Y Cyfarfod Llawn

Plenary

12/09/2023

Cynnwys

Contents

Datganiad gan y Llywydd Statement by the Llywydd
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog 1. Questions to the First Minister
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 2. Business Statement and Announcement
3. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad Addysg ar RAAC 3. Statement by the Minister for Education and the Welsh Language: Education Update on RAAC
4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Adolygiad annibynnol ac adroddiadau 2020-21 Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd 4. Statement by the Minister for Climate Change: Independent review and Natural Resources Wales reports into flooding 2020-21
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig 5. Statement by the Deputy Minister for Climate Change: 20 mph default speed limit on restricted roads
6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol 6. Statement by the Minister for Education and the Welsh Language: Vocational Qualifications Review
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Motion to Suspend Standing Orders
7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ynni 7. Legislative Consent Motion on the Energy Bill
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Motion to suspend Standing Orders
8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig 8. Legislative Consent Motion on the Non-Domestic Rating Bill
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Motion to suspend Standing Orders
9. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 9. Debate on the General Principles of the Environment (Air Quality and Soundscapes) (Wales) Bill
10. Cyfnod Pleidleisio 10. Voting Time

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:29 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

Datganiad gan y Llywydd
Statement by the Llywydd

Prynhawn da i bawb, a chroeso i'r tymor newydd yma. Fe fyddwn ni'n cychwyn ar yr eitem gyntaf y prynhawn yma ar ôl i fi hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Bil Amaethyddiaeth (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 17 Awst eleni. Felly, mae cydsyniad wedi ei roi i'r Mesur yna. 

Good afternoon and welcome to this new parliamentary term. We will move to our first item this afternoon once I have informed the Senedd, in accordance with Standing Order 26.75, that the Agriculture (Wales) Bill was given Royal Assent on 17 August this year. So, assent was given.

13:30
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma, felly, fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf y tymor yma yn mynd i Russell George. 

The first item this afternoon is questions will be questions to the First Minister, and the first question this term is from Russell George. 

Isafbris Uned ar gyfer Alcohol
Minimum Unit Pricing for Alcohol

Diolch, Llywydd, and welcome back, all. 

Diolch, Llywydd, a chroeso yn ôl, bawb. 

1. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi diweddariad ar fanteision isafbris uned am alcohol? OQ59895

1. Will the Welsh Government provide an update on the benefits of minimum unit pricing for alcohol? OQ59895

Llywydd, last year, the British Liver Trust, drawing on authoritative advice from the World Health Organization, concluded that minimum unit pricing is amongst the most effective measures that can be taken to reduce alcohol-induced harm. As the policy is embedded in Wales, we should expect to see increased benefits from its adoption.

Llywydd, y llynedd, daeth y British Liver Trust, gan fanteisio ar gyngor awdurdodol gan Sefydliad Iechyd y Byd, i'r casgliad bod isafbris uned ymhlith y mesurau mwyaf effeithiol y gellir eu cymryd i leihau niwed a achosir gan alcohol. Wrth i'r polisi gael ei ymwreiddio yng Nghymru, dylem ddisgwyl gweld mwy o fanteision o'i fabwysiadu.

Thank you, First Minister. I looked at some of the reports from Scotland—there were 40 case studies carried out in Scotland—and I also looked at the Welsh Government's commissioned reports as well, and I took from that a different analysis from you. As much as I would like minimum unit pricing to work and be successful, that's not what I took from the evidence. I noticed there were some reports published, commissioned by the Welsh Government, and there's a table set out in a report that talked of people who are classified as increasing or higher risk drinkers, rising from 33 per cent in 2018 to 40 per cent in 2020, and to 45 per cent in 2022. So, clearly that data, and the table that was sitting behind that, were showing that the direction is going in the opposite direction to what you or I would have wanted, also implying that people are drinking more frequently, and twice as many people are binge drinking before minimum pricing was introduced. 

So, my concern is, and I'm sure it is yours also, that if people are spending more money on alcohol, they will have less money to spend on essentials such as food. So, I'd be grateful for your analysis of some of the work commissioned by the Welsh Government, and whether you feel it's appropriate to bring forward the Welsh Government's final evaluation report, because, clearly, if MUP is not having the desired health outcomes but is actually having a detrimental outcome for people's health, then there needs to be a rethink of this particular policy.

Diolch, Prif Weinidog. Edrychais ar rai o'r adroddiadau o'r Alban—cynhaliwyd 40 o astudiaethau achos yn yr Alban—ac edrychais hefyd ar adroddiadau a gomisiynwyd gan Llywodraeth Cymru hefyd, a chefais ddadansoddiad gwahanol i chi o hynny. Cymaint ag yr hoffwn i isafbris uned weithio a bod yn llwyddiannus, nid dyna'r hyn a gefais o'r dystiolaeth. Sylwais fod rhai adroddiadau wedi'u cyhoeddi, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae tabl a gyflwynir mewn adroddiad a oedd yn sôn am bobl sy'n cael eu hystyried yn yfwyr risg gynyddol neu uwch, yn codi o 33 y cant yn 2018 i 40 y cant yn 2020, ac i 45 y cant yn 2022. Felly, yn amlwg, roedd y data hynny, a'r tabl a oedd y tu ôl i hynny, yn dangos bod y cyfeiriad yn mynd i'r cyfeiriad arall i'r hyn y byddech chi neu minnau wedi ei eisiau, gan awgrymu hefyd bod pobl yn yfed yn amlach, a bod dwywaith cymaint o bobl yn goryfed mewn pyliau cyn i'r isafbris gael ei gyflwyno. 

Felly, fy mhryder i, ac rwy'n siŵr mai dyma eich pryder chithau hefyd, yw os yw pobl yn gwario mwy o arian ar alcohol, bydd ganddyn nhw lai o arian i'w wario ar hanfodion fel bwyd. Felly, byddwn i'n ddiolchgar am eich dadansoddiad o rywfaint o'r gwaith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, a pha un a ydych chi'n teimlo ei bod hi'n briodol cyflwyno adroddiad gwerthuso terfynol Llywodraeth Cymru, oherwydd, yn amlwg, os nad yw isafbris uned yn cael y canlyniadau iechyd a ddymunir ond yn cael canlyniad niweidiol i iechyd pobl mewn gwirionedd, yna mae angen ailystyried y polisi penodol hwn.

Well, Llywydd, I'm glad to hear Russell George say that he hopes the policy will succeed, because I think the evidence of the World Health Organization is that the policy does have its impact on those drinkers who are at the most hazardous end of alcohol addiction—people for whom high-strength, low-cost alcohol poses the greatest risk. I heard the Member refer to the Scottish experience. The Scottish evaluation—of course, Scotland ahead of us in terms of time—the final evaluation there, was published on 27 June. It showed a reduction in deaths wholly attributable to alcohol consumption of 13.4 per cent during the implementation period, and a reduction in hospital admissions wholly attributed to alcohol consumption of 4.1 per cent. Now, if we could mirror those achievements in Wales, then the policy would have been a very significant success.

The Member referred to the interim evaluations here in Wales. They are not as definitive in demonstrating the advantages of the policy, but, as I know the Member will recognise, they covered a very unusual period indeed. They covered that period of COVID restrictions, of lockdowns, when we know there were wider impacts on people's drinking behaviours. We will award four different contracts to complete the final evaluation of the Public Health (Minimum Price for Alcohol) (Wales) Act 2018, and those reports will be available to Members in time for this Senedd to take a view on the sunset clause that is in the legislation, and to do that ahead of the next Senedd elections. 

I hope very much that the successes that have been seen elsewhere from this policy—a policy that, as I said in my answer, was very specifically endorsed by the World Health Organization as one of the most effective measures that policy makers can take—will turn out to have the same impact here in Wales. 

Wel, Llywydd, rwy'n falch o glywed Russell George yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd y polisi yn llwyddo, oherwydd rwy'n credu mai tystiolaeth Sefydliad Iechyd y Byd yw bod y polisi yn cael ei effaith ar yr yfwyr hynny sydd ar ben mwyaf peryglus dibyniaeth ar alcohol—pobl y mae alcohol cryfder uchel, cost isel yn peri'r risg fwyaf iddyn nhw. Clywais yr Aelod yn cyfeirio at brofiad yr Alban. Cyhoeddwyd gwerthusiad yr Alban—wrth gwrs, mae'r Alban o'n blaenau ni o ran amser—y gwerthusiad terfynol yno, ar 27 Mehefin. Dangosodd ostyngiad i nifer y marwolaethau y gellir eu priodoli'n llwyr i yfed alcohol o 13.4 y cant yn ystod y cyfnod gweithredu, a gostyngiad i nifer y derbyniadau i'r ysbyty a briodolir yn llwyr i yfed alcohol o 4.1 y cant. Nawr, pe gallem ni adlewyrchu'r llwyddiannau hynny yng Nghymru, yna byddai'r polisi wedi bod yn llwyddiant sylweddol iawn.

Cyfeiriodd yr Aelod at y gwerthusiadau interim yma yng Nghymru. Dydyn nhw ddim mor ddiffiniol o ran dangos manteision y polisi, ond, fel y gwn y bydd yr Aelod yn ei gydnabod, roedden nhw'n ymdrin â chyfnod anarferol dros ben. Roedden nhw'n ymdrin â'r cyfnod hwnnw o gyfyngiadau COVID, o gyfyngiadau symud, pan ein bod ni'n gwybod y bu effeithiau ehangach ar ymddygiadau yfed pobl. Byddwn yn dyfarnu pedwar gwahanol gontract i gwblhau'r gwerthusiad terfynol o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, a bydd yr adroddiadau hynny ar gael i'r Aelodau mewn pryd i'r Senedd hon fabwysiadu safbwynt ar y cymal machlud sydd yn y ddeddfwriaeth, ac i wneud hynny cyn etholiadau nesaf y Senedd. 

Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y llwyddiannau a welwyd mewn mannau eraill o'r polisi hwn—polisi, fel y dywedais i yn fy ateb, a gymeradwywyd yn benodol iawn gan Sefydliad Iechyd y Byd fel un o'r mesurau mwyaf effeithiol y gall llunwyr polisi eu cymryd—yn cael yr un effaith yma yng Nghymru yn y pen draw. 

13:35
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Betsi Cadwaladr University Health Board

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sefyllfa ariannol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ59880

2. Will the First Minister make a statement on the financial situation at Betsi Cadwaladr University Health Board? OQ59880

Llywydd, diolch. Ar ôl dros ddegawd o gyni, mae effaith chwyddiant rhemp wedi lleihau gwerth y gyllideb sydd ar gael i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fel pob corff cyhoeddus arall yng Nghymru. Yn y flwyddyn ariannol hon, mae'r bwrdd yn darogan bwlch o £134 miliwn rhwng yr adnoddau sydd ar gael a'r gwariant a ragwelir.

Llywydd, thank you. After more than a decade of austerity, the impact of rampant inflation has reduced the value of the budget available to Betsi Cadwaladr University Health Board, as with all other public bodies in Wales. In this financial year, the board predicts a gap of £134 million between the available resources and anticipated expenditure.

Rydych chi'n berffaith iawn, wrth gwrs—mae hi'n wasgfa eithriadol. Yng nghinio Conffederasiwn yr NHS neithiwr, mi ddywedodd eich Gweinidog iechyd chi, yng nghyd-destun toriadau cyllideb:

You are entirely right, of course—the pressures are huge. At the NHS Confederation dinner yesterday evening, your Minister for health said, in the context of cuts:

'You ain't seen nothing yet.'

'Dydych chi ddim wedi gweld dim byd eto.'

Dyna oedd y geiriau a ddefnyddiodd hi, gyda'r awgrym cryf y byddai gofyn am doriadau eleni—hynny yw, in-year cuts—o'r gyllideb bresennol. Felly, allwch chi gadarnhau a fydd y Llywodraeth yn gofyn i fyrddau iechyd—a bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, wrth gwrs, yn un ohonyn nhw—ffeindio toriadau yn eu cyllidebau eleni? Ac o gofio, fel rydych chi wedi ei ddweud yn eich ateb gynnau, na fydd y rhan fwyaf ohonyn nhw'n llwyddo i falansio eu llyfrau beth bynnag, pa effaith fyddai hynny'n ei chael ar eu cyllidebau nhw, ond hefyd ar y gwasanaethau y maen nhw'n gallu eu cynnig?

Those are the words that she used, with the strong suggestion that there would be need for cuts this year—that is, in-year cuts—in the current budget. So, can you confirm whether the Government will ask health boards—and Betsi Cadwaladr health board, of course, being one of them—to find cuts in their budgets this year? And bearing in mind, as you said in your earlier response, that most of them won't balance their books in any case, what impact would that have on their budgets, but also on the services that they are able to provide?

Llywydd, the Welsh Government is not making any requests of the health boards to cut down on the budgets that were made available to them by this Senedd in our vote on the final budget. We are having to ask boards to reduce the level of over-expenditure that they have been predicting this year. So, it's not a matter of us asking them to spend less than we've given them; it's asking them not to spend even more than we have given them. And the reason that all health boards in Wales, for the very first time, are predicting overspends is because of the cumulative impacts of budgets held back by the UK Government, year after year, for more than a decade, and, now, the impact of that made even more significant by the effects of rampant inflation, the effects of energy cost prices on the budgets of our health boards. The effort that the health Minister is making with ministerial colleagues is to mitigate those impacts in the health service. Those efforts that we are making need to be matched by efforts the health boards themselves make, and I have every confidence that they will be doing just that.

Llywydd, nid yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw geisiadau i'r byrddau iechyd leihau'r cyllidebau a wnaed ar gael iddyn nhw gan y Senedd hon yn ein pleidlais ar y gyllideb derfynol. Mae'n rhaid i ni ofyn i fyrddau leihau lefel y gorwariant y maen nhw wedi bod yn ei rhagweld eleni. Felly, nid yw'n fater o ni yn gofyn iddyn nhw wario llai nag yr ydym ni wedi ei roi iddyn nhw; mae'n fater o ofyn iddyn nhw beidio â gwario hyd yn oed yn fwy nag yr ydym ni wedi ei roi iddyn nhw. A'r rheswm y mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru, am y tro cyntaf erioed, yn rhagweld gorwariant yw oherwydd effeithiau cyfunol cyllidebau sy'n cael eu cadw yn ôl gan Lywodraeth y DU, flwyddyn ar ôl blwyddyn, am fwy na degawd, a, nawr, effaith hynny yn cael ei wneud hyd yn oed yn fwy arwyddocaol gan effeithiau chwyddiant rhemp, effeithiau prisiau costau ynni ar gyllidebau ein byrddau iechyd. Yr ymdrech y mae'r Gweinidog iechyd yn ei gwneud gyda chydweithwyr gweinidogol yw lliniaru'r effeithiau hynny yn y gwasanaeth iechyd. Mae angen i'r ymdrechion hynny yr ydym ni'n eu gwneud gael eu cyfateb gan ymdrechion y mae'r byrddau iechyd eu hunain yn eu gwneud, ac mae gen i bob hyder y byddan nhw'n gwneud yn union hynny.

First Minister, this is a health board that has had its finances under the spotlight for a number of years now, including under the spotlight of Welsh Government officials. Yet, we learnt that, just a few weeks ago, it was found by Audit Wales that there was a nursing director—the executive nursing director—who was being paid more than three times the permitted financial compensation for her role, at a rate of £469,500 per year, between 1 April and 31 July 2022. Clearly, that is unacceptable. It's outside of the Welsh Government's own rules. What are you doing to make sure that Betsi Cadwaladr health board, and, indeed, every other health board in Wales, plays by the rules that you set, because you're clearly not policing them well enough?

Prif Weinidog, mae hwn yn fwrdd iechyd y bu chwyddwydr ar ei gyllid am nifer o flynyddoedd bellach, gan gynnwys chwyddwydr swyddogion Llywodraeth Cymru. Ac eto, clywsom, dim ond ychydig wythnosau yn ôl, bod Archwilio Cymru wedi canfod bod cyfarwyddwr nyrsio—y cyfarwyddwr nyrsio gweithredol—a oedd yn cael ei dalu fwy na thair gwaith y gydnabyddiaeth ariannol a ganiateir ar gyfer ei swydd, ar gyfradd o £469,500 y flwyddyn, rhwng 1 Ebrill a 31 Gorffennaf 2022. Yn amlwg, mae hynny'n annerbyniol. Mae y tu allan i reolau Llywodraeth Cymru ei hun. Beth ydych chi'n ei wneud i wneud yn siŵr bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ac, yn wir, pob bwrdd iechyd arall yng Nghymru, yn gweithredu'n unol â'r rheolau yr ydych chi'n eu gosod, oherwydd mae'n amlwg nad ydych chi'n eu plismona'n ddigon da?

I agree with Darren Millar that it is completely unacceptable that the previous board should have overseen the overpayment to one of its executive members on the scale that Darren Millar just outlined, breaching not only the board's own instructions, but the instructions of the Welsh Government. What we have done is to replace the board with a new chief executive and a new chair, who are now having to investigate how that mistake was made and to put it right. There was nothing wrong with the framework, there was nothing wrong with the rules that were in place. What was beyond what is acceptable is the oversight of those rules at the board. Many Members on the benches opposite have defended the previous board, have questioned the Welsh Government's actions in bringing new people in to oversee it. This is a very good example of why that was necessary.

Rwy'n cytuno â Darren Millar ei bod hi'n gwbl annerbyniol bod y bwrdd blaenorol wedi goruchwylio'r gordaliad i un o'i aelodau gweithredol ar y raddfa y mae Darren Millar newydd ei amlinellu, gan dorri nid yn unig cyfarwyddiadau'r bwrdd ei hun, ond cyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw disodli'r bwrdd gyda phrif weithredwr newydd a chadeirydd newydd, sydd bellach yn gorfod ymchwilio i sut y gwnaed y camgymeriad hwnnw a'i gywiro. Doedd dim byd o'i le ar y fframwaith, doedd dim byd o'i le gyda'r rheolau a oedd ar waith. Yr hyn a oedd y tu hwnt i'r hyn sy'n dderbyniol yw'r oruchwyliaeth o'r rheolau hynny yn y bwrdd. Mae llawer o Aelodau ar y meinciau gyferbyn wedi amddiffyn y bwrdd blaenorol, wedi cwestiynu gweithredoedd Llywodraeth Cymru o ran dod â phobl newydd i mewn i'w oruchwylio. Mae hyn yn enghraifft dda iawn o pam roedd hynny'n angenrheidiol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Questions now from the party leaders. The leader of the Welsh Conservatives, Andrew R.T. Davies.

Thank you, Presiding Officer, and can I welcome everyone back after the summer recess?

The Welsh Government is bringing forward one of its most contentious policies—the 20 mph default speed limit. That is within your manifesto, First Minister—I accept that—and it's within the gift of the Government to bring that forward because it has the votes within this Chamber. But, clearly, there are many people who have strong reservations about the impact of this 20 mph default speed limit. What assessment will the Government commit to making, when this speed limit comes in, of the impact that it will have on the economy—your own papers show a £4.5 billion impact; at the top rate it's £8.9 billion—and ultimately the ability to hit the goals that you have set that will take down casualty rates and accident rates in sensitive areas? 

Diolch, Llywydd, ac a gaf i groesawu pawb yn ôl ar ôl toriad yr haf?

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno un o'i pholisïau mwyaf dadleuol—y terfyn cyflymder diofyn o 20 mya. Mae hynny yn eich maniffesto, Prif Weinidog—rwy'n derbyn hynny—ac mae gan y Llywodraeth berffaith hawl i gyflwyno hynny gan fod ganddi'r pleidleisiau o fewn y Siambr hon. Ond, yn amlwg, ceir llawer o bobl sydd ag amheuon cryf ynghylch effaith y terfyn cyflymder diofyn 20 mya hwn. Pa asesiad wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i'w wneud, pan gaiff y terfyn cyflymder hwn ei gyflwyno, o'r effaith y bydd yn ei chael ar yr economi—mae eich papurau chi eich hun yn dangos effaith o £4.5 biliwn; mae'n £8.9 biliwn ar ben uchaf y raddfa—ac yn y pen draw y gallu i gyrraedd y nodau yr ydych chi wedi eu gosod a fydd yn lleihau cyfraddau anafiadau a chyfraddau damweiniau mewn ardaloedd sensitif?

13:40

Well, Llywydd, the leader of the opposition is right—this was a manifesto commitment of my party. It's been in the programme for government ever since the new Senedd term began, and this Government will keep its promise to people in Wales to bring about this reform. We will, of course, just as we have with the minimum unit pricing, have independent evaluation of the impact of this policy. The prospective evaluation showed that it would save up to 10 lives every year and up to 20,000 accidents over a 10-year period, and that the NHS would save £92 million every year as a result of the reduced casualties from road traffic accidents that this policy will help to promote. We will have an independent evaluation of that, of course, and, just as we published the interim evaluation of the minimum unit pricing, we will put into the public domain the result of the evaluations that we will commission.

Wel, Llywydd, mae arweinydd yr wrthblaid yn iawn—roedd hwn yn un o ymrwymiadau maniffesto fy mhlaid. Mae wedi bod yn y rhaglen lywodraethu ers cychwyn tymor newydd y Senedd, a bydd y Llywodraeth hon yn cadw ei haddewid i bobl yng Nghymru i gyflawni'r diwygiad hwn. Byddwn ni, wrth gwrs, yn union fel yr ydym ni wedi ei gael gyda'r isafbris uned, yn cael gwerthusiad annibynnol o effaith y polisi hwn. Dangosodd y gwerthusiad arfaethedig y byddai'n achub hyd at 10 o fywydau bob blwyddyn a hyd at 20,000 o ddamweiniau dros gyfnod o 10 mlynedd, ac y byddai'r GIG yn arbed £92 miliwn bob blwyddyn o ganlyniad i'r nifer lai o bobl wedi'u hanafu o ddamweiniau traffig ffyrdd y bydd y polisi hwn yn helpu i'w hybu. Byddwn yn cael gwerthusiad annibynnol o hynny, wrth gwrs, ac, yn union fel y gwnaethom ni gyhoeddi'r gwerthusiad interim o'r isafbris uned, byddwn yn cyhoeddi canlyniad y gwerthusiadau y byddwn ni'n eu comisiynu.

One of the things that has been highlighted, First Minister, is the knock-on effect this will have on emergency services. The ambulance service, for example, have said that, in their working plan and management tool, ambulances can only travel at 20 mph over the speed limit. So, whereas in a 30  mph zone they can do 60 mph if they're blue-lighting it at the moment, they will be going down to 40 mph. We've seen letters and correspondence from South Wales Police that there will potentially be a knock-on effect. What discussions have the Welsh Government had to change the working framework that the blue-light services will have to operate under so that there will not be an unintended consequence of ambulances being delayed or emergency blue-light services delayed in getting to those vital call-outs that this policy could potentially affect? 

Un o'r pethau sydd wedi cael eu hamlygu, Prif Weinidog, yw'r sgil-effaith y bydd hyn yn ei chael ar y gwasanaethau brys. Mae'r gwasanaeth ambiwlans, er enghraifft, wedi dweud, yn eu cynllun gwaith a'u dull rheoli, mai dim ond 20 mya dros y terfyn cyflymder y gall ambiwlansys deithio. Felly, er eu bod yn gallu teithio 60 mya mewn ardal 30mya os ydyn nhw'n defnyddio'r goleuadau glas ar hyn o bryd, byddan nhw'n mynd i lawr i 40 mya. Rydym ni wedi gweld llythyrau a gohebiaeth gan Heddlu De Cymru y bydd sgil-effaith o bosibl. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael i newid y fframwaith gwaith y bydd yn rhaid i'r gwasanaethau golau glas weithredu yn unol ag ef fel na fydd canlyniad anfwriadol o ambiwlansys yn cael eu hoedi neu wasanaethau goleuadau glas yn cael eu hoedi cyn cyrraedd y galwadau hanfodol hynny y gallai'r polisi hwn effeithio arnyn nhw o bosibl? 

Llywydd, we have those conversations all the time. I don't think that those anxieties are shared by the services either. I think that those anxieties will not be borne out in practice. All our blue-light services are used in Wales to dealing with 20 mph, 30 mph, 40 mph, 50 mph, 60 mph, 70mph restrictions on different roads in different contexts. They manage that perfectly successfully; they will manage this in exactly the same way. 

Llywydd, rydym ni'n cael y sgyrsiau hynny drwy'r amser. Nid wyf i'n credu bod y pryderon hynny'n cael eu rhannu gan y gwasanaethau chwaith. Rwy'n credu na fydd y pryderon hynny yn cael eu cadarnhau yn ymarferol. Mae ein holl wasanaethau golau glas yng Nghymru wedi arfer ag ymdrin â chyfyngiadau 20 mya, 30 mya, 40 mya, 50 mya, 60 mya, 70 mya ar wahanol ffyrdd mewn gwahanol gyd-destunau. Maen nhw'n rheoli hynny yn berffaith lwyddiannus; byddan nhw'n rheoli hyn yn union yr un ffordd. 

Well, there have been concerns expressed by those in the emergency services. By your own figures, as well, First Minister, it is recognised that potentially this could have a knock-on effect on economic activity of £8.9 billion. Those are your own figures. The medium range is £4.5 billion. That isn't an inconsiderable sum of money when you are considering the opportunities that will be taken away from the Welsh economy. Twenty mph zones are sensible outside schools, hospitals, care homes and other areas where the argument can be made, but the default position that, obviously, the Government have taken, to have a blanket 20 mph, is the wrong option, First Minister. I urge you, as many people have indicated, that they have not been taken along by this policy—.  The ITV poll today shows over two thirds of the people of Wales do not agree with the policy you've put forward, and, indeed, the former Minister and the Member for Clwyd South has indicated that the Government have failed to take people along on this policy. So, why are you continuing to pursue the policy when it is quite clearly not accepted by the large majority of the people of Wales, and, ultimately, if you look at surveys from Belfast, the goals that you have set yourselves will not be met? 

Wel, mae pryderon wedi cael eu mynegi gan y rhai sydd yn y gwasanaethau brys. Yn ôl eich ffigurau eich hun, hefyd, Prif Weinidog, cydnabyddir y gallai hyn gael sgil-effaith o £8.9 biliwn ar weithgarwch economaidd. Eich ffigurau eich hun yw'r rheini. £4.5 biliwn yw'r raddfa ganolig. Nid yw hwnnw'n swm dibwys o arian pan fyddwch chi'n ystyried y cyfleoedd a fydd yn cael eu cymryd oddi wrth economi Cymru. Mae ardaloedd 20 mya yn synhwyrol y tu allan i ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal ac ardaloedd eraill lle gellir gwneud y ddadl, ond y safbwynt diofyn y mae'r Llywodraeth, yn amlwg, wedi ei fabwysiadu, i gael 20 mya cyffredinol, yw'r opsiwn anghywir, Prif Weinidog. Rwy'n erfyn arnoch chi, fel y mae llawer o bobl wedi ei nodi, nad ydyn nhw wedi cael eu twyllo gan y polisi hwn—. Mae'r arolwg barn gan ITV heddiw yn dangos nad yw dros ddwy ran o dair o bobl Cymru yn cytuno â'r polisi yr ydych chi wedi ei gyflwyno, ac, yn wir, mae'r cyn Weinidog a'r Aelod dros Dde Clwyd wedi nodi bod y Llywodraeth wedi methu ag argyhoeddi pobl ynghylch y polisi hwn. Felly, pam ydych chi'n parhau i fynd ar drywydd y polisi pan ei bod yn gwbl amlwg nad yw'n cael ei dderbyn gan fwyafrif helaeth pobl Cymru, ac, yn y pen draw, os edrychwch chi ar arolygon o Belfast, na fydd y nodau yr ydych chi wedi eu gosod eich hunain yn cael eu cyflawni? 

Well, there are a whole string of points to be corrected there, Llywydd. We will continue with the policy because the policy was voted for by people in Wales in an election, and I can tell you that any change—any change—in this area is often opposed by people before the change comes about. I am quite old enough to remember the introduction of the breathalyser, when people felt that it was perfectly okay for them to spend the day in the pub and then drive home in the car when they were quite unfit to do so. There was just as much controversy about that as there is about this, as there always is when you bring about change. Once the change is there and people see it operating in their areas, as it has been in the part of Cardiff where I live for a number of years now, then people will see the advantages and I don't believe people will want to return to anything else.

It is not a blanket policy. Let's just make sure that we understand what the policy is. It is a default policy and then local authorities are able to designate roads at a 30 mph speed where it is sensible for them to do so. I've been out as much as I can recently, trying to explain the policy and advocate for it. I don't always do it as eloquently as others, so let me just quote what a different Member of the Senedd said on this in a debate here on the floor of the Senedd:

'It's a common sense and it's a safe move. A person is seven times less likely to die if hit at 20 mph than 30 mph, or 10 times if they're over the age of 60.'

The Member ended by saying:

'The de-facto standard for safer and people-friendly streets is now 20 mph with higher limits only where they can be justified.'

Well, I agreed with what Janet Finch-Saunders said in that debate. It is not a blanket ban. It is the default measure, as Janet said—it is the default position, which local authorities can then override when they wish to do so.

Let me give you the best evidence that there is. Russell George said in his opening question that he hoped that minimum unit pricing would succeed because the evidence from the rest of the world is that it saves lives and it targets those who need that help the most. In Spain, where they have had 20 mph zones for a number of years—[Interruption.] No, 20 mph as their default position, as we will in Wales—the very policy you advocated so eloquently, Janet. There, urban deaths from road accidents have fallen by 20 per cent. The number of cyclists killed in road traffic accidents has been reduced by 34 per cent. I can't imagine that there's anybody on the floor of this Senedd who would think that it was an unfair price to ask somebody to pay to drive a little more slowly, when you know that by doing that you are helping to keep other people alive.

Wel, mae cyfres faith o bwyntiau i'w cywiro yn y fan yna, Llywydd. Byddwn yn bwrw ymlaen â'r polisi gan fod pobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros y polisi mewn etholiad, a gallaf ddweud wrthych chi fod unrhyw newid—unrhyw newid—yn y maes hwn yn aml yn cael ei wrthwynebu gan bobl cyn i'r newid gael ei wneud. Rwy'n sicr yn ddigon hen i gofio cyflwyniad yr anadlennydd, pan oedd pobl yn teimlo ei bod hi'n berffaith iawn iddyn nhw dreulio'r diwrnod yn y dafarn ac yna gyrru adref yn y car pan nad oedden nhw mewn unrhyw gyflwr i wneud hynny. Roedd cymaint o ddadlau am hynny ag y mae am hyn, ac mae yna bob amser pan fyddwch chi'n cyflawni newid. Unwaith mae'r newid yno ac mae pobl yn ei weld yn gweithredu yn eu hardaloedd, fel y digwyddodd yn y rhan o Gaerdydd lle'r wyf i wedi byw ers nifer o flynyddoedd bellach, yna bydd pobl yn gweld y manteision ac nid wyf i'n credu y bydd pobl eisiau dychwelyd i ddim byd arall.

Nid yw'n bolisi cyffredinol. Gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n deall beth yw'r polisi. Mae'n bolisi diofyn ac yna gall awdurdodau lleol ddynodi ffyrdd ar gyflymder o 30 mya lle mae'n synhwyrol iddyn nhw wneud hynny. Rwyf i wedi bod allan cymaint ag y gallaf yn ddiweddar, yn ceisio esbonio'r polisi ac eirioli drosto. Nid wyf i bob amser yn ei wneud mor huawdl ag eraill, felly gadewch i mi ddyfynnu'r hyn a ddywedodd gwahanol Aelod o'r Senedd am hyn mewn dadl yma ar lawr y Senedd:

'Mae'n synnwyr cyffredin ac mae'n gam diogel. Mae unigolyn saith gwaith yn llai tebygol o farw os yw'n cael ei daro ar 20 mya na 30 mya, neu 10 gwaith os yw dros 60 oed.'

Fe wnaeth yr Aelod gloi gan ddweud:

'Y safon mewn gwirionedd ar gyfer strydoedd mwy diogel a chyfeillgar i bobl erbyn hyn yw 20 mya, gyda therfynau uwch dim ond lle gellir eu cyfiawnhau.'

Wel, roeddwn i'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders yn y ddadl honno. Nid yw'n waharddiad cyffredinol. Dyma'r mesur diofyn, fel y dywedodd Janet—dyma'r sefyllfa ddiofyn, y gall awdurdodau lleol ei diystyru wedyn pan fyddan nhw'n dymuno gwneud hynny.

Gadewch i mi roi'r dystiolaeth orau sy'n bodoli i chi. Dywedodd Russell George yn ei gwestiwn agoriadol ei fod yn gobeithio y byddai isafbris uned yn llwyddo gam mai'r dystiolaeth o weddill y byd yw ei fod yn achub bywydau a'i fod yn targedu'r rhai sydd angen y cymorth hwnnw fwyaf. Yn Sbaen, lle bu ganddyn nhw ardaloedd 20 mya ers nifer o flynyddoedd—[Torri ar draws.] Na, 20 mya fel eu sefyllfa ddiofyn, fel y bydd gennym ni yng Nghymru—yr union bolisi y gwnaethoch chi eirioli drosto mor huawdl, Janet. Yno, mae marwolaethau trefol o ddamweiniau ffordd wedi gostwng 20 y cant. Mae nifer y beicwyr sy'n cael eu lladd mewn damweiniau traffig ffyrdd wedi gostwng 34 y cant. Ni allaf ddychmygu bod unrhyw un ar lawr y Senedd hon a fyddai'n meddwl ei fod yn bris annheg i ofyn i rywun ei dalu i yrru ychydig yn arafach, pan fyddwch chi'n gwybod eich bod chi'n helpu i gadw pobl eraill yn fyw drwy wneud hynny.

13:45

Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Leader of Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Lywydd. Mae'n braf bod yn ôl ar ôl toriad yr haf. Mae'n amlwg bod y gwres wedi dweud ar rai. Nid yw'n synnu dim arnaf i weld y Ceidwadwyr yn gofyn cwestiynau am yr uchafswm cyflymder heddiw. Wedi gweld cyfle i chwarae gwleidyddiaeth y maen nhw—mae o mor syml â hynny, dwi'n ofni. Rydw i yn credu, serch hynny, fod yna gonsyrns go iawn gan bobl sydd yn gefnogol o'r egwyddor—consyrns am sut mae'r Llywodraeth wedi gweithredu'r newid, pa mor eang ydy o—ac rydw i'n credu'n gryf y bydd angen adolygu hyn ar ôl gweld sut mae o'n gweithredu'n ymarferol. Mi gawn ni drafod mwy ar hynny yn nes ymlaen heddiw ac yfory.

