Y Cyfarfod Llawn
Plenary
30/11/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Dyma ni'n cychwyn ar ein cyfarfod ni heddiw. Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Altaf Hussain.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol am ddefnyddio cronfeydd ariannol? OQ58771

Rwyf wedi trafod cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol gydag arweinwyr fel rhan o’n trafodaethau parhaus ar bwysau a chyllid. Mae pob arweinydd wedi pwysleisio eu bod eisoes yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i fynd i'r afael â'u pwysau presennol ac yn disgwyl gorfod parhau i wneud hynny y flwyddyn nesaf.
Diolch, Weinidog. Ym mis Mawrth 2020, nododd Llywodraeth Cymru fod cyfanswm holl gronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol yn £1.5 biliwn, ac roeddent wedi cynyddu 42 y cant i £2.13 biliwn erbyn mis Mawrth 2021. I roi hyn yn ei gyd-destun, yn y flwyddyn ariannol hon, roedd y grant cynnal refeniw a ddyrannwyd gennych i awdurdodau lleol yn £3.9 biliwn. Rwy’n derbyn bod angen i awdurdodau lleol gadw arian wrth gefn ac nad yw sut y gellir defnyddio’r cronfeydd wrth gefn hynny'n fater syml, ond wrth ichi drafod y sefyllfa ariannol gyffredinol gydag awdurdodau lleol dros y mis nesaf, a wnewch chi roi sicrwydd i’r Senedd na fydd symiau mawr o arian yn eistedd yng nghyfrifon banc awdurdodau lleol tra bod arweinwyr cynghorau, ar yr un pryd, yn cwyno am y diffyg arian i ddarparu gwasanaethau hanfodol? Diolch.
Cyfeiriaf yr Aelod at fy ateb gwreiddiol, sy’n rhoi sicrwydd i gyd-Aelodau o'r Senedd fy mod yn trafod cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol gyda hwy yn rheolaidd fel rhan o’n trafodaethau cyffredinol mewn perthynas â chyllid. Ond hoffwn ddweud yn glir iawn hefyd fod yr hyn a nodir yn y mecanwaith adrodd blynyddol yn cynrychioli un diwrnod o'r flwyddyn yn unig—diwedd y flwyddyn ariannol; nid yw'n adlewyrchu newidiadau i fyny ac i lawr o fewn y flwyddyn. Ac wrth gwrs, mater i'r aelodau etholedig lleol unigol yw lefel y cronfeydd wrth gefn, a byddant yn adlewyrchu'r cynlluniau mwy hirdymor sydd gan yr awdurdodau hynny yn ogystal â rheoli'r pwysau tymor byr, ac mae digon o'r pwysau tymor byr hynny ar hyn o bryd.
A chredaf fod angen i ni hefyd ystyried cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol yng nghyd-destun ehangach cyllideb gyffredinol llywodraeth leol. Ar lefel Cymru gyfan, y dehongliad ehangaf o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio yw 26 y cant o gyfanswm y gwariant blynyddol. Felly, dyna ddarpariaeth tri mis ar gyfer holl gostau llywodraeth leol. Ni fyddai cronfeydd wrth gefn cyffredinol neu gronfeydd wrth gefn heb eu dyrannu ond yn darparu ar gyfer 10 diwrnod. Felly, er bod cronfeydd wrth gefn awdurdodau yn uwch nag y maent fel arfer, credaf eu bod yn dal i gydnabod bod llawer iawn o alw am y cronfeydd wrth gefn hynny. Fel y dywedaf, mae awdurdodau eisoes yn defnyddio rhai ohonynt i reoli pwysau eithafol yr argyfwng costau byw ac effaith chwyddiant ar awdurdodau lleol, ac rwy'n disgwyl y byddent yn bwriadu gwneud hynny y flwyddyn nesaf hefyd. Felly, hoffwn roi sicrwydd i'm cyd-Aelodau fod gennyf hyder fod ein cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol yn ystyried y defnydd o gronfeydd wrth gefn mewn ffordd briodol, a chydnabod hefyd fod lefel y cronfeydd wrth gefn eleni yn cydnabod, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol flaenorol, imi ddyrannu £50 miliwn yn ychwanegol i awdurdodau lleol, gan gofio, hyd yn oed cyn yr argyfwng costau byw a’r sefyllfa yn Wcráin, ein bod wedi cydnabod, oherwydd yr adolygiad o wariant tair blynedd, y byddai blynyddoedd 2 a 3 yn anos. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny’n rhoi awdurdodau mewn gwell sefyllfa nag y byddent ynddi fel arall i reoli’r pwysau y flwyddyn nesaf. Ond wedi dweud hynny, fe fyddwch wedi gweld bod awdurdodau lleol yn dweud wrthym eu bod eisoes yn disgwyl gweld bwlch o gannoedd o filiynau o bunnoedd yn y cyllid, sy'n amlwg yn bryder iddynt hwy ac i ninnau.
Diolch am gadarnhau’r hyn rwyf wedi’i glywed mewn sesiynau briffio a ddarparwyd i mi ac i Aelodau eraill o'r Senedd o bleidiau eraill, a oedd nid yn unig yn sôn am y pwysau cyllidebol sy’n wynebu awdurdodau lleol, ond hefyd yn trafod y cronfeydd wrth gefn. Ac o ran y ffigur hwnnw a ddyfynnwyd gennych, pe bai'r cyfan yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r pwysau presennol, efallai y byddai gennym dri mis cyn i'r holl gronfeydd wrth gefn hynny gael eu defnyddio, heb ystyried y ffaith bod y rhan fwyaf ohonynt wedi'u dyrannu ar hyn o bryd at ddibenion eraill—. Felly, a gaf fi ofyn, yn eich cyfarfodydd ag arweinwyr awdurdodau lleol yn y dyfodol, yn enwedig Andrew Morgan o Rondda Cynon Taf a Huw David o Ben-y-bont ar Ogwr yn fy ardaloedd i, a wnewch chi ofyn iddynt, os oedd unrhyw Aelodau o'r Senedd hon—y mae rhai ohonynt yn gyn-arweinwyr cynghorau—nad aethant i'r sesiynau briffio hynny i weld lefel y pwysau sy’n wynebu ein hawdurdodau lleol ar hyn o bryd, i’w gwahodd unwaith eto i eistedd gyda swyddogion yn yr awdurdod lleol hwnnw i weld pa mor bell y byddai'r cronfeydd wrth gefn yn mynd?
Yn sicr. Credaf fod awdurdodau lleol wedi bod yn hynod dryloyw o ran yr heriau ariannol y maent yn eu hwynebu, ac rwy'n falch eu bod wedi gallu cynnig cyfleoedd, ar sail ranbarthol, i holl Aelodau'r Senedd ddeall y pwysau hwnnw'n well ar lefel leol iawn. Gwn y byddent yn fwy na pharod i ymgysylltu eto ag unrhyw gyd-Aelodau nad ydynt wedi gallu mynd i un o'r sesiynau hynny. Yn y sesiynau hynny, rwy'n credu y byddech wedi clywed y byddant wedi wynebu pwysau ar draws llywodraeth leol, ond yn enwedig mewn perthynas â chwyddiant cyflogau, costau ynni, ysgolion yn enwedig, gofal cymdeithasol, yr ymateb i Wcráin ac ymfudo yn fwy cyffredinol, yn ogystal â thai a digartrefedd, ac yn amlwg, yr holl heriau'n ymwneud â setliad cyfalaf tynn hefyd. Felly, byddwn yn sicr yn annog pob un o'm cyd-Aelodau i ymgysylltu â'u hawdurdodau lleol er mwyn deall yr heriau hynny.
2. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi ei rhoi i effaith datganiad yr hydref ar y gefnogaeth ariannol fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru? OQ58788
Cyn datganiad yr hydref, galwais ar y Canghellor i fuddsoddi mewn pobl a gwasanaethau cyhoeddus. Er bod rhywfaint o arian ychwanegol wedi'i ddarparu yng nghyhoeddiadau Llywodraeth y DU, nid oedd yn ddigon fynd i’r afael â’r bylchau sylweddol yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
Ie, byddwn yn cytuno, Weinidog. Mae ein hawdurdodau lleol yn wynebu pwysau ariannol enfawr, a hoffwn adleisio’r hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies ynglŷn â phwysigrwydd ymgysylltu nid yn unig yn y sesiynau briffio hynny, ond yng Nghastell-nedd Port Talbot, gwn fod y cyngor yn mynd allan i holl gymunedau ardal yr awdurdod lleol i gael cyfarfodydd cyhoeddus, fel bod pobl yn deall yn iawn beth sydd yn y fantol yma ac i ofyn am syniadau ynglŷn â sut y gellir rheoli pethau. Mae pwysau penodol ar gyllidebau awdurdodau lleol o ran y galw cynyddol ar ofal cymdeithasol yn fy rhanbarth. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, er enghraifft, bu cynnydd cyson mewn atgyfeiriadau at wasanaethau cymdeithasol oedolion a gwasanaethau plant a phobl ifanc dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn cydnabod yn ei eiriau ei hun fod bylchau'n bodoli mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol. Heb gyllid ychwanegol i ddiwallu’r angen am wasanaethau cymdeithasol i oedolion a phlant, bydd yn amhosibl datrys rhai o achosion yr argyfwng yn y gwasanaeth iechyd—er enghraifft, pobl yn methu gadael ysbytai, a mwy o bobl yn mynd i’r ysbyty oherwydd pwysau ar deuluoedd pan nad ydynt yn cael y cymorth cywir. Yn ôl tîm dadansoddi cyllid Cymru, mae datganiad hydref diweddar y Canghellor yn golygu y bydd £1.2 biliwn ychwanegol ar gael i Lywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd nesaf o ganlyniad i gyllid canlyniadol Barnett. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd fod y cyllid sydd wedi'i gynnwys yn yr £1.2 biliwn hwn ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol llywodraeth leol yn cael ei basbortio'n llawn yn ystod y ddwy flynedd nesaf i setliadau llywodraeth leol?
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ei chwestiwn, ac am ailadrodd yr un neges a glywaf gan arweinwyr hefyd o ran y pwysau penodol ar ofal cymdeithasol. Maent hefyd yn awyddus iawn i dynnu fy sylw at y pwysau ym myd addysg, a dyna ddau o'r prif feysydd gwariant ar gyfer awdurdodau lleol. A byddwn hefyd yn croesawu ac yn annog pobl i ymgysylltu â'r gwaith y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn ceisio estyn allan at y cyhoedd, fel bod y cyhoedd yn deall y pwysau real iawn sydd ar yr awdurdod yn lleol, ond hefyd wedyn fod awdurdodau yn gallu gwneud penderfyniadau ar ôl gwrando ar flaenoriaethau'r cyhoedd ar gyfer eu hardal benodol. Felly, cymeradwyaf y gwaith allgymorth y mae awdurdodau lleol yn ei wneud ledled Cymru.
Mae’n wir fod datganiad yr hydref wedi golygu y byddem yn cael £1.2 biliwn ychwanegol yng Nghymru dros y ddwy flynedd nesaf o ganlyniad i gyllid canlyniadol drwy ddatganiad yr hydref. Yr hyn a ddywedaf yw ei fod yn golygu £666 miliwn y flwyddyn nesaf, ond mae hynny'n dal i adael bwlch o oddeutu £1 biliwn yn ein cyllideb o ganlyniad i bwysau. Felly, mae’n anochel y bydd penderfyniadau anodd i ni eu gwneud fel Llywodraeth Cymru, a phenderfyniadau anodd hefyd i wasanaethau cyhoeddus yn fwy cyffredinol. Byddaf yn cyhoeddi ein cyllideb ar 13 Rhagfyr, felly nid wyf am roi gormod o fanylion ar hyn o bryd, yn enwedig gan nad ydym wedi gwneud y penderfyniadau terfynol hynny o hyd, ac rydym yn cael trafodaethau parhaus â phartneriaid—rwy'n siarad â chydweithwyr ynglŷn â'r pwysau y maent yn ei weld yn eu hardaloedd penodol. Ond rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar yr hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud am y maes blaenoriaeth penodol hwnnw.
Byddwn hefyd yn dweud, mewn perthynas â'r £1.2 biliwn, ei bod yn ddefnyddiol pe bai ein cydweithwyr yn deall o ble y daeth y cyllid canlyniadol hwnnw. Nawr, rwy'n sicr o'r farn fod cyllid canlyniadol yn dod i Lywodraeth Cymru, a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniadau mewn perthynas ag i ble mae'r cyllid hwnnw'n mynd; nid yw'n fater o basbortio arian ymlaen. Ac mae'n fater, mewn gwirionedd, o ddeall beth yw'r pwysau, gan y credaf ein bod yn gwneud anghymwynas â Thrysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru, y Senedd hon, os ydym yn cael ein hystyried yn rhyw fath o flwch post ar gyfer cyllid canlyniadol yn unig. Felly, byddwn yw gwneud gwaith i edrych o ddifrif ar ble mae’r pwysau, ble mae ein blaenoriaethau fel Llywodraeth, ac yn fwyaf arbennig hefyd, yn edrych ar ein rhaglen lywodraethu. Yn amlwg, mae gennym ddiddordebau a rennir yn hynny hefyd.
Ac yn olaf, i ychwanegu at hynny, mae 44 y cant o'r £666 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf yn ymwneud â chynlluniau newydd ym maes ardrethi busnes. Felly, yn amlwg, rydym yn edrych yn ofalus iawn ar gymorth i fusnesau. Felly, yr hyn a ddywedaf yw pan roddodd y Canghellor yr argraff fod £1.2 biliwn ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, rwy'n credu bod hynny braidd yn gamarweiniol, ac mae llawer mwy o fanylion y tu ôl i'r ffigurau hynny.
Weinidog, yn yr ateb parod rydych newydd ei roi, fe wnaethoch alw ar y Canghellor i fuddsoddi mewn pobl a gwasanaethau cyhoeddus. Wel, rwy'n credu y gallwn alw arnoch chi i wneud yr un peth. Rydych wedi cael £1.2 biliwn ychwanegol gan Lywodraeth y DU, ar ben y setliad mwyaf erioed a oedd yn bodoli eisoes. Felly, faint y gall llywodraeth leol ei ddisgwyl? Gwyddom fod buddsoddi mewn gofal cymdeithasol yn arwain at well canlyniadau iechyd, at arbedion yn y GIG. Felly, efallai y gallwch ein goleuo heddiw ynglŷn â faint y gall llywodraeth leol ei ddisgwyl o’r arian annisgwyl gwych hwn?
Byddaf yn goleuo’r Aelod ar 13 Rhagfyr, Lywydd, pan fyddaf yn cyhoeddi’r gyllideb ddrafft. Nid oes llawer i aros tan hynny, ond mae llawer o waith y mae angen ei wneud yn gyflym rhwng nawr a'r adeg honno. Ond ar 13 Rhagfyr, byddwn yn cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r gyfres gyfan honno o wybodaeth rydym bob amser yn ei chyhoeddi—adroddiad y prif economegydd, ein naratif sy'n cyd-fynd â'r ddogfen, a rhywfaint o'n dadansoddiadau eraill hefyd. Rydym bob amser yn ceisio cyhoeddi cymaint o wybodaeth mewn cymaint o fanylder ag y gallwn.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Mae gennyf deimlad fy mod yn gwybod beth fydd yr ateb i fy nghwestiwn cyntaf. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, Weinidog, rydym wedi siarad cryn dipyn am yr amgylchedd cyllidol heriol, yn ogystal ag ymateb Llywodraeth y DU i hyn yn ei datganiad hydref, a ddarparodd chwistrelliad o arian ychwanegol sydd i'w groesawu i Lywodraeth Cymru, yn ogystal ag amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Yn y teulu llywodraeth leol, fodd bynnag, ceir ansicrwydd a phryder ynghylch ymrwymiadau ariannu yn y dyfodol i awdurdodau lleol. Mae cynghorau’n galw am eu cyfran o arian ychwanegol i helpu i fynd i'r afael â diffygion yng nghyllidebau'r dyfodol, yn debyg iawn i’ch cydweithwyr gwleidyddol yng nghabinet Torfaen, a ddywedodd yr wythnos diwethaf y byddant yn 'lobio'n galed iawn' am i'r arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU gael ei basbortio i awdurdodau lleol. Weinidog, rwy’n siŵr fod arweinwyr cynghorau wedi rhannu eu pryderon yn glir yn y fforwm cyllid. A gaf fi ofyn, felly, a allant ddisgwyl cymorth ychwanegol wrth symud ymlaen, ac a wnewch roi sicrwydd y bydd unrhyw bolisïau neu feichiau newydd a roddir gan y Llywodraeth ar gynghorau yn cael eu hariannu’n llawn?
Cyfeiriaf at fy ateb blaenorol i gydweithiwr yr Aelod, ond rwyf am ddweud hefyd fy mod yn cyfarfod yn rheolaidd iawn ag arweinwyr llywodraeth leol. Mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd iawn â swyddogion, yn cynnwys trysoryddion ar draws llywodraeth leol, i drafod y pwysau penodol y maent yn ei wynebu. Rhaid imi ddweud bod y gwaith y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei gyflwyno i ni bob amser yn ddefnyddiol iawn ar gyfer deall y pwysau penodol hynny, a deall y cwantwm cyllid y dywed llywodraeth leol wrthym y byddai ei angen arnynt er mwyn parhau i gynnal y gwasanaethau ac i barhau i ddarparu ar gyfer pobl yn eu cymunedau. Ac yna, wrth gwrs, bydd fy swyddogion yn rhoi’r ffigurau hynny ar brawf gyda llywodraeth leol er mwyn eu deall yn well. Felly, er sicrwydd, mae'r lefel honno o ymgysylltu yn mynd rhagddi. Rydym yn gwrando’n ofalus iawn ar yr hyn y dywed llywodraeth leol wrthym sydd ei angen arnynt, ac yn gwrando’n ofalus iawn hefyd ar yr hyn y dywed gwasanaethau cyhoeddus eraill wrthym sydd ei angen arnynt hwy, a rhannau eraill o fywyd Cymreig sydd â buddiant hefyd wrth gwrs.
Ond hoffwn ddweud mai'r gyllideb hon, mae'n debyg, yw'r un anoddaf inni ei hwynebu ers datganoli yn ôl pob tebyg, a bydd penderfyniadau anodd iawn i'w gwneud. Felly, nid yw'n gyllideb lle rydym yn ceisio gwneud llawer o bethau newydd; mae'n gyllideb lle rydym yn canolbwyntio, mewn ffordd debyg iawn i laser, ar y pethau sy'n wirioneddol bwysig ac y mae angen inni eu gwarchod.
Diolch, Weinidog, a chytunaf â Huw Irranca-Davies. Cadeiriais, neu cynhaliais gyfarfod i Aelodau ymuno ag arweinwyr awdurdodau lleol, ac yn anffodus, fi oedd yr unig un a ddaeth, er bod gennym 10 o arweinwyr de-ddwyrain Cymru ar yr alwad yn rhannu maint eu problemau. Ac mae'r her yn enfawr, ac mae'r rhagolygon ariannol yn heriol. Ond mae rhai cynghorau mewn sefyllfa well o lawer i wynebu hyn nag eraill. Weinidog, fel y dywedais ar sawl achlysur, mae’r fformiwla ar gyfer ariannu cynghorau wedi dyddio ac yn annheg. Golyga fod rhai cynghorau'n gallu cynilo symiau anferthol o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, tra bod eraill yn ei chael hi'n anodd diwallu eu hanghenion. Rwy’n deall cronfeydd wrth gefn, gallaf amsugno’r atebion parod, ond rwy’n deall y sefyllfa, fel y bydd y rhan fwyaf o aelodau llywodraeth leol yma.
Fel y soniodd Altaf Hussain yn ei gwestiwn blaenorol, gwelsom gynnydd o dros 35 y cant yn y cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio ym mis Mawrth 2021 i £2.1 biliwn. Nawr, er mor drist yw hi fy mod wedi treulio amser yn pori drwy'r datganiad o gyfrifon drafft ar gyfer mis Mawrth 2022 dros y penwythnos, sylwais ar gynnydd o ymhell dros 30 y cant unwaith eto, bron i 50 y cant mewn rhai achosion, gyda chynnydd o oddeutu £600 miliwn, yn ôl pob tebyg, ym mis Mawrth 2022, sy'n gadael cyfanswm o £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio. Fodd bynnag, nid yw'n ddosbarthiad teg. Ym mis Mawrth eleni, roedd gan rai ymhell dros £200 miliwn, er bod gan eraill lawer iawn llai o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio.
Weinidog, a ydych yn credu, mewn cyfnod o bwysau ariannol o’r fath ar ein gwlad, ei bod yn iawn fod gan rai cynghorau gymaint o arian mewn cronfeydd wrth gefn? Gwn y bydd cyfran ohono'n falansau ysgolion a rhywfaint yn arian cyfalaf, ond mae gan rai cynghorau symiau sylweddol o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio mewn cyfrifon segur wedi'u clustnodi nad ydynt yn cael eu defnyddio. Felly, oni ddylai’r Llywodraeth ddod o hyd i ffyrdd gwell a thecach o ddosbarthu cyllid? Yn enwedig ar hyn o bryd, fel nad oes rhaid i gynghorau ddibynnu i'r fath raddau ar dalwyr y dreth gyngor, sydd o dan bwysau ac na allant fforddio—
Peidiwch â throi'r dudalen, gan eich bod eisoes ar 2 funud 20 eiliad. Felly, os gallwch ofyn y cwestiynau.
Rwy'n credu fy mod yn iawn.
Iawn, credaf eich bod wedi gofyn sawl cwestiwn.
