Y Cyfarfod Llawn

Plenary

03/10/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Darren Millar. 

Diogelwch ar Ffyrdd Gwledig

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ar ffyrdd gwledig? OQ59995

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Byddwn yn ymgynghori ar y strategaeth diogelwch ffyrdd newydd i Gymru, gan ddechrau ym mis Tachwedd eleni. Bydd canllawiau wedi'u diweddaru ar osod terfynau cyflymder lleol, gan gynnwys ffactorau sy'n arbennig o berthnasol i ffyrdd gwledig, yn dilyn yn 2024. 

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol fod data diogelwch ar y ffyrdd o 2022 yn awgrymu bod y mwyafrif helaeth o ddamweiniau difrifol ac angheuol yn digwydd ar ffyrdd gwledig, a bod llawer o'r ffyrdd hynny'n cael eu gorgynrychioli'n anghymesur o'u cymharu â faint o draffig sydd arnyn nhw. Yn y rhannau gwledig o sir Ddinbych yr wyf i yn eu cynrychioli, mae tair ardal ar gefnffordd yr A494 sydd angen rhywfaint o sylw brys, ac, wrth gwrs, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw'r rhwydwaith cefnffyrdd. Rwyf wedi codi ar sawl achlysur yr angen am derfyn cyflymder is a chroesfan i gerddwyr ym mhentref Pwll-glas, er mwyn i drigolion a phlant allu cael mynediad i'r cyfleusterau sydd yno'n ddiogel. Ac mae dau brosiect arall ar yr A494—cyffordd Maes Gamedd yng Ngwyddelwern, a Lôn Fawr yn Rhuthun—sydd hefyd angen rhywfaint o sylw ar frys a rhywfaint o waith peirianyddol er mwyn eu gwneud yn ddiogel. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi ar ymweliad â sir Ddinbych wledig i weld y lleoliadau penodol hyn drosoch eich hun, fel y gallwn weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r materion diogelwch ffyrdd hyn yn fy etholaeth?

Wel, Llywydd, diolch i Darren Millar am y cwestiynau yna. Mae'n gwneud pwyntiau pwysig am ddiogelwch ar ffyrdd gwledig a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru am y rhwydwaith cefnffyrdd. Rwyf wedi dilyn ei drywydd ar fater Pwll-glas yma ar lawr y Senedd, ac roeddwn i yma ar y llawr yr wythnos diwethaf i glywed pwyntiau Llyr Gruffydd ar y mater hwnnw hefyd. Ac rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog ei hun wedi ymweld â'r safle hwnnw ac wedi dweud rhai pethau calonogol wrth ateb cwestiwn diweddar gan yr Aelod. 

Nid wyf yn gyfarwydd ag un o'r tri mater a grybwyllwyd gan Darren Millar, Llywydd. Rwyf wedi clywed am gyffordd Lôn Fawr/Ffordd Corwen yn Rhuthun, a gwn fod cynlluniau i Lywodraeth Cymru ymdrin â materion cyflymder ar y gyffordd honno a chwilio am fesurau ar raddfa fach y gellir eu rhoi ar waith ar y gyffordd i wella diogelwch ar y ffyrdd. 

Diolch i'r Aelod am y gwahoddiad i ymuno ag ef, ac, heb os, eraill sydd â diddordeb yn y materion hyn, ac, yn amodol ar y cyfyngiadau arferol o ran y dyddiadur, byddwn i'n hapus i wneud hynny. 

Diolch, Llywydd, a diolch i Darren Millar am y cwestiwn yna. Trwy gyd-ddigwyddiad, rydw innau am sôn am yr A494 hefyd, ond rhan arall o'r ffordd. Rydyn ni'n sôn rŵan am Ddolgellau drwyddo i Glan-yr-afon. Mae'r ffordd yna, fel gweddill yr A494, hefyd yn hynod o beryglus. Rydyn ni wedi gweld nifer cynyddol o ddamweiniau, marwolaethau, damweiniau difrifol, efo pobl yn gorfod mynd i Stoke, yr ysbyty yno, ar y ffordd. Ac mi wnes i godi'r pwynt am ddiogelwch ar y ffordd yma efo'r Dirprwy Weinidog ddwy flynedd yn ôl, a, bryd hynny, fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog fod yna raglen gwella a diogelu'r ffordd yna am ddigwydd y flwyddyn yma. Ond, mewn ateb ges i gan y Dirprwy Weinidog yn ôl ym mis Awst, fe ddywedodd e fod y rhaglen yna bellach wedi cael ei gohirio am ddwy flynedd. Mae hynna'n golygu, y gallaf i roi eithaf sicrwydd i chi, yn ystod y ddwy flynedd nesaf, tra bod y rhaglen diogelu'r ffordd yn cael ei gohirio, y bydd yna ddamweiniau, ac yn fwy na thebyg rai angheuol, ar y ffordd yna yn ystod y ddwy flynedd nesaf o ohirio. A gawn ni, felly, sicrwydd eich bod chi'n mynd i edrych ar yr A494 yn ddifrifol, a'i wneud o'n flaenoriaeth, ac y gwelwn ni waith yn digwydd yno er mwyn atal y damweiniau yma, os gwelwch yn dda?

Well, Llywydd, wrth gwrs, rydyn ni yn edrych yn ddifrifol ar y sefyllfa ar yr hewl yn Nolgellau ac yn y blaen, ond rydyn ni'n gwneud hynny gydag achosion sy'n codi ledled Cymru. Mae nifer fawr o bentrefi lleol, ac yn y blaen, â phethau maen nhw eisiau gweld i wneud mwy i ddiogelu pobl ar y ffordd. Mae'r rhaglen gyda ni. Mae lot o geisiadau yn dod i mewn am y rhaglen, ac, fel mae'r Dirprwy Weinidog wedi esbonio, y gwaith rydyn ni'n ei wneud yw blaenoriaethu popeth sy'n dod ymlaen a thrial gwneud ein gorau glas i ymateb i'r achosion cryfach sy'n dod atom ni.

13:35
Cefnogi Cleifion Canser

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cleifion canser? OQ60008

Llywydd, gwnaed ymdrechion enfawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf i wella'r broses o atgyfeirio pobl sydd â symptomau i wasanaethau canser yn gynnar. Mae'r nifer uchaf erioed o gleifion sy'n cael eu hysbysu bob mis o ganlyniad i'r atgyfeiriad hwnnw yn dystiolaeth galonogol o lwyddiant.

Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Yn ddiweddar, cwrddais â Young Lives vs Cancer i gael gwybod mwy am y gwaith maen nhw'n ei wneud. Gwnaethon nhw egluro bod plant a phobl ifanc â chanser, a'u teuluoedd, yn aml yn gorfod teithio yn bell iawn i gael gofal arbenigol. Ar gyfartaledd, mae teuluoedd yng Nghymru yn gorfod teithio 534 milltir y mis, a gwario bron i £300 y mis i gael triniaeth. Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi na ddylai neb â chanser gael ei orfodi i deithio cannoedd o filltiroedd, na gwario cannoedd o bunnau dim ond i gael triniaeth hanfodol. Mae llawer o deuluoedd, o ganlyniad, yn gorfod torri'n ôl ar bethau hanfodol, fel bwyd, mewn ymgais i dalu costau triniaeth. Mae hyn yn hollol annerbyniol. Ond un ffordd o fynd i'r afael â'r mater hwn yw sefydlu cronfa deithio i gleifion canser ifanc, a fydd yn talu costau teithio am driniaeth. Tua £500,000 yw'r swm o arian sydd ei angen i sefydlu cronfa fel hon yng Nghymru. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno, Prif Weinidog, bod £500,000 yn swm bach iawn o'i gymharu â'r swm enfawr o arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario, efallai, ar brosiectau eraill. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ystyried creu cronfa i gefnogi plant â chanser, a'u teuluoedd, sy'n mynd trwy'r hyn sydd y tu hwnt i amgyffred ar hyn o bryd? Diolch.

Llywydd, rwy'n deall bod teithio i apwyntiadau am driniaeth ar gyfer canser ac oddi yno yn rhoi baich ar deuluoedd, yn enwedig pan fo rhaid i hynny fod gryn bellter o gartrefi pobl er mwyn cael y driniaeth arbenigol orau sydd ar gael. Mae ein ffigurau'n dangos bod tua 113 o ddiagnosisau canser newydd bob blwyddyn ymhlith pobl o dan 25 oed. Nawr, mae Llywodraeth Cymru, drwy'r GIG, eisoes wedi bod â chynllun ad-dalu costau teithio. Mae'n rhaid i chi fodloni'r meini prawf cymhwyso ar ei gyfer, ond mae'r cynllun yn bodoli. Ac mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn darparu gwasanaethau cludiant cleifion nad ydynt yn rhai brys i bobl sy'n mynd i apwyntiadau oncoleg. Yr hyn y mae'r Gweinidog wedi gofyn i wasanaeth ambiwlans Cymru ei wneud yw edrych ar nifer y teithiau cleifion nad ydynt yn rhai brys y mae'n eu darparu ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n cael gofal canser, a bydd hynny'n rhoi gwell gwybodaeth er mwyn i ni barhau i archwilio rhai o'r materion y mae'r ymgyrchwyr yn eu codi ac y mae'r Aelod wedi tynnu sylw atyn nhw y prynhawn yma.

Prif Weinidog, fis diwethaf, ynghyd ag Aelodau eraill, ymwelais â Chanolfan y Fron Snowdrop newydd ger Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Bydd y cyfleuster modern gwerth £2 filiwn, a ariennir gan bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd lleol, yn gwneud gwahaniaeth enfawr i drigolion sy'n dioddef o ganser y fron, gydag atgyfeiriadau'n cael eu gwneud yn uniongyrchol gan feddygon teulu. O ohebiaeth gyda'r Gweinidog iechyd, rwy'n deall y bydd canolfan ddiagnostig a thriniaeth arall yn agor yn agos iawn at safle canolfan Snowdrop yn 2025. Yr uchelgais yw agor y cyfleuster yn gynt, dechrau ar y gwaith adeiladu yn 2024 a darparu capasiti diagnostig dros dro ar y safle erbyn mis Ebrill 2024. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlenni hyn a pha gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i gefnogi uchelgais y bwrdd iechyd i agor y ganolfan yn gynt? Diolch.

Diolch i Buffy Williams am hynna, Llywydd, a diolch iddi am yr hyn a ddywedodd am ei hymweliad, gydag eraill, â chanolfan Snowdrop. Y safle cyfagos y mae'n cyfeirio ato yw'r safle a brynwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi digwydd yng nghyd-destun pa mor hir y mae'n ei gymryd fel arfer i ddatblygu cyfleusterau'r gwasanaeth iechyd yn gyflym iawn, oherwydd dim ond ym mis Mehefin 2022 y daeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at y bwrdd iechyd gyda'r syniad o brynu'r adeilad—yr adeilad a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan British Airways—a phrynwyd y safle yn gynnar yn 2023. Mae meddianwyr presennol y safle i fod i'w adael tua'r adeg yma, ac mae hynny'n golygu y bydd gwaith cynnar yn bosibl ar gyfleuster dros dro, sydd ar gael ar gyfer gwasanaeth diagnostig ar y safle, gobeithio, erbyn gwanwyn 2024. Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau'n ffurfiol yn 2025, ond, fel y dywedodd Buffy Williams, Llywydd, mae pob plaid yn cydweithio i weld a oes modd dechrau hwn yn gynt ac a oes modd cael rhywfaint o ddefnydd dros dro at ddibenion diagnostig ar y safle hwnnw yn y cyfamser. Ac mae'n siŵr y bydd yn ychwanegu at y gwasanaethau sydd ar gael i gleifion yn ei hetholaeth a'r rhai gerllaw, fel y dywedodd yr Aelod.

13:40

Bydd y rhan fwyaf ohonon ni wedi mynychu bore coffi Macmillan dros y dyddiau diwethaf, felly dylid dechrau trwy ddweud diolch i Macmillan am eu gwaith. Ar lefel bersonol, dwi'n ddiolchgar am yr hyn ddaru nhw ei wneud i helpu aelodau o fy nheulu i. Ond y ffordd orau o gefnogi cleifion canser ydy sicrhau diagnosis cynnar. Ac un o'r canserau mwyaf ystyfnig ydy canser yr ysgyfaint. Mae'n bosibl cael adnabyddiaeth o ganser yr ysgyfaint drwy raglen sgrinio, ond does yna ddim rhaglen sgrinio wedi ei dargedu gennym ni yma yng Nghymru. Felly, pryd allwn ni edrych ymlaen at weld rhaglen sgrinio o'r fath ar gyfer canser yr ysgyfaint?

Wel, Llywydd, dwi'n cytuno, wrth gwrs, gyda beth ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd gwasanaethau sgrinio, ac mae nifer fawr o raglenni gyda ni yma yng Nghymru sy'n gwneud gwaith arbennig o dda. Rŷn ni'n dibynnu ar y cyngor sy'n dod aton ni i ystyried a oes mwy rydyn ni'n gallu ei wneud. Gallaf i ofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi am y sefyllfa ddiweddaraf a beth yw'r cyngor sy'n dod o'r pwyllgor ar lefel y Deyrnas Unedig atom ni a sut y gallwn ni wneud mwy yn y maes. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau ac, felly, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd y ffigurau absenoldeb o'r ysgol, ac ers COVID, bu cynnydd enfawr yn nifer y disgyblion sy'n cael eu marcio, yn anffodus, yn absennol o'r ysgol yn gyson yn y sector uwchradd. Yn y categori arferol, hyd at 16 y cant o'r holl fyfyrwyr sy'n cael eu hystyried yn absennol o'r ysgol yn barhaus; i'r rhai sy'n cael cinio ysgol am ddim, mae hyd at 36 y cant. Mae colli diwrnod o'r ysgol yn golygu diwrnod o golli cyfle. Weithiau mae rhesymau da iawn pam y mae angen i fyfyrwyr fod i ffwrdd o'r ysgol, ond mae'r niferoedd yna yn amlwg yn amlygu problem sylweddol yn ein sector uwchradd. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â hynny, cefnogi athrawon a chefnogi awdurdodau lleol i ddod â'r niferoedd hynny yn ôl i'r ffrâm arferol y byddem yn ei ddisgwyl yn draddodiadol, oherwydd, fel y dywedais i, mae diwrnod allan o'r ysgol yn ddiwrnod o golli cyfle? 

Diolch i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiwn yna. Mae'n iawn iddo dynnu sylw at y ffenomen ôl-COVID hon, lle, ar draws y Deyrnas Unedig, ond, yn wir, yn llawer ehangach na hynny, yn fyd-eang, ceir y ffenomen hon o bobl ifanc nad ydynt yn cyflwyno eu hunain yn ôl mewn addysg yn y niferoedd a oedd yno cyn i'r pandemig ddechrau. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfres o fesurau i fynd i'r afael â hynny. Rydym wedi buddsoddi £6.5 miliwn mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, oherwydd un o'r ffyrdd gorau o geisio erydu'r nifer hwnnw yw sicrhau ein bod yn cael y sgyrsiau hynny gyda theuluoedd ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w gwneud yn rhan o'r ateb i'r broblem hon. Rydym yn buddsoddi £2.5 miliwn hefyd yn y gwasanaeth lles addysg i ymchwilio mwy i'r achosion hynny lle mae absenoldeb parhaus ac absenoldeb pryd y credwn nad yw'r rhesymau drosto yn dal dŵr o'u harchwilio'n synhwyrol. 

Er mwyn cefnogi hynny i gyd a mynd i'r afael â'r amgylchiadau newydd, mae'r Gweinidog wedi sefydlu tasglu presenoldeb cenedlaethol. Mae hynny'n mynd ymhell y tu hwnt i addysg ei hun. Mae'n cynnwys cynrychiolwyr o'r gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu ac amrywiaeth o sefydliadau cymunedol, a bydd yn defnyddio profiad uniongyrchol rhieni a dysgwyr eu hunain, ac, felly, yn ysgogi cymorth gan bawb sy'n gallu chwarae rhan, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, yn y gwaith o adfer y sefyllfa a oedd gynt yn safonol yma yng Nghymru.

O edrych ar y mater hwn, Prif Weinidog, un o'r pethau a wnaeth fy synnu oedd nad oes cod absenoldeb iechyd meddwl. Mae hyn yn golygu, os yw myfyrwyr i ffwrdd oherwydd problemau iechyd meddwl, eu bod yn cael eu nodi fel rhai absennol yn yr ystyr traddodiadol o ddangos yn ystadegau'r ysgol fel nad yw'r disgyblion yn y dosbarth. Mae'n ymddangos bod hynny, i mi, yn anghysondeb yn y system, a gallai cod o'r fath gynnig cyngor uniongyrchol i'r ysgol ynghylch sut i gefnogi myfyrwyr, oherwydd gwyddom fod iechyd meddwl myfyrwyr ifanc wedi dioddef yn sgil COVID. A wnewch chi ymrwymo heddiw i edrych ar y cynnig hwnnw ac, os nad yw eisoes wedi'i gyfeirio, ei gyfeirio at y tasglu i'w ystyried, fel y gall y canllawiau hynny gefnogi ysgolion yn y pen draw, i ymdrin â'r mater hwn o beidio â chosbi pobl sy'n dioddef â'u hiechyd meddwl ond, mewn gwirionedd, eu cefnogi?

13:45

Wel, a gaf i, yn gyffredinol, gefnogi'r pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud? Fy agwedd i tuag at bresenoldeb yn yr ysgol a dull y Llywodraeth bob amser yw chwilio am ffyrdd y gallwn ni helpu pobl i fynd yn ôl i'r ysgol, nid dull o gosbi, yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, mae unrhyw absenoldeb o'r ysgol yn cael ei gofnodi fel absenoldeb. Boed hynny oherwydd salwch corfforol neu oherwydd cyflwr iechyd meddwl, mae angen ei gofnodi. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod y syniad y mae'r Aelod wedi'i awgrymu y prynhawn yma yn werth ei archwilio. Mae codau eisoes wedi'u rhoi i ysgolion o ran y ffordd orau i ymateb i bobl ifanc y mae eu llesiant meddyliol yn eu rhwystro rhag bod yn yr ysgol. Ond rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn hapus iawn i edrych ar y syniad hwnnw a'i gyfeirio at y tasglu i'w ystyried hefyd. 

A fyddech chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai dirwyon yn y pen draw ddylai fod y dewis olaf wrth gosbi am absenoldeb mewn gwirionedd? Mae angen iddyn nhw fod yna, oherwydd yn amlwg mae rhai pobl yn camddefnyddio'r system, ond yma mae gennym broblem sy'n dal i fodoli yn sgil yr argyfwng COVID yr ydym newydd ei ddioddef. Mae'n braf clywed bod y tasglu wedi'i roi ar waith ac rwy'n ddiolchgar i chi am gyfeirio at y ffaith y gallai'r Llywodraeth ystyried y cynnig ynghylch cod absenoldeb iechyd meddwl. A allwch chi roi syniad o waith y tasglu ac, yn benodol, amserlen y gwaith o gyflawni unrhyw argymhellion y gallai eu cyflwyno? Oherwydd y mae penaethiaid a'r rhai sy'n gweithio ym maes ysgolion yn nodi bod hwn yn fater gwirioneddol sydd, yn anffodus, yn tyfu yn ein hysgolion, nid yn prinhau, a bod angen dirfawr am gymorth. 

Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, i ddweud fy mod yn cytuno â'r pwynt y mae arweinydd yr wrthblaid wedi'i wneud, y dylai dirwyo rhieni fod y dewis olaf ac y dylid eu cadw ar gyfer yr achosion hynny lle mae'n amlwg bod gwrthodiad bwriadol i ganiatáu i'r plentyn hwnnw gael addysg y mae ganddo hawl iddo. Roedd adroddiad diweddar gan bwyllgor dethol Tŷ'r Cyffredin yn ymdrin â'r materion hyn a ddaeth i'r un casgliad yn union, a dyna bolisi Llywodraeth Cymru ac sydd wedi bod yn bolisi drwy gydol cyfnod COVID. Mae disgwyl i'r Gweinidog ddarparu rhagor o fanylion am y tasglu presenoldeb yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd yn dweud mwy am sut y bydd y tasglu hwnnw'n ein helpu i osod cyfeiriad i sicrhau bod blaenoriaethau yn cael eu cytuno ar draws y system yma yng Nghymru ac i'n helpu i ddod o hyd i'r camau gweithredu diriaethol hynny, gan weithio gydag eraill, a fydd yn cynyddu gwelliannau mewn presenoldeb, yn ail-ymgysylltu â'r dysgwyr hynny sydd, am ba bynnag resymau, wedi penderfynu bod yn absennol o addysg, a bydd y Gweinidog yn nodi rhai amserlenni ar gyfer hynny ar yr un pryd. 

Diolch, Llywydd. Nawr, wrth i gynhadledd y Blaid Geidwadol ymddatod ar y diwrnod cyntaf, daeth adroddiadau i'r amlwg fod Llywodraeth y DU yn cael gwared ar HS2 o Ogledd Birmingham i Fanceinion. Nid oedd erioed yn brosiect oedd o fudd i Gymru, wrth gwrs, ond, heb y cysylltiad hwnnw yn Crewe, mae bellach y tu hwnt i unrhyw amheuaeth bod yr hyn y mae Plaid Cymru wedi bod yn ei ddweud yn iawn, mai prosiect ar gyfer Lloegr yn unig yw hwn, gan wella rheilffyrdd Lloegr ar ein traul ni. Nawr, nodaf fod arweinydd y Ceidwadwyr yma yn mynnu bod cyflwyno'r achos dros Gymru i gael ei chyfran deg o gyllid HS2 y tu hwnt i'w radd gyflog. Byddai rhai pobl yn dadlau na ddylai arweinydd y Torïaid yma fod ar unrhyw radd gyflog os nad yw'n credu mai ei fusnes ef yw sefyll dros Gymru, ond dyna ni. Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog yn cytuno â mi bod rheilffyrdd Cymru wedi cael eu tangyllido yn hanesyddol gan Lywodraethau'r DU, ac mae hynny'n Lywodraethau o'r ddau liw, wrth gwrs. Gwn ei fod hefyd yn cytuno â mi y dylid ailddosbarthu HS2 a dylai cyllid canlyniadol ddod i Gymru. Ond, wrth i'r anghyfiawnder economaidd ddod yn fwyfwy eglur, pam y mae'r Prif Weinidog yn credu bod y Prif Weinidog Ceidwadol ac arweinydd Llafur yr wrthblaid yn dal i ddewis anwybyddu hynny?

13:50

Wel, Llywydd, rwy'n credu y byddai'n gynrychiolaeth decach o'r safbwynt ar draws y Senedd i ddweud bod pleidiau ar draws y Siambr wedi bod o blaid sicrhau bod cyllid canlyniadol o HS2 yn dod i Gymru. Mae'n bell o fod yn safbwynt Plaid Cymru yn unig; dyna safbwynt y Llywodraeth, ac yn fwy diweddar dyna safbwynt yr wrthblaid swyddogol yma hefyd. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae arweinydd Plaid Cymru wedi'i ddweud, os na fydd cysylltiad y tu hwnt i Birmingham, yna bydd yr achos simsan dros alw hwn yn ddatblygiad Cymru a Lloegr yn chwalu'n llwyr, ac, ar yr adeg honno, bydd yr achos dros sicrhau cyllid canlyniadol i Gymru yn gryfach fyth. Mae Cymru eisoes ar ei cholled o £270 miliwn o ganlyniad i gamddosbarthu HS2 yn y cyfnod adolygu gwariant presennol. Bydd hwnnw dim ond yn tyfu y tu hwnt i hwnnw oni bai a hyd nes y cywirir y camddosbarthu hwn; dyna yw safbwynt Llywodraeth Cymru, ac mae wedi bod felly dros gyfnod estynedig.

Rwy'n cytuno, ac rwyf eisiau i ni weithio gyda'n gilydd ar hyn. Gwyddom y gallai'r biliynau o bunnau o gyllid canlyniadol HS2 sy'n cael eu dal yn ôl o Gymru gael effaith drawsnewidiol ar ein gwlad, gan gynnwys ar ein system drafnidiaeth ein hunain. Hedfanais i'r Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf, a chymerodd lai o amser nag y gwnaeth i fy merch deithio ar drên o Fangor i Gaerdydd. O ystyried y profiadau ofnadwy o deithio ar y rheilffyrdd yng Nghymru, a adroddir i ni gan ein hetholwyr wythnos ar ôl wythnos, ac o ystyried toriadau mewn bysiau hefyd—a bydd Plaid Cymru yn arwain dadl ar fysiau yfory—ni all yr arian ddod yn ddigon buan. Mae arweinydd y Torïaid, fel y dywedais i, wedi rhoi'r gorau i ymladd dros Gymru, ond, o ystyried bod Keir Starmer hefyd yn gwrthod ymrwymo i roi'r cyllid canlyniadol inni, a gaf i ofyn pa gynnig y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud iddo ar sut y gellid gwella trafnidiaeth yng Nghymru gan ddefnyddio'r arian hwn, oherwydd nid yw Llafur wedi gallu rhoi system drafnidiaeth integredig i ni eto, ond byddai rhywfaint o feddwl cydgysylltiedig ar hyn i'w groesawu'n fawr?

Wel, rwy'n clywed yr hyn a ddywedodd yr Aelod am hedfan i'r Unol Daleithiau; rwy'n gweld bod Canghellor y Trysorlys wedi hedfan i Fanceinion, yn ôl pob tebyg oherwydd na allai ddod o hyd i ffordd o gyrraedd yno ar y trên.

Edrychwch, fel yr eglurais i lawer gwaith wrth arweinydd Plaid Cymru, bydd arweinydd y Blaid Lafur, os bydd Llafur yn llwyddiannus yn yr etholiad cyffredinol, gan arwain y Llywodraeth nesaf, yn pwyso a mesur ystod eang o wahanol flaenoriaethau y bydd pobl o bob rhan o'r Deyrnas Unedig yn eu rhoi i dîm y Trysorlys Llafur, ac rwy'n credu, yn gwbl ddealladwy, nad yw mewn sefyllfa i gytuno bob yn dipyn i nifer o bosibiliadau un ar ôl y llall. Fodd bynnag, gallwch fod yn sicr bod yr achos dros fuddsoddi ychwanegol yng Nghymru, ac yn enwedig yr achos dros sicrhau bod HS2 yn cael ei ddosbarthu'n gywir—a bydd cyfle i wneud hynny, oherwydd bydd ffactorau cymharol trafnidiaeth yn newid pan ddaw'r cyfnod adolygu gwariant cynhwysfawr presennol i ben, felly bydd cyfle i hynny ddigwydd—bod yr achos hwnnw'n cael ei wneud yn rheolaidd a gyda'r math o benderfyniad y byddech chi'n ei ddisgwyl, o ystyried barn gwleidyddion ar draws y Siambr hon.

Yr achos, wrth gwrs, y byddwn i yn ei gyflwyno, yw oherwydd bod yr anghyfiawnder mor glir ynghylch HS2 y dylid gwneud yr ymrwymiad nawr heb unrhyw amwysedd o gwbl.

Mi wnaf i droi at anghyfiawnder arall rŵan: y diffyg rheolaeth sydd gennym ni dros ddŵr. Fel efo trenau, dwi'n meddwl ein bod ni'n talu gormod am wasanaeth sydd ddim digon da pan fo'n dod at ein dŵr ni, a rŵan rydym ni wedi clywed bod biliau ar fin codi. Y gwir ydy bod yn rhaid i ni yng Nghymru gael rheolaeth dros ein dŵr i'n galluogi ni i reoli'r dŵr yn well, mynd i'r afael â phroblemau carthffosiaeth, sicrhau lefel deg o filiau, mynnu pris teg am y 600 miliwn litr o ddŵr sydd yn mynd i gwmnïau preifat yn Lloegr bob dydd. Yn anffodus, mae diffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru yn ein dal ni nôl yn fan hyn, a dyw'r cais ddim wedi cael ei wneud i gael y pwerau yma, ac, yn y cyfamser, a dyw’r oedi ddim yn helpu, y cwsmer sydd allan o boced—cymaint â £120 yn fwy ar filiau erbyn 2030. Ydy'r Prif Weinidog yn barod i roi sicrwydd iddyn nhw na fydd yna ragor o oedi ar y cais am ddatganoli pwerau, fel ein bod ni'n gallu gwneud y buddsoddiad sydd ei angen a chadw biliau i lawr?

13:55

Wel, Llywydd, dwi'n meddwl bod arweinydd Plaid Cymru yn cymysgu nifer o bethau gyda'i gilydd yna. Ces i gyfle i gwrdd â phrif weithredwr Dŵr Cymru yr wythnos diwethaf a chlywed oddi wrthyn nhw am y cynlluniau sydd gyda nhw i fuddsoddi mewn pethau sy'n bwysig i bobl yma yng Nghymru, fel rŷn ni'n clywed ar lawr y Senedd wythnos ar ôl wythnos. Dydy hwnna ddim yn dibynnu ar bwerau o gwbl. Mae pwerau yn gallu gwneud rhai pethau, ond dydy pwerau ddim yn berthnasol i'r problemau mae Dŵr Cymru ac Hafren Dyfrdwy yn eu hwynebu i gael digon o arian i wneud popeth rŷn ni eisiau iddyn nhw ei wneud yma yng Nghymru heb gael effaith ddrwg ar bobl sy'n talu biliau. Ond, ar ôl y dadleuon yma ar lawr y Senedd, mae'r Llywodraeth wedi dweud ein bod ni yn mynd ar ôl y pwerau sydd yna yn Neddf 2017. Mae swyddogion yn gwneud y gwaith nawr. Mae'n waith manwl, achos mae'n eithaf cymhleth i dynnu'r pwerau yna lawr i Gymru, ond mae'r broses wedi dechrau. Ar ôl popeth roedd y Llywodraeth wedi'i wneud, mae'r Gweinidog wedi'i ddweud ar lawr y Senedd, mae'r broses yna yn bwrw ymlaen.

Cyllid Rheilffyrdd

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol cyllid rheilffyrdd yng Nghymru? OQ60024

Diolch i'r Aelod am hynna Llywydd. Rydyn ni'n gwneud buddsoddiadau enfawr yn ein rheilffyrdd—£800 miliwn mewn trenau newydd a thros £1 biliwn mewn trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd. Ond ni allwn barhau i fuddsoddi heb gyllid teg gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a dim ond un enghraifft yw'r methiant i ddarparu cyllid canlyniadol o brosiect HS2 Lloegr o fethiant ehangach i fuddsoddi yng Nghymru.

Diolch, Prif Weinidog. Mae Cymru ar ei cholled ar bob cam o ffiasgo HS2, a nawr mae'n cael ei adrodd y bydd llinell Manceinion yn cael ei dileu. Mae hynny'n golygu na fydd y trac hwn yn rhedeg unrhyw le yn agos i'n cenedl, ac na fydd o fudd i ni o gwbl. Ond, fel yr ydym eisoes wedi clywed y prynhawn yma, bydd hyn yn dal i gostio biliynau o bunnau i ni. Pam ar y ddaear y dylem ni fod yn talu tuag at y prosiect ffuantus hwn? Gellid defnyddio dim ond rhywfaint o'r biliynau hynny o bunnau a wrthodwyd i ni i drydaneiddio llwybrau rheilffyrdd Cymru yn gyfan gwbl a sicrhau bod gennym rwydwaith bysiau sy'n gweithredu'n llawn i wasanaethu ein cymunedau. Ond yn hytrach rydym yn llai cysylltiedig nag o'r blaen, ar ein colled, heb opsiynau. Nawr, rwyf wedi clywed eich atebion cynharach ar hyn, Prif Weinidog, ond a fyddech chi'n ymrwymo y byddwch chi'n cyflwyno'r achos dros roi biliynau o bunnau i Gymru i bwy bynnag sydd yn Stryd Downing y flwyddyn nesaf? A yw hynny'n ymrwymiad y byddwch chi'n ei wneud, oherwydd ni all Cymru fforddio cael ei thwyllo'n gywilyddus fel hyn?

Wel, wrth gwrs, Llywydd, rwy'n ymrwymo i gyflwyno'r achos hwnnw a'i wneud mor bwerus ag y mae Aelodau ar lawr y Senedd yn ei wneud yn rheolaidd. Mae Delyth Jewell yn iawn, gyda'r arian a ddylai fod wedi dod i Gymru, y gallem fod wedi gwneud hyd yn oed mwy i sicrhau trydaneiddio gwasanaethau rheilffyrdd yma yng Nghymru. Bydd hi'n gwybod beth yw'r ffigurau: mae 35 y cant o'r rheilffyrdd yn cael eu trydaneiddio ar draws y Deyrnas Unedig; mae'n debycach i 45% yn Lloegr, a 2% yng Nghymru. O dan stiwardiaeth Llywodraeth bresennol y DU, mae 26 km o'r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn cael eu trydaneiddio. Pan fyddwn yn cwblhau trydaneiddio'r rheilffyrdd, y rhannau hynny o'r system sydd o dan reolaeth y Senedd hon, byddwn wedi trydaneiddio 170 km drwy'r system honno a phethau eraill a wnawn yng Nghymru. Ni allai'r gwrthgyferbyniad fod yn fwy amlwg, a phe bai'r arian hwnnw wedi dod i Gymru, wrth gwrs mae mwy y gallem ac y byddem wedi ei wneud, a dyna pam rwy'n mynd ati i gyflwyno'r achos pryd bynnag y caf y cyfle hwnnw.

Prif Weinidog, mae cysylltedd rheilffyrdd a gwasanaethau ledled Cymru yn ddewis cwbl annigonol yn lle defnyddio ceir. Dim ond yr wythnos diwethaf fe wnaeth eich Llywodraeth ymrwymo'n gryfach a gwrthod gwrthdroi eich terfyn cyflymder diofyn cyffredinol 20 mya trychinebus. Mae sibrydion yn rhemp nawr eich bod yn bwriadu lleihau terfynau cyflymder ledled Cymru i uchafswm o 50 mya. A wnewch chi ddiystyru hyn?

Rwy'n ei ddiystyru heddiw, fel y gwnes i yr wythnos diwethaf. Edrychaf ymlaen ati hi a'i chyd-Aelodau yn adrodd hynny drwy'r holl allfeydd sydd ar gael iddyn nhw, fel y gellir dod â'r sibrydion sy'n rhemp i ben. Nid oes cynlluniau o'r fath yn bodoli. Ni fydd yn digwydd. Gallwch chi helpu i sicrhau bod pobl yn deall hynny.

Mae'r gwasanaeth rheilffyrdd yn fy etholaeth i wedi cael ei drawsnewid ers i mi gael fy ethol gyntaf yn 2016, ac mae'n cael ei wella'n aruthrol, gyda'r trenau newydd yn gwasanaethu a thrydaneiddio ar y gweill. Mae un gwasanaeth yr hoffem ei weld yn cael ei ddatblygu—ac rwyf wedi ysgrifennu at Trafnidiaeth Cymru amdano yr wythnos hon—sef y gwasanaeth posib rhwng Nelson ac Ystrad Mynach. Ac rwy'n credu y dylwn ddatgan buddiant fel cyn-drigolyn Ystrad Mynach ac un o drigolion presennol Nelson. Yn sicr, byddai'n ddefnyddiol i lawer o bobl sy'n byw yn fy nghymuned. Fe'i cynigiwyd mewn gwirionedd ym margen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd fel cynllun rheilffordd â blaenoriaeth ar gyfer 2020-21, fel cynllun arfaethedig, a fyddai'n aros ym mharc busnes Tredomen ac yn Nelson. Mae llinell cludo nwyddau yn bodoli eisoes yno ac yn weithredol. Felly, rwy'n gofyn i Trafnidiaeth Cymru drafod hyn gyda mi. Pa gymorth pellach y gall Llywodraeth Cymru ei roi i'r gwasanaeth hwnnw a fyddai'n cysylltu dwyrain a gorllewin yn fy etholaeth?

14:00

Diolch i Hefin David am hynna. Mae'n cyflwyno achos personol cryf dros y buddsoddiad pellach mewn gwasanaeth o'r fath a'r gwir yw, Llywydd, bod datblygiadau posibl o ran ailagor rheilffyrdd mewn sawl rhan o Gymru, ac mae llawer ohonom yn ein rhinweddau etholaethol yn gwneud yr achos hwnnw. Mae gwelliannau i'r llinell honno, fel y dywedodd yr Aelod, yn rhan o ddyhead tymor hwy ar gyfer y rhanbarth, fel y nodir yng nghynllun trafnidiaeth presennol prifddinas-ranbarth Caerdydd. Mae'n rhaid i mi fod yn realistig gyda'r Aelodau yma: mae mwy o gynlluniau nag sydd o gronfeydd ac, yn y pen draw, bydd yn rhaid blaenoriaethu hynny i gyd, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn cyflwyno ei achos pwerus pam y byddai cysylltiad Ystrad Mynach-Nelson yn uchel ar y rhestr honno.

