Y Cyfarfod Llawn
Plenary
10/10/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, ac, os gallaf i alw'r Senedd i drefn, dwi'n siŵr, y prynhawn yma, cyn i ni gychwyn ar ein gwaith gyda'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ein bod ni eisiau cymryd ychydig eiliadau i feddwl am yr hyn sy'n digwydd yn y dwyrain canol, a'n bod ni i gyd wedi ein brawychu gyda'r digwyddiadau mwyaf diweddar yma. Felly, i adlewyrchu ar hynny, dwi'n mynd i ofyn nawr i arweinwyr y pleidiau oll i gyfrannu eu hadlewyrchiadau ar y digwyddiadau yma. Yn gyntaf, y Prif Weinidog.
Llywydd, diolch yn fawr. Cafwyd dwysâd ofnadwy i'r trais yn erbyn Israel y penwythnos hwn, ac mae'r trais hwnnw wedi parhau ac ehangu yr wythnos hon. Mae'r digwyddiadau yn ddychrynllyd ac yn warthus. Wrth i ni eistedd yma yn y Siambr hon, mae plant, pobl hŷn a'r boblogaeth sifil yn Israel ac yn Gaza mewn ofn byw am eu bywydau, tra'u bod yn galaru am y rhai a gollwyd eisoes. Ac nid yw effaith y digwyddiadau hynny wedi'i chyfyngu i strydoedd Israel a Gaza; maen nhw'n cael effaith wirioneddol yma yng Nghymru, yn ein cymunedau ein hunain, ac rydym ni'n meddwl am bawb sydd wedi'u dal yn y cylch parhaus hwn o drais. Rydym ni'n condemnio wrth gwrs cyflawnwyr yr ymosodiadau hyn, sydd wedi cymryd bywydau cymaint o sifiliaid diniwed. Ond nid yw condemniad yn unig yn ddigon. Ateb dwy wladwriaeth yw polisi Llywodraeth y DU a'r Cenhedloedd Unedig. Y tu hwnt i arswyd y dyddiau nesaf, mae'n rhaid i'r gymuned ryngwladol ddod at ei gilydd i weithio eto dros heddwch parhaol, heddwch diogel, heddwch sy'n ymestyn i fywydau beunyddiol pobl Israel a Palesteina. Ac mor anodd ag ydyw, ac fe'i wnaed yn anoddach eto gan y rhyfel sy'n parhau i ddatblygu, mae'n rhaid mai'r unig lwybr at well dyfodol yw llwybr o heddwch.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Rwy'n credu bod llawer ohonom ni, pan wnaethon ni ddeffro fore Sadwrn a gweld y lluniau yn dod o Israel, wedi'n syfrdanu gan yr hyn a oedd yn datblygu o'n blaenau. Rydym ni i gyd yn gwybod bod y rhan honno o'r byd yn lle ymfflamychol iawn, ond mae gweld gweithgareddau'r sefydliad terfysgol Hamas yn torri drwy'r ffin ac yn llofruddio menywod, plant a hen bobl yn eu cartrefi ac yn eu lleoliadau cymunedol yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn ei resynu, a hynny'n briodol. Ac mae'n rhaid i ni i gyd gefnogi hawl amddiffyn Israel a gwneud yn siŵr bod ei ffiniau rhyngwladol yn cael eu cydnabod ac, yn y pen draw, eu diogelu. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei gofio hefyd, fel yr amlygodd y Prif Weinidog, wrth i ni eistedd yn y Siambr hon yma heddiw, bod bobl yn swatio mewn seleri, mewn lleoliadau cymunedol oherwydd bod taflegrau a rocedi yn ffrwydro'n anwahaniaethol, yn Israel ac yn Llain Gaza.
Ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fel gwlad, y Deyrnas Unedig, a'r gymuned ryngwladol, a ninnau yma yng Nghymru, atgyfnerthu ein hymdrechion i ddod â heddwch i'r cymunedau sy'n byw yn y rhan honno o'r byd, oherwydd heb heddwch yn y dwyrain canol, nid oes gennym ni heddwch ledled y byd. Ac mae'n rhaid i weld y dioddefaint, gweld y gwewyr, a gweld yr arswyd ein llenwi ni i gyd i wneud yn siŵr ein bod ni'n atgyfnerthu ein hymdrechion i ddod â'r heddwch hwnnw, heddwch parhaol, i'r rhan honno o'r byd. A'r un ddelwedd y byddwn yn gofyn i'r holl Aelodau fyfyrio arni yw'r ddelwedd ar dudalen flaen The Times heddiw o deulu o dri phlentyn ifanc, tad a mam, a gafodd eu lladd—a gafodd eu lladd—dros y penwythnos gan eu bod nhw'n digwydd bod yn Israeliaid. Mae hynny'n rhywbeth na ddylai unrhyw un ohonom ni—unrhyw un ohonom ni—ei gefnogi a'i gymeradwyo, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n atgyfnerthu ein hymdrechion i gefnogi hawl Israel i hunanbenderfyniad, i amddiffyn ei ffiniau. Rydym ni'n cefnogi'r sifiliaid yn y gymuned Balesteinaidd sy'n casáu'r hyn y mae Hamas yn ei wneud, yn eu henwau nhw fel y tybir, y byddwn i'n dadlau nad yw'n cael ei wneud yn eu henwau nhw, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd lle mae'r trais hwn yn achosi cymaint o boen a dioddefaint, fel y gallwn ni fwynhau'r heddwch y mae'r Prif Weinidog wedi sôn amdano, a'r heddwch yr ydym ni i gyd eisiau ei weld.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Mae digwyddiadau'r dyddiau diwethaf yn y dwyrain canol wedi ein hysgwyd ni i gyd. Rydyn ni'n meddwl heddiw am bawb sydd wedi eu taro'n uniongyrchol gan hyn, am y bywydau sydd wedi eu colli, ac rydyn ni'n meddwl am bawb o dras Israelaidd a Phalesteinaidd yng Nghymru sydd wedi bod mewn gwewyr yn gwylio datblygiadau'r dyddiau diwethaf, dwi'n siŵr. Rydyn ni ym Mhlaid Cymru a phawb ohonon ni yma yn y Senedd yn gallu uno wastad yn ein condemniad o drais yn erbyn ein cyd-ddyn. Rydyn ni'n condemnio'r ymosodiadau gan Hamas. Heddiw, rydyn ni'n ymbil ar y gymuned ryngwladol i weithio efo'i gilydd yn gyflym i ddwyn perswâd ar y grymoedd perthnasol i gyflwyno cadoediad i sicrhau rhyddhad y gwystlon sy'n cael eu dal yn Gaza yn erbyn eu hewyllys.
Rydyn ni hefyd yn credu bod y modd y mae Llywodraeth Israel rŵan wedi rhoi gwarchae ar Gaza, gan atal cyflenwadau dŵr ac ynni, yn amhosib i'w gyfiawnhau. Mae Palestiniaid cyffredin, wrth gwrs, wedi cael eu gadael i lawr gan y gymuned ryngwladol ac wedi dioddef blynyddoedd o drais ac anghyfiawnder. Rŵan mae pobl ar ddwy ochr y ffin yn colli eu bywydau eto mewn amgylchiadau torcalonnus. Nid gwaethygu trais ymhellach ydy'r ateb. Bydd ymosodiadau diwahân ar ddinasyddion yn gwneud dim i leddfu tensiynau. Mae'r dioddefaint sy'n wynebu pobl gyffredin o bob cred yn y brwydro ffyrnig yma wedi ein cyffwrdd ni i gyd, ac mae'n meddyliau efo pob un ohonyn nhw mewn pennod arall dywyll yn hanes y rhanbarth.
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds.
Diolch yn fawr iawn am y cyfle i ddweud gair byr.
Rydym ni'n meddwl am bawb y mae'r trais trasig hwn wedi effeithio ar eu bywydau. Rydym ni'n condemnio terfysgaeth Hamas a jihad Islamaidd yn llawn. Rwy'n adleisio sylwadau Layla Moran, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar faterion tramor, sydd ei hun o dras Palesteinaidd, a ddywedodd bod yn rhaid amddiffyn sifiliaid, a bod clywed am gymryd gwystlon yn peri arswyd arbennig i ni, a'n bod ni'n condemnio'r holl drais. Yn anffodus, mae hwn yn ddwysâd sylweddol. Dywedodd y Cenhedloedd Unedig:
'Mewn gwrthdaro, sifiliaid sydd bob amser yn talu'r pris uchaf. Nid rhyfel yw'r ateb. Mae angen heddwch arnom ni.'
I orffen, rwy'n gobeithio ac yn gweddïo y bydd pob ymdrech gan bawb, ym mhobman, yn canolbwyntio ar drafodaethau, heddwch, diogelwch ac amddiffyniad pawb sy'n gysylltiedig â'r gwrthdaro erchyll hwn. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r arweinwyr, felly, bob un ohonynt wedi ymbil am heddwch yn y dwyrain canol y prynhawn yma ac yn adlewyrchu ein barn ni i gyd, dwi'n siŵr, yn hynny o beth.
Fe wnawn ni symud ymlaen nawr i'r eitem gyntaf, felly y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Luke Fletcher.
1. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effaith busnesau cydweithredol ar economi Cymru? OQ60037
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r sector cydweithredol ers amser maith, gan gynnwys cyllid datblygu pwrpasol. Mae'r adroddiad 'Co-operative and Mutual Economy 2023' diweddaraf yn dangos twf pellach, gyda dros 520 o fusnesau sy'n eiddo cydweithredol yng Nghymru.
Diolch am yr ateb, Prif Weinidog.
Wrth gwrs, mae'r Llywodraeth ar fin cyrraedd ei nod o ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr. Yng nghyd-destun ehangach economi Cymru, mae gwaith ymchwil diweddar gan Co-operatives UK yn dangos mai cwmnïau cydweithredol Cymru sydd â'r trosiant blynyddol isaf yn y DU, sy'n 0.6 y cant yn unig o gynnyrch domestig gros Cymru. Nawr, byddwn i'n dadlau bod angen i ni fynd y tu hwnt i ddyblu nifer y cwmnïau cydweithredol er mwyn cynyddu ein huchelgeisiau yn y sector, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, gwaith rhagweithiol gan y Llywodraeth, gyda'r cyllid i'w ategu. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi ac a yw'n credu bod digon o adnoddau wedi'u dyrannu ar hyn o bryd i feithrin ac ehangu'r sector, yn enwedig o gofio nad oes gan Fanc Datblygu Cymru gronfa benodol ar gyfer cwmnïau cydweithredol?
Wel, diolch i Luke Fletcher am y gyfres bellach honno o gwestiynau. Llywydd, darllenais erthygl yr Aelod yn y Morning Star yn ddiweddar, ac mae'n cyflwyno'r safbwyntiau y mae wedi'u mynegi y prynhawn yma ac yn eu datblygu nhw ymhellach. Diolch iddo am ei gydnabyddiaeth ein bod ni'n debygol iawn bellach o gyrraedd y targed cychwynnol hwnnw o ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo cydweithredol. Ond, rwy'n cytuno ag ef bod mwy y gellir ac y dylid ei wneud, ac mae rhywfaint o newyddion da yn hynny, o'r safbwynt mai'r gyfradd creu busnesau cydweithredol yng Nghymru—busnesau cydweithredol newydd sbon—yw'r uchaf yn y Deyrnas Unedig gyfan, gyda nifer fwy o fusnesau cydweithredol newydd yn cael eu creu yma nag yn yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon o'i chymharu â maint ein poblogaeth. Ceir cyllid penodol ar gyfer cynorthwyo'r sector, ac er efallai nad oes cronfa benodol o fewn Banc Datblygu Cymru, mae'r gronfa olyniaeth rheoli Cymru gwerth £25 miliwn yn golygu pan fydd busnesau yn pontio, ein bod ni'n gallu cynorthwyo gweithwyr neu reolwyr sydd â'r nod o brynu'r adeiladau hynny a'u troi'n fodel cydweithredol. Mae gennym ni arbenigedd a gallu ariannol yno i'w helpu i wneud hynny.
Yr wythnos diwethaf, ymwelais â hufenfa First Milk yn Hwlffordd yn fy etholaeth i gyda fy nghyd-Aelod Sam Kurtz, ac, fel y gwyddoch chi, Prif Weinidog, mae First Milk yn fusnes cydweithredol sy'n eiddo i ffermwyr sy'n dilyn arferion ffermio adfywiol. Ac maen nhw wir yn gwneud gwaith pwysig, fel symud carbon o'r atmosffer a'i ddal yn y pridd. Maen nhw hefyd yn buddsoddi mewn prosesau ac offer effeithlon o ran ynni, ac yn chwilio am opsiynau ynni adnewyddadwy ar gyfer prosesu a chludo llaeth. Maen nhw wir ar flaen y gad o ran ffermio modern arloesol, yn ogystal â chynhyrchu cynhyrchion o ansawdd uchel fel caws. Ac, Prif Weinidog, mae'r ffaith eich bod chi wrth eich bodd â chaws wedi cael llawer o sylw, felly a gaf i eich gwahodd i ddod i sir Benfro i ymweld â First Milk a darganfod mwy am yr hyn y mae'n ei wneud a sut mae'n gweithredu?
Wel, diolch i Paul Davies am yr hyn a ddywedodd ac am y gwahoddiad. Wrth gwrs, ceir hanes maith o ymdrechion cydweithredol yn y sector ffermio ac yn y sector llaeth yn arbennig. A hoffwn longyfarch y rhai sy'n cymryd rhan yn ymdrech hufenfa First Milk ar y ffordd y maen nhw, fel y dywedodd Paul Davies, wedi rhoi eu hunain ar flaen y gad o ran datblygiadau sy'n digwydd yn y sector, ac ychwanegu gwerth at y cynnyrch y maen nhw'n ei gynhyrchu mewn ffordd yr ydym ni'n gwybod y mae'n rhaid iddo fod yn ddyfodol y diwydiant yma yng Nghymru. Mae unrhyw wahoddiad sydd â chaws ynghlwm wrtho yn sicr o ennyn blaenoriaeth benodol yn y dyddiadur, felly byddwn yn edrych i weld a allwn ni ddod yn ôl at yr Aelod ar hynny. [Chwerthin.]
Prif Weinidog, gyda'r rhaglen lywodraethu yn cynnwys yr ymrwymiad i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn y tymor Senedd hwn, roeddwn i'n falch o weld yr wybodaeth ddiweddaraf gan Weinidog yr Economi ym mis Mehefin bod 63 o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru erbyn hyn, mwy na'r 37 ar ddechrau'r tymor ac ymhell ar y ffordd i'r targed hwnnw o 74. Rydym ni'n gwybod bod busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn cyd-fynd â'r canlyniadau llesiant cenedlaethol presennol ac yn adlewyrchu agenda gwaith teg 'Cymru lewyrchus'. Felly, Prif Weinidog, sut arall all Llywodraeth Cymru ymgysylltu â busnesau, gweithwyr a'r sector i gynyddu nifer y mentrau sy'n eiddo i weithwyr, i gyrraedd y targed hwnnw ac i ddatblygu economi Cymru ymhellach?
Llywydd, diolch i Vikki Howells am hynna ac rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaeth am fanteision ehangach y model cydweithredol. Ac rwy'n credu bod y ffigurau heddiw ychydig yn well hyd yn oed na'r rhai y dyfynnodd ohonyn nhw yn ôl ym mis Mehefin, oherwydd mae gennym ni 65 o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr ledled Cymru erbyn hyn. Mae chwech arall sydd yn y camau cyfreithiol olaf o drosglwyddo i'r model hwnnw, ac mae pedwar arall eisoes ar y gweill. Felly, fel y dywedodd Luke Fletcher ac fel y cadarnhaodd Vikki Howells, rydym ni ymhell ar ein ffordd i'r targed hwnnw a nodwyd ar ddechrau'r tymor hwn.
Llywydd, yn ogystal â'r cymorth sydd ar gael drwy Fanc Datblygu Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid penodol i'r sefydliad Cwmpas i hyrwyddo manteision a datblygiad perchnogaeth gweithwyr yng Nghymru. Ac mae hynny'n golygu ein bod ni'n gallu darparu cymorth dwys i'r busnesau hynny sy'n cychwyn ar y newid hwnnw i fod yn fusnes sy'n eiddo i weithwyr. Bwriedir i'r cyllid greu 20 o hyrwyddwyr perchnogion sy'n weithwyr, fel bod amlygrwydd i'r ymdrech sy'n cael ei gwneud ledled Cymru, ac yna i greu digwyddiadau lle gellir hyrwyddo'r manteision ehangach—y manteision ehangach yn ogystal â'r manteision economaidd, fel y dywedodd Vikki Howells—i fusnesau eraill a allai fod â diddordeb mewn archwilio'r un model yn y dyfodol.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd gwasanaethau strôc? OQ60042
Diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiwn. Mae'r canllawiau strôc newydd gan Goleg Brenhinol y Meddygon yn galw am drefnu gwasanaethau strôc yn rhanbarthol. Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r model hwn oherwydd mai dyma fydd yn darparu'r gwasanaethau'r mwyaf effeithiol.
Diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Ar y pwynt yna o wasanaethau strôc rhanbarthol, wrth ystyried natur wledig Cymru a'r ffaith bod 80 y cant o ddioddefwyr strôc yn cael eu gyrru i ysbyty yn hytrach na dibynnu ar ambiwlans, ydy'r Prif Weinidog yn credu mai canoli gwasanaethau strôc ydy'r ffordd gywir ymlaen?
Wrth gwrs dwi'n cydnabod y pwynt mae'r Aelod yn ei wneud am natur Cymru—gwlad lle mae nifer fawr o bobl yn teithio i gael gwasanaethau. Y bwriad yw datblygu pedair canolfan strôc rhanbarthol yng Nghymru, a thrwy'r broses o'u datblygu, cymryd i mewn i'r model natur Cymru fel gwlad, yn enwedig yng nghefn gwlad. Mae hwnna'n rhan o'r gwaith y mae'r Gweinidog wedi'i roi ar y gweill, gwaith sy'n cael ei arwain gan Dr Shakeel Ahmad, un o'r bobl orau yng Nghymru a dros y Deyrnas Unedig i gyd i'n helpu ni i ddatblygu'r gwaith. Dwi'n gwybod bod y grŵp sy'n gweithio ar y cynllun am y canolfannau rhanbarthol, y rhwydwaith sydd gyda ni, yn ymwybodol o'r pwyntiau mae'r Aelod wedi'u gwneud.
Diolch i Mabon ap Gwynfor am godi'r mater pwysig hwn yma heddiw. Rwy'n sicr yn cefnogi cynsail cwestiwn Mabon ap Gwynfor, oherwydd, Prif Weinidog, byddwch yn gwybod, erbyn 2035, y disgwylir i nifer yr achosion o strôc gynyddu 120 y cant, cynnydd sylweddol i lefel yr achosion o strôc yn y DU. Mae'r pwynt hwn ynghylch agosrwydd gwasanaethau yn dod yn bwysicach fyth felly, gan y bydd angen i fwy o bobl gael mynediad at y gwasanaethau therapi lleferydd a ffisiotherapi pwysig hynny. Felly, meddwl ydw i tybed, wrth i'r gwaith hwn gael ei wneud, pa sicrwydd allwch chi ei roi i'm trigolion yn y gogledd—fel y gwyddoch chi, rhan wledig o'r byd—bod arbenigedd a mynediad at arbenigedd, ond hefyd agosrwydd y gwasanaethau hynny, yn cael eu hystyried yn briodol yn ystod y broses newid.
Diolch i Sam Rowlands am hynna. Rwy'n credu yn ei gwestiwn bod gwahaniaeth pwysig y mae angen i ni geisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n ei gyfathrebu i bobl. Bydd gwasanaethau sydd mor arbenigol yn eu natur fel y gellir eu darparu'n ddiogel ac yn effeithiol dim ond pan fyddwch chi'n canolbwyntio arbenigedd mewn canolfannau penodol. Mae thrombectomi yn dechneg newydd sy'n caniatáu i unigolion medrus iawn dynnu'r clot o'r ymennydd sydd wedi achosi'r strôc yn y lle cyntaf, a gall fod yn effeithiol iawn mewn rhwng 10 y cant a 15 y cant o achosion strôc. Dim ond mewn mannau lle mae gan bobl yr arbenigedd i wneud hynny y gallwch chi wneud hynny o gofio'r risgiau cynhenid mewn llawdriniaeth o'r math hwnnw. Ond yna—a dyma'r pwynt yr wyf i'n ei gredu yr oedd yr Aelod yn ei wneud—pan fo pobl yn gwella ac yn adsefydlu, mae'r rheini yn wasanaethau y mae'n rhaid eu darparu yn llawer agosach at gartrefi pobl. Dyna'r esboniad y mae'n rhaid i ni ei ddatblygu fel y gallwn ni roi'r hyder i bobl sydd ei angen arnyn nhw, pan fydd angen y gofal arbenigol iawn hwnnw arnyn nhw, y bydd ar gael iddyn nhw, wedi'i ddarparu gan bobl sy'n gwneud hyn bob dydd, ac yna, pan fydd y rhan arbenigol honno o'u gofal wedi'i chwblhau, bydd y gwaith adfer a'r gwaith adsefydlu yn cael ei ddarparu yn llawer agosach at adref.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r Blaid Lafur yn cyfarfod yn Lerpwl heddiw. Mae'r arweinydd annwyl ar fin codi i'w draed, am 2 o'r gloch, fel yr wyf i'n ei ddeall. Rwy'n sylweddoli eich bod chi'n ymateb i gwestiynau'r Prif Weinidog ar ran y Llywodraeth. Cyn i'r tymor cynadleddau gychwyn, roedd Keir Starmer yn arfer dweud, 'Ar gyfer yr hyn y byddem ni'n ei wneud mewn Llywodraeth yn San Steffan, edrychwch ar Gymru fel glasbrint'. Yr wythnos diwethaf, nid oedd yn gallu dweud hynny yn ei gyfweliad ar y BBC. Ond un o'r termau y mae'n mynd i'w ddefnyddio yn yr araith y mae'n ei rhoi y prynhawn yma yw mai Llafur yw plaid yr iachawyr. Pan edrychwch chi ar y record iechyd yma yng Nghymru, mae un o bob pedwar o bobl ar restr aros ac mae bron i 28,000 yn aros dwy flynedd neu fwy. A ydych chi'n meddwl ei fod yn camarwain y cyhoedd pan fo'n siarad am fod yn blaid yr iachawyr pan fydd yn edrych ar eich record chi?
Wrth gwrs, rwyf i bob amser yn diolch i arweinydd yr wrthblaid am dynnu sylw at ddigwyddiadau yng nghynhadledd y Blaid Lafur—cynhadledd hynod lwyddiannus, cynhadledd wahanol iawn, iawn i anobaith llwyr yr wythnos flaenorol. Rwy'n falch iawn o'r ffaith bod arweinydd y Blaid Lafur yn edrych i Gymru am enghreifftiau o'r hyn y gall Llafur ei gyflawni mewn grym, ac mae wedi bod yn brysur yn gwneud hynny yn Lerpwl dros y dyddiau diwethaf. Bydd y Llywodraeth Lafur nesaf yn llywodraeth y bydd angen iddi iachau llawer iawn o'r rhwygiadau yn y Deyrnas Unedig sy'n gynnyrch o 13 mlynedd o'i blaid mewn grym. Ac yn hynny o beth, mae'n siŵr y bydd yn atgoffa pobl yn Lloegr, tra bod rhestrau aros yng Nghymru wedi tyfu 1.9 y cant yn ystod y 12 mis diwethaf, yn Lloegr maen nhw wedi codi 10.7 y cant dros yr un cyfnod hwnnw.
Prif Weinidog, yng Nghymru, mae un o bob pedwar o bobl ar restr aros, neu 25 y cant o'r boblogaeth; 14 y cant yw'r ffigur yn Lloegr. Yn Lloegr, mae ychydig dros 250 o bobl yn aros dwy flynedd neu fwy; yng Nghymru, fel y dywedais i, mae 28,000 o bobl yn aros. Rwy'n sylwi na wnaethoch chi gynnig unrhyw atebion na chymorth ar gyfer cyfiawnhad i Keir Starmer am yr hyn yr ydych chi'n ei wneud yma yng Nghymru, gan eich bod chi'n gwybod yn iawn bod record Llywodraeth Lafur Cymru yma mor ofnadwy.
Mae hefyd yn mynd i alw'r Blaid Lafur yn blaid yr adeiladwyr. Ond pan edrychwch chi ar y rhaglenni adeiladu tai y mae Llywodraethau Llafur olynol wedi'u darparu yma yng Nghymru, dydych chi ddim wedi darparu hanner nifer y tai sydd eu hangen yma yng Nghymru, a dyna pam mae cynifer o bobl yn canfod eu hanallu i roi to uwch eu pennau—heb sôn am waharddiad y Gweinidog trafnidiaeth ar brosiectau adeiladu ffyrdd yma yng Nghymru i ddatblygu'r economi. Felly sut ar y ddaear all arweinydd Llafur yn Llundain eu galw nhw'n blaid yr adeiladwr tai, pan yma yng Nghymru, os cymerwch chi eich glasbrint chi, rydych chi'n methu â darparu hyd yn oed hanner nifer y tai sydd eu hangen?
Wel, Llywydd, i ŵr a ddechreuodd gyda chyfeiriad at iachau, prin y mae ei gyfraniad wedi'i fwriadu, onid yw, i ddod â phobl at ei gilydd a gwneud i bobl deimlo eu bod nhw'n rhan o un Deyrnas Unedig. Ni wnaf i ei ddilyn i lawr ei ffordd ef o geisio, bob amser, gwahanu pobl i ffwrdd, i fod yn ymrannol yn y ffordd y mae'n portreadu'r Deyrnas Unedig.
Ond gadewch i mi ateb un neu ddau o'r pwyntiau penodol y mae'n eu gwneud. Oherwydd os yw'n meddwl am eiliad bod record ei Lywodraeth ef o ran adeiladu tai yn un y dylem ni ei dilyn yma yng Nghymru, byddwn yn synnu'n llwyr. Faint o isetholiadau mae ei blaid wedi eu colli yn Lloegr oherwydd rhaglen adeiladu tai ei blaid? Faint o droadau a fu yn rhaglen adeiladu tai'r blaid er mwyn ceisio bodloni'r bobl hynny ar feinciau cefn y Ceidwadwyr sydd eisiau gweld tai yn cael eu hadeiladu, a'r bobl hynny ar feinciau cefn y Blaid Geidwadol sy'n benderfynol na fydd tŷ byth yn cael ei adeiladu yn eu hetholaeth eu hunain? Yma yng Nghymru, rydym ni'n bwrw ymlaen â'n rhaglen adeiladu tai gyda'r 20,000 o dai newydd i'w rhentu'n gymdeithasol y byddwn ni'n eu creu yma—llawer iawn mwy nag y bydd ei blaid ef fyth yn eu creu yn Lloegr.
A chyn belled ag y mae'r gwasanaeth iechyd yn y cwestiwn, rwy'n hapus, unrhyw ddiwrnod, i roi ein record gerbron pobl yng Nghymru a gofyn iddyn nhw pwy fyddan nhw'n ymddiried ynddyn nhw gyda dyfodol y gwasanaeth iechyd. A gallaf ddweud hyn wrthych chi o leiaf: nid ei blaid ef fydd hi.