Rwy’n deall y cwestiwn, ac a bod yn deg â’r Aelod, mae’n gwestiwn y mae’n ei godi’n rheolaidd. Nid wyf yn rhannu’r lefel honno o bryder ynghylch lefel y cronfeydd wrth gefn sydd gan awdurdodau lleol, gan y credaf, a ninnau ar drothwy blwyddyn neu ddwy anodd iawn i awdurdodau lleol, ei fod yn beth da iddynt fod mewn sefyllfa ariannol well nag y byddent ynddi fel arall. Mae rhan o hynny'n ymwneud â'r cyllid ychwanegol rydym wedi'i ddarparu drwy argyfwng y pandemig, wrth gwrs. Hefyd, bydd pethau gwahanol yn effeithio ar awdurdodau lleol. Bydd yr Aelod yn gwybod bod llawer o weithgarwch na ddigwyddodd, a oedd wedi’i gynllunio yn ystod y pandemig, ac mae hynny wedi arwain, unwaith eto, at gynnydd yng nghronfeydd wrth gefn rhai awdurdodau. Ond mae'n llygad ei le fod lefelau'r cronfeydd wrth gefn yn wahanol ar draws gwahanol awdurdodau. Ni chredaf fod hynny'n ffactor sy'n ymwneud â'r setliad llywodraeth leol a'r fformiwla, fodd bynnag, gan fod y fformiwla'n edrych ar ystod gyfan o fesurau, gyda llawer ohonynt yn ymwneud â natur a chyd-destun y boblogaeth sy'n cael ei gwasanaethu a natur daearyddiaeth yr ardal sy’n cael ei gwasanaethu, ac nid yw'r naill na'r llall o’r pethau hynny’n ymwneud yn benodol â chronfeydd wrth gefn. Pe bai awdurdodau lleol am edrych ar y setliad drwy lens cronfeydd wrth gefn, gallem ofyn i’r is-grŵp dosbarthu wneud gwaith ar hynny, ond nid yw’n rhywbeth y mae arweinydd unrhyw awdurdod wedi’i godi gyda mi hyd yn hyn.
Diolch, Weinidog, ond nid yw’r system yn gweithio, gan ei bod yn caniatáu i gynghorau barhau i godi’r dreth gyngor tra bo cronfeydd wrth gefn yn cynyddu mewn rhai achosion. Roedd eich rhagflaenydd Leighton Andrews yn sylweddoli hyn, a chynhyrchodd ganllaw i gynghorau yn 2016 i’w helpu i ddeall a chraffu’n well ar gronfeydd wrth gefn a sut y gellir eu defnyddio. Weinidog, a wnewch chi ystyried adolygu'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd sydd gan rai cynghorau yn yr un modd ag y mae cynghorau'n ei wneud â’u hysgolion, i ddeall a yw cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn cael eu defnyddio at y dibenion a fwriadwyd, gan asesu efallai a ydynt wedi’u defnyddio yn y pum mlynedd diwethaf neu fwy, ac os nad ydynt, cwestiynu pam? Bydd cronfeydd craidd wrth gefn wedi bod gan rai ers blynyddoedd lawer. Mae'r cronfeydd refeniw a glustnodwyd yr un fath â chronfeydd wrth gefn cyffredinol, er eu bod yn cael eu storio mewn man gwahanol, ac maent ar gael i'w defnyddio mewn unrhyw ffordd. Felly, efallai y bydd rhai'n dweud eu bod ar gyfer diwrnod glawog. Wel, Weinidog, mae’n arllwys y glaw, ond mae gan rai cynghorau ymbarelau enfawr, tra bo gan eraill barasolau bach. Felly, a ydych yn cytuno y dylid cynnal dadansoddiad o’r fath o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd cyn gynted â phosibl er mwyn eich galluogi i ystyried dull mwy cynaliadwy o ariannu gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr ledled y wlad?
Byddwn yn dweud bod awdurdodau lleol yn dweud wrthym eu bod yn gweld pwysau a bylchau enfawr yn eu cyllideb, yn y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn ariannol nesaf, a’u bod yn dibynnu ar eu cronfeydd wrth gefn, yn rhannol, i fynd i'r afael â'r her honno. Rwy’n fwy na pharod i ofyn i fy swyddogion gael trafodaethau pellach gyda’r Trysorlys ar y pwynt penodol ynglŷn â deall cronfeydd wrth gefn a’r defnydd ohonynt. Ni chredaf fod awdurdodau lleol wedi bod yn unrhyw beth ond gonest gyda ni pan fyddant yn dweud wrthym am y pwysau y maent yn ei wynebu ar hyn o bryd, ac rydym yn cael trafodaethau hir gyda hwy am y pwysau sydd o'u blaenau. Ond unwaith yn unig y gellir defnyddio cronfeydd wrth gefn. Mae llawer o'r pwysau y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu yn ymwneud â chyflogau yn enwedig, ac yn amlwg, nid yw defnyddio cronfeydd wrth gefn i ddiwallu pwysau cyflog yn ateb cynaliadwy i'r broblem benodol honno. Rwy’n fwy na pharod i gael trafodaethau agored pellach gyda llywodraeth leol ynglŷn â'r mater.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Llyr Gruffydd.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Cyfeiriwyd yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf at waith craffu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21, a ganfu y bu tanwariant o £526 miliwn, ac o ganlyniad, rhoddwyd £155 miliwn o gyllid a ddyrannwyd i Gymru yn ôl i'r Trysorlys. Rwy’n siŵr y byddech yn dymuno dweud rhywbeth am hynny. Ond yn fwy diweddar, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn yr ychydig wythnosau diwethaf, amcangyfrifodd Trysorlys Cymru fod oddeutu £80 miliwn o gyllid heb ei ddyrannu yng nghyllideb Cymru ar hyn o bryd. Nawr, fe wnaeth y Gweinidog iechyd, wrth gwrs, wrth-ddweud hynny’n uniongyrchol yn ei chyfraniad yma yr wythnos diwethaf, pan ddywedodd nad oes unrhyw wariant heb ei ddyrannu nac unrhyw danwariant ar hyn o bryd pan ofynnwyd iddi ynglŷn â chyllideb Llywodraeth Cymru a’r ffigur presennol ar gyfer cronfa wrth gefn Cymru. Felly, a wnewch chi egluro'r sefyllfa y prynhawn yma a rhoi eglurder i ni ynglŷn â'r amcangyfrif presennol o gyllid heb ei ddyrannu a thanwariant yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, fel y saif pethau ar hyn o bryd?
Rwy’n fwy na pharod i egluro'r sefyllfa ar y ddau fater hynny, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i wneud hynny, yn enwedig mewn perthynas â’r cwestiwn cyntaf. Ar 5 Awst, ysgrifennais at y Pwyllgor Cyllid, ac ers hynny, mae’r llythyr hefyd wedi’i rannu â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, sy’n dangos, ym mlwyddyn ariannol 2020-21, sef blwyddyn anghyffredin COVID wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu o fewn rheolaeth gyllidebol y terfyn gwariant adrannol cyffredinol a osodwyd gan y Trysorlys, ond yn anffodus, ni chynigiwyd lefel o hyblygrwydd inni symud arian o refeniw i gyfalaf i’n helpu i fynd i'r afael â'r mater penodol hwnnw. Ac o ganlyniad i'r anhyblygrwydd hwnnw, rhoddwyd rhywfaint o gyllid yn ôl i Lywodraeth y DU.
Ond credaf mai’r pwynt pwysicaf i’w nodi yma yw bod cyfanswm y tanwariant yn 2020-21 gan holl adrannau Llywodraeth y DU yn £25 biliwn, ac mae hynny’n cynrychioli bron i 6 y cant o gyfanswm y ddarpariaeth a ryddhawyd i’r adrannau hynny yn y flwyddyn honno. Rhoddwyd yr holl danwariant gan adrannau’r DU yn ôl i Drysorlys EM, ac mewn gwirionedd, cafwyd tanwariant o dros 9 y cant gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unig, a rhoddodd yr adran honno yn unig £18.6 biliwn yn ôl i’r Trysorlys. Byddai cyfran Barnett o hwnnw'n gyfanswm o oddeutu £1 biliwn i Gymru, a chredaf fod hynny’n rhan o’r rheswm pam fod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi bod mor amharod i gynnig lefel o hyblygrwydd i ni. Dyna un o'r problemau sydd gennym, wrth gwrs: mae angen ffordd lawer mwy sefydlog o ymdrin â'r materion hyn ar ddiwedd y flwyddyn, gan nad yw dibynnu ar hyblygrwydd, neu fel arall, pwy bynnag sy'n digwydd bod yn Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd yn ffordd briodol o fynd yn ein blaenau.
Felly, i orffen y pwynt penodol hwn, roedd tanwariant cyffredinol Cymru yn y flwyddyn eithriadol honno yn 1 y cant yn unig o'r adnoddau a oedd ar gael, a chredaf fod hynny'n dangos pa mor effeithiol y rheolwyd ein hadnoddau yn yr amgylchiadau hynod heriol hynny. Ac mae'n parhau â record Llywodraeth Cymru o fod ymhlith adrannau gorau Llywodraeth y DU, fel y byddent yn ein hystyried, yn nhermau'r Trysorlys, ac ymhlith Llywodraethau datganoledig o ran defnyddio ein cyllidebau. Felly, rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gofnodi hynny. Rwy’n fwy na pharod i rannu’r llythyr a anfonais at y Pwyllgor Cyllid gyda’r holl gyd-Aelodau, efallai, drwy ei roi yn y Llyfrgell, Lywydd.
Ar gronfeydd wrth gefn, yn y gyllideb derfynol y cytunwyd arni ym mis Mawrth 2022, roedd y terfyn gwariant adrannol heb ei ddyrannu yn £100 miliwn o refeniw a chyllideb gyfalaf wedi’i gor-raglennu o £76 miliwn. Yn y gyllideb atodol gyntaf, felly, a ddyfynnwyd yn y drafodaeth gyda’r Gweinidog iechyd, roedd y terfyn gwariant adrannol heb ei ddyrannu yn £152 miliwn, ac roedd hynny’n bennaf o ganlyniad i gyllid canlyniadol o brif amcangyfrifon a datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU, a gostyngodd swm y cyfalaf a oedd wedi'i or-raglennu i £68 miliwn yn dilyn gostyngiad mewn rhagolygon gwariant, ond gwrthbwyswyd hynny unwaith eto gan y cyfraniad o £30 miliwn mewn perthynas ag Wcráin.
Ers hynny, wrth gwrs, rydym wedi gweld yr argyfwng costau byw yn cydio, felly ni chredaf ei bod yn briodol rhoi cyfanswm parhaus o ble rydym arni o ran pwysau ar draws y Llywodraeth a lle mae gennym y gallu i ymateb i hynny o fewn y gronfa wrth gefn, gan fod y sefyllfa honno’n llythrennol yn newid o ddydd i ddydd. Felly, rwy'n cael adroddiadau monitro misol gan gyd-Weinidogion ar draws y Llywodraeth, yn nodi lle maent yn gorwario ac yn tanwario yn erbyn eitemau amrywiol; rwyf wedyn yn trafod y rheini gyda swyddogion, ac rydym yn ystyried pa fecanweithiau priodol sydd gennym i ymateb i hynny fel y gallwn sicrhau bod y gyllideb yn y sefyllfa y mae angen iddi fod ar ddiwedd y flwyddyn. Mae’r sefyllfa honno’n newid drwy’r amser, ond yr hyn a ddywedaf yw nad yw’r cyllid sydd ar gael gennym ar hyn o bryd yn y cronfeydd wrth gefn yn ddigon, o bell ffordd, i ddiwallu'r pwysau a welwn ar draws y Llywodraeth, sef yr hyn roedd y Gweinidog iechyd yn ceisio'i gyfleu, rwy'n credu, yn y drafodaeth honno.
Iawn, diolch am hynny, ond credaf y gallwn gymryd, felly, nad yw’n wir dweud nad oes unrhyw danwariant ar hyn o bryd. Rwy’n parchu eich dymuniad i beidio â rhoi sylwebaeth barhaus, ond pan fydd gennym wahanol negeseuon yn dod gan wahanol bobl, credaf fod angen rhywfaint o dryloywder arnom mewn perthynas â hynny. Cytunaf yn llwyr â’r pwynt a wnaethoch ynghylch hyblygrwydd ar ddiwedd y flwyddyn, ac mae hyn, unwaith eto, yn adlewyrchu ar y setliad a’r trefniadau presennol ynglŷn â chyllid, sy'n amlwg yn rhai rydym wedi tynnu sylw atynt ac y mae gennym farn debyg iawn yn eu cylch, byddwn yn dychmygu.
Nawr, mae’n tanlinellu, wrth gwrs, yr angen i sicrhau bod pob punt yn gweithio mor galed â phosibl, yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Sylwais yn ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar drefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE, y gwn ei fod yn destun dadl yn ddiweddarach y prynhawn yma, ond mae un pwynt penodol yn yr ymateb hwnnw roeddwn am dynnu eich sylw ato, sef bod y Llywodraeth yn ei hymateb yn dweud mai,
'Gweddill y gwariant ar raglenni ERDF ac ESF yng Nghymru yw £619 miliwn,'
ar ddiwedd y mis Hydref sydd newydd fod. Nawr, y gwariant rhagamcanol ar gyfer hynny erbyn diwedd mis Ionawr yw £170 miliwn. Felly, mae hynny'n gadael £450 miliwn i'w wario ar weithgaredd i'w gyflawni hyd at yr haf, ac yn amlwg, i'w hawlio erbyn mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf. A ydych yn hyderus y bydd yr holl arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio? A wnewch chi roi sicrwydd i ni na fydd unrhyw danwariant yn y cyswllt hwnnw ac na fydd unrhyw arian yn cael ei anfon yn ôl nac yn cael ei golli yng Nghymru? A ydych yn cydnabod, os bydd hynny’n digwydd, y bydd yn fethiant enfawr ar adeg, fel y dywedais, pan fo angen i Gymru ddefnyddio pob ceiniog y gallwn ei defnyddio?
Yn sicr, ein nod yw defnyddio’r holl arian Ewropeaidd sydd wedi dod i Gymru, ac mae hynny, a dweud y gwir, yn un o’r arfau sydd gennym i allu rheoli ein cyllideb o fewn y flwyddyn ariannol—i wneud penderfyniadau ynghylch pryd yn union rydym yn defnyddio'r cyllid Ewropeaidd hwnnw, i'n helpu i reoli'r gyllideb yn gyffredinol. Felly, mae'n arf y gallwn ei ddefnyddio ac rydym yn ei ystyried yn weithredol drwy gydol y flwyddyn. Ond yn sicr, ein bwriad yw defnyddio'r holl gyllid sydd wedi dod i Gymru, wrth gwrs.
3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith datganiad yr hydref Llywodraeth y DU ar reoli adnoddau Llywodraeth Cymru? OQ58770
Er gwaethaf rhywfaint o arian refeniw ychwanegol drwy ddatganiad yr hydref, nid yw hyn wedi bod yn agos ddigon i lenwi’r bwlch yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Golyga hyn fod Gweinidogion yn wynebu penderfyniadau anodd wrth inni baratoi ar gyfer y gyllideb ddrafft eleni.
Diolch, Weinidog. Ni allaf ond dychmygu pa mor anodd y bydd y penderfyniadau hynny, oherwydd, fel y dywedwch, nid yw’r arian sydd wedi dod o San Steffan, er ei fod yn gynnydd, yn ddigon i fynd i'r afael â'r pwysau chwyddiant ofnadwy y mae gwasanaethau cyhoeddus yn ei wynebu ledled Cymru. Weinidog, a wnewch chi roi syniad i ni o’r egwyddorion arweiniol a fydd yn cael eu dilyn wrth benderfynu ble a faint o arian y Llywodraeth sy’n cael ei wario? A wnewch chi addo y byddwch yn sicrhau, pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud, y bydd cynnal iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth yn flaenoriaeth i bob Gweinidog?
Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Er mwyn rhoi syniad o sut rydym yn ymdrin â'r trafodaethau cyllidebol ar draws y Llywodraeth, rydym yn edrych, yn anad dim, ar dri nod penodol. Y cyntaf, yn amlwg, yw cyflwyno cyllideb gytbwys, ac mewn gwirionedd, mae hynny'n llawer anos nag y byddech yn ei ddychmygu, o ystyried y ffaith bod cymaint o fwlch yn y cyllid, a dyna ble fydd y penderfyniadau anodd yn cael eu gwneud, o ran beth y gallwn barhau i'w ariannu a lle bydd angen inni ailflaenoriaethu cyllid oddi wrtho, o bosibl. Ond hefyd, yr ail faes allweddol rydym am barhau i’w warchod yw gwasanaethau cyhoeddus. Felly, gwarchod gwasanaethau cyhoeddus yw ein hail biler. A'r trydydd yw parhau i gyflawni ein rhaglen lywodraethu, oherwydd wrth gwrs, mae honno'n cynnwys cymaint o'n haddewidion i bobl Cymru, ac rydym yn canolbwyntio ar eu cyflawni. Mae'n bosibl y byddwn yn cyflawni rhai pethau yn y pen draw dros gyfnod hwy nag roeddem wedi'i ragweld i ddechrau. Mae hynny’n rhywbeth y mae angen inni ei ystyried, yn enwedig, rwy'n credu, mewn perthynas â chyfalaf, lle mae ein cyllideb gyfalaf yn gostwng ym mhob blwyddyn yn yr adolygiad o wariant hwn, ac nid oedd unrhyw gyfalaf ychwanegol o gwbl yn natganiad yr hydref. Felly, unwaith eto, dyna'r math o benderfyniad anodd y gallai fod angen i gyd-Aelodau ei wneud. Ond hoffwn roi sicrwydd i’r Aelod y bydd gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'n amlwg ein bod yn sôn am iechyd yn hynny, yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer y broses gyllidebol.
A yw'r Gweinidog yn cytuno bod dyraniad Llywodraeth y DU o £1.2 biliwn yn adlewyrchiad o gynllun y Llywodraeth Geidwadol i godi'r gwastad yng Nghymru drwy fuddsoddi'n briodol yn ein gwlad, tra bod Llywodraeth Cymru yn gwario miliynau ar gyfres o brosiectau sosialaidd aflwyddiannus, megis perchnogaeth aflwyddiannus y wladwriaeth ar Faes Awyr Caerdydd, perchnogaeth aflwyddiannus y wladwriaeth ar fferm ym Mhowys, a pherchnogaeth aflwyddiannus y wladwriaeth ar wasanaethau trên, tra bo pobl yng ngogledd Cymru yn cael eu hamddifadu o'r cyllid hwn? Onid yw'n hen bryd i Lywodraeth Lafur Cymru gymryd perchnogaeth ar arian y trethdalwyr a'i wario'n briodol? Ac a wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd yn gweithio gyda Llywodraeth Geidwadol y DU fel nad yw fy etholwyr ar eu colled?
Bydd eich etholwyr yn cael eu hamddifadu. Bydd pob un o'n hetholwyr yn cael eu hamddifadu, am fod cymaint o fwlch mewn cyllid cyhoeddus, ac mae goblygiadau yn sgil hynny i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a'r gwasanaethau y mae pobl yn eu cael yn eu cymunedau. Felly, rwy'n credu bod angen inni feddwl o ddifrif am lefel yr heriau a wynebwn yn y gyllideb. Felly, mae hwnnw'n bwynt pwysig.
Felly na, nid yw datganiad yr hydref yn awgrymu mewn unrhyw fodd fod Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â chodi'r gwastad. I'r gwrthwyneb—gwrthodir cyfle i awdurdodau wario unrhyw arian o gyllid y gronfa ffyniant gyffredin yn y flwyddyn ariannol hon, yn groes i'r ymrwymiadau blaenorol gan Lywodraeth y DU. A phe baem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, gadewch inni gofio y byddai'r rhaglenni UE hirdymor, amlflwydd wedi dechrau bron i ddwy flynedd yn ôl yn 2021—byddai £375 miliwn o gyllid ychwanegol yn dod i ni yma yng Nghymru bob blwyddyn. Mae hwnnw wedi'i golli, felly nid yw'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gyflwyno fel cynnig yn gyfnewid am hynny i godi'r gwastad yn dod yn agos at wneud hynny hyd yn oed.
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith gwariant ar lety dros dro ar gyllidebau awdurdodau lleol? OQ58781
Mae digartrefedd yn flaenoriaeth ar draws y Llywodraeth, ac rwy'n cael sgyrsiau rheolaidd gyda chyd-Weinidogion ynglŷn â sut y gallwn weithio gydag awdurdodau lleol i roi atebion trawsbynciol ar waith.
Diolch, ac rwy'n datgan buddiant mewn perthynas â pherchnogaeth ar eiddo. Nawr, mae'r pecyn a baratowyd ar gyfer cyfarfod cabinet sir Conwy a gynhaliwyd yn ddiweddar ar 22 Tachwedd, yn nodi:
'Mae nifer y bobl sy'n cael mynediad at lety dros dro yn cynyddu ar raddfa ddychrynllyd, sy'n cael effaith sylweddol ar y gyllideb ddigartrefedd.'
Gan ystyried bod Llywodraeth Cymru yn parhau i anwybyddu ein rhybuddion, rwyf am ddyfynnu o'r adroddiad sydd wedi ei baratoi ar gyfer cabinet clymblaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy rhwng Llafur Cymru Conwy yn Gyntaf a Phlaid Cymru. Maent yn dweud:
'Mae’r galw’n cynyddu’n sylweddol ar hyn o bryd gan fod pobl yn cael eu troi allan o’r sector rhentu preifat. Y nifer uchaf o rybuddion A21 a gofnodwyd (troi tenantiaid allan heb fai) mewn wythnos yw 30, ac mae’r cyfartaledd bellach yn oddeutu 15 yr wythnos. Mae hyn yn gyfuniad o blygiadau Deddf Rhentu Cartrefi Cymru, morgeisi prynu i osod a’r cynnydd mewn cyfraddau llog.'