Mae pobl ym Mlaenau Gwent yn croesawu'n fawr y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud yn llinell Glyn Ebwy, wrth gwrs, y £70 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu i sicrhau bod gennym ddau drên yr awr yn mynd i lawr y llinell honno. Ond, wrth gwrs, yr hyn y mae hynny'n ei wneud yw pwysleisio'r prinder buddsoddiad sydd gennym gan Lywodraeth y DU. Y gwir drasiedi ynghylch HS2 yw bod pawb yma yn gwybod pe bai angen y buddsoddiad hwnnw yn Llundain, yna byddai'r arian yn cael ei ganfod. Byddai'r arian yn cael ei ganfod pe bai ei angen yn Llundain, ac nid yw'n ymwneud ag un llinell rhwng Birmingham a Manceinion yn unig; mae'n ymwneud ag uniondeb y Deyrnas Unedig. A'r gwir amdani yw nad oes gan y Ceidwadwyr ddiddordeb yn uniondeb y Deyrnas Unedig. Yr un peth sydd wedi bod yn drawiadol dros y dyddiau diwethaf yw'r tawelwch llwyr gan y Ceidwadwyr Cymreig. Mae dadl yn cael ei chynnal ar reilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr. Does neb yn y Blaid Geidwadol yn sôn am Gymru, ac os ydych chi eisiau trosiad am y 100 mlynedd diwethaf, mae'n debyg mai hwn yw e. Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru barhau i gamu i'r adwy pan fydd Llywodraeth Dorïaidd y DU yn siomi Cymru, ac a wnaiff Llywodraeth Cymru barhau i ddadlau i sicrhau bod uniondeb y Deyrnas Unedig yn cael ei gydnabod pan fydd y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud?  

Llywydd, mae'r Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau pwerus. Gadewch i mi ateb dau ohonyn nhw. Yn y cyfnod cyn i HS2 ddod yn destun dadl fel y mae heddiw, yn nhymor y Senedd rhwng 2011 a 2016 cyfrannodd Llywodraeth Cymru tua £362 miliwn at wariant ehangach y sector cyhoeddus ar reilffyrdd, ac ar yr un pryd buddsoddwyd dros £220 miliwn gennym hefyd mewn gwella seilwaith rheilffyrdd. A chofiwch, nid ni yw'r prif ysgogydd o ran buddsoddi mewn rheilffyrdd. Yn y cyfnod hwnnw rwyf—. Os adiwch y ddau ffigur hynny at ei gilydd, mae'n dod i £582 miliwn sy'n cael ei wario drwy gronfeydd Cymru. Yn yr un cyfnod, buddsoddodd Llywodraeth y DU £198 miliwn ar eu holl gyfrifoldebau yng Nghymru. Felly, wrth gwrs, mae'r pwynt y mae Alun Davies yn ei wneud ynglŷn â hyn sef ei fod yn esgeulustod hirdymor o fuddiannau Cymru yn wir.

Gadewch i mi gymryd y pwynt a wnaeth am uniondeb y Deyrnas Unedig hefyd, Llywydd, oherwydd mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cryn amser ac ymdrech i ddarparu tystiolaeth a gwybodaeth i adolygiad cysylltedd y DU, dan arweiniad Peter Hendy. Adolygiad oedd hwn a sefydlwyd gan—wrth gwrs, mae hyn sawl Prif Weinidog yn ôl—Llywodraeth Geidwadol y DU. Aeth yr Arglwydd Terry Burns, fel rhan o'i waith ar rwydwaith rheilffyrdd y de-ddwyrain yng Nghymru, a rhoddodd dystiolaeth yn uniongyrchol i adolygiad Hendy. Beth ydym ni wedi clywed amdano, Gweinidog? I ble mae wedi mynd? Ble mae'r uchelgeisiau a nodwyd yn yr adolygiad hwnnw, yr oedd gennym ddiddordeb uniongyrchol ynddynt oherwydd ein bod yn dymuno buddsoddi yn yr ail reilffordd sy'n cysylltu de Cymru â Lloegr? I ble mae'r adolygiad wedi diflannu? Rwyf wedi dweud, rwy'n cofio, o'r blaen ar lawr y Senedd wrth arweinydd yr wrthblaid fod hwn yn brawf gwirioneddol o Lywodraeth Geidwadol, i roi rhywfaint o fuddsoddiad gwirioneddol y tu ôl i'r rhethreg y mae'n ei ddefnyddio am y Deyrnas Unedig. Pe baem yn gwybod bod Cymru'n mynd i gael ei chyfran o'r buddsoddiad hwnnw yn yr adolygiad cysylltedd hwnnw, byddai'n mynd yn bell i ateb rhai o'r pwyntiau y mae Alun Davies wedi'u gwneud. Yn lle hynny, dim ond distawrwydd llwyr sydd gennym.

14:05
Codi Tâl ar Ddefnyddwyr Ffyrdd

4. Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gyflwyno codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd i fodurwyr? OQ60031

Llywydd, mae pwerau i weithredu codi tâl cyffredinol ar ddefnyddwyr ffyrdd ac i gadw refeniw yn nwylo Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU. Gall Gweinidogion Cymru roi pwerau i awdurdodau lleol weithredu cynlluniau lleol. Does dim cynlluniau i gyflwyno taliadau i fodurwyr ar gefnffyrdd a reolir gan Lywodraeth Cymru.

Prif Weinidog, mae'n ddrwg gennyf, ond rwy'n credu eich bod yn anonest â mi, ac yn wir gyda'n hetholwyr. Yn ôl eich 'Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth 2022 i 2027' eich hun, fe ddywedoch chi

'Byddwn hefyd yn cymell pobl i roi'r gorau i ddefnyddio ceir preifat',

a bod gennych

'ymrwymiad i ddatblygu fframwaith codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd.'

Ym Mil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), mae pob bwriad i gyflwyno cynllun codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd. Yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi wrth fy nghyd-Aelod, Andrew R.T. Davies mai dim ond sefyllfa wrth gefn ydyw. Felly, sut y gall fod, pan fyddwch chi'n ei gyflwyno fel darn o gyfraith? Mae Adran 2(b) hyd yn oed yn datgan bod yn rhaid i chi

'ddarparu amcangyfrif o enillion net y cynllun' 

dros y pum mlynedd nesaf, felly sut allwch chi wadu eich bod chi'n bwriadu cael refeniw ar draul ein modurwyr? Onid yw hyn yn nodweddiadol o'ch Llywodraeth chi, dweud un peth a gwneud peth arall?

Mae'n bryd i chi fel Llywodraeth fod yn fwy onest a diffuant. O ystyried nifer y llofnodion ar ddeisebau sy'n dod i law ar hyn o bryd yn sgil cyfreithiau rydych chi wedi'u cyflwyno, byddwn wedi gobeithio y byddai gwersi wedi'u dysgu. Felly, pa gamau ymarferol ydych chi'n eu cymryd nawr, fel ein Prif Weinidog, i gefnu ar eich ymrwymiadau eich hun i godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yma yng Nghymru? Diolch.

Wel, Llywydd, heb os, mewn wythnos neu ddwy, bydd un o'i chyd-Aelodau yn dweud wrthyf fod sibrydion yn rhemp y bydd codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru, er gwaethaf y ffaith i mi ateb cwestiwn yr wythnos diwethaf gan ei gwneud yn glir nad oes cynlluniau o'r fath, ac ailadroddais hynny i'r Aelod y prynhawn yma, ac ni allai'r Gweinidog fod wedi bod yn gliriach o flaen y pwyllgor.

Gadewch i mi geisio helpu'r Aelod os gallaf, oherwydd efallai y bydd hi'n cofio—efallai y bydd hi'n cofio—bod achos llys wedi'i ddwyn yn erbyn Llywodraeth y DU, pryd yr oedd Llywodraeth Cymru hefyd yn rhan ohono, a lle canfu'r Uchel Lys nad oedd cynlluniau Llywodraeth y DU a chynlluniau Llywodraeth Cymru yn bodloni gofynion y gyfarwyddeb ansawdd aer, ac felly nid oedd gennym gynllun cydymffurfio. Mae'n rhaid i ni gael cynllun cydymffurfio. Mae'n ofyniad cyfreithiol, a'r gofyniad cyfreithiol yw cyflwyno cynllun cydymffurfio yn yr amser byrraf posibl. Mae hynny'n golygu, pan fyddwch yn cyflwyno mesurau, bydd rhaid i chi, ar yr un pryd, nodi beth mae'r gyfraith yn eu galw'n fesurau rhagofalus a ddargedwir rhag ofn—rhag ofn—nad yw'r mesurau rydych chi'n eu rhoi ar waith yn llwyddo i fodloni gofynion y gyfraith.

Fel yr eglurais i arweinydd yr wrthblaid yr wythnos diwethaf, byrdwn y Bil o flaen y Senedd yw gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael â'r broblem honno heb fod angen troi at y mesurau rhagofalus hynny a ddargedwir. Mae'n rhaid i chi eu cael nhw yno. Mae'n rhwymedigaeth gyfreithiol, a bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn bodloni'r rhwymedigaeth gyfreithiol honno. Ond ein bwriad ni, drwy'r holl fesurau eraill y mae'r Bil yn eu nodi, yw llwyddo i ymdrin â mesurau ansawdd aer—mesurau ansawdd aer yr wyf wedi clywed Aelodau'r gwrthbleidiau yma'n aml yn dweud wrthyf eu bod yn bwysig iawn, a bod angen i ni wneud mwy. Fe wnawn ni'r pethau hynny. Mae'r camau rydym eisoes yn eu cymryd, gan gynnwys, er enghraifft, cyfyngiad o 50 mya ar rai ffyrdd lle mae ansawdd aer ar ei waethaf, yn llwyddo, a byddwn yn gwneud mwy yn y ffordd honno. Mae'r drefn i godi tâl, fel yr eglurais i yr wythnos diwethaf, yn fesur i droi ato, pe na bai'r mesurau eraill hynny'n llwyddo. Rydym yn bwriadu iddynt lwyddo.

Felly, dyma'r ail gyfle y prynhawn yma, Llywydd, i Aelodau'r Blaid Geidwadol sicrhau bod gan bobl y tu allan i'r Siambr hon wybodaeth gywir, fel nad oes angen i'r sibrydion hynny gylchredeg. Gadewch i mi ailadrodd yr ateb eto, fel y gall yr Aelod sicrhau ei bod yn dweud wrth bobl sy'n cysylltu â hi beth yw'r gwir sefyllfa. Does dim cynlluniau—dyma'r ateb, dyma beth sydd angen i chi ddweud wrth bobl pe bydden nhw'n gofyn i chi—does dim cynlluniau, dim cynlluniau i gyflwyno taliadau i fodurwyr ar gefnffyrdd a reolir gan Lywodraeth Cymru. Dylai hynny roi diwedd ar y sibrydion, Llywydd.

14:10

O ystyried nad oes gennym unrhyw gynllun codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yng Nghymru, pa ysbrydoliaeth ydych chi'n ei gymryd o Loegr sy'n cael ei redeg gan y Torïaid lle mae ganddyn nhw nifer fawr o dollffyrdd a chynlluniau tâl atal tagfeydd?

Wel, mae hwnna'n bwynt teg iawn y mae'r Aelod yn ei wneud. Mae yna gynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, ac maen nhw i'w gweld dros y ffin lle mae'r wrthblaid wrth y llyw. Rydyn ni'n astudio'r pethau hynny, wrth gwrs rydyn ni'n astudio'r pethau hynny. Rydych chi eisiau gweld a oes unrhyw wersi y gallem eu dysgu o ble mae'r Blaid Geidwadol wrth y llyw. Ar hyn o bryd, nid oes yr un o'r gwersi hynny'n ein harwain at gynllun i gyflwyno codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd ar gefnffyrdd a reolir gan Gymru.

Prif Weinidog, dros y dyddiau diwethaf rydym wedi cael cyfres o ymosodiadau gan y Ceidwadwyr ar bolisïau nad ydynt yn bodoli, ac eithrio yn eu meddyliau eu hunain. Mae'n debyg bod y Ceidwadwyr yn mynd i atal y 'dreth gig'. Pa dreth cig? Maen nhw'n mynd i gael gwared ar rannu ceir gorfodol. Pa rannu ceir gorfodol? Ym Manceinion, yn y gynhadledd, mae'r anwiredd llwyr ynghylch terfyn cyflymder 20 mya cyffredinol yng Nghymru wedi cael ei ailadrodd fel corws o barotiaid wedi cael lobotomi. Ac mae'r ffuglen ddiweddaraf hon yng ngwlad hud a lledrith y Ceidwadwyr yn creu darlun ffug o dollbyrth codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, wedi'u hatgyfodi ar bob ffordd yng Nghymru, yn disgwyl byddin o Becas newydd i orchfygu'r porthorion. Unwaith eto, mae'n llwyth o hen sothach gan blaid sy'n plymio o ran hygrededd ac yn yr arolygon barn. Ond, a yw'n rhannu fy anobaith bod Plaid Geidwadol, a oedd yn ymddangos fel pe bai wedi symud yn anfodlon tuag at y consensws gwyddonol, bellach yn chwarae rhyfeloedd diwylliannol gyda materion mor hanfodol bwysig â newid hinsawdd ac ansawdd aer?

Wel, rwy'n cytuno â Huw Irranca-Davies, Llywydd, mai dyma weithredoedd taer Llywodraeth a phlaid sy'n gwybod ei bod wedi colli hyder pobl y Deyrnas Unedig, a lle mae dirfawr angen etholiad er mwyn rhoi'r dechrau newydd sydd ei angen ar bobl yn y wlad hon. Rwy'n credu weithiau, serch hynny, Llywydd, fod pethau hyd yn oed yn waeth na'r safbwynt a nodwyd gan Huw Irranca-Davies. Byddai unrhyw un a glywodd Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU ddoe yn rhoi cred a hygrededd i'r damcaniaethwyr cynllwyn hynny sy'n casglu o gwmpas y syniad bod cymdogaethau 15 munud yn ymgais i reoli'r ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau, yn gwybod bod Gweinidogion yn barod i symud i feysydd eithaf tywyll. Mae'r bobl sy'n hyrwyddo'r syniad hwnnw sy'n seiliedig ar gynllwyn ac nid ar ffeithiau, rwy'n credu, yn gwneud anghymwynas fawr. Maent yn gwneud anghymwynas fawr â dadl resymegol yn y wlad hon. Maen nhw'n gwybod nad oes unrhyw beth ynddo, ond maen nhw'n barod i ymchwyddo'r math hwnnw o deimlad er mwyn, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, ceisio mantais rhyfel diwylliannol bach i liniaru eu hanobaith.

14:15
Cadernid Cymunedol

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cadernid cymunedol? OQ60033

Llywydd, ymhlith y camau sydd wedi'u cymryd gan Lywodraethau Llafur olynol Cymru mae'r gronfa cyfleusterau cymunedol, cronfa sydd wedi'i chynnal drwy gydol oes datganoli sydd wedi cefnogi cyfleusterau newydd mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae ymchwil newydd gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng seilwaith cymunedol a chadernid. Ac er bod y darlun yn gymhleth, un o'r pethau amlycaf i mi oedd y cysylltiad rhwng amddifadedd a chadernid cymunedol, a'r ffaith bod gan y Cymoedd y gyfran uchaf o'r hyn a elwir yn ardaloedd 'llai cadarn' yng Nghymru. Prif Weinidog, gwn fod cryfhau cadernid cymunedau ledled Cymru yn flaenoriaeth allweddol i'ch Llywodraeth, er nad yw'n cael ei helpu gan gyhoeddiadau yng nghynadleddau pleidiau eraill sy'n cynnig penawdau, ond lle mae'r print mân yn dangos nad oes unrhyw gymorth o gwbl mewn gwirionedd. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymateb i'r chwe argymhelliad allweddol yn yr adroddiad hwn ac i gynnig y cymorth gwirioneddol sydd ei angen ar ein cymunedau ni?

Diolch i Vikki Howells am hynny, Llywydd. Rwy'n nodi'r cyfeiriad y mae hi'n ei wneud at y 'fenter trefi' fel y'i gelwir a gafodd ei chyhoeddi fel rhan o'r cyhoeddusrwydd ar gyfer cynhadledd y Blaid Geidwadol. Mae Vikki Howells yn hollol gywir, Llywydd; dyna'r union fath o gyhoeddiad sy'n tanseilio ymdrechion i adeiladu cadernid cymunedol, oherwydd mae'r bwlch rhwng y pennawd a'r realiti mor fawr. Yn gyntaf oll, Llywydd, 'menter trefi' oedd y pennawd bras a ddefnyddiwyd, ac eto roedd yn cynnwys dinas Wrecsam. Mae'n debyg nad oedd y swyddfa ganolog wedi cael y memo yn esbonio bod Wrecsam wedi dod yn ddinas o dan eu goruchwyliaeth nhw. Yna dywedodd y pennawd y byddai £20 miliwn ar gyfer pob un o'r trefi hyn. Mae'n rhaid i chi graffu ar y print mân, on'd oes e, i ganfod bod hynny'n £20 miliwn dros 10 mlynedd, ac o'r £20 miliwn, pe baen nhw yno i'w roi, nad ydyn nhw, wrth gwrs,  yn credu y byddan nhw, fod £5 miliwn yn refeniw. Mae'r gweddill yn wariant cyfalaf. Does dim syndod bod pobl yn y cymunedau hynny yn teimlo'r bwlch rhwng y ddealltwriaeth sydd gan bobl ar lawr gwlad o'u hanghenion—gwnaeth arweinwyr awdurdodau lleol, gyda llaw, ddysgu am y buddsoddiad drwy ddarllen papur newydd, mae'n warthus mewn gwirionedd—a'r pennawd sydd wedi dod o Whitehall, sy'n dangos yn llwyr sut mae modd i gadernid cymunedol gael ei danseilio yn hytrach na'i gryfhau.

Mae'r adroddiad y cyfeiriodd yr Aelod ato yn adroddiad newydd pwysig, rwy'n cytuno â hynny. Mae'n cynnwys chwe argymhelliad. Yn ddiau, bydd rhai ohonyn nhw'n crisialu yn ystod yr wythnosau sydd i ddod—er enghraifft, ei syniad o ymdrin â'r gronfa asedau segur. Byddwn ni'n clywed gan awdurdodau'r Loteri Genedlaethol, rwy'n credu, yn ystod yr wythnosau nesaf, am y cynlluniau sydd ganddyn nhw i ddefnyddio'r gronfa honno yma yng Nghymru. Byddwn ni'n darllen yr adroddiad yn ofalus ac yn gweld pa wersi eraill y gallai fod ar gyfer ychwanegu at y camau y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn eu cymryd i wella cadernid cymunedol yng Nghymru.

Prif Weinidog, rwy'n awyddus iawn i weld cadernid cymunedol yn gwella o ran rhwydweithiau ynni lleol, ac rwy'n awyddus iawn bod pŵer sy'n cael ei gynhyrchu'n lleol yn cael ei ddefnyddio'n lleol. Wrth gwrs, byddwn ni'n gweld galw cynyddol am bŵer, a byddwn ni'n gweld mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fferm, hefyd, y mae angen eu cefnogi. Mae cynigion yn fy etholaeth i fy hun ar hyn o bryd ar gyfer peilonau dellt mawr ar linell uwchben 132 kV trwy ddyffryn Efyrnwy, wedi'i chysylltu â'r grid yn Swydd Amwythig. Wrth gwrs, bydd y Prif Weinidog yn cofio'n dda ar yr adeg y cafodd ef a minnau ein hethol, y gwrthwynebiad mawr yn y canolbarth i brosiect cysylltu'r canolbarth, a achosodd gryn bryder oherwydd y tirweddau hardd, wrth gwrs, sydd gan y canolbarth. Yn yr ymgynghoriad—a gallaf weld ar hyn o bryd—mae'r cynnig presennol hwn yn ymwneud â chymryd pŵer allan o gymuned, yn hytrach na dod â phŵer i mewn i gymuned. Roeddwn i'n awyddus iawn i weld y datganiad ysgrifenedig ar gyhoeddi adroddiad 'Gridiau Ynni'r Dyfodol i Gymru' ym mis Gorffennaf, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Byddwn i'n ddiolchgar, Prif Weinidog, am eich asesiad o'r cydbwysedd cywir rhwng creu'r seilwaith mawr hwnnw, sy'n tynnu pŵer allan o gymunedau, a rhwydweithiau ynni lleol, sy'n helpu i ddarparu ynni lleol ac ynni adnewyddadwy ar raddfa fach ar gyfer trefi a phentrefi yn lleol, yn hytrach na phrosiectau seilwaith mwy o faint, a diddymu'r angen am y rheiny. 

14:20

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn pwysig, a'r ateb, yn y diwedd, yw bod yn rhaid i chi gael cydbwysedd rhwng y ddau beth hynny. Mae rhannau o Gymru y bydd eu hangen arnon ni, yn y dyfodol, i wneud eu cyfraniad at anghenion cenedlaethol ehangach. Yr anhawster yn hyn o beth yw nad oes gennym ni grid cenedlaethol sy'n addas at y diben hwnnw, ac felly, mae risg yn y pen draw y bydd peilonau yn cael eu creu er mwyn cludo ynni o'r man lle y caiff ei gynhyrchu i'r man lle mae'r grid cenedlaethol yn gallu ei gymryd.

Polisi Llywodraeth Cymru yw y dylai gael ei drosglwyddo o dan y ddaear, nid uwchben y ddaear. Ond bydd y trosglwyddo hwnnw'n bwysig, ac mae rhannau o Gymru, eisoes, yr ydym ni'n gwybod—gwynt alltraeth yn y gogledd, er enghraifft—sy'n gwneud y cyfraniad hwnnw at anghenion cenedlaethol ehangach. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hynny'n dderbyniol mewn cymunedau, mae perchnogaeth gymunedol o ran cynhyrchu ynni yn rhan bwysig o'r ffordd yr ydym ni'n perswadio pobl mai dyna'r ffordd orau y gallan nhw helpu i wneud y cyfraniad cenedlaethol hwnnw, fel bod ynni at ddibenion cymunedol.

Mae gennym ni uchelgais i gynyddu canran yr ynni sy'n cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy yng Nghymru sy'n eiddo i'r gymuned. Rydym ni wedi gwneud cynnydd sylweddol ar hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a byddwn ni'n gwneud mwy yn y dyfodol. Drwy ddatblygu'r modelau hynny a pherswadio datblygwyr mawr i gynnig elfen gymunedol ym mherchnogaeth yr ynni sy'n cael ei greu yn yr ardaloedd hynny, byddwn ni'n gwneud mwy, rwy'n credu, i berswadio'r cymunedau hynny bod gwneud y cyfraniad hwnnw at anghenion cenedlaethol hefyd o fudd iddyn nhw'n lleol hefyd.

Dydw i ddim yn credu bod cael y cydbwysedd cywir yn hawdd mewn fformiwla gyffredinol. Mae'n debyg y bydd yn rhaid i chi fynd i'r afael â hynny o dan amgylchiadau penodol pob datblygiad newydd. Ond mae'r pwyntiau y mae'r Aelodau yn eu gwneud yn bwysig, ac yn fy marn i, maen nhw'n cael eu hadlewyrchu yn y dull gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymryd.

Effaith Economaidd-gymdeithasol Polisïau

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwerthuso effaith economaidd-gymdeithasol ei pholisïau yng Ngogledd Cymru? OQ60006

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio canllawiau Llywodraeth y DU—y Magenta Book, fel y'i gelwir—fel sail ar gyfer gwerthuso diweddariadau polisi economaidd-gymdeithasol. Caiff hynny ei gefnogi gan ymchwil annibynnol a gwerthuso polisïau sydd wedi'u mabwysiadu yn y gogledd ac mewn mannau eraill.

Diolch. Fel y gwnaeth etholwr ddweud mewn e-bost bythefnos yn ôl o ran y trothwy 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau:

'Mae Llywodraeth Cymru yn dweud yr un hen beth. Nid oes yr un o'u datganiadau yn seiliedig ar ffeithiau. Mae pob un wedi cael ei lunio i ategu'r rhethreg.'

O ran yr effaith economaidd-gymdeithasol, mae arolwg a gafodd ei gomisiynu gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality a Chymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU eisoes yn dangos y bydd llai na 25 y cant o hunanddarparwyr Cymru yn cyrraedd y trothwy yn y flwyddyn hon o alw meddal, morgeisi uwch ac argyfwng costau byw, er bod dros 70 y cant wedi dweud eu bod yn disgowntio i geisio ei gyflawni.

Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r perchennog busnes bach gwyliau dilys yn sir Ddinbych, a ddywedodd mewn e-bost:

'Rydyn ni wedi penderfynu osgoi colli rhagor o arian, achub yr hyn sydd ar ôl o'n hiechyd meddwl a chau',

ac i'r perchennog busnes bach hunanddarparu dilys yn sir y Fflint, y mae ei eiddo nawr ar y farchnad, a ddywedodd mewn e-bost:

'Mae nifer o fenthycwyr mawr wedi dweud na fydden nhw'n darparu cymorth morgeisi, a fyddai'n cael effaith fawr ar allu pobl i werthu eu heiddo'? 

Dyma ddwy enghraifft, yn anffodus, ymhlith llawer yr wyf i'n eu cael. 

Mae polisi Llywodraeth Cymru yno am reswm. Mae yno i wahaniaethu'n gywir rhwng llety gwyliau sy'n cael eu trefnu ar sail fasnachol a'r rhai sy'n disgyn o dan drothwy masnachol. Mae nifer y diwrnodau y mae'n rhaid i eiddo fod ar gael i'w osod, a nifer y diwrnodau y mae'n rhaid ei osod, yno i wneud y gwahaniaeth hwnnw'n glir. 

Os ydych chi'n fusnes, yna mae'n rhesymol eich bod chi'n gosod eich eiddo am y nifer o ddiwrnodau sydd eu hangen arnom ni nawr yng Nghymru. Os na fyddwch chi'n gwneud hynny, nid yw hynny'n golygu na allwch chi barhau i osod eich eiddo, mae'n golygu nad ydych chi'n elwa ar ryddhad ardrethi busnes a fyddai ar gael i chi fel arall; rydych chi'n talu'r dreth gyngor fel pawb arall ac rydych chi'n gosod eich eiddo am lai o ddiwrnodau. Nid oes dim yn annheg am hynny. Yr hyn ydyw, mewn gwirionedd, yw ei fod yn deg i bob trethdalwr arall.

14:25
Gofal Iechyd Ataliol

7. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu mesurau gofal iechyd ataliol yn y gyllideb sydd i ddod? OQ60018

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i fesurau ataliol mewn gwasanaethau gofal iechyd. Yfory, er enghraifft, byddwn ni'n ychwanegu at ein harlwy o wasanaethau sgrinio hynod lwyddiannus pan fydd y rhaglen sgrinio'r coluddyn yn cael ei hehangu i gynnwys pobl 51 i 54 oed am y tro cyntaf yng Nghymru.

Diolch am yr ateb hwnnw, Prif Weinidog. Does dim amheuaeth bod hi'n amser anodd i gyllid cyhoeddus. Er bod gennym ni'r economi sy'n perfformio orau yn y G7, mae trethi, fel cyfran o incwm, wedi codi i'w lefel uchaf erioed. Yn anffodus, mae cost y pandemig, ynghyd ag ymdrechion y Llywodraeth i ffrwyno'r argyfyngau ynni a chostau byw, yn golygu bod dyled genedlaethol y DU yn £2.5 triliwn, sy'n cyfateb i 101 y cant o gynnyrch domestig gros. Felly, mae'n rhaid gwneud dewisiadau anodd, yr wyf i'n derbyn hynny. Fodd bynnag, gallwn ni ddim caniatáu i feddylfryd tymor byr ddylanwadu ar ein penderfyniadau. Gall gwariant ar fesurau ataliol ym maes iechyd arbed miliynau yn y tymor hir. Rwyf i wedi cael gwybod mai un o'r rhaglenni sy'n debygol o gael ei diddymu yw rhaglen atal diabetes Cymru gyfan. Prif Weinidog, mae'r rhaglen hon yn gweithio, gyda 14 o'r 16 practis sy'n rhan o'r cynllun peilot yn nodi bod llawer llai o gleifion yn cael diagnosis o ddiabetes math 2. Mae'r gwaith hwn yn amhrisiadwy ac mae angen iddo barhau. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod rhaglenni o'r fath yn cael eu diogelu o ran gosod cyllideb y flwyddyn nesaf? Diolch.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae gen i ofn nad ydw i'n ymwybodol o'r achos penodol y gwnaeth gyfeirio ato, ond rwy'n cytuno â'r pwynt cyffredinol a wnaed ganddo—bod buddsoddi mewn mesurau ataliol yn y gwasanaeth iechyd yn eich ad-dalu llawer, llawer gwaith drosodd. Cynigiaf un enghraifft yn unig o hynny, Llywydd, oherwydd ar y pryd roedd yn fater dadleuol yma ar lawr y Cynulliad fel yr oedd bryd hynny pan benderfynon ni fuddsoddi mewn brechiad HPV i ferched ifanc ar yr adeg honno—merched ifanc oedd yn yr ysgol. Cafodd ei wrthwynebu gan Aelodau ar lawr y Senedd hon. Ond mae'r merched ifanc hynny a gafodd gynnig y brechiad hwnnw am y tro cyntaf nawr yn eu hugeiniau ac mae'r ffigurau'n dangos bod y menywod ifanc hynny 87 y cant yn llai tebygol o gael canser ceg y groth na phoblogaeth heb ei brechu. Mae hynny'n enghraifft berffaith o'r pwynt y gwnaeth yr Aelod, lle bydd y buddsoddiad ymlaen llaw hwnnw mewn brechu ataliol wedi achub bywydau'r menywod ifanc hynny, yn bwysicaf oll, ond hefyd wedi arbed yr holl gostau a fyddai wedi mynd i mewn i'r gwasanaeth iechyd i ymdrin â chanlyniad eu salwch.

Cynlluniau Economaidd ar gyfer Dwyfor Meirionnydd

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynlluniau economaidd rhanbarthol y Llywodraeth ar gyfer Dwyfor Meirionnydd? OQ60029

Diolch am y cwestiwn. Mae ein dull ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol yn gwneud defnydd o gymorth y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, sydd ag arbenigedd rhyngwladol. Bydd tîm yr OECD yn cynnal digwyddiad sy'n canolbwyntio'n llwyr ar economi rhanbarthol y gogledd ar 23 Hydref. Bydd hyn yn cynnwys partneriaid fel Uchelgais Gogledd Cymru.

Diolch am yr ateb. Fe fydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r datblygiad ym Mhenamser—bod yna ddarn o dir ym Mhenamser, Porthmadog, sydd yn cael ei berchen gan y Llywodraeth ond sydd efo cynnig i gwmni o, dwi'n meddwl, Warrington i'w ddatblygu. Mae'r tir wedi bod yn wag ers degau o flynyddoedd, mae’r Llywodraeth yn talu i'w gynnal o. Mae cwmnïau lleol ym Mhorthmadog eisiau datblygu ar y tir yno, ond does ganddyn nhw ddim yr hawl i gael mynediad i ddatblygu'r tir yna i'w dibenion eu hunain. Mae gan y cwmni yma, i ffwrdd, fel dwi'n dweud, yn Warrington, yr hawl i hynny. A wnewch chi edrych i mewn i hyn, a sicrhau bod gan gwmnïau lleol ym Mhorthmadog yr hawl i ddefnyddio'r tir yna, yn hytrach na chwmnïau o ffwrdd, os gwelwch yn dda?

14:30

Wel, wrth gwrs, dwi'n fodlon edrych i mewn i'r achos mae'r Aelod wedi tynnu sylw ato, ac rŷn ni'n fodlon ei wneud e achos, fel bydd e yn gwybod, mae'r rhaglen Arfor, er enghraifft, yn canolbwyntio ar y rhaglen Llwyddo'n Lleol. Rŷn ni eisiau buddsoddi, gyda phobl leol, i greu posibiliadau economaidd yn y rhanbarth yn y gogledd, ond trwy Arfor, dros Gymru gyfan. So, wrth gwrs, dwi'n fodlon edrych i mewn i'r achos mae'r Aelod wedi ei godi y prynhawn yma. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths. 

Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r agenda heddiw. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd Gweinidog yr Economi yn gwneud datganiad am gau UK Windows & Doors Group Ltd. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, os gwelwch yn dda? Y cyntaf ar rôl Llywodraeth Cymru wrth oruchwylio practisau wedi'u rheoli yng Nghymru. Mae gen i bractis wedi'i reoli ym Mae Colwyn yn fy etholaeth i—Canolfan Feddygol y West End. Rwy'n gwybod ei fod dan bwysau o safbwynt staffio, ond rwy'n bryderus iawn, yn ystod y pythefnos diwethaf, ar bedwar diwrnod yn y pythefnos hynny, fod y practis wedi bod yn rhoi hysbysiadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn annog cleifion i gadw draw oherwydd bod galwadau eithriadol ar eu gwasanaethau, ac yn dweud mai dim ond ceisiadau brys y byddan nhw'n delio â nhw, ac yn annog pobl i fynd yn hytrach i fferyllfeydd, Galw Iechyd Cymru, neu, yn fwy gofidus, ysbytai lleol, sydd yn amlwg, wedyn, yn rhoi pwysau ychwanegol arnyn nhw hefyd. Nawr, yn amlwg, nid yw hynny'n gynaliadwy yn y tymor byr, ac mae angen gwaith i wella'r sefyllfa honno, fel y gall cleifion gael apwyntiadau pan fo'u hangen arnyn nhw. Rwy'n gwybod bod practisau wedi'u rheoli'n digwydd mewn mannau eraill yng Nghymru hefyd, a thybio ydw i i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r arferion ym mhob un o'r rheiny, i sicrhau bod rhywfaint o gysondeb. 

Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog ar y cynnydd tuag at ddileu ysmygu ar dir ysbytai yng Nghymru? Fel y gwyddoch chi, roedd fy mhlaid i yn llwyr gefnogol o'r gwaharddiad ar ysmygu ar dir ysbytai a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru; dyna oedd y peth iawn i'w wneud. Ond mae arnaf i ofn, yn rhy aml, fod pobl yn dal i ysmygu y tu allan i ddrysau ffrynt ein hysbytai. Mae'n arfer ofnadwy. Mae'n cyfleu'r negeseuon anghywir yn llwyr, ac nid yw ein byrddau iechyd yn gwneud digon i sicrhau eu bod yn dileu'r broblem hon unwaith ac am byth, drwy roi dirwyon neu gymryd camau gorfodi eraill fel sy'n briodol. Felly, byddwn i'n ddiolchgar am yr wybodaeth ddiweddaraf am y ddau beth hynny gan y Gweinidog. Diolch. 

Diolch. Wel, byrddau iechyd sy'n gyfrifol am reoli'r ddau fater yr ydych chi'n eu codi. Rwy'n credu bod eich cais olaf yn fater mawr, ac rwy'n gwybod, yn sicr yn fy etholaeth fy hun, yn y Maelor, lle mae'r brif fynedfa, mae gennych chi gasgliad llawn o fonion. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn ymdrin â hynny, ac rwy'n siŵr ei fod yr un peth yn eich etholaeth chi, ond, wrth gwrs, mae'n gyfrifoldeb ar bobl hefyd. Nid y byrddau iechyd sy'n rhoi'r bonion hynny yno, pobl sy'n gwneud hynny, ac mae'n bwysig iawn bod cleifion, a'u perthnasau a'u hymwelwyr, yn deall bod ein hysbytai yng Nghymru yn ddi-fwg. 

Mae practisau wedi'u rheoli, fel y dywedwch chi, yn rhan, rwy'n credu, o bractis cyffredinol nawr yn ein system gofal iechyd sylfaenol. Mae canllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru i fyrddau iechyd. 

A gaf ddiolch i'r Trefnydd a'r Llywodraeth am sicrhau bod yna ddatganiad ynglŷn â'r sefyllfa ddifrifol sydd yna o ran UK Windows & Doors? Dwi'n falch iawn ein bod ni'n mynd i gael y cyfle i drafod hynny yn hwyrach y prynhawn yma.

Eisiau gofyn oeddwn i am ddatganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth am gasgliadau cenedlaethol Cymru sydd dan ofal Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mi fyddwch chi'n siŵr o fod wedi gweld adroddiadau'r BBC bum diwrnod yn ôl fod tua 1,200 o eitemau ar goll o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda llefarydd yn dweud:

'Ni allwn ddweud yn bendant fod pob un o'r eitemau hyn ar ystad y llyfrgell.'

Mae hyn yn cynnwys, wrth gwrs, sawl eitem o gofnodion Llys y Sesiwn Fawr, rhai o bapurau allweddol a gwaith gan awduron megis Cranogwen, Kate Roberts, Dylan Thomas ac O.M. Edwards. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru wedi rhybuddio'r pwyllgor diwylliant fod yna risg i'r casgliadau cenedlaethol oherwydd eu sefyllfa gyllidol a chyflwr peth o'r ystad. Felly, dwi'n meddwl, oherwydd pwysigrwydd y casgliadau hyn, mi fyddai datganiad yn briodol.

14:35

Diolch. Mae diogelwch casgliadau yn fater gweithredol i'r llyfrgell genedlaethol. Mae staff y llyfrgell yn gweithio i safonau proffesiynol, gan gynnwys achrediad gwasanaethau archifau, i sicrhau bod eu casgliadau'n cael eu diogelu ac, ar yr un pryd, eu bod, yn amlwg, yn hygyrch, a bod ymwelwyr ac ymchwilwyr yn teimlo bod croeso iddyn nhw.

