Y Cyfarfod Llawn

Plenary

28/11/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn o'r Senedd. Yr eitem gyntaf ar yr agenda fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Heledd Fychan. 

Argyfwng Costau Byw

1. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud i weithredu'r 29 argymhelliad a wnaed gan grŵp arbenigol Llywodraeth Cymru ar yr argyfwng costau byw? OQ60330

Wel, Dirprwy Lywydd, diolch i Heledd Fychan am y cwestiwn. Dyma rai o’r meysydd lle mae cynnydd wedi cael ei wneud: tai a digartrefedd, sicrhau’r incwm gorau i bobl, a lleihau cost y diwrnod ysgol. Ond, gadewch i ni fod yn glir: does dim cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflawni pob un o’r 29 o argymhellion. Mae dewisiadau anodd yn cael eu gwneud, gyda chymorth adroddiad y grŵp arbenigol.

Diolch, Prif Weinidog. Fis diwethaf, mi wnes i gynnal y diweddaraf o gyfarfodydd y rhwydwaith costau byw yn fy rhanbarth i, a rhannu'r 29 o argymhellion. Ac mi oedd y grwpiau sydd yn cefnogi pobl yn fy rhanbarth i yn gefnogol iawn i'r 29, ac eisiau gwybod pa rai oedd yn cael eu blaenoriaethu. Iawn, mi wnaethoch chi nodi'r sefyllfa ariannol heriol yn eich ymateb i ni, sydd, wrth gwrs, yn wybyddus i ni gyd. Ond fe fyddwch chi'n ymwybodol hefyd, o ran rhai o'r argymhellion wnaethoch chi ddim cyfeirio atyn nhw, nad oes yna gost yn gysylltiedig â nhw, megis argymhellion 4, 24 a 25 ynglŷn â chasglu a chyhoeddi data, argymhelliad 10 o ran blaenoriaethu teuluoedd incwm isel ar gyfer y rhaglen Bwyd a Hwyl, a rhan gyntaf argymhelliad 23, o ran cymryd rhan mewn marchnata mwy gweithredol ar gyfer MyTravelPass i bobl ifanc 16 i 24 mlwydd oed. Felly, a gaf ofyn a oes modd i'r Llywodraeth gyhoeddi ymateb i bob un o’r 29 pwynt, yn nodi a ydych chi'n eu derbyn nhw yn y lle cyntaf, a hefyd a ydych chi'n gweithredu arnyn nhw neu beidio, ac os nad ydych chi, pam, o ystyried y sefyllfa argyfyngus y mae cynifer o'n hetholwyr a'n teuluoedd yn parhau i wynebu'r gaeaf hwn?

Wel, diolch yn fawr i Heledd Fychan, Dirprwy Lywydd. Dwi wedi gweld dogfen gydag ymateb i bob un o'r argymhellion sydd wedi cael eu paratoi gan y Llywodraeth. Nawr, dwi ddim yn siŵr, a dweud y gwir, os yw hwnna wedi mynd yn syth at y grŵp arbenigol a ddim wedi cael ei gyhoeddi i bobl eraill, ond mae dogfen ar gael sy'n gwneud popeth roedd Heledd Fychan eisiau gweld. So, caf weld os yw hwnna'n barod i'w gyhoeddi i bob un arall. 

A diolch am y gwaith rydych chi'n ei wneud gyda phobl leol. Mae hwnna yn bwysig i gael llais pobl sy'n gweithio wyneb yn wyneb gyda'r bobl sy'n dioddef o dlodi. Ac fel roedd yr Aelod yn dweud, Dirprwy Lywydd, mae nifer o'r argymhellion ddim yn dibynnu ar fwy o arian. Dyna pam rŷn ni'n gallu dweud, gyda'r pump argymhelliad cyntaf, ein bod ni wedi gwneud pedwar yn barod ac rŷn ni'n paratoi i ffeindio ffordd i wneud y pumed. So, mae nifer o bethau y gallwn ni eu gwneud ac rŷn ni wedi symud ymlaen i'w gwneud nhw. Mae rhai argymhellion sy'n fwy heriol, fel mae adroddiad y grŵp arbenigol yn dweud. 

Fe allwch chi ymddiried yn y Torïaid i wneud yr hyn y maen nhw bob amser yn ei wneud o leiaf. Maen nhw'n defnyddio datganiad ariannol i roi mwy o arian i'r cyfoethog a llai i'r tlawd. Am bob £100 a wariodd y Canghellor ar doriadau treth yr wythnos diwethaf, fe wnaeth y 2 y cant uchaf ennill £46, ac enillodd y gwaelod—y rhai gwaethaf eu byd—£3 yn unig. Ond yr hyn a wnaethon nhw hefyd, wrth gwrs, oedd tywallt mwy o arian yn ôl i Lundain a de-ddwyrain Lloegr. Enillodd Llundain £316, de-ddwyrain Lloegr £290, ond Cymru dim ond £211. Wfft i ffyniant bro, wfft i'r Deyrnas Unedig fel gwladwriaeth sy'n gallu ailddosbarthu cyllid o'r cyfoethocaf i'r tlotaf, o'r—[Torri ar draws.] A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw Llywodraeth y DU sydd wedi ymrwymo i ailddosbarthu cyfoeth, pryd yr ydym ni'n trethu er mwyn ailddosbarthu arian i'r bobl dlotaf, ac i sicrhau bod Cymru a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig sydd angen y cyllid yn cael y cyllid?

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno ag Alun Davies, wrth gwrs. Ni fydd unrhyw beth a glywsom ni yn natganiad yr hydref yr wythnos diwethaf yn ein helpu ni gydag unrhyw un o'r argymhellion hynny yn yr adroddiad sy'n canolbwyntio ar edrych ar y ffordd orau y gallwn ni helpu'r bobl hynny ar ben caletaf yr argyfwng costau byw. Yn hytrach, rydym ni'n cael ein plymio yn ôl i'r polisïau cyni cyllidol y cawsom addewid eu bod nhw wedi cael eu gadael ar ôl. Dyma Theresa May yn dweud wrth gynhadledd y Blaid Geidwadol ym mis Hydref 2018 bod 'cyni cyllidol ar ben'. Dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, wrth The Mail on Sunday ym mis Gorffennaf 2020, addewid na fyddai'r Torïaid yn dychwelyd i'r cyni cyllidol o 10 mlynedd yn ôl. Ac eto, dyna'n union a glywsom ni ddydd Mercher yr wythnos diwethaf—dychweliad i'r polisïau cyni cyllidol hynny, pryd y mae'r rhai sydd angen y mwyaf yn cael y lleiaf. Fel y dywedodd Alun Davies, £3 o bob £100 mewn toriadau treth yn mynd i'r lleiaf cefnog, a £46 o bob £100 yn mynd i'r bobl ar ben uchaf y dosbarthiad incwm. Mae'n dweud popeth yr ydych chi angen ei wybod am flaenoriaethau Llywodraeth y DU, a pham ei bod hi mor anodd yma yng Nghymru i allu gwneud y pethau y byddem ni eisiau eu gwneud, gyda chyngor y grŵp arbenigol gwych hwnnw, i wneud gwahaniaeth ym mywydau'r rhai sydd ei angen fwyaf.

13:35

Wel, i ddychwelyd at Lywodraeth Cymru, ym mis Medi, wrth ymateb i'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar gostau byw, cyfeiriais at nifer o'r argymhellion a gyflwynwyd yn adroddiad grŵp arbenigol Cymru ar yr argyfwng costau byw, a oedd yn cynnwys gweithredu'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar frys. Atebodd y Gweinidog bod y gwahoddiad i dendro ar gyfer cynllun newydd wedi'i arwain gan alw rhaglen Cartrefi Clyd wedi cael ei gyhoeddi yn ddiweddar, a mynnodd ein bod ni

'ar y trywydd cywir i ddyfarnu contract a dechrau ar y gwaith eleni.'

O gofio bod mis Rhagfyr bellach ar fin ein cyrraedd a bod y misoedd oeraf yn prysur agosáu, ceir pryder cynyddol na fydd y rhaglen newydd yn cael ei gweithredu tan y flwyddyn nesaf. Pryd mae'r Prif Weinidog yn disgwyl nawr felly i'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd gael ei gweithredu, ac a wnaiff ef roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn unol â hynny?

Dirprwy Lywydd, rwy'n disgwyl i'r rhaglen Cartrefi Clyd gael ei gweithredu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae'r dogfennau tendro yn barod. Yn y cyfamser, rydym ni wedi ymestyn trefniadau presennol i'n cario ni tan y gellir gweithredu'r rhaglen newydd.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar ran arall o adroddiad y grŵp arbenigol, a oedd yn ymwneud â gofal plant. Fe wnaethon nhw dynnu ein sylw at y pryder ynghylch y diffyg darpariaeth blynyddoedd cynnar—hynny yw, gofal plant o ansawdd da, ar gael mewn iaith o ddewis, a oedd yn fforddiadwy ac yn hygyrch. Ac fe wnaeth Oxfam Cymru hefyd lunio adroddiad yr wythnos diwethaf yn tynnu sylw at y diffygion mewn gofal plant ledled Cymru. Anfonodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ein hadroddiad, 'Cau'r Bwlch', atoch ar ofal plant, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oeddech wedi cael cyfle i wneud ychydig o ddarllen amser gwely er mwyn canolbwyntio eich meddwl, a pha safbwyntiau oedd gennych chi ar hynny, yn enwedig ein cynnig ar gyfer lwfans gofal plant. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr i Jane Dodds.

A diolch, wrth gwrs, am anfon copi o'r adroddiad ataf i. Rwyf i wedi llwyddo i ddarllen y crynodeb ohono o leiaf, â'r prif argymhellion. Dirprwy Lywydd, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol i Heledd Fychan—ac mae yr un mor wir yn y maes gofal plant—nid oes gennym ni ddiffyg polisïau yma yng Nghymru, nid oes gennym ni ddiffyg uchelgais; diffyg arian sydd gennym ni i roi'r pethau hynny ar waith. Serch hynny, yn rhan o'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, mae cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud o ran ehangu'r ddarpariaeth gofal plant yma yng Nghymru. Mae ein penderfyniad i ddod â phobl sydd ar drothwy cyflogaeth o fewn cwmpas y cynllun presennol wedi ymestyn y cynnig gofal plant i 3,000 o blant yma yng Nghymru. Mae cam 1 ehangu Dechrau'n Deg wedi gor-gyflawni—mae 127 y cant o'r nifer targed gwreiddiol o blant bellach yn mwynhau cynnig Dechrau'n Deg, gan gynnwys 3,200 o blant. Bydd cam 2 y rhaglen yn dod â 9,500 o blant dwy oed ychwanegol o fewn trefn gofal plant Dechrau'n Deg. Felly, ceir cynnydd gwirioneddol yma yng Nghymru.

Mae'r ddogfen y cyfeiriodd Jane Dodds ati, Dirprwy Lywydd, yn nodi cyfres o ffyrdd eraill y gallem ni wneud mwy i helpu teuluoedd â phlant, fel y gallan nhw ymdopi â chost gofal plant a chymryd eu lle mewn cyflogaeth. Wrth gwrs, fe hoffem ni pe gallem ni wneud mwy. Ond nid diffyg syniadau sydd gennym ni ac nid diffyg uchelgais sydd gennym ni; yr hyn yr ydym ni'n brin ohono, fel y dywedais, yw'r gallu ariannol i wneud yr holl bethau yr hoffem ni eu gwneud.

13:40
Gwasanaethau IVF y GIG

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwasanaethau IVF y GIG yng Nghymru? OQ60327

Wel, Llywydd, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn comisiynu gwasanaethau IVF ar ran pob bwrdd iechyd yng Nghymru. Mae'r holl glinigau ffrwythlondeb yn y DU yn cael eu llywodraethu gan yr Awdurdod Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol. Mae meini prawf mynediad yn safonol ledled Cymru.

Diolch, Prif Weinidog. Dylwn ddatgan buddiant, gan fod gennyf i brofiad personol o sut y mae Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru yn trawsnewid bywydau. Mae wir yn rhoi gobaith a llawenydd i bobl ar ôl blynyddoedd o siom a galar. Fel y gwyddoch, Prif Weinidog, dim ond un darparwr IVF GIG sydd yng Nghymru gyfan, ac rwyf i wedi siarad â chleifion, rhai presennol a rhai sy'n gobeithio'n daer i fod yn gleifion, a hefyd â staff sy'n bryderus iawn am ei ddyfodol. Maen nhw'n poeni y bydd pobl yn cael eu gadael heb fynediad at y gwasanaeth hwn sy'n newid bywydau, ac y bydd yn rhaid i eraill deithio ymhellach i ffwrdd a gorfod cystadlu â chleifion sy'n talu ffioedd gyda darparwyr preifat. A all y Prif Weinidog sicrhau heddiw y bydd y sefydliad pwysig hwn yn parhau i fod ar gael i bobl Cymru ar y GIG? Diolch yn fawr.

Wel, Dirprwy Lywydd, nid mater i mi yw rhoi sicrwydd o'r fath, oherwydd mae'n rhaid i unrhyw ddarparwr gwasanaethau IVF gael ei drwyddedu gan yr Awdurdod Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol. Ymwelodd yr awdurdod â Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru ym mis Ionawr eleni, a chyflwynodd gyfres o ofynion ar gyfer y sefydliad er mwyn iddo allu parhau i gael ei drwyddedu. Mae'n rhaid i'r sefydliad allu penodi unigolyn cyfrifol. Mae'n rhaid iddo allu ymateb i'r materion ansawdd a godwyd gan yr HFEA yn ystod yr ymweliad hwnnw. Felly, nid yw'n fater i mi sicrhau pethau; mater i'r Sefydliad yw gwneud yn siŵr ei fod yn darparu gwasanaeth a fydd yn caniatáu iddo barhau i gael ei drwyddedu, ac, wrth gwrs, dyna'n union yr ydym ni eisiau ei weld. Dyna pam mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a'r bwrdd iechyd lleol yn gweithio gyda'r sefydliad i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn adroddiad yr Awdurdod Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol. Fy nealltwriaeth i yw y cafwyd cynnydd ar rai o'r materion hynny, ond nid y cwbl. Yr hyn sydd angen i ni ei weld nawr yw canolbwyntio ar y materion a'r ymdrechion sy'n weddill sy'n cael eu gwneud i sicrhau bod y gwasanaeth hwnnw, am yr holl resymau a nodwyd gan Rhys ab Owen, yn gallu parhau. 

Hoffwn eilio'r hyn y mae fy nghyd-Aelod eisoes wedi ei nodi, Prif Weinidog, a gofyn i chi pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau'n rhagweithiol bod unrhyw un sydd eisiau IVF ar y GIG yn cael yr un cyfleoedd ar draws y byrddau iechyd yng Nghymru—oherwydd, wrth gwrs, rydym ni'n gweld sefyllfa yng Nghymru lle nad yw triniaeth ffrwythloni artiffisial yn cael ei hariannu gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, ond yn cael ei phenderfynu gan fyrddau iechyd unigol—ac, yn enwedig yn sgil toriadau i driniaeth ffrwythlondeb sydd wedi cael eu cynnig, heb orfod, wrth gwrs, deithio'r pellteroedd mawr, fel yr amlinellodd fy nghyd-Aelod?

Wel, Llywydd, ceir tair canolfan sy'n darparu'r gwasanaeth hwn i bobl yng Nghymru: Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru, fel y gofynnodd Rhys ab Owen i mi, sy'n gweithredu o Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ac o Ysbyty Athrofaol Cymru, yma yng Nghaerdydd; yn y gogledd, mae pobl yn cael eu cyfeirio at ganolfan Hewitt yn Ysbyty Menywod Lerpwl; ac, ar hyd y ffin, gall pobl ddefnyddio Canolfan Ffrwythlondeb Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru. Felly, mae mynediad at wasanaethau o'r fath ym mhob rhan o Gymru. Wrth gwrs, mae Laura Anne Jones yn iawn i ddweud, er bod meini prawf safonol ar gyfer mynediad at wasanaeth IVF yng Nghymru, bod yn rhaid i'r parau hynny sy'n gorfod cymryd rhan mewn gwasanaethau ffrwythloni artiffisial cyn gallu cael mynediad at wasanaethau IVF wneud cyfraniad at gostau hynny weithiau, ac mae byrddau iechyd yn mynd i'r afael â hynny ar sail eu gallu lleol i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw. Lle ceir posibiliadau newydd a datblygiadau gwasanaeth newydd, wrth gwrs, byddwn eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n cyd-fynd â'r rheini er mwyn gwneud yn siŵr bod y bobl hynny sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn yn cael y cyfle gorau i wneud defnydd ohonyn nhw.

13:45

Dim ond yr wythnos hon, rydym ni wedi cael ein hatgoffa am effaith pryfleiddiaid o gnydau sy'n cael eu lledaenu fel mater o drefn ac sy'n achosi gostyngiad i gyfrif sberm dynion, ac mae hyn yn amlwg yn cynyddu'r galw gan deuluoedd sydd angen ymyrraeth gwasanaethau ffrwythlondeb. Yn amlwg, mae gwaith i'w wneud ar atal hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf, ond gan gadw at ganolfan ffrwythlondeb Cymru, mae'n amlwg yn hanfodol bod gennym ni wasanaeth o ansawdd i holl bobl de Cymru, gan ei fod yn wasanaeth anodd iawn a gall fod yn gyfnod pryderus iawn i bob teulu. Felly, hoffwn ddeall yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y ganolfan yng Nghastell-nedd yn parhau i fod â thrwydded fel y gall pobl yn ne Cymru gael gwasanaeth yn gymharol leol, yn hytrach na gorfod teithio dros y ffin i Fryste.

Diolch i Jenny Rathbone am hynna. Mae tri pharti yn rhan o'r ymdrechion i wneud yn siŵr y gall y gwasanaeth hwnnw barhau. Ceir Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru ei hun; nhw yw'r prif chwaraewyr, a'u cyfrifoldeb nhw yn bennaf yw gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu yn cyrraedd y safonau sy'n caniatáu iddyn nhw barhau i gael trwydded. Ond Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sy'n rheoli'r gwasanaeth, ac mae ganddyn nhw gyfrifoldeb i gynorthwyo'r sefydliad i gyrraedd y safonau a nodwyd gan yr HFEA yn eu hymweliad ym mis Ionawr. Ac yna ar gyfer Cymru gyfan, i sicrhau bod chwarae teg a bod pobl ym mhob rhan o'r wlad yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hyn, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yw'r comisiynydd. Gweithredoedd y comisiynydd sydd wedi tynnu sylw at y gwasanaeth yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rwy'n deall y bydd hynny'n destun pryder a gofid i bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth ac i'r bobl hynny sydd naill ai'n defnyddio'r gwasanaeth ar hyn o bryd neu a allai fod yn aros i wneud hynny. Yr hyn yr wyf i eisiau ei weld yw'r tri pharti—Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, y bwrdd iechyd a'r sefydliad—yn cydweithio fel bod y materion sydd wedi cael eu codi ac y mae angen mynd i'r afael â nhw, fel arall ni fydd trwydded, yn cael sylw gyda phob parti yn chwarae ei ran i wneud hynny.

Fel un o'r Aelodau lleol sy'n cynrychioli ardal Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, mae etholwyr a staff wedi bod yn codi pryderon gyda fi yn yr un modd, ac rydyn ni wedi clywed am effaith y penderfyniad i edrych ar ddadgomisiynu y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru. A fydd yna unrhyw ymgynghoriad agored gyda defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd i lywio unrhyw drafodaethau sy'n digwydd nawr neu yn y dyfodol am y gwasanaeth, gan sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithredu ei hegwyddorion datganedig o ran cydgynhyrchu? A wnewch chi ymrwymo i sicrhau y bydd aelodau etholedig a staff yn cael gweld unrhyw dystiolaeth sy'n dod i'r adwy o ran unrhyw benderfyniad ar ddyfodol y gwasanaeth? Wrth sefydlu'r gwasanaeth yn 2012, dywedodd y Llywodraeth:

Bydd hyn yn rhoi gwasanaeth IVF cryf wedi'i leoli yn y GIG ar waith, sy'n cwmpasu de a gorllewin Cymru, a fydd yn darparu cyfleusterau rhagorol i gleifion o'r de-orllewin. Rydym ni wedi ymrwymo i leihau'r defnydd o'r sector preifat yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, gan gynyddu capasiti yn y GIG.

Ydych chi'n dal i gredu hynny?

Dyna'r uchelgais sydd gyda ni, wrth gwrs—i gael gwasanaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot ac yma yn yr ysbyty yng Nghaerdydd sy'n gallu rhoi gwasanaeth o'r safon lle mae'r cyrff sy'n gyfrifol am roi y leisens i'r institiwt lleol yn gallu gwneud hynny. Mae'r cwestiynau eraill roedd yr Aelod wedi eu codi yn gwestiynau i'r bwrdd a phobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth. Dwi eisiau gweld llais y bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth a llais pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn rhan o'r broses o wella'r gwasanaeth a rhoi gwasanaeth mewn lle ble rŷn ni i gyd yn gallu bod yn hyderus y bydd hwnna'n gallu parhau am y dyfodol. 

13:50
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf fe wnaeth fy nghyd-Aelod, Russell George, godi pryderon gyda'r Gweinidog iechyd am wasanaethau mamolaeth ardal bwrdd iechyd Abertawe. Yn anffodus, ni chawsom yr atebion yr oeddem ni'n meddwl ein bod ni'n mynd i'w cael i'r cwestiynau hynny, a oedd yn eithaf syml, am ymchwiliad y dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi cael ei gynnal y llynedd. Dywedodd wrth deulu Channon ac ITV Cymru Wales bod yr ymchwiliad hwn wedi cael ei gynnal ac na chodwyd unrhyw bryderon. Pan ddefnyddiwyd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i gael gafael ar yr wybodaeth, daeth yn amlwg nad oedd unrhyw ymchwiliad wedi cael ei gynnal gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Felly, pam fyddai swyddogion Llywodraeth Cymru yn dweud wrth deulu Channon ac ITV Cymru bod ymchwiliad i wasanaethau mamolaeth yn ardal bwrdd iechyd Abertawe wedi cael ei gynnal pan nad oedd ymchwiliad o'r fath wedi cael ei gynnal o gwbl mewn gwirionedd?

Fy nealltwriaeth i—ac nid wyf i mor agos at y manylion, felly fe wnaf yn siŵr, os oes rhagor o fanylion y gellir eu darparu i'r Aelod, y byddwn ni'n gwneud hynny—yw y bu rhywfaint o ddryswch ynghylch terminoleg yma, bod gwaith wedi cael ei wneud sydd wedi ymchwilio i'r mater, fe'i gwnaed o dan broses sicrwydd yn hytrach na phroses ymchwilio, a bod rhywfaint o ddryswch felly wedi cael ei greu gan bobl yn cyfeirio at yr un gwrthrych mewn dwy wahanol ffordd. Os gallwn ni wneud yn siŵr y gallwn ni egluro hynny, yn enwedig ar gyfer y teulu, yna gwn y bydd y Gweinidog eisiau gwneud hynny.

Rwy'n tybio, Prif Weinidog, mai'r bobl rydych chi'n cyfeirio atyn nhw yw swyddogion Llywodraeth Cymru a wnaeth, yn amlwg, ddarparu'r wybodaeth i'r teulu hwn, teulu Channon, yn y lle cyntaf a dyna sydd wedi arwain at y dryswch hwn. Ond mae'n ffaith bod gwasanaethau mamolaeth wedi cael eu harchwilio yn ardal bwrdd iechyd Abertawe gan Archwilio Cymru, a bod eu hasesiad risg wedi codi pryderon gwirioneddol, difrifol yn ôl ym mis Chwefror. Yna, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru arolwg staff ym mis Medi eleni a'r ymatebion oedd rhai o'r gwaethaf yr oedden nhw wedi eu gweld—eu geiriau eu hunain, nid fy rhai i. Mae dros 300 o achosion mewn gwasanaethau mamolaeth sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn ardal bwrdd iechyd Abertawe. Felly, gofynnais y cwestiwn a ofynnodd fy nghyd-Aelod Russell George i'r Gweinidog Iechyd yr wythnos diwethaf ac na chafwyd ateb iddo: a yw'r bwrdd iechyd yn bodloni lefelau staffio gofynnol y GIG mewn gwasanaethau mamolaeth, ac os nad ydyn nhw, a yw gwasanaethau mamolaeth yn Abertawe yn ddiogel?

Rwy'n credu bod gwasanaethau mamolaeth ym Mae Abertawe yn cael eu goruchwylio'n rheolaidd iawn gan y rhai sydd â'r cyfrifoldeb hwnnw. Nid oes unrhyw amheuaeth—nid wyf i'n awgrymu fel arall—y bu rhai digwyddiadau anodd yn y gwasanaethau a ddarparwyd gan y bwrdd. Ond mae'r trefniadau a roddwyd ar waith o ganlyniad i'r gwaith a wnaed yng Nghwm Taf dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r gwersi hynny wedi cael eu trosglwyddo i'r gwasanaeth ym Mae Abertawe. Mae'r oruchwyliaeth genedlaethol sydd gennym ni ar waith, y trefniadau newydd sy'n cwmpasu Cymru gyfan i wneud yn siŵr bod gwasanaethau yn cael eu darparu yn y ffordd orau, yn berthnasol ym Mae Abertawe hefyd. Ac er y byddwn ni'n parhau i wneud yn siŵr ein bod ni'n cadw llygad barcud ar y gwasanaethau hynny, gan ddysgu o adroddiadau AGIC ac eraill, mae'n bwysicach y caniateir i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo, ar lawr gwlad, a bod cleifion yn ardal Bae Abertawe yn elwa ar hynny.

Prif Weinidog, cynhaliwyd adroddiad ar wasanaethau mamolaeth yn ardal bwrdd iechyd Abertawe yn ôl yn 2019 gan yr arolygiaeth iechyd. Nid yw llawer o'r argymhellion hynny wedi'u gweithredu fyth, ac rydym ni'n dod i ddiwedd 2023 bellach. Gofynnais gwestiwn eglur iawn ar gyfer fy ail gwestiwn heddiw. Ni chefais yr ateb yn ôl gennych chi mewn gwirionedd, er fy mod yn deall eich bod chi'n esbonio'r ddynameg ehangach, ac fel aelod rhanbarthol dros Ganol De Cymru rwy'n deall yn llawn gyd-destun problemau mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf a'r mesurau adferol a roddwyd ar waith. Ond fel yr ydym ni'n sefyll yma heddiw, a yw'r lefelau staffio gofynnol yn y gwasanaeth mamolaeth yn ardal bwrdd iechyd Abertawe, fel y mae'r ddeddfwriaeth yn mynnu, yn cael eu bodloni, ac a yw gwasanaethau mamolaeth yn ddiogel yn ardal bwrdd iechyd Abertawe, o ystyried yr hyn yr wyf i wedi ei ddisgrifio i chi heddiw?

Ar y cwestiwn cyntaf, nid oes gen i ffigurau o'm blaen ac nid wyf i eisiau dyfalu, gan fod hwnnw'n gyfrifiad manwl gywir gan ddefnyddio'r fformiwla sydd gennym ni i wneud yn siŵr bod lefelau staffio lle mae angen iddyn nhw fod, ond gallwn wneud yn siŵr bod yr wybodaeth honno ar gael.

Ar yr ail gwestiwn, rwy'n credu bod y dulliau ar waith yr ydym ni wedi eu dysgu, yn dod allan o brofiad Cwm Taf Morgannwg—bod y rheini ar gael yn ardal Bae Abertawe. Maen nhw'n cael eu hategu gan y pethau eraill sydd yno i wneud yn siŵr bod llygad allanol yn cael ei gadw ar ddatblygiad y gwasanaethau hynny, a thrwy'r dulliau hynny mae gennym ni'r sicrwydd sydd ei angen arnom ni fod gwasanaethau ym Mae Abertawe yn cael eu darparu, er eu bod weithiau o dan bwysau a chyda heriau staffio, mewn ffordd a all sicrhau bod gan bobl hyder ynddyn nhw.

13:55

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mi oedd hi'n fraint cael bod yn y ffair aeaf yn Llanelwedd ddoe; mi oedd hi'n braf gallu dathlu dyfodol y diwydiant amaeth, fel y gwnes i wrth i fy nith i, Mared, ddod yn bencampwraig y trinwyr gwartheg ifanc. Ond mae yna, wrth gwrs, gwestiynau difrifol am ba fath o ddyfodol sydd yna i'r sector. Os buodd yna angen partneriaeth erioed rhwng y Llywodraeth a'r diwydiant, rŵan ydy'r amser. Ond beth mae'r sector yn ei glywed gan Weinidogion, yn ôl yr undebau, ydy'r angen iddyn nhw brofi gwerth amaeth i'r Llywodraeth ac i'r trethdalwr.

Rydw i'n edrych ar bethau o gyfeiriad gwahanol. Fel hyn rydw i'n ei gweld hi: allwn ni ddim gwneud heb ein sector amaeth ni, o ran bwyd, yr amgylchedd, ein cymunedau gwledig, ein hiaith ac yn y blaen. Mae Cymru wledig ac amaeth angen Llywodraeth ar eu hochr nhw. Mae'r cyhoedd yn cytuno â mi: 82 y cant o bobl yn dweud wrth arolwg YouGov eu bod nhw'n cefnogi rhoi cymorth ariannol i ffermwyr gynhyrchu bwyd; 72 y cant yn dweud bod cefnogi ffermwyr Cymru yn ddefnydd da o arian cyhoeddus. O ystyried y gefnogaeth yna, a wnaiff y Prif Weinidog roi sicrwydd heddiw na fydd y gyllideb ddrafft yn effeithio'n andwyol ar amaethyddiaeth?

Na, Ddirprwy Lywydd, allaf i ddim dweud hynny; allaf i ddim dweud hynny am unrhyw agwedd ar y gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud.  

Rydym ni £1.3 biliwn yn brin o'r hyn sydd ei angen arnom ni y flwyddyn nesaf; dyna effaith chwyddiant a methiant Llywodraeth y DU i gynnal gwir werth y gyllideb y gwnaethon nhw ddweud sydd ei hangen arnom ni pan wnaeth yr adolygiad cynhwysfawr o wariant bennu ein cyllidebau am dair blynedd. Os oes yn rhaid i chi ddod o hyd i werth £1.3 biliwn o weithgarwch i fyw o fewn ein modd, yna ni all unrhyw ran unigol o Lywodraeth Cymru ystyried ei hun yn ddiogel rhag yr ymdrech honno, ac mae hynny'n cynnwys amaethyddiaeth, fel y mae'n cynnwys popeth arall rydym ni'n ei wneud.

Diolch am yr ymateb gonest, ond rwy'n teimlo bod angen i ni weld amaethyddiaeth fel buddsoddiad. Os na fydd y Llywodraeth yn cefnogi amaethyddiaeth nawr, byddwn yn talu'r pris am flynyddoedd lawer i ddod. Mae'r heriau sy'n wynebu'r sector yn cynyddu. Dywedodd naw deg y cant o ffermwyr wrth arolwg barn Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr eu bod nhw'n teimlo bod gweithredoedd Llywodraeth Cymru ar TB buchol yn wael neu'n wael iawn. Ceir pryderon gwirioneddol ynghylch targedau anhyblyg o ran plannu coed, a pheidiwch â'm camddeall: rwy'n cefnogi tyfu coed helaeth, ond mae'n rhaid iddi fod y goeden iawn yn y lle iawn. Ac, wrth gwrs, mae cynllun Cynefin Cymru wedi cael ei feirniadu'n hallt, gan danseilio, fel y mae, degawdau o gynllunio busnes yn seiliedig ar gynaliadwyedd amgylcheddol, ymhell o'r hyn y dylem ni fod yn anelu ato, sef pontio teg o daliadau cymorth presennol. A yw'r Prif Weinidog yn derbyn bod y ffordd y cyflwynwyd y cynllun newydd, ar ben y problemau eraill gydag ymgynghori annigonol ac ati, yn gwthio mwy o ffermydd Cymru at yr ymyl?

Nid wyf i'n cytuno â hynny, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cytuno â'r cynnig cyffredinol bod yr arian yr ydym ni'n ei fuddsoddi mewn amaethyddiaeth yn fuddsoddiad, ond felly hefyd yr arian yr ydym ni'n ei fuddsoddi mewn addysg, mewn tai, mewn trafnidiaeth, mewn iechyd—ym mhopeth arall yr ydym ni'n ei wneud. Does dim dadl arbennig i'w gwneud dros ffermio ar wahân i bopeth arall y mae pobl yng Nghymru yn barod i'w gefnogi. Ac eto, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn ffermio drwy'r amser, er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi colli gwerth £0.25 biliwn o gyllid o ganlyniad i Brexit. Roedd sicrwydd pendant na fyddem ni'n waeth ein byd, pan gymerwyd £0.25 biliwn oddi wrthym ni.

Serch hynny, rydym ni'n parhau i fuddsoddi. Mae cynllun Cynefin Cymru, y dywedodd yr undebau ffermio wrthym ni na fyddai'n llwyddiant, wedi cael dros 3,200 o geisiadau. A byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr ag undebau ffermio wrth i ni ddylunio dyfodol cymorth ffermio. Dim toriadau eleni o gwbl yng Nghymru i'r cynllun taliadau sylfaenol—toriadau o 55 y cant yn Lloegr i ffermwyr sy'n dibynnu arno yno. Mae'n afluniad llwyr awgrymu nad yw Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y diwydiant hwnnw, oherwydd ei bwysigrwydd. Ond mae hefyd yn ffaith na ellir ei ystyried yn ddiogel rhag y penderfyniadau angenrheidiol y bydd yn rhaid i ni eu gwneud ar draws y Llywodraeth i fyw o fewn y moddion sydd ar gael i ni.

14:00

Ac wrth gwrs mae penderfyniadau anodd y mae'n rhaid eu gwneud, ond wythnos y ffair aeaf hon, o bob wythnos, yw'r adeg pan fo angen i'r Llywodraeth ddangos, yn ddiamwys, ei chefnogaeth i amaethyddiaeth. Rwy'n gwybod cymaint y mae'r Prif Weinidog yn caru fy nghynlluniau pum pwynt, ond gadewch i mi gyfyngu pethau heddiw i ddim ond tri cham gweithredu y gallai'r Llywodraeth eu cymryd i ddangos ei chefnogaeth. Dim ond enghreifftiau. Beth am ddangos, yn gyntaf, ei bod wedi dysgu'r gwersi o gynllun Cynefin Cymru? Yn ail, gallai ymrwymo i weithredu ar bryderon y gallai plannu coed o bosibl arwain at golli tir cynhyrchiol. Yn drydydd—ac rwy'n gwahodd y Prif Weinidog ei hun i ychwanegu pwyntiau 4, 5 a 6, os yw'n dymuno—byddai'n rhoi ymrwymiad hirsefydlog bod amaethyddiaeth nid yn unig yn ddiwydiant hyfyw heddiw, ond y gall ei sylfeini fod yn gadarn ac yn gydnerth ar gyfer y dyfodol, ac mae'n rhaid iddyn nhw fod. Gall y gaeaf fod yn gyfnod eithaf anodd i ffermio ar yr ochr orau, ond gallai'r negeseuon cywir nawr, yn enwedig o ran sicrwydd ariannol, wneud gwahaniaeth. A chofiwch, am bob £1 sy'n mynd i mewn i amaethyddiaeth, mae £9 yn cael eu cynhyrchu i'r economi. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi nad yw ffermio yn nwydd ar golled, ond yn hytrach yn ddiwydiant sy'n cynhyrchu difidend o fuddsoddiad, ac a wnaiff ef gymryd hynny i ystyriaeth wrth gydbwyso blaenoriaethau cystadleuol yn ei gyllideb?

Wel, Dirprwy Lywydd, mae hwnna'n fwy o gyhoeddiad pum pwynt i'r wasg na chynllun pum pwynt. Dyma effaith chwyddiant, wrth gwrs. Roedd yn gallu cael pum pwynt dim ond ychydig wythnosau yn ôl; dim ond tri y mae'n gallu dod o hyd iddyn nhw bellach.

Edrychwch, Dirprwy Lywydd, gadewch i mi roi hyn ar y cofnod: rwy'n meddwl bod y sector ffermio, y sector amaethyddol, yng Nghymru yn hanfodol bwysig. Rwy'n meddwl bod y gwaith y mae'n ei wneud o fantais i Gymru. Rwy'n meddwl bod y ffaith ei fod yn cefnogi'r diwylliant, yr iaith, y ffordd o fyw—mae hynny i gyd yn bwysig i ni ar yr ochr yma i'r Siambr—ond ni all dim o hynny ddileu'r heriau sy'n ein hwynebu wrth bennu ein cyllideb. A'r hyn yr wyf i eisiau ei wneud y prynhawn yma yw bod yn eglur gyda phobl. Mae pobl o bob rhan o'r Siambr hon, wythnos ar ôl wythnos, yn sefyll ar eu traed ac yn gofyn i mi wario mwy ar hyn, mwy ar hynna, mwy ar rywbeth arall, a dywedaf hyn, Dirprwy Lywydd: ceir dadl gref bob amser pan fydd pobl yn gwneud hynny. Nid pethau gwamal yw'r rhain y mae pobl yn eu dweud; maen nhw'n gwneud dadleuon difrifol mewn meysydd pwysig. Yn y pen draw, yr hyn y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei wneud yw pwyso a mesur yr holl flaenoriaethau hynny sy'n cystadlu â'i gilydd. A'r cyfan yr wyf i'n ei ddweud wrth yr Aelod y prynhawn yma yw, er gwaethaf y gwerth yr ydym ni'n ei neilltuo i bopeth sy'n digwydd yng nghefn gwlad Cymru a'r rhai sy'n gweithio ynddo, nid oes unrhyw ddadleuon arbennig i'w gwneud ar adeg pan fo'n rhaid i chi ddod o hyd i'r lefel o ostyngiadau yn ein capasiti i allu buddsoddi ym mhopeth sy'n bwysig i bobl ym mhob rhan o'n gwlad.

Elusennau Dementia

3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi elusennau sy'n helpu cleifion dementia a'u teuluoedd? OQ60345

Dirprwy Lywydd, caiff cyllid rheolaidd o £12 miliwn ei ddyrannu i fyrddau partneriaeth rhanbarthol ar gyfer gweithredu cynllun gweithredu ar ddementia Cymru. Mae mudiadau'r trydydd sector yn gymwys i gael y cyllid hwn, ac anogir byrddau partneriaeth rhanbarthol i gefnogi darpariaeth trydydd sector.

Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch mae'n debyg, mae elusen yn fy etholaeth i o'r enw Dementia Matters ym Mhowys ac maen nhw'n gwneud gwaith hanfodol, gan helpu cleifion a'u teuluoedd. Fel y gwyddoch, mae fy etholaeth yn gartref i boblogaeth oedrannus sy'n tyfu, ac mae nifer cyfartalog y cleifion dementia yn cynyddu o un flwyddyn i'r llall. Ond er gwaethaf y gwaith gwych y mae Dementia Matters yn ei wneud, maen nhw'n wynebu'r bygythiad o gau ar hyn o bryd oherwydd diffyg cyllid.

Rwyf i wedi cysylltu â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a'r bwrdd partneriaeth gwledig ar y mater hwn, gan fy mod i'n ymwybodol fod cyllideb dros ben yn eu cyllid eleni. Fodd bynnag, am ryw reswm na allaf ei ddeall, ni all Dementia Matters ym Mhowys gael mynediad at y cyllid hwnnw. Felly, Prif Weinidog, hoffwn ofyn a hoffech chi a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ddod i ymweld â Dementia Matters yn fy etholaeth. A hefyd, ar yr ail bwynt, nid wyf i'n gofyn am fwy o arian, ond pa bwysau all Llywodraeth Cymru eu rhoi ar y bwrdd partneriaeth rhanbarthol i wneud yn siŵr bod unrhyw gyllideb dros ben yn mynd tuag at gynorthwyo pobl â dementia yn fy etholaeth?

14:05

Diolch i James Evans am dynnu sylw at fater Dementia Matters, y gwn ei fod yn gwneud gwaith gwych yn ei etholaeth ac yn ehangach. Rwyf i wedi gwneud ymholiadau i'r materion y mae'r Aelod wedi'u codi y prynhawn yma, ni allaf addo y bydd y penderfyniadau lleol yn rhai y byddai'r sefydliad yn fodlon â nhw, ond yr hyn y gallaf ei wneud yw gwneud yn siŵr bod Dementia Matters yn gwneud eu dadl yn uniongyrchol i'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau hynny ac yn cael eu cyfle i'w dadl gael ei chlywed. Rwyf i wedi siarad â'r Gweinidog yn gynharach heddiw. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymyrryd i wneud yn siŵr, os yw Dementia Matters yn teimlo nad ydyn nhw wedi gallu cael y sgyrsiau hynny, nad ydyn nhw wedi gallu gwneud y ddadl honno i'r rhai sydd â'r cyllid, yna byddwn yn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y cyfle hwnnw.

Er nad oes gennyf i syniad a oes unrhyw arian dros ben—byddai'n anarferol iawn yn fy mhrofiad i—yn ogystal â'r £12 miliwn sy'n mynd i gefnogi'r cynllun gweithredu ar ddementia yn uniongyrchol, mae'n wir ym mlwyddyn gyntaf y gronfa fuddsoddi ranbarthol, bod £26.5 miliwn wedi mynd i'r trydydd sector a sefydliadau cyffelyb, ac mae ymrwymiad i wario 20 y cant o'r cyllid yn y ffordd honno. Rwyf i eisiau gwneud yn siŵr bod Dementia Matters yn cael ei gyfle i wneud ei ddadl i gael rhan o'r cyllid hwnnw. Ar ôl hynny, mae'r penderfyniadau'n cael eu gwneud yn gwbl briodol mewn mannau eraill. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod y cyfle hwnnw'n cael ei ddarparu iddyn nhw.

Roedd fy mam-gu yn dioddef gyda dementia yn y blynyddoedd cyn iddi farw, ac un o'r pethau anoddaf i fy nheulu i oedd teimlo ein bod ni'n ei cholli hi fesul darn, ac roedd hi'n aml yn ofnus gan nad oedd hi'n deall beth oedd yn digwydd iddi hi. Rwy'n gwybod bod elusennau fel Cymdeithas Alzheimer's Cymru yn poeni am oedi cyn cyhoeddi cyfraddau diagnosis dementia, ac mae cael diagnosis mor bwysig i sicrhau bod y sawl sy'n mynd trwy hyn a'r bobl sy'n ei garu yn cael cefnogaeth, cefnogaeth fel yr hyn sy'n cael ei ddarparu gan wasanaeth cymorth dementia integredig Gwent gyda bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Rwy'n gwybod eu bod nhw'n gweithio'n agos gyda chlinigau asesu cof i gynorthwyo pobl ar adeg diagnosis, ond mae cyrraedd y pwynt hwnnw yn cymryd llawer gormod o amser i ormod o deuluoedd. Felly, a allwch chi gadarnhau, os gwelwch yn dda, a yw gwella cyfraddau diagnosis yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a rhoi gwybod i ni pryd y byddwch chi'n cyhoeddi data dibynadwy? Mae dementia yn gyflwr sy'n gallu ynysu cymaint o bobl, ond gall cael y cymorth hwnnw a chael y diagnosis hwnnw helpu i olygu nad yw pobl yn mynd drwyddo ar eu pen eu hunain.

Dirprwy Lywydd, mae dementia yn glefyd creulon. Gall fod yn greulon iawn i'r sawl sy'n dioddef ohono, yn enwedig y bobl hynny y mae dementia ei hun yn brofiad dryslyd a brawychus, ac mae'n sicr yn glefyd creulon i deuluoedd, sy'n teimlo bod yr unigolyn y maen nhw wedi ei adnabod dros yr holl flynyddoedd hynny rywsut yn llithro oddi wrthyn nhw. Gallaf yn sicr ddweud wrth Delyth Jewell bod gan gynllun gweithredu ar ddementia Cymru bwyslais cryf ar ddiagnosis, oherwydd, yn y ffordd honno, gall pobl gael mynediad, ac o ran dementia mae'n gwbl sicr yn wir mai'r cynharaf y cewch chi gymorth, y mwyaf effeithiol y gall y cymorth hwnnw fod. Felly, mae pwyslais gwirioneddol ar ddiagnosis, ac rwy'n siŵr, gyda chymorth sefydliadau yn y trydydd sector yn y ffordd y cyfeiriodd Delyth Jewell, y byddwn ni'n parhau i geisio cyrraedd cymaint o bobl â phosibl cyn gynted â phosibl. Os gallwn i ddweud hefyd, Dirprwy Lywydd, i annog pobl i ddod ymlaen, oherwydd rydym ni'n gwybod bod amharodrwydd i ddod ymlaen yn dal i fodoli mewn rhai teuluoedd ac mewn rhai rhannau o Gymru. Dydych chi ddim eisiau'r newyddion drwg, felly rydych chi'n sefyll yn ôl ac yn aros ychydig yn hwy. Y cynharaf y daw pobl ymlaen, y mwyaf effeithiol y gall y cymorth fod.

Economi Gorllewin De Cymru

4. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer tyfu'r economi yng Ngorllewin De Cymru dros weddill tymor y Senedd hon? OQ60347

Fe wnaeth datganiad yr hydref y Canghellor dorri'r rhagolygon ar gyfer twf yn economi'r DU i ddim ond 0.6 y cant eleni a 0.7 y cant y flwyddyn nesaf. Bydd y methiant hwnnw'n cael ei deimlo yn economi Gorllewin De Cymru, hyd yn oed wrth i'r Llywodraeth hon gymryd camau gwrthbwyso.

Mae un o bob saith swydd yng Nghymru yn dibynnu ar y diwydiant twristiaeth a lletygarwch, a dangosodd arolwg teithwyr rhyngwladol Llywodraeth Cymru ei hun ostyngiad sylweddol yn nifer y twristiaid a ddaeth i Gymru y llynedd. Rydym ni eisoes yn gwybod bod y gwariant gan dwristiaid yng Nghymru yn is fesul pen na chyfartaledd y DU, ac mae hynny ar ben rheol 182 diwrnod filain Llywodraeth Cymru ar gyfer llety gwyliau hunanarlwyo, sydd bellach, yn ôl Cymdeithas Broffesiynol y Darparwyr Hunanarlwyo, yn llai na 25 y cant o fusnesau yng Nghymru sy'n credu y byddan nhw'n ei chyrraedd, gan eu gorfodi allan o'r sector yn gyfan gwbl, a hynny cyn i ni hyd yn oed sôn am gyflwyno treth dwristiaeth wenwynig Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. A hyd yn oed yr wythnos hon, rydym ni wedi gweld polisi 20 mya gwallgof Llywodraeth Cymru yn cael ei nodi yn y cyfryngau fel ffactor sy'n cyfrannu at y ffaith nad yw pobl y tu allan i Gymru eisiau dod yma ac ymweld bellach.

Prif Weinidog—[Torri ar draws.] Yn sicr. Ar draws Gorllewin De Cymru a ledled Cymru, mae'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch angen hyrwyddwr yn daer i wella yn hytrach na threthu'r diwydiant, ond mae'n ymddangos bod Llywodraeth Lafur Cymru yn ddigon hapus i edrych fel ein bod ni ar gau ar gyfer busnes. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi sefyll i fyny o'r diwedd dros y sector twristiaeth yng Nghymru a gwrthdroi eich pentwr o bolisïau gwrth-dwristiaeth niweidiol?