Prif Weinidog, rwyf i wedi tynnu sylw at y gwasanaeth iechyd, rwyf i wedi tynnu sylw at y diffyg adeiladu yma yng Nghymru. Un peth yr ydych chi a minnau wedi ei drafod dros lawr y Siambr hon dros wythnosau lawer, yn amlwg, yw polisi'r Llywodraeth ar y cyfyngiadau 20 mya sydd wedi cael eu cyflwyno. Dywedodd Keir Starmer, pan gafodd ei gyfweld ar y BBC, nad oedd yn derfyn cyflymder diofyn. Yna, pan gafodd ei gyfweld ar ITV, fe'i galwodd yn derfyn cyflymder cyffredinol. A wnaethoch chi eistedd i lawr gydag arweinydd y Blaid Lafur, yn union fel rydych chi wedi ceisio ein darlithio ni ar yr ochr hon i'r bwrdd, a dweud wrtho yn y pen draw beth yw eich polisi, sy'n bolisi na fydd mewn gwirionedd yn lleihau nifer yr anafusion yma yng Nghymru ac a fydd yn niweidio cynhyrchiant economaidd? Yn y pen draw, mae eich arweinydd eich hun yn Llundain yn ymbellhau oddi wrth eich terminoleg ac, yn y pen draw, nid yw'n cefnogi'r polisi yr ydych chi wedi ei hyrwyddo dros y chwe mis diwethaf ac wedi ei roi ar waith yma yng Nghymru o ganol mis Medi.
Wel, Llywydd, rwyf i wedi arfer â rhai ehediadau dychymyg gan arweinydd yr wrthblaid, ond y prynhawn yma mae wedi dod yn gwbl rhydd o unrhyw synnwyr o realiti ar y mater hwn. Wrth gwrs—wrth gwrs—mae terfynau cyflymder arafach yn atal damweiniau. Mae tystiolaeth yn sicr—[Torri ar draws.] Rwy'n credu, Llywydd, bod gan arweinydd yr wrthblaid ddigon o gyfle i ofyn ei gwestiynau heb orfod torri ar fy nhraws i yn syth ar ôl i mi ddechrau ei gywiro am ei wallau niferus iawn ar y mater hwn.
Ym mhedwar ban byd, mae'r dystiolaeth yn eglur: lle caiff terfynau cyflymder eu gostwng mae nifer y damweiniau yn gostwng, mae bywydau'n cael eu hachub ac nid yw pobl yn dioddef yr anafiadau y maen nhw'n eu dioddef pan fydd pobl yn gyrru ar 30 mya mewn ardaloedd preswyl adeiledig. Mae hynny'n wir yn Llundain, mae'n wir yng Nghaeredin, mae'n wir yn Sbaen—mae'n wir ble bynnag y mae tystiolaeth wrthrychol yn cael ei chreu.
Meddyliais am hyn, Llywydd, wrth i mi yrru i gynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl, gan basio'r holl strydoedd 20 mya hynny; mae pob stryd breswyl yr ydych chi'n mynd heibio iddi yn 20 mya, fel yr oedd yn wir yng Nghaer pan wnes i yrru ger y ffin yno—mae terfynau cyflymder 20 mya mewn ardaloedd preswyl yn digwydd ym mhobman. Yma yng Nghymru, byddwn yn gweld ei fudd, a byddwn yn gweld ei fudd yn y ffordd bwysicaf; bydd bywydau yn cael eu hachub, bydd damweiniau a fyddai fel arall wedi digwydd yn cael eu hosgoi, ac mae'r pris y gofynnir i ni ei dalu yn un bach iawn o yrru ychydig yn arafach yn y mannau hynny lle mae'r damweiniau hynny yn fwyaf tebygol o ddigwydd. Mae ein cyd-ddinasyddion, yn wahanol i'w blaid ef, yn dangos yn y ffordd y maen nhw'n ymddwyn eu bod nhw'n deall hynny ac maen nhw'n cadw ato.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Mae tymor cynadleddau'r pleidiau yn gyfle gwych i bleidiau egluro sut y byddan nhw'n ymladd dros yr hyn sy'n iawn i Gymru. Yn fuan ar ôl i mi amlinellu fy ngweledigaeth ar gyfer diwygio i adeiladu yn Aberystwyth, roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wrthblaid Lafur ar y tonnau awyr yn Lerpwl yn amlinellu ei gweledigaeth hi. Roedd cyfeiriad, dim syndod, at lanast rheilffordd cyflymder uchel 2 a gyrhaeddodd ei anterth yng nghynhadledd y Ceidwadwyr, ond roedd yn ddigalon iawn darllen y pennawd wedyn: 'Ni all Llafur ymrwymo i gyfran ariannu HS2, meddai AS'.
Mae'r blaid Lafur yn dweud y byddwn ni'n cael ymchwiliad HS2 os yw'n ennill grym yn San Steffan, ond mae siec yn ddyledus i ni yng Nghymru, nid cicio can i lawr y cledrau ar draul ein rhwydweithiau trafnidiaeth. Mae'r Prif Weinidog ei hun yn dweud bod Cymru yn cael ei thwyllo dros y mater hwn, ond ni wnaiff Llafur weithredu. Pan gyhuddodd pennaeth Uno'r Undeb y blaid Lafur o fod yn rhy wangalon, tybed a yw'r Prif Weinidog yn credu ei bod hi'n cyfeirio at agwedd Llafur tuag at HS2 yng Nghymru.
Yn gyntaf oll, Llywydd, gadewch i mi ddweud eto mai barn Llywodraeth Cymru, fel y mae'n farn pleidiau ar draws y Siambr hon, yw bod Cymru yn haeddu ein cyfran o'r cyllid a fuddsoddwyd yn HS2. Dylai hynny fod wedi bod yn wir o'r dechrau, pe na bai'r Trysorlys wedi penderfynu dehongli'r rheolau mewn ffordd nad oes neb arall yn gallu ei deall.
Mae Llywodraeth Lafur newydd, fel yr wyf i wedi ei egluro lawer gwaith, bellach, ar lawr y Senedd, yn mynd i etifeddu cyfres economaidd o amgylchiadau sy'n golygu nad oes unrhyw blaid gyfrifol, yn y cyfnod cyn etholiad, yn mynd i fod yn cynnig llofnodi sieciau ar gyfer yr achosion niferus iawn a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Llywodraeth honno, y bydd rhinwedd i bob un ohonyn nhw, rwy'n siŵr. Mae'n rhaid i chi ganiatáu i Lywodraeth newydd, os bydd Llywodraeth Lafur, bwyso a mesur yr hyn y mae wedi ei etifeddu, i wneud y gwaith caled o roi'r economi yn ôl ar y trywydd iawn ac yna i wneud y buddsoddiadau hynny yn ein dyfodol, gan gynnwys buddsoddiad mewn rheilffyrdd yma yng Nghymru, a fydd yn caniatáu i'r ffyniant hwnnw barhau. Dyna sut mae'r Blaid Lafur yn mynd i'r afael â busnes difrifol Llywodraeth. Byddwn yn parhau i wneud y ddadl, nid yn unig ar HS2, ond ar yr holl faterion eraill hynny sy'n bwysig i ni yma yng Nghymru, a phan fydd gennym ni'r Llywodraeth Lafur honno, bydd gennym ni drac mewnol a Llywodraeth sydd â chydymdeimlad at anghenion Cymru i wneud y ddadl honno.
Ond maen nhw'n union yr un amgylchiadau economaidd lle'r ydych chi'n dweud y dylai'r Ceidwadwyr fod yn talu symiau canlyniadol. Rydych chi'n iawn, mae'r Llywodraeth yn pwysleisio dro ar ôl tro bod yr arian hwn yn ddyledus i Gymru. Rwy'n ddiolchgar am yr ymateb a gefais gan y Cwnsler Cyffredinol heddiw i gwestiwn a ofynnais, gan ofyn:
'Pa lwybrau cyfreithiol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru herio penderfyniad Llywodraeth y DU i gategoreiddio rhaglen reilffordd HS2 fel prosiect "Cymru a Lloegr"?'
Ac yn yr ymateb hwnnw, yn ogystal â dweud, ydy, fel y byddem ni'n ei ddadlau, mae'r penderfyniad i ganslo'r llwybrau HS2 Birmingham i Fanceinion yn gwneud yr achos yn fwy eglur byth bod HS2 yn brosiect Lloegr yn unig, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael, gan gynnwys llwybrau cyfreithiol, i herio'r penderfyniad i ddosbarthu HS2 fel prosiect Cymru a Lloegr. O ystyried ymateb y Cwnsler Cyffredinol, a allwn ni dybio felly, os daw Keir Starmer yn Brif Weinidog y DU, bod Llywodraeth Lafur Cymru hefyd yn barod i lansio her gyfreithiol yn erbyn y Llywodraeth Lafur yn San Steffan?
Wel, mae gen i ofn bod cymaint o agweddau amodol yn y cwestiwn hwnnw ei bod hi'n amhosibl rhoi ateb synhwyrol iddo. Yr ateb a roddwyd i'r cwestiwn yw'r cwestiwn cywir i'w ofyn o dan yr amgylchiadau presennol: wrth gwrs, rydym ni'n parhau i archwilio'r holl lwybrau sydd ar gael i ni. Efallai y bydd rhai o'r rheini yn gyfreithiol. Ceir llwybrau gweithredu cysylltiadau rhynglywodraethol y gallwn ni eu defnyddio. Dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd. Does neb call yn gallu cynnig set o opsiynau i arweinydd Plaid Cymru ar gyfer yr hyn a allai fod yn berthnasol mewn cyfres o amgylchiadau yn y dyfodol na all neb yma eu rhagweld yn iawn.
Y pwynt yw hyn: ni all Llafur ei chael hi'r ddwy ffordd. Ni allan nhw ddweud ar y naill law eu bod nhw'n barod i lansio her gyfreithiol, efallai, yn erbyn Llywodraeth Geidwadol, a dweud nad ydyn nhw'n fodlon ystyried lansio her gyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Lafur ar yr un mater yn union. Ni allan nhw ddweud ar y naill law y dylai'r Ceidwadwyr dalu, ond y byddai Llafur, gyda'r un llinynnau pwrs yn union, yn iawn i ystyried pa flaenoriaethau sydd ganddyn nhw o'u blaenau.
Rydym ni'n gwybod na allwn ni ymddiried yn y Torïaid mewn Llywodraeth. Fe wnaeth yr ymrwymiad i drydaneiddio rheilffordd y gogledd ymddatod mor gyflym ag y cymerodd hi i Brif Weinidog y DU ddod o hyd i'r pecyn sigaréts i sgriblo'r addewid arno yn y lle cyntaf. Ond a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod risg wirioneddol yma mai'r hyn yr ydym ni'n ei weld yw y byddai Llywodraeth Lafur newydd yn gwneud yr un peth yn union â'r Torïaid, o ran gwneud addewidion da, ond peidio â gweithredu er budd pennaf cyfiawnder economaidd i Gymru. Bydd Plaid Cymru bob amser yn sefyll dros degwch i Gymru dros HS2.
Wel, Llywydd, gadewch i mi egluro hyn i arweinydd Plaid Cymru: bydd pobl ar y meinciau hyn yn gweithio mor galed ag y gallwn ni i sicrhau'r Llywodraeth Lafur honno. Ni fydd ef yn codi'r un bys i wneud hynny. A dweud y gwir, mewn sawl rhan o Gymru, bydd yn gwneud ei orau glas i rwystro'r posibilrwydd o'r Llywodraeth Lafur honno. Go brin y byddwch chi'n disgwyl i ni gymryd pregethau ganddo ef ar yr hyn y bydd Llywodraeth Lafur yn ei wneud pan fyddwn ni'n gweithio'n galed bob dydd i'w chreu ac y bydd ef yn gwneud dim o gwbl i'w gwireddu.
3. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus? OQ60068
Diolch i Ken Skates am hynna, Llywydd. Polisi Llywodraeth Cymru yw annog pobl i beidio â defnyddio e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus. Mae methiant Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2016 yn golygu nad oes pwerau ar gael i'r Senedd orfodi polisi o'r fath.
Diolch, Prif Weinidog. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Gweinidog iechyd yn cyflwyno datganiad ar gynllunio ar gyfer y GIG yn ystod y 10 mlynedd nesaf, ond yn anffodus, rydym ni wedi colli bron i ddegawd o gyfle i amddiffyn pobl ifanc rhag effeithiau niweidiol fêpio, ac mae hynny o ganlyniad uniongyrchol, fel y gwnaethoch chi amlinellu, i'r Bil iechyd y cyhoedd yn methu ar y cam olaf yn ôl yn 2016. Rwy'n cofio'r achlysur hwnnw yn dda iawn; rwy'n siŵr eich bod chithau hefyd, gan mai chi oedd y Gweinidog ar y pryd a oedd yn gyfrifol am y darn penodol hwnnw o ddeddfwriaeth.
Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n ddyletswydd ar bob Aelod yn y Siambr hon i gefnogi mesurau gofal iechyd ataliol sydd â'r bwriad o amddiffyn pobl, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas?
Llywydd, diolch i Ken Skates am hynna. Atebais gwestiwn gan Aelod Ceidwadol ar lawr y Senedd dim ond yr wythnos diwethaf am bwysigrwydd gofal iechyd ataliol. Ac yma, yn y Senedd hon, mae'n rhaid i ni wynebu'r ffaith bod cyfle i'r Senedd hon gymryd y camau ataliol hynny a methwyd y cyfle hwnnw. Byddai Bil 2016 wedi golygu bod y defnydd o e-sigaréts yn cyd-fynd â'r defnydd o gynhyrchion tybaco eraill a phasiwyd gwelliannau iddo yn ystod ei gamau cynharach i ddarparu amddiffyniadau newydd mewn mannau lle'r oedd plant yn fwyaf tebygol o fod yn bresennol. Fel y rhybuddiwyd ar y pryd, mae'r defnydd o e-sigaréts bellach wedi lledaenu i'r carfannau oedran iau hynny. Cyhoeddodd Llawfeddyg Cyffredinol yr Unol Daleithiau gyngor yn America yn ddiweddar i ddweud bod angen camau ymosodol nawr i amddiffyn ein plant. Y mis diwethaf, cyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd gyngor ar wahardd smygu a fêpio mewn ysgolion i amddiffyn pobl ifanc. Dywedodd bod y diwydiant tybaco yn targedu pobl ifanc â chynhyrchion tybaco a nicotin yn ddi-baid, gan arwain at gynnydd i ddefnydd o e-sigaréts a naw o bob 10 smygwr yn dechrau cyn eu bod nhw'n 18 oed.
Llywydd, rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol yr wythnos diwethaf—bod Llywodraeth y DU bellach yn bwriadu cymryd y camau y gallem ni fod wedi eu cymryd yma yn 2016. Rydym ni wedi colli tir yn y cyfamser. Mae plant sy'n gaeth i nicotin heddiw a fyddai wedi cael eu hachub o'r caethiwed hwnnw pe bai'r Senedd hon wedi cymryd y camau a oedd ar gael iddi. Ond ni allwn ni unioni'r darn hwnnw o hanes; gallwn wneud gwahaniaeth yn y dyfodol. Mae'r cynigion a wnaed gan Brif Weinidog y DU yn rhai y byddwn ni'n eu cefnogi, a byddwn yn alinio ein hunain â'r ymgynghoriad yr ydym ni'n disgwyl i Lywodraeth y DU ei ddatblygu, i wneud yn siŵr y gallwn ni gymryd nawr o'r diwedd y camau a fydd yn atal ein plant rhag dioddef yr ymgais fwriadol i'w dal mewn caethiwed i nicotin.
Prif Weinidog, mae fêpio nicotin yn sylweddol llai niweidiol i iechyd pobl na smygu ac mae'n un o'r dulliau mwyaf effeithiol ar gyfer helpu pobl i roi'r gorau i'r arfer o smygu. Rydym ni'n gwybod bod mwy na thri chwarter y bobl sy'n defnyddio e-sigaréts fel oedolion yn eu defnyddio nhw fel arf i roi'r gorau i smygu, a dyna pam rydym ni wedi gweld y cyfraddau smygu yng Nghymru yn gostwng o 20 y cant ddim ond wyth mlynedd yn ôl i tua 13 y cant heddiw. Rwy'n cytuno â chi bod angen i ni wahardd fêps untro, sef y rhai y mae pobl ifanc yn manteisio arnyn nhw yn aml iawn, ac mae angen i ni fynd i'r afael â'r marchnata ofnadwy sy'n cael ei wneud gan fusnesau a chwmnïau anghyfrifol i geisio cael fêps yn nwylo pobl ifanc. Ond o ystyried y manteision iechyd y mae llawer o bobl yng Nghymru bellach yn eu mwynhau o ganlyniad i ddefnyddio e-sigaréts er mwyn rhoi'r gorau i'r arfer o smygu, pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wneud yn siŵr bod mwy o bobl yn gallu defnyddio e-sigaréts, yn rhan o wasanaethau rhoi'r gorau i smygu'r GIG yma yng Nghymru?
Llywydd, ceir nifer o bethau yn yr hyn a ddywedodd yr Aelod yr wyf i'n cytuno â nhw. Rwy'n cytuno ag ef am effaith niweidiol e-sigaréts untro, gyda 1.3 miliwn yn cael eu taflu bob wythnos yn y Deyrnas Unedig, yn dod i gyfanswm o 10 tunnell—10 tunnell—o lithiwm bob blwyddyn. Felly, rwy'n cytuno ag ef ar nifer o'r pwyntiau a wnaeth. O ran a yw e-sigaréts yn gyfraniad sylweddol at bobl yn rhoi'r gorau i smygu, rwy'n credu bod y dystiolaeth yn llawer iawn mwy amwys nag y byddai'n ei awgrymu. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio e-sigaréts yn ddefnyddwyr deuol; maen nhw'n defnyddio e-sigaréts ac maen nhw'n defnyddio sigaréts confensiynol ac nid yw hynny'n lleihau niwed sigaréts eu hunain. Mae nifer fach iawn—[Torri ar draws.] Wel, nid yw'r dystiolaeth—mae'r Aelod yn dweud wrthyf i, 'O, maen nhw'n lleihau', ond nid yw'n gweithio felly. Pe bai, efallai y byddai'n iawn, ond nid dyna'r dystiolaeth. Mae pobl yn defnyddio'r ddau ac maen nhw'n defnyddio'r ddau ohonyn nhw ac maen nhw'n parhau i'w defnyddio, a dydyn nhw ddim yn lleihau smygu yn y ffordd y dywedodd. Ac roedd defnydd o sigaréts yng Nghymru yn lleihau ymhell cyn i e-sigaréts fod ar gael erioed. Nid yw'r effaith achosol y mae'n ceisio ei nodi rhwng argaeledd e-sigaréts a'r gostyngiadau i smygu yn gwrthsefyll unrhyw graffu o gwbl.
Nawr, ceir gwahanol safbwyntiau. Ceir gwahanol safbwyntiau a gallwn ni eu trafod nhw, wrth gwrs, a bydd fy marn i, yn sicr, rwy'n credu, yn wahanol i'w farn ef. Ond mae arbenigwyr yn anghytuno hefyd. Yn Awstralia, er enghraifft, Llywydd, yr unig ffordd y gallwch chi gael e-sigarét yw trwy bresgripsiwn—ni allwch chi eu prynu nhw mewn siopau—dim ond trwy bresgripsiwn meddygol yn rhan o ymgais dan oruchwyliaeth i roi'r gorau i smygu y maen nhw ar gael. Byddwn i'n cael fy nenu at y syniad hwnnw fy hun. Beth mae Llywodraeth Awstralia yn ei ddweud ar ei gwefan? 'A yw e-sigaréts yn ddiogel?' meddai. Ateb: 'Nac ydyn'. Dydyn nhw ddim yn ddiogel. Mae'n mynd ymlaen i ddweud,
'A all e-sigaréts eich helpu i roi'r gorau i smygu?'
Does dim digon o dystiolaeth, meddai,
'i hyrwyddo'r defnydd o e-sigaréts ar gyfer rhoi'r gorau i smygu.'
Felly, y cwbl rwy'n ei ddweud wrth yr Aelod—[Torri ar draws.] Rwy'n dweud wrth yr Aelod bod gwahanol safbwyntiau—
Darren Millar, mae'r Prif Weinidog yn ceisio ateb eich cwestiwn.
Rwy'n ceisio gwneud—wel, ni fyddai'n anodd—pwynt ychydig yn fwy cynnil nag y mae'r Aelod ei hun yn ei wneud. Y cwbl rwyf i'n ei ddweud wrtho yw bod hwn yn parhau i fod yn faes sy'n destun dadl, yn faes sy'n destun dadl nid lle mae barn leyg yn wahanol, yn syml, ond lle ceir gwahaniaethau sylweddol rhwng safbwyntiau arbenigwyr meddygol. O dan yr amgylchiadau hynny, rwy'n credu bod rhai o'r honiadau a wnaeth yn gynharach wedi'u gorbwysleisio'n sylweddol.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu tyfu'r economi yng Ngorllewin De Cymru? OQ60074
Llywydd, bydd buddsoddi mewn sgiliau, seilwaith, cymorth uniongyrchol i gwmnïau sydd â'r potensial i dyfu a sefydlu partneriaethau ag eraill yn rhan o gynllun ar gyfer twf economaidd yn rhanbarth yr Aelod.
Un mesur allweddol y bydd llawer ohonom ni'n ei ddefnyddio i asesu cryfder economi yw iechyd eu stryd fawr leol, ac, yn anffodus, yn y Mwmbwls yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru, ardal sydd wedi bod â mwy na'i chyfran ddisgwyliedig yn draddodiadol o ran presenoldeb busnesau bach, rydym ni wedi gweld ton ddiweddar o fusnesau yn cau. Mae'r rhain yn cynnwys siopau fel The Choice Is Yours, cangen leol Barclays yn ogystal â thafarndai a bwytai fel y Dark Horse a Cakes & Ale. Mae hynny'n dangos problem ehangach sy'n cael ei hadlewyrchu ledled Cymru. Yn ôl data gan y dadansoddwyr eiddo tirol Altus Group ac a adroddwyd gan y BBC, dros y chwe mis hyd at fis Mehefin eleni, collodd Cymru y nifer fwyaf o dafarndai o unrhyw ran o'r DU yn ei chyfanrwydd, gyda 52 yn cau.
Yn anffodus, mae ardrethi busnes yng Nghymru yn dal i fod yn uwch nag yng ngweddill Prydain Fawr. Mae ffigurau gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru yn dangos bod ychydig dros un o bob chwe siop yn wag, yr ail gyfradd waethaf yn y DU, ac mae'r un ffigurau hynny yn dangos bod Cymru wedi dioddef gostyngiad mwy i nifer yr ymwelwyr yn y chwarter diwethaf na wnaeth Lloegr hefyd. Ac mae cadeirydd cenedlaethol Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi datgan mai'r system ardrethi busnes yw'r hyn sy'n cyfrannu at siopau gwag. Dywedodd fod y dreth wedi difrodi cwmnïau ar draws y wlad yn sylweddol. Yn amlwg, mae problem bolisi benodol gan Lywodraeth Cymru o ystyried rhai o'r ystadegau a ddarllenais yn y fan yna i'r Prif Weinidog. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i leddfu'r baich ar ein busnesau stryd fawr lleol a sicrhau nad yw mwy o achosion o gau fel y rhai yr ydym ni wedi eu gweld yn ddiweddar yn y Mwmbwls yn fwy cyffredin?
Llywydd, nid oes amheuaeth bod her i'r stryd fawr ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, a bod busnesau yn cau ar strydoedd mawr manwerthu ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Dyna, rwy'n credu, yw unig ffaith y mater. Gostyngodd nifer yr ymwelwyr yn ystod diwrnodau gwaith, yn arbennig, mewn cyrchfannau manwerthu ledled y Deyrnas Unedig yn ystod y mis diwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei gyfer. Lle mae'r Aelod yn gwbl anghywir—cwbl anghywir—yw ceisio cysylltu'r patrwm hwnnw ar draws y DU i ryddhad ardrethi yma yng Nghymru, oherwydd, mewn gwirionedd, ymhell o fod y sefyllfa a amlinellodd, mae rhyddhad ardrethi yn cyrraedd mwy o fusnesau yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, ac yn sicr llawer mwy nag yn Lloegr, y wlad y byddai'n cyfeirio ati rwy'n siŵr. Rydym ni'n darparu rhyddhad o 75 y cant i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch eto eleni, y bedwaredd flwyddyn i ni ddarparu rhyddhad hael i'r sectorau hyn. Rydym ni'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r gwerthoedd ardrethol yma yng Nghymru ac mae hynny'n golygu bod llawer mwy o fusnesau, yn enwedig busnesau bach, yn elwa, ac nid dim ond hynny, ond maen nhw'n elwa oherwydd ein bod ni'n ariannu'r system honno yn uniongyrchol, tra bod y cynllun hwnnw yn cael ei ariannu gan ardrethi busnes uwch ar fusnesau mawr yn Lloegr, a ddefnyddir wedyn i ariannu rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau bach; dydyn ni ddim yn gwneud hynny yma yng Nghymru. Mae'r gronfa yn gyfan gwbl yn gynnyrch buddsoddiad a wneir gan y Senedd hon. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector, wrth gwrs, ond nid yw dyfodol y stryd fawr yn dibynnu ar gred syml bod y broblem i gyd mewn ardrethi busnes; mae trwy edrych ar ffyrdd y mae strydoedd mawr eraill wedi llwyddo i oroesi a ffynnu, ac mae hynny trwy arallgyfeirio'r cynnig y maen nhw'n ei wneud, gan ddibynnu nid yn unig ar fanwerthu, ond ar hamdden, ar lety, ar fwyd hefyd. Ceir fformiwla lwyddiannus ar gyfer y stryd fawr yma yng Nghymru, ac ni fydd atebion syml yn ei gwireddu.
Yng Ngorllewin De Cymru, rhan bwysig o economi leol tref Pen-y-bont ar Ogwr yw marchnad dan do Pen-y-bont ar Ogwr. Nawr, rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol bod y farchnad wedi cau oherwydd concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth, ac roedd yn iawn i gymryd camau. Yr hyn sy'n bwysig nawr yw bod masnachwyr yn cael eu cefnogi, yn enwedig o ystyried bod hyn wedi digwydd ychydig cyn cyfnod y Nadolig. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa drafodaethau sydd wedi digwydd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi'r farchnad ac i ddod o hyd i leoliad arall dros dro er mwyn i fasnachwyr y farchnad allu masnachu?
Llywydd, nid oes gennyf y manylion wrth law am y trafodaethau sydd wedi digwydd, ond rwy'n hapus iawn y gallwn ddarparu'r rhain i'r Aelod.
Gwnes i godi llwyddiant datblygiad SA1 yn Abertawe gyda'r Prif Weinidog mewn cwestiynau diweddar i'r Prif Weinidog, gan dynnu sylw at lwyddiant cwmnïau fel Cyden a Veeqo, yr ymwelodd y Prif Weinidog a minnau â nhw yn ddiweddar. Hoffwn longyfarch Llywodraeth Cymru hefyd ar ddod â £45 miliwn i mewn i hen safle Toyoda Gosei a fydd yn fwy na dyblu capasiti ailbrosesu plastig Cymru, ac yn dod â dros 100 o swyddi medrus â chyflog da i Abertawe. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran datblygu hen safle tunplat Felindre, sef y safle mawr nesaf sydd ar gael i'w ddatblygu?