Felly, nid oes amheuaeth o gwbl fod deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn gwneud pobl yn ddigartref, ac mae hefyd yn cyfrannu nawr at bwysau cynyddol ar drethdalwyr fy awdurdod lleol. Weinidog, yn hytrach na disgwyl i gabinet Conwy, sydd eisoes dan ormod o bwysau ac yn cael ei danariannu gan eich Llywodraeth Lafur—. Pam y dylent ariannu costau uwch llety dros dro? Ac os caf ddweud—
Na. Na, na, na, na. Fe gewch gyfle eto i ddweud beth bynnag rydych chi eisiau ei ddweud wrthi. Rwy'n credu eich bod wedi gofyn y cwestiwn, onid ydych?
Dim eto. Bron iawn.
Iawn. Yn gyflym.
Bron iawn. A wnewch chi ymrwymo nawr i dalu am y gost ychwanegol hon, ac a wnewch chi hefyd egluro i'r Senedd hon pa gamau rydych chi fel Llywodraeth yn eu cymryd mewn gwirionedd i adeiladu'r cartrefi y mae'r bobl hyn sy'n byw mewn llety dros dro eu hangen? Diolch.
Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar ddigartrefedd ledled Cymru, ac i gefnogi hyn rydym yn buddsoddi dros £197 miliwn mewn gwasanaethau cymorth digartrefedd a thai, yn ogystal â'r buddsoddiad mwyaf erioed o £310 miliwn mewn tai cymdeithasol y flwyddyn ariannol hon yn unig. Ac rydym hefyd wedi sicrhau bod £10 miliwn ar gael i awdurdodau lleol i gefnogi'r ddarpariaeth o lety dros dro, wrth inni symud tuag at ddull ailgartrefu cyflym. Rydym hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol ar gyfer darparu benthyciadau eiddo di-log, er enghraifft, i landlordiaid a pherchnogion tai ar gyfer gwelliannau yn y cartref i adnewyddu eiddo gwag a'i adfer i safon lle gellir ei ddefnyddio i gynyddu'r cyflenwad o dai yn lleol. Mae hyn hefyd, mewn gwirionedd, yn cynnwys troi eiddo masnachol yn dai neu'n fflatiau hefyd.
Felly, mae llawer iawn o waith yn digwydd gydag awdurdodau lleol. Mae'r cynllun hwnnw ar ei ben ei hun wedi dod â dros 1,600 o gartrefi yn ôl i ddefnydd ledled Cymru, ac wedi cefnogi gwelliannau i 1,300 o gartrefi eraill. Ac yn ogystal â hyn hefyd, o safbwynt cyllid, rydym yn ymateb i'r pwysau yn y system, felly rydym wedi darparu £6 miliwn ychwanegol i gronfa ddewisol ar gyfer atal digartrefedd, ac mae honno'n darparu'r hyblygrwydd mwyaf posibl i awdurdodau lleol helpu pobl, pobl sy'n derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig â thai a'r rhai nad ydynt yn eu derbyn, er mwyn osgoi digartrefedd. Felly, fel y gwelwch, rydym yn darparu symiau sylweddol o gyllid drwy awdurdodau lleol a'n partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i helpu i atal digartrefedd, ond nid yw hynny am eiliad yn lleihau maint yr her sy'n dal i'n hwynebu.
Weinidog, rwy'n ymwybodol fod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bolisi ailgartrefu cyflym sydd wedi gweithio'n dda mewn amgylchiadau enbyd, a bod cynghorau hefyd yn cynghori tenantiaid preifat i aros lle maent os ydynt yn cael hysbysiadau troi allan heb fai tra'u bod yn ceisio eu helpu gyda'r cyllid rydych newydd ei grybwyll. Ac mae'n rhaid imi ddweud, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn wirioneddol gyfeiliornus yn rhoi'r bai ar Lywodraeth Cymru, sy'n gwneud popeth yn ei gallu, pan fo hyn o ganlyniad i doriadau'r Torïaid a phwysau ariannol sy'n cael ei greu ar lefel San Steffan yn bennaf. Weinidog, un o'r problemau mwyaf a glywsom yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yw'r ffaith bod y lwfans tai lleol wedi cael ei rewi yn 2020 ar rent llawer is na'r farchnad, ynghyd â pholisïau Llywodraeth y DU fel y dreth ystafell wely. Fe glywsom yn y pwyllgor fod tŷ preifat tair llofft yn Abertawe yn £1,000 erbyn hyn, a dim ond £500 o'r rhent oedd yn cael ei dalu gan y lwfans tai lleol. Rwy'n deall bod y gronfa taliadau disgresiwn at gostau tai, y gellir ei defnyddio fel ychwanegiad, hefyd wedi cael ei thorri gan Lywodraeth y DU yn San Steffan. A yw hynny'n gywir?
Mae'r cyllid taliadau disgresiwn at gostau tai, a weinyddir gan Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU, 26 y cant yn llai yn 2022-23 nag yn y flwyddyn flaenorol. A chan gofio ein bod mewn cyfnod ofnadwy, o ran y pwysau ar aelwydydd, nid dyma'r amser o gwbl i fod yn torri'r cymorth hanfodol hwnnw. Mewn gwirionedd, mae'r gostyngiad hwnnw'n dilyn gostyngiad o 18 y cant yn 2021-22 o'i gymharu â'r flwyddyn cynt. Cyllid y taliadau disgresiwn at gostau tai yn 2022-23 yw'r swm isaf y mae Cymru wedi'i gael ers dechrau polisi diwygio lles Llywodraeth y DU, ac rwy'n credu bod hynny'n dweud cyfrolau am ba mor heriol fydd y cyfnod hwn i bobl ledled Cymru a fydd yn dibynnu ar y cyllid hwn.
A dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi darparu'r £6 miliwn ychwanegol y cyfeiriais ato, a hefyd pam ein bod wedi ceisio sicrhau bod cymaint o hyblygrwydd â phosibl i awdurdodau lleol yno. Gall awdurdodau gynnig mesurau ataliol, megis cynnig gwarant rhent, gallant dalu am ôl-ddyledion rhent fel rhan o becyn gweithredu i gynnal tenantiaeth, a gallant hefyd ychwanegu at y cyllid taliadau disgresiwn at gostau tai yn lleol, ac rwy'n gwybod bod rhai awdurdodau wedi penderfynu gwneud hynny hefyd. Felly, rydym yn ceisio cefnogi awdurdodau cymaint â phosibl, ond rwy'n credu bod y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn tynnu'n ôl o'r cyllid taliadau disgresiwn at gostau tai yn destun gofid mawr i bob un ohonom.
5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith costau byw cynyddol ar wasanaethau llywodraeth leol? OQ58786
Mae chwyddiant o dros 10 y cant wedi erydu gwerth cyllidebau llywodraeth leol i raddau pryderus. Yn ogystal ag effaith costau cynyddol ar gyfer ynni, cyflogau, trafnidiaeth a bwyd, mae cynghorau hefyd yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r effeithiau ar eu cymunedau.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Ac fel rydych wedi'i ddweud, mae'n amlwg fod cyllid o dan bwysau gwirioneddol. Bydd y gwasanaethau yn cael eu hymestyn i bob cyfeiriad posibl, ond bydd yr angen i ymateb i lefelau cynyddol o dlodi yn anodd iawn. Pwy fyddai wedi meddwl, hyd yn oed flwyddyn yn ôl—flwyddyn yn ôl—y byddem yn sôn am ganolfannau cynnes yn cael eu darparu gan gynghorau lleol ledled Cymru, ym mhob un o'n cymunedau ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig? Weinidog, ymhlith pethau eraill, bydd bodolaeth mesuryddion rhagdalu yn llywio'r galw am y canolfannau cynnes hyn. Mae pobl yn cael eu trosglwyddo i fesuryddion rhagdalu ac yn cael eu gwthio ymhellach i dlodi. Yn wrthnysig, maent yn sicrhau bod y rhai lleiaf abl i dalu yn talu mwy am eu hynni, a hynny er budd i neb heblaw i wneud elw i'r cwmni ynni a chasglwyr dyledion. Weinidog, mae hwn yn fater o fywyd neu farwolaeth mewn gaeaf oer. A ydych yn cytuno y dylid cael moratoriwm ar unwaith ar eu gosod, ac y dylai Llywodraeth y DU anfon neges gref i'r cyflenwyr ynni hyn am y peryglon sy'n gysylltiedig â phobl yn cael eu datgysylltu bob tro y maent yn mynd yn brin o gredyd?
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr: mae angen i Lywodraeth y DU fod yn defnyddio ei holl ddylanwad ar y cwmnïau ynni i leihau effaith yr argyfwng costau byw ar y bobl fwyaf agored i niwed. Ac i dawelu meddwl yr Aelod—a gallwn glywed llawer o gefnogaeth i'r hyn a ddywedodd gan eraill yn y Siambr—fe gyfarfu'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol â chyflenwyr ynni yn gynharach yn y mis, ac fe wnaeth bwyso arnynt ynghylch y mater penodol hwn. Ac mae hi hefyd wedi ceisio ac wedi cael sicrwydd yn y gorffennol gan gwmnïau ynni fod trefniadau yn eu lle i estyn allan at aelwydydd sy'n cael trafferth gyda biliau ynni. Ac fe wnaethant gydnabod yr angen i ymgorffori mecanweithiau cymorth priodol, yn seiliedig ar allu pobl i dalu, megis dileu dyledion ynni tymor byr, cytuno ar gynlluniau ad-dalu fforddiadwy, yn seiliedig ar y gallu i dalu, a lle bo'n briodol, cyfeirio aelwydydd at gynlluniau i wella eu defnydd effeithlon o ynni a lleihau biliau. Felly, rwy'n credu nawr fod angen inni bwyso ar gwmnïau ynni i ddangos beth y maent wedi'i wneud mewn ymateb i'r trafodaethau hynny.
A gaf fi ymuno â Jack Sargeant i gydnabod rhai o'r gwasanaethau pwysig iawn y mae ein hawdurdodau lleol yn eu darparu o ddydd i ddydd, yn enwedig ar adegau o anhawster y mae llawer yn eu profi ar hyn o bryd? Ac fel sydd wedi'i amlygu gan nifer o Aelodau o gwmpas y Siambr, mae'r awdurdodau lleol hynny unwaith eto'n profi heriau gyda'u sefyllfa ariannol. Un o'r pryderon allweddol sydd wedi'u dwyn i fy sylw yw'r ffaith bod rhai cynghorau yng Nghymru wedi dweud wrth eu hysgolion y dylent baratoi i leihau eu cyllidebau oddeutu 10 y cant yn y flwyddyn ariannol nesaf. Byddwn wedi meddwl bod ysgolion ac addysg yn un o'r gwasanaethau craidd y mae awdurdodau lleol yn eu darparu. Felly, fy nghwestiwn i, Weinidog, yw a fyddwch chi'n rhoi cyfarwyddyd neu arweiniad i awdurdodau lleol, wrth benderfynu ar eu cyllidebau yn y flwyddyn ariannol nesaf, ac a fydd rhan o'r cyfarwyddyd neu'r arweiniad hwnnw yn ymwneud â'r gwasanaethau craidd hanfodol hynny, megis cyllid ar gyfer ein hysgolion?
Wel, nid wyf am achub y blaen ar ganlyniad y trafodaethau cyllidebol parhaus sy'n digwydd yn gyffredinol ar hyn o bryd, ond rwyf am ddweud bod y pwysau ar addysg, fel y disgrifiodd yr Aelod, wedi cael ei ddwyn i sylw Llywodraeth Cymru yn amlwg iawn gan gydweithwyr llywodraeth leol, ac mae fy nghyd-Weinidog Gweinidog y Gymraeg ac Addysg bob amser yn cyflwyno achos cadarn iawn dros ysgolion ac addysg hefyd. Felly, nid wyf eisiau mynd yn llawer pellach na hynny ar hyn o bryd. Ond mewn perthynas â chyhoeddi'r gyllideb, yn amlwg fe fyddaf yn ceisio cyflwyno cymaint o wybodaeth ag y gallaf i gyd-Aelodau, ac rwy'n gwybod y bydd awdurdodau lleol eisiau gosod eu cynlluniau gwariant ar gyfer eu cydweithwyr hefyd.
A gaf fi gysylltu fy hun â sylwadau Jack Sargeant ynglŷn â mesuryddion rhagdalu? Maent yn anghywir, maent yn anfoesol, ac mae angen gweithredu arnynt cyn gynted â phosibl. Ond hoffwn wybod pa sgyrsiau sydd wedi digwydd gyda chwmnïau ynni mewn perthynas â chyflwyno tariff cymdeithasol posibl, yn debyg i'r hyn sydd gennym gyda'r cwmnïau dŵr a darparwyr band eang. Rwy'n credu y bydd hyn hefyd yn gwneud llawer i ddarparu ynni i bobl sy'n cael trafferth talu.
Yn hollol, ac mae hynny'n rhywbeth roeddem yn pwyso ar Lywodraeth y DU i'w ddarparu cyn datganiad yr hydref a chyn y gyllideb cyn honno, mewn gwirionedd. Ond o ran trafodaethau gyda chwmnïau ynni, mae'r rheini'n tueddu i ddigwydd rhwng y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd; hwy fydd yn cael y trafodaethau uniongyrchol gyda'r cwmnïau ynni hynny. Efallai y gallwn ofyn i'r Gweinidogion hynny roi diweddariad i'r Aelodau.

6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gydag awdurdodau lleol am ddefnyddio cronfeydd wrth gefn llywodraeth leol? OQ58793
Rwyf wedi trafod cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol gydag arweinwyr fel rhan o'n trafodaethau parhaus ar bwysau a chyllid. Mae pob arweinydd wedi pwysleisio eu bod eisoes yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i reoli eu pwysau presennol a'u bod yn disgwyl y bydd yn rhaid iddynt barhau i wneud hynny y flwyddyn nesaf.
Mae hyn eisoes wedi cael ei drafod yma yn y Siambr sawl gwaith y prynhawn yma, Weinidog. Rydym hyd yn oed wedi clywed enw Leighton Andrews yn cael ei ddefnyddio y prynhawn yma hefyd—ysbryd y Nadolig a fu. Ond pe gallem geisio meddwl am y defnydd o'r cronfeydd wrth gefn hyn, oherwydd, fel rwy'n ei ddeall ac fel y mae cwestiynau blaenorol wedi'i amlygu, mae cynnydd o 35 y cant wedi bod yn y cronfeydd wrth gefn hyn, a bydd trethdalwyr lleol yn synnu at y naid honno yn y cronfeydd wrth gefn i £2.7 biliwn pan fyddant yn dechrau gweld eu gofynion treth gyngor eu hunain yn ymddangos yn y flwyddyn newydd. Felly, fel Gweinidog cyllid, a wnewch chi bopeth yn eich gallu i sicrhau nad oes unrhyw arian yn cael ei gelcio mewn neuaddau sir ac yn y pen draw y bydd y cronfeydd wrth gefn hyn yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau fel bod modd cadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl yn y flwyddyn newydd ac y bydd yn talu eu cyfraniad gyda'r pwysau costau byw y mae pobl yn eu teimlo yng nghyllidebau eu haelwydydd?
Hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth gyd-Aelodau yn gynharach mewn perthynas â thrafodaethau rwyf wedi bod yn eu cael gyda llywodraeth leol, maent yn llwyr gydnabod yr angen i ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn hynny eleni i reoli rhai o'r pwysau, a'r flwyddyn nesaf hefyd. A bod yn onest, rwy'n teimlo rhyddhad fod awdurdodau lleol mewn sefyllfa ariannol well i wynebu'r cyfnod anodd sydd o'n blaenau, yn enwedig pan fyddwch yn eu cymharu â'u cymheiriaid dros y ffin yn Lloegr, sydd wedi cael llawer o gyllid wedi'i dynnu oddi arnynt dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n siŵr y byddai'n llawer gwell gan awdurdodau yn Lloegr fod mewn sefyllfa lle mae ganddynt o leiaf rywfaint o gronfeydd wrth gefn i fynd â hwy i mewn i'r flwyddyn nesaf. Wedi dweud hynny, rwy'n llwyr gydnabod yr hyn a ddywedwyd am y ffaith nad yw'r sefyllfa'n gyfartal ledled Cymru. Mae'n amrywio o awdurdod i awdurdod. Mae yna rai awdurdodau sydd â llai o gronfeydd wrth gefn ac yn amlwg bydd ganddynt lai o allu i ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn hynny mewn cyfnod anodd.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith datganiad yr hydref Llywodraeth y DU ar waith byrddau gwasanaethau cyhoeddus? OQ58773
Mae datganiad yr hydref yn cynyddu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus. Mae'r arian sy'n cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei dorri mewn termau real, gan gyfyngu ar eu hadnoddau hyd yn oed ymhellach. Mae hyn yn gwneud gwaith byrddau gwasanaethau cyhoeddus i wella llesiant eu cymunedau yn heriol, ond yn bwysicach nag erioed.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Er gwaethaf ymdrechion gorau'r Blaid Geidwadol y prynhawn yma, bydd unrhyw un sydd ag unrhyw ddealltwriaeth sylfaenol neu unrhyw ddealltwriaeth ariannol o gwbl yn deall y toriadau sy'n cael eu gwneud yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, eleni ac yn y dyfodol. Fodd bynnag, yr hyn a welwn yw gwasanaethau cyhoeddus sy'n wynebu toriadau flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, a chanlyniad hynny, wrth gwrs, yw llai o wasanaethau i'r bobl rydym i gyd yn eu cynrychioli yma. Ond Weinidog, rydym hefyd yn gweld llywodraethu mwyfwy cymhleth yng Nghymru. Rydym yn gweld llu o fyrddau a chomisiynau. Mae pawb ohonom yn gwybod bod llawer gormod o awdurdodau lleol yn y wlad. Ond rydym yn gweld cymhlethdod cynyddol sy'n rhwystro darpariaeth gwasanaethau, yn enwedig ar adeg pan fônt o dan bwysau ariannol sylweddol. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo nid yn unig i ddarparu arian ar gyfer gwasanaethau lleol yn y ffordd orau bosibl, ond hefyd i adolygu cymhlethdod llywodraethu yng Nghymru, gyda golwg ar symleiddio'r sector cyhoeddus i'n galluogi i ganolbwyntio cyllid sydd ar gael ar y rheng flaen a darparu gwasanaethau i'r bobl sydd eu hangen?
Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i weithredu ar yr argymhellion o'r adolygiad o'r partneriaethau strategol, a gytunwyd gan gyngor partneriaeth Cymru. Ond rydym o'r farn y dylai unrhyw newidiadau gael eu harwain yn lleol a'u llywio'n lleol. Rwy'n credu ein bod wedi gweld enghraifft dda o hynny yn y ffordd y mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yng Ngwent wedi dod at ei gilydd a gweithredu fel un ôl troed yn y gofod hwnnw. Nid wyf yn siŵr a yw'r Aelod yn cytuno â mi 100 y cant, ond rwy'n fwy na pharod i'w archwilio ymhellach.
Lle mae cyfleoedd i gyrff weithio'n agosach gyda'i gilydd, rwy'n credu ei bod yn bwysig eu bod yn gwneud hynny. Dyna un o'r rhesymau rwy'n falch ein bod yn cyflawni gwaith drwy'r cytundeb cydweithio ar hyn o bryd sy'n edrych ar bartneriaethau strategol er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben, er mwyn sicrhau eu bod ar yr ôl troed iawn, er mwyn sicrhau bod ganddynt y cylch gorchwyl sydd ei angen arnynt, er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio ar draws ffiniau yn y ffordd orau bosibl, ac i nodi rhwystrau ar gyfer gweithio'n well fel y gellir lleihau'r rheini hefyd. Rwy'n credu y bydd y gwaith hwnnw o gymorth i geisio rhesymoli partneriaethau lle bo angen, ond hefyd i wneud yn siŵr fod ffocws gwell i'r gwaith a'i fod wedi'i symleiddio. Mae'r gwaith hwnnw ar y gweill ar hyn o bryd.
Y bwriad yw cyflwyno adroddiad i gyngor partneriaeth Cymru yn gynnar yn y flwyddyn newydd pan fyddwn wedi gwneud cyfweliadau, os mynnwch, gyda phob un o'r partneriaethau strategol. Mae Cefin Campbell a minnau wedi bod yn cael cyfarfodydd diddorol iawn gyda chadeiryddion yr holl fyrddau strategol i glywed eu safbwyntiau a'u profiadau i helpu i lywio'r gwaith, a byddwn yn cyflwyno syniadau ar y ffordd ymlaen o ganlyniad i hynny. Ond yr ateb byr yw ein bod yn parhau i ystyried y dirwedd partneriaeth strategol, er ein bod ychydig ymhellach i ffwrdd o'r nod mewn perthynas â mater llywodraeth leol ar hyn o bryd, mae'n debyg.
Yn olaf, cwestiwn 8, Llyr Gruffydd.
8. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith datganoli gosod trothwyon treth incwm i Gymru? OQ58797
Byddai datganoli trothwyon y dreth incwm yn cyflwyno cyfleoedd a risgiau, a byddem eisiau ystyried hyn fel rhan o'n strategaeth ehangach ar gyfer trethi datganoledig. Mae angen i Lywodraeth y DU ymgysylltu â ni i adolygu'r broses ar gyfer sicrhau bod rhagor o bwerau treth yn cael eu datganoli i Gymru.