14:10

Dirprwy Lywydd, ni fyddai unrhyw un a ddarllenodd gyfraniad Mr Giffard byth yn meddwl am ddod i Gymru. Gofynnodd i mi sefyll i fyny dros y diwydiant twristiaeth tra bo ef yn treulio pum munud yn dweud wrthyf i bopeth a fyddai'n atal pobl rhag dod yma. Nawr, y tro diwethaf iddo ofyn cwestiwn i mi, gofynnodd i mi am dref y Mwmbwls, felly gadewch i mi ddweud wrtho am gronfa fuddsoddi twristiaeth Cymru yn y dref honno: y £2 filiwn a ddarparwyd i greu llety a bwyty o ansawdd uchel yn y Mwmbwls ei hun, gan greu tua 29 o swyddi; buddsoddiad pellach o £70,000 yn yr hen gronfa micro-fusnesau a busnesau bach ar gyfer datblygu gwesty pum seren gerllaw; £2.7 miliwn ar gyfer creu distyllfa wisgi Cymreig a chanolfan ymwelwyr yn Hafod-Morfa yn Abertawe. Mae'r rhain yn bethau ymarferol, mae'r rhain yn fuddsoddiadau gwirioneddol. Dyma sut rydych chi'n dangos eich cefnogaeth i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, nid trwy sefyll i fyny a'i ddilorni.

A gaf i wneud yr hyn yr wyf i'n ei gredu yw'r ddadl foesol ac economaidd dros dyfu'r economi yng Ngorllewin De Cymru, ac yn wir Cymoedd Gorllewin De Cymru hefyd, a fyddai'n creu mwy o swyddi ac yn sicrhau dosbarthiad mwy cyfiawn o fuddsoddiad? Mae'r ddwy enghraifft hynny yn ymwneud â'r cais a wnaed gan ein Gweinidog cyllid, Rebecca Evans i—rwy'n credu mai dyma'r pedwerydd, y pumed—[Torri ar draws.] Y chweched? Sawl Canghellor? [Torri ar draws.] Na. [Chwerthin.] Y cais i'r Canghellor presennol, yr un diweddaraf, ar faterion cyllid teg i Gymru ar gyfer buddsoddi mewn rheilffyrdd, fel ein bod ni'n gwneud yn iawn am y tanariannu presennol o £270 miliwn. A hefyd buddsoddiad mewn gwaith adweirio tomenni glo ei hun, a fyddai'n creu swyddi ym meysydd arolygu a monitro a gwneud y tomenni hynny'n ddiogel. A oes unrhyw gynnydd yn hynny o gwbl? A yw'r Ceidwadwyr wedi sefyll i fyny dros Gymru?

Wel, Dirprwy Lywydd, ni fydd yn syndod i Huw Irranca-Davies wybod na chafodd y naill na'r llall o'r pethau hynny eu darparu yn natganiad yr hydref yr wythnos diwethaf. A dweud y gwir, un o rannau mwyaf brawychus y datganiad cyfan yw y flwyddyn nesaf, ar gyfer popeth y mae angen i ni ei wneud o ran buddsoddi—buddsoddi yn y diwydiant twristiaeth, buddsoddi yn ein hysgolion, yn ein hysbytai—bydd Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf yn cael £6 miliwn. Chwe miliwn o bunnau oedd yr hyn a ddarparodd datganiad yr hydref ar gyfer pob un buddsoddiad sydd ei angen yng Nghymru. Pe bai'r ddau beth hynny wedi cael eu darparu, ar eu pen eu hunain bydden nhw wedi dod i bron i £300 miliwn. Mae un o'r Aelodau Ceidwadol yn dweud wrthyf i ei fod yn £6 miliwn yn ychwanegol, ar ben yr £1 filiwn a gynigiwyd i ni yng nghyllideb y gwanwyn ym mis Mawrth y llynedd. [Chwerthin.] Mae hynny'n doriad termau real—[Torri ar draws.] Mae'n gwybod hyn. Rydych chi'n dweud ei fod yn £6 miliwn ar ben ein cyllideb ac rydych chi'n gwybod bod gwir werth y gyllideb gyfalaf yn gostwng. [Torri ar draws.]

Mae'n gostwng eleni, mae'n gostwng y flwyddyn nesaf. Mae llai o arian mewn termau prynu ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer popeth rydym ni'n ei wneud, ac mae'r syniad—y syniad—bod £6 miliwn yn gwneud iawn am chwyddiant yn y diwydiant adeiladu, bod hynny'n gwneud iawn am yr holl gostau ychwanegol y mae'n rhaid i chi eu hysgwyddo nawr os ydych chi'n mynd i fuddsoddi—mae'n chwerthinllyd, mae'n ddirmygus ac mae'n dweud wrthych chi beth mae'r Llywodraeth honno yn ei feddwl o Gymru.

Dylem ni fod wedi cael ein cyfran o arian HS2, y £270 miliwn, ac yn sicr dylem ni fod wedi cael yr £20 miliwn, y cais cymedrol iawn a wnaed gennym am gymorth i adfer tomenni glo peryglus. Ble oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Dirprwy Lywydd? Ble oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cefnogi hynny? Pe bai wedi bod yn barod i ychwanegu ei lais, yn hytrach na gwrthod llofnodi llythyrau ochr yn ochr â mi, fel y cytunodd yng nghyfarfod diwethaf y pwyllgor diogelwch tomenni glo, efallai y byddem ni wedi cael yr arian hwnnw, ond nid oes gennym ni lais ar ein rhan yn siarad dros Gymru.

14:15

Hoffwn i ofyn i bob Aelod ar bob mainc wneud yn siŵr fy mod i'n gallu clywed atebion y Prif Weinidog, ond hefyd yn clywed cwestiynau'r Aelodau.

Cwestiwn 5, Luke Fletcher.

Practisau Meddygon Teulu yng Ngorllewin De Cymru

5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi practisau meddygon teulu yng Ngorllewin De Cymru? OQ60350

Diolch i Luke Fletcher am hynna, Llywydd. Mae arallgyfeirio'r gweithlu, diwygio'r contract a buddsoddi mewn cyfleusterau newydd ymhlith y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi practisau gofal sylfaenol yng Ngorllewin De Cymru.

Diolch am yr ateb, Prif Weinidog.

Yr wythnos diwethaf, cefais i gyfle i drafod rhai o'r pwysau amlwg a difrifol iawn ym maes gofal sylfaenol â rheolwr practis ym meddygfa Nant-y-moel. Sylwais i ar eich ymateb i Altaf Hussain yr wythnos diwethaf yn sôn bod twf wedi bod yn nifer y meddygon teulu yng Nghymru. Fodd bynnag, o'i gymharu â grwpiau staff eraill y GIG a changhennau eraill o ymarfer meddygol, mae nifer cymharol y meddygon teulu cymwys wedi gostwng ers 2009. Dim ond cynnydd o 1.8 y cant sydd wedi bod yn nifer y meddygon teulu ers 2009, o'i gymharu â chynnydd o 44 y cant yng nghyfanswm y nifer o feddygon ymgynghorol, ac mae pobl yn teimlo hyn ar lawr gwlad. Felly, er bod y cynnydd sydyn mewn ffigurau i'w groesawu, nid yw'n dweud dim wrthyn ni am ansawdd, cryfder cyffredinol a dosbarthiad y gwasanaethau sy'n cael eu darparu i bobl. Cefais wybod hefyd yn Nant-y-moel fod nifer isel o feddygon ifanc yn dod drwodd i'r model partneriaeth, sydd wedi arwain at feddygfeydd yn methu â llenwi llefydd meddygon sy'n ymddeol, ac, o ganlyniad, maen nhw'n aml yn cael eu gorfodi i drosglwyddo eu contractau i fyrddau iechyd lleol, felly rwy'n gofyn beth yw barn y Prif Weinidog am y rhagolygon hirdymor ar gyfer practisau meddygon teulu yng Nghymru.

Wel, Dirprwy Lywydd, yn gyntaf oll, gadewch i ni adrodd ar gyflwr presennol practisau gwasanaethau meddygol cyffredinol ym Mae Abertawe ac ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Bob mis, mae'n rhaid i bob practis adrodd ei hunanasesiad ei hun i Lywodraeth Cymru  yn erbyn fframwaith uwchgyfeirio. Mae 90 y cant o bractisau yn yr ardal yn nodi eu bod ar waelod y fframwaith uwchgyfeirio hwnnw. Felly, nid asesiad Llywodraeth Cymru o bwysau mewn practisau yw hwn; dyma'r hyn y mae meddygfeydd eu hunain yn ei adrodd bob mis. Nawr, nid yw hynny'n golygu nad oes pwysau—wrth gwrs mae yna bwysau, rydyn ni'n gwybod hynny —sut ydyn ni'n mynd i ymdrin â'r rheiny yn y dyfodol yw'r hyn a ofynnodd yr Aelod. Nawr, mae'r model partneriaeth, rydyn ni'n gwybod, o dan straen oherwydd nad yw llawer o'r bobl ifanc sy'n dod trwy hyfforddiant meddygon teulu erbyn hyn yn ystyried hynny fel y ffordd y maen nhw eisiau gweld eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Dyna pam mae gennym ni wahanol fodelau datblygol yma yng Nghymru. Ac nid yw'r modelau gwahanol hynny yn dibynnu ar feddygon teulu yn unig; mae'n rhaid iddyn nhw ddibynnu ar y gweithlu gofal sylfaenol ehangach. Dyna pam, er bod cynnydd cymedrol wedi bod yn nifer y meddygon teulu cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru, mae twf cryfach wedi bod ymhlith aelodau ehangach y tîm. Y ffisiotherapyddion, y fferyllwyr, yr ymarferwyr uwch fel parafeddygon, y nyrsys practis, pob un ohonyn nhw—dyna'r dyfodol ar gyfer gofal sylfaenol; nid trwy ganolbwyntio unionsyth ar dwf niferoedd meddygon teulu, mae'n ymwneud â meddygon teulu fel penaethiaid y tîm clinigol ehangach hwnnw sy'n cynnig amrywiaeth ehangach o wasanaethau i'w cymunedau lleol. Yn y ffordd honno, rwy'n credu bod dyfodol cryf a llwyddiannus iawn i ofal sylfaenol yng Nghymru—ac, yng Nghymru, rydyn ni wedi arwain y datblygiad hwnnw, sydd erbyn hyn yn cael ei ailadrodd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, rwyf i wedi bod yn cyfarfod â llawer o fusnesau ar draws canol trefi Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl yn ddiweddar—.

Datganiad yr Hydref

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith datganiad yr hydref ar bobl Cymru? OQ60337

Dirprwy Lywydd, mae datganiad y Canghellor yn effeithio'n negyddol ar bobl Cymru. Rydyn ni'n wynebu'r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw a gafodd ei gofnodi erioed, gyda disgwyl i chwyddiant aros yn uwch am gyfnod hirach a dim buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau cyhoeddus yr ydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Mae pob arwydd yn cadarnhau bod cyni yn ôl.

14:20

Diolch. Rydw i'n mynd i roi cynnig ar hyn eto nawr, Prif Weinidog, yn ddiweddar, rwyf i wedi cyfarfod â llawer o fusnesau ledled canol trefi Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl i drafod y materion y maen nhw'n eu hwynebu. Busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn unrhyw gymuned—rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno—a hoffwn i ddiolch iddyn nhw i gyd am eu hymroddiad a'u dyfalbarhad yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn anodd iawn yn ddiweddar. Yn ystod fy ymweliadau, Prif Weinidog, roedd un peth i'w weld yn amlwg, a datganiad yr hydref sydd newydd fynd heibio oedd hwnnw. Mae dal argyfwng gwirioneddol iawn yng nghanol trefi ledled y wlad hon. Mae twf wedi dod i ben o dan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Ar hyn o bryd mae'r baich trethi ar ei lefel uchaf ers yr ail ryfel byd, ac mae £20 biliwn o anfonebau hwyr yn ddyledus i fusnesau bach ledled y DU. Ond, ar hyn o bryd, unig ateb Llywodraeth y DU i warchod busnesau bach a chanolig oedd cyflwyno nid un, nid dau, ond wyth adolygiad ar wahân i'r mater hwn. Prif Weinidog, o ystyried cyllideb dreuliedig yr hydref, a ydych chi'n cytuno â Phrif Swyddog Gweithredol Consortiwm Manwerthu Prydain pan ddywedodd:

'Mae manwerthwyr a'u cwsmeriaid wedi cael eu bradychu gan ddatganiad y Canghellor'?

Diolch.

Wel, does dim amheuaeth o gwbl, Dirprwy Lywydd, oes 'na, nad yw datganiad yr hydref yn cynnig unrhyw beth i'r bobl hynny sy'n defnyddio'r stryd fawr bob dydd. Mae 20 biliwn o bunnau, y byddai modd eu defnyddio ar gyfer llawer mwy o ddibenion eraill, wedi'u rhuthro ymlaen mewn toriadau treth ar 1 Ionawr, ond nid yw hyd yn oed hynny'n lliniaru'r ffaith, ar ddiwedd hynny, y bydd y dreth sy'n cael ei chymryd yn y Deyrnas Unedig ar y lefel uchaf ers yr ail ryfel byd. Er bod y Llywodraeth yn cymryd mwy o dreth gan bawb nag erioed o'r blaen, ni fydd yn buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Cafodd ei gorfodi i israddio ei rhagolygon ar gyfer twf economaidd, ac ar yr un pryd cydnabod bod chwyddiant yn mynd i fod yn uwch na'r hyn yr oedd yn ei ystyried chwe mis yn ôl. Mae hyn yn golygu bod llai o arian ym mhocedi pobl, llai o arian i bobl fynd allan ar y stryd fawr, llai o arian i ddefnyddio'r ysgogiad hwnnw sy'n dod pan fydd dinasyddion cyffredin, nid dim ond y rhai mwyaf cefnog yn y wlad, yn cael arian yn eu pocedi i wneud y pethau sy'n troi'r economi honno o gwmpas. Mae model economaidd gwahanol ar gael. Yn hytrach na mynd tuag ato, Llywodraeth yw hon sydd wedi mynd yn syth nôl i'r camgymeriadau a wnaethon nhw gyntaf nôl yn 2010.

Rydych wedi fy siomi, Prif Weinidog. Roeddwn i'n credu efallai y byddech chi wedi bod yn fwy cadarnhaol wrth groesawu'r manteision gwych i Gymru sy'n deillio o ddatganiad yr hydref: 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru i elwa ar £324 yn y boced; 130,000 i elwa ar godiad yn y cyflog byw cenedlaethol yng Nghymru—dyna £1,800 nôl yn y pocedi hynny—y clo triphlyg wedi'i gadw ar gyfer pensiynwyr; budd-daliadau i gynyddu yn unol â chwyddiant; cynyddu'r lwfans tai lleol i barhau i gefnogi teuluoedd gyda chostau byw; dau barth buddsoddi newydd gwerth £160 miliwn yn y gogledd ac yn y de-ddwyrain; £5 miliwn ar gyfer cysylltiadau trafnidiaeth yn sir Fynwy; £305 miliwn mewn symiau canlyniadol Barnett ar gyfer Llywodraeth Cymru, ar ben ei grant bloc mwyaf erioed. At ei gilydd, datganiad yr hydref hwn—

— yw'r toriad mwyaf erioed i yswiriant cenedlaethol gweithwyr a phobl hunangyflogedig. Ond gadewch i ni edrych ar Lywodraeth Cymru. Gan gyflwyno—

—treth twristiaeth. Ar ba adeg, Prif Weinidog, a wnewch chi gefnogi pobl Cymru drwy gefnogi Llywodraeth y DU ar ei chynlluniau gwario'r hydref, gan hefyd wneud llawer mwy i'n busnesau yma yng Nghymru? Diolch.

Wel, Dirprwy Lywydd, mae rhai agweddau ar ddatganiad yr hydref yr wyf i'n credu fy mod i'n eu croesawu. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y clo triphlyg, yn y diwedd, yn cael ei gadw, er gwaethaf yr holl sôn gan Lywodraeth y DU nad oedden nhw'n mynd i wneud hynny, ac rwy'n falch bod budd-daliadau wedi'u gwella'n briodol yn unol â chwyddiant. Felly, mae rhai pethau i'w croesawu. Ond y dyfarniad cyffredinol ar y gyllideb yw'r un a gafodd ei nodi gan y Sefydliad Llywodraethu. Felly, nid barn Llywodraeth Cymru yw hon; dyma'r Sefydliad Llywodraethu annibynnol ac uchel ei barch. Dyma'r hyn a ddywedon nhw:

'Mae'r canghellor wedi ildio'i gyfrifoldeb am berfformiad gwasanaeth cyhoeddus, gan ei adael i'r llywodraeth nesaf ymdrin â'r llanastr.'

A fy neges i'r Aelod yw: na all y Llywodraeth nesaf ddod yn ddigon buan.

14:25
Gwasanaethau Iechyd yn Ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ60318

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i fuddsoddi yn y gymuned i symud gweithgaredd yn agosach at adref. Ar yr un pryd, mae wedi cryfhau trefniadau rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau sy'n cael eu darparu'n well ar yr ôl troed ehangach hwnnw yn y gorllewin.

Diolch am yr ateb yna Prif Weinidog. Nawr, mae ffigurau diweddar yn dangos nad yw dros hanner y cleifion sy'n aros am driniaeth gofal llygaid yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael eu gweld o fewn y dyddiad targed. Nawr, mae pob un o'r cleifion hyn yn wynebu niwed nad oes modd ei wrthdroi neu o golli golwg, o bosibl, os ydy eu dyddiad targed yn cael ei fethu, ac felly rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod angen gwneud mwy i sicrhau bod yr achosion mwyaf brys yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl. Felly, a allwch chi ddweud wrthyn ni pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymdrin â'r ystadegau pryderus hyn fel y gall cleifion sy'n byw yn fy etholaeth i ac, yn wir, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fod yn hyderus y byddan nhw'n cael eu gweld cyn i unrhyw niwed nad oes modd ei wrthdroi gael ei wneud i'w golwg?

Wel, Llywydd, rwy'n rhannu pryderon yr Aelod. Roeddwn yn bresennol mewn digwyddiad blynyddol—ffair iechyd pobl o leiafrifoedd ethnig a gafodd ei chynnal yma yn neuadd y ddinas fis diwethaf—a chefais i gyfle yno i siarad â'r Gymdeithas Facwlaidd, ac roedd ganddyn nhw gynrychiolwyr o ardal bwrdd iechyd Hywel Dda. Fe wnaethon nhw godi nifer o'r pwyntiau mae Paul Davies wedi'u gwneud y prynhawn yma. O ganlyniad, rwyf i wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru gyfarfod â'r Gymdeithas Facwlaidd. Maen nhw wedi gwneud hynny. Maen nhw wedi datblygu cynllun gyda nhw i sicrhau bod gennym ni'r wybodaeth orau bosibl. Bydd cyfarfod arall gyda'r gymdeithas unwaith y bydd yr wybodaeth honno yn cael ei chasglu. Ac yna mater i'r bwrdd iechyd yw gwneud yn siŵr eu bod yn gwneud fel y dywedodd Paul Davies—eu bod yn blaenoriaethu'r rhai sydd â'r anghenion mwyaf. Un o'r ffyrdd y mae hynny'n cael ei wneud yw recriwtio staff newydd. Yn ail, rydyn ni'n cryfhau gwasanaeth optometreg y stryd fawr, oherwydd mae modd gweld llawer o bobl yno'n llwyddiannus, gan ddefnyddio sgiliau'r rhan honno o'r gweithlu. Ac yna mae angen i ni, yn Hywel Dda, fel yr ydyn ni wedi'i weld mewn llawer o fyrddau iechyd eraill yng Nghymru, adolygu'r rhestrau aros hynny i wneud yn siŵr nad oes neb ar y rhestr aros honno y byddai modd eu gweld yn fwy addas mewn mannau eraill, ac nad yw'r bobl hynny, felly, yn arafu'r gwasanaeth i eraill sydd angen y sylw hwnnw ar fwy o frys. Mae yna bethau y gall y bwrdd iechyd eu gwneud. Byddwn ni'n gweithio gyda'r rhai ar lawr gwlad, y cleifion hynny yr effeithir ar eu bywydau uniongyrchol, ac yna byddwn ni'n edrych i weld a yw'r gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gwneud.

Meddalwedd Ffynhonnell Agored

8. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gyrff cyhoeddus yn defnyddio meddalwedd ffynhonnell agored? OQ60316

Llywydd, mae cyrff cyhoeddus yn gyfrifol am reoli a chynnal eu systemau technoleg gwybodaeth eu hunain. Mae Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo'r cyngor arfer gorau y mae Lywodraeth y DU a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn ei gyhoeddi, ochr yn ochr â safonau gwasanaethau digidol penodol Cymru.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Ar adegau pan fo angen gwneud arbedion yn y sector cyhoeddus, mae costau sefydlog yn aml yn cael eu hanwybyddu. Prynu cymwysiadau Microsoft a Microsoft Windows yw'r hoff ddewis, hoff ddewis drud. Rwy'n siŵr mai'r cyngor y mae'r Prif Weinidog wedi'i dderbyn yw bod meddalwedd ffynhonnell agored yn annibynadwy ac yn agored i feirysau. Mae'r ffaith bod hynny'n anghywir yn ddibwys. Nid yw trwydded fasnachol yn gwarantu diogelwch—o ran meddalwedd y mae'n rhaid talu amdano, mae'n rhaid i chi ymddiried yn y gwerthwr. Mae Firefox a GIMP yn enghreifftiau o feddalwedd ffynhonnell agored rwy'n eu defnyddio, ac rwy'n siŵr bod pobl eraill yn eu defnyddio. A wnaiff y Prif Weinidog ddefnyddio academyddion TGCh i ystyried defnydd meddalwedd ffynhonnell agored yn sector cyhoeddus Cymru, o bosibl, gan arbed symiau mawr o arian?

Wel, Llywydd, y cyngor y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gymeradwyo, y cyngor sy'n dod drwy'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, yw mai meddalwedd ffynhonnell agored ddylai fod y lle cyntaf y mae cyrff cyhoeddus yn mynd iddo. Felly, nid oes cyngor i gyrff cyhoeddus beidio â defnyddio deunydd ffynhonnell agored. Yn wir, maen nhw'n cael gwybod mai dyna ddylai fod eu dewis cyntaf. Ond bydd amgylchiadau lle mae materion yn ymwneud â dibynadwyedd, yn ymwneud â safonau, yn ymwneud â diogelwch, lle bydd yn gwneud gwell synnwyr i fynd at gyflenwr masnachol trwydded. Nid yw trwydded yn gwarantu diogelwch, fel y mae Mike Hedges yn ei ddweud, Dirprwy Lywydd, ond mae'n golygu, os aiff rhywbeth o'i le, bod gennych chi hawl i droi at y person sydd wedi darparu'r gwasanaeth hwnnw i chi. Ac mae rhai rhannau o'r sector cyhoeddus lle mae'r lefel honno o ddibynadwyedd yn hanfodol.

Felly, rwy'n credu ei fod yn fater o baru'r angen â natur y cyflenwad. Bydd yna lawer, llawer o enghreifftiau lle mae meddalwedd ffynhonnell agored yn cynnig yr ateb cywir, ac rydyn ni'n annog awdurdodau cyhoeddus i ddefnyddio'r feddalwedd ffynhonnell agored honno o dan yr amgylchiadau hynny. Nid dyna'r ateb cywir bob tro; Mae'n rhaid i chi wneud asesiad risg ym mhob achos penodol, a bydd enghreifftiau eraill pan fo darparwr masnachol yn cynnig yr ateb cywir.

Ond rwyf i eisiau rhoi sicrwydd i Mike Hedges bod meddalwedd ffynhonnell agored ar gael i awdurdodau cyhoeddus Cymru, ac mae'r cyngor arbenigol yr ydyn ni'n dibynnu arno sy'n dod drwy'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol ar gael i ni yma yng Nghymru. 

14:30
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae un newid i fusnes y Llywodraeth yr wythnos hon, sydd wedi'i nodi yn y papurau diwygiedig. Rwyf i wedi tynnu Rheoliadau Iechyd Planhigion ac ati (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 yn ôl, a byddaf i'n ail-osod rheoliadau diwygiedig mewn pryd ar gyfer dadl ar 12 Rhagfyr. 

Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad yr wythnos hon? A gaf i ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am brentisiaethau yng Nghymru a dysgu yn seiliedig ar waith? Cefais i gyfarfod gyda'r Coleg—nid Coleg Cambria, beth yw'r llall—Coleg Llandrillo yn fy etholaeth i, dim ond ddoe, ac roedden ni'n sôn am yr heriau yn y sector addysg nawr o ran y toriadau mewn contractau dysgu yn seiliedig ar waith, y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gwneud. Nawr, dros y ffin yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn buddsoddi'n helaeth mewn prentisiaethau a chontractau dysgu yn seiliedig ar waith, ac, mewn gwirionedd, mae wedi cyhoeddi mwy o gyllid byth yn natganiad yr hydref. Eto, yng Nghymru, mae'n ymddangos ein bod ni'n mynd tuag at yn ôl, ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol deall pam mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad penodol hwnnw, yn enwedig o ystyried y llwyddiant y mae llawer o brentisiaethau wedi'i weld yng Nghymru dros y blynyddoedd. 

Yn ail, cawson ni Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yr wythnos diwethaf, ac fe wnaeth fy atgoffa o'r problemau y mae llawer o fy etholwyr yn eu hwynebu yng Nglasfryn ar gefnffordd yr A5. Mae hon yn un nad wyf wedi'i chodi yn y Siambr o'r blaen, ond mae problem gyda'r terfyn cyflymder ar y ffordd honno ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, terfyn cyflymder cenedlaethol sy'n mynd yn syth drwy'r pentref, ac, wrth gwrs, os ydych chi'n gweld goleuadau stryd llai na 200 llath ar wahân, yna 20 mya yw'r terfyn cyflymder cenedlaethol. Ond, yn anffodus, mae llawer o bobl yn tybio ei fod, yn y sefyllfaoedd hynny, yn dal i fod yn 60 mya, oherwydd ei fod yn gerbytffordd sengl. Nawr, mae arwydd terfyn cyflymder cenedlaethol yn union gyferbyn ag ardal chwarae plant a chae wrth i chi fynd i mewn i'r pentref, ac, yn amlwg, mae hwn yn derfyn cyflymder amhriodol i bobl yn y pentref orfod ei wynebu. Mae pobl yn peryglu eu bywydau, yn y bôn, wrth iddyn nhw groesi'r ffordd ar hyn o bryd, nad yw'n ddigon da, yn amlwg.

Felly, a gaf i ofyn bod yr arwyddion yng Nglasfryn yn cael eu hystyried? Fel y dywedais i, gall yr arwydd terfyn cyflymder cenedlaethol olygu 70, 60, neu yn wir 20 mya, ond nid yw pob gyrrwr yn ymwybodol o hynny, nac yn gyfarwydd â'r rheolau hynny. Felly, yn amlwg, byddai arwydd 20 mya yn wych. Os nad hwnnw, yna arwydd 30 mya., sef y terfyn cyflymder mwy priodol ar gyfer y rhan benodol honno o'r ffordd mae'n debyg. 

Diolch. O ran eich ail gwestiwn, nid wyf yn gyfarwydd â'r ffordd y ydych chi'n cyfeirio ati, ond un o'r rhesymau dros gyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya oedd sicrhau mwy o ddiogelwch ar y ffyrdd. Gyda'r hyn yr ydych chi'n ei ddisgrifio, rydych chi'n amlwg yn poeni nad yw hyn yn wir ar y ffordd benodol honno. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod yr arwyddion cywir yn cael eu gosod. Nid wyf i'n hollol siŵr ai mater i'r awdurdod lleol ydyw, neu os yw'n gefnffordd; nid wyf i'n hollol siŵr beth yr ydych chi'n ei ddweud. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod hynny'n cael ei gywiro cyn gynted â phosibl. 

O ran prentisiaethau, mae Gweinidog yr Economi yn ei sedd nawr, ac, fel y dywedwch chi, rydyn ni'n gwerthfawrogi ein prentisiaid yma yng Nghymru. Rwy'n credu mai ni oedd y wlad gyntaf i gael y prentisiaethau pob oed. Ond byddwch chi'n ymwybodol o'r sefyllfa ariannol anodd iawn yr ydyn ni ynddi, ac rydyn ni'n gorfod ystyried popeth, yn gyffredinol.

14:35

Gaf fi yn y lle cyntaf ategu'r pwynt sydd newydd gael ei wneud ynglŷn â'r angen i fynd i'r afael â chyflymdra y ffordd yn Glasfryn? Hyd y gwn i, dyma'r unig bentref ar hyd yr A5 yn gyfan sydd heb gyfyngiad cyflymder, felly mae hwnna efallai'n dweud rhywbeth ynglŷn â'r sefyllfa. Felly, fe fydden i jest eisiau ategu a chefnogi'r pwynt sydd newydd gael ei wneud.

Gaf fi ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, neu'r Dirprwy Weinidog trafnidiaeth, ynglŷn â disgwyliadau Llywodraeth Cymru o Drafnidiaeth Cymru pan fo'n dod i ddarparu gwasanaethau trên ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghaerdydd? Dwi'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol o'r dystiolaeth a dderbynion ni ym mhwyllgor yr amgylchedd yr wythnos diwethaf gan Drafnidiaeth Cymru, a oedd yn cyfaddef eu bod nhw ddim wedi ffocysu'n ddigonol yn y gorffennol ar gemau pêl-droed rhyngwladol. Nawr, mae hynny'n siomedig eithriadol, oherwydd rŷn ni wedi cael sicrwydd gan y Prif Weinidog a Gweinidogion yn y Siambr yma y byddai yna wasanaethau digonol yn y dyfodol, pan ydw i ac eraill wedi codi gofid ynglŷn â hyn. Mae gan Drafnidiaeth Cymru bedwar mis nawr i sicrhau eu bod nhw'n cael eu hact at ei gilydd ar gyfer y gemau ail gyfle ym mis Mawrth. A fyddech chi'n cytuno bod hwnna'n rhyw fath o litmus test, i weld pa mor o ddifrif y maen nhw'n cymryd yr angen i wella gwasanaethau yn y cyd-destun yna? A pha sicrwydd y gallwch chi ei roi fel Llywodraeth bod y Llywodraeth ei hunan yn cymryd y mater yma yn ddigon o ddifrif hefyd?

Diolch. Roeddwn i'n ymwybodol o'r dystiolaeth a roddodd Trafnidiaeth Cymru i'ch pwyllgor yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu eu bod nhw wedi dweud nad ydyn nhw wedi canolbwyntio ar bêl-droed yn yr un ffordd ag oedden nhw ar rygbi. Mae'n rhaid i mi ddweud, gan wisgo fy het Aelod o'r Senedd, rwyf i wedi bod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru o ran trenau yn ôl i dde Cymru ar ôl gemau cartref yn Wrecsam, ac rwyf i wedi'u gweld yn hapus iawn i gael yr hyblygrwydd hwnnw, ac rwy'n credu bod gwir angen iddyn nhw gymhwyso hynny i'r gemau pêl-droed rhyngwladol hefyd. Fy nealltwriaeth i oedd bod trên ar gael wedi'r gêm ryngwladol yr wythnos diwethaf, ond roedd hi'n dynn iawn, yn amlwg, i bobl fynd o'r stadiwm a dal y trên. Felly, o fy nealltwriaeth, maen nhw'n barod iawn i edrych ar hynny.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar faterion parhaus yn ymwneud â'n rhwydwaith bysiau? Rwy'n deall bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am y materion hyn, i ffwrdd am gyfnod amhenodol, ac rwy'n dymuno'r gorau iddo'n ddiffuant, ond mae arnaf i ofn bod angen ateb cwestiynau difrifol yn enwedig yn y cyfamser. Mae llawer iawn o ansicrwydd ynghylch y gronfa bontio ar gyfer bysiau, gyda sôn y bydd arian hanfodol yn dod i ben erbyn diwedd y flwyddyn, yn hytrach na diwedd mis Mawrth 2024 fel y cafodd ei gynllunio'n wreiddiol. O ganlyniad, mae llawer iawn o banig yn y diwydiant, gan eu bod, unwaith eto, yn wynebu ennyd arall ar y dibyn. Gweinidog, mae llawer o fentrau bach a chanolig yn gadael y diwydiant, gan na allan nhw fforddio parhau. Y disgwyl yw cael toriad arall o 10 y cant mewn gwasanaethau ar draws y rhwydwaith o ganlyniad, yr wyf i wedi cael gwybod, a dywedodd un gweithredwr a siaradodd â mi, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae'n llanast go iawn.' Gweinidog, mae hon yn sefyllfa ddifrifol. Mae gwir angen i'r Llywodraeth roi eglurder ynghylch pryd yn union y bydd yr arian hwn yn dod i ben a pha gymorth arall fydd yn cael ei ddarparu i'r diwydiant bysiau, y mae ei angen yn ddirfawr. Diolch.

Wel, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn absenoldeb y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn cael y trafodaethau hyn gyda gwasanaethau bysiau. Byddwch chi wedi clywed y ddau Weinidog yn dweud droeon yn y Siambr hon nad ydyn ni wedi gweld y gefnogaeth yn dychwelyd i'n gwasanaethau bysiau a gawson ni cyn COVID, ond byddwch chi'n ymwybodol o'r cyllid sylweddol y gwnaeth Lywodraeth Cymru ei gyflwyno i gefnogi'r gwasanaeth bysiau.

Prynhawn da, Gweinidog. Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os caf i, un gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, ynghylch ymgysylltu Llywodraeth Cymru â'r sector twristiaeth. Mewn cynhadledd ddiweddar yn Llandrindod, mynegodd cadeirydd twristiaeth Cymru ofn ynglŷn â'r rhyngweithio â Llywodraeth Cymru, a dywedodd fod angen dybryd i adfer cysylltiadau. Felly, rwyf i ond yn ceisio ailgadarnhad, os caf i, fod yna ryngweithio a chydweithredu ystyrlon a thryloyw, o ystyried pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru.

Ac mae'r ail ddatganiad gennych chi, o ran materion iechyd meddwl yn ein cymuned ffermio ac amaethyddol. Fel y gwyddoch chi o fod yn y sioe aeaf, enillodd Sefydliad DPJ, sy'n sefydliad gwych, y stondin orau nad yw'n amaethyddol, am hyrwyddo materion pwysig yn ymwneud ag iechyd meddwl yn y gymuned ffermio. Felly, tybed a allech chi hefyd ailgadarnhau eich ymrwymiad parhaus i iechyd meddwl ffermwyr a'r rhai yn ein cymuned amaethyddol. Diolch yn fawr iawn.

Ydw, rwy'n gwbl hapus i barhau â fy nghefnogaeth i'r elusennau anhygoel sydd gennym ni yn y sector amaethyddol. Gwnes i gyfarfod â Grŵp Cymorth Ffermydd Cymru ddoe yn y ffair aeaf. Rydw i bob tro'n ceisio cyfarfod â nhw'n rheolaidd, ac yn amlwg yn y ffair aeaf ddoe, yr elusennau i gyd dan ymbarél Grŵp Cymorth Ffermydd Cymru—. Efallai eich bod chi'n ymwybodol, fe wnaethon ni sefydlu hynny yn ôl ym mis Mai 2019, fel y gallwn ni ddod â'r holl elusennau hynny at ei gilydd, oherwydd rhyngddyn nhw mae ganddyn nhw gyfoeth o arbenigedd, gwybodaeth a phrofiad. Roedd hi'n sobreiddiol iawn cwrdd â'r elusennau ddoe, i glywed am y cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau, mwy hyd yn oed na phan wnaethon ni gyfarfod yn y sioe haf nôl ym mis Gorffennaf, ac mae pobl yn dal i gael trafferth, yn amlwg, gyda'r argyfwng costau byw.

Rwyf i wedi buddsoddi £45,000 i ddatblygu FarmWell Wales, sy'n ganolfan wybodaeth, i ddatblygu cydnerthedd i'n ffermwyr a'u teuluoedd, a'u busnesau wrth symud ymlaen. Fe wnaethoch chi sôn am Sefydliad DPJ, yr wyf i wedi bod yn hapus iawn i'w gefnogi, ac roedd yn dda cyfarfod â'r prif weithredwr ddoe i glywed am yr hyfforddiant y maen nhw'n ei gyflwyno ym mhob cwr o Gymru, ac rwy'n falch iawn eu bod nhw wedi ennill y stondin orau nad yw'n amaethyddol. Ac, os wnewch chi faddau i mi, Llywodraeth Cymru enillodd y stondin amaethyddol orau. Felly, os caf i ond dweud wrth fy swyddogion, 'Da iawn chi'.

O ran eich cwestiwn ynghylch twristiaeth, rydyn ni'n gwadu'n gryf bod cyfathrebu wedi chwalu. Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn cyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr y diwydiant lletygarwch a thwristiaeth drwy'r fforwm economi ymwelwyr i drafod amrywiaeth o faterion, ac wrth gwrs, mae'n sector sy'n hanfodol bwysig i ni.

14:40

Rwy'n falch bob amser o oddef i'r Gweinidog adrodd ar waith rhagorol ei swyddogion hi. 

Ac, yn olaf, Gareth Davies. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddatganiad oddi wrthych chi, yn rhinwedd eich swydd yn Arweinydd y Tŷ a Gweinidog gogledd Cymru'r prynhawn yma, ynglŷn â'r cyhoeddiad siomedig am gau'r SeaQuarium ar bromenâd y Rhyl am byth, a fydd, yn anffodus, yn arwain at golli 20 o swyddi i bobl leol? Mae hynny'n digwydd o ganlyniad i'r gwaith amddiffyn rhag llifogydd a wnaeth Cyngor Sir Ddinbych, ac er bod hynny i'w groesawu—mae'n rhaid i mi wneud hynny'n eglur, mae croeso i hynny—ni wnaethpwyd y gwaith gydag ystyriaeth o'r modd y gallai hwnnw effeithio ar fusnesau lleol. Mae hon yn ergyd wirioneddol i dwristiaeth a swyddi yn ardal y Rhyl, ac rwy'n siomedig nad oedd Cyngor Sir Ddinbych yn gallu gweithio gyda'r SeaQuarium i fynd i'r afael â'u pryderon nhw a chyfaddawdu ar gyfer achosi'r amhariad lleiaf posibl ar y busnes. Roedd y sŵn mawr wrth adeiladu yn niweidiol i'r clyw ac yn gyrru'r cwsmeriaid i ffwrdd. Roedd y sŵn adeiladu yn achosi poendod i'r morloi a'r anifeiliaid eraill hefyd, sy'n codi pryderon pellach ynghylch lles anifeiliaid, gydag angen i'r holl greaduriaid y môr yn y SeaQuarium gael eu hailgartrefu nawr mewn acwaria eraill.

Roedd 33 y cant yn llai o ymwelwyr i Gymru yn 2022 nag yn 2019, yn dilyn cyfnodau cyfyngiadau symud COVID-19 llym Llywodraeth Cymru. Mae'r gostyngiad enfawr hwn o ran twristiaeth i Gymru wedi bod yn anodd iawn yn fy etholaeth i. Mae colli SeaQuarium yn ergyd arall, ac mae un atyniad yn llai nawr i dwristiaid deithio iddo yn yr ardal. A fyddech chi felly, Trefnydd, yn mynegi teimlad Llywodraeth Cymru ynglŷn â chau'r SeaQuarium yn y Rhyl, a'r hyn yr ydych chi'n ei wneud i ddiogelu swyddi yn y gogledd o fewn y sector twristiaeth? Diolch i chi.

Diolch i chi. Penderfyniad ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a pherchnogion y SeaQuarium oedd y penderfyniad i'w gau. Nid oedd rhan i Lywodraeth Cymru yn y broses benderfynu. Fe wnaethpwyd darpariaeth yng nghyllideb cynllun amddiffyn yr arfordir ar gyfer y busnesau y mae'r prosiect yn effeithio arnyn nhw, a chan wisgo fy het lles anifeiliaid, rwy'n falch iawn o glywed y bydd y morloi yn cael eu hadleoli yn barhaol yn y DU, ac mae SeaQuarium yn bwriadu ailgartrefu gweddill yr anifeiliaid dyfrol mewn acwaria eraill yn y DU. 

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cenhadaeth Economaidd: Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach

Eitem 3 yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar genhadaeth economaidd: blaenoriaethau ar gyfer economi gryfach. A galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw y cyhoeddir y Genhadaeth Economaidd: Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach. Mae hon yn nodi fy mlaenoriaethau ar gyfer yr economi i helpu i adeiladu ar ein cenhadaeth economaidd ni. Ers lansio'r genhadaeth economaidd yn 2021, mae digwyddiadau byd-eang a domestig wedi effeithio yn sylweddol ar y gwaith o gyflawni a'r cynnydd yr ydym wedi gallu ei wneud. Ar adeg o ansicrwydd o'r fath, rwyf i wedi ymgysylltu â busnesau ac undebau llafur ynglŷn â sut y gallwn ni ddatblygu'r genhadaeth economaidd i allu cynnig y sicrwydd mwyaf posibl i hybu twf, lleihau anghydraddoldeb a dal gafael ar fwy o werth yn economi Cymru.

14:45

Daeth y Llywydd (Elin Jones) i’r Gadair.

Roedd y genhadaeth economaidd yn rhoi Cymru ar lwybr economaidd a oedd yn cysylltu ein hymateb ni i'r pandemig â pholisïau diwydiannol hirdymor, gweithredol. Mae hynny wedi cynnwys buddsoddi mewn blaenoriaethau economaidd allweddol megis ymestyn y cynnig gofal plant, adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol i'w rhoi ar rent yn nhymor y Senedd hon, gan gefnogi dros 27,000 o bobl ifanc drwy ein gwarant i bobl ifanc i gael gafael ar gyfleoedd o ran sgiliau a chyflogaeth, mewn meysydd mor amrywiol â lled-ddargludyddion a datblygu gemau fideo. Ac rydym ni wedi helpu i daro bargeinion i ddenu cannoedd o swyddi newydd da i Gymru ac fe fyddwn ni'n parhau i fuddsoddi a chefnogi ein rhanbarthau ledled Cymru i gefnogi twf.

Fe wyddom ni, mewn meysydd yn yr economi, nad oes unrhyw dystiolaeth gredadwy na phrofiad diweddar sy'n cefnogi'r achos dros newid i ddadreoleiddio yn ddi-hid, disgwyliadau is o ran amodau gwaith a safonau amgylcheddol nac unrhyw doriadau i drethiant heb ariannu hynny. Gadewch i mi fod yn eglur: mae polisïau diferu dilyffethair a direolaeth wedi methu. Roedd y Canghellor presennol, yn natganiad yr hydref, yn honni bod y camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU wedi helpu'r economi i droi'r gornel. Ond y gwir amdani yw bod y rhagolygon yn dangos bod y DU ar y trywydd iawn i fod yn un o'r economïau uwch sy'n perfformio waethaf eleni a'r flwyddyn nesaf, gyda chwyddiant uchel a thwf gwan. Mae Llywodraeth y DU wedi parhau i gynnig polisïau, cynlluniau treialu a hoff brosiectau byrdymor i ni yn hytrach na chynlluniau i'r tymor hwy. Cadw problemau i'w datrys gan Lywodraeth arall yn y DU yn y dyfodol yw hynny.

Symbolaidd gan fwyaf oedd y cyhoeddiadau yn natganiad yr hydref ar gyfer busnesau yng Nghymru ac roeddent yn tynnu sylw oddi wrth y problemau ehangach a llawer mwy y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gyfrifol amdanyn nhw ers 13 o flynyddoedd maith. Mae hi wedi methu â chreu'r amodau ar gyfer twf economaidd ac mae hi wedi llunio amgylchedd anial ar gyfer buddsoddi, gan daro safonau byw a gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r newid swyddi parhaus ymhlith Gweinidogion y DU a'r dulliau economaidd wedi creu ansicrwydd ledled yr economi. Mae hi'n bwysig fod Gweinidogion Cymru yn parhau yn eu swyddi am gyfnodau hwy na'r cylch dryslyd yn San Steffan ar hyn o bryd. Mae cysondeb yn caniatáu i berthynas well a fwy dibynadwy fagu rhwng busnesau, undebau llafur a phartneriaid eraill. Mae cysondeb yn ein galluogi ni i fod â gwell dealltwriaeth o'r cyfleoedd y gall Cymru elwa arnyn nhw.

Nod ein 'Cenhadaeth Economaidd: Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach' yw ysgogi cyflawniad, gan adeiladu ar ein cenhadaeth economaidd yn 2021, a chydnabod bod digwyddiadau byd-eang a domestig wedi ergydio busnesau a'r gweithlu ac mae hynny wedi niweidio twf, a chreu ansicrwydd ac, ar adegau, wedi gofyn am ymatebion brys. Mewn adeg o chwyddiant a chyfraddau llog uchel ynghyd â thwf isel ledled y DU a herio cyllidebau Llywodraeth Cymru, rwyf i wedi pwyso a mesur a myfyrio ar y mannau y gallwn ni adlewyrchu ein blaenoriaethau ni. Y pedwar maes blaenoriaeth yw: pontio teg a ffyniant gwyrdd, gwireddu'r cyfleoedd enfawr o ran sero net ledled Cymru yn ein hamgylchedd naturiol ni, cefnogi twf busnes ac ymgysylltu â busnesau a phobl i symud tuag at bontio teg. Yr ail yw cynnig llwyfan ar gyfer pobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant. Fe fyddwn ni'n cefnogi pobl ifanc i gyflawni dyfodol uchelgeisiol yma yng Nghymru, i flaenoriaethu eu sgiliau a'u creadigrwydd nhw, ac fe fyddwn ni'n anelu'r adnoddau at y lleoedd y mae eu hangen nhw fwyaf, gyda chymorth i'r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur. Y drydedd flaenoriaeth yw partneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach a'n heconomi bob dydd. Fe fyddwn ni'n gweithio gyda phob rhanbarth i gytuno ar set lai o flaenoriaethau. Fe fydd hyn yn cynnwys cydweithio i hybu'r achos dros benderfyniadau'r DU sy'n tynnu buddsoddiad ac yn cefnogi swyddi teg gydag aelodaeth o undeb llafur mewn meysydd yn cynnwys niwclear, gwynt ar y môr a thechnoleg. Fe fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd mewn amgylchiadau ariannol anodd i baratoi ar gyfer cronfeydd newydd yn lle rhai'r UE a chefnogi'r economi bob dydd i ddal gafael ar fwy o werth a helpu i fynd i'r afael â thlodi. Y bedwaredd flaenoriaeth yw buddsoddi ar gyfer twf. Fe fyddwn ni'n gweithio mewn partneriaeth i ganolbwyntio ar ein cryfderau cymharol i hybu buddsoddiad a thwf sy'n hyrwyddo gwaith teg ac ymagwedd hirdymor. Fe fydd ein strategaeth arloesi newydd ar sail y genhadaeth yn anelu buddsoddiad newydd ar dirwedd ôl-UE, gan gefnogi masnacheiddio, ymchwil a datblygu ac entrepreneuriaeth. Fe fydd y blaenoriaethau hyn yn cael eu cyflawni ar draws y Llywodraeth, gyda busnesau a phartneriaid. Fe roddais i'r gorchwyl i'm swyddogion fynd i'r afael ag archwiliadau dwfn yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Fe fydd hyn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n gallu archwilio'r mannau y gallwn ni fanteisio ar gyfleoedd pellach. Rwy'n awyddus i ni ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu ni drwy ddod â'r economi bob dydd a'r ffin dechnolegol at ei gilydd er mwyn troi risgiau yn gyfleoedd. Yna, fe ddylem ni achub y blaen o ran diwydiannau'r dyfodol gyda buddsoddiadau sy'n gosod cymunedau sy'n cael eu dal yn ôl gan ganoliaeth gronig y DU, er mwyn ein helpu ni i afael yn awenau stori economaidd a rennir.

