Y Cyfarfod Llawn
Plenary
18/10/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da i bawb ac fe wnawn ni gychwyn ar ein gwaith. Cyn inni symud i'r eitem gyntaf, dwi eisiau cyhoeddi canlyniad y balot ar gyfer Bil Aelod a gynhaliwyd heddiw, ac mae'n bleser gen i gyhoeddi y gall James Evans ofyn am gytundeb y Senedd ar ei gynnig ar gyfer Bil iechyd meddwl (Cymru). Felly, pob dymuniad da i James Evans yn dilyn ennill y balot yna.
Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi. Y cwestiwn cyntaf, Jayne Bryant.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi safleoedd treftadaeth yng Ngorllewin Casnewydd? OQ60122
A gaf fi ddiolch i Jayne Bryant am ei chwestiwn? Mae gan Gasnewydd dreftadaeth gyfoethog ac amrywiol o arwyddocâd rhyngwladol, yn amrywio o gaer a baddondai Rhufeinig Caerllion i bont gludo Casnewydd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn nhreftadaeth Casnewydd er budd y cyhoedd yng Nghymru, ymwelwyr rhyngwladol, ac wrth gwrs, cenedlaethau’r dyfodol.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Fis diwethaf, bûm ar daith am ddim o amgylch castell Casnewydd, a drefnwyd gan Cadw fel rhan o’u sesiwn drysau agored. Roedd hwn yn gyfle gwych, a dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd ers blynyddoedd lawer. Cynhaliwyd y daith ar y cyd ag Arcêd y Farchnad, Casnewydd, a weithiodd yn dda iawn. Daeth Will Davies o Cadw â hanes y castell yn fyw, ac roedd ei egni a’i angerdd dros y castell yn amlwg drwy gydol ei gyflwyniad, ac rwy'n canmol y digwyddiad hwnnw'n fawr, diolch i’w arbenigedd ef. Er mai 30 o bobl yn unig a allai ymuno, rwyf wedi cael llu o geisiadau gan bobl a hoffai gymryd rhan yn y dyfodol, ac mae awydd cryf gan bobl Casnewydd i ddod i ymweld â'r castell. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i estyn croeso cynnes i chi, Ddirprwy Weinidog, ar daith o amgylch castell Casnewydd yn y dyfodol ac i gyfarfod â mi i drafod sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi’r cynnig diwylliannol cyfoethog yng Nghasnewydd, o’r llong ganoloesol, Siartiaeth, caer Rufeinig Caerllion a’r bont gludo i Dŷ Tredegar, a chymaint mwy. A chyda'r newidiadau a gynigir i gylchfan Old Green, fel rhan o'r cynlluniau gan uned gyflawni Burns, pa gyfleoedd sy'n cael eu hystyried i agor y castell, gan y byddai'n gyfle da iawn yn yr ardal gyfagos i wella'r ardal honno ger y castell ac i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau treftadaeth?
A gaf fi ddiolch i chi, Jayne, am eich cwestiwn atodol? Ac a gaf fi ddweud fy mod wrth fy modd yn gweld eich profiad cadarnhaol o'r ymweliad drysau agored yng nghastell Casnewydd? Fe'i gwelais ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd—roeddech yn edrych yn falch iawn o fod yno, felly, fe welais hynny. Ac roeddech gyda Will Davies, sy'n hanesydd mor angerddol, sy'n gwybod cymaint am y cyfnod hwnnw. Bydd unrhyw ymweliad â safle canoloesol gyda Will yn gwneud iddo ddod yn fyw, fel y dywedoch chi.
Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod Cadw a gwasanaeth amgueddfa a threftadaeth Cyngor Dinas Casnewydd yn awyddus i godi proffil castell Casnewydd a gwella mynediad at yr heneb benodol honno. Felly, yr hyn y maent wedi'i wneud yw cytuno i sefydlu amserlen gydweithredol o deithiau tywys misol ar y safle, sydd, fel y dywedwch, yn anhygyrch fel arall, yn anffodus, oherwydd y pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, a dyna pam y caewyd y castell i'r cyhoedd yn y lle cyntaf. A chan nad oes staff ar y safle, fel y gwyddoch, byddai caniatáu i bobl fynd a dod heb oruchwyliaeth o'r fath yn berygl iechyd a diogelwch. Ond mae swyddogion o’r ddau gorff mewn trafodaethau hefyd ynglŷn â chymeradwyo safle'r gofeb a chynhyrchu teithlyfr ar gyfer y castell yn ogystal.
Mae ailgynllunio trefniadau trafnidiaeth yng nghanol Casnewydd, sy'n rhywbeth rydych wedi sôn amdano, Jayne, yn rhoi cyfle i ailsefydlu amlygrwydd priodol y castell yng nghanol y ddinas. Felly, bydd Cadw yn trafod hynny gyda swyddogion yn Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd i weld sut y gallwn wneud y mwyaf o’r cyfleoedd y byddai'r datblygiad ffordd newydd yn eu darparu i wella mynediad at y castell. A buaswn wrth fy modd yn dod i ymweld wrth gwrs. Mae'n rhywle rwyf wedi bod heibio iddo lawer gwaith, ond yn amlwg, gan nad yw wedi bod yn hygyrch, nid wyf wedi mynd i mewn, ond byddaf yn ei ychwanegu at fy rhestr o ymweliadau yng Nghasnewydd, o'r bont gludo i'r gaer Rufeinig y bûm yn ei gweld gyda chi hefyd. Felly, buaswn wrth fy modd yn gwneud hynny. Diolch.
Hoffwn eilio a chytuno â phopeth a ddywedodd yr Aelod dros Orllewin Casnewydd. Credaf fod castell Casnewydd bob amser wedi cael ei anwybyddu a’i danbrisio fel safle, a phan ddechreuwch ymchwilio iddo, mae’n ychwanegu at hanes diddorol iawn Casnewydd. Felly, mae’n rhywbeth y dylai pob un ohonom fod yn falch ohono a’i ddathlu a’i hyrwyddo’n well. Felly, rwy'n croesawu'r hyn a ddywedoch chi hefyd, Ddirprwy Weinidog.
Mae ein rhanbarth ni a Chymru yn gartref i nifer o safleoedd treftadaeth y byd UNESCO. Tybed pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i annog mwy o drigolion, a thwristiaid wrth gwrs, i ymweld â'r lleoedd gwych hyn.
Diolch am eich cwestiwn atodol, Laura Anne Jones. Yn gyffredinol, mae annog pobl i ymweld â safleoedd yn rhan o waith craidd Cadw yn hyrwyddo mynediad at y safleoedd, hyrwyddo’r safleoedd sydd yng ngofal Cadw—ac nid yn unig Cadw, ond ein safleoedd hanesyddol yn fwy cyffredinol. Ond yn sicr, drwy wefan Cadw, fe welwch y gwaith hyrwyddo hwnnw, ac mae’n rhywbeth sydd bellach yn rhan o strategaeth Croeso Cymru ar ddenu twristiaid i Gymru a gwneud safleoedd treftadaeth yn rhan o’r cynnig twristiaeth arwyddocaol ac unigryw sydd gan Gymru i’w gynnig.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen twf canolbarth Cymru? OQ60109
Diolch. Rydym wedi rhyddhau’r gyfran gyntaf o gyllid i’r fargen twf. Mae hon yn garreg filltir hollbwysig ac yn gam pwysig ymlaen, sy’n arwydd i fuddsoddwyr fod cyfnod cyflawni cynnar y fargen ar gychwyn. Dylai hyn fod yn gatalydd i sicrhau buddsoddiad pellach, a fydd yn cyfrannu at ffyniant economaidd yn y rhanbarth.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy’n falch iawn fod cynnydd wedi’i wneud ar fargen twf canolbarth Cymru. Mae wedi cymryd cryn dipyn o amser, ond rwy'n croesawu'r cynnydd a wnaed yn fawr. Fe fyddwch yn ymwybodol, Weinidog, o’r cyllid sylweddol drwy gronfa ffyniant bro Llywodraeth y DU a ddyfarnwyd ar gyfer prosiect adfer camlas Maldwyn, ac rwy’n sicr yn gobeithio y bydd prosiect adfer camlas Maldwyn yn gwella’r cynnig twristiaeth hwnnw. Nawr, drwy fargen twf canolbarth Cymru, rwy'n gobeithio y gellir codi arian ychwanegol hefyd, gan fod hwn yn brosiect allweddol ym margen twf canolbarth Cymru—prosiect, wrth gwrs, sy'n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Ond yr hyn yr hoffwn ei ofyn yn benodol, Weinidog, yw, o ran y buddsoddiad hwnnw yn fy etholaeth drwy’r fargen twf, sut y gall Llywodraeth Cymru wedyn ysgogi buddsoddiad preifat pellach, a beth mae’n ei wneud i hwyluso ac annog cymorth gan y sector preifat yn dilyn y cymhelliad hwnnw a ariennir gan y trethdalwr drwy brosiectau amrywiol. Rwy’n meddwl, er enghraifft, am gamlas Maldwyn—y cyfleoedd y gall honno eu cynnig i’r sector preifat o ran gwella’r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud.
Credaf fod yr Aelod yn gwneud dau bwynt pwysig a gwahanol. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r gronfa ffyniant bro. Ceir amrywiaeth o brosiectau y bydd pobl, yn unigol, yn awyddus i'w cefnogi. Ond nid yw’r gronfa ffyniant bro, a’r ffordd y’i darparwyd, yn tynnu oddi ar y gostyngiadau yn y gyllideb yn gyffredinol, ac nid yw’n bartneriaeth—ni chytunwyd arni mewn partneriaeth â ni, nac yn wir, gydag awdurdodau lleol. Mae’r fargen twf, mewn cyferbyniad, yn bartneriaeth, lle mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cyd-ariannu’r cyllid hwnnw, a chydweithio ag awdurdodau lleol i sicrhau bod cynllun ar waith ar gyfer sut i wneud hynny. Ac mae'n bwysig, gan y credaf eich bod yn cael mwy allan o'r bartneriaeth honno, lle mae pobl yn eistedd i lawr ac yn gweithio gyda'i gilydd. A phan edrychwch ar yr hyn y maent yn gobeithio ei wneud—. Maent yn gobeithio creu hyd at 1,400 o swyddi newydd dros y tua 10 mlynedd nesaf, ond yn hollbwysig, diben yr arian hwnnw, fel y mae’r Aelod wedi’i nodi'n glir, yw sicrhau buddsoddiad ychwanegol gan y sector preifat, er mwyn denu buddsoddiad ychwanegol. Y targed sydd gan fargen twf canolbarth Cymru yw ceisio sicrhau £400 miliwn ychwanegol dros y 10 mlynedd nesaf. Nawr, er iddynt ddechrau yn hwyrach na rhannau eraill o Gymru, ac er bod etholiad wedi bod a newid yn arweinyddiaeth y ddau awdurdod lleol, credaf fod y ddau ohonynt wedi ymrwymo i’r fargen twf, a chredaf y dylai fod gan bawb, ni waeth o ba blaid, hyder eu bod yn dechrau ar y cyfnod cyflawni. Ac rwy'n obeithiol y byddwn yn gallu adrodd nid yn unig ar y cyllid cyhoeddus sy'n cael ei ryddhau ar gyfer hyn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ond credaf y gallwn fod â hyder y byddwn yn gallu adrodd ar y buddsoddiad hwnnw’n cyrraedd prosiectau ac yn helpu i gyflawni’r buddsoddiad ychwanegol gan y sector preifat a’r swyddi y mae pob un ohonom am ei weld. Rwy'n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr eto am gynnydd uniongyrchol y fargen twf wrth i mi a'r Gweinidog o Swyddfa Cymru barhau i weithio ochr yn ochr â’r fargen twf i gyflawni ei hamcanion.
Prynhawn da, Weinidog. Diolch i Russell George am godi’r mater ynghylch bargen twf canolbarth Cymru a thwf busnesau yng nghanolbarth Cymru. Un o’r heriau enfawr sy’n ein hwynebu yn y canolbarth yw’r diffyg seilwaith, sy’n golygu bod busnesau yn brin, yn llythrennol, o bŵer ac egni i allu tyfu. Mae hynny’n cael effaith arnynt fel busnesau, ond hefyd ar y cyfle i gyflogi pobl yn y canolbarth. Felly, nid yw cwmnïau’n symud i'r ardal oherwydd yr her benodol honno, ac nid yw’r prosiectau’n datblygu ychwaith.
Roeddwn yn falch o ddarllen yn adroddiad 'Gridiau Ynni'r Dyfodol i Gymru’ y byddai adeiladu cyswllt pontio rhwng y gogledd a’r de yn helpu i gefnogi'r gwaith o atgyfnerthu'r rhwydwaith dosbarthu yn y canolbarth, a dylem edrych ar yr holl opsiynau ger ein bron, gan gynnwys yr opsiwn o adeiladu grid dosbarthu pŵer mwy lleol, sy'n golygu y gall busnesau lleol gael yr ynni sydd ei angen arnynt. Felly, yr hyn sydd ei angen arnom yw gwaith cynhyrchu pŵer lleol yn y canolbarth i gefnogi prosiectau fel yr un y mae Russell yn ei gefnogi, a chynigion twf eraill yn y canolbarth hefyd, ond hefyd, mae angen y gwaith cynhyrchu pŵer lleol hwnnw arnom. Felly, a fyddech yn cefnogi hynny, a beth fyddai eich barn ar sut rydym yn sicrhau mwy o ynni a mwy o ddosbarthu lleol yn y canolbarth? Diolch yn fawr iawn.
Credaf ei fod yn bwynt pwysig iawn, ac fel gyda chanolbarth Cymru, mae'r un peth yn wir am rannau eraill o’r wlad hefyd. Nid yw'r seilwaith presennol sydd gennym ar gyfer darparu ynni i gartrefi ac i fusnesau yn addas ar gyfer y dyfodol tymor canolig, heb sôn am y tymor hwy. Felly, mae angen buddsoddiad sylweddol arnom yn y seilwaith pŵer hwnnw, a bydd yn arwain at fwy o gyfleoedd datblygu economaidd. Mae llawer o fusnesau'r dyfodol yn eithaf ynni-ddwys. Mae hynny'n gyfle i ni yma yng Nghymru, a disgwyliwn y byddwn yn cynhyrchu mwy o drydan wrth inni ymbellhau oddi wrth danwydd ffosil, yn gynyddol, tuag at ddyfodol sero net.
Yr hyn sydd ei angen arnom gyda’r gwaith rydym wedi’i wneud ar grid ynni'r dyfodol yng Nghymru yw cynllun lle gall Llywodraeth y DU, ynghyd â’r grid, fuddsoddi yn y dyfodol hwnnw, oherwydd heb y buddsoddiad sylweddol hwnnw a’r llwybr i wneud hynny, ni fyddwn yn gweld hyder gan fusnesau sydd am symud i mewn i’r sector, yn ogystal, wrth gwrs, â’r cyfleoedd o ran darparu seilwaith grid, lle gall busnesau Cymru fod yn rhan o'r gwaith o ddarparu’r seilwaith hwnnw. Yn ddiweddar, ymwelais â Prysmian Cables & Systems Ltd yng ngogledd Cymru, ac maent yn darparu llawer o'r ceblau ffisegol i helpu i ddarparu'r rhwydweithiau pŵer hynny. Felly, mae yna nifer o wahanol gyfleoedd.
Yr hyn sydd ei angen arnom yw partner dibynadwy ar lefel y DU, gydag eglurder o ran gweledigaeth, a chynllun gwirioneddol i weithio ochr yn ochr ag ef hefyd. A beth bynnag y bo eich gwleidyddiaeth, pan fyddwch yn gwrando ar fusnesau, un o'u rhwystredigaethau mawr yw'r diffyg cynllun a'r diffyg sicrwydd, ac mae'r newid mynych mewn Gweinidogion ar lefel y DU wedi golygu nad ydynt wedi cael partneriaid i weithio gyda nhw. Rydym yn awyddus i’r gwaith a wnaethom ar gridiau ynni'r dyfodol i Gymru dan arweiniad y Gweinidog newid hinsawdd arwain at gynllun gwirioneddol i fuddsoddi yn ein dyfodol yng Nghymru, oherwydd, fel arall, ni fyddwn yn gweld cyfleoedd i gynhyrchu pŵer glanach a gwyrddach, ac yna i allu ei ddefnyddio ar lefel lawer mwy lleol ledled y wlad, gan gynnwys y canolbarth wrth gwrs.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yr wythnos hon yw Wythnos Dechnoleg Cymru, gydag uwchgynhadledd dechnoleg ryngwladol hybrid yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yn fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru. Gwn eich bod yn gwbl ymwybodol o'r gynhadledd hon, gan y credaf ichi roi araith ddydd Llun. Ni ellir gwadu bod technoleg yn datblygu'n gyflym ac yn gallu darparu manteision i bob rhan o gymdeithas. Mae hyn yn rhywbeth a welais drosof fy hun pan fynychais gynhadledd dechnoleg fwyaf y byd yn gynharach eleni. Deuthum yn ôl yn llawn syniadau ynglŷn â sut y gallwn ddod â’r budd technolegol hwn i Gymru, ac i’n trigolion, yn enwedig technoleg iechyd—rhywbeth rwyf eisoes wedi’i godi gyda’r Gweinidog iechyd, Weinidog. Felly, Weinidog, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod beth oedd y prif bwyntiau a nodwyd gennych yn y gynhadledd hon, a'r hyn y gallwn weld Llywodraeth Cymru yn ei gyflawni o ganlyniad.
Credaf mai'r prif bwynt a nodais yw bod gennym sector technoleg bywiog sy'n cwmpasu ystod eang o feysydd. Yn y dyfodol, fe fydd yn bwysicach fyth parhau i fod yn berthnasol yn rhyngwladol, ond bydd ystod eang o feysydd mewn bywyd lle bydd angen inni fod â gallu mewn ystod gyfan o dechnolegau, ac mae gennym fanteision lle credaf fod Cymru eisoes yn rhagori yn rhyngwladol.
Ac mewn gwirionedd, ar dechnoleg feddygol a gwyddor bywyd, credaf ein bod yn cyflawni y tu hwnt i'r disgwyl fel gwlad, ac mae gan bobl ddiddordeb yn y cyfleoedd i wneud mwy yma hefyd. Os edrychwch ar dechnoleg ariannol, a'r sector seiber hefyd, mae gennych lawer o gyfleoedd yno. Yr her i ni fydd sut y byddwn yn dwyn yr uchelgais sydd gennym ar gyfer y dyfodol a thalent a sgiliau pobl ynghyd, fel bod gennym gartref i bobl sydd naill ai’n dod o Gymru, neu sy’n dod i astudio yng Nghymru, er mwyn iddynt aros yma hefyd, ac i adeiladu ar y llwyddiannau sydd eisoes yn bodoli.
Wrth fynd o gwmpas y gynhadledd agoriadol ar gyfer Wythnos Dechnoleg Cymru, roeddwn yn falch iawn o weld y bwrlwm a’r diddordeb rhyngwladol yn yr hyn rydym yn ei wneud, a chefais gyfle i gyfarfod â llysgennad Awstralia, a oedd yn ymweld ar gyfer Wythnos Dechnoleg Cymru, a'r synergedd posibl i ni. Felly, credaf fod hwn yn faes lle mae cyfle gwirioneddol ar gyfer y dyfodol, ac unwaith eto, bydd sefydlogrwydd ar lefel Llywodraeth Cymru, a lefel Llywodraeth y DU, yn caniatáu inni gyflawni mwy eto, gyda swyddi da iawn i bobl ledled y wlad.
Ardderchog. Diolch am eich ateb, Weinidog. Gan gadw at thema Wythnos Dechnoleg Cymru am y tro, un o'r prif ddigwyddiadau oedd dathlu menywod Cymru ym myd technoleg. Mae'n gwbl briodol ein bod yn dathlu'r menywod sy'n arwain y ffordd yn y diwydiant hwn, y mae llawer yn ei ystyried yn ddiwydiant sy'n cael ei ddominyddu gan ddynion. Canfu arolwg diweddar a gynhaliwyd o fwy na 500 o bobl sy’n gweithio yn y sector technoleg fod 91 y cant yn credu bod mwy o ddynion na menywod yn gweithio ym maes technoleg, a datgelodd nifer syfrdanol o 76 y cant o ymatebwyr eu bod wedi wynebu rhagfarn neu wahaniaethu ar sail rhywedd yn y gweithle o leiaf unwaith. Felly, Weinidog, fel y dywedais, mae'n gwbl briodol ein bod yn dathlu'r menywod sydd eisoes yn rhan o'r diwydiant technoleg, ond byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddenu rhagor o fenywod i'r sector yn y lle cyntaf.
Rydym yn gwneud nifer o bethau, ac mewn gwirionedd, rydych yn llygad eich lle ei fod yn dal i fod yn sector lle rydych yn debygol o ddod o hyd i fwy o ddynion na menywod. Nid felly y dosberthir talent. Nid felly y dosberthir yr awydd i lwyddo ychwaith. Felly, mae yna her ynghylch newid diwylliant gweithio. Mae rhai rhannau o'r sector technoleg yn ei wneud yn well nag eraill. I sicrhau eich bod yn parhau i weld y newid hwnnw, mae angen mynd ati mewn ffordd weladwy i hyrwyddo'r arweinyddiaeth sy'n bodoli—. Mae cadeirydd FinTech Cymru, er enghraifft, yn fenyw a helpodd i sefydlu Banc Starling yma yng Nghymru. Felly, mae gennych arweinyddiaeth weladwy yno gan wahanol bobl. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud hefyd, a’r hyn y mae FinTech yn enghraifft dda iawn ohono, yw’r ffordd y maent yn ymgysylltu â phobl yn iau, felly nid yn unig ar ôl 16 ac yn y brifysgol, ond drwy gydol eu gyrfa yn yr ysgol. Mae diwedd yr ysgol gynradd a dechrau'r ysgol uwchradd yn adegau pwysig iawn i ddangos bod gyrfaoedd da i'w cael, ac mewn gwirionedd, mae'n sector sy'n aml yn ffynnu ar ei amrywiaeth. Os edrychwch ar arfordir gorllewinol America, maent yn falch o'r ffaith eu bod yn amrywiol iawn ac maent yn ei ystyried yn gryfder busnes.
Mae’r newyddion da iawn ddoe fod PwC yn mynd i fuddsoddi o leiaf 1,000 o swyddi ychwanegol yma, yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, yn newyddion da iawn, ac mae hwnnw’n fusnes sy’n ymfalchïo yn ei safle ym mynegai amrywiaeth busnesau mawr. Maent yn ystyried amrywiaeth yn gryfder, ac mae gennym lawer o hynny i'w gynnig yma. Mae'n ymwneud â sicrhau bod pobl yn deall bod gyrfa go iawn ar gael iddynt. Nid pobl ifanc yn unig; mae'n aml yn cynnwys pobl fy oedran i ac iau—rwy'n cydnabod fy mod yn heneiddio bob dydd—ond mewn gwirionedd, cenhedlaeth rhieni, i ddeall bod swyddi da iawn i'w cael yma, rhywbeth nad oeddent yn ei sylweddoli efallai, yn sicr i bobl fy oed i ac ychydig yn hŷn. Ond mewn gwirionedd, mae'n gyfle gwirioneddol dda.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Weinidog, mae sawl tref ledled y wlad wedi dod yn drefi clyfar. Mae’r prosiectau seilwaith digidol hyn yn defnyddio gwahanol fathau o synwyryddion a dulliau electronig i gasglu data, sydd wedyn, yn eu tro, yn helpu i lunio asedau, adnoddau a gwasanaethau i roi hwb i ganol trefi. Y nod trosfwaol yw adfywio ein strydoedd mawr a’u diogelu at y dyfodol, rhywbeth yr hoffai pawb yn y Siambr hon ei weld, rwy’n siŵr. Mae'n rhaid imi gyfaddef, Weinidog, mae'n brosiect sydd wedi fy nghyfareddu'n fawr fel Gweinidog technoleg yr wrthblaid. A byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod, Weinidog, beth yw eich barn am drefi clyfar: a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ac a fyddwn yn gweld mwy o hyn yn cael ei gyflwyno yn y dyfodol ledled Cymru?
Rwy'n gobeithio y byddwn, gan y bydd technoleg yn dod yn rhan fwy a mwy o fywyd bob dydd. Rwy'n ei weld gyda fy mab fy hun, y ffordd y mae'n meddwl am dechnoleg ac atebion. Mae'n rhyfeddu'n gyson pan fyddaf yn egluro nad oedd rhai pethau y mae'n eu cymryd yn ganiataol yn bodoli pan oeddwn ei oedran ef. Bob hyn a hyn, pan ddywed, 'Yn yr hen ddyddiau, pan oeddet ti fy oedran i', mae braidd yn boenus, ond dyna ni.