Diolch ichi am hynny. Wrth gwrs, mae e wedi'i ddatganoli i'r Alban, onid yw e? Mae hynny'n caniatáu iddyn nhw greu trothwyon sydd yn adlewyrchu'n well broffil talwyr treth incwm yn yr Alban. Ac os edrychwch chi ar broffil talwyr treth incwm yng Nghymru, wrth gwrs, mae'r mwyafrif llethol ohonyn nhw yn y band sylfaenol, sy'n wahanol, wrth gwrs, os ydych chi’n edrych ar y ffigurau, i weddill y Deyrnas Unedig, o safbwynt y ratio trethdalwyr, sy'n golygu wedyn, wrth gwrs, fod cael ein gorfodi i fabwysiadu trothwyon San Steffan yn golygu nad yw e'n adlewyrchu yr angen a'r sefyllfa yng Nghymru. Mae e, felly, yn fwy regressive nag y dylai fe fod, ac felly dwi eisiau neges glir eich bod chi'n awyddus iddo fe gael ei ddatganoli fel bod modd creu trothwyon mwy progressive, mwy adlewyrchiadol o sefyllfa incymau yma yng Nghymru. A gaf i ofyn a ydych chi fel Llywodraeth wedi ystyried gwneud rhyw ymchwil neu ryw fath o fodelu i weld beth fyddai’r opsiynau posib fel rhan o greu yr achos ar gyfer datganoli'r maes yma?
Roeddwn yn falch o weld yr Aelod yn ein cynhadledd drethi, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf. Rwy'n gobeithio iddo ei mwynhau gymaint ag y gwnes i. Roedd un o'r sesiynau a gynhaliwyd gyda chynrychiolwyr o'r Alban a Gogledd Iwerddon yn ddiddorol iawn, lle roeddent yn ystyried gwahanol risgiau a chyfleoedd y gwahanol fframweithiau cyllidol sydd gennym.
Byddai datganoli'r trothwyon yn ein galluogi i gael mwy o hyblygrwydd o ran polisïau, a byddai'n ein galluogi i bennu ein dull ein hunain o ymdrin â chyfraddau treth incwm Cymreig mewn ffordd wahanol, gan gydnabod dosbarthiad incwm yng Nghymru a phwysigrwydd system fwy blaengar, lle mae'r rhai sy'n gallu fforddio talu mwy o dreth yn gwneud hynny. Fodd bynnag, byddai'n anodd datganoli'r trothwyon heb ddatganoli'r sylfaen dreth gyfan. Rwy'n credu y byddai hynny wedyn, o bosibl, yn ein gwneud yn llawer mwy agored i risg drwy refeniw a'r addasiad cysylltiedig i'r grant bloc. Rwy'n credu bod angen inni fod yn ofalus iawn fod gennym y capasiti a'r hyblygrwydd i reoli'r mathau hynny o risgiau. Nid oes ond rhaid inni edrych ar y profiad yn yr Alban i weld y gall bod yn agored i'r sylfaen dreth gyfan arwain at rai problemau cyllidebol mewn gwirionedd. Gofiwch chi am y twll du y buom yn sôn amdano ychydig flynyddoedd yn ôl pan oedd y cysoni'n digwydd mewn perthynas â'r derbyniadau treth rhagamcanol a beth a dderbyniwyd mewn gwirionedd? Felly, mae yna risgiau posibl.
Wedi dweud hynny, mae'n wir fod ein sylfaen dreth yn wahanol i un Lloegr. Mae gennym gyfran uwch o drethdalwyr y gyfradd sylfaenol. Mae cyflogau'n is yma yng Nghymru hefyd. Ar gyfer gweithwyr amser llawn, y cyflog wythnosol canolrifol ym mis Ebrill 2022 oedd 94 y cant o gyfartaledd y DU. Rwy'n credu y byddai angen inni ystyried yr holl ffactorau hynny mewn perthynas â'r awgrym i ddatganoli'r trothwyon, oherwydd byddai cryn risgiau yn dod ochr yn ochr â hynny. Hefyd, fel y dywedais yn y gynhadledd drethi, mae datganoli cyfraddau treth incwm Cymreig yn beth eithaf newydd. Nid ydym ond wedi bod yn ei chasglu ers blwyddyn neu ddwy. Rwy'n credu y byddai'n synhwyrol inni adael iddo ymwreiddio wrth inni archwilio sut fyddai pethau yn y dyfodol, ac mae edrych ar hynny yn rhan o rôl y comisiwn.
Pwynt o drefn yn codi o'r cwestiynau—Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn hyn, Lywydd. Wrth roi ateb da a llawn iawn i fy nghwestiwn cynharach, cyfeiriodd y Gweinidog at Aelod arall, Cefin Campbell, mewn perthynas â chyflawni rôl weithredol o fewn y Llywodraeth. Rydym i gyd yn deall y cytundeb cydweithio, ac fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, rwy'n llwyr gefnogi'r cytundeb cydweithio. Fodd bynnag, nid oes gan Aelodau yn y Siambr hon gyfle i graffu ar Aelodau Plaid Cymru sy'n ffurfio rhan o hyn, ac nid oes cyfle i ddeall y rôl sy'n cael ei chwarae. O'r herwydd, cyfyngir ar ein cyfle i graffu ar y cytundeb a'r polisïau sy'n deillio o'r cytundeb hwnnw. Hoffwn ofyn i chi, Lywydd, a wnewch chi adolygu'r sefyllfa hon, oherwydd byddwn yn nodi blwyddyn ers sefydlu'r cytundeb cydweithio yr wythnos hon, i sicrhau bod Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn gallu craffu ar bob agwedd o waith y Llywodraeth.
Fe ystyriaf y pwynt a godwyd gan yr Aelod. Mae'r Gweinidog, wrth gwrs, yma i gael ei chraffu ar bob mater yn ei phortffolio, sy'n cynnwys gweithrediad y cytundeb cydweithio, ond fe roddaf ystyriaeth bellach i'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud yng ngoleuni'r ffaith ei bod yn flwyddyn ers i'r cytundeb cydweithio gael ei roi ar waith. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, ei fod yn destun craffu ym mhwyllgor craffu'r Prif Weinidog yr wythnos nesaf hefyd. Felly, mae'n amser addas inni fyfyrio ar y materion hyn. Diolch i'r Gweinidog am y craffu y prynhawn yma.
Y cwestiynau i'r Gweinidog materion gwledig a'r gogledd sydd nesaf. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.
1. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau dyfodol hyfyw i ffermio? OQ58785

Mae Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn sefydlu pedwar amcan rheoli tir yn gynaliadwy fel y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer polisi amaethyddol yn y dyfodol. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig yn cynnwys camau a fydd yn helpu ffermwyr i wneud y defnydd gorau o'u hadnoddau a gwella cadernid eu ffermydd a'u busnesau.
Diolch am yr ateb yna.
Rwy'n cefnogi ymdrechion i sefydlu cyfres o gamau gweithredu ar gyfer holl ffermwyr Cymru yn gyfnewid am daliadau sylfaenol cyffredinol blynyddol a fydd yn hyrwyddo bioamrywiaeth ac yn rhoi hwb i'r amgylchedd yn ein gwlad. Fodd bynnag, rwy'n rhannu pryderon yr undebau amaeth y bydd ffermwyr tenant neu'r rhai sydd â hawliau tir comin, yn debyg i un yr ymwelais ag ef yn fy rhanbarth, yn ei chael hi'n anodd bodloni gofynion y cynllun. Sut y byddwch chi'n sicrhau y bydd eich egwyddorion cyffredinol ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy yn cynnwys ac yn gwarchod y mathau o ffermwyr rwyf wedi cyfeirio atynt? Maent yn rhan o draddodiad hir yng nghefn gwlad Cymru ac yn y Cymoedd rwy'n eu cynrychioli, ac mae'n rhaid inni sicrhau nad yw canlyniadau anfwriadol y cynllun yn bygwth eu dyfodol.
Diolch. Mae'n hynod bwysig fod y cynllun ffermio cynaliadwy yn gweithio i bob ffermwr ar bob math o fferm ym mhob rhan o Gymru. Felly, rydym wedi sefydlu hanner dwsin o weithgorau i edrych ar feysydd penodol. Mae ffermwyr tenant yn un maes, ac mae ffermwyr tir comin yn un arall. Mae'r ddau fath yn rhannau pwysig iawn o'r sector amaethyddol yma yng Nghymru. Gwyddom fod tir comin yn bwysig ar gyfer manteision amgylcheddol, er enghraifft, megis bioamrywiaeth a rheoli dŵr, ac mae'n bwysig i'r nifer fawr o ffermwyr sy'n dibynnu arno ar gyfer porthiant hefyd. Fe fyddwch yn gwybod ein bod newydd ddod i ddiwedd y gwaith o gyd-gynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy. Byddwn yn edrych ar yr ymatebion a gawsom a'r trafodaethau a gawsom cyn inni gynnal yr ymgynghoriad terfynol. Ond yn amlwg bydd yr allbynnau o'r gweithgorau rwyf newydd eu crybwyll yn cael eu cynnwys gyda'r holl ymatebion a gawsom i'r allbwn cyd-gynllunio, ynghyd â datblygiad polisi parhaus.
Weinidog, mae sicrhau bod gan ein ffermwyr ddyfodol hyfyw yn bwysig iawn, ond un sector yn arbennig sy'n wynebu pwysau enfawr yw ein diwydiant dofednod, gan eu bod yn gorfod ymdopi â ffliw adar a chynnydd enfawr mewn costau ynni. A wnewch chi amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ein ffermwyr dofednod i sicrhau bod ganddynt ddyfodol cynaliadwy, hyfyw yn y diwydiant dofednod yma yng Nghymru?
Yn amlwg, rydym wedi gweld nifer digynsail o achosion o ffliw adar. Nid ydym wedi cael unrhyw seibiant o gwbl dros yr haf, cyfnod lle nad ydym yn gweld unrhyw glystyrau o achosion o gwbl fel arfer. Mae wedi bod gyda ni yn barhaus dros y tair blynedd diwethaf. Rydym yn dechrau cyfri'r achosion newydd o 1 Hydref bob blwyddyn, ac ers 1 Hydref 2022, rydym eisoes wedi cael tri chlwstwr o achosion yma yng Nghymru, felly mae'n gyfnod anodd iawn i'n cynhyrchwyr dofednod ar hyn o bryd, yn enwedig, oherwydd gwyddom fod llawer o ffermwyr wedi arallgyfeirio i ffermio dofednod. Mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar hyn ledled y DU. Ddydd Llun nesaf, byddaf yn cael fy nghyfarfod grŵp rhyngweinidogol rheolaidd gyda fy swyddogion cyfatebol ym mhob rhan o'r DU. Rwyf wedi gofyn i hyn fod yn eitem ar yr agenda, oherwydd, yn amlwg, mae angen inni weithio fel pedair gwlad i gefnogi ein ffermwyr dofednod.
A gaf fi dynnu eich sylw at y gofrestr fuddiannau a'r sawl sefydliad rwy'n perthyn iddynt sydd â buddiant yn y maes hwn, gan gynnwys Cymdeithas Milfeddygon Prydain, y Cerddwyr ac eraill? Ond a gaf fi ganmol y Gweinidog ar y modd y mae hi'n ceisio creu dyfodol i ffermio cynaliadwy yng Nghymru sy'n cydbwyso'r hyn sy'n ymddangos weithiau fel buddiannau sy'n cystadlu, ond nad ydynt yn fuddiannau sy'n cystadlu mewn gwirionedd?
A wnaiff hi ddweud wrthyf sut, o fewn y Bil amaeth—a chroesawodd Llyr a minnau y cyfle i fod yn rhan o'r Bil hwnnw y diwrnod o'r blaen, gan gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog—ond hefyd yn y cynigion ar ffermio cynaliadwy yn y dyfodol yn ogystal, sut y gwnaiff hi sicrhau bod gennym fywoliaeth i ffermwyr a thirfeddianwyr wrth symud ymlaen, yn enwedig oherwydd yr effaith ar iaith a diwylliant Cymru, ond ar ffermydd bychain a chanolig hefyd? Ond hefyd, sut mae ehangu ac ychwanegu at y manteision cyhoeddus ehangach y soniodd amdanynt, fel lleihau perygl llifogydd, fel atafaelu carbon, ond hefyd, Weinidog, mynediad at y tir, bioamrywiaeth—sut mae cydbwyso'r cyfan? Mae hyn yn gymhleth, ond mae'n rhaid ei wneud oherwydd rwy'n credu bod hwn yn gyfle un-tro i wneud pethau'n iawn.
Diolch i chi. Rwy'n credu ei fod yn gyfle un-tro a dyma'r tro cyntaf, yn amlwg, y gallasom gael y polisi yma sy'n benodol i Gymru, ac mae'n hynod bwysig ei fod yn gweithio i'n ffermwyr ni yma yng Nghymru ac i sicrhau ein bod ni'n cadw ffermwyr ar y tir a'n bod yn gwarchod y tirweddau gwych sydd gennym yma yng Nghymru.
Fe fyddwch yn gwybod bod Bil amaethyddiaeth Cymru yn cynnwys pedwar amcan, ac fe wnaethoch chi sôn am un neu ddau o'r amcanion, yn enwedig canlyniadau diwylliannol, amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Dywedais yn fy ateb cynharach ei bod hi'n bwysig iawn i'r cynllun hwnnw fod ar gael i bawb. Nawr, rwy'n credu, ar hyn o bryd, fod llawer o'r canlyniadau amgylcheddol hynny'n cael eu cynhyrchu gan ein ffermwyr ac nad ydynt yn cael eu gwobrwyo amdanynt. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ceisio cymell ein ffermwyr i fod yn rhan o'r cynllun. Yn sicr, hoffwn weld mwy o ffermwyr yn cymryd rhan yn y cynllun nag sy'n cymryd rhan yng nghynllun y taliad sylfaenol ar hyn o bryd, er enghraifft. Felly, mae gennym waith cyfochrog yn digwydd nawr gyda Bil amaethyddiaeth Cymru a'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ond bydd gwaith ansawdd dŵr a phridd, a gwarchod ein cynefinoedd y mae ffermwyr yn ei wneud ar hyn o bryd ond nad ydynt yn cael eu gwobrwyo amdano yn sicr yn rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy.
Prynhawn da, Weinidog. Roeddwn yn awyddus i ddilyn cwestiwn Peredur, yn enwedig ynghylch ffermwyr sy'n ffermio ar dir comin. Ddydd Llun, roeddem yn y ffair aeaf—roedd llawer ohonom ni yno—ac fe gyfarfuom â ffermwyr, Gary Williams o sir Gâr, a Guto Davies o Glwyd, sydd ill dau yn ffermio ar dir comin. Roedd yn ddiddorol iawn clywed rhai o'r heriau a wynebant, heriau y byddwch chi'n ymwybodol ohonynt, yn ddiamheuaeth, yn enwedig y pryderon a nododd Peredur: gallu ffermwyr ar dir comin i gael mynediad at y cynllun ffermio cynaliadwy a chyflawni yn erbyn rhai o elfennau'r cynllun na fydd hyd yn oed yn bosibl i rai ohonynt. Fe wyddom fod rhaid i ffermwyr sydd â hawliau tir comin, y mae cynllun y taliad sylfaenol a Glastir yn ganolog i incwm eu ffermydd—eu bod yn gallu cael mynediad a chymryd rhan yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Fe wyddom fod oddeutu 65 y cant o dir comin wedi'i gynnwys yn Glastir ac fe wnaeth dros 3,000 o fusnesau fferm ddatgan tiroedd comin at ddiben hawlio cynllun y taliad sylfaenol yn 2021. A gaf fi ofyn i chi ehangu ychydig mwy ar eich ymrwymiad i sicrhau bod y cynllun yn sensitif i anghenion ffermwyr tir comin? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi, ac fel y dywedais yn fy ateb cynharach, rydym yn sefydlu gweithgor tir comin ac rwyf am i'r gweithgor hwnnw archwilio pa gymorth a chyngor penodol y gallai fod eu hangen, yn ogystal â pha hyblygrwydd y gallai fod angen inni ei gynnig i gyfrif am y cymhlethdodau sy'n cael eu hachosi gan dir comin.
Fel y byddwch yn gwybod, yng nghynigion amlinellol y cynllun ffermio cynaliadwy, mae gennym dair haen: mae gennym yr haen gyffredinol, yr hen ddewisol a'r haen gydweithredol. Ac yn sicr, yn y trafodaethau a gefais gyda ffermwyr tir comin, rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud nad yw'r gweithredoedd cyffredinol a'r gweithredoedd dewisol, fel y'u disgrifir yn y ddogfen amlinellol ar hyn o bryd, yn berthnasol i dir comin yn yr un ffordd ag y maent i ffermydd eraill. Felly gallai fod angen inni ganolbwyntio ar y lefel gydweithredol ar gyfer ein ffermwyr tir comin. Wyddoch chi, mae tir comin yn unigryw iawn, ac felly rwy'n credu bod angen dull sydd wedi'i deilwra'n llawer gwell.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r cynllun lles anifeiliaid i Gymru? OQ58798
Diolch. Mae cynnydd wedi'i wneud ar draws ein pedwar ymrwymiad lles anifeiliaid, ac mae gwaith parhaus yn digwydd yn ôl yr amserlen. Mae gwaith ehangach wedi'i wneud ar bolisi lles anifeiliaid, ac mae'r prosiect gorfodi ar gyfer awdurdodau lleol yn sbarduno newid sylweddol, a lansiwyd yr ymgynghoriad 12 wythnos ar deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai ar 14 Tachwedd.
Diolch, Weinidog. Flwyddyn i mewn i'r broses pum mlynedd, fel y dywedwch, mae cynnydd da wedi bod, yn fwyaf arbennig yr ymgynghoriad ar deledu cylch cyfyng gorfodol mewn lladd-dai. Ond o ran blaenoriaethau, a gaf fi ofyn beth yw'r sefyllfa gyda'r defnydd o gewyll bridio ar gyfer adar hela? Rwy'n gwybod bod y cynllun yn cynnwys ymrwymiad i archwilio'r dystiolaeth ynghylch eu defnydd, ond gyda'r tymor saethu newydd wedi cychwyn, mae defnyddio cewyll bridio a sut mae hynny'n cyd-fynd â'n hymrwymiad i les anifeiliaid yn cael sylw, a hynny'n briodol. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y mater penodol hwnnw?
Diolch. Fel y nodwyd gennych, mae gennym ein blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid yn y cynllun. Mae'n rhaglen bum mlynedd, ac rydym yn edrych yn ôl dros y flwyddyn ar yr hyn y llwyddasom i'w gyflawni yn y flwyddyn gyntaf. Nid yw'n bosibl rhoi llinell amser i chi ar gyfer yr ymgynghoriad ar unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth les, na'r cod ymarfer, mewn perthynas â lles adar hela. Ac yn sicr, fel y byddwch yn deall, yn swyddfa'r prif swyddog milfeddygol, mae nifer sylweddol o swyddogion yn gorfod ymdrin â'r achosion o ffliw adar, sy'n sicr wedi cael blaenoriaeth, fel y gallwch ddychmygu. Ond yn sicr, wrth inni ddechrau ar ail flwyddyn y cynllun, byddwn yn edrych ar beth y gallwn ei wneud, ac rwy'n gwybod bod hwn yn faes o bwys mawr—gallaf ddweud wrth edrych ar fy mag post pa mor bwysig yw hyn.
Un o'r pethau a ddeilliodd o COVID yw bod llawer o bobl yn ystod y pandemig COVID wedi cael anifail anwes, a chyfrifoldeb am anifail anwes. Mae'r goblygiadau lles, wrth inni gefnu ar COVID, wedi golygu bod llawer o anifeiliaid anwes wedi cael eu gadael, a bod pwysau mawr ar y sector elusennol sy'n tueddu i'w cymryd a gofalu amdanynt a cheisio eu hailgartrefu. A yw'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o'r gwaith ychwanegol y mae elusennau sy'n gweithio yng Nghymru wedi gorfod ei wynebu oherwydd hyn, ac os yw'r Llywodraeth wedi gwneud dadansoddiad, a ydych chi'n ystyried gweithio gyda hwy yn ariannol ac yn gydweithredol mewn ffyrdd eraill, i gynnal y baich ychwanegol hwn sy'n eu hwynebu, fel bod modd ailgartrefu'r anifeiliaid hyn mewn ffordd synhwyrol, yn hytrach na gorfod eu rhoi i gysgu yn y pen draw, sy'n drasig?
Rydych chi'n hollol iawn—yn sicr fe welsom gynnydd sylweddol yn nifer yr aelwydydd a gafodd anifail anwes yn ystod y pandemig COVID-19. Ac wrth inni gefnu ar y pandemig, a phobl yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl bod yn gweithio gartref efallai, pan gawsant eu hanifeiliaid anwes, fe welsom angen i ailgartrefu llawer o anifeiliaid. Yn anffodus, rwy'n meddwl bod yr argyfwng costau byw hefyd nawr yn cynyddu nifer yr anifeiliaid anwes sydd angen eu hailgartrefu. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ddadansoddiad arwyddocaol. Gwn fod swyddfa'r prif swyddog milfeddygol wedi gweithio gyda sefydliadau'r trydydd sector i weld beth y gallwn ei wneud i'w cynorthwyo. Rhaid imi fod yn gwbl onest—nid wyf yn meddwl y byddai fy nghyllideb yn caniatáu imi roi unrhyw gyllid pellach i'r trydydd sector, ond yn amlwg, pe bai modd ystyried hynny yn y dyfodol, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. Weinidog, dair wythnos yn ôl, fe fuoch chi a minnau'n trafod gwerth Gorchymyn cadw adar dan do i Gymru gyfan oherwydd ffliw adar. Yn eich ymateb i fy apêl am y polisi rhagataliol hwn, fe ddywedoch chi nad oedd y dystiolaeth a oedd gan bob prif swyddog milfeddygol yn galw am ymateb o'r fath yma yng Nghymru. Symudwn ymlaen i'r wythnos diwethaf, ac yn dilyn pwysau gennyf fi, y diwydiant, a chyda thystiolaeth newydd, fe wnaethoch chi adolygu rheoliadau Llywodraeth Cymru, ac o ddydd Gwener ymlaen, bydd gan Gymru ei Gorchymyn cadw adar dan do. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, nid dyma'r unig her sy'n wynebu ein diwydiant dofednod. Mae'r cynnydd yng nghostau gorbenion, ac amharodrwydd yr archfarchnadoedd i dalu pris teg i gynhyrchwyr am eu hwyau, wedi golygu nad yw'r diwydiant yn gallu fforddio costau cynhyrchu, gan annog rhai cynhyrchwyr naill ai i gefnu ar y diwydiant neu leihau maint eu heidiau.