Diolch yn fawr iawn i Mike Hedges am y cwestiwn hwnnw. Mae'r hyn y dywedodd ef, Llywydd, yn darlunio'r pwynt a wnes i Tom Giffard, bod yna enghreifftiau llwyddiannus lle gellir gwneud i ddatblygiadau manwerthu a stryd fawr ffynnu, ac mae datblygiad SA1, fel yr adroddodd Mike Hedges yr wythnos diwethaf, yn sicr yn enghraifft o hynny.
A gaf i ddiolch yn arbennig iddo am gyfeirio at yr hyn sydd wedi digwydd yn y cwmni a fydd nawr yn ein helpu i wneud cynnydd mawr ym maes ailbrosesu plastigau yma yng Nghymru? Mae'n rhan o'n cynllun cyffredinol i sicrhau bod gennym gapasiti ailbrosesu. Unwaith y bydd yn gwbl weithredol, bydd yn ein helpu i leihau ôl troed carbon Cymru oddeutu 150,000 tunnell bob blwyddyn, ac mae hyn yn cyfateb, Llywydd, i dynnu 120,000 o geir oddi ar y ffyrdd yn gyfan gwbl, a bydd yn darparu'r 100 o swyddi newydd a chyflog uchel hynny i bobl sy'n byw yn ardal ehangach Abertawe.
Mae Parc Felindre, fel y gŵyr Mike Hedges, yn safle parc busnes strategol a grëwyd gyda Chyngor Abertawe mewn menter ar y cyd. Y newyddion da yw bod arwyddion calonogol eleni, yn enwedig, o dderbyn ymholiadau newydd i gaffael plotiau datblygu yn y parc busnes ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau y gellir gwneud y mwyaf o'r safle pwysig a strategol hwnnw.
5. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â thaliadau sefydlog trydan yng Ngogledd Cymru? OQ60085
Diolch i Jack Sargeant, Llywydd. Nid yw'n iawn bod aelwyd gyfartalog yn y gogledd yn talu £82 y flwyddyn yn fwy mewn taliadau sefydlog nag aelwyd gyfatebol yn Llundain. Mae angen i'r loteri cod post atchweliadol o daliadau sefydlog ddod i ben, a bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn pwyso ar yr achos hwnnw eto yn ei chyfarfod nesaf â Gweinidog diweddaraf y DU.
Rwy'n cytuno â sylwadau'r Prif Weinidog a hefyd yn diolch i'r Prif Weinidog am ei arweinyddiaeth ac arweinyddiaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar y mater hwn. Prif Weinidog, oherwydd methiant Llywodraeth Geidwadol y DU y mae pobl yn fy nghymuned i yn talu mwy, y taliadau uchaf am drydan yn y DU; fel y nodwyd gennych chi'n briodol, £82 y flwyddyn yn fwy na thrigolion Llundain. Gadewch i ni ychwanegu hyn at y ffaith—[Torri ar draws.] Gallaf glywed grwgnach o feinciau y Ceidwadwyr, Llywydd, ond gadewch i ni ychwanegu hyn at y ffaith, heb fod y cynllun cymorth biliau ynni sydd ar waith, y bydd aelwydydd yn wynebu biliau sydd 13 y cant yn uwch na'r llynedd. Mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn gwthio pobl yn y gogledd i dlodi a dyled. Prif Weinidog, mae bellach yn bwysicach nag erioed i sicrhau bod pobl sy'n wynebu dyled ynni yn cael y cyngor gorau sydd ar gael iddyn nhw er mwyn eu hatal rhag cael eu gorfodi i fod ar fesuryddion rhagdalu, fel y gwelsom yn sgandal y llynedd. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i wneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau bod y cyngor hwn ar gael i breswylwyr yn sir y Fflint a ledled Cymru?
Llywydd, gadewch i mi longyfarch Jack Sargeant am y dyfalbarhad a'r penderfyniad y mae wedi'u dangos wrth sicrhau bod y materion hyn yn cael eu cyflwyno'n rheolaidd gerbron y Senedd, a bod effaith niweidiol y ffordd y codir taliadau yn y farchnad ynni yn cael eu trafod yma.
Llywydd, nid wyf yn dyfynnu adroddiadau a gynhyrchwyd yn Senedd y DU fel arfer, oherwydd mae gennym ni ein ffyrdd ein hunain o sicrhau'r mewnwelediadau hynny drosom ein hunain, ond gwelais adroddiad Pwyllgor Diogelwch Ynni a Sero Net Tŷ'r Cyffredin ar y mater hwn, oherwydd cafodd ei gyhoeddi dim ond ychydig wythnosau yn ôl. Mae'n bwyllgor sydd â mwyafrif o ASau Ceidwadol ymhlith ei aelodaeth. Maen nhw'n delio'n uniongyrchol â'r ddau bwynt y mae'r Aelod wedi'u codi yma y prynhawn yma. Maen nhw'n dweud yn eu hadroddiad bod y strwythur codi tâl sefydlog presennol yn
'annheg, yn atchweliadol ac yn cosbi'r rhai ar incwm is neu sy'n mynd ati i leihau eu defnydd o ynni',
ac yn mynd ymlaen i wneud cyfres o gynigion ymarferol i Lywodraeth y DU ynghylch sut y gellid ailnegodi hynny gydag Ofgem, sef y rheoleiddiwr, yn arbennig. Mae hefyd yn ymdrin â phwynt y mae Jack Sargeant wedi'i wneud am gyngor, ac rwy'n rhoi sicrwydd iddo fod buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn gwasanaethau cynghori yn parhau, wrth gwrs. Ond yr hyn a ddywedodd y pwyllgor dethol oedd y dylai fod yn ofynnol i'r cwmnïau ynni eu hunain roi cyngor, a buddsoddi yn y gwasanaethau cynghori hynny fel bod cyfryngwyr, elusennau a sefydliadau defnyddwyr, fel y mae'n dweud yn yr adroddiad, yn gallu cael cymorth i'w cleientiaid dros fisoedd y gaeaf. Ac roedd yn dweud, Llywydd, y dylai hynny fod ar waith cyn y gaeaf hwn. Wel, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig, oherwydd, er ein bod ni fel Llywodraeth yn llenwi'r bylchau mewn gwasanaethau cynghori a grëwyd gan eraill, dyma ddiwydiant dwys o ran elw y dylai ei hun fod yn gorfod gwneud mwy i sicrhau bod y rhai sy'n mynd i'r anawsterau a amlinellodd Jack Sargeant o leiaf yn cael cyngor a chymorth pan fônt ar gael. Mae gan Lywodraeth y DU, fel y byddai gennym ni yma, gyfnod o amser y mae'n rhaid iddyn nhw ymateb i argymhellion adroddiad y pwyllgor dethol ynddo. Rwy'n credu y dylem ni edrych ymlaen at weld yr ateb hwnnw, ac yn enwedig rhai o'r awgrymiadau ymarferol iawn hynny, a gymeradwywyd, fel yr oedden nhw, gan Aelodau Seneddol Ceidwadol uchel iawn a eisteddodd ar y pwyllgor hwnnw.
Er ein bod yn croesawu'r ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i rewi lefel y warant prisiau ynni o 1 Ebrill eleni, cyhoeddiad Ofgem y byddai'r uchafswm y gall cyflenwyr ynni ei godi am bob uned ynni yn gostwng eto o'r mis hwn, gan gynnwys gostyngiad yn y gost i bobl sy'n defnyddio mesurydd rhagdalu, ac y bydd Llywodraeth y DU yn cwmpasu'r gwahaniaeth rhwng lefelau'r cap ar brisiau am fesurydd rhagdalu ac ar gyfer debyd uniongyrchol drwy'r warant pris ynni tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, mae taliadau sefydlog am ynni bellach ar eu huchaf erioed ac mae rhaniad rhanbarthol enfawr, gyda'r gogledd a Mersi yn parhau i fod â'r costau cyfartalog uchaf ym Mhrydain Fawr—mwy na £380 y flwyddyn—hyd yn oed cyn defnyddio un uned o ynni, o'i gymharu â'r isaf yn Llundain, sef £299. Pa drafodaethau a gawsoch chi felly gyda'r rheoleiddiwr ynni, Ofgem, o ystyried y datganiad yn adroddiad mis Mawrth ar daliadau sefydlog, a gynhyrchwyd gan Ideal Economics a'i gomisiynu gan National Energy Action, bod, rwy'n dyfynnu, penderfyniadau lluosog a wnaed gan y rheoleiddiwr ynni Ofgem wedi arwain at godi taliadau sefydlog?
Wel, diolch i'r Aelod am atgyfnerthu'r pwyntiau a wnaed gan Jack Sargeant ac rwy'n croesawu ei gefnogaeth i'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ein trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a gyda'r rheoleiddiwr. Gallaf sicrhau'r Aelod fy mod wedi cwrdd â'r rheoleiddiwr fy hun, bod y Gweinidog yn cyfarfod â nhw'n rheolaidd. Rydym wedi adrodd ar lawr y Senedd nad oeddem yn fodlon ag ymateb gwreiddiol Ofgem i'r argyfwng sy'n wynebu cwsmeriaid mesuryddion rhagdalu; rydym yn falch eu bod bellach wedi gwneud eu cod yn orfodol, yn hytrach nag yn gynghorol, ond yn sicr mae mwy y gall ac y dylai'r rheoleiddiwr ei wneud ym maes taliadau sefydlog, yn ogystal â'r modd o drin cwsmeriaid mesuryddion rhagdalu yn fwy cyffredinol, a bydd y Gweinidog, fel y dywedais i, yn cwrdd â'r Gweinidog cyn gynted ag y bydd y Gweinidog ar gael er mwyn atgyfnerthu'r achos hwnnw.
6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu unrhyw welliannau penodol i wasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros y 12 mis diwethaf? OQ60053
Yn sicr, Llywydd. Dros y 12 mis diwethaf, mae gwelliannau penodol a gyflawnwyd gan y bwrdd yn cynnwys gwell perfformiad yn erbyn targedau cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau estynedig a ddarperir gan linell gymorth CALL, a'r gwasanaeth ffôn '111 pwyso 2' yn cael ei gyflwyno ledled y gogledd, i ddarparu cymorth i bobl ag anghenion iechyd meddwl brys, drwy'r dydd, bob dydd.
Diolch. Nawr, heddiw, wrth gwrs, yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ac mae'n sicr yn fy atgoffa o'r cynnydd mewn pobl sy'n dod nawr, gan estyn allan am gymorth iechyd meddwl yn Aberconwy. Mae diffyg mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn aml yn arwain y rhai hynny sy'n dioddef i droi at gyffuriau, alcohol neu'r ddau i leddfu eu symptomau. Nawr, cyn COVID, roedd gennym ni ein pryderon yn Aberconwy. Fodd bynnag, ers COVID, rwyf wedi gweld niferoedd mwy nawr eisiau ceisio cefnogaeth. Nawr, cyn datganoli, roedd rhwng 18 a 21 o welyau dadwenwyno ac adsefydlu yn Hafan Wen. Mae 25 o welyau ar gael ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r rheini'n cael eu defnyddio, ac mae'r gwelyau hynny'n cael eu prynu, ar gyfer trigolion o ogledd Lloegr. Mae Hafan Wen yn darparu amrywiaeth o raglenni dadwenwyno cyffuriau ac alcohol ardderchog i gleifion y GIG a phreifat, ond rwyf mor bryderus bod y galw yn fwy na'r gefnogaeth sydd ar gael. Felly, o gofio bod marwolaethau camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed y llynedd, gyda ffigyrau bron â dyblu, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod trigolion y gogledd, ac yn wir fy etholwyr i yn Aberconwy, yn gallu cael mynediad at welyau dadwenwyno ac adsefydlu, yn enwedig pan fyddan nhw'n dod i ofyn am y cymorth a'r gefnogaeth hyn? Diolch.
Wel, gadewch imi gytuno â'r Aelod, Llywydd, fod yr alwad am wasanaethau iechyd meddwl yn sicr wedi codi yn y cyfnod wedi'r pandemig, a'i bod yn bwysig iawn i bobl sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl allu cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn gyflym. Rwy'n siŵr y bydd Janet Finch-Saunders wedi croesawu'r ffaith bod y gwasanaeth '111 pwyso 2' bellach ar gael i'w holl etholwyr. Mae ar gael 24 awr y dydd, bob dydd o'r wythnos; derbyniodd 5,000 o alwadau yn y gogledd rhwng mis Mawrth a mis Medi, ac roedd bodlonrwydd defnyddwyr ymhlith pobl oedd yn defnyddio'r gwasanaeth yn uchel iawn iawn. Felly, dim ond rheng flaen yw hwn i bobl sydd angen gwasanaethau mwy arbenigol; wrth gwrs, mae angen pethau y tu hwnt i hynny—[Torri ar draws.] Rwy'n ateb eich cwestiwn am welliannau i wasanaethau iechyd meddwl, a'r pwyntiau rydych chi'n eu codi eich hun am yr angen i bobl allu cael mynediad at y gwasanaethau hynny.
O ran Hafan Wen, a gwelyau dadwenwyno, y peth pwysig yw bod clinigwyr ac ymarferwyr yn gwneud y penderfyniadau hyn yn y maes hwnnw. Weithiau, byddan nhw'n cyfeirio pobl o etholaeth yr Aelod a gogledd Cymru at wasanaethau arbenigol yr ochr arall i'r ffin, ac weithiau bydd yna bobl sy'n byw yn Lloegr y bydd Hafan Wen y gwasanaeth gorau ar eu cyfer. Nid wyf yn credu y byddai'n synhwyrol cyfyngu etholwyr yr Aelod i ddefnyddio gwasanaethau dim ond oherwydd eu bod yng Nghymru; rydym am i'r bobl hynny gael y gwasanaeth gorau, a phan fyddwch yn delio â phobl sydd ag anghenion arbenigol iawn, ac weithiau hanesion iechyd meddwl cymhleth iawn, yn aml bydd hynny mewn gwasanaeth yng Nghymru, weithiau bydd yn rhywle arall, ac rwy'n credu bod hynny'n golygu bod y bobl hynny'n cael y gwasanaeth cywir, a'r gwasanaeth sydd ei angen arnynt.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gradd-brentisiaethau? OQ60055
Diolch i'r Aelod am hynny, Llywydd. Rydym yn buddsoddi mewn prentisiaethau gradd i helpu cyflogwyr i hybu cynhyrchiant a thwf economaidd. Symudodd nifer y prentisiaethau gradd blwyddyn gyntaf uwch ben 300 ym mlwyddyn academaidd 2021-22, am y tro cyntaf. Y flwyddyn nesaf, rydym yn bwriadu lansio prentisiaethau gradd yn y sector adeiladu.
Mae hynny'n ddefnyddiol iawn. Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rwy'n credu bod y Llywodraeth yn gwneud gwaith da iawn wrth ddatblygu a chefnogi prentisiaethau gradd. Ar 26 Medi, bu mi yn lansiad y brentisiaeth gradd rheilffyrdd newydd, yng Ngholeg y Cymoedd, campws Nantgarw. Mae'r brentisiaeth yn cael ei datblygu ar y cyd rhwng y coleg, Prifysgol De Cymru, Trafnidiaeth Cymru, ac wrth gwrs Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu bod angen sgwrs hirach, ddyfnach am sut mae prentisiaethau gradd yn cael eu hariannu yn y dyfodol. Galwais am y brentisiaeth gradd benodol hon yn fy adroddiad i Lywodraeth Cymru, ac, hefyd, rwyf wedi galw am y sgwrs honno—rwy'n credu bod honno i ddod mae'n debyg. Ond mae'r fframwaith hwn yn rhoi cyfle i hybu sgiliau lefel uwch mewn sectorau allweddol yng Nghymru, yn enwedig talent wedi'i meithrin gartref, i ddelio â chylch gwaith cynyddol Trafnidiaeth Cymru.
Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu yn y dyfodol pa sectorau pellach fydd yn cael y cymorth hwnnw? Sut y bydd cyflogwyr yn cael eu hannog i weithio gyda darparwyr addysg a'r Llywodraeth i ddatblygu prentisiaethau pellach? Ac ymhellach, sut y bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd yn sicrhau bod ysgolion yn annog y bobl hynny sy'n dymuno mynd i lawr y llwybrau prentisiaeth hynny i ddilyn y llwybrau hynny?
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiynau pellach hynny, ac am yr hyn a ddywedodd am y datblygiad yn Nantgarw, yr rwyf wedi cael y cyfle i'w weld drosof fy hun yng nghamau cynharach ei ddatblygiad. Mae ganddyn nhw gyfres wych iawn o gyfleusterau, a bydd yn gwneud cyfraniad gwirioneddol at anghenion y sector hwnnw yn y dyfodol, yn y ffordd a nododd Hefin David yn ei adroddiad ei hun ar gyfer Llywodraeth Cymru, trwy annog y dalent wedi'i meithrin gartref, pobl na fydden nhw fel arall efallai wedi ystyried eu hunain naill ai'n rhan o weithlu'r diwydiant hwnnw neu'n wir yn mynd i addysg uwch, i allu cyfuno manteision bod yn y gweithle ac astudio ar yr un pryd.
O ran pwynt yr Aelod ynghylch ble nesaf, wel, y sector adeiladu fydd ein pwyslais yn ystod y misoedd nesaf. Mae hynny o ganlyniad i lawer o drafod gyda chyflogwyr, i flaenoriaethu lle rydym yn cymryd y cam nesaf o ran ehangu ystod ein prentisiaethau gradd. Edrychwn ymlaen at gyfranogiad parhaus y cyflogwyr hynny—maen nhw'n hanfodol i lwyddiant y cynllun, fel y dywedodd Hefin David. Ac rwy'n credu bod yr hanes yng Nghymru hyd yma o'n twf yn y defnydd cywir o brentisiaethau gradd yn dangos bod y rysáit yn gweithio yma yng Nghymru.
Yn olaf, cwestiwn 8, Huw Irranca-Davies.
8. Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i rhoi i’r goblygiadau i Gymru yn sgil llythyr y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol at Brif Weinidog y DU ar 2 Hydref 2023? OQ60035
Llywydd, adleisiodd y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol lawer o'r pryderon a fynegwyd yn ein llythyrau at Lywodraeth y DU o ran Prif Weinidog y DU yn gwanhau polisïau sero-net allweddol. Mae angen i ni weld y dadansoddiad yn sail i'r newidiadau hynny er mwyn ein galluogi i werthuso'r effeithiau ar Gymru.
Diolch am yr ateb yna. Rwy'n ffan mawr o waith pwyllgorau, oherwydd bod ganddyn nhw rôl go iawn wrth ddwyn y Weithrediaeth—yr holl Swyddogion Gweithredol, pob Llywodraeth—i gyfrif. Ond yn llythyr chwe tudalen o hyd y pwyllgor hwn sy'n cael ei gadeirio gan Geidwadwr—17 ohonyn nhw, gyda llaw, rhag ofn eich bod chi'n sôn am ddiwygio'r Senedd, ac ati; pwyllgor â 17 aelod—gwnaethon nhw feirniadu'r Llywodraeth mewn gwirionedd. Fe wnaethon nhw feirniadu amseru cyhoeddiadau ar wrthlithro ar ymrwymiadau datgarboneiddio—amseru a oedd yn gweddu cynhadledd y Blaid Geidwadol, ond nid Senedd y DU. Ond aethon nhw amdani ar faterion gwrthlithro ar ddatgarboneiddio trafnidiaeth, datgarboneiddio effeithlonrwydd ynni ac adeiladu cartrefi, datgarboneiddio materion yn ymwneud â cherbydau trydan a symud at gynhyrchu batris cerbydau, a mwy. Gwnaethon nhw hefyd, gyda llaw, godi'r mater a allem ni weld y manylion ar faterion megis deddfwriaeth ar drethi cig, deddfwriaeth ar orfodi pobl i gerbydau teithwyr preifat trwy reoleiddio nifer y teithwyr, ac ati. A fyddai e'n cytuno â mi mai'r hyn sydd ei angen arnom yw alinio ledled y DU ar lefelau uchelgeisiol ar ddatgarboneiddio? Ac a yw e'n cytuno â mi, mewn gwirionedd, mai'r hyn sydd ei angen arnom yw Llywodraeth y DU yn y dyfodol sy'n rhannu lefel yr uchelgais i gyrraedd sero net ar yr amserlen sydd ei hangen arnom gan y Lywodraeth Cymru hon?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r holl bwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud. Does dim ymdeimlad o eironi yn y Blaid Geidwadol, rydyn ni'n deall hynny. Mae Prif Weinidog yn mynd i'w gynhadledd yn honni ei fod yn gwneud penderfyniadau hirdymor, ac yna'n gwneud cyfres o gyhoeddiadau ar yr hyn a ddylai, yn sicr, fod yr her hirdymor bwysicaf sy'n ein hwynebu fel glôb ac yn gwrthlithro ar bron pob un ohonyn nhw. Llywydd, dydych chi ddim angen i mi fod yn rhywun i roi dyfarniad ar yr hyn y mae Prif Weinidog y DU wedi'i wneud; dyma AS y Torïaid, Chris Skidmore, y gofynnwyd iddo gan Brif Weinidog Ceidwadol gadeirio adolygiad sero-net blaenorol. Dywedodd mai dyma'r camgymeriad mwyaf y gallai'r Prif Weinidog ei wneud. Dywedodd cyn-lywydd Cynhadledd y Pleidiau 26, Alok Sharma, y dyn a oruchwyliodd gynhadledd Glasgow, na fyddai cefnu ar gynlluniau hinsawdd yn helpu'r economi, na fyddai'n helpu ei blaid yn y blwch pleidleisio, a'i arwain i benderfynu peidio sefyll dros y Blaid Geidwadol yn yr etholiad nesaf, tra cyhuddodd yr Arglwydd Goldsmith y Deyrnas Unedig o droi ei chefn ar genedlaethau'r dyfodol.
Dyna ddyfarniadau cyfres o bobl y tu mewn i'r Blaid Geidwadol—y bobl, mewn gwirionedd, gyda'r cymwysterau gorau ar y materion hyn, ac ni wnaethon nhw sefyll yn ôl, na wnaethant, rhag datgelu realiti'r hyn oedd y tu ôl i benderfyniadau'r Prif Weinidog. Wrth gwrs, mae angen Llywodraeth wahanol arnom ar lefel y Deyrnas Unedig sy'n rhannu'r uchelgeisiau sydd gennym yn y Siambr hon i sicrhau ein bod yn wynebu'n wirioneddol gyda'n gilydd yr her fwyaf a fydd yno ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol os nad ydym yn barod i chwarae ein rhan nawr tra bod y cyfrifoldeb hwnnw yn ein dwylo ein hunain. Ac rwy'n ofni bod y dystiolaeth yn gwbl glir: nid dyna'r Llywodraeth sydd gennym heddiw.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon: Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i aildrefnu dadleuon plaid leiafrifol yfory. Nodir y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddiweddariad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru? Rwy'n gwybod ein bod ni wedi bod â rheswm dros ymweld â hyn sawl gwaith yn y gorffennol, fodd bynnag, mae pryderon yn fy etholaeth i oherwydd bod contract deintyddiaeth GIG arall yn cael ei drosglwyddo yn ôl, yn ardal y Rhyl, sy'n effeithio ar etholwyr Gorllewin Clwyd. Bydd hynny'n golygu nad yw miloedd yn fwy o bobl bellach wedi eu cofrestru gyda deintydd GIG. Mae hynny ar ben y practis yn Rhuthun, Practis Deintyddol Rhuthun, yn trosglwyddo ei gontract yn ôl yn gynharach yn y flwyddyn; Practis Deintyddol White Gables ym Mae Colwyn yn trosglwyddo ei gontract yn ôl ym mis Mehefin; a'r gwasanaeth contract Total Orthodontics ym Mae Colwyn hefyd yn cael ei ddileu. Mae'n swnio i mi fel pe bai problemau difrifol gyda diwygio'r contract GIG y mae'r Llywodraeth wedi ei gychwyn, ac mae hyn yn gorfodi mwy a mwy o ddeintyddion allan o ddeintyddiaeth y GIG. Mae angen datganiad brys arnom oherwydd mae hyn yn dod yn broblem ddifrifol ac acíwt iawn yn wir, ac os nad ydym yn ofalus, ni fydd unrhyw un yn gallu cael mynediad at ddeintydd y GIG yn y gogledd nac yn unrhyw le arall.
Diolch. Wel, fel y gwnaethoch chi gyfeirio atoch eich hun, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni yn aml o ran darpariaeth deintyddiaeth ledled Cymru. Fel y gwyddoch chi, rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda deintyddion ledled Cymru mewn perthynas â'r contract deintyddol newydd, ac mae 26 allan o 400—dyna'i gyd—nad ydynt wedi cymryd rhan yn y contract newydd, sef 4 y cant bach iawn.
Trefnydd, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf oll, roeddwn i'n ddiolchgar iawn ein bod wedi cael Gweinidog yr Economi yr wythnos diwethaf yn rhoi datganiad ar Grŵp UK Windows & Doors, ond yn amlwg, wrth i'r sefyllfa fynd yn ei blaen, tybed a allem ni dderbyn diweddariad yr wythnos nesaf. Bydd gweithwyr yn ofnus, yn amlwg, oherwydd o'r pumed ar hugain o'r mis hwn, ni fyddant yn gwybod y sefyllfa o ran yr hyn sy'n digwydd nesaf. Rwy'n gwybod bod cefnogaeth ar gael, felly byddwn yn ddiolchgar iawn.
Mae'r ail yn un y gwnes i gais amdano yr wythnos diwethaf, ond hoffwn ofyn i chi ailystyried, gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth. Unwaith eto dros y penwythnos, fe welsom ni, ynghylch casgliadau Amgueddfa Cymru, fod 2,000 o eitemau ar goll o'r casgliadau hynny, yn ogystal â'r rhai a welsom gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae pwyllgor diwylliant y Senedd eisoes wedi cael rhybudd am risgiau i'r casgliadau, oherwydd rhai materion cyllido. Felly, rwy'n credu, o ystyried arwyddocâd cenedlaethol ein casgliadau cenedlaethol, a phwysigrwydd Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, rwy'n credu y byddai datganiad yn briodol, os yn bosib.
Diolch. Nid wyf wedi newid fy safbwynt o'r wythnos diwethaf. Dydw i ddim yn bychanu'r hyn sydd wedi dod i'r amlwg, ac rwy'n siŵr bod y llyfrgell yn sicr yn edrych i mewn i hyn yn ofalus iawn. Nid wyf yn credu ei fod yn briodol ar gyfer datganiad llafar na datganiad ysgrifenedig ar hyn o bryd.
O ran eich cwestiwn cyntaf, fel y dywedwch chi, gwnaeth Gweinidog yr Economi ddatganiad llafar yr wythnos diwethaf ynghylch sefyllfa Grŵp Windows & Doors UK. Mae trafodaethau'n parhau. Unwaith eto, nid wyf yn credu y byddai datganiad llafar yr wythnos nesaf yn werth chweil, oherwydd rwy'n gwybod bod y cyngor yn cynnal ffair swyddi yr wythnos nesaf.