Pan edrychwch ar yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud, trawsnewid trefi a'r cyllid a roddwyd tuag at hynny, mae llawer o hynny'n ymwneud â sut rydych yn deall niferoedd ymwelwyr, yn defnyddio technoleg i ddeall hynny, yn defnyddio technoleg i wella profiad pobl pan fyddant yn mynd drwy ganol y dref hefyd. Felly, ni chredaf fod yn rhaid i hyn fod yn fygythiad i’r stryd fawr, ac mewn gwirionedd, pan gyfarfu'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol a minnau â’r sector manwerthu ddoe, i fwrw ymlaen â’r cynllun gweithredu manwerthu, credaf y bydd y ffordd rydych yn gwneud gwell defnydd o dechnoleg a sgiliau yn rhan o’r hyn a fydd yn sicrhau dyfodol hyfyw ar gyfer ein strydoedd mawr mewn trefi, pentrefi a chanol dinasoedd hefyd. Felly, credaf y byddwn yn sicr yn gweld mwy o hyn yn hytrach na llai ohono, a dyna sut rydym yn sicrhau ein bod yn manteisio ar y dyfodol sydd ar y ffordd, yn hytrach na cheisio gwthio bys i’r morglawdd a meddwl nad yw hyn yn mynd i ddigwydd ac y gallwch ei atal. Credaf y byddai hynny'n arwain at ddirywiad canol ein trefi yn hytrach na'r dyfodol rydym am ei weld ar eu cyfer.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan. I'w ateb gan y Dirprwy Weinidog.
Diolch, Lywydd. Dros y degawd diwethaf, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a’r pwyllgor diwylliant i rybuddio am y risgiau i gasgliadau cenedlaethol oherwydd cyfyngiadau cyllidebol. Mae’r pwyllgor a minnau wedi codi hyn gyda chi ers ichi ddod yn Ddirprwy Weinidog ar sawl achlysur. Pa gamau rydych chi’n bersonol wedi’u cymryd i sicrhau bod ein casgliadau cenedlaethol yn cael eu diogelu?
Wel, diolch am eich cwestiwn, Heledd. Rwy’n cael sgyrsiau rheolaidd gyda’r llyfrgell a’r amgueddfa, fel y byddech yn ei ddisgwyl. Maent yn gyrff hyd braich, felly rwy'n cyfarfod â nhw'n rheolaidd. Ac mae'r sgyrsiau a gefais gyda nhw ynglŷn â diogelu'r casgliadau wedi ymwneud yn bennaf â chynnal a chadw'r adeiladau, a diogelwch tân yn achos y llyfrgell. Felly, nid yw wedi bod yn gymaint o broblem o ran diogelu casgliadau rhag lladrad neu rywbeth felly, mae wedi ymwneud i raddau mwy â phoeni, os na chaiff y gwaith cynnal a chadw adeiladau ei wneud yn gywir, y gallai'r casgliadau gael eu difrodi gan ddŵr, ac yn y blaen. Ac fel y dywedaf, yn achos y llyfrgell, roeddent yn arbennig o bryderus ynghylch diogelwch tân.
Nawr, yn y cylch cyllidebol diwethaf, dyrannwyd bron i £5 miliwn o arian cyfalaf gennym i’r amgueddfa genedlaethol yn benodol at ddibenion cynnal a chadw adeiladau, a byddai rhan o hynny ar gyfer helpu i ddiogelu'r casgliadau. Ac ar gyfer y llyfrgell hefyd, fe wnaethom ddyrannu arian iddynt gyflwyno system ddiogelwch tân newydd, ac maent wrthi'n gwneud hynny bellach. Ac yn fy sgyrsiau diweddar gyda nhw, mae'r ddau gorff wedi nodi nad oes ganddynt unrhyw bryderon pellach ynghylch diogelwch eu casgliadau. O ran diogelwch mewn perthynas â chasgliadau'n cael eu dwyn neu eu colli, ac ati—nid wyf yn gwybod a oeddech chi'n sôn am hynny—rwyf wedi cael amryw o sgyrsiau gyda nhw ynglŷn â hynny hefyd.
Diolch yn fawr. Byddai’n werth cael sgwrs arall efallai, gan fy mod wedi cael gohebiaeth gyda’r llyfrgell genedlaethol dros yr wythnos ddiwethaf, ac os caf ddyfynnu yn Gymraeg—ac mae'n ymwneud â thoriadau cyllidebol pellach, os oes rhai:
'Mi fydd y risg i'n hetifeddiaeth ddogfennol yn cynyddu'n sylweddol iawn a hynny'n bennaf drwy golli nifer helaeth o swyddi sy'n cynnal y casgliadau, a'n hanallu i gynnal a diogelu adeilad y llyfrgell. Ni fu erioed y fath fygythiad i'n casgliadau.'
Felly, mae’r llyfrgell genedlaethol yn dweud na fu erioed fwy o risg i’n casgliadau, ac mae hyn yn rhywbeth y maent wedi’i gyfleu hefyd. Felly, mae pob un ohonom yn gwybod, ac yn gallu cofio, rwy’n siŵr, y tân erchyll hwnnw yn Amgueddfa Genedlaethol Brasil yn 2018, lle collwyd 20 miliwn o eitemau o gasgliadau ac arteffactau, o ganlyniad i uned aerdymheru a osodwyd yn anghywir. Rwy’n gwbl ymwybodol fod y llyfrgell genedlaethol ac Amgueddfa Cymru wedi dweud wrth y pwyllgor eu bod yn bryderus. Felly, a gaf fi ofyn eto: rydych wedi dweud nad oes risg, ar ba sail y dywedwch nad oes risg pan ddywedir wrthym fel arall?
I fod yn gwbl glir, Heledd, yr hyn rwy'n ei ddweud yw: nid wyf yn dweud nad oes risg, rwy’n dweud wrthych yr hyn y mae’r amgueddfa a’r llyfrgell wedi’i ddweud wrthyf innau. Cefais gyfarfod â'r llyfrgell. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gweld yr ohebiaeth a gawsoch gyda’r llyfrgell, gan fy mod yn cael fy nghyfarfodydd rheolaidd â’r llyfrgell—y cadeirydd a’r prif weithredwr—ac roedd y diweddaraf o’r cyfarfodydd hynny yr wythnos diwethaf, a gofynnais yn benodol iddynt am eu pryderon ynglŷn â diogelwch eu casgliadau, ac roeddent yn dweud wrthyf yn gwbl glir nad oes ganddynt unrhyw bryderon ar hyn o bryd am eu casgliadau. Nawr, ni allaf ond dweud wrthych yr hyn y maent yn ei ddweud wrthyf i. Os ydynt yn dweud rhywbeth gwahanol wrthych chi, hoffwn wybod pam.
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am genhadaeth Llywodraeth Cymru i gryfhau ac ailadeiladu'r economi? OQ60090
Prynhawn da. Rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth i gyflawni nodau ein cenhadaeth economaidd ar gyfer Cymru decach, wyrddach a mwy llewyrchus. Byddaf yn gwneud datganiad pellach ar 28 Tachwedd a fydd yn amlinellu cyfres newydd o feysydd blaenoriaeth i adlewyrchu’r hinsawdd economaidd bresennol.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mae'n wych clywed hynny. Ac a gaf fi ddiolch i chi am ddod i Dde Clwyd yn ddiweddar, i Kronospan, lle cyfarfuom â chynghrair ddiwydiannol Wrecsam? Credaf inni gael trafodaeth hynod adeiladol a chynhyrchiol am yr economi ac am faterion seilwaith hefyd, yn gysylltiedig â thwf economaidd. Weinidog, rydych wedi rhoi amlinelliad o’r amserlen ar gyfer diweddaru’r genhadaeth, ond a allwch chi roi blas i ni o’r hyn y dylem ei ddisgwyl ganddi?
Yr hyn y credaf y dylech ei ddisgwyl o'r genhadaeth ar ei newydd wedd yw diweddariad sy'n ystyried yr hyn sydd wedi digwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nawr, rydym wedi cael amser anodd iawn, ar ôl y pandemig a mwy na hynny, gyda 13 mlynedd o gyni a gostyngiadau mewn safonau byw—maent yn heriau gwirioneddol i fusnesau—ac mae effaith cyfnod Liz Truss yn y Llywodraeth yn parhau. Bydd datganiad yr hydref yn cael ei gyflwyno oddeutu wythnos ynghynt. Felly, yr hyn rydym yn mynd i geisio'i wneud yw nodi'r heriau sy'n ein hwynebu—hynny yw, 13 mlynedd o fandaliaeth economaidd gyda'r Torïaid, ond er gwaethaf hynny, bydd gennym gyfleoedd gwirioneddol ar gyfer twf a chynnydd hefyd. A’r hyn yr hoffwn allu ei wneud, wrth adnewyddu’r genhadaeth, yw nodi’r hyn y bwriadwn ei wneud ochr yn ochr â busnesau ac undebau llafur i geisio tyfu’r economi i Gymru, a’r hyn y gallem ei wneud pe bai gennym bartner dibynadwy yn Llywodraeth y DU i weithio gyda nhw, yn hytrach na'r heriau rydym yn parhau i’w hwynebu. Felly, bydd yn cydnabod gonestrwydd yr her, ond hefyd, gobeithio, yn nodi llwybr newydd ar gyfer yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru i dyfu’r economi gyda’r swyddi da y mae pob un ohonom am eu gweld ar gyfer pobl ledled y wlad.
Mae'r siaradwr blaenorol yn gyn-Weinidog yr economi, a chyhoeddodd genhadaeth gan Lywodraeth Cymru i gryfhau'r economi a roddodd arian ychwanegol i Fanc Datblygu Cymru, £250 miliwn, gan gynyddu'r gronfa buddsoddi hyblyg i £500 miliwn. Rwyf wedi siarad â busnesau sy’n dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at y gronfa hon, felly yr hyn yr hoffwn ei wybod, Weinidog, yw: a allwch gadarnhau heddiw faint o fusnesau sydd wedi cael mynediad at y cynllun hwn, a pha waith hyrwyddo y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i dynnu sylw busnesau ledled y wlad at hyn, er mwyn sicrhau bod gennym fwy o gadernid economaidd ar draws ein cymuned fusnes yma yng Nghymru?
Credaf fod Banc Datblygu Cymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol o ran llenwi bwlch a oedd yn bodoli, a buaswn yn falch—yn falch—o ysgrifennu at yr Aelod a chyhoeddi nifer y busnesau sydd wedi cael eu cefnogi gan y banc datblygu. Ym mhob un rhanbarth a phob un etholaeth yng Nghymru, mae pobl na fyddent wedi cael y cymorth y mae’r banc datblygu wedi’i ddarparu. Os oes gan yr Aelod fusnesau sydd wedi cael trafferth cael mynediad at y banc datblygu, byddai gennyf gryn ddiddordeb mewn clywed yr enghreifftiau unigol i ddeall beth sydd wedi digwydd. Mae gwersi i'w dysgu bob amser lle nad yw rhywbeth yn gweithio, i ddeall sut y mae hynny'n digwydd, ond ar y cyfan, mae'r banc datblygu yn llwyddiant diamheuol. Gallwch weld hynny drwy ranbarthau Lloegr, ac yn wir, y Ffederasiwn Busnesau Bach yn Lloegr sy'n dymuno cael rhywbeth tebyg i'r banc datblygu ar gyfer rhanbarthau Lloegr hefyd, i lenwi bwlch sy’n bodoli yn y farchnad.
Mae mwy y gallem ei wneud bob amser, wrth gwrs, ond credaf y gallwn fod yn falch o'r hyn y mae'r banc datblygu wedi'i wneud, er enghraifft, y cynllun benthyciad busnes gwyrdd. Mae llawer o alw wedi mynd i mewn iddo, cynnyrch sydd wedi'i greu am fod gennym fanc i weithio gydag ef yma sydd â diddordeb mewn datblygu, diddordeb mewn datblygu busnesau yng Nghymru ac mewn ymwneud â’r genhadaeth y mae’r Llywodraeth hon wedi’i nodi hefyd. Felly, edrychaf ymlaen at ysgrifennu at yr Aelod a nodi’n fanwl iawn yr hyn y mae’r banc datblygu wedi’i wneud i gefnogi busnesau yn ei etholaeth ef.
Weinidog, cyn bo hir, bydd Grŵp Llandrillo Menai yn agor adeilad newydd sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau peirianneg yn y Rhyl. Bydd y ganolfan yn cynnwys adran ar gyfer prentisiaid tyrbinau gwynt RWE, ac mae’r datblygiad newydd gwych £30 miliwn hwn wedi’i ariannu gan y grŵp, gyda chymorth cyfraniad o 65 y cant gan gronfa cymunedau dysgu cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Pa mor bwysig yw datblygiad o’r fath i economi’r Rhyl a’r cyffiniau?
Rwy'n falch iawn fod yr Aelod wedi codi'r buddsoddiad sylweddol a wnaed yma. Mae’n fuddsoddiad yn y dyfodol, yn fuddsoddiad mewn rhan o Gymru lle credaf y gallwch edrych ar yr hyn a fydd yn digwydd yn economi’r dyfodol, gallwch edrych ar y cyfleoedd mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy a’r cyflenwad pŵer y clywsom amdano’n gynharach. Ond golyga hyn ein bod yn rhoi'r sgiliau a'r cyfleusterau i'r bobl hynny wneud yn union hynny. Bydd yn golygu gweithio gyda chwmnïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol hefyd.
Credaf fod rhywbeth ynglŷn â chodi ymdeimlad o uchelgais hefyd, ynglŷn â dangos bod cymunedau yn y Rhyl yn haeddu’r buddsoddiad hwn, mae wedi’i ddarparu gan y Llywodraeth hon, a dylai fod swyddi da i bobl eu cael o ganlyniad i’r bartneriaeth sydd gennym gyda’r coleg addysg bellach, a chyda busnesau yn yr ardal. Rwy'n obeithiol iawn ynglŷn â'r hyn y bydd y ganolfan honno'n ei wneud, ac edrychaf ymlaen at ymweld, i gyfarfod â phobl sy'n defnyddio'r cyfleuster hwnnw nawr a'r busnesau y byddant yn gweithio iddynt yn y dyfodol.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog twf economaidd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ60107
Diolch. Mae ein cenhadaeth economaidd yn nodi’n glir y gwerthoedd a’r blaenoriaethau sy’n llywio'r penderfyniadau a wnawn i helpu i dyfu ein heconomi ledled Cymru. Enghraifft wych yn ne-orllewin Cymru yw bargen ddinesig bae Abertawe, buddsoddiad o £1.2 biliwn sydd â'r nod o greu 9,000 o swyddi newydd.
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol iawn o fy niddordeb mewn porthladdoedd rhydd, yn enwedig y porthladd rhydd Celtaidd yn fy etholaeth, polisi economaidd a allai wella sir Benfro, de-orllewin Cymru a Chymru gyfan yn uniongyrchol. Mae eu buddion yn glir iawn: amcangyfrifir y gallent sicrhau 20,000 o swyddi a hyd at £4.9 biliwn mewn buddsoddiadau cyhoeddus a phreifat ledled Cymru. Unwaith eto, rwyf am achub ar y cyfle i longyfarch Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am gydweithio i gyflawni’r polisi hwn hyd yn hyn, model y credaf y gellid ei ailadrodd, gan fod cydweithio bob amser yn well na gwrthdaro. Ond gydag adroddiadau’n nodi ei bod yn debygol y bydd porthladdoedd rhydd Lloegr yn cael eu hymestyn i 2031 yn natganiad hydref y Canghellor, pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i Drysorlys y DU i sicrhau cydraddoldeb rhwng porthladdoedd rhydd Cymru a Lloegr, fel bod y manteision, yn enwedig y buddion mewn perthynas â rhyddhad treth, i'w gweld am gyfnodau hirach? Diolch, Lywydd.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Wrth gwrs, cawsom gyfle i sôn am borthladdoedd rhydd pan oeddwn ym Mhwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yr wythnos diwethaf, ac rydym yn agosáu at y cam lle dylai’r achos busnes amlinellol fod gennym erbyn diwedd y mis nesaf. Edrychaf ymlaen at y ddau achos busnes—ar gyfer y porthladd rhydd Celtaidd a phorthladd rhydd Ynys Môn hefyd. Credaf fod y pwynt a wnewch ynghylch cydraddoldeb yn un pwysig, ac roedd yn rhan o’r her yn ystod y broses anodd o sicrhau porthladd rhydd lle nad oedd y ddwy Lywodraeth yn cytuno, gan mai rhan o’n pryder oedd na fyddem yn cael cydraddoldeb o ran y buddsoddiad a'r hyn a fyddai o amgylch y porthladd rhydd. Roedd y cytundeb y daethom iddo—ac rwy'n falch ein bod wedi cytuno arno, gan y cytunaf â chi fod cydweithio'n well na gwrthdaro—yn golygu bod gennym gydraddoldeb o ran y buddsoddiad.
Serch hynny, rwyf wedi codi’r mater ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe bai newid yn y rhyddhad ar gyfer porthladdoedd rhydd yn Lloegr. Cefais gyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros ffyniant bro ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wythnos diwethaf, a chodais hyn yn ystod y cyfarfod hwnnw—pe bai newid, y byddai arnom eisiau cydraddoldeb ar gyfer porthladdoedd rhydd Cymru. Ni ddylai fod cynnig gwahaniaethol gyda chynnig llai buddiol ar gyfer porthladdoedd rhydd yng Nghymru inni allu cyflawni’r manteision posibl a allai fod iddynt. Edrychaf ymlaen at roi diweddariad pellach ar ein hasesiad o’r achos busnes amlinellol ar ôl iddo gael ei gyflwyno i ni. Mae'n debyg y bydd hynny yn y flwyddyn newydd. Bydd asesiad ar y cyd eto gyda swyddogion o Lywodraeth y DU, ac rwy’n awyddus i sicrhau y manteisir ar y cyfleoedd gwirioneddol ar gyfer porthladd rhydd, gyda swyddi da a chynaliadwy ar draws de-orllewin Cymru a thu hwnt.
5. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau bach yng Nghanol De Cymru? OQ60123
Diolch am y cwestiwn.
Mae ein gwasanaeth Busnes Cymru yn darparu mynediad i entrepreneuriaid a busnesau at ystod eang o wybodaeth, arweiniad a chymorth, ariannol a heb fod yn ariannol, i gefnogi busnesau bach ledled Cymru.
Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol iawn o'r heriau enfawr y mae nifer o'n busnesau bach yn eu hwynebu o ganlyniad i chwyddiant a chostau ynni yn benodol hefyd. Gwyddom am nifer o fusnesau sydd bellach yn rhybuddio na allant barhau, neu eu bod yn cau, a fydd yn cael effaith enfawr. Yn benodol, fodd bynnag, mae rhai cynlluniau sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn effeithio ar rai busnesau bach yn fy rhanbarth. Rwy'n meddwl am fusnesau Tonpentre a Threorci yn enwedig, oherwydd yr holl waith Trafnidiaeth Cymru sy'n mynd rhagddo, a gwaith ar y ffordd ac yn y blaen. Mae wedi cael effaith enfawr ar y busnesau llai hyn, gan arwain at lai o ymwelwyr ac yn y blaen, a phobl yn methu cyrraedd apwyntiadau—mae'r un peth yn wir yn Hirwaun, gyda'r holl waith ffordd ar hyn o bryd—pobl yn mynd â'u cŵn i gael eu trin mewn mannau eraill ac yn y blaen, ond mae'n cael effaith enfawr ar y busnesau bach. Rwy'n deall nad oes cynllun iawndal ar gael i'r busnesau hynny, ond pa gefnogaeth, efallai, sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, o ystyried mai buddsoddiad yn yr ardal hon sy'n creu anawsterau i'r busnesau bach hyn mewn gwirionedd?
Pan fyddwch yn buddsoddi mewn ardal, yn aml mae rhywfaint o darfu, ac yna byddwch yn cael gwell amgylchedd yn y pen draw pan fydd y buddsoddiad wedi'i gyflawni. Os oes yna fusnesau sydd â heriau penodol, fe allent ac fe ddylent gysylltu â Busnes Cymru, ac efallai y gallwn eu helpu, ynghyd â'r awdurdod lleol. Rwy'n credu mewn gwirionedd fod awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf yn eithaf rhagweithiol yn y ffordd y maent eisiau helpu busnesau hefyd. Heddiw, mae RhCT yn cynnal ffair swyddi, gyda Busnes Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau, i edrych ar gyfleoedd ar gyfer swyddi i bobl. Mae hynny wedi'i dargedu'n benodol at y bobl a ddiswyddwyd gan gwmni UK Windows & Doors. Ond hoffwn weld beth y gallwn ei wneud gyda'n gilydd, gan weithio gyda'r awdurdod lleol, i ddeall sut y gallwn helpu i gefnogi busnesau mewn ffordd ymarferol. Felly, os yw'r Aelod eisiau ysgrifennu ataf gyda'r busnesau sydd wedi bod mewn cysylltiad â hi, rwy'n hapus i geisio sicrhau ymateb cydlynol.
Fel y gŵyr y Gweinidog, yr wythnos hon yw Wythnos Cyllid Busnes, a gynhelir gan Fanc Busnes Prydain y mae Busnes Cymru yn aelod cefnogol ohono. Rwy'n falch o weld bod nifer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal yng Nghymru, ac mae cyfran fawr o'r rhain yn rhai rhithwir, sy'n golygu y byddant hefyd ar gael i fusnesau bach ac y gallant eu helpu i ddeall cyllid a'r opsiynau sydd ar gael iddynt hefyd. Er bod yr opsiynau hyfforddi ac ariannu hyn ar gael, yn anffodus, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu bod busnesau bach Cymru yn llwyddiannus bob amser wrth wneud cais am y cyllid hwn. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ba mor llwyddiannus yw busnesau bach wrth gael gafael ar gyllid, a pha dueddiadau cyfredol a nodwyd gennych o ran y math o gyllid a swm y cyllid y mae busnesau bach yng Nghanol De Cymru a'r wlad ehangach yn gallu cael mynediad ato? Diolch.
Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn eang iawn, o ystyried yr ystod gyfan o wahanol sefydliadau ariannol sy'n gysylltiedig, oherwydd fe allwch gael y gefnogaeth honno gan ystod eang o wahanol bobl, o fanciau'r stryd fawr i'r banciau newydd modern sy'n cystadlu â nhw, o angylion buddsoddi i Fanc Busnes Prydain, a Banc Datblygu Cymru o bosibl, a thu hwnt. Rwy'n credu y byddai'n fwy defnyddiol pe bai mwy o ffocws ar y meysydd y mae'r Aelod yn gofyn am fynediad at gyllid ar eu cyfer. Fodd bynnag, rydym yn siarad â'r holl sefydliadau ariannol mawr, ac yn wir, â sefydliadau busnes fel Ffederasiwn y Busnesau Bach, ynglŷn â her cael mynediad at gyllid.
Un o'r heriau mawr, wrth gwrs, yw bod mynediad at gyllid wedi mynd yn ddrutach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Pe byddech chi eisiau buddsoddi yn eich busnes dros flwyddyn yn ôl, byddech wedi cael cyfradd llog o rhwng 2 a 3 ac ychydig y cant. Ar ôl digwyddiadau y llynedd, ac ar ôl i'r gyllideb gael ei gwrthdroi, mae cost benthyciadau busnes, yn ogystal â benthyciadau i berchnogion tai, wedi cynyddu'n sylweddol ac yn barhaol. Ac mae'r cynnydd i oddeutu 6 y cant a mwy yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i fusnesau o ran eu parodrwydd i ysgwyddo benthyciadau a mynd i ddyled a'r hyn y mae hynny'n ei olygu a'u gallu i'w ad-dalu. Felly, pan fyddwn yn siarad am y niwed parhaol a wnaed gan Lywodraeth Truss, mae'n niwed go iawn, ac mae busnesau bach yn gwybod hynny.
Dylwn ddweud, fodd bynnag, ar nodyn cadarnhaol, fod Banc Datblygu Cymru a Banc Busnes Prydain yn gwneud mwy o waith gyda'i gilydd i geisio sicrhau bod eu hymyriadau eu hunain yn ategu ei gilydd, yn hytrach na gwrthddweud ei gilydd. Ac roeddwn yn falch iawn o weld bod gan Fanc Busnes Prydain stondin yn Wythnos Technoleg Cymru, oherwydd credaf fod llawer o gyfleoedd i barhau i fuddsoddi yn y sector hwnnw o'n heconomi.
6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch pontio teg tuag at economi sero net yng Nghymru? OQ60091
Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo pontio teg tuag at sero net, gan gynnwys hyrwyddo'r seilwaith a'r hyfforddiant gofynnol. O ystyried pwysigrwydd pwerau Llywodraeth y DU wrth gyflawni hyn, mae'n hanfodol eu bod yn ymgysylltu'n llawn â Llywodraeth Cymru. Nid oes amheuaeth nad yw'n ddelfrydol peidio â chael cyfarfod rhyngweinidogol am dros 10 mis, a'r diffyg ymgysylltiad, er enghraifft, gan Lywodraeth y DU ynghylch Tata. Fodd bynnag, byddaf yn gwneud y safbwyntiau hyn yn glir yng nghyfarfod y bwrdd pontio ar gyfer Tata y byddaf yn cymryd rhan ynddo.
Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw ac am sôn am Tata hefyd, ond rwyf am ganolbwyntio ar rywbeth arall, oherwydd mae newid meddwl ar lefel y DU ar drywydd clir tuag at sero net yn arwain at oblygiadau gwirioneddol ar gyfer twf gwyrdd ac ar gyfer swyddi gwyrdd hefyd, a'r pontio teg hwnnw. Felly, mae symud y pyst gôl mewn perthynas â phethau fel cerbydau trydanol, a rheoliadau pympiau gwres ar fyr rybudd ac heb unrhyw ymgynghoriad, y newidiadau aml mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni—y fargen werdd, y grant cartrefi gwyrdd, ac yn y blaen—ac mae methiant diweddar yr arwerthiant ar gyfer ynni gwynt ar y môr, gyda'r contractau ar gyfer gwahaniaeth, yn dangos yn union beth mae hyn yn ei wneud i hyder buddsoddwyr.