Pan wynebodd y diwydiant llaeth broblemau tebyg gyda'u contractau llaeth, gweithiodd Llywodraeth Cymru i ymgynghori a chyflwyno cytundebau llaeth tecach. Felly, o ystyried hyn—ac yn flaenorol, fe wnaethoch chi sôn bod gennych chi gyfarfod rhynglywodraethol ddydd Llun—a gaf fi ofyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ymchwiliad dichonoldeb i gontract dofednod i ddarganfod pam nad yw ein ffermwyr yn cael pris teg am eu cynnyrch?
Wel, gallaf sicrhau'r Aelod nad oherwydd pwysau ganddo ef y gwneuthum y penderfyniad ddydd Gwener diwethaf i'w gwneud yn orfodol i gadw adar dan do; deilliodd hynny o dystiolaeth wyddonol yn unig a'r cyngor a gefais gan y prif swyddog milfeddygol. Yn amlwg, cafodd y pedwar prif swyddog milfeddygol yr un cyngor. Mae sut y caiff ei ddehongli, felly, gan Weinidogion yn amlwg yn fater i bob Gweinidog unigol. Mae tair wythnos yn amser hir mewn achosion o'r fath, a daeth yn amlwg i mi, ganol yr wythnos diwethaf mae'n debyg—tua wythnos yn ôl siŵr o fod—fod y cyngor yn newid. A dyna pam y gwnaethom gyflwyno gorfodaeth i gadw adar dan do—. Wel, bydd yn cael ei gyflwyno ddydd Gwener yma, ond cyhoeddais ef ddydd Gwener diwethaf, ynghyd â gofynion bioddiogelwch llym, oherwydd mae bioddiogelwch yn hynod o bwysig, wrth inni geisio gwneud popeth a allwn yn wyneb y clystyrau digynsail hyn o achosion o ffliw adar.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych chi'n ei ddweud ynghylch y ffaith nad dyma'r unig beth sy'n destun pryder i'r sector dofednod. Y pris a gânt—. Ac yn sicr, cefais drafodaethau diddorol iawn gyda ffermwyr yn y ffair aeaf ddydd Llun, a soniais mewn ateb cynharach ein bod wedi gweld llawer o ffermwyr yn arallgyfeirio i ffermio dofednod dros y blynyddoedd diwethaf. Yn sicr, fel y dywedais, mae'n drafodaeth sydd ar yr agenda ar gyfer y grŵp rhyngweinidogol ddydd Llun. Yn anffodus, rwy'n deall na fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn y cyfarfod, sy'n anffodus yn fy marn i, ond yn sicr, byddaf yn codi'r hyn y gallwn ei wneud ar draws y DU yn y cyfarfod hwnnw. Ac os yw'n edrych fel pe bai'n rhaid inni wneud rhywbeth ar ein pen ein hunain, yn sicr gallwn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud. Ac rwy'n derbyn yr hyn roeddech chi'n ei ddweud am laeth, a gallai fod angen inni weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i helpu ein cynhyrchwyr dofednod.
Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb, ac o ystyried eich cyfarfod ddydd Llun, byddai'n dda clywed gennych a yw datgan amod eithriadol yn y farchnad yn rhywbeth sy'n cael ei drafod yn y cyfarfod hwnnw ddydd Llun. Oherwydd, yn anecdotaidd, yn y brecwast Hybu Cig Cymru ddydd Llun yn y ffair aeaf, nid oedd unrhyw wyau yn y brecwast, sy'n dangos cymaint o anhawster y mae'r diwydiant yn ei wynebu yn y cyfnod digynsail hwn.
Os caf symud ymlaen at bwnc gwahanol, cefais gipolwg yn ddiweddar ar ymateb rhyddid gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru i gais a oedd yn gofyn am wybodaeth ynglŷn â faint o garbon sy'n cael ei atafaelu drwy ddefnydd tir amaethyddol yng Nghymru. Ymateb Llywodraeth Cymru oedd: wel, nid ydych yn cadw'r data hwn, ac mae hynny'n destun pryder. Glaswelltir yw'r rhan fwyaf o dir amaethyddol Cymru—defnydd tir y mae astudiaethau wedi dangos sy'n gallu atafaelu carbon gystal â choed, neu hyd yn oed yn well mewn rhai hinsoddau penodol. Mae'r diwydiant amaeth yn gwybod beth yw'r rôl y mae'n rhaid iddo ei chwarae yn diogelu a gwella ein hamgylchedd a bioamrywiaeth, ond mae i Lywodraeth Cymru gyflwyno newidiadau polisi mor ysgubol heb wybod am y daioni y mae'r diwydiant yn ei wneud yn barod yn gic yn y dannedd braidd i ffermwyr gweithgar Cymru.
Felly, pa ddata rydych chi'n ei ddefnyddio yn sail i'r Bil amaeth a'r cynllun ffermio cynaliadwy, os nad ydych chi'n gwybod pa garbon sy'n cael ei atafaelu ar hyn o bryd yn nhir amaethyddol Cymru?
Cyn i mi ateb eich ail gwestiwn, fe af yn ôl i'r cwestiwn cyntaf am y grŵp rhyngweinidogol. Rwyf bob amser yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn dilyn y grŵp rhyngweinidogol, felly bydd yr Aelod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â hynny.
Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach ein bod yn gwybod bod ffermwyr eisoes yn darparu cymaint o ganlyniadau amgylcheddol—ac wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys storio carbon ar eu ffermydd—heb gael eu gwobrwyo amdanynt. Ac mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn ffordd o sicrhau eu bod yn cael eu gwobrwyo amdanynt mewn ffordd nad yw cynllun y taliad sylfaenol yn ei wneud. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, yn gyffredinol, y byddai'r rhan fwyaf o ffermwyr yn dweud nad yw'r polisi amaethyddol cyffredin wedi eu gwobrwyo yn y ffordd y gallai fod wedi gwneud, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn cael y cynllun hwn yn iawn nawr, fel bod pethau fel storio carbon yn cael eu gwobrwyo yn y ffordd y credwn y dylai gael ei wobrwyo, er mwyn ein helpu ni. Ac rydych chi'n hollol iawn—mae'r sector amaethyddol, wrth gwrs, yn cydnabod y rôl sylweddol sydd ganddo i'w chwarae er mwyn inni allu cyrraedd sero net. Ac mewn gwirionedd, mae gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, er enghraifft, dargedau uchelgeisiol iawn i'w galluogi i'n helpu ni gyda hynny. Felly, nid ydym yn cadw data ar bob un dim, ond wrth gwrs, os edrychwch ar fawndir neu fel y dywedwch, ar ffermydd yn gyffredinol ar draws y wlad, fe wyddom fod lefel sylweddol o storio carbon yn digwydd. Rwy'n cofio—cyn i chi ddod i'r Senedd, mae'n debyg, ac rwy'n ceisio meddwl pa ymgynghoriad a lansiais ydoedd—roedd ffermwr yn falch iawn o ddweud wrthyf ar y fferm lle gwnaethom y lansiad faint o garbon oedd yn cael ei storio fesul erw ar ei fferm.
Diolch, Weinidog. Mae'n peri pryder, os nad oes gennych chi'r wybodaeth llinell sylfaen honno ar gael, sut y gwyddom fod y prosiectau y mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn mynd i'w cyflwyno o fudd i atafaelu carbon mewn gwirionedd, gan nad oes gennym y ffigur sylfaenol i weithio ohono? Felly, er bod carboniaduron allan yno y gall pob fferm eu defnyddio, rydych chi a minnau'n gwybod fod carboniaduron amrywiol allan yno sy'n cynnig cyfrifiadau gwahanol iawn. Felly, rwy'n awyddus iawn i bwysleisio bod angen ffigur sylfaenol yma, lle gwyddom fod cynllun ffermio cynaliadwy a gyflwynwyd yn sicrhau'r manteision rydym yn ceisio'u cyflawni o fewn y sector amaethyddol.
Ond gan gadw at y Bil amaeth a'r cynllun ffermio cynaliadwy, rwyf am dynnu eich sylw, fel y gwnaeth Peredur yn gynharach, at ffermwyr tenant a ffermwyr tir comin. Ar ôl cyfarfod â'r cynrychiolwyr yn ddiweddar a mynychu lansiad polisi NFU Cymru ar gyfer tir comin yn y ffair aeaf, ynghyd â thystiolaeth gref gan ffermwyr tenant a ffermwyr tir comin a gyflwynwyd yn fy mhwyllgor, rwy'n pryderu'n fawr am y diffyg ystyriaeth i'r mathau hyn o ffermydd ym mholisi Llywodraeth Cymru. Ffurfiwyd gweithgor tenantiaeth, er mai dim ond ychydig wythnosau'n ôl y cafodd ei gyfarfod cyntaf, a'r mis diwethaf gofynnais i chi am grŵp penodol ar gyfer ffermwyr tir comin, ond nid wyf wedi clywed am unrhyw gynnydd ar hynny—dwy enghraifft o'r modd y mae'r ddau fath o ffermio'n cael eu gweld fel ôl-ystyriaeth braidd gan Lywodraeth Cymru. Weinidog, ffermwyr tenant a ffermwyr tir comin yw cyfran fawr o'r ffermwyr actif yma yng Nghymru. Os bydd y Bil amaeth a'r cynllun ffermio cynaliadwy yn methu gweithio iddynt hwy, bydd yn arwain at ganlyniadau enfawr i hyfywedd ffermydd teuluol Cymreig ledled ein gwlad. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi na fydd ffermwyr tenant na ffermwyr tir comin yn cael eu heffeithio'n negyddol yn sgil cyflwyno'r Bil amaeth a'r cynllun ffermio cynaliadwy yn benodol? Diolch.
Diolch. Unwaith eto, os caf fynd yn ôl at eich ail gwestiwn, rwy'n credu bod nifer y carboniaduron sydd ar gael yn broblem wrth inni geisio canfod faint o garbon sy'n cael ei storio. Un o'r pethau y gofynnais i swyddogion edrych arno yw a allwn ddefnyddio un yn unig, fel bod pawb yn gwybod ar beth y maent yn edrych a sut i'w ddefnyddio. Yn sicr, rwy'n credu y gallwn ei gael i lawr i ffigurau sengl, a ffigurau sengl isel iawn—tri, efallai, fel uchafswm pendant. Yn sicr, mae hynny'n rhywbeth y mae ffermwyr yn gofyn imi ei wneud, oherwydd rwy'n meddwl y bydd hynny'n eu helpu.
Ar eich cwestiwn terfynol, nid wyf yn siŵr a glywsoch chi fi'n dweud ein bod ni'n cael gweithgor tir comin. Mae hwnnw'n cael ei sefydlu ar hyn o bryd. Bydd yn cyfarfod cyn y Nadolig, ac rydych yn hollol gywir fod y gweithgor tenantiaid eisoes wedi cyfarfod. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nawr ein bod yn gadael i'r gweithgorau hyn wneud eu gwaith gan ein bod wedi dod at ddiwedd ail gam y cyd-gynllunio, cyn yr ymgynghoriad terfynol ddiwedd y flwyddyn nesaf. Mae'r ddwy ran o'r sector amaethyddol y cyfeiriwch atynt—tenantiaid a thir comin—yn bwysig iawn i'r sector amaethyddol yma yng Nghymru. Mae'r Bil yn cynnwys addasiadau i Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 er enghraifft, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn clywed gan y ddwy ran o'r sector, a bydd y ddau weithgor yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn adrodd yn ôl i mi.
Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Roedd yn dda eich gweld yn y ffair aeaf ddydd Llun, ac roedd yn gyfle gwych i glywed y diweddaraf gan rai o'r ffermwyr a gwrando ar eu pryderon. Fe fyddwch chi'n gwybod fel y gŵyr eraill mai un o'r pethau pwysicaf a wnaeth godi oedd y ffliw adar. Mae hynny'n bryder enfawr, ac rydym yn amlwg yn croesawu'r mesurau gorfodol i gadw adar dan do a gyflwynwyd gennych, neu a fydd yn cael eu cyflwyno ddydd Gwener yma. Wedi dweud hynny, bydd busnesau'n dal i wynebu tarfu andwyol ar eu gweithgareddau, a'r rhai sy'n ymdrin ag wyau a chigoedd dofednod yn benodol, a cheir pryderon yn y sector, a ffermwyr dofednod yn fy etholaeth, fod problem tarfu difrifol ar y farchnad yn sgil y ffliw yn y sector cig dofednod a'r sector wyau yn cael ei ddwysáu gan y chwyddiant enfawr ym mhrisiau bwyd anifeiliaid a chostau ynni. Nawr, yn eich ateb yn gynharach, fe ddywedoch chi y byddwch yn dwyn y mater i sylw Llywodraeth y DU ac yn gofyn beth y gallant ei wneud ac y byddwch yn archwilio pethau y gallech chi eu gwneud ar eich pen eich hun fel Llywodraeth Cymru. Ond wrth gwrs, gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael o dan Atodlen 5, Rhan 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 i ddatgan amod eithriadol yn y farchnad, a fyddai'n ei gwneud hi'n bosibl darparu cymorth i gynhyrchwyr wyau a dofednod. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r pwerau hyn, ac os felly, a wnewch chi eu defnyddio?
Wel, unwaith eto, mae'n rhywbeth y gallem ei wneud. Nid ydym yn gwybod am ba hyd y mae hyn yn mynd i bara. Gallai fod angen inni ei wneud yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, er enghraifft, ond byddai'n well gennyf gael y drafodaeth honno, oherwydd nid ydym wedi cael y drafodaeth weinidogol honno'n iawn ar draws y DU, oherwydd yn amlwg mae'n integredig iawn ar draws y DU. Felly, byddai'n well gennyf glywed gan Lywodraeth y DU yn gyntaf i weld a ydynt yn cynnig unrhyw gymorth. Fel y gwyddoch, rydym wedi bod yn gofyn iddynt gyflwyno cyllid pellach oherwydd y costau mewnbwn sylweddol sydd gan y sector amaethyddol ac y mae'n parhau i ddioddef o'u herwydd. Fe fyddwch wedi clywed hynny yn y ffair aeaf—clywais fod chwyddiant yn 36 y cant nawr ar ein ffermydd. Yn gyffredinol, mae'n 11 y cant, ond mae chwyddiant ar y fferm gryn dipyn yn uwch. Felly, byddai'n well gennyf gael y drafodaeth honno ar lefel weinidogol ddydd Llun.
Mae fy swyddogion wedi bod yn mynychu cyfarfodydd wythnosol, fel y dywedais, ar lefel swyddogol, ond mae fy swyddogion yn yr is-adran fwyd hefyd wedi bod mewn cyswllt dyddiol ynglŷn â'r costau. Rydym wedi gweld rhai archfarchnadoedd yn dechrau cyfyngu ar nifer yr wyau y gall defnyddwyr eu prynu. Rydym yn bryderus oherwydd, fel y gwyddom, os yw'r cyfryngau'n rhoi sylw i hynny, mae'n anodd iawn atal pobl rhag prynu mewn panig yn sgil hynny. Felly, rwy'n falch iawn o weld nad yw hynny wedi digwydd. Yn ddiddorol iawn, fel Sam Kurtz, fe synnais innau na chawsom wyau ym mrecwast Hybu Cig Cymru, os mai felly roedd hi mewn gwirionedd. Mae'n amlwg iawn yn y ffair aeaf nad oes gennym adar yno, ond roeddwn i'n meddwl bod honno'n enghraifft fyw iawn o'r hyn rydym yn ei ddioddef ar hyn o bryd. Felly, byddwn yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn dilyn y grŵp rhyngweinidogol ddydd Llun nesaf.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb.
Diolch am hynny. O'r gorau. Gan symud ymlaen at bysgodfeydd, os caf, mae concordat pysgodfeydd 2012 yn nodi sut y rhennir dyraniad cwota'r DU rhwng y pedair gweinyddiaeth, ac mae'n darparu egwyddorion cyffredinol ar gyfer rheoli a thrwyddedu ymdrechion. Un elfen allweddol sydd wedi'i chynnwys yn y concordat yw'r set o amodau sy'n gysylltiedig â'r cyswllt economaidd. Amod trwyddedu pysgodfeydd yw'r cyswllt economaidd. Ar hyn o bryd mae'n berthnasol i bob cwch dros 10m o hyd a gofrestrwyd yn y DU sy'n glanio dros 2 dunnell o gwota DU y flwyddyn, gan gynnwys llongau treillio mawr. Yn fyr, mae'n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddangos cysylltiad go iawn ag economi'r DU drwy fodloni un o'r meini prawf a nodir yn amod trwyddedu cyswllt economaidd eu llong. Gellir crynhoi'r meini prawf hyn fel glanio o leiaf 50 y cant o gwota'r llong yn y DU, cyflogi criw gydag o leiaf 50 y cant ohonynt yn byw yn y DU, neu wneud o leiaf 50 y cant o'r gwariant gweithredu arferol yn ardaloedd arfordirol y DU. Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, mae'r cyswllt economaidd yn fater datganoledig. Mae'r amodau trwyddedu cyswllt economaidd yn bresennol yn nogfennau trwyddedau pysgota cyfredol Llywodraeth Cymru ar gyfer cychod pysgota masnachol. Ond gan fod mwyafrif fflyd Cymru'n cynnwys cychod bach dan 10m, mae'n anodd gwybod i ba raddau, os o gwbl, y mae cychod yn fflyd pysgota Cymru yn ddarostyngedig i'r amod trwyddedu cyswllt economaidd. Felly, o ystyried presenoldeb llongau treillio mawr niweidiol i'r amgylchedd yn nyfroedd Cymru, yn ogystal â chychod eraill sy'n fwy na 10m, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog i ba raddau y mae amodau cyswllt economaidd yn berthnasol i gychod sy'n pysgota yn nyfroedd Cymru? Mewn geiriau eraill, faint o longau sy'n ddarostyngedig i'r amodau cyswllt economaidd a pha fanteision economaidd y mae Cymru'n eu cael o'r trefniant hwn?
Diolch. Aeth hynny â fi'n ôl i drafodaethau pysgota cyngor mis Rhagfyr mewn bywyd blaenorol. Yn sicr, nid yw'r ffigurau hynny gennyf wrth law, ond fe fyddwn i'n hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod mewn perthynas â hynny. Rwy'n gwybod bod swyddogion yn cael trafodaethau ar hyn o bryd ynglŷn â nifer y trwyddedau sydd wedi'u dyrannu ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd, wrth symud ymlaen, ond byddwn yn hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod am y cyswllt economaidd.
3. Pa ystyriaeth y mae pwyllgor sefydlog y Cabinet ar ogledd Cymru wedi'i rhoi i gydweithio ar draws ffiniau drwy Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy? OQ58772
Diolch. Mae is-bwyllgor Cabinet gogledd Cymru wedi trafod meysydd polisi bras sy'n effeithio ar ardal Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, gan gynnwys trafnidiaeth, sgiliau ac adferiad COVID. Mae Llywodraeth Cymru yn un o'r sylfaenwyr, ac rydym yn gwerthfawrogi'r bartneriaeth o sefydliadau sy'n gweithio i gefnogi'r economi drawsffiniol.
Weinidog, mae hynny'n wych i'w glywed oherwydd mae trafnidiaeth gyhoeddus yn fater allweddol wrth gwrs—y mater pwysicaf mae'n debyg—i'w ystyried ar sail drawsffiniol yn ardal Mersi a'r Ddyfrdwy. Y penwythnos diwethaf, fe aeth Carolyn Thomas a minnau i Gaer. Fe gyfarfuom â ffigyrau allweddol o dros y ffin yn Lloegr, gan gynnwys y meiri metro Steve Rotherham ac Andy Burnham, yn ogystal â Samantha Dixon, ac fe fuom yn siarad am yr angen i wella trafnidiaeth gyhoeddus wrth gwrs, yn enwedig gwasanaethau bws ar sail trawsffiniol. Fel Gweinidog gogledd Cymru, a fyddech yn cytuno i gynnull uwchgynhadledd ar gyfer gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr er mwyn canolbwyntio ar drafnidiaeth a'r manteision economaidd posibl o gydweithio'n drawsffiniol yn yr ardal hon, sydd â chyfraniad mor gryf i'w wneud i economi Cymru a'r DU? Ac a fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn ystyried gwelliannau pwysig i'r seilwaith trafnidiaeth, gan gynnwys gwelliannau i brif reilffordd Wrecsam-Bidston?
Diolch. Yn sicr, byddwn yn cytuno â chi ar y pwynt olaf ac rwy'n gwybod ei bod yn bwysig iawn fod gennym bartneriaid yn cydweithio mewn perthynas â rheilffordd Wrecsam-Bidston, ac mae hynny'n cynnwys Trafnidiaeth Cymru, Merseyrail, a Llywodraeth Cymru ei hun.