Wrth gwrs, fe fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd i baratoi ar gyfer cronfeydd ôl-UE neu gronfeydd eraill yn lle rhai'r UE unwaith eto o bosibl wrth wneud y mwyaf o fanteision porthladdoedd rhydd a pharthau buddsoddi Cymru. Felly, rwyf i wedi parhau i dynnu sylw at y dirwedd fuddsoddi anodd a grëwyd trwy amlhau mentrau ariannu amrywiol a datgymalog gan Lywodraeth y DU. Serch hynny, fe fyddwn ni'n parhau i weithio mewn partneriaeth ymarferol lle bo hynny'n bosibl. Rwy'n datgan ein blaenoriaethau ni cyn etholiadau San Steffan y flwyddyn nesaf ar gyfer nodi ein blaenoriaethau economaidd ni'n gwbl eglur. Rwy'n awyddus i Gymru barhau i fod yn edrych tuag allan ac mewn ffordd uchelgeisiol. Yr UE yw ein partner masnachu pwysicaf ni o hyd, ac rydym ni'n gweithio gyda'r DU i sicrhau na fydd unrhyw gytundebau masnach newydd yn tanseilio ein gallu ni i fasnachu â'r UE. Yn ogystal â hynny, mae gwledydd eraill trwy'r byd, fel yr Unol Daleithiau, yn parhau i fod yn farchnadoedd blaenoriaeth o bwys, ac fe fyddwn ni'n parhau i gefnogi busnesau Cymru i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer masnach ryngwladol yn ogystal â hyrwyddo ein galluoedd craidd i sicrhau buddsoddiad yn y dyfodol. Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU hefyd er mwyn cael gwared ar rwystrau diangen o ran masnach a sicrhau y bydd unrhyw gytundebau masnach gyda'r DU yn fanteisiol i bob un o wledydd y DU.

Fe fyddaf i'n cynnal uwchgynhadledd economaidd ar 30 o fis Tachwedd, drennydd, a fydd yn dod â dros 150 o bartneriaid, busnesau, undebau llafur, llywodraeth leol a rhanddeiliaid ledled Cymru at ei gilydd. Fe fyddwn ni'n canolbwyntio ar yr hyn y mae angen i ni ei wneud gyda'n gilydd i gyflawni'r blaenoriaethau hyn. Rhan yw hynny o'n hymgysylltiad parhaus ni, ac fe fyddwn ni'n parhau i adeiladu ar ymyriadau'r gweithlu nawr ac i'r dyfodol. Rydym ni'n nodi llwybr eglur ac uchelgeisiol ar gyfer economi fwy ffyniannus, sy'n wyrddach a thecach ac sy'n sicrhau bod ein hymrwymiad ni i'n pobl, ein cymunedau a'n planed ni'n ganolog i'r ffordd yr ydym ni'n ymwneud â busnes. Diolch yn fawr, Llywydd.

14:50

Nid yw'n syndod i glywed y Gweinidog yn defnyddio'r rhan fwyaf o'i ddatganiad i ladd ar Lywodraeth arall; ac yn sicr rydym ni'n deall trwy gyfrwng y datganiad hwn fod yna etholiad i arweinyddiaeth y Blaid Lafur ar y gorwel yng Nghymru, ac fe fyddwn i'n ei gynghori ef i fwrw ymlaen â'i waith, o gofio mai ef a'i gydweithwyr sydd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygiad economaidd am dros 20 mlynedd. Felly, gadewch i mi ganolbwyntio ar yr hyn sy'n berthnasol yn y fan hon, ac economi Cymru yw hynny. Roedd y Gweinidog yn nodi pedair blaenoriaeth eang, ac er bod y blaenoriaethau hynny'n pennu cyfeiriad arbennig i genhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru, rwyf i o'r farn fod angen gosod nod o ran swyddi ar gyfer nodi uchelgais i ddiwydiant a meincnod i fesur llwyddiant. Felly, efallai gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pam nad yw wedi pennu nod o ran swyddi ochr yn ochr â'r pedair blaenoriaeth.

Nawr, gan droi at y datganiad ei hun, ei flaenoriaeth gyntaf ef yw pontio teg a ffyniant gwyrdd, ac, wrth gwrs, mae hi'n bwysig fod y genhadaeth economaidd yn adlewyrchu pwysigrwydd datgarboneiddio a symud tuag at sero net. Fe geir cyfleoedd enfawr yn y diwydiant ynni adnewyddadwy, a fydd, gobeithio, yn ein galluogi ni i fanteisio ar y cyfleoedd hynny yn y dyfodol. Fe fydd creu dau borthladd rhydd yng Nghymru yn hanfodol wrth yrru'r agenda hon yn ei blaen. Nawr, fe ddywedodd y Gweinidog eisoes, erbyn 2025, ei fod ef yn disgwyl gweld gostyngiad o 4 y cant yn nefnydd ynni mewn diwydiant o ganlyniad i effeithlonrwydd ynni, ac felly efallai y gwnaiff roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'n sefyllfa o ran cyrraedd y nod hwnnw. Mae angen gwneud rhagor i gymell busnesau i ddatblygu arferion gwyrddach hefyd, ac felly efallai y gwnaiff ef ddweud wrthym ni hefyd beth arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo'r angen i ddatgarboneiddio busnesau yng Nghymru a sut mae ef am gymell busnesau, yn enwedig busnesau bach, i ddatblygu arferion gwyrddach.

Yr ail flaenoriaeth yw rhoi llwyfan i bobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant ac mae'r Gweinidog wedi nodi agenda sgiliau yn faes sydd ag angen ei flaenoriaethu. Mae hi'n gwbl hanfodol ein bod yn gweld buddsoddiad yn ein darparwyr sgiliau ni i sicrhau mwy o fynediad at gyfleoedd hyfforddiant ledled Cymru. Rwy'n gwybod o'r trafodaethau a gefais gyda darparwyr fod llawer ohonyn nhw'n wynebu pwysau ariannol enfawr ar hyn o bryd. Felly, mewn ymateb i bryderon darparwyr sgiliau, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru am flaenoriaethu buddsoddiad mewn sgiliau yng nghyllideb nesaf Cymru, ac a wnaiff ddweud wrthym ni hefyd pa fesurau newydd a fydd yn eu cyflwyno i roi gwell cefnogaeth i ddarparwyr sgiliau ledled Cymru?

Nawr, y drydedd flaenoriaeth yw partneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach a'n heconomi bob dydd, ac mae creu cyfleoedd gwaith yn nes at adref ac mewn cymunedau lleol yn hanfodol, wrth gwrs. Mae datganiad heddiw yn cyfeirio at weithio gyda rhanbarthau i gytuno ar gyfres lai o flaenoriaethau ar gyfer twf, swyddi lleol a buddsoddiad mawr, ac fe wyddom ni fod creu fframweithiau economaidd rhanbarthol â rhan allweddol wrth ddatblygu agendâu economaidd lleol. Rwy'n credu bod angen hefyd i Lywodraeth Cymru gyflymu ei gwaith o ran adfywio canol trefi i ddenu busnesau a helpu i greu cyfleoedd i bobl weithio yn eu cymunedau lleol, ac, ar gyfer hynny, mae angen buddsoddiad enfawr mewn seilwaith. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn dweud wrthym ni ym mha ffordd y mae'r genhadaeth economaidd yn cydnabod pwysigrwydd meithrin canol trefi cydnerth ledled Cymru, a dweud wrthym ni hefyd sut mae'r Llywodraeth am foderneiddio ac uwchraddio seilwaith i helpu i ddenu busnesau a helpu i greu cyfleoedd gwaith.

Wrth gwrs, mae datganiad heddiw yn cyfeirio at gyllideb hydref y Canghellor yr wythnos diwethaf, ac rwyf i'n anghytuno â'r Gweinidog—rwyf i o'r farn i'r gyllideb honno gymryd camau sydd i'w croesawu ar gyfer cefnogi busnesau ledled y wlad. Fe fydd y newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol, parhad disgowntiau ardrethi busnes a thorri trethi busnes ag effaith gadarnhaol ar fusnesau, ac fe wn i fod llawer o fusnesau yn disgwyl am gamau tebyg oddi wrth Lywodraeth Cymru ar ardrethi busnes, fel clywsom ni gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn eu digwyddiad briffio campus nhw a noddais i yn y fan hon yr wythnos diwethaf. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â'r trafodaethau a gafodd gyda'r Gweinidog cyllid ynghylch ardrethi busnes o ran pa newidiadau hirdymor sydd yn yr arfaeth i ddiwygio'r system ardrethi busnes er mwyn i fusnesau Cymru gael eu rhedeg mewn amgylchiadau sy'n cynnig tegwch o gymharu â sefyllfa busnesau mewn rhannau eraill o'r DU.

Nawr, y flaenoriaeth olaf yw buddsoddi ar gyfer twf, ac mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru. Mae'r Gweinidog yn gwybod beth yw fy marn i, sef fod angen gwneud mwy i ymgysylltu â'r byd academaidd i archwilio'r cyfleoedd i'r dyfodol yn llawn, ac mae angen sianelu mwy o adnoddau i'r maes hwn, yn arbennig felly yng ngoleuni adroddiad yr Athro Reid. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud mwy wrthym ni ynglŷn â'r modd y mae Llywodraeth Cymru am gefnogi ymchwil Cymru mewn technolegau newydd neu dechnolegau sy'n esblygu? Ac a wnaiff ef ddweud wrthym ni hefyd sut mae Llywodraeth Cymru am wreiddio sgiliau arloesi yng nghwricwlwm ein hysgolion ni, er mwyn i ni hau'r hadau ar gyfer cenhedlaeth entrepreneuriaid y dyfodol?

Wrth gwrs, mae'n rhaid i ehangu'r sector preifat Cymru fod yn amcan i Lywodraeth Cymru, ac mae angen iddo fod yn uchelgeisiol o ran denu mewnfuddsoddiad a gweithio gyda Banc Datblygu Cymru, a ffynonellau cyfalaf eraill, i gefnogi cwmnïau sy'n dod i mewn wrth ehangu. Fe allwn ni ddysgu gwersi oddi wrth rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae'r Alban yn benodol wedi nodi meysydd lle gwelir cyfleoedd i fod yn gyrchfan o ddewis o ran mewnfuddsoddi, ac mae angen i ni wneud yr un peth yma yng Nghymru. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun mewnfuddsoddi penodol ar gyfer Cymru i'r dyfodol, ac a wnaiff ddweud wrthym ni hefyd pa wersi y mae Llywodraeth Cymru yn eu dysgu oddi wrth wledydd eraill a'r ffordd y maen nhw wedi denu buddsoddiad mewnol? Diolch, Llywydd.

14:55

Diolch am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Fe wnaf i geisio ymdrin â chynifer â phosibl o fewn amser rhesymol.

Rwy'n credu, o ran datganiad yr hydref, fod angen i'r Aelod adlewyrchu'r hyn a ddywedwyd mewn gwirionedd yn hytrach na darllen y datganiad i'r wasg fel gwnaeth ef, yn was ffyddlon, i raddau helaeth yn ystod ei gyfraniad i ni. Mae hi'n ffaith ddiamheuol—ac nid oes raid i chi gymryd fy ngair i yn hyn o beth; fe geir digonedd o sylwebyddion annibynnol—fod gwerth y gyllideb sydd gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng. Mae honno £1.3 biliwn yn llai erbyn hyn na'r adolygiad gwariant a gafwyd ychydig flynyddoedd yn ôl. Nid yw'r honiad wedyn i fuddsoddiad sylweddol fod yn wir. Rydych chi eisoes wedi clywed nad yw'r cynnydd o £6 miliwn yn y gyllideb gyfalaf wedi dechrau cyfateb i chwyddiant mewn unrhyw ffordd, hyd yn oed. Mae ein cyllideb gyfalaf yn werth llawer iawn llai mewn termau real, fel gŵyr yr Aelod. Peth eithaf anarferol yw iddo ef fod yn galw wedyn am fuddsoddiad enfawr mewn seilwaith pan fo ein cyllidebau cyfalaf yn gostwng mewn termau real. Er gwaethaf hynny, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi, er enghraifft, yn y buddsoddiad metro. Fe fydd yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yno ag effaith drawsnewidiol nid yn unig ar drafnidiaeth ond ar yr economi ac, yn wir, y gwaith yr ydym ni'n ei gwblhau ar ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd. Mae hwnnw'n fuddsoddiad economaidd sylweddol y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud.

A phan ystyriwch chi wedyn yr hyn a wnaeth datganiad yr hydref mewn gwirionedd, er gwaethaf yr holl ymdrechion i honni bod hwb enfawr yn hwn i bobl sy'n gweithio, mewn gwirionedd, fe anelir y toriadau a gyflwynwyd i drethiant nawr at y bumed ran o'r boblogaeth sydd fwyaf cefnog. Dyna'r achos yn ddiamheuol. Ac, yn wir, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi nodi bod y Canghellor, gyda refeniw treth cynyddol, wedi dewis peidio â buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu gwasgu mewn termau real unwaith eto gan y Canghellor, ond fe ddewisodd fuddsoddi mewn toriadau i'r dreth sydd yn gogwyddo yn anghymesur tuag at fod o ddefnydd i grwpiau mwy cefnog yn y boblogaeth. Er gwaethaf hynny, mae hi'n amlwg mai'r Senedd hon yn San Steffan fydd y Senedd a gododd trethi fwyaf yn y cyfnod modern. Fe fydd y baich o ran treth ar ei drymaf ers y cofnodion cyntaf fod ar gael wedi'r rhyfel. Mae arnaf i ofn nad yw ei farn ef fod datganiad yr hydref yn achos i ddathlu rywsut yn un y mae unrhyw ddaroganwr annibynnol o unrhyw wir werth wedi gallu ei phrofi; mewn gwirionedd, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dweud bod y dull o wario cyhoeddus yn y dyfodol yn afrealistig. Mae'r Resolution Foundation wedi galw datganiad yr hydref yn un 'gwrth-dwf'. Pwy wyddai fod Jeremy Hunt yn rhan o gynghrair gwrth-dwf Liz Truss?

Ond mae hi'n wir hefyd, wrth gwrs, ein bod ni'n ymdrin â'r datganiadau diwygiedig heddiw yng nghyd-destun colled o fwy na £1.1 biliwn gyda'r cronfeydd yn lle rhai'r UE—addewid gan y Ceidwadwyr yn eu maniffesto nhw ac un a dorrwyd—yn ogystal â'r toriad o £1.3 biliwn mewn termau real y mae'n rhaid i'r Llywodraeth hon nawr ymdopi ag ef. Er gwaethaf hynny, mae cyfleoedd i ni wneud mwy, a'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud gyda'r blaenoriaethau hyn yw nodi her y gwahanol ddulliau sydd gennym ni ar gael mewn ffordd sy'n ddiffuant, o ran y meysydd lle gallwn ni barhau i wneud gwahaniaeth a bod yn uchelgeisiol hefyd. A dweud y gwir, mae'r porthladdoedd rhydd yn rhan o hynny. Mae'r porthladdoedd rhydd eu hunain yn ffordd o gasglu meysydd o gydnerthedd at ei gilydd, yn enwedig pan feddyliwch chi fod hynny'n ymwneud â phontio teg a dyfodol yr economi werdd yn y gogledd-orllewin ac, yn wir, y de-orllewin. Mae yna gyfleoedd yr ydym ni'n eu cefnogi nhw ac mae gennym ni ymagwedd bragmataidd o ran dymuno tynnu sylw atyn nhw.

Os ydych chi'n meddwl am y gwaith a wnawn ni eisoes gyda busnesau bach a chanolig, mae mwy o ddiddordeb wedi bod yn y cynllun benthyciadau busnes gwyrdd nag a baratowyd ar ei gyfer, mewn gwirionedd. Newyddion da iawn yw hynny o ran helpu i ddatgarboneiddio'r ffordd y mae busnesau yn cael eu rhedeg gan helpu i reoli eu llinell isaf nhw a gostwng eu biliau nhw, mewn gwirionedd. Rydym ni'n cynnig cyngor ychwanegol sylweddol hefyd i'r busnesau hynny ynglŷn â sut i ddatgarboneiddio yn llwyddiannus i'r dyfodol, ac unwaith eto, gyda rheoli eu costau.

O ran arloesi ac entrepreneuriaeth mewn ysgolion ac yn fwy eang, mae yna raglen waith. Fe allwch chi fynd i mewn i unrhyw ysgol uwchradd bron iawn a dod o hyd i raglenni sy'n ystyried y modd yr ydym ni'n hyrwyddo gwaith yng nghyd-destunau pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, entrepreneuriaid, ac, yn wir, y gwaith a noddwn ym mlynyddoedd hynaf yr ysgol gynradd hefyd. Rwy'n siŵr y gallai'r Gweinidog addysg roi datganiad mawr i chi ar y gwaith sy'n cael ei wneud ym mhob un o'n hysgolion ni trwy'r amser. Felly, mae'r gwaith y gwnaethoch chi alw amdano yn cael ei wneud eisoes. Yr her i ni yw, pe byddai rhagor o fodd gennym ni, fe allem ni wneud mwy eto hyd yn oed i gyflawni yn hynny o beth mewn gwirionedd.

O ran mewnfuddsoddi, dyna'r rheswm pam roeddwn i yn yr Almaen yr wythnos diwethaf. Mae gennym ni berthynas dda, gadarnhaol ag eraill ac mae ei golygon yn mynd y tu draw i'n ffiniau. Mae gennym ni berthynas dda â phartneriaid ledled Ewrop a'r byd yn fwy eang. Dyma'r rheswm pam y bûm i yn yr Unol Daleithiau, yn dadlau'r achos dros fuddsoddi yng Nghymru unwaith eto. Y gwaith hwnnw'n rhannol sy'n egluro pam mae gennym ni nifer o fusnesau sy'n dal i fod yn awyddus i fuddsoddi yma. Dyna pam mae Rocket Science wedi buddsoddi ymhellach yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, gyda'r swyddi ychwanegol y bydden nhw'n eu creu. Dyna pam mae PwC yn ystyried buddsoddi yng Nghymru ar hyn o bryd, oherwydd mae ganddyn nhw bartner yn y fan hon sy'n sefydlog. Dyna'r neges allweddol oddi wrth fuddsoddwyr o'r tu allan. Maen nhw'n dymuno bod â phartner sy'n sefydlog ac yn ddibynadwy yn y Llywodraeth ar gyfer gweithio gyda nhw. Dyna'r hyn sydd i'w gael iddyn nhw yn y fan hon, ac maen nhw'n deall nad ydyn nhw wedi gallu meithrin perthynas fel honno gyda Llywodraeth y DU. Rwy'n gadarnhaol ynglŷn â'r hyn y byddwn ni'n gallu ei wneud, ac, yn wir, yr hyn y byddwn ni'n parhau i'w wneud gyda'n bargeinion dinesig a thwf. Rwy'n credu y bydd mwy o achos gennym ni i ddathlu yn y dyfodol, ond fe wneir y sefyllfa yn llawer gwaeth gan y dewisiadau a wneir ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU gyfan. Po gynharaf y bydd newid, po gynharaf y bydd yna etholiad cyffredinol, y gorau fydd hynny i bob un ohonom ni.

15:00

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rydym ni wedi gweld patrwm yn ddiweddar o ddatganiadau sy'n brin iawn o fanylion polisi a nodau, a dyma un arall eto. Mae hynny'n fwy siomedig yn yr achos hwn o ystyried y ffordd y cafodd hwn ei hysbysebu yn brif gynllun i'r Llywodraeth o ran yr economi. Pan ddaeth, fe ddywedwyd wrthym ni fod angen trafodaeth bellach mewn uwchgynhadledd ac archwiliad dwfn gan swyddogion. Pam na chafwyd hynny cyn dod i'r Siambr?

Mae hi'n dda i ni weld termau 'economi genhadaeth' a 'chenadaethau economaidd' yn y lle cyntaf. Mae'n rhaid bod hyn, rwy'n tybio, yn deillio o waith yr Athro Mariana Mazzucato. Mae Mazzucato yn ystyried dull a arweinir gan genhadaeth nid yn unig fel set o honiadau annelwig ynglyn â phethau dymunol i'w cael yn yr economi ond fel dull cyfannol a phellgyrhaeddol o drawsnewid gwleidyddol ac economaidd. Felly, rwy'n gofyn i'r Gweinidog egluro sut mae datganiad heddiw yn bodloni'r diffiniad o 'arwain gan genhadaeth', a'r hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd pan ddywed 'cenadaethau economaidd', oherwydd mae hi'n ymddangos i mi mai dim ond defnyddio'r eirfa a wneir ar hyn o bryd, gan ddefnyddio'r derminoleg heb ddeall ystyr yr anghenion. Mae hynny'n gwneud cam â Chymru.

Gadewch i ni edrych ar y blaenoriaethau. Mae croeso i flaenoriaeth 1 ynglŷn â phontio teg, ond crybwyllodd y Gweinidog mewn cynhadledd gynharach i'r wasg fod y cynllun benthyciadau busnes gwyrdd a phorthladdoedd rhydd yn brosiectau i helpu i gwrdd â'r flaenoriaeth—nid yw'r naill na'r llall yn rhai newydd. O ran blaenoriaeth 2, eto yn y gynhadledd i'r wasg honno roedd ef yn sôn am y warant i bobl ifanc, y cynnig i ymwelwyr, y gronfa arloesi seibr a PwC yn dod i Gaerdydd—dim byd newydd. Blaenoriaeth 3 a 4—dim byd newydd ychwaith. Rhoddwyd gwedd newydd ar hen gyhoeddiadau a'u haildwymo. Felly mae hynny'n gwneud i ni holi beth yn union mae'r Llywodraeth yn ei wneud sy'n newydd.

Wrth i ni roi cyd-destun i'r datganiad hwn, efallai y dylem ni edrych ar hanes y Gweinidog gyda'r economi. Bron bob mis eleni mae hi'n ymddangos y bu'n rhaid iddo ef ddod gerbron y Senedd i roi datganiad ar ôl datganiad ar golli swyddi eto—Tata, 2 Sisters, Avara Foods, Tillery Valley Foods, Biomet, UK Windows & Doors—hyn, wrth gwrs, mewn cyfnod o gyflogau yn sefyll yn llonydd a chostau yn cynyddu. Mae arnaf i ofn dweud bod cyflwr economi Cymru yn fwy ansicr nawr nag y bu erioed, dan ei wyliadwriaeth ef.

Yr hyn sydd wedi bod yn arbennig o rwystredig ym mhob achos yw'r ymagwedd gynhenid adweithiol. Mae hi'n ymddangos nad yw'r Llywodraeth yn gallu gwneud unrhyw beth nes bydd y difrod wedi ei wneud eisoes. Gadewch i ni gymryd eich ymateb chi i gau UK Windows & Doors a chwestiwn a ofynnais i ynghylch cydweithredu, ac rwy'n dyfynnu: mae'r

'gweinyddwyr yn rheoli'r sefyllfa ac nid yw sut maen nhw'n ceisio ennill gwerth, gan gofio am yr asedau a'r dyledion posibl sydd gan y busnes, yn rhywbeth sydd gennym ni reolaeth drosto.'

Rwy'n siŵr pe byddai'r Torïaid yn dweud yr un peth, y Gweinidog fyddai'r un cyntaf i'w cyhuddo nhw o olchi eu dwylo o'u cyfrifoldeb a'u diffyg uchelgais neu weledigaeth ar gyfer yr economi. Rwy'n dwyn y cyhuddiad hwnnw yn ei erbyn.

Ond i amddiffyn y Gweinidog, nid yw'r hanes hwn o danberfformio yn unrhyw beth newydd na welsom ni o'r blaen. Mae llywodraethau olynol Llafur yng Nghymru wedi methu â gwella ein heconomi ni drwy'r blynyddoedd. Mae'r bwlch cynhyrchiant gyda chyfartaledd y DU wedi ehangu ers 1997. O holl wledydd a rhanbarthau'r DU, Cymru sydd yn y deuddegfed safle—yr olaf—o ran allbwn economaidd. Rydym ni hefyd yn safle 11 o blith 12 o wledydd a rhanbarthau yn y DU o ran gwerth ychwanegol gros y pen, sef 74.1 y cant o gyfartaledd y DU. Mae methiant i fynd i'r afael â'r mater hwn wedi golygu bod Cymru wedi cael ei dal mewn troell o gyflogau isel a sgiliau isel. Tanlinellir hyn gan y ffaith fod incwm sylfaenol y pen yng Nghymru ar hyn o bryd ar 76 y cant o gyfartaledd y DU o gymharu ag 82.2 y cant yn 1997.

Gadewch i ni droi at ein sector busnesau bach a chanolig. Rwyf i wedi siarad lawer gwaith yn y Senedd am bwysigrwydd ysgogi twf yn ein sector busnesau bach a chanolig domestig fel rhagflaenydd i economi fwy byrlymus a ffyniannus, ond fel mae adroddiad diweddar y Ffederasiwn Busnesau Bach ar y bwlch sgiliau yng Nghymru yn ei ddangos, fe geir cyfaddawdu hanfodol ynglŷn â'r uchelgais hwn oherwydd ddiffyg cefnogaeth sefydliadol a chydlyniad strategol oddi wrth Lywodraeth Cymru. Roedd bron i 80 y cant o gwmnïau bach yng Nghymru yn cael trafferth gyda recriwtio yn ystod y 12 mis diwethaf o ganlyniad uniongyrchol i'r bwlch sgiliau sydd yn y gweithlu.

Yn ôl arolwg diweddar gan fusnesau bach a gyhoeddwyd gan yr Adran Busnes a Masnach, dim ond 14 y cant o fusnesau bach a chanolig Cymru a werthodd unrhyw nwyddau neu wasanaethau y tu allan i'r DU yn 2022. Mae'r un arolwg wedi dangos bod cyfran y cwmnïau yng Nghymru sy'n ymgysylltu ag arloesi ar hyn o bryd ymhlith y lleiaf yn y DU, ac mae goblygiadau niweidiol iawn i hynny o ran cystadleurwydd ein nwyddau a'n gwasanaethau domestig mewn marchnadoedd rhyngwladol. Mae hyn yn adlewyrchu patrwm ehangach o danfuddsoddi mewn arloesi. Roedd gwariant Cymru ar ymchwil a datblygu oddeutu 1 y cant o gynnyrch domestig gros yn 2021, o gymharu â chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o tua 2.5 y cant.

Rwyf i am orffen gyda chwestiwn terfynol i'r Gweinidog. Rydych chi a'ch rhagflaenwyr yn y Blaid Lafur wedi cael dros chwarter canrif i sicrhau economi gryfach, ond ar bron bob un metrig nid oes gennych chi unrhyw beth i'w ddangos am eich ymdrechion. Gwaethygu mae pethau, nid gwella. Felly faint mwy o amser y mae angen i bobl Cymru aros cyn i chi gael hyn yn iawn? [Torri ar draws.]

15:05

Ni ddylai aelod o'r meinciau cefn wneud sylwadau na rhoi marc ar waith unigolion. Fe allai ef ei hun gael ei farcio gan eraill yn ddiweddarach yn y datganiad hwn.

Mae'n rhaid i mi ddweud na chlywais i mo'r sylw gan rywun ar ei eistedd. Rwy'n gobeithio na fu unrhyw ailadroddiad o gastiau Cleverly.

O ran ein sefyllfa bresennol, yr hyn a wnaethom ni yw ailosod ein pedair blaenoriaeth, fel dywedais i, ar gyfer byd sydd wedi newid yn sylweddol. Ac fe newidiodd yn sylweddol ers 2021. Mae'r sioc economaidd yr oeddem ni'n credu ein bod ni wedi dod drwyddi gyda'r pandemig wedi gwaethygu oddi ar hynny, ac mae hyn yn ymateb i alwadau gan fusnesau ac undebau llafur hefyd mewn gwirionedd i ganolbwyntio'r pedair blaenoriaeth o'r newydd er mwyn ymgasglu a gwneud penderfyniadau ynglŷn â nhw. A dweud y gwir, wrth ymateb i hynny rydym ni wedi nodi meysydd, wrth gwrs, yr ydym ni eisoes wedi gweithredu ynddyn nhw ar gyfer trafod yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yn y dyfodol—er enghraifft, y sgyrsiau ynghylch PwC a gododd yr Aelod mewn ffordd feirniadol. A dweud y gwir, ar gyfer dod â hynny i'w gyflawniad roedd gofyn i ni weithio nid yn unig gyda'r cwmni, ond gyda llywodraeth leol hefyd. Mae hynny'n dangos yr hyn sy'n bosibl ei wneud gyda Llywodraeth sy'n barod i weithio ochr yn ochr â phartneriaid eraill.

Dyna un o'r pwyntiau, rwy'n credu, a wnaeth yr Aelod—holi beth sy'n newydd. Mewn gwirionedd, yr hyn y mae llawer o'n partneriaid ni'n ei alw amdano, yr hyn y maen nhw'n ei ofyn amdano, yw ymdeimlad o sefydlogrwydd, o allu gwybod beth mae'r Llywodraeth am ei wneud, sut y byddwn ni'n defnyddio'r dulliau angenrheidiol ar gyfer gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, sut y bydd hynny'n adeiladu ar y buddsoddiad a wnaethom ni eisoes. Fe soniais i'n gynharach am y ffaith ein bod ni'n buddsoddi yn nyfodol y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymoedd y De gyda'r metro. Fe soniais i'n gynharach am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i fuddsoddi yn ffordd Blaenau'r Cymoedd. Fe soniais i'n gynharach am y pwynt ynglŷn â buddsoddiad tymor hwy mewn sgiliau. Mae'r pethau hynny i gyd yn bwysig yng ngolwg busnesau sy'n dymuno aros yma a buddsoddi yma.

Os ydych chi'n meddwl am y sector technoleg, rydym ni wedi buddsoddi yn y sector seiber ac yn Fintech yn benodol. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn rhagweithiol gyda chrynhoi'r cyfleoedd yn y sector hwnnw a gweithio ochr yn ochr â nhw. Dyna pam y cawn ni ein hystyried yn ardal o arwyddocâd yn y DU, a dyna pam y cawn ni ein hystyried yn ardal lle mae buddsoddwyr rhyngwladol â diddordeb yn yr hyn rydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru. Pe byddech chi'n edrych ar weithgynhyrchu uwch, mae gennym ni sector gweithgynhyrchu uwch o'r radd flaenaf yn y gogledd-ddwyrain, ond yn fwy na hynny—gweithgynhyrchu o safon ryngwladol sylweddol ledled Cymru. Mae hwn yn faes o gryfder i ni y mae angen i ni adeiladu arno a gwneud mwy ag ef, wrth i'r sectorau hynny geisio datgarboneiddio, wrth iddyn nhw chwilio am y trawsnewid sydd i ddod.

Mae'r un peth yn wir am awyrofod, yr un peth gyda lled-ddargludyddion cyfansawdd, lle mae'r Llywodraeth hon unwaith eto wedi bod â rhan allweddol wrth weld buddsoddiad parhaus yn y sector hwnnw. Fe hoffem ni fod â pherthynas fwy cefnogol gyda Llywodraeth y DU yn y sector hwnnw. Mae angen i ni nodi'r hyn sydd yn flaenoriaethau i ni ar gyfer sicrhau y gallwn ennyn buddsoddiad yma, ac mae'r un peth yn wir gyda'r sector ynni adnewyddadwy.

Ac mae'n rhaid i mi ddweud hyn wrth yr Aelod: fe glywodd sylwadau unwaith eto gan rywun ar ei eistedd yn ei atgoffa nad Gweinidogion economi Llafur sydd wedi bod yn y lle hwn trwy'r amser, ond, yn y cyfnod cyfan hwnnw o'r 25 mlynedd diwethaf, fe fu yna welliannau gwirioneddol o ddechrau datganoli hyd yn awr. Roedd y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn arfer bod yn uwch bob amser nag ar draws gweddill y DU. Rydym ni wedi gweld gwelliant gwirioneddol—nid yw hynny'n wir nawr. Roedd cynhyrchiant yn arfer bod ar ei hôl hi yn sylweddol yma—rydym ni'n cau'r bwlch hwnnw. O ystyried yr hyn a wnawn ni erbyn hyn, fe welwch chi gynnydd gwirioneddol yn yr economi yn oes datganoli. Mae hi'n anghywir, fel mater o ffaith, i ddweud nad oes unrhyw welliant wedi digwydd a bod popeth wedi gwaethygu. Nid yw hynny'n wir o gwbl.

Yr her i ni yw bod rhagor i'w wneud bob amser. Mae'r blaenoriaethau hyn yn helpu i arwain y dewisiadau a wnawn ni'n unigol yn y Llywodraeth, gyda phartneriaid mewn rhanbarthau, partneriaid mewn busnes, partneriaid ym myd gwaith. Fe fyddaf i'n falch o gyflawni hynny a chyflawni gwelliannau amser real i bobl ledled y wlad.

15:10

Rwy'n cytuno â'r Gweinidog: nid oes tystiolaeth gredadwy na phrofiad diweddar sy'n cefnogi'r achos dros newid i ddadreoleiddio di-hid, na bod â disgwyliadau isel o ran amodau gwaith, sy'n cynnwys diswyddo ac ailgyflogi, na safonau amgylcheddol gwael na thoriadau treth heb eu hariannu. Gwendid economi Cymru yw nad oes gennym ni ddigon o swyddi â chyflogau gwell yn y sectorau economaidd sy'n talu cyflogau mawr. Rwyf i am dynnu sylw unwaith eto at y ffaith fod economïau llwyddiannus yn seiliedig ar gyflogaeth â chyflog gwell a nifer anghymesur mewn cyflogaeth mewn rhai neu'r cwbl o'r canlynol: technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, gwyddorau bywyd, gwasanaethau proffesiynol a gwasanaethau ariannol. Mae Admiral wedi cynyddu'r nifer sydd mewn cyflogaeth mewn gwasanaethau ariannol yng Nghymru. Mae angen Admiral arall arnom ni yng Nghymru fel ein bod ni'n cynyddu nifer y bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau ariannol. A yw'r Gweinidog yn disgwyl twf o ran cyflogaeth mewn TGCh, gwyddorau bywyd a gwasanaethau proffesiynol? Ac a yw ef yn cytuno y bydd gweithio gyda phrifysgolion yn helpu i ysgogi'r twf hwn?

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gywir i dynnu sylw at y model arall a geisiwyd. Nid oedd hi cyn belled yn ôl â hynny, ychydig dros flwyddyn erbyn hyn, pan oedd gennych chi Truss yn ei swydd yn Brif Weinidog. A'r peth mwyaf digalon yw mai hi a wnaeth ennyn y diddordeb mwyaf oddi ar lwyfan cynhadledd ddiweddar y Ceidwadwyr. Mae hi'n rhyfeddol bod y blaid lywodraethol yn y DU yn dal i gredu mai'r arbrawf aflwyddiannus yr ydym ni i gyd wedi bod drwyddo yw'r ffordd briodol ymlaen, er gwaethaf y dystiolaeth i gyd.

Rwy'n cytuno â'r Aelod mai swyddi â chyflogau uwch yw'r her allweddol i ni yn economi Cymru—sut i ddenu a meithrin mwy ohonyn nhw. Ond yn yr holl feysydd a nododd ef, mae gennym ni stori i'w hadrodd. Yn y gwyddorau bywyd, rydym ni'n cyflawni llawer mwy na'r disgwyl yma yng Nghymru. Mae cyfleoedd i ragor ddod yma hefyd—mae hynny'n rhan o'r hyn yr wyf i'n ei ddisgrifio ac yn siarad amdano wrth fynd yn rhyngwladol. Ac yn wir mewn gwasanaethau proffesiynol mae gennym ni stori lle gwelwn ni dwf, ac rwy'n disgwyl i ni weld mwy. Felly, pan edrychwch chi ar yr hyn yr ydym yn ei wneud, yn ogystal â rhannau mwy newydd o'r economi, rwy'n optimistaidd, wrth i ni ystyried y pum mlynedd nesaf a'r 10 mlynedd nesaf, y byddwch chi'n gweld mwy o'r swyddi hyn. Oherwydd rydych chi'n gywir, i newid perfformiad economi Cymru, nid yn unig y mae angen i ni weld twf o ran swyddi, ond yn ansawdd y swyddi hynny hefyd, yn enwedig y swyddi sydd â chyflogau gwell, ym mhob cwr o'r wlad. 

15:15

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rwyf i o'r farn fod y datganiad yn ymwreiddio yn sefyllfa wirioneddol economi a chwalwyd gan argyfwng ariannol, gan gyni, a chan bolisïau fel datganiad yr hydref yr wythnos diwethaf, a welodd arian yn llifo oddi wrth y tlotaf i'r cyfoethocaf, ac o Gymru i Lundain a de-ddwyrain Lloegr. Yn wyneb hynny, mae'r gwaith a wnaeth Llywodraeth Cymru wedi sicrhau gwelliannau gwirioneddol mewn economïau lleol ledled Cymru; mae fy etholaeth i fy hun wedi elwa ar y buddsoddiad yng ngwaith deuoli'r A465. Nid yw'r Torïaid yn hoffi hynny, ond y gwir amdani yw bod Llywodraeth Cymru, drwy fuddsoddi yn y cymunedau tlotaf yng Nghymru, yn cael effaith wirioneddol ar economïau'r cymunedau hynny.

Yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrthych chi yn y datganiad hwn yw hyn, Gweinidog: sut fydd pobl Blaenau Gwent yn cydnabod ac yn gweld pan fyddwch chi wedi gwireddu eich gweledigaeth chi, pan fyddwch chi wedi cyflawni eich uchelgeisiau chi? Ym mha le yn y datganiad hwn ac ym mha le yn null gweithredu'r polisi hwn y gwelwn ni'r buddsoddiadau yn hanfodion seilwaith busnes, ac yn y sgiliau a'r hyfforddiant—mewn unedau, er enghraifft, fel  gall busnesau bach ehangu, tyfu a manteisio ar y buddsoddiad mewn seilwaith a welwn ni ym Mlaenau'r Cymoedd a'r cyffiniau?

Diolch i chi. Rwy'n credu bod rhai cwestiynau da ac ymarferol yma nad ydyn nhw'n cael sylw mewn datganiadau yn aml. Er enghraifft, rydym ni wedi gweithio yn unigol ac rydym ni wedi gweithio gyda'n gilydd, er enghraifft, â'r brifddinas-ranbarth i ystyried buddsoddiadau mewn eiddo. Mae safleoedd ac adeiladau yn bwysig iawn mewn gwirionedd i bobl allu ehangu ynddynt. Roedd hynny'n rhan o'r pryder ynghylch y busnesau bwyd nad ydyn nhw'n masnachu ym Mlaenau Gwent erbyn hyn, a'ch bod chi'n awyddus i gadw'r safle ar gyfer gwaith arall. Dyma pam rydym ni wedi buddsoddi yn y safle yn etholaeth yr Aelod hefyd lle'r oedd TVR yn ystyried a fydden nhw'n mynd yno. Mae hwnnw'n safle ychwanegol sylweddol, ac, mewn gwirionedd, heb yr ymyrraeth honno yn y farchnad, ni fyddai'r safleoedd hyn wedi cael eu sefydlu; pe byddem ni wedi gadael hynny i'r farchnad, ni fyddai'r buddsoddiad hwnnw wedi digwydd, ac eto fe wyddom ni fod yna bobl yn awyddus i fynd yno, cwmnïau sy'n dymuno ehangu yn lleol yn ogystal â rhai sy'n awyddus i fuddsoddi a symud eu hadeiladau a'u cyfleusterau yno.

Mae hyn yn cyffwrdd hefyd â'n hanes ni o ran sgiliau, ac fe welwch chi hynny yn y ddogfen lawnach—yr hyn a wnaethom ni eisoes mewn tymor blaenorol wrth ddechrau mwy na 100,000 o brentisiaethau a'r rheswm pam rydym ni'n edrych ar ddewisiadau anodd iawn gan ddymuno cynnal y stori am fuddsoddi mewn sgiliau a phobl. Mae hi mor bwysig i ni barhau ar y daith lle mae cynhyrchiant yn codi, i bobl sy'n newydd i fyd gwaith ond i bobl sydd eisoes yn y byd gwaith hefyd—sut y gall eu sgiliau nhw ddal ati i ddatblygu. Dyna pam y gwnaethom ni gynnal y sgyrsiau hynny gyda chyflogwyr am eu cyfrifoldeb nhw i fuddsoddi yn sgiliau eu gweithlu, ac yna'r hyn y gall y Llywodraeth ei wneud ochr yn ochr â nhw. Rwy'n credu y gwelwch chi, pan fydd mwy o bobl o Flaenau Gwent yn sylweddoli nad oes angen iddyn nhw adael i fod â dyfodol ffyniannus a llewyrchus; fe fyddwn ni'n gweld hynny yn nemograffeg nifer o'n siroedd ni. Fe welwn ni hynny pan fo pobl yn gallu teithio i Flaenau Gwent i weithio, yn ogystal â'r bobl hynny sydd, er enghraifft, yn manteisio ar y cyfle eisoes i deithio o Flaenau Gwent i Gasnewydd i weithio yn y clwstwr lled-ddargludyddion. Fe fydd yna ragor o gyfleoedd, rwy'n credu, yn dod yn y dyfodol.

Fe ddylwn i nodi hefyd mai un o'r pethau y gwnaethom ni dynnu sylw atyn nhw heddiw yw'r ffordd yr ydym ni'n cefnogi'r economi bob dydd. Nawr, mae Elite Clothing Solutions yn enghraifft dda iawn o hyn. Rwyf i wedi bod yn tynnu sylw eisoes at y ffaith eu bod nhw wedi ennill y cytundeb erbyn hyn ar gyfer dillad i Drafnidiaeth Cymru. Fe fydd y gwisgoedd hynny'n cael eu dylunio a'u gwneud yng Nghymru, gyda phartneriaethau ledled y gogledd a'r canolbarth. Dyna enghraifft dda iawn o sut y gallwch chi wneud ymyrraeth ymarferol i sicrhau bod gan bobl waith o ansawdd da sy'n nes at adref.

Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog heddiw yn fawr iawn; mae'n dangos y modd y mae ef yn benderfynol o ddatblygu Cymru a gwella'r economi ar draws pob rhanbarth yng Nghymru. Nawr, yn gyntaf i gyd, pan fyddaf i'n trafod â busnesau yn Ne Clwyd, maen nhw'n awyddus i wybod a fydd y Gweinidog y maen nhw'n ymdrin ag ef heddiw yn ei le'r wythnos nesaf; ac nid yw hynny'n rhywbeth y gallan nhw ei warantu o ran San Steffan. Ond, Gweinidog, pa mor bwysig yw cysondeb a sefydlogrwydd ar lefel wleidyddol i unrhyw economi yn eich barn chi? Yn ail, Gweinidog, pa mor bwysig yw buddsoddi mewn cyfleusterau fel y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol yng Nglyn Ebwy a'r Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yn Alun a Glannau Dyfrdwy yn eich barn chi o ran sbarduno swyddi o ansawdd uwch a gwerth ychwanegol gros?

Yn olaf, Gweinidog, rydych chi wedi sôn am bwysigrwydd partneriaethau a rhanbartholi—Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanbarthau Cymru. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu â chanoli cynyddol Llywodraeth y DU. Eto i gyd, a fyddech chi'n cytuno, o ran partneriaethau rhanbarthol, bod y canlyniadau yn fwy na dim ond cyfanswm y rhannau a ddaw oddi wrth Lywodraeth genedlaethol, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol?

15:20

Diolch i chi am y tri chwestiwn. Rwy'n credu, o gymryd eich pwynt olaf yn gyntaf, gyda'r partneriaethau sy'n bodoli, fe welir cyferbyniad gwirioneddol wrth i ni weithio gyda'n gilydd. Mae hynny'n caniatáu i ni ddatgloi mwy o fuddsoddiad ac mae hynny'n dychwelyd at eich pwynt cyntaf chi o ran sefydlogrwydd. Mae'r buddsoddwyr hynny'n chwilio am amgylchedd sefydlog i weithio ynddo. Mae hi wedi bod yn ddigalon iawn, nid yn unig gyda gweithio gyda Llywodraeth yr wyf i'n anghytuno â hi ar lefel y DU, ond wrth fod â chymaint o wahanol Weinidogion i weithio gyda nhw mewn cyfnod mor fyr o amser. Mae Paul Scully wedi gadael ei swydd, ei gyn swydd erbyn hyn, yn Weinidog technoleg. Fe fu nifer o wahanol bobl yn y swydd honno. Mae hi'n drueni mawr gennyf i fod George Freeman wedi gadael ei swydd yn Weinidog Gwyddoniaeth Llywodraeth y DU. Roedd ganddo ef lais mwy cyson a oedd, yn fy marn i, yn deall yr anghenion a'r ymarferoldeb y mae eu hangen ar gyfer gweld y cyfleoedd o ran buddsoddi yn cael eu datgloi ym mhob rhan o'r DU. Ond fe welwn ni anghysondeb fel hyn a chorddi fel hyn ac mae hynny ag effaith yn y byd real o ran y gallu i wneud dewisiadau. Rhan o'r rheswm, rwy'n credu, pam na welsom ni ragor o gynnydd ynglŷn â'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yw bod cymaint o Weinidogion amrywiol wedi methu â gwneud eu dewis. Fe gymerodd hi lawer gormod o amser i ddylunio a chyflawni strategaeth ac mae angen rhywfaint o gysondeb arnom ni nawr yn hynny o beth ac mewn meysydd eraill i sicrhau y gallwn ni weld cynnydd gwirioneddol.

