Y Cyfarfod Llawn

Plenary

07/12/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sydd gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peter Fox.

Tlodi

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi ym Mynwy? OQ58833

Diolch yn fawr, Peter. Mae pobl ledled Cymru, gan gynnwys Sir Fynwy, yn wynebu'r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau. Byddwn yn gwario £1.6 biliwn ar gymorth wedi’i dargedu ar gyfer costau byw a rhaglenni cyffredinol i drechu tlodi a rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl. A galwaf ar bob Aelod i hyrwyddo ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi'.

Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac rwy'n croesawu'r ystod o gymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, gyda’r nod o drechu tlodi yn ein cymunedau. Rwy'n cydnabod bod trechu tlodi'n dasg anodd, ond mae’r adroddiad diweddar gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn nodi rhai meysydd pwysig y gall y Llywodraeth ac awdurdodau lleol eu gwella er mwyn helpu i gynyddu effeithiolrwydd y cynlluniau hynny. Er enghraifft, mae’r adroddiad yn nodi bod y cynghorau’n dibynnu ar gyllid grant tymor byr, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, sy’n aml yn weinyddol gymhleth, tra bo gwendidau yn y canllawiau a ddarperir yn ogystal â chyfyngiadau grant. Yn y cyfamser, traean yn unig o awdurdodau lleol sydd â swyddogion ac aelod arweiniol ar gyfer trechu tlodi, tra bo'r gymysgedd o ddulliau gweithredu a ddefnyddir gan gynghorau yn golygu bod y dirwedd yn gymhleth o ran cyflawni, gyda ffocws a blaenoriaethau gwahanol ym mhob ardal. Yn olaf, mae’r adroddiad yn nodi prinder targedau a dangosyddion, yn genedlaethol ac yn lleol, sy’n ei gwneud hi'n anodd asesu effaith cynlluniau presennol. Weinidog, a gaf fi ofyn sut y byddwch yn ymateb i adroddiad yr archwilydd cyffredinol? Ac a gaf fi ofyn pa gynnydd a wnaed ar y strategaeth tlodi plant ac a fydd hyn yn bwydo i mewn i gynllun gweithredu cenedlaethol ehangach ar dlodi, fel y galwyd amdano yn y gorffennol? Diolch.

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiynau. Yr hyn sy’n amlwg gan yr archwilydd cyffredinol, ac yn wir, o'r ymchwil a gomisiynwyd gennym gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yw bod materion ac anghenion dyfnion, ac mae angen i bob partner chwarae eu rhan, yn enwedig awdurdodau lleol. Ar gyfer ein Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, dywedasant y dylem edrych ar faterion allweddol sy'n effeithio ar dlodi. Un maes oedd cynyddu incwm, a phartneriaeth a sicrhau hefyd ein bod yn mynd i'r afael â materion fel yr amgylchedd a seilwaith. Wrth gwrs, mae llywodraeth leol yn rhan amlwg iawn o hynny. Mae'n rhaid inni fabwysiadu ymagwedd hirdymor tuag at drechu tlodi ac achosion sylfaenol tlodi. Ond credaf fod llywodraeth leol yn chwarae rhan fawr yn hyn. Rwy’n cyfarfod â hwy bob pythefnos gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i drafod yr argyfwng costau byw. Maent yn ymwneud yn rhagweithiol â ni, ac yn wir, maent yn ein cynorthwyo i gyflawni'r hyn sydd wedi bod yn gynllun cymorth tanwydd llwyddiannus iawn. Fe wyddoch inni lansio'r cynllun hwnnw ddiwedd mis Medi. Mae 266,000 o daliadau wedi’u gwneud yn barod, ac rwy’n falch o ddweud bod 5,633 o aelwydydd sir Fynwy eisoes wedi cael y cymorth hanfodol hwn.

Mae pum mlynedd wedi bod ers y penderfyniad i ddod â Cymunedau yn Gyntaf i ben. Hon oedd strategaeth wrthdlodi’r Llywodraeth, ac nid oes un wedi'i rhoi ar waith yn ei lle. Ers hynny, mae lefelau tlodi wedi cynyddu, a byddant yn gwaethygu'n sylweddol oherwydd yr argyfwng costau byw, sy’n prysur ddod yn argyfwng difrifol. Pam nad oes gan Gymru strategaeth wrthdlodi benodol, Weinidog, ac a ydych yn cytuno bod angen un arnom nawr yn fwy nag erioed?

Wel, diolch yn fawr iawn, Peredur. Fel y dywedais, fe wnaethom gomisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i’n galluogi i edrych ar beth yw’r ysgogiadau allweddol. Yn amlwg, yr ysgogiadau allweddol a fydd yn cael effaith enfawr yw treth a budd-daliadau, sydd yn nwylo Llywodraeth y DU. Ac yn wir, mae'n rhaid inni wynebu'r ffaith, o ran ymdrechion Llywodraeth y DU i drechu tlodi, fod pobl yn wynebu penderfyniadau anhygoel o anodd, a byddwn yn dweud bod hyn o ganlyniad i'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi cam-drin ein heconomi, sydd wedi bod yn drychinebus. A nawr, rydym yn agosáu at sefyllfa lle gwyddom, nid yn unig fod pobl yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta, sy'n warthus yn yr oes sydd ohoni, ond hefyd, rydym yn gweld bod disgwyl i'r gyfradd ddiweithdra godi. Felly, rydym yn gwneud ein rhan gyda'r hyn y gallwn ei wneud gyda chynllun cymorth tanwydd y gaeaf, cefnogi ein cronfa cymorth dewisol—ymyriadau tymor byr yw'r rhain—canolfannau clyd a hefyd, yn wir, datblygu ein polisi cymunedau, sy’n fenter drawslywodraethol i fynd i’r afael â’r materion hirsefydlog hyn.

13:35
Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd ers i'r Senedd basio cynnig ym mis Gorffennaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sefydlu cynllun peilot incwm sylfaenol ymhlith gweithwyr mewn diwydiant trwm fel rhan o'r broses o drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon? OQ58839

Diolch, Jane Dodds. Rydym yn blaenoriaethu’r cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer gofalwyr, fel y gwyddoch. Bydd y gwerthusiad o’r cynllun peilot hwnnw’n archwilio’r manteision posibl i bobl sy’n gadael gofal a phoblogaeth Cymru yn gyffredinol. Ond mae swyddogion y Gweinidog Newid Hinsawdd yn arwain gwaith i sicrhau ein bod yn deall yr effeithiau, yr heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r newid i economi carbon isel.

Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, ac a gaf fi ddiolch am eich ymrwymiad, ac ymrwymiad eich tîm, i dreialu incwm sylfaenol cyffredinol, ac i ymchwilio i hyn? Hoffwn grybwyll ffaith arall hefyd yma yn y Senedd: dysgais yr wythnos diwethaf fod tri o bob pedwar o'r ceisiadau sydd ar y gweill i ymestyn cloddio am lo yn y Deyrnas Unedig yma yng Nghymru. Felly, mae’n rhaid inni symud yn gyflym ar y mater hwn. Mae braidd yn siomedig clywed nad oes unrhyw waith pellach wedi’i wneud ar yr agwedd benodol honno ar y cynllun peilot. Ond rwy’n falch o glywed y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn lansio galwad am dystiolaeth ar bontio teg, gan gynnwys casglu tystiolaeth o anghenion ar gyfer ein cymunedau. Oherwydd mae angen gosod rhwyd ddiogelwch economaidd real ar gyfer y gweithwyr hynny ar unwaith, ar ffurf incwm sylfaenol, ynghyd â chamau llym yn erbyn cloddio am lo. Gallant ddiogelu cymunedau yn ogystal â'n planed. Felly, a wnewch chi amlinellu a dweud wrthyf am y cynlluniau sydd ar waith, a'r amserlenni, a sut y gallwn sicrhau'r pontio teg hwn drwy gynllun peilot incwm sylfaenol? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Mae hwn yn waith allweddol o ran ein cynllun Cymru Sero Net, sy'n ei gysylltu â’r cynllun ar gyfer 2026. Fel y gŵyr yr Aelod, rwy’n siŵr, mae galwad am dystiolaeth wedi’i chyhoeddi heddiw gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i roi prawf ar syniadau cynnar ynglŷn â sut rydym yn llunio rhaglen waith y dyfodol, sy'n cysylltu â'r hyn rydych wedi galw amdano. Ond credaf fod yr alwad honno am dystiolaeth yn mynd i edrych ar becynnau gwaith, a llywio gweithgarwch, ac yn amlwg, rydym am i bawb fod yn rhan o hynny. Mae’n rhaid i’r fframwaith ar gyfer pontio teg adeiladu ar sylfaen dystiolaeth ac ymchwil, mae’n rhaid iddo edrych ar faterion fel sut rydym yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau wrth bontio'n deg, ac mae’n rhaid iddo sicrhau’r integreiddio mwyaf posibl ar draws pob sector a chorff. Ond rwy’n ymwybodol o gyfarfod â’r Rhwydwaith Gweithredu Glo, sy'n ymwneud yn benodol â’ch cwestiwn, ddiwedd mis Tachwedd, i drafod incwm sylfaenol a phontio i economi ddi-garbon. Rhaid inni ddeall y problemau, edrych ar yr effeithiau, a chredaf mai ein deddfwriaeth arloesol, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yw'r sylfaen ar gyfer mynd i'r afael â phontio teg. Ond bydd yr alwad am weithredu'n darparu cyfleoedd i fwydo i mewn i'r pwyntiau hyn.

Weinidog, mae nifer o fy etholwyr yn Aberconwy wedi codi pryderon eich bod, yng nghanol argyfwng costau byw, yn dal i fynd ar drywydd y syniad o incwm sylfaenol cyffredinol. Mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ei hanfod yn arbrawf hynod gostus, ac nid yw’n gwneud y tro yn lle cynllun datgarboneiddio dilys. Y bore yma, cawsom dystiolaeth yn y pwyllgor y bydd datgarboneiddio cartrefi ar draws pob sector yn beth costus iawn i Lywodraeth Cymru ei roi ar waith. O ran incwm sylfaenol cyffredinol, mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn aml yn cyfeirio at brofiadau gwledydd eraill. Fodd bynnag, yn Ontario yng Nghanada, canslodd y Llywodraeth daleithiol yno eu cynllun peilot incwm sylfaenol yn 2018, gan ddweud ei fod yn wastraff arian trethdalwyr, ac yn y Ffindir, ni chanfu canlyniadau'r treial incwm sylfaenol cyffredinol a roddwyd i bobl ddi-waith unrhyw wahaniaeth ystadegol mewn statws gwaith rhwng y derbynwyr a'r grŵp rheoli. Felly, mae hyn, mewn gwirionedd, yn gwrthbrofi'r ddadl fod incwm sylfaenol cyffredinol yn helpu pobl i gael gwaith, neu ei fod hyd yn oed yn helpu gweithwyr i bontio i swyddi eraill. Yng ngoleuni’r canlyniadau hyn, Weinidog, a wnewch chi egluro pa wersi rydych wedi’u dysgu o’r cynlluniau incwm sylfaenol cyffredinol aflwyddiannus hyn ledled y byd, ac a wnewch chi wneud tro pedol ar hyn, os gwelwch yn dda?

Wel, Janet Finch-Saunders, rwy’n drist iawn, mewn ffordd, na allech fod wedi cyfarfod â’r bobl ifanc y gwnaethom eu cyfarfod. Mewn gwirionedd, credaf inni gyfarfod â hwy yn eich etholaeth chi yn Llandudno yn ddiweddar. Fe wnaethom gyfarfod â phobl ifanc sy'n gallu cymryd rhan yn y cynllun peilot incwm sylfaenol hwn nawr. Am bobl ifanc ysbrydoledig—pobl â phrofiad o fod mewn gofal a phobl sy’n gadael gofal, ac sydd wedi cael y cyfle, o’r diwedd, yn eu bywydau, y parch gan Lywodraeth Cymru, i fod yn rhan o gynllun peilot incwm sylfaenol. Rhaid imi ddweud, rydych ar eich pen eich hun ar yr ochr honno i'r Siambr mewn perthynas â'r cynllun peilot incwm sylfaenol. Rydych ar eich pen eich hun mewn perthynas â'r 500 o bobl ifanc sy’n mynd i elwa ohono. Yn amlwg, eu penderfyniad hwy yw cymryd rhan ai peidio, ond mae nifer fawr iawn yn cymryd rhan.

Ond hoffwn ddweud, yn bwysig iawn, ein bod yn ei werthuso—mae hynny'n gwbl briodol. Mae'r Aelod yn iawn i ddweud 'Wel, sut rydym yn ei brofi?' Mae'n ddyddiau cynnar; fe ddechreuodd ym mis Gorffennaf, ond rydym wedi penodi tîm gwerthuso. Caiff ei arwain gan Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant Prifysgol Caerdydd, ac maent yn defnyddio arbenigedd—y rheini sydd â dealltwriaeth o’r hyn y mae bod mewn sefyllfa rhywun sy’n gadael gofal o ran tlodi, lles, digartrefedd a chyfleoedd gwaith yn ei olygu. Mae'r cynllun peilot yn cael ei fonitro’n agos, a bydd y gwerthusiad yn edrych ar yr effeithiau, ond hyd yn hyn, o ran y profiad a’r rhyngweithio rydym wedi’i wneud gyda phobl ifanc sy’n gadael gofal ac sy'n cymryd rhan yn y cynllun, credaf mai dyma un o’r mentrau polisi pwysicaf a gyflawnir gennym yn Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth y rhan fwyaf o Aelodau'r Senedd, rwy'n credu.

13:40

Weinidog, fel peiriannydd hyfforddedig, rwyf bob amser yn awyddus i ddefnyddio data i ddatblygu dull o ymdrin â pholisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae treial incwm sylfaenol Llywodraeth Cymru yn rhoi’r cyfle hwnnw inni brofi effeithiau incwm sylfaenol yn y Deyrnas Unedig. A gaf fi ofyn i chi sut y bydd y data hwnnw ar gael i bobl fel Jane Dodds a minnau, sy'n awyddus i hyrwyddo incwm sylfaenol cyffredinol, ond hefyd, i'r anghredinwyr ar yr ochr draw, fel y gallant sylwi efallai ar y data a newid eu cân?

Wel, diolch yn fawr iawn, Jack Sargeant, a diolch am eich cefnogaeth barhaus. A dweud y gwir, rydym yn y sefyllfa rydym ynddi o ganlyniad i ddadl a gychwynnwyd gennych yn nhymor diwethaf y Senedd—dyna pam y gwnaethom ni fel Llywodraeth benderfynu trin hyn fel blaenoriaeth. Ac mae'n fuddsoddiad yn y bobl ifanc hyn—mae’n fuddsoddiad yn eu bywydau, yn eu dyfodol, a’r cyfraniadau—. Clywodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a minnau sut y mae’r bobl ifanc hyn yn meddwl mor gyfrifol am ffyrdd y byddent yn gallu defnyddio’r incwm hwn, a bydd hyn oll, wrth gwrs, yn cael ei brofi gan y gwerthusiad.

Dywedaf i gloi ein bod yn amlwg yn gweithio'n agos iawn gyda'r tîm sy'n gwerthuso. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi pwy fydd yn gwneud hynny, ond y bobl ifanc eu hunain a fydd yn gwneud hynny, a byddaf yn rhoi manylion ynghylch canfyddiadau cynnar y dadansoddiad o'r cynllun peilot, y byddaf yn ei rannu gyda chi yn y Senedd hon wrth gwrs, a byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn y flwyddyn newydd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. A wnaiff y Gweinidog wneud datganiad ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ceisiadau i’r Loteri Genedlaethol am arian at achosion da yng Nghymru, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ba mor aml y mae Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â rhanddeiliaid i ddarparu trosolwg ar gyfer dosbarthu cyllid? Diolch.

Wel, diolch yn fawr iawn, Joel James. Nid oes gennym unrhyw ddylanwad ar sut a phwy y mae'r Loteri Genedlaethol yn eu hariannu. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â'r cyfarwyddwr, ac yn wir, cynrychiolydd Cymru ar gyfer arian y Loteri Genedlaethol. Fy nghyd-Aelod, Dawn Bowden, y dirprwy Weinidog, sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol, o ran dealltwriaeth gyffredinol a chyswllt mewn perthynas â defnydd o’r arian.

Diolch, Weinidog. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, hyd at 2020, bum mlynedd ar hugain ers cychwyn y loteri, roedd Cymru wedi derbyn oddeutu £1.75 biliwn o gyllid ar gyfer achosion da. Er fy mod yn cydnabod bod hwn yn swm enfawr, rwy'n ymwybodol serch hynny mai oddeutu 4 y cant yn unig yw hynny o gyfanswm y cyllid a ddarparwyd yn y DU, sef oddeutu £40 biliwn. Hyd yn oed os edrychwch ar hyn o safbwynt canran o'r boblogaeth, gyda 5 y cant o boblogaeth y DU yng Nghymru, ymddengys nad yw Cymru wedi cael cyfran gynrychioliadol o’r arian sydd ar gael.

Weinidog, ni chredaf fod hyn yn fwriadol ar ran y Loteri Genedlaethol, ac mae’n teimlo fel pe bai’n fwy tebygol o fod oherwydd naill ai nifer isel o geisiadau, neu nifer uchel o geisiadau a gyflwynwyd yn wael. Felly, gyda hyn mewn golwg, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y ceisiadau a gwella’r gyfradd lwyddiant gymaint â phosibl? Diolch.

13:45

Fel y dywedais, rydym yn cyfarfod yn rheolaidd. Yn sicr, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â’r Loteri Genedlaethol mewn perthynas â’r meysydd polisi sy’n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol. Rydym hefyd yn ymweld â phrosiectau. Ymwelais â phrosiect arloesol cyffrous iawn ym Mhlas Madog yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Ken Skates, lle gwelsom bartneriaeth wirioneddol arloesol gyda phlant a phobl ifanc, a phobl hŷn hefyd. Roeddem yn edrych ar ba mor bwysig yw cyllid a buddsoddiad y Loteri Genedlaethol. Nid yw’r wybodaeth honno gennyf, Joel, ynglŷn â sut y maent yn annog mwy o geisiadau, ond rydym yn gweithio’n agos iawn gyda hwy, a byddaf yn gofyn iddynt roi gwybod. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr arian y maent wedi’i roi yn fwyaf diweddar, ar y themâu y maent yn edrych arnynt—er enghraifft, costau byw yw’r maes allweddol ar gyfer y meini prawf ar hyn o bryd—ac yn wir, sut y maent hwy, fel ninnau, yn annog pobl i wneud ceisiadau.

Diolch, Weinidog. Edrychaf ymlaen at gael eich llythyr. Ar y newid nawr gyda'r Loteri Genedlaethol i Allwyn Entertainment Ltd, sydd wedi’i drefnu ar gyfer 2024, a yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw gysylltiad o gwbl gydag Allwyn Entertainment Ltd ynghylch dosbarthu cyllid yng Nghymru? A ydych yn rhagweld unrhyw newidiadau i'r broses o ariannu achosion da yng Nghymru o ganlyniad i’r berchnogaeth newydd hon? Diolch.

Na, nid wyf wedi cael unrhyw gysylltiad â hwy, ond byddaf yn sicr yn ymateb i hynny pan fyddaf yn gohebu ynghylch y nifer sy'n gwneud ceisiadau am arian loteri a'i ddosbarthiad.

Diolch, Lywydd. Daeth ymgynghoriad cyhoeddus y DU ar fanyleb y gwasanaeth interim ar gyfer gwasanaethau dysfforia rhywedd arbenigol i blant a phobl ifanc i ben yn ddiweddar ar 5 Rhagfyr. Er eu bod wedi’u cyhoeddi gan GIG Lloegr, bydd y newidiadau arfaethedig yn cael effaith ar gleifion ifanc sydd o dan gyfrifoldeb comisiynu GIG Cymru. Mae pryderon wedi’u codi gan Stonewall ac eraill y bydd mynediad at y gwasanaeth interim yn cynnwys cam ymgynghori ychwanegol ar gyfer pobl ifanc cyn iddynt allu mynd ar y rhestr aros, a allai achosi hyd yn oed mwy o oedi cyn cael mynediad at ofal neu hyd yn oed atal mynediad ato'n llwyr. Nid oes unrhyw gyfeiriad ychwaith at y canllawiau rhyngwladol diweddaraf ar arferion gorau ar gyfer gofal iechyd traws. Un o’r agweddau sy’n peri’r pryder mwyaf yw bod manyleb y gwasanaeth yn ceisio trin trawsnewid cymdeithasol fel ymyriad meddygol, sydd ond yn cael ei argymell ar ôl cael diagnosis a phrofi lefelau o drallod clinigol sylweddol yn unig. A ydych yn cytuno, Weinidog, a Ddirprwy Weinidog, nad yw trawsnewid cymdeithasol, fel newid enw, rhagenwau a/neu fynegiant rhywedd, yn ymyriad meddygol?

Fel y gwyddoch, bydd gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd Tavistock—GIDS—yn cau yn y gwanwyn. Mae disgwyl i ddwy ganolfan ranbarthol agor: un yn Llundain, a'r llall yng ngogledd-orllewin Lloegr. Ond mae pryderon y bydd hyn yn arwain at fylchau pellach yn y ddarpariaeth ac yn ymestyn amseroedd aros, sydd eisoes yn hir. Hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r newidiadau arfaethedig hyn. A ydynt wedi cael eu codi gyda Llywodraeth Cymru? A oes asesiad effaith wedi’i gynnal ynglŷn â sut y bydd hyn yn effeithio ar Gymru a phlant a phobl ifanc yng Nghymru sydd angen mynediad at wasanaethau dysfforia rhywedd? Sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y cynllun gweithredu LHDTC+? A gyfrannodd Llywodraeth Cymru at yr ymgynghoriad? Mae’n amlwg y bydd yn cael effaith ar bobl ifanc yng Nghymru sy’n ceisio cymorth a gofal. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Mae hwn yn sicr yn gyfrifoldeb trawslywodraethol—yn bennaf ar gyfer fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, ond hefyd, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Rydym yn ymwybodol o’r ymgynghoriad interim hwnnw ar wasanaethau rhywedd i blant a phobl ifanc, a bydd yn cael effaith uniongyrchol ar wasanaethau GIG Cymru i'r grwpiau hynny. Credaf y gallwn roi diweddariad—. Mewn gwirionedd, efallai y gwnaf—. Lywydd, a gaf fi ofyn i fy nirprwy roi’r wybodaeth ddiweddaraf am hyn?

Na chewch. Dylai’r cais hwnnw fod wedi'i wneud gan Blaid Cymru cyn i’r cwestiwn ddechrau.

Efallai y dylwn ddweud y byddwn yn ateb hynny maes o law. Credaf mai'r hyn sy’n bwysig—y gallaf ymateb iddo—yw’r ffaith ein bod wedi sicrhau bod gwasanaeth rhywedd Cymru yn datblygu. Fe’i lansiwyd ym mis Medi 2019, ac mae'n dîm rhywedd amlddisgyblaethol i Gymru, sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd. Mae'n bwysig iawn ei fod hefyd yn edrych ar amseroedd aros byrrach ar gyfer asesiadau cyntaf, sef yr hyn a godwyd gennych fel pryder.

13:50

Diolch. Wrth gwrs, mae’r gwasanaeth sydd gennym yng Nghymru yma ar gyfer pobl dros 18 oed, onid yw? Dyna'r gwahaniaeth. Cyfarfûm yn ddiweddar â Chymdeithas Feddygol Prydain i drafod eu hadroddiad 'Sexual orientation and gender identity in the medical profession', sy'n nodi bod meddygon LHDTC+ yn wynebu camdriniaeth a gwahaniaethu yn rheolaidd. Er ei fod yn achos pryder fod hyn hyd yn oed yn digwydd, mae'r un mor ddrwg fod yr aelodau staff hyn yn aml yn dweud nad ydynt yn teimlo y gallant leisio eu pryderon gyda rheolwyr rhag ofn iddynt gael eu labelu'n godwyr twrw, neu rhag ofn i'w cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth rhywedd gael ei ddatgelu heb gydsyniad. Mae gan yr Alban a Lloegr fecanweithiau annibynnol ar waith ar draws eu hysbytai i staff leisio pryderon am hyn a materion eraill mewn ffordd ddiogel, ond nid oes unrhyw beth ar waith ledled Cymru eto, er y gwaith sy'n mynd rhagddo ar fframwaith 'rhyddid i siarad'. A gaf fi ofyn felly i’r Gweinidog gysylltu â’r Gweinidog iechyd i sicrhau bod y fframwaith hwn yn cael ei ddatblygu a’i roi ar waith cyn gynted â phosibl fel bod staff gofal iechyd LHDTC+ ar y rheng flaen yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ar frys?

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn gwirioneddol bwysig wrth inni anelu at lansio'r cynllun yn y flwyddyn newydd, y cynllun gweithredu LHDTC+. Cawsom ymateb enfawr i’r ymgynghoriad, ac rwy’n siŵr fod yr ymateb a’r pryder hwn yn rhan o hynny. Yr hyn sy’n bwysig am y cynllun yw ei fod yn gynllun trawslywodraethol, yn debyg iawn i'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', felly mae gan bron bob Gweinidog rôl i’w chwarae, gan gynnwys, wrth gwrs, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Byddwn yn gallu dwyn ei sylw hi at yr adborth a gawsoch gyda meddygon LHDTC+ yn ddiweddar gyda Chymdeithas Feddygol Prydain.

Y Sector Wirfoddol

3. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r sector gwirfoddol yng Ngogledd Cymru? OQ58829

Diolch yn fawr, Sam. Rwyf wedi cytuno ar gyllid o £6.98 miliwn y flwyddyn ar gyfer Cefnogi Trydydd Sector Cymru am dair blynedd. Mae ychydig dros £1 miliwn o’r cyllid hwn yn mynd i’r chwe chyngor gwirfoddol sirol yng ngogledd Cymru i helpu mudiadau gwirfoddol lleol gyda chodi arian, llywodraethu da, diogelu a gwirfoddoli.

Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac am y cymorth a roddwyd eisoes i’r sector gwirfoddol yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru.

Fis diwethaf, cefais y pleser o ymweld â chanolfan achub anifeiliaid Freshfields yn Nebo ger Caernarfon. Mae'n rhaid imi ddweud, cyfarfûm â chath fach hyfryd yno o'r enw Benji, a chefais fy nhemtio'n fawr i fynd â Benji adref gyda mi. Maent yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi anifeiliaid sy’n cael eu gadael a’u hesgeuluso ar draws y gogledd, sy’n enghraifft wych o’r sector gwirfoddol yn gwneud eu rhan yn ein cymunedau. Sylwais ar dri pheth yn ystod fy ymweliad. Y cyntaf yw'r galw cynyddol am ganolfannau achub anifeiliaid a chymorth i anifeiliaid sy'n cael eu gadael. Yr ail oedd bod nifer o ganolfannau achub anifeiliaid wedi cwympo drwy'r bylchau gyda chyllid COVID dros y blynyddoedd diwethaf, ac nid ydynt wedi gallu cael mynediad at yr un cyllid â sefydliadau eraill o bosibl. Trydydd peth yw rhai o’r heriau ar hyn o bryd gyda recriwtio a chadw gwirfoddolwyr.

Ar y pwynt hwnnw, Weinidog, tybed a oes cyfle i Lywodraeth Cymru weithio'n agosach gyda'r sector gwirfoddol i sicrhau y gellir recriwtio a chadw gwirfoddolwyr mewn ffordd well? Efallai y gellir gwneud hynny drwy dynnu sylw at beth o’r gwaith gwych y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud yn ein cymunedau, yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r lleoedd rydym yn byw ynddynt.

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, cwestiwn pwysig iawn, sy’n tynnu sylw unwaith eto at effaith andwyol yr argyfwng costau byw. Mae'n dda iawn clywed am waith Freshfields, y ganolfan achub anifeiliaid. Gallwn efelychu'r elusennau hynny sy'n gweithio fel hynny ledled Cymru, a cheir pryderon nawr fod llawer iawn o alw am y canolfannau achub hyn. Credaf fod eich pwynt ynglŷn â recriwtio a chadw gwirfoddolwyr yn hollbwysig. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei drafod pan fyddaf yn cyfarfod â chyngor partneriaeth y trydydd sector, a gadeirir gennyf. Yn y cyfarfod diwethaf ym mis Tachwedd, roedd eitem ar yr uwchgynhadledd costau byw. Clywsom yn uniongyrchol gan y sector. Rydym wedi gwneud yr hyn a allwn i’w cefnogi. Ceir pryder ynglŷn â'r trydydd sector, a byddai hyn yn effeithio hyd yn oed ar y canolfannau achub hyn, a'r ffaith eu bod hwy hefyd yn mynd i wynebu costau ynni uchel. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ein cefnogi mewn perthynas â sylwadau i Lywodraeth y DU fod angen cymorth y tu hwnt i fis Ebrill gyda'r costau a wynebir gan y sector gwirfoddol. Ond rydym yn awyddus i gefnogi’r cynghorau gwirfoddol sirol sy’n cydgysylltu ac yn recriwtio gwirfoddolwyr ac yn eu cefnogi, oherwydd yn union fel yn ystod y pandemig, bydd gwirfoddolwyr yn hollbwysig, ac maent yn mynd i chwarae rhan fawr nid yn unig gyda banciau bwyd, ond yn y mannau cynnes sydd bellach yn agor ledled Cymru mewn ymateb i’r argyfwng costau byw.

13:55
Pobl sy'n Gadael Gofal

4. Pa sgyrsiau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chyd-aelodau'r Cabinet am gefnogi pobl sy'n gadael gofal? OQ58832

Diolch, Jack Sargeant. Ar 3 Rhagfyr, cynhaliais i ac Aelodau eraill o’r Cabinet uwchgynhadledd gychwynnol gyda phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol gyda’n gilydd. Mae’r uwchgynhadledd yn rhan o’n gwaith, dan arweiniad y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, i fwrw ymlaen â’n hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i archwilio sut yr eir ati i ddiwygio gwasanaethau plant mewn modd radical.

Diolch i’r Gweinidog am ei hateb, ac am ymrwymiad parhaus y Cabinet, ac wrth gwrs, arweinyddiaeth y Prif Weinidog wrth gefnogi pobl sy’n gadael gofal yng Nghymru. Rwy’n arbennig o falch o’r uwchgynhadledd y sonioch chi amdani y penwythnos hwn, ond rwyf hefyd yn falch o Lywodraeth Lafur Cymru am ddarparu’r treial incwm sylfaenol arloesol, a’r rôl a chwaraeais wrth hybu'r polisi hwn. Weinidog, ar ymweliad diweddar â chanolfan waith i siarad â staff yn fy etholaeth, codais bwnc pobl sy’n gadael gofal, a'r cynllun peilot incwm sylfaenol yn benodol. Roedd y staff yn awyddus i sôn am y cymorth a sut y gallai Llywodraeth Cymru wella eu cynnig i bobl sy’n gadael gofal ymhellach, ac awgrymwyd y posibilrwydd o gyfamod ar gyfer pobl sy'n gadael gofal i greu cyfleoedd ystyrlon mewn pum maes allweddol ym mywydau pobl sy'n gadael gofal, o fyw’n annibynnol hyd at bwysigrwydd iechyd meddwl. Weinidog, a gaf fi ofyn ichi barhau â’r sgyrsiau hynny gyda'ch cyd-Weinidogion Llywodraeth Cymru, a gofyn y cwestiwn ynghylch sut y gellid bwrw ymlaen â chyfamod a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pobl sy’n gadael gofal?

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn pwysig, Jack Sargeant. Mae’n dda iawn clywed bod hyn wedi’i godi gan staff y ganolfan waith. A dweud y gwir, byddaf yn ymweld â fy nghanolfan waith ranbarthol leol fel Aelod etholaethol yn nes ymlaen yr wythnos hon. Credaf fod hyn yn dangos—. Oherwydd maent yn gweithio gyda phobl ifanc ac yn gweld pa gyfleoedd a ddaw o'r treial incwm sylfaenol mewn perthynas â rhagolygon swyddi.

Gan droi at yr uwchgynhadledd, roedd yn gyfle unigryw i mi. Roedd y Prif Weinidog yn bresennol, a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn amlwg, a Lynne Neagle y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, yn ogystal â Jeremy Miles fel Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, a minnau. Fe dreuliasom y diwrnod yn gwrando ar bobl ifanc. Roedd yn sobreiddiol—credaf mai dyna'r gair a ddefnyddiodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol—clywed am eu profiadau. Yr hyn a ddywedasant wrthym oedd, ‘Rydym yma i gyfrannu, i ddweud wrthych beth y teimlwn y gellid ei wneud i wella bywydau pobl ifanc mewn gofal’. Pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal oedd y rhain. Roedd cymaint o bethau roeddem yn eu gwybod, ond mewn gwirionedd, roedd rhai pethau ymarferol y gallem eu gwneud. Mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â diwylliant, ymwybyddiaeth, hyfforddiant, ond mae'r cynllun peilot incwm sylfaenol wedi rhoi hyder gwirioneddol iddynt ein bod am ystyried eu bywydau a'u rhagolygon. Credaf y bydd hyn yn bwydo i mewn i ddatganiad a fydd yn cael ei lofnodi yn y flwyddyn newydd, gyda gweledigaeth a rennir ynglŷn â sut y gallwn ddiwygio'r gwasanaethau hyn yn radical.

Rwy’n falch fod pwnc pobl sy'n gadael gofal wedi’i grybwyll y prynhawn yma, gan ei bod yn bwysig fod y sgiliau y maent yn eu dysgu yn ystod eu cyfnod mewn gofal yn cael eu cydnabod, a’u bod, yn wir, yn gallu cael mynediad at hyfforddiant a chyfleoedd a sgiliau trosglwyddadwy y gallent eu defnyddio mewn gyrfa mewn gofal cymdeithasol os dymunant. Gyda’r fath bwysau a diffyg staff yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa waith sy’n mynd rhagddo gan Lywodraeth Cymru i ddenu pobl sy'n gadael gofal i yrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol, fel y gellir gwobrwyo eu sgiliau a’u profiadau, yn hytrach na’u bod yn cael eu sianelu’n awtomatig i mewn i’r system les a budd-daliadau, fel y mae’r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn ei awgrymu?

Rwy'n gobeithio y gallwn ddwyn perswâd arnoch gyda'r cynllun peilot incwm sylfaenol. Mae'n rhoi cyfle go iawn i bobl ifanc ystyried eu hopsiynau ar gyfer y dyfodol. Yn amlwg, mae’r opsiynau hynny'n berthnasol i holl bobl ifanc Cymru. Mae'r warant i bobl ifanc yn hollbwysig—pobl 18 i 25 oed, pob unigolyn ifanc, swydd, hyfforddiant, addysg, prentisiaethau, sefydlu busnes. Clywsom yr holl bethau hynny gan ein pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Dyna maent hwy'n dymuno ei wneud. Dyna y byddant yn gallu ei wneud. Credaf ein bod yn symud ymlaen nawr o ran y datganiad a fydd yn cael ei wneud ac sy’n mynd i edrych ar bob agwedd ar fywyd. Gwn y bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu manylu ar hyn pan ddaw'r amser.

14:00
Tlodi Tanwydd

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn Nwyfor Meirionnydd? OQ58835

Mae ein rhaglen Cartrefi Cynnes ar gyfer aelwydydd ar incwm is yn arbed £300 y flwyddyn iddyn nhw ar gyfartaledd drwy wella effeithlonrwydd ynni. Mae aelwydydd cymwys ar incwm isel hefyd yn cael taliad o £200 drwy’r cynllun cymorth tanwydd. Mae ein hymgyrch ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ yn helpu pobl i hawlio’r budd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl i’w cael.

Da iawn. Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb yna. 

Gyda gaeaf caled bellach yn dechrau brathu, rhaid i gwmnïau ynni flaenoriaethu anghenion cwsmeriaid bregus sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau, ac felly, rhaid i mi gyfaddef fy mod yn teimlo'n ddig iawn wrth ddarllen yr ymchwil gan Swyddfa'r Marchnadoedd Nwy a Thrydan a ganfu fod tri chyflenwr ynni—TruEnergy, Utilita Energy a Scottish Power—yn dangos gwendidau difrifol yn y ffordd y maent yn ymdrin â chwsmeriaid sy'n cael trafferthion talu, gydag Utilita a Scottish Power yn cael hysbysiadau gorfodi. Yn hanesyddol, Scottish Power yw'r prif gyflenwr ar gyfer fy etholwyr yn Nwyfor Meirionnydd, ac yn wir, ar draws y rhan fwyaf o ogledd Cymru. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cyflenwyr ynni yn gwneud yn siŵr fod eu cwsmeriaid, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, yn cael y cymorth y maent ei angen gan y cwmnïau hynod broffidiol hyn i dalu eu biliau? 

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn pwysig hwnnw, oherwydd, fel chi, mae'r hyn rwyf wedi'i ddarllen ac arferion gwael cyflenwyr ynni yn fy mrawychu. Cyfarfûm ag Ofgem yr wythnos diwethaf a buom yn sôn am nodi'r cwmnïau hynny, Mabon, sy'n cyflawni'r arferion gwael hyn, fel y maent hwy wedi'i wneud. Clywsom fwy am hynny yn y wasg yr wythnos hon. Rwyf wedi cynnal sawl trafodaeth, mewn gwirionedd, gyda chyflenwyr ynni. Cynhaliais un ar 21 Tachwedd ac un arall ar 28 Tachwedd, ac mewn gwirionedd, cyfarfûm ag EDF Energy heddiw.

Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar dri pheth ac rydym yn gofyn tri chwestiwn iddynt. Rwyf eisiau ailadrodd y rheini'n gyflym. Rydym wedi gofyn am ddata ar nifer yr aelwydydd sy'n cael eu cefnogi gyda'u biliau ynni, sut maent yn cael eu cefnogi os ydynt yn agored i niwed, a pham—nid ydym eisiau iddynt wneud hyn, ond os ydynt yn cael eu trosglwyddo i fesuryddion rhagdalu, beth yw'r rheswm am wneud hynny. Rydym wedi gofyn iddynt beidio â throsglwyddo pobl i fesuryddion rhagdalu pan fydd ganddynt ôl-ddyledion, a cheir pryderon fod pobl sydd â mesuryddion deallus yn cael eu trosglwyddo i fesuryddion rhagdalu yn ddiarwybod iddynt. Ac rydym yn gofyn iddynt gael gwared ar daliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid rhagdalu. Rwyf ar fin gwneud datganiad ysgrifenedig ar hyn i roi ychydig o adborth. Mae rhai ohonynt wedi cytuno i rannu data gyda ni, ac rydym eisiau eu cysylltu ag Advicelink Cymru fel bod yr holl ganolfannau Cyngor ar Bopeth a phawb arall yn ymwybodol o lle mae yna aelwydydd agored i niwed. Rydym eisiau eu hargyhoeddi mewn gwirionedd na ddylent fod yn trosglwyddo pobl i fesuryddion rhagdalu gan eu bod yn ddrutach a chan fod y taliadau sefydlog yn berthnasol hyd yn oed pan nad oes ganddynt gyflenwad ynni. A phan fyddant yn dechrau bwydo'r mesurydd, byddant yn talu am daliadau sefydlog. Nid wyf yn gwybod a yw pawb yn gwybod hyn, ond dylai hon fod yn alwad unedig i Lywodraeth y DU atal taliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid rhagdalu. Mae tua 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn dibynnu ar fesuryddion rhagdalu. 

Yn olaf, Lywydd, hoffwn ddweud bod gennym ein partneriaeth Sefydliad Banc Tanwydd; mae gennym eisoes 6,000 o dalebau sydd wedi'u darparu drwy bartneriaid sy'n gweithio ledled Cymru i helpu pobl gyda'u mesuryddion rhagdalu. 

Diolch eto, Weinidog, am fynychu cyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni yr wythnos diwethaf, lle gwnaethoch chi ddweud, ymysg pethau eraill, fod ffocws Llywodraeth Cymru ar wella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru, gan nodi, ymysg pethau eraill, y gwelliannau i gynllun Nyth, a dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl yn sgil ECO4. Felly, pa ymgysylltiad rydych chi neu eich cyd-Aelodau wedi'i gael, neu pa ymgysylltiad y byddwch chi'n ei gael, gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r cynllun ECO Plus newydd, a elwir yn ECO4, sy'n anelu at sicrhau bod cannoedd o filoedd o gartrefi yn cael inswleiddiad newydd, gan arbed tua £310 y flwyddyn i ddefnyddwyr, a chan estyn cefnogaeth i'r rhai yn y cartrefi lleiaf effeithlon o ran ynni yn y bandiau treth gyngor is, yn ogystal â thargedu'r bobl fwyaf agored i niwed, ac ymestyn cefnogaeth i'r rhai nad ydynt yn elwa o unrhyw gymorth arall gan y Llywodraeth ar hyn o bryd, i uwchraddio'u cartrefi?

14:05

Yn amlwg, mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn ymwneud yn fawr â hyn ac yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU i weld pa fudd a ddaw yn sgil ECO4 o ran ein sefyllfa. Oherwydd yn amlwg, mae effeithlonrwydd ynni, ac effeithlonrwydd ynni ein rhaglen Cartrefi Clyd, yn hanfodol i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Ond rwy'n credu, unwaith eto, mai cyfrifoldeb y Gweinidog Newid Hinsawdd fydd adrodd yn ôl ar y trafodaethau presennol, ond hefyd i gydnabod yr hyn rydym yn ei wneud gyda'r rhaglen Cartrefi Clyd, y cynllun Nyth sy'n seiliedig ar alw, nad yw'n dod i ben tan fis Medi nesaf mewn gwirionedd, ac rydych yn gwybod ei bod bellach wedi cyhoeddi dull newydd yn ei datganiad ar lafar ar 8 Tachwedd, sy'n ddull ffabrig yn gyntaf, gwaethaf yn gyntaf a charbon isel o fynd ati.

Roeddwn eisiau dilyn cwestiwn Mark Isherwood, oherwydd rwy'n credu ei fod yn ymwneud â grymuso awdurdodau lleol a sicrhau bod ganddynt adnoddau i wneud cais am system ECO4 Flex, oherwydd mae'n debyg i 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Mae angen inni sicrhau bod Cymru'n hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddi, i ôl-osod rhai o'n cartrefi niferus sy'n rhy oer o lawer a lle mae pobl yn byw mewn tlodi tanwydd. Felly, tybed a wnewch chi gael sgwrs gyda'ch cyd-Aelod, y Gweinidog llywodraeth leol, ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod gan awdurdodau lleol adnoddau i sicrhau bod ganddynt allu i wneud cais am y cyllid hwn.

Wel, rwy'n credu fy mod eisoes wedi sôn y prynhawn yma fy mod yn cyfarfod yn rheolaidd gydag arweinwyr llywodraeth leol. Mae gennym gostau byw ar yr agenda, a byddaf yn codi hyn gyda hwy. Ond yn amlwg, mae fy nghyd-Aelodau, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, hefyd yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn manteisio ar unrhyw gyfle.

Cynllun Gweithredu LHDTC+

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu LHDTC+ i Gymru? OQ58821

Fel Llywodraeth, rydym yn sefyll ochr yn ochr â'n cymunedau LHDTC+. Dyna pam mae hawliau LHDTC+ wedi'u gwreiddio yn ein rhaglen lywodraethu, a pham rydym yn datblygu ein cynllun gweithredu LHDTC+ beiddgar. Ar ôl adolygu mwy na 1,300 o ymatebion i'r ymgynghoriad, ein nod yw cyhoeddi'r cynllun gweithredu diwygiedig ym mis Chwefror 2023.

Diolch am eich diweddariad, Weinidog. Yn ddiweddar, cyfarfûm ag Ollie Mallin, sy'n cynrychioli Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn Senedd Ieuenctid Cymru. Mae Ollie hefyd yn etholwr i mi ac mae wedi bod yn dadlau dros faterion LHDTC+ i bobl ifanc. Mae Ollie wedi siarad yn onest am homoffobia sy'n wynebu pobl ifanc mewn ysgolion, a'r diwylliant sydd, yn anffodus, yn dal i fod yn bresennol, sy'n gallu dechrau gyda sylwadau negyddol a chyfeiriadau at stereoteipiau hoyw, ond fel y gwyddom, mae'n ysgogi rhagfarn a gwahaniaethu yn erbyn pobl LHDTC+ ar draws pob rhan o'n cymdeithas.

Rwy'n llwyr gefnogi eich gwaith ar gynllun gweithredu LHDTC+. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru eisiau i Gymru fod yn genedl lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel i fod yn nhw eu hunain, i fod yn agored am eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth rhywedd, eu mynegiant rhywedd a nodweddion rhyw gartref, yn eu hamser hamdden, yn y gwaith neu yn yr ysgol heb deimlo bygythiad. Bydd angen agwedd ragweithiol, ynghyd â myfyrio ac ymgynghori, yn enwedig mewn amgylchedd fel ysgolion, i sicrhau bod y pethau y mae pobl ifanc yn eu gweld—eu bod yn gweld y newidiadau cadarnhaol hyn mewn gwirionedd. Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod ysgolion yn ddigon diogel i ddisgybl LHDTC+ fel nad oes rhaid iddynt boeni am ragfarn oherwydd pwy ydynt. Felly, Weinidog, ar y pwynt hwn, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i sicrhau bod ysgolion yn ymateb i'r cynllun gweithredu? Diolch.

Diolch i Sarah Murphy am godi hyn, a hefyd am eich cefnogaeth i'r cynllun gweithredu LHDTC+. Fel y dywedoch, mae'r gwaith a wnawn yn hynod o bwysig, ac yn amlwg, nid yw ond yn ymwneud â rhoi'r cynllun hwnnw ar waith, mae'n ymwneud â'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud yn ymarferol. A gaf fi hefyd ddiolch a rhoi cydnabyddiaeth i Ollie am siarad mor onest am hyn a rhannu profiadau pobl ifanc, sydd, yn anffodus, yn dal i ddigwydd, nid mewn ysgolion yn unig ond mewn lleoliadau gwahanol ledled Cymru? Mae'n gwneud imi deimlo'n arbennig o drist, a minnau wedi cael fy mwlio yn yr ysgol oherwydd—rwy'n credu fy mod wedi dweud yn y fan hon o'r blaen—fod plant eraill yn gweld rhywbeth ynof fi nad oeddwn wedi'i adnabod fy hun.

Rydych yn sôn am y sylwadau a'r sarhad negyddol, ac os cofiwch chi'r hen ymadrodd am ffyn a cherrig yn torri esgyrn, ond na fydd geiriau byth yn brifo, wel, yn bendant nid yw hynny'n wir—mae geiriau'n brifo. Un o'r pethau sy'n aros yn y cof, ac rwyf wedi rhannu hyn gyda rhai o fy nghyd-Aelodau, yw eu bod yn fy ngalw'n 'Lesley'—rwy'n credu eu bod yn golygu 'Lesley y lesbian'. Felly, yn ogystal â bod yn hynod greulon, mae bwlis yn ddiddychymyg iawn hefyd. Ond maent yn dweud mai'r personol yw'r gwleidyddol, felly mae'r cynllun gweithredu LHDTC+ hwn yn bwysig iawn i mi ar y lefel honno hefyd, oherwydd rwyf eisiau gweld y newid i genedlaethau sydd yn yr ysgol nawr a chenedlaethau i ddod, ac rwy'n credu bod y gwaith y mae Ollie'n ei wneud yn bwysig iawn. Byddwn yn hapus iawn i gyfarfod ag Ollie gyda'r Aelod. 

Ond ar y cynllun gweithredu ei hun, mae cyfres o gamau gweithredu ynddo, ac rwy'n ystyried yn ofalus iawn, ar y cyd â'r Gweinidog addysg, sut rydym nid yn unig yn cefnogi pobl ifanc mewn ysgolion ond sut rydym yn cefnogi eu haddysgwyr ac yn cefnogi'r athrawon i allu ymdrin a mynd i'r afael â'r pethau hyn gyda gofal yn ogystal â hyder, oherwydd rwy'n credu bod yna sgil-effaith yn dal i fodoli o ganlyniad i adran 28, lle mae pobl yn dal i fod yn nerfus wrth fynd i'r afael â'r materion hyn, yn anffodus. Felly, mae angen i ni gynnig cefnogaeth i'r athrawon a'r staff addysgu yn ogystal ag i'r dysgwyr.

