Y Cyfarfod Llawn

Plenary

27/09/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Prynhawn da, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood.

Terfynau Cyflymder 20 mya

1. Pa waith dadansoddi polisi a wnaeth Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno terfynau cyflymder o 20 mya? OQ59961

Diolch am eich cwestiwn. Cymerodd bedair blynedd i lunio'r polisi. Rydym wedi archwilio tystiolaeth ryngwladol, wedi elwa o waith tasglu arbenigol, ac wedi treialu’r polisi mewn wyth ardal cyn ei gyflwyno ledled y wlad. Rydym yn amcangyfrif y gallai’r polisi arwain, bob blwyddyn, at achub chwech i 10 o fywydau.

Diolch. Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn y gorffennol fod gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i newid y terfyn 20 mya, a bod marwolaethau trefol a damweiniau ffyrdd wedi gostwng 20 y cant a nifer y beicwyr sy’n cael eu lladd mewn damweiniau traffig ffyrdd wedi gostwng 34 y cant yn Sbaen, lle mae ganddynt derfyn diofyn o 20 mya. Sut rydych chi'n ymateb, felly, i’r cynghorydd sir yn sir y Fflint sy’n cynrychioli rhan o’ch ardal beilot 20 mya ym Mwcle, a ysgrifennodd yr wythnos diwethaf,

'Yn anffodus, nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi dysgu unrhyw wersi o'r cynllun peilot. Nid yw'r pwerau a roddwyd i awdurdodau yn glir, ac mae cyflwyno achos pam y dylid eithrio'r ffordd yn anodd i swyddogion ein cynghorau'?

A chan nodi bod Sbaen wedi cael mwy o farwolaethau ar y ffyrdd fesul miliwn o drigolion na'r DU yn 2022, sut rydych chi'n ymateb i'r datganiad gan Weinidog Mewnol Sbaen ym mis Ionawr, gan gymharu'r ffigurau ar gyfer 2022 â 2019—y flwyddyn olaf cyn y pandemig heb gyfyngiadau symud yno—fod 2022 wedi gweld mwy o farwolaethau nag yn 2019, a dyfynnaf,

'Mewn perthynas â beicwyr hefyd, fe gynyddodd nifer y marwolaethau'?

Wel, o ran y cynllun peilot a gynhaliwyd gennym yn sir y Fflint, holl bwynt cynllun peilot yw rhoi cynnig ar bethau, ac mae rhan o roi cynnig ar bethau yn golygu methu a dysgu o’r methiant, ac nid wyf yn gweld unrhyw broblem gyda hynny. A dweud y gwir, dyna holl bwynt cynnal cynllun peilot. Nawr, fe wnaethom benderfynu treialu gwahanol ddulliau mewn gwahanol fannau. Felly, mewn rhai ardaloedd, fe wnaethom dreialu monitro, mewn rhai, fe wnaethom dreialu gorfodi. Yn achos Bwcle, fe wnaethom benderfynu treialu'r weithdrefn eithriadau. Nawr, cafwyd dadl ynglŷn ag a ddylem ganiatáu rhai eithriadau ym Mwcle fel rhan o’r treial hwnnw, neu fabwysiadu dull ardal gyfan, ac at ddibenion profi’r dull hwnnw, penderfynwyd mabwysiadu dull ardal gyfan. Nawr, credaf fod Bwcle wedi dangos nad yw dull ardal gyfan yn gweithio, ac mai'r ffordd orau yw defnyddio'r weithdrefn eithriadau, yn enwedig ar gyfer cymunedau fel Bwcle lle mae rhan o'r ffordd yn mynd drwy ardal bron yn lled-wledig, lle nad oes unrhyw dai, ac un arall drwy Ffordd Lerpwl, drwy boblogaeth lawer mwy dwys. Felly, mae'n enghraifft anodd iawn—mae'n debyg na allem fod wedi dewis ardal fwy anodd i dreialu'r eithriadau, a dweud y gwir.

Hefyd, cawsom anawsterau gwirioneddol gyda’r awdurdod lleol, a oedd yn nerfus iawn ynglŷn â gweithredu y tu hwnt i union eiriad y canllawiau, gan eu bod wedi cael nifer o heriau cyfreithiol gan gyn-swyddogion priffyrdd, ac roeddent am sicrhau nad oedd lle i heriau pellach ar eu rhan. Nawr, o ganlyniad i'r broses o weithio'n agos gyda nhw, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi rhoi hyder iddynt roi nifer o eithriadau y dangosodd y prosiect peilot eu bod yn werth chweil ar waith ym Mwcle. Rwy'n siomedig nad ydynt wedi teimlo y gallant roi eu proses eu hunain ar waith ar draws gweddill sir y Fflint, a chredaf eu bod yn dal i fod angen rhywfaint o hyder ynglŷn ag i ba raddau y gallent fod yn agored i her gyfreithiol pe bai gwrthdrawiad. A dyna un o'r materion y mae angen inni weithio drwyddynt nawr yn y cam nesaf. Ond nid yw'n wir na allant gyflwyno eithriadau, oherwydd, pe baent heb allu gwneud hynny, sut y gallent fod wedi cyflwyno'r rhai y maent wedi'u cyflwyno ym Mwcle?

Plannu Coed Trefol

2. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo plannu coed trefol? OQ59972

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog a chefnogi plannu coed trefol. Cynigodd ymgyrch Fy Nghoeden, Ein Coedwig goeden i bob cartref yng Nghymru. Mae cynlluniau eraill mewn ardaloedd trefol yn cynnwys cynllun Coetiroedd Bach a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sy’n parhau i ariannu cannoedd o brosiectau plannu coed cymunedol.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Yn gyntaf, hoffwn roi eiliad i hyrwyddo unig gynnig Cymru yng nghystadleuaeth Coeden y Flwyddyn 2023 Coed Cadw. Castanwydden felys 484 oed yw hi, ym Mharc Gwaunyterfyn yn Wrecsam. Rwy'n falch iawn fod y tîm o Wrecsam yn mynd ati i hyrwyddo'r goeden hon, felly buaswn yn annog unrhyw un i fynd ar wefan Coed Cadw a phleidleisio dros y goeden honno ym Mharc Gwaunyterfyn.

Weinidog, fe wyddoch, wrth gwrs, fod coed sy’n cael eu plannu yn y mannau cywir yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’n cymunedau. Yn sicr, mae tystiolaeth eu bod, mewn ardaloedd trefol yn arbennig, yn gwella iechyd a lles corfforol a meddyliol, yn lleihau sŵn, yn gwella ansawdd aer—mae cymaint o fanteision i blannu coed yn ein hardaloedd trefol. A gwn, Weinidog, y byddech yn cytuno bod gan lywodraeth leol ran bwysig i'w chwarae i sicrhau bod hyn yn digwydd. Gan wisgo fy het flaenorol, gwn am brosiect yng Nghonwy a arweiniodd at blannu coed newydd ar draws Llandudno, Bae Colwyn, Abergele, Bae Cinmel a Thywyn, am yr holl resymau da a'r manteision rydym yn ymwybodol ohonynt. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod, Weinidog, a oes gennych unrhyw gynlluniau ar waith ar hyn o bryd, wrth weithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru, i sicrhau eu bod yn bwriadu plannu’r coed hynny yn ein trefi ac yng nghanol ein dinasoedd ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn.

13:35

Ie, diolch, Sam, rwy'n fwy na pharod i—. Nid oeddwn yn sylweddoli bod gennym gynnig o Gymru eleni, ac o wybod hynny, rwy'n fwy na pharod i'w gefnogi. Rwy'n hoff iawn o ymgyrch Coeden y Flwyddyn a dweud y gwir, gan mai un o ddibenion yr ymgyrch yw gwneud pobl yn ymwybodol o'r hyn y gall coeden ei wneud i'ch cymdogaeth. Ac mae hyd yn oed un goeden o'r fath, yn enwedig hen goeden sbesimen hardd, fel y'u gelwir, yn ecosystem fioamrywiol gyfan ar ei phen ei hun. Felly, mae'n bwysig iawn gwneud hynny.

Nawr, rydym yn awyddus iawn i gynnwys coed trefol a chynlluniau plannu trefol yn ein cynlluniau ar gyfer coedwig genedlaethol Cymru, ac mae gennym swyddogion cyswllt coetiroedd yn gweithio gyda phrosiectau trefol, gan gynnwys awdurdodau lleol, ledled Cymru, i gynnwys coed trefol yn y goedwig genedlaethol. Rydym am i bobl ddeall bod y goedwig yn cynnwys coed unigol mewn amgylcheddau trefol, yn ogystal â chynlluniau mwy i blannu coed, ac wrth gwrs, mae gennym raglen Coetiroedd Bach hefyd, lle rydym yn bwriadu dod â choedwig fioamrywiol gyfan, yr un maint â dau gwrt tenis, gyda chwe rhywogaeth wahanol ynddi, i mewn i amgylcheddau trefol, fel y gall pobl ddeall beth mae hynny'n ei ychwanegu at ecosystem.

Felly, rwy'n cytuno'n llwyr. Gwn eich bod yn frwdfrydig iawn ynglŷn â hyn, ac roedd yn bleser gweithio gyda chi o'r blaen, ac rydym yn sicr yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol. A'r unig beth arall y buaswn yn ei ddweud, Lywydd, mewn amgylcheddau trefol a gwledig, yw annog pobl i adael i'r coed yn ein gwrychoedd dyfu, i'w troi'n goed—nid oes gwir angen eu torri. Weithiau, ar hyd y briffordd, mae angen torri canghennau sy'n bargodi fel y gallwn osgoi gwrthdrawiadau, ond gan amlaf, gellir gadael iddynt dyfu. Ac mae'r coed hynny'n cyfrif tuag at ein nodau bioamrywiol hefyd.

Cyflwynais strategaeth goed a choetir trefol y cyngor yn sir y Fflint. Mae’n gynllun 15 oed, ac mae'n rhaid imi ddweud, mewn partneriaeth â pholisïau a chyllid Llywodraeth Cymru, fod swyddogion bioamrywiaeth wedi’u cadw yno, ac mae gwaith plannu coed, yn ogystal â dolydd blodau gwyllt, wedi parhau. Fe wnaethom alw coed yn 'wasanaeth iechyd natur', gan fod y budd i iechyd corfforol a meddyliol yn anhygoel. Maent yn creu ecosystemau canopi, yn darparu cysgod rhag glaw, yn cymedroli tymheredd yr aer ac yn lleihau llifogydd, felly mae'r buddion yn wirioneddol anhygoel.

Amcangyfrifodd astudiaeth yn Wrecsam fod coed trefol y dref yn darparu gwerth £1.44 miliwn mewn buddion blynyddol i'r ecosystem, ac mewn termau ariannol, fod y manteision yn aruthrol. Weinidog, pan fyddwch yn edrych ar y cyfyngiadau ariannol, rwy'n gobeithio y bydd bioamrywiaeth a phlannu coed a dolydd blodau gwyllt yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac y bydd datblygwyr yn cael eu hannog hefyd, wrth wneud unrhyw waith peirianyddol yng nghanol trefi, i sicrhau eu bod yn plannu coed yn ogystal. Diolch.

Rwy’n fwy na pharod i gefnogi pob un o’r rheini, ac rwy’n ddiolchgar iawn am eich gwaith hefyd ar y cynllun 'ymylon', fel y gallwn sicrhau bod cyn lleied â phosibl o ymylon yn cael eu torri mor anaml â phosibl, a chyda blodau gwyllt lleol hefyd. Mae'n bwysig iawn eu bod yn flodau gwyllt brodorol hefyd, fel eu bod yn hunan-hadu, ac yn bwydo ein peillwyr, oherwydd yn amlwg, maent wedi addasu i ddefnyddio blodau gwyllt lleol. Ac mae'r un peth yn wir gyda choed. Felly, mae coed yn cynhyrchu llawer iawn o fwyd i'n pryfed, a heb ein pryfed, ni allwn gael yr adar y mae pawb ohonom mor hoff ohonynt. Felly, ni fyddaf yn gallu dyfynnu hyn yn gywir, Lywydd, ond mae un pâr o wenoliaid yn bwyta degau o filoedd o bryfed. Felly, os meddyliwch faint o bryfed sydd eu hangen arnoch i gael amgylcheddau da i fyw ynddynt, os ydych am gael gwenoliaid ac adar eraill yn eich amgylcheddau trefol, fe welwch pa mor bwysig yw sicrhau bod y coed sy'n darparu'r cynefinoedd hynny'n cael eu diogelu a'u gwella.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders. 

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Mae Wylfa a Thrawsfynydd yn ddau safle allweddol ar gyfer prosiectau niwclear yng Nghymru. Nawr, fe wyddom fod angen pedair gwaith cymaint o bŵer glân ar y DU ag sydd gennym ar hyn o bryd i sicrhau sero net erbyn 2050, ac mae ynni niwclear yn Nhrawsfynydd ac yn Wylfa mewn sefyllfa ddelfrydol i fod wrth wraidd adfywiad niwclear enfawr yma yng Nghymru. Yn wyneb agwedd mor negyddol Plaid Cymru tuag at ynni niwclear, rwy’n falch o gefnogaeth ac arweinyddiaeth Virginia Crosbie AS, yn ei hymdrechion i ddod â swyddi i Wylfa, a llawer mwy o swyddi sy’n talu’n dda. Felly, Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Great British Nuclear i sicrhau ein bod yn gweld mwy o fuddsoddiad mewn ynni niwclear newydd, yn enwedig yn Wylfa a Thrawsfynydd?

13:40

Wel, Lywydd, portffolio fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, yw hwn mewn gwirionedd, ond serch hynny, rydym yn gweithio’n galed iawn i sicrhau y gellir lleoli adweithyddion niwclear bach a chanolig yn enwedig mewn gwahanol leoliadau. Mae Trawsfynydd yn un ohonynt. Cefais y pleser gwirioneddol o ymweld â’r safle hwnnw i edrych ar y gwaith datgomisiynu sy'n mynd rhagddo yno a’r potensial ar gyfer adweithydd niwclear bach—rydym yn awyddus iawn i hyrwyddo hynny.

O ran Wylfa, y rheswm pam ei fod ym mhortffolio Gweinidog yr Economi ac nid yn fy un i yw am ei fod yn amlwg yn brosiect mewnfuddsoddi enfawr. Hefyd, Janet, nid wyf yn rhannu eich calonogrwydd ynglŷn â hyn. Byddai'r prosiect hwnnw wedi gallu bod ar waith erbyn hyn pe byddem wedi cael unrhyw fath o strategaeth ddiwydiannol neu strategaeth fuddsoddi weddus.

Felly, cywirwch fi os wyf yn anghywir, ond chi yw'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r amgylchedd, a gwyddom fod pob prosiect ar gyfer ynni adnewyddadwy o unrhyw fath yn rhan o'ch cyfrifoldeb chi. Felly, buaswn yn disgwyl ichi gael eich briffio ar Wylfa. Felly, mae’n hanfodol fod gennym gyflenwad sylfaen o ynni glân ledled Cymru i sicrhau diogeledd ynni ac i atal tlodi tanwydd. Ynni niwclear sy'n darparu'r allyriadau carbon isaf, gydag ynni 24 awr ar gael. Mewn gwirionedd, roedd Wylfa, ar y pryd, yn cynhyrchu ynni ar gyfer 1.1 miliwn o gartrefi dros 44 mlynedd. Fe wyddoch chi a minnau fod capasiti’r grid yn rhwystr i gyflawni llawer o brosiectau ynni glân, ac fe wyddom hefyd fod gan Drawsfynydd fynediad eithriadol at gapasiti’r grid ac y byddai’n sylfaen wych ar gyfer adweithyddion modiwlar bach. Felly, pa gamau rydych chi'n eu cymryd i dynnu sylw Llywodraeth y DU at hyn er mwyn sicrhau bod gwaith datblygu niwclear yn mynd rhagddo ar y safle hwn cyn gynted â phosibl?

Iawn, wel, mae'n rhaid imi ddweud, Janet, na chredaf y dylwn roi gwers i chi sut i ddarganfod pa Weinidog sy'n gyfrifol am beth, ond mae hynny wedi'i gyhoeddi ar y wefan, a gallwch ei wirio.

Fodd bynnag, wrth gwrs fy mod yn deall beth sy’n digwydd yn Wylfa. Mae’n brosiect mewnfuddsoddi. Nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi sylwi, ond nid ydym yn cynhyrchu unrhyw drydan ar hyn o bryd, a dyna pam nad yw yn fy mhortffolio. Ac felly, yr ateb i'ch cwestiwn, wrth gwrs, yw ein bod yn siarad â Llywodraeth y DU am y grid; rydym yn siarad a siarad â’r Gweinidog am y grid. Fodd bynnag, nid ydym wedi gweld un geiniog o fuddsoddiad i annog ymestyn y grid i ganolbarth Cymru, nac ar draws gogledd Cymru, na'r uwchraddio sydd ei angen arnom yn ne Cymru i gael y môr Celtaidd. Felly, os ydych chi am ychwanegu eich llais at fy llais innau ar hynny, can croeso i chi wneud hynny.

Gyda phob parch, Weinidog, mae hyn yn dweud wrthyf nad oes gennych fawr o ddiddordeb mewn ynni niwclear, gan eich bod yn ei ddiystyru fel rhan o friff rhywun arall—

Na, Lywydd, mae'n dweud nad ei phortffolio hi yw hwn. Yn y pen draw, dyma’r Gweinidog sy’n gyfrifol am newid hinsawdd, yr amgylchedd. Rydym yn sôn am yr amgylchedd, rydym yn sôn am sefyllfa ddi-garbon, felly buaswn yn disgwyl ateb mwy cwrtais ac iddi fynd i'r afael â'r pryderon y mae llawer yn eu codi gyda mi.

Nawr, gall gymryd 14 mlynedd i adeiladu seilwaith grid newydd. Mae digon o brosiectau yn y DU yn aros i gael eu cysylltu er mwyn cynhyrchu dros hanner ein hanghenion trydan yn y dyfodol. Mae Llywodraeth y DU yn mynd i’r afael â’r broblem yn uniongyrchol drwy’r Canghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net, gan gyflwyno diwygiadau newydd cynhwysfawr i'r seilwaith ynni. Felly, pa sylwadau rydych wedi’u gwneud yn barod, gan y cafwyd peth anghysondeb yn yr wybodaeth a gawsom yn ystod rhai o’r cwestiynau diwethaf pan oeddech ar eich traed, Weinidog, lle roeddech yn dweud un funud nad yw Llywodraeth y DU yn ymgysylltu â chi, a’r funud nesaf, mewn ymateb i Huw Irranca, fe wnaethoch chi ymddiheuro, a dweud bod y ddeialog honno—

Iawn, Lywydd, ni wneuthum y fath beth. Rwyf wedi dweud wrthi ddwywaith—

Fe gewch eich cyfle i ymateb nawr. Ac mae angen i chi ddod at eich cwestiwn olaf.

Rwy'n dod ato, Lywydd. Pa sylwadau rydych chi'n eu gwneud, neu y byddwch chi'n eu gwneud i Lywodraeth y DU i sicrhau'r diwygiadau sydd eu hangen arnom i gyflawni'r capasiti grid newydd—eu bod gennym yma yng Nghymru?

Felly, dylwn ddweud, Janet, fy mod wedi ymddiheuro i Huw Irranca-Davies am beidio â chyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn yr amser roedd ef eisiau imi wneud hynny. Ni wneuthum ymddiheuro am yr hyn a ddywedais am Lywodraeth y DU. Gallwch ddarllen y Cofnod, fel rwyf innau wedi'i wneud. Ac os ydych chi o ddifrif am i mi achwyn amdanoch am barhau i ddweud rhywbeth nad yw'n wir, daliwch ati. Ni ddywedais y fath beth.

Mae Llywodraeth y DU a minnau wedi cael llawer o gyfarfodydd. Rwyf wedi gweld nifer o Weinidogion yn mynd a dod. Nid ydynt yn aros yn eu swyddi yn ddigon hir i ddeall beth sy'n digwydd gyda'r grid. Rwyf wedi cael llawer o gyfarfodydd gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn. Rwyf wedi cael llawer o gyfarfodydd gyda'r Grid Cenedlaethol ynglŷn â hyn, gan gynnwys un ychydig wythnosau yn ôl yn unig, lle buom yn trafod prinder y grid ledled Cymru a sut olwg a allai fod ar y prosiect hwnnw. Rydym yn cymryd rhan lawn ym mhrosesau'r cynllun rhwydwaith cyfannol a gweithredwyr rhwydweithiau trydan, ac rwyf wedi cyfarfod â gweithredwyr systemau dosbarthu. Felly, rwyf wedi gwneud cryn dipyn yn y cyswllt hwn. Yr hyn nad yw wedi digwydd yw Llywodraeth y DU yn darparu unrhyw strategaeth fuddsoddi o gwbl i ategu ei llu o addewidion gwag.

13:45

Weinidog, mae aros o fewn y trothwyon 1.5 gradd neu hyd yn oed 2 radd a nodir yng nghytundeb Paris i osgoi newid hinsawdd trychinebus—mae hynny’n gofyn am leihau allyriadau’n sylweddol nawr. Ond rydym wedi clywed heddiw fod maes olew heb ei gyffwrdd mwyaf y DU wedi’i gymeradwyo gan reoleiddwyr, maes olew a allai gynhyrchu 200 miliwn tunnell o garbon deuocsid. Mae’n benderfyniad sydd wedi’i groesawu gan Lywodraeth y DU, ond mae canlyniadau peidio â gweithredu yn wyneb trychineb hinsawdd yn rhy enbyd i ni eu hanwybyddu. Mae'r brys i leihau allyriadau tanwydd ffosil ac iddynt gyrraedd eu huchafbwynt erbyn 2025 fan bellaf, os ydym yn gobeithio cyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5 gradd—nid yw hynny erioed wedi bod yn bwysicach. Felly, Weinidog, hoffwn ofyn i chi, o ystyried bod Llywodraeth y DU yn benderfynol, yn ôl pob golwg, o’n taflu oddi ar y llwybr ar ein taith at sero net erbyn 2050, a ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i Gymru weithredu'n gyflymach nawr i gyrraedd sero net cyn 2050?

Ie, mae'r penderfyniad ar y maes olew hwnnw'n frawychus iawn yn wir, ac mae'r syniad ei fod yn ymwneud â diogeledd ynni yn cael ei ddinoethi fel celwydd pan sylweddolwch mai cronfa gyfoeth sofran Norwy yw'r cwmni sy'n elwa o'r penderfyniad, a dim i'w wneud â Phrydain. Bydd yr olew hwnnw'n cael ei werthu i farchnadoedd rhyngwladol. Nid yw'n cynyddu ein diogeledd mewn unrhyw ffordd. Mae'n gamsyniad llwyr fod tynnu mwy o olew o'r ddaear rywsut yn cynyddu diogeledd ynni yma. Yn syml iawn, mae'n ein cloi i mewn i brisiau rhyngwladol drud iawn am olew a nwy. Felly, roeddwn yn ddigalon iawn wrth glywed y cyhoeddiad hwnnw. Dyma’r un Llywodraeth, wrth gwrs, sy’n dweud ei bod am gyflawni sero net, ond a gyhoeddodd, ar ddechrau uwchgynhadledd bioamrywiaeth Cynhadledd y Partïon y llynedd, y byddai'n agor pwll glo newydd. Felly, maent yn dweud un peth ac yn gwneud rhywbeth cwbl wahanol.

Fel y gwyddoch, rwy'n credu, Delyth, fel rhan o'r cytundeb cydweithio mae gennym dasglu sy'n edrych i weld a allwn gyflymu'r newid i sero net, ac edrychaf ymlaen yn fawr at eu hadroddiad. Mae gan yr Aelod dynodedig a minnau gyfarfod yr wythnos nesaf. Maent eisoes wedi cyhoeddi sawl cynllun ar gyfer gweithredu, ac rydym yn mawr obeithio y byddant yn cynhyrchu ateb hyfyw ac ymarferol i ni ar gyfer cyflymu ein cwrs ein hunain.

