodi'r economi gefnogaeth yn bennaf. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad i gefnogi'r sector ynni adnewyddadwy, lle mae gan Gymru yr asedau naturiol i ysgogi cyfleoedd o ran ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni'r llanw. Oes yna unrhyw ddiweddariad ar forlyn llanw Abertawe? Mae'n bwysig bod prifysgolion, colegau addysg bellach a diwydiant yn cydweithio i ddatblygu'r sector hwn fel y gall pob un ohonom elwa. Gweinidog, dywedoch fod yr amcangyfrifon yn dangos bod yr economi sylfaenol yng Nghymru yn cynrychioli tua 40 y cant o gyflogaeth yng Nghymru. Pa ganran o werth ychwanegol gros mae'n ei gynhyrchu a sut mae'r cyflog canolrif yn y diwydiannau hyn yn cymharu â'r cyflog canolrif yng Nghymru?
Nid oes gennyf y ffigurau wrth law ar gyfraniad gwerth ychwanegol gros i'r economi sylfaenol, ond rwy'n siŵr y gallaf eu cael i Mike. Mae yna bwynt, serch hynny, ynglŷn â'r cydbwysedd yn yr economi sydd ei angen arnom. Felly, gall economi bob dydd rydym yn dibynnu arni ar gyfer ystod o'n nwyddau a'n gwasanaethau fod â gwerth gwirioneddol, ond mae'n ymwneud â'r holl bethau hefyd sy'n creu ymdeimlad o le hefyd. Oherwydd os nad oes gennych chi rywfaint o'r economi honno'n gweithio, yna, mewn gwirionedd, mae'n effeithio ar sut mae pobl yn teimlo am ble maen nhw'n gweithio, ac rwy'n credu bod hynny'n ffactor eithaf pwysig wrth ystyried pam rydym yn gwneud rhywfaint o hyn, yn ogystal â'r ffaith bod llawer o bobl yn gweithio yn y sector.
Ac o ran y morlyn llanw, rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gydag arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cadw gweledigaeth ddiwygiedig ar gyfer morlyn llanw Abertawe sydd â budd economaidd go iawn o'i gwmpas, yn ogystal â'r cyfle i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Byddwn i'n fwy na pharod i gael sgwrs gydag ef ac Aelodau eraill Abertawe ac, yn wir, y cyngor, am gam presennol y cynigion datblygu a'r hyn y gallai hynny ei olygu ar gyfer y dyfodol.
Mae cyflwyno'r prentisiaethau gradd newydd ym maes peirianneg ac adeiladu rheilffyrdd yn dangos ymrwymiad i'r economi sylfaenol, ac mae gan addysg bellach, hefyd, ledled Cymru, gysylltiadau mawr â mentrau bach a chanolig sy'n mynd y tu hwnt i ddarparu cyrsiau yn unig—maen nhw'n datblygu cyrsiau ac yn datblygu myfyrwyr hefyd. Felly, dau beth: pa rôl y mae'n gweld dyfodol addysg bellach yn ei chwarae yn hynny, yn enwedig o ystyried y pryderon am ddyfodol targedau prentisiaethau? A hefyd mae angen sgwrs am brentisiaethau gradd a sut maen nhw'n cael eu cefnogi a'u hariannu os yw sylfaen addysgol yr economi sylfaenol am ffynnu.
Mae Hefin David wedi bod yn gyson iawn o ran y diddordeb y mae wedi'i ddangos yn yr holl faes polisi hwn, nid yn unig oherwydd ei fod wedi gwneud adroddiad a gomisiynwyd gan y Gweinidog addysg, ond, mewn gwirionedd, cyn hynny hefyd, ac yn arbennig ym maes prentisiaethau gradd. Mae'r her o ran y gyllideb yn anodd iawn, ond byddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn prentisiaethau gradd. Byddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn llawer o brentisiaethau ehangach hefyd. Yr her yw, ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen, nad wyf yn credu ein bod ni'n mynd i gyrraedd ein targed yn y tymor hwn. Bydd yn cymryd blwyddyn arall o leiaf i gyrraedd y 125,000 y gwnaethom ni ei addo ar ddechrau'r tymor hwn, a oedd yn nodwedd allweddol yn ein maniffesto. Mae hynny'n amlygu lefel anhygoel yr her sy'n ein hwynebu o ran y gyllideb.
Er gwaethaf hynny, rwy'n credu bod rheswm da dros fod yn optimistaidd am yr hyn rydym yn ei wneud. O gymharu â Lloegr, rydym wedi dewis, dros gyfnod parhaus, yn rhannol gyda hen gronfeydd Ewropeaidd, i fuddsoddi yn y sylfaen prentisiaethau a sgiliau. Mae gennym system sy'n cyflawni cyfraddau cwblhau gwell ac sydd, mewn gwirionedd, yn fersiwn fwy estynedig o'r un dros y ffin. Rwy'n dal i gredu, hyd yn oed drwy'r dewisiadau anodd a fydd gennym, y byddwn ni'n parhau i fuddsoddi mwy a chyflwyno mwy o brentisiaid mewn meysydd lle mae yna ddyfodol go iawn ym myd gwaith.
Rwy'n credu bod y pwynt rydych chi'n ei wneud am addysg bellach—. Rwy'n parhau i ystyried bod gan addysg bellach rôl allweddol i'w chwarae wrth ddarparu'r prentisiaethau hynny, ond yn llawer ehangach na hynny hefyd. Felly, rwyf i a'r Gweinidog addysg wedi cael sgyrsiau yn y cyfnod cyn y gyllideb am rai o'r heriau o ran y dewis y mae'n rhaid i ni ei wneud, ond hefyd am y ffaith bod gan addysg bellach ddyfodol go iawn.
Pan oeddwn i yn yr Almaen yn ddiweddar, roedd yn gyd-ddigwyddiad hapus fod grŵp o arweinwyr addysg bellach yn yr Almaen hefyd yn cwrdd â swyddogion cyfatebol, yn edrych ar y ffordd y gwnaethon nhw greu diwylliant dros ddegawdau nid yn unig o'r hyn a wnaeth y wladwriaeth i fuddsoddi mewn sgiliau yn y dyfodol, ond, mewn gwirionedd, y ffordd yr aeth busnesau eu hunain ati i fuddsoddi. Dyna un o'r heriau allweddol a nododd y Resolution Foundation ddoe yn ei adroddiad ar genedl lle mae diffyg twf, gan feddwl am 15 mlynedd o dwf cyflog a gollwyd ledled y DU. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r ffaith bod gwahaniaeth diwylliannol rhwng yr hyn y mae'r Llywodraeth ei hun yn ei fuddsoddi a'r dull tymor hwy o ymdrin â buddsoddiad, ac mae hynny'n gofyn am ddewisiadau gan y DU, yn ogystal â'r hyn y gallwn ni ei wneud yma, ond hefyd fod busnesau eu hunain yn buddsoddi mwy yn eu gweithlu yn gyffredinol mewn rhannau eraill o Ewrop nag yr ydym yn ei wneud ledled y DU. Felly, mae rhywfaint o'r newid diwylliannol hwnnw'n rhan o'r her a'r hyn rydym yn chwilio amdano yn y ffordd rydym yn gweithio gyda gwahanol gyflogwyr, cyflogwyr bach a chanolig, ac, yn wir, cyflogwyr mawr, y gwn fod gan yr Aelod enghraifft dda ohono yn ei etholaeth sef GE, lle maen nhw wedi buddsoddi hyd yn oed mwy yn eu rhaglen brentisiaethau eu hunain.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch. Diolch am amlinellu'r cynnydd sydd wedi'i wneud ym meysydd trafnidiaeth, ynni a thai, sy'n ardderchog, ac mae llawer o le ar gyfer datblygiadau pellach yno. Hoffwn ofyn i chi pam ym mis Mehefin na wnaeth y Cabinet ymrwymo i wneud unrhyw fath o fuddsoddiad sylweddol mewn bwyd, o ystyried ei fod yn rhan mor hanfodol o'r economi bob dydd, ac rydym yn buddsoddi llawer iawn o arian i wella bwyd ar gyfer prydau ysgol. O ystyried bregusrwydd cyflenwadau ffrwythau a llysiau, rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith rydych wedi'i wneud gyda Blas Gwent, er enghraifft, i ddosbarthu llysiau a ffrwythau ar gyfer Caerdydd, Caerfyrddin a sir Fynwy, ond nid yw'n ddigon o bell ffordd i ateb y galw. Felly, rydym yn dibynnu ar y cyflenwadau bregus hyn sy'n dod o dramor, ac mae hynny'n golygu arian yn mynd allan o'n heconomi. Ond, yn benodol, roeddwn i'n meddwl tybed pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i ddefnyddio ffermio fertigol, sy'n arbennig o ddefnyddiol yn ystod misoedd y gaeaf, er mwyn sicrhau diogelwch cyflenwadau a gall hynny gael ei bweru gan 100 y cant o ynni adnewyddadwy. Mae'n ymddangos i mi yn fuddugoliaeth gyflym ar gyfer datgarboneiddio ein bwyd, sef un o'r cyfranwyr mwyaf tuag at leihau ein hallyriadau carbon.
Rwy'n credu bod y ffordd y bydd amaethyddiaeth yn symud yn y dyfodol yn agwedd allweddol ar leihau ein hallyriadau. Mae'n un o'r sectorau lle rydyn ni'n chwilio am gynllun ar draws y sector o ran datgarboneiddio ac mae'n rhan o'r cynllun sgiliau sero net. Adlewyrchir hynny yn newisiadau a diddordebau fy hun, y Gweinidog newid hinsawdd, ac yn wir y Gweinidog materion gwledig hefyd. Ac mae hynny hefyd wedyn yn arwain at sut rydych chi'n cynhyrchu'n fwy effeithiol ac mewn modd sy'n ystyried yr effaith amgylcheddol hefyd, o ran y cynhyrchu bwyd yr ydyn ni eisiau ei weld yn parhau yng Nghymru.
Ac mewn gwirionedd, rydyn ni eisoes wedi gwneud llawer o waith ar gaffael bwyd yn y sector cyhoeddus, felly meddwl am sut rydyn ni'n edrych ar ochr y prynwr, a gwelliannau sy'n digwydd, yn ogystal â'r pethau y gallwn ni eu gwneud ar yr ochr gyflenwi hefyd. Felly, rydyn ni'n rhoi gwerth tua £85 miliwn bob blwyddyn i mewn i fwyd y sector cyhoeddus. O hynny, er bod 58 y cant gyda chwmnïau Cymreig, rydyn ni'n credu mai dim ond 23 y cant sy'n fwyd a diod o Gymru yn wreiddiol, felly rwy'n gwybod bod mwy y gallwn ni ei wneud a'r her yw sut y gallwn ni wneud hynny'n llwyddiannus ac yn raddol. Mae llawer o dystiolaeth o fewn awdurdodau lleol a'r gwasanaeth iechyd ar yr hyn y gallwch chi ei wneud i sicrhau eich bod yn wirioneddol fanteisio ar gynhyrchu bwyd yn lleol. Ein her yw sut rydyn ni'n cael mwy o bobl i fanteisio ar y cyfle i wneud hynny, ac mewn gwirionedd, i fod yn deg, mae hwn yn un o'r meysydd hynny yr ydyn ni, unwaith eto, yn eu trafod rhwng gwahanol rannau o'r Llywodraeth. Mae tîm y Gweinidog addysg wedi cydnabod bod cyfle wrth gyflwyno prydau ysgol am ddim i wneud mwy yn y maes hwn i sicrhau y bydd y buddsoddiad rydyn ni'n ei wneud ym mywydau plant hefyd yn arwain at ganlyniad yn y ffordd y mae cwmnïau sydd gennym yng Nghymru a chynhyrchu bwyd yn gweld budd materol hefyd, mewn gwirionedd.
Diolch i'r Gweinidog.
Mae eitem 4 wedi'i thynnu yn ôl.
Felly, eitem 5, datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar ganlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2022. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae canlyniadau PISA 2022 yn cael eu cyhoeddi heddiw. Nid dyma’r canlyniadau y byddem ni wedi hoffi eu gweld. Er bod y canlyniadau yn siomedig, mae’n hanfodol deall beth maen nhw’n ei ddweud wrthym ni, felly rwy’n meddwl ei bod yn bwysig edrych ar gyd-destun ehangach adroddiad PISA.
Fel y bydd Aelodau yn gwybod, cynhaliwyd y profion hyn yn 2022 pan oedd effeithiau'r pandemig yn dal i gael eu teimlo a COVID yn amharu'n ddifrifol ar addysg. Nid Cymru yn unig sydd yn y sefyllfa hon; mae COVID wedi effeithio ar berfformiad gwledydd ar draws y byd. Ers 2018, mae perfformiad cyfartalog yng ngwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi gostwng 10 pwynt mewn darllen a bron i 15 pwynt mewn mathemateg. Gwelodd yr Almaen, Gwlad yr Iâ, yr Iseldiroedd, Norwy a Gwlad Pwyl ostyngiad o 25 pwynt o leiaf mewn mathemateg. I ddarparu rhywfaint o gyd-destun cyffredinol, mae Cymru wedi sicrhau canlyniadau tebyg i Norwy a'r Unol Daleithiau ar gyfer mathemateg. O ran gwyddoniaeth, mae Cymru eto'n debyg i Norwy. O ran darllen, rydyn ni'n debyg i Ffrainc a'r Iseldiroedd.
Yn nes at adref, mae pob gwlad yn y Deyrnas Unedig wedi gweld dirywiad mewn perfformiad, ond mae'r OECD yn dweud yn glir bod angen i ni fod yn ofalus wrth gymharu â Lloegr a'r Alban, oherwydd yr hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel 'upward bias'. Mae'r OECD yn amcangyfrif y gallai'r canlyniadau fod saith i naw pwynt yn uwch na'r ffigur gwirioneddol. Ond, Ddirprwy Lywydd, wedi dweud hynny, rwyf eisiau bod yn glir fy mod i’n cydnabod bod Cymru ar ei hôl hi.
Yn 2018, cyn y pandemig, roedd safonau llythrennedd a rhifedd wedi dechrau gwella cryn dipyn, diolch i waith caled ein gweithlu addysgu. Ni oedd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig i wella ym mhob un o dri pharth PISA. Mae COVID wedi amharu ar y cynnydd hwn. Fel Gweinidog addysg, rwyf wedi codi fy mhryderon ynghylch effaith hirdymor y pandemig dro ar ôl tro. Ymddygiad, presenoldeb, a diddordeb mewn dysgu, mae'r pandemig wedi effeithio ar y rhain i gyd, ac nid dim ond ni sy'n dweud hyn: gwelwyd y pryderon hyn hefyd yn y data cenedlaethol a gyhoeddwyd gennym ni yn ddiweddar.
Ar draws y byd, mae absenoldeb o'r ysgol yn uwch nag yr oedd cyn y pandemig. Does dim rhyfedd bod effaith ar lythrennedd, rhifedd a chyrhaeddiad mewn gwyddoniaeth os oes gormod o ddisgyblion yn absennol o'r ysgol. Mewn ardaloedd difreintiedig, rydyn ni'n gwybod bod y broblem hon yn gwaethygu. Yn aml iawn, mae nifer o ffactorau cymhleth yn arwain at broblemau presenoldeb. Rydyn ni wedi buddsoddi'n helaeth i gefnogi ysgolion, fel rhoi cyllid ar gyfer mwy o swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, ond mae angen rhagor o gefnogaeth.
Ddoe, fe gynhaliwyd cyfarfod ein tasglu presenoldeb cenedlaethol ni ac fe fydd yn cyfarfod unwaith eto ym mis Ionawr. Fe fydd hynny'n ein helpu ni i roi ystyriaeth greadigol ar draws y system i ddarganfod datrysiadau i faterion sy'n gofyn dylanwad a mewnbwn o'r tu hwnt i'r sector addysg
Dirprwy Lywydd, mae hi'n bwysig cofio mai dim ond newydd ddechrau y mae ein diwygiadau addysg hirdymor ar ôl blynyddoedd o gynllunio, ond, fel mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yr OECD yn nodi, mae caboli addysg yn cymryd amser, yn anffodus. Mae'r dadansoddiadau a gyhoeddwyd heddiw yn tynnu sylw at bwysigrwydd systemau cydnerth o ran cefnogaeth i ddysgu. Mae'r OECD yn disgrifio'r rhain yn systemau sy'n darparu ymreolaeth i arweinwyr ysgolion wrth ddylunio cwricwlwm a rhoi pwyslais ar hunanwerthuso, ond gyda mecanweithiau ar gyfer sicrhau ansawdd ac atebolrwydd eglur. Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn system o'r fath. Cafodd ei chyflwyno ym mhob ysgol yng Nghymru bellach yn y flwyddyn hon, er na fydd y dysgwyr a oedd yn sefyll profion PISA y flwyddyn ddiwethaf wedi cael eu dysgu yn ôl y cwricwlwm newydd.
Cefnogwyd ac anogwyd ein cwricwlwm ni a'n dull newydd ni o ymdrin ag addysg gan yr OECD, ac mae'n adlewyrchu eu cyngor nhw ynglŷn â'r dull o sicrhau bod system addysg yn addas i'r dyfodol. Maen nhw'n tynnu sylw at bwysigrwydd cydnerthedd, tegwch, dysgu a llesiant—mae pob un ohonyn nhw'n ganolog i'n cwricwlwm newydd ni. Rydym ni wedi defnyddio tystiolaeth ryngwladol, yn enwedig oddi wrth yr OECD, i sicrhau bod ein disgwyliadau ni'n cyd-fynd â'r hyn sy'n effeithiol. Mae'r dystiolaeth ryngwladol yn eglur o ran yr angen i gefnogi dysgu o ansawdd uchel trwy gyfrwng dysgu proffesiynol a gwella ysgolion dros amser i gefnogi ysgolion mewn hinsawdd heriol i bob gweithiwr proffesiynol. Dyma'r hyn a fyddwn ni'n ei flaenoriaethu.
Ni wnaeth y cylch PISA hwn, fel dywedais i, asesu unrhyw ddysgu yn ôl y Cwricwlwm i Gymru, fodd bynnag, bydd yr adroddiad yn ein helpu i gryfhau'r gefnogaeth i ysgolion a dysgwyr ar y daith ddiwygio. Drwy gydol y cyfnod hwn, rwyf i wedi bod yn gwrando ac yn siarad â phenaethiaid, gydag athrawon a chydag undebau, y mae gan bob un ohonyn nhw'r un pryderon â minnau ynghylch safonau llythrennedd a rhifedd ers y pandemig. Mae'n rhaid i'r sgiliau craidd hyn fod yn flaenoriaeth lwyr i'r genedl. Ac er bod yr adroddiad heddiw yn dangos bod y bwlch rhwng ein dysgwyr mwyaf difreintiedig a'r lleiaf difreintiedig yn llai na'r bwlch ar gyfartaledd yn ôl yr OECD, mae hyn yn nodi'r her sydd gennym ni o ran ymestyn ein pobl ifanc mwy galluog, yn ogystal â chefnogi pob dysgwr.
Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn nodi maes dysgu a phrofiad ar sail y dystiolaeth ar gyfer mathemateg a rhifedd ar gyfer Cymru. Mae hefyd yn cynnig fframwaith i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau rhifedd trwy'r cwricwlwm cyfan. Wrth wireddu'r cwricwlwm, fe fyddwn ni'n cefnogi addysgwyr i ddatblygu dulliau sy'n cefnogi pob dysgwr i fod yn hyderus o ran defnyddio a chymhwyso ei sgiliau mathemateg a rhifedd. Mae ein pecyn cymorth llafaredd a darllen yn darparu pecyn o gymorth i ysgolion ac ymarferwyr ar gyfer nodi cyfleoedd i ymgyrraedd at safonau uchel o wrando, siarad a darllen. Mae ein diweddariad diweddar i'r pecyn cymorth yn atgyfnerthu fy ymrwymiad i o ran addysgu ffoneg systematig a chyson, fel mae 'Ein cenhadaeth genedlaethol: safonau uchel a dyheadau i bawb' yn nodi.
Dirprwy Lywydd, fe wyddom ni mai athrawon rhagorol yw'r allwedd i addysg dda, ac fe fyddwn ni'n cefnogi ein hathrawon i ganolbwyntio ar addysgu a chreu amser ar gyfer eu dysgu proffesiynol eu hunain trwy barhau â'n gwaith gydag undebau a'n partneriaid addysg eraill i ysgafnu llwyth eu gwaith. Mae codi safonau o ran darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn gofyn am ymatebiad drwy'r system gan bob arweinydd addysg unigol yng Nghymru. Ym mis Ionawr, fe fyddaf i'n dwyn ein partneriaid i gyd at ei gilydd ar gyfer datblygu cynllun trwy Gymru i sicrhau ein bod ni'n ymateb yn llawn ac mewn dull cynhwysfawr i'r her hon. Mae ein gweithlu addysg yn gwneud gwaith anhygoel o ran cefnogi ein disgyblion ni, ond y gwir amdani yw bod dros ddegawd o gyni yn parhau i wneud eu gwaith yn anos. Rwy'n parhau i ganolbwyntio ar wneud popeth yn fy ngallu i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen, gan roi'r cyfarpar angenrheidiol i'n hathrawon ar gyfer gwneud y gwaith gorau posibl.
I gloi, Dirprwy Lywydd, efallai na fydd plant yn gorfod dysgu ar sgrin mwyach am eu bod nhw wedi cael prawf cadarnhaol am COVID, ond mae effeithiau'r pandemig yn parhau i fod gyda ni. Mae ôl-effeithiau'r pandemig a thlodi cynyddol wedi rhoi ein hysgolion ar reng flaen argyfwng sy'n bodoli'r tu hwnt i fyd addysg yn unig. Ni allaf i wadu fy siom gyda chanlyniadau heddiw, ond maen nhw'n fy ngwneud i'n fwy penderfynol nag erioed o'r blaen o wneud hyn yn iawn. Rydym ni yng Nghymru newydd ddechrau cyflwyno diwygiadau ar raddfa eang. Fe fydd y diwygiadau hyn, gyda chanolbwyntio o'r newydd ar lythrennedd a rhifedd, yn hanfodol o ran cefnogi ein disgyblion a'n hysgolion, er mwyn i bob dysgwr, o unrhyw gefndir, allu cyflawni ei botensial yn llawn.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, a diolch i'r gweithlu sydd gennym. Fe hoffwn i ailadrodd hynny. Nid yw hyn yn bwrw sen arnyn nhw mewn unrhyw ffordd. Rydych chi a'ch Llywodraeth wedi siomi byd addysg yng Nghymru ers dros ddau ddegawd erbyn hyn. Ni ddaeth hyn yn fwy amlwg erioed o'r blaen nag wrth i ganlyniadau PISA gael eu cyhoeddi heddiw, Gweinidog. Roedd hyd yn oed eich Prif Weinidog chi eich hun yn dweud eu bod nhw'n siomedig. Ydynt, maen nhw.
Cymru sydd â'r sgôr isaf o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ac, yn bryderus iawn, yma y gwelwyd y dirywiad mwyaf serth o bob un o'r gwledydd. Mae Cymru yn haeddu gwell na hyn. Mae adroddiadau'r wasg yn tynnu sylw at y ffaith mai Cymru sydd wedi arddangos y cwymp mwyaf yn y tri phwnc rhwng 2018 a 2022. O ran mathemateg, mae Cymru 5 pwynt y tu ôl i'r Alban, a 26 pwynt y tu ôl i Loegr. O ran darllen, mae Cymru 27 pwynt y tu ôl i'r Alban a 30 pwynt y tu ôl i Loegr. O ran gwyddoniaeth, mae Cymru 10 pwynt tu ôl i'r Alban a 30 pwynt y tu ôl i Loegr. Felly, Gweinidog, a wnewch chi achub ar y cyfle hwn nawr i ymddiheuro i'n dysgwyr yng Nghymru ac amlinellu pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd o'r diwedd i fynd i'r afael â'r methiannau trychinebus hyn?
Gweinidog, mae hi'n annerbyniol fod Cymru ar ei hôl hi'n aml o gymharu â gweddill y DU o ran canlyniadau addysgol, ac mae canlyniadau PISA diweddar ar gyfer y flwyddyn hon yn dangos y bydd y duedd yn parhau—tuedd a oedd yn bresennol cyn COVID. Roedd canlyniadau PISA a gyhoeddwyd yn 2023 ac sy'n dangos data o 2022 yn dangos bod gan Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon sgoriau cymedrig sy'n sylweddol uwch na rhai Cymru. Mae sgoriau Lloegr heddiw yn parhau i berfformio yn well na'r rhai gorau erioed yng Nghymru o ran darllen a mathemateg ers i ni ymaelodi â PISA yn 2006. Mae Llafur wedi bod yn rhedeg addysg yng Nghymru ers 1997, ac eto nid ydych chi hyd yn oed wedi ein rhoi ni ar yr un gwastad â gwledydd eraill y DU. Ac eto, yn eich datganiad diweddaraf heddiw, roeddech chi'n amlinellu cyfres o nodau, a ddylai fod wedi cael eu rhoi ar waith flynyddoedd yn ôl.
Rydych chi'n dweud bod gennym ni gwricwlwm newydd yng Nghymru. Wel, os yw cwricwlwm newydd yr Alban yn profi unrhyw beth, gyda'r canlyniadau gwael a welwyd yno heddiw, nid yw hi'n ymddangos bod llawer iawn i edrych ymlaen ato, a oes yna, Gweinidog? Rydych chi wedi cael blynyddoedd i wella addysg yng Nghymru. Yn hytrach na gwneud hynny, rydych chi newydd siomi cenhedlaeth arall o ddysgwyr yng Nghymru. Yn amlwg, Gweinidog, o'ch datganiad ysgrifenedig chi ar 22 Tachwedd, a'ch datganiad chi'n gynharach heddiw, i chi ddefnyddio'r rheswm hwnnw ar gyfer dim ond dechrau ymesgusodi yn gynnar.
Fodd bynnag, mae'r canlyniadau PISA hyn heddiw yn siarad drostyn nhw eu hunain. Fel dywedodd Andrew R.T. Davies yn gynharach, dywedodd Schleicher, cyfarwyddwr yr OECD, fod y canlyniadau yn rhoi achos i lunwyr polisi yng Nghymru ystyried beth i'w wneud yn wahanol, ac rwy'n ei ddyfynnu ef:
'Nid yn unig fod hyn yn golygu mai Cymru yw'r rhanbarth sy'n perfformio waelaf yn y DU ond yr un a welodd y dirywiad mwyaf serth hefyd',
ac fe aiff yn ei flaen i ddweud,
'Mae Cymru yn fwy tebyg i wlad fel Malta nag i'r systemau addysg sy'n perfformio orau.'
Wel, er mawr gywilydd i'n cenedl.
Fe all Llywodraeth Cymru geisio rhoi cymaint o esgusodion ag yr hoffen nhw heddiw. Rydych chi wedi ceisio rhoi'r bai ar y pandemig am y canlyniadau hyn, er bod COVID wedi effeithio ar bawb. Gweinidog, a ydych chi'n derbyn mai methiannau Llafur Cymru yw'r rhain, ac a wnewch chi dderbyn cyfrifoldeb amdanyn nhw? Unwaith eto, fe glywsom ni ateb 'Nid myfi, nage wir' i'r canlyniadau PISA hyn oddi wrthych chi a'r Prif Weinidog heddiw. O flwyddyn i flwyddyn, rydym ni wedi gweld Cymru yn gorweddian ar waelod tabl PISA, ac eto rydych chi a'ch Llywodraeth wedi caniatáu torri'r gyllideb addysg mewn termau real. Mae hynny wedi cael effaith amlwg ar ganlyniadau Cymru. A pheidiwch ag anghofio: mae Cymru'n cael mwy o arian y pen fesul disgybl na'r hyn a geir yn Lloegr.
Yn hytrach na chanolbwyntio ar flaenoriaethau gwirioneddol ein system addysg ni yng Nghymru, rydych chi'n parhau i ganolbwyntio ar y pethau anghywir, fel gwyliau ysgol, tra bod addysg yng Nghymru yn rhemp o absenoldeb cynyddol, recriwtio a chadw athrawon yn beryglus o wan, ac mae eich Llywodraeth chi'n methu ag ymdrin â'r cynnydd sylweddol mewn ADY a'r gofynion ar ysgolion. Mae'r cyfan yn rhoi darlun o fethiant hirdymor gan Lywodraeth a Gweinidog sy'n cysgu wrth y llyw ac yn methu â dihuno o'u cwsg cyn iddi fod yn rhy hwyr.