O ran y pwynt ynglŷn â phartneriaethau, rydych chi'n gweld ymagwedd Llywodraeth y DU pryd maen nhw'n sôn am bartneriaethau mewn datganiad i'r wasg, ond yna, mewn gwirionedd, dyna'r union beth nad yw'n digwydd mewn llawer gormod o achosion. Mae dylunio a darparu cronfeydd ôl-UE yn enghraifft dda o ddull gweithredu anghydnaws, pryd cawsom ni sgwrs am bythefnos ar y diwedd ac yna'n syml iawn fe gyflwynwyd y gronfa ffyniant gyffredin beth bynnag. Mae model porthladdoedd rhydd, fel gwnaethom ni lwyddo i gytuno ar raglen y gall y ddau bartner gytuno arni, yn ffordd fwy manteisiol o lawer o weithio, ac mewn gwirionedd rwy'n edrych ymlaen at ddull gweithredu a fydd yn arddangos mwy o gysondeb gyda Llywodraeth wahanol yn y DU ac rwyf i o'r farn y bydd hynny'n ein galluogi ni i ddatgloi mwy eto fyth. A'ch pwynt chi ynglŷn â Thales yng Nglyn Ebwy, ond hefyd y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yn y gogledd-ddwyrain—ac fe ddywedwn i hefyd mai dyna pam mae gennym ni ddiddordeb mewn canolfan technoleg uwch yn y gogledd-ddwyrain—. Unwaith eto, dyna pam rydym ni wedi treulio cymaint o amser ac ymdrech yn datblygu'r ganolfan fyd-eang ar gyfer rhagoriaeth rheilffyrdd—prosiectau sylweddol a fydd yn dod â buddsoddiad a swyddi ychwanegol na fyddai wedi digwydd oni bai am y buddsoddiad a rhagwelediad gan Lywodraeth sydd wedi bod yn rhagweithiol o ran chwilio am gyfleoedd ar gyfer gwaith da ym mhob cwr o'r wlad.

Gweinidog, roeddem ni'n credu y byddech chi'n gwneud rhyw fath o gyhoeddiad newydd, disglair heddiw. Ni chlywsom ni unrhyw beth newydd o gwbl o ran unrhyw beth y gwnaethoch chi ei ddweud. Fe nodais i bob un o'r diwydiannau y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, gyda llaw, yn eich dogfen chi a gyhoeddwyd heddiw. Nid oes unrhyw sôn o gwbl am dwristiaeth nac unrhyw sôn am amaethyddiaeth, ac mae'r rhain yn sectorau economaidd allweddol yma yng Nghymru, yn enwedig mewn rhannau helaeth o'r gogledd. Rwy'n gwerthfawrogi bod eraill hefyd y mae angen i ni dalu sylw iddyn nhw, ond o ystyried bod twristiaeth yn ddiwydiant sy'n cynnal 120,000 o swyddi yng Nghymru, 6 y cant o'r gwerth gros sy'n cael ei ychwanegu at economi Cymru a £6 biliwn i economi Cymru, pam ar y ddaear y gwnaethoch chi hepgor twristiaeth? A pham nad ydych chi wedi sôn am ffermio nac amaethyddiaeth? Hynny yw, rwy'n ystyried bod y pwynt a gododd Mike Hedges yn un cwbl briodol: ni wnaethoch sôn am y diwydiant gwasanaethau ariannol chwaith. Mae'r rhain yn gyfleoedd enfawr i ni wrth symud ymlaen—mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr eu bod yn gonglfeini ym mha bynnag raglen a fydd gennych chi wrth symud ymlaen, i sicrhau y gall Cymru ddal ati i wella o'r cyflwr marwaidd y mae eich Llywodraeth Lafur chi wedi gadael iddi gwympo iddo.

Yn yr un modd, ychydig iawn o gyfeirio at y gogledd. Mae prosiectau hyn i gyd gennych chi; roeddech chi'n sôn am waith deuoli'r A465, y buddsoddiad yn y metro. Beth am y gogledd, beth am y gorllewin, beth am y canolbarth? Pam nad oes unrhyw sôn am unrhyw seilwaith neu welliannau yn y mannau hynny? Rydym ni'n awyddus i fod â chyfran deg o arian yn mynd ledled y wlad, nid y cwbl yn cael ei wario yn yr etholaethau Llafur, a dweud y gwir, yn y de. Mae'n hen bryd i ni gael cyfran deg o adnoddau mewn rhannau eraill o'r wlad. Felly, roeddem ni'n disgwyl y byddai hyn yn taro deuddeg heddiw, ond syrthio yn glewt ar ein hwynebau a wnaethom ni.

Wel, rwy'n edrych ymlaen at weld yr Aelod yn ymgeisio yn yr etholiad nesaf y Senedd. Nid wyf i am ddymuno yn dda iddo gyda'i gynlluniau i ffoi cyn hynny.

Rwy'n credu, wrth ystyried yr hyn a ddywedodd yr Aelod mewn gwirionedd, fe gafodd y dewis ei wneud yn fwriadol i beidio ag ymhél â rhyw fath o bingo sectoraidd unigol drwy grybwyll cymaint o wahanol sectorau â phosibl yn y ddogfen. A dyna pam—[Torri ar draws.] A dyna—. A dyna pam mae ein dull ni wedi bod yn fwy strategol na'r hyn y mae'r Aelod yn awyddus i'w orfodi arnom ni. Wrth gwrs, mae Gweinidog Cabinet gennym ni yn y Llywodraeth sy'n gyfrifol am faterion gwledig, felly nid yw'r syniad nad yw honno'n flaenoriaeth i ni erbyn hyn yn cyd-fynd â'r sefyllfa real. O ran yr amrywiaeth yn y dewisiadau a wnaethom ni o ran buddsoddi, fel gŵyr yr Aelod, fe soniais i am ardaloedd yn y canolbarth, y gorllewin, y gogledd-orllewin a'r de-orllewin yn ystod y datganiad hwn. Rhywbeth braidd yn ddireidus, i'r llanc Darren Millar hyd yn oed, yw ceisio awgrymu fel arall.

Gadewch i ni gymryd enghraifft o'r hyn a wnawn ni'n ymarferol gyda buddsoddiad hefyd, trwy'r banc datblygu a'r hyn y gwnaethom ni ofyn iddyn nhw ei wneud. Mae ei bencadlys yn y gogledd, mae hwnnw wedi buddsoddi dros £124 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac fe welodd y gogledd 107 o fuddsoddiadau. Roedd 262 o fuddsoddiadau yn y de-ddwyrain a 171 o fuddsoddiadau yn gyffredinol yn y canolbarth a'r gorllewin. Fe welwn ni'r ffordd y gwnaethom ni sefydlu ein pensaernïaeth ynddi ar gyfer cefnogi busnesau bach a chanolig ac, yn wir, busnesau mwy i aros yng Nghymru, gan fuddsoddi ym mhob cwr o'r wlad. Yn syml, nid yw hi'n wir dweud mai dim ond mewn un rhan o'r wlad y mae ein diddordeb ni. Fe geir cyferbyniad uniongyrchol, wrth gwrs, gyda'r dull cwbl ddibynnol ar bwrs y wlad a gymerodd y Canghellor yn natganiad yr hydref—y meysydd yr oedd ef yn barod i fuddsoddi ynddyn nhw, y rhai nad oedd yn eu lle—a'r ffaith fod hon yn Llywodraeth sy'n wirioneddol i'r genedl gyfan. Rwy'n credu y bydd y dull hwn yn gwneud lles mawr i ni yn ystod y blynyddoedd nesaf a'r tymor hwy o lawer o ran buddsoddi yn nyfodol economaidd Cymru.

15:25

Diolch, Llywydd. Gweinidog, ym meysydd hanfodol addysg a sgiliau, bydd y comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil yn gyfrifol am ddarpariaeth ôl-16, ond bydd hefyd yn ymdrin â'r rhaniad ffug, rwy'n gobeithio, gydag addysg cyn-16. Rwy'n credu y dylai'r comisiwn a Llywodraeth Cymru flaenoriaethu datblygu llwybr dysgu a phontio 14 i 19 newydd a fyddai'n cynnwys mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11 allu manteisio ar addysg alwedigaethol yn y coleg. Gallai gael ei ategu gan hawl newydd i bob dysgwr oedran ysgol glywed yn uniongyrchol gan golegau am y dewisiadau o ran astudio ar lefel addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. Fel rhan o'r llwybr hwn, gallen ni ymdrin â'r loteri cod post a sicrhau bod y cynnig galwedigaethol sydd ar gael i'n pobl ifanc yn dda iawn ledled Cymru ar lefel mynediad 1 a lefel 2 yng nghyfnod allweddol 4, a gallai'r comisiwn hwnnw adolygu profiad dysgwyr â'r cymwysterau isaf neu leiaf, ar frys, oherwydd gwyddom fod gormod nad ydyn nhw'n ffynnu nac yn cyflawni eu potensial yn yr ysgol, ac mae gwir angen y cynnig ôl-16 hwnnw arnyn nhw i gael gwybodaeth fel y gallwn ni ddatblygu eu hyder a dod o hyd i lwybr sy'n gweithio orau iddyn nhw. Gallai hynny gynnwys y ffordd orau i'w galluogi nhw i gael eu hasesu ar eu sgiliau llythrennedd a rhifedd wrth i ni eu helpu nhw i gymryd eu cam nesaf ar y daith addysg. Felly, Gweinidog, a wnewch chi, wrth ymdrin ag addysg a sgiliau, flaenoriaethu, ynghyd â'r comisiwn, y meysydd hanfodol hyn sy'n peri pryder?

Rwy'n credu bod llawer yn yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud y byddwn i'n cytuno ag ef. Mae gwaith eisoes yn cael ei drafod rhwng y cyfrifoldebau sgiliau sydd gen i, ac, wrth gwrs, y Gweinidog addysg, sydd yn y Siambr ac sydd wedi gwrando ar yr hyn sydd gennych chi i'w ddweud hefyd. Mae'n rhaid i mi feddwl am y gwaith a wnaeth Hefin David, ei adroddiad, ac unwaith eto, mae'n ystyried llwybrau at lwyddiant a phontio rhwng gwahanol rannau o'r hyn sydd gan ein system addysg i'w gynnig, i ystyried beth yw'r camau cywir i'r dysgwr, lle mae ei sgiliau ar eu cryfaf, sut mae modd ei helpu i ddatblygu. Yn wir, rydyn ni'n gweld hynny mewn rhai rhannau o Gymru eisoes, lle mae partneriaeth fwy gweithredol mewn rhai rhannau rhwng y system ysgolion a cholegau addysg bellach. Yr her fydd deall yr hyn sy'n gweithio'n dda iawn a sut i sicrhau bod hynny ar gael yn ehangach. Dyna'r gwaith sydd eisoes ar y gweill, ond rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn ynghylch sut mae hyn yn dda i'r economi, yn dda ar gyfer caffael sgiliau, ond, yn anad dim, yn dda i'r unigolyn wrth wneud y mwyaf o'i dalent a'i allu i weld hynny'n cael ei wireddu a'i gydnabod.

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar roi diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar ddiweddariad ar roi diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol ar waith. Y Gweinidog, felly, Jeremy Miles, i wneud ei ddatganiad.

Diolch, Llywydd, ac rwy'n falch o gael y cyfle i roi y wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau heddiw ar weithredu'r diwygiadau i'r system anghenion dysgu ychwanegol. Ym mis Medi, roedden ni'n dechrau ar y drydedd flwyddyn o'r cyfnod gweithredu. Mae hwn yn newid systemig sy'n gofyn am amser ac ymrwymiad yn y byd addysg sy'n dal i deimlo effaith y pandemig. Rwyf i am ddiolch i bartneriaid am eu hymroddiad, eu hegni a'u proffesiynoldeb. 

Dros y chwe mis diwethaf rŷn ni wedi comisiynu a dadansoddi ystod o dystiolaeth, adborth a data gwerthfawr o bob rhan o'r system. Mae'r diwygiadau i'r cwricwlwm a'r system anghenion dysgu ychwanegol wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion pob dysgwr, ac mae'r sector cyfan yn amlwg yn awyddus i sicrhau ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a chynllunio o amgylch anghenion y dysgwyr. Mae gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru yn creu hyblygrwydd i addysgu yn y ffordd orau i ddiwallu anghenion unigol pob plentyn. 

Yn ddiweddar, cynhaliodd Estyn adolygiad thematig o gynnydd ysgolion ac awdurdodau lleol wrth gefnogi disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol. Tynnwyd sylw at enghreifftiau pwysig o arfer effeithiol, ac, er na ddaethon nhw o hyd i unrhyw dystiolaeth nad yw anghenion plant yn cael eu diwallu yn y lleoliadau a'r awdurdodau lleol a oedd yn rhan o'r adolygiad, fe wnaethon nhw nodi meysydd pwysig ar gyfer gweithredu gan awdurdodau lleol ac ysgolion yn gyffredinol. 

Mae'r meysydd i'w gwella yn cynnwys mwy o gysondeb yn ansawdd yr ymarfer a'r ddarpariaeth i gefnogi cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chynlluniau datblygu unigol; disgwyliadau clir mewn perthynas â chyfrifoldebau ysgolion a'r awdurdodau lleol, a sicrhau bod ysgolion yn gwbl ymwybodol o'u dyletswyddau o dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018; ac, yn bwysig iawn, mwy o eglurder ynghylch yr hyn sy'n cyfrif fel darpariaeth ddysgu ychwanegol, hynny yw, rhywbeth ychwanegol neu wahanol i'r ddarpariaeth sydd ar gael yn gyffredinol mewn ysgolion a gynhelir, addysg bellach ac addysg feithrin. 

Mae canfyddiadau cynnar Tribiwnlys Addysg Cymru yn cadarnhau'r angen am benderfyniadau tryloyw a chyfathrebu clir gan awdurdodau lleol, gan leihau amrywioldeb rhwng ardaloedd a rhoi sylw i unrhyw anghysondeb wrth ddefnyddio'r Ddeddf a'r cod. Mae'n amlwg bod angen gwella rhai meysydd, ac rŷn ni'n cydweithio gyda'r sector addysg i weithredu a dod o hyd i atebion gyda'n gilydd.

Llywydd, er mwyn rhannu ac ymdrin â'r themâu sydd wedi dod i'r amlwg yn yr adolygiadau rydyn ni wedi'u comisiynu, yn gynnar ym mis Hydref, gwnaethon ni alw cyfarfod o'r holl awdurdodau lleol i drafod y mewnwelediadau cenedlaethol hynny, tueddiadau mewn data ar lefel ysgol ac i nodi camau gweithredu i fwrw ymlaen ag argymhellion Estyn ar gyfer Llywodraeth Cymru, ysgolion ac awdurdodau lleol. Dyma ein prif flaenoriaethau ar gyfer gweithredu.

Yn gyntaf, byddwn ni'n sicrhau bod y broses gymhwyso yn fwy cyson ledled Cymru drwy gynyddu arweinyddiaeth weithredu genedlaethol yn y system a darparu hyfforddiant ymarferol ar y Ddeddf a'r cod, a fydd ar gael i bawb. Rydyn ni'n recriwtio arweinwyr gweithredu i roi mwy o gefnogaeth a her i awdurdodau lleol ar ôl troed cenedlaethol. Byddan nhw'n creu cyfleoedd cydweithredol i rannu arfer dysgu, ac rwy'n falch bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno i fod yn gyflogwr lletyol.

Rydyn ni wedi clywed gan bartneriaid bod diffyg gwelededd yn y ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu i fodloni gofynion y Ddeddf. Ers 2020, rydyn ni wedi buddsoddi dros £62 miliwn mewn refeniw, ac £20 miliwn mewn cyfalaf, i gefnogi gweithredu'r system newydd. Mae hyn yn cynnwys £10 miliwn i ysgolion i hybu adnoddau, i ôl-lenwi ac i gynnal tîm o amgylch y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol. Mae fy swyddogion yn cynnal adolygiad nawr o'r sefyllfa ariannu ysgolion yng Nghymru, a bydd hyn yn ein helpu ni i ddeall ble y gallai fod cyfleoedd i wella cysondeb o ran sut rydyn ni'n ariannu ysgolion. Ac mae hyn yn cynnwys dosbarthu cymorth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae cyflwyno newid o'r raddfa hon yn y system yn llwyddiannus yn dibynnu ar sgiliau a gwybodaeth athrawon, fel bod ystafelloedd dosbarth prif ffrwd yn gallu cefnogi cynifer o ddisgyblion â phosibl i wneud cynnydd. Er mwyn sicrhau hyn, rydyn ni'n adolygu'r cynnig dysgu proffesiynol ADY, gan gynnwys darparu adnoddau ychwanegol, cryfhau'r canllawiau arfarnu statudol fel eu bod yn nodi'n well lle mae bylchau mewn sgiliau a gwybodaeth, a chynyddu'r gofynion ar gyfer hyfforddiant ADY yn y meini prawf achredu ar gyfer pob darparwr addysg gychwynnol athrawon. A byddwn ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid gwella ysgolion i gefnogi ysgolion i ddatblygu cwricwlwm cynhwysol, a chefnogi ymarferwyr i ymgymryd ag ymchwiliad proffesiynol i wella addysgu a dysgu ar gyfer dysgwyr ag ADY.

Llywydd, un o'r pethau sydd wedi fy nharo ers dod yn Weinidog addysg yw, ar gyfer pob cwestiwn rydyn ni'n ceisio ei ddatrys, mae ysgol yn rhywle sydd wedi dod o hyd i ateb, neu o leiaf ran dda o'r ateb. Yfory, yn Abertawe, byddwn ni'n gweld yr ail o gyfres newydd o ddigwyddiadau ymarferwyr sy'n cael eu cynnal drwy gydol y gaeaf. Yn y digwyddiadau hyn, bydd ymarferwyr o'r blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd, addysg arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion yn rhannu eu profiadau o gynllunio, dylunio a gweithredu cwricwla sy'n cefnogi tegwch a chynhwysiant, fel bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd ac yn cyflawni ei botensial, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae'n amlwg bod angen gwell cydweithredu rhwng rhannau o'r system. Felly, rydyn ni wedi sefydlu gweithgor amlasiantaeth iechyd ac addysg newydd i fynd i'r afael â rhwystrau i gydweithredu ac i ymdrin â heriau cyffredin eraill sy'n dod i'r amlwg o'n profiad o weithredu. Mae'r swyddog arweiniol clinigol dynodedig addysg, y swyddogion SACDA, mewn byrddau iechyd lleol yn gweithio nawr ar ddatblygu dangosyddion perfformiad allweddol i gefnogi ac adrodd ar ymgysylltiad byrddau iechyd ag awdurdodau lleol o ran cynllunio a darparu darpariaeth ddysgu ychwanegol dan arweiniad iechyd.

Mae cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn blaenoriaethu sut y gall awdurdodau lleol wella darpariaeth ddysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae grŵp rhanddeiliaid cenedlaethol traws-sector, sy'n dwyn ynghyd brofiad ac arbenigedd o addysg, awdurdodau lleol, byrddau iechyd a'r trydydd sector wedi'i sefydlu i lywio'r gwaith o ddatblygu darpariaeth, adnoddau a dysgu proffesiynol cyfrwng Cymraeg ar lefel genedlaethol. Byddan nhw'n gweithio gydag Adnodd, y cwmni adnoddau addysg newydd, sy'n goruchwylio adnoddau addysgol i gefnogi addysgu a dysgu'r Cwricwlwm i Gymru.

Rwy'n cydnabod pryderon teuluoedd yn ystod cyfnod o newid mawr. Rwyf wedi ymrwymo i fagu hyder rhieni ym mhob rhan o Gymru, gan fanteisio ar gryfderau cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gwella penderfyniadau a chyfathrebu tryloyw gan awdurdodau lleol a'u hysgolion o ran yr hyn sy'n gyfystyr â darpariaeth ddysgu ychwanegol a phennu ADY yn flaenoriaeth.

Wrth gwrs, dim ond newydd ddechrau y mae llif dysgwyr ôl-16. Rwyf wedi darparu £2.1 miliwn dros dair blynedd i golegau addysg bellach i wella'r profiad addysg i bobl ifanc ac, yn hollbwysig, i gryfhau cydweithio ag awdurdodau lleol a gydag ysgolion i gefnogi pontio cadarnhaol. Yn y cyfamser, mae awdurdodau lleol eu hunain yn dechrau gwneud penderfyniadau ar leoliadau arbenigol ôl-16, cyn trosglwyddo cyllid a chyfrifoldeb i awdurdodau lleol erbyn diwedd blwyddyn ysgol 2024-25.

Yn olaf, Llywydd, mae monitro parhaus yn hynod o bwysig. Bydd adolygiad thematig nesaf Estyn yn ystyried gweithredu mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion arbennig a gynhelir. Cyn bo hir, bydd y rhaglen llysgenhadon ADY newydd yn dechrau gwrando ar brofiad plant o'r system ADY mewn ysgolion a lleoliadau ledled Cymru. Bydd ein rhaglen werthuso pedair blynedd ni'n cynnwys astudiaethau yn seiliedig ar ardal ac yn gofyn am adborth gan ymarferwyr, rhanddeiliaid, dysgwyr a'u teuluoedd o ran eu profiadau o'r system ADY a'i gweithredu. Disgwylir i'r adroddiad cwmpasu gael ei gyhoeddi fis nesaf a bydd yn nodi blaenoriaethau ac ymholiadau allweddol ar gyfer y gwerthusiad.

Ers cyflwyno deddfwriaeth ALNET yn 2018, mae'r dirwedd addysg wedi cael ei diwygio'n sylweddol, yn erbyn cefndir o bandemig sydd wedi effeithio ar bob rhan o gymdeithas ac wedi cyffwrdd â bron pob agwedd ar fywyd yr ysgol. Fodd bynnag, Llywydd, pan fyddaf i'n ymweld ag ysgolion a cholegau, a phan fyddaf i'n siarad â phenaethiaid wyneb yn wyneb, er gwaethaf pwysau rheoli newid, mae creadigrwydd a brwdfrydedd gwirioneddol dros ddiwygio ADY, ac ymrwymiad parhaus i greu newid cadarnhaol i'n holl ddysgwyr.

15:35

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae eich datganiad, mae'n rhaid i mi ddweud, yn rhoi darlun gwahanol iawn o gyflwr ADY yn ein hysgolion i'r un yr wyf i'n ei glywed wythnos ar ôl wythnos, yn ein hysgolion, Gweinidog, a'r dystiolaeth rydyn ni wedi'i chasglu yn ein pwyllgor plant a phobl ifanc; rwy'n gweld y bydd y Cadeirydd yn siarad yn ddiweddarach yn y ddadl ac rwy'n siŵr y bydd yn ymhelaethu ar hyn.

Roedd angen y system, y diwygiad ADY, wrth gwrs—does neb yn anghytuno â hynny, ac roedd newid yn cael ei groesawu i raddau helaeth. Ond mae'r rhai sy'n ceisio ei ddehongli a'i ddefnyddio o ddydd i ddydd yn dal i ddweud ei fod yn llawer rhy gymhleth, yn ogystal â'i fod yn cael ei ddehongli 22 o wahanol ffyrdd gan 22 o awdurdodau lleol gwahanol. Gweinidog, y peth cyntaf y gwnaeth fy nharo i, fodd bynnag, o'ch datganiad, yw'r ffaith ei bod yn ymddangos eich bod chi'n cytuno ag adolygiad thematig Estyn pan eu bod yn datgan nad oedd unrhyw dystiolaeth nad oedd anghenion ADY plant yn cael eu diwallu yn y lleoliadau a'r awdurdodau lleol a oedd yn rhan o'r adolygiad hwnnw. Mae hyn yn anghredadwy. Mae hynny'n peri dryswch i mi. Ni allaf gredu'r hyn a glywais i gennych chi.

Gweinidog, mae cyllid ar gyfer disgyblion ag ADY yn gwbl annigonol a dyna ben arni. Yn syml, nid yw'r rhan fwyaf o ysgolion yn cael yr arian sydd ei angen arnyn nhw i ddarparu amodau priodol ar gyfer myfyrwyr ADY na'r staff sydd eu hangen i ddiwallu eu hanghenion cymhleth. Mae pwysau annioddefol ar athrawon a phenaethiaid oherwydd cyllidebau ysgolion sydd dan straen ar hyn o bryd, ac eto maen nhw'n gorfod ymdopi â niferoedd cynyddol o ADY a niferoedd cynyddol o anghenion ADY acíwt ac amrywiol mewn addysg prif ffrwd. Mae yna lawer iawn o blant hefyd yn aros hyd at 18 mis dim ond i gael diagnosis, sydd ynddo'i hun yn warthus, ac yn ystod yr amser aros hwnnw nid ydyn nhw'n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw ac nid oes gan ysgolion yr arian sydd ei angen arnyn nhw i'w cefnogi. Mae hyn yn gadael ysgolion mewn sefyllfa gyda phlant difreintiedig ac athrawon yn cael trafferth eu dysgu. Gweinidog, beth ydych chi'n ei wneud yn benodol i leihau'r amseroedd aros hynny i blant gael diagnosis yng Nghymru? Fel y gwyddoch chi, dyna un o'r problemau mwyaf y mae teuluoedd ADY yn eu hwynebu ar hyn o bryd—mae'r effaith ar ddysgwyr, wrth gwrs, yn fawr, ac mae hefyd yn achosi pryder ar draws y teulu cyfan, a mae'r dysgwr ADY dan anfantais.  

Mae cyllidebau ysgolion dan gymaint o bwysau fel nad oes ganddyn nhw'r arian ar gyfer athrawon neu hyfforddiant arbenigol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i staff ymdrin â'r anghenion mwy cymhleth sy'n cael eu gweld, neu i gael nifer y staff sydd eu hangen arnyn nhw. Gall hyn fod yn gefnogaeth 1:1 neu 2:1. Mae'r cwricwlwm newydd yn ddefnyddiol wrth geisio darparu i gymysgedd o fyfyrwyr ADY—rwy'n cytuno â hynny—a dysgwyr prif ffrwd eraill. Ond yr hyn sydd ei angen i ddarparu unrhyw fath o addysg yn yr ystafell ddosbarth yw'r staff fesul disgybl ADY, y gefnogaeth honno yn yr ystafell ddosbarth. Mae'n amlwg bod angen cyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion pob disgybl yn cael eu diwallu. Rwyf wedi gweld wynebau'r athrawon hyn sy'n torri eu calonnau nad yw disgyblion yn cael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw o ran cefnogaeth yn ein hystafelloedd dosbarth ar hyn o bryd. Dim ond bore ddoe, ymwelais i ag ysgol gynradd yn fy rhanbarth i nad oedd ganddyn nhw ddigon o arian yn eu cyllideb i ddarparu'r cymorth i blant ag ADY, yn enwedig ADY acíwt, yr oedd ei angen arnyn nhw, gan ei gwneud nid yn unig yn anodd i'r plentyn hwnnw, fel y dywedais i, ond i bob plentyn yn y dosbarth hwnnw, yn ogystal â'r athrawon. 

ADY yw'r prif fater ym mhob ysgol yr wyf i'n ymweld â hi ledled Cymru, ac mae'n warthus bod y Llywodraeth Lafur hon wedi methu â gwneud unrhyw beth yn ei gylch ar frys. Nid yw'r system bresennol yn addas at y diben heb ymyrraeth ariannol fawr gan Lywodraeth Cymru nawr, ac nid ymhen pedair blynedd. Gweinidog, yr hyn sy'n amlwg yw na all ysgolion aros am adolygiad ariannu arall a allai neu na allai newid y cyllid ar gyfer ADY. Mae ysgolion angen cyllid uniongyrchol, ac mae ei angen arnyn nhw nawr i ymdopi â'r cynnydd yn nifer y plant ag ADY, a does dim amser i'w golli ar hyn, Gweinidog. Beth am y rhai sy'n colli allan ar addysg nawr? Sut ydych chi'n cynnig eu bod nhw'n ymdopi wrth i chi betruso ac oedi ynghylch a ddylai'r cyllid gael ei gynyddu ac wrth i chi geisio darganfod yr hyn rydyn ni i gyd eisoes yn ei wybod o ran ADY yn ein hysgolion?

Gyda'r newid tuag at ddarpariaeth gyffredinol, mae myfyrwyr yn wynebu risg o syrthio rhwng y craciau a pheidio â chael y lefel o gefnogaeth y bydden nhw wedi'i chael yn flaenorol, neu, yn waeth byth, peidio â chael eu hadnabod yn iawn o gwbl. A wnewch chi gael ffydd mai ysgolion sy'n gwybod orau sut i ofalu am y plant hyn, efallai arian hyblyg fel bod ysgolion yn gallu addasu i'r anghenion gwahanol hyn? A dylai cynnydd yn nifer yr arweinwyr ADY awdurdodau lleol gael ei ariannu'n genedlaethol, oherwydd ar hyn o bryd maen nhw'n ymdrin â thua 300 o achosion fesul swyddog, ac nid yw hynny'n gynaliadwy. Diolch. 

15:40

Diolch i Laura Anne Jones am y sylwadau a'r cwestiynau hynny. Rwy'n credu i mi ei chlywed hi'n dweud, o ran yr hyn yr oedd Estyn wedi'i ddweud, na allai wir gredu'r hyn yr oedd hi wedi fy nghlywed i'n ei ddweud. Gadewch i mi awgrymu iddi hi bod hynny oherwydd nad oeddwn i wedi dweud hynny mewn gwirionedd. Rwy'n credu, rwy'n gobeithio, mai'r hyn y clywodd yr Aelod yn y datganiad oedd cydnabyddiaeth onest o amrywiaeth o heriau yn y system, yn seiliedig ar glywed yn uniongyrchol gan ddysgwyr, rhieni, athrawon ac eraill yn y system, a chyfres ymarferol o gynigion ar gyfer ymdrin â rhai o'r heriau hynny, ac adlewyrchu'r hyn rydyn ni wedi'i glywed drwy brofiad bywyd y rhai yn y system.

Fe wnaeth hi ddau bwynt sylweddol, rwy'n credu. Roedd y cyntaf yn ymwneud ag ariannu. Y pwynt am yr adolygiad yw hyn—ac, rwy'n credu, o'i sylwadau y byddai hi'n derbyn hyn—mai'r hyn rydyn ni'n cael gwybod gan ymarferwyr, a gan benaethiaid yn benodol, yw nad oes ganddyn nhw ddealltwriaeth ddigonol o sut mae'r cyllid rydyn ni'n ei gyhoeddi fel Llywodraeth yn cyrraedd ysgolion yn y pen draw. Rwy'n credu bod cydnabyddiaeth ein bod ni wedi cynyddu'n sylweddol y cyllid i mewn i'r system i ymdrin ag effeithiau'r diwygiadau, sy'n bellgyrhaeddol iawn ac sy'n cael eu cyflwyno ar adeg o alw cynyddol, os mynnwch chi, oherwydd y pwysau ar ein system a'r cynnydd yn nifer y dysgwyr ifanc sy'n dod i mewn i'r system sydd ag anghenion mwyfwy cymhleth. Felly, yn ystod y ddwy neu dair blynedd diwethaf, mae'r cyllid wedi bod gwerth tua £62 miliwn o refeniw. Bydd hi wedi gweld y cyhoeddiad y gwnes i eleni o ran gweithredu, ac mae £10.4 miliwn ohono wedi mynd yn y ffordd yr oedd hi'n gofyn amdano yn ei datganiad—mae wedi mynd yn uniongyrchol i'r ysgolion eu hunain i gynyddu'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw. Mae hynny'n ychwanegol at dros £9 miliwn i ymdrin â phwysau ychwanegol ynghylch anghenion cymdeithasol ac emosiynol dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n ei chael hi'n anodd cyrraedd yr ysgol, ac yn ychwanegol eto at y grant cyfalaf, y bydd hi wedi fy ngweld i'n ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf, i gefnogi newidiadau i adeiledd ysgolion, y cyfleusterau mewn ysgolion, er mwyn galluogi mwy o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i gael eu haddysgu mewn amgylchedd prif ffrwd.

Ond y pwynt am yr adolygiad yw hyn: ni fydd yn oedi'r buddsoddiad yr wyf i newydd ei gyhoeddi. Felly, nid oes cwestiwn am hynny. Mae'n ymwneud â deall beth gallwn ni ei gyflwyno i'r system i sicrhau mwy o gysondeb, fel bod amgylchiadau tebyg yn denu lefelau tebyg o gyllid. Dyna'r neges gyson rydyn ni'n ei chlywed gan ymarferwyr a rhieni, a dyna beth mae'r adolygiad yn bwriadu ymdrin ag ef.

Ar y pwynt y gwnaeth hi o ran diagnosis, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n glir na ddylai ysgolion fod yn aros am ddiagnosis cyn rhoi CDU i ddysgwr. A'r rheswm am hynny yw mai'r pwynt yw ymdrin ag anghenion y dysgwr, nid y diagnosis. Ar wahân i hynny, bydd hi'n gwybod bod mentrau y mae rhannau eraill o'r Llywodraeth yn eu cyflawni i wella amseroedd aros ar gyfer diagnosis mewn meysydd penodol.

Felly, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol y llynedd fuddsoddiad o £12 miliwn i wella amseroedd aros ar gyfer diagnosis o gyflyrau niwroamrywiol. A'r hyn yr ydyn ni'n ei weld yn y modd y mae hynny'n mynd rhagddo yw gwaith creadigol i dreialu dulliau gweithredu newydd rhwng byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i hwyluso'r cydweithredu a'r cydweithio rhwng y gwasanaeth iechyd a'r system ysgolion, sef yr hyn sy'n sail i'r ddeddfwriaeth, mewn gwirionedd. Ac rydyn ni'n gweld rhywfaint o'r cyllid hwnnw'n arwain at y canlyniadau hynny mewn gwirionedd. Ac, fel y dywedais i'n gynharach, rhan o'r her yma yw nodi lle mae'r ymarfer hwnnw'n digwydd ac yna'i ledaenu, fel bod rhannau eraill o'r system yn gallu gweithredu yn yr un modd yn y ffordd honno.

15:45

Gweinidog, hoffwn i groesawu eich datganiad heddiw. Rwy'n meddwl—wel, rwy'n gobeithio—ein bod ni i gyd yn unedig mai'r hyn rydyn ni ei eisiau yw system ADY sy'n gweithio, ac rydyn ni'n croesawu'r dull o beidio ag aros am ddiagnosis ac y dylai ysgolion fod yn cefnogi ac yn cymryd y dull hwnnw sy'n canolbwyntio ar y disgybl. A, fel chi, rwyf wedi gweld rhai enghreifftiau gwych ledled Cymru lle mae hyn yn gweithio'n dda, ond yn yr un modd mae straeon torcalonnus. Yr hyn oedd yn galonogol i mi o'ch datganiad heddiw oedd cydnabyddiaeth o ran lle mae angen i ni wella. Ac mae hynny'n bwysig iawn, iawn, ein bod ni'n myfyrio ac yn dysgu a'n bod ni'n gallu addasu. Ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. 

O'm rhanbarth fy hun, ond hefyd fel llefarydd addysg, rwyf wedi cael cannoedd o bobl yn cysylltu â mi ynghylch anghenion dysgu ychwanegol, a'r un peth nad yw, efallai, yn cael ei adlewyrchu yn adroddiad Estyn yw'r rhai nad oes ganddyn nhw blant yn yr ysgol oherwydd heriau ar hyn o bryd ac, am ba reswm bynnag, nad ydyn nhw'n teimlo bod ysgolion yn gallu diwallu anghenion eu plentyn neu berson ifanc. Rwyf wedi sôn o'r blaen, ac mae wedi aros gyda mi, cwrdd â rhieni sydd wedi cyrraedd y pwynt lle maen nhw'n teimlo fel lladd eu hunain oherwydd eu bod yn teimlo na allan nhw gefnogi eu plant, ac maen nhw ar goll mewn rhai o'r adroddiadau ar hyn o bryd. Hefyd, o ran y trawma i'r plant hynny sydd efallai wedi cael yr un profiad gwael hwnnw yn yr ysgol sy'n golygu wedyn eu bod yn cael eu troi yn erbyn addysg yn llwyr, sut ydyn ni'n mynd i sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu gadael wrth i ni geisio unioni pethau? Felly, byddwn i'n croesawu unrhyw awgrymiadau sydd gennych chi neu unrhyw wybodaeth arall am sut rydyn ni'n estyn allan i'r rhieni hynny sydd efallai'n ei chael hi'n anodd gydag addysg gartref ar hyn o bryd oherwydd eu bod yn teimlo nad yw anghenion eu plentyn wedi cael eu diwallu neu, am ba bynnag reswm, nad yw eu plentyn mewn addysg.

Un o'r pethau rwy'n ei groesawu yw'r pwyslais o ran hyfforddiant ADY a chynyddu hynny o ran yr holl ddarparwyr addysg gychwynnol athrawon. A fydd hynny'n hanfodol i bawb, neu a yw'n ddewisol, oherwydd ar hyn o bryd mae'n gallu amrywio? Felly, byddwn i'n croesawu rhywfaint o wybodaeth am hynny.

Os caf i droi i'r Gymraeg: yn amlwg un o'r pethau sydd wedi bod yn amlwg—ac mae hyn yn glir yn adroddiad Estyn hefyd—ydy'r anghysondeb o ran y ddarpariaeth yn y Gymraeg ledled Cymru. Mi oedd adroddiad Comisiynydd y Gymraeg a'r comisiynydd plant yn glir iawn ar hynny. Rydych chi'n sôn yn eich datganiad ynglŷn â'r grŵp sydd wedi dod ynghyd i edrych ar hyn. A gaf fi ofyn: ydy Comisiynydd y Gymraeg a’r comisiynydd plant neu eu timau yn rhan o hynny? Dwi'n meddwl ei bod hi'n allweddol bwysig ein bod yn sicrhau gweithredu ar hyn. A sut ydych chi'n monitro’r cynnydd sy'n cael ei wneud drwy’r cynlluniau—y WESPs, felly—o ran hyn, oherwydd yn amlwg, mae ar bapur yn gallu bod yn wahanol iawn i realiti? Rydym yn dal i glywed yn anffodus am deuluoedd yn gorfod newid iaith yr aelwyd oherwydd y diffyg darpariaeth ac ati, felly dim ond eisiau ychydig bach mwy o wybodaeth o ran hynny.

Y peth arall hoffwn i ei ofyn ydy: rydym yn clywed lot fawr yn amlwg yn y Siambr yma ynglŷn â'r sefyllfa ariannol bresennol hynod o heriol. Un o’r pethau sy'n amlwg ydy mai buddsoddiad sydd ei angen o ran diwallu anghenion, ac rydych chi eich hun wedi sôn o ran yr heriau lu yn sgil COVID, ac ati. Mae’n amlwg yn adroddiad Estyn, hefyd, rhai o'r heriau sydd y tu hwnt i’ch cyllideb chi efo iechyd ac ati, rhai o'r heriau o ran y backlog sydd er mwyn cael pethau fel therapi lleferydd ac ati. A gaf fi ofyn, felly: faint o bryder ydy'r sefyllfa ariannol bresennol i chi fel Gweinidog o ran gallu diwallu'r uchelgais sydd gennych chi, a dwi'n ei rhannu o ran anghenion dysgu ychwanegol, ac yn benodol felly o ran y staff ychwanegol mewn ysgolion sydd yn creu'r ddarpariaeth a'r gefnogaeth honno? Ydy o'n rhywbeth sy’n eich pryderu chi, ac ydych chi'n meddwl y byddai fo'n gallu cael effaith o ran sut ydyn ni'n mynd rhagddo i sicrhau ein bod ni ddim efo'r loteri cod post yma sydd yn bodoli ar y funud, a bod yna gysondeb lle bynnag eich bod chi'n byw yng Nghymru, eich bod chi'n cael y gefnogaeth a'r dechrau a'r gefnogaeth orau i bob plentyn a pherson ifanc? Diolch.

15:50

Diolch am y cwestiynau pwysig rheini a pherthnasol iawn. Mi wnaf i gychwyn lle gorffennodd yr Aelod ar y syniad yma o gynnig cyson ar draws Cymru lle bynnag ŷch chi'n byw. Mae hynny’n elfen bwysig, ond gobeithio bod hynny'n dod allan yn y datganiad, ein bod ni'n yn derbyn bod hynny yn issue. Dwi wedi cwrdd fy hun â llywydd y tribiwnlys i drafod y patrwm sy’n datblygu o ran achosion sy’n dod o flaen y tribiwnlys, ac mae’n glir ddigon fod angen sicrhau bod dealltwriaeth fwy cyson ar draws Cymru rhwng cynghorau lleol o sut mae gweithredu'r Ddeddf a’r cod. Roedd hon yn un o’r themâu cadarnhaol dwi'n credu ddaeth allan o’r cyfarfod ym mis Hydref rhwng cynghorau, lle roedd pobl yn gallu trafod gyda'i gilydd yr approaches gwahanol ac yn sylweddoli cymaint o amrywiaeth oedd yn datblygu. Felly, mae hynny wedi bod yn galonogol. Dwi'n credu bod pobl yn cydnabod yr angen i wneud hynny.

Gwnaeth yr Aelod gyfres o bwyntiau pwysig ynglŷn â clywed llais y dysgwr a chlywed llais rhieni sydd â phrofiad o’r system yn hyn o beth. Mae gwaith ar waith eisoes trwy Snap Cymru a thrwy Children in Wales i sicrhau bod mwy o hyn yn digwydd, ein bod ni'n gallu clywed yn fwy uniongyrchol gan rieni a dysgwyr beth yw eu profiadau nhw o’r system, fel ein bod ni'n gallu ymateb i hynny’n gyflymach. Mae rhan o'r gwaith hwnnw’n mynd i gefnogi a gwella sgiliau dysgwyr eu hunain i allu cymryd rhan yn y math yna o gyfathrebu, fel ein bod ni'n gwrando’n uniongyrchol arnyn nhw. Felly, rwy’n obeithiol iawn y bydd hynny’n ein helpu ni.

Rydym ni'n dal yn cefnogi’r gymuned sydd yn addysgu gartref drwy’r gyllideb sydd gyda ni yma yng Nghymru, rhyw £1.7 miliwn, ac ar ben hynny, mi wnes i sôn yn fras gynnau am y dros £9 miliwn rŷn ni newydd ddyrannu i gefnogi disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol sydd efallai am resymau emosiynol, cymdeithasol, sydd yn aros i ffwrdd o'r ysgol, beth y gallwn ni ei wneud i'w cefnogi nhw i'w denu nhw yn ôl. Felly, mae amryw o'r pethau yna yn gwthio yn y cyfeiriad hwnnw.

O ran y Gymraeg, ces i gyfarfod y bore yma gyda’r comisiynydd, ac mi wnaethon ni drafod yn union fater—[Torri ar draws.]—Comisiynydd y Gymraeg; ymddiheuriadau—ac mi wnaethon ni drafod yr union fater hwn, ac rŷn ni wedi cytuno y byddwn ni'n cadw’r cwestiwn yma o anghenion dysgu ychwanegol a'r ddarpariaeth ar ein hagenda ni yn gyson fel ein bod ni'n cael cyfle rheolaidd sawl gwaith y flwyddyn i fynd i’r afael â’r datblygiadau.

Rwy'n credu bydd y grŵp yn helpu gyda'r cydweithio ag Adnodd. Rydym ni newydd apwyntio prif weithredwr i Adnodd felly bydd cyfle nawr i allu mynd i'r afael yn ymarferol â chynyddu'r ddarpariaeth. Rwy'n gobeithio byddwn ni yn y sefyllfa yn y flwyddyn newydd ein bod ni wedi apwyntio'r arweinydd cenedlaethol yn y Gymraeg, fydd hefyd yn gyfle wedyn i gydlynu beth sydd yn digwydd ac i sicrhau ein bod ni'n deall yn union beth yw'r angen. Mae'n sicr bod angen symud yn gyflym ar hyd y llwybr hwnnw, felly bydd yr apwyntiad hwnnw yn y flwyddyn newydd hefyd yn sicr yn helpu.

15:55

Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn craffu ar weithrediad y diwygiadau ADY mewn ymchwiliad sy'n para hyd y Senedd ac rydym yn ceisio gwneud rhywbeth newydd—rydym yn cynnal archwiliadau rheolaidd, fel y gwyddoch chi, archwiliadau dwfn, byr, ac â phwyslais i'r gwaith o gyflwyno diwygiadau ADY a'r cwricwlwm newydd, i weld sut mae'r gwaith gweithredu'n mynd ar adegau penodol ar hyd y daith. Felly, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog, a'i swyddogion, am eu hymgysylltiad adeiladol parhaus wrth i ni gyflawni'r darn pwysig hwn o waith. Ar hyn o bryd, rydym yn casglu tystiolaeth fel rhan o ymchwiliad mawr sy'n ystyried a oes gan blant anabl fynediad cyfartal at ofal plant ac addysg. Nid yw'n syndod bod y diwygiadau ADY wedi bod yn codi dro ar ôl tro; a hynny wrth i ni siarad â dysgwyr, rhieni a gweithwyr proffesiynol.

Mae'n bwysig cydnabod rhai pethau cadarnhaol, ac rydym wedi clywed tystiolaeth anecdotaidd, pan gaiff ei weithredu'n dda, fod y fframwaith ADY newydd wedi golygu bod cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol yn edrych eto ar eu hen gofrestri AAA, gan feddwl unwaith eto am anghenion pob plentyn unigol, siarad â rhieni'r plentyn a llunio'r cynlluniau datblygu unigol hyn sy'n diwallu anghenion y dysgwr mewn gwirionedd. Rydym yn gwybod bod rhai o'r sgyrsiau hynny'n mynd yn dda iawn ac mae rhai rhieni wedi adrodd wrthym eu bod yn teimlo bod mwy o bobl yn gwrando arnyn nhw ac yn ymwneud yn fwy ag addysg eu plentyn nag erioed o'r blaen.

Rydym hefyd wedi clywed am weithredu'r diwygiadau ADY yn cyd-fynd â chyflwyno'r cwricwlwm newydd, sydd wedi arwain at addysgu plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn fwy cynhwysol. Mae rhai ysgolion yn gwneud gwaith gwych o ddod â phlant, a allai fod wedi cael eu rhannu oddi wrth weddill y dosbarth yn flaenorol, i ddysgu mewn dosbarth cyfan, gan ddefnyddio gwahaniaethu a chefnogaeth staff cymorth addysgu i ddiwallu eu hanghenion dysgu ochr yn ochr â'u cyfoedion, yn hytrach nag ar wahân iddynt.

Ond, yn anffodus, Gweinidog, rydym hefyd wedi clywed rhai pryderon sy'n peri gofid. Rydym yn clywed yr un gair dro ar ôl tro, ac 'anghysondeb' yw hwnnw: anghysondeb yn y modd y mae ysgolion yn ymdrin â'r sgyrsiau hanfodol hyn â dysgwyr a'u rhieni, ac a yw plant a oedd ar y gofrestr AAA yn flaenorol yn cael eu cydnabod fel rhai ag ADY ac yn cael cynllun datblygu unigol; anghysondeb yn y modd y mae awdurdodau lleol yn cefnogi ysgolion a'r trothwyon ar gyfer cymryd cyfrifoldeb dros anghenion dysgu plentyn; ac anghysondeb o ran sut mae byrddau iechyd lleol yn gweithio ochr yn ochr ag ysgolion i helpu staff ysgolion i ddeall anghenion dysgwyr ac yn darparu ar eu cyfer yn unol â hynny, a lefel mewnbwn y gwasanaethau iechyd i drafodaethau ar y penderfyniadau ynghylch ADY. Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn am anghysondebau yn eich datganiad heddiw, efallai y gallech chi ddweud ychydig yn fwy am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddileu'r anghysondebau hynny a sut y byddwch chi'n monitro'r rheini o ran cymhwyso'r cod ADY.

Wrth gwrs, rydym yn deall nad yw'n realistig disgwyl y bydd pob rhiant a gofalwr bob amser yn cytuno â'r penderfyniadau a wneir gan ysgolion ac awdurdodau lleol ynghylch anghenion dysgu eu plant a sut y dylid diwallu'r anghenion hynny. Weithiau, er gwaethaf ymdrechion gorau pawb, ni fydd yn bosibl datrys yr anghytundebau hynny yn anffurfiol, a dyna pam mae'r mecanweithiau apêl hynny sy'n rhan annatod o'r Ddeddf yn hanfodol bwysig. Rydym wedi clywed nad yw llawer o rieni yn deall eu hawliau o dan y Ddeddf a pha gamau y gallan nhw eu cymryd i uwchgyfeirio eu pryderon. Felly, Gweinidog, pa mor hyderus ydych chi bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn sicrhau bod rhieni'n gwybod eu hawliau i apelio o dan y Ddeddf a bod yr hawliau hyn yn cael eu cyfathrebu'n rheolaidd, ac awdurdodau lleol yn cael hysbysiad o benderfyniadau?

Diolch i Jayne Bryant am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu iddi ofyn ei chwestiynau a nodi ei hasesiad, os caf i ddweud, yn deg iawn, ac mae rhai o'r pwyntiau a wnaeth hi yn ei chwestiwn yn cyd-fynd â'r hyn yr ydym ni wedi'i glywed ein hunain yn yr amrywiol adolygiadau, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am eu gwaith. Os caf i ddweud, mae'n ddefnyddiol iawn, o'n safbwynt ni fel Llywodraeth, i fod â phwyllgor sy'n barod i wneud y gwiriadau rheolaidd hynny, a hefyd i wneud hynny yng nghyd-destun cydnabod bod diwygio'r anghenion dysgu ychwanegol a'r Cwricwlwm i Gymru yn digwydd, fel y dywedodd hi yn ei chwestiwn, ar yr un pryd, ond maen nhw hefyd yn ategu ei gilydd ac mae angen eu gweld yn y cyfanrwydd hwnnw. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymddangos gerbron y pwyllgor yfory ynghylch ei adolygiad o brofiad plant anabl yn y system ysgolion. Soniodd hi am rôl CADY, a dylwn i fod wedi dweud yn fy ymateb i Heledd Fychan yn gynharach fy mod ar fin derbyn adolygiad i rôl a chyfrifoldebau CADY a byddaf mewn sefyllfa i ddweud mwy am hynny yn y flwyddyn newydd.

Soniodd Jayne Bryant am bwysigrwydd y dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud, er gwaethaf nifer o heriau wrth gyflwyno diwygiadau ar y raddfa hon ar hyn o bryd, bod brwdfrydedd cyffredinol dros y dull cynyddol hwnnw o ganolbwyntio ar yr unigolyn. Ond rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ddweud, ochr yn ochr â'r lefel honno o ddarpariaeth bwrpasol ar gyfer pob dysgwr unigol, ei bod yn hawl cwbl deg y byddai mwy o gysondeb ar draws y system. Bydd rhywfaint o hynny'n cael ei gyflawni drwy waith yr arweinydd cenedlaethol, a fydd yn cymryd ymagwedd fwy Cymru gyfan ar hyn o bryd wrth gyflwyno'r diwygiadau. Fe ddechreuon ni, fel y bydd hi'n gwybod, gyda dull rhanbarthol, ac rwy'n credu wrth i ni weld y diwygiadau'n cael eu cyflwyno, mae wedi dod yn fwy eglur bod yr amser yn iawn i symud i ôl troed cenedlaethol ar gyfer rhai o'r newidiadau, felly bydd hynny'n cael ei weithredu.

Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ddweud bod rhywfaint o'r anghysondeb yn dod o amrywioldeb wrth ddehongli rhai o ddarpariaethau'r Ddeddf yn y cod, yn enwedig ynghylch yr hawl i CDU, a hefyd beth mae darpariaeth ddysgu ychwanegol yn ei olygu mewn gwirionedd. Mae rhywfaint o hynny, eto fel y dywedodd hi yn ei chwestiwn, yn ymwneud â'r amrywiad mewn dulliau rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion. Rwy'n defnyddio'r gair 'amrywiad', yn hytrach nag 'anghysondeb', oherwydd mae lefel o amrywiad yn y ffordd y caiff trefniadau eu rhoi ar waith mewn gwahanol awdurdodau lleol, ac mae hynny'n beth cwbl briodol. Ni fyddech chi'n disgwyl gweld unffurfedd. Rwy'n credu mai lefel o amrywiad yw'r hyn y byddech chi'n disgwyl ei weld, ond rwy'n credu bod hynny'n wahanol i anghysondeb. Rwy'n credu bod hynny'n wahaniaeth pwysig i ni ei gadw mewn cof.

Gofynnodd hi yn benodol pa feysydd y byddem ni'n edrych arnyn nhw gyda'r lens honno. Mae rhywfaint ohono'n ymwneud â darparu arweiniad clir ynghylch diffiniadau yn y Ddeddf, felly byddwn ni'n darparu hyfforddiant ac adnoddau ychwanegol i bobl gael dealltwriaeth gliriach o hynny. Mae rhywfaint ohono, fel yr oedd hi, rwy'n credu, yn cyfeirio ato yn ei chwestiynau, yn ymwneud â chysondeb gweithdrefnol, fel bod gan bob rhan o'r system—dysgwyr a rhieni, ysgolion, awdurdodau lleol—ddealltwriaeth fwy cyffredin o sut mae'r broses yn gweithio, ac yn bwysig tryloywder o ran gwneud penderfyniadau, cyfathrebu'n brydlon, a'r pwynt y cododd Jayne Bryant yn benodol ynghylch yr hawliau apelio yn cael eu deall. Felly, byddwn ni eisiau gwneud yn siŵr bod hwnnw'n ddarlun mwy cyson ac, yn y berthynas rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd, gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill gan y swyddogion arweiniol clinigol dynodedig addysg i ddatblygu'r dangosyddion perfformiad hynny—. Y pwynt am hynny yw creu set fwy cyffredin o ddisgwyliadau ynghylch sut y bydd byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn cydweithio mewn amgylchiadau tebyg nag a allai fodoli mewn rhannau o Gymru ar hyn o bryd.

Yna, yn olaf, roedd hi'n holi sut y gall rhieni ddeall yr hawliau sydd ganddyn nhw ar ran eu plant yn y system. Mae cryn dipyn o ganllawiau ar gael eisoes mewn perthynas â hyn, fel y bydd hi, rwy'n gwybod, yn ymwybodol, ond rydym yn gweithio gyda Snap Cymru ynglŷn â sut y gallwn ni adeiladu ar hynny, os mynnwch chi, i sicrhau bod gennym sianel gyfathrebu sy'n galluogi rhieni a dysgwyr i ddweud wrthym beth yw eu profiad, ond sydd hefyd yn gallu rhoi arweiniad clir a chyson iddyn nhw am eu hawliau mewn amgylchiadau penodol. Rwy'n credu y byddwn yn canfod, pan fyddwn yn deall hynny'n well, bod rhai o'r achosion sydd, o reidrwydd efallai, yng nghamau cynnar cyfres fawr o ddiwygiadau, yn mynd i dribiwnlys, yn gallu cael eu datrys cyn y cam hwnnw, sy'n amlwg yn rhywbeth y byddem ni i gyd eisiau ei weld.

16:00

Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Mae gwaith achos ar ADY yn cymryd cyfran fawr o fy mewnflwch, ac rwy'n siŵr nad ydw i ar fy mhen fy hun yn hynny. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio i gefnogi disgyblion ag ADY, i'w galluogi i wneud y mwyaf o'u potensial ym mhob maes o'u haddysg, ac i dyfu'n ddinasyddion hapus a chyflawn.

Mae fy nghwestiwn cyntaf i chi heddiw am eich ymrwymiad i adolygu'r dirwedd ariannu ysgolion yng Nghymru, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad hwnnw a'r ffaith, yn benodol, y bydd yn canolbwyntio ar ddosbarthu'r gefnogaeth i ddisgyblion ag ADY. Rwy'n gwybod o sgyrsiau a gaf gydag athrawon yng Nghwm Cynon y gall fod yn anodd iawn iddyn nhw ddarparu'r cymorth unigol sy'n canolbwyntio ar y disgybl, a nodir yn CDU pob disgybl pan fyddan nhw eisoes wedi cael cyllideb sefydlog ar gyfer y flwyddyn academaidd honno. Felly, a yw hwn yn faes y gallwch chi ymrwymo i ymchwilio iddo fel y gall fod system sydd â digon o hyblygrwydd, er gwaethaf y pwysau cyllidol y mae'r gyllideb addysg yn ei wynebu, i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb y cymorth llawn y mae ganddo hawl iddo?

Yn ail, rwy'n croesawu'r ffaith y bydd adolygiad nesaf Estyn yn ystyried gweithredu o fewn lleoliadau blynyddoedd cynnar. Rwyf wedi gweld rhywfaint o arfer rhagorol yn y maes hwnnw, gan helpu ysgolion wedyn i gyflymu'r broses CDU a sicrhau bod ein dysgwyr ieuengaf yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw cyn gynted â phosibl yn ystod y blynyddoedd ffurfiannol hollbwysig hyn. Felly, a allech chi nodi i ni, Gweinidog, sut y gallai Estyn gasglu a lledaenu arfer gorau yn y maes hwnnw?

16:05

Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau hynny. O ran y dirwedd ariannu ysgolion yn ehangach, bydd hi'n gwybod am y gwaith a wnaed yn y gorffennol gan Luke Sibieta ar gyfer Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r dirwedd ariannu ysgolion yn gyffredinol. Yr hyn sy'n bwysig i ni gofio bob amser yw bod strwythur y ffordd y caiff ysgolion eu hariannu yng Nghymru, fel yr wyf yn gwybod bod Vikki Howells yn gwybod yn dda iawn, wedi'i ddatganoli i awdurdodau lleol i raddau helaeth, ac rwy'n credu mai dyna'r peth iawn, oherwydd mae'n galluogi awdurdodau i adlewyrchu amgylchiadau lleol, ond hefyd yr amrywiaeth yn y ddarpariaeth leol. Ac rwy'n mynd yn ôl at y pwynt a wnes i wrth Jayne Bryant: dydw i ddim yn credu bod amrywiaeth yn syndod, ond mae set gyson o hawliau yn amlwg yn bwysig o fewn hynny. Felly, nid ydym yn ceisio newid yr egwyddor honno o gwbl. Y cwestiwn yw sut gallwn ni roi'r sicrwydd, y credaf fod y rhieni a'r athrawon y mae hi'n siarad â nhw yn gofyn amdano, a sut gallwn ni esbonio pam mae lefel benodol o gyllid yn cyrraedd i gefnogi lefel benodol o weithgarwch. A dyna, rwy'n credu, yw'r darn o waith sydd gennym eisoes ar y gweill, fel mae'n digwydd.

Mae'r pwynt a wnaeth hi am hyblygrwydd cyllid, rwy'n credu, yn bwysig iawn, ac rwy'n ddiolchgar iddi am gydnabod y pwysau gwirioneddol ar gyllidebau ledled Llywodraeth Cymru, ond yn y cyd-destun hwn, y gyllideb ysgolion. Yr hyn rwy'n gobeithio y byddaf yn gallu ei wneud i gydnabod y pwysau ychwanegol hynny y mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn eu hwynebu yw darparu mwy o hyblygrwydd o ran sut y gellir gwario'r cyllid y mae fy adran i yn ei ddarparu. Mae llu o wahanol grantiau ar hyn o bryd, y bydd hi'n ymwybodol ohonyn nhw, a gall hynny greu llwyth gwaith sylweddol wrth adrodd ar y grantiau unigol hynny a rhoi cyfrif amdanyn nhw, ond mae hefyd yn golygu, weithiau, na ellir eu defnyddio, efallai, mor hyblyg ag y gallen nhw gael eu defnyddio fel arall. Yn aml iawn, maen nhw'n talu am gyflogi staff, ac felly mae lefel o hyblygrwydd yn beth cadarnhaol. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni mewn sefyllfa erbyn y flwyddyn ariannol nesaf, i fod wedi symleiddio'r dirwedd honno yn sylweddol iawn, iawn, a fydd yn rhyddhau mwy o amser i grantiau gael eu defnyddio mewn gwirionedd yn hytrach nag adrodd arnyn nhw. Yn amlwg, arian cyhoeddus ydyw, felly mae angen adrodd arno, ond gadewch i ni geisio gwneud hynny mewn ffordd sy'n hyblyg ond sydd hefyd yn cyrraedd yr un canlyniad. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hi'n croesawu hynny, os gallwn ni gyflawni hynny.

O ran y gwaith y mae Estyn yn ei wneud, rwy'n credu bod gan Estyn rôl bwysig yma drwy eu hadolygiadau thematig, oherwydd mae hynny'n rhoi cipolwg, yn amlwg, ar y system, ac mae'n bwysig o'n safbwynt ni fel Llywodraeth, oherwydd pan glywn ni negeseuon cyson o wahanol rannau o'r system ysgolion—Estyn, ond dysgwyr a rhieni eu hunain hefyd, a chawsom adroddiad gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, a oedd â themâu tebyg—mae hynny wedyn yn galluogi'r ddealltwriaeth gyfoethog honno o'r hyn sy'n digwydd yn ein system ac yn ein galluogi wedyn i ymateb yn brydlon i hynny.

Fel y gwyddoch chi, Gweinidog, rwyf wedi cyflwyno rhai cwestiynau ysgrifenedig ac wedi ysgrifennu atoch chi ar y diwygiadau hyn, ac eto mae gennyf bryderon o hyd y gallai gweithredu'r diwygiadau ADY arwain at ostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy'n cael cynnig addysg a hyfforddiant ôl-ysgol, o ystyried rhai o'r amwyseddau yn y cod. Fe wnes i gwrdd yn ddiweddar â'r gymdeithas genedlaethol colegau arbenigol, a buom yn trafod y diwygiadau, ac rwy'n deall ganddyn nhw nad yw'r pwerau dewisol a ddefnyddir ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru, sy'n sicrhau bod pob dysgwr sy'n gadael ysgol arbennig yn 19 oed wedi gallu cael mynediad at yr addysg bellach a'r hyfforddiant y mae eu hangen arnyn nhw mewn coleg addysg bellach arbenigol, er enghraifft, yn cael eu cynnal. Yn hytrach, bydd yn awr yn ôl disgresiwn swyddogion awdurdodau lleol, nad oes ganddyn nhw o bosibl yr arbenigedd penodol i ymgymryd â'r dasg hon, neu hyd yn oed y gallu i wneud hynny. Rwy'n gwerthfawrogi yn eich datganiad heddiw y byddwch yn darparu £2.1 miliwn dros dair blynedd ar gyfer dysgwyr ôl-16, ond a allwch chi ddweud wrthym ni a fydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dysgwyr sy'n gadael ysgolion arbennig yn 19 oed neu hŷn, ac a fydd yr arian hwnnw'n cael ei neilltuo i sicrhau y bydd y dysgwyr hynny'n gallu manteisio ar gyfleoedd dysgu? A pha sicrwydd allwch chi ei roi i'r carfannau hynny o ddysgwyr ag anghenion ychwanegol a'u teuluoedd na fydd y diwygiadau hyn yn arwain at lai o gyfleoedd iddyn nhw yn y dyfodol?

16:10

Rwy'n gwerthfawrogi'r cwestiwn hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig. I fod yn glir, roedd y ffigur y cyfeiriais i ato yn fy natganiad yn ymwneud yn bennaf â'r gwaith pontio o ysgolion i golegau addysg bellach, ac rwy'n gwybod, o gwestiynau y mae e' wedi'u gofyn i mi o'r blaen hefyd, bod hyn yn rhywbeth y mae'n pryderu amdano. Mae hwnnw'n faes o ffocws yn y system, oherwydd er bod colegau addysg bellach wedi bod yn gweithio ar y diwygiadau hyn o ran eu rôl dros y pum mlynedd diwethaf, dim ond nawr mae'r garfan gyntaf yn trosglwyddo i addysg bellach. Mae cefnogi hynny'n ddidrafferth yn hollbwysig, yn amlwg, a dyna beth mae'r cyllid hwnnw yno i'w ddarparu.

O ran y garfan oedran hŷn, mae hon yn dirwedd eithaf cymhleth, ond mae proses bontio ar y gweill ar hyn o bryd lle bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud gan awdurdodau lleol, ond bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r ddarpariaeth honno, ac rydym yn gweithio ar ffordd o drosglwyddo holl gyfrifoldeb a rheolaeth y gyllideb honno i awdurdodau lleol eu hunain, ond bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch lleoliadau ariannu i bobl ifanc ym mlwyddyn 13 ac uwch, hyd at 25 oed. Felly, mae yna ddull deuol yma. Os nad yw hynny'n ateb digon llawn, rwy'n hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod, ond mae dwy neu dair ffrwd ariannu wahanol sydd â dwy neu dair ffordd wahanol o weithredu. 

Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddiweddariad ar y mater hwn y prynhawn yma? Ddydd Gwener, cefais gyfle i gwrdd â STAND Gogledd Cymru; maen nhw'n eiriolwyr angerddol sy'n gweithio gyda rhieni plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ystod y cyfarfod, fe wnaethon nhw godi gyda mi yr angen am fwy o lwyfan i lais rhieni'r plant gael ei glywed yr holl ffordd drwy daith addysg y dysgwr, o'r blynyddoedd cynnar, drwy'r cyfnod pontio, i addysg uwchradd ac i addysg bellach, fel y mae'r Gweinidog wedi sôn.

Roedd y trafodaethau a gawsom yn debyg iawn i'r rhai a glywsom gan Aelodau eraill y prynhawn yma hefyd, ac maen nhw'n drafodaethau rwyf wedi'u cael ledled Cymru fel rhan o fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Rydyn ni'n clywed rhieni plant â chyflyrau sy'n effeithio ar ddysgu eu plentyn sydd naill ai wedi ymladd yn galed iawn, iawn i sicrhau'r gefnogaeth, neu'n ei chael hi'n anodd sicrhau'r gefnogaeth honno i'w plentyn. Gweinidog, pan fyddwn ni'n adolygu'r gwaith rydym yn ei wneud ar anghenion dysgu ychwanegol, sut y gallwn ni sicrhau nid yn unig fod llais y plentyn yn cael ei glywed, ond hefyd fod llais y rhieni yn cael ei glywed, a'i fod wrth wraidd yr adolygiad yr ydym yn ceisio'i wneud?

Rwy'n credu bod y pwynt hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Yr hyn rydyn ni'n ei wneud i glywed llais rhieni yn well ochr yn ochr â llais pobl ifanc yw ein bod yn darparu cyllid grant i Snap Cymru, a fydd wedyn yn hwyluso ymgysylltiad rhad ac am ddim â rhieni a gofalwyr plant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Mae'r hyn y byddan nhw'n ei wneud yn amlochrog, mewn gwirionedd, yn y sesiynau hynny; yn amlwg, fel yr oeddwn i'n sôn wrth basio ynghynt, bydd sianel lle gall Snap Cymru wneud yn siŵr bod rhieni'n gallu bod yn sicr eu bod yn deall eu hawliau ar ran eu pobl ifanc mewn gwahanol amgylchiadau, ond hefyd, yn hollbwysig, o ystyried y pwynt y mae'r Aelod newydd ei wneud, i rannu gyda Llywodraeth Cymru eu profiadau penodol o'r diwygiadau eu hunain, eu barn ar y cod, a sut y gellid gwella pethau. Felly, mae honno'n sianel gyfathrebu bwysig iawn i ni, ond hefyd yn ffordd y gallan nhw gael cefnogaeth a chyngor annibynnol gan Snap Cymru fel eu bod yn cael yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mae rhai o'r digwyddiadau hynny wedi digwydd yn barod; maen nhw wedi arwain at adroddiadau gan rieni bod ganddyn nhw well ymdeimlad o'u hawliau o dan y cod. Rwy'n obeithiol hefyd, dros amser, y bydd rhieni'n teimlo eu bod yn cael llais llawer mwy uniongyrchol o ganlyniad i hynny a mentrau eraill.

16:15
5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cynnydd Llywodraeth Leol tuag at Sero Net

Y datganiad nesaf fydd yr un gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar gynnydd llywodraeth leol tuag at sero net. Mae'r datganiad gan Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Yr wythnos nesaf byddwn unwaith eto'n nodi Wythnos Hinsawdd Cymru, sy'n cyd-fynd â Chynhadledd y Partïon 28, pan fydd y byd yn ystyried sut i gyflymu camau gweithredu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gynnydd awdurdodau lleol tuag at sero net, fel rhan o uchelgais y sector cyhoeddus yng Nghymru ar y cyd ar gyfer 2030, ac wrth wneud hynny, hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithredu yn eu sefydliadau i sbarduno newid hanfodol.

Mae awdurdodau lleol yn gwybod bod angen gweithredu. Mae llywodraeth leol a chymunedau lleol ar reng flaen yr argyfwng hinsawdd, yn ymdrin ag effeithiau llifogydd, gwres gormodol a sychder. Mae llywodraeth leol wrth galon eu cymunedau ac felly mae ganddynt rôl allweddol wrth gynllunio ar gyfer pontio teg, gan helpu i sicrhau bod manteision a chostau'r symud i economi sero net yn cael eu dosbarthu'n deg. Byddwn yn dweud mwy am ein dull o bontio teg pan fyddwn yn cael ymgynghoriad ym mis Rhagfyr.

Er y byddaf yn canolbwyntio heddiw ar waith cynghorau i leihau eu hallyriadau sefydliadol eu hunain, rwyf hefyd am gydnabod bod cynghorau hefyd yn ymwybodol iawn o'u rôl fel hyrwyddwyr hinsawdd yn eu hardaloedd yn ehangach, gan arwain y ffordd, gan rannu dysgu, ysbrydoli, galluogi a helpu i sbarduno newid ar draws cymunedau.

Mae uchelgais 2030 yn un ar y cyd. Mae pob un o'r prif gynghorau wedi ymrwymo i uchelgais 2030. Yn Sero Net Cymru, y cynllun lleihau allyriadau cenedlaethol, nododd arweinwyr yr awdurdodau lleol eu hymrwymiadau uchelgeisiol eu hunain o dan bob un o'r pedwar maes allweddol ar gyfer datgarboneiddio: trafnidiaeth, adeiladau, defnydd tir a chaffael. Mae'r rhain wedi'u gosod o fewn fframwaith strategol map llwybr y sector cyhoeddus i roi dull cyson ar draws Cymru. Mae gan bob prif awdurdod gynlluniau datgarboneiddio ar waith, ac mae bron pob un ohonynt wedi datgan argyfyngau hinsawdd. Yn wir, mae llawer o'n cynghorau tref a chymuned hefyd wedi ymrwymo i weithredu yn eu hardaloedd eu hunain, yn ogystal â'n parciau cenedlaethol a'n gwasanaethau tân ac achub. Mae awdurdodau lleol hefyd yn ymgysylltu â materion hinsawdd drwy eu haelodaeth o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, sydd wedi cyhoeddi eu cynlluniau llesiant diweddaraf.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu adroddiad monitro allyriadau blynyddol, sy'n cael ei ddarparu gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus. Mae'n adroddiad gwirfoddol, ond rwy'n falch o ddweud bod pob un o'r 22 awdurdod lleol yn ei gwblhau bob blwyddyn, ar ôl gwneud hynny yn ddiweddar am y drydedd flwyddyn. Disgwylir i'r adroddiad newydd gael ei gyhoeddi erbyn y flwyddyn newydd, a dylai ddechrau rhoi ymdeimlad o gynnydd i ni a helpu i lunio camau gweithredu a blaenoriaethau.

Mae awdurdodau lleol wedi achub ar y cyfle ac yn cyflymu camau gweithredu, yn unigol ac ar y cyd. Mae eu panel strategaeth hinsawdd llywodraeth leol o brif weithredwyr a phartneriaid allweddol, a sefydlwyd dair blynedd yn ôl yn ystod wythnos yr hinsawdd, wedi dod yn rym nad gwiw ei ddiystyru. Mae'r panel wedi helpu i lywio llwybr drwy'r cymhlethdod, gan leihau dyblygu a blaenoriaethu gweithredu, ac mae'n goruchwylio'r gwaith o gyflawni ymrwymiadau Sero Net Cymru yr awdurdod lleol. Trwy strwythurau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r cyngor partneriaeth, mae arweinwyr yn goruchwylio'r gwaith hwn ar y cyd. Er mwyn helpu i gefnogi a chyflymu'r gwaith, rwyf wedi darparu ychydig dros £1.5 miliwn i CLlLC ers 2020, i redeg rhaglen cymorth hinsawdd, gan ddarparu ymyriadau a chymorth wedi'u targedu i awdurdodau lleol i'w helpu i adeiladu ar yr hyn y maent eisoes yn ei wneud, goresgyn heriau, llenwi bylchau ac ychwanegu gwerth. Maent yn rhoi mentrau cenedlaethol ar waith y gellir eu defnyddio i gefnogi darpariaeth ranbarthol a lleol. Er bod y pwyslais ar brif awdurdodau lleol, mae'r gwaith hwn yn cael ei rannu'n ehangach gyda'r sector cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau tref a chymuned, trwy gyngor partneriaeth Cymru.

Rwyf eisiau amlinellu rhywfaint o'r gwaith sydd ar y gweill ar y pedwar maes allweddol. Mae cynghorau, fel pob sefydliad, yn adolygu eu hystadau i gael y gwerth gorau. Maent hefyd yn ceisio gwella eu heffeithlonrwydd carbon drwy adnewyddu a mabwysiadu systemau gwres tanwydd nad yw'n danwydd ffosil. Mae un ar ddeg o awdurdodau lleol wedi datblygu prosiectau i ddatgarboneiddio 36 o adeiladau ledled Cymru a dyranwyd dros £11 miliwn iddynt o'n cronfa gwres carbon isel llywodraeth leol newydd i'w cefnogi. Mae mwy o brosiectau yn cael eu datblygu ar gyfer y rownd nesaf, gyda £40 miliwn arall ar gael ar gyfer 2024 i 2026. Mae hyn nid yn unig yn helpu i ddatgarboneiddio'r ystad, ond gyda gwaith arall mewn ysgolion a'r ystad gyhoeddus ehangach, gall ddatblygu sgiliau, cadwyni cyflenwi a dysgu i helpu i gyflymu newid yn ehangach.

O ran trafnidiaeth, mae un rhaglen wedi bod yn gweithio ar newid fflyd ceir a faniau ysgafn y sector cyhoeddus i gerbydau trydan, gan edrych ar gost cylchred oes gyfan a chael cost a budd clir. Dan arweiniad Cymdeithas Trysoryddion Cymru, gan weithio gydag arbenigwyr caffael Llywodraeth Cymru, mae awdurdodau lleol newydd gwblhau ymarfer cerbydau trydan cydweithredol trawiadol, sy'n sicrhau dros 250 o gerbydau ar gyfer 12 awdurdod lleol sy'n cymryd rhan. Mae hyn wedi rhoi llyfr archebion digon mawr i sicrhau cerbydau mewn marchnad gystadleuol ac wedi arbed dros £0.5 miliwn iddynt. Mae gwaith yn mynd rhagddo i efelychu'r model arloesol hwn mewn meysydd eraill, megis paneli solar a phympiau gwres.

Mae defnydd tir yn ysgogi allyriadau, yn gadarnhaol ac yn negyddol. Roedd tystiolaeth i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau ar ddefnydd tir i sicrhau'r buddion carbon mwyaf posibl yn fwlch allweddol a nodwyd ac yn ymrwymiad allweddol yn Sero Net Cymru. Rwy'n falch o adrodd am lansiad adnodd digidol newydd ar gyfer awdurdodau lleol ar MapDataCymru yn ddiweddar, a ddatblygwyd gan y panel strategaeth hinsawdd, gan ddarparu tystiolaeth ar gyfer pob awdurdod lleol ar sut y gall eu tir eu hunain eu helpu i leihau allyriadau.

Mae gwneud datgarboneiddio yn rhan o'r broses gaffael yn bwysig iawn. Mae dros 60 y cant o allyriadau'r sector cyhoeddus yn ymwneud â chaffael. Mae'r panel strategaeth a rhaglen gymorth CLlLC wedi cyflwyno canllawiau caffael pwrpasol ac ymarferol a phecyn cymorth ar gyfer awdurdodau lleol, gyda chymorth hyfforddiant, i helpu i sicrhau bod arfer gorau yn cael ei gynnwys mewn ymarferion caffael, i gefnogi'r gadwyn gyflenwi i ddatblygu cynlluniau lleihau carbon, ac i ddechrau lleihau allyriadau. Gall pob dewis cadarnhaol y gall awdurdod ei wneud yn y maes hwn gyfrannu at leihau allyriadau, cefnogi modelau busnes da a chadwyni cyflenwi.

Rwyf am orffen gyda phwynt pwysig yng nghyd-destun cyllidebau heriol. Mae gwneud y dewisiadau cywir nawr yn osgoi creu problemau hyd yn oed yn fwy a chostau mwy fyth ar gyfer y dyfodol. Gall hefyd ein helpu i gyflawni pontio teg ar gyfer ein cymunedau. Bydd angen i ni barhau i ddefnyddio'r cronfeydd presennol yn wahanol, gan ddefnyddio ein prosesau caffael a dulliau eraill i wneud dewisiadau gwyrddach, gwell. Er ein bod yn wynebu pwysau ariannol digynsail, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud penderfyniadau ariannol sy'n cael eu harwain gan ein hegwyddorion a'n gwerthoedd, ond mae mwy i'w wneud o hyd. Rydym yn gwybod bod angen i ni, gyda'n gilydd, wneud mwy a'i wneud yn gyflymach, ond rwyf am gydnabod a diolch i'r awdurdodau lleol am eu cynnydd ac am y sylfaen gref y mae'n ei rhoi i ni er mwyn cyflawni newid go iawn. 

16:20

Diolch yn fawr, Gweinidog, am y datganiad yma y prynhawn yma. Rwy'n falch iawn o allu ymateb i hwn heddiw. Fel y cydnabyddoch, mae arwain ar fynd i'r afael â newid hinsawdd yn gyfrifoldeb mawr i'r Llywodraeth yma ond hefyd i'n cynghorau lleol. Mae wedi bod yn braf—ac rwy'n cydnabod eich pwyntiau yn eich datganiad yn llwyr—gweld yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud ledled Cymru, y DU a gweddill y byd datblygedig i leihau allyriadau, boed hynny yn y sector cyhoeddus neu mewn menter breifat. Rwyf am ymuno â chi, Gweinidog, i gydnabod awdurdodau lleol yma yng Nghymru yn eu hymdrechion i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Ond fel y dywedoch tua diwedd eich datganiad, mae wastad mwy i'w wneud, ac fel y dywedodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd wrthym yn gynharach eleni, mae Cymru wedi llwyddo i gyflawni amcan ei chyllideb garbon gyntaf, ond yn eu geiriau nhw, nid yw ar y trywydd iawn eto i gyrraedd ei thargedau ar gyfer ail hanner y degawd hwn a thu hwnt. Mae hyn yn amlwg yn bryder, ac mae rôl, yn sicr, i gynghorau ei chwarae yn hyn, ond hefyd i Lywodraeth Cymru gymryd ei chyfrifoldeb, yn hytrach na dim ond dibynnu ar waith awdurdodau lleol.

Rydym yn gwybod bod yr awdurdodau lleol hynny wedi gwneud gwaith gwych wrth adrodd ar eu hymdrechion ar faterion amgylcheddol, gan sicrhau bod setiau data dibynadwy ar gael. Wrth gwrs, mae'n bwysig bod hyn yn gallu parhau, ac mae cefnogaeth i hyn yn rhan hanfodol o hynny. Rwy'n falch eich bod wedi amlinellu rhai o'r meysydd yr ydych yn bwriadu cefnogi awdurdodau lleol gyda hynny drwy'r CLlLC.

Mae yna bwynt ehangach rwy'n credu y mae pawb yn ymgodymu ag ef, yn enwedig o fewn cynghorau ac o fewn y Llywodraeth, am wn i, sef cael y cydbwysedd hwnnw'n iawn rhwng arwain ar fynd i'r afael â newid hinsawdd er budd cenedlaethau'r dyfodol, a pheidio ag anwybyddu'r pwysau y mae pobl yn eu hwynebu heddiw, ac yn enwedig y pwysau y mae cynghorau'n eu hwynebu heddiw. Byddwch yn gwybod, Gweinidog, y pwysau cyllido ar feysydd fel gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, felly tybed a allech chi ymhelaethu yn eich ymateb ar sut rydych chi'n gweithio i sicrhau na fydd unrhyw arian sy'n mynd tuag at y nodau hinsawdd hyn a'r agenda hinsawdd yn cael effaith negyddol ar botiau o arian mewn meysydd eraill o'r cyngor y mae'r aelodau etholedig hynny'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Rwy'n cydnabod yn llwyr y pwynt y bydd o fudd mawr nid yn unig i'r amgylchedd, ond hefyd i'r pwrs cyhoeddus yn y pen draw, ond yn y cyfamser mae yna bobl mewn sefyllfaoedd anodd iawn sydd hefyd angen y gefnogaeth honno. Felly, efallai eich disgwyliadau o ran sut rydych chi'n credu y gallai cynghorau gael y cydbwysedd hwnnw'n iawn rhwng targedau hirdymor a newid, gan hefyd sicrhau'r cydbwysedd iawn o ran y materion uniongyrchol sydd o'u blaenau.

Mae cydbwysedd parhaus hefyd gydag awdurdodau lleol yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain, ac yna'n cael eu gwthio i gyfeiriadau penodol gan Lywodraeth Cymru, felly mae gennyf i ddiddordeb mewn gwybod a ydych chi'n gweld unrhyw gyfle i ddatganoli pwerau neu benderfyniadau ychwanegol i awdurdodau lleol i'w helpu i fynd ar drywydd y targedau sero net hynny yn gyflymach, ac a oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eu proses gwneud penderfyniadau ar hyn o bryd y credwch y gellir eu datgloi i'w grymuso i gyrraedd y targed sero net hwnnw yn haws.

Ac yna, yn olaf, Gweinidog, bydd gennyf i ddiddordeb mewn clywed eich barn am rôl ein ffefrynnau, cyd-bwyllgorau corfforedig a rhai o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny a chyrff rhanbarthol eraill, a'r rôl y mae'n rhaid iddyn nhw ei chwarae wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd, boed yn fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, y gwn eich bod chi wedi'u cydnabod yn eich datganiad heddiw—mae llu o gyrff rhanbarthol fel hyn—a pha rôl y gallant ei chwarae i helpu i leihau allyriadau, nawr ac yn y dyfodol hefyd. Diolch yn fawr iawn.

16:25

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau a'r sylwadau yna, ac, rwy'n credu, am yr hyn sy'n gydnabyddiaeth a rennir mewn gwirionedd o bwysigrwydd yr agenda hon, a chytundeb, mewn gwirionedd, y dylid cydweithio ar draws sectorau wrth i ni fynd ar ein taith tuag at sero net.

Rwy'n credu bod llywodraeth leol yn arwain y ffordd. Mae'n ysbrydoli'r sector cyhoeddus yn ehangach, a gwn fod nifer o fforymau a gweithgorau pwysig ar draws y sector cyhoeddus sy'n helpu i gydlynu a chefnogi'r gwaith o gyflawni cynlluniau datgarboneiddio, mewn llywodraeth leol ond hefyd yn ehangach. Mae hynny'n cynnwys panel strategaeth newid hinsawdd yr awdurdodau lleol, y cyfeiriais ato yn fy natganiad. Rwyf bob amser yn cofio, hyd yn oed yn ystod COVID, pan oedd pob meddwl yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r broblem uniongyrchol honno a'r her uniongyrchol honno yr oeddem i gyd yn ymgodymu â hi, aeth gwaith y panel strategaeth newid hinsawdd ymlaen, a chefais fy mhlesio'n fawr gan faint o waith y gwnaethant lwyddo i'w wneud, hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd y pandemig.

Ond mae gennym hefyd waith yn mynd rhagddo drwy'r grŵp argyfwng hinsawdd iechyd a gofal cymdeithasol hefyd. Mae hynny'n gyfle arall i'r sector cyhoeddus ddod at ei gilydd a mynd i'r afael â'r materion hyn a rennir. Felly, credaf fod gennym y strwythurau pwysig hynny ar waith, ond rydym hefyd bellach yn gweld aeddfedrwydd a'r nifer cynyddol o gynlluniau datgarboneiddio, a mwy o ymgysylltu ar y materion sy'n ymwneud ag allyriadau ar draws y sector cyhoeddus, sydd, yn fy marn i, yn bwysig iawn ac yn gadarnhaol iawn. Ond mae rôl gwbl bwysig i Lywodraeth Cymru ysgogi rhywfaint o hyn, a chredaf fod gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru yn alluogwr allweddol o ran ceisio symud yr agenda hon yn ei blaen, yn enwedig o ran darparu cymorth technegol ac ariannol i'r sector cyhoeddus er mwyn i ni gyrraedd y targed hwnnw o sero net erbyn 2030.

Rwy'n credu bod y gwasanaeth wedi cael ei gydnabod fel un llwyddiannus iawn. Yn sicr, mae Archwilio Cymru wedi dweud hynny, ac mae cyrff cyhoeddus eu hunain wir yn gweld gwerth mawr o ran pa mor bwysig yw'r gwasanaeth ynni. A dyna pam yr ydym yn falch bod y contract bellach wedi'i newid. Daeth yr un blaenorol i ben ym mis Mawrth 2023, ond mae bellach yn parhau, felly mae ganddo gefnogaeth barhaus ar draws llywodraeth leol. Hyd yma, buddsoddwyd cyfanswm o £169.8 miliwn mewn bron i 300 o brosiectau ar draws 67 o sefydliadau, felly mae hynny wir yn dangos cyrhaeddiad y gwasanaeth ynni a'r gwaith pwysig y mae'n ei wneud.

Bydd adrodd a monitro hefyd yn gwbl hanfodol fel ein bod yn deall lle dechreuon ni a pha mor agos ydyn ni at gyrraedd lle y mae angen i ni fod. Mae'n wirfoddol, adrodd ar allyriadau, ond rwy'n falch iawn bod pob awdurdod lleol yn ei wneud, ac maent yn ei weld fel rhan hanfodol o gyflawni'r uchelgais hwn, monitro cynnydd a defnyddio'r wybodaeth honno i lunio blaenoriaethau.

Felly, mae'r dadansoddiad o ddata 2019-20, 2020-21 a 2021-22 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Rydym wedi derbyn y cynlluniau diweddaraf ac maent yn cael eu dadansoddi fel y gallwn ddeall y cynnydd sy'n cael ei wneud, ond hefyd, rwy'n credu, defnyddio hynny wedyn i helpu sefydliadau unigol i ganolbwyntio ar eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol hefyd.

Ac rwy'n credu bod y pwynt hwnnw a wnaed ynghylch y cydbwysedd rhwng mynd i'r afael â'r heriau uniongyrchol a chyfredol yr ydym yn eu hwynebu, ac yna hefyd wneud hynny mewn ffordd sy'n cyflawni ein cyfrifoldebau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn un pwysig, ond nid wyf yn credu bod yn rhaid iddo fod y naill neu'r llall. Rwy'n credu y gallwn wneud pethau fel y gwelsom ni trwy waith y fflyd, a grybwyllais yn y datganiad, a all leihau costau yn gyffredinol, gan hefyd ddarparu'r cyfraniad at sero net yr ydym i gyd eisiau ei weld.

Felly, rwy'n credu bod cyfleoedd yn bendant drwy ddatgarboneiddio hefyd o ran yr agenda sgiliau, o ran economi sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac ati. Felly, rwy'n credu bod rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym yn gosod yr heriau uniongyrchol yn erbyn y tymor hir, oherwydd rwy'n credu y gall y ddau weithio gyda'i gilydd a thynnu i'r un cyfeiriad. 

16:30

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Gydag uwchgynhadledd COP28 yn cael ei chynnal yr wythnos hon ymysg rhybuddion cryf gan wyddonwyr hinsawdd y Cenhedloedd Unedig bod y byd yn rhuthro'n bendramwnwgl tuag at ddyfodol uffernol, mae'n gwbl briodol ein bod yn adolygu'r cynnydd sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru.

Fel y gwyddom, mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i sicrhau sero net yn y sector cyhoeddus erbyn 2030 ac, fel mae'r diweddariad a'r argymhellion allyriadau diweddaraf yn nodi'n briodol, rhaid i lywodraeth leol, sydd â'r ôl troed carbon mwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, chwarae rhan hanfodol yn hyn o beth. Ar nodyn cadarnhaol, bu rhywfaint o gynnydd yn y maes hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae 19 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru bellach wedi datgan argyfwng hinsawdd ac mae 14 o'r rhain bellach wedi datblygu cynlluniau gweithredu hinsawdd. Fodd bynnag, yn seiliedig ar y llwybrau presennol, mae gallu llywodraeth leol i gyrraedd sero net erbyn 2030 ymhell o fod yn sicr o hyd.

Er fy mod yn gwerthfawrogi bod effaith COVID wedi ystumio'r darlun rhywfaint, serch hynny, mae'n wir bod cyfanswm allyriadau carbon llywodraeth leol ar y lefel uchaf ers lansio strategaeth sero net Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus. Roedd yr arwyddion rhybuddio yno yn ymarfer cerdyn sgorio 2021 Climate Emergency UK pan gafodd cynlluniau gweithredu hinsawdd awdurdodau lleol Cymru sgôr gyfartalog o 31 y cant. Mae hyn yn llawer is na chyfartaledd y DU o 50 y cant. Mae ymarfer cerdyn sgorio eleni ar gamau gweithredu cynghorau hefyd wedi gweld awdurdodau lleol Cymru yn sgorio tua 30 y cant ar gyfartaledd, unwaith eto yn is na'r cyfartaledd ar draws y DU. Ac nid yw hyn i ddwyn anfri ar gymhelliant awdurdodau lleol eu hunain. Er gwaethaf y caledi ariannol sydd wedi'i ddogfennu'n dda y maent wedi'i wynebu dros 13 mlynedd o gyni sy'n cael ei ysgogi gan y Torïaid, mae yna awydd amlwg ymhlith cynghorwyr ledled Cymru i chwarae eu rhan. Ond dim ond hyn a hyn y gallant ei wneud gydag adnoddau cyfyngedig iawn.

Y broblem yma yw nad yw uchelgeisiau clodwiw Llywodraeth Cymru ar ddatgarboneiddio yn cael eu bodloni gyda chefnogaeth gydlynol a chyson. Er enghraifft, dywedodd un o'r ymatebwyr i adroddiad y llynedd gan Archwilio Cymru ar barodrwydd y sector cyhoeddus ar gyfer sero net, er bod:

'Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfeiriad strategol clir',

'nid yw’r ffordd yr ydym yn cyrraedd yno fel awdurdodau lleol, a’r cymorth a gawn yn glir'.

Mae hyn yn rhywbeth a adleisiwyd gan arweinwyr ein cynghorau, sydd wedi dweud wrthym fod goblygiadau adnoddau o ran cyrraedd sero net yn parhau i fod yn aneglur ychydig dros chwe blynedd cyn 2030. Yn benodol, maen nhw wedi annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cwmnïau trydan yn gweithio'n agosach gydag awdurdodau lleol i benderfynu ar gostau cysylltu â'r grid drwy'r broses adolygu costau sylweddol.

Mae pryderon am ddiffygion wrth gasglu data hefyd wedi'u codi, sy'n naturiol yn rhwystro cynllunio effeithiol, yn ogystal â'r angen i uwchraddio'r ddarpariaeth o seilwaith cerbydau trydan yn sylweddol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Byddwch hefyd yn ymwybodol, fel yr amlygwyd gan ymgyrch Ras i Sero, fod tua 90 y cant o allyriadau o dan fandadau awdurdodau lleol yn seiliedig ar ardal—mewn geiriau eraill, cyfanswm yr allyriadau mewn ardal awdurdod lleol benodol—ac felly nid ydynt yn dod o dan unrhyw gynlluniau gweithredu hinsawdd cyfredol.

Mae hyn hefyd yn dangos diffyg cydlynu ac aliniad rhwng llywodraeth leol ac ymdrechion datgarboneiddio. Os yw hyn yn gynnydd, mae'n siomedig o araf ac i fod yn onest nid oes gennym yr amser i'w wastraffu. A wnewch chi gyfarfod â CLlLC i drafod sut y gellir cefnogi awdurdodau lleol Cymru i leihau allyriadau sy'n seiliedig ar ardaloedd? A wnewch chi hefyd eu hannog i ymrwymo i addewidion ymgyrch Ras i Sero, fel bod strategaethau datgarboneiddio yng Nghymru yn cael eu halinio'n well?

A allwch chi egluro a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cyllid teithio llesol i awdurdodau lleol y tu hwnt i 2024-25, ac, os felly, am ba hyd? Yn olaf, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau ôl troed carbon cadwyni cyflenwi llywodraeth leol? A ydych yn cytuno y bydd hyrwyddo modelau caffael mwy lleol gan ddefnyddio'r ddeddfwriaeth caffael cyhoeddus newydd yng Nghymru nid yn unig o fudd i fusnesau lleol ond hefyd yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon yn y maes hwn? Diolch yn fawr.

16:35

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau yna. Efallai dechreuaf fy ymateb lle y gwnaethoch chi orffen, mewn cysylltiad â chaffael. Fe wnaethom gyhoeddi datganiad polisi caffael cyhoeddus newydd yng Nghymru yn 2021, ac mae hwnnw'n nodi 10 egwyddor ar gyfer caffael ar gyfer llesiant yng Nghymru. Mae'n dweud yn benodol y byddwn yn gweithredu i atal newid hinsawdd drwy flaenoriaethu lleihau carbon a dim allyriadau trwy gaffael mwy cyfrifol a chynaliadwy i gyflawni ein huchelgais ar gyfer sector cyhoeddus sero net erbyn 2030. Mae cryn dipyn o waith wedi'i wneud i gefnogi'r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyflawni datgarboneiddio drwy gaffael, ac mae hynny'n cynnwys cyhoeddi nodyn caffael polisi Cymru ar ddatgarboneiddio drwy gaffael, sy'n ystyried cynlluniau lleihau carbon, ac mae hynny'n gorfodi'r defnydd o gynlluniau lleihau carbon ar gyfer contractau caffael Llywodraeth Cymru dros £5 miliwn o fis Ebrill 2022. Rydym yn annog gweddill y sector cyhoeddus i ddilyn ein harweiniad yn hynny o beth.

Ond, ar y pwynt hwnnw am gadwyni cyflenwi, rydym hefyd wedi darparu nodyn polisi caffael Cymru arall ar fynd i'r afael ag allyriadau carbon mewn cadwyni cyflenwi, ac mae hynny'n rhoi arweiniad i sector cyhoeddus Cymru ar strategaethau i weithredu ar allyriadau sy'n deillio o nwyddau a gwasanaethau caffaeledig. Roeddwn yn amau y gallai hyn godi heddiw, felly roeddwn yn ei ddarllen eto heddiw i atgoffa fy hun ohono, ac mae'n sôn am gaffael yn lleol a'r cyfraniad pwysig y gall hynny ei wneud i'r argyfwng hinsawdd, a hefyd, wrth gwrs, i gydnerthedd economïau lleol ac ati. Felly, rwy'n falch iawn bod hynny'n cael ei adlewyrchu yn y cyngor caffael yr ydym yn ei roi i awdurdodau lleol.