Diolch am hynny, Weinidog. Wrth gwrs, daw hyn wrth i Brif Weinidog y DU a’i Lywodraeth barhau i gefnu ar bolisïau cwbl hanfodol i wrthsefyll trychineb hinsawdd, ac unwaith eto, defnyddiaf y gair ‘trychineb’ am mai dyna sy’n ein hwynebu. Rwyf wedi codi hyn o'r blaen—rwy'n poeni ynglŷn â'r modd y mae sero net i'w weld yn dod yn fwy a mwy o asgwrn cynnen etholiadol, yn ffordd o greu gwahaniaeth clir rhwng dwy blaid y DU. Nid wyf yn cyhuddo eich Llywodraeth o hynny mewn unrhyw ffordd, Weinidog, ond ar lefel y DU, yn y cyfnod cyn yr etholiad cyffredinol, o edrych ar ba Lywodraeth a fydd mewn grym ar ôl yr etholiad hwnnw, mae Llafur y DU wedi datgan nad yw’n bwriadu ailbennu'r terfyn amser o 2026 ar gyfer dechrau rhoi'r gorau i osod boeleri nwy. Ac er eu bod wedi dweud na fyddant yn rhoi trwyddedau newydd ar gyfer fforio am olew a nwy, deallaf heddiw fod Llafur y DU wedi datgan na fyddent yn dirymu trwydded Rosebank pe byddent yn ennill yr etholiad nesaf—[Torri ar draws.] Ni chredaf fod hynny'n beth da. A ydych chi'n cytuno â’r penderfyniad hwnnw? Rwy'n tybio nad ydych. A oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ddylanwadu arnynt ac i geisio gwneud iddynt newid eu meddyliau?

Rydym yn ymdrechu'n galed iawn i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU, o ba liw bynnag, er mwyn cyrraedd ein nodau cyffredin i gyrraedd sero net erbyn 2050. Yn amlwg, maent yn nodau statudol, felly rydym yn archwilio ar hyn o bryd i weld a yw'r hyn sydd wedi digwydd ar lefel Llywodraeth y DU yn effeithio ar ein nodau statudol ein hunain. Byddem yn gwneud hynny gydag unrhyw Lywodraeth o unrhyw blaid oherwydd rydym yn gyd-ddibynnol. Mae arnom angen i Lywodraeth y DU wneud y pethau y mae wedi’u nodi yn ei llwybr sero net er mwyn inni allu gwneud y pethau y gallwn ninnau eu gwneud. Felly, rydym yn bryderus iawn ynglŷn â hynny, ac rydym yn cael cyngor ynglŷn ag a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud gyda hynny.

Ni allaf wneud sylwadau ynglŷn ag a allech chi ddirymu'r trwyddedau ai peidio, oherwydd a dweud y gwir, nid wyf yn gwybod digon am yr agweddau cyfreithiol na sut mae hynny'n gweithio nac unrhyw beth arall. Efallai eu bod wedi'u hysgrifennu yn y fath fodd fel nad yw hynny'n bosibl. Nid wyf yn gwybod. Ond gallaf ddweud wrthych yn gwbl onest fy mod wedi fy nigalonni'n fawr wrth glywed y cyhoeddiad hwnnw, gan ei fod yn gwneud y DU, unwaith eto, yn ysgymun yn Ewrop, nid yn arweinydd byd-eang o gwbl, ac yn gwbl benderfynol o ecsbloetio adnoddau naturiol y byd, ac o forgeisio eneidiau ein plant a'n hwyrion.

13:50
Gorchudd Coed ar Draws Cymru

3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu gorchudd coed ar draws Cymru? OQ59956

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030. Byddwn yn gwneud hyn drwy’r grantiau creu coetir a lansiwyd y llynedd, cynyddu gorchudd coed ar ffermydd drwy’r cynllun ffermio cynaliadwy, a bydd ein coedwig genedlaethol yn creu rhwydwaith o goetiroedd ledled Cymru.

Wel, diolch, Weinidog. Mae gwaith helaeth yn mynd rhagddo gan grŵp arbenigol ar y diwydiant paneli pren, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Seneddau’r Alban, y DU a Chymru, ac mae argymhellion ar sut i gynyddu plannu coed at ddefnydd diwydiannol wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad hwnnw. Buaswn yn hynod ddiolchgar am sylwadau Llywodraeth Cymru ar yr argymhellion hynny, ac efallai am drafodaeth ar sut y gall gwaith y grŵp yn y dyfodol gynorthwyo uchelgeisiau rhagorol Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu gorchudd coed ledled Cymru.

Diolch yn fawr iawn, Ken, am anfon yr adroddiad ataf, ac roedd yn ddiddorol iawn. Mae’r sector paneli pren, fel y dywedwch, yn cyfrannu’n gadarnhaol at sero net, ac yn cloi carbon mewn cynhyrchion defnydd hirdymor. Gwn eich bod yn gwybod hyn gan fy mod yn gweithio’n agos iawn gyda chi, ac rwy'n rhygnu ymlaen am y peth drwy’r amser, ond rwy'n awyddus iawn i weld pren Cymru’n cael ei ddefnyddio i adeiladu tai ac annog plannu mwy o goed fel cnwd fel y gallant ddiwallu'r angen cynyddol am gynhyrchion adeiladu cynaliadwy, carbon isel nad ydynt yn dod o ddiwydiant echdynnol neu'n dibynnu ar ffynonellau anadnewyddadwy. Byddwn yn cyflwyno strategaeth ddiwydiannol ar gyfer coed. Hefyd, rydym yn glir iawn fod coetir cynhyrchiol—wel, coetir a gynlluniwyd fel cnwd—yn dal i fod yn rhan o'r goedwig genedlaethol; mae’n dal i chwarae rhan yn y goedwig genedlaethol, ac mae angen i bobl ddeall bod rhai coed yno fel cnydau, ond maent yn chwarae eu rhan yn y ddalfa garbon y mae angen i ni ei chreu ar gyfer y byd.

Weinidog, mae ffermwyr yn rheoli oddeutu 80 y cant o dir Cymru, gan chwarae rhan unigryw yn y gwaith o ddiogelu a gwarchod cefn gwlad ein cenedl. Felly, mae’r diwydiant amaethyddol mewn sefyllfa unigryw, ac fe’ch gwelaf yn nodio eich pen, fel dalfa garbon â photensial unigryw a rôl allweddol wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd gan ddarparu diogeledd bwyd ar yr un pryd. Ac yn sicr, mae coed yn chwarae rhan hanfodol yn hyn, ac mae'n rhaid cael y goeden iawn, yn y lle iawn, am y rheswm iawn. Fodd bynnag, rydym wedi gweld prisiau tir yn cael eu chwyddo’n artiffisial wrth i gwmnïau rhyngwladol brynu tir fferm amaethyddol Cymru uwchlaw gwerth y farchnad ar gyfer gwyrddgalchu, gan wrthbwyso eu cydwybod yn hytrach na’u carbon, a chael eu cefnogi gan arian trethdalwyr i wneud hynny. Felly, o ystyried ein bod yn gwybod y bydd cynllun interim Cynefin Cymru, sy’n cymryd lle Glastir a chynllun creu coetir Glastir o fis Ionawr ymlaen, yn gronfa lai o arian, pa drafodaethau a gawsoch chi fel Gweinidog gyda’ch cyd-Weinidogion Cabinet, gan gynnwys y Gweinidog materion gwledig, i sicrhau bod unrhyw gyllid sydd ar gael yn cael ei dargedu’n uniongyrchol at ffermwyr, ac nad yw’n hygyrch i gwmnïau rhyngwladol? Diolch, Lywydd.

Yn amlwg, mae hynny'n rhan fawr iawn o'r drafodaeth rydym yn ei chael. Os oes gennych enghraifft o hynny, carwn ei gweld, gan y dywedir wrthym bob amser fod y rhain yn bodoli, ac nid wyf wedi dod o hyd i un eto. Felly, pe gallech anfon hynny ataf, os gwelwch yn dda, mewn llythyr, buaswn yn ddiolchgar iawn am hynny.

Yr hyn sydd gennym yn aml yng Nghymru yw tir amaethyddol yn newid dwylo gan fod rhan helaeth o’n ffermdir yn denantir, felly mae’r cwmnïau daliannol yn edrych fel cwmnïau rhyngwladol, ond mewn gwirionedd, maent yn ei ddefnyddio fel sylfaen asedau. Nawr, yn bersonol, nid wyf yn cymeradwyo hynny ychwaith, ond nid yw yr un peth â phrynu'r tir er mwyn cynyddu gorchudd coed. Nid ydym yn ariannu cynlluniau lle mae tir amaethyddol y dylid ei ddefnyddio ar gyfer bwyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gorchudd coed yn unig. Mae gennym gynlluniau i ganiatáu rhoi gorchudd coed ar dir yng Nghymru, ond mae ganddynt reolau llym iawn ynghylch nifer y rhywogaethau a ble y gellir eu plannu. Yn amlwg hefyd, mae gennym raglen ar gyfer adfer mawndiroedd, er enghraifft. Nid ydym am i goed gael eu plannu ar ein mawndiroedd, yn enwedig y mawndiroedd rydym wedi gweithio'n galed i'w hadfer.

Yr hyn rydym am i bobl ei wneud, fel y bûm yn ei drafod yn gynharach gyda Carolyn a Sam—rydym am i bobl ganiatáu i’r coed sy’n bodoli eisoes yn y gwrychoedd dyfu, i droi’n goed llawn, ac i atal y math o dacluso a welwn, ac rydym yn gofyn i ffermwyr ystyried plannu rhes arall o goed ochr yn ochr â nhw er mwyn creu gwell coridor. I'r rhan fwyaf o ffermydd, mae hynny'n gorchuddio 10 y cant o’r tir. Felly, yn amlwg, byddwn yn gweithio gyda ffermwyr. Bydd rhai ffermydd yn anaddas ar gyfer hynny; bydd ffermydd eraill yn addas ar gyfer cnydau cynhyrchiol iawn o bren, rhywbeth rwyf newydd fod yn ei drafod gyda Ken Skates, sy’n rhan hanfodol o’r hyn rydym am ei wneud yng Nghymru. Felly, rydych yn llygad eich lle, mae'n ymwneud â chael y goeden iawn yn y lle iawn at y diben iawn hefyd. Felly, bydd rhai o’r coed hynny yno am genedlaethau i ddod fel cronfeydd bioamrywiol, ond bydd eraill yn gnydau, a gall y ffermwyr wneud incwm o hynny yn ogystal ag o gynhyrchu bwyd. Felly, mae hyn ym ymwneud â sicrhau ein bod yn bugeilio’r tir yn y ffordd iawn, ar gyfer y math iawn o gynhyrchu, yn y lle iawn. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi na allwn wneud hynny heb ein ffermwyr.

13:55
Cefnffordd yr A494

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch ffyrdd ar gefnffordd yr A494 ym Mhwllglas? OQ59965

Iawn. Diolch. Rydym o ddifrif ynglŷn â diogelwch ffyrdd ac yn adolygu data'r heddlu ar wrthdrawiadau yn rheolaidd er mwyn deall yr angen am fesurau ychwanegol. Rydym wrthi’n diweddaru canllawiau 'Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru' a byddwn yn adolygu’r terfynau cyflymder ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd ar ôl cyhoeddi diweddariad i'r canllawiau.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi bod yn gohebu gyda chi ar y mater hwn dros gyfnod eithaf hir o amser bellach, a bod pentref Pwllglas yn mynd i elwa o barc hwyl a ffitrwydd newydd ar un ochr i’r gefnffordd, lle mae'r holl drigolion i bob pwrpas yn byw ar yr ochr arall i'r gefnffordd, ger y ganolfan gymunedol leol, siop y pentref a meithrinfa leol. Nawr, yn amlwg, mae mynediad at y cyfleusterau newydd yn bwysig i bentrefwyr, ac maent wedi gofyn a ellid gosod croesfan, yn ddelfrydol, ar y gefnffordd, ac os nad oes modd gwneud hynny, a ellid sicrhau gostyngiad yn y terfyn cyflymder o’r 40 mya presennol i 30 mya. Rwy’n sylweddoli bod gwaith yn mynd rhagddo i adolygu’r canllawiau cenedlaethol, ond yn amlwg, mae’n mynd i gymryd peth amser cyn i’r holl ffyrdd ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd gael eu hadolygu. A gaf fi ofyn ichi ymyrryd er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’ch swyddogion gynnal asesiad o ddiogelwch ffyrdd yn y pentref hwn cyn gynted â phosibl, fel y gall pobl fwynhau manteision y cyfleuster newydd hwn heb boeni am ddiogelwch ffyrdd?

Diolch. Wel, rwy’n cydymdeimlo’n fawr â’r hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud, ac fel y dywed, rydym wedi bod yn gohebu, ac rwyf eisoes wedi cytuno i gynnal asesiad cerddwyr ym Mhwllglas. Oherwydd pwysau cyni, mae arnaf ofn nad oes gennym gyllid yn y flwyddyn ariannol hon i allu ei wneud, ond fe'i gwnawn cyn gynted ag y gallwn ddod o hyd i'r arian.

Mae hon yn amlwg yn ddadl gyfarwydd iawn ynghylch beth ddylai’r terfyn cyflymder gorau fod lle mae pobl a thraffig yn cymysgu. Y tu allan i ardaloedd chwarae a lle mae pobl yn byw, yn amlwg mewn ardaloedd trefol, lle mae’r terfyn cyflymder yn 30 mya ar hyn o bryd, bydd y rheini’n dod yn 20 mya yn ddiofyn, am yr union resymau y mae’r Aelod yn eu nodi, a dyna pam fy mod wedi fy synnu braidd gan agwedd ddogmataidd ei blaid ar fater terfynau cyflymder. Yn yr achos hwn, wrth gwrs, mae'n gefnffordd, lle mae'r terfyn cyflymder yn 40 mya ar hyn o bryd, ac felly, nid oedd wedi'i chynnwys yn y broses i edrych ar derfynau cyflymder. Nawr, rydym yn edrych, felly, ar y canllawiau, oherwydd ar hyn o bryd, mae'r canllawiau'n awgrymu, oni bai bod lefelau penodol o anafusion, nad ydym yn gallu newid y terfyn cyflymder. Ac rwyf wedi cael llythyrau gan nifer o Aelodau yn y Siambr hon, gan gynnwys nifer o'i gyd-Aelodau, yn gofyn imi edrych ar achosion mewn ardaloedd gwledig lle mae ffyrdd yn mynd drwy bentrefi, a dylai'r terfyn fod yn is. Felly, dyna rydym yn ei wneud. Rydym am ddod â hynny yn unol â’n strategaeth diogelwch ffyrdd a thrafnidiaeth ehangach, ac mewn achosion fel hyn, buaswn yn disgwyl gweld y terfyn cyflymder yn gallu cael ei ostwng.

Pan wyf wedi dweud ein bod yn gwneud hyn ac yn adolygu terfynau cyflymder at y diben hwn, a gaf fi dynnu ei sylw at y ffaith bod llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr wedi dweud,

'Bydd Llafur yn parhau i gynnal yr agenda sosialaidd, gwrth-weithwyr, gwrth-ffyrdd a gwrth-fodurwyr hon, gan wneud niwed i economi Cymru a chael gwared ar ryddid pobl i yrru eu ceir',

am ein bod eisiau cael terfynau cyflymder is lle mae plant yn chwarae? Nawr, credaf fod rhagrith llwyr ar y meinciau gyferbyn o ran pryd y byddant yn penderfynu eu bod am gefnogi terfynau cyflymder a phryd nad ydynt am wneud hynny. Felly, rydym yn mynd i ddiweddaru'r canllawiau, fel y mae wedi gofyn i mi ei wneud, ond pan grybwyllais hynny mewn cyfweliad yn ddiweddar, penderfynodd y Ceidwadwyr mai dyma'r rhyfel diwylliant diweddaraf y gallent fanteisio arno a chychwyn eu hymgyrch sgrechlyd i nodi mai hon oedd fy agenda wrth-fodurwyr nesaf. Y cyfan rwy'n ei wneud yw'r hyn y mae'n gofyn i mi ei wneud, felly efallai yr hoffent ailfeddwl eu safbwynt er mwyn osgoi rhagrith.

Dwi innau yn cefnogi galwadau i wella diogelwch cerddwyr a beicwyr ym mhentref Pwllglas, yn enwedig y rhai sydd yn awyddus i ddefnyddio y man chwarae newydd—[Torri ar draws.]

Mae'n ddrwg gennyf. Mae'n ddrwg gennyf. Mae Aelod yn cyfrannu’n rhithiol ac ni ellir ei glywed pan fo gormod o sŵn yn y Siambr, felly os gallwn wrando ar Llyr Gruffydd.

Caria ymlaen, Llyr.

Diolch, Llywydd. Dwi hefyd yn cefnogi gwella diogelwch pedestrians ym Mhwllgas. Yn amlwg, mae'r man chwarae newydd yn mynd i ddenu pobl, ond nid yn unig o'r pentref. Dwi'n gwybod o brofiad fod yna blant, a phobl ifanc yn enwedig, yn teithio o gymunedau cyfagos nawr i ddefnyddio'r adnodd hwnnw—llefydd fel Llanfair Dyffryn Clwyd ac fel Rhuthun ei hun. Ac mae'r ffordd sy'n dod i mewn i Bwllglas o'r gogledd, yr A494, yn gul eithriadol, mae'n droellog eithriadol, does yna ddim palmant, mae'n beryg bywyd i seiclo ar honno. Felly, a gaf i ofyn i'r Llywodraeth edrych ar ddiogelwch ychydig y tu hwnt i bentref Pwllglas ei hun ac edrych ar wella mesurau diogelwch, boed yn arwyddion ffyrdd neu hyd yn oed archwilio posibiliadau o ran llwybrau cerdded a beicio, o bosib ar hyd yr hen reilffordd, er mwyn amddiffyn rhag gael damwain? Achos, fel mae'n edrych ar hyn o bryd, mater o amser yw hi cyn bod rhywun yn cael damwain ddifrifol.

14:00

Diolch am y cwestiwn ac rwy'n siŵr fod etholwyr wedi mynegi nifer fawr o bryderon wrth Llyr Gruffydd, fel wrth lawer o'r Aelodau yma, mewn perthynas â chyflymder ceir a'r perygl y mae traffig yn ei achosi i gerddwyr. Mae'n sicr wedi bod yn un o'r materion mwyaf y mae etholwyr wedi'u codi gyda mi yn hanesyddol, a dyna'r rheswm pam ein bod ni, gyda chefnogaeth llawer o bleidiau yn y Siambr hon, yn gostwng y terfyn cyflymder mewn ardaloedd adeiledig. Ac ar y ffyrdd y tu hwnt i'r terfyn cyflymder 30 mya presennol, fel y dywedais, rydym yn edrych ar y canllawiau y gallwn eu cyflwyno ochr yn ochr â hynny. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn ymgynghori ar strategaeth diogelwch ffyrdd newydd i Gymru, oherwydd mae'r fersiwn bresennol wedi dod i ben, a byddwn yn cysoni terfynau cyflymder â'n polisïau eraill a strategaeth drafnidiaeth Cymru. Fel y gŵyr yr Aelod, rydym yn buddsoddi'n helaeth mewn creu llwybrau diogel ar gyfer cerdded a beicio i ffwrdd oddi wrth ffyrdd fel rhan o'n buddsoddiad teithio llesol. Felly, rwy'n credu ein bod yn gwneud llawer iawn ar yr agenda hon, ac rwy'n ddiolchgar am ei gefnogaeth ef a chefnogaeth ei blaid i'r camau rydym yn eu cymryd. 

Rhwydwaith Camlesi Cymru

5. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu a gwella rhwydwaith camlesi Cymru? OQ59985

Mae camlesi yn cyfrannu at les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Er nad yw camlesi wedi'u datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu prosiectau i wella'r rhwydwaith. Mae'r rhain yn cynnwys cefnogi bioamrywiaeth a gwelliannau amgylcheddol eraill ar hyd camlas Trefaldwyn, yn ogystal â llwybrau teithio llesol ar hyd camlas Abertawe.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae ein rhwydwaith camlesi yn rhan hanfodol o'n seilwaith cenedlaethol. Mae camlesi yn dod â manteision mannau gwyrdd a choridorau natur i ardaloedd trefol, gan gyrraedd miloedd o bobl nad oes ganddynt lawer o fynediad at natur. Maent yn creu coridorau bywyd gwyllt, yn cyfrannu at amddiffynfeydd rhag llifogydd a draenio ac yn trosglwyddo dŵr i gefnogi cyflenwad dŵr cyhoeddus. Yn fy etholaeth yng Ngorllewin Casnewydd, mae camlas Sir Fynwy a Brycheiniog wedi gwasanaethu trigolion ers iddi gael ei hadeiladu ym 1799. Cafodd ei hadeiladu ar gyfer diwydiant i ddechrau, ond mae bellach yn noddfa i gerddwyr a phobl sy'n hoff o fyd natur, gyda Chanolfan Camlas y Pedwar Loc ar Ddeg yn Nhŷ-du yn ganolbwynt ardderchog i ymwelwyr.

Mae ein camlesi yn ased i'w drysori, ond mae'r setliad cyllido hirdymor diweddar gan Lywodraeth y DU i'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, sy'n cynnwys Glandŵr Cymru, bron yn haneru'r cyllid cyhoeddus i gamlesi mewn termau real o'i gymharu â'r blynyddoedd diwethaf. Yn ôl yr ymddiriedolaeth, bydd yn arwain at ddirywiad yng nghyflwr y rhwydwaith camlesi a'r posibilrwydd brawychus o gau camlesi. Weinidog, pa sgyrsiau rydych yn eu cael gyda San Steffan am effaith y penderfyniad hwn, a beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ddiogelu ein camlesi a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ased i'w drysori? 

Ie, diolch am y cwestiwn hwnnw, Jayne Bryant. Fel rydych newydd ei ddweud, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu newid y model ariannu ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, ac mae'n symud o gyfnod o 15 mlynedd i gyfnod o 10 mlynedd, gyda gostyngiadau blynyddol fesul cam. Rwy'n siŵr eich bod yn gwybod hyn i gyd, ond fe'i sefydlwyd yn 2012 a chytunodd Llywodraeth y DU i ddarparu tua £740 miliwn drwy grant 15 mlynedd wrth i'r elusen ymsefydlu. Roedd bob amser yn wir fod disgwyl iddynt leihau'r ddibyniaeth ar gyllid cyhoeddus yn raddol, ond roedd hynny dros gyfnod o 15 mlynedd, ac mae'r cyfnod hwnnw bellach wedi cael ei leihau. Yn ystod 2022-23, cynhaliodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig adolygiad o'i grantiau i lywio'r safbwynt. Fe wnaethom ni gyfrannu at gamau cynnar yr adolygiad hwnnw gan dynnu sylw at y rôl bwysig sydd gan y rhwydwaith camlesi ym mhob ardal—yr holl rai rydych chi newydd eu crybwyll; hamdden awyr agored, teithio llesol, twristiaeth a bioamrywiaeth yn uchel ar y rhestr.

Felly, maent wedi cyhoeddi y bydd yn lleihau bob blwyddyn. Maent yn credu y gellir gwneud iawn am y gostyngiad drwy gynnydd mewn cyllid arall, fel taliadau trosglwyddo dŵr, taliadau cychod ac angorfeydd ac incwm arall, ond mae arnaf ofn ein bod wedi amlygu nifer o risgiau o ganlyniad i'r gostyngiad mewn cyllid, ac rydym yn ofni y bydd rhai rhannau o'r rhwydwaith yn cael eu cau, gan gynnwys rhai llwybrau teithio llesol, effaith negyddol ar fioamrywiaeth os na ellir sicrhau bod y gamlas yn llifo'n rhydd, oherwydd mae sicrhau bod y dŵr yn llifo'n rhydd yn cyfrannu'n helaeth at hynny, a rhwymedigaethau grantiau hanesyddol er mwyn cynnal asedau a darparu budd cyhoeddus sy'n dod i rym os na all yr ymddiriedolaeth gynhyrchu digon o arian er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau, ac o ganlyniad i hynny, llai o waith cynnal a chadw ar asedau rhestredig.