Rydw i yn cytuno 100 y cant â'r Prif Weinidog pan ddywedodd o ychydig ddyddiau yn ôl nad oedd angen iddo drafod y mater yma â Keir Starmer, oherwydd mater wedi ei ddatganoli ydy o. Ond, mae yna faterion eraill y dylai, ac yn wir y mae'n ddyletswydd ar Brif Weinidog Cymru i fod yn argyhoeddi Keir Starmer arnyn nhw. Un enghraifft ydy'r modd y mae'r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain wedi crebachu cyllideb Cymru o £3 biliwn. Felly, yng ngoleuni'r rhybuddion y bydd toriadau pellach—£900 miliwn eleni, efallai—pa sicrwydd y mae'r Prif Weinidog wedi'i gael gan arweinydd ei blaid y byddai'r holl arian hwnnw yn dychwelyd i goffrau Llywodraeth Cymru pe bai y Blaid Lafur mewn grym yn San Steffan? Ydyn ni'n gallu cael y sicrwydd hwnnw heddiw?

Thank you, Llywydd. It's good to be back after the summer recess. It's clear that the high temperatures have told on some. It doesn't surprise me to hear the Conservatives asking questions on the speed limits. They're playing politics, I'm afraid. I do feel, however, that there are some real concerns from people who are supportive of the principle—concerns about how the Government has implemented the change and how broad it is—and I do strongly believe that we will need to review this once we see how it works in practice. We can discuss that a little later this afternoon and tomorrow.

I do agree 100 per cent with the First Minister when he said a few days ago that he didn't need to discuss this issue with Keir Starmer because it is a devolved issue. But there are other issues that the First Minister of Wales should and, indeed, is duty bound to convince Keir Starmer of. One example is the way in which the Conservative Government in London has reduced the Welsh Government's budget by £3 billion. So, in light of the warnings that there will be further cuts—£900 million this year, perhaps—what assurance has the First Minister received from the leader of his party that all of that money would be returned to Welsh Government coffers if the Labour Party were in power in Westminster? Can we have that assurance today?

I ddechrau, diolch i arweinydd Plaid Cymru am beth ddywedodd e am y polisi i dynnu'r cyflymder ar yr heol yn ôl. Mae'r pwyntiau yr oedd yn eu gwneud am bwysigrwydd adolygu'r polisi yn bwyntiau rhesymol. Wrth gwrs rydym yn mynd i wneud hynny, achos pan fydden ni'n gwneud rhywbeth newydd fel hyn, mae'n bwysig dysgu o'r profiadau rydym yn mynd i'w gweld ledled Cymru, a dyna beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud gan gydweithio gyda’r bobl yn yr awdurdodau lleol.

To start, I'd like to thank Plaid Cymru's leader for what he said about the policy on reducing the maximum speed limit on the roads. The point that he made about the importance of reviewing the policy is a reasonable point. Of course we're going to do that, because when we do something new like that, it's important to learn from the experience and do so across the length and breadth of Wales, and that's what the Welsh Government will do in collaboration with those in local authorities.

As far as Keir Starmer is concerned, of course we are in regular discussion with our colleagues in the UK Labour Party. We understand the circumstances that they will face if and when they become the Government, given the financial mess that they will inherit.

What I say to the Member is instead of asking me speculative questions about what may or may not happen in the future, let's look at what has happened already, because Keir Starmer has made a specific commitment that European funds, as were, will in future be put in the hands of the Welsh Government when they are to be used in Wales. So, that is a very specific commitment; it demonstrates, I think, an understanding on the part of the Labour leadership of where devolved responsibilities properly lie. They will look to strengthen this Senedd and they will look to make sure that we have the resources that we need to discharge those responsibilities. They will have no magic wand on the first day, but they will have a very, very different purpose behind the decisions that they will make and I believe a very, very different relationship with whoever is in Government here.

Cyn belled ag y mae Keir Starmer yn y cwestiwn, wrth gwrs, rydym ni'n trafod yn rheolaidd gyda'n cydweithwyr ym Mhlaid Lafur y DU. Rydym ni'n deall yr amgylchiadau y byddan nhw'n eu hwynebu os a phan fyddan nhw'n ffurfio Llywodraeth, o gofio'r llanast ariannol y byddan nhw'n ei etifeddu.

Yr hyn y gwnaf i ei ddweud wrth yr Aelod yw gadewch i ni, yn hytrach na gofyn cwestiynau damcaniaethol i mi am yr hyn a allai ddigwydd neu ddim digwydd yn y dyfodol, edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd eisoes, oherwydd mae Keir Starmer wedi gwneud ymrwymiad penodol y bydd cyllid Ewropeaidd, fel yr oedd, yn cael ei roi yn nwylo Llywodraeth Cymru yn y dyfodol pan fwriedir iddyn nhw gael eu defnyddio yng Nghymru. Felly, mae hwnnw'n ymrwymiad penodol iawn; mae'n dangos, rwy'n credu, ddealltwriaeth ar ran arweinyddiaeth y Blaid Lafur o le mae cyfrifoldebau datganoledig yn bodoli yn briodol. Eu nod fydd cryfhau'r Senedd hon a byddan nhw'n ceisio gwneud yn siŵr bod gennym ni'r adnoddau sydd eu hangen arnom ni i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny. Ni fydd ganddyn nhw hudlath ar y diwrnod cyntaf, ond bydd ganddyn nhw bwrpas gwahanol iawn, iawn yn sail i'r penderfyniadau y byddan nhw'n eu gwneud a pherthynas wahanol iawn, iawn rwy'n credu, gyda phwy bynnag sydd mewn Llywodraeth yma.

13:50

I think the people of Wales will be looking for assurances that a Labour Government would be restoring funding. We know that governments need resources in order to tackle inequalities and injustice. At the heart of my positive vision for Wales, Government needs resources in order to invest in infrastructure, and so far, the UK Labour Party have shown little interest in doing that. Keir Starmer seems pretty committed to doing whatever it takes to get into Downing Street, but what about the commitment to Wales? There's no commitment to giving Wales its £6 billion fair share of HS2 and Northern Powerhouse Rail funding, no commitment to undoing the real-terms cut in public sector pay, and that's despite the Labour First Minister for Wales saying that he wants both.

After last week's reshuffle, nearly 90 per cent of Labour MPs in Wales hold shadow ministerial positions, so, after years of the Conservatives letting Wales down, can the First Minister now pledge that, on HS2 and on public sector pay, Keir Starmer will now deliver on his wishes as the leader of the Labour Party in Wales?

Rwy'n credu y bydd pobl Cymru yn chwilio am sicrwydd y byddai Llywodraeth Lafur yn adfer cyllid. Rydym ni'n gwybod bod angen adnoddau ar lywodraethau er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac anghyfiawnder. Yn ganolog i'm gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer Cymru, mae angen adnoddau ar Lywodraeth er mwyn buddsoddi mewn seilwaith, a hyd yn hyn, nid yw Plaid Lafur y DU wedi dangos llawer o ddiddordeb mewn gwneud hynny. Mae'n ymddangos bod Keir Starmer yn eithaf ymrwymedig i wneud beth bynnag sydd ei angen i gyrraedd Downing Street, ond beth am yr ymrwymiad i Gymru? Nid oes unrhyw ymrwymiad i roi ei chyfran deg o £6 biliwn o gyllid HS2 a Northern Powerhouse Rail i Gymru, dim ymrwymiad i ddadwneud y toriad mewn termau real i gyflogau sector cyhoeddus, ac mae hynny er i Brif Weinidog Llafur Cymru ddweud ei fod eisiau'r ddau.

Ar ôl ad-drefniant yr wythnos ddiwethaf, mae bron i 90 y cant o ASau Llafur yng Nghymru mewn swyddi gweinidogol cysgodol, felly, ar ôl blynyddoedd o'r Ceidwadwyr yn siomi Cymru, a all y Prif Weinidog addo nawr y bydd Keir Starmer, o ran HS2 a chyflogau sector cyhoeddus, yn cyflawni bellach ei ddymuniadau ef fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru?

The leader of Plaid Cymru knows perfectly well that those are not pledges for me to make. What he is busy doing—let's be clear about the political narrative that he is attempting to build here—is attempting to persuade people that a Labour Government that has not even yet been elected and will only ever be elected because of the efforts of people on this side of the Chamber, and certainly not efforts that he will ever contribute to, has already let them down. That is his attempt. 'Labour will let you down'—that's the narrative he's attempting to manufacture. It won't wash with people in Wales; people in Wales will understand at the election that the main task in front of us will be to elect that Labour Government and the very different prospects for the future that it will bring.

Mae arweinydd Plaid Cymru yn gwybod yn iawn nad yw'r rheini'n addewidion i mi eu gwneud. Yr hyn y mae'n brysur yn ei wneud—gadewch i ni fod yn eglur am y naratif gwleidyddol y mae e'n ceisio ei ddatblygu yma—yw ceisio argyhoeddi pobl nad yw Llywodraeth Lafur hyd yn oed wedi cael ei hethol eto ac y bydd yn cael ei hethol dim ond oherwydd ymdrechion pobl ar yr ochr hon i'r Siambr, ac yn sicr nid ymdrechion y bydd ef byth yn cyfrannu atyn nhw, mae eisoes wedi eu gadael i lawr. Dyna ei ymgais. 'Bydd Llafur yn eich gadael i lawr'—dyna'r naratif y mae'n ceisio ei greu. Ni thâl hynny gyda phobl yng Nghymru; bydd pobl yng Nghymru yn deall yn yr etholiad mai'r brif dasg o'n blaenau fydd ethol y Llywodraeth Lafur honno a'r rhagolygon gwahanol iawn ar gyfer y dyfodol a ddaw yn ei sgil.

People want governments elected for a reason; it's because they want a change. No pledges there on HS2 or public sector pay, or on increasing the Welsh Government's budget.

Let's turn to what the First Minister and I certainly agree on—that the UK Conservative Government could and should be doing so much more to ease the cost-of-living crisis. I've spelt out some of Plaid Cymru's ideas: a windfall tax on banks; a winter heating payment that doesn't depend on how cold the temperature gets—something introduced in Scotland; and extending the energy bills support scheme. These are ideas that could really make a difference to the lives of thousands of people in Wales.

But of course, the Welsh Government has things it can do too. We know that spiralling rents are compounding the cost-of-living crisis—and I'm grateful to Carolyn Thomas, Jack Sargeant and Mike Hedges for supporting our recent motion to introduce controls that would cap or stop rent increases. Now is the time to act. And doesn't the First Minister agree that not doing so only reinforces the feeling that the Tories and Labour are too consumed with fighting each other than fighting on behalf of the people of Wales?

Mae pobl eisiau i lywodraethau gael eu hethol am reswm; oherwydd eu bod nhw eisiau newid. Dim addewidion yno o ran HS2 na chyflogau sector cyhoeddus, nac o ran cynyddu cyllideb Llywodraeth Cymru.

Gadewch i ni droi at yr hyn y mae'r Prif Weinidog a minnau'n sicr yn cytuno arno—y gallai ac y dylai Llywodraeth Geidwadol y DU fod yn gwneud cymaint mwy i leddfu'r argyfwng costau byw. Rwyf i wedi esbonio rhai o syniadau Plaid Cymru yn fanwl: treth ffawdelw ar fanciau; taliad gwres y gaeaf nad yw'n dibynnu ar ba mor oer fydd y tymheredd—rhywbeth a gyflwynwyd yn yr Alban; ac ymestyn y cynllun cymorth biliau ynni. Mae'r rhain yn syniadau a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau miloedd o bobl yng Nghymru.

Ond wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru bethau y gall eu gwneud hefyd. Rydym ni'n gwybod bod rhenti cynyddol yn gwaethygu'r argyfwng costau byw—ac rwy'n ddiolchgar i Carolyn Thomas, Jack Sargeant a Mike Hedges am gefnogi ein cynnig diweddar i gyflwyno rheolaethau a fyddai'n capio neu'n atal cynnydd i rent. Nawr yw'r amser i weithredu. Ac onid yw'r Prif Weinidog yn cytuno mai'r cwbl y mae peidio â gwneud hynny yn ei wneud yw atgyfnerthu'r teimlad bod y Torïaid a'r Blaid Lafur yn rhy brysur yn ymladd yn erbyn ei gilydd nag ymladd ar ran pobl Cymru?

I do agree with Rhun ap Iorwerth that increases in rents are of huge concern to people living in the private rented sector, particularly. It's why, in the co-operation agreement, we are committed to finding ways to take action in that area. It is why we have published a White Paper on this matter. I understand that, for some people, that seems a laborious process, but, unfortunately, in the real world of government, when you take one set of actions, you have to make sure that you've understood the consequences of them, and not all the consequences may be the ones you looked for or even were expecting.

We know now, don't we, that the Scottish Government's so-called freeze on rents led to a reduction in the availability of private sector properties for rent in parts of Scotland. That wasn't what the policy was intended to do, but it had that effect, and that just meant that it was even harder for people looking for private sector rented properties than it was before the policy was introduced.

I'm very keen that we pursue what is in the co-operation agreement and that we look to see what more can be done in dealing with the difficulties that people are experiencing, but doing it in the way we've agreed through the White Paper, and making sure that we hear from those in the field who will have a more nuanced understanding of how some of those actions will make a difference on the ground, is the right way to do it.

Rwy'n cytuno â Rhun ap Iorwerth bod cynnydd i renti yn peri pryder enfawr i bobl sy'n byw yn y sector rhentu preifat, yn arbennig. Dyna pam, yn y cytundeb cydweithio, yr ydym ni wedi ymrwymo i ddod o hyd i ffyrdd o weithredu yn y maes hwnnw. Dyna pam rydym ni wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar y mater hwn. Rwy'n deall, i rai pobl, bod hynny'n ymddangos yn broses lafurus, ond, yn anffodus, ym myd go iawn llywodraeth, pan fyddwch chi'n cymryd un cyfres o gamau, mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi wedi deall eu canlyniadau, ac efallai nad yr holl ganlyniadau yw'r rhai yr oeddech chi'n chwilio amdanyn nhw neu hyd yn oed yn eu disgwyl.

Rydym ni'n gwybod nawr, onid ydym, bod rhewi rhenti honedig Llywodraeth yr Alban wedi arwain at ostyngiad i eiddo sector preifat sydd ar gael i'w rhentu mewn rhannau o'r Alban. Nid dyna y bwriadwyd i'r polisi ei wneud, ond cafodd yr effaith honno, a'r cwbl yr oedd hynny'n ei olygu ei bod hi hyd yn oed yn anoddach i bobl sy'n chwilio am eiddo rhent sector preifat nag yr oedd cyn i'r polisi gael ei gyflwyno.

Rwy'n awyddus iawn ein bod ni'n mynd ar drywydd yr hyn sydd yn y cytundeb cydweithio a'n bod ni'n edrych i weld beth arall y gellir ei wneud wrth ymdrin â'r anawsterau y mae pobl yn eu cael, ond ei wneud yn y ffordd yr ydym ni wedi ei gytuno drwy'r Papur Gwyn, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n clywed gan y rhai yn y maes a fydd â dealltwriaeth fwy cynnil o sut y bydd rhai o'r camau hynny yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad, yw'r ffordd iawn o'i wneud.

13:55
Dad-ddofi
Rewilding

3. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dad-ddofi yng Nghymru? OQ59876

3. What are the Welsh Government's plans for rewilding in Wales? OQ59876

The Welsh Government does not support wide-scale land abandonment as a form of rewilding. With others, we work to create living landscapes where farming and forestry sit within and alongside nature protection and promotion.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi gadael i dir fynd yn segur ar raddfa eang fel ffurf o ddad-ddofi. Gydag eraill, rydym ni'n gweithio i greu tirweddau byw lle mae ffermio a choedwigaeth yn bodoli o fewn ac ochr yn ochr ag amddiffyn a hyrwyddo natur.

Thank you, First Minister. I, like many others, I'm sure, in this Chamber see rewilding as part of a number of options that will help increase biodiversity in Wales, and in the coming years, I think we can all expect more areas across Wales to be rewilded. As you're no doubt aware, there are many benefits from rewilding, particularly in developing the nature-based economy, reducing the risk of wildfires and improving water quality to name but a few. That said, many farmers are concerned about rewilding, because they see that not only is it on prime agricultural land, but some of the animals reintroduced can cause extensive and costly damage. The First Minister will know of the reintroduction of beavers in Wales, supported through the Welsh Government's rural development programme. Whilst beavers are not currently causing an issue in Wales, in other parts of the UK they are, in particular Scotland. The numbers have grown to such an extent that they're having a detrimental impact in some places and causing localised flooding. This has unfortunately led to an increase in unregulated culling and the complete absence of beavers in some places. With this in mind, First Minister, what steps are the Welsh Government taking to integrate rewilding into the Welsh countryside whilst also supporting farmers who may experience detrimental consequences to their businesses as a result? Thank you.

Diolch, Prif Weinidog. Rwyf i, fel llawer o bobl eraill yn y Siambr hon, rwy'n siŵr, yn gweld dad-ddofi fel rhan o nifer o opsiynau a fydd yn helpu i gynyddu bioamrywiaeth yng Nghymru, ac yn y blynyddoedd i ddod, rwy'n credu y gallwn ni i gyd ddisgwyl i fwy o ardaloedd ledled Cymru gael eu dad-ddofi. Fel rwy'n siŵr y byddwch chi'n gwybod, ceir llawer o fanteision o ddad-ddofi, yn enwedig wrth ddatblygu'r economi seiliedig ar natur, lleihau'r perygl o danau gwyllt a gwella ansawdd dŵr i enwi dim ond rhai. Wedi dweud hynny, mae llawer o ffermwyr yn poeni am ddad-ddofi, gan eu bod nhw'n gweld nid yn unig ei fod ar dir amaethyddol o'r ansawdd gorau, ond gall rhai o'r anifeiliaid a ailgyflwynir achosi difrod helaeth a chostus. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod am ailgyflwyno afancod yng Nghymru, gyda chymorth trwy raglen datblygu gwledig Llywodraeth Cymru. Er nad yw afancod yn achosi problem yng Nghymru ar hyn o bryd, maen nhw mewn rhannau eraill o'r DU, yn enwedig Alban yn arbennig. Mae'r niferoedd wedi tyfu i'r fath raddau fel eu bod nhw'n cael effaith niweidiol mewn rhai mannau ac yn achosi llifogydd lleol. Yn anffodus, mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn difa heb ei reoleiddio ac absenoldeb llwyr afancod mewn rhai mannau. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i integreiddio ail-ddofi i gefn gwlad Cymru tra hefyd yn cynorthwyo ffermwyr a allai ddioddef canlyniadau niweidiol i'w busnesau o ganlyniad? Diolch.

I thank the Member for the question and for the balanced way in which he set out the debate. I agree with him that it is bound to be a balance of trying to capture the advantages that come for species and nature restoration where it is possible to carry out aspects of rewilding. The Welsh Government supports a whole range of schemes that have rewilding as part of their purpose, but it's got to be done in a way that does not have consequences that we can see elsewhere that were not intended or use up land that could be better used for other productive purposes.

To give the Member an example of where we think rewilding can certainly have a part to play, Members here will know we'll be bringing a Bill in front of them later in the year on coal tip safety. In coal tip reclamation, there are some real opportunities to enhance species diversity and to create new wildlife opportunities through a bit of action that would fall under the rewilding category. I was fortunate enough, Llywydd, to go to Tylorstown in Rhondda Cynon Taf earlier in the summer. Members will remember the landslip that happened there back in the flooding of 2020. The reclamation is now almost complete. It was very impressive to see the way in which the company responsible for the restoration has so carefully made sure that they have rehomed species that have already taken root in that landscape, have created a new wildflower meadow as part of the reclamation, and how using that land, which isn't available for food production or other sorts of activity, will, in future, contribute to species protection and nature restoration. That sort of rewilding—carefully thought through, properly used where the opportunities are right for it—is part of the mix that we will want to take forward in Wales.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ac am y ffordd gytbwys y cyflwynodd y ddadl. Rwy'n cytuno ag ef ei fod yn sicr o fod yn gydbwysedd o geisio sicrhau'r manteision sy'n dod i rywogaethau ac adfer natur lle mae'n bosibl cyflawni agweddau ar ddad-ddofi. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi amrywiaeth eang o gynlluniau sydd â dad-ddofi yn rhan o'u pwrpas, ond mae'n rhaid ei wneud mewn ffordd nad yw'n arwain at ganlyniadau y gallwn ni eu gweld mewn mannau eraill na fwriadwyd na defnyddio tir y gellid ei ddefnyddio'n well at ddibenion cynhyrchiol eraill.

I roi enghraifft i'r Aelod o ble'r ydym ni'n credu y gall dad-ddofi yn sicr fod â rhan i'w chwarae, bydd yr Aelodau yma yn gwybod y byddwn ni'n cyflwyno Bil o'u blaenau yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar ddiogelwch tomenni glo. Wrth adfer tomenni glo, ceir rhai cyfleoedd gwirioneddol i wella amrywiaeth rhywogaethau ac i greu cyfleoedd bywyd gwyllt newydd trwy ychydig o weithredu a fyddai'n dod o dan y categori dad-ddofi. Roeddwn i'n ddigon ffodus, Llywydd, o fynd i Tylorstown yn Rhondda Cynon Taf yn gynharach yn yr haf. Bydd yr Aelodau yn cofio'r tirlithriad a ddigwyddodd yno yn ôl yn ystod llifogydd 2020. Mae'r adferiad bron wedi'i gwblhau erbyn hyn. Roedd yn drawiadol iawn gweld y ffordd y mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y gwaith adfer wedi bod mor ofalus i wneud yn siŵr eu bod nhw wedi ailgartrefu rhywogaethau sydd eisoes wedi gwreiddio yn y dirwedd honno, wedi creu dôl blodau gwyllt newydd yn rhan o'r gwaith adfer, a sut mae defnyddio'r tir hwnnw, nad yw ar gael ar gyfer cynhyrchu bwyd neu fathau eraill o weithgarwch yn cyfrannu, yn y dyfodol, at ddiogelu rhywogaethau ac adfer natur. Mae'r math hwnnw o ddad-ddofi—wedi'i ystyried yn ofalus, wedi'i ddefnyddio'n briodol lle mae'r cyfleoedd yn iawn ar ei gyfer—yn rhan o'r gymysgedd y byddwn ni eisiau bwrw ymlaen â hi yng Nghymru.

14:00

First Minister, I think the unique and historic Gwent levels are a good example of the sort of balance that you're describing, where land is being returned to nature, the water vole has been reintroduced, farming is continuing, public access is enhanced, and I'm very grateful for the Welsh Government commitment that has protected, and I believe will sustain and enhance, that very important area of land, and indeed the creation of the working group that I chair. So, I'd just like to say on behalf of local communities, First Minister, how grateful they are for that balance that you've described being taken forward and supported in that part of Wales, and obviously they very much hope that the Welsh Government's commitment to work with partners on this agenda will continue in the future.

Prif Weinidog, rwy'n credu bod gwastadeddau unigryw a hanesyddol Gwent yn enghraifft dda o'r math o gydbwysedd yr ydych chi'n ei ddisgrifio, lle mae tir yn cael ei ddychwelyd i natur, y llygoden ddŵr wedi'i hailgyflwyno, ffermio yn parhau, mynediad cyhoeddus wedi'i wella, ac rwy'n ddiolchgar iawn am ymrwymiad Llywodraeth Cymru sydd wedi diogelu, ac rwy'n credu fydd yn cynnal ac yn gwella, yr ardal bwysig iawn honno o dir, ac yn wir creu'r gweithgor yr wyf i'n ei gadeirio. Felly, hoffwn ddweud ar ran cymunedau lleol, Prif Weinidog, pa mor ddiolchgar y mae nhw am y cydbwysedd hwnnw yr ydych chi wedi ei ddisgrifio sy'n cael ei ddatblygu a'i gefnogi yn y rhan honno o Gymru, ac yn amlwg maen nhw'n gobeithio'n fawr y bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid ar yr agenda hon yn parhau yn y dyfodol.

Well, Llywydd, I thank John Griffiths very much for what he said. In his expertise as chair of the Gwent levels working group, he's a great asset not just to those local populations but to the wider policy agenda that we aim to take forward through the Welsh Government. The Living Levels Landscape Partnership is key to all of that, because it brings together communities, farmers, helping to manage and restore the biodiversity and the landscape features of the Gwent levels. And the Welsh Government does want to do more in the future. I hope that quite soon the Minister for Climate Change will be able to say something about the way in which we will use some of the sites that were acquired prior to the policy that I adopted in relation to the M4 relief road—how we can use those sites for further enhancement of the Gwent levels. That will be an opportunity to do even more in that highly valued landscape.

Wel, Llywydd, diolch yn fawr iawn i John Griffiths am yr hyn a ddywedodd. Yn ei arbenigedd fel cadeirydd gweithgor gwastadeddau Gwent, mae'n ased gwych nid yn unig i'r poblogaethau lleol hynny ond i'r agenda bolisi ehangach yr ydym ni'n ceisio bwrw ymlaen â hi drwy Lywodraeth Cymru. Mae Partneriaeth Tirlun Lefelau Byw yn allweddol i hynny i gyd, gan ei bod yn dod â chymunedau, ffermwyr, ynghyd, gan helpu i reoli ac adfer bioamrywiaeth a nodweddion tirwedd gwastadeddau Gwent. Ac mae Llywodraeth Cymru eisiau gwneud mwy yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio, yn eithaf buan, y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gallu dweud rhywbeth am y ffordd y byddwn ni'n defnyddio rhai o'r safleoedd a gaffaelwyd cyn y polisi a fabwysiadais o ran ffordd liniaru'r M4—sut y gallwn ni ddefnyddio'r safleoedd hynny i wella gwastadeddau Gwent ymhellach. Bydd hwnnw'n gyfle i wneud mwy fyth yn y dirwedd honno a werthfawrogir yn fawr.

Y Diwydiant Lled-ddargludyddion yng Ngorllewin Casnewydd
The Semiconductor Industry in Newport West

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant lled-ddargludyddion yng Ngorllewin Casnewydd? OQ59897

4. What action is the Welsh Government taking to support the semiconductor industry in Newport West? OQ59897

Llywydd, the Welsh Government remains ambitious for the semiconductor sector in the south-east of Wales. Just last week, the Welsh Government signed a declaration to join the European semiconductor regional alliance. That alliance, between European regional Governments, will promote growth, foster collaboration and develop strong value chains in the semiconductor industry. 

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn uchelgeisiol o ran y sector lled-ddargludyddion yn y de-ddwyrain. Dim ond yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru lofnodi datganiad i ymuno â chynghrair rhanbarthol lled-ddargludyddion Ewrop. Bydd y gynghrair honno, rhwng Llywodraethau rhanbarthol Ewrop, yn hybu twf, yn meithrin cydweithrediad ac yn datblygu cadwyni gwerth cryf yn y diwydiant lled-ddargludyddion.

Diolch, Prif Weinidog, and I'm glad to see that the Welsh Government are sincere in their support for this crucial industry and the substantial and talented workforce that it supports. I'm really pleased to see last week that the Welsh Government has now joined that European semiconductor regional alliance to support the sector's growth. Sadly, I can't say the same about the Conservative Government in Westminster. Last week we heard the devastating blow that over 100 jobs could be lost in my constituency at Nexperia. Combined with announcements, it will amount to a 25 per cent reduction in the Newport workforce. These losses are as a result of the direct actions and subsequent inactions of the Conservative Ministers in London. Since the order for sale in November, I've been in constant conversations with these committed workers. Between them they have hundreds of years of working in the sector, but they have yet to be treated well. Westminster has refused to engage with them; Westminster Ministers have publicly undermined the cluster and Westminster's lack of impetus over this sale has made job losses inevitable. First Minister, this is disgraceful. My constituents have been left out to dry. Please can the Welsh Government do all it can to support these skilled workers, and crucially can we also put as much pressure as possible on the completion of sale, because with every passing month, the position becomes more untenable? The workforce and the cluster deserve so much better.

Diolch, Prif Weinidog, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn ddiffuant yn eu cefnogaeth i'r diwydiant hollbwysig hwn a'r gweithlu sylweddol a thalentog y mae'n ei gefnogi. Rwy'n falch iawn o weld yr wythnos diwethaf bod Llywodraeth Cymru bellach wedi ymuno â'r gynghrair ranbarthol lled-ddargludyddion Ewropeaidd honno i gefnogi twf y sector. Yn anffodus, ni allaf ddweud yr un peth am y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Yr wythnos diwethaf, clywsom yr ergyd ofnadwy y gallai dros 100 o swyddi gael eu colli yn fy etholaeth i yn Nexperia. Ynghyd â chyhoeddiadau, bydd yn gyfystyr â gostyngiad o 25 y cant i weithlu Casnewydd. Mae'r colledion hyn o ganlyniad i weithredoedd uniongyrchol a diffyg gweithredoedd dilynol y Gweinidogion Ceidwadol yn Llundain. Ers y gorchymyn gwerthu ym mis Tachwedd, rwyf i wedi bod mewn trafodaethau cyson gyda'r gweithwyr ymroddedig hyn. Mae ganddyn nhw gannoedd o flynyddoedd o weithio yn y sector rhyngddyn nhw, ond dydyn nhw ddim wedi cael eu trin yn dda eto. Mae San Steffan wedi gwrthod ymgysylltu â nhw; mae Gweinidogion San Steffan wedi tanseilio'r clwstwr yn gyhoeddus ac mae diffyg ysgogiad San Steffan dros y gwerthiant hwn wedi gwneud colled swyddi yn anochel. Prif Weinidog, mae hyn yn warthus. Mae fy etholwyr wedi cael eu gadael ar y clwt. A all Llywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i gynorthwyo'r gweithwyr medrus hyn, ac, yn hollbwysig, a allwn ni hefyd roi cymaint o bwysau â phosibl ar gwblhau'r gwerthiant, oherwydd gyda phob mis sy'n mynd heibio, mae'r sefyllfa yn dod yn fwy anghynaladwy? Mae'r gweithlu a'r clwstwr yn haeddu cymaint gwell.

Well, Llywydd, this is a sad story and a bad story. It's a sad story for those people who now face themselves being put out of work, and it is a sad story, because it need not have happened in this way. So, here is the history briefly: Newport Wafer Fab acquisition was announced on 5 July 2021. It led to new investment in the plant, it led to new jobs being created in this very important industry in that part of Wales. It took the best part of 18 months before the UK Government decided to block the takeover, a period in which there were a set of equivocal statements by the Prime Minister about the intentions of the UK Government. Having issued a divestment instruction, the UK Government has simply walked away. Now, let us assume for a moment that they had good reason for that decision; what they cannot possibly have thought of as reasonable is to put all those jobs at risk and then to act as though their decision had had nothing to do with what has happened since. And that is how they have acted. They have simply left the mess behind and that is now being felt in those 100 jobs that will be lost at the site.

There are some urgent things that need to happen, Llywydd. The judicial review has not even been listed for a hearing. That needs to be resolved, and then the sale of the company to a new investor needs to be expedited, with the help of the UK Government, so that that factory can go on fulfilling its part in the emergence of that very important cluster in south-east Wales. Fortunately, Llywydd, there are other opportunities. The Member will know that KLA have significant expansion plans, helped by the discussions they've had previously with the Minister for Economy, and there are more discussions with other potential partners in the pipeline. We will do whatever we can both to help the workers and to help the recovery of the premises, but we can't do it when the people who caused the problem have acted as though they had no responsibility for it at all.

Wel, Llywydd, mae hon yn stori drist ac yn stori wael. Mae'n stori drist i'r bobl hynny sydd bellach yn wynebu eu hunain yn cael eu rhoi allan o waith, ac mae'n stori drist, oherwydd nid oedd angen iddi fod wedi digwydd fel hyn. Felly, dyma'r hanes yn gryno: Cyhoeddwyd caffaeliad Newport Wafer Fab ar 5 Gorffennaf 2021. Arweiniodd hyn at fuddsoddiad newydd yn y ffatri, ac arweiniodd at greu swyddi newydd yn y diwydiant pwysig iawn hwn yn y rhan honno o Gymru. Cymerodd y rhan helaeth o 18 mis cyn i Lywodraeth y DU benderfynu rhwystro'r caffaeliad, cyfnod pan gafwyd cyfres o ddatganiadau amwys gan Brif Weinidog y DU am fwriadau Llywodraeth y DU. Ar ôl cyhoeddi cyfarwyddyd gwaredu, mae Llywodraeth y DU wedi troi eu cefnau. Nawr, gadewch i ni dybio am eiliad bod ganddyn nhw reswm da dros y penderfyniad hwnnw; yr hyn nad oes unrhyw bosibilrwydd iddyn nhw ei ystyried yn rhesymol yw peryglu'r holl swyddi hynny ac yna ymddwyn fel pe na bai gan eu penderfyniad unrhyw beth i'w wneud â'r hyn sydd wedi digwydd ers hynny. A dyna sut maen nhw wedi ymddwyn. Yn syml, maen nhw wedi gadael y llanast ar ôl ac mae hynny bellach yn cael ei deimlo yn y 100 o swyddi hynny a fydd yn cael eu colli ar y safle.

Ceir rhai pethau brys y mae angen iddyn nhw ddigwydd, Llywydd. Nid yw'r adolygiad barnwrol hyd yn oed wedi'i restru ar gyfer gwrandawiad. Mae angen datrys hynny, ac yna mae angen cyflymu'r cam o werthu'r cwmni i fuddsoddwr newydd, gyda chymorth Llywodraeth y DU, fel y gall y ffatri honno barhau i chwarae ei rhan yn ymddangosiad y clwstwr pwysig iawn hwnnw yn y de-ddwyrain. Yn ffodus, Llywydd, ceir cyfleoedd eraill. Bydd yr Aelod yn gwybod bod gan KLA gynlluniau ehangu sylweddol, gyda chymorth y trafodaethau y maen nhw wedi eu cael yn y gorffennol gyda Gweinidog yr Economi, ac mae mwy o drafodaethau gyda phartneriaid posibl eraill ar y gweill. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r gweithwyr ac i helpu adferiad y safle, ond ni allwn ei wneud pan fo'r bobl a achosodd y broblem wedi ymddwyn fel pe na bai ganddyn nhw unrhyw gyfrifoldeb amdano o gwbl.

14:05

I'd like to thank Jayne Bryant for asking this very important question today. News of the restructuring plan at Nexperia, which could result in the loss of 100 jobs, is extremely worrying for, I'm sure, colleagues all across the Chamber here today, and it's vital that the Welsh Government supports those affected workers, going forward. And I have, First Minister, also been reassured only recently that the UK Government remains committed to a site owner being found very soon.

Now, my region of South Wales East has, in recent years, become a hub for the semiconductor industry, with a vast array of businesses setting up in the area. The Member referred to the UK Government, and the UK Government recently launched its semiconductor strategy, which sets out—in fact, they're going to be investing £1 billion; it's going to be receiving £1 billion of Government investment to help boost the industry, going forward. This move will undoubtedly grow our economy and see the UK remain a global force when it comes to science and technology, which I'm sure is really welcome news. So, First Minister, will you join me in welcoming this fantastic UK Government investment, which will help grow our world-leading semiconductor industry, and will you also commit to working closely with the UK Government to unleash the industry's full potential right here in Wales?