Fe allwch chi roi'r bai ar COVID faint fyd a fynnoch chi, Gweinidog. Serch hynny, mae'r canlyniadau hyn yn deillio o dros ddau ddegawd o ddewisiadau gwael a methiannau systematig gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Cyn belled â bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod naill ai'n anfodlon neu'n analluog i fynd i'r afael â'r materion sylfaenol hyn, fe fydd dysgwyr yng Nghymru yn cael eu dal yn ôl tra bod eu cyfoedion nhw ar draws y DU yn rasio o'u blaenau nhw. Mae'r bwlch yn ehangu. Gweinidog, a ydych chi'n derbyn bod blaenoriaethau eich Llywodraeth wedi bod yn anghywir am lawer gormod o amser, ac os nad ydych chi, pam ydym ni'n gweld Cymru ar ôl gweddill y DU o hyd gyda'r set ddiweddar hon o ganlyniadau?
Diolch i'r Aelod am y sylwadau yna. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni ymateb yn bwyllog i ganlyniadau fel hyn. Mae gan ddysgwyr yng Nghymru hawl i ddisgwyl hynny gennym ni. Roedd cwestiynau'r Aelod yn cynnwys llawer, llawer o gamddehongliadau a gwallau ffeithiol na wnaf i ymateb iddyn nhw'n unigol; rwy'n credu ein bod ni wedi cael y ddadl hon sawl gwaith o'r blaen. Gadewch i mi roi'r pwynt fel hyn, os caf i. Rwy'n credu bod fy natganiad i'n cydnabod yr heriau a wynebir gennym mewn ffordd dryloyw iawn. Yr hyn y mae'r datganiad yn ceisio ei wneud yw nodi'r rhesymau pam yn ein tyb ni y mae'r canlyniadau fel maen nhw, ac mae'r rhesymau hynny'n ddeublyg. Un yw set o heriau sy'n gyffredin i'r mwyafrif helaeth o wledydd sy'n cyfranogi yn PISA, sef effeithiau COVID, a'r llall yw set o heriau yn ein system addysg ni y gwnaeth y Llywodraeth hon eu cydnabod nhw. Ac mewn cydweithrediad â'r OECD ei hun, y sefydliad sydd wedi ein hatgoffa ni, yn berffaith gywir, fod yna bethau i'w hystyried yn y canlyniadau hyn, rydym ni wedi bod yn gweithio ar gyfres o ddiwygiadau sylweddol.
Y neges oddi wrth yr Aelod, fel arfer, pan fydd hi ar ei thraed neu ar ei heistedd, yw bod gormod o ddiwygio ac y dylem ni ohirio hynny. Mewn gwirionedd, yr hyn a welwn ni, yn fy marn i, yw'r angen i ni barhau â'r diwygiad sylweddol i'r system y gwnaethom ni ei ddatblygu ar y cyd â'r proffesiwn ac arbenigwyr eraill ac sy'n cyffwrdd â diwygio'r cwricwlwm, diwygio gwella ysgolion, gan gynnwys symleiddio strwythurau, dull newydd o ddysgu proffesiynol, gan leihau llwyth gwaith, canolbwyntio ar lesiant dysgwyr, cynllun llythrennedd, cynllun rhifedd, gwelliannau i addysg gychwynnol athrawon, diwygio arolygu, gyda gwelediad eglur o ran atebolrwydd. Mae pob un o'r rhain yn adlewyrchu'r un gwerthoedd ag y mae'r OECD yn dweud wrthym ni sydd wrth wraidd system addysg sy'n ei gwella ei hun ac sy'n addas i'r dyfodol. Mae llawer o elfennau'r diwygio yr wyf i newydd eu rhestru wedi cael eu datblygu dros flynyddoedd lawer, a dim ond yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf y mae llawer ohonynt wedi dechrau cael eu gweithredu, ac felly nid yw'r effeithiau yn cael eu teimlo eto, yn enwedig felly gyda'r garfan o ddysgwyr a oedd yn sefyll profion PISA y tro hwn. Dyna yw ein hasesiad ni o'r sefyllfa.
Mae'r data gan PISA heddiw, fel dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, yn siomedig, ond nid yn syndod. Mae'n adlewyrchu'r data a gyhoeddais i ychydig wythnosau yn ôl, nad oedd neb yn gofyn i mi ei gyhoeddi. Roeddwn i'n awyddus i'r cyhoeddiad hwnnw lywio'r drafodaeth a'r ddadl fel hyn. Ond yr hyn y byddwn i'n ei wneud mewn ymateb i'r data heddiw, ynghyd â'r hyn yr ydym yn ei wybod oddi wrth Estyn, ynghyd â chanlyniadau ein hasesiadau personol ni, yw ystyried y pethau eraill y mae'n rhaid i ni eu gwneud, ac fe wnaf i hynny ar y cyd â'r sector addysg yma ym mis Ionawr, fel bydd yr ymateb hwnnw yn digwydd ledled Cymru, gan adeiladu ar y rhaglen ddiwygio honno y gwnaethom ni ei hamlinellu eisoes yma heddiw.
Diolch, Weinidog, am y datganiad a'r sylwadau. Dwi yn meddwl eich bod chi'n iawn ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n adlewyrchu ar hyn ac ystyried yn ddwys beth ydy'r goblygiadau, a'r ffaith mai'r rhain yw'r canlyniadau gwaethaf ers i ni ymuno, ers 2006, o ran hyn. Wrth gwrs, mae yna heriau drwy COVID—mae hynny'n glir o ran y sefyllfa yn rhyngwladol, felly. Beth hoffwn i ei ddeall ydy pam ydych chi'n credu bod Cymru i'w gweld wedi'i heffeithio'n fwy nag unrhyw wlad arall o ran COVID, yn sgil eich pwyslais chi ar hynny. Ac ydych chi'n credu bod angen, rŵan, cael ymchwiliad penodol o ran effaith COVID yng Nghymru ar addysg yn benodol? Mae hynny'n digwydd yn yr Alban, wrth gwrs, wrth edrych yn ehangach, ond mae nhw'n canolbwyntio ar addysg. Os ydych chi'n credu ein bod ni wedi'n heffeithio fwyaf yma yng Nghymru gan COVID, yna byddwn i eisiau deall pam hynny.
Elfen arall sydd wedi fy nharo i o edrych ar hyn ydy bod yna 437 yn llai yn y gweithlu addysg rhwng rŵan a'r canlyniadau diwethaf. Ydych chi'n meddwl bod yna gysylltiad rhwng hynny a rhai o'r heriau rydyn ni'n eu cael o ran y gweithlu yma yng Nghymru? Byddwn i hefyd yn hoffi datgan fy nghefnogaeth llwyr i'r sector sydd yn gweithio'n ddiflino. Mae yna waith rhagorol yn digwydd yn ein hysgolion ni, ond mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod bod athrawon yn dweud wrthym ni drwy'r adeg am yr heriau mawr sydd o'u blaenau nhw, yr heriau cyllidebol rŵan, a'n bod ni'n gwybod ein bod ni'n mynd i, yn fwy na thebyg, weld ysgolion yn colli athrawon oherwydd yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu, a'u bod nhw'n methu â darparu'r math o gefnogaeth yr hoffen nhw fod yn ei darparu.
Gaf fi ofyn i chi hefyd pa mor realistig yng nghyd-destun—? Fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd at y toriadau sydd wedi bod dros ddegawd a mwy. Faint o her o ran cael cynnydd ydy'r sefyllfa ariannol bresennol, a sut y medrwn ni sicrhau—? Roeddech chi'n sôn ynglŷn â blaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen, ac ati. Rydyn ni'n sôn am ddyfodol plant a phobl ifanc ar y funud, a dwi'n credu bod yna heriau lu yn ein hwynebu ni. Rydyn ni wedi clywed gan y comisiynydd plant, ac ati, ynglŷn ag effaith tlodi ar blant—pobl yn methu fforddio hyd yn oed cyrraedd yr ysgol ar y funud. Felly, hyd yn oed o edrych ar y system addysg sydd gennym ni, a'r newidiadau rydych chi'n eu rhoi ar waith, os nad ydyn ni hyd yn oed efo plant a phobl ifanc yn gallu mynychu'r ysgol, yn gweld y bwlch a'r gagendor yna rhwng y rheini sydd fwyaf tlawd o fewn cymdeithas, yna sut ydyn ni'n mynd i weld y cynnydd rydyn ni i gyd ei eisiau o fewn canlyniadau fel hyn, os nad ydyn ni chwaith efo strategaeth tlodi plant sydd efo targedau pendant ynddi hi, er mwyn gweld cynnydd yn y maes yma?
Buaswn i'n hoffi gofyn i chi hefyd, o ran sut ydych chi'n gweld yr holl wahanol—. Fe wnaethoch chi gyfeirio at dasglu efo absenoldeb disgyblion, ac ati. Oherwydd yn amlwg, rydyn ni wedi trafod nifer o weithiau y pryder mawr sydd yna o ran absenoldebau, ac yn benodol felly y risg efallai wrth i awdurdodau lleol wneud mwy o newidiadau o ran trafnidiaeth ysgol, ac ati. Beth efallai fydd rhai o'r heriau i bobl fod yn cyrraedd yr ysgol wedi'r setliad ariannol nesaf? Sut ydyn ni'n mynd i allu cydlynu’r holl newidiadau sydd gennych chi ar waith? Oherwydd dwi'n meddwl bod lot o'r undebau addysg yn iawn—dydyn ni ddim eisiau gweld rhyw fath o adwaith i hyn, sydd ddim yn mynd i gael effaith ar sefydlu llwyth o dasgluoedd gwahanol; beth ydyn ni ei angen ydy dod â phopeth ynghyd.
Yr hyn fuaswn i'n hoffi ei gynnig hefyd ydy sut ydyn ni fel Plaid Cymru'n gallu chwarae ein rhan, er mwyn edrych efo chi o ran sut ydyn ni'n mynd i fod yn sicrhau bod yr arian gan ein hysgolion i allu buddsoddi mewn athrawon, ein bod ni'n gallu sicrhau pethau fel trafnidiaeth ysgol, ein bod ni ddim yn parhau i weld patrwm lle mae mwy a mwy o blant yma yng Nghymru yn dioddef o dlodi, a bod hynny felly'n golygu ar ddiwedd y dydd bod canlyniadau fel hyn ddim jest yn adlewyrchu o ran rhai o'r heriau sydd o fewn ein hysgolion ni, ond bod plant a phobl ifanc yng Nghymru'n mynd i fod yn colli allan. Mae'n rhaid i ni gymryd y cyfle i wir ystyried goblygiadau hyn a beth mae o hefyd yn ei ddweud am Gymru i'r byd, a'r safonau yma yng Nghymru. Dydy o ddim yn adlewyrchu ein gweithlu ni, ond dwi'n meddwl ei fod o'n adlewyrchiad trist iawn o ran y sefyllfa o ran tlodi yng Nghymru ar y funud, a sut y mae'n rhaid i ni fod yn wynebu tlodi, a thaclo tlodi plant, er mwyn mynd i'r afael â'r gagendor mawr yma sy'n dod o fewn anghydraddoldeb yma yng Nghymru.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch i Heledd Fychan am gwestiynau pwysig. Dwi ddim eisiau tanseilio rhai o'r pwyntiau pwysig wnaeth hi, ond jest er mwyn cywiro ambell bwynt, dyw'r canlyniadau ddim yn dda, ond nid dyma'r canlyniadau gwaethaf. Mae hynny'n bwysig i'w gydnabod, oherwydd mae'n adlewyrchu gwaith sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd yn ein system addysg ni. A dwi ddim yn dadlau mai Cymru sydd wedi cael yr effaith fwyaf yn sgil COVID; fe wnaeth y Prif Weinidog esbonio'n gynharach bod amryw o wledydd, ac fe wnaeth e restru llawer ohonyn nhw, wedi gweld cwymp llawer mwy sylweddol mewn mathemateg, mewn darllen ac mewn gwyddoniaeth na Chymru, yn cynnwys nifer helaeth o wledydd Ewropeaidd. Felly, mae'r darlun yn llawer mwy cymhleth, rwy'n credu, nag oedd yr Aelod yn ei awgrymu, â phob parch. Dwi yn credu bod y cyd-destun yn bwysig, fel ein bod ni'n deall beth mae'r data yn ei ddweud wrthym ni.
Fe wnaeth yr Aelod ofyn dau neu dri chwestiwn pwysig iawn. O ran y gweithlu, rwy'n cydnabod y pwynt y mae hi'n ei wneud bod angen cefnogi'r gweithlu i allu darparu. Beth rŷn ni'n ei wybod yn gyson o'r trafodaethau â'r OECD, ac eraill, yw mai addysgu arbennig yw'r ffordd orau i allu cynyddu safonau. Felly, rŷn ni'n gwybod bod angen buddsoddi mewn dysgu proffesiynol—rŷn ni wedi gwneud hynny dros y blynyddoedd diwethaf. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rŷn ni wedi newid y gyfundrefn, fel bod hawl cenedlaethol newydd gan addysgwyr. Mae hi wrth gwrs yn cymryd amser i bobl gynefino â hynny. Mae angen hefyd sicrhau bod gofod ac amser gan bobl broffesiynol i allu datblygu'r cwricwlwm, ac i allu gwneud beth maen nhw'n ei wneud orau—hynny yw, bod yn yr ystafell ddosbarth yn dysgu. Felly, dyna un o'r pethau sydd y tu cefn i'r gwaith rŷn ni wedi bod yn ei wneud o ran llwyth gwaith, ac mae mwy i'w wneud yn hynny o beth hefyd. Mae hynny'n gyson gyda'r egwyddor sydd yn y cwricwlwm o roi ymddiriedaeth yn ôl yn nwylo'r proffesiwn.
Mae'r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud am y gyllideb yn bwysig. Jest i gywiro'r pwynt wnaeth Laura Anne Jones yn gynharach, dyw'r gyllideb ysgolion ddim wedi cael ei thorri. Felly, hyd yn oed o gymryd mewn i ystyriaeth y toriadau o fewn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwnaethom ni ddim torri cyllideb ysgolion, am resymau amlwg.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, rwy'n credu, ynglŷn â pha mor bwysig yw hi i beidio â chreu adwaith, os hoffwch chi, i'r canlyniadau—ein bod ni'n edrych arnyn nhw mewn cyd-destun ehangach. O ran y datblygiadau rwyf i wedi sôn amdanyn nhw, a gwnes i restru nhw yn fy ateb yn gynharach i Laura Anne Jones, mae sail o egwyddorion cyffredin a chyson y tu cefn iddyn nhw. Rwy'n credu'n gryf iawn eu bod nhw'n tynnu yn y cyfeiriad iawn, ac mae'r OECD wedi ein helpu ni ar y siwrnai honno hefyd—felly, nid elfen o gyfres newydd o ddiwygiadau yn sgil hynny, ond sut gallwn ni fireinio'r hyn sy'n digwydd yn y system, sut gallwn ni gydnabod mai'r ffordd orau i ddysgwyr allu manteisio ar gyfoeth y cwricwlwm newydd yw cael lefelau uchel o lythrennedd a rhifedd, a bod hynny'n rhan gynhenid o'r profiad ysgol, o brofiad y cwricwlwm, a sut gallwn ni alinio hynny. Ond dyma'r math o drafodaeth yn union sydd angen ei chael yn gynnar yn y flwyddyn newydd gyda'r arweinwyr eraill yn y system addysg, fel ein bod ni'n gallu cael rhaglen ymarferol i ymateb i hyn, ond nid jest ymateb, gyda llaw, i'r canlyniadau heddiw, ond ymateb i'r hyn mae Estyn wedi ei ddweud a'r hyn rydyn ni ein hunain wedi cyhoeddi dros y misoedd diwethaf, fel ein bod ni'n edrych ar y darlun yn ei gyfanrwydd.
Yn amlwg, nid oes ots pa mor rhagorol yw'r addysgu; os nad yw'r plentyn yn yr ysgol, ni fydd yn dysgu unrhyw beth. Felly, yn amlwg, dyna un o'r problemau mawr yr ydym ni i gyd yn eu hwynebu. Ni allwn droi'r cloc yn ôl ar yr hyn a wnaethom ni yn ystod COVID, pryd y buom yn cadw plant o'r ysgol er mwyn amddiffyn cenedlaethau hŷn, gan nad oedd COVID yn effeithio ar y plant eu hunain ar y cyfan, ond mae hynny'n ychwanegu at ein cyfrifoldeb ni i'w galluogi nhw i ddal i fyny. Mae'n rhaid i ni gofio nad ystyr addysg yw dysgu ar dafod leferydd, oherwydd nid yw'r swyddi a fydd gan y rhan fwyaf o'n disgyblion ni wedi cael eu dyfeisio eto. Mae'n rhaid rhoi'r gallu i ddisgyblion gymhwyso beth bynnag maen nhw'n ei ddysgu i'r hyn nad yw'n hysbys eto, oherwydd mae'n anodd gwybod yn hollol beth fydd yr heriau y byddwn ni'n eu hwynebu yn y dyfodol.
Yr hyn yr hoffwn ei ddeall yw sut mae'r OECD wedi ein helpu ni i lunio'r cwricwlwm newydd yn briodol, o gofio bod y plant a fydd yn elwa ar y cwricwlwm newydd ar hyn o bryd, ym mlynyddoedd 7 ac 8 yn yr ysgol lle rwyf i'n llywodraethwr—. Fe fydd rhai ohonyn nhw'n sefyll y prawf PISA ymhen tair blynedd, ond nid pob un ohonyn nhw. Felly, fe ddylem ni fod yn ofalus iawn ynglŷn â sicrhau nad PISA yw'r unig beth yr ydym ni'n canolbwyntio arno wrth geisio sicrhau y bydd ein holl fyfyrwyr ni i gyd yn ymestyn hyd orau eu gallu o ran llunio'r addysg i weddu i'w hanghenion nhw, yn hytrach na bod pawb ynghlwm yn yr un lle. Felly, tybed a wnewch chi gynnig rhywfaint o obaith i'r dyfodol i ni, o ystyried na allwn ni weld manylion gronynnog canlyniadau PISA ar hyn o bryd.
Fe hoffwn i gytuno â'r pwynt a wnaeth Jenny Rathbone ar y diwedd. Mae'r wybodaeth a gawn ni oddi wrth PISA yn wybodaeth ddefnyddiol iawn, ond nid dyna'r unig wybodaeth sydd gennym ni, ac yn sicr nid dyma'r unig wybodaeth sydd ei hangen arnom ni. Ei defnyddioldeb pennaf yw fel rhan o gyfres ehangach o wybodaeth, y mae pob un ohonyn nhw yn creu'r darlun mwy eang hwnnw. Ond rwy'n derbyn hefyd, os byddwch chi'n dewis cyfranogi yn unrhyw system, rydych chi'n awyddus i lwyddo yn honno wedyn. Felly, nid wyf i'n anghytuno â hynny; rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gweld y cyd-destun mwy eang ar gyfer gwneud y penderfyniadau cywir. Ac nid yr ateb i'n heriau ni yw sicrhau ein bod ni'n hyfforddi disgyblion unigol i wneud yn dda mewn profion PISA; ond gwneud yn siŵr bod y system addysg sydd gennym ni yng Nghymru yn adlewyrchu'r egwyddorion hynny.
Fe ofynnodd hi i mi rifo'r ffyrdd y mae'r OECD yn ein helpu ni gyda'n cwricwlwm. Yr hyn y maen nhw'n ei ddweud wrthych chi yw bod angen cwricwlwm sy'n gadarn, ac mae hynny'n golygu canolbwyntio ar gynnydd, yn amlwg, ond ar gyfraddau uchel o degwch hefyd, sydd gennym ni yma, ac ar gyfraddau uchel o lesiant hefyd. Mae'r rhain i gyd yn elfennau y maen nhw'n eu disgrifio yn briodoleddau systemau addysg sy'n llwyddiannus. Rwy'n credu mai dyna'r egwyddorion y mae'r Siambr hon wedi pleidleisio drostyn nhw ar lawer o achlysuron ac sy'n rhoi sail i'r cwricwlwm newydd, fel gwyddom ni i gyd, sydd ond newydd gael ei roi ar waith yn ddiweddar yn ein hysgolion ni yma. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n colli golwg ar hynny.
Dim ond gair byr hefyd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gofio bod yr Alban, sydd wedi cyflwyno diwygiadau i'r cwricwlwm, wedi symud i'r cyfeiriad hwnnw gryn dipyn o amser cyn i ni wneud felly yma, felly rydym ni wedi gallu elwa ar gyfran o'r profiad y maen nhw wedi ei gael yno ac wedi dysgu o rai o'r heriau hynny—o ran cynnydd, ynghylch cymwysterau, o ran rhai o'r elfennau gorfodol yn y cwricwlwm—ac rydym ni wedi gallu addasu ein dulliau ni wrth i ni ddatblygu ein rhai ni yma. Honno yw'r fantais, os mynnwch chi, o symud gyda'r ail don yn hyn o beth i ryw raddau.
Rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth hi ar y dechrau yn un pwysig iawn, ynglŷn â'r rhwymedigaeth arbennig sydd gennym ni i'r genhedlaeth hon o bobl ifanc. Dyna pam rydym wedi bod yn ymrwymedig iawn i fuddsoddi symiau mor sylweddol i gefnogi pobl ifanc trwy hyn i gyd ac o ran ymateb i'r heriau hynny. Un o'r nodweddion nad oes neb wedi canolbwyntio yn benodol arno yn y ddadl yw'r gyfradd uchel iawn o ddiffyg ymgysylltiad â'r profion PISA eu hunain, o bobl ifanc yn teimlo nad oedden nhw'n teimlo unrhyw awydd i fod â rhan mewn cylch arall eto o arholiadau a'r ymdeimlad, efallai, o effaith COVID yn y ffordd wirioneddol real honno. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n bryder i'r hirdymor hefyd, ond efallai, unwaith eto, nid oes syndod o ystyried y profiad yr aeth pobl ifanc drwyddo.
Gweinidog, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno ei bod hi'n gwbl annerbyniol i Gymru fod yn gorweddian ar waelod tabl PISA. Ac rwy'n ailadroddaf nad yw honno'n feirniadaeth, yn ein trafodaeth ni, ar ein pobl ifanc na'n hathrawon. Yn fy ngyrfa wleidyddol, fe welais i brawf PISA ar ôl prawf PISA, ac nid yw hi'n ymddangos eu bod nhw'n gwella. Efallai y byddwch yn cael ychydig o hwb i fyny weithiau ac mae'n gostwng wedyn, ond gwaethygu y mae pethau, ac mae hynny'n cael ei arddangos yn eglur yng Nghymru ar hyn o bryd. Wrth arwain ambell waith, mae'n rhaid i chi sefyll a dweud, 'Mae rhywbeth o'i le yma. Mae rhywbeth sylfaenol o'i le, sy'n rhoi plant Cymru dan anfantais o gymharu â phlant eraill yn y DU.' Ac nid oes dim o'i le ar sefyll a mynegi hynny ar goedd a dod o hyd i ymyraethau a fydd yn dechrau newid hynny yn y dyfodol.
Fe glywais i dro ar ôl tro drwy gydol fy ngyrfa wleidyddol am bethau fel eich cynllun Cymru gyfan chi. Fe glywais i Weinidogion yn dweud, 'Rydym ni am wneud hyn yn iawn', ac nid oes neb erioed wedi llwyddo i gyflawni hynny, a dyna pam mae rhywbeth sylfaenol o'i le yma yn fy marn i. Fe welsom ni'r Llywodraeth yn rhuthro newidiadau enfawr drwodd mewn addysg ac yn dargyfeirio arian ac adnoddau i bethau—gyda Phlaid Cymru—fel prydau ysgol am ddim i bawb. Fe ddylai'r arian hwnnw fod wedi cael ei fuddsoddi mewn addysgu a dysgu, ac fe ddylid bod wedi gwneud rhagor yn hynny o beth. Felly, Gweinidog, ar ran rhieni—a minnau, sy'n daid i saith o wyrion—rwy'n gofyn i chi a ydych chi o'r farn fod cyfeiriad eich Llywodraeth wedi bod yn gywir dros y blynyddoedd diwethaf? Ac er i ni glywed y Prif Weinidog yn siarad am ymyraethau amrywiol y bore yma, nid eglurodd ef lawer amdanyn nhw. A wnewch chi roi ymyraethau eglur, gwirioneddol i ni a fydd yn golygu y byddwn ni'n eu gweld yn troi'r rhod? [Torri ar draws.] Nid oes unrhyw ddiben grwgnach o'r cyrion, Alun, rwy'n gofyn cwestiwn digon teg.
Roedd gennyf i ddarlithydd prifysgol a roddodd lyfr yn anrheg i gydweithiwr drwy ddweud: 'I'r person hwn sy'n credu nad y gwrthwyneb i siarad yw aros ond gwrando'. Mae'n rhaid i mi ddweud, fe atebwyd llawer o'r cwestiynau a ofynnodd yr Aelod i mi yn benodol yn fy nghwestiwn cynharach. Roedd ef yn gofyn i mi gydnabod a oedd angen newidiadau; rwyf i wedi newydd rifo rhestr hir o newidiadau, y gwrthwynebwyd llawer ohonyn nhw gan eich plaid chi, ac rydych chi wedi dweud yn gyson fod yna ormod o newid, y mae angen ei ohirio. Nid wyf i'n deall beth yw eich golwg ar y byd, a oes angen diwygio neu beidio.
Rwyf i wedi nodi cynllun eglur iawn heddiw o'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w wneud, ac rydym—[Torri ar draws.] Ac fe fyddwn ni'n ymateb i'r holl dystiolaeth sydd gennym mewn ffordd adeiladol ac agored. Rwyf i wedi cyhoeddi gwybodaeth yn ystod yr wythnosau diwethaf na wnaeth neb ofyn i mi ei chyhoeddi. Fe wnes i hynny i lywio a chyfoethogi dadl ynglŷn â'n camau nesaf ni. Mae'r cwestiynau hyn yn gwestiynau mawr. Rwyf i wedi egluro heddiw fy mod i o'r farn fod dau beth ar waith yma: un yw effaith COVID; y llall yw'r newidiadau angenrheidiol yn ein system addysg ni ac rydym ni'n eu cyflwyno nhw. Ond y gwir amdani yw mai dim ond newydd ddechrau effeithio ar ein hysgolion ni y maen nhw, a'r hyn y byddwn ni'n ei wneud, gan adeiladu ar y gwaith yr ydym ni'n ei wneud o ran llythrennedd a rhifedd, yw gweithio gyda'n partneriaid i ddeall sut y gallwn ni wneud yn siŵr y bydd pob un o'r rhain yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn i ni gyflawni'r canlyniadau gorau i blant yng Nghymru.
Os ydw i am fod yn hollol onest yn hyn o beth nid wyf i o'r farn mai PISA yw'r ffordd orau o asesu addysg yng Nghymru. Rwy'n credu bod Jenny Rathbone wedi gwneud cyfraniad pwysig ynghylch y rhesymau pam rwy'n credu hynny. Mae yna nifer o resymau eraill hefyd. Ond rwy'n credu bod hwn yn gyfle i ni edrych ar effeithiau'r pandemig ar gyrhaeddiad addysgol ac, yn benodol, ar sut y gwnaeth y pandemig gynyddu effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad addysgol hefyd. Rwy'n credu, i'r rhai ohonom ni sydd wedi ymweld ag ysgolion a cholegau ers cael ein hethol, ein bod ni wedi clywed, yn gyson, y dystiolaeth anecdotaidd oddi wrth athrawon a darlithwyr mewn colegau, ynglŷn â'r bwlch hwnnw'n benodol, sydd wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i'r pandemig, o ran gallu myfyrwyr.
Roedd Heledd Fychan yn sôn am ymchwiliad yr Alban i effeithiau'r pandemig ar addysg. A yw hwnnw'n rhywbeth y mae'r Gweinidog wedi ei ystyried i Gymru? Oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni ddeall yr effeithiau hynny, ond er mwyn gallu lliniaru'r effeithiau hynny wedyn, a dod â chenhedlaeth yn ei hôl, mewn gwirionedd, cenhedlaeth sydd, yn fy marn i, yn mynd yn genhedlaeth goll o ganlyniad i'r pandemig ac rwy'n pryderu llawer yn ei chylch.