Trefnydd, a allai'r Gweinidog addysg wneud datganiad am yr hyn y mae ysgolion yn ei wneud i nodi'r Mis Atal Bwlio Cenedlaethol hwn? Fe ymwelais i ag Ysgol Dyffryn Aman fis diwethaf i siarad â disgyblion hŷn am sut maen nhw'n ymgysylltu â'r pwnc drwy'r cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd a chefais fy nharo gan y ffaith mai parch yw'r brif flaenoriaeth iddyn nhw, gyda materion yn ymwneud â bwlio ac aflonyddu uchaf yn eu meddyliau. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r pwysau mae pobl ifanc yn eu hwynebu heddiw, yn enwedig ar-lein, gyda dylanwadwyr gwenwynig fel Andrew Tate. Felly, byddai'n dda clywed beth sy'n cael ei wneud yn ein hysgolion y mis hwn i hyrwyddo'r agenda parch ac ymateb i ymddygiad bwlio.

Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn. Rwy'n gwybod bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn diwygio'r canllawiau sydd ar gael i'n hysgolion ar hyn o bryd o ran bwlio, ond bydd yn hapus i gyflwyno datganiad ysgrifenedig.

Gweinidog busnes, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd am gyflwr gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn ysbyty'r Faenor yn fy rhanbarth i. Fe alwais i heibio adran damweiniau ac achosion brys ysbyty'r Faenor y bore yma i wrando ar amserau aros ofnadwy o hir unwaith eto, a gweld ystafell orlawn. Fe ges i wybod am rywun â phoenau yn y frest a chrychguriadau'r galon a oedd wedi aros 16 awr i weld meddyg, a rhywun a oedd newydd fod mewn damwain car, ac a oedd yn amlwg mewn poen, a oedd wedi aros 12 awr i weld meddyg; roedd rhywun arall wedi bod yn sâl a heb gael sylw o gwbl. Ac roedd yna achosion tebyg a gwaeth. Fe siaradais i hefyd â pharafeddyg, a ddywedodd mai amseroedd aros hir a sawl ambiwlans y tu allan yw'r norm erbyn hyn, a bod hynny'n eu cynhyrfu ac yn peri rhwystredigaeth iddyn nhw. Nid yw hyn yn iawn. Nid oedd yr adran damweiniau ac achosion brys yn y Faenor erioed i fod yn adran damweiniau ac achosion brys; nid yw'n addas at y diben. Felly, byddwn i'n gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf ar lafar yn y Siambr am sut mae'r Gweinidog yn bwriadu lliniaru'r sefyllfa bresennol a sicrhau bod yr adran damweiniau ac achosion brys hon, sy'n hanfodol ar gyfer fy rhanbarth, yn addas at y diben.

Diolch. Dros y flwyddyn nesaf, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi pennu nifer llai o flaenoriaethau clir ar gyfer ein byrddau iechyd a'u partneriaid. O ran gofal brys a gofal argyfwng, rhaid i wasanaethau ganolbwyntio ar reoli pobl ag anghenion gofal brys yn effeithiol yn y gymuned. Yn amlwg, mae'r achosion yr ydych chi newydd eu rhoi, a'r enghreifftiau rydych chi newydd eu rhoi, yn amserau aros hir iawn, ac nid ydyn nhw'n dderbyniol. Dydyn ni ddim yna; maen nhw'n cael eu gwneud ar sail glinigol. Ond mae'n bwysig iawn bod byrddau iechyd yn gweithio gyda'r ysbytai unigol i sicrhau bod cleifion yn treulio llawer llai o amser yn aros, yn enwedig mewn ambiwlansys y tu allan. 

A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am gymorth i fusnesau y mae concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth wedi effeithio arnyn nhw? Heb os, mae RAAC wedi achosi cur pen i'r Llywodraeth, ond mae'n achosi hyd yn oed mwy o gur pen i fasnachwyr ym marchnad Pen-y-bont ar Ogwr, nad ydyn nhw'n gallu masnachu am fod y farchnad wedi'i chau oherwydd RAAC. Nawr mae yna filiau sydd angen eu talu, cyflogau i'w talu a morgeisi i'w talu—mae angen cymorth arnyn nhw cyn gynted â phosibl.

Diolch. Rwy'n gwybod bod trafodaethau wedi bod yn mynd ymlaen rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Nid wyf yn ymwybodol o ganlyniadau hynny. Yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog, os oes unrhyw beth sy'n haeddu datganiad ysgrifenedig yn ei farn ef, i wneud hynny.

Prynhawn da, Gweinidog. Roeddwn i wir eisiau gofyn am ddatganiad gennych chi am yr amserlen ar gyfer ymgynghori cyhoeddus ar y newidiadau arfaethedig i drwyddedu o ran rasio milgwn yng Nghymru. Mae digwyddiadau diweddar yn destun pryder mawr. Ym mis Gorffennaf cafodd Valley Greyhound Stadium yn Ystrad Mynach ganiatâd cynllunio i ehangu, er gwaethaf gwrthwynebiad ffyrnig gan nifer o elusennau lles anifeiliaid. Fe wnaethon nhw gynnal eu digwyddiad rasio trwyddedig cyntaf ar 22 Awst, a chafwyd adroddiadau o wrthdrawiadau, cŵn yn taro waliau ac yn baglu. Yn ôl pob sôn, bu'n rhaid cario dau gi oddi yno, gydag un wedi'i anafu'n ddifrifol, a'i dynnu'n ôl o'r gwerthiant. Gwyddom fod 4,354 o anafiadau wedi digwydd wrth rasio milgwn yn Lloegr y llynedd, a 244 o farwolaethau. Felly, hoffwn i wybod gennych chi pa mor gyflym y gallwn ni symud ymlaen, gobeithio, i glywed llais pobl yn Nghymru i wrthwynebu rasio milgwn yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Fel y mae'r Aelod ac Aelodau eraill yn gwybod, rwyf i wedi ymrwymo i ymgynghori ar drwyddedu gweithgareddau sy'n ymwneud ag anifeiliaid cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Yn dilyn cwestiwn ynghylch trwyddedu perchnogion a/neu geidwaid neu hyfforddwyr cŵn rasio, rwyf i wedi gofyn i'r ymgynghoriad hefyd gynnwys cais am dystiolaeth naill ai i gyfiawnhau neu nacáu ystyried gwaharddiad graddol posibl. Felly, rydyn ni'n dal i fod ar yr amserlen honno—cyn diwedd y flwyddyn hon.

Os caf i ddweud, braf iawn oedd gweld Jane Dodds a Luke Fletcher mewn digwyddiad amser cinio. Yfory yw Diwrnod Anifeiliaid y Byd, ac roedd yn wych bod Luke wedi noddi'r digwyddiad yn adeilad y Pierhead, ynghyd â'r RSPCA, Hope Rescue a Naturewatch Foundation.

14:40

Trefnydd, byddwn i'n croesawu datganiad am gynnydd tuag at well gwybodaeth i deithwyr ar gyfer bysiau ledled Cymru ac a fydd y ddeddfwriaeth sydd ar ddod ar fysiau, ynghyd â 'Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021', yn rhoi cyfle i wella gwybodaeth i deithwyr. Nawr, rwy'n codi hyn yn dilyn cyfarfod ardderchog a sesiwn holi ac ateb a fynychwyd gan Sarah Murphy a minnau yn Academi STEAM Coleg Pen-y-bont ym Mhencoed. Cafodd ei drefnu gan Leonard Cheshire fel rhan o'r gweithdai 'Fy Llais Fy Newis'. Roedd yn amlwg iawn faint o'r drafodaeth a oedd yn canolbwyntio ar faterion trafnidiaeth, ond yn enwedig y diffyg gwybodaeth dda i deithwyr ar yr ap, sy'n cael ei ddefnyddio gan lawer o'r bobl ifanc a oedd yno erbyn hyn, ond hefyd y diffyg gwybodaeth mewn gorsafoedd ac absenoldeb arwyddion ar safleoedd bws, hefyd, pan fydd bysiau'n cael eu gohirio neu'u canslo. Byddai gwelliant yn y maes hwn yn welliant enfawr o ran profiad teithio llawer o'r bobl ifanc hynny. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi trafodaeth neu ddatganiad am hyn.

Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr, mae gwell gwybodaeth i deithwyr yn hanfodol. Fel rhywun sy'n defnyddio bysiau yng Nghaerdydd a Wrecsam, yng Nghaerdydd mae'n gymaint gwell na'r hyn sydd gennym ni yn Wrecsam. Byddai'n dda gweld llawer mwy o gysondeb ar draws y wlad.

Fel y gwyddoch chi, mae dros £19 miliwn o gyllid trafnidiaeth lleol wedi'i ddyrannu i'n hawdurdodau lleol yn y flwyddyn ariannol hon i wella'r seilwaith bysiau, cyfnewidfeydd, gwybodaeth a blaenoriaeth ar gyfer bysiau, ac mae gennym ni ein Bil diwygio bysiau, a fydd yn ein galluogi ni i roi gwybodaeth glir, hawdd ei defnyddio a dibynadwy i deithwyr ledled Cymru.

Trefnydd, mae dau fachgen ifanc yn fy rhanbarth i wedi cael eu hanafu'n ddifrifol gan dân gwyllt a gafodd eu cynnau mewn parc yn Hengoed, lle'r oedden nhw'n chwarae. Yn ôl yr adroddiadau, efallai bod un o'r bechgyn bach hynny wedi colli ei law. Rwy'n siŵr y byddai'r Siambr gyfan yn ymuno â mi i anfon eu cydymdeimlad a'u dymuniadau gorau i'r bechgyn ifanc hynny a'u teuluoedd, ond mae noson tân gwyllt yn dal i fod mis i ffwrdd a bob blwyddyn, mae'n ymddangos ein bod ni'n clywed straeon erchyll am anafiadau sy'n newid bywyd y mae pobl yn eu dioddef oherwydd tân gwyllt. Does bosib—onid yw'n bryd gwahardd gwerthu tân gwyllt heblaw ar gyfer arddangosfeydd proffesiynol? Felly, a allai'r Llywodraeth gyflwyno datganiad cyn i ni gyrraedd noson tân gwyllt, yn amlinellu pa ystyriaeth sy'n cael ei rhoi mewn ymgynghoriad â'r gwasanaethau brys i gyflwyno gwaharddiad o'r fath, oherwydd gallai'r un peth yma effeithio ar fywydau'r bechgyn bach hynny am byth, ac nid oedd angen iddo ddigwydd?

Na, yn wir. Mae'n ddrwg iawn gen i glywed am y digwyddiad ac, fel y dywedwch chi, yn anffodus, bron pob blwyddyn rydyn ni'n clywed am ddigwyddiadau tebyg iawn. Yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd a yw hi wedi cael trafodaethau eraill gyda Llywodraeth y DU, oherwydd yn amlwg mae'r pwerau yn nwylo Llywodraeth y DU, ond rwy'n gwybod bod trafodaethau wedi bod yn mynd ymlaen, felly byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau os oes unrhyw drafodaethau eraill wedi bod gyda Llywodraeth y DU. 

O ystyried bod Jacob Rees-Mogg wedi dweud yr wythnos hon ei fod am weld cig eidion sy'n cael ei chwistrellu â hormonau o Awstralia yn dod i'r wlad hon er mwyn iddo allu ei fwyta, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn cynnig prynu tocyn unffordd iddo i Awstralia, lle gall e' fwyta faint a fynno?

Cefais fy arswydo i weld yr erthygl honno—anfonodd rhywun hi ataf i, a dweud y gwir, hefyd; rwy'n credu mai'r Farmers Guardian oedd yn ei drafod—ac i'w glywed yn dweud hynny. Fel y gwyddoch chi, fe wnaethon ni'n glir iawn fel Llywodraeth, i Lywodraeth y DU, pan wnaethon ni adael yr Undeb Ewropeaidd, nad oedden ni'n disgwyl i'n safonau lles anifeiliaid na'n safonau amgylcheddol na safonau ein bwyd ostwng mewn unrhyw ffordd. Yn anffodus, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, ni fyddai rhai o'r cytundebau masnach yr ydyn ni wedi'u gweld yn gytundebau masnach y bydden ni wedi'u negodi fel Llywodraeth Cymru.

3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

Yr eitem nesaf, felly, fydd eitem 3, y datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol nawr ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru). Y Cwnsler Cyffredinol, felly—Mick Antoniw.

Diolch yn fawr, Llywydd. Ddoe, cafodd y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a’r memorandwm esboniadol eu gosod gerbron y Senedd. Dyma gam arall at greu system etholiadol fodern i Gymru, un sy'n addas i'r oes sydd ohoni. Mae'r Bil yn dilyn ein gwaith da blaenorol, fel rhoi'r hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed a dinasyddion cymwys yng Nghymru, â fframwaith clir ar gyfer diwygio etholiadol.

Fis Hydref diwethaf, gwnaethom gyhoeddi Papur Gwyn yn nodi cynigion o ran camau nesaf yn y fframwaith ar gyfer diwygio etholiadol. Hoffwn ddiolch i'r rhai wnaeth ymateb. Roedd llawer yn cefnogi ein cynigion. Dwi wedi gwrando yn ofalus ar bob barn ac, o ganlyniad, wedi newid rhai o'n cynigion. Byddwn yn parhau i weithio yn agos gyda'n partneriaid wrth inni ddal i foderneiddio'r system. 

Llywydd, mae'r Bil yn dwyn mesurau'r Papur Gwyn ymlaen yr ymrwymais i'w gweithredu mewn ymateb i'n hymgynghoriad ni. Wrth galon y Bil y mae ein chwe egwyddor ni o ran diwygio etholiadol: tegwch, hygyrchedd, cyfranogiad, gwella profiad dinasyddion, symlrwydd a chywirdeb. Os caiff ei ddeddfu, bydd y Bil yn moderneiddio ac yn diwygio gweinyddiaeth etholiadol ar gyfer etholiadau Cymru, cyrff etholedig a'u haelodau. Bydd y Bil a'r pecyn diwygio ehangach yn helpu i gynyddu cyfranogiad yn etholiadau Cymru. Bydd yn gwella hygyrchedd i bobl anabl ac yn cymryd camau i sicrhau bod pob pleidleisiwr cymwys yn cael ei gofrestru i bleidleisio yn etholiadau Cymru, yn cefnogi ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol i sefyll mewn etholiad, yn egluro'r drosedd o ddylanwad amhriodol ac yn sefydlu bwrdd rheoli etholiadol i gryfhau gweinyddiaeth etholiadol. Bydd y Bil yn darparu hefyd ar gyfer diwygio'r prosesau ar gyfer cynnal adolygiadau cymunedol ac etholiadol, diddymu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a rhoi'r swyddogaethau o ran taliadau a gynhaliwyd gan y panel yn flaenorol i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Bythefnos yn ôl, fe wnaethom ni gyflwyno Bil i gynyddu maint y Senedd. Fe fydd ffiniau etholiadol newydd Cymru yn cael eu cwblhau gan yr adolygiadau y mae'r Bil yn caniatáu ar eu cyfer, ond mae hi'n anochel y bydd angen cydweithio rhwng pob un o dimau'r awdurdodau lleol ledled Cymru ar gyfer yr 16 etholaeth. Felly, ar gyfer cryfhau ymdrechion i gydlynu etholiadau a chefnogi cydnerthedd yn eu gweinyddiaeth, bydd y Bil etholiadau a chyrff etholedig yn creu bwrdd rheoli etholiadol. Y bwrdd fydd yn gyfrifol am oruchwylio cydlynu a gweinyddu etholiadau Cymru, gan gydweithio â swyddogion canlyniadau a swyddogion cofrestru etholiadol, a chynghori Gweinidogion Cymru gyda gweinyddu etholiadau Cymru. Fe fydd yna fanteision i ddinasyddion hefyd. Fe fydd y Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol hefyd i Weinidogion Cymru, drwy gyfrwng rheoliadau, sefydlu a gweithredu platfform ar-lein gyda gwybodaeth ymgeiswyr a phleidleisio ynghylch etholiadau'r Senedd a rhai cyffredin y prif gynghorau i helpu i feithrin dealltwriaeth ynglŷn ag etholiadau yng Nghymru.

Mae hi'n debyg iawn fod yr Aelodau wedi gweld canfyddiad gresynus y Comisiwn Etholiadol, er gwaethaf y gwaith caled i gyd a wnaeth ein swyddogion cofrestru etholiadol, fod ein cofrestrau llywodraeth leol yn parhau i aros yn ystyfnig ar gyfradd o ddim ond 87% o fod yn gyflawn. Nawr, er bod hwnnw'n gynnydd o chwe phwynt canran dros y pedair blynedd diwethaf, ni all fod yn dderbyniol mewn democratiaeth fodern fod tua 400,000 o ddinasyddion Cymru nad ydyn nhw, am ba reswm bynnag, ar y gofrestr etholiadol. Mae hi'n parhau i fod yn her sylweddol i iechyd ein democratiaeth ni, ac mae angen i ni wneud mwy i sicrhau bod pawb sydd â hawl i bleidleisio ar y gofrestr ac yn cael y cyfle, os ydyn nhw'n dewis hynny, i gyfranogi yn etholiadau i'r Senedd a llywodraeth leol. Fe fydd y Bil yn ei gwneud hi'n haws i unigolion gael eu cynnwys ar y gofrestr etholiadol drwy'r darpariaethau newydd arfaethedig sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob swyddog cofrestru etholiadol gofrestru etholwyr cymwys yn awtomatig ar gyfer y gofrestr llywodraeth leol a chyhoeddi hysbysiad cofrestru i bob etholwr sy'n gymwys.

I wella cyfranogiad democrataidd pobl anabl, fe fyddwn ni'n cyflwyno rheolau hygyrchedd ar gyfer etholiadau yng Nghymru yn unol â deddfwriaeth y DU, a'i gwneud hi'n haws i bobl anabl bleidleisio yn annibynnol ac yn gyfrinachol. Fe fydd y Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol adrodd ar y camau a gymerwyd gan y swyddogion canlyniadau i helpu pobl anabl i bleidleisio mewn etholiadau, gan gefnogi'r mesurau a gymerir trwy is-ddeddfwriaeth.

Mae'r Bil yn egluro'r drosedd o ddylanwad amhriodol, gan ei gwneud hi'n fwy syml i erlyn achosion yn y dyfodol. Mae hyn yn ymgorffori'r newidiadau a wnaethpwyd gan Ddeddf Etholiadau 2022 i leihau cymhlethdod yn y system etholiadol. Yn yr un modd, fe fyddwn ni'n egluro rhai rheolau o ran cyllid ymgyrchu.

Bydd y Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru gymryd camau i gynyddu cyfleoedd i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol gyfranogi yn llawn wrth gefnogi a chynrychioli eu cymunedau drwy sefyll am swydd etholedig. Bydd yn adeiladu ar ein cynllun treialu o gymorth ariannol i helpu ymgeiswyr anabl mewn etholiad yng Nghymru i oresgyn y rhwystrau rhag cymryd rhan.

Fe fydd y Bil yn egluro'r broses ar gyfer adolygiadau etholiadol hefyd, gan ganiatáu rhaglen a chyfle eglur cyn yr etholiadau yr effeithir arnyn nhw i sicrhau bod pleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr yn gallu gweithredu gyda hyder.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu amcangyfrifon cost manwl sy'n nodi goblygiadau ariannol rhagamcanol y ddeddfwriaeth hon dros gyfnod arfarnu o 10 mlynedd, o 2024 hyd 2034. Mae hyn yn cynnwys dau gylch etholiadol ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol. Rydym ni'n amcangyfrif y bydd cyfanswm y costau ar gyfer y Bil dros y cyfnod hwn ychydig yn llai na £20 miliwn. Mae hyn yn adlewyrchu'r gwerth a roddwn ni ar ddemocratiaeth. Fe fyddwn ni'n ariannu awdurdodau lleol a Chomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer y costau sy'n tarddu o'r Bil.

Ein huchelgais ni yw sicrhau y bydd y gofynion deddfwriaethol, gweinyddol a digidol ar waith am o leiaf chwe mis cyn y gyfres nesaf o etholiadau yn 2026 a 2027 yn unol â chonfensiwn Gould i roi amser i awdurdodau lleol gynllunio a pharatoi ar gyfer eu gweithredu nhw. Mae ein diwygiadau ni'n uchelgeisiol, ac fe fydd yna fwy o foderneiddio drwy gyfrwng y rheolau manwl ynghylch cynnal etholiadau, yr ydym ni'n ei adolygu nhw ac yn bwriadu eu hail-lunio cyn etholiadau'r Senedd yn 2026. Felly, fe fydd y daith hon yn parhau y tu hwnt i'r Senedd hon, ac mae gennym ni uchelgeisiau y byddwn ni'n ceisio eu cyflwyno nhw mewn Senedd yn y dyfodol.

Wrth gloi, fe hoffwn i ddiolch unwaith eto i bawb sydd wedi cyfrannu at ein democratiaeth ni trwy sefyll mewn etholiadau ac wedi sylweddoli cymaint o fraint a chyfrifoldeb sydd i swydd gyhoeddus a gwasanaeth cyhoeddus, a'n cydweithwyr ymroddedig ni sy'n gweinyddu etholiadau yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at y gwaith craffu ar y Bil gan yr Aelodau, ac at glywed barn rhanddeiliaid, partneriaid cyflawni a'r cyhoedd yn ystod y broses ddeddfwriaethol. Diolch yn fawr, Llywydd.

14:50

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am gopi ymlaen llaw o'i ddatganiad ef? Mae yn brysur iawn yn ei dîm a'i adran ar hyn o bryd, wrth gwrs, gan fod hwn yn un o dri Bil y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arnyn nhw. Mae hyn yn ddigon tebyg i fod yn aros am fws am gryn amser ac wedyn fe ddaw tri bws ar yr un pryd. Mae hi'n fy nharo i mai dyna sut mae pethau yn eich adran chi ar hyn o bryd, Gweinidog.

Mae'n rhaid i mi ddweud bod llawer y gallwn ni ei groesawu yn y Bil hwn. Nid wyf i'n siŵr y dylai'r Bil hwn fod yn flaenoriaeth i chi ar hyn o bryd yn y Llywodraeth, ond o ystyried eich bod chi wedi ei gyflwyno ef, mae llawer ynddo y gallwn ni ei groesawu. Yn sicr, fe allwn ni groesawu'r camau a gymerwyd i hyrwyddo amrywiaeth, y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ei wneud, yn arbennig, i gefnogi pleidleiswyr anabl. Rwy'n hoffi'r syniad o blatfform gwybodaeth i bleidleiswyr fel ein bod ni'n gweld rhywfaint o gysondeb ledled Cymru hefyd. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i'r bwrdd rheoli etholiadol gael ei greu a'i roi ar sail statudol i ddisodli'r trefniadau gwirfoddol presennol gyda bwrdd cydlyniant etholiadol Cymru. Rwy'n hoffi'r ffaith hefyd y byddwn ni'n cael gwybod mwy am yr ymgeiswyr sy'n sefyll yn ein hetholiadau ni hefyd, drwy gyflwyno arolygon ymgeiswyr, a'r ffaith y bydd cronfa swyddi etholedig yn rhywbeth parhaol yma yng Nghymru er mwyn helpu i oresgyn rhai o'r rhwystrau ariannol hynny y mae rhai ymgeiswyr yn eu hwynebu pan fyddan nhw dan anfantais neilltuol.

Ond, fel y byddech chi'n disgwyl i mi ei ddweud, mae yna rannau eraill yn y Bil na chefais i fy argyhoeddi ganddyn nhw. Nid wyf i'n argyhoeddedig, er enghraifft, fod angen i ni symud ymlaen gyda chofrestru pleidleiswyr awtomatig ar hyn o bryd. Nid wyf i'n wrthwynebus i gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig; nid wyf i'n argyhoeddedig mai nawr yw'r amser i symud ymlaen â hyn, oherwydd fe wyddom ni i gyd eich bod chi'n gwneud darpariaethau yn y Bil hefyd ar gyfer cynlluniau treialu i gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Fe fyddai hi'n well gennyf i weld cynnal rhai cynlluniau treialu yn gyntaf i weld a oes yna unrhyw broblemau cychwynnol cyn i chi ddeddfu ar gyfer cyflwyno cynlluniau treialu i gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Fe wyddom ni, pan gyflwynwyd cynlluniau i gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig mewn mannau eraill yn y byd gorllewinol, nad ydyn nhw wedi bod yn llwyddiannus bob amser. Draw yn yr Unol Daleithiau, fe welsom ni nifer y bobl sy'n pleidleisio yn lleihau, ac fe welsom ni ddegau o filoedd o wallau yng Nghaliffornia lle cafodd hyn ei gyflwyno. Rwy'n gwybod bod honno'n amlwg yn boblogaeth lawer iawn fwy nag sydd gennym ni yma yng Nghymru, ond mae hynny'n awgrymu i mi na fyddem ni heb unrhyw broblemau o gwbl yma yng Nghymru. Ac mae pleidleisio yn hawl; ac nid yn ddyletswydd ddinesig, nid yw hi'n rhwymedigaeth yr ydym ni'n ei gosod ar bobl, ac felly, ni ddylai cofrestru i bleidleisio fod yn rhywbeth y mae'n rhaid i bobl ei wneud. Felly, un peth y mae angen i ni ei sicrhau yn y Bil hwn wrth iddo fynd drwy'r Senedd yw pe byddai'r Senedd yn dewis gorfodi cofrestru pleidleiswyr ar bobl yng Nghymru, bod yna gyfleoedd i optio allan o hynny. A, Gweinidog, fe fyddwn i'n ddiolchgar o gael eich sylwadau a'ch adborth chi ynghylch p'un a ellid gwneud darpariaeth ar gyfer hynny.

14:55

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

O ran cynlluniau treialu, fe wyddom ni fod rhai cynlluniau treialu pleidleisio yng Nghymru wedi digwydd yn gynharach eleni ynglŷn â phleidleisio cynnar. Fe gawsom adroddiad ar hynny ac, wrth gwrs, roedd hwnnw'n dod i'r casgliad mai gweddol aflwyddiannus oedden nhw, mewn gwirionedd. Roedd y nifer a bleidleisiodd yn llai yn yr ardaloedd hynny a oedd yn cynnal y cynlluniau treialu pleidleisio cynnar nag yr oedd mewn rhannau eraill o Gymru, ac fe wyddom ni mai ymarfer costus iawn, iawn a fu hwnnw hefyd; rwy'n credu mai £845 fesul pleidleisiwr yr oedd hynny'n ei ychwanegu at y gost. Felly, dyna pam rwyf i o'r farn y dylid cynnal rhai cynlluniau treialu gyda'r system i gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn gyntaf i gyd, oherwydd nid ydym ni'n gwybod pa ddata y byddwn ni'n eu defnyddio. Rydym ni'n dymuno sicrhau y bydd hyn mor gywir â phosibl. Nid ydym ni'n dymuno i bobl gofrestru ddwy neu dair gwaith oherwydd eu bod nhw'n ymddangos ar wahanol systemau data mewn gwahanol leoedd, pan nad ydyn nhw'n gymwys ond i bleidleisio unwaith mewn etholiad, er enghraifft. Felly, rwy'n credu bod angen ystyried yr holl bethau hyn yn ofalus, a dyna pam nad wyf i'n gwrthwynebu, fel dywedais i, unrhyw newid i'r system gofrestru pleidleiswyr, ond rwy'n credu bod y system sydd gennym ni'n weddol ddi-ffael, yn eithaf syml, ac os nad yw hi wedi torri, pam rydyn ni'n ceisio ei thrwsio hi?

Un o'r pethau eraill yr hoffwn i fynegi barn ynglŷn ag ef hefyd, os caf i, Gweinidog, yw fy mod i'n nodi eich bod am gael gwared ar Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, a rhoi'r cyfrifoldeb am y penderfyniadau hynny i'r Comisiwn Etholiadol. Unwaith eto, ai hwnnw yw'r dull cywir, nid wyf i'n rhy siŵr o hynny, ond fe hoffwn i glywed beth yw'r dystiolaeth wrth i bethau fynd rhagddyn nhw drwy'r Senedd a'n bod ni'n cael tystiolaeth oddi wrth y gwahanol sefydliadau yn y cyfnod pwyllgor. Ond rwy'n sylwi mai'r rhesymeg i chi wneud hynny yw oherwydd ei fod wedi bod yn ei le ers 10 mlynedd, a'ch bod chi wedi gweld ei waith, ac rydych chi'n credu mai nawr yw'r cyfle i'w newid ef, o ystyried rhai o'r swyddogaethau eraill sydd gan y Comisiwn Etholiadol. Mae gennym ni, wrth gwrs, fwrdd taliadau yma yn y Senedd hefyd, ar gyfer Aelodau'r Senedd—[Torri ar draws.] Rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond mae hwn yn bwynt pwysig.

Fe wnaf i. Mae'r bwrdd taliadau sy'n dylanwadu ar ein tâl ni a'n lwfansau ni yma yn y Senedd wedi bod ar waith ers 13 mlynedd ac nid yw erioed bod yn destun unrhyw adolygiad, a tybed a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried y gallai hwn fod yn gyfle hefyd i wneud gwelliannau i'r trefniadau o ran taliadau cydnabyddiaeth a chyflogau i Aelodau'r Senedd er mwyn sicrhau eu bod nhw'n deg, yn gyfiawn a bod system gennym ni sy'n gweithio ac yn effeithlon. Ac a wnewch chi ddweud wrthym ni, Gweinidog, a yw hynny'n rhywbeth yr oeddech chi'n ei ystyried yn rhan o'r Bil, ac, os nad oeddech chi, a yw hynny'n rhywbeth y gallech chi ei ystyried wrth i hwnnw fynd rhagddo drwy'r cyfnod pwyllgor? Diolch i chi.

A gaf i ddiolch i chi yn y lle cyntaf am gefnogi'r hyn yr wyf i'n credu ein bod ni i gyd yn ei gydnabod yn angen mawr i foderneiddio a grymuso sawl agwedd ar ein system etholiadol ni? Ac rydym i gyd yn awyddus i gael gweld mwy o amrywiaeth, mwy o gyfranogiad, mewn sawl ffordd. Efallai yr hoffwn i ddechrau gyda'r pwynt olaf y gwnaethoch chi ei godi. Fe wnaethoch chi godi nifer o bwyntiau pwysig, ac rwyf i o'r farn eu bod nhw i gyd yn bwyntiau a fydd, yn amlwg, yn codi yn ystod y broses graffu ar yr hyn sydd, yn fy marn i, yn ddiwygiad pwysig. Rydych chi'n dweud nad yw'r system yn doredig. Wel, fe fyddwn i'n awgrymu bod system lle nad yw 400,000 o bobl yng Nghymru ar y gofrestr etholiadol, lle mae cyfran o dystiolaeth yn ein meddiant ni yn amlygu dryswch ynghylch a oes gan bobl hawl i bleidleisio ai peidio, rwy'n credu yn system y mae angen i ni edrych arni eto. Rwyf i wir yn derbyn y pwynt hwn gan y Comisiwn Etholiadol. Dyma beth wnaethon nhw ddweud wrthyf mewn llythyr ar 15 Medi 2023. Fe wnaethon nhw gynnal eu hasesiad nhw o etholiadau yng Nghymru. Roedden nhw'n dweud bod y gofrestr llywodraeth leol 87% yn gyflawn ac 89% yn gywir. Roedd y gofrestr seneddol yn 88% yn gyflawn a 90% yn gywir. A'r hyn y maen nhw'n ei ddweud yw, 'Mae'r dystiolaeth o'n hymchwil a gyflawnwyd dros ragor na degawd yn amlygu bod hon yn broblem hirsefydlog. Felly mae'n annhebygol y bydd cyfraddau cywirdeb a chyflawnrwydd, a gan hynny nifer y bobl gymwys yn gallu dweud eu dweud mewn etholiadau, yn cynyddu yn sylweddol heb newidiadau mawr i'r system gofrestru etholiadol.'

Dyna'r hyn, rwy'n credu, yr ydym yn dymuno mynd i'r afael ag ef yn y Bil hwn, ac, o gofio bod ein system etholiadol yn un eithaf hynafol, weddol hen ffasiwn, yn defnyddio papurau mewn oes pan fo gennym ni gymaint o dechnoleg ar gael, ac mae cymaint o etholiadau yn digwydd ar gymaint o ffurfiau yn cael eu cynnal naill ai ar-lein neu eu heb ddefnyddio unrhyw bapur o gwbl, rwy'n credu mai'r hyn yr ydyn ni'n ei wneud yma yw moderneiddio ein system etholiadol ar gyfer yr etholiadau hynny y mae gennym ni gyfrifoldeb amdanyn nhw, ac edrych ar ffyrdd o'u gwella. Rwy'n credu mai cofrestru awtomatig yw'r cam nesaf rhesymol mewn gwirionedd.

A gaf i ddweud hefyd o ran cynlluniau treialu—? Wel, wrth gwrs, mae angen y ddeddfwriaeth hon arnom ni i'n grymuso ni i gynnal cofrestriad awtomatig mewn gwirionedd, ac, os cewch chi gynllun treialu ar gyfer cofrestru awtomatig, fe  fydd yn rhaid sefydlu'r system honno ar gyfer cofrestru awtomatig yn y lle cyntaf, felly mae angen i ni ddilyn y trywydd hwnnw beth bynnag. Y cynlluniau treialu eraill yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, nid wyf i o'r farn y buont yn aflwyddiannus. Yr hyn yr oedden nhw'n ei wneud oedd dangos sut y gallem ni ddefnyddio technoleg mewn gwirionedd i gynnal etholiadau mewn ffordd wahanol mewn gwahanol leoedd ac ar wahanol amseroedd. Ni fwriadwyd nhw erioed i drawsnewid y diwylliant o ran cyfranogiad ac ati. Ac wrth gwrs, yr hyn y mae'r Bil hwn yn ei wneud trwy gofrestru awtomatig mewn gwirionedd—nid yw'n gorfodi pobl i bleidleisio; mae'n sicrhau eu bod nhw'n gallu pleidleisio, ac rydym i gyd wedi bod allan ar garreg y drws mewn ymgyrch etholiadol, yn ceisio annog pobl i gymryd rhan, ac yna rydych chi'n dod ar draws pobl a fydd yn ddweud, 'O, wel, nid wyf i'n credu fy mod i ar y gofrestr etholiadol.' Wel, fel bydd hi nawr, fe fydd hyn yn datrys y broblem honno'n wirioneddol ac fe fydd yn gymhelliant mawr i'r pleidiau gwleidyddol, oherwydd fe fyddan nhw'n gwybod y bydd y rhan fwyaf o bobl ar y gofrestr. Fe fyddan nhw yno'n ceisio eu perswadio a'u hysgogi nhw.

Rydych chi'n codi pwynt dilys o ran optio allan, oherwydd ni fydd hon yn gofrestr agored yn yr ystyr honno. Fe fydd hi ar gael i'r asiantaethau hynny sydd ag angen amdani, ond ni fydd hi'n agored yn fasnachol. Mae hi'n amlwg fod yna'r grwpiau a'r unigolion hynny sydd ag angen cadw eu cyfrinachedd am amryw o resymau ac na ddylen nhw fod arni, ac fe gafodd hynny ei gynnwys ac fe fydd yn cael ei gynnwys yn y Bil ac o fewn y prosesau. Yr hyn a fydd yn digwydd mewn gwirionedd yw hyn: fe fydd pawb y gallwn ni eu nodi mor gywir â phosibl yn cael eu cofrestru yn awtomatig. Dyna'r ddyletswydd a'r rhwymedigaeth, i'w rhoi nhw arni hi. Yna fe fydd pobl yn cael hysbysiad sy'n mynegi eu bod nhw wedi cael eu cynnwys nawr ar y gofrestr awtomatig o etholwyr. Yna fe roddir y dewis iddyn nhw os dymunant, yn y bôn, aros arni ond heb eu cynnwys yn y rhestr am y rheswm hwnnw o ran cyfrinachedd, ond fe roddir iddyn nhw'r dewis i optio allan yn llwyr, felly ni fydd yn rhaid iddyn nhw fod arni hi. Nawr, rydyn ni wedi rhoi ystyriaeth fanwl dros gyfnod maith i hyn: 'Wel, pam ddylid gwneud hyn wrth ei gwneud hi'n awtomatig?' Wel, (1) rwyf i o'r farn mai ychydig iawn o bobl a fydd yn awyddus i'w herio, ond y cwbl y mae hyn yn ei olygu wedyn yw bod yr unigolyn, os na chafodd ei gofrestru yn awtomatig, yn mynd yn ôl ar y gofrestr bapur. Mae'r un rhwymedigaethau yn parhau i fod yn hynny o beth, ond mae hyn yn diddymu'r angen i hynny ddigwydd.

Yn yr Unol Daleithiau, mae mater cofrestru pleidleiswyr wedi mynd yn un pwysig. Fe aeth yn faes brwydr oherwydd mae yna rai nad ydyn nhw'n dymuno hynny, oherwydd yr hyn y byddai mater o fwy o bobl yn pleidleisio yn ei olygu. Rwy'n credu, yn debyg i lawer un ar draws y Siambr gyfan hon yn ôl pob tebyg, ni waeth beth yw'r canlyniadau o ran etholiadau, fe wyddom ni i gyd fod iechyd ein democratiaeth ni, pwy bynnag sy'n cael ei ethol, yn dibynnu ar bobl yn cyfranogi ac yn cymryd rhan yn y ddemocratiaeth honno. Felly, wrth gael gwared ar y rhwystrau rhag i hynny ddigwydd, mae hon yn enghraifft, rwy'n credu, o Gymru yn arwain y ffordd yn hyn o beth. Rwy'n eithaf siŵr, ar ryw adeg yn y dyfodol agos, y bydd Llywodraeth y DU yn awyddus i ystyried y mater pleidlais i rai 16 oed a hŷn, ond cofrestru awtomatig hefyd. Felly, mewn sawl ffordd, rydym ni'n dangos sut y gellir gwneud hynny a sut i'w wneud mewn gwirionedd.