Felly, mae'n destun pryder mawr fod hyn wedi digwydd, ac rydym yn awyddus iawn i gadw ein rhwydwaith camlesi, ac yn wir i'w ymestyn, ac rydym yn dal i obeithio y byddwn yn gallu gwneud hynny. Mae gennym rai llinellau yn 'Polisi Cynllunio Cymru' sy'n nodi ystyriaethau polisi ar gyfer camlesi a dyfrffyrdd mewndirol, ac yn y bôn, i grynhoi, mae'n dweud y dylai awdurdodau cynllunio geisio hyrwyddo'r defnydd o ddyfrffyrdd mewndirol drwy ddiogelu neu ddarparu mynediad atynt. Mae hynny gyda'r bwriad o sicrhau bod cymunedau'n gallu cael mynediad at y dyfrffyrdd, a'u defnyddio. A hefyd mae'n amlwg iawn, yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, fod safbwynt pobl ar gamlesi ac afonydd wedi bod yn wahanol iawn. Felly, nid oedd yn anghyffredin o gwbl, 15 mlynedd yn ôl, i ystadau tai gael eu hadeiladu gyda chefnau'r tai at afon, a wal rhyngddynt. Nawr mae'n amlwg iawn ei fod yn gwella gwerth y tir os ydych chi'n ei wneud fel arall a gwneud i'r tai wynebu'r afon. Nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi cael cyfle i wneud hyn, Jane Bryant, ond os cewch chi gyfle, edrychwch ar Lee Valley ym mharc Olympaidd Llundain, a'r hyn a ddigwyddodd pan lwyddodd yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd i ddylanwadu ar sut y gwnaethant fynd ar drywydd dyfrffyrdd mewndirol y safle hwnnw, a'r hyn y mae wedi'i wneud i'r gymuned yn lleol, oherwydd mae'n werth edrych arno. Felly, mae'n economi ffug unwaith eto gan y Ceidwadwyr i wneud hyn ar gyfer ased sy'n ased treftadaeth ac yn fuddsoddiad enfawr mewn bioamrywiaeth.

14:05

Weinidog, wrth gwrs, un ffordd y gall Llywodraeth Cymru helpu i wella rhwydwaith camlesi Cymru yw drwy barhau i gefnogi gwaith adfer camlas Maldwyn, y cyfeirioch chi ati yn eich ateb yn gynharach. Nawr, fe fyddwch yn ymwybodol o'r cyllid ffyniant bro sylweddol a ddyfarnwyd gan Lywodraeth y DU i ddiogelu'r prosiect hwn, ac rwy'n sicr yn credu y bydd adfer y gamlas yn sir Drefaldwyn o fudd enfawr i wella'r cynnig twristiaeth, yn ogystal â helpu i ddenu'r cyllid sector preifat hwnnw hefyd. Nawr, rwy'n gobeithio'n fawr, Weinidog, drwy fargen twf canolbarth Cymru, y gellir manteisio ar gyllid ychwanegol hefyd, oherwydd mae hwn yn brosiect allweddol o fewn bargen twf canolbarth Cymru, a gwn ei bod yn bartneriaeth, wrth gwrs, rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Felly, Weinidog, hoffwn eich cefnogaeth mewn egwyddor i gymorth ychwanegol drwy fargen twf canolbarth Cymru i gefnogi elfennau terfynol y gwaith o adfer camlas sir Drefaldwyn, gan fy mod yn siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod hwn yn brosiect adfywio strategol pwysig iawn i'r canolbarth. 

Ydw, rwy'n cytuno'n fawr ei fod yn brosiect adfywio strategol pwysig. Fel roeddwn yn dweud mewn ymateb i Jayne Bryant, mae'n amlwg iawn ei fod yn cael effaith ddramatig ar werthoedd tir, er enghraifft, ac mae'n bendant yn gwella'r cynnig twristiaeth, ar gyfer defnyddio'r llwybrau tynnu yn ogystal â'r cychod eu hunain, ac rydym yn gryf o blaid hynny. Ni allaf wneud sylw ar gyllid bargen twf canolbarth Cymru—mae hynny ym mhortffolio fy nghyd-Aelod—ond fel Llywodraeth rydym yn gefnogol i fargen twf canolbarth Cymru, ac yn awyddus iawn i sicrhau bod asedau hanesyddol o'r math hwn yn cael eu gwella. 

Bioamrywiaeth

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cydbwyso'r angen am waith datblygu yn erbyn ei hymrwymiad i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth? OQ59977

Mae Llywodraeth Cymru yn cydbwyso'r angen am waith datblygu gyda'n hymrwymiad i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth drwy weithredu ein polisïau cynllunio daearol a morol. Mae'r rhain yn darparu fframwaith i sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu defnyddio mewn ffordd ac ar gyfradd sy'n cynnal ac yn gwella gwytnwch ecosystemau.

Diolch yn fawr, Weinidog. Rwyf wedi bod yn ymdrin â thrigolion pryderus mewn dau ddatblygiad posibl, un yn fferm solar a'r llall yn ddatblygiad tai. Mae gan y ddau safle un peth yn gyffredin, fodd bynnag—mae'r ddau ohonynt yn hafan i fywyd gwyllt. Mae'r ddau safle'n cynnal amrywiaeth o fflora a ffawna prin ac mae'r ddau'n cael eu bygwth gan waith datblygu. Gallai Glais, sy'n gartref i adar prin a gloÿnnod byw, gael ei ddinistrio i ddiwallu ein hanghenion ynni, ac mae Comin Clun, sy'n gartref i lawer o rywogaethau o blanhigion a phryfed prin, i gael ei balmantu i ddarparu'r angen am dai fforddiadwy. Weinidog, mae gennym argyfwng natur, felly pam ein bod yn caniatáu i gynefinoedd naturiol gael eu dinistrio i ddiwallu targedau ynni neu dai tymor byr? Does bosib nad oes digon o safleoedd tir llwyd o gwmpas i ganiatáu i ddatblygiadau fynd yn eu blaenau gan warchod ein bioamrywiaeth ar yr un pryd. Diolch.

Wel, rwy'n falch iawn o weld yr Aelod yn hyrwyddo bioamrywiaeth dros waith datblygu. Yn sicr, nid yw hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth o'r un lliw ag ef yn ei wneud yr ochr arall i'r ffin. Yma yng Nghymru, mae gennym system sy'n dilyn cynllun. Yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar safleoedd na cheisiadau cynllunio unigol am resymau amlwg, ond rhaid i unrhyw ddatblygiad a gyflwynir gydymffurfio â 'Pholisi Cynllunio Cymru', rhaid iddo gydymffurfio â'r darpariaethau a nodir yn y cynllun datblygu lleol, ac mae datblygiad cynaliadwy yn gwbl greiddiol iddynt oll. Felly, cyn belled â bod yr awdurdodau cynllunio yn gweithredu'r cynlluniau'n gywir ac yn gweithredu 'Polisi Cynllunio Cymru' yn gywir, mae gennym lawer iawn o amddiffyniad a ffyrdd o wella, fel ein bod yn sicrhau'r cydbwysedd cywir. Ond yn amlwg, ni allaf wneud sylw ar safleoedd unigol oherwydd mae'n ddigon posibl y bydd gennyf rôl yn y system gynllunio ar eu cyfer.

14:10
Croesiadau'r Fenai

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y camau diweddaraf mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i wella gwytnwch croesiadau'r Fenai? OQ59966

Diolch. Mae Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn drafftio ei adroddiad ar wella gwytnwch croesfannau'r Fenai, ac rydym yn gobeithio y daw i law cyn gynted ag y bydd yn barod. Rwy'n deall y bydd y comisiwn yn argymell ystod o gamau i'w cymryd i gyflawni hyn, a bydd yr adroddiad hwnnw ar gael i'r cyhoedd, wrth gwrs.

Mae'r ffaith y bu'n rhaid cau'r bont y llynedd, a nawr y goleuadau hirdymor ar bont Menai, wedi amlygu diffyg gwytnwch croesfan Britannia wrth gwrs. Y rheswm rwy'n gofyn y cwestiwn heddiw yw oherwydd ei fod yn teimlo o ddifrif fel pe bai Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau yn hirdymor i wneud unrhyw beth i helpu gyda gwytnwch y groesfan. Roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi dod yn agos, ddegawd yn ôl, i gael cefnogaeth ar gyfer system tair lôn yn ystod oriau brig. Ni ellid gwneud hynny. Fe wnaethom barhau i ymgyrchu, a waw, fe gawsom addewid o bont newydd. Yna, cafodd hynny ei dynnu'n ôl. 'Defnyddiwch y bws', meddent wrthym. Yna, cafodd bysiau eu torri. 'Defnyddiwch deithio llesol'—y bont fyddai'r llwybr newydd ar gyfer teithio llesol. Nawr, rwyf wedi cyflwyno atebion ymarferol. Ysgrifennais ym mis Gorffennaf. Awgrymais ddefnyddio system tair lôn yn ystod oriau brig fel mesur cyflym dros dro. Mae'r Gweinidog wedi ysgrifennu yn ôl ataf, gan ddweud nawr na ellir gwneud hynny, ac y byddai'n cymryd blynyddoedd. Lle mae'r bwriad i geisio mynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu nawr? Rwy'n ofni nad oes gan gomisiwn Burns gylch gwaith digon eang. Lywydd, mae arnaf ofn nad yw'r Dirprwy Weinidog yn rhoi unrhyw beth i ni yma sy'n dangos i ni fod y Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â gwneud newidiadau go iawn ar gyfer y tymor hir. Gyda storm Agnes ar y ffordd, mae gennyf etholwyr nerfus iawn eto sy'n poeni y bydd yr ynys yn cael ei thorri i ffwrdd.

Wel, rwy'n deall y rhwystredigaeth yn llwyr, ac rwy'n siomedig gyda'r sylwadau sarrug braidd a wnaeth yr Aelod. Byddwn wedi gobeithio y byddai wedi meddwl, o ran fy ymrwymiad a fy mherthynas gydag ef—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod yr awgrym nad ydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i ddarparu ateb hirdymor yn sarrug. Rwy'n credu fy mod wedi ymdrechu'n galed iawn i weithio gydag ef ac wedi rhoi llawer o amser i geisio dod o hyd i ffyrdd o wneud hyn. Nid yw'r pethau hyn yn syml. Dyma fy swydd, a dyna ei swydd iddo yntau. Rwy'n parhau i fod yn siomedig â'r cywair y mae'n ei ddefnyddio.

Nawr, fy mhryder i, ar ôl ymgysylltu'n agos â'r peirianwyr ar hyn—ac mae wedi cyfarfod â nhw ei hun ar sawl achlysur—yw nad yw mor syml ag y mae'n awgrymu, yn anffodus. Byddwn wrth fy modd pe bai mor syml â hynny, oherwydd rwy'n cefnogi'r hyn y mae'n ceisio ei wneud. Roeddwn yn gefnogol i geisio sefydlu'r system 'zipper' a awgrymwyd ganddo, ac mae'r peirianwyr yn ofalus iawn ynglŷn â hynny. Rwy'n deall bod yr adroddiad a gawsom yn ôl—gan weithio gyda chomisiwn Burns a sicrhau bod peirianwyr ar gael iddynt—yn dangos y bydd yn anodd iawn sefydlu hynny fel ateb parhaol, sy'n siomedig iawn. Nid ydym am roi'r gorau i'r syniad, ac rwy'n sicr yn gofyn iddynt wneud pob ymdrech i geisio sicrhau bod hwnnw'n ateb pragmatig. Unwaith eto, byddwn yn hapus iawn iddo gyfarfod â nhw i drafod manylion hynny. 

Fel y dywedais, bydd comisiwn Burns yn cynhyrchu cynllun cyffredinol ar gyfer gogledd Cymru. Yn anffodus, mae'r Arglwydd Burns wedi cael anaf mewn damwain seiclo, ac felly efallai y bydd oedi cyn cyhoeddi'r adroddiad, ond rydym yn gobeithio y gellir ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl. Rwy'n ategu fy ymrwymiad i weithio gyda'r Aelod i geisio dod o hyd i ateb ar gyfer ei etholwyr.

Safonau Byw Addas

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol i sicrhau bod gan bobl mewn llety dros dro amodau byw addas? OQ59980

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'n huchelgais hirdymor i ddod â digartrefedd i ben, ac rydym yn buddsoddi dros £210 miliwn mewn gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai eleni yn unig. Mae'r cod canllawiau ar ddyrannu llety a digartrefedd yn nodi canllawiau i awdurdodau lleol ar ddefnydd ac addasrwydd llety dros dro.

Diolch am yr ateb, Gweinidog.

Ym mis Mehefin 2023, roedd 10,869 o bobl yn byw mewn llety dros dro, gyda 3,346 ohonynt o dan 16 oed. Nawr, mae fy swyddfa wedi gweld cynnydd yn nifer yr etholwyr sy'n dod atom o'r sefyllfa hon yn mynegi pa mor anaddas yw'r llety, yn enwedig i deuluoedd. Pan fyddwn yn codi hyn gydag awdurdodau lleol, yn amlwg iawn, maent o dan bwysau. Mae amseroedd ymateb, ar gyfartaledd, wedi cymryd hyd at ddau fis, yn ddiau oherwydd y niferoedd cynyddol sydd angen llety dros dro. Felly, mae gennyf ddau gwestiwn. Yn gyntaf, pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol i ymdrin â'r niferoedd sydd angen llety dros dro? Ac yn ail, pa gyngor y byddai'n ei roi i ni fel Aelodau ynglŷn â'r ffordd orau o gefnogi ein hetholwyr?

14:15

Ie. Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Rydym yn amlwg yn gweithio ar y cyd â Phlaid Cymru ar y mater hwn, oherwydd mae digartrefedd yn rhan o'r cytundeb cydweithio. Rydym yn parhau i fabwysiadu dull o sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael allan, gyda dros 38,600 o bobl sy'n profi digartrefedd wedi cael cymorth llety dros dro ers mis Mawrth 2020. Rydym newydd ddiweddaru ein cynllun gweithredu ar gyfer rhoi diwedd ar ddigartrefedd, sy'n adlewyrchu ein huchelgais i leihau dibyniaeth ar lety dros dro, wrth i awdurdodau symud tuag at ailgartrefu'n gyflym.

Ond mae Luke Fletcher yn llygad ei le: rhaid i atal fod yn brif ffocws, a'n blaenoriaeth yw lleihau llif y bobl sydd angen llety dros dro, felly rydym wedi darparu £6 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol ar gyfer cronfa atal digartrefedd ddewisol. Rydym hefyd wedi ceisio cynyddu'r niferoedd sy'n symud ymlaen o lety dros dro, felly rydym wedi sefydlu'r rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro. Fe wnaethom sefydlu honno ar ddechrau y llynedd. Mae'n agored i geisiadau newydd nawr i ddarparu mwy o gartrefi i bobl mewn llety dros dro. Mae hwn yn llety dros dro o ansawdd uchel iawn ac os hoffai'r Aelod ymweld â rhai, gallaf yn sicr drefnu hynny. Felly, mae hwn yn llety nad yw'n cyrraedd y safonau gofodol rydym yn eu disgwyl ar gyfer llety parhaol, ac mae rhywfaint ohonynt wedi'u lleoli ar yr hyn rydym yn eu galw'n safleoedd 'yn y cyfamser'. Yn ddiweddar, ymwelais ag un yn y gweithfeydd nwy yma yng Nghaerdydd, er enghraifft, a fydd yn dod yn ystad dai barhaol, ond bydd yn cymryd tair i bum mlynedd i hynny ddigwydd, ac yn y cyfamser, mae gennym lety dros dro o ansawdd da iawn yno i nifer o deuluoedd a fyddai fel arall mewn llety gwely a brecwast llawer gwaeth. Ond nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl ein bod yn wynebu niferoedd digynsail o bobl sy'n mynd yn ddigartref. Mae gennym dros 1,000 y mis o bobl ledled Cymru sy'n mynd yn ddigartref, wedi'i lywio, mae arnaf ofn, gan yr argyfwng costau byw a'r effaith y mae hynny'n ei chael o ran chwalu teuluoedd.

Felly, rydym wedi bod yn buddsoddi'n sylweddol mewn gwasanaethau atal ac os oes gan yr Aelod bobl sy'n mynd yn ddigartref yn yr amgylchiadau hynny, y ddau beth rydym wedi bod yn gofyn i bobl eu gwneud yw, yn gyntaf oll, gwneud yn siŵr fod tai a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn eich ardal chi—felly, cymorth iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, gwasanaethau cymdeithasol—ar gael os ydynt yn dal i fod yn eu cartrefi, a bod y cyngor neu'r bobl sy'n rheoli'r opsiynau tai yn eich ardal yn ymwybodol o'r ffaith eu bod yn gallu gwneud pethau i gadw pobl yn eu cartrefi. Mae ystod eang o opsiynau ar gael i gadw pobl yn eu cartrefi, gan gynnwys cymorth gydag ôl-ddyledion rhent, er enghraifft, a materion eraill. A lle nad yw'n bosibl gwneud hynny, sicrhau eu bod yn cael opsiynau tai ar y cyfle cyntaf posibl, fel y gellir sicrhau mwy o amser i geisio dod o hyd i lety amgen addas. Ac rydym wedi galluogi cynghorau i ddarparu ystod o lety addas; mewn llawer o achosion, ni fydd yn dŷ cymdeithasol parhaol i'w rentu, ond serch hynny, fe fydd yn llety cwbl dderbyniol.

Rydym yn parhau i weithio'n galed iawn. Yn y ffigurau diwethaf sydd ar gael i mi, roedd ychydig dros 1,000 o bobl y mis yn troi at wasanaethau digartrefedd, yn ôl ym mis Medi, a symudwyd tua 562 o'r aelwydydd hynny ymlaen i lety parhaol. Felly, Lywydd, rwyf bob amser yn dweud hyn, rwyf am dalu teyrnged i'r bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau digartrefedd ledled Cymru, sy'n gwneud eu gorau glas i geisio helpu pobl yn yr amgylchiadau hyn. Ond rwy'n pwysleisio ein bod ni'n ymrwymedig i geisio cadw pobl yn eu cartrefi yn y lle cyntaf ac atal pobl rhag mynd yn ddigartref, oherwydd y trawma, ac yn wir, yr agweddau ariannol sydd ynghlwm wrth hynny.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, a'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Paul Davies.

Cyrsiau Galwedigaethol

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch darparu cyrsiau galwedigaethol? OQ59959

Cyhoeddais i'r adroddiad ar yr adolygiad o gymwysterau galwedigaethol ar 11 Medi. Rwyf wrthi'n ystyried yr argymhellion, ac yn gwneud hynny ar y cyd gydag eraill, i sicrhau dull cydgysylltiedig ar draws ystod o ddatblygiadau strategol. Byddaf i'n rhoi diweddariad pellach maes o law.

Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Nawr, yn gynharach eleni, lansiodd Cymwysterau Cymru ymgynghoriad ar dri chynnig ar gyfer cymwysterau 14 i 16, ochr yn ochr â TGAU. Fe gwrddais i â Choleg Sir Benfro yn gynharach eleni i drafod yr ymgynghoriad a'r angen am ragor o gydweithio rhwng ysgolion a cholegau i ddarparu sgiliau galwedigaethol yn fy ardal i. Nawr, dwi'n gwybod bod yna bryderon ynghylch y gallu a fydd gan rai ysgolion i ddarparu cyrsiau galwedigaethol ychwanegol, ac mae yna bryderon ynghylch a fydd gan rai ysgolion y cyfleusterau priodol i ddarparu rhai o'r cyrsiau yma. Nawr, dwi'n sylweddoli bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd, ond, Gweinidog, a allwch chi ddweud wrthyn ni pa drafodaethau ŷch chi wedi eu cael gyda Cymwysterau Cymru am y gwaith hwn, pa gamau bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y bydd y cyrsiau galwedigaethol yn gallu cael eu darparu'n briodol mewn ysgolion, a beth ŷch chi'n ei wneud i helpu hwyluso mwy o gydweithio rhwng ysgolion a cholegau i ddarparu sgiliau galwedigaethol yma yng Nghymru?

14:20

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau pwysig iawn. Mae'r gwaith yma gan Cymwysterau Cymru yn dangos cymaint o flaenoriaeth yw sicrhau addysg alwedigaethol, a'r berthynas sydd mor bwysig, fel mae'r Aelod yn dweud, rhwng ysgolion a cholegau er mwyn sicrhau bod llwybr dysgwr yn un hyblyg ac yn rhwydd. Mae'r gwaith wnaeth Hefin David yn ddiweddar ar addysg o ran gwaith yn yr ysgolion hefyd yn gwthio i'r perwyl hwnnw: gwell cydweithio rhwng ysgolion a cholegau. Mae'r gwaith wedi bod yn digwydd mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, rydym ni wedi cael trafodaethau gyda Cymwysterau Cymru am hyn, ac rwyf i hefyd wedi trafod hyn gyda cholegau addysg bellach i weld beth yw'r goblygiadau ymarferol o'r math mae'r Aelod yn sôn amdanyn nhw. Mae gennym ni gyfle nawr, dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, i baratoi ar gyfer y swît newydd yma o gymwysterau, felly byddaf i eisiau gweld dros y flwyddyn nesaf, pan fydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn gyhoeddus, beth yw'r galw ar lawr gwlad i sicrhau bod y llwybr hwnnw yn un esmwyth, ond rwy'n rhoi sicrwydd i'r Aelod bod hwn yn flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth hefyd.

Weinidog, mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Maent yn dweud bod hyn yn datblygu sgiliau mewn ystod eang o feysydd galwedigaethol, drwy ddysgu yn yr ysgol ac yn y gwaith. Mae'n chwarae rhan allweddol yn sicrhau cyfraddau is o blant yn gadael yr ysgol ac yn hwyluso'r broses bontio o'r ysgol i'r gwaith. Mewn byd gwaith sy'n newid, gall systemau addysg a hyfforddiant galwedigaethol sydd wedi'u cynllunio'n dda chwarae rhan hanfodol yn datblygu'r sgiliau cywir ar gyfer y farchnad lafur, nid yn unig i bobl ifanc, ond hefyd i oedolion sydd angen uwchsgilio neu ailsgilio. Weinidog, fe wyddom fod byd gwaith yn newid yn gyflym gyda datblygiad technoleg fel deallusrwydd artiffisial, ac rwy'n croesawu'r adolygiad o gymwysterau galwedigaethol o dan gadeiryddiaeth Sharron Lusher, a'r adroddiad dilynol sydd newydd gael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. O ystyried pwysigrwydd yr adroddiad hwnnw, Weinidog, a nifer yr argymhellion i wneud hyfforddiant galwedigaethol yn fwy effeithiol yma yng Nghymru, a gaf fi ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd gyda'r argymhellion hynny a'u gweithrediad?

Diolch i John Griffiths am y cwestiwn hwnnw. Rwyf innau hefyd yn croesawu'r adroddiad y gallodd Sharron Lusher ac aelodau eraill o'i grŵp llywio ei ddarparu i ni fel Llywodraeth. Mae'n adroddiad meddylgar ac ystyriol iawn, ac mae ganddo argymhellion clir iawn ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond hefyd i sefydliadau allweddol eraill fel Cymwysterau Cymru a'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, wrth gwrs. Yn amlwg, ni allaf siarad ar ran y sefydliadau hynny, ond fy nod yw ceisio gweithio'n strategol wrth i ni ddatblygu ein hymateb i'r adroddiad.

Roeddwn yn awyddus i osod yr adroddiad gerbron y Senedd cyn gynted â phosibl, oherwydd rwy'n gwybod cymaint o ddiddordeb sydd gan Aelodau yn y maes polisi pwysig hwn. Fel y bydd yn gwybod, mae yna argymhelliad yn yr adolygiad ynghylch strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol, ac rwy'n credu y gallwn edrych ar y canllawiau hynny i weld sut y gallwn sicrhau gwell synergedd, os mynnwch, rhwng addysg, sgiliau, polisïau a strategaethau economaidd ar draws Llywodraeth Cymru.

Rwy'n credu bod rhai pwyntiau diddorol yno hefyd ynghylch sut yr awn i'r afael â'r cwestiwn am gymwysterau wedi'u gwneud ar gyfer Cymru yn y dyfodol, i wneud yn union yr hyn roedd yr Aelod yn ein hannog i'w wneud, rwy'n credu, sef sicrhau bod gennym gyfres o gymwysterau sy'n hawdd i'r dysgwr eu llywio, ond sydd hefyd yn adlewyrchu anghenion economi sy'n newid yn gyflym iawn mewn rhai sectorau. Rwy'n credu bod y pwynt y mae'n ei wneud fod hwn yn gyfle nid yn unig i bobl iau, ond i bobl drwy gydol eu bywyd gwaith, yn un rwy'n ei gefnogi'n llwyr. 

14:25
Trafnidiaeth Ysgolion

2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar wella trafnidiaeth ysgolion i fyfyrwyr? OQ59982

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a minnau wedi cael adroddiad o'r adolygiad annibynol o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a chanllawiau cysylltiedig. Rŷn ni wrthi'n ystyried yr adroddiad hwnnw, a phan fydd y gwaith hwnnw wedi dod i ben, byddwn ni'n cyhoeddi ein hymateb iddo.

Diolch ichi am hynny, achos fel ŷch chi’n gwybod, mewn sawl rhan o Gymru, os ŷch eisiau cael mynediad at addysg Gymraeg yn hytrach na chyfrwng Saesneg, yna mae’n rhaid ichi deithio ymhellach, gan mai efallai dim ond un neu ddwy ysgol Gymraeg sydd yna mewn rhai siroedd, ac mae gwrthod darparu trafnidiaeth i ysgolion Cymraeg yn achosi annhegwch ac anghyfartaledd ac yn arwain at fyfyrwyr yn gadael addysg Gymraeg. Felly, beth ŷch chi fel Llywodraeth yn ei wneud i roi sicrwydd y bydd myfyrwyr chweched dosbarth, yn benodol, sydd ddim yn derbyn trafnidiaeth ysgol statudol, yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw fel eu bod nhw’n gallu parhau gyda’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg? Oherwydd mae yna nifer o achosion dwi’n ymwybodol ohonyn nhw erbyn hyn lle mae myfyrwyr wedi gorfod symud o addysg Gymraeg oherwydd y diffyg darpariaeth trafnidiaeth, ac mae hynny wrth gwrs yn y diwedd yn tanseilio nod y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr.

Rwy’n cydweld â’r Aelod o ran blaenoriaeth i hyn, ac rwyf i wedi cael trafodaethau fy hunan â phenaethiaid mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg dros y misoedd diwethaf sydd yn rhannu’r pryder y mae ef a minnau yn ei rannu. Mae’r gwaith rŷn ni wedi bod yn ei wneud yn fewnol dros y misoedd diwethaf, fel rydw i’n dweud, wedi nawr dwyn ffrwyth o ran adroddiad i minnau a’r Dirprwy Weinidog. Oherwydd y diwygiadau sylfaenol sydd ar y gweill o ran gwasanaethau trafnidiaeth a gwasanaethau bws yn benodol, a’r sefyllfa ariannol ar y llaw arall, dŷn ni ddim yn gweld yn y cyfnod byr, o leiaf, fod cyfle i ddiwygio’r ddeddfwriaeth ei hun, ond bydd cyfle i edrych ar y canllawiau statudol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mae’r Aelod yn sôn amdanynt yn ei gwestiynau. Byddwn ni hefyd yn sicrhau bod lleisiau disgyblion a staff ysgolion yn cael eu clywed wrth inni fynd ati i wneud y gwaith hwnnw, ond bydd cyfle inni osod allan mwy o fanylion maes o law pan fydd y gwaith o edrych ar yr adolygiad hwnnw wedi gorffen.

Weinidog, rwyf innau hefyd am ofyn cwestiwn ynghylch yr adolygiad teithio gan ddysgwyr. Ym Mhowys, mae yna gynigion i newid Ysgol Bro Caereinion yn Llanfair Caereinion o fod yn ysgol ddwyieithog i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg. Byddai hyn yn effeithio ar nifer o ysgolion bwydo lle caiff plant eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg. Fel y mae ar hyn o bryd, ni fydd yr awdurdod lleol yn ariannu cludiant i'r ysgol i rai plant sy'n dysgu drwy gyfrwng y Saesneg i'w hysgol uwchradd cyfrwng Saesneg agosaf. Felly, wrth gwrs, mae hyn wedi arwain at fwy o bryder nawr, o ystyried y cynigion rwyf newydd eu hamlinellu. Felly, a fydd adolygiad y Mesur teithio gan ddysgwyr yn mynd i'r afael â'r mater hwn, ac a fyddech chi'n cytuno â mi fod angen mynd i'r afael â'r mater o safbwynt cydraddoldeb a dewis rhieni?

Mae'r Mesur teithio gan ddysgwyr wedi cael ei lunio mewn ffordd sy'n ceisio mynd i'r afael â'r cwestiynau ynghylch cydraddoldeb y mae'r Aelod yn tynnu sylw atynt. Fel y dywedais, nid wyf yn rhagweld cyfle i ddiwygio'r Mesur teithio gan ddysgwyr ei hun, ond mae'n debygol y bydd cyfle i fynd i'r afael â rhai o'r materion, yn debyg iawn i rai o'r pwyntiau y mae'r Aelod newydd eu gwneud, sydd wedi codi yn yr adolygiad mewnol hwnnw, ynghyd â chyfle i fynd i'r afael â'r rheini mewn adolygiad o ganllawiau statudol, a dyna beth y byddwn yn edrych arno dros y misoedd nesaf.

Rwy'n cynrychioli etholaeth drefol, felly tybed a allech chi ddweud wrthym pa gyfran o'r gyllideb addysg sy'n cael ei gwario ar gludiant i'r ysgol, oherwydd rwyf wedi clywed ffigur mor uchel â 25 y cant. Gan ein bod ar fin dathlu degfed pen-blwydd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, pa waith rydych chi'n ei wneud gydag awdurdodau addysg lleol mewn ardaloedd trefol fel Caerdydd i annog mwy o ddisgyblion i gerdded, neu fynd ar sgwter neu feic i'r ysgol? Oherwydd byddai hynny'n dda i'w hiechyd a byddai'n dda ar gyfer ailfuddsoddi'r arbedion mewn addysgu a dysgu.

Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn amserol hwnnw, o ystyried y pen-blwydd y mae hi'n cyfeirio ato yn briodol. Bydd lefel y cyllid sy'n cael ei neilltuo i gludiant i'r ysgol yn amrywio o un awdurdod lleol i'r llall am resymau amlwg, ond gall fod yn arwyddocaol iawn yn wir, yn y ffordd roedd hi'n ei awgrymu, ond rwy'n credu bod y ffocws rydym ei eisiau yn cydnabod pwysigrwydd teithio llesol, ac rwy'n gwybod ei bod hi ei hun wedi ymrwymo'n fawr i hynny. Felly, er enghraifft, y gwaith a wnawn i'w gwneud yn ofynnol i ysgolion ddatblygu cynlluniau teithio llesol ar gyfer ysgolion: gwyddom fod hynny'n helpu gyda diogelwch wrth gwrs, ond hefyd gydag iechyd. Rydym yn gwybod ei fod yn helpu o ran ffocws ystafell ddosbarth. Ac rydym yn symud tuag at sefyllfa lle bydd cael cynllun ar waith yn dod yn amod ar gyfer cael mynediad at ystod o gronfeydd eraill hefyd. Drwy'r gwaith a wnawn ar hyrwyddo strydoedd ysgolion a'r rhaglen teithio llesol, ond hefyd mewn perthynas â'r rhaglen adeiladau newydd sydd gennym, sydd, fel y bydd yn gwybod, yn un sylweddol iawn, rydym wedi cryfhau'r gofynion cynllunio teithio llesol ar gyfer unrhyw ddatblygiad ysgol newydd. Mae cadeirydd y bwrdd cynghori ar deithio llesol wedi bod yn gweithio'n agos gyda ni i sicrhau bod y gofynion hynny ar awdurdodau, wrth iddynt gyflwyno cynlluniau ar gyfer cyllid, yn gadarn ac yn bodloni'r amcanion sydd gennym ar eu cyfer.

14:30

Hoffwn roi gwybod i'r Gweinidog fod trafnidiaeth ysgol yng ngogledd Cymru mewn perygl eto gan ei fod ynghlwm wrth drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r rhwydwaith arfaethedig sy'n cael ei gyflwyno gan y gweithgorau ar y cyd wedi dweud nad yw'r gronfa bontio yn ddigon i dalu am gynigion, fod costau'n cynyddu, ac nad yw niferoedd teithwyr wedi dychwelyd i'r hyn yr arferent fod. Maent yn bryderus iawn pan ddaw i ben ym mis Mawrth. Mae Bus Users UK yn cynnal ymgyrch Dal y Bws y mis hwn. Felly, a wnewch chi barhau i drafod gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a chadw llygad, ac annog pawb i gefnogi'r bws, ac ymgyrch Trafnidiaeth Cymru i gefnogi'r bws sydd i'w lansio'n fuan, y mis nesaf, gobeithio? Diolch.

Mae Carolyn Thomas newydd wneud pwynt pwysig iawn. Yn amlwg, mae llawer o'r heriau rydym yn eu trafod nawr yn adlewyrchu'r gostyngiad ehangach yn y defnydd o fysiau ar draws y rhwydwaith masnachol, a dyna pam ein bod wedi gorfod ymateb yn y ffordd a wnaethom, gyda'r cyllid sylweddol rydym wedi'i ddarparu. Rydym yn gwbl ymwybodol o'r pwysau costau a wynebir ar draws y sector cyhoeddus. Yn aml, cludo dysgwyr ar wasanaethau bws lleol yw'r ffordd fwyaf costeffeithiol o gludo dysgwyr. Fel y gŵyr yr Aelod, mae nifer o awdurdodau lleol eisoes wedi integreiddio eu teithio gan ddysgwyr a gwasanaethau bysiau lleol, ac rydym yn awyddus i weld hynny'n digwydd ar sail lawer ehangach am resymau y gwn y bydd hi'n eu cefnogi.

Mae'r cyfarfodydd cynllunio rhanbarthol y mae awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a chwmnïau bysiau wedi bod yn eu cynnal wedi ceisio blaenoriaethu llwybrau sy'n cefnogi teithiau ysgol hefyd, sy'n amlwg yn gywir. Ond rwy'n cytuno'n gryf iawn â sylwadau'r Aelod ar yr angen i gefnogi'r ymgyrch Dal y Bws. Rwy'n deall y bydd Trafnidiaeth Cymru yn sicrhau bod deunydd marchnata ar gael i Aelodau fel y gallwn i gyd fwrw ymlaen â'r ymgyrch honno yn ein hetholaethau a thrwy ein rhwydweithiau ein hunain.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Laura Anne Jones.

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yn gynharach eleni, fe wneuthum eich holi ynglŷn â thrais yn ysgolion Cymru, ar ôl i fy swyddfa a minnau ddatgelu 5,000 o ddigwyddiadau o drais yn ystafelloedd dosbarth Cymru, gan rai yn unig o'r awdurdodau lleol ledled Cymru. Ar y pryd, fe ddywedoch chi eich bod yn ymwybodol o'r problemau a'ch bod wedi dechrau siarad â'r undebau ynglŷn â'r materion hyn. Fodd bynnag, mae misoedd wedi mynd heibio bellach ac rydym yn dal i fod heb weld datganiad ar y mater. Rhoddais lasbrint posibl i chi o sut i ddechrau datrys y mater pan ddatgelais y broblem am y tro cyntaf fisoedd yn ôl, ac unwaith eto rydych chi wedi methu ymateb i'r brys sydd ei angen, ac wedi methu gweithredu hyd yma. Nid oes gennym unrhyw safon adrodd o hyd, na gofyniad i adrodd am gamdriniaeth neu drais yn yr ystafell ddosbarth. Nid yw'r miloedd o ddigwyddiadau y gwyddom amdanynt eisoes prin yn crafu'r wyneb, ac mae'r darlun go iawn yn debyg o fod yn llawer iawn gwaeth. Felly, Weinidog, am yr eildro, a wnewch chi ymrwymo heddiw i weithredu go iawn ar hyn, a chynnal uwchgynhadledd genedlaethol ar drais; cyhoeddi canllawiau newydd i athrawon a staff; parhau â'ch gwaith ar ddiwygio gwaharddiadau y dywedoch chi eich bod wedi ei ddechrau; sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer ymyriadau ystyrlon; a chreu llinell gymorth genedlaethol efallai? Dyma rai o'r pethau y gallech eu gwneud. Pa gamau rydych chi'n mynd i'w cymryd, Weinidog?

A gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am y gwaith a wnaethant i ddod â'r mater hwn i sylw'r Senedd, yn y gwaith roeddent yn ei wneud yn gynharach eleni a ddiwedd y llynedd? Rwy'n credu ei fod wedi bod yn gyfraniad pwysig iawn i'n dealltwriaeth o'r broblem hon mewn ysgolion. Yn sicr, mae gan athrawon hawl i weithio mewn amgylchedd diogel. Ni allwn oddef ymddygiad gwael—ymddygiad treisgar ac ymddygiad ymosodol—lle mae'n digwydd. Yn yr un modd, nid gwaharddiadau yw'r ateb; dylai pobl ifanc fod yn y dosbarth, yn gallu dysgu. Mae'r rhesymau dros hyn yn gymhleth, ond mae'n rhaid inni ddechrau o'r egwyddorion hynny. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn datblygu canllawiau gydag undebau athrawon, undebau'r gweithlu addysg ehangach, ac awdurdodau lleol, fel y soniais y tro diwethaf i'r Aelod godi hyn yn y Siambr. Mae'n bwysig iawn ein bod yn ei wneud mewn cydweithrediad ag undebau ac AALlau. Dyna'r gwaith sy'n digwydd, ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn gyflwyno'r canllawiau hynny'n fuan iawn. 

14:35

Wel, Weinidog, gadewch inni obeithio ei fod yn digwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, oherwydd mae angen i athrawon deimlo'n ddiogel yn yr ysgol, fel y dywedoch chi. Hyd nes y caiff newidiadau go iawn eu rhoi ar waith, dim ond gwaethygu a wnaiff y mater hwn. Gwta bythefnos yn ôl, Weinidog, pleidleisiodd aelodau undeb athrawon NASUWT i streicio dros eu pryderon ynghylch methiannau i fynd i'r afael â lefelau uwch o drais, yn un o'r ysgolion yn fy rhanbarth i mewn gwirionedd. Yn hytrach na'ch bod wedi rhoi camau brys ar waith ar broblem sy'n gwaethygu, mae bellach wedi cynyddu i bwynt mor eithafol fel bod athrawon yn teimlo bod angen iddynt streicio oherwydd pryderon ynglŷn â'u diogelwch a'r ymddygiad treisgar a chamdriniol y maent yn ei wynebu. Weinidog, mae eich diffyg gweithredu wedi arwain at athrawon yn teimlo nad yw'n ddiogel iddynt addysgu. Rydych chi'n gwneud cam ag athrawon. Weinidog, beth rydych chi'n mynd i'w wneud? Beth fydd yn gorfod digwydd cyn i chi sylweddoli'r pa mor ddifrifol yw hyn? Fe ddywedoch chi eich bod yn datblygu canllawiau. Oni allwch chi weld y brys y tu ôl i hyn, os yw athrawon yn teimlo'r angen i streicio, fel y gwelsom bythefnos yn ôl? Efallai y dylech weithredu fy nghynllun pum pwynt, mabwysiadu rhai o'r syniadau hynny; rwy'n barod i'w rhannu gyda chi. Neu a fydd angen mwy o streiciau cyn i chi roi camau brys ar waith?

Nid wyf yn siŵr fod y rhan fwyaf o bobl yn adnabod yr iaith y mae'r Aelod yn dewis ei defnyddio i gyflwyno'r mater hwn. Mae'n amlwg yn fater cymhleth, ac nid wyf yn credu bod ei ddarlunio yn y goleuni erchyll y mae hi’n ei ddefnyddio o gymorth i neb. Mae'n fater difrifol, sy'n galw am ystyriaeth ddifrifol. Yr ysgol y mae hi'n cyfeirio ati—. Nid wyf yn mynd i wneud sylw ar unrhyw ysgol benodol—[Torri ar draws.] Nid wyf yn mynd i wneud sylw ar unrhyw ysgol benodol am resymau amlwg, ond rwy'n gwybod bod gan athrawon hawl i weithio mewn amgylchedd diogel. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ddarparu hynny. Ac rwy'n gwybod, ledled Cymru, y bydd awdurdodau lleol yn ymgysylltu â'u gweithlu addysgu i sicrhau bod hynny'n digwydd. Rwy'n mawr obeithio y gellir datrys hyn yn yr ysgol y soniodd amdani hefyd. 

Edrychaf ymlaen at ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn yn fuan.

Weinidog, mae'n ymddangos yn eithaf amserol heddiw i siarad am gludiant ysgol, fel y mae Aelodau eraill newydd siarad amdano, ac mae ar yr un thema, mewn gwirionedd. Mae cludiant ysgol wedi achosi llawer iawn o bryder i ddysgwyr a rhieni dros yr wythnosau diwethaf, a'r diffyg cludiant ysgol sydd yna. Siaradais ag awdurdod lleol ddydd Llun a ddywedodd eu bod mewn sefyllfa amhosibl oherwydd eu bod am roi cludiant ysgol pwrpasol i'r plant sydd ei angen, ond ni allant wneud hynny oherwydd eich bod chi unwaith eto wedi cyfyngu ar yr arian a ddaw gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ar gyfer cludiant ysgol. Buom yn siarad am ddewis rhieni nawr; mae'n ymddangos fel 'Peth hyfryd iawn i'w wneud, mae hon yn ysgol hardd, fe anfonaf fy mhlentyn yno', ond mae rhesymau go iawn dros ddewis rhieni, naill ai fod y plant eisiau dysgu Cymraeg, fel y trafodwyd yn gynharach, neu oherwydd bod eu brodyr a'u chwiorydd yn mynd i'r ysgol honno, neu os oes yna fater anghenion dysgu ychwanegol y mae ysgol arall—nid yr un nesaf atynt—yn well am ddarparu ar ei gyfer. Mae yna resymau gwirioneddol pam eu bod yn gwneud y dewis hwnnw fel rhieni, ond cyn gynted ag y gwnânt, nid oes ganddynt hawl i gludiant ysgol, ac mae gwir angen mwy o hyblygrwydd yn ei gylch; mae'n llawer rhy anhyblyg.

Hefyd, wrth drafod gyda'r awdurdod lleol, rydym yn sôn am newid go iawn—newid polisi, mae'n ymddangos—ar ran Llywodraeth Cymru i ffwrdd oddi wrth drafnidiaeth ysgol bwrpasol i ddefnyddio bysiau cyhoeddus. Fe ddywedoch chi yn gynharach fod hynny'n fwriad sydd gennych a'ch bod chi eisiau ei ddathlu a'i hyrwyddo. Ond, Weinidog—. Bu bron i mi eich galw yn Brif Weinidog; breuddwyd gwrach, efallai. [Torri ar draws.] Weinidog, ar ôl siarad â phobl, mae pryderon gwirioneddol yn fy mewnflwch, ac mewn llawer o rai eraill yn y Siambr hon rwy'n siŵr, ynglŷn â defnyddio bysiau cyhoeddus, am lu o resymau, boed yn ddiogelu neu'n beth bynnag. Ond un o'r pethau ymarferol y gallem ei wneud i'w gwneud yn well i'n dysgwyr yw—. Mae rhai myfyrwyr yn aros 45 munud cyn ac ar ôl ysgol, yn yr oerfel, y tywyllwch, a'r glaw am nad yw'r llwybr bws y maent wedi'i roi arno, neu yr awgrymwyd eu bod yn ei ddefnyddio, yn cyd-fynd ag oriau ysgol. Mae'r llwybrau bws hyn y mae'n rhaid i ddysgwyr—

Bydd yn rhaid i chi ofyn cwestiwn, fel arall byddwn yn aros 45 munud am hwnnw. 

Ond ni wnaf. Ond mae hwnnw'n ateb hawdd, Weinidog—sicrhau eich bod yn gweithio gyda chwmnïau bysiau i wneud yn siŵr fod y llwybrau hynny'n canolbwyntio ar yr ysgol ac nad effeithir ar les plant. Sut rydych chi'n gweithio ar draws y Llywodraeth, yn amlwg, oherwydd mae'n dod o fewn portffolios eraill hefyd, i sicrhau bod y plant hyn yn cyrraedd yr ysgol, sydd yn eich portffolio chi, ac nad effeithir ar eu lles, sydd yn eich portffolio chi?

14:40

Gyda phob parch, am gwestiwn sydd wedi'i ateb ddwywaith, cymerodd hynny gryn dipyn o amser i'w ofyn. Rwyf wedi bod yn glir iawn am y gwaith sy'n digwydd ar draws y Llywodraeth. Gallai'r Aelod fod wedi rhoi sylw cynharach i'r atebion roeddwn i'n eu rhoi; mae llawer o waith yn digwydd ar draws y Llywodraeth. Mae llawer o waith yn digwydd mewn perthynas â'r adolygiad o'r Mesur, ac rwy'n credu fy mod wedi amlinellu heddiw'n groyw iawn ar ddau achlysur beth fydd y camau nesaf mewn perthynas â hynny. 

Mae hi'n gwneud y pwynt am gyllid yn ei ffordd Kafkaesgaidd arferol fel pe na bai'r pethau hyn yn gynnyrch y dewis gwleidyddol y mae ei Llywodraeth hi yn San Steffan yn ei wneud, sy'n achosi anawsterau ym mhob math o wasanaeth cyhoeddus. Llywodraeth Cymru yw hon sydd wedi buddsoddi £190 miliwn i gynnal gwasanaeth bws masnachol dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae gennym wasanaeth bws masnachol oherwydd bod Llywodraeth Geidwadol wedi dadreoleiddio gwasanaethau bysiau a chreu marchnad gwneud elw. Mae'r cyfan yn gynnyrch dewisiadau gwleidyddol a wneir mewn mannau eraill. Yr hyn a wnawn drwy'r gronfa bontio ar gyfer bysiau a'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yw sicrhau bod y rhan fwyaf o'r llwybrau wedi'u diogelu. Nid yw'n ateb cyffredinol; mae'n fuddsoddiad sylweddol iawn i geisio mynd i'r afael â'r her. Ac i'r rhai sydd â diddordeb mewn ateb ymarferol yn hytrach na slogan wleidyddol, byddant yn gwybod mai gweithio drwy'r timau cynllunio rhanbarthol, gan flaenoriaethu llwybrau sy'n gwasanaethu teithiau ysgol hefyd lle bynnag y bo modd, yw'r ffordd o wneud hynny, ac rydym yn barod fel Llywodraeth i barhau i gefnogi'r gwaith hwnnw.

Diolch, Llywydd. Weinidog, ddoe cyhoeddwyd adroddiad grŵp arbenigol Cymru ar yr argyfwng costau byw. Mae’n ailddatgan yr hyn sy’n wybyddus inni i gyd, sef bod yr argyfwng costau byw wedi cynyddu nifer y plant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi. Mae nifer o’r argymhellion yn yr adroddiad yn gorgyffwrdd â neu'n rhan o'ch portffolio chi, megis ymestyn prydau ysgol am ddim i fwy o blant a phobl ifanc oed uwchradd a sicrhau bod llywodraethwyr ysgol yn cyflawni eu rhwymedigaethau statudol o ran gwisg ysgol. Sut ydych chi'n mynd i weithredu ar hyn?

Mae’n rhan o’r cynllun eang sydd gyda ni fel Llywodraeth sydd wedi bod werth dros £3 biliwn yn y ddwy flynedd diwethaf i geisio gwneud ein gorau i sicrhau bod arian ym mhocedi teuluoedd sydd yn stryglan. Felly, yn yr ysgol, mae'r prydau bwyd am ddim rŷn ni wedi'u cyflwyno gyda Phlaid Cymru mewn ysgolion cynradd yn gwneud cyfraniad sylweddol at hynny. Mae’r gwaith rwyf i wedi’i wneud fel Gweinidog i sicrhau ein bod ni'n newid canllawiau ysgol ar wisg ysgol ac i gynyddu argaeledd y gronfa hanfodion ysgol yn enghraifftiau o’r gwaith sydd yn digwydd yn ein hysgolion ni i gefnogi pobl ifanc.

Diolch yn fawr iawn. Dwi'n deall hynny, ond y gwir amdani ydy dydy'r ysgolion i gyd ddim yn cyd-fynd efo'r canllawiau. Yn anffodus, rydyn ni'n gwybod bod costau’n dal i fod yn broblem efo gwisgoedd ysgol. Un o’r pethau yn yr adroddiad ddoe ydy gofyn i Weinidogion gadeirio cyfarfodydd i sicrhau bod yr hyn yr hoffech ei weld yn cael ei wireddu ar lawr gwlad.

Mae argymhelliad 9 y grŵp arbenigol yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymestyn darpariaeth prydau ysgol am ddim i flynyddoedd 7 i 11 ar gyfer yr aelwydydd hynny sy'n derbyn credyd cynhwysol heb gap ar enillion o'r mis yma. Daeth hwn allan ym mis Awst—mae eisiau ei weithredu. Felly, sut ydych chi’n edrych ar yr argymhellion hyn efo Gweinidogion eraill? Pa rai fyddwch chi'n ystyried eu rhoi ar waith? Oherwydd mi fyddem ni, yn ôl yr adroddiad hwn, yn gallu sicrhau bod 8,335 o ddisgyblion yn dod yn gymwys am brydau ysgol rŵan.

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. O ran prydau bwyd am ddim yn yr ysgol, mae’r dewis rŷn ni wedi’i wneud ar y cyd yn golygu bod yr arian rŷn ni wedi bod yn ei fuddsoddi yn ehangu’r ddarpariaeth i ysgolion cynradd. Ein polisi ni fel Llywodraeth yw ein bod yn edrych ar ymestyn hwnnw pan fod adnoddau’n caniatáu hynny. Ond mae’r sefyllfa o ran adnoddau yn un heriol tu hwnt, ac mae’r hyn rŷn ni wedi bod yn ei fuddsoddi, sy’n werth rhyw £3 biliwn, rwy’n credu yn gyfraniad sylweddol iawn. Dyw e ddim yn gallu ateb pob un galw, yn naturiol. Mae'r heriau i amryw o deuluoedd yn rhai real iawn, ond fy swyddogaeth i fel Gweinidog yw ffeindio pob cyfle y gallaf i sicrhau nad yw costau'r diwrnod ysgol yn rhwystredigaeth, a dwi'n credu, dros y flwyddyn ddiwethaf a mwy, fod amryw o ffyrdd rŷn ni wedi gallu gwneud hynny.

O ran y pwynt yr oedd hi'n ei wneud o ran gwisg ysgol, mae gofynion ar gyrff llywodraethu i fynd ati nawr i adolygu eu polisïau, felly bydd hyn yn digwydd dros y misoedd nesaf. Mae rhai, wrth gwrs, eisoes yn cyrraedd y nod yn y canllawiau, ond rydyn ni'n gweld hyn yn digwydd nawr yn gynyddol. Mae wir yn bwysig ein bod ni'n sicrhau hyn ar gyfer pob teulu. Mae teuluoedd sy'n gymwys ar gyfer prydau bwyd am ddim o dan bwysau penodol, ond mae amryw o deuluoedd eraill sydd ddim yn gymwys am hynny ond hefyd yn gweld costau’n uchel, ac felly mae'r polisïau ehangach hynny o bwys iddyn nhw hefyd.

14:45
Ffonau Symudol mewn Ysgolion

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio ffonau symudol mewn ysgolion? OQ59984

Gwnaf. Mae polisïau ar ffonau symudol yn yr ysgol yn fater i ysgolion a chyrff llywodraethu eu hunain. Gall technoleg fod yn offeryn defnyddiol i gynorthwyo addysgu a dysgu, a bydd ysgolion yn ystyried hyn wrth osod eu polisïau yn unol ag anghenion a gofynion dysgu yr ysgol benodol.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Rwy'n cydnabod y pwynt y mae'n ei wneud. Mae fy nghwestiwn yn ymwneud ag effaith technoleg symudol a'r cyfryngau cymdeithasol ar blant a phobl ifanc a'u gallu i ddysgu yn yr ysgol. Mae'r Gweinidog yn gwbl gywir, wrth gwrs, fod technoleg symudol yn hwb mawr i ddysgu ac mae'n gyfle gwych, ond mae hefyd yn arwain at lawer iawn o fwlio.

Wrth inni ymweld ag ysgolion ac wrth inni gyfarfod â phobl a threulio amser yn siarad â phobl, bydd gan bob un ohonom atgofion o'r sgyrsiau hynny. Un o'r atgofion sydd gennyf fi yw siarad â grŵp o bobl ifanc yn eu harddegau a siaradodd â mi yn hynod angerddol a theimladwy am dechnoleg symudol a chyfryngau cymdeithasol a'r ffordd y gellir eu defnyddio i'w bwlio a'r effaith a gafodd hynny ar eu hiechyd meddwl a'u teimladau o lesiant a'u gallu i ddysgu. Ac er ein bod ni'n cefnogi'r defnydd o dechnoleg symudol—rwy'n gwneud hynny fy hun yn y Siambr ac mae manteision mawr i wneud hynny, fel gallu dilyn y rygbi, er enghraifft [Chwerthin.]—yr ochr arall i hynny, wrth gwrs, fel y dywedodd un ferch wrthyf, yw 'Rwy'n cael fy mwlio pan fyddaf yn y gwely yn y nos, am fod pobl yn dweud pethau amdanaf ar y cyfryngau cymdeithasol ac ni allaf ddianc rhag hynny.' Nawr, mae'n rhaid iddi fynd i'r ysgol yn y bore ac nid yn unig wynebu'r bobl hynny ond deall beth sydd yn ei meddwl am yr hyn oedd wedi digwydd iddi. A fy mhryder i yw—ac rydym i gyd yn cydnabod y gwaith gwych y mae staff addysgu a chymunedau ysgolion yn ei wneud—sut y gallwn gydweithio i rannu profiad, i rannu gwybodaeth ynglŷn â sut y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn sydd, yn fy marn i, yn cael effaith hynod negyddol ar bobl ifanc a'u gallu i ddysgu a thyfu'n ddiogel drwy eu bywyd ysgol.

Wel, rwy'n credu bod Alun Davies yn gwneud pwyntiau pwerus iawn yn yr hyn y mae newydd ei ddweud, ac rydym yn gwybod—ac mae adroddiad diweddar wedi bod, fel rwy'n siŵr y bydd yn gwybod gan UNESCO hefyd mewn perthynas â'r defnydd o ffonau clyfar yn yr ystafell ddosbarth, ac maent wedi bod yn galw am waharddiad cyffredinol, os mynnwch—ceir tystiolaeth fod modd cysylltu defnydd gormodol o ffonau symudol, hyd yn oed ar ei ffurf fwyaf diniwed, â pherfformiad addysgol is, a bwlio yn sicr, yn y ffordd a ddisgrifiodd, a cheir mathau o ddefnydd hyd yn oed yn fwy niweidiol o dechnoleg symudol. Gall hynny gael effaith negyddol iawn ar sefydlogrwydd emosiynol.

Rwy'n credu ei fod yn fater lle mae angen taro cydbwysedd, oherwydd mae hefyd yn bwysig ein bod yn helpu ein pobl ifanc i ddeall sut i ymateb i rai o'r heriau hyn. Mae'r fframwaith cymhwysedd digidol yn cynnig cyfleoedd ar gyfer defnyddio ffonau symudol i ddangos rhai o'r heriau ehangach hynny yn y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud i greu adnoddau i gefnogi dysgwyr i fynd i'r afael â'r math o her y mae Alun Davies yn ei disgrifio, ac mae'r rheini gennym ar Hwb bellach, drwy'r porth 'cadw'n ddiogel ar-lein'. Rwy'n credu bod yr hyn y mae'n ei ddweud, serch hynny, yn ddarlun o her gymdeithasol ehangach, ac rwy'n aml yn siarad â phenaethiaid sy'n ymgodymu â'r ffordd orau o daro'r cydbwysedd hwn. Rwy'n credu, yn y pen draw, mai mater i ysgolion yw penderfynu hynny, ond rwy'n credu ei bod yn hanfodol eu bod yn gwrando ar lais eu dysgwyr, yn union fel roedd Alun Davies yn ei glywed yn uniongyrchol gan yr unigolyn ifanc y cyfeiriodd ati. 

Mae Alun Davies yn llygad ei le yn codi'r mater hwn yma heddiw. Ar lefel bersonol, mae'n rhywbeth sy'n effeithio arnaf yn fy nheulu nawr, oherwydd roeddwn bob amser yn dweud wrth fy mhlant, 'Dim ffonau symudol tan yr ysgol uwchradd'. Fe ddechreuodd un ohonynt yn yr ysgol uwchradd eleni, felly yn anffodus, rydym yn gorfod deall y broses o gael ffôn symudol yn eu meddiant. 

Weinidog, fe wnaethoch chi gyfeirio at adroddiad UNESCO, ac rydych chi'n llygad eich lle yn cyfeirio at hynny. Fel y dywedoch chi, maent yn galw am waharddiad cyffredinol ar ffonau symudol yn yr ystafell ddosbarth. Ac fel y gwyddoch, maent yn tynnu sylw at y problemau sydd ynghlwm wrth ffonau symudol mewn ystafelloedd dosbarth, ochr yn ochr â seiberfwlio a'r effaith ar sefydlogrwydd emosiynol plant. Fe fyddwch yn gwybod hefyd, Weinidog, eu bod yn yr adroddiad hwnnw hefyd yn tynnu sylw at bryderon ynghylch diogelu data a phreifatrwydd, yn enwedig y data sy'n cael ei gasglu am blant gan yr apiau a ddefnyddiant, naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gydag apiau addysgol y cânt eu hannog neu eu cyfarwyddo i'w defnyddio mewn ysgolion. Weinidog, tybed pa ymdrechion rydych chi'n eu gwneud i sicrhau rhieni nad yw data ar eu plant yn cael ei gymryd yn ddiangen nac yn cael ei ddefnyddio'n amhriodol.

14:50

Bydd yr Aelod yn gwybod am y gwaith y mae Sarah Murphy wedi bod yn ei wneud mewn perthynas â data plant mewn ysgolion, sy'n codi lefel y ddadl yn y Siambr hon mewn perthynas â'r mater hwnnw mewn ffordd gref iawn yn fy marn i. Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwyntiau dilys iawn. Yn wir, o ganlyniad i ymgyrchu Sarah, rydym wedi newid y canllawiau i ysgolion mewn perthynas â'r pwyntiau pwysig iawn y mae'r Aelodau wedi'u codi heddiw.

Eisoes, mae gan benaethiaid allu i wahardd defnyddio ffonau symudol, naill ai'n gyffredinol neu mewn ffyrdd penodol, ac rwy'n gwybod, a bydd yntau'n gwybod, fod penaethiaid yn defnyddio'r pŵer hwnnw. Rwyf hefyd wedi siarad â phenaethiaid sydd, er y gallent fod eisiau gwneud hynny, wedi cydnabod yr heriau sy'n mynd gyda hynny ac sy'n gwneud penderfyniadau pragmatig. Rwy'n credu bod rhai o'r pwyntiau y mae'n eu gwneud, serch hynny, yn enghreifftiau o'r union bethau y lluniwyd ein cwricwlwm newydd i gefnogi pobl ifanc i'w hadnabod a mynd i'r afael â nhw eu hunain. Rwy'n credu ei fod yn ddarlun ychydig yn fwy cymhleth na dweud mai gwaharddiad llwyr yw'r ffordd gywir ymlaen.

Grant Datblygu Disgyblion

4. Pa effaith y mae'r grant datblygu disgyblion wedi'i chael ar gyrhaeddiad disgyblion ers ei gyflwyno yn 2012? OQ59960

Mae gan y grant datblygu disgyblion ran allweddol i'w chwarae yn ein cenhadaeth genedlaethol i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. O flwyddyn i flwyddyn, rydym wedi ymestyn y grant i adlewyrchu newidiadau yn nifer y dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Er fy mod yn croesawu cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i'r polisi hwn, yr arweiniodd Democrat Rhyddfrydol arno yn gyntaf yn 2012, mae dros chwarter plant Cymru yn byw mewn tlodi, a cheir gwaith ymchwil helaeth sy'n dangos yr effaith andwyol y mae hyn yn ei chael ar eu dysgu, gan arwain at iechyd corfforol ac iechyd meddwl gwaeth a thangyflawni cronig. Amlygodd adroddiad y llynedd gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant nad yw 55,000 o blant yn gallu elwa o gronfeydd mynediad ar hyn o bryd, cronfeydd a ailenwyd bellach yn 'grant hanfodion ysgol', oherwydd bod rhieni a gofalwyr mewn gwaith ond bod hwnnw'n waith ar gyflogau isel iawn. Mae cost cyflenwadau ysgol a gwisgoedd ysgol yn rhoi pwysau enfawr ar deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd, a'r wythnos hon, beirniadodd y comisiynydd plant strategaeth tlodi plant arfaethedig y Llywodraeth am ei diffyg uchelgais a manylion, felly mae gwir angen inni gamu i'r adwy i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei adael ar ôl y flwyddyn ysgol hon. Felly, a allech chi amlinellu'n benodol y camau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd i sicrhau bod y grant hanfodion ysgol yn adlewyrchu'r costau presennol yn gywir, ac a fydd yn ehangu cymhwysedd i gefnogi mwy o deuluoedd incwm isel sy'n ei chael hi'n anodd gyda threuliau ysgol? Diolch yn fawr iawn.

Wel, mae'r grant hanfodion ysgol yn gyfrannwr pwysig iawn i'n hymdrechion ar sail drawslywodraethol i sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at fywyd yr ysgol ac nad yw cost y diwrnod ysgol yn eu hannog i fod yn absennol, er enghraifft, a phan fydd pobl ifanc yn yr ysgol, ei fod yn eu galluogi a'u cynorthwyo i ffynnu. Felly, ochr yn ochr â'r £130 miliwn rydym yn ei fuddsoddi eleni ar gyfer y grant datblygu disgyblion, bu cynnydd sylweddol yn argaeledd y grant hanfodion ysgol. Fe fydd hi'n cofio, tan y llynedd, ei fod ond ar gael i ddisgyblion bob yn ail flwyddyn. Gwneuthum benderfyniad y llynedd i ymestyn hynny drwy sicrhau ei fod ar gael i ddisgyblion ym mhob blwyddyn. Felly, mae hynny wedi golygu bod y gronfa bwysig honno wedi ymestyn yn sylweddol iawn, a dyma'r gronfa fwyaf o'i bath yn unrhyw ran o'r DU, ac rwy'n falch o hynny oherwydd rwy'n credu ei bod yn dangos ein hymrwymiad fel Llywodraeth. Ond rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, sef nad yw ar gael i bob disgybl. Dyna pam mae mesurau fel y gofynion fforddiadwyedd newydd ar gyfer gwisg ysgol hefyd yn bwysig, a'r gwaith a wnawn yn ehangach i leihau cost y diwrnod ysgol, oherwydd mae teuluoedd nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a allai fod ychydig bach yn uwch na'r trothwy, yn dal i'w chael hi'n anodd iawn. Dyna pam mae'r polisïau ehangach hynny'n bwysig iawn.

14:55

Rwy'n falch fod y pwnc hwn wedi'i godi y prynhawn yma gan mai nod y grant datblygu disgyblion yw codi cyrhaeddiad plant a phobl ifanc o gefndiroedd incwm isel, fel y sonioch chi. Ond mae'r grant, sydd i fod i helpu'r teuluoedd lleiaf cefnog yng Nghymru, wedi cael ei dorri, gan olygu bod disgyblion a gweithwyr addysgu proffesiynol yn fy etholaeth i, fel gorllewin y Rhyl a Dinbych uchaf, yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i adnoddau a chyllid. Felly, mewn argyfwng costau byw, pam mae Llywodraeth Cymru wedi torri grant sy'n helpu'r bobl fwyaf agored i niwed yn fy etholaeth? Rydych chi'n dweud eich bod chi'n angerddol am y polisi a'r grant. Felly pam y gwnaethoch chi ei dorri?

Wel, i fod yn hollol glir gyda'r Aelod, nid yw'r grant wedi'i dorri—mae wedi cael ei gynyddu.

Weinidog, yn dilyn ymlaen o'r hyn a ddywedoch chi, ac wrth siarad â rhieni, gofalwyr, teuluoedd, pobl ifanc ac ysgolion yn fy etholaeth i, gwn fod croeso mawr i'r grant hanfodion ysgol a'i gynlluniau rhagflaenol fel achubiaeth i'r bobl sy'n gallu cael mynediad ato. Gan y gellir cael mynediad at y grant tan fis Mai, a gaf fi ofyn pa waith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod modd manteisio arno yn ddiweddarach yn y flwyddyn ysgol os nad yw teuluoedd yn gwneud cais amdano ar ddechrau'r tymor, i sicrhau bod modd darparu ar gyfer newid yn amgylchiadau pobl ac nad yw plant a phobl ifanc cymwys ar eu colled?

Wel, rydym yn sicrhau bod fy swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y grant yn cael sylw'n lleol drwy gydol y flwyddyn academaidd. Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â hynny. Gellir gwneud cais am y grant tan fis Mai. Rydym wedi dweud yn glir iawn ei bod hi'n flaenoriaeth bwysig o ran y modd y cyflwynwn y polisi prydau ysgol am ddim newydd, er enghraifft—nad ydym, os mynnwch, yn anfwriadol yn annog pobl rhag gwneud cais am grant hanfodion ysgol. A dweud y gwir, dyna ran o'r rheswm pam y gwnaethom ei ailenwi'n 'grant hanfodion ysgol' fel ei fod yn fwy dealladwy, rwy'n credu, i'r rhan fwyaf o bobl na 'grant mynediad PDG', nad yw'n golygu cymaint â hynny i'r rhan fwyaf ohonom mewn gwirionedd. A dyna pam ein bod ni hefyd wedi bod yn sicrhau bod gennym ymgyrch gyfathrebu a marchnata amlwg, sydd wedi bod ar y gweill nawr ers ychydig dros flwyddyn, i hyrwyddo'r grant ei hun. Felly, nid oes gennym dystiolaeth ar hyn o bryd fod y newid wedi achosi gostyngiad yn nifer y bobl sy'n gwneud cais, ond mae'n rhywbeth y mae angen inni gadw llygad parhaus arno wrth gwrs.

Disgyblion Awtistig

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal gwahaniaethu yn erbyn disgyblion awtistig mewn lleoliadau addysg? OQ59955

Nid oes lle i wahaniaethu o unrhyw fath yng Nghymru. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ni ddylai ysgolion na darparwyr addysg eraill drin disgyblion anabl yn llai ffafriol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu system addysg gynhwysol sy'n galluogi pob dysgwr i ffynnu a chyflawni eu potensial llawn.

Er i'r Uchel Lys ddyfarnu yn 2018 fod gwahardd disgybl awtistig am ymddygiad sy'n deillio o'i awtistiaeth yn anghyfreithlon, rwy'n parhau i gael gwaith achos yng ngogledd Cymru lle mae hyn yn digwydd. Ar faterion cysylltiedig, ysgrifennodd rhiant o sir y Fflint y mis hwn:

'Erbyn hyn mae gennym seiciatrydd a seicolegydd medrus iawn yn y maes awtistiaeth sydd wedi nodi bod ymddygiad fy mab yn ganlyniad i brofiadau gwael yn ei ysgol flaenorol, ac nad yw ei anawsterau i gyfathrebu'r rhain yn gysylltiedig ag unrhyw bryder yn ymwneud â rhieni.'

Dywedodd rhiant o Wrecsam:

'Fe wnaethom benderfynu mynd i dribiwnlys addysg. Penderfyniad y tribiwnlys oedd bod fy merch wedi bod yn destun gwahaniaethu anghyfreithlon ar dri achlysur gwahanol: gwahaniaethu anuniongyrchol, gwahaniaethu oherwydd anabledd, ac aflonyddu.'

Ac ysgrifennodd mam ataf fel cadeirydd y grŵp awtistiaeth trawsbleidiol:

'Hoffwn eich hysbysu bod y tribiwnlys addysg wedi cadarnhau penderfyniad yn erbyn coleg Castell-nedd ynghylch gwahaniaethu yn erbyn fy mab awtistig, gyda chanlyniadau damniol.'

Mae'r rhain a llawer o achosion eraill yn dystiolaeth nad yw hon yn Gymru ddiogel sy'n ystyriol o bobl awtistig. Gan hynny, sut rydych chi'n ymateb i'r galwadau a gefais am ymchwiliad cyhoeddus brys i atal y cam-drin sy'n dal i ddigwydd?

Mae'r Aelod yn cyfeirio at nifer o enghreifftiau nad wyf yn ymwybodol ohonynt yn bersonol, ond mae'r ffordd y mae'n eu disgrifio yn peri gofid ac yn amlwg yn annerbyniol. Rwy'n cyfarfod â llywydd y tribiwnlys addysg yn ystod yr wythnosau nesaf a byddaf yn manteisio ar y cyfle i drafod y pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud heddiw gyda hi. Fel y dywedais wrth agor yr ymateb i'r Aelod, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod gennym system addysg sy'n gynhwysol i bob person ifanc, ac yn sicr dyna yw nod y Llywodraeth hon.

Dysgu Oedolion yn y Gymuned

6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dysgu oedolion yn y gymuned yn Islwyn? OQ59964

15:00

Rydym yn cyflawni ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i adolygu a chynyddu nifer y dysgwyr sy'n oedolion ar draws Islwyn a Chymru gyfan. Drwy fuddsoddi, arloesi a gweithio mewn partneriaeth gyda darparwyr, rydym yn cynyddu'r capasiti i hyrwyddo a darparu addysg oedolion i'r gynulleidfa ehangaf sy'n bosibl.

Diolch, Weinidog. Roedd hi'n Wythnos Addysg Oedolion 2023 yr wythnos diwethaf, ac mae Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol a gydlynir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru sy'n ceisio cysylltu pobl ag ystod eang o gyfleoedd dysgu a dangos manteision dysgu oedolion a dathlu cyflawniadau go iawn pobl, prosiectau a sefydliadau ledled Cymru, a sefydliadau sy'n mynd ati bob dydd i hyrwyddo amrywiaeth eang o gyfleoedd gydol oes a thwf sgiliau. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi i ddiolch iddynt i gyd am yr hyn y maent yn ei wneud.

So, diolch yn fawr i chi i gyd.

Weinidog, fe wyddom y bydd taith gyflogaeth pobl yn amrywiol a bydd angen hyblygrwydd a gallu i addasu i ailsgilio'n gynyddol drwy gydol bywydau gwaith. Yn fwy felly nag erioed, wrth inni weld cwmnïau mawr bellach yn dadfuddsoddi neu'n mynd i'r wal ledled Prydain oherwydd yr hyn sy'n ymddangos fel effeithiau polisi'r DU, sef y chwyddiant uchaf erioed, diffyg twf cronig a'r anallu i fasnachu'n effeithiol gyda'n marchnad fwyaf. Felly, o ystyried hyn oll, Weinidog, pa waith pellach y gall ac y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud, mewn partneriaeth â sefydliadau lleol ar draws Islwyn hefyd, i hyrwyddo a rhaeadru'r ymgyrch wych hon, sydd bellach yn rhedeg ers dros chwarter canrif, ac sydd bob dydd yn trawsnewid cyfleoedd bywyd, yn trawsnewid bywydau ac yn trawsnewid y dyfodol i bobl? Diolch.

Wel, diolch i'r Aelod am gyfeirio'n benodol at yr Wythnos Addysg Oedolion. Mae'n hysbyseb mor dda, onid ydyw, i'r cyfleoedd sy'n bodoli i bobl ddychwelyd at addysg ar unrhyw adeg yn eu bywydau, ac yn mynd at galon fy ngobaith personol i Gymru ddod yn genedl o ail gyfleoedd, lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu? Bydd llawer ohonom wedi bod yng ngwobrau Ysbrydoli! yr wythnos cynt, a wnaeth fwy na chyfiawnhau eu henw da, fel bob amser, ac rydych yn clywed straeon hynod o gyffrous ac emosiynol yn aml ynglŷn â'r ffordd y mae pobl wedi gallu manteisio ar ddysgu yn ddiweddarach mewn bywyd. 

Yr allwedd, rwy'n credu, yw bod yr wythnos honno'n arddangos budd dysgu, ac felly, fod gan bobl sy'n cymryd eu camau cyntaf yn ystod yr wythnos honno lwybr clir at amrywiaeth o opsiynau. Mae'n rhaid inni gynyddu nifer y dysgwyr sy'n oedolion yn Islwyn a thu hwnt, ac mae hynny'n golygu gweithio gyda darparwyr drwy'r partneriaethau dysgu oedolion, a cheisio prif ffrydio rhywfaint o'r ymgysylltu llwyddiannus a welsom. Fe wnaethom ariannu rhywfaint o hynny drwy becyn ariannu gwerth £2 filiwn i godi ymwybyddiaeth o ddysgu oedolion eto ar ôl y pandemig, lle rydym wedi gweld niferoedd yn gostwng. Felly, mae'n ymwneud â'r gwaith partneriaeth hwnnw, a hefyd, rydym yn bwrw ymlaen â rhaglen gydgysylltu genedlaethol. Un o'r heriau yn y gofod hwn yw ei fod yn ofod eithaf cymhleth; mae'n gynnig eithaf mawr, ac mae'n eithaf anodd i rai pobl ei lywio. Felly, mae dod o hyd i ffordd o gydgysylltu hynny, fel y mae'r partneriaethau yn ein helpu i'w wneud, yn rhan bwysig iawn yn fy marn i, ond diolch i'r Aelod am achub ar y cyfle i dynnu sylw at yr Wythnos Addysg Oedolion.

Weinidog, nid oes modd gwadu y gall dysgu oedolion yn y gymuned helpu i ddatgloi potensial rhywun. Mae'n gallu helpu rhywun i feithrin sgiliau newydd, i ennill cymwysterau, a'u gosod ar y llwybr i addysg bellach neu eu tywys i gyflogaeth yn uniongyrchol. Fodd bynnag, rhybuddiwyd yn ddiweddar fod y gost yn atal pobl o rai o ardaloedd mwyaf difreintiedig fy rhanbarth rhag manteisio ar y mathau hyn o gyrsiau. Felly, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet, yn enwedig y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ynglŷn â gwneud dysgu oedolion yn y gymuned yn fwy hygyrch i bobl o gymunedau difreintiedig? Diolch.

Wel, gallaf sicrhau'r Aelod fod hyn yn mynd y tu hwnt i drafodaethau, er eu bod yn bwysig, ac felly, eleni, rydym yn buddsoddi cyfanswm o £1.28 miliwn mewn awdurdodau lleol yng Ngwent yn unig, a thua £6.21 miliwn yn genedlaethol i gryfhau dysgu oedolion yn y gymuned. Mae hyn yn ychwanegol i'r dros £13 miliwn a ddarparwyd gennym i golegau addysg bellach ar draws y de-ddwyrain i ddarparu addysg i oedolion yn eu lleoliadau. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi: mae hygyrchedd y cyfleoedd hyn yn allweddol. Mae hynny wedi bod yn un o'r heriau y buom yn ceisio mynd i'r afael â nhw ers rhai blynyddoedd, ac rwy'n falch iawn ein bod yn gwneud cynnydd yn hynny o beth, gyda'r ffocws o'r newydd a roddwyd gennym i'r maes hwn.

Diwrnod Ysgol Hirach

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganfyddiadau'r cynllun treialu diwrnod ysgol hirach? OQ59976

Cyhoeddwyd gwerthusiad o'r treialon sesiynau cyfoethogi ychwanegol yn ôl ym mis Ionawr. Canfu fod plant a phobl ifanc, rhieni a lleoliadau yn gadarnhaol am y cyfleoedd a ddarparwyd, ac rydym yn ystyried y canfyddiadau yng nghyd-destun ein polisïau a'n diwygiadau addysgol ehangach.

15:05

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr, Weinidog. Fel y gwyddoch, yn anffodus, nid yw llawer o blant yn cael y cyfle i wneud chwaraeon, i wneud gweithgareddau creadigol fel dysgu sut i chwarae offeryn cerdd neu ddysgu iaith, neu gael hyfforddiant ychwanegol mewn mathemateg neu Saesneg a fydd yn eu helpu yn eu hastudiaethau. Ac mae tystiolaeth wedi dangos bod gan y plant sy'n elwa o'r gweithgareddau allgyrsiol hyn fwy o gyfleoedd ar gael iddynt. Pan fyddant yn graddio o'r ysgol uwchradd, gwelir eu bod yn iachach, yn feddyliol ac yn gorfforol, yn meddu ar well ymdeimlad o lesiant, ac maent hefyd, ar y cyfan, yn unigolion mwy hyderus. Ar hyn o bryd, mae gennym system lle mae rhai plant yn cael llawer o weithgareddau allgyrsiol am fod eu rhieni'n gallu eu fforddio neu eu bod yn cael eu hysgogi i fynd â nhw iddynt, a rhai plant nad ydynt yn cael unrhyw weithgareddau allgyrsiol o gwbl. Mae hyn yn golygu yn y pen draw na fydd rhai plant yn cyrraedd eu potensial llawn nac yn cael y cyfleoedd sydd ar gael iddynt y gallent eu cael fel arall. Nid yw ymestyn y diwrnod ysgol o reidrwydd yn golygu mwy o wersi ac mae'n gyfle i ysgolion a phlant wneud llawer o weithgareddau llawn hwyl, a chefnogi dysgu a datblygiad plant. Felly, gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa adnoddau a nodwyd ac a glustnodwyd gennych, fel y gall pob ysgol ddarparu gweithgareddau allgyrsiol yn ystod pob diwrnod ysgol? Diolch.

Wel, mae arnaf ofn fod y cyd-destun ar gyfer edrych ar bolisïau o'r math hwn yn wahanol iawn nawr wrth gwrs o ystyried effaith chwyddiant a dewisiadau a wneir mewn mannau eraill am lefel gyffredinol y buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU. Fodd bynnag, yng Nghymru, drwy bethau fel y gwasanaeth cerdd cenedlaethol, drwy'r buddsoddiad a wnaethom mewn ysgolion ar ôl COVID, sy'n sylweddol uwch nag unrhyw ran arall o'r DU, drwy gyflwyno cwricwlwm newydd—mae'r rhain i gyd yn darparu'r cyfleoedd ehangach hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr â Joel James: ochr yn ochr â'r cyfleoedd i gael addysg ragorol, mae'n bwysig iawn ein bod am i'n holl bobl ifanc gael y profiadau eang hynny, y profiad diwylliannol hwnnw, y profiad hwnnw mewn chwaraeon ac ati, ac nid yw pob person ifanc yn gallu elwa o hynny. Ond dyna yw cefndir y buddsoddiadau rydym wedi'u gwneud ar draws y system er mwyn ceisio sicrhau cyfle teg a rhoi mynediad i bawb at y set gyfoethog o brofiadau a ddisgrifiodd yn ei gwestiwn.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

8. Pa gyllid y mae'r Gweinidog yn ei ddarparu i ysgolion i gefnogi myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol? OQ59954

Mae cyllid ar gyfer ysgolion yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol, yn bennaf drwy'r grant cynnal refeniw. Yn ogystal â hynny, rydym yn parhau i wneud buddsoddiad sylweddol yn y broses o weithredu anghenion dysgu ychwanegol drwy fuddsoddi dros £62 miliwn o refeniw ac £20 miliwn o gyfalaf rhwng 2020 a 2023.

Diolch. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod llythyrau wedi dod atoch ar y mater hwn. Mae gwaith craffu'r pwyllgor addysg ar weithredu diwygiadau Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch cyfyngiadau capasiti mewn ysgolion ac awdurdodau lleol a allai olygu y gallai'r trothwy i ddysgwyr gael eu nodi fel rhai ag ADY godi o dan y system newydd. Nawr, fe wnaethoch chi sicrhau'r pwyllgor y byddech yn gwneud yn siŵr fod y system ADY newydd yn cael ei gyrru gan broffil anghenion penodol y dysgwyr unigol yn hytrach na'r lefelau o adnoddau sydd ar gael. Fodd bynnag, mae nifer o ysgolion yr ymwelais â nhw yn Aberconwy, gan gynnwys Ysgol San Siôr y daeth fy nghyd-Aelod Laura Anne Jones AS gyda mi i ymweld â hi, wedi nodi bod angen y cymorth ariannol hwn cyn gynted â phosibl ar ôl i ddisgybl gael ei nodi fel un sydd angen y cymorth hwnnw. Nawr, maent yn dweud eu bod yn ariannu'r cymorth ychwanegol hwn am fisoedd cyn iddynt gael eu had-dalu, ac mae rhai ysgolion yn gweld hynny'n wirioneddol amhosibl. Felly, beth y gallwch ei wneud i gyflymu'r broses, pan fydd plant yn cael eu nodi fel rhai sydd angen cymorth ychwanegol, fel bod yr ysgolion eu hunain yn cael y cyllid ariannol hwnnw cyn gynted â phosibl? Diolch.

Wel, bydd yr Aelod yn deall bod y berthynas rhwng yr ysgol a'r ffrwd gyllido yn un sydd yn nwylo'r awdurdod lleol, nid Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi amlinellu'r cyllid a roddir gennym ni tuag at y system. Ond mae hi'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â sut mae cyllid yn cyrraedd y rheng flaen, a gyda'r lefelau sylweddol o gyllid sy'n mynd i mewn i'r system, rwy'n credu y byddwn am sicrhau bod hwnnw'n cyrraedd y mannau terfynol cywir, os mynnwch. Yn amlwg, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi cynyddu'r cyllid sydd ar gael i gynghorau lleol yn eithaf sylweddol, ond mae'r pwysau yn real iawn ar eu cyllidebau, fel y maent ar ein cyllidebau ni ac ar gyllidebau ysgolion hefyd. Ond i roi sicrwydd i'r Aelod, mae'r pwynt y mae'n ei godi, ynglŷn â sut mae'r arian yn cyrraedd y rheng flaen, yn un rwy'n ei gadw mewn cof a byddaf yn gweithio gydag awdurdodau lleol mewn perthynas â hynny.

3. Cwestiynau Amserol
15:10
Y Gwasanaeth Fflecsi Bwcabus

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyhoeddiad bydd y gwasanaeth Fflecsi Bwcabus yn dod i ben, ac effaith hyn ar gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru? TQ851

Gwnaf, diolch. Roedd yn ddrwg iawn gennyf glywed y bydd gwasanaeth Bwcabus yn dod i ben. Er gwaethaf addewidion na fyddai Cymru'n waeth ei byd ar ôl Brexit, mae Llywodraeth y DU wedi methu rhoi cyllid newydd ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth gwledig a gâi eu cefnogi'n flaenorol gan yr UE. Felly, ni allwn barhau i gefnogi Bwcabus, ond rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru a'r awdurdodau lleol ar archwilio opsiynau amgen.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch i glywed bod ystyriaethau yn cael eu rhoi i barhad y gwasanaeth, achos mae nifer fawr o gymunedau ledled Ceredigion, sir Gâr a sir Benfro wedi'u syfrdanu gan y cyhoeddiad bod cyllid y Llywodraeth ar gyfer y Bwcabus yn dod i ben, a bod y gwasanaeth yn gorffen ym mis Hydref. Ers blynyddoedd, mae’r gwasanaeth unigryw hwn wedi bod yn adnodd amhrisiadwy i gymaint o drigolion ar draws y gorllewin. A dweud y gwir, mae’r gwasanaeth yn fwy na bws yn unig; mewn sawl achos, dyma'r unig ffordd mae pobl yn gallu cyrraedd apwyntiadau meddygol, mynd i siopa a chymdeithasu. Fe glywes i un wraig ar Radio Cymru neithiwr yn sôn am effaith y golled yma arni hi, achos mae'n dibynnu'n llwyr ar y bws yma i fynd â hi i weld y meddyg bob wythnos. Felly, mae'r effaith yn syfrdanol ar rai unigolion.

Rwy’n gwybod hefyd fod y penderfyniad wedi dod fel tipyn o sioc i awdurdodau lleol, er i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn llu o fysiau newydd ar gyfer y gwasanaeth hwn mor ddiweddar â mis Gorffennaf eleni. Ond eironi pethau yw ein bod ni'n clywed y Llywodraeth yn sôn dro ar ôl tro am bwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus i gysylltu cymunedau â’i gilydd ac effaith bositif hynny ar yr amgylchedd. Ond beth sydd yn digwydd yw bod y gwasanaethau hanfodol hyn yn cael eu torri, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Felly, a gaf i erfyn arnoch chi i weithio'n galed iawn i sicrhau bod y gwasanaeth yma yn cael ei ailsefydlu, a rhoi sicrwydd hirdymor i'r cynllun pwysig hwn?

Diolch am hynny, ac mae'r Aelod yn iawn i nodi'r eironi, oherwydd mae hyn yn mynd i gyfeiriad gwahanol i ble mae ein polisi am inni fynd. I fod yn glir iawn, nid ydym eisiau i hyn ddigwydd. Mae Bwcabus wedi bod yn brosiect pwysig iawn ac mewn gwirionedd, mae wedi ysbrydoli'r gwasanaeth Fflecsi rydym yn ei gyflwyno ledled Cymru. Felly, Bwcabus oedd y cysyniad gwreiddiol a ddatblygwyd gan yr Athro Stuart Cole ac eraill, ac rwyf wedi ei gefnogi. Fe'i hariannwyd gan Ewrop yn bennaf—ychydig bach o gyllid yn unig a gâi ei gyfrannu gan Lywodraeth Cymru—ac fel cymaint o gynlluniau eraill rydym ni yng Nghymru wedi dod i ddibynnu arnynt, nid yw'r arian yno i barhau â'r holl gynlluniau eraill a arferai gael eu hariannu gan yr UE.

Nawr, dywedwyd wrthym ar adeg Brexit na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd drwy adael, ac rydym yn gwybod, mewn gwirionedd, ein bod wedi colli dros £1 biliwn o gyllid ac nad oes arian yno yn ei le. Nawr, rwy'n clywed griddfan oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr ac rwy'n gwybod nad ydynt, fel mater o ffydd, eisiau clywed unrhyw beth negyddol am Brexit, ond dyma enghraifft ymarferol o wasanaeth lleol gwerthfawr ac annwyl iawn a oedd yn dibynnu ar gyllid Ewropeaidd na ellir ei gynnal oherwydd bod y cyllid hwnnw wedi'i golli. Oherwydd yr ergyd arall rydym yn ei hwynebu hefyd gan eu Llywodraeth yw effaith cyni lle mae ein cyllidebau'n cael eu gwasgu, ac ni allwn ddarparu popeth y buom yn ei ddarparu.

Rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda'r diwydiant bysiau a gydag awdurdodau lleol dros yr haf i geisio diogelu cymaint o wasanaethau â phosibl, ac rwy'n falch o ddweud, er enghraifft, y bydd cyllid ar gyfer y Cardi Bach yng Ngheredigion yn parhau fel rhan o waith caffael T5 Trafnidiaeth Cymru. A byddwn yn gweithio'n agos gyda thrafnidiaeth gymunedol a gydag awdurdodau lleol i weld a oes elfennau o'r cynllun hwn y gellir eu hachub. Ychydig o ddefnydd a wnaed ohono, ond fel y dywedodd, roedd yn achubiaeth i'r rhai a oedd yn ei ddefnyddio, ac rwy'n gresynu'n fawr ei fod wedi dod i ben.

Rwy'n cytuno â Cefin Campbell, neithiwr ddiwethaf cysylltodd etholwr, Mr Davies, â mi ynglŷn â diwedd gwasanaeth Fflecsi Bwcabus. Nawr, mae Mr Davies yn cynnig lifft i'r siopau yn rheolaidd i'w gymdogion a allai fod angen help, ac rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno bod hon yn weithred hynod garedig i'w gymuned. Fodd bynnag, fel y nododd Mr Davies yn gywir, mae hyn yn rhywbeth nad yw ar gael i lawer o fy nhrigolion ar draws De Sir Benfro a Gorllewin Sir Gaerfyrddin. Nawr, bydd dod â gwasanaeth Fflecsi Bwcabus i ben, gyda thua mis o rybudd i drigolion, yn gwaethygu'r niwed i hygyrchedd cysylltiadau trafnidiaeth sydd eisoes yn anfynych a mynediad at siopau ac amwynderau angenrheidiol, gan wneud niwed pellach i bobl sydd eisoes yn dioddef ynysu cefn gwlad, ac fel y dywed Mr Davies, mae'r gwasanaeth ar gyfer aelodau mwyaf bregus ein cymuned yn sir Benfro, yn hen ac ifanc. Felly, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi gwybod ers peth amser fod cyllid rhaglenni datblygu gwledig yn dod i ben, pam fod gwasanaeth Fflecsi Bwcabus yn dod i ben gyda dim ond mis o rybudd? Ac i aralleirio maer Llafur Manceinion Fwyaf, pam fod y cymunedau gwledig ar eu colled bob amser a Chaerdydd yn cael popeth y mae ei eisiau?

15:15

Wel, roedd y gwasanaeth yn cael ei redeg gan yr awdurdodau lleol, nid gan Lywodraeth Cymru, ac maent wedi bod yn glir ers peth amser nad oedd ganddynt unrhyw adnoddau i'w barhau. Mae'r adnoddau o'r Undeb Ewropeaidd wedi dod i ben o ganlyniad i Brexit, a dyma ganlyniad uniongyrchol i hynny. Mae angen i'r rhai a ddadleuodd dros Brexit ac a wnaeth addewidion i Gymru na fyddai'r arian yn cael ei golli yng Nghymru egluro pam na chafwyd arian yn lle'r arian hwnnw, oherwydd mae yna ddiffyg o £1 biliwn. Rwy'n ofni bod Samuel Kurtz yn rhoi sylwebaeth ar y pryd—nid wyf yn clywed yn iawn yr hyn y mae'n ei ddweud. Rwy'n gwybod nad yw'n fodlon, ond ni allaf glywed yr hyn y mae'n ei ddweud, mae'n ddrwg gennyf. 

Ond mae'r ffaith yn aros nad ydym yn awyddus i weld hyn yn digwydd. Mae hyn yn mynd i gyfeiriad cwbl groes i'r polisi rydym am ei weld ar waith, ond heb yr arian ni allwn weithredu gwasanaethau na allwn eu hariannu. Rwy'n credu bod hynny'n siom enfawr. Rydym yn gwneud llawer o waith ar drafnidiaeth wledig ac ar sut y gall yr ardaloedd gwledig gyfrannu at y targedau sydd gennym o ran newid dulliau teithio, ond ni allwn weithredu gwasanaethau heb gyllid, a hynny, rwy'n ofni, yw'r tensiwn sy'n ein hwynebu.

Felly, rwy'n rhannu popeth a ddywedwyd am y gofid na fydd y gwasanaeth hwn yn parhau mwyach. Nid oes angen fy mherswadio ynglŷn â pha mor werthfawr ydyw. Y cyfan sydd ei angen arnaf yw arian i'w barhau, ac yn sgil torri addewidion Brexit, rwy'n ofni nad yw'r arian hwnnw gennyf. 

Weinidog, mae gennyf syniad am arian i'w barhau, syniad a grybwyllais wrthych o'r blaen. Rwy'n deall eich bod yn mynd i fod yn arbed arian yn sgil peidio ag adeiladu ffyrdd newydd, ac rwy'n cefnogi hynny'n llwyr, ac mewn ymateb i gwestiwn yn y Siambr, rwy'n credu eich bod wedi dweud wrthyf y byddai oedi, y byddai cyfnod o aros i'r arian ymddangos wedi'r arbedion ar adeiladu ffyrdd. Ond tybed a oes unrhyw syniad gennych a allwn ddechrau edrych ar unrhyw gyllid brys yn sgil peidio ag adeiladu'r ffyrdd newydd hynny i'w roi i Bwcabus er mwyn iddynt allu dal ati, fel nad ydynt yn colli cwsmeriaid. Oherwydd fe wyddoch, cyn gynted ag y bydd rhywbeth yn cael ei golli, fel gwasanaeth bws, mae'n anodd iawn ei gael yn ôl. Felly, hoffwn eich annog i weld a oes unrhyw beth y gallwn ddod o hyd iddo er mwyn cadw Bwcabus i fynd. Diolch yn fawr iawn. 

Wel, yn amlwg, rwy'n deall y teimlad ac yn ei gefnogi, oherwydd dyna'r bwriad y tu ôl i'r polisi yn y tymor canolig, fel y gwyddoch. Ond penderfyniad cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yw hwn, ac yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn dal i adeiladu ffyrdd, er bod y Ceidwadwyr yn ceisio dweud wrth bawb ein bod wedi gwahardd adeiladu ffyrdd. Pe bai hynny'n wir, byddai gennyf lawer mwy o arian yn fy nghyllideb. Nid ydym wedi gwahardd adeiladu ffyrdd, rydym yn adeiladu ffyrdd, a byddwn yn parhau i adeiladu ffyrdd. Felly, nid oes arian yn y flwyddyn ariannol hon, ac ni fyddai'n llawer o help mewn gwirionedd, gan mai cyllid cyfalaf fyddai hwnnw, ac mae angen cyllid refeniw ar fysiau. Mae'n swnio fel pwynt cyfrifyddu technegol, ond mae'n siapio'r dewisiadau sydd gennym i'w gwneud. 

Yr hyn sydd angen i ni ei wneud, yn amlwg, i gyrraedd ein targedau hinsawdd yw symud mwy o bobl i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae hynny'n anoddach i'w wneud mewn ardaloedd gwledig, ond mae'n gwbl bosibl. Rydym yn gweithio ar bapur a gyhoeddir gennym cyn bo hir yn edrych ar enghreifftiau o gefn gwlad Sweden, y Swistir a'r Almaen lle mae ganddynt fws bob awr ar gyfer pob pentref. Felly, mae'n berffaith bosibl gwneud hyn os yw'r cyllid ar gael. Yn eu hachos nhw, mae llawer ohonynt yn defnyddio trethi lleol i fusnesau i dalu am y gwasanaethau hynny.

Felly, rwy'n credu bod angen dadl aeddfed ar draws y Siambr i edrych ar sut y gallwn gynnal y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol hyn, ond fel y dywedaf eto, pe bai modd imi barhau hyn, byddwn wedi brwydro'n galed iawn i ddod o hyd iddo. Rydym yn wynebu pwysau ariannol sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi bod yn rhaid inni ddod o hyd i £900 miliwn o arbedion. Mae'n arbennig o anodd ar gyfer cyllid refeniw, sef yr hyn roedd cynllun Bwcabus yn dibynnu arno. Ond y broblem wirioneddol fawr yma—ac mae hyn yn rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr i gyd yn syllu arno ar eu sgriniau nawr—yw mai methiant yw hyn ar ran Llywodraeth y DU i wireddu eu haddewidion i roi arian yn lle cyllid yr UE a gollwyd yng Nghymru o ganlyniad i Brexit. Fe wnaethant ddweud na fyddem £1 yn waeth ein byd; rydym £1 biliwn yn waeth ein byd mewn gwirionedd a dyma sut mae hynny'n edrych. Dyma sut mae hynny'n edrych—gwasanaethau bysiau yng nghefn gwlad sir Benfro, yng nghefn gwlad sir Gaerfyrddin, yng nghefn gwlad Ceredigion, yn cael eu torri oherwydd addewidion sydd wedi'u torri.

15:20

Ddirprwy Weinidog, mae'n hynod siomedig clywed y cyhoeddiad y bydd gwasanaeth Bwcabus yn dod i ben, gan ei fod wedi bod yn achubiaeth i nifer o drigolion yn rhannau mwy gwledig fy etholaeth. Nawr, rwy'n deall eich bod wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar lwybr gwledig i archwilio atebion posibl gydag awdurdodau lleol a chymunedau. Efallai y gallech ddweud ychydig mwy wrthym am y gwaith hwnnw, a pha drafodaethau sydd wedi digwydd gyda Chyngor Sir Penfro a rhanddeiliaid lleol ynghylch adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng ngorllewin Cymru sy'n gweithio i'r cymunedau hynny.

Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Bil bysiau i ystyried sut y darperir gwasanaethau bysiau yn y dyfodol. Nawr, dywedodd y Prif Weinidog ei hun y bydd y Bil hwn yn rhoi pobl o flaen elw. Felly, efallai y gallech ddweud wrthym sut y bydd cau gwasanaeth Bwcabus yn effeithio ar y Bil hwnnw. Fe sonioch chi am yr Athro Stuart Cole, ac mae ef wedi dweud yn glir mai gwasanaeth Bwcabus oedd y ffordd rataf o weithredu gwasanaeth bws gwledig. Felly, yn sgil ei sylwadau, efallai y gallech nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu gwasanaethau'n fwy effeithlon yng ngorllewin Cymru yn y dyfodol.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rwy'n deall bod heriau ariannol y mae'n rhaid i bob Llywodraeth eu hwynebu. Dyna pam fod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr ar gyllid ôl-UE. Nawr, mae adroddiad y pwyllgor yn dyfynnu'r Athro Steve Fothergill o Brifysgol Sheffield Hallam, ac mae'n dweud mewn tystiolaeth i'r pwyllgor fod y ddwy Lywodraeth yn gywir o safbwynt cyllid, oherwydd mae'r ddwy Lywodraeth yn mesur gwahanol bethau. Dyna a ddywedodd yr Athro Fothergill wrth bwyllgor y Senedd hon, a hoffwn annog y Dirprwy Weinidog i ddarllen ein hadroddiad. Un o'r argymhellion yn adroddiad y pwyllgor oedd sicrhau bod yna ddull mwy rhanbarthol o ddarparu cyllid, fel y gall fynd i'r afael â materion fel hyn yn well yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio, yn y dyfodol, y gwelwn ddull rhanbarthol llawer mwy cydgysylltiedig ar gyfer cyllid ôl-UE, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn cefnogi'r argymhelliad hwn gan y pwyllgor, Ddirprwy Weinidog, a'r holl argymhellion yn ein hadroddiad. 

Er bod gennyf barch mawr tuag at yr Athro Fothergill a'i waith, y gwir amdani yw bod hwn yn gynllun a ariennir gan refeniw'r UE na chafwyd arian yn ei le, ac mae'r cyllid wedi dod i ben. Nawr, fy nealltwriaeth i yw mai ychydig o ddefnydd a wneid o'r gwasanaethau; mewn rhai achosion, roedd un teithiwr y dydd yn defnyddio'r gwasanaethau, ac yn amlwg, mewn ardal wledig, mae'n mynd i fod yn anos cael màs critigol o deithwyr. Dyna pam ein bod yn gwneud y gwaith, gydag ystod o arbenigwyr, i edrych ar opsiynau ar gyfer trafnidiaeth wledig. Oherwydd nid wyf yn derbyn bod newid dulliau teithio yn agenda drefol; mae'n rhaid iddo weithio mewn ardaloedd gwledig hefyd, ond bydd angen cyfres wahanol o bolisïau. A bydd angen arian i'w gwneud. 

Nawr, yn amlwg, mae'n argyfwng ariannol tymor byr iawn—. Wel, rydym yn gobeithio y bydd yn dymor byr, ond rydym yn sicr mewn argyfwng cyllid ar hyn o bryd, ac o ganlyniad i gamreoli'r economi, rydym yn annhebygol o weld y newid hwnnw yn ystod y blynyddoedd nesaf. Felly, mae 'Sut rydym yn pontio'r gwasanaethau hyn?', fel y gofynnodd Jane Dodds i'r Senedd, yn gwestiwn anodd iawn, ac rydym yn gweithio gyda Chyngor Sir Penfro a'r awdurdodau lleol eraill i edrych ar opsiynau ymarferol. Fel y dywedais, rydym yn trafod gyda thrafnidiaeth gymunedol hefyd i weld a oes pethau y gellir eu gwneud ai peidio.

Ar eich cwestiynau ynghylch dull cynllunio trafnidiaeth rhanbarthol a'r Bil bysiau, wel, y rheswm pam ein bod yn gwneud y gwaith, y ddogfen weledigaeth y cyfeiriodd Paul Davies ati—yr adroddais innau arni i'r Senedd mewn datganiad ysgrifenedig yn gynharach yn yr haf—yw er mwyn llywio'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol a fydd yn deillio o'r cyd-bwyllgorau corfforaethol gydag enghreifftiau o bethau a all weithio mewn lleoliadau gwledig. Dyna'n union rydym am ei weld, ond mae'r sefyllfa ariannu yn parhau i fod yn un heriol tu hwnt, ac mae'n ddrwg calon gennyf na fydd Bwcabus ar gael i'r bobl sydd wedi dod i ddibynnu ar y gwasanaeth bws hwnnw yn y dyfodol.

Pan gawn fasnachfreinio, holl bwynt hynny yw ein bod yn mabwysiadu safbwynt strategol. Felly, rydym yn mapio lle rydym angen i wasanaethau bws weithredu, a'u hamlder, ac ymgorffori hynny yn y gwaith ar fasnachfreinio. Felly, ar draws holl faes masnachfreinio, gellir rhoi croes-gymhorthdal i wasanaethau. Felly, gellir defnyddio gwasanaeth proffidiol mewn tref i gynnal gwasanaeth sy'n gwneud colled mewn ardal wledig. Ni chaniateir hynny ar hyn o bryd yn sgil preifateiddio'r diwydiant bysiau, rhywbeth yr ydym yn dal i fyw gyda'i effaith. Dyna pam mae ein diwygiad mor bwysig. Bydd yn newid y ffordd y mae'r system yn gweithredu; fe fydd yn ei gwella, ond ni fydd hynny ond cystal â'r cyllid sydd ar gael i'w wneud.

Mae gennyf dri siaradwr arall. Hyd yn hyn, mae'r holl Aelodau wedi bod o Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Nodaf nad yw'r tri arall yn dod o Ganolbarth a Gorllewin Cymru, felly, gwnewch yn siŵr fod eich cwestiynau'n canolbwyntio ar Bwcabus a'r effaith ar drigolion Canolbarth a Gorllewin Cymru. Delyth Jewell. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dwi hefyd yn rhannu'r pryder y mae Cefin Campbell wedi sôn amdano o ran y sefyllfa yn y gorllewin. Mae'n dorcalonnus clywed am yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar unigolion o ran mynd i apwyntiadau meddygol, fel dŷn ni wedi'i glywed, siopa ac ati. Nawr, mae'r Dirprwy Weinidog wedi sôn yn barod am sut mae'r cynllun bws Fflecsi Bwcabus yn cael ei hyrwyddo fel rhan o ddarpariaeth bws Fflecsi gan Drafnidiaeth Cymru, a dwi'n cymryd i mewn i ystyriaeth beth mae'r Dirprwy Lywydd newydd ei ddweud, ond mae'r cynllun yna hefyd yn gwasanaethu ardaloedd ledled Cymru, gan gynnwys Dyffryn Conwy, Rhondda ac ardaloedd o Flaenau Gwent yn fy rhanbarth i. Buaswn i'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog, yn sgil y cyhoeddiad yma, a oes modd cael eglurder ar a fydd y cyhoeddiad penodol hwn am y gorllewin yn cael unrhyw effaith ar y ddarpariaeth y bysiau eraill hyn, sydd yn rhan o'r cynllun Fflecsi. Ac os ddim, pam taw cymunedau'r gorllewin sy'n cael eu heffeithio'n unig?

15:25

Wel, fel yr eglurais, ariannwyd y gwasanaeth penodol hwn gan gyllid yr UE o'r dechrau, ac roedd cyfraniad bach gan Lywodraeth Cymru. Nawr fod y cyllid hwnnw wedi diflannu, oherwydd ein bod hefyd yn wynebu her wirioneddol gyda chyllid bysiau yn gyffredinol, ni fu'n bosibl dod o hyd i swm mor fawr o arian ar gyfer gwasanaeth a oedd yn cludo ychydig iawn o deithwyr. Felly, nid oedd arian i'w ymestyn, ond hyd yn oed pe bai arian wedi bod yno, nid oedd yr achos yn un syml.

Felly, rydym yn parhau i dreialu a phrofi'r gwasanaeth Fflecsi yn fwy eang mewn gwahanol leoliadau. Mae hynny hefyd yn heriol iawn i'w ariannu, a gwyddom ein bod yn wynebu llai o refeniw yn ystod y flwyddyn ariannol hon a'r flwyddyn ariannol nesaf, felly ni allaf roi unrhyw sicrwydd pendant am ei ddyfodol ar gyfer gweddill Cymru. Byddwn yn brwydro mor galed ag y gallwn i ddiogelu cymaint o'r cyllid ag y gallwn, oherwydd mae'n gynllun rydym ni wedi'i greu ac rydym yn credu'n gryf ynddo, ac mae ganddo ganlyniadau da. Ond mae arnaf ofn fod realiti cyni ac effaith Brexit yn dod at ei gilydd nawr ac yn cael effaith wirioneddol ar gymunedau gwledig.

Mi fydd pobl ar draws y rhanbarth ac ar draws Cymru eisiau gwybod beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer gwasanaethau eraill. I bobl mewn rhannau eraill o’r rhanbarth a thu hwnt sydd yn gobeithio cyflwyno gwasanaethau Fflecsi newydd er mwyn gwneud i fyny am wasanaethau sydd wrthi’n cael eu colli ar hyn o bryd, beth ydy’r neges yn fan hyn? Oes yna gefnogaeth yn mynd i ddod gan Lywodraeth ar gyfer gwasanaethau wedi’u cyllido’n gyhoeddus, neu i fentrau cymdeithasol ac ati, er mwyn darparu’r mathau o gysylltiadau yna i mewn i brif routes bws, er enghraifft?

Wel, mae Rhun ap Iorwerth, fel arweinydd plaid sy'n rhan o'r cytundeb cydweithio wedi gweld y llyfrau, fel petai; mae'n ymwybodol o gyflwr arian cyhoeddus a chyflwr cyllidebau Llywodraeth Cymru. Felly, mae'n gwybod bod ein dewisiadau wedi'u cyfyngu'n ddifrifol. I fod yn glir iawn am hynny, nid yw hyn yn rhywbeth rydym yn awyddus i'w wneud. Hoffwn weld Bwcabus yn parhau a hoffwn weld y gwasanaeth Fflecsi yn ehangu. Ac yn y tymor canolig i'r tymor hwy, os cawn newid yn y Llywodraeth a'n bod yn cael darlun economaidd sy'n newid, rwy'n gobeithio y gallwn adeiladu ar hynny. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n allweddol nawr yw cadw cymaint â phosibl o'r gwasanaethau i fynd, i ymgorffori strwythur a system yn y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol tymor canolig sy'n caniatáu i'r gwasanaethau hyn i fod yn hyblyg a chael eu hymestyn a'u gwneud yn fwy wrth i'r adnoddau ddod ar gael. Ond mae arnaf ofn fod ein dewisiadau yn gyfyngedig iawn yn y tymor byr iawn.

Diolch. Fel rhywun a arferai gadeirio pwyllgor monitro'r rhaglen Ewropeaidd, rwy'n gwbl ymwybodol o bwysigrwydd y mater hwn. Ar ôl i Lywodraeth y DU ysbeilio'r gronfa adfywio a rhoi'r arian yn y gronfa ffyniant gyffredin, sy'n gorfodi awdurdodau lleol i gystadlu yn erbyn ei gilydd yn hytrach na gallu cael dull cyfannol, ac o gofio bod breuder gwasanaethau bysiau yn rhywbeth rydym wedi'i drafod yn rheolaidd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, a ydych chi'n gwybod a yw'r awdurdodau lleol hyn yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wedi gwneud unrhyw gais yn y rownd ddiweddaraf o geisiadau i'r gronfa ffyniant gyffredin ar gyfer cynnal gwasanaethau trafnidiaeth y mae'n rhaid eu bod yn ymwybodol eu bod yn fregus, o ystyried popeth rydym wedi'i drafod hyd yn hyn.

Diolch. Mae'n gwestiwn da iawn ac un o'r pethau rydym yn mynd i edrych arnynt gyda'r awdurdodau, wrth inni geisio dod o hyd i ffordd o gadw rhai gwasanaethau i fynd, yw pa opsiynau a allai fodoli ar gyfer gwneud cais am gronfeydd eraill. Mae arnaf ofn nad wyf yn ymwybodol heb fynd i edrych o unrhyw geisiadau a allai fodoli. Ond mae'r mater ehangach y mae Jenny Rathbone yn ei grybwyll yn un pwysig—nid yw'r cynlluniau cyllido olynol ar ôl Brexit yn strategol ar draws y DU, nid ydynt yn seiliedig ar angen. Rydym i gyd yn cofio'r darllediad o Rishi Sunak yn dweud, yn ystod yr ornest arweinyddol, ei fod wedi llwyddo i gael cyllid i Tunbridge Wells ar draul ardaloedd Llafur.

Nawr, rwy'n credu bod hon yn enghraifft arall o, pe bai strategaeth ranbarthol briodol a pholisi rhanbarthol gan Lywodraeth y DU i edrych ar ble roedd fwyaf o angen cyllid, y byddem wedi canfod ein hunain mewn sefyllfa wahanol o bosibl. Nid ydym wedi cael hynny; yn lle hynny, rydym wedi cael llu o astudiaethau dichonoldeb mewn seddi ymylol Torïaidd er mwyn—. Ac rwy'n gweld bod y ffordd y mae'r broses hon wedi cael ei gwleidyddoli yn anarferol iawn o'i gymharu â'r hyn a oedd gennym o'r blaen. Roedd y rhai ohonom sy'n gyfarwydd â chynlluniau cyllido blaenorol yr UE yn gwybod eu bod yn gadarn iawn, wedi'u harchwilio i'r eithaf, a bod gwedd strategol iddynt. Ni ellir dweud yr un o'r pethau hynny am y cynllun newydd. Felly, rwy'n credu bod cwestiynau yma i'r Ceidwadwyr eu hateb ynglŷn â sut mae'r system y dywedasant wrthym y byddai'n diogelu Cymru wedi gwneud cam â Chymru, ac mae gennym enghraifft o bobl yma yng nghefn gwlad Cymru sy'n mynd i gael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y polisi hwnnw nawr.

15:30
Ysbyty Llwynhelyg

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiadau y bydd ysbyty Llwynhelyg ar gau yn rhannol am y rhan fwyaf o 2024? TQ853

Gallaf gadarnhau, ar hyn o bryd, fod chwe ward wedi gorfod cau oherwydd cyflwr y planciau concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) a ddarganfuwyd. Nod rhaglen waith y bwrdd iechyd yw ailagor tair o'r wardiau yr effeithiwyd arnynt erbyn diwedd mis Rhagfyr, ac mae disgwyl i'r tair arall gael eu hailagor erbyn diwedd mis Mawrth 2024. Mae diogelwch cleifion, ymwelwyr a staff yn hollbwysig, ac mae gwaith angenrheidiol yn mynd rhagddo ar draws yr ystad ysbytai.

Fel y byddwch yn deall, rwy’n siŵr, Weinidog, mae adroddiadau diweddar y bydd ysbyty Llwynhelyg yn cael ei gau’n rhannol am y rhan fwyaf o’r flwyddyn nesaf wedi peri cryn bryder i gleifion ledled sir Benfro, ac mae hynny'n gwbl ddealladwy. Nawr, rwy’n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i’r bwrdd iechyd fynd i’r afael â’r ddwy radd uchaf o RAAC yn ysbyty Llwynhelyg, ond efallai y bydd achosion pellach o RAAC gradd is, ac felly, yn ddiau, bydd yn rhaid cynnal gwiriadau ysbeidiol rheolaidd. Felly, Weinidog, a allwch ddweud wrthym pa gymorth tymor canolig a mwy hirdymor y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w gynnig i'r bwrdd iechyd i fynd i'r afael â phob achos o RAAC yn ysbyty Llwynhelyg?

Dywed y bwrdd iechyd wrthym fod ysbyty Llwynhelyg, yn ôl pob tebyg, wedi colli oddeutu 50 y cant o’i welyau, ac rwy’n hynod bryderus am effaith hyn ar allu’r ysbyty i ddarparu gwasanaethau dros gyfnod y gaeaf. Felly, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda’r bwrdd iechyd ynglŷn â’i gynlluniau i ymdopi â phwysau’r gaeaf, yng ngoleuni pryderon cyhoeddus y bwrdd iechyd ynghylch darparu gwasanaethau dros y misoedd nesaf? A oes asesiad wedi’i wneud o allu’r bwrdd iechyd i ddarparu gwasanaethau’n effeithiol yn sir Benfro dros yr ychydig fisoedd nesaf, a pha ymyriadau, os o gwbl, a fydd yn cael eu gwneud i helpu i gefnogi’r bwrdd iechyd?

Mae hwn, wrth gwrs, yn gyfnod hynod bryderus i gleifion ac i staff hefyd, ac rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i ddiolch i'r rhai sy'n parhau i weithio mewn amodau mor heriol. Mae'n hanfodol fod ymgynghori'n digwydd â staff ar bob cam o'r daith hon, a'u bod yn gallu rhoi gwybod am bryderon cyn gynted â phosibl. Felly, efallai y gallech ddweud wrthym a yw Llywodraeth Cymru wedi trafod effaith RAAC ar staff yn ysbyty Llwynhelyg gyda’r bwrdd iechyd, ac os felly, pa ganlyniadau sydd wedi deillio o’r trafodaethau hynny.

I symud ymlaen, mae prif weithredwr y bwrdd iechyd yn iawn i ddweud mai’r flaenoriaeth nawr yw atgyweirio'r mannau sydd â phroblemau difrifol cyn gynted â phosibl fel y gall wardiau ailagor. Mae'n hanfodol fod gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg yn ailagor cyn gynted ag y bo hynny'n ddiogel. Fel rwyf wedi dweud o’r blaen, mae’n bwysig mai cam dros dro yw adleoli unrhyw wasanaethau, ac nid cyfle i ganoli gwasanaethau mewn man gwahanol i ysbyty Llwynhelyg yn barhaol unwaith eto. Ac felly, yn olaf, a allwch gadarnhau, Weinidog, y bydd yr holl wasanaethau sydd wedi'u hadleoli dros dro yn dychwelyd i safle'r ysbyty pan fydd hynny'n ddiogel? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy’n sicr yn deall pryderon pobl sy’n byw’n lleol, ac mae’n ergyd chwerw pan fydd cymaint o welyau wedi mynd. Ond rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn cytuno mai'r peth cyntaf a phwysicaf yw sicrhau bod pobl yn ddiogel, gan mai'r peth olaf rydym am ei weld yw pobl yn mynd i mewn i ysbyty anniogel.

Dyna pam mai un o'r pethau rydym wedi'u gwneud yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar 29 Awst i ddarparu £12.8 miliwn ar gyfer mynd i'r afael â'r mannau anoddaf yn ysbyty Llwynhelyg, i sicrhau bod y system yn ddiogel. Nawr, dyna'r cam cyntaf. Mae angen gwneud mwy o waith, wrth gwrs, i asesu beth y gallai’r ateb hirdymor fod mewn perthynas â hyn, gan ein bod yn sôn am faterion strwythurol eithaf sylweddol sy'n galw am sylw. Felly, yr hyn rydym wedi'i wneud—. Nid yw'n swm ansylweddol o arian, £12.8 miliwn. Ac wrth gwrs, nid oes gennym unrhyw arian newydd, felly—. Rydych yn ymwybodol mai dim ond £1 filiwn o gyfalaf ychwanegol a gawsom eleni gan Lywodraeth y DU. Felly, mae’n rhaid i’r arian hwnnw ddod o weddill y gyllideb gyfalaf. Felly, rwy'n gwybod, er enghraifft, fod eich cyd-Aelodau'n gofyn yn aml iawn imi roi mwy o arian i fynd i'r afael â'r problemau ym mwrdd Betsi, er enghraifft, problemau cyfalaf. Mae’r ffaith ein bod bellach yn gorfod dod o hyd i’r arian hwn ar gyfer ysbyty Llwynhelyg yn golygu bod yn rhaid inni fynd ag ef o rywle arall. Felly, mae'n rhaid inni ystyried ystad GIG Cymru yn ei chyfanrwydd yn y cyswllt hwn.

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod fy swyddogion wedi bod yn cael sgyrsiau â’r bwrdd iechyd mewn perthynas â beth yw’r cynlluniau tymor byr, yn sicr drwy'r gaeaf hwn, a chynlluniau tymor canolig. A gwn y gofynnwyd i’r cynghorau lleol ymyrryd a chamu i’r adwy i geisio helpu, yn enwedig gyda’r problemau sy'n ymwneud â llif cleifion drwy’r ysbyty, ac mae hynny bob amser wedi bod yn her eithaf sylweddol yno.

Credaf fod staff yn ysbyty Llwynhelyg wedi bod yn anhygoel yn y ffordd y maent wedi ymateb i hyn. Mae llawer ohonynt wedi cytuno i adleoli er mwyn helpu yn Ysbyty De Sir Benfro. Gwn fod eraill yn gwneud teithiau hir i ysbyty Bronglais, i sicrhau eu bod yn helpu cleifion sydd angen y cymorth hwnnw. Ac un o'r mannau yr effeithiwyd yn sylweddol arnynt yw'r ffreutur yn ysbyty Llwynhelyg, ac felly, mae trefniadau amgen wedi'u rhoi ar waith. Ac mae gofalu am staff yn hollbwysig yn unrhyw un o sefydliadau'r GIG.

Felly, wrth gwrs, mae’n gyfnod heriol. Credaf fod y bwrdd iechyd wedi camu i'r adwy ac wedi deall arwyddocâd yr hyn sy'n digwydd yma, ond rwy'n obeithiol mai'r hyn a welwn yw tair ward yn ailagor cyn diwedd mis Rhagfyr, ac yna, gobeithio, y gweddill ohonynt yn ailagor erbyn diwedd mis Mawrth.

15:35

Hoffwn ymuno â chi, Weinidog, a Paul Davies, i ddiolch i’r staff am gamu i'r adwy ar yr adeg heriol hon. Mae dau fater mawr yma. Un yw parhad gwasanaethau, y gofynnwyd yn ei gylch, sut olwg sydd ar hynny, a’r sicrwydd i’r bobl sydd angen y gwasanaethau hynny. Ac wrth gwrs, yr ail fater allweddol yma yw diogelwch, ac rydych wedi sôn am hynny. Ac mae diogelwch y staff a’r cleifion, a’r bobl a fydd yn mynd i mewn i’r adeilad hwnnw wrth gwrs, yn hollbwysig i bob un ohonom. Mae’r £13 miliwn sydd wedi’i roi ar unwaith gan y Llywodraeth hon i fwrdd Hywel Dda i’w helpu drwy’r argyfwng hwn yn dangos ein hymrwymiad i geisio cadw’r ysbyty hwnnw'n weithredol.

Credaf fod hyn yn codi cwestiwn gwirioneddol yma ynglŷn â sut olwg fydd ar wasanaethau wrth symud ymlaen. Nid ydym wedi cael gwir gost eto y cyfalaf y byddai angen ei fuddsoddi yn yr ysbyty hwn. A phan fyddwn yn gwybod hynny, efallai, Weinidog, y gallech ein helpu i edrych ar wir gost ceisio atgyweirio'r adeilad. Mae Paul Davies yn llygad ei le yn dweud bod yna rai mannau nawr lle mae’r difrod yn sylweddol, ond bod yna fannau eraill a allai ddod i’r amlwg maes o law. Felly, credaf fod galw am ddadansoddiad cost a budd go iawn yma, o ran y buddsoddiad cyfalaf yn yr adeilad yn erbyn y buddsoddiad cyfalaf mewn adeilad newydd.

Diolch yn fawr iawn. Wel, mae Joyce yn llygad ei lle ynghylch pwysigrwydd parhad gwasanaethau i’r bobl yn y gymuned honno. Dyna pam y credaf ei bod yn wirioneddol arwyddocaol fod Ysbyty De Sir Benfro wedi cael ei ddefnyddio’n helaeth nawr, ac ymddengys bod pobl wedi deall yn iawn fod angen gwneud hynny. Mae'n rhaid i ddiogelwch fod yn hollbwysig mewn perthynas â'r GIG.

Sut olwg sydd ar wasanaethau wrth symud ymlaen? Mae hwn yn gwestiwn rydym wedi’i ofyn i’r bwrdd iechyd. Felly, mae adolygiad clinigol yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Yr hyn y mae gennym ddiddordeb ynddo, wrth gwrs, a'r hyn y mae gan y bwrdd iechyd ddiddordeb ynddo, yw datblygu ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru. Nawr, nid ydym wedi ystyried ein safbwynt ar hynny fel Llywodraeth eto, ond y peth cyntaf i'w sicrhau yw bod y model clinigol yn briodol ac yn gywir. Ac mae gennym bellach ymagwedd wahanol iawn at feddygaeth ac at yr heriau sydd gennym fel cymdeithas. Felly, yn y gorffennol, roedd yn ymwneud yn gyfan gwbl â gofal acíwt; roedd yn ymwneud â chael pobl i mewn i ysbytai, eu hiachau, eu cael adref. Heddiw, yr hyn rydym yn sôn amdano yw poblogaeth sy'n heneiddio, a llawer ohonynt ag anghenion cymhleth iawn, y byddai'n well ganddynt gael y gofal hwnnw gartref mewn gwirionedd. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod unrhyw ateb yn un sy'n edrych tua'r dyfodol.

Felly, rydym wedi gofyn i’r bwrdd iechyd feddwl, nid yn unig yn hirdymor, ond i feddwl yn ofalus ac yn greadigol iawn ynglŷn â sut olwg a allai fod ar y tymor byr a’r tymor canolig. Oherwydd, ar wahân i unrhyw ddyhead am ysbyty newydd, mae llawer o ffordd i fynd cyn y byddai'r ysbyty hwnnw'n weithredol. Felly, beth yw'r ateb tymor canolig? Mae hynny'n rhywbeth rydym wedi'i ofyn ac sydd wedi'i brofi gyda fy swyddogion yn gynharach yr wythnos hon.

15:40

Diolch i Paul Davies am y cwestiwn.

Weinidog, mewn datganiad ysgrifenedig yn gynharach y mis hwn, fe ddywedoch chi fod y Pwyllgor Sefydlog ar Ddiogelwch Strwythurol wedi tynnu sylw at bryderon sylweddol ynghylch diogelwch eiddo gyda RAAC mor bell yn ôl â mis Mai 2019. Pam, felly, ei bod wedi cymryd pedair blynedd i gyrraedd pwynt lle mae gwaith yn cael ei wneud o'r diwedd i adnewyddu planciau RAAC?

Ac yn ysbyty Llwynhelyg yn benodol, mae perygl gwirioneddol mai dim ond ateb dros dro fydd y £12.8 miliwn o gyllid a roddir i Hywel Dda i ddechrau’r gwaith adfer yn yr ysbyty, ac fel y mae siaradwyr eraill wedi'i grybwyll eisoes, mae ariannu'r gwaith o ailosod y planciau sy'n risg uchel ar hyn o bryd yn unig yn mynd i olygu y bydd yr ysbyty'n destun arolygon cyson a gwaith adfer posibl am flynyddoedd i ddod. Felly, ni ellir osgoi’r effaith ar gleifion a staff wrth gwrs, gyda 50 y cant o'r gwelyau yn ysbyty Llwynhelyg eisoes wedi’u colli. Felly, a wnaiff y Llywodraeth sicrhau y bydd rhagor o arian ar gael i newid yr holl blanciau RAAC, fel sydd wedi’i argymell gan arbenigwyr?

Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, yr hyn y mae'r argyfwng RAAC hwn yn ei ddangos mewn gwirionedd yw bod taer angen buddsoddiad gofal iechyd hirdymor ar orllewin Cymru. Ac yng ngoleuni hynny, roeddwn yn siomedig iawn o glywed bellach na fydd y gwaith ar yr ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru yn dechrau tan 2031, yn hytrach na 2029 fel y cynlluniwyd yn wreiddiol. Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gyflymu'r broses o adeiladu ysbyty newydd mawr ei angen i roi gofal iechyd yng ngorllewin Cymru ar sylfaen gynaliadwy ac i osgoi lledaenu'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd yn rhy denau?

Diolch yn fawr iawn. Wel, gallaf roi sicrwydd i chi fod y rhybudd hwnnw wedi dod gan y Pwyllgor Sefydlog ar Ddiogelwch Strwythurol ym mis Mai 2019, ac ar unwaith, ymgysylltodd swyddogion â GIG Cymru ynghylch y risgiau posibl a achosir gan bresenoldeb RAAC. Felly, dechreuodd hynny ar unwaith yn 2019. Ac fe gymerodd o 2019 hyd at 2022 i gynnal yr ymchwiliadau mewn perthynas â RAAC. Felly, mae’r rheini wedi’u cynnal. Dyna pam nad oedd hyn yn fawr o syndod i ni mewn gwirionedd, gan fod y gwaith hwn wedi'i wneud ers yr amser hwnnw. Felly, rwy'n credu ein bod yn weddol ymwybodol o'r hyn a oedd yn debygol o ddigwydd.

Wrth inni fynd yn ddyfnach i’r ymchwiliadau a’r gwaith strwythurol, efallai y down o hyd i fwy, ond credaf ein bod yn weddol hyderus fod y gwaethaf o’r RAAC wedi’i ganfod yng Nghymru. Y cwestiwn nesaf, fel y dywedwch, yw, 'Iawn, a allwch chi roi sicrwydd i ni y bydd gennych arian i atgyweirio'r cyfan?' Ni allaf warantu unrhyw beth yn y sefyllfa ariannol bresennol—mae'n hynod o heriol—ac yn arbennig, fel y dywedwch, pan fydd yn rhaid ichi gydbwyso, 'Iawn, pe baech yn gwario'r holl arian hwnnw ar adfer sefyllfa, ni fyddai ar gael wedyn i wneud pethau eraill yn y tymor canolig i'r tymor hir.'

Ar yr ysbyty newydd, mae yna broses y bydd yn rhaid mynd drwyddi. Mae’r broses honno’n mynd drwy’r system; mae'n mynd drwy'r sianeli swyddogol a ffurfiol. Fel yr eglurais wrth Joyce, mae yna adolygiad clinigol yn cael ei gynnal lle mae angen ichi sicrhau bod y model clinigol y maent yn ei gynnig yn dal dŵr. Mae trydydd parti annibynnol wedi bod yn edrych ar hynny er mwyn sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y dyfodol mewn gofal iechyd. Felly, mae llawer o waith i'w wneud, a dyna pam y credaf ei bod yn bwysig deall nad yw'r pethau hyn yn digwydd dros nos. Rydym wedi bod yn sôn amdano ers amser maith, rwy’n deall hynny. Cafwyd rhai rhwystrau ar y ffordd, hyd yn oed i gyrraedd y pwynt hwn, fel y gwyddoch, ac nid ydym mewn sefyllfa i wneud penderfyniad mewn perthynas â hynny o hyd.

15:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n siŵr nad oedd y Gweinidog yn bwriadu camarwain y Siambr, ond honnodd mai dim ond gwerth £1 filiwn o wariant cyfalaf a roddwyd i Lywodraeth Cymru i’w wario yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Nid yw hynny'n wir, wrth gwrs. Yn ôl ffigurau eich Llywodraeth eich hun, y gyllideb derfynol ar gyfer y dyraniad cyfalaf i’ch adran, Weinidog, oedd £340 miliwn yn 2022-23, ac yn y flwyddyn ariannol gyfredol, mae’n £375 miliwn, sydd, wrth gwrs, yn gynnydd o £35 miliwn. Felly, hoffwn i’r Gweinidog gywiro’r cofnod.FootnoteLink

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw yw Diwrnod Fferyllwyr y Byd, diwrnod pan allwn gydnabod cyfraniad sylweddol fferyllwyr yn ein gwasanaeth iechyd. Gwyddom eu bod yn weithwyr proffesiynol medrus a gwybodus iawn, sy'n dod ag arbenigedd clinigol a gwyddonol i'r GIG. Fel arbenigwyr yn y defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau, maent yn chwarae rhan hanfodol fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer anhwylderau cyffredin a chyngor iechyd mewn fferyllfeydd cymunedol.

I ni, yn y Siambr hon—rwy’n falch fod y Gweinidog wedi aros i glywed hyn hefyd—mae gennym rôl i sicrhau bod fferyllwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u parchu. Mae hyn yn golygu cael y lefel gywir o staffio, y cymysgedd sgiliau cywir yn eu timau a chael cyfleoedd i ddatblygu eu gyrfa. Gwyddom gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol nad yw hyn bob amser yn wir ar hyn o bryd, yn anffodus. Felly, mae'n rhaid inni herio’r Llywodraeth hefyd wrth gwrs i sicrhau eu bod yn gwneud defnydd llawn o sgiliau fferyllwyr.

Yn 2026, bydd yr holl fferyllwyr graddedig yn bresgripsiynwyr cymwys, felly sut rydym yn gwneud defnydd llawn o’r adnodd hwn ar gyfer yr heriau sylfaenol sy’n wynebu gofal iechyd, sy’n cynnwys derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi, rheoli cyflyrau cronig a’r heriau byd-eang yn ogystal, fel ymwrthedd i wrthfiotigau? Mae gan fferylliaeth ran enfawr i’w chwarae, ond heddiw, gofynnaf i bob un ohonoch ymuno â mi i ddweud 'diolch o galon' wrth ein holl fferyllwyr yng Nghymru.

Wedi siom refferendwm 1979, roedd fy nhad ac eraill yn awyddus iawn i wneud rhywbeth positif i godi calonnau Cymry Cymraeg ein prifddinas. Creu clwb Cymraeg oedd y bwriad, fel ein cyfeillion draw ym Mhontypridd, a oedd yn ceisio gwneud yr un peth. Mewn un ymgyrch codi arian fe wnaeth fy rhieni gwrdd. Dechreuwyd cynnal gigs rheolaidd a, maes o law, wedi edrych ar nifer o leoliadau gwahanol, fe brynwyd hen glwb y British Legion ym Medi 1983. Cafwyd hwyl ryfeddol wrth dynnu i lawr jac yr undeb a symud placiau gydag enwau fel y Queen Elizabeth Jubilee Room i ffwrdd. Do, fe ddaeth y British Legion yn Clwb Ifor Bach, enw a oedd wedi mynd yn angof i bob pwrpas, sef Ifor ap Meurig a ddringodd tŵr Castell Caerdydd nepell o Womanby Street i gipio Iarll Caerloyw tan iddo gytuno i ddychwelyd y tir i Gymry topiau Morgannwg.

Roedd fy nhad wrth ei fodd yn cwrdd â chyplau oedd wedi cyfarfod yn Clwb Ifor Bach ac roedd yn hoffi dweud bod cyplau clwb Ifor yn byw ym mhob rhan o Gymru. Rwy’n credu, Dirprwy Lywydd, fod un Aelod o’r lle yma wedi gweithio fel bownser wrth y drws, ac Aelod arall wedi gweithio tu ôl y bar. Cewch chi ddyfalu pwy yw'r rheini. Mae clwb Ifor wedi newid llawer dros y 40 mlynedd diwethaf. Mae wedi wynebu sawl her ond goresgyn pob un, a braf yw gweld y cynlluniau i ehangu'r clwb. Pen-blwydd hapus, clwb Ifor. Ymlaen i’r hanner canrif. Diolch yn fawr.

5. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog—Gwneud offerynnau statudol yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE

Eitem 5 yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog—gwneud offerynnau statudol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd. Galwaf ar Heledd Fychan i wneud y cynnig ar ran y Pwyllgor Busnes.

Cynnig NDM8363 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Gwneud offerynnau statudol yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2023.

2. Yn cymeradwyo'r cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 21, 27, 30B a 30C, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

15:50

Nid oes unrhyw siaradwyr ar gyfer yr eitem hon, felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—Datganoli dŵr yn llawn

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Janet Finch-Saunders.

Eitem 6, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—datganoli dŵr yn llawn. Galwaf ar Rhys ab Owen i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8274 Rhys ab Owen, Mike Hedges, Jane Dodds

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol i Lywodraeth y DU gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio'r ffin cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer dŵr gyda'r ffin genedlaethol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am y pwerau i drwyddedu cyflenwad dŵr neu drwyddedai carthffosiaeth a thrwy hynny ddatganoli dŵr yn llawn i Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Cymru yn enwog am ddŵr:

‘Dŵr sydd yn llifo dros y wlad’,

fel y dywedodd Huw Jones,

'Lle bu fy mam a nhad / A'm brodyr a'm chwiorydd / A minnau'n byw’.

Ie, mae dŵr yn fater gwleidyddol iawn yng Nghymru. Gellid dadlau bod boddi cymunedau Cymreig wedi arwain at y deffroad cenedlaethol a wnaeth maes o law arwain at sefydlu y lle hwn. Ond dwi ddim eisiau siarad yn ormodol am y gorffennol. Mae ddoe wedi mynd; does dim modd ei newid, ond mae’r gallu gyda ni heddiw i wella pethau ar gyfer bywydau pobl Cymru ac amgylchedd ein gwlad.

Dyw rheolaeth San Steffan dros adnoddau Cymru ddim mor amlwg heddiw ag oedd e yn y 1960au, ond mae bylchau o fewn ein deddfwriaeth yn galluogi cwmnïau o hyd i ddefnyddio dŵr ein gwlad ar gyfer creu elw sylweddol, tra bod biliau pobl Cymru yn cynyddu.

Mae Cymru, unwaith eto, yn unigryw yn ei diffyg gallu i reoli ei dŵr ei hun. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae’r pwerau sy’n ymwneud â dŵr a charthffosiaeth wedi’u datganoli’n llawn. Drwy gefnogi’r cynnig hwn, byddwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru wneud y cais ffurfiol sydd ei angen i gychwyn datganoli dŵr yn llawn yng Nghymru, a dylem fod wedi gwneud hyn amser maith yn ôl.

Mae’r ddadl rwy’n bwriadu ei gwneud heddiw yn un sy’n seiliedig ar degwch, y cysyniad Cymreig enwog o chwarae teg; y dylai Cymru fod yn rheoli ei dŵr ei hun, ac y dylem allu penderfynu beth sydd orau i’w wneud ag ef. Yn hollbwysig, credaf y dylem allu dod â’n seilwaith gwastraff Fictoraidd i’r unfed ganrif ar hugain heb unrhyw rwystrau, boed hynny gan gwmnïau neu gan San Steffan. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi dangos pa mor fregus yw dyfrffyrdd Cymru a Lloegr. Mae hwn yn fater pwysig, a fydd ond yn dod yn fwy dybryd wrth i'r argyfwng hinsawdd waethygu.

Mae rhan gyntaf y cynnig hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd yr awenau a gofyn i San Steffan gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, gan roi cymhwysedd deddfwriaethol i ni dros ein dŵr ein hunain. Fel y mae pethau yng Nghymru, dim ond pobl Cymru y gall ein cwmni dŵr gwladoledig, Dŵr Cymru, eu gwasanaethu, er ei fod yn rhychwantu’r ffin rhwng â Chymru a Lloegr. Yn y cyfamser, mae cwmni preifat Severn Trent, sydd wedi'i leoli yn Coventry, yn cael allforio dŵr o ogledd-ddwyrain Cymru i dde-orllewin Lloegr. Dywedir bod United Utilities, sy'n gwasanaethu gogledd Lloegr, wedi'i drwyddedu i fynd â'r hyn sy'n cyfateb i lond 100 pwll nofio Olympaidd o ddŵr y dydd o ogledd Cymru i gyflenwi Lerpwl a Swydd Gaer. A phwy sy'n cael cadw'r elw? Nid pobl Cymru, ond y cwmnïau dŵr preifat mawr.

Rwy’n siŵr y gallwn gofio bod Cymru gyfan wedi wynebu sychder y llynedd, gan fygwth ein sector amaethyddol, diogeledd bwyd, a bioamrywiaeth naturiol. Canfu adroddiad diogeledd bwyd y DU fod cynnyrch gwenith wedi gostwng 40 y cant yn 2020 o ganlyniad i sychder. Y cwestiwn rwy'n ei ofyn yw pam ein bod yn caniatáu i gwmnïau allforio ein dŵr am elw enfawr tra bo pobl Cymru yn wynebu biliau drud a thra bo ein cnydau a’n da byw yn dioddef.

Bydd cychwyn adran 48(1) yn caniatáu inni sicrhau bod yr ardal weithredol ar gyfer dŵr i Gymru’n unig yn cyd-fynd â’n ffin ddaearyddol, ac o ganlyniad, bydd hynny’n sicrhau mwy o degwch o ran ei werthu a’i ddosbarthu. Fe'i dywedaf yn glir: nid yw hyn yn ymwneud â rhwystro Lerpwl, Manceinion, a de-orllewin Lloegr rhag cael dŵr o ansawdd da; nid wyf yn awgrymu hynny am eiliad. Ond dylai'r Cymry allu elwa o allforio ein dŵr. Yn 2022, fe wnaeth uwch-Aelodau Torïaidd awgrymu’r syniad o fynd â dŵr o Lyn Efyrnwy ym Mhowys i ymdopi â sychder yn ne-ddwyrain Lloegr. Nid wyf yn erbyn hynny, ond yn sicr, dylem gael ein talu amdano.

Mae ail ran y cynnig hwn yn galw am gyflwyno cais ffurfiol am ddatganoli pwerau mewn perthynas â charthffosiaeth a’r cyflenwad dŵr, gan gwblhau’r broses o ddatganoli dŵr i Gymru i bob pwrpas.

Ar sawl achlysur, mae Alun Davies wedi mynegi ei bryderon am y bwlch yn y ddeddfwriaeth sy’n caniatáu i garthion gael eu dympio’n rhy aml i mewn i'n dyfrffyrdd. Mae digon o benawdau wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf am ddirywiad ein hafonydd. Mae gennym unigolion yn dechrau profi afonydd, fel afon Gwy, am eu bod wedi sylwi ar brinder eogiaid yn yr afon dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Dywedodd Delyth Jewell rai misoedd yn ôl fod gan Gymru ddigonedd o adnoddau naturiol, gan gynnwys dŵr, ond mae’r pŵer i reoli’r adnoddau hyn dan glo yn San Steffan ar hyn o bryd. Ni ddylai hwn fod yn fater pleidiol o gwbl. Yn debyg i HS2, dylem ni fel Senedd gydnabod bod hyn yn anghywir.

Mae'n drueni mawr fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn bum mlynedd yn ôl i San Steffan ohirio datganoli dŵr oherwydd ei fod yn gymhleth. Ni allaf weld y ddadl honno o gwbl. Mae afon Donwy'n mynd drwy naw gwlad a phedair prifddinas. Nid oes unrhyw bryderon ynghylch cymhlethdod yno. Felly, beth yw canlyniadau ymarferol yr oedi hwn? Cawsom lygredd ffosffad yn afon Dyfrdwy, cawsom garthion amrwd yn cael ei bwmpio i afonydd a môr sir Ddinbych 452 o weithiau y llynedd, mae gennym ysgarthion heb eu trin, weips gwlyb a throeth yn llifo drwy Barc Gwledig Bryngarw, a dim ond ambell enghraifft yw’r rheini, Ddirprwy Llywydd.

Y llynedd, rhyddhaodd Dŵr Cymru 600,000 o oriau, sy'n cyfateb i 68 o flynyddoedd, o garthion i mewn i afonydd, llynnoedd a moroedd Cymru. Dywedant ei bod yn rhy ddrud i wella'r system garthffosiaeth Fictoraidd yng Nghymru, sy'n achosi i garthion heb eu trin orlifo i mewn i ffynonellau dŵr Cymru yn ystod cyfnodau o law trwm. Fodd bynnag, nid ymddengys bod ganddynt gwynion am gostau wrth dalu gwerth £232,000 o fonysau i'w prif weithredwr yn 2022. Mae angen inni ddatganoli carthffosiaeth a'r cyflenwad dŵr yng Nghymru fel y gallwn uwchraddio ein gweithfeydd dŵr yn llwyr, datrys problem y carthffosydd Fictoraidd sy'n costio'n ddrud nid yn unig i ddefnyddwyr Cymru ond i'r amgylchedd hefyd.

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi dweud mai bwriad Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) yw gwneud Cymru yn lle glanach, iachach i fyw ynddo, ond hyd nes y bydd gennym reolaeth ar ein system garthffosiaeth a hyd nes y gallwn atal ein dŵr rhag cael ei allforio pan fo'i angen mor daer, bydd hynny'n parhau i fod yn freuddwyd gwrach. Galwaf ar Lywodraeth Cymru i roi eu harian ar eu gair, i ymuno â’n cyd-Aelodau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon a chwblhau’r broses o ddatganoli dŵr yng Nghymru. Os nad yw'n rhy gymhleth iddynt hwy, yn sicr, ni ddylai fod yn rhy gymhleth i ni. Diolch yn fawr.

15:55

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei henw hi. 

Ymddangosodd y gwelliant canlynol ar yr agenda:

Gwelliant 1—Janet Finch-Saunders

Dileu popeth a rhoi yn ei le

1. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ohirio deddfu adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017.

2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi dweud, mewn llythyr wedi'i gyfeirio at Lywodraeth y DU yn 2018, fod y broses o sicrhau bod cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yn cyd-fynd â ffiniau daearyddol yn gymhleth.

3. Yn croesawu parodrwydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda'u cymheiriaid yng Nghymru i gytuno ar amserlen sy'n gweithio orau i'r ddwy lywodraeth a'r diwydiant dŵr.