Roeddwn i eisiau dweud 'diolch' wrth Lywodraeth Cymru a'n Gweinidog iechyd. Rwy'n croesawu datganiad ar brinder Elvanse, meddyginiaeth ADHD—ymateb rhagweithiol iawn gan Lywodraeth Cymru. Ond byddwn i'n croesawu diweddariad arall gan fod y sefyllfa yn datblygu ac yn dod, rwy'n ofni, yn eithaf trallodus i lawer o'n hetholwyr ni ledled Cymru. Mae mwy o wybodaeth yn dod i'r amlwg sy'n awgrymu, mewn gwirionedd, na fydd sefyllfa Elvanse yn sefydlog tan y flwyddyn newydd, ac y gallai cleifion orfod mynd heb feddyginiaeth, oherwydd dywedwyd wrthyn nhw am geisio eu rhoi ar rywbeth arall, ond, yn amlwg, nawr mae hynny'n achosi prinder. Mae'n broblem gweithgynhyrchu, mae'n fater byd-eang, bu cynnydd yn y galw. Fodd bynnag, rwy'n teimlo nawr ein bod ni i gyd yn mynd i fod yn cael ein hetholwyr yn cysylltu â ni, maen nhw'n mynd i fod yn ofidus iawn. Bydd gan hyn oblygiadau enfawr i iechyd meddwl, bydd hyn yn effeithio ar bob oedran, a meddwl oeddwn i tybed a allai Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y bydd adnoddau'n cael eu rhoi ar waith, fel y gall pobl gael yr adolygiadau meddygol a meddyginiaeth hynny a chael cymorth yn ystod yr argyfwng hwn. Diolch.
Diolch. Wel, fel y dywedwch chi, rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddiweddariad ar y mater yr ydych yn ei godi. Ac rydym yn ymwybodol bod yr amhariad presennol i'r cyflenwad i feddyginiaethau ADHD yn beth dros dro, a disgwylir iddo gael ei ddatrys, ar gyfer rhai eitemau, y mis hwn, ac ar gyfer pob eitem erbyn diwedd y flwyddyn. Cyn bo hir, bydd y Gweinidog yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i Aelodau'r Senedd am brinder meddyginiaethau yn gyffredinol. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn atgoffa pobl, os ydynt yn ei chael hi'n anodd cael eu meddyginiaethau, y dylent drafod hynny gyda'u clinigwr.
A gaf i alw am ddatganiad ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas ag ailagor gorsaf reilffordd Sanclêr, os gwelwch yn dda? Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £5 miliwn i'r prosiect hwn, gyda disgwyl i Trafnidiaeth Cymru ariannu £1.6 miliwn tuag at ei ailagor. Rydym bellach dair blynedd ers cyhoeddi'r cyllid ac ni fu cynnydd hyd yma. Mewn ateb ysgrifenedig diweddar i mi ar y pwnc hwn, mae'r dirprwy Weinidog newid hinsawdd yn sôn bod yr ysbyty newydd arfaethedig naill ai yn Sanclêr neu Hendy-gwyn ar Daf yn cael ei ystyried. Gan nad oedd ailagor gorsaf reilffordd Sanclêr yn amodol ar leoliad ysbyty newydd arfaethedig, mae pryderon gwirioneddol yn lleol bod y penderfyniad ar leoliad yr ysbyty yn y dyfodol yn cuddio anweithgarwch gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru, nad ydynt o ddifrif ynglŷn ag ailagor yr orsaf hon y mae mawr ei hangen. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig, i roi eglurder ynghylch statws presennol ailagor gorsaf reilffordd Sanclêr, fel y gellir rhoi sicrwydd i'r gymuned? Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch. Wel, nid wyf yn credu bod unrhyw beth pellach y gallai'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ei ychwanegu at yr ateb ysgrifenedig y mae wedi'i roi i chi yn ddiweddar.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd am y strategaeth gan Lywodraeth Cymru i fanteisio ar botensial Cymru yn y maes hydrogen? A dweud y gwir, mi fyddai datganiad ar y cyd rhwng y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog datblygu economaidd yn ddefnyddiol iawn, gan fod yna gymaint o gyfle yn fan hyn i greu swyddi, yn ogystal ag ymateb i'n heriau amgylcheddol. Roeddwn i'n falch iawn o allu noddi digwyddiad, sy'n dal yn cario ymlaen heddiw, a dweud y gwir, ar ystâd y Senedd, yn edrych ar sut i ddatgloi ein potensial ni mewn hydrogen. Cynrychiolwyr busnesau a llywodraethau ar draws y byd yno yn un o'r digwyddiadau mwyaf o'r fath dwi wedi'i weld yma yn y Senedd, ac roedd hi'n braf cael y cyfle i wrando ar yr arbenigwyr ar sut i ddatblygu'r hyn sydd gennym ni yma a chlymu'r datblygiadau Cymreig i mewn i ddarlun rhyngwladol ar hydrogen. Mae gennym ni'r adnoddau naturiol, mae gennym ni'r porthladdoedd, y seilwaith, y gwaith ymchwil, ac ati. Mae gennym ni gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i'r egwyddor o ddatblygu hydrogen. Beth rydym ni angen ydy symud hwnnw ymlaen i rywbeth sydd yn wirioneddol gadarn ac yn gynllun clir ar fynd â'r sector yma yn ei blaen.
Diolch i chi. Ydw, rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn, ac yn enwedig o'n rhan ni yn y gogledd, mae hwn yn gyfle enfawr, yn fy marn i, ac fe fydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn hapus i gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i deuluoedd sydd wedi colli baban? Fel gŵyr yr Aelodau, mae'r wythnos hon yn nodi unfed flwyddyn ar hugain Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, wythnos i bawb yn y gymuned o bobl sydd wedi colli baban a thu hwnt i honno ddod at ei gilydd ar gyfer cofio a choffáu babanod annwyl y mae'r hiraeth yn fawr ar eu holau. Mae un etholwraig wedi sôn wrthyf i am yr effaith andwyol a gafodd colli plentyn arni hi, naw wythnos a phedwar diwrnod yn ystod ei beichiogrwydd. Fe ddywedodd hi wrthyf i mai gyda sgan preifat y nodwyd marwolaeth ei baban hi, sy'n golygu bod ganddi hi lun i'w gadw a chofio, ond, i gymaint o bobl, mae'r golled yn digwydd yn annisgwyl, felly nid oes ganddyn nhw unrhyw beth diriaethol i'w helpu nhw i gofio. Ni ellir synied effaith colli baban yn rhy fach, ac nid yw dyfnder y teimlad yn lleihau dros amser.
Trefnydd, yn yr Alban, lansiwyd llyfr dros yr haf er coffâd am fabanod a gollwyd i rai sydd wedi colli baban yn ystod beichiogrwydd neu cyn 24 wythnos oed, ac fe fydd y rhai sydd wedi profi colled o'r fath yn gallu gwneud cais am dystysgrif goffa, a fydd yn rhoi cydnabyddiaeth a chysur i'r rhai sy'n dymuno cofnodi eu colled. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac yn gwbl wirfoddol, ac fe allai rhywbeth fel hyn fod yn hanfodol bwysig oherwydd, ymhlith pethau eraill, mae'n caniatáu i fywyd baban gael ei goffáu gan ei anwyliaid, rhywbeth nad yw llawer ohonyn nhw'n cael cyfle i'w wneud, yn aml iawn. Felly, fe allai sicrhau bod hyn ar gael wneud gwahaniaeth mawr i rieni sydd eisoes wedi cael profedigaeth, ac i'r rhai a fydd, yn anffodus, yn colli babanod yn y dyfodol.
Diolch i chi. Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac, fel rydych chi'n dweud, mae'r wythnos hon yn nodi unfed flwyddyn ar hugain Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, ac rwy'n cydymdeimlo o waelod calon â rhieni sydd wedi colli plentyn. Fe wyddom ni y gall llawer o bobl sy'n colli babanod yn ystod beichiogrwydd neu'n ifanc iawn ddioddef archoll ddofn yn eu galar, gan brofi ymdeimlad nad yw'r brofedigaeth honno'n cael ei chydnabod neu, yn waeth fyth, nad oes unrhyw gefnogaeth ar gael iddyn nhw. Felly, rydym ni'n awyddus i sicrhau bod rhieni yn cael cynnig gofal sy'n gyfartal, o ansawdd uchel, ar sail unigolion, sy'n ddiogel a sensitif yn ystod eu galar oherwydd unrhyw brofiad o golli baban yn ystod beichiogrwydd neu'n ifanc iawn.
Mae'r Dirprwy Weinidog wedi bod yn gweithio ar gyfer dylunio a gweithredu'r llwybr cenedlaethol ar gyfer gofal mewn profedigaeth ar gyfer colli beichiogrwydd a cholli babi, gan weithio gyda Sands a nifer o sefydliadau ac arbenigwyr yn y maes hwn, oherwydd rydym ni'n cydnabod pa mor bwysig yw'r gwaith hwn. Ac rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau y bydd proses ardystio yn cael ei chyflwyno ledled Cymru i gydnabod colli baban yn ffurfiol, gyda swyddogion y Gweinidog yn gweithio gyda'u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU ar gyfer ymestyn y broses honno yma yng Nghymru. Mae nifer fawr o fenywod a theuluoedd wedi cyfrannu at adolygiad annibynnol o golli babanod yn ystod beichiogrwydd a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU, ac rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd werthfawrogi pa mor ofidus oedd hi iddyn nhw orfod dwyn eu profiadau nhw i gof unwaith eto. Ac mae hi'n gwbl hanfodol, serch hynny, fod y straeon hynny'n gallu llywio'r gwasanaethau y gallwn ni eu cynnig.
Rwy'n credu ein bod ni wedi cyflwyno gwelliannau sylweddol i wasanaethau ynglŷn â phrofedigaeth, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddylunio a gweithredu'r llwybr cenedlaethol ar gyfer gofal mewn profedigaeth ar gyfer colli beichiogrwydd a cholli babi, fel y cyfeiriais i ato'n gynharach.
Gweinidog busnes, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd? Fel gwyddoch chi efallai, mae eich Llywodraeth chi wedi penderfynu gostwng y terfyn cyflymder ar damaid o ffordd ddeuol ar yr A40 yn sir Fynwy. Mae gorchymyn dros dro amheus iawn wedi cael ei gymeradwyo i ostwng y terfyn o 70 mya i 50 mya rhwng cylchfan Rhaglan a chylchfan Hardwick yn y Fenni. Mae gostwng y terfyn cyflymder i 50 mya yn peri dryswch pan mai 60 mya yw'r terfyn cyflymder cenedlaethol ar lonydd sengl lle nad yw'r llain ganolog honno'n bresennol i wahanu llif y traffig i'r cyfeiriad arall. Nid yw'r rhesymeg gyfan y tu cefn i hyn yn gwneud synnwyr. Nid yw rhwystrau diogelwch yn diflannu nac yn colli eu cadernid yn ddisymwth. Mae pryderon y gallai Llywodraeth Cymru droi'r gorchymyn dros dro hwn yn un parhaol yn y pen draw, ac mai 50 mya fydd y normal newydd, nid yn unig ar y ffyrdd hyn ond ar ffyrdd tebyg ar draws fy rhanbarth i a Chymru gyfan. Felly, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i gadarnhau ei gynlluniau hirdymor ef ar gyfer y rhan hon o'r ffordd, os gwelwch chi'n dda.
Diolch i chi. Fe wnaethoch chi ddechrau eich cwestiwn chi drwy ddweud mai rhywbeth dros dro yw hwn a newid yn fuan iawn wedyn i ddweud y bydd yn rhywbeth parhaol. Nid wyf i o'r farn fod hyn yn ddryslyd cyn belled â bod yr arwyddion yn eglur iawn, iawn. Fe glywsoch chi'r Prif Weinidog yn siarad am y gwahanol amrywiadau o ran terfynau cyflymder yn Lerpwl ac ar draws gogledd-orllewin Lloegr. Fe yrrais i o fy nghartref i Lerpwl i'r gynhadledd, ac fe es i drwy bob terfyn cyflymder y gellid ei ddychmygu, ond cyn belled â bod hynny'n eglur o'r arwyddion ar fin y ffordd, nid oes unrhyw ddryswch. Fe wn i eich bod chi'n ceisio dadlau hynny, ond nid oes unrhyw ddryswch mewn gwirionedd.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd i ddiweddaru Senedd Cymru ar brosiect Deep End sydd dan nawdd y Llywodraeth? Mae gan glinig Sant Paul yng Nghasnewydd tua 6,000 o gleifion ac mae'n debyg bod ganddo gyfradd uwch o gleifion diabetig nag unrhyw fan arall yn y wlad. Cefais wybod hefyd mai dyma'r feddygfa fwyaf difreintiedig ond un yng Nghymru. Er gwaethaf llwyth gwaith enfawr, maen nhw'n ei chael hi'n anodd cael unrhyw feddygon i weithio yno, ac mae meddygon locwm yn codi crocbris. Rwy'n siŵr eich bod yn credu bod hynny'n wir ym mhobman, ond mae angen meddyg teulu arnyn nhw a ariennir yn llawn. Mae yna sôn am uno, ond nid yw'r meddyg teulu arweiniol yn awyddus i wneud hyn gan ei bod hi'n ofni y bydd y clinig yn cael ei gau ac nid yw hi'n gwybod beth fyddai'n digwydd i'r cleifion presennol. Felly, fe hoffwn i'n fawr iawn—ac fe wn y byddai clinig Sant Paul yn hoffi hynny hefyd—gael datganiad gan y Gweinidog iechyd yn amlinellu sut yn union y bydd prosiect Deep End yn helpu meddygfeydd fel hon, wrth symud ymlaen. Diolch i chi.
Diolch i chi. Rydych yn codi cwestiwn penodol iawn yma. Rwy'n credu y byddai hi'n well i chi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd yn ei sedd, ac rwy'n credu y byddai hi'n croesawu hynny.
Ac yn olaf, James Evans.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gennych chi yn rhinwedd eich swydd yn Weinidog materion gwledig ar gynllun Cynefin Cymru. Bûm yn bresennol mewn cyfarfod o gangen Brycheiniog a Maesyfed o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr neithiwr, ac roedd y ffermwyr yno'n bryderus iawn, iawn ynglŷn â chynllun Cynefin Cymru, y ffordd y cafodd ei weinyddu a sut y caiff ei gyflwyno, wrth symud ymlaen. Bu problemau gyda'r mapio, y cap 400 erw, a'r camddealltwriaeth o ran y cod fferm gyfan a'r cyfyngiadau sy'n berthnasol i hwnnw. Bu oedi gyda'r gweminarau ar gyfer ffermwyr—ac rwy'n parchu'r ffaith fod y rhain yn dod allan heddiw—cyfradd isel y taliadau, a diffyg taliadau ar dir BW1 ar goetir lle nad oes anifeiliaid hefyd. Roedd rhai ffermwyr yn gofyn i mi yno os yw hynny'n golygu nawr eu bod yn gallu tynnu'r ffensys allan a rhoi'r anifeiliaid yn ôl yn y coetiroedd hynny eto. Felly, fe hoffwn i gael datganiad brys ar y mater hwn er mwyn i ni ei drafod a chael esboniad mewn ffordd fwy agored i ffermwyr o ran yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud, oherwydd mae'r ewyllys da a enillwyd dros y blynyddoedd yn diflannu yn sgil cynlluniau amgylcheddol. Nid ydym yn dymuno edrych fel pe baem ni'n mynd tua nôl yn hyn o beth, ac mae angen ewyllys da unwaith eto rhwng y Llywodraeth hon a ffermwyr, ac rwy'n credu y byddai datganiad gan y Llywodraeth ar y cynllun yn mynd yn bell tuag at adfer yr ewyllys da o ran yr hyn yr ydych chi'n ceisio ei wneud yn y fan hon.
Rhoddais ddatganiad ysgrifenedig ar y cynllun cynefin eisoes, a agorodd ar gyfer mynegiannau o ddiddordeb ar 29 o fis Medi, fel gwyddoch chi. Rydym ni wedi cael 235 o geisiadau eisoes. Roedd yna broblem y gweithiodd fy swyddogion i'n gyflym iawn i'w datrys. Nid wyf i'n siŵr a yw'r Aelod yn gwybod, ond fe anfonwyd diweddariad ddoe i'r rhanddeiliaid i gyd. Rwy'n hapus iawn i anfon y diweddariad hwnnw atoch chi os nad ydych chi wedi'i weld. Roedd y nodyn hwnnw'n cadarnhau'r camau a gymerwyd i ddatrys y materion cychwynnol a gafodd eu nodi.FootnoteLink
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 sydd nesaf, sef datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud ei datganiad—Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd, rwy'n cyhoeddi ein Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Wrth wneud hynny, rydym ni'n cyflawni ein rhaglen lywodraethu a'r ymrwymiad yn ein cytundeb cydweithio i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol ar gyfer canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu ar gyflymder. Mae'r Papur Gwyn yn nodi newid aruthrol yn ein hymateb ni i ddigartrefedd ac, yng ngeiriau un o'n rhanddeiliaid, mae ei amcanion yn arwain y byd.
Mae hi'n hanfodol ein bod ni'n gweithredu'r newid trawsnewidiol a nodir yn y Papur Gwyn a bod yr amcanion hynod uchelgeisiol hyn gennym ni. Mae'r dirwedd y mae gwasanaethau digartrefedd yn gweithio ynddi wedi newid yn ddiwrthdro yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae effeithiau'r pandemig, yr argyfwng costau byw a'r argyfwng dyngarol sy'n deillio o'r rhyfel yn Wcráin i gyd wedi rhoi pwysau sylweddol ar y system dai yng Nghymru. Ond, yn wyneb y pwysau hwn, rydym ni wedi cyflawni pethau eithriadol. Ers dechrau'r pandemig, rydym ni wedi cynorthwyo bron i 40,000 o bobl sy'n ddigartrefedd gyda llety dros dro. Roedd llawer o'r digartrefedd hwn yn guddiedig—roedd rhai pobl yn byw ar y strydoedd, rhai yn mynd o soffa i soffa, ac nid oedd llawer ohonyn nhw'n gallu cael gafael ar unrhyw gymorth yr oedd ei angen arnyn nhw. Trwy weithio mewn partneriaeth eithriadol gyda'n hawdurdodau lleol, rydym ni wedi dinoethi digartrefedd yng Nghymru ac wedi dechrau mynd i'r afael â'i raddfa wirioneddol. Fel dywedais i o'r blaen, does dim mynd yn ôl. Nid oes lle i ddigartrefedd mewn cymdeithas wâr.
Mae'n rhaid i ni nawr droi at gynnal y newid hwn ac at gyflawni ein nod hirdymor o roi diwedd ar ddigartrefedd. Mae'r Papur Gwyn yn nodi'r fframwaith y byddwn ni'n cyflawni hyn drwyddo. Dirprwy Lywydd, gweledigaeth hirdymor yw hon, ac yn un sy'n gofyn am newid radical, cyfundrefnol a diwylliannol. Ni fydd hi'n hawdd ei chyflawni ond mae'n rhaid i'r newid hwn ddigwydd, ac mae'n rhaid i ni ddechrau'r broses nawr.
Mae'r Papur Gwyn yn seiliedig ar waith panel adolygu arbenigol dan gadeiryddiaeth yr Athro Suzanne Fitzpatrick ac yn cynnwys rhanddeiliaid arbenigol sy'n gweithio ledled Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd. Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i fynegi fy niolch o waelod calon iddyn nhw am eu hadroddiad ystyriol a chynhwysfawr, ac am y cydweithio gyda ni dros y flwyddyn ddiwethaf. Rhywbeth allweddol i waith y panel arbenigol, a'r Papur Gwyn, oedd cyfraniad anhepgorol dros 350 o bobl â phrofiad bywyd o ddigartrefedd sydd wedi llywio'r gwaith hwn ac wedi bod â rhan ganolog wrth gyfleu'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddigartref mewn gwirionedd. Dirprwy Lywydd, a gaf i roi teyrnged hefyd i'm tîm anhygoel o swyddogion, sydd wedi ymrwymo yn llwyr i gyflawni'r gwaith hwn?
Fe all digartrefedd fod yn brofiad dirdynnol. Fe all gymryd eich urddas oddi arnoch chi, ac andwyo eich iechyd a'ch hunan-barch. Fe hoffwn i ddiolch a chymeradwyo pob unigolyn a rannodd ei brofiad â ni i ddatblygu'r Papur Gwyn hwn. Fe gefais i'r pleser o gyfarfod â rhai ohonyn nhw, ochr yn ochr â Siân Gwenllian, fore heddiw, ac roedd clywed peth o'u profiadau nhw'n ein hatgoffa ni, mewn ffordd amlwg a sobreiddiol, o effaith digartrefedd, a phwysigrwydd ein huchelgais gyffredin i roi diwedd arno. Felly, Dirprwy Lywydd, rwy'n cyflwyno Papur Gwyn heddiw sydd wedi ei wreiddio mewn tystiolaeth a phrofiad—Papur Gwyn sy'n ceisio mynd i'r afael â heriau heddiw a chymryd y cam cyntaf ar daith diwygiad radical i'r dyfodol.
Rwy'n siŵr y bydd llawer o'm cyd-Aelodau yn y Siambr heddiw, yn eu swyddogaethau etholaethol, wedi ymateb i bobl sydd wedi bod â phroblemau o ran digartrefedd. Rwy'n siŵr y bydd rhai o'r rhain wedi bod mewn argyfwng, yn profi digartrefedd y gellid bod wedi ei atal. Fe fydd ein cynigion ni'n golygu y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i nodi ac atal digartrefedd cyn iddo ddigwydd ac yn gallu gweithio gyda phobl i sicrhau canlyniadau cadarnhaol sy'n rhai parhaol.
Efallai y gofynnwyd i rai ohonoch chi helpu pobl a gafodd eu gwrthod gan wasanaeth digartrefedd oherwydd nad oedden nhw'n cael eu hystyried yn rhai ag angen blaenoriaethol neu oherwydd y canfyddiad eu bod nhw wedi gwneud eu hunain yn ddigartref yn fwriadol. Mae ein cynigion ni'n golygu y bydd profion o'r fath yn cael eu diddymu. Efallai eich bod chi wedi ceisio helpu pobl ag anghenion cymorth lluosog i fynd drwy system gymhleth i gael gafael ar y cymorth angenrheidiol. Mae ein cynigion ni'n anelu at y rhai sydd fwyaf mewn perygl ac yn gofyn cydweithrediad gan ystod o gyrff cyhoeddus i helpu i gadw pobl ar eu haelwydydd.
Nid holl ystyr rhoi diwedd ar ddigartrefedd yw rhoi to uwchben unigolyn; mae'n ymwneud â mynd i'r afael ag ystod eang o achosion a chanlyniadau oherwydd digartrefedd a chwilio am lety addas yn y lle iawn ar yr amser iawn. Drwy'r diwygiadau hyn, fe fyddwn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod safonau llety yn cael eu codi, ein bod ni'n gwneud y defnydd gorau posibl o dai cymdeithasol a'n bod ni'n ehangu'r ystod o ddewisiadau tai sydd ar gael i bobl sy'n mynd yn ddigartref. Wrth i ni wneud hynny, fe fyddwn ni'n dal ati i ganoli ein hymdrechion ar gynyddu ac arallgyfeirio cyflenwad tai a meithrin cymunedau cydlynol ledled Cymru.
Bydd y cynigion yn y Papur Gwyn hwn yn helpu i gynnal ein cyflawniadau ni hyd yn hyn ac yn cynnig rhai o'r atebion hirdymor i'r problemau sy'n ein hwynebu ni heddiw. Dirprwy Lywydd, nid ateb cyflym mohono ond pecyn o ddiwygiadau ar sail y dystiolaeth, a gafodd ei lywio gan arbenigwyr i drawsnewid y system ddigartrefedd ac i greu system sy'n addas i'r dyfodol. Mae rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru yn golygu dileu'r anfantais, y boen a'r aflonyddwch y gall digartrefedd ei achosi. Fe fydd ein cynigion ni'n dod â manteision unigol i bob unigolyn sydd mewn perygl, ond, yn y tymor hwy, fe fyddan nhw'n llesol hefyd i'n gwasanaethau cyhoeddus y mae'r galw amdanyn nhw'n fawr. Dirprwy Lywydd, rwy'n falch ac mae hi'n anrhydedd i mi rannu'r Papur Gwyn â'r Senedd heddiw a pharhau â'r camau radical a beiddgar y mae'n rhaid i ni eu cymryd i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Diolch.
Diolch i chi, Gweinidog, am ddodi hwn gerbron, ond, mae'n ddrwg gennyf i, ynglŷn â hyn, ni allaf ddal yn ôl, oherwydd, a dweud y gwir, mae lansio'r papur hwn ar ddiwrnod digartrefedd ynddo'i hun yn peri dryswch braidd, oherwydd roeddech yn ddiweddar, ar y teledu—rwy'n credu mai'r wythnos diwethaf oedd hi—yn gwadu'r ffaith mai eich polisïau chi ar ddigartrefedd, Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) a phethau fel yna sy'n cynyddu digartrefedd mewn gwirionedd. Dirprwy Lywydd, rwy'n datgan buddiant o ran perchnogaeth eiddo.
Nawr, ers ymron i dri degawd, y chi yn Llafur Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am dai—ie, am adeiladu tai fel bod gan ein hetholwyr ni aelwydydd i i fyw arnyn nhw. Edrychwch ar yr hyn yr ydych chi wedi ei gyflawni: 10,931 o unigolion yn byw mewn llety dros dro erbyn hyn. Dyna'r gyfradd uchaf ers i Lywodraeth Cymru ddechrau ar ei rhaglen monitro bresennol. Mae hynny'n warthus. Tair mil, tri chant a hanner o blant dibynnol o dan 16 oed yn byw mewn llety dros dro, traean ohonyn nhw mewn gwestai neu lety gwely a brecwast. Mae hynny'n warthus. Mae cysgu ar y stryd wedi cynyddu 69 y cant ers mis Gorffennaf 2021. Mae hynny'n warthus. Grant Cymorth Tai—disgwylir i'r cyllid aros ar yr un gyfradd â'r llynedd, gyda £166.7 miliwn wedi cael ei ddyrannu. Ystyr hynny yw gostyngiad o 8 y cant mewn termau real.
Nawr, gan gyfeirio at Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016—. Fe ddywedaf i, a bod yn deg, nad yw Julie, y Gweinidog, wedi bod yn ei swydd dros y blynyddoedd hynny i gyd, ond fe fu hi yn ei swydd ac yn gyfrifol am y portffolio hwn ers cryn amser bellach. Felly, mae'n rhwystredig iawn i ni a ninnau wedi dod atoch chi gydag awgrymiadau da ynghylch sut i wella a chynyddu stoc tai ac rydym ni'n cael ein hanwybyddu yn llwyr. Gan gyfeirio at Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, dywedodd Dr Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr The Wallich:
'Fe welsom ni landlordiaid yn gadael y sector'—
mae hi'n golygu landlordiaid preifat—
'Fe glywsom ni dystiolaeth anecdotaidd ynglŷn â hyn ers ychydig fisoedd, ond cadarnhawyd hynny'n fwy diweddar yn rhywbeth sy'n achosi digartrefedd, nad yw landlordiaid yn gallu bodloni'r safonau a nodir yn y Ddeddf Rhentu Cartrefi ac felly maen nhw wedi gorfod gwerthu a gadael y sector.'