O ran cyllidebau y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf, dydw i ddim yn mynd i allu ymrwymo i unrhyw beth heddiw; rydym yn dal i weithio drwy'r broses gyllidebol. Rydym yn edrych nawr at flwyddyn olaf y cyfnod adolygu gwariant hwn, ac, yn amlwg, byddaf yn cyflwyno'r gyllideb ar 19 Rhagfyr.

O ran cyfarfod â llywodraeth leol, rydym yn siarad ym mron pob cyfarfod o gyngor partneriaeth Cymru am ddatgarboneiddio, ac, ym mhob cyfarfod, mae gennym adroddiad gan y panel datgarboneiddio, yr wyf wedi bod yn cyfeirio ato drwy gydol y datganiad hwn. Yn y cyfarfod diweddaraf, daeth y Gweinidog Newid Hinsawdd i'r cyfarfod hwnnw, fel y mae hi'n ei wneud yn aml iawn, a buom yn siarad am ein hymdrechion i symud tuag at sero net. Cyfeiriodd at Ras i Sero; gwn fod hwnnw'n fodel penodol y mae gan y Gweinidog ddiddordeb ynddo. Nid ydym wedi gorfodi'r defnydd o fodel penodol, oherwydd gwyddom fod nifer o awdurdodau lleol yn defnyddio modelau eraill, ac nid ydym am eu tynnu oddi ar lwybr y maent wedi dechrau arno tuag at sero net i ymgymryd â llawer o waith dyblygu, o bosibl, er mwyn bodloni model arall. Felly, pa bynnag fodel y mae awdurdodau lleol yn ei ddewis—. Nid ydym yn bwriadu gorfodi un, ond, wedi dweud hynny, rydym wedi gofyn iddynt, ar ôl y cyfarfod hwnnw y cyfeiriais ato, i roi gwybod i ni pa fodel y maent yn ei ddefnyddio ac i ddarparu gwybodaeth fanylach am sut y gallant ddangos tystiolaeth o'r gwaith y maent yn ei wneud ac ati. Felly, rwy'n credu bod hwn wedi bod yn gyfarfod diweddar defnyddiol iawn.

Yna, o ran y cardiau sgorio, rwy'n gwybod bod hwnnw'n ddarn arall o waith diddorol, o ran grŵp ymgyrchu newid hinsawdd y DU sydd wedi datblygu hynny. Credwn fod y fethodoleg maen nhw wedi'i dewis yn golygu eu bod ond yn cydnabod rhywfaint o wybodaeth sydd wedi'i chyhoeddi. Felly, credaf nad yw'n darparu cynrychiolaeth deg a chywir o'r holl allyriadau blynyddol yr adroddwyd arnynt, o reidrwydd; gwn fod partneriaethau lleol wedi cyhoeddi barn debyg, a dyna farn y Gymdeithas Llywodraeth Leol hefyd. Rydym yn cymryd ymagwedd fwy ar y cyd, gyda'n hallyriadau blynyddol yn cael eu hadrodd a'u cyfuno i ystyried cynnydd yn genedlaethol ac i helpu i flaenoriaethu gweithredu cenedlaethol. Ond, wedi dweud hynny, wrth gwrs, mae gennym ddiddordeb yn yr hyn y maen nhw'n ei ddweud, ond rydyn ni'n credu nad yw'n adlewyrchu'n gywir, mewn gwirionedd, y gwir ddarlun o'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru.

Ac wedyn, i sôn am fyrddau gwasanaethau cyhoeddus—ac rwy'n gwybod bod Sam Rowlands wedi sôn amdanyn nhw hefyd—rwy'n credu eu bod nhw'n bartneriaid hanfodol o ran y symudiad hwnnw tuag at sero net. Maent wedi cyhoeddi eu cynlluniau llesiant yn ddiweddar, a byddwch yn gweld datgarboneiddio a thaith tuag at sero net drwy gydol y cynlluniau hynny. Ac rwy'n gwybod bod gan gyd-bwyllgorau corfforedig y potensial hefyd i fod yn bartneriaid pwysig yn y maes hwn, yn anad dim oherwydd bod rhai o'r pethau y maent yn gyfrifol amdanynt yn cael effaith mor allweddol ar ddatgarboneiddio, megis cynllunio trafnidiaeth ac ati. Felly, er bod llawer o'r allyriadau'n ymwneud â gwasanaethau eraill a ddarperir gan awdurdodau lleol, fel tai ac addysg ac ati, rwy'n awyddus iawn i gymryd y datganiad heddiw fel cyfle i dynnu sylw at y gwaith sy'n digwydd mewn llywodraeth leol ac yn y cynghorau eu hunain.

16:40

Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am y datganiad pwysig hwn heddiw? Byddwch yn ymwybodol iawn o'm gwaith i arallgyfeirio cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus oddi wrth danwydd ffosil. Byddai'n briodol, yn fy marn i, i gronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus fod yn sero net erbyn 2030 yn unol â gwyddor hinsawdd ac ar yr un pryd â'r sector cyhoeddus ehangach yn gyffredinol. Mae mynd tuag at sero net, wrth gwrs, yn cyflwyno cyfleoedd enfawr yma yng Nghymru. A gaf i ofyn pa waith y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i amlygu i'r cronfeydd hyn y cyfleoedd y mae sero net yn eu creu i bobl yng Nghymru, yn enwedig ym meysydd ynni adnewyddadwy a thai cymdeithasol?

Cewch. Rwy'n ddiolchgar i chi am godi hynny ac am eich gwaith hirsefydlog o ran bwrw ymlaen â'r agenda hon. Rydym yn parhau i annog awdurdodau pensiynau llywodraeth leol i ddatgarboneiddio eu buddsoddiadau pensiwn os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, ac i osod rhai targedau ystyrlon i'w tywys ar y daith honno os yw'n rhywbeth nad ydynt eisoes wedi'i gyflawni. Ond hefyd i gymryd y farn gadarnhaol honno, y mae Jack Sargeant newydd ei hamlinellu, o ran y cyfleoedd i fuddsoddi, yn enwedig cyfleoedd i fuddsoddi yma mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bellach yn cynnal gweithdy pensiynau a datgarboneiddio gydag aelodau o CLlLC ar 4 Rhagfyr, yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, felly, os nad yw Jack Sargeant eisoes wedi cael gwahoddiad, byddaf yn sicrhau y bydd yn cael un, oherwydd gwn fod pobl eisiau cydnabod y gwaith y mae wedi'i wneud wrth geisio cael y maen i'r wal.

Prynhawn da, Gweinidog. A gaf i ddiolch i chi hefyd am eich datganiad? Fe sonioch chi yn eich brawddeg agoriadol sut roeddech chi'n croesawu arferion da awdurdodau lleol, a hoffwn hyrwyddo'n ddigywilydd waith awdurdod lleol Powys, fy un i. Maen nhw wir wedi gweithio'n galed i leihau eu hôl troed carbon, ac, er mwyn ymateb i bwynt Peredur, maen nhw wedi gwneud y gwaith ar y gadwyn gyflenwi a chaffael. Felly, enillodd eu tîm caffael a gwasanaethau masnachol wobr Cyfleoedd y Llywodraeth genedlaethol am gynaliadwyedd yn ddiweddar, gan ddangos eu hymrwymiad parhaus i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Canfuwyd bod 70 y cant o'u hallyriadau carbon yn dod o'r gadwyn gyflenwi, a gwnaethant ddefnyddio pecyn cymorth safonol, yr ydych wedi siarad amdano, i dargedu cyflenwyr allyriadau uchel ac ardaloedd sydd mewn perygl yn llwyddiannus, a thrwy fandadu cynaliadwyedd o ddechrau prosiectau, fe wnaethant gyflawni gostyngiadau mawr mewn allyriadau. Yn ogystal, casglodd Powys rwydwaith gwyrdd o swyddogion at ei gilydd sy'n gyfrifol am godi ymwybyddiaeth fewnol o gynaliadwyedd yn yr ardal gaffael. Drwy hyrwyddo gwelliannau pellach yn eu hadrannau eu hunain, bydd y swyddogion hyn yn ysgogi arferion mwy cynaliadwy ar draws y cyngor. Felly, rwy'n gobeithio y byddech chi'n ymuno â mi, Gweinidog, wrth ganmol Powys am eu gwaith, ac efallai amlinellu sut y gellid cyflwyno'r dull caffael hwn a'i ailadrodd ar draws awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Jane Dodds am nodi'r enghraifft dda iawn yna o sut mae Powys wedi defnyddio'r pecyn cymorth sydd ar gael i archwilio ei wariant ac yna i wneud y dewisiadau cywir i geisio lleihau'r allyriadau carbon trwy'r gadwyn gyflenwi. Rwy'n credu bod hynny'n enghraifft dda iawn o'r hyn y gall awdurdodau lleol ei gyflawni. Rwy'n awyddus iawn ein bod yn rhannu'r arfer gorau hwnnw, felly un o'r pethau rwy'n ei wneud yw gweithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i gynnal digwyddiad ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn benodol fel y gallwn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r arfer da sy'n digwydd a'u bod yn rhannu'r gwersi y maen nhw wedi'u dysgu ar deithiau hefyd, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn hefyd. Ond mae dathlu arfer da mor bwysig, ac rwy'n falch iawn bod Rhagoriaeth Adeiladu yng Nghymru a Chonsortiwm Awdurdodau Lleol Cymru yn y Senedd ddydd Llun i ddathlu eu cyfres ddiweddaraf o wobrau. Mae'r gwobrau hynny'n ymwneud â datblygu cynaliadwy a rhagoriaeth yn yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru, felly rwy'n gobeithio y bydd cyd-Aelodau sydd ar gael ddydd Llun yn gallu dod i weld y gwobrau hynny. Ond os nad ydych chi, bydd rhai byrddau o gwmpas fel y gallwch ganfod rhagor am y prosiectau hefyd.

16:45

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Mae'n ddefnyddiol iawn cael yr wybodaeth hon, oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod am yr adroddiadau monitro allyriadau blynyddol hyn. Rwy'n ceisio dod o hyd iddynt ar y system; os na lwyddaf, dof yn ôl atoch chi.

Does dim lle i hunanfoddhad, yn amlwg, oherwydd roedd yr Arglwydd Deben, yn ei adroddiad terfynol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yn eithaf di-flewyn-ar-dafod am annigonolrwydd cynnydd neu ddim cynnydd o gwbl yn y sector adeiladu yn benodol. Rwy'n cytuno bod llawer o gynnydd da wedi bod o ran datgarboneiddio ein bysiau, yn enwedig yn fy ardal fy hun sef Caerdydd, sydd wedi bod yn gyfraniad mawr at welliannau o ran ansawdd aer.

Ond wrth symud ymlaen i rai o'r pethau eraill rydych chi'n sôn amdanyn nhw, rydych chi'n sôn am gael ymarfer caffael cydweithredol ar gyfer paneli solar a phympiau gwres, ac mae hynny'n gwbl berthnasol i wella effeithlonrwydd ein hadeiladau. Mae gan bob ysgol doeau sy'n wynebu'r de, ac eto ni welaf, bron byth, baneli solar ar adeiladau ysgolion. Rwy'n credu mai'r hen ddadl oedd y byddai'r rhan fwyaf o'r ynni yn cael ei gynhyrchu yn ystod gwyliau'r ysgol yn yr haf pan nad oedd neb yn yr ysgol, ond gyda batris storio ynni wedi gwella'n aruthrol o ran effeithlonrwydd, byddech chi'n credu bod ysgolion yn colli cyfle i ennill rhywfaint o arian o'u toeau, oherwydd yn amlwg gallant werthu'r trydan yn ôl i'r grid.

Dywedodd yr Arglwydd Deben nad oes unrhyw ddata i olrhain effeithlonrwydd ynni gosodiadau pympiau gwres, a thybed a oeddech chi'n ymwybodol o unrhyw fenter i wella'r broses o gasglu'r data hwnnw, oherwydd yn amlwg mae angen i ni wybod a yw gosodwyr yn gwneud y gwaith yn iawn a'i fod mewn gwirionedd yn cynhyrchu'r effeithlonrwydd sydd ei angen arnom—

Rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau yna, a bydd yr adroddiadau nesaf yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr, a byddaf yn sicrhau ein bod yn anfon dolen atoch chi i'r rheini a hefyd i'r rhai sydd ar gael ar hyn o bryd.

Pryd bynnag y byddwn yn cefnogi prosiectau, rydym yn gwbl awyddus i ddysgu cymaint ag y gallwn oddi wrthynt, felly roedd gan Gyngor Dinas Casnewydd grant pwmp gwres a ddyfarnwyd i Ysgol Gynradd Tŷ-du. O ran y pethau allweddol a ddysgwyd o hynny, wedyn, fe ddysgom ni rywfaint o wybodaeth bwysig am y lefel rydych chi'n gosod y tymheredd aer allanol ar gyfer y pympiau gwres. Felly, fe'i gosodwyd yn yr achos hwn ar -7 gradd C, ond, mewn gwirionedd, anaml y mae tymheredd yr aer yng Nghasnewydd yn is na -3 gradd C a dim ond am gyfnodau byr. Felly, fe wnaethom ni ddysgu o'r profiad hwnnw y bydd pympiau gwres, ar gyfer safleoedd yn y dyfodol, yn cael eu gosod ar dymheredd gweithredu o -3 gradd C fel lleiafrif yn lle hynny. Byddai hynny wedi golygu y gellid gosod un pwmp gwres yn llai ar y safle hwnnw. Felly, bob tro y byddwn yn ymgymryd â'r prosiectau hyn, rydym yn ceisio casglu cymaint o ddata, ond hefyd y math hwnnw o wybodaeth defnyddwyr hefyd o ran y profiad y mae pobl wedi'i gael. Rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn cynnal gwerthusiad prosiect pwysig ar ôl pob un o'r prosiectau hynny a gefnogwyd drwy'r prosiect ynni y soniais amdano ar y dechrau.

Rwyf am fyfyrio ar bwynt pwysig Jenny Rathbone ynghylch peidio â bod yn hunanfodlon. Rwy'n credu bod heddiw wedi bod yn gyfle i dynnu sylw at rywfaint o'r arfer da sy'n digwydd ar hyn o bryd a'i ddathlu, ond, yn hollol, rydym ar ddechrau taith, ac mae gennym ffordd bell i fynd eto, ond dim llawer iawn o amser i gyrraedd yno. Felly, rwy'n credu y bu'n gyfle i ddathlu'r da ac efallai i adfywio ein hunain i barhau.

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Canlyniad yr ymgynghoriad ‘Y Rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth’

Eitem 6 y prynhawn yma yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: canlyniad ymgynghoriad 'Y Rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth'. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan.

Diolch. Heddiw, rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad ymgynghoriad 'Ailgydbwyso Gofal a Chymorth' a ddechreuodd yn yr haf. Nod y rhaglen yw cryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Byddwch yn cofio bod y grŵp arbenigol y gwnaethom ni, ynghyd â Phlaid Cymru, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, roi ar waith yn 2022, wedi adrodd ar set o gamau ymarferol tuag at ddatblygu gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol—'Tuag at Wasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol i Gymru'—gan ddarparu gweledigaeth strategol hirdymor dros y 10 mlynedd nesaf. Mae'r rhaglen ailgydbwyso gofal a chymorth yn sylfaen gadarn bwysig i'r weledigaeth strategol tymor hwy hon ar gyfer gwasanaeth gofal cenedlaethol yng Nghymru.

Cynigiodd ein hymgynghoriad ailgydbwyso gamau gweithredu mewn cysylltiad ag ystod o ddatblygiadau cenedlaethol: fframwaith comisiynu cenedlaethol a osodwyd mewn statud i safoni'r gwaith o gomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth. Mae gennym sector gofal lle mae tua 90 y cant o ddarparwyr yn y sector annibynnol. Bydd y fframwaith comisiynu cenedlaethol yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a symud o gymhlethdod tuag at symleiddio, yn seiliedig ar egwyddorion a safonau cenedlaethol.

Bydd sefydlu swyddfa genedlaethol ar gyfer gofal a chymorth yn galluogi canolbwyntio ar arloesi, gwella a thrawsnewid gwasanaethau oedolion a phlant. Mae hyn yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed eisoes o ran gwella data gofal cymdeithasol, datblygu darlun cliriach o'r gwaith o ddarparu gwasanaethau, a chefnogi'r prif swyddog gofal cymdeithasol fel llais cryfach i'r sector.

Bydd cryfhau'r trefniadau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ranbarthol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnwys egluro a chryfhau eu llywodraethiant, atebolrwydd, cynllunio a llais dinasyddion. Bydd cryfhau'r meysydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol yn ein taith i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ymhellach.

Mae fframwaith tâl a dilyniant drafft, a ddatblygwyd gan y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, yn dangos ein hymrwymiad pellach i'r gweithlu gofal cymdeithasol ac i wella heriau recriwtio a chadw o fewn y sector.

Bydd dull gweithredu wedi'i ddiweddaru o ymdrin ag adroddiadau blynyddol gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn gwella'r trefniadau adrodd sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer awdurdodau lleol. Bydd y newidiadau hyn yn darparu mwy o oruchwyliaeth genedlaethol o wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ym mis Awst a derbyniwyd dros 90 o ymatebion gan amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion, gan gynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mynegwyd positifrwydd gan y mwyafrif helaeth o'r ymatebion a gafwyd ar draws yr holl elfennau ymgynghori, a hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad o'r amser y mae pobl wedi'i gymryd wrth ddarparu ymatebion mor adeiladol a meddylgar.

Rydym yn ymwybodol iawn bod heriau ariannol sylweddol ar draws y system ar bob lefel, gan gynnwys o fewn Llywodraeth Cymru; fodd bynnag, rydym yn credu bod newidiadau y gellir ac y dylid eu gwneud i wella'r canlyniadau i'r bobl sy'n derbyn gofal a chymorth yng Nghymru. Felly, rydym yn parhau yn ofalus ar ein taith tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol yng Nghymru, ac mae darparu ein rhaglen ailgydbwyso gofal a chymorth yn gam allweddol i'r cyfeiriad hwn.

Byddaf nawr yn nodi'r camau nesaf sy'n cael eu llywio gan yr ymatebion i'r ymgynghoriad sy'n unol â'r argymhellion a wnaed gan y grŵp arbenigol yn ei adroddiad.

Fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth a gomisiynwyd: gan ddefnyddio'r ymatebion i'r ymgynghoriad a dderbyniwyd a'r awgrymiadau a wnaed, byddwn yn diweddaru'r cod ymarfer i'w gryfhau. Bydd y cod yn gwneud cynnydd ac yn cael ei osod yn gynnar yn 2024. Er mwyn cefnogi'r gwaith o weithredu'r cod ymarfer, byddwn yn rhoi pecyn cymorth digidol o arfer da ar waith i gefnogi comisiynwyr i gyflawni yn unol â'r egwyddorion a'r safonau a nodir yn y cod.

Swyddogaethau'r swyddfa genedlaethol ar gyfer gofal a chymorth: byddwn yn defnyddio'r ymatebion ac yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid allweddol i fireinio'r swyddogaethau arfaethedig ar gyfer ein swyddfa genedlaethol ar gyfer gofal a chymorth ymhellach, gan sicrhau ei bod wedi'i sefydlu gyda threfniadau llywodraethu cadarn a bod eglurder o ran ei diben o fewn y sector. Bydd gennym swyddfa genedlaethol graidd ar waith erbyn mis Ebrill 2024, a fydd yn cyd-fynd â'n fframwaith cenedlaethol ar gomisiynu.

Cryfhau gweithio mewn partneriaeth ac integreiddio gwasanaethau: byddwn yn gwneud rhai gwelliannau terfynol i'r cod ymarfer Rhan 2 diwygiedig i adlewyrchu'r awgrymiadau defnyddiol a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad, a byddwn yn gosod y cod hwn yn ystod gwanwyn 2024 ochr yn ochr â'r fframwaith cenedlaethol.

Gan ystyried yr ymatebion manwl i'n cynigion i ddiwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015, rydym yn paratoi cyfres o reoliadau drafft ar gyfer ymgynghori pellach yn y flwyddyn newydd. Byddwn yn trefnu cyfarfod pellach o'r grŵp gorchwyl a gorffen ar gynllunio a pherfformiad i sicrhau bod y gofynion a nodir yng nghanllawiau statudol Rhan 9 yn glir ac yn gyson ac yn osgoi unrhyw ddyblygu diangen. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r grŵp gorchwyl a gorffen ar ymgysylltu a llais i drafod y ffordd orau o gefnogi byrddau partneriaeth rhanbarthol gyda'r elfen hanfodol bwysig hon o weithredu. Oherwydd yr amserlenni ar gyfer gwneud rheoliadau newydd, mae'r trefniadau partneriaeth diwygiedig yn debygol o ddod i rym tua diwedd y flwyddyn nesaf.

Adroddiadau blynyddol gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol: byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i ddiweddaru'r cod ymarfer Rhan 8 presennol, gan sicrhau y byddant yn gallu cyflawni yn erbyn y newidiadau yn y cod, a ddaw i rym ym mis Ebrill 2025.

Fframwaith tâl a dilyniant: byddwn yn parhau i weithio gyda'r Fforwm Gwaith Teg i gwblhau'r fframwaith tâl a dilyniant arfaethedig wrth i ni gydnabod pwysigrwydd sylfaenol ein sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, hebddynt ni fyddem yn gallu cefnogi a diwallu anghenion cymaint o'n dinasyddion yng Nghymru.

Rwyf eisoes wedi cyfeirio at adroddiad y grŵp arbenigol, 'Tuag at Wasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol i Gymru.' Yn unol â'r ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio, rydym ni, ynghyd ag Aelod dynodedig Plaid Cymru, wedi bod yn gweithio gyda swyddogion i ddatblygu cynllun gweithredu tri cham yn seiliedig ar argymhellion y grŵp arbenigol. Yn unol â'r ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio, cyn diwedd y flwyddyn galendr, byddwn mewn sefyllfa i gyhoeddi cynllun gweithredu cychwynnol tri cham. Bydd y cynllun gweithredu cychwynnol yn nodi gweithgaredd ac ymchwil arfaethedig a fydd yn cael ei gynnal yn ystod tymor y Senedd hon.

16:55

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Mae llawer o'r iaith sy'n ymwneud ag ailgydbwyso gofal a chymorth yn swnio'n gadarnhaol iawn; croesewir y symudiad tuag at symleiddio, geiriau cynnes, ansawdd a gwerth cymdeithasol, fodd bynnag, yn y manylder y mae'r diafol bob amser ac mae'r cynnig braidd yn annelwig.

Mae'n bwysig bod cynigion ar gyfer y swyddfa genedlaethol newydd yn rhoi syniad clir o sut y bydd y corff newydd yn rhyngweithio â sefydliadau eraill, megis rheoleiddwyr, gweithrediaeth y GIG a byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Rhaid i'r Dirprwy Weinidog egluro'n glir sut y bydd y cynigion yn cael eu costio a'u rhoi ac a fydd angen rhywfaint o eglurder hefyd ar rôl y swyddfa genedlaethol ei hun. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan gomisiynwyr y sgiliau angenrheidiol i weithredu eu cynigion o fewn y fframwaith comisiynu cenedlaethol, a sicrhau bod ganddyn nhw'r dannedd a'r pŵer i ddwyn Llywodraeth Cymru a Gweinidogion i gyfrif dros gynnwys eich datganiad y prynhawn yma?

Fel yr ydym wedi amlygu o'r blaen, hoffwn sicrhau bod gwasanaethau plant yn cael eu cynrychioli'n ddigonol yn y cynigion hyn. Roedd hwn yn bwynt a godwyd hefyd gan y comisiynydd plant, a oedd hefyd yn dymuno gweld mwy o sôn am blant drwy gydol y weledigaeth ar gyfer y swyddfa genedlaethol. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn parhau i alw am adolygiad o wasanaethau plant yng Nghymru gan mai ni yw'r unig genedl yn y DU i beidio â gwneud hynny, fel yr wyf wedi'i godi gyda chi ar sawl achlysur, Dirprwy Weinidog.

Gyda sefydlu swyddfa genedlaethol ar gyfer gofal a chymorth, mae'r prif swyddog gofal cymdeithasol arfaethedig yn atebol yn wleidyddol yn hytrach nag yn atebol i gorff annibynnol. Mae thema gylchol gyda Llywodraeth Cymru yn mynnu penodi Gweinidogion sy'n atebol yn wleidyddol gyda diffyg goruchwyliaeth annibynnol.

Mae sefydliadau'r trydydd sector hefyd wedi mynegi eu pryderon ynghylch a fydd awdurdodau lleol yn cael eu dwyn i gyfrif os na fydd gofynion y cod yn cael eu gweithredu. Mae angen cynnal adolygiad parhaus a chraffu ar y broses honno. Mynegwyd pryderon hefyd yn yr ymgynghoriad, pan fydd gan nifer o sefydliadau neu gyrff swyddogaethau sy'n gorgyffwrdd, y bydd dyblygu ymdrech, sy'n golygu gwastraff arian ac adnoddau a dryswch ymhlith rhanddeiliaid. Byddwn yn gwerthfawrogi pe gallai'r Dirprwy Weinidog roi rhywfaint o sicrwydd ynghylch gwell effeithlonrwydd gyda'r cynigion hyn, gan fy mod yn rhannu'r pryderon ynghylch gwastraffu arian ac adnoddau. Hoffwn i'r Dirprwy Weinidog amlinellu sut y bydd y cynigion hyn yn cael eu costio, o ble y daw'r arian i ariannu'r gwaith o greu'r cyrff hyn a phenodi comisiynwyr, a sut yr ariennir cyflog gwell a bandiau cyflog sefydlog ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol.

O ran cyllid, gellid defnyddio cost diwygio'r Senedd, £17.8 miliwn, i recriwtio 712 o weithwyr gofal iechyd band 2 ychwanegol, ac mae'n werth ei ailadrodd, 712 o weithwyr gofal iechyd band 2, y bobl hynny sy'n gwneud gwahaniaeth—[Torri ar draws.]—i fywydau pob dydd pobl, Joyce, sy'n werth ei nodi. Rwy'n gwneud y pwynt hwn i bwysleisio pwysigrwydd diwygio'r gwasanaethau cymdeithasol a sut y dylai hyn gael blaenoriaeth dros brosiectau gwagedd gan Lywodraeth Cymru. Mae gan Lywodraeth y DU ymrwymiad clir i gefnogi gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys £1 biliwn o gyllid grant newydd yn 2023-24 a £1.7 biliwn yn 2024-25. Rwy'n croesawu llawer o'r cynigion hyn, Dirprwy Lywydd. Cyhoeddwyd £400 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer Cymru ym mis Mawrth y llynedd fel rhan o becyn gwerth £7 biliwn ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr. Rwy'n gobeithio y caiff hwn ei fuddsoddi'n ddoeth wrth symleiddio gwasanaethau cymdeithasol, talu staff yn deg, a rhoi pwyslais ar ansawdd.

17:00

Diolch i Gareth Davies am ei gyfraniad. Nid wyf yn credu y gallwn alw hwn yn brosiect gwagedd. Bydd y swyddfa genedlaethol ar gyfer gofal a chymorth yn cael ei sefydlu o fewn y Llywodraeth ac i ddechrau bydd ganddi dair swyddogaeth graidd. Bydd yn goruchwylio ac yn cefnogi gweithrediad y fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth, datblygu'r gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol, a bydd yn cefnogi'r prif swyddog gofal cymdeithasol yn ei swyddogaeth. Bydd y swyddfa, fel y dywedais i yn fy natganiad, yn dechrau gweithredu ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Bydd pwyslais y swyddfa genedlaethol yn edrych tuag allan, gan gefnogi'r sector i fynd i'r afael â'r materion heriol niferus y mae'n eu hwynebu. Rwy'n credu eich bod yn sicr wedi cyfeirio at yr heriau y mae gofal cymdeithasol yn eu hwynebu ar hyn o bryd, a bydd y swyddfa hon yno i helpu i gydlynu, i helpu i ddatblygu ymatebion effeithiol. Bydd yn ymgymryd â rhywfaint o waith polisi penodol. Mae'r gost ar gyfer y swyddfa genedlaethol wedi ei chynllunio. Byddwn yn symud ymlaen, fel y dywedaf, gyda'r penodiadau i'r swyddfa genedlaethol.

Bydd y swyddfa genedlaethol a'r fframwaith yn cynnwys plant. Bydd y plant yn rhan allweddol o hyn. Rydym wedi cael llawer o adolygiadau o wasanaethau plant yng Nghymru, a gwn ein bod wedi cael y drafodaeth hon yn aml yn y Siambr. Un ar y cyd ag AGC oedd yr un mwyaf diweddar—rwy'n siŵr eich bod wedi darllen hynny ac y byddwch wedi darllen y sylwadau a wnaeth am y gwasanaethau yng Nghymru. Rydym yn awyddus iawn i drawsnewid gwasanaethau plant a pheidio â threulio cryn amser ar adolygiad. Rwy'n cymryd y pwynt ynglŷn â symleiddio, oherwydd codwyd hynny yn yr ymgynghoriad. Rydym yn mynd i fynd i'r afael â'r rheiny fel nad oes unrhyw ddyblygu. Felly, yr hyn y bydd hyn yn ei wneud yw darparu canolbwynt ar gyfer gofal cymdeithasol, canolbwynt cenedlaethol, sefydlu'r swyddfa genedlaethol, y fframwaith cenedlaethol, ac mae'n rhan o'r gwaith o osod sylfaen gadarn er mwyn creu gwasanaeth gofal cenedlaethol.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Gyda'n poblogaeth yn heneiddio, cyfraddau uchel o salwch hirdymor, a phwysau cynyddol ar wasanaethau rheng flaen y GIG, mae sicrhau bod darpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn addas i'r diben yn un o heriau polisi mwyaf brys ein hoes. Ar ôl ymgysylltu â'r sector yn helaeth dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi eirioli ers tro dros integreiddio gofal cymdeithasol yn well o fewn y gwasanaeth iechyd ehangach, er mwyn diwallu ein hanghenion cymdeithasol yn well. Rwy'n falch iawn, felly, fod Plaid Cymru, fel rhan o'n cytundeb cydweithio â Llywodraeth Cymru, yn gweithio ar hyn o bryd i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru, a fydd, heb os, y diwygiad mwyaf radical i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol ers sefydlu'r GIG.

Bydd yn sicrhau dull gwirioneddol ymatebol sy'n canolbwyntio ar y gymuned o ran gofal cymdeithasol, gan alluogi pobl Cymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Unwaith eto, mae hyn yn tanlinellu, pan fydd gan Blaid Cymru sedd wrth y bwrdd, fod uchelgais yn cael ei throsi'n ganlyniadau clir sydd o fudd i Gymru gyfan. Yn y cyfamser, fodd bynnag, mae'n hanfodol bod y gwaith sylfaen gweinyddol yn cael ei osod i alluogi'r weledigaeth hon i ddwyn ffrwyth, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod rhaglen ailgydbwyso gofal a chymorth y Llywodraeth bellach yn cael ei diweddaru i adlewyrchu gwaith y cytundeb cydweithio.

Ar hyn o bryd, mae'n deg dweud, er gwaethaf eu cyfraniad hanfodol i'n sector iechyd a gofal, nad yw'r gweithlu gofal byth yn cael ei werthfawrogi'n ddigonol. Mae'r ffaith bod tua 450,000 o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd, neu tua un rhan o chwech o'n poblogaeth gyfan, yn darparu gofal di-dâl i deulu a ffrindiau sâl, hŷn neu anabl yn dangos yn bendant yr angen i gymell gyrfaoedd yn y sector gofal cymdeithasol. Heb os, roedd cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol hir-ddisgwyliedig yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond mae'n rhaid i ni fynd ymhellach ac, yn y pen draw, bod mewn sefyllfa lle mae cyflogau yn y sector gofal yn cyd-fynd yn llawn â'r rhai yn y gwasanaeth iechyd ehangach.

Gall creu fframwaith tâl a dilyniant cenedlaethol ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol ddarparu glasbrint yn hyn o beth. Ond ar hyn o bryd mae'n cael ei ystyried yn wirfoddol gan gyflogwyr. Yn yr achos hwn, sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu monitro ei heffeithiolrwydd a maint ei chymhwyso? Pa fesurau y bydd y Gweinidog yn eu hystyried i gryfhau'r fframwaith os yw'n ymddangos bod cyflogwyr dim ond yn ei anwybyddu?

Un o'r elfennau allweddol ar gyfer gwasanaeth gofal sy'n gweithio'n dda yw sianeli cyfathrebu effeithlon i sicrhau bod anghenion defnyddwyr yn cael eu deall yn llawn. Ar y sail hon, mae'n anffodus nad yw'r fframwaith cenedlaethol newydd yn nodi'r angen i wasanaethau gael eu cynnig yn Gymraeg. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ymrwymo i adolygu'r cylch gorchwyl i warantu darpariaeth gwasanaethau Cymraeg ar gais?

Mae casglu data hefyd yn gysylltiedig â mater rhyngwyneb defnyddiwr-darparwr, ac mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi nodi'r cyfyngiadau yn y broses bresennol, gan gynnwys methiant i ddadgyfuno data ar oedran poblogaeth yn ddigonol. Mae hyn, wrth gwrs, yn golygu nad yw maint llawn anghenion gofal ledled Cymru, yn enwedig ymhlith ein dinasyddion hŷn, mor glir ag y gallai fod. Sut mae'r Dirprwy Weinidog yn bwriadu cywiro hyn fel bod sylfaen dystiolaeth gadarn yn sail i'r fframwaith cenedlaethol newydd?

Yn olaf, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Dirprwy Weinidog egluro sut y bydd ymarfer ailgyllidebu Llywodraeth Cymru yn effeithio ar gyflawni'r rhaglen waith hon. Mae nifer o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi croesawu ei gweledigaeth, ond maen nhw'n ddealladwy yn poeni am y diffyg sicrwydd o safbwynt cyllido, yn enwedig o ystyried yr hinsawdd gyllidol bresennol. Felly, pa sicrwydd y gall y Dirprwy Weinidog ei roi iddynt y gellir darparu'r rhaglen hon fel y rhagwelwyd yn wreiddiol, a beth yw'r goblygiadau adnoddau perthnasol? Diolch yn fawr iawn.

17:05

Diolch, Mabon, a diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth i'r rhaglen hon. Rwy'n credu eich bod chi'n hollol gywir ynglŷn â'r pwysau rheng flaen ar y GIG, a sut mae hynny'n gysylltiedig â gofal cymdeithasol, oherwydd, wrth gwrs, gofal cymdeithasol yw lle mae'r cymorth gartref yn cael ei ddarparu, lle mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau bod, ac rydyn ni'n gwybod bod yna lawer o bobl—tua 1,000 ar unrhyw un adeg—sydd yn y gwasanaeth iechyd nad oes angen iddyn nhw fod yno oherwydd eu bod wedi cael eu trin yn feddygol. Felly, mae'r GIG a gofal cymdeithasol wedi'u cysylltu'n gynhenid â'i gilydd. Rwy'n croesawu eich cefnogaeth a'r cydweithio gyda'ch plaid i greu gwasanaeth gofal cymdeithasol cenedlaethol yng Nghymru. Fel y gwyddoch chi, sefydlwyd y grŵp arbenigol gan y ddwy blaid er mwyn ein cynghori ynghylch sut rydym yn gwneud hyn. Yr hyn rwy'n siarad amdano heddiw, fel y dywedwch chi, yw'r gwaith paratoi. Dyma'r sylfaen ar gyfer gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol.

Mae'r gweithlu gofal yn cael ei danbrisio. Roeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu helpu i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i'r holl weithwyr gofal cymdeithasol. Eleni, rydym yn talu £70 miliwn, a'r llynedd fe dalom ni £43 miliwn tuag ato. Ac, wrth gwrs, mae'r codiad yn y cyflog byw gwirioneddol wedi'i gyhoeddi eto nawr ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ond, fel y gwyddoch chi, ac yn gysylltiedig â'ch sylw olaf, rydym mewn sefyllfa gyllidol anodd iawn, ac rydyn ni ar hyn o bryd yn trafod yr hyn y gallwn ni ei wneud i gadw rhai o'r ymrwymiadau yr ydym eisiau eu gwneud i ofal cymdeithasol. Mae'r cynigion tâl a dilyniant o'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol yn wirfoddol. Nid oes gennym gyfraith cyflogaeth wedi'i datganoli yma i Gymru, felly mae'n rhaid iddyn nhw fod ar sail wirfoddol, ond rwy'n credu, yn amlwg, y byddwn ni'n eu monitro'n ofalus ac yn gweld sut maen nhw'n mynd. Rwy'n cymryd eich pwynt ynglŷn â'r data. Mae angen data cystal ag y gallwn ei gael arnom, ac rwy'n credu y bydd cael y swyddfa genedlaethol yn sicrhau bod llawer mwy o gyfle i gael hynny.

Dyma'r sylfaen gadarn ar gyfer gwasanaeth gofal cenedlaethol. Mae'n gynllun tymor hir, ac nid wyf yn credu y dylem gilio rhag gwneud y cynlluniau hirdymor hyn oherwydd y sefyllfa ariannol benodol yr ydym ynddi ar hyn o bryd. Ond yn amlwg, mae 'na ansicrwydd ynglŷn â holl elfennau'r gyllideb ar hyn o bryd, ac rwyf eisiau bod yn hollol onest ynghylch hynny.

17:10

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Mae'n dda nodi'r cynnydd hwn tuag at ddarparu gwasanaeth gofal gwirioneddol genedlaethol i bobl Cymru. Mae gennyf ddau gwestiwn i chi.

Rwy'n nodi eich sylwadau, yn gyntaf, am y pwysau ariannol y mae pob lefel o'r Llywodraeth yn eu hwynebu. I mi, elfen allweddol o'r agenda gwaith teg honno, a'r addewid o'n maniffesto ar gyfer 2021 yr wyf i efallai yn fwyaf balch ohono, yw talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal. Disgwylir i'r cyflog byw gwirioneddol gael ei godi i £12 yr awr, a gwn fod Llywodraeth Cymru wedi darparu amcangyfrif o £70 miliwn y llynedd fel y gallai gweithwyr gofal ac iechyd gael y cynnydd hwnnw. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trefniadau ar gyfer cyflawni cynnydd ariannol y flwyddyn nesaf?

Yn ail, cafwyd cefnogaeth yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad tuag at fwy o gysondeb a darpariaeth. Dylai gofal da edrych yr un fath ledled Cymru, ond wrth gwrs, gall fod amrywiad demograffig sylweddol yn cyd-fodoli ochr yn ochr â'r nod hwnnw—o ran gwledigrwydd, poblogaeth hŷn, ac, fel y gwelwch chi mewn ardaloedd fel y rhai rwy'n eu cynrychioli, heriau iechyd hanesyddol ac economaidd. Sut mae hyn yn cael ei gydnabod a'i ymgorffori yng ngham nesaf y ddarpariaeth fel bod safonau cenedlaethol yn gydnaws â'r amgylchedd a ddarganfyddwn ar lawr gwlad mewn cymunedau ledled Cymru?

Diolch i Vikki Howells am y ddau gwestiwn pwysig yna. Roeddwn i'n falch iawn hefyd ein bod wedi cael y cyflog byw gwirioneddol yn ein hymrwymiad maniffesto ac yn ein hymrwymiadau rhaglen lywodraethu, ac, fel y dywedodd hi, rydym wedi talu £40 miliwn eleni, ac fe dalom ni £43 miliwn y llynedd. Mae'r cyflog byw gwirioneddol bellach wedi codi i £12 yr awr, fel y dywed Vikki Howells, ac mae'r cyflog byw cenedlaethol wedi codi i £11.46 yr awr, felly mae'r bwlch gwirioneddol rhwng y ddau hynny bellach wedi lleihau'n sylweddol. Rydym mewn hinsawdd gyllidol lle na allaf ymrwymo i ddweud y bydd hyn yn digwydd, y byddwn yn gallu talu'r arian yn y ffordd a wnaethom yn y gorffennol, ond yn amlwg mae'n uchel ar ein hagenda, ac rydym yn edrych i weld beth allwn ni ei wneud.

O ran safonau cenedlaethol, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol bod y safonau cenedlaethol yn cynnwys cymryd sylw o'r hyn sy'n digwydd ar sail ranbarthol a lleol, ac mae gwahaniaethau mewn gwahanol rannau o'r wlad. Mae amrywiad enfawr yn yr hyn a godir, er enghraifft y ffioedd sy'n cael eu codi ar hyn o bryd, ac rydym eisiau sicrhau bod y fethodoleg ffioedd a ddefnyddir yn deg ac yn cael ei defnyddio ym mhob rhan o'r wlad, ond byddem yn ystyried ystyriaethau lleol, fel y mae'n sôn, megis gwledigrwydd, a'r ffaith y byddai yna boblogaeth hŷn a phoblogaeth fwy sâl mewn rhai ardaloedd. Ond bydd rhai safonau cenedlaethol a fydd yn berthnasol ym mhobman—y safonau cyfle cyfartal, er enghraifft. Mae'r math yma o safonau yn gwbl hanfodol, lle bynnag y maent. Felly, bydd ystod eang o safonau a fydd yn berthnasol ym mhobman, ond yn amlwg bydd y materion eraill hynny'n cael eu hystyried.

7. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau

Eitem 7 sydd nesaf, datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ddiogelwch adeiladau. Galwaf ar y Gweinidog, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau yr ydym yn eu cymryd, ynghyd â Phlaid Cymru, i fynd i'r afael â diogelwch adeiladau yng Nghymru.

Hoffwn ddechrau gyda diweddariad ar ddiwygio'r drefn diogelwch adeiladau yng Nghymru. Rwy'n falch o gadarnhau bod y set gyntaf o reoliadau wedi'u cytuno, ac mae'r rhain yn disgrifio beth yw adeilad risg uwch. Bydd adeiladau sy'n dod o fewn cwmpas y rheoliadau hyn yn destun rheolaethau tynnach ynghylch pwy all oruchwylio a chymeradwyo'r gwaith a wnaed. Byddant hefyd yn destun trefn newydd, well yn ystod y camau dylunio, adeiladu ac adnewyddu.

O fis Ebrill 2024, byddwn yn cyfyngu'r gwaith goruchwylio adeiladau risg uchel newydd i reolaeth adeiladu awdurdodau lleol, gan gyflwyno system ddosbarth newydd ar gyfer arolygwyr cofrestredig adeiladu. Mae hyn er mwyn sicrhau mai dim ond unigolion sydd â'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad angenrheidiol perthnasol sy'n cynghori'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.

Yn fy natganiad diwethaf, dywedais i y byddem yn cyflwyno trefn reoleiddio newydd ar gyfer arolygwyr adeiladu a chyrff rheoli adeiladu i gefnogi'r newidiadau sydd eu hangen. Heddiw, gallaf gadarnhau y bydd y ddeddfwriaeth eilaidd sy'n ofynnol ar gyfer creu cofrestri ar gyfer yr holl arolygwyr adeiladu a chymeradwywyr rheolaeth adeiladu ar waith erbyn mis Ebrill 2024. O'r pwynt hwn, bydd gofyn iddynt gofrestru i barhau i weithio yn y proffesiwn rheoli adeiladu. Fel rhan o'r amodau cofrestru, bydd yn rhaid i arolygwyr a chymeradwywyr gydymffurfio â safonau, codau a rheolau newydd. Bydd hefyd yn ofynnol i arolygwyr adeiladu gael cynllun trydydd parti i wirio eu cymhwysedd. Mae rhagor o wybodaeth am yr amodau hyn i'w gweld ar dudalennau gwe Llywodraeth Cymru. 

Dirprwy Lywydd, rydym yn bwriadu agor y broses gofrestru ym mis Ionawr 2024, a byddwn i'n annog y rhai sydd angen cofrestru i achub y blaen ar hyn a gwirio eu cymhwysedd cyn gynted â phosibl. Tynnodd adroddiad diweddar Archwilio Cymru sylw at heriau'n ymwneud â'r gweithlu a'r angen am gymorth pellach yn y proffesiwn rheolaeth adeiladu, i baratoi, gweithredu a chyflawni'r newidiadau hyn. Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi arian cyfatebol i gefnogi rheolaeth adeiladu awdurdodau lleol i recriwtio a hyfforddi wyth swyddog dan hyfforddiant i Gymru. Bydd yr hyfforddeion hyn yn dysgu am reolaeth adeiladu yn y swydd wrth gwblhau eu cymwysterau proffesiynol. Mae gwaith yn parhau i ddiwygio'r gwaith o oruchwylio cynllunio, adeiladu ac adnewyddu adeiladau risg uwch a'r system rheolaeth adeiladu yng Nghymru. Byddwn ni hefyd yn parhau i ymgysylltu â'r diwydiant a'r cyhoedd wrth i ni ddatblygu a chyflwyno'r newidiadau rheoleiddio newydd.

Dirprwy Lywydd, hoffwn hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud i gyweirio adeiladau yng Nghymru. Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw bod gennym lwybr nawr i fynd i'r afael â materion diogelwch tân ym mhob adeilad preswyl 11m a throsodd. Nid yw hyn wedi'i gyfyngu i adeiladau sydd â chladin. Cymru yw'r unig wlad yn y DU i wneud yr ymrwymiad hwn. Ym mis Rhagfyr 2023 bydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yn cyhoeddi fersiwn wedi'i diweddaru o'i ganllawiau prisio cladin i gynnwys Cymru. Mae hwn yn gam mawr o ran darparu cysondeb a thryloywder yn y broses brisio ar gyfer fflatiau mewn blociau y mae materion cladin yn effeithio arnyn nhw. Bydd y canllawiau diwygiedig yn helpu priswyr a benthycwyr i wneud penderfyniadau, ac yn ei dro, bydd hyn yn lleihau ffrithiant ac oedi i brynwyr cartrefi, gwerthwyr a lesddeiliaid sy'n dymuno ailforgeisio eu cartrefi. Bydd y canllawiau'n adlewyrchu safbwynt Llywodraeth Cymru, gan roi cadarnhad i briswyr a benthycwyr bod yna lwybrau wedi'u hariannu at gyweirio, heb unrhyw gost i lesddeiliaid, ar gyfer pob adeilad preswyl yng Nghymru sy'n 11m neu'n uwch. Bydd hyn yn berthnasol p'un ai partneriaid sector cymdeithasol, datblygwyr neu adeiladau amddifad, lle nad oes datblygwr atebol ar gael i ymgymryd â'r gwaith, sy'n gyfrifol am y gwaith atgyweirio. Mae deg o brif ddatblygwyr y DU wedi llofnodi contract Llywodraeth Cymru yn barod. Mae'r datblygwyr hyn yn parhau i ymgysylltu'n weithredol â ni yn y cyfarfodydd monitro contractau chwarterol, yn ogystal ag yn anffurfiol i fynd i'r afael â phryderon penodol sy'n cael eu dwyn i'n sylw gan lesddeiliaid a phreswylwyr.  