Mewn gwirionedd, roedd adolygiad annibynnol y Llywodraeth ei hun o sero net, sydd ar eu gwefan, yn darparu rhybudd cadarn yn erbyn dull o weithredu anghyson ar bolisi sero net. Dywedai fod newidiadau polisi sydyn yn lleihau hyder buddsoddwyr a datblygwyr ac yn cynyddu cost cyfalaf a chost gyffredinol datgarboneiddio. Nid oes gan y Llywodraeth unrhyw gefnogwyr ar hyn, Weinidog. Mae'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus yn dweud ei fod yn ddrwg i ddefnyddwyr, yn ddrwg i'r economi, ei fod yn chwalu uchelgais sero net 2050 y DU yr ydym yn rhan ohono, ac mae'n debygol o fod yn amhoblogaidd hefyd gyda'r cyhoedd, sy'n cefnogi datgarboneiddio mewn gwirionedd. Felly, Weinidog, sut ar y ddaear y gallwn ddychwelyd i sefyllfa lle mae nid yn unig Cymru a'r gwledydd datganoledig a'r dinasoedd mawr fel Manceinion ac yn y blaen, ond Llywodraeth y DU hefyd, yn deall, os ydym am greu swyddi gwyrdd, fod angen rhoi sicrwydd i fuddsoddwyr a chreu swyddi economi sylfaenol ym mhob cymuned ar draws y wlad? Beth sydd wedi mynd o'i le gyda nhw?
Rwy'n credu mai'r hyn a wnaethant o'i le oedd peidio â gwneud yr hyn a ddywedodd yr Aelod ar y diwedd: darparu sicrwydd—cynllun ar gyfer y dyfodol a chysondeb sy'n caniatáu i bobl eraill gynllunio o'i gwmpas, y sgiliau sydd eu hangen arnoch. Mae targed cyson ac uchelgais cyson yn hanfodol i wneud hynny, a'r sicrwydd i fuddsoddwyr busnes hefyd. Os meddyliwch am gyhoeddiad diweddar Rishi Sunak ar symud ystod eang o byst gôl, nid y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn unig a ddywedodd, 'Nid oes cynllun i ddadwneud y niwed sydd wedi'i wneud', fe ddywedodd y diwydiant ceir hynny hefyd mewn gwirionedd, a cheir amrywiaeth o wahanol leisiau. Fe fyddwch wedi clywed Ford ac eraill yn dweud yn glir iawn eu bod am barhau â'u buddsoddiad a'i fod wedi dadwneud yr holl sicrwydd a gawsant. Maent wedi ceisio buddsoddi i gyrraedd rhywbeth erbyn 2030, a nawr mae'n rhaid iddynt ystyried, 'A yw hynny'n sicr, a allwn ni eich credu?' A hyn oll, wrth gwrs, gyda dim ond blwyddyn ar y mwyaf i'r Llywodraeth bresennol barhau ar lefel y DU.
Rwy'n credu bod y cylch contractau ar gyfer gwahaniaeth yn broblem hyd yn oed yn fwy. Dyma lle gallwch gefnogi ynni adnewyddadwy newydd, yn y bôn, yn ogystal â mynd i'r farchnad gyda chynhyrchion arddangos yn enwedig. Ac nid dyna a ddigwyddodd mewn perthynas ag ynni gwynt arnofiol ar y môr. Ni wnaeth yr un darparwr gwynt arnofiol ar y môr wneud cais ar gyfer y cylch hwnnw, ac roeddent wedi dweud yn glir wrth Lywodraeth y DU na fyddent yn gwneud hynny. Mae cymhellion mwy o faint i'w cael mewn rhannau eraill o Ewrop, ar garreg ein drws. Nid oes raid iddynt adeiladu pethau yma. Y perygl yw y gallem golli'r fantais a allai fod gennym os nad oes dull mwy aeddfed, mwy cydgysylltiedig a mwy sicr o weithredu'r buddsoddiad hwnnw. Mae gan Lywodraeth y DU gyfle i unioni hyn o fewn y flwyddyn hon, a hoffwn eu hannog i wneud hynny. Fel arall, rydym mewn perygl o beidio â gweld y manteision economaidd y dylem eu cael, yn ychwanegol at ein llwybr tuag at sero net gwirioneddol, lle mae pontio teg yn rhywbeth y gallem ac y dylem ei gyflawni. Fodd bynnag, rwy'n ofni y bydd angen Llywodraeth newydd cyn y bydd hynny'n bosibl.
Yr wythnos diwethaf, dyfarnwyd hyd at £1.2 biliwn i Califfornia gan Adran Ynni yr Unol Daleithiau i adeiladu ac ehangu prosiectau sy'n canolbwyntio ar ynni glân, gyda'r nod yn y pen draw o sicrhau economi carbon sero net erbyn 2045. Mae saith hyb hydrogen yr Unol Daleithiau yn darparu £7 biliwn o fuddsoddiad y Llywodraeth, £40 biliwn o fuddsoddiad preifat, cannoedd o filoedd o swyddi o ansawdd uchel, a 25 miliwn tunnell o arbedion carbon deuocsid. Yn ystod Wythnos Hydrogen y Byd yn ddiweddar, roedd yr arbenigwyr yn glir fod angen i Lywodraeth Cymru gyflymu a chynyddu cefnogaeth i hydrogen yng Nghymru. Felly, a wnewch chi ddilyn arweiniad UDA, gan weithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, drwy ysgogi pontio i economi sero net a gweithio i wneud Cymru yn un hyb hydrogen mawr?
Rwy'n awyddus iawn i weld mwy o fuddsoddiad mewn hydrogen, ac mewn gwirionedd mae bargen twf gogledd Cymru wedi nodi ei chefnogaeth i hyb hydrogen Caergybi. Rydym eisiau gweld hynny ar draws gogledd Cymru, ac yn wir yn ne Cymru hefyd. Ond er mwyn i hyn ddigwydd, bydd angen buddsoddiad gwirioneddol gan Lywodraeth y DU. Ni allwch greu'r rhwydweithiau hydrogen sydd eu hangen heb fuddsoddiad y DU, a'r buddsoddiad hwnnw sy'n brin. Mae'n hynod ddiddorol fod yr Aelod wedi tynnu sylw at yr hyn sy'n digwydd yn yr Unol Daleithiau. Mae hynny'n digwydd oherwydd bod Llywodraeth UDA wedi cyflwyno buddsoddiad sylweddol a pharhaus yn y dyfodol. Mae dros $500 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn yr Unol Daleithiau yn nhechnolegau'r dyfodol. Ni welwch unrhyw beth ar y raddfa honno yn y DU. Mae'n ymwneud â diffyg uchelgais a diffyg ymwybyddiaeth, a heb y buddsoddiad hwnnw ni fyddwn yn sicrhau'r math o ddyfodol y gallem ei wneud gyda'r holl fanteision naturiol sydd gennym. Rwyf eisiau i ni allu gwneud hynny. Rwyf eisiau partner dibynadwy o fewn Llywodraeth y DU i weithio gyda nhw, ac rwyf eisiau'r math o fuddsoddiad ar y raddfa sydd ei hangen i wireddu'r dyfodol y gallem ei gael, y Gymru yr ydym ei heisiau, a'r DU y gallem ei chael hefyd, gyda'r math o swyddi gwyrdd o ansawdd uchel a fyddai'n deillio o hynny.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau ym Mlaenau Gwent? OQ60103
Diolch. Mae ystod eang o gymorth ar gael i fusnesau ym Mlaenau Gwent drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi busnesau Blaenau Gwent mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae hynny'n cynnwys ein rhaglen gwella cynhyrchiant busnes, sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gwmnïau lleol ym Mlaenau Gwent.
Y prynhawn yma, Weinidog, rwyf am ofyn i chi ynglŷn â'r rhaglen gwella cynhyrchiant busnes. Ddoe, mewn datganiad ar economïau rhanbarthol, roeddwn yn meddwl eich bod chi'n glir iawn ynglŷn â sut roedd Llywodraeth Cymru eisiau buddsoddi yn economi Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o werth prosiect deuoli'r A465. Ond mae hynny hefyd yn golygu buddsoddi mewn pobl a buddsoddi mewn busnesau. Mae'r £1.6 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fuddsoddi mewn 12 busnes ym Mlaenau Gwent—rwy'n credu eich bod chi bellach wedi ei ymestyn y tu hwnt i'r fwrdeistref, oherwydd ei lwyddiant—wedi golygu bod gennym sgiliau newydd, sy'n arwain at gyflogau uwch. Mae gennym dechnoleg newydd a chynhyrchion newydd, sy'n darparu ar gyfer busnesau yn y fwrdeistref. Mae hyn yn darparu cysylltedd drwy'r prosiect deuoli, yn ogystal â buddsoddiad yn nyfodol y busnesau hynny, a gwn fod y busnesau hynny'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y buddsoddiad hwnnw. Cafodd hynny ei gyflawni drwy'r Cymoedd Technoleg a thrwy gyllid yr Undeb Ewropeaidd. Roedd hwnnw'n fuddsoddiad yn ein heconomi yn y dyfodol. Weinidog, sut y gallwch adeiladu ar y rhaglen honno nawr i wneud yn siŵr y gallwn barhau i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn darparu'r gefnogaeth fwyaf sy'n bosibl i fusnesau yn y fwrdeistref a sicrhau ein bod yn parhau i fuddsoddi yn nyfodol economaidd Blaenau Gwent a gweddill Blaenau'r Cymoedd?
Mae'n rhan o'r hyn rydym eisiau ei wneud, gan weithio gyda chyd-bwyllgorau corfforaethol, a gweithio gyda bargeinion twf hefyd, i sicrhau nad ydym yn edrych ar dwf yn unig, er enghraifft, yn y brifddinas-ranbarth i'r de o'r M4. Mae'n rhan o'r sgwrs a nodais ddoe yn fy natganiad ysgrifenedig hefyd, i sicrhau ein bod yn gwneud ymdrech sylweddol mewn perthynas â datblygu economaidd yn y Cymoedd, ac mae'r rhaglen gwella cynhyrchiant busnes yn enghraifft dda o hynny. Mae buddsoddiad wedi'i dargedu gyda 12 o fusnesau gwahanol wedi gwneud gwahaniaeth go iawn iddynt, ac mae 83 y cant ohonynt wedi gweld gwelliannau mewn cynhyrchiant—rhywbeth rydym wedi'i drafod o'r blaen a rhywbeth sy'n allweddol i ddyfodol datblygu economaidd a ffyniant. Yn yr holl ddewisiadau anodd y mae'n rhaid i ni eu gwneud ac y mae'n rhaid i mi eu gwneud fel Gweinidog yng nghylch nesaf y gyllideb, rwy'n awyddus ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn sgiliau ac mewn busnesau i wneud yn siŵr fod gennym swyddi da gyda dyfodol go iawn, a'n bod yn helpu'r bobl hynny i elwa mwy o'u byd gwaith—nid dim ond amser, nid oriau hwy yn unig, ond mwy o werth, mwy o gynhyrchiant. Ac rwy'n credu bod gennym enghraifft o sut i wneud hynny gyda'r rhaglen rydych chi wedi tynnu sylw ati heddiw.
Yn olaf, cwestiwn 8—Luke Fletcher.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithrediad cronfa busnes Cymru? OQ60102
Mae cronfa fusnes Cymru, sy'n cael ei rheoli gan Fanc Datblygu Cymru, yn darparu benthyciadau ac yn gwneud buddsoddiadau ecwiti mewn busnesau. Daw'r rhan fwyaf o'r cyfalaf sy'n cael ei ddefnyddio drwy'r gronfa hon, sef £186 miliwn, o gyllid blaenorol yr UE, o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, sy'n dod i ben ym mis Rhagfyr eleni.
Diolch am yr ateb, Gweinidog.
Mae cronfa fusnes Cymru, wrth gwrs, fel y soniodd y Gweinidog, ar fin mynd i'w thymor olaf, gan ddod i ben ar ddiwedd y flwyddyn hon, a chyda chronfeydd yr UE yn diflannu hefyd, fe fydd yn dod i ben wrth gwrs. Rwyf wedi nodi, o fis Medi eleni, fod £19 miliwn ar ôl yn y gronfa. Mae'n hanfodol, wrth gwrs, ein bod yn gwario'r arian sydd yn y gronfa hon. Felly, pa gynlluniau sydd ar y gweill i wario'r arian i gyd cyn dyddiad terfynu'r buddsoddiad ym mis Rhagfyr? Ac a yw'r Gweinidog wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i gronfa olynol bosibl hefyd?
Ie, rwy'n hyderus y gallwn ddefnyddio'r holl fuddsoddiad sydd wedi'i roi yn y gronfa bresennol. Rydym wedi bod yn gweithredu i lenwi rhywfaint o'r bwlch, ac mae wedi bod yn heriol iawn. Felly, ffaith, nid barn, yw ein bod dros £1 biliwn yn waeth ein byd oherwydd y ffordd y cafodd arian blaenorol yr UE ei reoli. Nid ydym yn cael cymaint o gyllid yn lle'r hyn a gaem. Mae hynny'n golygu ein bod mewn perygl o fethu cyflawni ein holl raglenni.
Fe wneuthum ddewis, nid yn unig i ddiogelu rhai gwasanaethau fel Busnes Cymru, fel y buddsoddiad rydym yn ceisio ei wneud mewn prentisiaethau a sgiliau, ond roedd hefyd yn golygu ein bod ni'n rhoi arian ychwanegol i gronfa buddsoddi hyblyg Cymru—cronfa wahanol, ond roedd hynny er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu cael cefnogaeth i fusnesau drwy'r banc datblygu ei hun. Nawr, mae hynny'n golygu na allaf wario'r arian hwnnw yn rhywle arall, ond rwy'n argyhoeddedig y byddwn yn parhau i weld elw go iawn i'r busnesau hynny ac ar gyfer y swyddi y byddant yn eu darparu i bobl yn yr un ffordd ag y buom yn siarad amdani yn y cwestiwn blaenorol gydag Alun Davies, i sicrhau ein bod yn cefnogi amgylchedd busnes ac yn cefnogi swyddi da iawn ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o hyder i'r Aelod am y gronfa y mae ei buddsoddiad yn dod i ben oherwydd y bydd arian blaenorol yr UE yn dod i ben, ond hefyd rydym yn parhau i weld beth y gallwn ei wneud gyda'r banc datblygu i sicrhau bod cefnogaeth go iawn i swyddi a busnesau ledled y wlad.
Diolch yn fawr i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Andrew R.T. Davies.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gwasanaethau dialysis arennau i drigolion Canol De Cymru? OQ60114
Diolch yn fawr. Mae Rhwydwaith Arennau Cymru yn comisiynu gwasanaethau arennol yng Nghymru, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn darparu gwasanaethau arennol yn ne-ddwyrain Cymru. Dylid darparu triniaeth a chymorth i bobl â chlefyd yr arennau mor agos â phosibl at eu cartref, a dylid sicrhau bod dialysis cartref yn ddewis cyntaf os nad yw trawsblaniad aren yn bosibl.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae rhai etholwyr wedi cysylltu â mi oherwydd, yn rhan orllewinol y Fro, mae llawer o gleifion yn cael eu cyfeirio at Ysbyty Tywysoges Cymru lle nad oes gwasanaeth dialysis arennol ar gael, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall ar hyn o bryd. Y bwriad, fel rwy'n ei ddeall, yw i'r bwrdd iechyd ddechrau rhoi gwasanaeth dialysis, naill ai ar y safle hwnnw neu ar safle arall yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. A allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi heddiw i mi allu dweud wrth fy etholwyr wrth i gynnydd gael ei wneud ar gomisiynu'r gwasanaethau hyn? Ac a oes gennych ddyddiad pan fydd y gwasanaethau hynny'n dechrau yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, oherwydd, ar hyn o bryd, mae etholwyr yn gorfod teithio i Abertawe i gael y driniaeth ddialysis y maent ei hangen ar gyfer eu anhwylderau arennol?
Diolch yn fawr. Yr hyn a wyddom yw bod clefyd yr arennau yn effeithio ar tua 6 i 8 y cant o boblogaeth Cymru. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod sawl enghraifft o gynyddu capasiti yng Nghanol De Cymru yn ddiweddar. Agorwyd tair uned ddialysis newydd ym Merthyr ym mis Ebrill 2023. Dechreuodd cynlluniau peilot cychwynnol yn Ne Caerdydd a Phont-y-pŵl yr wythnos diwethaf. Ac yn yr haf, felly haf 2024, bydd dwy uned ddialysis newydd yn cael eu hagor—un ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac un yng Nghastell-nedd Porth Talbot—a byddant yn darparu 21 uned newydd yn yr un y mae gennych chi ddiddordeb ynddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Diolch.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth iechyd cymunedol yn Nyffryn Clwyd? OQ60106
Yn unol â 'Cymru Iachach', rwy'n disgwyl i bobl gael mynediad at ystod gynyddol eang o wasanaethau iechyd yn eu cymunedau. Mae gwasanaethau wedi'u hintegreiddio â gwasanaethau awdurdodau lleol a gwasanaethau'r trydydd sector a luniwyd i gefnogi pobl i aros yn iach, a byw'n annibynnol yn eu cartrefi cyhyd ag y bo modd.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog, ond ni allaf beidio â theimlo ymdeimlad o dristwch dwys wrth geisio rhagweld yr angen am well darpariaeth iechyd cymunedol yn sir Ddinbych, yn enwedig gyda'r agwedd rydych chi wedi'i dangos o'r blaen mewn trafodaethau ar y mater hwn.
Fel rwyf eisoes wedi'i grybwyll wrthych yn Siambr y Senedd, rwyf wedi bod yn cynnal rhaglen o ymweliadau â chartrefi gofal yn Nyffryn Clwyd i chwilio am themâu a materion cyffredin sy'n effeithio ar y bobl fwyaf agored i niwed yn fy etholaeth, a'r thema gyffredin sy'n parhau i gael ei chodi yw problem barhaus prinder staff mewn cartrefi gofal, yn enwedig yn y Rhyl a Phrestatyn, oherwydd diffyg cyfleoedd gyrfa, hyfforddiant a chyflog isel, sy'n gwneud y sector yn anneniadol i ymgeiswyr posibl gael eu recriwtio gan berchnogion cartrefi gofal sydd ag enw da. A'r gwir amdani yw bod gennym argyfwng iechyd a gofal cymdeithasol, nid yn unig yn fy etholaeth i, ond ledled Cymru. Felly, a all y Gweinidog amlinellu ei hasesiad o'r argyfwng iechyd a gofal cymdeithasol presennol sy'n effeithio ar bobl Dyffryn Clwyd a ledled Cymru, a pha gamau y mae hi a Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn a gwneud gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy deniadol, i weithredu fel ateb i'r amseroedd aros cronig a'r blocio gwelyau sy'n digwydd o dan y Llywodraeth Lafur hon?
Diolch yn fawr iawn. Fe wyddoch ei fod yn un o flaenoriaethau'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru: fe wnaethom gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol, ac nid oedd yn swm dibwys o arian i ni ei fuddsoddi mewn sector y gwyddom ei fod yn heriol iawn. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud hynny. Wrth gwrs, ers hynny, rydym wedi gweld chwyddiant yn cael effaith ar lawer o bobl, ac mewn gwirionedd, mae'r ffaith bod llawer o bobl o ddwyrain Ewrop wedi gadael hefyd wedi rhoi pwysau ar y gwasanaeth oherwydd mae'r niferoedd o ddwyrain Ewrop, er enghraifft, sy'n gadael wedi gadael bylchau mewn sectorau eraill, felly mae llawer o weithwyr gofal wedi mynd i weithio yn y sectorau amgen hynny ym maes lletygarwch a meysydd eraill. Felly, rydym yn ymwybodol iawn, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Julie Morgan wedi gweithio ar y mater hwn yn gyson. Mae gennym fframwaith sy'n cael ei ddatblygu, fframwaith cenedlaethol mewn perthynas â gofal sy'n sefydlu'r angen i gofrestru a'r gallu i gamu ymlaen yn y sector gofal. Ac fe fyddwch yn ymwybodol hefyd fod gennym gronfa gwerth £144 miliwn i integreiddio iechyd a gofal, ac mae'r gronfa honno, wrth gwrs, yn rhywbeth rydym yn ei ddarparu bob blwyddyn.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George.
Diolch, Lywydd. Weinidog, clywais y ddadl ddoe yng nghwestiynau'r Prif Weinidog rhwng y Prif Weinidog ac arweinydd yr wrthblaid mewn perthynas â galwadau gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys i gyhoeddi data'r GIG ar amseroedd adrannau damweiniau ac achosion brys heb gymhwyso'r eithriadau a ganiateir. Nawr, Weinidog, yr hyn rwyf eisiau ei ddeall yw—. Fel rwy'n ei ddeall, rydych chi'n stopio'r cloc, fel rwy'n ei ddeall, ar gyfer eithriadau clinigol. Felly, yn y bôn, rydym yn stopio'r cloc ar gyfer y rhai sy'n aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac felly mae nifer yr oriau sy'n cael eu treulio mewn adran ddamweiniau ac achosion brys yn gamarweiniol. Nawr, mae'r coleg brenhinol yn honni mai chi yw'r unig Lywodraeth yn y DU i gyfrif yn y ffordd hon. Nawr, yn y gorffennol, rydych wedi dweud wrthyf mewn ymateb i gwestiynau, 'Wrth gwrs, yng Nghymru, rydym yn cyfrif yn wahanol iawn. Rwy'n credu ein bod ni'n fwy gonest gyda'r cyhoedd yng Nghymru.' Felly, Weinidog, a ydych chi'n credu eich bod chi'n cofnodi data mewn ffordd dryloyw o ran faint o amser y mae pobl yn ei dreulio yn aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, a pham nad ydych chi eisiau gwybod a chyhoeddi'r darlun go iawn o ran pa mor hir mae cleifion yn aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru?
Wel, gallwch barhau i ailadrodd rhywbeth sy'n sylfaenol anghywir os hoffwch, ond y gwir amdani yw ein bod wedi'i gwneud yn gwbl glir i fyrddau iechyd na ddylid eithrio eithriadau rhag tramgwydd o ystadegau cyhoeddedig adrannau damweiniau ac achosion brys, ac rydym wedi cael sicrwydd gan yr holl fyrddau iechyd perthnasol, sydd wedi ein sicrhau nad ydynt yn gwneud hynny. Nawr, gallwch barhau i rygnu ymlaen ar y stori hon. Y gwir amdani yw, nid oes unrhyw wirionedd i'r honiad ein bod yn camgyfrif. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod pobl yn deall bod hyn yn rhywbeth rydym wedi edrych arno'n fanwl, ac rydym wedi cael sicrwydd gan fyrddau iechyd ein bod yn cyfrif ac na ddylai'r niferoedd hynny gael eu heithrio o ystadegau adrannau damweiniau ac achosion brys. A pheth arall y credaf ei bod hi'n bwysig i chi ei nodi, o ran y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yw eu bod wedi dweud bod ystadegau Cymru a'r ffordd rydym yn cyfrif yn debyg i holl brif adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae'r ffordd rydym yn cyfrif yn debyg iawn i'r ffordd y mae Lloegr yn cyfrif.
Weinidog, mae'n ddrwg gennyf, ond nid ydych yn bod yn dryloyw. Rwy'n glynu wrth yr hyn a ddywedais yn gynharach yn fy nghwestiynau i chi. Mae'r coleg brenhinol yn galw arnoch chi, fel y Llywodraeth ddiwethaf yn y DU, i newid y ffordd rydych chi'n cyfrif. Nid ydych yn cyfrif yn gywir fel y gall y gwasanaeth iechyd gynllunio'n iawn. Mae angen i chi gael data cywir ynglŷn â pha mor hir mae pobl yn aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, yn enwedig wrth i ni gynllunio ar gyfer y gaeaf, ac mae hynny'n gwbl hanfodol. Nawr, dyma'r cwestiwn, Weinidog, mewn ymateb i'r hyn rydych chi wedi'i ddweud heddiw: a allwch chi esbonio'r gwahaniaeth rhwng data perfformiad mewn ymatebion a ddarparwyd gan fyrddau iechyd i'r coleg brenhinol a data perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, oherwydd maent yn amrywio'n fawr? A allwch chi egluro hynny, Weinidog?
Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod y cwestiwn a ofynnwyd gan y coleg brenhinol, o ran ei eiriad, yn wallus. Roedd ganddynt ragdybiaeth nad oedd data yn cynnwys cleifion a oedd eithriadau rhag tramgwydd. Y gwir amdani yw nad yw hynny'n wir. Felly, fe wnaethant ragdybio, pan gawsant yr ymateb, ac fe wnaethant ychwanegu'r rheini atynt. Roedd yr hyn a wnaethant yn anghywir. Rwy'n fwy na pharod i berson annibynnol ddod i mewn i ddadansoddi ein data, oherwydd rwy'n glynu wrth ein data; rydym wedi edrych ar hyn yn fanwl. Gallwch barhau i ofyn cwestiynau amdano, ond rwy'n fwy na pharod i fod yn dryloyw ynglŷn â hyn. Ac mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi ein cefnogi ac wedi dweud bod y ffordd rydym yn cyfrif ein data yn debyg iawn i'r ffordd y maent yn cyfrif eu data yn Lloegr mewn gwirionedd.
