Y Cyfarfod Llawn

Plenary

03/05/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jane Dodds.

Rhaglen Cartrefi Clyd

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y fersiwn ddiweddaraf o'r rhaglen Cartrefi Clyd? OQ59427

Diolch, Jane. Trafodwyd y polisi sy'n sail i'r cynllun newydd yn y Cabinet ar 24 Ebrill a bydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, a byddaf hefyd yn cyhoeddi manyleb y tendr ar gyfer caffael cynllun newydd sy’n seiliedig ar alw.

Diolch yn fawr iawn. Mae’n dda clywed y bydd cynllun newydd cyn bo hir. Byddai’n dda hefyd pe gallech egluro beth yw’r amserlenni, os ydych yn ymwybodol o hynny. Rydym wedi nodi, fel y gwyddoch, ar sail cyfraddau cwblhau yn 2016-17, y byddai'n cymryd 111 o flynyddoedd i insiwleiddio pob aelwyd sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru, felly ni allwn aros mewn gwirionedd. Hefyd, byddai’n dda clywed eich barn hefyd ar raglen Cartrefi Clyd. Deallaf y gallech fod wedi dweud wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith na fydd rhaglen Cartrefi Clyd yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i’r aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd ar hyn o bryd. Felly, byddai'n dda cael rhywfaint o eglurder gennych ynglŷn â hynny, os nad oes ots gennych. Mae’n dda clywed eich bod yn bwrw ymlaen, a byddai’n wych cael amserlen, os gwelwch yn dda, o ystyried ein bod yn gwybod bod hyn yn wirioneddol bwysig i’r cartrefi hynny sy’n dlawd o ran tanwydd. A wnewch chi hefyd ystyried Deddf cartrefi gwyrdd, i leihau biliau ynni, lleihau’r galw ar y grid, a hybu buddsoddiad mewn cartrefi cynnes, cynaliadwy? Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Jane. Credaf mai'r pwynt roeddwn yn ei wneud i'r pwyllgor oedd nad yw'r cynllun hwn yn berthnasol i bob aelwyd—nid na fydd yn cael effaith ar dlodi tanwydd. Mae'n bwysig cofio mai cynllun yw hwn sydd wedi'i anelu at berchen-feddianwyr; mae gennym gynlluniau eraill ar gyfer deiliadaethau eraill. Ceir cynllun gwahanol ar gyfer tenantiaid cymdeithasol, er enghraifft. Felly, credaf mai dyna'r pwynt roeddwn yn ei wneud—na fydd yn berthnasol i bob aelwyd mewn tlodi tanwydd.

Diben y cynllun newydd yw dechrau'r broses o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a thlodi tanwydd gyda'i gilydd. Felly, byddwn yn symud oddi wrth ragdybiaeth awtomatig mai gosod boeler nwy newydd yn lle boeler nwy aneffeithlon yw’r peth i wneud, ond mae'n rhaid inni wneud hynny—a byddaf yn cyhoeddi’r broses bolisi y tu ôl i hyn—mewn ffordd gymesur, gan warchod rhag gwaethygu tlodi tanwydd. Oherwydd, mewn rhai achosion, pe baech yn cyfnewid boeler nwy mewn tŷ am ffynhonnell wres drydanol, gallai eu bil godi. Felly, mae angen ystyried yn ofalus. Felly, yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yw sicrhau cydbwysedd rhwng y ddau beth hynny, felly, os oes gennych foeler nwy y gellir ei atgyweirio fel ei fod yn llawer mwy effeithlon, byddwn yn gwneud hynny, ond os oes angen ei newid yn gyfan gwbl, byddwn yn ystyried dull o weithredu 'ffabrig cyfan' ar gyfer y tŷ, a gosod system wresogi nad yw'n cyfrannu at yr argyfwng hinsawdd. Bydd cydbwysedd i'w sicrhau. Ac mae'n un anodd, felly mae angen inni sicrhau ein bod yn pontio i'r cynllun newydd hwnnw'n ddidrafferth. Rydym am barhau â’r cynllun ar gyfer aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd—at y rheini y mae wedi’i dargedu. Byddwn hefyd yn datblygu cynlluniau eraill ar gyfer aelwydydd nad ydynt yn gyfan gwbl mewn tlodi tanwydd, efallai, ond sy’n byw mewn cartrefi aneffeithlon iawn, gydag ôl troed carbon mawr, ond nad ydynt efallai’n bodloni’r diffiniad o dlodi tanwydd. Ac mae tlodi tanwydd yn fater anodd, onid yw? Gall rhywun fod mewn tlodi tanwydd er bod ganddynt incwm go fawr, ond efallai eu bod yn gwario 65 y cant o’r incwm hwnnw ar danwydd, a bydd hynny’n golygu eu bod yn cyd-fynd â'r diffiniad. Felly, mae'n ystyriaeth anodd drwyddi draw. Byddwn yn ymestyn contract presennol Nyth yn y cyfamser, fel nad oes bwlch, fel y gallwn barhau i helpu pawb. Ond rwy'n awyddus i sicrhau bod yr un nesaf yn iawn, gan y bydd ar waith am flynyddoedd lawer, felly rydym yn awyddus i sicrhau ei fod yn hollol iawn. Felly, byddaf yn cyhoeddi hynny, Lywydd, a byddaf yn disgwyl i'r Aelodau allu gwneud sylwadau arno pan fyddaf wedi gwneud hynny.

Weinidog, er fy mod yn cytuno â Jane fod arnom angen rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar frys, hoffwn annog y Gweinidog hefyd i sicrhau bod yr iteriad nesaf yn addas at y diben. Dioddefodd fy etholwyr yn fawr o dan gynllun Arbed 1. Cafodd cartrefi trigolion yng Nghaerau, ger Maesteg, eu gwneud bron yn anaddas i fyw ynddynt oherwydd gwaith inswleiddio diffygiol— inswleiddio a oedd yn gwbl anaddas ar gyfer yr eiddo, ac a gafodd ei ariannu drwy raglen Cartrefi Clyd. Gwnaed gwaith gan gwmni a oedd yn eiddo i aelod o gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a diolch i archwiliad mewnol, canfuwyd na ddilynwyd unrhyw broses gaffael ac na chynhaliwyd unrhyw wiriadau diwydrwydd dyladwy. Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn gyffredinol, fod angen i drefniadau rheoli contractau fod yn gryf mewn unrhyw gynlluniau yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys monitro cydymffurfiad â chontractau yn agosach, mynd i'r afael ag amrywiadau sylweddol yn y costau a godir am gyflenwi a gosod yr un mesurau effeithlonrwydd ynni, a gwella gwybodaeth reoli. Weinidog, sut y byddwch yn sicrhau nad yw iteriad nesaf cynllun Cartrefi Clyd yn agored i dwyll a llygredigaeth ac na fydd yn gadael cartrefi derbynwyr mewn cyflwr gwaeth?

13:35

Ie, diolch. Rydym yn gwbl ymwybodol nad oedd yr hyn a ddigwyddodd i rai pobl gyda rhai o’r cynlluniau eraill, gan gynnwys cynlluniau Llywodraeth y DU, yn iawn. Ac un o'r gwersi mawr iawn i'w dysgu yw nad yw un ateb yn addas i bawb. Felly, cafodd miloedd lawer o gartrefi eu helpu drwy'r rhaglenni hynny, ond i’r rhai y gwnaed y peth anghywir iddynt, mae hynny wedi arwain at ganlyniadau gwael, ac rydym wedi neilltuo swm o arian i geisio unioni hynny, gan gynnwys rhai sydd wedi dioddef yn sgil cynlluniau Llywodraeth y DU. Nid wyf am roi'r argraff anghywir i bobl ledled Cymru, oherwydd ar gyfer rhai o gynlluniau Llywodraeth y DU, nid ydym yn gallu camu i mewn i helpu gyda hynny. A gwn fod nifer o Aelodau wedi codi hynny gyda mi, ac rydym wedi gallu unioni rhai o'r lleill.

Rydym yn awyddus iawn i ddysgu gwersi o hynny, felly nid yw hwn yn ddull un ateb addas i bawb. Dyna pam fod angen i'r polisi fod yn drylwyr, a pham fod angen i'r polisi esblygu o'r sefyllfa fel y saif pethau. Felly, mae angen inni fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd gan wneud yn siŵr ar yr un pryd fod pobl yn cael bil mor fforddiadwy ag y gallwn ei sicrhau iddynt. Nid yw'r argyfwng ynni wedi helpu yn hynny o beth. Felly, gallaf roi sicrwydd i chi y byddwn yn dysgu gwersi o'r ffordd rydym wedi gwneud pethau yn y gorffennol, a dyna pam ein bod yn bod yn ofalus iawn gyda'r broses hon. Ac fel y dywedais, yn y cyfamser, rydym wedi ymestyn contract presennol Nyth fel na fydd unrhyw fwlch yn y ddarpariaeth. Nid wyf ychwaith am roi'r argraff i bobl nad oes darpariaeth wedi bod ar waith. Roedd gennym ddwy raglen ar waith. Dim ond un rhaglen sydd gennym ar hyn o bryd; byddwn wedyn yn rhoi rhaglen arall ar waith a fydd yn seiliedig ar alw.

Cyhoeddwyd cynllun Cymru Sero Net 18 mis yn ôl, felly rwy’n pryderu mai dim ond nawr y mae’r grŵp gweithredu ar ddatgarboneiddio'n edrych ar bethau strategol. Pryd fyddwch chi'n gallu darparu eglurder i bobl sy’n rhentu’n breifat, neu sydd â mwy o asedau nag arian, sy’n berchen ar eu tai yn breifat, mewn cartrefi oer na allant fforddio eu gwresogi, a pha gymorth y gallent ei gael drwy iteriad nesaf rhaglen Cartrefi Clyd?

Felly, nid yw’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i helpu pobl yn y sector rhentu preifat; mae rhaglenni eraill wedi'u cynllunio i wneud hynny, megis Cynllun Lesio Cymru.FootnoteLink Felly, mae gwir angen i unrhyw landlord sy'n ei chael hi'n anodd iawn gwella eu heiddo edrych ar Gynllun Lesio Cymru er mwyn cael cymorth y Llywodraeth i sicrhau bod y cartref hwnnw yn cyrraedd y safon. Rydym wedi bod yn cysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch eu sgôr tystysgrif perfformiad ynni E ar gyfer y sector rhentu preifat. Heb raglen grant i gyd-fynd â hynny, rydym yn bryderus iawn y gallem yrru rhai landlordiaid o'r farchnad, yn enwedig, Jenny, yn eich etholaeth chi, lle ceir cartrefi mwy o faint gyda theuluoedd sawl cenhedlaeth yn byw ynddynt, sy'n tueddu i fethu cyrraedd sgôr tystysgrif perfformiad ynni E. Felly, mae'n bwysig inni fod yn gwbl drylwyr.

Mae Vaughan Gething a minnau wedi gwneud cyhoeddiad yn ddiweddar am waith gyda Banc Datblygu Cymru i roi benthyciad ar waith—cynllun benthyciad grant, o bosibl—ar gyfer pobl nad ydynt yn bodloni’r meini prawf incwm ar gyfer iteriad presennol rhaglen Cartrefi Clyd. Byddwn yn cyflwyno hynny. Mae'n bwysig cael ystod o wahanol fesurau ar waith, nid un ateb addas i bawb. A bydd pob un ohonoch wedi fy nghlywed yn sôn droeon am gyflwyno'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Rydym ar fin ei chyflwyno mewn hyb a fydd yn rhoi’r cyngor cywir i bobl ar sut i ddatgarboneiddio eu cartrefi, sut i gael y cyngor cywir i wneud hynny, a sut i gael y budd mwyaf ohono. Felly, nid wyf am ichi feddwl nad oes unrhyw beth wedi bod yn digwydd; mae cryn dipyn wedi bod yn digwydd. Ond nid oes unrhyw amheuaeth na all y Llywodraeth fforddio datgarboneiddio pob un o gartrefi Cymru ar ei phen ei hun, felly mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd o ysgogi buddsoddiad gan y sector preifat, gan gynnwys y buddsoddiad y mae unigolion yn ei wneud yn eu cartrefi eu hunain.

Terfyn Cyflymder 20 mya

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda busnesau ynghylch cyflwyno terfynau cyflymder 20 mya cyn bo hir?  OQ59426

Diolch. Nododd grŵp tasglu 20 mya Cymru yr argymhellion y dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â nhw ar gyfer rhoi'r terfyn 20 mya ar waith ar strydoedd preswyl ac ardaloedd prysur i gerddwyr, ac roeddwn yn falch fod y Ceidwadwyr wedi cefnogi hynny ar y pryd. Gwahoddwyd sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau i gymryd rhan, ac mae swyddogion wedi parhau i ymgysylltu â nhw.

13:40

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Yn amlach na pheidio, mae cyflwyno terfynau cyflymder 20 mya yn bwnc llosg, yn enwedig pan fyddaf yn cyfarfod â busnesau a thrigolion yn fy rhanbarth, boed hynny oherwydd y symiau gwarthus o arian sy’n cael eu gwario arno neu oherwydd eu bod yn sylweddoli bod cyflwyno terfyn cyffredinol yn gwbl hurt, yn enwedig ledled Cymru gyfan. Siaradais ag un busnes mawr yn fy rhanbarth yn ddiweddar ac maent yn bryderus iawn am yr effaith y bydd 20 mya yn ei chael ar eu masnach. Ar hyn o bryd, maent yn gwneud cannoedd o ddanfoniadau bob dydd, ond gyda’r Llywodraeth Lafur hon yn mynd ati'n weithredol i arafu Cymru, gallai eu gallu i wneud cymaint o ddanfoniadau gael ei rwystro’n sylweddol. Ac wrth gwrs, gwyddom eisoes y bydd y cynllun 20 mya hwn yn costio £4.5 biliwn i economi Cymru. Felly, Ddirprwy Weinidog, beth fyddech chi'n ei ddweud wrth y busnesau sy'n ofni y bydd eich prosiect hoff 20 mya yn cael effaith hynod andwyol arnynt wrth symud ymlaen?

Mae'n siomedig fod yr Aelod yn parhau i ailadrodd anwireddau, er ei bod yn gwybod mai anwireddau ydynt. Credaf fod mabwysiadu'r math hwn o ymagwedd ymfflamychol yn gwneud anghymwynas â phob un ohonom. Byddwn wedi gobeithio y byddai'n well na hynny, ond rwy'n dal i aros am y dystiolaeth. Mae dweud bod swm gwarthus o arian wedi’i wario, rydym wedi cyhoeddi astudiaethau academaidd sy’n dangos y bydd cost rhoi'r cynllun hwn ar waith yn cael ei had-dalu deirgwaith drosodd yn y flwyddyn gyntaf yn unig drwy arbedion i’r GIG, drwy'r gostyngiad mewn anafiadau difrifol a marwolaethau ar y ffyrdd. Bob blwyddyn yng Nghymru, mae 80 o bobl yn marw mewn damweiniau ar y ffyrdd; mae hanner y rheini'n digwydd ar ffyrdd lle mae'r terfyn cyflymder yn 30 mya. Rydym wedi dysgu o brofiad a thystiolaeth yng Nghaeredin y bu gostyngiad o 25 y cant yn nifer yr anafusion o ganlyniad i'r terfyn 20 mya. Ac mae hwn yn bolisi sy'n cael ei arddel gan Geidwadwyr mewn llywodraeth leol yn Lloegr hefyd. Felly, mae'n gwneud anghymwynas â mater difrifol drwy geisio ei leihau i'r mathau hyn o benawdau dirmygus.

Mae hefyd yn ffeithiol anghywir i ddweud bod hwn yn bolisi cyffredinol. Nid yw'n bolisi cyffredinol. Rydym yn newid y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd a reoleiddir o 30 mya i 20 mya. Mae gan awdurdodau priffyrdd lleol allu cyfreithiol i’w newid yn ôl lle ceir achos da dros wneud hynny. Felly, nid oes gwaharddiad cyffredinol. Ac fel y byddech wedi gweld pe baech wedi trafferthu edrych ar y manylion, yn hytrach na dim ond chwilio am bennawd, byddech wedi gweld bod nifer o awdurdodau lleol yn cynllunio eithriadau yn eu hardaloedd, gan brofi unwaith eto nad yw'n waharddiad cyffredinol.

O ran y gost i’r economi, mae’r ffigurau y cawsom ein gorfodi i'w cynhyrchu gan Lyfr Gwyrdd y Trysorlys wedi'u cwestiynu'n fawr ac yn destun dadl academaidd. Nid ydynt yn ystyried y manteision sylweddol i'r economi o'r ffigurau rwyf newydd eu crybwyll ar leihau anafiadau ar y ffyrdd, a'm profiad i o siarad â busnesau, sy'n rhywbeth rwyf wedi gwneud cryn dipyn ohono, yw bod y safbwyntiau'n gymysg. Yn sicr, rwyf wedi cael sgyrsiau dros y dyddiau diwethaf â busnesau bach sy’n bryderus iawn am yr effaith y bydd yn ei chael ar eu busnesau, ac rwy’n deall y pryderon, ac rwyf wedi siarad â busnesau mwy o faint sy’n ddigyffro iawn am y polisi. Felly, credaf fod angen inni fynd i’r afael â hyn mewn ffordd bragmatig, gan weithio’n agos â chymunedau a llywodraeth leol, a chyda busnesau, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld yr hysteria y mae’r Ceidwadwyr yn benderfynol o’i greu, er iddynt gefnogi hyn yn y bleidlais cyfnod cyntaf yn y Senedd hon—. Maent wedi synhwyro cyfle i godi cynnen, a dyna maent yn ei wneud bob amser.

Weinidog, rwy’n gefnogol iawn, fel cymaint o bobl yng Nghymru, i’r polisi 20 mya, sydd, fel y dywedwch, mor gadarnhaol ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd ac er mwyn caniatáu i gymunedau a chymdogaethau adennill eu strydoedd. Credaf fod y cynlluniau peilot yn ddefnyddiol iawn i ganiatáu ar gyfer addasiadau posibl pan welir tystiolaeth y cynlluniau peilot hynny.

Weinidog, a wnewch chi ddweud rhywfaint am gyflwyno'r terfyn a sut y bydd yn cysylltu â pholisïau pwysig iawn eraill o natur debyg, megis teithio llesol, megis strydoedd diogel i chwarae, a megis y llwybrau cerdded trefol sy’n cael eu creu'n gynyddol yma yng Nghymru, i alluogi pobl i fwynhau manteision ymarfer corff a bod yn fwy cyfarwydd â’n hamgylchedd lleol?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n talu teyrnged unwaith eto i John Griffiths a’i rôl yn ymgyrchu dros y polisi hwn am flynyddoedd lawer cyn iddo gael ei gefnogi’n ehangach yn y Siambr hon. Roedd John ymhlith nifer fechan o rai eraill a fu'n dadlau o blaid hyn. Ac mewn gwirionedd, roedd y cyfarfod cyntaf a gefais ar ôl cael fy mhenodi’n Weinidog bedair blynedd yn ôl gyda John a Rod King o ymgyrch 20's Plenty for Us—mae eraill yn y Siambr wedi cyfarfod ag ef, ac mae rhai hyd yn oed wedi cael tynnu eu lluniau gydag ef, er eu bod wedi anghofio am hynny yn ôl pob golwg. Roedd hynny'n allweddol i'n rhoi ar y llwybr tuag at ymagwedd ddiofyn, yn hytrach na dim ond ymestyn y parthau. Credaf mai dull diofyn, fel y mae'r treialon yn ei awgrymu, yw'r ffordd iawn o wneud hyn.

Soniodd am y ffordd y mae eithriadau wedi cael eu defnyddio yng Nghil-y-coed er enghraifft, yn un o’r cynlluniau peilot lle'r aethpwyd ati, yn ddigon synhwyrol ac yn sgil profiad gwirioneddol, i newid y cynllun. Dyna oedd holl bwynt ei dreialu. A'r hyn rydym wedi'i weld yn gyson yn y data a ddaw o'r cynlluniau peilot yw cynnydd mewn cerdded a beicio. Felly, dyna lle mae'r prif fanteision i ansawdd aer. Mae’r dystiolaeth o ran ansawdd aer braidd yn gymysg, ond un fantais amlwg iawn yw bod amgylchedd mwy cyfeillgar i gerddwyr ac i feicwyr yn annog mwy o bobl i feicio a cherdded, ac mae hynny’n sicrhau newid ystyrlon o ran dulliau teithio. Yn ddiddorol, mae'r prosiect rydym yn ei gynnal gyda Living Streets mewn ysgolion cynradd—traciwr WOW—i geisio annog mwy o blant i gerdded i'r ysgol, yn yr ardaloedd lle mae'n weithredol mewn parth 20 mya, rydym yn gweld llawer mwy o blant yn barod i adael y car gartref a cherdded i'r ysgol.

Soniodd hefyd am y fenter strydoedd diogel, sy’n rhywbeth rydym wedi bod yn ei gyflwyno fesul cam. Mae gwaith gwych wedi’i wneud yng Nghasnewydd ar dreialu’r dull hwnnw. Rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn gwybod, yn y Siambr hon, o’n profiad etholaethol, fod rhieni'n parcio yn y boreau yn broblem ym mhob ysgol bron, mewn ysgolion cynradd yn enwedig, ac mae hwn yn brosiect cyffrous iawn i geisio mynd i’r afael â hynny, ac rydym yn cyflwyno hynny’n raddol. Mae'r cyfan yn rhan o becyn; mae'n weledigaeth gydlynol ar gyfer cymdogaeth leol fwy gwaraidd a diogel fel rhan o'n hymdrechion ehangach i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

13:45

A gaf fi ganmol y Gweinidog am fwrw ymlaen â’r polisi hwn, a llawer o’n hawdurdodau lleol hefyd, sy'n bwrw ymlaen ag ef mewn ffordd bragmatig, ystyriol iawn wrth iddynt edrych ar newid i derfyn diofyn o 20 mya? Maent yn ymgynghori'n agored â'r cyhoedd, ac rwyf wedi bod drwy bob map yn fy etholaeth i edrych arno. Mae'n synhwyrol iawn, ac mae rhai o'r awgrymiadau ynglŷn â lle dylid cael eithriadau yn rhai synhwyrol yn ôl pob golwg. Ond a wnaiff ymuno â mi i annog nid yn unig trigolion lleol ond busnesau hefyd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau hynny ledled Cymru—ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a mannau eraill—ac i fynegi eu barn? A yw'n cytuno â mi hefyd fod y dystiolaeth ryngwladol yn dangos, lle rydych yn rhoi hyn ar waith—ydy, mae’n dipyn o newid meddwl, mae’n dipyn o newid diwylliant—fod yr effeithiau ar gymunedau, ar bobl, yn niferus, a chyn hir, mae pobl yn gofyn, 'Beth oedd achos yr holl ffws?'

Diolch yn fawr iawn. Mae’r Aelod yn gwneud pwyntiau cryf iawn. Mae’n dweud y cyfan, onid yw, fod mwy a mwy o drefi a dinasoedd ledled y DU a ledled Ewrop bellach yn mabwysiadu 20 mya fel terfyn diofyn. Nid oes unrhyw un ohonynt, hyd y gwn i, wedi gwrthdroi’r penderfyniad hwnnw ar ôl ei gyflwyno. Rwy’n deall y pryderon sydd gan bobl, yn arbennig gan fusnesau ym maes logisteg ac sy’n dibynnu ar gyflenwi mewn union bryd, oherwydd er mai un funud yn unig yw'r cynnydd cyfartalog mewn amseroedd teithio, yn amlwg, os ydych yn gwneud sawl taith mewn diwrnod a bod eich busnes yn dibynnu ar hynny, mae hynny'n bryder. Cyfarfûm y bore yma â nifer o gynrychiolwyr busnes a chynigais gyfarfod â nhw eto ymhen ryw dri mis ar ôl rhoi'r cynlluniau ar waith, er mwyn inni allu adolygu sut mae pethau’n mynd, ac os oes rhai rhannau o ffyrdd—ac rydym wedi cael yr un sgwrs gyda chwmnïau bysiau—lle maent yn credu, yn ymarferol, ei fod yn creu problem, gall awdurdodau lleol newid y terfyn diofyn, a byddwn yn darparu rhywfaint o gyllid iddynt wneud rhai newidiadau bach lle ceir achos da dros wneud hynny.

Ac mae’n bwysig, fel y dywedodd yr Aelod, i gynghorau ymgynghori’n briodol â phobl. Rwyf wedi bod braidd yn bryderus ynghylch faint o ymgynghori y bu’n rhaid iddynt ei wneud—mae’n dameidiog—ond credaf mai’r realiti yw, oherwydd toriadau cyni'r Torïaid, fod nifer y bobl mewn awdurdodau lleol sy’n ymdrin â'r mater hwn nawr yn llai o lawer, ac mae hynny wedi cyfyngu ar eu gallu i ymgysylltu'n agored. Ond y neges rwyf wedi ei phwysleisio iddynt yw fy mod yn disgwyl gweld ymagwedd synnwyr cyffredin. Rydym wedi newid y canllawiau gorfodi o ganlyniad i’r prosiect peilot a oedd gennym ym Mwcle yn sir y Fflint, i ddangos yr hyblygrwydd sydd ganddynt i addasu eu penderfyniadau i’r amgylchedd lleol, yn seiliedig ar achos da. Felly, rwy'n siŵr, ym mhob stryd yng Nghymru, na fydd pethau'n digwydd yn gwbl ddidrafferth ar 17 Medi. Bydd angen rhywfaint o amser i'r cynllun ymsefydlu. O'r cynllun peilot, yn sicr, yn Nafen yn fy etholaeth i, roedd llawer o sŵn am y chwe wythnos gyntaf. Mae hynny wedi tawelu. Mae angen inni barhau i'w ailadrodd a'i addasu er mwyn sicrhau ei fod yn gweddu i amgylchiadau lleol, ond pan fyddwn wedi gwneud hyn a phan fydd wedi ymsefydlu, nid wyf yn credu y byddwn yn ystyried mynd yn ôl i fel oedd hi.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Natasha Asghar.

Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, gwn fy mod eisoes wedi sôn am y terfyn cyflymder 20 mya heddiw, ond rwy’n mynd i aros gyda'r thema honno ar gyfer y cwestiwn cyntaf—[Torri ar draws.] Ydw, rwy’n mynd i wneud hynny. Mae’r pris ar gyfer cyflwyno terfynau cyflymder 20 mya ledled Cymru yn fwy na £30 miliwn. Ond rydym bellach wedi dysgu bod y pris eisoes yn codi, gydag arian ychwanegol yn cael ei ddarparu i dalu am orfodaeth camerâu cyflymder ychwanegol. Rwy’n falch iawn ichi sôn am iechyd, oherwydd gadewch imi ddweud wrthych beth yw realiti’r gwasanaeth iechyd. Mae mewn cyflwr enbyd ledled Cymru—gogledd, de, dwyrain, gorllewin—gydag amseroedd aros anhygoel o hir, sy'n gadael cleifion yn dihoeni mewn poen. Mae datrys problemau'r GIG yn flaenoriaeth hollbwysig i bobl Cymru, ac rwy’n siŵr y byddai pob gwleidydd ar bob mainc yn cytuno, ond serch hynny, ymddengys nad yw’r Llywodraeth Lafur o'r un farn. Yn lle hynny, rydych yn pwmpio arian i mewn i brosiectau porthi balchder hurt fel gwleidyddion yn y lle hwn, maes awyr sy’n methu a chynlluniau 20 mya. Sut y gallwch gyfiawnhau gwastraffu cymaint o arian ar brosiectau hoff, tra bo problemau llawer mwy i'w datrys?

13:50

Hoffwn atgoffa Natasha Asghar nad yw yng nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yng Nghasnewydd mwyach. Credaf ein bod yn haeddu cael ystyriaeth fwy difrifol o faterion yn y Siambr hon. Ymddengys nad yw'n gallu addasu'r cwestiwn o'r un rwyf eisoes wedi'i ateb, lle nodais gost a manteision y terfyn 20 mya. Hoffwn ei chyfeirio at yr astudiaeth gan Brifysgol Napier Caeredin, a ddangosodd yr effeithiau disgwyliedig ar y GIG a fodelwyd yn sgil llai o farwolaethau, llai o anafusion a llai o anafiadau, a fydd yn talu am fwy na chost cyflwyno hyn, deirgwaith drosodd yn y flwyddyn gyntaf yn unig.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. I unrhyw un a hoffai wybod, rwy'n teimlo o ddifrif fy mod yn y Senedd heddiw. Rwy'n credu y byddwch yn gwerthfawrogi'r cwestiwn nesaf hwn yn fawr, gan y bydd yn dod â phawb yn ôl i realiti. Ar sail y rhethreg a glywn gennych yn y Siambr hon, byddwn wedi meddwl y byddech yn rhoi godre'ch trowsus yn eich sanau ac yn neidio ar gefn eich beic, neu efallai’n dal bws neu drên, bob tro y byddai angen i chi fynd i rywle. Ond fel y clywsom yn ddiweddar, nid yw hynny'n wir, ac rydych wedi hawlio treuliau am bron i 12,000 o filltiroedd, cyfanswm o bron i £5,500, ac wedi cyflwyno tri hawliad yn unig am docynnau trên. Ac nid dyna'r cyfan—[Torri ar draws.]

Ni allaf glywed y cwestiwn. Mae gwir angen i mi a'r Gweinidog glywed y cwestiwn.

Diolch. Ymddengys eich bod wedi bod yn defnyddio un o geir gweinidogol Llywodraeth Cymru yn rheolaidd i deithio 5 milltir yn unig, fwy neu lai. A dweud y gwir, rydych wedi gwneud y daith fer o Benarth i Gaerdydd, neu yn ôl, mewn car moethus sy'n cael ei yrru gan yrrwr bron i 40 o weithiau, cyfanswm o 200 milltir. Felly, Ddirprwy Weinidog, onid ydych yn credu eich bod wedi bod yn gwbl ragrithiol, yn enwedig gan mai chi yw wyneb prosiect Llafur i ddod â phobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus?

Lywydd, rwy'n gresynu'n fawr at gywair yr Aelod unwaith eto. Rwy'n credu bod ein sgyrsiau'n dod yn wawdluniau ohonynt eu hunain ac yn iselhau'r drafodaeth, mae'n rhaid imi ddweud. Gadewch i'r ddau ohonom geisio gwneud yn well.

Gadewch imi nodi'r ffeithiau. Mae’n honni imi hawlio, mewn capasiti personol fel Aelod o'r Senedd, ar gyfer 12,000 o filltiroedd o deithiau. Roedd hyn, dylai esbonio, dros bedair blynedd. Mae hynny’n cyfateb i un daith yr wythnos rhwng Llanelli, lle rwy'n ei gynrychioli, a Chaerdydd, lle rwy’n cynrychioli’r etholaeth yn y Senedd. Rwy’n siŵr, pe bai'n cymharu hynny â hawliadau'r Aelodau eraill, y byddai’n gweld bod hynny yn hanner gwaelod y tabl.

Yn wir, rwyf wedi hawlio am dair taith trên dros bedair blynedd. Mae hynny oherwydd nad wyf yn hawlio am bob taith a wnaf ar y trên. A dweud y gwir, ac fel y dywedais, ers yr haf diwethaf, rwyf wedi cael gwared ar fy ail gar, ac rwyf bellach yn teithio'n rheolaidd ar feic ac ar drên. Mae swydd Gweinidog, fel na fydd byth yn ei ddarganfod, rwy'n falch o ddweud, yn un hynod gymhleth ac anodd, yn cynnwys patrymau teithiau anodd iawn, lle mae'n aml yn anymarferol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan fod angen ichi fod mewn sawl mawn o fewn amserlenni tynn iawn. Mae'n rhaid ichi ddarllen a chludo papurau sensitif, a cheir materion diogelwch sydd angen eu hystyried hefyd.

Credaf iddi ddyfynnu cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ynghylch sawl gwaith rwyf wedi defnyddio car gweinidogol. Unwaith eto, bydd yn gweld fy mod yn teithio ar feic y rhan fwyaf o’r wythnos, ond ceir rhai adegau pan fydd angen car gweinidogol.

Credaf fod y math hwn o wleidyddiaeth bersonol ddirmygus, lle rydych yn ceisio pardduo fy nghymhellion a fy rhesymau dros bolisi sydd wedi ennyn cefnogaeth drawsbleidiol yma drwy ddweud fy mod rywsut yn rhagrithiol, islaw ei hurddas. Fe ddylai fod. Rwy'n gobeithio y gallwn daro cywair mwy dyrchafedig yn y dyfodol.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Rwy’n gwerthfawrogi’r ymateb rydych newydd ei roi, ond mae'n rhaid imi ddweud bod manylion eich teithiau gweinidogol yn ddiddorol iawn. Heb fod mor bell yn ôl a hynny, cawsoch eich gyrru o Benarth i Coventry, taith o oddeutu 125 milltir—[Torri ar draws.] Rwy'n mynd i wneud fy mhwynt. Yna, fe deithioch chi oddeutu 6 milltir i Kenilworth, cyn cael eich cludo'n ôl i Benarth, oddeutu 117 milltir, taith fach o 250 milltir i gyd. Ac yna, fe aethoch ar daith gron o oddeutu 100 milltir o Benarth i Fryste mewn car gweinidogol. Fel y soniais, rwy’n derbyn eich bod yn cludo dogfennau sensitif—rwy’n deall hynny. Fodd bynnag, beth sydd o'i le ar fynd ar y bws neu'r trên, Ddirprwy Weinidog? Yn yr achos hwn, ymddengys bod un rheol i Weinidogion Llafur a rheol arall i’r gweddill ohonom.

Credaf fy mod wedi ateb y pwynt hwnnw, ac rwy'n gresynu ei bod yn parhau â'r ddadl hon.

Diolch, Lywydd. Weinidog, rydym bellach ym mis Mai, sy’n cael ei nodi unwaith eto fel No Mow May, cyfle i bob un ohonom newid ein harferion ac annog bywyd gwyllt i ffynnu yn ein gerddi a’n parciau. Rwy’n siŵr y byddwch chi, fel finnau, yn annog pobl i gamu oddi wrth—[Torri ar draws.]

13:55

Iawn. Gadewch imi glywed y cwestiwn, nawr. Ni chredaf fod angen i'r cwestiwn blaenorol barhau i mewn i'r cwestiwn hwn. Delyth Jewell.

Felly, wrth sôn am No Mow May, rwy’n siŵr y byddwch chi, fel finnau, yn annog pobl i gamu oddi wrth y peiriant torri gwair; i wrthsefyll yr ysfa i ddechrau torri’r gwair nawr a mwynhau, ie, gardd flerach, ond un sydd hefyd yn llawn bywyd, sy’n llawn o flodau gwyllt i roi paill i wenyn—mannau glaswelltog nad ydynt yn drwsiadus ond yn wyllt, yn union fel sydd ei angen ar ein bywyd gwyllt. Ac mae angen cymorth ar ein gwenyn. Ysgrifennais at y Llywodraeth yn ddiweddar i ofyn am gyfarfod ynglŷn â sut y gall Cymru wthio i gryfhau rheoliadau plaladdwyr ledled y DU. Gwn fod Pesticide Action Network UK wedi bod yn arwain ymgyrch dros drefi di-blaladdwyr. Hyd y gwn i, nid oes unrhyw dref na dinas yng Nghymru wedi ymrwymo i'r addewid hwnnw eto, felly rydym ar ei hôl hi. Felly, a wnewch chi ddweud wrthyf pa waith rydych yn ei wneud i leihau risgiau plaladdwyr? A byddai unrhyw sylw y gallech ei wneud am No Mow May hefyd yn ddefnyddiol, os gwelwch yn dda.

Iawn. Diolch yn fawr iawn, Delyth. Rwy'n hoff iawn o No Mow May, ac wedi bod yn hoff iawn o No Mow May ymhell cyn imi hyd yn oed glywed yr ymadrodd 'no mow May'. Ei ddiben yw gadael i flodau gwyllt flodeuo a hadu, gan eu bod yn darparu cysgod a bwyd i infertebratau ac i adar hefyd, yn enwedig adar sy'n dychwelyd. Roedd yn hyfryd gweld y gwenoliaid yn ôl eto y penwythnos diwethaf. Mae bob amser yn codi'ch calon, onid yw? Ond edrychwch ar yr hyn y maent yn ei fwyta; maent yn bwydo ar y pryfed bach sy'n bwydo ar y pethau yn eich glaswellt nad ydynt yno os ydych chi'n torri'ch glaswellt â siswrn ewinedd tan ei fod yn edrych fel lawnt fowlio, fel y mae rhai pobl yn ei hoffi. Felly, rwy'n hoff iawn o hynny. Ond mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â mwy na pheidio â thorri glaswellt ym mis Mai yn unig; mae arnaf ofn ei fod yn galw am beidio â thorri glaswellt ym mis Mehefin a mis Gorffennaf hefyd os ydych chi am gael yr hadau hefyd. Ac rwy'n hoff iawn o hynny, felly, ers blynyddoedd bellach, dim ond dwywaith y flwyddyn rydym wedi torri ein lawnt ni. Mae hefyd yn lleihau'r angen i dorri'r lawnt, ac rwy'n hoff iawn o hynny. [Chwerthin.]

Ond yn sicr, gallwch weld y gwahaniaeth mewn gardd neu barc lle mae'r polisi hwnnw ar waith, gan y gallwch glywed sŵn pryfaid ac ati, na allwch ei glywed pan fo'r glaswellt mor fyr â lawntiau bowlio. Felly, rydym wedi bod yn annog cynghorau i wneud hynny, ac rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu eto at gynghorau—rwyf wedi codi'r mater gyda'r Gweinidog llywodraeth leol hefyd—i ofyn i gynghorau adolygu eu polisïau plaladdwyr. Ond mae hwn yn newid meddwl mawr, onid yw? Mae pobl wedi dysgu meddwl bod taclusrwydd yn golygu diffyg chwyn, a bod chwyn yn golygu unrhyw beth nad ydych am ei weld yno, felly dant y llew yw'r un rydych yn ei glywed yn aml—'Chwyn yw dant y llew.' Wel, mae dant y llew'n ffynhonnell hynod werthfawr o fwyd ar gyfer amrywiaeth enfawr o bryfed a’r adar sy’n bwydo ar y pryfed hynny, ac mae angen eu hannog, fel blodau menyn ac eraill—briallu Mair, pob un o’r mathau hynny o bethau. Felly, ers amser bellach, rydym wedi bod yn annog awdurdodau lleol i adael i ymylon ffyrdd dyfu ac i blannu hadau blodau gwyllt brodorol. A gwnaeth Carolyn waith da iawn gyda'r awdurdodau lleol ar bwysleisio hynny i ni, a gwn ei bod yn hyrwyddo hyn yn frwd. Ond mae'n bwysig eu bod yn flodau gwyllt brodorol. Mae rhai awdurdodau lleol wedi plannu blodau gwyllt, ond nid blodau gwyllt brodorol mohonynt, ac mae angen eu hailblannu bob blwyddyn—mae'r math hwnnw o beth yn mynd yn groes i'r nod, a dweud y gwir; efallai eu bod yn hardd, ond nid ydynt yn cyflawni'r swyddogaeth.

Felly, Delyth, rwy'n fwy na pharod i ailadrodd hynny. Dylai pobl feddwl yn ddifrifol iawn beth yw ystyr 'hardd', a beth yw 'taclus' mewn gwirionedd. Ac rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu unwaith eto at yr awdurdodau lleol i ofyn iddynt ymrwymo i'r addewid.

Diolch yn fawr iawn.