14:10

Weinidog, un o'r camau gweithredu yn y cynllun yw archwilio ffyrdd y gellir cael gwared ar ddulliau adnabod personol diangen, megis enw, oedran, a dynodwyr rhywedd o'r ddogfennaeth, yn enwedig mewn arferion recriwtio. Gallai hyn hefyd fod o gymorth i leihau'r risg o wahaniaethu yn erbyn rhywun o gefndir lleiafrifol ethnig. I ba raddau rydych chi wedi llwyddo i gyflawni'r cam gweithredu hwn? A yw cyrff cyhoeddus, fel y GIG, bellach wedi datblygu'r amcan hwn, ac a allwch chi roi tystiolaeth o unrhyw welliant o gwbl?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad? Mae'r pwynt y mae'n cyfeirio ato yn un o'r pwyntiau y buom yn ymgynghori arnynt fel rhan o'r cynllun gweithredu drafft, ac nid wyf yn credu fy mod yn achub y blaen drwy gadarnhau y byddwn yn ehangu ar y pwynt yn y cynllun gweithredu ei hun pan fydd yn cael ei gyhoeddi ddechrau'r flwyddyn nesaf. Rydych yn codi pwynt dilys iawn ynglŷn â'r pethau y gallwch eu gwneud i fynd i'r afael â'r gwahaniaethu hwnnw ac i gael gwared ar y risg o hynny hefyd. Felly, pan fyddwn ni'n ffurfioli'r cynllun gweithredu terfynol, byddwn i'n falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn fwy manwl i'r Aelod am y gwaith sy'n digwydd ar draws y Llywodraeth mewn perthynas â'r materion y mae'n eu codi.

Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol

8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol ynglŷn â sichrau parhad eu gwasanaethau yng Nghanol De Cymru? OQ58828

Dyw materion yn ymwneud â Swyddfa’r Post a’r Post Brenhinol ddim wedi’u datganoli, ond wrth gwrs mae gen i ddiddordeb mewn unrhyw fater sy’n effeithio ar Gymru a chymunedau Cymru. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd efo’r ddau sefydliad. Fe wnes i gwrdd â Swyddfa’r Post ym mis Hydref a’r Post Brenhinol ym mis Gorffennaf.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog. Mae'n gwasanaeth post, wrth gwrs, drwy'r Swyddfa Post a'r Post Brenhinol, yn wasanaeth hanfodol i gymaint o bobl yn ein cymunedau. O ran fy rhanbarth, mae nifer o swyddfeydd post wedi cau neu leihau eu horiau agor, ac mae pryderon penodol o ran dyfodol swyddfa post Pontypridd—swyddfa brysur dros ben yng nghanol tref Pontypridd, sy'n cau ar 23 Rhagfyr heb unrhyw sicrwydd eto y bydd yn ailagor.

Yn bellach, fel y byddwch yn ymwybodol, mae anghydfod parhaus rhwng gweithwyr y Post Brenhinol, a hoffwn heddiw yrru neges o gefnogaeth i'r gweithwyr hynny sy'n ymladd o ran eu telerau gwaith ynghyd â dyfodol y gwasanaeth. Clywyd tystiolaeth yn y cyfryngau'r wythnos diwethaf ynglŷn â sut mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg, gyda llythyrau ddim yn cael eu blaenoriaethu mwyach, a bod lleihad wedi bod yn y nifer o weithwyr, gan olygu bod rhai pobl yn colli post pwysig megis apwyntiadau meddygol oherwydd bod llythyrau ddim yn eu cyrraedd mewn pryd. Hoffwn ofyn, felly: pa drafodaethau penodol mae'ch swyddogion, neu chithau, Ddirprwy Weinidog, wedi'u cael gyda'r Swyddfa Post a'r Post Brenhinol, o ran yr elfennau yma o'u gwasanaethau, ac yn benodol o ran y Post Brenhinol, o ran yr anghydfod, er mwyn sicrhau bod galwadau'r gweithwyr yn cael eu gweithredu gan reolwyr a bod y gwasanaeth hanfodol hwn yn cael ei ddiogelu i'r dyfodol?

Rwy'n credu bod hwn yn fater y mae'r Aelod yn ei ddilyn yn eithaf agos, ac sydd wedi cael ei grybwyll mewn gohebiaeth o'r blaen. Ac rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob un o'n cymunedau, yn enwedig y cymunedau mwy gwledig yng Nghymru sy'n ddibynnol ar y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Rwy'n credu mai'r peth cyntaf i'w ddweud ynghylch Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol yw eu bod yn amlwg yn gwmnïau gwahanol ac ar wahân. Ond rwy'n ymwybodol o'r mater y soniodd yr Aelod amdano ynglŷn â swyddfa bost Pontypridd, a'r ffaith eu bod yn chwilio am wasanaeth arall ar hyn o bryd, ond rwy'n gwybod ei bod yn her sy'n wynebu llawer o gymunedau ac mae'n rhywbeth y byddaf yn ei godi eto gyda Swyddfa'r Post, ac efallai y caf gyfarfod pellach, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod.

Ac rwy'n siŵr y bydd gweithwyr y Post Brenhinol yn sicr yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth gan yr Aelodau yn y Siambr hon i'r anghydfod diwydiannol presennol. Oherwydd mae'n bygwth effeithio ar y rhai sy'n darparu'r gwasanaethau hynny a'r gweithwyr yng Nghymru, yn ogystal â'r gwasanaethau rydym yn eu cael yng Nghymru. Nid yn unig fe allai wanhau sefyllfa gweithwyr, gallai wanhau'r gwasanaeth ac o bosibl symud i ffwrdd o'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol y mae cymaint o gymunedau'n dibynnu arni. Felly, rwy'n credu bod Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu yn iawn i ddweud nad yw'r anghydfod hwn yn ymwneud â thâl ac amodau'n unig—mae'n ymwneud â sefydliad rydym wedi dibynnu arno ers blynyddoedd lawer. Felly, gallaf ddweud wrth yr Aelod y byddaf yn cyfarfod ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu eto yn fuan iawn a byddaf yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

14:15
Hawliau Pobl Anabl

9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gryfhau hawliau pobl anabl? OQ58838

Diolch yn fawr, Hefin David. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu'r gweithgorau a'r tasglu hawliau pobl anabl i ymateb i'r adroddiad 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19' a gynhyrchwyd yn ystod pandemig COVID-19 ac mae'n bwrw ymlaen â chamau 'Gweithredu ar Anabledd: hawl i fyw’n annibynnol – fframwaith a chynllun gweithredu'.

Mae Unsain wedi dynodi mai 2002—2022, mae'n ddrwg gennyf—yw Blwyddyn y Gweithiwr Anabl, ac yfory byddaf yn cynnal digwyddiad yn y Senedd, a fydd yn gyfle cyffrous i arddangos y sgiliau, y profiad a'r rhinweddau sydd gan weithwyr anabl i'w cynnig i weithlu'r sector cyhoeddus ac i gymdeithas. A bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar siarad yn erbyn gwahaniaethu ar sail anabledd, herio stereoteipiau negyddol ac amlygu'r gwaith y gellir ei wneud i gael gwared ar rwystrau sy'n atal pobl anabl rhag cyflawni eu nodau. Yn eich datganiad bythefnos yn ôl, fe'i gwnaethoch yn glir fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi camau i ymgorffori'r model cymdeithasol o anabledd ym mhob rhan o gymdeithas. A ydych yn cytuno, felly, mai un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol y gallwn wneud hyn yw canolbwyntio ar greu cymdeithas lle mae pobl anabl yn cael eu gwerthfawrogi, gan eu helpu i fod yn fwy gweithgar mewn bywyd cyhoeddus, a hefyd, yn bwysig, mewn undebau llafur ac yn eu gweithleoedd?  

Diolch yn fawr, Hefin David. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â'ch digwyddiad yfory, fel aelod balch o Unsain a hefyd fel Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ond rwy'n cytuno mai'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod pobl anabl yn cael eu gwerthfawrogi ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys bywyd cyhoeddus, y gweithle, undebau, yw ymgorffori'r model cymdeithasol o anabledd. Rydym yn gweithio tuag at hyfforddi ein holl staff ar y model cymdeithasol, a hefyd gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, i'w hyrwyddo fel bod pobl yn deall beth mae'n ei olygu: ein bod yn gwneud pobl yn anabl ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny. A byddaf yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i hynny yfory yn eich digwyddiad.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen.

Datganoli Cyfiawnder

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Arglwydd Ganghellor am ddatganoli cyfiawnder? OQ58814

Diolch yn fawr am y cwestiwn.

Rwyf fi a fy nghyd-Weinidogion wedi gwneud safbwynt Llywodraeth Cymru am ddatganoli cyfiawnder yn glir iawn i'r Arglwydd Ganghellor hwn, ei ragflaenwyr a nifer o Weinidogion eraill y DU, ac yn fwyaf diweddar yr Arglwydd Bellamy, yr Is-ysgrifennydd dros gyfiawnder, ddydd Llun. Mae'n parhau'n siomedig iawn nad yw Llywodraeth y DU yn fodlon ymgysylltu o ddifrif â'r cwestiwn hwn.

Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Rydym wedi cael y degfed Arglwydd Ganghellor mewn 12 mlynedd; rwy'n credu ein bod wedi cael 10 mewn hanner canrif cyn hynny. Ond mae'r arolygon barn yn awgrymu'n gyson, ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf, y bydd yna Arglwydd Ganghellor Llafur yn San Steffan. Fel y nodwyd ddoe, roedd maniffesto Llafur San Steffan 2017 yn cefnogi datganoli cyfiawnder yn llawn. Yn 2019 roedd yr ymrwymiad hwnnw wedi diflannu. Mae adroddiad diweddar Brown yn argymell datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf. Nawr, er fy mod yn croesawu unrhyw ddatganoli pellach i Gymru, fe wnaeth adroddiad Thomas ddadleuon cryf ac argyhoeddiadol yn erbyn datganoli tameidiog. Ni fydd argymhellion adroddiad Brown ond yn symud rhywfaint ar yr ymylon garw, a bydd problemau sylfaenol y system gyfiawnder yng Nghymru, sydd gyda'r gwaethaf yng ngorllewin Ewrop, yn aros. Felly, Gwnsler Cyffredinol, a yw Llywodraeth Cymru yn dal i ymrwymo i ddatganoli cyfiawnder yn llawn, ac a fyddwch chi'n gwneud eich barn yn glir i'r Blaid Lafur yn San Steffan?

14:20

Wel, gallaf ddweud bod safbwynt Llywodraeth Cymru yn dal i fod yr un peth. Rydym yn cefnogi argymhellion comisiwn Thomas, ac rydym hefyd yn cefnogi, yn benodol o fewn hynny, datganoli cyfiawnder a datganoli cyfiawnder troseddol yn arbennig. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw y bydd datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn gamau sylweddol iawn ymlaen.

Rwy'n credu bod yn rhaid i chi fod yn ofalus ynghylch tynnu agweddau ar adroddiad Gordon Brown o'u cyd-destun, adroddiad a gomisiynwyd gan Blaid Lafur y DU wrth gwrs. Rwy'n credu ei fod yn cynnwys negeseuon pwysig iawn. Yn gyntaf, mae'n dweud:

'Fel mater o egwyddor, ni ddylid cyfyngu ar ddatganoli i Gymru ac eithrio drwy gadw'n ôl y materion hynny'n unig sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni dibenion y DU fel undeb'.

Dywed hefyd nad oes unrhyw reswm o gwbl pam na allai materion sydd wedi eu datganoli yn yr Alban, gan gynnwys pwerau newydd sy'n cael eu cynnig, gael eu datganoli i Gymru hefyd. Ac mae'n cyfeirio'n benodol at yr argymhelliad i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf. Ond rwy'n credu—. Mewn sawl ffordd, rhan bwysicaf yr adran hon o'r adroddiad yw'r ffaith ei fod hefyd yn dweud

'bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn i archwilio gwahanol faterion cyfansoddiadol, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Pan fydd yr adroddiad...wedi dod i law, rydym yn disgwyl i Lywodraeth Lafur ymgysylltu'n adeiladol â'i argymhellion.'

Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig fod yr adroddiad hwnnw'n cydnabod yr hyn a ddywedasom yn gynnar iawn pan wnaethom sôn am sefydlu'r comisiwn annibynnol, sef mai yn y lle hwn y byddem yn gwneud penderfyniadau ar ddyfodol Cymru, ac mai'r Senedd hon a phobl Cymru ddylai benderfynu sut olwg fyddai ar y dyfodol hwnnw. A thra bod y comisiwn yno, rwy'n credu ei bod yn bwysig fod yr adroddiad hwnnw'n ystyried y ffaith bod y comisiwn yno, a bod yr argymhellion a'r safbwyntiau y mae'r comisiwn yn eu cyflwyno yn rhai y byddwn ni fel Senedd yn eu hystyried wedyn. Byddwn yn penderfynu ein hunain beth sy'n bwysig ac yna byddwn yn anelu i ymgysylltu'n adeiladol ar gyfer datganoli neu ar gyfer y newidiadau a'r diwygiadau rydym yn eu hystyried yn angenrheidiol mewn perthynas â Chymru, yn seiliedig ar argymhellion y comisiwn hwnnw.

Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed beth sydd gennych i'w ddweud ar hyn, ac rwyf eisiau codi'r pryderon rydym wedi'u clywed am natur anghysylltiol y system cyfiawnder troseddol ar hyn o bryd. Er enghraifft, pan gawsom gyfarfod o'r pwyllgor deddfwriaethol a chyfansoddiadol, o dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies, gyda'r Arglwydd Bellamy, tynnwyd sylw at bwysigrwydd prosiect Ymweld â Mam fel pe bai hwn yn rhywbeth sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, er mai Llywodraeth Cymru sy'n ei ariannu mewn gwirionedd. Yn yr un modd, mae tystiolaeth a glywsom gan Gymdeithas yr Ynadon yn codi rhai pryderon. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros Gymdeithas yr Ynadon, ac mae'r bylchau y mae pobl yn y system cyfiawnder troseddol yn cwympo drwyddynt, yn enwedig menywod, lle rydym yn benderfynol o beidio ag anfon pobl i'r carchar oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol, yn nodi ein bod wedi gorfod gwthio'n galed ar y mater hwn, oherwydd mae'n sefyllfa gwbl gamweithredol ar hyn o bryd.

Wel, diolch am y sylwadau hynny, ac nid wyf yn anghytuno â'r pwyntiau rydych wedi'u gwneud. Mae llawer ohonynt yn bwyntiau rydym wedi'u gwneud yn ein papur 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru', ac wrth gwrs mae'r ymchwil diweddar gan Brifysgol Caerdydd, y cyhoeddiad The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge, yn wirioneddol bwysig yn fy marn i.

Yr hyn sy'n bwysig ynglŷn â'n hymgysylltiad â Llywodraeth y DU mewn perthynas â chomisiwn Thomas yw eu bod yn gefnogol wrth gwrs, a'u bod wedi derbyn y pwyntiau am ddadgyfuno data rydym ei angen i gael dadansoddiad data i Gymru, oherwydd er mwyn ffurfio polisi mae angen ichi wybod beth sy'n digwydd mewn gwirionedd. Rwy'n credu ein bod i gyd wedi cael ein syfrdanu'n llwyr gan rywfaint o'r data gan Brifysgol Caerdydd, a oedd yn dangos, o bob 10,000 o'r boblogaeth, y byddai 14 o'r rhai yng ngharchar yn wyn a 79 yn groendywyll neu o gefndiroedd ethnig. Mae'r rhain yn ffigurau hollol frawychus, ac mae dadgyfuno gwybodaeth yn ein galluogi i ddeall pam fod hynny'n digwydd, pam fod mwy o ddinasyddion Cymru yn cael eu carcharu o fewn y system gyfiawnder, a phethau y mae angen i ni eu deall. Ac mae'n cyd-fynd yn union â'r rheswm pam ein bod eisiau datganoli cyfiawnder. Yr hyn sy'n bwysig am adroddiad Gordon Brown yn fy marn i—ac wrth gwrs, byddaf yn edrych ymlaen at yr adroddiad llawn gan ein comisiwn annibynnol ein hunain maes o law—yw nad oes unrhyw ddrysau ar gau. 

14:25
Ymgyrch Gwirionedd a Chyfiawnder Orgreave

2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ar sut y gall gefnogi ymgyrch gwirionedd a chyfiawnder Orgreave? OQ58831

Diolch am y cwestiwn. Ysgrifennais at yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, yr Arglwydd Bellamy, ym mis Awst eleni, i alw ar gyrff cyhoeddus i ddatgelu gwybodaeth yn llawn yn ystod ymchwiliadau cyhoeddus neu achosion troseddol. Credaf y byddai cyfraith Hillsborough o fudd i'r alwad am ymchwiliad cyhoeddus i ddigwyddiadau yn Orgreave.

A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw a'i ymrwymiad i gyfraith Hillsborough, rhywbeth rwyf wedi tynnu sylw ato mewn cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ynghyd â meysydd eraill o anghyfiawnder? Oherwydd mae'n llawer rhy anodd i bobl ddosbarth gweithiol yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru gael mynediad at gyfiawnder. Fe wnaeth glowyr Orgreave, gan gynnwys llawer o Gymru, ddioddef anghyfiawnder dybryd. Ar y diwrnod, fe wnaeth llawer ohonynt ddioddef ymosodiadau anghyfreithlon creulon a pharhaus, ac mae'r hyn a ddigwyddodd wedyn yn staen go iawn ar system gyfreithiol Prydain. Gwnsler Cyffredinol, mae'r cyn-lowyr hyn yn haeddu cyfiawnder, a dylai pawb ohonom sy'n poeni am gyfiawnder barhau i godi'r mater hwn. A gaf fi ofyn am sicrwydd y byddwch chi, fel Cwnsler Cyffredinol, a Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn manteisio ar bob cyfle a gewch i godi hyn gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ac i fanteisio ar bob cyfle i godi llais a chadw fflam cyfiawnder yn fyw dros Orgreave?

Diolch yn fawr i chi am hynny ac am godi hynny. Nid wyf yn gwybod a ydych yn ymwybodol y bûm i’n un o'r cyfreithwyr yn achos Orgreave a'r achosion terfysg, lle gwnaethom sicrhau dedfryd 'ddieuog' mewn perthynas â phob un o'r 90 achos roeddwn yn rhan ohonynt, ac yna fe wnaethom ni ddwyn achos sifil yn erbyn yr heddlu am erlyniad maleisus ac arestio ar gam. Roedd yr holl achosion sifil hynny'n gwbl lwyddiannus. Yr hyn a oedd yn bwysig amdanynt a'r hyn sy'n bwysig am y mater hwn yw ei fod yn ymwneud ag arfer grym gan y wladwriaeth. Ac rwy'n credu bod tystiolaeth, a bydd dogfennaeth sydd eto i'w datgelu a fydd yn dangos bod y penderfyniadau a wnaed yn Orgreave—ac wrth gwrs mae'n ymwneud â materion eraill rydym yn ymwybodol ohonynt mewn perthynas â Hillsborough, ond y materion hynny, y penderfyniadau hynny—wedi cael eu gwneud ar y lefel uchaf un mewn gwirionedd, ar lefel brif weinidogol. Dyna yw fy nghred yn hynny o beth, ac rwy'n credu mai dyna yw'r rheswm pam na chynhelir ymchwiliad gan y Llywodraeth hon. Rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth Lafur nesaf wedi rhoi ymrwymiad y bydd yn cynnal ymchwiliad i Orgreave, y bydd y dogfennau hynny'n cael eu datgelu, nid oherwydd ei fod yn ailgodi'r gorffennol, rhywbeth a ddigwyddodd amser maith yn ôl, ond bob tro y bydd gwladwriaeth yn camddefnyddio ei phŵer, mae'n bwysig fod yr achosion hynny'n cael eu gwneud yn gyhoeddus a'u bod yn cael eu trin yn y ffordd briodol. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. 

Diolch, Lywydd. Gan adeiladu ar yr hyn rydych wedi'i ddweud yn eich ymatebion blaenorol, er na allwn gefnogi argymhellion diwygio cyfansoddiadol Gordon Brown a gyhoeddwyd gan Blaid Lafur y DU ddydd Llun yn eu cyfanrwydd, mae yna elfennau sydd, yn ein barn ni, yn haeddu ystyriaeth, gan gynnwys cynigion i sicrhau bod gan Gymru lais parhaol, nid yn unig yn Nhŷ'r Cyffredin, ond yn yr ail Siambr, pe bai hyn yn arwain at waith craffu dwysiambr priodol ar y ddeddfwriaeth ddatganoledig; cynigion i geisio mwy o gydweithio rhwng pedair Llywodraeth y DU i ymdrin â phroblemau cyffredinol, fel pandemigau a llygredd; a chynigion i wella rôl Aelodau'r Senedd hon fel y gallent fwynhau'r un breintiau ac amddiffyniadau ag Aelodau Seneddol mewn perthynas â datganiadau a wnaed yn eu trafodion. 

Rydym hefyd yn nodi'r datganiad gan Arglwydd Blunkett y Blaid Lafur fod cynlluniau Syr Keir Starmer ar gyfer ail Siambr etholedig yn creu perygl o dagfa ddeddfwriaethol debyg i'r hyn a geir yn yr Unol Daleithiau ac na ddylai fod yn flaenoriaeth, ac er gwaethaf datganiad y Prif Weinidog yma yr wythnos diwethaf, fod trosglwyddo cyfrifoldeb am faterion cyfiawnder, sef polisi ei Lywodraeth, wedi'i gynnwys ym maniffesto Llafur yn etholiadau cyffredinol y DU yn 2017 a 2019, mae Plaid Lafur y DU bellach ond yn cynnig datganoli pwerau dros gyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaethau prawf i Lywodraeth Cymru. Sut rydych chi'n ymateb i hyn felly, ac a ydych yn cytuno—rwy'n credu fy mod yn gwybod beth fydd yr ateb; mae'n gwestiwn rhethregol—ond a ydych yn cytuno bod hyn nawr yn cau'r drws ar ddatganoli cyfiawnder ehangach a phlismona i Gymru?

14:30

Diolch am y cwestiwn ac fe wnaethoch chi ymdrin â rhai pwyntiau diddorol iawn yno. Ac rwy'n falch iawn, ac rwy'n credu ein bod yn cydnabod yn gyffredinol, onid ydym, pa mor bwysig yw'r newidiadau sydd wedi digwydd: y ffaith ein bod yn ddeddfwrfa cyfraith sylfaenol a pha mor bwysig yw hi fod gennym le parhaol, cydnabyddedig o fewn y Goruchaf Lys. Rwy'n credu bod yr hen ddadleuon ynghylch awdurdodaeth yn hen ffasiwn mewn gwirionedd.

Pan fo gennych seneddau sy'n ddeddfwrfeydd a bod gennych faterion sy'n gyfansoddiadol, a'r Goruchaf Lys yn cyflawni swyddogaeth gyfansoddiadol, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl iawn i Gymru gael ei chynrychioli'n benodol. Rwy'n credu bod hyn yn cael ei gynrychioli bron drwy'r drws cefn drwy sicrhau bod barnwr Cymreig yno, ac rwy'n falch iawn fod yr Arglwydd David Lloyd-Jones yno yn y Goruchaf Lys—barnwr Goruchaf Lys sy'n siarad Cymraeg; yr un cyntaf erioed. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod hynny'n dod yn rhywbeth sy'n cael ei ffurfioli ac yn dod yn rhan o'n strwythurau, fel gyda'r Alban, fel gyda Gogledd Iwerddon, ac fel gyda Lloegr, fod barnwr Cymreig penodol yn y Goruchaf Lys. Felly, rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gwneud y rheini. A hefyd, y gydnabyddiaeth i bwysigrwydd cydweithredu a gwelliannau rhynglywodraethol. Rwy'n credu bod pwysigrwydd yr argymhelliad yn adroddiad Gordon Brown ar sefydlu strwythur diymwad mewn perthynas â Sewel yn rhywbeth rydym wedi dadlau drosto ers tro. Ym mha fformat bynnag, byddai'n rhywbeth a fyddai'n gam sylweddol ymlaen.

Ond nid wyf yn cytuno â'r hyn rydych chi'n ei ddweud am gyfiawnder. Nid yw adroddiad Gordon Brown yn cau unrhyw ddrysau penodol; mae'n adroddiad sy'n gwneud argymhellion i Blaid Lafur y DU yn ei chyfanrwydd, ond mae'n un sy'n rhoi cyfeiriad penodol iawn. Rwy'n credu bod y rhannau a ddarllenais yn gynharach yn glir iawn ei fod yn ildio i farn y comisiwn annibynnol a phan fydd y comisiwn hwnnw wedi adrodd, y bydd yn galw am ymgysylltiad adeiladol. Ac mae'r adroddiad yn ei gwneud yn gwbl glir nad oes unrhyw ddrysau ar gau ac y dylai datganoli pellach fod yn seiliedig ar sybsidiaredd: hynny yw, na ddylai Llywodraeth y DU ymdrin ag unrhyw eitemau nad ydynt yn angenrheidiol i lywodraethu cyd-ddibynnol o fewn y DU gyfan, ac y dylai'r gweddill gael ei ddatganoli. Felly, mae'n newid sylweddol iawn ac nid wyf yn credu ei fod yn dweud yr hyn rydych chi'n ei awgrymu o gwbl am gyfiawnder, ac rwy'n hyderus fod datganoli cyfiawnder i Gymru yn anochel.

Wel, diolch. Fy nealltwriaeth i yw bod lleisiau uwch arweinwyr Llafur yn y DU yn deall echelin dwyrain-gorllewin troseddu a chyfiawnder troseddol dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac yn cydnabod y gallai datganoli llawn yn unol â hynny fod yn wrthgynhyrchiol.

Fodd bynnag, mae'r cyfrifoldebau sydd gennych fel Cwnsler Cyffredinol yn cynnwys materion yn ymwneud â deddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd a hygyrchedd cyfraith Cymru. Fel y gwyddoch, cyn belled â bod Aelod o'r Senedd yn gweithredu o fewn disgwyliadau etholwr, mae gan yr Aelod sail gyfreithiol i ofyn am wybodaeth gan gorff cyhoeddus wrth gynrychioli'r etholwr. Mae adran 24 Deddf Diogelu Data 2018 yn caniatáu i gynrychiolydd etholedig dderbyn gwybodaeth gan reolwr data arall, gan gynnwys awdurdod lleol, mewn perthynas ag unigolyn at ddibenion mater gwaith achos lle maent yn gweithredu gydag awdurdod. Fodd bynnag, ar ôl i mi ysgrifennu at—nid wyf am ei enwi—awdurdod lleol yng ngogledd Cymru ynglŷn â materion yn gysylltiedig â gwasanaethau cymdeithasol ar ran rhieni niwroamrywiol, roedd ymateb prif swyddog gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol yn cynnwys, 'Mae'n ymddangos bod y rhain yn faterion a godwyd gennych fel Aelod o'r Senedd ynghylch achos unigol, ac felly y tu allan i'r paramedrau y byddem yn datgelu i drydydd parti.'

Pa gamau y gallwch chi eu cymryd felly yn eich cylch gwaith i sicrhau bod uwch swyddogion mewn awdurdodau lleol yn deall y dylai ymatebion ynghylch achosion unigol gael eu darparu gan adrannau'r cyngor wrth ateb gohebiaeth a anfonwyd gan Aelod o'r Senedd—y Senedd Cymru hon—mewn capasiti cynrychioliadol?

Wel, yn amlwg, rydym am weld cymaint ag y bo modd o gydweithio rhwng Aelodau'r Senedd ac unrhyw gyrff cyhoeddus, a chyrff preifat hefyd yn wir, lle maent yn ystyried materion y Senedd a dyletswyddau'r Senedd a dyletswyddau etholaethol. Rwy'n credu mai'r unig ffordd y gallaf eich cyfeirio, ynghylch y mater a godwyd gennych ac nad oes gennyf wybodaeth benodol amdano, yw bod yr hawliau wedi'u nodi yn y Ddeddf Diogelu Data. Pan fo unigolyn yn anfodlon â'r ymateb a gawsant i gais Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, ceir proses lle gellir ei gyfeirio at y comisiynydd diogelu data, a fydd wedyn yn ystyried y sefyllfa gyfreithiol ar hynny yn y bôn ac a yw hynny'n rhywbeth y dylid ei ddatgelu neu na ddylid ei ddatgelu. Ac rwy'n credu mai dyna'r camau priodol y dylid eu cymryd yn hynny o beth.

14:35

Diolch. Fe wneuthum ymateb yn unol â hynny. Ond wrth gwrs, nid cais rhyddid gwybodaeth oedd hwn, roeddwn i'n cyflwyno achos—fel rydym i gyd yn ei wneud—yn niwtral, yn cynrychioli fy etholwyr gyda'u cais, a chyda'u hawdurdod ysgrifenedig, felly roedd yn ymateb sy'n peri pryder. Ac yn y cyd-destun hwnnw, fel y credaf eich bod yn gwybod, mae cod ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Rhan 10, mewn perthynas ag eiriolaeth, yn nodi bod rhaid i awdurdodau lleol, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, weithredu yn unol â'r gofynion a geir yn y cod hwn, a'i bod yn agored i unrhyw unigolyn ddewis a gwahodd unrhyw eiriolwr i'w cefnogi i fynegi eu barn, eu dymuniadau a'u teimladau. Fodd bynnag, ar ôl i oedolyn awtistig ofyn yn ddiweddar i mi fynychu cyfarfod gyda'r un awdurdod lleol, fel eiriolwr iddi—fel y gwneuthum ugeiniau o weithiau gydag etholwyr a chyrff cyhoeddus; rwy'n siŵr eich bod chithau wedi gwneud hynny hefyd—fe gafodd neges gan yr awdurdod lleol y penwythnos hwn yn dweud, 'Ni allaf wahodd Mark i'r cyfarfod gan fy mod wedi cael gwybod gan uwch reolwyr, os oes gan Mark unrhyw gwestiynau yn eich cylch chi neu eich mab, fod angen iddo fynd drwy'r gwasanaethau i gwsmeriaid.'

Gobeithio y byddwch yn cytuno bod y rhain ac ymatebion tebyg eraill gan uwch reolwyr awdurdod lleol yn faterion difrifol, gyda sgil-effeithiau a allai fod yn niweidiol. Felly, unwaith eto, pa gamau y gallwch eu cymryd i sicrhau bod tramgwyddwyr mynych, fel yr awdurdod lleol hwn, yn deall ac yn gweithredu o fewn cyfraith y DU a chyfraith Cymru?

Diolch am hynny. Ar yr amgylchiadau penodol rydych chi'n eu codi, rwy'n credu bod y rheini'n rhai y gellid, ac mae'n debyg y dylid, eu cyfeirio at y Gweinidog, a fyddai'n siŵr o ymateb. Wrth gwrs mae yna lwybr arall, sef cyfeirio at yr ombwdsmon, ynghylch y ffordd y mae'r awdurdod lleol y cyfeiriwch chi ato wedi gweithredu. Rwy'n credu y byddai'n amhriodol i mi wneud unrhyw sylw penodol pellach na hynny ar rywbeth nad oes gennyf wybodaeth uniongyrchol yn ei gylch mewn gwirionedd.

Diolch, Lywydd. Mae fy nghwestiwn cyntaf y prynhawn yma yn ymwneud â mater yn fy rhanbarth sy'n achosi pryder i etholwyr, ond mae iddo oblygiad cenedlaethol. Mae cais Merthyr (South Wales) Ltd i barhau i gloddio am lo ym mhwll glo Ffos-y-Frân y tu hwnt i'r dyddiad cau gwreiddiol, a chloddio am dair blynedd arall, wedi achosi cryn ofid i drigolion oherwydd pryderon am ansawdd yr aer a llygredd sŵn. Mae'r safle wedi ei leoli ychydig fetrau i ffwrdd o gartrefi, ysgolion a meysydd chwarae. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau a yw erthygl 67, adran 26A o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 yn rhoi'r cyfrifoldeb eithaf i Weinidogion Cymru am gymeradwyo ceisiadau gwaith cloddio glo yng Nghymru? A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau hefyd a yw hysbysiad cyfarwyddyd Rhagfyr 2018 yn gorfodi cynghorwyr i gyfeirio ceisiadau ar gyfer gwaith glo neu betroliwm i Weinidogion Cymru? Ac yn seiliedig ar y darnau hyn o ddeddfwriaeth, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi safbwynt ar allu Llywodraeth Cymru i wrthod y cais gan Merthyr (South Wales) Ltd i barhau i gloddio am lo ar safle Ffos-y-Frân?

Diolch am godi hynny. Rydych yn codi materion penodol iawn sy'n ymwneud â materion cynllunio a phwerau Llywodraeth Cymru. Ac wrth gwrs, mae yna faterion wedi cael eu codi, er enghraifft, mewn perthynas ag ardal gloddio glo arall, a mae'r materion yn ymwneud yn aml â pha bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru, ac a yw'n ymwneud â chaniatadau cynllunio sydd eisoes wedi'u rhoi neu a yw'n ymwneud â cheisiadau cynllunio newydd, ac yn y blaen. Edrychwch, ar yr amgylchiadau yno, nid yw'r manylion y gwnaethoch chi ofyn amdanynt yn bethau y gallaf eu rhoi i chi heddiw; os ysgrifennwch ataf ar wahân, os oes materion y gallaf roi ateb penodol i chi arnynt, rwy'n hapus i wneud hynny. Ond rwy'n credu y byddai'n amhriodol imi ymateb heb wybod y cefndir, gwybod ar ba gam y gallai fod arno yn y system gynllunio, pa faterion eraill a allai fodoli, a pha mor fanwl y gallaf fod wrth ymateb i chi.

Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol, ac yn sicr, fe wnaf ysgrifennu atoch am hynny.

Ers y rownd olaf o gwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, cawsom ddyfarniad y Goruchaf Lys nad oes gan Senedd yr Alban bŵer i ddeddfu ar gyfer cynnal refferendwm. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â'r sylwadau a wnaed gan Brif Weinidog Cymru yn yr haf fod achos moesol a gwleidyddol diamwys dros ganiatáu i'r Alban gynnal refferendwm ar annibyniaeth? Ac a ydych chi hefyd yn cytuno bod gan bob cenedl hawl i hunanbenderfyniaeth, os mai dyna yw dymuniad democrataidd y bobl? Yn olaf, beth yw asesiad y Cwnsler Cyffredinol o effaith adrannau 60 a 64 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar allu Llywodraeth Cymru i gynnal refferendwm ar annibyniaeth?

14:40

Wel, diolch eto am nifer o gwestiynau pwysig yno. A gaf fi ddweud, yn gyntaf, ar egwyddor gyffredinol hunanbenderfyniaeth? Rwy'n credu bod hynny'n un y mae'r Prif Weinidog a minnau ac eraill wedi ei wneud yn glir yn y gorffennol, fod gan genhedloedd hawl i hunanbenderfyniaeth. Mae ein safbwynt ar refferenda a'r hyn a fyddai'n digwydd gyda Llywodraeth a oedd â mwyafrif o blaid refferendwm wedi'i nodi yn 'Diwygio ein Hundeb', ac rwy'n credu iddo gael sylw penodol iawn yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos cynt. Felly, dyna yw safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd, ac mae'n gwbl glir.

Mewn cyfres ddiweddar o ddarlithoedd—un gan yr Athro Ciaran Martin a fynychais—cafodd mater cyfansoddiadol arwyddocaol ei godi ynglŷn â'r hyn y dylai'r llwybrau fod ar gyfer gwlad, ar gyfer Llywodraeth sydd â mandad, ac mae hynny, heb os, yn rhan o'r ddadl gyfansoddiadol barhaus. Ar ddyfarniad y Goruchaf Lys, rwy'n credu bod gennyf ddau gwestiwn ar fin dod sy'n trafod hynny'n benodol, felly, os nad oes ots gennych, fe gyfeiriaf at hynny'n benodol pan gaiff y cwestiynau hynny eu gofyn.

Ond ar y pwynt mae'r Athro Emyr Lewis wedi ei godi, nodais ei sylwadau gyda diddordeb. Wrth gwrs, mae'n gywir i nodi'r gwahaniaethau sy'n bodoli rhwng setliad yr Alban a phwerau gweithredol Gweinidogion Cymru. Byddwn yn dweud hefyd fod gwahaniaethau sylweddol, wrth gwrs, rhwng pwerau'r Arglwydd Adfocad—fy swyddog cyfatebol yn yr Alban—a'u pwerau i allu cyfeirio ar faterion cyfansoddiadol, pŵer nad yw'n bŵer sydd gennyf fi yn benodol yn Neddf Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn nodi, wrth gwrs, fod y materion hyn yn hynod gymhleth.

Fy marn ragarweiniol iawn fy hun arno—ac wrth gwrs, rydym yn dal i ystyried rhai o'r materion hyn wrth iddynt godi—yw fy mod yn credu ei bod yn annhebygol, mewn perthynas ag adran 60, adran 62 ac adran 64, y byddent yn cyfreithloni cynnal pleidlais yn gofyn yn benodol y math o gwestiwn a roddodd Llywodraeth yr Alban yn eu Bil, sy'n amlwg yn ymwneud â mater a gadwyd yn ôl o ran cyfansoddiad y Deyrnas Unedig. Roedd y Goruchaf Lys yn glir iawn ar y pwynt arbennig hwnnw. Rwy'n credu y byddai angen i unrhyw bleidlais y byddem ni yn ei chael ymwneud â phwerau intra vires—pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru neu'r Senedd mewn gwirionedd. Ac wrth gwrs, mewn sawl ffordd, rydym wedi arfer y pwerau hynny drwy sefydlu'r comisiwn annibynnol, sy'n edrych yn gyffredinol ar lesiant Cymru o fewn cyd-destun cyfansoddiadol.

Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Refferendwm Annibyniaeth i'r Alban

Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n deall eich bod chi wedi cytuno i uno cwestiwn 3 a chwestiwn 5, ond os caf i felly ddilyn ymlaen o fy nghyfaill Peredur efo'i gwestiwn o—

Fe gei di ofyn y cwestiwn ar y papur. Fe gei di ddarllen allan dy gwestiwn di yn y drefn—

3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau i Gymru o ddyfarniad y Goruchaf Lys ynglŷn â hawl yr Alban i alw refferendwm ar ei dyfodol cyfansoddiadol? OQ58827

5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys nad oes gan Senedd yr Alban y grym i ddeddfu ar gyfer refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban? OQ58834

Diolch am y cwestiwn. Roedd y dyfarniad yn ymwneud yn benodol â'r sefyllfa yn yr Alban. Nid wyf o'r farn y bydd iddo oblygiadau i'r modd y dehonglir y setliad Cymreig. Roedd y Goruchaf Lys yn glir iawn nad oedd yn gwyro oddi wrth ei ddull blaenorol o ystyried materion o'r fath.

Diolch am yr ateb yna. Wel, nôl ym mis Mawrth 2021, fe ddywedodd y Prif Weinidog—a dwi am ddyfynnu'r Saesneg yn fan hyn:

'Rhaid i ni ddangos i bobl sut y gallwn ail-lunio'r DU mewn ffordd sy'n cydnabod ei bod yn gymdeithas wirfoddol o bedair cenedl, lle rydym yn dewis cydrannu ein sofraniaeth at ddibenion cyffredin ac er budd cyffredin.'

Dyna oedd geiriau Mark Drakeford. Felly, yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys oedd yn datgan na all yr Alban ddeddfu i gynnal refferendwm ar ei dyfodol ei hun, a bod Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol ac arweinydd yr wrthblaid yno, Keir Starmer, wedi datgan na fydden nhw'n caniatáu i'r Alban gynnal refferendwm ar annibyniaeth, ydy'r Cwnsler Cyffredinol yn credu bod y Deyrnas Gyfunol yn gymdeithas wirfoddol—voluntary association—o bedair cenedl, a beth mae'r Llywodraeth yma yn ei wneud i ddangos i bobl sut fod posib ail-lunio'r Deyrnas Gyfunol mewn modd sy'n dangos ei bod yn gymdeithas wirfoddol?

14:45

Diolch. Rydych chi'n codi pwynt cyfansoddiadol pwysig. Ac mae'n ddiddorol iawn, yn adroddiad Gordon Brown, ei fod yn disgrifio'r Deyrnas Unedig yn benodol iawn fel cymdeithas o genhedloedd, felly i gydnabod cyfansoddiad hynny. Yn sicr, dyna fy nghred i, o ran beth yw'r sefyllfa real, oherwydd, os oes gennych chi senedd sy'n ethol pobl, sydd â mandad o etholiad, gan y bobl, ni all sofraniaeth fod yn unrhyw beth heblaw wedi ei rhannu. Y pwynt y byddem yn ei wneud, rwy'n credu, yw bod gennym gyfansoddiad sydd wedi dyddio ac sy'n gamweithredol, a dyna pam y credaf ein bod yn cael yr holl ddadleuon cyfansoddiadol hyn, oherwydd, fel y mae adroddiad interim y comisiwn annibynnol, a gyhoeddodd eu hadroddiad heddiw, wedi dweud, nid yw'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd yn gweithio—nid yw'r status quo yn gweithio. Mae hynny, mewn gwirionedd, yn rhywbeth sydd wedi cael ei ailadrodd yn gyson gan y grŵp rhyngseneddol, yr arferwn ei fynychu yn flaenorol, ac rwy'n credu bod Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad bellach yn ei fynychu. Ar yr achlysuron niferus roeddwn i yno, rhoddwyd y datganiadau allan, a'r rhain yn ddatganiadau trawsbleidiol, nad yw'r trefniadau'n gweithio yn y bôn, a bod angen diwygio sylweddol. Rwy'n credu bod angen diwygio radical tu hwnt. Rwy'n ystyried adroddiad interim y comisiwn annibynnol yn ofalus iawn, ond rwyf hefyd yn ystyried adroddiadau eraill yn ofalus iawn, ynghyd â sylwebaeth arall a wneir, ond gan gynnwys yr adroddiad gan Gordon Brown, sy'n nodi beirniadaeth radical iawn o'r system bresennol, sy'n dweud yn glir iawn nad yw'r status quo yn gweithio, ac sy'n cyflwyno cyfres o egwyddorion a chynigion mewn perthynas â diwygio radical, ac un ohonynt, mewn gwirionedd, yw diddymu Tŷ'r Arglwyddi a chael rhywbeth yn ei le. Rwy'n credu bod llawer yn yr egwyddorion hynny sy'n haeddu cael eu hystyried yn ddifrifol iawn, ac rwy'n gobeithio gallu gwneud datganiad ar lafar i'r Senedd hon ym mis Ionawr, pan gawn gyfle i drafod ac ystyried llawer o'r materion pwysig hyn yn fanwl. Nid yw'n ymwneud â'r cyfansoddiad fel y cyfryw, ond y cyfansoddiad yw'r modd y caiff pŵer ei arfer. Dyna sy'n effeithio ar fywydau pobl o ddydd i ddydd. Mae'n bwysig i ansawdd bywyd pobl Cymru, a dyna pam ei fod yn bwysig i ni, a pham fod gennym y comisiwn a pham ein bod yn cael y trafodaethau hyn. 

Fel y dywedodd Mabon, mae cwestiynau 3 a 5 wedi eu grwpio. Janet Finch-Saunders. 

Diolch, Lywydd. Wrth gwrs, fy nghwestiwn gwreiddiol oedd pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys nad oes gan Senedd yr Alban bŵer i ddeddfu ar gyfer cynnal refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban. Nawr, rwy'n credu bod y canlyniad hwn yn arwyddocaol iawn i Gymru a'r Alban yn gyfansoddiadol. Yn y bôn, mae'n golygu na chaiff Cymru gynnal refferendwm ar annibyniaeth heb gymeradwyaeth San Steffan. Yn wir, fel y dywedodd yr Athro Aileen McHarg, mae'r undeb a Senedd y DU hefyd wedi'u cadw'n ôl dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mae'r ffordd yr edrychir i weld a yw Bil yn ymwneud â materion a gadwyd yn ôl yr un fath.  

Bob tro y mae cwestiwn annibyniaeth wedi ei roi i bobl Cymru, ac yn fwyaf diweddar, digwyddodd hynny yn etholiad 2021 y llynedd, daeth y blaid a wnaeth y cynigion hynny yn drydydd pell. Mae pobl Cymru wedi siarad ag un llais, gan ddweud eu bod eisiau aros mewn Teyrnas Unedig gref. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, yn wahanol i Blaid Cymru, sy'n parhau i siarad am ddatganoli pellach ac annibyniaeth yn wythnosol bron, na ddylid gwastraffu unrhyw adnoddau ac amser pellach ar y cwestiwn cyfansoddiadol hwn, ac y dylem ganolbwyntio nawr ar ddefnyddio Llywodraeth Cymru a'r adnoddau seneddol o'i mewn i wneud y gorau o'r pwerau sydd gennym? Mewn geiriau eraill, cael trefn ar ein gwasanaeth iechyd sy'n methu, cael trefn ar y safonau isel mewn addysg—

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

—cael trefn ar ein seilwaith, ein trafnidiaeth. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen, ond nid yw'n gadael imi wneud hynny. 

—sy'n wynebu pobl Cymru a llai ar y prosiect porthi balchder hwn i Blaid Cymru?  

Wel, rwy'n credu ein bod yn mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar bobl Cymru. Ac rydych chi'n hollol gywir yn eich dehongliad o'r hyn y mae dyfarniad y Goruchaf Lys yn ei olygu mewn perthynas â chynnal refferendwm o dan y ddeddfwriaeth refferenda. Er hynny, lle rwy'n credu eich bod chi'n anghywir yw wrth ddweud bod hynny felly'n golygu bod popeth yn iawn ac nad oes problemau cyfansoddiadol mawr a materion diwygio cyfansoddiadol y mae angen mynd i'r afael â hwy. Pwrpas edrych ar ddiwygio cyfansoddiadol yw, yn gyntaf, pan fo'n glir iawn ac yn cael ei gydnabod ar draws pleidiau, gan bobl flaenllaw iawn ym mhob plaid wleidyddol a chan nifer o sylwebwyr eraill ac aelodau o'r cyhoedd hefyd, nad yw'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd yn gweithio, nad yw'n ddigonol, ei fod yn hen ffasiwn ac angen ei ddiwygio. Y rheswm pam mae'r materion hyn yn bwysig a pham mae angen inni roi sylw iddynt yw oherwydd mai ein cyfansoddiad, ein pwerau a'r ffordd y mae Llywodraeth yn gweithredu sy'n ymwneud ag ystyried y rheini, ynglŷn â sut y gallwn wneud pethau'n well, a sut y gallwn newid bywydau pobl er gwell. Mae hynny'n cael ei lywodraethu—[Torri ar draws.

Mae'n ddrwg gennyf eich clywed yn ymateb yn y ffordd honno i'r hyn rwyf newydd ei ddweud, oherwydd dyna pam ein bod yn cael y trafodaethau hyn—dyna pam eu bod yn bwysig. Os oeddech chi'n credu nad yw trafod materion yn ymwneud â chyfansoddiad yn bwysig, ni fyddai gennym Fil Protocol Gogledd Iwerddon, ni fyddai gennym Fil cyfraith yr UE a ddargedwir, ni fyddai gennym y ddeddfwriaeth Bil Hawliau sy'n cael ei chynnig ychwaith, ac ni fyddem yn siarad yn gyson am y materion sydd wedi dod i'r amlwg dros y chwe blynedd diwethaf mewn perthynas â Brexit. Mae'r rheini i gyd yn faterion cyfansoddiadol ac maent yn effeithio ar fywydau pobl. Yr hyn a wnawn ni yw edrych ar y ffordd y mae ein perthynas â gweddill y DU yn gweithio, ond hefyd sut rydym yn arfer ein pwerau, sut rydym yn cael y pwerau sydd eu hangen arnom er mwyn cyflawni'r mandadau a gawn gan bobl Cymru, sut rydym yn gwella ein llywodraethiant, a sut rydym yn gwella'r rhan y mae pobl Cymru yn ei chwarae yn ein gwleidyddiaeth.

14:50
Diwygio Tribiwnlysoedd Cymru

4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ynglŷn â diwygio Tribiwnlysoedd Cymru? OQ58818

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae’r ddogfen 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' yn nodi ein bwriad i fynd ati i ddiwygio er mwyn creu system tribiwnlysoedd fodern i Gymru. Rydyn ni’n llunio cynigion manwl ar gyfer diwygio, ar sail y dystiolaeth ar gyfer newid a'n sgyrsiau gyda'r rhai sy’n cael eu heffeithio gan yr agenda diwygio.

Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Mae nifer yn dweud nad oes dim awdurdodaeth gyfiawnder yng Nghymru. Wel, dyw hynny ddim yn wir. Mae yna awdurdodaeth gyfiawnder fechan yng Nghymru, a hynny drwy'r system tribiwnlysoedd. A hithau'n flwyddyn ers cyhoeddi adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar sut i wella'r tribiwnlysoedd Cymreig, a hynny yn llwyr o fewn pŵer Llywodraeth Cymru i wneud hynny ac i helpu nifer fawr o ddefnyddwyr y tribiwnlysoedd, a oes modd i chi nawr, wedi blwyddyn, roi amserlen bendant i ni am bryd y gwelwn ni'r strwythur newydd i'r tribiwnlysoedd, a phryd y gwelwn ni, am y tro cyntaf mewn canrifoedd, y system apêl gyntaf yng Nghymru? Diolch yn fawr. 