Am bob stori a glywodd hi, fe gefais i lawer mwy. Nid yw eich Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 chi, gyda'r holl reoliadau, yr holl fiwrocratiaeth ychwanegol, yn gwneud dim ond gyrru landlordiaid o'r sector—[Torri ar draws.] A hoffech chi wneud ymyriad?
Na. Ni cheir ymyriadau yn ystod datganiad.
Wel, a wnewch chi ofyn iddo adael i mi gyflwyno fy—?
Iawn, ymlaen â chi.
Er gwaethaf ein rhybuddion cyson bod y Ddeddf yn peri i landlordiaid adael y sector, nid ydych chi wedi gwrando. Ni wnaethoch chi wrando ar Dr Bruce, prif weithredwr elusen digartrefedd flaenllaw Cymru. Mae eich ymateb iddi hi nad oes gennych chi unrhyw dystiolaeth empirig wirioneddol yn amlygu eich bod chi'n ffoi oddi wrth y sefyllfa. Fe wyddoch chi fel minnau, Gweinidog, bod y gwariant ar lety dros dro yn cynyddu fwyfwy, nid yn flynyddol ond yn wythnosol ac yn fisol, yn ein hawdurdodau lleol. Felly, mae pobl yn symud o dai ac i'r ystafelloedd hyn mewn gwestai.
Y cwestiwn sydd gennyf i chi yw hwn: mae diwygio cyfraith tai yn rhan allweddol o raglen lywodraethu 2021-26, felly a wnewch chi wrando nawr ar y sector rhentu preifat a gweithredu newidiadau i'r Ddeddf fel ei bod hi'n llai tebygol o beri i landlordiaid adael y sector? Mae hynny'n feichus ar y teuluoedd hyn a hyd yn oed ar dîm tai fy awdurdod lleol o ran dod o hyd i lety. Nid yw ar gael, yn syml iawn. Mae rhifau dadgofrestru yn codi—cofnodwyd 13,061 o ddiddymiadau rhwng 2018 a 2021, cyfartaledd o dros 4,000 y flwyddyn. Yn 2021-22, dringodd y nifer hwnnw i 7,629. Rydyn ni wedi gwneud cymaint o waith ar hyn yn ein swyddfa fach ni, felly, i chi, gyda thîm, adran—. Ni wn i pam, a ninnau wedi anfon ffigurau atoch chi ac fe allwch chi weld y gwariant ar ddigartrefedd yn cynyddu, nad ydych chi'n cyffelybu hynny â'r ffaith fod llai o stoc ar y farchnad i bobl allu symud i mewn i dai.
Fy nghynnig i fyddai cydweithio cadarnhaol rhwng y Llywodraeth a landlordiaid, ac yn drawsbleidiol hefyd yn y grŵp hwn, yn hytrach na'u gwneud nhw'n ddihirod. Os na fyddwch chi'n cyflawni hynny, fe fydd diddymu angen blaenoriaethol yn drychineb i'r awdurdodau lleol; fe fydd hyd yn oed fwy yn byw mewn llety gwely a brecwast a gwestai. Y Papur Gwyn heddiw yw eich cyfaddefiad chi nad yw deddfwriaeth Llafur Cymru, Deddf Tai (Cymru) 2014, wedi bod yn llwyddiannus. Ac fe wyddom ni i gyd, yn 2022, Nadolig y llynedd, roedd yn rhaid i bobl gael tenantiaethau wedi'u trosi—unwaith eto, fe geir pobl ar lawr gwlad sy'n gosod tai ar rent nad ydyn nhw'n gwybod mewn gwirionedd beth y disgwylir iddyn nhw ei wneud.
Janet, mae angen i chi orffen nawr, os gwelwch chi'n dda.
Fe wnaf i. Gweinidog, mae hi'n hen bryd i chi ddechrau gweithio gyda ni a gweithio gyda—. Wel, rydych chi'n gweithio gyda Phlaid Cymru eisoes. Mae digartrefedd yng Nghymru yn sgil-gynnyrch y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, ac a dweud y gwir, mae hynny'n warthus.
Wel, ble i ddechrau? Yn gyntaf i gyd, nid yw'r papur hwn yn ymwneud â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ond yn ymwneud â'r sefyllfa gyffredinol sydd gennym ni o ran digartrefedd. Mae gennym ni niferoedd mawr iawn mewn llety dros dro, Janet. Fe fyddai'r bobl hynny ar y stryd petaen nhw'n byw yn Lloegr—gadewch i ni fod yn glir. Os ydych chi'n dymuno cadw angen blaenoriaethol, honno yw'r ffordd o gadw pobl allan o lety ac ar y stryd. Os nad ydych chi'n deall y peth sylfaenol hwnnw, nid wyf i'n gwybod ble i ddechrau gyda chi. Mae'r syniad mai'r datrysiad i hyn yw caniatáu i landlordiaid rentu cartrefi nad ydyn nhw'n addas i bobl fyw ynddyn nhw er mwyn eich rhwystro chi rhag gorfod edrych ar rywun ar y stryd yn gwbl chwerthinllyd. A dweud y gwir, a gaf i awgrymu eich bod chi'n darllen cyngor y panel cynghori ar ddigartrefedd, a'r grŵp arbenigol, mewn gwirionedd? Ac a gaf i awgrymu eich bod chi, am unwaith, yn gwrando ar brofiadau bywyd y bobl sydd yn y system? Oherwydd mae'r hyn y maen nhw'n ei ddweud a'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud yn gwbl groes i'w gilydd.
Yr unig atebion rydyn ni'n eu cael gan yr ochr draw ydy trosglwyddo mwy o bres cyhoeddus i bocedi preifat, trosglwyddo mwy o bres y tlawd i bocedi preifat a datblygu'r sector landlordiaeth yna yn hytrach na mynd i'r afael â'r broblem go iawn sydd o'n blaenau ni. Dwi eisiau cymryd y cyfle yma i gymeradwyo Llywodraeth Cymru yn yr achos yma am gymryd y cam sylweddol yma ymlaen er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd. Mae e'n galonogol i weld y Llywodraeth yma wedi ymrwymo i ffeindio datrysiad ar gyfer rhywbeth sydd yn gymhleth ac yn broblem genedlaethol i ni. Dwi'n falch iawn fod Plaid Cymru hefyd wedi chwarae rhan yn y broses hon.
Mae sicrhau bod gan bob unigolyn hawl i fod â llecyn diogel a chlyd i breswylio ynddo nid yn unig yn rheidrwydd moesol, ond yn hawl ddynol sylfaenol. Rwyf i o'r farn fod yn rhaid ysgogi newid drwy gyflwyno hawl i dai addas yng nghyfraith Cymru. Trwy ymgorffori'r hawl hon yn y gyfraith, fe allem ni gyhoeddi neges eglur bod digartrefedd yn annerbyniol yng Nghymru ac rydym ni'n ein dal ein hunain i gyfrif yn hyn o beth.
Fodd bynnag, fel gwyddom ni i gyd, ataliad yw'r driniaeth orau, yn aml iawn. Mae'n rhaid i ni wella ein hymdrechion i nodi a chefnogi unigolion a theuluoedd sydd mewn perygl o fynd yn ddigartref cyn i hynny ddigwydd. Ni ddylai atal digartrefedd fod yn ôl-ystyriaeth, ond yn rhan ganolog o'n strategaeth. Rwy'n cofio siarad â phobl yn y sector atal digartrefedd yn y Ffindir, a oedd yn esbonio sut roedden nhw'n mynd i'r afael â digartrefedd ac yn uwch-ffrydio i raddau llawer helaethach nag a welwn ni mewn mannau eraill. Felly, fe hoffwn i ofyn i'r Gweinidog: sut mae'r ddeddfwriaeth hon yn bwriadu cryfhau'r ymdrechion o ran uwch-ffrydio? A oes mesurau pendant ar waith i adnabod y rhai sydd mewn perygl a rhoi'r cymorth angenrheidiol iddyn nhw?
Mae cydweithredu ar draws sectorau yn agwedd hanfodol arall ar atal digartrefedd mewn ffordd effeithiol. Nid yw digartrefedd yn broblem y gall unrhyw asiantaeth neu sefydliad unigol ei datrys ar ei ben ei hun. Mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd ar draws y sectorau, gan gynnwys iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol, i nodi'r rhai sydd mewn angen a chynnig cefnogaeth sy'n gynhwysfawr. Felly, a wnaiff y Gweinidog daflu goleuni ar sut mae'r ddeddfwriaeth hon yn hyrwyddo ac yn hwyluso cydweithredu ar draws sectorau i atal digartrefedd? Ynglŷn â hynny, wrth gwrs, fe wyddom ni mai'r awdurdodau lleol sy'n darparu rhan fawr o'r gwasanaethau i fynd i'r afael â digartrefedd, ac mae angen i ni weld cynnydd yn lefel y grant cymorth tai. Felly, pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i weld y grant arbennig hwn yn cynyddu dros y blynyddoedd nesaf?
Er bod atal yn hollbwysig, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael hefyd â'r angen mawr presennol am dai. Nid yw hi'n ddigon i atal digartrefedd, mae'n rhaid i ni hefyd ddarparu dewisiadau fforddiadwy a hygyrch o ran tai i'r rhai sydd mewn angen. Mae tai cymdeithasol â rhan hanfodol yn hyn o beth, ond mae hi'r un mor bwysig sicrhau bod tai cymdeithasol ar gael yn y lleoliadau priodol lle ceir gwasanaethau hanfodol, a bod cysylltiadau trafnidiaeth a chyfleoedd cyflogaeth yn hygyrch i bobl. Felly, fe hoffwn i ofyn i'r Gweinidog: sut mae'r ddeddfwriaeth hon yn mynd i'r afael â mater o sicrhau bod tai ar gael a'u lleoliad? A oes cynlluniau ar waith i fuddsoddi mewn datblygiadau tai cymdeithasol sydd mewn sefyllfa strategol i gynnig y cyfle gorau i breswylwyr weld llwyddiant a sefydlogrwydd ynddyn nhw?
I gloi, fe hoffwn fynegi unwaith eto fy nghefnogaeth i ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd drwy gyfrwng y ddeddfwriaeth hon. Gan fod hyn yn rhan o'r cytundeb cydweithio sydd rhyngom ni, ni fyddai'r ddeddfwriaeth hon yn bosibl heb Blaid Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Gweinidog i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithio i unioni'r argyfwng yr ydym ni'n ei brofi. Mae'r hawl i dai digonol, uwch-ffrydio gwaith, cydweithio ar draws sectorau a datblygu tai cymdeithasol strategol i gyd yn elfennau hanfodol o ddull cynhwysfawr ar gyfer rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Eto i gyd, wrth i ni drafod y ddeddfwriaeth hon, gadewch i ni barhau i fod yn wyliadwrus a sicrhau bod y mesurau arfaethedig yn gadarn ac yn effeithiol. Mae'n rhaid i ni, nid yn unig ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r symptomau, ond gweithio yn ddiwyd i ddileu achos sylfaenol digartrefedd. Wythnos diwethaf, fe wnes i rannu stori Polly, ac rwy'n deall y bydd y ddeddfwriaeth hon yn cymryd amser i'w gweithredu a'i gwreiddio, ond rwy'n mawr obeithio y bydd hon yn y diwedd yn rhoi cyfle mewn bywyd i Polly a rhai eraill tebyg iddi hi. Diolch.
Diolch, Mabon. Ni allwn i gytuno yn fwy â phopeth yr ydych chi newydd ei ddweud. Ystyr hyn yw deall y gallai unrhyw un o gwbl fynd yn ddigartref, fe allech chi neu fe allwn innau. Mae'r rhan fwyaf o bobl rhyw dri neu bedwar taliad rhent yn unig i ffwrdd o fod yn ddigartref. Os ydych chi'n gwrando ar unrhyw un o'r straeon, fe all hyn ddigwydd ym mhob dosbarth, i bobl o bob math ac o bob cefndir. Mae hi'n wir, serch hynny, os ydych chi'n dioddef trawma yn ystod plentyndod, os ydych chi wedi cael magwraeth ddi-drefn, fe fyddwch chi'n fwy tebygol o brofi digartrefedd, felly mae hynny'n ychwanegu anghyfiawnder at anghyfiawnder, onid ydyw?
Ymhlith y nifer o bethau y mae'n rhaid i ni eu gwneud, rydych chi yn llygad eich lle, yw uwch-ffrydio hyn. Felly, ynghyd â Jeremy Miles, y Gweinidog addysg, rydym ni wedi cynyddu, er enghraifft, yr arian i'r timau ymgysylltu ac atal ieuenctid ar draws ein sefydliadau addysg i nodi plant y mae hi'n ymddangos eu bod nhw'n cael y profiadau yn ystod plentyndod y gwyddom ni sy'n gallu arwain at ddigartrefedd, a'u codi nhw gyda'u teuluoedd, neu gyda phwy bynnag yw eu gwarcheidwaid nhw, gan ymdrechu i fynd i'r afael â hyn ar gam cynnar—po gyflymaf y gorau oll i'r gwasanaethau cymorth hyn gael eu rhoi ar waith. Ac yna, i'r rhai nad ydynt mwyach mewn tai ac wedi mynd yn ddigartref, naill ai ar y stryd neu'n mynd o soffa i soffa neu ag amgylchiadau ansicr iawn o ran preswylfod, y peth allweddol wedyn yw rhoi'r cymorth cofleidiol iddyn nhw cyn gynted ag y bo modd.
Fe wnaeth Siân Gwenllian a minnau gyfarfod â chwpl o bobl y bore yma—tri unigolyn, mewn gwirionedd—sydd wedi cyfrannu yn uniongyrchol at y darn hwn o waith, a chlywed eu straeon nhw—. Wyddoch chi, mae'r hyn y gall bodau dynol ei oresgyn yn gwbl anhygoel, o gael y mathau priodol o wasanaethau cymorth. Ni allen nhw fod wedi pwysleisio mwy cymaint y maen nhw'n dibynnu ar gefnogaeth y gweithwyr cymorth o'u cwmpas nhw, ac roedd hi'n amlwg pa mor ymroddedig oedd y bobl hynny. Ac felly hanfod hyn yw sicrhau bod pob gwasanaeth cyhoeddus yn gwneud ei ran wrth roi'r cymorth cofleidiol hwnnw i bobl. Dyma enghraifft i chi, roedd un o'r bobl y buom ni'n siarad â nhw fore heddiw, un a oedd wedi cael llawdriniaeth fawr ac ar ôl cael ei ryddhau o'r ysbyty heb unrhyw le arbennig i fynd, fe aeth ar ei ben yn ôl i fyw ar y stryd, a chanlyniad hynny, wrth gwrs, oedd bod rhaid iddo gael ei dderbyn unwaith eto am ofal meddygol costus iawn ychydig yn ddiweddarach ac fe gafodd brofiad llawer mwy dirdynnol oherwydd hynny. Felly, fe allwch chi weld yr hyn y gellir ei arbed wrth ddim ond mynd i'r afael â'r anghenion o ran tai yn y lle cyntaf.
Mae'n ymwneud â sicrhau bod dyletswydd i beidio rhyddhau unrhyw un o unrhyw fath o wasanaeth cyhoeddus i ddigartrefedd. Nid yw hi'n ddigon i ddweud, 'O, ewch at wasanaeth dewisiadau tai; fe fyddan nhw'n eich helpu chi.' Mae'n ymwneud â phob asiantaeth unigol yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod yr unigolyn hwnnw'n cael ei godi a'i gefnogi. Ond yn bwysicach o lawer, mae'n ymwneud â sicrhau bod yr asiantaethau cynghori ar waith. Achoswyd llawer o'r argyfwng hwn gan yr argyfwng costau byw y mae'r meinciau gyferbyn yn hoffi gwadu bod unrhyw gysylltiad rhyngddynt. Ond mae hi'n amlwg iawn fod teuluoedd sydd dan bwysau ariannol enfawr yn dioddef chwalfa deuluol mewn pob math o amgylchiadau, felly mae'n ymwneud â sicrhau bod y cyngor cywir ar gael yn gynnar, gan sicrhau ein bod ni'n deall beth allai ddigwydd i gadw'r teulu hwnnw gyda'i gilydd ac ar eu haelwyd, neu os ydyn nhw am wahanu, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwneud hynny mewn ffordd sydd leiaf dirdynnol â phosib, a bod y ddwy ochr yn y teulu hwnnw'n cadw eu tai. Fe fyddai hwnnw'n rhywbeth cwbl drawsnewidiol ynddo'i hun. Yr awgrymiadau yn y Papur Gwyn yw sut y gallwn ni wneud hynny, pa ran y gall y sector cyhoeddus ym mhob maes chwarae yn hyn, sut y gallwn ni nodi pobl cyn iddyn nhw syrthio trwy'r craciau, sut y gellir trwsio'r craciau fel nad ydyn nhw yno, ac yna yn y pen draw—ac amcan hirdymor yw hwn—gwneud yn siŵr mai rhywbeth yw hwn sy'n brin, am amser byr, ac na chaiff fyth ei ailadrodd.
Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog yn fawr. Mae digartrefedd yn warth ar unrhyw gymdeithas wâr. Rwy'n croesawu camau'r Llywodraeth a'r gydnabyddiaeth nad cysgu ar y stryd yw ystyr pob digartrefedd; digartrefedd hefyd yw pobl sy'n mynd o soffa i soffa, yn cysgu ar loriau, heb gartref sefydlog, neu'n byw mewn llety sydd dan ei sang. Mae angen mwy o dai cymdeithasol arnom ni, gan gynnwys tai cyngor. Mae angen i ni adeiladu tai cyngor nôl ar y gyfradd yr oeddem ni'n adeiladu arni yn y 1950au a'r 1960au, ond mae angen i ni gefnogi'r sector rhentu preifat hefyd. Mae angen llety â chymorth ar nifer fawr o'r rhai sy'n ddigartref i'w hatal nhw rhag mynd yn ôl yn ddigartref yn gyflym iawn eto. Ni fyddai ond eu rhoi nhw mewn tŷ yn datrys problemau nifer fawr iawn o'r bobl hyn, gan gynnwys nifer sy'n byw mewn llety â chymorth yn eich etholaeth chi, Gweinidog. Ymwelodd y Gweinidog a minnau ag ysgol Hafod wythnos diwethaf i drafod digartrefedd gyda'r plant yno, ac ymwelodd y ddau ohonom ni â Matt's Cafe yn etholaeth y Gweinidog ei hun a oedd yn rhagorol. Fe hoffwn i gael gwybod a yw'r Gweinidog yn rhannu fy mhryderon i o ran nifer y tai a'r fflatiau sy'n mynd yn llety Airbnb ac nad ydyn nhw mwyach ar gael i'w rhentu.
Diolch, Mike. Roedd hi'n hyfryd cael cwrdd â'r plant a chlywed eu pryderon nhw ynglŷn â digartrefedd. Mae'r ysgol yn fy etholaeth i, ond mae ei gatiau yn agor ar etholaeth Mike, felly mae hi'n ysgol sy'n gyffredin i'r ddau ohonom ni i raddau helaeth iawn. Ac roedd hi'n hyfryd gweld eu hymgyrch nhw: maen nhw wedi gorymdeithio drwy ganol y ddinas, maen nhw wedi codi ymwybyddiaeth, maen nhw wedi codi swm enfawr o arian a ysbrydolodd eu pennaeth nhw i redeg 10k; roedd hi'n ymddangos ei fod wedi ei synnu yn fawr ei fod ef ei hun wedi ei rhedeg hi'n llwyddiannus ac fe gododd gryn dipyn o arian. Maen nhw wedi rhedeg 10k gydag ef o amgylch yr iard ar gyfer ei hyfforddiant, maen nhw wedi codi swm enfawr o arian, ac mewn cymuned nad oes cymaint o fodd ariannol â hynny i'w gael yno, mewn gwirionedd, felly maen nhw wedi gweithio yn galed iawn i wneud hyn. Ac maen nhw wedi gwneud hyn oherwydd eu bod nhw eu hunain yn gallu gweld, o'r plentyn meithrin lleiaf hyd at y rhai sy'n gadael blwyddyn 6, anghyfiawnder mawr yr hyn sy'n digwydd i chi pan fyddwch chi'n colli eich cartref. Roedden nhw'n gwbl ysbrydoledig, ac mae Matt's Cafe yn fy etholaeth i'n gwneud gwaith cwbl anhygoel o ran sicrhau bod pobl yn cadw rhyw fath o urddas a hunanfeddiant os ydyn nhw'n mynd yn ddigartref.
Fe gawsom ni lawer iawn o ymgysylltu â phobl drwy Cymorth Cymru a thrwy Tai Pawb, gan wrando ar eu profiadau bywyd, a gwrando ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud a fyddai o gymorth. Mae Mike yn iawn—mae bod a thai ar gael yn un o'r hanfodion. Ond nid oes unrhyw bwynt rhoi cartref i rywun sydd filltiroedd oddi wrth ei gynefin, milltiroedd oddi wrth gefnogaeth, milltiroedd oddi wrth ei waith, milltiroedd oddi wrth rwydwaith ei ffrindiau. Ni fyddai neb ohonom ni'n gallu byw mewn tŷ o'r fath, ac ni ddylid gofyn i neb arall wneud felly. Felly, mae hyn yn ymwneud yn llwyr â sicrhau bod yr atgyfeiriad priodol i'r math iawn o lety, i'r bobl iawn, gyda'r gefnogaeth iawn, gan gynnwys cefnogaeth ehangach i deuluoedd, ar gael yno gan roi ystyriaeth sy'n gyfannol. Mae'n rhaid i ni wneud hynny mewn gwirionedd. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein gwasanaethau ni i gyd yn gwneud hyn gyda'i gilydd, ac fe wni i wir, wir—fe wn i, gan eich bod yn gallu gweld hyn mewn gwledydd eraill—os gallwch chi gael system sy'n rhedeg yn iawn, mae hynny'n ysgafnu'r baich ar bob un o'r gwasanaethau hyn, oherwydd nid oes cymaint o alw arnyn nhw gan bobl os yw'r rhain yn cael aros yn eu cartrefi eu hunain.
Ond yr hyn sydd ei angen arnom ni'n sylfaenol hefyd yw system o fudd-daliadau sy'n caniatáu i bobl aros ar eu haelwydydd. Felly, anghyfiawnder y dreth ystafell wely, er enghraifft—mae hi'n bwysig peidio ag anghofio bod honno'n bodoli o hyd. Mae cyflwr echrydus y lwfans tai lleol a'i rewiad flynyddoedd yn ôl yn golygu bod pobl ar fudd-daliadau—ac mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n cael budd-daliadau yn gweithio, gadewch i mi atgoffa pawb—y bobl hynny sy'n dibynnu ar y budd-daliadau hyn, sy'n ei chael hi'n anodd iawn ac yn gwario, mewn rhai achosion, 50 neu 60 y cant o'u hincwm ar eu costau tai. Wyddoch chi, mae hynny'n hollol warthus, a dyna'r mater y dylai Janet Finch-Saunders a'i meinciau fod yn ei ystyried mewn gwirionedd.
Yn 2004, roeddwn i mewn cyfarfod o'r te i'r digartref yr oedd aelodau'r eglwysi Cymraeg yng Nghaerdydd wedi bod yn ei gynnal yn wythnosol ers y 1970au. Fe fuom ni'n trafod dod â'r te i ben, oherwydd bod nifer y mynychwyr wedi gostwng i lond het. Ond yna fe ddaeth cyni, ac ni allwn ni anghofio canlyniadau ofnadwy'r ideoleg honno, a fydd yn cael eu teimlo am genedlaethau i ddod. Serch hynny, fe ddaeth y ddarpariaeth i ben yn ystod COVID, pan ddaethpwyd o hyd i lety i'r holl bobl ddigartref yng Nghaerdydd. Ac eto, nawr, mae hi'n ymddangos bod gennym ni fwy o bobl ddigartref ar strydoedd Caerdydd nag erioed o'r blaen. Mae'r ddarpariaeth i'r digartref yng nghapel y Tabernacl yng nghanol y ddinas wedi cynyddu o un sesiwn wythnosol i dair sesiwn yr wythnos, gyda chymaint â 60 yn mynychu i gael pryd o fwyd cynnes, dillad a sachau cysgu. Rwyf i mor falch fod y Papur Gwyn wedi cynnwys barn pobl ddigartref. Fe wnaeth Mabon ap Gwynfor sôn am Polly. Mae hi mor bwysig gwrando ar y straeon, rhoi enw i'r wyneb, a chlywed am yr hyn y maen nhw wedi bod drwyddo.
Rydych chi'n iawn, Gweinidog, fe allai hyn ddigwydd i unrhyw un. Dros y blynyddoedd, rwyf i wedi cwrdd â chyn-fferyllydd ac athro ar strydoedd Caerdydd. Mae'r ddemograffeg wedi newid llawer dros y blynyddoedd diwethaf. Am ddegawdau, roedd y rhai a fyddai'n mynychu'r te i'r digartref yn tueddu i fod yn ddynion hŷn â phroblem alcohol. Nawr, maen nhw'n llawer iau, gyda llawer o ferched ifanc yn mynychu—
Rhys, mae angen i chi ofyn eich cwestiwn, os gwelwch chi'n dda.
—sydd wedi cael eu siomi gan y gymdeithas. Sut mae'r Gweinidog am atal yr unigolion agored i niwed hyn rhag mynd yn ddigartref? Diolch yn fawr.
Diolch, Rhys. Felly, yr ymgysylltu—. Ni allaf bwysleisio digon bod yr ymgysylltiad a wnaeth Cymorth Cymru—. Fe gyfrannodd tri chant o bobl a oedd wedi bod yn ddigartref at hyn—cyfrannu yn uniongyrchol at y panel arbenigol ac yna i'r Papur Gwyn. Cynhaliodd Tai Pawb ymgysylltiad â 50 o bobl a oedd â phrofiad bywyd a nodweddion gwarchodedig eraill: ceiswyr lloches; ffoaduriaid; pobl anabl; pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig; pobl o dras Sipsiwn, Roma a Theithwyr; pobl LHDTC+; pobl hŷn. Felly, mae gennym ni leisiau o ystod enfawr o bobl sydd wedi cael profiad o'n gwasanaethau ni, ac, a dweud y gwir, yn deall ystyr y daith o fod â thŷ i fod heb dŷ, yn y papur hwn. Rwyf i am bwysleisio hynny, oherwydd dyna ran bwysig iawn o'r hyn yr ydym ni'n edrych arno yma. Dim ond wrth siarad â phobl y bore 'ma, 'Sut ddigwyddodd hyn i chi? Beth ddigwyddodd wedyn? Pam na chawsoch chi eich nodi?', a'r llu o gyfleoedd a gollwyd i nodi'r unigolyn hwnnw a'i helpu i gael trefn ar ei fywyd unwaith eto yw'r pethau yr ydym ni'n wirioneddol awyddus i ganolbwyntio arnyn nhw yn hyn o beth.