Wel, diolch i chi, Weinidog, am roi caniatâd i mi ofyn cwestiynau yn ystod cwestiynau'r llefarwyr. Mae hwn yn gwestiwn sylfaenol. Nid ydych wedi ateb y cwestiwn penodol a ofynnais, Weinidog, felly rwyf am ei ofyn eto. Rwy'n gofyn i chi eto—gallwch ddweud y gallaf barhau i ofyn. Rwyf eisiau gwybod yr ateb, dyna rwyf eisiau ei wybod. A allwch chi egluro'r gwahaniaeth—nid yw'n gwestiwn anodd—rhwng y data perfformiad mewn ymatebion a ddarparwyd gan fyrddau iechyd i'r coleg brenhinol a data perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru? Mae'r ddau'n amrywio'n sylweddol, ac mae'n bwysig ein bod yn cael yr ateb i hynny. Nawr, rydych chi wedi dweud eich bod chi wedi edrych ar hyn yn fanwl iawn, gyda'ch swyddogion, felly pam na allwch chi roi ateb i fy nghwestiwn heddiw?
Rwyf newydd roi ateb i chi. Dywedais wrthych fod y cwestiwn a ofynnwyd gan y coleg brenhinol yn sylfaenol wallus. Dyna oedd y broblem. Roedd y cwestiwn a ofynnwyd ganddynt yn sylfaenol wallus. Dywedai—. Y cwestiwn a ofynnwyd oedd: mae'r data'n cynnwys y cleifion a gafodd eu tynnu o'r data a gyhoeddwyd, oherwydd eithriadau rhag tramgwydd. Roeddent yn rhagdybio eu bod wedi'u heithrio. Nid oeddent wedi cael eu heithrio.
Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Diolch, Lywydd. Rwyf am ddilyn cwestiynau Russell George, os caf. Ac yn dilyn yr ymateb gan y Gweinidog, mae'r Gweinidog a'r Llywodraeth wedi ceisio fframio'r ddadl ynghylch amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys ac eithriadau rhag tramgwydd fel mater o semanteg gyflwyniadol. Mae hwn yn gam bwriadol i dynnu sylw oddi wrth y broblem go iawn—nid yw'r polisi eithrio rhag tramgwydd ei hun yn addas i'r diben. Cymru, fel y dywedwyd wrthym, yw'r unig ran gyfansoddol o'r DU sy'n parhau â'r polisi hwn, ac mae'r polisi yn arwain at ganlyniadau is-optimaidd i staff a chleifion y GIG. Os yw'r cloc yn cael ei stopio wrth gofnodi hyd gofal brys cleifion, am ba reswm bynnag a restrir yn y canllawiau eithrio rhag tramgwydd, nid yw'r polisi'n newid y ffaith eu bod yn parhau i fod mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, gyda goblygiadau hynny i adnoddau a chapasiti. Mae hyn yn peryglu gallu'r gwasanaethau brys i gynllunio a rheoli eu hadnoddau. Ond mynegwyd pryderon ers blynyddoedd lawer am y polisi hwn, ac mae'r Llywodraeth wedi gwrthod gwrando dro ar ôl tro. Felly, i newid cyfeiriad ychydig o'r hyn roedd Russell George yn ei ofyn: beth yw rhesymeg y Gweinidog dros barhau â'r polisi hwn, yn erbyn cyngor datganedig gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio mewn adrannau damweiniau ac achosion brys?
Felly, y meddygon ymgynghorol a'r clinigwyr eu hunain a ofynnodd i ni gyflwyno mecanwaith fel na fyddai'n rhaid iddynt weithio yn erbyn y cloc. Nhw eu hunain oedd eisiau i ni gyflwyno hwnnw. Felly, roeddem yn cydymffurfio â'r hyn y gwnaethant ofyn i ni ei wneud yn ôl yn 2011. Nawr, fel y gwelwch yn y datganiad a gyhoeddais ddoe, rydym wrthi'n ymgysylltu ag arweinwyr clinigol a defnyddwyr gwasanaethau i weld sut y gallwn wella ansawdd y gofal mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac mae hyn yn cynnwys archwilio ffyrdd mwy ystyrlon o fesur profiad a chanlyniadau cleifion.
Dywed y Gweinidog fod y meddygon ymgynghorol a'r clinigwyr yn gofyn yn ôl yn 2010-11 i hyn gael ei gyflwyno, ond ers hynny, mae 82 y cant o glinigwyr wedi dweud eu bod yn gwrthwynebu'r polisi eithrio rhag tramgwydd. Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn glynu wrth y polisi, mewn cyferbyniad â gwledydd eraill y DU, yn awgrymu bod y Llywodraeth yn credu y gall y polisi liniaru amseroedd aros damweiniau ac achosion brys mewn gwirionedd. Ond ers cael ei gyflwyno yn 2011, nid yw hyn wedi digwydd. Ym mis Awst 2011, roedd 8.8 y cant o gleifion Cymru yn aros mwy na phedair awr mewn adrannau brys. Ym mis Awst 2023, sef y mis diweddaraf y mae gennym ddata ar ei gyfer, roedd y ffigur yn 31 y cant. Ym mis Awst 2011, roedd 1.7 y cant o gleifion Cymru yn aros mwy nag wyth awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Ym mis Awst 2023, roedd y ffigur yn 17.4 y cant. Ym mis Ebrill 2013, sef y pwynt cynharaf ar gyfer y data sydd ar gael ar yr amseroedd aros 12 awr, roedd 2.7 y cant yn aros mwy na 12 awr am ofal brys. Ym mis Awst 2023, roedd y ffigur yn 10.9 y cant. Ar bob mesur, felly, mae amseroedd aros damweiniau ac achosion brys wedi gwaethygu ers i'r polisi gael ei gyflwyno dros 10 mlynedd yn ôl. Felly, faint fydd yn rhaid i bethau waethygu cyn i chi gydnabod nad yw'r polisi eithrio rhag tramgwydd yn gwella amseroedd aros damweiniau ac achosion brys, ac a wnaiff y Gweinidog gytuno i gael gwared ar y polisi hwnnw heddiw?
Fe ddywedais yn y datganiad ddoe ein bod eisoes yn archwilio ffyrdd mwy ystyrlon o fesur profiad a chanlyniadau cleifion ac rydym yn hapus i barhau â'r ddeialog gyda'r Coleg Brenhinol ar y mater hwnnw. Ond mae eithriadau rhag tramgwydd yno oherwydd bod clinigwyr yn aml yn dymuno cadw pobl i mewn ar gyfer arsylwi arnynt, er enghraifft, ac nid ydynt am eu gwthio allan drwy'r drws er mwyn cydymffurfio â thargedau pedair awr neu dargedau 12 awr, sef targedau rydym ni wedi'u gosod ar eu cyfer. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod gennym ystod eang o fesurau ar waith i dynnu'r pwysau oddi ar adrannau damweiniau ac achosion brys, gan gynnwys y rhaglen chwe nod, a'r ffaith ein bod wedi cyflwyno canolfannau gofal sylfaenol brys ledled Cymru gyfan, a'r ffaith bod gennym bellach ganolfannau gofal argyfwng yr un diwrnod. A'r ffaith yw bod y pwysau ar adrannau ac achosion brys wedi cynyddu ym mhobman. Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio. Rydym newydd ddod trwy bandemig. Nid yw hyn yn rhywbeth sy'n unigryw i Gymru. Y gwir amdani yw bod y pwysau'n ddwys; bydd yn parhau i fod yn ddwys, a dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r rhaglen chwe nod.
3. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i leihau'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys yn Nwyrain De Cymru? OQ60126
Mae ein rhaglen chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng yn helpu pobl i gael y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf. Rŷn ni wedi darparu £25 miliwn, gan gynnwys £3 miliwn yr un i’r byrddau iechyd, i wella’r gwasanaeth 111 ar-lein, i greu llwybrau iechyd meddwl newydd, sefydlu canolfannau gofal sylfaenol brys a gwasanaethau gofal argyfwng yr un diwrnod.
Diolch am yr ateb yna ac mi fyddwn i'n licio mynd i mewn i ychydig bach o fanylder ar hynny.
Rydym i gyd yn gwybod bod adrannau damweiniau ac achosion brys o dan bwysau anhygoel ledled y wlad ac rydym newydd glywed cwestiynau am hynny gan y ddau lefarydd. Mae hyn yn creu profiad diflas, nid yn unig i gleifion, ond hefyd i staff sy'n gweithio yno. Rwy'n synnu felly o weld bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cynnig lleihau amseroedd agor dwy o'u hunedau mân anafiadau, Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni ac Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach. Yn achos Ysbyty Ystrad Fawr, mae'n cynnig gwneud yn barhaol yr hyn y bwriadwyd iddo fod yn drefniant dros dro i leihau oriau yn ystod COVID. O ystyried bod unedau mân anafiadau yn cael eu gweld yn elfen allweddol mewn strategaeth i leddfu'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys, onid yw'n gam yn ôl, ac a fydd hyn yn gwneud Ysbyty Athrofaol y Faenor yn brofiad hyd yn oed yn hirach ac yn fwy rhwystredig i unrhyw un sy'n ymweld â'u hadran damweiniau ac achosion brys ac yn rhoi mwy o bwysau ar y staff sy'n gweithio yno?
Wel, diolch yn fawr iawn ac mae'n amlwg yn rhywbeth rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd wedi ei ystyried o ddifrif. Ond y ffaith amdani yw, yn enwedig mewn perthynas ag uned mân anafiadau'r Fenni, ar gyfartaledd, roedd un claf yno dros nos. Nawr, yn y sefyllfaoedd hyn o bwysau ariannol, mae'n anodd iawn cyfiawnhau hynny ar sail gwerth am arian. Ac yn sicr dyna un o'r rhesymau pam eu bod wedi cau'r cyfleuster hwnnw, a symud pobl, ac annog pobl i fynd i ysbyty newydd y Faenor, lle rydym wedi buddsoddi'n sylweddol, a byddwn yn gwneud buddsoddiad ychwanegol sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Rydym wedi rhoi £3.5 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol tuag at sefydlu canolfan gofal argyfwng yr un diwrnod, er enghraifft, yn ysbyty'r Faenor.
Weinidog, nid yw'n gyfrinach, ac rydych chi'n gwybod yn well na neb, fod ein gwasanaeth iechyd eisoes o dan bwysau aruthrol, fel y datgelwyd wrth ryddhau'r data yr wythnos hon. Gyda'r gaeaf ar y gorwel, mae'n ymddangos y bydd pethau'n gwaethygu'n fawr. Fe wnaethoch chi grybwyll ysbyty'r Faenor, ac rwy'n mynd i ddatgan hefyd: os defnyddiwn hwnnw fel enghraifft, ni all ymdopi â'r galw fel y mae pethau, fel y gwneuthum ddarganfod drosof fy hun, yn anffodus, pan ymwelais â'r ysbyty gyda fy mam gyda phroblem iechyd ddifrifol ychydig wythnosau yn ôl. Câi cleifion eu gadael i eistedd o gwmpas mewn unrhyw ofod a oedd ar gael am oriau bwy'i gilydd, gyda staff a oedd yn gwneud eu gorau glas o dan amgylchiadau llawn straen—mae'n rhaid i mi roi 10 allan o 10 iddynt—yn cael eu tynnu i bob cyfeiriad heb unrhyw feddyg yn y golwg. Weinidog, nid yw hyn yn dderbyniol i unrhyw ysbyty, ond yn enwedig ysbyty sy'n cael ei ystyried yn un blaenllaw gan y Llywodraeth ac sydd wedi bod ar agor ers llai na thair blynedd. Rwy'n deall mai rhywbeth y gwnaethoch ei etifeddu yw hyn, ond os mai dyma sut mae pethau'n edrych ar hyn o bryd, mae'n gas gennyf feddwl beth sydd ar y gorwel wrth i'r gaeaf ddod ar ein gwarthaf. Rwy'n deall mai'r broblem allweddol i ysbytai yw'r anallu i ryddhau cleifion sy'n mynd i fod angen gofal cymdeithasol. Felly, Weinidog, gwn eich bod wedi sôn am £3.5 miliwn, ond pa arian ychwanegol sydd wedi'i ddarparu i fyrddau iechyd, yn enwedig bwrdd iechyd Aneurin Bevan, i leddfu'r pwysau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys? A pha fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddwyn awdurdodau lleol i gyfrif mewn perthynas â chyflawni eu cyfrifoldebau statudol?
Diolch yn fawr. A diolch, yn gyntaf oll, am gydnabod y gwaith anhygoel y mae staff adrannau brys yn ei wneud. Rwy'n gwybod bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal arolwg yn ddiweddar a ddangosodd fod 86 y cant o bobl yn cytuno bod staff adrannau brys yn eu trin â charedigrwydd a pharch, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni dalu teyrnged i'r bobl hynny, sy'n cefnogi pobl ar y rheng flaen. Rydym yn gwybod bod y system gyfan o dan bwysau anhygoel. Dyna pam mae'r bwrdd iechyd wedi cael £6 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Maent wedi derbyn £3.5 miliwn ar gyfer gwasanaeth ychwanegol gofal argyfwng yr un diwrnod yn y Faenor. A'r hyn sydd wedi digwydd yw bod tua 600 o gleifion y mis, i bob pwrpas, wedi cael eu dargyfeirio o'r adran achosion brys, ac mae tua 75 y cant ohonynt wedi llwyddo i beidio â chael eu derbyn i'r ysbyty. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod hynny. Rydym yn disgwyl cyflwyniad gan y bwrdd iechyd ar ehangu adran frys y Faenor; rydym yn disgwyl i achos cyfiawnhau busnes gael ei gyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.
Ar ôl Brexit ac ar ôl COVID, mae galw iechyd, fel y gŵyr y Gweinidog, wedi cynyddu ledled y DU a Chymru. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cynnwys yr ardaloedd mwyaf dwys o ran afiechyd diwydiannol, hen ardal Amcan 1, ac wrth gwrs angen graddfaol Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Felly, mae'r bwrdd iechyd wedi dweud:
'Fel pob Bwrdd Iechyd arall yng Nghymru, rydym yn wynebu'r her ariannol fwyaf a brofasom erioed ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud arbedion effeithlonrwydd heb beryglu diogelwch cleifion a chymunedau.'
Felly, Weinidog, nid oes amheuaeth mai un ffactor sy'n effeithio ar bwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys yw cleifion sy'n defnyddio adrannau damweiniau ac achosion brys fel y man galw cyntaf, ac mae'r £6 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu, fel y nodwyd, fel y mae'r uned gofal argyfwng yr un diwrnod newydd gwerth miliynau o bunnoedd. Felly, fy nghwestiwn i yw: pa ddeialog y mae Llywodraeth Cymru yn ei chael gydag ymarferwyr cyffredinol, felly, a'n fferyllfeydd a'r bwrdd iechyd ei hun, i sicrhau bod y model gweithio cydlynol yn cael ei gyfleu'n gyson i gleifion a fy etholwyr?
Diolch yn fawr iawn, Rhianon. Rydych yn llygad eich lle i dynnu sylw at y ffaith ein bod mewn sefyllfa anodd iawn yn ariannol ar hyn o bryd, felly mae'n rhaid inni wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd gennym, mae'n rhaid inni geisio osgoi cael pobl yn defnyddio'r adrannau brys fel eu man galw cyntaf. A dyna pam ein bod wedi cael rhaglen gynhwysfawr Helpwch Ni i'ch Helpu Chi—bydd yna raglen gyfathrebu newydd yn mynd allan yn fuan iawn—fel bod pobl yn ymwybodol o'r dewisiadau amgen. Mae'r gwasanaeth 111—mae niferoedd y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth 111 yn eithaf anhygoel yn fy marn i: mae tua 71,000 o bobl yn defnyddio hwnnw, 399,000 o ymweliadau â'r wefan. Felly, mae honno'n enghraifft o ble gallai llawer o bobl fod wedi bod yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ac nad ydynt yn gwneud hynny bellach, ond dim ond tua 15 y cant sy'n cael eu dargyfeirio o 111 a'u hanfon i adrannau damweiniau ac achosion brys mewn gwirionedd.
Mae gennym system fferylliaeth gymunedol gynhwysfawr iawn ar waith nawr hefyd, sy'n wahanol iawn ac yn llawer mwy datblygedig nag yn Lloegr, ac wrth gwrs, mae llawer o'r rheini bellach yn gallu presgripsiynu. Fel y dywedais, mae gennym y gwasanaeth argyfwng yr un diwrnod, ac mae gennym hefyd y gwasanaethau gofal sylfaenol brys. Felly, mae'r rheini i gyd wedi dod yn weithredol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae hynny i gyd yn tynnu pwysau oddi ar y gwasanaeth. Ac rwy'n dychmygu sut y gallai'r gwasanaeth fod wedi edrych pe na baem wedi rhoi'r mesurau hynny ar waith.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oruchwyliaeth reoleiddiol iechyd a gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru? OQ60127
Mae Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn cyfuno nifer o ofynion rheoleiddio o ran hyrwyddo a darparu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Rhaid i holl gyrff y gwasanaeth iechyd hefyd weithredu o fewn y fframwaith deddfwriaethol ehangach sy’n llywodraethu holl sefydliadau’r Deyrnas Unedig. Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 sy’n llywodraethu gofal cymdeithasol.
Diolch, Weinidog. Rwyf am dynnu eich sylw at sut mae teulu, wrth alaru yn sgil colli eu tad, wedi cael brwydr luddedig bellach i ddeall pam y dirywiodd mor gyflym pan oedd mewn gofal. Roedd gan Colin ddementia ac roedd yn cael gofal un i un. Roedd yn hapus, roedd ei deulu'n ceisio trefnu pecyn gofal i'w gael adref, ond yn hytrach, cafodd ei drosglwyddo i gartref gofal arall a daeth y gofal un i un i ben. Nawr, o fewn wyth diwrnod yn unig i gyrraedd y cartref gofal newydd, dirywiodd ei gyflwr nes y daethpwyd o hyd iddo'n anymwybodol. Rhoddwyd naloxone iddo, cyffur sy'n cael ei ddarparu ar gyfer trin gorddosau o opiadau ac fe wellodd yn gyflym. Fodd bynnag, nid oedd yr un o feddyginiaethau presgripsiwn Colin yn cynnwys opiadau. Nawr, rhaid gofyn y cwestiwn sut yr aeth opiadau i mewn i'w system. Ac mae'r teulu wedi ceisio cael atebion gan y bwrdd iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol, a'r cartref gofal. Maent wedi cael eu gwrthod gan Arolygiaeth Gofal Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'r ombwdsmon, am nad yw ymchwilio i achosion unigol yn rhan o'u cylch gorchwyl. Mae pob drws ar gau i deulu sydd eisiau herio'r hyn a ddigwyddodd i'w tad. Nid oes unrhyw atebolrwydd na ffocws ar y claf. Felly, Weinidog, a allech chi ddweud wrthyf lle dylai teuluoedd fel un Colin fynd i gael atebolrwydd ac atebion gan y rhai sydd ynghlwm wrth y mater?
Diolch yn fawr. Rwy'n meddwl—. Edrychwch, ni allaf wneud sylw ar achos unigol wrth gwrs, ond os oes bwlch yn y system, mae'n amlwg fod angen inni edrych ar hynny. Yn amlwg, Gofal Cymdeithasol Cymru yw rheoleiddiwr y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, ond efallai na fydd hyn o fewn eu cylch gwaith. Mae Archwilio Cymru yn llwybr arall y gallent ei ddilyn, ond mae hynny'n ymwneud mwy â'r sector cyhoeddus o bosibl. Felly, os gallwch ysgrifennu ataf am hynny, ac fe wnawn sicrhau o leiaf fod yna ddealltwriaeth o ba system y dylent ei dilyn.
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol nad yw rheoleiddwyr ond cystal â'r data a'r adroddiadau sydd ar gael iddynt. Ac fe fyddwch hefyd yn ymwybodol mai un o'r materion sylweddol a nodwyd mewn gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru yn ddiweddar oedd cywirdeb a thryloywder data ac adrodd hyd at lefel y bwrdd, yn sicr roedd gwneud penderfyniadau a darparu sicrwydd yn heriol iawn. Roedd enghraifft ddiweddar o hyn i'w gweld yn yr ymchwiliad twyll gwerth £122 miliwn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac rydym wedi clywed eto heddiw am lefel o ddryswch, fan lleiaf, o ran adrodd data adrannau brys. Felly, gan fynd yn ôl i'r pwynt nad yw rheoleiddwyr ond cystal â'r data a'r adroddiadau sydd ar gael iddynt, a ydych chi'n hyderus fod rheoleiddwyr yma yng Nghymru yn derbyn ac yn gweithio gyda data sy'n gywir?
Diolch yn fawr. Wel, edrychwch, mae'n rhaid inni ddibynnu ar gywirdeb y data. Rydym yn cael y data hwnnw gan y byrddau iechyd; mae'n rhaid iddynt ddilyn canllawiau sydd wedi'u gosod ar eu cyfer. Yn amlwg, os nad ydynt yn gwneud hynny, mae yna ganlyniadau i hynny. Felly, yr hyn sy'n bwysig yw bod y canlyniadau hynny'n cael eu dilyn, fel y maent ar hyn o bryd yn Betsi Cadwaladr. Felly, mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud i sicrhau nad oes sefyllfa o'r fath yn codi eto.
Edrychwch, unwaith eto, rwy'n anhapus ynglŷn â'r Ceidwadwyr sy'n ceisio cymylu'r dyfroedd ynghylch cywirdeb y data a roddwyd i ni gan fyrddau iechyd mewn perthynas ag adrannau brys. Rydym yn glir iawn mai dyna'r sicrwydd y dylem ei gael gan y byrddau iechyd. Ac fel y dywedais, gall dadansoddwyr data annibynnol ddod i mewn a sicrhau bod cywirdeb y data hwnnw'n gallu gwrthsefyll craffu.
5. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r prinder parhaus o feddyginiaeth ADHD? OQ60125
Disgwylir i'r tarfu presennol ar y cyflenwad o feddyginiaethau anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) gael ei ddatrys rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023. Mae'r llythyr prinder meddyginiaethau a gyhoeddwyd ar 27 Medi yn nodi'r camau a argymhellir i weithwyr iechyd proffesiynol i gefnogi gofal cleifion hyd nes y caiff y problemau presennol gyda'r cyflenwad eu datrys.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Fel y dywedoch chi, mae'r prinder wedi effeithio ar y DU yn arbennig o galed hefyd mae'n debyg, yn enwedig gydag Elvanse. Mae gan Takeda fonopoli bron yn y farchnad yn y sector hwn, heb fod unrhyw ffurfiau generig ar y cyffur ar gael ar y farchnad, a dyna pam mae hyn yn achosi cymaint o ofid i lawer o bobl ledled Cymru. Ac fel y gwyddom, mae cymdeithasau anhwylder diffyg canolbwyntio yn dweud bod ADHD heb ei drin yn gwneud canolbwyntio, cofio manylion a rheoli mympwyon yn anos, ac mae ADHD UK yn datgan y bydd un o bob 10 dyn neu fachgen ag ADHD ac un o bob pedair menyw neu ferch ag ADHD, ar ryw adeg, yn ceisio cyflawni hunanladdiad. Ac eto, rwy'n deall nad oes llawer iawn o gefnogaeth iddynt ar hyn o bryd wrth iddynt gael eu rhoi ar ddosau llai i'w cynnal drwy'r prinder. Ond fy mhrif gwestiwn yw hwn, Weinidog: gan fod y patent i Takeda UK wneud Elvanse wedi dod i ben ar 24 Chwefror eleni, a fyddai'n werth i Lywodraeth Cymru archwilio'r posibilrwydd o ddod o hyd i gyllid i gefnogi Elvanse i gael ei gynhyrchu yma yng Nghymru fel nad oes raid i ni fod yn ddibynnol fel hyn eto ac fel nad oes raid i bobl Cymru fynd yn brin o'u meddyginiaeth ADHD eto? Diolch.
Wel, diolch yn fawr iawn i Sarah Murphy am dynnu sylw pawb at yr effaith y mae hyn yn ei chael ar bobl, ac rwy'n gwybod ei bod yn sefyllfa hynod ddifrifol iddynt. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y cyflenwad o feddyginiaethau yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, nid Llywodraeth Cymru, ac ni fyddwn yn camu i'r gofod hwnnw. Eu cyfrifoldeb nhw yw hyn a chredwn ei bod yn iawn ei fod yn parhau felly. Yr hyn rwy'n ei wybod yw bod yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ychwanegu holl feddyginiaethau ADHD at y rhestr o feddyginiaethau na ellir eu hallforio, ac mae hynny'n golygu y byddant yn blaenoriaethu cyflenwadau sydd ar gael ar gyfer marchnad y DU.
Weinidog, yn anffodus mae prinder meddyginiaeth yn digwydd o bryd i'w gilydd. Y tro hwn mae'n ganlyniad i fwy o alw byd-eang yn ogystal â materion gweithgynhyrchu. Disgwylir i brinder cyflenwadau gael eu datrys o fewn wythnosau neu fisoedd, fel y dywedoch chi. Fodd bynnag, nid yw hyn o fawr o gysur i gleifion, fel y dywedodd Sarah, yn enwedig y rhai sy'n cael guanfacine ar bresgripsiwn, cyffur na ellir rhoi'r gorau i'w ddefnyddio'n sydyn. Mae hynny'n bwysig gyda'r cyffur hwnnw. Weinidog, gan fod meddygon teulu a gwasanaethau ADHD yn cael eu cyfarwyddo i beidio â dechrau cleifion newydd ar feddyginiaeth, sut y bydd hyn yn cael ei reoli i sicrhau bod cleifion ADHD yn cael y driniaeth briodol cyn gynted â phosibl?