Ar hyn o bryd mae 34 o adeiladau lle mae gwaith cyweirio ar y gweill ar safleoedd fel Aurora, David's Wharf, Prospect Place a Century Wharf, ac amcangyfrifir y bydd gwaith yn dechrau ar 34 o adeiladau eraill yn 2024. Mae fy swyddogion hefyd wedi bod yn gweithio gyda datblygwyr eraill nad ydynt wedi'u cynnwys yn y garfan gyntaf o ddatblygwyr i lofnodi'r contract. Rwy'n falch o gadarnhau bod Lendlease hefyd yn y broses o lofnodi contract, ac rydym yn cael deialog gadarnhaol gyda Watkin Jones. 

Dirprwy Lywydd, heddiw gallaf hefyd gadarnhau bod gennym ddull cytunedig o weithio gyda datblygwyr llai. Rydym wedi ystyried sut rydym yn cefnogi'r cwmnïau hynny na allant dalu costau cyweirio yn llawn, trwy gronfa diogelwch adeiladau Cymru, gan sicrhau y bydd y rhai sy'n gallu talu yn talu. Bydd hyn yn diogelu'r buddion cymdeithasol ac economaidd y mae'r datblygwyr hyn yn eu cynnig i'r cymunedau lle maent yn gweithio. 

Ym mis Gorffennaf, fe wnes i gadarnhau ein bod ni wedi lansio ein cynllun adeiladau amddifad, sy'n darparu llwybr at waith cyweirio ar gyfer adeiladau amddifad a nodwyd hyd yma. Mae'r gwaith o baratoi amserlenni gwaith ar gyfer yr adeiladau hyn ar y gweill, ac rwy'n falch bod gwaith wedi dechrau'n barod mewn nifer o'r adeiladau hyn, megis yn Kings Court, Casnewydd. Mae gwaith yn parhau i sicrhau bod unrhyw adeiladau amddifad eraill a nodwyd yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw drwy gronfa diogelwch adeiladau Cymru.

Felly, Dirprwy Lywydd, mae gan bob adeilad 11m a throsodd lwybr i fynd i'r afael â risgiau diogelwch tân yng Nghymru. Mae'r porth i gymorth Llywodraeth Cymru yn parhau i fod drwy fynegiant o ddiddordeb i gronfa diogelwch adeiladau Cymru, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn eto i annog unrhyw berson cyfrifol nad yw wedi cyflwyno mynegiant o ddiddordeb eto i wneud hynny. 

Er mwyn sicrhau bod pob adeilad 11m a throsodd mor ddiogel â phosibl rhag tân, mae ein cynllun sector cymdeithasol yn cwblhau'r darlun. Ar ôl rownd lwyddiannus o geisiadau am gyllid i'n cronfa diogelwch adeiladau bresennol, gallaf gadarnhau bod £39 miliwn arall o gyllid wedi'i gymeradwyo. Bydd cyfanswm o 131 o adeiladau yn elwa o'r gronfa hon, gyda'r gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym. A, Dirprwy Lywydd, rwy'n falch o ddweud, yn ogystal â'r cynnydd rydym yn ei wneud o ran diwygio'r drefn diogelwch adeiladau ac, yn hollbwysig, cyweirio adeiladau yng Nghymru, rydym yn darparu cymorth i aelwydydd unigol y mae pryderon ynghylch diogelwch tân yn effeithio arnyn nhw.

Rwy'n cydnabod cymhlethdod a chost proses gyfreithiol a lesddeiliaid yn cael y cyngor cywir, felly rwy'n sicrhau bod cyngor cyfreithiol annibynnol ar gael i lesddeiliaid yng Nghymru sydd â phryderon am ddiogelwch tân eu hadeilad, neu'r gwaith sy'n cael ei wneud i'w cyweirio. Bydd lesddeiliaid yn gallu cael gafael ar y cyngor cyfreithiol hwn drwy'r gwasanaeth cynghori ar lesddaliadau, a fydd yn cyfeirio lesddeiliaid at gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim. Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn helpu i atal anghydfodau ac oedi costus. Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn cymryd rhan yn y broses o benodi cynghorydd cyfreithiol arbenigol, ac edrychaf ymlaen at rannu rhagor o fanylion am lansiad y gwasanaeth hwn yn y dyfodol agos. Diolch. 

17:20

Diolch, Gweinidog. Rwy'n sylweddoli eich bod yn brysur iawn ar hyn o bryd gyda'r portffolio penodol hwn, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod llawer o ddisgwyl wedi bod y bydd datganiad yn cael ei gyflwyno, yn bennaf, wrth gwrs, i'r rhai sy'n ymwneud â diogelwch adeiladau a diogelwch tân, y cladin a phopeth. Mae eironi i mi ynglŷn â chyflwyno gwleidyddiaeth bleidiol i ddiogelwch adeiladu drwy gyfeirio at Blaid Cymru, ac mae'n rhan o'ch cytundeb, ond mae'n deg dweud yn y 12 mis diwethaf, yn sicr, mai'r tri pherson sydd wedi bod yn eich herio chi ac yn craffu arnoch chi o ran diogelwch adeiladau a'r materion cladin tân yw ein cyd-Aelodau Jane Dodds AS a Rhys ab Owen, a fi fy hun. Rydyn ni wedi cynnal cyfarfodydd—[Torri ar draws.] Ac, wrth gwrs chi, Mike. Mae'n ddrwg gen i, doeddwn i ddim cweit—. Felly, ie, mae'n ddiddorol, a dim ond un person sydd gennym ni ar feinciau Plaid nawr pan yw hyn yn rhan o'u cytundeb. Mae wir yn—

O helo. Reit. Y pwynt yw bod hon yn agwedd bwysig iawn, iawn. Y nifer o bobl rwyf wedi cwrdd â nhw sydd ag eiddo na allan nhw ei werthu nawr, na allan nhw ei rentu, ac maen nhw'n cael gwybod ei bod yn beryglus iddyn nhw fyw yno. Felly, i mi, roeddwn i'n gobeithio y byddai mwy o gyfeiriad o ran hynny, Gweinidog, ond beth bynnag.

Gwyddom fod awdurdodau lleol eu hunain wedi dweud ei bod yn anodd dod o hyd i'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni'r camau arolygu a gorfodi hyn ar gyfer adeiladau uchel. Rydym yn gwybod mai dim ond un o'r 20 o awdurdodau lleol a ymatebodd a ddywedodd ei fod yn ei chael hi'n hawdd dod o hyd i'r sgiliau. Mae data ar gyfer awdurdodau lleol yn nodi bod llawer o rolau heb eu llenwi, sy'n awgrymu bod yn rhaid gweithio goramser ac na allan nhw fodloni gofynion y gwasanaeth. Mae eich adolygiad o'r gweithlu diogelwch adeiladau yng Nghymru wedi canfod bod arolygiadau yn digwydd yn adweithiol fel arfer mewn ymateb i gwynion gan breswylwyr. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod gennym ddull mwy rhagweithiol? Ydych chi'n teimlo, Gweinidog, bod y datganiad hwn yn mynd i'r afael â hynny yn ei gyfanrwydd? 

Mae nifer fawr o awdurdodau lleol yn dweud nad oes ganddyn nhw hyder yng ngallu'r system yn lleol i fynd i'r afael â pheryglon diogelwch adeiladau, yn enwedig ar gyfer adeiladau uchel. Yr hyn y byddwn i'n ei groesawu yw rhywfaint o eglurder ynghylch y camau sy'n cael eu cymryd mewn ymateb i'r adolygiad hwn. A wnewch chi roi sylwadau penodol ar sut y gallwn ni sicrhau bod yna ddull cyson o weithredu, oherwydd mae'n wir, Gweinidog, bod gwahanol awdurdodau lleol yn defnyddio mesurau gwahanol o ran diogelwch adeiladau? Mae angen dull mwy cyson arnom. Ar ddiwedd y dydd, os yw rhywbeth yn cael ei ystyried yn anniogel, mae'n rhaid ei fod yn anniogel. 

Fe wnaethoch chi gadarnhau cynllun benthyciadau diogelwch adeiladau newydd gwerth £20 miliwn i ddatblygwyr yng Nghymru yn gynharach eleni. Y nod oedd darparu benthyciadau di-log dros gyfnod o hyd at bum mlynedd i gynorthwyo datblygwyr gyda'r gwaith cyweirio i fynd i'r afael â'r materion diogelwch tân hynny. Faint o'r benthyciadau hyn sydd wedi cael eu rhoi? Faint o ddatblygwyr sydd wedi gwneud cais am y benthyciadau hyn? Nawr, rydych chi hefyd wedi gwneud ymrwymiad, sydd i'w groesawu, i gamu i mewn a gwneud gwaith cyweirio ar garfan gychwynnol o 28 o adeiladau amddifad, sy'n wych. Sawl un ohonyn nhw? A beth yw'r amserlen ar gyfer cwblhau gwaith ar yr eiddo hynny?

Dros chwe blynedd ers trychineb Grenfell, mae'n ofidus meddwl bod gennym ni gannoedd o drigolion ledled Cymru yn byw mewn adeiladau anniogel. Felly, a oes cynlluniau wedi'u hariannu'n llawn ar waith nawr i sicrhau bod pob un adeilad uchel iawn peryglus yng Nghymru yn ddiogel, oherwydd cofiwch am bob un o'r adeiladau uchel iawn hyn, mae niferoedd enfawr, yn aml, o berchnogion cartrefi unigol sy'n teimlo'n eithaf anniogel ar hyn o bryd? A hoffwn ymbil arnoch i wneud unrhyw beth y gallwch chi, nid dim ond eu sicrhau eich bod chi'n cymryd y mater o ddifrif, ond maen nhw eisiau gweld camau lle gall eu heiddo fod mewn cyflwr i'w werthu eto, ac yn ddiogel. Diolch. 

Diolch, Janet. Rwy'n credu fy mod i wedi ateb bron popeth rydych chi newydd ei ofyn i mi yn fy natganiad, ond dim ond i ailadrodd, rydym yn gweithio gyda rheolaeth adeiladu ledled Cymru. Mae rheolaeth adeiladu yn gorfodi'r rheoliadau, wrth gwrs; dydyn nhw ddim yn gwneud dim ond beth bynnag maen nhw'n teimlo fel gwneud ym mhob awdurdod lleol. Maen nhw'n gorfodi'r rheoliadau. Rwyf wedi cwrdd â'r proffesiwn rheolaeth adeiladu ddwywaith, a gyda'r gweithlu hyfforddi, ac rydym wedi cytuno i roi wyth hyfforddai drwy'r broses er mwyn sicrhau bod gennym ni gynllunio olyniaeth ar waith yng Nghymru, a bod gennym ni weithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gwneud hynny. Byddwn wrth gwrs yn annog mwy o garfanau i ddod ymlaen wrth i'r wyth hynny fynd drwy'r broses. 

O ran y benthyciadau diogelwch adeiladau i ddatblygwyr, y rheswm pam y gwnaethon ni roi'r rheini ar waith, mewn gwirionedd, oedd i sicrhau nad oedd gennym unrhyw ddatblygwr a oedd yn dweud na allai fwrw ymlaen â'r gwaith cyweirio oherwydd bod ganddo broblem llif arian. Rwy'n falch iawn o ddweud nad oes yr un datblygwr wedi defnyddio'r benthyciad, oherwydd wrth gwrs maen nhw wedi gallu bwrw ymlaen â'u cynlluniau cyweirio heb wneud hynny. Felly, mae'r benthyciad wedi cyflawni ei bwrpas, sef cymryd esgus dros beidio â gweithredu'n brydlon i ffwrdd. Felly, rwy'n falch iawn mai dyna lle rydym ni. Mae'r datblygwyr i gyd wedi llofnodi'r contract ac wedi cyflwyno eu cynlluniau ac yn dod i'r cyfarfod chwarterol, felly mae hynny i gyd yn digwydd. 

Wrth gwrs, allwn ni ddim gwneud pob adeilad ar unwaith, oherwydd mae'n rhaid bod y cadwyni cyflenwi ar waith, ac mae'n rhaid bod gennym ni weithlu medrus ac arbenigol ar waith, ond mae gan bob adeilad lwybr at waith cyweirio erbyn hyn, ac rwy'n falch iawn bod ganddyn nhw lwybr o'r fath. Fel y dywedais i yn fy natganiad, rydym hefyd wedi gweithio gyda RICS er mwyn rhoi ei ganllawiau ar waith. Ni ddylai fod yn broblem i chi werthu'ch tŷ nawr, ond os oes gennych chi broblem, gallwch chi wrth gwrs fanteisio ar y ddau gynllun y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig i bobl sydd eisiau gwerthu eu cartrefi, os na allan nhw wneud hynny ar y farchnad agored—er, gyda chanllawiau RICS yn cael eu rhoi ar waith ym mis Rhagfyr, ni ddylai hynny fod yn broblem mwyach mewn gwirionedd. 

17:25

Diolch i’r Gweinidog am y datganiad. Dwi'n siŵr bod y Senedd a'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan faterion sy'n ymwneud â diogelwch adeiladau oll yn ddiolchgar am y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hanfodol yma sy'n cael ei wneud trwy'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru—cytundeb, fel bu i Janet, yn garedig iawn, ein hatgoffa ni amdano. Dim ond i atgoffa Janet mai dyma gytundeb sydd wedi rhoi blaenoriaeth i'r mater yma, ac yn golygu ein bod ni bellach yn gweld gweithredu yn y maes.

Mae’n bwysig ein bod ni’n cofio pam ein bod ni'n trafod y mater yma, sef y trasiedi erchyll a ddatblygodd yn Nhŵr Grenfell nôl yn 2017, lle gollodd 72 o bobl eu bywydau. Wrth gofio’r golled enbyd yma, mae'n ein hatgoffa ni o'r angen brys i sicrhau diogelwch i'n hadeiladau ac amddiffyn bywydau ein dinasyddion yma. Mae pobl yn dal i ddioddef yn seicolegol o ganlyniad i’r problemau a ddaeth yn sgil cwmnïau yn rhoi elw o flaen pobl a thorri corneli er mwyn cynyddu eu hincwm, ond mae iechyd meddwl y tenantiaid a’r les-ddeiliaid yn dal i ddioddef, gan eu bod yn aros am ddatrysiad. Mae’r bobl yma, felly, yn ganolog i unrhyw ddatrysiad boddhaol.

Pa gysylltiad, felly, mae’r Llywodraeth wedi cael gyda’r cyhoedd yn ddiweddar ynghylch y datblygiadau yma? Ydy’r Gweinidog yn hyderus bod tenantiaid a les-ddeiliaid yn teimlo bod y polisïau wedi cael effaith gadarnhaol arnynt?

Am lawer yn rhy hir, dŷn ni wedi gweld diwylliant o dorri corneli gan ddatblygwyr mawr, a hynny ar draul diogelwch y cyhoedd, ac mae'n dda gweld camau cadarnhaol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â hynny.

Nôl ym mis Mawrth eleni fe restrodd y Gweinidog wyth cwmni adeiladu oedd wedi arwyddo i fyny i gytundeb Llywodraeth Cymru. Yna, mewn dadl ym mis Mai, fe wnaeth y Gweinidog enwi 10 cwmni. Hyd y gwelaf i, rydym yn parhau i fod ar 10 cwmni er bod yna symud ymlaen efo dau gwmni arall, yn ôl datganiad heddiw. Beth sydd yn atal y cwmnïau eraill rhag cytuno i’r cytundeb yma, felly, os gwelwch yn dda, Weinidog?

Tro diwethaf ges i’r cyfle i holi’r Gweinidog ar hyn, fe wnes i ofyn am sefyllfa Doc Fictoria yng Nghaernarfon. Mae'r Gweinidog rŵan mewn trafodaethau cadarnhaol gyda Watkin Jones, fel y clywsom. A allai'r Gweinidog, felly, ymhelaethu ar y ddeialog hon a beth mae hyn yn ei olygu i breswylwyr Doc Fictoria?

Roedd y Gweinidog yn sôn y bydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yn cyhoeddi eu canllawiau prisio cladin wedi'u diweddaru i gynnwys Cymru wrth ddarparu cysondeb a thryloywder yn y broses brisio ar gyfer fflatiau mewn blociau sydd wedi'u heffeithio gan faterion cladin, sydd yn gam pwysig i'w groesawu, wrth gwrs. Ond hoffwn ofyn pam mai dim ond rŵan y daw hyn i effaith, ar ôl cymaint o flynyddoedd yn ymwybodol o'r mater yma?

Yn olaf, fe soniodd y Gweinidog am gyfyngu goruchwyliaeth i reolaeth adeiladu awdurdodau lleol, gan gyflwyno system dosbarth newydd ar gyfer arolygwyr adeiladu cofrestredig. Bydd y broses gofrestru yn agor ym mis Ionawr 2024. A yw'r Gweinidog yn credu bod hyn yn gadael digon o amser i'r rhai sy'n bwriadu cofrestru i ymgyfarwyddo â'r drefn a’r canllawiau newydd? Diolch yn fawr iawn.

17:30

Diolch, Mabon. Felly, mae nifer o bethau i fynd i'r afael â nhw yn y fan honno. Felly, mae'r contract lesddeiliaid rydych chi'n cyfeirio ato, yr un y mae'r wyth prif ddatblygwr wedi'i lofnodi, yn benodol ar gyfer y prif ddatblygwyr, lle rydym yn disgwyl i'r datblygwyr hynny dalu holl gost y gwaith cyweirio, ac rydym ni'n gwneud hynny, rydym ni'n camu i esgidiau'r lesddeiliaid ac rydym yn ddeiliad y contract ar gyfer hynny fel y gallwn ni sicrhau bod y gwaith hwnnw'n cael ei wneud i'n manyleb ni a bod y datblygwyr yn talu am y cyfan.

Nid yw'r garfan arall rydych chi'n sôn amdani, y datblygwyr llai sydd efallai ond wedi datblygu un adeilad ledled Cymru, yn rhan o'r broses gontract fawr honno oherwydd rydym yn teilwra'r cyfraniad rydym yn ei ddisgwyl gan bob un o'r datblygwyr hynny i sicrhau eu bod nhw'n gallu aros mewn busnes. Nid ydym am eu gyrru allan o fusnes o ganlyniad i hyn. Mae'r rhain yn bobl sy'n darparu sgiliau sydd eu hangen yn dda a llawer o gyflogaeth ledled Cymru, ac rydym am sicrhau eu bod nhw yn cyfrannu fel y gallan nhw ond hefyd fod elfen o gymorth grant yno fel ein bod ni'n gallu cyweirio'r adeiladau hyn. Felly, mae hynny ychydig yn fwy cymhleth. Mae'n gontract gwahanol, ond lle mae'r cwmni yn ddatblygwr mwy ond dim ond un neu ddau o adeiladau y mae wedi'u datblygu yng Nghymru—wna' i ddim enwi unrhyw rai ohonyn nhw, ond maen nhw'n amlwg yn ddatblygwyr enfawr ond dim ond un neu ddau adeilad preswyl maen nhw wedi'u gwneud—rydym yn disgwyl iddyn nhw lofnodi'r contract mawr. Felly, rydym yn gweithio drwyddyn nhw. Felly, mae Lendlease, er enghraifft, wedi nodi y bydd yn llofnodi'r contract mawr, felly cyn bo hir bydd gennym 11 o bobl sydd wedi ymrwymo iddo.

Mae ambell gwmni arall yn y categori hwnnw, lle mai dim ond un neu ddau o adeiladau sydd ganddyn nhw, ond cwmnïau enfawr ydyn nhw gyda throsiant mawr; rydym yn disgwyl iddyn nhw dalu'r gost lawn. Lle mae cwmnïau adeiladu llai yng Nghymru, dydyn ni ddim yn disgwyl iddyn nhw dalu'r gost i gyd oherwydd byddai'n eu gyrru i fod yn fethdalwyr, a dydyn ni ddim eisiau gwneud hynny. Felly, rydym yn graddnodi'r cyfraniad y mae datblygwr yn ei wneud gyda chyfraniad gan Lywodraeth Cymru fel cymorth grant i sicrhau bod y rhaglen yn mynd yn ei blaen, a bydd y contractau hynny ychydig yn wahanol. Felly, mae pedair carfan o adeiladau: mae adeiladau tai cymdeithasol, adeiladau sy'n cael eu datblygu gan ddatblygwyr mawr, yr adeiladau amddifad, ac yna'r categori datblygwr llai. Bydd un neu ddau o'r bobl sy'n edrych fel datblygwyr llai yn trosglwyddo i'r categori datblygwyr mawr, ond ni fydd y mwyafrif ohonyn nhw; bydd ganddyn nhw gontractau unigol, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. 

Rwy'n falch iawn bod hynna i gyd ar y gweill. Rydym mewn cysylltiad â'r holl ddatblygwyr sydd wedi cyflwyno mynegiant o ddiddordeb. A byddwn i'n annog yr holl Aelodau, fel bob amser, os ydych chi'n ymwybodol o unrhyw adeilad nad ydych chi'n credu ei fod wedi'i gynnwys yn y rhaglen honno am nad ydyn nhw wedi cyflwyno'r mynegiant o ddiddordeb hwnnw, darbwyllwch nhw i wneud hynny cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda fel y gallwn ni sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys.

O ran Doc Fictoria, rydym yn sgwrsio â'r datblygwr yno, ac rwy'n hapus iawn bod hynny'n mynd yn dda ac y byddwn ni'n gallu dod i gasgliad boddhaol, felly byddwn ni'n gallu cael rhaglen waith, y byddwn ni'n gallu ei rhannu cyn gynted â phosibl.

O ran sut rwy'n cadw mewn cysylltiad â'r gwahanol lesddeiliaid, mae tri dull yn y fan honno. Rydym yn disgwyl i'r datblygwr gadw mewn cysylltiad â'r person cyfrifol fel y'i gelwir—weithiau asiant rheoli, weithiau cwmni rheoli y tu mewn i'r adeilad. Mae ychydig yn wahanol ar gyfer pob adeilad, ond rydym yn gwybod pwy ydyn nhw. Rydym yn disgwyl iddo drosglwyddo gwybodaeth. Mae gen i grŵp rhanddeiliaid hefyd rwy'n cwrdd â nhw bob chwarter. Rwy'n cwrdd â nhw'n bersonol mor aml ag y gallaf, ac rwy'n aml yn ymuno â nhw ar-lein. Ac ar gyfer un neu ddau adeilad, weithiau ar gais Aelodau unigol ac weithiau ar gais grŵp lesddeiliaid, rwyf wedi cwrdd â'r adeiladau unigol, oherwydd weithiau mae gan bob adeilad unigol broblem benodol iawn. Felly, fe gwrddais i â Celestia yn ddiweddar, er enghraifft, er mwyn siarad am rai o'r materion penodol iawn sydd ganddo. Felly, os yw'r Aelodau'n teimlo bod ganddyn nhw adeilad yn y sefyllfa honno, rwy'n fwy na pharod i ystyried a allwn ni gael cyfarfod ar wahân os oes materion penodol i'w trafod. 

Rydym yn ymdrechu'n galed iawn i sicrhau bod pobl wedi cofrestru ar gyfer y cylchlythyr rheolaidd. Mae'r cyfeiriad ar y wefan; rwy'n ei rannu gyda'r holl Aelodau. Rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau wedi cofrestru ar gyfer hynny ac yn cael y cylchlythyr rheolaidd hwnnw hefyd. Felly, rydym yn ymdrechu'n galed iawn i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl yn mynd allan i'r holl bobl yr effeithir arnynt. Ac, a dweud y gwir, os oes gan Aelodau unrhyw ffyrdd eraill o wneud hynny, rwy'n hapus iawn i'w hystyried. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn cael yr wybodaeth gywir ar yr adeg gywir. 

Ac yna o ran rheolaeth adeiladu, rydym wedi siarad â'r proffesiwn rheolaeth adeiladu yn helaeth. Rydym wedi cwrdd â nhw, rydym wedi cwrdd â'r sefydliad hyfforddi, rydym wedi cael y sgwrs. Felly, rydym yn hapus eu bod yn credu bod hyn yn bosibl. Dydw i ddim yn arbenigwr; dyma eu cyngor i ni. Felly, rydym yn credu ei bod yn set o amgylchiadau sy'n berffaith bosibl. Maen nhw'n frwdfrydig iawn, a dyna pam mae gennym ni'r garfan newydd yn dod i mewn. Oherwydd yr hyn yr ydym yn gobeithio yw y bydd yr arolygwyr rheolaeth adeiladu mwy profiadol yn ymrwymo ar gyfer yr 11m a throsodd, ac y bydd y garfan sy'n dod i mewn yn dechrau llenwi eu hesgidiau, ac yna, yn amlwg, bydd mwy o garfannau yn dilyn. Oherwydd mae'n broffesiwn sy'n heneiddio ar hyn o bryd, ac mae bwlch wedi bod yn yr hyfforddiant sy'n cael ei gynnig, felly rwy'n falch iawn bod yr wyth lle hyfforddi yn cael eu cyflwyno, ac fe lwyddon ni i'w recriwtio ar unwaith hefyd. Felly, maen nhw wedi dechrau mewn gwirionedd, felly mae hynny'n wych.

17:35

Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfyngu'r gwaith o oruchwylio adeiladau risg uchel newydd i reolaeth adeiladu awdurdodau lleol, ac y bydd yn cyflwyno system ddosbarth newydd ar gyfer arolygwyr adeiladu cofrestredig. Bydd hyn yn sicrhau mai dim ond unigolion sydd â'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad perthnasol fydd yn cynghori'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Gallwn ni feddwl pam y cafodd pobl nad oedd ganddyn nhw'r wybodaeth a'r profiad ganiatâd i wneud hynny yn y gorffennol. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd yn sicr yn achosi pryder i mi ac rwy'n siŵr i nifer o fy etholwyr. 

Rwy'n croesawu cyflwyno trefn reoleiddio newydd ar gyfer arolygwyr adeiladu a chyrff rheolaeth adeiladu i gefnogi'r newidiadau sydd eu hangen. Mae gen i ddau gwestiwn. Pam na allwn ni ddychwelyd at sefyllfa lle mai dim ond arolygwyr adeiladu'r cyngor sy'n darparu gwasanaethau arolygu adeiladu, yn hytrach na chaniatáu i gwmnïau preifat ddarparu'r gwasanaethau hyn? A'r ail un yw: a fyddwn ni'n cael adroddiadau pellach, naill ai'n ysgrifenedig neu ar lafar—a byddai rhai ysgrifenedig yn eithaf derbyniol—ar yr adeiladau hynny sydd â phroblemau gyda chladin, a'r cam y mae pob un wedi ei gyrraedd?

Fel y gwyddoch chi, Gweinidog, y rhai y mae gen i ddiddordeb ynddyn nhw yw Altamar, South Quay a Copper Quarter, ac rwy'n gwybod mai Doc Fictoria yw'r un y mae gan Mabon ddiddordeb ynddo, er enghraifft. Felly, mae gan bob un ohonom ein diddordebau lleol ein hunain, felly, pe bai hynny'n bosibl, byddem yn croesawu hynny'n fawr. 

Diolch, Mike. O ran yr un olaf hwnnw, byddaf yn edrych i weld a allwn ni gynnwys hynny yn y diweddariadau rheolaidd yr ydym yn eu rhoi. Rwy'n tybio y gallwn ni roi adran ar y gwaelod sy'n dweud wrthych chi ble mae pob adeilad. Os oes materion sy'n gwneud hynny'n fwy cyfrinachol, byddaf yn sicrhau y gall Aelodau gael sesiwn friffio ar hynny wrth i ni fwrw ymlaen. 

O ran y systemau rheolaeth adeiladu newydd, rwy'n falch eich bod chi'n ei groesawu. Rwy'n rhannu eich barn, fel y gwyddoch chi, y dylai rheolaeth adeiladu fod o dan reolaeth awdurdodau lleol. Byddwn ni'n ceisio cyfyngu gwasanaethau arolygu adeiladau i awdurdodau lleol pan fyddwn ni'n cyflwyno'r Ddeddf lawn. Bydd hynny'n rhoi'r cyfle i ni wneud hynny. Rwy'n credu bod problem wirioneddol ynghylch rhai o'r gwasanaethau rheoledig sydd gennym. Felly mae gennym ni ddatblygwyr sydd â chontract gydag un set o arolygwyr rheolaeth adeiladu, yn y bôn. Dydy hi ddim yn fwriad gen i i amau uniondeb unrhyw arolygydd unigol drwy ddweud hynny, ond mae rhywbeth nad yw'n hollol iawn am set gadwedig o bobl sydd ond yn gweithio i un datblygwr. Dydw i ddim yn credu bod honno'n system reoleiddio dda ac felly byddwn ni'n sicrhau bod gennym ni system sy'n fwy addas at y diben na hynny. 

Pan mai'r awdurdodau lleol eu hunain yw'r datblygwyr, byddwn ni'n sicrhau bod arolygydd awdurdod lleol o awdurdod lleol gwahanol yn gwneud yr arolygiad ar ran yr awdurdod lleol hwnnw, fel bod gennych chi groesbeillio well yn y system. Ac i wneud hynny mae'n rhaid i ni dyfu'r gwasanaeth ei hun, felly mae rhoi'r rhaglen hyfforddi ar waith a sicrhau bod gennym ni gynllun olyniaeth ar waith wedi bod yn gwbl ganolog i allu gwneud hynny. Roedden ni eisiau rhoi'r system ar waith cyn i ni newid y system i'w gyfyngu. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. A diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n dda clywed beth sydd wedi bod yn digwydd ac rwy'n croesawu rhai o'r elfennau ynddo—mae'r newyddion y bydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yn cyhoeddi ei ganllawiau diweddaraf i Gymru, a'r cyngor cyfreithiol annibynnol hefyd, i'w croesawu'n arbennig. 

Ond i adleisio rhai pwyntiau, yn enwedig yr un a gododd Mabon ynghylch yr iechyd meddwl a'r straen a ddioddefir gan ein lesddeiliaid, allwn ni ddim anghofio hyn—mae hyn yn codi dro ar ôl tro. Mae un lesddeiliad trallodus sydd wedi bod mewn cysylltiad â mi wedi wynebu oedi yn ymestyn yn ôl blynyddoedd erbyn hyn, ac mae hynny ynddo'i hun yn cael effaith sylweddol ar y person hwnnw, yn ogystal â'i deulu. 

Mae'r mater yn ymwneud â'r cyfathrebu a'r tryloywder ac rydych chi wedi siarad am hynny, ac mae'n wych clywed y gallech chi fod yn agored i edrych ar p'un a ellir rhoi diweddariadau ar adeiladau unigol a hefyd i feddwl am ffyrdd eraill o gyfathrebu â lesddeiliaid. Mae hynny i'w groesawu'n fawr.

Ond, yn olaf gen i, dydw i ddim yn defnyddio Lloegr fel enghraifft dda yn aml ond mae ganddyn nhw, fel rydw i'n ei ddeall, system ddigidol gwbl agored sy'n ymwneud ag olrhain gwaith atgyweirio i adeiladau yn gynhwysfawr a darparu'r gwelededd cyhoeddus hwnnw, sef yr hyn rydym yn sôn amdano efallai. Rydym wedi pwyso am hynny, a thybed a allech chi geisio ymrwymo o ddifrif i hynny, oherwydd byddai hynny'n help mawr, rwy'n gwybod, i lawer o'n lesddeiliaid sydd wedi wynebu'r straen penodol hwnnw dros gyfnod hir. Diolch yn fawr iawn.

17:40

Diolch yn fawr, Jane. Mae gen i, yn bendant, y cydymdeimlad mwyaf ag unrhyw un sydd wedi cael eu dal yn hyn; nid yw wedi bod yn wych iddyn nhw, ac rydyn ni'n ymwybodol iawn o hynny. Mae gen i fy etholwyr fy hun yn rhan o hyn, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r problemau iechyd meddwl sydd wedi codi. Rwyf wedi cwrdd â llawer o fy etholwyr fy hun sydd wedi cael eu heffeithio'n wael iawn ganddo, felly ni allwn gytuno yn fwy: mae angen i ni sicrhau bod y wybodaeth yn eu cyrraedd nhw a'u bod yn dawel eu meddwl, ac y gallan nhw werthu ymlaen, os ydyn nhw am wneud hynny, neu y gallan nhw sicrhau bod eu morgeisi'n ddiogel, os yw hynny'n llwybr gwell. Rydyn ni'n edrych yn galed iawn ar yr hyn y gallwn ni ei ysgwyddo trwy gost ychwanegol. Felly, allwn ni ddim ysgwyddo popeth, ond rydyn ni wedi bod yn ceisio ysgwyddo cymaint o'r gost ychwanegol ag y gallwn. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n siarad â'r grwpiau rhanddeiliaid am yr hyn y gallwn ni ei wneud ar gyfer hynny, oherwydd mae'r materion iechyd meddwl yn ymwneud â pheidio â theimlo'n ddiogel yn eich cartref eich hun, ond maen nhw hefyd yn bwysau ariannol, ac rydyn ni'n cydymdeimlo'n fawr â nhw.

Rwy'n hapus i edrych eto ar y system ddigidol. Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf yn credu ei fod mor wych ag y mae'n swnio. Os edrychwch chi ar yr un yn Lloegr, nid oes ganddo bob adeilad arno ac mewn gwirionedd mae'n eithaf anodd ei lywio, ond rwy'n fwy na pharod i gael golwg arall. Rydyn ni yn sicr eisiau dod o hyd i ffordd o sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y wybodaeth ymlaen llaw a chyn gynted â phosibl, ond rydyn ni hefyd am sicrhau bod yr ansawdd wedi'i wirio fel ei bod yn gywir, pan fyddan nhw'n ei chael, oherwydd rydyn ni wedi bod â rhywfaint o wybodaeth anghywir yn lledaenu hefyd—nid yn fwriadol, rwy'n credu, ond mae'n ddigon hawdd i'r pethau hyn ymddangos.

Felly, rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod y cylchlythyr ar y we yn cael ei ddiweddaru trwy'r amser. Os ydych chi'n cofrestru i'w dderbyn, gallwch gael yr holl ôl-rifynnau fel y gallwch gael yr hanes i'r sefyllfa rydyn ni ynddi nawr, ac mae cyfle i wneud awgrymiadau ar gyfer yr hyn y gellir ei gynnwys ynddo. Rydyn ni hefyd yn anfon—. Trwy'r Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl a thrwy ein grŵp asiantau rheoli rydyn ni'n anfon diweddariadau rheolaidd hefyd, ac rwy'n fwy na pharod i edrych ar unrhyw beth arall yr ydych chi'n credu y gallai helpu.

Diolch i'r Gweinidog. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y tri chynnig o dan eitemau 8, 9 a 10, rheoliadau ailgylchu yn y gweithle, eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Dwi ddim yn clywed gwrthwynebiad.

8., 9. & 10. Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023, Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru), a Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru)

Cynnig NDM8413 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2023.

Cynnig NDM8414 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2023.

Cynnig NDM8415 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2023.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynigion. Diolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei waith craffu ar yr offerynnau statudol hyn. Heddiw, rydyn ni'n trafod yr is-ddeddfwriaeth sy'n ofynnol i weithredu'r diwygiadau ailgylchu yn y gweithle. Bydd yr offerynnau statudol hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle busnes, cyhoeddus a thrydydd sector wahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu yn y ffordd y mae aelwydydd eisoes yn ei wneud ar draws y rhan fwyaf o Gymru. Bydd hyn yn lleihau faint o wastraff yr ydym yn ei anfon i'w losgi ac i safleoedd tirlenwi, yn cynyddu ansawdd a nifer y deunyddiau y gellir eu hailgylchu yr ydym yn eu casglu o weithleoedd, a fydd yn ei dro yn casglu deunyddiau pwysig i'w bwydo'n ôl i economi Cymru, a gwella cysondeb y ffordd yr ydyn ni'n casglu ac yn rheoli ailgylchu yng Nghymru.

Y tri offeryn statudol sy'n rhan o'r rheoliadau ailgylchu yn y gweithle ac sy'n darparu i sancsiynau sifil fod ar gael mewn perthynas â throseddau sy'n gysylltiedig â'r gofynion yw Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023, sy'n nodi'r gofynion gwahanu ar gyfer cyflwyno, casglu a thrin gwastraff o safleoedd annomestig yng Nghymru; Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023, sy'n gwahardd llosgi, neu ddodi ar safle tirlenwi mathau penodol o wastraff y gellir ei ailgylchu a gesglir ar wahân ac yn gwahardd dodi ar safle tirlenwi unrhyw wastraff pren, p'un a gaiff ei gasglu ar wahân ai peidio; a Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023, sy'n ategu'r gwaharddiad ar waredu gwastraff bwyd i garthffos o eiddo annomestig.

Wrth gyflwyno'r diwygiadau hyn, rydym yn cyflawni ein hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu ac yn dangos sut y gall camau hanfodol i ddatgarboneiddio ac ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur hefyd adeiladu economi gryfach, wyrddach, yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol. Gan adeiladu ar ailgylchu llwyddiannus gan aelwydydd Cymru, lle mae ein cyfradd uchel o ailgylchu yn arbed tua 400,000 tunnell o allyriadau carbon deuocsid bob blwyddyn, rhagwelir y bydd y cynnydd mewn ailgylchu a ddaw yn sgil rheoliadau ailgylchu yn y gweithle yn arwain at arbedion cyffredinol sylweddol i economi Cymru, wedi'i fodelu ar werth net presennol o tua £106.9 miliwn dros 10 mlynedd rhwng 2023 a 2033 a bydd yn arwain at fuddsoddiad a swyddi newydd.

Mae'r diwygiadau'n elfen graidd o'n hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gyflwyno cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr i gymell lleihau gwastraff gan fusnesau. Y rheswm am hyn yw y bydd y rheoliadau'n hwyluso ac yn gwella'r modd y bydd deunyddiau yn cael eu gwahanu a'u casglu o bob safle annomestig—elfen allweddol o ddarparu system cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr effeithiol. Mae ein profiad o drawsnewid ailgylchu o aelwydydd wedi dangos, gan fod gweithleoedd yn gwahanu eu gwastraff i wahanol gynwysyddion, y bydd yn tynnu sylw at faint o bob math o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu. Bydd hyn yn annog gweithredu i leihau gwastraff a helpu gweithleoedd i arbed arian ar gostau casglu a gwaredu, hyn i gyd wrth gasglu deunyddiau gwerthfawr y gellir eu hailddefnyddio yng Nghymru. Mae'r weithred hon yn helpu gweithleoedd i ddod yn fwy effeithlon o ran adnoddau ac yn gydnerth i ddod o hyd i'r deunyddiau crai sydd eu hangen arnynt yn ddiogel.

Mae'r rheoliadau newydd hyn yn tynnu ar bwerau i Weinidogion Cymru a ddarperir yn Rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae cydweithredu ac ymgynghori wedi bod yn rhan annatod o ddiffinio'r dull polisi, gan adeiladu ar dros ddegawd o ymgysylltu â chymunedau a phartneriaid. O ganlyniad, cefnogir y diwygiadau hyn gan fwy na thri chwarter y cyhoedd a busnesau bach a chanolig yn ein harolwg diweddaraf.

Fel rhan o'u hadroddiad ar yr offerynnau statudol, nododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y pwyntiau adrodd canlynol. Yn Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023, roedd chwe phwynt adrodd technegol yn ymwneud â drafftio ac anghysondebau posibl rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Yn y Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023, roedd saith pwynt technegol yn ymwneud â drafftio a nodwyd anghysondebau posibl rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Nododd y pwyllgor hefyd un pwynt teilyngdod, y cadarnhaodd y pwyllgor wrthym nad oedd angen ymateb. Yng Ngorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023, roedd pedwar pwynt technegol yn ymwneud â drafftio ac anghysondebau posibl rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Lle mae'r adroddiadau'n tynnu sylw at wallau ddrafftio neu deipio, bydd y rhain yn cael eu cywiro cyn gwneud yr offerynnau statudol, ac o ran yr anghysondebau posibl rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg, mae'r rhain wedi'u nodi a gwneir newidiadau lle bo hynny'n briodol. Mae'r pwyntiau a godwyd gan y pwyllgor yn eu hymateb dilynol dyddiedig 27 Tachwedd—ac rwy'n ddiolchgar iawn am yr amser y treuliwyd ar hyn—ac yn dilyn trafodaeth gyda fy swyddogion, rwy'n falch o ddweud y bydd yr offerynnau statudol yn cael eu diwygio cyn cael eu gwneud i sicrhau y bydd 'bennir', 'bennu' a 'bennu'r' yn cael eu defnyddio ym mhob un o'r tri offeryn statudol ar gyfer cysondeb ym mharagraffau 11(1), 25(3)(c) a 26(c) o'r Atodlenni perthnasol.

Dirprwy Lywydd, i grynhoi, bydd y rheoliadau ailgylchu yn y gweithle yn lleihau'r gwastraff yr ydym yn ei anfon i'w losgi ac i safleoedd tirlenwi, gan wella cysondeb y ffordd yr ydym yn rheoli gwastraff ac ansawdd a nifer y deunyddiau ailgylchu yr ydym yn eu casglu o weithleoedd, sy'n gam allweddol ymlaen yn ymrwymiad Cymru i gyrraedd sefyllfa diwastraff ac allyriadau sero-net erbyn 2050. Diolch.

17:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog, hefyd. Gwnaethom drafod y tri offeryn statudol drafft hyn ar 20 Tachwedd ac, wedi hynny, gwnaethom drafod ymatebion y Llywodraeth yn ein cyfarfod brynhawn ddoe. Mae ein hadroddiadau ni ac ymatebion Llywodraeth Cymru ar gael o agenda heddiw.

Mae ein hadroddiadau ar yr offerynnau statudol drafft hyn yn cynnwys cyfanswm o 18 pwynt adrodd. Nawr, nid yw'n bosibl ymdrin â'r holl faterion y prynhawn yma, felly byddaf yn tynnu sylw at y themâu a'r materion eang, y mae rhai ohonynt yn bresennol ym mhob un o'r tri offeryn a rhai ohonynt, yn wir, y mae'r Gweinidog eisoes wedi cyfeirio atynt.

Gan ddechrau gyda'r rheoliadau gwahanu gwastraff, mae ein hadroddiad yn cynnwys chwe phwynt adrodd technegol, pedwar ohonyn nhw'n ymwneud â materion anghysondebau rhwng testunau Cymraeg a Saesneg. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei wneud ac rydym yn croesawu ymateb y Llywodraeth pan fyddan nhw'n ymateb i hyn hefyd. Mae un pwynt arall yn nodi drafftio diffygiol ymddangosiadol a chodwyd pwynt arall oherwydd bod angen esboniad pellach.

Mae ein hadroddiad ar reoliad gwahardd llosgi gwastraff penodedig yn cynnwys saith pwynt adrodd technegol ac mae un yn pwynt adrodd teilyngdod. Mae tri o'r pwyntiau technegol yn codi materion tebyg iawn i'r rhai a wneir mewn perthynas â'r rheoliadau gwahanu gwastraff. Mae'r pwyntiau adrodd technegol sy'n weddill yn amlygu anghysondebau ychwanegol rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg, ac yn nodi mater sy'n gofyn am esboniad pellach. Mae'r pwynt adrodd unigol yn nodi y bydd y rheoliadau hyn yn cael effaith ôl-weithredol i'r graddau y maent yn effeithio ar ddigwyddiadau neu drafodiadau yn y gorffennol. Hynny yw, maen nhw'n addasu telerau trwyddedau amgylcheddol a gyflwynwyd cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym, er mai dim ond ar ôl i'r rheoliadau hyn ddod i rym y gellir cyflawni troseddau sy'n gysylltiedig ag amodau'r drwydded newydd.

Ac yn olaf, mae ein hadroddiad ar Orchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023 yn cynnwys pedwar pwynt adrodd technegol. Unwaith eto, mae tri o'r pwyntiau hyn yn codi materion tebyg iawn i'r rhai a wneir mewn perthynas â'r rheoliadau gwahanu gwastraff a'r rheoliadau gwahardd llosgi gwastraff penodedig. Mae'r pwynt adrodd technegol sy'n weddill yn tynnu sylw at yr hyn yr ydym yn ei ystyried yn ddrafftio diffygiol. Nawr, mae'r Llywodraeth wedi cydnabod ac yn cytuno â'r mwyafrif o'r materion yr ydym wedi'u codi yn ein pwyntiau adrodd technegol, ac rwy'n nodi, fel y mae'r Gweinidog wedi dweud eto heddiw, y bydd newidiadau i'r offerynnau hyn yn cael eu gwneud, ac rydym yn croesawu hynny a'r ymgysylltiad adeiladol â phwyntiau adrodd y pwyllgor.

Cyn gwneud rhai sylwadau terfynol byr, hoffwn fynd i'r afael yn fyr ag un mater sy'n berthnasol i'r tri offeryn. Mae'n ymwneud yn fras â'r gair Cymraeg a ddefnyddir ar gyfer 'determine' neu 'determining' ac 'establishing' ym mhob un o'r offerynnau. Mae'r Gweinidog yn ymwybodol o hyn. Yn rhyfedd yn ein barn ni, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i un o'r tri offeryn yn unig, y rheoliadau gwahardd llosgi gwastraff penodedig, felly bydd gair Cymraeg gwahanol yn cael ei ddefnyddio fel y cyfieithiad am 'determine'. Gallaf weld bod y Gweinidog ar y fainc flaen yn rhoi sylw manwl i hyn a pha eiriau fydd y rhain—cyd-Weinidog, yn ogystal â'r Gweinidog ei hun.

Yn ogystal â hyn, yn yr ymateb i'n seithfed pwynt technegol yn ein hadroddiad ar y rheoliadau gwahardd llosgi gwastraff penodedig, mae'r Llywodraeth wedi dweud wrthym eu bod yn

'fodlon mai'r gair "bennu" yw'r cyfieithiad cywir o "determining" ac "establishing"' 

ym mharagraffau 25(3)(c) a 26(c) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hynny. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod 'bennu' yn cael ei ddefnyddio fel cyfieithiad am 'determining' ac 'establishing' yn y paragraffau hynny. Felly, ymddengys i'n pwyllgor fod gwrthddywediadau yn y tri ymateb gan y Llywodraeth, yn ogystal â mater posibl o gywirdeb. Felly, os oes gan y Gweinidog unrhyw feddyliau pellach ar hyn y prynhawn yma pan fydd hi'n cau'r ddadl, byddem ni'n croesawu hynny.

Ond wrth gloi, ac wrth groesawu dull yma, hoffwn dynnu sylw at ddatblygiad newydd yn fyr yn ystyriaeth y Senedd o'r offerynnau statudol hyn. Rydym wedi mynegi pryderon yn flaenorol, lle nodir camgymeriadau mewn offerynnau statudol sy'n amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bod yn rhaid i'r Senedd gael gwybod am yr hyn a fydd yn cael ei gywiro ar ôl i Aelodau yn y Siambr hon bleidleisio, ond cyn i'r offeryn gael ei wneud. Mae'r ymatebion gan Lywodraeth Cymru i'n hadroddiadau ar yr offerynnau hyn yn cynnwys tablau manwl yn nodi'r gwelliannau testunol a wneir o ganlyniad i'n craffu ni. Mae hyn i'w groesawu'n fawr, a diolchwn i'r Llywodraeth am ymateb mor gadarnhaol i'n pryderon. Diolch yn fawr iawn. 

17:50

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae'n rhaid i eto dynnu fy het i chi, Huw Irranca-Davies, achos roedd hynny'n dechnegol iawn. Roeddwn i'n gwrando gyda fy nwy glust. Beth bynnag, mae fy un i yn llai technegol na hynny, fy ymateb, ond rwy'n pryderu am Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023. Rydym yn cefnogi'r lleill, ond nid felly eitem 8.