Mewn perthynas ag uwchgynhadledd, ar hyn o bryd mae'n debyg, tra bo comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru yn cael golwg ar yr hyn sydd angen iddo ei wneud yn dilyn cyhoeddi ei adroddiad cynnydd—. Cyfarfûm â chadeirydd y comisiwn, ac ar hyn o bryd mae'n ceisio siarad â rhanddeiliaid ynghylch trafnidiaeth drawsffiniol, oherwydd fel y dywedwch, mae hynny mor bwysig i ogledd Cymru, ac yn sicr, hoffwn annog rhanddeiliaid o'r rhanbarth trawsffiniol i ymgysylltu â'r comisiwn.
Fe fyddwch yn gwybod yn iawn, gan ichi gadeirio'r is-bwyllgor o'r blaen, ei bod hi'n bwysig iawn yn y pwyllgor hwnnw ein bod yn gwahodd pobl i ddod i mewn o'r tu allan i roi cyflwyniadau, felly rwyf wedi gofyn i swyddogion ofyn i Steve Rotherham ac Andy Burnham ddod draw i'r pwyllgor. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod cyd-Weinidogion yn clywed am y cysylltiadau sydd gennym â gogledd-orllewin Lloegr a pha mor bwysig ydynt i ogledd Cymru, a gogledd-ddwyrain Cymru yn enwedig, ac yn amlwg, mae arweinwyr yr awdurdodau lleol yn mynychu'r pwyllgor hwnnw hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y ddau faer yn gallu dod draw naill ai i gyfarfod nesaf y pwyllgor neu'r un ar ôl hynny.
A gaf fi ategu galwad Ken Skates am amlygu'r cyfleoedd a geir yn sgil cydweithio trawsffiniol o'r fath yng ngogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, yn enwedig i drafnidiaeth yno, lle gwelwn oddeutu 200,000 o bobl yn croesi'r ffin yn ddyddiol? Ond yn wir, mae yna gyfleoedd eraill y credaf fod Cynghrair Mersi a'r Dyfrdwy, fel esiampl wych, yn ceisio manteisio arnynt, sef y cyfle i weithio ar draws Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol dros y ffin, ac un o'r rheini—. Cefais y fraint o fynychu cyfarfod gyda HyNet ddydd Llun yr wythnos hon, ac fe wnaethant rannu gyda mi eto eu prosiect arfaethedig nid yn unig i wneud yn siŵr fod hydrogen ar gael yn y rhanbarth, ond hefyd i dynnu carbon o lawer o'r diwydiannau yn y rhanbarth hefyd, a buddsoddi biliynau o bunnoedd yn yr ardal. Felly, Weinidog, tybed pa asesiad a wnaethoch o'r rôl y gall y pwyllgor sefydlog ei chwarae wrth weithio gyda Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy i sicrhau y bydd prosiectau fel HyNet a phrosiectau ecogyfeillgar cadarnhaol eraill o'r fath yn gwneud gwahaniaeth yn y rhanbarth.
Fel rwy'n dweud, mae'n bwysig iawn fod pob partner yn gweithio gyda'i gilydd ac rwy'n meddwl eich bod chi'n iawn ynghylch prosiect HyNet. Unwaith eto, cyfarfûm â Steve Rotherham ac Andy Burnham i drafod y rôl y gall HyNet a'r prosiect hydrogen ei chwarae ar draws y ffin, ac mae'r ddau'n awyddus iawn i gymryd rhan. Felly, gall y pwyllgor ddod â'r holl bartneriaid hyn at ei gilydd, ac fe glywsoch chi fi'n dweud yn fy ateb cynharach i Ken Skates ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cael pobl o'r tu allan i allu ein helpu gyda'n trafodaethau, yn enwedig gan fod arweinwyr yr awdurdodau lleol o bob rhan o ogledd Cymru—y gogledd-orllewin a'r gogledd-ddwyrain—yn y cyfarfod hwnnw, i glywed pa mor agos y gallwn ni weithio gyda'n gilydd, oherwydd, fel y dywedoch chi, mae nifer sylweddol o bobl yn croesi'r ffin honno bob dydd.
4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i annog cymunedau i ymgysylltu â ffermio? OQ58787
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella dealltwriaeth o sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, yn ogystal â darparu buddion cymdeithasol drwy dyfu a gefnogir gan y gymuned. Mae cymorth ar gael ar gyfer amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned drwy raglen datblygu gwledig cymunedau gwledig Llywodraeth Cymru, o dan y cynllun datblygu cadwyni cyflenwi a chydweithio a LEADER.
Diolch am hynny, Weinidog. Rwy'n credu ei bod hi'n amlwg yn bwysig fod y gymuned ehangach yn deall ac yn teimlo cysylltiad â ffermio os ydym yn mynd i gael y math o gefnogaeth boblogaidd i'n polisïau a'r sector ffermio yr hoffem ei gweld. Mae'n ymwneud â deall yn well sut mae ein ffermydd yn gweithio, beth sy'n digwydd ar y tir a sut y caiff ein bwyd ei gynhyrchu. Rwy'n credu bod y Cerddwyr yn gwneud gwaith da, Weinidog, ar gysylltu cymunedau â thirfeddianwyr/ffermwyr drwy eu menter Llwybrau i Lesiant, sydd, drwy weithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr, yn cynllunio llwybrau ac yna'n rhoi hyfforddiant ac offer i'r gymuned allu gwella natur a gwella mynediad i'r tir hwnnw. Rwy'n gwybod bod Maendy yn fy etholaeth i yn Nwyrain Casnewydd yn un ardal sy'n rhan o'r prosiect hwn, Weinidog, a tybed a fyddech chi'n gweld y cynllun ffermio cynaliadwy fel ffordd o barhau a chryfhau'r gwaith hwn, sy'n bwysig iawn yn fy marn i, fel ein bod yn ei wneud ar y sail gymunedol ehangach y mae'r Cerddwyr yn ei datblygu, efallai, yn ogystal â chysylltu'r sector addysgol â ffermydd a ffermio.
Diolch. Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n sicr yn gweld y cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol yn cael ei ymgorffori i'r maes hwn. Fel y soniais yn yr ateb a gyflwynais i chi, mae gennym lawer o gynlluniau rydym yn eu cefnogi, ac mae'n dda iawn clywed am y prosiect yn eich etholaeth.
Rwyf wedi bod yn falch iawn o weld faint o ffermwyr sydd am ymgysylltu ag ysgolion, ac rwyf wedi bod ar lawer o ymweliadau fferm lle mae plant ysgol yn bresennol, yn dysgu ynglŷn â sut y caiff bwyd ei gynhyrchu, a'r hyn y mae'r sector amaethyddol yn ei wneud, oherwydd wrth gwrs, yn enwedig os ydych yn dod o ardal drefol, efallai nad oes gennych yr wybodaeth honno, ac mae'n wych gweld ein ffermwyr yn ymgysylltu. Pan oeddwn yn y ffair aeaf ddydd Llun—a chredaf fod hyn yn bwysig iawn, gan fynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud am blant ysgol—roeddwn yn falch iawn o allu cefnogi, gyda chyllid ac adnoddau eraill, llyfryn y gellir ei ddarparu i blant ynglŷn â diogelwch fferm, gan y credaf, unwaith eto, fod ffermydd yn gallu bod yn lleoedd peryglus iawn, ac mae’n bwysig iawn fod ein plant, cyn mynd ar fferm, yn deall y peryglon sydd yno.
Mae gennym hefyd y strategaeth bwyd cymunedol, sy’n ffordd arall y credaf y gallwn ymgysylltu â’r gymuned, ac rwy’n cael trafodaethau ar hyn o bryd gyda Cefin Campbell, fel yr Aelod dynodedig yn rhan o’r cytundeb cydweithio, mewn perthynas â’r strategaeth bwyd cymunedol. Bwyd yw'r ffactor cyffredin, ond mae cymaint o fanteision cymdeithasol a all ddeillio o'r math hwn o waith hefyd.
Weinidog, mae’r diwydiant cig eidion byd-eang wedi mwynhau cyfres o ymgyrchoedd gwrth-gig yn ddiweddar o wahanol ffynonellau, sy'n gwneud honiadau difrifol am ddifrod amgylcheddol, problemau lles anifeiliaid a materion iechyd. Mae ffermio cig eidion yng Nghymru wedi dioddef o ganlyniad. Rwy’n gwerthfawrogi cwestiwn fy nghyd-Aelod i chi yn gynharach, ond un o’r ffyrdd o fynd i’r afael â’r gamwybodaeth hon, yn amlwg, fel y sonioch ac fel y soniodd yntau, fyddai annog disgyblion ysgol i ymweld â ffermydd. Hoffwn ganolbwyntio mwy ar alluogi plant o ysgolion anghenion arbennig, yn ogystal â’r bobl hynny o gefndiroedd mwy agored i niwed, i fynd i weld o ble y daw eu bwyd, a gallant ddysgu am gynaliadwyedd a phwysigrwydd ffermio i'r amgylchedd. Felly, hoffwn wybod, Weinidog, pa drafodaethau rydych wedi’u cael gyda sefydliadau ffermio, y Gweinidog addysg a Gweinidogion eraill posibl yn Senedd Cymru, i annog mwy o bobl ifanc, pobl o gefndiroedd anabl, lleiafrifoedd ethnig, yn ogystal â phobl o gefndiroedd difreintiedig efallai, i allu mynd i weld o ble y daw eu bwyd. Diolch.
Diolch. Rwyf wedi cael cryn dipyn o drafodaethau, yn sicr yn ystod sioeau’r haf. Roedd gan Gwartheg ar Daith gornel wych yn sioe sir Benfro, lle roedd ganddynt lif cyson o blant ysgol yn mynychu, lle roeddent yn adrodd hanes y daten, sut y dechreuodd y daten, gan fynd drwy fywyd taten a sut y mae'n cyrraedd ein platiau ar wahanol ffurfiau. Mae'r mathau hynny o bethau'n wirioneddol bwysig. Ni fyddwn yn dweud ei fod yn ymwneud â grwpiau penodol o blant; roedd yn ymwneud â phlant a phobl ifanc yn gyffredinol, ond roeddwn yn falch iawn o gefnogi hynny. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda’r Gweinidog addysg mewn perthynas â hynny, ac fel y dywedaf, gyda’r ffermwyr eu hunain, gan ei bod yn ddiddorol iawn gweld cymaint o ffermwyr yn annog ymweliadau gan eu hysgolion lleol. Credaf ei fod yn rhywbeth y byddwn yn falch iawn o barhau i'w gefnogi mewn unrhyw ffordd y gallaf.
5. Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran cydweithio â Llywodraeth y DU ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)? OQ58791
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y Bil lles anifeiliaid, sy’n gwneud darpariaethau i sicrhau diwygiadau pwysig ar gyfer lles anifeiliaid a gedwir. Mae memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer holl gymalau'r Bil wedi’u gosod yn y Senedd.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy’n siŵr fod y Gweinidog yn disgwyl cwestiwn am filgwn yma, ond nid ar yr achlysur hwn. Hoffwn nodi a mynegi fy mod yn rhannu pryderon RSPCA Cymru, sydd wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi blaenoriaeth i gwblhau’r Bil, fel bod yr arferion creulon y mae’n ceisio mynd i’r afael â hwy yn dod i ben. Fodd bynnag, ceir pryderon fod ymrwymiad Llywodraeth y DU i’r Bil ar fin methu.
Nawr, yn ôl ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i grŵp gorchwyl a gorffen arbenigol gan grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru. Roedd yr adolygiad wedi gwneud 55 o argymhellion a oedd yn ymwneud â materion fel gwell hyfforddiant i awdurdodau lleol, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r rhan fwyaf o’r rhain eto. Felly, yn absenoldeb unrhyw gynnydd gweladwy ar ran Llywodraeth y DU, a oes unrhyw fwriad gan Lywodraeth Cymru i wella rheoliadau Cymru, i gryfhau'r ddeddfwriaeth mewn perthynas â bridio didrwydded a ffermio cŵn bach, yn ogystal â mewnforio ac allforio anifeiliaid anwes o Gymru?
Rwyf am gyfeirio at y ddau beth ar wahân. Felly, o safbwynt Llywodraeth Cymru, yn amlwg, ein blaenoriaeth yw lles anifeiliaid, fel y nodir yng nghynllun lles anifeiliaid Cymru. Ac mae pethau y gallwn eu gwneud ar ein pen ein hunain, ond hefyd, yn y cynllun hwnnw, mae'n cynnwys cydweithredu â Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill lle mae gwneud hynny'n cynnig manteision amlwg.
Mewn perthynas â’r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir), rhannaf eich pryder ynghylch y diffyg cynnydd a welsom. Nid yw’r aflonyddwch rydym wedi’i weld a’r anhrefn llwyr yn Llywodraeth y DU wedi helpu, ond rydym yn obeithiol. Rwyf am geisio cael gwybodaeth fwy pendant ynglŷn â hyn yn y grŵp rhyngweinidogol, ond yn sicr, mae swyddogion sydd wedi cyfarfod â'u swyddogion cyfatebol yn DEFRA wedi clywed y bydd dyddiad Cyfnod Adrodd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, gobeithio, gan ein bod wedi gweld y Bil yn dod i stop dro ar ôl tro. Ond rydym yn cadw llygad barcud arno, ac unwaith eto, rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd gennym ragor o wybodaeth, oherwydd yn amlwg, mae'n Fil Llywodraeth y DU, a hwy sy'n nodi'r amserlen seneddol.
Weinidog, mae’r Bil hwn wedi’i gefnogi gan yr RSPCA, y Dogs Trust a Chymdeithas Milfeddygon Prydain, ac mae pob un ohonynt yn cydnabod y bydd y ddeddfwriaeth yn gwella safonau lles, yn anad dim drwy sicrhau mai dyma'r wlad gyntaf yn Ewrop i wahardd allforio anifeiliaid byw i’w lladd a’u pesgi. A yw’r Gweinidog yn derbyn bod y cyflawniad hwn, ynghyd â’r mesurau i fynd i’r afael â mewnforio cŵn bach, yn gam enfawr tuag at gyflawni’r safonau uchel hynny y mae pob un ohonom yn dymuno'u gweld?
Mae'n ddeddfwriaeth bwysig iawn ar sawl lefel. Fe gyfeirioch chi at ddwy ohonynt, ond mae’r rhan o’r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag ymosodiadau gan gŵn ar dda byw, i mi, yn bwysig iawn. Nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn addas i’r diben o gwbl. Rwy'n edrych ar fy mhapur briffio i weld pa flwyddyn—cafodd y ddeddfwriaeth rydym yn gweithio iddi ar hyn o bryd ei llunio ym 1953. Wel, mae hynny cyn imi gael fy ngeni, felly amser maith yn ôl, ac yn amlwg, mae angen ei diweddaru i sicrhau ei bod yn addas i'r diben. Rwyf wedi cael rhai sgyrsiau gyda'r cydgysylltydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt ynglŷn a'r ffaith bod gwir angen inni sicrhau bod ein deddfwriaeth yn addas i'r diben, ac yn amlwg, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am lawer o hynny. Felly, rwy’n fwy na pharod i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU. Fe sonioch chi am wahardd allforio gwartheg byw, sydd, unwaith eto, o safbwynt lles anifeiliaid, yn wirioneddol bwysig yn fy marn i.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau hirdymor y Llywodraeth i olynu cynllun LEADER? OQ58794
Diolch. O ganlyniad i’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi anrhydeddu ei hymrwymiad i ddarparu cyllid llawn yn lle cyllid yr UE, mae Cymru oddeutu £1.1 biliwn ar ei cholled. Fodd bynnag, fy mwriad yw parhau i gefnogi datblygu lleol dan arweiniad y gymuned drwy ein fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru.
Diolch am yr ateb yna. Dwi innau, wrth gwrs, yn rhannu'r rhwystredigaeth bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi mynd yn ôl ar ei gair o ran gwariant yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r gwaith gwych sydd wedi cael ei wneud dan gynllun LEADER. Dwi'n arbennig o ddiolchgar i Menter Môn yn fy etholaeth i am y gwaith arloesol maen nhw wedi'i arwain yn tynnu arian i mewn ac yn cychwyn prosiectau drwy LEADER. Maen nhw wedi ysgrifennu at y Gweinidog—mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol o hynny—ar ran y grwpiau gweithredu lleol, yn codi pryder am y ffaith nad oes gennym ni sicrwydd beth sy'n mynd i fod yn digwydd ar ôl 2023. Mae yna gynlluniau'n cael eu datblygu gan DEFRA ar gyfer Lloegr, ar gyfer rhyw fath o system levelling up gwledig yn Lloegr. Mae yna awgrym y gallai'r shared prosperity fund gael ei ddefnyddio, ond dydy hwnnw'n cynnig dim math o gysondeb gwariant na'r gallu i fod yn strategol yn yr hirdymor. Ond, ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi fod angen sicrwydd rŵan nad ydy'r cynlluniau yma, na'r strwythurau sydd wedi galluogi'r cynlluniau LEADER i ddatblygu, yn mynd i ddod i ben yn sydyn ar ôl 2023?
Rydych yn llygad eich lle, rwyf wedi cael llythyr ac rwyf wedi ymateb i Menter Môn mewn perthynas â'u pryderon ynghylch rhaglen yn lle LEADER yng Nghymru. Yn amlwg, ni allaf wneud unrhyw ymrwymiadau cyn y gyllideb ddrafft, ond mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i weld sut y gallwn barhau i gefnogi cymunedau gwledig yn y dyfodol. Mae gwaith rhagorol wedi'i wneud drwy raglen LEADER dros gyfnod hir o amser. Rwyf wedi gweld drosof fy hun lawer o enghreifftiau o’r prosiectau arloesol sydd wedi’u cyflawni mewn llawer o gymunedau gwledig, ac fel y dywedaf, ein bwriad yw parhau i gefnogi datblygu lleol dan arweiniad y gymuned yn benodol.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr achosion o'r ffliw adar presennol ar gynhyrchwyr wyau yng Nghymru? OQ58789
Diolch. Ers 1 Hydref 2022, mae tri achos o ffliw adar wedi’u cadarnhau yng Nghymru. Roedd dechrau epidemiolegol yr achosion presennol ym mis Hydref 2021, a gwelsom achosion yn parhau i gael eu cadarnhau drwy gydol yr haf am y tro cyntaf. Rydym yn parhau i fonitro sefyllfa’r clefyd yn ddyddiol.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae’r sector dofednod yng Nghymru a thu hwnt yn wynebu amrywiaeth o heriau ar hyn o bryd, gydag effeithiau’r achosion o ffliw adar yn cyfuno â chynnydd mewn costau mewnbynnau i greu rhagolygon anodd i gynhyrchwyr. Mae'r cyflenwad cyfyngedig, yn rhannol o ganlyniad i fesurau ffliw adar a galw uwch yr adeg hon o'r flwyddyn, wedi golygu bod argaeledd wyau yn is nag arfer. Mae hyn wedi arwain at nifer o archfarchnadoedd yn cyfyngu ar werthiant wyau i ddefnyddwyr. Mae undebau'r ffermwyr hefyd wedi codi pryderon fod rhai manwerthwyr wedi gwneud y penderfyniad siomedig i fewnforio wyau sgubor, nad ydynt yn cael eu cynhyrchu i’r un safonau uchel ag yma yng Nghymru.
Weinidog, gwn y byddwch yn cytuno â mi fod hwn yn gyfnod pryderus i gynhyrchwyr dofednod, sy’n gwneud eu gorau glas i gynnal hyder ehangach yn y sector. Felly, sut y mae’r Llywodraeth yn gweithio gyda chynhyrchwyr i helpu i gynnal y cyflenwad i’r graddau mwyaf posibl, yn ogystal â gweithio gyda manwerthwyr i sicrhau bod cynhyrchwyr yn cael pris teg am eu hwyau? Sut y byddech yn ymateb i alwadau gan undebau'r ffermwyr ichi ystyried defnyddio pwerau o dan Ddeddf Amaethyddiaeth y DU 2020 i archwilio a ddylid datgan amodau eithriadol yn y farchnad, fel y gall y Llywodraeth gefnogi cynhyrchwyr i ymdopi ag unrhyw golledion ariannol o ganlyniad i'r mesurau sydd ar waith i fynd i'r afael â ffliw adar?
Diolch. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach fod hynny, yn amlwg, yn rhywbeth y gallwn ei ystyried. Byddai'n well gennyf aros tan fy mod wedi cael fy nghyfarfod gweinidogol ddydd Llun i weld beth yw'r safbwyntiau eraill ledled y DU ac i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud ar y cyd. Credaf eich bod yn iawn; mae'r rhain yn adegau heriol i bawb, ac rwy’n derbyn yn llwyr fod pwysau arall o amrywiol fathau ar ein cynhyrchwyr wyau ar hyn o bryd.
Yn sicr, yr wybodaeth a roddir i mi—unwaith eto, soniais yn gynharach ein bod mewn cysylltiad dyddiol mewn perthynas â'r mater hwn—yw bod y cyflenwad yn dynn ond ei fod yn dal ei dir, a gwn fod rhai archfarchnadoedd wedi cyflwyno lefel isel o gyfyngiadau ar faint o wyau y gall cwsmer eu prynu, er enghraifft. Ond teimlwn mai'r perygl mwyaf i'r cyflenwad yw'r cyfryngau'n annog pobl i brynu mewn panig, felly rydym yn awyddus iawn i osgoi hynny.
8. Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ychwanegu at y capasiti prosesu bwyd yng Nghymru? OQ58792
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar ei hanes cryf o fuddsoddi yn y diwydiant bwyd, fel a ddisgrifiwyd yn fy ngweledigaeth strategol a gyhoeddwyd y llynedd. Y mis hwn, lansiais £40 miliwn o fuddsoddiad drwy’r cynllun sbarduno busnesau bwyd newydd i gefnogi buddsoddiad cyfalaf mewn offer prosesu a seilwaith.