Diolch yn fawr. Wel, rwy'n siŵr y byddwch yn falch o glywed fy mod wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn heddiw. Rydych chi'n hollol gywir i ddweud mai'r hyn sy'n codi yma yw cynnydd yn y galw byd-eang. Dyna beth sy'n digwydd yma, a'r canlyniad yw bod y galw yn fwy na gallu'r gwneuthurwr i gynhyrchu meddyginiaeth benodol. Weithiau mae yna darfu ar y cyflenwad o ddeunyddiau crai a phroblemau a wynebir yn ystod y broses weithgynhyrchu. Rwy'n credu y bydd yn bwysig i glinigwyr wneud penderfyniadau ynglŷn â phryd mae'n briodol a sut mae'n briodol, ond maent wedi cael arweiniad ar yr hyn y dylent ei roi ar bresgripsiwn gan y tîm fferyllol yn Llywodraeth Cymru.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi hosbisau yng Ngorllewin De Cymru? OQ60124
Mae cymryd camau i gefnogi hosbisau yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ac yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Rydym wedi cyflawni cam 1 yr ymrwymiad hwnnw, gan ddarparu £2.2 miliwn ychwanegol i hosbisau ar sail reolaidd o fis Ebrill 2022. Rydym bellach ar drydydd cam yr ymrwymiad hwnnw.
Diolch yn fawr am yr ateb, Weinidog. Rydym yn gwybod am y gwaith anhygoel y mae hosbisau'n ei wneud ledled Cymru i ddarparu cysur, urddas a gofal o ansawdd gwirioneddol, ac rwyf am gofnodi fy niolch i'r rhai sy'n gysylltiedig â'r sector hosbis, ac i Mark Isherwood hefyd am ei waith yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol. Maent hefyd yn cymryd llawer iawn o bwysau oddi ar ein GIG, a fyddai fel arall dan fwy fyth o bwysau, gan ganiatáu i feddygon a nyrsys o fewn y gwasanaeth iechyd neilltuo mwy o amser i ofalu am eu cleifion. Fodd bynnag, ar ôl cyfarfod â darparwyr hosbis yr wythnos diwethaf yma yn y Senedd, fe wnaethant fy hysbysu nad ydynt yn derbyn yr arian cydradd â'r GIG sydd ei angen arnynt i recriwtio a chadw digon o staff yn y sector. Mae'n arbennig o bryderus oherwydd, yn dilyn y pandemig, nid yw gweithgaredd codi arian ymhlith gwirfoddolwyr wedi gwella i lefelau cyn y pandemig, gan roi hyd yn oed mwy o straen ar hosbisau i ddarparu'r gwasanaethau y mae cymaint o bobl yn dibynnu arnynt. Felly, wrth edrych ymlaen at boblogaeth oedrannus sy'n cynyddu a phoblogaeth oedran gweithio trethadwy sy'n crebachu, yn enwedig yma yng Nghymru, gwaethygu fydd y pwysau hyn, a bydd yn gwaethygu fwyfwy dros y degawdau i ddod oni bai bod gweithredu'n digwydd o ddifrif. Felly, Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r sector gofal hosbis i sicrhau bod ganddynt yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu gwaith hanfodol?
Diolch yn fawr. Wel, fe fyddwch chi'n ymwybodol iawn o'r pwysau ariannol y clywsoch amdano ddoe, ac yn amlwg, mae hynny wedi'i achosi'n rhannol gan chwyddiant, yn rhannol gan y drychineb a achoswyd i ni i gyd gan Liz Truss. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod bod llawer o bwysau ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes. Rydym yn buddsoddi £10.5 miliwn y flwyddyn mewn gofal lliniarol, ac rydym wedi darparu £2.2 miliwn ychwanegol yn ddiweddar. Ac yn amlwg, rydym bellach yn gweithio tuag at drydydd cam yr ymrwymiad i adolygu'r sefyllfa. Ac wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi dyrannu £13.8 miliwn o gyllid brys yn ystod y pandemig. Mae pawb dan bwysau o ganlyniad i chwyddiant. Siaradais â rhai o'r bobl a oedd yn y Senedd yr wythnos diwethaf, yn ymwybodol iawn o'r pwysau sydd arnynt. Fe fyddwch yn gwybod nad ydym mewn sefyllfa ar hyn o bryd i ddosbarthu arian ychwanegol; rydym mewn sefyllfa lle rydym yn edrych ar bob ceiniog a wariwn. Felly, mae hynny'n mynd i fod yn heriol iawn i ni, ond rwy'n falch iawn mai'r hyn sy'n digwydd yw bod Dr Idris Baker yn arwain ein hasesiad o ofal diwedd oes, ac arhoswn i glywed beth mae'n ei ystyried o ran cynigion.
Mae Hosbis Tŷ Olwen wedi'i leoli yn Nwyrain Abertawe tua milltir o ble rwy'n byw. Mae'r tîm gofal lliniarol arbenigol yn Nhŷ Olwen yn darparu gwasanaeth i ysbytai Singleton, Treforys, Castell-nedd Port Talbot ac ysbytai cymunedol mwy pellennig. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth cymunedol i bobl Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ac rwyf fi a fy etholwyr yn ddiolchgar iawn amdano. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch a diolch i'r gwirfoddolwyr sy'n rhan annatod o'r gwaith yn Nhŷ Olwen, ac ar ei hymweliad nesaf ag Ysbyty Treforys, a wnaiff hi drefnu i ymweld â Thŷ Olwen?
Diolch yn fawr iawn, Mike, ac yn sicr, rwy'n gwybod ei bod hi'n Wythnos Gofal Hosbis yr wythnos diwethaf, ac rwy'n credu bod hwnnw'n amser da iawn i bobl ddiolch i'r gweithlu ac i ddathlu'r gwaith anhygoel a'r gwaith anodd sy'n cael ei wneud mewn gofal hosbis. Rwy'n gwybod o lygad y ffynnon, o siarad â theuluoedd a gofalwyr, am bwysigrwydd cael y cymorth cywir gan staff a gwirfoddolwyr hosbis yng Nghymru. Gwyddom y gall gofal lliniarol da wneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd cleifion ar ddiwedd eu hoes, ac mae eu helpu i farw gydag urddas yn bwysig. Felly, rwy'n hapus i ystyried ymweliad â Thŷ Olwen wrth gwrs, os yw fy ymrwymiadau dyddiadur yn caniatáu i hynny ddigwydd.
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cleifion strôc? OQ60098
Mae llawer iawn o waith eisoes yn cael ei wneud ledled Cymru i wella mynediad at wasanaethau strôc a chanlyniadau i bobl yn dilyn strôc. Mae hyn yn cael ei arwain gan y disgwyliadau a nodir yn ein datganiad ansawdd ar strôc.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw y prynhawn yma a hefyd yr atebion i rai o fy nghwestiynau ysgrifenedig ar strôc yr wythnos hon? Fe fyddwch yn gwybod, Weinidog, fod yr ychydig oriau cyntaf yn hanfodol ar ôl i glaf ddioddef strôc, ac yn ddiweddar fe wneuthum gyfarfod ag etholwr i mi, Peter Hooper, a oedd wedi cael thrombectomi o fewn tair awr yn dilyn strôc. Gwnaeth cyflymder y feddygaeth frys hon wahaniaeth enfawr i fywyd Peter. Mae bellach wedi mynd ymlaen i redeg dau hanner marathon. Heb y thrombectomi yn y tair awr hynny, byddai wedi bod ag anabledd difrifol iawn. Felly, mae wedi mynd ymlaen i godi arian drwy'r hanner marathonau hynny, ond mae cymaint o gleifion yn cael eu hamddifadu o'r driniaeth bwysig hon. Gallent fod yn cerdded allan o'r ysbyty, ond yn lle hynny cânt eu hanablu neu, yn anffodus ac yn drist iawn, maent yn marw oherwydd diffyg gwasanaeth a mynediad at y weithdrefn achub bywyd hon. Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am atebion mewn ymateb i fy nghwestiynau ysgrifenedig, sy'n nodi'n fanwl yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar wasanaethau strôc, ond beth arall y gallwch ei wneud i sicrhau mynediad cyflym at y llawdriniaeth hon sy'n achub bywydau, thrombectomi?
Diolch yn fawr iawn, ac mae'n dda clywed am yr adferiad anhygoel. Cefais gyflwyniad anhygoel yr wythnos diwethaf gan ein harweinwyr strôc ar draws Cymru. Mae rhaglen waith wirioneddol gynhwysfawr yn cael ei gwneud. Nid yw'n mynd i fod yn weithredol dros nos, ond mae yna gynllun. Mae thrombectomi yn gwbl ganolog i'r cynllun hwnnw, ac mae datblygu canolfannau rhanbarthol yn bwysig i'r cynllun hwnnw. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod bod hwn yn faes arbenigol a medrus iawn. Nid yw'n mynd i fod ar gael ar bob cornel stryd yng Nghymru. Bydd yn rhaid i chi gael pobl sy'n gwybod yn iawn sut i wneud hyn; mae'n rhaid i ni wella sgiliau pobl. Ond mae'n newid bywyd yn llwyr, nid yn unig o ran ansawdd eu bywyd, ond hefyd o ran y costau i'w teuluoedd, a'r costau i'r gymdeithas ehangach, sy'n hollol enfawr. Yr wythnos diwethaf, nodais rai o'r costau rhagamcanol ar gyfer rhywbeth fel cynnydd o 40 y cant yn nifer y bobl y mae disgwyl iddynt oroesi strôc yn y dyfodol. Felly, mae eu cael i oroesi'n dda yn gwbl allweddol, a hoffwn ddiolch i chi am eich diddordeb gwirioneddol yn y maes hwn.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol meddygfa Waunfawr yn Arfon? OQ60097
Dwi'n ymwybodol o gynigion ar gyfer meddygfa newydd yn Waunfawr, a'r trafod sy'n digwydd rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru, y bwrdd iechyd a'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol i sicrhau ateb integredig ar gyfer Waunfawr.
Mi gefais i gyfarfod efo meddygon a staff meddygfa Waunfawr i drafod yr oedi efo datblygu’r feddygfa newydd. Maen nhw, fel fi, yn siomedig iawn nad oes unrhyw gynnydd efo’r cynllun hwn, sydd, fel y gwyddoch chi, ar y gweill ers blynyddoedd. Roedd o’n un o’r materion cyntaf i mi ymdrin ag o fel Aelod o’r Senedd newydd yn 2016, ac eto, mynd yn waeth yn lle gwella mae’r sefyllfa. Mae’r feddygfa bresennol, sydd â 6,000 o gleifion, mewn cyflwr gwael ac angen ei hadnewyddu. Mae’r feddygfa’n gwbl annigonol ar gyfer cynnal yr holl wasanaethau sydd ar gael, ac yn aml mae’n rhaid cynnal clinigau yn y gegin neu’r cyntedd oherwydd diffyg gofod, ac mae yna brinder gofod hefyd yn amharu ar allu’r feddygfa i dderbyn myfyrwyr meddygaeth o ysgol feddygol Bangor ar gyfer hyfforddiant. Felly, beth fedrwch chi fel Llywodraeth ei wneud i gefnogi datblygu cynllun hirdymor, ond hefyd i ymateb i sefyllfa sydd wedi gwaethygu dros dro ym meddygfa Waunfawr? Dwi wir yn pryderu am ddyfodol y practis ac, felly, am ofal cleifion ar draws ardal eang.
Wel, diolch yn fawr. Rŷch chi’n ymwybodol bod ymrwymiad yn ein rhaglen llywodraethu i fuddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o adeiladau iechyd a gofal cymdeithasol integredig, ac mae hwn yn cael ei gefnogi gan yr integration and rebalancing capital fund, yr IRCF. Dwi’n gwybod bod y bwrdd iechyd nawr yn gweithio gyda’r bartneriaeth yna yn adolygu'r cynnig a ddaeth o'u blaen nhw, ac maen nhw'n trial ailgyflwyno hwnna i’r panel. Bydd y panel nesaf yn cwrdd ym mis Rhagfyr, felly gobeithio, trwy gydweithredu gwell gyda’r bartneriaeth leol, y bydd hi’n haws i’r bwrdd iechyd dderbyn ac i’r IRCF dderbyn yr hyn a fydd yn dod o’u blaenau nhw. Ond beth sy’n bwysig, dwi’n meddwl, yw pwysleisio elfennau integreiddio’r cynllun, a dwi’n meddwl roedd angen sicrhau bod hwnna’n cael ei gryfhau yn yr hyn ddaeth o flaen y bwrdd sydd yn penderfynu.
9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â therfynu'r arfer o godi llog ar gostau gofal perthynas, yn enwedig ar ôl marwolaeth y berthynas? OQ60095
Gall awdurdodau lleol godi llog ar daliadau gofal cymdeithasol mewn amgylchiadau cyfyngedig, gan gynnwys cytundebau taliadau gohiriedig ar eiddo unigolion mewn gofal preswyl, ac mewn perthynas ag ad-daliadau heb eu talu wedi iddynt farw. Mae'n iawn fod awdurdodau, sy'n gwneud taliadau o'r fath yn ystod oes unigolyn, yn cael codi llog priodol.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Tynnwyd fy sylw at y mater hwn gan etholwr sydd wedi bod yn gohebu â mi ers ychydig fisoedd. Sicrhawyd ei theulu y byddai ffioedd gofal ei mam-gu yn cael eu talu drwy bensiwn ei mam-gu a bod yr awdurdod lleol yn cyfrannu swm ychwanegol. Nid oedd y teulu yn cael gofalu am eu mam-gu ac fe gafodd ei symud o ofal y GIG i gartref gofal preifat. Maent yn wynebu ffioedd gofal o dros £100,000 nawr. Ar ben hynny, mae'r cyngor bellach yn codi llog ar y ffioedd hynny. Mae'n teimlo'n hollol anghywir, Ddirprwy Weinidog. A allwch chi gyfiawnhau'r rhesymeg dros yr arfer hwn, sy'n effeithio ar y rhai mwyaf agored i niwed, y bobl dlotaf a'r rhai sy'n galaru yn ein cymdeithas? Diolch yn fawr.
Wel diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Rhys ab Owen. O dan ddeddfwriaeth, mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i godi llog ar dâl gofal cymdeithasol mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig. Rhaid gosod y gyfradd llog yn unol â gofynion cyfreithiol a gall gronni tan bod y ddyled yn cael ei had-dalu, a allai fod yn dilyn marwolaeth rhywun.
Mae amgylchiadau cyfyngedig eraill lle mae awdurdod lleol yn adennill dyled am gostau gofal sy'n ddyledus, a lle gellir codi llog hefyd, wedi eu gosod mewn deddfwriaeth. Felly, mae'n gyfreithiol i wneud hyn. Ac mae gallu awdurdodau lleol i adennill llog mewn rhai sefyllfaoedd lle maent, er enghraifft, wedi talu swm llawn taliadau gofal cymdeithasol unigolyn yn ystod eu hoes yn rhan bwysig o'r fframwaith codi tâl, ac nid oes gennyf unrhyw gynlluniau ar unwaith i newid hyn. Mae'r cod ymarfer yn glir fod codi llog yn digwydd er mwyn caniatáu i bethau fel cytundebau taliadau gohiriedig weithredu ar sail niwtral o ran cost, gan gynnwys talu am bethau fel gweinyddu'r cytundeb.
Felly, mae'n ddrwg iawn gennyf am y sefyllfa y mae eich etholwr ynddi, ond mae'n amlwg fod hyn yn beth cyfreithiol y gellir ei wneud, ac nid wyf yn credu bod gennym unrhyw gynlluniau i'w newid.
Yn olaf, cwestiwn 10. Huw Irranca-Davies.
10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ganolfan diagnosteg a thriniaeth newydd sydd wedi'i chynllunio ar gyfer parc iechyd Llantrisant? OQ60088
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a'i bartneriaid rhanbarthol yn datblygu'r achos busnes ar gyfer parc iechyd Llantrisant. Y dyddiad cyfredol ar gyfer y gwaith adeiladu yw 2025, gyda'r holl bartïon yn edrych ar sut y gellir dod â hyn ymlaen. Ochr yn ochr â hyn, mae cynlluniau'n cael eu datblygu i ddarparu capasiti diagnostig dros dro ar y safle erbyn mis Ebrill 2024.
Weinidog, fe fyddwch yn falch o wybod fy mod i a sawl Aelod lleol a rhanbarthol arall o'r Senedd wedi cael cipolwg ar y datblygiad hwn yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae'n rhaid imi ddweud, mae'n gyffrous iawn oherwydd wrth i hyn ddod i fodolaeth dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, maent yn dod ag arbenigwyr, ymgynghorwyr a'u timau ehangach ynghyd mewn un uned i wneud gwaith diagnostig a thriniaeth a fydd yn bendant yn cael effaith ar amseroedd aros a rhestrau aros.
Ond nid oes rhaid inni aros am hynny. Rwy'n credu bod datblygiadau arloesol eraill yn digwydd. Ac a gaf fi ofyn i'r Gweinidog a yw wedi gweld canlyniadau'r llawfeddyg orthopedig Keshav Singhal a'i dîm yn Ysbyty Tywysoges Cymru, lle maent yn gwneud llawdriniaethau dydd ac yna'n cael pobl adref yn llawer cyflymach, heb ddefnyddio gwelyau cleifion mewnol? Cleifion iach yn mynd adref lle maent eisiau bod, ond hefyd yn adfer yn gynt wedyn ac yn dod yn ôl ar eu traed yn llythrennol, ac felly'n osgoi problemau eraill fel thrombosis gwythiennau dwfn neu golli symudedd.
Gallwn wneud rhai o'r pethau hyn nawr, y datblygiadau arloesol hyn, yn ein strwythur presennol. Sut mae cyflwyno'r rhain ymhellach ar draws ysbytai ledled Cymru?
Diolch yn fawr iawn, Huw. Ac rwy'n gwybod, rwyf wedi clywed bod llawer ohonoch wedi cael cipolwg bach ac rwy'n edrych ymlaen at gael cipolwg fy hun. Felly, y peth gwych am hyn yw ei fod yn cael ei arwain i raddau helaeth gan y timau clinigol ac mae hwn yn ddull rhanbarthol i raddau helaeth o ymdrin â diagnosteg yn y dyfodol, sy'n sylfaenol i gynifer o bethau, ond yn enwedig canser. Ac rwy'n poeni'n fawr am ganser, a sut rydym yn datblygu hynny, oherwydd mae nifer y bobl rydym yn eu hatgyfeirio at ddiagnosteg canser yn cynyddu'n sylweddol. Felly, mae datblygu'r tair canolfan ranbarthol, gyda'r gyntaf yn Llantrisant, yn bwysig iawn ac yn arwyddocaol iawn.
Mae Kesh yn gwneud gwaith anhygoel, yn enwedig mewn perthynas ag orthopedeg. Mae angen inni weld cynnydd sylweddol yn nifer y llawdriniaethau dydd a welwn, yn enwedig mewn perthynas ag orthopedeg. Fe wyddom mai dull 'ei wneud yn iawn y tro cyntaf' yw'r ffordd y dylem ac y gallem wella cynhyrchiant. Mae ffordd bell i fynd i wella cynhyrchiant mewn perthynas ag orthopedeg yn enwedig, ac os edrychwch ar nifer yr achosion dydd, mae cyfleoedd gwirioneddol i gynyddu hynny. Rwy'n credu bod 'ei wneud yn iawn y tro cyntaf' yn awgrymu y gallai olygu hyd at 70 y cant; rydym ymhell o hynny yng Nghymru ar hyn o bryd. Rwy'n gwybod bod pethau'n gwella. Rydym yn falch iawn o weld gweddnewidiad llwyr yn Abergele, er enghraifft, yn y ffordd y mae pethau'n digwydd yno. Ond mae angen inni weld hynny'n ymsefydlu ac yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru gyfan.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiwn amserol. Mae'r cwestiwn heddiw i'w ateb gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ac i'w ofyn gan Sam Rowlands.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gydag arweinydd Cyngor Sir Ddinbych yn dilyn ei rybudd fod y cyngor yn wynebu methdaliad oni bai bod gwasanaethau a swyddi yn cael eu torri? TQ882
Rwy'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i ddeall y pwysau sy'n eu hwynebu. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr, yn unigol a thrwy grwpiau perthnasol fel y cyngor partneriaeth a'r is-grŵp cyllid. Rwy'n cyfarfod ag arweinydd Cyngor Sir Ddinbych yfory a'r is-grŵp cyllid ar 25 Hydref.
Diolch am eich ymateb cychwynnol, Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod, Weinidog, fod cynghorau a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu ymhlith y pethau pwysicaf yn ein cymunedau, o ysgolion a gofal cymdeithasol i wagio biniau a llenwi tyllau mewn ffyrdd. Felly, yn amlwg, mae'n peri pryder mawr i drigolion, staff a chynghorwyr a etholwyd yn lleol pan fydd arweinydd eu cyngor yn dweud,
'Prif flaenoriaeth y cabinet ar hyn o bryd yw atal y cyngor rhag methdaliad,'
oherwydd, wrth gwrs, mae'n ceisio llenwi diffyg o £26 miliwn.
Felly, mae gennyf nifer o gwestiynau yr hoffwn i chi eu hateb y prynhawn yma, os gwelwch yn dda, Weinidog. Y cyntaf yw: a yw'r datganiad hwn yn syndod i chi? Os na, beth rydych chi wedi bod yn ei wneud i sicrhau bod y cyngor yn cael ei gefnogi'n briodol? Os yw'n syndod, a ydych chi'n hyderus fod gennych y systemau adrodd cywir ar waith i ganfod y pryderon hyn?
Yr ail gwestiwn yw: datgelwyd y sefyllfa hon o fethdaliad posibl trwy lythyr preifat a ddaeth i sylw'r wasg. Nawr, mae aelodau'r gwrthbleidiau wedi mynegi pryderon fod diffyg tryloywder ac agwedd agored ynghylch cyllideb sir Ddinbych. A ydych yn rhannu'r un pryderon?
Y cwestiwn terfynol, Weinidog, yw fy mod wedi cyfeirio yn y Siambr hon sawl gwaith at yr angen am adolygiad annibynnol o'r fformiwla gyllido, oherwydd er bod gennym Gyngor Sir Ddinbych ar fin wynebu methdaliad, fe wyddom fod gan leoedd fel Rhondda Cynon Taf, Caerdydd a sir Gaerfyrddin gannoedd o filiynau o bunnoedd wedi'u cadw mewn cronfeydd wrth gefn. Felly, a wnewch chi dderbyn heddiw, o ganlyniad i arweinydd Llafur un o gynghorau gogledd Cymru, fod angen adolygu'r fformiwla gyllido hon yn annibynnol i sicrhau nad yw cynghorau yn y sefyllfa hon yn y dyfodol?
Wel, os caf sicrhau'r Aelod a'r bobl sy'n byw yn sir Ddinbych, a phob cyd-Aelod yn y Siambr, rwyf wedi cael sicrwydd gan arweinydd y cyngor heddiw y bydd sir Ddinbych yn cyflwyno cyllideb wedi'i mantoli. Yn y bôn, yr hyn y mae'r cyfathrebiad y cyfeirir ato yn ei wneud yw amlygu'r pwysau difrifol sydd ar lywodraeth leol a'r penderfyniadau anodd y bydd yn rhaid iddynt eu gwneud er mwyn mantoli'r gyllideb. Nid yw hynny'n wahanol yn sir Ddinbych; dyna'r pwysau sy'n cael ei brofi ar draws llywodraeth leol.
Wrth gwrs, nid oes rhaid i hyn fod felly. Nid oes angen gwneud penderfyniadau anodd, fel y rhai y clywsom amdanynt. Gellir osgoi hyn i gyd. Gall Llywodraeth y DU, ar 22 Tachwedd, yn natganiad yr hydref, fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a darparu'r cyllid i Lywodraeth Cymru sydd angen i ni ei ddarparu i lywodraeth leol. Nid yw Llywodraeth y DU yn gyfaill i lywodraeth leol, rydym yn gwybod hynny, ond rydym ni'n gweithio'n galed iawn gyda llywodraeth leol i ddeall y pwysau arnynt.
Felly, ar y cwestiwn am y mecanweithiau adrodd sydd gennym, rydym yn gweithio'n gyson, ac mae fy swyddogion mewn cysylltiad cyson â'r trysoryddion ar draws llywodraeth leol yma yng Nghymru, ac rydym yn deall y pwysau. Rydym yn cael adroddiadau rheolaidd; mae gennym gyfarfod is-grŵp cyllid yr wythnos nesaf, lle byddwn yn trafod papur arall sy'n edrych yn fanwl ar y pwysau y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu yma yng Nghymru. Ond gellir osgoi hynny, gall Llywodraeth y DU weithredu ar 22 Tachwedd, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn ymuno â ni i bwyso ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus pan fydd yn cael cyfle i wneud hynny.
Rydym wedi gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi llywodraeth leol. Fe fyddwch i gyd yn ymwybodol fod y cynnydd i'r setliad llywodraeth leol eleni yn 7.9 y cant. Roedd hwnnw'n setliad hael a dyna'n sicr oedd y pellaf y gallem fynd. Diogelodd y Llywodraeth hon y grant cynnal refeniw pan wnaethom gyflawni'r ymarfer poenus iawn ar ailflaenoriaethu cyllid ar draws y Llywodraeth—eto, gan gydnabod y gwasanaethau pwysig y clywsom amdanynt: ysgolion, casglu gwastraff, gwasanaethau cymdeithasol. Felly, bydd y Llywodraeth hon yn gwneud popeth yn ei gallu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus, ond yn amlwg mae angen cefnogaeth Llywodraeth y DU arni i roi'r cyllid i ni allu gwneud hynny.