Yn gyntaf, diolch. Mae'n amlwg fod gwaith ar y gweill mewn perthynas â'r gwaith polisi a'r gwaith deddfwriaethol ar argymhellion Comisiwn y Gyfraith mewn perthynas â thribiwnlysoedd. Ar y pwynt rydych chi'n ei godi ar awdurdodaeth, rwy'n credu bod y dadansoddiad o awdurdodaethau o ran beth yw awdurdodaeth mewn gwirionedd o'i gymharu â'r hyn y dywedir ydyw bob amser wedi bod braidd yn rhy syml. Oherwydd mae tribiwnlysoedd yn llysoedd cyfiawnder gweinyddol arwyddocaol iawn, ac edrychwn ymlaen at ddeddfwriaeth, a fy mwriad fydd parhau â'r gwaith hwnnw. Bydd cyhoeddiad maes o law mewn perthynas â deddfwriaeth ac amserlen ar gyfer creu tribiwnlys haen gyntaf, ond yn yr un modd, creu proses apeliadol ar gyfer hynny. Mae angen i unrhyw lys gweinyddol gael system apelio, a dyma fyddai'n digwydd wrth greu system apelio. Rwy'n credu y byddai'n rhan sylweddol iawn o ddatblygiad datganoli cyfiawnder yn gyffredinol.

Wrth gwrs, mae yna feysydd eraill hefyd. Rhaid i mi awdurdodi erlyniadau o dan gyfraith Cymru wrth gwrs. Rwy'n credu bod hynny'n rhan o'n hawdurdodaeth—mae hynny'n rhan o'n proses farnwrol. Pan fydd cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf wedi'u datganoli, rwy'n credu y bydd hynny'n estyniad pellach eto, a maes o law, fe geir trafodaethau adeiladol pellach dros ddatganoli'r system gyfiawnder ymhellach.

14:55
Datganoli Cyfiawnder Ieuenctid

6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith eraill ynglŷn â datganoli cyfiawnder ieuenctid i Gymru? OQ58819

Diolch. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, yr Arglwydd Bellamy. Rwyf wedi gwneud, a byddaf yn parhau i wneud, yr achos dros ddatganoli cyfiawnder ieuenctid i Gymru yn ystod y trafodaethau hyn.

Gwnsler Cyffredinol, diolch am eich diweddariad ar hyn. Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r Athro Kevin Haines a'r Athro Jonathan Wynne Evans, dau arbenigwr arloesol ym maes cyfiawnder ieuenctid, a siaradodd gyda mi ynglŷn â sut mae ein dull ni yng Nghymru yn ystyried eu bod yn blant yn gyntaf ac yn droseddwyr yn ail, ac fe wnaethant alw hyn yn ôl yn 2013 yn 'ddraigeiddio' cyfiawnder ieuenctid. Ac mae a wnelo hyn i gyd â gwneud yn siŵr fod y plentyn yn dod gyntaf a'r drosedd yn cael sylw wedyn. Mae tystiolaeth yn dangos bod hybu lles plant a phobl ifanc yn lleihau'r risg o droseddu ac aildroseddu, ac mae gwneud hynny'n diogelu'r cyhoedd hefyd. Felly, mae'n hynod amserol gweld mai datganoli cyfiawnder oedd un o argymhellion adroddiad diweddar Gordon Brown. Rwy'n ymwybodol fod hwn yn fater y mae'r Cwnsler Cyffredinol hefyd yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yn ei gylch, ac a gawn ni ddiweddariad ar y trafodaethau hynny a'u harwyddocâd i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf i Gymru, os gwelwch yn dda?

Diolch am y cwestiwn, ac mae'n faes pwysig iawn, ac rwyf mor falch â chithau o'r ffocws penodol iawn ar gyfiawnder ieuenctid, oherwydd dyna'r maes mwyaf amlwg lle ceir ymylon garw o'r fath. Er bod cyfiawnder ieuenctid yn parhau i fod heb ei ddatganoli, mae gwasanaethau datganoledig, serch hynny, megis tai, addysg a gofal iechyd, yn chwarae rhan mor sylfaenol wrth ddargyfeirio pobl ifanc oddi wrth y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, ac fel y dywedwch, maent yn allweddol i alluogi atal ac ymyrraeth gynnar.

Wrth gwrs, mae gennym y glasbrint cyfiawnder ieuenctid i Gymru a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2009. Mae hwnnw'n gosod ein gweledigaeth ar gyfer cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru fel y cytunwyd arni gyda Llywodraeth y DU, ac mae'n mabwysiadu ymagwedd sy'n rhoi plant yn gyntaf, sy'n golygu gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y plentyn yn hytrach na ffordd sy'n canolbwyntio ar y gwasanaeth, gyda ffocws, rwy'n credu, ar ymarfer wedi'i lywio gan drawma, atal plant rhag dod i gysylltiad â'r system gyfiawnder a diwallu anghenion unigol plant o fewn y system gyfiawnder. Dyna pam ei fod mor bwysig i ni.

Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn codi hyn ar bob achlysur a phob cyfle gweinidogol a gaiff. Rwyf innau hefyd yn ei godi, ac yng nghyd-destun datganoli cyfiawnder, ac fel y gwnaethom ar y cyd yn y papur 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru'. Felly, fe'i codais, fel y dywedais, gyda'r Arglwydd Bellamy ddoe. Yfory, byddaf yn cyfarfod â llywydd Cymdeithas y Gyfraith ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd, a byddaf yn codi hynny eto, oherwydd mae cael cefnogaeth gan y proffesiwn cyfreithiol, gan y rhai sy'n ymarfer yn y maes sy'n arbenigwyr, yn hanfodol bwysig yn fy marn i ac yn bwysig i ddealltwriaeth pobl ynglŷn â pham mae hyn mor bwysig i ni, a pham mae'n rhaid iddo ddigwydd, a pham rwy'n argyhoeddedig y bydd yn digwydd mewn gwirionedd.

Y Broses Cydsyniad Deddfwriaethol

7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud ynghylch a yw'r broses cydsyniad deddfwriaethol yn addas i bwrpas? OQ58836

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Dylai deddfwriaeth sylfaenol y gellir ei gwneud yng Nghymru gael ei gwneud yng Nghymru. Ambell waith, mae’n bosib y bydd yn synhwyrol a manteisiol i ddarpariaeth sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd gael ei gwneud mewn Biliau gan Senedd y Deyrnas Unedig, ond rhaid i’r Senedd fod wedi cydsynio i hyn bob amser.

Diolch i'r Cwnsler am yr ateb yna. Dwi'n cytuno efo'ch brawddeg agoriadol: dylai deddfau i Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, a dylai fod yna atalnod llawn yn fanna. Dwi wedi bod yn Aelod etholedig o'r Senedd yma am flwyddyn a hanner bellach, ond yn barod—ac mae'n loes calon gen i ddweud hyn—dwi'n colli hyder yn y broses ddatganoli fel mae hi'n cael ei gweithredu yma ar hyn o bryd. Mae'n berffaith amlwg i mi fod y setliad sydd gennym ni yn gwbl annerbyniol.

Fel aelod o'r Pwyllgor Tai a Llywodraeth Leol, rydyn ni wedi derbyn sawl LCM, ac yna LCM atodol, ail LCM atodol, trydydd LCM atodol ac yn y blaen ac yn y blaen. Mae'r cydsyniadau deddfwriaethol yma yn ymwneud â deddfau ar gyfer Lloegr sydd yn dylanwadu ar Gymru, ond prin iawn ydy'r amser sydd gennym ni i graffu arnyn nhw. Dyma ddeddfwriaeth sydd am effeithio ar fywydau pobl Cymru, ond rydyn ni'n cael rhyw chwarter awr yma ac acw i graffu arnynt a gofyn cwestiynau, heb sôn am y ffaith nad ydy pobl Cymru'n cael unrhyw fewnbwn. Mae'n hollol annerbyniol a gallwn ni ddim parhau i weithredu fel yma. Mae'n rysáit perffaith ar gyfer deddfwriaeth wael. Felly, yn absenoldeb annibyniaeth i'n cenedl, mae'n rhaid inni gael setliad datganoli clir ac mae'n rhaid hefyd i Loegr gael ei Senedd ei hun efo rhaniad clir rhwng pwy sy'n gyfrifol am beth a dim amwysedd. Ydy'r Cwnsler felly yn rhannu fy rhwystredigaeth, a pha gamau mae'r Llywodraeth yma'n eu cymryd er mwyn datrys hyn?

15:00

Diolch. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi gwneud sylwadau arno’n rheolaidd iawn gerbron y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ac mewn cwestiynau yn y Senedd hon, gan fod ymgysylltu effeithiol rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraethau datganoledig ynghylch deddfwriaeth yn hanfodol bwysig. Methiant hynny i weithredu fel y dylai ac yn unol â’r memoranda datganoli ac ati yw un o’r rhwystrau mwyaf rhag cael proses ddeddfwriaethol effeithlon ac effeithiol y gellir craffu arni. Pan na chaiff gwybodaeth ei rhannu, pan na chaiff drafftiau eu rhannu mewn da bryd, nid yn unig fod hynny'n creu pwysau sylweddol ar y rheini sy'n gorfod ei ddadansoddi a’i ddeall, ond mae hefyd, yn fy marn i, yn wastraff aruthrol ar adnoddau y gellid eu defnyddio mewn ffyrdd eraill.

Rydym wedi bod yn pwyso am system ymgysylltu fwy cyson a mwy effeithiol. Rydym wedi cael addewidion wrth gwrs, ac rydym yn cael sicrwydd y bydd hynny’n digwydd. Wrth gwrs, mae gennym drefniant rhynglywodraethol newydd nad yw ar waith yn iawn o hyd, ond efallai y bydd hynny'n gwella'r sefyllfa. Ond credaf fod angen diwygio cyfansoddiadol mwy ystyrlon. Credaf fod yn rhaid i ddiwygio cyfansoddiadol gynnwys traddodadwyedd Sewel mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ymwreiddio Sewel, mewn ffordd, gan fod llawer o’r problemau sy’n dod i’r amlwg drwy’r prosesau hyn yn ymwneud â Sewel wrth gwrs.

Ar broses y cynigion cydsyniad deddfwriaethol, wrth gwrs, nid oes gennym unrhyw reolaeth ystyrlon dros hynny, gan fod yn rhaid inni weithredu yn unol â'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â deddfwriaeth. Os yw’n effeithio ar y Senedd, neu ar swyddogaethau Gweinidogion Cymru, mae’n rhaid ei ystyried o ran ei effaith ar y lle hwn, ond hefyd o ran y modd y caiff ein pwerau eu harfer ac a ddylem roi cydsyniad i unrhyw un o'r eitemau hynny. Mae hynny'n amlwg yn cynnwys proses arteithiol iawn o negodiadau a thrafodaethau ynghylch gwelliannau deddfwriaethol ac ati, proses hirfaith. Mae'n gwbl aneffeithlon. Mae’n wastraff llwyr ar adnoddau o ran y ffordd y caiff y pethau hyn eu gwneud.

Unwaith eto, mae’n ddrwg gennyf am gyfeirio at hyn dro ar ôl tro, ond gwnaeth rhai o’r argymhellion a’r dadansoddiadau sy’n ymddangos yn adroddiad Gordon Brown argraff fawr arnaf, gan y byddent yn rhoi’r statws traddodadwy hwnnw i Sewel, ond byddent hefyd yn creu strwythur cyfansoddiadol penodol ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol gyda gweithdrefn anghydfodau draddodadwy. Pe bai hynny’n bodoli, byddai’n gam pwysig ymlaen ar gyfer ymdrin â’r pwyntiau a godwyd gennych. Nid oedd unrhyw beth newydd yn y pethau hynny mewn gwirionedd—mae'r rhain yn bethau rydym wedi bod yn eu dweud mewn gwahanol ffyrdd ers peth amser—ond maent yn bethau y mae angen mynd i'r afael â hwy, a hyd nes yr eir i'r afael â hwy, bydd y strwythur camweithredol sydd gennym ar hyn o bryd yn parhau.

Mynediad at Gyfiawnder

8. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o fynediad at gyfiawnder yng Nghymru? OQ58817

Golyga'r argyfwng costau byw ei bod yn hanfodol fod cyngor cyfreithiol yn hygyrch er mwyn diogelu hawliau pawb, ac eto, mae Llywodraeth y DU wedi erydu cyfiawnder i’r fath raddau nes bod hygyrchedd a fforddiadwyedd cyfiawnder sifil yn y Deyrnas Unedig bellach yn is na chyfartaledd byd-eang Mynegai Rheolaeth y Gyfraith Prosiect Cyfiawnder y Byd.

Yn gynharach eleni, Gwnsler Cyffredinol, fe fyddwch yn gwybod—mae'n teimlo fel dau neu dri o Brif Weinidogion y DU yn ôl bellach—fod y pwyllgor a gadeiriaf wedi cynnal ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru. Un o’r pwyntiau a ddaeth i’r amlwg drwy hynny oedd effaith dra hysbys Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 a’r effaith y mae hynny wedi’i chael o ran lleihau mynediad at gymorth cyfreithiol. Er yr hyn a groesawyd gan randdeiliaid ar ffurf buddsoddiad Llywodraeth Cymru, tynnodd sylw hefyd at effaith llai o fynediad at lysoedd a thribiwnlysoedd, a’r gwahaniaethau daearyddol sydd gennym yng Nghymru yn ogystal ag atal mynediad at gyfiawnder. Tynnodd sylw hefyd at hygyrchedd cyfraith Cymru a’r angen i gael eglurder yng nghyfraith Cymru, yn enwedig mewn meysydd a ystyrir yn rhai blaengar—ar agweddau ar gyfraith gymdeithasol ac yn y blaen. A gaf fi ofyn yn fyr iddo—? Dywedodd un o’r ymatebwyr wrthym:

'Dyma'r broblem gyda'r ffaith nad oes gennym system gyfreithiol ddatganoledig...y drafferth yw bod cymorth cyfreithiol dan reolaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Llundain'.

Ac mae hwn yn ddyfyniad uniongyrchol gan ymarferydd:

'nid oes ots ganddynt beth sy'n digwydd yng Nghymru, a dweud y gwir... ac mewn gwirionedd, weithiau, mae cymorth cyfreithiol yn cael ei wrthod ar sail nad yw'n berthnasol i Gymru'.

Gwnsler Cyffredinol, a ydych yn cytuno â mi y bydd y materion hyn yn parhau i achosi creithiau yng Nghymru ar gymdeithas ar ymylon garw cyfiawnder, ac na fydd anwybyddu'r broblem hon yn gwneud iddi ddiflannu?

15:05

Rwy'n cytuno â chi. Argymhellwyd datganoli cyfiawnder gan gomisiwn Thomas. Rwyf wedi gwneud llawer o sylwadau yn y gorffennol am fethiannau’r ymagwedd at gymorth cyfreithiol dros ddegawdau lawer, a’i bwysigrwydd i rymuso pobl. Ac wrth gwrs, mae Mynegai Rheolaeth y Gyfraith diweddar Prosiect Cyfiawnder y Byd wedi rhoi’r Deyrnas Unedig, ar gyfartaledd, yn bymthegfed yn y byd, ond o ran mynediad at fforddiadwyedd cyfiawnder sifil, roedd y Deyrnas Unedig yn safle 89 allan o 140 o wledydd, gan ein rhoi y tu ôl i Ffederasiwn Rwsia, Rwmania, Belarws, El Salvador, Paraguay, Botswana, y Traeth Ifori a llawer o wledydd eraill. Mae hynny’n warth ar y Llywodraeth.

Yr hyn rwy'n ei chael yn anodd iawn ei dderbyn, wrth gwrs, yw bod gennym bellach Is-ysgrifennydd dros gyfiawnder, yr Arglwydd Bellamy, sydd wedi bod yn barchus iawn ac sydd wedi bod yn gyfeillgar iawn—bu yma ddoe yn ymweld; rhoddodd dystiolaeth i'ch pwyllgor—ond mae gennym hefyd Arglwydd Ganghellor sydd wedi gwrthod rhannau mawr ac elfennau allweddol o adroddiad Bellamy ar yr adolygiad o gymorth cyfreithiol, i'r fath raddau—. Dyfynnaf y sylw hwn gan Gymdeithas y Cyfreithwyr mewn perthynas â'r penderfyniad ychydig ddyddiau yn ôl gan Dominic Raab. Dywed fod:

'Niferoedd cyfreithwyr ar ddyletswydd a chwmnïau cymorth cyfreithiol troseddol yn parhau i leihau'n frawychus o gyflym—gyda nifer o gynlluniau mewn gorsafoedd heddlu ar fin methu.'

Rydym yn ymwybodol o hynny yn ein Cymoedd, sy'n anialwch o ran cyngor.

'Mae mynediad at gyfiawnder—gan gynnwys yr hawl sylfaenol i gynrychiolaeth yng ngorsaf yr heddlu—mewn perygl difrifol, ac mae'r llywodraeth yn anwybyddu'r bygythiad.'

Dywed fod y penderfyniad diofal yn

'debygol o fod yn ergyd farwol i system cyfiawnder troseddol a arferai fod yn destun cenfigen i weddill y byd.'

Cytunaf yn llwyr â'r dadansoddiad hwnnw. Mae'r £11 miliwn rydym wedi'i roi yn ein cronfa gynghori sengl yn allweddol ar gyfer rhoi rhywfaint o gynrychiolaeth, o leiaf, i'r bobl sydd fwyaf o angen y mynediad hwnnw, ond nid yw'n gwneud y tro yn lle system fynediad at gyfiawnder wedi'i hariannu'n briodol.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Eitem 3 yw cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Heledd Fychan, a bydd e'n cael ei ateb gan Joyce Watson.

Nwyddau Mislif am Ddim

1. Beth yw polisi'r Comisiwn o ran darparu cynnyrch mislif am ddim ar ystâd y Senedd? OQ58820

2. Sut mae'r Comisiwn yn sicrhau ei fod yn hawdd i staff gael gafael ar gynhyrchion misglwyf am ddim ar ystâd y Senedd? OQ58824

Diolch am eich cwestiwn. Mae Comisiwn y Senedd yn ymdrechu i fod yn esiampl dda yn y modd y mae'n cyflawni ei bolisïau a'i mesurau urddas a pharch. Mae’n bleser gennyf gadarnhau, yn sgil y gwaith rhagorol gan swyddogion undebau llafur, fod y Comisiwn wedi cytuno i ddarparu nwyddau mislif am ddim ar ystad y Senedd i unrhyw un sydd eu hangen, o 2 Rhagfyr ymlaen, i hyrwyddo urddas mislif ledled Cymru a bod yn esiampl i sefydliadau eraill. Mae’r nwyddau hynny ar gael yn yr holl doiledau ar ystad y Senedd, gan gynnwys arwyddion i hyrwyddo’r gwasanaeth hwnnw.

Diolch yn fawr iawn. Mae'n rhaid cyfaddef, roedd hi'n wych gweld y cynnyrch yn y tai bach ers yr wythnos hon. Rwyf eisiau gofyn hefyd, pryd bydd y peiriannau talu, felly, yn cael eu tynnu o’r tai bach? Oherwydd mae'n neges gymysg ar y funud, gan ein bod ni dal efo'r peiriannau lle mae'n rhaid talu. Pryd bydd yr arwyddion yn fwy parhaol? Oherwydd arwyddion dros dro ydyn nhw. Dwi'n deall bod hwn yn rhywbeth newydd, ond, er mwyn sicrhau bod hwn yn ddatblygiad parhaol, ydy hwn yn bolisi sydd wedi'i gadarnhau rŵan? Yn olaf, sut bydd y ffaith bod hyn ar gael yn cael ei chyfathrebu i bobl sy’n ymweld o ran diweddaru'r wefan ac yn y blaen? Oherwydd dwi'n meddwl ei bod hi'n eithriadol o bwysig bod unrhyw ymwelydd yn gwybod bod hyn ar gael. Efallai ein bod ni angen gwneud mwy er mwyn dathlu hyn a hyrwyddo, yn yr un modd ag y mae Senedd yr Alban yn ei wneud.

15:10

Cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywedwch. Rwy'n siŵr fod y neges ynglŷn â diweddaru’r wefan i wneud yn siŵr wedi'i chlywed. Byddwn yn cael gwared â'r 39 o beiriannau gwerthu y cyfeiriwch atynt. Maent yn costio £110 y flwyddyn yr un, a'r cyfanswm yw £4,290 y flwyddyn. Roedd y bocsys o nwyddau'n costio £1 yr un, sydd, wrth gwrs, yn llawer uwch na'r hyn y byddech yn ei dalu mewn siop. Mae'r peiriannau gwerthu hynny, fel rwyf newydd ei ddweud, bellach yn cael eu newid am nwyddau mislif rhad ac am ddim ym mhob un o'r toiledau. Amcangyfrifir mai oddeutu £3,000 y flwyddyn yw cost gwneud hynny, yn seiliedig ar yr hyn y mae'r Alban wedi'i wneud, felly rydym wedi rhoi darpariaeth ar waith yn y gyllideb i'r perwyl hwnnw. Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedwch am sicrhau bod pawb, nid yn unig ni yn y lle hwn, yn gwybod eu bod ar gael, a bod gennym doiledau sy’n trin pobl ag urddas a pharch. Rhaid inni sicrhau eu bod yn gwybod am hynny.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am gytuno i grwpio'r cwestiynau. Gomisiynydd, diolch am eich ateb i Heledd Fychan. Y rheswm pam y cyflwynais y cwestiwn hwn oedd yn dilyn sgwrs a gefais gydag aelod o staff. Daethant ataf i ofyn a oedd gennyf ddarn £1 i'w ddefnyddio mewn peiriant gwerthu yn Nhŷ Hywel. Nid oedd un gennyf—ychydig iawn o bobl sydd ag un y dyddiau hyn. Esboniodd i mi pa mor rhwystredig ac aflonyddgar y gallai fod i'w diwrnod pan nad oedd yn hawdd cael gafael ar anghenraid sylfaenol. Felly, rwy'n falch, nawr, ers i'r cwestiynau hyn gael eu cyflwyno yr wythnos diwethaf, ein bod mewn sefyllfa lle mae nwyddau mislif ar gael am ddim.

A gaf fi ofyn dau beth i'r Comisiynydd—a diolch iddi am y gwaith y mae wedi’i wneud ar hyn? A yw hyn yn rhywbeth parhaol yn y Senedd, yn Senedd Cymru? A gaf fi hefyd ofyn i chi a'r Comisiwn ystyried darparu nwyddau mislif ecogyfeillgar i staff yn y dyfodol?

Unwaith eto, diolch, Jack, am eich diddordeb ym mhopeth sy'n ymwneud â chydraddoldeb. Fe ofynnoch chi ddau gwestiwn. A yw'n rhywbeth parhaol? Credaf ei fod yn barhaol. Ar gynnyrch cynaliadwy, fe welwch fod cymysgedd o nwyddau eisoes ar gael yn ein cyfleusterau. Y nod yw profi’r rheini, i weld y defnydd ac anelu tuag at gynaliadwyedd o 100 y cant gyda'n cynnyrch, sydd, wrth gwrs, yn unol â’n polisi ehangach i anelu at gynaliadwyedd amgylcheddol ym mhopeth a wnawn.

Lleihau Biliau Ynni

3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei strategaeth ar gyfer lleihau biliau ynni ar ystâd y Senedd? OQ58837

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch eto i fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone, gan nad dyma'r tro cyntaf—mae'n deg dweud eich bod yn mynd ati'n rhagweithiol iawn i sicrhau ein bod yn lleihau ein defnydd o ynni ar yr ystad hon. Rwy’n falch o gadarnhau bod y Comisiwn wedi cytuno i roi ystod o fesurau arbed ynni ychwanegol ar waith ar ystad y Senedd i gefnogi ei strategaeth carbon niwtral 2030 ac mewn ymateb i gostau cynyddol ynni a chyfleustodau. Mae'r rhain yn cynnwys lleihau lefel y gwresogi ar draws yr ystad 1 radd canradd i 20 gradd canradd; diffodd y gwres mewn lobïau lifftiau ac mewn mannau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar rai dyddiau, megis Siambr Hywel; diffodd y gwres i fannau lle na wneir llawer o ddefnydd ohonynt os o gwbl ar rai dyddiau, yn ardaloedd staff y Comisiwn ac ardaloedd Llywodraeth Cymru; ac annog y staff hynny i ddefnyddio mannau llai o faint sy'n cael eu gwresogi. Mae newidiadau wedi'u gwneud hefyd i amserlenni gweithredol adeiladau ar ddechrau a diwedd dyddiau lle bo hynny'n berthnasol. Amcangyfrifir y bydd y newidiadau hyn yn arwain at arbediad ynni o 15 y cant. Mae'r Comisiwn yn amlwg yn adolygu'r mater hwn yn gyson, ac mae gennyf ragor o nodiadau ar y pwnc os hoffai'r Aelod imi anfon y nodiadau hyn atoch, er mwyn rhoi mwy o fanylion ynglŷn â phopeth sy'n digwydd ar yr ystad hon.

15:15

Diolch am eich ymateb, Janet Finch-Saunders. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael ein gweld yn gwneud yr hyn y gofynnwn i bobl eraill ei wneud. Felly, credaf fod llawer mwy o gynnydd yn cael ei wneud ar sicrhau bod y goleuadau trydan yn dod ymlaen pan fydd eu hangen arnom yn unig, ac rwyf wedi sylwi nad ydym bellach yn gwresogi rhannau o'r ystad lle nad oes angen inni eistedd na chael cyfarfodydd ynddynt. Mae yna lawer o’n staff nad ydynt yn rhoi eu gwres ymlaen gartref, gan imi gael sgwrs ynglŷn â hyn y bore yma, gyda phawb yn dweud eu bod yn gwisgo blancedi, gan fod cymaint o bobl yn ofni rhoi’r gwres ymlaen.

Felly, mae'n wych gweld eich bod yn gobeithio gwneud arbediad ynni o 15 y cant. Yr hyn yr hoffwn ei ganfod maes o law mewn gwirionedd, fyddai syniad o'r ynni a arbedwyd rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror, sef y misoedd oeraf, o gymharu â mis Rhagfyr i fis Chwefror y llynedd. Ni fydd o reidrwydd yn arbediad ariannol, ond gobeithio y bydd yn arbediad o ran ynni.

Fel y dywedais, mae llawer o bethau cadarnhaol ynghylch yr hyn y mae pawb yn ei wneud yma. Fodd bynnag, yr hyn a ddywedwn—yn ogystal â chyflwyno'r mesurau hyn, mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom fel defnyddwyr adeiladau i chwarae ein rhan wrth gynorthwyo gyda mesurau arbed ynni. Rwy’n derbyn eich pwynt ynglŷn â mis Ionawr a mis Chwefror, gan mai hwy, rwy'n credu, i bawb sy’n cyllidebu ar gyfer y cartref, yw'r cyfnodau tyngedfennol. Gall yr Aelodau eu hunain addasu’r lefelau gwresogi ac oeri yn eu swyddfeydd i leihau’r defnydd o ynni a chyfleustodau ymhellach, a gallant hefyd sicrhau bod offer yn eu swyddfeydd yn cael ei ddiffodd pan na chaiff ei ddefnyddio. Fel Senedd, mae gennym eisoes nifer o systemau sy’n cael eu rheoli gan synwyryddion symud—er enghraifft, mewn swyddfeydd, bydd goleuadau’n diffodd yn awtomatig pan na fydd unrhyw symudiadau'n cael eu synhwyro—ac yn yr un modd, mewn ystafelloedd bwyta, bydd y system aerdymheru'n diffodd pan na fydd unrhyw symudiadau'n cael eu synhwyro. Mae hyn oll, wrth gwrs, yn helpu i chwarae rhan sylweddol wrth sicrhau nad yw ynni’n cael ei wastraffu mewn ardaloedd gwag. Mae’r newidiadau hyn wedi’u cyfleu a’u cytuno gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys penaethiaid staff, ni fel Comisiynwyr, undebau llafur a rhwydweithiau, ac mae gwybodaeth am y newidiadau hyn ar gael ar y fewnrwyd.

Fel y Comisiynydd cynaliadwyedd, mae'n bwysig ein bod yn gwneud yn wirioneddol sicr nad ymwneud yn unig â'r ffaith am yr ynni a'n hamcanion hinsawdd a charbon yn unig y mae hyn; mae a wnelo â chost hefyd, oherwydd yn y pen draw, pan fo pobl, fel y dywedwch yn gywir ddigon, yn ofni rhoi’r gwres ymlaen gartref, byddai’n edrych yn ddrwg iawn pe baem yn gwastraffu ynni yma i unrhyw raddau. Felly, gallaf roi sicrwydd i chi fy mod yn gweithio gyda'r adran i sicrhau ein bod yn rhedeg ystad y Senedd yn y ffordd fwyaf effeithlon sy'n bosibl. Diolch.

Ac yn olaf, bydd cwestiwn 4 yn cael ei ateb gan Ken Skates, a galwaf ar Huw Irranca-Davies i ofyn ei gwestiwn.

Ceir Trydan

4. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cynllun cymorth aberth cyflog i geir trydan ar gyfer staff y Comisiwn a staff Aelodau o'r Senedd? OQ58815

Rwy'n falch o ddweud bod cynnydd rhagorol wedi'i wneud ar weithredu cynllun aberthu cyflog er mwyn cael cerbydau trydan i'r Aelodau, i staff yr Aelodau ac i staff y Comisiwn. Mae’r bwrdd gweithredol wedi cymeradwyo’r cynllun mewn egwyddor, yn dilyn gwaith cefndir manwl, ac mae trefniadau terfynol bellach ar waith i sefydlu’r systemau a’r prosesau angenrheidiol yn y Senedd a chyda gweithredwr y cynllun. Rwy'n falch o ddweud ein bod yn rhagweld y bydd y rhain yn cael eu cwblhau cyn bo hir, yn barod ar gyfer lansio'r cynllun fis nesaf. Bydd gweithredu’r cynllun yn cefnogi strategaeth carbon niwtral 2030 y Comisiwn wrth gwrs, a thargedau teithio cynaliadwy.

Mae hynny'n newyddion gwych iawn, ac mae'n dda clywed y bydd ar waith cyn bo hir. Dylwn dynnu sylw at y ffaith nad ceir trydan, yn fy marn i, yw’r ateb terfynol i'r broblem. Bydd llawer o bobl a fydd yn teithio yma i weithio neu o gwmpas yr etholaeth yn gwneud hynny drwy gerdded, beicio neu ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond maent yn un ffordd o fynd i'r afael â’n hargyfwng newid hinsawdd. Ond bydd y comisiynydd yn gwybod y byddwn yn rhagweld, yn y dyfodol, y gellir codi tâl atal tagfeydd ar geir mewn lleoedd yng Nghymru—pwy a ŵyr? Os felly, rydym am roi opsiynau i bobl ynglŷn â sut i osgoi hynny a gwneud hynny gyda cherbydau glân. A gaf fi ofyn sut y byddwch yn cyfleu hynny i'r staff yma yn y Comisiwn ac i staff yr Aelodau pan gaiff ei gyflwyno ym mis Ionawr neu fis Chwefror?

15:20

A gaf fi ddiolch i Huw Irranca-Davies am godi’r cwestiwn pwysig hwn, ac am ei ddiddordeb brwd yn y pwnc? Mae'n llygad ei le, wrth gwrs, er bod ceir trydan yn llawer gwell i'r amgylchedd o ran defnydd dydd i ddydd, maent yn dal i beri problemau gyda deunydd gronynnol o freciau a theiars, felly nid dyma'r ateb terfynol i'r broblem, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies. Serch hynny, byddant yn gwella'r ôl troed carbon cyfunol sydd gennym yma yn y Senedd.

Rydym yn cynnig llunio papur cwestiynau cyffredin a fydd ar gael i Aelodau, i staff yr Aelodau, i staff y Comisiwn—a fydd ar gael ar y fewnrwyd. Ac ym mis Ionawr, byddwn yn lansio tudalennau ar y fewnrwyd gyda gwybodaeth am y cynllun, y costau, y modelau, gweithredwr y cynllun ac ati. Felly, bydd yr holl wybodaeth am y cynllun ar gael i Aelodau, i staff yr Aelodau ac i staff y Comisiwn yn ystod y mis nesaf.

4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol, ac yn gyntaf, cwestiwn gan Heledd Fychan i'w ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Heledd Fychan. 

Siaradwyr Cymraeg yng Nghymru

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddata cyfrifiad 2021 am sgiliau Cymraeg sy’n dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng am yr ail ddegawd yn olynol? TQ694

Er bod y data'n siomedig, mae ein hymrwymiad ni i gynyddu defnydd iaith a chyrraedd y miliwn erbyn 2050 yn parhau. Rhaid edrych yn fanwl ar y cyfrifiad a'r holl ffynonellau data eraill, yn enwedig pan fod arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn dangos tuedd ar i fyny a'r cyfrifiad yn dangos gostyngiad. 

Diolch, Weinidog. A hithau'n Ddiwrnod Hawliau'r Gymraeg heddiw, dwi'n meddwl ei bod hi'n addas iawn ein bod ni'n cael y drafodaeth ac, yn amlwg, mae yna fwy o ddata i'w ryddhau o ran y cyfrifiad hefyd, a dwi'n mawr obeithio, gan fod ein pleidiau ni yn cydweithio ar nifer o elfennau pwysig o ran Cymraeg 2050, y gall y deialog hwnnw barhau. Ac, yn amlwg, mae angen mwy o amser i ddadansoddi a deall y data hwnnw'n fanwl. Ond y gwir amdani ydy mae yna lai o siaradwyr Cymraeg o gymharu â 10 mlynedd yn ôl. Mi fedrwn ni ddadlau o ran y sgiliau rhwng tair a 15 oed, ond dyna beth mae'r cyfrifiad yn ddangos i ni am yr ail ddegawd. Mae hynny'n golygu felly ein bod ni yn bellach o gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg heddiw nag oeddem ni pan sefydlwyd y targed hwnnw. 

Mi fyddwn i'n gofyn felly ein bod ni yn edrych—. Rydyn ni'n gwybod o'r gorffennol o ran targedau fel diddymu tlodi plant erbyn 2020 a beth ydy'r realiti o ran hynny bellach yng Nghymru, bod yn rhaid i ni sicrhau bod sloganau neu nod fel Cymraeg 2050—. Yn amlwg, rydyn ni wastad wedi dweud bod o'n uchelgeisiol, ond rydyn ni hefyd wedi gweld dros y blynyddoedd diwethaf yma, dro ar ôl tro, nifer o awdurdodau lleol, drwy gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, ddim yn cyrraedd y targedau roedden nhw wedi gosod eu hunain o ran cyrraedd y nod. Felly, dwi'n meddwl bod rhaid i ni edrych o ddifrif rŵan, wrth i'r cynlluniau newydd o ran cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ddod i rym, sut rydym ni wedyn yn monitro. 

Yn amlwg, elfen bwysig o ran y cytundeb cydweithio ydy'r Bil addysg Gymraeg, sydd i fod i sicrhau bod pobl ifanc yn medru gadael ysgol gyda'r Gymraeg. Dwi'n meddwl bod rhaid i ni edrych o ddifrif ar gryfder y mesur hwnnw o ran sicrhau bod yr hawl elfennol yna ar gael i bawb, oherwydd os ydym ni o ddifrif—rydym ni'n dweud dro ar ôl tro; rydych chi, Weinidog a dwi'n ategu hynny—bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, os mai dim ond tua 20 y cant o'n plant sydd ar hyn o bryd yn cael y cyfle i gael eu haddysgu yn llawn drwy gyfrwng y Gymraeg, sut mae'r Gymraeg felly yn perthyn i bawb? 

Dwi wedi cyfarfod nifer o bobl ifanc sydd yn 16, 17, a sydd yn dweud yn barod eu bod nhw'n difaru bod nhw heb gael y Gymraeg, eu bod nhw ddim yn hyderus rŵan yn gadael yr ysgol o ran eu sgiliau Cymraeg. Felly, oes, mae yna bethau yn y cytundeb cydweithio eto o ran buddsoddi yn yr oedran hwn, ac mae yna rai pethau calonogol o ran dros 16 a'r Gymraeg, ond fedrwn ni ddim cymryd hynna'n ganiataol. A byddwn i yn gofyn hefyd—. Un o'r pethau rydyn ni wedi trafod droeon hefyd yn y Siambr hon ydy'r pwysigrwydd o ran beth ydy mynediad cydradd i'r Gymraeg a beth mae darpariaeth leol yn ei golygu. A thro ar ôl ar tro, rydyn ni wedi trafod y rhwystrau o ran trafnidiaeth, o ran ysgolion cyfrwng Saesneg newydd sbon yn cael eu hadeiladu, mewn ardaloedd lle mae dirfawr angen ysgolion Cymraeg, ac mae'r rhain yn ysgolion sydd yn cael eu hariannu yn bennaf gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae'n rhaid i'r Bil addysg Gymraeg hwn fod yn un sydd yn sicrhau bod hynny ddim yn parhau, os ydyn ni o ddifri eisiau sicrhau mynediad cydradd.

Mae'r ymdeimlad a'r balchder mae pobl yn ei deimlo yn y Gymraeg yn sgil cwpan y byd—

15:25

Heledd, mae angen ichi ofyn eich cwestiynau nawr, gan fod llawer o gwestiynau eraill gennym i'w gofyn hefyd.

Ocê. Diolch yn fawr iawn. Mae'r ymdeimlad hwnnw yn eithriadol o bwysig, ond gaf i ofyn felly: beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod yr ymdeimlad cenedlaethol hwn, a'r cysylltiad efo'r iaith Gymraeg, yn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fynd ati yn bwysig o ran hynny, ein bod ni ddim jest yn gadael hon yn frwydr i'r siaradwyr Cymraeg, bod hon yn rhywbeth sydd yn bwysig i bawb, lle bynnag eu bo nhw yng Nghymru? Mae yna waith i'w wneud, rydyn ni'n barod i gydweithio a mynd yn bell o ran hyn, ond mae angen i'r Bil addysg y Gymraeg yn sicr fod yn un efo dannedd a sydd yn golygu bod yna newid mawr yn y degawd nesaf yma.

Wel, gwnaf i geisio ymateb i'r ystod eang hynny o sylwadau a chwestiynau. Gwnaeth yr Aelod gychwyn gan ddweud bod y ffigurau'n dangos yn glir ein bod ni'n bellach o'r nod. Mae'n rhaid edrych ar y cyfrifiad, a hefyd y ffynonellau data eraill, sydd yn dangos, fel y gwnes i ddweud ar y cychwyn, bod cynnydd ar yr un amser mae'r cyfrifiad yn dangos gostyngiad, felly mae angen edrych yn ofalus ar y data i gyd, nid jest rhan o'r data. Ond, ar ddiwedd y dydd, nid mewn rheoliadau nac adolygiadau nac ar ffurflenni mae'r Gymraeg yn mynd i ffynnu. Mae'r ffigurau yn Iwerddon yn dangos bod llawer iawn mwy yn siarad y Wyddeleg nag sydd yn defnyddio'r Wyddeleg. Yr hyn rŷn ni eisiau ei weld yn ein hysgolion ni, yn ein hysbytai ni, ein gwasanaethau cyhoeddus ni, ein gweithleoedd ni, ein tafarndai ni, ein clybiau chwaraeon ni, yw bod y Gymraeg yn ffynnu ac yn cael ei defnyddio'n hyderus ac yn naturiol ym mhob cyd-destun. 

Gwnaeth yr Aelod gyfres o sylwadau ynglŷn ag addysg Gymraeg a'r Bil. Wel, mae gennym ni gytundeb yn y cytundeb cydweithio i fynd i'r afael â hynny. Felly, mae proses yn digwydd ar hyn o bryd, fel mae'r Aelod yn gwybod. Mae pobl yn galw am hyn a'r llall; ein swyddogaeth ni fel Llywodraeth yw ceisio delifro ar yr agenda go iawn, ac mae gwahoddiad i Blaid Cymru ymuno â ni i wneud hynny. Mae mwy y gellir ei wneud na jest galw; mae cyfle yma i helpu i ddelifro, felly gwahoddiad ichi wneud hynny hefyd.

Ond, ar ddiwedd y dydd, fel y clywsoch chi'r Prif Weinidog yn ei ddweud ddoe: rŷn ni i gyd eisiau sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i unrhyw blentyn yng Nghymru sy'n dymuno cael hynny. Ond, ar ddiwedd y dydd, beth mae ffigurau ddoe yn dweud wrthyf i hefyd yw bod angen uno'r system addysg—cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg—o amgylch ymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn yn gallu gadael yr ysgol, p'un ai'ch bod chi yn addysg cyfrwng Cymraeg neu addysg cyfwng Saesneg, yn medru'r Gymraeg gydag hyfedredd—dyna yw'r cyfle inni yma; pa bynnag fath o addysg rŷch chi'n ei derbyn, bod cyfle ichi adael yn hyderus yn y Gymraeg ac i gau'r bwlch, sydd yn sicr yn bodoli ar hyn o bryd, rhwng addysg cyfrwng Cymraeg a dysgu Cymraeg yn y system Saesneg. Mae enghreifftiau arbennig, yn y system iaith Saesneg, o bobl yn dysgu'r Gymraeg, ond mae yn anghyson ac mae angen gwella'r safon yn gyffredinol. Felly, dyna'r nod. 

Gwnaeth yr Aelod orffen gan ofyn beth ydym ni'n mynd i'w wneud i adeiladu ar yr ymdeimlad sydd o amgylch yr iaith, ac rwy'n cytuno'n llwyr gyda hi, a dyna pam ddylai hi ddim digalonni. Mae'r cyd-destun ar gyfer y ffigurau hyn yn wahanol i beth oedden nhw 10 mlynedd yn ôl. Rôn i'n edrych ar Trydar y bore yma, a Beth Fisher, yn dweud:

'Mae llawer o sôn am y gostyngiad yn y ffigurau, ond dyma fy marn i fel rhywun a atebodd 'na' i'r holl gwestiynau. Er mai ychydig iawn rwy'n ei siarad, ond rwy'n gwneud fy ngorau i geisio dysgu, nid wyf erioed wedi teimlo cysylltiad mor gryf â'n hiaith. Wrth gwrs, byddwn wrth fy modd pe bawn i'n rhugl, ond nid yw'n teimlo fel sefyllfa 'nhw a ni' bellach, fel y teimlai yn y gorffennol, ond yn hytrach, mae wir yn teimlo fel pe baem i gyd yn rhan o hyn gyda'n gilydd, ac nid oes cymaint o feirniadaeth, ond mwy o deimlad fod rhywfaint yn well na dim o gwbl'.

Mae'n mynd ymlaen i ddweud:

'Felly efallai yn ogystal â'r cwestiynau "a allwch chi ddeall, siarad ac ysgrifennu..." yn y cyfrifiad efallai y dylid cael cwestiwn tebyg i "A ydych yn teimlo cysylltiad â'r Gymraeg?" Ac i hynny',

mae hi'n ei ddweud,

'Byddwn yn bendant wedi dweud "Ydw".'

15:30

Dwi'n siarad Cymraeg bob dydd, ond, fel mae Aelodau yma'n ei wybod, ddim yn dda iawn. Rwy'n gwybod hefyd bod plant mewn ysgolion cynradd ar draws Abertawe hefyd yn siarad Cymraeg bob dydd yn yr ysgol. Dau gwestiwn: ydyn ni'n gofyn y cwestiwn cywir ar y cyfrifiad? Ddylem ni ofyn pa mor aml mae pobl yn siarad Cymraeg?

Ac yn Saesneg, beth yw'r gydberthynas rhwng nifer y disgyblion sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg rhwng tair a 18 oed a'r rhai sy'n dangos eu bod yn gallu siarad ac ysgrifennu Cymraeg?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, ac mae'n gwestiwn pwysig iawn, rwy'n credu, os dŷch chi moyn mynd i'r afael â beth sy'n digwydd yn y ffigurau yma. Dyw'r cyfrifiad ddim yn dweud unrhyw beth wrthym ni am ddefnydd o'r Gymraeg, a dyw e ddim yn dweud unrhyw beth wrthym ni am ganfyddiad pobl o beth yw e i fod yn gallu siarad Cymraeg. Felly, mae'n gofyn cwestiwn sydd yn binary ar ddiwedd y dydd: ydych chi'n siarad Cymraeg ai peidio? Ond, yn fy marn bersonol i, mae angen edrych ar y ffigurau hyn mewn cyd-destun, fel rwy'n ei ddweud. Hynny yw, os dŷch chi'n cael dogfen swyddogol wrth y Llywodraeth, sy'n orfodol i'w hateb, a'i hateb yn onest, ac mae hynny'n gofyn cwestiwn i chi, 'A ydych chi'n medru'r Gymraeg?', mae cwestiynau o ganfyddiad, cwestiynau o hyder, yn dod mewn i'r ymateb hwnnw. Ac os edrychwch chi ar ble mae'r gostyngiad wedi bod fwyaf, mae e wedi digwydd mewn ardaloedd awdurdodau lleol lle mae llai o concentration o siaradwyr Cymraeg, felly byddai hynny'n gyson â'r syniad rwyf newydd ei awgrymu. Ond hefyd, mae'r arolygiad blynyddol yn gofyn mwy o gwestiynau sy'n gallu cael y manylder y mae Mike Hedges yn sôn amdano fe. Felly, dyna pam mae hi'n bwysig i ni weld y cyd-destun cyfan wrth ein bod ni'n mynd i drafod y maes pwysig hwn.

Diolch i Heledd Fychan am gyflwyno'r cwestiwn hwn. Rwy'n siŵr, Weinidog, eich bod yn rhannu fy mhryderon bod y ffigurau a gafodd eu cyhoeddi ddoe yn hynod siomedig—fe ddywedoch chi hynny ar Twitter dwe, ac wrth ymateb i Heledd hefyd. Mae fy mhryderon am atebolrwydd y targed hwn yn cael eu cadarnhau unwaith eto gan y ffigurau diweddaraf hyn. Fel y dywedais o'r blaen, mae 'Cymraeg 2050' yn darged na fydd un o Weinidogion presennol Llywodraeth Cymru yn atebol amdano pan fyddwn yn cyrraedd y flwyddyn 2050. Mewn 28 mlynedd, pwy ddylai fod yn atebol os yw'r targed hwn yn cael ei gyrraedd neu beidio? Yn bwysicach fyth, pwy neu beth sydd ar fai heddiw? Fel yr ydym wedi ei ddweud yn y Siambr hon o'r blaen, mae'n bwysig ein bod yn rhoi negeseuon positif am yr iaith, gan ddangos bod yr iaith yn cŵl, yn fodern, ac yn gallu cael ei defnyddio yn ein bywydau o ddydd i ddydd. Dim ond trwy fynd i'r afael â'r her yn y ffordd hon y gallwn sicrhau bod yr iaith fwyaf hardd ar y ddaear yn gallu ffynnu yn ein mamwlad. Felly, a fydd y wybodaeth o'r cyfrifiad yn gweld Llywodraeth Cymru yn newid unrhyw ran o'r polisïau iaith Gymraeg? Diolch.

Diolch. Rwy'n cytuno â Sam Kurtz—mae hi'n bwysig ein bod ni'n ffeindio ffyrdd o hyrwyddo'r Gymraeg, a pharhau i ffeindio ffyrdd creadigol o wneud hynny, fel ei bod hi'n cŵl ac yn fodern i'r rheini sy'n mynd i glywed y neges honno'n bositif, efallai. Ond mae lot o ffyrdd i allu gwneud hynny. Fe ges i drafodaeth ddiddorol a chreadigol iawn y bore yma gyda chyngor partneriaeth y Gymraeg ynglŷn â sut i ymateb i rai o'r canlyniadau y gwnaethom ni eu gweld ddoe.

O ran strategaeth 'Cymraeg 2050', a dweud y gwir, dwi ddim yn credu bod y ffigurau a welsom ni ddoe yn dangos llawer i ni am beth sydd wedi digwydd yn y strategaeth honno. Os ydych chi'n meddwl amdano fe, dim ond rhyw ddwy flynedd ers datgan y polisi oedd cyn bod COVID yn dechrau, ac mae'r cyfrifiad wedi cael ei gymryd ynghanol COVID. Felly, rwy'n credu bod angen gweld y cyd-destun ehangach ar hynny hefyd. Ac mae ystod o bethau hefyd wedi digwydd ers y cyfrifiad fis Mawrth diwethaf. Ond, yn sicr, rwyf wedi dweud o'r cychwyn cyntaf bod yn rhaid edrych eto ar y taflwybr tuag at 2050 yn sgil beth bynnag fyddai'r ffigurau heddiw, pe baen nhw'n dangos cynnydd neu'n dangos gostyngiad, a dyna'n sicr yw'r nod i'w wneud o hyd.

15:35

Diolch i'r Gweinidog.

Y cwestiwn nesaf gan Laura Anne Jones, a fydd yn cael ei ateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol.

Grŵp A Streptococcus

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd mewn achosion o grŵp A streptococcus mewn ysgolion? TQ695

Mae heintiau strep A yn achosi nifer o afiechydon plentyndod cyffredin. Nid yw'n anarferol gweld achosion yn gysylltiedig â meithrinfeydd ac ysgolion. Mae meithrinfeydd ac ysgolion wedi cael arweiniad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae rhieni plant sâl yn cael eu cynghori i ofyn am gyngor meddygol ar gyfer diagnosis a thriniaeth.

Diolch, a diolch yn fawr i'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd am ganiatáu'r cwestiwn amserol hwn heddiw, a diolch am ymateb cychwynnol, Weinidog, a diolch am y datganiad ysgrifenedig neithiwr, er fy mod yn gwybod bod llawer ar draws y Siambr hon yn siomedig na chafodd datganiad ar lafar ei wneud ddoe, fel y byddai cyfle i Aelodau ar draws y Siambr ofyn cwestiynau ar hyn. Wrth gwrs, mae'n bwysig ei fod yn cael ei drafod yma heddiw, felly diolch eto. Ac wrth gwrs, mae'n hanfodol bwysig fod rhieni a gofalwyr pryderus ledled Cymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau cyfredol. Mae'n amlwg fod yna bryder, gyda naw o blant wedi marw ar draws y DU, ac un o'r rheini yng Nghymru, ac rydym yn cydymdeimlo â'r teuluoedd sydd wedi colli plentyn. Ac rwy'n credu ei fod newydd gael ei gyhoeddi yn y newyddion diweddaraf fod clwstwr o achosion wedi bod yn sir Gaerfyrddin, gyda dau blentyn yn ddifrifol wael a 24 achos o'r dwymyn goch wedi eu cofnodi yn yr ysgol gynradd yno.

Weinidog, mae'n amlwg yn hanfodol nad ydym yn achosi unrhyw fath o banig, ond mae'n bwysig fod ysgolion a meithrinfeydd yn wyliadwrus iawn a bod ymwybyddiaeth gyffredinol o beth y dylid ei wneud a pha gamau y dylid eu cymryd. Ac ar hynny, hoffwn ofyn i chi sut rydych yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod ysgolion yn ymwybodol iawn o beth i'w wneud a pha gamau i'w cymryd i leihau lledaeniad strep A, a beth yw'r protocol iddynt pan fydd hyn yn digwydd; byddai'n ddefnyddiol gwybod.

Roedd yna bryder hefyd wrth gwrs ynglŷn â faint o wrthfiotigau sydd ar gael, ac rwy'n credu eich bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hynny, felly byddai'n dda cael diweddariad. Rwyf hefyd yn deall y rheswm pam y bydd gwrthfiotigau'n cael eu rhoi i ysgolion cyfan os oes achos wedi'i brofi yno, ond ceir peth pryder dealladwy ymhlith y proffesiwn meddygol ynglŷn â rhoi gwrthfiotigau i blant a allai fod yn iach, oherwydd, wrth gwrs, rydym eisiau atal plant iach rhag cael gwrthfiotigau a sicrhau eu bod ond yn cael cyn lleied â phosibl ohonynt pan fyddant yn iau fel nad ydynt yn datblygu imiwnedd iddynt.

Mae fy nghyd-Aelod Altaf Hussain hefyd wedi dweud efallai y byddai'n syniad da i ysgolion sy'n cael eu heffeithio yn y ffordd rwyf newydd ei hamlinellu gael mynediad at bediatregydd yn syth i gadarnhau'r diagnosis ac i weld a oes angen iddynt gael y gwrthfiotigau hynny mewn gwirionedd, yn hytrach na dull cyffredinol. Ond byddwn yn gwerthfawrogi clywed eich barn ar hynny, oherwydd rwy'n deall, yn amlwg, pam y byddai rhieni yn arbennig yn debygol o fod eisiau i'w plant eu cael. Ond yn ymarferol, a fyddai hynny hyd yn oed yn bosibl gyda nifer y pediatregwyr sydd gennym yng Nghymru?

Roeddwn eisiau gofyn un cwestiwn arall: ar hyn o bryd, a fydd unrhyw un sy'n mynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys gyda symptomau strep A yn cael mynediad ar unwaith at bediatregwyr neu a fyddant yn gorfod aros yr amseroedd arferol yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys? Diolch, a diolch eto am gyflwyno'r mater hwn.

Diolch yn fawr. A gaf fi ychwanegu fy mod innau hefyd yn cydymdeimlo'n fawr â'r teulu sydd wedi colli plentyn yn ddiweddar? Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn deall pryder gwirioneddol llawer o rieni heddiw oherwydd y cynnydd a welwn mewn achosion o strep A yn ein cymunedau.

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gyngor i ysgolion a meithrinfeydd ddiwedd mis Tachwedd. Dylai staff fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd o'r haint hwn mewn plant sy'n sâl gyda thwymyn, dolur gwddf neu frech. Felly, mae'r cyngor hwnnw wedi'i ddarparu eisoes. Cynghorir rhieni plant sâl i ofyn am gyngor meddygol ar gyfer diagnosis a thriniaeth.

Bydd gofyn i blentyn sydd wedi cael y dwymyn goch gadw draw o'r lleoliad am 24 awr ar ôl dechrau triniaeth wrthfiotig briodol. Lle ceir dau neu fwy o achosion o'r dwymyn goch mewn lleoliad o fewn yr un cyfnod o 10 diwrnod, gofynnir i ysgolion a meithrinfeydd hysbysu'r tîm diogelu iechyd lleol am arweiniad pellach. Ar y pwynt hwnnw, byddant yn gwneud penderfyniad ynglŷn ag a oes angen rhoi gwrthfiotigau i'r dosbarth cyfan neu i'r rhai sydd wedi bod mewn cysylltiad agos yn unig. Yn amlwg, byddant yn gwneud asesiad i weld a oes angen pediatregydd bryd hynny.

Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni ddeall bod graddau yma, ac yn amlwg nid yw ond yn wirioneddol beryglus pan fo pethau'n mynd yn gymhleth iawn. Pan gewch strep A ymledol, dyna pryd y mae gwir angen inni fod yn bryderus. Ond yn amlwg, mae cymryd y gwrthfiotigau hynny ar adeg briodol yn golygu y gall pobl gael cymorth.

O ran prinder gwrthfiotigau, y newyddion da yw y gall pob un o'r afiechydon cymharol ysgafn a achosir gan strep A gael eu trin â gwrthfiotigau cyffredin. Yn amlwg nawr rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am wrthfiotigau i drin yr achosion tybiedig o strep A, ac mae hynny wedi arwain at brinder stoc i rai fferyllfeydd yng Nghymru. Nawr, rydym yn hyderus fod cyflenwyr yn gweithio i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau cyflenwi, ac os yw pobl yn cael trafferth cael presgripsiwn yn lleol, efallai y bydd angen iddynt ymweld â fferyllfa wahanol, ac os ydynt yn dal i fethu cael gafael arnynt, gallant fynd yn ôl at y meddyg teulu a gallant bresgripsiynu triniaeth amgen. Felly, rydym yn gweithio gyda thîm cyflenwi meddyginiaethau Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill i wneud yn siŵr fod gan fferyllfeydd Cymru y cyflenwadau sydd eu hangen arnynt.  

15:40

Diolch am yr ymateb yna gan y Gweinidog. Roeddwn i eisiau gofyn hefyd ynglŷn â'r prinder o dabledi gwrthfiotig. Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael ateb eithaf cynhwysfawr yn fanna gan y Gweinidog. Dau gwestiwn arall gen i, eto ynglŷn â'r cyfathrebu. Roeddwn yn falch o weld y datganiad yn dod neithiwr. Dwi wedi rhannu hwnnw ar fy llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i, yn fy etholaeth i, a dwi'n siŵr bod Aelodau eraill yn gwneud yr un fath, ac mae gwybodaeth yn cael ei rhoi i rieni mewn ysgolion. Ond beth ydy'r cynllun cyfathrebu wrth symud ymlaen? Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n deall bod yna gynllun cyfathrebu mewn lle i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu'n gyson, oherwydd dydy'r pryder yma ddim yn mynd i fynd i ffwrdd. A'r elfen olaf dwi eisiau holi amdani ydy'r pwysau ychwanegol, dwi'n deall, sydd yna ar adrannau brys mewn ysbytai. Oherwydd diffyg dealltwriaeth a gwybodaeth o bosib, mae'n berffaith hawdd deall pam y byddai mwy o rieni yn mynd â'u plant i adrannau brys pan fo yna unrhyw arwydd o rywbeth maen nhw'n bryderus ynglŷn ag o, ond, os ydy hynny'n rhoi pwysau ychwanegol ar yr adrannau brys hynny, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sicrhau bod yna gymorth ychwanegol yn cael ei roi i alluogi ysbytai i ddelio ac i ymdopi efo hynny?

Diolch yn fawr. Wel, Public Health Wales sy'n arwain ar wneud yn siŵr bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd. Dwi wedi cysylltu â nhw heddiw, jest i ofyn iddyn nhw symleiddio'r iaith, achos dwi'n meddwl, ambell waith, mae'n mynd yn rhy dechnegol. Mae pobl yn camddeall efallai'r gwahaniaeth rhwng beth yw strep A a iGAS, ac mae pobl yn defnyddio termau nad yw'r cyhoedd yn eu deall. Felly, dwi wedi gofyn iddyn nhw ail-edrych ar hynny. Dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig hefyd deall bod scarlet fever yn digwydd ym Mhrydain fel arfer, ond beth rydym ni wedi'i weld yw cynnydd eithaf mawr, a beth sy'n od yw gweld y cynnydd yma adeg hon o'r flwyddyn. So, fel arfer, mae'n digwydd yn y gwanwyn. Beth rydym yn ei weld yw'r cynnydd yma, a'r perygl yw os mae hynny'n digwydd pan fo problemau eraill gyda'r plentyn, so os oes chicken pox arnyn nhw neu rywbeth arall yn digwydd ar yr un pryd. Dyna pryd mae'r cymhlethdodau yn dod. 

Mae, wrth gwrs, pwysau mawr ar adrannau brys ar hyn o bryd. Felly, mi fyddwn ni, wrth gwrs, yn sicrhau bod gan blant ffordd arall o fynd drwy'r system. Beth rydym ni wedi'i weld dros y penwythnos diwethaf oedd cynnydd mawr iawn yn y niferoedd oedd yn ffonio 111 am gymorth. Dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig bod pobl efallai yn ffonio, achos mae yna wahaniaeth rhwng rhywbeth sy'n syml a rhywbeth sy'n edrych lot fwy cymhleth, ac mae 111 yn gallu helpu pobl drwy'r system i ddeall beth i edrych mas amdano o ran symptomau.

Felly, o ran scarlet fever, dylai pobl fod yn ymwybodol eich bod chi'n sôn am wddwg tost, chi'n sôn am ben tost, fever, nausea, bod yn sick; wedyn beth rydych chi'n ei gael yw rash efallai ar y chest neu ar y bola. Ond beth sy'n digwydd gyda iGAS, sef yr un sydd lot mwy cymhleth, yw wedyn mae eich tymheredd chi yn mynd lan lot; rydych chi'n cael muscle aches. Ac felly mae'n bwysig bod pobl yn deall mai hwnna yw'r cam lle dylen nhw fod yn cael mwy o wybodaeth oddi wrth eu GP lleol nhw.

15:45

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Laura Anne Jones am gyflwyno'r mater hwn. Ddoe, ceisiais gyflwyno cwestiwn brys oherwydd fy mod yn cael cymaint o ymholiadau. Mae argaeledd gwrthfiotigau wedi cael ei grybwyll. Fy mhryderon i yw ein bod yn agosáu at gyfnod y gwyliau, ac rwy'n gwybod bod rhieni a neiniau a theidiau a gofalwyr yn bryderus iawn, os yw plentyn yn mynd yn sâl ar hyn o bryd, y gall gymryd peth amser i rai symptomau ddod i'r amlwg. Wrth gwrs, rydym yn y tymor hwnnw, onid ydym, lle mae plant yn mynd yn sâl gydag anhwylderau cyffredin? Felly, mae'n ymwneud â sut y gellir gwahaniaethu rhwng y rheini, ac unwaith eto, ailadrodd na fyddwn, gyda'ch gwaith gyda Llywodraeth y DU, yn mynd yn brin o unrhyw fath o wrthfiotigau ar gyfer pa straen bynnag y gallai fod eu hangen ar ei gyfer.

Hefyd, rwyf wedi clywed am brofiad uniongyrchol un o fy etholwyr sydd â dau o blant a fu'n aros yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys am naw awr a hanner. Ar hyn o bryd, mae yna ysbyty yng ngogledd Cymru lle mae'r bwrdd yn dweud bod yna amser aros o 10 awr. Ond roeddent yn poeni cymaint felly fe wnaethant aros, a hynny ond i glywed, 'Fe allech chi fod wedi mynd i weld eich meddyg teulu', ac yna mae rhieni eraill yn dweud wrthyf eu bod yn mynd i weld y meddyg teulu, sy'n dweud, 'Os ydych chi mor bryderus â hynny'—oherwydd mae ein meddygon teulu dan ormod o bwysau hefyd—'byddai'n well i chi fynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys.'

Felly, a wnewch chi ddarparu canllawiau clir? Fel fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth, rwyf wedi rhannu eich datganiad, ond rwy'n siŵr fod yna Aelodau eraill nad ydynt yma heddiw a fyddai'n gwerthfawrogi diweddariad, yr wythnos nesaf efallai, ar ein sefyllfa erbyn hynny, oherwydd yn amlwg mae'r niferoedd wedi cynyddu ar draws y DU. Felly, rydym eisiau bod yn siŵr fod pobl yn gwybod yn union beth maent yn ymdrin ag ef, pryd i boeni a phryd i beidio â phoeni, fel petai, pryd i weithredu a phryd i beidio â mynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Dyna ni, rwy'n credu. Diolch.

Diolch yn fawr. Fel y nodais yn fy natganiad, cynghorir rhieni sy'n amau bod gan eu plant y dwymyn goch i gysylltu â'u meddyg teulu neu gysylltu ag 111. Mae'r cyfleusterau hynny ar gael ac mae pobl yn eu defnyddio. Byddwn yn awgrymu ar hyn o bryd na ddylent fynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys, oni bai eu bod yn cael eu cyfeirio gan 111 neu eu meddyg teulu.

Rwy'n credu ei fod yn bwysig, rydym yn amlwg wedi rhoi llawer o gyllid ychwanegol i 111. Yn amlwg, fel y dywedwch, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad ydym yn rhedeg allan o'r gwrthfiotigau hynny. Rydym yn credu bod hyn wedi digwydd, o bosibl, oherwydd diffyg cymysgu cymdeithasol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yr hyn rydym yn ei weld nawr yw nifer o achosion o'r haint bacterol cyffredin hwn—gadewch inni beidio ag anghofio, mae hwn yn haint eithaf cyffredin, mae'n rhywbeth y mae llawer o bobl yn byw gydag ef—yn cylchredeg ar yr un pryd â'r ystod eang o heintiau anadlol y gaeaf, ac rydym yn credu mai dyna sydd wedi arwain at y cynnydd yn nifer yr achoson mwy prin a mwy difrifol o glefydau ymledol strep A. Diolch byth, rydym yn dal i fod ar niferoedd eithaf isel, ond nid ydym yn gwybod beth sydd i ddod nesaf, felly mae'n amlwg yn gyfnod pryderus iawn i bobl sydd â phlant ifanc.

Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd yn ateb y cwestiwn amserol olaf. Rhun ap Iorwerth.

Gweithredu Diwydiannol yn y GIG

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymateb y Llywodraeth i fygythiadau o weithredu diwydiannol ar draws GIG Cymru, ac ar ei chynlluniau i geisio osgoi'r fath o weithredu drwy negodi? TQ696

Rwy'n drist fod ein gweithwyr iechyd wedi cyrraedd pwynt lle maent yn teimlo bod angen iddynt weithredu'n ddiwydiannol. Rwy'n deall ac yn cydymdeimlo'n llwyr â'u sefyllfa, ond heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, nid oes unrhyw arian i gynyddu ein cynnig cyflog heb doriadau sylweddol i staffio a gwasanaethau hanfodol. Rwy'n cyfarfod â chynrychiolwyr yr holl undebau gofal iechyd yr wythnos nesaf i archwilio a oes unrhyw bosibilrwydd neu ddewis arall a allai ein helpu i osgoi gweithredu diwydiannol.

Ddirprwy Lywydd, rydym yn wynebu sawl anghydfod. Mae sawl undeb wedi pleidleisio i fynd ar streic. Staff ambiwlans, wrth gwrs, yw'r rhai diweddaraf i baratoi i fynd ar streic. Mae'r Gweinidog wedi dweud eto mai toriadau Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y cyfan, ac rwy'n cytuno ynglŷn â'u fandaliaeth economaidd a niwed eu toriadau i wariant cyhoeddus sy'n cael eu gyrru gan ideoleg. Ond er bod cyflogau'n amlwg yn ganolog i'r anghydfodau hyn, y gwir amdani yw bod llawer o hyn yn deillio o'r ffaith bod staff iechyd wedi bod yn teimlo, ers amser hir, nad ydynt wedi cael eu cefnogi, ac ar hynny, mae'n rhaid i Lywodraeth Geidwadol y DU a Llywodraeth Lafur Cymru ystyried o ddifrif a sylweddoli bod cyfleoedd i ddangos y gefnogaeth honno wedi cael eu colli dro ar ôl tro.

Nawr, heddiw, rwy'n gofyn i'r Gweinidog eto: pryd y bydd hi'n negodi? Mae gennym Lywodraeth Lafur yn gwrthod trafod ag undebau llafur. Dywedodd eto ei bod yn cyfarfod ag undebau; rwy'n cyfarfod ag undebau. Rydym angen gweld trafodaethau ystyrlon yn dechrau er mwyn ceisio osgoi'r streiciau. Nawr, gadewch imi ddyfynnu arweinydd y Blaid Lafur ar y newyddion boreuol yr wythnos hon. Dywedodd

'Gellir datrys yr anghydfodau hyn',

a ddydd Llun, mewn digwyddiad Llafur, dywedodd Keir Starmer, 

'Mae'r Llywodraeth wedi bod yn eistedd ar ei dwylo drwy gydol yr anghydfodau hyn, yn hytrach na'u datrys. Ewch i Gymru ac fe welwch lywodraeth wahanol yn mabwysiadu dull gwahanol ac mae anghydfodau tebyg wedi cael eu datrys mewn gwirionedd.'

Nawr, a yw'r Gweinidog yn gwybod am beth mae'n siarad? Oherwydd nid wyf yn cydnabod hynny fel adlewyrchiad o safbwynt y Llywodraeth Lafur hon ar yr anghydfodau presennol—nid yw nyrsys na staff ambiwlans yn cydnabod hynny ychwaith. Fel y dywedodd un aelod o'r Coleg Nyrsio Brenhinol wrthyf, 'Ar hyn o bryd, ychydig iawn o wahaniaeth sydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Lloegr. Nid yw'r naill na'r llall yn cefnogi'r gweithlu, nid oes unrhyw bartneriaeth gymdeithasol, nid oes unrhyw gyfathrebu, ac mae'r dyfarniad cyflog yr un fath. Felly, pam ddylai unrhyw un bleidleisio dros Lywodraeth Lafur pan nad oes unrhyw beth yn wahanol?'

Beth mae'r Llywodraeth Lafur yma yn ei wneud i geisio datrys yr anghydfodau hyn yng Nghymru, a phryd mae'r Gweinidog yn bwriadu dechrau trafod?

15:50

Diolch yn fawr. Mae'n ddigon hawdd i chi ddweud, 'Da iawn'. Y ffaith amdani yw bod gennym swm penodol o arian. Dyna fe. Iawn? Felly, mae dewis gennym: rydych naill ai'n torri gwasanaethau neu rydych yn torri nifer y bobl er mwyn rhoi codiad cyflog. Nawr, nid wyf yn credu bod hynny'n rhywbeth y bydd yr undebau llafur eisiau ei wneud, ond yn amlwg mae hwnnw'n opsiwn. Mae hwnnw'n opsiwn. Ond rwy'n credu bod rhaid inni fod yn hollol glir yma: nid oes mwy o arian i'w gael. Nid oes mwy o arian i'w gael. Rydym mewn Llywodraeth—rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl ddeall—ac rydym yn gweithio mewn system y cytunwyd arni gyda'r undebau llafur; mae'n gomisiwn cyflogau annibynnol lle mae pawb yn rhoi eu tystiolaeth, maent i gyd yn dweud beth hoffent ei weld, ac mae hyn wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd, ac yn sydyn rydym mewn lle gwahanol. Nawr, rwy'n deall ein bod mewn lle gwahanol oherwydd bod chwyddiant yn wahanol iawn i sut mae wedi bod yn y gorffennol. Felly, rwy'n deall yn iawn pam fod y gweithwyr hyn yn ddig. Ond gadewch imi ddweud eto, gadewch imi fod yn hollol glir: nid ymwneud ag un grŵp o weithwyr y mae hyn; mae hyn yn ymwneud â holl weithwyr y GIG. Felly, ni allwch ddewis un grŵp a dweud, 'Mae nyrsys yn bwysicach na phorthorion.' Mae yna 'Agenda ar gyfer Newid' ac rwy'n cyfarfod â chynrychiolwyr yr undebau iechyd yr wythnos nesaf i weld a oes unrhyw le inni fynd i'r afael â'r mater hwn ac osgoi'r gweithredu diwydiannol.

Weinidog, cefais wybod gan y Coleg Nyrsio Brenhinol heddiw eich bod yn dal heb gyfarfod â hwy'n benodol i drafod cyflogau nyrsys, ac nad ydych wedi cychwyn trafodaethau gyda hwy na thrwy fforwm partneriaeth GIG Cymru, sy'n hynod siomedig yn fy marn i. Yn fwyaf rhwystredig, rydych yn dal i bwyntio bys at San Steffan yn hytrach na chymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd yma. Nawr, eich penderfyniad chi yw hwn. Eich cyfrifoldebau chi ydynt. Mae'n rhaid i chi dorri'r brethyn fel y gwelwch chi sy'n addas yma. Mae gennym 3,000 o swyddi nyrsio gwag, a gwariant o £140 miliwn ar nyrsys asiantaeth. Wel, mae hynny oherwydd y ffordd rydych chi a'ch rhagflaenwyr wedi rheoli'r GIG. Mae'r rhain yn benderfyniadau rydych yn eu gwneud yma ac mae'n rhaid i chi gymryd cyfrifoldeb am yr hyn y mae gennych gyfrifoldeb amdani. Cawsoch £1.2 biliwn yn ychwanegol yn natganiad yr hydref. Nawr, mae Llywodraeth yr Alban wedi cynnig dyfarniad cyflog o 8.7 y cant i nyrsys band 5, sydd wedi peri oedi rhag cynnal streic yn yr Alban, ac mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn gofyn i aelodau a yw hwnnw'n dderbyniol. Felly, os gall Llywodraeth yr Alban negodi a gwneud cynnig, pam na allwch chi? Beth sy'n wahanol yma yng Nghymru i'r sefyllfa yn yr Alban? Mae Rhun wedi sôn am Keir Starmer. Mae Keir Starmer yn dweud ac yn awgrymu bod yr anghydfodau yma wedi eu datrys. Dyna mae'n ei ddweud. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, a ydych chi wedi cywiro Keir Starmer neu a yw'n gwybod rhywbeth nad ydym ni yn ei wybod?

15:55

A gaf fi fod yn glir fod Llywodraeth yr Alban yn gweithio o fewn fframwaith gwahanol i'r fframwaith sydd gennym ni? Felly, rydym wedi ymrwymo i'r comisiwn cyflogau annibynnol. Fe wnaeth yr holl undebau gytuno i wneud hynny. Fe wnaeth pob un ohonynt roi eu tystiolaeth. Fe wnaethom ni roi ein tystiolaeth. Maent yn cael tystiolaeth annibynnol gan bobl sy'n gwybod am yr economi, chwyddiant a'r holl bethau hynny, ac yna maent yn dod i gasgliad. Mae'r system yn yr Alban yn wahanol. Felly, dyna un rheswm pam eu bod yn wahanol.

A'r peth arall sy'n rhaid ichi ei gofio yw eu bod wedi cynnig mwy o gyflog ac mae hynny wedi dod ar gost sylweddol i wasanaethau. Felly maent wedi cymryd tua £400 miliwn allan o'r gwasanaethau. Felly, pan fyddwch yn lladd arnaf oherwydd rhestrau aros yr wythnos nesaf, fe fyddwch yn deall, mewn gwirionedd, fod rhaid inni sicrhau ein bod nid yn unig yn cefnogi pobl sy'n gweithio yn y GIG, rydym hefyd yn cefnogi pobl sy'n aros i gael eu trin gan y GIG, a dyna'r cydbwysedd y mae'n rhaid i chi ei daro fel Llywodraeth. Ac rydym yn credu ei bod yn iawn fod rhaid inni ddeall bod yna bobl ar draws y GIG sy'n haeddu dyfarniad cyflog, rydym wedi mynd mor bell ag y gallwn, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl ddeall, er cymaint yr hoffem fynd gam ymhellach, pe baem yn parchu ac yn darparu dyfarniad cyflog ar sail chwyddiant, y byddai'n costio tua £900 miliwn i ni. Nawr, mae hwnnw'n swm sylweddol o arian i ddod allan o wasanaethau rheng flaen. Mae honno'n alwad anodd iawn, ac mae'n rhaid imi ddweud yn glir nad wyf yn credu y byddai'r cyhoedd mewn sefyllfa lle byddent yn dweud, 'Rydym yn hapus i chi dorri ein gwasanaethau er mwyn talu'r swm hwnnw.'

5. Datganiadau 90 Eiliad

Neithiwr, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes, cefais y fraint o ymuno ag Aelodau, Diabetes Cymru a theulu Peter Baldwin yn y Senedd i ddathlu bywyd a gwaddol Peter Baldwin wrth inni nesáu at yr hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd iddo yn un ar ugain oed. Roedd Peter yn 13 ar 10 Rhagfyr 2014. Roedd yn caru bywyd, yr ysgol a'i ffrindiau. Roedd yn blentyn ffit ac  iach yn ei arddegau a oedd, fel y clywsom gan ei chwaer neithiwr, yn hoff iawn o hufen iâ, ac roedd ganddo'r byd i gyd wrth ei draed. Yn drasig, bu farw Peter ychydig wythnosau'n ddiweddarach oherwydd cymhlethdodau'n deillio o'r ffaith bod ei ddiagnosis o ddiabetes wedi digwydd yn rhy hwyr.

Ers ei farwolaeth, mae ei fam Beth wedi ymgyrchu'n ddiflino i helpu i godi ymwybyddiaeth ac atal teuluoedd eraill rhag dioddef yr un drasiedi. Drwy rannu ei stori, mae Beth wedi annog eraill i gael eu plentyn wedi'i archwilio am ddiabetes cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Mae ymdrechion Beth a gwaddol Peter yn wirioneddol ysbrydoledig a phellgyrhaeddol. Bydd bywydau wedi cael eu hachub o'u herwydd.

Un enghraifft yn unig o hyn yw'r ymgyrch 4T ar ei newydd wedd. Mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at y pedwar symptom i edrych amdanynt wrth wneud diagnosis o ddiabetes: toiled—mynd yn amlach; blinedig; sychedig; a mynd yn deneuach. Mae hyn wedi codi ymwybyddiaeth o'r symptomau ac wedi ysgogi rhieni ac oedolion fel ei gilydd i ofyn am brawf ar gyfer diabetes. Mae cymaint o waith da yn cael ei wneud yn y maes hwn gan grwpiau fel Diabetes UK ac ymgyrchwyr fel teulu Peter Baldwin. Rwy'n cymeradwyo eu hymdrechion ac yn annog pob Aelod i wneud yr hyn a allant i ledaenu ymwybyddiaeth o symptomau'r clefyd hwn. Mae'n gallu gwneud y byd o wahaniaeth.

Ar Ddydd Nadolig eleni, wrth inni wledda ar dwrci a mins-peis, bydd un garreg filltir nodedig yn digwydd yng Nghaerfyrddin wrth i Radio Glangwili ddathlu hanner can mlynedd o ddarlledu. Sbardun y gwasanaeth oedd cyfarfod o aelodau'r Urdd yn dod at ei gilydd ac, o fewn dim, o dan arweiniad Sulwyn Thomas a Gerwyn Griffiths ac eraill, aethpwyd ati i ddarlledu'r rhaglen gyntaf ar Ddydd Nadolig 1972. Dwy awr oedd ei hyd, gan gyfuno cyfarchion i gleifion ar y wardiau a chyfraniadau arbennig gan hyfforddwr tîm rygbi'r Llewod, Carwyn James, a'r gantores, Rosalind Lloyd.

Dros y degawdau, aeth yr orsaf o nerth i nerth. Datblygodd gyda'r newid technolegol, gan dyfu o stiwdio fach yn yr ysbyty i stiwdio bwrpasol. Mae'r orsaf erbyn hyn yn darlledu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amrywiol arlwy yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'r orsaf hefyd wedi torri record byd ar gyfer darlledu am 24 awr yn ddi-dor, y cyntaf i wneud hyn yn yr iaith Gymraeg. Cleifion a staff yr ysbyty sydd wedi bod yn cynnal yr orsaf, gyda'r gwasanaeth yn llwyddo i gynnig cysur ac adloniant iddyn nhw ar hyd y blynyddoedd. Diolch o galon i'r gwirfoddolwyr yno sydd wedi gweithio mor ddiwyd i sicrhau llwyddiant yr orsaf. Pob dymuniad da ar gyfer yr 50 mlynedd nesaf. Diolch yn fawr.

16:00

Cyn inni symud i'r eitem nesaf, hoffwn atgoffa'r Aelodau nad yw'r clociau i'w gweld ar y sgriniau yn anffodus, ond gallaf eich sicrhau y byddaf yn cadw llygad barcud ar yr amseru i wneud yn siŵr fod pawb yn cadw at yr amser.

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod—Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—Bil Iaith Arwyddion Prydain, BSL. Bydd recordiad o'r ddadl hon, a fydd yn cynnwys cyfieithu ar y pryd BSL, ar gael ar Senedd.tv erbyn diwedd y dydd. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8093 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig am Fil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau yn BSL.

2. Yn nodi mai pwrpas y Bil fyddai:

a) cael gwared ar y rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle;

b) cryfhau saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y modd y maent yn ymwneud â BSL;

c) gweithio tuag at sicrhau nad yw pobl fyddar sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg;

d) sicrhau bod gan gymunedau byddar lais wrth ddylunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion;

e) sefydlu Comisiynydd BSL a fydd yn:

(i) llunio safonau BSL;

(ii) sefydlu panel cynghori BSL;

(iii) llunio adroddiadau bob pum mlynedd yn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL yn y cyfnod hwnnw;

(iv) darparu arweiniad a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL yn eu priod barthau;

f) sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion;

g) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd ar eu cynnydd o ran hyrwyddo a hwyluso BSL drwy eu cylch cofnodi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

h) rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol BSL sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Ym mis Chwefror 2021, pleidleisiodd y Senedd o blaid fy nghynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, BSL, yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn BSL. Fel y dywedais bryd hynny, ym mis Hydref 2018 cafodd galwadau eu gwneud yng nghynhadledd Clust i Wrando gogledd Cymru am ddeddfwriaeth Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru, gan edrych ar Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain (Yr Alban) 2015 a'u cynllun BSL cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017, a sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol, i gynnwys hyd at 10 o bobl fyddar sy'n defnyddio BSL fel eu dewis iaith neu iaith gyntaf.

Er bod Deddf Cymru 2017 yn cadw cyfle cyfartal yn ôl i Lywodraeth y DU, mae cyfreithwyr y Senedd yn nodi y byddai Bil BSL Cymru yn cydymffurfio pe bai'n cysylltu â'r eithriadau a restrir ynddi. Dyfynnais Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain hefyd, a oedd wedi dweud wrthyf fod fy Mil BSL arfaethedig yn gam enfawr ymlaen ac os yw'n unrhyw beth tebyg i'r Bil BSL yn yr Alban, bydd yn cael cefnogaeth unfrydol y pleidiau i gyd. Bydd pawb ar eu hennill, meddent. Gydag Aelodau o bob plaid yn pleidleisio o blaid y cynnig y diwrnod hwnnw, gan ddangos awydd amlwg am ddeddfwriaeth BSL o'r fath ar draws Siambr y Senedd, a chyda phobl a chymunedau B/byddar ledled Cymru yn parhau i ofyn imi gyflwyno Bil BSL yng Nghymru, rwy'n awyddus i barhau i fynd ar drywydd hyn a gofyn am eich cefnogaeth.

Roeddwn wrth fy modd pan gyflwynodd yr AS Llafur Rosie Cooper ei Bil BSL yn Senedd y DU, wedi'i gyd-gyflwyno gan y Ceidwadwr, yr Arglwydd Holmes o Richmond. Llwyddodd i sicrhau cefnogaeth Llywodraeth y DU, cafodd ei basio ym mis Mawrth, ac fe enillodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill. Mae Deddf y DU yn cydnabod BSL fel iaith yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol adrodd ar hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL gan adrannau gweinidogol Llywodraeth, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i ganllawiau gael eu cyhoeddi mewn perthynas â BSL. Fodd bynnag, er bod Deddf y DU yn creu dyletswydd i Lywodraeth y DU baratoi a chyhoeddi adroddiadau BSL sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau Llywodraeth wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL yn eu cyfathrebiadau â'r cyhoedd, mae'n benodol yn eithrio adrodd ar faterion sydd wedi'u datganoli i Gymru a'r Alban. Nid yw'r Bil yn ymestyn y ddyletswydd adrodd na'r canllawiau i Lywodraethau Cymru a'r Alban. Felly, mae fy nghynnig heddiw ynglŷn â'r angen am Ddeddf BSL sy'n benodol i Gymru hefyd yn ymgorffori hyn. Fel y dywed Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain,

'Nid iaith yn unig yw BSL; mae hefyd yn borth i ddysgu...a'r modd y mae pobl Fyddar yn goroesi ac yn ffynnu mewn byd sy'n clywed.'  

Ddoe ddiwethaf, dywedodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw Cymru wrthyf eu bod yn cefnogi'r cynnig hwn ar gyfer Bil BSL Cymru, a chan fod San Steffan a Holyrood bellach wedi pasio Biliau BSL, eu bod yn gobeithio y byddai'r Bil hwn yn ategu'r darnau hynny o ddeddfwriaeth ac yn helpu i wella'r ddarpariaeth o BSL ledled Cymru, a bod amcanion polisi'r Bil arfaethedig yn gadarnhaol, ac yn mynd y tu hwnt i Ddeddf BSL San Steffan drwy gynnwys ymrwymiad i gynhyrchu adroddiadau bob pum mlynedd, a fydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar gynnydd gweithredu'r Bil.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu archwiliad o'u darpariaeth BSL yn ôl siarter BSL Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, nid yw wedi'i gyhoeddi eto, ac mae'r Gymdeithas wedi dweud wrthyf mai thema gyffredin sy'n dod i'r amlwg o'r gymuned fyddar Gymreig yw awydd am fwy o arweinyddiaeth fyddar Gymreig wrth ddarparu gwasanaethau BSL; i wasanaethau BSL gael eu darparu gan arwyddwyr BSL byddar; ac am gymorth i alluogi cynllunio proffesiynol dan arweiniad pobl fyddar a gosod cyllideb ar gyfer materion BSL. Maent yn dweud ei bod yn ymddangos mai'r rheswm am hyn yw oherwydd bod arwyddwyr BSL i'r byddar yng Nghymru wedi gweld Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru, gyda'r ewyllys orau yn y byd, yn gwario arian a glustnodwyd ar gyfer gwasanaethau BSL ar dalu rhai nad ydynt yn arwyddwyr i gynllunio a darparu'r gwasanaethau BSL hyn, gyda'r canlyniadau dealladwy ac anochel nad yw cynllun y gwasanaethau yn cydweddu ag angen gwirioneddol, gan leihau effeithlonrwydd a gwerth am arian. Maent yn ychwanegu y byddai comisiynydd BSL sydd â'r un pwerau â chomisiynwyr ieithoedd lleiafrifol eraill, megis ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, Deddf yr Iaith Aeleg (Yr Alban) 2005, a Bil Hunaniaeth ac Iaith (Gogledd Iwerddon) 2022 sy'n aros am Gydsyniad Brenhinol ar hyn o bryd, yn cyfleu neges bwysig o gefnogaeth i'r gymuned F/fyddar yng Nghymru. 

Yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd, mae'r cynnig hwn yn cynnig Bil sy'n ceisio cael gwared ar y rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth a'r gweithle, ac ymestyn dyletswyddau i Weinidogion Cymru ar faterion datganoledig sy'n cyfateb i'r rhai sy'n berthnasol i Weinidogion y DU yn Lloegr. Am resymau'n ymwneud â moesoldeb, ymarferoldeb a chydraddoldeb, rwyf felly'n annog pob Aelod i bleidleisio o blaid y cynnig hwn. Diolch.

16:05

Byddaf yn cefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn heddiw, ac rwy'n annog pob Aelod arall i'w gefnogi hefyd. BSL yw iaith gyntaf pobl yn y gymuned fyddar. Mae BSL yn debycach i Tsieinëeg na Saesneg, lle ceir defnydd o ddwylo fel disgrifwyr, yn hytrach na sillafu geiriau. Mae dehonglwyr iaith arwyddion i fod ar gael mewn lleoliadau iechyd a lleoliadau eraill y Llywodraeth, ond rwyf wedi gweld a chlywed am sawl achos lle nad yw hynny wedi digwydd. Mae fy chwaer yn fyddar iawn, ac mae hi ac eraill yn y gymuned fyddar yn defnyddio BSL fel eu prif fodd o gyfathrebu. Rwy'n llywydd y grŵp trwm eu clyw yn Abertawe, ac wrth i glyw pobl ddirywio, BSL fydd y modd o gyfathrebu.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, daeth deiseb i law'r Pwyllgor Deisebau yn galw am wella mynediad ac addysg a gwasanaethau yn Iaith Arwyddion Prydain, er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl fyddar o bob oed:

'Gwella mynediad fel y gall teuluoedd ddysgu Iaith Arwyddion Prydain: Pan fo plentyn yn cael diagnosis ei fod yn Fyddar/yn drwm ei glyw, dylid cynnig gwersi am ddim/gwersi â chymhorthdal i'w rieni, fel y gallant ddysgu Iaith Arwyddion Prydain...Drwy ddefnyddio lleferydd yn unig, mae plant Byddar yn ei chael yn anodd datblygu sgiliau cyfathrebu, neu'n methu â gwneud hynny, gan fethu â chyrraedd cerrig milltir pwysig. Bydd dysgu ieithoedd eraill drwy Iaith Arwyddion Prydain (Saesneg/Cymraeg) yn gwella dealltwriaeth y plentyn.'

I'r gymuned fyddar, mae hon yn ddeddfwriaeth bwysig, ac rwy'n annog pob Aelod i'w chefnogi. 

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Mark Isherwood am gyflwyno'r cynnig heddiw. Byddai'n gwneud Bil ardderchog, ac un sy'n angenrheidiol. Rwy'n gobeithio y byddai'n ein gorfodi i fod yn llawer gwell yng Nghymru am ystyried anghenion Iaith Arwyddion Prydain. Un maes lle credaf y byddai hyn yn arwain at newid cadarnhaol yw gydag Iaith Arwyddion Prydain mewn addysg, fel mae fy nghyd-Aelod wedi crybwyll yn barod. Mae data diweddar y cyfrifiad yn dangos mai Iaith Arwyddion Prydain oedd prif iaith 22,000 o bobl tair oed a hŷn ar draws Cymru a Lloegr, cynnydd o dros 6,000 ers 2011. Gyda chynnydd yn y rhai sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ni fu erioed yn bwysicach fod yna fwy o ymwybyddiaeth a'n bod yn addasu i ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain mewn addysg, gofal iechyd, busnes a bywyd bob dydd. Mae hyn yn rhoi ffocws i'r angen dybryd i sicrhau bod ein system addysg yn adlewyrchu'r gymuned iaith arwyddion sy'n tyfu. Edrychaf ymlaen at glywed safbwyntiau ein Gweinidog Addysg—a'ch rhai chi, Weinidog—ar Iaith Arwyddion Prydain a'i defnydd mewn ysgolion ac arholiadau. 

Mae Cymwysterau Cymru yn honni bod ystod o gymwysterau Iaith Arwyddion Prydain ar gael yn y fframwaith credyd a chymwysterau ar hyn o bryd, gyda rhai ar lefelau 1 a 2, sef TGAU i bob pwrpas. Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, nid oes gan unman yng Nghymru allu na chyfleusterau mewn gwirionedd i ddarparu'r cymwysterau hanfodol hyn. Rwy'n credu y byddai'n rhaid iddynt fynd i Loegr i wneud yr arholiad. Ac er bod Cymwysterau Cymru wedi nodi y bydd cymhwyster BSL newydd ar gyfer Cymru wedi'i anelu at ddysgwyr oedran ysgol, nid yw'n ymddangos y bydd y rhain ar gyfer dysgwyr oedran TGAU. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi dechrau datblygu cynnwys pwnc i weld a yw'n bosibl darparu BSL mewn lleoliadau ysgol arferol. Mae dau o fyrddau BSL y DU gyfan, Signature a Sefydliad Iaith Arwyddion Prydain, yn caniatáu i blant ddilyn cymwysterau drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain, er fel y dywedais, nid oes unrhyw ysgolion yng Nghymru'n gallu cyflawni'r broses arholi hon. Yn y DU, ceir 22 o ysgolion gyda darpariaeth ar gyfer plant byddar: 18 yn Lloegr, tair yn yr Alban, un yng Ngogledd Iwerddon a dim un yng Nghymru—ac nid yw hyn yn rhywbeth y dylem fod yn falch ohono. Rwy'n gwybod y bydd y Bil hwn yn mynd gryn dipyn o ffordd i sicrhau y bydd pethau'n gwella i'n cymuned fyddar yng Nghymru. Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn, ac rwy'n annog pob Aelod ar draws y Siambr i gefnogi'r cynnig hwn heddiw.

16:10

Ddirprwy Lywydd, a gaf fi gadarnhau faint o amser sydd gennyf i siarad?

Perffaith. Diolch. Yn gyntaf, hoffwn dalu teyrnged i waith caled ac ymroddiad fy nghyd-Aelod Mark Isherwood wrth iddo ymladd yn barhaus ac yn frwd dros gyflwyno Bil BSL yng Nghymru. Rwy'n mawr obeithio na fydd ei waith ef a gwaith llawer o bobl eraill sy'n gysylltiedig â hyn yn ofer ac y bydd Bil BSL yn cael ei gyflwyno yn y pen draw, oherwydd yn onest, bydd gwneud darpariaeth statudol ar gyfer defnyddio Iaith Arwyddion Prydain heb amheuaeth yn gwella mynediad at addysg ac at wasanaethau ac yn helpu pobl fyddar a'r rhai sydd â phroblemau clyw i integreiddio'n llawn ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru, rhywbeth y cânt eu hamddifadu ohono ar hyn o bryd.

Mewn sawl ffordd, o ystyried yr holl ymdrechion y mae'r Llywodraeth hon yn eu gwneud wrth osod nodau iechyd a llesiant, rwy'n synnu nad yw'r Bil hwn eisoes wedi'i gyflwyno, oherwydd rwy'n siŵr y byddai'n cael cefnogaeth drawsbleidiol ysgubol, a byddai'n cael effeithiau hynod gadarnhaol ar y gymuned fyddar a'r rhai sy'n drwm eu clyw.

Rwyf wedi datgan o'r blaen yn y Siambr hon—ac nid oes gennyf gywilydd ailadrodd y pwyntiau hyn eto—fod defnyddwyr BSL yn wynebu llawer o rwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau a cheisio byw eu bywydau bob dydd, yn enwedig wrth gael mynediad at ddarpariaeth gofal iechyd. Mae 68 y cant o ddefnyddwyr BSL yn profi rhwystrau gwaharddol dro ar ôl tro wrth gysylltu neu drefnu apwyntiadau gofal iechyd, oherwydd eu bod yn gorfod teithio i feddygfeydd i ofyn am eu hapwyntiadau, a gorfod aros am apwyntiad a allai gael ei ganslo ar fyr rybudd os nad oes dehonglwr ar gael.

Hyd yn oed pan fydd pobl fyddar yn llwyddo i gael apwyntiad, fe wyddom hefyd fod 38 y cant wedi dweud eu bod wedi cael trafferthion cael y cymorth cyfathrebu BSL sydd ei angen arnynt, gyda nifer uchel yn adrodd eu bod wedi'u gadael heb wybod yn iawn beth oedd manylion eu diagnosis a heb ddealltwriaeth ynglŷn â'u presgripsiynau ar ôl eu hapwyntiad, a gadewch inni fod yn onest, mae honno'n sefyllfa go frawychus i fod ynddi, ac yn adlewyrchiad trist o'r modd na chaiff y rhai sy'n cael eu gwthio i'r cyrion eu trin â'r un gofal a sylw ag eraill yn aml.

Gwyddom ymhellach y gall gwahardd defnyddwyr BSL byddar gael mwy o effaith ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant, gyda 33 y cant o ddefnyddwyr BSL yn dweud eu bod yn aml neu bob amser yn teimlo'n unig, sydd chwe gwaith yn uwch na phobl nad ydynt yn anabl. Dyma pam ei bod mor bwysig fod gwasanaethau a mannau cyhoeddus yn cael eu gwneud yn hygyrch i ddefnyddwyr BSL.

Ar draws y DU, ceir prinder dehonglwyr BSL cymwys a chofrestredig, sy'n cyfyngu ar allu darparwyr gwasanaethau i fod yn hygyrch i arwyddwyr BSL i'r byddar. Yn ôl cyfrifiad diweddar Cymru a Lloegr, mae 26,000 o bobl yn defnyddio BSL—fel y nododd fy nghyd-Aelod Laura—fel eu prif iaith, a dim ond 1,400 o ddehonglwyr cofrestredig sydd i'w cael. Rwy'n credu y dylai hyn fod yn ddigon o reswm i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn helpu i annog a hyrwyddo dehonglwyr BSL fel proffesiwn.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae cynnig Mark yn hanfodol er mwyn gwella iechyd a llesiant y gymuned fyddar yma yng Nghymru. Bydd yn helpu i greu byd gwell iddynt hwy ac i genedlaethau'r dyfodol fyw ynddo. Hoffwn annog pawb yma i'w gefnogi. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r ddadl bwysig hon yn Senedd Cymru, a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu. Rydym i gyd yn ymwybodol o ba mor bwysig yw'r mater yma, gan fod angen inni sicrhau bod gan holl bobl fyddar Cymru fynediad at wybodaeth a gwasanaethau. Yr wythnos diwethaf, fe wneuthum ddatganiad i'r Senedd i nodi diwrnod rhyngwladol pobl anabl, ac fe dynnais sylw at ystod o feysydd lle rydym yn gweithredu i hyrwyddo hawliau pobl anabl yng Nghymru. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys pobl anabl byddar.

Mae'n amserol felly ein bod yn canolbwyntio ar y mater hwn, ac rwy'n croesawu'r cyfle i wneud hynny. Wrth ystyried defnyddwyr BSL byddar, mae'n hanfodol ein bod yn deall sut y gellid trin BSL a dulliau cyfathrebu eraill a ffefrir yn fwy cyfartal o'u cymharu â'r Gymraeg a'r Saesneg. Gwn fod y mater wedi cael sylw yn flaenorol yng nghwestiynau'r Senedd gan Mike Hedges heddiw ac Aelodau eraill ar achlysuron blaenorol. Diolch i chi am eich safbwyntiau heddiw. Wrth gwrs, fe wnaethom drafod hyn mewn dadl fer ym mis Ionawr am anghydraddoldeb cudd, pan drafodwyd hyn hefyd. I lawer o bobl fyddar, BSL yw eu hiaith gyntaf neu ddewis iaith, ac ers 2004, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cydnabyddiaeth i BSL fel iaith yng Nghymru.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r adroddiad 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19', a gynhyrchwyd yn ystod y pandemig gan a chyda phobl anabl. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb drwy sefydlu'r tasglu hawliau pobl anabl. Yn rhan o hyn, rydym wedi sefydlu mynediad at wasanaethau, sy'n cynnwys y gweithgor cyfathrebu a thechnoleg, a bydd yn sicrhau bod profiad bywyd pobl anabl yn ysgogiad i hyrwyddo hawliau pobl anabl, gan gynnwys mynediad at BSL drwy ddatblygu cynllun gweithredu hawliau anabledd.

Rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain, a gynhaliodd archwiliad BSL ar ran Llywodraeth Cymru, ac maent i fod i gyhoeddi eu hadroddiad terfynol ym mis Ionawr—felly, o fewn ychydig wythnosau. Bydd llawer o argymhellion yr adroddiad hwn yn ein helpu i feithrin gwytnwch o fewn y gwasanaethau cyfieithu a dehongli BSL, a hefyd yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth o BSL yng Nghymru. Bydd hyn yn ein galluogi i ddechrau gosod y safon ar gyfer cydraddoldeb a mynediad at wasanaethau a gwybodaeth mewn BSL yng Nghymru, gan gynnwys ymgynghori ystyrlon ac ymgysylltu â'r gymuned fyddar.