Byddaf i'n gofyn yr ail gwestiwn am ynni adnewyddol. Un o'r argymhellion o'r plymio dwfn ar ynni adnewyddol fydd i annog mwy o fuddsoddiad ym mhorthladdoedd Cymru ac i alw ar Ystad y Goron a Llywodraeth San Steffan i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd yna ar gyfer datblygu isadeiledd a gwerth ein cadwyni cyflenwi. Yng Nghymru, mewn ffordd, dŷn ni wedi ein lleoli mewn ffordd unigryw i allu elwa o'r cyfleoedd hyn yng nghyd-destun cynhyrchu ynni gwynt a hydrogen gwyrdd, ond bydd angen isadeiledd yn ein porthladdoedd i wireddu'r potensial yna. Pa newid, plis, neu gynnydd sydd wedi bod yn natblygiad strategaeth aml-borthladd ar gyfer FLOW—floating offshore wind—ar gyfer datblygu Port Talbot a hefyd Doc Penfro? Allwch chi roi mwy o wybodaeth i ni am y trafodaethau dŷch chi'n eu cael gyda Banc Isadeiledd y Deyrnas Gyfunol am y posibiliadau yna o ran buddsoddi, plis?

Diolch, Delyth. A dweud y gwir, ddoe ddiwethaf, cyfarfu Vaughan Gething a minnau â phrif weithredwr a thîm buddsoddi Associated British Ports ac yna, yn nes ymlaen yn y dydd, ag Ystad y Goron i gael yr union drafodaeth rydych newydd ei hamlinellu. Byddwn yn ysgrifennu, gyda’n gilydd, at Lywodraeth y DU ynghylch y meini prawf cymhwysedd ar gyfer gwariant o dan y cynllun buddsoddi mewn gweithgynhyrchu ynni gwynt arnofiol ar y môr. Mae'n bwysig iawn fod costau datblygu'n cael eu cynnwys yn hynny fel y gellir gwneud rhywfaint o ddadrisgio. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda’r hyn a elwir yn glwstwr diwydiannol de Cymru o amgylch y porthladdoedd rhydd ar gyfer cyfle’r môr Celtaidd. Felly, mae cryn dipyn o waith wedi'i wneud ar geisio annog y cadwyni cyflenwi i gamu ymlaen, i gael y math cywir o gyfleoedd buddsoddi, i ddeall sut olwg sydd ar y cymysgedd sgiliau, ac mewn gwirionedd, beth sydd ei angen a phryd. Felly, byddwn yn cael cyfnod o adeiladu a datblygu, ac mae angen sgiliau gwahanol ar gamau gwahanol. Felly, mae swyddogion wedi bod yn gweithio ar ddatblygu hynny ers blynyddoedd lawer bellach, ac mae nifer fawr o fusnesau wedi dod i ddiwrnodau cadwyn gyflenwi, diwrnodau haen 1 ac ati ar gyfer hynny, felly rydym yn obeithiol iawn. Rwyf hefyd yn obeithiol y bydd Ystad y Goron yn cryfhau ei pholisi ar gaffael lleol a chadwyni cyflenwi lleol, a bydd hynny’n bwysig iawn, a chafwyd cyfarfod calonogol ddoe.

Ac yna, mae gennym hefyd gais i Lywodraeth y DU ynghylch dur. Felly, mae angen inni allu sicrhau bod ein sector gweithgynhyrchu dur yn gallu gwyrddu ei hun cyn gynted â phosibl, ac yn bwysicach o lawer, mewn gwirionedd, yn cynhyrchu'r math cywir o ddur i adeiladu'r tyrau a'r llafnau ar gyfer ynni gwynt arnofiol ar y môr, oherwydd fel arall, byddant yn cael eu mewnforio a dim ond eu cydosod yn unig y byddwn yn ei wneud, ac er bod y swyddi cydosod yn wych, y fantais wirioneddol yw cael y swyddi peirianneg a chynllunio ac adeiladu yma.

Felly, bydd yn bwysig iawn cael pob un o'r agweddau hynny, ond ar wahân a chyda'n gilydd, mae Vaughan a minnau wedi cyfarfod â phob un o'r porthladdoedd ac Ystad y Goron, ac yn wir, y bore yma, cyfarfûm ag Ofgem, gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, i drafod cyflwyno’r grid a’r amserlenni cysylltu a’r hyn y gallwn ei wneud ynglŷn â hynny.

14:00
Grwpiau Gweithredu Llifogydd

3. Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gymunedau sydd eisiau sefydlu grwpiau gweithredu llifogydd? OQ59428

Diolch, Heledd. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i Gyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu arweiniad a chyngor i'r cyhoedd, gan gynnwys arweiniad a chyngor ar sefydlu grwpiau cymunedol. Mae CNC yn cynnal digwyddiadau cymorth rhwydwaith gwirfoddolwyr ar draws Cymru ac yn cynghori grwpiau cymunedol ar gwblhau a phrofi cynlluniau llifogydd cymunedol er mwyn galluogi cymunedau i fod yn fwy rhagweithiol a gwydn.

Diolch, Weinidog, ac, yn sicr, o edrych ar y rhanbarth dwi'n ei chynrychioli, lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ariannu grwpiau gweithredu llifogydd yn Ninas Powys ac yng Ngelli, maen nhw wedi bod yn llwyddiannus, ond, yn anffodus, yn enwedig pan fo'r arian yn dod i ben, yng Ngelli'n benodol, mae'r gweithgarwch hwnnw'n stopio, lle, mewn ardal fel Dinas Powys, lle mae gennych chi nifer o bobl broffesiynol, efallai rhai sydd yn gweithio yn y maes rheoli llifogydd ac yn gallu gyrru'r gwaith hwn rhagddo, mae grŵp fel yna yn gallu bod yn llwyddiannus. Yr hyn sydd yn fy mhryderu i ydy'r nifer o ardaloedd o fewn Rhondda Cynon Taf yn benodol—mae nifer o'r rheini efo risg parhaus o lifogydd yn ardaloedd difreintiedig lle efallai nad oes ganddynt y sgiliau er mwyn ysgrifennu cynllun ag ati. Felly, a gaf i ofyn oes yna gymorth ychwanegol ar gael? Oherwydd mae yna adnoddau gwych gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ond mae'n rhaid i chi wybod sut mae ysgrifennu cynllun a wedyn sut mae ei weithredu fo. Felly, ydych chi'n edrych, neu ydych chi'n gallu edrych, yn bellach, os gwelwch yn dda, o ran pa gefnogaeth benodol fedrwn ni ei rhoi i bob ardal sicrhau cael y budd o'r adnoddau hyn?

Diolch, Heledd. Mae hwnnw'n bwynt da iawn, mewn gwirionedd. Nid yw'n un yr oeddwn wedi ei ystyried, ond rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Gallaf weld y bydd rhai cymunedau eisiau rhywfaint o gymorth ychwanegol i ddod at ei gilydd yn y lle cyntaf mewn gwirionedd. Felly, rwy'n fwy na pharod i helpu gyda hynny. Os ydych chi eisiau ysgrifennu ataf gyda'r manylion, byddai hynny'n wych. Mae bob amser yn dda cael enghraifft; nid oes rhaid cael pob enghraifft. Os ydych chi eisiau tynnu sylw at yr un lle mae'r cyllid wedi dod i ben, gallaf gael golwg ar hynny hefyd, oherwydd yn sicr nid dyna'r bwriad. Y syniad yw eu bod yn dod yn grwpiau gwydn, fel eu bod yn gallu parhau. Felly, os yw'r arian yn dod i ben, nid y bwriad yw i'r cyfan ddod i ben. Yn amlwg, mae hynny'n wrthgynhyrchiol. Felly, os ydych chi eisiau tynnu sylw at hynny, gallaf gael golwg ar beth yn union sydd wedi digwydd yno a gweld beth y gallwn ei wneud.

Diolch i Heledd Fychan am godi'r mater pwysig hwn heddiw hefyd. A Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod yna risg enfawr i'r ardal rwy'n ei chynrychioli yng Ngogledd Cymru o ran llifogydd, yn enwedig arfordiroedd gogledd Cymru, ac rwy'n ddiolchgar ac yn falch iawn o weld y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol, yn ei wneud yn y cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd hynny. Rwy'n ymwybodol fod y cynllun amddiffyn rhag llifogydd ym Mae Cinmel, er enghraifft, i fod i ddechrau ar y gwaith ychydig yn ddiweddarach eleni, ac mae'r trigolion yn nhref Bae Cinmel yn gefnogol iawn i'r gwaith hwnnw, oherwydd rydym yn gwybod am y llifogydd ofnadwy a ddigwyddodd yn ôl ym 1990, wrth gwrs, a'r perygl parhaus o lifogydd yn yr ardal. Ac rwyf hefyd yn ymwybodol fod grwpiau gweithredu perygl llifogydd mewn llefydd fel Bae Cinmel yn eu lle ac eisiau parhau i weithio'n llwyddiannus. Rwy'n gwybod ei fod yn bwynt amlwg, ond wrth gwrs, nid yw llifogydd yn ystyried ffiniau awdurdodau lleol. Rwy'n ymwybodol fod rhywle fel Bae Cinmel ar y ffin rhwng Conwy a sir Ddinbych, ac mae hyn yn digwydd mewn mannau eraill ar draws gogledd Cymru. Tybed a fyddech chi'n gallu gwneud datganiad yn amlinellu sut y byddech chi'n disgwyl i awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod y grwpiau gweithredu hyn yn gallu manteisio ar yr adnoddau hyn, yn enwedig pan fo llifogydd yn croesi ffiniau awdurdodau lleol—boed hynny'n ffurfiol drwy bethau fel byrddau gwasanaethau cyhoeddus neu fforymau eraill, neu'n anffurfiol, i sicrhau y gall y grwpiau gweithredu perygl llifogydd hyn gael yr adnoddau a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt ar draws ffiniau awdurdodau lleol yn enwedig. Diolch. 

14:05

Unwaith eto, Sam, mae'n ddrwg gennyf ond nid oeddwn yn sylweddoli bod ffiniau awdurdodau lleol yn achosi unrhyw fath o broblem. Os oes gennych chi enghraifft y byddech yn fodlon ei rhannu gyda mi, byddai hynny'n wych. CNC sy'n cefnogi hyn. Maent yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i'w wneud, ac yn amlwg, nid yw CNC wedi'u cyfyngu i ffiniau awdurdodau lleol. Felly, hoffwn ddeall, mewn ychydig mwy o fanylder, beth yn union yw'r broblem yno. Ond rwy'n cytuno'n llwyr nad dyna'r bwriad o gwbl. Wrth gwrs, nid yw llifogydd yn cydnabod ffiniau awdurdodau lleol, ac fe fyddwch yn gwybod o swydd flaenorol fod gennyf chwilen yn fy mhen ynghylch y grymoedd anweledig sydd i'w cael ar ffiniau o'r math hwnnw. Felly, byddwn yn fwy na pharod i ymgysylltu â chi os oes gennych enghraifft y gallwn gael golwg arni.  

Cynllun Adfer Natur

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r cynllun adfer natur? OQ59430

Diolch, Mark. Mae ein cynllun adfer natur yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd i ystyried y fframwaith bioamrywiaeth byd-eang newydd a gytunwyd yn COP 15 ac argymhellion yr archwiliad dwfn bioamrywiaeth. Fel rhan o'r diweddaru, bydd swyddogion yn ystyried sut mae'r cynllun presennol wedi cael ei weithredu a pha gamau pellach sydd eu hangen hefyd.

Ni fyddwch yn synnu fy nghlywed yn cyfeirio at y gylfinir eiconig, oherwydd dyma yw ein blaenoriaeth fwyaf difrifol ym maes gwarchod adar. Er y byddai adfer y gylfinir o fudd i oddeutu 70 o rywogaethau, yn ôl amcangyfrif, bydd y boblogaeth nythu yng Nghymru yn diflannu o fewn degawd os na fyddwn yn ymyrryd.

Wrth eich holi yma ym mis Mawrth, gofynnais i chi pa gamau penodol rydych yn eu cymryd i sicrhau bod targed Llywodraeth Cymru ar gyfer plannu coetiroedd yng Nghymru yn ystyried y ffaith bod coetiroedd yn y mannau anghywir yn darparu cynefin delfrydol i brif ysglyfaethwyr, ac un o'r prif resymau dros fethiant gylfinirod i nythu yw bod y prif ysglyfaethwyr hyn yn rheibio eu nythod a'u cywion. Yn eich ateb, fe ddywedoch chi eich bod yn falch iawn o weithio ochr yn ochr â rhaglen adfer gylfinirod Gylfinir Cymru, sy'n nodi ardaloedd penodol pwysig iawn i gylfinirod sydd angen camau cadwraeth arbennig.

Sut, felly, y byddwch yn gweithredu i ddiogelu'r ardaloedd hyn yng nghyd-destun e-byst a ddaeth i law yn ddiweddarach gan aelodau Gylfinir Cymru, a oedd yn datgan, er enghraifft:

'Fe ymwelais ag un safle ddoe, lle roedd yna ddau bâr o gylfinirod yn bresennol y llynedd, a gweld bod coed newydd gael eu plannu yn un o'u prif gaeau bwydo. Gyda llaw, roedd hon hefyd yn ardal fwydo dros y gaeaf a ffafrid gan gwtiaid aur, cornchwiglod, cyffylogod, giachod a giachod bach?

Ac ail un:

'Rwyf wedi anfon fy nghofnodion i mewn ond ni wnaeth hynny roi diwedd ar blannu coed. Mae angen caniatâd i blannu coed, felly pam nad yw presenoldeb y gylfinir yn cael ei ystyried?'  

Diolch, Mark. Rydych wedi bod yn hyrwyddwr rhywogaeth ardderchog iawn dros y gylfinir. Roeddwn yn falch iawn o fynychu lansiad y cynllun adfer, ac rwy'n falch iawn fy mod wedi rhoi £1 filiwn tuag at y rhaglen. Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed bod e-bost o'r fath wedi dod i law. Os ydych eisiau ei anfon ataf, rwy'n fwy na pharod i gael golwg arno. Gallaf feddwl am nifer o esboniadau ond nid wyf am geisio dyfalu am nad wyf yn gwybod beth yw union amgylchiadau hynny. Ond rydym yn ceisio diogelu ardaloedd o laswelltir agored.

Yn amlwg, mae plannu coed yn broblem i adar sy'n nythu ar y ddaear, a holl bwynt rhai o'r cynlluniau adfer mawndir, er enghraifft, yw annog y mathau o laswelltiroedd y mae gylfinirod ac adar eraill sy'n nythu ar y ddaear yn arbennig o hoff ohonynt. Rydym yn ymwybodol iawn o'r ffaith bod coetiroedd cyfagos yn gallu bod yn lloches i rywogaethau ysglyfaethus, ac mae hynny'n rhan fawr o—. Rwy'n dysgu pader i berson nawr, ac rwy'n gwybod eich bod yn gwybod beth mae'r cynllun yn ei ddweud. Felly, os hoffech roi manylion hynny i mi, rwy'n fwy na pharod i gael golwg arno i chi.

Mae cwestiwn 5 [OQ59446] wedi'i dynnu yn ôl. Felly, cwestiwn 6, John Griffiths.

Tai Fforddiadwy yn Sir Fynwy

6. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy i gynyddu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy? OQ59433

Diolch, John. Rwy'n ymroddedig i weithio gyda Chyngor Sir Fynwy a phob awdurdod lleol a darparwr tai cymdeithasol i'w cefnogi i ddarparu 20,000 o dai i'w rhentu yn y sector cymdeithasol. Rwyf wedi dyrannu'r lefelau uchaf erioed o gyllid, £1.2 biliwn, dros bedair blynedd gyntaf tymor y Senedd hon i wneud hynny.

Diolch yn fawr, Weinidog. Fel y gwyddoch, fel sy'n digwydd ledled Cymru, mae yna bwysau mawr ar y farchnad dai leol yn sir Fynwy. Mae'r prisiau'n gymharol uchel, Weinidog, i brynu ac i rentu, ac mae gennym weinyddiaeth newydd yn sir Fynwy, wrth gwrs, ac mae'n bwrw ymlaen â chynllun datblygu lleol newydd. Maent yn y broses o baratoi'r cynllun ar hyn o bryd. Mae rhan o hynny'n ymwneud â thai fforddiadwy, Weinidog, ac rwy'n gwybod bod y weinyddiaeth wedi ymrwymo'n gryf i ddeall a diwallu'r angen am dai lleol o ran fforddiadwyedd, yn ogystal â nifer o ffactorau eraill, a hefyd o ran bwrw ymlaen â'r seilwaith cysylltiedig sy'n angenrheidiol i gefnogi hynny. Felly, a wnewch chi dawelu fy meddwl heddiw, Weinidog, y byddwch yn parhau i weithio gyda'r weinyddiaeth newydd gyda syniadau newydd i sicrhau bod y cynlluniau hyn yn dwyn ffrwyth a bod y ddarpariaeth leol o dai fforddiadwy yn llawer agosach at yr angen a nodwyd?

14:10

Wrth gwrs, John. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda swyddogion yng nghyngor sir Fynwy i alinio eu cynlluniau datblygu lleol newydd yn well â'r polisïau cenedlaethol, ac rwy'n croesawu'r ffocws newydd ar ddarparu tai fforddiadwy yn y CDLl newydd hwnnw. Byddwn yn parhau i gysylltu â sir Fynwy a chynnig cefnogaeth wrth iddynt weithio ar eu cynlluniau datblygu lleol newydd a darparu'r tai fforddiadwy sydd eu hangen ac i sicrhau bod y cynllun yn cydymffurfio â'r polisi cenedlaethol.

Fe wnaethom dreblu dyraniad grant tai cymdeithasol sir Fynwy rhwng 2020-21 a 2022-23, a darparu cyllid ar gyfer cynlluniau y gwn eich bod yn gyfarwydd â hwy, fel yr un ym Melyn Bach a'r un ym Mrynteg. Rwy'n bendant wedi cyfarfod â chi yn un o'r rheini, ni allaf gofio pa un. Rydym yn cefnogi amrywiaeth o fentrau sy'n cael eu cyflwyno i weithio tuag at y targed o 20,000 hefyd, fel caffael eiddo sydd eisoes wedi'u hadeiladu neu sydd heb eu cwblhau, ailfodelu llety presennol a throi adeiladau'n llety o ansawdd da. Mae gennym £76 miliwn mewn prosiectau i adeiladu mwy o gartrefi drwy'r cynllun cyfalaf llety trosiannol, ac mae'r rhaglen honno'n cynnwys cyllid o £3.2 miliwn i'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn sir Fynwy allu cyflwyno'r cartrefi hynny hefyd. Felly, rwy'n credu mai'r ateb byr yw ydym, yn sicr, rydym yn awyddus iawn i weithio gyda chynghorau ym mhob cwr o Gymru, gan gynnwys sir Fynwy, i wneud yn siŵr fod y cynlluniau datblygu lleol yn addas i'r diben ac yn cyflwyno'r cartrefi hynny mor gyflym ag sy'n bosibl, oherwydd mae eu hangen yn fawr.

Mae'n braf gweld mwy o ffocws ar sir Fynwy oherwydd, yn ystod fy 13 mlynedd fel arweinydd, roeddwn yn teimlo fel llais unig. Ni ellir gwadu'r angen am dai fforddiadwy yn si Fynwy, fel y nododd John, ac mae'r angen yn tyfu'n gyson, gyda dros 3,000 o bobl yn aros ar hyn o bryd. O dan reolaeth y Ceidwadwyr, roedd gan ein CDLl newydd darged uchelgeisiol, a'n hoff strategaeth yn ôl ym mis Mehefin 2021 oedd cynllunio i adeiladu dros 8,000 o dai, a oedd yn cynnwys 2,450 o dai fforddiadwy. Ond oherwydd gwrthwynebiad gan Lywodraeth Cymru, bu'n rhaid lleihau ein targed yn ddramatig, gan leihau'r nifer o dai fforddiadwy i rhwng 1,580 ac 1,850. Weinidog, rwyf bellach yn nodi bod y cyngor newydd a reolir gan Lafur wedi diwygio eu hoff strategaeth eto ym mis Rhagfyr 2022 ac wedi lleihau nifer y tai fforddiadwy a gynigir o rhwng 1,400 a 1,600, gan ragweld cyfanswm o 5,500 o dai yn cael eu hadeiladu dros 15 mlynedd, gyda dim ond 2,000 ohonynt yn gartrefi newydd, a'r lleill ar hyn o bryd yn dir wedi'i fancio. Weinidog, a fyddech chi'n cytuno nad oes gan y weinyddiaeth Lafur newydd, na'r Llywodraeth yn wir yn ôl pob golwg, unrhyw uchelgais ar gyfer tai a thai fforddiadwy yn sir Fynwy?

Wel, Peter, rwy'n synnu'n fawr eich bod wedi teimlo fel llais unig pan oeddech chi'n arweinydd cyngor sir Fynwy, oherwydd roeddwn i'n teimlo fel pe bawn i'n byw gyda chi bron iawn. [Chwerthin.] Felly, mae hwnnw'n wahaniaeth barn diddorol iawn. Fe wnaethom dreulio llawer iawn o amser gyda'n gilydd, fel y gwyddoch, felly nid wyf yn gweld sut cysoni hynny.

Fe wnaethom dreulio llawer o amser yn gweithio gyda chi a'r weinyddiaeth flaenorol ar y CDLl. Rydych yn gwybod cystal â mi mai un o'r problemau mawr a oedd gennym oedd bod y cartrefi fforddiadwy rydych yn sôn amdanynt wedi dod ar gefn datblygiad preifat a oedd yn erbyn y polisi CDLl ar safleoedd maes glas. Cawsom lawer o sgyrsiau am y peth, fel y gwyddoch, ac mewn gwirionedd, fe ymdrechais yn galed iawn i'ch helpu i gyrraedd lle roedd angen i chi ei gyrraedd gyda'r CDLl hwnnw. Felly, rwyf braidd yn siomedig, Peter, i'ch clywed chi'n dweud bod hwnnw'n fater gwleidyddol, oherwydd yn sicr nid oedd yn fater gwleidyddol, ac fe wnaethom dreulio llawer o amser gyda'n gilydd yn gwneud hynny. Ac yn yr un modd, rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda'r weinyddiaeth bresennol hefyd, fel y gweithiwn gyda phob gweinyddiaeth ledled Cymru i wneud eu CDLl yn addas i'r diben. 

Parc Ynni Arfaethedig Nant Mithil

7. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Bute Energy ynghylch parc ynni arfaethedig Nant Mithil? OQ59434

Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r diwydiant ar gamau rhag-gynllunio. Mae nodiadau ar fy nghyfarfodydd gyda Bute Energy ar gael i'w darllen. O ran parc ynni arfaethedig Nant Mithil, Gweinidogion Cymru yw'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau ar ddatblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol ac oherwydd hynny, ni allaf wneud sylw ar fanylion y prosiect.

14:15

Weinidog, mae cynigion Bute Energy yng Nghoedwig Maesyfed—fel y'i gelwir yn lleol—i adeiladu fferm wynt ar raddfa ddiwydiannol wedi siomi llawer o fy etholwyr. Weinidog, mae llawer o'r tyrbinau y tu allan i'r ardal a aseswyd ymlaen llaw yn y fframwaith datblygu cenedlaethol. A yw hyn yn golygu nawr nad yw'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn ddilys mwyach, ac y gall y cwmnïau ynni sydd â'r llyfr sieciau mwyaf wneud beth a ddymunant yng nghefn gwlad canolbarth Cymru?

Mae polisi cynllunio cenedlaethol yn nodi'r safbwynt y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio ar linellau pŵer newydd a ddylai fod o dan y ddaear lle bynnag y bo'n bosibl. Mae hefyd yn nodi lle mae'r ardaloedd a aseswyd ymlaen llaw. Fel rwyf wedi'i ddweud dro ar ôl tro yn y Siambr hon—hoffwn pe bai'r Ceidwadwyr yn gwrando ar yr ateb yn lle dim ond darllen y cwestiwn—nid yw hynny'n golygu na allant fynd i unman arall. Mae'n golygu'n syml fod angen croesi'r rhwystrau cynllunio yno. Mae hwn yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol, felly yn sicr nid wyf am ei drafod gyda chi yn y Siambr hon, fel rwyf wedi dweud yn glir iawn. Fi yw'r Gweinidog cynllunio; mae angen i'r penderfyniad gael ei wneud yn briodol mewn modd lled-farnwrol, a dyna fyddwn ni'n ei wneud.

Cwestiwn 8, Ken Skates.

A gawn ni agor meicroffon Ken Skates, os gwelwch yn dda?

Cerbydau oddi ar y Ffordd

8. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i daclo cerbydau oddi ar y ffordd sy'n niweidio'r amgylchedd mewn cymunedau gwledig anghysbell? OQ59419

Diolch, Ken. Mae gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn niweidio ein mannau agored, sy'n hanfodol i'r amgylchedd ac iechyd a llesiant y rhai sy'n ymweld â chefn gwlad ar gyfer adloniant cyfreithlon. Rydym yn darparu £5.6 miliwn i awdurdodau yn ystod 2022 i 2025 drwy'r grant gwella mynediad, a bydd rhywfaint o'r arian hwnnw'n cael ei wario ar welliannau i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Weinidog, rwy'n hynod ddiolchgar am eich ateb. Bydd y £5.6 miliwn o gymorth aruthrol wrth geisio cosbi twristiaid 4x4 anghyfrifol sy'n niweidio cefn gwlad. Rwy'n sylweddoli bod y mater hwn yn croesi ffiniau portffolio, felly rwy'n gwerthfawrogi eich pryder ynghylch hyn. Mae gennym broblem benodol yn Nyffryn Ceiriog yma yn Ne Clwyd, a hefyd yn Nyffryn Dyfrdwy—amgylcheddau naturiol gwych sy'n cael eu niweidio'n rheolaidd gan bobl sy'n gyrru'n anghyfrifol, yn aml gan ddefnyddio lonydd gwyrdd i gael mynediad at gaeau, ac yna'n achosi difrod aruthrol. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn y maes hwn. Weinidog, os oes angen camau gweithredu pellach, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried unrhyw fesurau a allai fod yn angenrheidiol i fynd i'r afael â'r broblem hon?

Yn wir, Ken. Diolch yn fawr iawn. Fe lansiodd Llywodraeth Cymru strategaeth troseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad gyntaf Cymru ar 27 Ebrill, yn gynharach eleni. Mae diogelu cynefinoedd yn un o'r chwe blaenoriaeth wledig a rhan o'r gwaith ar gynefinoedd yw Ymgyrch Taurus Cymru, sef ymgyrch barhaus gan yr heddluoedd ar y cyd sy'n mynd i'r afael â gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd ar draws Cymru gyfan drwy addysg a gorfodaeth. Eisoes, mae swyddogion yn gweld cynnydd sylweddol drwy ddefnyddio diwrnodau wedi'u targedu, defnydd o dronau, a chyfryngau cymdeithasol. Cymerwyd meddiant o sawl cerbyd eisoes ac mae'r ymgyrch yn effeithiol iawn.

Partner yn Ymgyrch Taurus Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, sy'n gyfrifol am blismona dyffryn Dyfrdwy a dyffryn Ceiriog. Mae ganddynt dîm troseddau gwledig sefydledig, gyda swyddogion wedi'u hyfforddi'n benodol i orfodi ac addysgu am droseddau gwledig, megis gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd a mathau eraill o ddifrod i gynefinoedd. Er hynny, rwy'n credu ei bod yn werth sôn y gall gyrru oddi ar y ffordd fod yn gyfreithlon, ac mae angen gwahaniaethu rhwng gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd a gweithgareddau hamdden cyfreithlon, fel gyrru ar gilffyrdd sy'n agored i bob traffig. Ond rwy'n cytuno â chi y dylai pobl sy'n defnyddio'r cilffyrdd hyn wneud hynny mewn ffordd gymesur nad yw'n achosi niwsans i ddefnyddwyr ffyrdd eraill neu ddefnyddwyr eraill yng nghefn gwlad, a bod angen cynnal pob hawl tramwy cyhoeddus yn dda, gan gynnwys arwyddion da ynglŷn â lle mae hawl gan bobl i wneud y pethau hyn a lle nad oes hawl ganddynt i'w gwneud, ac rydym wedi ystyried hynny wrth lunio'r cynllun.

Ansawdd Eiddo sydd ar Rent

9. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ansawdd yr eiddo sydd ar rent yng Nghymru? OQ59438

Diolch, Rhys. Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn trawsnewid rhentu yng Nghymru, gan gyflwyno rheoliadau cryfach ynghylch safonau mewn eiddo rhent. Mae'r rheoliadau rhentu cartrefi (ffitrwydd annedd i bobl fyw ynddi), a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2022, yn rhoi pŵer i denantiaid weithredu os yw eu heiddo'n is na'r safon, gan gynnwys y gallu i atal rhent.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, Weinidog. Hoffwn wybod pa waith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod rhentwyr yn gwybod am eu hawliau newydd drwy'r ddeddfwriaeth hon, oherwydd rwy'n siŵr eich bod yn cael pobl yn cysylltu â chi'n aml, fel fi, mewn perthynas â materion tai—lleithder a llwydni yn eiddo pobl. A pheth arall sy'n codi dro ar ôl tro yw nad yw contractwyr sy'n cael eu defnyddio gan dai cymdeithasol, sy'n cael eu defnyddio gan awdurdodau lleol, yn gorffen y gwaith a'u bod yn codi gormod o dâl am y gwaith hwnnw. Felly, pa drafodaethau pellach rydych chi'n eu cael gyda rhentwyr, a chymdeithasau tai, cynghorau a landlordiaid preifat hefyd, i wella cartrefi yng Nghymru?

14:20

Diolch, Rhys. Mae'r rheini'n wahanol gategorïau o ddeiliadaeth, ac mae gennym ddull ychydig yn wahanol yn dibynnu ar y categori deiliadaeth. Ar gyfer cartrefi cymdeithasol yng Nghymru, ysgrifennais yn ddiweddar iawn at landlordiaid cymdeithasol ac awdurdodau sy'n dal stoc dai cyngor, gan eu hatgoffa o'u dyletswydd o dan y trefniadau anheddau dynol, a'u hatgoffa i wneud yn siŵr fod ganddynt weithdrefnau a phrosesau cywir ar waith a'u bod yn dryloyw gyda'u tenantiaid i wneud yn siŵr nad oes gennym broblemau gyda llwydni a lleithder, sydd wedi achosi problemau mewn mannau eraill. Rydym yn monitro hynny'n ofalus iawn, ac rwy'n hapus iawn i ysgrifennu eto, ond rwyf wedi ysgrifennu atynt yn ddiweddar iawn i ddweud hynny.

Fel y dywedais, mae'r ddeddf newydd, Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, wedi gwneud hynny mewn eiddo rhent preifat. Rydym wedi ysgrifennu'n llawn mewn sawl ffordd. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS), y sefydliad tenantiaid, er enghraifft. Mae gennym grŵp cyswllt tenantiaid lle rydym yn tynnu sylw ato, ac rydym hefyd yn ei wneud drwy Rhentu Doeth Cymru, gan ofyn i bob landlord fod mewn cysylltiad â'u tenantiaid. Rwy'n hapus iawn i ystyried unrhyw beth arall y credwch y gallai fod yn ddefnyddiol, ac os yw Aelodau o'r Senedd yn teimlo y gallent wneud rhywbeth drwy eu gwefannau eu hunain ac yn y blaen, gellir sicrhau bod deunyddiau ar gael. Rydym yn fwy na pharod i geisio gwneud unrhyw beth o gwbl sy'n helpu tenantiaid i ddeall eu hawliau. Rydym hefyd yn ariannu Shelter i roi cyngor i denantiaid ar eu hawliau, ac rydym yn eu hariannu i wneud hynny ar sail barhaus. Rwy'n fwy na pharod i ymgysylltu ar unrhyw beth arall rydych chi eisiau i ni ei wneud, ond rydym yn ymdrechu'n galed iawn i wneud yn siŵr fod tenantiaid yn deall eu hawliau newydd. Mae hwn yn newid mawr yn y ffordd y caiff y diwydiant tai ei weithredu yng Nghymru. Bydd yn cymryd ychydig o amser i bobl ddeall beth yn union yw eu hawliau, ond rwy'n falch iawn ein bod wedi ei weithredu o'r diwedd, ac wrth iddo ymwreiddio, rwy'n siŵr y daw pobl yn fwy ymwybodol o'u gallu i weithredu.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Paul Davies.

Blaenoriaethau ar gyfer Ysgolion yn Sir Benfro

1. Beth yw blaenoriaethau'r Gweinidog ar gyfer ysgolion yn sir Benfro ar gyfer y 12 mis nesaf? OQ59436

Bydd ysgolion yn sir Benfro yn parhau i elwa o fuddsoddiad cyfalaf sylweddol drwy raglen cymunedau dysgu cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn parhau i gyflwyno prydau am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd a chyflawni ei chynllun strategol Cymraeg mewn addysg.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Ymwelais ag ysgol uwchradd Hwlffordd yn ddiweddar, lle cefais daith ardderchog o gwmpas eu cyfleusterau a thrafodaeth ddiddorol iawn am bopeth o recriwtio a chadw athrawon i'r ffordd orau o gael gwared ar fiwrocratiaeth o'r system addysg. Nawr, yn ystod y drafodaeth, fe ddywedodd y pennaeth yn glir iawn y byddai'n croesawu cyfle i gyfarfod â chi i drafod rhai o'r materion hyn ymhellach. Felly, Weinidog, a gaf fi estyn gwahoddiad i chi i ysgol uwchradd Hwlffordd, er mwyn i chi allu gweld eu cyfleusterau ardderchog drosoch eich hun ac er mwyn inni allu trafod rhai o'r blaenoriaethau pwysig, a'r heriau yn wir, sy'n wynebu ysgolion yn sir Benfro dros y 12 mis nesaf?

Ie. Mae ysgol uwchradd Hwlffordd yn un o'r buddsoddiadau yn y sir y bu modd i ni eu cyd-ariannu gyda'r cyngor wrth gwrs—buddsoddiad o £48 miliwn. Yn ogystal â'r cyfleusterau gwych, mae ganddi gyfleusterau cymunedol hefyd, gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon. Rwy'n awyddus i siarad â chymaint o benaethiaid ag y gallaf. Byddwn yn hapus iawn i siarad â'r pennaeth. A dweud y gwir, rwyf wedi cael cyfle i gyfarfod â hi'n rhithwir mewn cyd-destunau eraill, ond byddwn yn hapus iawn i ymweld â'r ysgol. Mae gennyf wahoddiad sefydlog bob wythnos i benaethiaid ymuno â mi ar gyfer bwrdd crwn i benaethiaid a gynhelir gennyf bob mis, ac rwy'n ceisio siarad ag un neu ddau o benaethiaid ar Zoom bob wythnos, felly mae croeso i unrhyw bennaeth sy'n gwylio'r trafodion heddiw gysylltu â mi a byddaf yn eu hychwanegu at y rhestr gyswllt, ond byddwn yn hapus iawn i ymweld â'r ysgol gyda'r Aelod.

Pobl Niwroamrywiol

2. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch asesiadau cyfrwng Cymraeg ar gyfer pobl niwroamrywiol? OQ59447

Rŷn ni'n cyflwyno rhaglen gwella niwrowahaniaeth, sy'n cael ei chefnogi gan £12 miliwn. Rydyn ni'n defnyddio dull system gyfan wrth ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy sy'n diwallu anghenion a nodwyd, gan gynnwys gwella mynediad at asesiadau Cymraeg. Rydyn ni eisiau datblygu capasiti ymysg ein gweithlu i gynyddu’r gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael yn Gymraeg.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb. Tan yn ddiweddar, roedd bwrdd iechyd y gogledd wedi contractio cwmni Healios i wneud asesiadau niwroamrywiol. Yn ôl y deallaf, doedden nhw ddim yn cynnig asesiadau cyfrwng Cymraeg. Mae ar y plant a'r bobl yma angen asesiad ar gyfer anhwylderau cyfathrebu. Mae angen clinigol ac mae'n gwbl angenrheidiol i dderbyn yr asesiad yn iaith gyntaf yr unigolion, eu hiaith ddewisol. Ond mae'r system yn y gogledd yn golygu nad ydy pobl yn derbyn yr asesiadau yn eu hiaith ddewisol, ac mae'r rhai sydd am dderbyn asesiadau cyfrwng Cymraeg yn gorfod aros llawer iawn yn fwy am asesiadau cyfrwng Cymraeg na rhai di-Gymraeg. Mae hyn, wrth gwrs, yn mynd yn groes i bolisi 'Mwy na Geiriau' y Llywodraeth a gafodd ei lansio'r flwyddyn ddiwethaf ac yn mynd yn groes i hawliau dynol pobl fregus ddylai ddisgwyl medru derbyn yr asesiadau yma drwy gyfrwng y Gymraeg. Ydych chi, felly, yn fodlon nad ydy'r bwrdd iechyd yn torri'r gyfraith wrth fethu â darparu’r gwasanaeth yma drwy gyfrwng y Gymraeg? A pha gamau ydych chi am eu cymryd i sicrhau bod pobl ag anghenion niwroamrywiol Cymraeg eu hiaith yn y gogledd yn cael eu trin yr un fath â phawb arall?

14:25

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Byddwn i'n hapus i edrych i mewn i'r enghraifft benodol mae e wedi ei nodi yma heddiw. Yn ôl y cynllun gwnaeth e gyfeirio ato fe, 'Mwy na Geiriau', y cynllun pum mlynedd diweddaraf, un o'r amcanion erbyn 2027 yw sicrhau bod gennym ni asesiadau diagnostaidd yn y Gymraeg fel rhywbeth cyffredinol, a bod adnoddau ar gael i gefnogi siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn flaenoriaeth yn y cynllun ac, wrth gwrs, byddwn ni'n edrych ar beth fydd yn digwydd o ran cynnydd bob blwyddyn ac yn adrodd yn ôl i'r Senedd yn flynyddol am y cynnydd yn erbyn y nod hwnnw. Mae'r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig, a dwi'n hapus iawn i edrych ar yr enghraifft benodol mae e wedi ei rhoi heddiw.FootnoteLink

Weinidog, mae'n bwysig iawn fod pawb yn cael y gefnogaeth a'r cymorth sydd ei angen arnynt os oes ganddynt gyflwr niwroamrywiol, a hynny yn yr iaith y maent yn dewis ei siarad, ond mae llawer o bobl ifanc sydd â'r cyflyrau hynny'n gadael yr ysgol yn gyfan gwbl ac nid ydynt yn dychwelyd i'w lleoliad addysg. Felly, hoffwn wybod pa waith rydych chi'n ei wneud fel Gweinidog addysg i wneud yn siŵr, os yw plant ifanc yn gadael lleoliad addysg, fod ein hysgolion yn cynorthwyo teuluoedd i gael y bobl ifanc hynny yn ôl i'r ysgol fel nad ydynt yn colli unrhyw ran o'u haddysg, boed hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu drwy gyfrwng y Saesneg.

Wel, rwy'n gwybod bod ysgolion ledled Cymru a lleoliadau addysg ledled Cymru yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod pobl ifanc yn yr ysgol, yn y coleg, ac yn gallu manteisio'n llawn ar eu haddysg. Mae ysgolion yn mabwysiadu dulliau arloesol iawn. Gallant fod yn amgylchiadau eithaf heriol, ond rwy'n gwybod bod pob pennaeth a phrifathro yn canolbwyntio ar hynny fel blaenoriaeth.

Diolch, Llywydd, a phrynhawn da, Weinidog.

Rwy'n siŵr eich bod yn cydnabod bod blaengynllunio'n hanfodol i ddatblygu niferoedd disgyblion ledled Cymru. Mae mwy o bobl ifanc mewn addysg llawn amser nag erioed o'r blaen—rhywbeth y dylem fod yn hynod falch ohono, ond mae'n rhaid inni sicrhau bod digon o gynllunio ar waith i gefnogi cynnydd mewn niferoedd sy'n bodoli eisoes. Mae un ysgol yng ngorllewin Cymru, a gafodd ei hadeiladu yn 2019, eisoes wedi mynd y tu hwnt i'w lefelau diogel ar gyfer yr adeilad ac wedi gorfod buddsoddi mewn portakabins ychwanegol er mwyn darparu ar gyfer niferoedd gormodol o ddisgyblion. Nodwyd bod ysgol arall y gwn amdani yn wynebu pryderon difrifol am strwythur adeiladau ar y safle, gan adael rhannau o'r ystad mewn perygl o falurion yn disgyn. Mae'r materion hyn yn dechrau cael effaith sylweddol ar safonau addysgol. Mae penaethiaid ac awdurdodau lleol yn gorfod dewis rhwng cyllido gwaith adnewyddu neu recriwtio, rhwng prynu offer neu gyflwyno'r cwricwlwm newydd. Felly, Weinidog, sut rydych chi'n gweithio gyda'n hysgolion a'n hawdurdodau lleol i gynorthwyo gyda blaengynllunio llwyddiannus gyda chyllidebau cyfyngedig?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, rydym eisiau gwneud yn siŵr fod awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer nifer y lleoedd ysgol sydd ei angen arnynt yn eu hardaloedd awdurdod lleol, a bod yr ystad ysgolion sydd ar gael yn yr ardal honno yn ddigonol ac mewn cyflwr da i allu darparu'r addysg y maent yn ei haeddu i'n pobl ifanc. Felly, ar draws Cymru, mae cynghorau lleol mewn proses barhaus o amcangyfrif niferoedd disgyblion ysgol ac yn amlwg maent yn edrych ar yr ystad ysgolion. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, ar gyfer y prosiectau mwy—adnewyddiadau mawr a buddsoddiad newydd mewn ysgolion a cholegau newydd—mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi awdurdodau lleol yn sylweddol iawn gyda rhaglen £1.5 biliwn drwy'r gronfa cymunedau dysgu cynaliadwy, a cheir prosiectau adnewyddu eraill, ar raddfa lai, lle mae awdurdodau lleol yn buddsoddi eu cyfalaf eu hunain. Fe fydd hefyd yn ymwybodol fy mod wedi darparu cyllid ychwanegol o £50 miliwn i awdurdodau lleol yn ddiweddar iawn i gynorthwyo gyda rhai o'r gofynion adnewyddu hynny, yn enwedig mewn perthynas â heriau cynaliadwyedd.

Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb, Weinidog. Ac fel y sonioch chi, mae hwn yn fater sy'n cael ei deimlo ar draws awdurdodau lleol Cymru. Oherwydd cyfyngiadau ar y gyllideb, ni all ysgolion fodloni eu rhwymedigaethau statudol. Rydym wedi gweld hyn â'n llygaid ein hunain ym Mro Morgannwg. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o'r llythyr diweddar a anfonwyd atoch gan Gymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion y Fro. Yn y llythyr hwnnw, dywedodd llywodraethwyr ysgolion o bob rhan o'r sir fod y lefel isel o gyllid addysg a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn ymylu ar fod yn anghyfreithlon, y bydd yn arwain at ddiswyddiadau torfol ac y bydd yn achosi i safonau addysg blymio. Fel mae'n sefyll, mae'r rhan fwyaf o ysgolion y Fro mewn sefyllfa lle maent yn gosod cyllidebau diffyg anghynaliadwy ar gyfer 2023-24; mae hyd yn oed ysgolion a oedd â gwarged yn 2022-23 yn rhagweld colledion sylweddol yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Mae un ysgol wedi rhagweld y bydd £140,000 yn cael ei gario ymlaen ar gyfer 2022-23, a cholled gyllidebol o £312,000 ar gyfer 2023-24. Gyda chyllidebau yn y coch, a chronfeydd wrth gefn yn cael eu defnyddio, rydym mewn sefyllfa lle bydd ysgolion yn ei chael hi'n anodd cyflawni eu rhwymedigaethau statudol, oherwydd y toriadau gwariant llym y bydd angen eu gwneud. O ystyried y pryderon difrifol a amlinellwyd yn y llythyr a gyfeiriwyd atoch chi, pa ymateb rydych chi wedi ei roi i gymdeithas llywodraethwyr Bro Morgannwg?

14:30

Wel, roedd y llythyr—rwy'n credu i mi ei ddarllen ar Wales Online ar 31 Mawrth, gan lywodraethwr ysgol yn y Fro. Ac fel mae'n digwydd, roeddem eisoes wedi ysgrifennu at bob awdurdod yn egluro'r cyllid pellach a ddarperir gennym i bob awdurdod er mwyn eu helpu gyda'r rhwymedigaethau cyflog newydd, o ganlyniad i drafod llwyddiannus gyda'r undebau athrawon yma yng Nghymru. Nid oes amheuaeth fod ysgolion yn wynebu pwysau cyllidebol, er gwaethaf y cyllid pellach y gallasom ei ddarparu ar eu cyfer, a hynny, a dweud y gwir, o ganlyniad i gyfnod o gyni Torïaidd ar draws y DU, sydd wedi tanariannu gwasanaethau cyhoeddus, ac o ganlyniad, nid oes gan Lywodraethau datganoledig mo'r cyllid y byddent yn hoffi ei gael i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yn llawn gyda'r rhaglen uchelgeisiol sydd gennym i'n pobl ifanc yng Nghymru. Er hynny, rwy'n gwybod y bydd wedi gweld ffigyrau diweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sy'n dangos bod gwariant fesul disgybl ar ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn debyg. Yn sicr, hoffem allu ei gynyddu yng Nghymru, a chyda llywodraeth yn San Steffan a fyddai wedi ymrwymo i wasanaethau cyhoeddus, rwy'n obeithiol y gallwn wneud hynny yn y dyfodol.

Rwy'n cymryd o'r ymateb niwlog gwleidyddol nad yw llywodraethwyr y Fro wedi cael ymateb oddi wrthych, Weinidog, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n siom iddynt o gofio mai chi yw'r Gweinidog addysg yma yng Nghymru. Ond mae'r sefyllfa'n anghynaladwy. Mae pwysau real iawn—eich geiriau chi yn sesiwn briffio'r wasg y bore yma—wedi llorio ein gweithlu addysg. Cyfarfûm â phrifathro pryderus iawn yn ddiweddar. Fe wnaeth gysylltu â mi i fynegi pryder am gyfeiriad cyllidebau ysgolion. Mae pwysau chwyddiant, cynnydd sylweddol mewn costau ynni, ynghyd â gorfod ysgwyddo'r baich o dalu'n rhannol am godiadau cyflog staff, wedi golygu bod ysgolion yn methu cyflawni eu hymrwymiadau ariannol o ddydd i ddydd. O ganlyniad, mae cyrff llywodraethol yn cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau ariannol sy'n gwthio ysgolion i ddiffyg cyllidebol. Os nad eir i'r afael â'r sefyllfa hon, bydd ysgolion yn cael eu gorfodi i ddiswyddo mwy o staff, bydd safonau addysgol yn gostwng, a bydd ein pobl ifanc—y rhai mwyaf difreintiedig yn aml—yn cael eu gadael ar ôl. Fe wnaeth Prif Weinidog blaenorol yng Nghymru gyfaddef iddo dynnu ei lygad oddi ar y bêl mewn perthynas ag addysg. A yw'r Llywodraeth hon mewn perygl o wneud hynny eto?

Lywydd, mae naws Kafka-aidd iawn i hyn gan blaid nad yw'n credu mewn ariannu gwasanaethau cyhoeddus, a'r unig blaid yn y Senedd a addawodd mewn etholiad i dorri gwariant ar addysg 12 y cant. Felly, nid wyf am dderbyn unrhyw bregeth gan Samuel Kurtz ynghylch ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Fe fydd yn gwybod yn iawn mai'r ffordd ymlaen ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU yw Llywodraeth Lafur yn San Steffan sydd wedi ymrwymo i wasanaethau cyhoeddus mewn ffordd nad yw'n wir o gwbl am ei blaid ef.

Diolch, Llywydd. Yn ddiweddar, Weinidog, fe wnaethoch chi gyhoeddi buddsoddiad cyfalaf o £44.7 miliwn ar gyfer tair ysgol newydd sero net. Wrth eu cyhoeddi, fe ddywedoch chi, ac rwyf yn dyfynnu:

'Mae'r tri phrosiect hyn yn rhai cyffrous iawn ac maent yn batrwm ar gyfer datblygu ysgolion yn y dyfodol. Maent yn cynnig cyfle i ddysgu am gynaliadwyedd, ond hefyd i ddysgwyr gael cyfle i ymwneud â dylunio a chreu'r adeiladau hyn, i siapio'r amgylchedd y byddant yn dysgu ynddo ac i ddeall sut mae penderfyniadau a wneir heddiw yn effeithio ar eu dyfodol'.

Gaf i ofyn, felly, i ba raddau roedd cynaliadwyedd ieithyddol yn rhan o'r penderfyniad, ac a wnaeth y Llywodraeth asesu'r effaith ieithyddol hyn ar yr ardaloedd wrth ddyrannu'r arian?

Rwy'n diolch i'r Aelod am y croeso y mae hi'n ei roi i'r cynllun. Mae dwy o'r tair ysgol yn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac, yn y drydedd ysgol—rwy'n credu sydd yn etholaeth yr Aelod—mae'r cyngor wedi ymrwymo i wneud asesiad o'r capasiti i sicrhau bod darpariaeth Gymraeg addas yn yr ysgol honno. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Aelod ynghylch hynny, fel y bydd hi efallai yn ei wybod erbyn hyn. Mae'r awdurdod wedi ymrwymo i sefydlu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar wahân ar safle'r ysgol, a hefyd wedi ymrwymo i leihau capasiti cyfrwng Saesneg arfaethedig yr ysgol, i sicrhau bod hyn yn adlewyrchu'r galw gwirioneddol a rhagamcanol o fewn y dalgylch, ac, yn dilyn lleihau'r capasiti cyfrwng Saesneg arfaethedig, yn ymrwymo i roi ystyriaeth i'r defnydd o'r ardal dros ben i ddarparu ar gyfer y darpariaeth cyfrwng Cymraeg fel rhan o newid i'r categori ieithyddol yn y dyfodol. 

14:35

Diolch, Weinidog, ac, yn sicr, rydym ni wedi cyfathrebu nifer fawr o ran achos penodol, ond eisiau edrych ar y pwynt ehangach ydw i o ran buddsoddiad mewn ysgolion newydd ledled Cymru. Ac yn benodol, mae Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi bod yn rhan o nifer o ymgyrchoedd ledled Cymru lle mae yna ysgolion cyfrwng Saesneg newydd wedi cael eu hadeiladu, a'r effaith mae hynny wedyn yn ei gael ar ddarpariaeth Gymraeg. Efallai fod yna ysgol Gymraeg, ond mae yna dystiolaeth wedi bod yn cael ei rhoi fod y rhieni'n dewis ysgolion newydd sbon, oherwydd y math o gyfleusterau sydd ganddyn nhw, yn aml o ran chwaraeon ac ati, a'r cyfle allgyrsiol sydd ynghlwm efo hynny, a hefyd fod rhai athrawon yn dewis gadael dysgu mewn ysgol Gymraeg oherwydd bod yna adnoddau gwell.

Felly, eisiau gofyn ydw i: pan fo hwn yn arian gan Lywodraeth Cymru sy'n mynd tuag at ysgolion newydd, ac mae gennym ni'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, sut ydych chi nid jest yn gadael yr asesiad i'r awdurdodau lleol hynny, ond yn sicrhau dyw Llywodraeth Cymru ddim yn ariannu unrhyw gynllun sy'n mynd i niweidio dyfodol y Gymraeg mewn unrhyw ardal?

Wel, dŷn ni ddim yn gwneud hynny, ac rŷn ni'n ofalus iawn i sicrhau bod ein buddsoddiad ni yn adlewyrchu'r egwyddorion mae'r Aelod wedi eu hesbonio yn ei chwestiwn. Felly, wrth edrych ar gynlluniau pob awdurdod lleol, mae'n rhaid sicrhau nad yw'r cynlluniau, nid jest o fewn y CSCA, ond y cynlluniau ehangach o ran buddsoddi yn yr ystadau ysgolion lleol, yn cael effaith andwyol ar y Gymraeg. Mae'r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig: hynny yw, bod pobl yn gweld ysgol newydd yn beth atyniadol. Mae hynny'n gallu cael effaith, felly mae angen edrych ar hynny pan fydd awdurdodau yn cynllunio eu hystadau ysgol, ac rŷn ni'n gweithio gyda phob awdurdod i sicrhau eu bod nhw'n gwneud hynny. 

Asesiadau Niwroddatblygiadaol

3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith yr oedi mewn cwblhau asesiadau niwroddatblygiadaol ar ddatblygiad addysgol disgyblion yr Arfon? OQ59421

Bydd anghenion unigol disgyblion yn Arfon yn cael lle canolog wrth inni weithredu ein diwygiadau ym maes addysg. Byddwn yn sicrhau hynny drwy ddull cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a chymorth ar gyfer cynnydd unigol. Does dim angen diagnosis meddygol i gael gafael ar gymorth mewn addysg nac i benderfynu ar anghenion dysgu ychwanegol dysgwr.

Roeddwn i'n falch o glywed ddoe mewn datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol fod camau ar droed i wella'r amseroedd aros am asesiad cyflyrau niwroddatblygiadol. Mae yna nifer cynyddol o etholwyr yn Arfon yn cysylltu efo fi yn cwyno am yr oedi. Ac, o dderbyn beth rydych chi'n ei ddweud, nad oes rhaid cael y dadansoddiad yma, mae'r oedi yn yr asesiadau yn gallu arwain at oedi yn y cymorth ychwanegol sydd ar gael drwy ysgolion.

Yn Ionawr eleni, mi ddywedodd bwrdd iechyd y gogledd, mewn gohebiaeth atom ni fel swyddfa yn Arfon, fod rhwng dwy a thair blynedd o amser aros ar gyfer asesiad, a bod yna 2,645 o blant ar restrau aros y bwrdd iechyd am asesiad; 1,669 ohonyn nhw wedi bod yn aros dros 26 wythnos, sydd yn amlwg ddim yn sefyllfa dderbyniol. Ydy'r camau a gyhoeddwyd ddoe yn mynd i fod yn ddigonol ar gyfer cyflymu'r broses o gynnal asesiadau, ac a fyddwn ni'n gweld gwellhad parhaol yn y sefyllfa, yn enwedig yn y gogledd?

Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn hwnnw. Wel, beth mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i ddatgan yw cynllun dros dair blynedd, gyda £12 miliwn o fuddsoddiad. A bwriad hwnnw yw i fynd i'r afael â'r pwysau presennol sydd ar y gwasanaethau, fel mae hi wedi eu disgrifio yn ei chwestiwn, ond hefyd gwella'r gefnogaeth sydd ar gael o fewn y gwasanaethau mae pobl yn aros amdanyn nhw. Felly, rŷn ni wir yn gobeithio y gwnaiff hynny gael effaith bositif, nid jest ar ddiwedd y dair blynedd, ond, wrth gwrs, yn y cyfamser hefyd. Ond mae wir yn bwysig, yr egwyddor honno nad oes angen diagnosis er mwyn cael y gefnogaeth. Rwy'n deall, efallai, ar lawr gwlad, fod hynny, yn ymarferol, efallai'n heriol, neu'n gallu bod, ond mae wir yn bwysig bod hynny yn egwyddor sydd yn sail i'r system hefyd. Ond bydd y Dirprwy Weinidog wedi clywed sylwadau yr Aelod heddiw hefyd. 

Diolch i Siân Gwenllian am godi'r mater pwysig hwn yma heddiw eto. Fel y byddwn yn gwybod ac yn sicr yn cydymdeimlo ag ef, bydd unrhyw oedi yn y broses hon yn sicr o gael effaith ar ddisgyblion a rhieni nid yn unig yn uniongyrchol, ond yn hirdymor hefyd. Felly, rwy'n derbyn y sylwadau o ran deall difrifoldeb y mater hwn, Weinidog. Dywedodd eich adroddiad eich hun y llynedd, Weinidog, fod y galw am asesiad diagnostig ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol yn fwy na chapasiti gwasanaethau ers blynyddoedd lawer. Mae'r capasiti hwnnw a'r staffio'n broblem felly. Ac rwy'n derbyn y sylwadau a wnaed ynghylch meysydd gweinidogol eraill neu adrannau eraill y Llywodraeth yn chwarae eu rhan yn hyn hefyd, ond yng nghyd-destun eich adran weinidogol chi, tybed a wnewch chi ehangu ar eich syniadau am rôl ysgolion a'r rôl y gallant ei chwarae yn cefnogi'r broses a nodi problemau gyda'u dysgwyr. A hefyd sut rydych chi'n ceisio defnyddio pethau fel cymorth addysg uwch, gyda phethau tebyg i uned asesu niwroddatblygiadol Prifysgol Caerdydd, i gefnogi ysgolion ac athrawon hefyd? Diolch yn fawr iawn. 

14:40

Wel, mae'n iawn i nodi'r cysylltiad rhwng gofal iechyd ac addysg mewn perthynas â'r drefn anghenion dysgu ychwanegol, os mynnwch. Mae'r cydweithrediad rhwng y ddau wasanaeth cyhoeddus yn amlwg yn ganolog i hynny. Ac fel y soniais wrth Siân Gwenllian nawr, er bod y diagnosis yn gallu bod yn ddefnyddiol, nid oes angen penderfyniad ynghylch anghenion dysgu ychwanegol dysgwr, a lle bynnag y bo modd, o safbwynt ysgol, ni ddylid oedi'r cynllun datblygu unigol na'r gefnogaeth sydd ei hangen wrth aros am ddiagnosis. Un o'r pwyntiau y credaf ei fod yn cyfeirio ato yn ei gwestiwn yw beth y gall ysgolion, beth y gall staff, ei wneud er mwyn helpu i nodi rhai o'r anghenion hynny. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nodi, yn ystod addysg gychwynnol i athrawon a'n dysgu proffesiynol parhaus i athrawon a chynorthwywyr addysgu yn ymarferol, fod y gallu i nodi a diwallu anghenion pob dysgwr yn flaenoriaeth o fewn hynny. Mae cefnogi dysgwyr ag ADY bellach yn rhan o astudiaethau blynyddoedd cynnar craidd darpar athrawon, ac ochr yn ochr â hynny rydym wedi datblygu rhaglen dysgu proffesiynol cenedlaethol ADY ar-lein, wedi'i hanelu'n bennaf at gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol, ac athrawon a darlithwyr hefyd, fel y gallant ddatblygu eu gallu i gefnogi dysgwyr ag ADY. Felly, ceir ystod o ymyriadau rydym yn eu gwneud yn y maes addysg, gan ategu'r diwygiadau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cyhoeddi mewn perthynas â'r amseroedd aros niwroddatblygiadol wrth gwrs, ac rwy'n credu bod y darlun cyflawn wedi'i lunio'n amlwg i gefnogi pob dysgwr. 

Darpariaeth Addysg Bellach yng Nghasnewydd

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi darpariaeth addysg bellach yng Nghasnewydd? OQ59432

Rwy'n falch o fuddsoddiad y Llywodraeth hon yn sector addysg bellach Cymru, sydd wedi caniatáu i fwy o ddysgwyr aros mewn addysg ôl-16. Cyhoeddais ar 17 Ebrill mai Cymru yw gwlad gyntaf y DU i gynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg, er budd oddeutu 16,000 o fyfyrwyr addysg bellach, gan gynnwys dros 1,000 yng Nghasnewydd.

Weinidog, fel y gwyddoch, mae yna gynlluniau cyffrous i adleoli Coleg Gwent i ganol dinas Casnewydd, cynlluniau a fyddai'n rhoi lle blaenllaw i addysg bellach yn y ddinas ac a fyddai hefyd yn rhan o'r ardal wybodaeth, ochr yn ochr â champws canol dinas Prifysgol De Cymru. Byddai hefyd yn cynnwys canolfan hamdden newydd a datblygiadau eraill, a fyddai'n cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas, ac yn y bôn, byddai'n bwrw ymlaen â llawer iawn o ddatblygu. Ar yr adeg y cyhoeddwyd y prosiect, Weinidog, dywedodd prifathro Coleg Gwent: 

'Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i greu cartref i'r Coleg yng nghanol y ddinas, yn ogystal â chyflwyno cyfleusterau hamdden newydd sbon. Bydd yn ein galluogi i ddarparu addysg a hyfforddiant rhagorol, mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf, i holl bobl a busnesau Casnewydd.'

Felly, rwy'n credu y byddai hyn o bosibl yn newid byd go iawn mewn sawl ffordd i'r ddinas ac i addysg bellach yn yr ardal, Weinidog. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am waith Llywodraeth Cymru gyda Choleg Gwent a Chyngor Dinas Casnewydd ar ddatblygu'r prosiect hwn. 

Diolch i John Griffiths am y cwestiwn. A byddwn yn cydnabod yn llwyr y pwyntiau a wnaeth yn ei gwestiwn am bwysigrwydd cyfleusterau modern i roi cyfle i bob dysgwr ifanc yng Nghasnewydd gael y profiad ôl-16 gorau posibl yng Ngholeg Gwent. Ac fel y dywedodd, mae'n galluogi'r coleg hefyd i gydweithio â Phrifysgol De Cymru. Cyfarfûm â Phrifysgol De Cymru a Choleg Gwent yr wythnos diwethaf i drafod y gwaith y maent yn ei wneud gyda'i gilydd. Fe gyfarfuom ar gampws Prifysgol De Cymru yng Nghasnewydd a dysgu mwy am y gwaith y maent yn ei wneud hefyd mewn sectorau technoleg cyffrous iawn a sectorau eraill drwy eu trefniadau partneriaeth i ddarparu cynnig ehangach i fyfyrwyr yng Nghasnewydd. Gwn fod y coleg yn trafod y cynlluniau hyn yn rheolaidd iawn gyda fy swyddogion, ac rwy'n eu hystyried yn gynlluniau cyffrous, ac yn gobeithio'n fawr y byddant yn dwyn ffrwyth.

14:45
Cefnogaeth i Ddisgyblion Ysgol Byddar

Rydym yn parhau i gefnogi disgyblion byddar. Mae tegwch a chynhwysiant yn ganolog yn y system anghenion dysgu ychwanegol a'r Cwricwlwm i Gymru, sydd â'r nod o helpu i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael mynediad at addysg sy'n eu galluogi i gyrraedd eu potensial.

Yn ystod y datganiad busnes yma ar 8 Chwefror, dywedais

'Mae Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru wedi rhybuddio am argyfwng addysgol ar y gorwel i blant byddar yng Nghymru. Mae arolwg y Consortiwm ar gyfer Ymchwil i Addysg Fyddar o awdurdodau lleol yn dangos bod nifer yr athrawon sy'n fyddar yng Nghymru wedi gostwng 20 y cant dros y degawd diwethaf. Yn ogystal â hynny, mae mwy na thraean o athrawon sy'n fyddar ledled Cymru dros 50 oed, sy'n golygu eu bod nhw'n debygol o ymddeol yn y 10 i 15 mlynedd nesaf.'

Ar ôl imi fanylu ar eu galwadau ar Lywodraeth Cymru, dywedodd y Trefnydd wrthyf y byddai'n gofyn i chi ysgrifennu ataf. Yn ystod cyfarfod dilynol gyda Chymdeithas Genedlaethol Plant Byddar, dysgais fod 59 o blant byddar i bob athro, gan godi i 81 yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Sut ydych chi'n ymateb i'w galwad ar Lywodraeth Cymru felly i edrych ar rwydwaith athrawon i'r byddar a chynllunio gweithlu yng Nghymru, gyda chyllid cynaliadwy, fforddiadwy, hirdymor, lle bydd plant byddar, heb y camau hyn, yn parhau ar ei hôl hi, a lle mae perygl i'r bwlch rhyngddynt a'u cyfoedion sy'n gallu clywed dyfu hyd yn oed yn fwy nag y mae eisoes?

Diolch i Mark Isherwood am y cwestiwn pwysig hwn. Cefais ohebiaeth hefyd gan George Baldwin o Gymdeithas Genedlaethol Plant Byddar yn ôl ym mis Chwefror, ac fe ymatebais iddo ar y pryd, ac rwyf hefyd wedi darllen yr adroddiad a anfonwyd ataf ar y pryd mewn perthynas ag adroddiad y Consortiwm ar gyfer Ymchwil i Addysg Fyddar, sy'n ddadansoddiad manwl a thrylwyr iawn o'r sefyllfa. Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru yn eu gwneud ar strategaeth y gweithlu a sicrhau darpariaeth ddigonol o athrawon i'r byddar.

Fel y bydd yn gwybod, mae'r diwygiadau ADY yn cynnwys y cod ADY, sy'n rhestru athrawon plant byddar ymhlith y rhai y dylai awdurdodau lleol ymgynghori â nhw er mwyn cael eu barn a'u hanghenion a phatrymau anghenion sy'n dod i'r amlwg, a phroffil sgiliau'r gweithlu, er mwyn sicrhau y gallwn gefnogi dysgwyr â nam ar eu clyw. Rhan allweddol o'n diwygiadau yw sicrhau bod y gweithlu addysgu'n ddigon medrus i allu darparu ar gyfer anghenion pob plentyn unigol a hefyd yn gallu gwneud y defnydd gorau o gyngor a chefnogaeth arbenigol a ddarperir gan arbenigwyr fel athrawon plant byddar. Yn y gorffennol rydym wedi darparu cyllid, fel y bydd yn cofio rwy'n siŵr, i sicrhau bod gennym hyfforddiant ôl-raddedig i arbenigwyr yn yr awdurdodau lleol ac athrawon ymgynghorol ar gyfer dysgwyr â nam synhwyraidd, gan gynnwys athrawon plant byddar. Ond fe edrychwn ymhellach ar yr adroddiad i weld beth arall y gallwn ei wneud.

Prentisiaethau Gweithgynhyrchu

6. Sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod gan bobl sy'n gadael ysgol yr adnoddau i ymgymryd â phrentisiaethau gweithgynhyrchu? OQ59439

Mae ein rhaglen Have a Go yn annog mwy o ymwneud gan blant ysgol mewn prentisiaethau ac yn codi ymwybyddiaeth dysgwyr o sectorau gwaith, gan gynnwys gweithgynhyrchu. Nod y sgiliau hanfodol sy'n cael eu dysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru yw rhoi sgiliau cynllunio, trefnu a datrys problemau i ddysgwyr fel sydd eu hangen arnynt er mwyn pontio'n llwyddiannus i brentisiaethau.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Ddydd Gwener diwethaf, ymwelais â Granada Material Handling Ltd yn fy etholaeth yn Alun a Glannau Dyfrdwy, sy'n cynhyrchu offer ar gyfer sawl math o ddefnydd heriol i'w werthu ledled y byd. Yn ystod fy ymweliad, clywais am eu gwaith yn diwallu anghenion gweithgynhyrchwyr sy'n cynhyrchu cynhyrchion technoleg y genhedlaeth nesaf fel tai modiwlar ac adenydd ar gyfer y sector awyrofod, ymhlith nifer o bethau eraill. Ond yn ystod yr ymweliad hwnnw, Weinidog, roeddwn yn arbennig o falch o weld eu hymrwymiad i hyfforddi prentisiaid, fel cyn brentis gweithgynhyrchu fy hun, Lywydd. Weinidog, mae angen inni sicrhau bod y bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol yn teimlo'n hyderus ac yn barod i gadw llygad ar ddatblygiadau arloesol cyflogwyr tebyg i Granada Material Handling Ltd. A gaf fi ofyn sut mae eich adran yn gweithio gyda chyflogwyr fel y rhain er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ac i'w cefnogi ar eu taith?

14:50

Diolch i Jack Sargeant am y cwestiwn pellach a'i gefnogaeth frwd i brentisiaethau, sy'n amlwg yn seiliedig ar ei arbenigedd a'i brofiad ei hun o hynny. Rwy'n credu bod y pwynt y mae'n ei wneud yn bwysig iawn. Cefais sgwrs y bore yma, mewn trafodaeth gyda Phrif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, ynglŷn â beth arall y gallwn ei wneud ar lefel ysgol i wneud yn siŵr fod pobl ifanc yn ymwybodol o ddewisiadau pynciau STEM, wrth gwrs, ond hefyd o'r ystod o gyfleoedd yn eu heconomi leol. Ac rwyf hefyd wedi comisiynu adroddiad gan Hefin David, fel y gwn fod yr Aelod yn gwybod, ar beth arall y gallwn ei wneud ar lefel ysgol, ac mae'r adroddiad hwnnw newydd gael ei gyflwyno i ni ac mae'n cynnwys cynigion diddorol iawn. Fe fydd yn gwybod ein bod wedi gofyn i Cymwysterau Cymru nodi sut y gall y system gymwysterau gefnogi pobl ifanc sy'n dod drwy'r system addysg i fod yn barod ar gyfer byd gwaith neu brentisiaethau pan fyddant yn gadael yr ysgol. Mae'r cymwysterau cyn-alwedigaethol y mae Cymwysterau Cymru wedi'u hargymell, sydd yn yr ymgynghoriad ar y cynnig llawn sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, wedi'u cynllunio i allu camu ymlaen i astudio neu ddilyn prentisiaeth ôl-16, ac rwy'n credu y byddant yn chwarae rhan bwysig iawn yn cefnogi pobl ifanc i fyd gwaith ac i brentisiaethau yn enwedig.

Weinidog, yn union fel y mae gweithgynhyrchu yn bwysig i etholaeth Jack, mae hefyd yn rhan allweddol o economi fy rhanbarth i ac mae ar fin dod yn fwy felly wrth inni groesawu'r chwyldro ynni gwyrdd. Nid yn unig y mae angen inni sicrhau bod gan y rhai sy'n gadael yr ysgol y sgiliau STEM cywir sydd eu hangen i'w harfogi ar gyfer gyrfa mewn gweithgynhyrchu, mae angen i ddiwydiant hefyd weithio'n agos gydag ysgolion a cholegau. Mae'r coleg ardderchog yn fy rhanbarth i, Coleg Penybont, wedi meithrin llawer o gysylltiadau o'r fath ac yn cynnig amrywiaeth o brentisiaethau gweithgynhyrchu gyda chyflogwyr mawr fel Sony. Weinidog, sut y gall Llywodraeth Cymru feithrin cysylltiadau agosach gyda diwydiant a'n darparwyr addysg er mwyn rhoi sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr, a swyddi blaenllaw hefyd yn y chwyldro diwydiannol nesaf?

Diolch i Altaf Hussain am y cwestiwn. Mae elfen gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â gwaith ein Cwricwlwm newydd i Gymru, o dair i 16 oed, yn rhoi'r byd gwaith wrth galon bywyd ysgol, ac yn amlwg, y ffordd orau o ddarparu hynny yw i ysgolion gydweithio â sefydliadau eraill a all esbonio i bobl ifanc beth yw'r gyrfaoedd sydd ar gael iddynt a'r ffordd orau o fynd ati i gymhwyso ar gyfer y rolau hynny. Mae Gyrfa Cymru yn chwarae ei rôl mewn perthynas â hynny hefyd, mae'n gweithio'n agos gydag ysgolion i helpu i gyflwyno ystod o weithgareddau i arddangos byd gwaith, ac rwy'n gobeithio y caiff y Senedd gyfle yn fuan iawn i drafod yr ymateb i'r adroddiad, a grybwyllais yn fy ateb i Jack Sargeant hefyd, a chredaf y gwelwch ei fod yn cynnwys cynigion eithaf arloesol.

Eisteddfod Genedlaethol 2023

7. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei rhoi i Eisteddfod Genedlaethol 2023? OQ59422

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn bartner hollbwysig i ni ac, eleni, rŷn ni'n cynnig grant o £1 filiwn i gefnogi ystod eang o weithgareddau i gynyddu defnydd y Gymraeg yn y gymuned. Mae'n fwy na dim ond gŵyl wythnos; mae'n benllanw tair blynedd o waith cymunedol Cymraeg.

Diolch. I longyfarch y Llywydd, fe gododd aelodau lleol dros £460,000 tuag at gynnal yr ŵyl yn Nhregaron. Roedd eu brwdfrydedd yn adlewyrchu ymdrech sir Conwy lle, er enghraifft, fe gododd tref Llanrwst ei hun dros £50,000. Dwi'n ymwybodol bod pobl Llŷn ac Eifionydd eleni yn parhau i drefnu gweithgareddau i godi arian. Mae Cymru yn gwneud cymaint i ariannu’r Eisteddfod, ac mae’r Eisteddfod yn gwneud cymaint i hyrwyddo’r Gymraeg. A fuasai’r Llywodraeth Cymru’n fodlon gwobrwyo’r ymdrechion yma drwy ariannu mynediad am ddim i Eisteddfod 2023? Diolch.

14:55

Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn, ac am ofyn y cwestiwn yn y Gymraeg, a llongyfarchiadau iddi hi am wneud hynny, hefyd. Mae penderfyniadau o ran mynediad yn faterion i’r Eisteddfod, wrth gwrs. Mater iddyn nhw yw ystyried cynnig tocynnau fforddiadwy, er enghraifft. Ond rwy’n gwybod eu bod nhw’n cynnal trafodaethau gyda Chyngor Gwynedd i drafod sut y gall pawb elwa o gael y maes yn Llŷn ac Eifionydd eleni. Rwy’n siŵr y bydd y Llywydd yn falch o glywed y teyrnged a dalwyd i bwyllgor gwaith Eisteddfod Tregaron ar eu gallu nhw i godi arian, hefyd.

Mae’r grant rŷn ni’n talu i'r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn gynnydd ar yr hyn wnaethon ni dalu iddyn nhw y llynedd, a phwrpas yr ychwanegiad, y cynnydd, yw caniatáu a chefnogi’r Eisteddfod i gyfrannu at raglen allgymorth, neu outreach, yn y gymuned. Mae’r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig o ran cyfraniad ehangach y gymuned yn ariannol, ond mewn ffurf diwylliannol ac mewn ffurf amgen, ac felly mae’r cyfle i’r Eisteddfod ymgysylltu â’r gymuned ehangach yn un pwysig. Yn sgil yr arian ychwanegol rŷn wedi’i ddarparu eleni, mae rheolwyr cyfathrebu, cystadlaethau a thechnolegol, ynghyd â dau gydlynydd, eisoes wedi’u penodi, gyda swyddog hollbwysig, swyddog codi arian, i ddod dros y misoedd nesaf hefyd. Felly, rŷn ni i gyd yn edrych ymlaen, rwy’n siŵr, i Eisteddfod lwyddiannus iawn yn Llŷn ac Eifionydd eleni.

Deddfwriaeth Addysg yn y Cartref

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu deddfwriaeth addysg yn y cartref? OQ59423

Rydym yn bwriadu cyhoeddi canllawiau statudol yn fuan iawn a fydd yn gwella cyfleoedd dysgu i blant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, yn annog mwy o fynediad at wasanaethau cyffredinol ac yn sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at addysg addas ac effeithlon.

Diolch yn fawr am yr wybodaeth ddiweddaraf, Weinidog. Mae sawl etholwr wedi cysylltu â mi yn ystod yr wythnosau diwethaf i rannu eu pryderon ynghylch cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg yn y cartref. Roeddent yn dweud eu bod wedi ceisio mynegi eu pryderon wrthych chi, Weinidog, ond roeddent yn dweud, yn eu geiriau hwy, nad oeddech chi'n gwrando nac yn ymgysylltu â hwy. Dywedodd un rhiant wrthyf, ac rwy'n eu dyfynnu'n uniongyrchol, 'Mae Llywodraeth Cymru wedi fy siomi'. Mae'r prif bryderon sydd ganddynt yn ymwneud â'r cyfarfodydd gorfodol a chreu cronfa ddata o'r holl blant, gyda data wedi'i gasglu o gofnodion iechyd i gadw golwg ar addysgwyr yn y cartref. Mae rhai o'r rhesymau sy'n sail i'r pryderon hyn yn hynod sensitif, ac ni fyddai'n briodol imi eu crybwyll yn gyhoeddus fel hyn, ond rwy'n fwy na pharod i'w rhannu gyda chi'n breifat wedyn os hoffech chi. Mae'n amlwg fod gan lawer o rieni sy'n darparu addysg yn y cartref i'w plant bryderon dilys sy'n galw am sylw. Felly, Weinidog, a gaf fi ymrwymiad gennych, os gwelwch yn dda, y byddwch chi o ddifrif ynghylch y pryderon hyn ac yn ymgysylltu â'r rhieni sy'n addysgu eu plant yn y cartref er mwyn eu datrys? Diolch.

O ran y cynigion y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt, y pwynt a wneuthum yw nad ydynt wedi'u cyhoeddi eto, felly rwy'n credu y dylai nodi hynny. O ran ymgysylltu ag aelodau o'r gymuned addysg ddewisol yn y cartref, cafwyd lefel sylweddol iawn o ymgysylltu. Yn amlwg nid yw hynny wedi cynnwys pob addysgwr unigol yn y cartref, ond yn 2018, hwylusodd Llywodraeth Cymru gyfarfod cenedlaethol i edrych ar drafodaethau rhwng addysgwyr yn y cartref ledled Cymru; yn 2019 a 2020, cafwyd ymgynghoriadau; yn 2022, cyfarfûm ag Education Otherwise. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cael cyfarfodydd gyda gwahanol sefydliadau sy'n cynrychioli addysgwyr yn y cartref. Mae'n bwysig iawn ein bod yn clywed lleisiau pawb, ac rwy'n gwbl hyderus ein bod wedi ymgysylltu, a rhoddais enghreifftiau i chi o sut mae hynny wedi digwydd.

Fel y dywedaf, bydd y canllawiau'n dilyn yn fuan, ond rhan bwysig o hynny, ochr yn ochr â'r trefniadau y cyfeiria atynt yn ei chwestiwn, yw pecyn ehangach o gymorth i addysgwyr yn y cartref, sy'n unigryw yn y DU o ran ei raddfa. Bydd wedi fy nghlywed yn sôn o'r blaen am gronfa o £1.7 miliwn, sef y fwyaf mewn unrhyw ran o'r DU, i gefnogi addysgwyr yn y cartref. A bydd yna becyn cymorth ehangach a fydd yn gynnig craidd ar draws pob un o'r 22 awdurdod yng Nghymru. Cafodd hwnnw ei lywio'n uniongyrchol, gyda llaw, gan adborth gan deuluoedd sy'n addysgu yn y cartref. Cawsant eu datblygu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a byddant yn cynnwys canolfan arholi ddynodedig sy'n darparu ar gyfer ymgeiswyr allanol, ac mae addysgwyr yn y cartref wedi dweud wrthym y byddai honno'n gymorth mawr. Hefyd, mynediad at wasanaethau cwnsela awdurdodau lleol, mynediad at wasanaethau cymorth ieuenctid, gwasanaethau cymorth ADY, cymorth gan Gyrfa Cymru ac amryw o ffyrdd eraill hefyd, gan gynnwys llawlyfr i addysgwyr yn y cartref. Felly, mae yna gynnig eang o gefnogaeth ochr yn ochr â'r newid rheoleiddiol sydd dan ystyriaeth gennym. Rwy'n mawr obeithio y bydd addysgwyr yn y cartref yn gweld hwnnw'n ddatblygiad cadarnhaol pan gaiff ei gyhoeddi.

15:00
Cywirdeb Ieithyddol yn yr Iaith Gymraeg

9. Sut mae Llywodraeth Cymru’n annog a sicrhau cywirdeb ieithyddol yn yr iaith Gymraeg gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru? OQ59444

Mae'r wefan yn rong, felly.

Rŷm ni wedi hwyluso hyn drwy ariannu adnoddau megis offer gwirio sillafu a gramadeg Cymraeg. Ar ben hyn, rŷm ni'n ariannu Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru i ddatblygu’r sector cyfieithu a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i feithrin sgiliau iaith. Ac wrth gwrs, mae gan safonau a chynlluniau iaith gyfraniad i'w wneud at hyn hefyd.

Diolch i chi am ateb y cwestiwn, Weinidog. Mae pawb yn gweld enghreifftiau—rhai efallai’n fwy anffodus na’i gilydd—o gam-gyfieithu neu gamsillafu o bryd i’w gilydd. Maen nhw’n ddoniol, efallai, ar yr olwg gyntaf, ond wrth gwrs maen nhw’n anfon neges anffodus iawn o safbwynt statws y Gymraeg, pan ein bod ni’n gweld enghreifftiau fel hyn yn cael eu goddef yn rhy aml o lawer.

Mi welom ni ymarferiad y neges destun gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn honni mai’r bwriad oedd ein cadw ni’n 'vogel' yn lle’n ddiogel. Rŷm ni hefyd wedi gweld gwefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ein hannog ni i regi i Dduw omnipotent, yn hytrach na thyngu llw i Dduw hollalluog, yng nghyd-destun y coroni a fydd yn dod yn fuan. Ond dydw i ddim jest yn pwyntio bys at Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae yna enghreifftiau anffodus yn digwydd ar draws y sector cyhoeddus.

A wnewch chi felly, fel Llywodraeth, ysgrifennu at gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru, jest i’w hannog a’u hatgoffa nhw o’u cyfrifoldeb yn hyn o beth, ac efallai cyfleu yr un neges i Lywodraeth y Deyrnas Unedig?

Rwy'n hapus iawn i wneud hynny, ac efallai petasai llai o bwyslais ar y cwyno yn erbyn enwi Bannau Brycheiniog, a mwy o bwyslais ar gywirdeb, efallai y byddem i gyd yn hapusach.

Cyllid Ysgolion yn Sir Ddinbych

10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer cyfleusterau addysg yn sir Ddinbych? OQ59440

Yn sicr. Drwy raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, mae £90 miliwn wedi'i fuddsoddi yn yr ystad addysg yn sir Ddinbych ym mand A, ac mae £51 miliwn pellach wedi'i gynllunio ar gyfer band B. Mae cyfleusterau addysg yn sir Ddinbych hefyd wedi elwa o fuddsoddiadau grant eraill sy'n targedu addysg cyfrwng Cymraeg, gofal plant, cynnal a chadw ysgolion ac ysgolion bro.

Rwy’n gwerthfawrogi eich ateb, Weinidog. Y rheswm pam y gofynnais y cwestiwn y prynhawn yma yw am fy mod yn ymweld â chryn dipyn o ysgolion yn fy etholaeth, lle adeiladwyd Ysgol Crist y Gair yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn ogystal ag Ysgol Uwchradd y Rhyl, gyda chyfleusterau modern gwych yn fy etholaeth, ond wedyn, yn nhref gyfagos Prestatyn ac i lawr y ffordd yn Ninbych, mae ganddynt labordai gwyddoniaeth a rhai cyfleusterau sy'n dyddio'n ôl mor bell â'r 1950au. Hefyd yn Ninbych, mae gennym Ysgol Plas Brondyffryn ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, ac er mai dim ond oddeutu 15 oed yw'r adeilad, mae wedi mynd yn rhy fach i anghenion y disgyblion.

Felly, yng ngoleuni rhai o'r materion hynny, a gaf fi ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gennych ynglŷn ag a allai fod newyddion da ar y gorwel i ysgolion fel Prestatyn, Dinbych ac Ysgol Plas Brondyffryn—y gallant gael ysgolion yr unfed ganrif ar hugain sy'n addas i ddibenion modern? Diolch.

Wel, mae gennym raglen adeiladu ysgolion gwerth £1.5 biliwn yng Nghymru o dan Lywodraeth Lafur Cymru. Yn amlwg, fe wnaeth y Ceidwadwyr ddileu’r rhaglen adeiladu ysgolion yn Lloegr. Ond bydd ei etholwyr yn gallu manteisio ar y cyllid a ddarparwn yma yng Nghymru. Mae Ysgol Uwchradd Dinbych wedi’i nodi ar gyfer buddsoddiad o fewn rhaglen amlinellol strategol wreiddiol sir Ddinbych ar gyfer band B, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r cyngor mewn perthynas â hynny. Soniodd am nifer o’r buddsoddiadau eraill, ac rwy’n cytuno, maent yn bwysig iawn er mwyn inni allu sicrhau bod pobl ifanc, lle bynnag y bo modd, yn gallu defnyddio'r cyfleusterau gorau posibl i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiynau amserol fyddai'r eitem nesaf, ond does yna ddim cwestiynau amserol heddiw.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch yn fawr, Lywydd. Yn ystod COVID, collodd llawer o bobl ledled Cymru anwyliaid, ac i lawer, mae ymdopi â’r galar hwnnw wedi bod yn ofnadwy o anodd. Nid yw'n gyfrinach fod marwolaeth fy nhad wedi bod yn gyfnod anodd iawn i fy nheulu cyfan, ond yn fwy felly i fy mam 70 oed. Er iddi fynychu llawer iawn o grwpiau profedigaeth, sesiynau cwnsela a therapïau, nid oedd unrhyw beth i'w weld yn helpu fy mam gyda'i galar poenus. Yna, fe wnaethom ddarganfod rhaglen brofedigaeth STEPS, a noddir gan Tovey Brothers, cwmni teuluol o drefnwyr angladdau yn ne-ddwyrain Cymru a sefydlwyd ym 1860. A hoffwn dalu teyrnged heddiw i dîm ymroddedig STEPS yn ogystal ag i Tovey Brothers.

Mae’r gwasanaeth profedigaeth rhad ac am ddim hwn yn cael ei gynnig sawl gwaith y flwyddyn yng Nghasnewydd ar gyfer unrhyw un sy’n dioddef profedigaeth, ac yn y 10 mlynedd y bu’r grŵp yn weithredol, maent wedi helpu llu o bobl yn eu hawr dywyllaf. Mae’r grŵp cymorth yn darparu amgylchedd gofalgar lle gall pobl weithio drwy lawer o emosiynau, a thasgau sy’n arwain at dawelwch meddwl ac yn eu helpu i fyw a derbyn eu galar. Mae'n fan lle gall pobl ddarganfod bod eu hymatebion i alar yn normal a bod ymhlith pobl o'r un anian a fydd yn deall yn iawn beth maent yn mynd drwyddo. Byddwn yn annog unrhyw un sydd mewn profedigaeth, ac yn ei chael hi'n anodd, i gysylltu â’r tîm gwych yn STEPS a Tovey Brothers hefyd. Hoffwn ailadrodd hefyd fod hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim, ac i ddarganfod mwy am y grŵp cymorth, cysylltwch â threfnwyr angladdau Tovey Brothers.

Ddirprwy Lywydd, diolch am roi amser imi godi ymwybyddiaeth o’r grŵp cymorth gwirioneddol wych hwn heddiw.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:05
5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol—'Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru'

Eitem 5 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 'Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Russell George.

Cynnig NDM8249 Russell George

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru’, a osodwyd ar 19 Rhagfyr 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i chi heddiw am yr eitem hon? Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i.

Mae gan bob un ohonom iechyd meddwl. Mae cysylltiad cryf rhwng ein hiechyd meddwl a’n hamgylchiadau, gan gynnwys ein hiechyd corfforol, emosiynol ac ysbrydol. Weithiau, bydd ein hiechyd meddwl yn gadarnhaol; weithiau, gall fod yn wael. Gall rhai ohonom fynd yn ddifrifol wael oherwydd ein hiechyd meddwl.

Yn anffodus, mae’r dystiolaeth yn dangos bod rhai grwpiau a chymunedau mewn mwy o berygl o iechyd meddwl gwael nag eraill. Gallai fod yn anoddach i grwpiau o’r fath gael mynediad at wasanaethau nag unrhyw grŵp arall, a phan fyddant yn cael cymorth, mae eu profiadau a’u canlyniadau'n waeth. Rhan o'n rôl yw taflu goleuni ar brofiadau pobl a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Rydym yn gwneud hyn drwy wrando ar eu straeon a'u deall, ond gwyddom y gall hyn fod yn anodd ac yn drawmatig.

Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith, ac mae hyn yn cynnwys sefydliadau partner a helpodd i drefnu grwpiau ffocws ac ymweliadau, ac a sicrhaodd fod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi. A hoffwn ddiolch yn arbennig i'n grŵp cynghori ar-lein am eu barn, eu profiadau, eu harbenigedd a'u her adeiladol wrth inni baratoi ein hadroddiad ac ystyried ymateb Llywodraeth Cymru. Ac rwyf wrth fy modd fod rhai ohonynt yn yr oriel gyhoeddus heddiw, a gwn y bydd eraill yn gwylio ar Senedd.tv. Ac rwyf hefyd yn falch fod rhai o aelodau'r pwyllgor wedi gallu cyfarfod â'r grŵp cynghori y prynhawn yma cyn y ddadl hon.

Ein neges ganolog yw na fydd iechyd meddwl a lles y boblogaeth yn gwella, ac y gallai waethygu mewn gwirionedd, oni bai bod camau effeithiol yn cael eu cymryd i gydnabod a mynd i’r afael ag effaith trawma, a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas ac achosion ehangach iechyd meddwl gwael.

Mae’r croeso a gafodd ein hadroddiad gan sefydliadau fel Conffederasiwn GIG Cymru, y Samariaid, Mind Cymru, a mwy na 100 o glinigwyr, sydd wedi llofnodi llythyr agored a gydgysylltwyd gan Seicolegwyr dros Newid Cymdeithasol Cymru, yn dangos pa mor gryf y mae’r neges hon yn atseinio ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym am i’r neges hon, ac uchelgais clir i leihau anghydraddoldebau iechyd meddwl, fod yn ganolog i strategaeth iechyd meddwl newydd Llywodraeth Cymru.

Drwy gydol ein hymchwiliad, daeth yn amlwg mai’r allwedd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yw cysylltiad. Er enghraifft, mae cysylltu iechyd meddwl gwael â’r achosion ehangach yn rhoi cyfle inni fynd i’r afael â’r achosion hynny, nid gosod plastr dros y symptomau'n unig. Gwyddom nad yw mynd i’r afael â’r achosion ehangach yn hawdd—rydym yn deall hynny—ac rydym wedi galw am werthusiad gonest o ba ysgogiadau polisi, deddfwriaethol ac ariannol ar gyfer trechu tlodi a phenderfynyddion cymdeithasol eraill iechyd meddwl sy’n cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhellion mewn egwyddor. Dywedodd fod ei gallu i drechu tlodi'n gyfyngedig heb newid radical yn null gweithredu Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, nid oedd yr ymateb yn dweud unrhyw beth ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’i gilydd, ac roedd yn brin o fanylion am lawer o benderfynyddion ehangach iechyd meddwl a lles, megis tai, trafnidiaeth a mynediad at addysg a chyflogaeth.

Wrth gwrs, nid mater i’r GIG neu wasanaethau arbenigol yn unig yw iechyd meddwl a lles; mae'n llawer ehangach na hynny. Mae'n fater iechyd y cyhoedd ehangach o lawer. Mae iechyd meddwl yn cael ei greu yn ein cymunedau. Mae cysylltiad cymunedol yn hanfodol i atal salwch meddwl, gan hyrwyddo a diogelu lles meddyliol, a chefnogi pobl sy'n byw gyda salwch meddwl.

Mae’n siomedig, ac roeddem ni'n siomedig fel pwyllgor, mai dim ond mewn egwyddor y derbyniodd y Dirprwy Weinidog ein hargymhelliad y dylid sefydlu cyfeiriadur ar-lein ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol a digidol. Dywedodd ymateb y Llywodraeth ei bod, yn hytrach na datblygu cyfeiriadur newydd, yn anelu at wella’r wybodaeth sydd ar gael ac ymwybyddiaeth pobl o sut i gael gafael ar adnoddau. Tynnodd sylw hefyd at y gwasanaethau 111 a 'dewis 2'.

Pan siaradom â’n grŵp cynghori yn gynharach heddiw, adleisiodd ein grŵp cynghori ein barn ein hunain eu bod yn rhwystredig ynghylch yr ymateb hwn, gan ddweud ei fod wedi methu cydnabod y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gael mynediad at y systemau presennol. Nid dyna'r man cyswllt cyntaf bob amser, y gwasanaeth ffôn hwnnw. Mae angen gwneud llawer mwy yn y gymuned. Mae angen cysylltiad rhwng gwasanaethau hefyd. Mae gweithio cydgysylltiedig sy’n canolbwyntio ar unigolion a chydgynhyrchu gyda phobl sydd â phrofiad ac arbenigedd yn allweddol i sicrhau bod pawb yn gallu cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt, pan maent eu hangen ac yn y modd maent eu hangen.

Yn ogystal â nifer o argymhellion i fynd i’r afael â rhwystrau penodol sy’n effeithio ar grwpiau penodol, gwnaethom alw am fap ffordd sy'n nodi camau clir ar lefel genedlaethol a lleol i wella iechyd meddwl ymhlith pobl niwrowahanol, gan gynnwys sut y gellid gwneud y broses o asesu a gwneud diagnosis o niwrowahaniaeth yn fwy hygyrch. Derbyniodd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn, ond yn siomedig, ni ddarparodd yr ymateb y map ffordd yr oeddem wedi gofyn amdano. Roedd ein grŵp cynghori hefyd yn siomedig. Roeddent wedi gobeithio cael mwy o fanylion am aelodau'r grŵp cynghori gweinidogol ar niwrowahaniaeth, ac nid oedd yr ymateb yn eu darbwyllo bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r model cymdeithasol o anabledd nac i flaenoriaethu cymorth i bobl niwrowahanol â chyflyrau sy’n cyd-ddigwydd.

Gan edrych tua'r dyfodol, mae adolygu ac adnewyddu strategaeth iechyd meddwl Llywodraeth Cymru yn gyfle gwerthfawr i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl ac ymgorffori anghenion cymunedau amrywiol yn null Cymru o weithredu ar iechyd meddwl. Os yw’r strategaeth iechyd meddwl newydd yn mynd i gyflawni camau gweithredu ystyrlon ac effeithiau diriaethol ar lawr gwlad, mae angen i ni hefyd gael y cysylltiad hwnnw o fewn y Llywodraeth. Mae'n rhaid inni weld gwaith trawslywodraethol effeithiol, gan gynnwys cydgysylltu â chynlluniau a pholisïau perthnasol eraill, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â grwpiau sy’n profi anfantais. Er mwyn ein helpu i fonitro hyn, fe wnaethom alw am ddiweddariad blynyddol ar y cynnydd a wneir ar weithredu ein hargymhellion, gyda’r diweddariad cyntaf i’w ddarparu ym mis Rhagfyr 2023. Fel ein grŵp cynghori, roeddem yn siomedig ac yn rhwystredig mai dim ond ymrwymo i ddarparu diweddariadau pan fydd y Llywodraeth yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny a wnaeth y Llywodraeth.

Drwy dderbyn argymhelliad, mae'r Llywodraeth yn ymrwymo i roi’r argymhelliad hwnnw ar waith. Mae monitro cynnydd ar ymrwymiadau o’r fath yn rhan bwysig o’n rôl yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae diweddariadau'n hanfodol i’n helpu i ddeall pa argymhellion sydd wedi’u cwblhau, ar ba rai y mae angen rhagor o waith, a lle gallai amgylchiadau esblygol olygu y gallai safbwynt Llywodraeth Cymru ar argymhelliad penodol fod wedi newid. Mae gwybodaeth o’r fath nid yn unig o ddiddordeb ac o werth i ni fel pwyllgor, ond hefyd i Aelodau eraill o’r Senedd ac i randdeiliaid allanol, y mae llawer ohonynt wedi rhoi cryn dipyn o amser, egni ac adnoddau i gyfrannu at ein gwaith. Ein barn ni yw bod diweddariadau blynyddol yn briodol ac yn gymesur, a hoffwn annog y Dirprwy Weinidog i ailystyried ei hymateb a gwneud yr ymrwymiad hwnnw heddiw.

Yn gyffredinol, mae ein hadroddiad yn darparu gweledigaeth uchelgeisiol a gobeithiol ar gyfer lleihau anghydraddoldebau a gwella iechyd meddwl a lles yng Nghymru. Gwn ei bod yn agenda y mae’r Dirprwy Weinidog wedi ymrwymo’n bersonol iddi, ac mae'r ffaith ei bod wedi gallu derbyn y rhan fwyaf o’n hargymhellion i’w chroesawu, er mai mewn egwyddor yn unig y derbyniwyd rhai ohonynt. Fodd bynnag, fel pwyllgor, rydym yn rhannu siom ein grŵp cynghori ar-lein nad oedd yr ymateb yn adlewyrchu uchelgais ein hadroddiad yn llawn. Disgrifiodd Platfform yr ymateb yn ddiweddar fel cyfle a gollwyd, ac rwy'n eu dyfynnu yma:

'Gallai hyn fod wedi bod yn drobwynt beiddgar arall yn ein gwlad, i bennu cyfeiriad newydd yn y gwasanaethau cyhoeddus a thu hwnt. Yn hytrach, mae’n teimlo fel pe bai dyfnder yr adroddiad, a’r goblygiadau i Gymru, wedi’u methu. Mae angen gweledigaeth ac arweiniad clir i sicrhau'r newid sydd ei angen yma.'

Gwahoddaf y Dirprwy Weinidog i rannu ei gweledigaeth ar gyfer cau’r bwlch anghydraddoldeb iechyd meddwl, fel y gallwn sicrhau bod Cymru yn lle sy’n helpu pobl i feithrin a chynnal eu hiechyd meddwl a lles; lle sy'n cefnogi pobl pan fyddant yn dioddef iechyd meddwl gwael; lle sy'n gweld pobl fel mwy na'u cyflyrau'n unig; a lle mae cymunedau, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus ehangach wedi'u cysylltu ac yn gallu nodi ac ymateb i anghenion pobl. Edrychaf ymlaen at y ddadl y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.

15:15

Yn gyntaf, gaf i ddiolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor am gael cydweithio ar yr adroddiad yma? Diolch i'r holl staff clercio, ymchwil, a staff cefnogol sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith. Ac, wrth gwrs, diolch i bawb siaradodd mor agored efo ni, fel arbenigwyr ac unigolion efo profiadau uniongyrchol. A dwi am roi sylw yn arbennig i'r grŵp fu'n ein cynghori ni, a hynny'n seiliedig ar eu profiadau nhw, ac mae nifer, fel rydym ni wedi clywed, yma yn y Senedd yn y galeri heddiw.

Mae hwn yn un arall o'r adroddiadau yna roedden ni angen ei wneud. Ydy, mae o yn bwrw goleuni eto ar iechyd meddwl yn gyffredinol, yn ein hatgoffa ni pa mor bwysig ydy hi i siarad am iechyd meddwl a pha mor bwysig ydy gweithredu gan Lywodraeth i wella'r ddarpariaeth sydd ar gael. Ond mae hwn yn adroddiad sydd yn mynd yn ddyfnach na hynny hefyd, yn canolbwyntio ar y ffaith bod problemau iechyd meddwl yn fwy tebyg o daro rhai pobl, rhai grwpiau, rhai cymunedau fwy nag eraill, ac yn aml iawn y rheini sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd i gael help. Mae'r adroddiad yn mynd at wraidd llawer o broblemau iechyd meddwl o'r dechrau un, efo'r argymhelliad cyntaf un yn cyfeirio at y gair 'trawma' sydd yn cael ei glywed yn amlach erbyn hyn, dwi'n falch o ddweud—y ffactorau hynny mewn bywyd sydd i raddau helaeth yn ein gwneud ni beth ydym ni.

Mae cyflwr ein hiechyd meddwl yn cael ei siapio gan ein hamgylchiadau cymdeithasol, ein sefyllfa economaidd ac ati, ac mae anghydraddoldebau yn creu trawma. Felly, allwn ni ddim rhoi label 'iechyd' yn unig ar iechyd meddwl—mae taclo problemau iechyd meddwl yn golygu sortio tai, addysg, swyddi, y wladwriaeth les ac yn y blaen. A dyna pam bod argymhelliad 2 yn gofyn am arfarniad onest gan Lywodraeth Cymru o beth yn union ydy'r lifers sydd ganddyn nhw i fynd i'r afael â’r ffactorau yna sy'n creu a dyfnhau anghydraddoldebau a sut i'w defnyddio nhw. Rydyn ni angen adnabod pa bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru, pa bwerau sydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, lle mae'r crossover rhwng y ddau, lle mae angen cydweithio, achos heb daclo'r hyn sy'n creu anghydraddoldebau sy'n sail i gymaint o broblemau iechyd meddwl, fyddwn ni ddim yn gallu gwneud gwir wahaniaeth.

Y nod, wrth gwrs, ydy ceisio atal problemau iechyd meddwl rhag troi yn grisis, ond weithiau, wrth gwrs, mi fydd pobl yn canfod eu hunain mewn sefyllfa o grisis, a dyna pam bod gwendidau parhaus efo llawer o'r ddarpariaeth iechyd meddwl acíwt dal yn achosi cymaint o bryder inni. Dim ond wythnos yn ôl mi gafwyd cadarnhad bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael ei erlyn mewn perthynas â cholli bywyd claf yn uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd yn 2021, a hynny ar ôl i'r bwrdd gael ei dynnu allan o fesurau arbennig, er ei bod hi'n reit amlwg bod yna broblemau sylweddol yn parhau i wynebu'r gwasanaeth penodol hwnnw. Felly, mi barhawn ni i sgrwtineiddio'r ddarpariaeth acíwt.

Ond yn ôl at yr adroddiad yma, sydd yn rhoi iechyd meddwl mewn mwy o gyd-destun na hynny. Mi wna i droi at ymateb y Llywodraeth. Mae gen i ofn fy mod i a'n bod ni fel pwyllgor, fel y dywedodd y Cadeirydd, yn siomedig iawn efo ymateb y Llywodraeth y tro hwn. Wrth drafod efo'n grŵp cynghori ni—pobl, fel y dywedais i, sy'n gallu siarad o brofiad personol; pobl a oedd yn falch iawn o fod wedi gallu cyfrannu atebion, cyfrannu atebion a syniadau ar sut i gryfhau gwasanaethau—dwi ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi gweld cymaint o siom mewn ymateb Llywodraeth. Roedden nhw'n croesawu'r adroddiad gan y pwyllgor ac yn ei ddisgrifio fo fel dogfen a oedd yn wir adlewyrchu eu gofynion nhw. Mi roedden nhw wedi cael siom wedyn yn niffyg pendantrwydd yr ymateb gan y Llywodraeth—y methiant i gytuno i amserlen glir ar gyfer gweithredu, er enghraifft.

Mi wna i roi sylw i argymhelliad 22, achos mae hwnnw'n crynhoi'r rhwystredigaeth. Gofyn mae hwn am i'r Llywodraeth adrodd yn ôl yn flynyddol ar eu cynnydd yn erbyn y cyfres o argymhellion rydyn ni wedi'u gwneud yn ein hadroddiad. Er mai derbyn mewn egwyddor oedd yr ymateb, waeth i'r Llywodraeth fod wedi'i wrthod o ddim, achos eu hymateb oedd y byddan nhw'n adrodd am gynnydd mewn perthynas â'r argymhellion 'fel y bo'n briodol'. Rhan o'n gwaith sgrwtini ni fel pwyllgor a ni fel seneddwyr ydy'r adroddiad yma, ac eto mae'r Llywodraeth yn dweud y byddan nhw'n derbyn sgrwtini ar eu telerau eu hunain. Dydy hynny, Ddirprwy Lywydd, dwi'n credu, ddim yn dderbyniol.

Mae'n wir ddrwg gen i dros yr aelodau o'r grŵp cynghori sy'n ofni bod eu hamser nhw wedi cael ei wastraffu, ond gadewch i ni roi ymrwymiad nad ydy eu hamser nhw wedi cael ei wastraffu, ac y byddwn ni'n parhau i geisio bwrw'r maen i'r wal nes y byddwn ni'n gallu gweld bod pob cam posib yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl a'r anghydraddoldebau sy'n achosi cymaint ohonyn nhw.

15:20

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a siaradodd â ni am fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru. Cawsom 90 o ymatebion, ac i lawer o’r rheini a roddodd dystiolaeth, roedd yn seiliedig ar eu profiadau neu eu harbenigedd yn y maes hwn. Ni all geiriau wneud cyfiawnder â pha mor anhunanol, dewr a phenderfynol rydych chi i wneud hyn, ac mae eich tystiolaeth yn gweu drwy ein hadroddiad ar ei hyd. Gwn fod y cyfrifoldeb hwn i chi wedi bod yn hollbwysig i mi a'm cyd-Aelodau a chlercod y pwyllgor a'r staff cymorth. Rwyf hefyd yn falch fod yr adroddiad wedi'i groesawu'n eang gan randdeiliaid, ac rwy’n gwerthfawrogi cyfraniad pawb sydd wedi cysylltu â mi i rannu eu barn a’u hymatebion. Diolch i bob un ohonoch, ac i’n Dirprwy Weinidog am eich ymateb heddiw, ac am dderbyn y rhan fwyaf o’r argymhellion.

Nid oes unrhyw amheuaeth fod hwn yn adroddiad gwirioneddol arloesol a gyhoeddwyd tuag at ddiwedd y llynedd, a bod ganddo botensial i chwyldroi’r ffordd rydym yn ymdrin ag iechyd meddwl yn ein gwlad. Fel y mae ein Cadeirydd wedi’i nodi, mae cyswllt annatod rhwng ein hiechyd meddwl a’n hiechyd corfforol, emosiynol ac ysbrydol, a’r amgylchiadau rydym yn byw ynddynt. Mae gan bob un ohonom anghenion dynol sy’n rhaid eu diwallu os ydym am ffynnu, ond mae tystiolaeth yn dangos bod rhai grwpiau a chymunedau mewn mwy o berygl o iechyd meddwl gwael nag eraill, ac y gallai grwpiau o’r fath ei chael hi'n anos nag unrhyw grŵp arall felly i gael mynediad at y gwasanaethau.

Mae hyn wedi cael ei gefnogi gan Gynghrair Iechyd a Lles Conffederasiwn GIG Cymru. Fe wnaethant nodi ffeithiau a ffigurau llwm iawn, lle dywedasant fod bron i dri chwarter y mamau â babanod newydd-anedig yn dweud bod costau byw yn effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles meddyliol. Mae hyn yn peri pryder o ystyried y nifer uchel o achosion eisoes o broblemau iechyd meddwl amenedigol, a all effeithio ar y fam a’r plentyn, a’r risg o hunanladdiad yn y grŵp hwn ledled Cymru.

Hefyd, mae pobl â salwch meddwl difrifol, fel sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol, mewn mwy o berygl o iechyd corfforol gwael, ac yn marw 15 i 20 mlynedd yn gynharach ar gyfartaledd na’r boblogaeth gyffredinol. Amcangyfrifir bod dwy ran o dair o'r marwolaethau hyn yn deillio o salwch y gellir ei atal. Mae pobl o grwpiau ethnig leiafrifol yn wynebu risg sylweddol uwch o gael eu cadw’n anwirfoddol oherwydd rhesymau seiciatrig o gymharu â phobl o grwpiau ethnig gwyn.

I ddechrau, hoffwn ddweud fy mod yn falch iawn o weld bod argymhelliad 10 wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Argymhelliad oedd hwn i gymeradwyo argymhelliad 1 a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ein hadroddiad ym mis Hydref 2022 ar drais ar sail rhywedd. Roedd yr adroddiad hwn yn ymwneud ag anghenion menywod mudol, ac yn nodi y dylai Llywodraeth Cymru ystyried creu a chynnal cyfeiriadur o gyfieithwyr cydnabyddedig. Felly, rwy’n falch iawn o weld bod hwnnw wedi’i dderbyn.

Fodd bynnag, hoffwn ofyn heddiw am eglurhad pellach ynglŷn â pham mai mewn egwyddor yn unig y derbyniwyd argymhellion 11, 12 a 13. Argymhelliad 11 yw i

'gyhoeddi’r deilliannau allweddol a mesurau ansoddol a meintiol ar gyfer effaith y fframwaith ystyriol o drawma i Gymru, a rhoi fframwaith gwerthuso cadarn ar waith.'

Rwy'n deall bod hyn yn dod o dan bortffolio arall o bosibl, ond os gallwch ymhelaethu, Ddirprwy Weinidog, ar rôl eich adran yn hyn o beth, os gwelwch yn dda, a sut y byddwch yn gweithio ar draws y portffolios hynny, byddai hynny'n wych. Diolch.

Mae argymhelliad 12 yn debyg yn yr ystyr ei fod hefyd yn galw am welliannau yn y ddarpariaeth o wybodaeth am

'ymlyniad ac iechyd y berthynas rhwng rhiant a phlentyn i rieni beichiog a rhieni newydd'.

Ond mewn egwyddor yn unig y cafodd hyn ei dderbyn hefyd. Unwaith eto, fe wnaethom ofyn am ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru ar y gwaith hwn erbyn mis Rhagfyr 2023, ond nid oedd unrhyw sôn am hyn yn yr ymateb. Dywed, yn lle hynny,

'Byddwn yn ystyried pa gamau eraill y gallwn eu cymryd er mwyn datblygu gwaith ar y berthynas rhwng rhiant a baban drwy ddysgu a gynllunnir, gan gynnwys meysydd dysgu posibl sy'n deillio o'r modelau cyflawni a’r dulliau sy'n cael eu treialu drwy brosiectau braenaru’r blynyddoedd cynnar.'

A allwch ddweud mwy wrthym heddiw, felly, am y prosiectau peilot hyn a phryd y disgwylir iddynt gael eu cwblhau, a beth y gobeithir ei gyflawni o'r rhain?

Yn olaf, mewn perthynas ag argymhelliad 13, mae’n datgan:

'Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a sefydliadau cymunedol i ddefnyddio canlyniadau ei hymarfer mapio gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol diweddar i gydgynhyrchu cyfeirlyfr ar-lein o wasanaethau cymunedol a digidol sydd ar gael yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ledled Cymru.'

Ond fel rydym wedi trafod heddiw gyda’r grŵp cynghori rhanddeiliaid, a ddaeth i mewn i siarad â ni a rhoi rhywfaint o adborth i ni, yn yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, mae’n nodi bod gennym wefan GIG 111. Ond os edrychwch drwy'r enghreifftiau sydd yno o ble y gallwch gael cymorth, gan amlaf mae angen ichi gael atgyfeiriad gan feddyg teulu. Dywedwyd hynny hefyd yn ymateb Llywodraeth Cymru ynglŷn â Dewis, ond eto, os edrychwch drwy hwnnw, nid yw'n ddim mwy na chyfeiriadur sy'n nodi pwy yw eich optegwyr lleol a’ch deintyddion a’ch meddygon teulu. Ac mewn gwirionedd, dywedwyd wrthym heddiw gan y grŵp cynghori fod llawer o'r dolenni ddim yn gweithio.

Hoffwn dynnu sylw at rywfaint o gydgynhyrchu da gan Huw Irranca-Davies, yr Aelod o'r Senedd dros Ogwr, a minnau yn ein bwrdeistref sirol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle daethom ynghyd gyda’n holl grwpiau a gwasanaethau iechyd meddwl lleol. Fe wnaethom ofyn iddynt beth y gallem ei wneud i’w helpu, a dywedasant, 'Byddem wrth ein bodd yn cael gwefan ar gyfer ein grwpiau lleol yn unig. Efallai nad ydym yn cael ein hariannu gan arian cyhoeddus, efallai nad ydym yn gyrff a gyfansoddwyd, ond rydym allan yn y gymuned, ac rydym yn gwneud gwahaniaeth mawr.'

Yn olaf, hoffwn ddweud, yn gyffredinol, mai rhan allweddol o'n hargymhellion oedd gofyn am yr amserlenni ar gyfer mesurau perfformiad a sut y dylid eu datblygu a sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau. Maent yn gamau gweithredu traws-sector a thrawslywodraethol cydlynol i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd meddwl hyn. Fel y clywsom heddiw gan ein rhanddeiliaid, roeddent yn dweud, 'Dim byd i ni hebom ni', ac rwy'n gobeithio y cawn glywed mwy heddiw, Ddirprwy Weinidog, ynglŷn â sut y gallwn fwrw ymlaen i wneud hynny. Diolch.

15:25

Nid wyf yn aelod o’r pwyllgor, ond hoffwn ddiolch o galon i’r pwyllgor ac i’r Aelodau sydd wedi cyflwyno’r adroddiad hwn, ond yn fwy penodol, i’r rhanddeiliaid a gyfrannodd ato. Ni chredaf fod unrhyw un yma yn y Siambr hon, nac yn wir, unrhyw Aelod o'r Senedd, nad yw materion iechyd meddwl wedi cael effaith uniongyrchol arnynt. Rwy'n siŵr ein bod yn gwybod am rywun, neu efallai ein bod ni ein hunain wedi wynebu'r mathau hyn o broblemau, ac felly mae'n adroddiad mor bwysig, ac rwy'n gobeithio y gallwn gael dadl dda a cheisio symud pethau yn eu blaen.

Hoffwn ganolbwyntio ar dri pheth yn yr adroddiad, os caf: gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, CAHMS; rôl tlodi mewn iechyd meddwl; a chadernid cymunedol. Felly yn gyntaf, CAMHS. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar blant a theuluoedd a phlant yn ein gofal, mae dirywiad parhaus yn ein gwasanaethau CAMHS. 'Mae CAMHS yn jôc.' Nid fi sy'n dweud hynny; daw hynny gan Senedd Ieuenctid Cymru, a welodd nad yw pobl ifanc yn gweld unrhyw bwynt yn y gwasanaeth, oherwydd y cymorth annigonol a’r amseroedd aros hir. O fy rôl flaenorol fel gweithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, gwn nad yw wedi newid. Mae CAMHS yn cael ei ystyried yn wasanaeth yr hwyr go iawn, gwasanaeth sydd mor anodd cael mynediad ato, ac os ydych ynddo, mae mor anodd gallu cynnal gwasanaeth sy’n diwallu eich anghenion. Mae CAMHS mewn sefyllfa enbyd nid yn unig yng Nghymru ond ledled DU, ac mae arnynt angen buddsoddiad sylweddol, a chryn dipyn o arian ac adnoddau newydd i sicrhau bod therapi o safon ar gael i bobl ifanc.

Yn ail, tlodi. Mae’r adroddiad yn amlygu effaith ddinistriol tlodi ac anghydraddoldeb ar iechyd meddwl a’r angen am ymagwedd fwy cyfannol tuag at iechyd meddwl, ymagwedd sy'n ystyriol o drawma. Mae tlodi ac iechyd meddwl yn stryd ddwy ffordd. Gall tlodi fod yn achos ac yn ganlyniad iechyd meddwl, yn ogystal â bod yn rhwystr i iechyd meddwl. Felly, mae gwir angen inni edrych ar y materion sy'n ymwneud ag anghydraddoldeb ac iechyd meddwl, a rhoi hwb gwirioneddol i'n hymagwedd at iechyd meddwl yn y cymunedau y mae tlodi'n effeithio arnynt. Fel y clywsom, mae Platfform wedi nodi'n glir yn eu maniffesto ar gyfer newid 2022 fod anawsterau iechyd meddwl yn effeithio’n anghymesur ar bobl mewn tlodi, neu sy’n byw mewn cymunedau sydd wedi cael eu gadael ar ôl.

Mae angen inni gael ymatebion beiddgar i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, megis incwm sylfaenol cyffredinol, sydd wedi arwain at ganlyniadau iechyd meddwl sylweddol yn y cynlluniau peilot a gyflawnwyd hyd yn hyn. Rwyf am sôn am ddau ohonynt. Yn astudiaeth incwm sylfaenol cyffredinol ddwy flynedd y Ffindir, nododd y cyfranogwyr lai o straen iechyd meddwl, llai o iselder a llai o dristwch ac unigrwydd na'r grŵp rheoli, ac yn gyffredinol, roeddent yn llawer mwy bodlon â'u bywydau. Ac yn ail, mewn arbrawf tebyg yng Nghanada, gwelwyd gostyngiad o 8.5 y cant mewn derbyniadau i'r ysbyty a llai o gyswllt â meddygon ynghylch iechyd meddwl. Mae hyd yn oed y Prif Weinidog yn cydnabod manteision incwm sylfaenol cyffredinol i iechyd meddwl, gan iddo ysgrifennu rhagair i adroddiad diweddar gan Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ar fanteision polisi o’r fath i iechyd meddwl. Ac yn amlwg, rydym yn falch iawn o weld y cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol gyda phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yma yng Nghymru, ac rydym yn gobeithio gweld cydnabyddiaeth sylweddol i'r agwedd benodol honno. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ganddi i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a’r niwed meddyliol enfawr a wnânt i'n cymunedau tlotaf.

Ac yn olaf, cadernid cymunedol. Fel y clywsom gan Sarah, mae'r adroddiad yn cydnabod y rhan y mae cymunedau’n ei chwarae yn atal salwch meddwl. Ac eto, mae sefydliadau cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector yn dal i'w chael hi'n anodd cael cyllid cynaliadwy a hirdymor. Mae angen gwneud mwy i helpu i adeiladu capasiti grwpiau lleol fel y gallant ddarparu a datblygu gwasanaethau heb ofni y bydd y cyllid yn diflannu. Unwaith eto, fel y mae Platfform wedi'i nodi yn eu hadroddiad, mae datrys yr argyfwng iechyd meddwl yn ymwneud â mwy na mynediad at therapïau neu greu mwy o wasanaethau yn unig, mae'n ymwneud â chreu cymunedau iach, ffyniannus lle gall pobl dyfu, byw a gwella. Mae ein strategaeth iechyd meddwl yn cydnabod bod angen inni fwrw ymlaen â'r gwaith o greu cymunedau cadarn, ac edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog ar y materion penodol hynny. Diolch yn fawr iawn.

15:30

Lywydd, pan ffurfiwyd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Senedd hon, cyflawnodd aelodau'r pwyllgor waith i dynnu sylw at ba feysydd y byddent yn hoffi edrych arnynt yn y pum mlynedd nesaf, ac roedd hwn yn un yr oeddwn yn awyddus iawn i'w weld yn digwydd, ac rwy'n credu fy mod yn siarad ar ran holl aelodau'r pwyllgor pan fyddaf yn dweud hynny. Ond rwyf eisiau dweud, Lywydd, fod yr ymchwiliad hwn wedi gadael ei ôl arnaf yn bersonol; rwyf wedi'i chael hi'n anodd yn bersonol. Nid oes gennyf amheuaeth o hynny ac nid oes arnaf gywilydd dweud fy mod wedi gweld yr ymchwiliad hwn yn anodd, roeddwn yn ei chael hi'n anodd drwy gydol yr ymchwiliad, am fod y cynnwys yn taro tant i'r fath raddau. Rwyf wedi siarad o'r blaen yn y Siambr hon, Lywydd, am fy mhroblemau fy hun yn dilyn trawma, ac fe wnaeth yr ymchwiliad hwn herio fy iselder a fy anhwylder straen ôl-drawmatig parhaus. Er hynny, rwy'n ymwybodol na allai fod wedi bod yn hawdd i aelodau eraill y pwyllgor, tîm y pwyllgor, y grŵp cynghori sydd wedi bod yma y prynhawn yma, ac wrth gwrs, y tystion a roddodd dystiolaeth drwy gydol yr ymchwiliad. A hoffwn fanteisio ar y cyfle, Lywydd, os caf, i dalu teyrnged arbennig i fy nghyd-Aelod a fy nghyfaill, Ken Skates, a gamodd i'r adwy, a chymryd fy lle, pan oedd hi'n rhy anodd imi barhau â'r gwaith.

Nid oeddwn yn mynd i siarad heddiw, Lywydd, ond mewn gwirionedd, roeddwn yn teimlo bod angen i mi siarad heddiw. Rwy'n credu bod yr adroddiad hwn a'r ddadl hon yn pwysleisio pwysigrwydd iechyd meddwl yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Lywydd, rwyf wedi siarad droeon yn y Siambr hon am bwysigrwydd gwell gwasanaethau iechyd meddwl. Ni fydd yn syndod, Lywydd, pan ddywedaf fy mod eisiau i'r gwasanaethau hynny fod yn fwy ystyriol o drawma, neu efallai, yn fwy caredig. Nid ychwanegiad yw hwn. Os ydym am ddylunio gwasanaethau sy'n cefnogi pobl sydd wedi profi trawma'n aml, y gwyddom y byddant yn ymateb yn wahanol i unrhyw un sydd mewn awdurdod, mae'n rhaid i ni ymgorffori'r dull hwn yn ein gwasanaethau iechyd meddwl. Ac rwyf am dreulio'r ychydig amser sydd gennyf y prynhawn yma i ganolbwyntio fy sylwadau ar argymhelliad 2, sydd eisoes wedi cael ei grybwyll gan Gadeirydd y pwyllgor yn ei sylwadau agoriadol, a chan Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hefyd.

Nawr, mae lliniaru tlodi yn allweddol, a chredaf ein bod ni i gyd yn y Siambr hon yn deall nad yw'r holl ysgogiadau yn nwylo Llywodraeth Cymru. A bod yn onest—ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen, Lywydd—methiant Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â lefelau cynyddol o dlodi sydd wrth wraidd yr argyfwng iechyd meddwl sy'n ein hwynebu. Ond rhaid imi ddweud, roeddwn yn synnu nad oedd ymateb Llywodraeth Cymru yn dewis tynnu sylw at y gwaith sy'n digwydd yma yng Nghymru. Tai gwael ac ansicr—anfantais enfawr i iechyd meddwl pobl. Dyma ran o'r rheswm pam ein bod ni yng Nghymru mor benderfynol o adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr. Yn yr un modd, y rhaglen prydau ysgol am ddim—ymyrraeth uniongyrchol i gefnogi pobl ar adeg pan fo mwy o angen cefnogaeth nag erioed. Rydym wedi clywed y Gweinidog addysg yn sôn y prynhawn yma am y cynnydd yn y lwfans cynhaliaeth addysg—unwaith eto, ymyrraeth hanfodol. Ac rydym wedi clywed Jane Dodds yn cyfeirio at y peilot incwm sylfaenol a'r hyn y mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ei gynnig. A thrwy ein cynllun peilot, rydym yn cefnogi un o'r carfanau mwyaf difreintiedig o bobl—pobl sy'n gadael gofal. Ac o'r sgyrsiau a gefais gyda phobl sy'n gadael gofal, a rhieni â phrofiad o ofal, drwy fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, rwy'n gwybod cymaint o wahaniaeth y bydd y treial hwn yn ei wneud. 

Mae'r rhain i gyd yn bethau rwy'n falch ohonynt fel Aelod Llafur Cymru, ac rwy'n falch o'r Llywodraeth am eu gwneud. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog, y Dirprwy Weinidog, fyfyrio ar y gwaith pwysig sydd ger ein bron heddiw, myfyrio ar yr ymateb, myfyrio ar y pethau sy'n digwydd, oherwydd rydym yn gwneud pethau yng Nghymru, ond dylem fod yn gwneud mwy; nid oes amheuaeth ynglŷn â hynny. Ac wrth ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma, i ymateb yn yr un ysbryd cydweithredol y credaf fod yr argymhelliad hwn yn arbennig, argymhelliad 2, a'r adroddiad cyfan wedi'i lunio ynddo. Lywydd, rwyf am ddirwyn i ben drwy ddweud ar y dechrau fod hwn yn ymchwiliad anodd i mi'n bersonol, ond mae'n rhaid iddo gael ei wneud. Diolch i'r Aelodau, ac rwy'n adleisio sylwadau'r Aelodau, a'r hyn y maent wedi'i ddweud am eraill, a phawb sy'n rhan o'r ymchwiliad hwn heddiw. Diolch yn fawr.

15:35

Rwyf am ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i Gadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am eu hadroddiad ar anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru, ac am daflu goleuni ar yr epidemig iechyd meddwl gwirioneddol sy'n rhy aml yn cael ei gamgymryd ac sy'n cael statws is nag iechyd corfforol, ac ni all hynny fod yn iawn. Un elfen drawiadol o'r adroddiad oedd argymhelliad 1 i mi, lle mae'n dweud na fydd iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth yn gwella, ac y bydd yn parhau i ddirywio heb weithredu effeithiol i fynd i'r afael ag effaith trawma a gwrthsefyll anghydraddoldebau mewn cymdeithas a phenderfynyddion ehangach iechyd meddwl gwael. Nawr, os nad yw hynny'n dychryn yr Aelodau yma, nid wyf yn gwybod beth sydd, oherwydd mae'n dangos i mi fod angen inni wneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â materion iechyd meddwl yng Nghymru. 

Mae'r adroddiad yn amlinellu cyfanswm o 27 argymhelliad gan y pwyllgor ynghylch sut y gallai Llywodraeth Cymru wella canlyniadau iechyd meddwl pobl Cymru. Er bod pethau cadarnhaol yn y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 17 o'r 27 argymhelliad, mae hyn yn dal i'n gadael gyda'r 10 argymhelliad sydd eto i'w derbyn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn edrych ar y rhain eto gyda'i swyddogion ac y bydd, gobeithio, yn cyflwyno'r rhain hefyd. Nid fi oedd yr unig un i gael fy siomi gan ymateb Llywodraeth Cymru. Dywedodd y grŵp cynghori o arbenigwyr â phrofiad bywyd eu bod yn siomedig ac yn rhwystredig gydag ymateb Llywodraeth Cymru. Rwy'n gwybod bod llawer o randdeiliaid a gymerodd ran yn yr ymchwiliad hwn wedi dweud bod yna ddiffyg uchelgais, ac nad oes gennym strwythurau cydgysylltiedig i fynd i'r afael â'r materion hyn. Nid fy ngeiriau i yw'r rhain, ond geiriau arbenigwyr ac elusennau o bob cwr o Gymru, ac yn anffodus, nid un digwyddiad yw hwn—yr ymateb hwn gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn gweld ymatebion dro ar ôl tro gan holl adrannau Llywodraeth Cymru, sydd fwy neu lai'n diystyru adroddiadau pwyllgorau a llythyrau pwyllgorau, ac nid yw'n ddigon da, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i ymgysylltu'n well â'r Senedd hon. 

Gallwn i gyd ddarllen yr adroddiad ein hunain a threulio manylion pob un o'r argymhellion. Rhai o'r prif bethau sy'n sefyll allan i mi yw'r argymhellion sy'n ymwneud â symud oddi wrth y sefyllfa bresennol o rannu gwybodaeth fel sy'n briodol a symud tuag at adroddiad blynyddol, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael data mewn modd amserol fel y gallwn graffu ar Lywodraeth Cymru a phob elfen o'i pherfformiad. Rwy'n croesawu'r camau i helpu plant sy'n niwroamrywiol ac sy'n dioddef gyda thrawma iechyd meddwl. Ond rwy'n credu ei bod yn siomedig nad oes gennym amserlenni na map ffordd ar gyfer y gwelliannau hynny. Hoffwn glywed barn y Gweinidog am y rheini heddiw. 

Rwyf am dynnu sylw at argymhelliad 21, a dderbyniwyd gan y Llywodraeth, sy'n gofyn i weision sifil a Gweinidogion Llywodraeth Cymru, wrth wneud penderfyniadau ar holl fusnes y Llywodraeth, argymell sut y byddant yn gwella iechyd meddwl y genedl. Fel y dywedais, rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn hyn, oherwydd mae gwella iechyd meddwl a lles meddyliol pobl Cymru yn fusnes i bawb ar draws y Llywodraeth a'r Senedd hon, ac mae'n gadarnhaol iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn hynny. 

Un o'r pethau a gafodd ei wrthod gan y Llywodraeth oedd argymhelliad 16 ar bresgripsiynu cymdeithasol. Mae'r Gweinidog yn gwybod bod hyn yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi, ac rydym wedi ei drafod ar sawl achlysur—y rôl allweddol y gall ei chwarae yn helpu pobl i ffynnu a lleihau eu dibyniaeth ar feddyginiaeth lle bo hynny'n briodol. Gwn nad yw pob un o'r ysgogiadau yn eich dwylo chi, ond hoffwn glywed mwy am yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud mewn perthynas â phresgripsiynu cymdeithasol. 

Argymhelliad 26: gweithio gyda heddluoedd. Mae hwn hefyd yn argymhelliad pwysig iawn, oherwydd yn rhy aml o lawer, mae ein gwasanaethau brys yn codi'r darnau ac yn ymdrin ag argyfyngau iechyd meddwl acíwt, ar adeg pan ddylai ein gwasanaethau brys fod yn ymdrin â materion eraill. Nid gweithwyr cymdeithasol yw ein heddlu a'r gwasanaethau brys eraill. Felly, mae croeso i unrhyw waith pellach y gall y Llywodraeth ei wneud mewn perthynas â gweithio gyda'r heddlu. 

Mae olynydd strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn rhoi cyfle enfawr i ni yma yng Nghymru i fod yn feiddgar ac uchelgeisiol wrth ddechrau mynd i'r afael â rhai o'r materion a amlinellir yn yr adroddiad. Ac rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn sbardun i ymgorffori arferion gwell ar draws y Llywodraeth, ac fel y dywedais, i ymgorffori rhai o'r argymhellion sydd wedi cael eu cyflwyno yn yr adroddiad hwn.

Fel Gweinidog yr wrthblaid dros iechyd meddwl, rwy'n gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â fy rôl yn y Senedd. Mae gennyf blatfform ac rwyf mewn sefyllfa freintiedig iawn i ofyn cwestiynau i'r Gweinidog yn eithaf rheolaidd a hefyd i'w chyfarfod yn breifat i drafod materion. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod hefyd yn darparu atebion i'r problemau sy'n ein hwynebu, oherwydd rwyf eisiau gweld mwy o atebolrwydd ar draws portffolios y Llywodraeth a gwreiddio'r dull Llywodraeth gyfan o lunio polisi i wella iechyd meddwl pobl Cymru. Mae angen i ni fod yn rhagweithiol a gweithio ar fesurau ataliol lle bo'n bosibl: systemau gwell yn ein hysgolion i gefnogi plant a phobl ifanc cyn iddynt ddod yn oedolion. Dylid cydgynllunio gwasanaethau iechyd meddwl gyda'r bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaethau sydd wrth wraidd popeth a wnânt. A dyna pam rwy'n falch iawn o'r adroddiad hwn a'r argymhellion y mae'n eu hamlinellu. 

Un o'r pethau rwy'n credu y gallem eu gwneud yma yng Nghymru i sefydlu'r adroddiad hwn a gwella pethau yma yng Nghymru yw gweithredu a chael Deddf Iechyd Meddwl unigol yn benodol ar gyfer Cymru, gan greu cyfraith i Gymru yn y maes hwn ar gyfer pobl Cymru, a symud oddi wrth Ddeddf Iechyd Meddwl y DU 1983 a llunio un i Gymru, ar gyfer pobl Cymru. Ac rwy'n credu y dylem o leiaf edrych ar y Mesur iechyd meddwl, ac ailedrych ar hwnnw a gosod targedau a safonau newydd mewn perthynas â sut rydym eisiau gweld iechyd meddwl yn cael ei wella yma yng Nghymru. Cafodd hwnnw ei gyflwyno gan fy nghyn gyd-Aelod, Jonathan Morgan. Mae wedi dyddio, mae angen edrych arno eto a'i wneud yn addas i'r diben ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. 

15:40

Rwy'n dirwyn i ben nawr. Felly, credaf fod hwn yn adroddiad gwych. Mae'n tynnu sylw at lawer o faterion pwysig sydd angen mynd i'r afael â hwy, ac rwy'n credu bod pobl Cymru eisiau gweld gweithredu ar y mater hwn, Weinidog, a newid cyn gynted ag y bo modd. Diolch, Ddirprwy Lywydd.  

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am gynhyrchu'r adroddiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn cynnig cipolwg pwysig iawn ar ein sefyllfa ar hyn o bryd. Rydym yn gwybod bod nifer sylweddol o bobl Cymru yn profi heriau iechyd meddwl. Rydym yn gwybod bod pwysau ehangach, fel yr argyfwng costau byw a'r pandemig, wedi cael ac yn dal i gael effaith ofnadwy, ond fel y mae'r adroddiad yn dangos, mae yna ffactorau creiddiol yn rhan o hyn hefyd. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn cael y drafodaeth a'r gwaith hwn i sicrhau bod y gefnogaeth a'r gwasanaethau priodol ar waith.

Cyn i mi fwrw ymlaen at sylwedd yr adroddiad, rwyf am sôn am rai o'r grwpiau gwych yng Nghwm Cynon sy'n gweithio i sicrhau bod pobl leol yn gallu cael y gefnogaeth honno. Yn aml, mae'r rhain yn bobl leol sy'n cael eu heffeithio gan rai o'r anghydraddoldebau a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad. Datblygodd Signposted Cymru o bŵtcamp cymunedol a gynhaliwyd gan Darren Thomas yn ystod y pandemig. Roedd y rhai a'i mynychai'n dioddef o broblemau iechyd meddwl, ac roedd y bŵtcamp yn cynnig ffocws a nodau. Ers hynny, mae Signposted Cymru wedi tyfu i fod yn elusen hunangynhaliol, gydag enw da haeddiannol am ddatblygu a darparu gwasanaethau iechyd meddwl a lles meddyliol yn y gymuned. Maent yn cynnig ymyrraeth uniongyrchol i unigolion sy'n cael trafferth, yn dioddef ac angen cymorth. Gyda'u gwaith yn ymestyn ledled Cymru, gwn y byddent yn croesawu'r cyfle i ymgysylltu â fy nghyd-Aelodau o'r Senedd, ac edrychaf ymlaen at ymweld â hwy'n fuan gyda Lynne Neagle.

Cafodd Camau'r Cymoedd ei sefydlu fel elusen llesiant i helpu pobl i weithredu i wella eu hiechyd meddwl. Mae eu ffocws ar lesiant bob dydd, wedi'i adeiladu ar gred angerddol y dylai pawb gael cyfle i ddysgu ffyrdd o reoli'r anawsterau seicolegol y gallwn i gyd eu hwynebu.

Yn ddiweddar hefyd, ymwelais ag un o'r grwpiau cymorth sy'n cael eu rhedeg gan Mothers Matter. Maent yn cynnig cefnogaeth gynenedigol ac ôl-enedigol i fenywod a'u teuluoedd yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl i fabanod gael eu geni. Grŵp cymorth lleol yw Friends R Us i bobl sy'n cael eu heffeithio gan heriau iechyd meddwl a'u ffrindiau, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Maent yn cynnig cyfle i bobl ddod at ei gilydd, ymlacio a chymdeithasu mewn awyrgylch cartrefol, hapus. Rwy'n falch o wasanaethu fel eu llywydd a'u cefnogi yn eu gwaith.

I'r grwpiau hyn i gyd: diolch am bopeth rydych yn ei wneud.

Os caf droi at yr adroddiad sydd ger ein bron heddiw, rwyf eisiau cyffwrdd â thri argymhelliad allweddol. Mae argymhelliad 1 yn dweud bod yn rhaid i weithredu effeithiol ac uchelgais clir i leihau anghydraddoldebau iechyd meddwl fod yn ganolog i ddull Llywodraeth Cymru o weithredu ar iechyd meddwl. Rwy'n falch fod Gweinidogion wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Mae'r holl waith da a wnaed gan y grwpiau y soniais amdanynt angen cyfranogiad a fframwaith gan lywodraeth. Mae'n gadarnhaol fod y gwaith hwn yn digwydd. Mae'r rhaglen lywodraethu, wedi'i chefnogi gan £6.3 miliwn o gyllid, yn blaenoriaethu ailgynllunio gwasanaethau i wella atal, mynd i'r afael â stigma a hyrwyddo dull 'dim drws anghywir' ar gyfer cymorth iechyd meddwl. Rwyf hefyd yn dilyn cynnydd mesurau fel '111 dewis 2' am gymorth iechyd meddwl ar unwaith.

Mae argymhelliad 14 yn sôn am bresgripsiynu cymdeithasol. Sefydliad ardderchog arall yng Nghwm Cynon sy'n gwneud gwaith eithriadol yn y maes hwn yw Anturiaethau Organig Cwm Cynon. Mae Janis Werrett a'i thîm wedi gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu model presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd sydd wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Prosiect y Flwyddyn Loteri Genedlaethol Cymru 2021. Mae gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol lleol eisoes yn troi atynt, ond hoffwn weld hyn yn cael ei gryfhau a'i ddyfnhau, a hoffwn weld eu llwyddiant yn cael ei gyflwyno fel model mewn rhannau eraill o Gymru.

Ac yn olaf argymhelliad 24, sy'n ymwneud â chasglu a chyhoeddi data. Rwy'n credu bod hyn yn sylfaenol bwysig os ydym am fonitro ac olrhain cynnydd i weld a yw ymyriadau'n cael yr effaith angenrheidiol. Roeddwn yn falch o weld y mesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd mewn ymateb i hyn. Edrychaf ymlaen at weld y data'n cael ei gyhoeddi maes o law, fel y gallwn ddilyn cynnydd a sicrhau iechyd meddwl da, a mynediad da at wasanaethau iechyd meddwl da, i bob dinesydd yng Nghymru.

15:45

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am y cyfle i gamu i'r adwy fel dirprwy i fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod Jack Sargeant, sydd wedi dangos eto heddiw sut y gall trawma a salwch meddwl effeithio ar bob un ohonom ar ryw adeg mewn bywyd? 

Hoffwn ganolbwyntio ar argymhelliad 21, os caf. Mae eisoes wedi cael ei grybwyll gan James Evans, ac fe'i derbyniwyd mewn egwyddor gan y Dirprwy Weinidog. Nawr, mae pob un ohonom yn cytuno bod angen i iechyd meddwl fod yn flaenoriaeth drawslywodraethol, nid yn unig fel dyhead, ond yn ymarferol hefyd. Ac ydy, mae argymhelliad 21 yn ymwneud â phroses i raddau helaeth, ond mae proses yn cyfrif—yn aruthrol felly wrth fynd i'r afael â'r hyn a elwir yn ysfa i adranoli, sy'n gallu effeithio nid yn unig ar Weinidogion, ond hefyd ar weision sifil. Byddai gweithredu argymhelliad 21 yn sicrhau nad yw ffiniau portffolio'n mynd yn y ffordd, ac nad ydynt yn rhwystr rhag cyflawni a gwella. Felly, fan lleiaf, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i dderbyn argymhelliad 21 yn llawn, ac nid mewn egwyddor yn unig, o ran yr hyn a elwir yn gyflwyniadau cyngor gweinidogol—'MAs' o fewn y Llywodraeth. Cyflwyniadau hanfodol bwysig sy'n galw am benderfyniad gan y Gweinidog priodol yw'r rhain.

Dylai iechyd meddwl fod yn ystyriaeth, yn fy marn i, ym mhob cyflwyniad cyngor gweinidogol os ydym am newid y diwylliant er gwell o fewn y Llywodraeth a sicrhau bod gwelliannau i iechyd meddwl, a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y ddarpariaeth o wasanaethau, yn wirioneddol drawslywodraethol ei natur. Dyma argymhelliad heb unrhyw gost i Lywodraeth Cymru, a fyddai, fel y dywedaf, yn newid diwylliant y sefydliad er gwell ac yn sicr yn helpu'r Dirprwy Weinidog yn ei rôl hanfodol o fewn y Llywodraeth.

Yn olaf, fel y mae llawer o bobl eraill eisoes wedi'i wneud, hoffwn ddiolch i'r holl unigolion a sefydliadau a gyfrannodd gymaint at yr ymchwiliad hwn. Mae'n adroddiad hynod o bwysig. Bydd yr argymhellion niferus iawn, gobeithio, yn cael eu hystyried ymhellach gan Lywodraeth Cymru. Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb, ac edrychaf ymlaen at glywed ei meddyliau a'i safbwyntiau pellach y prynhawn yma yn ystod y ddadl hon.

15:50

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith manwl ar yr adroddiad hwn? O fy nghyfnod i fel Cadeirydd pwyllgor, rwy'n gwybod faint o waith yw cynhyrchu adroddiad o'r natur hwn. Fel Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, rwy'n benderfynol o wneud popeth yn fy ngallu i sicrhau bod cydraddoldeb a mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, a chanlyniadau'r gwasanaethau hynny, mor dda ag y gallant fod.

Rwy'n cydnabod, er gwaethaf gwelliannau, y bydd yna bobl sydd heb gael y profiad y byddent hwy a ninnau eisiau iddynt ei gael. Mae clywed gan bobl a gweithio gyda phobl sydd â phrofiad bywyd o'n gwasanaethau yn allweddol i ysgogi'r gwelliannau sydd eu hangen arnom. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a ymgysylltodd â'r pwyllgor drwy eu panel cynghori.

Fel y dywedodd yr Aelodau, o'r 27 o argymhellion yn adroddiad y pwyllgor, fe wnaethom dderbyn 17 yn llawn a naw arall mewn egwyddor. Nawr, rwy'n gwybod, o fy nghyfnod i fel Cadeirydd pwyllgor, fod pwyllgorau'n aml heb fod yn hoff o ymatebion 'derbyn mewn egwyddor', ac rwy'n deall hynny. Ond rwyf am ddweud—a byddaf yn ceisio mynd ar drywydd rhai o'r ymatebion 'derbyn mewn egwyddor' yn fy ymateb—ym mhob achos lle rydym wedi gwneud hynny, mae'n digwydd am fod gwaith eisoes ar y gweill, neu am na allwn gydymffurfio â holl fanylion yr argymhelliad.

Gadewch i mi sicrhau'r pwyllgor a'r panel cynghori ein bod wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ym maes iechyd meddwl. Mae'n faes ffocws yn ein strategaeth bresennol, fel y nodais mewn cryn fanylder pan ddeuthum i'r pwyllgor, a siarad am gynlluniau ym maes cyflogaeth, tai, mynd i'r afael â thlodi ac yn y blaen, a bydd yn ganolog i ddatblygiad ein strategaeth olynol yng Nghymru.

I gefnogi hyn, rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r bobl sydd â phrofiad bywyd o wasanaethau, gan gynnwys ein fforwm cenedlaethol gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau. Rydym hefyd wedi cynnull ein grŵp gorchwyl a gorffen lleiafrifoedd ethnig yn haf 2021 i nodi ffyrdd wella cymorth ar gyfer mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ymysg cymunedau lleiafrifol ethnig ac i hyrwyddo cydraddoldeb o ran mynediad. Dyma un grŵp cyfeirio allweddol wrth inni ddatblygu ein strategaeth iechyd meddwl newydd ar gyfer Cymru. Rwyf hefyd yn y broses o sefydlu grŵp cyfeirio pobl ifanc ar gyfer y strategaeth newydd.

Rwy'n nodi pryderon y pwyllgor am lefel y manylder yn yr ymateb gan y Llywodraeth. Rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor yn fawr, yn enwedig gan ei fod yn dod ar ddechrau ein proses i ddatblygu strategaeth iechyd meddwl newydd i Gymru. Ond rwyf wedi dweud yn glir iawn y bydd ein strategaeth yn cael ei chydgynhyrchu, mewn ffordd mor dryloyw â phosib, gyda phobl sydd â phrofiad bywyd a chyda rhanddeiliaid. Byddai wedi bod yn hollol anghywir imi achub y blaen ar y broses honno, a fydd yn cymryd sawl mis oherwydd fe fydd yn drylwyr iawn, drwy nodi yn yr ymateb i'r pwyllgor beth yn union fydd yn y strategaeth honno.

Un o gryfderau mawr pwyllgorau yw eu bod yn seiliedig ar dystiolaeth. Gwn i'r pwyllgor glywed llawer iawn o dystiolaeth ar ystod o faterion, ac rwy'n teimlo bod y pwyllgor wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd meddwl. Cafodd y pwyllgor dystiolaeth gref iawn ar salwch meddwl difrifol, lle clywsoch fod pobl sy'n byw gyda salwch meddwl difrifol yn aml yn gallu marw 15 i 20 mlynedd yn gynt na phobl heb salwch meddwl difrifol, ac eto ychydig o gyfeiriadau at hynny a gafwyd yn adroddiad y pwyllgor. Rhoddodd nifer o dystion dystiolaeth am yr anghydraddoldebau sy'n wynebu plant a phobl ifanc, rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon ac yn brif flaenoriaeth i mi fel Gweinidog—eto, ychydig iawn o gyfeirio a fu at hynny yn yr adroddiad.

Felly, bydd penderfynyddion cymdeithasol iechyd meddwl yn rhan allweddol o'n strategaeth newydd, ond nid dyna fydd yr unig ran, ac rwyf eisiau bod yn glir iawn ynglŷn â hynny gyda'r Aelodau heddiw. Mae gan bob un ohonom iechyd meddwl, ac ydy, effeithir ar iechyd meddwl pobl gan benderfynyddion cymdeithasol iechyd meddwl a chan drawma, ond mae yna hefyd lawer o bobl sydd wedi cael bywydau llawer haws, wedi byw bywydau cyfforddus ac sydd heb brofi trawma sy'n dioddef gyda'u hiechyd meddwl. A bydd y Llywodraeth hon yn datblygu strategaeth ar gyfer y bobl hynny i gyd.

Ac roeddwn eisiau dweud ychydig eiriau nawr, os yw'n iawn, am waith eich grŵp cynghori, gwaith rwy'n ei groesawu'n fawr. Rwy'n gwybod pa mor anodd yw hi i bobl sydd â phrofiad bywyd siarad am y profiad bywyd hwnnw, yn enwedig pan nad yw wedi bod yn union fel roeddent yn disgwyl iddo fod. Felly, rwy'n gwerthfawrogi cyfraniad y grŵp cynghori. Hoffwn ddweud wrth y grŵp cynghori fy mod wedi darllen eich adroddiad ac wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn roeddech yn ei ddweud yn yr adroddiad hwnnw. Hoffwn hefyd roi rhywfaint o sicrwydd i chi. Felly, gan gyfeirio at eich adroddiad, rydych wedi siarad am yr ysgogiadau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, lle rydych chi wedi dweud, ar wahân i'r heddlu, fod y rhan fwyaf o bethau eraill wedi'u datganoli, ac felly, na ddylai fod dibyniaeth ar Lywodraeth y DU i wneud unrhyw beth. Ond nid yw hynny'n wir, ac mae'r pwyllgor yn ymwybodol iawn o hynny. Nid yw'r prif ysgogiadau, y system dreth a budd-daliadau, wedi'u datganoli, ac mae'r Llywodraeth hon wedi gwario £1.6 biliwn ar gynlluniau sy'n targedu'r argyfwng costau byw ac ar raglenni sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl—argyfwng costau byw, gallwn ychwanegu, sydd wedi'i greu a'i gynnal gan Lywodraeth y DU.

Jack, pan ddeuthum i'r pwyllgor, fe nodais mewn cryn fanylder yr holl gamau sydd wedi'u cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw. Pe baem wedi gwneud hynny eto yn ein hymateb ysgrifenedig, byddai wedi bod fel War and Peace. Os hoffech fynd yn ôl i edrych ar y Cofnod, rwy'n siŵr y gwelwch rai o'r manylion a nodais.

Rwy'n hapus iawn i gyfarfod â'r grŵp cynghori i drafod unrhyw un o'r materion hyn. Rwy'n gwybod bod ganddynt bryderon ynghylch pa mor gydgynhyrchiol oedd y gwaith ar niwroamrywiaeth. Gwn mai un o'r cwestiynau a ofynnwyd oedd: a oes unrhyw un sydd â chyflyrau niwroamrywiol yn aelod o grŵp cynghori niwroamrywiaeth y Llywodraeth, neu ai dim ond criw o siwtiau ydynt? Wel, rwy'n falch iawn o sicrhau'r grŵp fod y grŵp yn cael ei gadeirio ar y cyd gan bobl sydd â phrofiad bywyd o niwrowahaniaeth. Ac fel y dywedodd Julie Morgan yn glir iawn ddoe, mae cydgynhyrchu'n rhan gwbl greiddiol o'r gwaith hwnnw.

I orffen, a gaf fi dawelu meddyliau'r grŵp cynghori ynglŷn â chynllun y gweithlu, lle roeddech chi'n dweud y bydd cynllun y gweithlu yn debygol o gostio 2g, mewn gwirionedd rydym yn buddsoddi £6.3 miliwn yng nghynllun y gweithlu? Mae hynny'n gwbl hanfodol os ydym am gael gweithlu cynaliadwy, cynhwysol ac amrywiol i gyflawni ein strategaeth newydd i Gymru.

Yn gyflym iawn, hoffwn grybwyll ambell un o'r meysydd lle mae'r Aelodau wedi mynegi pryderon penodol. Ar 'dderbyn mewn egwyddor' y fframwaith trawma, Sarah, ni chewch hyd i neb sy'n fwy angerddol am wasanaethau sy'n ystyriol o drawma na fi. Mae Julie Morgan a minnau'n cefnogi'r fframwaith yn llwyr. Aethom i'r lansiad, fe wnaethom ysgrifennu'r rhagair, rydym yn cyfarfod â Straen Trawmatig Cymru a'r Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn fuan i'w drafod, ond nid ein fframwaith ni ydyw, ac mae'n bwysig fod y fframwaith hwnnw'n cael ei gydgynhyrchu gan bobl yng Nghymru, gan gymdeithas Cymru, a'i fod yn eiddo i bawb yng Nghymru, felly rydym yn mabwysiadu'r ymagwedd gydgynhyrchiol honno tuag at hynny.

Mae sawl Aelod wedi sôn am y cyfeiriadur, a'r ffaith ein bod yn derbyn hynny mewn egwyddor. Hoffwn ddweud nad oes gennym broblem gyda gwella gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd, ond mae llawer o bethau eisoes ar waith, ac rydym eisiau mireinio a gwella hynny cyn inni fynd mor bell â dyblygu ymdrechion. Ac nid yw'n wir fod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu arnoch i gael mynediad at lawer o'r gwasanaethau sy'n cael eu hysbysebu ar-lein: ceir mynediad agored at bethau fel SilverCloud; ceir mynediad agored at '111 dewis 2'.

Mae Russell, a sawl Aelod, a Jane hefyd, wedi siarad am gysylltiad cymunedol—

16:00

O'r gorau. Wel, rwyf am ddod i ben gyda hyn felly, a dweud fy mod i'n cydnabod y dull cryf o weithredu dulliau perthynol yn adroddiad y pwyllgor, a dyna roeddech chi'n sôn amdano, Jane; mae'n ymwneud â chael cymunedau cryf a chadw pobl yn gysylltiedig. Mae ein holl ddulliau yn Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u seilio ar hynny: ein fframwaith NYTH, ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl. Cyn y Pasg, daeth tîm ymlyniad Gwent i mewn a darparu hyfforddiant i Lywodraeth Cymru ar egwyddorion ymlyniad a thrawma. Felly, nid siarad am hyn yn unig a wnawn; rydym hefyd yn gweithredu, fel Llywodraeth Cymru.

Rwyf am orffen yn y fan honno gan y gallaf weld bod fy amser wedi dod i ben. Rwy'n hapus iawn i gael trafodaethau pellach gyda'r pwyllgor am y meysydd pryder sydd ganddynt, ac i sicrhau pawb y bydd ein strategaeth yn drawslywodraethol; bydd yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl, ond bydd hefyd yn sicrhau bod gan bawb sydd ag angen iechyd meddwl yng Nghymru fynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw, ac adleisio rhai o sylwadau'r Aelodau eraill drwy ddiolch i'r gwasanaeth pwyllgor a'r tîm integredig ehangach am eu cefnogaeth enfawr yn ein helpu i baratoi'r adroddiad hwn? A diolch i bawb a rannodd eu profiad byw gyda ni fel pwyllgor, yn enwedig y rhai a gymerodd ran yn y grŵp cynghori ar-lein. Rydym yn ddiolchgar iawn am y mewnbwn enfawr i'n gwaith gan y grŵp cynghori.

Os caf roi sylw i rai o'r sylwadau y prynhawn yma: fe daflodd Rhun rywfaint o oleuni ar iechyd meddwl yn gyffredinol, gan ein hatgoffa pa mor bwysig yw siarad am iechyd meddwl a gweithredu i wella atal. Aeth yn ei flaen i bwysleisio trawma a rôl cymunedau, yr angen i fynd i'r afael â'r achosion sylfaenol os ydym am wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ac wrth gwrs, amlinellodd Rhun ei siom ein bod wedi darparu—y credwn ein bod wedi darparu fel pwyllgor—syniadau ac atebion nad ydym yn credu yr aethpwyd ar eu trywydd yn ddigonol. Rwy'n siomedig am y methiant i ddarparu amserlenni.

A'r darn a ysgrifennais am yr hyn a ddywedodd Rhun: ni ddylai Llywodraeth Cymru dderbyn craffu ar ei thelerau ei hun. Sarah: diolch am eich sylwadau, Sarah Murphy, wrth siarad am yr adroddiad arloesol. Iawn, fe dderbyniaf ymyriad.

Gwn ei bod yn ofnadwy fy mod yn gofyn am ymyriad, ond un o'r pwyntiau na chefais gyfle i gyfeirio ato oedd y diweddariadau. Byddwn yn darparu diweddariad erbyn mis Rhagfyr 2023. Yr unig reswm na wnaethom ymrwymo i wneud hynny'n flynyddol yw oherwydd mai'r hyn yr hoffwn ei wneud yw alinio'r adrodd yn erbyn y strategaeth newydd gyda'r adroddiadau i'r pwyllgor. Felly, nid oes unrhyw ymgais o gwbl i osgoi craffu.

Mae hynny'n sicr wedi'i gofnodi, ac mae'n swnio fel pe baech yn agored i roi adroddiadau blynyddol, ond mewn peirianwaith penodol ac os caf gofnodi fy mod yn gallu gweld y Gweinidog yn nodio. Felly, mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr, oherwydd roedd hwnnw'n destun pryder i'n pwyllgor a'r grŵp cynghori ar-lein hefyd, felly rwy'n croesawu hynny'n fawr, Ddirprwy Weinidog.

Roedd Sarah hefyd yn sôn am yr anawsterau i bobl o gefndiroedd a chymunedau lleiafrifol ethnig. Ac roedd Sarah hefyd yn siarad am argymhelliad 10, sy'n cymeradwyo argymhellion y pwyllgor cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol mewn perthynas â chyfeirlyfr ar gyfer cyfieithwyr hefyd. Fe glywsom hynny, oni wnaethom, yn ein hymweliadau y llynedd?

Diolch i Jane Dodds am gymryd rhan, a siarad am CAMHS a'r angen am fuddsoddiad a chronfeydd, cadernid cymunedol, diffyg cyllid cynaliadwy hirdymor—a gafodd ei ddwyn i'n sylw hefyd yn ystod ein sesiynau tystiolaeth.

Diolch i Jack am gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw a siarad yn onest iawn am yr effaith a gafodd yr ymchwiliad hwn arnoch chi. Felly, diolch, Jack. Aeth Jack yn ei flaen i siarad am yr angen i wasanaethau fod yn ystyriol  o drawma, a charedigrwydd. Tynnodd sylw at rôl Llywodraeth y DU, a synnu nad oedd ymateb y Llywodraeth yn canolbwyntio mwy ar ba waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yng Nghymru. Gorffennodd Jack drwy ofyn i'r Dirprwy Weinidog ystyried ymateb y Llywodraeth a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yng Nghymru.

James, diolch am gymryd rhan yn y ddadl hon. Roedd diffyg cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol, yr angen i ymgysylltu'n well â'r Senedd, yn adleisio'r angen am amserlenni a chynlluniau clir, presgripsiynu cymdeithasol—rhan wirioneddol ddiddorol o'n sesiynau tystiolaeth. Cawsom sesiynau hynod ddiddorol ar bresgripsiynu cymdeithasol. Gan weithio gyda'r heddlu, ac unwaith eto y dull Llywodraeth gyfan hwnnw, fel y nododd James, ac amlinellodd James ei farn am yr angen i ddiwygio deddfwriaeth iechyd meddwl yng Nghymru.

Diolch i Vikki. Diolch am gymryd rhan yn y ddadl. Unwaith eto, mae angen inni fynd i'r afael ag achosion iechyd meddwl gwaelach a rôl sefydliadau cymunedol.

Diolch i Ken Skates, a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw, ond a oedd hefyd yn aelod dros dro o'n pwyllgor yn ystod y sesiwn hon. Felly, diolch i chi, Ken, am eich mewnbwn a'ch ffocws ar argymhelliad 21—rhaid i iechyd meddwl fod yn flaenoriaeth drawslywodraethol—a ffocws ar frwydro yn erbyn yr ysfa i adranoli—rwy'n credu mai dyna roeddech chi'n ei alw—er mwyn gwella'r rhwystrau hynny a gwella hefyd.

Ddirprwy Weinidog, rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymrwymo'n bersonol—gallaf weld y cloc yn mynd—i'ch rôl, ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl. Dylwn ddweud ein bod yn gwybod bod iechyd meddwl wedi'i ddatganoli, a dyna pam y soniai ein hargymhelliad 3 am ymchwil i effaith bosibl datganoli'r maes hwnnw. Ond rwy'n credu y bydd y grŵp cynghori ar-lein yn hapus iawn eich bod wedi cytuno i gyfarfod â hwy, ac fe wnaethoch nodi eich cefnogaeth a'ch parodrwydd i gyfarfod â ni hefyd, felly fel pwyllgor byddaf yn sicrhau ein bod yn estyn allan ac yn trefnu hynny. Byddai'n ddefnyddiol cael y sesiwn anffurfiol honno, fel y gallwn archwilio posibiliadau pellach. Diolch am hynny, Ddirprwy Weinidog.

Ddirprwy Lywydd, diolch yn fawr iawn i'r rhai a gymerodd ran yn y drafodaeth y prynhawn yma.

16:05

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn clywed gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith—'Datgarboneiddio’r sector tai preifat'

Eitem 6 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Datgarboneiddio'r sector tai preifat'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM8248 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Datgarboneiddio’r sector tai preifat’, a osodwyd ar 28 Chwefror 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch o galon, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i agor y ddadl ar yr adroddiad pwysig yma. Mae yna 1.4 miliwn o gartrefi yng Nghymru sy'n gyfrifol am 11 y cant o gyfanswm ein hallyriadau carbon ni. Nawr, mae 1.1 miliwn o'r cartrefi hynny mewn perchnogaeth breifat, felly mae hi'n gwbl amlwg, onid yw hi, os yw Cymru am gyrraedd ei thargedau statudol ar gyfer lleihau allyriadau carbon, yna mi fydd angen ôl-osod neu retroffitio y cartrefi hynny er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni a galluogi'r newid i wresogi carbon isel. Dyma, wrth gwrs, oedd yn flaenllaw ym meddyliau aelodau'r pwyllgor wrth inni gynnal ein hymchwiliad i ystyried sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu i ddatgarboneiddio’r sector tai preifat, ac wrth inni edrych hefyd ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn.

Mae ein hadroddiad ni, a gyhoeddwyd ddiwedd mis Chwefror, yn gwneud 29 o argymhellion, ac mae'r Llywodraeth wedi derbyn 17 ohonyn nhw ac mae yna 12 ohonyn nhw wedi cael eu derbyn mewn egwyddor. Er ein bod ni'n ddiolchgar am ymateb y Gweinidog, rŷn ni yn siomedig ei fod yn rhy aml ddim yn gwneud unrhyw ymrwymiadau penodol, yn methu â mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r argymhelliad, yn rhy aml o lawer, neu, yn syml, jest yn ailadrodd rhethreg ynglŷn â pha mor anodd yw hyn i gyd, ac mi fyddaf i yn gwneud sylw ar y rhain wrth i fi siarad am rai o'r argymhellion allweddol.

Nawr, hyd yma, mae ymdrech Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio'r stoc dai bresennol wedi canolbwyntio bron yn llwyr ar gartrefi cymdeithasol, a hynny drwy'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Mae yna bryder mawr gan weithwyr proffesiynol yn y maes tai, ac eraill, fod y sector tai preifat yn cael ei anwybyddu ac yn cael ei adael ar ôl. Fel y dywedodd Sefydliad Tai Siartredig Cymru, y sector tai preifat yw'r eliffant yn yr ystafell o safbwynt datgarboneiddio. Mae'r Gweinidog wedi dweud wrthym ni dro ar ôl tro fod y sector tai cymdeithasol ymhellach ymlaen ar y daith tuag at ddatgarboneiddio, gyda Llywodraeth Cymru yn dewis blaenoriaethu buddsoddiad mewn cartrefi cymdeithasol oherwydd mai dyna lle mae ganddi'r mwyaf o bwerau a dyna lle mae ganddi'r mwyaf o fesurau y gall eu defnyddio. A dydyn ni, wrth gwrs, ddim yn anghytuno â hynny. Yn hytrach, yr hyn rŷn ni'n ei ddweud fel pwyllgor yw bod yna gamau y gall ac y dylai'r Llywodraeth eu cymryd ochr yn ochr â hynny i baratoi'r sector tai preifat i ddatgarboneiddio.

16:10

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Nawr, yn gyntaf oll, ar fater strategaeth, er bod rhanddeiliaid yn cydnabod yr ymrwymiadau a wnaed yn 'Cymru Sero Net', roeddent yn galw am strategaeth neu gynllun cynhwysfawr, hirdymor ar gyfer datgarboneiddio'r sector, yn anad dim er mwyn anfon arwydd clir i ddefnyddwyr a'r diwydiant am gyfeiriad y teithio, a hefyd i helpu i ysgogi ymddygiad y farchnad. Ar ôl clywed gan y Gweinidog, rhaid imi ddweud nad ydym ronyn cliriach a yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyhoeddi strategaeth o'r fath. Pwrpas argymhelliad 2 oedd ceisio cael ateb pendant, ac mae'n ymddangos mai'r ateb hwnnw yw 'na'. Yn ôl y Gweinidog, mae 'Cymru Sero Net' yn dweud cymaint ag sydd angen inni ei wybod. Wel, mae arnaf ofn nad yw'r mwyafrif llethol o randdeiliaid yn cytuno. Ac er bod Llywodraeth Cymru'n parhau i wrthwynebu galwadau am strategaeth hirdymor, mae wedi ymrwymo, wrth gwrs, i ddatblygu trywydd ar gyfer datgarboneiddio tai preswyl. Nawr, clywn y bydd hwn,

'yn rhoi cyfeiriad ac yn ysgogi cynnydd tuag at ddatgarboneiddio cartrefi presennol Cymru.'

Wrth dderbyn argymhelliad 4, mae'r Gweinidog wedi cytuno i adrodd yn ôl i ni ar gynnydd tuag at ddatblygu'r trywydd. Rydym yn croesawu hyn yn amlwg, ond hoffwn ofyn ymhellach i'r Gweinidog ddweud pryd fydd y trywydd yn debygol o gael ei gyhoeddi. A ydym yn edrych ar flwyddyn? Deunaw mis? Dwy flynedd hyd yn oed? Yn amlwg, mae ei angen yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

Mae'r Gweinidog wedi derbyn mewn egwyddor ein hargymhelliad y dylai'r trywydd gynnwys cerrig milltir polisi allweddol a thargedau dros dro i'r sector er mwyn helpu i ysgogi cynnydd. Wel, Weinidog, mae'n gwestiwn syml, am wn i: rydych chi naill ai'n barod i gynnwys cerrig milltir a thargedau yn eich trywydd neu nid ydych yn barod i wneud hynny. Felly, nid wyf yn siŵr beth yw ystyr 'derbyn mewn egwyddor' yn y cyd-destun hwn, felly hoffem rywfaint o sicrwydd ar y pwynt hwnnw hefyd. 

Gan symud ymlaen i ddysgu o'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimieiddio. O'r hyn a wyddom am y rhaglen, mae'n enghreifftiol mewn sawl ffordd ac mae ganddi botensial i helpu i gynorthwyo mathau eraill o ddeiliadaeth i ddatgarboneiddio. Fodd bynnag, dros flwyddyn yn ôl, dywedodd y Gweinidog wrth y pwyllgor y bydd y rhaglen

'yn darparu ysgogiad i ddechrau datgarboneiddio cartrefi mewn mathau eraill o ddeiliadaeth yn gyflym erbyn 2023.'

Wel, dyma ni, dros bedwar mis i mewn i 2023, ac nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth o hyn. Mae ymateb y Gweinidog i argymhelliad 6 yn swnio'n gyfarwydd iawn, ac mae'n dweud wrthym eto mai'r rhaglen

'fydd y sbringfwrdd i ddechrau datgarboneiddio cartrefi mewn deiliadaethau eraill yn y dyfodol.'

Wel, Weinidog, mae un peth yn glir o'r ymateb hwnnw: ychydig iawn o gynnydd a wnaed. 

Fel rhan o'n hymchwiliad, buom yn edrych ar y cymorth sy'n bodoli eisoes ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys y rhaglen Cartrefi Clyd. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n gyfarwydd ag adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar y rhaglen, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf y llynedd. Ers mis Medi, rydym wedi bod yn aros yn amyneddgar i Lywodraeth Cymru gyhoeddi manylion iteriad nesaf y rhaglen. Wrth ymateb i'n hadroddiad, dywedodd y Gweinidog wrthym y byddai hyn yn cael ei wneud yn fuan ar ôl diwedd mis Mawrth. Wel, mae'n fis Mai, ac nid oes unrhyw beth wedi'i gyhoeddi. Rhaid imi ddweud bod yr oedi cyn cyhoeddi wedi mynd o fod ychydig yn rhwystredig i fod yn destun pryder mawr. A gofynnwyd i chi am hyn yn gynharach mewn cwestiynau y prynhawn yma, ond y cyfan a ddywedoch chi yw y byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud yn fuan. Felly, efallai wrth ymateb i'r ddadl y rhoddaf gynnig arall arni a gofyn i chi: faint yn hirach sy'n rhaid i ni aros?

Mae ein hadroddiad yn cyfeirio at yr angen am gyfuniad o safonau rheoleiddio a chymhellion i gyflymu ôl-osod yn y sector tai preifat. Nid wyf am lyncu amser yn siarad am safonau rheoleiddio, gan fod y rhain y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru. Wedi dweud hynny, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb cynhwysfawr i argymhellion 15 i 18 yn ein hadroddiad, sy'n ymwneud â safonau a gorfodaeth yn y dyfodol.

Ar gymell ôl-osod, mae'n ddiogel dweud, hyd yma, fod polisïau a rhaglenni a gynlluniwyd i gymell ôl-osod wedi methu cyflawni ar raddfa fawr ac yn gyflym. Mae hyn wedi arwain at gefnogaeth gynyddol i gymhelliad sy'n seiliedig ar dreth i ysgogi'r galw am ôl-osod, gyda llawer o arbenigwyr yn cefnogi treth trafodion tir wedi'i haddasu ar gyfer ynni fel rhywbeth  a allai arwain at newid mawr. Yn flaenorol fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddiystyru cymhelliad sy'n seiliedig ar dreth, gan ffafrio mwy o grantiau wedi'u targedu a gwell cyfathrebu gan y Llywodraeth i annog pobl i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni. Ond y consensws y tu allan i'r Llywodraeth yw nad yw'r dull hwn yn gweithio. Mae ein hadroddiad felly'n galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei safbwynt. Er bod y Gweinidog wedi derbyn ein hargymhelliad mewn egwyddor, mae'r ymateb yn awgrymu'n gryf na ellir ystyried cymhelliad sy'n seiliedig ar dreth, sy'n siomedig. Yn ôl y Gweinidog, gallai fod yn well cael mathau eraill o

'ysgogiadau neu gymhellion ariannol... sy'n fwy uniongyrchol.'

Mae hynny'n amlwg felly yn arwain at ofyn y cwestiwn, 'Beth ydynt?' Pa fath o bethau y siaradwn amdanynt a phryd y gellid eu cyflwyno?

Yn olaf, ac yn hollbwysig, mae ein hadroddiad yn ystyried atebion ariannol i'r rhai sy'n gallu talu, gan gydnabod, wrth gwrs, na fydd cyllid cyhoeddus yn ymestyn i dalu cost ôl-ffitio holl gartrefi Cymru. Gyda chyllid grant wedi'i dargedu'n bennaf at aelwydydd incwm isel, tlawd o ran tanwydd, bydd angen i nifer sylweddol o berchnogion eiddo ddod o hyd i ffyrdd eraill o ariannu ôl-osod, a chydag amcangyfrifon cost o rhwng £17,000 a hyd at dros £66,000, bydd yn amlwg yn haws dweud na gwneud, yn enwedig o ystyried y diffyg atebion ariannol sydd ar gael ar hyn o bryd. Er bod gwaith i werthuso opsiynau ariannu ar gyfer y sector ar y gweill yng Nghymru, mae angen i Lywodraeth Cymru gyflymu gwaith er mwyn sicrhau bod ôl-osod yn fforddiadwy i'r lliaws yn hytrach nag i'r ychydig, fel y dywedodd rhywun unwaith.

Mae cyllid cysylltiedig ag eiddo yn ei gwneud hi'n bosibl ariannu ôl-osod drwy gysylltu dyled ag eiddo yn hytrach nag â'r unigolyn. Mae wedi hen ennill ei blwyf mewn rhannau o'r Unol Daleithiau a chyn bo hir bydd yn cael ei dreialu yn Lloegr hefyd. Mae galwadau am fodel cyllid cysylltiedig ag eiddo i Gymru yn tyfu, gyda'r Sefydliad Economeg Newydd, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a'r Sefydliad Tai Siartredig ymysg ei gefnogwyr. Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno cynigion wedi'u cyfrifo'n llawn ar gyfer atebion ariannol, gan gynnwys cyllid cysylltiedig ag eiddo, o fewn y 12 mis nesaf. Er bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad, nid oes sôn penodol am gyllid cysylltiedig ag eiddo yn ei hymateb, felly efallai y gallech egluro, Weinidog, ble rydych chi arni wrth edrych ar hyn a datblygu model o'r fath i Gymru pan fyddwch chi'n ymateb i'r ddadl.

Os caf i grynhoi, mae yna ymdeimlad bod Llywodraeth Cymru'n gwthio rhai o'r penderfyniadau anodd tan rhyw amser ymhell ymlaen yn y dyfodol pan fo'n dod i ddatgarboneiddio tai'r sector breifat. Ym marn y pwyllgor, dyw hi ddim yn gallu fforddio gwneud hynny. Waeth pa mor aml mae Llywodraeth Cymru'n ein hatgoffa ni o'r heriau a'r cymhlethdodau o ran datgarboneiddio'r sector, mae'r ffaith yn aros, onid yw hi: mae angen gwneud y gwaith, a does dim llawer o amser gyda ni i wneud y gwaith hwnnw.

Mae'n rhaid i ni weld tystiolaeth o gynnydd yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Mae angen i'r map ffordd roeddwn i'n sôn amdano'n gynharach gael ei roi yn ei le a chael ei gyflawni; mae angen polisïau credadwy i annog gwaith ôl-osod sy'n addas i anghenion Cymru; mae angen amrywiaeth o opsiynau ariannu fforddiadwy i wneud gwaith ôl-osod yn realiti i bawb, i enwi dim ond rhai o'r pethau sydd angen i'r Llywodraeth eu gwneud. 

Rŷn ni fel pwyllgor, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at ddilyn hynt y gwaith yma rhwng nawr a diwedd y chweched Senedd, a gobeithio y bydd ein hadroddiad ni, ac, yn wir, y ddadl yma y prynhawn yma, yn sbardun pellach i ni weld cynnydd—y cynnydd rŷn ni i gyd eisiau ei weld.

16:15

Rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy natganiad buddiant ar berchnogaeth eiddo.

O ran lleihau effaith hinsawdd Cymru, mae 1.1 miliwn o gartrefi sy'n eiddo preifat yn her enfawr, oherwydd rydym i gyd yn gwybod bod dros 80 y cant o gyfanswm y stoc dai yn eiddo preifat. Er fy mod yn croesawu'r adroddiad, mae gennyf bryderon oherwydd y ffigurau hynny: 80 y cant o gyfanswm stoc dai Cymru. Dyna'r rhan fwy o'r hafaliad sydd angen ei datrys, os mynnwch, ac mae ffocws Llywodraeth Cymru wedi bod ar y tai cymdeithasol. Roedd y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio wedi'i hanelu at dai cymdeithasol. Weinidog, rydych chi wedi honni mai'r rheswm am hyn yw oherwydd mai dyna'r sector lle mae gennych fwyaf o allu i osod cyfeiriad a dylanwadu, ond ar gyfer targedau newid hinsawdd, rhaid i ni gynnwys eiddo o bob math, boed yn y sector rhentu preifat, boed yn eiddo preifat, a'r sector rhentu. Mae angen strategaeth ddatgarboneiddio tai hirdymor a pholisïau a rhaglenni cadarn.

Mewn ymateb i argymhelliad 1, rydych yn nodi bod swyddogion

'yn gweithio gyda'r Grŵp Gweithredu ar gyfer Datgarboneiddio i lunio a gweithredu trywydd er mwyn datgarboneiddio tai preswyl yng Nghymru.'

Sut olwg fydd ar y trywydd hwn pan gaiff ei gyhoeddi?

Ar argymhelliad 2, rydych yn dweud bod y grŵp 

'ar y cam cyntaf o nodi'r themâu a'r camau gweithredu perthnasol ar lefel strategol.'

Rwy'n tybio unwaith eto fod y cyfan yn ymwneud ag amserlenni, onid yw? Fe wyddom fod y cloc yn tician. Mae'n teimlo'n eithaf tebyg i un o'r pethau amseru berwi wy mawr hynny ac mae'r tywod yn llifo i lawr yn gyflym.

Mae'n ymddangos mai'r farn yw bod y rhaglen Cartrefi Clyd yn un sy'n methu cyflawni ar raddfa fawr ac yn gyflym. Yn onest, mae'r hyn rwy'n ei ddweud yn swnio braidd yn negyddol, ond nid wyf yn ceisio bod yn negyddol; rwy'n ceisio bod yn adeiladol. Mae'n dasg anferth ac mewn gwirionedd, yr hyn rwy'n chwilio amdano, yn sicr fel aelod o'r pwyllgor hwn, yw symud ymlaen gan wybod sut y gallwn roi rhywfaint o gig ar yr asgwrn, rhoi amserlenni yn eu lle. Roedd Nyth i fod i ddod i ben ym mis Mawrth, ond roedd hi'n dal yn bosibl cyflwyno ceisiadau am gymorth ddoe. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i gymell y rhai sy'n gallu fforddio talu i fuddsoddi mewn mesurau i ddatgarboneiddio eu cartrefi? Mae'n deg dweud bod yna bobl sydd eisoes yn effro ac yn fyw i'r ffaith na allant barhau i ddefnyddio cymaint o ynni yn eu cartrefi eu hunain, oherwydd mae yna gost iddo nawr ar ôl sefyllfa a rhyfel Wcráin, ond hefyd mae pobl yn dod yn fwy ymwybodol o'u cyfrifoldeb fel unigolion i fynd i'r afael â'r agenda newid hinsawdd. Ni all Llywodraeth wneud popeth.

Mae'r ymateb i argymhelliad 14 yn brin o ymrwymiad clir i gael gwared ar y gofynion cynllunio ar gyfer pympiau gwres ffynhonnell aer. Er enghraifft, ni ellir eu gosod o fewn 3m i ffin heb ganiatâd. Mae pympiau gwres ffynhonnell aer yn mynd i fod gyda ni yn y dyfodol, ac rwyf bob amser wedi credu, mewn ymchwiliadau pwyllgor fel hwn, mai dim ond un ateb ydyw. Nid yw Jenny yma, ond rwy'n meddwl bod Joyce wedi gwneud sylw fod hyn nid yn unig yn ymwneud â—

16:20

O, rwy'n gallu eich gweld chi. Mae'n ddrwg gennyf. Helo, Jenny. Roeddwn yn dweud eich bod wedi dadlau'n eithaf cryf. Nid yw'n ymwneud â sut y gallwn gael mathau newydd o ynni i fynd i mewn i gartrefi; mae'n ymwneud â sut y gallwn ni hefyd inswleiddio ac atal gwres da, fel rydych chi'n ei alw, rhag cynhesu'r adar.

Rwy'n cydnabod nad yw Rhentu Doeth Cymru yn gyfrifol am orfodi safonau gofynnol effeithlonrwydd ynni ychwaith. Fe wnaethoch chi sôn beth amser yn ôl eich bod yn mynd i adolygu cylch gwaith Rhentu Doeth Cymru, ond mewn gwirionedd—ac fe gododd hyn mewn tystiolaeth a gasglwyd—rwy'n credu y gallai fod cylch gwaith da yno i Rentu Doeth Cymru ymgymryd ag ef. Gallant gasglu data ar eiddo unigol neu ar raddfa fwy mewn gwahanol adrannau. Felly, pa gynlluniau sydd gennych i adolygu Rhentu Doeth Cymru ac ehangu eu cylch gwaith efallai i'ch helpu chi a'ch Llywodraeth i allu darparu rhaglen ôl-osod wirioneddol gynhwysfawr ac effeithiol?

Mae'r pwyllgor wedi bod yn glir fod ganddynt rôl bwysig i'w chwarae yn newid ymddygiad defnyddwyr, ynghyd â darparu cymorth ariannol priodol. Yn ystod y bumed Senedd, gwrthododd Llywodraeth Cymru y defnydd o gymhellion yn seiliedig ar drethi, ond nododd y byddai'n fodlon ailedrych ar ei safbwynt, yn dibynnu ar unrhyw dystiolaeth a ddaw gan y grŵp cynghori. Rwy'n gwybod bod pobl wedi edrych ar y defnydd o'r dreth gyngor, ond pa gynnydd a wnaed ar hynny? Mae'r ateb i argymhelliad 27 yn cyfeirio at y broses o ddiwygio'r dreth gyngor, ond nid yw hynny ar gyfnod 2 hyd yn oed, felly mae angen gweithredu ar fwy o frys, Weinidog. A wnewch chi amlinellu'r holl gymhellion cyllidol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu mabwysiadu yn ystod y flwyddyn ariannol hon i gymell y sector sy'n gallu talu i ddatgarboneiddio?

Mater arall a godais yn y pwyllgor am y farchnad rhent cymdeithasol yw lle mae gennych chi gymhellion da iawn, a chynlluniau peilot yn awyddus i ddigwydd, ond mae'n ymddangos bron nad yw trigolion eisiau i'r cynlluniau hyn gael eu rhoi ar waith yn eu cartrefi eu hunain er y byddent yn sicr yn arbed arian iddynt, ac yn eu helpu i gyfrannu tuag at yr agenda hon. Felly unwaith eto, sut rydych chi'n defnyddio eich pwerau yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod modd goresgyn y mathau hyn o rwystrau? Diolch. 

16:25

Rwy'n cydnabod yn llwyr y gwaith da sydd wedi'i wneud ym maes tai cymdeithasol yng Nghymru, ac rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru yn eithaf prin o arian, gydag £1 biliwn ar goll o'i chyllideb eleni. Rwy'n edrych ymlaen at 'Byw'n Dda mewn Cartrefi Carbon Isel', a fydd yn rhan o'r gyfres hon o adroddiadau sy'n mynd i fynd i mewn i'r hyb perfformiad sero net, fel y gallwn i gyd ddysgu o raglen ôl-osod er mwyn optimeiddio ein tai cymdeithasol. Ond mae'n rhaid ei fod yn ddeunydd darllen chwerwfelys iawn i unrhyw un sy'n rhentu'n breifat, oherwydd mae saith o bob 10 unigolyn sy'n rhentu'n breifat yn byw mewn anheddau rhy oer, gyda lleithder a llwydni. Mae'n sgandal go iawn, ac mae angen inni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym i wella perfformiad landlordiaid preifat. Mae gan ddwy ran o dair o'r holl gartrefi rhent preifat yng Nghymru sgôr tystysgrif perfformiad ynni (EPC) o D neu is, ac os ydych chi'n byw yn un o'r tai hyn, rydych chi'n talu mwy o rent na phe baech chi'n byw mewn tai cymdeithasol, ac rydych chi'n talu biliau ynni sydd rhwng £350 a £950 yn ddrytach oherwydd inswleiddio gwael. Yn amlwg, gyda chost ynni yr hyn ydyw, mae hon yn broblem sylweddol iawn, ac mae cymaint o bobl yn diffodd eu gwres ac yn byw mewn cartref sy'n rhy oer.

Mae'n siomedig iawn darllen mewn adroddiad diweddar gan Cyngor ar Bopeth o'r enw 'Diodde'r oerfel' fod un o bob pump o'r rhai a gymerodd ran wedi dweud na fyddent yn cwyno wrth eu landlord am eu bod yn credu y byddent yn cael eu troi allan. Dywedodd dros draean o'r holl bobl a gafodd eu cyfweld gan Cyngor ar Bopeth nad oedd eu landlord wedi rhoi sgôr EPC iddynt, felly nid oedd ganddynt syniad a oedd problemau penodol gyda'u gwres, perfformiad eu boeler, neu ei fod oherwydd eu bod yn byw mewn cartref rhy oer. Ar gyfartaledd, cost uwchraddio cartref i EPC C, sef yr hyn a ddylai fod yn safon newydd, yw £3,800 yn ôl Cyngor ar Bopeth, ond mae ymchwil flaenorol wedi dangos na fyddai hanner y landlordiaid yng Nghymru yn gwario mwy na £1,000 o'u harian ar wella effeithlonrwydd ynni'r eiddo y maent yn ei osod. Gallaf ddeall bod angen gwelliannau drytach fel inswleiddio waliau solet neu wydr dwbl ar rai cartrefi, ac felly mae angen inni gael cynllun benthyg ar eu cyfer er mwyn sicrhau eu bod yn bwrw iddi.

Un o'r pethau mwyaf rhwystredig ynghylch adroddiad Cyngor ar Bopeth yw nad yw landlordiaid yn credu y bydd camau gorfodi'n cael eu cymryd yn eu herbyn os ydynt yn torri'r rheolau. Mae hynny'n eithaf syfrdanol, a dylai ganu larymau i Lywodraeth Cymru. Ni allwn ddal ati i oedi'r gwaith ar gyfer rhentwyr preifat. Rwy'n croesawu Cynllun Prydlesu Cymru, sy'n rhoi ffordd allan i landlordiaid amatur nad ydynt mewn sefyllfa i wella cynhesrwydd tŷ y maent eisiau ei osod i bobl, sydd, wedi'r cyfan, ymhell y tu hwnt i'r hyn y mae'r lwfans tai yn ei ddarparu ar gyfer y rheini sy'n gymwys. Felly, mae'n rhaid inni anfon arwydd clir i landlordiaid nad yw dim newid yn opsiwn. Mae'n fraint cael eiddo i'w rentu ac mae'n rhaid cael rhwymedigaethau cryf i fynd gyda hynny. Mae hyn o fewn pŵer Llywodraeth Cymru.

Yn yr un modd, ni allwn orfodi perchen-feddianwyr i ddatgarboneiddio eu cartrefi. Os nad yw rhywun am drafferthu, neu os na allant wynebu'r aflonyddwch o gael adeiladwyr yn eu cartref, a'u bod eisiau parhau i wario gormod o arian ar gadw'n gynnes, ni allwn atal pobl rhag gwneud hynny. Ond mae angen creu marchnad dai lawer mwy effeithlon sy'n mynd i brisio tŷ yn ôl faint mae'n mynd i'w gostio i chi ei gynhesu. Mae'n rhaid cael pasbort adeiladu sy'n dangos i chi beth sydd angen ei wneud i wneud yr eiddo—. Mae'n mynd i fod yn rhwymedigaeth yn y dyfodol oherwydd yr argyfwng hinsawdd. Bryd hynny, bydd prynwyr yn llawer mwy ymwybodol o beth yw cost prynu cartref heb ei inswleiddio'n dda.

Rwyf wedi gweld nifer fawr o bobl yn gosod teils newydd ar eu toeau sy'n wynebu'r de heb wneud unrhyw ymgais i feddwl sut y gallent arbed arian drwy osod paneli solar. Mae hyn yn rhywbeth y gallent ei wneud. Mae'r rhain yn bobl sydd ag arian i osod toeau newydd, felly pam ddim arian ar gyfer paneli solar hefyd? Nid oes digon o ymwybyddiaeth o'r hyn sydd angen ei wneud, a dim hanner digon o ysgogi sgiliau adeiladu angenrheidiol i sicrhau bod pob cartref yn cael ei ôl-osod neu ei adeiladu i'r safonau gofynnol.

Cydlynwyr ôl-osod yw un o'r sgiliau gorau sydd eisoes yn brin ac sy'n mynd i fod yn brinnach fyth yn y dyfodol oni bai ein bod yn defnyddio'r cynllun sgiliau sero net i wneud i bethau ddigwydd yn y farchnad. Felly, mae ymateb y Llywodraeth i'n hadroddiad yn fy siomi, ac rwyf am weld cynnydd llawer mwy uchelgeisiol yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at weld ein cais am ddiweddariadau rheolaidd ar y cynnydd sydd angen inni ei wneud nawr yng Nghymru yn cael ei dderbyn.

16:30

Gaf i agor drwy ddiolch i’r pwyllgor, Cadeirydd y pwyllgor am ei waith, y tîm clercio ac ymchwil, ac wrth gwrs, i’r rhanddeiliaid a fu’n rhoi tystiolaeth inni? Pan fyddom ni’n siarad yn aml yn y Siambr yma am y creisis newid hinsawdd, rŷm ni'n pwysleisio'r anghyfartaledd cymdeithasol sy’n cael ei weld fel rhan o sgil-effeithiau’r creisis hwnnw.

Mae angen datgarboneiddio’r sector tai preifat yng Nghymru, nid dim ond i achub ein planed, ond i fynd i’r afael ag annhegwch sylfaenol yn ein cymdeithas. Fel rŷm ni wedi clywed yn barod, mae Cyngor Ar Bopeth wedi lansio ymchwil sy’n dangos faint mae tenantiaid preifat yn dioddef dan y system bresennol—faint maen nhw’n gorfod byw mewn cartrefi sy’n oer a llaith. Mae creisis arall yma—creisis anghyfartaledd, creisis tlodi modern. Ac mae’n rhaid ymateb ar frys achos mae’r tenantiaid hyn yn wynebu premiwm fel canlyniad i’w dioddefaint. Eto, mae Cyngor Ar Bopeth wedi canfod bod y tenant cyffredin yn wynebu biliau ynni blynyddol sydd £350 yn ddrytach oherwydd inswleiddio gwael. Annhegwch ar ben annhegwch. Eto, cwestiwn o anghydraddoldeb cymdeithasol ydy hwn.

Nawr, clywsom yn barod am y ffigurau am gartrefi yng Nghymru—am y 1.4 miliwn o dai sydd gennym sy'n cynrychioli 11 y cant o’n hallyriadau carbon.  Ac amcangyfrifir y bydd mwy na 90 y cant o’r tai sy’n bodoli yn awr yn parhau i fod yn gartrefi erbyn y flwyddyn 2050. Felly, mae'n rhaid inni weld ôl-ffitio yn digwydd ar raddfa eang. Dwi'n cytuno gyda'r hyn sydd wedi cael ei ddweud yn barod gan Jenny—mae'n rhaid inni weld mwy o frys ynglŷn â sut rŷm ni'n mynd i'r afael â'r her yma. 

Mae costau uchel yn rhwystr. Yn aml fan hyn, rŷm ni’n sôn am breswylwyr a fydd yn ei chael hi'n anoddach na’r rhan fwyaf o bobl i fuddsoddi mewn rhywbeth fel hyn—i fuddsoddi ar gyfer rhywbeth am y dyfodol—achos mae’r presennol mor anodd. Mae biliau mor uchel. Mae ansicrwydd yn treiddio drwy bopeth. Felly, mae nifer o’n hargymhellion yn ffocysu ar yr angen i wneud pethau yn symlach ac yn fwy fforddiadwy ar gyfer y rhai sydd yn stryglo. A thu hwnt i’r pwyntiau technegol, sy'n eithriadol o bwysig, sydd mor ganolog i'r adroddiad yma, y tu hwnt i'r pwyntiau technegol yna, rŷn ni hefyd yn sôn am yr angen am fwy o eglurdera. Rŷn ni’n galw ar y Llywodraeth i wella ac i gryfhau dealltwriaeth pobl sy’n byw yn y sector yma o ran defnydd ynni, o ran allyriadau carbon, fel bod preswylwyr yn rhan o’r datrysiad.

Buaswn i’n hoffi clywed mwy gan y Gweinidog pan fydd yn ymateb, os gwelwch yn dda, am sut fydd y Llywodraeth yn gallu cario ymlaen i siarad gyda’r cyhoedd yn fwy am newid hinsawdd, am yr heriau, wrth gwrs, ond hefyd am beth rŷn ni i gyd yn gallu gwneud i ymateb i’r heriau hyn. A fydd ymgyrchoedd cyhoeddus yn gallu cael eu cryfhau ar hyn, arlein, yn y gymuned, i helpu pobl ond hefyd i'w hybu nhw, i ymbweru nhw, achos mae hynny mor bwysig?

Bydd costau uchel yn parhau i fod yn rhwystr, sef pam rŷn ni angen datblygu modelau cyllido fydd yn gwneud pethau’n haws i bobl gael hyd i gyllid i wneud adnewyddiadau i’w tai. Ac mae nifer o fylchau sydd dal angen eu llenwi—bylchau data, bylchau o ran sgiliau. Mae potensial yma i greu swyddi gwyrdd, trwy osod systemau gwresogi carbon isel, inswleiddio, a datblygu technoleg newydd. Ac mae yna her arall—dwi bron yn cloi fan hyn, Llywydd—dydy’r amgylchedd adeiledig yng Nghymru ddim yn unffurf, o ran daearyddiaeth, aethestig, a make-up y tai, felly bydd angen strategaeth eang ar gyfer ôl-ffitio, ar gyfer tai mewn trefi, yn ardaloedd gwledig, ardaloedd ar lan y môr, tai yn yr ucheldir—mae angen teilwra datrysiadau ar gyfer pob un. Felly mae yna sialensau. 

Ond, buaswn i’n gorffen trwy ailadrodd y pwynt bod angen ymbweru pobl, eu hysbysu nhw, a gwneud yn siŵr bod pawb eisiau bod yn rhan o’n hymateb ni i’r heriau, achos, gan amlaf, y bobl sydd yn dioddef cymaint yn ein cymdeithas sydd yn dioddef gyda hyn; mae’n rhaid i ni ymbweru nhw, yn lle gweld bod nhw’n wynebu annhegwch ar ben yr annhegwch maen nhw’n barod yn ei wynebu. Diolch.

16:35

Diolch i’r Gweinidog am ei hymateb, a gallwn, fe allwn fynd ymhellach bob amser, ac rwy'n cytuno â'r rhwystredigaeth y mae pob un ohonom yn ei rhannu gyda Jenny nad ydym yn mynd ymhellach nac yn gyflymach. A hoffwn sôn yn benodol am berfformiad, neu berfformiad yn y dyfodol, yr hyb perfformiad tai carbon sero net. Rydym yn gweld ac yn gwybod y bydd yn helpu i gyflymu’r broses o ddarparu cartrefi carbon isel a di-garbon yng Nghymru. Mae hynny'n wych. Fe fydd yn ddibynadwy, fe fydd yn ffynhonnell o arferion gorau y gellir ymddiried ynddi ac fe fydd yn darparu cyfeiriad a chysondeb, ac mae angen yr holl bethau hynny arnom, ac mae hynny’n hynod bwysig.

Ond os ydym yn mynd i ysgogi newid, fe wyddom hefyd fod rhaid inni wneud hynny mewn partneriaeth, ac mae'r darparwyr hyfforddiant yn rhan fawr o'r bartneriaeth honno, ac maent yn gwbl hanfodol. Mae angen targedau clir ar y darparwyr hyfforddiant, mae angen llwybrau clir arnynt fel y gallant roi trefn ar eu busnesau yn unol â’r ysgogiad hwnnw a’r newid hwnnw. Ac rwyf wedi darllen llawer iawn o adroddiadau sgiliau, ac mae un a gafodd ei anfon ataf y prynhawn yma, ac mae'n sôn, dro ar ôl tro, am yr angen am y sgiliau ychwanegol yn y diwydiant adeiladu yn y dyfodol. Bydd yn rhoi gwybod i bawb sy'n ei ddarllen fod y proffil oedran presennol yn 55 oed a hŷn, a bydd hefyd yn rhoi gwybod i bobl mai dim ond 2 y cant o fenywod a 5 y cant o amrywiaeth ethnig sy'n bodoli yn y diwydiant adeiladu hwnnw.

Bydd hefyd yn dweud wrth bobl, pan fyddwn yn edrych ar beirianwyr boeleri nwy, y bydd yr ystadegau hynny yr un peth. Ac eto, boeleri nwy yw'r rheswm pam fod angen ôl-osod y rhan fwyaf o gartrefi sydd angen eu hôl-osod, a'r sgiliau y bydd eu hangen i ailhyfforddi plymwyr—gallwch weld ar unwaith ein bod yn mynd i fod yn brin ofnadwy. Oherwydd pan edrychwn ar osodwyr pympiau gwres, ceir 2,000 o osodwyr pympiau gwres hyfforddedig ar hyn o bryd. I ddiwallu'r anghenion—ac mae hyn ledled y DU, felly gallwch ei leihau'n gyfatebol—byddem yn sôn am 50,000 i 100,000 o osodwyr. Felly, mae angen aruthrol ac ysgogiad aruthrol yma i ni, yn gyntaf oll, annog pobl ifanc, y bobl sydd mewn ysgolion ar hyn o bryd, i hyfforddi, ac rwy'n siŵr fod gan y cwricwlwm newydd fantais yn hynny o beth. Mae'r TGAU newydd mewn adeiladu yn fan cychwyn da, ac rwy'n croesawu honno'n fawr. Ond ar yr un pryd, mae arnom angen addysg lawer ehangach, sydd eisoes yn digwydd—a soniodd Janet am hynny—yn y boblogaeth ehangach fod yn rhaid iddynt chwarae eu rhan. Bydd hynny hefyd yn ysgogi'r angen, yn gyflymach efallai, na’r ddarpariaeth y bydd ei hangen ar bobl o fewn y sgiliau.

Felly, Weinidog, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut rydych yn gweithio gyda'r partneriaethau sgiliau—fel y gwn eich bod yn ei wneud—i ysgogi'r newid hwnnw'n gyflym, gan y bydd cyflymder yn hollbwysig yma. Ac wrth gwrs, pan awn ymlaen at y math newydd o dai rwyf wedi eich clywed yn sôn amdano droeon, mae'r sgiliau y bydd eu hangen yno'n wahanol iawn ac efallai'n fwy deniadol i'r sector coll hwnnw o'r boblogaeth o'r diwydiant adeiladu presennol, fel y mae, gan y bydd llawer ohono’n digwydd oddi ar y safle mewn—sut mae ei ddisgrifio? Ni fydd pobl allan yn y gwynt a'r glaw a'r oerfel a'r gwres os ydynt yn gweithio mewn diwydiant adeiladu gwahanol. Ond ar yr un pryd, bydd angen llawer o'r sgiliau presennol arnom, yn enwedig yn y gwaith paratoi'r tir ar gyfer yr adeiladau hynny. Felly diolch, Weinidog, am yr holl bethau rydych wedi’u gwneud, ond yn sicr, hoffwn gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y brys sydd ei angen a sut rydych yn mynd i’r afael â hynny.

16:40

Yn 2020, bu farw Awaab Ishak yn ddwy oed. Canfuwyd mai llwydni yn ei fflat oedd achos ei farwolaeth—llwydni gormodol—ac roedd yn eiddo tai cymdeithasol. Ond serch hynny, yn anffodus, gallai’r un peth ddigwydd mewn eiddo rhent preifat. Rydym wedi clywed, a'm profiad innau hefyd, yw bod tenantiaid yn y sector rhentu preifat yn hynod bryderus ynghylch codi materion yn ymwneud ag oerfel ac inswleiddio gwael a chost gwresogi gyda'u landlordiaid, am eu bod yn bryderus ynghylch colli'r eiddo hwnnw. Felly, rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor hwn a’r argymhellion, ac rwy'n cytuno â hwy. Rwy'n cytuno'n llwyr â’r sylwadau a wnaed gan Gadeirydd y pwyllgor yn y cyflwyniad i’r adroddiad fod angen dybryd am gynllun i ôl-osod y filiwn o gartrefi yn y sector rhentu preifat yng Nghymru. Mae llawer iawn o waith i’w wneud mewn ychydig iawn o amser, ac mae angen llawer mwy o eglurder, os caf ddweud, gan y Llywodraeth ynglŷn â sut maent yn mynd i arwain y broses hon.

Mae cael sector tai rhent preifat gwael yn effeithio ar iechyd pobl, ein hamgylchedd a chostau’r biliau y mae pobl yn eu talu. Felly, byddai'n sefyllfa lle bydd pawb ar eu hennill pe gallem weithredu'n gyflym ar adroddiad y pwyllgor hwn. Cytunaf â’r pwyllgor fod yn rhaid i’r Llywodraeth nodi ei chynllun strategol, ynghyd â’r targedau a’r cerrig milltir, ar gyfer sut y bydd y sector tai preifat yn datgarboneiddio. Mae angen nodi’n glir yr hyn y gall perchnogion cartrefi ei ddisgwyl gan y Llywodraeth a’r hyn y mae angen iddynt hwy eu hunain ei wneud, ac edrychaf ymlaen at glywed beth yw ymateb y Llywodraeth ar y pwynt penodol hwn.

Hoffwn godi dau fater bach iawn. Mae angen inni wneud mwy i ddatgarboneiddio cartrefi gwledig. Mae ardaloedd gwledig fel yr un rwy'n ei chynrychioli yn cynhyrchu cyfran gymharol fach o allyriadau carbon Cymru, ond maent yn wynebu problemau arbennig. Mae ein cartrefi'n llai effeithlon o ran eu defnydd o ynni, gyda llawer o gartrefi heb fod ar y grid ac yn dibynnu ar olew ar gyfer gwresogi, ac maent yn wynebu problemau penodol gydag anwadalrwydd prisiau. Ac rwy'n gwbl argyhoeddedig fod cartrefi gwledig mewn ardaloedd oerach. Edrychaf ymlaen at y dystiolaeth ar hynny ac at bobl yn dweud wrthyf nad yw hynny’n wir, ond rwy’n siŵr, pe baem yn edrych bob bore ar dymheredd y rhai ohonom sy’n byw mewn ardaloedd gwledig o gymharu â'r rhai ohonoch sy’n byw mewn ardaloedd trefol, rwy'n siŵr y byddech yn gweld gwahaniaeth sylweddol. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog fynd i’r afael â’r mater hwn yn ei sylwadau.

Yn ail, hoffwn bwysleisio unwaith eto yr angen am fwy o fuddsoddiad mewn cartrefi cynnes—a soniais am hyn yn gynharach y prynhawn yma yn y mater a godais eto gyda’r Gweinidog ynghylch rhaglen Cartrefi Clyd—a’r manteision economaidd enfawr a allai ddod yn ei sgil. Fel Cadeirydd y pwyllgor, hoffwn glywed amserlen y cynllun newydd, fel ein bod yn mynd i'r afael â hyn go iawn ac yn sicrhau ein bod yn symud yn gyflym.

Ym maniffesto fy mhlaid yn etholiadau diwethaf y Senedd, fe wnaethom alw am wneud cartrefi'n orsafoedd ynni, nid yn unig am fod tai gwael yn arwain at gost i'n hiechyd, ond am fod potensial gan hyn i roi hwb i’n heconomi, fel y clywsom gan Joyce Watson, i greu swyddi, ac i dorri biliau ynni dros y blynyddoedd i ddod. Rydym am greu cylch rhinweddol lle mae cynnydd ar ddatgarboneiddio, twf a chynaliadwyedd yn mynd law yn llaw.

Yn olaf, hoffwn alw unwaith eto am Ddeddf cartrefi gwyrdd, i ryddhau rhai o’r rhwystrau a nodwyd yn yr adroddiad hwn, a rhwystrau y mae pob un ohonom wedi clywed amdanynt dro ar ôl tro, ynghylch creu safon well ar gyfer tai yng Nghymru sy’n sicrhau cartrefi cynhesach a mwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni gan leihau eu heffaith ar y grid a rhoi hwb i'n heconomïau lleol.

A gaf fi ddiolch unwaith eto i’r pwyllgor am eu gwaith caled? Edrychaf ymlaen at weld yr argymhellion yn cael eu rhoi ar waith. Diolch yn fawr iawn.

16:45

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

A gaf fi hefyd ddiolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor a'r clercod a’r rhai a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor, i'r Gweinidog am ei hymateb, a hefyd i'r Cadeirydd? Yn fy marn i, roedd hwn o ddifrif yn bwyllgor a oedd yn gweithredu ar ei orau, yn ceisio gwthio a phrocio'r Llywodraeth yn adeiladol i ddweud, 'Sut y gallwn fynd ymhellach ac yn gyflymach?', nid i fod yn or-feirniadol er mwyn bod yn feirniadol, ond i geisio gweithio gyda graen yr hyn y gwn fod y Llywodraeth yn ceisio'i wneud, ond i geisio archwilio—. Fel y dywed yr adroddiad, nid oes unrhyw beth chwyldroadol na radical yn yr hyn a ddywedwn, ond yr hyn y ceisiwn ei wneud yw gwasgu llawer o fotymau, y mae'r Gweinidog hefyd yn ceisio'u gwasgu, i geisio sicrhau cynnydd ar hyn a'i wneud yn gyflymach. Credaf fod honno wedi bod yn thema gan lawer o bobl sydd wedi siarad eisoes: a allwn wneud i bethau fynd ymhellach ac yn gyflymach?

Wrth ichi ddarllen yr adroddiad hwn, gallwch ei ddarllen fel 'gwydr hanner llawn' neu 'wydr hanner gwag'. Yr hyn y gallwch ei nodi o hyn yw cydnabyddiaeth fod llawer o ffrydiau gwaith da ar y gweill ar hyn o bryd. Ceir llawer o gynlluniau ar waith y bydd y Gweinidog yn cyfeirio atynt, yn gywir ddigon, ac y gwnaeth gyfeirio atynt mewn gwirionedd pan oedd ger ein bron yn y pwyllgor hefyd. Yn ôl pob tebyg, rwy'n credu mai rhwystredigaeth fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor yw ein bod am i'r cynlluniau hynny gael eu gweithredu a’u cyflymu ar unwaith. Mae angen inni weld y gromlin honno o gyflwyno datgarboneiddio yn y sector preifat yn codi'n gyflym. Gwn fod y Gweinidog yn rhannu’r uchelgais hwn hefyd, heb unrhyw amheuaeth, ac mae’n werth nodi hefyd, yn sicr, fod Llywodraethau eraill mewn gwahanol rannau o’r DU wedi bod yn aflwyddiannus yn hyn o beth hefyd. Mewn rhai ffyrdd, byddwn yn canmol y Gweinidog am geisio rhoi prawf ar bethau’n iawn a sicrhau eu bod yn gweithio, ac os felly, galwad y pwyllgor yw: ‘Pan gânt eu profi, a gawn ni fwrw ymlaen â hwy'n llawn ac ar fyrder?'

Un o’r cwestiynau sydd gennyf, yn hytrach na thrafod manylion y nifer helaeth o argymhellion, ac rwy'n cydnabod bod y Gweinidog wedi derbyn llawer ohonynt yn llawn ac eraill mewn egwyddor, gydag esboniadau ynghylch pam na allai eu derbyn yn llawn. Ond mae fy nghwestiwn yn fwy syml, sef sut olwg fydd ar hyn ymhen 12 mis? Sut olwg fydd ar hyn ymhen 24 mis? Sut olwg fydd ar hyn ar ddiwedd tymor y Senedd hon? A fyddwn wedi gweld cynnydd cyflym yn y nifer sy’n bwrw iddi i ddatgarboneiddio yn y sector preifat, a’r manteision ehangach y cyfeiriodd Jane Dodds ac eraill atynt, a mynd i’r afael â rhai o’n problemau mewn ffordd gydamserol mewn perthynas â thlodi tanwydd a chartrefi cynnes ac yn y blaen? Gwn fod yr adroddiad hwn yn canolbwyntio i raddau helaeth ar ddatgarboneiddio, ond gall cynllun sydd wedi’i lunio’n dda wneud nifer o’r pethau hyn law yn llaw â'i gilydd. Felly, sut olwg fydd ar bethau wedi'r cyfnodau hynny o amser? A fyddwn ni, erbyn diwedd tymor y Senedd hon, yn gallu dweud yn bendant fod gennym eglurder a sicrwydd ynghylch y mecanweithiau rydym yn eu defnyddio a bod y mecanweithiau hynny bellach wedi'u defnyddio'n llawn ac yn sicrhau canlyniadau hefyd? A fyddwn wedi dechrau gwneud cynnydd real ac ystyrlon?

Credaf fod rhagair y Cadeirydd yn crynhoi'r sefyllfa'n dda iawn, drwy gyfeirio at yr argyfwng costau byw, drwy gyfeirio at y biliau ynni, drwy gyfeirio at y lefelau uchaf erioed o dlodi tanwydd a sut mae teuluoedd yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd. Ond mae hefyd yn cydnabod nad yw arian cyhoeddus ar ei ben ei hun yn ddigonol i wneud y gwaith ôl-osod ar draws holl gartrefi Cymru. Dylai'r rheini sy'n gallu fforddio gwneud hynny dalu neu gyfrannu at y gwaith. Mae angen atebion ariannol arnom a fydd yn ei gwneud yn werth chweil i landlordiaid a pherchnogion yn y sector preifat wneud hyn. Ac mae hynny'n golygu cymysgedd o reoleiddio a chymelliadau ariannol o wahanol fathau, ac mae rôl i Lywodraeth y DU hefyd, sy'n sicr wedi ceisio ac wedi methu gwneud hyn yn iawn dro ar ôl tro. Felly, hoffwn weld tystiolaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU hefyd i geisio alinio'r cymysgedd hwnnw o foron a ffyn i sicrhau'r cynnydd hwnnw hefyd. Ond mae'r paragraff hwnnw, y paragraff olaf ond un, yn cloi drwy ddweud, a chredaf mai dyma thema'r ddadl—rydym yn dweud

'Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu’n gyflymach i fynd i’r afael â hyn os yw am wneud cynnydd.'

Nawr, mae digon o waith yn mynd rhagddo. Ein cwestiwn yw: a fydd yn cyflymu? Mae’r Gweinidog wedi cytuno i adrodd yn ôl i’r pwyllgor ar sawl agwedd, a byddwn yn sicr yn croesawu hynny—mae hynny’n ddefnyddiol iawn. Ond erys fy nghwestiwn, Weinidog: pa mor hyderus ydych chi y bydd yr holl bethau sy’n cael eu rhedeg drwy wahanol ffrydiau gwaith ar hyn o bryd yn dwyn ffrwyth, fel y gallwn weld, pan fydd y pwyllgor yn eich holi eto ymhen 12 mis, y cynnydd hwnnw’n cael ei wneud, ac y bydd y gromlin honno o gynnydd yn wahanol ymhen 24 mis ac ar ddiwedd tymor y Senedd hon? Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

16:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, aelodau'r pwyllgor a thîm y pwyllgor am eu holl waith caled iawn, ac mae eu hadroddiad wedi'i werthfawrogi'n fawr iawn, ac mae'n bwnc rydym yn rhannu pryder mawr yn ei gylch, felly rwy'n falch iawn o allu ymateb i’r ddadl heddiw. Ond mae gennyf ymddiheuriad i'w wneud, Ddirprwy Lywydd, sef yn syml nad oes amser ar gael i ateb pob un o'r cwestiynau y mae pawb wedi'u gofyn heddiw, hyd yn oed pe bawn yma am 45 munud. Ni fyddwn—rwy'n amheus y caniatewch i mi gael cymaint â hynny. Felly, fe roddaf sylw i gynifer o feysydd ag y gallaf, ond unwaith eto, rwy'n fwy na pharod i gael deialog barhaus gyda'r pwyllgor i drafod rhai o'r meysydd.

Felly, mae digwyddiadau byd-eang a’r argyfwng costau byw wedi dod â’r angen dybryd i ddatgarboneiddio ein cartrefi i’r amlwg, nid yn unig er lles ein planed, ond hefyd er mwyn sicrhau y gall pobl fod yn gynnes, yn gyfforddus ac yn iach yn eu cartrefi. Mae pawb yn cytuno ar gymaint o bethau. Mae'n bwysicach fyth i ni yng Nghymru, lle mae rhywfaint o'n stoc dai ymhlith yr hynaf a'r lleiaf effeithlon o ran y defnydd o ynni yn y DU—mae hynny wedi'i gydnabod hefyd. A gaf fi ddweud er hynny fod gennym rai o'r goreuon hefyd? Rydym yn tueddu i ddweud bob amser fod gennym rai o'r tai hynaf yma yng Nghymru. Mae gennym hefyd rai o'r goreuon. Credaf ei bod yn bwysig deall hynny, ac mae hynny'n rhannol am fod gennym raglen dai arloesol dda iawn, ac mae'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio'n helpu gyda hynny hefyd.

Mae'r Llywodraeth wedi canolbwyntio ar dai cymdeithasol, ac nid wyf yn gwneud unrhyw esgusodion am hynny. Y rheswm am hynny yw ein bod yn defnyddio dull 'profi a dysgu', ac mae dysgu a datblygu ein polisïau a’n harferion yn llywio’r gwaith sydd angen ei wneud yn y sector tai preifat hefyd. Ac unwaith eto, rwy'n argyhoeddedig mai dyma'r ffordd gywir o wneud hyn. Gwyddom nad yw un dull addas i bawb yn gweithio. Yn gynharach heddiw, mewn cwestiynau llafar, gofynnodd sawl Aelod i mi am raglenni Cartrefi Clyd blaenorol a phroblemau roeddent wedi’u cael gyda’u hetholwyr. Wel, y rheswm am hynny oedd nad oedd gennym ddull 'profi a dysgu', felly mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Pan fyddwn yn gwneud y buddsoddiadau hyn, mae'n rhaid i'r buddsoddiadau gyfrif ac mae'n rhaid iddynt weithio. Felly, mae'n wirioneddol bwysig gwneud hynny.

Ac yna, fel y nododd Joyce, fel y mae wedi’i wneud ers blynyddoedd lawer, un o’r heriau allweddol sy’n wynebu’r sector tai yw’r sgiliau sydd ar gael i wireddu'r uchelgeisiau a rennir gennym. Felly, rwy'n falch iawn fod Vaughan a minnau, ddiwedd mis Chwefror, wedi gallu lansio cynllun gweithredu sgiliau Cymru Sero Net, gan nodi sut y byddwn yn blaenoriaethu’r saith maes gweithredu allweddol. Mae’r cynllun yn nodi sut y byddwn yn gweithio i ddatblygu dealltwriaeth glir o effeithiau newid, i ddysgu gwersi o’r gorffennol ac adeiladu dyfodol i Gymru sy’n cefnogi economi llesiant. Felly, byddwn yn sicrhau bod y camau gweithredu hynny'n cael eu rhoi ar waith, ac yn sicr, Joyce, mae hynny'n golygu gweithio gyda'r darparwyr hyfforddiant a'r bobl ifanc hefyd i nodi sgiliau'r dyfodol, ac i'w gwneud yn glir iddynt fod dyfodol da i'w gael os ydynt yn dilyn y llwybr hwnnw. Mae'r ddau beth yr un mor bwysig. Mae'n rhaid inni sicrhau hefyd fod y gweithlu presennol yn gallu ennill cyflog ac addasu i ddulliau newydd yn seiliedig ar y dystiolaeth a'r ymchwil honno. Mae'r mwyafrif helaeth o sgiliau sydd eu hangen arnom eisoes yn y gweithlu, felly mae’n rhaid inni allu addasu fel hynny hefyd.

Deallaf fod Cadeirydd y pwyllgor yn chwilio am gynllun gwahanol, ond mae Cymru Sero Net yn nodi disgwyliad fod yna angen—angen—i gartrefi ac adeiladau Cymru fod yn garbon sero net erbyn 2050, a bod yn rhaid i ymyrraeth yn y dyfodol i gefnogi pobl mewn tlodi tanwydd roi ystyriaeth bellach i'r angen i fynd i'r afael â newid hinsawdd drwy ddatgarboneiddio'r sector tai. Hynny yw, mae hynny yn y cynllun eisoes—er eglurder, mae hynny yno eisoes. Ond mae'n her, ac mae'n her gostus, fel y mae llawer o bobl wedi nodi. Ers 2010 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2022, rydym wedi buddsoddi mwy na £420 miliwn mewn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi drwy raglenni Cartrefi Clyd ac wedi darparu gwelliannau i fwy na 73,000 o aelwydydd incwm is. Mae llawer mwy i'w wneud, ond rwyf am fod yn siŵr eich bod yn deall bod llawer eisoes yn digwydd hefyd. Y bwriad nawr, gyda'r rhaglen newydd, yw mabwysiadu dull carbon isel ffabrig yn gyntaf, gwaethaf yn gyntaf, a chyflwyno mesurau i wella effeithlonrwydd ynni y cartrefi incwm isel lleiaf effeithlon yn thermol yng Nghymru.

O ran cyflymu, fel rhan o’n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, mae gennym grŵp her sy’n edrych ar gyflymu’r daith hon. Cyfarfu Siân a minnau â nhw yn ddiweddar iawn, ac un o’r pethau y byddant yn edrych arnynt yw: a allwn gyflymu’r nod 2050 i 2035, ac os felly, sut? Felly, os caf roi sicrwydd fod yna gynllun ar waith sy'n edrych ar gyflymu. Os gallwn fynd yn gyflymach, byddwn yn sicr yn gwneud hynny.

Ond rydym hefyd yn gwerthuso opsiynau ar gyfer ailariannu gwaith ôl-osod yn y sector perchen-feddianwyr a'r sector rhentu preifat hefyd. Maent yn ymgorffori ystod eang o ddulliau cyllido, gan gynnwys ynni glân a asesir fesul eiddo, lle mae’r benthyciad yn gysylltiedig â’r eiddo yn hytrach na’r unigolyn—benthyciadau llog isel, benthyciadau rhyddhau ecwiti a morgeisi gwyrdd—a cheisio dod o hyd i ffordd sy’n caniatáu i bobl fuddsoddi yn eu cartref mewn ffordd gynaliadwy sy’n golygu bod mwy o bobl yn debygol o fanteisio ar y cyllid. A dweud y gwir, os ydych yr un oed â mi, nid yw rhywbeth sy'n cymryd 20 mlynedd i'w ad-dalu i'w weld yn werth ei gael, felly mae'n rhaid ichi allu gwneud iddo edrych yn werth ei gael i berchennog y cartref hefyd.

Rydym hefyd yn gweithio gyda Banc Datblygu Cymru i edrych ar opsiynau ariannu ar gyfer y sector perchen-feddianwyr yn benodol, ac rydym wedi dod â phanel o arbenigwyr o bob rhan o’r sector cyllid at ei gilydd i weithio gyda ni ar werthuso opsiynau a llunio’r atebion.

16:55

Diolch yn fawr iawn. Un o’r pethau a fyddai’n ein galluogi i fynd yn gyflymach fyddai pe baem yn newid y rheoliadau ynghylch pympiau gwres ffynhonnell aer i alluogi’r rhai ohonom sy’n byw mewn tai teras, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, i gael manteision pympiau gwres ffynhonnell aer, o ystyried ei bod yn anodd iawn gosod pympiau gwres o'r ddaear mewn eiddo sy'n agos iawn at ei gilydd. Felly, tybed a ydych wedi ystyried lleihau'r terfyn 3m ar bympiau gwres ffynhonnell aer, gan fy mod wedi cael sicrwydd nad yw pympiau gwres ffynhonnell aer modern yn allyrru unrhyw sŵn o gwbl.

Yn gryno iawn ar hynny, Jenny, rydym yn sicr yn edrych ar yr hawliau datblygu a ganiateir, ond ni fyddant ar gyfer unrhyw bwmp gwres ffynhonnell aer; bydd yn rhaid inni ddweud bod yna lefel desibelau a ganiateir, ac mae hynny ychydig yn fwy cymhleth na'r hyn rydych chi'n ei ofyn. Nid wyf am ei ostwng a bod ein Bil seinweddau'n ei gwneud yn amhosibl ichi ei wneud beth bynnag. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod hynny'n gymesur, ond rydym yn bendant yn edrych ar hynny.

Ac yna, ar gyfraniadau Jenny Rathbone a Jane Dodds, rydym bellach, wrth gwrs, wedi rhoi Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ar waith, ac mae llawer o'r materion a godwyd yn y dystiolaeth, Jenny, a nodwyd gennych chi, ac a nodwyd gan Jane, wedi’u cwmpasu gan y Ddeddf rhentu cartrefi, ac yn benodol, mae troi allan dialgar wedi’i gynnwys, ac rydym bellach wedi rhoi hynny ar waith. Mae ar gam cynnar iawn, ond wrth iddo gael ei gyflwyno ledled Cymru, rydym yn rhoi camau mawr ar waith i sicrhau bod tenantiaid yn cael gwybod bod ganddynt hawliau a bod y Ddeddf honno'n rhwystro landlord rhag eu troi allan yn ddialgar. Felly, rwy’n gwbl hyderus, wrth i’r Ddeddf honno ymwreiddio ar gyfer eiddo yng Nghymru, y bydd y mathau hynny o faterion yn bendant yn gwella, a byddwn yn gwneud llawer o waith, nad oes gennyf amser i fanylu arno, i roi cyhoeddusrwydd i hynny ac i sicrhau bod tenantiaid yn gallu ei wneud.

Yn ddiweddar, rwyf hefyd wedi cyhoeddi'r dyraniad o £50 miliwn i'r grant cartrefi gwag i ddod â 2,000 o eiddo gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd; mae hynny'n ychwanegol at gyllid benthyciadau trawsnewid trefi ac eiddo, sydd wedi gwella neu wedi dod â 3,000 o gartrefi eraill yn ôl i ddefnydd. Mae pob un o'r rhain mewn cyflwr carbon isel, pan fyddant yn ôl mewn defnydd. Mae'r cynllun yn rhoi £25,000—hyd at £25,000—i berchnogion tai neu ddarpar berchnogion tai gael gwared ar beryglon sylweddol o'u heiddo, eu gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt a gwella effeithlonrwydd ynni. Gall landlordiaid cymdeithasol, awdurdodau lleol a grwpiau tai cymunedol hefyd gael mynediad at gyllid ar gyfer eiddo gwag y maent yn eu caffael i ddod â nhw yn ôl i ddefnydd fel tai fforddiadwy yn yr un cynllun.

Mae gennym hefyd y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio y buddsoddwyd £120 miliwn ynddi. Mae'n parhau i fod yn rhaglen brofi a dysgu. Rydym wedi newid y dull ariannu i gydnabod yr angen i gynyddu cyflymder a graddfa datgarboneiddio yn y sector hwn ac i sicrhau bod pob landlord cymdeithasol yn gallu cynllunio a datblygu eu rhaglen ddatgarboneiddio, yn ogystal â chyflwyno dulliau arloesol. Ond y peth pwysig yma yw bod y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio'n gweithio ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan, ac mae'n cynnwys datblygu a gwerthuso cynhyrchion newydd ynghyd â'r gweithlu sydd ei angen ar gyfer gweithgynhyrchu, gosod a chynnal a chadw. Felly, mae adolygiad sgiliau sero net Llywodraeth Cymru yn rhan allweddol o'r gwaith hwnnw, ac mae'n bwysig ei ystyried yn y ffordd gyfannol honno.

Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddenu buddsoddiad sydd ar gael drwy’r cynllun rhwymedigaeth cwmnïau ynni ochr yn ochr â TrustMark, sydd wrthi’n trafod gyda sector gwasanaethau ariannol y DU, ac rwy’n falch iawn o adrodd ein bod, ar ôl ymgynghori, ar fin cwblhau manylion ein safon ansawdd tai newydd Gymreig ar gyfer 2023, i’w chyhoeddi eleni. Elfen allweddol ohoni fydd uchelgais beiddgar i sicrhau bod ein stoc dai cymdeithasol gyfan yn bodloni’r lefelau effeithlonrwydd ynni uchaf posibl.

Fel yr amlygodd Delyth Jewell ac eraill, mae llawer o bobl yn y sector tai preifat yn awyddus i ddechrau ar y daith i ddatgarboneiddio eu cartrefi. I'w cefnogi nhw ac i roi hyder eu bod yn rhoi'r camau cywir ar waith ar gyfer eu cartrefi, yn ogystal â darparu cyngor, cymorth ac arweiniad ehangach i bawb, rydym yn creu'r hyb tai carbon sero net. Cafodd ei lansio'n ddiweddar. Bydd yn darparu hyb effeithiol, pwrpasol sy’n seiliedig ar gamau gweithredu, ac yn cyflymu’r newid i sero net ar draws pob math o ddeiliadaeth. Bydd ganddo elfen parth cyhoeddus a fydd yn arddangos astudiaethau achos, adolygiadau gan gymheiriaid ar ymchwil academaidd Cymru, ac A i Y y gadwyn gyflenwi yng Nghymru, ynghyd â manylion am gyllid arall sydd ar gael ar gyfer datgarboneiddio cartrefi, i wneud yn union fel y mae Huw ac eraill wedi'i ddweud, a rhoi'r cyngor cywir i bobl fuddsoddi eu harian eu hunain yn eu cartrefi eu hunain, i gael y dechnoleg iawn ar yr amser iawn ac am y pris iawn. Felly, rydym yn gwneud cyfres gyfan o bethau yn y cyswllt hwnnw.

Fel y rhagwelwyd, Ddirprwy Lywydd, mae fy amser ar ben bellach. Ond yn gryno iawn, hoffwn ddweud fy mod yn hyderus ein bod yn gwneud y peth iawn ar gyfer y sector preifat. Mae’n cymryd amser hir i gael y sgiliau a’r gadwyn gyflenwi yn eu lle, ond rydym yn gwneud hynny. Rwy’n fwy na pharod i adrodd yn ôl i’r pwyllgor wrth inni symud ymlaen, gan fy mod innau hefyd yn dymuno gwneud hyn mor gyflym â phosibl. Diolch.

17:00

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r drafodaeth. Gwnaf i jest amlygu ambell i bwynt, efallai, a datblygu ymhellach arnyn nhw wrth gloi.

Diolch i Janet am ei chyfraniad, yn ein hatgoffa ni bod y cloc yn ticio. Mae hynny yn sicr yn wir, ac mi wnaeth hi gydnabod bod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig rôl bwysig i'w chwarae yn hyn o beth. Mi gyfeiriodd hi yn benodol at y MEES—y minimum energy efficiency standards—ac mae ECO ac mae'r boiler upgrade scheme hefyd i gyd yn bethau mae'n bwysig i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddod â i'r bwrdd, a dwi'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 17 i barhau i ymgysylltu ac i geisio dylanwadu ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn hynny o beth.

Jenny hefyd—Jenny Rathbone yn sôn am y twll du yma o £1 biliwn pan fo'n dod i gyllideb ac ariannu, wrth gwrs, a phan rŷch chi yn wynebu sefyllfa lle mae saith allan o bob 10 o eiddo rhent preifat yn oer ac yn damp, mae hynna'n ein hatgoffa ni o sgêl y broblem. Dwy ran o dair gydag EPC rating o D neu yn is, ac rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, onid ydyn ni, fod tai rhent yng Nghymru, y mwyafrif ohonon nhw, yn dyddio yn ôl cyn 1929 pan eu hadeiladwyd nhw. Ond mae'n ddigon teg i'r Gweinidog ein hatgoffa ni fod gennym ni beth o'r tai gorau hefyd, nid dim ond y rhai gwaethaf. Ond, mewn perthynas â'i gilydd, wrth gwrs, mae rhai gwaeth lawer lawer yn fwy pan fo'n dod i niferoedd, ac mae hynny'n tanlinellu'r angen i symud yn gyflymach ac i gwrdd â sgêl yr her mewn ffordd fwy grymus.

Roedd Delyth yn sôn am yr annhegwch cymdeithasol. Mae yna greisis anghyfartaledd, heb os nac oni bai. Mae yna greisis tlodi modern, a phan rŷch chi yn gweld y biliau ynni £300 yn uwch oherwydd ansawdd tai i'r bobl hynny sy'n stryglo fwyaf, yna, fel dywedodd Delyth, mae yna annhegwch ar annhegwch fan hyn, ac mi ddylai hynna fod yn gymhelliad mor gryf, neu gyn gryfed ag unrhyw gymhelliad amgylcheddol neu unrhyw gymhelliad arall, i fynd i'r afael â'r mater yma.

Mae Joyce, fel arfer, yn ein hatgoffa o'r perygl o brinder sgiliau yn y cyd-destun hwn. Wyddoch chi, pwy sy'n mynd i wneud y gwaith y gofynnwn i bobl ei wneud? Ac mae cael llwybrau a thargedau clir i sicrhau bod llif gweithlu'n dod drwodd yn bwysig, fel y mae'r agenda ailsgilio. Ac rwy'n credu eich bod wedi sôn bod angen cynnydd hanner can gwaith drosodd yn nifer y rhai sy'n gosod pympiau gwres o'i gymharu â'r hyn sydd gennym heddiw. Felly, rwy'n meddwl fy mod yn gwybod beth y dylai unrhyw entrepreneuriaid allan yno fod yn ceisio ei wneud.

Roedd Jane hefyd yn ein hatgoffa, Jane Dodds, o ganlyniadau cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n wael ac sy'n aneffeithlon yn eu defnydd o ynni i iechyd. Ac mae hi'n iawn i'n hatgoffa bod maint a natur yr her mewn ardaloedd gwledig yn wahanol iawn, ac rwy'n gwybod bod y Llywodraeth yn cydnabod hyn, yn enwedig ar gyfer eiddo sydd oddi ar y grid, ac yn wynebu math gwahanol iawn o her gydag anwadalrwydd pris ynni.

Huw: gwthio a phrocio. Rydych chi'n iawn. Mae angen inni fod yn glir: ble fyddwn ni arni ymhen 12 mis, ymhen 24 mis, erbyn diwedd y Senedd hon? A dyna'r eglurder a'r sicrwydd y mae'r pwyllgor yn chwilio amdano mewn gwirionedd, fel y mae'r sector ehangach. Mae yna bobl allan yno yr ydym yn disgwyl iddynt ysgwyddo eu cyfrifoldeb a diwallu'r angen i wybod, fel y gallant fod â hyder wrth symud yn bendant i'r cyfeiriad hwn, a bydd yn gymysgedd o reoleiddio a chymhellion, y foronen a'r ffon, fel sy'n wir bob amser, rwy'n siŵr.

Diolch i chi, Weinidog, am eich parodrwydd a'ch brwdfrydedd i gael y ddeialog barhaus hon, ac mae'r dull profi a dysgu yn gwbl gywir. Rydych chi'n iawn: ni ddylem ddechrau dilyn unrhyw drywydd oni bai ein bod yn eithaf sicr ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir. Ond wrth gwrs, y teimlad yw bod angen i lawer o hyn ddod i'r wyneb bellach, onid oes? Efallai fod yna lawer o waith yn digwydd yn y cefndir, ond mae gwir angen inni weld arwyddion o fwy o weithredu ar lawr gwlad.

Felly, gaf i ddiolch i bawb am gyfrannu at y ddadl? Gaf i ddiolch hefyd i’r holl randdeiliaid sydd wedi cyfrannu eu tystiolaeth i waith y pwyllgor, ac i’r tîm clercio, wrth gwrs, am eu holl gefnogaeth?

Mae’r manteision o gyflawni’r agenda ôl-osod yma, fel rŷn ni’n gwybod, yn dod â buddiannau amgylcheddol o safbwynt effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio, ond mae hefyd yn dod â buddion cymdeithasol pan fo’n dod i daclo tlodi tanwydd a gwella canlyniadau iechyd o fewn y boblogaeth. Ond mae hefyd yn dod â buddiannau economaidd, onid yw e, o safbwynt creu swyddi a’r cyfleoedd gyrfa sydd yna i ddarparu rhai o’r gwasanaethau rŷn ni’n chwilio amdanyn nhw.

Felly, fel pwyllgor, rŷn ni’n falch iawn o’r cyfle i fod yn cyfrannu at y drafodaeth yma; yn arwain, pan y gallwn ni, y drafodaeth yma; ac yn sicr yn annog y Llywodraeth i fynd yn gynt ac ymhellach ar yr agenda yma, oherwydd mae’r buddiannau yn ddirifedi yn y pen draw. Diolch.

17:05

Y cwestiwn yw y dylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Coroni

Cynnig NDM8250 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn estyn ei dymuniadau gorau i'w Fawrhydi'r Brenin ac Ei Mawrhydi'r Frenhines Gydweddog ar ddigwyddiad eu coroni.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch o galon, Ddirprwy Lywydd. Mae'n fraint fawr cael agor y ddadl bwysig hon, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Ymhen ychydig ddyddiau'n unig, bydd miliynau o bobl yng Nghymru, y DU ac ar draws y byd yn dod at ei gilydd ar gyfer coroni eu Mawrhydi y Brenin a'r Frenhines Gydweddog. Heb os, mae'r penwythnos hwn yn addo bod yn achlysur hynod o lawen, gan arddangos y gorau o Brydain i'r byd. O'r coroni ei hun a'r cyngerdd llawn o sêr yng nghastell Windsor i Ginio Mawr y Coroni a'r Help Llaw Mawr, mae yna rywbeth i bawb gymryd rhan ynddo mewn gwirionedd.

Y penwythnos hwn byddaf yn nodi'r foment wirioneddol hanesyddol hon wedi fy amgylchynu gan fy nheulu a fy ffrindiau, fel nifer ohonoch chi, rwy'n siŵr. Ac a gaf fi ddweud diolch yn fawr iawn i fy nghyd-Aelodau Tom Giffard a Sam Rowlands am ysgrifennu at bob un o awdurdodau lleol Cymru i'w hannog i ddangos y coroni ar sgriniau cyhoeddus?

Mae llu o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ar draws fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru y penwythnos hwn. Mae digwyddiad Cinio Mawr y Coroni ym mharc Beechwood yng Nghasnewydd ddydd Sul yn cynnwys marchnad, gweithgareddau chwaraeon, celf a chrefft a cherddoriaeth fyw. Mae Cas-gwent yn cynnal Diwrnod Hwyl Mawr ddydd Llun Gŵyl y Banc gyda cherddoriaeth, barbeciw, reidiau ffair, gweithgareddau a thân gwyllt. Mae parti stryd mawr ym Mrynbuga ddydd Sul gydag adloniant i blant a cherddoriaeth, ac mae dathliadau'r coroni'n parhau yng Nghaerffili ddydd Sadwrn gyda chestyll bownsio, anifeiliaid fferm, cerddoriaeth a llawer mwy. Hoffwn annog pawb i ddarganfod pa ddigwyddiadau a gynhelir yn eu cymunedau nhw ac i fynd yno i gael ychydig o hwyl a nodi'r achlysur pwysig mewn steil.

Nid oes amheuaeth fod gan y Brenin Charles III esgidiau anhygoel o fawr i'w llenwi. Roedd ei fam, ein diweddar annwyl Frenhines, yn ysbrydoliaeth i lawer, ar ôl teyrnasu drosom am dros 70 mlynedd. Er gwaethaf y dasg anferth sydd o'i flaen, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y Brenin a'r Frenhines Gydweddog yn cynnal anrhydedd ein diweddar Frenhines a'r Deyrnas Unedig. 

Mae Cymru bob amser wedi bod â lle arbennig yng nghalon y Brenin Charles III, ar ôl iddo wasanaethu fel ein Tywysog am 64 o flynyddoedd. Drwy gydol ei gyfnod fel Tywysog Cymru, mae ei gariad tuag at ein gwlad a'r Cymry wedi dyfnhau. Yn wir, mae'r Brenin Charles III yn noddwr ac yn ymddiriedolwr i lawer o elusennau a mudiadau Cymreig, gan gynnwys Age Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Roedd hefyd yn anrhydedd fawr i gael sgwrs fer gyda'r Brenin Charles pan ymwelodd â Senedd Cymru, er yr amgylchiadau hynod o drist. Fe siaradom am ei gariad tuag at yr amgylchedd, a manteisiais ar y cyfle hyd yn oed i wahodd Ei Fawrhydi i dde-ddwyrain Cymru. Un peth sy'n sicr: bydd Ei Fawrhydi yn ymdrechu i wasanaethu'r wlad wych hon gydag ymdeimlad cryf o gadernid, dewrder a dyletswydd.

Fel un a aned yng Nghymru gyda thad a aned yn India cyn y rhaniad, a mam a gafodd ei geni ym Mhacistan—dwy wlad yn y Gymanwlad—ac yn dod o dŷ lle rydym yn siarad pedair iaith ar yr un pryd, hoffwn ddweud wrth eu Mawrhydi: yn Wrdw, 'Aap ko humari taraf se dher sari shub kamniya', sy'n golygu 'pob dymuniad da am lwyddiant aruthrol i chi'; yn y Bwnjabeg, 'Tusa nu lakh lakh vadhiya', sy'n golygu 'llongyfarchiadau enfawr'. Hefyd, hoffwn ddweud 'Pob lwc' yn Gymraeg wrth y ddau Fawrhydi cyn y coroni y penwythnos hwn; ac yn olaf, ond nid yn lleiaf, yn Saesneg, 'Here's to a very successful, healthy and long reign ahead.' Duw gadwo'r Brenin.

17:10

Onid yw'n wych ein bod ni'n gallu cael y ddadl hon yma heddiw yn Senedd Cymru? Ac wrth gwrs, mae gan Gymru hanes rhyfeddol gyda'r Brenin Charles III, gyda Chymru'n rhan ganolog o lawer o'i fywyd. Cafodd y Brenin, bellach wrth gwrs, ei wneud yn Dywysog Cymru ym 1958, ac ef yw'r un sydd wedi gwasanaethu hiraf fel Tywysog Cymru yn hanes Prydain; camp go ryfeddol mewn gwirionedd, ac mae'n sicr yn dangos cysylltiad â Chymru, cysylltiad hirach na'r blynyddoedd y bu llawer ohonom sydd yn y Siambr yn fyw.

Mae'r teitl Tywysog Cymru wedi cael ei gydnabod a'i ddathlu ledled y byd ac wedi bod yn ffordd wych i'n gwlad gael cydnabyddiaeth ar lwyfan y byd. Yn wir, roeddwn yn falch o allu cael sgwrs â CBS, Corfforaeth Ddarlledu Canada, yn ddiweddar ar yr union gwestiwn hwn o rôl y Brenin a'r coroni o'n blaenau.

Astudiodd y Brenin ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1969, gan gynnwys cwrs cyflym yn yr iaith Gymraeg, ac rydym yn gwybod iddo fwynhau pysgota ar ystad Glanusk ym Mhowys, gan gael cysur, rwy'n credu, ym mryniau ac afonydd hardd canolbarth Cymru. Mae Ei Fawrhydi wedi bod â chartref yn sir Gaerfyrddin ers amser maith, ac roedd i'w weld yn aml yn cerdded yn yr ardal, a chredaf ei fod hyd yn oed wedi eu helpu i gynllunio neuadd bentref newydd. Rwy'n siŵr fod pawb yn gwerthfawrogi hynny. A'i ymweliad swyddogol olaf â Chymru fel Tywysog oedd i Dreorci yn haf 2022, a heidiodd pobl i'r strydoedd er mwyn gweld ein Brenin, erbyn hyn, achlysur a ddangosodd hoffter pobl yn y Rhondda o'n teulu brenhinol.

Er hynny, rwy'n gwybod bod yna rai pobl yng Nghymru nad ydynt yn rhannu fy nghyffro ynglŷn â'r penwythnos hwn, ac efallai fod ganddynt amheuon ynghylch dathlu'r Brenin a'r coroni, a hoffwn gymryd eiliad, Ddirprwy Lywydd, i dawelu eu meddyliau, ac i ganiatáu iddynt fwynhau eu hunain yr wythnos hon wrth i'r Brenin gael ei goroni.

Felly, ar wahân i'r llawenydd a'r teimlad o undod a ddaw yn sgil y coroni i gymunedau ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig, bydd hefyd yn dod â hwb economaidd yn ei sgil, yn enwedig yn y maes twristiaeth a lletygarwch. Mae'r Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes yn amcangyfrif y bydd twristiaeth a gwariant ychwanegol mewn tafarndai—ac nid yn Alun a Glannau Dyfrdwy yn unig—yn rhoi hwb ychwanegol o £337 miliwn i'r economi. Yn wir, mae ffigurau gan UK Hospitality yn awgrymu y bydd penwythnos y coroni yn ychwanegu £350 miliwn at wariant. Rwy'n gwybod nad yw pawb bob amser yn cefnogi twristiaeth yn y Siambr hon, neu letygarwch efallai, ond rwy'n credu y bydd y rhan fwyaf o bobl yn sicr yn croesawu'r hwb economaidd hwn i Gymru sydd wedi'i gymell gan y digwyddiad brenhinol.

Mae'n gyfnod pwysig yn hanes y Deyrnas Unedig. Coronwyd ein diweddar Frenhines Elizabeth II ym 1953, felly dyma fydd y coroni cyntaf y bydd y mwyafrif llethol o bobl yn ein gwlad yn gwybod amdano neu'n ei gofio. Mae'n foment hefyd lle bydd y byd i gyd yn gwylio, ac rwy'n falch o ddweud mai cyn-Dywysog Cymru fydd yn Frenin arnom. Mae ein brenhiniaeth yn destun cenfigen y byd; mae'n gweithredu fel ffocws i'n hunaniaeth genedlaethol, yn ein huno ac yn rhoi ymdeimlad o falchder i ni. Mae'n cynnig parhad a sefydlogrwydd i ni; ni waeth beth yw'r ymrafael gwleidyddol, mae'r frenhiniaeth yn aros yn gyson ac uwchlaw'r ffrae. Felly, gadewch inni ymuno i ddathlu coroni Ei Fawrhydi Brenin Charles III, ac o Gymru dywedwn, 'Duw gadwo'r Brenin'.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad yn y ddadl heddiw, ac yn falch o gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron i nodi achlysur hanesyddol, sef coroni Ei Fawrhydi y Brenin Charles III. Ddirprwy Lywydd, bydd yr achlysur ddydd Sadwrn yn uno pobl nid yn unig yn y Deyrnas Unedig, ond ym mhob rhan o'r byd. Bydd yn dod â chymunedau at ei gilydd.

Yn fy nghyfraniad byr heddiw, hoffwn dynnu sylw at rôl un o drigolion lleol Cei Connah—a pherthynas i'r Dirprwy Weinidog Hannah Blythyn—Paul Mealor. Efallai y dylwn roi iddo'i deitl llawn, Ddirprwy Lywydd, sef yr Athro Paul Mealor, cyfansoddwr brenhinol. Paul sy'n cyfansoddi'r perfformiad cyntaf yn Gymraeg mewn seremoni goroni—darn o hanes; diwrnod hanesyddol i Paul, diwrnod hanesyddol i Lannau Dyfrdwy, diwrnod hanesyddol i'r Deyrnas Unedig. Pob lwc, Paul, mae'r Cei'n falch ohonoch chi.

17:15

Mae'n anrhydedd cael siarad yn y ddadl hon heddiw yn ein Senedd Gymreig. Mae llawer o gyd-Aelodau yn y Siambr eisoes wedi siarad am y Brenin a'i amser yng Nghymru, ei waddol a'r hyn y mae wedi'i wneud dros Gymru a'i phobl, a hefyd ei ddiweddar fam, Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. 

Ond hoffwn siarad am Ei Fawrhydi, nid fel Brenin, ond fel gweithredwr, ymgyrchydd a grym dros newid. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod mai ef oedd y Tywysog Cymru sydd wedi gwasanaethu hiraf—64 mlynedd a 44 diwrnod, bron ddwywaith fy oedran i a bron oes gyfan. Ond yn ystod y 64 mlynedd y bu'n Dywysog Cymru, roedd yn hyrwyddwr ar ran ei phobl, ei diwylliant, ei threftadaeth a'n cefn gwlad. Roedd ei angerdd dros ffermio sy'n ystyriol o natur, cariad at ganu Cymraeg a'r cymunedau sy'n ffurfio gwead ein cenedl yn rhywbeth yr oedd Ei Fawrhydi'n falch o'i hyrwyddo ym mhob rhan o'r byd. Mae'n galw Cymru'n gartref iddo gyda balchder, o'i gyfnod yn Aberystwyth a'i gartref presennol yn sir Gaerfyrddin.

Pan fyddaf yn meddwl am y Brenin, rwy'n meddwl am rywun o flaen eu hamser—meddyliwr dwfn a rhywun sy'n deall bod y byd yr ydym yn byw ynddo yn werthfawr. Rhaid inni wneud popeth a allwn i wyrdroi effeithiau newid hinsawdd i adael byd gwell i'n plant a'n hwyrion. Gwnaeth y Brenin araith ar gynhesu byd-eang saith mlynedd cyn i'r term gael ei ddefnyddio hyd yn oed—ymhell bell o flaen ei amser ar y mater hwnnw. Roedd y Brenin hefyd yn hyrwyddwr bywyd gwyllt, ac ymgyrchodd i achub nifer o anifeiliaid prin a rhai mewn perygl o ddiflannu, gan gymryd yr awenau pan oedd llawer o bobl eraill yn edrych y ffordd arall. Mae'n ddiddordeb y mae hefyd wedi'i drosglwyddo i'w blant a'r Tywysog Cymru presennol. Mae'n codi mater datgoedwigo, llygredd ein hafonydd. Roedd yn ymgyrchydd ymhell cyn unrhyw un arall, a beirniadwyd ef yn hallt am hynny ar y pryd. Roedd rhai pobl yn dweud ei fod yn wallgof. Roedd ganddo ddiddordeb angerddol mewn glanhau ein cefnforoedd ac roedd yn gwneud hynny ymhell cyn i'r rhaglen Blue Planet gael ei chynhyrchu.

Yn fwy diweddar, mae wedi hyrwyddo heddwch ledled y byd ac wedi croesawu pobl o Wcráin i'n gwlad, pobl sy'n ffoi rhag trais yn eu gwlad eu hunain. Ond rwy'n credu mai ei gyflawniad mwyaf, nid yn unig mewn perthynas â Chymru, ond yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig gyfan, yw sefydlu Ymddiriedolaeth y Tywysog—y sefydliad rhagorol sy'n helpu pobl o gefndiroedd difreintiedig i gyrraedd eu potensial a rhoi cyfleoedd iddynt a chyfle mewn bywyd i lwyddo. Mae'r elusen wedi helpu miloedd o bobl ifanc o bob rhan o Gymru i newid eu bywydau er gwell, diolch i ddyn a oedd â'r weledigaeth a'r ysgogiad i newid bywydau pobl ifanc a rhoi cyfle i'r bobl hynny, pobl y mae llawer o bobl yn eu hanghofio.

Y Sadwrn yma, byddwn yn dyst i goroni ein Brenin a'n Brenhines, gan barhau traddodiad brenhiniaeth sy'n mynd yn ôl ganrifoedd. Ond y tu hwnt i hynny, yr hyn a welwn yw brenhiniaeth fodern, sy'n cynnwys pob ffydd yng ngwasanaeth y coroni, gydag emynau a chaneuon Cymraeg yn cael eu canu am y tro cyntaf mewn seremoni goroni, a'r tro cyntaf, rwy'n meddwl, inni gael coroni Brenin a Brenhines sy'n poeni'n ddwys am ein gwlad, ein hamgylchedd a'n byd a phawb sy'n byw yn ein gwlad wych. Felly, mae'n rhoi pleser mawr i mi ddweud, 'Duw gadwo'r Brenin.'

Mae'n bleser pur cael cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Ar ran pobl Dyffryn Clwyd, hoffwn gofnodi fy llongyfarchiadau gwresocaf i'r Brenin Charles, y Frenhines Gydweddog a'r holl deulu brenhinol ar gyfer y penwythnos estynedig o ddathliadau yr ydym ar fin cychwyn arnynt fel cenedl. Hoffwn hefyd ganmol yr heddlu, a weithredodd yn gyflym neithiwr yn y digwyddiad a welsom ar y newyddion, ym Mhalas Buckingham.

Y Brenin Charles oedd y Tywysog Cymru sydd wedi gwasanaethu hiraf, ac mae wedi rhoi ei holl fywyd fel oedolyn i godi bri ein cenedl ar draws y byd fel cenedl hanesyddol. Wedi 64 mlynedd o wasanaeth, rwy'n siŵr y bydd Ei Fawrhydi'n parhau â'r gwasanaeth hwn. Rydym yn ffodus y bydd cred gadarn y Brenin mewn cadwraeth a'r amgylchedd ar flaen ei agenda ac y bydd o fudd mawr i Gymru oherwydd ei gariad at ein tirwedd a gwarchod gwychder ein cefn gwlad.

Yn fy etholaeth i yn Nyffryn Clwyd, rydym wedi dangos bod brenhiniaeth a'r traddodiad brenhinol yn rhan o hanes Cymru, ac nid yw gweriniaetholdeb yn rhan o bwy ydym ni. Statud Rhuddlan a sefydlodd y cysyniad modern o Gymru a dechrau proses ein hundeb, ac mae fy etholwyr yn dathlu eu cysylltiad hanesyddol dwfn â'r frenhiniaeth drwy gynnal sawl parti a digwyddiad. Ym Mhrestatyn, bydd gŵyl gerddorol, Coronation Rocks, yn dod â phobl at ei gilydd drwy gerddoriaeth, ac yn Ninbych bydd te parti'n dangos y gorau o Brydeindod. Rwy'n eithaf siŵr y bydd yna fwy o enghreifftiau o fwy o bartïon ar draws yr etholaeth. Dim ond dwy enghraifft a rennais yno.

Mae hyn yn dangos bod y coroni yn ymwneud â mwy na'r frenhiniaeth yn unig, mae'n gyfle i ddod â ni at ein gilydd ac i adnabod ein diwylliant unigryw. Mae'r ddadl hon yn dangos bod y Ceidwadwyr yn gynrychioliadol o bobl fy etholaeth, gogledd Cymru, a'r wlad gyfan, wrth inni ddathlu'r coroni a dangos mai lleiafrif yw gweriniaethwyr. Nid yw hyd yn oed Plaid Cymru yn weriniaethwyr yn y bôn, gan eu bod yn clodfori enwau Llywelyn ap Gruffudd ac Owain Glyndŵr yn gyson—y ddau yn perthyn i linach brenhinol, yn bobl heb eu hethol, a'r ddau'n ddynion cyfoethog. Mae'n nodweddiadol o genedlaetholwyr Cymreig i godi yn y Siambr hon a phrotestio ar-lein a dweud nad y Brenin Charles oedd ein Tywysog Cymru cyfreithlon, am ei fod yn Sais. Ni allwch fod yn frenhinwr pan fo'r tywysog yn Gymro ac yna'n weriniaethwr pybyr pan fo'n Sais.

Maent yn ein galw ni'n 'chwifwyr baneri', tra bod eu gorymdeithiau Yes Cymru yn llawn o faneri Glyndŵr, baner llinach brenhinol. Felly, dylai Plaid Cymru ymuno â'r mwyafrif o bobl Cymru drwy barhau â'u cariad at y frenhiniaeth ac ymuno â ni i ddathlu coroni'r Brenin Charles, Brenin Cymru. Bydd gwaddol y Brenin Charles fel Tywysog Cymru yn un o gariad at Gymru, cariad at ein hamgylchedd, a chariad at ein pobl. Mae'n fy ngwneud yn falch o ddathlu'r coroni a dweud, 'Duw gadwo'r Brenin.'

17:20

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o fy natganiad i'r Senedd ddoe pan estynnais fy nymuniadau cynnes diffuant a fy nghyfarchion ar achlysur y coroni. Fel y dywedais ddoe, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a chyda'r Llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau bod y coroni'n cael ei nodi'n briodol yng Nghymru. Rwy'n croesawu amlygrwydd Cymru a'r Gymraeg yn y seremoni, gan gynnwys defnyddio croes newydd Cymru i arwain gorymdaith goroni'r Brenin yn abaty Westminster, a chynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwyr Cymreig a cherddorion Cymreig. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Brenin i Gymru, ein pobl, ein cenedl a'n diwylliant.

Nid wyf am ailadrodd fy natganiad cyfan heddiw, heblaw dweud bod cyfle i ddefnyddio'r foment hon i gymryd rhan a chefnogi gwaith ein grwpiau ac elusennau cymunedol lleol ar adeg pan fo angen dirfawr am waith a chymorth o'r fath, a dweud eto fy mod yn gobeithio y bydd pawb sy'n dathlu y penwythnos hwn yn mwynhau'r partïon a'r gwyliau ychwanegol. Efallai, yn y dyfodol heb fod yn rhy bell, y gall y diwrnod gŵyl ychwanegol hwn ddod yn ddiwrnod gŵyl ffurfiol, rheolaidd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Diolch.

Gwaith anodd. Diolch yn fawr iawn i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl y prynhawn yma.

Mae'n bleser gennyf gloi'r ddadl hon heddiw a llongyfarch Eu Mawrhydi, y Brenin a'r Frenhines Gydweddog, ar achlysur y coroni. Efallai y byddai rhai'n meddwl bod hwnnw'n safbwynt rhyfedd i rywun sy'n hanu'n wreiddiol o Kashmir, o ystyried ein hanes. I'r rhai nad ydynt yn gwybod, gwerthwyd Kashmir gan y wladwriaeth Brydeinig i Gulab Singh a chafodd ei phobl eu gwerthu'n gaethweision, er i gaethwasiaeth gael ei gwahardd gan y Prydeinwyr ychydig flynyddoedd ynghynt. Er hynny, rwy'n credu'n gryf na fydd pechodau'r tadau'n gadael eu hôl ar eu plant mwyach. Ym 1846 y gwerthwyd pobl Kashmir. Er y bydd rhai yng Nghymru yn dal i feio Ei Fawrhydi am weithredoedd brenhinoedd y Normaniaid, rwyf fi o'r farn fod hynny mor ddisynnwyr â fy mod innau'n dal dig am bethau a ddigwyddodd ganrif cyn imi gael fy ngeni. Mae'n dyst i'n democratiaeth fy mod wedi cael fy ethol i'r lle hwn, a gallaf siarad am ein hanes cyffredin, ni waeth pa mor dywyll.

Ond nid Tŷ Windsor a werthodd fy nghyn-gydwladwyr yn gaethweision na gwahardd yr iaith Gymraeg. Yn wir, mae Ei Fawrhydi, a'i Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II o'i flaen, wedi gwneud llawer iawn i wella'r clwyfau a grëwyd gan yr hen ymerodraeth Brydeinig. Trawsnewidiwyd Cymanwlad y Cenhedloedd o dan stiwardiaeth mam y Brenin Charles, ond chwaraeodd Ei Fawrhydi ran ganolog. Sefydlwyd y Gymanwlad dan deyrnasiad taid y Brenin, a phan ddaeth y Frenhines Elizabeth yn bennaeth arni ym 1952, cynrychiolai lond dwrn o wledydd yn unig. Heddiw, mae'r Gymanwlad yn cynrychioli chwarter poblogaeth y blaned. Mae Ei Fawrhydi wedi bod yn frwd ei gefnogaeth i'r Gymanwlad ers dros bedwar degawd, ac mae wedi siarad yn angerddol am amrywiaeth unigryw y sefydliad lawer gwaith. Mae hefyd wedi sôn am ei bryder ynghylch trafferthion Kashmir, sydd wedi rhoi lle iddo yng nghalonnau fy nghyn-gydwladwyr.

Nid yw pennaeth y Gymanwlad yn swyddogaeth etifeddol. Cyfarfu 53 o arweinwyr y Gymanwlad a gweinidogion tramor yn 2018, a phleidleisiwyd yn unfrydol i ethol Ei Fawrhydi yn bennaeth nesaf y Gymanwlad. O India'r Gorllewin i India'r Dwyrain a thu hwnt, mae cenhedloedd sydd wedi cefnu ar reolaeth Brydeinig yn dal i ystyried pennaeth ein cenedl wych gydag anwyldeb, parch a chariad, a dyna pam y bydd y coroni'n cael ei ddathlu nid yn unig yma gartref, ond gan gannoedd o filiynau o bobl ledled y byd. 

Wrth agor y ddadl, nododd Natasha fod gan Ei Fawrhydi gysylltiadau lu â Chymru, a bydd ein cenedl yn rhan amlwg o seremoni'r coroni a'r gwyliau. A bydd hynny'n wir drwy Gymru gyfan. Soniodd Gareth Davies am ragrith nifer o weriniaethwyr a oedd yn hapus i gael tynnu eu lluniau wrth ymyl Tywysog Cymru, ac eto maent yn dal baneri 'Nid fy Frenin i'. Mae Cymru'n rhan o'r Deyrnas Unedig, ac mae Ei Fawrhydi'n Frenin a wnaed yng Nghymru i raddau helaeth iawn. 

Fel y dywedodd Sam Rowlands a nifer o rai eraill, Ei Fawrhydi oedd y Tywysog Cymru sydd wedi gwasanaethu hiraf, gyda dros 64 o flynyddoedd yn y rôl. Mae ei gysylltiadau â'n cenedl yn ddirifedi. Diolch yn fawr iawn i chi am siarad am Brifysgol Aberystwyth—ei arhosiad yno—a llawer o bethau eraill. Soniodd James am ei gariad tuag at natur a'i gariad tuag at Gymru, ac rwy'n gredwr cryf eich bod yn agos iawn at fyd natur yng Nghymru. Mae ein harfordir yn brydferth, ac mae ein cefn gwlad yn ddiogel.

I orffen, unwaith eto, diolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon, a gobeithio y gwnewch chi i gyd ymuno â mi i longyfarch Eu Mawrhydi a chynnig ein dymuniadau gorau ar gyfer y coroni ddydd Sadwrn. Ac yn iaith Kashmir, fe ddywedaf, Hathi HathiPherieMubarak—gannoedd a channoedd o weithiau, llongyfarchiadau. Diolch yn fawr. 

17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cyfnod Pleidleisio
9. Dadl Fer: Buddsoddi mewn cynnal a chadw priffyrdd: Y llwybr at rwydwaith ffyrdd gwydn
17:30

Diolch. A gaf fi roi munud o fy amser i Mike Hedges, os gwelwch yn dda? Diolch.

Felly, buddsoddi mewn cynnal a chadw priffyrdd: y llwybr at rwydwaith ffyrdd gwydn. Mae ein priffyrdd yn amrywio o hawliau tramwy cyhoeddus drwy goetiroedd a chaeau i ffyrdd, palmentydd a phontydd a gynhelir gan gynghorau sir, i'n rhwydwaith ffyrdd strategol o gefnffyrdd a thraffyrdd a gynhelir gan gyrff eraill y Llywodraeth. Mae'n bwysig fod y rhain yn cael eu cynnal at ddibenion hamdden, mynediad at waith a gwasanaethau, a symud nwyddau.

Yn dilyn degawd o gyni, a bellach, y twll du o gostau chwyddiant yn llyncu unrhyw gyllid ychwanegol, mae’r priffyrdd ledled Cymru a’r DU wedi bod yn dirywio’n gyflym flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yng Nghymru, ceir ôl-groniad o £1 biliwn ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd strategol, a hefyd, yn ôl arolwg Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru 2020, ôl-groniad amcangyfrifedig o asedau priffyrdd a gynhelir gan—

A gaf fi eich stopio am funud, Carolyn, gan nad yw’r Dirprwy Weinidog, a ddylai fod yn ymateb, yn y Siambr?

Roeddwn wedi meddwl efallai mai Rebecca a fyddai'n ymateb ar y diwedd fel Gweinidog llywodraeth leol.

Nid yw’r Dirprwy Weinidog ar y sgrin. A gawn ni atal y cyfarfod am bum munud er mwyn sicrhau ei fod yn dod i lawr yma? A bydd Carolyn yn dechrau o'r dechrau eto. Ymarfer oedd hwnnw.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:31.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:38, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

17:35

Diolch. Rwy'n mynd i roi munud o fy amser i Mike Hedges. Felly, y ddadl fer yw buddsoddi mewn cynnal a chadw priffyrdd: y llwybr at rwydwaith ffyrdd gwydn.

Mae ein priffyrdd yn amrywio o hawliau tramwy cyhoeddus drwy goetiroedd a chaeau i ffyrdd, palmentydd a phontydd a gynhelir gan gynghorau sir, i'n rhwydwaith ffyrdd strategol o gefnffyrdd a thraffyrdd a gynhelir gan gyrff eraill y Llywodraeth. Mae'n bwysig fod y rhain yn cael eu cynnal at ddibenion hamdden, mynediad at waith a gwasanaethau, a symud nwyddau.

Yn dilyn degawd o gyni, a bellach, y twll du o gostau chwyddiant yn llyncu unrhyw gyllid ychwanegol, mae’r priffyrdd ledled Cymru a’r DU wedi bod yn dirywio’n gyflym flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yng Nghymru, ceir ôl-groniad o £1 biliwn ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd strategol, a hefyd, yn ôl arolwg Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru 2020, ôl-groniad amcangyfrifedig o asedau priffyrdd a gynhelir—sef ffyrdd, palmentydd a phontydd—a gynhelir gan awdurdodau lleol o fwy nag £1.6 biliwn. Yn ogystal â defnydd cyson a heneiddio, mae ein hasedau o dan bwysau cynyddol oherwydd effeithiau newid hinsawdd. Mae glaw monsŵnaidd yn golchi arwyneb ffyrdd ymaith, mae tymheredd rhewllyd yn codi ac yn chwythu arwynebau gan achosi tyllau yn y ffyrdd, mae cwteri'n cwympo, ac os nad yw'r hen ddraeniau'n ddigon mawr, buan y llenwant â gweddillion ac mae'n rhaid eu gwagio'n gyson er mwyn iddynt fod yn effeithiol. Mae llifogydd yn achosi tirlithriadau ac ymsuddiant seilwaith mawr ac yn dymchwel pontydd. Mae toriadau i gyllid refeniw cynghorau mewn cyfnod o gyni ariannol yn golygu nad yw ffosydd a chwteri'n cael eu glanhau mor rheolaidd, felly mae dŵr yn creu ei ffordd ei hun, gan fynd ar hyd ffyrdd, a chreu ffosydd a llifogydd.

Darllenais fod Llywodraeth Cymru wedi ailgysylltu â Matthew Lugg OBE a’i dîm i gynorthwyo gyda’r rhaglen adnewyddu asedau mawr. Ond er mwyn cyflawni ar gyfer ein cymunedau, mae'n rhaid darparu cyllid i gyd-fynd ag ymgysylltiad comisiynwyr. Os ydym am fod yn fwy detholgar wrth adeiladu ffyrdd newydd, mae angen ailfuddsoddi’r arian hwnnw yn ein rhwydweithiau trafnidiaeth. Mae hyn yn ymwneud, wrth gwrs, â thrafnidiaeth gyhoeddus, ond mae hynny’n cynnwys cynnal a chadw ffyrdd yn dda ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Enghraifft o adnewyddu ased mawr yw pont Britannia, a'r A494 ar bont afon Dyfrdwy bellach, sydd mewn cyflwr enbyd—roedd mewn cyflwr mor wael 10 mlynedd yn ôl, roeddem yn credu y byddai’n rhaid ei chau i un lôn. Gwnaed rhywfaint o waith adfer i ymestyn ei hoes, ond mae gwir angen ei hatgyweirio bellach. Dywedir wrthyf fod y cynllun yn mynd rhagddo’n dda ac y dylai symud ymlaen at y gwaith adeiladu yn 2024-25, os caiff y cyllid ei sicrhau. Hoffwn annog y Dirprwy Weinidog i sicrhau bod y cyllid ar gael i gwblhau’r gwaith hwn, os nad gan Lywodraeth Cymru, yna gan Lywodraeth y DU, gan mai nhw sydd bellach yn rheoli'r arian a ddarparir yn lle cronfeydd mawr yr UE, a gâi ei ddefnyddio yn y gorffennol ar gyfer seilwaith, fel y gwaith diweddaraf ar yr A55, lle defnyddiwyd £20 miliwn o gyllid yr UE ar gyfer hynny. A gall Llywodraeth y DU fenthyca, yn wahanol i Lywodraeth Cymru, sydd wedi ei chyfyngu. Rwy'n ymwybodol hefyd fod arian cyfalaf wedi’i dorri mewn termau real gan Drysorlys y DU.

Darllenais ymateb Llywodraeth Cymru i bapur cyllideb y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith gyda chryn ddiddordeb, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhellion i weithio gydag awdurdodau lleol i asesu’r ôl-groniad o waith cynnal a chadw priffyrdd lleol a datblygu cynllun i fynd i’r afael ag ef. Fodd bynnag, er mwyn adeiladu a chynnal rhwydwaith trafnidiaeth o safon, rwy'n dal i feddwl y bydd angen cyllid penodol wedi’i neilltuo ar gyfer cadernid priffyrdd i wella’r rhwydwaith presennol, oherwydd fel arall, bydd yn cael ei lyncu gydag arian cyfatebol ar gyfer cynlluniau eraill Llywodraeth Cymru, gan fod cymaint o bwysau ar gyllid. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod arweinwyr wedi gofyn am lai o arian wedi'i neilltuo, ond mae cadernid priffyrdd yn hollbwysig.

Nawr, mae cyllid sylweddol o £500 miliwn wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru dros dair blynedd i'r rhwydwaith ffyrdd strategol, nid yn unig ar gyfer cadernid a chynnal a chadw priffyrdd, ond hefyd i fynd i'r afael â chlefyd coed ynn—sy'n broblem i lywodraeth leol yn ogystal, ac maent wedi bod yn cael trafferth gyda hynny ac nid oes ganddynt unrhyw gyllid i ymdrin â'r broblem—rhaglenni diogelwch cymunedol, band eang ffeibr ar hyd y rhwydwaith ac adnewyddu goleuadau stryd. Mae’r ymateb i argymhelliad 15 yn yr adroddiad yn dweud bod cyllid yn cyd-fynd â’r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy, fel y nodir yn strategaeth drafnidiaeth Cymru, sy’n blaenoriaethu buddsoddiad fel cerdded a beicio, a thrafnidiaeth gyhoeddus fel bysiau a rheilffyrdd dros fuddsoddiad mewn camau sy'n cynyddu'r defnydd o geir preifat. Mae'r dull hwn o weithredu'n hanfodol i gyflawni ein targedau heriol i newid dulliau teithio ac ymrwymiadau newid hinsawdd.

Ond mae angen gweledigaeth hirdymor arnom o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i sicrhau bod yr holl hawliau tramwy cyhoeddus, ffyrdd, palmentydd a phontydd a gynhelir gan awdurdodau lleol yn cael cyllid a buddsoddiad teg, gan eu bod yn cynnal yr ased mwyaf a mwyaf eang ar gyfer cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae cyllid teithio llesol wedi’i dreblu ar gyfer llwybrau beicio dynodedig dros y blynyddoedd diwethaf, sy’n tueddu i fod o amgylch ardaloedd trefol, ond beth am y rhan fwyaf o feicwyr a cherddwyr sy’n defnyddio ein priffyrdd cyhoeddus? Mae tyllau yn y ffyrdd yn fwy peryglus i feicwyr nag i yrwyr, ac mae'n rhaid sicrhau bod y ffyrdd mor ddiogel â phosibl i bob defnyddiwr. Nid yw palmentydd a lonydd gwledig wedi cael unrhyw gyllid ers blynyddoedd am eu bod yn isel yn yr hierarchaeth pan fo cyllid wedi bod yn gyfyngedig ers cymaint o amser.

O ran peidio â neilltuo cyllid, o’m profiad i fel aelod cabinet dros wasanaethau stryd, gwn pa mor gystadleuol yw pethau mewn awdurdodau lleol, a lobïo am wario cyllideb gyfalaf gyfyngedig mewn meysydd lle mae taer angen gwneud hynny, yn enwedig os yw am ychwanegu gwerth at gyllid cyfatebol i grantiau Llywodraeth Cymru ar gyfer tai cymdeithasol, ysgolion cymunedol cynaliadwy, darpariaeth gofal, darpariaeth y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Bu'n rhaid imi frwydro'n galed i gael unrhyw arian ar gyfer priffyrdd. Ac oherwydd bod cyllid yn brin, gyda chynghorwyr a thrigolion yn brwydro am waith ar eu ffyrdd, mae pob ffordd yn cael ei hasesu a’i sgorio drwy fformiwla sy'n cyfrifo'r flaenoriaeth, gan sicrhau bod proses deg a thryloyw yn cael ei dilyn, yn seiliedig ar feini prawf ac nid ar ffafriaeth. Yn aml, mae'n rhaid i restr o'r ychydig ffyrdd a ddewisir fynd drwy'r broses wleidyddol, a cheir gwiriad nad yw cwmnïau cyfleustodau yn bwriadu gwneud unrhyw waith yn fuan a fydd yn niweidio'r wyneb newydd. Yna, mae'r contractau hyn yn mynd allan i dendr a bydd contractwyr yn gwneud cais am y gwaith, sydd wedyn yn cael ei oruchwylio. Felly, gan fod cyllid mor brin, rwy’n siŵr yr hoffai arweinwyr gwleidyddol weld y grant o £20 miliwn wedi'i neilltuo a ddaeth i ben yn ddiweddar yn dychwelyd. Nid yw'n llawer i ofyn amdano, yn gymharol, wrth edrych ar faint y rhwydwaith a'r ôl-groniad o £1.6 biliwn a mwy; byddai'n ddechrau.

A chredaf y byddai'n gam cadarnhaol pe bai cyfran o'r cyllid teithio llesol yn hyblyg ac y gallai fod ar gael ar gyfer rhaglenni priffyrdd y tu hwnt i lwybrau beicio dynodedig. Byddai'r rhain yn ffyrdd sydd hefyd yn cael cryn dipyn o ddefnydd gan feicwyr a cherddwyr fel ei gilydd. Ar hyn o bryd, mae cyllid teithio llesol wedi’i danwario gan fod darparu llwybrau beicio dynodedig yn cymryd llawer o amser ac yn anodd. Gall y ceisiadau fod yn 30 tudalen o hyd. Mae’n mynd ag amser swyddogion rhag gwneud gwaith ar gyflawni’r cynlluniau, sydd ynddynt eu hunain yn cymryd llawer o amser ac yn aml yn ddadleuol. Mae’n rhaid i gynlluniau fod yn rhan o'r map rhwydwaith integredig—llawer o ymgynghori cyhoeddus, rhaid llunio cynlluniau, gorchmynion rheoleiddio traffig, hysbysebion, rhaid ymateb i wrthwynebiadau, ac mae’n hynod gystadleuol. Ni fyddai'n helpu pe bai Trafnidiaeth Cymru yn eu cyflawni, gan y byddent yn wynebu'r un rhwystrau heb fawr o wybodaeth leol. Dylid gwneud ceisiadau'n fwy syml ar gyfer ceisiadau teithio llesol.

Er mwyn mynd i’r afael â’r ôl-groniad o £1 biliwn o waith cyfalaf cynnal a chadw ar draws yr holl fathau o asedau ar y rhwydwaith ffyrdd strategol, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd swyddogion yn datblygu rhaglen adnewyddu asedau mawr, y gellir ei chyflawni wedyn dros gyfnod o bump i 10 mlynedd, gydag amserlenni'n cael eu haddasu i gyfateb i'r cyllid sydd ar gael. Mae'n siŵr y byddai’n well cynnwys priffyrdd a gynhelir gan awdurdodau lleol ar yr un pryd. Maent wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn iddynt weithio gyda nhw ar raglen, fel y maent wedi'i wneud yn y gorffennol. Felly, efallai y gallent i gyd weithio gyda'i gilydd.

Rwy'n poeni am natur a newid hinsawdd; nid wyf yn arbennig o awyddus i weld ffyrdd newydd. Ond fel beiciwr, cerddwr a chynrychiolydd cymunedol, rwy’n poeni am iechyd a diogelwch pobl mewn perthynas â chynnal a chadw priffyrdd presennol, boed yn ffyrdd, palmentydd neu hawliau tramwy cyhoeddus. Mae'r rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, Gogledd Cymru, yn wahanol iawn i Gaerdydd ac ardaloedd y metro.

Ac yn olaf, ar yr argyfwng natur, a gaf fi ofyn am sicrwydd y bydd pob rhaglen beirianneg priffyrdd yn rhoi sylw dyladwy i fioamrywiaeth? Rhaid i swyddogion priffyrdd ystyried yr effaith ecolegol yn ofalus cyn gosod llwybrau beicio newydd ar ymylon ffyrdd glaswelltog, neu osod pridd llawn maetholion ac ailhadu glaswellt ac ungnwd. Felly, byddai'n dda pe gellid cynnwys hynny hefyd.

Mae blodau gwyllt yn hoffi pridd gwael, felly gadewch y tir yn foel, plannwch goed, hadwch ymylon ffyrdd sy'n llawn amrywiaeth, siaradwch â’r ecolegwyr a’r arbenigwyr, a chofiwch am raglen Llywodraeth Cymru a phartneriaethau lleol i wella ymylon ffyrdd a glaswellt ar safleoedd amwynderau er mwyn hybu bioamrywiaeth, sef #IddynNhwNatur. Diolch.

17:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Carolyn, am roi munud i mi yn y ddadl hon, a hefyd am dynnu sylw at bwysigrwydd cynnal a chadw priffyrdd. Rwyf am drafod tyllau yn y ffordd. Mae tyllau yn y ffordd yn golygu mannau ar wyneb ffordd lle mae'r haen uchaf wedi datblygu craciau ac yna wedi torri o dan lwyth cyson y traffig sy'n pasio drosti, gan ffurfio twll ag ochrau garw, fertigol. Gall twll yn y ffordd ddechrau gydag ychydig o graciau'n unig, ond gall ehangu os na chaiff ei atgyweirio ar unwaith. Gall tyllau ddatblygu ar bob math o ffyrdd, ond maent yn broblem sy'n effeithio ar arwynebau asffalt yn arbennig. Caiff tyllau eu ffurfio gan dair elfen: craciau ar yr wyneb, dŵr a thraffig. Mae craciau bach yn ffurfio ar yr wyneb ac yn ehangu dros amser gyda symudiad traffig. Yna, mae dŵr yn llifo drwy'r craciau ar yr wyneb, gan achosi dirywiad pellach. Gwaethygir hyn wrth i'r dŵr rewi a thoddi. Er bod llawer o sylw’n cael ei roi i'r angen i atgyweirio tyllau yn y ffordd—cylch di-ddiwedd—mae peirianwyr priffyrdd yn cydnabod pwysigrwydd adeiladu ffyrdd newydd mewn ffordd sy’n atal tyllau rhag ffurfio yn y ffordd yn y lle cyntaf. Yr hyn sy'n allweddol yw adeiladu ffyrdd na fyddant yn datblygu craciau dros amser, a bydd defnyddio terfynau pwysau ar ffyrdd diddosbarth yn lleihau difrod.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i Carolyn Thomas a Mike Hedges. Ac mae'r ddau ohonynt yn gyfranwyr gwych i'r ddadl hon, gan fod ganddynt gymaint o wybodaeth. Mae gan Carolyn brofiad uniongyrchol o’r heriau o redeg adran drafnidiaeth mewn awdurdod lleol fel cyn-aelod arweiniol yng nghyngor sir y Fflint am nifer o flynyddoedd, ac mae’n dod â dealltwriaeth ddofn i’r drafodaeth, sy'n cyfoethogi ansawdd y ddadl yn y Siambr hon yn fawr. A chredaf fod Mike Hedges bellach wedi ymsefydlu'n arbenigwr mwyaf blaenllaw Cymru ar dyllau yn y ffyrdd. Felly, mae gennym—. Ac yn amlwg, mae yntau wedi arwain awdurdod lleol ei hun, felly mae’n deall yr heriau’n dda hefyd. Felly, credaf ei bod yn gryfder gwirioneddol yn y Siambr fod gennym y lefel hon o wybodaeth.

Cytunaf â llawer o’r hyn a oedd gan Carolyn i’w ddweud—nid popeth, ac ni fyddech yn disgwyl i bob un ohonom gytuno ar bopeth, ond yn sicr, rwy'n cytuno'n llwyr â phrif fyrdwn y ddadl, y dylem fod yn gwario mwy ar gynnal a chadw ein ffyrdd. Dyna oedd un o’r ysgogiadau a oedd yn sail i’r adolygiad ffyrdd. Wrth adeiladu mwy a mwy o ffyrdd newydd, ni allwn fforddio cynnal y ffyrdd sydd gennym; yn amlwg, mae hynny'n hurt. Y bwriad a oedd yn sail i'r adolygiad ffyrdd oedd newid natur y math o ffyrdd rydym yn eu hadeiladu a hyrwyddo newid mewn dulliau teithio a chynnal yr hyn sydd gennym yn barod. Wrth gwrs, bydd y pwysau ar ein system ffyrdd yn fwyfwy difrifol wrth i newid hinsawdd ddwysáu. Rydym eisoes yn ei weld, lle mae ffyrdd yn cael eu golchi ymaith a lle ceir difrod sylweddol oherwydd stormydd a llifogydd. Bydd hynny'n dwysáu ac yn gwaethygu, a dyna un o'r rhesymau pam y sefydlwyd adolygiad Lugg, y soniodd Carolyn Thomas amdano, sef panel bach o arbenigwyr, i edrych ar y ffordd rydym wedi bod yn cynnal a chadw ein ffyrdd, yn enwedig y ffordd rydym wedi bod yn cynnal y rhwydwaith ffyrdd strategol, ac i herio rhai o'r rhagdybiaethau a'r arferion rydym wedi bod yn eu hatgynhyrchu. Mae'n waith pwysig, a byddwn yn ei gyhoeddi cyn bo hir. Yn amlwg, mae’r gwaith a gyhoeddwyd gennym fel rhan o’r adolygiad ffyrdd yn allweddol i hyn hefyd.

Rydym yn buddsoddi llawer o arian yn 2023-24 ac ym mlwyddyn ariannol 2024-25. Byddwn yn buddsoddi oddeutu £0.25 biliwn i fynd i’r afael â chyflwr asedau ffyrdd Llywodraeth Cymru, ac mae hynny wedi’i nodi yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, sy'n gynllun pum mlynedd. Nid yw ymrwymo i bum mlynedd o wariant mewn cyfnod o gyni yn hawdd, yn enwedig pan fydd ein cyllideb gyfalaf 8 y cant yn is y flwyddyn nesaf mewn termau real oherwydd methiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith, ac yn amlwg, fel y nodwyd dro ar ôl tro yn y Siambr hon, effaith y ffordd y defnyddir cyllid canlyniadol ar gynlluniau ar gyfer Lloegr yn unig megis HS2, a phrosiect Northern Powerhouse Rail o bosibl. Cawn ein hamddifadu hefyd o'r adnoddau sydd eu hangen arnom i fynd i’r afael â llawer o’r pethau a nododd Carolyn Thomas.

Nawr, mae'r cwestiwn ynglŷn â ffyrdd lleol ac awdurdodau lleol yn un cymhleth, oherwydd, fel y nododd Carolyn Thomas yn gwbl deg, mae awdurdodau lleol am inni wneud llai o neilltuo cyllid. Rydym wedi bod â setliad hael gyda nhw flwyddyn ar ôl blwyddyn, mewn cyferbyniad llwyr â'r awdurdodau lleol yn Lloegr. Nid yw'n gyson dweud, ar y naill law, 'Gadewch inni benderfynu ar ein blaenoriaethau ein hunain,' ac ar y llaw arall, 'Mae angen i ni ei wario ar bethau penodol, ac ni allwn gynnal ein ffyrdd oni bai eich bod yn rhoi mwy o arian i ni.' Felly, credaf fod tensiwn yn hynny o beth. Llywodraeth Cymru yw asiantaeth cefnffyrdd Cymru; awdurdodau lleol yw un y ffyrdd lleol, yn ôl y gyfraith. A chredaf ein bod yn gyndyn o gymylu’r llinell honno’n ormodol, o ystyried ein bod yn cynyddu'r setliad 7.9 y cant yn y flwyddyn ariannol newydd hon, setliad o bron i £6 biliwn. Wedi dweud hynny, rydym yn cydnabod y pwysau sydd arnynt ac rydym yn awyddus i weithio gyda nhw i ddod o hyd i atebion ymarferol, a'r argymhelliad, yr oeddwn yn falch o glywed Carolyn yn dweud, ynglŷn â natur yr argyfwng hinsawdd, a sut mae angen i bob un ohonom feddwl ac ymddwyn yn wahanol.

I gloi ar bwynt Mike Hedges ar dyllau yn y ffordd, o ran effaith llywodraeth, yn lleol ac yn genedlaethol, rwy'n credu mai milltir sgwâr pobl o amgylch eu tŷ eu hunain yw’r peth sy’n effeithio'n fwyaf uniongyrchol arnynt. Mae gweld ffyrdd sy'n cwympo'n ddarnau oherwydd tyllau yn y ffyrdd yn arwydd clir i lawer o bobl nad yw eu llywodraeth yn gweithio ac nad yw'n rhoi sylw i'r pethau sy'n cael effaith uniongyrchol ar eu bywydau. Felly, mae atgyweirio tyllau yn y ffyrdd, cynnal a chadw’r rhwydwaith cefnffyrdd, yn ogystal â symud buddsoddiad tuag at ffyrdd sy’n annog pobl i newid dulliau teithio a lleihau allyriadau carbon yn ganolog i'n dull o weithredu. Rwy’n ddiolchgar i Carolyn Thomas am gydnabod hynny ac am ei her o ran ble y gallwn fynd ymhellach.

17:50

Daeth y cyfarfod i ben am 17:54.