Wel, rwy'n cytuno â swm a sylwedd y pwynt a wnaeth Luke Fletcher. Nid wyf i'n credu fy hunan y dylem ni eu disgrifio nhw'n genhedlaeth goll. Rwy'n credu mai cenhedlaeth o bobl ifanc ydyn nhw, fel rwy'n credu i Jenny Rathbone ddweud, sy'n arbennig o haeddiannol o'n cefnogaeth ni, ac rwy'n gwbl ymwybodol y bydd Luke Fletcher yn cytuno â'r farn honno, yn amlwg.
Trwy gydol cyfnod COVID, yr egwyddor a gymhwysodd y Llywodraeth oedd mai ysgolion fyddai'r rhai olaf i gau a'r rhai cyntaf i agor, a'r cwestiwn cymhleth hwnnw'n aml o gydbwyso niwed haint COVID ar y naill law a'r hyn sy'n amlwg—os nad yw plentyn yn yr ysgol, fe fydd ei addysg yn dioddef, ac mae hynny'n amlwg. Ac roedd honno'n broses barhaus o gydbwyso un niwed yn erbyn un arall. Ond rwy'n credu y gallwn ni weld, o leiaf o ran 71 o'r 81 gwlad, yr effaith a gafodd COVID ar y genhedlaeth hon o bobl ifanc. Ac er gwaethaf yr holl anghytundebau eraill o ran polisi sydd gennym ni yn y Siambr hon, rwy'n credu y byddwn i gyd yn gytûn o ran yr egwyddor honno.
Nid wyf i'n ceisio dweud mai COVID yw'r unig ystyriaeth sydd â rhan yma. Fe geisiais i nodi heddiw hefyd rai o agweddau ar ein system addysg, yr ydym ni'n cydnabod bod angen iddyn nhw newid, ac mae gennym ni raglen ar gyfer newid a chyflawni. Mae'r wybodaeth i gyd, fel data heddiw, yn ddefnyddiol iawn i ni wrth gadw llygad barcud ar y daith honno ar gyfer diwygio, ac mae hi'n bwysig iawn, yn y Llywodraeth, fel rwy'n gobeithio ein bod ni wedi gwneud, ein bod ni'n gwrando ar ymarferwyr, pan fyddwn ni'n clywed oddi wrthyn nhw, fel gwnaethoch chi gyfeirio at hynny yn eich cwestiwn chi nawr, ond data hefyd, wrth i ni glywed oddi wrth yr OECD heddiw, yr asesiadau personol yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac ystyried hynny wedyn o ran y daith hon sy'n esblygu ar gyfer diwygiadau. Nid yw'n ymwneud â gosod cyfres a dilyniant arall o ddiwygiadau ar ben yr hyn sydd gennym ni, ond arolygu'r daith ddiwygio yr ydym ni arni trwy'r amser, y mae'r OECD yn ein helpu ni gyda hynny, ac addasu fel bo'r angen. Felly, mae'r wybodaeth sydd gennym ni heddiw, fel dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, ac fel rwyf innau'n ei deimlo yn arw iawn, yn siomedig, ond nid yw hi'n syndod yn yr ystyr honno, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y drafodaeth ym mis Ionawr pan fyddwn ni'n gallu cydweithio ag arweinwyr byd addysg i ddatblygu'r dull cyson hwnnw ledled Cymru.
Diolch am roi datganiad, Gweinidog. Un pwynt o eglurder: mi wnaethoch chi sôn wrth Heledd Fychan, yn eich ateb iddi hi, nad dyma’r perfformiad gwaethaf o ran canlyniadau PISA, er bod y BBC yn adrodd hynny, a'r ffigurau’n dweud hynny, o ran maths a darllen a gwyddoniaeth. Felly, leiciwn i wybod—achos, yn amlwg, y penawdau y bydd nifer o rieni yn eu gweld, fe hoffwn i chi, efallai, egluro eich ymateb yn y fan yna.
Dwi'n meddwl eich bod chi’n iawn i sôn am bwysigrwydd cyd-destun ehangach y canlyniadau yma, a gwnaethoch chi sôn am argyfwng y tu hwnt i addysg sydd wedi effeithio arnyn nhw. Wrth gwrs, nid COVID yw’r unig argyfwng, fel gwnaeth Luke Fletcher sôn yn y fan yna—mae effaith tlodi plant, yn arbennig, yn amlwg, a ffigurau presenoldeb, ac mae'r adroddiad PISA yma wedi datgelu bod nifer y plant yn eu harddegau sy'n mynd heb fwyd yn rheolaidd yn sgil tlodi yn uwch yma nag mewn nifer fawr o wledydd eraill, a hyn yn debygol, wrth gwrs, o effeithio ar eu gallu i ddysgu yn effeithiol. Felly, pa ystyriaeth sydd wedi cael ei roi i fuddsoddi mwy mewn cyllid a chymorth i ysgolion i gefnogi dysgwyr o ran oes yna ddigon o adnoddau i gefnogi eich canllawiau absenoldeb newydd? Mae Plaid Cymru’n falch o weld undeb Unite yn cefnogi ein galwadau am ymestyn cinio am ddim i ddisgyblion ysgolion cyfun. Mae nifer ohonyn nhw—25,000 ohonyn nhw—mewn tlodi sy'n anghymwys ar gyfer prydau bwyd am ddim ar hyn o bryd. Yw'r Llywodraeth yn fodlon cymryd cam a fyddai'n helpu ein dysgwyr i gyflawni’n well drwy hynny?
O ran y pwynt eglurder, os edrychwch chi ar y canlyniadau mathemateg a darllen eleni a'u cymharu nhw â'r ffigurau yn 2012, er enghraifft, dŷn nhw ddim, o safbwynt yr OECD—. Dyw'r gwahaniaeth ddim yn ystadegol bwysig, fel petai—statistically significant. Mae o fewn y gwahaniaeth sydd i'w ddisgwyl, os hoffech chi. Felly, dyna'r pwynt roeddwn i'n gwneud yn gynharach.
O ran cwestiwn y gyllideb, rwyf wedi amlinellu'n gynharach pa mor bwysig yw e i fi sicrhau ein bod ni'n cefnogi ein hysgolion ni yn yr amryw o ffyrdd rŷn ni'n gwneud hynny—rhai o'r pethau yna o fewn y cytundeb cydweithio, llawer iawn ohonyn nhw y tu allan i'r cytundeb cydweithio. Ac felly dyna'r lens y byddaf i'n dod fel Gweinidog at wariant o fewn fy nghyllideb i, i sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth gallwn ni i gau'r bwlch cyrhaeddiad hwnnw rhwng disgyblion sydd â'r lleiaf a'r rhai sydd â'r mwyaf. Mae'r OECD yn dweud wrthon ni, yn y ffigurau yma, fod y bwlch hynny yng Nghymru yn llai nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Gyfunol, sydd yn beth positif, ond yn sicr dyw e ddim yn destun cysur tan ein bod ni wedi llwyddo i wneud llawer mwy i sicrhau bod cyfleoedd pob disgybl, beth bynnag yw eu hamgylchiadau nhw, yn hafal.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar aros yn rhagweithiol: diweddariad ar gynnydd. Y Gweinidog i wneud ei datganiad, felly—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd. Roedd nodi saith deg pump o flynyddoedd ers sefydlu'r GIG eleni yn gyfle i ddathlu popeth y mae'r GIG wedi'i gyflawni a hefyd i gymryd amser i fyfyrio ar yr hyn sydd gan y dyfodol i'w gynnig. Gwyddom fod pobl yn byw'n hirach, y bydd ganddyn nhw anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cynyddol gymhleth, a bydd hyn yn rhoi mwy o alw ar wasanaethau cyhoeddus yn y tymor canolig a'r tymor hir.
Gwnaeth adolygiad a gynhaliwyd i ddeall yr heriau hyn dros y 10 mlynedd nesaf, ac a drafodwyd yn y Siambr hon, roi darlun manwl o ofynion y dyfodol. Gwnaeth hefyd roi amcangyfrif o'r cynnydd o ran nifer y bobl a fydd yn byw gyda chyflyrau tymor hir, ac amlforbidrwydd, gan ddod â chymhlethdod a'r angen i gymryd sawl math o feddyginiaeth—amlgyffuriaeth. Er mwyn ategu cynaliadwyedd y GIG yn y dyfodol, byddwn yn parhau i wneud y newidiadau a amlygwyd yn yr adolygiad ac yn gweithio'n agos gyda'n poblogaeth i'w cefnogi i gymryd cyfrifoldeb am reoli eu hiechyd a'u llesiant.
Nawr, rwyf wedi sôn ar sawl achlysur am y gwaith sydd ar y gweill i weithredu ein cynllun adfer gofal arfaethedig, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2022, ac yn benodol i ganolbwyntio ar yr angen i leihau ein hamseroedd aros hir am driniaeth y GIG. Ond gall ein pwyslais ni ddim bod ar gynyddu capasiti gwasanaethau yn unig i ddelio â'r galw cynyddol. Mae'n rhaid i ni hefyd geisio mynd i'r afael â'r galw hwnnw trwy ddulliau ataliol a thrwy gefnogi pobl i gymryd rheolaeth dros eu llesiant corfforol a meddyliol eu hunain. Mae cyfle gwirioneddol yn enwedig i'w hannog i wneud hyn wrth iddyn nhw aros am driniaeth gan y GIG.
Ym mis Awst eleni fe wnes i lansio ein dull cenedlaethol o gefnogi pobl wrth iddyn nhw aros am driniaeth gan y GIG. Y tair 'A': annog ymddygiad iach, atal afiechyd wrth aros, ac amser paratoi ar gyfer triniaeth effeithiol, wedi'u cynllunio i ymgysylltu â chleifion fel y gellir eu cefnogi i nodi a chymryd y camau sydd eu hangen i elwa i'r eithaf ar effaith eu hymyrraeth glinigol.
Gall aros am driniaeth gan y GIG fod yn foment werthfawr i gleifion ymgysylltu â'r angen i fod yn rhagweithiol o ran eu hiechyd a'u llesiant pan fydd tystiolaeth yn awgrymu, i wneud newidiadau i'w ffordd o fyw cyn triniaethau'r GIG, p'un a yw hynny'n rhoi'r gorau i ysmygu cyn llawdriniaeth ddewisol, colli pwysau i gynyddu'r tebygolrwydd o well canlyniadau llawfeddygol, neu elwa ar fanteision gweithgarwch corfforol ysgafn ar gyfer rheoli poen cyhyrysgerbydol.
Rydym hefyd yn gwybod y gall lefelau iechyd a llesiant ddirywio yn ystod y cyfnod aros, i'r graddau, pan fydd pobl yn barod i gael triniaeth, efallai na fyddan nhw'n ddigon iach neu'n ddigon ffit i'r driniaeth fynd yn ei blaen neu i sicrhau'r canlyniad gorau posibl.
Ond anaml y mae gwybodaeth iechyd yn unig yn effeithiol wrth ysgogi neu alluogi newid ymddygiad parhaus, tra bod cyfathrebu wedi'i deilwra, yn seiliedig ar y nodweddion sy'n unigryw i'r person hwnnw, wedi dangos addewid o ran effeithio ar ymddygiadau sy'n hybu iechyd a dylanwadu ar ganlyniadau iechyd. Felly, rwyf am i bobl sy'n aros am driniaeth y GIG gael cyngor iechyd a lles wedi'i deilwra a chael eu cyfeirio at ffynonellau cymorth ychwanegol. Felly, rwy'n falch bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid yn system y GIG i ddatblygu adnodd hunanasesu digidol, yn seiliedig ar fodelau archwiliadau iechyd blaenorol wedi'u dilysu, a fydd yn cael ei integreiddio i lwybrau fel y gall y rhai sy'n aros am ofal y GIG gael mynediad ato.
Ym mhob bwrdd iechyd, bydd unigolion yn cael eu gwahodd drwy neges destun neu lythyr i wneud yr hunanasesiad. Mae atgyfeiriadau dros y ffôn eisoes wedi dechrau. Mae'r hunanasesiad yn cynnwys ateb cwestiynau sy'n ymwneud â phwysau, bwyta'n iach, llesiant meddyliol, statws ysmygu, defnydd o alcohol, gweithgarwch corfforol, statws sgrinio a brechu, yn ogystal â chwestiynau am unigolion a'r math o driniaeth y maen nhw'n aros amdani. Pan fydd y cwestiynau wedi'u hateb, mae'r asesiad iechyd yn darparu gwybodaeth wedi'i theilwra ac yn cyfeirio at ffynonellau cymorth perthnasol i helpu unigolion i gymryd camau cadarnhaol.
Fe fydd yr adnodd iechyd cyhoeddus hwn yn un elfen o'n cynnig gwell i gleifion sy'n aros am driniaeth. Mae wedi ei gyhoeddi eisoes fod y byrddau iechyd yn gweithio i wneud yn siŵr bod pawb sydd ar y rhestr aros am ofal wedi'i gynllunio yn cael un pwynt cyswllt. Bydd yr un pwynt cyswllt yma ar gael i bawb erbyn y gwanwyn. Yn ogystal â gwella'r cyfathrebu gydag unigolion tra bod nhw'n aros ar y rhestr, bydd help ar gael hefyd i fynd drwy'r cwestiynau asesu os nad ydyn nhw yn defnyddio technoleg ddigidol, neu byddan nhw'n gallu cael y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau sydd ar gael, er enghraifft, i'w helpu stopio ysmygu neu golli pwysau wrth iddyn nhw aros am driniaeth.
Mae gyda ni enghreifftiau yn barod sy'n dangos bod cynnig cymorth pwrpasol i bobl sydd ar y rhestr aros yn gallu bod yn fuddiol. Mae'r gwasanaeth cymorth rhestr aros ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eisoes yn darparu un pwynt cyswllt i gleifion ar gyfer cyngor dros y ffôn neu e-bost. Fe wnaeth y gwerthusiad diweddaraf o'r gwasanaeth ddangos ei fod yn gwella boddhad cleifion ac yn lleihau cwynion trwy gefnogaeth a chyfathrebu rhagweithiol; mae e'n rhoi profiadau positif i gleifion—mae pobl yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw ac nad ydyn nhw wedi cael eu anghofio—mae llai o risg o niwed wrth i gynlluniau uwchgyfeirio gael eu cytuno'n glinigol ar sail asesiad o symptomau cleifion sy'n aros am driniaeth; ac mae mwy o bobl yn manteisio ar gymorth a chyngor ar hunan-reoli trwy adnoddau a rhaglenni ar-lein ac apiau iechyd.
Yn ystod COVID-19, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro anfon negeseuon atgoffa electronig at fwy na 3,000 o bobl oedd yn aros am driniaeth orthopedig neu lawdriniaeth gyffredinol. Ym marn y rhan fwyaf o'r rhai wnaeth ymateb, roedd y negeseuon yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol. Dywedodd 40 y cant i 72 y cant o'r bobl a dderbyniodd bob neges eu bod nhw wedi newid ymddygiad iechyd yn ei sgil. Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hefyd yn cefnogi gwasanaeth pwrpasol o'r enw 'Paratoi'n dda'. Roedd y gwasanaeth yma yn paratoi cleifion yn seicolegol a chorfforol wrth iddyn nhw aros am lawdriniaeth orthopedig. Roedd hyn yn canolbwyntio ar wella iechyd corfforol cleifion drwy raglen ymarfer corff gyda chefnogaeth. Roedd y rhaglen yn cynnig manteision ychwanegol fel helpu gyda hyder, lleihau pryder a gwella cymhelliant. Dangosodd gwerthusiad annibynnol bod y gwerth o ran cost ychydig o dan £3 am bob £1 sy'n cael ei wario ar y gwasanaeth.
Mae'r adolygiad 'Y GIG mewn 10 mlynedd a mwy' yn nodi'r pethau rŷm ni'n gallu eu gwneud nawr i newid rhai o'r tueddiadau a'r effeithiau yn y dyfodol. Ar gyfer cyflyrau tymor hir fel clefyd y galon, canser a diabetes, mae modd addasu ffactorau risg drwy gynllunio iechyd cyhoeddus a newidiadau yn ffordd o fyw unigolion. Felly, mae'n amlwg y byddai hi'n bosibl dylanwadu ar y trywydd sy'n cael ei ragweld er mwyn lleihau achosion o gyflyrau.
Mae'r offeryn hunan-asesu digidol, yn ogystal â model y polisi tair 'A', neu'r tri 'P', yn gam pwysig i'r cyfeiriad yma. Mi fyddaf i'n herio pob un o'r meysydd iechyd a gofal cymdeithasol i wneud i bob cyswllt cyfrif a gwneud yn siŵr bod y cyfleoedd hyn yn rhan o holl lwybr gofal y claf. Diolch, Llywydd.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw? Rwy'n credu ei bod hi'n iawn ein bod ni'n edrych ar ddyfodol ein gwasanaethau iechyd, ac roedd yn gyfle da i wneud hynny, gyda saith deg pump o flynyddoedd ers sefydlu'r gwasanaeth iechyd. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno bod cleifion yn cael eu cefnogi, ac y dylid eu cefnogi, tra'u bod yn aros am driniaeth.
Rydych chi'n cyfeirio, Gweinidog, yn eich datganiad i'ch cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio, a gyhoeddwyd yn gynharach yn 2022. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn yng nghyd-destun y datganiad hwn heddiw i hefyd, wrth gwrs, gydnabod bod llawer o'r targedau a bennwyd yn y cynllun hwnnw, yn anffodus, wedi'u methu, ac mae mwy o dargedau sy'n debygol o—mae targedau pellach yn debygol o gael eu methu hefyd, yn anffodus. Yn ôl yr ystadegau iechyd diweddaraf sydd gennym, mae amseroedd aros wedi cyrraedd record uchel arall i'r rhai sy'n aros am driniaeth iechyd yng Nghymru, ac mae dros 760,000 o lwybrau cleifion, yr uchaf erioed.
Roeddwn i'n pryderu ychydig am un elfen o'r datganiad, Gweinidog. Byddaf yn dod at rai darnau da yn ei gylch, ond fe wnaethoch chi sôn y gall aros am driniaeth y GIG fod yn foment werthfawr i gleifion ymgysylltu â'r angen i fod yn rhagweithiol. Rwy'n pryderu ychydig yn y fan honno am y geiriad hwnnw, oherwydd mae'n swnio fel bod cyfle yma yn amlwg tra bod pobl yn aros, ac, wrth gwrs, tra bod pobl yn aros, maen nhw'n aml yn aros mewn poen, maen nhw yn am yn gallu dirywio, ac mae hefyd yn effeithio ar sut y gallan nhw weithio, eu pryder, ac yn aml mae'n effeithio ar aelodau eraill o'r teulu hefyd.
Rwy'n gefnogol, Gweinidog, o hyn, y dull rhagweithiol, wedi'i deilwra—rwy'n credu bod hyn yn iawn, mae hyn yn dda—ac yn aml y pwynt cyswllt unigol hwnnw hefyd. Roeddwn i eisiau deall—mae'n swnio fel eu bod nhw'n gysylltiedig â'i gilydd, bod un pwynt cyswllt gan bob bwrdd iechyd i ddarparu gwasanaeth o ran rhoi'r cyngor yna, am gyngor llesiant, a hefyd yr un pwynt cyswllt yna i'r bwrdd iechyd hefyd ar gyfer ymholiadau mwy cyffredinol. Rwy'n credu mai dyna yr oeddech chi'n ei amlinellu yn eich datganiad heddiw. Mae'r Gweinidog yn nodio i hynny. Felly, rydw i ond eisiau deall ychydig bach mwy am hynny, oherwydd, os yw pobl yn aros am amser hir, mae'n debyg mai eu cwestiwn cyntaf nhw fydd 'Pryd ydw i'n mynd i gael fy nhriniaeth?' Felly, ie, maen nhw eisiau'r cyngor hwnnw, maen nhw eisiau'r cyngor llesiant hwnnw, ond a fydd y pwynt cyswllt unigol hwnnw hefyd yn gallu rhoi cyngor iddyn nhw ynghylch pryd mae eu triniaeth, neu driniaeth dros dro, yn dod, neu pa mor hir y gallai hynny fod, neu ble maen nhw ar y rhestr aros? A allwch roi ychydig mwy o fanylion i ni am y pwynt cyswllt unigol hwnnw sydd â'r wybodaeth honno am eu taith amser aros hefyd?
Ac ond i ddeall hefyd, a yw'r un pwynt cyswllt hwnnw—yr wyf yn ei groesawu, oherwydd mae pobl yn bryderus a dydyn nhw ddim eisiau cael eu rhoi drwodd ar systemau ciwio a chael gwahanol bobl i siarad â nhw; maen nhw eisiau'r hyder yna eu bod nhw'n gallu siarad â'r un person yna—ydy'r person hwnnw, yr un pwynt cyswllt hwnnw, ydy hynny ar gyfer ble mae claf yn byw, y bwrdd iechyd lle maen nhw'n byw, neu ai dyna lle maen nhw'n cael y driniaeth? Oherwydd wrth gwrs mae rhai ardaloedd yng Nghymru lle bydd pobl yn cael triniaeth mewn bwrdd iechyd gwahanol i'r un lle maen nhw'n byw. Sut mae hyn yn gweithio dros y ffin? Er enghraifft, mae'r rhan fwyaf o fy etholwyr i yn mynd dros y ffin i gael eu triniaeth. Ai'r bwrdd iechyd lleol a fydd yn darparu'r un pwynt cyswllt hwnnw yn hyn o beth, neu oni fyddai'r gwasanaeth hwnnw ar gael iddyn nhw oherwydd eu bod nhw'n derbyn triniaeth mewn mannau eraill neu dros y ffin?
Ac mae'n debyg mai'r cwestiwn arall hefyd, o ran y gweithlu sydd ei angen i fod yr un pwynt cyswllt hwnnw. Rwy'n credu bod 0.75 miliwn o lwybrau cleifion ar agor ar hyn o bryd; mae hyn yn llawer o staff sydd eu hangen. Ydy'r staff yma a'r gweithlu yn mynd i fod yn staff unigol sydd yno i ddiweddaru cleifion yn unig, neu ydyn nhw'n cael eu tynnu o feysydd eraill? A fydd gan y staff hynny ddyletswyddau eraill yn ogystal â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gleifion unigol? Ac a oes gennym ni'r gweithlu? A oes gan GIG Cymru'r gweithlu i allu cyflawni'r hyn rydych chi am ei gyflawni, gan fod â'r un pwynt cyswllt hwnnw? A fydd yna ganlyniad anfwriadol yno o dynnu staff i ffwrdd, wrth gwrs, o elfennau eraill o'r GIG hefyd?
Diolch yn fawr iawn, Russell. Ac rydych chi'n hollol iawn, rwy'n credu, i ganolbwyntio ar y syniad hwn o un pwynt cyswllt, oherwydd y peth mwyaf rhwystredig fel claf, pan fyddwch chi'n aros, yw peidio â gwybod pwy i'w ffonio; rydych chi'n cael eich taflu o un lle i'r llall. Maen nhw eisiau gwybod, 'Beth sy'n digwydd? Ble ydw i'n mynd am y wybodaeth hon?' Felly, yr hyn y gallaf i ei ddweud wrthych chi yw mai lle mae'r claf ar y rhestr aros ydyw, ond mae wedi'i gysylltu â gwasanaethau lleol hefyd, lle mae'n byw. Felly, rydyn ni'n mynd i fod yn datblygu rhai llwybrau yn y fan yma hefyd, fel bod meddygon teulu yn y dyfodol—. Bydd hyn yn rhan o'r llwybr. Felly, wrth iddyn nhw gael eu hatgyfeirio at ofal eilaidd, byddan nhw hefyd yn cael eu cyfeirio at y llwybr arall hwn, a fydd yn rhoi cymorth wedi'i deilwra iddyn nhw, a byddan nhw'n gallu defnyddio'r adnodd hunanasesu hwnnw hefyd.
Rwy'n credu y byddan nhw'n gallu rhoi mwy o wybodaeth oherwydd y bydd ganddyn nhw fynediad at y rhestrau a sut olwg sydd ar y rhestrau hynny, felly byddan nhw'n gallu rhoi'r wybodaeth fwy pwrpasol honno. A'r hyn y gallaf i ei ddweud wrthych chi yw fy mod i wedi bod i ymweld â gweithrediad Hywel Dda dros yr haf ac roedd tîm enfawr o bobl yno yn derbyn galwadau gan unigolion, ac mae'r ffaith ein bod wedi cael adborth mor gadarnhaol o'r ymarfer penodol hwnnw, rwy'n credu, yn rhywbeth y dylid ei groesawu.
A dim ond o ran, os ydych chi'n meddwl am faint o bobl—. Mae gennym ni lawer o bobl ar restrau aros ar hyn o bryd. Rwy'n credu na ddylem ni wastraffu'r cyfle hwn i ryngweithio â nhw, oherwydd bydd llawer o'r bobl hyn yn dod yn ôl eto yn y dyfodol oherwydd y peth aml-forbidrwydd hwnnw yr ydym ni'n disgwyl ei weld yn digwydd yn y dyfodol, mae'r trywyddau yn dweud wrthym ni. Ac, mewn gwirionedd, dyma'r amser i ymgysylltu â nhw ar sut olwg sydd ar hynny ac yn teimlo o ran meddwl am sut y gallan nhw fwyta'n well, ysmygu yn llai, gwneud yr holl bethau eraill hynny.
Defnyddiais yr adnodd neithiwr mewn gwirionedd, oherwydd roeddwn i eisiau mynd trwy'r broses dim ond i weld, iawn, 'Sut beth yw hyn? Pa mor bwrpasol ydyw mewn gwirionedd?' Ac roedd yn teimlo—chi'n gwybod, gymerodd hi tua 15 munud i fynd drwy'r holl beth, i sefydlu'r peth. Maen nhw'n gofyn cyfres o gwestiynau i chi— 'Beth yw eich oedran? Beth yw eich pwysau? Beth yw hyn? Beth ydych chi'n ei wneud? Pa mor aml ydych chi'n gwneud ymarfer corff?'—ac yna mae'n eich cyfeirio chi, mae'n mynd â'r holl wybodaeth honno ac yn eich pwyntio i gyfeiriad—[Torri ar draws.]—oherwydd rwy'n credu bod hynny—. Do, roedd yn rhaid i mi wneud ychydig o bethau i fyny, oherwydd, yn amlwg, mae fy ffordd o fyw mor iach. Ond roedd yn ddefnyddiol iawn gallu gweld lle roedden nhw'n eich cyfeirio chi, pa gefnogaeth a oedd ar gael yn lleol.
A'r adborth rydyn ni wedi'i gael hyd yma yw nad yw pobl yn mynd i wybodaeth gyffredinol ar y raddfa yr hoffem iddyn nhw ei wneud, ond maen nhw'n hoffi'r wybodaeth hon sydd wedi'i theilwra sy'n unigryw iddyn nhw. Ac rwy'n credu bod hynny'n ddefnyddiol iawn.
Felly, ar y wybodaeth drawsffiniol, byddwn i'n disgwyl i Bowys, yn amlwg, fod â'u modd eu hunain a fyddai'n cysylltu â beth bynnag sy'n digwydd dros y ffin, felly bydd yna weithrediad, yn amlwg, ym Mhowys.
Gyda rhestrau aros ar ei lefel uchaf erioed yng Nghymru, mae darparu cefnogaeth ar gyfer y miloedd o gleifion sy'n aros am driniaeth ar hyn o bryd, yn enwedig fel modd o rag-dybio unrhyw ddirywiad posibl yn eu cyflwr, yn hanfodol. Ond, er bod nodau'r rhaglen hon yn ganmoladwy, mae'n bwysig nad ydym yn colli golwg ar y realiti sylfaenol, waeth pa mor effeithiol y gall y mecanweithiau cymorth fod i bobl ar restrau aros, ni all byth gymryd lle triniaeth brydlon. Mae unrhyw oedi wrth ddarparu triniaeth yn peryglu gwaethygu'r gofid corfforol ac emosiynol i gleifion a'u hanwyliaid fel ei gilydd.
Er enghraifft, fis diwethaf, ar Ddiwrnod Arthritis y Byd, cefais lwyth o ohebiaeth gan bobl yn rhannu eu profiad o'r pwysau mawr a achosir gan y boen gorfforol ac emosiynol sy'n deillio o fyw gyda'r cyflwr hwn yn y tymor hir. Ac mae hyn yn adlewyrchu tuedd ehangach o restrau aros nid yn unig yn cynyddu, maen nhw hefyd yn dod yn fwy parhaol. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod dros 51,000 o lwybrau cleifion yn aros dros flwyddyn ar hyn o bryd am eu hapwyntiad cyntaf i gleifion allanol. Mae cyfanswm cyfunol o bron i 15,000 o lwybrau cleifion yn aros dros ddwy flynedd am driniaethau trawma ac orthopedig, triniaethau wroleg a llawfeddygaeth gyffredinol.