Gadewch inni fod yn glir beth mae arweinydd Cyngor Sir Ddinbych wedi'i ddweud. Dywedodd
'Rwyf am egluro: nid wyf yn dweud o gwbl fod sir Ddinbych yn wynebu methdaliad,'
er mwyn osgoi amheuaeth.
'Yr hyn roeddwn am ei bwysleisio oedd mai'r hyn a welsom yn Lloegr yw cynghorau'n wynebu methdaliad oherwydd nad ydynt yn gallu mantoli'r cyfrifon. Ond rydym yn mynd i osgoi hynny,'
meddai. Felly, gadewch inni beidio â mynd o flaen gofid a meddwl eu bod yn disgwyl wynebu methdaliad. Ond gadewch inni beidio â thwyllo ein hunain nad yw pob awdurdod lleol yn wynebu cyfres heriol iawn o amgylchiadau ariannol. Ac rwy'n gwybod bod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru mewn dyfroedd dyfnach a thrafferthion ariannol gwaeth na sir Ddinbych.
Nawr, bydd hynny'n galw am doriadau mewn gwasanaethau a bydd hynny'n galw am godi'r dreth gyngor, yn anffodus, oherwydd dyna'r unig ffordd y gallant fantoli'r cyfrifon. Ac mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi dangos i ni beth yw maint yr her a achoswyd gan ddegawd o gyni ariannol yn San Steffan. Y bwlch ariannol mewn cyllid lleol a ragwelir erbyn 2027-28 yw £0.75 biliwn. Felly, dyna yw maint yr her, a bydd yn rhaid i sir Ddinbych ac eraill fynd i'r afael â hynny. Ond fel y dywed arweinydd sir Ddinbych, y flaenoriaeth gyntaf yw sicrhau nad ydynt yn wynebu methdaliad a'u bod yn mantoli'r cyfrifon. Yn annhebyg, wrth gwrs, i rai cynghorau yn Lloegr sydd wedi wynebu methdaliad.
Nawr, rydych wedi nodi pa drefniadau a allai fod gennych ar waith pe bai'r senario waethaf yn digwydd mewn unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru. Felly, fe ofynnaf, os caf, Weinidog, gan fod trethi cynghorau yn debygol o godi mewn llawer o gynghorau yng Nghymru, yn anffodus, fe wyddom fod hynny'n taro'r tlotaf yn waeth na neb arall, onid yw, oherwydd ei bod yn dreth anflaengar ac mae natur anflaengar y dreth gyngor yn golygu mai'r rhai llai cefnog sy'n ysgwyddo baich anghymesur pan fydd y trethi hynny'n codi. Felly, oni fyddech yn cytuno bod hyn, unwaith eto, yn tanlinellu'r angen i ddiwygio'r dreth gyngor yng Nghymru i'w gwneud yn decach, fel nad y lleiaf cefnog mewn cymdeithas sydd, unwaith eto, yn talu'r pris am gyni Torïaidd?
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am y cwestiwn. Rwy'n falch iawn o'r gwaith y buom yn ei wneud mewn partneriaeth â Phlaid Cymru fel rhan o'n cytundeb cydweithio ar wneud y dreth gyngor yn decach. A hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad o'r gwaith sydd wedi'i wneud ar hynny. Nawr, rydym yn dod at y pwynt pan fyddwn yn cynnal ein hymgynghoriad cam 2, felly byddaf yn dweud mwy am hynny cyn bo hir, a bydd hynny'n ein helpu i edrych yn agosach ar sut fydd y ffordd sydd o'n blaenau yn edrych. Ar ôl gwneud ymgynghoriad cam 1 a chael safbwyntiau eang, mae bellach yn ymwneud â lleihau'r gorwel o ran y dewisiadau y byddwn yn eu gwneud. Ond fel y mae cyd-Aelodau'n cydnabod, mae'r dreth gyngor yn dreth anflaengar; rydym am ei gwneud yn dreth gyngor decach ac rydym yn ymrwymedig iawn i wneud hynny.
Diolch i Sam Rowlands am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn yn y Senedd heddiw. Fel yr Aelod lleol dros y mwyafrif helaeth o sir Ddinbych, yn bersonol rwy'n arswydo wrth ddarllen y newyddion am y ffordd mae'r cyngor yn ceisio osgoi wynebu methdaliad. Ac i mi, mae'n crynhoi arweinyddiaeth Lafur wan, swrth a gwael y cyngor hwn ers yr etholiadau lleol yn 2022, ynghyd â Llywodraeth Lafur Cymru nad yw'n gweld yr hyn sydd o'i blaen wrth geisio dod o hyd i ateb i'r broblem gynyddol hon.
Bûm yn aelod o Gyngor Sir Ddinbych am bum mlynedd ac mae'n drist gweld ei gyflwr presennol o dan yr arweinyddiaeth newydd hon, sydd wedi cael methiant ar ôl methiant ers y diwrnod cyntaf. A dweud y gwir, mae'r arweinyddiaeth mewn dyfroedd dyfnion a heb syniad sut i reoli'r cyngor hwn, ac mae rhai wedi bod yn defnyddio eu swyddi uwch i hyrwyddo eu huchelgeisiau gwleidyddol eu hunain.
Ers blynyddoedd lawer, mae gwleidyddion o bob lliw wedi dadlau'r achos dros fformiwla gyllido deg i awdurdodau'r gogledd i gyd-fynd ag awdurdodau de Cymru ac rydym ar ein colled yn enbyd o'i gymharu ag ardaloedd eraill, gan adael penderfyniadau anodd i'w gwneud ynghylch gweithredu gwasanaethau o ddydd i ddydd, sy'n cael effaith ar fywydau pob dydd pobl. Felly, a wnaiff y Gweinidog dderbyn o'r diwedd fod angen diwygio fformiwla gyllido cynghorau Llywodraeth Cymru yn radical er mwyn sicrhau bod system deg ar waith i bawb yng Nghymru, ni waeth ble maent yn byw?
Fe ddechreuaf drwy ddweud bod dechrau'r cyfraniad yn ymateb diog iawn i'r hyn sy'n fater hynod o ddifrifol. Rwy'n canmol arweinydd Cyngor Sir Ddinbych am y gwaith y mae wedi'i wneud yn nodi'r pwysau'n gynnar a gweithio i ddod o hyd i ateb. Nid oes awgrym o gwbl fod unrhyw ran o Gymru ar sail ddaearyddol dan anfantais yn sgil y fformiwla gyllido. Wrth gwrs, fe welodd pedwar o'r chwe awdurdod yng ngogledd Cymru gynnydd i'w cyllidebau a oedd yn fwy na'r cyfartaledd ledled Cymru yn y flwyddyn ariannol hon. Felly, rydym yn edrych ar y fformiwla trwy'r amser; rydym yn edrych ar y data, rydym yn gwneud newidiadau, mae'r is-grŵp dosbarthu yn gwneud amrywiaeth eang o argymhellion yn flynyddol. Nid ydym yn edrych ar adolygiad cyflawn o'r fformiwla gyllido ar hyn o bryd; yn amlwg, pe bai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am gyflwyno'r awgrym hwnnw, byddem yn agored i hynny. Ond gadewch inni gofio, roedd y cwestiwn olaf mewn perthynas â diwygio'r dreth gyngor. Mae gan ddiwygio'r dreth gyngor allu—yn dibynnu ar ba opsiwn a ddewisir, wrth gwrs—i newid sylfaen dreth awdurdodau lleol yn helaeth, felly byddai newidiadau sylweddol o ganlyniad i hynny. Rwy'n credu y byddai hynny, ar ben adolygiad o'r fformiwla gyllido, a allai gymryd nifer o flynyddoedd, yn cyflwyno llawer o ansicrwydd i'r system. Felly, rydym yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar wneud y dreth gyngor yn decach a diweddaru'r fformiwla gyllido i sicrhau ei bod yn defnyddio'r wybodaeth ddiweddaraf.
Fel cyn-arweinydd cyngor yng ngogledd Cymru, mae fy nghyd-Aelod Sam Rowlands yn gwybod cystal â mi, fel cyn-ddirprwy arweinydd ac aelod cabinet, am y pwysau sydd ar awdurdodau lleol yn dilyn 13 mlynedd o gyni Torïaidd. Mae cynghorau ledled y DU wedi cael eu gwthio i'r eithaf gan gyfuniad gwenwynig o fwy na degawd o doriadau, pwysau chwyddiant enfawr, argyfwng costau byw a chamreoli'r economi yn llwyr. Bydd yna linellau coch y maent yn edrych arnynt yn awr; rwy'n cofio hynny—flwyddyn ar ôl blwyddyn o wynebu hyn. Nid ydych am dorri addysg; rwy'n cofio hynny. Fe wnaeth rhai cynghorau benderfynu cwtogi cyllid addysg. Mae'n anodd iawn croesi'r llinellau coch hyn, a dyma pam fod yr arweinydd wedi dweud y gallant fod yn wynebu methdaliad, mae'n debyg—dyma pa mor ddifrifol yw hyn. Ond rwy'n gwybod y bydd sir Ddinbych yn gosod cyllideb wedi'i mantoli, fel y mae'n rhaid i gynghorau ei wneud bob amser, ond fe fyddant yn cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau anodd iawn. Rwy'n gwybod fy mod wedi gofyn i chi edrych ar y fformiwla gyllido—mae'r swm sy'n dod o'r fan hyn yn rhy fach, ond yr hyn sy'n dod o Lywodraeth y DU. Ac rwy'n siŵr y bydd cynghorau ledled y DU yn wynebu'r penderfyniadau anodd iawn hyn. Felly, Weinidog, a yw swyddogion cyfatebol y DU wedi rhoi unrhyw sicrwydd i chi y gallant wir ddeall yr anrhefn y maent wedi'i achosi a'u bod yn barod i roi mesurau lliniarol ar waith er mwyn helpu ein gwasanaethau rheng flaen—nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Nid oes awgrym o gwbl gan Lywodraeth y DU ei bod yn deall y trafferthion y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu—yn sicr nid yn Lloegr, a gwn nad oes ganddynt ddiddordeb yn nhrafferthion awdurdodau lleol yma yng Nghymru. Ond wedi dweud hynny, byddwn yn parhau i gyflwyno'r achos yn gryf iawn iddynt. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y Canghellor cyn datganiad yr hydref ar 22 Tachwedd yn nodi beth yw ein gofynion ar gyfer Cymru, ac ar y brig yn hynny, mae'r buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus er mwyn inni allu darparu'r cyllid sydd ei angen ar lywodraeth leol a'r GIG i ddarparu'r math o wasanaethau rydym eisiau i bawb yng Nghymru eu cael.
Weinidog, mae'n amlwg iawn fod sylwadau arweinydd Cyngor Sir Ddinbych yn annoeth, yn ddi-fudd, yn ceisio dychryn ac wedi ennyn rhywfaint o ofn ymhlith y boblogaeth leol ynghylch sut y gallai eu treth gyngor edrych y flwyddyn nesaf. Mewn gwirionedd, mae'n ymddangos nad yw'r sylwadau hyn yn ddim mwy na pharatoi'r ffordd ar gyfer codiad enfawr arall uwchlaw chwyddiant yn y dreth gyngor i drigolion lleol. Felly, a gaf fi ofyn i chi: a wnewch chi wneud y peth synhwyrol, fel sy'n digwydd yn Lloegr, a gosod cap clir ar y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd sy'n dod—y flwyddyn nesaf—fel bod codiadau gormodol yn gallu bod yn destun refferendwm lleol? Rwy'n credu bod pobl leol yn haeddu cael dweud eu barn ar y materion hyn, ac rwy'n credu ei bod yn anghywir nad ydynt wedi cael un yn y gorffennol.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
I fod yn glir, ni fyddai gosod cap yn arwain at refferendwm beth bynnag, ond mae cap yn offeryn sydd gan Weinidogion Cymru os ydynt yn teimlo bod awdurdod lleol yn bwriadu cyflwyno codiad yn y dreth gyngor sy'n amlwg yn ormodol. Yn amlwg, bob blwyddyn, rydym yn edrych ar hynny o'r newydd, felly nid oes gennym syniad eto pa fath o gynnydd y mae llywodraeth leol yn disgwyl ei wneud. Mae hynny'n rhannol oherwydd nad ydym wedi cael datganiad yr hydref eto, nid ydym wedi cyhoeddi ein cyllideb Llywodraeth Cymru, felly nid oes ganddynt ffigurau i gynllunio arnynt eto. Yn amlwg, byddant yn gwneud gwaith rhagarweiniol gyda rhai rhagdybiaethau, ond tan y bydd gennym gynigion gwirioneddol gan lywodraeth leol, mae'n amhosibl ystyried a fyddem yn cyflwyno cap ai peidio.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad, ac yn gyntaf Natasha Asghar.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Syndrom Irlen, ymdrech fyd-eang i wneud rhagor o bobl yn ymwybodol o'r syndrom a'i symptomau. Mae syndrom Irlen yn broblem gyda gallu'r ymennydd i brosesu gwybodaeth weledol ac mae'n tueddu i redeg yn y teulu. Mae'r symptomau mwyaf cyffredin yn cynnwys sensitifrwydd i olau, problemau gyda darllen, cur pen a meigryn, problemau canolbwyntio, yn ogystal â blinder.
Rhaid imi gyfaddef nad oeddwn yn gwybod llawer am syndrom Irlen tan i Jennifer Owen, un o fy etholwyr gysylltu â mi. Rwyf am dalu teyrnged i Jennifer, a gafodd ddiagnosis o syndrom Irlen yn 2012, am ei gwaith diflino yn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr. Mae hi wedi rhoi cyflwyniadau a sgyrsiau dirifedi, wedi dod yn llysgennad Irlen, wedi creu'r grŵp Llais i Bobl â Syndrom Irlen ac mae wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau. Cafodd ei chydnabod hefyd gan uchel siryf Morgannwg Ganol am ei gwaith gwych.
Ni allai Jennifer ddarllen nac ysgrifennu'n iawn heb eiriau'n diflannu neu'n symud yn ôl ac ymlaen, ond ers cael hidlwyr sbectrol Irlen, mae ei bywyd wedi cael ei drawsnewid, a nawr, mae hi'n helpu i drawsnewid bywydau pobl eraill. Mae hi'n ysbrydoliaeth go iawn, felly hoffwn ddweud 'diolch' enfawr i Jennifer am bopeth y mae hi wedi'i wneud ac y mae hi'n parhau i'w wneud. Carwn annog pawb i ymweld â www.irlen.com i weld sut y gallant gymryd rhan yn wythnos ymwybyddiaeth Irlen yn y dyfodol.
Mae Diwrnod Menopos y Byd yn cael ei ddathlu bob blwyddyn i godi ymwybyddiaeth am effaith y menopos ar fywydau menywod ledled y byd. I nodi'r achlysur hwn, rwy'n falch o ddweud bod pob coleg addysg bellach yng Nghymru wedi llofnodi adduned menopos y gweithle. Crëwyd yr adduned gan elusen Wellbeing for Women i annog cyflogwyr i roi camau cadarnhaol ar waith i sicrhau bod pawb sy'n mynd trwy'r menopos yn cael eu cefnogi. Yn aml, nid oes sôn am y menopos yn y gweithle, ac mae llawer o bobl nad ydynt yn ei ddeall nes iddo ddigwydd iddyn nhw neu i rywun sy'n agos atynt. Er na fydd rhai yn cael unrhyw broblemau, bydd eraill yn cael trafferth gyda sgil-effeithiau gwanychol sy'n effeithio ar bob agwedd ar eu bywydau. Bydd llawer yn teimlo nad oes dewis arall ganddynt ond gadael swydd y maent yn ei charu. Drwy lofnodi'r adduned, mae pob coleg yng Nghymru wedi ymrwymo i gydnabod y gall y menopos fod yn broblem yn y gweithle ac mae angen cymorth ar fenywod; i siarad yn agored, yn gadarnhaol ac yn barchus am y menopos; ac i gefnogi ac addysgu gweithwyr y mae'r menopos yn effeithio arnynt. Mae'r sector wedi ymateb i'r angen i roi cymorth ac arweiniad ar waith i staff, ac rwy'n falch o gydnabod ymrwymiad parhaus ein colegau i wneud addysg bellach yn sector diogel a chynhwysol i weithio ynddo.
Sefydlwyd Loteri Sir Benfro 30 mlynedd yn ôl i ddarparu cronfa y gallai busnesau sir Benfro gael mynediad ati heb unrhyw gost i fuddsoddi yn eu dyfodol, gan greu a chadw swyddi yn sir Benfro. Syniad y diweddar Danny Fellows ydoedd, gŵr a ymunodd â Mike Peake a Bob Clarke i lansio loteri leol, a ffurfiwyd flwyddyn cyn y Loteri Genedlaethol. Gofynnodd Danny i reolwyr purfa olew leol i ddarparu cyllid sbarduno i ddarparu'r misoedd cyntaf o arian gwobrau ac annog cyflogwyr mawr i gynnig opsiwn o ddidyniad cyflog misol bach o £4.34 i ariannu arian gwobrau parhaus, opsiwn prynu sy'n parhau hyd heddiw. Mae'n enghraifft wirioneddol o bobl leol yn codi arian i dyfu eu cymunedau a'u heconomi leol.
Tynnwyd y raffl gyntaf ym mis Tachwedd 1993, ac ychydig o bobl bryd hynny a fyddai byth wedi credu y byddem yn dathlu pen-blwydd Loteri Sir Benfro yn 30 oed yn 2023. Ar ôl tyfu i fyny gyda Loteri Sir Benfro, gellir teimlo ei grym er daioni ar draws y sir. Mae dros 500 o fusnesau wedi cael eu cefnogi gan dros £8.2 miliwn o fenthyciadau di-log, gan greu a diogelu dros 2,500 o swyddi. Mae cwmnïau lletygarwch arobryn fel gwesty'r Grove a Cafe Môr yn ddwy enghraifft yn unig o fusnesau sydd wedi elwa o'r loteri yn eu blynyddoedd cynnar. O ddechreuadau diymhongar ym 1993, mae'r gronfa fenthyciadau bellach dros £2 filiwn, ac mae hynny yn bennaf oherwydd y gefnogaeth aruthrol y mae Loteri Sir Benfro wedi'i chael gan bobl leol. Mae'r loteri yn un o'r cynlluniau mwyaf llwyddiannus o'i fath yn y DU, ac yn un y dylem i gyd fod yn hynod falch ohono. Pen-blwydd hapus yn 30 oed i Loteri Sir Benfro, ac ymlaen i'r 30 mlynedd nesaf. Diolch.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 5, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol’, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.
Cynnig NDM8379 John Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Gorffennaf 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar wasanaethau hamdden a llyfrgelloedd awdurdodau lleol. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, ac i'r rhai a hwylusodd ymweliadau â llyfrgelloedd a safleoedd hamdden ledled Cymru.
Mae canolfannau hamdden a llyfrgelloedd yn cyfoethogi bywydau pobl a'u cymunedau. Maent yn darparu lle i gyfarfod, i ehangu gwybodaeth a chefnogi iechyd a lles. Ond mae cynghorau wedi ei chael hi'n fwyfwy heriol i gynnal y gwasanaethau hyn oherwydd toriadau cyllidebol ac argyfyngau ariannol ac iechyd byd-eang. O ganlyniad, mae llawer o gynghorau wedi ceisio darparu gwasanaethau'n wahanol drwy sefydlu cwmnïau masnachu awdurdodau lleol, neu eu trosglwyddo i fentrau cymdeithasol neu grwpiau cymunedol.
Yn gyntaf, fe wnaethom ystyried a oes angen cryfhau fframweithiau statudol a pholisi i ddiogelu'r gwasanaethau hanfodol hyn rhag toriadau a chau pellach. Mae dyletswydd statudol eisoes ar gynghorau o dan Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 i ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon, ond clywsom nad yw hyn wedi atal erydu cyllid, nac yn wir wedi atal cau llyfrgelloedd. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym nad yw'r Ddeddf yn gwneud llawer iawn, a bod y darpariaethau wedi'u diffinio'n rhy eang. Galwasom ar Lywodraeth Cymru i archwilio a ddylai gryfhau'r Ddeddf i ddiogelu llyfrgelloedd. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygiad llawn o'r darpariaethau yn y Ddeddf, ond yn hytrach, pwysleisiodd rôl safonau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru yn cyflawni'r dyletswyddau o fewn y ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i archwilio ein hargymhelliad ymhellach, a buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Dirprwy Weinidog egluro sut y bydd yr argymhelliad hwn yn cael ei ddatblygu.
Mae safonau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru yn nodi sut y bydd disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar awdurdodau lleol o ran eu darpariaeth llyfrgelloedd yn cael eu bodloni. Clywsom fod y safonau presennol wedi dod i ben yn 2020, ac rydym yn pryderu am y diffyg cynnydd ar ddatblygu safonau newydd i gefnogi'r sector llyfrgelloedd. Galwodd rhai rhanddeiliaid am ailwampio'r safonau'n llwyr o ystyried datblygiadau diweddar yn y modd y caiff gwasanaethau eu defnyddio a datblygiadau arloesol newydd i'w cyflawni. Argymhellwyd y dylid symud y gwaith ar y safonau newydd yn ei flaen ar frys. Rydym yn falch fod yr argymhelliad hwn wedi'i dderbyn, ond nodwn na fydd fframwaith llyfrgelloedd cyhoeddus newydd Cymru yn cael ei weithredu tan 2025, bum mlynedd ar ôl i'r safonau ddod i ben.
Rydym yn pryderu bod gwasanaethau llyfrgell yn aml yn cael eu hanwybyddu neu eu tanbrisio o fewn cyd-destun ehangach y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus. Roeddem yn falch felly o glywed bod y safonau llyfrgelloedd newydd yn cael eu datblygu ochr yn ochr â'r strategaeth ddiwylliant newydd. Fodd bynnag, mae cwestiynau'n codi ynghylch y modd y bydd hynny'n gweithio'n ymarferol, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Dirprwy Weinidog roi rhagor o fanylion ynglŷn â sut y bydd y strategaeth ddiwylliant honno'n cydblethu â'r safonau newydd, a sut mae hi'n gweithio gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a swyddogion perthnasol ar hyn.
Yn wahanol i wasanaethau llyfrgelloedd, darperir gwasanaethau hamdden ar sail disgresiwn. Er nad oeddem yn argyhoeddedig o'r angen am ddeddfwriaeth, hoffem weld fframwaith polisi ar gyfer darpariaeth hamdden gyhoeddus, sy'n cysylltu â gwasanaethau iechyd a lles. Credwn y byddai hyn yn cefnogi polisïau wedi'u cydgysylltu'n well sy'n canolbwyntio ar atal a chanlyniadau iechyd cadarnhaol ac sy'n cyd-fynd â llawer o ddatblygiadau cyfredol, lle mae llawer o ddarparwyr hamdden yn dod yn wasanaethau iechyd a lles yn gynyddol. Rydym yn falch felly fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn.
Fe wnaethom archwilio'r modelau cyflenwi gwasanaeth amrywiol a ddefnyddir a'u manteision a'u hanfanteision. Roedd neges glir na ddylai fod un ateb sy'n addas i bawb. Bydd modelau gwahanol yn addas ar gyfer gwahanol awdurdodau lleol, yn dibynnu ar ddaearyddiaeth, anghenion y gymuned, adnoddau a llawer o ffactorau eraill. Rydym yn cytuno mai mater i awdurdodau lleol yw penderfynu pa fodel cyflenwi sy’n addas iddyn nhw. Fodd bynnag, hoffem weld mwy o rannu arferion da a phrofiadau. Felly, fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi hyn, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn.
Clywsom am werth cymdeithasol sylweddol gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd. Dywedodd Chwaraeon Cymru wrthym fod elw cymdeithasol o £2.88 am bob £1 a werir ar chwaraeon. Ac yn ôl Community Leisure UK Cymru, mae ymddiriedolaethau hamdden yn creu £101 o werth cymdeithasol am bob unigolyn sy'n defnyddio eu cyfleusterau a’u gwasanaethau, sy’n cael ei fesur drwy arbedion i’r GIG, lefelau troseddu is a gwell iechyd meddyliol a chorfforol cymunedau.
Fodd bynnag, clywsom na roddir digon o bwyslais ar werth cymdeithasol pan fydd awdurdodau lleol yn penderfynu ar y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd. Rydym am weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau i ystyried pa ganlyniadau gwerth cymdeithasol y maent am eu cyflawni drwy wasanaethau hamdden a llyfrgelloedd cyhoeddus, a llunio a darparu gwasanaethau yn unol â hynny. Byddai cael data cyfredol, penodol i Gymru ar werth cymdeithasol i'w rannu ag awdurdodau lleol yn eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am ddarparu gwasanaethau. Rydym yn ddiolchgar, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein galwadau i goladu a dadansoddi gwerth cymdeithasol ac elw ar fuddsoddiad mewn gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd.