Yn y pen draw, bydd y newid yn y gyfraith yn golygu y bydd yn rhaid i'n busnesau, bydd rhaid i'n perchnogion busnes gyflwyno'r ffrydiau gwastraff canlynol ar wahân: gwydr, cartonau a phethau tebyg, metel a phlastig, papur a cherdyn, gwastraff bwyd, offer trydanol a gwastraff electronig bach heb eu gwerthu a thecstilau heb eu gwerthu. Unwaith eto, mae pobl wedi dechrau cysylltu â ni. Mae perchnogion busnes yn teimlo, 'Beth nesaf?', gan Lywodraeth Cymru. Dyma ddull rheoleiddiol, rhy feichus arall, ac mae'n rhaid i mi ofyn, Gweinidog, pam ydych chi'n cosbi busnesau, ond eto, mae'n deg dweud, ac fe wnaf datgan buddiant, pan ddof i aros yma yng Nghaerdydd mewn fflat, does dim ailgylchu o gwbl yn digwydd—

Wel, na. Nid fi yw'r unig un. Mae'n digwydd.

Felly, unwaith eto, bydd angen chwe chynhwysydd gwahanol, bydd angen casglu gan nifer o wahanol gerbydau. Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi:

Mae'r arbedion cyffredinol i economi Cymru wedi'u modelu ar werth presennol net (NPV) o £186.9 miliwndros ddeng mlynedd'.

Mae'n rhaid bod nam sylfaenol, oherwydd nid yw'n ymddangos bod unrhyw asesiad o'r gost gyffredinol i'r economi o ran y beichiau a'r gost ychwanegol i'n busnesau. Mae'r gofyniad i wahanu eitemau i gynifer o gategorïau yn mynd i achosi anghyfleustra enfawr i fusnesau prysur iawn. Mewn gwirionedd, nid oes gan rai ohonyn nhw hyd yn oed y lle ar gael ar gyfer mwy o finiau. Mae llawer o siopau, er enghraifft, yn defnyddio cymaint o'u hardal arddangos er mwyn gwerthu eitemau; dyma'r unig ffordd y gallan nhw wneud eu siop yn broffidiol ac yn hyfyw. Felly, mae'r gofynion gwahanu gwastraff yn mynd i wneud gwaith busnesau hyd yn oed yn anoddach ar adeg pan fo angen llai o fiwrocratiaeth arnyn nhw.

Caffis, bwytai, tafarndai, unwaith eto, bydd hyn yn ymddangos yn faich rheoleiddiol arall a phan fyddan nhw'n dechrau cael eu hymweliadau, eu gwiriadau blynyddol o'r hyn a gedwir yn ble, rwy'n bryderus iawn am y lle y bydd ei angen ar hyn. Mae angen casgliadau ailgylchu symlach ar Gymru.

Nawr, yn rhy aml, rydyn ni'n canmol ein hunain am y lefelau uchel o ailgylchu oherwydd bod Cymru i fyny yno, ond, mae'n rhaid i mi ddweud, mae llawer iawn o ddefnyddwyr eisiau gweld cynhyrchu plastig yn cael ei leihau a chynhyrchion eraill yn cael eu defnyddio. Bydd, fe fydd eich targedau ailgylchu yn gostwng; fodd bynnag, os yw'n helpu i achub ein planed, o ystyried faint o danwydd ffosil a ddefnyddir i wneud plastig, yna dyna'r math o gyfeiriad y dylem fod yn mynd iddo, peidio â chaniatáu i weithgynhyrchwyr gynhyrchu llwyth o blastig dim ond i'w ailgylchu i greu targedau uwch ar gyfer y Llywodraeth hon.

Felly, a allwch chi ddweud wrth y Siambr hon sut rydych chi'n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr i geisio dylanwadu arnyn nhw i leihau'r plastig sy'n cael ei gynhyrchu? A pha gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau—gan fy mod wedi ei godi yma heddiw—bod pobl sy'n byw mewn fflatiau yn gallu ailgylchu mewn gwirionedd? Nid oes cyfleusterau ailgylchu mewn llawer o'r blociau fflatiau mawr hyn. Diolch.

17:55

Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am godi bron popeth yr oeddwn i'n mynd i'w godi, ond, Gweinidog, un peth yr wyf i am ei godi gyda chi: yn y rheoliadau, mae ysbytai wedi'u heithrio o'r rhain tan 2026, a hoffwn wybod y rhesymeg pam y daeth y Llywodraeth i'r penderfyniad hwnnw, oherwydd mae ein hysbytai yn cynhyrchu llawer iawn o wastraff y gellir ei ailgylchu ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn i'r Siambr wybod sut y daeth y Llywodraeth i'r penderfyniad hwnnw? Diolch.

Diolch, Llywydd. Diolch yn fawr iawn i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau. Felly, byddaf yn troi at fy nghydweithwyr ar y meinciau gyferbyn yn gyntaf. Rydym wedi eithrio ysbytai ar unwaith, oherwydd mae gan ysbytai ffrwd wastraff gymhleth iawn sy'n cynnwys cyfres gyfan o eitemau gwastraff clinigol, felly rydym eisiau gweithio gyda nhw i sicrhau bod y gwaith gwahanu'n hollol iawn. Dydy hynny ddim yn golygu na fyddan nhw'n cymryd rhan yn hyn, ond ni fydd yn orfodol nes y byddwn ni'n gwahanu'r llif gwastraff, felly byddwn ni'n sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan ynddo, ond rydym am sicrhau ein bod yn gwneud yr holl waith gwahanu yn iawn ar gyfer ysbytai.

Janet, dydw i ddim yn gwybod ble i ddechrau. Rwyf innau hefyd yn byw mewn fflat yng Nghaerdydd ac rwy'n ailgylchu fy holl ddeunyddiau. Rwy'n fwy na pharod i ddod draw i'ch fflat chi i'ch dysgu sut i wneud hynny. [Torri ar draws.] Mae hynny'n nonsens llwyr.

Rwy'n credu bod pwynt gwirioneddol am bobl sy'n byw mewn fflatiau. Y sefyllfa yng Nghaerdydd, er enghraifft, ar hyn o bryd, yw bod gan bawb fag gwyrdd gyda'r holl ddeunyddiau ailgylchadwy wedi'u cymysgu yn y bag hwnnw, ac rydyn ni'n ei roi i lawr twll sbwriel yn y bloc fflatiau yr wyf i ynddo. Nawr, yn amlwg, nid dyna'r gwahaniad ar ymyl y ffordd yr ydym ni'n ei ddisgwyl gan awdurdodau lleol. Felly, a allwch chi egluro, efallai, sut y bydd hynny'n cael ei ddatrys? Oherwydd mae hwnnw'n cael ei gam-arfer; mae'r ailgylchu mewn fflatiau yn llawer gwaeth nag ydyw mewn aelwydydd eraill yn gyffredinol.

Yn sicr, gallaf wneud hynny, Darren. Rydyn ni'n gweithio gyda nifer o awdurdodau yng Nghymru sydd â fflatiau uchel mewn amlfeddiannaeth i sicrhau y gallwn ni ddylunio system sy'n addas i'r diben. Dydy Caerdydd—gallwch chi weld yn hawdd o gyfrifon yr awdurdod lleol ei hun—ddim yn cael dim byd tebyg i'r gwerth o'i ailgylchu fel y gwna cyngor fel Abertawe, er enghraifft. Felly, os ydych chi'n gwerthu papur a cherdyn a gesglir mewn bag ailgylchu cymysg o'r math hwnnw, mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer rholion papur toiled neu rholion papur cegin. Os ydych chi'n gwerthu cerdyn a phapur glân sydd wedi'i wahanu yn ei ffynhonnell, caiff ei ailgylchu yn gardiau a phapur. Felly, mae'n werth llawer iawn mwy. Felly, mae'n werth chweil gwneud hyn, oherwydd eich bod chi'n cael deunydd ailgylchu llawer gwell.

Y peth am fflatiau yw gwneud yn siŵr bod y systemau casglu a'r cyfle i'w gwahanu yn yr iardiau, os mynnwch chi, o'r fflat yno, ac rydyn ni'n gweithio gyda Chaerdydd a nifer o awdurdodau eraill i sicrhau bod cyfleoedd yn bodoli i wneud hynny. Mae methodolegau ar gyfer hynny, ond rwy'n cytuno, mae'n anoddach. Er gwaethaf hyn, os ydych chi eisiau ei wneud, fe allwch chi; rwyf i yn sicr yn ei wneud yng Nghaerdydd, ac mae'n berffaith bosib gwneud hynny. Rydym yn gweithio gyda Chaerdydd i gyflwyno'r hyn yr ydym yn ei alw'n 'lasbrint', sy'n wastraff sy'n cael ei wahanu yn ei ffynhonnell, ledled Caerdydd. Maen nhw'n ei dreialu mewn nifer o ardaloedd ac mae gennym lwybr at lasbrint ar gyfer Caerdydd o ganlyniad i'n hymgysylltiad â nhw. Mae gennym bedwar awdurdod yng Nghymru yn dal i weithio tuag at lasbrint, ond byddwn ni'n cyrraedd pob un ohonyn nhw erbyn diwedd haf nesaf.

O ran pwynt y gweithle, Janet: rwy'n credu eich bod chi'n colli'r pwynt. Dyma'r deunyddiau y mae pobl yn eu defnyddio i roi'r gorau i gynhyrchu plastig newydd. Rydyn ni'n denu ail-broseswyr i Gymru yn ein cynlluniau economi gylchol yn well nag unrhyw le arall yn y byd oherwydd bod gennym y deunydd ailgylchu iddynt ei ddefnyddio, fel nad ydyn nhw'n gwneud plastig newydd. Mae'n rhaid i chi ddeall bod hyn yn rhan o fodel economi gynaliadwy. Mae'r syniad ei bod rywsut yn rhy anodd i'w wneud neu beth bynnag, ond eich bod chi'n dal i boeni am y blaned, mae'n ddrwg gen i, mae hynny'n wirion. Allwch chi ddim cefnogi'r cyffredinol a pheidio byth â chefnogi'r penodol. Felly, rwy'n anghytuno'n llwyr â chi, ac mae ein harolygon yn dangos bod y rhan fwyaf o berchnogion busnes yn hefyd, sy'n deall y gwerth i'w busnes yn llwyr. Ac os ydych chi am fy nghyfeirio i tuag at unrhyw un o'r rhai sy'n cysylltu â chi, mae'n ymddangos, rwy'n fwy na pharod i sicrhau y gall fy swyddogion fynd yn benodol at y busnesau hynny a'u helpu i gefnogi hyn. Bydd yn arbed arian iddynt a bydd yn arbed y byd y defnydd o adnoddau cwbl newydd lle nad oes eu hangen. Felly, rwy'n credu nad ydych chi'n ei ddeall o gwbl.

Huw, rwyf wedi bod yn falch iawn o weithio gyda'ch pwyllgor drwy hyn i gyd; mae wedi bod yn ddiddorol. Gallaf i ddim dweud wrthych chi pa mor wrth fy modd ydw i o gael A* am fy siart. Byddaf yn ei argymell i bob un o fy nghydweithwyr ar y fainc flaen. Rwy'n credu ei bod yn werth ei wneud dim ond er mwyn cael eich cymeradwyaeth chi.

Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r rheoliadau i'r Senedd. Maen nhw'n rhan allweddol o'r ffordd yr ydym ni'n cyflawni ein hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu i adeiladu economi gryfach, wyrddach yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol, yn ogystal â bod yn elfen hanfodol o weithredu i ddatgarboneiddio ac ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, ac rwy'n cynnig y cynnig. Diolch.

18:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio eitem 8 tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Eitem 9: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad i eitem 9. Felly, mae'r rheoliadau yna wedi eu cymeradwyo.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Felly, mae eitem 10 wedi cael ei gadarnhau.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023
12. Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

Eitem 12 yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8412 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023. Mae adran 17 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sancsiynau sifil mewn perthynas â'r drosedd o dan adran 5 o'r Ddeddf hon: y drosedd o gyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig. Mae'r pŵer yn cyfateb i bwerau a ddefnyddiwyd gennym o'r blaen yn Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi a Sancsiynau Rheoleiddiol 2008. Cosbau ariannol penodedig, cosbau ariannol amrywiol, hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau stop ac ymgymeriadau gorfodi yw'r sancsiynau sifil yn y rheoliadau. Yn dilyn ymgynghoriad, rwyf wedi pennu'r cosbau ariannol penodedig ar £200. Nid oes uchafswm ar gyfer y cosbau ariannol amrywiol gan fod hyn yn adlewyrchu'r ddirwy ddiderfyn a ddarperir o dan adran 6 o'r Ddeddf. Bydd hyn yn rhoi'r hyblygrwydd sydd ei angen i deilwra dirwyon i fod yn fodd priodol o atal mewn unrhyw amgylchiadau. Drwy ddarparu ystod o sancsiynau sifil, credwn y bydd y rheoliadau yn caniatáu i awdurdodau lleol fabwysiadu dull graddedig, gan annog busnesau i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau.

Mae sancsiynau sifil yn ddewis amgen i erlyn troseddol, yn hytrach nag yn eu disodli, a gallant fod yn arbennig o ddefnyddiol mewn amgylchiadau pan ystyrir erlyniad troseddol yn anghymesur. Pwrpas y rheoliadau yw cynorthwyo awdurdodau lleol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r Ddeddf ac atal niwed i'r amgylchedd rhag cynnyrch sbwriel plastig untro. Er mwyn cefnogi cydymffurfiaeth, darparwyd canllawiau ar gyfer busnesau a sefydliadau eraill y mae'r gwaharddiadau yn effeithio arnynt. Rhagwelir y bydd awdurdodau lleol yn ystyried y canllawiau hyn wrth lunio eu polisi gorfodi eu hunain.

Rydym hefyd wedi cynnal ymgyrch gyfathrebu ac wedi gweithio gyda'r rhai y mae'r ddeddfwriaeth yn effeithio arnyn nhw i helpu i godi ymwybyddiaeth. Rwy'n gwybod o ddeddfwriaeth amgylcheddol flaenorol bod awdurdodau lleol yn aml yn ceisio gweithio gyda phartïon perthnasol i ddatrys materion yn wirfoddol lle bynnag y bo modd, gydag addysg ac arweiniad yn llinell ymateb gyntaf. Fodd bynnag, rwy'n credu y bydd y rheoliadau yn darparu dulliau gorfodi ychwanegol i awdurdodau lleol pan fo'r ddeialog hon wedi bod yn aflwyddiannus, ac felly rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Siambr.

Diolch. Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd. Gwnaethom drafod y rheoliadau drafft hyn ar 20 Tachwedd ac, wedi hynny, gwnaethom drafod ymateb y Llywodraeth yn ein cyfarfod brynhawn ddoe. Mae ein hadroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru ar gael o agenda heddiw.

Byddaf yn troi'n uniongyrchol at ein hadroddiad, sy'n cynnwys pedwar pwynt adrodd technegol, pob un ohonyn nhw oherwydd ein bod o'r farn bod angen esboniad pellach ar rannau o'r rheoliadau. Yn ein pwynt adrodd technegol cyntaf, gwnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru egluro ystyr rheoliad 6. Heb esboniad, roeddem o'r farn bod y cyfeiriad at 'orchymyn o'r llys' a 'gorchymyn llys' yn y rheoliad hwn yn ymddangos yn gylchol. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym, er y gallai'r mynegiant yn rheoliad 6 fod yn gliriach, nid yw'n credu ei fod yn aneglur, a gwnaeth yr ymateb cynnil hwnnw godi gwên yn fy neddfwr mewnol, ond rydym yn gwerthfawrogi'r ymateb.

Yn ein hail bwynt, nodwyd bod rheoliad 14 yn darparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am sancsiynau sifil. Fodd bynnag, mae rheoliad 14(3) yn datgan nad yw rheoliad 14 yn gymwys mewn achosion lle mae Gweinidogion Cymru o'r farn y byddai cyhoeddi yn amhriodol. Felly, gwnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru egluro'r bwriad y tu ôl i reoliad 14(3), i roi enghreifftiau o bryd y gallai cyhoeddi fod yn amhriodol, ac i egluro sut y bydd barn Llywodraeth Cymru ynghylch yr hyn sy'n amhriodol yn cael ei chyfleu i'r awdurdodau lleol. Rydym wedi cael ymateb, ac mae'r ymateb a gawsom yn datgan yn gyntaf mai'r

bwriad y tu ôl i reoliad 14(3) yw galluogi disgresiwn mewn amgylchiadau pan y gall fod yn amhriodol i rai achosion gael eu cyhoeddi'.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym hefyd y gallai ystyriaethau diogelu data, er enghraifft, arwain Gweinidogion Cymru i'r casgliad y gallai fod yn amhriodol i rai achosion gael eu cyhoeddi, ac yn olaf y gallai Gweinidogion Cymru gyfleu arfer disgresiwn trwy gyswllt ysgrifenedig ag awdurdodau lleol. Felly, nodwn yr esboniad helaethach hwnnw, sydd i'w groesawu.

Mae ein trydydd pwynt adrodd yn ymwneud â pharagraff 2 o Atodlen 1 i'r rheoliadau, sy'n nodi gofynion hysbysiad o fwriad i orfodi cosb ariannol benodedig. Gofynnom i Lywodraeth Cymru ateb nifer o gwestiynau yn ymwneud â pharagraff 2. Mae'r ymateb a gawsom yn nodi bod y ddarpariaeth yn adlewyrchu gofynion ei phŵer galluogi, a chan nad yw cynnwys yr hysbysiad a restrir yn y ddarpariaeth yn gynhwysfawr, gall yr hysbysiad fynd i'r afael â materion gweinyddol ychwanegol gan gynnwys sut y gellir gwneud y taliad rhyddhau. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym hefyd, er y gallai mynegiant paragraff 2(2)(d)(iii) fod yn gliriach, nid yw'n credu ei fod yn aneglur. Unwaith eto, mae fy neddfwr mewnol yn gwenu ar hynny.

Mae ein pedwerydd pwynt adrodd technegol, a'r olaf, yn ymwneud â pharagraff 1(4) o Atodlen 2 i'r rheoliadau, sy'n dweud, cyn cyflwyno hysbysiad cosb ariannol amrywiol, y gall y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth er mwyn sefydlu swm unrhyw fudd ariannol sy'n codi o ganlyniad i drosedd adran 5. Fodd bynnag, nid yw'n glir i ni beth sy'n digwydd o ran gorfodaeth os yw'r person yn gwrthod darparu gwybodaeth. Mae'r ymateb a gawsom yn nodi nad yw'r ddarpariaeth hon ychwaith yn cynnwys mecanwaith i orfodi'r gofyniad, nac yn atal cyhoeddi'r hysbysiad pan fydd person yn gwrthod darparu gwybodaeth. Mae ein pwyllgor, felly, yn dyner, yn nodi na fyddem yn ei ystyried yn arfer da i ddrafftio deddfwriaeth na ellir ei gorfodi. Yn yr achos hwn, gall rheoleiddiwr 'ei gwneud yn ofynnol' i berson ddarparu gwybodaeth, ond ni fydd y person yn wynebu unrhyw atebolrwydd am anwybyddu'r gofyniad hwnnw. Rwyf ond yn tynnu hynny at sylw'r Aelodau y prynhawn yma, ac os oes gan y Gweinidog unrhyw esboniad pellach inni ynghylch pam mae Llywodraeth Cymru wedi dewis y dull hwn, gallai fod yn ddefnyddiol ei gael ar gof a chadw. Diolch yn fawr iawn.

18:05

Diolch, Llywydd. I ateb y cwestiwn hwnnw gan y Cadeirydd, mae'r rheoliadau'n cynnwys pŵer i awdurdodau lleol ofyn am wybodaeth i asesu unrhyw fudd ariannol o ddiffyg cydymffurfio fel rhan o benderfynu ar gosb ariannol amrywiol gymesur. Daethom i'r farn nad oes angen i'r rheoliadau ddarparu cosb am fethu â chydymffurfio â defnyddio'r pŵer, ond mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 yn cynnwys pwerau cysylltiedig i fynd i mewn ac archwilio, ac mae'n drosedd rhwystro eu gweithredu yn fwriadol. Felly, gall yr awdurdod lleol ystyried unrhyw fethiant i ddarparu gwybodaeth angenrheidiol wrth benderfynu pa ddull gorfodi fyddai'n briodol, a gallant ystyried methu â chydymffurfio â'r cais hwn wrth benderfynu a ddylid erlyn unrhyw drosedd yn y dyfodol. Felly, nid ydym yn credu bod angen darpariaeth benodol, oherwydd, yn y gyfres o opsiynau sydd ar gael i'r awdurdod lleol, gallant ystyried, gan ddarparu, os mynnwch chi, y gosb am beidio â chydymffurfio.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cadeirydd am weddill y pwyntiau. Mae'n cydnabod ein bod wedi ymateb iddynt. Fe wnes i fwynhau'r wên ysmala yn arbennig, yr wyf yn ei rhannu, ac rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Siambr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig yma? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 12 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

13. Dadl: Cyfnod 4 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)

Eitem 13 fydd nesaf. Hon yw'r ddadl ar Gyfnod 4 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yma—Julie James.

Cynnig NDM8423 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gynnig y cynnig gerbron y Senedd heddiw ar gyfer Cyfnod 4 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), a gyflwynwyd i'r Senedd ar 20 Mawrth 2023.

Diolch i Gadeiryddion, aelodau a staff y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, y Pwyllgor Cyllid, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth, craffu ac adroddiadau ynghylch y Bil a'r memorandwm esboniadol ategol a'r asesiad effaith rheoleiddiol. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r rhanddeiliaid a'r partneriaid cyflawni sydd wedi cyfrannu at ein polisi a'r broses ddeddfwriaethol hon. Yn ogystal â chynnig eich gwybodaeth a'ch profiad, mae eich cefnogaeth wrth helpu i ddod i gonsensws trawsbleidiol wedi bod yn gwbl amhrisiadwy. Mae'r Dirprwy Weinidog a minnau yn credu bod y Bil hwn wedi bod yn fodel ar gyfer cydweithio trawsbleidiol. Mae wedi bod yn gadarnhaol iawn gallu gweithio gydag Aelodau ar dir cyffredin i gyflwyno gwelliannau, ac rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno bod y broses graffu wedi gwella'r Bil. Cyn symud ymlaen i fanylion y Bil, hoffwn ddiolch hefyd i'm swyddogion sydd wedi gweithio'n galed iawn, ar fyrder, ar y Bil hwn i sicrhau ei fod yn cyrraedd lle y mae heddiw.

Nod cyffredinol y Bil yw cyflwyno mesurau a fydd yn cyfrannu at welliannau yn ansawdd yr amgylchedd aer yng Nghymru, a lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, ein heconomi a'r amgylchedd naturiol. Mae'r Bil yn rhan hanfodol o becyn o fesurau a nodir yn ein cynllun aer glân. Bydd y pecyn hwn o fesurau, gyda'i gilydd, yn sicrhau manteision gwirioneddol i Gymru. Nid yw'r Bil wedi cael ei basio, ond mae eisoes yn derbyn cydnabyddiaeth am ei ddarpariaethau arloesol ar seinweddau. Ar 25 Hydref, derbyniodd Llywodraeth Cymru wobr seinwedd John Connell, a gyflwynir gan y Gymdeithas Lleihau Sŵn. Cafodd y Bil ei ganmol am arloesedd o ran cyflwyno egwyddorion seinwedd i ddeddfwriaeth y llywodraeth, er budd cymdeithas ac i gryfhau'r cysylltiadau rhwng y gyfraith ar ansawdd aer a sŵn.

Llywydd, gan droi at ddarpariaethau'r Bil, mae'n cyflwyno fframwaith newydd ar gyfer gosod targedau ansawdd aer, a fydd yn cryfhau pwerau Gweinidogion Cymru, ac yn sicrhau bod modd cyflwyno targedau hirdymor ar gyfer risgiau a nodwyd o ran llygryddion. Bydd y targedau hyn yn cael eu cynllunio i sbarduno camau gweithredu a fydd yn lleihau niwed i iechyd a'r amgylchedd. Byddan nhw'n seiliedig ar dystiolaeth gadarn, ac mae'r Bil yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion i roi sylw i ganllawiau ansawdd aer byd-eang diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer llygryddion penodol a gwybodaeth wyddonol am lygredd aer. Bydd y targedau hefyd yn destun ymgynghoriad a gwaith craffu gan y Senedd i sicrhau ein bod yn lleihau allyriadau mewn ffyrdd sy'n deg.

Er mwyn cefnogi camau gweithredu i fynd i'r afael â llygredd aer ar lefel leol a rhanbarthol yn well, rydym wedi cryfhau'r trefniadau rheoli ansawdd aer lleol. Mae'r ddeddfwriaeth bellach yn ei gwneud yn ofynnol i ddyddiad cydymffurfio amcangyfrifedig gael ei gynnwys yng nghynlluniau gweithredu ansawdd aer awdurdodau lleol. Mae hyn yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu llwybr clir ac effeithiol i wella ansawdd aer.

O ran rheoli mwg, rydym wedi symud o drefn cosbau troseddol i drefn sancsiynau sifil i sicrhau bod modd gorfodi'r ddeddfwriaeth yn haws, gan ddileu'r rhwystrau presennol sy'n atal awdurdodau lleol rhag creu ardaloedd rheoli mwg newydd. Byddwn ni'n datblygu canllawiau i gefnogi awdurdodau lleol i ystyried y ddeddfwriaeth hon fel rhan o'u dull cyfannol o reoli ansawdd aer lleol, gan adlewyrchu amgylchiadau penodol cymunedau trefol a gwledig fel ei gilydd.

Llywydd, fel y nodais i yn gynharach, trwy weithio ar draws y Siambr hon, rydym wedi cryfhau Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 trwy osod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau neu gyfyngu ar lygredd aer, i gydnabod y cysylltiad pwysig rhwng sicrhau symudiad i ffwrdd o'r car preifat i fwy o gerdded, olwyno a beicio ac, o ganlyniad, lleihau llygredd aer a sicrhau mwy o fanteision iechyd i'r dinesydd. Byddwn ni'n cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar y mater hwn ac, os yw'n briodol, byddwn ni'n dod â chyrff cyhoeddus eraill o dan y ddyletswydd hon yn y dyfodol.

Mae'r Bil hefyd yn diweddaru pwerau Gweinidogion Cymru i gyflwyno cynlluniau codi tâl cefnffyrdd. Byddai unrhyw gynlluniau o'r fath yn darparu mesur pan fetha popeth arall i fynd i'r afael â materion ansawdd aer lleol. Byddwn ni'n cyflwyno fframwaith parthau aer glân, gan nodi ein disgwyliadau ynghylch defnyddio pwerau i gyflwyno parthau aer glân lle codir tâl. Dim ond pan fydd tystiolaeth yn gwneud achos digon cymhellol dros gynlluniau i fynd i'r afael â phroblemau llygredd aer parhaus y caiff parthau o'r fath eu cyflwyno, a lle nad yw dulliau eraill wedi bod yn ddigonol i sicrhau cydymffurfiaeth. Er bod parthau aer glân lle codir tâl ar waith ar hyn o bryd yn Lloegr a'r Alban, nid oes unrhyw gynlluniau i'w cyflwyno yng Nghymru oherwydd nid oes unrhyw achosion penodol y gallwn ni eu nodi lle rydym yn credu y bydden nhw'n angenrheidiol ac yn effeithiol. Roedd ystod o bwerau i gyflwyno parthau aer glân lle codir tâl eisoes yn bodoli cyn cyflwyno'r Bil hwn. Mae'r darpariaethau gerbron y Senedd heddiw yn diweddaru'r pwerau hynny i sicrhau, er enghraifft, bod tryloywder ynghylch defnyddio unrhyw enillion o'r cynllun a grëwyd o dan y pwerau newydd. Felly, er ein bod yn cytuno nad oes angen cyflwyno parthau aer glân lle codir tâl ar unwaith, rydym yn credu mai nawr yw'r amser i sicrhau bod y darpariaethau'n gyfredol, pe baent eu hangen yn y dyfodol.

Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu canllawiau sy'n nodi sut y gellir defnyddio mesurau gwrthsegura fel rhan o becyn o fesurau ategol i wella ansawdd aer. Byddwn ni'n ymgynghori ar ein canllawiau y flwyddyn nesaf, ochr yn ochr â rheoliadau drafft sy'n rhagnodi ystod o gosbau ar gyfer troseddau'n ymwneud â segura llonydd. Byddwn ni hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gyflwyno rhaglen cyfathrebu, codi ymwybyddiaeth ac addysg, yn unol â hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r ddyletswydd llygredd aer. Byddwn ni'n gweithio ar draws y Llywodraeth a gyda chyrff proffesiynol i ddatblygu arweiniad pellach a hyfforddiant ar gymhwyso egwyddorion seinwedd. Rydym am weld mwy o ystyriaeth yn cael ei rhoi i ganfyddiadau cymunedau lleol a phobl â nodweddion clyw gwahanol mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu hamgylchedd sŵn.

Yn olaf, Llywydd, rwy'n hynod falch o'r ddyletswydd newydd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o lygredd aer. Bydd y rhan fwyaf ohonoch chi'n ymwybodol o adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol y crwner yn dilyn marwolaeth drasig Ella Kissi-Debrah yn 2013. Nid oedd yr argymhellion yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i Gymru. Fodd bynnag, datblygwyd y ddyletswydd hon yn bennaf mewn ymateb i'r argymhellion hynny. Ar 26 Ionawr 2022, rhoddodd Rosamund Kissi-Debrah, mam Ella, gyflwyniad i'r grŵp trawsbleidiol ar Ddeddf aer glân i Gymru am effaith llygredd aer ar ysgyfaint plant. Rwy'n gwybod bod nifer ohonoch chi yma yn y cyfarfod hwnnw, yn gwrando'n uniongyrchol ar ei myfyrdodau personol ar y newid sydd ei angen i wella ansawdd aer er mwyn atal niwed i iechyd. Rwy'n ymwybodol bod ei geiriau ysbrydoledig wedi taro tant gyda phawb a oedd yn bresennol, gan ailfywiogi eu hangerdd, eu hysbrydoliaeth a'u dymuniad i ysgogi mesurau ymarferol i hyrwyddo ymwybyddiaeth o lygredd aer ochr yn ochr â ffyrdd o leihau ei effaith.

Y sbardun y tu ôl i'n polisi i gyflwyno Bil aer glân newydd yn wreiddiol oedd ein dymuniad i sicrhau bod plant yn gallu mynd i'r ysgol a chwarae'n ddiogel y tu allan, heb i aer llygredig effeithio ar eu hiechyd. Dylai gwella ansawdd aer ddod â llawer o fuddion i iechyd pobl ac i iechyd y byd naturiol, yr ydym i gyd yn dibynnu arno. Er mwyn sicrhau'r manteision hyn, ac yn arbennig i ddiogelu iechyd dinasyddion mwyaf bregus Cymru, mae angen dull mwy rhagweithiol arnom o ran ansawdd aer, y byddai'r Bil gerbron y Senedd heddiw yn helpu i'w gyflawni.

Llywydd, pe bai'n cael ei phasio gan y Senedd heddiw, byddai Deddf aer glân newydd Cymru yn adlewyrchu'r safonau rhyngwladol uchaf o ran ansawdd aer, yn unol â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. Byddai'n adlewyrchu ymrwymiad sy'n flaenllaw yn fyd-eang i leihau'r niwed a achosir gan lygredd aer. Rwy'n gobeithio y bydd pob plaid yn y Senedd yn rhoi eu cefnogaeth i'r Bil hwn. Ar ben hynny, rwy'n gobeithio y bydd pob plaid yn cynnal yr ymrwymiad cyffredin hwnnw i sicrhau gwelliannau mewn ansawdd aer wrth i ni ddatblygu'r targedau o dan y fframwaith a'r camau cadarn sydd eu hangen i'w cyflawni. Diolch.

18:15

Hoffwn adleisio a chymeradwyo popeth y mae'r Gweinidog newydd ei ddweud o ran diolch i bawb. Mae llawer o waith yn mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni wrth gyflwyno deddfwriaeth. Rydych chi a'ch tîm wedi gweithio'n galed iawn yn wir, yn ogystal â'n timau ni wrth herio a chraffu ar y Bil hwn. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei gydweithrediad drwyddi draw, a pharodrwydd y Gweinidog yn dilyn hynny i bleidleisio o blaid tri o'r gwelliannau a gyflwynwyd gennym yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.

Roeddem yn gallu cydweithio ar sawl agwedd ar y Bil, ac rwy'n gwerthfawrogi ac yn croesawu cefnogaeth drawsbleidiol o'r fath. Dyna sut y dylai cyfraith gael ei gwneud yma yng Nghymru. Fodd bynnag, er ein bod ni wedi ymgyrchu ers tro am Ddeddf aer glân i Gymru, ni allwn gefnogi'r ddeddfwriaeth sydd ger ein bron heddiw. Ni fydd hyn yn syndod o ystyried ein gwelliannau yng Nghyfnod 3. Penderfynodd mwyafrif y Senedd hon gynyddu gallu Llywodraeth Cymru i gyflwyno taliadau cefnffyrdd. Yn rhwystredig iawn, aeth rai o'r pleidleisiau hyn drwodd drwy bleidlais fwrw'r Llywydd PO, sydd, wrth gwrs, yn unol â'n Rheolau Sefydlog, ond ni fyddwn byth yn cefnogi'r ymgyrch hon wedi'i thargedu yn erbyn ein modurwyr.

Penderfynodd mwyafrif y Senedd roi'r gallu i Lywodraeth Cymru dargedu amonia, a thrwy wneud hynny, rydych chi'n targedu ein ffermwyr unwaith eto. Penderfynodd mwyafrif y Senedd hon beidio â chyfyngu ar yr amser sydd gan Weinidogion Cymru i gyhoeddi adroddiad ar pam nad yw targed wedi'i gyrraedd o fewn chwe mis. Penderfynodd mwyafrif y Senedd hon beidio â mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhestr o leoedd tân eithriedig drwy reoliadau ar gyfer craffu. Roedd mwyafrif y Senedd hon yn cefnogi mesurau gwrthsegura, er eu bod yn gwybod y bydden nhw'n anodd iawn eu gweithredu. Cyflwyno codi taliadau pellach ar ddefnyddwyr ffyrdd neu ddirwyon am hyn—. Ac mae'n rhaid i mi fod yn onest, mor fuan ar ôl i'r Prif Weinidog bwyntio ei fys arna' i a dweud na fyddai ei Lywodraeth ef yn codi taliadau pellach ar ddefnyddwyr ffyrdd, mae eironi—

Janet, a wnewch chi gymryd ymyriad? Dydw i byth yn gwneud hyn, ond a wnewch chi gymryd ymyriad?

Dywedais yn benodol nad oedd unrhyw gynlluniau i gyflwyno codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd—mai dewis olaf oedd hyn lle na allem wella ansawdd aer a oedd yn niweidio iechyd plant. Fe ddywedais hynny'n benodol. 

Felly, fel mae fy nghyd-Aelodau yn ei ddweud, pam ydych chi wedi paratoi'r ffordd—? Ar ddiwedd y dydd, os ydych chi'n cyflwyno cyfraith, ac rydych chi'n rhoi hynny yn y gyfraith, mae'n golygu—. Gallech chi ddweud bod unrhyw achlysur yn ddewis olaf. Felly, mae arna' i ofn—. Rwy'n sylwi bod llawer o bobl sy'n cefnogi'r Bil hwn wedi ei godi, ond maen nhw'n synnu'n fawr, ar yr adeg yr oedd hyn yn dod drwodd, fod y Prif Weinidog wedi dweud y gwrthwyneb. [Torri ar draws.]

Yn amlwg, nid wyf yn cytuno â nifer o ddarpariaethau ac adrannau yn y ddeddfwriaeth sydd ger ein bron heddiw. Mae cymaint o'r Bil hwn yr hoffem fod wedi'i gefnogi, ar ôl pwyso iddo gael ei gyflwyno. Fodd bynnag, yn y pen draw, os nad yw'r cyhoedd yn hoffi'r un adrannau o'r gyfraith hon chwaith, y cyfan sy'n rhaid iddyn nhw ei wneud yw pleidleisio Ceidwadwyr Cymru yn etholiadau nesaf y Senedd, er mwyn sicrhau bod y newidiadau'n cael eu cyflwyno. O'r herwydd, yn anffodus, nid oes gan y Bil, yn ei gyfanrwydd, ein cefnogaeth ni heddiw. Diolch.

18:20

Mae heddiw yn gyfle inni oll ystyried pwysigrwydd y Mesur hwn a pha mor arwyddocaol yw hi ein bod ni wedi cyrraedd y man hwn. Mae'r Mesur yn cynrychioli datblygiad pwysig, a gall hyn gael effaith hirdymor ar lesiant ein cymunedau a’n hamgylchedd. Rŷn ni wedi aros am gymaint o amser i’r ddeddfwriaeth hon ein cyrraedd, ac mae hyn yn teimlo fel diwrnod mawr.

Buaswn i’n hoffi diolch i’r Gweinidog, ac, wrth gwrs, hefyd, i'r Dirprwy Weinidog, am yr agwedd gydweithredol y maen nhw wedi'i chymryd trwy gydol y broses hon. Ac mae cydweithrediad mor bwysig, achos byddem ni i gyd yn elwa—byddem ni i gyd yn elwa—o ddyfodol glanach, mwy iach, mwy cynaliadwy.

Buaswn i hefyd eisiau diolch i Healthy Air Cymru, Joseph Carter, Haf Elgar ac eraill am eu cefnogaeth, am eu dyfalbarhad, a’u penderfyniad i wella’r Mesur hwn. Mae’n diolch ni i gyd yn fawr iddyn nhw ac i'r sector am eu harbenigedd. Gwnaethon nhw chwarae rôl ganolog wrth lunio gwelliannau a sicrhau bod lleisiau ein cymunedau yn cael eu clywed.

Wrth imi edrych nôl ar y gwelliannau roedden ni fel plaid wedi'u gosod, ac eraill, ffocws y gwelliannau hynny oedd gwella’r Mesur, trwy ehangu'r rhestr o lygrwyr sy’n cael eu henwi yn y Mesur, trwy geisio mynd i’r afael â segura neu idling, trwy ddarparu llefydd rheoli mwg a chydnabod pwysigrwydd ymgynghori gyda Thrafnidiaeth Cymru. Yr ysgogiad tu ôl i bob un o’r gwelliannau hyn oedd yr angen i gynllunio am y dyfodol—am ddyfodol lanach. Ac, wrth gwrs, erbyn Cyfnod 3, roedden ni wedi croesawu’r ffaith ein bod ni wedi llwyddo cynnwys ymgynghori â Thrafnidiaeth Cymru fel rhan o’r Mesur. Rydym ni’n dal yn gadarn am yr angen i gynnwys targed am nitrogen deuocsid, a hefyd am yr angen i gydlynu’r cylch o adolygiadau gyda thymhorau’r Senedd. Ac roedd yn bleser gen i gefnogi gwelliannau gan Huw ar active travel

Nid Mesur am wella ansawdd aer yn unig ydy hyn ond Mesur sydd gyda’r potensial i wella ein hiechyd, i hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw, o deithio. Mae mwy inni ei wneud—lot mwy, wrth gwrs. Ond dechrau ar y daith ydy’r Mesur hwn, a gwell dechrau arni nawr yn hytrach na hwyrach, yn hytrach na'i bod hi yn rhy hwyr. Rwyf felly yn croesawu’r ddeddfwriaeth hon. Siom yw hi nad yw pob Aelod a phob grŵp yn medru gwneud yr un peth.

Roeddwn i eisiau dweud gair byr, oherwydd weithiau rydym yn euog o ladd ar y Llywodraeth, am wahanol resymau, o'r meinciau cefn hyn, ond, mewn gwirionedd, rydw i eisiau dweud bod angen rhoi clod lle mae'n ddyledus ar hyn. Mae wir wedi bod yn brofiad pleserus gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog, a'u swyddogion, i fynd â Bil drwodd lle maen nhw wedi ymgysylltu ag Aelodau'r meinciau cefn ar bob ochr. Lle maen nhw wedi cael eu herio, maen nhw wedi bod yn barod i ymgodymu â'r dadleuon a llosgi'r olew hanner nos i wneud hyn hefyd. Weithiau maen nhw wedi ildio, weithiau dydyn nhw ddim; mae hynny'n digwydd. Mae yna feysydd lle mae'r Gweinidog wedi gwthio'n ôl a dweud, 'Does gennym ni ddim y dystiolaeth; does gennym ni ddim y dystiolaeth eto ar amonia; does gennym ni ddim y dystiolaeth eto ar bethau fel tanau llosgi coed. Mae'n dod, ond dydy e' ddim yna eto.' Felly, mae pwerau wedi'u cymryd o fewn y Bil hwn i symud ymlaen ar ôl hynny. Rwy'n deall hynny—rwy'n deall hynny'n llwyr.

Ond y peth sydd wedi gwneud y Bil hwn mor bleserus mewn gwirionedd yw'r gallu i ymgysylltu'n llawn. Ac wrth ddweud diolch i'w swyddogion, rwyf eisiau dweud diolch hefyd—ac rwy'n siŵr y byddai pob un o'n pwyllgor yn dweud hynny—i'n clercod hefyd am y gefnogaeth aruthrol rydyn ni wedi'i chael ganddyn nhw. Mae hwn yn sefydliad bach gydag ychydig iawn o adnoddau i'r Llywodraeth, mae'n rhaid i mi ddweud, ac ychydig iawn o adnoddau o ran y tîm clercod, ond bobol bach, maen nhw'n gallu symud mynyddoedd—maen nhw wir yn gallu. 

Mae mwy i'w wneud o hyd, yn enwedig nawr ein bod ni wedi rhoi rhai pethau yn y blwch i'w gwneud ychydig ymhellach i lawr y llinell mewn rheoliadau, canllawiau a mesurau pellach yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg. Ond yn seiliedig ar ddull y Llywodraeth o ymdrin â'r Bil hwn, rwy'n wirioneddol hyderus, os bydd ansawdd yr ymgysylltu hwnnw'n parhau, byddwn ni i gyd yn parhau i weld mwy o welliannau i ansawdd aer a seinweddau, a dyna hanfod y cyfan. Rydym wedi siarad am hyn ers cymaint o amser. Rydym wedi dweud bod hyn yn rhywbeth sydd, os ydym yn cael hyn yn anghywir, yn lladd pobl, ac mae'n—mae'n cael effaith sylweddol ar bobl, yn enwedig y rhai mewn cymunedau difreintiedig. Dyma'r gallu nawr i'w gael yn iawn. Felly, diolch yn fawr, Gweinidog. Diolch i holl aelodau'r pwyllgor a'r holl randdeiliaid y tu allan. Mae'n rhan o daith, ond mae hwn yn gam enfawr heddiw. 

A gaf i ddweud i orffen y byddai wir yn hyfryd pe gallai'r Ceidwadwyr ddod gyda ni ar hyn? Rwy'n deall bod yna faterion etholiadol. Fe soniais i unwaith mewn dadl debyg bod Janet, yn ddealladwy, ychydig yn feirniadol ohonof pan ddywedais i fy mod i'n credu bod ymhonnwr wedi eistedd yn ei sedd. Y rheswm yw—gallaf egluro nawr—oherwydd weithiau nid y Janet rwy'n ei gweld yn eistedd yn y sedd honno yw'r Janet sy'n eistedd yno yn cymryd tystiolaeth gyda ni ac yn clywed yr un dystiolaeth. Dydw i ddim yn credu bod yna ymhonnwr—dim ond ein bod ni wedi clywed yr un dystiolaeth ac wedi gwneud sylwadau adeiladol ac ymgysylltiedig iawn ar y pwyllgor a'n harweiniodd i gyfeiriad, ac yna mae pethau'n troi, gadewch i mi ddweud, i fod yn destun cynnen ar y llawr. Meddyliwch am y peth. Os ydych chi'n meddwl y gallwch chi ddod gyda ni heddiw a gwneud cam enfawr ymlaen ar ansawdd aer a seinweddau, mae'r cyfle yma. 

18:25

Diolch, Llywydd. Rwyf am ailadrodd fy niolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed ar hyn—grwpiau rhanddeiliaid, y grŵp trawsbleidiol, y pwyllgorau, cyd-Aelodau ar draws y tîm gweinidogol, y Dirprwy Weinidog yn benodol, a fy set i o swyddogion sydd wedi mynd y filltir ychwanegol ar sawl achlysur i gael y Bil hwn i'r sefyllfa y mae ynddi. Mae'n ddrwg iawn gennyf fod y Ceidwadwyr wedi penderfynu defnyddio mater sy'n destun cynnen i beidio â chefnogi Deddf aer glân newydd o'r radd flaenaf i Gymru, yn gyson â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd, gan adlewyrchu ymrwymiad y Senedd hon sy'n arwain y byd i leihau'r niwed a achosir gan lygredd aer. Rwyf wir yn ymbil arnoch i beidio â gwneud hyn yn anghydfod diwylliannol ac i ddod gyda ni ar y daith hon, fel y gallwn ni, gyda'n gilydd, wneud Cymru unwaith eto yn arweinydd o safon fyd-eang o ran—

Meddwl ydw i tybed, wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth, pa ysbrydoliaeth neu pa wersi y gwnaethoch chi eu cymryd o'r taliadau sy'n cael eu codi ar ddefnyddwyr ffordd yn Lloegr sy'n cael ei rhedeg gan y Torïaid ar hyn o bryd. 

Diolch, Llyr. Wnes i ddim cymryd unrhyw ysbrydoliaeth o hynny. Go brin fy mod i byth yn cymryd unrhyw ysbrydoliaeth o Loegr, sy'n cael ei rhedeg gan y Torïaid, rwy'n falch o ddweud. [Torri ar draws.] A ydych chi wir yn awgrymu y dylwn i roi taliadau ar ddefnyddwyr ffyrdd ar waith fel maen nhw'n ei wneud yn Lloegr, Janet? Hoffech chi ailadrodd hynny fel ymyriad? Na, doeddwn i ddim yn meddwl hynny. 

Felly, Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r Bil hwn i'r Senedd. Rwyf wir yn gobeithio y bydd y Ceidwadwyr yn ailystyried creu anghydfod diwylliannol allan o rywbeth sydd wir yn arwain y byd, a lle mae arnom ddyled fawr i'n holl randdeiliaid. [Torri ar draws.] Rwyf newydd orffen. 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, bydd rhaid cynnal pleidlais ar y cynnig yma o dan Cyfnod 4, felly byddwn ni'n gwneud hynny yn y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch.

14. Cyfnod Pleidleisio

Symudwn ni at bleidlais ar y cynnig cyntaf y prynhawn yma. Mae'r bleidlais gyntaf ar y Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn. 

Eitem 8. Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023: O blaid: 38, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar y ddadl rŷm ni newydd ei chynnal ar Gyfnod 4 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yma a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna o dan Cyfnod 4 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) wedi ei dderbyn.

18:30

Eitem 13. Dadl: Cyfnod 4 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru): O blaid: 38, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ni. Dyna ddiwedd ar y pleidleisio a diwedd ar ein gwaith ni am heddiw. Diolch yn fawr. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:30.