Diolch, Weinidog. Un peth sydd bob amser wedi peri penbleth i mi yw gyrru ar hyd yr M4 a gweld tancer ar ôl tancer yn allforio llaeth o ardal laeth gorllewin Cymru. Rwy’n sylweddoli nad penderfyniad y Llywodraeth yw bod hynny’n digwydd—mae wedi bod yn benderfyniad masnachol y mae llaethdai wedi’i wneud ers degawdau lawer—ond drwy unrhyw gapasiti prosesu y mae Llywodraeth Cymru yn edrych arno, dylai fod yn flaenoriaeth i geisio sicrhau mwy o gapasiti prosesu i’r ardal laeth sylweddol honno—mae’n sylweddol—sydd gyda'r mwyaf yng ngorllewin Ewrop, fel y gellir ychwanegu gwerth at y cynnyrch, ac ie, ei allforio allan o Gymru wedyn i gyflawni’r gwerth llawn ar silffoedd y DU a thu hwnt. Felly, gyda'r strategaethau rydych wedi'u rhoi ar waith, pa mor hyderus ydych chi, erbyn diwedd tymor y Senedd hon yn 2026, y byddwn yn gweld cynnydd yn y capasiti prosesu yn ardal laeth gorllewin Cymru i ychwanegu'r gwerth hwnnw a chadw'r arian yma yng Nghymru ac wrth gât y fferm?
Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, a gwelsom yr hyn a ddigwyddodd yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar ôl inni golli prosesydd llaeth—yr anawsterau a achoswyd gan hynny. Felly, rwy’n awyddus iawn i weld mwy o brosesu llaeth yma yng Nghymru, ac nad ydym yn gweld y tanceri hynny, fel y dywedwch, yn croesi’r ffin. Mae’n benderfyniad masnachol, ond rôl y Llywodraeth yn fy marn i yw sicrhau bod gennym gynlluniau hygyrch i bobl sy’n awyddus naill ai i ehangu eu hadeiladau neu chwilio am gyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf pellach. Soniais am y cynllun sbarduno busnesau bwyd—dim ond ar 17 Tachwedd yr agorodd—rydym wedi darparu £40 miliwn ar ei gyfer. Bydd ar agor cyhyd ag y bydd angen er mwyn i’r £40 miliwn hwnnw gael ei ddefnyddio, felly rwy'n gobeithio y caiff ei ddefnyddio’n llawn yn y ffordd rydych yn ei hawgrymu.
Diolch i'r Gweinidog.
Does dim cwestiynau amserol o dan eitem 3.
Eitem 4 sydd nesaf, felly, y datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf gan Jenny Rathbone.
Mae bwyty The Clink yng Nghaerdydd wedi gweithredu ers dros 10 mlynedd o adeilad sydd wedi'i gysylltu â charchar Caerdydd. Mae'n un o bedwar bwyty a weithredir gan The Clink Charity—mae'r lleill yng ngharchardai Brixton, High Down a Styal. Mae cegin addysgu a bwyty Caerdydd y tu allan i furiau’r carchar, felly dim ond carcharorion categori C nad ystyrir eu bod yn debygol o ddianc y gellir eu recriwtio. Nid oes unrhyw garcharorion categori C yng ngharchar Caerdydd, felly mae’r holl ddysgwyr yn cael eu recriwtio o garchar Prescoed ym Mrynbuga.
Mae wedi rhoi gobaith ar y fwydlen i bron i 3,000 o ddysgwyr, sydd wedi graddio gyda chymwysterau City & Guilds mewn gweini bwyd, diogelwch bwyd, paratoi bwyd a choginio. Mae'r rhan fwyaf o raddedigion The Clink yn camu ymlaen i gyflogaeth amser llawn, ac nid yw'n syndod eu bod ddwy ran o dair yn llai tebygol o aildroseddu a mynd yn ôl i'r carchar na charcharorion eraill. Mae'n rhaglen adsefydlu sy'n gweithio.
Cyn COVID, enillodd Clink Caerdydd y wobr uchaf un am ei fwyd, ochr yn ochr â chyrchfannau bwyd enwog fel Le Manoir aux Quat'Saisons. Beth sydd ddim i'w hoffi am y stori lwyddiant hon? Yr wythnos diwethaf, yn anffodus, bûm mewn cinio ffarwelio yn The Clink. Roedd yn ddathliad ac yn wylnos. Cyfarfûm â graddedigion, hyfforddwyr a chyflogwyr a oedd wedi darparu lleoedd hyfforddi a chyflogaeth. Mae angen i CEF Caerdydd esbonio pam y gwnaethant benderfynu peidio ag adnewyddu les yr elusen hynod lwyddiannus hon. Bydd The Clink yn cau ar 16 Rhagfyr.
Ar 25 Tachwedd, dathlodd The Mousetrap 70 mlynedd ers agor yn theatr yr Ambassadors. Ers blynyddoedd lawer, mae campwaith theatrig Agatha Christie wedi dal record y byd am y ddrama lwyfan sydd wedi rhedeg hiraf. Mae wedi cael ei pherfformio bron i 29,000 o weithiau ar lwyfan yn Llundain ac wedi’i gweld gan dros 10 miliwn o bobl. Arweiniodd y West End allan o'r cyfyngiadau symud; y sioe gyntaf i ailagor yn ei chartref presennol yn theatr St Martin.
Rhoddwyd breindaliadau o'r ddrama gan frenhines y nofelau ditectif i'w hŵyr, Mathew Pritchard. Ym 1995, sefydlodd Mathew ymddiriedolaeth elusennol Colwinston, a ariennir yn bennaf gan y breindaliadau hynny, i gefnogi grwpiau celfyddydol. Bob blwyddyn, mae'r ymddiriedolaeth yn dosbarthu cannoedd o filoedd o bunnoedd, gyda sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn derbyn oddeutu 80 y cant o'r holl grantiau. Mae'r ymddiriedolaeth wedi cefnogi Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, Opera Cenedlaethol Cymru, y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, a phrifysgolion Cymru. Mae hefyd wedi cefnogi mwy o sefydliadau a phrosiectau lleol, yn enwedig y rheini sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc neu sy'n gysylltiedig â gwella mynediad at y celfyddydau, fel Plant y Cymoedd. Bydd dathliadau pen-blwydd The Mousetrap yn 70 oed yn cynnwys ei ymddangosiad cyntaf ar Broadway a thaith o amgylch y DU, gan gynnwys perfformiadau yng Nghaerdydd ac Abertawe, yn ogystal â gwaddol o barhau i gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru. Ond cofiwch gadw'r gyfrinach dan glo.
Gyda chwaraewyr, staff a chefnogwyr tîm pêl-droed dynion Cymru yn paratoi i adael Qatar i ddychwelyd adref, roeddwn eisiau cymryd y cyfle heddiw i gyfleu ein diolch i bob un ohonynt, ynghyd â’r Wal Goch oedd yn cefnogi yma yng Nghymru. Er bod ein siwrnai wedi dod i ben, a bod yna siom yn naturiol, mae yna gymaint hefyd i’w ddathlu, a dyna'r hoffwn adlewyrchu arno heddiw.
Roedd cyrraedd cwpan y byd am y tro cyntaf ers 1958 yn gamp aruthrol, ac yn destun balchder i’r genedl gyfan. Dyma’r tro cyntaf erioed i nifer fawr ohonom weld ein tîm cenedlaethol yn y gystadleuaeth, ac mae’r tîm wedi llwyddo i ysgogi cefnogwyr o bob oed a dangos i’r byd bod y wlad fach hon rydyn ni’n ei charu 'yma o hyd'.
Ar adeg sydd mor anodd i gynifer o bobl yn sgil COVID a rŵan yr argyfwng costau byw, onid ydy hi wedi bod yn wych gallu dathlu ein cenedl a gweld mor o goch a hetiau bwced ledled y wlad ac ar ein sgriniau teledu? Dwi’n siŵr nad fi oedd yr unig un i gael dagrau yn ei llygaid yn gwylio ein gêm gyntaf yn erbyn yr Unol Daleithiau ar y teledu a chlywed ein hanthem yn atseinio drwy’r stadiwm a sylweddoli mai dyma’r tro cyntaf erioed iddi gael ei chlywed gan gynifer o bobl.
A rhaid talu teyrnged arbennig i’r ffordd mae Cymdeithas Pêl-Droed Cymru, o dan arweiniad Noel Mooney a hefyd, wrth gwrs, Ian Gwyn Hughes, wedi sicrhau bod Cymru, nid dim ond y gymdeithas, wedi elwa o’r cyfle anhygoel hwn, gan adeiladu ar y gwaith gwych mae’r gymdeithas wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd bellach i foderneiddio a chydweithio â’r Wal Goch, a sicrhau bod pêl-droed yn perthyn i bawb yng Nghymru, a bod y gair 'Cymru' yn perthyn i bawb hefyd, pa un a’ch bod chi'n siarad Cymraeg neu beidio.
Pinacl y gwaith hwn oedd gweld ein hanes, ein hiaith a’n gwerthoedd yn ganolog i’r holl ymgyrch cwpan y byd, ac ni wnaf byth anghofio tra byddaf fod yn stadiwm Dinas Caerdydd pan wnaethom sicrhau ein lle yng nghwpan y byd a gweld yr holl dîm, gyda Dafydd Iwan yn eu canol, yn morio canu 'Yma o Hyd', a hyd yn oed ambell i aelod o’r blaid Dorïaidd yn canu ‘Er gwaetha’r hen Fagi a’i chriw'—peidiwch â phoeni, wnaf i ddim eich enwi heddiw. Fel dywedodd Dafydd Iwan wrth gael ei gyfweld yn Qatar, beth bynnag y canlyniad yn y gystadleuaeth, heb os, mae Cymru wedi ennill, ac fel dywedodd Gareth Bale wrth gael ei holi neithiwr wrth edrych tuag at yr Ewros:
'Fe awn ni eto ym mis Mawrth.'
Gallant fod yn sicr, fel gall y tîm merched hefyd, beth bynnag fo unrhyw ganlyniad yn y dyfodol, bydd y Wal Goch yno i ddathlu a chydymdeimlo fel y mae wedi bod ar hyd y siwrnai hon. Gyda’n gilydd yn gryfach. Diolch, tîm Cymru. [Cymeradwyaeth.]
Ac yn ysbryd gemau pêl-droed 90 munud nad ydynt byth o fewn y 90 munud y dyddiau hyn, fe wnes i ganiatáu i'r datganiad 90 eiliad hwnnw fynd y tu hwnt i'r 90 eiliad. [Chwerthin.] Ond nid yw hynny i’w ailadrodd.
Diolch i Heledd am adlewyrchu ein teimladau ni i gyd wrth feddwl am ein tîm pêl-droed a'r cefnogwyr, a phawb sydd wedi cynrychioli Cymru mor dda.
Eitem 5, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE', a dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Peredur Owen Griffiths.
Cynnig NDM8149 Peredur Owen Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar drefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae’n bleser gennyf wneud y cynnig ac agor y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ynghylch trefniadau ariannu ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r mater o osod trefniadau ariannu newydd yn lle rhai yr Undeb Ewropeaidd yn un hynod berthnasol yng Nghymru, gan mai ni oedd y wlad oedd yn cael y mwyaf o arian yr Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â’n poblogaeth o blith gwledydd y Deyrnas Unedig. Fel pwyllgor, roedd y maes hwn yn un o flaenoriaeth i ni, ac fe aeth ein hymchwiliad ati i edrych yn fanwl ar yr hyn a fyddai’n cymryd lle arian yr Undeb Ewropeaidd, gyda’r nod o weld faint o arian yr oedd Cymru yn ei gael.
Fel rhan o hyn, fe wnaethom ni edrych ar gynlluniau ariannu newydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sef y gronfa adfywio cymunedol, y gronfa ffyniant bro a’r gronfa ffyniant gyffredin. Gan fod ein hymchwiliad yn drawsbynciol ei natur, roeddem yn falch o glywed gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hoffwn ddweud pa mor ddiolchgar ydw i i’r Gweinidogion a wnaeth ymddangos gerbron y pwyllgor.
Mae’r trefniadau ariannu newydd a sefydlwyd ers i’r DU adael yr UE yn cynrychioli newid seismig yn y ffordd y caiff arian ei ddyrannu i Gymru a rôl Llywodraethau Cymru a’r DU yn y broses honno. Ein canfyddiad pennaf oedd bod gweithrediad llwyddiannus y cronfeydd newydd hyn yng Nghymru yn cael ei beryglu gan y diffyg ymgysylltu rhwng Llywodraethau Cymru a’r DU. Ni ddylai darpariaeth cyllid o dan y trefniadau hyn ymwneud â rhannu arian ar draws y DU yn unig; mae angen iddo hefyd ymwneud â rhannu syniadau a chyfrifoldebau os yw am fod yn ddull partneriaeth gwirioneddol.
Gwnaethom 20 o argymhellion yn ein hadroddiad, sy’n cynnwys argymhellion a anelwyd at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau am ddarparu ymateb ysgrifenedig i’n hargymhellion. Rydym yn sylweddoli nad yw Llywodraeth y DU yn atebol i’r Senedd. Fodd bynnag, er mwyn darparu cyllid yn lle cyllid yr UE yn llwyddiannus, bydd angen cydweithrediad y ddwy Lywodraeth, ac felly rydym yn ddiolchgar fod Llywodraeth y DU wedi bod yn rhan o’r broses graffu. Hoffwn ddiolch hefyd i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Gweinidog yr Economi am eu hymateb ar y cyd i’n hadroddiad ac am dderbyn yr holl argymhellion sy’n berthnasol i Lywodraeth Cymru.
O ystyried yr amser heddiw, rwyf am sôn am ein prif bryderon a chanfyddiadau. Dechreuaf gyda lefel y cyllid ar gyfer Cymru. Pan ddechreuasom yr ymchwiliad hwn, un ystyriaeth allweddol i ni oedd sut y mae’r cyllid newydd a gynigiwyd ar gyfer Cymru yn cymharu â’r cyllid roeddem yn ei gael pan oedd y DU yn aelod o’r UE. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod £1.1 biliwn wedi'i golli yng Nghymru o ran cyllid yn lle cyllid yr UE. Dywedodd Llywodraeth y DU wrthym y byddai'r gronfa ffyniant gyffredin yn cynyddu wrth i weddill cyllid yr UE ddod i ben. Dywed nad oedd darparu'r ddau beth yn rhywbeth a addawyd erioed. Nid yw wedi bod yn bosibl cadarnhau’r honiadau cyferbyniol hyn, gan ei bod yn amlwg nad oedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystyried sut y mae’r cyllid newydd a gynigir i Gymru yn cymharu â’r cyllid a dderbyniwyd pan oeddem yn yr UE yn yr un modd. Felly, nid oeddem yn gallu llunio barn ynglŷn ag a yw Cymru i fod i gael mwy, llai neu’r un lefel.
Mae datganiad yr hydref Llywodraeth y DU yn ychwanegu at ansicrwydd ynghylch dyfodol y cronfeydd hyn a’u gwerth. Er ein bod yn deall bod angen archwilio’r gwahanol safbwyntiau ynghylch arian newydd yn ystod ein hymchwiliad, fe wnaethom dreulio llawer o amser yn dadansoddi egwyddorion sylfaenol dadl pob Llywodraeth mewn perthynas â lefel cyllid yr UE. Cawsom dystiolaeth a oedd yn awgrymu bod y cyllid a gyhoeddwyd hyd yn hyn gan Lywodraeth y DU yn llai na’r hyn y byddai Cymru wedi’i gael pe baem wedi aros yn yr UE, er mai amcangyfrif yn unig yw unrhyw gyllid gan yr UE yn y dyfodol, ac felly ceir lefel o ansicrwydd ynghylch y gwerth hwnnw.
Yn ystod yr ymchwiliad, rydym wedi gweld gwybodaeth fanylach yn cael ei chyhoeddi gan y ddwy Lywodraeth, ond nid yw’n ddefnyddiol i Lywodraethau anghytuno fel y gwnaethant, ac i beidio â chyhoeddi manylion eu safbwynt yn brydlon ac yn llawn. Mae’n siomedig fod lefel yr anghytuno rhwng y ddwy Lywodraeth yn parhau. Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod datganiad yr hydref y DU yn golygu bod gwerth cyffredinol y gronfa ffyniant gyffredin ar gyfer y DU wedi gostwng £400 miliwn i £2.2 biliwn erbyn diwedd 2024-25. Fodd bynnag, ddoe ddiwethaf, cawsom ohebiaeth gan Weinidog ffyniant bro'r DU yn nodi bod hyn yn anghywir. Dyma’r union fath o anghytuno y credwn fod angen ei osgoi os yw’r cronfeydd hyn i lwyddo. Mae fy rhagflaenydd eisoes wedi ysgrifennu at y ddwy Lywodraeth, gan dynnu sylw at bwysigrwydd tryloywder wrth gyfrifo cyllid. Mae'n gwneud ein gwaith o graffu'n effeithiol hyd yn oed yn anos pan geir anghytuno fel hyn ynghylch lefelau cyllid.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? A gaf fi ddweud yr hyn rydych wedi fy nghlywed yn ei ddweud droeon? Byddai’n ddefnyddiol pe bai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ill dwy yn dangos eu gwaith cyfrifo yn hytrach na rhoi ffigur i ni ar y diwedd yn unig.
Diolch, Mike. Rydym yn argymell y dylai corff annibynnol asesu honiadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch lefelau cyllid yn y dyfodol a sut mae hyn yn cymharu â chyllid blaenorol yr UE. Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i’r argymhelliad hwn, ond yn anffodus, ni chawsom yr un ymrwymiad gan Lywodraeth y DU. Rydym yn annog y Gweinidog, felly, i fynd ar drywydd y mater yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid pan fydd yn cyfarfod nesaf.
Gadewch inni symud ymlaen at Lywodraeth y DU yn gweithredu mewn meysydd datganoledig. Un pryder mawr i ni yw Llywodraeth y DU yn defnyddio’r cronfeydd hyn fel ffordd o weithredu mewn meysydd datganoledig, yn benodol drwy’r pwerau cymorth ariannol yn Neddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a rhaglen Lluosi. Rydym hefyd yn cydymdeimlo â Llywodraeth Cymru am ei bod yn cael ei hanwybyddu yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae Pwyllgor Cyllid y pumed Senedd eisoes wedi archwilio materion sy’n ymwneud â Llywodraeth y DU yn ariannu meysydd datganoledig drwy Ddeddf y farchnad fewnol, felly nid wyf am ailadrodd y dadleuon hynny heddiw. Fodd bynnag, mae rhaglen Lluosi yn tresmasu ymhellach ar faes, fel y dywedodd Gweinidog yr Economi, ‘a ddatganolwyd yn bendant’. Rydym yn siomedig â’r dull o ddyrannu cyllid drwy raglen Lluosi, ac o gofio bod addysg yn faes sydd wedi’i ddatganoli, argymhellwyd gennym y dylai Llywodraeth y DU roi hyblygrwydd i wario arian o’r rhaglen mewn meysydd eraill. Rydym hefyd yn cydnabod safbwynt Llywodraeth Cymru fod ffocws y rhaglen yn rhy gul ac wedi arwain at ddyblygu darpariaeth. Dywed Llywodraeth y DU mai
'Bwriad Lluosi yw ategu darpariaeth bresennol Llywodraeth Cymru'
a bod
'Hyblygrwydd o hyd i leoedd addasu darpariaeth Lluosi mewn ymateb i'w hanghenion lleol.'
Fodd bynnag, rydym yn teimlo y dylai hyn fod wedi mynd ymhellach, er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru wario’r cyllid hwn mewn meysydd eraill. Mae’n destun pryder i ni hefyd fod y Senedd hon mewn perygl o gael ei hanwybyddu, a bod angen ystyriaeth bellach, er mwyn sicrhau craffu seneddol effeithiol ar y cronfeydd hyn a chronfeydd newydd yn y dyfodol yng Nghymru.
Er bod y pwyllgor yn gwerthfawrogi presenoldeb Ysgrifennydd Gwladol ac Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, gwrthododd Gweinidog y DU a oedd yn gyfrifol am yr arian fynychu. Fel pwyllgor, rydym hefyd wedi wynebu problemau tebyg yn y gorffennol wrth geisio ymgysylltu â Thrysorlys EM a hwythau'n gwrthod mynychu’r pwyllgor i drafod materion cyllidol sydd â’r potensial i gael effaith sylweddol ar Gymru. Os yw Llywodraeth y DU yn mynnu gweithredu mewn meysydd datganoledig, ni ddylai'r craffu ddigwydd yn San Steffan yn unig. Mae’r rhain yn drefniadau ariannu newydd, arwyddocaol sy’n galw am strwythurau cydnerth, tryloyw ac atebol ac sy’n adlewyrchu realiti cyfansoddiadol y DU, ac mae angen i’r Senedd hon ystyried ei rôl yn craffu ar y cronfeydd hyn.