Pan fyddwn ni'n sôn am aros yn iach, felly, yr hyn fydd yr 19 y cant o boblogaeth Cymru sydd ar restrau aros ar hyn o bryd eisiau ei glywed fwyaf yw'r sicrwydd ei fod yn seiliedig ar uchelgais i'w cadw yn aros cyn lleied â phosibl. Ond o ystyried y ffaith bod y Llywodraeth wedi methu â chyrraedd ei thargedau yn gyson ar gyfer dileu rhestrau aros blwyddyn a dwy flynedd, rwy'n poeni mai dim ond cyfaddefiad tawel yw rhai o'u trafodaethau diweddar ar y mater hwn y bydd rhestrau aros hir yma i aros am y dyfodol rhagweladwy.
Ni all aros yn iach olygu rheoli'r status quo yn unig. Rhaid iddo fod yn un rhan o strategaeth drosfwaol ac integredig ar gyfer clirio'r ôl-groniad. Datblygiad arbennig o ofidus fu mynychder cleifion sy'n ceisio triniaeth trwy sianeli preifat, yn aml ar gost fawr iddynt yn bersonol, sydd yn ei dro yn codi'r posibilrwydd y bydd system dwy haen, mewn gwirionedd, o ofal iechyd yn dod i'r amlwg yng Nghymru, a gwreiddio anghydraddoldebau iechyd ar sail dosbarth cymdeithasol, sydd eisoes yn bodoli.
Er bod y rhaglen bolisi aros yn iach yn cynnwys uchelgais i gynyddu cydweithio â chyrff trydydd sector a chyrff cyhoeddus, fel dewis arall yn hytrach na chynnwys y sector preifat, pan gyflwynodd Plaid Cymru welliant i'r perwyl hwn i Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), pleidleisiwyd yn ei erbyn gan y Llywodraeth. Dywedodd y Gweinidog hefyd mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol na fyddai hi'n ymddiheuro am droi at ddarparwyr annibynnol fel modd o fynd i'r afael â'r ôl-groniad. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi clywed llefarydd iechyd Llafur y DU yn honni y byddai ef yn agor y drws led y pen ar gyfer darparwyr iechyd preifat i ddod i mewn i'r GIG. Felly, pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi bod dull y Blaid Lafur o ymdrin â rhestrau aros yn fwy na'i gadael i'r sector preifat yn unig?
Un ffactor allweddol a arweiniodd at gyflwyno'r polisi hwn oedd y newyddion bod 6,350 o lawdriniaethau munud olaf wedi'u canslo yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023, gyda'r mwyafrif wedi'u hachosi oherwydd nad oedd y claf yn ffit i gael y driniaeth. Ar ben hynny, un o egwyddorion sylfaenol y polisi tair A yw casglu data i ddysgu, gwella a sicrhau gwasanaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Er gwaethaf hyn, Cymru yw'r unig ran o'r DU nad yw'n cyhoeddi data yn rheolaidd ar lawdriniaethau dewisol wedi'u canslo. Pam mae hyn yn wir, ac a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i unioni'r bwlch hwn yn y sylfaen dystiolaeth, fel y gallwn gael gwell dealltwriaeth o sut i wneud trefnu llawdriniaethau dewisol yn fwy effeithlon?
Yn olaf, fel yr wyf i wedi sôn sawl gwaith yn y Senedd, mae esgeuluso gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru yn wendid amlwg mewn ymdrechion i leihau rhestrau aros. Dylem ni fod yn sicrhau y gall cymaint o bobl â phosibl gael diagnosis a thriniaeth gan wasanaethau meddygon teulu yn lleol cyn iddyn nhw orfod ymuno â'r ciwiau hir ar gyfer apwyntiadau ysbyty.
Ar hyn o bryd, mae'r prosiect Deep End, y gwnes i gyfarfod â'u cynrychiolwyr yn ddiweddar, yn gwneud gwaith hanfodol ar hyn o bryd i hwyluso cronni adnoddau ac arfer gorau ymhlith gwasanaethau meddygon teulu sy'n gweithredu yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Rwy'n gwybod bod arian yn dynn ar hyn o bryd, ond mae'r £880,000 y mae ei angen ar y prosiect Deep End i barhau y tu hwnt i fis Mawrth y flwyddyn nesaf yn fach iawn o'i gymharu â'r gwariant iechyd cyffredinol gan Lywodraeth Cymru. A chan fod cam cyntaf y rhaglen aros yn rhagweithiol yn cynnwys y nod o ddysgu a rhannu arfer gorau, siawns na fydd y Gweinidog yn gwerthfawrogi sut y gallai hyn fod yn fuddsoddiad gwerthfawr wrth gryfhau gwytnwch ein gwasanaethau meddygon teulu. Felly, a all y Gweinidog gadarnhau a yw cyllid pellach ar gyfer y prosiect Deep End yn cael ei ystyried fel rhan o'r gyllideb iechyd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf?
Diolch yn fawr. Wel, yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi, fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich datganiad agoriadol, yw mai'r peth gorau i'w wneud yw ceisio gwneud y triniaethau hyn cyn gynted â phosibl, ond fel y gwelsoch chi, mae'r galw yn aruthrol ac yn cynyddu, ac mae'n debygol o gynyddu gan fod gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio, ac rydyn ni'n mynd i weld amlforbidrwydd ar yr un pryd. Rwy'n credu, os ydyn ni'n dweud, 'Gadewch i ni beidio â delio â dim o hyn', mae fel—. Mae'r un peth yn wir mewn perthynas â'r adrannau brys, er enghraifft. Un o'r pethau wnes i y llynedd, ac rwy'n gobeithio gwneud ychydig mwy o eleni, yw gwella'r cyfleusterau mewn adrannau brys, fel bod pobl sy'n aros yno yn cael profiad gwell. Wel, yn ddelfrydol, dydych chi ddim eisiau iddyn nhw aros yno o gwbl, ond rwy'n derbyn y ffaith mai'r siawns yw na fyddwn ni'n gallu datrys hyn ar unwaith, felly rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod yn ymgysylltu â hyn.
Ond mae hefyd yn bwysig i ni gydnabod nad yw aros yn iach yn ymwneud â chlirio'r ôl-groniad yn unig; mae hefyd yn ymwneud â rhoi'r siawns gorau y bydd y claf hwnnw'n cael canlyniad gwell. Felly, os ydych chi'n ffit yn mynd i mewn i lawdriniaeth, rydych chi'n fwy tebygol o wella'n gyflymach. Felly, mae'n ddull llawer ehangach na dim ond dweud, 'Edrychwch, rydyn ni'n mynd i'ch oedi chi am ychydig'; nid yw'n ymwneud â hynny o gwbl. Mewn gwirionedd, a allwn ni ddefnyddio'r amser hwn i ymgysylltu â chi o ran dewisiadau ffordd o fyw a gweld a yw hwn yn gyfle i chi feddwl yn wahanol efallai, ac osgoi'r posibilrwydd y byddwch chi'n dod yn un o'r bobl hynny y mae eich llawdriniaeth chi'n cael ei ganslo oherwydd nad ydych chi'n barod, oherwydd nad ydych chi'n ddigon cryf, neu oherwydd eich bod yn pwyso gormod ar gyfer y llawdriniaeth benodol honno i gael canlyniad da?' Yr holl bethau hyn. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ofalus ynglŷn â deall nad yw hyn yn ymwneud â symud y bai na'r pwyslais, mae'n ymwneud â gwneud y mwyaf o'r cyfle i'r claf gael y canlyniad gorau.
Felly, yr hyn rydyn ni'n ei wybod yw, er enghraifft, mewn perthynas â rhai o'r cyflyrau cyhyrysgerbydol, trwy wneud rhywfaint o ymarfer corff, weithiau mae pobl yn teimlo, 'Iawn, does dim angen y llawdriniaeth honno arnaf.' Mae llawdriniaeth yn ymyrraeth fawr iawn; mae wir yn effeithio ar eich bywyd am amser hir, felly os gallwch chi ei osgoi drwy ymgysylltu â'r broses honno—. Yn amlwg, nid yw hynny'n briodol o dan yr holl amgylchiadau o gwbl, ond mae rhai sydd wedi'u tynnu oddi ar restrau aros o ganlyniad i'r ymgysylltiad hwnnw.
Yn sicr, dydyn ni ddim yn ceisio cael y rhestrau aros i lawr i'r sector preifat. Rwy'n cael cyfarfodydd bob pythefnos nawr gyda fy nhîm, gan edrych ar, 'Iawn, lle'r ydyn ni ar y rhestrau aros? Pa mor gyflym y gallan nhw ddod i lawr? Beth sy'n digwydd?' Gallaf i eich sicrhau chi nad ydym yn dibynnu ar y sector preifat i'n helpu gyda hyn. Bydd rhywfaint o ymgysylltu a bydd hynny'n benderfyniad, yn amlwg, i'r byrddau iechyd, ond, ar hyn o bryd, maen nhw'n ychydig iawn, o ran faint y gallant ei gomisiynu gan y sector preifat beth bynnag, oherwydd does ganddyn nhw ddim arian i'w gomisiynu gan y sector preifat. Felly, yn amlwg, mae angen i ni wneud y mwyaf o'r gwaith yr ydym ni'n talu meddygon ymgynghorol i'w wneud eisoes yn y byrddau iechyd, lle rydym ni'n disgwyl cael y rhestrau aros hynny i ddod i lawr.
Felly, mewn perthynas â'r meddygon teulu a'r prosiect Deep End—rwy'n credu ei bod hi'n rhaglen dda iawn—yn amlwg mae her ariannol aruthrol gennym ar hyn o bryd a bydd yn rhaid i ni edrych i weld a oes unrhyw bosibilrwydd. Ond un o'r pethau rwy'n hoff iawn o am raglen Deep End ar feddygol teulu yw ei bod wedi dod ganddyn nhw; mae hon yn fenter sydd wedi dod gan y bobl sy'n gweithio yn y cymunedau hynny sydd â'r mwyaf o sialens. Felly, os gallwn ni eu cefnogi nhw, yna, yn amlwg, fe hoffem ni wneud hynny, ond bydd yn rhaid i ni edrych ar yr heriau mewn perthynas â phopeth arall yn y gyllideb yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.
Roeddwn i eisiau gwneud dau bwynt, mewn gwirionedd. Un yw: pam ddylai fod claf nad yw'n ffit ar y rhestr aros? Mae'n rhaid i ni ei wneud yn ffit i fod ar y rhestr aros. Mae'n cymryd 20 mlynedd i feddyg ymgynghorol ddysgu pryd i roi llawdriniaeth a 40 mlynedd o ran pryd i beidio â rhoi llawdriniaeth. Felly, y claf ffit ddylai fod ar y rhestr aros.
Y pwynt nesaf yr oeddwn i eisiau ei wneud oedd bod cyflwyno'r un pwynt cyswllt newydd yn wrthdyniad. Mae gennym gyswllt yn barod: y meddyg teulu a'r meddyg ymgynghorol sy'n rhoi'r driniaeth yn yr ysbyty. Y cyswllt hwnnw y dylem ni fod yn ei gynnal a dylai cleifion gael mynediad ato, fel arall bydd cyflwyno pwynt cyswllt newydd yn methu ac yn creu mwy o broblemau a biwrocratiaeth, ac ni fydd atebolrwydd a bydd mwy o ymgyfreitha. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Altaf. Rwyf bob amser yn hapus i barchu eich gwybodaeth uwch yn y maes hwn, ond yr hyn y gallaf i ei ddweud wrthych chi yw bod y dystiolaeth yr ydym ni wedi'i chasglu hyd yma mewn perthynas â'r bobl sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth hwn yn ei chael yn ddefnyddiol iawn ac maen nhw'n cael profiad cadarnhaol ac maen nhw wedi ymgysylltu ag ef. Felly, er bod y systemau eraill hynny ar gael, mae pobl yn hoffi'r gefnogaeth ychwanegol hon y mae ganddyn nhw fynediad iddo. Rydyn ni'n ceisio tynnu'r pwysau oddi ar feddygon teulu ac oddi ar feddygon ymgynghorol, felly mae hwn yn fecanwaith i helpu i wneud hynny, ond hefyd i ddefnyddio hyn fel dull cyfeirio i allu cefnogi pobl er mwyn, fel y dywedwch chi, i'w cael yn ffit ar gyfer y rhestr aros. Rwy'n credu ei bod yn ddiddorol iawn pan fyddwch chi'n dweud nad yw'n ymwneud â phryd rydych chi'n rhoi llawdriniaeth, mae'n ymwneud â phryd nad ydych chi'n rhoi llawdriniaeth, ac mae angen i ni sicrhau bod cleifion yn deall y risgiau sy'n gysylltiedig â llawdriniaethau hefyd, oherwydd nid yw'n beth amlwg i'w wneud bob tro, ac weithiau peidio â rhoi llawdriniaeth, gwneud dim, yw'r peth iawn i'w wneud. Ond nid yw'n gwneud dim yn gyfan gwbl, mae'n ymwneud â deall nad yw'n ymwneud ag ymyrraeth glinigol, mewn gwirionedd, ond gallai fod yn ymwneud ag addasiad ffordd o fyw y mae angen i chi ei wneud.
Diolch i'r Gweinidog.
Y datganiad nesaf fydd yr un gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl. Jane Hutt i wneud y datganiad.
Diolch, Llywydd. Ddydd Sul oedd diwrnod rhyngwladol pobl anabl y Cenhedloedd Unedig, ac yma yn y Senedd, fe wnaethom ni nodi'r diwrnod—diolch, Llywydd—drwy oleuo ein hadeilad mewn porffor, sef y lliw a fabwysiadwyd gan fudiad hawliau pobl anabl y DU. Ers ei lansio gan y Cenhedloedd Unedig ym 1992, mae 3 Rhagfyr wedi dod yn ddiwrnod pan fyddwn ni, ledled y byd, yn dathlu cyflawniadau ein pobl a'n cymunedau anabl.
Fodd bynnag, er ein bod yn croesawu cyflawniadau, gwyddom fod cymaint mwy o waith i'w wneud o hyd cyn y gallwn ni ddweud bod pobl anabl wedi cael eu rhyddhau rhag y gormes sy'n cael ei orfodi arnyn nhw gan gymdeithas sydd â rhagfarn yn erbyn pobl anabl. Trwy'r ymyleiddio systematig hwn, mae pobl â namau yn cael eu gwneud yn anabl; felly mae 3 Rhagfyr hefyd yn ein hatgoffa o'r angen i ni weithio gyda'n gilydd i hyrwyddo hawliau dynol sylfaenol, a'r angen i ryddhau pobl anabl yn llawn.
Y thema eleni yw, 'Yn unedig ar waith i achub a chyflawni'r nodau datblygu cynaliadwy ar gyfer, gyda a chan bobl anabl'. Mae nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn nodi agenda uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid y byd ar gyfer pobl, y blaned a ffyniant. Rydym yn rhannu'r uchelgais hwn yng Nghymru, ac rydym wedi ymrwymo i wneud ein cyfraniad ni at y nodau hyn. Ni yw'r unig genedl, hyd yn hyn, sydd wedi trosi nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn gyfraith. Mae'n unigryw i Gymru ac yn rhoi cyfle i ni ymgysylltu â Llywodraethau, rhanbarthau a sefydliadau o'r un anian yn fyd-eang a thrwy rwydweithiau.
Mae Cymru'n wahanol oherwydd datblygu cynaliadwy yw'r egwyddor drefniadol ganolog sy'n llywio'r hyn y mae'n ei wneud a sut mae'n gweithio. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau er budd y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol ac yn defnyddio talentau pawb i alluogi ein cenedl i ffynnu. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i nodi'r diwrnod hwn er mwyn parhau i dynnu sylw at faint o bobl yng Nghymru y mae gwahaniaethu ar sail anabledd yn effeithio arnynt, ac i gryfhau ein penderfyniad i sicrhau tegwch llawn i bob person anabl.
Ddoe, roeddwn i'n falch o ymweld ag Anabledd Cymru a Chymdeithas Byddar Prydain yn eu swyddfeydd newydd yn Sbarc, sy'n rhan o Brifysgol Caerdydd. Roedd yn ymweliad a wnaeth ysgogi'r meddwl, gan fy ngalluogi i gwrdd â staff o'r ddau sefydliad, a amlygodd yr angen parhaus i ganolbwyntio ar ddileu'r rhwystrau sy'n analluogi a brofir gan lawer o bobl anabl ledled Cymru.
Byddwn ar fai pe na bawn yn sôn am yr ymchwiliad COVID sy'n mynd rhagddo, y mae newyddion amdano ar ein sgriniau teledu bob dydd. Does dim amheuaeth mai pobl anabl gafodd eu heffeithio fwyaf gan y pandemig: roedd chwech o bob 10 marwolaeth a oedd yn gysylltiedig â COVID yn y DU yn bobl anabl. Fodd bynnag, nid oedd llawer o'r marwolaethau hyn o ganlyniad anochel i amhariad, ond roeddent wedi eu gwreiddio'n ddwfn mewn ffactorau economaidd-gymdeithasol a'r anghydraddoldebau sy'n deillio ohonynt.
Arweiniodd y sylweddoliad hwn at gomisiynu a chyhoeddi'r adroddiad arloesol 'Drws ar Glo', a thynnodd yr adroddiad hwn sylw at yr annhegwch amlwg sy'n wynebu pobl anabl. Arweiniodd yr adroddiad hwn hefyd at greu'r tasglu hawliau anabledd, yr wyf yn falch o'i gadeirio ar y cyd â'r Athro Debbie Foster. Heddiw, rwyf nid yn unig yn ailadrodd bod y Llywodraeth hon yn cydnabod y gwahaniaethu a'r anghydraddoldebau sy'n wynebu pobl anabl bob dydd, ond ein bod yn benderfynol o fynd i'r afael â nhw ac yn cymryd camau sylweddol i wneud hynny.
Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ill dwy yn benderfynol o gryfhau hawliau pobl anabl a mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y maent yn parhau i'w hwynebu. Rydym wedi ymrwymo i'r model cymdeithasol o anabledd. Gyda'n gilydd, drwy'r cytundeb cydweithio, byddwn yn sicrhau llwyddiant y tasglu hawliau anabledd.
Weithiau pan fydd llywodraethau'n creu polisïau, cynlluniau neu raglenni, mae gwahaniaeth rhwng bwriad, yr hyn a gyflawnir a'r hyn sydd ei wir angen ar y bobl y mae wedi'i fwriadu eu cefnogi. Mae'r bwlch gweithredu hwn yn rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef. Mae'r tasglu a'i weithgorau yn allweddol i fynd i'r afael â'r broblem hon drwy roi lleisiau pobl anabl wrth wraidd popeth a wnânt. Mae'r tasglu a'i weithgorau yn dwyn ynghyd bobl â phrofiad bywyd, arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru a sefydliadau cynrychioliadol i nodi'r materion a'r rhwystrau sy'n effeithio ar fywydau llawer o bobl anabl. Mae'r tasglu yn nodi achosion sylfaenol gwahaniaethu a'r anghydraddoldebau sy'n deillio o hynny, ac mae'n nodi'r camau byrdymor, tymor canolig a hirdymor sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r rheini. Mae'r gweithgorau wedi bod yn ystyried amrywiaeth o faterion ac rydym yn cyhoeddi datganiadau ysgrifenedig yn rheolaidd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud. Mae rhai o'r grwpiau wedi dod i ben ac yn cyflwyno eu hargymhellion i'r prif dasglu i'w hystyried. Rydym yn gweld syniadau arloesol a mawr yn cael eu cyflwyno, a fydd yn cael effeithiau cadarnhaol ar fywydau pobl anabl yng Nghymru.
Mae hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl Llywodraeth Cymru yn mynychu'r gweithgorau yn rheolaidd ac yn darparu mentoriaeth i arweinwyr polisi ar draws Llywodraeth Cymru yn ogystal ag ymgysylltu ar faterion trawsbynciol i ddarparu eu harbenigedd a'u mewnwelediadau gwerthfawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llawn ac yn parhau'n gwbl ymrwymedig i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan lawn a chyfartal ym mywyd Cymru. Fodd bynnag, mae gennym dipyn o ffordd i fynd cyn y gallwn ddatgan bod Cymru wedi cael ei thrawsnewid yn gymdeithas nad yw bellach yn gormesu ac yn ymylu bron i chwarter ei dinasyddion. Mae cael cyfle i dynnu sylw at hyn ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl yn rhan bwysig nid yn unig o barhau â'r sgwrs, ond o daflu goleuni ar y newid sydd angen digwydd.
Ac yn olaf, hoffwn ddiolch i'r fforwm cydraddoldeb anabledd, y tasglu ac aelodau ei weithgor am eu dyfalbarhad parhaus nid yn unig wrth daflu'r goleuni hwnnw ar yr hyn sydd angen ei newid, ond wrth ddatblygu camau gweithredu a fydd yn creu'r newid. Oherwydd y gwaith y maent yn ei wneud, rwy'n hyderus, y tro nesaf y byddwn yn nodi diwrnod rhyngwladol pobl anabl y Cenhedloedd Unedig, y bydd y tasglu wedi cwblhau ei waith yn ymwneud â'r argymhellion sy'n arwain ein gwaith i gyflawni ein nod, sef trawsnewid Cymru yn genedl sy'n gynhwysol i bobl anabl, lle mae cyfleoedd, tegwch a chyfiawnder cymdeithasol yn dominyddu bywydau ein holl ddinasyddion anabl.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Hoffwn ymuno â chi i nodi pa mor bwysig yw Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau a pha mor bwysig yw hi i ni weithio tuag at sicrhau hawliau dynol sylfaenol i bobl anabl. Mae'n ddiwrnod i ddathlu cyflawniadau pobl anabl ledled y byd a hyrwyddo hawliau pobl ag anableddau. Nid oes rhaid i anabledd fod yn rhwystr; edrychwch ar un o'r gwyddonwyr gorau erioed, Stephen Hawking, a oedd, er nad oedd yn gallu siarad oherwydd sglerosis ochrol amyotroffig, yn un o'r cyfathrebwyr gwyddoniaeth gorau a welodd y byd.
Yn anffodus, mae gormod o rwystrau o hyd sy'n atal pobl anabl rhag cyrraedd eu llawn potensial, er gwaethaf gwaith llawer ohonom yma. Hoffwn dalu teyrnged i'm cyd-Aelod a'm ffrind Mark Isherwood, sydd, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anableddau, wedi ceisio mynd i'r afael â materion cydraddoldeb anabledd allweddol, gan gynnwys gweithredu'r model cymdeithasol o anabledd a'r hawl i fyw'n annibynnol.
Rhaid i ni atgyfnerthu ein hymdrechion i ddileu'r rhwystrau y mae cymdeithas yn eu gosod yn ffordd pobl anabl a sicrhau cynhwysiant i bawb. Fel y dywed y Gweinidog yn gywir, thema Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau eleni yw unedig ar waith i achub a chyflawni'r nodau datblygu cynaliadwy ar gyfer, gyda a chan bobl ag anableddau—nodau datblygu cynaliadwy fel dim tlodi, dim newynu a llai o anghydraddoldebau, i enwi ond ychydig.
Gweinidog, sut allwn ni ddweud yn onest ein bod ni'n creu Cymru fwy cyfartal pan fo pobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn yn cael eu gwrthod rhag mynd ar fws am nad oes lle i'w cadair olwyn? Sut mae'n gyfartal pan, yn 2023, mae'n rhaid i bobl anabl archebu tocyn trên o flaen llaw pan fo'r gweddill ohonom yn gallu cyrraedd a chamu ymlaen? Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog trafnidiaeth ynglŷn â sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn cadw at ei ddyletswyddau cydraddoldeb ac yn cael gwared ar rwystrau i deithwyr anabl?
Gweinidog, rydych chi'n dweud y byddai bai arnoch pe na baech yn sôn am yr ymchwiliad COVID sy'n mynd rhagddo. A ydych chi'n credu bod yr ymchwiliad yn ystyried pobl anabl yng Nghymru yn ddigonol? A ydych yn cytuno â mi mai'r unig ffordd o ystyried yn iawn yr anghydraddoldebau a oedd yn wynebu pobl anabl yn ystod y pandemig fyddai cynnal ymchwiliad cyhoeddus annibynnol llawn yng Nghymru? Gweinidog, roeddech chi'n sôn am sefydlu tasglu hawliau anabledd; a allwch chi ehangu ar y gwaith mae'r tasglu wedi'i wneud i ddysgu'r gwersi o'r pandemig?
Yn olaf, Gweinidog, rydych chi'n datgan bod hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl Llywodraeth Cymru yn mynychu gweithgorau yn rheolaidd ac yn darparu mentoriaeth i arweinwyr polisi ar draws Llywodraeth Cymru. A allwch chi ehangu ar sut mae'r gweithgorau hynny yn gwella'r rhagolygon cyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru? Sut mae'r gwaith hwn yn ategu'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd sy'n cael ei redeg gan Lywodraeth y DU?
Diolch unwaith eto am eich datganiad, ac edrychaf ymlaen at ddiwrnod pan na fydd pobl anabl yng Nghymru yn wynebu unrhyw rwystrau o gwbl. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Altaf Hussain, a diolch am eich cydnabyddiaeth o bwysigrwydd diwrnod rhyngwladol pobl anabl ac am gydnabod y rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl. Rwy'n credu ei bod yn braf bod y Senedd gyfan yn cynnal ac yn cymeradwyo mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd. Nid wyf yn siŵr a oedd Mark Isherwood, mewn gwirionedd, yn Aelod yn 2002 pan ddechreuon ni—. Na. Roeddwn i'n Weinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol bryd hynny, pan wnaethom nodi ein cefnogaeth i'r model cymdeithasol o anabledd am y tro cyntaf, ond gwn eich bod chi, Mark, a'ch cydweithwyr, wedi hynny, wedi cefnogi hyn, ac mae'r grŵp trawsbleidiol yn chwarae rhan bwysig o ran dod â phartneriaid ynghyd a helpu i ddylanwadu ar bolisi.
Mae hefyd yn bwysig eich bod yn cydnabod ein sefyllfa unigryw o ran cefnogi'r nodau datblygu cynaliadwy, thema allweddol y diwrnod rhyngwladol pobl anabl hwn, ac, mewn gwirionedd, i ddangos ei fod, fel y mae'r thema yn amlinellu, yn unedig ar waith i achub a chyflawni'r nodau datblygu cynaliadwy. Rwyf wedi dweud mai ni yw'r unig genedl hyd yma i drosi nodau Datblygiad Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn gyfraith, ond mae'n golygu mewn gwirionedd ei bod wrth wraidd y ffordd yr ydym yn gweithio. Mae'n adlewyrchu'r ymdrech ddiflino a wnaed gan bobl ledled Cymru, pobl â phrofiad byw, i gryfhau'r ffyrdd y mae dyfodol Cymru yn cael ei siapio. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod hyn hefyd yn gysylltiedig ag ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl ag anableddau yng nghyfraith Cymru. Mae hynny, wrth gwrs, yn waith parhaus gyda'n grŵp cynghori hawliau dynol. Credaf ei bod hefyd yn bwysig cydnabod mai ni yw'r Llywodraeth gyntaf i benodi comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol annibynnol, mewn gwirionedd, gyda'n Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu'r fframwaith pwysig hwnnw ar gyfer gweithredu, sy'n ein harwain yn ein gwaith.