Ddirprwy Lywydd, buom hefyd yn edrych ar y defnydd cynyddol o hybiau cymunedol, lle mae awdurdodau lleol yn cydleoli rhai o'u gwasanaethau er mwyn arbed costau a gwella hygyrchedd. Hyd yma, clywsom fod tystiolaeth yn awgrymu y gallai cydleoli fod wedi cynyddu’r defnydd o wasanaethau, lleihau costau a chyfrannu at gadernid gwasanaethau. Fodd bynnag, clywsom hefyd am heriau o ran cydleoli gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig oherwydd problemau trafnidiaeth. Dylai’r materion hynny, gan gynnwys trafnidiaeth gymunedol, fod yn ystyriaeth allweddol mewn unrhyw benderfyniad i gydleoli. Gan fod hybiau'n ddatblygiad cymharol newydd, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro a gwerthuso eu llwyddiant, a bod y canfyddiadau’n cael eu rhannu ag awdurdodau lleol er mwyn llywio eu penderfyniadau. Credwn fod yn rhaid i awdurdodau lleol fabwysiadu dull deallus o wneud penderfyniadau ar gydleoli, yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau llyfrgell.
Ac fel sydd mor bwysig yn y cyd-destun presennol, fe wnaethom edrych ar yr heriau ariannol a gweithredol sy’n wynebu awdurdodau lleol a phartneriaid cyflawni ar hyn o bryd i gynnal y gwasanaethau hanfodol hyn. Mae costau ynni cynyddol wedi cael effaith sylweddol ar gyfleusterau hamdden yn arbennig, yn enwedig y rheini â phyllau nofio. Mae angen cymorth ar unwaith ar wasanaethau hamdden a llyfrgelloedd i'w helpu i ymdopi â'r argyfwng presennol. Fe wnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn dyrannu’r £3.5 miliwn y bydd yn ei gael mewn cyllid canlyniadol i byllau nofio, yn enwedig y rheini a allai fod yn anhyfyw heb gymorth ychwanegol.
Hefyd, fe wnaethom gymeradwyo’r argymhelliad a wnaed gan y pwyllgor diwylliant yn ei adroddiad ym mis Tachwedd 2022 ar gostau cynyddol a’r effaith ar ddiwylliant a chwaraeon. Argymhellodd y pwyllgor hwnnw y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu cyllid ychwanegol wedi’i dargedu at y sectorau chwaraeon a diwylliannol i helpu lleoliadau a sefydliadau sy’n wynebu gorfod cau, ond sydd â dyfodol cynaliadwy y tu hwnt i’r argyfwng uniongyrchol. Rydym yn siomedig ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chymorth ariannol ychwanegol i helpu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd i ymdopi â’r pwysau ariannol presennol.
Roedd hi hefyd yn flin gennym glywed bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith ar lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon. Mae cost gwersi nofio wedi dyblu ers y pandemig, sy'n eu gwneud yn anfforddiadwy i rai teuluoedd, yn enwedig y rheini ar incwm is. Roeddem yn synnu ac yn siomedig o glywed mai dim ond 50 y cant o ysgolion cynradd Cymru sy’n darparu gwersi nofio, ac nad yw rhai ysgolion a chanddynt byllau nofio hyd yn oed yn darparu'r gwersi hynny. O ystyried y costau cynyddol, mae'n bwysicach nag erioed fod plant yn cael gwersi am ddim yn ystod amser ysgol, yn enwedig gan fod nofio a diogelwch dŵr yn sgiliau bywyd. Fe wnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut mae’n mynd i’r afael â’r materion hyn a sut mae’n gweithio gyda darparwyr hamdden ar strategaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at ganllawiau statudol o fewn y cwricwlwm i Gymru y mae'n rhaid i ysgolion eu hystyried. Ac mae hyn yn cynnwys dysgwyr yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, gan gynnwys yn y dŵr. Nodaf hefyd fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Nofio Cymru i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol gyda’u cynnig nofio.
Er bod cynghorau a phartneriaid cyflawni yn wynebu rhwystrau ariannol uniongyrchol, ceir heriau mwy hirdymor hefyd, yn enwedig mewn perthynas â datgarboneiddio. Mae angen amlwg am fuddsoddiad sylweddol yn y gwaith o ddatgarboneiddio a moderneiddio cyfleusterau hamdden a llyfrgelloedd, ac nid yw’r cyllid presennol yn mynd yn ddigon pell. Rydym yn pryderu bod datgarboneiddio, yn ôl pob golwg, yn llai o flaenoriaeth o gymharu â gwasanaethau eraill awdurdodau lleol, megis rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Ac rydym yn credu bod pob sector yn haeddu'r cymorth hwn. Ddirprwy Lywydd, er ein bod yn falch fod Llywodraeth Cymru yn derbyn ein hargymhelliad y dylai fuddsoddi mewn cefnogi datgarboneiddio ac adnewyddu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd ledled Cymru, mae angen i'r rhaglen honno fod ar raddfa fawr ac mae angen ei rhoi ar waith ar frys.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, ni ellir tanbrisio na gorbwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd i'n cymunedau, a'r manteision cymdeithasol ehangach y maent yn eu darparu. Maent yn haeddu buddsoddiad ystyrlon fel mater o frys.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod a Chadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, am agor y ddadl hon, a phawb a fu'n gyfrifol am gynhyrchu’r adroddiad hwn ar wasanaethau hamdden a llyfrgelloedd awdurdodau lleol? Rwy’n falch o weld bod nifer fawr o argymhellion wedi’u derbyn, neu eu derbyn mewn egwyddor, gan y Gweinidog. Yn fy sylwadau heddiw, hoffwn drafod dau sydd wedi cael eu gwrthod.
Y cyntaf yw argymhelliad 13, sef y dylai Llywodraeth Cymru roi cyllid ychwanegol wedi’i dargedu i’r lleoliadau a'r sefydliadau sy’n wynebu’r posibilrwydd o orfod cau ond sydd â dyfodol cynaliadwy. Deallaf na fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddarparu cyllid ychwanegol. Fodd bynnag, hoffwn nodi bod elfen o economi ffug yma. Os byddwn yn gadael i leoliadau a sefydliadau gau, nid yn unig bydd galw am fwy byth o gyllid i’w hailagor yn nes ymlaen, ond byddwn hefyd yn colli staff hyfforddedig, sydd â phrofiad gwerthfawr a sylweddol yn aml. Byddai cyflogi staff newydd yn eu lle nid yn unig yn anodd iawn, ond yn amlach na pheidio, byddai’n ddrud iawn, yn enwedig pan ystyriwch gostau ailhyfforddi. Ar ben hynny, mae colli lleoliadau fel llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden yn cael effaith anfesuradwy ar y gymuned, yn y tymor byr a’r tymor hir, ar eu hiechyd a’u lles a’u hymdeimlad o hunaniaeth, a dylem fod yn ymwybodol iawn fod effaith economaidd ehangach pan fydd lleoliadau'n cau. Mae pobl yn llai tebygol o deithio i ardal lle mae llai o amwynderau ar gael, a gall hynny arwain at effaith uniongyrchol ar fusnesau lleol, sy'n dioddef gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr o ganlyniad.
Bydd y rhyfel yn Wcráin yn dod i ben yn y pen draw, a bydd grymoedd y farchnad yn unioni'r costau ynni, bwyd a thanwydd uwch rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Rydym wedi gweld chwyddiant yn gostwng yn sylweddol dros y misoedd diwethaf, ac mae rheswm da iawn i gredu y byddwn yn gweld chwyddiant yn dychwelyd i lefelau targed cyn bo hir. Ymddengys braidd yn fyrbwyll, felly, i ganiatáu i leoliadau sydd â dyfodol hirdymor gau, ddim ond am na fydd cyllid tymor byr yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Yr wrthddadl amlwg yw o ble fydd Llywodraeth Cymru yn cael yr arian hwn, ond buaswn yn dadlau bod angen i Lywodraeth Cymru feddwl yn greadigol ynghylch sut y gall ddefnyddio ei statws o bosibl i weithredu fel gwarantwr i leoliadau cyhoeddus godi buddsoddiad drostynt eu hunain.
Yr ail argymhelliad rwy’n siomedig o'i weld yn cael ei wrthod yw Rhif 15. Credaf y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu a gweithio gyda darparwyr hamdden ar strategaeth i annog ysgolion cynradd i ddarparu gwersi nofio am ddim. Nid yw’n ddigon dweud eich bod yn cytuno â’r bwriad ond eich bod yn ymwybodol o sefyllfa ariannol bresennol ysgolion. Rwy'n siŵr ei bod yn amlwg i bawb yma, os na allwch drafferthu dechrau meddwl sut y gallai pob ysgol gynradd ddarparu gwersi nofio, ni fydd gwersi nofio am ddim byth ar gael i bob plentyn ysgol gynradd. Mae dysgu nofio yn fwy na gallu gwneud gweithgarwch corfforol penodol yn unig; dangoswyd bod nofio'n sgìl bywyd sy'n dylanwadu'n uniongyrchol ar hyder a hunan-barch pobl. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer nofio yn dameidiog ar y gorau, ac er y gallaf weld bod cyllid ysgolion dan bwysau, nid yw’n iawn dweud nad ydych hyd yn oed yn mynd i ddechrau cynllunio strategaeth ar gyfer y dyfodol. Dylai fod dyletswydd ar gyfleusterau nofio y mae'r cyngor yn berchen arnynt ac yn eu gweithredu i sicrhau bod amser ar gael i ysgolion, naill ai am bris gostyngol neu am ddim, ac nid oes rhaid i hyn fod yn ystod y diwrnod ysgol o reidrwydd. Er mwyn arbed ar deithio ar fysiau, gallai ysgolion ofyn i rieni fynd â’u plant yn syth i ganolfannau hamdden ar ddechrau’r dydd, neu gael gwersi ar ôl ysgol, lle gallai rhieni gasglu eu plant yn uniongyrchol o’r canolfannau hamdden. Rwy'n credu'n wirioneddol fod angen meddwl yn fwy creadigol ynglŷn â sut i ddatrys rhai o’r problemau hyn, yn hytrach na dim ond dweud bod angen mwy o arian.
Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn teimlo bod angen ymhelaethu ar yr argymhellion a gafodd eu derbyn yn yr adroddiad hwn, gan y teimlaf eu bod yn siarad drostynt eu hunain. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn nifer mor fawr ohonynt, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn cael eu gweithredu. Ond gall Llywodraeth Cymru wneud llawer iawn mwy. Diolch.
Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd i gymunedau ledled Cymru. Maent yn aml yn cael eu defnyddio fel canolfannau clyd, canolfannau lles, i gael mynediad at wybodaeth am wasanaethau, a dolenni i wybodaeth ar-lein. Maent wedi dod yn gyfleusterau cymunedol mwy bywiog ac yn hybiau gweithgarwch dros y blynyddoedd diwethaf, a gofynnir i lyfrgellwyr fod yn gynghorwyr amlsgiliau, gan ddarparu amrywiaeth o wasanaethau. Buom yn trafod a yw hyn yn dderbyniol i lyfrgellydd medrus iawn, ac y gallai’r sgìl hwnnw gael ei golli.
Mae canolfannau hamdden yn darparu gwasanaethau hanfodol. Mae dysgu nofio'n sgìl bywyd, ac mae’n destun pryder, yn ôl Nofio Cymru, mai dim ond 52 y cant o blant sy’n dechrau yn yr ysgol uwchradd sydd â’r sgìl hwn a allai achub eu bywyd. Eglurodd Aura Cymru mai un o'r prif heriau yw
'ceisio esbonio i bobl sydd â gofynion cyllidebol eraill y gallwn arbed arian i chi. Felly, rydym yn arbed arian… i'r gwasanaeth iechyd cyhoeddus, i'r heddlu, o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac awdurdodau lleol o ran rhai o'u gwasanaethau cymdeithasol'.
Gall mynediad fod yn broblem. Effeithir yn arbennig ar ogledd Cymru ac ardaloedd gwledig oherwydd oedi a chost trafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at wasanaethau. Mae ysgolion yn ei chael hi'n anodd mynd â phlant am wersi nofio oherwydd diffyg trafnidiaeth gyhoeddus a'i chost, a dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones o gyngor Ynys Môn y byddai’n anodd sefydlu model darparu amgen mewn ardaloedd o’r fath. Ac yn aml, y rheini o gefndiroedd difreintiedig sy'n cael eu heffeithio fwyaf o ran fforddiadwyedd, sy'n destun pryder enfawr i'r ddau bwyllgor rwy'n aelod ohonynt.
Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi nodi yn ei hymateb i'r argymhellion y bydd yn parhau i weithio gyda phartneriaid trafnidiaeth gymunedol i wella hygyrchedd. Mae degawd o gyni, gyda thoriadau yng nghyllidebau awdurdodau lleol, a chostau ynni cynyddol, wedi peri i ganolfannau hamdden a llyfrgelloedd fod yn fregus. Newidiwyd llawer o byllau nofio, canolfannau hamdden a llyfrgelloedd i fodelau gweithredu amgen yn ystod y cyfnod hwn, wrth i gynghorau ailstrwythuro ac ad-drefnu i geisio arbed arian. Ond mae llawer ohonynt yn dal i gael cyllid craidd gan gynghorau, gan nad ydynt yn hunangynhaliol. Mae wedi eu galluogi i wneud cais am grantiau a derbyn ad-daliadau yn dibynnu ar eu statws. Nododd y Cynghorydd Rob Stewart o Abertawe fod y setliad llywodraeth leol, er ei fod yn fwy na’r disgwyl, yn dal yn llawer is na chwyddiant, a bod chwyddiant wedi achosi pwysau aruthrol. Dywedodd y bydd y rhan fwyaf o'r gyllideb yn mynd ar addysg a gofal cymdeithasol yn y rhan fwyaf o gynghorau, felly mae'n rhaid ichi geisio ariannu eich holl wasanaethau eraill â'r hyn sydd ar ôl. Gall cyflogaeth fod yn anodd, gan nad yw'r swyddi'n talu'n dda ac mae gwirfoddolwyr yn brin. Nododd Aura Cymru yn sir y Fflint hefyd fod costau ynghlwm wrth ddod â phobl i mewn i’r sector o ran talu am gymwysterau, megis cymhwyster cenedlaethol achubwr bywydau pwll nofio, ac athrawon nofio. Mae’r argyfwng costau byw hefyd wedi cael effaith ar y niferoedd sy'n dod yn ôl i ddefnyddio canolfannau hamdden ar ôl COVID, ac mae costau ynni cynyddol wedi cael effaith fawr ar gyfleusterau hamdden, gan fod pyllau nofio'n ddrud i’w gwresogi a chawsant eu gadael allan o gynllun gostyngiad mewn biliau ynni Llywodraeth y DU y llynedd.
Ymhlith y gofynion statudol ar gynghorau mae dyletswydd o dan Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 i ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon i bawb sy'n dymuno defnyddio'r cyfleuster. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sicrhau stoc ddigonol ac argaeledd llyfrau ac i annog defnydd llawn o'r gwasanaeth llyfrgell. Fodd bynnag, nid yw'r Ddeddf yn diffinio beth yw llyfrgell gynhwysfawr ac effeithlon, gan adael rhywfaint o le i gynghorau ddehongli. Cafwyd trafodaethau ynglŷn â chryfhau’r Ddeddf, ond rhaid iddi fod yn hyblyg hefyd er mwyn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau llyfrgell. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i archwilio’r argymhelliad hwn ymhellach ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor maes o law.
Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu sefyllfa ariannol heriol iawn yng nghyd-destun yr anhrefn economaidd a achoswyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU, fel y mae'r cynghorau sy’n darparu’r gwasanaethau pwysig hyn. Hoffwn weld cymorth ychwanegol gan Lywodraeth y DU i gefnogi’r gwasanaethau bregus ond hanfodol hyn drwy’r cyfnod hynod anodd hwn. Diolch.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r pwyllgor am ei waith pwysig ar y mater hwn? Ni chredaf y deuwn o hyd i unrhyw anghytundeb yma ynghylch pwysigrwydd a gwerth llyfrgelloedd a chyfleusterau cymunedol a gwasanaethau hamdden, yn enwedig. Nhw yw calon llawer o’n cymunedau ac mae pobl yn eu gwerthfawrogi gymaint. Mae hynny wedi dod yn amlwg yn eich tystiolaeth, a gwyddom hynny o'r rhanbarthau a'r etholaethau rydym yn eu cynrychioli ac o'n profiadau personol. Rwy'n siŵr efallai fod lawer ohonom wedi dysgu nofio mewn canolfannau hamdden ac ati, a bod gennym gymaint o le i ddiolch i wasanaethau hamdden a llyfrgelloedd am y cyfraniad a wnânt.
Gwyddom nad moethau neu bethau braf i'w cael yn unig mohonynt. Maent yn gwbl hanfodol. Dyna pam y gwelsom sefydliadau glowyr a neuaddau lles yn dod mor bwysig, a chydnabod rôl llyfrau, ond hefyd, hwyl a mwynhad. A'r hyn rydym yn sôn amdano yma yw cefnogi iechyd a lles pobl, iechyd meddwl, yn ogystal â sgiliau craidd, ac rydym yn sôn am yr agenda atal mewn perthynas ag iechyd hefyd. Mae gwasanaethau hamdden yn gwbl hanfodol. Ac i lawer o bobl, y gwyddom eu bod yn cael trafferth gartref gyda gwaith cartref am amrywiaeth eang o wahanol resymau—efallai nad oes gennych le tawel gartref neu efallai nad ydych yn cael cefnogaeth—mae llyfrgelloedd yn werthfawr iawn i blant a phobl ifanc, ac o ran trechu tlodi, maent mor bwysig. Felly, ni chredaf fod dadl yma ynglŷn â pham fod eu hangen arnom a pha mor bwysig ydynt. Credaf fod y broblem, yn syml iawn, yn ymwneud ag arian. Ond mae'n broblem rydym wedi bod yn ymwybodol ohoni gyda chyni ac yn y blaen, ac mae wedi dod yn gynyddol anodd i awdurdodau lleol ddarparu'r gwasanaethau hyn.
Un o’r pethau y bûm yn myfyrio arnynt wrth ddarllen eich adroddiad oedd pa ystyriaeth a roddwyd i’r adolygiad arbenigol o lyfrgelloedd cyhoeddus a gynhaliwyd naw mlynedd yn ôl. Ac wedyn, fe wneuthum ailedrych ar 'Pennu Cwmpas Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyhoeddus Newydd i Gymru' wyth mlynedd yn ôl, ac roedd llawer o'r argymhellion yn debyg bryd hynny. Yn benodol, mae pwynt 13 yn crybwyll
'rhai o anfanteision Deddf 1964'
ac fel y gwelsoch yn gywir ddigon yn y dystiolaeth yma, mae manteision ac anfanteision i fwrw ymlaen â hynny. Ond roedd yn argymell wedyn y
'dylai'r drafodaeth barhau ar fanteision tybiedig disodli'r Ddeddf bresennol',
gan gydnabod y byddai'n cymryd o leiaf dair blynedd i'w wneud. Ond hefyd, roedd y pwyslais ar sicrhau ein bod yn darparu dyfodol i'r hybiau gwasanaethau cymunedol hyn ac yn y blaen, a meddwl o ddifrif ynglŷn â beth ydynt. Felly, rydym yn mynd yn ôl naw ac wyth mlynedd yma, a chredaf mai'r hyn sy'n peri pryder i mi yw nad ydym wedi gweld y cynnydd hwnnw efallai. Felly, tybed ai un o’r pethau y dylem fod yn eu pwysleisio hefyd yw pa waith sydd wedi digwydd yn y cyfamser ers cyhoeddi’r rhain. A oes unrhyw gynlluniau gan Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad arbenigol arall o lyfrgelloedd cyhoeddus? Oherwydd rwy'n gweld nad ydym wedi symud ymlaen mewn gwirionedd ers yr adeg honno, ac mae llawer o'r dogfennau sy'n ymwneud â llyfrgelloedd cyhoeddus ar wefan Llywodraeth Cymru wedi dyddio erbyn hyn, ac mae llawer o waith o oddeutu degawd yn ôl, yn hytrach na nawr. Ac rwy'n falch eich bod yn llenwi'r bwlch hwnnw drwy waith y pwyllgor, ond credaf fod angen rhywfaint o waith penodol arnom yma i ddeall yn iawn beth sy'n digwydd. Os caf, hefyd, credaf mai dyna ble rwy’n cefnogi’r pwyllgor, mewn perthynas â Deddf 1964, fod angen inni weld yn iawn beth sy’n mynd i newid a sut y bydd hynny’n cael ei symud ymlaen, os nad yw wedi digwydd hyd yma.
Buaswn hefyd yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog, yn ei hymateb, gadarnhau y bydd seithfed fframwaith llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru yn cael ei roi ar waith erbyn mis Ebrill 2025, fel y nodwyd yn ei hymateb i adroddiad y pwyllgor. Ond credaf fod angen y sicrwydd hwnnw arnom. Mae gennym benderfyniadau anodd i'w gwneud cyn bo hir, ond pan fyddwn yn colli'r rhain, fe wyddom eu bod wedi'u colli am byth, a chredaf fod angen inni edrych ar y darlun ehangach. Roeddwn yn siomedig o weld yr ymateb o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan y credaf fod hyn yn gwbl hanfodol, a chredaf fod y pwyllgor yn iawn yn hynny o beth. Gwyddom fod angen inni ddiogelu’r rhain, gan eu bod yn chwarae rhan mor hanfodol yn y gwaith o gyflawni'r nodau hynny. Felly, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried yr ymateb i’r pwyllgor o ran Deddf cenedlaethau’r dyfodol efallai, gan fod y rhain yn hollbwysig, ac os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i’r afael â thlodi plant, anghydraddoldeb iechyd ac ati, mae'n rhaid inni ddod o hyd i atebion—nid ailadrodd pa mor bwysig ydynt yn unig, ond dod o hyd i ffordd o'u diogelu.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch hefyd i’r rheini a fu’n ymwneud â'r gwaith o lunio'r adroddiad hwn: cyd-aelodau o'r pwyllgor, yn enwedig y Cadeirydd, John Griffiths, am ein harwain drwy broses adroddiad pwyllgor arall, ond wrth gwrs, yr aelodau o staff ar y pwyllgor hefyd a ddarparodd wybodaeth mor ddefnyddiol i ni.
Mae risg yma, fel y soniodd Heledd Fychan nawr, y gallem ddod i ryw fath o gytundeb anfad ynglŷn â phwysigrwydd ehangach gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd i’n cymunedau. Rwy'n sicr yn ddiolchgar i'r llyfrgelloedd a'r gwasanaethau hamdden a agorodd eu drysau i ni fel aelodau'r pwyllgor i ddeall rhai o'r cyfleoedd a'r heriau y maent yn eu hwynebu. Ac roeddent yn sicr yn awyddus i ailadrodd y pwynt sydd eisoes wedi'i grybwyll yma heddiw, sef y rhan y mae'r cyfleusterau hynny a'r bobl sy'n cefnogi'r cyfleusterau hynny yn ei chwarae yn yr agenda ataliol, yn enwedig iechyd corfforol a meddyliol fel ei gilydd. Mae lleoedd a gwasanaethau fel y rhain yn amlwg yn cael effaith enfawr ar atal y pethau hyn rhag dod yn fwy o broblem yn ein cymunedau.
A daeth hyn yn glir iawn wrth inni glywed a gweld tystiolaeth gan y darparwyr hynny yn ystod ein sesiynau pwyllgor i gefnogi hyn, ac mae wedi'i ategu eto gan ragor o wybodaeth, fel y soniodd y Cadeirydd, John Griffiths, gan Nofio Cymru, Community Leisure UK a Chymdeithas Chwaraeon Cymru. Felly, y pwynt yw, ac fe'i gwnaed eisoes, rwy'n deall, na ddylid ystyried y gwasanaethau hyn ar eu pen eu hunain. A dyna pam y credaf fod argymhelliad 6 yn ein hadroddiad mor bwysig. A Ddirprwy Weinidog, rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi gallu derbyn yr argymhelliad hwn, ynghyd ag eraill sy'n adlewyrchu'r pwynt ehangach ynghylch pwysigrwydd gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd i gefnogi'r agenda ataliol.
Hoffwn roi eiliad i dynnu ein sylw at un neu ddau o argymhellion penodol. Y cyntaf yw argymhelliad 12. Mae’r argymhelliad hwnnw’n cefnogi'r dyraniad o £3.5 miliwn mewn cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU i gefnogi pyllau nofio yn arbennig, yn enwedig y rhai a allai fod yn anhyfyw heb y cymorth mawr ei angen hwn. Dyna’n union y pwynt a wnaeth fy nghyd-Aelod, Carolyn Thomas, yn ei chyfraniad, sef bod cyllid Llywodraeth y DU yn cael ei basbortio i sicrhau y gall y cyfleusterau hyn barhau i fod yn gynaliadwy. Ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad hwn. Felly, hoffwn eglurhad, efallai, gan y Dirprwy Weinidog heddiw ynglŷn â'i rhesymeg dros hynny, oherwydd, fel rydym newydd ei drafod ac fel y mae pobl eisoes wedi tynnu sylw ato, mae ffitrwydd corfforol a lles meddyliol yn hanfodol i bobl, ac mae nofio'n allweddol i hynny, nid yn unig ar lefel unigol, ond ar lefel gymdeithasol i bobl o bob oed hefyd. Dyna wychder rhywbeth fel nofio. Mae'n hygyrch i'r rhai ieuengaf a'r rhai hynaf yn ein cymunedau. Mae eraill eisoes wedi sôn am bwysigrwydd datblygu sgiliau goroesi hanfodol hefyd. Felly, rwy'n credu bod cynaliadwyedd pyllau nofio, yn enwedig, yn wirioneddol bwysig, a hoffwn glywed rhesymeg y Dirprwy Weinidog dros beidio â phasbortio'r £3.5 miliwn hwnnw iddynt.