Felly, ni fydd hyn yn digwydd dros nos. Rydym ni'n wynebu argyfwng costau byw yn dilyn pandemig. Rydym ni'n wynebu cythrwfl economaidd na welsom ni erioed ei fath o'r blaen. Rydym ni'n wynebu costau tai difrifol iawn ledled y DU, y mae gwir angen mynd i'r afael â nhw, ac mae nifer o bethau eraill yr ydym ni'n eu gwneud yn y cytundeb cydweithio i fynd i'r afael â'r mater cyfan ynglŷn ag ail gartrefi a lleoedd Airbnb ac ati, a fydd, rwy'n gobeithio, yn cynyddu'r cyflenwad tai. Ond yn y diwedd argyfwng i bobl yw hwn, ac mae hynny'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r gwasanaethau cymorth ddod at ei gilydd i helpu pobl, i atal digartrefedd yn y lle cyntaf, fel dywedais wrth ymateb i Mabon, ac yna, os yw hynny'n digwydd, eu nodi nhw mor gyflym â phosib a rhoi cymorth cofleidiol iddyn nhw â'r gwasanaethau cymorth angenrheidiol. Rwy'n hollol argyhoeddedig, os gallwn ni wneud hyn yn iawn, y byddwn ni'n meddwl tybed pam na wnaethom ni felly yn y lle cyntaf. Oherwydd hynny, rwy'n credu, gyda'n gilydd, y gallwn ni wneud hyn ddigwydd yng Nghymru, ac fe allwn fod yn esiampl o obaith ledled y DU fel gwyddom ni y gallwn ni fod.
Gweinidog, fel gwnaethoch chi sôn lawer i dro, mae Llamau yn un o'r sefydliadau yng Nghymru sydd â llawer iawn o brofiad a gwybodaeth i'w gyflwyno gerbron, ac yn ddiweddar maen nhw wedi bod, fel erioed, yn ystyried tueddiadau a sefyllfa gyfredol pobl ifanc yng Nghymru o ran digartrefedd, ac maen nhw'n bryderus fod digartrefedd, yn drist iawn, yn cynyddu ymhlith pobl ifanc ar raddfa ofidus iawn, ac maen nhw'n galw, mewn ffordd uniongyrchol iawn, am y dull uwch-ffrydio y cyfeiriodd Mabon ac eraill ato, a'n bod ni gyda mwy o adnoddau o ran atal a nodi ar gam cynnar. Maen nhw'n tynnu sylw at natur gymharol ddirgel digartrefedd ymhlith ieuenctid yn aml oherwydd y symud o soffa i soffa, a hefyd bod pobl sy'n gadael gofal ar gyfnodau trosiannol yn eu taith drwy fywyd yn arbennig o agored i niwed, ac yn rhy aml maen nhw'n cael eu cartrefu mewn llety dros dro nad yw'n cael ei gefnogi ac nad yw'n gynaliadwy mewn sawl ffordd. Maen nhw'n galw, Gweinidog, fel gwyddoch chi'n sicr, am gynnydd yn y grant cymorth tai ar gyfer grymuso'r gwasanaethau nodi ac atal cynnar hynny, i fod â chefnogaeth well i'r rhai sy'n gadael gofal yn ystod y cyfnodau trosiannol allweddol hynny, a rhoi cefnogaeth barhaus hefyd i wasanaethau cam-drin domestig a gwasanaethau rhyw-benodol. Fe fyddwn i'n ddiolchgar i chi pe byddech chi'n mynd i'r afael â'r galwadau arbennig hynny, Gweinidog, os gwelwch yn dda.
Diolch, John. Rwy'n gyfarwydd iawn â Llamau a'i holl waith, a gwaith hanfodol iawn yw hwnnw hefyd, ac mae ei bwyslais arbennig ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc i'w groesawu yn fawr. Fe wyddom ni fod ystod eang o achosion i ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc, ond, unwaith eto, mae chwalfa deuluol yn rhan ohonyn nhw, felly mae uwch-ffrydio yn bwysig iawn ynglŷn â hynny. Mae hynny'n arbennig o bwysig lle caiff digartrefedd ei achosi gan nodwedd warchodedig o ryw fath neu'i gilydd, neu pan nad yw'r plentyn wedi gallu bod â'r gefnogaeth briodol yn ei gartref. Felly, fel dywedais i, rydym ni wedi cryfhau'r fframwaith dilyniant ac ymgysylltu ieuenctid—fel arall o gwmpas: y fframwaith ymgysylltu a dilyniant ieuenctid—ochr yn ochr â Jeremy, i wneud yn siŵr bod y gwaith sy'n digwydd mewn ysgolion yn cael ei uwch-ffrydio, ac y gallwn ni nodi pobl cyn gynted ag y bydd unrhyw arwyddion o gwbl y gallai fod ansicrwydd o ran preswylfod yn gysylltiedig â'r plentyn unigol arbennig hwnnw. Mae gan y Papur Gwyn gynigion ar gyfer manylion penodol ynghylch plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n dod allan o'r system cyfiawnder ieuenctid, i sicrhau ein bod yn nodi pobl sydd yn y system eisoes.
Unwaith eto, fel rwy'n dweud, rhan o'r mater yma yw'r ffordd echrydus y mae'r system fudd-daliadau yn cael ei strwythuro, oherwydd os ydych chi'n ifanc, y dybiaeth yw y gallwch chi fyw gartref ac fe fydd gan eich rhieni ddigon o arian i fforddio hynny, ac y cewch chi aros yno, ac fe wyddom ni mai i'r gwrthwyneb yn llwyr y mae'r sefyllfa wirioneddol y mae llawer o blant neu bobl ifanc yn ei hwynebu. Felly, mae diwygio'r system fudd-daliadau fel ei bod hi'n deg ac yn sicrhau cyfiawnder cymdeithasol, sef yr hyn y bwriadwyd ei wneud mewn gwirionedd, wrth gwrs, yn hytrach na'r system gosbol sydd gennym ni ar hyn o bryd os ydych o dan 35 oed, yn un o'r pethau hanfodol yr ydym ni'n gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur sy'n dod i mewn yn ei wneud ledled y DU. Yn y cyfamser, rydym ni'n adfer rhywfaint o'r sefyllfa honno dros dro, nid oes unrhyw amheuaeth, ond rydym ni'n awyddus i ddarparu gwasanaethau da i bobl sydd ag anghenion penodol, ac fe fydd ganddyn nhw lawer o wahanol anghenion o ran cymorth, ond gwir y gair, onid yw e: canfyddwch yr hyn yw gofynion yr unigolyn o ran cymorth trwy allgymorth da, ymgysylltiad da, ac yna nodi'r unigolyn hwnnw a rhoi'r gefnogaeth briodol iddo a'i ddodi mewn llety sy'n addas, yn y lle iawn, er mwyn i'w rwydwaith estynedig ei helpu hefyd. Felly, yr un fformwla yw hon, ond efallai y bydd hi'n cael ei darparu hyd yn oed yn gynt i unigolyn ifanc am mai hwnnw sydd yn y canol.
Yr unig beth arall y byddwn i'n ei ddweud ynglŷn â hynny yw ei fod yn ymwneud i raddau helaeth â gwneud i unigolyn sy'n mynd yn ddigartref neu sydd mewn llety ansicr deimlo bod ganddo ryw fath o ddyfodol. Felly, mae'r cysylltiad â—mae fy nghyd-Aelod Lynne Neagle a fy nghyd-Aelod, Julie Morgan a minnau wedi cael sawl trafodaeth ynglŷn â hyn—mae gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc hyd yn oed yn fwy hanfodol, onid ydyn nhw, i wneud yn siŵr bod yr unigolyn ifanc hwnnw yn deall yn wirioneddol fod y gallu ganddo i fod y person gorau y gall fod. Felly, rwy'n llwyr gredu bod Llamau yn gwneud gwaith cwbl anhygoel, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda sefydliadau fel y nhw, wrth i ni gyflwyno'r system yn fwy eang. Rwy'n siŵr y cawn ni ymateb boddhaol i'r Papur Gwyn ganddyn nhw, John, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n eu helpu nhw gyda gwneud hynny.
Ac yn olaf, Sioned Williams.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae'n warth o beth, onid yw e, fod y fath beth yn bod â Diwrnod Digartrefedd y Byd, fod anghydraddoldeb incwm rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn cynyddu, fod 10 y cant o'r bobl gyfoethocaf yn cymryd 52 y cant o'r incwm adref, a bod gan y Deyrnas Gyfunol lefel hynod uchel o anghydraddoldeb incwm o'i gymharu â gwledydd datblygedig eraill. Does dim byd yn darlunio methiant cymdeithas yn fwy na bod rhai o'i haelodau heb do uwch eu pennau, ac oherwydd hynny, heb fynediad at y gefnogaeth sy'n gallu cynnig gobaith am fywyd urddasol a theg.
Rwy'n croesawu’r Papur Gwyn, sy'n deillio o benderfyniad Plaid Cymru, ar y cyd gyda'r Llywodraeth, drwy ein cytundeb ni, i wella'r modd y mae'r gefnogaeth honno yn gweithredu ac er mwyn rhoi y ffocws hollbwysig yna ar atal digartrefedd. Mae yna lawer ynghlwm wrth hynny i gyflawni'r trawsnewid uchelgeisiol yma, felly hoffwn wybod, Weinidog, sut y bydd y gefnogaeth yna, y gwaith yna, yn cael ei ariannu, yn enwedig o gofio bod y trydydd sector a llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus eraill, sy'n mynd i fod yn greiddiol i ddarparu'r gefnogaeth yma, yn wynebu problemau cyllidol difrifol, a chynaladwyedd cyllido yn fater sy'n aml yn cael ei godi fel ffactor sy'n effeithio ar allu sefydliadau i gadw arbenigedd staff a chael yr effaith tymor hir yna.
Diolch, Sioned. Mae'r rhain yn gwestiynau da iawn. Ac un o'r pethau y mae llwyr angen i ni fynd i'r afael â nhw—a dyna pam rwy'n dweud mai amcan yw hwn yn y byrdymor, y canolig a'r hirdymor fel ei gilydd, oherwydd mae'n rhaid i ni allu cynnal y gwasanaeth, fel sydd gennym ni nawr, mae'n rhaid i ni ganiatáu trawsnewid y gwasanaeth, ac wedyn fe fydd yn rhaid ei newid i fod yn wasanaeth ataliol uwch-ffrydio fel byddem ni'n dymuno. Ac rydym ni'n gwneud hynny fwyfwy ar hyn o bryd mewn sefyllfa ymhlith y gwaethaf yr ydym ni wedi wynebu erioed. Oherwydd yr hyn a wnaethom ni yng Nghymru ers y pandemig yw dadorchuddio'r digartrefedd cudd y gwyddem ni a oedd yn bresennol yn ôl pob tebyg, ond nid oedd gennym ni unrhyw ystadegau ar ei gyfer. Nawr mae hwnnw allan yn agored, fe wyddom ni'r hyn sy'n rhaid i ni ymdrin ag ef, ac fe wyddom ni faint o arian y mae hynny'n mynd i'w ddefnyddio. Mae'n rhaid i ni i gyd ddod at ein gilydd i wneud hyn. Ac fe geir ystod eang o faterion yn eich cwestiwn chi na fydd gennyf i ddigon o amser i fanylu arnyn nhw'n anffodus, ond, yn amlwg, mae cyflenwad tai, amrywiaeth y cyflenwad tai, argaeledd y cyflenwad tai, gallu defnyddio tir ac ati i gyd yn cael eu cynnwys yn hyn o beth. Mae polisïau gennym ni, wrth gwrs—rhai yn y cytundeb cydweithio ac eraill heb fod felly, ond rwy'n siŵr eu bod nhw'n gyffredin i ni yn y mater hwn drwyddo draw—i wneud yr holl bethau hyn.
Fe wnaeth rhywun ofyn i mi ac mae'n debyg nad oedd fy ateb i'n ddigonol, ond mae'n ymwneud a bod â'r tŷ iawn yn y lle iawn, a'i adeiladu hefyd, onid yw e, a'r math iawn o lety. Felly, ymhlith y pethau a wnes i yng Nghasnewydd fore heddiw oedd edrych ar rywfaint o'n cyllid ni ar gyfer Trawsnewid Trefi, rhywbeth na fyddech chi'n credu a fyddai'n ymwneud dim â digartrefedd, ond mewn gwirionedd, defnyddiwyd llawer ohono ar gyfer dod â defnydd buddiol, defnydd preswyl, i'r ystafelloedd uwchben siopau, uwchben safleoedd masnachol. Felly, os ydych chi'n cerdded trwy Gasnewydd nawr—a, Siân, rwy'n gwybod eich bod chi wedi gwneud hynny, hefyd—mae trawsnewid mawr wedi digwydd yno, oherwydd mae gennych chi nifer o ymwelwyr yno, ond mae gennych chi bobl yn byw yn y mannau a fyddai'n swyddfeydd neu'n storfeydd heb eu defnyddio o gwbl, mae'n debyg, uwchben safleoedd masnachol. Felly, mae'r math hwnnw o ystyriaeth arloesol, mewn ffrwd ariannu nad yw'n ymwneud â digartrefedd na thai, yn cyfrannu at hyn hefyd. Ac ystyr y papur gwyn hwn yn ei hanfod yw gwneud hynny. Mae'n ymwneud â gofyn i bobl feddwl, pan fyddan nhw'n edrych ar gynlluniau eraill: beth allwch chi ei wneud i gyfrannu at yr agenda hon, beth allwch chi ei wneud wrth ddarparu eich gwasanaeth chi, i wella'r sefyllfa hon mewn gwirionedd. Felly, rwyf i o'r farn fod honno'n un enghraifft ragorol.
Y peth arall yw—ac mae hon yn her i mi, ac mae'n her i bob un ohonom ni—rwy'n credu bod y ffordd gylchol yr ydym ni'n ariannu yn creu rhai o'r problemau sydd gennym ni. Felly, mae hyn yn creu rhywfaint o ansicrwydd gyda chyflogaeth, mae'n ei gwneud hi'n anodd i bobl fod â gyrfaoedd a bywydau sefydlog, hyd yn oed yn y sector sy'n rhoi cefnogaeth i bobl. Nid ydym ni wedi llwyddo i lunio model gwell na'r un hwnnw. Os oes gennych chi unrhyw syniadau, dywedwch wrthym ni beth ydyn nhw. Bob tro y siaradaf i â'r sector, rwyf i'n dweud, 'Dewch o hyd i fodel amgen. Dewch o hyd i ffordd i mi ariannu hyn nad yw'n golygu cylch o grantiau a chynlluniau', oherwydd mae hynny'n ysgogi hyn yn bendant. Nid yw'r ateb gennyf i; fe garwn i ddod o hyd i'r ateb hwnnw.
Ac yna'r peth olaf, wrth gwrs, os na allwch fynd i'r afael â'r materion lles mewn ffordd sylfaenol, sy'n sylfaenol iawn yn hyn o beth, yw ein bod ni o leiaf yn cynnal y gyfradd o arian sydd gennym ni. Felly, fe wnaethom ni hynny. O, am hapus y byddwn i o fod wedi gallu cynyddu'r grant cymorth tai—roeddem ni'n ei chael hi'n anodd ei gadw fel roedd. Ond fe wnaethon ni ei gadw fel yr oedd, ac, mewn gwirionedd, rwy'n credu—. Wel, mae'n eithaf amlwg, yn Lloegr, er enghraifft, y bu toriad o 60 y cant ynddo. Felly, rydym ni wedi ceisio gwneud hynny. Nid yw hi'n ddigon da—mae'r sector angen mwy, a dyn a ŵyr y mae angen y gydnabyddiaeth sy'n dod yn ei sgil arnyn nhw. Ond rwy'n falch iawn ein bod ni wedi llwyddo i'w gadw ar yr un gyfradd, hyd yn oed. Felly, dim ond i'ch atgoffa chi, dyna gynnydd o £40 miliwn yn 2021-22 ar yr hyn a fu o'r blaen; fe wnaethom ni lwyddo i'w gadw fel hynny, yn wyneb y setliad cyllideb gwaethaf a welsom ni erioed, i ddweud y gwir yn blaen. Rwy'n benderfynol o wneud hynny eto gyda'r setliad cyllideb nesaf, ar gyfer sicrhau, o leiaf, y gallwn ni gynnal y gyfradd sydd gennym wrth i ni roi ar waith yr holl bethau y gwyddom ni a fydd yn atal y gwariant hwn rhag gorfod cael ei wneud yn y dyfodol y gellir ei ragweld.
Diolch i'r Gweinidog.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.
Eitem 4 yw dadl y Llywodraeth ar 'Y GIG mewn 10 mlynedd a mwy: Archwiliad o effaith amcanestynedig cyflyrau hirdymor a ffactorau risg yng Nghymru'. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Eluned Morgan.
Cynnig NDM8372 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad y Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd ar ‘Y GIG mewn 10 mlynedd a mwy: Archwiliad o effaith amcanestynedig cyflyrau hirdymor a ffactorau risg yng Nghymru’.
2. Yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad a fydd o gymorth ar gyfer llunio polisïau yn y dyfodol o dan 'Cymru Iachach'.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr. Rwy'n falch iawn ein bod yn cymryd yr amser heddiw i barhau â'r drafodaeth bwysig am ddyfodol ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Pan ddathlodd y GIG ei ben-blwydd yn saith deg pump oed ym mis Gorffennaf, dywedais yn glir nad yw'r heriau demograffig, economaidd a chymdeithasol presennol sy'n wynebu ein system iechyd a gofal yng Nghymru, gan gynnwys galw cynyddol ar ein gwasanaethau, yn gynaliadwy yn y cyd-destun presennol. Rydym yn gwybod, fel rhan o'n bwriad i sicrhau y gall y system fod yn addas ar gyfer y dyfodol, fod angen sgwrs ddifrifol gyda'r cyhoedd am ddisgwyliadau yn y dyfodol a diwygiadau posibl. Rhaid i ni barhau i ailgydbwyso'r system tuag at atal a gofal iechyd a chymdeithasol yn y gymuned, yn ogystal â sicrhau bod ein gwasanaethau'n cael eu defnyddio'n ddoeth, gan gydnabod, bob tro y byddwn yn defnyddio'r system, fod yna gost.
Ar 22 Medi, cyhoeddodd y Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd adroddiad yn disgrifio'r heriau y mae'r GIG yng Nghymru yn debygol o'u hwynebu dros y 10 i 25 mlynedd nesaf. Dangosodd yr adroddiad lwybr tebygol rhai cyflyrau hirdymor a ffactorau risg a sut y bydd hyn yn effeithio ar ein gwasanaethau iechyd a gofal, wrth i ni barhau i gefnogi pobl i fyw bywydau hir ac iach. Yn bwysig, er iddo gael ei gomisiynu o fewn y Llywodraeth, adroddiad annibynnol yw hwn, ac fe ystyriodd ddadansoddiadau, gan gynnwys amcanestyniadau o'n poblogaeth a chyflenwad gweithlu'r GIG. Mae'r adroddiad hefyd yn ystyried ffactorau economaidd a datblygiadau technolegol, megis deallusrwydd artiffisial, gan ddod â'r cyfan at ei gilydd i lywio'r goblygiadau polisi allweddol sy'n deillio o'r canfyddiadau manwl. Hoffwn groesawu a diolch i'r prif gynghorydd gwyddonol am ei adroddiad.
Wrth gwrs, mae yna lawer o ffactorau sy'n effeithio ar ganlyniadau iechyd, ac felly nid yw'r papur yn gynhwysfawr. Ond bydd y canfyddiadau'n darparu sylfaen dystiolaeth sylweddol i gefnogi ein datblygiad polisi a chynllunio gwasanaethau wrth symud ymlaen. Bydd hefyd yn cefnogi'r penderfyniadau anodd y mae angen i ni eu gwneud yma yng Nghymru yng ngoleuni'r holl heriau presennol sy'n wynebu systemau iechyd a gofal ar draws y byd i gyd. Mae'r dystiolaeth a gynhwysir yn yr adroddiad hwn, ynghyd â thystiolaeth ehangach, o amrywiaeth o ffynonellau uchel eu parch ac annibynnol, yn rhoi cyfle gwerthfawr i ni archwilio'r heriau sy'n benodol i Gymru a phwyso a mesur ym mlwyddyn pen-blwydd y GIG yn 75 oed. Gwyddom fod gan Gymru boblogaeth sy'n heneiddio, ac amcangyfrifir y bydd bron i un o bob pump o bobl yng Nghymru dros 70 oed erbyn 2038—dyna'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr hon mae'n debyg. Mae poblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio, ynghyd â nifer cynyddol o bobl â chyflyrau iechyd tymor hir lluosog, yn golygu y bydd pwysau ar GIG Cymru a'n system gofal cymdeithasol yn parhau i gynyddu. Ac rydym yn gwybod bod y pwysau hwn yn adeiladu ar adeg o gyfyngiadau economaidd anhygoel a mwy o ddisgwyliad cyhoeddus o ganlyniad i ddatblygiadau mewn technoleg feddygol.
Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, rhaid i ni ddiogelu'r egwyddorion sylfaenol y crëwyd ein GIG arnynt, gan ddeall y bydd angen i bob un ohonom ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau. Lansiwyd 'Cymru Iachach', ein cynllun 10 mlynedd ar gyfer iechyd a gofal, yn 2018. Fe'i datblygwyd mewn ymateb i adolygiad seneddol 2017, a oedd yn nodi y dylid datblygu dull 'unwaith i Gymru'. Ein gweledigaeth ar gyfer 'Cymru Iachach' oedd system newydd a fyddai'n mynd i'r afael â sut y byddai gofal yn edrych yn y dyfodol, yn mynd i'r afael ag anghenion y boblogaeth, meithrin, yn hanfodol, ddull ataliol, wedi ei strwythuro o amgylch anghenion yr unigolyn a'u darparu mor agos at gartref â phosibl. Nawr, rwy'n cydnabod yn llawn yr angen i asesu'n barhaus a yw ein cyfeiriad polisi strategol ar gyfer y system iechyd a gofal yng Nghymru yn iawn. Felly, rwyf wedi monitro cynnydd 'Cymru Iachach' yn barhaus ers dod yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Yn 2021, adolygodd fy rhagflaenydd y 40 o gamau gweithredu gwreiddiol i ystyried effaith y pandemig. Datblygwyd cynllun cyflawni newydd ar gyfer y cyfnod 2021-24, gyda 26 o gamau gweithredu diwygiedig. Dangosodd yr adolygiad hwnnw fod 'Cymru Iachach' yn parhau'n berthnasol. Ein gweledigaeth ar gyfer system iechyd a gofal cymdeithasol integredig gyda gwasanaethau di-dor sy'n parhau i ganolbwyntio ar atal a gofal yn y gymuned, mynd i ysbyty dim ond pan fo angen, yw'r un cywir.
Ac er bod yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y Prif Gynghorydd Gwyddonol dros iechyd yn dilysu'r cyfeiriad polisi a nodir yn 'Cymru Iachach', gyda phwyslais ar atal a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, rwy'n cydnabod bod yr amser yn iawn, yng ngoleuni'r dystiolaeth ddiweddaraf un, i sicrhau bod ein cynllun cyflawni yn parhau i fod yn effeithiol yn erbyn yr heriau y gwyddom y byddwn yn debygol o'u hwynebu dros y blynyddoedd nesaf. A dyna pam heddiw rwy'n cyhoeddi fy mwriad i adolygu'r camau gweithredu presennol o dan 'Cymru Iachach' ac archwilio a oes meysydd y mae angen i ni eu cryfhau wrth i ni baratoi ar gyfer y dyfodol. Rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried goblygiadau polisi adroddiad y prif gynghorydd gwyddonol a sicrhau ein bod yn gallu, o fewn cyd-destun y pwysau ariannol sy'n ein hwynebu, ymateb i'r heriau hynny.
Nawr, dwi'n cydnabod yn llwyr na fydd y sector iechyd a gofal yn gallu taclo'r heriau yma ar ei ben ei hun. Mae yna lawer o ffactorau sy'n dylanwadu ar bobl yn byw bywydau hirach ac iachach. Rydyn ni'n gwybod bod tai o ansawdd da, addysg a thaclo tlodi yn allweddol i gefnogi ffordd o fyw iach a chynaliadwy. Bydd yr adolygiad o 'Cymru Iachach', felly, yn cymryd agwedd draws-lywodraethol. Dwi wedi gofyn i fy swyddogion adolygu ein camau gweithredu yn 'Cymru Iachach' erbyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, gyda'r bwriad o gyhoeddi cynllun cyflawni diwygiedig sy'n ystyried y dystiolaeth ddiweddaraf. Bydd ein ffocws ar atal ac ymyrryd yn gynnar yn parhau, ac mae hyn yn allweddol i alluogi a chefnogi pobl Cymru i fyw bywydau hirach ac iachach.
Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n ddiddorol iawn nodi bod Keir Starmer unwaith eto'n dilyn cyfeiriad iechyd Cymru, gan ddweud ei fod eisiau GIG sy'n atal salwch, nid gwasanaeth salwch yn unig. Wel, mae croeso iddo edrych ar ein strategaeth, 'Cymru Iachach'. Rydyn ni wedi bod wrthi ers rhai blynyddoedd, ac roedd yn dda gweld hefyd, yr wythnos diwethaf, ei fod hefyd wedi dweud y byddai'n cyflwyno rhaglen glanhau dannedd i blant, gan ddilyn ein rhaglen Cynllun Gwên unwaith eto.
Nawr, bydd ein hymrwymiad o dan 'Cymru Iachach' i fynd i'r afael â'r heriau parhaus sydd o'n blaenau yn parhau, ac rwy'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i leihau anghydraddoldebau iechyd, yn bwysig ac yn hanfodol, i adeiladu gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol mwy ymatebol, gan gynnwys gofal brys, creu gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol a chefnogol, cefnogi a datblygu gwasanaethau ysbyty mwy effeithiol ac effeithlon, cefnogi gwell integreiddio rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, cefnogi ac adeiladu gweithlu cydnerth, a darparu gwasanaethau digidol hygyrch.
Nawr, gan droi at y gwelliant a gyflwynwyd gan Heledd Fychan, mae dyfodol ein GIG yng Nghymru yn gwbl ddibynnol ar ein gweithlu. Mae hyn wedi bod wrth wraidd ein dull gweithredu ac mae'n ganolog i 'Cymru Iachach'. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i gyflawni ein cynllun gweithredu'r gweithlu cenedlaethol ac ar elfennau nad ydynt yn rhai cyflogau o'r cytundeb cyflog eleni. Byddwch yn gweld, dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, yr allbynnau o'r cyd-weithgorau a sefydlwyd i edrych ar bethau fel gweithio hyblyg a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae'r codiad cyflog ar gyfer 2023-24 eisoes wedi'i weithredu ar gyfer staff y GIG.
I gloi, mae llawer o bethau y gall y gwyddonwyr, staff y GIG a mwyafrif y Senedd hon gytuno arnynt. Mae dyfodol ein GIG yn dibynnu'n llwyr ar wasanaeth gofal cymdeithasol cryf, newid i atal, gwneud y defnydd gorau o'r technolegau diweddaraf a'r gallu i fuddsoddi yn ein gweithlu iechyd a gofal. Ac er mwyn gwireddu hynny, mae angen Llywodraeth yn San Steffan sy'n rhannu'r uchelgais hon, un sy'n cydnabod ac yn buddsoddi mewn GIG a system ofal yn hytrach na thagu'r buddsoddiad hwnnw drwy ddewis torri trethi ar gyfer y cyfoethog. Ond mae angen i ni hefyd gydnabod bod yr heriau sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi yn rhai go iawn. Mae angen i ni ganolbwyntio ein gwariant ar y pethau hynny sy'n gwneud gwahaniaeth, nid ar ad-drefnu'r GIG yn eang ond ar ad-drefnu'r gwasanaethau hynny sy'n darparu'r gofal arbenigol gorau un, yn sicrhau gwerth ac yn sicrhau gwell canlyniadau. Mae angen i ni sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei gyfeirio at y pethau sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl yn eu cymunedau lleol.
Rwyf hefyd eisiau gofyn i'r cyhoedd chwarae eu rhan mewn cysylltiad â chefnogi'r GIG yn y tymor hir, fel y gall ddod yn sefydliad cynaliadwy. Gallwn ni i gyd ystyried beth arall y gallwn ei wneud i ofalu am ein hiechyd ein hunain: bwyta'n iach, peidio smygu, cadw'n heini. Byddwn yn annog y cyhoedd yng Nghymru i feddwl am beth arall y gallant ei wneud i sicrhau cynaliadwyedd y GIG yng Nghymru. A byddem hefyd yn annog y cyhoedd i gymryd rhan ac i roi eu barn ar yr ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal gan Gomisiwn Bevan a Llais ar sut y dylai gwasanaethau GIG y dyfodol edrych yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
3. Yn credu, os yw GIG Cymru am gael ei ddiogelu ar gyfer heriau'r dyfodol, mae’n hanfodol cadw'r gweithlu presennol a recriwtio rhagor o staff.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod gweithwyr y sector iechyd a gofal yn cael y codiad cyflog sy'n ddyledus iddynt ynghyd â thelerau ac amodau gwaith sy’n addas i'r diben, gan gynnwys arferion gweithio hyblyg a chyfleoedd hyfforddiant mewn gwaith; a
b) datblygu strategaeth gyflawni glir gyda thargedau a chostau llawn ar gyfer cynllun gweithlu newydd, gan gynnwys camau i dynnu elw o waith asiantaeth.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi'n cynnig gwelliant 1.
Ac rwyf am siarad am y gwelliant hwnnw a siarad am bwysau'r gweithlu, ond rwyf hefyd am siarad am y cynnig gwreiddiol a'r elfen ataliol hefyd. Mae Plaid Cymru wedi bod yn glir o'r cychwyn cyntaf nad yw'r GIG yn ddim heb ei lengoedd o staff ymroddedig a diwyd. Ond, fel y gwelsom dros y blynyddoedd diwethaf, mae gweithlu'r GIG yng Nghymru mewn perygl dirfodol, heb fawr o dystiolaeth bod gan y Llywodraeth hon y gallu i wella'r sefyllfa enbyd. Mae wedi bod mor dorcalonnus i arsylwi ar y tueddiadau niferus sydd wedi bod yn datblygu dros gyfnod o amser, sy'n dangos yn gynyddol nad yw GIG Cymru ar hyn o bryd yn lle deniadol i weithio ynddo, gyda staff presennol yn gadael yn un fflyd oherwydd pwysau yn y gweithle a niferoedd annigonol o fyfyrwyr meddygol sy'n dilyn gyrfaoedd yn y GIG.
Er enghraifft, mae adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru yn dangos bod 6,800 o swyddi gwag yn y GIG yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys diffyg o 2,717 o nyrsys cofrestredig. Mae gennym hefyd y lefel isaf ar y cyd o feddygon cofrestredig o'i chymharu â'r boblogaeth yn y DU. Rhan o'r broblem yn hyn o beth yw'r lefelau isel o gadw ymhlith ein carfan myfyrwyr. Mae llai na hanner meddygon cofrestredig y Cyngor Meddygol Cyffredinol a hyfforddwyd yn wreiddiol yng Nghymru wedi parhau i weithio yng Nghymru. Yr hyn sy'n arbennig o ofidus yn hyn o beth yw, er bod ein dibyniaeth ar y gwasanaeth iechyd yn anochel yn mynd i gynyddu dros y blynyddoedd nesaf, fel y clywsom gan y Gweinidog, yn enwedig oherwydd ein poblogaeth sy'n heneiddio a'n cyfraddau uchel o anabledd o'u cymharu â gweddill y DU, mae'r holl arwyddion presennol yn pwyntio tuag at gapasiti gweithlu'r GIG yn crebachu hyd y gellir rhagweld.
Er enghraifft, mae gan Gymru gyfradd swyddi gwag oncoleg o 11 y cant ar hyn o bryd, gyda 80 y cant o'r swyddi gwag hyn heb eu llenwi dros chwe mis. Rhagwelir y bydd tueddiadau o'r fath yn gadael Cymru gyda diffyg o 41 y cant o ran staff oncoleg o fewn y pedair blynedd nesaf, yr uchaf o bell ffordd o holl wledydd y DU. Yn absenoldeb strategaeth effeithiol i fynd i'r afael â'r problemau recriwtio hyn, mae symiau syfrdanol yn cael eu gwario ar staff asiantaeth i lenwi'r bwlch swyddi gwag sy'n ehangu'n barhaus. Gwariwyd £325 miliwn ar staff asiantaeth ar draws y prif fyrddau iechyd yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, does bosib nad hwn yw'r plastr glynu drutaf yn hanes ein gwasanaeth iechyd.
Rydym i gyd eisiau gweld GIG cydnerth, gweithredol a deinamig sy'n gallu ymateb yn effeithiol i heriau heddiw ac yfory, ond mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru ddeffro i'r realiti na fydd ein GIG yn bodoli ymhen 10 mlynedd, heb weithredu brys, radical a phellgyrhaeddol i fynd i'r afael â'r materion hirsefydlog hyn yn y gweithlu. Felly, rwy'n gobeithio, yn ystod y ddadl hon, y bydd y Llywodraeth yn darparu amserlen ac yn rhoi sicrwydd i ni y bydd y cytundebau a gyflawnodd y Llywodraeth dros gyfnod yr haf gyda'r undebau, fel y Coleg Nyrsio Brenhinol, a'r ymrwymiad i 36 awr, yn cael eu parchu.
Gan symud ymlaen at yr elfennau ataliol, thema arall sy'n cael ei fynegi'n glir yn yr adroddiad yw pwysigrwydd agenda ataliol gyfannol a rhagweithiol sy'n cydnabod y croestoriadau rhwng iechyd a materion cymdeithasol ehangach. Yng nghynhadledd Plaid Cymru dros y penwythnos roeddwn i'n falch o siarad ag Obesity Alliance Cymru, a roddodd wybod i mi, heb weithredu brys i frwydro yn erbyn cyfraddau gordewdra yng Nghymru, ei bod yn debygol y bydd y GIG yn wynebu costau ychwanegol o £465 miliwn yn 2050. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod llunio polisïau ar iechyd yn dderbyniol i'r cysylltiad rhwng cyfraddau tlodi, yn enwedig ymhlith plant, a llesiant corfforol a meddyliol. Er y bydd cyhoeddiad diweddar y strategaeth tlodi plant hir-ddisgwyliedig i'w groesawu yn hynny o beth, mae'n hanfodol nad yw'r amcanion cysylltiedig yn cael eu dilyn ar wahân i gynlluniau darparu iechyd ehangach.
Mae materion hirsefydlog yn ein sector tai hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau iechyd gwael yng Nghymru. Rydym eisoes wedi trafod mater digartrefedd yn gynharach, a chyfeiriodd y Gweinidog at hyn yn ei sylwadau agoriadol, ond o ystyried y prinder difrifol o dai fforddiadwy i unigolion incwm isel, nid yw'n syndod yn anffodus bod cyfraddau digartrefedd yn parhau'n uchel. Er enghraifft, mae adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan wedi dangos, ym mis Chwefror eleni, mai dim ond 1.2 y cant o eiddo rhent preifat yng Nghymru oedd ar gael ar gyfradd lwfans tai lleol presennol neu islaw'r gyfradd. Wrth i ni nesáu at fisoedd oerach y gaeaf, mae angen hefyd ystyried o ddifrif ystod eang o fesurau rhyddhad lles i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae adroddiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi canfod bod bron i draean o farwolaethau ychwanegol y gaeaf yn 2022 wedi'u hachosi gan dai oer, a gyda phrisiau ynni yn parhau'n ystyfnig o uchel, mae'n debygol y bydd y gaeaf hwn yn cyflwyno hyd yn oed mwy o heriau yn hyn o beth.
Mabon, gorffennwch nawr, os gwelwch yn dda.
Fe wnaf yn awr, diolch. Ni all polisi iechyd yng Nghymru fforddio cael ei gyfyngu i wasanaethau rheng flaen. Rhaid iddo fod yn gyfannol yn ei ddimensiynau ac wedi'i integreiddio'n llawn o fewn pob agwedd ar gyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru. Diolch.
Diolch yn fawr, Gweinidog, am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n ddadl wirioneddol deilwng i'w chael. Mae'n ddefnydd da iawn o fusnes heddiw, ac rwy'n credu fy mod wedi cofnodi fy niolch fy hun i Dr Orford hefyd am ei adroddiad cynhwysfawr iawn. Rwy'n credu bod yr adroddiad hwn, fel y gwelaf i, nid yn unig i Lywodraeth Cymru; i bob un ohonom sydd â diddordeb mewn cyflwyno polisi iechyd yng Nghymru.
Rwyf wedi dewis tri maes pwnc i ganolbwyntio arnynt heddiw: gweithlu, atal a data. Mae cymaint yn y ddadl hon rwyf bron â meddwl bod angen cyfres o ddadleuon awr arni, mewn gwirionedd, felly rwy'n mynd i fynd i ffwrdd ac ystyried rhai dadleuon y Ceidwadwyr Cymreig ar gefn yr adroddiad hwn. Rwy'n credu bod cymaint i fynd i mewn iddo. Ni fydd gennyf amser i sôn am bopeth heddiw; byddwn i wedi hoffi siarad mwy am ymchwil a datblygu, a gwelliannau mewn gofal lliniarol hefyd, felly efallai y bydd dadl yn y dyfodol pan allaf godi rhai o'r pwyntiau hynny.
Ni wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig gyflwyno gwelliant heddiw oherwydd fe gymerais o ddifri fod hwn yn adroddiad nodi—gan nodi'r adroddiad ger ein bron. Ond rwy'n hapus iawn i gefnogi cynnig y Llywodraeth heddiw, ac yn hapus iawn i nodi fy nghefnogaeth i welliant Plaid Cymru hefyd.
Felly, er mwyn mynd i'r afael â'r pwnc cyntaf, y gweithlu, rwy'n credu mai prinder gweithlu, mae'n rhaid, yw'r her fwyaf i'n GIG—nid mewn 10 mlynedd; mae'n her nawr, felly mae'n mynd i fod yn her fwy os na fyddwn yn ymdrin â rhai o'r pwysau ar y gweithlu sydd ar waith nawr. Roeddwn yn falch iawn bod Dr Orford wedi siarad tipyn am hyn yn ei adroddiad. Un pwynt diddorol oedd siarad am sut y rhagwelir y bydd bylchau cyffredinol gweithlu'r GIG yn parhau, felly dylid ystyried gwerth posibl gweithlu gwirfoddol, yn enwedig y boblogaeth hŷn, gan ddarparu manteision cymdeithasol ehangach i'r gwirfoddolwr hefyd. Roedd hwn yn bwynt diddorol a wnaeth yn ei adroddiad. Mae'r adroddiad hefyd yn mynd ymlaen i ddweud:
'Mae bwlch yng nghyflenwad y gweithlu cyffredinol eisoes yn bodoli ar gyfer nyrsys cofrestredig a staff gofal cleifion ym maes ymarfer cyffredinol. Mae hyn yn debygol o gynyddu tan 2024-25 cyn gostwng yn raddol erbyn 2030-31'.
Roedd hynny, rwy'n credu, yn eithaf sylweddol. Rwy'n credu er mwyn cwrdd â gofynion y dyfodol, mae'n rhaid i ni fuddsoddi mewn hyfforddi a recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, yn ogystal ag arbenigwyr mewn iechyd meddwl a rheoli clefydau cronig.
Yn ddiddorol, mae Llywodraeth y DU yn creu prentisiaethau gradd ar gyfer meddygaeth a gwyddor gofal iechyd, gyda phrentisiaethau presennol ar gyfer nyrsio, bydwreigiaeth a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i gyd yn cael eu dyblu. Felly, yr wybodaeth sydd gennyf i o fy mlaen yma yw y bydd prentisiaethau gradd erbyn 2031 yn 22 y cant o'r nifer sy'n cael eu derbyn ar gyfer y proffesiynau hynny.
Nawr, er nad yw prentisiaethau ar gael yma ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru, sylwais, wrth gwrs, fod Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn lansio ei gynllun gweithlu ei hun yn 2020 gydag addewid i ehangu mynediad at ddatblygu gyrfa iechyd a gofal cymdeithasol a modelau dysgu yn y gweithle. Rwy'n credu, o fy safbwynt i, fod diffyg prentisiaethau graddau iechyd eisoes yn anfantais gymharol a fydd dim ond yn ehangu gyda mwy o ddarpariaeth dros y ffin, felly rwy'n gobeithio y gall y Llywodraeth ystyried mabwysiadu'r polisi hwnnw yma yng Nghymru.
Y maes arall, wrth gwrs, yw atal—sy'n fater mor fawr yma. Rwyf wir yn meddwl bod rhaid canolbwyntio ar bobl iau o ran atal, o ran cyflwyno newid—i wneud y newidiadau hynny mewn patrymau, o ran smygu, deiet gwael a defnyddio cyffuriau ac alcohol. Rwy'n credu bod yn rhaid i'r pwyslais symud tuag at fesurau rhagweithiol sy'n atal datblygu cyflyrau tymor hir. Rwy'n credu bod angen buddsoddiad arnom mewn ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw, canfod yn gynnar a newid ymddygiad—rwy'n credu bod hynny'n hollbwysig. Rwy'n credu bod hyn yn arbennig hefyd—. Nid wyf yn hoffi'r Llywodraeth yn gwahardd pethau a dweud wrth bobl beth i'w wneud, felly, i mi, mae'n ymwneud â'r Llywodraeth yn rhoi'r amgylchedd iawn yn ogystal.
Rwy'n credu bod canolbwyntio'n gryf ar bobl ifanc—hoffwn weld rhywbeth ynghylch annog aelodaeth o gampfa, boed yn gynlluniau talebau neu'n gynlluniau anogaeth ar gyfer gostyngiadau ar gyfer mynd i mewn i'r gampfa. Ac, wrth gwrs, mae Bil addysg awyr agored Sam Rowlands hefyd, yr wyf yn credu ei fod yn haeddu cefnogaeth, oherwydd gwyddom, os oes gennych newid mewn pobl iau, yna mae'r arfer hwnnw'n aml yn aros trwy gydol oes person hefyd.
Eto, mae iechyd digidol a data—rwy'n credu fy mod i'n rhedeg allan o amser, Dirprwy Lywydd—
Rydych chi wedi rhedeg allan o amser, Russell.
Dim ond—. A gaf i barhau am ychydig eiliadau?
Gallwch gloi, os gwelwch yn dda—gallwch gloi.
Fe wnaf gloi, felly, trwy ddweud bod y pwynt olaf yn ymwneud â data-iechyd digidol a data. Ar y pwyllgor iechyd, dywedir wrthym o hyd, 'Data, mae 'na brinder'. Gofynnir i weithwyr iechyd proffesiynol fewnbynnu data, ac mae llawer o fiwrocratiaeth ynghylch hynny, ond nid yw'r data hwnnw byth yn cael ei ddal ac ni chaiff ei ddefnyddio byth. Mae angen i chi gael y data hwnnw er mwyn cynllunio ar gyfer nawr ac yn y dyfodol hefyd, felly rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth hefyd y mae gwir angen i'r Llywodraeth ganolbwyntio arno.
Gweinidog, rwy'n credu bod cryn dipyn ohonom, eleni, ar y pen-blwydd yn saith deg pump oed, wedi bod yn galw am y sgwrs hon ar ddyfodol y GIG. Rwy'n credu ein bod ni'n ei chael, ac mae'r adroddiad hwn yn help mawr. Rydw i'n mynd i agor gydag ychydig o eiriau gan un unigolyn, sy'n digwydd bod yn etholwr i mi, a hwnnw yw cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru. Dywed:
'Nid yw'n opsiwn i barhau ar y llwybr presennol. Mae angen sgwrs agored a gonest gyda'r cyhoedd am sut olwg fydd ar y gwasanaeth iechyd a gofal yn y dyfodol a'r rhan y mae'n rhaid i bob un ohonom ni ei chwarae yn ein hiechyd a'n llesiant ein hunain. Nid sgwrs am y GIG ac iechyd yn unig yw hon, ond sgwrs am yr hyn y gall pob unigolyn, sefydliad, sector ac adran o'r llywodraeth ei wneud i wella ein siawns o fyw bywydau iachach ac i ddiwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol.'
Mae'n iawn, ac mae'n eithaf diddorol, oherwydd mae'r adroddiad hwn yn ddi-lol, ond nid yw'n annisgwyl. Roeddem yn gwybod bod hyn yn dod, ond rydym eisoes wedi dechrau rhoi ar waith y ffyrdd y gallwn ymateb iddo. Fe wnaeth y Gweinidog grybwyll yn briodol yn gynharach, faterion—ac mae wedi ei godi yn y cynnig—'Cymru Iachach'. Iawn, rwyf bob amser wedi ystyried honno fel dogfen fyw y dylem ei hadnewyddu, ei hadolygu a pharhau i'w datblygu hi. Ond y dull cyffredinol a ddarluniodd oedd y dull cywir, ac roedd hwn, tair neu bedair blynedd yn ôl. Cafodd ei daro ychydig oddi ar ei gwrs gan y pandemig. Nawr mae angen i ni ailgydio yn y gwaith, ond nid yw'n ymwneud yn unig â bod â strategaeth fyw yr ydym yn ei hadfywio ac yn gweithio gyda'r dystiolaeth; mae'n ymwneud â chyflawni. Oherwydd bod y math o—ac rydym yn gor-ddefnyddio'r gair hwn—drawsnewid y mae'r ddogfen honno'n sôn amdano yn golygu symud arian i wahanol rannau o'r system mewn gwirionedd, symud cyfrifoldeb, nid i ffwrdd o ofal sylfaenol ond yn fwy cyfartal i ofal ataliol, gofal sylfaenol, gofal cymunedol a'r unigolyn, fel fi—rwy'n 60, 61, ni allaf gofio nawr; rwy'n tynnu ymlaen ychydig ond—i mi fy hun hefyd. Felly, rwy'n cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb—. Rwy'n gwybod, diolch yn fawr, diolch yn fawr. [Chwerthin.]
Felly, 'Cymru Iachach', rwy'n credu, yw'r fframwaith cywir i wneud hyn mewn gwirionedd, ond mae angen i ni ganolbwyntio ar gyflawni hynny, a bydd y Gweinidog yn gwybod, o fewn y ddogfen honno roedd yn sôn am ddod â'r holl fathau ynghyd—. Nid oes gennym arian diderfyn, mae gennym gyllid cyfyngedig. Rwyf wedi siarad â hi, soniais wrthi mewn cyfarfod yn gynharach heddiw am y ffaith bod angen i ni ddefnyddio'r cyllid sydd ar gael i weithio'n fwy clyfar, ac integreiddio fel y mae'r adroddiad hwn a'r cynnig hwn yn awgrymu, ac fel y dywedodd 'Cymru Iachach', fel ein bod yn defnyddio'r arian sy'n mynd i wahanol rannau o awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ddarparu'r gofal unigol hwnnw sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o'r crud i'r bedd, fel y dywedodd Nye Bevan a'r rhai a sefydlodd y GIG. Ond mae hynny'n golygu meddwl yn wahanol a pheidio ag ymladd dros gyllidebau, ond mewn gwirionedd cronni cyllidebau ac yna dweud, 'Gadewch i ni edrych ar Huw, Jeremy, Katy, pwy bynnag, a gadewch i ni weithio o'u cwmpas a'i gyflawni mewn gwirionedd, yr holl ffordd yno.'
Gadewch i mi godi ychydig o bwyntiau yma, oherwydd yn gyntaf oll mae'n sôn am ddarparu'r system gofal cymdeithasol gymunedol gynradd integredig hon. Yn bendant, ie, beth bynnag sydd angen i'r Gweinidog ei wneud i gyflawni hynny, bydd ganddi ein cefnogaeth i'w wneud. Ac rwy'n gwybod, mae gwaith gwych iawn yn digwydd yno, ond rwy'n credu mai un o'r pethau eraill y mae'r adroddiad hwn yn awgrymu yw, pan fyddwn ni'n gwybod beth sy'n gweithio, gadewch i ni fwrw ymlaen a'i wneud. Dyma'r dull 'unwaith i Gymru', yr ydym wedi siarad amdano o'r blaen. Os yw'n gweithio, mae'n gweithio, gadewch i ni gyflwyno hyn a'i gyflawni mewn gwirionedd, a rhoi'r gorau i arloesi yn gyson i weld, 'O, mae'n gweithio yna, ac mae'n gweithio yna, gadewch i ni daflu ychydig mwy o arian ato i weld a yw'n gweithio yna.' Gwnewch hynny 'unwaith i Gymru', gadewch i ni fwrw ymlaen â'r dull Canterbury integredig hwnnw fel yr oedd yn cael ei alw cyn i ni ddod at 'Cymru Iachach'. Polisïau wedi'u llywio gan dystiolaeth, mawredd mawr, mae angen hynny arnom, ond eto, ar ôl gweld y dystiolaeth, gweithio arni, ei gweithredu, ei chyflawni.
Gweithio gyda phobl ar fewnwelediadau ymddygiadol. Gwyddom mai un o'r heriau mwyaf yw bod pobl fel fi ac eraill yn ceisio dwyn perswâd ar bobl, yn enwedig yr enghraifft glasurol sef y cymunedau mwyaf difreintiedig sydd â rhai o'r ffactorau amgylcheddol gwaethaf, ond ffactorau ffordd o fyw hefyd. Beth yw'r pethau deallus sydd gennym a all ddwyn perswâd pobl i roi'r gorau i smygu, i roi'r gorau i ddeiet gwael a hefyd i fuddsoddi yn eu hamgylchedd ehangach, eu tai ac ati, fel nad oes angen iddyn nhw gael eu hunain mewn ward damweiniau ac achosion brys, nad oes angen iddyn nhw gael eu hunain mewn gwely gofal brys, ond, mewn gwirionedd, rydym ni'n gofalu amdanyn nhw yno. Felly, mae'r dulliau ymddygiadol hynny yn allweddol yno hefyd.
A dim ond cwpl o bethau eraill, mae'r 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd yn cael ei godi yn hyn—rydyn ni'n gwybod bod hyn yn gweithio. Dyna pam ein bod ni yng Nghymru yn buddsoddi yn y fenter Dechrau'n Deg, dyna pam rydym yn buddsoddi mewn dulliau teuluol cofleidiol, ac mae angen i ni feddwl yn glyfar am sut yr ydym ni, gydag adnoddau cyfyngedig, yn parhau i fuddsoddi yn y meysydd hynny yn hytrach na mynnu meddwl newydd a ffres bob amser. Rydyn ni'n gwybod beth sy'n gweithio. Y dull 'unwaith i Gymru' yr wyf wedi sôn amdano, ac rwyf am orffen, Dirprwy Lywydd, gan fy mod wedi rhedeg allan o amser, trwy ddod yn ôl i ddweud, ie, adnewyddu, adolygu 'Cymru Iachach', ond gadewch i ni fwrw ymlaen â'i chyflawni, a byddwn yn eich cefnogi chi mewn gwirionedd, Gweinidog, os byddwch chi'n gwthio'n galed ar hyn ac yn gweithio gyda phartneriaid. Ond dyna'r model: system gofal iechyd integredig, ymhobman, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Diolch yn fawr.
Fel llawer yn y Siambr y prynhawn yma, rwy'n adleisio eich meddyliau. Mae'n adroddiad pwysig iawn sydd mewn gwirionedd yn ein helpu i edrych ar y dyfodol ac yn dwyn ynghyd yr holl faterion allweddol. Mae'n canolbwyntio ar sut, yn arbennig, fel yr ydym wedi clywed, mae anghydraddoldebau iechyd yn rhaeadru trwy genedlaethau yn anffodus, gan chwyddo ein costau o fewn y GIG a hefyd o fewn cymdeithas. Ac rwyf eisiau canolbwyntio ar y ddau fater hynny, mewn gwirionedd, yn gyntaf ar anghydraddoldebau iechyd, ond sut mae hynny hefyd yn cysylltu â phwnc y buom yn siarad amdano yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, a oedd yn ymwneud â smygu, hefyd.
Felly, mae'r adroddiad yn datgelu gwahaniaethau llwyr a brawychus mewn disgwyliad oes rhwng y grwpiau mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Rwy'n gwybod ein bod ni'n siarad am hyn, ond mae'n hollol frawychus bod 'na bron i 10 mlynedd o wahaniaeth rhyngom ni—wedi ein magu ac yn byw mewn ardaloedd eithaf cefnog—a'r tlotaf yn ein cymdeithas. Mae gennym ddisgwyliad oes o tua 82 mlynedd—felly, mae gennych chi ychydig i fynd, Huw—a'r tlotaf yn ein cymdeithas yn byw am tua 73.6 mlynedd. Gadewch i ni oedi a meddwl am hynny: 10 mlynedd o wahaniaeth, yn seiliedig ar p'un a ydych chi'n gyfoethog neu'n dlawd. Ar draws y DU, mewn gwirionedd, o'i gymharu â gwledydd eraill o ran disgwyliad oes a'r gwahaniaethau, roeddem yn seithfed o'i gymharu â'n gwledydd cyfatebol, ac rydym bellach yn nawfed ar hugain. Felly, mae'n mynd yn waeth.
Un o'r pethau rwy'n gwybod sydd wedi cael ei drafod yma yn y Siambr, ond rwy'n credu sy'n dal yn bwysig, yw lefelau incwm. Rydw i'n mynd i wneud achos cyflym eto dros incwm sylfaenol cyffredinol sy'n rhoi'r llawr incwm i ni sy'n golygu y gall pobl fforddio prynu bwyd, fforddio prynu hanfodion. Ac mae hynny'n sicr yn golygu y bydd ein GIG a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol yn arbed arian.
Yn ail, yn yr amser sydd gennyf i ar ôl, rydw i eisiau tynnu sylw at y materion sy'n ymwneud â smygu. Unwaith eto, siaradodd Russell am hynny, yn enwedig smygu ymhlith ein pobl ifanc. Mae yna debygolrwydd y bydd llawer o gyflyrau hirdymor yn sgil smygu, fel y gwyddom, gan gynnwys strôc, clefyd fasgwlaidd ymylol, dementia, diabetes ac emffysema. Hwn hefyd—ac fe wnaeth hyn fy synnu—yw'r prif ffactor risg ar gyfer canserau, sef prif achos baich clefydau ledled y wlad. Mater ychwanegol nad oeddwn yn ei sylweddoli oedd bod dadansoddiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn dangos bod dros 26,000 o oedolion â salwch meddwl difrifol yn marw'n gynamserol bob blwyddyn o salwch corfforol a waethygir gan eu tebygolrwydd uwch o ymddygiadau afiach fel smygu. Digwyddodd tua 1,500 o'r marwolaethau y gellid eu hatal yng Nghymru yn unig.