A gaf i ddim ond—? Un peth olaf, felly, o ran y pwyntiau a godwyd gennych chi ynglŷn ag amrywiaeth ac anabledd. Rwy'n credu bod rhoi'r cyllid cymorth ar sail statudol, gan ei gwneud hi'n ddyletswydd barhaol ar Weinidogion i gynnal hynny, a chydnabod hynny, yn un o'r pethau y mae angen i ni ei gyflawni, yn bwysig iawn. Rwy'n credu, yn ystod y ddau etholiad diwethaf, y bu i'r gronfa cefnogi 21 o bobl a wnaeth gais iddi; bu chwech o'r rhain yn llwyddiannus yn eu hetholiadau. Hynny yw, ni ddywedaf i ddim mwy, a fydden nhw wedi llwyddo neu beidio ac ati, ond mae hi'n amlwg iawn fod yna unigolion sydd â mwy o rwystrau nag eraill, ac mae honno'n un agwedd ar rwystrau y gellir ei goresgyn, ac, yn sicr, gyda threigl amser, rydym ni'n awyddus i weld rhagor o rwystrau yn cael eu goresgyn.

15:05

Diolch yn fawr am y datganiad y prynhawn yma.

Rydym ni ar drothwy cyfnod newydd yn hanes democratiaeth Cymru; chwarter canrif ar ôl i Gymru gymryd ei chamau petrus cyntaf ar hyd taith datganoli, bydd yr ystod hon o ddeddfwriaeth newydd, sy'n gynnwys y Bil sydd gerbron heddiw, yn gweld ein democratiaeth ni'n cyrraedd aeddfedrwydd o'r diwedd.

Efallai na fydd gweinyddiaeth etholiadol yn bwnc sy'n gwneud i lawer o galonnau guro yn gynt, ond serch hynny mae hon yn agwedd hanfodol ar iechyd unrhyw ddemocratiaeth. Fel dangosodd digwyddiadau diweddar yn fyd-eang, fe geir canlyniadau difrifol yn sgil esgeuluso sylfeini democratiaeth a meithrin ymdeimlad afiach o ymddieithrio ac anfodlonrwydd â'r broses etholiadol. Yn hyn o beth, rydym ni'n llwyr gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd etholiadau yng Nghymru a sicrhau eu bod nhw'n adlewyrchu anghenion ein cymdeithas ni yn yr unfed ganrif ar hugain mewn ffordd ddigonol. Mae hyn yn arbennig o amserol o ystyried cyflwyniad Llywodraeth y DU o'r gofynion newydd i bleidleiswyr brofi eu hunaniaeth ar gyfer pleidleisio yn yr etholiadau i San Steffan. Ymgais sinigaidd yw hon i atal pleidleiswyr y dangoswyd yn yr etholiadau lleol diweddar yn Lloegr eu bod nhw'n cael effaith anghymesur o niweidiol ar bobl ag anableddau, y di-waith a lleiafrifoedd ethnig. O ystyried y ffaith bod mwy o bleidleiswyr yng Nghymru yn gyfrannol heb ffurfiau adnabod dilys o'i gymharu â gweddill y DU, rydym ni'n debygol o weld canlyniadau tebyg yma yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Wrth i'r Torïaid geisio culhau gorwelion democratiaeth y DU, fe ddylem ni wneud pob ymdrech i'w hehangu nhw yma yng Nghymru. O'r herwydd, mae cofrestru pleidleiswyr yng Nghymru yn awtomatig yn gynnig amlwg o synhwyrol i wneud y broses o gyfranogiad mewn etholiadau mor syml â phosibl. Fe fyddai'n mynd i'r afael hefyd â'r broblem barhaus o unigolion yn syrthio oddi ar y gofrestr etholiadol yn ddiarwybod, rhywbeth sy'n gyffredin ymhlith pleidleiswyr ifanc.

Fe fyddwch chi'n tawelu meddyliau'r awdurdodau lleol i raddau helaeth iawn a da iawn hynny, oherwydd eu bod nhw wedi mynegi pryderon difrifol ynghylch goblygiadau adnoddau a staffio ar gyfer gwirio hunaniaeth mewn etholiadau cyffredinol yn y dyfodol. Fe fydd y cynlluniau ar gyfer sefydlu bwrdd rheoli etholiadol annibynnol yn cryfhau atebolrwydd a thryloywder trefniadau etholiadol yng Nghymru hefyd, gan roi eu dyletswyddau nhw ar sail statudol am y tro cyntaf.

Fe hoffwn i grybwyll nawr rai o'r uchelgeisiau tymor hwy a amlinellir yn y Papur Gwyn. O ran rhyddfreinio rhai carcharorion yng Nghymru, yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chyfathrebu, a yw'r Gweinidog yn cytuno bod gweithredu'r amcan hwn yn cael ei beryglu mewn ffordd sylweddol gan gyflwr annatganoledig cyfiawnder yng Nghymru ar hyn o bryd? O ran pleidleisio electronig, a yw'r Llywodraeth wedi cynnal unrhyw ymchwil ar ymarferoldeb rhoi trefniadau o'r fath ar waith, gan gynnwys amcangyfrif o gostau? Ac yn olaf, cafwyd trafodaeth fer yr wythnos diwethaf, a oedd yn ymddangos fel pe bai'n ennyn cymeradwyaeth gan Aelodau ar draws y Siambr, ynglŷn â'r posibilrwydd o gyflwyno rhyw fath o fecanwaith adalw yng nghyd-destun Senedd ddiwygiedig. Fe wn i eich bod chi wedi codi'r syniad hwn o'r blaen, Gweinidog, felly tybed a allech chi fynegi barn ar yr awgrym a wnaeth fy nghyd-Aelod Adam yr wythnos diwethaf o ran grymuso'r pwyllgor safonau i wahardd Aelodau yn barhaol mewn amgylchiadau penodol, gyda chyfranogiad y cyhoedd? Diolch yn fawr.

A gaf i ddiolch i chi am y sylwadau hyn? A gaf i ddim ond dweud? Un peth yr wyf i wedi ceisio ei wneud ym mhob araith a roddais i ar y pwnc hwn, neu drafodaeth yn ei gylch, yw sefydlu ymhlith y ffactorau amrywiol o lesiant sydd gennym ni, fater iechyd ein democratiaeth. Oherwydd rwyf i o'r farn ei fod yn fater ledled y DU gyfan—ynghyd â materion cydraddoldeb, yr amgylchedd ac ati, rwy'n credu mai un o blith y materion llesiant y dylem ni fod yn bryderus iawn yn ei gylch yw llesiant ein system ddemocrataidd ni. Ac fe welwn ni'r hyn a all ddigwydd mewn gwledydd eraill lle mae systemau democrataidd yn dechrau dadfeilio.

O ran y pwyntiau gyda dogfennau hunaniaeth pleidleisiwr yr ydych chi'n eu codi, wel, mae fy safbwynt i wedi bod yn eglur iawn bob amser o ran pam nad ydym ni wedi mynd i lawr y ffordd arbennig honno.

Fe ddylwn i ddweud fy mod i'n gwybod fy mod i wedi anghofio, yn fy ymateb olaf i Darren Millar ynglŷn â'r panel taliadau annibynnol—. Dyna fater i graffu arno. Roedd hi'n ymddangos ei bod hi'n gwneud synnwyr, yn y pecyn o ddiwygiadau, ac yn rhesymegol y gallai hynny gael ei gynnwys yn hynny ac o fewn y gronfa honno o sgiliau yn y fan honno, a chael ei ystyried, yn hytrach na chael pwyllgor arall ar wahân. Rwy'n credu bod y mater ynglŷn â'r hyn fydd y safbwynt o ran y Senedd—a bod yn onest, rwyf i o'r farn mai mater i'r Senedd yw penderfynu ei hun sut mae hi'n credu y gallai hynny ddigwydd, yn hytrach nag i'r Llywodraeth fod yn awgrymu hynny.

O ran y pwynt y gwnaethoch chi ei godi o ran cyfiawnder, nid wyf i'n siŵr a ddeallais i'r pwynt ynglŷn â beth allai'r perthnasedd fod yn hynny o beth. Ond, wrth gwrs, fe ddaw ein gallu ni i gymryd camau o ran ein hetholiadau ni, ein hetholiadau nas cedwir yn ôl—hynny yw etholiadau'r Senedd a'r etholiadau llywodraeth leol—, yn amlwg, yn sgil Deddf 2017. Roedd manteision ac anfanteision i Ddeddf 2017. Rwyf i wedi bod o'r farn bob amser fod rheoli a rhedeg ein systemau etholiadol ni wedi bod yn bwysig iawn bob amser.

O ran pleidleisio electronig, rwy'n credu y bydd hynny'n anochel yn y dyfodol, wrth i dechnoleg ddatblygu. Rwy'n credu mai'r anhawster sydd gennym ni ar hyn o bryd yw, gan edrych ymlaen at 2026, gan ddymuno diogelu cydnerthedd pa ddiwygiadau bynnag a gawn ni, a chadernid a'r hyder sydd gan bobl yn ein system etholiadol ni, nid wyf yn credu bod y dechnoleg wedi bod yn ddigonol ar gyfer hynny eto, ac nac ydym yn barod amdani ac ati. Ond rwy'n siŵr y bydd hyn yn rhywbeth a gaiff ei ystyried yn y Senedd nesaf. Ac wrth gwrs, mae digideiddio'r gofrestr etholiadol yn gwneud hynny a llawer o ddewisiadau eraill yn bosibl, a dyna pam y gwelsom ni rai o'r cynlluniau treialu y cyfeiriais atyn nhw'n gynharach, ac rwy'n credu eu bod nhw wedi llwyddo i brofi eich bod chi'n gallu gwneud pethau mewn ffordd wahanol. Ond fe geir heriau enfawr o ran gwneud hynny ledled Cymru, yn rhannol oherwydd y systemau meddalwedd hanesyddol sydd gennym ar waith sydd braidd yn dameidiog. Felly, mae gwaith i'w wneud eto yn hyn o beth, ond ni ydym wedi cyrraedd y fan iawn ar gyfer etholiadau 2026 hyd yn hyn.

Ac ar fater mecanwaith adalw, wel nid yw hynny'n rhan o hyn; nid yw'n rhan o ddeddfwriaeth diwygio'r Senedd. Mater mwy cymhleth yw hwn, mae'n amlwg, oherwydd y newidiadau yn y system bleidleisio y bydd yn rhaid i chi eu cael pan fo gennych chi system restru a, lle bydd swyddi gwag yn digwydd, fe fyddan nhw'n cael eu llenwi ac ati. Ond mae'n sicr yn rhywbeth sydd, yn sicr, yn fy marn i, yn haeddu cael ei drafod, o ran yr hyn allai'r mecanwaith priodol fod a'r ymagwedd briodol o ran sut y byddai hynny'n gweithio mewn gwirionedd, beth fyddai'r meini prawf, yn enwedig lle mae gennych chi system nad yw'n galw isetholiadau mwyach—dyna un o'r heriau mawr. Felly, rwy'n credu bod angen llawer mwy o ystyried eto ar gyfer bwrw ymlaen â hyn, a po fwyaf yr wyf i'n meddwl am hyn, y mwyaf cymhleth y mae'n ymddangos. Ond rydym ni'n awyddus i wneud y mwyaf o atebolrwydd y lle hwn i bobl Cymru, a dyna un o'r meysydd sydd wedi cael ei godi ac mae'n siŵr y caiff ei godi eto yn ystod trafodaethau pellach. Rwy'n meddwl—rwy'n gobeithio—i mi ymdrin â phob un o'r pwyntiau. Diolch i chi.

15:10

Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'r ffaith fod y Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru, drwy reoleiddio, sefydlu a gweithredu platfform ar-lein, gyda gwybodaeth ymgeiswyr a phleidleisio ynghylch etholiadau'r Senedd ac etholiadau cyffredin i'r prif gynghorau i helpu i feithrin dealltwriaeth am etholiadau yng Nghymru. Fe fydd hi'n haws i unigolion gael eu cynnwys ar y gofrestr etholiadol drwy'r ddarpariaeth newydd arfaethedig sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob swyddog cofrestru etholiadol gofrestru pleidleiswyr cymwys yn awtomatig ar gyfer y gofrestr llywodraeth leol a chyhoeddi hysbysiad cofrestru i etholwyr cymwys.

Rwy'n gwybod am bobl sydd wedi troi i fyny i bleidleisio ac wedi cael eu gwrthod oherwydd nad ydyn nhw ar gofrestr etholiadol. Wedi newid cyfeiriad yn ddiweddar, wedi bod yn yr ysbyty, wedi bod ar wyliau hirdymor, a phan ydyn nhw'n dychwelyd ym mis Ebrill, maen nhw'n canfod, ym mis Mai, nad ydyn nhw'n gallu pleidleisio—rhywbeth yr wyf i o'r farn fod gwir angen ei unioni. Wrth gwrs, nid yw hynny'n mynd i'r afael â'r broblem wirioneddol: y broblem fwyaf yw nad yw pobl yn awyddus i bleidleisio dros unrhyw un ohonom ni, ac mae honno'n her y mae angen i bob un ohonom ni yn y pleidiau gwleidyddol fynd i'r afael â hi. Nid y system etholiadol sydd ar fai; nid yw pobl yn cael eu hysbrydoli i bleidleisio drosom ni mewn gwirionedd. Ond fy nghwestiwn cyntaf i yw: a fu unrhyw gynnydd pellach o ran caniatáu pleidleisio digidol ar-lein? Os ydyw bancio ar-lein yn ddiogel, sut y gall pleidleisio beidio â bod yr un mor ddiogel?

Diolch i chi am eich cyfraniad. Gan gymryd y pwynt olaf yna, oherwydd mae'n dilyn yr un llwybr, rwy'n credu, â'r sylwadau olaf a wnes i'r siaradwr blaenorol, rhoddwyd llawer iawn o ystyriaeth i'r materion sy'n ymwneud â phleidleisio digidol ar-lein—sut y gallai hynny weithio, beth fyddai'r gofynion o ran meddalwedd, beth fyddai maint y buddsoddiad angenrheidiol, beth yw'r risgiau pe byddech chi'n creu un system feddalwedd ar gyfer Cymru gyfan. Ar hyn o bryd, mae gennym ni nifer o ddarparwyr a chyflenwyr. Ac rwy'n credu mai'r casgliad y daethom ni ato yw mai un o'r pethau a fydd yn digwydd yn y dyfodol yw hwn. Mae angen iddo ddigwydd. Mae cymaint o feysydd lle rydyn ni i gyd yn pleidleisio nawr, onid ydym ni, ac yn gwneud pethau yn ddiogel ar-lein. Ond rwy'n credu bod cymhwyso hynny i'r system etholiadol gyfan yng Nghymru yn gofyn am lawer iawn o waith, swm sylweddol o fuddsoddiad yn ôl pob tebyg, ond yn sicr, llawer o ddata a dadansoddiad technegol, mae llawer o hynny wedi digwydd, ond yn y bôn fe ddaeth yn amlwg nad yw hyn yn rhywbeth y gallwn ni ei gyflawni ar gyfer 2026. Ond, er mwyn i hyn ddigwydd beth bynnag, mae angen i chi fod â chofrestr etholiadol ddigidol. Felly, mae rhoi honno ar waith mewn gwirionedd yn un o'r blaenoriaethau allweddol, ond pan fydd hynny'n digwydd, rwy'n credu y bydd yn sbarduno cyfres gyfan o wahanol ddewisiadau.

Fe wnaethoch chi bwyntiau eto am ddogfennau hunaniaeth pleidleiswyr. Nid yw hyn yn rhywbeth a gefnogwn ni ac nid ydym o'r farn ei fod yn angenrheidiol, ond nid yw hynny'n berthnasol o ran etholiadau Cymru. Ac o ran y platfform, rwyf i o'r farn fod yn rhaid i'r platfform, unwaith eto, fod yn annibynnol, mae'n rhaid iddo fod yn gadarn, mae'n rhaid iddo fod yn deg, ond ystyr hyn yw caniatáu i bobl gael gafael ar wybodaeth mewn byd o gamwybodaeth sylweddol, neu beth bynnag; mae'n darparu gwybodaeth sylfaenol i bobl am yr ymgeiswyr, rhai o'r pethau y maen nhw'n awyddus i'w dweud, yr hyn y maen nhw'n ei gynrychioli, ac ati. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gyfle gwych yn hyn o beth. Felly, ar gyfer 2026, fe fyddem ni'n gobeithio rhoi hynny ar waith ac yn amlwg, mae'n rhywbeth i adeiladu arno ac yn rhywbeth, fel gyda phob deddfwriaeth fel hon, y byddwch chi'n ei hadolygu wedyn, yn ei hasesu, yn edrych ar sut mae hi'n gweithio, fe fyddwch chi'n ei thrafod yn y fforwm hwn, ac yn ystyried ffyrdd o sicrhau gwelliant parhaus.

15:15

Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad yn y fan hon y prynhawn yma. Rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weithio ar y Bil yn rhinwedd fy swydd ar y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Mae hi'n debyg bod fy sylwadau a fy nghwestiynau heddiw yn dod o safbwynt llywodraeth leol yn y Bil. Fe hoffwn i ddechrau yn gyntaf trwy adleisio sylwadau terfynol eich datganiad, trwy ddiolch i'r holl bobl hynny sy'n sefyll mewn etholiadau, ein cynghorwyr gweithgar ni sy'n gwneud yr ymdrech i fynd allan a cheisio cael eu hethol oherwydd ei bod hi mor bwysig fod y lefel honno o ddemocratiaeth yn parhau i weithio yn llwyddiannus. Ac rwy'n diolch hefyd i'r swyddogion yn ein cynghorau sy'n gweithio yn galed wrth gefnogi'r broses honno hefyd. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn i gydnabod hynny yn eich sylwadau terfynol yn y fan hon heddiw. 

Ac, fel chwithau, rwy'n siomedig o ran lefel yr ymgysylltiad a welwn ni yn ein hetholiadau i'r cynghorau lleol, ceir llawer o'r rhain heb etholiadau yn cael eu cynnal o gwbl ynddyn nhw, gadewch i ni beidio ag anghofio hynny. Mae hi'n werth nodi bod ein system etholiadol gyfredol ar gyfer etholiadau i'n cynghorau yn broses eithaf syml a hawdd ei deall. Rwy'n credu mai dyna'r geiriau a ddefnyddiodd Darren Millar yn gynharach yn ei gyfraniad ef. Felly, rwy'n credu mai'r pwynt y byddwn i'n ei wneud yw o ran unrhyw newidiadau y gallai'r Bil hwn geisio eu cyflwyno, yn sicr nid ydym ni'n dymuno taflu'r llo a chadw'r brych o ran symlrwydd, bod yn hawdd ei deall ac yn weddol syml i'w chyflawni. Ac o—

Rwy'n ymddiheuro, Dirprwy Lywydd. Roeddwn i'n credu bod gennyf i fwy o funudau—

—mwy o funudau nag un yn yr achos hwn. Felly, fe fydd rhaid i mi neidio yn gyflym at rai cwestiynau, Gweinidog. Arnaf i y mae'r bai yn gyfan gwbl; rwy'n ymddiheuro.

Fodd bynnag, ynglŷn â'r pwynt hwnnw, fe hoffwn i ddeall yn syml eich syniadau chi efallai am y gwahaniaeth posibl yr ydym ni'n parhau i'w weld o safbwynt gweinyddol o ran y swyddogion etholiadol o ran systemau etholiadol y DU a systemau Cymru, a sut y caiff hynny ei reoli. 

Un pwynt yn gyflym na chafodd ei grybwyll heddiw, am nad oedd unrhyw sôn amdano yn eich datganiad chi. Yn y Bil, mae 'na sôn am gynghorwyr yn cael taliad ar ôl colli mewn etholiad. Tybed pa ystyriaeth a wnaethoch chi ei rhoi i swm y taliad hwnnw, ac a gafodd hynny ei brisio i mewn i'r £20 miliwn yr oeddech chi'n sôn amdano yn y fan hon heddiw? Diolch yn fawr iawn i chi.

Iawn. Yn gyntaf, diolch i chi am y sylwadau cynharach hynny, yr wyf i'n eu cydnabod. Mae'n debyg mai'r peth cyntaf i'w ddweud yw bod y newidiadau hyn ar gyfer 2026, felly rhwng nawr a hynny—yn sicr yn ystod y flwyddyn nesaf—rydym ni'n debygol o weld etholiad cyffredinol, ac ati. Felly, nid yw'r rhain yn cael unrhyw effaith o gwbl ar hwnnw. Rydych chi'n gywir, wrth gwrs, mae gennym wahaniaeth cynyddol. Wrth gwrs, mae gennym ni'r gwahaniaeth a gychwynnwyd gan Lywodraeth y DU o ran cardiau hunaniaeth. Cafodd hwnnw ei reoli gan yr hysbysiadau a oedd yn mynd allan yn dweud wrth bobl bod rhaid iddyn nhw fod â cherdyn hunaniaeth, ond dim ond i etholiadau seneddol y byddai hynny'n berthnasol; ni fyddai hynny'n berthnasol i etholiadau llywodraeth leol a'r Senedd. Ac yn yr un modd, wel, wrth gwrs, yr hyn fydd gennym ni yw cofrestr lle mae gennym ni rywfaint o wahaniaeth eisoes, lle mae rhai 16 a hŷn arni hi.

Mae bod â bwrdd rheoli etholiadol, rwy'n credu, yn un o'r ffyrdd sydd mewn gwirionedd yn sicrhau bod gennym ni oruchwyliaeth a rheolaeth briodol ar hynny, ac yn amlwg mater cyfathrebu. Fe fyddwn i'n gobeithio erbyn 2026—. Mae Llywodraeth y DU eisoes yn symud i lawr y ffordd o gofrestru awtomatig ar gyfer rhai 16 oed a hŷn, felly efallai y bydd gennych chi gydgyfeiriad oddi wrth lywodraeth yn y dyfodol, a hynny yn y dyfodol agos. Ac wrth gwrs yr etholiadau nesaf y byddech chi'n ymgeisio ynddyn nhw fyddai rhai 2029, felly maen nhw'n bell iawn i ffwrdd. Felly, rwy'n credu bod llawer o amser i ni ystyried, o ran y cyhoeddusrwydd, y cyfathrebu ac yn y blaen, ac mae hi'n siŵr fod technoleg yn parhau gyda hynny. Ond dyma rywbeth, yn yr holl drafodaethau a gefais i gyda'r swyddogion cofrestru etholiadol a'r rhai sy'n ymwneud â systemau etholiadol, dyma yw yn un o'r materion yr ydym ni wedi siarad amdano fwyaf ac rydym ni'n ymwybodol iawn ohono, a'r angen i fod â chymaint o eglurder a sicrwydd pan gyrhaeddwn ni'r etholiadau hynny, fel bydd pobl yn deall yn iawn beth fydd y system.

O ran mater taliadau i gynghorwyr, eu cysoni nhw, fe fyddai hynny'n golygu dull tebyg i'r hyn sy'n digwydd gyda thaliad diswyddo yn y bôn, oni fyddai? Mae rhywun i bob pwrpas yn rhoi'r gorau i ran o'i yrfa neu ran o'i swydd, ac ati. Os ydyn nhw'n colli etholiad fe fydden nhw ar y farchnad yn sydyn heb swydd neu heb incwm, ac ystyr hyn yw darparu'r hyn y byddem ni'n ei ddisgwyl, rwy'n credu, ar gyfer pob categori o bobl a gweithwyr ac ati, ac mae hynny'n lleddfu'r trawiad. Dyma sydd gennym ni yn y Senedd, dyna sydd ganddyn nhw yn San Steffan. Mewn gwirionedd, mae San Steffan yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny, a bod yn onest. Ond mater i'r panel taliadau fydd asesu a phenderfynu ar hynny, ac fe fydd hynny'n gwbl annibynnol ar y Llywodraeth.

15:20

Yn gyntaf, diolch yn fawr iawn i chi, Gweinidog, a'ch tîm chi am eich gwaith ar y Bil hwn. Rwy'n falch o weld cymaint o bwyslais ynddo ar hygyrchedd gan sicrhau bod pleidleiswyr yn teimlo yn hyderus o ran cyfranogi mewn etholiadau, oherwydd rwy'n siŵr y byddem i ni gyd yn cytuno bod angen i unrhyw ddiwygiad i'n system bleidleisio ganiatáu'r pŵer mwyaf posibl i bleidleiswyr i'w galluogi nhw i gefnogi'r ymgeiswyr o'u dewis. Mae'r dull hwn sy'n cael ei yrru gan bobl yn gyfan gwbl wahanol i'r gyfraith annemocrataidd i orfodi pleidleiswyr brofi eu hunaniaeth a weithredwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU, a barodd i filoedd gael eu dadryddfreinio er mwyn mynd i'r afael â phroblem nad yw hi'n bodoli o gwbl, bron iawn.

Fy mhwynt penodol i yw hwn: yn dilyn deddfu'r Bil hwn, fe fydd angen gwneud ymdrechion sylweddol o ran allgymorth i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r gwahaniaethau a fydd yn y systemau etholiadol, a sicrhau bod pobl yn eu deall nhw. Felly, a gaf i ofyn i chi pa gymorth a roddir i'n swyddogion cofrestru etholiadol lleol sy'n gweithio yn galed i bontio'r bwlch rhwng yr etholiadau, i sicrhau y bydd pobl yn gwybod beth yw'r gwahanol ofynion? Diolch yn fawr iawn.

Diolch i chi. Rydych chi'n codi nifer o bwyntiau pwysig. A gaf i ddweud wrthych chi, ac yn wir wrth Aelodau eraill yn y gwrthbleidiau, fy mod i'n fwy na pharod i gynnal sesiynau briffio neu gyfarfodydd technegol ar y Bil hwn, ac ati, wrth iddo ddatblygu? Mae hwn yn rhywbeth sy'n eiddo i bob ohonom ni, y mae gan bob un ohonom ni ddiddordeb ynddo, ac rwy'n fwy na pharod i wneud hynny a chyfrannu yn hynny o beth. Rydych chi'n iawn o ran bod yr egwyddor yn y pen draw—sy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno â hi—yn hyn o beth yn ymwneud â grymuso'r pleidleiswyr.

O ran hybu ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, rwy'n credu bod sefydlu'r bwrdd rheoli etholiadol a'r gefnogaeth wedyn o ran amrywiaeth ac ati, fe geir materion yno yn fy marn i a fydd yn dod trwodd oherwydd y gwaith sydd ar y gweill, lle bydd angen i ni sicrhau, lle ceir gwahaniaethau, nid yn unig dealltwriaeth well o'r system bleidleisio, ond y bydd y platfform i bleidleiswyr, rwy'n credu, y platfform i ymgeiswyr ac ati, ac ar gyfer cael gafael ar wybodaeth ynglŷn ag ymgeiswyr, yn rhywbeth y gallwn ni ei lunio o ddifrif ar sail y cymunedau, trwy ddweud wrth bobl ble mae'r wybodaeth honno i'w chael, sut y gallan nhw gael gafael arni, a rhoi cyfle i ddarparu gwybodaeth ychwanegol hefyd. Rwy'n credu y byddai hi'n ddefnyddiol iawn, yn hynny o beth, bod â gwybodaeth ynglŷn â'r dull o fwrw pleidlais mewn gwirionedd. Oherwydd mae pobl wedi gofyn i mi, 'Beth ydym ni'n ei wneud? Rwy'n awyddus i fynd allan a phleidleisio. Beth sydd raid i mi ei wneud mewn gwirionedd?' Ac fe geir pobl nad ydyn nhw'n gwybod, nad ydyn nhw wedi pleidleisio erioed ac nad ydyn nhw'n gwybod sut i fwrw eu pleidlais.

Felly, rwy'n credu bod llawer o gyfleoedd yn hyn o beth, ond rwy'n gobeithio y bydd hwn yn fater a fydd yn codi yn y broses graffu, ac yn rhywbeth sy'n rhan o'r datblygiad parhaus wrth i ni ymlwybro yn raddol tuag at 2026 ac mewn gwirionedd at system etholiadol newydd iawn sy'n fwy modern.

15:25

Fe hoffwn i estyn fy nghefnogaeth i'r Bil hwn, ond fel Sam Rowlands, rwyf innau hefyd wedi camamseru fy araith, felly rwyf i am geisio ymdrin â phwyntiau nad ydyn nhw wedi cael eu gwneud yn barod. Mae'r cyfle i gyfrinachedd o ran pleidleiswyr ag anableddau yn bwysig iawn. Pan oeddwn i'n pleidleisio yn yr etholiad diwethaf i'r Senedd, fe allai'r orsaf bleidleisio gyfan glywed ym mha flwch yr oedd un pleidleisiwr anabl yn rhoi ei groes, oherwydd y sgwrs glywadwy rhyngddo ef a'r clerc pleidleisio. Yn anffodus, Dirprwy Lywydd, nid myfi oedd derbynnydd y bleidlais honno.

Fel Darren, rwy'n croesawu'r cynnig am wasanaeth gwybodaeth ar-lein hefyd. Y mater sy'n fy mhryderu i, wrth gwrs, yw dadryddfreinio digidol, rhywbeth y gwyddom ni sy'n broblem wirioneddol yng Nghymru. Sut ydych chi am ymdrin â phobl sydd wedi eu dadryddfreinio oherwydd materion ynglŷn â thechnoleg ddigidol, i fod â'r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw?

Yn olaf, mae hi'n drueni gwirioneddol, er bod y Bil hwn yn ymdrin ag etholiadau'r cynghorau a'r Senedd, rwy'n cytuno â Peredur Owen Griffiths mai cam synhwyrol iawn yw cofrestru pleidleiswyr, ni chaiff hynny ei ymestyn hyd at yr etholiadau i San Steffan. Rwy'n sylweddoli pam mae hynny'n wir—am ei fod yn fater a gedwir yn ôl. Ond pa drafodaethau a gawsoch chi, Cwnsler Cyffredinol, gyda Llywodraeth y DU i'w helpu nhw i ddilyn Cymru i mewn i'r cyfnod modern o gofrestru pleidleiswyr? Diolch yn fawr.

Mae cyfrinachedd wrth bleidleisio yn hanfodol. Rydych chi'n gywir. Un o'r pethau y gwnaethom ni eu dysgu wrth fynd drwy'r broses hon, wrth gwrs, yw bod niferoedd cynyddol o ddyfeisiau a thechnegau—llawer yn ymwneud â thechnoleg ac ati—sy'n ei gwneud hi'n haws i rywun bleidleisio. Mae rhai ohonyn nhw'n gostus iawn. Nid yw hi'n ymarferol, yn sicr nid ar hyn o bryd, i fod â'r rhain ym mhob gorsaf bleidleisio unigol ac ati. Ond yr hyn y mae digideiddio yn ei gynnig yw darpariaeth o rywbeth y mae gennyf i gryn ddiddordeb ynddo, a hynny yw'r cyfle, rywbryd yn y dyfodol, i allu bod â chyrchfan ganolog lle mae popeth ar gael yno. Fe fyddwch chi'n gwybod mai dim ond i un lle y bydd angen i chi fynd ac fe fyddwch chi'n gallu mynd yno i bleidleisio yn gyfrinachol hefyd. Felly, dyna un o'r pethau hynny sydd ar y gorwel i raddau helaeth iawn o ran ystyried sut y gellir cymhwyso technoleg a'i mireinio ac ati.

O ran dadryddfreinio digidol, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n dal ati gyda'r system bapur hefyd. Ni fydd honno'n diflannu. Ond wrth gwrs, dyma un o'r heriau, onid yw, o ran hygyrchedd. Er enghraifft, pe byddai gennych chi blatfform digidol, fe olygai hynny mai'r rhain yn unig a fyddai â hygyrchedd. Felly, mae angen i chi ystyried materion fel llyfrgelloedd a mannau eraill lle gellir sicrhau bod y rhain ar gael ac ati.

O ran ymgysylltu â Llywodraeth y DU, wrth gwrs, mae llawer o ymgysylltu yn digwydd â Llywodraeth y DU drwy'r trefniadau rhyngweinidogol gyda'r grŵp rhyngweinidogol, yn enwedig pan oedd Bil Etholiadau 2021 yn mynd drwodd. Ynglŷn â'r mater arbennig hwnnw, i bob pwrpas, nid oeddem ni'n cyd-fynd ag ef mewn gwirionedd oherwydd roedd llawer ohono'n ymdrin â phrofi hunaniaeth pleidleiswyr a phethau cyffelyb. Nid oeddem ni'n gytûn. Ond roedd y cyfarfodydd hynny'n parhau i ddigwydd. Mae yna ymgysylltu. Rydym ni'n siarad am y pethau yr ydyn ni'n eu gwneud yng Nghymru, y pethau sy'n digwydd yn yr Alban, a materion ledled y DU, o ran y system etholiadol gyffredinol. Felly, mae'r sgyrsiau hynny'n digwydd. Ar hyn o bryd, rydym ni'n symud i gyfeiriad penodol oherwydd y diwygiadau sydd gennym ni, o ran diwygio'r Senedd a'r diwygiadau etholiadol hyn. Nid yw hynny'n golygu nad yw'r trafodaethau eraill hynny'n digwydd, ond rydym ni'n mynd gam wrth gam, o ran y newidiadau yr ydym ni'n dymuno eu gwneud.

Rwy'n croesawu eich datganiad chi'n fawr iawn, Cwnsler Cyffredinol, er ei bod rhaid i mi ddweud wrthych chi, bob tro y byddwch chi'n siarad am ddiwygio etholiadol, eich bod chi'n fy nghynhyrfu i'n ormodol fel y byddaf i'n dechrau credu bod y Llywodraeth am gyflawni polisi'r Blaid Lafur o un bleidlais drosglwyddadwy a sicrhau diwygiad gwirioneddol i'n system etholiadol ni.

A gaf i ddweud, serch hynny, cymaint yr wyf i'n cytuno â'ch pwyslais chi ar gynyddu a galluogi cyfranogiad ac amrywiaeth yn ein hetholiadau ni a'r broses o'u cynnal? Rwyf i o'r farn fod hynny'n gwbl sylfaenol. Mae canfyddiadau'r Comisiwn Etholiadol ynglŷn â'r niferoedd o bobl a allai fod heb gofrestru yn frawychus i bob un ohonom ni, ac mae angen i ni fynd i'r afael â hynny ar fyrder.

Ond rwy'n awyddus hefyd i ymdrin â'ch pwyntiau chi ynglŷn â phleidleisio electronig. Yn fy marn ni, os byddwn ni'n dymuno ysgogi cyfranogiad i'r dyfodol, gyda phleidleisio electronig byddwn ni'n gwneud hynny. Nawr, rwy'n cydnabod y pwynt a wnaethoch chi wrth roi ateb i Peredur Owen Griffiths, na fydd hyn yn barod erbyn 2026, ac rwy'n derbyn hynny. Ond yr hyn y gallwch chi ei wneud, wrth gwrs, yw rhoi deddfwriaeth alluogi ar y llyfr statud i alluogi sefydlu cynlluniau treialu a'n galluogi ni i ddechrau ar y gwaith o gyflawni o ran pleidleisio electronig. Rwy'n credu y byddai hwnnw'n ychwanegiad defnyddiol iawn, iawn i'r Bil.

Wrth gloi, ychwanegiad defnyddiol arall i'r Bil fyddai'r pwyntiau a wnaeth Darren Millar ynglŷn â bwrdd taliadau i Gymru. Rwyf i o'r farn fod hynny'n rhywbeth y gallem ni ddechrau ei ystyried yn ystod y broses hon, oherwydd mae adolygu ein byrddau a'n cyrff ni i gyd sy'n adolygu'r prosesau yma yn bwysig i bob un ohonom ni.

15:30

Mae'r rhain i gyd yn bwyntiau dilys, ac rwy'n credu eu bod i gyd yn bwyntiau a fydd, heb os, yn cael eu codi yn ystod y broses graffu. O ran pleidleisio electronig, wrth gwrs, dyma'r ddeddfwriaeth alluogi, mewn gwirionedd, oherwydd mae'n ymwneud â digideiddio'r gofrestr etholiadol. Dyna'r llwyfan allweddol y mae'r holl gyfleoedd eraill o ran pleidleisio electronig a defnyddio amrywiol systemau cymorth anabledd ac amrywiaeth yn digwydd.

Rhan o'r anhawster sydd gennym ar y cam uniongyrchol, fel y dywedais i, yw oherwydd bod gennym system dameidiog iawn yr ydym wedi'i hetifeddu o ran etholiadau. Mae'r ddeddfwriaeth yn hynod hen ffasiwn. Mae'r ffordd y mae rheolaeth etholiadol wedi digwydd bron ar sail wirfoddol a chydweithredol, heb fframwaith statudol. Dyna pam mae'r bwrdd rheoli etholiadol mor bwysig. Ond rwy'n credu mai dyna'r corff a fydd yn chwarae rhan hynod bwysig o ran ymgysylltu, o ran pethau y gellir eu cyflawni, sut y gellid eu cyflawni, ac rwy'n eithaf hyderus, ar ôl etholiadau 2026, y bydd y dechnoleg wedi datblygu ar y fath raddfa y byddwn i'n meddwl, yn y Senedd nesaf, ar ôl etholiadau 2026, mae symud ymlaen i'r cam nesaf o ddulliau etholiadol yn mynd i fod yn rhywbeth sydd bron yn anochel. 

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n gwerthfawrogi eich datganiad heddiw, Cwnsler Cyffredinol. Yn olaf, un maes yr hoffwn ymchwilio iddo ychydig yn fwy yw syniad Llywodraeth Cymru o sicrhau cofrestriad awtomatig ar y gofrestr etholiadol, pan nad yw pob person yn dymuno cymryd rhan yn y broses etholiadol, am ba bynnag reswm, boed hynny'n farn bersonol, neu, mewn rhai achosion, dros gredoau crefyddol. Un enghraifft o hynny yw Tystion Jehofa, sydd ddim yn credu mewn pleidleisio ac yn cynnal niwtralrwydd wleidyddol. Felly, pa ystyriaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u rhoi i'r mater hwn? Ydych chi'n ymrwymedig i ymgorffori safbwyntiau personol a chrefyddol wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol? Diolch. 

Diolch. Nid pleidleisio awtomatig yw cofrestru awtomatig; nid yw'n golygu bod gan bobl unrhyw rwymedigaeth orfodol. Mae llawer o bethau y mae pobl wedi'u cofrestru ar eu cyfer. Nid yw cofrestru gyda meddyg teulu yn golygu bod yn rhaid i chi fynd at eich meddyg teulu. Dyma'r dewisiadau y mae pobl yn eu gwneud. Ond o ran mater yr hyn y byddai cofrestru awtomatig yn ei olygu i'r rhai nad ydynt am fod ar y gofrestr, yr hyn rwyf wedi'i ddweud yw, ar hyn o bryd, mae gennym system lle mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i gofrestru; dyna'r system fel y mae'n bodoli ar hyn o bryd. Dyna pam rydyn ni'n cael y ffurflenni hynny ac mae'n ofynnol i chi eu llenwi. Rwy'n credu y bu amser, os ydw i'n cofio'n iawn, o gael llythyrau yn dweud bod cosb os na wnaethoch chi ei dychwelyd. Ond gan adael hynny i un ochr, yr hyn yr ydym yn ei ddweud yw bod gennym y mecanweithiau, mae gennym y gallu i gofrestru'n awtomatig, yn sicr, llawer iawn mwy o bobl nag yr ydym ar hyn o bryd. Mae gennym y gallu i wneud iawn am y diffyg, ac mae gennym y cyngor gan y Comisiwn Etholiadol—y corff statudol a sefydlwyd i'n cynghori ar y pethau hyn—sy'n dweud wrthym am wneud hynny.

Fel y dywedais i wrth Darren Millar, y broses fydd bod pobl ar y gofrestr yn awtomatig. Yna byddan nhw'n cael hysbysiad ysgrifenedig yn dweud wrthyn nhw eu bod wedi'u cynnwys yn awtomatig ar y gofrestr. Yna byddan nhw'n cael opsiynau, ac efallai mai'r opsiwn yw, efallai, nad ydych am i'ch enw ymddangos ar yr hyn sydd bellach yn gofrestr gaeedig a mwy cyfrinachol o ran peidio â bod yn gofrestr agored. Ond bydd yna bobl a allai, er diogelwch personol, rhesymau cyfreithiol personol neu beth bynnag, fod â rhesymau dros fod eisiau pleidleisio ond nad ydynt ar y gofrestr honno. Bydd hynny'n cael ei alluogi. Ond bydd ganddyn nhw hefyd yr opsiwn o ddweud, 'Nid wyf am fod ar y gofrestr o gwbl', ac os felly, ni fyddan nhw ar y gofrestr. Byddan nhw i bob pwrpas oddi ar y gofrestr awtomatig. Ni fydd yn newid y sefyllfa, serch hynny, eu bod yn dal dan rwymedigaeth i ddeddfwriaeth ledled y DU sy'n bodoli o ran cofrestru etholiadol, ond nid yw hynny'n fater sy'n effeithio arnom ni. Felly, dylai'r ddeddfwriaeth hon roi'r holl sicrwydd yr ydych wedi gofyn amdano yn hynny o beth. 

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru)

Eitem 4 yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: diweddariad ar y Bil tacsis a cherbydau hurio preifat. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Lee Waters. 

15:35

Diolch, Dirprwy Lywydd. Er mwyn cyflawni her newid hinsawdd ar frys, mae angen i ni wneud mathau cynaliadwy o drafnidiaeth yn ddewis mwy deniadol i bobl. Felly mae angen i ni gysylltu bysiau, rheilffyrdd a theithio llesol i'w gwneud y dewis hawdd i fynd o gwmpas, ac mae tacsis yn gysylltydd allweddol i bobl i'r gwasanaethau hynny. Mae cerbydau hurio preifat a thacsis yn aml yn cael eu hesgeuluso wrth feddwl am ein system drafnidiaeth gyhoeddus, ond maen nhw'n chwarae rhan bwysig wrth gysylltu'r system. Mae tacsis yn darparu cysylltiadau ar gyfer milltir gyntaf a milltir olaf teithiau, ac yn rhoi'r hyblygrwydd i deithwyr na all bysiau a threnau ei roi i gael pobl i'r man lle mae angen iddyn nhw fynd. Ac wrth i lwybrau bysiau masnachol gael eu tynnu'n ôl, mae tacsis yn achubiaeth mewn llawer o gymunedau, i gysylltu pobl o ddydd i ddydd. Mae hefyd yn bwysig cydnabod eu bod yn eithriadol o bwysig i bobl ag anawsterau symudedd.

Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd ein Papur Gwyn ar ddiwygio'r drefn drwyddedu ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat. Cawsom bron i 150 o ymatebion gan yrwyr, gweithredwyr a theithwyr, ac rwy'n ddiolchgar i bawb a ymatebodd. Ar 26 Medi, cyhoeddom grynodeb o ymatebion, a hoffwn nodi'r camau nesaf i gyflawni ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i foderneiddio'r sector.

Mae ein rhaglen ddiwygio yn ymwneud â gwella profiad teithwyr, a darparu amgylchedd gweithredu sefydlog i sicrhau bod tacsis ar gael i bobl ledled Cymru pan fydd eu hangen arnynt. Lle bynnag yng Nghymru mae unrhyw un ohonom yn camu at safle tacsi, neu'n defnyddio ap i archebu cerbyd hurio preifat, dylem allu disgwyl gwasanaeth diogel a chyson. Mynegodd ymatebwyr i'n hymgynghoriad gefnogaeth eang i'n cynnig i gyflwyno safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer gyrwyr, cerbydau a gweithredwyr. Mae llawer ledled y DU yn gefnogol o gysondeb cenedlaethol, ac mae galwadau wedi bod ar lywodraethau eraill i ddilyn ein harweiniad.

Un o'r prif gwynion gan yrwyr, yn enwedig yn ne-ddwyrain a gogledd-ddwyrain Cymru, yw bod gyrwyr o ardaloedd sydd â safonau hyfforddi a phrofion îs yn cystadlu'n annheg gyda nhw am deithwyr. Nid yw'r traws-ffinio bondigrybwyll hwn yn rhoi lefel gyson o ddiogelwch a gwasanaeth cwsmeriaid i deithwyr, ac mae'n wael i yrwyr a gweithredwyr hefyd.

Roedd llawer o ymatebwyr hefyd yn teimlo y dylid cadw disgresiwn i awdurdodau lleol osod safonau lleol ychwanegol i leiafswm. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i gwblhau'r safonau cenedlaethol. O ganlyniad, pryd bynnag y byddwch yn defnyddio tacsi neu gerbyd hurio preifat yng Nghymru, byddwch yn sicr bod y gyrrwr, y cerbyd a'r gweithredwr wedi bod yn destun yr un gofynion, gwiriadau diogelwch a hyfforddiant.

Roedd gan ymatebwyr farn gymysg am oblygiadau safonau cenedlaethol ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat sydd wedi'u trwyddedu yn Lloegr ac yn gweithio yng Nghymru. Ni fyddwn yn atal teithiau cyfreithlon sy'n croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Byddwn yn ceisio cyflwyno mesurau diogelu i sicrhau nad yw gyrwyr yn cael trwydded yn Lloegr er mwyn osgoi safonau cenedlaethol Cymru. A byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar ddwy ochr y ffin wrth i ni ddatblygu ein cynigion.

Gofynnodd yr ymatebwyr i ni fod yn ystyriol y bydd codi safonau yn dod â rhai costau ychwanegol i'r sector. Nid yw gyrwyr a gweithredwyr yn ddiogel rhag yr argyfwng costau byw a'r heriau economaidd difrifol sy'n wynebu pob sector. Nid ydym yn cynnig safon aur ond dull cytbwys a fydd yn codi'r safonau o ran arfer gorau a rhoi chwarae teg i yrwyr a gweithredwyr.

Mae'r amrywiaeth presennol mewn safonau ledled Cymru yn golygu y bydd costau'n amrywio o un awdurdod lleol i'r llall. Yr hyn sy'n amlwg, serch hynny, yw mai'r ardaloedd lle bydd y costau ar eu huchaf fydd y rhai lle bydd y buddion yn cael eu teimlo fwyaf. Dyma'r ardaloedd lle mae'r gwasanaeth wedi bod yn gweithio i ostwng safonau tan nawr.

Roedd yr ymatebwyr eisiau prosesau clir a syml ar gyfer gorfodi safonau. Ac roedd ymatebwyr yn gyffredinol o blaid galluogi awdurdodau lleol i gymryd camau gorfodi yn erbyn cerbydau a gyrwyr sy'n gweithredu y tu allan i'r ardal. Roedd hyn yn arbennig o wir lle mae risg uniongyrchol i ddiogelwch y cyhoedd.

Er mwyn gwella diogelwch ymhellach, rydym yn gweithio gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i archwilio opsiynau ar gyfer rhannu gwybodaeth well rhwng awdurdodau lleol a theithwyr. Rydym hefyd wedi gwrando ar bryderon gyrwyr am eu diogelwch, a byddwn yn adolygu gofynion fel gwisgo bathodynnau a theledu cylch cyfyng.

Mae ffenomen yr hyn a elwir yn aml-apio bellach wedi dod yn nodwedd o'r farchnad tacsi. Gall gyrwyr sicrhau eu bod ar gael i'w llogi ar sawl ap ffôn sy'n archebu tacsi ar unwaith ac yna canslo taith os daw cynnig gwell. Yn ogystal â chythruddo pobl, mae hyn hefyd yn peri risg i ddiogelwch teithwyr. Roedd barn gymysg am achosion canslo ac nid oedd consensws ynghylch y camau a fyddai'n effeithiol i'w hatal. Felly, byddwn yn parhau i adolygu'r mater hwn wrth i ni ddatblygu ein cynigion, a byddwn yn croesawu barn yr Aelodau. 

Roedd ymatebwyr o'r fasnach yn poeni am gostau ac ymarferoldeb trosglwyddo i gerbydau dim allyriadau. Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gyflawni sero net erbyn 2050, a bydd datgarboneiddio ceir yn rhan bwysig o hynny. Ond rwy'n cydnabod bod heriau, gan gynnwys cost prynu cerbyd trydan, pryder am ba mor bell y gall cerbydau gyrraedd ac argaeledd seilwaith gwefru. Dirprwy Lywydd, ni all Cymru symud yn gyflymach na gweddill y DU ar y materion hyn, ond rydym yn disgwyl i'r fasnach tacsi a cherbydau hurio preifat drosglwyddo i gerbydau trydan yn unol â gweddill y farchnad ceir.  

Felly, gyda'i gilydd, rwy'n credu bod hwn yn becyn synhwyrol o fesurau a fydd yn gwella'r diwydiant tacsi i deithwyr a gyrwyr, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r fasnach a theithwyr i sicrhau bod ein deddfwriaeth yn gweithio i Gymru gyfan. Diolch.

15:40

Rwy'n croesawu diweddariad y Dirprwy Weinidog ar y Papur Gwyn, yn ogystal â'i gydnabyddiaeth o'r angen i foderneiddio'r sector. Mae'n amlwg bod diogelwch teithwyr yn hanfodol, ac rwy'n falch y bydd gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd manylach a mwy o ddiogelwch i oedolion a phlant sy'n defnyddio tacsis a cherbydau hurio preifat. Fodd bynnag, mae angen rhagofalon diogelwch arnom hefyd ar gyfer y gyrwyr tacsi eu hunain. Gwnaeth y Dirprwy Weinidog grybwyll teledu cylch cyfyng. Rydyn ni i gyd wedi clywed nifer o adroddiadau am ymosodiadau ar yrwyr tacsi Cymru. O Ynys Môn i Gaerdydd, mae gyrwyr tacsis wedi dioddef ymosodiadau difrifol gan deithwyr o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, ac mewn rhai achosion y ddau. Er enghraifft, cymerwch achos Mr Ali o Gaerdydd, a gafodd anaf difrifol i'w ben yn 2021 â newidiodd ei fywyd oherwydd ymosodiad milain gan deithiwr a oedd yn feddw a dan ddylanwad cocên. Diolch byth, cafodd ei ymosodwr ei garcharu. Mewn gwirionedd, mae mwy o yrwyr benywaidd bellach yng Nghymru, felly mae hefyd yn hanfodol ein bod yn ystyried eu diogelwch nhw.

Rwy'n gweld mai gweledigaeth y Dirprwy Weinidog ar gyfer y papur hwn yw system drwyddedu sy'n 'addas ar gyfer Cymru fodern', ac, rwy'n dyfynnu, sy'n 

'hyrwyddo diogelwch i deithwyr a gyrwyr'.

Ond rwy'n pryderu nad yw'r Papur Gwyn yn mynd i ddigon o ddyfnder a manylder ynghylch sut y bydd hyn yn digwydd mewn gwirionedd. Felly, a all y Dirprwy Weinidog amlinellu'r hyn y bydd yn ei wneud, neu o leiaf roi rhywfaint o sicrwydd inni y bydd yn cyflwyno cynigion manylach ar fesurau diogelwch i yrwyr tacsi? Hoffwn hefyd wybod pa ystyriaeth y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i rhoi i ddiogelwch gyrwyr benywaidd. Ar ben hynny, roedd cyfanswm y gyrwyr trwyddedig yng Nghymru yn 2022 yr isaf mewn 17 mlynedd, felly sut y bydd y Dirprwy Weinidog yn annog mwy o yrwyr i'r sector drwy'r Papur Gwyn?

Dirprwy Lywydd, rwyf hefyd yn croesawu'r Papur Gwyn gan y bydd pwyslais ar wneud y fflyd tacsis a cherbydau hurio preifat yn ddi-allyriadau erbyn 2028. Rwy'n gweld bod y ddogfen ymgynghori yn dweud mai un ffordd o gyflymu i gerbydau di-allyriadau yw gosod dyddiad terfyn ar gyfer pob tacsi a cerbyd hurio preifat. Ond pa ystyriaeth y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i rhoi i gymorth ychwanegol i weithredwyr tacsis a cherbydau hurio preifat gyrraedd y targed hwn a sicrhau ei fod yn fforddiadwy mewn gwirionedd, gan ein bod ni i gyd yn gwybod nad yw ceir eco-gyfeillgar yn rhad? Dim ond un awdurdod lleol yng Nghymru, Casnewydd, sydd â safonau allyriadau ar waith ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat, felly pa ymdrech y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei gwneud i sicrhau bod cynghorau hefyd yn annog cerbydau dim allyriadau yn eu hardaloedd?

Rwyf wedi bod yn helpu etholwr yng Nghasnewydd a gododd bryderon ynghylch cyflwr presennol gwasanaethau tacsi ar gyfer cadeiriau olwyn yn y ddinas. Dywedodd wrthyf fod y diffyg tacsis sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn y gellir eu harchebu ymlaen llaw, mewn gwirionedd, yn achosi rhwystr ac anghyfleustra sylweddol iddo. Rwyf hefyd wedi codi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda'r Dirprwy Weinidog a Chyngor Dinas Casnewydd, a ddywedodd wrthyf eu bod wedi codi'r pryderon hyn drwy ymgynghoriad y Papur Gwyn. Felly, Dirprwy Weinidog, a allwch chi egluro sut y bydd y Papur Gwyn yn helpu gyda'r broblem hon a phroblemau fel hyn wrth symud ymlaen? Nid oes gan ddeunaw o bob 22 awdurdod lleol yng Nghymru ofyniad ar hyn o bryd am hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd ar gyfer gyrwyr, felly a allwch chi ddweud wrthyf sut y bydd y Papur Gwyn yn helpu i fynd i'r afael â hyn? 

Unwaith eto, hoffwn hefyd amlinellu ein cefnogaeth i'r egwyddorion y tu ôl i'r Papur Gwyn. Gyda rhai man newidiadau, gall hyn yn sicr wella'r gwasanaeth ar gyfer teithwyr a gyrwyr. Dirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn gwrando'n astud ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gafodd fel y bydd y ddeddfwriaeth ddilynol yn deg, yn gadarn ac yn gynhwysol i bawb. Diolch.

Hoffwn ddiolch i Natasha Asghar am y gefnogaeth eang i'r dull rydym yn ei ddefnyddio ac am y ffordd adeiladol y mae hi wedi ymgysylltu ag ef. Mae hi wedi gofyn nifer o gwestiynau i mi a byddaf yn gwneud fy ngorau yn yr amser i'w hateb. O ran diogelwch i yrwyr tacsi, fel y soniais i, byddwn yn dal i gadw meddwl agored ynghylch a ddylai teledu cylch cyfyng fod yn ddisgwyliad trwyddedu ai peidio. Doeddwn i ddim wedi ei gynnwys yn y Papur Gwyn i ddechrau, oherwydd roeddwn i'n poeni am y gost ar ei gyfer ar adeg o anhawster economaidd, ond rhaid i mi ddweud mai'r ymateb gan y sector yw y byddai llawer o yrwyr yn croesawu teledu cylch cyfyng. Wrth gwrs, does dim byd yn eu hatal rhag ei wneud beth bynnag, ac, ar y cwestiwn penodol am yrwyr sy'n fenywod, mae hynny'n rhywbeth y gallai gyrwyr unigol fod eisiau ei wneud. Dywedir wrthyf fod y gost gyfartalog oddeutu £350 ar gyfer system sy'n cydymffurfio. Mae yna broblem gyda'r ffaith y bydden nhw wedyn yn dod yn rheolwyr data o dan y rheoliadau data, a allai fod yn ddatgymhelliad i rai gyrwyr, ond mae'n ddigon posibl y bydd y farchnad yn esblygu, ac efallai y bydd gwasanaethau eraill ar gael i yrwyr gymryd yr angen biwrocrataidd hwnnw i ffwrdd. Felly, rydyn ni'n cadw meddwl agored ar hynny, ac rwy'n credu bod anogaeth gref i yrwyr tacsi osod eu teledu cylch cyfyng eu hunain, p'un a ddylai fod yn amod rheoleiddio, rwy'n credu ein bod ni yn dal i ystyried, a byddwn yn croesawu barn yr Aelodau ar hynny. Mae'n gwestiwn agored. 

Dywedodd hi yn gywir hefyd—y nifer isaf o yrwyr yn y sector am 17 mlynedd. A dyna pam rydyn ni'n gobeithio mai effaith gyffredinol y pecyn diwygio hwn fyddai codi safonau, cael cysondeb safonau, rhoi rhywfaint o sicrwydd i yrwyr am yr amgylchedd gweithredu y byddent yn mynd iddo. Mae problemau gwahanol mewn gwahanol rannau o Gymru. Yng Nghaerdydd a Chasnewydd, mae'r prif bryder yn ymwneud â thraws-ffinio a gallu gyrwyr i ennill bywoliaeth, os gall tacsis sydd wedi'u trwyddedu i safonau is ddod i mewn a dewis eu teithiau pris gorau. Yn y rhan fwyaf o rannau eraill o Gymru, diffyg gyrwyr yw'r broblem, ac, yn sicr, yn Llanelli, lle fyddaf i'n ceisio cael tacsi o dro i dro, mae'n anodd iawn dod o hyd i un. Felly, rwy'n credu, mae angen i ni edrych ar hyn mewn ffordd ychydig yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru. Ond rwy'n credu, yn gyffredinol, mai pwrpas y diwygiad hwn yw darparu mwy o sefydlogrwydd i'r sector, a fyddai wedyn yn creu amgylchedd mwy deniadol i yrwyr ail-ymuno ag ef. 

Ar fater y dyddiad terfyn ar gyfer cerbydau trydan, ein bwriad yw defnyddio'r ddeddfwriaeth hon i roi pwerau i Lywodraeth Cymru bennu dyddiad terfyn ar ryw adeg yn y dyfodol ar gyfer cyflwyno mandad cerbyd trydan. Nid yw hynny'n rhywbeth y mae gennym unrhyw fwriad i'w sbarduno, yn sicr o fewn tymor y Senedd hon nac yn y dyfodol rhagweladwy. Fel y dywedais i yn fy natganiad, rydyn ni'n disgwyl i'r farchnad ledled y DU aeddfedu ar adeg debyg, ac nid wyf yn credu bod unrhyw fantais i Gymru fynd ar y blaen i weddill y DU wrth geisio defnyddio ein mandad a'n pwerau i gyflymu'r farchnad yng Nghymru. Mae angen i ni sicrhau bod gennym seilwaith gwefru digonol a bod y ceir yn fforddiadwy, ac mae hynny'n ddarlun sy'n esblygu. Felly, nid ydym yn bwriadu defnyddio'r rheoliadau hyn i gyflymu hynny y tu hwnt i'w gynnydd yn y farchnad naturiol. Ar y pwynt olaf am—. Yn amlwg, yn union fel atodiad i hynny, gofynnoch chi beth rydyn ni'n ei wneud i annog pobl sy'n defnyddio cerbydau trydan—rydyn ni'n treialu, gyda dinas-ranbarth Caerdydd ac eraill, pwyntiau gwefru sydd wedi'u cysegru ar gyfer tacsis trydan mewn mannau allweddol i geisio sicrhau bod ganddyn nhw flaenoriaeth pweru pan fydd ei angen arnyn nhw, er enghraifft.

Gan droi at anabledd a diffyg ceir sy'n addas ar gyfer teithwyr anabl a'r nifer sy'n manteisio ar hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd, mae hynny'n rhywbeth yr ydyn ni'n ymwybodol ohono ac yn gweithio'n agos iawn gyda'r sector arno wrth ddatblygu'r pecyn hwn o ddiwygiadau. Drwy fod â set gyson o safonau ledled Cymru, gallwn ni sicrhau bod yr hyfforddiant ar gael yn gyson, ac mae hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd yn rhywbeth y byddem ni'n meddwl yn sicr y dylai fod ar gael i bob rhan o Gymru ac a ddylai fod yn amod o gael trwydded. Ac, unwaith eto, yn yr un modd, mae bod â cheir sy'n addas i'r diben i gyd yn rhan o sicrhau bod gennym sector tacsi mwy aeddfed gyda mwy o sicrwydd economaidd a fyddai'n caniatáu i'r buddsoddiad hwnnw gael ei wneud. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n ateb y cwestiynau y gofynnodd hi, a byddwn i'n hapus i drafod ymhellach os oes cwestiynau eraill.

15:45

Cyn imi fynd mewn i fanylder ar y ddeddfwriaeth, rwy'n meddwl ei bod yn bwysig cydnabod y sialensau mae menywod a theithwyr bregus yn eu hwynebu gyda’r system drafnidiaeth bresennol, gan gynnwys tacsis. Dyw e ddim dim ond, oherwydd hynny, yn gwestiwn o gyfleustra i gael tacsi, ond mae yna gwestiynau pwysig o ran diogelwch ac urddas hefyd. Yn rhy aml dŷn ni'n clywed straeon o aflonyddu ac o ymosodiadau. Mae hyn yn staen ar ein cymdeithas, ac mae'n rhaid inni fynd i’r afael â’r broblem. A dwi'n croesawu beth sy'n cael ei ddweud am hyn.

Yn rhy aml, hefyd, wrth gwrs, mae diffyg cysylltedd yn ein systemau trafnidiaeth, ac mae diffyg hygyrchedd. Ar y cwestiwn o fynediad ar gyfer pobl sydd ag anableddau, bu croeso mawr pan, yn 2017, daeth yn erbyn y gyfraith i yrrwyr tacsi wahaniaethu yn erbyn pobl mewn cadair olwyn. Ond er hynny, dywedodd 64 y cant o bobl a wnaeth gymryd rhan mewn arolwg gan Disability Wales eu bod nhw wedi cael problemau wrth geisio cael tacsi. Bu rhieni yn sôn am ymddygiad gwarthus gan rai gyrwyr tuag at eu plant oedd gydag anghenion arbennig. Buaswn i'n gwerthfawrogi clywed, Dirprwy Weinidog, sut dŷch chi'n meddwl bydd y ddeddfwriaeth newydd yn gwella’r sefyllfa yma.

Ac rydych chi wedi sôn am gynaliadwyedd y fflyd. Mae hefyd yn allweddol ein bod ni'n sicrhau bod y trawsnewid, fel y dywedwyd eisoes, yn ymarferol ac yn deg. Felly, byddwn yn gofyn yn benodol a allech chi nodi unrhyw fanylion ar fecanweithiau ariannol sydd ar waith i gefnogi gweithredwyr tacsis a gyrwyr i drosglwyddo i'r cerbydau mwy ecogyfeillgar hynny, yn ychwanegol at yr hyn a ddywedwyd eisoes.

O ran diogelwch teithwyr a hyfforddi gyrwyr, rwyf hefyd yn croesawu'r newyddion am fwy o wiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Byddwn i'n gofyn a oes unrhyw fesurau eraill yr hoffech chi dynnu sylw atyn nhw yr ydych yn credu y gallen nhw roi mwy o dawelwch meddwl i fenywod ifanc yn y dyfodol, wrth fynd i mewn i dacsis. Fe wnaethoch chi grybwyll mewn ymateb i Natasha am teledu cylch cyfyng a sut rydych chi'n cadw meddwl agored am hynny. Rwy'n credu ei fod yn haeddu ystyriaeth ddifrifol ynghylch a ddylai fod yn orfodol, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n un peth—. Rwy'n sicr yn gwybod, pan fyddaf wedi mynd i mewn i dacsi yn hwyr yn y nos ac rwy'n gallu gweld bod camera, mae'n rhoi tawelwch meddwl i mi. Felly, rwy'n credu y byddai'n werth edrych ymhellach.

Gweinidog, rydych chi wedi sôn am hurio trawsffiniol a sut mae hynny'n broblem enfawr yn enwedig yng Nghasnewydd a Chaerdydd—y dinasoedd mwy—oherwydd bod cymaint o yrwyr sydd wedi'u trwyddedu mewn mannau eraill sy'n gweithio yn y dinasoedd hynny. Rwy'n credu bod y ddadl y byddai safonau cenedlaethol yn gwneud hurio trawsffiniol yn dderbyniol—does bosib bod hynny'n wir, oherwydd does dim all gymryd lle gwybodaeth leol. Os yw awdurdodau lleol yn dal i weinyddu trwyddedu, yna mae'n rhaid i brofion gwybodaeth leol fod yn hanfodol, oherwydd gall technoleg fethu, mae yn methu ac nid yw dibynnu ar system llywio lloeren yn unig yn dderbyniol. Felly, rwy'n falch o glywed y byddwch chi yn gweithio i fynd i'r afael â rhai o'r materion hynny.

Ac rwy'n gwybod bod aml-apio, fel yr ydych chi wedi sôn, hefyd, yn fater dybryd, lle mae'n rhaid caniatáu i yrwyr hunangyflogedig weithio i ba bynnag gwmni a faint bynnag o gwmnïau maen nhw'n eu dewis. Bydd y prif gwmnïau, rwy'n gwybod, yn parhau i lobïo bod gyrwyr sy'n gweithio ar apiau lluosog yn cynyddu'r tebygolrwydd o ganslo ond pe bai gan y prif gwmnïau gyfraddau tariff gwell a phe na bydden nhw'n gorlifo'r farchnad gyda mwy a mwy o yrwyr, yna efallai na fyddai gyrwyr yn teimlo'r angen i aml-apio yn y lle cyntaf. Ac rwy'n gwybod bod rhai cynghorau'n ymchwilio i gyfyngiadau ar yrwyr sy'n gweithio gyda mwy nag un cwmni. Os caniateir iddyn nhw wneud hyn, gwn fod pryderon y gallai atal busnesau newydd, neu efallai cwmni cydweithredol arall sy'n eiddo i yrwyr fel y cyn gydweithfa tacsi, Drive—byddai'n eu hatal rhag mynd i mewn i'r farchnad, sef, yn ôl pob tebyg, beth mae'r prif gwmnïau eisiau i ddigwydd. Felly, rwy'n falch y byddwch yn monitro hyn. Rwy'n credu bod llawer o wahanol agweddau y mae angen eu cadw mewn cof â hynny.

Felly, ar y cyfan, rwy'n cytuno bod y Bil hwn yn cynnig cyfle pwysig iawn i fynd i'r afael â chynaliadwyedd, diogelwch menywod, yr angen am systemau trafnidiaeth mwy integredig a systemau trafnidiaeth mwy hygyrch, a byddwn yn croesawu clywed mwy o fanylion am rai o'r pwyntiau hynny. Diolch yn fawr.

15:50

Diolch. Unwaith eto, diolch am gefnogaeth eang i'r ymagwedd a'r ffordd adeiladol rydych chi wedi ymgysylltu â hyn. Fe wnaf geisio ateb rhai o'r pwyntiau hynny. Felly, rwy'n credu, ar fater diogelwch menywod yn arbennig, fod mater teledu cylch cyfyng yn rhywbeth y byddwn i'n awyddus iawn i glywed barn bellach amdano. Fel bob amser gyda'r pethau hyn, mae cydbwysedd, ac yn yr un modd â'r cwestiynau terfynol a ofynnodd Delyth Jewell am wybodaeth leol a'r mater o drawsffinio. Mae angen i ni ystyried beth yw'r rhwystrau mynediad yma ar gyfer y fasnach, oherwydd, fel y crybwyllodd Natasha Asghar eisoes, mae gennym y nifer isaf o yrwyr ers 17 mlynedd. Yr hyn a ganfuom gyda chyflyrau anabledd, er enghraifft, os ydych chi'n rhoi gofyniad ar gerbydau hacni i fynd â theithwyr anabl, rydych yn aml yn y pen draw yn gweld pobl yn gadael yr elfen tacsi ac yn mynd i faes cerbydau hurio preifat, lle mae gennych lai o ysgogiadau.

Mae hwn yn gydbwysedd rheoleiddio sensitif ac mae angen i ni fod yn ofalus nad ydym yn creu canlyniadau anfwriadol yn ddiarwybod. Rwy'n credu, yn y bôn, fod gennym system reoleiddio ddirgel iawn o hyd lle rydym yn gwahaniaethu rhwng tacsis a cherbydau hurio preifat pan, yn gynyddol, nad yw aelodau'r cyhoedd yn deall y gwahaniaeth hwnnw, ac mae'r gwahaniaeth yn cael ei wneud yn aneglur gan dechnoleg, oherwydd, mewn theori, tacsi yw'r unig gerbyd y gellir ei gael o safle tacsis, ac mae'n rhaid archebu cerbyd hurio preifat. Ond pe baech chi'n dod ar draws cerbyd hurio preifat yn eistedd yno a oedd yn defnyddio ap, gallech chi sefyll wrth ei ymyl, defnyddio'ch ap, archebu taith, mor hawdd â hynny, mae gennych chi dacsi. Ond, mewn gwirionedd, mae'r un peth â cherbyd hacni. Felly, rwy'n credu bod technoleg yn newid y ffiniau yma o'r hyn y mae'r gwahaniaethau hynafol hyn yn ei olygu.

Hefyd, mae cydbwysedd rhwng y defnyddiwr a'r gweithredwr. Yn amlwg, mae defnyddwyr eisiau dewis, maen nhw eisiau prisiau is, mae gweithredwyr eisiau gallu gwneud bywoliaeth weddus a chael set broffesiynol o safonau wrth ei wneud. Yn amlwg, rydym am roi'r amodau hyn yn ymwneud â hyfforddiant, cydraddoldeb a cherbydau ar waith. Felly, nid yw hon yn sefyllfa syml i geisio rheoleiddio'n ddeallus ynddi, ac rydym yn gorfod cofio'r holl bethau hynny.

Roeddwn i'n mynd i ddweud, am ddiogelwch menywod, fod y farchnad eisoes yn symud ymlaen yma. Felly, er enghraifft, os ydych chi'n defnyddio ap Uber, sydd ond ar gael mewn rhai rhannau o Gymru, un o'r pethau rwy'n gwybod y mae menywod sy'n deithwyr yn ei werthfawrogi yw'r ffaith eich bod chi'n gwybod pwy yw'r gyrrwr ymlaen llaw. Mae yna atebolrwydd. Maen nhw'n gwybod pwy ydych chi, rydych chi i gyd yn rhoi sgôr i'ch gilydd, mae llun, mae yna enwau, ac rwy'n credu bod hyn yn rhoi llawer o ddiogelwch, nid yn unig i fenywod, ond i bobl eraill hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n ddatblygiad i'w groesawu yn y farchnad. Yn amlwg, nid yw hynny'n gweithio yn yr un ffordd ar gyfer cerbydau hacni, ac nid yw'r un peth i bob ap a phob darparwr gwahanol. Felly, unwaith eto, y cwestiwn yw i ba raddau ydym ni'n ceisio rheoleiddio yn wahanol yng Nghymru a cheisio gorfodi hyn ar farchnad sydd yn newid. Rwy'n credu bod y rhain yn ddyfarniadau sensitif. 

Ar y mater cymhellion i ddechrau defnyddio cerbydau trydan, ar hyn o bryd fy marn i yw bod gennym adnoddau cyfyngedig. Edrychom ar y posibilrwydd o gynllun sgrapio ceir i yrwyr tacsis er mwyn eu cymell—ar hyn o bryd, nid dyna'r flaenoriaeth uchaf o ran lle gallwn ni roi ein hadnoddau. Rwy'n credu, wrth i Gyngor Caerdydd ddatblygu ei gynlluniau ar gyfer parth aer glân, ardal codi tâl ar gyfer y ddinas, sydd bedair blynedd, bum mlynedd i ffwrdd, dim ond i dawelu meddyliau cydweithwyr cyn iddynt gyffroi—rwy'n credu bod mater cynlluniau sgrapio ceir yn rhywbeth y mae wir angen ei ddylunio ar ei gyfer ac yn arbennig yn y sector tacsi. Felly, nid wyf yn credu bod hynny'n rhywbeth yr ydym am edrych arno yn y rownd bresennol hon o ddiwygiadau, ond mae hynny'n sicr yn rhywbeth y mae angen i ni fod yn meddwl amdano ar gyfer y rownd nesaf o ddiwygiadau.

Er mwyn tawelu meddwl Delyth Jewell, rydym yn gweithio'n agos gyda'r grŵp trafnidiaeth tasglu anabledd ar ddylunio ein cynigion ar gyfer y ddeddfwriaeth, ac mae honno'n ddeialog adeiladol a defnyddiol iawn. Unwaith eto, rwy'n gobeithio fy mod i wedi ateb y cwestiynau. Os nad wyf wedi gwneud hynny, byddaf yn hapus i'w cymryd ar wahân.

15:55

Diolch am fynd i'r afael â'r mater trawsffiniol, sy'n bwnc trafod eithaf mawr yng Nghaerdydd. Does gen i ddim gwrthwynebiad i dacsis fod yn dod â phobl i Gaerdydd o ardaloedd eraill ac yna eisiau defnyddio'r daith adref i gael ei hariannu gan deithiwr arall sy'n mynd i'r cyfeiriad hwnnw, ond mae gan Gaerdydd ormod o dacsis, a rhan o'r rheswm pam mae gormod yw oherwydd  bod rhai pobl, heb amheuaeth, yn cael trwydded mewn ardal lle mae'n haws cael trwydded, ac yna maen nhw'n dod i weithio yng Nghaerdydd. Nid yw hynny'n deg i yrwyr tacsi Caerdydd a allai fod yn gorfod gweithio oriau llawer hirach er mwyn ennill bywoliaeth briodol, ac mae gan hynny ei broblemau diogelwch ei hun hefyd.

Meddwl oeddwn i tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am y gwaith gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i ddarparu gwell rhannu gwybodaeth rhwng awdurdodau lleol, oherwydd, yn ôl pob tebyg, mae'r dechnoleg yn bodoli i olrhain faint o amser yr oedd cerbyd yn ei dreulio yn yr ardal lle mae wedi'i drwyddedu ac mewn gwirionedd yn darparu gwasanaeth yno, yn hytrach na chyfran yr amser y gallai fod yn pysgota yn nyfroedd Caerdydd, oherwydd rydyn ni i gyd yn ymwybodol bod Donald Duck ac eraill wedi llofnodi'r ddeiseb yn erbyn yr 20 mya diofyn mewn ardaloedd preswyl, ac, yn yr un modd, gallech fod â phobl yn esgus eu bod yn byw mewn ardal lle'r oedd amodau trwyddedu llai beichus a allai fod yn berson cymwys a phriodol neu ddim.

16:00

Rwy'n cael fy nhemtio i ddweud y ces i y Donald Duck yna yng nghefn fy nhacsi y diwrnod o'r blaen, ond fyddai hynny ddim yn wir. [Chwerthin.]

Felly, diolch am y pwyntiau hynny a godwyd gennych. Felly, rwy'n credu bod y mater o drawsffinio yn un anodd, ac rwy'n credu bod dwy brif ffordd y gallwn ni ddelio â hyn. Mae yna nifer o yrwyr tacsi sy'n credu y dylem ni fod â therfyn ar nifer y tacsis sy'n cael trwyddedau, ac mae hynny wedyn yn eu galluogi i ennill tâl da, oherwydd mae hynny'n rhoi pŵer economaidd iddyn nhw, yn amlwg. Rydyn ni'n cydbwyso hynny â'r angen i brisiau fod yn gystadleuol ac i deithwyr gael pris is, ac yn sicr model busnes rhai o'r cwmnïau newydd hyn i'r farchnad, fel Uber ac eraill, fu gostwng y pris, ac yna mae'n rhaid i'r gyrrwr gymryd y glec honno. Felly, fel y dywedais i, mae'n ddarlun sy'n dod i'r amlwg, ac mae'r rhain yn arfau heb lawer o fin.

Yr opsiwn arall, a'r un mwyaf deniadol i fi ar y cam hwn, yw dweud, 'Wel, gadewch i ni ddileu gwahaniaeth rhwng trwydded tacsi a gyflwynwyd yng Nghasnewydd, er enghraifft, a thrwydded a gyflwynwyd yng Nghaerdydd.' Os oes rhaid iddyn nhw fodloni'r un safonau, yna does dim cymhelliant economaidd ar gyfer tanbrisio mewn ardal wahanol, a hefyd, yn hollbwysig, mae mater gorfodi. Felly, os gall awdurdod lleol Caerdydd orfodi ceir, ni waeth o ble maen nhw wedi dod, sydd yn eu hardal, mae hynny, rwy'n credu, yn caniatáu chwarae teg. Ar hyn o bryd, ni allan nhw wneud hynny, dim ond yn erbyn tacsis Caerdydd y gallan nhw orfodi, sydd wedyn yn creu'r sefyllfa y mae Jenny Rathbone yn ei hamlygu bod tacsis o Gasnewydd yn gorlifo marchnad Caerdydd ar sail pwynt mynediad rhatach. Felly, trwy gydraddoli'r pwynt mynediad a chydraddoli'r orfodaeth, rwy'n credu bod honno'n ffordd decach o ddelio â'r broblem y mae hi'n ei disgrifio. Ond mae yna farn arall ar hynny, ac mae honno'n ddadl sy'n dal i fynd rhagddi.

Rwy'n credu mai'r mater anoddach sy'n dod i'r amlwg yw tacsis wedi'u trwyddedu gan awdurdodau yn Lloegr—rwy'n ymwybodol yn benodol bod Wolverhampton yn ganolfan lle mae modd trwyddedu cwmnïau tacsi ar safon is, ac sydd wedyn yn gweithredu ar draws y DU, ac mae rhai achosion o hynny'n digwydd yn y Cymoedd yn Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, ac mae hynny'n rhywbeth rydyn ni'n dod yn ymwybodol ohono ac yn awyddus i edrych i mewn iddo ac ystyried pa opsiynau sydd gennym ni i allu delio â hynny.

O ran mater y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, pan oeddem yn trafod dyluniad yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, un o'r cynigion oedd cael cronfa ddata fawr lle gallai pob awdurdod lleol rannu data, fel y gallent edrych ar gofrestriadau, gallent edrych ar faint sydd wedi canslo a'r data a gasglwyd. Rwy'n nerfus iawn ynglŷn â chreu rhaglenni meddalwedd cyfrifiadurol mawr newydd i greu cronfeydd data, felly, yn hytrach na neidio i ddatrysiad TG, rwyf wedi gofyn i'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol weithio gyda ni a'r sector i ganolbwyntio ar anghenion defnyddwyr, ac mae hyn yn rhan o strategaeth ddigidol Cymru, a defnyddio sgiliau dylunio gwasanaethau i ddeall beth yw'r broblem ac i adeiladu datrysiad. Mae'n ddigon posibl mai datrysiad TG yw hynny; efallai na fydd, efallai ei fod yn rhywbeth sydd eisoes yn bodoli — dyna sy'n cael ei archwilio. Rwy'n credu bod hynny'n ffordd synhwyrol o ddatrys y broblem.

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, ac wrth gwrs, fel y gwyddom ni, mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn chwarae rhan sylweddol wrth gludo'r cyhoedd o A i B mewn modd amserol a digonol. A byddai'r diwydiant yn croesawu'r newid i gerbydau trydan yn fwy pe bai Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu seilwaith cerbydau trydan, gan fod llai o bwyntiau gwefru yng Nghymru gyfan na dim ond dwy fwrdeistref yn Llundain. Felly, pa ystyriaeth y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i rhoi i reoli fflyd o fewn cwmnïau tacsi wrth drosglwyddo i gerbydau trydan, gan fod y cwmnïau tacsi yr wyf i wedi siarad â nhw yn lleol yn fy etholaeth i yn bryderus am gerbydau trydan, gan fod yn rhaid iddynt wasanaethu cerbydau yn rheolaidd, yn fwy felly na'r car cyffredin, ac yn briodol felly? Ond a allai'r Dirprwy Weinidog esbonio sut y gellir pontio mewn ffordd nad yw'n niweidiol i'r fflyd bresennol sydd ganddyn nhw a'r cyllid a ddefnyddir i brynu a chynnal cerbydau o'r fath?

Diolch. Rwy'n credu bod hyn yn gymhariaeth ffug rhwng Cymru a Llundain, ar sail economaidd yn unig. Y rheswm pam mae gan ddwy fwrdeistref Llundain gymaint o gerbydau trydan â Chymru yw oherwydd eu bod yn gyfoethog ac yn gallu fforddio ceir drud, ac yna mae'r farchnad yn gwarchod y ddaearyddiaeth honno wrth ddarparu seilwaith gwefru, ac mae ganddyn nhw grid pŵer gwell nag sydd gennym ni. Felly, nid ydym yn cymharu fel ag yno. Fel yr ydym wedi dweud sawl gwaith, mae'r seilwaith gwefru yng Nghymru gyfwerth y pen â'r seilwaith gwefru mewn mannau eraill yn y sir. Mae gennym lai o gerbydau trydan. Nawr, bydd hynny'n newid a bydd yn newid yn gyflym, wrth i'r dechnoleg ddatblygu, wrth i'r pris ddod i lawr, wrth i'r farchnad geir ail-law ddod i'r amlwg. Felly, nid wyf yn poeni gormod am hynny. Rwy'n credu y bydd hynny'n gofalu amdano'i hun. Yn amlwg, nid yw penderfyniad Llywodraeth y DU i newid y targed ar gyfer atal gwerthu peiriannau petrol a diesel yn helpu'r defnydd hwnnw, ond rwy'n sylwi bod y farchnad yn debygol o anwybyddu hynny, ac mae nifer fawr o weithgynhyrchwyr wedi dweud eu bod yn mynd i gadw at y targed 10 mlynedd beth bynnag.

Ar y mater cynnal a chadw, nid wyf yn siŵr ei fod yn hollol iawn am hynny, oherwydd fy nealltwriaeth i yw bod cerbydau trydan angen llai o waith cynnal a chadw na cheir injan hylosgi, oherwydd bod cymaint llai o rannau. Ar wahân i breciau a theiars, ychydig iawn o bethau sydd i fynd o chwith mewn car trydan. Felly, derbynnir yn gyffredinol bod costau oes cyffredinol car trydan yn is, ond mae'r costau ymlaen llaw yn uwch. Felly, fel arfer mae'n fuddsoddiad da ymlaen llaw, gan dybio, wrth gwrs, y gallwch chi fforddio a gwasanaethu y buddsoddiad hwnnw ymlaen llaw. Ond, unwaith eto, mae'r arfau sydd gennym i ymyrryd yma yn gyfyngedig, ac mae'r adnodd sydd gennym yn gyfyngedig. Rwy'n eithaf awyddus, yn y Papur Gwyn hwn, i ganolbwyntio ar bethau lle mae consensws cryf ar gyfer gweithredu, gan gofio nad yw'r ddeddfwriaeth hon yn debygol o gael ei chyflwyno i'r Senedd tan ddiwedd tymor y Senedd hon, ac rwy'n credu os gallwn ni gael Bil sy'n seiliedig ar gonsensws mae'n llawer mwy tebygol o basio, yn hytrach na methu, fel y gwnaeth yr un olaf. Mae angen y ddeddfwriaeth hon ar y sector tacsi, ac rwy'n credu y dylem ni chwilio am gynnyrch lleiafswm hyfyw yn hytrach na cheisio mynd i feysydd dadleuol, sy'n mynd i fod yn anoddach eu datrys mewn pryd.

16:05

Rwy'n croesawu nod y Llywodraeth i sicrhau bod gennym system drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat sy'n gwella profiad y cwsmer ac sy'n hygyrch i bawb, oherwydd rwyf wedi derbyn adroddiadau gan etholwyr sydd wedi cael profiadau gofidus iawn yn ceisio cael tacsi, sy'n tynnu sylw at angen dybryd a brys am ddiwygio. Dywedwyd wrth un etholwr o Bort Talbot fod y daith yr oedd am ei gwneud yn rhy fyr, er bod ganddo symudedd cyfyngedig oherwydd anaf i'w gefn. Dyma'r filltir gyntaf a'r olaf o'r teithiau hynny y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn eich datganiad. Ni fyddai wedi gallu cerdded y pellter yn ôl i'w gartref, a dywedodd yr etholwr nad dyma'r tro cyntaf iddo gael trafferth sicrhau tacsi. Nid oedd etholwr arall yn cael mynd i mewn i dacsi oherwydd bod y gyrrwr yn gwrthod rhoi mynediad i'r ci tywys. O'r hyn a ddywedwyd wrthyf, fe geisiodd ddweud wrth y gyrrwr fod hyn yn anghyfreithlon, oni bai bod gan y gyrrwr alergedd ac felly mae esemptiad yn berthnasol, ond yng ngeiriau'r etholwr, nid oedd ots ganddo a dywedodd, 'Riportiwch fi, felly.' Mae hynny'n annerbyniol, onid ydy? Rydym wedi gweld yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad bod yna nifer o bryderon ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd—Leonard Cheshire, er enghraifft, yn datgan yr angen am ofynion ychwanegol ar weinyddwyr trwyddedu i sicrhau monitro a gorfodi safonau gofynnol cenedlaethol yn effeithiol. Felly, sut y bydd y Bil newydd hwn yn sicrhau y caiff y gwahaniaethu hwn ei daclo unwaith ac am byth, lle mae deddfwriaeth arall wedi methu, a sut y bydd yn ymgorffori'r model cymdeithasol o anabledd y mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddo? Diolch.

Diolch. Mae'r rhain yn bwyntiau teg iawn ac yn bryderon rydym ni yn eu rhannu. Rwy'n falch o ddweud, yn yr ymgynghoriad, bod ein cynnig ar gyfer hyfforddiant cydraddoldeb anabledd wedi cael ei gefnogi'n eang, felly rwy'n credu y bydd hynny'n bwynt canolog o'r dull yr ydym ni yn ei gyflwyno, ac mae'r enghraifft a roesoch chi am fynediad i gŵn tywys a chael gwybod bod y daith yn rhy fyr yn astudiaeth achos dda iawn o pam mae angen hynny, i wneud yn siŵr bod pob gyrrwr yn deall yr effaith a hefyd eu rhwymedigaethau, ond hefyd wedyn cael y drefn orfodi debyg honno a'r gyfundrefn drwyddedu debyg, felly, os oes problemau fel yna mewn unrhyw ran o Gymru, maen nhw'n gwybod bod yna hawl i weithredu. Felly, rwy'n credu, yn gyffredinol, pwrpas y diwygiad hwn—. Os aiff y ffordd yr ydym yn gobeithio y bydd yn codi lefel y sector gyfan. Ac fel y dywedais i, yr hyn rwy'n eithaf awyddus i'w weld yw ein bod yn dechrau gweld tacsis yna fel rhan wirioneddol o'r ecosystem trafnidiaeth gyhoeddus. Ac rwy'n credu, wrth i ni symud tuag at fasnachfreintio bysiau a chael un meddwl arweiniol yn Trafnidiaeth Cymru sy'n gallu cynllunio teithio ar y rheilffyrdd a'r bws a theithio llesol mewn ffordd integredig, gallwn hefyd symud i gael y system tacsi i weithio ochr yn ochr â hynny, fel bod y system gyfan yn meddwl mewn ffordd gynlluniedig a deallus, yn hytrach na'r ffordd ychydig ar hap y gall weithredu ar hyn o bryd.

Diolch yn fawr, Gweinidog. Roeddwn i'n falch o'ch clywed yn cyfeirio at y ffaith bod pobl â phroblemau symudedd yn dibynnu'n arbennig ar gerbydau hurio preifat a thacsis. Mae her yng Nghwm Cynon, ac, o gyfraniadau Aelodau eraill, mae'n ymddangos ei fod yn cael ei ailadrodd ar draws rhan helaeth o Gymru, fod nifer isel o dacsis sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn. O ohebiaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, rwy'n gwybod, ar ddiwedd y llynedd, eu bod wedi newid yr oedran uchaf y gellid trwyddedu cerbyd sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn o bum mlynedd o'r dyddiad cofrestru cyntaf i saith mlynedd, gan ddod â nhw yn unol â thacsis nad ydynt yn hygyrch, a hefyd gynyddu diwedd y drwydded o 10 mlynedd i 12 mlynedd. Daeth y polisi hwn yn sgil cyfarfodydd rhwng yr awdurdod ac Uno'r Undeb, sy'n cynrychioli llawer o yrwyr tacsi lleol, ac mae'r polisi, wrth gwrs, yn helpu i gadw mwy o'r cerbydau hygyrch hyn ar y ffordd am fwy o amser. Fodd bynnag, mae gyrwyr tacsis yn dweud wrthyf mai'r costau prynu cynyddol sy'n gysylltiedig â thacsis sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn yw'r rhwystr mwyaf o hyd i sicrhau cyflenwad addas. Felly, fy nghwestiwn i yw: pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i ystyried a oes capasiti i ddarparu mwy o gymorth ariannol i yrwyr tacsis, fel y gallan nhw brynu'r cerbydau drutach hyn, sy'n addas wedyn i bob aelod o'r gymuned?

16:10

Diolch i Vikki Howells am dynnu sylw at y pwyntiau pwysig hynny. Rwy'n credu ei fod yn mynd i galon y tensiwn yr hyn rydyn ni'n ceisio'i wneud yma, oherwydd, fel y noda Vikki, mae tacsis yn darparu gwasanaeth cyhoeddus, ond maen nhw'n cael eu rhedeg yn breifat, ac maen nhw'n aml yn cael eu rhedeg gan ficrofusnesau ac unigolion sy'n gweithio ar eu liwt eu hunain. Mae'n sector sy'n heriol yn economaidd, oherwydd, fel yr ydym ni wedi trafod, y pwysau o'r farchnad, yn enwedig gan y darparwyr apiau, yw lleihau prisiau, ac yna mae gallu gyrwyr i fuddsoddi, eu hunain, mewn cerbydau drud sy'n gallu darparu ar gyfer teithwyr anabl yn un eithaf heriol.

Rydyn ni'n hapus i barhau i edrych ar y rôl sydd gan y Llywodraeth wrth ymyrryd i helpu i gyd-ariannu rhywfaint o hyn, ond, fel yn yr holl bethau hyn, mae'n dibynnu ar argaeledd arian cyhoeddus y mae'n rhaid i ni ei fuddsoddi ar draws y sector trafnidiaeth. Felly, rwy'n ddiolchgar ei bod wedi codi'r mater hwnnw; byddaf yn rhoi rhywfaint o ystyriaeth bellach iddo i weld pa opsiynau ymarferol a allai fod.

Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd. Hoffwn barhau â'r thema honno, a gobeithio annog y Gweinidog i feddwl ychydig mwy am y materion hyn. Mae dau fater yr hoffwn i eu codi gyda'r Gweinidog ar y datganiad hwn, yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn. Yn gyntaf oll, rôl tacsis o ran darparu trafnidiaeth gyhoeddus. Nawr, mae'r Llywodraeth wedi methu ers pum mlynedd i ddarparu trafnidiaeth rhwng fy etholaeth i ac ysbyty'r Faenor. Rydym wedi clywed, ac rydym wedi trafod sawl gwaith yma, Weinidogion, yn dweud wrthym fod angen i ni ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yna'n symud gwasanaethau oddi wrth fy etholaeth a pheidio â darparu trafnidiaeth gyhoeddus i alluogi pobl i gyrraedd y gwasanaethau hynny. Felly, mae'n ddigon posibl y gallai gwasanaeth tacsi fod yn ffordd o lenwi rhai o'r bylchau hynny a darparu opsiwn teithio realistig i'm hetholwyr. Byddai gennyf ddiddordeb mewn deall sut mae'r Llywodraeth yn gweld y gwasanaethau tacsi hynny'n ffitio i'r model ehangach hwnnw o wasanaethau bysiau yr ydym yn edrych ymlaen at glywed amdanyn nhw yn y ddeddfwriaeth ym mis Ionawr. 

Mae'r ail bwynt yn bwynt sy'n dilyn ymlaen o'r pwynt y mae Vikki Phillips yn ei wneud—Vikki Howells yn ei wneud; gweithiais gyda Vicky Phillips flynyddoedd lawer yn ôl yn Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr—Vikki Howells yn ei wneud am y dechnoleg a pwysau sy'n newid. Mae llawer o yrwyr tacsi yr wyf i wedi siarad â nhw yn ddiweddar yn pryderu nid yn unig am y materion trawsffiniol yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, ond eu gallu i gystadlu ag Uber a modelau eraill sy'n seiliedig ar apiau. Mae'n ddigon posibl bod rôl i'r Llywodraeth o ran cefnogi'r microfusnesau hyn a'r gyrwyr llawrydd, fel rydych chi wedi'i ddisgrifio, gyda chefnogaeth i'w galluogi i symud ymlaen i wahanol dechnoleg, i'w galluogi i ddarparu'r un gwasanaeth ac i gystadlu â rhai o'r gwasanaethau mwy sy'n seiliedig ar y cwmni a welwn yn y dinasoedd, lle maen nhw'n symud fwyfwy i gystadlu mewn ardaloedd yn y Cymoedd, fel Blaenau Gwent.

Rwy'n credu ei fod yn bwynt diddorol iawn. Rwy'n credu mai'r realiti yw bod technoleg yn symud yn gyflym a hynny o flaen rheoleiddio, ac, fel yr wyf eisoes wedi tynnu sylw ato, mae'r gwahaniaeth sydd gennym yn y gyfraith rhwng cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn gynyddol di-fudd. Hefyd, mae'r gwahaniaeth rhwng yr hyn sy'n drafnidiaeth gyhoeddus a'r hyn sy'n drafnidiaeth breifat yn mynd yn fwyfwy aneglur. Fel y gwyddom ni, unwaith eto, nid yw llawer o'r apiau hyn ar gael ym mhob rhan o Gymru, ond mae'r gallu i rannu taith nawr, fel maen nhw'n ei alw, lle rydych chi'n rhannu tacsi, yn y bôn, yn dechrau pylu'r gwahaniaeth rhwng beth yw gwasanaeth bws a beth yw gwasanaeth tacsi. Rydym wedi ceisio harneisio hynny drwy ein dull Fflecsi, lle rydym wedi ceisio defnyddio rhywfaint o'r dechnoleg honno a'r athroniaeth honno ein hunain i geisio addasu'r diffiniad o fws lleol. Ond bydd hefyd yn gweithio y ffordd arall. Bydd tacsis yn gynyddol yn dechrau gweithredu fel bysiau mini lleol. Ac, wrth i ni symud i geir awtomataidd, mae hynny'n rhywbeth rwy'n credu fydd yn digwydd gydag amlderau cynyddol. Dydyn ni ddim yno eto, ond mae'n sicr yn adeg lle gallwn ni ddychmygu ei fod yn digwydd.

Felly, rwy'n credu bod angen i ni sicrhau ein bod yn cadw dull hyblyg sy'n caniatáu i dechnoleg chwarae rôl ddefnyddiol. Ond mae technoleg yn aflonyddwr yn ôl ei natur ei hun, ac mae hynny'n mynd i fod yn arbennig o aflonyddgar i'r model economaidd y mae llawer o bobl—rydyn ni wedi disgrifio natur y pwll gyrru—wedi arfer gyda ac yn gallu cystadlu ynddo. A dyna pam rwy'n credu, trwy foderneiddio fel hyn, trwy fod â rôl gydlynol Trafnidiaeth Cymru i weithio ochr yn ochr â hynny, gallwn ddechrau esblygu sut rydyn ni'n meddwl am wasanaethau tacsi, wrth i'r dechnoleg hon newid. Ac rwy'n credu bod y pwyntiau y mae e'n eu gwneud yn rhywbeth y mae angen i ni gadw meddwl agored iddo. Fel rwy'n ei ddweud, ar gyfer y Papur Gwyn hwn a'r set hon o ddiwygiadau, rwyf am fancio'r hyn sydd eisoes yn gonsensws cadarn ymhlith awdurdodau lleol a'r diwydiant a chael y newid hwnnw, a gallwn adeiladu ar y platfform hwnnw wedyn.

16:15
5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Taith—Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol Cymru ar gyfer Dysgu

Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: diweddariad ar Taith, rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi heddiw am ein rhaglen Taith a'r camau rŷn ni'n eu cymryd o ran llywodraethiant ac adnewyddu strategaeth y rhaglen.

Ers i fi siarad â chi ddiwethaf am Taith, bron i union flwyddyn yn ôl, mae ymhell dros 1,000 o bobl wedi cymryd rhan mewn teithiau cyfnewid ar gyfer dysgu yn barod, ac mae miloedd yn rhagor yn paratoi i fynd ar deithiau o'r fath, sy'n gallu trawsnewid bywydau. Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau wedi clywed yn uniongyrchol am y profiadau trawsnewidiol y mae pobl ifanc ledled Cymru wedi'u cael, diolch i Taith.

Mewn sawl ffordd, mae'r ffigurau yn siarad dros eu hunain. Ers lansio'r rhaglen ym mis Chwefror y llynedd, mae cyllid wedi'i roi i 142 o brosiectau. Mae'r rhain yn cynnwys miloedd o ddysgwyr a dros 90 o wledydd, o Sbaen a Sweden i Singapore a De Korea. Mae 163 o sefydliadau wedi cymryd rhan, gyda'r mwyafrif o'r ysgolion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Ac nid y rhai mewn addysg prif ffrwd yn unig sy'n gallu manteisio ar y cyfleoedd. Drwy'r alwad ddiweddaraf am geisiadau llwybr 1, llwyddodd dwy uned cyfeirio disgyblion i gael arian.

Hanfod Taith yw rhoi cyfleoedd effeithiol a thrawsnewidiol i ddysgwyr ledled Cymru gymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu. Gan fod y cyfleoedd yma yn gallu gweddnewid bywydau, mae'r stori go iawn i'w gweld yn y manylion a'r unigolion sydd wedi cymryd rhan. Rwyf am dynnu sylw, felly, at ambell i brosiect o flwyddyn gyntaf Taith, er mwyn rhoi blas i Aelodau ar yr effaith bendant y mae'r rhaglen hon yn ei chael.

Ym mis Ebrill, aeth GISDA, elusen o Gaernarfon sy'n gweithio gyda phobl ifanc digartref a bregus, â grŵp i'r Ffindir am wythnos o gyfnewid diwylliannol ac addysgol. Cafodd y daith effaith enfawr ar les y bobl ifanc. Ni fyddai llawer ohonyn nhw wedi cael profiad o'r fath erioed oni bai am Taith. Fe hoffwn rannu â chi ddarn o lythyr a ysgrifennodd un o'r bobl ifanc i GISDA, ar ôl cyrraedd gartref:

'Mae'r daith hon wedi newid fy mywyd yn llwyr. Rwyf wedi esblygu ac wedi dod allan o'r profiad hwn yn ddyn gwell. Mae wedi rhoi persbectif newydd i mi ac wedi newid fy agwedd at fywyd. A pha mor lwcus ydw i i gael ail gyfle mewn bywyd, rwyf wedi teimlo gwir hapusrwydd am y tro cyntaf ers amser maith—blynyddoedd.'

Dyw cael negeseuon fel hyn gan bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn Taith ddim yn beth anghyffredin. Yn ddiweddar, fe es i i ddathliad a ddaeth â disgyblion o Gymru a Lesotho at ei gilydd ar ddiwedd prosiect cyfnewid i'r naill wlad a’r llall. Yn ogystal â chlywed am agweddau dysgu ffurfiol y teithiau, sy'n rhan hanfodol o bob prosiect Taith, roedd gwrando ar sut roedden nhw wedi magu hyder a gweld y llawenydd wrth iddyn nhw siarad â'i gilydd wedi fy ysbrydoli i. Enghreifftiau fel y rhain yw llwyddiannau go iawn Taith, ac mae llawer mwy o straeon i’ch ysbrydoli chi ar gael ar wefan Taith ei hun.

16:20

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Yn ogystal â bod o fudd i'r unigolyn, mae Taith, yn bwysig, yn hwyluso arloesedd addysgol ac yn cefnogi amcanion ehangach Llywodraeth Cymru drwy bartneriaethau llwybr 2 a'r ffrwd ariannu cydweithredu strategol, a fydd yn ailagor ar gyfer ceisiadau ddydd Iau. Mae gwasanaeth ieuenctid sir Benfro, er enghraifft, yn gweithio gyda'u partner yng Nghanada i wella effaith system adrodd y rhwydwaith ymchwil iechyd ysgolion, ac mae grŵp o ysgolion yn Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion yn Zambia i greu cynlluniau gwersi sy'n ymwneud â nodau datblygu cynaliadwy, a datblygu llawlyfr adeiladu ar gyfer llochesi poteli plastig. Pe na baem wedi cymryd cam pendant wrth gyhoeddi Taith ym mis Mawrth 2021, ni fyddai'r gweithgaredd hwn yn digwydd, oherwydd fe ddaeth prosiectau terfynol Erasmus+ i ben eleni.

Nawr, rwy'n ymwybodol iawn, fel y gwn y bydd yr Aelodau, ei fod yn hanfodol, yn yr hinsawdd sydd ohoni, fod ein holl adnoddau'n cael eu defnyddio'n dda. Mae penderfyniadau anodd yn cael eu gwneud ar draws y Llywodraeth, ond mae hefyd yn bwysig peidio â cholli persbectif ar werth y mathau hyn o gyfleoedd i bobl ifanc, sydd, fel yr ydym wedi clywed, yn gallu newid eu bywydau.

Cyn i mi orffen, rwyf am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am sut rydym yn parhau i weithio i wella Taith a sicrhau ei fod yn werth da am arian. Mae Taith yn fuddsoddiad yn nyfodol ein pobl ifanc, ac ochr yn ochr ag adolygiadau polisi parhaus, rydym yn canolbwyntio ar ddau beth yn benodol: llywodraethu a strategaeth. Gadewch i mi ddechrau gyda llywodraethu. Rydym bob amser wedi bod yn glir bod Taith yn rhaglen sy'n unigryw i Gymru, ac wedi'i hadeiladu gydag anghenion ein cenedl ar flaen y gad. Rhan bwysig o hynny yw datblygu a gweithredu'r rhaglen mewn partneriaeth â'r sector addysg ledled Cymru, ac rwy'n ddiolchgar i sefydliadau ac unigolion ar draws y sector am eu cefnogaeth hyd yn hyn.

Ond nawr bod y rhaglen ar waith yn llawn, mae Taith yn ehangu ei hymgysylltiad. Mae strwythur newydd, agored o ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cael ei weithredu i sicrhau y gall unrhyw un sydd â diddordeb yn Taith gyfrannu at ei datblygiad, ac rwy'n croesawu hyn. Ac mae aelodaeth y bwrdd cynghori yn cael ei hadolygu nawr ein bod wedi trosglwyddo o sefydlu i gyflwyno'r rhaglen. Mae ceisiadau ar gyfer aelodau'r bwrdd ar agor, a byddwn i'n annog Aelodau i hyrwyddo'r swyddi hyn ymhlith eu rhwydweithiau, yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

I gloi, fe drof at strategaeth a dyfodol Taith. Rwy'n falch iawn o gyhoeddi y bydd Taith, yr wythnos nesaf, yn cyhoeddi strategaeth newydd, a bydd y strategaeth ar ei newydd wedd yn amlinellu tri amcan craidd: sicrhau bod y teithiau cyfnewid hynny yn cael yr effaith fwyaf; ariannu prosiectau dysgu o ansawdd uchel; a chefnogi arloesedd addysgol yng Nghymru. Bydd hyn yn ein galluogi i roi pwyslais o'r newydd ar sicrhau bod Taith yn parhau i wneud yr hyn y mae'n ei wneud orau: darparu cyfleoedd hygyrch, effaith uchel i'r rhai a all elwa fwyaf ohonynt, oherwydd wrth ei wraidd, Llywydd, mae Taith yn ymwneud â dysgwyr. Mae'n ymwneud â chyfleoedd trawsnewidiol i bobl ifanc fagu hyder, ehangu eu gorwelion, a thyfu eu dyheadau, yn hanfodol. Yn aml, yr effaith ar y rhai o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yw'r fwyaf, a'r newid rydyn ni'n ei weld ynddyn nhw weithiau yw'r mwyaf.

Rwy'n gobeithio felly ei bod yn amlwg i chi i gyd o'r straeon rwyf wedi’u rhannu heddiw fod y rhaglen hon yn cael effaith ddofn ar unigolion. Mae'r teithiau yma yn newid bywydau. Rwy’n edrych ymlaen at roi’r newyddion diweddaraf i’r Siambr eto, a dweud mwy o'r hanesion yma wrthych chi pan fyddaf i'n gwneud hynny.

Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Nid oes amheuaeth bod rhaglenni cyfnewid dysgu yn agor llygaid ac yn newid bywydau. Fel y dywedwch yn eich datganiad, serch hynny, os caf gyfeirio at hynny, bydd llwybr 2 yn ailagor ar gyfer ei alwad 2023 yr wythnos hon. Fel y gwyddom i gyd, bydd hyn yn canolbwyntio ar bartneriaethau a chydweithio strategol â sefydliadau o'r sectorau ysgolion, ieuenctid, addysg oedolion, addysg bellach a hyfforddiant, yr wyf yn eu cymeradwyo. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud hyn eisoes gyda chynllun Turing ac wedi darparu £110 miliwn ar gyfer y flwyddyn gyntaf, a darparwyd tua £100 miliwn y flwyddyn ar ôl hynny i alluogi 35,000 o ddysgwyr o bob rhan o'r DU, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig, i astudio dramor gyda rhai o brifysgolion gorau'r byd, nid yn unig yn yr UE, yn ogystal â chaniatáu iddynt ymgymryd â lleoliadau gwaith. Felly, gofynnaf i chi: a ydych chi'n dal i gredu, ar adeg pan ydych chi'n torri'r gyllideb addysg, mai'r peth cywir oedd rhoi mwy o arian i ailddyfeisio'r olwyn, fel petai, mewn ffordd mor gostus a gwahanol, dim ond er mwyn hynny? Yn sicr, byddai mabwysiadu cynllun y DU ac efallai ychwanegu ato neu ei addasu ychydig wedi bod yn ffordd well o wneud pethau.

Yn ail, rwy'n derbyn y bydd cyllid cynllun Taith yn blaenoriaethu cyfleoedd symudedd i ddysgwyr Cymraeg deithio y tu allan i Gymru. Fodd bynnag, bydd cyllid ar gyfer symudedd i mewn, i gyfranogwyr ddod i Gymru, yn cyfrif am 30 y cant o'r gyllideb a ddyrannwyd i bob prosiect ar gyfer symudedd i'r tu allan. Felly, onid ydych chi'n gweld problem gyda hynny, a sut y gallai hyn o bosibl atal dysgwyr rhag dod i Gymru? Sut ydych chi'n monitro unrhyw ostyngiad mewn niferoedd?

Yn olaf, Gweinidog, rydym i gyd yn gwybod bod cynllun Turing wedi cefnogi 19,952 o fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig i astudio a gweithio ledled y byd yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23. Mae hynny'n 52 y cant o'r lleoliadau ar gyfer myfyrwyr difreintiedig, i fyny o 48 y cant yn 2021. Felly, Gweinidog, a oes gennych chi'r ystadegau ar gynllun Taith wrth law, o ran myfyrwyr difreintiedig, i'w rhannu â'r Siambr heddiw? Ac a ydym yn gweld cynnydd mewn lleoliadau ar gyfer myfyrwyr difreintiedig fel cynllun Turing, ac, os nad ydym, pam? Diolch.

16:25

Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiynau hynny. Nid wyf yn ceisio dod o hyd i gyfleoedd i gymharu'r cynllun â chynllun Turing, oherwydd rwy'n credu bod y ddau yn bethau gwahanol yn y bôn ac, os ydych chi am wneud cymariaethau, rwy'n credu mai'r cynllun y mae hwn yn fwyaf tebyg iddo fwy na thebyg yw Erasmus+. A'r rheswm am hynny yw lefel yr uchelgais a'r raddfa y mae Taith yn ei darparu.

Rwy'n credu, gyda llaw, y dylwn i fod yn glir: rwy'n gobeithio y bydd sefydliadau yng Nghymru yn parhau i elwa o Turing ochr yn ochr â'u hymgysylltiad â Taith, ond maen nhw'n gynlluniau gwahanol. Fel y dywedodd yr Aelod, nid yw Turing, er enghraifft, yn ariannu symudedd i mewn, ac rwy'n credu wrth wraidd y syniad o gyfnewidfeydd dysgu rhyngwladol, os ydych chi am ei wneud yn effeithiol, mae'r syniad hwnnw o ddwyochrogrwydd. Mae'n rhaid i chi sicrhau bod rhaglenni yn gallu annog symud i'r ddau gyfeiriad. Mae unrhyw beth arall yn amlwg yn ddefnyddiol, ond rwy'n credu ei fod yn colli'r lefel honno o uchelgais a dysgu y gallwn ni ei chael allan o'r system. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gallu elwa yn ein system addysg o'r buddsoddiad sylweddol hwn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd sefydliadau'n gallu manteisio ar y ddau. Fy marn bersonol yw y byddai unrhyw un sy'n cymharu'r ddwy raglen yn dod i'r casgliad y byddai'r arian y mae Llywodraeth y DU wedi'i ddyrannu i Turing yn cael ei wario'n well yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru. Dyna sut mae datganoli yn gweithio, ac mae addysg wedi'i datganoli. Ond mae'r llong honno, rwy'n credu, wedi hwylio yn anffodus.

Fe wnaeth hi bwynt pwysig am y pwyslais ar sicrhau bod Taith—ac rwy'n siŵr y byddai Llywodraeth y DU yn disgrifio uchelgeisiau tebyg ar gyfer Turing—yn cyrraedd y bobl ifanc hynny na fyddent fel arall yn cael cyfleoedd i allu teithio'n rhyngwladol, ac mae Taith yn canolbwyntio i raddau helaeth ar sicrhau bod y bobl hynny yn elwa o'r cynllun. Dim ond i gywiro'r pwynt a wnaeth yr Aelod, nid oes unrhyw ddata o gwbl wedi'i gyhoeddi ar berfformiad gwirioneddol Turing mewn perthynas â chyfranogiad pobl ddifreintiedig. Nid yw'r Adran Addysg wedi cyhoeddi unrhyw beth o gwbl arno, er bod y prosiectau hynny wedi dechrau flwyddyn yn gynharach na Taith. Y data y mae'r Aelod yn dyfynnu ohono yw'r ffigurau rhagamcanol ar gyfer cyfranogiad targed arfaethedig, ond nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl bod yr un ohonyn nhw wedi'u cyflawni.

Yng Nghymru mae gennym ni—. Er enghraifft, yn llwybr 1 yn 2022, gwnaeth 18 o ysgolion gais yn uniongyrchol; roedd 66 y cant o'r rheiny yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Ac yn llwybr 1 eleni, gwnaeth 30 o ysgolion gais yn uniongyrchol; roedd 57 y cant o'r rheiny yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Rwy'n credu bod maint y ddau brosiect yn cael ei ddangos orau gan y graddau y maen nhw wedi gallu cyrraedd ysgolion, ac mae Turing wedi cael tri chais gan ysgolion yn ystod ei gyfnod, ac mae Taith, rwy'n falch o ddweud, wedi cael 36 o geisiadau gan ysgolion eleni. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gall pob un ohonom ei groesawu.

Diolch, Weinidog, a dwi'n falch eich bod chi wedi cymryd y cyfle i'n hatgoffa ni i gyd pam eich bod chi wedi gorfod sefydlu Taith, oherwydd dyma un o'r effeithiau gwaethaf ar bobl ifanc, o ran colli cynllun Erasmus+, rhywbeth a wnaeth gyfoethogi bywydau gymaint o bobl. 

Yn amlwg, mae'r niferoedd wedi gorfod newid o ran y cyllid sydd ar gael yma yng Nghymru. Rydw i’n meddwl, pan gyhoeddwyd hyn, mai trio gwneud iawn am golli Erasmus+ oedd hynny. Byddem ni wrth ein boddau pe bai’r Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn rhan o Erasmus+, pe na bai Taith yn gorfod bodoli, a phe baem ni felly’n gallu canolbwyntio ar sut rydym ni’n gallu cael mwy o bobl ifanc i gael y cyfleodd pwysig yma.

Fel rydych chi wedi dangos—ac rydw i wedi bod yn ddigon lwcus i gyfarfod â phobl ifanc a fuodd ar y cynlluniau Erasmus olaf, ond hefyd rhai sydd wedi bod efo Taith—mae o’n drawsnewidiol. Mae’n gallu newid pethau yn llwyr. Ond yr un mor bwysig o ran cyfoethogi bywydau pobl ydy’r cyfleodd i groesawu pobl yma yng Nghymru, ac inni gael y math yna o gyfnewidfa.

Un o’r pethau yr oedd nifer o golegau yn sôn wrthyf i amdano o ran eu pryderon nhw oedd y diffyg hwnnw o ran gallu croesawu pobl yn ôl, a beth fyddai effaith hynny o ran a fydd pobl eisiau partneru os nad yw’r un cyfleodd ac ati ar gael, a’r ffaith na fyddwn yn gwybod y gwir sefyllfa tan y byddwn yn gweld sut mae pethau’n mynd. Felly, byddai gen i ddiddordeb mewn clywed am hynny.

Un o’r pethau sydd hefyd wedi’i godi efo fi ydy rhywbeth oedd yn bodoli fel problem efo rhaglen Erasmus+, sef nad oedd gan nifer o bobl ifanc basborts yma yng Nghymru—bod cost pasbort yn gallu rhwystro rhywun rhag cymryd rhan o gwbl. Mae cwmni Whitehead-Ross Education, a oedd yn cefnogi pobl efo Erasmus+, wedi codi’r ffaith bod hwn yn un o’r prif rwystrau yr oedden nhw’n eu gweld a oedd yn stopio pobl ifanc rhag ystyried cymryd rhan efo Taith neu Erasmus+. Felly, a gaf i ofyn pa ystyriaeth sydd yna, neu a oes yna unrhyw gyfleoedd ar gael, i gefnogi efo cost pasbort? Yn amlwg, bydd yna fwy o waith papur yn gysylltiedig efo mynd i Ewrop hefyd, wrth i'r rheolau newid.

A gaf i hefyd ofyn a yw’n parhau i fod yn fwriad gennych chi, os oes yna newid Llywodraeth yn dilyn yr etholiad cyffredinol nesaf, i gael trafodaethau ynglŷn â dyfodol Erasmus+, neu beth fedrwn ni ei wneud i fod yn sicrhau mwy o gysylltiadau? Rydyn ni hefyd wedi clywed, wrth gwrs, fod cyllideb Llywodraeth Cymru o dan straen aruthrol, bod yna arbedion sydd eu hangen. Byddem ni’n hoffi gwybod beth mae hynny’n ei olygu o ran parhad y rhaglen hon, neu sut rydych chi’n gallu ei hymestyn hi, ac ati.  

Ond hefyd, tuag at y dyfodol, rydw i’n meddwl ein bod ni i gyd yn gytûn bod hyn yn bwysig—ein bod ni’n creu’r cyfleoedd yma i’n pobl ifanc ni. Dyma un o’r prif resymau yr oedd nifer o bobl ifanc yn flin iawn efo’r penderfyniad o ran Brexit ac ati. Rydyn ni’n trio unioni cam a sicrhau eu dyfodol nhw yn fan hyn. Ond rydw i’n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni’n parhau i drio cael cysylltiadau cryf efo Ewrop a sicrhau pob cyfle posib. Felly, rwy’n croesawu hyn, ond beth fedrwn ni wneud ymhellach, hefyd? 

16:30

Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau pwysig hynny. Mae’n sicr yn wir, onid yw, mewn unrhyw gyfnod o gyni ariannol—hyd yn oed os nad yw, fel yn ein hachos ni, yn gyni dewisol, ond dyna’r sefyllfa sydd ohoni—mai un o’r pethau cyntaf sy’n syrthio i ffwrdd o’r rhestr o bethau yw’r cysylltiadau rhyngwladol hynny. Ond rŷm ni’n gweld pa mor bwysig ydyn nhw.

Maen nhw’n dod â budd i Gymru. Dydyn nhw ddim yn bethau ychwanegol. Maen nhw’n bethau craidd, a dweud y gwir. Maen nhw’n rhan o’r rhwydwaith rhyngwladol hwnnw rhwng gwledydd a chenhedloedd sy’n gallu creu ffyniant a chreu cyfleoedd y tu hwnt i’r cynllun ei hun. Rŷm ni wedi gweld hynny am flynyddoedd mawr gydag Erasmus+ ac Erasmus cyn hynny. Dyna pam yr oedd hi’n gymaint o bechod bod y Llywodraeth yn San Steffan, fel rhan o Brexit, wedi penderfynu peidio â sicrhau bod gan bobl ifanc Prydain gyfle i barhau i ymwneud â hynny. Dewis gwleidyddol oedd hynny, ar ddiwedd y dydd.

O ran y cwestiwn o ailymaelodi gydag Erasmus+, byddwn i’n hoffi’n fawr petasai’n bosibl gwneud hynny, am y rheswm y mae’r Aelod yn ei ddweud. Mae Taith yn wahanol. Mewn ffyrdd, mae actually yn well nag Erasmus+. Mae’n llai biwrocrataidd. Mae wedi gallu cyrraedd addysg oedolion, a mwy o ysgolion nag yr oedd Erasmus byth yn gallu gwneud, oherwydd roedd Erasmus yn llawer mwy cymhleth, ac roedd mwy o rwystrau yn y ffordd. Felly, mae manteision, yn sicr, i Taith. Ond, petasai cyfle i ailymuno ag Erasmus, byddem ni yn sicr o blaid gwneud hynny. Beth sydd, yn anffodus, yn gwbl glir yw bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi dweud nad yw’n bosib i Gymru wneud hynny ar ei phen ei hun. Felly, mae hynny’n benderfyniad ehangach, yn anffodus.

O ran y cwestiwn ariannol a’r pwysau ariannol, mae’n gwestiwn digon teg, ac rŷm ni wedi bod yn meddwl am sut y gallwn ni ymateb i hyn o fewn y Llywodraeth. Mae’r cynllun wedi’i ariannu ers 2021 ar gynllun grant dros amryw o flynyddoedd. Felly, mae hynny wedi’i fuddsoddi yn barod, os hoffwch chi. Rŷn ni wedi edrych i ymestyn y cynllun fel bod yr arian yn cael ei wario dros fwy o flynyddoedd, so, mae wedi’i ymestyn gan flwyddyn ymhellach. Mae hynny wedi cael effaith bositif o ran y gost ariannol, ond hefyd, fel mae’n digwydd, wedi adlewyrchu’r galw’n fwy addas hefyd. Felly, mae hynny wedi bod yn beth positif.

Fe wnaeth yr Aelod pwyntiau pwysig ynglŷn â phasborts a'r rhwystrau eraill i sicrhau, yn ymarferol, bod pobl o gartrefi difreintiedig yn gallu ymwneud â hyn. Dwi wedi rhoi rhai o'r ffigurau'n barod o ran cynigion. Ond rŷn ni hefyd wedi apwyntio dau bencampwr Taith—Welsh Centre for International Affairs a Diverse Cymru—a'u rôl nhw yw sicrhau eu bod nhw'n mynd i'r afael â'r rhwystrau hynny, a gweithio gyda sefydliadau i ddelio gyda'r pethau ymarferol hynny efallai byddai'n gallu bod yn rhwystr fel arall.

16:35

Mae Erasmus, wrth gwrs, yn rhywbeth a ddyfeisiwyd yng Nghymru gan yr Ewropead Cymreig arbennig hwnnw, Hywel Ceri Jones, ac rwy'n credu y dylem ni bob amser dalu teyrnged i'r gwaith a wnaeth wrth fwrw ymlaen â hynny. Ym Mrwsel ychydig wythnosau yn ôl, disgrifiwyd Erasmus i ni fel pont fyw, ac roeddwn i'n meddwl bod hynny'n ffordd wych o ddisgrifio sut y gall pobl ifanc gael y cyfleoedd i fyw gyda a phrofi bywyd mewn gwahanol rannau o gyfandir Ewrop. Ac mae'n un o rannau mwyaf gwrthun trychineb Brexit nad yw pobl ifanc yn y Deyrnas Unedig yn rhannu'r un buddion â phobl ifanc ledled gweddill Ewrop.

Ond, wrth gwrs, pan fyddwn ni'n dweud 'pobl ifanc', yr hyn rydyn ni'n ei olygu yw'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli; bydd meibion a merched y cyfoethog a'r breintiedig yn parhau i deithio fel y mynnant, oherwydd mae ganddyn nhw'r cyfoeth i barhau i wneud hynny. Ac mae hwn yn benderfyniad gwleidyddol, ond yn benderfyniad gwleidyddol sy'n chwalu, wrth gwrs, gan nad yw'r Llywodraeth fach o Loegr sydd gennym yn San Steffan, sy'n cael ei ysgogi gan ragfarn yn hytrach na gwybodaeth a phrofiad, wedi goroesi gwrthdaro â realiti. Rydyn ni wedi gweld polisi'r DU yn methu ar nifer o faterion gwahanol—fe welsom ni hynny o fframwaith Windsor drwodd i faterion yn ymwneud â masnach a nwyddau. Felly, dydyn nhw ddim wedi goroesi'r gwrthdaro hwn â realiti, ac mae'n bwysig, rwy'n credu, Gweinidog, ein bod ni'n parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU—ac yn edrych ymlaen at newid llywodraeth—i sicrhau ein bod ni'n ailymuno ag Erasmus+ ac yn darparu'r cyfleoedd hynny i bob un ohonom. Wrth wneud hynny, fy nghwestiwn i chi yw hyn: sut y bydd Taith yn datblygu i ategu ac i dyfu gydag Erasmus+, pan fyddwn ni'n ailymuno ag Erasmus+, i sicrhau bod ehangder y bobl ifanc rwy'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent yn cael yr un cyfle ag a gefais i pan oeddwn i yn fy arddegau i deithio ar draws ein cyfandir gwych ni a dod yn Ewropeaid Cymreig?

Diolch, Alun Davies, am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu, wrth ei gwraidd, fod Taith yn llawer mwy na rhaglen cyfnewid addysg, rhaglen dechnegol; mae'n gwestiwn o werthoedd a gweledigaeth, rwy'n credu. Mae yna reswm pam, pan fydd e'n mynd a phan fyddaf i'n mynd i Frwsel a mannau eraill ac yn sôn am Taith, mae'n cael croeso mor gynnes. Nid dim ond oherwydd y cyfleoedd anhygoel y mae'n eu darparu, ond oherwydd ei bod yn dweud rhywbeth am y math o wlad yr ydym am fod, ac mae honno'n wlad sy'n edrych tuag allan, nid tuag i mewn, ac sydd eisiau sicrhau bod y cyfleoedd hynny y soniodd amdanyn nhw mor huawdl ar gael i bawb.

Rwy'n credu, mewn gwirionedd, fel yr oeddwn i'n dechrau ei grybwyll wrth Heledd Fychan, mae yna rai ffyrdd y mae Taith yn rhaglen fwy hygyrch nag Erasmus, yn rhannol oherwydd y raddfa rydyn ni'n gweithredu'r rhaglen arni. Llywodraeth Cymru ydyn ni ac mae'n brosiect ledled Ewrop, felly mae'n gweithredu mewn ffordd wahanol. Ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, bod yr hyblygrwydd hwnnw a'r ystwythder hwnnw yn fantais wirioneddol ac y gallai fod yn fantais yn y dyfodol os gallwn ni ddychwelyd i Erasmus. Ac rwy'n credu mai dau ganlyniad ymarferol hynny yw llwyddiant Taith wrth ddenu ceisiadau gan ysgolion, rhywbeth y cafodd Erasmus anhawster yn ei wneud, a hefyd o ran addysg oedolion hefyd, sy'n dir hollol newydd. Ac rwy'n credu bod y brwdfrydedd yr ydym wedi'i weld o'r sector hwnnw, a'r llwyddiant, mewn gwirionedd, hefyd, yn dyst gwirioneddol i'r gwerth a'r manteision penodol y gall Taith eu cynnig.

A gaf i orffen fy ateb i hyn drwy dalu teyrnged hefyd i Hywel Ceri Jones? Fe ges i gyfle i gwrdd ag ef yn rheolaidd iawn pan oeddwn i'n cadeirio'r grŵp cynghori Ewropeaidd yn fy rôl flaenorol. Roedd yn aelod pwysig a gwerthfawr iawn o hynny. Fe wnaethon ni siarad llawer am yr hyn y byddai hyn yn ei olygu i bobl ifanc yng Nghymru yn benodol, ac roedd yn teimlo'n arbennig o drasig o ystyried y rolau pwysig a chwaraeodd Cymru, trwy Hywel, wrth sefydlu Erasmus ei hun.

16:40

Gweinidog, fel y mae fy nghyd-Aelod Alun Davies newydd ei grybwyll, roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ym Mrwsel yn ddiweddar, ac fe soniwyd am Taith yn rheolaidd yn ein trafodaethau gyda chydweithwyr yn yr UE. Ac, yn wir, roedd hynny ar yr agenda hefyd ar gyfer trafodaethau defnyddiol iawn gyda swyddogion yng nghenhadaeth y DU. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod gwir werthfawrogiad gan gydweithwyr Ewropeaidd o ymdrechion Llywodraeth Cymru, er prinder adnoddau, i gael cynllun newydd effeithiol i Gymru pan gollon ni ein lle yng nghynllun Erasmus+. Mae'n rhaid i mi ddweud hefyd nad oedd llawer o gariad yn cael ei arddangos i'r cynllun Turing oherwydd ei gyfyngiadau.

Ond un o feirniadaethau cynllun Erasmus gan rai yn Llywodraeth y DU oedd nad oedd hi'n ddigon dwy ffordd, gyda llif anghymesur o fyfyrwyr i mewn i'r DU, yn hytrach na'r ffordd arall. Byddwn i'n dweud yn barchus fod hyn yn anwybyddu manteision y perthnasoedd—cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd—a wnaed gan gyn-fyfyrwyr Erasmus a ddaeth yma o wledydd eraill, a ddychwelodd adref wedi gwneud y cysylltiadau hynny, ac yn wir mae rhai ohonyn nhw yn parhau yma ac yn aros ac yn creu swyddi a chyflogaeth i eraill. Felly, gofynnwyd i chi eisoes, Gweinidog, beth fyddai'n digwydd pe bai newid barn ac efallai newid Llywodraeth a fyddai'n ceisio ein hail-gyflwyno i Erasmus+. Fel arall, a gaf i ofyn i chi a ddylai Llywodraeth Lafur yn y DU yn y dyfodol ddysgu o Gymru a chyflwyno ei chynllun Taith ei hun i Loegr? Mae Taith Lloegr yn swnio'n dda, a gallem hawlio'r hawliau eiddo deallusol unwaith eto.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Rwy'n hoffi'r syniad hwnnw'n fawr. Rwy'n credu y byddai hynny'n golygu bod Cymru, unwaith eto, wedi chwarae rhan bwysig wrth greu'r rhwydwaith cyfnewid rhyngwladol hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn llygad ei le, serch hynny, i fyfyrio, fel y gwnaeth Alun Davies, ar ei brofiad o fod ym Mrwsel, ond hefyd mewn mannau eraill. Fy mhrofiad i o'r peth yw bod Taith hefyd yn esgor ar drafodaethau eraill. Mae'n arwydd, fel y dywedodd, o'n gwleidyddiaeth, o'n gwerthoedd, ond mae hefyd yn gyfle i siarad am lawer o ffyrdd hynod bwysig eraill y gall y perthnasoedd rhyngwladol hynny fod o fudd i Gymru. Rwy'n credu bod y pwynt y mae Huw Irranca-Davies yn ei wneud am y natur ddwyffordd yn hanfodol i hyn, mewn gwirionedd. Mae'n drueni nad oes gan Turing yr egwyddor hon wrth ei wraidd.

Ond yr hyn rydym ni'n ei wneud yma, ar un ystyr, yw creu math o rwydwaith o bartneriaethau—ie, rhwng sefydliadau, ond hefyd ar lefel unigol. Mae yna bobl fydd wedi elwa o dreulio amser yng Nghymru drwy Taith a fydd yn mynd â hynny yn ôl gyda nhw i'w gwledydd. Rydym yn gwybod y gall y perthnasoedd hyn greu cyfleoedd i economi Cymru, i addysg yng Nghymru ac mewn ffyrdd eraill hefyd. Mae hynny, i mi, ar ddiwedd y dydd, yn rhan bwysig o'r rheswm pam mae'r buddsoddiad hwn mor bwysig.

6. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cau grŵp UK Windows & Doors

Eitem 6 y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog yr Economi: cau grŵp UK Windows & Doors. Galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r newyddion pryderus iawn bod swyddi mewn perygl ac yn debygol o gael eu colli ar safle UK RCT Windows & Doors yn Nhreorci. Mae hwn yn gyflogwr pwysig iawn i'r economi leol. Rwy'n cydnabod bod cenedlaethau o deuluoedd yn Nhreorci a'r fro wedi cyfrannu at lwyddiant y busnes ers blynyddoedd lawer. UK Windows & Doors yw'r cyflogwr unigol mwyaf o'i fath yng Nghwm Rhondda, a bydd y gweithlu ymroddedig hwn bellach yn teimlo'n hynod boenus a phryderus yn dilyn cyhoeddiad mor sydyn a wnaed yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Mae fy adran i wedi bod yn ceisio eglurder ar frys gan y busnes, ac rwy'n cydnabod bod y diffyg gwybodaeth a welsom ni a oedd ar gael i'r gweithlu wedi achosi pryder gwirioneddol. Roedd y cwmni'n ymgysylltu â fy adran yn ystod y misoedd diwethaf trwy'r haf, fel yn wir gyda'r awdurdod lleol. Roedd natur y trafodaethau hynny'n gadarnhaol, gan edrych ar ehangu yn y dyfodol. Mae'n syndod felly bod y sefyllfa wedi dirywio mor gyflym. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, nid yw'r cwmni wedi ymateb pan geisiwyd cysylltu ac mae hyn wedi arwain at hyd yn oed mwy o ymdeimlad o ansicrwydd i'r holl bartneriaid.

Cwrddais â'r Aelod etholaeth dros y Rhondda ddoe, ar ei chais hi, a byddwn yn ymgysylltu ymhellach â chynrychiolwyr undebau llafur yn y dyddiau nesaf. Rwy'n deall mai undeb llafur cymunedol yw'r undeb cydnabyddedig ar y safle. Anfonais lythyr at y cwmni ddoe, ac rwyf bellach yn annog y busnes a'r gweinyddwyr i weithio gyda fy nhîm yn Llywodraeth Cymru i sicrhau y gellir cyflawni'r canlyniad gorau posibl mewn amserlen dynn.

Dirprwy Lywydd, fy mhwyslais yw archwilio a all y busnes barhau fel busnes hyfyw. Gallai hynny amrywio o sicrhau perchnogion newydd neu ddewisiadau ehangach fel y gweithwyr neu'r rheolwyr yn ei brynu. Ni allwn fod yn sicr ar hyn o bryd am sefyllfa ariannol y cwmni ar sail datganiadau yn y cyfryngau. Dyna pam ei bod hi'n hanfodol bod pob plaid yn dod at ei gilydd i archwilio potensial y busnes sy'n bodoli. Wrth weithio drwy'r dasg hon, byddwn yn sicrhau bod ein tîm cyflogadwyedd yn barod i ddarparu cymorth cyflym ac effeithiol i'r gweithlu.

Lle mae busnesau'n methu, mae gennym becyn cymorth pwrpasol ar gyfer gweithwyr yr effeithir arnyn nhw, gyda hyfforddiant am ddim a help gyda chostau dod o hyd i waith newydd, a all gynnwys gofal plant a thrafnidiaeth. Mae ein dull o ddod ag undebau, awdurdodau lleol a'r Adran Gwaith a Phensiynau ynghyd ac eraill hefyd yn hanfodol i helpu gweithwyr i ddod o hyd i swyddi newydd yn gyflym. Mewn achosion fel Tillery Valley Foods, mae'r cymorth hwnnw wedi helpu'r mwyafrif helaeth o'r gweithlu i ddod o hyd i gyflogaeth newydd yn gymharol gyflym, tra bod nifer llai yn parhau i gael eu cefnogi gan y rhaglen ReAct+.

Dirprwy Lywydd, hoffwn ei gwneud hi'n glir ein bod yn cydnabod faint o swyddi sydd mewn perygl oherwydd y cyhoeddiad hwn a'r effaith y mae'n ei chael eisoes ar y gymuned leol. Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda'r holl bartneriaid i ddod â'n hadnoddau at ei gilydd a chydweithio i fynd i'r afael â'r mater hwn a byddaf wrth gwrs yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnawn.

16:45

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rwy'n rhannu pryder y Gweinidog ynglŷn â'r cyhoeddiad hwn, ac ni allaf ddychmygu sut beth yw hynny i'r rhai a gyflogir gan y cwmni a'u teuluoedd. Fy nealltwriaeth i yw bod gostyngiad mewn gwerthiant wedi golygu bod y busnes wedi mynd yn anghynaladwy yn ariannol ac, yn anffodus, o ganlyniad, gellid colli bron i 500 o swyddi yn eu safleoedd yn Nhreorci, Llwynypia, Trewiliam a Ffynnon Taf. Mae hyn yn nifer sylweddol o swyddi yn Rhondda Cynon Taf, ac felly mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol yn gweithio gyda'i gilydd fel bod y gweithwyr yn cael eu cefnogi ac yn cael mynediad at gyfleoedd gwaith a hyfforddiant digonol yn yr ardal.

Mae rhai adroddiadau wedi awgrymu bod staff wedi cael gwybod y byddai eu swyddi'n cael eu colli mewn galwad gynhadledda, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi nad yw hynny'n dderbyniol. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog bod y diffyg gwybodaeth i weithwyr, a'r diffyg cyfathrebu gyda nhw, wedi achosi pryder gwirioneddol, ac rwy'n siomedig o glywed nad oedd y cwmni'n ymatebol pan geisiodd Llywodraeth Cymru gysylltu, ac felly rwy'n gobeithio yn y lle cyntaf, blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw darganfod yn union beth yw'r sefyllfa, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cadarnhau bod ymdrechion i ymgysylltu â'r cwmni yn parhau.

Mae'r datganiad heddiw yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn ystyried a all y busnes barhau, ac felly efallai y gall ddweud wrthym ni pa gymorth sydd wedi'i gynnig i helpu'r busnes i ddod o hyd i ddarpar brynwyr, yn enwedig os na dderbynnir ymdrechion i ymgysylltu â'r cwmni. Wrth gwrs, gall y newyddion hyn gael effaith ar gadwyn gyflenwi'r cwmni, a allai gynnwys llawer o fusnesau ledled Rhondda Cynon Taf a'r Cymoedd, ac felly a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa asesiad sydd wedi'i wneud am effaith cau posibl, fel y gallwn ni ddeall a lliniaru effaith hyn ar fusnesau eraill yn yr ardal gobeithio?

Mae'r datganiad heddiw yn cadarnhau bod y tîm cyflogadwyedd yn barod i ddarparu cymorth cyflym, effeithiol i'r gweithlu. Gyda chymaint o swyddi mewn perygl, mae'n hanfodol bod cefnogaeth a chyngor ar gael i unrhyw un sydd wedi'i effeithio gan fygythiad y cwmni i gau. Felly, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r gweithlu yn rhagweithiol ar hyn o bryd, ac efallai y gallai hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau y mae wedi'u cael gydag undebau llafur am eu swyddogaeth wrth gefnogi gweithwyr gymaint â phosibl ar hyn o bryd.

Mae'r datganiad heddiw yn dweud wrthym ni fod Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cymorth pwrpasol i unrhyw weithwyr sy'n colli eu swyddi, ac mae hynny'n cynnwys hyfforddiant am ddim a help gyda chostau dod o hyd i waith newydd, gan gynnwys gofal plant a thrafnidiaeth. Mae'r gefnogaeth honno i'w chroesawu'n fawr, wrth gwrs, a gobeithiaf y bydd cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yn cael eu gwneud mor hygyrch â phosibl i'r gweithlu. Mae arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi dweud y bydd yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn gweithio ar gynllun i ddarparu cymaint o gefnogaeth â phosib i'r rhai sydd wedi eu heffeithio. Felly, efallai mewn ymateb i'r sylwadau hynny, gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynllun hwnnw a sut mae'n edrych, fel y gallwn ddeall yn well beth yn union y mae Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol yn ei wneud i gefnogi'r rhai sy'n gweithio i'r cwmni.

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, a chynnig unrhyw gefnogaeth y gallaf i Lywodraeth Cymru ar ran fy mhlaid i? Pe bai'r swyddi hyn yn cael eu colli i'r ardal, bydd yn ddinistriol, ac felly rwy'n gobeithio y gwneir pob ymdrech i gefnogi'r cwmni a'i weithwyr ar yr adeg anodd iawn hon.

16:50

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n credu ei fod yn bwynt y mae dadlau yn ei gylch yn hytrach nag yn un a dderbynir mai'r rhagolygon ar gyfer y busnes yn y dyfodol yw'r hyn sydd wedi arwain at y newid cyflym mewn rhagolygon. Roedd llyfr archebu gyda gwaith ynghlwm wrtho, ac mewn gwirionedd o fewn hyn mae angen i chi bob amser geisio deall sut mae'r busnes wedi'i redeg, sut mae hynny'n edrych, beth mae hynny'n ei olygu wedyn i weithwyr, ac mae a wnelo hynny hefyd â'r pwyntiau ynghylch sgiliau'r gweithlu a sut y gallai cyflogwyr eraill fod â diddordeb, o bosibl, wrth recriwtio rhai o'r gweithwyr hynny. Felly, nid wyf yn credu bod y dyfodol yn gwbl llwm, ond mae'n hynod ansicr, a dyna'r anhawster wrth wneud y datganiad heddiw. Mae ansicrwydd gwirioneddol ynghylch beth fydd yn digwydd yn y dyfodol agos. Mae hynny'n cynnwys y dewisiadau sydd, fel y dywedais i, bob amser yn mynd i fod yn brif fan cychwyn i mi: a allwn ni ddod o hyd i brynwr arall i sicrhau pob un neu'r mwyafrif helaeth o'r swyddi? A oes dewisiadau amgen i brynwyr yn bosibl? Mae hynny yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni ddeall a chael cyswllt uniongyrchol gan y gweinyddwyr. Nawr, nid oes angen iddyn nhw ymateb i ni. Rwy'n gobeithio y byddan nhw yn gwneud hynny, oherwydd rwy'n credu y byddai'n darparu gwell gwerth i bobl sydd o bosibl yn gallu penderfynu beth sy'n digwydd i adnoddau'r cwmni wedi iddo fynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Cawsom gyswllt defnyddiol, er enghraifft, gyda'r gweinyddwyr yn Tillery Valley Foods ym Mlaenau Gwent. Roedd hynny'n golygu ein bod ni hefyd wedi gallu archwilio dewisiadau eraill, gan gynnwys darpar brynwyr amgen. Ni ddigwyddodd hynny yn yr achos hwnnw. Fe wnaethom ni hefyd edrych o ddifrif ar y posibilrwydd y gallai'r rheolwyr brynu'r cwmni, ond eto roedd heriau. Felly, rydym ni wedi rhoi ystyriaeth drwyadl i ddewisiadau amgen pan fu digwyddiadau tebyg i gyflogwyr mawr sydd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Rwy'n cytuno â'r Aelod ynglŷn â'r ffordd anhygoel o wael y gwnaeth y cyflogwr ymddwyn wrth gyfathrebu â'r gweithlu. Maen nhw'n gwybod yn iawn pwy yw'r awdurdod lleol a phwy yw Llywodraeth Cymru oherwydd eu bod nhw wedi siarad â ni drwy'r haf. Felly, mae'n ddewis gan y bobl sydd ar frig y sefydliad, ac yn wir nid oedd rheolwyr lleol mewn sefyllfa gliriach na gweddill y gweithlu. Felly, mae hyn yn enghraifft dda o sut i beidio â gwneud hynny. Hyd yn oed os daw busnesau i ben, mae cyfrifoldebau parhaus i'r gweithlu hwnnw, a'ch sylw ynghylch adnoddau eraill—. Bydd angen i ni gael sgwrs am yr hyn sy'n digwydd, ond hefyd i feddwl am yr effaith gymunedol, yn enwedig ar y gwasanaeth iechyd. Nid yw digwyddiadau diweithdra ar raddfa fawr fel hyn o reidrwydd yn arwain at bryder dros dro yn unig. Gall fod effeithiau gwirioneddol ar y gweithlu a'r gymuned ehangach.

O ran eich sylw ynghylch yr awdurdod lleol, rwyf wrth gwrs yn awyddus iawn i weithio gyda'r awdurdod lleol, ac rwy'n cytuno'n fawr â'r datganiad a wnaed gan arweinydd yr awdurdod lleol, Andrew Morgan, ac wrth gwrs y ddau Aelod etholaethol, Buffy Williams a Chris Bryant, ar fod eisiau cydweithio. Dyna sut rydym ni wedi gweithio gyda'n gilydd mewn achosion eraill, nid yn unig gyda Tillery Valley Foods ym Mlaenau Gwent, ond wrth gwrs yn sir Fynwy lle buom yn gweithio gydag Aelodau etholaethol a'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r awdurdod lleol, felly ar draws aelodau gwleidyddol, i geisio dod o hyd i'r canlyniad cywir i'r gweithlu hwnnw. Ac yn wir, os yw'r cyflogwr hwnnw'n mynd, mae'r safleoedd i'w hystyried o hyd hefyd, lle, mewn gwirionedd, y newyddion cadarnhaol yw bod galw am dir diwydiannol i weithgarwch ddigwydd arno.

Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am sut olwg fydd ar y cynllun yn y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r holl asiantaethau i wneud hynny. Ond fel y dywedais i, yn y gorffennol rydym ni wedi gweithio gyda'r awdurdod lleol, yr hyn sydd ar ôl o'r busnes a'r gweinyddwyr, a'r Adran Gwaith a Phensiynau, i geisio cael y canlyniad cywir, a byddaf yn sicr yn parhau â'm sgwrs gyda Community, sef yr undeb llafur cydnabyddedig sy'n cwmpasu'r holl safleoedd dan sylw.

Diolch, Gweinidog, am y datganiad hwn. Mae'n newyddion trychinebus i'r gweithwyr, eu teuluoedd a hefyd i economi leol Rhondda Cynon Taf. Hoffwn fynegi fy undod personol a'n plaid gyda'r gweithwyr sydd wedi'u heffeithio gyda'r pedwar safle, wrth gwrs—Treorci, Trewiliam, Llwynypia a Ffynnon Taf. Mae pedwar cant naw deg chwech o weithwyr, pob un â'i amgylchiadau personol ei hun a phob un â'i stori ei hun. Rydym yn gwybod am lawer o aelodau staff yno sydd wedi gweithio, dyweder, i Griffin Windows am 20 mlynedd neu fwy. Mae gan rai pobl nifer o aelodau o'r teulu yn gweithio yn y mannau hyn. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi gweld y BBC yn adrodd achos Kiera Powell a Lloyd Yeates, sydd ill dau yn gweithio i'r cwmni ac sydd â babi i fod i gael ei eni ymhen wyth wythnos. Mae'r pryder sydd yna o ran beth fydd yn digwydd o ran cyflog mamolaeth ond hefyd tâl tadolaeth a gwyliau, oherwydd yn amlwg hyd yn oed os yw Lloyd yn llwyddo i ddod o hyd i waith arall, fydd ganddo ddim yr un hawliau oherwydd fydd e ddim wedi bod yn y swydd honno ers amser hir. Felly, mae'r goblygiadau ehangach hynny, ac ar adeg pan ddylech chi fod yn aros yn gynhyrfus am ddyfodiad babi newydd, mae cael y pryder hwnnw'n rhywbeth sy'n peri gofid mawr, ac rwy'n credu bod meddwl am y straeon personol hynny yn bwysig iawn. Fe wyddom ni hefyd na allwn ni fforddio colli 500 o swyddi yn Rhondda Cynon Taf. Mae hwn yn faes lle mae taer angen buddsoddiad pellach, cyfleoedd pellach, ac roeddwn i'n falch o weld eich bod yn pwysleisio yr hoffech weld y swyddi hyn yn cael eu cadw. Rwy'n credu bod yn rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth i ni, sut y gallwn ni achub y swyddi hyn, ac edrych ar yr holl fodelau posibl. Tybed—. Rydych chi wedi sôn am hynny, efallai, ei bod hi'n rhy gynnar i chi roi rhagor o fanylion, ond byddwn i'n adleisio pwynt Paul Davies—o ran gwybod manylion pellach y cynllun sydd wedi cael ei grybwyll, mae'n rhywbeth y gellid ei ehangu, efallai hyd yn oed mewn datganiad ysgrifenedig, oherwydd byddwn i'n croesawu hynny'n fawr.

Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith fod Paul Davies wedi sôn am gefnogaeth ei blaid o ran sicrhau ein bod yn blaenoriaethu hynny. Hoffwn hefyd atgyfnerthu ein hymrwymiad fel plaid i weithio trawsbleidiol, oherwydd, yn amlwg, mae goblygiadau ehangach. Nid un etholaeth yn unig sy'n cael ei heffeithio yma; yn amlwg, mae yna weithwyr o'r ardal ehangach a'r tu hwnt, ac mae'r rhain yn ddwy etholaeth sydd wedi eu heffeithio. Felly, o ran gweithio trawsbleidiol, mae beth bynnag y gallaf i ei wneud yn bersonol, fel Aelod rhanbarthol o'r Senedd, ond hefyd yr hyn y gall fy mhlaid ei wneud, i roi'r gefnogaeth ar waith, ond hefyd i edrych ar bob model gwahanol, yn rhywbeth y byddem yn bendant yn ei groesawu.

Hoffwn hefyd atgyfnerthu rhai o'r sylwadau a wnaed o ran sut y cafodd gweithwyr eu trin. Roedd y sibrydion dros y penwythnos yn peri gofid mawr i bawb. Cefais negeseuon rif y gwlith—rwy'n gwybod bod Aelodau etholedig eraill wedi—gan bobl wedi cael gwybod y dylai nhw ddod i safle penodol erbyn 2 o'r gloch, ac yna newidiwyd hyn i alwad gynhadledd lle nad oedden nhw'n cael gofyn unrhyw gwestiynau. Nid oedden nhw'n cael dad-dawelu eu hunain, fel arall ni allent aros ar yr alwad honno. Nid yw hynny'n ffordd o drin pobl sydd wedi rhoi gwasanaeth hir i gwmni ac sy'n weithwyr ymroddedig iawn, iawn. A byddwn yn annog unrhyw—unrhyw—gyflogwyr i ailystyried unrhyw dacteg o'r fath; nid yw'n dderbyniol, oherwydd hyd yn oed pan fydd pobl yn cael y newyddion gwaethaf posibl, mae ffyrdd o wneud hynny mewn ffordd sy'n llawer gwell. Rwy'n gresynu'n fawr nad oedd y cwmni'n ymgysylltu â'r sianelau cyfathrebu ac yn cadw'r sianeli cyfathrebu yn agored gyda Llywodraeth Cymru a'r cyngor lleol fel y gellid bod wedi gwneud y pecyn cymorth hwnnw yn glir, ac ystyried y dewisiadau hyn cyn rhoi'r newyddion hwnnw. Felly, hoffwn gondemnio'r dull hwnnw gan y cwmni yn fawr iawn.

Yn ôl ym mis Mehefin rhannodd Cyngor ar Bopeth eu dangosfwrdd datgarboneiddio gyda ni, a oedd yn edrych ar botensial ôl-osod cartrefi a phwysleisiodd hefyd y rhaglen lywodraethu ar gyfer tymor y Senedd hon, ac yn amlwg yr 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu. Wel, cwmni sy'n arbenigo mewn ffenestri a drysau yw hwn—mae cartrefi newydd yn gofyn am y rheiny. Rydym yn gwybod, gydag ôl-osod hefyd, bod ffenestri a drysau yn bwysig yn hynny o beth. Felly, a gaf i ofyn pa ystyriaeth a roddwyd, sut y gallwn ni greu swyddi sy'n gysylltiedig â datgarboneiddio, a sicrhau bod cadwyni cyflenwi lleol yn cael eu defnyddio, ac a yw hynny'n bosibl yma? Oherwydd fel y gwelsom ni o'r ymchwil honno gan Gyngor ar Bopeth, nid yn unig mae'n creu swyddi—yng Nghanol De Cymru yn unig, gellid creu 10,000 neu fwy o swyddi drwy hyn—ond hefyd, gallai buddsoddi mewn cartrefi yng Nghanol De Cymru yn unig arbed rhwng £25 miliwn a £33 miliwn i'r GIG bob blwyddyn o ran sicrhau bod y cartrefi hyn yn gynnes ac nad yw afiechyd yn effeithio ar bobl. Felly, a allwn ni weld dull cydlynol o flaenoriaethu yn gyntaf oll bod y swyddi hyn yn cael eu sicrhau, ond hefyd i edrych ar gyfleoedd pellach fel y gallwn ni sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth yn Rhondda Cynon Taf?

16:55

Diolch am yr holl sylwadau a chwestiynau. Rwy'n sicr yn cydnabod y pwynt a wnaed ar y dechrau, y tu ôl i'r ffigurau, a'u maint, bod yna straeon am bobl ar gyfer pob un o'r ffigurau hynny, a hynny, wrth gwrs, yw'r hyn sy'n ein cymell i fod eisiau gwneud y peth iawn a pham mai'r flaenoriaeth yw ceisio achub y swyddi, ac os na allwn ni arbed y swyddi fel y maen nhw, edrych ar ddewisiadau amgen, ac yna, os oes angen i ni osod pobl mewn gwaith newydd neu helpu pobl i ddod o hyd i waith arall, ein bod yn gwneud hynny. Fel y dywedais i, y gwir amdani yw, cafodd y rhan fwyaf o'r gweithwyr yn Tillery Valley Foods eu helpu i gael gwaith arall yn gymharol gyflym. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw gweld y gwahanol sgiliau a chyfleoedd a allai fodoli ar y safle hwn os na allwn ni gynnal y busnes fel un hyfyw mewn rhyw ffurf neu'i gilydd. Yr her, serch hynny, yw ei fod yn dibynnu ar y gweinyddwyr a'r ffordd y maen nhw'n ymdrin â sgwrs gyda ni a'n partneriaid, oherwydd nid ydym ni'n rheoli'r busnes yn Llywodraeth Cymru na'r safle ei hun. Ac mae'n ailadrodd neges na all Llywodraeth Cymru helpu busnesau nad ydynt yn gofyn i ni am help neu sy'n ein hosgoi pan fyddwn yn ceisio siarad â nhw am y cymorth posibl a allai fod ar gael. Ac fel y dywedais i, yr hyn sy'n arbennig o siomedig yw, drwy'r haf, rydym ni wedi cael sgyrsiau am ragolygon cymharol ffyniannus i'r busnes bryd hynny. Ac yna, pan fo pethau wedi mynd yn anodd, mudandod.

Mae hefyd, felly, yn bwysig yn ogystal na fydd yr un ohonom ni yn y Siambr yn camfanteisio ar bryder gweithwyr a chymunedau pryderus. Mae angen i ni fod yn bwyllog ac yn onest ar yr un pryd. Nid wyf yn credu bod y ddau beth hynny'n amhosib i'w wneud, ond mae hynny'n gofyn i bartneriaid gydweithio—sef yr undeb llafur, y cyngor, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru—i fod eisiau dod o hyd i ffordd ymlaen a chyflwyno cyfle unedig i wneud y gorau posibl gyda gweinyddwyr ac, yn wir, cydnabod mai dyna'r ffordd orau ymlaen i'r cymunedau eu hunain yr effeithir arnyn nhw. 

Ynghylch eich sylw o ran cyfleoedd eraill, mewn gwirionedd, dyna'r hyn yr ydym yn edrych i'w ddilyn drwy'r rhaglen ôl-osod wedi'i optimeiddio. Mae'n cael ei arwain gan newid yn yr hinsawdd o ran gwella ansawdd tai, yn benodol ar gyfer yr ardaloedd yr ydych chi wedi tynnu sylw atyn nhw. Mae'n adeiladu ar yr hyn yr ydym ni wedi'i weld, er enghraifft, mewn mentrau Arbed blaenorol hefyd. Pan fyddwch yn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi, rydych chi bron bob amser yn cael effaith uniongyrchol ar ganlyniadau iechyd i'r bobl hynny ac rydych chi bron bob amser yn gwneud gwahaniaeth o ran datgarboneiddio a gostwng biliau cartrefi. Rydym ni wedi ymrwymo'n fawr i wneud hynny ac i gydnabod y budd economaidd y gellid ac y dylid ei gyflawni. Ac rwyf wedi gweld fy hun, gyda'r rhaglen ôl-osod wedi'i hoptimeiddio, ein bod wedi gwneud dewisiadau bwriadol yn y ffordd y mae hynny wedi'i ddylunio a'i gyflawni, ac mae elw gwirioneddol o fewn economïau lleol i'r sawl sy'n gwneud y gwaith, yn ogystal â gwerth y gwaith ar ôl iddo gael ei gwblhau.

Rwy'n ymwybodol iawn o'r cyfleoedd posibl os gallwn gynnal rhywfaint neu'r cyfan o natur y busnes presennol. Mae eisoes, er enghraifft, yn darparu gwaith sy'n cyfrannu at rai gwelliannau i'r cartref yn y sector preifat, ond hefyd mewn rhai o'r adeiladau newydd, ac mae amrywiaeth o'r rheini, wrth gwrs, mewn meysydd lle mae cartrefi cymdeithasol yn cael eu hadeiladu hefyd. Felly, rwy'n credu bod angen rhywfaint o optimistiaeth ynghylch yr hyn a allai ddigwydd gyda sgiliau'r gweithlu a'r math o fusnes ydyw, yn ogystal â rhywfaint o realaeth ynglŷn â sut, nawr fod y gweinyddwyr wedi ymyrryd, mae hwn yn gyfnod byr iawn, ond yn dal i fod yn gyfle i geisio cynnal y swyddi sydd yno.

17:00

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Daeth y cyhoeddiad ddoe fel sioc lwyr i bawb dan sylw. Mae cyfran enfawr o dros 500 o weithwyr sy'n cael eu diswyddo yn byw yn y Rhondda, felly mae hyn wedi dod yn ergyd enfawr i'n cymunedau. Fel sy'n arferol gyda'r diwydiannau hyn, mae llawer o'r gweithwyr yn aelodau o'r un teulu dros sawl cenhedlaeth, mae llawer yn gyplau ac roedd llawer wedi gweithio yno trwy gydol eu bywydau gwaith. Gydag ychydig iawn o gyflogaeth amgen ar gael yn lleol, mae fy swyddfa wedi derbyn negeseuon pryderus gan staff yn dweud mai'r gwaith hwn yw'r cyfan maen nhw'n ei wybod. O ystyried hyn, ac yn dilyn sgyrsiau gyda'r gweinyddwyr, Teneo, yr uchelgais, yn bennaf oll, yw dod o hyd i ddarpar brynwyr eraill ar gyfer y cyfleusterau pwysig, i geisio cadw cymaint o'r swyddi hyn â phosibl.

Mae angen i ni hefyd gysylltu â chwmnïau tebyg yn y Rhondda neu yn yr ardal leol i gloriannu a oes unrhyw bosibilrwydd o ehangu. A fyddai'r Gweinidog yn fodlon gweithio gyda Teneo i ganfod darpar brynwyr? A pha gyngor, os o gwbl, y gallai ei roi i gwmnïau lleol a allai fod eisiau ehangu, yn dilyn y cyhoeddiad?

Wrth inni geisio dod o hyd i olynydd, bydd Chris Bryant yr Aelod Seneddol yn ysgrifennu at yr Adran Gwaith a Phensiynau i ofyn am gymorth brys. Rwy'n gwybod bod cynllun ReAct+ Llywodraeth Cymru yn barod ac yn aros, os oes angen cymorth ar weithwyr sy'n chwilio am gyflogaeth newydd. Ac mae arweinydd cyngor RhCT, y Cynghorydd Andrew Morgan, wrthi'n trefnu ffair swyddi yn benodol ar gyfer gweithwyr a ddiswyddir. A yw'r Gweinidog yn gallu cefnogi'r ymdrechion lleol hyn, ac a oes unrhyw gyfleoedd penodol y gallai Llywodraeth Cymru eu darparu i helpu i gadw ac uwchsgilio gweithwyr a allai orfod gweithio mewn gwahanol ddiwydiannau?

Ni allai'r cyhoeddiad fod wedi dod ar amser gwaeth. Mae yna ofnau gwirioneddol ymysg gweithwyr am dalu am filiau bwyd ac ynni. Rwy'n deall bod y gronfa cymorth dewisol ar gael, a bydd staff fy swyddfa yn cyfeirio preswylwyr at wefan a llinellau ffôn 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Ond cyflogaeth hirdymor yw'r unig ateb yma, a bydd y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu yn cael ei groesawu â breichiau agored. 

17:05

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau, a hefyd y cyfle i gwrdd â chi ddoe i glywed yn uniongyrchol am faint o alwadau sy'n cael eu gwneud i'ch swyddfa ac i'ch staff ac, unwaith eto, y niwl gwirioneddol o ansicrwydd a oedd yn bodoli trwy gydol y dydd ddoe nes i gyhoeddiad yn y pen draw gael ei wneud. Ac roedd hi'n warthus bod pobl wedi cael neges destun yn dweud wrthyn nhw am beidio â dod i'r gwaith, a'r sefyllfa ofnadwy y rhoddwyd rheolwyr lleol ynddi, rheolwyr sy'n aml yn byw yn yr un cymunedau hefyd ac nad oedden nhw'n sicr. Fel y dywedais i, dyna'n union na ddylai ddigwydd. Hyd yn oed gyda'r busnes mewn trafferthion, mae dyletswydd o hyd i drin eich gweithwyr gyda pharch a chydnabod y gwasanaeth y maen nhw eisoes wedi'i ddarparu i'r busnes hwnnw.

Rwyf hefyd yn cydnabod mai hwn yw'r cyflogwr mwyaf yn y Rhondda, felly bydd yn cael effaith llawer mwy nag un cyflogwr neu lond llaw o unigolion. Mae cannoedd o bobl yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol. Felly, y flaenoriaeth yw sut ydym ni'n cadw swyddi, ac mae hynny'n cynnwys y sgyrsiau gyda'r gweinyddwr. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad â'r gweinyddwr i geisio cael y sgyrsiau hynny ar yr hyn a allai fod yn bosibl, a'r gwahanol ddulliau a allai fod ar gael. Ac rydym ni'n chwilio am ymateb cadarnhaol ac adeiladol gan y gweinyddwr.

O ran busnesau eraill yn yr ardal, os oes ganddyn nhw ddiddordeb yn y potensial i ehangu a gwneud mwy, yna Busnes Cymru yw'r cyswllt cyntaf neu, fel arall, efallai eu bod wedi sefydlu perthynas â'r cyngor. Gallai adran datblygu economaidd y cyngor ei hun fod o gymorth yn hyn hefyd. Ac un o'r pethau y byddwn i'n ei ddweud wrth unrhyw un o'r busnesau hynny yw: pa bynnag lwybr rydych chi'n ei ddewis, rydyn ni am sicrhau bod y berthynas rhwng y cyngor a Busnes Cymru yn hawdd felly does dim angen i chi geisio deall pa lwybr y mae angen ichi ei ddewis. Mae'n rhaid i ni fod yn gydlynus o ran y math o ymateb y mae angen i ni ei ddarparu. O fewn hynny, credaf mai trefnu ffair swyddi—dyna'n union ddigwyddodd, unwaith eto, ym Mlaenau Gwent. Roedd y cyngor yn ymwneud â'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r Llywodraeth, ac roedd pob un ohonom ni yn gweithredu gyda'n gilydd tuag yn ychwanegu at yr hyn oedd yno. Ac roedd yn golygu bod un neges i'r gweithlu a'r gymuned ynglŷn â ble i ddod o hyd i'r help a'r gefnogaeth honno ac edrych ar ffyrdd eraill o ddod o hyd i waith. Rwy'n hyderus y gallwn ni wneud yr un peth yn yr achos hwn.

Roedd hefyd yn gyfle i sicrhau bod pobl yn ymwybodol iawn o'r hyn y gall ReAct+ ei gynnig, oherwydd, i'r bobl hynny sy'n chwilio am sgiliau amgen, swyddi amgen, mae'r hyfforddiant a'r gefnogaeth a ddarparwn ar gael. Er enghraifft, rwy'n gwybod bod 17 o bobl yn dal i gael eu cyflogi yn Tillery Valley Foods sy'n dal i gael y cymorth hwnnw. Mae cymorth sgiliau yn dal i fynd ymlaen i'w helpu i ddod o hyd i fathau eraill o waith, ac rydym yn sicr eisiau gwneud yr un peth yn yr achos hwn os na allwn ni gynnal y swyddi gyda phrynwr arall.

A'r dyfodol tymor hir, rydych chi'n iawn, mae'n gyflogaeth hirdymor, a'r hyn rydym ni eisiau ei weld yw bod buddsoddiad parhaus yn sgiliau'r gweithlu fel ei fod yn well cyflogaeth—mwy o swyddi a gwell swyddi yw'r ffordd ymlaen i ni, ond mae hefyd yn golygu, pan fyddwch chi'n cael sioc sylweddol fel hyn, mae angen i chi ddeall yr effaith ddynol a sut rydym ni'n cefnogi pobl i ymdopi â'r galw sy'n bodoli yn y gymuned. Mae hynny'n cynnwys, fel y dywedais i, y galw rhyfeddol sy'n dod trwy'ch swyddfa, ac yna mae ynglŷn â chael gweledigaeth o sut y gallwn ni wneud yn well yn y dyfodol gyda'ch cymuned ac eraill ledled y wlad. 

Diolch yn fawr, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Er ei bod hi'n dda clywed eich bod yn ceisio eglurder gan UK Windows & Doors ynghylch y sefyllfa bresennol, ac mae gennych chi becyn ar waith i gefnogi gweithwyr sydd wedi colli eu swyddi, mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol bod hyn, yn anffodus, yn ymateb i'r sefyllfa. Y sioc bod cymaint o swyddi'n cael eu colli ar unwaith sydd wedi cael yr effaith wirioneddol, a gyda phob un ohonyn nhw yn bennaf yn RhCT, mae'n anodd gweld sut y bydd y farchnad lafur leol yn gallu eu darparu ar unwaith. 

Nid dyma'r tro cyntaf i gwmnïau sy'n methu yng Nghymru synnu Llywodraeth Cymru, ac rwy'n credu, Dirprwy Lywydd, y dylai'r Llywodraeth fod mewn gwell sefyllfa nid yn unig i ddeall anghenion busnesau, ond hefyd i ddeall y pwysau lleol sydd ar gyflogwyr mawr fel UK Windows & Doors. Dylai'r Llywodraeth fod y pwynt cyswllt cyntaf pan fydd busnes yn dioddef, ac nid ôl-ystyriaeth pan fydd wedi methu. Yn yr un modd, mae angen i fusnesau ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a'r cymorth a'r gefnogaeth y gall ei gynnig iddyn nhw. Byddai cael y perthnasoedd hynny nid yn unig yn golygu y gallai busnesau gael y cymorth hwnnw yn llawer cynharach, ond mae hefyd yn golygu eu bod yn cael cyfle i fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r materion craidd y maen nhw'n eu hwynebu.

Gyda hyn mewn golwg, Gweinidog, pa gamau ydych chi a Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r berthynas sydd gennych chi â'r gymuned fusnes a chyflogwyr mawr yng Nghymru ac annog gwell ymgysylltiad ganddyn nhw, a pha gyllid a chymorth busnes pwrpasol y gallwch eu cynnig iddyn nhw fel na chollir mwy o swyddi hanfodol? Diolch.    

Wel, rwy'n credu bod hynny'n gyfraniad anystyriol, o gofio beth sydd wedi digwydd, y pryder sy'n bodoli o fewn y gymuned a'r hyn rwyf eisoes wedi ei roi ar y cofnod am y ffaith mai cyflogwr yw hwn sydd â pherthynas hirdymor â'r awdurdod lleol. Roedd yn siarad â'r awdurdod lleol yr haf hwn am gynlluniau ehangu posib. Mae ganddo berthynas barhaus gyda Llywodraeth Cymru. Roedd yn siarad â swyddogion Llywodraeth Cymru yr haf hwn am gynlluniau ehangu posib. I symud o hynny, o fewn yr wythnos ddiwethaf, lle dewisodd y busnes ei hun beidio ag ymgysylltu â ni, gan wneud dewis pendant i osgoi cyswllt â ni—. Nid mater yw hyn o beidio â bod yn ymwybodol o bwy yw Llywodraeth Cymru a'r cymorth sydd ar gael; mae'n ddewis a wneir gan y busnes ei hun. Mae gennym ni berthynas dda gyda busnesau unigol a chyda phob sefydliad aelodaeth sy'n cynrychioli busnesau naill ai ar draws Cymru neu mewn sectorau gwahanol. Rwyf bob amser yn awyddus i ddysgu beth arall y gallwn ni ei wneud i helpu pobl, ond nid yw'r enghraifft hon yn achos lle nad oedd busnes yn gwybod beth i'w wneud na phwy i'w ofyn—mae'n ddewis y mae'r busnes wedi'i wneud, a chredaf y dylai Joel James efallai fyfyrio ar hynny. 

17:10

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. 

Wrth gwrs, mae Heledd Fychan eisoes wedi mynegi ein hundod gyda'r gweithlu; hoffwn ymuno â hi i wneud hynny, yn ogystal ag ymuno ag Aelodau ar draws y Siambr i gondemnio'r ffordd y mae gweithwyr wedi cael eu trin.

Nawr, mae'r Gweinidog yn gwybod, fel yntau, fod gen i ddiddordeb brwd yng nghynnydd y sector cydweithredol yma yng Nghymru. Nawr, roedd adroddiad diweddar Co-operatives UK ar gyfer 2023 yn nodi mai dim ond 0.6% o gyfanswm cynnyrch domestig gros Cymru oedd yn cyfrif am gydweithfeydd. Rwy'n gwybod bod y ddau ohonom ni'n rhannu'r uchelgais o gynyddu ein gweithgareddau yn y sector hwn, felly, os daw'r gwaethaf yn wir, ai'r gweithwyr yn prynu'r cwmni fydd safbwynt diofyn Llywodraeth Cymru? Adroddwyd y gallai 500 o swyddi gael eu colli. Gallai model cydweithredol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru olygu bod 500 o swyddi'n cael eu harbed. Bydd yn grymuso'r gymuned a byddwch yn cael cefnogaeth Plaid Cymru. 

Mae gen i ddiddordeb bob amser mewn cyfleoedd i ehangu maint yr economi gydweithredol. Dyna pam mae rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth sy'n deillio o'n maniffesto i ddyblu maint nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr, ac rydym ar y trywydd iawn i wneud hynny o fewn y tymor hwn. Yr her, pan ddaw sioc fel hyn, yw a yw gweithwyr yn prynu'r cwmni mewn gwirionedd yn ddewis realistig. Nawr, dyna pam mae gennym ni Compass fel asiantaeth datblygu cydweithredol. Dyma hefyd pam mae cronfeydd penodol ar gael trwy Fanc Datblygu Cymru, ond mae'r gweinyddwyr yn rheoli'r sefyllfa ac nid yw sut maen nhw'n ceisio ennill gwerth, gan gofio am yr asedau a'r dyledion posibl sydd gan y busnes, yn rhywbeth sydd gennym ni reolaeth drosto. Ond byddwn yn darparu cymorth ymarferol, ac fe roesom ni lawer iawn o amser ac egni yn siarad â rheolwyr yn Tillery Valley Foods. Yr anhawster yno oedd y diffyg uniondeb tryloyw gan y busnes blaenorol a'r wybodaeth a rannwyd a maint y dyledion a oedd yno. Gyda'r busnes hwn, os oes cyfle i edrych ar fodel perchnogaeth busnes gwahanol, yna hoffwn wneud hynny. Yr hyn nad wyf am ei wneud yw dweud y gallaf gyhoeddi y bydd yn gydweithfa a dweud wrth bobl eraill am wneud hynny. Mae'n rhaid i ni ymdrin â'r bobl sydd â rheolaeth wirioneddol.

Hoffwn weld mwy o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr, hoffwn weld mwy o gydweithfeydd. Gallant fod yn fodelau busnes hynod lwyddiannus. Nid yw'r rhain yn faterion sy'n fenter gymunedol a dyna ni. Gall y raddfa fod yn sylweddol, gallant fod yn gyflogwyr mawr, gallant fod yn gyflogwyr llwyddiannus, a byddwn yn parhau i gynyddu maint yr economi cydweithredol. Yr hyn na allaf ei ddweud wrth yr Aelod yw y bydd hwn yn achos lle byddwn yn gweld cwmni cydweithredol sy'n eiddo i weithwyr yn ganlyniad. Mae'n rhaid i'r flaenoriaeth a'r pwyslais fod ar gymaint o sicrwydd ag y gallwn ni ddarparu i bobl—os oes modd achub y swyddi, sut y gellir eu hachub, ac, os na ellir, helpu pobl i ddod o hyd i waith amgen o ansawdd da. 

7. Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023

Eitem 7 heddiw yw Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM8364 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023, yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Medi 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae etholiadau yn hanfodol i'n democratiaeth, ac yn ein rhaglen lywodraethu rydym ni wedi ymrwymo i ddiwygio etholiadau llywodraeth leol i leihau'r diffyg democrataidd. Yn gynharach, amlinellodd fy nghyd-Aelod, y Cwnsler Cyffredinol, Fil i wella sut y caiff etholiadau eu gweinyddu. Yn y cyd-destun hwn, rwy'n falch o ddod â Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023 ger eich bron heddiw, a chlywed barn cyd-Aelodau yn y Siambr.

Rhoddodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 y dewis i brif gynghorau yng Nghymru rhwng parhau â'r system cyntaf i'r felin neu fabwysiadu'r bleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer eu hetholiadau. Mae'r rheolau hyn a gyflwynwyd gerbron y Senedd yn ychwanegu darpariaethau ar gyfer cynnal etholiadau pleidlais sengl drosglwyddadwy at reolau etholiad llywodraeth leol. Fel y gŵyr yr Aelodau, nid ydym yn gosod naill ai'r bleidlais sengl drosglwyddadwy na'r system cyntaf i'r felin ar awdurdodau lleol. Ein safbwynt ni yw mai mater i bob awdurdod lleol yw penderfynu ar ei drefniadau ei hun.

Mae gan gydweithwyr ym myd llywodraeth leol tan fis Tachwedd y flwyddyn nesaf i bwyso a mesur y dadleuon ynghylch a ddylid newid y system bleidleisio ar gyfer 2027. Rydym yn rhoi eglurder iddyn nhw o sut y byddai system pleidlais sengl drosglwyddadwy yn gweithredu yng Nghymru. Bydd hyn yn eu galluogi i bwyso a mesur y dadleuon ac ymgysylltu'n lleol cyn dod i benderfyniad y mae'n rhaid i ddwy ran o dair o'u cynghorwyr gytuno arno—yr un trothwy ag sydd gennym ni ar gyfer newid system etholiadol y Senedd.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol am eu hymchwil ac am godi ymwybyddiaeth am y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Rwy'n siŵr y bydd gan yr Aelodau eu barn eu hunain ar fanteision neu anfanteision y system honno, a gobeithiaf y byddant yn gweld sut mae'r rheolau'n gwneud y dewis yn fwy pendant ac yn fwy eglur i awdurdodau lleol.

Rydym i gyd yn gwybod bod y bleidlais sengl drosglwyddadwy yn gweithio'n dda yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn barod. Wrth ddatblygu'r rheolau hyn, fe wnaethom ni ddefnyddio ymchwil a gomisiynwyd gennym a hefyd myfyrio ar weithrediad y bleidlais sengl drosglwyddadwy yn y rhannau hynny o'r DU. Fe wnaethom ni ymgynghori ar y rheolau hyn fel drafft. Roedd yr ymatebion yn gefnogol i raddau helaeth, ac mae crynodeb o'r ymatebion hyn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Rydym yn ddiolchgar i'r ymatebwyr am helpu i wella'r rheolau, er enghraifft, gydag iaith fwy hygyrch.

Fel erioed, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y ddeddfwriaeth hon. Byddaf yn darparu ymateb manwl i'w hadroddiad defnyddiol. Fel rhan o'r adroddiad, nododd y pwyllgor rai mân wallau drafftio yn y testun Cymraeg a Saesneg, a ddisgrifir ym mhwyntiau 1, 4 a 6 adroddiad y pwyllgor. Mân wallau yw'r rhain nad ydynt yn newid gweithrediad y rheoliadau. O'r herwydd, byddant yn cael eu cywiro cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud.

Er mwyn ychwanegu eglurder pellach ar gyfer gweithredu'r rheolau hyn, bydd fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r Comisiwn Etholiadol a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod canllawiau clir ar gael ac i gefnogi cynghorau i weithredu'r rheolau lle caiff y bleidlais sengl drosglwyddadwy ei datblygu. Edrychaf ymlaen at glywed barn cyd-Aelodau.

17:15

Diolch, Dirprwy Lywydd a'r Gweinidog hefyd. Diolch yn fawr iawn. Gwnaethom drafod y rheolau drafft hyn ddoe, ac mae ein hadroddiad ar gael yn yr agenda heddiw i lywio'r Aelodau yn y ddadl y prynhawn yma.

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi'i amlinellu, yn cynnwys darpariaethau sy'n galluogi prif gynghorau, os penderfynant hynny, i gynnal eu hetholiadau gan ddefnyddio'r system pleidlais sengl drosglwyddadwy—yn lle'r system fwyafrif syml. Mae'r rheolau hyn yn darparu ar gyfer cynnal etholiadau lle defnyddir y system pleidlais sengl drosglwyddadwy.

Felly, mae ein hadroddiad ar y rheolau drafft yn cynnwys chwe phwynt technegol ac un pwynt rhagoriaeth, ac rydym yn codi'r materion hyn eto heddiw yn y ddadl i fod o gymorth i'r Gweinidog ac i swyddogion pan fyddant yn cyflwyno eu hymateb i'n pwyntiau. Mae'r cyntaf o'n pwyntiau adrodd technegol yn nodi llond llaw o wallau drafftio yn y rheolau drafft. Er enghraifft, ceir cyfeiriadau at 'baragraff' a ddylai fod yn gyfeiriadau at 'is-baragraff' yn hytrach, ac ati.

Codwyd pedwar o'n pwyntiau adrodd technegol oherwydd credwn fod angen esboniad pellach. Er enghraifft, mae ein pumed pwynt adrodd technegol yn amlygu bod rheolau newydd 60T a 64X yn nodi'r weithdrefn ar gyfer ail-gyfrif pleidleisiau. Mae'r rheolau hyn i raddau helaeth yn adlewyrchu'r rheolau presennol yn Atodlenni 1 a 2 i reolau 2021. Fodd bynnag, mae'r rheolau presennol hynny'n cynnwys darpariaeth ychwanegol sy'n cadarnhau bod y rheolau sy'n berthnasol i ailgyfrif hefyd yn berthnasol i unrhyw ail-gyfri pellach. Nodwn nad yw'r rheolau newydd, 60T a 64X, yn cynnwys y ddarpariaeth ychwanegol honno.

Mae ein pwynt adrodd technegol terfynol yn nodi sawl anghysondeb rhwng testunau Cymraeg a Saesneg y rheolau drafft. Nid yw hyn yn benodol i'r offeryn hwn o'n blaenau heddiw; rydym ni hefyd wedi nodi hyn ar adegau eraill. Er enghraifft, yn y rheol 64G (3)(a), mae'r testun Saesneg yn cyfeirio at 'y swyddog cofrestru', ond mae'r testun Cymraeg yn dweud 'y swyddog canlyniadau'. Nawr mae hyn yn bwysig, ei fod yn gywir, ac osgoi dryswch.

Mae ein pwynt adrodd unigol yn cydnabod y bydd y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yn newydd i lawer o bleidleiswyr. Felly, fe wnaethom ni ofyn a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried cynnwys mwy o wybodaeth, er enghraifft, mewn adrannau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio. Felly, gallai fod, er enghraifft, esboniad o ganlyniadau gwneud dewisiadau ychwanegol, h.y. y gellir trosglwyddo pleidleisiau pan fydd ymgeisydd yn cael ei ethol a bod ganddo ormod o bleidleisiau.

Fel y dywedodd y Gweinidog, nid ydym ni wedi derbyn ymateb ffurfiol gan Lywodraeth Cymru eto, ond rydym yn edrych ymlaen at ei dderbyn yn fuan, a gobeithiaf y bydd y sylwadau hyn o'n heiddo yn ddefnyddiol, i'r Gweinidog ac i'r Senedd hon allu craffu. Ac os bydd prif awdurdod, yn wir, yn penderfynu manteisio ar y darpariaethau hyn a defnyddio'r system pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau lleol, bydd o gymorth i'r awdurdodau hynny a'r etholwyr lleol hefyd. Diolch yn fawr iawn.

17:20

Diolch yn fawr, Gweinidog, am gyflwyno hyn. Rydym yn croesawu cyflwyno'r rheolau newydd hyn i alluogi awdurdodau lleol i gynnal eu hetholiadau yn unol ag un system bleidleisio drosglwyddadwy. Mae hwn yn ddiwygiad hir-ddisgwyliedig a fydd, heb os, yn grymuso democratiaeth Cymru ar lefel leol.

Nid yw'n gyfrinach bod Plaid Cymru wedi eiriol yn gyson dros rinweddau system pleidlais sengl drosglwyddadwy fel system etholiadol llawer mwy blaengar a chyfrannol, o'i gymharu â'r model cyntaf i'r felin sydd wedi dyddio. Mae'r ffaith mai Belarws—na ellir ei chyfrif yn gaer o ddemocratiaeth a llywodraethu da—yw'r unig genedl Ewropeaidd arall sy'n defnyddio'r system cyntaf i'r felin yn unig yn tanlinellu'r anaddasrwydd cynhenid hwn. Gellir gweld effaith y system cyntaf i'r felin ar faint sy'n pleidleisio, sef 38.7 y cant yn yr etholiadau lleol diwethaf yng Nghymru. Yn y cyfamser, mae'r tueddiad ar gyfer seddi cyntaf i'r felin i esgor ar seddi diogel yn cael ei gyfleu gan y ffaith bod 6 y cant o seddi'r cyngor yng Nghymru, 74 i gyd, heb eu herio yn 2022. Am y rheswm hwn rydym yn parhau i ddadlau dros ymestyn y bleidlais sengl drosglwyddadwy ar draws pob lefel o etholiadau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n penderfynu cyfansoddiad y lle hwn. O ystyried y pwysau llym sy'n wynebu awdurdodau lleol ledled Cymru o ganlyniad i gyni a ysgogir gan y Torïaid, byddai'n gwbl ddealladwy pe bai llawer yn betrusgar i weithredu'r newidiadau hyn mewn pryd ar gyfer 2027.

Gweinidog, pa gymorth ac arweiniad pellach sy'n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo awdurdodau lleol sy'n ystyried newid i'r bleidlais sengl drosglwyddadwy mewn pryd ar gyfer etholiadau 2027, y tu hwnt i'r rheolau a nodir yma? Os yw'n ymddangos nad oes unrhyw awdurdod lleol yn gallu newid i'r system honno mewn pryd ar gyfer etholiadau 2027, a wnaiff Llywodraeth Cymru adolygu'r rheolau hyn ac ystyried gweithredu'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn gyfan gwbl ar gyfer etholiadau lleol yn y dyfodol? Ac, fel rydych chi wedi sôn o'r blaen, dyma'r sefyllfa eisoes yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. At hynny, a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried unrhyw ymgyrchoedd allgymorth i wella ymwybyddiaeth a gwybodaeth y cyhoedd am y bleidlais sengl drosglwyddadwy? Mae digwyddiadau byd-eang y blynyddoedd diwethaf wedi dangos canlyniadau enbyd caniatáu i ddemocratiaeth wywo ar y winwydden; dylai fod yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i sicrhau bod democratiaeth Gymreig yn cael ei meithrin a'i hymgeleddu. Credaf yn gryf y bydd y diwygiadau hyn, yn ogystal â'r diwygiadau cyfansoddiadol ehangach sy'n cael eu cyflwyno y tymor hwn, yn cyflawni hyn. Diolch yn fawr.

Mae fy mhwyntiau yn debyg iawn i rai Peredur Owen Griffiths. Y pryder allweddol yw na fydd awdurdodau lleol yn gweithredu'r newidiadau hyn ac y teimlant y cânt eu hannog rhag gwneud hynny. Yn gyntaf, rydym ni i gyd yn gwybod bod diwygio yn aml yn cael ei wrthsefyll, yn enwedig os gallai olygu newid pwy sy'n cael eu hethol. Yn ail, efallai y byddan nhw'n teimlo'n anfodlon oherwydd y costau uwch—maen nhw'n dweud tua £6,000 i 100,000 o bleidleiswyr. Ac yn drydydd, efallai y dywedant y penderfynant yn erbyn oherwydd bod cynghorau'n poeni am ddryswch cael gwahanol systemau etholiadol. Mae Peredur wedi tynnu sylw at nifer o faterion sy'n berthnasol i'r system cyntaf i'r felin, ond os na fydd awdurdodau lleol yn gweithredu'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, ni fyddwn yn gallu casglu data ar ymarferoldeb y system honno yng Nghymru, ac ni fydd gennym ni unrhyw syniad pa mor llwyddiannus yw hynny yng Nghymru. Felly, mae fy nghwestiwn yn debyg iawn: beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw cynghorau'n cael dim ond caniatâd mi wneud hynny, ond yn cael eu hannog i roi cynnig ar y system etholiadol newydd hon? Diolch yn fawr.

Diolch i gyd-Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac yn arbennig i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y ddeddfwriaeth yn drylwyr iawn. Fe wnes i gadarnhau ymateb i'r pwyllgor yn gynharach heddiw, felly rwy'n gobeithio erbyn diwedd heddiw y bydd wedi cyrraedd y pwyllgor. Ond rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau y mae'r pwyllgor wedi'u gwneud.

Mae'r pwynt craffu ar ragoriaethau, rwy'n credu, yn bwysig, ac roedd yn bwynt a godwyd gan rai cyd-Aelodau yn y ddadl hefyd, ynglŷn â sicrhau bod y swm cywir o wybodaeth a'r math cywir o wybodaeth ar gael i bleidleiswyr. Fe wnaethom ni ystyried hyn, a chawsom gyngor gan arbenigwyr a oedd yn tueddu i argymell y dylid cadw gwybodaeth am y bleidlais sengl drosglwyddadwy i bleidleiswyr mor syml â phosibl. Roedd yr ymchwil a gomisiynwyd gennym ni, y byddaf yn ei hanfon at y pwyllgor, yn llywio'r gwaith o ddrafftio'r rheolau ac argymhellodd yn benodol y dylai deunyddiau addysg pleidleiswyr ganolbwyntio ar sut i lenwi pleidleisiau ac osgoi trafod trosglwyddiadau. Felly, mae'n gymhleth, ond mae'n bwysig bod yr wybodaeth a ddarparwn ni yn ddefnyddiol ac yn glir i bleidleiswyr.

Mae caniatáu dewis system pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau lleol yn rhan o'n pecyn ehangach o ddiwygio etholiadol, wrth gwrs, gan gynnwys y ddau Fil a gyflwynwyd yn ddiweddar, ond hefyd y gwaith yr ydym yn ei wneud o ran gwella amrywiaeth mewn democratiaeth. Dyna ddarn pwysig iawn arall o waith y gwn i sydd â chefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd.

Nid yr hyn rydyn ni'n ei drafod heddiw yw rhagoriaethau'r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Rwy'n gwybod y bydd gan yr Aelodau amrywiaeth o safbwyntiau ar draws y Siambr, er fy mod yn gwybod y bu cyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru yn glir iawn dros gyfnod hir am eu cefnogaeth i'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, a nawr mae hwn yn gyfle i'r cyd-Aelodau hynny sef ein Haelodau o'r Senedd ym Mhlaid Cymru ystyried beth sy'n iawn iddyn nhw yn lleol. Rydym yn edrych ymlaen yn ddiffuant at weld beth mae awdurdodau lleol yn ei gynnig.

Roedd arna i eisiau myfyrio'n fyr ar y trafodaethau rydw i wedi'u cael yn fwyaf diweddar gyda'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol. Maen nhw wedi bod yn gwneud gwaith pwysig iawn, yn cael sgyrsiau gyda chynghorau a chynghorwyr ar hyd a lled Cymru i ddeall beth yw'r rhwystrau i'r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Rwy'n credu bod rhai o'r rheini wedi cael eu hadlewyrchu yng nghyfraniad Rhys ab Owen, yn enwedig o ran gwybodaeth, argaeledd cyngor. Yr hyn rwy'n gobeithio y bydd y rheolau yr ydym yn eu trafod heddiw yn eu gwneud yw rhoi rhywfaint o eglurder ynghylch cyfri'r papurau pleidleisio â llaw ac yn electronig, sut y dylen nhw edrych, ynghylch materion fel ail-gyfrifo ac ati. Felly, bydd yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar awdurdodau lleol a chynghorwyr i wneud dewis gwybodus iawn ar y ffordd ymlaen sydd orau iddyn nhw'n lleol. Diolch.

17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio, sydd nesaf. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Na.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dim ond un pleidlais sydd heddiw, a bydd honno ar eitem 7, rheolau etholiadau lleol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023: O blaid: 36, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 17:29.