Mae mater cyffredinol cyllid, y mae Heledd Fychan eisoes wedi’i grybwyll hefyd, yn berthnasol iawn i argymhelliad 14. Mae’r argymhelliad hwnnw’n nodi bod Llywodraeth Cymru yn diweddaru’r pwyllgor ar ba gymorth ariannol ychwanegol y bydd yn ei ddarparu i wasanaethau hamdden a llyfrgelloedd i ymdrin â’r heriau ynni y maent yn eu hwynebu. Credaf y caiff eglurder ar hynny ei groesawu’n fawr gan y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny ac sy'n gweithio yn y canolfannau hynny, ac rwy’n falch fod y Llywodraeth wedi gallu derbyn yr argymhelliad hwnnw, gan fod angen inni weld mwy o frys ynghylch costau ynni.
Rwyf am gloi drwy ddweud, yn gyffredinol, fy mod yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod nifer o’r argymhellion. Ar un lefel, mae’n fy ngwneud ychydig yn falch ein bod ni fel pwyllgor wedi gallu cyflwyno digon o argymhellion heriol i’r Llywodraeth fel eu bod yn teimlo na allent dderbyn pob un ohonynt, ond roeddwn yn credu o ddifrif fod yr argymhellion a gyflwynwyd gennym yn deg ac yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn argymhellion, yn dilyn cryn dipyn o ymchwil a thystiolaeth, y gallai Llywodraeth Cymru eu derbyn, yn fy marn i. Felly, hoffwn annog Llywodraeth Cymru yn gryf unwaith eto heddiw i feddwl am yr argymhellion rydym wedi'u cyflwyno—y rhai sydd wedi'u gwrthod—i ddeall meysydd y gallent eu cefnogi, efallai, yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.
Yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch i'r Cadeirydd, y tîm clercio ac ymchwil, a fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor am eu gwaith ar y maes pwysig hwn. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i bawb a roddodd eu hamser i roi tystiolaeth i ni ledled Cymru.
Gorau po gyntaf y caiff pobl ifanc gyfle i ymweld â darparwr neu ddarpariaeth hamdden neu lyfrgell. Gyda'r heriau iechyd cyhoeddus sy'n ein hwynebu, mae'n hanfodol fod pob cymuned yn gallu manteisio ar gyfleusterau hamdden fforddiadwy o ansawdd da. Mae ganddynt ran bwysig i'w chwarae. Mae Casnewydd Fyw wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol yn fy etholaeth, yn arloesi’n gyson a gwneud defnydd o’r mannau sydd ar gael yn y ddinas, yn fwyaf diweddar gydag agor y cyrtiau tenis fforddiadwy newydd ym Mharc Tredegar a chyflwyno sesiynau tennis i bob oed. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o fy nghyfraniad y prynhawn yma'n canolbwyntio ar lyfrgelloedd.
Y llyfrgell gyntaf imi fynd iddi yn blentyn oedd llyfrgell Maendy. Ni allaf bwysleisio digon yr effaith a gafodd mynd i’r cyfleusterau cyhoeddus hynny arnaf pan oeddwn yn tyfu i fyny. Treuliais lawer o fy mhlentyndod ym mhwll nofio Maendy, ac mae fy nghariad at lyfrau a darllen yn rhan fawr iawn o fy mywyd heddiw, diolch i lyfrgell Maendy a'r llyfrgell ganolog. Drwy ymroddiad ac ymrwymiad a dyfalbarhad gwirfoddolwyr, trosglwyddwyd llyfrgell Maendy o ddwylo’r awdurdod lleol i’r gymuned, gan ei chadw’n fyw, ac mae’n parhau i fod wrth galon y gymuned honno yn etholaeth fy nghyfaill, John Griffiths. Yn fy etholaeth i, Gorllewin Casnewydd, rydym wedi gweld enghraifft wych Cwtsh, a drosglwyddwyd, unwaith eto, o ddwylo’r awdurdod lleol i grŵp cymunedol, sy’n ei redeg fel gofod cymunedol gydag adran lyfrgell plant wych. Yn dal i fod dan reolaeth yr awdurdod lleol yn fy etholaeth, mae gennym lyfrgelloedd Malpas, Tŷ-du a Betws. Mae'r rhain yn bwysig iawn yn sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn agos at bobl—rhywbeth sy'n bwysig i allu cael mynediad at bob un o'r gwasanaethau hynny.
Rwyf hefyd yn falch o gael Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd a’r llyfrgell ganolog yn fy etholaeth, a dyma enghraifft lle rydym wedi gweld gwasanaethau’r cyngor yn symud i mewn i’r adeilad yn ddiweddar er mwyn rhannu costau. Yr her yma, fodd bynnag, fydd sut i ddenu mwy o bobl i fyny’r grisiau hynny i ymweld â’r llyfrgell. Credaf y bydd hynny’n bwysig, a dyna pam y credaf y bydd argymhelliad 10 yn ddefnyddiol i fonitro a gwerthuso effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd cydleoliadau yng Nghymru, a rhannu’r canfyddiadau gydag awdurdodau lleol. Mae llyfrgelloedd yn fannau cynnes, diogel i bobl o bob oed, o grwpiau darllen i ddarparu cymorth gyda curricula vitae, a llawer iawn mwy. Fel y dywedodd Unsain Cymru yn eu tystiolaeth, maent yn darparu mynediad at lyfrau nad oes yn rhaid i chi dalu amdanynt, felly maent yn darparu chwarae teg i gymunedau.
Hoffwn gofnodi fy niolch hefyd i'r gweithlu llyfrgellwyr, sy’n gweithio’n ddiflino i rannu eu hangerdd am lyfrau gyda’r bobl sy’n ymweld. Er y gofynnir iddynt wneud mwy a mwy, maent yn aml yn adnabod pobl wrth eu henwau, weithiau'n gweld pobl sy'n ei chael hi'n anodd ar adegau anodd yn eu bywydau, ac wrth gwrs, yn mwynhau argymell llyfrau. Fel y clywsom gan y Cadeirydd, mae gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd yn aml wedi wynebu rhai o’r toriadau mwyaf i'w cyllidebau. Gwyddom fod hon yn adeg ariannol anodd iawn, ond mae angen cryfhau fframweithiau statudol a pholisi i ddiogelu’r gwasanaethau hyn y credaf eu bod yn hanfodol. Dyna pam fod argymhelliad 8 mor bwysig, gan ei fod yn argymell bod Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â phartneriaid llywodraeth leol, yn dadansoddi ac yn cyhoeddi data penodol i Gymru yn rheolaidd ar yr enillion gwerth cymdeithasol ar fuddsoddiad wrth ddarparu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd.
Ysbrydolwyd Nicky Wire o’r Manic Street Preachers gan hen lyfrgell Pilgwenlli yn fy etholaeth, sy'n dal i nodi 'Knowledge is power’ uwchben y drws. Mae llyfrgelloedd yn sicr yn rhoi pŵer i ni, a hir y parhaed hynny.
Diolch yn fawr i'r pwyllgor am yr adroddiad pwysig yma.
Mae strategaeth 'Cymru Iachach' Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar weledigaeth y dylai pawb yng Nghymru gael bywydau hirach, iachach a hapusach a gallu parhau i fod yn egnïol ac yn annibynnol. Caiff hyn ei ategu gan un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n anelu at adeiladu cymdeithas lle caiff llesiant corfforol a meddyliol pobl ei flaenoriaethu, a lle ceir dealltwriaeth o ddewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
Mae'r Gweinidog Iechyd hefyd wedi siarad yn ddiweddar am yr angen i annog pobl i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros ofalu am eu hiechyd a'u lles eu hunain, ond mae'n dod yn fwyfwy anodd cysoni'r uchelgeisiau hyn â'r realiti fod darpariaeth gwasanaethau hamdden ledled Cymru yn cael ei hymestyn i'r eithaf, a fydd yn naturiol yn cael effaith ddinistriol ar agenda iechyd a llesiant y Llywodraeth hon. Gadewch inni fod yn glir: mae sicrhau bod gan gymunedau Cymru fynediad at gyfleusterau hamdden yn anghenraid iechyd cyhoeddus. Mae fy nghyd-Aelod Mabon ap Gwynfor wedi siarad yn aml yn y Siambr hon am bwysigrwydd hanfodol ymgorffori'r agenda ataliol ym mhob agwedd ar ein dull o ymdrin â pholisi gofal iechyd yng Nghymru. Yn syml, mae dyfodol ein GIG yn dibynnu arni. Mae'n rhaid i'r ddarpariaeth gadarn o gyfleusterau hamdden ledled Cymru fod yn elfen allweddol o'r dull hwn, yn enwedig o ystyried yr angen difrifol i leddfu'r pwysau ar ein GIG sydd dan straen. Er enghraifft, mae Cynghrair Gordewdra Cymru wedi cyfrifo ei bod yn debygol y bydd y GIG yn wynebu costau ychwanegol o £465 miliwn yn 2050 os na weithredir ar frys i frwydro yn erbyn cyfraddau gordewdra yng Nghymru.
Fel sy'n wir gyda chau gwasanaethau llyfrgell, elfennau mwyaf difreintiedig ein cymdeithas sy'n cael eu cosbi'n anghymesur gan ddiffygion yn y ddarpariaeth o gyfleusterau hamdden cyhoeddus, sefyllfa sydd, fel y nodwyd mewn adroddiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi'i gwaethygu gan yr argyfwng costau byw parhaus. Mae'r rhaglen mesur plant Cymru ddiweddaraf wedi dangos bod plant sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ordew na'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Mae awydd clir ymhlith oedolion a phlant Cymru fel ei gilydd i gael mwy o gyfleoedd i wneud ymarfer corff. Er enghraifft, canfu arolwg chwaraeon ysgolion Chwaraeon Cymru yn 2022 fod 61 y cant o blant ysgolion cynradd Cymru eisiau nofio mwy, tra bod arolwg cenedlaethol Cymru yn 2021 wedi canfod bod 234,000 o oedolion Cymru eisiau nofio mwy. Ond mae'r dyhead hwn yn cael ei lesteirio gan y toriadau a wneir gan awdurdodau lleol i'w darpariaeth o gyfleusterau hamdden cyhoeddus ar ôl dros ddegawd o gyni a thanfuddsoddi o San Steffan.
Mae'r frwydr i achub canolfan hamdden Pontllan-fraith rhag gorfod cau dan law Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dan reolaeth Lafur yn enghraifft wych. Mae fy nghyd-aelod o Blaid Cymru, y Cynghorydd Rhys Mills, wedi gwneud gwaith gwych yn denu cefnogaeth ledled y dref a'r ardal gyfagos i achub y cyfleuster hamdden gwerthfawr a'r ased cymunedol hwn, ac mae'r frwydr honno'n parhau, ac rwyf am ei gefnogi ef a'r pwyllgor yn y gwaith hwnnw.
Mae ymchwil ddiweddar gan grŵp ymgyrchu UK Active wedi dangos bod 74 y cant o ardaloedd cynghorau ledled y DU yn cael eu hystyried yn anniogel ar hyn o bryd, sy'n golygu bod risg y bydd canolfannau hamdden yn cau neu wasanaethau'n crebachu cyn 31 Mawrth 2024. Tanlinellir hyn gan y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor gan Nofio Cymru y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol wynebu bwlch cyllido o £10 miliwn i £12 miliwn fan lleiaf dros y 12 mis nesaf o ganlyniad i gynnydd ym miliau ynni canolfannau hamdden.
Heb weithredu ar frys i fynd i'r afael â'r mater, rydym mewn perygl o gondemnio pobl Cymru i gylch dieflig o ganlyniadau iechyd gwael a gorddibyniaeth ganlyniadol ar ein gwasanaethau gofal iechyd rheng flaen sydd eisoes dan bwysau. Am y rheswm hwn rwy'n cytuno â'r pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru geisio dyrannu'r £1.2 miliwn mewn cyllid refeniw a dderbyniwyd fel swm canlyniadol o gyllideb wanwyn Llywodraeth y DU tuag at gefnogi cyfleusterau hamdden yng Nghymru. Byddai buddsoddiad o'r fath yn dangos bod y Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â chyflawni ei huchelgais i adeiladu Cymru iachach ar gyfer cenedlaethau'r presennol ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr.
Jest cyfraniad byr gen i, os caf i. Mae yna ymgynghoriad yn fyw ar hyn o bryd yng Nghyngor Sir Ddinbych ar leihau oriau llyfrgelloedd y sir. Mi drafodon ni'n gynharach y prynhawn yma'r pwysau ariannol sy'n wynebu awdurdodau lleol, ac, wrth gwrs, pan ŷch chi'n edrych arno fe, mae tebygrwydd neu'r posibilrwydd yw y bydd rhai o'r gwasanaethau yma'n cael eu colli dros y misoedd a'r ychydig flynyddoedd i ddod.
Dau ddewis sydd yna yn aml iawn, byddech chi'n tybio: un, cau ambell i lyfrgell er mwyn gwarchod y lleill, neu, wrth gwrs, leihau oriau pob un ohonyn nhw ar draws y sir. Dyw e ddim yn ddewis, mewn gwirionedd, y byddai unrhyw un yn dymuno gorfod ei wneud, ond mi fyddwn i'n annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad yna, oherwydd fel rŷn ni wedi clywed, mae llyfrgelloedd yn adnodd llawer mwy pwysig na dim ond rhywle sydd yn cadw llyfrau.
Mi fyddwn i eisiau, serch hynny, amlygu yr hyn sy'n digwydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, lle mae yna gyfle i'r gymuned chwarae rôl fwy blaenllaw pan fo'n dod i redeg llyfrgelloedd. Mae yna bum llyfrgell gymunedol wledig yng Nghonwy ac mae'r cynghorau cymuned lleol yn cyfrannu tuag at gyflogi aelod o staff ar gyfer y gwasanaeth. Mae cyngor sir Conwy, y cyngor sir, wrth gwrs, yn dal i ddarparu'r llyfrau ac yn sortio'r ochr HR ac yn y blaen, ac wedyn mae yna elusen yn cymryd drosodd yr adeilad, ac maen nhw, felly, wrth gwrs, yn gallu cael mynediad at gyllidebau a ffynonellau ariannu amgen ar gyfer talu costau'r adeilad, gwres, golau ac yn y blaen. Nawr, mae'n ddyddiau cynnar, ond roeddwn i'n edrych ar y seithfed argymhelliad yn yr adroddiad pan fo'n dod i rannu arfer da a rhannu modelau gwahanol o ddarparu gwasanaethau, a dwi'n meddwl bod yna gyfle yn fan hyn, efallai, i edrych ar gyfrwng amgen o fod yn darparu gwasanaeth.
Hefyd, wrth gwrs, mae gwasanaethau arlein yn realiti, onid ydynt, er efallai bod y niferoedd sy'n eu defnyddio nhw'n amrywio o adeg i adeg, o ardal i ardal. Mae'r trajectory tymor hir yn ddigon clir: dwi'n aelod o lyfrgelloedd sir Ddinbych, a drwy hynny dwi wedi ymaelodi â phlatfformau Libby a BorrowBox sydd yn caniatáu i fi fenthyg e-lyfrau, e-gylchgronau ac yn y blaen. Felly, mae'r sifft arlein yna'n rhan bwysig o'r drafodaeth hefyd, wrth i ni edrych ar ddyfodol gwasanaethau.
Ond, roeddwn i jest eisiau diolch i'r pwyllgor am y gwaith sydd wedi cael ei wneud. Mae'n amserol iawn, wrth gwrs, ac mi fyddwn i'n pwyso ar y Dirprwy Weinidog a'r Llywodraeth i weithredu ar fyrder ar yr argymhellion yma, oherwydd mae gwasanaethau'n cael eu torri nawr, ac unwaith maen nhw wedi mynd, fel y dywedwyd gynnau, maen nhw wedi mynd, ac mi fyddai'n resyn petaem ni mewn blwyddyn neu ddwy yn gweithredu ar rai o'r materion yma ond, erbyn hynny, mae'n debyg y bydd hi'n rhy hwyr i nifer.
A galwaf ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelodau am ddadl ddiddorol ac eang iawn y prynhawn yma. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am eu hamser a'u hymdrech yn llunio'r adroddiad hwn, ac i'r rhai a roddodd dystiolaeth.
Nawr, mae natur eang yr argymhellion a'r ddadl ei hun yn dangos pwysigrwydd parhaus llywodraeth leol yn y gwaith o ddarparu'r gwasanaethau allweddol hyn a phwysigrwydd canolfannau hamdden a llyfrgelloedd i gymunedau lleol. Atgyfnerthwyd hyn gan y cyfraniadau i'r ddadl heddiw, ac rwy'n cytuno â phopeth a ddywedwyd i gefnogi'r gwasanaethau pwysig hyn.
Cyfrifoldeb cyd-Weinidogion eraill yw nifer o'r meysydd a godwyd yn ystod y ddadl, yn enwedig y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, oherwydd y galwadau cyllido yn enwedig am wasanaethau llywodraeth leol, felly rwy'n siŵr y byddant i gyd yn gwrando ar hyn ac y bydd ganddynt ddiddordeb mewn clywed yr hyn a ddywedwyd y prynhawn yma. Felly, er y byddaf yn canolbwyntio fy ymateb ar y meysydd sy'n uniongyrchol o fewn fy mhortffolio, fel y gwneuthum yn y pwyllgor, byddaf hefyd yn ceisio mynd i'r afael ag ychydig o'r pwyntiau ar ran fy nghyd-Weinidogion Cabinet. Ond os nad ymdrinnir â'r rheini, byddaf yn sicrhau bod rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu i chi fel Cadeirydd y pwyllgor, yn ôl yr angen.
Yn amlwg, mynegwyd pryder heddiw ynglŷn â chyllid ar gyfer ein pyllau nofio a'n gwasanaethau llyfrgell, a'r gwir amdani yw, cyn y cynllun cymorth penodol ar gyfer pyllau nofio a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, fel Llywodraeth Cymru, er gwaethaf ein pwysau cyllidebol ein hunain, fe wnaethom flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen drwy ddarparu setliad gwell o £5.5 biliwn i lywodraeth leol eleni—setliad a groesawyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Ni chafodd yr un awdurdod gynnydd o lai na 6.5 y cant ac felly, mater i bob awdurdod unigol yw penderfynu sut maent yn defnyddio'r cyllid hwnnw i ymateb i anghenion a blaenoriaethau lleol. Ond wrth gwrs, rwy'n cydnabod y dewisiadau anodd sy'n parhau, oherwydd amgylchiadau economaidd heriol. Clywsom hynny yn gynharach heddiw yn y drafodaeth ar y cwestiwn amserol, ac rydym i gyd yn cydnabod ei fod wedi'i achosi gan bwysau chwyddiant, o ganlyniad i gamreolaeth Dorïaidd ar economi'r DU.
Ond er mwyn ymdrin yn benodol â chymorth pyllau nofio Llywodraeth y DU, a'r defnydd o symiau canlyniadol yng Nghymru, fel y dywedais yn y pwyllgor, rhannwyd y £3.5 miliwn hwn—£1.2 miliwn o refeniw a £2.3 miliwn o arian cyfalaf—a byddai hynny'n cyfateb i ddim mwy na thua £10,000 ar gyfer pob pwll nofio yng Nghymru i dalu eu costau ynni uniongyrchol. Mae hynny'n llai na'r hyn sydd ei angen am filiau tanwydd un mis yn unig i lawer. Nawr, egwyddor bwysig o ddatganoli yw nad yw cyllid canlyniadol o reidrwydd wedi'i glustnodi at yr un diben ag y cafodd ei ddyrannu ar ei gyfer gan Lywodraeth y DU. Felly, fe wnaethom benderfyniad strategol na fyddai hyn yn effeithiol ac y byddai'n well cyfeirio ein hymdrechion tuag at gynorthwyo pyllau nofio a chanolfannau hamdden i reoli effeithlonrwydd ynni yn fwy hirdymor, drwy gynlluniau fel gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, sy'n alluogwr allweddol wrth ddarparu cymorth technegol ac ariannol i'r sector cyhoeddus, i gyflawni uchelgais ar y cyd ar gyfer sector cyhoeddus sero net erbyn 2030, a fyddai'n ategu unrhyw beth roedd yr awdurdodau lleol yn ei wneud i gefnogi gwasanaethau hamdden drwy eu setliad cyllidebol.
Os caf symud ymlaen at argymhelliad 3, rydym wrthi'n datblygu strategaeth ddiwylliant newydd i Gymru. Mae'r strategaeth ddiwylliant yn ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac rwyf wedi gweithio ar y cyd â'r Aelod dynodedig o'r cychwyn cyntaf i ddarparu'r cyfeiriad a'r arweiniad fel bod y strategaeth yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. O ystyried nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 o weld Cymru o ddiwylliant bywiog, a ffocws y Ddeddf ar ddulliau cynaliadwy o ymdrin â llesiant diwylliannol yng Nghymru, bydd y strategaeth hon yn un i'r Llywodraeth gyfan, ond mae ganddi ffocws clir ar ein sector llyfrgelloedd, archifau, amgueddfeydd, treftadaeth a chelfyddydau. Roedd ein dull o ddatblygu'r strategaeth yn cynnwys gweithio gyda phartner allanol i ymgysylltu â chynrychiolwyr sector a grwpiau cymunedol yn gynharach eleni, ac roedd y broses hon yn cynnwys sgyrsiau gyda chynrychiolwyr y sector llyfrgelloedd cyhoeddus. Rydym wedi datblygu drafft cyntaf o'r strategaeth, ac mae'n cydnabod pwysigrwydd y sector llyfrgelloedd yn llawn ac yn cydnabod gwasanaethau llyfrgelloedd fel rhan annatod o'n cynnig diwylliannol yng Nghymru—a nodwyd hynny'n rymus iawn yng nghyfraniadau Heledd Fychan a Jayne Bryant.
Nawr, ystyriais argymhelliad 9 y pwyllgor yn ofalus ar gyfer tasglu llyfrgelloedd, ond am y tro, rwy'n teimlo ei bod yn fwy priodol canolbwyntio ein hymdrechion ar gryfhau'r rhaglen bresennol o waith hyrwyddo yn hytrach na sefydlu corff newydd nawr, cyn y strategaeth ddiwylliant, a fyddai yn y bôn yn dyblygu gwaith presennol. Mae'r strategaeth ddiwylliant ddrafft a'r fframwaith newydd ar gyfer safonau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru yn cael eu datblygu ar yr un pryd, a gallaf gadarnhau bod swyddogion diwylliant yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'i gilydd, a byddaf yn rhoi diweddariadau pellach i'r pwyllgor wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.
Mae'r gwaith ar safonau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru hefyd yn cysylltu ag argymhelliad 8 yr adroddiad, ac mae datblygu fframwaith 7 yn rhoi cyfle i ystyried sut y gallwn gasglu tystiolaeth fwy cadarn o effaith a gwerth cymdeithasol llyfrgelloedd. A bydd hefyd yn cefnogi cyflwyno argymhelliad 10 ar gasglu gwybodaeth am effeithiolrwydd cydleoli llyfrgelloedd gyda gwasanaethau eraill.
Felly, gan droi at wasanaethau hamdden, ac argymhelliad 5 yn arbennig, rydym wedi cytuno â phrif swyddogion hamdden Cymru y byddwn yn cynnal adolygiad cyflym o'r ddarpariaeth hamdden, cyflwr yr ystad hamdden, a sut mae'n rhyngweithio â gwasanaethau cyhoeddus eraill drwy grŵp bach o gynrychiolwyr ledled Cymru. Byddwn yn adrodd hynny yn ôl i'r pwyllgor wedyn.
Mewn perthynas ag argymhellion 16 a 17 ar ddatgarboneiddio, mae'r strategaeth ddiwylliant ddrafft yn pwysleisio pwysigrwydd cydgyfrifoldeb wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Mae'r is-adran ddiwylliant yn archwilio cynnig cymorth datgarboneiddio ar draws pob sector diwylliant, a chyfeiriais at rywfaint o hynny yn gynharach mewn perthynas â gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru. Mae swyddogion wedi casglu astudiaethau achos i gefnogi'r gwaith hwn, sy'n dangos y gwaith rhagorol sydd eisoes yn cael ei wneud ar draws y sectorau diwylliannol. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn cefnogi datgarboneiddio llyfrgelloedd a chyfleusterau hamdden, ac mae gan y rhaglen grant cyfalaf trawsnewid ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ddatblygiad cynaliadwy fel un o'i meini prawf blaenoriaeth. Mae Chwaraeon Cymru hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi'r sector i leihau ei effaith ar garbon, gan ymestyn cyrhaeddiad datgarboneiddio a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae'r strategaeth ddiwylliant ddrafft hefyd yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddiad cyfalaf strategol hirdymor i sicrhau bod cyllid yn y dyfodol yn cael ei ddyrannu mewn modd blaenoriaethol. Ond rwyf am ailbwysleisio, fel y gwneuthum yn yr ymateb i adroddiad y pwyllgor, nad yw Llywodraeth Cymru, yng nghyd-destun sefyllfa heriol iawn, yn debygol o allu darparu cymorth ariannol ychwanegol yn 2023-24. Felly, rwy'n credu bod angen i ni fod yn glir ynglŷn â hynny.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch eto i'r pwyllgor am eu gwaith caled yn llunio'r adroddiad eang hwn, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw ar yr argymhellion sy'n dod o fewn fy mhortffolio. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl.