Y Cyfarfod Llawn

Plenary

14/12/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Heledd Fychan.

Yswiriant Llifogydd

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cefnogaeth ar gyfer busnesau yng Nghanol De Cymru sy'n methu â chael neu fforddio yswiriant oherwydd risg parhaus o lifogydd? OQ58874

Rwy’n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda fy nghyd-Aelod y Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae ein hamcanion ariannu a’n blaenoriaethau strategol i leihau’r perygl o lifogydd i gymunedau a busnesau ledled Cymru wedi’u nodi yn ein strategaeth llifogydd genedlaethol a’r rhaglen lywodraethu.

Diolch, Weinidog. Cwestiwn penodol ydy hwn o ran yswiriant, oherwydd, ar gyfer tai preswyl, mae'r cynllun yswiriant ar gael trwy ardoll ar gwmnïau yswiriant, sef Flood Re. Nid oes cynllun cyfatebol ar gael ar gyfer busnesau, sy'n golygu bod nifer gydag yswiriant costus dros ben neu sy'n methu bellach â chael yswiriant i'w gwarchod rhag llifogydd. Gyda'r argyfwng hinsawdd yn golygu bod llifogydd yn fwyfwy tebygol, mae nifer o fusnesau yn fy rhanbarth yn hynod o bryderus ac wedi dweud yn glir na fyddant yn medru fforddio ailagor os byddant yn dioddef llifogydd unwaith eto. Felly, eisiau holi oeddwn i os oedd yna unrhyw drafodaethau wedi bod o ran creu cynllun cyfatebol i Flood Re ar gyfer busnesau, ac, os nad oes yna drafodaethau eto, a fyddai'r Gweinidog yn ymrwymo i ymchwilio i mewn i hynny?

Rwy’n fwy na pharod i gael trafodaeth gyda fy nghyd-Aelod y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch yswiriant i fusnesau, gan y deallaf hefyd fod Flood Re, a ddatblygwyd ar y cyd â Chymdeithas Yswirwyr Prydain, yn berthnasol i eiddo domestig yn unig; nid yw’n cynnwys busnesau. Felly, rwy’n fwy na pharod i wneud fel yr awgryma'r Aelod, ynglŷn â'r sgyrsiau parhaus a lle rhagwelir cynllun i helpu i gynnig yswiriant i fusnesau yn hytrach nag aelwydydd. Felly, byddaf yn mynd ar drywydd hynny fy hun gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ac yn adrodd yn ôl.

Weinidog, fel y gwyddom, mae chwyddiant yn cael effaith andwyol ar bob cyllideb, ac nid yw arian a ddyrennir i helpu i leihau effaith llifogydd ac erydu arfordirol yn eithriad. O ystyried bod cost deunyddiau a fydd yn cael eu defnyddio i ddarparu amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi codi'n sylweddol, mae cyllidebau'n mynd i fod dan bwysau, ac mae'n bwysicach nag erioed bellach fod arian yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon. A gaf fi ofyn, felly, pa sgyrsiau a gawsoch gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Materion Gwledig i sicrhau bod asesiadau’n cael eu cynnal i ganfod a yw'r cyllidebau a ddyrennir i helpu i atal llifogydd ac erydu arfordirol nid yn unig yn darparu gwerth am arian ac yn cael eu defnyddio'n effeithlon, ond eu bod hefyd yn diwallu anghenion y rheini sydd eu hangen?

Gallaf gadarnhau bod y sgyrsiau hynny'n digwydd a bod hyn yn bryder gwirioneddol i Lywodraeth Cymru. Fe welwch, yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd gennym ddoe, realiti'r ffordd rydym yn cydbwyso'r gyllideb gyfan. Ac mae gwerth cymharol cyllideb Llywodraeth Cymru wedi gostwng yn sylweddol gan fod realiti chwyddiant yn y broses honno o flaenoriaethu yn golygu edrych ar y ddau bwynt a wnewch ynghylch gwerth am arian yn y cynlluniau sydd ar gael, yr effeithiolrwydd a'r hyn y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd, a pha mor bell y gall ein harian ymestyn wrth ddarparu mesurau amddiffyn rhag llifogydd digonol. Mae hefyd yn atgyfnerthu'r camau eraill rydym yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â rhai o heriau ac achosion llifogydd yn ogystal â'r cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd y sonioch chi amdanynt.

Cefnogaeth i Fusnesau

2. Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru'n ei chynnig i fusnesau yng Ngorllewin De Cymru yn sgil yr argyfwng costau byw a chostau gwneud busnes? OQ58888

Fel y gŵyr yr Aelod, Llywodraeth y DU sydd â’r ysgogiadau i fynd i’r afael â chynnydd mewn costau i fusnesau, cyfraddau llog ar gyfer benthyca, trethu ffawdelw a rheoleiddio’r farchnad ynni. Ein blaenoriaeth o hyd yw cefnogi busnesau i ddatgarboneiddio ac arbed. Rydym yn parhau i nodi cyfleoedd i ailgyfeirio adnoddau i leihau beichiau ar fusnesau, ac, wrth gwrs, bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r datganiad a wnaeth y Gweinidog cyllid ar ardrethi annomestig.

Diolch, Weinidog. Mae’r argyfwng costau byw, chwyddiant uchel a chostau ynni cynyddol yn enwedig i gyd yn fygythiadau enfawr i fusnesau yn y sector lletygarwch yn arbennig—sector sy’n cyflogi 200,000 o bobl yng Nghymru. Ac er fy mod yn croesawu cynnwys mwy o gymorth ar ardrethi busnes yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ddoe, gyda'r cafeat y gallai cymorth fod yn fwy hyblyg ac wedi'i dargedu'n well, yn sicr, mae mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yma i helpu busnesau i oroesi'r argyfwng cost gwneud busnes hwn, yn enwedig busnesau ynni-ddwys yn y sector lletygarwch, megis bwytai a bragdai annibynnol. Yn ddiweddar, rhannodd perchennog un bwyty yn fy rhanbarth i, Ristorante Vecchio ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fod eu bil ynni bellach yn £8,000 y mis. Felly, Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu busnesau i fuddsoddi mewn mesurau effeithlonrwydd ynni ac ynni gwyrdd er mwyn lleihau eu costau a helpu i leihau allyriadau carbon ein busnesau ar yr un pryd?

13:35

Diolch am eich cwestiwn. Nid yn unig fod hyn yn amserol, ond mae'n bwysig, ac nid yn unig nawr ond ar gyfer y dyfodol hefyd. Ac rydym yn edrych ar gyfleoedd i ddatgarboneiddio, ond hefyd i arbed costau ac i gynyddu elw net, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud y ddau beth hynny. Bydd rhai busnesau'n cael eu perswadio gan yr hyn sy'n ofynnol ar gyfer yr hinsawdd yn fwy eang, a bydd eraill eisiau gwybod, 'A fydd hyn yn fy helpu gyda fy musnes ai peidio, gan fod angen imi oroesi tan y mis nesaf, tan y chwarter nesaf, tan y flwyddyn nesaf?' A dyna'n union rydym yn ei wneud. Mae gennym ymgyrchoedd rydym eisoes wedi’u lansio, drwy Busnes Cymru—mae’r cynghorwyr effeithlonrwydd adnoddau eisoes ar waith, mae gennym ymgyrch y weledigaeth werdd a'r addewid twf gwyrdd drwy Busnes Cymru, a gallwn helpu busnesau â’u huchelgeisiau i fod yn wyrddach ac yn graffach. Ond yn fwyaf arbennig, mewn perthynas â chymorth uniongyrchol—ac rwyf wedi amlinellu hyn mewn tystiolaeth i'r pwyllgor ac mewn cwestiynau blaenorol hefyd—yn gynnar yn y flwyddyn newydd, byddwn yn gwneud mwy ar lansio rhywfaint o'r gwaith rydym am ei wneud ar gymorth datgarboneiddio penodol, ynghyd â'r cynllun y bydd Banc Datblygu Cymru yn ei ddarparu ar gyfer cyllid benthyciadau, i helpu busnesau i fuddsoddi mewn datgarboneiddio, i fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni, yn ogystal ag effeithlonrwydd, a dylai hynny fod o gymorth i fusnesau gyda’u helw net, yn ychwanegol at y cymorth a ddarparwn drwy ryddhad ardrethi annomestig yma yng Nghymru, fel y cyhoeddwyd ddechrau’r wythnos.

Ein busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn ein heconomi, ac mae o fudd i'r genedl fod cwmnïau'n cael eu cynnal ac yn tyfu. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Banc Datblygu Cymru ynglŷn â'r risg i hyfywedd busnesau dros y chwech i 12 mis nesaf, a’r potensial ar gyfer cymorth a allai fod ar gael? Diolch.

Mae gennym ystod o gymorth ariannol ar gael drwy’r banc datblygu ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint. Rhan o’n her, fel y nododd Sioned Williams yn ei chwestiwn agoriadol a’r cwestiwn atodol, yw bod pwysau arbennig mewn gwahanol rannau o’r economi. Felly, yn fras, mae busnesau sy'n dibynnu ar wariant disgresiynol—a chyfarfûm â fforwm yr economi ymwelwyr heddiw—yn cael eu gwasgu ar un pen gan ostyngiadau yng ngwariant defnyddwyr, ac ar yr un pryd, mae eu costau'n cynyddu, nid yn unig costau ynni, ond ystod ohonynt, ac mae eu costau deunydd crai, bwyd a diod i gyd yn codi. A byddwch wedi gweld heddiw fod chwyddiant craidd yn 10.7 y cant, a bod chwyddiant bwyd yn 16.5 y cant. Felly, mae amrywiaeth o bobl mewn gwahanol sectorau yn wynebu pwysau mwy eithafol na'r prif gyfraddau. A'r hyn rydym yn ceisio'i wneud yw deall beth sy'n digwydd yn y sectorau hynny, ac argaeledd y cymorth sydd gennym. Dros y flwyddyn nesaf, y gwir amdani yw y bydd llawer o fusnesau'n wynebu sefyllfa anodd iawn, a bydd yn rhaid inni flaenoriaethu’r cymorth sydd ar gael gennym. Ac yn aml, yn ogystal â’r cymorth cyffredinol sydd gennym i sectorau, bydd yn rhaid inni gael sgyrsiau unigol â busnesau. Ac rwyf am ddweud eto, ar gyfer busnesau sy'n poeni ynglŷn â sut i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael drwy Lywodraeth Cymru, mai Busnes Cymru yw'r porth cyntaf i wneud hynny, a gallant eich cyfeirio at bob rhan o'n system gymorth, i sicrhau, os oes cymorth ar gael gennym, y gallwn helpu i gyfeirio pobl ato, ac yn yr un modd, os bydd cymorth ar gael drwy gynllun Llywodraeth y DU, gallwn eich cyfeirio at hwnnw hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog, afraid dweud bod 2022 wedi bod yn flwyddyn arbennig o anodd i fusnesau Cymru. Gwyddom fod busnesau’n wynebu heriau parhaus o ran pwysau costau, cyfraddau llog uchel, a gwendidau economaidd byd-eang. Mae busnesau wedi nodi'n glir fod materion fel ardrethi busnes, datblygu sgiliau a buddsoddi mewn seilwaith yn parhau i fod yn bryderon mawr. Ac er fy mod yn deall bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ychwanegol ar gyfer ardrethi busnes i rai busnesau yn ei chyllideb, mae angen gwneud mwy o hyd i sicrhau bod busnesau yn y sefyllfa orau bosibl i helpu i godi'r economi allan o'r dirwasgiad drwy dwf economaidd. Weinidog, dywedodd y Ffederasiwn Busnesau Bach wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn ddiweddar fod un rhan o dair o fusnesau'n dweud mai mynediad at sgiliau, a helpu twf sgiliau, oedd eu rhwystr mwyaf rhag twf. Felly, pa gamau rydych chi'n eu cymryd ar unwaith i fynd i’r afael â’r mater hwn, a sicrhau y gall busnesau recriwtio a chadw staff yn y dyfodol agos iawn?

Wel, mae a wnelo hyn â'r her rydym yn ei hwynebu, ac yn wir, y camau rydym yn eu cymryd. A bydd yr Aelod yn gwybod mai’r her sy’n ein hwynebu, gan ein bod wedi'i thrafod a'i bod yn realiti, yw bod yr heriau o ran arian yn lle arian yr Undeb Ewropeaidd yn broblem sylweddol yn y dirwedd sgiliau. Fe wnaethom ariannu ystod gyfan o’n hymyriadau sgiliau drwy arian blaenorol yr UE. Mae’r ffaith bod yr arian newydd yn golygu toriad sylweddol yn nhermau arian parod i Gymru, o dros £1 biliwn dros dair blynedd, yn broblem wirioneddol i ni. Ac mewn gwirionedd, mae'r dirwedd o ran yr ymyriadau gan Lywodraeth y DU sy'n ein hanwybyddu ni yn ei gwneud yn anos hefyd. Rwy’n parhau i geisio cael sgyrsiau adeiladol gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sut y gallem ddatrys rhywfaint o’r heriau hynny. Yr hyn rydym yn ei wneud, serch hynny, gyda'r ysgogiadau sydd gennym, yw, byddwch wedi gweld fy mod wedi gwneud dewis cyffredinol yn y gyllideb ddrafft yn fy adran ynglŷn â'r hyn rydym yn mynd i geisio'i wneud i ddiogelu effaith rhywfaint o'n gwariant ar brentisiaethau a sgiliau. Mae hynny'n cynnwys yr hyfforddiant ar ddechrau gyrfa rhywun, ar wahanol adegau yn eu gyrfa, ac yn wir, cyfrifon dysgu personol. Rwyf wedi bod yn falch iawn o weithio gyda’r Gweinidog Addysg yn enwedig, i edrych ar barhau â'r cynnydd rydym wedi’i wneud ar gyfrifon dysgu personol, ac yn wir, y buddsoddiad mewn sgiliau rydym yn bwriadu ei wneud, nid yn unig ar draws sectorau, ond gan fynd yn ôl yn fras at gwestiwn 2, y pwyntiau ynghylch sut mae gennym y math cywir o sgiliau gwyrdd ar gael yn yr economi. Felly, mae amrywiaeth o bethau rydym eisoes yn eu gwneud ym maes sgiliau, ond bydd yn her anodd yn y flwyddyn i ddod. Ond fe fyddwch yn parhau i weld cymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ar yr union fater hwn.

13:40

Wel, Weinidog, mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi dweud bod eu harolwg tueddiadau cyflogaeth diweddar wedi dod i'r casgliad fod llai na hanner y busnesau yn disgwyl tyfu eu gweithlu yn y 12 mis nesaf, ac maent yn nodi mai mynediad at lafur a sgiliau, ac yna costau byw, yw eu tair prif flaenoriaeth. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn darparu polisïau economaidd sy'n hybu twf, a lle bo angen, yn gwrthdroi polisïau lle ceir tystiolaeth y gallant niweidio busnesau. Er enghraifft, mae busnesau ledled Cymru wedi dweud y bydd y dreth dwristiaeth arfaethedig yn cael effaith aruthrol ar eu busnesau. Maent hefyd wedi dweud yn glir y bydd newidiadau i'r meini prawf ar gyfer llety gwyliau i fod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes yn cael effaith andwyol arnynt hefyd. Weinidog, pan fydd busnesau’n dweud wrthych y bydd polisi eich Llywodraeth yn cael effaith andwyol ar yr economi, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwrando. Weinidog, pam nad ydych wedi gwrando a rhoi'r gorau i gynigion ar gyfer treth dwristiaeth, a’r rheol llety gwyliau 182 diwrnod, yn wyneb y gwrthwynebiad chwyrn i’r polisïau gan fusnesau Cymru, a pha neges sydd gennych fel Gweinidog yr economi ar gyfer busnesau yng Nghymru a fydd yn cael eu heffeithio gan gynlluniau Llywodraeth Cymru?

Wel, mewn perthynas â mesurau gwrth-dwf, digwyddodd yr ymyrraeth wrth-dwf fwyaf arwyddocaol, wrth gwrs, yn ystod y chwe wythnos y bu Liz Truss yn Brif Weinidog y DU. Roedd honno’n ymyrraeth sylweddol a wnaeth yr holl heriau sy’n bodoli o fewn yr economi yn waeth o lawer. Ac roedd yn ddoniol clywed y sôn am gynghrair wrth-dwf ac yna gweld y smonach a wnaeth Kwasi Kwarteng a Liz Truss. Felly, nid oes angen unrhyw bregethau gan unrhyw Dori yn y Siambr hon, nac unrhyw le arall, ar y mater hwn.

O ran yr hyn rydym yn ei wneud, rydym yn cyflawni'r maniffesto y cawsom ein hethol i'w gyflawni. Mae hynny'n cynnwys y mesurau rydym yn eu rhoi ar waith mewn perthynas â'r ardoll ymwelwyr. Mae'n cynnwys sgwrs a gefais y bore yma gyda fforwm yr economi ymwelwyr, lle maent yn bwriadu gweithio gyda ni ar lunio ardoll sy'n ceisio gwneud yr hyn y mae i fod i'w wneud, ac mewn ardaloedd o'r wlad lle mae awdurdodau lleol yn awyddus i leihau’r ardoll, i ddeall wedyn sut y gellid gwneud hynny mewn ffordd sy’n gweithio gyda’r diwydiant rydym am ei weld yn parhau i dyfu. Ac mewn gwirionedd, nid yr ardoll ymwelwyr yw'r her fwyaf sy'n wynebu'r sector hwnnw ac eraill, nac unrhyw safbwynt polisi gan Lywodraeth Cymru; ond yr her o beidio â gweld digon o dwf yn economi’r DU gyfan, her yr argyfwng costau byw, yr her yn ein gallu i fasnachu â rhannau eraill o’r byd, a’r hyn y mae hynny wedi'i wneud i bwysau chwyddiant yn yr economi y tu hwnt i ymosodiad Rwsia ar Wcráin.

O ran sgiliau a llafur, rydym yn cydnabod y materion a’r heriau hynny, a dyna pam y gallai ac y dylai ein hymyriadau wneud gwahaniaeth. Mae gennym heriau yn y cyflenwad llafur rydym yn bwriadu mynd i'r afael â hwy yn gynharach ym mywydau pobl, yn ogystal â'r hyn rydym yn ei wneud ar fuddsoddi mewn sgiliau. Mae angen sgwrs lawer mwy aeddfed arnom ynglŷn â mudo a’i werth i ddyfodol yr economi. Mae arnom angen llawer mwy o gydnabyddiaeth i heriau costau byw, a fydd, os nad eir i'r afael â hwy, yn golygu na fydd busnesau’n para i’r dyfodol mwy hirdymor. A dyna pam fod y cynllun rhyddhad ar filiau ynni i fusnesau mor bwysig. A'r anhawster yw—ac roedd hwn yn fater a gododd heddiw, ac mewn cyfarfodydd busnes eraill rwyf wedi'u cael—os na fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth, ni fydd gostyngiadau'n cael eu trosglwyddo i fusnesau. Felly, efallai y bydd gennych fusnesau na allant aros tan y daw'r adolygiad i ben, ac sy'n deall beth fydd yn digwydd yn y dyfodol mwy hirdymor, na fyddant yma, o bosibl, i wynebu’r dyfodol hwnnw.

Felly, ar yr heriau uniongyrchol sy'n wynebu busnesau, rheini yw'r sgyrsiau uniongyrchol rwy'n eu cael gyda hwy, ac rwy'n gobeithio eu cael gyda Llywodraeth y DU yn wir, lle dylai'r ffocws fod ar weithredu nawr.

Weinidog, y gwir amdani yw eich bod, gydag un llaw, yn ceisio estyn llaw i rai busnesau drwy ryddhad ardrethi ychwanegol, a gyda’r llaw arall, rydych yn gweithredu polisïau a allai fod yn angheuol i gannoedd o fusnesau yng Nghymru. Mae'n debyg fod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn iawn pan ddywedodd nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwybod beth mae'n ei wneud o ran yr economi. Felly, gadewch imi roi cynnig ar un arall. Mae mynegai hyder busnesau diweddaraf Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr yn dangos bod hyder busnesau wedi gostwng am y pumed chwarter yn olynol, ac maent yn iawn i ddweud ei bod yn hanfodol mai 2023 yw’r flwyddyn i ddatblygu twf economaidd hirdymor sy’n amgylcheddol gynaliadwy. Mae cyfleoedd sylweddol ynghlwm wrth yr ymdrech i ddatgarboneiddio’r economi, a gwn fod gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd gan Fanc Datblygu Cymru i roi cynllun buddsoddi i arbed newydd ar lwybr carlam er mwyn cefnogi busnesau i ddatgarboneiddio, ond yn anffodus, mae busnesau’n parhau i oedi cyn buddsoddi mewn atebion gwyrdd oherwydd costau cynyddol. Felly, Weinidog, a wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ddatgarboneiddio’r banc datblygu? A gwrandewais yn ofalus iawn ar eich ateb cynharach i Sioned Williams, a deallaf y byddwch yn gwneud cyhoeddiadau pellach y flwyddyn nesaf, ond a allwch ddweud wrthym pryd y byddwch yn gwneud y cyhoeddiadau pellach hynny?

13:45

Gadewch inni ymdrin â rhai o'r heriau a ddaw yma. A dywedaf hyn mor dyner ond mor onest ag y gallaf, wrth yr Aelod: pan ddaw'n fater o siarad am bolisïau gwrth-dwf, pan ddaw'n fater o ofyn a ydych yn gwybod beth rydych yn ei wneud, nid oes ond angen ichi edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y chwe wythnos drychinebus a'r hyn y gwnaeth hynny i chwalu'r economi ledled y DU. Gyda llawer o’ch aelodau eich hun nid yn unig wedi dathlu'r ffaith bod Liz Truss wedi'i hethol, ond wedi dathlu’r cynllun a gyflwynodd, mae angen i'ch plaid edrych yn ofalus arnynt eu hunain nawr, ar yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd. Ac nid yn unig hynny. Os edrychwch ar yr hyn y mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yn ei ddweud, maent yn dweud nad oes gan Lywodraeth y DU gynllun ar gyfer twf. Ac mewn gwirionedd, heb gynllun ar gyfer twf ledled y DU, bydd hynny'n gwneud ein her yn llawer iawn anos.

Pan edrychwch ar yr hyn rydym yn ei wneud, byddaf yn cyhoeddi cynllun yn gynnar yn y flwyddyn newydd, gyda Banc Datblygu Cymru, i gefnogi busnesau i dyfu, cynllun i gefnogi busnesau i ddatgarboneiddio a gwella eu helw net. Edrychaf ymlaen yn fawr at y cyhoeddiad yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ac edrychaf ymlaen wedyn at ymateb adeiladol gan Aelodau yn y Siambr hon a thu hwnt. Rwy'n glir iawn fod y Llywodraeth hon yn credu, yn y flwyddyn anodd iawn sydd o'n blaenau, y bydd cyfleoedd i helpu i ddiogelu busnesau Cymru a swyddi yng Nghymru, ond hefyd, mewn ystod o sectorau, i weld twf gwirioneddol, lle mae gennym gyfleoedd. Rwy'n benderfynol o wneud hynny, gan dynnu sylw at anallu Llywodraeth y DU ar bob cyfle.

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae’r cyhoeddiad yn y gyllideb ddrafft sy’n ymwneud â rhyddhad ardrethi busnes wedi’i groesawu’n gyffredinol gan fusnesau ledled Cymru, yn enwedig yn y sector lletygarwch, manwerthu a hamdden. Dywedodd y Ffederasiwn Busnesau Bach, er enghraifft, y bydd y mesurau'n mynd rywfaint o ffordd tuag at leddfu'r pwysau y mae cwmnïau bach yn ei wynebu. Fodd bynnag, rwy’n siŵr fod y Gweinidog yn ymwybodol o sylwadau a wnaed gan Dadansoddi Cyllid Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, a ddywedodd y gellir dadlau ei fod yn offeryn di-awch i’w ddefnyddio wrth ymdrin â dirwasgiad, ac wrth gwrs, yn ôl eu dadansoddiad hwy, byddai busnesau mwy yn elwa mwy na rhai llai o faint o'r cymorth hwn nad yw wedi'i dargedu. Sut y byddai’r Gweinidog yn ymateb i hynny?

Wel, fel bob amser, rydym yn defnyddio'r offer sydd ar gael i ni, a'r ddealltwriaeth o gynllun y mae pobl yn ei ddeall, oherwydd y ffordd rydym wedi cefnogi busnesau yn y maes hwn o'r blaen, ac wrth gwrs, mae gennym eisoes ystod o ryddhad wedi'i ymgorffori yn ein system ar gyfer busnesau llai beth bynnag, ac mae gennym gap ar y swm y gall busnesau elwa ohono hefyd. Golyga hynny na fydd swm hyd yn oed yn fwy o arian yn cael ei ddarparu i'r busnesau mwyaf. Golyga’r cap y gallwn wedyn ailgylchu mwy o’r arian hwnnw a fyddai fel arall yn mynd i fusnesau mwy a'i roi i’n cwmnïau llai a chanolig eu maint. Fel erioed, mae gennym ddiddordeb bob amser yn sut y gallwn gael arfau gwell sydd wedi'u targedu'n well. Fodd bynnag, mae mantais neu gyfaddawd ynghlwm wrth bob un o'r rhain. Gall cynllun sy'n syml ac yn hawdd ei ddeall a'i weinyddu, a all ddarparu arian yn gyflym, fod â rhai ymylon mwy aneglur o'i gwmpas. Os edrychwch am gynllun sydd wedi’i dargedu i raddau mwy, bydd yn ei wneud yn fwy cymhleth, a bydd yn rhaid ichi fuddsoddi mwy o amser, egni ac ymdrech yn y gwaith o’i lunio a’i gyflwyno, a pho fwyaf y caiff cynllun ei dargedu a pho fwyaf cymhleth yw'r cynllun hwnnw, y mwyaf tebygol ydych chi o weld busnesau’n cwympo drwy’r bylchau ynddo. Felly, mae dewis i'w wneud yma bob amser. Rwy'n dawel fy meddwl ein bod wedi gwneud y dewis ymarferol cywir o ran ble rydym arni ar hyn o bryd, a bydd angen inni barhau i fod yn ystwyth, wrth inni fynd drwy'r flwyddyn anodd nesaf sydd o'n blaenau, gyda dirwasgiad y mae hyd yn oed Canghellor y Trysorlys yn cydnabod ein bod ar ei ddechrau, ac fel y dywedaf, bydd yn flwyddyn anodd o'n blaenau i lawer o fusnesau yn y sector, a dyna pam ein bod wedi cyhoeddi'r cymorth hwn dros y ddwy flynedd nesaf.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Wrth gwrs, un o’r pethau a grybwyllwyd ganddynt oedd y byddai busnesau llai o faint yn methu cael y cymorth hwnnw. Felly, onid yw'n wir fod angen cymorth wedi'i dargedu arnom? Ceir cydnabyddiaeth fod angen cymorth mewn mannau eraill. Rydym wedi clywed am ynni heddiw, a bod angen diwygio'r ardrethi busnes eu hunain, wrth gwrs. Dyna oedd barn cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, a ddywedodd y dylem ddefnyddio’r seibiant yng Nghymru i weld sut y gallwn ddiwygio ardrethi busnes. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod barn y Gweinidog ar hynny. Wrth gwrs, rydym ar yr adeg o'r flwyddyn lle mae lletygarwch yn arbennig yn dibynnu ar y refeniw a wneir ar hyn o bryd er mwyn goroesi'r ychydig fisoedd llawer tawelach hynny yn y flwyddyn newydd. Mae'n wir, wrth gwrs, yn gyffredinol, ein bod wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, ond mae gwariant y pen i lawr, ac mae newyddion heddiw ynghylch chwyddiant yn cynnig darlun llwm iawn ar gyfer y sector lletygarwch yn gyffredinol.

Rwyf wedi sôn o'r blaen yn y Siambr—ac rydym wedi ei glywed eto heddiw gan Sioned Williams a Paul Davies—am yr angen i helpu busnesau bach i fod yn wyrdd. Ond yr hyn y mae'r sector hefyd yn ei wynebu yw argyfwng recriwtio. Beth yw rôl Llywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio hwn ym marn y Gweinidog? Roedd yr argyfwng hwn yn broblem yn ystod y pandemig, mae wedi parhau hyd heddiw, ond ychydig iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ôl pob golwg i fynd i’r afael ag ef yn effeithiol.

13:50

Mae dau beth. O ran diwygio ardrethi annomestig, mae honno’n sgwrs rwy'n parhau i’w chael gyda’r Gweinidog cyllid, sef y Gweinidog arweiniol, fel y gwyddoch, mewn perthynas â mater diwygio trethiant. Ceir rhaglen ddiwygio sylweddol sy'n parhau i symud yn gyflym ar drethiant ehangach. Fe wyddoch am y gwaith rydym yn ei wneud ar ddiwygio'r dreth gyngor, er enghraifft. Felly, rydym yn edrych ar sut olwg a allai fod ar hynny yn y dyfodol. Mae deall sut rydym yn darparu cynllun gwahanol yn bwysig iawn er mwyn deall sut rydych yn cydraddoli enillwyr a chollwyr o'i fewn er mwyn sicrhau system well neu decach. Mae hwnnw'n waith rydym yn parhau i edrych arno.

O ran yr heriau penodol sy’n wynebu lletygarwch, mae’n un o’r pethau rwy'n wirioneddol bryderus yn eu cylch, o ran faint y bydd defnyddwyr yn ei wario yn y cyfnod hwn o amser sy’n wirioneddol bwysig i’r sector lletygarwch, a beth y mae hynny’n ei olygu i'r busnesau hynny a’u gallu i oroesi yn y flwyddyn newydd, pan fydd mis Ionawr fel arfer yn fis arafach, ac a fydd busnesau’n edrych eto, fel y mae nifer ohonynt eisoes yn ei wneud, i weld a ydynt yn mynd i leihau nifer yr oriau neu’r dyddiau y maent ar agor fel ffordd o ymdopi â realiti llai o wariant gan ddefnyddwyr a'r problemau staffio rydych wedi cyfeirio atynt.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio ochr yn ochr â’r diwydiant i geisio gwneud rhywbeth mwy cadarnhaol i'w gydnabod fel sector y gall pobl gael gyrfaoedd ynddo, ac nid gwaith achlysurol yn unig, sef yr unig ffordd o weithio yn y sector yn nhyb rhai pobl. Rwyf wedi ymrwymo i edrych gyda hwy eto yn y flwyddyn newydd ar yr hyn y gallem ei wneud i annog pobl i wneud hyn fel swydd, fel gyrfa, i geisio mynd i'r afael â'r realiti lle nad ydym yn gweld pobl sydd am ddod i weithio yn y sector. Fel rydym wedi trafod o’r blaen yn y Siambr a thu hwnt, rhan o’r her yw’r ffordd y mae defnyddwyr yn ymddwyn mewn rhai rhannau o’r sector lletygarwch, ac mae'n ymwneud â chydnabod, tra bo'r sector yn brin o staff, i ddangos rhywfaint o garedigrwydd a dealltwriaeth i’r bobl hynny sydd yno, yn ogystal â cheisio cael mwy o bobl i fod yn awyddus i ddod i weithio yn y sector ar gyfradd sy’n deg o ran ein huchelgeisiau ynghylch gwaith teg a chyflog teg ac sydd hefyd yn caniatáu i’r busnesau gynllunio ar gyfer eu dyfodol eu hunain.

Datblygiad SA1 yn Abertawe

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad SA1 yn Abertawe? OQ58856

Gwnaf. Mae cynnydd da'n parhau i gael ei wneud yn SA1, gyda lefelau da o ddiddordeb gan ddatblygwyr a meddianwyr. Mae cynigion Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gyfer ardal y matrics arloesedd yn dod yn eu blaenau, mae datblygiad llety myfyrwyr ar Heol y Brenin ar fin cael ei gwblhau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau’r broses o gaffael doc Tywysog Cymru.

A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei ymateb? Fel y soniais ddoe mewn cwestiwn i’r Prif Weinidog, mae llawer o lwyddiannau uwch-dechnoleg wedi bod yn SA1. Hefyd, mae SA1 yn ddatblygiad pellach yn Abertawe sy’n cyfuno mannau preswyl, cyflogaeth sgil uchel a gweithgarwch masnachol, gyda'r gwaith datblygu'n cael ei hybu, fel y dywedodd y Gweinidog, gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. A chredaf ei bod yn bwysig inni anelu at fwy o swyddi sgiliau uchel, uchel eu gwerth, yn hytrach na safbwynt y Ceidwadwyr ein bod am gael llawer o swyddi sgiliau isel ar gyflogau isel. Pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cwblhau’r broses o drosglwyddo’r seilwaith priffyrdd i gyngor Abertawe?

Diolch am y pwyntiau a wnaethoch. Rydych yn llygad eich lle ei bod yn ardal lle rydym yn gweld cyfuniad llwyddiannus gyda datblygiad cynllun sy'n cyfuno mannau preswyl, cyflogaeth sgìl uchel a gweithgarwch masnachol. Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yw rydym yn cael sgyrsiau adeiladol gyda chyngor Abertawe ynglŷn â mabwysiadu, a throsglwyddo, yn y pen draw, gobeithio, y cyfrifoldeb am ffyrdd yr ystad i'r awdurdod lleol. Gwn ei fod yn fater sydd o ddiddordeb i drigolion SA1. Gan ein bod wedi cyrraedd pwynt lle rydym yn cael sgyrsiau rhwng cyfreithwyr ynghylch sut y gallai hynny weithio, pan fyddwn yn cyrraedd y pwynt pan allaf roi diweddariad mwy pendant, rwy'n fwy na pharod i roi'r diweddariad hwnnw iddo, gan y gwn fod hwn yn fater pwysig iawn i’r Aelod a’i etholwyr.

A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am gyflwyno’r cwestiwn? Er, nid wyf yn rhy siŵr o ble y daeth ei gwestiwn atodol. Ond mae’n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymwybodol o bwysigrwydd safle SA1 a’r buddsoddiad a’r swyddi uchel eu gwerth a ddaw yn sgil y datblygiad. Y tro diwethaf i hyn gael ei godi, Weinidog, ac i ateb fy nghyd-Aelod, Altaf Hussain, fe ddywedoch chi:

'Mae rhywfaint o dir heb ei ddatblygu o hyd yn SA1 sydd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, ac rydym yn ceisio sicrhau bod hwnnw'n cael ei ddatblygu a'i gwblhau'n llawn.'

Yn amlwg, mae’r tir sydd eisoes wedi’i ddatblygu wedi bod yn effeithiol iawn, fel y soniais, yn denu’r buddsoddiad hwnnw i’r ardal. Gyda'r potensial ar gyfer mwy fyth o swyddi a buddsoddiad yn yr ardal hon, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i ddenu'r buddsoddiad hwnnw. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd ynghylch pa drafodaethau sy’n mynd rhagddynt i gwblhau rhywfaint o’r tir heb ei ddatblygu hwnnw, yn enwedig y tir sydd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, a pha fudd economaidd pellach a ddaw yn sgil hynny i’r ardal leol yn SA1?

13:55

Ydym, rydym yn parhau i gael trafodaethau gyda datblygwyr ynglŷn â'r tir—unwaith eto, at gymysgedd o ddibenion preswyl a masnachol. Nid wyf am wneud sylwadau am y trafodaethau sy'n mynd rhagddynt ac sydd eto i'w cwblhau, ond rydym yn ystyried opsiynau ar gyfer y datblygiad parhaus hwnnw i helpu i'w gwblhau, ynghyd â'r camau rydym wedi'u cymryd i gaffael doc Tywysog Cymru hefyd. Felly, gallwch ddisgwyl datblygiad parhaus ar y safle, a chredaf fod y ffaith bod datblygu sylweddol wedi digwydd eisoes yn rhoi gobaith inni y bydd y cynigion a’r trafodaethau y cyfeiriais atynt yn cael eu cwblhau'n llwyddiannus, gyda datblygiad pellach yno, rhagor o swyddi a chartrefi o ansawdd uchel i bobl leol.

Horizon Ewrop

4. Sut mae'r Gweinidog yn bwriadu cefnogi ymchwil a datblygu yng Nghymru yn sgil ansicrwydd parhaus o ran Horizon Ewrop? OQ58889

Croeso nôl. Mae’n rhwystredig fod gwahaniaethau gwleidyddol rhwng yr UE a’r DU wedi creu ansicrwydd parhaus ac anallu i barhau â'r cysylltiad â Horizon Ewrop. Yn y gorffennol, mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £6.8 biliwn ar gyfer rhaglenni’r UE yn y maes hwn i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, heb ddyraniad ar wahân i Lywodraeth Cymru. Mae gennym ystod o gymorth, gan gynnwys cyllid drwy ein huned Horizon Ewrop, sydd wedi’i lleoli yn Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, a Cymru Fyd-eang, yn ogystal â’r strategaeth arloesi sy’n cael ei datblygu.

Diolch am yr ymateb yna, Gweinidog.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU becyn o fesurau i gefnogi ymchwil a datblygu yn y DU yn ystod yr ansicrwydd parhaus ynghylch y cysylltiad â Horizon Ewrop. Yn y pecyn, fel rydych wedi sôn, mae addewid o £100 miliwn o gyllid cysylltiedig ag ansawdd ar gyfer prifysgolion Lloegr, y bydd Cymru yn cael cyllid canlyniadol yn ei sgil. Mae’n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod cyllid cysylltiedig ag ansawdd yn unigryw yn yr ystyr mai mewn ychydig iawn o feysydd y mae Cymru’n cystadlu’n uniongyrchol â Lloegr, ond mae prifysgolion yn un o’r meysydd hynny sy’n cystadlu am grantiau a myfyrwyr domestig a rhyngwladol. Mae colli unrhyw gyllid yn lleihau twf posibl yng Nghymru ac yn cynyddu’r tebygolrwydd o ddraen dawn. Mae'n rhaid i brifysgolion Cymru gael yr un faint pro rata â phrifysgolion Lloegr os ydym yn mynd i allu cystadlu am gyllid DU gyfan, felly a yw’r Gweinidog yn fodlon rhoi sicrwydd y bydd unrhyw gyllid canlyniadol a ddaw i Lywodraeth Cymru yn cael ei glustnodi fel cyllid cysylltiedig ag ansawdd i brifysgolion Cymru?

Felly, mae’r Gweinidog addysg eisoes wedi cyhoeddi cynnydd mewn cyllid cysylltiedig ag ansawdd. O ran cyllid canlyniadol yn sgil y cyhoeddiad hwn, rydym mewn trafodaeth barhaus â Llywodraeth y DU i benderfynu’n derfynol ar y swm a’r defnydd ohono. Mae her bob amser—a deallaf pam y’i gwnaed—pan fo cyhoeddiad yn cael ei wneud ar gyfer sector penodol yn Lloegr iddo fod ar gyfer yr un defnydd yn union yma yng Nghymru. Bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu beth i’w wneud, pan fyddwn wedi penderfynu’n derfynol ar y swm sydd i ddod, a byddwn yn gwneud y penderfyniad hwnnw’n agored ac yn dryloyw ar gyfer yr Aelodau, ac yn wir, pobl a chanddynt fuddiant yn y sector penodol hwn. Ond rwy'n awyddus iawn ein bod yn gwneud elw ar yr arian hwnnw nad yw'n golygu bod Cymru ar ei cholled o ran yr arian sydd ar gael. Ac rwy’n cydnabod pwysigrwydd gwneud rhywbeth yn y maes hwn i ddatrys y bwlch sydd wedi’i adael mewn cyllid ymchwil i brifysgolion o ganlyniad i’r methiant i ddatrys mater Horizon Ewrop.

Mae Luke Fletcher yn llygad ei le pan ddywed fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi, os na all gysylltu â Horizon, y bydd yn parhau i gefnogi’r sector ymchwil ac arloesi drwy drefniadau pontio. Mae hyn yn cynnwys cynllun gwarant y DU, sydd wedyn yn darparu cyllid i ymchwilwyr ac arloeswyr nad ydynt yn gallu cael gafael ar eu cyllid Horizon Ewrop tra bo'r DU yn y broses o gysylltu â’r rhaglen. Mae Llywodraeth y DU yn darparu gwerth dros £8 biliwn o gymorth ariannol ar draws pum cynllun gwahanol, gan gynnwys arian ar gyfer strategaeth ddiwydiannol a heriau byd-eang. Ac yn fwyaf diweddar, wrth gwrs, rydym wedi gweld yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar yn cael ei sefydlu gyda buddsoddiad cychwynnol o £800 miliwn i ddatblygu ymchwil lle mae'r enillion yn fawr. Nawr, mewn cyferbyniad, ynghyd â Horizon, dim ond dwy gronfa ymchwil ac arloesi arall y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig: Sêr Cymru a SCoRE Cymru. Felly, nid yw pwyntio bys at Lywodraeth y DU yn ddigon da o ystyried mai hwy sy'n darparu'r rhan helaethaf o gyllid ymchwil ac arloesi. Felly, Weinidog, gyda hyn mewn golwg, sut y byddwch yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn cyflawni ei hymrwymiadau ei hun o ran cyllid gwyddoniaeth? Diolch.

14:00

Mae yna un neu ddau o wahanol bwyntiau rwy'n credu y dylem eu gwneud. Oherwydd nad oes arian newydd wedi ei ryddhau, rydym wedi cael £1 biliwn yn llai dros dair blynedd; ffaith yw hynny, nid mater o farn. Mae hynny'n effeithio'n uniongyrchol ar gyllid ymchwil, datblygu ac arloesi. Mae hynny, unwaith eto, yn ffaith ddiymwad. Mewn perthynas â gwella'r arian i Gymru o gronfeydd y DU, mae hwnnw'n bwynt rwyf wedi'i drafod gyda'r sector yma yn ogystal â chyda Gweinidogion y DU.

Nawr, ar y pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud am ARIA ac agweddau eraill, mae'r rheini mewn gwirionedd i fod i ddarparu arian ar sail y DU gyfan. Cefais sgyrsiau eithaf anodd gyda nifer o wahanol Weinidogion gwyddoniaeth yn Llywodraeth y DU am greu ARIA ei hun a sut y byddai'n gweithredu, a gwneud yn siŵr fod yna strwythur a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â phrif swyddogion gwyddonol o bob cwr o'r DU a sicrhau nad oedd yn cael ei lywio'n ganolog o un pwynt, oherwydd mae'r her yn ymwneud â'r ffordd y mae nifer o gronfeydd wedi'u darparu yn y gorffennol, ynghylch ymchwil gwyddonol o safon uchel a gwerth uchel, ac mae'r triongl euraidd yn Lloegr yn tueddu i wneud yn llawer iawn gwell na gweddill y DU, gan gynnwys rhanbarthau Lloegr yn ogystal â Chymru. Rwy'n glir iawn am ein hangen yn y strategaeth arloesi newydd i gael mwy o ffynonellau ariannu y DU; mae'n rhan o'r rheswm y cefais gyfarfod ag Ymchwil ac Arloesi yn y DU, yn rhan o'r rheswm pam y cefais gyfarfod ag Innovate UK eto yn ddiweddar, a phan fydd yna ffordd newydd o wneud penderfyniadau yn ogystal â strategaeth newydd, rwy'n obeithiol y gwelwn well enillion i Gymru.

Rwy'n credu y byddai rhywfaint o sefydlogrwydd ar lefel y DU yn ein helpu ni i gyd hefyd. Rwy'n croesawu'r ffaith bod George Freeman wedi dychwelyd i fod yn Weinidog gwyddoniaeth; mae'n rhywun sydd, yn fy marn i, wedi bod yn adeiladol ac mae'n rhywun sy'n deall y sector. Rwyf bellach yn cael sgyrsiau gyda fy mhumed neu chweched Gweinidog gwyddoniaeth y DU ac nid wyf yn credu bod hynny'n helpu'r sefyllfa. Byddai'n well i bawb ohonom pe bai yna gyfnod o sefydlogrwydd. Hyd yn oed os ydym yn anghytuno â safbwynt Llywodraeth y DU, byddai cael rhywfaint o sefydlogrwydd yn rhywbeth y byddai pob un ohonom yn ei  groesawu.

Cyfartaledd Cyflog

5. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i godi'r cyfartaledd cyflog yn Nwyfor Meirionnydd? OQ58883

Rydym yn defnyddio ein sgiliau, ein cymorth busnes a'n hysgogiadau datblygu economaidd i helpu i greu a diogelu cyflogaeth o ansawdd da ac i helpu i wella cyfleoedd i gamu ymlaen. Mae hyn yn cefnogi ein hymdrechion i gynyddu incwm gwario gros y pen fel rhan o'n cenhadaeth economaidd a'n hymagwedd tuag at economi llesiant yma yng Nghymru.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hynny, ond dwi'n ofni bod y Llywodraeth yn chwilio am atebion llawer rhy simplistaidd i gwestiynau llawer iawn mwy dyrys, mewn gwirionedd. Mae yna lu o swyddi gwag gennym ni ar hyn o bryd; mae rhai yn talu'n dda iawn, rhai ddim cystal—yn feddygon, yn filfeddygon, yn ddarlithwyr, yn athrawon, yn swyddogion cynllunio, yn ofalwyr, a llawer iawn mwy. Ond, does yna ddim pobl yn gofyn y cwestiwn pam nad ydy pobl yn cymryd y swyddi yma i fyny. Mae'r cyfrifiad diweddaraf yn dangos y boblogaeth yn disgyn efo ni yng Ngwynedd, efo cynnydd sylweddol yn y boblogaeth dros 65 a chwymp pryderus yn y boblogaeth oedran gwaith. Felly, mae yna rywbeth llawer iawn dyfnach yn mynd ymlaen yma. A wnewch chi fel Gweinidog, felly, ymrwymo i wneud ymchwiliad trylwyr, deep dive, i mewn i beth sy'n digwydd yng Nghymru wledig, er mwyn deall y ffenomenon yma o beth sydd yn digwydd, ac yna, o gael y wybodaeth yma, gallwn ni ddechrau adnabod y datrysiadau i ateb y problemau go iawn?

Rwy'n siŵr fod angen archwiliad dwfn, ond yr hyn a wneuthum ar ddechrau'r tymor hwn, mewn gwaith y comisiynais Jonathan Portes i'w wneud ar ran Llywodraeth Cymru, oedd edrych ar ystod o'r ffactorau a'r heriau sy'n ein hwynebu. Mae'n cynnwys y realiti, fel y mae'r Aelod wedi'i ddweud, mewn rhai rhannau o Gymru, ein bod yn gweld poblogaeth yn symud i ffwrdd o'r ardaloedd hynny. Mae honno'n her fawr wrth sicrhau dyfodol i'n cymunedau. Mae'n rhan o'r rheswm pam rydym wedi nodi'r angen, yn y genhadaeth economaidd, i sicrhau ein bod yn helpu pobl iau i allu cynllunio eu dyfodol yng Nghymru, yn ogystal â denu pobl i symud i Gymru i fod yn rhan o'n stori ar gyfer y dyfodol. Gallai'r rheini fod yn Gymry ar wasgar sy'n symud yn ôl atom, gallent fod yn eraill hefyd yn ogystal, oherwydd rydym eisiau gweld bywyd go iawn i gymunedau sy'n llwyddiannus yn economaidd.

Mae'r her hefyd yn ymwneud â'r math o ddyfodol economaidd rydym yn ei gynnig, a dyna pam mae angen inni fuddsoddi mewn sgiliau. Dyna pam mae angen inni gydnabod, mewn ystod o'r meysydd y mae'r Aelod wedi'u crybwyll, fod y pwynt a wneuthum yn gynharach am y berthynas â mudo yn bwysig iawn. Rhan o'r her yn y byd milfeddygol y soniodd yr Aelod amdano—a dylwn nodi fy mod yn noddwr anrhydeddus i Gymdeithas Milfeddygon Prydain, rwy'n credu; roedd fy nhad yn filfeddyg hefyd—yw cydnabod, mewn gwirionedd, mai rhan o'r her fawr rydym yn ei hwynebu yw bod nifer o filfeddygon wedi dod o Ewrop ac ymhellach i ffwrdd, ac mewn gwirionedd mae yna risg fawr yn yr hyn sydd eisoes wedi digwydd gyda nifer o'r bobl hynny wedi gadael y DU. Felly, mae nifer y milfeddygon sydd gennym yn isel. Ar yr un pryd, bydd y galw hyd yn oed yn fwy, yn enwedig oherwydd bod ein trefniadau ar y ffin wedi newid hefyd.

Felly, mae'n ymwneud ag amryw o ffactorau—rwy'n cydnabod hynny—a'n her ni yw sut rydym yn llwyddo i gael ymateb yn y genhadaeth economaidd, ond hefyd ystod o adrannau eraill y Llywodraeth, sy'n ceisio ateb yr her honno i ddenu'r math o bobl rydym eu hangen i ddod i Gymru ac i roi cyfle i bobl sydd wedi'u magu yma i gynllunio dyfodol llwyddiannus yng Nghymru hefyd, boed hynny yn y Gymru drefol neu wledig. Dyna ran o'r rheswm rwy'n edrych ar gyfleoedd datblygu economaidd nad ydynt yn seiliedig ar fodel sydd ond yn dweud, 'Symudwch bobl i ddinasoedd', oherwydd ni fydd y model hwnnw ei hun yn gweithio i Gymru.

14:05
Yr Argyfwng Costau Byw

6. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu cymorth i fusnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wrth i’r argyfwng costau byw ddwysáu? OQ58880

Diolch. Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau i fynd i'r afael â chynnydd mewn costau i fusnesau, cyfraddau llog ar gyfer benthyca, treth ffawdelw a rheoleiddio'r farchnad. Ein blaenoriaeth yw cefnogi busnesau i ddatgarboneiddio ac i arbed, ac rydym yn chwilio am gyfleoedd i'w helpu i wneud hynny.

Diolch yn fawr iawn. Fel rŷn ni i gyd yn gwybod, busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi wledig. Fodd bynnag, mae'r argyfwng costau byw wedi bod yn ergyd sylweddol iddyn nhw, gydag adroddiad diweddar gan Ffederasiwn y Busnesau Bach yn nodi bod 63 y cant o fusnesau bach wedi gweld costau ynni yn cynyddu dros y flwyddyn diwethaf—dau allan o bob pump wedi gweld eu costau yn mwy na dyblu.

Nawr, mae gan Ganolbarth a Gorllewin Cymru nifer arbennig o uchel o fusnesau off-grid sy'n ddibynol ar LPG neu olew ar gyfer gwresogi, ac yn agored felly i amrywiadau ym mhris y farchnad. Er enghraifft, mae Caws Teifi—cynhyrchydd caws nodedig yng Ngheredigion—wedi profi prisiau tanwydd LPG yn codi o 40c y litr i 80c y litr, a chyfanswm eu costau ynni blynyddol yn codi o £20,000 i £40,000. Felly, tra bod busnesau gwledig yn wynebu'r cynnydd aruthrol hwn, mae Llywodraeth San Steffan ond wedi clustnodi swm pitw o £150 i gefnogi busnesau off-grid. Felly, wrth i fusnesau bach wynebu dyfodol ansicr, pa bwysau a chefnogaeth gall Llywodraeth Cymru eu rhoi i gefnogi busnesau off-grid, y gaeaf hwn?

Mae cymorth penodol ar gael drwy Busnes Cymru, ac mae rhai o'r cynghorwyr effeithlonrwydd ynni yn edrych ar yr hyn a allai fod yn bosibl i'r busnesau hynny, oherwydd bydd yn amrywio o un busnes i'r llall. Rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am fusnesau nad ydynt ar y grid a'u costau ynni yn ogystal â busnesau sydd ar y grid ac sy'n gweld cynnydd mewn costau ynni.

Ond mae hefyd yn atgyfnerthu'r heriau yn y cynllun rhyddhad ar filiau ynni. Fel y dywedais yn gynharach, nid oes deddfwriaeth wedi'i derbyn mewn perthynas â'r cynllun, nid yw'n gweld gostyngiadau uniongyrchol yn cael eu trosglwyddo i fusnesau nawr wrth inni wynebu'r gaeaf, a phan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau, bydd yn gwneud gwahaniaeth o bwys i'r busnesau hynny o ran cynllunio ar gyfer y dyfodol. Os mai sylfaen fwy hirdymor yn unig sydd gan y cynllun i ddarparu sicrwydd i fusnesau, mae'n bosibl y bydd rhai o'r busnesau hynny'n dewis gwneud dewisiadau parhaol am eu busnes. Felly, pan ddaw'r cynllun rhyddhad, bydd yn bwynt pwysig i fusnesau ar draws y DU, nid yn unig i'r rheini a elwir yn fusnesau ynni-ddwys. Rhan o fy mhryder yw a fydd busnesau nad ydynt ar y grid yn cael eu hystyried ar gyfer hynny. Mae'r pwyntiau a wnawn, ac yn wir, yn fy ymddangosiad diweddar yn y Pwyllgor Economi, Masnach, a Materion Gwledig, ymrwymais i rannu'r dystiolaeth rydym wedi'i darparu i ymgynghoriad yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ar y cynllun rhyddhad ynni, a fydd yn berthnasol i ystod o'r busnesau hyn yn uniongyrchol. Byddaf yn gwneud yn siŵr fod y dystiolaeth honno ar gael, a bydd yn cael ei chyhoeddi pan fydd wedi'i darparu i'r pwyllgor.

Weinidog, cefais fraw wrth ddarllen bod ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod pris cyfartalog peint o gwrw wedi codi 9 y cant o'i gymharu â'r llynedd, a bellach mae dros 50 o dafarndai yn cau ledled y DU bob mis, o'i gymharu â thua 30 o dafarndai y mis y llynedd. Tafarndai yw curiad calon nifer o gymunedau ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, ac maent yn chwarae rôl gymdeithasol bwysig i lawer o bobl. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog: beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi ein tafarndai drwy aeaf anodd a thu hwnt?

14:10

Wel, rydym yn sicr yn cydnabod bod tafarndai yn rhan bwysig o fywyd y gymuned, nid yn unig fel busnesau sy'n cyflogi pobl, maent hefyd yn rhoi ymdeimlad o le i lefydd hefyd. Ac unwaith eto rwyf wedi cydnabod y ffordd y mae tafarndai wedi cael sylw heddiw ac mae'r busnesau bragu wedi codi ar fwy nag un achlysur yn y gyfres hon o gwestiynau: mae heriau'n ymwneud â deunydd crai yn cynyddu, yr heriau'n ymwneud â'r cynnydd yng nghostau ynni hefyd a beth mae hynny'n ei olygu wedyn i dafarndai sy'n wynebu eu heriau eu hunain gyda chael y nifer cywir o staff ac yn wir, eu costau eu hunain yn codi. Felly, rwy'n cydnabod bod yna her. Mae yna anawsterau wedyn, y tu hwnt i'r cymorth rydym wedi'i ddarparu drwy ardrethi busnes, mewn perthynas â pha gefnogaeth arall y gallwn ei darparu'n ymarferol mewn cyllideb sydd heb lawer o le i symud. Fe welwch yn y gyllideb ddrafft nad yw'r Gweinidog cyllid wedi cadw unrhyw arian dros ben yn ôl i wneud hynny. A daw hefyd yn sgil ffigurau chwyddiant heddiw sy'n dangos cwymp bach o 11.1 y cant i 10.7 y cant, ond fel y dywedais, mae'r brif gyfradd ar gyfer bwyd a diod sy'n effeithio'n uniongyrchol ar sut y gall tafarndai wneud busnes wedi cynyddu 16.5 y cant. Felly, rwy'n cydnabod bod ystod eang o heriau, ac mae'n rhan o'r sgwrs y byddwn yn parhau i'w chael, nid yn unig gyda'r sector ond gyda Llywodraeth y DU i ddeall beth y gallwn ei wneud a pha adnoddau fydd ar gael i geisio cefnogi tafarndai fel busnesau a chanolfannau pwysig o fewn cymunedau.

Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu sgiliau sero net arfaethedig y Llywodraeth? OQ58886

Gwnaf. Rwy'n disgwyl lansio ein cynllun gweithredu sgiliau sero net yn gynnar yn 2023, a dim hwyrach na diwedd mis Chwefror 2023.

Wel, diolch am y cadarnhad hynny oherwydd rydyn ni gyd yn cydnabod ei bod hi'n anodd iawn symud ymlaen gyda'r agenda yma heb gael gweithlu sydd wedi'i ymbweru â'r sgiliau i wireddu nifer o'r interventions sydd eu hangen ar gyfer cyrraedd sero net. Mi wnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd bwysleisio i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn ddiweddar ei bod hi'n methu tanlinellu'n ddigon cryf pa mor allweddol oedd hi i symud ymlaen â'r agenda yma ar fyrder. Nawr, mi oedd y cynllun i fod yn cael ei gyhoeddi, wrth gwrs, yn y gwanwyn. Mi ohiriwyd hynny tan yr haf. Mi ohiriwyd hynny'n bellach wedyn tan y Nadolig, a nawr wrth gwrs rydych chi'n cadarnhau y bydd hynny yn y flwyddyn newydd. Gaf i ofyn pam bod yr oedi wedi digwydd, ac a gaf i ofyn i chi ategu efallai yr hyn a ddywedoch chi yn eich ateb cyntaf na fydd yna slippage pellach?

Ie, rwy'n hapus i gadarnhau ynghylch rhai o'r heriau roedd angen inni fynd i'r afael â hwy. Fel rydych wedi'i weld, yn ystod y flwyddyn, mae nifer o ddigwyddiadau gwahanol wedi bod. Ein disgwyliad ni oedd y byddem yn ei gyflawni o fewn y flwyddyn ariannol hon, ond bu'n rhaid inni wedyn fynd i'r afael â'r ergydion sydd wedi ein taro ar wahanol adegau yn y flwyddyn, nid yn unig yr hydref, ond wrth inni gyrraedd yr hydref ac wrth i heriau'r darlun economaidd newydd gymryd drosodd yn radical, roeddem hefyd eisiau cynnwys y dystiolaeth a'r cyngor diweddaraf a oedd ar gael gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd a nifer o gyhoeddiadau eraill. Byddai wedi bod yn od, rwy'n credu, pe byddem wedi cyhoeddi ein cynllun ar sgiliau sero net ac yna wedi derbyn tystiolaeth gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd y diwrnod wedyn. Felly, rydym yn bwriadu ystyried y rheini. Rwy'n disgwyl gallu gwneud datganiad ar lafar ar y cynllun sgiliau sero net, felly byddwch yn clywed yn uniongyrchol gennyf fi ar y pryd am yr hyn rydym wedi'i wneud a pham, a'r cydbwysedd rydym yn ceisio ei daro, gyda'r holl wybodaeth honno ar gael, a sut rydym yn dod â sgiliau sero net at ei gilydd mewn ffordd fwy cydgysylltiedig, beth fydd hynny'n ei olygu i fusnesau, beth fydd yn ei olygu i sectorau, beth fydd yn ei olygu i ddarparwyr, ac yn allweddol beth fydd yn ei olygu i bobl sydd eisiau arfogi eu hunain â'r sgiliau hyn yn y dyfodol wrth inni geisio datgarboneiddio ein heconomi a gwneud hynny mewn ffordd sy'n sicrhau pontio teg.

Ddoe, cefais gyfle i gyfarfod â Floventis Energy, un o'r nifer o gwmnïau gwynt ar y môr arnofiol sydd wedi dewis buddsoddi yn y môr Celtaidd. Mae Floventis wedi datblygu'r gallu i gynhyrchu 200 MW o ynni gwynt ar y môr arnofiol, 35 km oddi ar arfordir sir Benfro—chwaraewr allweddol arall sy'n ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau sero net. Mae'r cyfleoedd yn y môr Celtaidd yn enfawr, Weinidog: fe allai ac fe ddylai cais llwyddiannus am borthladd rhydd Celtaidd, ynghyd â'r cyfleoedd ynni adnewyddadwy,  atgyfnerthu sir Benfro i fod yn benrhyn ynni gwyrdd. Felly, byddwn yn falch o wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu ein gweithlu ar gyfer y dyfodol, gan roi'r sgiliau i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol allu llwyddo yn y sector gwyrdd nawr ac yn y dyfodol. Diolch. 

Wel, dylwn wneud y pwynt na fyddaf, wrth ymateb, yn gwneud unrhyw fath o arwydd am y porthladdoedd rhydd a'r ceisiadau sy'n cystadlu. Soniwyd amdano yn y cwestiwn, ac rwyf eisiau gwneud hynny'n hollol glir. Fodd bynnag, mae fy swyddogion yn adolygu'r ceisiadau, ynghyd â swyddogion Llywodraeth y DU, gan fod y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi gorffen. Ond rwy'n credu eich bod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod hwn yn faes lle rydym yn disgwyl twf economaidd sylweddol, yn ogystal â chyfleoedd cynhyrchu ynni gwyrdd. Bydd hefyd yn rhywbeth lle rwy'n credu y bydd yr Aelod a'r busnesau yn y sector yn ehangach yn gweld cydnabyddiaeth yn y cynllun sgiliau sero net o'r hyn y gallwn ei wneud a'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud i geisio sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd economaidd sy'n bodoli. Mae hwn yn un o'r meysydd lle mae gennyf lawer iawn mwy o optimistiaeth ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod nag yn rhai o'r sectorau a fydd yn wynebu mwy o heriau. Rwy'n credu bod yna bobl sydd ag adnoddau y maent eisiau eu buddsoddi, cyfleoedd y maent eisiau manteisio arnynt, ac rwy'n edrych ymlaen at weld amryw o ardaloedd, gan gynnwys sir Benfro, yn manteisio ar y cyfleoedd yn y môr Celtaidd a'r hyn y byddant yn ei olygu i ddyfodol economi Cymru.

14:15
Twristiaeth

8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael am wneud Caerdydd yn gyrchfan dwristiaeth ddeniadol i ymwelwyr o Gymru ac ymwelwyr rhyngwladol? OQ58879

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i gael trafodaethau gydag amrywiaeth o bartneriaid i gefnogi bywyd diwylliannol, chwaraeon a busnes y brifddinas, sydd eisoes yn cyfrannu at wneud Caerdydd yn gyrchfan fywiog a deniadol, heddiw ac yn y dyfodol. 

Diolch yn fawr, Weinidog. Dociau Caerdydd a wnaeth Gaerdydd yn brifddinas drwy allforio glo i'r byd i gyd. Heddiw, rydym yn ffodus o groesawu pobl yn ôl i Fae Caerdydd, ac mae'n gyrchfan boblogaidd i bobl leol a thwristiaid fel ei gilydd. Rwyf wedi derbyn nifer o gwynion nad ydym yn gwneud y mwyaf o botensial Bae Caerdydd. Nid yw'r argraff a roddir i dwristiaid sy'n mwynhau'r llwybr pren o amgylch Cei'r Fôr-forwyn yn dda iawn ar hyn o bryd, gyda rhannau mawr o'r llwybr pren wedi'u ffensio am fisoedd lawer ar y tro, mewn cyflwr lled-barhaol, mae'n ymddangos, heb unrhyw amserlen waith i'w gweld. Mae problemau tebyg i'w gweld ar lwybr Bae Caerdydd, ac rwy'n gwybod bod yr holl lwybrau cerdded hyn yn gyfarwydd iawn i'r Gweinidog. Felly, pa drafodaethau rydych wedi eu cael gyda chyngor dinas Caerdydd a'r awdurdod porthladd i sicrhau mai 2023 yw'r flwyddyn y gall Bae Caerdydd gynyddu ei botensial i ymwelwyr i'r eithaf? Diolch yn fawr.

Dylwn nodi bod yn rhaid i mi ateb yn fras iawn o ystyried bod hyn yn ymwneud â fy etholaeth. Ni allaf gael trafodaethau gweinidogol ar y pwynt penodol hwn, ond rwy'n sicr yn manteisio ar y cyfle i siarad gyda'r cyngor a phartneriaid eraill am hyn a mannau eraill o ddiddordeb yn etholaeth wych a gogoneddus De Caerdydd a Phenarth.

Datblygiad Economaidd

9. Beth yw asesiad diweddaraf y Gweinidog o ddatblygiad economaidd yn Nwyrain Casnewydd? OQ58872

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i gydweithio â Chyngor Dinas Casnewydd a phrifddinas-ranbarth Caerdydd er mwyn helpu i adeiladu economi gref yng Nghasnewydd a'r ardaloedd cyfagos.

Yn ddiweddar, cyfarfûm ag etholwyr sy'n gweithio yn Newport Wafer Fab a Nexperia, ac maent yn bryderus iawn, ynghyd ag eraill yn y gweithlu o 600 a mwy, am y sefyllfa bresennol, ac yn enwedig, wrth gwrs, am benderfyniad Llywodraeth y DU sydd wedi gorfodi Nexperia i werthu o leiaf 86 y cant o'i gyfran yn Newport Wafer Fab. Mae'r rhain yn swyddi uwch-dechnoleg medrus iawn sy'n talu'n dda iawn, fel y gwn eich bod yn gwybod, Weinidog. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU, ar ôl nodi pryderon diogelwch cenedlaethol am eu penderfyniad, bellach yn ymddangos fel pe baent wedi troi eu cefnau ar y canlyniadau. Rwy'n gwybod bod y gweithlu'n teimlo'n gryf iawn am hyn, ar ôl cyfarfod â hwy ar y safle ac yma yr wythnos hon, gyda chyd-Aelodau fel Jayne Bryant y mae'r safle wedi'i leoli yn ei hetholaeth, wrth gwrs. Yn amlwg, yr hyn y mae'r gweithlu ei eisiau a'r hyn y mae'r cwmni ei eisiau, Weinidog, yw i Lywodraeth y DU ymgysylltu, i gael deialog, i fod yn rhan o ddod o hyd i ffordd ymlaen sy'n diogelu'r swyddi hanfodol, gwerthfawr hyn, a buddsoddiad wedi'i gynllunio yn wir. Felly, Weinidog, a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn wynebu ei chyfrifoldeb ac yn cefnogi'r swyddi o ansawdd hyn a'r diwydiant uwch-dechnoleg hwn yng Nghasnewydd?

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n cydnabod beth oedd gan yr Aelod i'w ddweud am Jayne Bryant. Wrth gwrs, mae Nexperia yn ei hetholaeth hi, ond rwy'n cydnabod y bydd gan yr Aelod nifer o etholwyr sy'n gweithio yno hefyd. Cefais gyfle i gyfarfod â grŵp o staff o Nexperia mewn cyfarfod a gynhaliwyd gan Jayne Bryant, ac rwy'n gwybod bod Aelodau eraill wedi manteisio ar y cyfle i alw heibio i wrando arnynt hefyd.

Rydym yn cytuno bod angen i Lywodraeth y DU ymgysylltu'n well mewn perthynas â dyfodol y busnes penodol hwn. Mae dros 600 o swyddi sy'n talu'n dda ar y safle hwnnw mewn diwydiant sydd â dyfodol clir iawn, ond mae'n ddiwydiant a fydd, yn fy marn i, angen peth amser i bontio i'r dyfodol os bydd y dadfuddsoddiad a'r gwerthiant yn mynd rhagddynt. Mae yna heriau gydag archebion, oherwydd cwsmeriaid Nexperia yw'r bobl hynny. Yn ogystal, mae yna her ynglŷn â'r buddsoddiad a fyddai angen cael ei wneud yn y dyfodol, ac yn hollbwysig, ynglŷn â'r bobl. Dylem fod yn bryderus am y 600 o bobl sydd â theuluoedd a swyddi sy'n talu'n dda, ond dylem fod yn bryderus hefyd am rai o'r bobl hynny a allai wneud dewisiadau amgen os nad oes cynllun clir ar gyfer y dyfodol.

Nid wyf yn credu mai dyna sydd y tu ôl i benderfyniad Llywodraeth y DU ar sail diogelwch cenedlaethol yn dilyn yr adolygiad, ond rwy'n chwilio am sicrwydd ynglŷn â beth mae'r dyfodol yn ei olygu—cynllun ar gyfer y dyfodol sy'n cynnwys Llywodraeth y DU ac sy'n cynnwys sgyrsiau pellach gyda'r cwmni a buddsoddwyr posibl eraill. Mae'r rheini'n bwyntiau rwyf wedi bod yn bwriadu eu codi pan fyddaf yn cyfarfod â Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Rwyf i fod i'w gyfarfod cyn diwedd yr wythnos hon. Rydym yn sicr yn chwilio am ddull o weithredu gyda Llywodraeth y DU sy'n ein cynnwys ni a'n perthynas uniongyrchol â'r busnes, a'r sector ehangach yn wir.

14:20
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Y cwestiynau nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethu Cymdeithasol—[Torri ar draws.] Mae'r cwestiwn cyntaf gan Natasha Asghar.

Mae'n iawn.

Gwasanaethau Cyswllt Toresgyrn

1. Pa gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella gwasanaethau cyswllt toresgyrn yng Nghymru? OQ58875

Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n achub fy nŵr nawr. Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi amlinellu fy nisgwyliad y dylai pob claf yng Nghymru gael mynediad teg at wasanaethau cyswllt toresgyrn, ac rydym yn gweithio gyda'r byrddau iechyd i gyflawni hyn.

Diolch. Mae osteoporosis, fel rwy'n siŵr y byddwch yn deall ac yn gwybod yn well na fi, yn effeithio ar fwy na 180,000 o bobl yng Nghymru, a gall gwasanaethau cyswllt toresgyrn helpu i drawsnewid ansawdd bywyd llawer o bobl hŷn yng Nghymru a sicrhau arbedion costau i'r GIG. Ar hyn o bryd, dim ond dwy ran o dair o bobl yng Nghymru dros 50 oed sydd â mynediad at y gwasanaethau cyswllt toresgyrn, o'i gymharu â 100 y cant yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gallai ymestyn a gwella ansawdd y gwasanaeth ryddhau'r 73,000 o ddiwrnodau gwely acíwt mewn ysbytai a'r 16,500 o ddiwrnodau gwely adsefydlu yr amcangyfrifir y byddant yn cael eu llenwi gan gleifion sydd wedi torri clun dros y pum mlynedd nesaf, gan sicrhau arbedion enfawr i'r GIG. Er enghraifft, mae Cymdeithas Frenhinol Osteoporosis yn dweud y byddai darparu gwasanaeth cyswllt toresgyrn llawn yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn costio ychydig dros £343,000 y flwyddyn. Dros bum mlynedd, byddai 337 o doriadau clun a 114 o doriadau asgwrn cefn yn cael eu hatal, gan arbed amcangyfrif o £6.6 miliwn i'r GIG. Felly, a ydych yn cytuno, Weinidog, fod gennym gyfle gwirioneddol yma i wella bywydau pobl ledled Cymru? A wnewch chi ymrwymo i fuddsoddi yn y gwasanaethau cyswllt toresgyrn i sicrhau darpariaeth o 100 y cant ledled Cymru? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Natasha, a diolch am y cyfle i dynnu sylw at y ffaith eich bod chi, mewn tywydd oer, mewn tywydd rhewllyd, mewn eira, yn fwy tebygol o ddisgyn. Hoffwn ofyn, yn arbennig, i'r rhai sy'n fwy bregus i dalu sylw arbennig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, oherwydd y peth olaf sydd ei angen arnom yw mwy o bwysau ar ein GIG ar hyn o bryd. Felly, diolch am hynny.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu mewn perthynas ag atal er mwyn sicrhau ein bod yn gwella'r sefyllfa o ran toresgyrn yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod disgwyl i un o bob dwy fenyw ac un o bob pum dyn dros 50 oed dorri asgwrn yn ystod eu hoes, felly mae hynny'n llawer o bobl. Ac felly, mae angen inni roi rhai mesurau ar waith. Roeddwn yn falch iawn o fod wedi mynychu'r gynhadledd ar Ddiwrnod Osteoporosis y Byd ym mis Hydref lle gwnaethom hi'n glir iawn ein bod yn disgwyl gweld gwelliant sylweddol yn hyn o beth. Rydym mewn sefyllfa lle mae lefel y ddarpariaeth yng Nghymru oddeutu 72 y cant ar hyn o bryd, ac mae lefel y ddarpariaeth yn Lloegr oddeutu 57 y cant, ond rwy'n benderfynol o gyrraedd 100 y cant, a dyna beth oedd pwrpas y gynhadledd honno. Roedd yn ymwneud mewn gwirionedd â gofyn i bobl edrych ar arferion gorau a gwneud yn siŵr fod byrddau iechyd o ddifrif ynghylch eu cyfrifoldebau yn y maes hwn.

Y Cynllun Iechyd Menywod

2. A wnaiff y Gweinidog ddarparu diweddariad ar y cynllun iechyd menywod a'i berthnasedd i fenywod a merched yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58882

14:25

Mae cydweithrediad y gwasanaeth iechyd wedi arwain y gwaith o ddatblygu cynllun 10 mlynedd ar iechyd menywod, a hwn fydd ymateb y gwasanaeth i'r gofynion yn y datganiad ansawdd iechyd menywod a merched. Bydd y cynllun yn sicrhau gwelliannau i'r ddarpariaeth iechyd i fenywod ym mhob rhan o Gymru.

Diolch yn fawr iawn. Weinidog, efallai y byddwch yn cofio imi rannu stori fy etholwr Emily rai misoedd yn ôl yn ystod dadl wrthblaid gan Blaid Cymru ar iechyd menywod. Yn drasig, bu'n rhaid iddi ddioddef am bron i 10 mlynedd cyn cael diagnosis o endometriosis, cyflwr sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw ledled Cymru. Bellach yn 24 oed, mae Emily yn byw gydag endometriosis cam 4, adenomyosis a symptomau eraill sydd eto i gael diagnosis. Ni all weithio mwyach, na gyrru, ac mae'n byw gyda phoen cronig bob dydd. Er gwaethaf ei hymdrechion gorau i weithio gyda chlinigwyr a'r bwrdd iechyd i wella'r gofal mae'n ei gael, mae'n dal i aros i gael ei hatgyfeirio am driniaeth a gofal arbenigol. Mae'n dweud wrthyf nad oes ganddi opsiwn nawr ond talu am ofal iechyd preifat. Rydym yn gwybod mai dim ond un stori o blith nifer yw hon. 

Weinidog, fe ddywedoch chi y byddai'r cam cyntaf—ac rŷn ni wedi eich clywed chi'n cadarnhau hyn—ar gyfer diweddariad y cynllun iechyd menywod yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref, a dyma ni ar ein hwythnos olaf cyn y Nadolig. Felly, dwi'n erfyn arnoch chi i ddweud pryd yn union fydd y cynllun yma'n cael ei gyhoeddi, a bod hynny'n cael ei gyhoeddi ar frys er mwyn osgoi'r fath o brofiadau mae rhywun fel Emily wedi'u dioddef dros y blynyddoedd diwethaf.

Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddrwg iawn gyda fi i glywed am hanes Emily; mae hi'n un o'r nifer o fenywod sydd yn dioddef o endometriosis. Rydyn ni wedi cydnabod bod angen inni wneud lot mwy yn y maes yma, a dyna pam nawr mae gyda ni nyrsys endometriosis ym mhob bwrdd iechyd ar draws Cymru. Felly, mae pethau'n gwella, ond rŷn ni'n cydnabod hefyd bod angen mwy o feddygon sydd yn gallu gwneud yr ymyrraeth sydd angen ar gyfer nifer o fenywod.

O ran y cyhoeddiad, beth rŷn ni wedi ei wneud nawr—. Cyhoeddiad yr NHS fydd e, yn hytrach na chyhoeddiad y Llywodraeth, ond dwi wedi ei weld. Dwi wedi dweud fy mod i'n hapus gyda'r ffordd mae'r trywydd yna'n mynd a dwi'n gobeithio y bydd hwnna'n cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnos nesaf. Felly, mi fydd e'n dod. Beth sydd yn hwnnw yw—. Rŷn ni wedi gwneud ymgynghoriad, wrth gwrs, gyda menywod ar draws Cymru i ofyn iddyn nhw, 'Beth ŷch chi'n meddwl sydd angen mewn cynllun?' A beth fyddwn ni'n ei gael yw'r ymateb yma, beth mae'r 4,000 o bobl sydd wedi ymateb yn meddwl ddylai fod yn y cynllun, ac wedyn bydd hwnna'n mynd ymlaen, a gobeithio cawn ni rywbeth arall wedyn, cam ymhellach ymlaen, yn yr haf. Achos cynllun 10 mlynedd fydd e, a dwi'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni ddim jest yn edrych ar faterion sydd yn ymwneud â gynaecoleg a'r agweddau hynny o fenywod, ond dwi yn meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni'n edrych ar bethau fel asthma, yr anxiety a'r migraines sy'n effeithio ar fenywod mewn ffordd wahanol. Felly, mae lot o waith eto i'w wneud, ond beth oedd yn bwysig oedd gwneud yn siŵr mai menywod oedd yn teimlo fel mai nhw oedd yn cael dylanwad ar siâp y rhaglen fydd i ddod.

Weinidog, fel y gwyddoch yn sicr, fe wnaethom ni fel Ceidwadwyr Cymreig gynnal dadl yn y Siambr hon ar ganser gynaecolegol sy'n effeithio ar fenywod. Roedd gennym alwadau clir yn y ddadl honno y teimlwn y gallent helpu menywod ledled Cymru sy'n dioddef gyda'r clefyd ofnadwy hwn. Yr hyn yr hoffwn ei wybod heddiw gan Lywodraeth Cymru yw beth rydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â chanser gynaecolegol yma yng Nghymru, a pha gamau a gymerwyd gennych, yn dilyn y ddadl honno, i wneud yn siŵr nad oes rhaid i fwy o fenywod yng Nghymru ddioddef gyda'r clefyd erchyll hwn.

Diolch yn fawr. Rwy'n falch o ddweud fy mod wedi bod ar drywydd y ddadl honno, ac un o'r pethau rwyf wedi'i wneud yw cynnal uwchgynhadledd canser, lle buom yn edrych, yn amlwg, ar ddadansoddiad o lle mae angen inni wneud cynnydd pellach mewn perthynas â chanser gynaecolegol yn arbennig. Rydym yn rhoi pwysau ar fyrddau iechyd i sicrhau eu bod yn deall beth yw'r llwybrau gorau posibl i wneud yn siŵr y gallant ddysgu oddi wrth ei gilydd. Un o brif ddibenion yr uwchgynadleddau canser hyn yw sicrhau eu bod yn deall beth yw'r llwybr gorau posibl, gan ddilyn y cyngor clinigol gorau. Felly, rwy'n falch o ddweud bod cynnydd wedi'i wneud. Rwy'n credu bod gennym ffordd bell i fynd, a bod yn onest. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â gweithlu, ond yn amlwg, byddwn yn gwneud cyhoeddiadau'n fuan am yr hyn y bwriadwn ei wneud mewn perthynas â'r gweithlu.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddymuno Nadolig llawen i chi, Weinidog, ac i fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr? 

Nid oes un hyb llawfeddygol yn bodoli yng Nghymru. Nododd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon fod hybiau llawfeddygol yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniad mwyaf erioed o driniaethau yn y GIG, sydd bellach yn fwy na 0.75 miliwn o achosion yng Nghymru. Maent hefyd wedi profi'n ganolog i'r gwaith o leihau'r ôl-groniad yn Lloegr, a dyna pam mae 50 arall ar y ffordd, yn ychwanegol at y 91 sydd eisoes yn weithredol. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi pam nad oes yna unrhyw hybiau llawfeddygol yng Nghymru er ein bod wedi bod yn dweud wrthych chi a'ch rhagflaenydd i'w rhoi ar waith ers dros ddwy flynedd?

Wel, efallai eich bod wedi sylwi, mewn gwirionedd, lle mae'r poblogaethau wedi'u lleoli yng Nghymru, mae'n wahanol iawn i'r hyn sy'n bodoli yn Lloegr—mae ganddynt hwy ddinasoedd mawr; mae ganddynt lefydd sy'n agos at ei gilydd. Mae'n llawer haws iddynt hwy drefnu hybiau llawfeddygol ar wahân. Rydym ni'n neilltuo llawdriniaethau dewisol, sydd i bob pwrpas yn gwneud yr un peth. Felly, sicrhau nad yw llawdriniaethau dewisol yn cael eu bwrw allan gan alwadau gofal brys. Ac yn y ffordd honno, rwy'n meddwl ein bod ni wedi gweld llawer o gynnydd. Yn sicr, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mae gennym ddau le modiwlar newydd bellach lle rydym yn disgwyl gweld tua 4,000 o driniaethau ychwanegol yn digwydd bob flwyddyn. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, unwaith eto mae yna hyb i bob pwrpas, yr un peth; mae'n gyfleuster wedi'i neilltuo, ac yno, fe welwch 4,000 o driniaethau cataract ychwanegol y flwyddyn. A hefyd Canolfan Orthopedig Caerdydd a'r Fro, lle mae yna weithgaredd wedi'i ddiogelu unwaith eto. Felly, galwch hwy'n beth bynnag a ddymunwch, dyna i bob pwrpas y maent yn ei wneud—maent yn gwneud yr un peth â hybiau llawfeddygol.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Wrth gwrs, nid ydynt i bob pwrpas yr un peth, achos rydym yn cael canlyniad gwahanol iawn yng Nghymru. Weinidog, mae gennym ni 50,000 o bobl yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth ac mae'r un ffigwr yn Lloegr a'r Alban yn sero—maent wedi cael eu dileu. Felly, rydym ni mewn sefyllfa wahanol iawn. Felly er eich bod wedi nodi safbwynt gwahanol yng Nghymru, byddwn yn awgrymu nad yw'r safbwynt hwnnw'n gweithio. Mae gennym ni un o bob pedwar claf yma yn aros dros flwyddyn am driniaeth ac mae'r ffigur yn Lloegr yn un o bob 20. Mae amseroedd aros cyfartalog yng Nghymru 10 wythnos yn hirach nag yn Lloegr. Felly, byddwn i'n dweud, edrychwch ar yr hyn sy'n gweithio yn Lloegr a gwnewch fel y mae Lloegr yn ei wneud pan fo'n gweithio. Ac nid wyf yn meddwl ei bod hi'n ddiogel i ddweud—. Rwy'n credu ei bod yn anodd iawn i chi gyrraedd eich targedau eleni, Weinidog; mae gennych darged i'w gyrraedd erbyn diwedd mis Mawrth ac rwy'n meddwl ei bod fwy neu lai yn realiti nawr nad ydych yn mynd i gyrraedd y targed hwnnw. Gobeithio y gwnewch chi, ond nid wyf yn meddwl eich bod chi'n mynd i gyrraedd y targed hwnnw. Rwy'n credu y bydd yn darged anodd iawn i'w gyrraedd hyd yn oed erbyn diwedd 2024. 

Wel, diolch. Gwrandewch, rydym wedi rhoi targedau ymestynnol i mewn; rwy'n hyderus ein bod ni'n mynd i gyrraedd y targed mewn sawl maes arbenigol ac, yn amlwg, rydym yn mynd i fod yn gwthio pawb i geisio'u cyrraedd. Ond rydym bob amser wedi dweud y byddai orthopaedeg, yn enwedig, yn her arbennig.

Rwy'n credu bod yn rhaid i chi ddeall, mewn gwirionedd, pan fydd eich cyllideb gyfalaf wedi'i thorri i bob pwrpas, sef yr hyn sydd wedi digwydd, mae'n anodd iawn inni sefydlu canolfannau newydd. Ac felly, yr opsiwn sydd gennych ar gael i chi yw ad-drefnu'r hyn sydd gennych eisoes. Felly, gallem ddweud yn ddamcaniaethol, 'Iawn, rydym yn mynd i roi'r gorau i wneud damweiniau ac achosion brys mewn ysbyty penodol ac fe wnawn ni neilltuo hwnnw', ond rydych chi'n mynd i fod yn wleidydd dewr os ydych chi'n gwneud hynny ar hyn o bryd. Ac yn sicr, nid wyf mewn sefyllfa lle rwy'n barod i wneud hynny pan fo'r pwysau ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys mor fawr. Ond yr hyn y maent wedi'i wneud yn Lloegr yw cau niferoedd enfawr o ysbytai lle roeddent yn darparu ar gyfer damweiniau ac achosion brys cyn hynny, ac nid ydym wedi gwneud hynny yng Nghymru. Nawr, mae cost ynghlwm wrth hynny—mae'n ddrud iawn, ond rwy'n meddwl bod yna benderfyniad gwleidyddol yn cael ei wneud yma. Ac mae'r cyhoedd, rwy'n credu, yn awyddus i weld y rhan fwyaf o'r llefydd damweiniau ac achosion brys hynny'n parhau ar agor. 

14:35

Wel, Weinidog, mae'n rhaid i chi edrych ar yr ystadegau—mae'r ystadegau'n siarad drostynt eu hunain: yng Nghymru, rydym yn aros 10 wythnos yn hwy am driniaeth nag y mae'n rhaid i gleifion ei wneud yn Lloegr. Felly mae'r ystadegau'n siarad drostynt eu hunain, ac ni allwch ddianc rhag hynny.

Ond fy nghwestiwn olaf i chi eleni, Weinidog, yw: beth y credwch eich bod yn gresynu fwyaf yn ei gylch yn 2022? Ac mae'n rhestr faith. Ai cadw'r pasbortau brechlynnau aneffeithiol ar waith ydoedd; yr amseroedd aros hiraf am ambiwlans ers dechrau cadw cofnodion; yr amseroedd aros gwaethaf ym Mhrydain am wasanaethau damweiniau ac achosion brys; gadael un rhan o bump o'r boblogaeth ar restr aros GIG; nyrsys ar streic, gweithwyr ambiwlans ar streic, bydwragedd ar streic; 1,200 pellach o swyddi nyrsys yn wag a £130 miliwn wedi ei wario ar nyrsys asiantaethau; deintyddiaeth y GIG yn dod yn foethusrwydd prin; methu cefnogi meddygon teulu i fod yn fwy hygyrch a moderneiddio technoleg y GIG; neu osgoi atebolrwydd drwy ymchwiliad COVID penodol i Gymru? Ai dyma beth y mae Keir Starmer yn ei olygu pan fo'n dweud, 'Edrychwch ar Gymru i weld y daioni y gall Llywodraeth Lafur ei wneud'?

Wel, Nadolig llawen i chi hefyd, Russell. [Chwerthin.] Ac rwy'n falch iawn mai dyna oedd eich cwestiwn olaf chi eleni. Edrychwch, rwyf wedi cael blynyddoedd gwell, os ydw i'n onest, ac yn amlwg, mae yna lawer o bethau yr hoffwn pe byddem wedi gweld gwelliannau arnynt a hoffwn pe baem wedi mynd yn gyflymach gyda rhai pethau. Oherwydd i mi, y peth allweddol yw cadw llygad ar beth sydd ei angen ar y cyhoedd, a'r hyn sydd ei angen arnynt yw gofal yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Ac rwy'n gresynu nad ydym wedi gallu gwneud mwy o hynny. Ac mae rhesymau dilys am hynny: rydym wedi cael pandemig COVID; rydym wedi cael effeithiau chwyddiant enfawr sydd wedi sugno £200 miliwn allan o gyllideb y GIG; rydym wedi cael cynnydd enfawr yn y galw; ac nid ydym wedi gweld peth o'r cynnydd y byddwn wedi hoffi ei weld mewn perthynas ag amseroedd aros. Ond nid ydym ar y pwynt eto ble rydym wedi cyrraedd y dyddiad terfynol, ac fe fyddaf i, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol, yn parhau i bwyso ar y byrddau iechyd, i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau eu bod yn gweithio tuag at gyrraedd y targedau a wnaethom yn glir iawn ym mis Ebrill ac y disgwyliwn iddynt eu cyrraedd.

Diolch yn fawr iawn. A gaf innau, yng nghwestiynau iechyd olaf y flwyddyn, ddefnyddio'r cyfle yma i ddymuno Nadolig llawen i'r Gweinidog, i'r Senedd, ac i bawb sy'n gweithio ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal? Ac mae'n teimlo'n gyfarchiad gwag, braidd, pan ydyn ni'n edrych ar yr heriau y mae'r gwasanaethau hynny'n eu hwynebu. Doeddwn i wir ddim yn gwybod beth i'w ofyn heddiw. Mi allwn i fynd ar ôl heriau'r gaeaf; yr argyfwng recriwtio a chadw staff; amseroedd aros am driniaeth mewn adrannau brys, neu am ambiwlans; dyfodol yr ambiwlans awyr; diffyg gwlâu cymunedol; streics; mi fuaswn i fod wedi gallu cynnwys prinder antibiotigs—mae yna gwestiwn amserol wedi ei dderbyn ar hwnnw. Lle mae rhywun yn dechrau? Ond gadewch i fi ofyn hyn: pa gyflwr y mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r NHS fod ynddo fo erbyn fy mod i'n gallu gofyn y cwestiynau nesaf yma yn y Senedd? Mae gen i ofn bod cleifion a staff wedi colli ffydd yng ngallu'r Llywodraeth i reoli'r NHS. Gaf i ofyn i'r Gweinidog roi rhywbeth i ni—unrhyw beth—y byddwn ni'n gallu ei weld yn gwella, cornel yn cael ei throi, i brofi y dylem ni ymddiried yn y Gweinidog?

Wel, mae'n amlwg ein bod ni'n treulio lot o amser yn paratoi ar gyfer y gaeaf—rŷn ni'n gwybod y bydd pwysau dros y gaeaf. Maen nhw eisoes wedi dechrau—rŷn ni wedi gweld faint o bwysau oedd ar y gwasanaethau dros y penwythnos diwethaf. Dyw hi ddim yn helpu pan ŷn ni'n gweld pethau fel scarlet fever yn codi—doeddem ni ddim yn disgwyl gweld hynny. Felly, mae pethau'n codi nag ydym ni'n disgwyl eu gweld. Ond, wrth gwrs, mae arian ychwanegol nawr ar gyfer y flwyddyn nesaf, ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Yn amlwg, mae hwnna'n mynd i fod yn anodd, pan fo chwyddiant yn effeithio. Mae yna gwpwl o bethau lle dwi'n meddwl y byddwn ni'n gweld gwahaniaeth dros y gaeaf. Un ohonynt fydd y ffaith ein bod ni'n mynd i weld 100 o weithwyr ambiwlans ychwanegol yn dechrau dros gyfnod y Nadolig. Maen nhw wedi bod mewn hyfforddiant; gobeithio y bydd hynny'n cymryd rhywfaint o bwysau oddi ar y gwasanaeth ambiwlans. A hefyd, bydd yna gyhoeddiad ar ddydd Gwener gan y Dirprwy Weinidog, ar ofal, sydd hefyd, gobeithio—. Rŷn ni wedi bod yn gweithio ar hwnna am fisoedd lawer, gyda'n gilydd, gyda llywodraeth leol, ar roi mwy o help yn ein cymunedau, ond mi wnawn ni gyhoeddiad mwy manwl ar hynny ar ddiwedd yr wythnos. 

14:40

Roedd 'gobaith' yn air a gafodd ei ddefnyddio yn fanna. Mae gen i ofn mai'r Gweinidog yn gobeithio am y gorau ydy hynny; dydy'r NHS ddim yn mynd i ddod dros ei broblemau os ydy'r Gweinidog jest yn gobeithio am y gorau. Ac efo mwy o staff ambiwlans, wrth gwrs, methu cael cleifion i mewn i'r ysbytai mae'r ambiwlans; dydy mwy o staff ambiwlans ddim yn mynd i ddatrys pethau. 

Yn fy ail gwestiwn, serch hynny, rwy'n troi at y gwahanol anghydfodau cyflog—nyrsys yng Nghymru yn streicio am y tro cyntaf yr wythnos hon, staff ambiwlans a bydwragedd i streicio hefyd. Rwy'n awyddus i ddod o hyd i ffordd drwy hyn, ond mae Llywodraeth Cymru yn dal i ymatal rhag cymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon. Nawr, mae'r Gweinidog yn dweud bod ei dwylo wedi'u clymu. Gadewch imi ofyn hyn iddi: a yw hi hyd yn oed eisiau i'r dwylo hynny gael eu datod, oherwydd mae nyrsys yn dweud wrthyf mai'r hyn a welant hwy yw Gweinidog sy'n ymddangos yn hapus i guddio tu ôl i ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU? Ac nid wyf yn sôn am gyfyngiadau ariannol; mawredd, rwy'n gwybod ei bod hi'n anodd, ac mae angen i'r Ceidwadwyr ar lefel y DU gywilyddio am y rôl ragweithiol y maent hwy wedi'i chwarae yn helpu i greu'r llanast economaidd rydym ynddo. Ond ar hyn o bryd, mae'r Gweinidog yn gallu osgoi'r ail-flaenoriaethu, y meddwl arloesol, y posibilrwydd o ddefnyddio pwerau datganoledig sydd ar gael i'r Llywodraeth drwy ddweud nad oes unrhyw beth y gall hi ei wneud. Wel, os nad yw hi wir yn gallu trafod, fel y mae hi'n awgrymu, beth mae'n ei wneud i geisio cael pwerau i wneud hynny, er mwyn inni allu cefnogi ein gweithwyr ac osgoi'r streiciau hyn?

Wel, edrychwch, yn gyntaf oll, rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig i mi gofnodi unwaith eto ein bod yn deall cryfder teimladau'r bobl sy'n teimlo fel pe nad oes ganddynt unrhyw opsiwn arall heblaw gweithredu'n ddiwydiannol. Rydym yn credu y dylai ein holl weithwyr sector cyhoeddus gael eu gwobrwyo'n deg, ac rydym yn credu bod yr anhrefn sydd wedi'i greu gan y Llywodraeth Dorïaidd, a'r cynnydd a welsom yn y chwyddiant, wedi erydu llawer o'r arian a fyddai wedi mynd i bocedi'r nyrsys hynny mewn gwirionedd.

Ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n deall nad arian sy'n mynd i bocedi'r nyrsys yn unig sydd wedi ei erydu, ond y ffaith amdani yw, eleni, cefais fil nad oeddem yn ei ddisgwyl o £207 miliwn am ynni. Nawr, byddai £200 miliwn yn cyfateb i roi cynnydd o 4 y cant i weithwyr y GIG. Nawr, nid wyf yn credu y gallwn ni ddiffodd y goleuadau yn ein hysbytai. Nid wyf yn credu y gallwn ddiffodd y gwres yn ein hysbytai, ond efallai fod hynny'n opsiwn y gallai Plaid Cymru fod eisiau ei ddewis. Ond nid yw'n opsiwn y teimlaf y gallwn ni ei ddewis. A dyna'r gwahaniaeth rhwng taflu grenadau o ochr arall y Siambr a bod mewn grym mewn gwirionedd, oherwydd mae'n rhaid i chi wneud y penderfyniadau anodd hynny. Ac a dweud y gwir rwy'n meddwl bod rhaid inni gadw'r goleuadau ymlaen, a chadw cleifion yn gynnes pan ddônt i'r ysbyty. Mae hwnnw'n benderfyniad rydym ni wedi ei wneud. 

Ysgol Feddygol Bangor

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o sefydlu ysgol feddygol Bangor? OQ58869

Mae’r niferoedd a fydd yn cael eu derbyn i ysgol feddygol Bangor wedi cael eu cytuno, ac mae’r cyllid wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer 140 o fyfyrwyr bob blwyddyn, pan fydd yr ysgol wedi cyrraedd y capasiti uchaf. Cafodd llythyr o sicrwydd ei anfon at gydweithwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol ym mis Tachwedd er mwyn caniatáu i Brifysgol Bangor barhau i symud ymlaen drwy'r broses achredu—accreditation. Diolch. 

Da iawn, ac mae'n dda gweld y cynllun yma'n datblygu. Ond, hoffwn i wybod a oes yna unrhyw waith pellach ar y gweill er mwyn sicrhau bod y ganran angenrheidiol o ddarpar feddygon sydd â sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn mynychu'r ysgol feddygol? Fe gyhoeddwyd cynllun newydd ar gyfer 'Mwy na Geiriau', a hoffwn wybod sut mae'r themâu sydd yn y cynllun hwnnw yn cael eu rhoi ar waith ym Mangor, yn benodol, y thema cynllunio ar gyfer gweithlu dwyieithog yfory. 

Hoffwn i ofyn hefyd—glywsoch chi fi ddoe yn holi'r Prif Weinidog—am bosibiliadau datblygu Bangor yn hwb hyfforddiant iechyd a meddygol, gan gyfeirio at ddysgu deintyddiaeth a fferylliaeth fel pynciau gradd. O ran deintyddiaeth, dim ond un ysgol ddeintyddol sydd yna yng Nghymru. Onid oes angen un arall? Ac onid Bangor ydy'r lle hollol amlwg i sefydlu'r ail ysgol ddeintyddol yng Nghymru, o gofio'r arbenigedd iechyd a meddygol sydd yn prysur ddatblygu yno? 

14:45

Diolch yn fawr. Wel, a gaf i ddweud fy mod i'n hapus iawn fy mod i wedi cwrdd â Phroffesor Mike Larvin yn ddiweddar, jest i sicrhau ein bod ni'n symud ymlaen gyda datblygiadau yn y brifysgol? Rŷn ni'n ymwybodol iawn fod angen inni dalu sylw i faint o recriwtio sy'n mynd i fod o ran y niferoedd sy'n siarad Cymaeg, a dwi'n gwybod bod ffocws arbennig wedi cael ei roi ar hynny, ac mae yna waith yn cael ei wneud ar hynny ar hyn o bryd. Felly, dwi'n falch i ddweud bod hynny'n rhywbeth maen nhw'n ei gymryd o ddifrif.

O ran deintyddiaeth, dwi'n siwr y clywsoch chi'r Prif Weinidog yn sôn ddoe am y ffaith ein bod ni'n keen iawn i edrych ar y tîm, a dwi'n meddwl bod rhaid inni ddechrau gyda'r tîm a sicrhau ein bod ni'n cynyddu'r niferoedd sydd, er enghraifft, yn therapyddion deintyddol. Rŷn ni yn mynd i weld cynnydd yn hynny. Rŷn ni wedi gweld hynny yn y gorffennol, ond dwi wedi rhoi pwysau ar Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau ein bod ni'n mynd hyd yn oed ymhellach. I fi, hwnna yw'r peth pwysicaf. Mae'n rhaid inni ddechrau troi'r system ar ei phen a gweithio gyda phobl sydd yn therapyddion deintyddol, ac, felly, byddwn i eisiau gweld hynny'n gam cyntaf, ac, wedyn, yn y dyfodol, gallwn ni edrych ar ddeintyddiaeth ymhellach. 

Rwy'n falch o weld y cwestiwn hwn yn cael ei godi'r prynhawn yma, oherwydd, pan fydd y Llywodraeth yn llwyddo i gyflawni'r peth, yn hytrach na dim ond siarad amdano, rwy'n siŵr y bydd yn cael sgil-effeithiau cadarnhaol i bobl ledled gogledd Cymru sy'n dyheu am gael gyrfaoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn mynd rywfaint o'r ffordd i wella'r problemau recriwtio a chadw staff sy'n ein hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd.

Nawr, yr wythnos diwethaf, gyda'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ymwelais â'r ysgol nyrsio a bydwreigiaeth ym Mhrifysgol De Cymru ym Mhontypridd, ac mae ganddynt wardiau efelychu o'r radd flaenaf sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ymarfer mewn amgylchedd ffug, i feithrin eu sgiliau a'u hyder cyn cael eu cyflwyno i sefyllfaoedd go iawn. Ond fel gyda llawer o bethau dan y Llywodraeth Lafur hon, nid oes gan ogledd Cymru yr hyn y mae gan dde Cymru ddigonedd ohono. Felly, a allai'r Gweinidog amlinellu ychydig mwy o fanylion am union fanylebau'r ysgol feddygol ym Mangor, ac a fydd myfyrwyr gogledd Cymru yn cael yr un cyfleoedd â'r rhai yn y de, fel ein bod mor barod ag y gallem fod i ddarparu gofal o'r radd flaenaf i'r bobl sydd ei angen fwyaf a sicrhau nad yw pobl gogledd Cymru'n cael eu gadael ar ôl? Diolch. 

Diolch. Wel, rwy'n siŵr y byddwch chi'n deall, mewn gwirionedd, ein bod yn awyddus iawn i gael hyn ar y gweill cyn gynted â phosibl. Rydym yn ymwybodol iawn fod angen inni gynyddu niferoedd y bobl sy'n hyfforddi i fod yn feddygon, ond wrth gwrs, mae'n rhaid inni weithio o fewn y cyfyngderau sy'n cael eu gosod gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Felly, nid ein lle ni yw dweud, 'Iawn, gwnewch hyn'; mae'n rhaid inni weithio gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, sy'n rhoi caniatâd i'r brifysgol symud ymlaen. Yr hyn sy'n dda i'w glywed, rwy'n meddwl, yw bod tîm o 13 aelod o staff ar draws timau meddygol a gwyddoniaeth eisoes wedi cael eu recriwtio, ac mae 6.6 o'r rhain yn staff amser llawn.

Rwy'n credu ei bod yn annheg dweud mai dim ond yn ne Cymru y mae pethau. Rwy'n gwybod bod y Llywydd a minnau wedi ymweld â'r ganolfan hyfforddiant nyrsio newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddar, ac roedd ganddynt hwy fannau efelychu hefyd, yn sicr. Yn amlwg, bydd rhaid aros i weld sut mae pethau'n datblygu yn yr ysgol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod cyfyngiadau cyfalaf yn dynn iawn ar hyn o bryd. Felly, ar hyn o bryd, fe gawn weld, wrth i bethau barhau, sut mae pethau'n datblygu. Erbyn inni gyrraedd y cohort llawn o niferoedd, rwy'n gobeithio y bydd gennym Lywodraeth Lafur a fydd yn gallu rhoi mwy o arian i mewn i'r system. 

14:50
Amseroedd Aros Ambiwlansys

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer mynd i'r afael ag amseroedd aros? OQ58866

Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi galluogi gwasanaeth ambiwlans Cymru i ddarparu ystod o gamau gweithredu i wella perfformiad ambiwlansys, gan gynnwys recriwtio 100 aelod o staff ychwanegol, trefniadau rota wedi'u diwygio, lleihau absenoldeb oherwydd salwch, a buddsoddiad newydd mewn technoleg i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau clinigol.

Diolch. Ddydd Sadwrn, cafodd dros 2,000 o alwadau brys 999 eu gwneud, sy'n gynnydd o 17 y cant ers yr wythnos diwethaf. Ymatebodd yr ymddiriedolaeth i dros 200 o alwadau coch lle mae bywyd yn y fantol, a hefyd gwnaed dros 10,000 o alwadau 111—y diwrnod prysuraf erioed i'r gwasanaeth. Yn wyneb y tswnami o alwadau, ddydd Sul, fe wnaeth yr ymddiriedolaeth ddatgan digwyddiad parhad busnes. Gadawyd rhai yn aros am oriau a gofynnwyd i eraill wneud eu ffordd eu hunain i'r ysbyty. Wrth ystyried bod staff ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru wedi gweithio 31,700 awr o oramser bob mis ar gyfartaledd ers mis Ebrill 2017 ar gyfanswm cost o £61 miliwn, mae'n amlwg fod gweithrediad parhaus y gwasanaeth yn y fantol. Weinidog, rydych chi'n gwybod mai fy safbwynt i yw y dylid lleddfu pwysau mewn ysbytai mawr drwy drosglwyddo cleifion sy'n ddigon iach i'w rhyddhau ond sy'n dal i aros am becyn gofal cymdeithasol i ysbytai cymunedol lle ceir wardiau gwag o hyd. Byddwn yn ddiolchgar iawn am eich barn ar hynny. A wnewch chi ystyried symud ymlaen eto, fel y gwnaethoch y gaeaf diwethaf, gyda'r ward, dyweder, yn Llandudno, lle roedd pobl yn gallu gadael yr ysbyty a mynd yno fel tŷ hanner ffordd cyn dychwelyd adref? Mae hynny'n lleddfu llawer o'r pwysau sydd ar deuluoedd, cleifion a'r bwrdd iechyd. Hefyd, pa gynlluniau sydd gennych chi, wrth symud ymlaen, i ofyn i wirfoddolwyr ddod i helpu GIG Cymru dros gyfnod y gaeaf? Diolch. 

Diolch yn fawr. Rydych chi'n hollol gywir i dynnu sylw at y pwysau anhygoel ar y gwasanaethau brys ar hyn o bryd. Fel y dywedwch, y mis Hydref hwn, gwelsom y nifer fwyaf a gofnodwyd erioed o alwadau coch lle mae bywyd yn y fantol—77 y cant yn fwy nag ym mis Hydref 2019. Mae hyn yn enfawr o'i gymharu â'r hyn rydym wedi'i weld o'r blaen. Rydym wedi gwneud llawer iawn o fuddsoddiad, rydym wedi rhoi cymorth enfawr ar waith, rydym wedi rhoi canolfannau gofal sylfaenol brys ar waith, rydym wedi cyflwyno 111, nad oedd yn bodoli yr adeg hon y llynedd yng ngogledd Cymru. Felly, mae'r holl bethau hynny wedi tynnu llawer iawn o bwysau oddi ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys, ond mae'r galw'n dal i ddod. 

Yn amlwg, y penwythnos diwethaf, roedd llawer o'r rhain—yn ddealladwy iawn—yn rhieni a oedd yn poeni am eu plant. Yn sicr, daeth cyfran sylweddol o'r 18,000 o alwadau i GIG 111 gan rieni a oedd yn poeni am blant â dolur gwddf. Felly, rydym yn deall beth sy'n digwydd ac rydym yn deall y pwysau. Mae llif, fel y gwyddom i gyd, yn her sylweddol i ni ac fel y dywedais, bydd y Dirprwy Weinidog a minnau'n gwneud cyhoeddiad ar hynny ddydd Gwener ochr yn ochr â'n cydweithwyr llywodraeth leol. 

Nid y gwelyau yw'r broblem gyda gwelyau mewn gwirionedd, ond y staffio. Dyna lle mae'r her i ni yn gyson. Sut mae cael y staff yn eu lle, ac yn benodol mewn perthynas â phecynnau gofal sydd angen eu darparu gan lywodraeth leol? Gan fod y gyllideb wedi'i chyhoeddi bellach, rwy'n falch iawn y byddwch yn gweld ein bod wedi ymrwymo unwaith eto i anrhydeddu'r cyflog byw go iawn, a gobeithio y bydd hynny'n denu mwy o bobl i mewn i'r system. 

Mae gwirfoddolwyr eisoes yn helpu, ond rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ceisio cryfhau lle gallwn. Nid wyf am ofyn i wirfoddolwyr gamu ymlaen heb gynllun clir iawn. Felly, mae'n bodoli, ac mae gan lawer o fyrddau iechyd y pethau hyn yn eu lle. Mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn nad ydym yn codi disgwyliadau heb weithredu ar hynny wedyn. Felly, mae strwythur yn bwysig iawn. Mae hynny'n bodoli mewn rhai byrddau iechyd, mae'n bodoli mewn llywodraeth leol. Felly, mae gwirfoddolwyr yn sicr yn helpu, ond yn amlwg, byddwn yn parhau i edrych ar sut y gallwn wneud mwy yn y gofod hwnnw.

14:55
Amseroedd Aros am Driniaeth

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag amseroedd aros am driniaeth yng ngogledd Cymru? OQ58885

Dwi’n falch o weld bod yr amseroedd aros hiraf am driniaeth yn Betsi Cadwaladr wedi gostwng a’u bod nhw 21 y cant yn is nag oedden nhw ym mis Mawrth 2022. Fel rhan o’r ymyrraeth wedi'i thargedu, maen nhw’n cael cymorth gan y tîm adfer a gwella gofal wedi’i gynllunio, i sicrhau eu bod nhw’n gallu cynllunio’u gofal dewisol yn effeithiol.

Mae etholwraig wedi cysylltu â mi sydd yn nyrs ddeintyddol. Mae hi’n dioddef o carpal tunnel syndrome yn ei dwy law. Yn amlwg, mae hynny’n effeithio ar ei gallu hi i wneud ei swydd. Mae hefyd yn effeithio ar ei lles a’i ansawdd bywyd ehangach hi. Nawr, dywedwyd wrthi cyn yr haf y byddai hi yn gorfod aros 12 mis am driniaeth, ond dim ond os oedd hi’n achos brys. Mi gafodd hi gadarnhad ym mis Medi ei bod hi’n achos brys ond bellach fod y rhestr aros yn ddwy flynedd. Nawr, cymaint yw’r boen a chymaint yw’r effaith y mae’r cyflwr yn ei chael arni, wrth gwrs, mae bellach wedi penderfynu bod yn rhaid iddi fynd yn breifat i gael y driniaeth. I dalu am hynny, mae hi’n gorfod gwerthu ei thŷ, Weinidog. Felly, beth yw’ch neges chi i bobl fel hi, sy’n cael eu gyrru i’r sector preifat ac yn aml iawn yn gorfod gwneud hynny er nad ydyn nhw, mewn gwirionedd, yn gallu fforddio gwneud hynny? Ac onid ydych chi’n cywilyddio o bobl yn gorfod gwerthu eu cartrefi er mwyn iddyn nhw gael triniaeth—[Anghlywadwy.]  

Diolch. Wrth gwrs, dwi'n deall pam y byddai pobl yn teimlo bod hynny’n system—

—drwy'r sector preifat sydd, wrth gwrs, i fod ar gael iddyn nhw ar yr NHS?

Dwi'n meddwl bod Llyr Gruffydd wedi rhewi yn fanna—nid oherwydd y tywydd ond oherwydd y dechnoleg. Ond dwi'n meddwl bod y Gweinidog wedi cael y rhan fwyaf o'r cwestiwn. Felly, y Gweinidog i ateb.

Diolch. Wel, rŷm ni’n deall pam mae pobl yn diflasu wrth aros mor hir. Mae carpal tunnel syndrome yn rhywbeth, wrth gwrs, y mae’n rhaid i orthopaedic surgeons ymwneud ag ef. Dwi’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni’n monitro faint o waith y mae’r orthopaedic surgeons yn ei wneud. Mae’n bwysig iawn ein bod ni yn cadw i fynd.

Cawsom ni gyfarfod arall yn ddiweddar gyda’r arbenigwr Prydeinig dros orthopeadic surgery i wneud yn siŵr bod pobl yn deall beth yw’r system—beth yw’r pathway gorau i gael y rhan fwyaf o bobl drwy’r system cyn gyflymed â phosibl. Felly, mae gwaith i’w wneud ar draws Cymru i wella perfformiad yr hyn sydd eisoes mewn lle pan fo'n dod i orthopaedic surgery. Felly, dwi’n siŵr, yn Betsi Cadwaladr, eu bod nhw wedi cael y neges hynny yn glir oddi wrthyf i yn ddiweddar.

Diolch i Llyr Gruffydd am godi'r pwynt pwysig hwn, sydd, wrth gwrs, yn fater ehangach nad yw'n ymwneud yn unig â syndrom twnnel y carpws, ond â'r ffaith nad yw llawer o bobl sydd wedi talu eu trethi neu yswiriant gwladol dros ddegawdau lawer yn gallu cael triniaeth mewn modd rhesymol, amserol, fel rhywbeth y maent wedi talu amdano dros lawer iawn o flynyddoedd. Felly, tybed yn gyntaf oll, Weinidog, a ydych chi'n credu bod honno'n sefyllfa deg i lawer o fy etholwyr fod ynddi, pobl sydd wedi talu i mewn i'r system ers cymaint o amser ond sy'n methu cael triniaeth gan y system pan fydd ei hangen arnynt. A hefyd, mewn perthynas â gofal iechyd preifat, tybed a wnewch chi amlinellu sut rydych chi'n gweithio gyda'r sector iechyd preifat i ddefnyddio unrhyw gapasiti neu allu ac ariannu cleifion y GIG i allu cael mynediad at y gofal hwnnw mewn modd mwy amserol. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch yn fawr. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod yn parhau i gofio faint o bobl sy'n cael cymorth bob mis mewn gwirionedd. Beth sy'n ddiddorol iawn i mi—. Yn amlwg, rwy'n cael llawer o bobl yn dod ataf yn cwyno am eu hamseroedd aros. Ond rwyf hefyd yn cael llawer o bobl yn dod ataf i ddweud pa mor wirioneddol wych yw'r GIG iddynt hwy. A hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn, ychydig cyn y Nadolig, i ddiolch i weithwyr y GIG ledled Cymru am y gwaith anhygoel y maent wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hi wedi bod yn flwyddyn ddidrugaredd. Rydym yn deall ei bod hi'n anodd ac yn amlwg, rydym yn diolch iddynt am yr holl waith y maent wedi ei wneud.

Mae'n bwysig deall bod yna bobl yn gweithio'u gorau glas. Mae yna rai mannau hefyd lle gallwn wella perfformiad, a'r peth cyntaf i mi yw bod yn rhaid inni gael y capasiti mwyaf posibl gan y bobl rydym eisoes yn eu talu ar hyn o bryd. Felly, yn amlwg, rydym yn gwneud rhyw ychydig yn y sector preifat yn barod, ond i mi, rwyf am gael gwerth am arian gan bobl rydym eisoes yn eu talu, ac weithiau—mae'n ddiddorol, onid yw—nid oes ganddynt gynllun llawn ar gyfer y diwrnod fel y dylai fod. Efallai fod rhesymau da dros hynny, ond wedyn mater i'r rheolwyr yw gwneud yn siŵr fod y systemau hynny ar waith i sicrhau bod pobl sydd â'r sgiliau anhygoel hyn yn gallu gwneud y gwaith y cawsant eu hyfforddi i'w wneud. Felly, dyna pam y cawn y cyfarfodydd rheolaidd iawn hyn gyda llawfeddygon nawr, gyda swyddogion gweithredol byrddau iechyd, i wneud yn siŵr eu bod yn deall: dyma'r llwybr gorau posibl, pam nad ydych chi'n gwneud mwy o achosion dydd, pam nad ydych chi'n gwneud y rhai sydd wedi aros hiraf yn gyntaf, fel rydym wedi gofyn i chi ei wneud? Ac mewn gwirionedd mae ffordd bell i fynd ar ychydig o hyn, ac rwy'n meddwl mai fy ngwaith i fel Gweinidog iechyd yw eu gwthio ar yr hyn rydym wedi gofyn iddynt ei wneud a'i gyflawni. 

15:00

Diolch, diolch, diolch, diolch. [Chwerthin.] A wnaiff y Gweinidog—? Diolch yn fawr iawn. Ysbryd y Nadolig.

Cynllun Gweithredu Gwasanaethau Canser

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer cyhoeddi cynllun gweithredu gwasanaethau canser? OQ58868

Mae angen yr ateb arnaf. [Chwerthin.] Diolch. Rwy'n disgwyl i’r cynllun gweithredu ar wasanaethau canser—ymateb y GIG i’n disgwyliadau polisi a nodir yn 'Y datganiad ansawdd ar gyfer canser’—gael ei gyhoeddi ddiwedd mis Ionawr, ychydig cyn Diwrnod Canser y Byd.

Fe ŵyr y Gweinidog fod y grŵp trawsbleidiol ar ganser yn cynnal ymchwiliad ar hyn o bryd, yn benodol i faterion yn ymwneud ag amddifadedd a chanser. Ymddengys bod cydberthynas uniongyrchol rhyngddynt, o'r holl dystiolaeth rydym wedi'i chlywed mewn dwy sesiwn, felly mae'n amlwg fod awydd mawr i fwrw ymlaen â'r cynllun gweithredu ar ganser. Tybed a oes ganddi unrhyw safbwyntiau rhagarweiniol ei hun ynglŷn â'r gwaith y mae’r grŵp trawsbleidiol ar ganser yn ei wneud ar hyn o bryd, a’r cwestiwn ynghylch nid yn unig cyflwyno’r cynllun gweithredu, ond mater effaith amlwg amddifadedd ar nifer achosion o ganser, o ran diagnosis, triniaeth, gofal a llwyddiant bywyd llwyddiannus ar ôl canser hefyd, a byw gyda chanser.

Diolch yn fawr iawn, Huw, ac a gaf fi ddiolch am y gwaith rydych chi a'r grŵp trawsbleidiol yn ei wneud yn y maes hynod bwysig hwn? Oherwydd un o'r pethau allweddol rydym yn ymwybodol ohonynt bob amser mewn perthynas ag iechyd yw anghydraddoldeb. Felly, pam fod rhai pobl yn cael triniaeth wahanol iawn? Ac yn amlwg, mae cysylltiad ag amddifadedd, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â hynny. Felly, mae'n un o'r pethau allweddol rydym yn dal i edrych arnynt.

Mae yna ffactorau, mewn gwirionedd, lle mae angen inni sicrhau ein bod yn anfon y negeseuon cywir er mwyn osgoi canser. Felly, yn amlwg, mae angen inni sicrhau bod pobl yn torri lawr ar ysmygu, mae angen iddynt fod yn bwyta'r mathau cywir o fwyd, mae angen iddynt wneud ymarfer corff, ac mewn gwirionedd, mae'n rhaid inni sicrhau bod y cysylltiad hwnnw ag amddifadedd yn cael ei dorri. Gwn fod fy nghyd-Aelod Lynne Neagle yn gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn i sicrhau bod y rhaglen fwyta’n iach, er enghraifft, wedi’i thargedu’n benodol at rai o’r ardaloedd sydd â'r amddifadedd mwyaf, ac mae cysylltiad—gadewch inni fod yn glir, mae cysylltiad â chanser.

Felly, rwy'n falch fod gennym y llwybr canser sengl, ac wrth gwrs, mae gennym bellach y canolfannau diagnostig cyflym hyn ledled Cymru hefyd.

Weinidog, yn yr ychydig wythnosau diwethaf, rwyf wedi ailadrodd yr angen ichi amlinellu canlyniad yr uwchgynhadledd ar ganser a gynhaliwyd dros fis yn ôl i’r Senedd, ac a ddisgrifiwyd fel un ddigynsail ac arwyddocaol, lle cytunwyd ar nifer o gamau allweddol. Pa gynnydd a wnaethoch ar fwrw ymlaen â’r cytundeb hwn, a pham fod y Llywodraeth hon wedi methu ymateb yn gyflym i’r brys amlwg a nodwyd yn yr uwchgynhadledd honno ar ganser? Diolch.

Diolch yn fawr, Altaf. Credaf fy mod wedi ymateb i lythyr gennych ar hyn, felly rwy'n synnu nad ydych wedi cael hwnnw eto, felly fe af ar ôl hwnnw yn syth wedi hyn. Ond rwy'n credu mai’r hyn oedd yn bwysig i rai o’r pethau a ddeilliodd o’r uwchgynhadledd honno ar ganser oedd yr angen i sicrhau ein bod yn gwneud llawer mwy o symud yn syth at brofion, felly rydych yn torri allan rhywfaint o’r amser aros, oherwydd yn amlwg, y cynharaf y gwnewch chi ganfod canser, y lleiaf cymhleth ydyw, ac mae'n llawer haws ei drin. Felly, mae rhai byrddau iechyd mewn sefyllfa wahanol iawn i eraill. Mae un bwrdd iechyd, er enghraifft, yn symud oddeutu 37 y cant yn syth at brofion, ac un arall yn symud oddeutu 79 y cant. Mae tynnu sylw at y mathau hynny o bethau mewn uwchgynhadledd, sicrhau bod pawb yn ceisio gweithio yn unol ag arferion gorau a’n bod yn meincnodi yn bwysig iawn yn fy marn i. Credaf fod amrywio annerbyniol hefyd mewn perthynas â safleoedd tiwmorau. Fel y clywsom heddiw, mae gynaecoleg yn faes sydd angen llawer mwy o sylw, a cheir meysydd eraill lle rydym yn gwneud yn llawer gwell mewn gwirionedd, felly pam ein bod yn gweld yr amrywio hwnnw? Felly, dyna rai o'r cwestiynau rydym wedi gofyn iddynt roi sylw iddynt.

Hefyd, credaf fod gennym lawer mwy i’w wneud i sicrhau ein bod yn defnyddio technoleg ddigidol gymaint ag y gallwn, ond hefyd y dylem fod yn meddwl sut olwg a allai fod ar y dyfodol. Mae datblygiadau gwirioneddol yn digwydd bellach yn y maes canser mewn perthynas, er enghraifft, â phrofion biopsi hylifol, ac mae angen inni sicrhau ein bod ar y dudalen gywir ac yn barod amdanynt pan fydd y datblygiad hwnnw'n ddigon aeddfed inni ei ddefnyddio.

15:05
Gwasanaethau Ambiwlans

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddigonolrwydd gwasanaethau ambiwlans yn Nwyfor Meirionnydd? OQ58884

Dyw’r perfformiad o ran amser ymateb ambiwlansys ddim ble bydden ni, y gwasanaeth iechyd na'r cyhoedd yn hoffi iddo fe fod. Mae gennym ni gynllun gwella cenedlaethol yn ei le i wella gwasanaethau ambiwlans, gyda chefnogaeth £3 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn cynnwys camau gweithredu cenedlaethol a lleol i gefnogi gwelliannau, gan gynnwys yn Nwyfor Meirionnydd.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb, ac roeddwn i'n falch o glywed y Gweinidog yn sôn yn gynharach, gyda llaw, yn dweud diolch i weithwyr y sector iechyd, ond dydy geiriau, fel clapio, ddim yn talu biliau; mae angen i chi fynd a thrafod efo'r undebau o ran lefel eu cyflog. Ond ta waeth am hynny am y tro, mae'r straeon am gleifion yn aros oriau am ambiwlansys yn llawer rhy gyffredin, mae gen i ofn. Mae gennyf i achos o ddynes 78 oed yn aros 18 awr am ambiwlans efo'i chlun wedi'i ddadleoli; un arall yn ddynes 88 oed yn dioddef o ddementia wedi gorfod aros 11 awr efo clun wedi'i dorri.

Ond yn fwy pryderus fyth ydy fy mod i ar ddeall fod y gwasanaeth ambiwlans, mewn ymateb i'r argyfwng yma, am weddnewid eu darpariaeth nhw o'r gwasanaeth, ac yn hytrach nag anelu i drin y cleifion 80 y cant o'r amser, y bydden nhw yn lle yn anelu i drin a chludo 20 y cant o'r amser. Felly, mae hynny yn codi pryder o ran beth mewn gwirionedd ydy blaenoriaeth y gwasanaeth ambiwlans efo'r aildrefnu yma—ai bod ar y ffôn ynteu trin cleifion? 

Ond yn fwy pryderus fyth ydy bod ambiwlansys ym Meirionnydd yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser bellach yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar alwadau, oherwydd y diffygion yno. Beth ydych chi am wneud er mwyn sicrhau bod ambiwlansys Meirionnydd yn aros i drin pobl ym Meirionnydd, yn hytrach na gorfod teithio ymhell i ffwrdd a thrin pobl mewn ardaloedd eraill, gan adael ardaloedd mawr yn ne Gwynedd yn wag, heb gyfr? 

Dwi'n meddwl bod yna fodelau gwahanol yn weddus i leoedd gwahanol yng Nghymru. Felly, un o'r pethau welais i wrth i fi ymweld â Hwb Iechyd Eifionydd oedd defnydd arbennig o dda o paramedics. Felly, beth roedden nhw'n ei wneud oedd anfon paramedics lleol i mewn—advanced paramedics—ac roedden nhw'n gallu helpu lot fawr o gleifion, a oedd yn golygu nad oedd angen iddyn nhw wedyn fynd i'r ysbyty. Felly, y peth pwysicaf i fi yw ein bod ni'n cludo dim ond y bobl sydd wirioneddol angen cael eu cludo i'r ysbyty, a dyna pam rŷm ni wedi gweld gwahaniaeth. Rŷm ni wedi gweld llai o bobl yn cael eu cludo i'r ysbyty; mae hynny yn beth da. Beth mae pobl yn gyffredinol yn ei angen yw help yn y gymuned. Yn amlwg, os ydyn nhw wirioneddol yn sâl, mae angen eu cludo nhw. Felly, beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n rhoi'r gofal, lle y gallwn ni, yn y gymuned, ond bod yna gyfle i fynd â nhw, os yn bosib, at y ganolfan agosaf. Dwi'n deall bod hynny'n golygu, ambell waith, bydd ambiwlansys yn bell i ffwrdd o Feirionnydd, os bydd rhai yn cael eu cludo yna. Dyna pam mae gyda ni rosters newydd, sydd yn golygu bod yr equivalent o 72 o bobl sy'n gweithio i'r ambiwlansys yn ychwanegol yn gweithio yn ein gwasanaeth ni, ar ben y 100 o staff ychwanegol oherwydd y ffordd rŷn ni wedi ailddylunio ble mae'r ambiwlansys yn cael eu cadw.

15:10
Amseroedd Aros

8. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac amseroedd ymateb ambiwlansys ar gyfer pobl sy'n byw yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ58876

Mae’r camau sy'n cael eu cymryd i leihau’r amser aros mewn adrannau brys, a lleihau amser ymateb ambiwlansys, yn cynnwys creu mwy o gapasiti ambiwlans, gweithredu gwasanaethau ffrydio clinigol, defnyddio modelau ward rhithiol a gwella gwasanaethau gofal brys yr un diwrnod.

Dwi wedi clywed llu o achosion tebyg i rai Mabon ap Gwynfor yn fy ardal i: un etholwraig arhosodd dros 17 awr tu allan i'r adran frys mewn ambiwlans gyda symptomau o strôc; etholwr arall, anabl, a fu'n aros am 12 awr tu allan i'r adran frys am wely, oherwydd iddo gwympo; a hyd yn oed un dyn yn teithio nôl ac ymlaen i'r adran frys ac argyfwng i roi blancedi a bwyd i'w fam oedrannus oherwydd roedd yn rhaid iddi aros yn yr adran dros nos yn eistedd mewn cadair.

O ran y darlun mawr, mae'r sefyllfa o ran amseroedd ymateb yn Hywel Dda ymhlith y gwaethaf yng Nghymru. Yn ystod mis Hydref, dim ond 39.3 y cant o alwadau coch gafodd eu hateb o fewn yr amser o wyth munud. Chwe mis yn ôl, pan godais i yr un mater gyda chi, roeddech chi'n dweud bryd hynny nad oeddech chi'n derbyn bod yna argyfwng. Ydych chi wedi newid eich meddwl nawr? Ac o ran yr hyn sydd yn mynd i ddigwydd ar 21 Rhagfyr o ran y streic, ydych chi'n disgwyl neu am ofyn i aelodau o'r lluoedd arfog neu'r heddlu i gamu mewn i'r bwlch oherwydd y streic honno?

Diolch. Dwi'n siŵr bod Adam Price wedi deall erbyn hyn mai rhan o'r broblem ynglŷn â chael pobl i mewn i'r ysbytai yw'r ffaith ein bod ni'n ffaelu â'u cael nhw mas o'r ysbytai. Felly, mae dros 1,000 o bobl yn ein hysbytai na ddylai fod yna. Rhan o'r broblem yw achos bod pobl yn methu â recriwtio, o ran llywodraeth leol, i weithio yn yr adrannau gofal. Felly, mae'r cydgysylltiad yna yn rhywbeth dwi'n meddwl bod yn rhaid i bob un ei ddeall, a dyna pam ein blaenoriaeth ni, yn ein tîm iechyd a gofal ni, y No. 1 priority, oedd i wneud yn siŵr ein bod ni'n talu y real living wage, ac felly mae hynny, i fi, yn fwy pwysig na dim i helpu gyda recriwtio. A fel dwi wedi dweud eisoes, fe fydd yna gyhoeddiad arall ynglŷn â beth rŷn ni wedi bod yn ei wneud yn y maes yma i weithio gyda llywodraeth leol, dros fisoedd lawer, i helpu gyda'r flow yma o ran cael pobl i mewn i'n hysbytai, achos mae pob gwely wedi'i gymryd, ac mae hwnna, wrth gwrs, yn broblem.

O ran y streic fydd yn digwydd ar 21 Rhagfyr, wrth gwrs dŷn ni'n dal i baratoi am hynny; dŷn ni ddim wedi—. Byddwn ni'n edrych i weld sut mae pethau'n gweithio yfory; mae yna lot o baratoi wedi cael ei wneud eisoes. Dŷn ni ddim ar hyn o bryd yn bwriadu defnyddio'r lluoedd arfog os nad oes yna wirioneddol angen, os nad oes yna real sefyllfa fydd yn golygu bod yna broblem wirioneddol o ran cadw pobl yn saff. Ond rŷn ni wedi bod yn siarad, er enghraifft, gyda'r heddlu, ynglŷn â nhw yn cario pethau i helpu pobl i gael eu calonnau nhw i ddechrau eto yn eu ceir nhw. Felly, mae yna lot o baratoi wedi cael ei wneud, yn sicr, gyda'r heddlu hefyd.

15:15
3. Cwestiynau Amserol

Un cwestiwn amserol hefyd i chi, Weinidog. Mae'r cwestiwn yna i'w ofyn gan Mabon ap Gwynfor.

Prinder Gwrthfiotigau

1. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder gwrthfiotigau dros gyfnod y Nadolig? TQ699

Diolch. Rŷn ni'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gwneuthurwyr a chyfanwerthwyr i gyflymu'r symudiad o stoc ychwanegol yn y gadwyn gyflenwad fel canlyniad i'r cynnydd sylweddol yn y galw. Rŷn ni hefyd yn gweithio gyda'r byrddau iechyd a fferyllwyr cymunedol i sicrhau bod stoc ar gael i'w ddosbarthu lle mae'r galw ar ei uchaf.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb. Mae nifer fawr o rieni a fferyllwyr, yn wir, wedi dod ataf i dros y dyddiau diwethaf yn pryderu nad ydyn nhw'n medru cael gafael ar penicillin, amoxicillin, clarithromycin ac erythromycin. Mae fferyllwyr yn methu rhoi gwrthfiotig hylif i blant gan nad ydy o ar gael, ac yn gorfod dangos i ofalwyr neu rieni sut mae agor capsiwls a chymysgu'r powdr efo hylif arall er mwyn i blant gael y feddyginiaeth. Ar ben hynny, mae pris prynu'r cyffuriau yma i mewn wedi cynyddu'n aruthrol o £1 neu £2, mewn rhai achosion, i £8 neu £10 ar achosion eraill. Mae'r dwymyn goch wedi cychwyn yn gynt na'r arfer, ac mae pobl yn naturiol yn pryderu am streptococcus grŵp A. Mae'n fy mhryderu i, felly, fod y neges sydd wedi dod allan o'r Llywodraeth dros yr wythnosau diwethaf wedi dangos diffyg dealltwriaeth o ddifrifoldeb y sefyllfa. Mae angen sicrwydd ar bobl Cymru fod yna feddyginiaeth elfennol ar gael pan fo'r angen yn codi heb orfod teithio pellteroedd, weithiau hyd at 30 milltir, neu aros wythnosau er mwyn cael y feddyginiaeth. Felly, a wnewch chi roi'r sicrwydd yna i ni, a hefyd a wnewch chi roi pwysau ar gwmnïau cynhyrchu i beidio manteisio ar yr argyfwng a chodi'r prisiau?

Diolch yn fawr. Wel, rwy’n deall pryderon rhieni yn y cyfnod anodd hwn yn llwyr. Pan fydd eich plentyn yn sâl ac rydych yn gwybod bod posibilrwydd y gallent gael clefyd strep A ymledol, rydych yn deall pam ein bod wedi gweld cynnydd enfawr yn y niferoedd sy'n cysylltu. Credaf inni gael 18,000 o alwadau ar y penwythnos, ac roedd 54 y cant o'r galwadau ddydd Sul yn ymwneud â phlant o dan 14 oed. Felly, mae gennym dîm rheoli digwyddiadau amlasiantaethol ar waith. Fel y dywedoch chi, mae ymchwydd wedi bod yn y galw am wrthfiotigau, a arweiniodd at brinder dros dro yn y cyflenwad. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflymu’r broses o symud stoc ychwanegol i gadwyni cyflenwi, ac rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar ddewisiadau gwrthfiotig gwahanol ac ar roi tabledi a chapsiwlau i blant pan nad oes penisilin a gwrthfiotigau hylifol ar gael. Hefyd, rydym wedi rhoi cyngor ar sut y gellir rhoi dos solet i bobl ag anawsterau llyncu pan fo prinder meddyginiaeth hylifol. Felly, rydym yn rhoi’r cyngor hwnnw, mae’r cyngor hwnnw wedi'i gyhoeddi, ac yn amlwg, os oes dewisiadau eraill, fel sydd, mae angen inni gadw llygad ar hynny mewn perthynas â phris y gwrthfiotigau.

Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn amserol nesaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, ac i'w ofyn gan Joel James.

Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig i sicrhau safonau cyflogaeth mwy trwyadl yng ngwasanaethau tân ac achub Cymru yn sgil yr honiadau yn erbyn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru? TQ700

Mae’r honiadau hyn yn datgelu ymddygiad echrydus a chwbl annerbyniol nad oes lle iddo yn y gwasanaeth tân ac achub, nac yn unman arall. Mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru eisoes wedi cyhoeddi adolygiad o'i brosesau a'i ddiwylliant ei hun. Mae angen iddo fod yn wirioneddol annibynnol, cadarn a chynhwysfawr.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Dywedodd y stori newyddion ar ITV Cymru nos Lun fod o leiaf ddau unigolyn yng ngwasanaeth tân de Cymru wedi methu cyrraedd y safonau rhagorol sy'n cael eu hyrwyddo gan y gwasanaeth tân ac achub. Rwy'n credu y gall pob un ohonom gytuno na ddylai eu hymddygiad ffiaidd fyth gael ei oddef, a hoffwn ychwanegu fy llais i gydnabod dewrder y dioddefwyr sydd wedi tynnu sylw at hyn, a’r hyn sydd wedi digwydd iddynt.

Roedd y stori newyddion hefyd yn honni bod gan wasanaeth tân de Cymru ddiwylliant o gelu, ac nad oedd yr unigolion hyn wedi cael eu diswyddo'n barhaol pan ddaeth y digwyddiadau i'r amlwg gyntaf. Yn lle hynny, cawsant eu trosglwyddo i rywle arall, gan gynnwys i orsaf Rhuban Gwyn. Credaf ei bod yn wir dweud y bydd bron i bob sefydliad, cwmni neu fudiad, heb os, ar ryw adeg, yn gorfod ymdrin â staff, neu sawl aelod o staff, nad ydynt wedi cadw at y gwerthoedd a'r ymddygiad a ddisgwylir ganddynt. Mae'r unigolion hyn sy'n cyflawni gweithredoedd a'r rheini sy'n eu celu nid yn unig yn gwneud niwed aruthrol i'w dioddefwyr, ond maent hefyd yn achosi canlyniadau hirdymor i'w cwmni a'u cydweithwyr.

Rwy'n ymwybodol, fel y dywedwch, fod y gwasanaeth tân bellach wedi lansio adolygiad annibynnol o'r diwylliant, y broses ddisgyblu, ac unrhyw achosion hanesyddol. Ond rwy'n ymwybodol hefyd na ddarparwyd manylion llawn yr achosion hyn yn y stori newyddion, ac efallai mai achos o fethiant y weithdrefn briodol yw hyn, yn hytrach na methiant diwylliant yn y gwasanaeth. Gyda hyn mewn golwg, ac o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd, Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi amlinellu pa drafodaethau a gawsoch gyda’r gwasanaeth tân ar y mater hwn? Onid yw’n bryd i bersonél gweithredol y gwasanaeth ymgymryd â gweithdrefnau fetio rheolaidd a pharhaus, yn debyg i’r rheini a gawsant pan oeddent yn ymgeisio am y rôl, er mwyn sicrhau y gellir cynnal y safonau a ddisgwylir ganddynt drwy gydol eu gyrfaoedd? Diolch.

15:20

A gaf fi ddiolch i Joel James am godi hyn heddiw? Mae’n iawn ein bod yn cael cyfle i drafod hyn ar lawr y Senedd hon, a chytunaf yn llwyr ag ef fod yr honiadau a ddaeth i’r amlwg yn adroddiad newyddion ITV yn gwbl wrthun, ond rydych yn llygad eich lle na ddylai gymryd adroddiad newyddion i gamau gweithredu gael eu cymryd ar y materion hyn hefyd. Fe sonioch chi am ddewrder y menywod sydd wedi rhoi gwybod am eu profiadau. Nid yw hynny’n beth hawdd i’w wneud. Mae’n gam mawr i’w gymryd. Ond ni ddylai fod yn gam angenrheidiol i'w gymryd. Ni ddylai’r ymddygiad hwnnw fodoli yn y lle cyntaf, ond dylai’r gefnogaeth fod yno o fewn y sefydliadau hynny i alluogi pobl i deimlo’n ddiogel ac i roi gwybod i rywun heb ofni ôl-effeithiau yn sgil hynny.

A dweud y gwir, cefais gyfarfod brys gyda chadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru bore ddoe, a dywedais yn glir iawn wrtho fod angen ymchwiliad cwbl annibynnol ac eang i’r materion hyn. Dylai fod yn debyg i'r un a sefydlwyd gan Gomisiynydd Tân Llundain i ymchwilio i honiadau o fwlio hiliol, a adroddodd fis diwethaf. Ar y pwyntiau a wnaeth yr Aelod, pwysleisiais yn arbennig wrth y cadeirydd fod angen i’r ymchwiliad hwn gael ei arwain gan unigolyn y gellir ymddiried ynddynt ac sy’n gwbl annibynnol ar y gwasanaethau tân ac achub, megis bargyfreithiwr, a bod yn rhaid i’w gwmpas gynnwys pob math o wahaniaethu, aflonyddu, ymddygiad a diwylliannau annerbyniol. Mae'n rhaid iddo fod yn rhydd i archwilio unrhyw ddogfennau ac i arolygu neu gyfweld â staff, ac mae'n rhaid cyhoeddi ei ganfyddiadau. Ni ellir mynd i'r afael â'r mater fel digwyddiad unigol; mae angen iddo edrych ar y strwythurau sydd wedi caniatáu i hynny ddigwydd a pha gamau sydd angen eu cymryd i sicrhau na chaiff ei ailadrodd yn y dyfodol. Rwyf wedi gofyn i’r cadeirydd am sicrwydd brys ar y materion hyn, ac rwy’n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r lle hwn ar hynny.

I gloi fy ateb i Joel James, rwy'n credu mai’r hyn sy’n amlwg yw bod angen polisi dim goddefgarwch, nid yn unig tuag at y math hwn o ymddygiad, ond tuag at ddiwylliannau a sefydliadau sy’n caniatáu i bobl gadw'n dawel hefyd.

Addewid y Rhuban Gwyn yw peidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod. Pan ganiataodd y gwasanaeth i ddau gamdriniwr gadw eu swyddi, torrodd yr addewid hwnnw. Lywydd, hoffwn roi teyrnged i’r menywod dewr sydd wedi siarad, a nodi fy siom enbyd yn y gwasanaeth rwyf wedi gweithio’n agos ag ef ar ymgyrch y Rhuban Gwyn ers blynyddoedd lawer. Cawn weld beth mae'r ymchwiliad yn ei ddarganfod, ond yn amlwg, mae rhywbeth wedi mynd ymhell o'i le yma.

Yn gyntaf, Heddlu Gwent; a nawr, gwasanaeth tân de Cymru. A ydych chi'n cytuno, Ddirprwy Weinidog, fod gan bobl bob hawl i ddisgwyl dim goddefgarwch tuag at drais ar sail rhywedd yn eu holl wasanaethau cyhoeddus? A beth sy'n cael ei wneud o fewn sefydliadau'r sector cyhoeddus i ganfod ac ymdrin â throseddwyr? A wnewch chi gyflwyno dadl ar hyn, os gwelwch yn dda, gyda’ch cyd-Aelod Jane Hutt, am strategaeth y gweithle sy'n seiliedig ar urddas a pharch, oherwydd yn ôl yr adroddiad, roedd y menywod a gâi eu cyflogi yn y sefydliad hwn wedi cael eu hamddifadu'n llwyr o bob lefel o urddas a pharch?

Gwn fy mod, gyda Jane Hutt, yn lansio adroddiad a fydd yn ymdrin â hyn ym mis Ionawr, gyda Chyngres Undebau Llafur Cymru. Rwy'n credu y byddai’n syniad ardderchog pe bai pob sefydliad yn y sector cyhoeddus yn anfon penaethiaid adran i’r lansiad hwnnw, fel y gallent o leiaf ddysgu rhywbeth a mynd â’r gwersi hynny a ddysgwyd yn ôl i’r gweithle, gobeithio. Mae hyn yn gwbl warthus. Mae wedi siomi pobl, ac os yw hanner neu ran fach o'r hyn a oedd yn yr adroddiad hwnnw i'w gredu, mae tu hwnt i bob dealltwriaeth.

15:25

Rwy'n rhannu'n llwyr—wel, mewn gwirionedd, mae'n debyg bod dweud fy mod yn rhannu siom Joyce Watson yn danosodiad. Mae’r Aelod yn codi pwyntiau pwysig am yr hyn y gallaf fi a Jane Hutt a chithau ei wneud wrth symud ymlaen, ac rwy’n fwy na pharod i godi hynny mewn perthynas â'r ddadl a sut y down â phobl ynghyd. Fe sonioch chi am ymgyrch y Rhuban Gwyn a’ch siom eu bod wedi torri’r addewid hwnnw. Yn 2014, roeddem yn hynod falch mai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru oedd y gwasanaeth tân ac achub cyntaf yn y byd i gael achrediad Rhuban Gwyn, a dim ond y llynedd, fe wnaethant ddatgan bod eu 47 o orsafoedd tân yn y rhanbarth yn hafanau diogel. Nawr, rydym wedi gweld bod yr achrediad hwnnw wedi'i ddileu yn sgil cyhoeddi'r honiadau hyn, ond credaf mai'r hyn y mae hynny'n ei ddweud wrthym yw nad yw ymrwymiad corfforaethol i hyn yn ddigon; mae angen newid diwylliannol ar raddfa'r sefydliad cyfan ac arferion a phrosesau ar waith sy'n cefnogi ac yn galluogi hynny hefyd. Fe sonioch chi am wasanaethau eraill, ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n amlwg i mi a phawb yn y fan hon yw ein bod wedi clywed dro ar ôl tro am afalau drwg—y naratif 'afalau drwg' hwnnw—ac ni wnaiff hynny mo'r tro, ac ni all wneud y tro. Digon yw digon.

Mae cam-drin ar sail rhywedd a rhagfarn a chasineb at fenywod o fewn ein gwasanaethau rheng flaen yn gwbl annerbyniol. Dyma'r gwasanaethau sydd fod yn ein gwarchod ni, yn gwasanaethu'r cyhoedd, ac felly yn cynrychioli egwyddorion gorau ein cymdeithas. Felly, ni allwn ganiatáu i wasanaeth sy'n ymwneud â'r cyhoedd ac sydd â rôl mor warchodol feddu ar safbwyntiau ystrydebol, rhagfarnllyd a pheryglus am grwpiau penodol yn ein cymdeithas, yn enwedig pan fo tystiolaeth gynyddol bod pobl sy'n arddel y safbwyntiau rhagfarnllyd hyn yn gweithredu arnyn nhw. Rhaid i'r cyhoedd a'r grwpiau penodol hynny yn enwedig gael ffydd yn y gwasanaethau hyn—fel dinasyddion, fel cydweithwyr, fel cynrychiolwyr o werthoedd ein cymdeithas. Mae'r ffaith nad yw'r gwasanaeth tân bellach wedi ei restru fel sefydliad cefnogwyr y Rhuban Gwyn ar wefan y Rhuban Gwyn yn ysgytwol, pan ydych chi wir yn meddwl am y peth, fod ein gwasanaeth tân—un o'n gwasanaethau tân ni—wedi gorfod dad-gysylltu ei hun o ymgyrch sy'n ceisio rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod gan ddynion.

Gwnaeth Joyce Watson sôn am yr achosion pryderus diweddar yn Heddlu Gwent. Yn sgil hynny, ydy'r Dirprwy Weinidog yn meddwl efallai bod angen nid yn unig ymchwiliad i'r achosion penodol yma a'r llu penodol yma, y gwasanaeth yma, ond efallai bod angen ymchwiliad ehangach i ddiwylliant a gweithdrefnau ein gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen? Gallwch chi hefyd efallai amlinellu sut y bydd y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ddiweddaraf yn helpu i atal sefyllfaoedd fel hyn rhag digwydd eto yn ein gwasanaethau cyhoeddus? A beth ydych chi'n meddwl sy'n mynd o'i le yn fan hyn?

Dwi'n cytuno efo Sioned Williams.

A chyda'r pwyntiau a godwch o ran—ni chredaf y gallwn fychanu pa mor syfrdanol yw hyn, ond gwaetha'r modd, i lawer ohonom yma, yn anffodus, nid yw'n syndod, gan y gwyddom fod y math hwn o ymddygiad yn endemig, nid yn unig mewn gweithleoedd, ond ar draws cymdeithas. Rydym wedi sôn o'r blaen, wrth drafod rhywiaeth bob dydd, casineb at fenywod, nad yw pob dyn ar fai, ond mae'n debyg y gallwch fod yn sicr fod bron bob menyw wedi dioddef rhyw fath o aflonyddu, wedi dioddef casineb at fenywod, neu wedi'u gwneud i deimlo'n anghyfforddus mewn man lle dylent allu teimlo'n ddiogel. Felly, fel y dywedais eisoes, credaf mai digon yw digon. Rydym wedi cyrraedd pwynt bellach lle na all hyn barhau.

Ac o ran yr hyn a ddywedoch chi am y gwasanaeth tân ac achub, rydym yn aros i weld amodau'r ymchwiliad y mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru wedi addo ei gynnal, ond cyn hynny, fel y dywedasom, fe wyddom fod problemau ehangach o fewn y gwasanaeth tân ac achub. Cyhoeddwyd adolygiad annibynnol o Frigâd Dân Llundain fis diwethaf, a ddatgelodd nifer o achosion gwarthus a ffiaidd o aflonyddu hiliol a rhywiol, felly ni allwn fod yn siŵr eu bod wedi'u cyfyngu i un gwasanaeth yn unig. Cyn darllediad newyddion ITV nos Lun, roeddwn wedi ysgrifennu at y tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru i ofyn am sicrwydd ynghylch y modd roeddent wedi mynd i’r afael â’r materion hyn yn dilyn adroddiad Brigâd Dân Llundain. Byddwn yn mynd drwy’r broses nawr o weithio gydag Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ar beth fydd paramedrau’r ymchwiliad hwnnw, gan fynd yn ôl at yr hyn a ddywedais mewn ymateb i’r cwestiwn cyntaf ynglŷn â sicrhau ei fod yn wirioneddol annibynnol ac nad yw’n edrych ar honiadau unigol yn unig, ond yn hytrach, ar ddiwylliant a phroses yn gyffredinol, a’r gefnogaeth sydd ar waith yno. Ond os na cheir hynny, byddwn yn ystyried cynnal adolygiad cyffredinol o'r fath ein hunain.

15:30
4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch o galon, Lywydd. Mae'r Sul hwn yn nodi dechrau gŵyl Iddewig Hanukkah, a elwir hefyd yn Chanukah. Gŵyl y goleuni yw Hanukkah sy'n para wyth diwrnod ac mae'n achlysur hynod lawen i'r gymuned Iddewig ar draws y byd. Yn ystod Hanukkah caiff canhwyllau eu cynnau ar ganhwyllbren naw cangen arbennig a elwir yn menora. Caiff cannwyll ei chynnau bob dydd a gosodir menora wedi'i goleuo ger drws neu ffenestr i gyhoeddi gwyrth yr ŵyl i'r byd y tu allan. Mae'n adeg i deuluoedd ddod at ei gilydd i fwyta, canu caneuon traddodiadol a rhoi anrhegion i blant. Hefyd, mae'n arferol chwarae gyda dreidl—top pedair ochr sy'n troi—gan ddatgan, 'Digwyddodd gwyrth fawr yno'. Yn aml mae'r gêm yn cael ei chwarae am arian, cnau a phethau eraill. Wrth inni aros am ddechrau'r ŵyl, hoffwn ddathlu, gyda balchder, y cyfraniad mawr y mae ein cymunedau Iddewig wedi'i wneud i'n gwlad. 

Ar adeg lle mae gwrthsemitiaeth yn cynyddu ar draws Ewrop, mae thema rhyddid sy'n ganolog i stori Hanukkah mor berthnasol ag erioed. Dyma rai o'r negeseuon cyffredin sydd i'w gweld, 'Peidiwch byth ag ofni sefyll dros yr hyn sy'n iawn', 'Mae ychydig o olau'n mynd yn bell', neu 'Byddwch fel menora a disgleiriwch yn llachar a chadwch eich ffydd gyda balchder'. Rhaid i ni yn y Senedd ddadlau'n gryf dros hawl pobl i arfer eu ffydd heb ofni trais ac ymrwymo i frwydro yn erbyn yr ideoleg eithafol a'r rhagfarn sydd wrth wraidd gwrthsemitiaeth. Felly, ar yr adeg arbennig hon o'r flwyddyn, wrth i deuluoedd Iddewig ddod at ei gilydd i ddathlu, gadewch i ni gael ein hysbrydoli gan y neges o obaith a ddaw gyda Hanukkah, yn hyderus y bydd casineb yn cael ei oresgyn ac y bydd goleuni bob amser yn disodli'r tywyllwch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Cafodd bron i 50,000 o droseddau lle defnyddiwyd cyllell eu cofnodi yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2022. Yn anffodus, un o'r dioddefwyr hynny oedd fy etholwr Jake Pickstock, a gafodd ei adael, ar 21 Awst 2021, heb unrhyw fai arno ef ei hun, gyda'i ben a'i wddf wedi'u torri ar agor ac yntau'n ymladd am ei fywyd mewn clwb nos yn Llandudno. Roedd angen 62 o bwythau arno a bu bron iddo farw ddwywaith. Mae Jake yn ddyn ifanc hyfryd ac nid yw ond yn 25 oed. Mae wedi symud ymlaen ac mae bellach yn ddyn busnes llwyddiannus, ond mae'n benderfynol fod rhaid i rywbeth cadarnhaol ddod o'r digwyddiad negyddol iawn hwnnw. Nid oedd y troseddwr ei hun ond yn 19 oed ac mae bellach yn wynebu 10 mlynedd a hanner yn y carchar. 

Mae Jake a minnau wedi bod yn gweithio gyda'n gilydd dros y 12 mis diwethaf ac rydym wedi sefydlu Operation Pickstock i godi ymwybyddiaeth o droseddau cyllyll ymhlith y genhedlaeth iau wedi nos ac yn ein cymuned leol drwyddi draw. Mae'r ymgyrch hon i'w gweld mewn tafarndai a chlybiau ar draws Llandudno lle maent yn arddangos y posteri, mae Llew Jones a Bysiau Arriva Cymru yn arddangos posteri ar eu bysiau, mae cyngor Conwy yn trefnu i bosteri gael eu harddangos mewn tacsis, ac mae Trafnidiaeth Cymru'n ymrwymo i arddangos posteri mewn gorsafoedd. Bydd hyfforddiant ar gael ar gyfer staff tafarndai, synwyryddion metel am ddim, ac rydym wedi trefnu i osod bin amnest cyllyll yn Llandudno.

Niwed gydol oes mewn dim ond 40 eiliad—nawr mae honno'n ystyriaeth ddychrynllyd. Gall cario cyllell arwain at ganlyniadau mor drasig. Mae Jake Pickstock a minnau eisiau gwneud yr hyn a allwn i wneud yn siŵr fod pobl yn stopio ac yn meddwl cyn mynd allan, 'Peidiwch byth â chario cyllell'. Gallai'r hyn a ddigwyddodd yn Llandudno ac i Jake ddigwydd i unrhyw un. Pan fyddwch yn mynd adref i'ch etholaethau, gobeithio y byddwch yn cofio am Operation Pickstock, ac yn ceisio lledaenu'r neges hon. Mae cymaint o fywydau, gan gynnwys teulu'r troseddwr ac yn enwedig Jake Pickstock, y dioddefwr, wedi cael eu niweidio gan ganlyniadau penderfyniad a wnaed ar amrantiad. Pe na bai'r dyn ifanc hwnnw wedi bod yn cario cyllell, ni allai fod wedi defnyddio cyllell. Diolch.

15:35
5. Datganiad gan Peter Fox: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod: Bil Bwyd (Cymru)

Eitem 5 heddiw yw datganiad gan Peter Fox ar gyflwyno Bil Aelod, y Bil Bwyd (Cymru). Galwaf ar Peter Fox.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi yn gyntaf oll atgoffa'r Aelodau o fy natganiad o fuddiant fel ffermwr? Pleser o'r mwyaf yw cyflwyno Bil Bwyd (Cymru) i'r Siambr y prynhawn yma—Bil Aelod cyntaf y chweched Senedd. Tua 13 mis yn ôl, cefais gyfle gan bob un ohonoch i gyflwyno amlinelliad o'r Bil, yn seiliedig ar yr egwyddor fod angen inni gael mwy o fwyd wedi'i gynhyrchu'n lleol i'n cartrefi, ein cymunedau a'n gwasanaethau cyhoeddus. Ond wrth drafod fy syniadau gyda rhanddeiliaid, daeth yn amlwg fod angen llawer mwy o waith i sicrhau bod y system fwyd yn gweithio, nid yn unig i'n cynhyrchwyr, ond i'n cymunedau hefyd. Ac felly, mae'r Bil fel y'i drafftiwyd heddiw wedi'i ehangu ymhell y tu hwnt i'r hyn a ragwelais yn wreiddiol. Teimlwn ei bod yn bwysig inni fachu ar y cyfle hwn i gryfhau system fwyd Cymru yn ei chyfanrwydd, i sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru, cryfhau diogeledd bwyd, gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru, a gwella'r dewis a roddir i ddefnyddwyr.

Dyma'r egwyddorion cyffredinol sydd wedi bod yn sail i ddarpariaeth ac amcanion polisi'r Bil bwyd. Er mwyn cyflawni hyn, mae'r Bil yn darparu fframwaith sy'n galluogi dull trawslywodraethol cydlynol, cyson a strategol, o weithredu polisi ac ymarfer ar bob agwedd o'r system fwyd. I lywio'r broses hon, rwyf wedi cynnal ystod eang o ymgynghoriadau—o gyfarfodydd bwrdd crwn ar bolisi i gwmpasu dull cychwynnol y Bil, rwyf wedi cael cyswllt rheolaidd ag arbenigwyr polisi i drafod agweddau technegol, yn ogystal ag ymgynghoriad cyhoeddus, a lansiwyd gennyf yn y Sioe Frenhinol. Cynhaliwyd hwnnw dros yr haf, ac rydym wedi derbyn dros 50 o ymatebion o ansawdd uchel i'r ymgynghoriad. Datgelodd hyn gefnogaeth gref i egwyddorion cyffredinol y Bil a'i ddarpariaethau. Roedd dros 75 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno bod angen inni weld y Bil hwn ar y llyfr statud.

Ddirprwy Lywydd, mae'r gwaith sydd wedi'i wneud i gynhyrchu'r Bil, a'r memorandwm esboniadol, wedi bod yn enfawr, ac ni allwn fod wedi ei wneud heb gefnogaeth arbenigol a chyfeillgarwch tîm y Bil Comisiwn, sydd wedi dod o bob rhan o Gomisiwn y Senedd, a hoffwn ddiolch i'r cwnsleriaid allanol yn ogystal. Maent wedi gwneud ymdrech aruthrol o'r diwrnod cyntaf i wireddu fy syniadau ac i fy arwain drwy'r broses hon. Rwyf mor ddiolchgar, ac mae'n rhaid imi ganmol ansawdd y staff yn y Comisiwn—maent wedi bod yn rhagorol. Roeddwn eisiau dweud diolch arbennig hefyd i fy staff cymorth fy hun, yn enwedig Tyler Walsh, sydd wedi bod yn gwbl allweddol wrth fy helpu i gyflawni hyn hyd yma, a hefyd Tom Povey, sydd wedi bod yn amhrisiadwy drwy gydol y broses hon. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch hefyd i bob sefydliad, arbenigwr polisi, ac aelodau'r cyhoedd, o bob rhan o'r DU, sydd wedi ein helpu i lunio'r Bil. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth barhaus yn fawr iawn.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn droi at y Bil ei hun nawr, ac fe wnaf nodi'n fras beth mae pob adran yn ei wneud a pham. Dechreuwn gyda nodau bwyd. Maent yn darparu mecanwaith i sicrhau bod y Bil yn cyflawni ei amcan polisi allweddol, neu'r nod bwyd sylfaenol—hynny yw, darparu bwyd fforddiadwy ac iach sy'n gynaliadwy yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol i bobl nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Caiff hyn ei gefnogi gan ystod o nodau bwyd eilaidd sy'n ymdrin â phethau fel iechyd, llesiant cymdeithasol ac economaidd, yr amgylchedd a bioamrywiaeth, ac wrth gwrs, gwastraff bwyd. Mae'r Bil yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gymryd camau rhesymol i ddatblygu'r nod bwyd sylfaenol a'r nodau bwyd eilaidd, megis drwy'r strategaeth fwyd genedlaethol a chynlluniau bwyd lleol. Hefyd, mae gofyniad i Weinidogion Cymru atgyfnerthu targedau presennol, yn ogystal â sefydlu targedau ychwanegol ar sut i gyrraedd y nodau bwyd. Diben y ddarpariaeth hon yw sefydlu cyfeiriad teithio cyson i system fwyd Cymru, yn ogystal â chynyddu atebolrwydd o'i mewn. Yn ystod yr ymgynghoriad, fe ddywedwyd yn glir fod diffyg dull cydlynol o ymdrin â pholisi bwyd Cymru, yn ogystal ag o fewn y system fwyd ehangach. Roedd 63% o'r rhai a wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad ar y Bil drafft yn credu nad yw strategaethau bwyd Llywodraeth Cymru yn ddigon cydgysylltiedig. Ac er bod nifer o gynlluniau ar waith, nid oes digon o graffu a mecanweithiau atebolrwydd yn gysylltiedig â hwy. 

Yn ôl yn 2010, fe wnaeth strategaeth 'Bwyd i Gymru' Llywodraeth Cymru, y gwn y bydd y Llywydd yn gyfarwydd iawn â hi, gynnydd i'w groesawu drwy sefydlu dull mwy cyfannol o ymdrin â pholisi bwyd. Ond nid oedd ganddi systemau targedu a chasglu data i fesur pa gynnydd a wnaed. Ar ôl hyn, mae strategaethau olynol, megis cynllun gweithredu 2014 a gweledigaeth 2021 ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, wedi symud y ffocws tuag at dwf economaidd a hyrwyddo allforion, yn hytrach na defnyddio'r system fwyd i fynd i'r afael â materion cymdeithasol ehangach. Felly, mae'r nodau bwyd yn adlewyrchu'r hyn y gwnaeth y pwyllgor amgylchedd blaenorol ddadlau drosto yn eu hadroddiad, 'Ailfeddwl am fwyd yng Nghymru'—hynny yw dros strategaeth sy'n adlewyrchu dull system gyfan. Er mwyn trawsnewid y nodau bwyd yn bolisi, byddai disgwyl i Lywodraeth Cymru lunio strategaeth fwyd genedlaethol, tra bydd gofyn i rai cyrff cyhoeddus, fel cynghorau a byrddau iechyd, lunio cynlluniau bwyd lleol. Mae disgwyl y bydd y cynlluniau lleol yn atgyfnerthu amcanion y strategaeth genedlaethol. Bydd y rhain yn cyfuno polisïau sy'n bodoli eisoes ac yn hyrwyddo arloesedd ar lefel genedlaethol a lleol. Byddant hefyd yn sicrhau cysondeb yn y polisi hefyd.

Mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru wedi tynnu sylw at nifer o enghreifftiau lle mae polisi bwyd yng Nghymru wedi bod braidd yn anghyson, megis cyfleoedd a gollwyd i gysylltu cynllun manwerthu bwyd a diod Llywodraeth Cymru gyda strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', a'r polisi isafbris alcohol yn erbyn strategaeth y Llywodraeth ar gyfer diod. Bydd y cynlluniau hyn hefyd yn rhoi hwb i'r sector bwyd a diod yng Nghymru drwy gryfhau cadernid cadwyni cyflenwi lleol. Bydd yn creu cyfleoedd economaidd newydd o fewn cymunedau, drwy sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cynyddu faint o fwyd a gynhyrchir yn lleol sy'n cael ei gaffael, ac yn gwella'r amgylchedd lleol drwy ganolbwyntio ar gynhyrchu cynnyrch mwy cynaliadwy. 

Ddirprwy Lywydd, prif agwedd olaf y Bil yw creu comisiwn bwyd Cymreig, sy'n cynnwys bwrdd a chadeirydd. Y bwriad yw tynnu aelodau o bob rhan o'r system fwyd. Bydd y comisiwn yn ailosod llywodraethiant y system fwyd yng Nghymru, a bydd yn cyd-greu ac yn goruchwylio'r gwaith o gyflwyno strategaeth fwyd genedlaethol, ochr yn ochr â Gweinidogion Cymru a rhanddeiliaid eraill. Bydd yn dwyn partneriaid cyflenwi i gyfrif, er mwyn sicrhau y gellir cyrraedd targedau nodau bwyd a nodau polisi. Gall y comisiwn ddefnyddio'i rôl hefyd i feithrin gallu ac arbenigedd polisi yng Nghymru.

Cafwyd peth trafodaeth nad oes angen comisiwn mewn gwirionedd, ac yn hytrach, y gall comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol edrych ar fwyd fel rhan o'u cylch gwaith. Rwy'n cofnodi fy niolch am gefnogaeth comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol drwy'r broses hon. Ond mae'r comisiynydd eisoes o dan bwysau amser ac adnoddau sylweddol, sy'n golygu y byddai angen mwy o adnoddau arnynt i wneud hynny, adnoddau y gellid eu cyfeirio'n well at gorff sydd â'r gallu a'r arbenigedd i fabwysiadu agwedd system gyfan at bolisi bwyd. Mae'r Bil hefyd yn rhoi hyblygrwydd i Weinidogion Cymru sefydlu ac ariannu'r comisiwn o fewn y fframwaith a nodir o fewn y Bil, sy'n golygu y gall y Llywodraeth gyfeirio cymaint o adnoddau ag y teimla fod eu hangen i ariannu'r comisiwn. Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi rhai o'r comisiynwyr presennol a'u cyllidebau i ddarparu'r ystod o gostau cyllidebol posibl. 

I grynhoi, Ddirprwy Lywydd, heddiw nodais rai o brif nodweddion y Bil, a'r rhesymeg sy'n sail iddynt. Mae'r datganiad hwn yn ddechrau ar broses hir o graffu gan y Senedd, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at drafod y cynigion yn fanwl, er fy mod yn gobeithio y bydd yr Aelodau'n garedig wrthyf, wrth imi fynd i'r ystafelloedd pwyllgor hynny gyda rhyw lefel o arswyd. Wrth gwrs, rwyf hefyd yn awyddus iawn i barhau fy ymgysylltiad adeiladol ag Aelodau a'r Gweinidog, a'i swyddogion yn enwedig, ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am ein trafodaethau hyd yma. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn deall ac yn cytuno â'r egwyddorion sy'n sail i'r Bil. Er fy mod yn gwybod bod agweddau ar y darpariaethau y mae hi'n teimlo y gellid eu newid, rwy'n meddwl o ddifrif fod cyfle i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i ffordd o basio'r Bil hwn. Rwy'n credu'n wirioneddol nad oes angen i unrhyw wleidyddiaeth na dim byd felly rwystro'r gwaith o gyflwyno'r Bil hwn i bobl Cymru. Rwy'n agored i syniadau ac yn fodlon dod o hyd i ffordd ymlaen dros y misoedd nesaf. Rwy'n hapus i adael i'r Bil hwn fod yn Fil y Senedd, ac i ni wneud iddo ddigwydd gyda'n gilydd, oherwydd mae'r system fwyd yn hanfodol i wead ein cymunedau a phopeth a wnawn. Rydym yn gwybod y gall ac y dylai wneud mwy i gefnogi llesiant a ffyniant. Felly, gadewch inni wireddu hyn. Ddirprwy Lywydd, rwy'n cymeradwyo'r datganiad a Bil Bwyd (Cymru) i'r Senedd. 

15:45

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Peter Fox am ei ddatganiad, ac am y sgyrsiau a gawsom dros gyfnod o amser, yn arwain at heddiw.

Rwy'n dal i gredu'n gryf mai'r Bil hwn yw'r Bil anghywir a'i fod yn dod ar yr adeg anghywir. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 eisoes yn darparu fframwaith a sylfaen ar gyfer polisïau integredig cyfannol sy'n canolbwyntio ar y budd hirdymor i ddinasyddion a chymdeithas. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o weithio mewn partneriaethau, gyda mecanweithiau profedig ar gyfer camau gweithredu a pholisi cydgysylltiedig. Rwy'n cytuno bod angen dull cydgysylltiedig o ymdrin â materion bwyd sy'n canolbwyntio ymdrechion ar lesiant. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio ar hynny drwy ein polisïau presennol, gyda'r ymrwymiad i ddatblygu strategaeth fwyd gymunedol, sy'n grymuso gweithredu a arweinir gan y gymuned, sy'n cryfhau cymunedau ac sy'n creu nifer o fanteision llesiant, ac rwy'n gweithio gyda Phlaid Cymru ar y mater hwn fel rhan o'r cytundeb cydweithio. 

Ni fydd y Bil hwn yn ychwanegu gwerth, ond bydd yn tynnu sylw, yn creu costau a chymhlethdod diangen, ac yn y pen draw, ni fydd yn cyfrannu at ei fwriadau da ei hun. Bydd yn oedi ein gwaith ar fwyd cymunedol, ac fel y dywedais, rwy'n credu mai hwn yw'r Bil anghywir. Bydd y Llywodraeth yn tanlinellu'r pwyntiau hyn wrth i'r Bil fynd yn ei flaen, ond am heddiw, hoffwn ofyn dau gwestiwn i'r Aelod: sut y bydd y fiwrocratiaeth sy'n llyncu adnoddau a gaiff ei chreu gan y Bil yn gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd? Ac ym mha ffordd y mae'r Bil yn helpu, yn hytrach na rhwystro, y fframwaith deddfwriaethol sydd eisoes wedi'i roi ar waith gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? Diolch. 

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Gyda phob dyledus barch, rwy'n dal i anghytuno â chi; rwy'n credu bod angen hyn, gan fod ymatebwyr sydd wedi ymateb o bob rhan o'r wlad—o fyrddau iechyd, o gynghorau—yn dweud bod angen hyn, oherwydd ceir diffyg polisi cydgysylltiedig yn hyn o beth. Tra bo llawer o bethau da'n cael eu cyflwyno, fel y Bil amaeth a'r cynllun ffermio cynaliadwy, maent yn edrych ar y cynhyrchydd, y cynhyrchiant yn bennaf; nid oes ganddynt ddull cyfannol o edrych ar sut rydym yn defnyddio bwyd yn y ffordd orau i fynd i'r afael â materion cymdeithasol. Rwy'n gwybod bod y strategaeth fwyd gymunedol yn cael ei datblygu, ond nid yw'n glir iawn beth mae'n ei gynnwys, ac rydym yn credu ei bod yn ymwneud mwy â mentrau lleol i gynhyrchu symiau lleol o fwyd, mae'n debyg, ond na fyddai'n darparu rhywbeth y gellid ei ehangu ddigon i lywio'r hyn rwy'n ei gynnig drwy'r Bil hwn. 

I ymateb i'ch cwestiynau, mae'r adnoddau, fel y byddwch yn gwybod, yn y memorandwm esboniadol, wedi eu seilio—a cheir ystod o gostau ar eu cyfer. Yn amlwg, mae angen i ni—. Oherwydd ei fod yn Fil fframwaith, mae'r disgresiwn, o ran beth fyddai gwir gostau hynny, yn nwylo'r Llywodraeth mewn sawl ffordd. Rydym yn credu—rwy'n credu—y bydd y Bil hwn yn rhoi cyfle i resymoli'r system fwyd a'r fframwaith rheoleiddio sydd gennym nawr, a fydd yn datgloi arbedion effeithlonrwydd mewn gwirionedd, ac yn ein galluogi i ddarparu adnoddau gwerthfawr ar gyfer meysydd eraill. Nid wyf yn credu bod gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol gapasiti, ac nid yw ei nodau bwyd yn adlewyrchu ehangder yr hyn rydym yn ceisio ei wneud gyda'r Bil hwn. Mae'r nodau bwyd rydym wedi'u creu yn y Bil hwn yn cyd-fynd â gwaith da comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ond byddai disgwyl i'r comisiynydd ymgymryd â gorchwyl mor eang ac mor fawr â'r system fwyd yng Nghymru, ar ben y pethau y mae hi eisoes yn eu gwneud yn llawer iawn i'w ofyn a byddai'n tynnu sylw'r comisiynydd oddi ar y dasg bwysig sydd ganddi o ddwyn llywodraeth leol, cyrff eraill a'r Llywodraeth i gyfrif yn y meysydd y mae'n edrych arnynt ar hyn o bryd. Felly, beth bynnag, byddai'n rhaid i chi roi mwy o adnoddau i gomisiwn cenedlaethau'r dyfodol iddo allu ymdrin â'r system fwyd pe byddech chi o ddifrif yn awyddus i geisio cyflawni'r dull cyfannol hwnnw ar gyfer y system fwyd. Felly, mae costau ynghlwm wrth hyn, pa bynnag ffordd yr edrychwch arno, os ydym am sicrhau diogeledd bwyd a chreu system fwyd gyfannol.

15:50

Yn gyntaf, a gaf fi longyfarch yr Aelod dros Fynwy ar gyflwyno deddfwriaeth mor hanfodol? Fel y mae'r Aelod wedi'i nodi'n gywir yn ei ddatganiad agoriadol, nid yn unig y mae Bil Bwyd (Cymru) yn darparu fframwaith sylfaenol i sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru, ond fel y clywsom y prynhawn yma mae'n cryfhau ein diogeledd bwyd, yn gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru ac yn gwella dewisiadau i ddefnyddwyr, ymhell y tu hwnt i'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd o fewn y llyfrau statud. Felly, credaf mai hwn yw'r Bil iawn ar yr adeg iawn.

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn dod ar adeg anhygoel o bwysig, nid yn unig i'r diwydiant amaethyddol ond i'r gadwyn gyflenwi ehangach hefyd. O'r giât i'r plât, o'r fferm i'r fforc, bydd hyn yn sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at gynnyrch iach o ffynonellau lleol—cyfle sydd nid yn unig yn cefnogi ein cymunedau amaethyddol ond sydd hefyd yn eu gosod ar lwybr tuag at dwf cynaliadwy. Ond er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni ddefnyddio pob arf sydd ar gael i ni, o ddefnyddio'r fframwaith yn y Bil amaeth i ddatblygu'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'n bosibl mai'r Bil bwyd hwn yw'r darn jig-so coll a fydd yn cwblhau cyfres o fesurau sy'n diogelu, yn hybu ac yn darparu ar gyfer y gymuned amaethyddol. 

Ar ôl bod ar y pwyllgor yn craffu ar y Bil amaeth, gallaf sicrhau Aelodau nad oes dyblygu rhwng y ddau Fil. Yn hytrach, maent yn ategu ei gilydd mewn ffordd galonogol. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn darparu cymorth amaethyddol yn dilyn Brexit, mae'r Bil amaeth yn darparu fframwaith lle gellir diogelu'r diwydiant, ac mae Bil bwyd yr Aelod dros Fynwy yn darparu bwyd fforddiadwy ac iach sy'n gynaliadwy yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol i bobl Cymru. Yn y bôn, mae'n ticio'r holl focsys rydym eisiau iddynt gael eu ticio wrth fwydo ein cenedl. Mae'r tair rhan hyn—y cynllun ffermio cynaliadwy, y Bil amaeth a'r Bil bwyd—yn ménage à trois o bolisïau sydd wedi'u plethu'n gadarnhaol ar gyfer cynhyrchiant, caffael a ffyniant. Felly, o ystyried hyn, hoffwn i'r Aelod egluro ymhellach sut y bydd ei ddeddfwriaeth yn ceisio ychwanegu at y pedwar amcan rheoli tir cynaliadwy allweddol yn y Bil amaeth.

Gan droi at bethau eraill, roeddwn yn falch o nodi cymaint o gefnogaeth sydd i'r Bil bwyd o fewn y diwydiant, cefnogaeth sydd wedi cael ei hybu gan randdeiliaid. Mae gwaith yr Aelod—boed hynny'n gyfarfodydd bwrdd crwn, ymgysylltiad rheolaidd ag arbenigwyr polisi neu drwy ymgynghoriad cyhoeddus, y soniodd amdanynt yn ei sylwadau agoriadol—wedi golygu bod y Bil hwn wedi ymgorffori cefnogaeth yr holl randdeiliaid allweddol. Mae'r ymgysylltiad hwn wedi ei groesawu'n fawr. Yn dilyn y trafodaethau a gefais i gyda'r diwydiant, hoffwn glywed gan yr Aelod sut mae unrhyw bryderon posibl ynghylch y Bil wedi cael eu lleddfu wrth iddo gael ei ddrafftio.

Yn olaf, o wrando ar wrthwynebiad y Gweinidog i'r Bil, mae'n amlwg fod rhywfaint o bryder o hyd ynghylch y gorgyffwrdd rhwng yr hyn y mae Peter wedi'i gynnig a strategaeth bwyd cymunedol Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid wyf yn dod i'r un casgliad â'r Gweinidog, felly hoffwn wybod mwy am farn yr Aelod ar y mater ac a ydych chi'n credu bod gwrthdaro rhwng y ddau fframwaith. 

Felly, i gloi, bydd yr egwyddorion, y ddarpariaeth a'r amcanion polisi rydych wedi'u hamlinellu yn creu platfform polisi cydlynol, cyson a strategol y gallwn ddeddfu arno i wella ein diogeledd bwyd, ond yn ogystal â hynny rydych chi a'ch tîm wedi datblygu fframwaith a fydd yn gwella, yn cryfhau ac yn cefnogi ein system fwyd, gan ei gwneud yn addas ar gyfer heriau'r unfed ganrif ar hugain. Gyda hynny, rwy'n cymeradwyo'r Aelod dros Fynwy am ei ddiwydrwydd a'i ymroddiad yn drafftio'r Bil hwn, ac rwy'n annog yr Aelodau yn y Siambr i gefnogi'r ddeddfwriaeth arloesol hon. Diolch.

15:55

Wel, a gaf fi ddiolch i chi, Samuel, ac a gaf fi hefyd ddymuno pen-blwydd hapus i chi heddiw?

Nid yw'r Bil yn gwrthdaro â'r Bil amaeth; mae fy Mil yn creu fframwaith cyffredinol a all gynnwys y polisi rheoleiddio presennol. Mae'r nodau bwyd sylfaenol a'r nodau bwyd eilaidd yn galluogi pob maes polisi i gyfrannu tuag at y nod ehangach. Nid oes unrhyw wrthdaro â'r Bil amaeth, ac yn wir, drwy ganolbwyntio pob rhan o'r polisi a'r rhai sy'n cydgysylltu â'r polisi, gall eu helpu i ddod at ei gilydd. Codwyd rhai pryderon wrth ddrafftio'r Bil, a byddai llawer o bobl wedi hoffi pe byddem wedi rhoi mwy ar wyneb y Bil, ond mae hynny'n anodd iawn; byddai pawb a'i fam wedi hoffi cael rhywbeth o fewn y Bil, roedd mor boblogaidd â hynny. Roedd yn bwysig i mi gadw hyn mor syml â phosibl, ond yr hyn a wnaethom oedd ceisio mynd i'r afael â rhai o'r pryderon dyfnach hynny drwy'r memorandwm esboniadol. Roedd rhai cwestiynau'n codi ynglŷn ag a oedd wedi mynd yn ddigon pell gyda'i statws amgylcheddol, os mynnwch, ac rydym yn credu ein bod wedi mynd i'r afael â'r rheini yn y memorandwm esboniadol, oherwydd mae cynhyrchu bwyd cynaliadwy sy'n parchu bioamrywiaeth a'n cefn gwlad yn rhan o DNA yr hyn y ceisiwn ei wneud.

Ni allaf gofio eich cwestiwn olaf. Roedd yn ymwneud â—ni allaf gofio. [Chwerthin.] Roedd yn ymwneud â chysondeb— 

Fy safbwynt i yn erbyn safbwynt y Gweinidog? O ie. Iawn. Diolch am hynny, Ddirprwy Lywydd, am fy atgoffa—[Torri ar draws.]

Rwy'n credu fy mod wedi'i nodi yn yr hyn a ddywedais yn flaenorol. Credaf fod hyn yn creu'r fframwaith cyffredinol lle mae yna strategaeth genedlaethol, lle gellir dwyn pobl i gyfrif am gyflawni yn erbyn y targedau bwyd hynny a'r nodau bwyd hynny. Ar hyn o bryd, nid yw'r gwahanol bolisïau bob amser yn cael eu dilyn yn y ffordd rwy'n siŵr y byddai'r Llywodraeth yn ei hoffi. Felly, fe welwch rai cyrff yn cyflwyno polisi yn y ffordd y'i bwriadwyd, eraill yn ei ddehongli mewn ffordd wahanol, felly mae gennych ddiffyg cysondeb wrth gyflwyno polisïau yn gyffredinol. A phan fydd hynny'n digwydd, mae gennych ddiffyg data pendant y gallwch ei ddefnyddio i ddylanwadu ar sut a lle mae angen ichi newid y system fwyd, neu fynd i'r afael â diffygion yn y system fwyd ledled Cymru. Felly, rwy'n credu fy mod wedi ateb y cwestiwn.

Rwy'n siŵr fod yr Aelod wedi siarad dros bob Aelod yn y Siambr pan ddymunodd ben blwydd hapus i'r Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mabon ap Gwynfor.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A llongyfarchiadau i Peter Fox am lwyddo i ddod â'r Bil hwn mor bell, a hoffwn gymryd eiliad i fynegi fy nghefnogaeth gyffredinol i'r Bil hwn.

Mae pandemig COVID-19 ac ymosodiad parhaus Rwsia ar Wcráin wedi dangos pa mor sensitif y gall cadwyni cyflenwi bwyd a nwyddau amaethyddol fod i ddigwyddiadau byd-eang, gan ein hatgoffa o beryglon dibynnu ar fewnforion bwyd a deunyddiau crai. Yn y pen draw, fe wnaeth y pandemig dynnu sylw at y materion sy'n ymwneud â chydgysylltiad a chyd-ddibyniaeth cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Un o bolisïau Plaid Cymru yw ein bod eisiau gweld Cymru lle mae gennym system fwyd gynyddol leol—system gynaliadwy wedi'i chefnogi gan sector amaethyddol cadarn a gefnogir yn ariannol.

Mae Plaid Cymru eisiau gweld Cymru lle mae gan bawb fynediad urddasol at fwyd maethlon wedi'i gynhyrchu'n gynaliadwy, mewn ffordd sy'n sicrhau incwm teg i ffermwyr a holl weithwyr y sector bwyd. Rydym yn gwybod beth sydd angen digwydd i gyflawni hyn; mae angen dull systematig arnom sy'n mynd i'r afael â'r diffygion difrifol yn ein sector bwyd ar hyn o bryd. Mae angen inni weld cynnydd yng nghapasiti prosesu Cymru yn gyffredinol, a gwrthdroi'r hyn a gollwyd mewn capasiti prosesu lleol. Ym maes caffael cyhoeddus, dylem flaenoriaethu prynu bwyd a gynhyrchir yng Nghymru. Gall caffael cyhoeddus lleol a rhanbarthol—er enghraifft mewn ysgolion, ysbytai a swyddfeydd cyngor—helpu i greu marchnadoedd i fusnesau bwyd lleol.

Ymhellach, ac rwy'n siŵr y bydd Peter Fox yn cefnogi'r nod hwn, rydym yn dymuno gweld sir Fynwy yn adeiladu ar ei henw da fel prifddinas fwyd Cymru. Er bod y wlad yn gyfoethog o ran cynhyrchiant bwyd a diod, rydym yn dal i fewnforio bwyd ar raddfa enfawr, ac rydym yn gwastraffu bwyd ar raddfa enfawr hefyd. Nid yw'r system fwyd sydd gennym yn gynaliadwy yn economaidd, yn amgylcheddol nac yn ddiwylliannol.

Yn ogystal â hyn, er gwaethaf lefelau cynhyrchiant bwyd yng Nghymru, a siarad yn fras, mae gennym dlodi bwyd sylweddol, ac mae ardaloedd difreintiedig yng Nghymru yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan gyflyrau iechyd y gellir eu priodoli i ddeiet i raddau helaeth. Rhaid i'r Bil hwn sicrhau bod bwyta'n iach yn cael ei annog drwy fonitro mynediad at fwyd iach yn y cymunedau mwyaf difreintiedig a sicrhau bod y system fwyd yn cael ei chysylltu â sectorau eraill, er enghraifft drwy sicrhau bod coginio ar y cwricwlwm a bod hyn yn cynnwys cynhwysion lleol a ryseitiau lleol iach. Yn ogystal, yn sgil cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, sydd i'w groesawu, byddai'n briodol i system fwyd sy'n cael ei chreu yn sgil y Bil hwn sicrhau bod bwyd a'i gynhyrchiant yn cael ei wreiddio ym mywyd ein hysgolion, gyda chontractau yn cael eu caffael yn lleol pryd bynnag y bo modd fel y gall plant ddysgu o ble y daw eu bwyd a datblygu'r arfer o fwyta bwyd maethlon wedi'i gynhyrchu'n lleol yn gynnar mewn bywyd, sy'n golygu y byddant yn iachach, gyda budd i'r economi a'r amgylchedd.

Mae gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae yn y gwaith o newid diwylliant bwyd yng Nghymru, a dylai'r Bil hwn fod yn gyfle i wneud hynny. Un maes lle mae'n amlwg fod angen i hyn ddigwydd yw ein sector pysgodfeydd, bwyd môr a dyframaethu. Mae gan sectorau pysgodfeydd, bwyd môr a dyframaethu Cymru gyfle i ddatblygu ac i gyfrannu at yr uchelgais i Gymru fod ar y blaen am gynhyrchu bwyd cynaliadwy. Mae Cymru wedi'i hamgylchynu gan forlin ac mae ein moroedd yn gyfoethog o gynnyrch, cynnyrch a allai fwydo'r wlad yn gynaliadwy, ond ar hyn o bryd, mae'r sector yn ei chael hi'n anodd. Nid yw'n cael cefnogaeth ac nid yw defnyddwyr yn manteisio'n llawn ar gynnyrch blasus a maethlon ein moroedd. Er mwyn datblygu ein cymunedau arfordirol, lle mae mwyafrif ein poblogaeth yn byw ac yn gweithio mewn gwirionedd, mae angen inni newid ein hagwedd tuag at fwyd môr Cymru, cefnogi ei gynhyrchiant ac adeiladu cadwyni cyflenwi bwyd môr lleol cynaliadwy.

Rwy'n cefnogi'r Bil hwn am y rhesymau niferus a grybwyllais, a hoffwn annog pob plaid yn y Senedd i wneud hynny hefyd gan sicrhau ein bod yn gweithio ar y cyd, a bwydo i mewn i'r broses hon er mwyn sicrhau y gallwn greu system fwyd sy'n gweithio i Gymru a'n holl gymunedau. Diolch.

16:00

Peter, nid wyf yn credu i mi glywed cwestiwn yng nghyfraniad yr Aelod, felly os ydych chi eisiau ymateb i'r Aelod.

Ydw. Diolch i chi am eich mewnbwn, Mabon, ac fe wnaethoch chi gyfleu hanfod y Bil hwn yn berffaith, a diolch ichi am ei fynegi mor dda. Nid ymwneud â chynhyrchu bwyd cynaliadwy yn unig y mae, mae'n ymwneud â chreu diwydiant cynaliadwy, mae'n ymwneud â defnyddio bwyd lleol o safon i fynd i'r afael ag anghenion cymdeithasol. Mae'n rhaid inni ddechrau symud i ffwrdd oddi wrth edrych ar bopeth yn nhermau gwerth ariannol a dechrau meddwl amdano yn nhermau gwerth cymdeithasol. Sut mae dechrau ysgogi newid yn y system iechyd fel ein bod yn mynd i'r afael â gordewdra a phethau fel diabetes? Sut mae gwneud hynny? Wel, wrth gwrs, fel y dywedodd Mabon, mae'n rhaid inni ddechrau helpu pobl i ddeall, a phlant i ddeall manteision bwyd o safon a sut y gallwn ei ddefnyddio. Dyna pam ei bod mor bwysig fod ein system addysg yn ymateb i'r nod hwnnw. Os gallwn helpu pobl i ddechrau deall manteision bwyd, efallai y gallant newid eu harferion bwyd.

Mae'r prosesau hyn yn hir, ond mae'n rhaid ichi ddechrau rhywle, a dyna bwysigrwydd dull cyfannol sy'n edrych ar y system fwyd gyfan, nid ar ddarnau bach ar wahân a gobeithio eu bod yn dod at ei gilydd yn y diwedd. Mae'n rhaid ichi gael darlun cyfannol. Dyna pam ei bod mor bwysig cael strategaeth gyffredinol a chomisiwn gyda'r bobl allweddol i gyfrannu a fyddai'n dod o bob sector o'r system fwyd a sut y byddai'n gweithio.

A Mabon, roeddech chi'n hollol iawn am ddyframaethu a'r cyfleoedd i fwyd môr fynd i mewn i'n system fwyd leol. Ceir cyfleoedd enfawr os ydym yn manteisio ar y cyfoeth sydd gennym yn ein plith ac yn ymdrechu i ddefnyddio mwy o fwyd carbon isel a gynhyrchir yn lleol, oherwydd byddem yn gallu lleihau'r milltiroedd y mae ein bwyd yn teithio. Felly, mae yna gyfle enfawr. Diolch i chi am eich cefnogaeth.

16:05

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod uchel iawn ei barch Peter Fox am ei ddatganiad heddiw, yn ogystal â chofnodi fy niolch iddo ef a'i dîm am eu holl ymdrech yn drafftio'r Bil sydd o'n blaenau heddiw.

Nawr, fel yr Aelod rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru, rwy'n cynrychioli ychydig dros 650,000 o bobl ac ar ôl cyfarfod â channoedd ohonynt dros yr wythnosau diwethaf, gallaf eich sicrhau, ar ôl siarad â hwy am y Bil hwn, maent yn credu mai dyma'r amser iawn, y lle iawn a'r foment iawn i'r Bil hwn symud ymlaen. Felly, Peter, maent i gyd 100 y cant y tu ôl i chi.

Heb amheuaeth, mae bwyd yn hanfodol i bopeth rydym yn ei wneud fel cymdeithas, ac mae gwir angen inni asesu a yw'r strwythur llywodraethu sydd gennym ar waith yn ddigonol ar gyfer yr heriau sy'n ein hwynebu nid yn unig heddiw, ond yn y dyfodol hefyd. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall am y Bil, mae hyn yn rhywbeth y bydd y comisiwn bwyd arfaethedig yn ceisio mynd i'r afael ag ef, ac rwy'n credu ei fod yn syniad diddorol iawn. Fodd bynnag, rwy'n gwybod y bu rhai awgrymiadau nad oes angen i hwn fod yn gorff arall ac efallai y gallai'r strwythurau presennol, fel Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, gynnwys y system fwyd yn eu cylch gwaith. Felly, Peter, a gaf fi ofyn pam eich bod yn credu bod angen comisiwn bwyd mewn gwirionedd, a pha werth y credwch y bydd yn ei ychwanegu at y modd y caiff y system fwyd ei llywodraethu? Rwy'n gwybod eich bod wedi cyffwrdd â hyn o'r blaen, ond byddwn yn falch iawn o gael ychydig mwy o wybodaeth. Diolch.

Diolch, Natasha, a diolch am eich cefnogaeth drwy hyn. Yn wir, diolch i gymaint ohonoch am eich cefnogaeth drwy hyn. Rwy'n meddwl fy mod wedi rhoi sylw i ychydig o hyn yn gynharach. Rwy'n credu ei bod yn gwbl allweddol fod comisiwn—ac nid comisiynydd, comisiwn—yn goruchwylio'r system fwyd a'i hesblygiad, nid fel bygythiad i'r Llywodraeth, ond gan weithio'n agos gyda'r Llywodraeth, ac arno yn ôl pob tebyg. Bil fframwaith ydyw a byddem yn gadael i'r Gweinidogion benderfynu ei union ffurf. Ond gallant helpu a gweithio'n agos gyda'r Llywodraeth ar lunio strategaeth, y strategaeth gyfannol honno y soniais amdani. Gallant weithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus ar ddatblygu eu cynlluniau bwyd, ac yna gallant hefyd chwarae rôl yn monitro a dwyn i gyfrif, lle bo angen, lle nad yw'r targedau'n cael eu cyrraedd. Ac rwy'n meddwl bod hynny'n sylfaenol. Mewn gwirionedd, gall hyn leihau'r pwysau ar y Llywodraeth mewn sawl ffordd, oherwydd ei fod yn ffrind beirniadol, corff a all wneud y gwaith caled sydd ei angen i wneud inni gael system fwyd wydn, gynaliadwy, rhywbeth nad ydym yn meddu arni ar hyn o bryd, yn anffodus. Ond er yr holl bethau a welsom dros y blynyddoedd diwethaf—COVID, Wcráin—rwy'n credu bod yr holl bethau hynny wedi canolbwyntio ein sylw ar ba mor fregus ydym ni, a pha mor fregus yw ein system fwyd, a dyna pam ei bod hi'n bwysig ein bod yn cael golwg gyfannol o'r bôn i'r brig. Ac nid wyf yn meddwl mai comisiwn yn unig yw'r ffordd iawn o wneud hynny. Fodd bynnag, fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, rwy'n fodlon gweithio gydag unrhyw un yn y Siambr hon a'r Gweinidog yn wir, i ddod o hyd i fodel sy'n fwy derbyniol, os mai dyna fydd ei angen, ond rhaid inni beidio â cholli ffocws ar yr hyn y dylai'r comisiwn hwnnw fod yn ei wneud.

Rwy'n anghytuno'n ostyngedig â Lesley Griffiths nad ydym angen y Bil hwn, oherwydd crëwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn 2015, ac mae hi bellach ddau dymor yn ddiweddarach ac yn sicr nid ydym wedi gwneud y cynnydd y mae angen inni ei wneud ar newid ein perthynas â bwyd. Mae'r strategaeth fwyd gymunedol rydych chi'n gweithio arni gyda Phlaid Cymru yn beth braf ei gael, ond nid yw'n ganolog i'r gwaith o ail-beiriannu—

Jenny, a wnewch chi aros am funud? Rydym wedi colli eich meic. Nid yw'n gweithio. A oes modd inni edrych i weld a yw meic Huw yn gweithio?

O'r gorau. Rwy'n anghytuno'n ostyngedig â'r Gweinidog materion gwledig a bwyd. Mae angen newid system gyfan nad ydym, yn syml iawn, wedi'i gyflawni yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a gyflwynwyd yn y pedwerydd tymor, ac rydym bellach yn chweched tymor y Senedd hon. Mae'r strategaeth bwyd cymunedol y mae'r Gweinidog yn gweithio arni gyda Phlaid Cymru yn braf i'w chael, ond nid yw'n rhan ganolog o'r broses o ail-beiriannu ein perthynas â bwyd, sydd wedi'i gwyrdroi'n llwyr ar hyn o bryd gan oruchafiaeth y diwydiant bwyd obesogenig.

Gallaf restru o leiaf chwe gweinidogaeth arall a ddylai fod yn rhoi sylw i hyn. Yn gyntaf oll, nid yw'r Bil Amaethyddiaeth a'r cynllun ffermio cynaliadwy y mae'n cynnig ei ymgorffori'n ddigon clir, oherwydd mae'r undebau amaeth yn dweud nad ydynt yn deall yr hyn y gofynnir iddynt ei wneud. Felly, mae angen inni gael mwy o eglurder ynghylch pwysigrwydd strategol tyfu'r bwyd sydd ei angen arnom i sicrhau diogeledd bwyd ein gwlad.

Yn ail, mae'r cwricwlwm newydd yn wirioneddol wych, ac mae ei bwyslais ar lesiant yn gyfle arall i newid perthynas plant â bwyd. Erbyn iddynt gyrraedd eu tair oed, maent eisoes wedi mabwysiadu arferion gwael gan genedlaethau o bobl sydd heb gael perthynas agos â bwyd.

Rydym yn dechrau gyda bwydo ar y fron. Gennym ni y mae'r cyfraddau bwydo ar y fron gwaethaf yn Ewrop gyfan hyd y gwn i, er ei fod yn helpu plant i beidio â chael heintiau plentyndod ar y glust, y frest a'r perfedd ac yn cynnig amddiffyniad am oes rhag cyflyrau eraill sy'n bygwth bywyd. I fenywod, mae'n gostwng y risg o ganser y fron a chanser yr ofari, osteoporosis, clefyd cardiofasgwlaidd—

16:10

—a gordewdra. Ac eto, mae'r swm rydym yn ei wario ar fwydo ar y fron yn bitw iawn. Felly, mae angen inni newid perthynas plant â bwyd yn llwyr.

Os ydym yn mynd i barhau i allu fforddio cyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb ym mhob ysgol gynradd, a thu hwnt i hynny mewn ysgolion uwchradd, gobeithio, ni fydd y £260 miliwn rydym yn ei neilltuo ar gyfer hynny ar hyn o bryd ond yn fforddiadwy yn hirdymor os ydym yn cael y cynhwysion ar gyfer y bwyd hwnnw o'n heconomi sylfaenol. Ac mae hynny'n golygu datblygu'r rhwydweithiau bwyd lleol hynny.

Wedyn, ar newid hinsawdd—

—bwyd sy'n creu fwyaf o allyriadau carbon gan aelwydydd unigol—mwy na mynd ar awyren, mwy na'u costau trafnidiaeth, mwy na gwresogi eu cartrefi. 

Yn olaf, yn amlwg, rhaid i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol fod yn rhan o sicrhau bod gan bawb fynediad at fwyd iach, ac mae angen i'w dirprwy, sy'n gyfrifol am y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), roi llawer mwy o sylw i sut rydym yn mynd i gaffael bwyd yn gyhoeddus yn lleol. Taith yw hon, nid digwyddiad, ac felly rwy'n cefnogi'n gryf—. Nid wyf yn deall sut rydych chi'n mynd i wneud yr holl waith cymhleth hwn heb y comisiwn bwyd. Beth yw eich strategaeth os na allwch chi gael y Llywodraeth i sefydlu comisiwn bwyd?

Cyn i Peter ateb, a gaf fi atgoffa'r Aelodau mai datganiad yw hwn, nid dadl? Felly, rhaid cadw at y cyfyngiadau amser, os gwelwch yn dda. Peter.

Diolch, Jenny, a diolch am eich cefnogaeth. A gaf fi ddiolch i chi am y gwaith rydych chi'n ei wneud yn y maes hwn yn y gweithgor trawsbleidiol ar brydau ysgol, a'r hyn rydych chi'n dyheu am ei weld? Rwyf wedi bod yn hapus i weithio gyda chi yno, oherwydd mae angen inni newid natur y bwyd y mae ein pobl ifanc yn ei gael. Mae angen bwyd lleol, cynaliadwy o fewn ein cymunedau. Yn anffodus, clywsom drwy'r pwyllgor trawsbleidiol, oni wnaethom, fod contractau caffael yn aml yn seiliedig 70 y cant ar gost, 30 y cant ar ansawdd. Mae hynny'n anghywir. Mae hynny'n foesol anghywir, pan fo gennym gynnyrch lleol o safon mor uchel y gallem ei roi i'n gwasanaethau cyhoeddus, i'n hysgolion.

Credaf hefyd, fel chithau, fod angen i'r comisiwn—neu gorff tebyg iddo, gydag arbenigedd o'r byd addysg, iechyd, Llywodraeth Cymru, cynhyrchwyr, defnyddwyr—fod gyda'i gilydd i lunio'r darlun cyfan, cyfannol. Ni allwch gael un person sy'n arbenigo mewn amaethyddiaeth yn unig i allu siapio system fwyd gyfan. Mae angen rhai sydd â'r holl ddoniau hynny, yr holl arbenigedd hwnnw, i ddod at ei gilydd i greu'r darlun cyfannol hwn. Dyna pam roeddwn yn gwrthwynebu un comisiynydd. Rwy'n teimlo bod angen ehangder o arbenigeddau. Ac fel y dywedais, y Llywodraeth fyddai'n pennu siâp hyn—Bil fframwaith ydyw—o ran y modd y byddent yn rhoi hynny at ei gilydd, a gallent ei roi at ei gilydd mewn ffordd sy'n cyflawni'r targedau y mae'r Bil yn edrych arnynt a chyflawni eu targedau eu hunain mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid cael comisiwn, neu rywbeth tebyg iawn.

Nid wyf yn credu—ac rwyf am ei ailadrodd eto—y byddai gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol gapasiti neu le i gyflawni hyn. Yn wir, mae'r comisiynydd wedi bod yn hynod gefnogol ac wedi cydnabod ein Bil yn ei hadroddiad diweddar. Rwy'n meddwl ei bod hi'n cydnabod bod gwaith enfawr i'w wneud yma. Rydym wedi ceisio ei wneud yn y fath fodd fel bod synergedd rhwng y ffordd y gwnaethom roi hyn at ei gilydd a'r holl bolisïau eraill yn y fframwaith sy'n bodoli ar hyn o bryd.

16:15

Hoffwn ddechrau yn gyntaf drwy dalu teyrnged i Peter Fox am yr holl waith caled y mae'r Aelod dros Fynwy wedi'i wneud hyd yma i gael y Bil i'r pwynt hwn. Mae pwrpas y Bil yn ganmoladwy ac yn amserol, ac rwy'n anghytuno'n gryf â'r Gweinidog: dyma'r Bil iawn ar yr adeg iawn. Ei nod yw sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yma yng Nghymru, ac yn sicr mae'r wlad wedi bod yn crefu amdano ers amser hir, i annog cydgysylltiad ar draws rhanddeiliaid, rhywbeth sydd wedi bod ar goll hyd yma, yn anffodus.

Y nod yw sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru. Mae hyn yn golygu cryfhau ein diogeledd bwyd drwy gadwyni cyflenwi gwydn, cefnogi datblygiad ein diwydiant bwyd, a chynyddu gwybodaeth defnyddwyr ynglŷn ag o ble y daw bwyd. Gwn fod cael y wybodaeth hon yn hollbwysig, yn enwedig yn ein hysgolion. Mae'r Bil yn gyfle nid yn unig i sicrhau ein bod yn gynaliadwy fel cenedl wrth inni gynyddu ein diogeledd bwyd, ond mae hefyd yn gyfle enfawr i drawsnewid addysg bwyd ac ansawdd bwyd a pha mor lleol yw bwyd yn ysgolion Cymru, fel rydych chi eisoes wedi'i grybwyll, gan leihau milltiroedd bwyd a chefnogi economïau lleol a chymunedau gwledig drwy gaffael lleol. Byddai'n wych pe bai hynny'n digwydd o ganlyniad i'r Bil hwn, a gwn mai dyna yw eich bwriad, Peter. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddai defnyddio bwyd lleol yn ein hysgolion nid yn unig yn gwella addysg ynglŷn ag o ble y daw bwyd, ond pwysigrwydd prynu'n lleol hefyd, ac effaith amgylcheddol gwneud hynny, yn ogystal â chydraddoldeb gwella iechyd ein plant a mynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant.

Felly, rydych chi wedi ei grybwyll yn barod, ond pa sgyrsiau rydych chi wedi eu cael ar hyn gydag ysgolion, gydag awdurdodau a chynhyrchwyr lleol—fel y nodoch chi eisoes fod gennych chi ddiddordeb yn ei wneud—pan oeddech chi'n llunio'r Bil hwn? Rwy'n credu'n gryf, Ddirprwy Lywydd, ei bod hi'n bryd dathlu, cefnogi a defnyddio ein cynnyrch lleol mewn ffordd effeithiol ac effeithlon o'r diwedd, a dyna pam rwy'n annog pawb yn y Siambr hon heddiw i gefnogi Bil Bwyd (Cymru) Peter Fox.

Diolch, Laura, ac mae addysg yn gwbl sylfaenol ac yn ganolog i hyn. Mae'n foesol anghywir yn yr oes sydd ohoni ein bod ni'n gweld lefelau gordewdra'n codi fel y maent, yn enwedig ymhlith ein pobl ifanc. Os na weithredwn nawr—nid yw'n annhebyg i'r ddadl am newid hinsawdd—beth sy'n digwydd yn y dyfodol? Mae'n rhaid i ni, ein cyfrifoldeb ni yw gosod sylfeini system well i'n plant a'n pobl ifanc, ac mae'n rhaid i addysg fod yn ganolog i hynny. Fel y dywedodd Jenny yn gynharach, mae'r cwricwlwm yn gyfle gwirioneddol i siapio addysg a helpu pobl i ddeall sut i ddefnyddio bwyd yn well, manteision bwyd, a newid eu harferion bwyta, ac yna efallai y gall y bobl ifanc hynny fynd adref a newid y ffordd y mae eu teuluoedd yn meddwl, oherwydd mae hwn yn fater mawr iawn. Nid yw'n mynd i ddigwydd dros nos, ond mae angen ichi ddechrau ei wthio yn ei flaen.

Roeddwn yn falch iawn drwy'r ymgynghoriad o gael llawer o awdurdodau lleol yn cysylltu â ni ac yn cyfrannu, a gallwch ddod o hyd i'r rheini i gyd ar y wefan, ac roeddent eisiau'r sefydlogrwydd y byddai'r Bil hwn yn ei roi iddynt, y canllawiau hyn, y strategaeth hon, fel bod ganddynt rywbeth i weithio tuag ato. Ac mae'r awdurdodau unigol y siaradais â hwy wedi croesawu hyn, oherwydd maent eisoes yn ceisio gwneud pethau yn y ffordd hon. Mae Caerdydd yn enghraifft wych. Mae gan sir Fynwy, fy awdurdod fy hun, ac eraill enghreifftiau o geisio gwneud mwy ar gynnyrch lleol, ond mae angen y fframwaith hon arnynt i weithio tuag ato, ac nid yw hynny gennym ar waith, a dyna beth sydd angen inni ei roi ar waith, fel bod pawb yn gwybod ble mae eu lle yn y system fwyd er mwyn cyflawni'r nodau a'r targedau bwyd hynny.

Llongyfarchiadau diffuant i Peter ar ei gael i'r cam hwn. Nid oes hanes da i gael busnes meinciau cefn Aelodau preifat drwy'r lle hwn. Ond o ddifrif, mae llawer o waith wedi mynd i mewn i hyn.

Fy nghwestiynau mewn munud, os caf eu rhestru'n gyflym iawn, yw: disgrifir hyn yn aml fel 'cyfannol', ond fel y nododd Jenny, a phe bai gennyf fwy o amser fe fyddwn i'n nodi hefyd, nid wyf yn meddwl ei fod yn gynhwysfawr. Mae'n gyfannol, ond nid yn gynhwysfawr, felly'n rhyfedd ddigon, yn hytrach na rhyw gynllun mawreddog sy'n tynnu popeth at ei gilydd, yr hyn y byddai'n well gennyf fi ei weld yw gweithredoedd sy'n cael eu gyrru i fwrw ymlaen â'r hyn y dylem fod yn ei wneud. Felly, fy nghwestiwn iddo fel deddfwr anfoddog, ond cefnogwr deddfwriaeth meinciau cefn, yw: beth yn hyn sy'n dyblygu mewn gwirionedd, ac y gellid ei hepgor o ddeddfwriaeth, y gallech chi ddweud wrth y Gweinidog, 'Weinidog, ewch i'r afael â beth bynnag sydd gennych chi yno ar hyn o bryd'?

Yn ail, mater y costau yn hyn. Nid ydynt wedi'u trafod yn fanwl. Rwy'n deall pam. Ond ar yr adeg hon, a yw'n briodol sefydlu comisiwn arall, ac ati, yn hytrach na dweud wrth y mecanweithiau presennol, 'Ewch ati i'w wneud. Eich gorchwyl yw gwneud hyn, felly ewch ati'?

Ac yn y pump eiliad sy'n weddill, yn y cynlluniau bwyd lleol, ac rwy'n teimlo'n gyffrous iawn am y syniad hwnnw, pwy yw'r byrddau cyhoeddus hynny? Rydych wedi sôn am awdurdodau lleol, byrddau iechyd. Beth am fyrddau partneriaethau rhanbarthol? Beth am y sector gwirfoddol a'r trydydd sector sy'n darparu'r pantrïau bwyd, y banciau bwyd, a phopeth arall? Beth am y tyfwyr cymunedol, ac yn y blaen—ble maent hwy'n ymddangos yn hyn? Pa le sydd i'r trydydd sector?

Pa le sydd i gaffael yn hyn? A ydym wedi rhoi ystyriaeth i ddeddfwriaeth lleol, ffres yn gyntaf fel y maent yn ei wneud yn yr Eidal, sy'n dweud mai dyna'r alwad gyntaf ar unrhyw gaffael? A beth am yr hawl i fwyd fel mater sylfaenol? Felly, mae'n gyfannol, ond nid wyf yn siŵr ei fod yn gynhwysfawr, ac os na allwch chi fwrw ymlaen â hyn, a oes ffyrdd eraill o fwrw ymlaen â rhai o'r pwyntiau da yn hyn?

16:20

Diolch, Huw. Os darllenwch drwy'r memorandwm esboniadol, pob un o'r 123 o dudalennau, rwy'n credu y gwelwch atebion i bob un o'r cwestiynau hynny, ac mewn cryn dipyn o fanylder mewn sawl ffordd. Rydych chi'n gofyn beth y gall y Llywodraeth fwrw ymlaen i'w wneud. Wel, rwyf wedi gosod nodau a thargedau bwyd, am nad oes yna rai ar hyn o bryd. Mae yna bwy sy'n dwyn pwy i gyfrif yn y wlad am gyflawni nodau bwyd. Nid ydym yn gweld y rheini. Mae gwasanaethau cyhoeddus yn crefu am nodau bwyd, maent yn crefu am gyfeiriad a phethau y gallant anelu tuag atynt. 

Y costau, fel y crybwyllais yn gynharach, mae'n rhaid imi fynd drwy broses benodol, fel y byddwch yn ymwybodol iawn, ac rydym wedi rhoi ystod o gostau o gymharu â chomisiynwyr eraill. Fel y dywedais yn gynharach, os byddech chi o ddifrif yn croesawu'r hyn y mae hyn yn ceisio ei wneud a'ch bod eisiau i gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol neu gomisiynydd arall ymrwymo i hyn, byddai'n rhaid ichi roi adnoddau tuag at hynny i ddatgloi'r gallu i gyflawni hyn. Os oes awydd am strategaeth fwyd a system sy'n darparu'r cyfan rydym ei eisiau—.

A phan ddywedaf 'cyfannol', rwy'n dweud 'cyfannol' am mai dyna'r unig air y gallaf ddod o hyd iddo i ddisgrifio darlun cyfan. Yn fy meddwl, rwy'n rheolaidd yn gweld strategaeth. Rwy'n gweld cynhyrchu ar y gwaelod, strategaeth dros y cyfan a'r defnydd o'r bwyd hwnnw o fewn y cylch bywyd yn mynd i helpu iechyd pobl ifanc, i helpu gyda'r materion cymdeithasol hynny, yn gyrru'r newid cynaliadwy. Ac ar hyn o bryd, nid yw'r system yn gwneud hynny. Mae'n bodloni gwaelod y cylch—y cynhyrchiant, y cynaliadwy, taro carbon, hyn i gyd—ond nid ydym wedi gweld strategaeth fwyd gymunedol sy'n cyflawni mewn perthynas â'r materion cymdeithasol ehangach hynny.

Yn yr Alban, mae gennych chi Ddeddf Cenedl Bwyd Da (Yr Alban) 2022, nad yw'n annhebyg i'r hyn rydym ni'n ei wneud; mae gennych strategaeth yn Lloegr. Nid oes unrhyw strategaeth yma. Nid oes unrhyw strategaeth, ac mae'n rhaid ichi gael strategaeth i allu dechrau cyflawni. Ac fel rydym ni wedi'i roi yma, mae angen nodau a thargedau fel bod modd dwyn pobl i gyfrif am sicrhau ein bod yn creu'r newid y mae'r wlad hon a'n pobl ifanc ei angen yn ddirfawr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf innau hefyd groesawu datganiad Peter Fox y prynhawn yma? Gan fy mod yn rhannu swyddfa neu fod gennyf swyddfa drws nesaf i'ch un chi i fyny'r grisiau, Peter, rwy'n gwybod pa mor galed rydych chi wedi gweithio ar y Bil hwn a'ch staff—yn enwedig, Tyler Walsh—yn ogystal, felly rwy'n credu ei bod yn werth sôn am hynny. 

Rwy'n credu bod hwn, fel y mae eraill wedi dweud, yn Fil iawn ar yr adeg iawn, oherwydd mae'n darparu dull cydgysylltiedig o weithredu'r system fwyd. A'r hyn roeddwn i eisiau dod yn ôl ato, rhywbeth rydym wedi cyffwrdd ychydig arno, oedd y strategaethau bwyd lleol, fel y'u drafftiwyd. Fel y gwyddoch, yn fwy na neb yn y Siambr hon mae'n debyg, bydd gan gynghorau lawer o ofynion adrodd eisoes a osodir arnynt o ganlyniad i ddeddfwriaeth Llywodraeth sy'n bodoli eisoes, ac rydym yn ymwybodol gyda phob rheoliad newydd, pob Bil newydd sy'n cael ei basio yma, fod hynny'n galw am adnoddau ariannol a dynol ar gyfer y cynghorau hynny, sydd, mewn rhai achosion, dan bwysau sylweddol yn barod. Felly, sut y byddech chi'n sicrhau, o'r Bil hwn, fod cynghorau'n gweld y cyfleoedd y gall eu darparu ac nid y beichiau? Sut y byddent yn ychwanegu gwerth i'r cynlluniau hynny ac yn hwyluso gweithredu cymunedol, yn hytrach na theimlo eu bod yn eu gorfodi ar eu cymunedau lleol hefyd? Diolch.

Diolch, Tom, a diolch am yr her honno, ac rwy'n gwybod ei bod wedi'i gwneud fel ffrind beirniadol. Rwy'n credu bod cynlluniau bwyd yn gwbl sylfaenol i hyn. Fel y dywedais yn gynharach, mae llawer o awdurdodau'n ceisio gwneud pethau gyda bwyd, ond ni cheir dull cydgysylltiedig ledled Cymru o wneud hyn. Mae angen i awdurdodau lleol allu—. Mae angen inni eu hannog i reoleiddio, os oes angen—wel, fe fyddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol—er mwyn iddynt gaffael yn fwy lleol. Mater i'r Llywodraeth yw gosod siâp a lefel a tharged y caffael hwnnw. Ond peidiwch ag anghofio, mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb am y bobl ifanc y maent yn eu gwasanaethu ac fe ddylent anelu at hyn, ac ni ddylid gweld popeth mewn termau ariannol, fel y dywedais yn gynharach. Mae gwerth cymdeithasol i'r pethau hyn, os ydym o ddifrif eisiau creu newid. Mae'r cynghorau y siaradais â hwy wedi ei groesawu. Edrychwch ar yr ymatebion i fy ymgynghoriad o Drefynwy, o Abertawe; edrychwch ar ymatebion byrddau iechyd, o Betsi Cadwaladr i'n bwrdd iechyd ein hunain, sy'n dweud bod angen hyn a phwysigrwydd y peth. Dyma'r bobl rwy'n gofyn iddynt gael cynllun bwyd. Nid ydynt yn dweud, 'Nid ydym eisiau un; biwrocratiaeth ychwanegol yw hyn.' Maent yn dweud, 'Rydym ei angen.' A dyna pam rwy'n credu'n bendant ein bod yn mynd i'r cyfeiriad iawn gyda chynlluniau bwyd, fel sydd wedi'u sefydlu yn yr Alban ac sydd wedi'u profi mewn llawer o wledydd.

16:25
6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithaso—'Trais ar sail rhywedd: Anghenion menywod mudol'

Eitem 6 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Trais ar sail rhywedd: Anghenion menywod mudol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jenny Rathbone.

Cynnig NDM8166 Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder ar 'Trais ar sail rhywedd: Anghenion menywod mudol', a osodwyd ar 26 Hydref 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae ymchwil yn dangos bod menywod mudol yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan drais ar sail rhywedd. Go brin fod hyn yn syndod, gan eu bod yn wynebu sawl math o gam-drin a heriau ychwanegol wrth geisio cael gafael ar gymorth. Nid ymwneud â sefyllfa ceiswyr lloches yn unig y mae'r ddadl hon; mae nifer fawr iawn o bobl yn byw yn y wlad hon, yn cynnwys yng Nghymru, menywod yn bennaf, sy'n dod i'r wlad hon ar fisas priod neu fisas myfyrwyr, nad yw'r naill na'r llall yn caniatáu hawl i gyllid cyhoeddus, a gallent fod yn agored felly i fwlio, i fasnachu pobl a chaethwasiaeth ddynol. Yn anffodus, mae yna bob amser bobl allan yno sy'n barod i fanteisio ar bobl sy'n agored i niwed ac ar fylchau mewn mecanweithiau cymorth. Felly, mae hwn yn grŵp penodol y dywedodd y rhanddeiliaid wrthym ei fod yn faes polisi roedd angen ei dynhau oherwydd yr anawsterau roedd darparwyr gwasanaethau yn eu cael wrth ddarparu gwasanaeth digonol i gefnogi'r bobl fregus hyn.

Mae hyn yn ymwneud â rhwystrau iaith, mae'n ymwneud â normau diwylliannol. Efallai na fydd pobl sy'n dod i'r wlad hon yn ymwybodol eu bod yn torri'r gyfraith os ydynt yn cyflawni gweithredoedd o drais yn y cartref. A hefyd rydym wedi cael achosion o gam-drin mewnfudwyr, ac maent i gyd yn achosi mwy o anawsterau i'r menywod hyn sydd angen help, ynghyd â diffyg ymddiriedaeth mewn gwasanaethau rheng flaen, ac yn enwedig y ffordd y gallai eu gwybodaeth gael ei rhannu.

Felly, mae ymgysylltu â goroeswyr yn hanfodol er mwyn deall y problemau cymhleth a llunio dull polisi gwybodus a manwl. Rwyf am ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, ond yn arbennig i'r menywod a rannodd eu straeon gyda ni yn ddewr ac yn onest. Roedd eu cyfraniadau'n hanfodol i'n dealltwriaeth o'r materion dan sylw. Rwyf hefyd am ddiolch i dîm ymgysylltu cymunedol y Senedd a wnaeth sicrhau bod hynny'n bosibl, yn ogystal â'r timau ymchwil a chlercio a gefnogodd waith ein pwyllgor.

Mae iaith yn her allweddol i fenywod mudol—nid datgan yr amlwg yw hyn. Gall fod yn rhwystr i godi ymwybyddiaeth—nid yw negeseuon ar fysiau, mewn toiledau cyhoeddus yn mynd i gael eu darllen gan rywun na all ddarllen Saesneg—ac mae hefyd yn rhoi rhwystr yn ffordd strategaethau atal a mynediad at gymorth. Cyfyngedig iawn yw'r gwasanaethau cyfieithu sydd ar gael, ac mae menywod yn aml yn dibynnu ar aelodau teuluol neu bobl eraill yn eu cymunedau i gyfieithu ar eu rhan. Ac mae gan hyn oblygiadau enfawr i'w hurddas a chywirdeb yr hyn y mae gweithwyr cymorth yn cael ei glywed. Felly, rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad cyntaf, i sicrhau bod cyfieithu annibynnol a phroffesiynol yn llawer mwy hygyrch, a byddem yn awyddus iawn i ddarganfod a yw hynny wedi gwneud gwahaniaeth amlwg maes o law.

Nid yw'n syndod mai dealltwriaeth gyfyngedig sydd gan fenywod sy'n fudwyr yn aml o beth yw eu hawliau a'r cymorth sydd ar gael iddynt, a hynny am nad ydynt yn gyfarwydd ag unrhyw ddeddfau y gallem fod wedi'u cyflwyno yma, neu'n wir, yn Senedd y DU. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn defnyddio'r rhwydweithiau anffurfiol y gallai pobl—rydych yn gobeithio—gael mynediad atynt gan bobl eraill yn eu cymuned, gan aelodau eraill o'u grŵp ethnig penodol, gan eu bod yn fwy tebygol o droi atynt os nad oes ganddynt rwydweithiau eang iawn gyda phobl eraill. Felly, mae angen i strategaethau codi ymwybyddiaeth ac atal ddigwydd ar lawr gwlad, boed hynny ar lafar, WhatsApp, neu ffyrdd eraill, a chymeradwyaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i siarad â goroeswyr i lywio effeithiolrwydd y strategaeth honno. Rydym yn croesawu sefydlu’r panel craffu a chynnwys lleisiau goroeswyr yn fawr, ac edrychwn ymlaen at weld pa argymhellion y byddant yn eu gwneud.

Ar fater diffyg hawl i gyllid cyhoeddus, mae’n benbleth enfawr i ddarparwyr gwasanaethau nad ydynt yn cael eu hariannu i wneud y math hwn o beth. Golyga hefyd fod anawsterau i Lywodraeth Cymru, gan fod diffyg hawl i gyllid cyhoeddus yn golygu yn union hynny, ac mae ar y ffin arw rhwng cyfrifoldebau datganoledig a'r rhai a gedwir yn ôl. Yn syml, ni chaniateir iddynt gael mynediad at wasanaethau y telir amdanynt gan bwrs y wlad, felly os ydynt wedi dioddef ymosodiad corfforol, efallai y gallant fynd i'r adran achosion brys a chael triniaeth frys, ond yn sicr, ni fyddant yn gymwys i gael gwasanaeth cwnsela i ymdopi â'u trawma.

Nododd yr adroddiad 'Uncharted Territory' y llynedd fod mater cyllid ar gyfer darparu lloches i fenywod a merched mor flaenllaw yn 2013 ag yr oedd yn 2021, a dengys data gan Cymorth i Fenywod Cymru gynnydd o 29 y cant yn 2020-21 yn nifer y goroeswyr y gwrthodwyd lle mewn lloches iddynt oherwydd diffyg adnoddau o gymharu â’r flwyddyn ariannol flaenorol, ac yn amlwg, mae'r sefyllfa honno’n peri cryn bryder. Gall sefydliadau wneud cais i’r Swyddfa Gartref i atal yr amod dim hawl i gyllid cyhoeddus oherwydd tystiolaeth o drais, ond mae’n annhebygol y bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn syth, nac yn wir, y bydd ateb yn cael ei roi y diwrnod wedyn. Mae dim hawl i gyllid cyhoeddus yn bolisi DU gyfan mewn maes cyfrifoldeb a gedwir yn ôl, ond mae pethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud o hyd i lenwi’r bwlch. Er enghraifft, yn yr Alban, mae cynllun Ending Destitution Together yn ddull partneriaeth rhwng Llywodraeth yr Alban a llywodraeth leol, ac mae'n rhoi’r cyllid llenwi bwlch hwnnw i ddarparwyr gwasanaethau i’w galluogi i sicrhau ar unwaith fod y fenyw'n ddiogel tra byddant yn negodi gyda’r Swyddfa Gartref. Rwy’n deall yn iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn bron i bob un o’n hargymhellion ac wedi rhoi atebion da iawn a chydlynol lle maent ond yn gallu eu derbyn mewn egwyddor.

Y maes nesaf i ni ei ystyried oedd data. Byddai'n ddefnyddiol iawn pe byddem yn gwybod llawer mwy am faint yn union o bobl rydym yn sôn amdanynt ac o ba grwpiau ethnig y dônt, ac a oes unrhyw batrwm penodol i hyn. Yn aml, nid yw darparwyr gwasanaethau yn gofyn i bobl beth yw eu hethnigrwydd, neu'n wir, eu statws mewnfudo mewn llawer o amgylchiadau gan nad ydynt am ymddangos fel pe baent yn gwahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail eu sefyllfa—maent am eu helpu. Felly, mae'r cofnodion yn dameidiog. Nid ydym yn gwybod faint o'r bobl hyn sy'n gweithio, a oes ganddynt blant, felly a ydynt mewn cysylltiad â gwasanaethau cyhoeddus, sy'n llawer mwy tebygol nag os nad ydynt yn gweithio ac os nad oes ganddynt blant i sicrhau eu bod yn eu hebrwng o'r ysgol ac yn y blaen.

Mae argymhelliad 10 yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio data o’r unedau cydraddoldeb, hil ac anabledd i sefydlu llinellau sylfaen er mwyn llywio’r gwaith o fonitro a thargedu gwasanaethau yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn, er ein bod yn nodi y bydd yr ymarferion mapio a’r cytundebau rhannu data y mae angen eu datblygu yn cymryd amser. Mae Sarah Murphy yn aelod o’n pwyllgor, ac yn wyliadwrus iawn ynglŷn â sut y defnyddir ein data, gan bwy, ac at ba ddiben, felly mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi fod gan fenywod mudol ddealltwriaeth glir o’r hyn sy’n digwydd i’w data, ac efallai y bydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw i sicrhau eu bod yn rhoi cydsyniad ar sail gwybodaeth, yn hytrach na nodio'u pennau heb ddeall yr hyn y maent yn cydsynio iddo.

Ni fydd yn syndod i chi fod mudwyr sy'n oroeswyr yn aml yn cael eu hatal rhag rhoi gwybod i'r heddlu eu bod yn cael eu cam-drin rhag ofn i'w data gael ei rannu â gwasanaeth gorfodi mewnfudo. Cawsom sicrwydd nad yw hyn byth yn digwydd, ond ni chredaf y gallwn ddweud 'byth'. Ond o leiaf, safbwynt swyddogol yr heddlu yw na fyddant yn rhannu’r data hwn gyda’r gwasanaethau mewnfudo oni bai fod yr unigolyn hwnnw'n gysylltiedig â mater troseddol difrifol neu derfysgaeth. Fe wnaethom awgrymu bod angen sefydlu mur gwarchod i gyfyngu ar rannu data rhwng asiantaethau ar y rheini sy’n ceisio cymorth mewn perthynas â thrais rhywiol a thrais ar sail rhywedd, fel bod gennym ddarlun llawer mwy cywir. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn mewn egwyddor, oherwydd yn amlwg, nid ydynt yn rheoli’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Ond edrychwn ymlaen at glywed yn y dyfodol pa gynnydd a wneir mewn trafodaethau â phartneriaid datganoledig a heb eu datganoli i ddeall y materion sy’n ymwneud â rhannu data, yr effaith ar fudwyr sy'n ddioddefwyr, ac i ystyried opsiynau ar gyfer mur gwarchod.

Yn gyffredinol, rydym yn croesawu ymgysylltiad y Gweinidog â’n hymchwiliad yn fawr, a’r dull cydweithredol y mae Jane Hutt wedi’i fabwysiadu i gryfhau’r strategaeth newydd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol am y pum mlynedd nesaf i gynnwys adran sy’n ymdrin yn benodol ag anghenion menywod a phlant mudol a'r rheini sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus. Yn ymateb y Gweinidog, mae’n nodi bod cefnogi mudwyr sy'n ddioddefwyr trais a cham-drin domestig a thrais rhywiol, gan gynnwys y rheini heb hawl i gyllid cyhoeddus, eisoes yn cael sylw yn y strategaeth fel blaenoriaeth allweddol. Rydym yn awgrymu bod angen adran benodol yn y strategaeth sy'n addas ar gyfer anghenion menywod mudol gan eu bod mor agored i niwed ac oherwydd y posibilrwydd y byddant yn cwympo i'r bylchau rhwng gwasanaethau. Edrychaf ymlaen at sylwadau pawb arall.

16:35

Fel aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, rwy’n falch o allu cyfrannu at y ddadl hon ar ein hadroddiad ar drais ar sail rhywedd ac anghenion menywod mudol. Cyn imi ystyried rhai o’r negeseuon a’r heriau allweddol a amlinellir yn yr adroddiad hwn, hoffwn ddiolch i gadeirydd ein pwyllgor, Jenny Rathbone, i'n holl staff sydd wedi cefnogi’r ymchwiliad hwn, ac yn wir, i bawb a roddodd dystiolaeth wrth inni wneud ein gwaith. Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y pwyllgor, naill ai’n llawn neu mewn egwyddor. Rwy'n croesawu'r ymateb cadarnhaol ac yn gobeithio y bydd y pwyllgor yn parhau i adolygu’r gwaith dros y 12 mis nesaf wrth i’r Gweinidog roi’r mesurau a nodwyd gan y pwyllgor ar waith.

Roedd y dystiolaeth yn glir fod menywod sy’n ffoaduriaid, yn fudwyr ac yn geiswyr lloches ac sy’n ffoi rhag trais a chamdriniaeth yn wynebu ystod o heriau sydd, mewn sawl ffordd, yn unigryw o gymharu ag eraill. Mae menywod yn y grwpiau hyn yn dueddol o ddioddef lefel uwch o drais, nid yn unig ar eu taith fudo, ond hefyd oherwydd rhwystrau megis oedran, iaith, ynysigrwydd, statws mewnfudo ansicr a thlodi. Ceir setiau o nodweddion sy’n golygu bod y menywod hyn yn wynebu mwy o risg, ac mae angen inni wneud mwy ar eu cyfer. Yn ystod yr adolygiad, roeddwn yn awyddus i sicrhau y byddai mwy o ffocws yn cael ei roi ar feysydd atal ac ymyrraeth gynnar. Roedd llawer o’r dystiolaeth yn cyfeirio at broblemau sicrhau bod ymyrraeth yn seiliedig ar gael gwybodaeth a chymorth i fenywod mudol cyn i unrhyw gam-drin ddigwydd. Roedd rhai o’r rheini’n glir nad yw’r agenda atal ac ymyrryd lle dylai fod, a bod sefydliadau’n tueddu i fod yn adweithiol ar ôl i’r cam-drin trasig ddigwydd.

Yn eu tystiolaeth, dywedodd BAWSO nad oes gwaith yn cael ei wneud ar atal, a chredaf fod hynny’n rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei ariannu. Yn ein hadroddiad, rydym yn nodi sut mae angen clir i leisiau goroeswyr lywio ein dull o gyfathrebu, ac na ddylem danamcangyfrif pwysigrwydd gweithio o fewn y cymunedau i sicrhau bod negeseuon yn cael eu rhannu i helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder, gan fod y ddau beth yn hanfodol i annog dioddefwyr i roi gwybod am eu profiadau. Mae’r pwyllgor wedi croesawu ymrwymiad y Gweinidog i ddatblygu panel craffu a chynnwys lleisiau goroeswyr, ond mae’n rhaid i hyn fod yn fwy na gwrando yn unig, oherwydd heb gamau gweithredu i ymateb i’r heriau a wynebir gan fenywod mudol, bydd y siarad hwnnw’n ddibwrpas. Ein hargymhelliad yw y dylai'r ymgysylltu hwn ddigwydd wrth ddatblygu strategaeth gymunedol ar godi ymwybyddiaeth ac atal, a all ffurfio canllawiau i gyrff statudol. Dyma’r dull cywir, gan fod angen llawer mwy i wella gwaith codi ymwybyddiaeth ac atal, ond gellir cefnogi a dylanwadu ar y cyrff statudol yn yr hyn a wnânt drwy ganllawiau gwell.

Wrth dderbyn hyn, mae angen i’n hail argymhelliad ysgogi’r gwelliant roedd y rheini a roddodd dystiolaeth yn galw amdano. Ynghyd â chynllun manwl i fwrw ymlaen â'r holl argymhellion, rwy'n credu mai gorau po gyntaf y gwnawn ymyrryd i gefnogi menywod mudol sy’n wynebu trais a chamdriniaeth. Diolch yn fawr iawn.

16:40

Mae prif bwyslais ein hargymhellion yn ymwneud â gwella cymorth i grŵp penodol o fenywod, sy’n rhy aml yn cael eu hesgeuluso a hyd yn oed yn anweledig i gymdeithas. Rwy'n sicr wedi clywed tystiolaeth a fydd yn aros gyda mi am byth am brofiad goroeswyr o gymunedau mudol. Gwnaethom edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i sicrhau bod y menywod hyn yn cael eu gweld, eu clywed, eu cefnogi, a'u bod yn gallu teimlo'n ddiogel. Rwy'n croesawu ymrwymiad diymwad y Gweinidog i fynd i’r afael â’r lefelau o drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru, a chredaf fod ymateb y Llywodraeth i argymhellion ein hadroddiad yn adlewyrchu hyn.

Mae canoli llais goroeswr yn rhywbeth sy'n cael ei honni’n aml gan strategaethau, ac mae’r Llywodraeth yn cyfeirio yn ei hymateb i’r adroddiad at y cynlluniau gweithredu trawsbynciol niferus sy’n ymwneud â chefnogi menywod mudol sy’n ceisio gwneud hyn. Rwy’n derbyn bod y gwaith yn mynd rhagddo, ond hoffwn bwysleisio inni ddod o hyd i lawer o enghreifftiau o achosion lle nad oedd unrhyw un wedi gwrando ar oroeswyr a'u cymunedau nac wedi ymgynghori digon â hwy. Roedd hyn i'w weld yn arbennig o wir am ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ynghylch yr hyn sy'n cyfrif fel cam-drin, a phryd a ble i gael cymorth. Mae'n rhaid inni wneud mwy i sicrhau ein bod yn ymgysylltu â menywod o bob diwylliant a chenedligrwydd, i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn, eu bod yn ymwybodol o'u hawliau, a’u bod yn gallu ceisio cymorth os oes angen—pethau syml iawn, fel rhai o’r pethau y cyfeiriodd Jenny Rathbone atynt: deall bod menywod yn fwy tebygol o weld hysbyseb ar fws nag ymweld â gwefan, gan fod allgáu digidol yn rhwystr mor enfawr, gan ddeall lle mae menywod mudol, yng ngeiriau un o swyddogion BAWSO, 'yn cael mynd'. Dywedodd menywod mudol y gwnaethom siarad â hwy fod y cyfryngau traddodiadol yn fwy hygyrch iddynt na’r cyfryngau cymdeithasol, ond fel y dywedodd Jenny Rathbone, fe wnaethant bwysleisio bod yn rhaid i’r cynnwys hwn fod ar gael mewn gwahanol ieithoedd.

Credaf mai’r hyn y mae’r adroddiad hwn hefyd yn ei amlygu unwaith eto, a chyfeiriodd Jenny at hyn, yw’r ffin arw rhwng y pwerau a’r cyfrifoldebau datganoledig a’r pwerau a gedwir yn ôl y siaradwn amdanynt mor aml yn y lle hwn, Weinidog, yn enwedig mewn perthynas â materion cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Roedd cymaint o’r dystiolaeth a glywsom yn ymwneud â’r modd y mae polisi dim hawl i gyllid cyhoeddus Llywodraeth y DU yn rhwystr mor enfawr i’r rheini sy’n dioddef trais rhywiol neu drais ar sail rhywedd ac sy’n ceisio cymorth. Rwyf am ailadrodd rhywfaint o’r dystiolaeth a glywsom am effaith y polisi hwnnw, gan y credaf fod yna berygl nad yw gwleidyddion bob amser yn ei ddeall yn llawn, neu gallant gael eu dadsensiteiddio i’r stori ddynol y tu ôl i’r jargon a’r termau cyfreithiol a glywn neu a ddarllenwn mor aml mewn adroddiadau a dogfennau polisi. Rhoddodd un cyfrannwr i un o’n grwpiau ffocws, sy'n gweithio i gefnogi menywod mudol sydd wedi profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, enghraifft o geisiwr lloches beichiog heb hawl i gyllid cyhoeddus,

'Mae hi’n llefain bob dydd gan ddweud nad yw hi’n gyfforddus lle mae hi. Mae’r llety yn ofnadwy. Mae mwg yn y gegin, mae drysau wedi torri ac nid yw’n teimlo’n ddiogel. Nid yw’n gwybod pwy yw rheolwr y llety oherwydd ei bod newydd gael ei rhoi yno, ac nid oes neb wedi dod i’w gweld. Gan nad oes ganddi hawl i gael arian cyhoeddus, alla i ddim gwneud cais am fudd-daliadau na llety iddi.'

Ac mae'n rhaid inni gofio bod y rhain yn fenywod sydd wedi dioddef trawma. Roedd rhywfaint o'r trawma y clywsom amdano yn annirnadwy i'r rhan fwyaf ohonom—yn wirioneddol annirnadwy. A golyga'r polisi hwn nad oes cymorth ar gael i’r menywod hyn sydd cymaint o angen ein cymorth.

Ond mae ein hadroddiad yn gwneud argymhellion pwerus a allai fod o gymorth gwirioneddol i geisio sicrhau bod y ffin arw'n cael ei llyfnhau i'r menywod hyn mewn rhai achosion. Roedd yn amlwg y byddai cronfa argyfwng y gall darparwyr gwasanaethau gael mynediad ati i gefnogi menywod mudol sy’n oroeswyr trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd ac sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus, yn seiliedig ar ddull Llywodraeth yr Alban, yn ddefnyddiol iawn, ac rwy’n falch iawn o weld bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn a hoffwn eich annog i'w roi ar waith fel mater o frys. Byddai ein nod i fod yn genedl noddfa yn cael ei gefnogi mor dda gan y dull hwn. Ac o ystyried rôl ganolog statws mewnfudo yn y dystiolaeth a glywsom a’r cynlluniau brawychus a’r rhethreg ffiaidd a glywn gan Lywodraeth Dorïaidd San Steffan ynghylch eu dull o weithredu a’u hymagwedd tuag at y rheini sy’n ceisio noddfa, mae mesurau fel hyn yn gwbl hanfodol i wrthsefyll hyn yng Nghymru. Rwy’n eich gwahodd, Weinidog, i ymuno â mi i gofnodi ein condemniad o'r galwadau o fewn y blaid Dorïaidd i geisio tynnu’r DU o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol er mwyn cael gwared ar hawliau rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed ar y blaned hon. Mae rhethreg atgas debyg wedi’i hadleisio ar-lein gan Aelodau Ceidwadol yn y lle hwn, sydd hyd yn oed yn fwy cywilyddus wrth inni fynd i mewn i gyfnod y Nadolig, gŵyl sy'n seiliedig ar roi, ar rannu, ar ewyllys da a darparu lloches.

I gloi, yn syml iawn, ni ddylai unrhyw fenyw sy’n byw yng Nghymru fethu cael mynediad at gymorth hanfodol, megis llety â chymorth arbenigol, oherwydd ei statws mewnfudo. Mae gan bawb hawl i fod yn ddiogel ac i gael byw heb gamdriniaeth ac ofn. Rwy’n obeithiol y bydd argymhellion ein hadroddiad yn helpu i sicrhau hynny.

16:45

Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei hymateb ac i fy nghyd-Aelodau a chlercod y pwyllgor am eu gwaith, a’r holl sefydliadau a phobl a siaradodd â ni ac a gyfrannodd at yr adroddiad hwn. Edrychodd adroddiad 'Trais ar sail rhywedd: Anghenion menywod mudol’ ar sawl agwedd ar drais domestig yn erbyn menywod ac anghenion menywod mudol, ac rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion yn llawn neu mewn egwyddor.

Mae llawer o’r argymhellion yn canolbwyntio ar fynediad at wasanaethau a all alluogi menywod i roi gwybod am eu profiadau a chael cymorth heb deimlo cywilydd na chael eu barnu, a hoffwn ddefnyddio fy nghyfraniad heddiw i ymhelaethu ar argymhellion 10 i 13, y mae Jenny Rathbone wedi’u crybwyll, sy’n rhoi sylw i'r materion yn ymwneud â’r data a gaiff ei gasglu a’i rannu ar fenywod mudol sydd wedi profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn ogystal ag amlygu gwaith y grŵp trawsbleidiol ar hawliau digidol a democratiaeth yng Nghymru, a gynhaliodd drafodaeth banel arall yn ddiweddar i archwilio hyn.

Mae argymhelliad 12 yn galw ar Lywodraeth Cymru, yr heddlu ac awdurdodau lleol i fynd i’r afael â phryderon ynghylch rhannu data a pharodrwydd goroeswyr i geisio cymorth. Dywedodd sefydliadau fel BAWSO a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod yr ofn hwn y bydd data'n cael ei rannu â'r gwasanaeth gorfodi mewnfudo a’r Swyddfa Gartref yn atal dioddefwyr rhag rhoi gwybod am eu profiadau. Er nad oes dyletswydd gyfreithiol ar yr heddlu i rannu gwybodaeth â'r gwasanaeth gorfodi mewnfudo, mae’r rheini sy’n gweithio ar lawr gwlad yn dweud wrthym fod hyn yn digwydd, a bod yr ofn hwn yn parhau ymhlith cymunedau ac yn cael ei ddefnyddio gan gyflawnwyr i orfodi dioddefwyr.

Mae Elizabeth o gynghrair Step Up Migrant Women wedi sôn yn ddiweddar am achos menyw a oedd yn dioddef cam-drin domestig risg uchel. Roedd y ddioddefwraig heb ei dogfennu fel rhan o'i chamdriniaeth. Argymhellodd ei gweithiwr achos ei bod yn rhoi gwybod i'r heddlu oherwydd risg uchel y sefyllfa. Wyth diwrnod ar ôl iddynt gyflwyno adroddiad ar-lein i'r heddlu, derbyniodd lythyr gan y gwasanaeth gorfodi mewnfudo. Daeth swyddogion heddlu i'w thŷ, a phan wnaethant sylweddoli nad oedd wedi'i dogfennu, fe wnaethant alw'r gwasanaeth gorfodi mewnfudo o'i blaen. Felly, mae’n adeiladu ar yr hyn roedd Jenny Rathbone yn ei ddweud yn gynharach, ac mae’n adeiladu ar yr hyn roedd Sioned Williams yn ei ddweud hefyd: rwy’n addo i chi, os gofynnwch i fenywod, y bydd ganddynt lawer mwy o straeon am hyn yn digwydd.

Mae argymhelliad 11 yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut mae’n bwriadu sicrhau, pan fydd yn casglu data gan fenywod mudol, fod ganddynt ddealltwriaeth glir o’r hyn sy’n digwydd gyda’u data, a sut y bydd eu data'n llywio penderfyniadau a wneir yn y dyfodol. Mae'n hollbwysig ein bod yn grymuso menywod mudol i wybod pwy'n union sy'n defnyddio eu data a pham. Drwy wneud hynny, byddwn yn cael gwared ar yr ofn sy’n gysylltiedig â rhannu data, gan normaleiddio'r arfer o roi cydsyniad mewn perthynas â'n data personol.

O safbwynt gwahanol, canfu’r grŵp trawsbleidiol fod sefydliadau ar lawr gwlad sy’n helpu menywod mudol yn awyddus i allu cwestiynu sut a pham y bydd awdurdodau’n defnyddio data pan ofynnir amdano ganddynt, felly roedd hyn yn cynnwys cyrff fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gallai’r argymhelliad hwn, a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, eu galluogi i wneud hynny. Bydd blaenoriaethu tryloywder data'n grymuso’r unigolyn a sefydliadau i amddiffyn dioddefwyr rhag niwed posibl mewn perthynas â data ac yn meithrin ymddiriedaeth yn y rheini y mae taer angen lle diogel arnynt i droi ato.

Yn olaf, mae argymhelliad 13 yn amlinellu y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu mur gwarchod sy’n cyfyngu ar rannu data rhwng asiantaethau ar y rhai sy’n ceisio cymorth yn sgil trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd. Byddai mur gwarchod, yn ei hanfod, yn rhoi bloc ar systemau a ddefnyddir gan awdurdodau'r heddlu i rannu data ar ddioddefwyr cam-drin domestig gyda'r gwasanaeth gorfodi mewnfudo. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn mewn egwyddor, gan nodi bod heddluoedd yn cael eu llywodraethu gan reoliadau GDPR y DU, ac mae hyn yn gosod cyfyngiadau ar bwerau Llywodraeth Cymru i orfodi. Ond yn yr Iseldiroedd, clywodd y pwyllgor am bolisi ‘diogel i mewn, diogel allan’, lle gall ymfudwyr â statws mewnfudo ansicr ddod i orsafoedd yr heddlu a rhoi gwybod am droseddau gyda sicrwydd na fydd eu statws mewnfudo yn cael blaenoriaeth neu'n cael ei rannu gyda swyddogion gorfodi mewnfudo. Mae'n ymwneud â gosod cynsail y bydd dioddefwyr yn cael eu hystyried yn ddioddefwyr ac nid yn droseddwyr oherwydd eu statws mewnfudo. Mae arfer da tebyg yn digwydd rhwng awdurdodau'r heddlu yng ngogledd Cymru a BAWSO, a hoffwn annog Llywodraeth Cymru i ystyried hyn wrth gwmpasu polisi cenedlaethol, yn enwedig wrth i drafodaethau barhau am ddatganoli cyfiawnder a phlismona. Yn sicr, roeddech yn llygad eich lle, Sioned, am y ffin arw, gan fod hyn yn ymwneud hefyd â fisas a mewnfudo a’r Swyddfa Gartref hefyd.

Clywodd y pwyllgor gan y dirprwy brif gwnstabl Amanda Blakeman y dylid canolbwyntio ar ddiogelu’r dioddefwr wrth rannu unrhyw ddata, a gallai hyn gynnwys amddiffyniad llys, llety neu fesurau diogelu eraill. Pan rennir data ar ddioddefwyr trais domestig nad yw’n ymwneud â diogelu’r dioddefwr, a phan nad yw'r dioddefwr yn ymwybodol o hynny, mae’n fethiant system.

Hoffwn ein hannog i sicrhau na chaiff unrhyw fenyw ei gadael ar ôl oherwydd hyn, ac y gall pob dioddefwr roi gwybod am eu profiadau a bod yn ddiogel. Mae data, o'i drin yn y modd cywir, yn elfen hanfodol yn y broses o gefnogi dioddefwyr. Fodd bynnag, mewn cenedl noddfa, ni allwn anwybyddu'r ffaith bod menywod mudol sy’n dioddef cam-drin domestig yn parhau i fod yn guddiedig oherwydd y system. Mae'n rhaid inni sicrhau y gallant gael llais yma yng Nghymru, llais heb ofn y systemau hynny a system a fydd bob amser yn ystyried dioddefwyr cam-drin domestig yn ddioddefwyr, ni waeth beth fo’r amgylchiadau.

Ac i gloi, rwy'n sefyll gyda chi, Sioned Williams, i gondemnio'r Torïaid yn San Steffan am unrhyw ffordd y maent yn ceisio tanseilio'r ddeddfwriaeth hawliau dynol. Diolch.

16:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad hwn ar drais ar sail rhywedd sy’n cael effaith ar fenywod mudol, a diolch i bawb a roddodd dystiolaeth, ond yn enwedig y rheini a rannodd eu profiadau bywyd, a’r gwasanaethau arbenigol sy’n eu cefnogi. A dim ond drwy gydweithio, gan gynnwys ystyried yr holl ffynonellau tystiolaeth a'n canfyddiadau, y gallwn sicrhau newid gwirioneddol.

Mae adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn tynnu sylw at lawer o feysydd lle byddwn yn parhau fel Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ein hymdrechion er mwyn amddiffyn menywod mudol rhag trais a chamdriniaeth, a chyhoeddwyd ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i’r adroddiad hwn yr wythnos diwethaf ar 7 Rhagfyr. Gwyddom fod trais a chamdriniaeth yn cael effeithiau sylweddol a pharhaol ar ddioddefwyr a’r bobl o’u cwmpas. Mae adroddiad y pwyllgor, ochr yn ochr â’r adroddiad ymchwil ar drais rhywiol a thrais ar sail rhywedd yn erbyn ffoaduriaid o ddadleoli i gyrraedd—SEREDA—a gafodd ei groesawu gennyf ac a ddaeth i law ym mis Mai eleni, ac adroddiad 'Uncharted Territory’ yn dangos bod hyn yn arbennig o ddifrifol i fenywod sy'n ffoaduriaid, yn fudwyr neu'n geiswyr lloches. Ac mae llawer o’r menywod hyn yn dioddef sawl math o gam-drin, gan gynnwys trais domestig, trais rhywiol, cam-drin ar sail anrhydedd, priodas dan orfod, anffurfio organau cenhedlu benywod a cham-drin mewnfudwyr a masnachu pobl. Ac mae'r grwpiau hyn yn dioddef lefelau uwch o drais, nid yn unig ar eu teithiau mudo, ond hefyd pan fyddant yn cyrraedd pen eu taith. Ac fel y mae Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi’i nodi, mae rhwystrau ychwanegol, megis diffyg rhwydweithiau cymorth, rhwystrau o ran iaith a diffyg hawl i gyllid cyhoeddus, yn aml yn gadael y rheini sy’n cael eu cam-drin heb fawr ddim dewis ond aros i mewn, neu ddychwelyd i sefyllfaoedd peryglus lle maent yn cael eu cam-drin. Mae gan ddioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod, trais rhywiol a cham-drin domestig hefyd y cymhlethdod ychwanegol o ddiffyg hawl i gyllid cyhoeddus, ac maent yn un o'r grwpiau mwyaf agored i niwed ac sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf mewn cymdeithas, fel y mae Aelodau wedi dangos yn glir yn yr adroddiad ac wedi ymhelaethu arno heddiw.

Ni all Cymru, ac ni fydd, yn cadw'n dawel ynghylch camdriniaeth, a dyna pam fod yr adroddiad a’i argymhellion i'w croesawu i'r fath raddau. Rwy'n falch iawn fod yr adroddiad yn cynnwys y gwaith pwysig ac yn gwneud y cysylltiadau â'n hymrwymiad i Gymru fod yn genedl noddfa. Rwyf wedi dweud yn glir ers tro fod ein dull cenedl noddfa yn dangos ein gwerthoedd fel Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun cenedl noddfa yn cynnwys ymrwymiadau clir ar draws y Llywodraeth i leihau’r anghydraddoldebau a wynebir gan geiswyr lloches, ac mae hyn yn cynnwys cefnogi goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Ddydd Gwener, mynychais y sesiwn ar-lein a drefnwyd gan y grŵp trawsbleidiol ar hawliau digidol a democratiaeth yng Nghymru, ac archwiliodd y cyfarfod effaith rhannu data ar fenywod mudol sy’n dioddef trais domestig, ac roedd yn gyfle gwych i drafod yr anghydraddoldebau a wynebir gan fenywod mudol sy’n ffoi rhag cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gydnabod yr ofnau a’r pryderon sydd gan lawer o fudwyr ynghylch pwy a allai gael mynediad at eu gwybodaeth bersonol a sut y gellid defnyddio’r wybodaeth honno mewn gwahanol ffyrdd. Mae’r pryderon hyn yn ddealladwy iawn, yn enwedig pan fyddwn yn ystyried y sefyllfaoedd a’r cyfundrefnau y mae rhai menywod mudol wedi dianc rhagddynt.

Serch hynny, fel y canfu ymchwiliad y pwyllgor, gall ymdrechion i gefnogi menywod mudol gael eu rhwystro oherwydd diffyg data cadarn. Er mwyn galluogi menywod mudol i gael mynediad at y cymorth a'r amddiffyniadau sydd eu hangen arnynt, bydd yna adegau pan fydd angen rhannu data rhwng sefydliadau. Felly, cyflwynodd ein hymateb fel Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol nifer o argymhellion a oedd yn ymwneud â data a rhannu data, ac yn ein hymateb, fe wnaethom nodi mesurau ychwanegol y gellid eu rhoi ar waith i sicrhau canlyniadau gwell i ddioddefwyr trais ar sail rhywedd. Rydym yn deall y pryderon ynghylch rhannu data rhwng sefydliadau, sydd, unwaith eto, wedi’u trafod heddiw, ond rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod angen i ddioddefwyr camdriniaeth gael dealltwriaeth glir o’r hyn sy’n digwydd gyda’u data, a lle bo’n briodol, eu bod yn cydsynio i'w data gael ei rannu.

Yn 2021, sefydlodd Llywodraeth Cymru, ar y cyd â phartneriaid o’r sector arbenigol trais yn erbyn menywod, grŵp llywio i adolygu’r cymorth sydd ar gael i’r rheini sy’n ffoi rhag trais a chamdriniaeth ac sydd heb unrhyw hawl i gyllid cyhoeddus. Mae'r grŵp hwn wedi'i gadeirio gan y cynghorwyr cenedlaethol ar gam-drin ar sail rhywedd, ac mae’n hollbwysig er mwyn dod o hyd i atebion sy’n gweithio i Gymru. Er nad yw mewnfudo yn fater sydd wedi'i ddatganoli, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru ac i godi ein pryderon gyda Llywodraeth y DU i ddod o hyd i atebion a all fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn.

Rydym yn dal i aros am y gwerthusiad o gynllun cymorth i ddioddefwyr mudol y Swyddfa Gartref, ac er bod y cynllun hwn wedi bod yn achubiaeth i’r dioddefwyr sy’n ffoi rhag camdriniaeth, Llywodraeth y DU sydd wedi creu'r problemau i bobl nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus. Mae gan y cynllun hwn ei gyfyngiadau, ac nid ydym yn bwriadu aros am adroddiad y Swyddfa Gartref. Yn lle hynny, byddwn yn rhoi dioddefwyr a goroeswyr yn gyntaf, ac rydym wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor mewn perthynas â chronfa i gefnogi dioddefwyr mudol heb hawl i gyllid cyhoeddus. Ar hyn o bryd, mae fy swyddogion wrthi’n cwmpasu’r dull gweithredu gorau i Gymru, ac rydym wedi ymrwymo i ddiwallu anghenion y grŵp hwn o ddioddefwyr a goroeswyr.

Fel y dywedwyd heddiw, mae’r trawma annirnadwy y mae menywod mudol yn ei wynebu—dyma ble mae'n rhaid inni ymateb i hyn, ac wrth dderbyn yr argymhelliad hwnnw, gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau fod y gwaith eisoes yn mynd rhagddo. Hoffwn roi sicrwydd i'r Aelodau fod gwaith bellach yn mynd rhagddo ar yr holl argymhellion. Maent yn llywio'r ffordd rydym yn bwrw ymlaen â'n strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Credaf ei bod yn bwysig fy mod yn cyd-gadeirio'r bwrdd partneriaeth cenedlaethol gyda Dafydd Llywelyn, mae hwn yn ddull glasbrint gyda materion datganoledig a heb eu datganoli. Oes, mae ffin arw enfawr yma, onid oes, ac rwy'n cydnabod hynny, ond mae'n rhaid inni symud ymlaen â hynny o ran deall a dwyn i gyfrif swyddogaethau a phwerau awdurdodau a sefydliadau datganoledig a heb eu datganoli. Rydym eisoes wedi gwahodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru i fod ar y bwrdd partneriaeth cenedlaethol—mae hynny'n rhan o'r strwythur llywodraethu i fwrw ymlaen â'n strategaeth, a gyhoeddwyd ym mis Mai. Mae BAWSO eisoes ar y bwrdd. Ac a gaf fi dalu teyrnged i BAWSO am y gwaith arbenigol a wnânt? Maent yn rhan o gynllun peilot y Swyddfa Gartref hefyd. Maent yn hollbwysig i Gymru, ac wrth gwrs, maent yn sicrhau bod gan fenywod mudol lais pwysig fel goroeswyr.

Rydym wedi cynnwys ein gwaith ar ddiffyg hawl i gyllid cyhoeddus yn yr adroddiad blynyddol sydd ar y ffordd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; mae'n cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr. Mae hynny'n ofyniad statudol o dan y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a byddwn yn parhau i adrodd ar ein gwaith i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr yn y blynyddoedd i ddod.

Rydym hefyd wedi ymgysylltu â byrddau diogelu ynghylch canfyddiadau’r pwyllgor mewn perthynas ag adolygu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a bydd hynny’n ein helpu ni a phartneriaid y bwrdd diogelu i ystyried eu cyfrifoldebau.

Felly, yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae hyn yn dyst—yr adroddiad hwn heddiw—i'r brys y mae pob un ohonom, yn unedig yma heddiw rwy'n credu, am ei weld i fynd ati i amddiffyn dioddefwyr. Byddwn yn chwarae ein rhan fel Llywodraeth Cymru. Rwy'n croesawu'r alwad i weithredu yn adroddiad y pwyllgor, ac mae hwn yn uchelgais sydd wedi’i nodi yn ein rhaglen lywodraethu, sy’n datgan yn glir ein bod am i Gymru fod y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw. A gadewch inni fod yn glir, nid rhai menywod yn unig a olygwn, ond pob menyw: menywod sydd wedi gorfod ffoi rhag gwrthdaro, menywod heb hawl i gyllid cyhoeddus, menywod sy'n ceisio lloches, menywod sy'n ffoaduriaid. Ac fel rhan o'n hymrwymiad i fod yn genedl noddfa, rydym yn ceisio cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a dyna yw ein neges i Lywodraeth y DU.

17:00

Diolch yn fawr iawn, a diolch i chi, Weinidog, am sôn ein bod hefyd wedi clywed gan ddau Weinidog arall, y Gweinidog iechyd a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn arbennig mewn perthynas â phwysigrwydd y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant ac a oedd yn cael ei hystyried yn llawn wrth ystyried rhywun sy'n dioddef o drais ar sail rhywedd, ni waeth beth fo'u statws mewnfudo. Felly, edrychwn ymlaen yn fawr at yr adolygiad hwnnw.

Diolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor am eu sylwadau yn dyfnhau'r materion y buom yn eu trafod, oherwydd mae'n rhaid inni gofio y gallai unrhyw un ohonom ddod ar draws y mater hwn yn ein gwaith etholaeth, oherwydd mae menywod mudol ym mhobman. Ni allwch ddweud eu bod mewn un lle penodol; mae pobl ym mhob cwr o Gymru, ac mae angen inni sicrhau bod gan ein holl wasanaethau adnoddau i ymdrin yn briodol â'r mater pan fyddant yn dod ar draws menywod mudol sy'n dioddef trais ar sail rhywedd.

Ac fe glywsom enghreifftiau—. Yn ogystal â'r straeon dirdynnol y soniodd Sioned amdanynt, fe glywsom lawer o enghreifftiau da o arferion da gan wahanol asiantaethau lle roedd merched mudol wedi datgelu tystiolaeth o fod yn ddioddefwyr trais domestig, lle roedd yr heddlu, ysgolion, cyflogwyr, gwasanaethau iechyd, canolfannau cymunedol a chyrff cynghori gwirfoddol i gyd yn deall bod angen iddynt weithredu a pheidio â chadw'n dawel, ac wedi cyfeirio pobl, yn bennaf at BAWSO neu sefydliad arbenigol arall, oherwydd yn aml, mae'r rhwystr iaith yn sylweddol iawn. Ond wrth gwrs, nid oes gennym syniad faint o fenywod sy'n rhy ofnus i roi gwybod am eu profiadau ac sy'n parhau i fod mewn perthynas dreisgar.

Rwy'n canmol y gwaith rydych yn ei wneud gyda Dafydd Llywelyn, un o'r comisiynwyr heddlu, oherwydd mae'n faes anodd iawn, onid yw? Fel y crybwyllwyd gan Sioned Williams, mae'r tryblith sy'n gysylltiedig â'r polisi hawliau dynol yn creu amgylchedd gelyniaethus i bobl sy'n ffoi rhag gwahaniaethu, newyn a gwrthdaro, ac os ydynt yn rhy ofnus i roi gwybod am eu profiadau oherwydd eu bod yn meddwl y gallent gael eu hanfon yn ôl i'r lle y daethant ohono, gallwch weld ei fod yn ei wneud yn anoddach byth iddynt gael yr help lle mae ei angen. Yng ngoleuni'r pryderon a godwyd yn gynharach am ymddygiad gwael yn yr heddlu a'r gwasanaethau tân, mae'n rhaid inni sicrhau bod yr holl wasanaethau yn deall ein bod yn genedl noddfa, a bod angen inni ymateb yn briodol pan fo goroeswyr trais yn rhoi gwybod am eu profiadau, ni waeth beth fo'u statws mewnfudo, ni waeth beth fo'u gallu, ar y pwynt hwnnw, i gael mynediad at arian cyhoeddus. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Gweinidog, sy'n amlwg yn angerddol iawn dros sicrhau bod y pwnc hwn yn cael sylw priodol hyd eithaf ein gallu. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau eraill yn gweld bod yr adroddiad hwn o fudd.

17:05

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi Plant

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar dlodi plant, a galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8165 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y ffaith bod gan Gymru'r cyfraddau tlodi plant uchaf yn y DU.

2. Yn cydnabod bod yr argyfwng costau byw presennol yn gwaethygu tueddiadau diweddar sydd wedi gweld cyfraddau tlodi plant yn cynyddu yng Nghymru, er gwaethaf addewid Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020.

3. Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru yn meddu ar strategaeth i fynd i'r afael â thlodi plant ar hyn o bryd, er gwaethaf y ffaith bod Comisiynydd Plant Cymru a grwpiau gweithredu tlodi plant eraill wedi galw dro ar ôl thro am ffocws a gweithredu penodol a brys yn y maes hwn.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth tlodi plant, wedi'i ategu gan dargedau statudol, a hynny ar frys.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae tlodi plant yn bodoli ym mhob rhan o Gymru. Nid yn unig y mae'n bodoli, ond mae'n staen ar ein cymunedau, oherwydd mae tlodi plant yn achosi niwed difrifol a gydol oes i ganlyniadau'r rhai a fydd yn ddyfodol i'n gwlad, a pho hwyaf y bydd plentyn yn byw mewn tlodi, y mwyaf dwys fydd y niwed.

Sawl gwaith y clywsom yr ystadegau brawychus sy'n creu'r niwed hwnnw yn cael eu hailadrodd yn y lle hwn, mewn dadl ar ôl dadl, gan ddyfynnu adroddiad ar ôl adroddiad? Ond mae'n rhaid inni barhau i'w hailadrodd. Mae'n rhaid inni roi ffocws llwyr ar dlodi plant yn y modd y mae'n galw amdano, a chadw'r ffocws hwnnw, a miniogi'r ffocws hwnnw, oherwydd mae'r lefelau tlodi plant a welwn bellach, wedi'u gwaethygu gan yr argyfwng costau byw, yn peri cymaint o bryder. Nid yw cyfradd tlodi plant unrhyw gyngor yn unman yng Nghymru o dan 12 y cant. Mae hynny'n fwy nag un o bob 10 plentyn ym mhob un ward. Meddyliwch am hynny. Meddyliwch am y plant hynny. Ac mae'r lefelau hyd yn oed yn uwch, wrth gwrs—yn llawer uwch—mewn gormod o'n cymunedau.

Ond mae'n rhaid cofio hefyd nad yw hwn yn fater newydd. A'r hyn sy'n cael ei ailadrodd nawr—yn hytrach na'r ystadegau yn unig—gan y rhai sy'n ymgyrchu yn erbyn tlodi, fel y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, sy'n dadlau dros blant a phobl ifanc, fel y comisiynydd plant, sy'n cwestiynu sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i fynd i'r afael â thlodi, fel Archwilio Cymru, a ni ym Mhlaid Cymru, yw bod angen strategaeth newydd arnom i lywio'r gwaith hanfodol hwn, strategaeth gyda thargedau, i ddarparu gwell ffocws a chydgysylltiad ac i lywio'r gwaith sydd angen ei wneud i ddileu tlodi plant.

Mae hon wedi bod yn alwad hirsefydlog, fisoedd lawer cyn i'r argyfwng costau byw a'r argyfwng ynni ddyfnhau'r lefelau echrydus hyn o dlodi plant hyd yn oed ymhellach. Mae'n siomedig gweld gwelliant y Llywodraeth, sy'n teimlo fel gwleidyddiaeth amddiffynnol. Mae'n colli pwynt ein cynnig, sy'n ategu'r galwadau hyn am strategaeth gyda thargedau' i sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas, gyda'r adnoddau a'r pwerau sydd gennym, i gyflawni'r nod rydym i gyd eisiau ei weld—nad oes yr un plentyn yng Nghymru yn dioddef niwed tlodi.

Do, fe gafwyd buddsoddiad. Ond dyna pam mae angen inni fesur ei effeithiolrwydd yn erbyn targedau strategol, gan sicrhau bod arian yn cael ei wario lle mae ei angen fwyaf, lle gall gael yr effaith fwyaf. Mae angen gwerthuso'n well, cydlynu ymdrechion yn well, ac osgoi dyblygu neu atebion tymor byr. Hebddo, yn anochel fe geir dull sydd â bwriad da ond mae'n dameidiog, gan arwain at enghreifftiau fel cynllun peilot bwndeli babanod 2018, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Barnardo's, a wnaeth sicrhau canlyniadau cadarnhaol a llai o stigma i rieni newydd drwy greu llinell sylfaen a sicrhau y gallai pob rhiant ddarparu'r hanfodion sydd eu hangen ar gyfer babi newydd-anedig. Ond ni chafodd ei gyflwyno'n ehangach. Dywedodd Barnardo's, sydd hefyd yn cefnogi galwadau am strategaeth tlodi plant newydd, y gallai hyn, ar adeg pan fo pwysau ariannol enfawr ar y rhan fwyaf o aelwydydd, fod wedi sicrhau bod pob rhiant newydd yn cael cymorth profedig, effeithiol ar gyfer eu teuluoedd ifanc.

O ran y cyfeiriad yng ngwelliant y Llywodraeth at ei strategaeth tlodi plant bresennol, gadewch inni gofio ein bod yn siarad am yr un a fabwysiadwyd dros 10 mlynedd yn ôl, wedi'i diwygio yn 2015, a'r un y dywedodd Archwilio Cymru ei bod wedi dyddio. Ac wrth gwrs, cafodd ei tharged canolog—i ddileu tlodi plant erbyn 2020—ei dynnu'n ôl. Felly, nid yw adroddiad diweddaru ar strategaeth ddi-darged sydd wedi dyddio yn ddigon da mewn gwirionedd, yn enwedig wrth ymdrin â mater mor ddifrifol ac mor ddinistriol â thlodi plant.

Cyrhaeddodd yr adroddiad cynnydd hwnnw ein mewnflychau ar ôl 6 o'r gloch neithiwr, gyda datganiad ysgrifenedig i gyd-fynd ag ef. O ddifrif? Dylai hyn fod ar flaen busnes y Llywodraeth, ac eto dyma ni, yn yr wythnos olaf un o waith cyn y toriad, adroddiad munud olaf. Dim datganiad, dim dadl yn ystod amser y Llywodraeth yn y Siambr i ddatgan beth sydd wrth wraidd gwelliant y Llywodraeth.

Gan droi at yr adroddiad hwnnw, roedd yn anodd iawn dod o hyd i unrhyw werthusiad o gamau gweithredu a nodwyd yn y diweddariad—y niferoedd a gynorthwywyd, yr effaith ar fuddiolwyr, y canlyniadau a gyflawnwyd. Nid yw rhestru'r camau gweithredu a faint o arian a wariwyd yn ddigon. Sut y gwyddom pa wahaniaeth a wnaed i lesiant a sicrwydd economaidd teuluoedd incwm is sydd â phlant yng Nghymru? A yw cynnydd yn unrhyw un o'r meysydd hyn wedi gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd i gyfraddau tlodi plant yn gyffredinol?

Bydd strategaeth wedi'i diweddaru'n cael ei chyhoeddi y flwyddyn nesaf, ond nid oes unrhyw sôn am dargedau, ac o ystyried yr ateb a roddodd y Prif Weinidog i fy nghyd-Aelod Peredur Owen Griffiths ddoe ynghylch yr angen am strategaeth tlodi plant, rhaid imi ddweud fy mod i'n poeni braidd am hynny hefyd, ac ymrwymiad y Llywodraeth iddo. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod eisiau

'i'n cydweithwyr yn y gwasanaeth sifil a'r rhai rydym ni'n gweithio â nhw ganolbwyntio ar...[y] camau ymarferol hynny sy'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau dinasyddion Cymru. Nid yw ysgrifennu strategaethau yn rhywbeth sy'n mynd i roi bwyd ar fwrdd neb na helpu neb i dalu eu biliau tanwydd y gaeaf hwn.' 

Na, rwy'n cytuno nad yw ysgrifennu strategaethau'n bwydo plant llwglyd na'n golchi eu dillad nac yn eu cadw'n gynnes, ond fel y dywedais yn gynharach, mae'n hanfodol gallu rhoi ffocws, targedu, gwerthuso ac ysgogi gwaith ar draws y Llywodraeth.

Yn ddiweddar, ysgrifennodd Melanie Simmonds, pennaeth Achub y Plant Cymru, i ddweud ei bod wedi dod ar draws adroddiad Achub y Plant a gyhoeddwyd 15 mlynedd yn ôl, tua'r adeg yr ymunodd hi â'r elusen. 'Gwrandewch!' oedd teitl yr adroddiad, ac roedd yn seiliedig ar ymchwil a gynhaliwyd gyda 100 o blant a phobl ifanc rhwng pump ac 16 oed a oedd yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel ledled Cymru yn 2007. Dywed,

'Dagrau pethau yw bod yr hyn sydd yn yr adroddiad yn adleisio cymaint o’r hyn rydym yn ei glywed heddiw gan blant a theuluoedd'.

Fe siaradodd y plant a gymerodd ran, meddai,

'am golli allan ar nifer o agweddau o blentyndod gan gynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol. Roedd nifer yn teimlo fel eu bod yn cael eu trin yn wahanol ac yn cael eu bwlio oherwydd y dillad roeddent yn eu gwisgo. Ceir disgrifiadau o sut mae tlodi yn gallu effeithio ar ddiet plant ac arwain at broblemau iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd. Ac roeddynt yn myfyrio ar sut y gwyddent pan oedd eu rhieni yn teimlo’n drist oherwydd na allent brynu’r pethau roedd eu hangen ar eu plant.'

Yna dywedodd:

'A dyma ni yn y flwyddyn 2022 ac yn parhau i glywed straeon am blant mor ifanc â saith mlwydd oed yn dweud wrth ei hathrawes ei bod yn poeni am ei mam, gan iddi ei gweld yn crio am fod yna ddim ond tun o ffa pob yn y cwpwrdd bwyd. Mam arall yn dweud wrthym mai dim ond £50 sydd ganddi yn weddill i fwydo teulu o bedwar wedi iddi dalu ei biliau i gyd ac nad yw’n gwybod ble arall i droi.'

'Rydym hefyd yn clywed am rieni oedd wedi gorfod anfon eu plant i fyw gydag aelodau o’r teulu dros y gwyliau haf oherwydd na allent fforddio eu bwydo, ac am blant yn colli allan ar dripiau i lefydd fel Ynys y Barri oherwydd na allai eu rhieni fforddio y costau trafnidiaeth.'

Mae plant, meddai, yn talu'r pris am yr argyfwng costau byw, sy'n annerbyniol, ac mae angen gweithredu ar frys. Mae'n mynd rhagddi i ofyn beth y gellir ei wneud. Mae'n nodi'n briodol ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i gynyddu budd-daliadau, cael gwared ar y cap ar fudd-daliadau, sicrhau bod cyflogau'n cadw i fyny â chostau. Ond mae hi hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r hyn y mae'n ei alw'n

'targedau penodol a cherrig milltir i fynd i’r afael â thlodi plant  ar frys mewn modd cydgysylltiedig, ar lefel leol a chenedlaethol, gan ganiatáu i’r sector gyhoeddus a’r trydydd sector gydweithio law yn llaw.'

Yn ei adroddiad diweddar, mae Archwilio Cymru hefyd yn nodi

'nad oes targed penodol ar gyfer lleihau tlodi yng Nghymru ar hyn o bryd'

gan argymell bod Llywodraeth Cymru

'yn pennu camau gweithredu cenedlaethol CAMPUS;

'yn sefydlu cyfres o fesurau perfformiad i farnu’r modd y’i cyflawnir a’i heffaith;

'yn gosod targed ar gyfer mynd i’r afael â thlodi a’i leddfu'.

Mae'r comisiynydd plant hefyd yn ddiamwys. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i osod targedau uchelgeisiol i fynd i'r afael â thlodi plant. Dywed:

'Heb dargedau mae'n anodd iawn i mi wneud fy ngwaith a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a gweld pa mor dda maent yn gwneud neu pa mor wael maent yn gwneud.'

Felly, sut y byddai targedau'n helpu? Wrth ysgrifennu am y ddadl dros osod targedau, mae Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan yn dweud y byddent yn

'rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ddatblygu gweledigaeth glir a chydlynol',

yn mesur cynnydd ac yn gwella craffu hefyd. Fodd bynnag, mae hefyd yn rhybuddio'n briodol fod Llywodraethau Cymru olynol,

'wedi datblygu amryw o strategaethau tlodi plant ac wedi gosod targed i'w hun i ddileu tlodi plant erbyn 2020',

ond ni wnaed cynnydd sylweddol. Ond mae'n rhaid dysgu gwersi, meddai Dr Evans, a fyddai'n arwain at osod targedau newydd a allai gael effaith go iawn ar lefelau tlodi—targedau a allai adlewyrchu'r hyn sy'n gyraeddadwy gyda chymhwysedd datganoledig, gan y byddai hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gael ei dwyn i gyfrif am ba mor effeithiol y mae'n gweithredu ei pholisïau ei hun, a byddem yn cytuno'n llwyr â hynny.

Yn bwysicaf oll, meddai

'Yn rhy aml yng Nghymru rydym wedi syrthio i'r fagl o osod targedau uchelgeisiol neu ddatblygu strategaethau a dogfennau sy'n gosod nodau a gwerthoedd ag iddynt fwriadau da ond heb lawer o fanylion ynglŷn â sut y gwireddir y rhain. Felly, dylid gosod unrhyw dargedau tlodi ochr yn ochr ag ymrwymiadau clir a phenodol gan Lywodraeth Cymru ar y mesurau ymarferol y mae'n bwriadu eu mabwysiadu i gyrraedd y targedau hynny.'

Mae hwn yn gyngor hollbwysig. Dyma yw hanfod ein cynnig. Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau. 

17:15

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant ac y bydd Llywodraeth Cymru, yn unol â'i strategaeth tlodi plant gyfredol, yn cyhoeddi ei hadroddiad diweddaru y mis hwn ac yn cyhoeddi strategaeth ddiwygiedig yn 2023.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Darren Millar

Cynnwys fel pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i helpu i leddfu'r pwysau costau byw y mae cartrefi yng Nghymru yn eu hwynebu. 

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch. Rydym yn cefnogi cynnwys y cynnig hwn. Wrth siarad yma yn 2019 i gefnogi cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth, cyllideb a chynllun gweithredu ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, nodais y datganiad gan Gomisiynydd Plant Cymru ar y pryd, sef

'Mae gan Lywodraeth Cymru Strategaeth Tlodi Plant sy’n amlinellu ei dyheadau hirdymor, ond ar hyn o bryd does dim cynllun clir',

a

'dylai Llywodraeth Cymru lunio Cynllun Cyflawni ar Dlodi Plant newydd, a chanolbwyntio ar gamau pendant, mesuradwy'.

Dyfynnais hefyd y canfyddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod

'lefelau tlodi ac amddifadedd yn dal yn uwch yng Nghymru na gwledydd eraill Prydain',

a'r datganiad gan Oxfam Cymru,

'Nid yw'n wir nad yw strategaethau gwrthdlodi'n gweithio; mae'n ymwneud â sut y caiff y strategaethau hynny eu targedu.'  

I fod yn glir, mae tlodi plant yng Nghymru wedi bod ar gynnydd ers 2004, pan godais hyn gyda Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf. Roedd eisoes wedi cyrraedd y lefel uchaf yn y DU cyn y wasgfa gredyd yn 2008, y flwyddyn y cododd i 32 y cant yng Nghymru. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 34 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, tra bod ffigur y DU wedi gostwng i 27 y cant. Y prif reswm am hyn o hyd yw'r ffaith mai Cymru sydd wedi bod â'r twf isaf o ran ffyniant y pen o holl wledydd y DU ers 1999, Cymru sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf ym Mhrydain, a chyflogau yng Nghymru yw'r isaf yng ngwledydd y DU. A hyn oll er inni dderbyn biliynau mewn cyllid a oedd i fod yn gyllid dros dro, a gynlluniwyd i gefnogi datblygu economaidd a lleihau anghydraddoldeb rhwng gwledydd a rhanbarthau.

Mae adroddiad cynnydd Llywodraeth Cymru ar dlodi plant, a gyhoeddwyd neithiwr, yn gyfleus iawn, yn nodi mai Llywodraeth y DU sy'n dal i fod â'r ysgogiadau allweddol i fynd i'r afael â thlodi, gan ddangos meddylfryd, unwaith eto, sy'n canolbwyntio ar drin y symptomau yn unig yn hytrach na mynd i'r afael â'r achosion, ac osgoi'r realiti mai Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am faterion yn cynnwys datblygu economaidd, addysg, sgiliau, tai, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ers bron i 24 mlynedd. Mae'n wirion taflu bai drwy honni mai dewis gwleidyddol oedd cyni. Gallai Llywodraeth Cymru, sy'n mynnu rhagor o arian yn ddiddiwedd, ddysgu gwers gan Denis Healey, Alistair Darling ac wrth gwrs Liz Truss, na allwch fynd yn groes i'r farchnad. 

Erbyn 2010, y diffyg yng nghyllideb y DU oedd y gwaethaf yn y G20, y tu ôl i Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig yn yr Undeb Ewropeaidd. Bu'n rhaid i Ddulyn ofyn am becyn achub gwerth €85 biliwn gan yr UE, Banc Canolog Ewrop a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn gyfnewid am fesurau cyni. Ar ôl ceisio mynd yn groes i'r farchnad i ddechrau, bu'n rhaid i Wlad Groeg weithredu mesurau cyni difrifol fel rhan o gytundeb achub yr UE, Banc Canolog Ewrop a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol. Roedd datganiad cyllideb Llywodraeth Lafur y DU ym mis Mawrth 2010 yn cydnabod bod maint y diffyg yn golygu nad oedd gan y DU ddigon o arian, gyda'r Canghellor Alistair Darling yn cyfaddef y byddai toriadau arfaethedig Llafur mewn gwariant cyhoeddus yn ddyfnach ac yn llymach na thoriadau'r 1980au.

Felly, cafodd cyni ei etifeddu gan Lywodraeth y DU yn 2010, ac fe wnaeth methiant i leihau'r diffyg greu risg o fwy o doriadau gorfodol. Fel y gŵyr pob benthyciwr, ni allwch leihau dyled nes bod incwm yn fwy na gwariant, ac roedd Llywodraeth y DU bron â bod wedi dileu'r diffyg pan darodd COVID-19. Heb hyn, ni allai'r DU fod wedi codi'r £300 biliwn a fenthycwyd er mwyn ein cynnal drwy'r pandemig. O ystyried bod cyfraddau chwyddiant presennol yn uwch mewn 23 o wledydd Ewropeaidd ac 16 o 27 aelod-wladwriaeth yr UE nag yn y DU, gyda'r newyddion heddiw, gobeithio, yn dangos ein bod dros y brig yn y DU, fod y Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi rhagweld bod o leiaf hanner gwledydd yr ewro yn anelu am ddirwasgiad, a bod cyfraddau llog banc canolog y DU yn is nag mewn llawer o economïau mawr, dim ond rhywun gwirion iawn fyddai'n honni bod yr argyfwng costau byw presennol wedi'i greu yn San Steffan. Er gwaethaf angen Canghellor y DU i fynd i'r afael â'r bwlch rhwng cyllid cyhoeddus a ragwelir a'r gofyniad i leihau dyled fel cyfran o gynnyrch domestig gros, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi ystod o gamau ar waith i helpu i liniaru pwysau costau byw. Rwy'n cynnig gwelliant 2 yn unol â hynny.

Rydym angen strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru nawr sy'n canolbwyntio ar gamau pendant a mesuradwy, ac sy'n cynnwys system fudd-daliadau Gymreig gydlynol ac integredig, i ymgorffori'r holl fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd y mae'n gyfrifol amdanynt. Mae angen camau gweithredu go iawn yn seiliedig ar adroddiad 'Left Behind?' Local Trust yn Lloegr, sy'n dangos bod gan ardaloedd tlotach sydd â mwy o gapasiti cymunedol a seilwaith cymdeithasol ganlyniadau iechyd a llesiant gwell, cyfraddau cyflogaeth uwch a lefelau is o dlodi plant o gymharu ag ardaloedd tlotach nad oes ganddynt y pethau hynny, ac mae angen cynllun twf gyda'r sector busnes, y trydydd sector a'n cymunedau, i adeiladu economi Gymreig fwy llewyrchus o'r diwedd. Diolch.

17:20

Mae mwy nag un o bob tri o blant ledled Cymru yn byw o dan y llinell dlodi—o leiaf 10 plentyn mewn dosbarth o 30—ac mewn rhai ardaloedd, mae’r gyfradd hyd yn oed yn uwch, ac yn anffodus, dim ond gwaethygu mae pethau wrth i’r argyfwng costau byw barhau i effeithio ar fwyfwy o bobl. Mae gan Gymru gyfradd tlodi plant uwch na gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, ac er bod y Gweinidog yn iawn i ddweud yn yr adroddiad cynnydd tlodi plant fod nifer o’r ysgogiadau o fynd i’r afael â thlodi, megis pwerau dros y systemau treth a lles, dan gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, nid yw hyn yn golygu bod modd pwyntio bys yn llwyr at y Deyrnas Unedig ynghylch y diffyg cynnydd yma yng Nghymru. Hyd yn oed mewn awdurdodau lleol mwy cefnog, mae o leiaf chwarter y plant yn byw o dan y llinell dlodi ar hyn o bryd. Mae'n broblem enbyd ym mhob rhan o Gymru.

Roedd ystadegau Llywodraeth Cymru ei hun a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn dangos, rhwng 2016 a 2019, fod gan plentyn yng Nghymru 13 y cant o debygrwydd o fod mewn tlodi parhaus. Ymhellach, roedd 31 y cant o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol o 2017 i 2020. Roedd y ffigur hwn wedi cynyddu o'r 28 y cant a adroddwyd arno’n flaenorol, ac mae'n cynrychioli'r ffigur canrannol uchaf ar gyfer holl wledydd y Deyrnas Unedig.

Mae tlodi yn effeithio ar bob agwedd o fywyd plentyn. Yn yr ysgol, gall gau plant allan o gyfleoedd i gymryd rhan, dysgu a ffynnu. Ym mhob ysgol yng Nghymru, mae nifer cynyddol o deuluoedd yn ei chael hi’n anodd fforddio hanfodion bywyd. Mae cyfraddau tlodi wedi’u gwaethygu gan bandemig COVID-19 a rŵan, gyda’r argyfwng costau byw, yn golygu bod cymaint yn rhagor o deuluoedd angen cymorth. Dywed 88 y cant o aelodau NEU Cymru fod y tlodi plant a brofir gan eu dysgwyr wedi gwaethygu ers dechrau 2020, a dangosodd arolwg a gynhaliwyd ganddynt effeithiau enbyd tlodi ar ddysgwyr: dangosodd 92 y cant o ddysgwyr arwyddion o flinder; 86 y cant yn ei chael yn anodd canolbwyntio; 71 y cant yn dangos arwyddion o newyn yn ystod y diwrnod ysgol; 31 y cant yn dangos arwyddion o afiechyd; a 23 y cant yn profi bwlio oherwydd bod eu teulu mewn tlodi. Hynny yng Nghymru yn 2022. Mae pob plentyn yn haeddu mynediad teg i addysg, ond ar eu pennau eu hunain, ni all ysgolion roi’r holl gymorth sydd ei angen ar y dysgwyr hyn.

Fel rydym wedi trafod droeon yn y Siambr hon, mae cost y diwrnod ysgol yn achosi llawer o broblemau i ddysgwyr o deuluoedd incwm isel. Gofynnir yn gyson i deuluoedd gyfrannu tuag at gost gwisg ysgol, tripiau, codi arian at elusen, prydau ysgol a byrbrydau, a darparu offer ac adnoddau ar gyfer prosiectau. Ac er bod cymorth ar gael, nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell, gan olygu bod ysgolion un ai methu gwneud rhai pethau sydd yn cyfoethogi bywydau plant, gan fod eu cyllidebau hwythau wedi eu gwasgu, neu fod y dysgwyr hynny sydd yn methu fforddio yn colli allan.

Mae yna straeon torcalonnus ledled Cymru ynglŷn â phlant yn peidio â dangos llythyrau i rieni, gan nad ydynt eisiau creu straen iddynt—ddim hyd yn oed yn sôn am drip. Ar ymweliad ag ysgol yn fy rhanbarth yn ddiweddar, mi ddywedodd senedd yr ysgol wrthyf eu bod nhw wedi dewis na fyddan nhw'n gwneud nifer o'r gweithgareddau y byddan nhw fel arfer yn eu gwneud oherwydd eu bod nhw'n gwybod y byddai hynny yn creu straen ar rieni. Dyma blant ysgol gynradd yn penderfynu nad ydyn nhw'n mynd i roi straen feddyliol ar eu rhieni oherwydd yr argyfwng costau byw.

Dengys ymchwil fod plant a phobl ifanc o gartrefi llai cefnog yn fwy tebygol o arddangos lefelau uwch o unigrwydd, bod eu boddhad o fywyd yn is, ac nad ydynt yn mwynhau mynd i’r ysgol. Mae’n destun pryder bod yr allgáu cymdeithasol a deimlir gan ddysgwyr incwm isel yn aml yn cael ei waethygu gan fathau eraill o anghydraddoldeb, gyda phlant incwm isel o grwpiau Sipsiwn, Roma, Teithwyr a du yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig ac yn anhapus yn yr ysgol, o gymharu â plant gwyn Cymreig a Phrydeinig o statws cymdeithasol economaidd tebyg.

Mae tlodi plant hefyd yn gadael bylchau amlwg mewn cyrhaeddiad addysgol—rhywbeth y bûm yn trafod â disgyblion o Ysgol Uwchradd Llanishen yn ystod eu hymweliad â’r Senedd ddoe. Clywais ganddynt hwy, a’u hathro, fod cost trafnidiaeth yn rhwystr i rai disgyblion ddod i’r ysgol a bod hyn yn effeithio ar gyrhaeddiad y disgyblion mwyaf bregus. Rwyf wedi codi hyn droeon dros y misoedd diwethaf, ond parhau mae’r broblem a gwaethygu.

Mae’n amlwg iawn bod yr hyn yr ydym yn ei wneud ar y funud ddim yn gweithio a ddim yn mynd yn ddigon pell. Mae angen nid yn unig strategaeth, ond targedau pendant a monitro cyson ohonynt os ydym am fynd i’r afael â’r broblem. Cafwyd ymrwymiad yn y gorffennol i ddiddymu tlodi plant erbyn 2020. Yn 2022, mae’r sefyllfa yn waeth nag y bu erioed. Mae pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu gwell.

17:25

Fel llawer o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae tlodi'n effeithio ar unigolyn ifanc mewn sawl ffordd, o'u iechyd a'u datblygiad gwybyddol i ganlyniadau cymdeithasol ac addysgol. Gall canlyniadau hyn aros gydag unigolyn ar hyd ei oes. Dyna pam ei bod mor anfaddeuol fod y rhan fwyaf o deuluoedd agored i niwed wedi gorfod ysgwyddo baich mesurau cyni Torïaidd dros y 12 mlynedd diwethaf. Mae cyflwyno credyd cynhwysol wedi gadael miliynau o bobl yn waeth eu byd, ac rydym hefyd wedi gweld effeithiau dinistriol y dreth ystafell wely, y terfyn dau blentyn, a'r penderfyniad i rewi'r lwfans tai lleol. Ni ellir diystyru'r rhain bellach fel penderfyniadau anodd ond angenrheidiol. Mae'r blaid Dorïaidd yn parhau i wneud dewisiadau gwleidyddol i ddiogelu'r rhai cyfoethog iawn, tra bod un o bob tri phlentyn ar draws y DU yn byw mewn tlodi.

Rydym hefyd wedi gweld ras i'r gwaelod gyda safonau cyflogaeth o dan eu goruchwyliaeth hwy. Mae cynnydd mewn cyflogau sy'n llawer is na chwyddiant a chontractau dim oriau wedi achosi i gyfraddau tlodi mewn gwaith gynyddu. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud yr hyn a all i liniaru effaith y polisïau hyn. Mae ein plaid yn credu mewn cyffredinolrwydd, na ddylai neb gael eu gadael ar ôl, a dyna pam mae Cymru'n arwain y ffordd gyda phrydau ysgol am ddim i bawb, gofal plant am ddim o ddwy flwydd oed ymlaen, brecwast ysgol am ddim, presgripsiynau am ddim, y cynllun grant amddifadedd disgyblion, a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Mae'r polisïau hyn yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl, a chredwch fi, mae angen hyn nawr yn fwy nag erioed. Mae buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar ac addysg yn parhau i fod yn un o'r ysgogiadau mwyaf pwerus i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, ymgorffori atal, a buddsoddi yng nghenedlaethau'r dyfodol. 

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru'n cynnwys £320 miliwn ychwanegol hyd at 2024-25 i barhau â'i rhaglen hirdymor o ddiwygio addysgol a sicrhau bod anghydraddoldeb addysgol yn lleihau a safonau'n codi. Mae hyn yn cynnwys £30 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal plant a darpariaeth blynyddoedd cynnar, £40 miliwn i elusen Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf, £90 miliwn ar gyfer prydau ysgol am ddim, £64.5 miliwn ar gyfer diwygio ysgolion a'r cwricwlwm yn ehangach, a buddsoddiad o £63.5 miliwn mewn darpariaeth ôl-16. Rwy'n croesawu'r ymroddiad hwn i fuddsoddi mewn addysg a'n pobl iau, ond rhaid i ni dderbyn bod Llywodraeth Cymru wedi'i chyfyngu o ran yr hyn y gall ei wneud tra bo Llywodraeth y DU yn parhau i danariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae gan Gymru boblogaeth fwy oedrannus, mwy o wledigrwydd, cysylltedd trafnidiaeth gwael, a mwy o ddibyniaeth ar gyllid gwasanaethau cyhoeddus, gyda thraean o bobl yn cael eu cyflogi yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae llawer o'r rhain, fel nyrsio a gofal cymdeithasol, yn effeithio mwy ar fenywod, sy'n dal i fod yn brif ofalwyr plant hyd heddiw. Mae angen ariannu Cymru'n well. Roedd hyn yn hysbys pan oeddem yn rhan o Ewrop, gan ein bod yn fuddiolwyr net. Fe dderbyniodd Cymru £245 miliwn yn fwy gan yr Undeb Ewropeaidd na'r hyn roedd yn ei dalu i mewn, ac roedd y budd cyffredinol i Gymru tua £79 y pen yn 2014. Ers hynny, ni chafwyd arian yn lle'r arian hwn. Mae arnom angen system les addas i'r diben, o'r crud i'r bedd sy'n sicrhau nad oes neb yn syrthio i grafangau tlodi, a hyd nes y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud tro pedol ar ei llwybr tuag at gyni, ni ellir cyflawni hyn. Diolch.

17:30

Rŷn ni i gyd yn llawer rhy ymwybodol o ba mor gyffredin yw tlodi plant yng Nghymru. Nid yw e'n ffenomen newydd o gwbl—mae'n fater sydd wedi ei wreiddio yma yng Nghymru am amser llawer rhy hir ac mae'n parhau i gael effeithiau pellgyrhaeddol a niweidiol. Mae Cymru wedi bod ar frig tablau cynghrair ar gyfer tlodi plant ar draws y Deyrnas Gyfunol flwyddyn ar ôl blwyddyn, sydd yn destun cywilydd cenedlaethol. Gyda'r argyfwng costau byw presennol a gyda bwyd, tanwydd, a chostau ynni i gyd yn codi'n aruthrol, mae llawer o deuluoedd a lwyddodd i ddal dau ben llinyn ynghyd bellach yn cael eu gwthio i dlodi.

Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, roedd ffigurau diweddar yn dangos difrifoldeb y sefyllfa yn ein cymunedau gwledig ac arfordirol. Fe welodd nifer o'r ardaloedd hynny yng Nghymru gwymp yng nghyfraddau tlodi plant rhwng 2014 a 2019. Mewn rhai rhanbarthau gwledig, arfordirol, parhaodd tlodi plant i godi'n frawychus. O'r chwe awdurdod lleol yng Nghymru a welodd gynnydd yn y cyfraddau tlodi plant, roedd pump mewn ardaloedd gwledig neu arfordirol, yn groes i sut y gallai gael ei weld yn gyffredin fel mater trefol yn bennaf. Eleni, cyhoeddodd Prifysgol Loughborough ymchwil newydd ar ran y gynghrair Dileu Tlodi Plant. Yng Ngheredigion, roedd mwy na 35 y cant o blant yn byw o dan y ffin tlodi; 33.3 y cant ym Mhowys; 34.4 y cant yng Ngwynedd; a 34.6 y cant yn sir Gaerfyrddin—mae'r rhain i gyd yn fy rhanbarth i. Mae gan sir Benfro, ar 35.5 y cant, sir y mae ei phrisiau tai ymhlith yr uchaf yng Nghymru a chyda nifer uchel o ail gartrefi, gyfradd tlodi plant uwch na holl awdurdodau lleol eraill Cymru. Mae tlodi plant mewn ardaloedd gwledig yn cael ei yrru gan incwm isel a chanlyniadau economaidd gwael, diffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a thlodi tanwydd, darpariaeth wael o wasanaethau cyhoeddus, rhenti uchel, a phrinder tai fforddiadwy, ymhlith ffactorau eraill. Ynghanol cyfoeth cymharol rhannau o Ganolbarth a Gorllewin Cymru, mae tlodi plant yn aml o'r golwg yng ngŵydd pawb.

Mae Sefydliad Bevan yn tynnu sylw at y ffaith nad yw ffigurau sy'n ymwneud â thlodi plant yn cyfleu effaith wirioneddol yr amddifadedd a'r tlodi hwn ar fywydau'r plant sy'n ei brofi. Pan fydd plant yn tyfu i fyny mewn tlodi, fe wyddom y bydd yr effeithiau'n aros gyda hwy am weddill eu bywydau. Mae'n amlwg fod y niwed yn cael ei wneud yn gynnar. Yn ôl Sefydliad Bevan, gall tlodi plant effeithio ar iechyd meddwl, hunan-ddelwedd a hunan-barch, iechyd corfforol ac addysg yn nes ymlaen mewn bywyd. Gall hefyd effeithio ar lwybrau gyrfa dilynol, y gallu i gymdeithasu'n normal, ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd o fod yn gysylltiedig â throsedd, naill ai fel dioddefwr neu droseddwr. Weinidog, er fy mod yn deall mai'r Torïaid yn San Steffan a'u rhaglen o gyni didostur a ddylai fod yn atebol am waethygu amddifadedd ar draws y DU, Plaid Lafur Cymru sydd wedi llywodraethu yng Nghymru ers dechrau datganoli. Ar ôl dathlu canmlwyddiant eich plaid yn ddiweddar, a oes perygl efallai mai methiant i drechu tlodi plant fydd y gwaddol a adewir ar ôl gan Lywodraeth Lafur Cymru?

Rwy’n eich annog chi, Weinidog, i ailddyblu eich ymdrechion gan ddefnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i chi a'r Llywodraeth hon i fynd i'r afael â thlodi plant. Diolch yn fawr.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:35

Gadewch inni fod yn glir: mae'r ffaith bod tlodi'n bodoli yn fethiant llwyr ar ran y Llywodraeth—Llywodraethau ar ddwy ochr yr M4. Mae'n fethiant ar ran y ddwy Senedd, ac mae'n fethiant system economaidd, system sy'n annog ac yn elwa o'r elw mwyaf posibl ar draul pobl, oherwydd dyna rydym yn siarad amdano yma—pobl. Dyna sydd y tu ôl i ffigurau tlodi—pobl a'u teuluoedd. Mae'r ffaith bod 31 y cant o blant Cymru'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn drosedd.

Cyn y pandemig, gwelsom duedd gynyddol yn y lefelau o ddiffyg diogeledd bwyd yn y cartref. Mae'r duedd honno wedi gwaethygu oherwydd yr argyfwng costau byw, gan ddyfnhau'r caledi ariannol a wynebir gan lawer o aelwydydd ledled Cymru. Mae tlodi bwyd yn broblem fawr. Mae bodolaeth banciau bwyd ynddo'i hun, heb sôn am y cynnydd yn eu defnydd, yn ogystal â'r cynnydd mewn mentrau i fynd i'r afael â llwgu yn ystod y gwyliau, yn tystio i system sydd wedi methu. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, rydym yn cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd sy'n gam i'r cyfeiriad cywir. Ymwelais ag Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ddiwedd mis Tachwedd, fy hen ysgol gynradd, i weld y polisi ar waith, ac mae'n rhaid imi ddweud, roedd y neuadd a'r meinciau yn llawer llai nag y cofiaf, ond roedd yn foment falch i mi, o wybod bod Plaid Cymru wedi gwthio i wireddu hyn. Ond mae angen mynd ymhellach. Nid yw tlodi'n dod i ben pan fyddwch chi'n mynd i'r ysgol gyfun neu'n mynd i'r coleg. Dylai cael pryd bwyd yn yr ysgol fod yn rhan sylfaenol o'r diwrnod ysgol.

Er bod prydau ysgol am ddim yn un o'r camau pwysig y gallwn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant a phlant llwglyd, mae bylchau amlwg mewn diogeledd bwyd a maeth, wrth i lawer o blant ei chael hi'n anodd bwyta digon. Yn y 12 mis diwethaf, roedd 14 y cant o bobl yng Nghymru wedi rhedeg allan o fwyd cyn gallu fforddio prynu mwy. Mae adroddiad cynnydd tlodi plant 2022 yn tynnu sylw at hyn. Ar hyn o bryd, mae chwyddiant bwyd wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers 42 mlynedd a rhagwelir y bydd yn codi ymhellach. Mae prisiau cyfartalog y bwydydd rhataf wedi codi mwy nag eitemau bwyd eraill, sy'n golygu bod aelwydydd a oedd cyn nawr yn prynu'r bwydydd rhataf wedi gweld eu biliau'n codi'n frawychus, ac ychydig iawn o le sydd ganddynt i newid i brynu bwyd rhatach. Mae hyn hefyd wedi ysgogi cynnydd yn y galw am ddarpariaethau bwyd mewn argyfwng.

Mae nifer sylweddol o athrawon a staff ysgol yn sylwi ar blant yn dychwelyd i'r ysgol yn llwglyd ar y diwrnod cyntaf ar ôl y gwyliau. Ym mis Gorffennaf 2017, roedd banc bwyd yn Abertawe wedi rhedeg allan o fwyd oherwydd bod plant yn llwgu yn ystod y gwyliau. Mae Ymddiriedolaeth Trussell, lle mae dros draean yr holl fwyd yn cael ei ddosbarthu i blant, yn dweud bod y galw am fwyd yn codi hyd yn oed yn uwch yn ystod y gwyliau. Y gwir yw bod yn rhaid i ni ddiddymu llwgu yn ystod y gwyliau, ac mae angen i hynny ddigwydd nawr. 