Os ydym wir yn dymuno lleihau'r baich ar ein gwasanaethau iechyd gwladol yn y dyfodol, rhaid mynd i'r afael ag achosion o smygu fod yn brif flaenoriaeth. Yn benodol, dylem ganolbwyntio ein hymdrechion, fel y gwnaethom ni sôn amdanynt yn y sesiwn gynharach, ar gyfraddau smygu ieuenctid. Mae'r data'n dangos bod 4 y cant o bobl ifanc yn dal i ddweud eu bod yn smygu o leiaf bob wythnos neu bob dydd, heb unrhyw welliant ar hynny ers 2013-14. A'r pryder mwyaf yw'r ffaith bod 58 y cant o smygwyr ymhlith ieuenctid wedi rhoi cynnig ar eu sigarét gyntaf yn yr oedran agored iawn i niwed, rwy'n credu, sef dim ond 14 neu 15, ac mewn llawer o achosion, mae'n llawer, llawer iau.
Fel y clywsom y prynhawn yma, pasiodd Seland Newydd y ddeddfwriaeth nodedig yn gwahardd gwerthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un a anwyd ar ôl 2009 fel rhan o'u nod di-fwg uchelgeisiol ar gyfer 2025 i leihau cyfraddau smygu i lai na 5 y cant. Mae'r weithred fentrus hon yn gosod esiampl i ni y dylem ei dilyn. Gwn ein bod wedi clywed gan y Prif Weinidog heddiw ynghylch ei gefnogaeth i safbwynt Rishi Sunak wrth fwrw ymlaen â hyn o bosibl yn y DU. Felly, mae gennyf ddiddordeb mawr, Gweinidog, pe gallech wneud sylwadau ar hynny ac a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried dilyn arweiniad Llywodraeth y DU o ran archwilio rheoliadau llymach ar smygu a mynediad ymhlith pobl ifanc, a hefyd rhoi sylwadau ar ein hanghydraddoldebau iechyd a sut mae tlodi'n effeithio ar ddisgwyliad oes yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Mae ein GIG wedi cyrraedd 75 mlwydd oed—bron mor ifanc â fi—ond yn wahanol i mi, mae'n dechrau dangos ei oedran. [Chwerthin.] Ond gan roi'r holl jôcs o'r neilltu, mae'n amlwg na all y GIG barhau i weithredu ei fusnes fel arfer.
Mae'r ddogfen 'Cyngor ar Wyddoniaeth a Thystiolaeth' yn nodi'r her sy'n wynebu GIG 2024 a thu hwnt—newidiadau demograffig, y nifer cynyddol o bobl â chyflyrau hirdymor ac anghydraddoldebau iechyd sy'n ehangu. Ond nid yw'r wybodaeth a ddarperir gan y prif gynghorydd gwyddonol yn newydd. Roeddem yn gwybod hyn i gyd chwe blynedd yn ôl, fel y dywedodd Huw, pan gyhoeddodd Dr Ruth Hussey 'The Parliamentary Review of Health and Social Care in Wales'. Yr hyn sydd wedi newid yn y blynyddoedd cyfamserol hynny yw rhagolygon y GIG. Mae'r pandemig wedi taflu cysgod hir dros ein system iechyd a gofal. Bydd effaith COVID yn cymryd blynyddoedd i leihau. Pwy a ŵyr faint o bobl fydd ag anghenion iechyd hirdymor oherwydd bod eu diagnosis a'u triniaeth wedi'u gohirio oherwydd COVID-19?
Mae adroddiad cyngor ar wyddoniaeth a thystiolaeth yn tynnu sylw at nifer y bobl sy'n byw gyda chyflyrau yng Nghymru, bron i draean o'r boblogaeth. Gwyddom hefyd fod arosiadau orthopedig wedi cynyddu bedair gwaith dros y 10 mlynedd diwethaf. Ddydd Iau, cefais lythyr gan fwrdd iechyd Bae Abertawe yn fy hysbysu bod yr amseroedd aros am ben-glin newydd yn 239 wythnos ar hyn o bryd—nid dyddiau, wythnosau; pedair blynedd a hanner. Bydd y cleifion hynny'n cael eu gorfodi i aros, heb os, gan arwain at fwy o golli gweithrediadau, gan effeithio ar iechyd cleifion, yn gorfforol ac yn feddyliol, yn ogystal â chynyddu'r tebygolrwydd y bydd angen gofal tymor hwy.
Nid yn unig y mae hwn yn fater o hawliau dynol, ond os edrychwch arno mewn termau economaidd syml, mae oedi wrth drin yn effeithio'n fwy ar y GIG yn y tymor hir. Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod cleifion sy'n gorfod aros yn gallu cael triniaeth breifat, ond yma yng Nghymru, mae dogma gwleidyddol yn atal dull o'r fath. Ac eto, y sector preifat yw asgwrn cefn ein GIG. Heb y sector preifat, ni fyddai gennym unrhyw ofal sylfaenol. Hyd nes y bydd gennym GIG â staff llawn, mae'n rhaid i ni ddefnyddio pob llwybr sydd ar gael, boed hynny'n sector cyhoeddus, preifat neu'r trydydd sector.
Y broblem gyda'n GIG yw diffyg arweinyddiaeth a methiant llwyr gan y Llywodraeth i gynllunio'n iawn ar gyfer y dyfodol, i gael cynllun gweithlu clir. Ond byddai Llywodraeth Cymru yn credu bod hwn yn fater ariannol, er gwaethaf y ffaith ein bod yn gwario mwy y pen ar iechyd nag y maent yn Lloegr, ond eto mae gennym ganlyniadau gwaeth ac amseroedd aros hirach. Ond gan daflu llwch i'r llygaid fel arfer, maen nhw'n cyfeirio at wariant y pen ar draws Môr Hafren, ond dydyn nhw ddim yn cymharu afalau ag afalau.
Byth ers i Syr William Beveridge gyhoeddi ei adroddiad ym 1942, mae ein GIG wedi bod yn system un talwr, wedi'i hariannu'n llwyr trwy drethiant cyffredinol. Ar draws y cyfandir, ac, yn wir, y rhan fwyaf o'r byd, mae systemau gofal iechyd yn rhai aml dalwr, wedi'u hariannu'n bennaf trwy yswiriant iechyd preifat. Felly, os ydym yn mynd i wario mwy ar iechyd, mae'n rhaid i ni naill ai godi trethi yn sylweddol neu roi'r gorau i fodel Beveridge o ofal iechyd un talwr. Ond nid wyf yn credu bod angen i ni wneud hynny ychwaith. Mae'n rhaid i ni gael gwell arweinyddiaeth, un sydd â chynllun gweithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Dim ond wedyn y gallwn wasanaethu ein cleifion a sicrhau bod ein GIG yn dal o gwmpas mewn 75 mlynedd arall. Diolch yn fawr.
Mae hwn yn adroddiad pwysig iawn, gan asesu beth fydd anghenion iechyd ein cenedl ar ôl y degawd nesaf, sut yr ydym ni fel gwlad, fel llunwyr polisi a'n sefydliad cenedlaethol mwyaf gwerthfawr, y GIG, yn gallu bodloni gofynion dinasyddion presennol a dinasyddion y dyfodol. Fel y mae'r adroddiad yn ein hatgoffa, mae'r heriau hyn yn amlwg.
O un safbwynt, mae'r GIG bron wedi dioddef oherwydd ei lwyddiant ei hun gyda'n poblogaeth sy'n heneiddio. Yn 2023, roedd bron i un o bob pump o bobl oedd yn byw yng Nghymru yn 70 oed neu'n hŷn. Mewn cymhariaeth, roedd ffigur y DU ar gyfer 1953, bum mlynedd yn unig ar ôl creu'r GIG, tua un o bob 14. Ond mae gwahaniaethau enfawr mewn disgwyliad oes ledled y DU ac o fewn Cymru yn seiliedig ar gyfoeth economaidd, fel y mae siaradwyr eraill eisoes wedi cyfeirio ato. Mae'n gwbl annerbyniol, fel y mae'r adroddiad yn ei nodi, bod y gwahaniaeth mewn disgwyliad oes rhwng y degraddau mwyaf a lleiaf difreintiedig bron yn 10 mlynedd. Hefyd, gan fod pobl yn byw'n hirach, bydd poblogaeth sy'n heneiddio yn golygu bydd cyfran uwch o'r boblogaeth yn byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor, ac nid dim ond yn byw gyda chyflyrau hirdymor, ond yn byw am gyfnod hirach gydag anghenion cynyddol gymhleth. Mae pob un yn heriau allweddol y mae angen i ni eu hystyried i sicrhau y gall ein GIG aros yn addas i'r diben.
Rwy'n credu bod tri chonglfaen allweddol y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw i sicrhau bod hyn yn wir. Yn gyntaf, ac unwaith eto fel y mae siaradwyr eraill eisoes wedi cyfeirio ato, mae angen i ni sicrhau ein bod yn cymryd mesurau i wella iechyd y boblogaeth. Mae hyn yn dechrau gyda chymryd y mesurau hynny i ymdrin â thlodi incwm cymharol a fydd yn mynd i'r afael â rhai o'r anghydraddoldebau y soniais amdanyn nhw'n gynharach; mesurau wedi'u targedu'n wirioneddol sy'n gweithio ar bob lefel o'r Llywodraeth ac yn codi pobl i fyny. Mae'r degawd coll o gyni Torïaidd y DU a'r penderfyniadau truenus a wnaed gan Lywodraeth y DU dros y blynyddoedd diwethaf wedi effeithio ar ein gallu i wneud hyn, ac wedi creu hinsawdd lle ystyrir buddsoddi mewn polisïau i wella cyfoeth a llesiant y boblogaeth cyn iddynt fynd yn sâl yn rhywbeth braf i'w gael yn unig, yn hytrach na chonglfaen hanfodol i sicrhau hyfywedd ein gwasanaeth iechyd gwladol yn y dyfodol. Rwy'n croesawu'r dulliau a dargedwyd gan Lywodraeth Cymru a fy awdurdod lleol fy hun yn Rhondda Cynon Taf i geisio culhau'r bwlch incwm cymharol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r GIG a'n holl gymdeithas gydweithio i wneud ymyriadau iechyd cyhoeddus priodol. Er enghraifft, ceir y ffaith yn yr adroddiad bod disgwyl i lefelau gordewdra—sydd eisoes yn creu straen enfawr ar y GIG—godi ymhellach. Ac i'r gwrthwyneb, er bod tueddiadau smygu oedolion wedi lleihau, rwy'n poeni fwyfwy am y nifer sy'n fêpio ymhlith plant a phobl ifanc nad ydynt erioed wedi smygu. Mae'r ddau angen sylw.
Mae'r ail gonglfaen i sicrhau dyfodol ein gwasanaethau iechyd yn ymwneud â sicrhau bod gwasanaethau'r GIG yn gallu gwneud diagnosis a thrin pobl pan fydd afiechyd yn codi. Rwy'n gwerthfawrogi bod heriau yma, ac rwy'n siŵr—fel pob cyd-Aelod—dyma un o'r materion yr ydym i gyd yn rhy gyfarwydd ag ef o ran ein gwaith achos. Wedi dweud hynny, rwy'n croesawu mesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd er gwaethaf y ffaith ei bod yn cael ei thagu'n ariannol yn sgil tangyllido Llywodraeth y DU. Roeddwn yn falch o allu ymweld â safle parc iechyd newydd Llantrisant yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Mae'r ganolfan ddiagnostig a thriniaeth hon yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i allu fy etholwyr a'r rhai o bob rhan o'r ardal er mwyn iddynt gael mynediad at wasanaethau, gyda rhagamcaniad na fydd dim ond yn gallu torri rhestrau aros ar gyfer llawdriniaethau orthopedig, ond hyd yn oed eu dileu o fewn ychydig flynyddoedd yn unig. Mae'r cynlluniau uchelgeisiol hyn yn dangos, trwy ailddychmygu'r ffordd yr ydym yn ffurfweddu ein gwasanaethau iechyd, trwy feddwl heb orwelion a gwneud pethau'n wahanol, y gallwn fynnu newid gwirioneddol. Credaf hefyd fod y datblygiad hwn yn symbol o ymrwymiad y Gweinidog i ddarparu'r gwasanaethau cywir yn y lle cywir ac ar yr adeg gywir i gleifion. Mae'r prosiect hefyd yn enghraifft wych o'r math o gydweithio rhwng y Llywodraeth leol a Llywodraeth ganolog ac ar draws byrddau iechyd y dylem fod yn ei annog.
Y trydydd conglfaen a'r olaf sydd ei angen ar gyfer llwyddiant ein GIG yn y dyfodol yn fy marn i, ac yn enwedig o ystyried ein poblogaeth sy'n heneiddio, yw bod yn rhaid i ni sicrhau bod cefnogaeth gadarn ar waith i bobl ar ôl iddynt gael mynediad at driniaethau'r GIG er mwyn eu hadsefydlu, ac i leddfu pwysau pellach posibl ar wasanaethau yn y tymor hir. I roi'r enghraifft o wasanaethau strôc yma i chi, er y gall materion craidd eraill fod yn berthnasol i lawer o wasanaethau adsefydlu eraill, cwrddais â'r Gymdeithas Strôc yn ddiweddar i drafod eu gwasanaeth bywyd ar ôl strôc, gan sicrhau bod y GIG yn parhau i weithio gyda'r trydydd sector ac elusennau fel y gall pobl wella a byw bywydau llawn, gan fuddsoddi mewn gwasanaethau i'w dychwelyd i'r canlyniadau iechyd gorau un ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, buddsoddiad a all ychwanegu rhagor o fudd i'r GIG unwaith eto os gellir helpu goroeswyr strôc i gynnal eu hannibyniaeth ac yna dibynnu llai ar y GIG a gofal cymdeithasol. Mae'r math hwn o gefnogaeth ôl-ryddhau yn bwysig iawn i sicrhau hyfywedd y GIG yn y dyfodol, ac mae'r adroddiad hwn yn arwyddbost a sylfaen dystiolaeth i wneud yn siŵr ein bod yn cael pethau'n iawn—
Vikki, a wnewch chi gloi nawr, os gwelwch yn dda?
—fel bod y GIG yn parhau mewn dwylo diogel ac addasu i amseroedd sy'n newid. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar iawn o allu cymryd rhan yn y ddadl hon. Fel y dywedodd Vikki Howells wrth agor ei chyfraniad, mae'n ddadl bwysig iawn sydd gennym yn y Siambr hon. Oherwydd weithiau, gall deimlo fel ein bod yn cael rhai o'r un hen sgyrsiau yma am ein gwasanaeth iechyd, felly rwy'n falch o allu edrych y tu hwnt i'r hyn sydd o'n blaenau heddiw ac edrych tuag at y gorwel 10 mlynedd neu fwy i ffwrdd. Ac mae'n rhwystredig ein bod yn gweld heddiw rai o'r un problemau yn ein gwasanaeth iechyd ag a welsom 10 mlynedd yn ôl. Yn anffodus, mae rhai hyd yn oed wedi mynd yn waeth. Mae'r rhan besimistaidd ohonof yn troi at yr hen ddywediad weithiau sef mai'r ffordd orau o ragweld y dyfodol yw astudio'r gorffennol, a rhan o fy mhryder heddiw yw nad ydym yn dysgu digon o wersi o'r gorffennol os na chymerwn yr adroddiad hwn o ddifrif. Felly, oni bai ein bod ni'n gweld newid radical o ran meddylfryd hirdymor gan Lywodraeth Lafur Cymru, yna rwy'n poeni ynghylch sut olwg fydd ar bethau ddeng mlynedd o nawr.
Dirprwy Lywydd, bydd y Gweinidog yn ymwybodol fy mod i'n gweld llawer o'r GIG yng Nghymru drwy lens fy rhanbarth i sef Gogledd Cymru, sydd efallai'n annheg o bryd i'w gilydd i weld GIG Cymru drwy'r lens honno, oherwydd rydyn ni'n gwybod ei fod wedi bod mewn ac allan o fesurau arbennig ac wedi gweld gostyngiad yn y safonau rheoli ers nifer o flynyddoedd bellach. Ond gyda hyn mewn golwg, mae angen i unrhyw gynllun hirdymor, yn fy marn i, ganolbwyntio'n llwyr ar y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli sef Gogledd Cymru, a hoffwn glywed mwy efallai yn ymateb y Gweinidog heddiw ar sut y bydd yr adroddiad hwn yr ydym yn edrych arno heddiw yn cael ei ddefnyddio i gefnogi newid yn benodol yn fy rhanbarth i. Cefais fy synnu o weld yn yr adroddiad bod sôn am Ogledd Iwerddon a Gogledd-ddwyrain Lloegr, ond does dim sôn am Ogledd Cymru drwy'r adroddiad o gwbl—sydd â'r materion difrifol hynny gyda gofal iechyd, sydd angen y cynllun hirdymor hwnnw ac sydd hefyd â nifer sylweddol anghymesur o bobl hŷn.
Ni allwn osgoi heddiw fater cyllid hirdymor wrth i ni ystyried yr adroddiad hwn. Mae'n bwysig cofio bod Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.20 ar gyfer y gwasanaethau hyn am bob punt sy'n cael ei gwario yn Lloegr, ac mae'r adroddiad hefyd yn dyfynnu Ymddiriedolaeth Nuffield, sy'n datgan y ffaith honno hefyd. Mae hefyd yn mynd ymlaen i ddweud,
'Fe wnaeth Llywodraeth Cymru flaenoriaethu gofal iechyd ychydig yn llai...nag yn Lloegr."
Felly, mae'n ymddangos bod rhai o'r problemau hyn rydyn ni'n eu gweld heddiw, ac efallai yn y dyfodol, wedi cael eu gwaethygu gan ddewisiadau gwleidyddol yma.
Wrth gwrs, nid yw hyn yn newyddion newydd i ni. Mae'r adroddiad rydym yn ei drafod heddiw yn tynnu sylw at y ffaith bod gwariant iechyd yn Lloegr wedi cynyddu 4.5 y cant rhwng 2010 a 2015, tra bod gwariant iechyd yng Nghymru wedi gostwng 2 y cant, yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Felly, byddaf yn awyddus i glywed gan y Gweinidog yn ei hymateb heddiw os yw hi'n credu bod rhai o'r dewisiadau hanesyddol hyn bellach yn cael effaith ar ein GIG yng Nghymru a sut maen nhw'n mynd i effeithio ar bethau ymhen 10 mlynedd hefyd.
Mae Aelodau eraill hefyd wedi codi'r mater ynghylch sut mae pethau'n cael eu cydgysylltu, ac mae'n bwysig deall sut mae pethau'n gysylltiedig rhwng yr economi a swyddi, addysg a chyrhaeddiad, a sut yr effeithir ar ofal iechyd o ganlyniad i'r rheini. Rwy'n ddiolchgar i Russell George am roi sylw i fy Mil addysg awyr agored, sydd, i mi, yn enghraifft glir arall o sut y gellir cymryd mesurau ataliol hirdymor i wella cyfleoedd iechyd a bywyd pobl ifanc dros gyfnod hir iawn o amser gyda buddsoddiad wedi'i dargedu. Ac rydym yn gwybod bod y buddsoddiad hwnnw mewn addysg awyr agored mewn ysgolion yn talu ar ei ganfed i'r bobl ifanc hynny yn y tymor hir, yn enwedig o ran ffordd iach o fyw a dewisiadau iach, sy'n cefnogi iechyd corfforol a meddyliol da. Yn wir, mae Natural England wedi dangos, am bob £1 sy'n cael ei wario ar addysg awyr agored, ei bod yn talu dros £4 mewn enillion cymdeithasol o fuddsoddiad.
Dechreuais fy nghyfraniad drwy ddweud efallai mai'r ffordd orau o ragweld y dyfodol yw drwy edrych i'r gorffennol, a dyna ran besimistaidd fy meddwl. Ond mewn gwirionedd mae yna garfan o feddylwyr arall y bydd Alun Davies, rwy'n siŵr, yn falch o glywed amdani, a allai fod ychydig yn fwy positif i ni yma yng Nghymru, ac mae'r garfan o feddylwyr hon yn dweud mai'r ffordd orau o ragweld y dyfodol yw ei greu. Felly, rwy'n annog Gweinidogion a'r Llywodraeth heddiw i gymryd yr adroddiad hwn o ddifrif ac, er lles y trigolion rwy'n eu cynrychioli yn y gogledd, chwilio am ffyrdd y mae ein gwasanaeth iechyd, ar ba bynnag ffurf, yn cael ei greu i gefnogi'r dyfodol sy'n agosáu’n gyflym iawn. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Diolch hefyd am naws cyfraniad Sam Rowlands. Rwy'n credu mewn gwirionedd bod angen i ni wneud mwy nag y mae'r Llywodraeth yn ei awgrymu yn y ddadl hon y prynhawn yma, er fy mod yn croesawu'n fawr yr adroddiad a ffeithiau'r ddadl. Oherwydd pan edrychwn ni ar ein gwasanaeth iechyd gwladol, mae'n arwydd o lawer o bwy ydym ni fel gwlad. Mae'n arwydd o ddiwylliant ein gwerthoedd, mae'n arwydd o'n huchelgeisiau a'n gweledigaethau ar gyfer y dyfodol. Cafodd ei greu gan rywun, wrth gwrs, nad oedd ganddo amser ar gyfer eilunod. Roedd Aneurin Bevan yn wleidydd creadigol am ei fod yn cythruddo rhywun ym mha bynnag siambr yr oedd yn siarad ynddi ar bob achlysur y safodd i fyny i wneud araith. Cofiwch yr hyn yr oedd Winston Churchill yn ei feddwl ohono. Roedd yn debyg iawn i'r hyn yr oedd Clement Attlee yn ei feddwl ohono pan daflodd ef allan o'r Blaid Lafur yn 1939.
Nid yw bod yn greadigol o reidrwydd yn golygu derbyn y statws cwo, a derbyn lle rydyn ni heddiw, a dyna pam rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn roedd Sam Rowlands yn ei ddweud am orfod creu'r dyfodol. Mae hwn yn adroddiad ardderchog, ac mae'n adroddiad amserol, ac mae'n adroddiad pwysig, ac mae'n mynd i fod yn adroddiad carreg filltir, oherwydd mae'n dweud wrthym—mae'n dweud wrthym yn rhannol yr hyn rydyn ni'n ei wybod eisoes, ond mae'n ei roi yng nghyd-destun y penderfyniadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud ar gyfer y dyfodol. A dyma lle rwy'n credu bod yn rhaid i ni fynd ymhellach o lawer.
Pan fyddwn yn trafod gordewdra a phan fyddwn yn trafod y ffordd yr ydym yn bwyta a'r bwydydd rydym yn eu bwyta ac ati, y rheswm pam y cawn ymateb negyddol, yn bennaf, yn y ddadl honno, yw oherwydd ein bod yn pregethu ac yn dweud ac rydym yn pwyntio ac yn ceryddu. Yr hyn nad ydym yn ei wneud yw gwrando. Ac mae angen i ni gael sgwrs am sut rydyn ni'n byw ein bywydau, ac mae angen i ni gael sgwrs am sut rydyn ni eisiau byw ein bywydau, a'r math o fywydau rydyn ni eisiau i'n plant a'n hwyrion fyw, ac mae honno'n ddadl wahanol iawn. Mae'n ddadl dra wahanol, ac nid yw'n ddadl a ddylai fod yn ymwneud â sgorio pwyntiau neu chwerwder. Mae'n ddadl ynglŷn â gwrando ar bobl ar bob ochr i'r Siambr hon, a derbyn yr her o bob ochr i'r Siambr hon. Mae'n golygu gofyn cwestiynau am sut rydym yn cael mynediad at ofal sylfaenol, wrth gwrs, ond mae hefyd yn golygu gofyn pa ofal sylfaenol fydd yn y dyfodol, ac mae'n gofyn cwestiynau am ein cyfrifoldeb ein hunain dros ein hiechyd ein hunain. Mae'n ymwneud â derbyn cyfrifoldeb, cyfrifoldeb personol ac nad mater i feddyg yw ein gwneud ni'n iach ar ôl i ni wneud ein hunain yn wael. Mae'n ymwneud â chael y cyfrifoldeb i ddweud bod gennym gyfrifoldebau, ar ddechrau ein hoes a thrwy ein hoes, ac mae honno'n sgwrs. Ni all fod yn gerydd ac ni all fod yn bregeth. Mae'n sgwrs y mae'n rhaid i ni ei chael gyda phobl. Ond hefyd, sut felly ydyn ni'n gweithio gyda phobl i alluogi pobl i ddeall eu hiechyd eu hunain a'u problemau iechyd eu hunain? Mae'n sicrhau bod gennym wasanaeth iechyd sy'n gallu cydberthyn a rhyngweithio â phobl drwy eu hoes, nid yn unig pan fydd angen cymorth meddygol arnynt, ond am wneud penderfyniadau, am ddeall eu hiechyd eu hunain ar unrhyw un adeg. Ac mae'n ymwneud â ni—ac mae hwn yn benderfyniad anodd iawn—rhoi'r strwythurau ar waith sy'n galluogi pobl i gael y gefnogaeth y bydd ei hangen arnynt, ac mae hynny'n golygu ein bod yn gofyn cwestiynau difrifol. Nid yw'r farchnad gofal cymdeithasol heddiw yn gweithio. Nid yw'n darparu ansawdd y gofal sydd ei angen ar bobl ac nid ydym yn gallu ei fforddio.
Felly, sut y byddwn yn ateb y cwestiwn hwnnw yn y dyfodol? Sut byddwn ni'n gwneud hynny? Y peth hawdd i'w wneud, a gwelsom hyn yn etholiad cyffredinol 2017—. Fe wnaeth Theresa May awgrym, yn gywir neu'n anghywir. Neidiodd y Blaid Lafur arni, gan ddweud ei fod yn sicr y cyfeiriad anghywir, ac fe drodd yn sgrym wleidyddol a brwydr wleidyddol a cheisiodd pobl sgorio pwyntiau gwleidyddol. Ac yn ystod pythefnos ymgyrch etholiad cyffredinol, mae hynny wastad yn mynd i ddigwydd. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw cael dadl go iawn, a pheidio â dim ond credu bod yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yn ganlyniad cyni dros y 15 mlynedd diwethaf. Mae yna faterion strwythurol. Doedden ni ddim yn hyfforddi digon o feddygon a nyrsys yn y 1950au, y 1960au a'r 1970au. Rydyn ni'n gwybod hynny. Doedd gennym ni ddim digon o welyau gofal critigol yng Nghymru ymhell cyn i ni glywed am COVID hyd yn oed. Felly, mae'r rhain yn faterion strwythurol y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw, ac rydyn ni'n gwybod bod y gweithlu—. Ac rwy'n siarad fel rhywun, fel llawer o bobl yma yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill, y mae ei deulu wedi gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol ac wedi neilltuo degawdau o'u bywyd i'r gwasanaeth iechyd gwladol. Ond rydym yn gwybod bod angen i ni fuddsoddi yn y gweithlu hwnnw yn y dyfodol. Ond mae angen i ni hefyd gael dadl sy'n onest am y dyfodol hwnnw, a byddwn i—
Alun, mae angen i chi gloi nawr.
Fe wnaf i gloi, ac fe wnaf i gloi drwy ddweud, gan fod Aneurin Bevan wedi treulio oes yn cael gwared ar eilunod pryd bynnag y gwelai un, mae angen i ni beidio â chael dadl am bolion totem, ond mae angen i ni gael dadl ynghylch pa fath o wasanaeth iechyd sydd ei angen arnom ar gyfer y dyfodol. Diolch.