Hoffwn ddiolch i Jayne Bryant am ofyn y cwestiwn pwysig iawn hwn heddiw. Mae newyddion am y cynllun ailstrwythuro yn Nexperia, a allai arwain at golli 100 o swyddi, yn peri pryder eithriadol i gydweithwyr ar draws y Siambr yma heddiw, rwy'n siŵr, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gweithwyr hynny sydd wedi'u heffeithio yn y dyfodol. Ac rwyf i, Prif Weinidog, hefyd wedi cael sicrwydd yn ddiweddar bod Llywodraeth y DU yn dal i fod wedi ymrwymo i ddod o hyd i berchennog safle yn fuan iawn.

Nawr, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae fy rhanbarth i, Dwyrain De Cymru wedi dod yn ganolfan i'r diwydiant lled-ddargludyddion, gydag amrywiaeth eang o fusnesau yn sefydlu yn yr ardal. Cyfeiriodd yr Aelod at Lywodraeth y DU, a lansiodd Llywodraeth y DU ei strategaeth lled-ddargludyddion yn ddiweddar, sy'n cyflwyno—a dweud y gwir, maen nhw'n mynd i fod yn buddsoddi £1 biliwn; mae'n mynd i fod yn derbyn £1 biliwn o fuddsoddiad gan y Llywodraeth i helpu i hybu'r diwydiant yn y dyfodol. Heb os, bydd y cam hwn yn tyfu ein heconomi ac yn golygu bod y DU yn parhau i fod yn rym byd-eang o ran gwyddoniaeth a thechnoleg, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n newyddion i'w groesawu'n fawr. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r buddsoddiad gwych hwn gan Lywodraeth y DU, a fydd yn helpu i dyfu ein diwydiant lled-ddargludyddion o'r radd flaenaf, ac a wnewch chi hefyd ymrwymo i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i ryddhau potensial llawn y diwydiant yma yng Nghymru?

Well, I'm sure the Member will understand that it is difficult to give full-throated support to a strategy when the practical impact on the ground is being seen not in the growth of the industry but in the loss of highly skilled jobs. I hope what she says turns out to be true, Llywydd, that the UK Government is committed to the sale, that it is committed to the future of that site, but we're going to have to see more than words, aren't we, and we haven't seen many of those, even, so far in the Newport case? What we now need to see are actions that will make a difference in the lives of those people who have been directly affected.

Wel, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn deall ei bod hi'n anodd rhoi cefnogaeth groch i strategaeth pan fo'r effaith ymarferol ar lawr gwlad yn cael ei gweld nid yn nhwf y diwydiant ond yng ngholled swyddi medrus iawn. Rwy'n gobeithio y daw'r hyn y mae'n ei ddweud yn wir yn y pen draw, Llywydd, bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i'r gwerthiant, ei bod wedi ymrwymo i ddyfodol y safle hwnnw, ond bydd yn rhaid i ni weld mwy na geiriau, oni fydd, ac nid ydym wedi gweld llawer o'r rheini, hyd yn oed, hyd yn hyn yn achos Casnewydd? Yr hyn y mae angen i ni ei weld nawr yw camau a fydd yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau'r bobl hynny sydd wedi cael eu heffeithio yn uniongyrchol.

I agree with the comments made by Jayne, and thank you for your answers as well, First Minister. The way that Westminster has behaved towards Newport Wafer Fab demonstrates the importance of Wales having control over its economic levers. Until we have the powers, decisions will continue to be made that run counter to the interests of our economy and our communities. Workers at the plant have told my office that they accept that it is likely that nothing will stop the 100 redundancies and nothing will change Westminster's mind over Nexperia's ownership.

The focus now must be on supporting those being made redundant to ensure that they are given the training and support they need to find alternative employment. And the focus must also be on safeguarding the remaining 461 good-quality jobs and the many more that rely on this facility through the extended supply chain. The last 12 months have shown that the UK Government cares little about the facility and its workers. So, what practical support can you offer to achieve the two stated objectives?

Rwy'n cytuno â'r sylwadau a wnaed gan Jayne, a diolch am eich atebion chithau hefyd, Prif Weinidog. Mae'r ffordd y mae San Steffan wedi ymddwyn tuag at Newport Wafer Fab yn dangos pwysigrwydd Cymru yn meddu ar reolaeth dros ei hysgogiadau economaidd. Tan fydd y pwerau gennym ni, bydd penderfyniadau yn parhau i gael eu gwneud sy'n mynd yn groes i fuddiannau ein heconomi a'n cymunedau. Mae gweithwyr yn y ffatri wedi dweud wrth fy swyddfa eu bod nhw'n derbyn ei bod hi'n debygol na fydd dim yn atal y 100 o ddiswyddiadau ac na fydd unrhyw beth yn newid meddwl San Steffan dros berchnogaeth Nexperia.

Mae'n rhaid i'r pwyslais nawr fod ar gynorthwyo'r rhai sy'n cael eu diswyddo i sicrhau eu bod nhw'n cael yr hyfforddiant a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i ddod o hyd i gyflogaeth amgen. Ac mae'n rhaid i'r pwyslais hefyd fod ar ddiogelu'r 461 o swyddi o ansawdd da sy'n weddill a'r llawer mwy sy'n dibynnu ar y cyfleuster hwn drwy'r gadwyn gyflenwi estynedig. Mae'r 12 mis diwethaf wedi dangos nad yw Llywodraeth y DU yn poeni fawr ddim am y cyfleuster a'i weithwyr. Felly, pa gymorth ymarferol allwch chi ei gynnig i gyflawni'r ddau amcan a nodwyd?

14:10

Well, Llywydd, I agree with the Member that the Welsh Government's most urgent, immediate actions must be to help those staff members who've been affected by the decision, and that is exactly what we are doing. We are in contact, through our officials, with the owners of the company. We, of course, are in contact with the trade unions who represent workers at the site. I don't want to strike a note of false optimism, of course, but as I said in my answer to Jayne Bryant, there are other companies investing in this area in Newport who are looking for skilled workers, and the workers who are losing their jobs certainly are that. And the longer term prospects for the semiconductor cluster are strong. There were officials of the Welsh Government in Taiwan only last week, following up leads that came as a result of the economy Minister's visit to California earlier in the year. Newport is a very, very good place for companies to come and invest, and in this industry in particular. And while we will work with the individuals directly affected immediately, the longer term prospects for employment in the sector, if we can get it right—and we need the support of the UK Government for that to happen—I think can be very promising.

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r Aelod bod yn rhaid i gamau mwyaf brys ac uniongyrchol Llywodraeth Cymru fod i helpu'r aelodau staff hynny y mae'r penderfyniad wedi effeithio arnyn nhw, a dyna'n union yr ydym ni'n ei wneud. Rydym ni mewn cysylltiad, trwy ein swyddogion, gyda pherchnogion y cwmni. Rydym ni, wrth gwrs, mewn cysylltiad â'r undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr ar y safle. Dydw i ddim eisiau taro nodyn o optimistiaeth ffug, wrth gwrs, ond fel y dywedais i yn fy ateb i Jayne Bryant, mae cwmnïau eraill yn buddsoddi yn y maes hwn yng Nghasnewydd sy'n chwilio am weithwyr medrus, ac mae'r gweithwyr sy'n colli eu swyddi yn sicr yn hynny. Ac mae'r rhagolygon tymor hirach ar gyfer y clwstwr lled-ddargludyddion yn gryf. Roedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn Taiwan dim ond yr wythnos diwethaf, yn mynd ar drywydd cyfleoedd a ddaeth o ganlyniad i ymweliad Gweinidog yr economi â California yn gynharach yn y flwyddyn. Mae Casnewydd yn lle da iawn, iawn i gwmnïau ddod i fuddsoddi, ac yn y diwydiant hwn yn arbennig. Ac er y byddwn ni'n gweithio gyda'r unigolion yr effeithiwyd arnyn nhw yn uniongyrchol ar unwaith, rwy'n credu y gall y rhagolygon tymor hirach ar gyfer cyflogaeth yn y sector, os gallwn ni ei wneud yn iawn—ac mae angen cefnogaeth Llywodraeth y DU arnom ni i hynny ddigwydd—fod yn addawol iawn.

Mwyngloddio Glo yn Ffos-y-frân
Coal Mining at Ffos-y-frân

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y sefyllfa bresennol o ran parhau i fwyngloddio glo yn Ffos-y-frân? OQ59900

5. Will the First Minister make a statement on the current situation regarding ongoing coal mining at Ffos-y-frân? OQ59900

Diolch yn fawr i Delyth Jewell am y cwestiwn, Llywydd.

I thank Delyth Jewell for that question, Llywydd.

A planning enforcement notice was served on the site operator by Merthyr Tydfil County Borough Council. The company has submitted an appeal against the notice to the Welsh Ministers. In addition, Coal Action Network have ongoing legal proceedings, and discussion with the courts is currently taking place.

Cyflwynwyd hysbysiad gorfodi cynllunio i weithredwr y safle gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae'r cwmni wedi cyflwyno apêl yn erbyn yr hysbysiad i Weinidogion Cymru. Hefyd, mae gan y Rhwydwaith Gweithredu Glo achos cyfreithiol sy'n parhau, ac mae trafodaethau gyda'r llysoedd yn cael eu cynnal ar hyn o bryd.

Ffos-y-frân opencast mine in Merthyr has received UK-wide attention because the company has continued to extract coal a year after it was told to stop, churning out dust and carbon and muck into the atmosphere. The Good Law Project estimates that more than 300,000 tonnes of coal have already been extracted illegally. The company has said it will cease mining in November—we have only their word to take for that—but my main concern is about the little amount of money that has been put aside to restore the land, a landscape that has a long history of being desecrated for coal. Fifteen million pounds has been put aside should the company not complete the work that's been promised, and that could be used for restoration, but estimated costs of that restoration stand at £100 million—perhaps £120 million. If the company doesn't keep to its promises or abandons the site, there will be a shortfall of more than £100 million. What measures is your Government taking, First Minister, to ensure that that land is restored, and what will you do to ensure that our Valleys don't see yet another mountainside forever blotted by an abandoned mining site?

Mae mwynglawdd brig Ffos-y-frân ym Merthyr wedi cael sylw ledled y DU oherwydd bod y cwmni wedi parhau i echdynnu glo flwyddyn ar ôl cael cyfarwyddyd i roi'r gorau iddi, gan daflu llwch a charbon a baw allan i'r atmosffer. Mae'r Good Law Project yn amcangyfrif bod mwy na 300,000 o dunelli o lo wedi eu hechdynnu'n anghyfreithlon eisoes. Mae'r cwmni wedi dweud y bydd yn rhoi'r gorau i gloddio ym mis Tachwedd—dim ond eu gair nhw sydd gennym ni i'w gymryd am hynny—ond mae fy mhrif bryder ynghylch y swm prin o arian sydd wedi ei roi o'r neilltu i adfer y tir, tirwedd sydd â hanes maith o gael ei halogi am lo. Rhoddwyd £15 miliwn o'r neilltu pe na bai'r cwmni yn cwblhau'r gwaith a addawyd, a gellid defnyddio hynny i'w adfer, ond amcangyfrifir bod costau'r gwaith adfer hwnnw yn £100 miliwn—£120 miliwn efallai. Os nad yw'r cwmni yn cadw ei addewidion neu'n gadael y safle yn segur, bydd diffyg o fwy na £100 miliwn. Pa fesurau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd, Prif Weinidog, i sicrhau bod y tir hwnnw yn cael ei adfer, a beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau nad yw ein Cymoedd yn gweld ochr mynydd arall eto yn cael ei ddifetha gan safle mwyngloddio segur?

Well, Llywydd, I share many of the anxieties that the Member has articulated. Here is a company where permission to remove coal ended in September of last year. They've continued mining coal ever since, using a variety of devices in order to allow them to do that, hence we have this complex set of appeals and court actions. But now, a new set of perils begins to emerge. There are the redundancy notices, which will have been issued to the 150 staff, and while it is the clear policy of the Welsh Government that finite fossil resources should stay in the ground, in that transition away from coal mining we still have to pay proper attention to the fates of individuals whose livelihoods are still bound up in it. The company say they intend to close the mine on 30 November. There is a genuine danger, given the history, that the site might simply be abandoned. If that happens, there are a series of immediate perils that we will have to be alert to. There is the whole potential for flooding, if pumps that currently are on the site are removed or switched off. There is ground stability to be thought of, if machinery that is currently used at the site is removed from it. There are old workings on the site that will need to be attended to. There will be no security on the site if it is simply abandoned. With all the dangers to—. I don't want to be pejorative and say 'young people', but anybody thinking that this might be a place to go and explore, they would find that they were exploring a pretty dangerous place and no security there to assist them. And then all the challenges that would be posed for restoration of the site. It is why—and this is where it's difficult to say much more this afternoon, Llywydd—it's why the current court actions are so important, to try to bring all this to a resolution, deeply unsatisfactory as it has been, in a way that helps to reduce these new risks, which, if we're not careful, in the way that Delyth Jewell said, might crystalise in the next few weeks. If they do, then we will have to take one set of actions. The current focus is in trying to mitigate those risks.

Wel, Llywydd, rwy'n rhannu llawer o'r pryderon y mae'r Aelod wedi'u mynegi. Dyma gwmni lle daeth caniatâd i echdynnu glo i ben ym mis Medi y llynedd. Maen nhw wedi parhau i gloddio am lo byth ers hynny, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddyfeisiau er mwyn caniatáu iddyn nhw wneud hynny, felly mae gennym ni'r gyfres gymhleth hon o apeliadau a chamau yn y llys. Ond nawr, mae cyfres newydd o beryglon yn dechrau dod i'r amlwg. Ceir yr hysbysiadau diswyddo, a fydd wedi cael eu cyflwyno i'r 150 o staff, ac er mai polisi eglur Llywodraeth Cymru yw y dylai adnoddau ffosil cyfyngedig aros yn y ddaear, yn y cyfnod pontio hwnnw oddi wrth gloddio am lo, mae'n rhaid i ni roi sylw priodol o hyd i dynged unigolion y mae eu bywoliaeth yn dal i fod ynghlwm wrtho. Mae'r cwmni yn dweud eu bod nhw'n bwriadu cau'r mwynglawdd ar 30 Tachwedd. Ceir perygl gwirioneddol, o ystyried yr hanes, y gallai'r safle gael ei adael yn segur. Os bydd hynny'n digwydd, ceir cyfres o beryglon uniongyrchol y bydd yn rhaid i ni fod yn effro iddyn nhw. Mae'r holl botensial o lifogydd os bydd pympiau sydd ar y safle ar hyn o bryd yn cael eu symud neu eu diffodd. Mae'n rhaid meddwl am sefydlogrwydd y ddaear, os caiff peiriannau a ddefnyddir ar y safle ar hyn o bryd eu tynnu oddi arno. Ceir hen weithfeydd ar y safle hwnnw y bydd angen rhoi sylw iddyn nhw. Ni fydd unrhyw ddiogelwch ar y safle os caiff ei adael yn segur. Gyda'r holl beryglon i—. Dydw i ddim eisiau bod yn ddifrïol a dweud 'pobl ifanc', ond unrhyw un sy'n meddwl y gallai hwn fod yn lle i fynd i archwilio, bydden nhw'n gweld eu bod nhw'n archwilio lle eithaf peryglus â dim diogelwch yno i'w cynorthwyo. Ac yna'r holl heriau a fyddai'n codi ar gyfer adfer y safle. Dyna pam—a dyma lle mae'n anodd dweud llawer mwy y prynhawn yma, Llywydd—dyna pam mae'r camau llys presennol mor bwysig, i geisio datrys hyn i gyd, yn anfoddhaol iawn fel y mae wedi bod, mewn ffordd sy'n helpu i leihau'r risgiau newydd hyn, a allai, os nad ydym yn ofalus, yn y ffordd y dywedodd Delyth Jewell, grisialu yn ystod yr wythnosau nesaf. Os byddan nhw, yna bydd yn rhaid i ni gymryd un cyfres o gamau. Mae'r pwyslais presennol ar geisio lliniaru'r risgiau hynny.

14:15

Good afternoon, First Minister. Just following up from the issues raised by Delyth Jewell and your comments about the workforce there, one of the things that I've been really keen to look at is a transition universal basic income, that is, how we support workers moving from fossil fuel industries, carbon-heavy industries, into green industries and ensuring that they have the skill base in order to do that.

In relation to Ffos-y-frân, and we have other coal mines that are in this particular state as well—Aberpergwm and Glan Lash—would you, if funding were available, support a transition universal basic income? Diolch yn fawr iawn.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Mewn ymateb i'r materion y gwnaeth Delyth Jewell eu codi a'ch sylwadau chi am y gweithlu yn y fan yna, un o'r pethau rydw i wedi bod yn awyddus iawn i'w ystyried yw incwm sylfaenol cyffredinol pontio, hynny yw, sut rydyn ni'n cefnogi gweithwyr sy'n symud o ddiwydiannau tanwydd ffosil, diwydiannau sy'n drwm ar garbon, i ddiwydiannau gwyrdd a sicrhau bod ganddyn nhw'r sylfaen sgiliau i wneud hynny.

O ran Ffos-y-frân, ac mae gennym ni byllau glo eraill sydd yn y cyflwr penodol yma hefyd—Aberpergwm a Glan Lash—a fyddech chi, pe bai cyllid ar gael, yn cefnogi incwm sylfaenol cyffredinol pontio? Diolch yn fawr iawn.

Well, Llywydd, that is a very interesting idea. The Member knows I'm interested in universal basic income generally. I suppose, if that idea had not been put to me, I would have said that what I am in favour of are decent redundancy arrangements, because decent redundancy arrangements provide exactly that cushion that Jane Dodds has spoken of. What we've seen is the erosion of workers' rights and trade union rights and redundancy rights and what they should have been in a solidarity state that says to workers who find themselves in this position that collective action of the wider community will support them while they find themselves in transition from one form of employment to another.

I was asked by the leader of Plaid Cymru a series of questions about the leader of the Labour Party. Well, today, in front of the TUC congress, the Labour Party has once again reaffirmed our commitment to those rights that workers ought to be able to enjoy in the workplace. It's good for workers and it's good for the economy when people know that, if things don't turn out as they would hope, there will be a safety net there strong enough to support them. A universal basic income in those circumstances might be a different way of doing it, but a decent redundancy scheme, as a right, guaranteed to people in the workplace, would be another way of achieving the same objective.

Wel, Llywydd, mae hynny'n syniad diddorol iawn. Mae'r Aelod yn gwybod bod gen i ddiddordeb mewn incwm sylfaenol cyffredinol yn gyffredinol. Mae'n debyg, pe na bai'r syniad hwnnw wedi cael ei gyflwyno i mi, byddwn i wedi dweud mai'r hyn yr wyf o'i blaid yw trefniadau dileu swyddi teilwng, oherwydd mae trefniadau teilwng o ran dileu swyddi yn darparu'r union glustog honno y mae Jane Dodds wedi sôn amdani. Yr hyn rydyn ni wedi'i weld yw erydu hawliau gweithwyr a hawliau undebau llafur a hawliau dileu swyddi a'r hyn y dylen nhw fod wedi bod mewn gwladwriaeth o undod sy'n dweud wrth weithwyr sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa hon y bydd gweithredu ar y cyd yn y gymuned ehangach yn eu cefnogi nhw wrth iddyn nhw drosglwyddo o un math o gyflogaeth i'r llall.

Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru gyfres o gwestiynau i mi am arweinydd y Blaid Lafur. Wel, heddiw, o flaen cyngres y TUC, mae'r Blaid Lafur unwaith eto wedi ailddatgan ein hymrwymiad i'r hawliau hynny y dylai gweithwyr allu eu mwynhau yn y gweithle. Mae'n dda i weithwyr ac mae'n dda i'r economi pan fydd pobl yn gwybod, os na fydd pethau'n gweithio allan fel y bydden nhw'n gobeithio, y bydd rhwyd ddiogelwch yno sy'n ddigon cryf i'w cefnogi. Gallai incwm sylfaenol cyffredinol yn yr amgylchiadau hynny fod yn ffordd wahanol o wneud hynny, ond byddai cynllun dileu swyddi boddhaol, fel hawl, wedi'i warantu i bobl yn y gweithle, yn ffordd arall o gyflawni'r un amcan.

Parc Antur Eryri
Adventure Parc Snowdonia

6. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynglŷn â chau Parc Antur Eryri? OQ59867

6. What discussions has the First Minister had regarding the closure of Adventure Parc Snowdonia? OQ59867

I thank the Member for that question, Llywydd. While I've had no formal discussions with the owner of Adventure Parc Snowdonia, Welsh Government officials are in regular contact and will work with others to secure an alternative future for this outstanding site and the remaining members of its very dedicated workforce.

Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, Llywydd. Er nad wyf wedi cael unrhyw drafodaethau ffurfiol â pherchennog Parc Antur Eryri, mae swyddogion Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad rheolaidd a byddan nhw'n gweithio gydag eraill i sicrhau dyfodol arall i'r safle rhagorol hwn a'r aelodau o'i weithlu ymroddedig iawn sydd dal yno.

Thank you. I'm glad—. I agree with those sentiments. Obviously, it's a major blow to the north Wales tourism sector that Adventure Parc Snowdonia—and this was the world’s first inland surfing park, with the highest waves in the world—has sadly closed. I was very supportive of this development from the outset. We loved the innovation and the fact that it was repurposing the old Dolgarrog aluminium works. Now, you invested £8 million, your Government invested £8 million, but this is just one of many businesses in my constituency now that are facing massive, massive challenges under your Welsh Labour Government. As part of your co-operation agreement with Plaid Cymru, there's a real feeling between the industry that there is now a real sense of an anti-tourism agenda. Recent reports show that there are 30 per cent fewer visitors into Wales, and there's a real threat that more businesses will follow unless you and Plaid Cymru wake up to the fact that the tourism tax could be the final nail in the coffin of our much-valued industry.

At what stage, First Minister, irrespective of your co-operation agreement, will you stand up and actually address those in the hospitality industry that you actually do value them for the jobs that they provide, for the economic benefits that our tourism and hospitality sector bring to here in Wales? There isn't a single Member here who doesn't represent a constituency where there isn't a tourism industry, and, to be honest, some of the comments—

Diolch. Rwy'n falch—. Rwy'n cytuno â'r teimladau hynny. Yn amlwg, mae'n ergyd fawr i'r sector twristiaeth yn y gogledd bod Parc Antur Eryri—a dyma oedd y parc syrffio mewndirol cyntaf yn y byd, gyda'r tonnau uchaf yn y byd—yn anffodus wedi cau. Roeddwn i'n gefnogol iawn o'r datblygiad hwn o'r cychwyn cyntaf. Roedden ni wrth ein bodd â'r arloesedd a'r ffaith ei fod yn addasu hen waith alwminiwm Dolgarrog at ddiben gwahanol. Nawr, gwnaethoch chi fuddsoddi £8 miliwn, buddsoddodd eich Llywodraeth chi £8 miliwn, ond dim ond un o blith llawer o fusnesau yn fy etholaeth i nawr yw hwn sy'n wynebu heriau enfawr o dan eich Llywodraeth Lafur yng Nghymru. Fel rhan o'ch cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, mae teimlad gwirioneddol yn y diwydiant bod ymdeimlad gwirioneddol o agenda gwrth-dwristiaeth erbyn hyn. Mae adroddiadau diweddar yn dangos bod 30 y cant yn llai o bobl yn ymweld â Chymru, ac mae bygythiad gwirioneddol y bydd mwy o fusnesau yn dilyn oni bai eich bod chi a Phlaid Cymru yn deffro i'r ffaith mai'r dreth dwristiaeth, o bosibl, fydd yr hoelen olaf yn arch ein diwydiant gwerthfawr.

Ar ba gam, Prif Weinidog, beth bynnag fo'ch cytundeb cydweithio, y gwnewch chi sefyll i fyny a dweud wrth y rhai yn y diwydiant lletygarwch eich bod chi wir yn eu gwerthfawrogi nhw am y swyddi y maen nhw'n eu darparu, ar gyfer y manteision economaidd y mae ein sector twristiaeth a lletygarwch yn eu sicrhau yma yng Nghymru? Nid oes yr un Aelod yma nad yw'n cynrychioli etholaeth lle nad oes diwydiant twristiaeth, ac, i fod yn onest, mae rhai o'r sylwadau—

14:20

I think you do need to refer to your question—

Rwy'n credu bod angen i chi gyfeirio at eich cwestiwn—

Anyway, if the First Minister would just show some support for the industry.

Beth bynnag, pe bai'r Prif Weinidog ond yn dangos rhywfaint o gefnogaeth i'r diwydiant.

—I think it was on Parc Antur Eryri. First Minister.

—rwy'n credu mai cwestiwn am Barc Antur Eryri ydoedd. Prif Weinidog.

Well, Llywydd, I'm afraid the question's ranged far away from the adventure park itself. I'll reply just to three points that the Member had in her melange of a supplementary question.

First of all, the most recent figures show a significant increase in visitors to Wales: a 13 per cent increase between April and December 2021 and April and December 2022, and a 35 per cent increase in spend for tourists coming into Wales. So, that's the first thing. The doom and gloom view of tourism in Wales is of no help to the industry whatsoever when people work so hard in it, make a success of it, and when there are more visitors to Wales than ever before. 

As to the Welsh Government's efforts, quite apart from the millions of pounds that we invest in the industry every year, it may have escaped the Member's attention that on Friday of last week the Welsh Government won the grand prix award, the premier award of all, in the World Media Group awards. Now, the World Media Group is made up of The Economist, of Forbes, of National Geographic, The New York Times, The Wall Street Journal. These are amongst the leading organisations in the world, and they have an annual series of awards for the promotion, the advertising and promotion campaigns that are run across the world. There were many winners on that Friday night—Volkswagen were amongst them, for example—but the chief prize, the chief prize across the world, went to the Welsh Government's tourism campaign, 'Wales to the World'. I know that the Welsh Conservatives hate it when anything nice is said about Wales, but cheer up just for a moment, because I would like to take seriously what you said, Janet, when you said that we all want to make a success of this industry. Here is what the chief executive, the person overseeing the awards evening, said:

'The Welsh Government did an amazing job bringing together different cultures and values in an integrated campaign that showcases Wales as a progressive nation with so much to offer.'

It would be really nice if once in a while we heard something similar from the opposition benches.

Wel, Llywydd, mae arnaf i ofn bod y cwestiwn wedi crwydro ymhell o'r parc antur ei hun. Ymatebaf i dri phwynt yn unig yr oedd gan yr Aelod yn ei chybolfa o gwestiwn atodol.

Yn gyntaf oll, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr â Chymru: cynnydd o 13 y cant rhwng Ebrill a Rhagfyr 2021 ac Ebrill a Rhagfyr 2022, a chynnydd o 35 y cant mewn gwariant ar gyfer twristiaid sy'n dod i Gymru. Felly, dyna'r peth cyntaf. Nid yw'r farn negyddol am dwristiaeth yng Nghymru o unrhyw gymorth i'r diwydiant o gwbl pan fo pobl yn gweithio mor galed ynddo, yn gwneud llwyddiant ohono, a phan fo mwy o ymwelwyr yn dod i Gymru nag erioed o'r blaen. 

O ran ymdrechion Llywodraeth Cymru, ar wahân i'r miliynau o bunnoedd rydyn ni'n eu buddsoddi yn y diwydiant bob blwyddyn, efallai nad yw'r Aelod wedi sylwi bod Llywodraeth Cymru, ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, wedi ennill gwobr grand prix, y brif wobr orau un, yng ngwobrau Grŵp Cyfryngau'r Byd. Nawr, mae Grŵp Cyfryngau'r Byd yn cynnwys The Economist, Forbes, National Geographic, The New York Times, The Wall Street Journal. Mae'r rhain ymhlith y sefydliadau mwyaf blaenllaw yn y byd, ac mae ganddyn nhw gyfres flynyddol o wobrau ar gyfer yr ymgyrchoedd hysbysebu a hyrwyddo sy'n cael eu cynnal ledled y byd. Roedd llawer o enillwyr ar y nos Wener honno—roedd Volkswagen yn eu plith, er enghraifft—ond aeth y brif wobr, y brif wobr ar draws y byd, i ymgyrch dwristiaeth Llywodraeth Cymru, 'O Gymru i bedwar ban byd'. Rwy'n gwybod bod Ceidwadwyr Cymru yn casáu pan fydd unrhyw beth braf yn cael ei ddweud am Gymru, ond yn codwch eich calonnau am eiliad, oherwydd hoffwn i gymryd o ddifrif yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud, Janet, pan ddywedoch chi ein bod ni i gyd eisiau i'r diwydiant hwn lwyddo. Dyma'r hyn a ddywedodd y prif weithredwr, yr unigolyn a oedd yn goruchwylio'r noson wobrwyo:

'Gwnaeth Llywodraeth Cymru waith anhygoel yn dod â diwylliannau a gwerthoedd gwahanol at ei gilydd mewn ymgyrch integredig sy'n dangos bod Cymru yn genedl flaengar sydd â chymaint i'w gynnig.'

Byddai'n braf iawn pe bydden ni'n clywed rhywbeth tebyg o feinciau'r wrthblaid o dro i dro.

Asbestos mewn Adeiladau Cyhoeddus
Asbestos in Public Buildings

7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynllun ledled y DU ar gyfer symud yr holl asbestos o adeiladau cyhoeddus Cymru? OQ59901

7. What discussions has the Welsh Government had with the UK Government on a UK-wide plan for the removal of all asbestos from Welsh public buildings? OQ59901

Llywydd, there have been no recent discussions with the UK Government on this matter. The Welsh Government, particularly through the work of the education directorate and Ystadau Cymru, has focused on ensuring that asbestos is managed properly in public buildings across Wales, creating a safe environment for the workforce and for visitors.

Llywydd, nid oes unrhyw drafodaethau diweddar wedi bod gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn. Mae Llywodraeth Cymru, yn enwedig drwy waith y gyfarwyddiaeth addysg ac Ystadau Cymru, wedi canolbwyntio ar sicrhau bod asbestos yn cael ei reoli'n gywir mewn adeiladau cyhoeddus ledled Cymru, gan greu amgylchedd diogel i'r gweithlu ac i ymwelwyr.

Diolch. On Sunday 2 July, The Sunday Times launched its campaign calling on the UK Government to act now on asbestos. The cross-party campaign is calling on the UK Government to develop a national plan for the removal of all asbestos over the next 40 years. Asbestos was banned in new buildings in the UK in 1999, but, according to Airtight on Asbestos, which campaigns for its removal, more than 6 million tonnes of it may still be found in as many as 1.5 million buildings throughout the UK. Sir Stephen Timms, the MP and chairman of the House of Commons Work and Pensions Committee, conducted an inquiry into asbestos last year, which said: 

'When you mention asbestos to most people, they tend to think it was a problem of the past that’s been dealt with. When you tell them it’s still all around us, they’re surprised. When you tell them it’s the UK’s biggest work-related killer, they’re shocked. And when you tell them it’s in most of our schools, they tend to become worried.'

First Minister, more than 5,000 people a year are still dying from diseases caused by asbestos, primarily mesothelioma. The period between being exposed to the inhalation of asbestos fibres and developing symptoms ranges from 10 to 50 years. So, what further representations will the Welsh Government make to the UK Government after its complete refusal to acquiesce to a 40-year programme of removal of asbestos from all non-commercial buildings and to establish a national register of all with asbestos in situ and a record of its condition? Because none of us in this Senedd can rest whilst any Welsh public building remains riddled with latent killer materials that could potentially take the lives of Welsh citizens in the years ahead.

First Minister, what are the Welsh Government's ambitions and plans for dealing with this ongoing public health emergency in Wales, and would you be willing to meet with me to discuss this vital issue?

Diolch. Ddydd Sul 2 Gorffennaf, lansiodd The Sunday Times ei ymgyrch yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu nawr ar asbestos. Mae'r ymgyrch drawsbleidiol yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu cynllun cenedlaethol ar gyfer cael gwared ar yr holl asbestos yn ystod y 40 mlynedd nesaf. Cafodd asbestos ei wahardd mewn adeiladau newydd yn y DU ym 1999, ond, yn ôl Airtight on Asbestos, sy'n ymgyrchu dros gael gwared arno, mae'n bosibl bod mwy na 6 miliwn tunnell ohono mewn cynifer ag 1.5 miliwn o adeiladau ledled y DU. Cynhaliodd Syr Stephen Timms, yr AS a chadeirydd Pwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin, ymchwiliad i asbestos y llynedd a ddywedodd: 

'Pan fyddech chi'n crybwyll asbestos i'r rhan fwyaf o bobl, maen nhw'n dueddol o feddwl amdano fel problem yn y gorffennol sydd wedi'i datrys. Pan fyddech chi'n dweud wrthyn nhw ei fod o'n cwmpas ni o hyd, maen nhw'n synnu. Pan fyddech chi'n dweud wrthyn nhw mai asbestos yw'r rheswm dros y nifer mwyaf o farwolaethau sy'n gysylltiedig â gwaith, maen nhw'n synnu. A phan fyddech chi'n dweud wrthyn nhw ei fod yn y rhan fwyaf o'n hysgolion ni, maen nhw'n tueddu i bryderu.'

Prif Weinidog, mae mwy na 5,000 o bobl y flwyddyn yn dal i farw o glefydau sydd wedi'u hachosi gan asbestos, mesothelioma yn bennaf. Mae'r cyfnod rhwng dod i gysylltiad â ffibrau asbestos a datblygu symptomau yn amrywio o 10 i 50 mlynedd. Felly, pa sylwadau eraill y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i Lywodraeth y DU ar ôl iddi wrthod yn llwyr i gytuno i raglen 40 mlynedd o symud asbestos o bob adeilad anfasnachol a sefydlu cofrestr genedlaethol o bob adeilad ag asbestos a chofnod o'i gyflwr? Oherwydd ni all yr un ohonon ni yn y Senedd hon orffwys tra bod unrhyw adeilad cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i fod yn llawn deunyddiau peryglus cudd a allai fod yn gyfrifol am farwolaethau dinasyddion yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod.

Prif Weinidog, beth yw uchelgeisiau a chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ymdrin â'r argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus hwn yng Nghymru, ac a fyddech chi'n fodlon cyfarfod â mi i drafod y mater hanfodol hwn?

14:25

I thank Rhianon Passmore. She's right, Llywydd, that it is a very, very important public health issue. It was disappointing that the UK Government, when it responded to the Work and Pensions Committee report on this matter in July of last year—. The DWP select committee had asked for a removal of asbestos from all commercial and public buildings within a defined period of time, and the UK Government declined to accept that recommendation. Without their willingness to take it forward, then I'm afraid the Welsh Government, by ourselves, are unlikely to persuade them otherwise. But there is the cross-party campaign that the Member mentioned. I know there are efforts being made by Members of Parliament from many parties to generate a debate in the House of Commons as early as this week, and we will certainly be following that very carefully.

In the short run, our focus can therefore only be on making sure that those buildings are as safe as they can be and that, as buildings come to the end of their natural life span, we replace them with construction material that doesn't pose the same difficulty. Going it alone in this field, Llywydd, we know is fraught with legal complications. I was the health Minister when the Senedd passed the mesothelioma Bill promoted by Mick Antoniw. It successfully passed through the Senedd here, and the Supreme Court found that the Senedd hadn't the powers to do what we would like to have done. So, going it alone I think is fraught with those sorts of dangers. We'll be associated with campaigns at a UK level to do better. We'll discharge our own responsibilities in a way that keeps people safe. I was able to discuss with Rebecca Evans, who is the Minister who has responsibility for Ystadau Cymru, the question, as I saw it come in, and I know she'd be very happy to meet with you and to make officials available for that discussion as well.

Diolch i Rhianon Passmore. Mae hi'n gywir, Llywydd, ei bod yn fater iechyd cyhoeddus pwysig iawn, iawn. Roedd yn siomedig bod Llywodraeth y DU, pan ymatebodd i adroddiad y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau ar y mater hwn ym mis Gorffennaf y llynedd—. Roedd pwyllgor dethol yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi gofyn i asbestos gael ei waredu o bob adeilad masnachol a chyhoeddus o fewn cyfnod diffiniedig, ac fe wrthododd Llywodraeth y DU dderbyn yr argymhelliad hwnnw. Heb eu parodrwydd i fwrw ymlaen â hyn, yna mae arnaf i ofn nad yw Llywodraeth Cymru, ar ein pen ein hunain, yn debygol o'u perswadio fel arall. Ond mae yna ymgyrch drawsbleidiol y gwnaeth yr Aelod ei chrybwyll. Rwy'n gwybod bod ymdrechion yn cael eu gwneud gan Aelodau Seneddol o sawl plaid i gychwyn dadl yn Nhŷ'r Cyffredin mor gynnar â'r wythnos hon, a byddwn ni'n sicr yn dilyn hynny'n ofalus iawn.

Yn y tymor byr, gallwn ni ond canolbwyntio ar sicrhau bod yr adeiladau hynny mor ddiogel ag y gallan nhw fod ac, wrth i adeiladau ddod i ddiwedd eu hoes naturiol, ein bod ni'n defnyddio deunydd adeiladu nad yw'n peri'r un anhawster yn ei le. Rydyn ni'n gwybod bod mentro ar eich pen eich hun yn y maes hwn, Llywydd, yn llawn cymhlethdodau cyfreithiol. Fi oedd y Gweinidog iechyd pan basiodd y Senedd y Bil mesothelioma a hyrwyddwyd gan Mick Antoniw. Cafodd ei basio drwy'r Senedd yma, a gwnaeth y Goruchaf Lys ganfod nad oedd gan y Senedd y pwerau i wneud yr hyn yr hoffen ni fod wedi'i wneud. Felly, mae mentro ar eich pen eich hun rwy'n credu yn llawn peryglon o'r fath. Byddwn ni'n gysylltiedig ag ymgyrchoedd ar lefel y DU i wneud yn well. Byddwn ni'n cyflawni ein cyfrifoldebau ein hunain mewn ffordd sy'n cadw pobl yn ddiogel. Fe ges i gyfle i drafod y cwestiwn â Rebecca Evans, sef y Gweinidog sy'n gyfrifol am Ystadau Cymru, wrth i mi ei weld yn dod i mewn, ac rwy'n gwybod y byddai hi'n hapus iawn i gyfarfod â chi ac i sicrhau bod swyddogion ar gael ar gyfer y drafodaeth honno hefyd.

Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth
Reinforced Autoclaved Aerated Concrete

8. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o fodolaeth RAAC mewn adeiladau yng Nghymru? OQ59868

8. What assessment has the First Minister made of the existence of RAAC in Welsh buildings? OQ59868

Llywydd, officials are currently undertaking a comprehensive review of all buildings on the Welsh Government estate, as well as the wider public domain, to establish whether RAAC is present or likely to be present. Plans are being developed to remediate risk where necessary, and the returns received to date indicate only isolated instances of RAAC identified so far in Wales.

Llywydd, mae swyddogion wrthi'n cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r holl adeiladau ar ystad Llywodraeth Cymru, yn ogystal â'r parth cyhoeddus ehangach, er mwyn sefydlu a yw RAAC yn bresennol neu'n debygol o fod yn bresennol. Mae cynlluniau'n cael eu datblygu i fynd i'r afael â'r risg lle bo angen, ac mae'r ffurflenni sydd wedi'u dychwelyd hyd yma yn dangos mai dim ond enghreifftiau prin o RAAC a nodwyd yng Nghymru hyd yn hyn.

First Minister, that is hugely relieving for the people of Wales and, thankfully, it's in no small part due to the huge sums of money that the Welsh Labour Government has invested in the twenty-first century schools programme.

First Minister, given that the issue predates devolution and the use of RAAC in Welsh public buildings was signed off by UK Government departments, can we assume that it will be UK Government that will foot the repair bills and that it won't fall on Welsh Government to put those mistakes right?

Prif Weinidog, mae hynny'n rhyddhad mawr i bobl Cymru a, diolch byth, mae hynny i'w briodoli i raddau helaeth i'r symiau enfawr o arian y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'u buddsoddi yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.

Prif Weinidog, o ystyried bod y mater yn rhagflaenu datganoli ac mai adrannau Llywodraeth y DU gymeradwyodd y defnydd o RAAC mewn adeiladau cyhoeddus yng Nghymru, a allwn ni gymryd yn ganiataol mai Llywodraeth y DU fydd yn talu am y gwaith atgyweirio ac nad Llywodraeth Cymru fydd yn gorfod cywiro'r camgymeriadau hynny?

Well, it's a very important point that Ken Skates raises, Llywydd. We ought to be confident of that because the fiscal framework and the rules that underpin the relationship between devolved Governments and the UK Government on these matters are clear that liabilities that are incurred because of decisions made prior to devolution remain the responsibility of the UK Government. It's not been a responsibility that they have been willing to shoulder in more recent times. I've had this discussion a number of times now with UK Ministers in relation to coal tip safety, where the liabilities that we see today are the result of actions taken far before devolution ever began. I believe that in this case the same principle should apply in just the way that Ken Skates set out. Thankfully, Llywydd, so far—and the work is still ongoing, and we're making sure that it's done carefully and comprehensively—the impact of RAAC in public buildings in Wales is at the modest end of the spectrum. But in the longer run, these buildings are not going to get any better, are they? That's what we know about RAAC, that it is a progressive condition, and while we keep it carefully under review, more buildings in future are going to need to be attended to. And that's why establishing that principle that the body who pays should be the body that made those decisions in the first place is the one that we will pursue in discussions with the Treasury. 

Wel, mae'n bwynt pwysig iawn y mae Ken Skates yn ei godi, Llywydd. Dylen ni fod yn hyderus am hynny oherwydd mae'r fframwaith cyllidol a'r rheolau sy'n sail i'r berthynas rhwng Llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU ar y materion hyn yn glir mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol o hyd am rwymedigaethau sy'n deillio o benderfyniadau a wnaed cyn datganoli. Nid yw'n gyfrifoldeb y maen nhw wedi bod yn barod i'w ysgwyddo yn fwy diweddar. Rwyf i wedi cael y drafodaeth hon sawl gwaith nawr gyda Gweinidogion y DU o ran diogelwch tomenni glo, lle mae'r rhwymedigaethau rydyn ni'n eu gweld heddiw yn ganlyniad i gamau a gymerwyd ymhell cyn i ddatganoli gychwyn. Rwy'n credu y dylai'r un egwyddor fod yn berthnasol yn yr achos hwn yn union fel y nododd Ken Skates. Diolch byth, Llywydd, hyd yn hyn—ac mae'r gwaith yn dal i fynd rhagddo, ac rydyn ni'n gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei wneud yn ofalus ac yn drylwyr—mae effaith RAAC mewn adeiladau cyhoeddus yng Nghymru ar ben isaf y sbectrwm. Ond yn y tymor hwy, nid yw'r adeiladau hyn yn mynd i wella, ydyn nhw? Dyna'r hyn rydyn ni'n ei wybod am RAAC, ei fod yn gyflwr sy'n gwaethygu, ac wrth i ni ei adolygu'n ofalus, bydd angen rhoi sylw i fwy o adeiladau yn y dyfodol. A dyna pam y byddwn ni'n mynd ati i sefydlu'r egwyddor honno mai'r corff a wnaeth y penderfyniadau hynny yn y lle cyntaf yw'r corff ddylai dalu mewn trafodaethau â'r Trysorlys. 

14:30
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
2. Business Statement and Announcement

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd sy'n gwneud y datganiad. Lesley Griffiths.

The next item is the business statement and announcement, and I call on the Trefnydd to make that statement. Lesley Griffiths. 

Diolch, Llywydd. There are multiple changes to this week's business. All the changes have been published on the Plenary agendas. Draft business for the next three weeks is set out on the business statement and announcement, which can be found amongst the meeting papers available to Members electronically.

Diolch, Llywydd. Mae llawer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r holl newidiadau wedi'u cyhoeddi ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Trefnydd, it's been some time since I called for an update from the Welsh Government on its action to address stroke care in north Wales, which, as you will be aware from the updates that we receive from the Stroke Association, unfortunately, is falling well short of where it ought to be, with the overall grade in each of the hospitals in north Wales being either D or E. Now, clearly that is not acceptable. Many of the indicators are also getting worse, particularly in terms of access to stroke units, and we know that these are essential in turning patients around as quickly as possible and giving them the best possible chances of recovery. So, can I urge you again to work with the Minister for Health and Social Services so that we can get a statement on this important issue as soon as possible?

Secondly, can I also request an update from the Minister on progress towards delivering the real living wage commitment for social care workers in Wales? I know that this is something that my party has supported, and we wish the Government well in ensuring its implementation. However, it's recently come to my attention that there are some care homes in my own constituency that are not paying the real living wage to their staff, and they say that it's because the commissioners have not given them sufficient resources to be able to make that happen. I know the Welsh Government has released extra resources to local authorities to deliver on this important commitment, and I wonder what action is being taken to ensure that local authorities are actually making that cash available to care home operators to make sure that this commitment is delivered in full, and that our hard-working social care workers in our constituencies are getting the pay and remuneration that they deserve.

Trefnydd, mae peth amser wedi bod ers i mi alw am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y camau y mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â gofal strôc yn y gogledd, sydd yn anffodus, fel y gwyddoch chi o'r wybodaeth ddiweddaraf rydyn ni'n ei chael gan y Gymdeithas Strôc, yn methu â chyrraedd lle y dylai fod, gyda gradd gyffredinol o D neu E ym mhob un o'r ysbytai yn y gogledd. Nawr, yn amlwg, nid yw hynny'n dderbyniol. Mae llawer o'r dangosyddion hefyd yn gwaethygu, yn enwedig o ran mynediad i unedau strôc, ac rydyn ni'n gwybod bod y rhain yn hanfodol wrth drin cleifion cyn gynted â phosibl a rhoi'r cyfle gorau posibl iddyn nhw wella. Felly, a gaf i eich annog eto i weithio gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fel y gallwn ni gael datganiad ar y mater pwysig hwn cyn gynted â phosibl?

Yn ail, a gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog hefyd ar gynnydd tuag at gyflawni'r ymrwymiad cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru? Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae fy mhlaid wedi'i gefnogi, ac rydyn ni'n dymuno'n dda i'r Llywodraeth wrth sicrhau ei fod yn cael ei weithredu. Fodd bynnag, yn ddiweddar, tynnwyd fy sylw at y ffaith bod rhai cartrefi gofal yn fy etholaeth fy hun nad ydyn nhw'n talu'r cyflog byw gwirioneddol i'w staff, ac maen nhw'n dweud mai'r rheswm am hynny yw nad yw'r comisiynwyr wedi rhoi digon o adnoddau iddyn nhw i allu gwneud i hynny ddigwydd. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi adnoddau ychwanegol i awdurdodau lleol i gyflawni'r ymrwymiad pwysig hwn, a thybed pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod yr arian hwnnw ar gael i weithredwyr cartrefi gofal i sicrhau bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei gyflawni'n llawn, a bod y gweithwyr gofal cymdeithasol gweithgar yn ein hetholaethau yn cael y tâl a'r gydnabyddiaeth ariannol y maen nhw'n eu haeddu.

Thank you. Well, the Minister for Health and Social Services is in her place, and will have heard what you said, particularly around the second issue, and I'm sure she will have great concern about what you said. As you mentioned, the Welsh Government has given extra funding to our local authorities to ensure that our very hard-working staff in the social care sector are in receipt of the real living wage. I would imagine that the Minister's officials are monitoring this, but as I say, she has heard your question, and I'm sure if she has any concerns in the way you've described, she will ensure her officials are aware of them and will have those conversations with—. I'm assuming you're referring to Denbighshire in particular, as you referred to your own constituency.FootnoteLink

In relation to a further statement on stroke, I'm not aware of any guidance or further information around the stroke strategy, but again, I will ask the Minister if there's anything she can update us on.

Diolch. Wel, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei lle, a bydd hi wedi clywed yr hyn a ddywedoch, yn enwedig ynghylch yr ail fater, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n pryderu'n fawr am yr hyn a ddywedoch. Fel y sonioch, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ychwanegol i'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod ein staff gweithgar iawn yn y sector gofal cymdeithasol yn cael y cyflog byw gwirioneddol. Byddwn i'n dychmygu bod swyddogion y Gweinidog yn monitro hyn, ond fel y dywedais, mae hi wedi clywed eich cwestiwn, ac rwy'n siŵr os bydd ganddi unrhyw bryderon yn y ffordd rydych chi wedi'i disgrifio y bydd hi'n sicrhau bod ei swyddogion yn ymwybodol ohonyn nhw ac yn cael y sgyrsiau hynny gyda—. Rwy'n tybio eich bod chi'n cyfeirio at Sir Ddinbych yn benodol, gan i chi gyfeirio at eich etholaeth eich hun.FootnoteLink

O ran datganiad arall ar strôc, dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw ganllawiau na gwybodaeth arall am y strategaeth strôc, ond unwaith eto, fe ofynnaf i'r Gweinidog a oes unrhyw beth y gall hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni amdano.

A gaf ofyn, os gwelwch yn dda, am ddatganiad llafar o ran RAAC tu hwnt i ysgolion? Yn amlwg, rydyn ni'n ddiolchgar iawn fod y Gweinidog addysg ar ôl hyn yn mynd i fod yn rhoi diweddariad o ran ysgolion, ond fel y soniwyd yng nghwestiwn Ken Skates, mae'n amlwg bod yna sefyllfa ledled Cymru, ac yn ymateb y Prif Weinidog mi roedd o'n sôn bod y gwaith yn parhau. Ond dwi yn meddwl, oherwydd difrifoldeb y sefyllfa rydyn ni'n gweld yn fy rhanbarth i—Neuadd Dewi Sant, er enghraifft, ar gau am bedair wythnos, a nifer o rybuddion mawr o ran diogelwch yr adeilad hwnnw—y byddai o'n fuddiol, gydag adeiladau megis Neuadd Dewi Sant yn rhai sydd wedi gorfod cau, gwybod beth ydy'r darlun ehangach, gwybod beth ydy'r amserlen, a pha gydweithio sydd yn digwydd i sicrhau nad oes unrhyw risg i fywyd, naill ai unrhyw un sy'n gweithio yna neu'n mynychu digwyddiadau, er enghraifft, yn achos Neuadd Dewi Sant.

May I request an oral statement on RAAC outwith schools? Clearly, we're very grateful that the Minister for education will be giving us an update on the situation in schools, but as was mentioned in Ken Skates's question, it's clear that there is a situation across Wales, and in his response, the First Minister mentioned that the work was ongoing. But I do think, because of the gravity of the situation that we see in my region—St David's Hall being closed for four weeks, for example, and a number of major warnings in terms of the safety of that building—that it would be beneficial, with buildings such as St David's Hall having to close, to know what the broader picture is, what the timetable is, and what collaboration is ongoing to ensure that there is no risk to life, either for those working in those buildings or attending events, for example, in the case of St David's Hall.

14:35

Thank you. Well, you will have heard the First Minister say in his answer to Ken Skates that there is a comprehensive review being undertaken by Welsh Government officials, and, fortunately, at the moment, there are only isolated incidents of RAAC being identified. It's a two-stage process. Obviously, work has been ongoing, and I'm sure you will have heard Councillor Llinos Medi, in her statement around the two schools—. And as you say, the Minister for Education and the Welsh Language will be bringing forward an oral statement this afternoon in relation to RAAC being present in educational establishments. But she said that Ynys Môn council was very aware, and that was because this work has been ongoing for quite a significant time. It is a two-stage process. I think, firstly, officials are gathering summary information, so that we do have a clearer picture of what work will be needed, going forward, to make sure all of our public estate remains safe. And then, obviously, there are other concerns around theatres and leisure facilities. You mentioned in particular St David's Hall in Cardiff, which has been closed because they've confirmed the presence of RAAC in the ceiling and roof of St David's Hall. So, I think that when all that information has come forward—as I say, today, the Minister for education is bringing us a statement on educational establishments—we will look for Welsh Government Ministers to bring forward further statements at the most appropriate time.

Diolch. Wel, byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud yn ei ateb i Ken Skates bod adolygiad cynhwysfawr yn cael ei gynnal gan swyddogion Llywodraeth Cymru, ac, yn ffodus, ar hyn o bryd, dim ond ambell enghraifft brin o RAAC sy'n cael eu nodi. Mae'n broses dau gam. Yn amlwg, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo, ac rwy'n siŵr y byddwch chi wedi clywed y Cynghorydd Llinos Medi, yn ei datganiad ynghylch y ddwy ysgol—. Ac fel y dywedwch chi, bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn rhoi datganiad llafar y prynhawn yma ar bresenoldeb RAAC mewn sefydliadau addysgol. Ond fe ddywedodd hi fod cyngor Ynys Môn yn ymwybodol iawn, a hynny oherwydd bod y gwaith yma wedi bod yn mynd rhagddo ers peth amser. Mae'n broses dau gam. Rwy'n credu, yn gyntaf, fod swyddogion yn casglu gwybodaeth gryno, fel bod gennym ni ddarlun cliriach o'r gwaith y bydd angen ei wneud, wrth symud ymlaen, i sicrhau bod ein holl ystad gyhoeddus yn parhau i fod yn ddiogel. Ac yna, yn amlwg, mae pryderon eraill ynghylch theatrau a chyfleusterau hamdden. Fe sonioch chi'n benodol am Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, sydd wedi bod ar gau oherwydd eu bod wedi cadarnhau bod RAAC yn nenfwd a tho Neuadd Dewi Sant. Felly, rwy'n credu, pan fydd yr holl wybodaeth honno wedi dod i law—fel yr wyf i'n ei ddweud, heddiw, bydd y Gweinidog addysg yn rhoi datganiad i ni ar sefydliadau addysgol—byddwn ni'n disgwyl i Weinidogion Llywodraeth Cymru roi datganiadau eraill ar yr adeg fwyaf priodol.

First of all, I wondered if we could have a statement on whether or not the Government will consider a demolition levy as a minimum response to the illegal demolition of a listed building in Guildford Crescent in my constituency last week. This commercial company has form on this matter, in showing willful disregard of the planning regulations in pursuit of profit, and this listed building was in the way of their 30-storey block of flats. There were a lot of calls by the community to cancel the planning application as a result of their behaviour. That may not be possible, but we need to protect the buildings of the future, and I would like to see a statement on how we might consider a demolition levy as one way of getting developers to behave.

Secondly, I wondered if we could have a statement on the interim agri-environmental scheme that you announced during recess, which I know is causing a certain amount of concern amongst the over 500 organic producers, who are worried that all the progress that we've made in Wales with the production of organic farming could be lost if there is no form of grant available specifically for organics, when there is a shortage of production, for example, of milk, that is not meeting the demand already, and particularly as this obviously enhances nature, which is one of the things we are endeavouring to do. I appreciate that this is an interim scheme, in advance of the sustainable farming scheme, but it seems to me that we need to ensure that we're going forwards and not backwards on that.

Thirdly, I wondered if you'll join with me in congratulating the two schools that have been nominated for the World's Best School Prizes, under the sustainable development scheme. These include Cadoxton Primary School in Barry, which has a wonderful pay-as-you-feel shop, with a launderette and uniform store, to support poorer members of its community, and Cardiff Sixth Form College in my constituency, which is also doing fantastic work on ensuring that they are strengthening the physical and mental health of their A-level students, in the main, many of whom are living very far away from their families.

Lastly, I wondered if we could have a statement from the Minister for health on what we've learnt today about misogyny in the operating theatre, because the revelation this morning that female surgeons are being molested while they are doing operations is just beyond belief. I know that this is obviously focused on research that's taken place focusing on England, but we need to ensure that our excellent female surgeons, who, by the way, have a better performance overall than male surgeons, are made to feel comfortable that this is a career that they can pursue without being chased and molested while they're doing their work. It's really beyond belief.

Yn gyntaf oll, tybed a gawn ni ddatganiad ynghylch a fydd y Llywodraeth yn ystyried ardoll ddymchwel ai peidio fel yr ymateb lleiaf i ddymchwel adeilad rhestredig yn anghyfreithlon yn Guildford Crescent yn fy etholaeth i yr wythnos diwethaf. Mae gan y cwmni masnachol hwn enw drwg o ran hyn, gan ddangos diystyrwch bwriadol o'r rheoliadau cynllunio wrth fynd ar drywydd elw, ac roedd yr adeilad rhestredig hwn yn rhwystr i'w floc o fflatiau 30 llawr. Roedd llawer o alwadau gan y gymuned i ganslo'r cais cynllunio o ganlyniad i'w ymddygiad. Efallai na fydd hynny'n bosibl, ond mae angen i ni amddiffyn adeiladau'r dyfodol, a hoffwn weld datganiad ar sut y gallen ni ystyried ardoll ddymchwel fel un ffordd o sicrhau bod datblygwyr yn ufuddhau.

Yn ail, tybed a gawn ni ddatganiad ar y cynllun amaeth-amgylcheddol dros dro a gafodd ei gyhoeddi gennych chi yn ystod y toriad, y gwn ei fod yn achosi rhywfaint o bryder ymhlith dros 500 o gynhyrchwyr organig, sy'n poeni y gallai'r holl gynnydd rydyn ni wedi'i wneud yng Nghymru o ran ffermio organig gael ei golli os na fydd unrhyw fath o grant ar gael yn benodol ar gyfer cynnyrch organig, pan fo prinder cynhyrchu, er enghraifft, llaeth, nad yw'n ateb y galw yn barod, ac yn enwedig gan fod hyn yn amlwg yn gwella natur, sef un o'r pethau rydyn ni'n ceisio'i wneud. Rwy'n gwerthfawrogi mai cynllun dros dro yw hwn, cyn i'r cynllun ffermio cynaliadwy gael ei gyflwyno, ond mae'n ymddangos i mi fod angen i ni sicrhau ein bod ni'n symud ymlaen ac nid yn ôl ar hynny.

Yn drydydd, tybed a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y ddwy ysgol sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer Gwobrau Ysgolion Gorau'r Byd, o dan y cynllun datblygu cynaliadwy. Mae'r rhain yn cynnwys Ysgol Gynradd Tregatwg yn y Barri, sydd â siop ragorol talu fel y dymunwch, gyda golchdy a siop gwisgoedd ysgol, i gefnogi aelodau tlotach ei chymuned, a Choleg Chweched Dosbarth Caerdydd yn fy etholaeth i, sydd hefyd yn gwneud gwaith gwych i sicrhau ei fod yn cryfhau iechyd corfforol a meddyliol ei fyfyrwyr Safon Uwch, yn bennaf, y mae llawer ohonyn nhw'n byw yn bell iawn i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd.

Yn olaf, tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu heddiw am gasineb at fenywod yn y theatr lawdriniaeth, oherwydd mae'r datgeliad y bore yma bod llawfeddygon benywaidd yn destun aflonyddu wrth iddyn nhw gyflawni llawdriniaeth yn anghredadwy. Rwy'n gwybod bod hyn yn amlwg yn canolbwyntio ar ymchwil sydd wedi'i chynnal sy'n canolbwyntio ar Loegr, ond mae angen i ni sicrhau bod ein llawfeddygon benywaidd rhagorol, sydd gyda llaw yn perfformio'n well yn gyffredinol na llawfeddygon gwrywaidd, yn teimlo'n gyfforddus bod hon yn yrfa y gallan nhw ei dilyn heb gael eu herlid a bod yn destun aflonyddu wrth iddyn nhw gyflawni eu gwaith. Mae hi wir yn anghredadwy.

14:40

Thank you. Welsh Ministers are aware that Cardiff Council are currently considering a planning application that relates to the demolition and rebuilding of the existing Guildford Crescent facade. Now, I know they are having to consider any necessary action to address the recent breach of planning control, which you referred to, and obviously, given Welsh Ministers' wider statutory role in the planning process, it's not appropriate to comment on that, but you raise a question around a demolition levy. I'm not aware that that is something that is being considered, but certainly I'm sure that the Minister for Climate Change would be interested in that.

Around Glastir Organic, obviously the Glastir contracts, I’ve extended several times, and they are coming to an end at December 2023, because the European funding is coming to an end and I am unable to extend it in a way that I know some people would have liked, but it’s just not possible to do so. I think you make a really important point about the excellent work and the gains that we’ve had in relation to organic farmers, and it’s really important that they are able to access a range of support schemes, and that will include the interim agri-environment scheme that my officials have been working on over the summer, and we will be announcing the scheme and when the windows will be opening later this month. But I think it is really important that we do retain as much benefit as we have, and that’s why I was very keen to have an interim scheme ahead of the sustainable farming scheme coming in in April 2025.

I’ll certainly join you in congratulating both Cadoxton Primary School and Cardiff Sixth Form College in your constituency, the former primary school being in Jane Hutt’s constituency. I met with Janet Hayward, the headteacher of that excellent school, at the Royal Welsh Show. You will be aware of the Big Bocs Bwyd, for instance. It was great to talk to a group of children from Merthyr Tydfil who had told me they’d never been to a farm, they’d never understood where their food came from and the lessons that they were learning at the Royal Welsh Show were just brilliant to see. So, certainly, I know that the Minister for education has praised both of them as being finalists for this prize. It’s really a massive achievement, I think, to see two Welsh schools in the final. So, it’s great to hear of that, so congratulations to them both.

In relation to your latter point, I too read that article today with absolute horror and I’m sure the Minister for Health and Social Services, once she’s had time to have a look at that, will be very happy to update Members.

Diolch. Mae Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod Cyngor Caerdydd wrthi'n ystyried cais cynllunio sy'n ymwneud â dymchwel ac ailadeiladu ffasâd bresennol Guildford Crescent. Nawr, rwy'n gwybod eu bod nhw'n gorfod ystyried unrhyw gamau angenrheidiol i ymdrin â'r achos diweddar o dorri rheolaeth gynllunio, y gwnaethoch chi gyfeirio ato, ac yn amlwg, o ystyried rôl statudol ehangach Gweinidogion Cymru yn y broses gynllunio, nid yw'n briodol gwneud sylw ar hynny, ond rydych chi'n codi cwestiwn ynghylch ardoll ddymchwel. Nid wyf yn ymwybodol bod hynny'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried, ond yn sicr rwy'n siŵr y byddai gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ddiddordeb yn hynny.

O ran Glastir Organig, yn amlwg rwyf wedi ymestyn contractau Glastir sawl gwaith, ac maen nhw'n dod i ben ym mis Rhagfyr 2023, oherwydd bod y cyllid Ewropeaidd yn dod i ben ac nid wyf yn gallu ei ymestyn mewn ffordd rwy'n gwybod y byddai rhai pobl wedi'i hoffi, ond nid yw'n bosibl gwneud hynny. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn am y gwaith rhagorol a'r cynnydd rydyn ni wedi'i wneud o ran ffermwyr organig, ac mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n gallu manteisio ar amrywiaeth o gynlluniau cymorth, a bydd hynny'n cynnwys y cynllun amaeth-amgylcheddol dros dro y mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio arno dros yr haf, a byddwn ni'n cyhoeddi'r cynllun a phryd bydd y ffenestri'n agor yn ddiweddarach y mis hwn. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cadw cymaint o fudd ag sydd gennym ni, a dyna pam roeddwn i'n awyddus iawn i gael cynllun dros dro cyn i'r cynllun ffermio cynaliadwy gael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2025.

Yn sicr, fe wnaf i ymuno â chi i longyfarch Ysgol Gynradd Tregatwg a Choleg Chweched Dosbarth Caerdydd sydd yn eich etholaeth chi. Mae'r ysgol gynradd yn etholaeth Jane Hutt. Fe wnes i gyfarfod â Janet Hayward, pennaeth yr ysgol ardderchog honno, yn y Sioe Frenhinol. Fe fyddwch chi'n ymwybodol o'r Big Bocs Bwyd, er enghraifft. Roedd hi'n wych siarad â grŵp o blant o Ferthyr Tudful a oedd wedi dweud wrthyf nad oedden nhw erioed wedi bod i fferm, nid oedden nhw erioed wedi deall o ble roedd eu bwyd yn dod ac roedd y gwersi yr oedden nhw'n eu cael yn y Sioe Frenhinol yn wych i'w gweld. Felly, yn sicr, rwy'n gwybod bod y Gweinidog addysg wedi canmol y ddwy am gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer y wobr hon. Mae'n gamp enfawr, rwy'n credu, i weld dwy ysgol Gymraeg yn y rownd derfynol. Felly, mae'n braf clywed am hynny, felly llongyfarchiadau i'r ddwy.

O ran eich pwynt olaf, fe ddarllenais innau'r erthygl honno heddiw gydag arswyd llwyr ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, unwaith y bydd hi wedi cael amser i edrych ar yr erthygl honno, yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

Trefnydd, I’d like to request two statements, please, from the Welsh Government this afternoon. Firstly, can I also request a statement from the health Minister regarding the discovery of RAAC at Withybush hospital? I was heartened to hear you say that other Ministers will now bring forward statements on this issue, because recent reports tell us that its existence at the Withybush hospital site has been known since 2019, and we now need an urgent statement from the health Minister to clarify exactly what the Welsh Government knew and when the Government knew about it. Now, as has been said, the education Minister is rightly coming forward with a statement today on the situation facing schools in Wales, and I believe the health Minister should do the same as soon as possible, as it’s vital that the Welsh Government does everything possible to support the local health board and ensure services continue at the site. I know that the Minister has recently visited the site and so I’d be grateful if time could be made available for the Minister to provide an update to the Chamber as soon as possible, and outline exactly what the Welsh Government is doing to address this matter. And I think it’s important that the health Minister does bring forward a statement on this issue because my understanding is that it does actually affect other hospital sites as well. 

Secondly, Llywydd, can I request a statement from the Minister for Climate Change regarding water quality here in Wales? I know that there has been some movement on this issue, but this continues to be a real problem for us in Pembrokeshire and right across Wales. It's vital that we see some leadership on this matter and that the public can understand exactly what is being done to tackle this issue. So, I'd be grateful if the Welsh Government could bring forward a statement on action being taken to address water quality as a matter of urgency. 

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Lywodraeth Cymru y prynhawn yma. Yn gyntaf, a gaf i ofyn am ddatganiad hefyd gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â darganfod RAAC yn ysbyty Llwynhelyg? Fe ges i fy nghalonogi i'ch clywed yn dweud y bydd Gweinidogion eraill yn cyflwyno datganiadau ar y mater hwn nawr, oherwydd mae adroddiadau diweddar yn dweud wrthyn ni fod ei fodolaeth ar safle ysbyty Llwynhelyg wedi bod yn hysbys ers 2019, ac mae angen datganiad brys arnom ni nawr gan y Gweinidog iechyd i egluro yn union beth oedd Llywodraeth Cymru yn ei wybod a phryd oedd y Llywodraeth yn gwybod amdano. Nawr, fel sydd wedi'i ddweud eisoes, mae'r Gweinidog addysg yn rhoi datganiad heddiw, a hynny'n briodol, ar y sefyllfa sy'n wynebu ysgolion yng Nghymru, ac rwy'n credu y dylai'r Gweinidog iechyd wneud yr un peth cyn gynted â phosibl, gan ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth posibl i gefnogi'r bwrdd iechyd lleol a sicrhau bod gwasanaethau'n parhau ar y safle. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi ymweld â'r safle yn ddiweddar ac felly byddwn i'n ddiolchgar pe bai modd rhoi amser i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr cyn gynted â phosibl, ac amlinellu'n union beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymdrin â'r mater hwn. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Gweinidog iechyd yn rhoi datganiad ar y mater hwn oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'n effeithio ar safleoedd ysbytai eraill hefyd.

Yn ail, Llywydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch ansawdd dŵr yma yng Nghymru? Rwy'n gwybod bod rhywfaint o symud wedi bod ar y mater hwn, ond mae hyn yn parhau i fod yn broblem wirioneddol i ni yn Sir Benfro a ledled Cymru. Mae'n hanfodol ein bod ni'n gweld rhywfaint o arweinyddiaeth ar y mater hwn ac y gall y cyhoedd ddeall yn union beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ar y camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael ag ansawdd dŵr ar frys. 

Thank you. Well, you will have heard my earlier answer to Heledd Fychan around the work that's being undertaken by Welsh Government officials in relation to RAAC. This is not a new thing. We have been working with the UK Government, and I was very surprised—I haven't discussed it with the Minister for education—to hear Gillian Keegan say she was chairing gold meetings from her villa in Spain, because Welsh Government should have been part of those gold group meetings. So, you know, we are doing this independent piece of work now, but we have been working with the UK Government on this for several years, so it's not a new issue. The Minister for Health and Social Services did bring forward a written statement, and, as I said in my answer to Heledd Fychan, we will look at the work that's been done and, as and when, we will bring statements forward. The Minister for Education and the Welsh Language is doing an oral statement today on educational establishments because, obviously, a couple of weeks ago this was the main focus, but we thought it was important for the Minister to update Members today. 

In relation to your request for a statement on water quality, I think there is indeed leadership being shown in this area. As you know, the First Minister has chaired two water quality summits. There will be a third one this autumn that both I and the Minister for Climate Change will be attending, and, certainly, a further statement will come forward following that summit. 

Diolch. Wel, byddwch chi wedi clywed fy ateb cynharach i Heledd Fychan ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud gan swyddogion Llywodraeth Cymru ynghylch RAAC. Nid rhywbeth newydd yw hwn. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, ac roeddwn i'n synnu'n fawr—nid wyf i wedi'i drafod gyda'r Gweinidog addysg—i glywed Gillian Keegan yn dweud ei bod yn cadeirio cyfarfodydd aur o'i thŷ yn Sbaen, oherwydd dylai Llywodraeth Cymru fod wedi bod yn rhan o'r cyfarfodydd grŵp aur hynny. Felly, wyddoch chi, rydyn ni'n gwneud y darn annibynnol hwn o waith nawr, ond rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn ers sawl blwyddyn, felly nid yw'n fater newydd. Cyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig, ac, fel y dywedais i yn fy ateb i Heledd Fychan, byddwn i'n ystyried y gwaith sydd wedi'i wneud a, sut a phryd, byddwn ni'n cyflwyno datganiadau. Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gwneud datganiad llafar heddiw ar sefydliadau addysgol oherwydd, yn amlwg, ychydig wythnosau yn ôl, dyma oedd y prif ffocws, ond roedden ni o'r farn ei bod yn bwysig i'r Gweinidog ddiweddaru'r Aelodau heddiw. 

O ran eich cais am ddatganiad ar ansawdd dŵr, rwy'n credu bod arweinyddiaeth yn cael ei dangos yn y maes hwn. Fel y gwyddoch chi, mae'r Prif Weinidog wedi cadeirio dwy uwchgynhadledd ansawdd dŵr. Bydd trydedd un yr hydref hwn y byddaf i a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei mynychu, ac, yn sicr, bydd datganiad arall yn cael ei gyflwyno yn dilyn yr uwchgynhadledd honno. 

14:45

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd am y sefyllfa wirioneddol dyngedfennol sy'n wynebu gwasanaethau bysys yn Ynys Môn ar hyn o bryd? Ers cyhoeddiad gan gwmni bysys Arriva wythnos diwethaf, mae degau o etholwyr wedi cysylltu efo fi i fynegi eu pryderon nhw am golli gwasanaethau bws—rhai ohonyn nhw yn dweud y bydden nhw'n colli mynediad i wasanaeth sy'n hollbwysig iddyn nhw o ran eu bywydau bob dydd, rhai yn poeni y bydd hi'n anodd iddyn nhw gael mynediad i addysg, rhai yn ofni y bydd rhaid iddyn nhw roi'r gorau i waith, hyd yn oed. Yn eu cyhoeddiad, mi ddywedodd llefarydd Arriva, ymysg rhesymau eraill, fod newidiadau i'r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau bws ar ôl COVID wedi arwain at ddiwygiadau i rwydwaith Arriva ar draws gogledd Cymru. Rŵan, dwi'n cyfarfod Arriva yfory, yn digwydd bod, ond mae gwasanaethau bws, wrth gwrs, yn hollol hanfodol mewn ardaloedd gwledig fel Ynys Môn. Mae'r cyhoeddiad yma'n ergyd drom i gymunedau fel Llanddaniel, Bodedern, Trefor, Llynfaes, Bodffordd, Gwalchmai. Allwn ni ddim fforddio gweld y cymunedau yma yn cael eu hynysu, a mi fyddwn i'n licio cael datganiad yn rhoi ymrwymiad am sut mae'r Llywodraeth am weithredu ar frys i warchod y gwasanaeth bws yma. 

May I request a statement from the Deputy Minister for Climate Change on the truly critical situation facing bus services on Anglesey at the moment? Since the announcement by Arriva buses last week, dozens of constituents have contacted me to express their concerns about loss of bus services—some of them stating that they will lose access to a service that is crucially important to them in their daily lives, some are concerned that it will be difficult for them to access education, some fear that they will have to give up work, even. In their announcement, a spokesperson for Arriva stated said that, among other reasons, the changes to the way the Welsh Government supports bus services after COVID had led to reforms to the Arriva network across north Wales. Now, I am meeting Arriva tomorrow, as it happens, but bus services, of course, are crucial in rural areas such as Ynys Môn. This announcement is a serious blow to communities such as Llanddaniel, Bodedern, Trefor, Llynfaes, Bodffordd, Gwalchmai. We can't afford to see these communities being isolated, and I would like a statement giving a commitment as to how the Government is going to act urgently to protect these bus services. 

Thank you. Bus services are indeed crucial to many of our constituents right across Wales, and you'll be aware the Deputy Minister for Climate Change announced £46 million from bus budgets for the bus emergency scheme and the bus transition fund to prevent that wholesale cancellation of services. And we've asked local authorities, Transport for Wales and operators to plan the network that best meets the needs of the travelling public. By March of next year, the Welsh Government will have provided over £190 million to protect our bus network since the onset of the COVID pandemic, and, as you know, we are introducing legislation to reform the bus system in Wales, taking public control of the bus system through a franchise network, putting people before profit and making buses easy and attractive.  

Diolch i chi. Mae gwasanaethau bysiau yn wirioneddol hanfodol i lawer o'n hetholwyr ni ledled Cymru, ac rydych chi'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cyhoeddi £46 miliwn o gyllidebau bysiau ar gyfer y cynllun argyfwng bysiau a'r gronfa bontio bysiau i rwystro diddymu gwasanaethau yn gyfan gwbl fel hyn. Ac rydym ni wedi gofyn i'r awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a'r gweithredwyr gynllunio'r rhwydwaith sy'n diwallu anghenion y cyhoedd sy'n teithio yn y ffordd orau bosibl. Erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf, fe fydd Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £190 miliwn i ddiogelu ein rhwydwaith bysiau ni ers dechrau pandemig COVID, ac, fel gwyddoch chi, rydym ni'n cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio'r system fysiau yng Nghymru, gan ddwyn y system fysiau i reolaeth y cyhoedd drwy rwydwaith o fasnachfreintiau, sy'n rhoi pobl o flaen elw a gwneud bysiau yn rhwydd ac yn ddeniadol i'w defnyddio.  

Can I ask for a statement, please, on what the Welsh Government is doing to promote responsible reporting on suicide? I know that suicide prevention is something that is very close to the Deputy Minister's heart, and it's vital that we as Members of the Senedd keep the issue on the agenda and debate how it can best be addressed. Sunday was World Suicide Prevention Day, and I'd like to take this opportunity to remind Members that we must lead by example when discussing this important subject, and that our words and the way we frame things can have a huge impact. The Samaritans have long been a voice of expertise on this issue, and I know that Members around the Chamber will have seen their briefing on the importance of responsible reporting on suicide. Responsible reporting, whether it's in the media or social media, is incredibly important, and there is evidence that certain types of depictions can lead to increased suicide rates. The briefing contains many useful suggestions that I believe are imperative for us to take on board. These include avoiding discussing details of suicide methods, not labelling locations as hotspots, exercising caution when referring to the context of a suicide, and avoiding oversimplifying suicide by the suggestion of a single cause. As elected politicians, we should always be reminded of the importance of the words we choose, and the Welsh Government and the Senedd can play their role in enhancing this message across the country.  

A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo adrodd cyfrifol am hunanladdiad? Fe wn i fod atal hunanladdiad yn rhywbeth sy'n agos iawn at galon y Dirprwy Weinidog, ac mae hi'n hanfodol ein bod ni Aelodau'r Senedd yn cadw'r mater ar yr agenda ac yn trafod y ffordd orau o fynd i'r afael â hynny. Roedd hi'n Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ddydd Sul, ac fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i atgoffa'r Aelodau bod rhaid i ni arwain trwy esiampl wrth drafod y pwnc pwysig hwn, a bod ein geiriau ni a'r ffordd yr ydym ni'n portreadu pethau yn gallu bod â dylanwad enfawr. Mae'r Samariaid wedi bod yn rhoi llais i arbenigedd ers tro byd ar y pwnc hwn, ac fe wn i fod Aelodau o amgylch y Siambr wedi gweld eu briff nhw ar bwysigrwydd adrodd cyfrifol am hunanladdiad. Mae adrodd cyfrifol, boed hynny yn y cyfryngau neu yn y cyfryngau cymdeithasol, yn hynod bwysig, ac mae tystiolaeth y gall rhai mathau o bortreadau arwain at gynnydd yng nghyfraddau hunanladdiad. Mae'r briff yn cynnwys llawer o awgrymiadau defnyddiol sy'n hanfodol i ni eu hystyried, yn fy marn i. Mae'r rhain yn cynnwys osgoi trafod manylion dulliau o gyflawni hunanladdiad, peidio â labelu lleoliadau yn fannau problemus, a bod yn ofalus wrth gyfeirio at gyd-destun hunanladdiad, ac osgoi gorsymleiddio hunanladdiad drwy awgrymu mai achos unigol sydd iddo. Yn wleidyddion etholedig, fe ddylem ni gael ein hatgoffa bob amser o bwysigrwydd y geiriau a ddewiswn ni, ac fe all Llywodraeth Cymru a'r Senedd wneud eu rhan wrth rymuso'r genadwri hon ledled y wlad.  

Yes, I absolutely agree with Jayne Bryant and we very much welcome this guidance. As you say, we all have a role to play in talking about suicide responsibly, and this guidance helps us to do just that. I understand the Deputy Minister’s officials are working with the Samaritans to develop the new suicide and self-harm prevention strategy for Wales, which will be published for consultation towards the end of this year. 

Ie, rwy'n cytuno yn llwyr â Jayne Bryant ac rydym ni'n croesawu'r canllawiau hyn yn fawr iawn. Fel rydych chi'n dweud, mae gan bob un ohonom ni ran wrth wneud yn siŵr ein bod ni'n siarad am hunanladdiad mewn ffordd gyfrifol, ac mae'r canllawiau hyn yn ein helpu ni i wneud hynny. Rwy'n deall bod swyddogion y Dirprwy Weinidog yn gweithio gyda'r Samariaid i ddatblygu'r strategaeth newydd ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niweidio i Gymru, a fydd yn cael ei chyhoeddi ar gyfer cynnal ymgynghoriad tua diwedd y flwyddyn eleni. 

14:50

Can I ask for a statement this afternoon from the Deputy Minister for Social Partnership regarding north Wales fire service's emergency cover review as it is currently being proposed to the people of north-east Wales regarding the future of fire service provisions in Rhyl, Deeside and Wrexham fire stations? The three options available seek to cease 24-hour services in all three stations, leaving night cover to the retained service, which is causing much anxiety to my constituents and people across north-east Wales over their future safety, particularly at night-time. Over the summer recess, I’ve liaised closely with front-line firefighters and representatives from the Fire Brigades Union, who all believe if such measures are implemented they will cause jeopardy to the safety of local residents and the work-life balance and fatigue amongst those who put their lives on the line for us, who face the prospect of being relocated, in some cases to rural stations in Gwynedd.

There have also been concerns around the quality of the public engagement exercises, with consultations being poorly promoted and timings of meetings being in the daytime, when most people are at work or busy, and also the complexities of completing the online surveys, which take up a lot of time and are labyrinthine. So, can I see a statement from the Minister on what discussions the Welsh Government have had on this matter and what the position of the Government is in regard to maintaining robust fire service provision in north-east Wales? Thank you.

A gaf i ofyn am ddatganiad brynhawn yma gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ynghylch adolygiad darpariaeth frys gwasanaeth tân gogledd Cymru gan ei fod yn cael ei gynnig ar hyn o bryd i bobl y gogledd-ddwyrain ynghylch dyfodol darpariaethau gwasanaeth tân yng ngorsafoedd tân y Rhyl, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam? Mae'r tri dewis sydd ar gael yn ceisio diddymu gwasanaethau 24 awr ym mhob un o'r tair gorsaf, gan adael darpariaeth y nos i'r gwasanaeth wrth gefn ac mae hynny'n peri llawer o bryder i'm hetholwyr a phobl ledled y gogledd-ddwyrain o ran eu diogelwch i'r dyfodol, yn enwedig yn oriau'r nos. Dros doriad yr haf, rwyf i wedi cysylltu yn agos â diffoddwyr tân rheng flaen a chynrychiolwyr o Undeb y Frigâd Dân, sydd i gyd o'r farn pe byddai mesurau o'r fath yn cael eu rhoi ar waith, fe fydden nhw'n peryglu diogelwch trigolion lleol a'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a blinder ymhlith y rhai sy'n rhoi eu bywydau yn y fantol er ein mwyn ni, sy'n wynebu'r posibilrwydd o gael eu hadleoli, mewn rhai achosion, i orsafoedd cefn gwlad yng Ngwynedd.

Bu pryderon hefyd ynghylch ansawdd yr ymarferion i ymgysylltu â'r cyhoedd, gydag ymgynghoriadau yn cael eu hyrwyddo mewn ffordd wael ac amseru'r cyfarfodydd yn ystod y dydd, pan fo'r rhan fwyaf o bobl yn gweithio neu'n brysur, a chymhlethdodau wrth lenwi'r arolygon ar-lein, sy'n cymryd llawer o amser ac yn ddryslyd iawn. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog ynglŷn â'r trafodaethau a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r mater hwn a beth yw sefyllfa'r Llywodraeth o ran cynnal darpariaeth gydnerth o wasanaeth tân yn y gogledd-ddwyrain? Diolch i chi.

Thank you. The issue to which you refer is, obviously, out for public consultation at the moment, and I think the point you make around public engagement is very important. I know that the Deputy Minister for Social Partnership has met with the chair and officials of the fire and rescue service to make sure that that consultation is absolutely out there so that people are very aware of the consultation and it’s a meaningful consultation.

Diolch i chi. Mae'r mater yr ydych chi'n cyfeirio ato, yn amlwg, allan ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd, ac rwy'n credu bod y pwynt a wnewch chi ynghylch ymgysylltu â'r cyhoedd yn un pwysig iawn. Fe wn i fod y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cyfarfod â chadeirydd a swyddogion y gwasanaeth tân ac achub i sicrhau bod yr ymgynghoriad hwnnw â chyhoeddusrwydd sicr fel bydd pobl yn ymwybodol iawn o'r ymgynghoriad a bod hwnnw'n ymgynghoriad sy'n ystyrlon.

I, too, want to call for a Welsh Government update on the RAAC at the Withybush hospital site. I am aware that the Welsh Government have already approved a £13 million spend for survey work to be carried out, and I know that that work is in progress. But I’d like to ask you to join me in thanking the staff at Withybush hospital who’ve been impacted by that disruption and will be impacted as the repairs go forward. The staff’s understanding and commitment to delivering patient care during this challenging time has been commendable. Some staff have moved hospital sites to ensure that patients have been able to move from Withybush and have continued to receive the much-needed care that they require. Minister, I’d like to hear in the update from Welsh Government what assurances they will be able to give to patients and staff that care and services will remain as local as possible whilst the survey work and the repairs are being carried out. And one of the asks—which I know is not an easy ask—by members of my constituency is a timescale, where that timescale is possible. 

Rwyf innau hefyd yn dymuno galw am ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru ar y RAAC ar safle ysbyty Llwynhelyg. Rwy'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo gwariant o £13 miliwn eisoes ar gyfer gwneud gwaith arolwg, ac fe wn i fod y gwaith hwnnw ar y gweill. Ond fe hoffwn i ofyn i chi ymuno â mi i ddiolch i'r staff yn ysbyty Llwynhelyg a effeithiwyd gan y tarfu hwnnw ac a fydd yn effeithio arnyn nhw wrth i'r gwaith atgyweirio fynd rhagddo. Mae dealltwriaeth ac ymrwymiad y staff i ddarparu gofal cleifion yn ystod y cyfnod heriol hwn wedi bod yn ganmoladwy. Mae rhai staff wedi symud safleoedd ysbyty i sicrhau bod cleifion wedi gallu symud o Lwynhelyg ac wedi parhau i dderbyn y gofal y mae taer angen amdano. Gweinidog, fe hoffwn i glywed yn y diweddariad gan Lywodraeth Cymru pa sicrwydd y byddan nhw'n gallu ei roi i gleifion a staff y bydd gofal a gwasanaethau yn parhau i ddigwydd mor lleol â phosibl tra bod y gwaith arolygu a'r atgyweiriadau yn cael eu cyflawni. Ac un o'r gofynion—fe wn i nad yw hynny'n rhwydd i'w wneud—gan aelodau fy etholaeth i yw amserlen, pan fo'r amserlen honno'n bosibl.

Thank you. You will have heard my earlier answers around the timeline for Ministers doing individual statements as and when we get the information. I think you make a really important point around thanking the staff at Withybush hospital, who have had incredible upheaval, and ensuring that they can do all they can for that continuity of patient care. We send them a massive 'thank you' for doing that, having to move hospital sites. None of us like upheaval in our working life, but they’re clearly putting patients first, and patients have had to move from Withybush hospital.

I’m not able to give you a timeline at the current time. As I say, that work is being undertaken at the moment, but the Minister will do a statement when we have that further information.

Diolch i chi. Fe glywsoch chi fy atebion i'n gynharach ynghylch yr amserlen i Weinidogion wneud datganiadau unigol pan fyddwn ni'n cael yr wybodaeth. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn o ran diolch i'r staff yn ysbyty Llwynhelyg, sydd wedi gweld tarfu mawr ar eu gwaith nhw, ac wedi sicrhau eu bod nhw'n gallu gwneud popeth yn eu gallu ar gyfer parhad gofal cleifion. Rydym ni'n mynegi ein diolch aruthrol iddyn nhw am wneud hynny, gan orfod symud rhwng safleoedd ysbytai. Nid oes yr un ohonom ni'n hoffi tarfu mawr ar ein bywyd gwaith, ond maen nhw'n amlwg yn rhoi'r cleifion yn gyntaf, a bu'n rhaid i gleifion symud o ysbyty Llwynhelyg.

Ni allaf i roi amserlen i chi ar hyn o bryd. Fel y dywedais i, mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ond fe fydd y Gweinidog yn gwneud datganiad pan fydd yr wybodaeth bellach honno ar gael i ni.

Can I call for two statements from you as Minister for rural affairs, please, with the first being on the end of the Glastir programme and the introduction of an interim agri-environment scheme, and the second on the nutrient management scheme, both announced via written statements on the same day during the first week of recess? The Minister will be aware that I wrote to her to express my concern that these were written statements and made during recess, affording this Chamber no opportunity to scrutinise and debate the changes. With Glastir scheduled to end on 31 December, only four months remain to scrutinise this decision and the interim scheme, which will exist for only 12 months before the sustainable farming scheme begins in 2025.

I was also rather shocked to learn, via 8point9.com and their freedom of information request, that no impact assessment took place before the decision to end Glastir, so the consequences of its termination are unknown. This has caused real concern within the agricultural community, especially participants of Glastir Organic, a number of whom have been in touch with me and shared their frustrations with me.

I would also hope that an oral statement on the nutrient management scheme would set out your decision on whether to implement a licensing scheme or not, so that Welsh farmers can have some clarity as the clock is ticking. So, despite some time having passed since these written statements were made, they are both still incredibly important topics, and I would welcome oral statements on them both. Diolch, Llywydd.

A gaf i alw am ddau ddatganiad gennych yn rhinwedd eich swydd yn Weinidog materion gwledig, os gwelwch chi'n dda, y cyntaf ynglŷn â rhaglen Glastir yn dod i ben a chyflwyniad cynllun amaeth-amgylcheddol dros dro, a'r ail ynglŷn â'r cynllun rheoli maethynnau, y cyhoeddwyd y ddeubeth mewn datganiadau ysgrifenedig ar yr un diwrnod yn ystod wythnos gyntaf y toriad? Mae'r Gweinidog yn ymwybodol fy mod i wedi ysgrifennu ati hi i fynegi fy mhryder oherwydd mai datganiadau ysgrifenedig oedd y rhai a wnaethpwyd yn ystod y toriad, heb gynnig unrhyw gyfle i'r Siambr hon graffu ar y newidiadau na'u trafod nhw. Gyda Glastir yn dod i ben ar y dyddiad arfaethedig o 31 Rhagfyr, dim ond pedwar mis sydd ar ôl i graffu ar y penderfyniad hwn a'r cynllun dros dro, a fydd yn bodoli am 12 mis yn unig cyn i'r cynllun ffermio cynaliadwy gychwyn yn 2025.

Fe gefais i fy synnu braidd o gael gwybod hefyd, drwy gyfrwng 8point9.com a'u cais rhyddid gwybodaeth, na chafodd unrhyw asesiad effaith ei gynnal cyn y penderfyniad i ddwyn Glastir i ben, felly nid yw canlyniadau ei derfynu yn hysbys. Mae hyn wedi achosi pryder gwirioneddol yn y gymuned amaethyddol, yn enwedig ymhlith cyfranogwyr Glastir Organig, y mae nifer ohonyn nhw wedi cysylltu â mi ac wedi mynegi eu rhwystredigaethau nhw i mi.

Roeddwn i wedi gobeithio y byddai datganiad llafar ynglŷn â'r cynllun rheoli maethynnau yn nodi eich penderfyniad ynghylch a ddylid gweithredu cynllun trwyddedu ai peidio, fel gall ffermwyr Cymru fod â chyfran o eglurder wrth i'r amser ddirwyn i ben. Felly, er gwaethaf yr amser sylweddol a aeth heibio ers gwneud y datganiadau ysgrifenedig hyn, mae'r ddau yn dal i fod yn bynciau hynod bwysig, ac fe fyddwn i'n croesawu datganiadau llafar ar y ddau. Diolch, Llywydd.

14:55

Well, they are two very important topics, and that's why I believed it was important to bring forward those written statements. You'll be aware that both refer to ongoing work. So, in relation to the ending of Glastir, I want to make it very clear that I could not extend Glastir any further. I've extended and extended, but the European funding that paid for Glastir comes to an end on 31 December 2023. But, as I said in my answer to Jenny Rathbone, it's really important that we keep the good work that we've had, not just from Glastir Organic, but from everybody who's had Glastir support, so it's very important to have an interim agri-environment scheme. Officials have been working on that scheme over the summer. We've engaged with stakeholders, because it's really important that we get their views. The farming unions were very clear that they wanted to have an interim scheme. We are bringing an interim scheme forward, and the window for opening that will be done shortly. I will certainly update Members when further work has been undertaken over the next couple of weeks, and I will bring forward a statement once further work, again, has been done regarding nutrient management.

Wel, mae'r ddau bwnc yn bwysig iawn, a dyna pam roeddwn i'n credu ei bod hi'n bwysig inni gyflwyno'r datganiadau ysgrifenedig hynny. Rydych chi'n ymwybodol bod y ddau yn cyfeirio at waith sy'n parhau. Felly, o ran dod â Glastir i ben, fe hoffwn i ei gwneud hi'n eglur iawn na allwn ni ymestyn Glastir eto. Rwyf i wedi ei ymestyn sawl gwaith, ond mae'r arian o Ewrop a oedd yn talu am Glastir yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2023. Ond, fel dywedais i yn fy ateb i Jenny Rathbone, mae hi'n bwysig iawn ein bod yn cadw'r gwaith da sydd wedi bod, nid yn unig gan Glastir Organig, ond gan bawb sydd wedi cael cymorth gan Glastir, felly mae hi'n bwysig iawn fod cynllun amaeth-amgylcheddol dros dro gennym ni. Mae swyddogion wedi bod yn gweithio ar y cynllun hwnnw dros yr haf. Rydym ni wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid, oherwydd mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cael eu barn nhw. Roedd yr undebau amaeth yn eglur iawn eu bod nhw'n awyddus i fod â chynllun dros dro. Rydym ni am gyflwyno cynllun dros dro, ac fe fydd y ffenestr ar gyfer agor hynny'n dod yn fuan. Yn sicr, rwyf i am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd rhagor o waith wedi bod dros yr wythnosau nesaf, ac fe fyddaf i'n rhoi datganiad gerbron pan fydd gwaith cael ei wneud eto ynglŷn â rheoli maetholion.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.

Trefnydd, as you may be aware, there is currently a medicines supply shortage in Wales, with hormone replacement therapy products being one of the main medicines affected. I'm conscious that I've been in correspondence with the health Minister regarding this matter, but, since that time, I have been further contacted by worried residents and medical practitioners over the ever-increasing number of routine medicines that are in short supply. As such, I am concerned that the Welsh Government's assessment of occasional and temporary supply shortages is not reflective of the experiences of health professionals. With this in mind, may we have a statement from the health Minister regarding this and its impact on patient care in Wales? As you'll no doubt agree, a statement would offer Members an opportunity to directly question the Minister on this and to allay any fears that the general public might have. Thank you. 

Trefnydd, fel gwyddoch chi efallai, mae prinder cyflenwad meddyginiaethau yma yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda chynhyrchion therapi amnewid hormonau yn un o'r prif feddyginiaethau sy'n cael ei heffeithio arnyn nhw. Rwy'n ymwybodol fy mod i wedi bod yn gohebu â'r Gweinidog iechyd ynghylch y mater hwn, ond, ers hynny, mae preswylwyr ac ymarferwyr meddygol pryderus wedi cysylltu â mi eto ynglŷn â'r nifer cynyddol o feddyginiaethau cyffredin sydd wedi mynd yn brin. Felly, rwy'n pryderu nad yw asesiad Llywodraeth Cymru o brinder cyflenwi achlysurol a thros dro yn adlewyrchu profiadau gweithwyr iechyd proffesiynol. Gyda hynny mewn golwg, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â hyn a'i effaith ar ofal cleifion yng Nghymru? Fel byddech chi'n cytuno, siŵr o fod, fe fyddai datganiad yn cynnig cyfle i'r Aelodau holi'r Gweinidog yn uniongyrchol ynglŷn â hyn a thawelu unrhyw bryderon a allai fod gan y cyhoedd. Diolch i chi. 

Well, there are always opportunities to question the Minister for Health and Social Services during her oral question session, but I do think you raise an important point and it clearly is a matter—. I know I've had constituents contact me, not around the drug that you referred to, but clearly there have been issues with a variety of medicines being accessed. I will certainly ask the Minister for Health and Social Services to bring forward a written statement.

Wel, fe geir cyfleoedd bob amser i holi'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod ei sesiwn holi llafar, ond rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig ac mae hwn yn amlwg yn fater—. Rwy'n gwybod fy mod innau wedi cael etholwyr yn cysylltu â mi, nid ynglŷn â'r cyffur yr oeddech chi'n cyfeirio ato, ond yn amlwg fe fu yna broblemau gyda chael gafael ar amrywiaeth o feddyginiaethau. Fe fyddaf i'n sicr yn gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig.

I'd like to request and see a statement from the education Minister on the multitude of issues that we've seen plague the return to school regarding school transport. Back-to-school is always chaotic at this time of year, but this year takes the biscuit. It has left thousands of anxious parents and children with no transport or unsuitable transport. It is clear that current provisions and the way of doing things just aren't good enough. I am fully aware that this is a local government issue, but I'm also aware that we've had a Children, Young People and Education Committee report into school absenteeism recently, and we've just seen how critical the issue is, yet we're allowing school transport to be a massive contributor to lack of school attendance. We also talk about safeguarding and the rights of the child, which we quite rightly promote, yet we see children being put on public transport and waiting hours, potentially in the rain, before and after school because public transport timings don't fit around school hours.

I could go on, and every Member in this Senedd must be aware of the issues that I'm presenting to you, as they'll be in their inboxes, but we need a pupil-first approach and we need wholesale reform, not just tweaks. Parents can't wait around for a White Paper on school transport for implementation years down the line. Urgent action needs to be taken; this cannot be repeated next year. All children should be able to get to school and should be able to get to school safely. The Welsh Government have a responsibility—

Fe hoffwn i ofyn am a gweld datganiad gan y Gweinidog addysg ar y llu o faterion a welsom ni'n plagio dychwelyd plant i'r ysgol o ran trafnidiaeth ysgolion. Mae plant yn mynd yn ôl i'r ysgol ar ôl y gwyliau bob amser yn anniben yr adeg hon o'r flwyddyn, ond eleni fe aeth hi'n annibendod llwyr. Gadawyd miloedd o rieni a phlant pryderus heb drafnidiaeth o gwbl neu â thrafnidiaeth sy'n anaddas. Mae hi'n amlwg nad yw'r darpariaethau cyfredol na'r dull o gyflawni hyn yn ddigon da. Rwy'n gwbl ymwybodol mai mater i lywodraeth leol yw hwn, ond rwy'n ymwybodol hefyd ein bod ni wedi cael adroddiad oddi wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynglŷn ag absenoldeb o'r ysgol yn ddiweddar, ac rydym ni newydd weld pa mor hanfodol yw'r mater, ond eto rydym ni'n caniatáu i gludiant ysgol fod yn gyfrannwr enfawr at ddiffyg presenoldeb yn yr ysgolion. Rydym ni'n siarad am ddiogelu a hawliau'r plentyn hefyd, yr ydym ni'n gywir i'w hyrwyddo, ond eto rydym ni'n gweld plant yn cael eu rhoi ar drafnidiaeth gyhoeddus ac yn aros am oriau, yn y glaw o bosibl, cyn ac ar ôl yr ysgol oherwydd nad yw amseroedd cludiant cyhoeddus yn cyd-fynd ag oriau ysgol.

Fe allwn i fynd ymlaen, ac mae'n rhaid bod pob Aelod yn y Senedd hon fod yn ymwybodol o'r materion yr wyf i'n eu cyflwyno i chi, oherwydd mae'r negeseuon yn eu mewnflychau nhw, ond mae angen dull arnom ni sy'n rhoi'r disgybl yn gyntaf ac mae angen diwygiad llwyr arnom, nid mireinio yn unig. Ni all rhieni aros am Bapur Gwyn ar gludiant ysgol i weithredu arno ymhen blynyddoedd lawer. Mae angen gweithredu ar unwaith; ni ellir ailadrodd hyn y flwyddyn nesaf. Fe ddylai pob plentyn allu mynd i'r ysgol ac fe ddylai allu mynd i'r ysgol yn ddiogel. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb—

—to act on this. Therefore, I'd like to see a statement, Minister.

—i weithredu yn hyn o beth. Felly, fe hoffwn i weld datganiad, Gweinidog.

Thank you. This doesn't fall in the Minister for Education and the Welsh Language's portfolio; it falls within the Deputy Minister for Climate Change's portfolio. You'll be aware that, quite long ago, in a previous term of this Senedd, the Learner Travel (Wales) Measure 2008 was brought forward, and that's currently under review. And you will have heard in my earlier answer to the leader of Plaid Cymru that we will be bringing forward a bus Bill, which I think will help in this area.

Diolch i chi. Nid yw hyn yn rhan o bortffolio Gweinidog y Gymraeg ac Addysg; rhan o bortffolio'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yw hyn. Rydych chi'n ymwybodol, beth amser yn ôl, mewn tymor Seneddol blaenorol, y cyflwynwyd Mesur Teithio i Ddysgwyr (Cymru) 2008, ac mae hynny'n cael ei adolygu ar hyn o bryd. Ac fe glywsoch chi yn fy ateb cynharach i arweinydd Plaid Cymru y byddwn ni'n cyflwyno Bil bysiau, ac rwyf i o'r farn y bydd o gymorth yn y maes hwn.

15:00

Diolch, Dirprwy Lywydd. Could I have a statement, please, from the Minister for Health and Social Services on the presence of RAAC in Welsh hospitals, especially the Bryn y Neuadd Hospital in Llanfairfechan? The issue with this particular unsafe building at Bryn y Neuadd Hospital is not new; I've been raising this issue since February, particularly the £27.7 million backlog of spend and 70 per cent of the floor area being recorded as not functionally suitable. This was evidenced in the health board's estate strategy. This is a mental health hospital and it cares for 25 of the most vulnerable people in our society. The majority of the building is quite frankly not fit for purpose, and this is well documented. So, I would be grateful if the Minister could provide a statement to urgently explain what is being done to assess the presence of RAAC in hospitals, what precautions are being taken to ensure that RAAC does not impact NHS patient care and waiting times, and how a hospital like Bryn y Neuadd has been allowed to reach a position where the majority of the estate, according to their own reports, is deemed not functionally suitable. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â phresenoldeb RAAC yn ysbytai Cymru, yn enwedig Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan? Nid yw'r broblem gyda'r adeilad anniogel penodol hwn yn Ysbyty Bryn y Neuadd yn rhywbeth newydd; rwyf i wedi bod yn codi'r mater hwn ers mis Chwefror, yn arbennig felly'r ôl-groniad o wariant o £27.7 miliwn a chofnodir nad yw 70 y cant o arwynebedd y llawr yn addas yn ymarferol. Fe amlygwyd hyn yn strategaeth ystadau'r bwrdd iechyd. Ysbyty iechyd meddwl yw hwn ac mae'n gofalu am 25 o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni. Nid yw'r rhan fwyaf o'r adeilad yn gwbl addas i'w ddiben, ac mae'r dogfennau yn dangos hynny'n eglur. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn rhoi datganiad ar fyrder i egluro beth sy'n cael ei wneud i asesu presenoldeb RAAC mewn ysbytai, pa gamau sy'n cael eu cymryd ymlaen llaw i sicrhau nad yw RAAC yn effeithio ar ofal cleifion y GIG ac amseroedd aros, a sut mae ysbyty fel Bryn y Neuadd wedi mynd i'r fath sefyllfa lle nad yw'r rhan fwyaf o'r ystâd, yn ôl eu hadroddiadau nhw eu hunain, yn cael ei hystyried yn addas yn ymarferol. Diolch.

Thank you. Janet Finch-Saunders is the fourth Member to ask for the Minister for Health and Social Services to bring forward a statement on RAAC in healthcare settings. As I said, once we've got the necessary information, the Minister will do so.

Diolch i chi. Janet Finch-Saunders yw'r pedwerydd Aelod i ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ar RAAC mewn lleoliadau gofal iechyd. Fel dywedais i, pan fydd y wybodaeth angenrheidiol gennym ni, fe fydd y Gweinidog yn gwneud hynny.

3. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad Addysg ar RAAC
3. Statement by the Minister for Education and the Welsh Language: Education Update on RAAC

Eitem 3 yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, diweddariad addysg ar RAAC. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.

Item 3 is a statement by the Minister for Education and the Welsh Language, an update on RAAC in education. I call on the Minister, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y defnydd o goncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth, neu RAAC, mewn ysgolion, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyhoeddi canllawiau newydd ar RAAC mewn lleoliadau addysg yn annisgwyl ddiwedd Awst. 

Mae RAAC yn ddeunydd a ddefnyddiwyd wrth adeiladu nifer o adeiladau rhwng y 1960au a'r 1990au ledled y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraethau'r Deyrnas Unedig wedi bod yn ymwybodol o rai o wendidau RAAC ers y 1990au ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r Llywodraethau datganoledig eraill ers 2018 wrth reoli RAAC. Tan yn ddiweddar iawn, mae pob Llywodraeth wedi ystyried bod y canllawiau ar gyfer rheoli RAAC mewn adeiladau yn ddull cadarn ar gyfer rheoli RAAC, ac o ran sicrhau bod diogelwch y rhai sy’n defnyddio’r adeiladau yn cael blaenoriaeth bob amser. 

Fel y dywedais yn fy natganiad ar 4 Medi, cafodd awdurdodau lleol Cymru wybod am gyfyngiadau strwythurol cynhenid RAAC drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Chwefror 2020, yn dilyn hysbysiad diogelwch a gyhoeddwyd yn 2019 gan y Pwyllgor Sefydlog ar Ddiogelwch Strwythurol. Mae dyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol i asesu cyflwr adeiladau ac unrhyw risgiau diogelwch, gan gynnwys uniondeb strwythurol pob adeilad o fewn ei ystâd, ac i gadw cofnodion. Gofynnwyd am fanylion unrhyw achos neu ymwybyddiaeth o RAAC fel rhan o’r ymarfer casglu data addysg blynyddol. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi cwblhau adolygiad o’u hystâd ysgolion ac mae’r adolygiad hwnnw ar y gweill mewn awdurdodau eraill.

Thank you, Dirprwy Lywydd. I’m pleased to have the opportunity today to provide Members with an update in respect of the use of reinforced autoclaved aerated concrete, or RAAC, in schools, following the decision by the UK Government to unexpectedly announce new guidance on RAAC in education settings at the end of August. 

RAAC is a material that was used in the construction of many buildings between the 1960s and 1990s across the United Kingdom. UK Governments have been aware of some of the vulnerabilities of RAAC since the 1990s and the Welsh Government has been working with other devolved Governments since 2018 in the management of RAAC. Until very recently, all Governments have considered that the guidance for the management of RAAC in buildings a robust approach in managing RAAC and in ensuring that the safety of building occupants is prioritised at all times.

As I outlined in my statement on 4 September, local authorities in Wales were made aware of the inherent structural limitation with RAAC through the Welsh Local Government Association in February 2020, following a safety alert published in 2019 by the Standing Committee on Structural Safety. There is a statutory duty on all local authorities to assess building condition and any safety risks, including structural integrity for all buildings within their school estate, and to maintain records. Requests were made for any details of any instance or awareness of RAAC as part of the annual education data collection exercise. A number of local authorities have completed their school estate reviews, and reviews are under way in other authorities.

As a result of the unexpected change by the UK Government to their experiences of RAAC in buildings in England and in light of newly provided evidence-based RAAC guidance, we have been working closely with local authorities in reviewing their school estates to identify any areas suspected of containing RAAC. On Monday 4 September, we confirmed that two schools in Ynys Môn, which have RAAC present in their buildings, would close temporarily to enable further safety inspections to be carried out. Quite rightly, and with the information available at that time, this was the appropriate decision to have been made by Ynys Môn. I’m pleased to say that, following proactive management by both headteachers, Ysgol David Hughes has today safely reopened to all learners. 

In addition to this, I am pleased to inform you that, from 7 September, Ysgol Uwchradd Caergybi provided learners with online lessons, and as of 11 September was able to partially open for pupils with face-to-face lessons for four school year groups, with three school year groups receiving online learning. This arrangement alternates each day to ensure all year groups receive the same balance of face-to-face and online learning.

Members will know that Wales has had an extensive programme for the refurbishment and building of new schools and colleges, upgrading and replacing those that are most in need of replacement for safety and quality reasons. Our sustainable communities for learning programme is delivering the biggest new school and further education building programme in Wales since the 1960s to address an ageing estate. Such is the commitment to improving facilities for our learners, the Welsh Government increased the level of capital funding available through the sustainable communities for learning programme to £300 million annually for the period of 2022-23 to 2024-25, representing an increase of 33 per cent when compared to the 2021-22 baseline. To date, more than £2.35 billion has been targeted towards new-build and major refurbishment projects.

Of the 1,463 state-maintained schools in Wales, more than 140 schools benefitted from this investment under the first wave of investment, and 200 schools and colleges are benefiting from the current wave. This, together with the fact that the Welsh Government has invested £203 million in capital maintenance over the last four years, means that local authorities and further education institutions in Wales have been able to address key aspects of maintenance to their schools and colleges. Planned maintenance of school and college buildings generally and addressing water ingress particularly are recognised as a key element in maintaining the structural integrity of RAAC buildings. The funding provided has also enabled local authorities and further education institutions to undertake the removal of asbestos in schools and colleges, which has aided access for the identification and assessment of RAAC.   

To date, Dirprwy Lywydd, there have been no further notifications from any local authority as to the presence, or suspected presence, of RAAC in schools in Wales. Last Friday, I published the latest position of each local authority as the assessment work continues, and I expect to have a more complete position by 15 September. In the meantime, we'll continue work at pace on new information provided by the Department for Education and to respond quickly to any findings arising from local authorities' review work, including any necessary assurance measures arising from that work. This includes continuing to support local authorities in any instances that might require specialist structural advice.

We are also working closely with CollegesWales to ensure we have a full picture of the impact of RAAC in the sector. Preliminary assessments of the whole estate are being undertaken and further education estates directors are working to complete assessments to provide an updated picture by the fifteenth of this month in line with schools.  

Finally, we are working closely with the Higher Education Funding Council for Wales and Universities Wales to get a full picture of the impact of RAAC in the higher education sector. Universities will be making their own assessments, working with the Association of University Estates Directors, which is conducting a survey of institutions.

I'd like to take the opportunity to thank everyone who is working in the education sector and local authorities who have been working tirelessly in light of these developments. I know too that many parents, carers and staff will have been concerned. I would like to reassure you that our priority will always be to ensure the safety of learners and staff and to keep our children and young people learning.

O ganlyniad i'r newid annisgwyl gan Lywodraeth y DU i'w profiadau o RAAC mewn adeiladau yn Lloegr ac yng ngoleuni canllawiau RAAC ar sail tystiolaeth sydd newydd eu darparu, fe fuom ni'n gweithio yn agos gydag awdurdodau lleol i adolygu ystadau eu hysgolion nhw i nodi unrhyw fannau y mae amheuaeth eu bod nhw'n cynnwys RAAC. Ar ddydd Llun 4 Medi, cadarnhawyd y byddai dwy ysgol yn Ynys Môn, sydd â RAAC yn bresennol yn eu hadeiladau nhw, yn cau dros dro ar gyfer cynnal archwiliadau diogelwch pellach. Yn gwbl briodol, a chyda'r wybodaeth a oedd ar gael bryd hynny, hwn oedd y penderfyniad priodol i'w wneud gan gyngor Ynys Môn. Rwy'n falch o ddweud, yn dilyn rheolaeth ragweithiol gan y ddau bennaeth, fod Ysgol David Hughes wedi ailagor heddiw ac yn ddiogel i bob dysgwr.

Yn ogystal â hynny, rwy'n falch o roi gwybod i chi, o 7 Medi, bod Ysgol Uwchradd Caergybi wedi darparu gwersi ar-lein i ddysgwyr, ac o 11 Medi fe lwyddodd i agor yn rhannol ar gyfer disgyblion â gwersi wyneb yn wyneb ar gyfer pedwar grŵp blwyddyn ysgol, gyda thri grŵp blwyddyn ysgol yn cael addysg ar-lein. Mae'r trefniant hwn yn newid bob dydd i sicrhau y bydd pob grŵp blwyddyn yn cael yr un cydbwysedd rhwng addysg wyneb yn wyneb ac addysg ar-lein.

Mae'r Aelodau yn gwybod am y rhaglen eang sydd gan Gymru i adnewyddu ac adeiladu ysgolion a cholegau newydd, gan uwchraddio a llwyr adnewyddu'r rhai y mae'r angen mwyaf i wneud hynny yno am resymau o ran diogelwch ac ansawdd. Mae ein rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy ni'n darparu'r rhaglen adeiladu ysgolion ac addysg bellach newydd fwyaf yng Nghymru ers y 1960au i fynd i'r afael ag ystadau sy'n heneiddio. Cymaint yw'r ymrwymiad i wella'r cyfleusterau ar gyfer ein dysgwyr ni, fe gynyddodd Llywodraeth Cymru gyfradd y cyllid cyfalaf sydd ar gael drwy'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy hyd at £300 miliwn bob blwyddyn ar gyfer y cyfnod 2022-23 i 2024-25, sy'n golygu cynnydd o 33 y cant o'i gymharu â gwaelodlin 2021-22. Hyd yn hyn, anelwyd dros £2.35 biliwn at brosiectau i adeiladu o'r newydd a chynnal gwaith adfer sylweddol.

O'r 1,463 o ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth yng Nghymru, fe fanteisiodd mwy na 140 o ysgolion ar y buddsoddiad hwn yn ystod cylch cyntaf y buddsoddiadau, ac mae 200 o ysgolion a cholegau yn elwa ar y cylch cyfredol. Mae hyn, ynghyd â'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £203 miliwn mewn cyfalaf cynnal a chadw dros y pedair blynedd diwethaf, yn golygu bod awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru wedi gallu mynd i'r afael ag agweddau allweddol ar gynnal a chadw i'w hysgolion a'u colegau. Cydnabyddir bod gwaith cynnal a chadw arfaethedig mewn adeiladau ysgolion a cholegau yn gyffredinol a mynd i'r afael â dŵr yn gollwng yn arbennig felly yn elfen allweddol o ran cynnal cyfanrwydd strwythurol adeiladau RAAC. Mae'r cyllid a ddarparwyd wedi galluogi awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach i gael gwared ar asbestos mewn ysgolion a cholegau hefyd, sydd wedi cynorthwyo gallu mynd at y RAAC i'w nodi a'i asesu.   

Hyd yn hyn, Dirprwy Lywydd, ni chafwyd unrhyw hysbysiadau pellach gan unrhyw awdurdod lleol ynghylch presenoldeb, nac amheuaeth o bresenoldeb, RAAC mewn ysgolion yng Nghymru. Ddydd Gwener diwethaf, fe gyhoeddais i sefyllfa ddiweddaraf pob awdurdod lleol wrth i'r gwaith asesu fynd rhagddo, ac rwy'n disgwyl cael dealltwriaeth fwy cyflawn erbyn 15 Medi. Yn y cyfamser, fe fyddwn ni'n parhau i weithio ar gyflymder i gael gwybodaeth newydd a roddir gan yr Adran Addysg ac ymateb yn gyflym i unrhyw ganfyddiadau sy'n deillio o waith adolygu'r awdurdodau lleol, gan gynnwys unrhyw fesurau angenrheidiol o ran diogelwch sy'n deillio o'r gwaith hwnnw. Mae hyn yn cynnwys parhau i gefnogi awdurdodau lleol mewn unrhyw achosion a allai fod ag angen cyngor strwythurol arbenigol.

Rydym ni'n gweithio yn agos gyda CholegauCymru hefyd i sicrhau y bydd gennym ni ddarlun cyflawn o effaith RAAC yn y sector hwnnw. Cynhelir asesiadau rhagarweiniol o'r ystâd gyfan ac mae cyfarwyddwyr ystadau addysg bellach yn gweithio i gwblhau asesiadau i roi darlun mwy diweddar erbyn y pymthegfed o'r mis hwn yn unol â'r ysgolion.  

Yn olaf, rydym ni'n gweithio yn agos gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Phrifysgolion Cymru i gael darlun cyflawn o effaith RAAC yn y sector addysg uwch. Y prifysgolion a fydd yn gwneud eu hasesiadau eu hunain, gan weithio gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Ystadau'r Brifysgol, sy'n cynnal arolwg o sefydliadau.

Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y sector addysg a'r awdurdodau lleol sydd wedi bod yn gweithio yn ddiflino yng ngoleuni'r datblygiadau hyn. Fe wn i hefyd y bydd llawer o rieni, gofalwyr a staff wedi bod yn gofidio. Fe hoffwn eich sicrhau chi mai ein blaenoriaeth ni bob amser fydd sicrhau diogelwch dysgwyr a staff a chynnal addysg ein plant a'n pobl ifanc.

15:05

Thank you for your statement today, Minister. It was important that all Members, and the public, of course, were privy to all of the information, so your statement is appreciated today. Having spoken to you in the summer, I know how concerned you are about all of this, and we all are, of course. It's a major concern for parents, school leaders, young people and communities across Wales. So, I'm a bit confused as to why you're not acting faster in this regard, especially when it's affecting our learners' education across Wales. It is apparent that, once again, the Welsh Government is behind the curve and playing catch-up with the rest of the UK on this issue.

Minister, you say the UK Government unexpectedly announced new guidance, yet this Welsh Government knew the extent of the damage caused by RAAC in 2019 in Withybush hospital and Bronglais hospital—years ago—as well as knowing that the RAAC had been identified in the schools in Ynys Môn in that same year. Yes, the UK-wide guidance hadn't changed until recently, but you knew about RAAC's shortcomings since 2019, perhaps before. Why didn't you think it was perhaps necessary to take greater action then? I'm astounded you did not think it was necessary at that point, on the back of the evidence from these Welsh hospitals, to investigate other public buildings, including schools built in the same period. Perhaps it would have been beneficial, therefore, for a more general statement today in that regard, as just requested by many Members across the Chamber.

The Welsh Government is now attempting to pin the blame on the UK Government for not notifying them sooner about the evidence they've seen, but I'm asking you today about what you knew and what you know about these devolved issues. This is devolved; the educational estate and health estate are devolved. The guidance was UK-wide. The information that you were already privy to on these Welsh buildings was devolved. What is clear is that the Welsh Government have clearly failed to adequately monitor the state of the infrastructure in Wales, and this despite being devolved, and despite Wales already being known to have the oldest and most vulnerable infrastructure and housing stock in the UK. Yet again, you are trying to pass the buck wherever you can. Your Government should be following the urgency and decisiveness of the UK Government. They've wasted no time in appointing a dedicated caseworker for schools impacted. We in the Welsh Conservatives have already called for a website that helps improve communication for students and parents and provides that reassurance.

Minister, due to the communication on all of this needing to improve—and again, your statement helps with that today—is a dedicated caseworker and perhaps a website or something similar something that you would consider in Wales, and could you confirm whether you think that's appropriate today? Minister, parents, schools and, most importantly, learners need answers and clear timelines from the Welsh Government on just when these issues are likely to be fixed, how you plan to mitigate the crisis arising from many school closures, and how the repairs, of course, will be funded. We've already seen the effect of the pandemic on how damaging missing school time can be, and the knock-on effects that are left with school attendance now.

Minister, once, hopefully, we have a more comprehensive knowledge of what on earth is going on across our local authorities on Friday, instead of the vague announcement that you made last Friday, we need to know how will you minimise the disruption that will be caused to learners and where the money will come from for repairs. You could say, 'The UK Government', but we both know the Welsh Government benefit from buildings being handed to them at the point of devolution, so the Welsh Government need to provide us as soon as possible with a plan about how they would—if it is their responsibility—fix the problems, and where that money would actually come from. Thank you.

Diolch i chi am eich datganiad chi heddiw, Gweinidog. Roedd hi'n bwysig i'r Aelodau i gyd, a'r cyhoedd, wrth gwrs, gael gwybod y cyfan, felly rydym ni'n gwerthfawrogi eich datganiad chi heddiw. Ar ôl siarad â chi yn ystod yr haf, rwy'n gwybod pa mor bryderus yr ydych chi wedi bod ynglŷn â hyn i gyd, fel rydym ni i gyd, wrth gwrs. Mae hwn yn bryder mawr i rieni, arweinwyr yr ysgolion, pobl ifanc a chymunedau ledled Cymru. Felly, rwyf i ychydig yn ddryslyd ynglŷn â pham nad ydych chi'n gweithredu yn gynt yn hyn o beth, yn enwedig pan fo'n effeithio ar addysg ein dysgwyr ni ledled Cymru. Mae hi'n amlwg, unwaith eto, fod Llywodraeth Cymru yn llusgo ei thraed ac ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU yn y cyswllt hwn.

Gweinidog, rydych chi'n dweud bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau newydd yn annisgwyl, ac eto roedd y Llywodraeth hon yn gwybod am faint y difrod a achoswyd gan RAAC yn 2019 yn ysbyty Llwynhelyg ac yn ysbyty Bronglais—flynyddoedd yn ôl—yn ogystal â gwybod i RAAC gael ei nodi yn ysgolion Ynys Môn yn yr un flwyddyn. Mae hi'n wir nad oedd y canllawiau ledled y DU wedi newid hyd yn ddiweddar, ond roeddech chi'n gwybod am ddiffygion RAAC ers 2019 a chyn hynny, efallai. Pam nad oeddech chi'n credu ei bod hi'n angenrheidiol cymryd mwy o gamau bryd hynny? Rwy'n rhyfeddu nad oeddech chi'n credu bod angen, ar sail y dystiolaeth yn yr ysbytai hyn yng Nghymru, ymchwilio i adeiladau cyhoeddus eraill, gan gynnwys ysgolion a adeiladwyd yn ystod yr un cyfnod. Efallai y byddai hi wedi bod yn fuddiol, felly, bod â datganiad mwy cyffredinol heddiw yn hynny o beth, fel mae llawer o Aelodau ar draws y Siambr newydd ei ofyn amdano.

Mae Llywodraeth Cymru nawr yn ceisio dodi'r bai ar Lywodraeth y DU am beidio â rhoi gwybod iddyn nhw'n gynt am y dystiolaeth a welson nhw, ond rwy'n eich holi chi heddiw ynglŷn â'r hyn yr oeddech chi'n ei wybod a'r hyn yr ydych chi'n ei wybod am y materion hyn a ddatganolwyd. Fe gafodd hyn ei ddatganoli; cafodd ystadau addysgol ac ystadau iechyd eu datganoli. Roedd y canllawiau hyn ledled y DU. Roedd y wybodaeth a oedd gennych chi eisoes am yr adeiladau hyn yng Nghymru yn ddatganoledig. Yr hyn sy'n amlwg yw bod Llywodraeth Cymru wedi methu, yn amlwg, â monitro cyflwr y seilwaith yng Nghymru yn ddigonol, a hynny er gwaethaf i hwn gael ei ddatganoli, ac er iddi fod yn hysbys mai yng Nghymru mae'r seilwaith a'r stoc dai hynaf a mwyaf simsan yn y DU. Unwaith eto, rydych chi'n ceisio dodi'r bai ar rywun arall pryd bynnag y gallwch chi. Fe ddylai eich Llywodraeth chi fod yn dilyn dull cyflym a phendant Llywodraeth y DU. Nid ydyn nhw wedi gwastraffu unrhyw amser i benodi gweithiwr achos penodol ar gyfer yr ysgolion yr effeithir arnyn nhw. Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw eisoes am wefan sy'n helpu i wella cyfathrebu i fyfyrwyr a rhieni ac sy'n cynnig sicrwydd yn hyn o beth.

Gweinidog, oherwydd yr angen am welliant yn y cyfathrebu ynglŷn â hyn i gyd—ac unwaith eto, mae eich datganiad chi heddiw o gymorth gyda hynny—a yw gweithiwr achos pwrpasol ac efallai gwefan neu rywbeth tebyg yn bethau y byddech chi'n eu hystyried yng Nghymru, ac a wnewch chi gadarnhau a ydych chi o'r farn y byddai hynny'n addas heddiw? Gweinidog, mae angen atebion ac amserlenni ar rieni, ysgolion ac, yn bwysicaf i gyd, y disgyblion oddi wrth Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r union amser y disgwylir i'r materion hyn gael eu datrys, felly sut ydych chi am liniaru'r argyfwng sy'n deillio o gau llawer o ysgolion, a sut bydd y gwaith atgyweirio yn cael ei ariannu, wrth gwrs? Rydym ni eisoes wedi gweld effaith y pandemig ar ba mor niweidiol y gall colli amser o'r ysgol fod, ac fe fydd yna sgil-effeithiau oherwydd materion presenoldeb sydd mewn ysgolion ar hyn o bryd.

Gweinidog, pan, gyda gobaith, fydd gennym ni wybodaeth fwy cynhwysfawr am yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad yn ein hawdurdodau lleol ni ddydd Gwener, yn hytrach na chyhoeddiad annelwig fel gwnaethoch chi ddydd Gwener diwethaf, bydd angen i ni wybod sut y byddwch yn cyfyngu ar y tarfu a fydd ar ddysgwyr ac o ble y bydd yr arian yn dod i atgyweirio. Fe allech chi ddweud, 'Llywodraeth y DU', ond fe wyddom ni ein dau fod Llywodraeth Cymru wedi elwa ar adeiladau yn cael eu rhoi yn ei dwylo hi gyda datganoli, felly mae angen i Lywodraeth Cymru roi cynllun i ni cyn gynted â phosibl ynghylch sut y bydden nhw—os mai eu cyfrifoldeb nhw ydyw hwn—yn cywiro'r problemau, ac o ble byddai'r arian hwnnw'n dod mewn gwirionedd. Diolch i chi.

15:10

I thank the Member for that range of questions. Many, of course, were answered by the statement that I provided and that, perhaps, the Member wasn’t able to have read, but I’ll try and engage with the key points that she made.

I think it is important to clarify some of the misconceptions in her questions. What has not happened is a change of guidance by the Institute of Structural Engineers. The guidance has been available to Governments in all parts of UK for a number of years and has been periodically updated, and those responsible in all parts of the UK for managing public buildings have done so—have been required to do so—in accordance with that guidance.

What happened the week before term started is the provision of new information, which had caused the UK Government, two days before the start of term, to issue its revised position. That was information that I understand had been available to them for some time, but that is a matter for them. The reason the information was available to them and not to us is because the information reflects failures in public buildings in England of a sort that we have not seen in Wales. That’s why the information was in their hands and not in ours.

I think it is important to say that the RAAC in the two schools in Ynys Môn was identified as a consequence of a survey and has been managed in accordance with expert engineering guidance over the period in which the schools and the authority have been aware, which is entirely what we would expect to happen.

The timeline for this is much longer than it seems from the Member's question. Governments in the UK have been working together on this, as I said in my statement, since about 2018. The process has been different in different parts of the UK. For example, in England—she invites me to draw the comparison—the Department for Education sent questionnaires out to the heads of its schools. It has around 24,000 schools, as she will know. That's a very different process than the process that is available to us in Wales, because we have 22 local authorities with whom we have very collaborative relationships, because we're discussing with them every week the needs of their school and other estate because we invest together very significantly in that, in the way that I was describing in my statement. So, the process has been—. We are discussing with a much smaller group of people and we're able to work in a much more strategic way. That is a consequence of the way our education system is structured in Wales. It's not available across the border because there are different arrangements. I'm not making a criticism of that, I'm just explaining why that difference is in place.

Authorities have been working to understand the presence of RAAC in their buildings. As the Member will know, they have a programme of routine building survey and so they will be making planned maintenance interventions on a periodic basis, which I think is obviously a very helpful thing for them to do and a very different position, I think, from that of some other parts of the UK.

She asked for specific timelines. I have been very clear, I think, in the statement that we expect further information at the end of this month. We hope, and expect, if any other schools are identified, to have resolved that position by the end of this year. That's broadly the same timeline that the UK Government is working to, and I understand that to be broadly consistent right across the UK. I thought it was telling, if I may say, that she referred to schools being handed to the Welsh Government upon devolution. The approach that we have had has been one where I think most people would recognise that the investment that we've put into the school estate in Wales over the last decade has been very significant, because we prioritise capital investment both for maintenance purposes, for net-zero adaptations and for quality and safety purposes, and I'm very proud of that, and most Members in this Chamber I think are very proud of that work.

At the end of the day, we are prioritising the safety of our learners. I'm very pleased that, as I stand here today, it's two schools in Wales that have been identified. We'll have a fuller picture at the end of this week. And when we have that information, if there are—and I hope there won't be, but if there are schools that are identified as potentially having RAAC, if they have not already been surveyed, and many will have been surveyed, but if they haven't, we will work with authorities to put those arrangements in place. And if we identify schools that may have RAAC, we'll agree an approach with the local authority to have a particular management plan for that school, just in the way we did with Ynys Môn at the start of last week. That collaborative, cautious approach I think is absolutely the right way forward.

Rwy'n diolch i'r Aelod am yr amrywiaeth yna o gwestiynau. Fe atebwyd llawer ohonyn nhw, wrth gwrs, yn y datganiad a roddais i ac efallai nad oedd yr Aelod wedi gallu ei ddarllen, ond rwyf i am geisio ymgysylltu â'r pwyntiau allweddol a wnaeth hi.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig egluro rhai o'r camsyniadau yn ei chwestiynau hi. Nid oes newid wedi bod yn y canllawiau gan Sefydliad y Peirianwyr Adeiladu. Mae'r canllawiau wedi bod ar gael i Lywodraethau ym mhob rhan o'r DU ers nifer o flynyddoedd ac maen nhw wedi cael eu diweddaru o bryd i'w gilydd, ac mae'r rhai sydd â chyfrifoldeb ym mhob rhan o'r DU am reoli adeiladau cyhoeddus wedi gwneud hynny—roedd hi'n ofynnol iddyn nhw wneud hynny—yn unol â'r canllawiau hyn.

Yr hyn a ddigwyddodd yr wythnos cyn i'r tymor ddechrau yw y darparwyd gwybodaeth newydd, a oedd wedi achosi i Lywodraeth y DU, ddeuddydd cyn dechrau'r tymor, gyhoeddi ei safbwynt diwygiedig. Gwybodaeth oedd honno fel rwy'n deall a oedd wedi bod ar gael iddyn nhw ers peth amser, ond mater iddyn nhw ydyw hwnnw. Y rheswm pam roedd yr wybodaeth ar gael iddyn nhw ac nid i ni yw oherwydd bod yr wybodaeth yn adlewyrchu methiannau o ran adeiladau cyhoeddus yn Lloegr o fath nad ydyw'n bodoli yng Nghymru. Dyna pam roedd yr wybodaeth hon yn eu dwylo nhw ac nid yn ein dwylo ni.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud bod y RAAC yn y ddwy ysgol yn Ynys Môn wedi cael ei ddarganfod o ganlyniad i arolwg ac fe'i rheolwyd yn unol â chanllawiau peirianneg arbenigol dros y cyfnod y mae'r ysgolion a'r awdurdod wedi bod yn ymwybodol ohono, sef yr hyn y byddem ni'n disgwyl iddo ddigwydd.

Mae'r amserlen ar gyfer hyn yn llawer hwy nag y mae hynny'n ymddangos o gwestiwn yr Aelod. Mae Llywodraethau yn y DU wedi bod yn cydweithio yn hyn o beth, fel dywedais i yn fy natganiad, ers tua 2018. Mae'r broses wedi amrywio mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig. Er enghraifft, yn Lloegr—mae hi'n fy ngwahodd i dynnu'r gymhariaeth—fe anfonodd yr Adran Addysg holiaduron allan i benaethiaid ei hysgolion. Mae ganddi tua 24,000 o ysgolion, fel gwŷr yr Aelod. Mae honno'n broses wahanol iawn i'r broses sydd ar gael i ni yng Nghymru, oherwydd mae gennym ni 22 o awdurdodau lleol yma y mae gennym ni berthynas gydweithredol glòs iawn â nhw, oherwydd rydym ni'n trafod gyda nhw'n wythnosol anghenion eu hysgolion a'u hystadau eraill oherwydd ein bod ni'n buddsoddi gyda'n gilydd yn sylweddol iawn yn hynny, yn y ffordd yr oeddwn i'n ei disgrifio yn fy natganiad. Felly, mae'r broses wedi bod—. Rydym ni'n trafod gyda grŵp llawer llai o bobl ac rydym ni'n gallu gweithio mewn ffordd sy'n llawer mwy strategol. Mae hynny o ganlyniad i'r ffordd y cafodd ein system addysg ni ei strwythuro yng Nghymru. Nid yw hyn ar gael dros y ffin gan fod y trefniadau yno'n wahanol. Nid wyf i'n beirniadu hynny, dim ond yn esbonio pam mae'r gwahaniaeth hwnnw'n bodoli.

Mae'r awdurdodau wedi bod yn gweithio i ddarganfod y RAAC sy'n bresennol yn eu hadeiladau nhw. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae ganddyn nhw raglen gyson o arolygu adeiladau ac felly fe fyddan nhw yn gwneud ymyriadau cynnal a chadw cynlluniedig o bryd i'w gilydd, ac rwy'n credu bod hynny'n amlwg yn rhywbeth defnyddiol iawn iddyn nhw fod yn ei wneud ac mae'r sefyllfa yn wahanol iawn, yn fy marn i, i'r hyn sy'n digwydd yn rhai rhannau eraill o'r DU.

Roedd hi'n gofyn i mi am amserlenni penodol. Rwyf i wedi bod yn eglur iawn, rwy'n credu, yn y datganiad ein bod ni'n disgwyl am ragor o wybodaeth ar ddiwedd y mis hwn. Rydym ni'n gobeithio, ac yn disgwyl, pe byddai unrhyw ysgolion eraill yn cael eu nodi, y byddwn wedi datrys y sefyllfa honno erbyn diwedd y flwyddyn eleni. Dyna'r amserlen y mae Llywodraeth y DU yn gweithio iddi hi'n fras, ac rwy'n deall bod hynny'n gwbl gyson ledled y DU. Roeddwn i o'r farn, os caf i ddweud, ei bod hi'n arwyddocaol iddi hi gyfeirio at ysgolion yn cael eu dodi yn nwylo Llywodraeth Cymru gyda datganoli. Mae'r ymagwedd sydd gennym ni yma wedi bod yn un, rwy'n credu, y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cydnabod bod y buddsoddiad a wnaethom ni yn ystadau ysgolion yng Nghymru dros y degawd diwethaf wedi bod yn un sylweddol iawn, oherwydd ein bod ni'n blaenoriaethu buddsoddiad cyfalaf at ddibenion cynnal a chadw, ar gyfer addasiadau sero net ac at ddibenion ansawdd a diogelwch, ac rwy'n falch iawn o hynny, ac mae'r rhan fwyaf o Aelodau yn y Siambr hon, rwy'n credu, yn falch iawn o'r gwaith hwnnw.

Yn y pen draw, blaenoriaethu diogelwch ein dysgwyr a wnawn ni. Rwy'n falch iawn, wrth i mi sefyll yn y fan hon heddiw, mai dwy ysgol yn unig yng Nghymru a gafodd eu nodi. Fe fydd gennym ni ddarlun mwy cyflawn ar ddiwedd yr wythnos hon. A phan fydd yr wybodaeth honno gennym ni, pe byddai yna—ac rwy'n gobeithio na fydd gennym ni ddim, ond pe byddai yna ysgolion yn cael eu nodi â RAAC o bosibl, os nad ydyn nhw wedi cael eu harolygu eisoes, ac fe fydd llawer wedi cael eu harolygu, ond os nad ydyn nhw wedi cael eu harolygu felly, fe fyddwn ni'n gweithio gyda'r awdurdodau i roi'r trefniadau hynny ar waith. Ac os byddwn ni'n nodi ysgolion a allai fod ag RAAC, fe fyddwn ni'n cytuno ar ddull ar y cyd â'r awdurdod lleol i fod â chynllun rheoli penodol ar gyfer yr ysgol honno, yn union fel gwnaethom ni gydag Ynys Môn ar ddechrau'r wythnos diwethaf. Rwyf i o'r farn mai ymagwedd gydweithredol, bwyllog fel hon yw'r ffordd gwbl briodol ymlaen.

15:15

Diolch, Weinidog, am ddod â'r datganiad hwn gerbron heddiw, a hefyd diolch am y diweddariadau yn ystod cyfnod y toriad, gan gynnwys rhoi briff personol. Dwi'n ddiolchgar iawn am hynny, oherwydd yn amlwg mi oedd o'n gyfnod pryderus iawn i weld y penawdau ac ati, ac mae o wedi bod yn fater o gysur, dwi'n meddwl, o ran gweld efo Ynys Môn eu bod nhw, am un peth, yn ymwybodol o'r broblem, bod Llinos Medi fel yr arweinydd yn gallu dweud eu bod nhw'n gwneud arolygon blynyddol ac felly yn gallu gweithio efo chi. Dwi'n meddwl lle sydd yn peri pryder wedyn ydy, efallai, yr awdurdodau lleol lle dydy'r gwaith yna ddim yn wybyddus eto. Fel chi, dwi'n mawr obeithio bod hynny'n golygu nad oes enghreifftiau pellach, ond yr hyn sydd yn bryderus ydy ein bod ni ddim efo'r darlun cyflawn ar hyn o bryd.

Dŷch chi wedi sôn nifer o weithiau o ran 15 Medi fel targed o ran hwnnw a'r gobaith y bydd gennych chi ddarlun mwy cyflawn. Ydy hynny'n golygu darlun llawn? Sori i fod yn bedantig o ran iaith, ond mae darlun mwy cyflawn—. Yr hyn y buaswn i'n hoffi gwybod ydy pryd y byddwn ni'n gwybod yn bendant, felly, oherwydd un o'r pethau roeddech chi'n sôn amdanynt wrth ymateb yn yr haf oedd bod gwaith wedi cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru o ran edrych ar yr ystâd, ond mi oedd hynny'n benodol o ran datgarboneiddio, oedd yn cynnwys RAAC ac ati. A dwi'n meddwl bod yna bach o amwysedd i ddechrau pan ddaeth y datganiad hwnnw o ran lle'r oedd y gwaith arni ac ati. Yn sicr, os oeddech chi'n edrych ar y datganiad a fu o ran datgarboneiddio, roedd y gwaith hwnnw i fod i ddechrau ym mis Hydref eleni, fis nesaf, a'i gwblhau o fewn 12 mis. Ydy'r gwaith hwnnw, felly, wedi gorfod dod ymlaen o ran yr elfen RAAC a beth sydd felly'n weddill? Pryd fyddwn ni go iawn efo'r darlun cyflawn hwnnw, er mwyn gallu rhoi sicrwydd i staff ac, yn amlwg, disgyblion yn yr ysgolion hyn?

Mi fyddwn i'n hoffi ategu rhai o'ch sylwadau chi ynglŷn â phryd ddaeth gwybodaeth ychwanegol at Lywodraeth Cymru. Mae'n bwysig bod yna bartneriaeth rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru a dangos parch i'r ffaith bod gennym ni Lywodraeth yn fan hyn. Un o'r pethau dwi'n meddwl sy'n bwysig iawn o ran cyllid ydy'r cyfrifoldeb sydd o ran y cydweithio hwnnw, os ydyn ni'n gweld bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn poeni o unrhyw fath am Gymru. Mi ofynnodd Hywel Williams, yr Aelod Seneddol, a fyddai'r Trysorlys yn talu am unrhyw gostau sydd yn gysylltiedig â RAAC yn adeiladau Cymru, a 'na' oedd yr ateb a ddaeth o ran hynny. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gydag Aelodau Seneddol Llafur o Gymru er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gwthio'r achos ymlaen, a hefyd unrhyw sicrwydd gan Keir Starmer, os mai fo fydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, o ran beth fydd y sefyllfa pan fo'r math yma o bethau yn codi? Yn sicr, mae'n rhaid inni—. Nid chwarae gwleidyddiaeth rydyn ni eisiau gwneud o ran hyn. Y peth pwysig ydy bod yna ddatrysiadau, ac rydyn ni'n gwybod bod cyllid Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cael Llywodraeth Prydain yn cydweithio yn hytrach na dweud, 'Wel, chi ddylai dalu—wnawn ni ddim helpu.' Mae'n rhaid bod y math yna o sicrwydd yn cael ei roi.

Felly, yn fwy na dim, os caf i eglurder, os gwelwch yn dda, o ran yr amserlen, y gwaith datgarboneiddio a sut mae hwnnw'n gysylltiedig efo RAAC, a hefyd o ran yr achos o ran ariannu. Diolch.

Thank you, Minister, for bringing this statement forward this afternoon, and also thank you for the updates during recess, including providing a personal briefing. I'm very grateful for that, because clearly it was a very worrying time to see the headlines and so on. It has been some comfort to see, with Anglesey, that first they are aware of the problem, that Llinos Medi as the leader of the council can say that they are carrying out annual surveys and therefore can collaborate with you. I think what does cause concern is the work happening in other areas where that work hasn't been identified as yet. Like you, I hope there are no further examples, but what is worrying is that we don't have a full picture at the moment.

You have mentioned a number of times the date of 15 September as a target and the hope that you will have a clearer picture by then. Does that mean a full picture? Sorry to be pedantic in terms of the use of language, but a more complete picture—. What I would want to know is when will we have definitive information, because one of the things that you mentioned in responding during the summer was that some work had been commissioned by the Welsh Government in terms of looking at the estate, but that was particularly in terms of decarbonisation, which included RAAC and so on. And I think there was some ambiguity when that statement was made in terms of where the work had reached. And certainly, if you were looking at the statement on decarbonisation, that work was supposed to start next month and to be completed within 12 months. Has that work been brought forward in terms of the RAAC element of it and then what's remaining? When will we really have that full picture, to provide assurances to staff and, obviously, pupils in these schools?

I would like to echo some of your comments on when additional information was provided to Welsh Government. It's important that there is a partnership between the UK Government and the Welsh Government and that there should be respect for the fact that we have a Government here. One of the things that I do think is very important in terms of funding is the responsibility in terms of that collaboration, if we see that the UK Government is at all concerned about Wales. Hywel Williams MP asked whether the Treasury would pay any costs related to RAAC in Welsh buildings, and the answer was 'no'. So, may I ask what discussions you've had with Welsh Labour MPs to ensure that they are pushing this case forward, and also any assurance from Keir Starmer, if he will be the next UK Prime Minister, in terms of what the situation will be when these types of things arise in future? Certainly, we must—. We shouldn't be playing politics here. The important thing is that we find resolution, and we know that Welsh Government funding is limited, and it's very important that we do have a UK Government that collaborates with us, rather than saying, 'Well, you should pay for this—we won't help out.' We have to have those assurances.

So, more than anything, if I could have some clarity, please, in terms of the timetable, the decarbonisation work and how that links to RAAC, and also in terms of the case for funding. Thank you.

15:20

Diolch i Heledd am y cwestiynau pellach hynny. Gaf i jest dweud—? O ran y cwestiwn am y berthynas, y rheswm roeddwn i'n ateb llawer iawn o gwestiynau am hyn, ar ddechrau'r wythnos diwethaf, oedd oherwydd bod pobl eisiau gwybod pam oedd y penderfyniad yn cael ei gymryd ar ddiwrnod cyntaf y tymor. Dyna pam. Felly, er mwyn esbonio'r amserlen i bobl. Roedd e'n gwestiwn—. Roedd e'n her ddigon teg i newyddiadurwyr ac eraill i'w rhoi i'r Llywodraeth, felly roedd angen esbonio'n onest i bobl pam oedd y sefyllfa'n codi. Felly, nid gwleidyddiaeth y peth oedd o ddiddordeb i fi o gwbl, ond esbonio i bobl beth oedd y sefyllfa.

Jest er mwyn y darlun cyflawn, ers hynny gwnes i alw am ddau beth wrth y Llywodraeth yn San Steffan. Y peth cyntaf oedd mwy o wybodaeth am yr asesiadau technegol oedd tu cefn i'r wybodaeth a rannwyd gyda ni ar y nos Sul. Yr ail beth oedd i gynnal cyfarfod o'r pwyllgor trawslywodraethol—roedd Llywodraeth Cymru'n cael ei gynrychioli ar hwnnw dros yr haf—i alw am gyfarfod pellach o hwnnw fel bod pob Llywodraeth yn gweithio gyda'r un sail o wybodaeth. Mae'n bwysig ein bod ni'n cydweithio ac yn rhannu'r wybodaeth yma; yn enwedig os ydy wedi digwydd i un Llywodraeth ond ddim i eraill, mae'n bwysig ein bod ni'n cael gweld hynny. Ac, er tegwch, mae'r ddau beth yna wedi digwydd ers inni alw amdanyn nhw. Felly, mae'r wybodaeth wedi bod yn symud yn well ers hynny.

O ran y wybodaeth ar gyfer diwedd yr wythnos hon, wel, mae tri chategori, onid oes? Y categori cyntaf yw, 'Yn anffodus, rŷn ni wedi darganfod mwy o RAAC.' Gobeithio bydd hynny ddim yn digwydd, ond mae wrth gwrs yn bosibiliad. Ar y llaw arall mae, 'Rŷn ni'n gwbl sicr nad oes unrhyw RAAC gyda ni', felly mae hynny'n sicrwydd ac mae hynna'n wybodaeth glir. Ond bydd categori yn y canol sydd yn—'Wel, dyma i chi ysgol sydd efallai gyda risg o RAAC—mae angen gwneud gwaith survey efallai mwy manwl er mwyn bod yn sicr', ond bydd hynny yn grŵp llai o ysgolion. Byddwn ni wedi gallu diffinio yr ysgolion hynny. Fel gwnes i sôn yn gynharach, os oes gwaith wedi digwydd eisoes o ran survey, wel, efallai does dim angen ail-wneud hynny. Mae'n dibynnu ar yr amgylchiadau: faint sydd, beth yw oed yr adeilad—mae'r math o bethau yna yn bwysig. Felly, dyna'r darlun llawnach. Bydd y manylion yn gyflawn, ond efallai bydd angen profi rhai o'r pethau pellach. Efallai bydd angen mwy o waith pellach ar ysgolion er mwyn bod yn gwbl sicr. Felly, dyna'r wybodaeth fydd gyda ni erbyn dydd Gwener. Ond wrth gyhoeddi'r hyn wnaethon ni ddydd Gwener diwethaf, roedden ni'n awyddus, ac roedd cynghorau lleol, er tegwch iddyn nhw, eisiau bod yn gwbl dryloyw am lle'r oedden nhw a lle maen nhw yn y broses.

O ran y gwaith ddigwyddodd cyn yr haf, roedd y survey roeddwn i'n sôn amdano yn y datganiad—. Fel rŷch chi'n dweud, survey ar gyfer datgarboneiddio oedd prif fwriad hwnnw, ond y math o gwestiynau sy'n codi yn sgil hynny—'Beth yw oed yr adeilad?', 'Pa ddeunyddiau y cafodd ei adeiladu gyda?', 'Oes diweddariadau wedi bod yn digwydd ers hynny?'—yw'r math o wybodaeth fyddech chi'n defnyddio er mwyn deall a oes risg o RAAC beth bynnag. Mae mwy o waith i'w wneud, wedyn, os ydych chi’n credu bod y categori yna yn addas. Ac rŷn ni wedi cynnwys RAAC, ar ddechrau’r haf, fel rhan o'r broses honno hefyd, fel bod sicrwydd annibynnol, os hoffwch chi, gyda ni. Ond y gwaith fydd yn dod â’r manylion y byddwn ni'n gallu dweud wrthych chi, 'Dyma'r darlun', yw’r gwaith sydd yn digwydd nawr gyda chynghorau lleol a'r gwaith survey pellach i unrhyw ysgolion ble mae cwestiwn, os hoffwch chi. Felly, dyna sail y wybodaeth fydd yn rhoi sicrwydd. Rhyw ychwanegiad, os hoffwch chi, yw’r llall, fel bod gyda ni ffynhonnell arall hefyd. Ond gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint mwy o sicrwydd i chi.

O ran arian y peth, wel, dwi'n meddwl y gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad cwbl glir yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog yn gynharach o ran lle mae e’n credu bod y cyfrifoldeb yn syrthio, ac mae'n iawn i ddweud hynny, wrth gwrs. Mae'r penderfyniadau hyn wedi cael eu gwneud mewn cyfnod cyn i'r ysgolion gael eu rhoi inni, fel rhoddodd y Ceidwadwyr yn eu cwestiwn. Felly, dyna’r egwyddor. Felly, os oes gan unrhyw un ddylanwad ar y Llywodraeth yn San Steffan i gael y safbwynt hwnnw i fynd â’r maen i'r wal, byddwn i'n ddiolchgar o’u cefnogaeth nhw yn hynny.

I thank Heledd for those further questions. Could I just say—? In terms of the relationship question, the reason that I was answering a lot of questions about this last week was because people wanted to know why the decision was made on the first day of term. That's why. I was just trying to explain the timetable to people. It was a fair challenge for a journalist to present to the Government, but I needed to provide honest answers to people as to why the situation arose. It wasn't a political reason, but it was just to explain to people what the situation was.

In terms of having a full picture, since then I called for two things from the Government in Westminster. The first thing was for more information regarding the technical assessments that underpinned the information that was shared with us on the Sunday evening. The second thing was to hold a meeting of the cross-governmental committee—the Welsh Government was represented on that during the summer—to call for a further meeting of that so that all Governments were working with the same information base. It's important that we do collaborate and share information; particularly if it's happened to one Government but not to another, it's important for us to be able to see that. And, in fairness, both those things have happened since we called for them. So, the information has been flowing more easily since then.

In terms of the information at the end of this week, well, there are three categories. The first category is, 'Unfortunately, we have found more RAAC.' Hopefully that won't happen, but it is a possibility. On the other hand there's, 'We are entirely certain that we have no RAAC', so that's assurance and that's clear information. But there will be a middle category that's, 'Well, here is a school that may have a RAAC risk—we need to undertake more detailed survey work in order to be sure about that', but that will be a group with fewer schools. We will be able to define those schools. As I mentioned earlier, if work has already happened in terms of surveys, well, maybe we don't need to do that again. It depends on the circumstances: how many there are, what the age of the buildings is—those kinds of things are important. So, that's a fuller picture. The details will be clearer, but maybe we'll need to undertake further tests and maybe further work on schools in order to be completely sure. So, that's the information that we will have by Friday. But in publishing what we did last Friday, we were eager, and local authorities as well wanted to be transparent about where they were in terms of this process.

In terms of the work that happened before the summer, the survey that I mentioned in the statement—. As you mentioned, decarbonisation was the main purpose of that, but the kind of questions that arise in the wake of that, namely the age of the building and what materials were used to build it, whether adaptations have been since then—that's the kind of information you'd use to understand whether there is a risk of RAAC. There is more work to do, then, if you belive that that category is appropriate. And we've included RAAC, at the start of the summer, as part of that process as well, so that we have independent assurance. But the work will bring forward those details and we'll be able to tell you, 'This is the work that's going on with the local authorities', and further survey work that will be undertaken on schools where there is a question. So, that's the information base that will provide further certainty, and we will have another source of information as well. And I hope that will give you more certainty.

In terms of funding, I think the First Minister made a very clear statement during First Minister's questions earlier this afternoon where he said where he believes the responsibility falls, and he's right to say that, of course. These decisions were made in a period before the schools were given to us, as the Conservative said in her question. So, that is the principle. So, if anyone has an influence on the Westminster Government to undertake that position, I'd be pleased for their support.

15:25

Cement can best be described as a hydraulic adhesive. It consists of nothing but special glue that binds sand and gravel together, forming a stone-like hard element. By itself, cement is of very little use. However, when you blend it with aggregates, such as sand and gravel, it forms concrete. So far, so good. Concrete is the most used man-made ever invented. Unfortunately, people tried to do things to it to reduce the cost of making it. The problem with reinforced autoclaved aerated concrete does not come as a surprise to me. It follows a long list of previous problems with non-traditional building materials. How many people remember high-alumina cement, which was in a number of schools that ended up with holes in the cement? How many people remember pre-cast reinforced concrete, where the houses had to be taken down because they became unsafe for people to live in? How many people remember Wimpey no-fines? The houses are still there, but it's very, very difficult to get a mortgage on them. How many people remember the steel houses, which we had in Swansea, which again had to be taken down? I could go through a further list of this, but it would be far too long. All I'm asking is for the Welsh Government to specify only traditional building materials be used in the construction of school buildings. It might cost more, but they'll last.

Y ffordd orau i ddisgrifio sment yw ei fod yn lud hydrolig. Nid yw nemor glud arbennig sy'n rhwymo tywod a graean gyda'i gilydd, gan ffurfio elfen galed sy'n debyg i garreg. Ar ei ben ei hun, ychydig iawn o ddefnydd sydd i sment. Fodd bynnag, pan gymysgwch chi ef ag agregau, fel tywod a graean, mae'n gwneud concrit. Da iawn, hyd yma. Concrit yw'r deunydd a ddefnyddiwyd fynychaf a ddyfeisiwyd erioed gan ddyn. Yn anffodus, ceisiodd pobl wneud pethau iddo i leihau'r gost o'i gymysgu. Nid yw'r broblem gyda choncrit a atgyfnerthwyd a awyrwyd a'i awtoclafio o unrhyw syndod i mi. Mae ar restr hir o broblemau gyda deunyddiau adeiladu annhraddodiadol sydd wedi bod yn y gorffennol. Faint o bobl sy'n cofio sment alwmina uchel, a oedd yn bresennol mewn nifer o ysgolion a'r canlyniad oedd tyllau yn y sment? Faint o bobl sy'n cofio concrit wedi'i rag-gastio a atgyfnerthwyd, lle bu'n rhaid tynnu'r tai i lawr am eu bod yn anniogel i bobl fyw ynddyn nhw? Faint o bobl sy'n cofio dim mân ronynnau Wimpey? Mae'r tai yno o hyd, ond mae hi'n anodd iawn, iawn cael morgais ar eu cyfer. Faint o bobl sy'n cofio'r tai dur, a oedd gennym ni yn Abertawe, y bu'n rhaid eu tynnu i lawr? Fe allwn i fynd drwy restr arall eto o'r rhain, ond fe fyddai hynny'n cymryd llawer gormod o amser. Y cyfan yr wyf i'n ei ofyn yw i Lywodraeth Cymru orchymyn mai dim ond deunyddiau adeiladu traddodiadol a gaiff eu defnyddio i godi adeiladau ysgolion. Efallai y bydd hynny'n costio mwy, ond fe fyddan nhw'n para.

I thank Mike Hedges for that, and I always appreciate the technical detail that he brings to his questions, and I'm grateful to him for that. He's identified a number of points in his question. He will know this, in any case, from his experience, but we build schools differently in Wales from the way that they do in England. We allow for greater collaboration, if you like, as I was pointing out a little earlier, with our local authorities to ensure that the construction of our new school buildings, for example, reflect the appropriate standards. We are in a pretty much ongoing discussion, really, and are continuously, with the Consortium of Local Authorities in Wales, who he will know—the Welsh local authority construction consortium—in relation to questions around standards and design standards and materials and other questions. Indeed, over the last nine months or so, my officials have been working with the sector, actually, in reviewing those standards across the board, really—design standards and space standards, as well as others. We do that periodically to refresh that as part of our sustainable communities for learning programme. He will also know that we are commissioning the building of some new primary schools using natural materials, so I think it is important for us to be able to meet our environmental goals by taking that sort of initiative as well. But the new standards, which my officials are discussing with the sector, will be specific to schools in Wales. Those discussions have been going on for some time, as I say, and they will directly support our commitment as a Government, which I know that he shares, to make sure that our schools in Wales are fit for the twenty-first century in all respects.

Diolch i Mike Hedges am hynna, ac rwy'n gwerthfawrogi'r manylion technegol y mae ef yn eu rhoi yn ei gwestiynau ef bob amser, ac rwy'n ddiolchgar iddo am hynny. Fe nododd ef nifer o bwyntiau yn ei gwestiwn. Fe wŷr ef, beth bynnag, o'i brofiad ei hun, ein bod ni'n adeiladu ysgolion mewn ffordd wahanol yng Nghymru i'r ffordd y maen nhw'n gwneud hynny yn Lloegr. Rydym ni'n caniatáu mwy o gydweithio, os mynnwch chi, fel roeddwn i'n tynnu sylw ato ychydig yn gynharach, gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod codi adeiladau newydd i'n hysgolion ni, er enghraifft, yn adlewyrchu'r safonau priodol. Rydym ni mewn trafodaeth led barhaus, mewn gwirionedd, a thrwy'r amser, gyda'r Consortiwm o Awdurdodau Lleol yng Nghymru, y mae ef yn gwybod amdanyn nhw—consortiwm adeiladu awdurdodau lleol Cymru—o ran cwestiynau ynghylch safonau a safonau dylunio a deunyddiau a chwestiynau eraill. Yn wir, dros y naw mis diwethaf, mae fy swyddogion i wedi bod yn gweithio gyda'r sector, mewn gwirionedd, gan adolygu'r safonau hynny'n drylwyr iawn, safonau dylunio a safonau gofod, yn ogystal ag eraill. Rydym ni'n gwneud hynny o bryd i'w gilydd i adnewyddu hynny fel rhan o'n rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy. Fe wŷr ef ein bod ni'n comisiynu adeiladu rhai ysgolion cynradd newydd gan ddefnyddio deunyddiau naturiol, felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gallu cyflawni ein nodau amgylcheddol trwy ymgymryd â menter o'r fath hefyd. Ond fe fydd y safonau newydd, y mae fy swyddogion i'n eu trafod gyda'r sector, yn benodol i ysgolion yng Nghymru. Mae'r trafodaethau hynny wedi bod yn digwydd ers peth amser, fel dywedais i, ac fe fyddan nhw'n cefnogi ein hymrwymiad ni yn y Llywodraeth yn uniongyrchol, y gwn ei fod ef o'r un farn, i sicrhau bod ein hysgolion ni yng Nghymru yn addas i'r unfed ganrif ar hugain ym mhob modd.

Thank you for the statement, Minister, and for your earlier written statements. I was pleased to see that Bridgend County Borough Council had not found any RAAC in their schools. However, does that mean that our schools are safe? Minister, how confident are you that all school buildings are safe, regardless of whether or not RAAC has been identified?

On a recent visit to Brynteg Comprehensive School I witnessed a huge steel support structure holding up the ceiling in the headmaster's room. While I fully understand the need to prioritise dealing with the RAAC issue, we must also ensure that all of our school buildings are 100 per cent safe for pupils and staff. Minister, what steps should be taken to review the structural integrity of school buildings across Wales? And finally, has the RAAC issue prompted any changes in policy on how to deal with ageing buildings going forward? Apparently, we manage asbestos and we manage RAAC. Do you accept that we can't continue to paper over the cracks? Diolch yn fawr. 

Diolch i chi am y datganiad, Gweinidog, ac am eich datganiadau ysgrifenedig yn gynharach. Roeddwn i'n falch o weld nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi dod o hyd i unrhyw RAAC yn eu hysgolion nhw. Ond a yw hyn yn golygu bod ein hysgolion ni'n ddiogel? Gweinidog, pa mor ffyddiog ydych chi fod pob adeilad ysgol yn ddiogel, pe byddai RAAC wedi cael ei ddarganfod neu beidio?

Ar ymweliad diweddar ag Ysgol Gyfun Brynteg, fe welais i adeiledd atgyfnerthol dur enfawr yn dal y nenfwd yn ystafell y prifathro. Er fy mod i'n deall yr angen am flaenoriaethu ymdrin â mater y RAAC yn dda iawn, mae'n rhaid i ni sicrhau hefyd y bydd pob un o adeiladau ein hysgolion ni 100 y cant yn ddiogel ar gyfer y disgyblion a'r staff. Gweinidog, pa gamau a ddylid eu cymryd i adolygu integredd adeiledd adeiladau ysgolion ledled Cymru? Ac yn olaf, a yw'r mater RAAC wedi ysgogi unrhyw newidiadau o ran polisi ynglŷn â sut i ymdrin ag adeiladau sy'n heneiddio wrth fynd ymlaen? Mae hi'n debyg ein bod yn rheoli asbestos ac rydym ni'n rheoli RAAC. A ydych chi'n derbyn na allwn barhau i bapuro dros y craciau? Diolch yn fawr. 

15:30

Well, I think the context of the Member's question is really important. So, the answer to his question, 'Are our schools in Wales safe?' is, 'Yes, they are.' And I think we need to be very clear that we don't allow the implication to arise that simply because there is RAAC in a building that it is automatically unsafe. The Institute of Structural Engineers guidance, which has kept pace, if you like, with developing knowledge over many years, on which we've spoken with them in the last week or so to say, 'Does this new information cause you to change that guidance?'—. And the answer is, 'No, the guidance is still good guidance.' And the whole point of it is to help building owners, building managers, manage the estate safely when it contains RAAC. So, I think it's really important that we establish that point as well. 

It's also true to say that local authorities right across Wales, in relation to each of their schools, and, indeed, each of the buildings for which they are responsible, will have a continuing programme of survey and maintenance. So, Ynys Môn is a very good example of this. RAAC has been known about in the school because the authority properly did the surveys and have identified those areas, and have been managing the building in accordance with that guidance. So, right across Wales, there are programmes in place to manage public buildings in that way. 

In relation to the last question, 'Do I think there needs to be a change of guidance?' Well, we've tested that particularly with the Institute of Structural Engineers. What is happening now in Ynys Môn, and in other buildings, and if we were to discover in another school the presence of RAAC, which obviously, as of today, we haven't, but we will know more in the coming days, what's being done there is applying those professional standards with that new knowledge. It's a cautious approach, it's a case-by-case approach in many, many ways, but our commitment in Wales has been really clear, and that's exactly why we invest so much in planned maintenance and in capital upgrade, and very much more even than that in our new school and college building programme.

Wel, rwy'n credu bod cyd-destun cwestiwn yr Aelod yn bwysig iawn. Felly, yr ateb i'w gwestiwn ef, 'A yw ein hysgolion ni'n ddiogel yng Nghymru?' yw, 'Ydynt, maen nhw.' Ac rwy'n credu y dylem ni fod yn eglur iawn nad ydym ni'n caniatáu i'r ensyniad ymwreiddio bod unrhyw adeilad sydd â RAAC yn bresennol ynddo yn anniogel dim ond am y rheswm hwnnw. Mae canllawiau Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol, sydd wedi cadw i fyny, os mynnwch chi, gyda gwybodaeth a ddatblygodd dros nifer o flynyddoedd, yr ydym ni wedi siarad â nhw ynglŷn â hyn yn ystod yr wythnos diwethaf yn dweud, 'A yw'r wybodaeth newydd hon yn achosi i chi newid y canllawiau hynny?' —. A'r ateb yw, 'Nac ydyw, mae'r canllawiau yn parhau i fod yn ganllawiau da.' A'r holl bwynt yw helpu perchnogion adeiladau, rheolwyr adeiladu, i reoli'r ystad mewn ffordd ddiogel pan fydd RAAC yn bresennol. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn sefydlu'r pwynt hwnnw hefyd.

Mae hi'n wir dweud hefyd y bydd gan awdurdodau lleol ledled Cymru, o ran pob un o'u hysgolion nhw, ac, yn wir, pob un o'r adeiladau y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw, raglen barhaus o arolygu a chynnal a chadw. Felly, mae Ynys Môn yn enghraifft dda iawn o hyn. Mae RAAC wedi cael ei ddarganfod yn yr ysgol oherwydd bod yr awdurdod wedi gwneud yr arolygon yn iawn ac wedi nodi'r ardaloedd hynny, ac wedi bod yn rheoli'r adeilad yn unol â'r canllawiau hyn. Felly, ledled Cymru, mae rhaglenni ar waith i reoli adeiladau cyhoeddus yn y ffordd honno.

O ran y cwestiwn olaf, 'A wyf i o'r farn fod angen newid y canllawiau?' Wel, rydym ni wedi rhoi prawf ar hynny yn enwedig gyda'r Sefydliad Peirianwyr Strwythurol. Yr hyn sy'n digwydd nawr yn Ynys Môn, ac mewn adeiladau eraill, a phe byddem ni'n darganfod RAAC yn bresennol mewn ysgol arall, er hynny, yn amlwg, fel mae hi heddiw, na wnaethom ni ond fe fyddwn ni'n gwybod mwy yn y dyddiau nesaf, yr hyn sy'n cael ei wneud yno yw cymhwyso'r safonau proffesiynol hynny gyda'r wybodaeth newydd hon sydd ar gael. Mae'n honno'n ymagwedd bwyllog, ymagwedd sy'n ymdrin ag achosion unigol ar lawer ystyr, ond mae ein hymrwymiad ni yng Nghymru wedi bod yn amlwg iawn, a dyna yn union pam rydym ni'n buddsoddi cymaint mewn cynnal a chadw cynlluniedig ac uwchraddio cyfalaf, a llawer iawn mwy nag yn ein rhaglen ar gyfer adeiladu ysgolion a cholegau newydd, hyd yn oed.

Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y datganiad heddiw, a hefyd am y cyfle am sgwrs a briefing personol am hyn yn ystod y toriad. Sefyllfa bryderus, wrth gwrs, trwy Gymru, ond, yn digwydd bod, yn fy etholaeth i oedd y ddwy ysgol y penderfynwyd yr oedd angen eu cau nhw neu beidio â'u hagor nhw ar ddechrau'r tymor. Mi fyddwn i'n licio yn fan hyn datgan fy niolch i Llinos Medi ac i Gyngor Sir Ynys Môn am eu hymateb prydlon nhw, a diolch iddyn nhw am y gwaith proactive, fel dŷn ni wedi'i glywed yn fan hyn, o gynnal yr asesiadau RAAC angenrheidiol fel eu bod nhw'n gwybod beth roedd angen ei wneud pan ddaeth y newid canllaw munud olaf yma. Dwi'n hynod o ddiolchgar hefyd i benaethiaid a thimau rheoli a staff Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi am ymateb mor gyflym a sicrhau bod yr addysgu wedi gallu parhau. Mae'r heriau'n fwy, dŷn ni'n gwybod, yn Ysgol Uwchradd Caergybi nag yn Ysgol David Hughes erbyn hyn, ond mae'r gwaith sydd wedi cael ei wneud i sicrhau bod yr addysg yn gallu parhau yn bwysig tu hwnt. 

Mi oedd gen i gwestiynau ynglŷn â'r cyllid, a chwestiynau am sut y gallai hyn ddigwydd efo cyn lleied o rybudd cyn dechrau'r tymor, ond mae'r rheini wedi cael eu gofyn yn barod. Ond dau gwestiwn byr iawn: (1), pa gamau mae'r Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi Ysgol Uwchradd Caergybi yn benodol i sicrhau eu bod nhw'n gallu agor eu drysau yn llwyr mor fuan â phosib? Ac ymhellach, wrth symud ymlaen, pa sicrwydd gall y Gweinidog ei roi y bydd unrhyw waith cynnal a chadw, trwsio ac yn y blaen, yn gallu digwydd mewn ffordd fydd ddim yn amharu ymhellach ar addysg y disgyblion?

I'm grateful to the Minister for his statement today, and for the opportunity for a personal briefing and conversation during recess. It's a very worrying situation across Wales, but, as it happens, the two schools identified were in my constituency and a decision was taken not to open them at the beginning of term. And I would like at this point to express my thanks to Llinos Medi and to Anglesey council for their prompt response, and to thank them for the proactive work that they've done, as we've heard, in undertaking the necessary RAAC assessments, so that they knew what needed to be done when the change of guidance came at the last minute. I'm extremely grateful to staff, headteachers, management teams at Ysgol David Hughes and Ysgol Uwchradd Caergybi for responding so quickly and ensuring that the education could continue. The challenges are greater at Ysgol Uwchradd Caergybi than they are at Ysgol David Hughes now, but the work that has been done to ensure that education can continue is extremely important. 

I did have some questions about funding, and questions as to how this could have happened with so little notice before the beginning of term, but those have already been asked. But two very brief questions: what steps are the Welsh Government taking to support Ysgol Uwchradd Caergybi specifically to ensure that they can open their doors fully as soon as possible? And further, in moving forward, what assurance can the Minister give that any maintenance work can happen in a way that won't interfere further with the education of pupils? 

Wel, mae'n gyfle i fi ailadrodd fy niolch i'r ysgol, i'r penaethiaid a'r staff am weithio o dan bwysau amser, ond hefyd mor greadigol, i ffeindio ffyrdd o allu lleihau'r cyfnod y mae'r ysgolion wedi bod yn rhannol ar gau, ac i'r cyngor ac i Llinos Medi a'r tîm fanna hefyd. Maen nhw wedi gweithio'n gyflym iawn, a chydweithio â ni hefyd, felly diolch iddyn nhw am hynny.

O ran y gwaith a ddaw nesaf, dŷn ni'n dal i aros i glywed wrth yr arbenigwyr sydd wedi bod yn yr ysgolion ddiwedd yr wythnos diwethaf. Byddwn ni'n cael, neu bydd y cyngor yn cael, adroddiad wrthyn nhw. Maen nhw'n arbenigwyr yn y maes, maen nhw'n defnyddio'r canllawiau swyddogol i edrych i weld a oes angen newid pethau yng ngoleuni'r wybodaeth newydd a ddaeth i fewn ar y nos Sul. Felly, dŷn ni'n dal i aros i glywed beth ddaw o hynny. Oherwydd bod gyda ni gynllun ar y cyd â chynghorau o gyd-fuddsoddi, mae cyfle bron bob wythnos i gael y math yma o sgyrsiau beth bynnag. Felly, mae'r cynllun cyfalaf yn un sylweddol. Os oes angen i ni ail-flaenoriaethu o fewn hwnnw er mwyn gallu ateb rhai o'r pethau yma sy'n codi, wel, mae cyfle i ni allu gwneud hynny ar y cyd. Felly, mae'r trafodaethau hynny'n digwydd yn gyson, fel mae'n digwydd.

O ran y gwaith dŷn ni'n ei wneud i gefnogi'r ddwy ysgol ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae Ysgol David Hughes wedi ailagor yn llwyr. Dŷn ni wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Uwchradd Caergybi i ddod o hyd i opsiynau eraill o ran adeiladau lleol i allu sicrhau ein bod ni'n cynyddu niferoedd y plant sy'n gallu cael addysg wyneb yn wyneb. Ar hyn o bryd, mae lot o ddysgu ar-lein yn digwydd, wrth gwrs, a grwpiau ysgol yn dod i mewn am yn ail, fel eu bod nhw'n cael profiad o fod yn yr ysgol. Ond dŷn ni'n ceisio cael ymateb strategol i hynny gyda'n cynllun o ran pa adeiladau eraill cyfagos sydd ar gael a fyddai'n gallu darparu gofod dros dro i allu cynyddu'r niferoedd sy'n cael addysg wyneb yn wyneb.

Felly, dyna'r brif flaenoriaeth ar hyn o bryd o ran trefniadau amgen, a byddwn ni'n gweld beth a ddaw nôl wrth yr engineers i weld pa gamau pellach sydd angen eu cymryd yn yr ysgol hefyd. Mae'n bwysig cofio nad yw RAAC yn bresennol ym mhob rhan o un o'r ddwy ysgol—mewn adeiladau penodol y mae e. Felly, mae opsiynau i allu gweithio o amgylch hynny hefyd.

Well, this is an opportunity for me to reiterate my thanks to the school, to the headteachers and the staff for working under great time pressure, but in such a creative way, to find ways to reduce the period for which the schools have been partly closed, and to the council and to Llinos Medi and the team there too. They have worked very quickly, and have also collaborated with us, so I thank them for that.

In terms of the next piece of work, we're still waiting to hear from the experts who have been in the schools at the end of last week. We will have, or the council will have, a report from them. They are experts in the field, and they're using the official guidance to look to see whether things need to be changed in the light of the new information that emerged on Sunday evening. So, we're still waiting to hear what comes from that. Because we have a joint plan with councils of co-investment, there is an opportunity nearly every week to have these kinds of conversations anyway. So, the capital plan is a significant one. If we need to reprioritise within that in order to be able to meet some of the problems that are arising, well, we have an opportunity to do that jointly. So, those conversations are happening consistently.

In terms of work that we're doing to support both schools at present, of course, Ysgol David Hughes has reopened entirely. We have been working with Ysgol Uwchradd Caergybi to find alternative options in terms of local buildings to ensure that we can increase the numbers of children who can have face-to-face education. At present, there is a lot of online learning happening, of course, and school groups coming in alternately, so that they can have the experience of being in school. But we're trying to have a strategic response to that in terms of which alternative buildings are available locally that could provide a temporary space to increase the numbers having face-to-face education.

So, that's the main priority at the moment in terms of alternative arrangements, and we'll see what comes back from the engineers to see what further steps need to be taken in the school as well. It's important to remember that RAAC isn't present in all parts of either of the schools—it's in specific buildings. So, there are options to be able to work around that as well.

15:35

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wales will not forget the tragic consequences of ignoring safety concerns involving schools. Yet, despite this, it appears to me that the UK Government's response appears to be driven largely by ideology. We are in this situation—let us remind ourselves—we are in this situation due to UK budget cuts to school repairs, vital information not being shared and the buck being passed to others. I couldn't believe it when I read last week that the UK education Minister believed that headteachers would be able to identify RAAC in their schools. Like the majority of us, I'm sure they hadn't heard of RAAC by the end of the summer term, let alone being experts in concrete to identify which type it was. When does the Minister expect the Welsh Government surveys to be completed? We are seeing, in crumbling concrete over the heads of our children, the result of 13 years of austerity in the UK. These policies have consequences. It's also the consequence of a UK Government who wants a smaller state and dislikes details. What steps are the Welsh Government taking to ensure that vital information is shared promptly? Diolch yn fawr.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ni fydd Cymru yn anghofio canlyniadau trychinebus anwybyddu pryderon diogelwch yn ymwneud ag ysgolion. Ac eto, er gwaethaf hyn, mae hi'n ymddangos i mi ei bod hi'n ymddangos bod ymateb Llywodraeth y DU yn cael ei ysgogi gan ideoleg i raddau helaeth. Rydym ni yn y sefyllfa hon—gadewch i ni atgoffa ein hunain—rydym ni yn y sefyllfa hon oherwydd toriadau yng nghyllideb y DU i waith atgyweirio ysgolion, gwybodaeth hanfodol na chafodd ei rhannu a'r cyfrifoldeb yn cael ei daflu ymlaen i eraill. Nid oeddwn i'n gallu credu'r peth pan ddarllenais i'r wythnos diwethaf fod Gweinidog addysg y DU yn credu y byddai penaethiaid yn gallu nodi RAAC yn eu hysgolion nhw. Fel y mwyafrif ohonom, rwy'n siŵr nad oedden nhw wedi clywed am RAAC erioed cyn diwedd tymor yr haf, heb sôn am allu bod yn ddigon o arbenigwyr ym maes concrit i wybod pa fath o goncrit a oedd ganddyn nhw. Pryd mae'r Gweinidog yn disgwyl i arolygon Llywodraeth Cymru gael eu cwblhau? Fe welwn ni, wrth edrych ar goncrit brau uwchben ein plant ni, ganlyniad 13 mlynedd o gyni yn y DU. Mae canlyniadau i'r polisïau hyn. Mae hyn hefyd o ganlyniad i Lywodraeth y DU sy'n dymuno gwladwriaeth lai ac sy'n casáu manylion. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gwybodaeth hanfodol yn cael ei rhannu mewn da bryd? Diolch yn fawr.

I share the priority that the Member attaches to making sure that our school estate in Wales is fit for the twenty-first century. I think that his question may not pay, if I may say, quite enough regard to the different policy choices that we have made in Wales, even within that wider UK context, which he, I think, fairly describes, of having a UK Government that hasn't prioritised public investment for the last 13 years. But I think, in Wales, we see the evidence of the benefits of devolution, when you can take different decisions and apply different priorities to the funding that you have available, which is why, both from the previous band and the current band of investment in schools in Wales, we're looking at around 340 schools that will be entirely new or substantially refurbished. And I think that it's a policy that we're all proud of in this Chamber, isn't it, really, and I think it's a policy that this Welsh Labour Government is certainly very passionate about.

I do think the point that he makes about how we can work with schools in relation to this is important. I would say that we are able to take a more partnership-based approach in Wales because of the respect that we pay to local authorities. We still have—. Over the border, because of the structure of the school system, there are many, many schools, obviously, which operate outside the purview of local authorities, so that, I think, is why the Department for Education is having to engage with individual heads. There are 24,000 schools or so, I think, in England, so that is quite a task. Obviously, in Wales, we have a smaller number of local authorities, who understand their building stock very well, so we're able to work very quickly with them. As I say, by the end of this week, we'll have more information.

And he asked me, finally, 'When will we expect this to have been entirely resolved?', well, I'm very much hoping that we will not have any more schools identified as having RAAC, obviously, but, when we have the information, by Friday, we'll engage then with specialist structural engineers based on that information with local authorities and, also, I should say, the further education institutions, because they're also providing information to us within the same time frame, and we'll do any urgent appraisals that need to be made then of any newly-identified instances—I very much hope there won't be any—and we anticipate that work will all then be completed by the end of December this year, which, I think, is broadly the same timeline that other parts of the UK are working to as well. 

Rwy'n cytuno â'r Aelod o ran rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod ystadau ein hysgolion yng Nghymru yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rwy'n credu efallai nad yw ei gwestiwn ef, os caf i ddweud, yn rhoi digon o ystyriaeth i'r dewisiadau gwahanol a wnaethom ni yng Nghymru o ran polisi, hyd yn oed yng nghyd-destun ehangach y DU fel hyn, a ddisgrifiwyd yn deg, yn fy marn i, o fod â Llywodraeth y DU nad yw hi wedi blaenoriaethu buddsoddiad cyhoeddus dros y 13 blynedd diwethaf. Ond rwy'n credu, yng Nghymru, ein bod ni'n gweld tystiolaeth o ragoriaeth datganoli, pryd y gallwch chi wneud penderfyniadau gwahanol a chymhwyso blaenoriaethau gwahanol i'r cyllid sydd gennych chi ar gael, a dyna pam, o'r band blaenorol a'r band buddsoddi yn yr ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd fel ei gilydd, ein bod ni'n edrych ar oddeutu 340 o ysgolion a fydd naill ai'n cael eu hadnewyddu yn gyfan gwbl neu'n cael eu hadnewyddu yn sylweddol. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n bolisi yr ydym i gyd yn falch ohono yn y Siambr hon, onid ydyw, mewn gwirionedd, ac rwy'n credu ei fod yn bolisi y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn angerddol iawn yn ei gylch, yn sicr.

Rwy'n credu ei fod ef yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â sut y gallwn ni weithio gydag ysgolion yn y cyswllt hwn. Fe fyddwn i'n dweud ein bod ni'n gallu bod ag ymagwedd sy'n fwy seiliedig ar bartneriaeth yng Nghymru oherwydd y parch sydd gennym ni tuag at yr awdurdodau lleol. Rydym ni'n dal i fod—. Dros y ffin, oherwydd strwythur y system ysgolion, mae yna lawer iawn o ysgolion, yn amlwg, sy'n gweithredu'r tu allan i faes cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol, felly dyna pam, rwy'n credu, y mae'r Adran Addysg yn gorfod ymgysylltu â phenaethiaid unigol. Mae yna 24,000 o ysgolion, rwy'n credu, yn Lloegr, felly mae hwnnw'n gryn dipyn o orchwyl. Yn amlwg, yng Nghymru, mae gennym ni nifer llai o awdurdodau lleol, sy'n deall eu stoc adeiladu nhw'n dda iawn, felly rydym ni'n gallu gweithio yn gyflym iawn gyda nhw. Ac fel dywedais i, erbyn diwedd yr wythnos hon, fe fydd gennym ni ragor o wybodaeth.

Ac fe ofynnodd ef i mi, yn olaf, 'Erbyn pryd y gallwn ni ddisgwyl datrysiad llwyr i hyn?', wel, rwy'n mawr hyderu na fydd unrhyw ysgolion eraill gennym ni'n cael eu nodi yn rhai sydd â RAAC, yn amlwg, ond, pan fydd yr wybodaeth gennym ni, erbyn dydd Gwener, fe fyddwn ni'n ymgysylltu â pheirianwyr strwythurol arbenigol wedyn ar sail yr wybodaeth honno gan awdurdodau lleol a hefyd, fe ddylwn ddweud, sefydliadau addysg bellach, oherwydd maen nhw hefyd am roi gwybodaeth i ni gyda'r un amserlen, ac fe fyddwn ni'n gwneud unrhyw arfarniadau brys y mae angen eu gwneud bryd hynny oherwydd unrhyw achosion sydd newydd eu nodi—ac rwy'n gobeithio yn daer na fydd yna unrhyw un—ac rydym ni'n rhagweld y bydd y gwaith hwnnw i gyd yn cael ei gwblhau wedyn erbyn diwedd mis Rhagfyr eleni, sef, rwy'n credu, yn fras, yr un amserlen ag sydd ganddyn nhw mewn rhannau eraill o'r DU ar gyfer y gwaith hwn hefyd.

15:40
4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Adolygiad annibynnol ac adroddiadau 2020-21 Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd
4. Statement by the Minister for Climate Change: Independent review and Natural Resources Wales reports into flooding 2020-21

Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, adolygiad annibynnol ac adroddiadau 2020-21 Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd. A galwaf ar y Gweinidog, Julie James. 

Item 4 this afternoon is a statement by the Minister for Climate Change, independent review and Natural Resources Wales reports into flooding 2020-21. And I call on the Minister, Julie James.   

Diolch, Dirprwy Lywydd. I am pleased to announce the publication of Professor Elwen Evans KC’s independent review of local government section 19 and Natural Resources Wales reports into extreme flooding in the winter of 2020 and 2021. This review was undertaken as part of the joint co-operation agreement with Plaid Cymru and is an important step in improving how flood risk management, including the response to flooding instances and their aftermath, is delivered across Wales. This review was desk based. It focused specifically on understanding the investigation process currently in place under the Flood and Water Management Act 2010 and how this was applied in the context of the severe flooding instances referred to. This has identified areas of good practice, areas for improvement, successes and lessons learned. This review was not intended to address local authority or NRW responses to the flooding more widely. The terms of reference and scope were agreed through discussions between myself, the designated Member and Professor Evans. Both the designated Member and I met with Professor Evans at various stages of the review to discuss progress and her emerging thoughts. Professor Evans reviewed supporting information including testimonies, progress reports, published section 19 reports, along with other submissions that were provided by the lead local flood authorities, Natural Resources Wales and through Senedd Members. I'd really like to thank all of those who inputted into the review.

All relevant information and legislation, alongside existing policies, strategies and outputs from other reviews, were considered within the bounds of the terms of reference and complex arena of flood risk management. There are a number of other reviews into flood risk management that have taken or are taking place, and the terms of reference specifically directed Professor Evans to avoid duplication and overlap with these other reviews. This includes, amongst others, work by the flood and coastal erosion committee, Audit Wales and the National Infrastructure Commission Wales, who, through the co-operation agreement, are considering how the nationwide likelihood of flooding can be minimised by 2050.

I would like to take this opportunity to outline some of Professor Evans's main findings from her review, which highlights both strategic, policy and practical changes that could strengthen the flood investigation process whilst recognising the limitations within the current framework. Professor Evans has identified two broad areas where she feels greater clarity and improvement are needed. The legislation itself does not provide the necessary clarity for lead local flood authorities to understand the purpose of a section 19 flood investigation. It remains subjective and open to interpretation and is unclear where it fits within the wider flood risk management reporting framework. The degree to which an investigation is carried out is at the discretion of the local authority as is the need or otherwise of a formal report. In fact, there is nothing in the legislation that directs our local authorities to compile a report, only to publish the findings of any investigation that may have taken place. In the absence of this clarity, local authorities have individually developed the process they use today, where the expectation is that an investigation ends with a report, detailing events, actions and recommendations. However, this is not a consistent approach across Wales, and Professor Evans recommends the need for a strategic policy review to clearly define the purpose of a section 19 investigation and strengthen the process. An additional recommendation is that there is a need for greater consistency across the lead local flood authorities in terms of the wider reporting. For example, at what point should investigations take place, and what form should an investigation take? Should the investigation result in a report? And, if so, the development of a template would be a positive step forward. 

In October 2020, we published 'The National Strategy for Flood and Coastal Erosion Risk Management in Wales'. This 10-year strategy identifies five key objectives to support reducing the risk to people and communities from flooding and coastal erosion. Supporting the delivery of these objectives are 24 measures setting out how we will deliver against these five objectives, each measure being one jigsaw piece in the wider landscape of flood risk management.

Measure 21 of the national strategy already identifies section 19 as an area for improvement. As a practical action that can be taken forward immediately within the current framework and without pre-empting wider strategic and policy work under way, my officials will be working with the WLGA, the flood and coastal erosion committee, and local authorities to improve how section 19 investigations and reporting can be made simpler, easier to understand, and more accessible. Professor Evans recognises this specific piece of work is already under consideration, and officials will continue to work with our risk management authorities to include these findings as part of delivering this strategic measure.

In reviewing NRW’s progress against actions identified in their reports following the flooding in February 2020, Professor Evans has identified good progress against the 94 identified actions. However, 15 actions remain to be delivered. It is recognised that the remaining actions may be more long term and complex to deliver, but Professor Evans recommends that realistic timescales for the delivery of these actions should be provided.

This review is one area of flood risk management and the reporting framework, but an important one in helping everyone to have a better understanding of flooding and the structures that underpin flood risk management. Understanding the causes of flooding instances and their aftermath provides important information for risk management authorities and communities that can support understanding of what happened, how it happened and how the risk might be mitigated in the future. And whilst we all continue to learn lessons from recent events, we are also looking to the longer term. The information contained within many of these reports can provide the evidence base for future flood mitigation schemes.

According to UK climate predictions, Wales will see milder, wetter winters, more intense rainfall events, more coastal flooding, and hotter, drier summers. The recent reports by the International Panel on Climate Change and the UK Climate Change Committee have reiterated the need for continued investment in mitigation, adaptation and resilience, to respond to global warming challenges. Our continued investment in flood risk management is therefore vital for our communities.

To support how we plan for future flooding, and again as part of our co-operation agreement with Plaid Cymru, we have asked the National Infrastructure Commission for Wales to assess how we minimise flooding to homes, businesses and infrastructure by 2050. The commission will consider our skills capacity and resource needs, the challenges around adaptation, the need to work on a catchment scale and to have greater partnership thinking, not just across risk management authorities, but also across wider Government departments. We expect to see the completion of this work next summer.

Furthermore, Wales's independent flood and coastal erosion committee, chaired by Mr Martin Buckle, has taken forward two separate reviews, prescribed by our national strategy. Consistent with some of the questions posed by Professor Evans, these also consider whether there is a need for wider legislative and policy change within flood risk management, while the second considers the resource and skills position within the field to deliver flood risk across Wales. Professor Evans acknowledges that she sees her review as just one important piece in the wider flood risk management landscape, which are already being addressed in other audits, reviews and assessments, including some of those already stated.

Additionally, she goes on to recognise that flood risk is a complex picture with progress having been made already in some areas, lessons learnt being actively worked on now, but also the need for continued improvement across the wider area of flood risk management. I will be continuing to work with the designated Member on this work in light of the commitment to act on the recommendations made in Professor Evans's review, and in light of the wider work that's ongoing. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o ddatgan bod adolygiad annibynnol yr Athro Elwen Evans CB o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol a Cyfoeth Naturiol Cymru ar y llifogydd eithafol yn ystod gaeaf 2020 a 2021 wedi cael ei gyhoeddi. Cafodd yr adolygiad hwn ei gynnal fel rhan o'r cytundeb cydweithio ar y cyd â Phlaid Cymru ac mae'n gam pwysig wrth wella'r ffordd mae'r gwaith o reoli perygl llifogydd, gan gynnwys yr ymateb i achosion o lifogydd a'u canlyniadau, yn cael ei gyflawni ledled Cymru. Adolygiad desg oedd hwn. Roedd yn canolbwyntio'n benodol ar ddeall y broses ymchwilio sydd ar waith ar hyn o bryd o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a sut y cafodd y broses hon ei defnyddio yng nghyd-destun yr achosion o lifogydd difrifol y cyfeiriwyd atyn nhw. Mae'r adolygiad hwn wedi nodi meysydd o arfer da, meysydd i'w gwella, llwyddiannau a gwersi i'w dysgu. Doedd dim bwriad i'r adolygiad hwn fynd i'r afael ag ymatebion awdurdodau lleol na Cyfoeth Naturiol Cymru i'r llifogydd yn ehangach. Cytunwyd ar y cylch gorchwyl a'r cwmpas trwy drafodaethau rhyngof fi, yr Aelod dynodedig a'r Athro Evans. Fe wnaeth yr Aelod dynodedig a minnau gyfarfod â'r Athro Evans ar wahanol gamau o'r adolygiad i drafod cynnydd a'i barn wrth symud ymlaen. Aeth yr Athro Evans ati i adolygu gwybodaeth ategol gan gynnwys tystiolaeth, adroddiadau cynnydd, adroddiadau adran 19 cyhoeddedig, ynghyd â chyflwyniadau eraill a ddarparwyd gan yr awdurdodau llifogydd lleol arweiniol, Cyfoeth Naturiol Cymru a thrwy Aelodau'r Senedd. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at yr adolygiad.

Cafodd yr holl wybodaeth a deddfwriaeth berthnasol, ynghyd â pholisïau, strategaethau ac allbynnau presennol o adolygiadau eraill, eu hystyried o fewn terfynau'r cylch gorchwyl a maes cymhleth rheoli perygl llifogydd. Mae nifer o adolygiadau eraill wedi'u cynnal neu'n cael eu cynnal i'r ffordd y caiff perygl llifogydd ei reoli, a nodwyd yn benodol yn y cylch gorchwyl y dylai'r Athro Evans osgoi dyblygu a gorgyffwrdd â'r adolygiadau eraill hyn. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, gwaith gan y pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol, Archwilio Cymru a Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, sydd, drwy'r cytundeb cydweithio, yn ystyried sut y gellir lleihau'r tebygolrwydd o lifogydd ledled y wlad cymaint â phosibl erbyn 2050.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i amlinellu rhai o brif ganfyddiadau'r Athro Evans o'i hadolygiad, sy'n tynnu sylw at newidiadau strategol, polisi ac ymarferol a allai gryfhau'r broses o ymchwilio i lifogydd ac yn cydnabod y cyfyngiadau o fewn y fframwaith presennol. Mae'r Athro Evans wedi nodi dau faes eang lle mae'n teimlo bod angen mwy o eglurder a gwelliant. Dydy'r ddeddfwriaeth ei hun ddim yn cynnig yr eglurder sydd ei angen ar awdurdodau llifogydd lleol arweiniol i ddeall pwrpas ymchwiliad llifogydd adran 19. Mae'n parhau i fod yn oddrychol ac yn agored i'w dehongli a dydy hi ddim yn glir lle mae'n cyd-fynd â'r fframwaith adrodd ehangach ar reoli perygl llifogydd. Yr awdurdod lleol sy'n penderfynu i ba raddau y caiff ymchwiliad ei gynnal a ph'un a oes angen adroddiad ffurfiol ai peidio. A dweud y gwir, does dim byd yn y ddeddfwriaeth sy'n gofyn i'n hawdurdodau lleol lunio adroddiad, dim ond cyhoeddi canfyddiadau unrhyw ymchwiliad a allai fod wedi'i gynnal. Yn absenoldeb yr eglurder hwn, mae awdurdodau lleol wedi datblygu'r broses y maen nhw'n ei defnyddio heddiw ar eu pen eu hunain, a'r disgwyliad yw y bydd adroddiad sy'n manylu ar ddigwyddiadau, camau gweithredu ac argymhellion yn cael ei lunio yn dilyn ymchwiliad. Fodd bynnag, dydy hyn ddim yn gyson ledled Cymru, ac mae'r Athro Evans yn argymell bod angen adolygiad polisi strategol i ddiffinio pwrpas ymchwiliad adran 19 yn glir a chryfhau'r broses. Argymhelliad ychwanegol yw bod angen mwy o gysondeb ar draws yr awdurdodau llifogydd lleol arweiniol o ran adroddiadau ehangach. Er enghraifft, pryd dylai ymchwiliadau gael eu cynnal, ac ar ba ffurf y dylai ymchwiliad fod? A ddylai fod adroddiad ar yr ymchwiliad? Ac, os felly, byddai datblygu templed yn gam cadarnhaol ymlaen. 

Ym mis Hydref 2020, cyhoeddwyd 'Y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru'. Mae'r strategaeth 10 mlynedd hon yn nodi pum amcan allweddol i helpu i leihau'r risg y mae llifogydd ac erydu arfordirol yn ei pheri i bobl a chymunedau. Yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r amcanion hyn mae 24 o fesurau sy'n nodi sut y byddwn ni'n cyflawni'r pum amcan hyn, y mae pob mesur yn un darn jig-so yn y dirwedd rheoli perygl llifogydd ehangach.

Mae mesur 21 o'r strategaeth genedlaethol eisoes yn nodi bod adran 19 yn faes i'w wella. Fel cam ymarferol y gellir ei gymryd ar unwaith o fewn y fframwaith presennol a heb ragflaenu'r gwaith strategol a pholisi ehangach sy'n mynd rhagddo, bydd fy swyddogion yn gweithio gyda CLlLC, y pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol, ac awdurdodau lleol i wella'r ffordd o wneud ymchwiliadau ac adroddiadau adran 19 yn symlach, yn haws eu deall, ac yn fwy hygyrch. Mae'r Athro Evans yn cydnabod bod y darn penodol hwn o waith eisoes yn cael ei ystyried, a bydd swyddogion yn parhau i weithio gyda'n hawdurdodau rheoli risg i gynnwys y canfyddiadau hyn fel rhan o'r gwaith o gyflawni'r mesur strategol hwn.

Wrth adolygu cynnydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn erbyn camau gweithredu a nodwyd yn ei adroddiadau yn dilyn y llifogydd ym mis Chwefror 2020, mae'r Athro Evans wedi nodi cynnydd da yn erbyn y 94 o gamau gweithredu a nodwyd. Fodd bynnag, mae 15 o gamau gweithredu i'w cyflawni o hyd. Cydnabyddir y gallai'r camau sy'n weddill fod yn fwy hirdymor ac yn fwy cymhleth i'w cyflawni, ond mae'r Athro Evans yn argymell y dylid darparu amserlenni realistig ar gyfer cyflawni'r camau hyn.

Mae'r adolygiad hwn yn un maes rheoli perygl llifogydd a'r fframwaith adrodd, ond mae'n un pwysig wrth helpu pawb i feithrin gwell dealltwriaeth o lifogydd a'r strwythurau sy'n sail i'r gwaith o reoli perygl llifogydd. Mae deall achosion llifogydd a'u canlyniadau yn rhoi gwybodaeth bwysig i awdurdodau rheoli risg a chymunedau a all gefnogi dealltwriaeth o'r hyn sydd wedi digwydd, sut y bu iddo ddigwydd a sut y gellid lliniaru'r risg yn y dyfodol. Ac er ein bod ni i gyd yn parhau i ddysgu gwersi o ddigwyddiadau diweddar, rydym hefyd yn edrych i'r tymor hwy. Gall y wybodaeth mewn llawer o'r adroddiadau hyn ddarparu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd yn y dyfodol.

Yn ôl rhagfynegiadau hinsawdd y DU, bydd Cymru yn gweld gaeafau mwynach, gwlypach, mwy o lawiad dwysach, mwy o lifogydd arfordirol, a hafau poethach a sychach. Mae'r adroddiadau diweddar gan y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd a Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU wedi ailadrodd yr angen i barhau i fuddsoddi mewn mesurau lliniaru, addasu a gwydnwch, er mwyn ymateb i heriau cynhesu byd-eang. Felly, mae ein buddsoddiad parhaus mewn rheoli perygl llifogydd yn hanfodol i'n cymunedau.

Er mwyn cefnogi sut rydym yn cynllunio ar gyfer llifogydd yn y dyfodol, ac eto fel rhan o'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, rydym wedi gofyn i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru asesu sut y gallwn leihau'r risg o lifogydd i gartrefi, busnesau a seilwaith erbyn 2050. Bydd y comisiwn yn ystyried y sgiliau sydd gennym a'r adnoddau sydd eu hangen arnom, yr heriau sy'n ymwneud ag addasu, yr angen i weithio ar raddfa dalgylch a meddwl yn fwy mewn partneriaeth, nid yn unig ar draws awdurdodau rheoli risg, ond hefyd ar draws adrannau ehangach y Llywodraeth. Rydym yn disgwyl i'r gwaith hwn gael ei gwblhau yr haf nesaf.

Hefyd, mae pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol annibynnol Cymru, dan gadeiryddiaeth Mr Martin Buckle, yn cynnal dau adolygiad ar wahân, a ragnodwyd gan ein strategaeth genedlaethol. Yn gyson â rhai o'r cwestiynau a ofynnwyd gan yr Athro Evans, mae'r rhain hefyd yn ystyried a oes angen newid deddfwriaethol a pholisi ehangach ym maes rheoli perygl llifogydd, tra bod yr ail yn ystyried y sefyllfa adnoddau a sgiliau yn y maes o ran cyflawni gwaith perygl llifogydd ledled Cymru. Mae'r Athro Evans yn cydnabod mai dim ond un darn pwysig yw ei hadolgiad hi yn y dirwedd rheoli perygl llifogydd ehangach, sydd eisoes yn cael sylw mewn archwiliadau, adolygiadau ac asesiadau eraill, gan gynnwys rhai o'r rhai a nodwyd eisoes.

Yn ogystal, mae hi'n mynd ymlaen i gydnabod bod perygl llifogydd yn ddarlun cymhleth lle mae cynnydd wedi'i wneud eisoes mewn rhai ardaloedd, lle mae gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhoi ar waith nawr, ond hefyd lle mae angen gwelliant parhaus ar draws y maes rheoli perygl llifogydd yn ehangach. Byddaf yn parhau i weithio gyda'r Aelod dynodedig ar y gwaith hwn yng ngoleuni'r ymrwymiad i weithredu ar yr argymhellion a wnaed yn adolygiad yr Athro Evans, ac yng ngoleuni'r gwaith ehangach sydd ar y gweill. Diolch.

15:45

I'd like to thank the Minister for what is, though, a very delayed report on the reviews of the 2021 flooding section 19 reports—2020-21. Also, we mustn't forget that, prior to this—. I've raised, several times in this Chamber here, concerns, because, of course, in Aberconwy we saw flooding in 2016 and 2018, and we have even questioned the merits of section 19 reports.

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am yr hyn sydd, serch hynny, yn adroddiad yr ydym wedi bod yn disgwyl yn hir amdano ar yr adolygiadau o adroddiadau adran 19 ar lifogydd 2021—2020-21. Hefyd, rhaid i ni beidio ag anghofio, cyn hyn—. Rwyf wedi codi, sawl gwaith yn y Siambr yma, bryderon, oherwydd, wrth gwrs, yn Aberconwy fe welsom ni lifogydd yn 2016 a 2018, ac rydyn ni hyd yn oed wedi cwestiynu rhinweddau adroddiadau adran 19.

During the tragic flooding events of the years mentioned, there were 3,130 homes flooded across Wales. That's 3,130 families' lives disrupted. It was an unprecedented winter—or so we thought—for storms and flooding events, and has resulted in a dire need for serious immediate action. Calls were made from these benches at the time, during 2021, for a serious review of flood management and section 19 reports, and the need for immediate reform. So, of course we welcome the review of the section 19 reports, given it is so overdue, and we've asked and asked and asked for it. We were awaiting this report with great anticipation, with hopes that it would provide a way forward for extreme flooding events. Since 2020, we have been highlighting evidence to the Senedd that section 19 reports were taking far too long to both produce and publish, and frankly, in some local authorities, I would actually say that I don't think there's been a large appetite for them doing them.

Almost three years ago to the day—three years ago to the day—on 16 September 2020, I highlighted that section 19 reports were taking an unacceptably long period to be delivered, using the example of a report from Betws-y-Coed and Dolwyddelan taking over six months. I thought that was bad. The publishing of this particular report now confirms that 43 section 19 reports are completed, but are not intended to be published. Eight reports are still awaiting approval. And more concerningly, 34 reports are still ongoing. We are now in September 2023; this was an agreement in the previous administration. So, Minister, I think a lot of questions need to be answered here.

So, this data now is from April 2023, two years on from the flooding events that are being investigated. These are reports into those floods that devastated homes, livelihoods and lives, and that over 50 per cent are either unpublished, unfinished or awaiting approval is frankly disgraceful. And this is all down to the weakness of the Welsh Government and Plaid Cymru's responses to the report. We now know that all this, the section 19 reports, the actual review of the section 19 reports, is proving to be a costly waste of taxpayers' money and time, when we have an immediate flooding crisis in Wales.

The Minister's statement just this year, on 31 August 2023, highlighted positive investment by the Welsh Government, but completely misses the point. It states that the context of other ongoing reviews or reports is needed, therefore, almost nothing immediate is going to happen. Whilst I welcome the work on measure 21, the reality is that it was already under way and has not been triggered by this particular report. The report asks for three outcomes: a review of wider flood risk legislation in Wales; a pan-Wales approach to section 19 reports; a Wales-wide co-ordination between risk management authorities, and for a lead to be established, to review progress and share common issues. We were asking for this in 2021.

On 20 September 2021, we, as a group, proposed the flooding (Wales) Bill. In this, I outlined a legal basis for the establishment of a national flood agency, a single body dedicated to tackling flooding and to impose statutory time limits on the publication of section 19 reports. Therefore, Minister, will you establish a national flood agency for Wales, so that there's a lead the report asks for? Will you set out in law statutory time limits and structures for section 19 reports? And will you bring forward a flooding (Wales) Bill, so that this Senedd can start the process of strengthening legislation for Wales?

It is not good enough to stand by and just wait for winter to come and see all the floods that come with that. We're even seeing floods now in summertime. We have got a crisis on our hands, Minister. It affects us in Aberconwy, my colleague in Clwyd West, and many of the Members serving here, their constituencies will have been impacted by flooding. It is not fair to these home owners, and I would ask that we actually take, now, a far more proactive approach to flooding than I've seen since I've been here. Thank you.

Yn ystod llifogydd trasig y blynyddoedd a grybwyllwyd, gadawyd 3,130 o gartrefi ledled Cymru dan ddŵr. Amharwyd ar fywydau 3,130 o deuluoedd. Roedd hi'n aeaf digynsail—neu felly roeddem ni'n ei meddwl—am stormydd a llifogydd, ac mae wedi arwain at angen dybryd i weithredu o ddifrif, a hynny ar fyrder. Cafodd galwadau eu gwneud o'r meinciau hyn ar y pryd, yn ystod 2021, i gynnal adolygiad trylwyr o waith rheoli llifogydd ac adroddiadau adran 19, a'r angen am ddiwygiadau ar unwaith. Felly, wrth gwrs, rydyn ni'n croesawu'r adolygiad o adroddiadau adran 19, o ystyried ei fod mor hwyr, ac rydym wedi gofyn a gofyn a gofyn amdano. Roeddem ni'n aros am yr adroddiad hwn gyda disgwyliadau mawr, gan obeithio y byddai'n cynnig ffordd ymlaen ar gyfer digwyddiadau llifogydd eithafol. Ers 2020, rydyn ni wedi bod yn tynnu sylw'r Senedd at dystiolaeth sy'n dangos bod adroddiadau adran 19 yn cymryd llawer gormod o amser i'w cynhyrchu a'u cyhoeddi, ac a dweud y gwir, mewn rhai awdurdodau lleol, byddwn i'n dweud nad oes llawer o awydd wedi bod i'w gwneud nhw.

Bron i dair blynedd yn ôl i'r diwrnod—dair blynedd yn ôl i'r diwrnod—ar 16 Medi 2020, fe dynnais i sylw at y ffaith ei bod yn cymryd llawer gormod o amser i adroddiadau adran 19 gael eu cyflwyno, gan ddefnyddio enghraifft o adroddiad o Fetws-y-Coed a Dolwyddelan a gymerodd fwy na chwe mis. Roeddwn i'n meddwl bod hynny'n wael. Mae cyhoeddi'r adroddiad penodol hwn yn cadarnhau nawr bod 43 o adroddiadau adran 19 wedi'u cwblhau, ond does dim bwriad iddyn nhw gael eu cyhoeddi. Mae wyth adroddiad yn dal i aros i gael eu cymeradwyo. Ac yn fwy pryderus, mae 34 o adroddiadau yn mynd rhagddynt o hyd. Rydyn ni nawr ym mis Medi 2023; cytundeb yn y weinyddiaeth flaenorol oedd hwn. Felly, Gweinidog, rwy'n credu bod angen ateb llawer o gwestiynau yma.

Felly, mae'r data hwn nawr o fis Ebrill 2023, ddwy flynedd ar ôl y llifogydd sy'n destun ymchwiliad. Mae'r rhain yn adroddiadau i'r llifogydd hynny a ddinistriodd gartrefi, bywoliaeth a bywydau, ac mae'r ffaith bod dros 50 y cant naill ai heb eu cyhoeddi, heb eu gorffen neu'n aros i gael eu cymeradwyo yn warthus. Ac ymatebion gwan Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i'r adroddiad sy'n gyfrifol am hyn i gyd. Rydym yn gwybod nawr bod hyn i gyd, yr adroddiadau adran 19, yr adolygiad gwirioneddol o adroddiadau adran 19, yn wastraff costus o arian ac amser trethdalwyr, ar adeg pan fydden ni'n wynebu argyfwng llifogydd yng Nghymru.

Tynnodd datganiad y Gweinidog eleni, ar 31 Awst 2023, sylw at fuddsoddiad cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n methu'r pwynt yn llwyr. Mae'n nodi bod angen cyd-destun adolygiadau neu adroddiadau eraill sy'n mynd rhagddynt, felly, does dim byd bron yn mynd i ddigwydd ar unwaith. Er fy mod i'n croesawu'r gwaith ar fesur 21, y gwir amdani yw bod y gwaith hwnnw'n cael ei wneud yn barod, dydy e ddim wedi cael ei sbarduno gan yr adroddiad penodol hwn. Mae'r adroddiad yn gofyn am dri chanlyniad: adolygiad o ddeddfwriaeth ehangach ar berygl llifogydd yng Nghymru; ymagwedd Cymru gyfan at adroddiadau adran 19; cydgysylltu ledled Cymru rhwng awdurdodau rheoli risg, a sefydlu arweinydd i adolygu cynnydd a rhannu materion cyffredin. Roeddem ni'n gofyn am hyn yn 2021.

Ar 20 Medi 2021, fe wnaethom ni, fel grŵp, gynnig y Bil Llifogydd (Cymru). Yn y cynnig hwn, fe amlinellais i sail gyfreithiol dros sefydlu asiantaeth llifogydd genedlaethol, un corff a fyddai'n mynd i'r afael â llifogydd ac yn gosod terfynau amser statudol ar gyhoeddi adroddiadau adran 19. Felly, Gweinidog, a wnewch chi sefydlu asiantaeth llifogydd genedlaethol i Gymru, fel bod yna arweinydd y mae'r adroddiad yn gofyn amdano? A wnewch chi nodi yn y gyfraith strwythurau a therfynau amser statudol ar gyfer adroddiadau adran 19? Ac a wnewch chi gyflwyno Bil Llifogydd (Cymru), fel bod y Senedd hon yn gallu dechrau'r broses o gryfhau deddfwriaeth i Gymru?

Dydy hi ddim yn ddigon da sefyll o'r neilltu ac aros i'r gaeaf ddod a gweld yr holl lifogydd sy'n dod gyda hynny. Rydyn ni hyd yn oed yn gweld llifogydd yn ystod yr haf nawr. Rydyn ni'n wynebu argyfwng, Gweinidog. Mae'n effeithio arnom ni yn Aberconwy, fy nghydweithiwr yng Ngorllewin Clwyd, a llawer o'r Aelodau sy'n gwasanaethu yma, bydd llifogydd wedi effeithio ar eu hetholaethau nhw. Dydy hi ddim yn deg i'r perchnogion tai hyn, a byddwn yn gofyn ein bod ni nawr yn cymryd ymagwedd llawer mwy rhagweithiol at lifogydd nag yr wyf wedi'i gweld ers i mi fod yma. Diolch.

15:55

Thank you, Janet. I'm not absolutely certain quite what you're asking me there. I'm not going to set up a national agency for flooding. I'm absolutely convinced that the people who have suffered flooding over the last few years—and, indeed, before that—would be not at all comforted by the idea that yet another agency would be set up in response to that. Instead, we've done a number of very practical things in the short time since that flooding, and I absolutely love the idea that you think the report is delayed when it's been two years in the making. How on earth you think this kind of very detailed work can be done faster than that is beyond me, and if you'd like me to give you a list of things that your own Government has taken a lot longer—[Interruption.] Do you want to hear what I'm saying to you or not? 

Diolch yn fawr, Janet. Dydw i ddim yn hollol siŵr beth rydych chi'n ei ofyn i mi fanna. Dydw i ddim yn mynd i sefydlu asiantaeth genedlaethol ar gyfer llifogydd. Rwy'n gwbl argyhoeddedig na fyddai'r bobl sydd wedi dioddef llifogydd dros y blynyddoedd diwethaf—ac, yn wir, cyn hynny—yn cael unrhyw gysur o'r syniad y byddai asiantaeth arall yn cael ei sefydlu mewn ymateb i hynny. Yn hytrach, rydyn ni wedi gwneud nifer o bethau ymarferol iawn yn yr amser byr ers y llifogydd hynny, ac rwyf wrth fy modd â'r syniad eich bod chi'n credu bod oedi wedi bod pan yw wedi cymryd dwy flynedd i gwblhau'r adroddiad. Wn i ddim sut ar y ddaear rydych chi'n meddwl y gall y math hwn o waith manwl iawn gael ei wneud yn gyflymach na hynny, ac os hoffech chi i mi roi rhestr i chi o bethau y mae eich Llywodraeth eich hun wedi cymryd llawer hirach—[Torri ar draws.] Ydych chi eisiau clywed yr hyn rwy'n ei ddweud wrthych neu beidio?