Lywydd, ers fy ethol yn 2021, rwyf wedi ymgyrchu i gynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg yn ogystal â chynyddu'r trothwy, a nawr yn fwy nag erioed mae angen gweithredu'r newid hwn. Fe wnaeth y gynghrair Dileu Tlodi Plant gynnal arolwg o 476 o bobl ifanc am yr argyfwng costau byw, ac yn frawychus, dywedodd 97 y cant eu bod yn credu bod costau byw cynyddol yn broblem i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed heddiw. Dyma eiriau unigolyn ifanc 17 oed mewn coleg yng Nghymru: 'Ni allaf ddefnyddio'r gwres mwyach am ei fod yn rhy gostus, ac ni allwn ddod o hyd i unrhyw le i fyw, am fod ein contract rhent yn dod i ben ac mae rhent wedi codi'n aruthrol. Rwy'n casáu brwydro fel hyn. Mae'n gwneud imi deimlo nad oes dim sy'n werth byw ar ei gyfer. Rwy'n oer. Yn fuan, bydd fy nheulu mewn sefyllfa fyw ofnadwy, ac nid wyf hyd yn oed yn gallu mwynhau gweithgareddau eraill am na allaf eu fforddio.'

Wrth gwrs, dylem ymfalchïo yn y lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru, ond dylem hefyd gydnabod nad yw'n ddigon ar hyn o bryd. Nid yw'r cymorth ariannol a ddarperir yn ddigon; nid yw wedi newid ers 2004. Yn ôl y Gweinidog addysg, fe ddylai fod oddeutu £54 yr wythnos heddiw, yn hytrach na £30, sy'n golygu bod Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi torri traean oddi ar werth y lwfans cynhaliaeth addysg mewn termau real dros y degawd a hanner diwethaf. Mae goblygiadau dwfn i'r toriad hwn, yn enwedig gan fod y trothwyon ar gyfer y lwfans cynhaliaeth addysg wedi aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth ers 2011. Mae hyn wedi creu gwahaniaeth mawr rhwng dysgwyr, gan fod yn rhaid iddynt fod gryn dipyn yn dlotach nawr na'u cyfoedion yn ôl yn 2011 i gael hawl i gymorth o gwbl.

Gwrandewais gyda diddordeb mawr ddoe ar y cyhoeddiad ynglŷn â'r £28 miliwn ychwanegol i addysg. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog ar ryw bwynt yn gallu rhoi arwydd a fyddai modd defnyddio rhywfaint o'r cyllid ychwanegol hwnnw ar gyfer y lwfans cynhaliaeth addysg ai peidio. Wedi'r cyfan, mae adroddiad cynnydd tlodi plant 2022 yn dweud bod mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn allweddol i ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru, gan leihau anghydraddoldebau addysgol yn benodol. Os yw Llywodraeth Cymru'n wirioneddol angerddol ynglŷn â chymryd y camau a gwneud y penderfyniadau i leihau anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig â thlodi, gallai ddechrau drwy adolygu a diwygio'r lwfans cynhaliaeth addysg.

I orffen, Lywydd, gall profi tlodi yn gynnar mewn bywyd gael effaith niweidiol ar ragolygon bywyd yn nes ymlaen. Tlodi yw'r her fwyaf sy'n wynebu Llywodraeth Cymru. Mae'n effeithio ar iechyd, mae'n effeithio ar gyrhaeddiad, mae'n effeithio arnom i gyd. Blaenoriaethau—dyna nod y Llywodraeth, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym, yn enwedig gyda'r gyllideb sydd ganddi nawr. Yn fy marn i, rhaid rhoi'r flaenoriaeth honno i fynd i'r afael â thlodi plant. 

17:40

Mae'n rhaid i fi bwysleisio pwysigrwydd y ddadl yma gan ein meinciau ni y prynhawn yma. Mi ganolbwyntiaf i ar y cysylltiad amlwg iawn rhwng tlodi a phroblemau iechyd. Rydyn ni'n mynd trwy gyfnod ariannol enbyd o anodd ar hyn o bryd. Mae hynny'n amlwg o'r gyllideb ddrafft y cyhoeddwyd ddoe, cyllideb efo cyfyngiadau mawr arni hi mewn amseroedd gwirioneddol galed, a does yna ddim syndod yn y cyd-destun hwnnw bod yna gymaint o rwystredigaeth yn ei sgil hi. Ond yn fwy nag erioed, mae gennym ni sefyllfa lle mae arian yn brin i'r mwyafrif, a theuluoedd ym mhob rhan o Gymru yn gorfod ffeindio ffyrdd o arbed arian dros y misoedd nesaf. Ond, wrth gwrs, i'r rhai sy'n byw mewn tlodi gwirioneddol, mae'r misoedd nesaf am fod yn anoddach fyth. Mae'n broblem, wrth gwrs, oedd yn bodoli ymhell cyn yr argyfwng costau byw, ond mae'n gymaint, gymaint gwaeth rŵan. 

Fel rydyn ni wedi ei glywed yn barod y prynhawn yma, yng Nghymru mae'r gyfran uchaf o dlodi ymysg ein plant a phobl ifanc drwy'r Deyrnas Unedig. Mae'r effaith mae tlodi plant yn ei gael ar eu hiechyd nhw, nid yn unig heddiw ond am weddill eu hoes mewn llawer o achosion, yn ddifrifol tu hwnt. Mae deiet gytbwys ac iach yn gallu bod yn ddrud, yn anffodus, fwy fyth felly mewn argyfwng costau byw. Erbyn hyn, mae dros un plentyn o bob pedwar dros eu pwysau wrth ddechrau yn yr ysgol gynradd, a bron i hanner y rheini yn ordew. Ac rydyn ni, wrth gwrs, yn llawn ymwybodol am y cyswllt rhwng plant sy'n byw mewn tlodi a gordewdra. Does dim byd yn newydd yn hyn, ond wrth edrych ar y ffigurau, sydd yn wirioneddol frawychus, ac yna astudio cynlluniau'r Llywodraeth, mae rhywun yn gweld bod yna ddim byd amlwg mewn lle yna sy'n ceisio mynd i'r afael â hyn. Does yna ddim ffocws digonol ar leihau y niferoedd. Yna, mae'n rhaid rhoi llawer, llawer mwy o sylw ar yr ataliol—pregeth rydych chi'n ei chlywed gen i yn ddigon aml yma. 

Sgileffaith gordewdra ymysg ein plant a phobl ifanc ydy rhagor o broblemau iechyd wrth iddyn nhw dyfu i fyny, mwy o bwysau ar ein gwasanaeth iechyd ni. Mae plant sy'n byw mewn tlodi ddwywaith mwy tebygol o ddioddef o ordewdra na phlentyn sydd yn byw y tu allan i dlodi. Rŵan, mae'r camau cyntaf wedi cael eu cymryd i daclo hyn, buaswn i'n licio meddwl, drwy'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru i sicrhau bod pob plentyn yn cael pryd o fwyd iach yn yr ysgol, ond mae'n rhaid gweld llawer mwy. Mae'n rhaid gweld strategaeth bellach gan y Llywodraeth a chynllun yn ei le i sicrhau bod bwyd iach a mynediad at ymarfer corff, drwy sicrhau bod yr adnoddau iawn ar gael, ac ati, ar gael i bob plentyn, a hynny tu fewn a thu allan i waliau'r ysgol. Mi fyddai hynny'n gam gwirioneddol tuag at daclo problemau iechyd yn gyffredinol.

Mae gordewdra yn cael effaith gwirioneddol negyddol yn gorfforol ar blant yn yr hirdymor—diabetes math 2, problemau calon a strôc ac ati—ond mae o hefyd yn cael effaith ar ddelwedd, yn cael effaith ar hunanhyder ac iechyd meddwl unigolion yn gyffredinol. Ac wrth gwrs, mae problemau iechyd meddwl yn gallu dechrau am sawl rheswm. Mae'r niferoedd sy'n dioddef problemau iechyd meddwl yn cynyddu. Rydyn ni'n gwybod hynny. Ac mae'r cynnydd yna wedi bod yn fwy amlwg byth ar ôl y pandemig. Mae rhyw 12 y cant o blant blwyddyn 7 yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, a'r nifer yna'n cynyddu i 22 y cant erbyn blwyddyn 11. Ac fel mae tystiolaeth yn dangos, y plant sydd o deuluoedd llai cefnog eto sy'n dioddef fwyaf. Dyma ichi blant sydd ddwywaith mwy tebygol o gael eu bwlio yn yr ysgol, plant sy'n llai tebygol o allu gwneud ffrindiau neu gadw cylch o ffrindiau agos yn yr ysgol, plant sy'n gweld eu rhieni nhw yn dioddef eu hunain yn sgil y penderfyniadau anodd y maen nhw'n gorfod eu gwneud bob dydd am fod arian yn brin arnyn nhw. Wrth gwrs bod hynny'n mynd i gael effaith ar iechyd meddwl y plentyn. Efo mwy a mwy o blant yn byw mewn tlodi, does yna ddim syndod, nac oes, bod y ffigurau iechyd meddwl yn dal i gynyddu yma yng Nghymru.

I gloi, tra bod ein sefyllfa economaidd ni yn dal i waethygu, y flaenoriaeth, wrth gwrs, rŵan, ydy sicrhau bod y tlotaf yn ein cymunedau ni yn gynnes y gaeaf yma, yn cael bwyd, yn cadw’n iach, ond mae'n rhaid inni, tra'n delio efo'r sefyllfa acíwt honno, gyflymu’r gwaith, i’w wneud o'n llawer, llawer mwy o flaenoriaeth i gymryd y camau ataliol angenrheidiol fel ein bod ni'n codi y mwyaf anghenus allan o dlodi. Rydyn ni angen strategaeth tlodi plant gyda thargedau clir, targedau uchelgeisiol, ac mae arnom ni hynny i'n plant ni ym mhob cwr o Gymru.

17:45

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf am ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon ar y pwnc hynod bwysig hwn, yn enwedig yng nghanol argyfwng costau byw, a fydd, rydym i gyd yn ofni, yn gwthio cyfraddau tlodi plant yma ac ar draws y DU hyd yn oed yn uwch.

Lywydd, mae gan Gymru strategaeth tlodi plant; mae un wedi bod gennym ers 2011, a Chymru hefyd oedd gwlad gyntaf y DU i gyflwyno deddfwriaeth i fynd i'r afael â thlodi plant, a gosodai ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth tlodi plant yn nodi sut y byddwn yn mynd i'r afael ag ef, ac i adrodd bob tair blynedd ar y cynnydd a wnaethom ar gyflawni'r amcanion hynny. Ddoe, cyflwynais ein hadroddiad cynnydd ar dlodi plant ar gyfer 2022 gerbron y Senedd hon, a chyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig. Ac rwyf wedi rhoi ymrwymiad, fel y bydd yr Aelodau'n gweld yn fy natganiad, i adnewyddu ein strategaeth tlodi plant fel ei bod yn adlewyrchu'r amgylchiadau heriol presennol ac yn nodi ymrwymiad o'r newydd i gefnogi'r rhai sydd fwyaf o angen cymorth.

Rydym eisoes yn ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid. Yn wir, yn ein his-bwyllgor Cabinet ar gostau byw, sy'n cyfarfod yn wythnosol, rydym yn ymgysylltu â'r cynghorwyr polisi hynny, a phobl sydd â phrofiad bywyd, gan gynnwys, er enghraifft, y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant—fe wnaethoch chi sôn am eu tystiolaeth heddiw. Ond hefyd, lleisiau plant a phobl ifanc ac fe gymerodd y comisiynydd plant ran, ac fe gawsom y profiad bywyd hwnnw o effaith yr argyfwng costau byw. Ond mae ymgynghoriad ar y strategaeth tlodi plant ar ei newydd wedd yn cael ei ddatblygu nawr, a chawn ein llywio, wrth fwrw ymlaen â'r strategaeth, gan yr ymchwil rydym wedi'i chomisiynu gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar yr hyn sy'n gweithio wrth fynd i'r afael â thlodi a chan edrych ar gymariaethau rhyngwladol, edrych ar ffyrdd y gallwn ddysgu o'r dystiolaeth i symud hyn ymlaen, ond gan ystyried canfyddiadau'r adroddiad diweddar gan Archwilydd Cyffredinol Cymru hefyd, sy'n edrych ar beth arall y gallem ei wneud os ydym am oresgyn yr her fawr sy'n ein hwynebu.

Mae'r tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn wahanol i unrhyw beth y bu'n rhaid inni ei wynebu ers datganoli, a daeth nifer o'n rhaglenni i stop yn ystod y pandemig tra bod eraill wedi'u huwchraddio er mwyn mynd i'r afael ag anghenion brys pobl ledled Cymru. Yn wir, fe wnaethom addasu at ddibenion gwahanol; cawsom ymatebion newydd drwy gydol y pandemig ar bob maes polisi ar draws Llywodraeth Cymru. Ac mewn gwirionedd, mae'r adroddiad cynnydd, fel y byddwch yn ei ddarllen, yn cyfleu'r modd y gwnaethom ailffocysu'r cyllid ac addasu ein gweithgarwch i ddiwallu anghenion pobl yn ystod y pandemig.

Ond mae hwn yn ddull rydym wedi ei barhau wrth inni ymateb i'r argyfwng costau byw sy'n cael effaith anghymesur ar deuluoedd sydd eisoes yn fregus yn ariannol. Fel y clywsom ddoe gan y Gweinidog cyllid yn y datganiad ar y gyllideb ddrafft—'cyllideb ar gyfer adeg anodd mewn adeg anodd'—sy'n heriol, rydym yn parhau i addasu ein dull o sicrhau y gallwn barhau i gefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw yn wyneb storm berffaith o bwysau ariannol. Ac roedd yn hanfodol fod y gyllideb ddrafft honno'n cynnwys £18.8 miliwn ychwanegol i barhau'r cymorth i'r gronfa cymorth dewisol, ac roedd yn cynnwys cyllid i dalu'r cyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol a chymorth ychwanegol i'n peilot incwm sylfaenol.

Ond bydd y gyllideb ddrafft hefyd yn sicrhau y gallwn gynnal yr holl raglenni eraill hynny yng Nghymru sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl, o bresgripsiynau am ddim i brydau am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd—o ganlyniad i'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru wrth gwrs—cymorth tuag at y gost o anfon plant i'r ysgol, ac ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' i sicrhau bod pobl yn manteisio ar yr holl fudd-daliadau y maent yn gymwys i'w cael. Mae'n bwysig fy mod yn ymateb i'r pwynt a wnaethoch am dargedau statudol. Mae Llywodraeth Cymru yn gosod targedau mewn perthynas â rhaglenni unigol sy'n cynorthwyo teuluoedd i ffynnu, ac rydym hefyd yn defnyddio cyfres o ddangosyddion tlodi plant i fesur ein cynnydd ar gyflawni ein hamcanion tlodi plant, a gall yr Aelodau weld y cynnydd a wnaethom yn ein hadroddiad cynnydd ar dlodi plant. Wrth gwrs, cyhoeddwyd hwnnw ddoe. Ac rydym yn cydnabod bod galwadau wedi'u gwneud am dargedau yn y cynllun cyflawni ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant, ac rydym wedi ymrwymo i gael hyn yn rhan o'r gwaith datblygu wrth inni ymgynghori a symud ymlaen.

Ond mae ein hymdrechion gorau yn parhau i gael eu llesteirio gan benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU, a'i pholisïau ehangach ar gymorth lles a chyllido annheg. Mae'r pandemig wedi dyfnhau anfantais i aelwydydd bregus, a nawr mae'r argyfwng costau byw'n cael effaith ddinistriol ar aelwydydd sydd eisoes wedi eu gwanhau'n ariannol. Mae teuluoedd sydd â phlant ifanc yn wynebu risg arbennig, fel y mae Carolyn Thomas wedi nodi, ac oedd, Mark Isherwood, roedd cyni'n ddewis ac mae'n parhau i fod yn ddewis y mae'r Llywodraeth Dorïaidd hon yn y DU yn ei wneud.

17:50

Mark Isherwood a gododd—

Byddwn yn parhau i gefnogi aelwydydd. Beth ydych chi'n ei wneud, Mark Isherwood?

Onid ydych chi'n poeni bod y dull hwnnw o weithredu'n gwneud i chi swnio'n debycach i Liz Truss nag i Alistair Darling?

Tybed, Mark Isherwood, a wnewch chi ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i ddiddymu'r cap gwarthus ar fudd-daliadau a'r terfyn dau blentyn ar fudd-dal plant. Dyna mewn gwirionedd sy'n gyrru plant i fyw mewn tlodi, Mark Isherwood. Gwnawn, fe wnawn bopeth yn ein gallu i gefnogi aelwydydd yr effeithir arnynt gan yr argyfwng, ond mae'r prif ysgogiadau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant, pwerau dros y system dreth a lles, yn nwylo Llywodraeth y DU. Mae camreolaeth Llywodraeth y DU ar yr economi dros y 12 mlynedd diwethaf—12 mlynedd—wedi'i ddwysáu gan gyllideb fach drychinebus Liz Truss ym mis Medi, wedi gweld Llywodraeth y DU unwaith eto yn llithro i ddirwasgiad, a ble rydym ni? Mae degawd o gyni wedi gwneud y DU yn un o'r cymdeithasau mwyaf anghyfartal yn y byd datblygedig, ac rydym yn mynd i mewn i ddirwasgiad mewn sefyllfa wannach nag unrhyw un o economïau eraill y G7. Gallwn barhau—mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, Banc Lloegr, i gyd yn cydnabod trychineb polisïau'r Torïaid. Lefelau uwch nag erioed o chwyddiant—a gadewch inni wynebu'r ffaith bod chwyddiant yn taro'r bobl dlotaf yn llawer caletach na'r bobl fwyaf cyfoethog, lawer iawn yn galetach yn achos prisiau bwyd a thanwydd.

Felly, fe wnaf orffen fy nghyfraniad, Lywydd, drwy ddweud: a gawn ni i gyd ymuno gyda'n gilydd i gydnabod yr hyn rwyf wedi'i ddweud ynghylch symud ymlaen gyda'r strategaeth tlodi plant ar ei newydd wedd? A gawn ni ymuno gyda'n gilydd yn y Siambr hon heddiw a gwneud tair galwad ar Lywodraeth y DU, ychydig o gamau ymarferol a fyddai'n cael effaith uniongyrchol ac effaith gadarnhaol ar y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw, sef ein plant a'n pobl ifanc? Yn gyntaf oll, a wnewch chi ymuno â mi i alw ar gwmnïau ynni i amsugno cost taliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid sy'n rhagdalu? Maent yn wynebu risg arbennig o gael eu datgysylltu ar hyn o bryd, wrth inni siarad, yn ein gwlad ni. A wnewch chi alw hefyd ar Lywodraeth y DU i gynyddu'r taliad disgresiwn at gostau tai a lwfansau tai lleol? Bydd hynny'n helpu i ddiogelu pobl fregus sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ac yn helpu'r Llywodraeth i arbed arian mewn gwirionedd. A hefyd, a wnewch chi gydnabod mai'r artaith o orfod aros am bum wythnos am daliadau credyd cynhwysol yw achos sylfaenol caledi ariannol a gofid difrifol i lawer o bobl? Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i'r oedi niweidiol a diangen hwnnw.

Felly, yn olaf, yn fwy hirdymor, mae maint yr ymgymeriad i atal a chodi pobl allan o dlodi yng Nghymru yn aruthrol. Mae'n rhaid i ni wneud ein rhan. Mae'n rhaid i ni chwarae ein rhan—rydym yn cydnabod hynny fel Llywodraeth Cymru—i gefnogi pobl, i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n difetha bywydau pobl, i greu dyfodol cadarnhaol i bawb. Ond mae'n rhaid i ni weld gweithredu pendant gan Lywodraeth y DU i wneud yr un peth i atal cenhedlaeth arall o blant rhag llithro o dan y ffin dlodi diolch i 12 mlynedd o gyni a thrychinebau'r Llywodraeth hon yn y DU o ran y dirwasgiad.

Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol mai Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau allweddol, nid yr holl ysgogiadau, ond yr ysgogiadau allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, y pwerau dros systemau treth a lles. Dywedodd fod y cynnydd wrth fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru yn parhau i gael ei lesteirio gan benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn San Steffan, sy'n dylanwadu ar lefelau tlodi yng Nghymru ac sy'n cael eu teimlo'n fwyaf difrifol gan y rhai sydd eisoes dan anfantais. Rwy'n cytuno'n llwyr—enghraifft arall o sut nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru a'r ffordd y mae'n gwneud cam â phlant Cymru. 

Siaradodd Mark Isherwood lawer am y mater hwn. Nid wyf yn adnabod ei fersiwn ef o hanes economaidd diweddar mewn gwirionedd, ond roeddwn yn cytuno â'i bwynt fod hanes hir i'r mater hwn yma yng Nghymru, ac roeddwn yn cytuno gyda'i gefnogaeth i alwadau am system fudd-daliadau Gymreig. Oherwydd mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod bod ganddynt bwerau i godi trethi. Maent yn gweinyddu ystod o gynlluniau amddiffyniad cymdeithasol, gyda llawer ohonynt yn cael sylw yn yr adroddiad cynnydd, sy'n caniatáu trosglwyddo arian i ddinasyddion Cymru, gan gynnwys, fel y nododd Luke Fletcher, y lwfans cynhaliaeth addysg, y grant amddifadedd disgyblion. Dyna pam ein bod ni ar y meinciau hyn, ac ymgyrchwyr gwrthdlodi, eisiau gweld system fudd-daliadau Gymreig gydlynol a symlach. 

Siaradodd Rhun am y cysylltiad ofnadwy a gofidus rhwng tlodi a materion iechyd, ac mae'r rhain yn broblemau iechyd a fydd yn digwydd nawr ac am weddill bywydau pobl ifanc a phlant. Soniodd am bwysigrwydd gwaith ataliol yn hyn o beth. Soniodd Heledd Fychan ynglŷn â sut mae tlodi'n effeithio ar bob agwedd ar fywyd plentyn, a soniodd Cefin am y modd y mae'n broblem ym mhob rhan o Gymru, hyd yn oed rhannau annisgwyl o Gymru, llefydd fel sir Benfro, llefydd rydym yn eu hystyried yn hafanau—hafanau prydferth—gyda lefelau rhy uchel o ail gartrefi a rhenti eithriadol o uchel, fel y dywedodd, sy'n gwthio pobl i dlodi. Ac rwy'n credu bod rhaid cydnabod yr elfen dai ar dlodi plant yn briodol. 

Rwy'n cytuno bod camau da wedi'u gwneud, ac fe wnaeth llawer o'r Aelodau gyfeirio at bethau fel prydau ysgol am ddim i bawb yn yr ysgolion cynradd. Hoffem weld y rheini'n cael eu hehangu, fel y nododd Luke yn gywir. Mae tlodi hefyd yn effeithio ar bobl ifanc. Drwy'r arolwg y cyfeiriodd Luke ato, mae'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi nodi bod pobl ifanc a rhai yn eu harddegau yn cael eu heffeithio mewn ffordd unigryw gan dlodi—mae eu costau trafnidiaeth, eu hanghenion offer yn uwch. Yr hyn sydd ei wir angen ar blant Cymru sy'n byw mewn tlodi yw gweledigaeth glir, llinellau atebolrwydd mesuradwy a chlir, fel nad ydym yn cyrraedd yr un lle ag y gwnaethom y tro diwethaf, ac mae angen hyn ar frys. 

Mae niwed tlodi eisoes wedi digwydd i ormod o'n plant ers cyhoeddi'r adroddiad cynnydd diwethaf, a bydd y niwed hwnnw'n aros gyda hwy, yn amharu ar gyfleoedd bywyd, yn effeithio, fel y clywsom, ar eu hiechyd meddwl a'u hiechyd corfforol, ac mae'r niwed hwnnw'n digwydd nawr. Felly, beth sydd yna i beidio â'i ennill drwy gefnogi ein cynnig? Dylai Llywodraeth Cymru roi ei balchder gwleidyddol o'r neilltu er mwyn ein plant.

17:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe fyddwn ni, felly, yn gohirio tan y bleidlais. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe fyddwn ni'n symud yn syth i'r bleidlais. Iawn. Fe wnawn ni bleidleisio nawr ar y pleidleisiau ar eitem 7, sef y ddadl rŷn ni newydd ei chlywed—y ddadl gan Blaid Cymru ar dlodi plant. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais—na, sori. Mae yna un Aelod yn dal i bleidleisio.

Mae un Aelod eto i bleidleisio. Rwy'n credu ei fod newydd sylwi.

Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig yna wedi'i wrthod.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru—Tlodi Plant. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 8, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd y bleidlais nesaf, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn, ac mae gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. 

18:00

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru—Tlodi Plant. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 24, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM8165 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant ac y bydd Llywodraeth Cymru, yn unol â'i strategaeth tlodi plant gyfredol, yn cyhoeddi ei hadroddiad diweddaru y mis hwn ac yn cyhoeddi strategaeth ddiwygiedig yn 2023.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, wyth yn ymatal, 14 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru—Tlodi Plant. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 14, Ymatal: 8

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r pleidleisio drosodd. Cyn imi alw'r ddadl fer—

—a gaf fi ddymuno Nadolig hapus i chi i gyd, Nadolig llawen, pan ddaw?

Dwi'n dymuno Nadolig llawen, llonydd a heddychlon i chi i gyd. Nadolig llawen.

9. Dadl Fer: Gwasanaethau Bancio yn Gymraeg

Bydd gennym ni ddadl fer hefyd yn awr, ac mae'n siŵr y gwnaiff bawb adael yn dawel. 

Gall Aelodau adael yn dawel gan ein bod yn dal i drafod yma, ac fe alwaf ar Jack Sargeant i gyflwyno ei ddadl fer, ac i ddechrau dadl olaf 2022. Draw atoch chi, Jack.

Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n falch iawn i gael y cyfle i ddod â'r ddadl bwysig yma i'r Senedd heddiw.

Lywydd, wrth agor y ddadl heddiw, cytunais i roi munud o fy amser yn nadl olaf y Senedd y tymor hwn i Rhun ap Iorwerth. Lywydd, cyflwynais y ddadl hon, o dan y teitl 'Gwasanaeth Bancio yn Gymraeg', yn dilyn mater a gafodd ei ddwyn i fy sylw gan etholwr i mi yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Roeddent wedi penderfynu cofrestru cyfrif banc ar-lein ar gyfer eu plentyn newydd-anedig. Penderfynasant gofrestru'r cyfrif gyda grŵp bancio Halifax. Er mwyn gwneud hynny, roedd yn rhaid iddynt lanlwytho tystysgrif geni. Dyma lle dechreuodd y problemau. Mae dwy ochr i dystysgrifau geni a gyhoeddir yng Nghymru. Nid oedd gwefan Halifax, sy'n rhan o grŵp bancio Lloyds, ond yn caniatáu ar gyfer lanlwytho tystysgrif un ochr. Wel, beth oedd hyn yn ei olygu? Golygai mai 'na' oedd yr ateb gan Halifax. Ni fyddent yn caniatáu i dystysgrifau geni dwyieithog Cymraeg gael eu lanlwytho. Roedd eu system yn glir. Dim ond tystysgrifau geni Saesneg a ganiateid. Yr ateb a roddwyd i fy etholwyr, Lywydd, oedd, 'Teithiwch i'ch cangen agosaf yn lle hynny.' Wel, mae hyn yn codi materion difrifol sy'n peri pryder i mi, ac rwy'n siŵr, i lawer o Aelodau'r Siambr heddiw. Rydym yn ffyrnig o falch o fod yn genedl ddwyieithog, ac mae i ddarparwyr gwasanaethau ariannol beidio â chaniatáu tystysgrifau geni dwyieithog yn rhywbeth na allwn ei dderbyn. Nawr, rwy'n falch imi gael cadarnhad gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, mewn llythyr ataf ddoe, fod Halifax, rhan o grŵp bancio Lloyds, yn sgil cyflwyno'r cynnig hwn, wedi, ac rwy'n dyfynnu:

'cwblhau'r gwaith i ganiatáu i hyn ddigwydd yn ddiweddar'.

Yn amlwg, rwy'n falch iawn, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n falch hefyd, fod y camau hynny wedi'u cymryd. Ond yn syml iawn, ni ddylai fod wedi cymryd dadl Senedd i unioni'r mater. Ond Lywydd, mae hefyd yn codi mater cau banciau. Ledled Cymru, mae banciau wedi cau canghennau, gan honni bod modd cael mynediad at bob gwasanaeth ar-lein. Ond nid yw hynny'n wir. Rydym wedi profi hynny'n barod heddiw. Ond mae hefyd yn wir fod trefi cyfan wedi colli darpariaeth bancio'n llwyr, yn aml er gwaethaf ymgyrchu cymunedol. Ym Mwcle, yn fy etholaeth fy hun, rydym wedi gweld pob un banc yn cau. Ac ar adeg cau'r banc olaf, lansiwyd deiseb gan gynghorydd tref lleol, Carolyn Preece, a aeth yn feirol ledled Cymru ac ar draws y Deyrnas Unedig, gyda degau o filoedd o bobl yn ei llofnodi, yn galw ar fanciau i wrando ar bobl yn eu cymunedau lleol a darparu'r gwasanaethau lleol y mae pawb ohonom eu hangen. Ac yn fy ngwaith fel Aelod o'r Senedd dros Alun a Glannau Dyfrdwy, rwy'n parhau i weithio i agor banc cymunedol cyntaf Cymru ym Mwcle. Diffyg ymatebolrwydd gan fanciau manwerthu ar y stryd fawr i gymunedau lleol fel Bwcle yn fy etholaeth, fel llawer ar draws ein holl etholaethau, sy'n llywio fy ngwaith yn y maes yn rhannol. Rwyf eisiau ei roi fel hyn: rydym wedi cael cam gan fanciau'r stryd fawr, ac mae'r methiant i barchu'r Gymraeg, fel rydym wedi'i ddangos heddiw, yn un o nifer fawr o enghreifftiau.

Lywydd, wrth gwrs y byddai banc cymunedol yn wahanol, ac rwy'n siŵr, pe baech chi'n siarad â Banc Cambria yn yr wythnosau nesaf, byddent yn dweud wrthych pa mor bwysig yw'r Gymraeg iddynt. Ond yn y cyfamser, Lywydd, rwyf eisiau apelio ar bob banc stryd fawr yng Nghymru i fod o ddifrif ynghylch y Gymraeg, i fod o ddifrif ynghylch ein pobl leol a'n cymunedau lleol.

Fel y dywedodd y Llywydd, dyma'r darn olaf o fusnes y Senedd yn y Siambr yn 2022, ac wrth gwrs, roeddwn am daflu goleuni heddiw ar y ffaith nad yw gwasanaethau bancio cystal ag y dylent fod. Wrth gwrs, roeddwn eisiau tynnu sylw at bwysigrwydd Banc Cambria a banc cymunedol Cymru, ond wrth gwrs, roeddwn hefyd eisiau dymuno Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i bob un ohonoch, yr holl Aelodau yma a'r rheini sy'n gweithio yn ein Senedd, ond os caf, Lywydd, rwyf am gyfeirio'n ôl at fy nghyfraniad diwethaf yn nhymor y Senedd ar gyfer 2019 drwy ddatgan eto: y cyfan rwyf ei eisiau ar gyfer y Nadolig yw banc ym Mwcle.

18:05

Da iawn. Rhun ap Iorwerth.

O, nid wyf i fod i wneud sylwadau ar areithiau'r Aelodau, ond fe dorrais reol yno. Da iawn, Jack. Rhun ap Iorwerth. 

Gaf i ddiolch i Jack am gyflwyno'r ddadl fer heddiw yma? Dwi am fynd â chi nôl yn fyr ryw 30 o flynyddoedd. Roeddwn i'n gadeirydd cangen Prifysgol Cymru o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, a ches i fy ngwahodd i fod yn rhan o ddirprwyaeth i fynd i bencadlys Barclays yng Nghymru, ar Queen Street yng Nghaerdydd, i lobïo am allu cael opsiwn Cymraeg ar cash points. Roedd cash points eu hunain yn reit newydd ar y pryd, a Saesneg yn unig oedden nhw. Fe'i eglurwyd wrthym ni fod y banc yn cefnogi'r egwyddor ond bod yna rwystrau technolegol ar y pryd iddyn nhw allu cyflwyno dewis Cymraeg. Wrth gwrs, mi gawson ni cash points Cymraeg yn y pen draw, a dyna fuddugoliaeth fach arall yn hanes yr ymgyrch iaith, Ond, dyma ni 30 mlynedd yn ddiweddarach ac rydyn ni'n dal yn clywed am rwystrau technolegol i wneud rhannau cwbl sylfaenol o wasanaethau bancio yn ddwyieithog. Mae ein canghennau ni yn cael eu cau mewn trefi ym mhob cwr o Gymru, fel y clywon ni gan Jack, canghennau lle roedd pobl hyd yn oed cyn cash points Cymraeg wedi gallu mwynhau gwasanaeth Cymraeg yn gwbl naturiol gan staff dwyieithog ers blynyddoedd lawer. Ond wrth i'r canghennau gau, rydyn ni'n cael ein hannog i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, ond dydy'r rheini yn dal ddim ar gael yn Gymraeg. Dwi'n defnyddio bancio ar-lein yn ddyddiol, mae'n siŵr, a hynny yn gyfan gwbl yn Saesneg, a dydy o ddim yn dderbyniol. Mae bancio a gwasanaethau ariannol yn un o'r gwasanaethau cwbl sylfaenol yna, felly dowch, fanciau, a chwaraewch eich rhan chi yn cefnogi ac annog dwyieithrwydd. 

Diolch, Llywydd. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ariannol a digidol yn flaenoriaeth ac yn hollbwysig i mi.

Mae fy ffocws yn llwyr ar sicrhau cydraddoldeb mynediad i holl bobl Cymru ni waeth beth yw eu sefyllfa ddaearyddol, ddiwylliannol a phersonol. Diolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl, ac rwy'n croesawu ffocws y ddadl ar wasanaethau bancio yn Gymraeg a'n huchelgais i wneud Cymru'n genedl wirioneddol ddwyieithog. 

Ond wrth gwrs, nid yw'r cyfrifoldeb dros ein gwasanaethau ariannol yn y DU, gan gynnwys bancio, wedi cael ei ddatganoli i'r Senedd. Felly, ni all Llywodraeth Cymru sicrhau argaeledd banciau, ond rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r rhai sy'n gallu gwneud hynny. Ac ar y mater penodol hwn, mae'n rhaid inni droi at Gomisiynydd y Gymraeg, sydd â chyfrifoldeb i weithio gyda'r sector bancio yng Nghymru a'u hannog i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Mae hyn yn cynnwys cynnig cymorth i ddatblygu technoleg addas i'w helpu i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Felly, mae'n siomedig iawn clywed am y sefyllfa hon a effeithiodd ar eich etholwr. Am sefyllfa ofnadwy gyda'r babi newydd-anedig yng Nghymru, a'r ffaith nad oedd y system TG a ddefnyddiwyd gan Halifax yn cefnogi'r gwasanaeth ar-lein cwbl ddwyieithog hwnnw. Ac mae'n dangos y pryderon rydych chi a phob un ohonom a Llywodraeth Cymru yn eu rhannu nad yw bancio ar-lein yn gwneud y tro yn lle cangen mewn adeilad chwaith. Ond rydych chi wedi cael effaith yn barod—mae'r Aelod wedi cael effaith enfawr drwy gael ymateb gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, felly mae honno'n fuddugoliaeth go iawn o ran eich dylanwad a rôl y Senedd hon, a'n Haelodau o'r Senedd, ac yn enwedig Jack Sargeant, byddwn i'n dweud, mewn perthynas â'r mater hwn.

Mae yna straeon cadarnhaol yn dod o'r sector bancio. Er enghraifft, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cydweithio â Santander i lansio peiriannau ATM newydd sy'n cofio dewis iaith defnyddwyr, a hefyd mae gan Lywodraeth Cymru swyddogion busnes sy'n cynorthwyo busnesau i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Mae gennym linell gymorth sy'n cael ei lansio yn ystod y misoedd nesaf i gynnig cymorth i fusnesau a darparu gwasanaeth cyfieithu am ddim, ac fe fydd hynny'n ei gwneud hi'n haws i fusnesau drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Hefyd, mae gwaith arbrofol yn cael ei wneud ym maes technoleg i'w gwneud hi'n haws i sefydliadau o bob math wybod a yw eu systemau TG yn gallu darparu gwasanaethau Cymraeg a dwyieithog o safon. Ac rwy'n credu bod sylwadau Rhun ap Iorwerth ar hyn mewn perthynas â bancio ar-lein yn bwysig ac yn berthnasol. Ond wrth gwrs, mae angen arweiniad technegol manwl arnoch yn aml ac mae angen manylebau arnoch wrth lunio systemau cyfrifiadurol, ac mae camau i drin y Gymraeg yn gyfartal wedi'u hymgorffori yn y gwaith hwn, ynghyd â chydnabyddiaeth fod cynifer o bobl mewn cymunedau ledled Cymru eisiau cyflawni gweithgareddau hanfodol drwy gyfrwng yr iaith ddewisol ac yn ddwyieithog. 

Hefyd, nid yw bodolaeth gwasanaethau a chyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn gwarantu y bydd pobl yn manteisio arnynt. Mae'r dystiolaeth ar ddefnydd siaradwyr Cymraeg o wasanaethau dwyieithog yn awgrymu y gall nifer y bobl sy'n manteisio ar wasanaethau Cymraeg gael ei ddylanwadu gan ystod o ffactorau, gan gynnwys hygyrchedd, amlygrwydd y gwasanaeth, canfyddiadau siaradwyr, ansawdd y ddarpariaeth, ymhlith ffactorau eraill. Felly, mae ein ffocws ar ddarpariaeth ddwyieithog yn cynnwys darparu'r gwasanaethau arloesol hynny, fel hybiau bancio a rennir a'n cynlluniau ar gyfer banc cymunedol, sy'n rhoi cyfleoedd i bobl gael eu gwasanaethau bancio yng Nghymru. Ond mae'n rhaid inni ddweud, o'r ddadl hon heddiw, a gyflwynwyd gan Jack Sargeant, rwy'n annog banciau o bob math yn gryf i fod yn llefydd croesawgar a chalonogol ar gyfer ymarfer a magu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg. 

Felly, rwyf am droi'n fyr at y pwynt allweddol am ein banc cymunedol a rhoi diweddariad bach. Hoffwn ddiolch yn fawr i Jack Sargeant am y rôl y mae wedi'i chwarae yn cyflwyno Banc Cambria gyda'i uchelgais i leoli cyfleusterau banc cymunedol yn yr etholaeth. Ac rwyf am ddweud, os byddwn yn cyfarfod eto yr adeg hon y flwyddyn nesaf gyda dadl debyg, gadewch inni obeithio y byddwch wedi cael eich banc ym Mwcle yn anrheg Nadolig. Ond mae cymaint o gymunedau ledled Cymru sy'n aros am y banc cymunedol hwn ac sydd eisiau cyflawni'r gweithgareddau dydd i ddydd hynny drwy gyfrwng eu hiaith gyntaf, y Gymraeg. Bydd hon yn agwedd bwysig iawn ar y banc cymunedol. Bydd yn darparu cyfleoedd i gael gwasanaethau bancio drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Rhan hanfodol o'n dyheadau i gael banc cymunedol yng Nghymru yw sicrhau eu bod yn seiliedig ar werthoedd cyffredin, ac mae'n cynnig cyfle i ddarparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog. Nid wyf yn credu bod hyn wedi'i amlygu ddigon yn ein trafodaethau a'n cwestiynau am y banc cymunedol. Gall ddarparu gwasanaethau wyneb yn wyneb a digidol hygyrch i gwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg mewn sector allweddol o'r economi, gan gynnig cyflogaeth ar yr un pryd, a chyfrannu at darged strategaeth y Gymraeg o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

Felly, mae yna gynnig masnachol nawr ar gyfer sefydlu'r banc cymunedol hwn. Mae'n cael ei ddatblygu gan Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy. Maent wedi gwneud gwaith manwl dros y misoedd diwethaf—cyfarfûm â hwy yn ddiweddar—i lywio eu strategaeth leoli. Un elfen allweddol o'u hystyriaethau oedd yr iaith Gymraeg, ac mae'n amlwg fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn parchu'r ffaith bod hwn yn gynnig masnachol sy'n cael ei ddatblygu gan Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, gyda chymorth gan Cambria Cydfuddiannol Cyf. Felly, nid oes manylion pellach wedi cael eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru ar fanylion penodol y cynlluniau eto, ond rydym yn gobeithio cael y rheini yn y dyfodol agos. Ac yn wir, ysgrifennodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, at Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn ddiweddar, yn amlinellu pwysigrwydd gwasanaethau Cymraeg i ddyheadau Llywodraeth Cymru i gael banc cymunedol yng Nghymru. Felly, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i greu banc cymunedol yng Nghymru a datblygiad model ariannol cynhwysol a chydfuddiannol sy'n gwasanaethu pobl Cymru. 

Ac o ran mynediad at arian parod, rwy'n croesawu'r ymyrraeth gan Link a Swyddfa'r Post i gyflwyno hybiau bancio ar y cyd. A nodwyd bod hynny'n angenrheidiol yn sgil colli banciau'r stryd fawr ledled Cymru, ac mae wedi cael sylw mynych yn y Siambr hon. 

Felly, gan weithio gyda phartneriaid allweddol ar draws y sector bancio, mae Cymru'n cefnogi cyfuniad o fentrau arloesol, amrywiol a chynhwysol a fydd, gyda'i gilydd, yn helpu i gynyddu mynediad at wasanaeth bancio gwirioneddol ddwyieithog ar gyfer holl bobl Cymru. Ac mae dod o hyd i'r ateb gorau, ateb dwyieithog sydd wedi'i deilwra, yn ganolog i'r gwaith hynod bwysig hwn.

A—  

—Nadolig Llawen i chi i gyd. 

Nadolig Llawen, Jack Sargeant—fe gewch eich banc yn ôl ym Mwcle. Diolch.

18:15

Diolch yn fawr i'r Gweinidog. 

A dyna ddiwedd ar ddadl bancio'r Nadolig. Edrychwn ymlaen at fersiwn y flwyddyn nesaf. Ac fe fyddwn i gyd yno ym Mwcle ar gyfer agoriad y banc hwnnw. 

Nadolig Llawen i chi i gyd. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:17.