Mae llawer o'ch cwestiynau yn ymwneud â gwaith y tasglu hawliau anabledd. Mae'n bwysig cofio, fel y dywedais, fod hyn wedi'i sefydlu yn 2021, yn dilyn yr adroddiad 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19'. Rhoddodd yr adroddiad hwnnw y dystiolaeth i ni ac amlygodd yr anghydraddoldebau a'r gwahaniaethu y mae llawer o bobl anabl yn eu hwynebu yng Nghymru, a waethygwyd gan y pandemig. A'r tasglu hwnnw—ac rwyf wedi amlinellu ei amcanion a'i aelodaeth—sy'n dod â phobl â phrofiad byw at ei gilydd. Yn bwysig, mae naw ffrwd waith, ac rydych chi wedi cyfeirio at drafnidiaeth a theithio fel un o'r rheini. Mae gen i weithgor teithio. Mae'n cael ei gadeirio gan Andrea Gordon o Guide Dogs UK. Mae wedi cynnal pum cyfarfod. Mynychodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyfarfod y gweithgor i glywed gan aelodau am sut mae materion trafnidiaeth gyhoeddus yn effeithio ar fywydau pobl anabl, ac mae'r cyfarfod terfynol i gytuno ar argymhellion bellach yn cael ei drefnu. Ond hefyd, yn bwysig, mae gennym weithgor cyflogaeth ac incwm. Mae'r gwaith hwnnw wedi'i gynnwys, a byddwn yn ystyried yr argymhellion yng nghyfarfod nesaf y tasglu maes o law.
Mae'n bwysig iawn hefyd ein bod yn cydnabod ein bod ni, unwaith eto, yng Nghymru wedi arwain y ffordd o ran penodi hyrwyddwyr cyflogaeth anabl. Fe wnaethon ni eu penodi ac maen nhw'n cael effaith enfawr yn y gwaith maen nhw'n ei wneud gyda phobl anabl. Mae'n cysylltu'n llwyr â'r cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau. Mae hwn yn ymateb trawslywodraethol i ategu model cymdeithasol anabledd yn y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau ac yn yr holl gynlluniau sy'n mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl. Rwy'n credu, hefyd, yn bwysig, nid yn unig y mae'r hyrwyddwyr pobl anabl hynny—mae tîm o bump bellach wedi cael eu recriwtio yn barhaol—yn chwarae rôl allweddol, nid yn unig wrth ymgysylltu â chyflogwyr ond undebau llafur hefyd i hyrwyddo recriwtio a chadw pobl anabl, ond hefyd rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Busnes Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau i wella canlyniadau ar gyfer pobl anabl. Mae ein gwaith yn parhau i gael ei lywio gan weithgor cyflogaeth pobl anabl. Rwy'n credu yn bwysig o ran cyflogaeth, ym mis Rhagfyr 2021 fe wnaethom gyflwyno carreg filltir genedlaethol ar gyfer dileu'r bwlch cyflog rhywedd, hil ac anabledd ar gyfer 2050. Mae hynny'n adlewyrchu ein huchelgais a'n dyhead am gyfiawnder economaidd a chymdeithasol.
Felly, mae ein gweithgorau ar y gweill, gan ymateb i adroddiad 'Drws ar Glo' y tasglu hawliau anabledd, gan roi'r dystiolaeth i ni, ac rwy'n falch iawn o ddweud ei fod yn cael ei arwain gan y rhai sydd â phrofiad o lygad y ffynnon, ochr yn ochr â'r swyddogion polisi allweddol o bob rhan o Lywodraeth Cymru, ond hefyd ein Gweinidogion, sy'n mynychu'r holl feysydd polisi hynny. Rwy'n croesawu cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i'r gwaith hwn, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn bryderus iawn am y toriadau i fudd-daliadau yn natganiad yr hydref, sy'n effeithio'n arbennig ar bobl anabl.
Un o amcanion diwrnod rhyngwladol pobl anabl yw ystyried sut y dylid cefnogi urddas, hawliau a llesiant pobl anabl. Mae nodi'r diwrnod i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo cynhwysiant ym mhob agwedd ar fywyd yn dal i fod mor bwysig, degawdau ers lansio'r diwrnod hwn, oherwydd mae gennym benderfyniadau'n dal yn cael eu gwneud ar bob lefel o'r Llywodraeth nad ydynt yn cefnogi urddas, hawliau a lles pobl anabl yng Nghymru, ac nad ydynt yn annog nac yn caniatáu cynhwysiant.
Mae'r pum piler datblygu cynaliadwy yn sail i'r thema eleni o 'unedig ar gamau gweithredu i achub a chyflawni'r nodau datblygu cynaliadwy ar gyfer, gyda a chan bobl ag anableddau', ac un ohonynt yw ffyniant. A ydych chi'n cytuno, Gweinidog, bod mesurau Llywodraeth Dorïaidd San Steffan a gyhoeddwyd yn ddiweddar wedi effeithio'n ddifrifol ar ffyniant pobl anabl yng Nghymru i orfodi pobl nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd anableddau i geisio gwaith neu golli eu budd-daliadau? Mae hon yn enghraifft gywilyddus o sut y gall pobl anabl gael eu stigmateiddio a'u pardduo, a bydd yn gwthio miloedd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd ymhellach i dlodi a chaledi. Felly, sut mae'r Llywodraeth yn gweithio i sefyll yn erbyn y naratifau niweidiol a ffug a gyflawnir gan Lywodraeth Dorïaidd y DU a gwasg asgell dde y 'chwiwladron buddion' a dod â throsedd casineb sy'n gysylltiedig ag anabledd i ben, sydd wedi gweld cynnydd yn y blynyddoedd diwethaf?
Mae Plaid Cymru yn falch o'r ymrwymiad rydych chi wedi'i grybwyll yn ein cytundeb cydweithredu â'r Llywodraeth i gryfhau hawliau pobl anabl a mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau maen nhw'n eu hwynebu, ond gyda'r argyfwng costau byw ar hyn o bryd yn taro pobl anabl fwyaf, credwn fod angen i'r Llywodraeth wneud mwy o waith i'w cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae bywyd yn ddrutach i bobl anabl a'u teuluoedd. Mae'n rhaid iddyn nhw wario mwy ar nwyddau a gwasanaethau hanfodol, fel gwresogi, offer arbenigol, trafnidiaeth, bwyd a therapïau arbenigol. A dangosodd yr adroddiad ciplun diweddaraf o dlodi gan Sefydliad Bevan ddarlun llwm o sut mae pobl anabl yn byw mewn tlodi yn anghymesur a sut mae'r argyfwng costau byw yn gwaethygu'r caledi hwn. Er enghraifft, mae mwy na phedwar o bob 10 person anabl, y mae eu cyflwr yn cyfyngu llawer arnynt, wedi mynd heb wres, ac mae 46 y cant wedi hepgor pryd o fwyd. Felly, gyda'r argyfwng costau byw yn parhau i effeithio ar lawer o bobl anabl, a'r Torïaid yn San Steffan sy'n ymddangos yn barod i yrru llawer o bobl anabl i dlodi dyfnach, pa ystyriaeth yr ydych chi wedi'i wneud, Gweinidog, o argymhelliad grŵp arbenigol Cymru i Lywodraeth Cymru gyflwyno taliad costau byw person anabl ar sail rhandaliad ar gyfer aelwydydd â pherson anabl?
Ac yn erbyn y cefndir hwn o'r ffordd warthus y mae Llywodraeth San Steffan wedi diystyru hawliau a lles pobl anabl yn eu cyhoeddiadau diweddar, mae'r angen i warantu hawliau o dan y gyfraith yn dod hyd yn oed yn bwysicach. Gall ymgorffori safonau rhyngwladol, megis Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, sicrhau gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r hawliau hynny ymhlith gwleidyddion, a chynyddu atebolrwydd lle nad yw llunwyr polisi yn parchu, diogelu na chyflawni hawliau pobl anabl. Felly, pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar ei hymrwymiad i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn llawn ar hawliau pobl anabl? Roeddech chi'n sôn bod y gwaith hwnnw'n parhau; byddwn yn ddiolchgar pe gallech ehangu ar hynny, os gwelwch yn dda.
Mae yna hefyd lawer yn eich datganiad am angen a gwerth cyd-gynhyrchu. Fe ddywedoch chi am roi lleisiau pobl anabl wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anableddau dysgu, rwyf wedi clywed tystiolaeth bryderus ynghylch faint o wasanaethau dydd sy'n cael eu cau neu eu hailgynllunio heb ymgynghori priodol, er gwaethaf darpariaethau'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Felly, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried creu safonau ymgynghori a chyd-gynhyrchu gofynnol y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn i sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn gallu cyfrannu'n well at benderfyniadau sy'n effeithio ar y gwasanaethau y maent yn eu derbyn? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned Williams. A diolch eto am ymgysylltu, yn enwedig yng ngwaith y tasglu hawliau anabledd, fel y dywedais i, gan fynd i'r afael â naw ffrwd waith ar draws Llywodraeth Cymru gyfan, o ran cyfrifoldeb. Ond mae'n bwysig hefyd bod rhai o'n partneriaid allweddol hefyd yn cymryd rhan yn y tasglu, nid llywodraeth leol yn unig. Cynrychiolir y trydydd sector yn arbennig gan bobl anabl a'u sefydliadau sy'n aelodau.
Mae'n rhaid i mi ddweud bod gen i bob cydymdeimlad â'r hyn rydych chi'n ei ddweud am sut rydyn ni'n mynd i symud ymlaen i sicrhau ffyniant i bawb, gan gynnwys pobl anabl, yng Nghymru. Ac mae hynny'n cysylltu â sut rydyn ni'n mynd i'r afael â thlodi, ac rydych chi wedi sôn am yr argyfwng costau byw a'r effaith rydyn ni'n gwybod y mae hynny'n ei gael ar bobl anabl. Rwyf am gyfeirio'n fyr at yr hyn a ddywedwyd mewn gwirionedd yn natganiad yr hydref am doriadau i bobl anabl yng nghanol yr argyfwng costau byw gwaethaf mewn cof, ac mae pobl anabl ymhlith y rhai sy'n cael eu taro galetaf. Mae Canghellor y Trysorlys wedi cynnig newidiadau i'r system fudd-daliadau a fydd yn cael effaith ddinistriol ar gannoedd o filoedd o bobl anabl. Er mwyn egluro, gallai'r newidiadau a gynigir i asesiadau gallu i weithio olygu bod pobl anabl yn colli £4,680 y flwyddyn, yn wynebu bygythiad o gael gwared ar hawliau allweddol fel cymorth cyfreithiol, a hefyd yn cael eu gorfodi i weithio. Gallai'r hawlwyr sy'n cael eu hystyried yn ffit i weithio, ond sy'n methu â chymryd camau i ddod o hyd i gyflogaeth, wynebu lleoliadau gwaith gorfodol. Ac os na fyddant yn dod o hyd i gyflogaeth neu'n gwrthod lleoliadau gwaith, byddant nid yn unig yn colli eu budd-dal, ond byddant hefyd yn cael eu torri i ffwrdd rhag cael mynediad at wasanaethau eraill.
Nawr, un o'r pethau rydyn ni'n teimlo'n gryf iawn amdano yw nad sancsiynau yw'r ffordd gywir o gefnogi pobl i mewn i waith, a chanfu Pwyllgor Gwaith a Phensiynau ASau nad oes tystiolaeth bod system sancsiynau amodol budd-daliadau Yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio, ac yn hytrach mae'n nodi ei bod yn gwneud pethau'n waeth, mae'n niweidiol ac yn wrthgynhyrchiol. Ac mewn gwirionedd mae'n wrthgynhyrchiol—nid yw'n helpu i gefnogi mwy o bobl anabl i mewn i waith, ac mae mwy o bobl anabl yn debygol o gael eu gwthio i dlodi dyfnach a mwy o ddirywiad iechyd. Felly, ie, rydym yn tanysgrifio'n fawr i'r ffyrdd y gallwn gefnogi pobl anabl drwy'r argyfwng costau byw, ac fel y gwyddoch, gwnaethom ymgysylltu â grŵp o arbenigwyr i edrych ar sut y gallem gefnogi pobl anabl yn y tymor byr a'r tymor hwy o ran eu hanghenion, ac yn wir, oedd, roedd argymhelliad gan y grŵp arbenigol o ran posibilrwydd o daliad tymor byr i aelwyd incwm isel sydd â pherson anabl, ond yn amlwg, hefyd o ganlyniad i'r toriadau i'n grant bloc—y £900 miliwn o eleni a £1.3 biliwn y flwyddyn nesaf—dydyn ni ddim wedi gallu sicrhau bod y cyllid hwnnw ar gael. Ond byddwn i'n dweud mai Llywodraeth y DU ddylai fod yn ymateb i'r anghenion hynny, yn enwedig rhai pobl anabl.
Ond rydyn ni hefyd yn gweithio fel rydyn ni'n ei wneud o ran mynd i'r afael â thlodi i sicrhau'r incwm mwyaf, a dyna lle mae'r cyllid rydyn ni'n ei roi nid yn unig yn y gronfa gynghori sengl, i helpu pobl drwy 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', ac mae hynny'n hanfodol i bobl anabl, ond hefyd i'r gronfa cymorth dewisol, yr ydym wedi llwyddo i gynyddu'r flwyddyn ariannol hon—i sicrhau bod pobl, gan gynnwys pobl anabl, yn gallu cael mynediad at y rheini, yn enwedig y taliadau brys hynny.
Nawr, mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar waith y tasglu hawliau anabledd i'n helpu ni ar yr holl faterion hyn. Mae gennym gyfres gref iawn o argymhellion o'r ffrwd waith ar fyw'n annibynnol a gofal cymdeithasol. Cadeiriwyd hynny gan Rhian Davies, prif weithredwr Anabledd Cymru. Aeth Julie Morgan, mewn gwirionedd, i'r cyfarfod olaf i glywed yr argymhellion a chlywed y pwynt heddiw am bwysigrwydd cyflwyno'r hawliau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, lle mae ymrwymiad i gyd-gynhyrchu. Gwn fod y Dirprwy Weinidog yn ymgysylltu â'i fforwm gofal cymdeithasol a phobl ag anableddau dysgu, gan fwrw ymlaen â hyn.
Rydym yn credu bod ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, fel y disgrifir yn y confensiwn—mae'r gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo ar hynny er mwyn bwrw ymlaen â hyn yn gwneud cynnydd mawr. Beth sy'n dda am hynny yw ei fod hefyd—. Mae gan y grŵp cynghori hawliau dynol, yr wyf yn ei gadeirio gyda'r Cwnsler Cyffredinol, is-grŵp sy'n edrych ar yr opsiynau deddfwriaethol. Byddwn yn clywed mwy am hyn wrth i ni weithio hefyd.
Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddwn yn dathlu Diwrnod Hawliau Dynol, ddydd Iau, a byddwn yn myfyrio ar y cynnydd a wnaed o ran y gwaith o ymgorffori hawliau pobl anabl. Ond rwy'n credu bod y ffaith ein bod wedi cael datblygu cynaliadwy fel egwyddor drefniadol graidd i'n gwaith fel Llywodraeth Cymru, y ffaith bod gennym ni ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ein llywio a'n tywys o ran y ffordd ymlaen ar gyfer llunio polisïau, gan ddarparu fframwaith lle gall y sector cyhoeddus wneud y gwelliannau hynny i fywydau pobl yng Nghymru, bydd yn ein helpu i gyrraedd Cymru fwy cyfartal, ac, fel y dywedais, i fynd i'r afael â'r materion hynny sydd, am y tro, yn fwyaf dybryd i bobl anabl o ran effaith yr argyfwng costau byw.
Ond rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn ymuno â mi i fynd i'r afael â hyn ac i herio Llywodraeth y DU o ran y toriadau hyn i fudd-daliadau i bobl anabl, nad ydynt mewn gwirionedd wedi cyrraedd ymwybyddiaeth y cyhoedd eto; mae'n sicr wedi yn nhermau yr effaith andwyol fydd yn ei gael ar bobl anabl.
Gweinidog, rwy'n ddiolchgar iawn am eich datganiad ac am eich angerdd a'ch brwdfrydedd personol ar yr agenda hon. Rwy'n gwybod hyn, o'r penderfyniad y dangosoch chi i benodi hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl; maen nhw'n hynod o bwysig yng Nghymru. Mae heddiw yn ddiwrnod pwysig iawn yng Nghymru ac o amgylch y byd o ran hyrwyddo hawliau ac urddas pobl sy'n wynebu rhwystrau sy'n anablu bob dydd.
Gweinidog, mae gennyf ddau gwestiwn yn unig. Yn gyntaf oll, a fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n hanfodol bwysig ein bod, lle bynnag a phryd bynnag y bo'n bosibl, yn mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd, fel sydd eisoes wedi'i godi gan Altaf Hussain, a bod y cyfrifoldeb ar bob un ohonom i fabwysiadu'r model hwnnw ac i wneud yr hyn a allwn i chwalu'r rhwystrau dyddiol y mae pobl yn eu hwynebu? Ac, yn ail, mae'r pwynt wedi'i godi gan Sioned Williams, ond a fyddech chi'n cytuno bod blynyddoedd o gyni Llywodraeth y DU wedi effeithio'n anghymesur ar y bobl hynny sy'n wynebu rhwystrau sy'n anablu bob dydd? Diolch.
Diolch yn fawr, Ken Skates. A gaf i ddiolch i Ken Skates, yn ei rôl flaenorol fel Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, am ddatblygu'r rhaglen uchelgeisiol iawn honno i benodi hyrwyddwyr ein pobl anabl? Ac rwy'n cofio ar y pryd, gwnaethom alwad glir iawn i'r hyrwyddwyr hynny fod yn bobl anabl, oherwydd roeddem yn gwybod bod angen i hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl fod yn bobl â phrofiad o lygad y ffynnon, a allai fynd allan a dylanwadu ar gyflogwyr. Rwy'n credu bod y gwaith y maent yn ei wneud wedi bod yn arwyddocaol iawn o ran eu heffaith ar gyflogwyr a'i ganlyniadau i bobl anabl.
O ran y garreg filltir y soniais amdani ar ddileu bwlch cyflog rhywedd, hil ac anabledd, dyma lle mae ein cysylltiadau â'r cynlluniau cyflogadwyedd a sgiliau yn allweddol, ond hefyd ein bod yn cydnabod eu bod yn dylanwadu ar ffrwd gwaith cyflogaeth pobl anabl y tasglu hawliau anabledd, gan ddarparu cyngor ac arweiniad ar faterion sy'n dod i'r amlwg a hefyd blaenoriaethau i bobl anabl. Ac mae'n hanfodol ein bod yn ymgorffori'r model cymdeithasol o anabledd ym mhopeth a wnawn. Dyna brif ffrwd waith y tasglu hawliau anabledd. Fe'i gelwir yn weithgor ymgorffori a deall y model cymdeithasol o anabledd. Mae'n cael ei gadeirio gan yr Athro Debbie Foster, ac o ganlyniad i'r gwaith a wnaed, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru—maent wedi cael hyfforddiant pwrpasol yn y model cymdeithasol o anabledd ac maent yn cymhwyso'r wybodaeth hon i arolygiadau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Dim ond un enghraifft o'r dylanwad yw hynny. Ond cafodd holl aelodau'r tasglu hawliau anabledd hyfforddiant, nid yn unig yn y model cymdeithasol o anabledd ond hefyd mewn cyd-gynhyrchu, oherwydd mae cyd-gynhyrchu yn hanfodol, mewn gwirionedd, i sicrhau bod gennym y canlyniadau yr ydym eisiau eu cyflawni.
Rwyf, yn ail, yn derbyn yn llwyr—ac rwy'n meddwl fy mod i wedi nodi ein cydnabyddiaeth—bod 13 mlynedd o gyni wedi arwain at yr effeithiau economaidd-gymdeithasol echrydus ar bobl anabl, a hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, y diwygiad lles fel y'i gelwir. Ac rwyf wedi amlinellu'r ymosodiad diweddaraf ar bobl anabl gan Lywodraeth y DU, o ran y newidiadau budd-daliadau hyn y maent yn eu cyflwyno, a fydd yn gwbl wrthgynhyrchiol, wrth i mi ymateb i Sioned Williams, o ran defnyddio sancsiynau, gorfodi pobl i weithio, ac yn llwyr yn erbyn y model cymdeithasol o anabledd. Ac mae hefyd yn arwydd o ffyrdd y gall Llywodraethau analluogi pobl trwy eu polisïau a'u gweithdrefnau mewn gwirionedd. Felly, ie, diolch, Ken Skates, am eich cefnogaeth i'r datganiad a'ch cefnogaeth glir i ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Gweinidog, mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau yn ddiwrnod i ddathlu cyflawniadau pobl anabl ledled y byd, yn ogystal â pharhau i wthio am yr hawliau hynny i'r rhai ag anableddau.
Yn anffodus, mae yna lawer iawn o faterion y gallem siarad amdanynt heddiw, ond rwyf am siarad â chi am rywbeth cadarnhaol, sef Fferm Wellies yn fy rhanbarth i. Mae'n enghraifft wych o arfer gorau, wedi'i ddylunio'n benodol ar gyfer y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol mewn lleoliad addysg ôl-16. Mae'r rhai sy'n ddigon ffodus i gael mynediad i Wellies wedi tynnu sylw at ba mor achubol yn llythrennol y mae'r fferm wedi bod i'w plant. Fodd bynnag, er gwaethaf eu hymdrechion, mae Fferm Wellies wedi nodi ar sawl achlysur nad oes ganddynt fynediad at gyllid na chefnogaeth y mae ei gwir angen er mwyn iddynt ddarparu mwy o gymorth a chyfleoedd ôl-16 mewn addysg. Mae'n hanfodol ein bod yn ystyried ehangu addysg ôl-16 yn y ffurf hon. Fel y dywed Wellies, 'Nid pob ystafell ddosbarth sydd â phedair wal', ac mae'r profiadau sy'n cael eu cynnig i bobl ifanc yn amlwg yn amhrisiadwy ac yn amlwg yn effeithiol.
Mae'r bobl ifanc ag ADY ac anableddau mewn amgylchedd yn Wellies lle gallant gyflawni a ffynnu, ac mae'r effaith ganlyniadol ar eu teuluoedd yn gadarnhaol hefyd. Byddwn i wrth fy modd yn gweld mwy o lefydd fel Wellies ar draws ein rhanbarth ni a Chymru, gan fod cynghorau lleol ar hyn o bryd yn talu symiau mawr o arian i bobl ifanc fynd dros y ffin i Loegr i brofi'r un pethau, sydd ddim yn gynaliadwy nac yn ddymunol. Gweinidog, yn gyntaf, a gaf i estyn gwahoddiad i chi ymweld â Fferm Wellies yng Nghasnewydd i weld y canlyniadau eich hun, ac yn ail gofyn sut rydych chi'n gweithio gyda'r Gweinidog addysg i ehangu cyfleoedd addysgol ôl-16 i bobl ifanc anabl a'r rhai ag ADY i'w paratoi ar gyfer y byd gwaith, ac i sicrhau bod cymorth ariannol yng Nghymru yn parhau wrth iddynt symud ar eu cyflymder eu hunain i fod yn oedolion, a bod y gefnogaeth yno iddyn nhw a'u teuluoedd ar ddull sy'n seiliedig ar anghenion, fel y dywedwch, nid dod i ben yn greulon yn 16 neu'n 18 oed?
Diolch yn fawr iawn, Laura Anne Jones. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn clywed am waith a menter y fferm yng Nghasnewydd. Mae gen i fferm ofal Ymddiriedolaeth Amelia yn fy etholaeth i, sydd fwy na thebyg yn gwneud gwaith arloesol tebyg iawn. Ac mae'n bwysig ein bod yn edrych ar bob ffordd y gallwn gefnogi plant a phobl ifanc anabl. Dwi'n falch bod gweithgor y plant a phobl ifanc, sy'n cael ei gyd-gadeirio gan Alice Moore ac Angharad Price—. Maent wedi cynnal dau gyfarfod. Maen nhw'n canolbwyntio ar wasanaethau iechyd meddwl plant ar hyn o bryd. Maent yn ymgysylltu'n glir iawn â phlant a phobl ifanc hefyd, gan edrych ar y mentrau a'r blaenoriaethau sydd ganddynt, ond rwy'n siŵr y byddant eisiau edrych ar hyn o ran y cyfleoedd dysgu, yn enwedig mewn cysylltiad ag anghenion dysgu ychwanegol.
Hoffwn ddweud, yr wythnos diwethaf roeddwn i'n rhoi tystiolaeth ac roeddech chi yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, dan gadeiryddiaeth Jayne Bryant, yn edrych ar anghenion plant a phobl ifanc anabl, ac yn cydnabod bod yn rhaid cael amrywiaeth o wasanaethau i'w cefnogi.
Ac yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch. O ystyried rhai o'r cyfeiriadau a wnaed, nodaf y bydd cyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar anabledd brynhawn Iau am 3.30 p.m. sef ein cyfarfod cyffredinol blynyddol, hefyd yn cynnwys cyflwyniad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, os ydych yn dymuno codi unrhyw bwyntiau gyda nhw.
Ond, Gweinidog, rydych chi'n datgan bod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fynd i'r afael â'r gwahaniaethu a'r anghydraddoldebau sy'n wynebu pobl anabl bob dydd. Mae hynny'n rhywbeth rydych chi wedi bod yn ei ddweud ers dros ddwy flynedd. Ym mis Tachwedd y llynedd, 16 mlynedd ar ôl trafod yr ymgyrch Changing Places yma am y tro cyntaf, arweiniais ddadl ar doiledau Changing Places, gan ddweud bod
'diffyg cyfleusterau sylfaenol fel y rhain yn gadael pobl yn anabl, yn gaeth, yn ynysig ac yn ddibynnol ar eraill.'
Pa gamau gweithredu ydych chi wedi'u cymryd ers hynny?
Mae Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru wedi rhybuddio bod nifer yr athrawon byddar yn gostwng a materion eraill wrth gyflwyno diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol Llywodraeth Cymru yn rhwystro disgyblion byddar rhag defnyddio cyfleusterau hyfforddiant addysgol. Mae ganddyn nhw ddeiseb y Senedd ar hyn. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd ar y mater hwnnw?
Mae Anabledd Cymru yn bryderus iawn am y pwysau ariannol sy'n cael ei brofi gan sefydliadau pobl anabl ledled Cymru, sy'n cael eu rhedeg a'u rheoli gan bobl anabl a gweithredu fel eu llais yn eu cymunedau, gan gynnwys Canolfan Byw'n Annibynnol Fforwm Anabledd Sir y Fflint, gyda chael gwared ar gyllid awdurdodau lleol yn cynhyrchu pwysau cost llawer uwch ar awdurdodau lleol, gan greu economi ffug. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd ynglŷn â hyn?
Yn olaf, pa weithred—
Mark, rydych chi wedi cael dau gwestiwn ac rydych chi wedi mynd dros eich amser, felly a allwch chi fod yn gyflym iawn yn eich 'yn olaf', os gwelwch yn dda?
Gallaf. Wel, yn olaf, pa gamau yr ydych chi wedi'u cymryd ynglŷn â'r pryder rheolaidd a godwyd gyda mi gan bobl anabl ac awtistig a'u teuluoedd yn sir y Fflint fod patrwm amlwg o feio a bwlio pan fydd rhiant yn codi pryderon dilys, yr wyf wedi tynnu sylw atynt dro ar ôl tro yma, lle pwysleisiodd cyfarfod diweddar grŵp cefnogi rhieni sir y Fflint STAND Gogledd Cymru fod angen parhaus am hyfforddiant anabledd ac anghenion dysgu ychwanegol i fod yn fwy na dim ond ymwybyddiaeth, er mwyn sicrhau bod lleisiau rhieni yn cael eu clywed, ac y cydymffurfir â deddfwriaeth?
Diolch yn fawr, ac rwyf wedi ymddangos o'r blaen ac wedi gweithio gyda'r grŵp trawsbleidiol, ac rwy'n dymuno'n dda iddynt ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr ydych yn ei gadeirio yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Rydych wedi sôn am faterion allweddol sy'n wynebu pobl anabl, ac, fel y gwyddoch, rwy'n cadeirio fforwm cydraddoldeb anabledd sy'n rhagflaenu ein tasglu hawliau anabledd, ac, wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys pobl anabl, rhanddeiliaid allweddol, sy'n ein cynghori ar faterion allweddol sy'n effeithio ar bobl anabl. Ac mewn gwirionedd, ddydd Llun ymwelais â swyddfeydd newydd Anabledd Cymru yn Spark, fel y soniais yn fy natganiad, a chefais drafodaethau gyda nhw. Roeddent yn arbennig o awyddus i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yng nghyfraith Cymru. Ond cwrddais â Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain hefyd a thrafod wedyn y gwaith sydd ar y gweill o ran siarter Iaith Arwyddion Prydain hefyd.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod mai ein rôl, fy rôl fel Gweinidog â phortffolio cydraddoldeb, yw sicrhau ein bod yn cael gwared ar rwystrau sy'n wynebu pobl anabl, ac mae hynny'n golygu cael gwared ar rwystrau sy'n eu hatal rhag gallu cymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd—yr hyn sy'n atal a'r rhwystrau sy'n aml yn cael eu creu gan strwythurau, polisïau ac agweddau pobl. Ond rwy'n meddwl—gobeithio—Mark, y byddech chi hefyd yn ymuno â ni i gydnabod ein bod ni'n 13 mlynedd—. Ac rwy'n gobeithio ei fod bron yn ddiwedd cyni—mae 13 mlynedd o gyni wedi tanseilio ein gallu i ymateb i lawer o'r heriau y mae pobl anabl yn eu hwynebu. Ac nid yn unig 13 mlynedd o gyni—datganiad y Canghellor a ddaeth â dim, dim cyllid o gwbl, i wasanaethau cyhoeddus, ac felly rydym yn wynebu twll mawr arall yn ein cyllideb, ac, ar ben hynny, toriad budd-dal a fydd yn analluogi mwy o bobl. Felly, rwy'n falch iawn bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dod i'ch grŵp trawsbleidiol, ac rwy'n gobeithio y bydd rhywfaint o her yno i'w cynlluniau diweddaraf.
Diolch i'r Gweinidog. Cyn symud ymlaen,
cododd arweinydd yr wrthblaid yn gynharach y prynhawn yma bwynt o drefn ynglŷn â chwestiwn yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog. Ar ôl adolygu'r trawsgrifiad a'r cwestiwn ysgrifenedig a gyflwynwyd gan arweinydd yr wrthblaid ar 23 Tachwedd eleni, gwelaf nad oedd yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi bod allan o drefn wrth fyfyrio ar un o'r cwestiynau hynny yn ei chyfraniad. Mae arweinydd yr wrthblaid hefyd bellach wedi manteisio ar y cyfle i gyfeirio'r Aelodau a'r cyhoedd at yr ail gwestiwn ar yr un pwnc, a gyflwynwyd ar yr un diwrnod.
Eitem 8, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Cofrestrau Etholiadol) (Cymru) 2023. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM8430 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Cofrestrau Etholiadol) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Mae'r trefniadau ar gyfer gweinyddu ein hetholiadau yn bwysig er mwyn sicrhau bod yr etholiadau hynny'n cael eu cynnal yn ddidrafferth. Mae llawer o'r gweinyddu yn cael ei lywodraethu gan ddeddfwriaeth, sy'n cynnwys y dyddiad ar gyfer cyhoeddi'r cofrestrau etholiadol, y mae'n rhaid eu cyhoeddi ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn. Byddai'r rheoliadau yr ydym yn eu trafod heddiw yn caniatáu i swyddogion cofrestru etholiadol gyhoeddi cofrestrau etholiadol 2024 hyd at ddau fis yn ddiweddarach, tan 1 Chwefror 2025. Mae'r newid hwn yn berthnasol i gyhoeddi cofrestrau etholiadol 2024 yn unig.
Mae'r amser ychwanegol y darperir ar ei gyfer yn y rheoliadau hyn yn angenrheidiol er mwyn i'r swyddogion cofrestru etholiadol allu cwblhau proses cadarnhau ac adolygu cofrestru ychwanegol yn 2024. Mae'r broses adolygu hon yn ganlyniad i Ddeddf Etholiadau'r DU 2022 a'r rheoliadau cysylltiedig, sy'n gofyn am adolygiad o gymhwysedd dinasyddion yr UE i bleidleisio yn etholiadau'r comisiynwyr heddlu a throseddu. I fod yn glir, er bod y rheoliadau'n rhoi mwy o amser ar gyfer cyhoeddi'r gofrestr llywodraeth leol, ni fydd yr ymarfer hwn yn effeithio ar gofrestru etholiadol ar gyfer etholiadau Cymru o gwbl.
Mae cyfrifoldeb dros y cofrestrau llywodraeth leol yng Nghymru yn fater datganoledig. Rydym wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a'r gymuned etholiadol yng Nghymru, a bydd y rheoliadau hyn yn sicrhau y gall swyddogion cofrestru etholiadol yng Nghymru wneud eu gwaith pwysig mewn da bryd. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith i ystyried ac adrodd ar y rheoliadau hyn.
Nid oes unrhyw siaradwyr arall ar yr eitem hon. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 9 heddiw yw'r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Julie Morgan.
Cynnig NDM8433 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cynnig y cynnig.
Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn darparu'r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r rheoliadau sydd ger eich bron heddiw, Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru), yn arfer y pŵer o fewn y Ddeddf i ragnodi gwasanaethau eraill sy'n cynnwys y ddarpariaeth o ofal a chymorth fel gwasanaeth rheoleiddiedig. Mae'r rheoliadau hyn yn dod ag ysgolion arbennig preswyl i gwmpas rheoleiddio o dan y Ddeddf drwy ddiffinio gwasanaeth newydd, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig. Mae'r rheoliadau hyn yn ymateb yn uniongyrchol i argymhelliad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol y dylid archwilio ysgolion arbennig preswyl yn erbyn y safonau ansawdd a ddefnyddir i reoleiddio cartrefi gofal yng Nghymru. Byddant yn cyfrannu at sefydlu dull mwy cyson o oruchwylio'r gwasanaethau sy'n gofalu am blant agored i niwed yn rheoleiddiol.
Rwyf hefyd yn gosod Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) (Diwygio) ar 8 Rhagfyr. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r rheoliadau presennol i gynnwys y gwasanaeth newydd. Maent yn cael eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol. Byddaf yn cyflwyno rheoliadau yn gynnar y flwyddyn nesaf i gwblhau'r fframwaith rheoleiddio. Rwy'n cymeradwyo'r rheoliadau i'r Aelodau.
Galwaf ar Alun Davies i siarad ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siarad y prynhawn yma ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Gwnaethom ystyried y rheoliadau drafft hyn ar 20 Tachwedd ac wedi hynny buom yn ystyried ymateb y Llywodraeth yn ein cyfarfod yr wythnos diwethaf. Mae ein hadroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru ar gael o bapur trefn heddiw.
Mae ein hadroddiad yn cynnwys dim ond yr un pwynt adrodd technegol, y byddaf yn ei grynhoi'n fyr ar gyfer Aelodau. Mae rheoliad 2(3) yn darparu ar gyfer diffiniad o'r gair 'ysbyty' ac mae'n cyfeirio at dri therm gwahanol sy'n cael eu diffinio mewn deddfwriaeth arall. Yn wahanol i ddiffiniadau eraill yn rheoliad 2(3), ni chyfeirir at yr adrannau o'r ddeddfwriaeth arall y gellir dod o hyd i'r tri therm ynddynt. Er enghraifft, diffinnir 'ysbyty gwasanaeth iechyd' fel un sydd â'r ystyr a roddir iddo yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ond nid yw'n cyfeirio at yr adran benodol sy'n rhoi'r ystyr. Rydym o'r farn nad yw hyn yn ddefnyddiol, gan y bydd y darllenydd wedyn yn gorfod adolygu darnau mawr o ddeddfwriaeth i ddod o hyd i ystyron termau perthnasol.
Mae Rheol Sefydlog 21.2(v) yn ein galluogi i adrodd ar faterion yr ydym o'r farn, am unrhyw reswm arbennig, fod angen esboniad pellach ynghylch ffurf neu ystyr offeryn statudol. Gofynnom felly am esboniad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â pham nad oedd dull cyson o ddiffinio termau yn y rheoliad perthnasol.
Dirprwy Lywydd, mewn ymateb gwnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod y byddai o gymorth i'r darllenydd pe byddai cyfeirio at ddarpariaethau mewn Deddfau eraill yn cael ei wneud mor gywir â phosibl, a chytunodd y byddai cyfeirio at rifau'r adran benodol wedi rhoi mwy o gymorth.
Yn olaf, ac efallai'n ddiddorol, dewisodd Llywodraeth Cymru gwestiynu a oedd ein hymholiad, ac rwy'n dyfynnu, yn
'dod yn briodol o fewn cwmpas Rheol Sefydlog 21.2(v).'
Mae croeso i Lywodraeth Cymru roi manylion llawnach am ei phryderon i ni. Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd.
A galwaf ar y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch i Alun Davies am ei gyfraniad i'r ddadl. Ac rwy'n credu bod y pwyntiau y mae wedi'u gwneud wedi cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru. Mae'r rheoliadau hyn yn creu gwasanaeth rheoleiddiedig newydd, y gwasanaeth preswyl ysgol arbennig, ac mae hyn yn ymateb i argymhellion yr ymchwiliad ac yn dod ag ysgolion arbennig preswyl o fewn cwmpas y rheoliad o dan Ddeddf 2016. Rwy'n cydnabod y byddai'r pwyntiau y mae Alun Davies yn eu gwneud o gymorth i'r darllenydd, ond rwy'n annog yr Aelodau i gymeradwyo'r rheoliadau hyn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 10 heddiw yw Rheoliadau’r Gofrestr o Ddarparwyr Gwasanaethau (Gwybodaeth Ragnodedig a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig. Julie Morgan.
Cynnig NDM8432 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Gofrestr o Ddarparwyr Gwasanaethau (Gwybodaeth Ragnodedig a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydw i'n cynnig y cynnig.
Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn darparu fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol. Un o nodau'r Ddeddf yw darparu mwy o dryloywder o ran gwasanaethau rheoleiddiedig yng Nghymru. Er mwyn cefnogi'r nod hwn, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Arolygiaeth Gofal Cymru gynnal a chyhoeddi cofrestr o ddarparwyr gwasanaethau sy'n llywio eu cyfeirlyfr ar-lein ar gyfer y cyhoedd.
Ar hyn o bryd, dim ond gyda chaniatâd y darparwr y mae rhifau ffôn gwasanaethau yn cael eu cynnwys ar y gofrestr. Mae hyn wedi arwain at fylchau yn yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y gofrestr. Rydym am gau'r bwlch hwn drwy sicrhau bod gan y cyhoedd fynediad hawdd at fanylion cyswllt gwasanaethau rheoleiddiedig. Felly mae'r rheoliadau hyn yn gorfodi cynnwys rhifau ffôn gwasanaethau a chyfeiriadau e-bost ar y gofrestr. Bydd hyn yn rhoi dewis i bobl ynghylch sut i gysylltu â gwasanaethau a bydd yn sicrhau mwy o hygyrchedd.
Bydd y rheoliadau sy'n berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2023. Bydd yn ofynnol i AGC gyhoeddi'r wybodaeth ychwanegol o 30 Medi 2024 ymlaen. Bydd y newid hwn yn sicrhau bod mwy o gysondeb yn yr wybodaeth a gyhoeddir ar y gofrestr darparwyr gwasanaethau. Rwy'n eu cymeradwyo i'r Aelodau.
Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 11 yw Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023. Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru i wneud y cynnig. Lesley Griffiths.
Cynnig NDM8431 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig cymeradwyo'r offeryn statudol ar gyfer Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023. Mae hwn yn offeryn statudol technegol heb unrhyw oblygiadau polisi. Mae'r offeryn yn rhestru diwygiadau angenrheidiol i'r gyfraith bresennol a wnaed gan y Senedd neu Weinidogion Cymru o ganlyniad i adran 5 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023.
Mae adran 5 o'r Ddeddf yn sefydlu cyfraith a gymathwyd fel corff newydd o gyfraith yn lle cyfraith yr UE a ddargedwir, ac yn nodi sut i alw cyfraith yr UE a ddargedwir a thermau cysylltiedig ar ôl diwedd 2023. Unig ddiben yr offeryn yw diweddaru'r llyfr statud i Gymru a sicrhau ei fod yn gweithio'n gydlynol ac yn effeithiol.
Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol ac i is-ddeddfwriaeth sy'n gymwys mewn cysylltiad â Chymru, o ganlyniad i ailenwi cyfraith yr UE a ddargedwir a thermau cysylltiedig fel cyfraith a gymathwyd a thermau cysylltiedig ar ôl diwedd 2023. Y pwerau sy'n cael eu harfer i wneud y rheoliadau hyn yw'r rhai a roddir i Weinidogion Cymru gan adrannau 19(1) ac 20(1)(b) o Ddeddf cyfraith yr UE a ddargedwir, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 29 Mehefin 2023.
Mae'r Ddeddf yn gwneud newidiadau sylweddol i'r corff domestig o gyfraith a elwid gynt yn gyfraith yr UE a ddargedwir, ac mae'n hwyluso diwygio, ailddatgan neu ddirymu a disodli cyfraith yr UE a ddargedwir. Mae hefyd yn cynnwys pŵer gwneud rheoliadau i wneud diwygiadau canlyniadol y gellir eu defnyddio, ymhlith pethau eraill, i ddiwygio deddfwriaeth i ddiweddaru cyfeiriadau at gyfraith yr UE a ddargedwir neu derminoleg gysylltiedig sy'n deillio o newidiadau'r Ddeddf. Mae'r pŵer hwn yn cael ei ddal ar yr un pryd rhwng Gweinidogion y Goron a Gweinidogion Cymru.
Pleidleisiodd y Senedd ddwywaith i atal cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil cyfraith yr UE a ddargedwir—ar 28 Mawrth ac eto ar 6 Mehefin 2023. Rydym yn bwriadu defnyddio'r pwerau a roddir gan Ddeddf cyfraith yr UE a ddargedwir yn bwyllog a dim ond pan fo hynny'n gwbl angenrheidiol, megis wrth wneud diwygiadau technegol, fel y cynigir yn y cynnig hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei chyfrifoldebau i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu'n briodol pan fo angen, er mwyn sicrhau uniondeb, cysondeb a chywirdeb y llyfr statud i Gymru. Rydym yn gosod y cynnig ar gyfer y gwelliannau hyn yn ysbryd y cyfrifoldeb hwnnw. Yn yr achos hwn, rydym ni, fel Gweinidogion Cymru, wedi cytuno y dylai Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth a wneir yng Nghymru. Felly, mae'r rheoliadau hyn wedi'u cyflwyno i sicrhau diwygiadau canlyniadol o'r fath.
Fel mae'r Trefnydd yn ei ddweud, mae'r cynnig yma yn bennaf yn un technegol, ond, wrth gwrs, fel mae sylwadau'r Gweinidog wedi cyfeirio ato, mae yna fframwaith, mae yna gyd-destun ehangach, onid oes e? Rydyn ni ym Mhlaid Cymru hefyd yn gwrthwynebu'r egwyddor y tu ôl i'r Ddeddf wreiddiol yn San Steffan, sydd yn rhoi pŵer eang iawn i gael gwared â chyfraith sydd wedi'i datganoli.
Mi oedd yna bŵer i achub, onid oedd e, dwi'n deall, sydd wedi cael ei ddiddymu? Hynny yw, mi oedd yna bŵer i achub darnau o ddeddfwriaeth sydd wedi mynd nawr ers diwedd Hydref. Mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at y pŵer ar y cyd, yr angen i weithredu ar y cyd, sydd yn rhoi rhywfaint o amddiffynfa. Oedd yna asesiad wedi cael ei wneud—? Hynny yw, sut oedd yr asesiad wedi cael ei wneud o'r newidiadau hyn a'r gallu i ddefnyddio'r pŵer i achub cyn diwedd Hydref?
Mae yna newid positif wedi bod, rhyw gymaint, o ran y cyd-destun ehangach gyda'r fframwaith Windsor, ond mor belled â'r berthynas â'r cynulliadau datganoledig, mae yna'n dal i fod cyd-destun negyddol iawn, ac mi oedd y Cwnsler Cyffredinol, yn ei lythyr at y pwyllgor, wedi cyfeirio at y diffyg ymgynghori sydd wedi bod o dan y Ddeddf yma o'r gyfraith a ddargedwir. Ydy'r Trefnydd yn gallu ein hysbysu ni beth yw'r broses y bydd y Llywodraeth yn ei defnyddio er mwyn amddiffyn y setliad sydd gennym ni yng nghyd-destun y Ddeddf yma?
Hefyd, ydych chi'n gallu rhoi unrhyw wybodaeth ynglŷn â'r adnoddau sydd wedi gorfod cael eu defnyddio hyd yn oed i gyflwyno'r newidiadau technegol hyn? Rydyn ni'n deall o hyd bod yna broblemau capasiti sydd yn effeithio ar raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Hynny yw, faint o adnoddau oedd wedi gorfod mynd i mewn i'r newidiadau technegol yma, a sut mae hynny wedi cael effaith ar yr anghenion deddfu eraill y mae'r Llywodraeth yn eu hwynebu ar hyn o bryd?
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Adam Price am ei sylwadau a'i gwestiynau. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, wyddoch chi, mai gwelliannau technegol yw'r rhain ac nid oes unrhyw newidiadau polisi. Mae'n sefyllfa anarferol iawn, oherwydd yn amlwg, rydym yn anghytuno â bwriad sylfaenol y Ddeddf.
Nid oes gennyf y ffigurau wrth law ynghylch yr adnoddau a ddefnyddiwyd, ond rydym yn gwneud hyn i gyd drwy'r broses ryng-weinidogol, ac fe gyfeirioch chi at fframwaith Windsor hefyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar hyn fesul achos a dull gweithredu ac yn sicr nid oes gennyf unrhyw broblemau o ran y capasiti. Felly, rydym yn cyflwyno ein deddfwriaeth ein hunain, fel y dywedaf, fesul achos, felly gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 12 ac 13 eu grwpio i'w trafod gyda'i gilydd, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiad.
Felly, galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig. Julie James.
Cynnig NDM8427 Lesley Griffiths
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Seilwaith (Cymru).
Cynnig NDM8426 Lesley Griffiths
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Seilwaith (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynigion.
Rwy'n falch o fod yma heddiw i agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Seilwaith (Cymru) ac i gynnig y cynnig a'r datrysiad ariannol. Mae'r Bil yn cyflwyno trefn fodern a symlach ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith arwyddocaol yng Nghymru, ar y tir ac yn y môr tiriogaethol. Rwyf wedi ymrwymo i gael cyfundrefn gydsynio effeithlon ac effeithiol sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at ein ffyniant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a'n huchelgeisiau sero net.
Dirprwy Lywydd, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu trylwyr ar y Bil hwn. Rwy'n gwerthfawrogi'r holl waith caled sydd wedi'i wneud i gyflwyno eu hadroddiadau cynhwysfawr a defnyddiol o fewn amserlen dynn. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl randdeiliaid, cymunedau ac unigolion sydd wedi cyfrannu, cefnogi ac wedi chwarae rhan weithredol wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth hanfodol hon. Rwyf hefyd yn croesawu'r dystiolaeth ysgrifenedig a llafar ychwanegol a ddarparwyd gan sefydliadau ac unigolion yn ystod y cyfnod craffu. Mae'r arbenigedd, yr her a'r persbectif cyfunol wedi bod ac yn parhau i fod yn amhrisiadwy i ddatblygiad y Bil hwn.
Canfûm fod adroddiadau'r pwyllgor yn galonogol, gan ei bod yn amlwg bod consensws bod y Bil yn ddeddfwriaeth y mae mawr ei hangen ac yn darparu cam angenrheidiol i'r cyfeiriad cywir tuag at ein targed di-garbon. Dirprwy Lywydd, o ystyried nifer a natur fanwl yr argymhellion, ni fydd yn bosibl ymateb i bob un ohonynt heddiw. Felly, byddaf yn ysgrifennu at Gadeiryddion y pwyllgorau yn unigol gyda'm hymateb llawn yn dilyn y ddadl hon. Ond byddwch yn falch o glywed y byddaf yn derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion. Byddaf yn canolbwyntio heddiw ar yr hyn rwy'n ei weld fel y prif bynciau a materion a godwyd gan bob un o'r pwyllgorau.
Felly, gan droi at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, rwy'n falch o dderbyn argymhelliad 1 gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith—mae hynna'n dipyn o lond ceg, onid ydyw, Cadeirydd? [Chwerthin.] Sef bod y Senedd yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Rwy'n cydnabod yr ystod o argymhellion yn adroddiad y pwyllgor ar is-ddeddfwriaeth a'r pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil, ac rwy'n deall pwysigrwydd ymgysylltu â rhanddeiliaid yn gynnar yn y broses ddeddfwriaethol ac mewn ffordd gynhwysol ac ystyrlon. Rwy'n hapus i dderbyn argymhellion 2, 4, 5 a 6, sy'n ymdrin â materion is-ddeddfwriaeth.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar gynnwys arfaethedig is-ddeddfwriaeth. Bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio ffurf derfynol a chynnwys is-ddeddfwriaeth sy'n cael ei datblygu. Rwyf eisiau i randdeiliaid fod yn rhan o'r gwaith o osod y darpariaethau er mwyn sicrhau eu bod yn ymarferol. Fodd bynnag, rwy'n amharod i ymgynghori ar is-ddeddfwriaeth ddrafft, gan fod perygl y gallai rhai amgyffred ein bod eisoes wedi ystyried ein cynigion fel rhai terfynol. Ein profiad yn hyn yw y gallai hyn arwain at ymgysylltu llai ystyrlon, ac rwyf eisiau osgoi'r camddehongli hwn. Ond, os bydd angen, rwy'n hapus i gynnal ymgynghoriad wedi'i dargedu ar agweddau penodol ar ddrafftio.
Nodaf yr argymhellion a osodwyd gan y pwyllgor sy'n ymdrin â phrosiectau sydd wedi'u cynnwys yn y drefn, ac rwy'n cadarnhau lle nad yw categori prosiect wedi'i gynnwys fel rhan o'r Bil, mae'r dystiolaeth yr ydym wedi'i chasglu hyd yma yn awgrymu bod ansicrwydd ynghylch beth ddylai'r trothwy fod ar gyfer prosiect o arwyddocâd cenedlaethol. Fodd bynnag, byddaf yn cyflwyno gwelliannau pan fo hynny'n briodol.
Mae'r hyblygrwydd a gynhwysir yn y Bil yn bwysig iawn. Mae technoleg yn datblygu'n gyflym, ac rwy'n ymwybodol o'r angen i ddiogelu'r drefn newydd hon at y dyfodol. Rwy'n nodi'r pryderon a godwyd ynghylch hydrogen yn benodol ac mae fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar hyn a dulliau eraill o storio ynni. Caiff y defnydd o hydrogen ei gynnwys yn y Bil naill ai fel modd o gynhyrchu ynni neu fel cludwr ynni sy'n gysylltiedig â math gwahanol o gynhyrchu ynni. Nid yw'r Bil ar hyn o bryd yn cynnwys trothwy penodol ar gyfer cynhyrchu hydrogen oherwydd, hyd yma, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth i ddeall beth ddylai'r trothwy hwnnw fod. Yn dilyn adolygiad o'r dystiolaeth, rwy'n ystyried cyflwyno gwelliannau i'r Bil sy'n cynnwys piblinellau, yn amodol ar y cyfyngiadau a osodwyd ar Gymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Fel rhan o'n gwaith parhaus, byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y mater hwn.
Dirprwy Lywydd, rwy'n derbyn hefyd fod angen i ni sicrhau bod pawb yn glir ynghylch manylion y Bil hwn. Felly, gan droi at argymhellion 12 a 14 ar brosesau ymgynghori a chyhoeddusrwydd, mae'r pwyllgor wedi nodi'r angen i'r Bil ddarparu safbwyntiau cliriach ar safonau ymgynghori. Rwy'n hapus i dderbyn yr argymhellion hyn mewn egwyddor. Gallaf sicrhau'r Aelodau fy mod bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu ac ymgynghori ag ystod mor eang â phosibl o randdeiliaid. Byddwn yn llunio canllawiau yn benodol ar gyfer darpar ddatblygwyr ar arfer gorau wrth gynnal ymgynghoriad ac ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid eraill.
Mae'r datganiadau o fwriad polisi sy'n cyd-fynd â'r Bil yn nodi'n fanwl y gofynion sylfaenol ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu a fyddai'n debygol o gael eu cynnwys mewn is-ddeddfwriaeth. Rwy'n bwriadu i'r datganiadau hyn fod yn fan cychwyn ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ehangach. Bydd yr is-ddeddfwriaeth derfynol yn cael ei llywio gan sylwadau a dderbynnir gan y rhanddeiliaid hynny. Mae'r dull hwn yn gosod gofyniad sylfaenol ar gyfer yr holl ddatblygiadau arfaethedig a gofnodir gan y Bil. Mae hyn yn rhoi sicrwydd ac eglurder i randdeiliaid a chymunedau lleol ar yr hyn y gallant ei ddisgwyl fel rhan o'r ymgynghoriad a'r ymarfer ymgysylltu.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Nodaf fod argymhelliad 12 yn awgrymu y dylid defnyddio Deddf Cynllunio 2008 fel man cychwyn. Fodd bynnag, mae fy null gweithredu arfaethedig yn mynd y tu hwnt i'r hyn a ragnodir fel rhan o'r broses gydsynio yn y Ddeddf Cynllunio. Nid yw'r Ddeddf Cynllunio yn gosod unrhyw safonau gofynnol y mae'n rhaid i ddarpar ddatblygwyr eu bodloni, ac felly, nid yw'n cynnig llawer o sicrwydd a chysondeb o un cais i'r llall. Rwy'n awyddus i sicrhau bod cymunedau'n fodlon â'r safonau ymgynghori. Dyna pam rwyf hefyd wedi gofyn i Cymorth Cynllunio Cymru edrych ar y mater hwn.
Fel yr wyf wedi cadarnhau yn ystod y sesiynau craffu, rwy'n hapus i ystyried unrhyw argymhellion penodol ar ba ofynion ymgynghori y dylid eu cynnwys fel safon ofynnol, neu, yn wir, fel arfer gorau. Roedd argymhelliad 26 yn gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gydag ymgyngoreion, awdurdodau cynllunio lleol a rhanddeiliaid eraill ynghylch sut y bydd adennill costau llawn yn cael ei gyflawni. Dirprwy Lywydd—. O, Llywydd, esgusodwch fi—[Chwerthin.] Fe wnaethoch chi gyfnewid yn ddi-dor yn y fan honno. Rwyf wedi bod yn glir o'r cychwyn cyntaf fy mod wedi ymrwymo i adennill costau llawn sy'n deillio o'r ddeddfwriaeth a nodir yn y Bil hwn. Rwyf wedi gwrando ar dystiolaeth gan bob plaid, ac mae trafodaethau gyda rhanddeiliaid wedi bod yn parhau drwy gydol y gwaith o ddatblygu'r Bil ac yn ystod Cyfnod 1 o waith craffu'r Senedd.
Mae'r ffioedd presennol ar gyfer ceisiadau seilwaith yn seiliedig ar yr hyn a ragnodir mewn rheoliadau. Mae rhai yn gweithredu ar sail adennill costau llawn, ac eraill ddim yn gwneud hynny. Er mwyn galluogi adennill costau llawn, rwy'n rhagweld y bydd y drefn newydd yn caniatáu ar gyfer ffioedd cyfradd sefydlog ac amrywiol ar gyfer pob math o geisiadau seilwaith. Bydd y taliadau penodol yn amodol ar waith ac ymgynghori pellach fel rhan o'r rhaglen ehangach o is-ddeddfwriaeth y soniais amdani yn gynharach. Llywydd, rwy'n croesawu unrhyw farn gan randdeiliaid neu gan Aelodau'r Senedd ar y mater hwn.
Er nad wyf wedi gallu ymateb yn fanwl i bob un o'r argymhellion a gynigiwyd gan y pwyllgor, byddaf yn ysgrifennu at y Cadeirydd maes o law ar yr holl argymhellion i roi eglurhad pellach ynghylch ein ffordd arfaethedig ymlaen.
Gan droi nawr at argymhellion y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, nodaf eu bod wedi gofyn am ymateb cyn y ddadl hon ac, yn anffodus, Llywydd, nid oedd hyn yn bosibl. Byddaf yn darparu atebion cynhwysfawr i'r materion a godwyd gan y pwyllgor yn ysgrifenedig yn fuan.
Gan droi at rai o'r pwyntiau a godwyd gan y pwyllgor, rwyf wedi derbyn y mwyafrif o'r argymhellion y maent wedi'u gwneud, ond rwyf eisiau gwneud pwynt pwysig a sylfaenol yn gyntaf. Hoffwn ailadrodd fy safbwynt sef ein bod wedi sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng lefel y cynnwys ar wyneb y Bil a'r hyn sydd i'w nodi mewn is-ddeddfwriaeth a chanllawiau. Fy mwriad yw y bydd prosesau gweithdrefnol a gweinyddol y drefn yn cael eu cynnwys mewn is-ddeddfwriaeth. Mae yna nifer o resymau pam y bydd manylion yn cael eu cynnwys yn yr is-ddeddfwriaeth. Mae ein profiad o drefnau presennol wedi llunio'r dull hwn o ymdrin â'r is-ddeddfwriaeth honno. Mae gan y system gynllunio, gan gynnwys trefn datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol, gydbwysedd tebyg rhwng deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth. Felly, mae cynsail cryf ar gyfer y dull hwn.
Mae gadael manylion i is-ddeddfwriaeth yn caniatáu hyblygrwydd, ac mae hyn yn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr y system fod ag un lle i fynd iddo ar gyfer pob mater gweinyddol. Nid yw'r materion hyn o fanylder, megis cynnwys ffurflen gais neu â phwy yr ymgynghorir ar gais a beth fydd yr ymateb hwnnw, yn briodol i'w cynnwys ar wyneb y Bil. Rwy'n derbyn, lle mae'r pwyllgor wedi awgrymu bod rhagor o fanylion yn cael eu hychwanegu at wyneb y Bil, eich bod hefyd wedi awgrymu pŵer Harri VIII cyfatebol i wneud newidiadau i'r manylion hynny. Nid wyf fi fy hun o'r farn bod y dull hwn yn creu cyfraith hygyrch, gan y byddai angen i unrhyw un sy'n darllen y ddeddfwriaeth gadarnhau yn gyntaf nad oedd unrhyw welliannau wedi'u gwneud, ac efallai y collir y diwygiadau hyn mewn sawl darn o is-ddeddfwriaeth.
Ond i ailadrodd, rwyf wedi edrych yn ffafriol ar y mwyafrif o'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor. Er enghraifft, mae nifer o argymhellion ar ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol, a byddaf yn ceisio ymateb yn gadarnhaol i'r rhain. Byddaf hefyd yn darparu gwelliannau i nodi'r egwyddorion sy'n ymwneud â phŵer mynediad ar wyneb y Bil.
Yn olaf, Llywydd, gan droi at argymhellion y Pwyllgor Cyllid, rwy'n falch bod y pwyllgor yn fodlon ar y cyfan â goblygiadau ariannol y Bil. Rwyf wedi derbyn argymhellion 1, 4, 5 a 6, yn ogystal â derbyn argymhelliad 2 yn rhannol, sy'n ceisio eglurhad pellach ar gostau a buddiannau'r Bil. Ymatebais yn ysgrifenedig i'r pwyllgor yr wythnos diwethaf i ddarparu rhagor o wybodaeth ac eglurhad yn ôl y gofyn.
Nid wyf wedi gallu ymdrin â'r holl argymhellion yn adroddiadau'r pwyllgorau priodol, yn hytrach rwyf wedi ceisio ymateb i'r hyn yr oeddwn yn ei ystyried yn brif bwyntiau. Credaf y bydd yr ymatebion ysgrifenedig yr wyf eisoes wedi'u darparu ac y byddaf yn eu darparu yn dilyn y ddadl hon yn cwmpasu'r holl feysydd o ddiddordeb. Llywydd, edrychaf ymlaen at fynd i'r afael â chwestiynau pellach yn ddiweddarach yn y ddadl hon. Diolch.
Cadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd yn gyntaf. Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ar y dechrau fel hyn, buaswn i'n hoffi diolch i Mark Southgate, oedd yn gynghorydd arbenigol i ni fel pwyllgor ar y Bil yma. Roedd ei gyngor a'i sylwadau e yn amhrisiadwy, a dweud y gwir, i'r pwyllgor wrth i ni gyflawni eni gwaith. Hoffwn i hefyd ddiolch i’r rhai a roddodd dystiolaeth inni er mwyn helpu llywio y drafodaeth ar y Bil.
Fel y clywson ni gan y Gweinidog, prif amcan y Bil seilwaith, wrth gwrs, yw sicrhau eglurder ac effeithlonrwydd mewn perthynas â’r broses cynllunio seilwaith, a hynny tra'n gwella’r broses o ymgysylltu â chymunedau. Fodd bynnag, mae’n dadansoddiad ni, sy’n cael ei ategu gan gyfraniadau gan randdeiliaid amrywiol, yn awgrymu efallai na fydd y Bil ar ei ffurf bresennol yn cyrraedd y nodau hynny.
Fel Pwyllgor, rŷn ni wedi gwneud—fel y clywoch chi yn sylwadau’r Gweinidog—30 o argymhellion ar ffyrdd o wella’r Bil a’r drefn newydd. Mae’n siomedig nad yw’r Gweinidog wedi gallu darparu ymateb ysgrifenedig inni cyn y ddadl hon, ond dwi yn ddiolchgar iddi am ei hymrwymiad i gyhoeddi ymateb ysgrifenedig cyn gynted â phosib. Yr eironi yw, wrth gwrs, po fwyaf problemus yw Bil, y mwyaf tebygol rŷn ni i weld nifer fawr o argymhellion yn dod gan bwyllgorau, sydd wedyn yn ei gwneud hi’n fwy anodd i Lywodraeth Cymru ymateb cyn y ddadl ar yr egwyddorion cyffredinol. Mi fuaswn i yn gofyn bod y broses, felly, o drefnu dadleuon Cyfnod 1 yn fater efallai y gallai’r Pwyllgor Busnes fod yn ei ystyried ymhellach oherwydd y sefyllfa yna. Dwi ddim yn teimlo ei bod hi’n dderbyniol bod gofyn i ni gymryd pleidlais a ninnau heb gael ymateb ysgrifenedig i argymhellion gan ddau bwyllgor, ond mae hwnna’n rhywbeth gobeithio y bydd y Pwyllgor Busnes yn barod i’w ystyried ar gyfer y dyfodol.
Heddiw, felly, mi fyddaf i’n canolbwyntio ar bedair agwedd ar ein gwaith craffu ni, sef cydbwysedd y ddarpariaeth yn y ddeddfwriaeth sylfaenol a’r is-ddeddfwriaeth; ymgynghori cymunedol; costau ac adnoddau; a threfniadau trosiannol. Felly o safbwynt y cydbwysedd yma yn y darpariaethau, fel sy’n cael ei nodi yn ein hadroddiad ni, roedd y pwyllgor yn pryderu am y ffaith bod y Bil yn orddibynnol ar is-ddeddfwriaeth. Er ein bod ni’n derbyn dadl y Gweinidog, wrth gwrs, mai Bil proses yw hwn, mae yna gydbwysedd i’w daro, serch hynny, mewn perthynas â’r manylion sydd ar wyneb y Bil a’r manylion sydd wedi’u cynnwys wedyn mewn is-ddeddfwriaeth.
Mae natur fframwaith y Bil yn creu sefyllfa lle mae manylion hollbwysig ynglŷn â sut y bydd y drefn newydd yn gweithredu’n ymarferol yn cael eu gohirio tan y ceir rheoliadau yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae’n well gan Lywodraethau Filiau fframwaith, ac am wn i, mae’n well gan y gwasanaeth sifil hefyd gael Biliau fframwaith, ac mi fyddan nhw’n gwneud y penderfyniadau sy’n cyfrif yn ddiweddarach, efallai hefyd allan o olwg, ychydig bach, yn sicr. Y neges ŷn ni’n ei chael yw, ‘Rhaid ichi ymddiried ynom ni, bydd popeth yn iawn’. Dyna’r neges ŷn ni’n ei chael.
Ond gyda’r mwyafrif llethol o bwerau—59 ohonyn nhw—wedi’u dirprwyo i Weinidogion Cymru ar gyfer gwneud rheoliadau, mae yna berygl difrifol o golli eglurder a thryloywder. Mae’r Gweinidog wedi dadlau bod y dull yma yn rhoi hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae e hefyd, wrth gwrs, yn aberthu’r sicrwydd a’r eglurder yna y mae dirfawr eu hangen ar y bobl y bydd darpariaethau’r Bil yma yn effeithio arnyn nhw. Felly mae’r dull yma nid yn unig yn tanseilio gallu’r Senedd i wneud gwaith craffu trylwyr, ond mae e hefyd yn taflu cysgod o amheuaeth dros effeithiolrwydd y Bil o ran cyflawni ei fwriadau polisi. Mae’r dull siop un stop arfaethedig y mae’r Gweinidog wedi’i gyhoeddi, er enghraifft, yn parhau i fod yn amwys heb y manylion hollbwysig hyn.
Fe wnaeth rhanddeiliaid gymariaethau di-ri â Deddf Cynllunio 2008—mi gyfeiriodd y Gweinidog at y ddeddfwriaeth honno—gan ddweud bod llawer mwy o fanylion wedi’u cynnwys ar wyneb y ddeddfwriaeth honno. Yn eu barn nhw, fe darwyd cydbwysedd gwell ym Mil y Deyrnas Unedig. I wrthbwyso’r amwysedd sy’n deillio o orddibyniaeth ar is-ddeddfwriaeth, ŷn ni wedi argymell gwelliannau sy’n ymgorffori darpariaethau manylach yn uniongyrchol yn y Bil. Yn ein barn ni, mi fydd hyn yn gwella eglurder ac yn hwyluso gwaith craffu mwy effeithiol. Rŷn ni hefyd wedi argymell bod y fersiynau diweddaraf o’r holl is-ddeddfwriaeth, y canllawiau a dogfennau cysylltiedig ar gael mewn un lle, a hynny er mwyn sicrhau bod gan ddatblygwyr, y cyhoedd ac awdurdodau cyhoeddus ddealltwriaeth glir ynghylch y safbwyntiau diweddaraf.
Mae’r amwysedd yn y Bil yn ymestyn hefyd i brosesau ymgynghori cymunedol, sef yr ail elfen rôn i eisiau sôn amdani. Mae’r Bil yn hyrwyddo gwell gweithgarwch ymgysylltu cymunedol, ond mae’n gwneud hynny mewn modd sy’n gadael gormod i’w ddiffinio yn ddiweddarach neu’n nes ymlaen. Er bod adran 30 yn addo ymgysylltu gwell, mae’r mecanweithiau ar gyfer sicrhau hyn yn cael eu gadael i is-ddeddfwriaeth. Mae'r amwysedd hwn yn llesteirio cyfranogiad go iawn gan y cyhoedd ac yn rhwystro tryloywder.
O ystyried pwyslais y Bil ar ymgysylltu â chymunedau, mae'n hollbwysig sicrhau bod darpariaethau clir a manwl ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd, ac mae hyn yn cynnwys nodi pwy fydd angen bod yn destun gwaith ymgynghori, y dulliau ymgynghori fydd yn cael eu defnyddio, y llinellau amser, a’r gofynion adrodd. Rŷn ni wedi cynnwys argymhellion ynghylch y materion hyn yn ein hadroddiad.
Maes arall sy’n peri pryder yw diffyg adnoddau a sgiliau arbenigol, yn enwedig mewn perthynas ag awdurdodau cynllunio lleol ac awdurdodau cyhoeddus. Er bod ymrwymiad y Gweinidog i adennill costau llawn i’w ganmol, fe ddywedodd rhanddeiliaid wrthym fod angen mynd i’r afael â’r cyfyngiadau presennol ar adnoddau a allai lesteirio ymdrechion i weithredu’r drefn newydd yn effeithiol. Mae'n rhaid inni sicrhau bod awdurdodau lleol nid yn unig yn cael eu grymuso’n ddamcaniaethol, ond bod ganddynt hefyd yr adnoddau ymarferol i ymdrin â gofynion y system newydd hon. Rŷn ni, felly, wedi annog y Gweinidog i ddarparu mecanweithiau ar gyfer rhannu dysgu a dyrannu adnoddau ymhlith awdurdodau lleol. Bydd hyn yn sicrhau bod y drefn newydd yn cael ei chyflawni'n effeithiol ar draws gwahanol ardaloedd daearyddol.
Roedd rhanddeiliaid, yn enwedig datblygwyr ac awdurdodau cynllunio lleol, yn bryderus hefyd am y trefniadau trosiannol rhwng y gyfundrefn bresennol a’r gyfundrefn sydd ar ddod. Mae’r memorandwm esboniadol yn nodi bod disgwyl i’r drefn newydd fod yn gwbl weithredol erbyn canol 2025, ac eto mae’r manylion ynghylch sut y byddwn ni'n pontio i’r system newydd honno yn aneglur o hyd. Fe bwysleisiodd rhanddeiliaid yr angen am gynlluniau trosiannol manwl a thryloyw, ac mae'n hanfodol bod y Gweinidog nid yn unig yn cynnal trafodaethau parhaus â rhanddeiliaid ac awdurdodau cynllunio lleol, ond hefyd ei bod yn cyhoeddi amserlen ddangosol glir sy’n amlinellu'r camau a'r llinellau amser ar gyfer y cyfnodau trosiannol hyn. Mae'r tryloywder yma yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer sicrhau bod y drefn newydd yn gweithredu’n llyfn, ond hefyd er mwyn sicrhau eglurder a hefyd ennyn hyder ymhlith yr holl bartïon dan sylw.
I gloi, felly, Llywydd, er bod y pwyllgor yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil, mae angen gwelliannau sylweddol arno fe os yw e am gyflawni ei ddiben. Os bydd y Senedd yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol heddiw, ein nod ddylai fod wedyn i fireinio’r Bil, fel ei fod yn arf sydd nid yn unig yn cyflawni amcanion y Gweinidog, ond sydd hefyd yn effeithiol, yn dryloyw ac yn gynhwysol. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y Bil yma yn dod yn gonglfaen ymarferol ac effeithiol yn ein proses gynllunio, a hynny gan sicrhau, wrth gwrs, bod cymunedau wrth galon y broses honno. Diolch.
Alun Davies nawr i siarad ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd, ac rwy'n falch o gyfrannu'r prynhawn yma ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Hoffwn ddechrau, os gallaf i, drwy ddiolch i'r Gweinidog am ei hymddangosiad gerbron ein pwyllgor ym mis Medi, a hefyd am ei pharodrwydd i ymateb i nifer fawr o'n hymholiadau trwy ohebiaeth. Rydym yn ddiolchgar iawn i chi am hynny, Gweinidog.
Mae ein hadroddiad ar y Bil yn cynnwys 50 o argymhellion. Mae'r nifer yn adlewyrchu'r nifer helaeth o bwerau dirprwyedig yn y Bil a'n pryderon ynghylch rhai o'r pwerau hynny. Byddwn hefyd yn gwneud y pwynt, ac yn myfyrio ar y pwynt sydd newydd gael ei wneud gan Gadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd, bod neges wedi cael ei hanfon atom yn dweud na fyddai'r Gweinidog yn ymateb yn ffurfiol i'n hadroddiad cyn y ddadl heddiw, fel y gofynnwyd amdano. Rwy'n nodi bod y Gweinidog wedi ymrwymo i ddarparu ymateb ysgrifenedig cyn gynted â phosibl. Mae'r Gweinidog hefyd wedi myfyrio ar rai elfennau o adroddiad y pwyllgor yn ei chyfraniad yn agor y ddadl hon y prynhawn yma. Mae'n anodd i bwyllgorau, ac rwy'n credu ei fod yn gwneud anghymwynas fawr â gwaith y pwyllgorau a thimau clercio pwyllgorau, os yw'r Llywodraeth yn ceisio amserlennu dadl Cyfnod 1 ar ddeddfwriaeth heb roi ymateb llawn i bwyllgorau ac Aelodau i argymhellion pwyllgorau. Efallai ei fod yn rhywbeth, Llywydd, yr hoffech ei ystyried wrth fyfyrio ar amseru'r dadleuon hyn.
Ni fyddaf, bydd yr Aelodau'n falch iawn o glywed, yn ceisio cwmpasu pob un o'r 50 argymhelliad y prynhawn yma, ac mae 34 ohonynt yn awgrymu gwelliannau penodol i'r Bil. Fodd bynnag, rwyf am geisio tynnu sylw at rai o'r themâu a ddaeth i'r amlwg yn ystod ein gwaith craffu. Cyfeiriodd y Gweinidog, o flaen y pwyllgor, at y Bil fel 'prif Fil', yn hytrach na'r derminoleg arferol, 'Bil fframwaith'. Serch hynny, beth bynnag yw'r disgrifydd a ddewiswyd gan y Gweinidog, mae'n amlwg bod y Bil yn cynnwys mwy nag 80 o bwerau dirprwyedig. Mae bron i 20 y cant o'r pwerau hyn yn bwerau Harri VIII, sy'n galluogi'r Bil, os a phan gaiff ei ddeddfu, i gael ei newid gan y Weithrediaeth. Mae gennym bryderon y gallai pump o'r 14 o bwerau Harri VIII yn y Bil gael eu harfer gan Lywodraeth Cymru heb i'r Senedd fod ag unrhyw wybodaeth bod y gyfraith y mae wedi'i chymeradwyo wedi'i haddasu. Mae gan y pwerau dirprwyedig sylweddol sydd wedi'u cynnwys yn y Bil y potensial i dorri ar draws nod y Gweinidog ar gyfer dull un stop. Nid ydym yn ystyried bod y Bil fel y'i drafftiwyd yn cyfyngu ar bŵer y Weithrediaeth mor llawn ag y dylai.
Roedd y Gweinidog yn glir iawn yn ei sylwadau agoriadol ei bod yn teimlo bod y cydbwysedd yn gywir rhwng y manylion a gwmpesir ar wyneb y Bil ac sydd eu hangen mewn is-ddeddfwriaeth. Mae'n amlwg mai dyna yw ei safbwynt. Rydym yn cydnabod y rhesymu hwnnw ac rydym yn cydnabod pŵer ei dadl, efallai na fydd yn briodol nodi materion gweinyddol ar wyneb y Bil. Fodd bynnag, nid ydym yn argyhoeddedig y gallai person sydd â diddordeb perthnasol ddarllen y Bil a deall yn llawn y prosesau sy'n gysylltiedig â phrosiect seilwaith sylweddol. Rydym yn derbyn y gallai bod â llawer iawn o wybodaeth fanwl ar wyneb unrhyw Fil wneud unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth sylfaenol yn anhylaw. Rydym yn derbyn hynny'n llawn ac rydym wedi ei dderbyn mewn nifer o adroddiadau dros y blynyddoedd. Fodd bynnag, rhaid cydbwyso hynny yn erbyn pobl yn meddu ar ddealltwriaeth eang o'r hyn a ddisgwylir ganddynt gan unrhyw gyfraith newydd. Mae arnaf ofn dweud, Gweinidog, nid ydym yn argyhoeddedig bod y cydbwysedd yn iawn o fewn y Bil hwn.
Credwn y gellid ychwanegu rhagor o fanylion at y Bil heb ei wneud yn anos ei ddarllen, yn enwedig lle mae'r Gweinidog wedi cymryd pwerau dirprwyedig drwy'r Bil i osod gofynion neu swyddogaethau heb eu cadarnhau eto ar bobl anhysbys. Mae'r angen hwn am ragor o fanylion hefyd yn berthnasol i ddarpariaethau yn y Bil ynghylch pwerau mynediad. Pe bai'r Senedd yn cymeradwyo'r Bil, bydd yn cynrychioli dirprwyo pŵer o'r deddfwrfa i'r Weithrediaeth yn sylweddol. Rydym wedi argymell y dylai'r Gweinidog ddarparu rhestr glir a manwl o bob un o'r pwerau dirprwyedig yn y Bil, drwy gyfeirio at leoliad, math a gweithdrefn graffu benodol. Rydym hefyd wedi argymell y dylai'r Gweinidog adolygu'r Bil a rhoi ar ei wyneb wybodaeth sydd eisoes yn hysbys, er enghraifft gofynion ar bobl, a phwy yw'r bobl hynny, fel bod cydbwysedd gwell rhwng yr hyn y gofynnir i'r Senedd ei gymeradwyo a'r hyn a fydd yn cael ei adael i is-ddeddfwriaeth. Fe wnaf ddatgan yn glir bod y pwyllgor yn parhau i fod yn fodlon cael trafodaethau pellach gyda'r Gweinidog ar y materion hyn wrth i'r Bil fynd ar ei hynt drwy brosesau'r Senedd.
Mae nifer o bwerau dirprwyedig yn y Bil y mae'r Gweinidog wedi'u cynnwys am resymau hyblygrwydd a diogelu at y dyfodol. Mae diogelu at y dyfodol yn gyfiawnhad, wrth gwrs, sy'n cael ei gyflwyno'n aml gan Weinidogion Cymru, ac mae'r pwyllgor wedi gwneud sylwadau ar ddiogelu at y dyfodol yn y gorffennol. Nid ydym o'r farn ei bod yn briodol defnyddio'r Bil fel cyfrwng i osgoi Bil yn y dyfodol, pan mai defnyddio deddfwriaeth sylfaenol fyddai'r dull a'r modd cyfansoddiadol priodol. Yn ein barn ni, mae cynnwys llawer o bwerau gwneud rheoliadau i ddiogelu Bil at y dyfodol yn dileu pwerau Senedd y dyfodol ac nid yw'n arfer derbyniol. Bydd y pwerau hyn yn nwylo'r Weithrediaeth, gyda Gweinidogion, gyda Llywodraeth sydd ar hyn o bryd heb ei hethol ar gyfer y dyfodol. Mae'r rhain yn bwerau parhaol. Nid ydynt yn bwerau untro y gofynnir i ni eu dirprwyo i'r Gweinidog hwn a'r Llywodraeth hon.
Wrth gloi, Llywydd, byddwn yn tynnu sylw'r Aelodau at ein hadroddiad a'r argymhellion penodol yr ydym wedi'u gwneud ynghylch y gwelliannau yr ydym yn eu hystyried sydd eu hangen i'r Bil er mwyn iddo wneud gwell cyfraith a chyfraith sy'n rhoi'r swyddogaeth i'r Senedd hon yr etholwyd hi i'w chyflawni.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Llywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma heddiw. Buaswn i'n hoffi diolch i'r Gweinidog a'i swyddogion am ymddangos gerbron y pwyllgor ac, yn wahanol i Gadeiryddion y pwyllgorau eraill sydd wedi adrodd y prynhawn yma, am ddarparu ymateb i'n hargymhellion cyn y ddadl heddiw.
Daethom i un casgliad a gwneud chwe argymhelliad. Rwy'n falch bod y Gweinidog wedi derbyn tri o'r argymhellion yn llawn, ond dwi'n siomedig â'i hymateb i'r tri arall a gytunwyd naill ai'n rhannol neu a wrthodwyd.
Cyn imi droi at faterion penodol sy'n ymwneud â’r Bil, dwi am nodi mai dyma’r tro cyntaf i bapur methodoleg gael ei baratoi ochr yn ochr ag asesiad effaith rheoleiddiol. Bu'r papur hwn yn hynod o ddefnyddiol inni. Fel pwyllgor, rydyn ni wedi dadlau ers tro y dylai Llywodraeth Cymru ddangos ei gwaith cyfrifo, neu, yn ôl chwedl Mike Hedges, 'show your working' o ran llunio amcangyfrifon o'r gost. Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynnwys manylion o’r fath, a ddefnyddir i lywio’r amcangyfrifon cost sy’n deillio o bob Bil, o fewn asesiadau effaith rheoleiddiol, yn hytrach nag fel dogfennau ar wahân, fel mater o egwyddor. Mae'n galonogol bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, er fy mod yn ei chael yn siomedig na fydd y dull hwn yn cael ei ddilyn ar gyfer pob Bil yn y dyfodol.
Nawr ymlaen at agweddau penodol ar y Bil. Mae'n siomedig nad oedd y costau y gallai cymunedau eu hwynebu o ganlyniad i'r Bil hwn yn cael eu hamcangyfrif yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Er y dylai symleiddio'r drefn gydsynio newydd arwain at ostyngiad mewn costau i gyfranogwyr, gwyddom y bydd cost i gymunedau o ran eu hamser a'u hymdrechion i gymryd rhan yn y prosesau hyn. Rydym yn derbyn y bydd amcangyfrifon yn amrywio, yn dibynnu ar natur yr ymatebion a'r cyfranogiad, ond rydym yn teimlo y gellid bod wedi gwneud mwy o waith i egluro sut y bydd y buddion hyn yn cael eu gwireddu. I'r perwyl hwn, gwnaethom argymell bod y Gweinidog yn ymgymryd â gwaith modelu pellach i nodi'r costau a'r manteision i gymunedau, ac yn darparu rhagor o wybodaeth am gyfranogiad cymunedol, sut mae hynny'n gweithio ar hyn o bryd, pwy sy'n gysylltiedig, a sut y gallai newid o ganlyniad i'r Bil. Mae'n siomedig felly nad oedd y Gweinidog yn gallu derbyn rhan gyntaf yr argymhelliad hwn, a oedd, yn ein barn ni, yn gais cymedrol, a fyddai wedi gwella'r wybodaeth sy'n cyd-fynd â'r Bil hwn.
Mae'r pwyllgor yn falch y bydd cyfanswm arbedion net o £2.2 miliwn dros y cyfnod arfarnu pum mlynedd, o'i gymharu â'r system bresennol. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol hefyd yn honni y bydd y Bil yn arwain at fuddion nad oes modd eu mesur yn ariannol. Rydym yn ailadrodd ein barn y dylai unrhyw honiadau o fuddion sylweddol sy'n deillio o Fil gael eu hategu gan gostau cadarn bob amser. Felly, rydym yn argymell bod y Gweinidog yn ymgymryd â gwaith pellach mewn cysylltiad â'r buddion ariannol sy'n codi o brosesau cydsynio symlach. Unwaith eto, mae'n siomedig nad yw'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad penodol hwn.
Clywsom gan y Gweinidog y bydd y drefn newydd a ddarperir gan y ddeddfwriaeth hon yn gweithredu ar sail adennill costau llawn. Mae'r pwyllgor yn awyddus i ddeall sut y bydd hyn yn gweithio a sut mae'n cymharu â'r system bresennol, yn enwedig o ran yr effaith ar ddatblygwyr. Felly, gwnaethom argymell bod y Gweinidog yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut y bydd ffioedd yn wahanol o dan y drefn newydd, o gymharu â'r un bresennol, a'r effeithiau y bydd hyn yn eu cael ar randdeiliaid perthnasol.
Ar gyfer prosiectau seilwaith sylweddol, mae'r Bil yn cynnig haen o drothwyon a meini prawf dewisol sy'n is na'r lefelau gorfodol. Rydym yn derbyn bod trothwyon dewisol yn darparu hyblygrwydd, fodd bynnag, byddai'n ddefnyddiol deall yn llawn sut y byddai'r broses sy'n gysylltiedig â'r trothwyon dewisol yn gweithio'n ymarferol. Rydym wedi argymell bod y Gweinidog yn darparu'r wybodaeth hon, gan gynnwys a allai'r hyblygrwydd hwn arwain at rywfaint o amrywioldeb yn yr arbedion effeithlonrwydd a amlinellir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol.
Llywydd, mae ein hargymhelliad olaf yn ymwneud â'r adolygiad ôl-weithredu. Rwyf wedi siarad droeon yn y Siambr hon am bwysigrwydd adolygiad o'r fath o ran sicrhau bod amcanion deddfwriaethol yn cael eu bodloni yn unol â'r disgwyliadau, a bod gwerth am arian yn cael ei sicrhau. O ystyried bod y Bil hwn yn ymwneud â symleiddio proses, mae casglu gwybodaeth o'r fath yn bwysicach fyth. Felly, rydym yn argymell bod unrhyw adolygiad ôl-weithredu yn asesu costau a buddion cyffredinol y drefn gydsynio newydd ac a yw hyn yn bodloni'r disgwyliadau a nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Diolch yn fawr.
Wrth groesawu'r Bil hwn, rwy'n sicr yn croesawu'r tri nod sydd wrth wraidd y ddeddfwriaeth hon, ond yn amlwg mae rhai sylwadau pryderus wedi cael eu gwneud gan y Cadeiryddion sy'n bresennol yma. Gobeithio y bydd yn llwyddo i gyflawni proses symlach ac unedig, gan alluogi datblygwyr i gael mynediad at siop un stop am ganiatadau, cydsyniadau, trwyddedau a gofynion eraill. Mae'n swnio'n hawdd iawn, onid yw e? Dylai hefyd ganiatáu i gymunedau ddeall a chymryd rhan yn well mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt a bod yn ddigon hyblyg i wynebu heriau'r dyfodol. Pwy all anghytuno â hynny?
Nawr, amlygodd y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol eu bod wedi galw ers tro am fframwaith rheoleiddio i alluogi trefn effeithiol o gydsynio seilwaith ar brosiectau mawr, ond drwy gydol cyfnodau'r pwyllgor, ac yn wir ers sawl mis bellach, codwyd nifer o bryderon o ran adnoddau'r Bil hwn, prinder swyddogion cynllunio a phrinder swyddogion cyfreithiol yn ein hawdurdodau lleol. Dywedodd Wales & West Utilities nad oedd y broses datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol bresennol yn addas i'r diben. Roedd Cyngor Sir Ynys Môn o'r farn bod y broses bresennol yn hir ac yn aneffeithlon.
Nawr, o ystyried bod ein proses bresennol o gymeradwyo seilwaith yn rhoi Cymru dan anfantais o gymharu â rhannau eraill o'r DU, mae'r achos dros newid felly yn ddiamheuol. Mae'n siomedig, serch hynny, ei bod wedi cymryd dros bum mlynedd ers yr ymgynghoriad gwreiddiol ym mis Gorffennaf 2018 i gyrraedd y pwynt hwn heddiw, ac mae llawer wedi digwydd yn y pum mlynedd hynny, ond fel maen nhw'n dweud, gwell hwyr na hwyrach. Serch hynny, mae'r rhan fwyaf o gyfranwyr a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, yn argymhelliad 1, yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, fel yr wyf innau. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio o blaid heddiw. Fodd bynnag, dyna lle mae angen i ni fod yn hollol glir bod yn rhaid i'r Bil hwn newid wrth iddo ddatblygu. Fel y mae, mae'r ddeddfwriaeth hon yn gofyn am ystod eang o newidiadau i fynd i'r afael â nifer o broblemau sylfaenol. I mi, mae'r rhain yn perthyn i naw categori.
Trefniadau pontio: mynegodd Steve Ball, Cyngor Caerdydd, bryderon am absenoldeb gwybodaeth fanwl am y cyfnod pontio. Mewn gwirionedd, cytunais hefyd â'r Gymdeithas Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol bod angen pwynt terfyn clir a meini prawf ar gyfer penderfynu sut y byddai prosiectau'n pontio rhwng cyfundrefnau. Fel y gwnaethom yn glir yn argymhelliad 6, dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi amserlen ddangosol sy'n nodi pryd y bydd y trefniadau pontio i'r drefn newydd yn cael eu penderfynu. Dylid cynnwys hon yn y Bil, nid fel yr ydych wedi awgrymu o'r blaen, sef ei chynnwys yn y rheoliadau.
Mae hyn yn dod â mi at yr ail gategori: gorddibynnu ar is-ddeddfwriaeth. Gan wrthdaro'n llwyr â nodau craidd y Bil i gyflawni proses symlach ac unedig, a grymuso cymunedau i ddeall ac ymgysylltu'n well, mae gan y Bil 35 o achosion lle byddai darpariaethau manwl yn cael eu cynnwys mewn rheoliadau. Mae hynny'n ormodol, ac mae wedi cael ei ddisgrifio gan Bute Energy fel un o fethiannau allweddol y Bil. Nid yw hynny'n syndod o ystyried bod cyfanswm o 59 o bwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau. Er mwyn gwneud pethau'n waeth, nid oes amserlen hyd yn oed ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth o'r fath, na gwarant y bydd ymgynghori â rhanddeiliaid. Felly, rwy'n cytuno â'r holl gwestiynau yn argymhellion 2, 3, 4 a 5.
Amserlenni yw'r trydydd prif reswm pam rwy'n pryderu am y ddeddfwriaeth hon yn ei ffurf bresennol. Ar hyn o bryd mae'r Bil yn gam yn ôl o Ddeddf Cynllunio 2008, sy'n pennu terfynau amser. Rwy'n cytuno ag argymhellion 12, 14, 23 a 25, ac awgrymiadau gan randdeiliaid fel Statkraft, Associated British Ports a NIPA y dylid cael amserlenni ar gyfer rhannau penodol o'r broses benderfynu.
Yna mae gennym fater o gyfranogiad cymunedol. Aeth Kelvin MacDonald mor bell â nodi na ddaeth o hyd i unrhyw adran o gwbl a fyddai'n benodol yn gwneud cyfranogiad cymunedol yn fwy hygyrch. Mae'r Gweinidog yn gofyn i'r Senedd gredu y bydd system well yn cael ei chyflwyno drwy reoliadau, ac mae hynny, i mi, yn broblem sylfaenol. Rydym wedi cael sefyllfa affwysol o ran ymgynghori ynghylch fferm wynt Awel y Môr, ac mae gan etholwyr pob un ohonom, pan fo prosiectau mawr, arwyddocaol yn y cwestiwn, yr hawl i fod yn rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y materion hyn, ac nid yw hynny wedi digwydd.
Yna mae gennym y pumed maes sy'n peri pryder, y bydd goruchwyliaeth y Senedd yn cael ei thanseilio. Er enghraifft, bydd datganiadau polisi yn cael blaenoriaeth dros gynlluniau cenedlaethol, ond nid yw'r Bil yn gwneud darpariaeth i'r datganiadau hynny fod yn destun proses graffu o gwbl nac i gael cymeradwyaeth y Senedd hon.
Mae gennym hefyd y gwrthdaro mawr ynghylch bioamrywiaeth. Ar un llaw, Gweinidog, rydych chi'n dweud wrthym nad oes bylchau polisi yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol nac yn y cynllun morol, fodd bynnag, rydym wedi clywed safbwyntiau i'r gwrthwyneb—a nifer o safbwyntiau arwyddocaol i'r gwrthwyneb—gan randdeiliaid eraill. Mae'r Senedd hon eisoes wedi cefnogi ein cynnig deddfwriaethol i greu cynllun datblygu morol cenedlaethol i Gymru, gyda chynhwysiant gofodol llawn, fel y byddai rhywun yn ei wneud ar y tir. Rydym dal angen hynny. Yn yr un modd, mae angen ystyried y tri maes pryder arall a nodwyd gan randdeiliaid ar frys, sef y diffiniad o 'arwyddocaol', y broses cyn ymgeisio, ac adnoddau.
Wrth gwrs rwy'n croesawu'r ffaith yr amcangyfrifir y bydd y Bil yn cynhyrchu arbediad net o £2.2 miliwn dros y pum mlynedd, ond codwyd pryderon am y baich ar awdurdodau cynllunio lleol, a'r ffigur, mewn gwirionedd—sut y gellir cyrraedd hwnnw. Mae llawer mwy nag y gellid ei ddweud—
Mae'n rhaid i mi ofyn i chi ddod i ben nawr.
Byddwn. Fe fyddwn yn pleidleisio o blaid heddiw, ond rydym yn disgwyl gwneud newidiadau sylweddol, os yn bosibl, ar hyd y ffordd. Diolch.
Buaswn i'n hoffi ategu fy niolch i, fel roedd y Cadeirydd yn dweud, i Mark Southgate, ein tystion, a hefyd i dîm y pwyllgor a'r Cadeirydd am eu harbenigedd. Diolch, Gweinidog, am y cyfle hwn i drafod egwyddorion cyffredinol y Bil Seilwaith. Heddiw, hoffwn i ganolbwyntio ar rai themâu canolog, gan gynnwys capasiti ac ymbweru cymunedau.
Yn gyntaf, dwi'n meddwl bod angen cydnabod a oes gan awdurdodau cynllunio lleol y capasiti i ddod yn rhan o’r gyfundrefn newydd sy’n cael ei chyflwyno yma. Efallai y dylwn i fod wedi dweud ar y cychwyn oll fod yna nifer fawr iawn o bethau yn y Bil yma. Dwi'n meddwl bod yna botensial am rywbeth sydd yn rili chwyldroadol, a gall fod yn rhywbeth rili i'w groesawu, felly dwi yn gefnogol o'r mesur yma. Dylwn i fod wedi dweud hwnna ar y cychwyn, ond mae gen i nifer o bwyntiau buaswn i eisiau eu codi a nifer o lefydd lle buaswn i'n hoffi gweld y Bil yn cael ei wella.
Ar y cwestiwn yma o gapasiti, mae’r Gweinidog wedi pwysleisio pwysigrwydd prosesau tryloyw a chyson, ac mae hi'n iawn i wneud hynny, dwi’n meddwl. Rwy’n awyddus i wybod pa fesurau y bydd yn cael eu rhoi mewn lle i gynorthwyo awdurdodau lleol i addasu eu gwaith i gyd-fynd â'r system newydd. Buaswn i'n hoffi gwybod a fydd mwy o adnoddau yn cael eu rhoi iddynt i wneud yn siŵr bod nhw'n gallu gweithio’n effeithiol.
Ac i droi at ymgysylltu gyda’r cyhoedd, mae’r Gweinidog wedi tynnu sylw at yr angen i gymunedau cael gwell ddealltwriaeth o, a chysylltiad gyda, y penderfyniadau cynllunio sy’n effeithio arnyn nhw. Mae’r egwyddor yna yn un i’w chroesawu. Rhaid inni edrych ar bethau penodol, dwi'n meddwl, a deall a fydd y Bil hwn yn gwneud digon i wella’r sefyllfa. Buaswn i’n hoffi gwybod pa fecanweithiau fydd yn cael eu rhoi mewn lle i sicrhau bod cyfranogiad yn gwella, achos mae'r potensial yma i rywbeth rili pwysig ddigwydd. Buaswn i hefyd yn hoffi deall a oes cynlluniau ar y gweill i ymgysylltu gyda'r cyhoedd, gyda grwpiau cymunedol. Sut gall y Llywodraeth sicrhau y bydd lleisiau lleol yn cael eu clywed, a ddim jest yn cael eu clywed ond yn sicrhau bod y lleisiau a’r farn leol hynny’n cyfri am fwy mewn penderfyniadau? Yn aml iawn, mae yna ymdeimlad gan gymunedau nad yw eu barn nhw'n cyfri am ddigon, neu ei bod hi'n rhyw afterthought neu rywbeth fel yna. Dyna beth buaswn i rili eisiau gweld y Bil yma yn gwella, o ran y sefyllfa.
Ymhellach i hyn, buaswn i’n hoffi inni fod yn trafod yr angen i gryfhau datganiadau polisi, fel 'Future Wales', i ddarparu cyngor gwell i ddatblygwyr. Gweinidog, pan fyddwch chi'n ymateb—. Rydych chi wedi siarad am yr angen i roi sicrwydd i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, am yr angen am bolisïau clir, ac mae hwnna'n rhywbeth rili pwysig, wrth gwrs. Mae pryderon wedi cael eu codi yn rhai o’r sesiynau tystiolaeth pwyllgorol—os ydy hwnna'n air—am y flaenoriaeth sy’n cael ei rhoi ar ddatganiadau polisi dros gynlluniau cenedlaethol. So, buaswn i'n hoffi gwybod sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu mireinio’r datganiadau polisi hyn i gynnig cyngor cryf i ddatblygwyr, neu robust, i sicrhau bod prosiectau’n cyd-fynd ag egwyddorion cynaliadwyedd a thargedau net zero.
Ac yn olaf, Llywydd, pwnc sydd o bwys eithriadol, dwi'n meddwl: rhaid inni gael sicrwydd am sut y bydd y ddeddfwriaeth hon yn cydbwyso’r angen am ddatblygu seilwaith mawr gyda’r angen i ddiogelu ein hamgylchedd a natur. Mae dyletswydd arnom ni i gyd i sicrhau nad ydyn ni’n cyfaddawdu ar ddiogelu’r ecosystemau sy’n ein cadw ni’n fyw. Buaswn i’n croesawu gwybod mwy am beth sydd yn y Bil hwn i amddiffyn ein hamgylchedd, neu beth mwy all gael ei roi ynddo fe, yn enwedig yng nghyd-destun yr argyfyngau natur a hinsawdd. A fydd disgwyl y bydd projectau seilwaith mawr yn cyfrannu tuag at fuddion yn ein bioamrywiaeth—hynny yw, i roi uplift ymhellach i unrhyw iawndal sy’n ddyledus?
Felly, mae’r Bil hwn yn cynnig cyfle i ni wneud nifer o bethau, os ydym ni’n cymryd y cyfleoedd hynny. Rhaid inni gadw cymunedau, cynaliadwyedd, byd natur ac ymgysylltu wrth wraidd y mesur, ond rwy’n edrych ymlaen yn gyntaf heddiw i glywed atebion y Gweinidog i’r cwestiynau cychwynnol hyn—ac rwy'n gwybod ein bod, o ran nifer o'r pynciau yma, wedi mynd drostyn nhw'n barod yn y pwyllgor—ond rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gyfleoedd i gynnig gwelliannau i’r ddeddfwriaeth, achos mae yna gyfle rili pwysig yn cael ei gynnig yma, rwy'n meddwl. Diolch.
Yn gyntaf oll, Llywydd, mae angen i mi ddatgan bod fy mhartner yn gynghorydd i Bute Energy.
Mae'r argyfwng hinsawdd yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud penderfyniadau prydlon ynghylch y materion pwysig hyn, ac nid yw'r broses datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol yn darparu'r ynni adnewyddadwy sydd ei angen arnom ar y cyflymder y mae ei angen arnom. Rydym yn cael ein bendithio â llawer o wynt, dŵr, tir a moroedd, ac mae pob un ohonynt yn rhoi cyfleoedd enfawr i ni gynhyrchu ynni, ac mae pob diwrnod o oedi yn ddiwrnod arall a dreulir yn defnyddio tanwyddau ffosil a hefyd yn gorfodi ein haelwydydd tlotach i ddefnyddio ynni llawer rhy ddrud. Felly, mae gwir angen i ni gael fframwaith lle gallwn ddarparu eglurder a chyflymder priodol lle rydym yn darparu fframwaith polisi clir, strategol ar ba benderfyniadau y mae angen eu gwneud.
Ni fydd datblygwyr yn buddsoddi'r miliynau o bunnoedd sy'n gysylltiedig â pharatoi'r ceisiadau hyn oni bai bod ganddynt rywfaint o syniad o'r eglurder ynghylch y broses, ac amlygwyd hynny yn glir iawn, iawn yn y digwyddiad cychwynnol i randdeiliaid yr oeddwn yn bresennol ynddo, a drefnwyd gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru—PCAC neu PEDW, yn dibynnu ar ba iaith rydych chi'n ei siarad—a hefyd Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Cymru. Felly, roedd hynny'n amlwg iawn. Maent am fynd i rywle arall os na allant gael yr eglurder hwnnw, ac mae angen i ni gael dull disgybledig iawn o ymdrin â hyn. Fel arall, pam ar y ddaear y byddent yn buddsoddi miliynau mewn darparu cais oni bai y gallant weld y bydd yn cael ei drin yn deg, yn gyson ac mewn modd amserol? Mae amwysedd yn debygol o wneud datblygwyr yn fwy amharod i fuddsoddi yma.
Roeddwn i, unwaith eto, fel fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor, yn falch iawn o gael cyngor ein cynghorydd arbenigol, Mark Southgate, oherwydd ei fod yn rhywun a oedd â phrofiad rheng flaen o fod yn archwiliwr yn Lloegr, a hefyd am ei eglurder ynghylch rhai o rinweddau Deddf Cynllunio 2008, sef y fframwaith sy'n cael ei ddefnyddio yn Lloegr. Dydw i ddim yn meddwl y dylem ni ailddyfeisio'r olwyn; os oes gennym ddeddfwriaeth dda drws nesaf, yna mae rheswm da dros ei mabwysiadu, yn enwedig gan y bydd y materion trawsffiniol yn gofyn i ni gydweithio beth bynnag lle mae gennym broblemau trawsffiniol gyda Chymru a Lloegr.
Un o'r argymhellion y mae'r Gweinidog wedi'i dderbyn yw'r angen i gael yr holl ddiweddariadau i'r Bil, is-ddeddfwriaeth a rheoliadau i gyd mewn un lle. Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n bwysig iawn i ymgyngoreion neu aelodau o'r cyhoedd a fydd, ymhen pump neu ddeng mlynedd, angen gwybod o hyd beth yw'r rheoliadau diweddaraf y bydd yn rhaid i mi ymdrin â nhw pan fyddaf eisiau dweud fy nweud ar y cais hwn neu'r llall. Beth bynnag, ers COVID, nid yw pob un o'r partïon sy'n ymwneud ag unrhyw geisiadau datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol bellach yn defnyddio darnau o bapur i fynd ar drywydd neu i feirniadu ceisiadau—mae popeth yn cael ei wneud ar-lein, sy'n gwella'r broses o olrhain yn ogystal â gwella amseroldeb. Felly, mae hynny, rwy'n credu, yn ffordd bwysig iawn o sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod sut i fynegi eu barn wrth ystyried unrhyw gynnig seilwaith y maen nhw'n credu sy'n eu cynnwys nhw.
Mae adennill costau llawn yn egwyddor bwysig iawn, ond, yn gyfnewid, bydd datblygwyr yn disgwyl ymateb effeithlon ac amserol i'w cyflwyniadau. Felly, mae angen i ni sicrhau bod awdurdodau cynllunio, sydd ar hyn o bryd yn cwyno eu bod yn cael eu tangyllido, ond mae'n ymddangos nad ydynt yn cydweithio'n ddigonol—. Nid oes angen i chi fod ag arbenigwr byd ym mhob awdurdod arfordirol sy'n arbenigwr ynni morol go iawn. Yr hyn y mae angen iddynt ei wneud yw cael eu gweld yn rhannu cost arbenigwr o'r safon uchaf y gellir galw arno pan fo'i angen. Hefyd, wrth ateb y cwestiwn pwy sy'n mynd i roi cyngor i bobl, rwy'n falch bod y Gweinidog yn cytuno y dylai hyn fod yn nwylo timau rhanbarthol, yn hytrach na thîm yn Llywodraeth Cymru, yn enwedig gan mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniadau mewn llawer o'r achosion, a fyddai, felly, yn sicr yn tanseilio annibyniaeth arbenigwyr rhanbarthol.
Rwy'n credu mai un o'r ffyrdd y gellir gwneud penderfyniadau yw trwy archwilio awdurdodau, a all ymchwilio yn hytrach na chael rôl wrthwynebol wrth fynd i'r afael â chymhlethdodau ceisiadau penodol. Ond rwy'n sylweddoli, mewn llawer o achosion, mai'r Gweinidog, oherwydd anferthedd y penderfyniad hwnnw, sydd angen gwneud penderfyniad er mwyn i'r cyhoedd fod yn glir ynghylch ble mae'r cyfrifoldeb.
Y Gweinidog nawr i gyfrannu ac i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y Bil hwn heddiw, a'r holl sylwadau a wnaed gan Aelodau heddiw. Wrth agor y ddadl, nodais pam rwy'n credu bod y Bil yn bwysig, ac rwy'n annog y Senedd i'w gefnogi wrth iddo fynd trwy gyfnodau nesaf y broses graffu. Bydd yn garreg filltir bwysig i'r Senedd wrth gydsynio seilwaith yng Nghymru, ac yn chwarae rhan allweddol wrth ein helpu i gyrraedd ein targedau sero net.
Rwyf am ei gwneud yn glir iawn, Llywydd, fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â'r holl bwyllgorau a'u haelodau yn nhrafodion Cyfnod 2, ac at gydweithio â chi i gyd ar gyfer y gwelliannau y byddwn i gyd eisiau eu cyflwyno i sicrhau bod y Bil hwn cystal ag y gall fod.
Mae'r cynigion yn y Bil yn cefnogi sawl ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu. Mae hyn yn cynnwys adeiladu economi gryfach, wyrddach wrth inni symud tuag at ddatgarboneiddio, yn ogystal ag ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
Llywydd, byddwch yn gweld o'm hymateb heddiw fy mod yn adolygu'n ofalus holl argymhellion y pwyllgorau. Nid yw cyfyngiadau amser y ddadl hon heddiw yn caniatáu i mi roi sylw i'r manylion yr hoffwn eu trafod, ond, lle nad wyf yn gallu gwneud hynny, byddaf yn ymateb i Gadeiryddion y pwyllgorau perthnasol yn ysgrifenedig yn dilyn y ddadl hon.
Llywydd, fe geisiaf ymdrin â rhai o'r pwyntiau y mae'r Aelodau wedi'u gwneud yn y ddadl heddiw. Felly, o ran trefniadau pontio, er enghraifft, credaf yn gryf bod angen i'r newid o gyfundrefnau cydsynio presennol i'r drefn hon fod yn gliriach. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ni fydd y Bil yn gymwys i gydsyniadau a roddir neu y gwneir cais amdanynt cyn i'r drefn newydd ddod i rym. Ac mewn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, rwyf wedi cytuno i ddarparu cynllun gweithredu mewn cysylltiad ag is-ddeddfwriaeth. Bydd y trefniadau pontio yn dilyn yr un llinell amser, gan eu bod yn ffurfio rhan o'r is-ddeddfwriaeth. Bydd y trefniadau hynny'n cael eu nodi yn yr is-ddeddfwriaeth honno i ganiatáu i'r trefniadau ystyried yn well newidiadau i'r broses gydsynio wrth i ni fynd drwy waith craffu'r Senedd. Felly, er enghraifft, gall unrhyw newidiadau i'r broses cyn ymgeisio a dilysu effeithio ar sut y bydd y trefniadau pontio yn gweithio. Rwy'n bwriadu cyhoeddi datganiad diwygiedig o fwriad polisi a fydd yn nodi'n fanwl ein cynigion presennol ac yn ymgymryd ag ymgysylltiad â phwyslais ar y cynigion hynny cyn yr ymgynghoriad ehangach. Yna bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw'n helpu i lywio ffurf derfynol a chynnwys y trefniadau pontio. Felly, rwy'n defnyddio hynny, Llywydd, fel enghraifft, felly rwy'n gobeithio bod y pwyllgor yn clywed—ni fydd gennyf i amser i wneud hynny ar gyfer pob un o'r argymhellion, ond gallwch weld i le rydym ni'n ceisio mynd. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Cadeirydd y pwyllgor am y trefniadau hynny ac edrychaf ymlaen at siarad mewn gwirionedd am fanylion hynny ar wyneb y Bil.
O ran sylwadau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Llywydd, mwynheais y drafodaeth gyda'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Roedd—beth yw'r gair rwyf eisiau ei ddefnyddio?—'dwys', dwys iawn, hynod ddwys. Craffu da—aeth yn ôl ac ymlaen gryn dipyn o weithiau. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn hollol gywir—mae'r Bil yn cynnwys 14 o bwerau Harri VIII. Rydym wedi ceisio cyfyngu'r rhain i faterion bach a phenodol—felly, er enghraifft, newid y prosiectau a allai fod yn ddarostyngedig i'r broses newydd, neu i'r darpariaethau sy'n berthnasol i gais unigol. Rwy'n parhau i feddwl mai dyma'r cydbwysedd cywir ar gyfer y Bil, a lle rydych wedi argymell bod y pwerau hyn yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol, rwyf wedi ymateb yn gadarnhaol i hynny. Llywydd, rwyf am nodi bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi awgrymu naw pŵer Harri VIII ychwanegol. Mae hwn yn ymateb anarferol, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, gan y pwyllgor ac yn erbyn safbwynt arferol y pwyllgor ar y mater hwn. Mae gosod pŵer ar wyneb y Bil ac yna gorfod edrych yn rhywle arall i wirio nad yw'r gofyniad hwnnw wedi newid yn gwneud cyfraith aneglur iawn yn fy marn i. Byddai gosod rhai o'r manylion y gofynnir amdanynt ar wyneb y Bil nawr, yn hytrach na'u rhoi mewn is-ddeddfwriaeth, yn amddifadu defnyddwyr y system o unrhyw ddylanwad dros yr hyn a gynhwysir, neu'n arwain at newid wyneb y Bil yn gyflym iawn, ac yn bersonol, nid wyf yn credu bod honno'n sefyllfa dda i fod ynddi. Mae defnyddwyr y system wedi arfer edrych mewn un darn o is-ddeddfwriaeth ar gyfer y prif brosesau, ac nid wyf yn credu bod unrhyw randdeiliad wedi nodi y dylai'r manylion yr ydych wedi tynnu sylw atynt fod ar wyneb y Bil. Ond rwy'n edrych ymlaen at drafodaethau gyda'r pwyllgor yn y dyfodol wrth i ni geisio darganfod pam eu bod yn credu y gallai naw pŵer Harri VIII ychwanegol fod yn addas ar gyfer hynny.
Gan droi felly at rai o'r sylwadau a wnaed gan Aelodau eraill a'r asesiad effaith rheoleiddiol—. Mae'n ddrwg gennyf, gan droi at bwyntiau'r Pwyllgor Cyllid a wnaed a'r materion asesiad effaith rheoleiddiol a amlygwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, byddwn yn edrych ar gostau'r Bil a ddarperir ar gyfnod arfarnu pum mlynedd. Mae'r cyfnod arfarnu wedi'i ddewis gan fod disgwyl i gostau'r drefn newydd i randdeiliaid gwahanol fod yn gymharol gyson mewn cyfnod byr, gyda buddion yn cael eu gwireddu dros y tymor byr i'r tymor canolig. Rydym wedi cael ein llywio gan nifer o ffynonellau data allweddol wrth roi'r costau a'r buddion a restrir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol at ei gilydd. Mae cyfres o adroddiadau rwy'n hapus iawn i'w rhannu gyda'r pwyllgor—rwy'n credu ein bod eisoes wedi gwneud hynny fel rhan o'r ymateb.
Bydd costau untro i randdeiliaid amrywiol yn sgil gweithredu'r Bil. Rydym yn credu y byddant oddeutu £418,600 a byddant yn digwydd yn ystod 2024-25 ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hysgwyddo gan Lywodraeth Cymru. Yna bydd costau parhaus ar gyfer rhedeg y broses newydd o gydsynio seilwaith. Byddant yn cael eu hysgwyddo yn bennaf gan y diwydiant datblygu, ar gyfer cyflwyno a phenderfynu ar y ceisiadau. Ond, er bod y costau i ddatblygwyr yn sylweddol, maent yn elwa ar arbedion sylweddol. Rydym yn amcangyfrif bod y rheini oddeutu £660,300 y flwyddyn, o gymharu â'r sefyllfa bresennol.
Rwy'n fwy na pharod i drafod eto gyda'r pwyllgor pam rydym wedi nodi'r asesiad effaith rheoleiddiol yn y ffordd a wnaethom ac i drafod gwelliannau y gellid eu gwneud, ond mae'n anodd iawn costio pob elfen unigol o symleiddio'r broses gydsynio. Mae'r rhan fwyaf o'r costau yn dangos manteision ariannol clir, er enghraifft, ar yr ymgyngoreion statudol, ond mae'n anodd iawn costio pob un ohonynt. Fodd bynnag, byddaf yn ymrwymo i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid y byddaf yn diweddaru adran fuddion yr asesiad effaith rheoleiddiol i gyfiawnhau'r dull a gymerwyd lle na allwn ddarparu costau, oherwydd credaf fod hynny'n sylw teg.
Ac yna o ran sylwadau a wnaed gan Aelodau eraill, mae'n bwysig cofio nad yw hyn yn ymwneud ag ynni yn unig, mae hon yn broses cydsynio seilwaith ar gyfer pob prosiect seilwaith mawr. Felly, er bod y sylwadau a wnaed am ddatblygwyr ynni yn wir, mae'n rhaid i ni gael set o bethau sy'n addas ar gyfer pob proses cydsynio seilwaith. Edrychaf ymlaen at drafod, yn enwedig gyda'r pwyllgor, gyfranogiad y cymunedau. Rwyf innau hefyd yn awyddus iawn bod gan gymunedau lais llawn yn y broses hon a'n bod yn ei gwneud mor syml â phosibl iddynt wneud hynny, ac mor glir, Llywydd, iddynt wneud hynny.
Yn y pen draw, yr hyn yr ydym ei eisiau yma yw trefn gydsynio i Gymru sy'n glir ac yn syml ar y ddwy ochr, sy'n ein galluogi i fod yn arweinydd byd-eang yn natblygiad ein seilwaith gan warchod ein hamgylchedd a sicrhau bod ein cymunedau'n parhau i ymgysylltu ac yn hapus â'r seilwaith sydd, wedi'r cyfan, yn eu gwasanaethu nhw gymaint ag y mae'n gwasanaethu unrhyw un arall. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 12? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r eitem yna wedi ei derbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ac yna'n olaf, y cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 13? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn, sy'n golygu nad oes angen pleidleisio arnon ni y prynhawn yma.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ac felly, mae'n gwaith ni wedi ei orffen am y dydd. Diolch yn fawr i chi.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:19.