Yn ogystal â meithrin gallu i ddysgu ac addysgu BSL ar bob lefel o'r system addysg yng Nghymru, er mwyn galluogi mynediad llawn at wasanaethau gwybodaeth ac i ddileu rhwystrau i gyfranogiad, rwy'n ymwybodol iawn fod angen ymgyrch i feithrin gallu cyfieithwyr BSL i'r byddar a dehonglwyr BSL Saesneg a BSL Cymraeg. Rydym i gyd wedi profi'r her—rwyf fi wedi—o archebu'r ychydig ddehonglwyr BSL sydd ar gael yng Nghymru, ac mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio dehonglwyr BSL sy'n deall cyd-destun Cymru a'r gwahaniaeth wrth ddefnyddio BSL gyda'r Gymraeg. Heb y gwasanaethau hyn, byddai llawer o bobl yn methu cymryd rhan a chael eu lleisiau wedi eu clywed yn gyfartal. Rwy'n credu bod presenoldeb dehonglwyr BSL yng nghynadleddau'r wasg Llywodraeth Cymru o ddechrau'r pandemig, a bellach yn rhan o'r ffordd rydym yn gwneud ein cyfathrebiadau, yn allweddol. Ac rwy'n croesawu'r dehonglwr BSL heddiw yn y Senedd.

Fe fyddwch yn ymwybodol o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 sydd â hawliau plant yn ganolog iddo a bydd yn helpu i sicrhau bod pob dysgwr, gan gynnwys plant byddar, yn cael eu cefnogi'n effeithiol i oresgyn rhwystrau rhag dysgu ac yn gallu cyflawni eu potensial llawn. Mae'r Ddeddf ADY yn creu fframwaith deddfwriaethol unedig i gefnogi dysgwyr o ddim oed i 25 oed gydag ADY ac yn hyrwyddo cydraddoldeb drwy ddarparu'r hawl i gynllun datblygu unigol statudol ar gyfer pob dysgwr ag ADY, beth bynnag yw lefel yr angen.

Mae Cymru fwy cyfartal yn un sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial, beth bynnag yw eu cefndir a'u hamgylchiadau. Mae hefyd yn un o'n nodau llesiant cenedlaethol cyfunol yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol—[Torri ar draws.]

16:15

Rwy'n ddiolchgar, Weinidog, ac rwy'n falch iawn o glywed y camau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn y maes penodol hwn, ond mae deddfwriaeth, ac ymgorffori rhywbeth mewn deddfwriaeth, yn rhoi hawliau go iawn i bobl. Dyna pam mae'r Aelod wedi dod â'r cynnig hwn i'r llawr y prynhawn yma. A wnaiff y Llywodraeth ystyried cefnogi neu weithio gyda'r Aelod i gyflwyno cynnig deddfwriaethol a fydd yn y pen draw yn ymgorffori'r hawliau hynny ac yn gwneud y naid ymlaen yn y gwelliannau rydym i gyd am eu gweld ar gyfer pobl ag anableddau clyw?

Rwy'n meddwl bod yna ddau beth. Rwy'n dod at y ddeddfwriaeth, ond rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig iawn ein bod yn clywed gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain ynglŷn â'u harchwiliad a hefyd, ynghylch canlyniadau'r gwaith pwysig iawn sydd wedi'i wneud gan y tasglu pobl anabl, ond fe ddof at faterion deddfwriaethol hefyd.

Ar y cyfeiriadau at Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, mae'n bwysig, oherwydd mae'n un o'n nodau llesiant cenedlaethol cyfunol i wneud yn siŵr y gallwn anelu at gael Cymru sy'n fwy cyfartal, ac mae'n golygu bod cyrff cyhoeddus a byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnwys o dan y Ddeddf, a'i bod yn ofynnol iddynt sicrhau eu bod yn cyfrannu cymaint ag y bo modd tuag at sicrhau Cymru fwy cyfartal. Yn sail i hyn, mae ein hymrwymiad hirsefydlog i'r model cymdeithasol o anabledd, fel y nododd Mark, ar gyfer defnyddwyr BSL byddar; mae'r gallu i fwrw ymlaen â'u bywydau heb eu llesteirio gan rwystrau cyfathrebu yn sylfaenol.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022 yn cynnwys darpariaeth i gydnabod BSL fel iaith yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Deddf a ddechreuodd ei thaith fel Bil Aelod preifat ydyw, fel sydd eisoes wedi'i nodi heddiw, ac fe'i cyflwynwyd gan Rosie Cooper AS y llynedd. Ym mis Ebrill eleni, arweiniais ddadl i gymeradwyo memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil BSL ar y pryd. Nid yw'r Ddeddf yn atal y Senedd rhag deddfu yn y maes hwn, pe bai'n dewis gwneud hynny. Ceir darpariaeth yn y Ddeddf ar gyfer awdurdodau cyhoeddus datganoledig ac i Weinidogion Cymru, ac mae'n iawn inni allu penderfynu ar ddull cynhwysfawr Cymreig i gyd-fynd â'n dull gweithredu ein hunain.

Bydd y darpariaethau yn y Ddeddf yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywydau defnyddwyr BSL byddar, ac rydym yn croesawu hynny, ochr yn ochr â'n dull Cymreig o weithredu. Mae angen inni ymgysylltu mwy â'n dinasyddion BSL byddar nawr, a chymunedau byddar nad ydynt yn defnyddio BSL, ac mae cymaint o werth i ddeall profiadau bywyd pob unigolyn byddar. Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio'r dystiolaeth a'r ddealltwriaeth hon i ddatblygu'r dull cydgysylltiedig hwn o hyrwyddo BSL a thechnolegau cynorthwyol ac addasol hefyd. Ni allwn newid hanes, ond gallwn ddylanwadu a newid yr hyn a ddaw yn y dyfodol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol cyfartal i bob unigolyn byddar a thrwm eu clyw yng Nghymru, ac mae'r ddadl hon yma yn gyfraniad gwirioneddol bwysig i hynny. Diolch.

16:20

Diolch. Wel, yn gyntaf, diolch yn fawr iawn i Mike Hedges am eich cefnogaeth i'r cynnig hwn. Fel y dywedodd, mae cymunedau byddar yn defnyddio BSL fel eu prif ddull o gyfathrebu ac, i gymunedau byddar, mae'r ddeddfwriaeth hon yn bwysig. Diolch i Laura Anne Jones am ei sylwadau. Fel y dywedodd, byddai hyn yn creu newid cadarnhaol ar gyfer BSL mewn addysg. Tynnodd sylw at y cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio BSL, yr angen i addasu i ddefnyddio BSL mewn gwasanaethau cyhoeddus a bywyd bob dydd, a'r angen i ganiatáu i fyfyrwyr gael cymwysterau drwy gyfrwng BSL. Mae Joel James—eto, diolch am eich cyfraniad—yn gobeithio, fel rwyf innau, y bydd y Bil BSL yn cael ei gyflwyno yng Nghymru yn y pen draw i helpu pobl fyddar, i rymuso pobl fyddar ac i gael gwared ar rwystrau a nodir ganddynt. Fel y dywedodd, byddai'r Ddeddf yn cael effeithiau cadarnhaol iawn ar bobl fyddar sydd ar y cyrion, gan gynnwys mynediad at ddarpariaeth gofal iechyd, ac esboniodd fod y diffyg cymorth ar hyn o bryd yn effeithio ar broblemau iechyd meddwl a lles meddyliol ymhlith pobl fyddar, sydd chwe gwaith yn uwch nag yn y boblogaeth gyffredinol.

Diolch i'r Gweinidog am ei sylwadau. Fel y dywedodd, mae'n bwysig fod pob unigolyn byddar yn cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau. Cyfeiriodd y Gweinidog at yr adroddiad 'Drws ar Glo' a'r tasglu hawliau pobl anabl. Efallai y bydd yn cofio, yn ystod misoedd cyntaf y cyfyngiadau symud, fod Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall, Cŵn Tywys Cymru a minnau wedi cael cyfarfodydd ar-lein gyda grwpiau o oedolion ag anableddau dysgu, a nodwyd y rhwystrau roeddent wedi dod ar eu traws ers y cyfyngiadau symud na chynlluniwyd ar eu cyfer o ddechrau'r newidiadau a gyflwynwyd ar ôl y cyfyngiadau symud am nad oedd dyletswyddau ar Weinidogion na chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i wneud hyn yn rhagweithiol, i gydgynhyrchu'r pethau hyn yn awtomatig. A phan godais hyn, fe fynychodd y Gweinidog y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, ac fe wneuthum innau fynychu'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol pan godais hyn hefyd, ac fe wneuthum ymateb, ond rwy'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno na ddylai fod wedi digwydd yn y lle cyntaf. Ni ddylem fod wedi gorfod cyrraedd y pwynt hwnnw. A dyna beth mae'r Bil hwn yn ceisio ei wneud, ar gyfer pobl f/Fyddar a defnyddwyr BSL, o leiaf. 

Rydym yn croesawu'r archwiliad y bu Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn ei wneud dros Lywodraeth Cymru ar y materion hyn. Wrth gwrs, mae'r Gymdeithas wedi bod yn rhoi gwybodaeth i mi a'r grŵp trawsbleidiol ar faterion byddar am hyn drwy gydol y broses. Er hynny, maent yn cefnogi fy nghynnig ar gyfer Bil ac mewn gwirionedd, cafodd cynnig heddiw ei saernïo gyda hwy, gan sicrhau bod safbwyntiau'r bobl y maent yn eu cynrychioli'n cael eu mynegi o'i fewn.

Cyfeiriodd y Gweinidog at yr angen—fe wnaf orffen gyda hyn—am ddehonglwyr BSL. Rwy'n cofio, yn ystod fy nhymor cyntaf, eich ail dymor chi, roedd gennych raglen o ddehonglwyr BSL, a chafodd llawer mwy o bobl eu derbyn a'u hyfforddi i lefel uchel, ond nid yw'n gweithio nawr. Ceir prinder enfawr, fel y dangoswyd gan y ffaith fy mod, yr wythnos diwethaf, wedi gofyn i'r Senedd ddarparu cyfieithiad ar y pryd ar gyfer y ddadl hon. A gwn o'r cyfathrebiadau a gefais fod llawer o bobl fyddar gofidus iawn y tu allan i'r Senedd a oedd eisiau dilyn y ddadl hon yn fyw, sy'n teimlo ein bod wedi torri ein dyletswyddau iddynt o dan y model cymdeithasol o anabledd a Deddf Cydraddoldeb 2010, a bydd rhaid iddynt edrych i weld yn nes ymlaen a allant edrych ar gyfieithiad dilynol. Rwy'n gresynu at y ffaith bod hynny wedi digwydd. Ond er hynny, rwy'n croesawu'r gefnogaeth a glywsom gan yr ychydig siaradwyr heddiw. Hoffwn pe baem wedi cael mwy o amser i drafod hyn. Ac os gwelwch yn dda, Aelodau, rwy'n eich annog i ganiatáu i hyn ddigwydd, mewn egwyddor o leiaf, i ategu'r bleidlais gadarnhaol a gawsom ym mis Chwefror y llynedd. Diolch yn fawr.

16:25

Cyn i mi symud at y cwestiwn, a gaf fi egluro bod y Senedd wedi edrych ar gael cyfieithydd i mewn? Yn anffodus, ni fu modd inni wneud hynny, a dyna pam ein bod wedi mynd am y dewis arall y tro hwn, sef recordiad a bydd dehonglwr ar y recordiad.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau—'Cyfraith Mark Allen: Diogelwch dŵr ac atal boddi'

Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Cyfraith Mark Allen: Diogelwch Dŵr ac Atal Boddi'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jack Sargeant.

Cynnig NDM8157 Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Cyfraith Mark Allen: Diogelwch dŵr ac atal boddi', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Awst 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon—

—ar yr adroddiad, 'Cyfraith Mark Allen: Diogelwch Dŵr ac Atal Boddi'. Fe greodd Leeanne Bartley, sydd yma yn yr oriel heddiw gyda'i gŵr, David, y ddeiseb hon yn dilyn marwolaeth drasig ei mab. Dim ond 18 oed oedd Mark pan fu farw ym mis Mehefin 2018 ar ôl neidio i gronfa ddŵr rewllyd ar ddiwrnod poeth. Mae'r teulu'n credu y gallai fod wedi cael ei achub pe bai cortyn taflu ar gael ger y dŵr y diwrnod hwnnw.

Ddirprwy Lywydd, mae'r ddeiseb yn galw am,

'[G]yfraith Mark Allen: rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru,'

ac mae eisoes wedi codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, ar ôl casglu cyfanswm o 11,027 o lofnodion. Mae'n rhan o ymgyrch ehangach a gyflawnwyd gan fam Mark i godi ymwybyddiaeth o'r risgiau, i addysgu'r cyhoedd ac i ymgyrchu dros weithredu i hybu diogelwch dŵr ac atal boddi.

Yn rhan o'r ymgyrch hon, cyflwynwyd deiseb debyg i Lywodraeth y DU yn galw am ddeddfwriaeth i'w gwneud yn ofynnol i gortynnau taflu gael eu gosod o amgylch cronfeydd dŵr agored, deiseb a gefnogwyd gan dros 100,000 o bobl. Fe'i trafodwyd yn Senedd y DU fis Ionawr y llynedd, heb unrhyw ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i newid. Rydym yn falch ein bod yn mynd â'r mater hwn ymhellach yng Nghymru. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, rwy'n teimlo'n freintiedig iawn fy mod yn gallu gwrando ar unigolion fel Leeanne a'u cynorthwyo i amlygu heriau a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Yn ystod ymchwiliad y pwyllgor, buom yn edrych yn fanwl ar y materion a oedd yn deillio o'r ddeiseb hon, a chlywsom dystiolaeth gan Diogelwch Dŵr Cymru, cwmnïau cyfleustodau dŵr, y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau a Cyfoeth Naturiol Cymru i gael darlun llawnach o'r cyd-destun, yr heriau a'r camau sydd eu hangen i gynyddu diogelwch dŵr ac atal boddi. Ond yn bwysicaf oll, clywsom gan y deisebydd yn uniongyrchol a chan deuluoedd eraill sydd wedi colli anwyliaid drwy foddi. Clywsom am yr effaith ddinistriol y mae trychineb o'r fath yn ei chael ar eu bywydau, ond hefyd am eu penderfyniad cadarn i godi ymwybyddiaeth ac atal colli bywydau drwy foddi yn y dyfodol. Rydym mor hynod ddiolchgar iddynt am eu hamser, eu gonestrwydd a'u parodrwydd i rannu eu trawma fel y gall eraill elwa.

Fe wnaeth ein hadroddiad chwe argymhelliad i Lywodraeth Cymru, a chafodd pump ohonynt eu derbyn gydag un wedi'i dderbyn mewn egwyddor. Os caf siarad am argymhelliad 1 yn gyntaf, rydym yn croesawu'r ffaith y bydd diogelwch dŵr ac atal boddi ym mhortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd nawr er mwyn sicrhau'r arweinyddiaeth a'r cydgysylltiad a fu ar goll am ei fod yn faes sy'n pontio portffolios amrywiol.

Gan droi at argymhelliad 2, roeddwn yn arbennig o falch o glywed gan Diogelwch Dŵr Cymru fod y Gweinidog a'i swyddogion wedi bod yn ymgysylltu â hwy ac ar hyn o bryd yn ystyried darparu cyllid i roi cymorth penodol i'r sefydliad. Byddai hyn yn ei gwneud hi'n bosibl cymryd cam sylweddol ymlaen i gyflwyno strategaeth atal boddi yng Nghymru ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am hyn gan y Gweinidog.

Os edrychwn ar argymhelliad 3, rwy'n croesawu'r ymateb cadarnhaol i ddod â phartïon at ei gilydd ac adeiladu ar y gwaith da a wnaed. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud o hyd. Rhaid gwreiddio rhaglen addysg diogelwch dŵr yn ein system addysg gyda chynllun gweithredu clir ar gyfer cyflwyno er mwyn sicrhau bod pob un o'n plant yn dysgu sut i gadw'n ddiogel yn agos at ddŵr neu yn y dŵr. Galwaf ar y Gweinidog i sicrhau na fydd hyn yn ddewisol, ond yn hytrach, ei fod yn rhan orfodol o addysg yng Nghymru.

Yn ogystal, rwy'n cefnogi'r galwadau gan ymgyrchwyr diogelwch dŵr i bob plentyn gael gwersi nofio, a allai achub eu bywyd wrth gwrs. Rydym wedi clywed tystiolaeth yn ddiweddar gan Nofio Cymru yn y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i gefnogi ei ymchwiliad i'r cyfranogiad y gall—[Anghlywadwy.]—ysgol nofio, ac rwy'n credu bod Jenny Rathbone wedi dod â hyn i'n sylw yr wythnos diwethaf.

Lywydd, roedd argymhelliad 4, a dderbyniwyd mewn egwyddor, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i sicrhau bod eglurder ynglŷn â'r isafswm—

16:30

Rydym yn deall nad yw eich microffon yn gweithio ar hyn o bryd, Jack. A wnewch chi aros am eiliad, os gwelwch yn dda?

Lywydd, af yn ôl at argymhelliad 3—rwy'n credu mai dyna pryd y torrodd allan.

Rwy'n croesawu'r ymateb cadarnhaol i argymhelliad 3, i ddod â phartneriaid ynghyd, gan adeiladu ar y gwaith da sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud o hyd. Mae’n rhaid ymwreiddio rhaglen addysg a diogelwch dŵr yn ein system addysg, gyda chynllun gweithredu clir ar gyfer ei chyflwyno er mwyn sicrhau bod pob un o’n plant yn dysgu sut i gadw'n ddiogel ger y dŵr neu yn y dŵr. Galwaf ar y Gweinidog i sicrhau na fydd hyn yn ddewisol, ond yn rhan orfodol o addysg Cymru.

Yn ogystal, rwy'n cefnogi'r alwad gan ymgyrchwyr diogelwch dŵr i bob plentyn gael gwersi nofio, a allai achub eu bywyd, wrth gwrs. Cafodd hyn ei amlygu i’r Senedd gan Jenny Rathbone a’r pwyllgor diwylliant yn ystod tystiolaeth a roddwyd. Amlygodd y dystiolaeth y ffaith, ar ôl COVID-19, mai 42 y cant yn unig o blant ysgol sy’n mynychu’r ysgol yng Nghymru a allai nofio yn 2022.

Lywydd, os caf sôn am argymhelliad 4, a dderbyniwyd mewn egwyddor, roedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i sicrhau eglurder ynghylch gofynion sylfaenol ar gyfer gwybodaeth ddiogelwch a’r arwyddion sydd eu hangen o amgylch crynofeydd dŵr i gynyddu ymwybyddiaeth o’r peryglon i'r rheini sy'n mynd i mewn i'r dŵr. Nawr, rwy’n deall, ac mae’r pwyllgor yn deall, fod hwn yn faes cymhleth, ac rydym yn croesawu’r camau gweithredu i archwilio hyn ymhellach wrth ddatblygu canllawiau ar gyfer y sefydliadau hynny.

Gan droi at argymhellion 5 a 6, edrych ar godi ymwybyddiaeth ac addysgu’r cyhoedd oedd y neges fwyaf cyson a gawsom gan bawb a roddodd dystiolaeth i’n hymchwiliad. Mae’n gwbl hanfodol, Lywydd. Ac i wneud hynny'n effeithiol, mae'n rhaid inni gydnabod bod diogelwch dŵr ac atal boddi yn rhan o gyd-destun ehangach diogelwch yn yr awyr agored. Mae meddwl a gweithio cydgysylltiedig effeithiol yn allweddol i sicrhau bod y negeseuon diogelwch yn glir, yn gyson, ac yn gallu cynorthwyo pobl i fwynhau awyr agored hardd a heriol Cymru mor ddiogel â phosibl.

I gloi, Lywydd, mae’r pwyllgor yn llwyr gefnogi ymgyrch Leeanne Bartley ac yn gobeithio bod ein hargymhellion yn gwneud rhywfaint i sicrhau nad oes yn rhaid i deuluoedd eraill fynd drwy’r daith ofnadwy honno a ddisgrifiais ar y dechrau. Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau gan Aelodau eraill, ac wrth gwrs, at ymateb y Gweinidog. Diolch yn fawr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi gwaith y Pwyllgor Deisebau ac wedi derbyn ei argymhellion. Rwy'n arbennig o falch o weld bod y Llywodraeth hon wedi cydnabod, er mwyn darparu arweinyddiaeth a chydgysylltu clir ac effeithiol ar gyfer diogelwch dŵr ac atal boddi, fod angen trosolwg gan un portffolio gweinidogol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i deulu Mark Allen am eu hymgyrchu diflino ar y mater a’u dyhead i sicrhau nad oes unrhyw deulu arall yn mynd drwy’r hyn y maent hwy wedi mynd drwyddo. Ni allaf ond dychmygu'r trawma a achosodd hynny.

Bob haf, mae cymaint o bobl yn ceisio mynd i nofio mewn dŵr agored, ac yn anffodus, nid yw'r sefyllfa hon yn debygol o newid yn fuan. Er fy mod yn cydnabod bod angen gwneud llawer mwy i helpu i ddysgu pobl i nofio, mae'n rhaid inni gofio mai gorhyder rhai nofwyr sy’n aml yn eu rhoi mewn perygl, am eu bod yn cymryd gormod o risgiau. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, felly, y bydd ymgyrchoedd wedi’u targedu, yn enwedig mewn cyd-destun lleol, ac yn ystod misoedd yr haf mewn ardaloedd sy’n enwog am eu cyfleoedd i nofio mewn dŵr agored, yn hynod effeithiol wrth helpu pobl i ystyried y risgiau'n fwy gofalus wrth fynd i ddŵr agored, a dylem roi blaenoriaeth i’r ymgyrchoedd hyn ar y teledu, ar y radio, ar y cyfryngau cymdeithasol, yn y sinemâu lleol ac yn y newyddion lleol, ac amlygu peryglon nofio mewn dŵr agored. Yn ogystal, mae angen inni wneud mwy na dim ond cael arwyddion sy'n dweud 'Dim nofio' neu 'Ceryntau peryglus', oherwydd—a gwn nad dyna yw eu bwriad, ond—yn aml, ni chânt eu hystyried yn ddim mwy nag arwyddion sydd wedi'u gosod ar hap, gyda phobl prin yn rhoi unrhyw ystyriaeth i ba mor gywir ydynt. Gyda hyn mewn golwg, byddwn yn annog ystyriaeth i arwyddion sy’n egluro’r risgiau’n llawn, ac yn rhoi dadansoddiad cyflawn o’r hyn a all ddigwydd. Credaf y dylai'r arwyddion hyn hefyd amlygu nifer y marwolaethau ac egluro'r ardal ddaearyddol o dan y dŵr yn fanwl, a fydd yn atgyfnerthu pam nad yw'n ddiogel i fynd i mewn i'r dŵr. Dylai'r arwyddion hyn gynnwys cyfarwyddiadau diogelwch a gweithdrefnau achub bywyd hefyd.

Hefyd, o ystyried nifer yr achosion o bobl yn mynd yn sâl drwy nofio mewn afonydd â gorlifoedd carthion amrwd, rwy'n credu y dylem dynnu sylw at ardaloedd lle mae carthion amrwd yn cael eu gollwng i'r dŵr yn aml ac egluro peryglon nofio yn y dŵr hwnnw. Lle mae gennym dwristiaid yng Nghymru sy’n nofwyr gwyllt ac sy’n aml yn chwilio am ddŵr agored, nid oes ganddynt wybodaeth leol am achosion o lygredd.

Gyda hyn mewn golwg, Ddirprwy Lywydd, ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw'r ddeiseb hon a darparu mwy o wersi nofio i blant ysgol, a helpu pawb i ddeall diogelwch dŵr yn well. A hoffwn annog Llywodraeth Cymru i gymryd yr argymhellion y maent wedi'u derbyn o ddifrif, a gwneud popeth yn eu gallu i fynd i'r afael â'r materion sy'n gysylltiedig â hyn. Rwyf fi a fy ngrŵp yn cefnogi’r ddeiseb hon yn llwyr, a hoffwn annog pob Aelod arall i wneud hynny. Diolch.

16:35

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Gadeirydd y pwyllgor a hefyd, yn bennaf, i'r clercod am eu holl waith. 

Roedd ymgyrch Leeanne yn un o’r ymgyrchoedd cyntaf i gysylltu â mi fel Aelod newydd ei ethol; pan sgroliais yn ôl drwy Messenger, gwelais mai David ei hun a gysylltodd â mi. Nawr, roedd hynny yn 2021, ac rwy'n falch iawn ein bod yma nawr ar y pwynt hwn. Nid oes llawer mwy y gallaf ei ychwanegu at gyfraniad y Cadeirydd, ond credaf fod y gwaith a wnaethom fel pwyllgor wedi’i werthfawrogi’n fawr nid yn unig gan Leeanne a’i theulu, ond hefyd gan deuluoedd eraill sydd wedi colli anwyliaid drwy foddi.

Fel pwyllgor, gwnaethom gynnal paneli gyda theuluoedd a oedd wedi cael profiadau tebyg i Leeanne, ac roedd y dystiolaeth a roddwyd ganddynt yn amhrisiadwy a chafodd ei gwerthfawrogi’n fawr, yn enwedig o ystyried natur drallodus eu tystiolaeth. Maent hwy, fel Leeanne a chymaint o rai eraill a ddewisodd ymgysylltu â ni fel pwyllgor, yn ffynhonnell gyson o ddewrder, ysbrydoliaeth a grym i’r rheini sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth. Ac mae'n rhaid imi ddweud, mae'n un o'r pethau gorau am fod yn aelod o'r Pwyllgor Deisebau: gallu ymgysylltu â phobl fel Leeanne a'u helpu i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed yma yn ein Senedd.

Ar yr argymhellion ac ymateb y Llywodraeth, rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o’n hargymhellion, ac un mewn egwyddor. Credaf fod y dystiolaeth a gasglwyd yn cyfeirio at beth o'r gwaith da a wneir eisoes gan sefydliadau amrywiol fel Dŵr Cymru, fel y gwasanaeth tân, wrth weithio i wella diogelwch dŵr. Ond yr hyn a oedd ar goll yn fy marn i oedd y meddwl cydgysylltiedig a chydlyniad mewn rhaglenni addysgol. Fodd bynnag, roedd yr awydd am y cydlyniad hwnnw'n amlwg i bob un ohonom.

Roedd hefyd yn amlwg fod cyllid yn broblem, yn benodol wrth gymharu â’r cyllid a roddwyd yn Lloegr ar gyfer diogelwch dŵr, ac rwy’n arbennig o falch fod diogelwch dŵr bellach yn cael ei ddyrannu i Weinidog penodol. Roedd yn amlwg iawn fod angen hynny, fod angen yr arweiniad uniongyrchol hwnnw arnom ar hyn. Mae'n beth arall, wrth gwrs, i'w ychwanegu at y portffolio newid hinsawdd, ond mae'n bwysig iawn ein bod wedi gwneud hynny.

Felly, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch eto i'r rheini a roddodd dystiolaeth ar gyfer yr holl waith a wnaed i sicrhau bod ein hadroddiad yn cael ei gwblhau, ac rwyf am gloi drwy ddweud nad dyma ddiwedd y broblem, a fy mod yn credu ei bod hefyd yn ddyletswydd ar bob un ohonom i gymryd rhan yn y gwaith o godi ymwybyddiaeth o beryglon cronfeydd dŵr agored. Fel Aelodau etholedig, mae gennym ddyletswydd i helpu sefydliadau yn ein hetholaethau a’n rhanbarthau, yn ogystal â’r Llywodraeth, i godi ymwybyddiaeth.

Hoffwn ddechrau drwy egluro fy rhesymau dros siarad yn y ddadl hon heddiw. Fel y gŵyr yr Aelodau, cyn cael fy ethol, roeddwn yn athrawes, ac yn fy 16 mlynedd fel athrawes, bob haf, byddem yn cael gwasanaeth gyda Dŵr Cymru lle byddem yn amlinellu peryglon nofio mewn cronfeydd dŵr. Roeddem yn gwneud hyn yn ddiwyd bob blwyddyn, gan wybod ein bod wedi gwneud popeth y gallem i ddiogelu ein disgyblion. Fodd bynnag, un haf, cawsom y newyddion ysgytwol fod un o’n cyn-ddisgyblion, Daniel Clemo, cymeriad go iawn, dyn ifanc heini, cryf, llawn bywyd a bywiogrwydd, wedi boddi wrth nofio mewn cronfa ddŵr ar ddiwrnod braf. Rwy'n gwybod o'm profiad fy hun sut y dinistriodd y golled hon deulu Daniel, a chymaint fu'r ysgytwad i'r gymuned, a gwn fod angen inni wneud mwy, llawer mwy, i geisio atal marwolaethau o’r fath yn y dyfodol. A hoffwn ganmol dewrder teulu Mark Allen am eu gwaith diflino yn y maes hwn.

Gan droi at yr adroddiad ei hun, hoffwn ganmol y Pwyllgor Deisebau am y gwaith rhagorol hwn. Fel llawer ohonom, fe’m syfrdanwyd gan faint yr her—er enghraifft, fod nifer y marwolaethau drwy foddi damweiniol yn uwch na nifer y marwolaethau o amrywiaeth o achosion y gellir dadlau bod ganddynt broffil uwch, ac yng Nghymru, fesul pen o'r boblogaeth, fod y gyfradd o achosion o foddi ddwywaith cymaint â chyfartaledd y DU. Ond efallai hyd yn oed yn fwy iasol oedd y data ynghylch nifer y digwyddiadau nad ydynt yn arwain at farwolaethau. Yn ôl Diogelwch Dŵr Cymru, mae angen ymateb brys i dros 1,750 o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â dŵr bob blwyddyn, a gallai pob un o’r rheini wrth gwrs arwain at farwolaethau'r bobl sydd mewn perygl, neu o bosibl, ein gwasanaethau brys. Felly, dengys hyn pa mor bwysig yw hi, er gwaethaf ei cholled bersonol, fod Leeanne wedi arwain yr ymgyrch hon, fel nad yw teuluoedd eraill yn dioddef.

Gan droi at y camau nesaf, rwy’n falch o weld argymhellion 3 a 6 yn arbennig. Mae addysg ac ymwybyddiaeth o'r perygl sy'n gysylltiedig â chrynofeydd dŵr yn hollbwysig er mwyn atal marwolaethau. Mae’n iawn ein bod yn ceisio dysgu'r wers hon i'n plant a’n pobl ifanc o oedran cynnar, a’n bod yn mabwysiadu agwedd gydol oes i sicrhau bod y neges honno’n cael ei chofio. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y ddau argymhelliad hyn, a bod gwaith eisoes wedi’i wneud ar ddiogelwch cronfeydd dŵr ac wedi’i wneud mewn ffordd sy’n berthnasol ac yn hawdd cael mynediad ato, fel y gall gwaddol Mark Allen barhau, ac fel y gellir achub bywydau.

16:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r adroddiad pwysig hwn ger ein bron heddiw? Ac a gaf fi hefyd gofnodi fy edmygedd o ffrindiau a theulu Mark, y gwn eu bod yn yr oriel gyhoeddus yma heddiw, a chanmol eu hymdrechion i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei drafod yma heddiw ar ffurf adroddiad?

Fel y nodwyd eisoes gan Aelodau ar draws y Siambr, mae’n peri cryn bryder fod unrhyw unigolyn ifanc yn marw drwy foddi yng Nghymru. Deallaf fod oddeutu 400 o bobl ledled y DU yn marw drwy foddi, felly mae’n amlwg fod angen gwneud mwy i sicrhau gweithgaredd parhaus i atal y marwolaethau hyn.

Hoffwn siarad, Ddirprwy Lywydd, fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar y sector gweithgareddau awyr agored, ac er bod llawer o bethau da yn yr adroddiad hwn, cefais wybod efallai fod yna rai cyfleoedd a gollwyd ymhlith yr argymhellion, a chyfleoedd y byddai’r sector gweithgareddau awyr agored am roi sylwadau arnynt, yn enwedig gyda’u profiad a’u harbenigedd helaeth yn y maes hwn. Ac fel y gwyddom, mae’r adroddiad yn amlygu nifer o’r materion heriol wrth sicrhau bod cronfeydd dŵr yn lleoedd mwy diogel i’r rheini sy’n ymweld â hwy ac yn eu defnyddio, yn ogystal â gwneud awgrymiadau i helpu i liniaru rhai o’r materion hyn. Ond o ran y cyfle a gollwyd, deallaf na chafwyd yr ymgynghori y gellid bod wedi'i gael o bosibl gyda’r sector gweithgareddau awyr agored, a gwn fod y sector yn siomedig oherwydd hynny, gan eu bod hwy, ymhlith llawer o bobl, o'r farn fod diogelwch dŵr yn agwedd mor bwysig ar y gwaith a wnânt. Ac maent eisoes yn gwneud llawer iawn o waith mewn perthynas â diogelwch dŵr ac ymgyrchoedd, gyda phethau fel AdventureSmart Cymru, AdventureSmart UK, gyda’u hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, yn ogystal â'u hymgyrchoedd gydag oddeutu 100 o bartneriaid eraill, ar ymdrech gydweithredol i gytuno ar negeseuon diogelwch a rhannu'r negeseuon hynny mor eang â phosibl.

Ac un agwedd glir ar y ddadl hon a'r adroddiad hyd yn hyn yw bod angen gwneud llawer mwy o waith i atal y marwolaethau hyn, ac er mwyn cyflawni'r nod hwn, mae'n rhaid i bob un ohonom sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n gilydd, gan weithio ar draws y sector ac ar draws sefydliadau, i sicrhau bod hyn yn digwydd yn y ffordd orau bosibl. Felly, Ddirprwy Lywydd, er fy mod yn derbyn bod y broses hon yn dod i'w therfyn o ran yr adroddiad hwn, deallaf y byddai’r sector ei hun yn dal i groesawu trafodaethau pellach ynglŷn â sut y gallent gefnogi’r Pwyllgor Deisebau a chyrff perthnasol ymhellach mewn perthynas â diogelwch dŵr ac atal boddi, ac rwy'n gobeithio y gellir manteisio ar y cynnig hwn. Ond yn sicr, hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am eu hadroddiad ac i’r Cadeirydd am ei gyflwyno yma heddiw. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau pellach. Diolch yn fawr iawn.

16:45

A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am gyflwyno'r adroddiad hwn, a dweud unwaith eto ei fod yn dangos grym y Pwyllgor Deisebau yn cyflwyno materion pwysig iawn i'r Senedd, a'r gallu sydd gennym yn Senedd Cymru i fynegi barn pobl y tu allan i’r Siambr hon ei hun? Mae’n gyfle gwych i drafod hyn. Ac wrth agor fy sylwadau, ymunaf ag eraill i ganmol gwaith teuluoedd sydd wedi ymgyrchu ar y materion hyn. Ni allwn ddeall y drasiedi y maent wedi bod drwyddi, ond gallwn gydymdeimlo â hwy, a'r ofn sydd gan lawer ohonom fel rhieni ac eraill, pe bai rhywbeth fel hyn yn mynd o'i le.

Ond y pwyntiau rwyf am eu codi, wrth gytuno â llawer o’r hyn sydd yn yr adroddiad, y byddaf yn dilyn Sam arno mewn eiliad, ac mae Sam yn gwneud gwaith clodwiw wrth gadeirio’r grŵp trawsbleidiol sy’n canolbwyntio ar weithgareddau awyr agored ac addysg awyr agored—. Wrth gwrs, rydym bob amser yn edrych ar Gymru fel gwlad sy’n llawn antur awyr agored ac adrenalin, ond mae'n rhaid inni wneud hynny'n ddiogel, wrth gwrs, a chredaf fod corff o arbenigedd yno, Weinidog. A dweud y gwir, Weinidog, rydych wedi cyfarfod gyda’r grŵp hwnnw o’r blaen, ac rwy’n siŵr y byddwch yn awyddus i ddefnyddio’r arbenigedd sydd ynddo i fwrw ymlaen â rhai o’r argymhellion hyn, gan eu bod yn arbenigo mewn diogelwch yn yr awyr agored, gan gynnwys diogelwch dŵr, a byddent yn awyddus i gyfrannu. Gwn eu bod wedi dweud yn glir y byddent yn awyddus i gyfrannu at y gwaith hwn wrth symud ymlaen ac i ymgysylltu â'r Pwyllgor Deisebau a chyda'r teuluoedd hefyd.

Roedd dau beth penodol roeddwn am eu nodi o’r adroddiad nad ydynt wedi’u crybwyll yn helaeth yn y ddadl heddiw. Un yw, mewn rhywfaint o'r dystiolaeth a gasglwyd gennych, nodwyd mater asesu risg. Credaf fod hynny’n briodol. Ymhell yn ôl, mewn bywyd blaenorol, pan oeddwn yn ddarlithydd, roeddem yn arfer siarad ynglŷn â sut rydych chi'n rheoli gweithgarwch yn yr awyr agored, a buom yn edrych ar fodelau Americanaidd fel y sbectrwm o gyfleoedd hamdden: lle gwyddoch fod gennych risg uchel, lle mae gennych ddefnydd dwys, lle gwyddoch y bydd pobl ifanc, pobl ifanc yn eu harddegau, yn mynd i ganŵio, yn neidio i mewn, beth bynnag, yna rydych yn canolbwyntio'ch arwyddion dwys ac rydych yn canolbwyntio'ch cortynnau taflu ac rydych yn eu canolbwyntio ar y mannau hynny, ac rydych yn sicrhau eu bod yno. Ond mae gwahaniaeth rhwng hynny a bryniau uchaf Pumlumon, lle gallai fod ffynhonnell o ddŵr agored, ac efallai'n wir fod yno bobl sy'n mynd i nofio mewn dŵr agored, ond byddai'n od iawn rhoi arwyddion ac ati yno. Felly, credaf fod y syniad hwnnw o asesu risg, asesiadau safle-benodol, yn bwysig iawn.

Y peth arall yw dod â phartneriaid ynghyd i fwrw ymlaen â’r cynigion hyn. Rydym am i Gymru gael ei dathlu fel man lle gallwch fwynhau’r awyr agored yn ddiogel, ond credaf mai dyhead Diogelwch Dŵr Cymru ac eraill i atal marwolaethau yn y sefyllfaoedd hyn yw’r dyhead cywir, ond mae angen inni feddwl yn ofalus ynglŷn â sut rydym yn gwneud hyn, a dod â phartneriaid a chanddynt arbenigedd ynghyd er mwyn gwneud hynny.

Ond i gloi, rwy'n canmol y gwaith y mae’r teulu wedi’i wneud, a’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn. Mae'n ddadl dda; dyma'r ddadl iawn i'w chael.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i Jack am gyflwyno'r ddadl a rhoi'r cyfle imi siarad am ddiogelwch dŵr ac atal boddi.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddechrau, fel y byddech yn disgwyl, drwy gydymdeimlo â theulu Mark Allen ac unrhyw un arall yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan achosion o foddi, gan eu bod, fel y dywedodd Vikki Howells, yn gwbl ddinistriol, ac maent yn dinistrio nid yn unig y teuluoedd ond y cymunedau o amgylch y teuluoedd hynny hefyd. Mae gwir angen inni fod yn ymwybodol iawn o hynny. Hoffwn ddiolch hefyd i’r ymgyrchwyr sydd wedi cyfrannu eu hamser ac sydd wedi darparu sylwadau gwerthfawr i lywio’r adroddiad ac am eu gwaith parhaus i godi ymwybyddiaeth, sy’n arbennig o ddewr yn sgil y drasiedi o golli mab, ffrind, ac aelod o'ch cymuned.

Hoffwn ddiolch hefyd i holl aelodau'r Pwyllgor Deisebau am gynhyrchu adroddiad 'Cyfraith Mark Allen: Diogelwch dŵr ac atal boddi' gan ei fod yn adroddiad da iawn wir, ac rwy'n falch iawn o allu derbyn yr argymhellion ynddo.

Fel y mae’r adroddiad yn nodi, mae gormod o achosion sy'n gysylltiedig â dŵr yn digwydd yng Nghymru o hyd. Bydd yr argymhellion yn yr adroddiad yn gwella strategaeth atal boddi Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020 gan Diogelwch Dŵr Cymru.

Rwyf am siarad ychydig am hynny, gan fod cyfraniadau amrywiol heddiw yn llygad eu lle: mae angen inni dynnu'r gwahanol sectorau ynghyd yma, gan fod hyn yn ymwneud â diogelwch dŵr, wrth gwrs, ond mae hefyd yn ymwneud ag annog pobl i ddefnyddio ein gwasanaethau awyr agored gwych yn y ffordd gywir ac o dan yr amgylchiadau cywir. Mae'n ffaith dra hysbys fy mod yn hoff iawn o nofio gwyllt mewn dŵr oer, ac rwy'n fwy na pharod i ganu clodydd y math hwnnw o nofio. Hoffwn pe bawn wedi cael cyfle i wneud hynny tra bod yr annwyd hwn arnaf, gan fy mod yn siŵr y byddai wedi fy helpu i'w osgoi, sydd efallai'n swnio'n rhyfedd i bobl, ond mewn gwirionedd, os gallwch fynd i mewn i'r dŵr, gall hynny ddarparu buddion gwirioneddol. Rwy'n ei ganmol. Nid wyf mor frwdfrydig â'r bobl ym Mhenarth sy'n mynd i'r môr gyda'r wawr bob dydd, ond rwy'n hoff iawn, serch hynny, o'r mathau hynny o weithgareddau.

Ond mae hynny'n fwy o reswm fyth dros sicrhau nad yw’r drasiedi a arweiniodd at yr adroddiad heddiw yn digwydd eto, ac mae nifer o bethau y gallwn eu gwneud yn y cyswllt hwnnw. Gallwn wneud y pethau y mae’r adroddiad yn eu nodi o ran addysg ac ymwybyddiaeth, gallwn wneud y pethau am yr arwyddion, gallwn wneud y pethau ynghylch cortynnau taflu, ond ni allwn wneud y pethau hynny ym mhobman. Fel y dywedodd Huw, bydd yna ardaloedd yng Nghymru lle nad yw hynny'n addas. Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud hefyd yw codi ymwybyddiaeth o ble mae’n ddiogel mynd i nofio gwyllt, a pham y gall plymio i ddŵr oer, yn enwedig ar ddiwrnod poeth, fod yn broblem wirioneddol. Ac unwaith eto, yn groes i'r hyn y byddai pobl yn ei feddwl, mae'n waeth gwneud hynny ar ddiwrnod poeth nag ar ddiwrnod oer, oherwydd y newid eithafol yn nhymheredd y corff.

A hefyd, nid yw'n ymwneud â gallu nofio. Wrth gwrs, byddwn wrth fy modd pe bai pawb yng Nghymru yn gallu nofio, er mwyn y llawenydd pur o allu gwneud, ond hefyd, yn amlwg, oherwydd y posibilrwydd o achub bywydau. Rydym yn genedl arfordirol, yn genedl sy'n hoff iawn o'i dŵr, felly wrth gwrs, dylai ein pobl allu manteisio'n llawn ar y cyfleoedd a gynigir. Ond yn anffodus, mae llawer o'r bobl sy'n boddi mewn dŵr yn gallu nofio'n dda iawn. Nid dyna'r broblem. Y broblem yw eu bod naill ai'n cael eu dal gan wahaniaeth eithafol yn y tymheredd sy'n sioc i'r corff, neu'n cael eu dal mewn cerrynt, neu'n cael eu dal mewn amgylchiadau eraill, digwyddiadau gyda badau eraill ar y dŵr ac ati. Mae hynny'n digwydd. Dyma'r digwyddiadau y mae angen inni edrych arnynt yn ofalus.

Mae'n rhaid inni wneud hyn mewn ffordd sy’n annog y math iawn o nofio gwyllt neu nofio awyr agored yn y lle iawn. Felly, byddwn yn dweud, er enghraifft, fod nofio gwyllt yn weithgaredd cymunedol iawn i mi. Ni fyddwn yn breuddwydio am fynd i wneud hynny ar fy mhen fy hun. Gwn fod rhai pobl yn gwneud hynny, ond ni fyddwn yn annog hynny. Mae dod at ein gilydd gyda grŵp o bobl o'r un anian, sy'n gyfarwydd â'r dŵr y maent ynddo ac sy'n barod i'ch helpu os byddwch yn mynd i drafferthion, yn rhan fawr iawn o hyn. Mae'n rhan o'r gymuned ac yn rhan o'r pleser, ond mae hefyd yn rhan o ddiogelwch y peth. Os ydych gyda rhywun arall, gall yr unigolyn hwnnw sicrhau eich bod yn cael cymorth cyn gynted â phosibl. Felly, byddwn yn sicr yn annog gwneud hyn fel gweithgaredd cymunedol.

Mae angen inni gael yr ymwybyddiaeth honno ac mae angen inni sicrhau bod pobl yn deall nad yw'r arwyddion yno er mwyn difetha eich hwyl—maent yno am reswm da i esbonio i chi beth yw amodau'r dŵr, sut mae'r pethau na allwch eu gweld o dan y dŵr yn edrych, a beth yw'r sefyllfa o ran y cerrynt. Byddwn hefyd yn annog pobl, lle mae achubwyr bywydau'n bresennol, i sicrhau eu bod yn gwneud yr hyn y mae’r achubwyr bywydau yn gofyn iddynt ei wneud. Rydym yn gweld pobl yn aml yn anwybyddu'r arwyddion ac yn y blaen, heb ddeall y cryfder a'r pŵer sydd gan ddŵr pan nad yw'n cael ei drin â pharch. Felly, mae angen inni gynyddu ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr ledled Cymru, ac mae angen inni helpu pobl i gael mwy o wybodaeth a gallu barnu peryglon eu hamgylchedd drostynt eu hunain yn y ffordd gywir.

Rwy'n falch iawn o fod wedi derbyn yr argymhellion, Jack. Rwy'n falch fy mod wedi cymryd cyfrifoldeb yn fy mhortffolio am wneud hyn. Mae'n gweddu i fy agwedd at y mater hefyd. Credaf eich bod yn iawn: mae angen i rywun edrych ar y sefyllfa gyfan mewn perthynas â phopeth a wnawn. Felly, rwy'n falch iawn fy mod wedi cytuno, a'r unig reswm ein bod ond yn cytuno mewn egwyddor yn unig yw am ein bod eisoes yn gwneud rhywbeth tebyg iawn yn y cyswllt hwnnw. Felly, nid ydym yn anghytuno. Rydym yn cytuno â phob un ohonynt.

Rwy'n falch iawn o weithio gyda gweithgareddau awyr agored ac yn enwedig gydag AdventureSmart Cymru er mwyn cael yr arbenigedd hwnnw o bob rhan o'r sector. Mae fy swyddogion eisoes yn rhoi'r argymhellion ar waith ac yn cysylltu â Diogelwch Dŵr Cymru ar y camau nesaf, ac edrychaf ymlaen at fwrw ymlaen â hyn gyda’n gilydd. Ac unwaith eto, rwy'n cydymdeimlo â'r teulu. Diolch.

16:50

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, yn enwedig Vikki Howells, a soniodd am effaith ddinistriol colli ei disgybl, Daniel, a’r effaith ddinistriol a gafodd hynny ar y gymuned a’r gymuned ehangach? Os caf gyffwrdd â sylwadau Huw Irranca-Davies a Sam Rowlands, fel y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud, byddaf innau hefyd yn awyddus i weithio. Credaf fy mod eisoes wedi cofnodi mewn pwyllgor y byddaf yn cyfarfod â grŵp trawsbleidiol y sector gweithgareddau awyr agored i drafod yr adroddiad, a lle gallwn fynd â hynny ymhellach efallai.

Diolch i Luke Fletcher a Joel James am dynnu sylw unwaith eto at bwysigrwydd y dystiolaeth a gawsom wrth lunio'r adroddiad hwn, ond credaf hefyd fod Luke yn awgrymu mai un cam arall yn unig yw hwn i’r cyfeiriad cywir i ymgyrchwyr fel Leeanne, a'i bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom, yn y Llywodraeth neu fel Aelodau o'r Senedd, i gyhoeddi a hyrwyddo'r negeseuon hynny. Weinidog, rwy’n hynod ddiolchgar i chi a’ch swyddogion am ymgysylltu a derbyn yr adroddiad hwn a chytuno â’r adroddiad yn y ffordd y gwnaethoch.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, gallaf weld bod yr amser ar ben, ond hoffwn dalu un deyrnged olaf i Leeanne Bartley, ei gŵr David, a phawb a lofnododd y ddeiseb hon ac a’n helpodd ar hyd y daith. Mae hyn eto’n dangos pwysigrwydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd, a byddwn yn annog pawb sydd am newid polisi i ystyried llofnodi neu gyflwyno deiseb. Diolch yn fawr iawn.

16:55

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith—'Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd'

Eitem 8, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith, 'Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM8158 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd’, a osodwyd ar 28 Medi 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ar ddechrau’r chweched Senedd, cytunodd y pwyllgor i graffu ar weithrediad parhaus y mesurau interim diogelu’r amgylchedd sydd gennym yma yng Nghymru. Bydd yr Aelodau’n cofio, rwy’n siŵr, fod y mesurau hyn wedi’u rhoi ar waith i fynd i’r afael â phryder eang am y bwlch llywodraethu amgylcheddol sydd ar ddod yng Nghymru yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Mae'r mesurau'n darparu mecanwaith i'r cyhoedd gyflwyno cwynion i asesydd interim diogelu'r amgylchedd annibynnol am weithrediad cyfraith amgylcheddol. Ar ôl ystyried unrhyw gwynion o’r fath, gall yr asesydd interim argymell wedyn fod y Gweinidog yn rhoi camau ar waith, gyda’r bwriad o wneud gwelliannau i’r gyfraith. Mae ein hadroddiad yn ymdrin â blwyddyn lawn gyntaf gweithrediad y mesurau interim a chafodd ei lywio gan dystiolaeth gan randdeiliaid amgylcheddol allweddol a chan Dr Nerys Llewelyn Jones, yr asesydd interim, a ymddangosodd ger bron y pwyllgor ym mis Mehefin eleni.

Fel pwyllgor, gwnaethom wyth argymhelliad, dau i’r asesydd interim a chwech i Lywodraeth Cymru. Derbyniwyd pob un ohonynt yn llawn, felly hoffem ddiolch i’r Gweinidog a’r asesydd interim am eu hymatebion cadarnhaol. Er ei bod yn ddyddiau cynnar o hyd ar wasanaeth yr asesydd interim, rydym wedi ein calonogi gan faint y mae wedi'i gyflawni yn ei flwyddyn gyntaf, a chyda chapasiti cyfyngedig ac adnoddau cyfyngedig hefyd, mewn gwirionedd. Er bod y gwasanaeth wedi profi rhai problemau cychwynnol, ar y cyfan, mae wedi llwyddo i oresgyn y rhain. Ond mae lle i wella o hyd, wrth gwrs, fel y gwelir yn ein hadroddiad.

Mae'r mesurau interim yn cyflawni swyddogaeth bwysig, ac mae ganddynt botensial i helpu i wella gweithrediad cyfraith amgylcheddol. Ond wrth gwrs, nid ydynt yn cymharu â system lywodraethu amgylcheddol yr UE. Nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn feirniadaeth o berfformiad yr asesydd interim na gwaith y gwasanaeth hyd yma. Mae’n feirniadaeth, fodd bynnag, o Lywodraeth Cymru am fethu blaenoriaethu deddfwriaeth er mwyn sefydlu corff goruchwylio i Gymru sy’n gwbl weithredol ac wedi'i ariannu'n dda.

Wrth inni aros yn gynyddol ddiamynedd i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno, mae gan holl wledydd eraill y DU gyrff goruchwylio statudol ar waith bellach. Er nad ydynt yn berffaith, mae'r cyrff hyn yn darparu swyddogaethau llywodraethu allweddol ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth a gorfodi, ac yn cynnal hawliau dinasyddion i gael mynediad at gyfiawnder amgylcheddol. Felly, Weinidog, onid yw dinasyddion Cymru yn haeddu’r un peth? Rwy’n siŵr eu bod, ac rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno, ac rwy’n siŵr y byddwch yn ymhelaethu pan fyddwch yn ymateb. Ond ni ellir israddio enw da Cymru o fod yn genedl lle mae'r amgylchedd a datblygu cynaliadwy yn hollbwysig i fod yn genedl sydd â'r strwythurau llywodraethu amgylcheddol gwannaf yng ngorllewin Ewrop.

Nawr, mae’r Gweinidog wedi cadarnhau bod penodiad yr asesydd interim wedi’i ymestyn am flwyddyn, hyd at fis Chwefror 2024. Ni ellir dychmygu na fydd corff goruchwylio statudol ar waith cyn hynny. Ond gydag ychydig dros flwyddyn i fynd, a heb unrhyw dystiolaeth o unrhyw gynnydd gwirioneddol tuag at ddatblygu cynigion deddfwriaethol, y teimlad yw nad yw pethau'n edrych yn addawol. Felly, ymddengys y bydd y mesurau interim ar waith yn hirach na'r disgwyl, ac i lawer, yn hirach nag sy'n dderbyniol. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig gwneud y gorau o'r hyn sydd gennym, a gwnaed ein hargymhellion yn ein hadroddiad gyda hyn mewn golwg, wrth gwrs.

Felly, yn gryno, nod argymhellion 2 a 3 yw gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r gwasanaeth a chynyddu tryloywder yn ei waith. Ac rydym yn falch o glywed bod yr asesydd interim eisoes wedi gwneud cynnydd ar fwrw ymlaen â'r argymhellion hyn.

Gan droi at ein hargymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, mae argymhelliad 5 yn galw am adolygiad brys o’r adnoddau sydd ar gael i’r asesydd interim, gan adlewyrchu'r galw mawr am y gwasanaeth a’r angen i sicrhau allbynnau amserol ar ffurf adroddiadau. Mae’r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn, sy’n ddechrau da iawn. Fel y nodir yn glir yn ein hadroddiad, mae'n rhaid cwblhau'r adolygiad yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Weinidog, rwy'n gobeithio y gallwch roi syniad i ni o sut mae’r gwaith hwn yn dod yn ei flaen wrth ichi ymateb i’r ddadl hon.

Gan symud ymlaen at y broses o ymdrin ag adroddiadau gan yr asesydd interim, rydym yn pryderu nad yw hyn yn ddigon eglur. Er ein bod yn cydnabod nad oes unrhyw rwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn ffurfiol i adroddiadau ac argymhellion yr asesydd, mae'n rhaid iddi ymrwymo i wneud hyn. Rydym o'r farn fod proses sydd wedi’i diffinio’n glir yn hanfodol i sicrhau tryloywder, i gryfhau atebolrwydd ac i feithrin hyder y cyhoedd yn y mesurau interim wrth gwrs. Mae argymhellion 6 a 7 yn ein hadroddiad yn mynd i’r afael â’r mater hwn.

Yn olaf, gofynnwyd i Lywodraeth Cymru esbonio sut mae'n monitro effeithiolrwydd y mesurau interim, gan gynnwys eu heffaith ar ganlyniadau amgylcheddol. Yr ateb byr yw nad yw'n gwneud hynny. Felly, Weinidog, sut y byddwch yn gwybod sut beth yw llwyddiant oni bai bod trefniadau monitro addas ar waith i’w fesur?

Bydd yr Aelodau’n gweld bod ein hargymhellion yn ymwneud i raddau helaeth â mireinio’r mesurau interim i sicrhau eu bod cystal ag y gallant fod. Ond ni waeth pa mor effeithiol y gallai'r mesurau hyn fod, rydym yn glir nad ydynt yn gwneud y tro yn lle corff goruchwylio amgylcheddol parhaol. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r mater hwn drwy weddill tymor y Senedd hon. Diolch.

17:00

Rwy'n codi fy het i'n Cadeirydd, Llyr Gruffydd, am ddweud beth oedd angen ei ddweud—nad yw'r asesydd interim yn cyflawni swyddogaeth y math o lywodraethu amgylcheddol sydd ei angen arnom yma yng Nghymru. 

Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi dewis derbyn yr wyth argymhelliad sydd yn yr adroddiad—rwy'n tybio y byddwn wedi synnu pe na baech chi wedi gwneud hynny. Rwy'n nodi bod yr asesydd interim wedi addo y bydd hi'n cyhoeddi diweddariadau ar raglen waith dreigl y gwasanaeth bob chwarter mewn perthynas ag argymhelliad 3. Rwyf hefyd yn nodi bod argymhellion 6 a 7 yn nodi y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyhoeddi ymatebion i adroddiadau aseswyr interim heb fod yn hwyrach na chwe wythnos ar ôl eu cael ac y dylai'r Senedd gael ei hysbysu gan ddatganiad ysgrifenedig. Rwyf fi, yn sicr, yn edrych ymlaen at weld yr amserlen honno yn cael ei chadw. 

Yn sicr, yn ystod y sesiwn dystiolaeth, o'r hyn rwy'n ei gofio—gallaf ei gofio'n iawn—daeth yn amlwg iawn i mi nad yw'r swyddogaeth hon yn cyflawni'r lefel o lywodraethu amgylcheddol sydd ei hangen o gwbl. Mae angen blaenoriaethu deddfwriaeth. I fod yn deg â'r asesydd interim, yn ei geiriau ei hun, roedd hi'n teimlo nad ei swyddogaeth hi oedd ymdrin â chwynion. Roedd hi'n teimlo bod rhai pethau na ddylai hi ymwneud â hwy—materion adnoddau. Rwy'n teimlo, mewn gwirionedd, fod swyddogaeth yr asesydd interim wedi bod yn fwy o ymarfer ticio bocsys i Lywodraeth Cymru.

Mae angen fframwaith parhaol yma yng Nghymru, yn enwedig ar bwnc sydd mor bwysig i Gymru. Dywedodd Dr Llewelyn Jones fod y galw ar y gwasanaeth wedi bod yn fwy na'r disgwyl yn ystod y flwyddyn gyntaf, gyda 21 o gyflwyniadau wedi'u derbyn, gan gwmpasu ystod eang o faterion amgylcheddol gwahanol. Yn ôl adroddiad blynyddol 2021-22, mae hyn yn dangos yn glir fod yna lawer iawn o ymgysylltiad â'r cyhoedd yn digwydd ar fater diogelu'r amgylchedd a bod awydd yng Nghymru i sicrhau bod y gyfraith yn gwarchod yr amgylchedd yma.

Dywedodd RSPB Cymru bod nifer y cyflwyniadau'n dangos bod pryder sylweddol yng Nghymru ynghylch gweithredu cyfraith amgylcheddol. Cafwyd problemau gyda'r wefan hefyd. Ysgrifennodd aelodau o'r sector amgylcheddol at y Prif Weinidog ynglŷn â hyn gyda chynrychiolwyr yn beirniadu gwefan yr asesydd interim hyd yn oed fel un nad yw'n hawdd ei defnyddio na hyd yn oed yn hawdd dod o hyd iddi. Dywedodd RSPB Cymru fod dod o hyd i dudalen we berthnasol Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar fod pobl yn gwybod beth i chwilio amdano ar-lein. Felly, Weinidog, a wnewch chi roi sicrwydd i ni heddiw fod y materion hynny wedi cael sylw a bod unrhyw un sydd eisiau chwilio am yr asesydd interim yn gallu gwneud hynny? Fe wnaeth cynrychiolwyr o'r sector amgylcheddol fynegi rhwystredigaeth hefyd ynglŷn â'r diffyg cynnydd tuag at ddatblygu'r trefniadau newydd.

Hyd yn hyn, nid fi yw'r unig un sy'n gweld hyn fel methiant gan Lywodraeth Cymru i sefydlu trefniadau cryf a pharhaol. Nid oes ganddi linell amser glir hyd yn oed ar gyfer sefydlu corff parhaol. Hefyd, nododd rhanddeiliaid fwlch llywodraethu oherwydd natur gul y mesurau cyfredol, gyda'r mesurau presennol yn cael eu disgrifio fel rhai pell o'r hyn sydd ei angen ar Gymru. Unwaith eto, dywedodd RSPB Cymru mai:

'ei brif bryder yw bod y gwaith i ddatblygu mesurau parhaol a statudol wedi arafu a bod risg y bydd y mesurau interim yn eu lle yn hirach na’r ddwy flynedd a ragwelwyd yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru.'

Rydym yn ymwybodol o'r estyniad, ond mae'n debyg fy mod i'n chwilio am sicrwydd yma eich bod chi'n mynd i symud ymlaen gyda rhywbeth llawer cryfach na hyn. Roeddent yn ychwanegu eu bod:

'yn hynod bryderus nad oes amserlen glir yng Nghymru o hyd'

ar gyfer deddfwriaeth i sefydlu corff goruchwylio parhaol. Ac er gwaethaf galwadau parhaus gan y pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu deddfwriaeth i sefydlu corff goruchwylio statudol, ni cheir Bil ym mlwyddyn 2 y rhaglen ddeddfwriaethol. Fel y mae ein pwyllgor yn dweud yn glir,

'Nid yw sicrwydd annelwig y Prif Weinidog fod “y Bil ar ei ffordd” yn gwneud dim i fynd i’r afael â’n pryder ni... fod y corff goruchwylio statudol, a addawyd gan Lywodraeth Cymru yn y Bumed Senedd, flynyddoedd i ffwrdd o hyd.'

Yn syml, nid yw hyn yn ddigon da i gyflawni ein hymrwymiadau amgylcheddol, ac mae'n ein rhoi y tu ôl i bob gwlad arall yn y DU wrth inni fethu gweithredu corff goruchwylio statudol. Aeth 19 mis heibio ers sefydlu asesydd interim, ac nid yw'n ymddangos bod yr amser wedi'i ddefnyddio cystal ag y gallai fod ar ddatblygu fframwaith mwy parhaol. 

Ni wnaf sôn am bob un o wyth argymhelliad y pwyllgor, ond hoffwn dynnu sylw at rai ohonynt a chamau gweithredu yr hoffwn eu gweld. Yn gyntaf, y dylai Llywodraeth Cymru egluro—mae'n debyg fy mod yn gofyn i chi, nawr, Weinidog, i wneud hyn—a yw'n bwriadu ailbenodi'r asesydd interim—. O, wel, rydym wedi gwneud hynny. Os mai dyma'r cynllun, mae angen camau pendant arnom i sicrhau y bydd fframwaith parhaol yn ei le erbyn hynny. A hefyd yn rhinwedd beth, neu yn ôl pa feini prawf y gwnaethoch chi benderfynu ymestyn hyn? Dylai'r asesydd interim weithio tuag at wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r gwasanaeth; dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad brys o'r adnoddau sydd ar gael i'r asesydd, ac wrth wneud hynny, rhaid iddi fodloni ei hun fod digon o adnoddau gan yr asesydd interim, fod ganddynt y pwerau cywir i gyflawni eu swyddogaeth a'u cyfrifoldebau'n effeithiol—

17:05

I grynhoi, mae gan y Llywodraeth hon ffordd bell i fynd o hyd i ddarparu sicrwydd i'r sector amgylcheddol gyda'r arweinyddiaeth, y cyfeiriad a'r sicrwydd sydd ei angen arnynt. Er lles cenedlaethau'r dyfodol, mae angen fframwaith priodol ar waith ar frys. Diolch.

Nid wyf am ailadrodd pwyntiau a wnaed gan Aelodau eraill, ond rwyf am ddiolch i'r Cadeirydd a'r cyd-aelodau o'r pwyllgor am y sesiwn a gynhaliwyd ganddynt gyda'r asesydd interim, a diolch hefyd i'r asesydd interim am ddod ger ein bron ac am y dystiolaeth a roddodd. Rwy'n anghytuno â Janet ynglŷn ag un pwynt o bwys yn unig, oherwydd fe glywsom mewn tystiolaeth nad yw hon yn swyddogaeth ddiwerth, fod gwerth iddi mewn gwirionedd. Yn wir, dywedodd Annie Smith o RSPB Cymru:

'nad yw rôl yr Asesydd Interim yn annilys nac yn amhrisiadwy—mae’n hollol wahanol, ac nid yw’n gyfwerth â mynediad at gyfiawnder amgylcheddol.'

Mae hynny'n mynd at wraidd sylw Llyr, a Janet hefyd. Efallai mai mesur interim ydyw, ond nid yw'n ddiwerth—ddim o gwbl. Ac mewn gwirionedd, tynnodd ein hadroddiad sylw at hynny a rhai o'r cyflawniadau dros gyfnod swydd yr asesydd interim. Ond rwyf am droi at fater y bwlch llywodraethu a sut rydym yn mynd i'w lenwi, heb ailadrodd yn fanwl rai o'r pwyntiau sydd wedi'u gwneud yn barod.

Roedd y bwlch llywodraethu yn fater allweddol i nifer o'r bobl a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor. Wrth groesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion mewn gwirionedd, roedd ein hargymhellion yn seiliedig yn amlwg iawn ar swyddogaeth bresennol yr asesydd interim, ac ati, ac ati, ac fe wnaethom barhau i edrych, fel y gwnaeth ein holl randdeiliaid a roddodd dystiolaeth i ni, 'Ie, ond beth sy'n dod nesaf a phryd mae'n cyrraedd?' Dyna rwyf eisiau canolbwyntio fy sylw arno mewn gwirionedd.

Mae yna dybiaeth gennym ar y pwyllgor, sy'n cael sylw pellach yn ein casgliadau. Nid yw'n troi at yr argymhellion, oherwydd mae'r argymhellion yn canolbwyntio'n fawr ar swyddogaeth yr asesydd interim presennol. Ond yn ein casgliadau, rydym yn pwyntio'n glir iawn at dybiaeth y bydd yn rhaid ichi ailbenodi'r asesydd interim, oherwydd mae'n mynd yn brin o amser, ac nid oes gennym gorff newydd i ddod ymlaen i roi'r cyfiawnder amgylcheddol hwnnw i ni, y swyddogaeth cyfiawnder dinasyddion yno. Felly, byddai'n dda cael yr eglurder hwnnw heddiw, ond wedyn i gael yr eglurder hwnnw hefyd yn ystod y cyfnod hwnnw, os ydych chi'n mynd i ailbenodi ar gyfer estyniad, y gwelwn y cynigion yn cael eu cyflwyno.

Weinidog, nid wyf yn rhannu'r amheuaeth—efallai fod hynny wedi cael ei fynegi ychydig gan gyd-aelodau eraill—nad ydych chi eisiau gwneud hyn. Rwy'n gwybod eich bod chi eisiau gwneud hyn; gwn fod pwysau deddfwriaethol—rydym yn deall hynny hefyd—ond y ffaith yw, yn ein gwaith arsylwi fel pwyllgor, mae gennym asesydd a gafodd ei sefydlu am ddwy flynedd ar sail interim; bydd yn rhaid inni ei ymestyn. A ydym yn mynd i weld y cynnig ar gyfer y strwythur llywodraethu newydd ar gyfraith amgylcheddol yn cael ei gyflwyno o fewn yr amserlen honno? Os nad ydym, a ydym yn mynd i ailbenodi eto?

Rwy'n credu bod y diffyg amynedd sy'n cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad yn ymwneud â chael yr eglurder hwnnw. Ac nid eglurder yn unig y gofynnwn amdano, Weinidog; gwn fod yr holl grwpiau amgylcheddol allan yno'n gofyn am yr un peth. Mae ganddynt hyder eich bod chi eisiau cyflawni hyn; maent eisiau sicrwydd ynglŷn â phryd mae'n mynd i ddigwydd, dyna i gyd. Diolch.

17:10

Ar y dechrau, os yw rhywun yn gweld yr hyn rydym yn mynd i fod yn sôn amdano wedi ei ysgrifennu ar ddarn o bapur, gallai'r pwnc hwn ymddangos yn sych ac yn dechnegol, ond mewn gwirionedd, mae holl gyfoeth ein byd naturiol wedi'i gynnwys ynddo. Heb amddiffyniad amgylcheddol cadarn a phriodol, bydd pob un ohonom yn cael ein gwneud yn dlawd mewn ffyrdd na allwn hyd yn oed ddechrau eu dychmygu.

Mae cyd-destun hyn wedi cael ei ddisgrifio'n dda yn barod gan aelodau eraill y pwyllgor. Wrth gwrs, hoffwn ychwanegu fy niolch i Gadeirydd y pwyllgor ac i'r tîm pwyllgor gwych ac i'r asesydd interim. Rwy'n gwybod efallai y bydd hi'n anodd i'r asesydd interim glywed rhywfaint o hyn, ond hoffwn ychwanegu at y pwynt sydd eisoes wedi'i wneud: nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn feirniadaeth ar unrhyw un sy'n cyflawni'r swyddogaeth hon ar hyn o bryd, mae'n ymwneud â'r sefyllfa sydd wedi ein cael i lle rydym ni, a phroblemau go iawn a'n anhapusrwydd ynglŷn â sut mae hynny wedi cael ei drin.

Mae colli hawliau Cymru sy'n gysylltiedig â chyfraith amgylcheddol yr UE, yr hen fframwaith a oedd yn caniatáu inni ddwyn corfforaethau a Llywodraethau i gyfrif am niweidio'r byd naturiol, wedi digwydd oherwydd Brexit. Mae gan Brexit lawer o ddioddefwyr; rydym wedi colli cymaint. Rhaid inni gael o leiaf yr un cadernid a oedd gennym dan yr hen fframwaith—rhaid ei ailadrodd yng nghyfraith Cymru. Oherwydd diffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar hyn ers y cyfnod pontio, rwy'n ofni ein bod mewn sefyllfa sy'n wirioneddol niweidiol.

Fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, mae hwn yn faes sydd wedi ei ddatganoli. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer diogelu'r amgylchedd. Y bwriad ar gyfer y mesurau sydd gennym ar hyn o bryd oedd iddynt lenwi bwlch dros dro. Codwyd pryderon hyd yn oed ar y pryd ynglŷn â sut y byddai'r trothwy difrifoldeb yn cael ei gyrraedd o ran pa dor rheolau y dylid eu huwchraddio wrth iddynt gael eu hadrodd. Cafodd pryderon eu codi eto ar y pryd am sail anstatudol y trefniadau, ac roedd hyn yn wir hyd yn oed cyn i'r rôl gael ei gwanhau. Ond mae'n 2022 bellach; mae'r trefniant llenwi bwlch hwnnw'n parhau, ac mae hefyd wedi cael ei israddio. Dim ond goruchwylio gweithrediad cyfraith amgylcheddol y gall yr asesydd interim ei wneud, fel y gallant weld beth yw'r problemau, ond gallu cyfyngedig iawn sydd ganddynt i wneud unrhyw beth yn eu cylch. Mae ein pwyllgor—fel y dywedwyd eisoes—wedi ystyried llawer o'r anawsterau hyn, a'r ffaith nad yw'n ymddangos bod unrhyw ddiwedd yn y golwg i'r cyfnod interim hwn ar hyn o bryd. Hoffwn yn fawr annog y Llywodraeth i flaenoriaethu'r maes hwn gymaint â phosibl, oherwydd yr ansicrwydd y mae'n ei greu.

Nid oes ffordd glir a hygyrch gan ddinasyddion ar hyn o bryd o ddwyn Llywodraeth na llygrwyr i gyfrif. Rwy'n cymryd y pwynt fod y Llywodraeth wedi dweud bod mecanweithiau adolygiad barnwrol yn fodd interim o uwchraddio tor rheolau cyfraith amgylcheddol, ond mae adolygiad barnwrol y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o bobl gyffredin, ac mae hefyd yn mynd yn groes i'r egwyddor, eto, sy'n cael ei nodi yng nghyfraith yr UE, y dylai pob dinesydd gael mynediad cyfartal a hygyrch at gyfiawnder amgylcheddol. Nid yw'n glir sut y gellir gorfodi amddiffyniadau amgylcheddol felly. Fel mae Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu eu geiriau, 

'Mae'n amlwg nad yw'r trefniadau interim yn llwybr i gyfiawnder amgylcheddol nac ychwaith yn cymryd lle'r swyddogaeth oruchwylio a gorfodi sydd ei hangen i gymryd lle yr hyn a ddarperir gan sefydliadau'r UE'.

Mae'n dal i fod yn aneglur pryd y bydd deddfwriaeth, pryd y bydd unrhyw ateb parhaol yn cael ei gyflwyno. Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu mai'r hyn a welwn o ganlyniad yw anghyfiawnder amgylcheddol ar adeg pan ydym yn byw drwy argyfwng natur, adeg sy'n galw am wyliadwriaeth yn lle llaesu dwylo.

Pan fydd y Gweinidog yn ymateb i'r ddadl, byddwn yn falch o glywed faint yn hwy y mae'r Llywodraeth yn rhagweld y bydd angen y trefniadau interim hyn yn ogystal â phryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i ddarparu ateb mwy parhaol. Eto, yn amlwg, credaf fod y Gweinidog eisiau cael hyn yn iawn, wrth gwrs fy mod yn credu hynny, ond byddai cael y sicrwydd hwn, byddai cael y parhad hwn yn tawelu pryderon pobl, a byddai hefyd yn cywiro'r anghyfiawnder amgylcheddol go iawn sy'n digwydd yn y cyfnod interim gwirioneddol flêr hwn. Byddai'n ddefnyddiol gwybod a yw'r Llywodraeth wedi cynnal asesiad risg o oblygiadau diffyg trefniadau llywodraethu amgylcheddol sy'n gyfreithiol rwymol yng Nghymru. A yw hynny wedi digwydd, tybed? A faint o achosion o dorri rheolau cyfraith amgylcheddol sydd wedi eu hadrodd i'r asesydd interim ers mis Chwefror 2021? Unwaith eto, pan fydd y Gweinidog yn ymateb, byddwn yn falch o glywed ei syniadau ar y pwyntiau hynny. Ond unwaith eto—

Diolch i'r Cadeirydd a diolch i bawb yn y pwyllgor ac i'r interim assessor—rwyf i'n methu cofio beth ydy hwnna'n Gymraeg, mae'n flin gen i.

17:15

Nid wyf eisiau, ac nid wyf yn bwriadu ailadrodd unrhyw un o'r pwyntiau y mae fy nghyd-Aelodau eisoes wedi'u gwneud, ond ar y cam hwn, mae'n bwysig diolch i'r clercod, y Cadeirydd a'r tîm clercio am ein cynorthwyo yn ein gwaith. Rwy'n credu bod problem yma y tu hwnt i lywodraethu, ac mae'n broblem sy'n ymwneud â chapasiti. Mae adroddiad yr asesydd interim yn dangos bod y galw ar y gwasanaeth yn fwy na'r hyn a ragwelwyd. Wrth gwrs, mae hynny i'w groesawu, oherwydd mae'n dangos bod y cyhoedd yng Nghymru yn ymgysylltu ac yn poeni am ddiogelu ein treftadaeth naturiol a'n hamgylchedd. Ac mae hynny'n beth da ar gyfer y dyfodol.

Rwy'n cofio pan gefais fy ethol i'r Siambr hon am y tro cyntaf, roeddwn i'n rhan o achos cilfach Tywyn y gwn fod y Gweinidog yn gyfarwydd ag ef, a lle dyfarnodd Llys Cyfiawnder Ewrop yn y pen draw fod y DU yn torri deddfau cysylltiedig â charthion a dŵr gwastraff. Roedd yn gymhleth, cafodd ei herio ac roedd yn fater a aeth rhagddo am amser hir, ac yn wir, fe ddangosodd yr angen am gorff annibynnol i ddyfarnu ar y materion hyn.

Yr hyn rwy'n ei ofyn, tra bo'r strwythur yn cael ei adeiladu, yw y gallai fod yn werth ystyried cryfhau'r mesurau interim sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith ar hyn o bryd. Wrth gwrs, ni fyddai'n rhoi'r pwerau cyfreithiol y mae'n rhaid i gorff llywodraethu amgylcheddol eu cael, ond byddai'n sicrhau llais cryfach a chyrhaeddiad ehangach i swyddfa eu hasesydd interim allu ymateb i bryderon y cyhoedd ynglŷn â sut rydym yn diogelu ein coedwigoedd, ein dyfrffyrdd, ein gwrychoedd ac unrhyw beth arall sydd angen ei ddiogelu. Felly, Weinidog, rwy'n gofyn yn syml ichi ystyried y pethau hynny. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, Lywydd. Hoffwn innau ddechrau hefyd drwy ddiolch i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am eu gwaith ac am yr adroddiad diweddar ar y trefniadau llywodraethu amgylcheddol interim. Rwy'n credu bod adroddiad y pwyllgor yn ystyrlon a chytbwys, ac rwy'n falch iawn o gadarnhau bod y Llywodraeth yn derbyn ei holl argymhellion.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch o galon i Dr Nerys Llewelyn Jones am y gwaith gwerthfawr y mae wedi'i wneud fel asesydd interim diogelu'r amgylchedd ar gyfer Cymru dros yr 20 mis diwethaf. Rwy'n arbennig o falch o'r ffordd y mae wedi estyn allan at ystod eang o randdeiliaid i hwyluso sgyrsiau pwysig am weithrediad y gyfraith amgylcheddol yng Nghymru. Un o'r agweddau pwysicaf ar rôl yr asesydd interim yw bod yn hyrwyddwr mesurau diogelu'r amgylchedd cadarn—rwy'n meddwl y byddai pawb yn cytuno bod honno'n elfen o'i swyddogaeth lle mae Dr Llewelyn Jones wedi rhagori'n llwyr.

Dros y misoedd diwethaf, mae'r asesydd interim wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau i randdeiliaid gyda'r nod o gasglu tystiolaeth ar faterion amgylcheddol pwysig yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys cynnal trafodaeth banel ar ddiogelu gwrychoedd yn gyfreithiol a bwrdd crwn i randdeiliaid yn ddiweddar ar ddeddfwriaeth safleoedd gwarchodedig yng Nghymru. Edrychaf ymlaen yn fawr at weld yr argymhellion a fydd yn deillio o'r sgyrsiau hyn, a dim ond i gadarnhau, Llyr, y byddwn yn bendant yn ymateb iddynt yn y ffordd arferol. 

Felly, yn sgil y gwaith pwysig y mae hi wedi bod yn ei wneud, rwy'n falch o gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ymestyn cytundeb Dr Llewelyn Jones am flwyddyn arall, ac rwy'n arbennig o falch mai Dr Llewelyn Jones sydd yn y swydd. Nid ymestyn y swydd yn unig a wnawn, ond rydym yn ymestyn ei rôl ynddi, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn i'w wneud. 

Fe wnaeth adroddiad y pwyllgor nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac yn wir mae llawer o waith i'w wneud i sicrhau ein bod yn eu cyflawni. Yn benodol, byddwn yn gobeithio cynnal adolygiad o'r mesurau interim. Nodau'r adolygiad fydd gwerthuso effeithiolrwydd y trefniadau, er mwyn canfod a yw'r lefelau presennol o adnoddau'n ddigonol a llywio datblygiad corff llywodraethu amgylcheddol parhaol. Byddwn yn cyflwyno manylion yr adolygiad hwnnw maes o law. Rwy'n siŵr y bydd Llyr yn fy ngwahodd i sesiwn pwyllgor i fy holi'n fanwl arno, ac rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd drwy ddatganiad hefyd, Lywydd.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod y pwysau y mae'r asesydd interim wedi'i wynebu ers iddi gael ei phenodi, oherwydd y galw mawr am y gwasanaeth. Bydd angen inni ystyried yn ofalus iawn a oes gan yr asesydd interim yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r swyddogaethau y bwriedir iddi eu cyflawni yn effeithiol, a'r hyn y bydd angen inni ei wneud i sicrhau bod ganddi'r adnoddau hynny. Yn y cyfamser, mae tîm ysgrifenyddiaeth yr asesydd interim wedi bod yn gweithio gyda hi i nodi'r ffordd orau o wneud hyn, ac mae'n cynnwys comisiynu cefnogaeth allanol gan academyddion a gweithwyr proffesiynol ym myd y gyfraith ar gyfer ei hadroddiadau. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at lai o alwadau ar amser yr asesydd interim, gan ganiatáu iddi ei neilltuo ar gyfer cwblhau ei hadroddiadau.

Mae'n werth nodi hefyd, fel y mae pawb fwy neu lai sydd wedi cyfrannu wedi ei wneud, fod nifer uchel o achosion wedi'u derbyn y llynedd a chyfnod o gynnydd annisgwyl iawn yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr. Ond ers hynny, mae'r galw am y gwasanaeth wedi mynd yn ôl i ble roedd y lefelau galw a ragwelwyd, gyda dim ond pedwar cyflwyniad wedi dod i law ers 1 Mawrth 2022. Mae angen inni sicrhau bod yr adnoddau wedi'u teilwra i allu ymdopi â chynnydd annisgwyl, ond nad ydynt yn eistedd o gwmpas yn gwneud dim os yw'r lefel yn ôl yn wastad. Felly, mae ychydig o waith i'w wneud yno.

Yn adroddiad y pwyllgor, cafwyd nifer o argymhellion ar gyfer yr asesydd, fel mae Llyr ac eraill wedi nodi, ac roeddent yn gysylltiedig â chodi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth a thryloywder ynghylch ei gwaith. Ac fel y nodwyd yn ein hymateb i'r adroddiad, rydym yn darparu'r gefnogaeth y mae'r asesydd interim yn gofyn amdani ar gyfer cyflawni'r argymhellion hynny. Rydym yn awyddus iawn iddi allu gwneud hynny. Ac mae hynny'n cynnwys cymryd camau i sicrhau bod y tudalennau gwe yn llawer mwy hygyrch ac archwilio sut y gellir gwneud defnydd gwell o sianeli cyfryngau cymdeithasol i roi cyhoeddusrwydd i'r gwaith, ac rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor yn falch o hynny. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod yr asesydd interim wedi bod yn cymryd camau i gyhoeddi diweddariadau chwarterol ar ei thudalennau gwe er mwyn amlygu sut mae ei gwaith yn dod yn ei flaen. Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn, ac rwy'n falch o weld y camau'n cael eu cymryd mor gyflym mewn ymateb i argymhellion y pwyllgor.

Ond wrth gwrs, er hyn i gyd, ac fel y nododd Cadeirydd y pwyllgor, edrych ar waith yr asesydd yw hynny; nid yw'n edrych ar beth yw'r bwlch. Rydym yn cydnabod yn llwyr nad yw'r trefniadau yn llenwi'r bylchau llywodraethu amgylcheddol a adawyd gan Brexit yn llawn. Felly, rydym wedi ymrwymo i ddeddfwriaeth i gyflwyno corff llywodraethu amgylcheddol parhaol yn ystod tymor y Senedd hon. Mae gennym nifer o ddarnau pwysig o ddeddfwriaeth yn yr un gofod dros y flwyddyn i ddod gyda'r nod o greu Cymru wyrddach. Rwy'n siŵr fod yr Aelodau i gyd yn cofio ein bod wedi pasio Bil ddoe ddiwethaf i wahardd a chyfyngu ar werthiant rhai o'r cynhyrchion plastig untro mwyaf cyffredin yng Nghymru. Roeddwn wrth fy modd yn gallu gwneud hynny. Llongyfarchiadau i bawb am gymryd rhan yn hynny. Mae gennym Fil aer glân, Bil amaethyddol i ddiwygio'r ffordd y mae ein cymunedau ffermio yn cael eu cefnogi yn y dyfodol, a Bil ar ddiogelwch tomenni glo ar ei ffordd.

Rydym yn datblygu'r rhaglen waith ar gyfer cyflawni ein hymrwymiad i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol parhaol, gan ystyried yr angen i sicrhau bod mesurau ar waith i liniaru'r bylchau llywodraethu presennol. Mae hyn yn rhan o'r cytundeb cydweithio y byddwn yn ei ddatblygu gyda Siân Gwenllian, yr Aelod dynodedig. Byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor gyda rhagor o fanylion am y cynllun gwaith hwn maes o law. Wrth fwrw ymlaen â'r gwaith, byddwn yn gallu defnyddio'r profiad y mae'r asesydd interim wedi'i gael hyd yma a dysgu gan gymheiriaid yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig ynglŷn â ble maent wedi cyrraedd hyd yma. Ac fel y dywedais dro ar ôl tro wrth Delyth—rwy'n siŵr y gall hi ei ailadrodd yn ôl i mi ei hun bron—un o'r pethau mawr rwyf am allu eu cyflawni o hyn yw gosod y targedau bioamrywiaeth yn y broses 30x30.

Rwyf ar fin mynd allan i COP, er fy mod yn swnio fel hyn—rwy'n siŵr y bydd pawb arall ar yr awyren yn falch iawn o eistedd wrth ymyl rhywun sy'n swnio fel hyn—a byddaf yn gweithio'n galed iawn gyda chynghrair yr hyn a elwir yn Lywodraethau a rhanbarthau is-genedlaethol ar draws y byd i wneud yn siŵr ein bod yn chwarae ein rhan yn sicrhau bod y targedau hynny'n ystyrlon ac y byddant yn adfer y fioamrywiaeth rydym i gyd yn dibynnu'n llwyr arni. Rwy'n golygu hyn o ddifrif calon. Rydym am i'r targedau hynny fod yn egnïol ac yn ymestynnol. Rydym eisiau iddynt olygu rhywbeth. Rydym eisiau iddynt wneud yn siŵr ein bod ni, mewn gwirionedd, yn amddiffyn ac yn gwrthdroi ac yn atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth. Rwyf am i'r corff llywodraethu hwn fod yn rhan o'r gwaith o sicrhau bod hynny'n digwydd. Mae'n ddrwg gennyf fod yna fwlch, ac yn amlwg, nid ydym eisiau bod yn olaf—

17:25

Diolch i'r Gweinidog am ildio. Er ein bod yn casáu oedi, un o'r manteision yw y gallwn edrych nid yn unig ar Gynhadledd y Partïon 15 nawr, ond hefyd ar yr hyn sydd wedi digwydd mewn mannau eraill yn y DU. Fe wnaeth Janet y pwynt, do, fod yna strwythurau llywodraethu eraill sydd wedi cael eu rhoi ar waith yn y DU, ond nid ydynt wedi bod yn rhydd o feirniadaeth. Felly, os gallwch chi hefyd roi gwarant inni y byddwch yn edrych ar y rheini, a phan ddowch o flaen y pwyllgor, byddwn yn gofyn cwestiynau i chi ynglŷn â sut rydych chi wedi dysgu ganddynt hwy hefyd. 

Yn hollol, Huw, roeddwn i'n dod at yn union hynny. Rydym am i'r targedau hynny fod yn ystyrlon ac yn ymestynnol. Er hynny, rydym eisiau iddynt fod yn gyraeddadwy. Nid oes unrhyw bwynt cael targedau a bod pawb yn dweud, 'O wel, wnewch chi byth mohono'. Mae arnom angen iddynt fod yn dargedau realistig a chyraeddadwy, lle gallwn ddiogelu 30 y cant o'n tir, ein dŵr croyw a'n moroedd erbyn 2030. Nid yw hynny'n bell iawn i ffwrdd, felly mae angen inni gael y targedau hyn yn iawn ac mae angen inni eu cael i fod yn ystyrlon.

Mae gennym berthynas waith gydweithredol gadarnhaol eisoes gyda Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Amgylcheddol yr Alban, yn ogystal â chymheiriaid yn Llywodraethau'r DU a'r Alban. Byddwn yn dysgu'r gwersi o'r hyn y maent eisoes wedi'i wneud wrth inni ddatblygu trefniadau llywodraethu amgylcheddol parhaol sy'n adlewyrchu ein polisïau a'n cyd-destun deddfwriaethol yma yng Nghymru.

Felly, fe ddywedaf hyn wrth yr holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at hyn ac wrth aelodau'r pwyllgor: mae'n ddrwg gennyf fod yn olaf. Nid oeddwn eisiau bwlch; gresyn na fyddem wedi gallu atal hynny rhag digwydd. Ond mae yna rai rhinweddau yn hynny hefyd. Byddwn yn gallu gosod y targedau hyn, byddwn yn gallu sicrhau eu bod yn ystyrlon, byddwn yn gallu dysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd mewn mannau eraill yn y DU a byddwn yn cael mewnbwn da iawn yr asesydd interim ar sut yr awn ati i lunio hyn. Rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor yn ein helpu i lunio'r ddeddfwriaeth orau bosibl. Rwy'n eich sicrhau y byddwn yn ei chyflwyno; rwy'n hollol benderfynol o wneud hynny. Hoffwn gloi drwy ddiolch i'r pwyllgor a'r Cadeirydd unwaith eto am eu gwaith gwerthfawr iawn a'u hymwneud cadarnhaol parhaus â'r mater hwn. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r drafodaeth. Diolch yn arbennig i'r Gweinidog am ei hymateb cadarnhaol, nawr, wrth ymateb i'r ddadl, ond hefyd wedi'i adlewyrchu yn y ffaith bod yr argymhellion wedi'u derbyn yn llawn—rŷn ni'n gwerthfawrogi hynny.

Rwy'n mynd i ddweud hyn mewn ffordd gadarnhaol—peidiwch â meddwl fy mod yn ceisio gwneud pwynt ehangach—ond dylai cael cefnogwr Brexit yn cwyno am golli llywodraethiant amgylcheddol yr UE ac amddiffyniadau amgylcheddol yr UE gael ei weld fel peth cadarnhaol, Weinidog, oherwydd rydym yn y sefyllfa rydym ynddi—wyddoch chi, nid ydym yn ailedrych ar hynny—ond mae'n dangos bod yna unfrydedd gwleidyddol y tu ôl i chi wrth ichi symud ar hyn. Efallai y dylai'r Llywodraeth fod wedi bod yn effro i hynny yn gynharach ac efallai y byddai ganddi fwy o hyder o fod wedi symud yn gynt, oherwydd, wrth gwrs, rydym wedi gwybod ers blynyddoedd lawer y byddai angen gwneud hyn. Nid nawr y down o'r casgliad fod angen corff parhaol arnom; rydym yn gwybod ers tair, pedair neu bum mlynedd.

Do, cafwyd amgylchiadau sydd wedi milwrio yn erbyn y gweithredoedd y byddai llawer ohonom—chi eich hun hefyd, rwy'n siŵr, Weinidog—wedi hoffi eu gweld, ac rwy'n derbyn, wel, y pwynt a wnaed am, 'Gadewch inni wneud iddo weithio o'n plaid, felly; gadewch inni ddysgu'r gwersi a defnyddio'r cyfle i ymgorffori pethau eraill y byddem, efallai, yn anymwybodol ohonynt ar y pwynt hwnnw'. Felly, rwy'n derbyn nad mater o a yw'r Llywodraeth, neu unrhyw un ohonom, eisiau symud ar hyn ydyw, ond 'Pryd rydym yn mynd i'w wneud?' Pryd rydym ni o'r diwedd yn mynd i ddechrau symud ar hyn a'i gael ar waith?

Rwy'n codi i ymuno ag ef yn ei ganmoliaeth o'n cyd-aelodau ar y pwyllgor, Janet, oherwydd mae cael yr unfrydedd hwnnw'n foment arwyddocaol—ydy wir. Os ydym i gyd yn gytûn, ar draws Siambr y Senedd, ar y llywodraethu a'r rheoliadau amgylcheddol gorau posibl i'n diogelu, gan roi Brexit i'r naill ochr neu beth bynnag, mawredd, mae hwnnw'n lle da i fynd ymlaen ohono y tu ôl i'r Gweinidog. Felly, da iawn, Janet, yn ogystal â'r Gadair. 

Ie. Diolch yn fawr am hynny. [Chwerthin.] Rwy'n meddwl mai'r pwynt a wnaed gan Huw, mewn gwirionedd—interim, ie; amhrisiadwy, na. Rydym eisiau dweud diolch o galon wrth yr asesydd interim am y gwaith y mae'n ei wneud. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr.

Mae e'n bwynt pwysig: nid cerydd o'r asesydd sydd fan hyn—i'r gwrthwyneb, yng ngoleuni'r capasiti a'r adnoddau sydd ar gael iddi, mae hi'n gwneud cymaint ag y gallem ni ddisgwyl a mwy, felly diolch iddi hi am hynny.

Ond dwi jest eisiau cloi drwy ddweud wrth gwrs y byddwn ni fel pwyllgor yn parhau i graffu ac i fod yn anniddig tan i ni weld bod deddfwriaeth yn dod ymlaen, ac, wrth gwrs, fel rhan o'r broses honno, mi fyddwn ni'n chwarae ein rhan yn llawn i sicrhau bod yr hyn fydd gennym ni ar ddiwedd y dydd mor gryf a mor gyhyrog a mor effeithiol ac effeithlon ag y gallai fod. 

Dwi hefyd eisiau ategu fy niolch wrth gwrs i'r asesydd, ond hefyd i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith nhw, i'r budd-ddeiliaid eraill a gyfrannodd i'r gwaith yma, a hefyd i'r tîm clercio yn y pwyllgor, sydd wedi bod yn gefnogol ac yn gefnogaeth fawr i ni wrth wneud y gwaith yma. Mi fydd fy niolch hyd yn oed yn fwy i'r Gweinidog pan welwn ni ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yn y lle yma. Diolch.

17:30

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyn inni symud ymlaen at y ddwy ddadl nesaf, rwyf eisiau ailadrodd sylwadau a wneuthum yr wythnos diwethaf ac atgoffa'r Aelodau, lle mae grwpiau'r gwrthbleidiau'n defnyddio'r amser a ddyrannwyd iddynt i gyflwyno dau gynnig ar gyfer dadleuon 30 munud, mae'r canllawiau'n nodi y dylid cyfyngu cyfraniadau yn ystod y ddadl i dri munud. Rwy'n gwybod y gall Aelodau deimlo'n rhwystredig oherwydd y ffaith honno. Rwyf am ofyn i'r Pwyllgor Busnes, felly, i ailedrych ar amseroedd siarad mewn perthynas â hyd dadl ac i weld a yw'r defnydd o ddadleuon 30 munud yn rhoi digon o amser i'r Senedd ystyried yr hyn sy'n aml yn bynciau sylweddol. [Aelodau'r Senedd: 'Clywch, clywch.'] Byddwn yn adolygu hyn fel Pwyllgor Busnes yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ac rwyf wedi nodi eich cymeradwyaeth ar y sail honno, ac fe gofiaf hynny.

Diolch i chi, felly. 

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 9.

Eitem 9 yw'r ddadl ar adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant, a dwi'n galw ar Gareth Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8160 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig hwn heddiw, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy gofnodi fy nghydymdeimlad unwaith eto â thad Logan Mwangi, Ben, ei deulu, ei ffrindiau, ei ysgol a'i rwydwaith cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nid oes unrhyw beth y gallwn ei ddweud na'i wneud a all leddfu'r boen a'r tristwch y maent yn siŵr o fod yn ei deimlo ar yr adeg anodd hon ac yn y dyfodol, ac ni all unrhyw beth leihau drygioni a chreulondeb yr unigolion ffiaidd a fu'n cam-drin Logan am gyfnod hir, gan arwain at ei lofruddio. Rwy'n falch fod y lefel briodol o gyfiawnder wedi'i gweinyddu i'r tri a gyflawnodd y drosedd a'u bod bellach wedi'u dedfrydu i garchar. 

Mae marwolaeth plentyn, yn enwedig yn amgylchiadau marwolaeth Logan Mwangi, yn drasiedi na ddylem fyth ei anghofio. Yn yr un modd, mae trychineb o'r fath yn galw am ymdrechion gan Llywodraeth Cymru i sicrhau na all fyth ddigwydd eto. Mae Logan, ei deulu, a phob plentyn yng Nghymru yn haeddu'r sicrwydd y byddwn yn cynnal adolygiad cenedlaethol o wasanaethau cymdeithasol plant yng Nghymru a'r sicrwydd na fydd ein plant yn cael cam oherwydd eu bod yn byw yng Nghymru.

Cymru sydd â'r gyfradd uchaf yn y DU o blant sy'n derbyn gofal, felly mae'n hanfodol fod y Llywodraeth hon yn dangos arweiniad. Ar ôl i'r Prif Weinidog rwystro adolygiad am fisoedd, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw arno unwaith eto i ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddo i roi plant yn gyntaf yng Nghymru. Mae adolygiadau fel y rhain yn gweithio, ac yn helpu i sicrhau bod byth eto'n golygu byth eto. Ni fyddant yn atal llofruddiaeth drasig plant, yn anffodus, ond maent yn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu a bod modd rhoi mesurau ataliol ar waith yn gynharach i ddiogelu plant.

Yn Lloegr, fe wnaeth yr adolygiad i lofruddiaethau Arthur Labinjo-Hughes a Star Hobson flaenoriaethu'r hyn a aeth o'i le, pam y digwyddodd, a beth y gellir ei wneud i atal digwyddiadau o'r fath rhag digwydd eto. Cafodd wyth o argymhellion eu cyflwyno, felly mae gan Lywodraeth y DU ganllawiau clir ar ble i wella. Yn yr Alban, mae adolygiadau cyfnodol gan yr Arolygiaeth Gofal wedi bod yn ganllaw canolog ar gyfer adolygiadau achos, ac maent yn darparu argymhellion i Lywodraeth yr Alban yn rheolaidd. Yn yr un modd, ym mis Chwefror, lansiodd Gogledd Iwerddon adolygiad o wasanaethau gofal cymdeithasol plant. Felly, pam fod plant Cymru'n cael eu gadael allan pan fo pob gweinyddiaeth arall yn y DU yn cymryd cyfrifoldeb? Mae hyn yn hanfodol, oherwydd mae marwolaeth Logan Mwangi wedi profi bod yna bryderon fod dibyniaeth ar weithwyr asiantaeth yn peryglu diogelwch plant, a'r ffaith bod y strwythur rheoli yn y GIG yn golygu nad yw staff iau yn gallu herio uwch gydweithwyr, a bod hynny'n creu bygythiad.

Os na fydd yr adolygiad hwn yn mynd rhagddo, bydd pobl Cymru eisiau gwybod pam, unwaith eto, fod y Llywodraeth Lafur yn rhwystro gwaith craffu ar y ffordd y mae'n rheoli'r GIG. Dylai pŵer dros iechyd olygu bod y Llywodraeth yn cymryd cyfrifoldeb, ond fel y gwelsom yn ddiweddar, nid yw hyn yn wir, ac mae'n peri i mi ofyn: a yw'r Llywodraeth yn bryderus ynglŷn â'r hyn y bydd yr adolygiad yn ei ddarganfod? Felly, yn olaf, rwy'n annog pob Aelod o'r Senedd i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio heddiw. Diolch.  

17:35

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y gwelliant hwnnw yn ffurfiol. 

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol plant heb fod angen adolygiad annibynnol a fyddai'n cymryd adnoddau gwerthfawr ac yn tarfu ar y gwaith rhagorol a wneir gan y rhai sy’n darparu gwasanaethau i blant agored i niwed, eu rhieni a'u gofalwyr.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am roddi'r ddadl yma gerbron. 

Un o'r prif ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu yw archwilio sut yr eir ati mewn modd radical i ddiwygio'r gwasanaethau cyfredol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod yna adolygiad o ofal cymdeithasol plant yng Nghymru, ac rwy'n cefnogi hyn heb gytuno i'r gwelliant heddiw. Rwy'n credu ei fod yn hollbwysig. Rydym wedi trafod y rhesymau pam, yn drasig, fel y nododd Gareth Davies, ar ôl ystyried cynnwys yr adroddiad a marwolaeth drasig Logan Mwangi, ond yn hollbwysig, i ni, nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth plaid. Mae'n ymwneud â gwrando ar y rhai sydd â phrofiad o wrando ar weithwyr cymdeithasol, a oedd yn dweud yn eu maniffesto ar gyfer etholiad 2021 fod hyn yn rhywbeth y credent fod angen iddo ddigwydd.

Hefyd, nid wyf yn derbyn y pwynt y byddai unrhyw fath o adolygiad yn achosi oedi cyn i newidiadau ddod i rym. Mae'n ymwneud ag edrych ar y system yn ei chyfanrwydd, ac mae hyn yn gwbl hanfodol, oherwydd rydym yn gwybod bod y ffeithiau a'r ffigurau'n siarad drostynt eu hunain. Ac roedd clywed Comisiynydd Plant Cymru yn dweud yn ei hymateb ein bod wedi gweld y mathau hyn o argymhellion o'r blaen yn peri pryder mawr. Felly, pa sicrwydd y gallwn ei roi? Fe wyddom fod straen enfawr ar staff gwasanaethau cymdeithasol a'r holl asiantaethau perthnasol, a bod pethau'n debygol o waethygu. Fe wyddom sut mae awdurdodau lleol eisoes yn cael eu heffeithio gan gyni, a sut y byddant yn cael eu heffeithio o ganlyniad i'r argyfwng costau byw a'r effaith ar gyllidebau awdurdodau lleol. 

Felly, mae'n sefyllfa ddifrifol, oherwydd fel sy'n amlwg, plant a phobl ifanc a fydd yn dioddef yn y pen draw, ac mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y rhai sydd angen cymorth yn gallu cael y cymorth hwnnw, ac nad ydym yn gweld penawdau trasig eto, a'n bod yma eto yn y Senedd yn mynegi ein pryder a'n cefnogaeth i argymhellion. Mae adolygiadau'n gadarnhaol, yn fy marn i. Nid ydynt yn bethau i'w hofni, ac mae'n hollbwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle i ddysgu gwersi yn eu cyfanrwydd. Fel y dywedais, rydym yn gweithio gyda'n gilydd i edrych ar feysydd ar gyfer diwygio, ond bydd adolygiad yn rhoi'r cysondeb hwnnw i ni ynglŷn â'r darlun cyffredinol. 

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi nodi bod lleihau cyfraddau gofal yng Nghymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a hynny'n briodol. Rydym yn gwybod bod y canlyniadau i blant a phobl ifanc mewn gofal yn bryder penodol, ac mae'r ffaith bod cyfradd y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru bellach yn uwch nag y bu ar unrhyw adeg ers y 1980au yn rhywbeth a ddylai beri pryder mawr. Felly, rydym yn credu ym Mhlaid Cymru y bydd adolygiad annibynnol i ofal cymdeithasol plant yn rhoi cyfle inni lenwi'r bylchau yng ngofal cymdeithasol plant ar hyn o bryd, bylchau y gwyddom eu bod yn bodoli a bylchau a fydd yn gwaethygu os na fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu'n gyflym. Mae angen inni osod y sylfaen i sicrhau bod pob plentyn yn ddiogel rhag niwed, ac i wneud hyn, rhaid sicrhau bod diogelu plant yn flaenoriaeth, ac rydym hefyd yn cefnogi galwadau'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant yn hyn o beth, a diolch eto i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r cynnig hwn. 

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Gareth Davies am gyflwyno'r ddadl hynod bwysig ac amserol hon. Fel AS y mae fy rhanbarth yn cwmpasu bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r trafodaethau hyn yn bwysig iawn i fy etholwyr, etholwyr sy'n cael eu cythruddo'n fawr gan y digwyddiadau a arweiniodd at, ac yn ymwneud â llofruddiaeth drasig Logan Mwangi. Mae Gareth eisoes wedi amlinellu llinell amser ofnadwy marwolaeth Logan. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod methiannau gwasanaethau cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr yn dyddio'n ôl i gyfnod cyn yr achos hwn. Ymhell cyn llofruddiaeth Logan, roedd pryderon am wasanaethau plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yn 2017, fe wnaeth ymchwiliad gan y Western Mail ddatgelu bod nifer frawychus o blant wedi mynd ar goll o ofal. Nid oedd gwasanaethau cymdeithasol Pen-y-bont yn gwybod ble roedd y plant agored i niwed hyn. Cofnododd yr adran 385 o ddigwyddiadau plant a oedd ar goll, yn ymwneud â 60 o blant unigol. Ond yn waeth na dim, dywedasant nad oedd eu data ond yn cwmpasu'r cyfnod ers mis Gorffennaf 2015, gan na wnaeth yr awdurdod ddechrau casglu gwybodaeth am blant a oedd ar goll mewn ffordd gyson tan hynny. Nid oes ryfedd, yn y blynyddoedd a ddilynodd, fod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau beirniadol ar wasanaethau cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr. Ar wahanol adegau, mae AGC wedi canfod bod pwysau ar y gweithlu wedi arwain at achosion o blant yn mynd ar goll a phlant mewn perygl o gael eu hecsbloetio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr; fod camau priodol ac amserol heb eu cymryd i leihau'r risg i blant; na allai'r arolygiaeth fod yn hyderus fod gweithwyr cymdeithasol yn ymweld â phlant ar y gofrestr amddiffyn plant, neu yn y system ofal, yn ddigon aml.

Rwyf am ei gwneud yn glir nad wyf yn beirniadu'r gweithlu rheng flaen; maent yn gwneud gwaith anhygoel o dan bwysau eithafol. Ond maent yn cael cam gan yr arweinyddiaeth ar bob lefel o fewn yr adran, y cyngor a Llywodraeth Cymru—methiant arweinyddiaeth sydd wedi gadael gwasanaethau plant yn brin o staff a than ormod o bwysau—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf. Iawn.

17:40

Mae'n ddrwg gennyf. Nid oeddwn wedi bwriadu siarad yn y ddadl hon, ond rwyf wedi darllen yr adroddiad yn fanwl iawn, ac yn bendant mae yna feirniadaeth o wasanaethau cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr. Hefyd, mae'r arolygiaeth gofal yn gwneud y sylw fod mesurau eisoes wedi'u cymryd i ymateb i'r rheini. Mae nifer o asiantaethau eraill wedi cael eu beirniadu hefyd, gan gynnwys anallu staff nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i herio'r awdurdod. Gwrandewais ar y ddadl flaenorol ar hyn hefyd, a chanfod nad oedd hynny'n cael ei godi, felly a gawn ni edrych yn gynhwysfawr ar y ffactorau cyfrannol? Oherwydd rwy'n credu bod Ben Mwangi, er cof am Logan, yn haeddu'r darlun llawn ar hyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar un rhanddeiliad yn unig. Roedd yna feirniadaeth o amrywiaeth eang o fethiannau.

Diolch yn fawr iawn. Diolch.

—gyda'r canlyniad trasig a ganiataodd i fachgen ifanc gael ei lofruddio gan yr union bobl a oedd i fod i ofalu amdano a'i feithrin. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud y bydd gwersi'n cael eu dysgu o'r drasiedi hon, ond nid wyf wedi cael fy argyhoeddi fod hyn yn wir, ac nid wyf wedi cael fy argyhoeddi na fydd yr un peth yn digwydd mewn awdurdodau lleol eraill yn fy rhanbarth i neu ledled Cymru. Yr unig ffordd y gallwn ni ddysgu'n iawn o'r drasiedi hon a sicrhau nad oes dim byd tebyg yn digwydd eto yw cynnal ymchwiliad o'r bôn i'r brig i'r gwasanaethau cymdeithasol. Dim ond wedyn y gall pobl ym Mhen-y-bont ac ar draws y wlad hon fod yn hyderus fod gofal cymdeithasol plant yn addas i'r diben. Diolch yn fawr iawn.

Mae llawer ohonoch yn gwybod fy mod wedi gweithio ym maes amddiffyn plant am oddeutu 25 mlynedd, ac fe wnes i weithio yn ystod y cyfnod COVID. A hoffwn fod yn glir, o fy narlleniad i o'r adroddiad ar Logan Mwangi, ni allaf weld unrhyw reswm y byddai'r cyfyngiadau COVID ar y pryd wedi cael—o ran gallu achub ei fywyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fy mod yn cofnodi hynny, gan ei bod yn hawdd dweud mai dyna oedd yn gyfrifol. Ond yn fy mhrofiad i, roedd yn ymwneud â llawer iawn mwy na'r cyfnod COVID.

Rwy'n croesawu ac yn diolch i'r Ceidwadwyr am y ddadl hon, ac rwy'n gwybod bod gennym yr un farn ar draws tair plaid wleidyddol yma yn y Siambr. Rwyf hefyd yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i ofal plant ac amddiffyn plant, a bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o waith arloesol. Ond mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod y pethau sylfaenol yn iawn, a'r pethau sylfaenol i mi yw gwneud yn siŵr fod ein plant ledled Cymru yn cael y cyfle gorau i fod yn ddiogel a chael eu diogelu. Rwyf eisiau ei wneud yn glir: yn anffodus, ni allwn fyth atal plant rhag cael eu brifo neu rhag marw, ond gallwn eu gwneud yn fwy diogel, a dyna beth mae'r adolygiad hwn yn galw amdano. Mae yna broblem glir a real yma o ran yr iaith. I mi, nid ymchwiliad mohono; adolygiad ydyw. Mae'n adolygiad lle gallwn ddysgu, lle gallwn ddeall y problemau. 

Gadewch i mi ddweud wrthych, rwyf wedi cymryd rhan yn y rhain drwy gydol y cyfnod y bûm yn weithiwr cymdeithasol, yn rheolwr gwasanaeth ac yn uwch arweinydd ym maes amddiffyn plant. Nid oes neb yn eu hoffi. Nid oes neb eu heisiau. Ond rydym yn eu gwneud oherwydd ein bod yn credu mai dyna'r peth gorau i'n plant, ac rydym yn eu gwneud er mwyn dysgu. Maent yn gallu bod yn gadarnhaol iawn. Fel rydych wedi'i glywed, maent yn gallu bod yn gyfleoedd i ni rannu arferion da a dyna rydym ei eisiau i blant Cymru.

Fel Aelodau o'r Senedd yn y Siambr hon, gallaf ddweud wrthych, nid oes gennyf syniad sut mae ein gwasanaethau plant ledled Cymru yn perfformio ym maes amddiffyn plant. Rwyf am roi rhai enghreifftiau pendant i chi. Arolygiaeth Gofal Cymru sy'n gyfrifol am arolygu gwasanaethau, ond mae adroddiadau diweddar o Wrecsam a sir Ddinbych yn anodd iawn i'w dehongli o ran sut maent yn perfformio ym maes amddiffyn plant. Ond os edrychwch chi ar y Swyddfa Safonau mewn Addysg yn Lloegr, mae'r adroddiad diweddaraf o Gaint yn dweud yn syth sut maent yn perfformio ym maes amddiffyn plant. Nawr, rwy'n credu y dylem ni gael hynny yma fel aelodau o'n cymunedau, ond hefyd fel Aelodau o'r Senedd. Dylem fod yn gwybod sut mae ein plant yn cael eu hamddiffyn ledled Cymru.

Fy mhwynt olaf yw mai cynnig ar gyfer adolygiad yw hwn. Mae'n ymwneud â gwrando ar bobl a gwrando ar y rhai sy'n gweithio ar y rheng flaen ar draws yr holl wasanaethau. Rwy'n derbyn pwynt Huw Irranca-Davies: mae'n ymwneud â gweithio a gwrando ar yr holl weithwyr proffesiynol hynny, oherwydd roedd yna broblemau gyda sefyllfa Logan. Fy nghwestiwn i chi, Ddirprwy Weinidog, yw hwn: os nad nawr yw'r adeg gywir i gael adolygiad cenedlaethol, yn dilyn marwolaeth drasig iawn Logan Mwangi, gyda niferoedd cynyddol o blant mewn gofal, gyda'r system ofal ar ben ei thennyn, gyda niferoedd enfawr o swyddi gwag mewn rhannau o'n gwlad, pryd fydd hi'n adeg gywir? Diolch yn fawr iawn.

17:45

Diolch. Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw, a hefyd drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl. Hynny yw, mae hwn yn bwnc mor bwysig, ac rwy'n gwybod bod hwn yn rhywbeth lle mae'r pryder yn cael ei rannu ar draws y Siambr gyfan.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a chefnogi iechyd a llesiant pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, ac mae llofruddiaeth Logan wedi ysgogi trafodaeth a ffocws cwbl briodol ar amddiffyn plant yng Nghymru. Dyna pam y rhoddais ddatganiad ar lafar yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf, yn dilyn cyhoeddi'r adolygiad ymarfer plant, o ganlyniad i'r digwyddiad ysgytwol hwn.

Fel rhan o fy natganiad llafar, ailadroddais fy mod yn argyhoeddedig nad nawr yw'r amser i gael adolygiad annibynnol o wasanaethau plant yng Nghymru, ac rwy'n parhau i gredu hynny. Ac er bod Aelodau wedi parhau i alw am adolygiad, nid yw'r ddadl dros gynnal adolygiad o'r fath wedi cael ei gwneud, ym marn y Llywodraeth. Rwy'n gwybod bod Aelodau wedi cyfeirio at y ffaith bod rhannau eraill o'r DU wedi gwneud hynny, ond nid yw'r ffaith bod rhannau eraill o'r DU wedi cael adolygiadau'n ddigon o reswm i ni wneud yr un peth. Mae gwasanaethau a strwythurau yn Lloegr a'r Alban yn wahanol—

—ac nid yw'r angen am adolygiad mewn mannau eraill yn ddigon o achos dros gynnal adolygiad yma.

Ar y nodyn hwnnw, Weinidog, rydych chi'n dweud, 'Pam y dylem ni ei wneud oherwydd bod pawb arall yn ei wneud?', wel, dyna'r rheswm y dylem fod yn ei wneud, mewn gwirionedd, oherwydd os yw'r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cynnal eu hadolygiadau eu hunain, maent yn amlwg yn gweld yr angen ac yn gweld gwerth mewn cael yr adolygiadau hynny er mwyn gweld pa awdurdodau lleol sy'n gwneud rhywbeth o'i le. Ac ar draws Cymru, gallem gael cyfle i weld y 22 awdurdod lleol a gweld lle byddai'r peryglon a gwneud yn siŵr nad oes neb yn llithro drwy'r rhwyd eto. Felly, a allwch chi weld y gwerth yn hynny, Weinidog?

Hynny yw, rydym yn amlwg yn edrych yn fanwl iawn ar yr adolygiadau, ac rydym wedi edrych ar yr adolygiad a gynhaliwyd gan Josh MacAlister yn Lloegr, ac mae llawer o'r casgliadau y mae'n eu gwneud yn bethau rydym eisoes yn eu gwneud yma. Felly, rydym yn sicr yn edrych ar yr hyn y mae adolygiadau eraill yn ei wneud, ac mae hynny'n ffurfio rhan o'n ffordd o feddwl. Ond i ailadrodd, mae ein dull gweithredu yng Nghymru yn seiliedig ar hawliau, yn wahanol i fannau eraill yn y DU, o benodi Comisiynydd Plant Cymru, a sefydlwyd gyntaf dan Ddeddf Safonau Gofal 2000, i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sy'n nodi ein hymrwymiad yng Nghymru i hawliau plant a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac yn fwy diweddar i Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 a dileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Mae Cymru wedi mabwysiadu dull neilltuol, blaengar a hynod lwyddiannus o hyrwyddo lles a llesiant ein plant a'n pobl ifanc.

Yn yr un modd, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi mecanweithiau i ni allu cefnogi trefniadau diogelu nad ydynt yn cael eu hefelychu mewn mannau eraill. Er enghraifft, sefydlodd y Ddeddf y bwrdd diogelu annibynnol cenedlaethol, sydd bellach yn ei ail dymor. Mae'r ddeddfwriaeth wedi ein galluogi i greu gweithdrefnau diogelu Cymru gyfan, a roddwyd ar waith yn 2019. Felly, mae ein dull gweithredu wedi bod yn strategol ers nifer o flynyddoedd, ac wrth gwrs, rydym wedi adolygu ein gwasanaethau yn gyson. Ac mae gennym y dystiolaeth inni allu symud ymlaen. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, rhoddais enghraifft i chi o'r holl adroddiadau a phethau rydym wedi'u gwneud i edrych ar sefyllfa fel hon.

17:50

Mae'n ddrwg gennyf. Diolch yn fawr iawn. Onid yw'n wir fodd bynnag nad oes adolygiad wedi bod yng Nghymru o wasanaethau amddiffyn plant? Rwy'n clywed bod adolygiadau wedi bod o blant sy'n derbyn gofal ac o blant â phrofiad o fod mewn gofal, ond yr hyn rydym yn siarad amdano yma yw adolygiad o wasanaethau amddiffyn plant. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf pryd y cafwyd adolygiad o wasanaethau amddiffyn plant—efallai fy mod wedi ei golli—oherwydd rwy'n credu bod hynny mor bwysig? Diolch. 

Rwy'n credu fy mod wedi ymateb i chi pan ofynnoch chi gwestiwn tebyg yn y datganiad llafar yr wythnos diwethaf, drwy ddweud ein bod eisoes wedi cytuno y bydd pedwar adolygiad ar y cyd rhwng gwahanol gyrff arolygu gweithdrefnau amddiffyn plant dros y ddwy flynedd nesaf. Felly, rwy'n credu i mi ddweud hynny wrthych chi pan ymatebais o'r blaen.

Ond rydym wedi gwneud llawer o adolygiadau, ac fe wnaf eu hailadrodd: adroddiadau thematig Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar blant sy'n derbyn gofal; gwaith grŵp cynghori'r gweinidog ar wella canlyniadau i blant yn ystod tymor diwethaf y Senedd; adroddiad ac argymhellion y Gweithgor Cyfraith Gyhoeddus i ddargyfeirio plant yn ddiogel rhag dod yn destun achosion cyfraith gyhoeddus; yr 'Adroddiad Adolygu'r Argyfwng ym maes Gofal'; a 'Born into Care' Sefydliad Nuffield. Ac mae'r gwaith ymchwil hwn, yn ogystal â chanfyddiadau adolygiadau a gynhaliwyd mewn mannau eraill—y rhai y cyfeiriodd Gareth Davies atynt—wedi llywio ein blaenoriaethau, ac mae gennym gynllun clir eisoes ar gyfer diwygio gwasanaethau plant yng Nghymru mewn modd radical sy'n adeiladu ar bron i 25 mlynedd o brofiad ers datganoli, ac rydym yn gwybod bod yn rhaid mynd i'r afael â'r heriau.

Dyma'r hyn rydym eisoes yn ei wneud: ymyriadau ataliol i deuluoedd sydd â phlant ar ymylon gofal, gan gynnwys gwasanaethau eiriolaeth i rieni; cynadledda grŵp teuluol; diwygio cyfiawnder teuluol; a fframwaith ymarfer cenedlaethol. Mae sefydlu swyddfa genedlaethol a fframwaith gofal cenedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol yn darparu cyfrwng ar gyfer trawsnewid gyda gwasanaethau a gomisiynwyd yn genedlaethol, a bydd datblygu un adolygiad diogelu unedig, yn ffordd o gynnal un adolygiad sengl yn dilyn digwyddiadau difrifol, gan alluogi adolygiadau i gael eu cynnal yn gyflymach, ac osgoi dyblygu adolygiadau lluosog, ac yn ei gwneud yn bosibl canfod a gweithredu'r dysgu ar sail Cymru gyfan.

Hefyd, fe ddywedais yn fy natganiad llafar yr wythnos diwethaf ein bod yn bwrw ymlaen â'r camau ychwanegol. Mae AGC wedi cytuno i gynnal adolygiad cyflym o'r strwythurau a'r prosesau sydd ar waith i lywio penderfyniadau ynglŷn â sut mae plentyn yn cael ei ychwanegu neu ei dynnu oddi ar gofrestr amddiffyn plant. Cytunwyd y bydd grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei sefydlu o dan fwrdd prosiect gweithdrefnau diogelu Cymru i ystyried y canllawiau, y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth bresennol er mwyn sicrhau bod y rhain yn darparu'r wybodaeth gywir sydd ei hangen i gyflawni eu dyletswyddau.

Yn sicr, nid ydym yn anwybodus, ac nid ydym yn hunanfodlon, a byddwn bob amser yn ymateb i dystiolaeth newydd. Felly mae'r holl bethau hynny'n digwydd, ac rydym wedi derbyn y pum argymhelliad cenedlaethol, a fydd yn cynnwys mewnbwn sylweddol gan Lywodraeth Cymru wrth weithredu ar y pum argymhelliad cenedlaethol hynny, ac mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi mynd ati i gomisiynu adolygiad annibynnol o'r ffordd y maent yn cynnal gweithdrefnau diogelu. Ond rydym yn gwybod bod hwn yn fater pwysig tu hwnt a dyna pam rwyf wedi ei gwneud yn glir fy mod yn disgwyl i gamau gael eu cymryd yn gyflym gan yr holl asiantaethau perthnasol i fynd i'r afael â'r argymhellion a'r themâu dysgu a nodwyd o'r adolygiad ymarfer plant sy'n deillio o farwolaeth Logan.

Nid wyf dan unrhyw gamargraff ynghylch yr heriau rydym yn eu hwynebu wrth sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â'r blaenoriaethau hyn a nodwyd i wella ein gwasanaethau plant, ond nid wyf eto wedi clywed unrhyw beth i fy mherswadio y byddai adolygiad cenedlaethol eang yn amlygu unrhyw beth sylweddol nad ydym yn ymwybodol ohono. Pe bawn yn credu bod budd mewn cael un o'r adolygiadau hyn, wrth gwrs y byddwn eisiau ei wneud. Mae buddiannau'r plant yng Nghymru ar frig fy agenda ac agenda'r Llywodraeth. Ond byddai cynnal adolygiad o'r natur hon yn llyncu amser ac adnoddau'r union bobl sydd eu hangen ar hyn o bryd i wneud y gwaith dan sylw.

Rwy'n siŵr fod yr Aelodau'n ymwybodol o'r ymdrechion helaeth y mae'n rhaid eu gwneud er mwyn cynnal adolygiad yn briodol, a byddai'r ymdrechion hynny'n gorfod cael eu gwneud gan y bobl yn ein gwasanaethau sy'n gorfod darparu'r gwasanaethau, sy'n gorfod gwella'r sefyllfa i blant yng Nghymru, a dyna yw fy mhryder gwirioneddol. Pan nad oes unrhyw beth sylweddol iawn y gallwch ei weld drwy gael adolygiad, nid wyf yn gweld y gellir ei gyfiawnhau pan fo'n dargyfeirio pobl o'r gwaith y maent eisoes yn ei wneud.

Dyma'r amser i ni gefnogi ein staff rheng flaen, yn hytrach na chreu mwy o ansicrwydd iddynt, a dyma'r amser i gefnogi'r diwygiadau. Am y rheswm hwn rwyf wedi galw am drefnu uwchgynhadledd ar gyfer ymarferwyr. Rydym eisiau siarad â hwy a chlywed yn uniongyrchol gan y rheng flaen, i lunio a gwella'r modd yr awn ati i drawsnewid gwasanaethau plant, gan gydnabod y gwaith gwych y maent yn ei wneud, ond hefyd i rannu arferion da sy'n bodoli eisoes.

Daw hyn yn sgil yr uwchgynhadledd gyntaf erioed ar gyfer plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, a gynhaliwyd ddydd Sadwrn diwethaf yn yr amgueddfa yng Nghaerdydd, ac roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn. Roedd gennym 40 o bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yno o bob rhan o Gymru. Roedd gennym bump o Weinidogion yn bresennol, ac fe wnaethom eistedd yno drwy'r dydd a gwrando ar yr hyn a ddywedodd y bobl ifanc a oedd â phrofiad o fod mewn gofal. Ac mae gennym restr hir iawn o bethau y mae'n rhaid inni fwrw ymlaen â hwy, ac mae'n rhaid inni eu gwneud, ac rydym wedi ymrwymo i'r plant yng Nghymru y byddwn yn gwneud y pethau hynny.

Ond ni allwn wneud hynny os oes rhaid inni ddargyfeirio i wneud adolygiad ar wasanaethau plant yng Nghymru. Gwnaeth Huw bwynt grymus iawn yn ei gyfraniad nad yw hyn yn ymwneud yn unig â gwasanaethau plant. Rydym wedi cael peth dryswch yn y ddadl ynglŷn â gofyn am adolygiad amddiffyn plant, am wasanaethau plant, ond byddai'n rhaid inni gael adolygiad eang—[Torri ar draws.] Nid wyf—. Rwy'n credu—

17:55

Nid wyf yn credu bod gennych chi amser. Rwyf wedi bod yn hael iawn gyda'ch amser, Weinidog, a byddaf yr un mor hael i'r un sy'n cloi'r ddadl.

Rwy'n gwybod. Fe fyddaf yn gyflym iawn. Rwy'n dirwyn i ben nawr.

Rwy'n gwybod bod yna heriau enfawr yma yng Nghymru, ond rydym yn gwybod beth ydynt ac rydym yn gweithredu mewn perthynas â hwy. Byddai cynnal adolygiad nawr yn achosi oedi wrth inni roi camau ar waith i fwrw ymlaen â'n cynlluniau, byddai'n dargyfeirio adnoddau, ac nid wyf yn credu y byddai llawer o werth ymarferol i hynny. Fel y dywedais, pe bawn yn credu y byddem yn ennill rhywbeth, byddwn yn ei wneud. Felly, byddai'n ddefnyddiol i mi, i blant Cymru, pe bai pob un ohonom yn y Siambr yn cefnogi ein diwygiadau, ac yn cefnogi ein staff rheng flaen a'n cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru. Nawr yw'r amser i weithredu, nid i fyfyrio ymhellach.

Diolch, Lywydd. Wel, fe agorodd Gareth Davies, ein cyd-Aelod, y ddadl hon drwy gydymdeimlo—ac rwy'n gwybod bod pob Aelod yma yn rhannu hyn—â theulu, ffrindiau a chymuned Logan Mwangi. Mae trychineb o'r fath, meddai, yn amlygu'r angen i Lywodraeth Cymru sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto, gydag adolygiad annibynnol i sicrhau 'bod byth eto yn golygu byth eto.' Dywedodd fod adolygiadau yn Lloegr yn blaenoriaethu'r hyn a aeth o'i le, gydag argymhellion clir i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â hwy, ac mae yna adolygiadau cyfredol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, felly pam mai Cymru'n unig sy'n cael ei gadael allan pan fo diogelwch plant yn cael ei beryglu? Os nad yw adolygiadau'n digwydd, meddai, bydd pobl Cymru eisiau gwybod pam ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru'n osgoi atebolrwydd unwaith eto.

Dywedodd Heledd Fychan yn gwbl gywir ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cael adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant yng Nghymru, oherwydd nid yw'n fater o wleidyddiaeth plaid. Mae'n ymwneud ag edrych ar y system yn ei chyfanrwydd, lle mae ffeithiau a ffigurau'n siarad drostynt eu hunain. Fel y dywedodd,

'Mae adolygiadau'n gadarnhaol... nid yn bethau i'w hofni... i ddysgu gwersi yn eu cyfanrwydd.'

Tynnodd Altaf Hussain sylw at y ffaith bod y methiannau gyda gwasanaethau cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr yn dyddio'n ôl yn llawer pellach na'r achos unigol hwn, gyda nifer o adroddiadau beirniadol yn dangos plant yn mynd ar goll neu'n cael eu rhoi mewn perygl o gael eu hecsbloetio. 

Dywedodd Jane Dodds, sydd wedi cael gyrfa ym maes amddiffyn plant, nad yw'n gallu gweld unrhyw reswm pam y byddai COVID wedi atal ymyriadau i achub bywyd Logan. Cyfeiriodd at y ffaith bod adroddiadau Arolygiaeth Gofal Cymru—rwy'n credu iddi ddweud yn Wrecsam a sir Ddinbych—yn anodd iawn i'w dehongli, yn wahanol i adroddiadau cyfatebol gan y corff cyfatebol dros y ffin yn Lloegr. 

Dywedodd y Gweinidog, ein Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, er gwaethaf hynny i gyd ei bod yn parhau i gredu nad nawr yw'r adeg am adolygiad annibynnol, er gwaethaf pwysau llethol y dystiolaeth i gefnogi adolygiad annibynnol. Mae'n bosibl fod ei datganiad na ddylech gynnal adolygiadau am fod rhannau eraill o'r DU wedi gwneud hynny'n unig, yr ymatebodd Gareth iddo, er bod pob Llywodraeth arall ledled y DU yn cydnabod yr angen am yr adolygiadau hyn, dro ar ôl tro yn aml, yn amlygu meddylfryd sylfaenol sy'n creu rhwystrau i gyflawniad o fewn Llywodraeth Cymru ar bwyntiau na ddylai fod â dim i'w wneud â gwleidyddiaeth plaid o gwbl. 

Mae'r pandemig wedi gwaethygu sefyllfa a oedd yn bodoli'n barod, ac fe amlinellodd yr adolygiad diogelu i achos Logan Mwangi nifer o argymhellion wedi'u hanelu at Lywodraeth Cymru, gan gynnwys yr argymhelliad y dylent ystyried comisiynu adolygiad ledled Cymru o ddulliau o gynnal cynadleddau amddiffyn plant i nodi—. Fe wnaethant gyfres o argymhellion nad oes gennyf amser i'w darllen. Fodd bynnag, yn 2019, gwrthododd y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Julie Morgan, gomisiynu adolygiad ar y cynnydd yn nifer y plant mewn gofal yng Nghymru, ac mae ei nod i leihau niferoedd uchel drwy osod targedau i awdurdodau lleol, heb fesurau cadarn yn sail i'r targedau hyn wedi dwyn ffrwyth yn anffodus, oherwydd nid ydym wedi cael adolygiad annibynnol i sefydlu'r achosion sylfaenol. 

Wrth gwrs, nid yw hyn yn ymwneud yn unig â Phen-y-bont yr Ogwr, neu awdurdod lleol yn methu ymyrryd. Er enghraifft, mae gennyf waith achos yn ymwneud â rhieni niwroamrywiol yn sir y Fflint, a ysgrifennodd at bob cynghorydd sir gyda thystiolaeth nad oedd wedi'i chynnwys yn y dogfennau a gyflwynwyd i farnwr mewn achos teuluol ynghylch eu plant gan y cyngor, ac o ganlyniad i hyn cafodd eu plant eu rhoi mewn gofal a hyd heddiw nid ydynt wedi cael diagnosis, nid ydynt wedi cael eu trin ac nid ydynt wedi cael cymorth ar gyfer eu hawtistiaeth ymddangosiadol, eu tueddiad patholegol i osgoi gorchmynion a'u HDE. Ac ni wnaeth yr un o'r cynghorwyr ymateb oherwydd bod tîm cyfreithiol y cyngor wedi dweud wrthynt neu wedi gofyn iddynt beidio â gwneud, er gwaethaf y rôl hanfodol y maent i fod i'w chwarae yn herio swyddogion y cyngor a'u dwyn i gyfrif pan fo tystiolaeth o'r fath yn cael ei chyflwyno iddynt. 

Dylai achos trasig Logan Mwangi, a gafodd gam gan gymaint o asiantaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fod yn bwynt tyngedfennol i wasanaethau plant yng Nghymru. Mae'n rhaid sicrhau mai'r gwaddol a adewir gan y bachgen disglair, byrlymus hwn yw na ddylai ei lofruddiaeth erchyll gael ei hailadrodd byth. Er bod y Dirprwy Weinidog wedi addo derbyn canfyddiadau'r adolygiad i farwolaeth Logan, ni fydd hyn yn ymchwilio methiannau cyson yn ddigonol nac yn darparu atebion clir i gefnogi plant Cymru yn y dyfodol. Bydd adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant yn cyflawni hyn, ac mae plant Cymru yn haeddu ein cefnogaeth gyfunol. Felly, gadewch inni bleidleisio o blaid adolygiad annibynnol llawn a gonest o ofal plant yng Nghymru. Diolch yn fawr. 

18:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r cynnig yna tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yr eitem nesaf—[Torri ar draws.]

Rwyf bron â bod eisiau gwneud pwynt o drefn i Alun Davies. Rwy'n credu efallai y bydd yr Aelod eisiau ystyried rhywbeth a ddywedais cyn y ddadl. Rwy'n credu i mi sylwi arnoch yn cerdded i mewn ar ôl i mi ei ddweud, ac roedd yn ystyriaeth o rai o'r pwyntiau a godwyd yr wythnos diwethaf yn ystod y Cyfarfod Llawn. Rwy'n credu ei bod hi'n ddigon posibl fod un ohonynt yn bwynt o drefn gennych chi yr adeg honno. Mae'n rhyfeddol, weithiau, y dylanwad y gallwch ei gael ar y Llywydd.

Iawn, fe symudwn ymlaen at y ddadl nesaf. 

10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Dadl y Ceidwadwyr ar ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar yw hyn, a dwi'n galw ar Sam Rowlands i wneud y cynnig. 

18:05

Cynnig NDM8161 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y pryderon difrifol a fynegwyd gan ddarparwyr llety hunanddarpar ledled Cymru ynghylch y cyfnod asesu ar gyfer penderfynu ar gymhwystra ar gyfer cymhwyso ar gyfer ardrethi busnes yn 2022-2023, a diwygio'r rheoliadau yn unol â hynny.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch heddiw o allu cyflwyno ein cynnig ar ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar, yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Ac wrth agor y ddadl heddiw, hoffwn egluro yn gyntaf nad dadl ar ba mor gywir yw'r rheoliadau 182 diwrnod a gyhoeddwyd yn gynharach eleni ydyw, ac fel y gwyddoch, ar yr ochr hon i'r meinciau, roeddem yn erbyn cyflwyno'r rheoliadau hyn, ac ym mis Gorffennaf fe wnaethom gyflwyno cynnig i ddirymu'r Gorchymyn Ardrethi Annomestig (Diwygio Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022, a drechwyd wrth gwrs yn y Siambr hon.

Mae ein dadl heddiw yn ymwneud â dryswch ac annhegwch gweithredu'r Gorchymyn hwn, y teimlwn ni ar yr ochr hon i'r meinciau ei fod yn hynod o annheg ac anghyfiawn. Yr hyn y gofynnir amdano ar hyn o bryd yw bod pobl yn dilyn rheolau nad ydynt mewn grym eto. Ni allaf weld hyn yn digwydd mewn unrhyw sefyllfa arall y gallaf feddwl amdani. Felly, gadewch i mi esbonio: fel y gwyddom, o 1 Ebrill 2023, rhaid darparu tystiolaeth fod eiddo wedi bod ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod, a'i fod wedi'i osod am o leiaf 182 diwrnod, ac amlinellir hyn ym mhwynt (b) o welliant y Llywodraeth o'n blaenau heddiw. Fodd bynnag, bydd asesiad Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn seiliedig ar gofnodion ar gyfer y 12 mis cyn y dyddiad hwn, sy'n golygu y bydd busnesau hunanddarpar yn cael, ac wedi cael eu hasesu yn ôl y rheoliadau newydd sy'n dod i rym yn 2023, sy'n dyddio'n ôl i 2022. Felly, bydd yr asesiad yn seiliedig ar rywbeth nad yw'n ofyniad ar hyn o bryd. Yn fy marn i, ac ym marn y meinciau hyn, nid yw'n deg ac yn rhesymol i asesu busnes ar ddata o'r adeg pan nad oes angen iddynt fodloni'r disgwyliadau newydd hyn. Ac rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried y pryderon difrifol y mae darparwyr llety hunanddarpar ledled Cymru yn eu mynegi ynghylch y cyfnod asesu ar gyfer pennu'r cymhwysedd hwn. Felly, dyna'r mater rydym yn ei drafod yma heddiw—y disgwyliad i fusnesau ddilyn rheolau nad ydynt ar waith ar hyn o bryd.

O ran y cyd-destun ar gyfer hyn, a pham mae'n bwysig cael hyn yn iawn, a pham fod gweithredu'r Gorchymyn hwn ar hyn o bryd mor anghyfiawn, mae'n rhannol oherwydd pwysigrwydd anhygoel y sector hwn i economi Cymru. Fel y gwyddoch, mae'n rhywbeth rwyf wedi'i grybwyll dro ar ôl tro yn y Siambr hon, ac mae'r adroddiad a gynhyrchwyd gan Ffederasiwn y Busnesau Bach ar dwristiaeth yr haf hwn yn dangos mai twristiaeth sydd i gyfrif am dros 12 y cant o gyflogaeth yng Nghymru—caiff un o bob saith o bobl yng Nghymru eu cyflogi gan y sector. Yn ogystal â hyn, mae'r adroddiad yn dangos mai twristiaeth sydd i gyfrif am dros 17 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru. Mae'n gwbl eglur fod y sector hwn yn hanfodol i'n gwlad a'n cymunedau lleol yma yng Nghymru.

Ym mhwynt (a) o welliant y Llywodraeth, maent yn dweud eu bod wedi ymgynghori'n eang. Fodd bynnag, rwyf fi yn rhinwedd fy ngwaith fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar dwristiaeth, a'r sector llety hunanddarpar a ffigyrau blaenllaw yn y sector twristiaeth, sydd wedi nodi eu dryswch, eu dicter a'u rhwystredigaeth ynghylch gweithredu'r Gorchymyn hwn o'n blaenau, yn ei chael hi'n anodd derbyn hyn yn llawn—eto, disgwyliad y bydd yn rhaid i'r busnesau hyn gydymffurfio â rheolau nad ydynt yn weithredol eto.

Rhan olaf y cynnig heddiw yr hoffwn ganolbwyntio arno yw pwynt (c) o welliant y Llywodraeth, sy'n dweud:

'bod y newidiadau hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol llewyrchus, lle y gall pobl fforddio byw a gweithio drwy gydol y flwyddyn.'

Ar yr olwg gyntaf, rwy'n siŵr y gall Aelodau o bob rhan o'r Siambr gytuno â hyn. Ond fel y gwyddom, y prif reswm dros gyflwyno'r rheoliadau hyn oedd er mwyn gwahaniaethu rhwng ail gartrefi a llety gwyliau hunanddarpar cyfreithlon. Fodd bynnag, gyda'r meini prawf yn cael eu hasesu eleni, cyn i'r rheolau hynny fod ar waith, cyn i'r rheoliadau hynny ddod i rym mewn gwirionedd, byddwn yn gweld set o ganlyniadau wedi'u hystumio, gan nad yw llety hunanddarpar wedi cael amser priodol i gynllunio, addasu eu cynlluniau busnes a sicrhau bod eu busnesau'n cael eu paratoi ar gyfer y newid hwn. Felly, ni fydd yn cyflawni'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei gyflawni. Yn ogystal â hyn, fel y gŵyr pawb ohonom yn y Siambr, mae'r ffordd y mae'r busnesau hyn yn cael eu sefydlu, a'r ffordd y mae pobl yn trefnu eu gwyliau yn digwydd ymhell o flaen llaw yn aml—chwech, 12 a mwy o fisoedd ymlaen llaw. Felly, drwy asesu data nawr, cyn i'r rheoliadau ddod yn weithredol, nid yw llety hunanddarpar wedi cael amser i gynllunio, a byddwn yn gweld gwybodaeth wedi'i chamgyfrifo. Eto, ni fydd Llywodraeth Cymru'n gallu cyflawni eu nodau trosfwaol.

Felly, i gloi, Lywydd, mae'n hynod o annheg ac afresymol asesu a barnu llety hunanddarpar yn ôl yr hen reolau pan ddaw'r rheolau newydd i rym fis Ebrill nesaf. Gallai hyn arwain at effeithiau niweidiol ar y sector twristiaeth ac mae'n achosi dryswch yn y sector, sector sydd mor bwysig i'n heconomi ac i'n cymunedau lleol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau o bob rhan o'r Siambr yn y ddadl hon, ac rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at gyfraniadau gan bobl sy'n ceisio egluro pam eu bod yn credu bod yr anghyfiawnder hwn yn deg. Diolch yn fawr iawn.

18:10

Rwyf i wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Rwy'n galw ar Weinidog yr Economi i gynnig yn ffurfiol welliant 1.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod:

a) bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n eang ynghylch newidiadau i’r meini prawf a ddefnyddir i gategoreiddio llety hunanddarpar fel eiddo annomestig at ddibenion treth lleol, a fydd yn dod i rym o fis Ebrill 2023.

b) na chaiff cydymffurfiaeth â’r meini prawf newydd ei hasesu tan ar ôl 1 Ebrill 2023.

c) bod y newidiadau hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol llewyrchus, lle y gall pobl fforddio byw a gweithio gydol y flwyddyn.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Rwy'n galw nawr ar Mabon ap Gwynfor i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Mabon ap Gwynfor.

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan ddarparwyr llety hunanddarpar, sydd dan bwysau o ganlyniad i blatfformau fel AirBnB.

2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gynnal argymhellion yr ymgynghoriad diweddar i sicrhau y gellir gwahaniaethu rhwng llety hunan-arlwyo gwirioneddol ac eiddo domestig o safbwynt trethi lleol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a dwi'n cynnig yn ffurfiol welliant 2, yn enw Siân Gwenllian. Gaf i gychwyn drwy ddiolch i Sam Rowlands am gymryd yr amser i gyflwyno'r cynnig yma, ond nid yn unig i gyflwyno'r cynnig ond hefyd am gymryd ychydig o'r amser sy'n cael ei neilltuo iddo er mwyn rhoi esboniad inni o fyrdwn y cynnig? Mae’n anffodus, wrth gwrs, fod yr ychydig amser sy'n cael ei roi i ddadleuon o’r fath yn gorfod cael ei gymryd er mwyn esbonio beth a olygir yng ngeiriad y cynnig yn hytrach na chyflwyno’r dadleuon o blaid y cynnig.

Dwi’n meddwl ei fod o'n bwysig fy mod i'n nodi yma fy siom ynghylch geiriad y cynnig a pha mor aneglur ydyw. Roedd criw da ohonom oddi fewn grŵp y Blaid ac oddi allan wedi ceisio dehongli y cynnig yma heddiw ac wedi methu â’i ddeall oherwydd yr aneglurder. Dydy cyflwyno cynigion gwael yn gwneud dim ffafrau â’n democratiaeth, ac yn wir mae perig iddo gamarwain yr etholwyr wrth i ni o bleidiau gwahanol ddadlau am bethau gwahanol ar draws pwrpas i'n gilydd.

Diolch. A wnewch chi ddweud wrth y Siambr a ydych chi wedi cael unrhyw sylwadau ar y mater gan etholwyr sy'n rhedeg y math hwn o fusnes?

Na, allaf i ddim ateb y cwestiwn yna achos dwi ddim yn glir—fe wnaf i aros ichi gael cyfieithiad—allaf i ddim ateb y cwestiwn yna, mae arnaf i ofn, Janet, oherwydd doedd o ddim yn glir ar y pryd beth oedd pwrpas geiriad y cynnig. Doeddwn i ddim yn deall y cynnig, felly allaf i ddim ateb y cwestiwn.

Ond, os ydw i wedi deall yr esboniad sydd wedi cael ei roi, yna mae’r cynnig fel sydd wedi cael ei gyflwyno a'r cynnig y byddwn ni'n pleidleisio arno yn sôn am y flwyddyn anghywir. Mae’r cynnig yn sôn am gymhwystra ar gyfer cymhwyso ar gyfer ardrethi busnes yn 2022-23, sef eleni, yn hytrach na 2023-24, sef beth ddylai fod yn cael ei gyfeirio ato.

Mae o yr un fath â thrio chwilio am amseroedd trên ar ap Trafnidiaeth Cymru. Dwi ddim yn gwybod os ydych chi wedi sylwi, ond, os dŷch chi’n rhoi’r amser anghywir i mewn, yna mae’r ap yn dweud wrthych chi ei bod yn amhosib bwcio trên sydd eisoes wedi gadael. Cweit reit, hefyd. 

Rwy'n siŵr eich bod chi'n gwybod y gair 'ôl-weithredol' a dyna'r pwynt y mae fy nghyd-Aelod Sam Rowlands yn ei wneud. Y sylwadau a gefais gan berchnogion busnes—perchnogion busnes gofidus—yw yn y flwyddyn o'u blaenau, eu bod yn edrych yn ôl ac yn ystyried busnes a gafodd ei effeithio yn ystod COVID. Ac felly mae'n anghyfiawn eu bod nawr—. Yn dechnegol, maent yn torri'r canllawiau newydd, wrth symud ymlaen, ond nid oeddent yn gwybod ar y pryd, ac nid oedd ganddynt opsiwn, oherwydd bod y Llywodraeth hon wedi gosod cyfyngiadau arnynt fel na allent fasnachu mewn gwirionedd.

Diolch i Janet am gymryd yr amser—nid dyna sydd lawr ar y cynnig ac nid dyna fyddwn ni'n pleidleisio arno. Diolch i Janet am hynny. Am y rheswm yna, dylen ni bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, dŷn ni wedi rhoi gwelliant i lawr a dŷn ni wedi trafod y gwelliant o'r blaen, felly wnaf i ddim mynd â'r amser i drafod y gwelliant yna ymhellach heddiw, ond gobeithio y gwnewch chi gefnogi'r gwelliant oherwydd bod y cynnig mor aneglur. Diolch.

Na, fe fanteisiaf ar bob cyfle.

Felly, yn y bôn, mae hyn yn llanast, Weinidog. Mae cymaint wedi cysylltu â fi erbyn hyn. Mae'n ddrwg gennyf, ni allaf weld lle mae'r dryswch yn y cynnig a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod, ac i fod yn deg, fe wnaeth Sam Rowlands nodi'n huawdl beth oedd sylfeini'r hyn sy'n peri pryder yma. Mae hyn yn annheg, mae'n anghyfiawn, ac ni allwch osod taliadau yn ôl-weithredol ar gyfer cyfnod pan nad oedd gan y perchnogion busnes hynny unrhyw reolaeth dros pryd y gallent agor. Y pryder mawr sydd gennyf yw bod Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym pan ysgrifennwn ati, 'Mae angen ichi fynd at eich awdurdod lleol; gallant roi disgresiwn yn lleol', ond pan awn at yr awdurdod lleol, maent hwy'n dweud wrthym, 'O, mae'n ddrwg gennyf, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, Llywodraeth Cymru hefyd sy'n gyfrifol am hynny'. Fel y nodais o'r blaen yn y Siambr hon, mae gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio gytundeb lefel gwasanaeth gyda Llywodraeth Cymru—neu dylai fod—ac os ydych chi'n caffael gwasanaeth gan yr asiantaeth, yn y pen draw mae gennych chi hawl yma, Weinidog, i allu dweud wrth Asiantaeth y Swyddfa Brisio mewn gwirionedd sut rydych chi am i'r gyfraith hon gael ei chymhwyso. Felly, o'm safbwynt i, mae'n anghyfiawn, mae'n annheg. Hoffwn wneud yn siŵr—[Torri ar draws.] Ie.

18:15

A ydych chi'n meddwl ei bod hi'n drueni fod rhaid inni gael y ddadl hon heddiw? Mae'r pethau hyn yn digwydd oherwydd polisi difeddwl a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gadw eu cyfeillion ym Mhlaid Cymru'n hapus.

Wyddoch chi beth, fe ddywedaf hyn. Mae tymor y Nadolig bron â chyrraedd, ond yr hyn rwy'n ei ddweud yw fy mod i, eleni, wedi fy synnu'n fawr ac wedi fy siomi braidd gan y rhethreg wrth-ymwelwyr, wrth-dwristiaeth. Ac rwy'n dweud nawr, rwy'n cael e-byst o bob rhan o Gymru, gan eich holl etholwyr chi, yn dweud ein bod ni'n iawn, a'ch bod chi'n anghywir.

Diolch, Lywydd. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, rydym wedi trafod y mater hwn o'r blaen. Ar 27 Ebrill, ymatebodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddadl ar drethi a thwristiaeth gan wneud yr holl bwyntiau tebyg hyn, ac ar 6 Gorffennaf, ymatebodd i gynnig i ddirymu'r ddeddfwriaeth dan sylw. Mae'n amlwg fod cefnogaeth fwyafrifol yn y Senedd i'n newid i'r meini prawf a ddefnyddir i ddosbarthu llety hunanddarpar at ddibenion treth leol. Mae'n amlwg hefyd fod angen y newidiadau hyn i helpu i fynd i'r afael â'r problemau a ddaw yn sgil niferoedd yr ail gartrefi a llety gwyliau mewn rhai cymunedau. Mae'r newidiadau hefyd yn mynd i'r afael â sefyllfa lle gallai gosod ail eiddo am ddim ond 10 wythnos y flwyddyn olygu nad yw'r perchennog yn talu unrhyw drethi lleol.

Ar 2 Mawrth, fwy na 12 mis cyn i'r newidiadau ddod i rym yn ymarferol, fe wnaethom gyhoeddi canlyniad ein hymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar. Ers hynny, rydym wedi nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru ac amseriad newidiadau. Daeth y ddeddfwriaeth i rym ar 14 Mehefin. Daw'r newidiadau i rym o ddechrau mis Ebrill y flwyddyn nesaf, pan fydd y meini prawf newydd yn cael eu defnyddio wrth asesu eiddo hunanddarpar ar gyfer y rhestr ardrethi annomestig a gyflawnir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Ar hynny o leiaf, mae Janet Finch-Saunders yn iawn. Ni fydd cydymffurfiaeth â'r meini prawf newydd yn cael eu hasesu tan ar ôl mis Ebrill 2023. Mae'r asesiad yn seiliedig ar gofnodion ar gyfer y 12 mis cyn y dyddiad dan sylw. Mae hynny'n golygu y bydd asesiad ar gyfer dyddiad penodol yn 2023 yn ystyried tystiolaeth o'r dyddiad cyfatebol yn 2022 ymlaen. Nid yw'r broses hon yn un newydd. Wrth gymhwyso'r meini prawf newydd, ni fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn tynnu eiddo hunanddarpar o'r rhestr ardrethi annomestig cyn dechrau mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Wrth baratoi'r ddeddfwriaeth, fe wnaethom gymryd sylw o'r holl ystyriaethau amseru perthnasol, gan gynnwys yr angen dybryd i fynd i'r afael â'r problemau sy'n cael eu creu gan y nifer fawr o ail gartrefi a llety gwyliau mewn rhai cymunedau. Daethom i'r casgliad fod y cyhoeddiad a'r broses o gyhoeddi cynlluniau a deddfwriaeth yn rhoi digon o rybudd i awdurdodau lleol, perchnogion eiddo a rhanddeiliaid eraill baratoi ar gyfer y newidiadau. Cafodd y ddeddfwriaeth ei chraffu gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wrth gwrs, ac ni nododd ei adroddiad unrhyw bwyntiau craffu technegol.

Rydym wedi egluro'r rhesymau y tu ôl i'n penderfyniad i gynyddu'r meini prawf ar gyfer gosod. Bydd yr eiddo dan sylw yn cael ei ystyried yn eiddo annomestig os caiff ei feddiannu at ddibenion busnes am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Os caiff ei osod yn llai aml, bydd y dreth gyngor yn ddyledus arno. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod perchnogion eiddo'n cyfrannu'n deg i'r cymunedau lle mae ganddynt gartrefi neu lle maent yn rhedeg busnesau.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod cryfder y teimladau ymhlith gweithredwyr ac wedi gwrando ar sylwadau gan fusnesau unigol a chynrychiolwyr y diwydiant. Rydym yn cydnabod bod rhai mathau o eiddo hunanddarpar wedi'u cyfyngu gan amodau cynllunio sy'n atal meddiannaeth barhaol fel prif breswylfa rhywun. Mae eithriad rhag premiwm treth gyngor eisoes yn cael ei ddarparu ar gyfer un math o amod cynllunio, ac ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar ddeddfwriaeth a fydd yn ymestyn yr eithriad hwnnw i gynnwys amodau cynllunio eraill. Ein bwriad yw bod unrhyw newidiadau yn dod i rym o fis Ebrill 2023, ochr yn ochr â'r trothwyon uwch. 

Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar ganllawiau diwygiedig i awdurdodau lleol ar opsiynau ychwanegol sydd ar gael os nad yw eiddo hunanddarpar a gyfyngir gan amodau cynllunio yn cyrraedd y trothwyon. Mae'r opsiynau hyn yn cynnwys disgresiwn i leihau neu ddileu'r gyfradd safonol o dreth gyngor sy'n ddyledus ar gyfer eiddo penodol lle bydd yr awdurdod lleol yn ystyried bod hynny'n briodol. Fel rhan o'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, rydym yn rhoi camau ar waith ar unwaith i fynd i'r afael ag effaith ail gartrefi a thai anfforddiadwy mewn cymunedau ledled Cymru, gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthiant.

Rydym yn cydnabod—[Torri ar draws.] Rwyf ar fin gorffen. Rydym yn cydnabod bod y rhain yn faterion cymhleth sy'n galw am ymateb amlochrog ac integredig. Ni fydd newidiadau i drethi'n unig yn darparu'r ateb; dyna pam ein bod yn gweithredu pecyn o ymyriadau. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw.

18:20

Diolch, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu heddiw. A gaf fi ddiolch i Sam am gyflwyno'r ddadl? Lywydd, rydym wedi trafod newidiadau Llywodraeth Cymru i ardrethi annomestig ar gyfer llety hunanddarpar yn fanwl yn y Senedd hon, fel y nododd y Gweinidog. Rydym wedi clywed pryderon busnesau ynghylch yr effaith y bydd y trothwy newydd yn ei chael ar ddarparwyr llety hunanddarpar a'u pryderon ynglŷn â sut y bydd hyn yn effeithio ar hyfywedd eu busnesau. Mae'n amlwg iawn, ar yr ochr hon i'r Siambr, fod anghytuno o hyd ynghylch y dull cyffredinol hwn o weithredu, ac mae llawer o ddarparwyr llety ledled y wlad yn gwrthwynebu hyn hefyd.

Fodd bynnag, fel y nododd Sam, mae craidd y ddadl heddiw yn ymwneud â manylion technegol y rheoliadau newydd, yn benodol, y cyfnod asesu ar gyfer penderfynu ar gymhwysedd i dalu ardrethi busnes yn 2022-23. Fel y nododd Sam Rowlands, mae gweithrediad y Gorchymyn yn anghyfiawn ac yn annheg, fel yr ategodd Janet, ac rwy'n cytuno. Dylai Llywodraeth Cymru feddwl am y pryderon gwirioneddol a fynegwyd gan y darparwyr hunanddarpar. Mae'r Gweinidog yn awgrymu ei fod wedi gwrando ar eu pryderon. Wel, mae angen i Lywodraeth Cymru ymateb a meddwl mwy am bryderon y diwydiant hwnnw.

Diolchodd Mabon i Sam am egluro manylion y cynnig, ac yn anffodus, bu'n rhaid iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i gyfraniad yn ceisio dehongli beth oedd y cynnig yn ceisio ei ddweud, ac roedd hynny'n drueni. Mae cymaint o bobl wedi cysylltu â Janet ac mae hi wedi bod yn rhoi sylw i'r sefyllfa, fel y gwnaeth Sam ac eraill ers misoedd lawer. Mae perchnogion busnes yn parhau i rannu eu pryderon am annhegwch y broses, a'u pryderon fod yna ymagwedd wrth-ymwelwyr yn parhau i atsain yn y Siambr hon pan fyddwn yn cael y ddadl hon. Fel yr ategodd James, mae'n drueni ein bod yn gorfod cael y ddadl hon am nad yw pobl yn cael eu clywed.

Weinidog, efallai eich bod yn methu pwynt y ddadl hon heddiw. Rydym yn clywed sut rydych chi'n cefnogi'r diwydiant ac yn cefnogi'r darparwyr, ond nid yw'n teimlo felly iddynt hwy. Y gwir amdani yw bod defnyddio'r un trothwyon o 2021-22 fel y sail ar gyfer sefydlu defnydd busnes ar gyfer 2022-23 yn annheg. Mae defnyddio cyfnod pan oedd busnesau ar gau am gyfnodau mor hir oherwydd COVID yn gynhenid anghywir. Nid yw cyfnodau o alw uwch yn y flwyddyn, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi dweud er mwyn cyfiawnhau ei dewisiadau, yn gwneud iawn am y ffaith fod y galw wedi'i gyfyngu ar hyd y flwyddyn.

Fel y dywed Ffederasiwn y Busnesau Bach, o ganlyniad i'r ymatebion i'r pandemig, byddai angen i fusnesau mewn gwahanol gyd-destunau a lleoliadau fod wedi ymateb yn wahanol i'r pandemig ar wahanol adegau, a hyn ar sail eu barn eu hunain ar wahân i'r gyfraith. Mewn rhai cyd-destunau, efallai y byddai wedi bod yn gyfrifol i gadw'r eiddo ar gau, hyd yn oed os oeddent yn cael bod ar agor yn gyfreithiol. Mae'n anghywir cosbi perchennog busnes wedyn am ymddwyn yn gyfrifol mewn pandemig. O'r herwydd, mae angen inni ailfeddwl am y trothwy a defnyddio trothwy o flynyddoedd blaenorol fel ei fod yn fwy teg i fusnesau ac yn dangos yn well yr amgylchiadau arferol y mae darparwyr llety yn gweithredu ynddynt. Mae angen inni wrando arnynt i ddeall yn well beth maent ei angen yn hytrach na gorfodi trothwy mympwyol arnynt.

Wrth gloi, Lywydd, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig gwreiddiol ar y papur trefn sydd o'n blaenau heddiw.

18:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ac fe fyddwn ni'n symud i'r bleidlais oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch.

11. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 6, sef y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar Fil Iaith Arwyddion Prydain, BSL. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, 12 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL): O blaid: 38, Yn erbyn: 0, Ymatal: 12

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 9 yw'r bleidlais nesaf—dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal—o blaid 25, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly mi rydw i'n bwrw fy mhleidlais yn erbyn y cynnig. Felly, canlyniad y bleidlais yw bod 25 o blaid, neb yn ymatal, 26 yn erbyn y cynnig.

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Mae hynny'n golygu ein bod ni'n mynd ymlaen at welliant 1. Galwaf am bleidlais, felly, ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, 14 yn ymatal, 11 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i dderbyn.

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 25, Yn erbyn: 11, Ymatal: 14

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8160 fel y’i diwygiwyd: 

Cynnig bod y Senedd:

Yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol plant heb fod angen adolygiad annibynnol a fyddai'n cymryd adnoddau gwerthfawr ac yn tarfu ar y gwaith rhagorol a wneir gan y rhai sy’n darparu gwasanaethau i blant agored i niwed, eu rhieni a'u gofalwyr.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, mae yna 15 yn ymatal, 12 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 23, Yn erbyn: 12, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r cyfres o bleidleisiau nesaf ar eitem 10, sef, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ardrethi busnes ar gyfer llety hunanarlwyo. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 36 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i wrthod. 

Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ardrethi busnes ar gyfer llety hunanarlwyo. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-dethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant 1 wedi'i dderbyn, a gwelliant 2 wedi'i ddad-dethol.

Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ardrethi busnes ar gyfer llety hunanarlwyo. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Cynnig NDM8161 fel y’i diwygiwyd: 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod:

a) bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n eang ynghylch newidiadau i’r meini prawf a ddefnyddir i gategoreiddio llety hunanddarpar fel eiddo annomestig at ddibenion treth lleol, a fydd yn dod i rym o fis Ebrill 2023.

b) na chaiff cydymffurfiaeth â’r meini prawf newydd ei hasesu tan ar ôl 1 Ebrill 2023.

c) bod y newidiadau hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol llewyrchus, lle y gall pobl fforddio byw a gweithio gydol y flwyddyn.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ardrethi busnes ar gyfer llety hunanarlwyo. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 35, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

18:30
12. Dadl Fer: Breuddwydion atomig: Pŵer niwclear a ffydd ddall mewn technoleg sy'n heneiddio

Dyna ddiwedd ar ein pleidleisio, ond nid dyna'r diwedd ar ein gwaith, ac fe fyddwn ni'n symud ymlaen nawr at y ddadl fer. Ac mae'r ddadl fer yn cael ei chyflwyno heddiw gan Mabon ap Gwynfor ar y testun 'Breuddwydion atomig: Pŵer niwclear a ffydd ddall mewn technoleg sy'n heneiddio'. Dwi'n intrigued, Mabon. Mabon ap Gwynfor. 

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi wedi rhoi ychydig o amser i Carolyn Thomas, Sam Rowlands a Mike Hedges i gyfrannu ar y diwedd hefyd. Rŵan, mae yna resymau lu yn cael eu cyflwyno o blaid ynni niwclear, ac ar yr wyneb maen nhw’n medru argyhoeddi, ond edrychwch ychydig yn ddyfnach ac mi welwch chi mai arwynebol iawn ydy’r dadleuon yma. Dywed rhai fod angen ynni niwclear er mwyn darparu ar gyfer y llwyth ynni sylfaenol sydd ei angen—y baseload. Dydy hynny ddim yn wir. Mae baseload yn ei hun yn ddadleuol, gan nad yw'n galluogi'r hyblygrwydd angenrheidiol sydd ei angen yn yr oes fodern. Dywed cynllunwyr ynni fod yn rhaid cael hyblygrwydd o flaen baseload. Mae'n bosibl sicrhau hyn efo’r cymysgedd cywir o ynni—boed yn solar, gwynt, hydro, llanw a thrai, neu hydrogen glas.

Ond i’r rhai hynny sydd yn gaeth i’r gred fod angen baseload, yna mae gennym ni'r adnodd mwyaf effeithiol un yma yng Nghymru i'r perwyl hwnnw, sef llanw a thrai, gyda rhannau o arfordir Cymru efo rhai o’r amrediadau llanw mwyaf yn y byd. Os ydy rhywun yn chwilio am baseload, mae'n bosibl cael hyn drwy fuddsoddi yn yr adnoddau naturiol sydd yma, wedi cyplysu â thechnoleg storio. 

Y rheswm diweddaraf sydd wedi cael ei roi gan y Llywodraeth yma dros gael datblygu niwclear ydy ar gyfer niwclear meddygol. Mae hyn yn arbennig o ddeniadol ar yr wyneb—pwy all ddadlau yn erbyn meddyginiaeth sydd yn helpu efo diagnosis canser, neu Alzheimer's, neu lu o glefydau eraill? Ond, yn y cyd-destun yma eto, arwynebol yw'r dadleuon, ac nid yw’n cyfiawnhau adeiladu atomfa, a dyma pam. Rai blynyddoedd yn ôl, roedd yna brinder difrifol o’r brif isotop sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer meddyginiaeth niwclear, sef technetium-99. Wrth i’r atomfeydd yn yr Iseldiroedd a Chanada heneiddio, daeth yr isotopau yma yn fwyfwy prin. Dyma sydd wedi cyflyru'r syniad o ddatblygu canolfan niwclear feddygol yma.

Ond er mwyn cynhyrchu isotopau yn ddiogel, mae’n rhaid cael atomfa ymchwil—research reactor. Mae cynhyrchu isotopau o atomfa gonfensiynol yn hynod beryglus, ac atomfa ynni ydy’r flaenoriaeth yma. Rhwng y datgomisiynu a chynlluniau adweithyddion modiwlar bach, does dim lle ar safle Trawsfynydd, er enghraifft, am atomfa ymchwil hefyd. Ta waeth am hynny, mae prinder technetium yn cael ei ddatrys. Mae’r Almaen yn adeiladu cyfleuster arbelydru er mwyn cynhyrchu technetium ym mhrifysgol München, ac mae atomfa ymchwil y Jules Horowitz ar y gweill yn Ffrainc. Yn wir, mae’r Jules Horowitz yn bartneriaeth ryngwladol, ac mae’r Deyrnas Gyfunol yn bartner allweddol. Bydd y ddwy atomfa ymchwil yma yn cynhyrchu mwy na digon o isotopau ar gyfer anghenion Ewrop a Phrydain.

Ond hyd yn oed yn well na hynny, mae gwaith rhagorol Dr François Bénard o brifysgol British Columbia wedi arwain at y gallu i gynhyrchu technetium-99 trwy ddefnyddio cyclotrons—offer maint llai na char bach, heb yr angen am unrhyw fath o atomfa, ac mae modd cael nifer o’r rhain ar hyd y wlad. Mi fuaswn i’n annog y Llywodraeth i gydweithio efo prifysgol British Columbia er mwyn manteisio ar y dechnoleg yma.

Wrth gwrs, mae yna wastraff ymbelydrol ynghlwm â meddyginiaeth niwclear hefyd, ond hanner oes technetium ydy chwech awr. Mae'n bosibl cael gwared ohono yn ddiogel o fewn rhai wythnosau. Mae hyn yn dra gwahanol i hanner oes thoriwm, sy'n 80,000 o flynyddoedd, neu plwtoniwm, sy'n 28,000 o flynyddoedd. A dyna’r gwir—mae niwclear yn beryglus. O’r eiliad mae’n cael ei dynnu o’r ddaear i’w ddefnyddio fel tanwydd a’i wastraffu, mae'n angheuol ac mae'n bodoli am gannoedd o filoedd o flynyddoedd. Mae o'n ddiwydiant budr yn ecolegol, amgylcheddol, ac yn beryglus i bob creadur byw.

Dwi wedi siarad efo pobloedd tiroedd yr Anishinaabe yn Ontario, a phobl Mirarr Tiroedd Gogledd Awstralia, sydd wedi sôn wrthyf am y niwed difrifol sydd yn parhau i effeithio ar eu pobl a’u tir o ganlyniad i fwyngloddio iwraniwm yn eu tiriogaethau. Mae eu cymunedau yn dioddef o lefelau uchel o ganser a chyflyrau iechyd eraill, ac o dlodi enbyd, oherwydd y gwir ydy mai diwydiant trefedigaethol ydy’r diwydiant niwclear. Mae’r diwydiant yn rheibio tiroedd o fwynau peryglus yn erbyn ewyllys y cymunedau hynny, ac nid fi sy’n dweud hyn, ond yr Ojibwe, y Shoshone, y Adnyamathanha, y Kazakhs, ac eraill, sy'n dweud hyn. A beth am y gwastraff? Mae yna lefelau peryglus o uchel o caesiwm 134 ac 137 yn parhau i'w darganfod yn llyn Trawsfynydd, yn ôl adroddiadau diweddaraf Asiantaeth yr Amgylchedd, hynny ydy—20 mlynedd ar ôl i’r atomfa orffen cynhyrchu trydan yno. Ac er gwaethaf y sôn am ddatrysiadau i’r gwastraff, does neb wedi canfod unrhyw ffordd o drin y gwastraff yn ddiogel. 

18:35

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae rhai yn sôn am ddilyn y Ffindir a chladdu’r gwastraff filltiroedd o dan y ddaear, gan ei orchuddio efo clai. Ond nid datrysiad hirdymor mo hyn. Fe drïwyd claddu tailings gweithfeydd wraniwm cwmni Eldorado yn Ontario efo math o glai 40 mlynedd yn ôl, ond methu gwnaethon nhw. Ac mae yna dros 100 megatunnell o wastraff ymbelydrol wedi ei wasgaru dros fil hectar o dir yno o hyd. Fe ddefnyddiodd yr Unol Daleithiau y dechnoleg sment mwyaf cyfoes ar Ynys Runit, yn atol yn Enewetak, ar ddiwedd yr 1970au, er mwyn claddu gwastraff niwclear o arbrofion erchyll Ynysoedd y Marshall. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, ac mae’r sment yna yn cracio yn barod, efo deunydd ymbelydrol yn llifo i mewn i’r Mor Tawel. Does dim technoleg yn bodoli i fynd i’r afael â'r gwastraff sydd yn ymbelydrol am gannoedd o filoedd o flynyddoedd. Wrth gwrs, does dim rhaid imi sôn am Chernobyl, Fukushima, Three Mile Island neu Windscale, ond, nôl yn 1993, roedden ni o fewn dim i ychwanegu un enw arall at y rhestr o ddamweiniau niwclear trychinebus: Wylfa. Dyma oedd pennawd The Times ar fis medi 1995:

'Roedd adweithydd niwclear yn wynebu ymdoddiad. Gorsaf bŵer Wylfa yn Ynys Môn.'

A hynny ar ôl i ddarn o bwysau y grab ddisgyn i mewn i graidd un o'r  adweithyddion, a neb yn sylwi am oriau. Mae'n rhaid inni gyfrif ein hunain yn andros o lwcus.

Newid hinsawdd ydy’r ddadl arall dros gyfiawnhau niwclear. Mae newid hinsawdd yn digwydd o flaen ein llygaid, ac mae’n rhaid cymryd camau ar frys i wyrdroi y niwed sydd yn digwydd. Mae gennym ni saith mlynedd yn unig er mwyn atal y byd rhag cynhesu i ddwy radd dros y tymheredd ydoedd cyn yr oes ddiwydiannol. Mae'n rhaid gweld datgarboneiddio ar raddfa eang a sydyn, felly. 'Niwclear ydy’r ateb' medd y Llywodraethau, ond peidiwch â chredu'r hype. All niwclear ddim chwarae yr un rhan yn yr ymgyrch i ddatgarboneiddio sydyn. Edrychwch ar Hinkley Point C, er enghraifft. Fe gyhoeddwyd y prosiect yma nôl yn 2010. Cafodd ei drwyddedu ddwy flynedd wedyn yn 2012, a dechreuwyd ar y gwaith yn 2017. Mae’r cynllun eisoes ddwy flynedd ar ôl amser, ac mae’n debygol na fydd yn cael ei gomisiynu tan o leiaf 2030, gan gostio o leiaf £8 biliwn yn fwy na'r gyllideb wreiddiol. Bydd cost yr un atomfa yma yn unig tua £30 biliwn. Hyd yn oed pe cychwynnir ar y gwaith o gomisiynu’r wyth atomfa yr addawodd Boris Johnson, neu’r 11 atomfa a addawodd Tony Blair, yfory, yna byddai’n 2033, ar y gorau, cyn y gwelwn ni’r un wat o drydan yn dod allan ohonyn nhw.

Yn wir, wrth feddwl am drafferthion Hinkley C, mae’n werth nodi fod ymchwil prifysgol Aarhus yn dangos mai dyma'r norm. Mae 97 y cant o brosiectau atomfeydd niwclear y byd yn mynd dros amser, gan gymryd 64 y cant yn fwy o amser i’w hadeiladu a chostio 117 y cant yn fwy na’u cyllidebau gwreiddiol. Dydy hyn heb ystyried yr atomfeydd modiwlar bach newydd, yr SMRs, sy'n cael tipyn o sylw, ond eto, does na'r un ohonyn nhw wedi cael eu hadeiladu, ac hyd yn oed yr un ohonyn nhw wedi cael eu drwyddedu. Bydd yn flynyddoedd cyn inni weld y dechnoleg yma yn weithredol, ac yn wir, mae gwaith prifysgol Stanford a British Columbia yn dangos y bydd atomfeydd modiwlar bach yn fwy budr na'r rhai confensiynol.

Dros y ddegawd a hanner diwethaf, rydyn ni wedi gweld biliynau o bunnoedd o bres cyhoeddus yn llifo i mewn i gwmnïau niwclear, er mwyn gwneud ymchwil ar sail addewidion mawr, ond nid ydynt wedi delifro dim, ac yn y cyfamser, mae newid hinsawdd yn mynd rhagddi yn gynt nag erioed. Ond mae gennyn ni dechnoleg aeddfed eisoes yn bodoli, er mwyn datblygu ynni adnewyddadwy, a hynny drwy ddefnyddio’r gwynt, yr haul, llanw a thrai, ac mae’r gallu yno i gomisiynu y rhain mewn llai na phum mlynedd. Felly pam nad ydyn ni'n gweld y biliynau yma yn mynd at dechnoleg aeddfed, gan ddangos ein bod ni'n wirioneddol o ddifrif ynghylch mynd i’r afael â newid hinsawdd? A pham fod yna gymaint o sôn, felly, am niwclear, efo'r biliynau yma'n cael ei fuddsoddi ynddo? Wel, dyma pam: mae'r wladwriaeth hon wedi bod yn flaenllaw wrth ddatblygu arfau niwclear erioed. Roedd y wladwriaeth hon yn bartner allweddol yn y Manhattan project, er enghraifft. Ers y cychwyn, mae'r wladwriaeth hon wedi cuddio datblygiadau niwclear militaraidd y tu ôl i ddatblygiadau niwclear sifil. Calder Hall oedd yr atomfa gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol oedd i fod i gynhyrchu trydan oedd mor rhad â baw. Y gwir ydy mai ffatri cynhyrchu plwtoniwm oedd o. Mae hyn bellach yn ffaith gyhoeddus, ar ôl i Lywodraeth yr Unol Daleithiau gyfaddef iddynt ddefnyddio plwtoniwm o Calder Hall ar gyfer un o'u bomiau yn Nevada a llawer iawn mwy.

Yn 2009, fe gyhoeddodd adran ynni Llywodraeth UDA fod atomfa Trawsfynydd wedi cynhyrchu dros 3.6 tunnell metrig o weapons-grade plwtoniwm yn ystod ei oes weithredol. Ond, mae'r wladwriaeth bellach wedi colli'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer niwclear militaraidd, ac mae'n rhaid iddyn nhw ail-lenwi'r pwll hwnnw o bobl gwbl dalentog a all wneud y gwaith affwysol o gymhleth sydd ei angen i ddatblygu llongau tanfor a llongau arfor niwclear ac arfau niwclear.

Bwriad y sôn cyson yma am niwclear, felly, ydy er mwyn cael y gweithlu talentog yma i fynd i'r sector a throsglwyddo sgiliau hanfodol o'r sifil i'r militaraidd. Dwi ddim yn rhyddhau unrhyw gyfrinachau yma—dim ond datgan ffeithiau sydd yn gyhoeddus erbyn hyn. Dyma eiriau Tom Samson, prif weithredwr adran SMR Rolls-Royce:

'Byddai datblygu adweithydd modiwlar bach yn y DU hefyd yn helpu Rolls-Royce i gynnal galluoedd y DU ar gyfer rhaglen forwrol niwclear filwrol y wlad'.

Neu, dyma eiriau o daflen hyrwyddo SMR Rolls-Royce:

'Un defnydd penodol ar gyfer y dalent a ddatblygwyd drwy raglen adweithyddion modiwlar bach y DU fyddai yn y gwaith parhaus o gynnal ataliaeth niwclear annibynnol y DU.'

Neu, beth am eiriau Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wrth drafod eu polisi niwclear?

'Bydd y llywodraeth yn gweithio gyda'r sector i alluogi rhaglenni pwrpasol sy'n cefnogi'r broses o drosglwyddo rhwng sectorau, gan gynnwys y sector sifil a'r sector amddiffyn'.

Blaenoriaeth y wladwriaeth ydy cael gweithlu dawnus yn y sector niwclear er mwyn medru cynnal a chadw'r rhaglen Dreadnought newydd ar lannau'r Clyde, ac er mwyn darparu llongau niwclear ar gyfer y cytundeb AUKUS. A pheidiwch ag anghofio bod Boris Johnson wedi codi'r cap ar y nifer o arfau niwclear yma, gan eu cynyddu o 160 i 240. Nid yw'r gyllideb filitaraidd yn ddigon i gynnal neu i ddatblygu'r llongau ac arfau militaraidd drudfawr yma. Felly, wrth daro strike price uchel ar gyfer trydan o atomfeydd niwclear, mae biliynau o bunnoedd o'n pres ni, y defnyddiwr trydan, yn mynd yn anuniongyrchol i dalu am gynnal y sector niwclear militaraidd.

Ddoe, fe wnaethom ni ddathlu 40 mlynedd o Gymru ddi-niwclear. Gadewch i ni beidio bod yn rhan o fwriadau Llywodraeth San Steffan i gynnal a chynhyrchu hyd yn oed mwy o arfau niwclear dinistriol. Gadewch i ni ddatgan yn glir y bydd Cymru yn parhau i fod yn Gymru ddi-niwclear er lles heddwch a phobloedd y byd heddiw ac yfory. Diolch.

18:40

Diolch, Mabon, am roi munud o'ch amser i mi ar gyfer y ddadl bwysig hon. Mae gwneud ein systemau ynni'n gynaliadwy yn un o heriau ein cyfnod ni. Fel yr argyfwng hinsawdd, mae'n her sy'n cyrraedd y tu hwnt i'n ffiniau, felly mae'n rhaid i ddod o hyd i ateb fod yn dasg ryngwladol. Mae niwclear yn ddadleuol ac o bosibl yn beryglus, ac mae'n hollti barn. Rhaid inni fod yn onest gyda ni'n hunain am y byd rydym yn byw ynddo, un sy'n rhy aml yn llawn rhaniadau, trais a rhyfel. Fel y gwelsom eleni yn Wcráin, ni fwriadwyd i bwerdai niwclear fodoli mewn ardaloedd rhyfel, ond ni allwn byth fod yn hyderus na fyddant yn dod yn rhan o un.

Ddegawdau yn ôl, dau o'r rhesymau pennaf dros ofal wrth fuddsoddi mewn technoleg yn y DU oedd yr amser a'r costau a oedd yn gysylltiedig â'i ddatblygiad, a heddiw, mae'r un dadleuon yn union yn cael eu gwneud i fygu buddsoddiad mewn technolegau adnewyddadwy sy'n ystyriol o'r hinsawdd ar gyfer y dyfodol, fel hydrogen gwyrdd ac ynni'r llanw. Yn hytrach nag ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol, mae'n bryd cydweithio'n fyd-eang i greu dyfodol gwirioneddol wyrdd ac adnewyddadwy. Diolch. 

A gaf fi ddiolch i Mabon ap Gwynfor am roi munud o'i amser i mi yma heddiw? Rwy'n sylweddoli efallai fy mod ar dudalen wahanol i Mabon, a wnaeth y pwyntiau sydd wedi eu codi yma, ond mae gennyf ddiddordeb gwirioneddol mewn gwrando a deall rhai o safbwyntiau pobl eraill ynghylch ynni niwclear. Fe wneuthum nodi bod cydnabyddiaeth eithaf cyflym ar ddechrau eich cyfraniad i lwyth sylfaenol, ond rwy'n credu bod hwnnw'n fater hanfodol y mae angen inni ei ddeall oherwydd bod llawer o waith da'n digwydd mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy, ond yr unig un o'r technolegau adnewyddadwy a all ddarparu'r llwyth sylfaenol hwnnw yw ynni'r llanw, ac nid ydym yn gweld y cynnydd hwnnw ar y raddfa y dylai ddatblygu ar hyn o bryd. Mae pethau da am ffermydd gwynt a phethau da am dechnoleg solar hefyd, ond nid yw'r rheini, fel y gwyddom, yn ddibynadwy ar gyfer sicrhau bod gennym lif cyson o drydan ac ynni i'n grid. Ac rydym wedi gweld hyn yn yr Almaen, onid ydym, lle maent yn aml yn cael eu canmol am symud oddi wrth niwclear a thuag at ynni adnewyddadwy. Dim ond 49 y cant o'u hynni yn yr Almaen y mae ynni adnewyddadwy'n ei gyfrannu o hyd ac mewn gwirionedd, mae traean o'u hynni'n dal i gael ei gynhyrchu gan orsafoedd pŵer wedi eu tanio gan lo, ac nid yw honno'n sefyllfa rydym am fod ynddi ar gyfer sicrhau bod y llwyth sylfaenol yno. Felly, byddwn yn dadlau bod niwclear yn brofedig a bod modd ei gyflenwi a'i fod yn darparu llwyth sylfaenol y gallwn ddibynnu arno yma yng Nghymru.

Ail bwynt—. Rwy'n derbyn mai dim ond munud ydyw; mae'n amser byr iawn, onid yw? Ond mae yna frys hefyd i symud tuag at greu trydan sy'n garbon niwtral a brys i symud oddi wrth ddibyniaeth ar wladwriaethau fel Rwsia i gyflenwi nwy. Ac unwaith eto byddwn yn dadlau bod niwclear yn ein galluogi i wneud hynny mewn ffordd sy'n gynt na thechnolegau eraill, i fod yn fforddiadwy, yn ddi-garbon ac yn ddibynadwy yn y dyfodol. Felly, rwy'n gwerthfawrogi'r un funud ac rwy'n gwerthfawrogi eich amser. Diolch.

18:45

A gaf innau hefyd ddiolch i Mabon am roi munud o'r ddadl hon i mi ac am yr hyn a ddywedodd yn flaenorol? Ers Calder Hall ym 1956, rydym wedi mynd drwy nifer fawr o fathau o adweithyddion niwclear—Magnox, adweithydd dŵr dan bwysau, uwch adweithyddion a gâi eu hoeri gan nwy, ac erbyn hyn yr adweithydd niwclear cenhedlaeth 3+ arfaethedig yn Sizewell C. Pan fydd technolegau'n datblygu, dylai costau leihau. Dylent leihau'n gyflym. Nid felly y bu hi gyda niwclear. Yr hyn sydd wedi nodweddu pŵer niwclear yw problemau—gorwario ar waith adeiladu, cynnal a chadw a phroblemau camweithredu sy'n fwy costus na'r disgwyl, cost ymdrin â deunydd gwastraff niwclear, dod o hyd i ffordd o storio deunydd gwastraff niwclear. Mae hyn yn atgoffa am dechnoleg arall y dyfodol yn y 1960au a'r 1970au—y bydd y bobl sy'n ddigon hen yn ei chofio—yr hofrenfad. Ers hynny, mae faint o danwydd a ddefnyddiant a'r costau cynnal a chadw wedi golygu nad yw eu defnydd yn ymarferol mwyach. A nawr, fel yr hofrenfad, mae'n bryd dweud 'na' wrth ynni niwclear ac 'ie' wrth ynni adnewyddadwy.

Diolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r ddadl hon ac am y cyfraniadau eraill. Rwy'n croesawu'r ddadl fel cyfle i nodi pwysigrwydd y sector niwclear yng Nghymru, ond hefyd i gydnabod, o'm safbwynt i, y cyfraniad y mae'r sector yn ei wneud i gynnal economïau lleol, datblygu cymunedau a helpu i greu swyddi. Rwy'n derbyn bod gennyf bersbectif gwahanol i Mabon ap Gwynfor ar y pwynt hwn.

Hoffwn ddatblygu'r pwynt yn gyntaf am yr honiad fod yna ffydd ddall wrth gefnogi technoleg niwclear. Mae hynny'n awgrymu bod pobl sy'n cefnogi cenhedlaeth arall o bŵer niwclear neu ecsbloetio niwclear yn anwybyddu cyfyngiadau a heriau amlwg y dechnoleg, ac yn benderfynol o gefnogi cynhyrchiant pŵer niwclear er gwaethaf y pryderon am ddiogelwch a rheoli gwastraff. Ni allai dim fod ymhellach o'r gwir. Mae'n rhaid i gefnogwyr ynni niwclear heddiw fod yn bragmatyddion a phenderfynu a ydym yn credu y gellir cyflawni sero net neu beidio gyda niwclear yn rhan o'r cymysgedd ynni ehangach. Rwy'n credu ei fod yn rhan o'r cymysgedd ynni ehangach sydd ei angen. Mae hynny er gwaethaf y ffaith bod pryderon yn parhau am ddiogelwch a rheoli gwastraff, a byddai'n rhaid mynd i'r afael â'r rheini, ac fe ddylid mynd i'r afael â hwy mewn modd agored a thryloyw.

Rwy'n deall yr awgrym mai technoleg sy'n heneiddio, technoleg ddoe, yw niwclear am ein bod wedi bod yn cynhyrchu trydan o ffynonellau niwclear ers tua 60 mlynedd. Wel, os mai hyd amser y dechnoleg sy'n bwysig, efallai na fyddwn bellach yn cefnogi ynni gwynt neu ddŵr, oherwydd o genedlaethau cynharach y technolegau hynny, gwelwn y rheini'n gwella ac yn datblygu. Mae cynhyrchu trydan o ynni gwynt yn arloesedd cymharol ddiweddar ac mae'n dangos nad yw datblygiadau technolegol o reidrwydd yn gyfyngedig i dechnolegau newydd. Mae technoleg niwclear ei hun yn esblygu'n gyson, ac ymhell o fod yn dechnoleg ddoe sy'n heneiddio, rwy'n dal i feddwl—ac yn wir mae nifer o arbenigwyr eraill yn credu hynny hefyd, yn wahanol i'r rhai y mae Mabon wedi'u dyfynnu—ei bod yn dechnoleg ar gyfer ein taith i yfory, yn enwedig pan ystyrir y cynnydd ym maes ymasiad niwclear. Rwy'n credu y byddai cefnogwyr adweithyddion modiwlar bach yn dweud ei bod yn dechnoleg aeddfed rydych chi'n ei deall ac mewn gwirionedd, nid yw adweithyddion modiwlar bach, y byddaf yn siarad amdanynt yn nes ymlaen, angen y math o heriau sy'n gysylltiedig â'r buddsoddiad sylweddol y mae pŵer niwclear ar raddfa fwy yn ei angen.

Nawr, mae ymasiad niwclear, os gallwn ei ddatblygu, yn cynnig cynhyrchiant sylweddol o feintiau masnachol yn y dyfodol gyda llawer llai o broblemau'n gysylltiedig â diogelwch a rheoli gwastraff na'r rhai sy'n gysylltiedig ag ymholltiad. Fodd bynnag, mae gwaith i'w wneud o hyd i brofi'r defnydd o ymasiad, ac yn y cyfamser mae ymholltiad yn parhau i gynnig modd profedig o gynhyrchu llwyth sylfaenol mawr o drydan carbon isel sydd ar gael bob amser.

Nawr, ar ein hagenda sero net, mae sero net a diogelwch ffynonellau ynni yn canolbwyntio ar ddefnyddio niwclear ac ynni adnewyddadwy gyda'i gilydd i gynnal y newid i ynni carbon isel, ac rydym i gyd yn derbyn y realiti fod angen mwy o waith ar ddatgarboneiddio'r cyflenwad pŵer yng Nghymru ac ar draws y DU, ac rydym wedi gweld bod cymheiriaid yn yr Almaen yn gaeth i sefyllfa lle maent yn dal i ddibynnu ar bŵer glo, sydd, yn fy marn i, yn fygythiad sylweddol ac uniongyrchol i ddyfodol y blaned. Rhai o'r prif resymau pam fod y Llywodraeth hon yn parhau i gefnogi defnydd o niwclear yw ei bod yn ffynhonnell o ynni carbon isel. Mae'n ffynhonnell ynni bwerus, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol ar gyfer y newid carbon isel. Mae'n ynni cyson y gellir ei reoli. Mae'n darparu trydan 24/7 parhaus a gellir ei addasu i amrywiadau yn y galw am drydan. Nid yw hyd yn oed patrymau dibynadwy ynni llanw yn darparu ynni sydd ymlaen drwy'r amser, ac mae'n dal i fod angen inni gynhyrchu llawer mwy o dechnoleg ar gyfer storio pŵer llanw, ac rwy'n awyddus ein bod yn parhau i wneud hynny.

Mae'n gystadleuol yn yr ystyr fod pŵer niwclear yn un o'r ffynonellau lleiaf drud i'w gynhyrchu. Yn Ffrainc, mae tua 70 y cant o'i thrydan yn cael ei gynhyrchu o niwclear. Yr her yw'r costau adeiladu a'r costau datgomisiynu. Ac rwy'n credu ei fod yn ynni a fydd yn ein helpu i gyrraedd y dyfodol rydym ei eisiau. Erbyn hyn mae gennym 8 biliwn o bobl yn byw ar y blaned, ac mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd eraill o'n helpu i gynhyrchu digon o bŵer i bawb ohonom allu goroesi gyda safon byw o'r ansawdd rydym yn ei ddisgwyl, ac y mae eraill yn ei ddisgwyl, gan fod yn garbon niwtral ar yr un pryd. Rwy'n deall yr hyn a oedd gan Mabon i'w ddweud, ond rwy'n credu bod yna achos go iawn y mae'r Llywodraeth hon yn ei dderbyn nad ydym yn debygol o allu gwneud hynny heb ragor o fuddsoddiad mewn pŵer niwclear. Mae hefyd yn cael ei gydnabod, yn yr ystyr honno, gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd a'r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol pan fyddant yn edrych ar ynni adnewyddadwy a phŵer niwclear, fod gofyn cael peth llwyth sylfaenol o bŵer niwclear er mwyn cyrraedd dyfodol mwy cyflawn, a chwbl adnewyddadwy.

Mae Wylfa a Thrawsfynydd yng Nghymru wedi cefnogi tua 800 i 900 o swyddi hirdymor sy'n talu'n dda ers 50 mlynedd a mwy, yn ogystal â channoedd yn fwy yn y gadwyn gyflenwi leol, ac wrth gwrs mae'r rhain yn gymunedau lle nad oes cyfleoedd eraill mewn ardaloedd mwy adeiledig gyda phoblogaethau mwy o faint. Ac mae rhywbeth yma am sicrhau bod cyfleoedd economaidd mewn rhannau o Gymru sydd heb ganolfannau poblogaeth mawr iawn. Mae Llywodraeth Cymru'n credu y dylai rhanbarthau a chymunedau lleol sydd â phrosiectau seilwaith niwclear sicrhau budd economaidd y tu hwnt i'r swyddi uniongyrchol ar y safle. Dyna ran o'r rheswm pam y gwnaethom sefydlu Cwmni Egino yn 2021, i fynd ar drywydd cyfleoedd sy'n gysylltiedig â Thrawsfynydd. Mae'r rheini'n cynnwys y gwaith parhaus ar ddatgomisiynu y mae Mabon ap Gwynfor eisoes wedi'i grybwyll. Nawr, mae'r swyddi hynny'n dal i gael eu cefnogi, ac mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd y gallwn ennill mwy o'r gadwyn gyflenwi, ac mae Trawsfynydd eisoes wedi dod yn ganolfan de facto ar gyfer rhagoriaeth datgomisiynu ar draws ystad Magnox. Mae wedi bod yn ganolfan arweiniol ac yn ganolfan ddysgu ers amser maith ar sut i ymdrin â materion datgomisiynu cymhleth—er enghraifft, trin resinau halogedig a malurion elfennau tanwydd. Dyma hefyd y safle cyntaf arfaethedig ar gyfer datgomisiynu arloesol, parhaus. Byddai hynny'n golygu dymchwel a symud adeiladau adweithyddion yn llwyr fel rhan o'r datgomisiynu parhaus, yn hytrach nag mewn 60 mlynedd yn dilyn cyfnod o ofal a chynnal a chadw ac oeri'r adweithyddion.

Felly, rydym yn edrych eisoes ar beth a all ddigwydd ac yn gweld Trawsfynydd fel cyfle i wneud hynny. Roedd adroddiad gan Arup ar gyfer Cwmni Egino ar ddiwedd 2020 ynghylch y buddion posibl ar gyfer gwaith yn y dyfodol o Drawsfynydd yn tybio, gyda dull datgomisiynu parhaus, y gallai'r galw am swyddi yn y dyfodol godi y tu hwnt i 2025, gan gyrraedd uchafbwynt o tua 600 yn y cyfnod rhwng 2030 a 2035, cyn gostwng ar ddiwedd y cyfnod datgomisiynu hwnnw.

Ar adweithyddion modiwlar bach, credaf ein bod ar y trywydd iawn i weld cyfleoedd posibl, nid yn unig gyda Chwmni Egino, ond o bosibl, bydd hefyd yn drosglwyddadwy i'r safle arall yn Wylfa. Mae yna her o ran y gallu i barhau i adeiladu ar adweithyddion modiwlar bach ar un safle er mwyn gallu adeiladu'n gyflymach, ond hefyd a allwch reoli costau mewn ffordd wahanol wrth wneud hynny. Mae'n un o'r honiadau sydd angen eu profi. Ond mae cynnydd sylweddol eisoes wedi'i wneud ar drafodaethau prydles y safle o gwmpas Trawsfynydd ers inni greu Cwmni Egino, a bydd yr ymarfer ymgysylltu cynnar â'r farchnad gyda thechnolegau posibl yn dod i ben cyn y Nadolig. Byddwn mewn sefyllfa lawer cliriach ar ôl i'r ymarfer hwnnw gael ei wneud. Dylai hynny arwain at argymhelliad ar ddau neu dri thechnoleg y bydd Cwmni Egino yn ymwneud ymhellach â hwy, ac yn ceisio cael trafodaethau pellach gyda Great British Nuclear. Byddai hefyd yn helpu, wrth gwrs, pe bai cenhadaeth gliriach ar gyfer yr hyn fydd Great British Nuclear a'r hyn na fydd. Ac rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod sydd ar y ffordd yn weddol fuan gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i geisio deall pryd y bydd yr eglurder hwnnw'n cael ei ddarparu. 

Mae cost prosiect adweithydd modiwlar bach o'i gymharu â phrosiect ar raddfa gigawat yn swm sylweddol is. Dylai fod yn fwy hylaw o ran y risg is i gost cyllid, ac yn wir y cyflymder a'r rhagolygon ar gyfer cyflawni. Ac unwaith eto, ystyriodd adroddiad Arup oblygiadau defnyddio adweithyddion modiwlar bach, ynghyd â chyfleoedd gweithgynhyrchu a'r gadwyn gyflenwi, ac maent yn amcangyfrif y bydd yr uchafbwynt mewn cyflogaeth ar ddiwedd y 2020au, yn ystod y cyfnod adeiladu, gyda dros 2,500 o weithwyr ar y safle, a gweithlu comisiynu a gweithredol o tua 450 o swyddi mwy hirdymor ar y safle o ddechrau'r 2030au. Nawr, byddai hynny'n amlwg yn cael effaith sylweddol, nid yn unig ar yr economi leol yn Nwyfor Meirionnydd, ond ar draws y rhanbarth ehangach. Mae'n debygol y bydd pobl yn teithio o rannau eraill o ogledd-orllewin Cymru ar gyfer hynny. Yr amcangyfrif a roddir yw gwerth ychwanegol gros amcangyfrifedig ar gyfer gogledd-orllewin Cymru o £41.6 miliwn, a £133 miliwn ar draws economi gogledd Cymru. 

Nawr, rwy'n cydnabod bod Mabon ap Gwynfor hefyd wedi cyffwrdd â rhai o'r materion sy'n ymwneud ag adweithydd ymchwil radioisotop meddygol, a chyda phob parch, rwy'n anghytuno â'i honiad nad oes lle i adweithydd modiwlar bach ac adweithydd ymchwil radioisotop meddygol ar safle Trawsfynydd. Mae'n darparu cyfle sylweddol i gyfleuster cynhyrchu radioisotop meddygol. Mae isotopau o safon feddygol yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn canser, ac mae ymchwil yn dangos, er bod y galw'n uwch, mae eu cynhyrchiant yn lleihau. Roedd gennyf ddiddordeb yn yr hyn a oedd ganddo i'w ddweud am safleoedd posibl yn yr Almaen. Yr ymarfer rwyf fi wedi ei gyflawni gyda swyddogion yma yn Llywodraeth Cymru, ac eraill yn wir, yw nad ydym yn rhannu ei optimistiaeth y bydd safleoedd yn yr Almaen yn barod mewn pryd i ateb yr holl alw ar gyfer ein systemau iechyd a gofal ein hunain a hefyd cyfleusterau ymchwil eraill posibl. Nawr, ein barn ni yw mai Trawsfynydd yw'r safle delfrydol yn y DU ar gyfer adweithydd ymchwil radioisotop meddygol. Ymhell o fod yn dechnoleg ddoe, ein barn ni yw bod y prosiectau a'r rhaglenni hyn sy'n gysylltiedig â'r sector niwclear sy'n targedu technoleg heddiw ac yfory, yn cynnig cyfleoedd mawr eu hangen a dilys ar gyfer cynhyrchu ynni a chanlyniadau iechyd fel ei gilydd. 

Rwy'n cydnabod gwrthwynebiad parhaus a chyson Mabon i bŵer niwclear newydd. Nid wyf yn gweld bod pŵer niwclear yn atal buddsoddiad sylweddol a pharhaus yn nyfodol ynni adnewyddadwy. Rwy'n awyddus iawn inni wneud y ddau beth. Rydym yn gweld niwclear fel llwybr at ddyfodol lle na fyddwn ei angen yn y dyfodol hwnnw. Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd dyfodol pŵer niwclear ac ymchwil radioisotop, ynghyd â dyfodol ynni adnewyddadwy i Gymru, ac rwy'n optimistaidd y gwelwn fanteision economaidd sylweddol wrth wneud hynny.  

18:55

Daeth y cyfarfod i ben am 18:58.