Symudaf ymlaen at y tair cronfa benodol y soniais amdanynt ar y dechrau—y gronfa adfywio cymunedol, y gronfa ffyniant bro, a'r gronfa ffyniant gyffredin. Rydym yn bryderus iawn ynghylch y diffyg ymgysylltiad mewn perthynas â phob un o’r tair cronfa rhwng y ddwy Lywodraeth. Mae’r rhain yn ffrydiau ariannu newydd a hanfodol i Gymru, ac mae diffyg deialog yn golygu y bydd amcanion yn cael eu cam-alinio rhwng llywodraeth leol a Llywodraethau Cymru a’r DU. Er mwyn sicrhau gwerth am arian wrth gyflawni prosiectau, credwn ein bod yn gweithio orau i bobl Cymru pan fydd pob haen o lywodraeth yn cydweithio. Mewn perthynas â’r gronfa adfywio cymunedol a'r gronfa ffyniant bro, clywsom gan lywodraeth leol fod yr amserlenni ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi bod yn heriol, ac efallai fod y pwysau gweinyddol wedi bod yn ffactor allweddol yn y mathau o geisiadau a gyflwynwyd. Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod y safbwynt hwn. Ymhellach, disgrifiwyd y broses fel un gynhenid wastraffus. Rydym yn falch felly fod y gronfa ffyniant gyffredin wedi symud oddi wrth broses gystadleuol y cronfeydd hynny, ac rydym wedi gwneud nifer o argymhellion yn y maes hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi siarad yn gadarnhaol am waith ar y cyd â Llywodraeth y DU ar raglen y porthladdoedd rhydd yng Nghymru. Yn yr un modd, dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn awyddus i gryfhau ei pherthynas waith â Llywodraeth Cymru drwy adeiladu ar ei chydweithrediad effeithiol ar y rhaglen. Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod yn dal yn agored i sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'u rôl mewn unrhyw fforwm gweinidogol DU gyfan, ac yn fwy cyffredinol, ynglŷn a'r cyfleoedd iddynt ymgysylltu â'r gronfa ffyniant gyffredin a chyfleoedd codi'r gwastad eraill. Gobeithiwn y bydd Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y cynnig hwn i ymgysylltu, a gobeithiwn y gellir ailadrodd y dull a ddefnyddiwyd mewn perthynas â phorthladdoedd rhydd wrth ddarparu arian y gronfa ffyniant gyffredin ac arian yn y dyfodol, er mwyn sicrhau’r buddsoddiad mwyaf posibl yng Nghymru.
Yn olaf, hoffwn edrych ymlaen at gynlluniau ar gyfer cyllid yn y dyfodol. Cyflwynwyd rhaglenni ariannu’r UE dros gyfnod o 10 mlynedd, gyda’r hyblygrwydd a’r proffiliau gwariant hirach yn cael eu disgrifio’n hynod bwysig. Cylch ariannu tair blynedd yn unig sydd gan y gronfa ffyniant gyffredin, ac mae ganddi gyfyngiadau ar symud arian rhwng prosiectau a blynyddoedd ariannol. Ymhellach, gallai dychwelyd tanwariant o'r gronfa ffyniant gyffredin arwain at brosiectau'n cael eu cynnig er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei wario, yn hytrach na sicrhau yr eir i'r afael â blaenoriaethau. Am y rhesymau hyn, rydym yn argymell bod Llywodraeth y DU yn cynyddu hyblygrwydd i symud cyllid y gronfa ffyniant gyffredin rhwng blynyddoedd ariannol a rhwng prosiectau, yn ogystal â chynyddu hyblygrwydd o ran sut y caiff tanwariant ei drin. Rydym yn nodi ymateb Llywodraeth y DU, a dyfynnaf:
'Mae cronfa ffyniant gyffredin y DU yn rhoi cyfle i arweinwyr lleol wario arian fel y gwelant yn dda, ac i alluogi lleoedd ledled Cymru i wireddu eu potensial unigryw.'
Fodd bynnag, mae’r ymateb hwn yn ategu ein barn fod Llywodraeth Cymru yn cael ei hanwybyddu yn y broses o wneud penderfyniadau. Gwnaethom ofyn hefyd am eglurder ynghylch cynlluniau hirdymor Llywodraeth y DU ar gyfer cyllid yn lle cyllid yr UE a statws y gronfa ffyniant gyffredin y tu hwnt i 2025. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd parhad unrhyw gronfeydd presennol neu gronfeydd olynol yn cael ei lywio gan gyfuniad o ymgysylltu â phartneriaid perthnasol a gwerthuso tystiolaeth, ac y byddai’n amhriodol ceisio achub y blaen ar strwythur a ffocws cyllid yn y dyfodol. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, nid yw hyn yn rhoi llawer o sicrwydd, ac mae’r pwyllgor yn credu bod angen gwneud mwy hyd nes y gwelwn drefniadau ariannu sy’n diwallu anghenion Cymru. Diolch yn fawr.
A gaf fi groesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl heddiw fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid, ac a gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am ddisgrifio'r sefyllfa mewn ffordd mor huawdl? Wrth gwrs, roedd gadael yr UE bob amser yn mynd i roi heriau, yn enwedig pan oedd cyllid o'r fath wedi ymwreiddio o fewn cymunedau dros gyfnod o amser, ond credaf hefyd ei fod wedi rhoi cyfle inni lunio cynlluniau ariannu newydd fel y gallem gefnogi pobl, busnesau a chymunedau mor effeithiol ac mor effeithlon â phosibl.
Mae rhai gwahaniaethau gyda'r cronfeydd newydd a gafodd eu croesawu at ei gilydd gan y rhan fwyaf o randdeiliaid. Er enghraifft, mewn tystiolaeth, croesawodd CLlLC benderfyniad Llywodraeth y DU i ddyrannu'r arian hwn yn uniongyrchol i'r cynghorau fel y cyrff a etholwyd yn ddemocrataidd sydd agosaf at y bobl y maent yn eu gwasanaethu, ond rwy'n deall nad yw Gweinidogion Cymru wedi bod yn teimlo mor gadarnhaol ynglŷn â hyn, gan deimlo'u bod wedi'u gwthio i'r cyrion rywfaint. Mae'r adroddiad gan y pwyllgor yn argymell yn briodol y dylai Llywodraeth y DU ddarparu rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y fforymau gweinidogol ledled y DU yn cefnogi'r gwaith o gynllunio a darparu'r cyllid.
O safbwynt personol, ac rwy'n ailadrodd y gair personol, mae lle i gefnogi gweinyddu'r cyllid newydd hwn yn fwy lleol. Fel cyn-arweinydd awdurdod lleol, rwy'n gredwr cryf ac yn eiriolwr dros egwyddorion sybsidiaredd. Fel y clywsom gan randdeiliaid, ac fel y gwn fy hun, cynghorau sydd yn y sefyllfa orau yn aml i reoli cynlluniau ariannu. Maent eisoes yn gweithio o fewn strwythurau lleol a rhanbarthol, maent yn gyfarwydd â phartneriaid a rhanddeiliaid, ac maent yn deall beth sydd ei angen yn eu hardal.
Daw hyn â fi at bwynt mwy sylfaenol. Fel y dywedodd y Cadeirydd, clywodd y pwyllgor mewn tystiolaeth fod diffyg ymgysylltu a chydweithio rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn rhwystro potensial cynlluniau cyllido newydd ôl-UE i gyflawni'r hyn y bwriadwyd iddynt ei gyflawni. Mae hyn hefyd yn ein hatal rhag dysgu'n briodol am yr hyn sy'n mynd yn iawn ar hyn o bryd a'r hyn sydd angen ei newid i sicrhau bod y ffrydiau cyllido'n gweithio gyda'i gilydd mewn ffordd gydlynol.
Mae yna bob amser rai problemau cychwynnol wrth sefydlu cronfeydd, ac mae'r rhain wedi cael eu harchwilio gan y Pwyllgor Cyllid, pethau fel amserlenni heriol ac a yw'r broses mor syml ag y gallai fod. Y gobaith yw bod Llywodraeth y DU yn gwrando ar y rhain ac yn nodi ffyrdd o fowldio'r cynlluniau fel eu bod yn gweithio'n fwy effeithlon. Ond rwy'n teimlo bod y ddwy Lywodraeth wedi cael eu tynnu i mewn i ddadl gynyddol gymhleth ynghylch maint y cyllid o'i gymharu â chyllid blaenorol yr UE, sydd wedi suro cysylltiadau'n ddiangen ac wedi rhwystro cynnydd.
Fel y mae'r adroddiad yn nodi, mae'r pwyllgor o'r farn fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn amcangyfrif bod lefel flynyddol gyffredinol y cyllid drwy gronfa gymdeithasol Ewrop a chronfa datblygu rhanbarthol Ewrop ar yr un lefel yn fras. Y gwahaniaeth yw'r ffordd y mae hyn yn ymwneud â'r cyllid UE sy'n weddill yn dirwyn i ben a dibyniaeth Llywodraeth Cymru ar gyllid a ragwelid o'r UE, sy'n dod â lefel o ansicrwydd o ran faint yn union y byddem wedi'i gael.
Fel y mae'r Cadeirydd eisoes wedi nodi, ddoe yn unig y cawsom lythyr gan y Gweinidog ffyniant bro ynghylch honiad Llywodraeth Cymru bod gwerth y gronfa ffyniant gyffredin wedi gostwng £400 miliwn. Mae'r llythyr yn dweud bod y datganiad hwn yn ffeithiol anghywir, ac fe gadarnhaodd y Llywodraeth na fu unrhyw newid i gyfanswm cyllid cronfa ffyniant gyffredin y DU. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn mynd i'r afael â hyn yn eu hymateb, oherwydd mae'r drafodaeth wedi cael ei chymylu gan wleidyddiaeth yn rhy aml, ac mae'n dangos pam fod angen agwedd fwy agored a mwy o eglurder ar y ddwy ochr fel ein bod yn gwybod yn union beth sy'n digwydd a sut y bydd unrhyw faterion yn cael eu hunioni fel y gall Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU symud ymlaen o'r ddadl hon o'r diwedd.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr, Alun.
Fe wnaethoch chi dreulio'r cwestiynau cyllid yn pwysleisio pwysigrwydd y swm o arian sydd ar gael i lywodraeth leol. Nid wyf yn dadlau â hynny. Mae'n ymddangos eich bod bellach yn dadlau bod cyfanswm yr arian yn llai pwysig na materion eraill. Pwy yw'r Peter Fox go iawn?
Y cyfan rwy'n ei ddweud yw bod dwy blaid yma sy'n credu bod y cyfanswm yn wahanol, ond eto nid ydym wedi cael tystiolaeth i brofi y naill ffordd neu'r llall. Rwy'n ategu'r hyn a ddywedodd y Cadeirydd. Mae'r Peter Fox go iawn yn sefyll y tu ôl i chi, a bydd yn dweud wrthych chi beth yw beth.
Yn hytrach, gadewch inni ganolbwyntio ar yr hyn sy'n fwyaf pwysig, a'r hyn y mae adroddiad y pwyllgor yn ymwneud ag ef mewn gwirionedd, sef darparu'r cyllid sydd ei angen ar gymunedau, cael gwynt dan adain prosiectau, a sicrhau dyfodol gwell i'n cymunedau. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
A gaf fi argymell y dylai'r Aelodau ddarllen yr adroddiad llawn? Oherwydd mae yna rai pethau diddorol iawn ynddo, nid yn unig yr argymhellion a barn a chasgliadau'r pwyllgor, y mae'r rhan fwyaf ohonom yn eu darllen fel arfer mewn adroddiadau gan bwyllgorau nad ydym yn aelodau ohonynt.
Ar 1 Ionawr 2021, daeth y cytundeb masnach a chydweithredu i rym a sefydlodd hwnnw berthynas y DU â'r UE yn y dyfodol. Ni chytunwyd ar fynediad y DU at rowndiau rhaglenni ariannu strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Roedd hynny'n golygu nad oeddem yn cael yr arian mwyach. Mae Llywodraeth y DU wedi datblygu ei chynlluniau ariannu newydd: cronfa adfywio cymunedol y DU, y gronfa ffyniant bro, a chronfa ffyniant gyffredin y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod gostyngiad yn yr arian sy'n dod i Gymru. Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud nad yw hynny'n wir. Cafodd y ddau ddatganiad eu gwneud yn hyderus ac yn rymus, fel pe na bai'n bosibl dadlau'n eu herbyn. Nid yw'r naill na'r llall wedi dangos eu gwaith cyfrifo, er i Simon Hart addo dangos cyfrifiadau San Steffan, ond nid oedd yn Ysgrifennydd Gwladol yn ddigon hir ar ôl y cyfarfod i gyflawni'r addewid hwnnw. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu cyfrifiadau pan fyddant yn gwneud datganiadau ariannol. Yn y diwedd, fe wnaethom ddarganfod bod rhywfaint, neu bron y cyfan, o'r gwahaniaeth yn deillio o'r ffaith bod San Steffan wedi cynnwys cyllid Ewropeaidd parhaus a oedd yn dirwyn i ben, ac ni wnaeth Llywodraeth Cymru hynny. Os oedd Llywodraeth Cymru'n gwybod hynny, pam na wnaethant ddweud wrthym yn y lle cyntaf? Byddai wedi gwneud bywyd yn llawer haws i'r pwyllgor, ac wedi arbed cryn dipyn o amser i ni.
Cafodd y prosesau cystadleuol mewn perthynas â chronfa adfywio cymunedol y DU a'r gronfa ffyniant bro eu beirniadu gan awdurdodau lleol hefyd. Cyfeiriodd Cyngor Sir Penfro, nad yw'n ardal Lafur yn bendant, at y broses gystadleuol gyda'r gronfa adfywio cymunedol fel un 'gynhenid wastraffus'. Esboniodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, pan fyddwch yn ychwanegu cystadleuaeth am y cyllid, fod pob awdurdod lleol yn defnyddio llawer o adnoddau ac yn treulio llawer o amser, ac mae sefydliadau eraill yn defnyddio llawer o adnoddau, ac roedd rhaid iddynt roi amser ac ymdrech ar gyfer gwneud ceisiadau heb unrhyw sicrwydd o lwyddiant. Yna, wrth gwrs, roedd yn rhaid asesu'r holl geisiadau hynny. Rydych yn treulio llawer o amser, yn gwario llawer o arian, ac mae llawer o bobl yn cael siom yn y pen draw.
Lansiwyd y gronfa ffyniant gyffredin ar 13 Ebrill a bydd yn weithredol ar gyfer 2022-23 i 2024-25. Mae'n werth £2.6 biliwn ledled y DU. Mynegodd Pwyllgor Cyllid y pumed Senedd siom ynghylch y diffyg gwybodaeth a oedd ar gael am y gronfa ffyniant gyffredin yn ei hadroddiad ar baratoi ar gyfer cyllid yn lle cyllid yr UE yng Nghymru yn 2018. Daeth hyn ar ôl i'r Pwyllgor Materion Cymreig ddod i'r casgliad yn 2020 fod methiant wedi bod hyd at y pwynt hwnnw i ymgysylltu'n briodol â rhanddeiliaid a'r Senedd.
Mae dyraniadau lleol o'r gronfa ffyniant gyffredin yng Nghymru yn cael eu dosbarthu ar sail poblogaeth 40 y cant, mynegai cronfa adfywio cymunedol 30 y cant, a mynegai amddifadedd lluosog Cymru 30 y cant. O ran sut mae'r dosbarthiad yn wahanol i gyllid yr UE, fel y nodwyd, nid yw'n bosibl cymharu dyraniadau ar lefel awdurdod lleol gyda chyllid blaenorol yr UE oherwydd bod y rhan fwyaf o ddyraniadau prosiect yr UE yn rhychwantu mwy nag un ardal. Mae yna symudiad ymddangosiadol wedi bod o ranbarth gorllewin Cymru a'r Cymoedd tuag at ddwyrain Cymru. Fe fyddwn i'n ei roi mewn ffordd lawer symlach: o rannau tlotach Cymru i rannau mwy cyfoethog Cymru. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y gronfa ffyniant gyffredin yn symud o broses ariannu gystadleuol y gronfa adfywio cymunedol a'r gronfa ffyniant bro.
A gaf fi ddod at y pwynt pwysicaf, yn fy marn i? Rwy'n credu mai prifysgolion yw'r allwedd i wella gwerth ychwanegol gros ac incwm Cymru. Os edrychwn ar ddinasoedd, rhanbarthau a gwledydd llwyddiannus, mae rôl prifysgolion yn hanfodol i lwyddiant economaidd. Mae gan ardaloedd llwyddiannus bobl hynod addysgedig a medrus yn byw ynddynt hefyd. Pam fod Palo Alto a Chaergrawnt ddwy neu dair gwaith yn fwy llwyddiannus nag unrhyw le yng Nghymru? Pam fod Mannheim yr un fath? Mae ganddynt y pethau hyn. Mae'r rhain yn hynod o bwysig. Os ydym am fod yn gyfoethog, mae angen mwy o brifysgolion, mae angen gwario mwy o arian ar brifysgolion, ac mae angen cyflawni mwy o ymchwil. Mae perthynas ansicr barhaus y DU â Horizon Ewrop yn ychwanegu at y pwysau sy'n wynebu prifysgolion Cymru. Mae Prifysgolion Cymru wedi croesawu'r cadarnhad diweddar gan Lywodraeth San Steffan fod ymgysylltu â Horizon Ewrop yn parhau i fod yn uchelgais i Lywodraeth y DU. Yn y cyfamser, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad ynghylch pecyn ariannu i fuddsoddi yn sector ymchwil a datblygu'r DU. Bydd o fudd os bydd y DU yn parhau i gadw mewn cysylltiad agos â Horizon Ewrop yn y dyfodol, hyd yn oed os yw hynny'n unig er mwyn caniatáu i bobl â sgiliau gwych ddod i mewn i'r wlad hon a gweithio gyda phobl eraill yn Ewrop sydd â'r sgiliau gwych hynny er mwyn gwella ein cyfoeth.
Mae'r buddsoddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn cynnwys ychwanegiad o £100 miliwn mewn cyllid cysylltiedig ag ansawdd i brifysgolion Lloegr, ac rydym yn cael cyllid canlyniadol Barnett. Mae cyllid cysylltiedig ag ansawdd yn hanfodol i alluogi ein prifysgolion yng Nghymru gystadlu a denu buddsoddiad ychwanegol i Gymru, gan greu manteision i gymunedau ledled y wlad. Bydd darparu'r cyllid hwn i brifysgolion Cymru yn helpu i liniaru effaith yr ansicrwydd ynghylch y cysylltiad â Horizon Ewrop yn y dyfodol a cholli cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd, ond yn y bôn, os ydych chi eisiau bod yn wlad gyfoethog, mae angen ichi gael gweithlu medrus iawn, addysgedig iawn, a phrifysgolion rhagorol.
Diolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am eu gwaith ar y maes pwysig yma. I fi, man cychwyn yw atgoffa'n hunain, efallai, o rai o'r addewidion a wnaethpwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, a jest pwyso a mesur i ba raddau y mae'r addewidion yna wedi cael eu gwireddu neu eu cadw chwe blynedd lawr y lein. Nawr, mi ddywedwyd wrthym ni, fel rŷn ni wedi clywed, na fyddem ni geiniog allan o boced yng Nghymru. Mi ddywedwyd hefyd, wrth gwrs, y bydden ni'n cael budd o gael gwared ar y baich rheoleiddiol a'r holl dâp coch, ac y byddai hynny'n caniatáu buddsoddi wedi'i dargedu'n fwy effeithiol a buddsoddi mwy effeithlon hefyd. Mi ddywedwyd y buasai fe'n fodd i gymryd rheolaeth yn ôl, os cofiwch chi, ac ymbweru datganoli gwneud penderfyniadau. Dwi ddim yn gweld hynny eto, mae'n rhaid i fi ddweud, er ein bod ni chwe blynedd lawr y lein, fel sydd wedi cael ei nodi.
Mae'r ariannu a'r cyllido sydd wedi ei glustnodi i Gymru o dan gynllun y shared prosperity fund i fyny at 2025 yn disgyn yn fyr o'r lefelau y bydden ni wedi eu derbyn yn ystod yr un cyfnod petaem ni'n dal i fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae goblygiadau datganiad yr hydref gan Lywodraeth San Steffan, wrth gwrs, yn dweud y bydd yna £400 miliwn yn llai, er dwi yn nodi'r hyn a ddywedodd y Cadeirydd ynglŷn â llythyr sydd wedi dod i gyflwyno gwrthddadl i hynny. Ond, petasech chi ond yn edrych ar yr economi a pherfformiad yr economi yn ehangach, yn enwedig mewn cymhariaeth â gweddill y G7, mae'r awgrym ein bod ni, rywsut, yn well bant o fod lle rŷn ni nawr, i fi, yn addewid gwag. Ac, wrth gwrs, rŷn ni hefyd yn gwybod na chafodd Llywodraeth Cymru fod yn rhan neu gael ei hymgynghori â hi ar unrhyw gyfnod wrth ddatblygu a chynllunio'r ffordd y byddai'r cyllidebau yma yn cael eu defnyddio, er eu bod nhw, wrth gwrs, yn torri i mewn i feysydd datganoledig, ac mae hynny, wrth gwrs, i fi, yn anfon y neges yna fod Llywodraeth San Steffan yn trin y lle yma gyda dirmyg.
A gadewch i ni gymharu'r hyn sydd gennym â'r hyn sydd gennym, yw'r hyn rwy'n ceisio ei ddweud, oherwydd mae'r gronfa ffyniant gyffredin yn gysyniad gwleidyddol digydwybod, wedi'i daflu at ei gilydd ar frys i lenwi gwagle a adawyd ar ôl yn sgil Brexit, gan orfodi, i bob pwrpas, ail-greu'r olwyn a oedd eisoes yno. Roedd gan Lywodraeth Cymru fframwaith, a gyd-ddatblygwyd dros nifer o flynyddoedd gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, gydag awdurdodau lleol Cymru, gydag addysg uwch, addysg bellach, y sector busnes a'r trydydd sector—ac roedd y rhain oll yn ddarostyngedig i ymgynghori cyhoeddus hefyd. Ond na, mae angen inni adeiladu rhywbeth arall.
Clywsom gan Mike Hedges fod ceisiadau wedi bod yn defnyddio llawer o adnoddau awdurdodau lleol, wedi'u llywio'n fawr gan bwysau amser yn hytrach na dull mwy strategol o ddylanwadu ar ba brosiectau sy'n cael eu cyflwyno. Nid oes rhaid cyfeirio at fuddsoddiad arall, yn enwedig buddsoddiad Llywodraeth Cymru, felly rydych yn cael prosiectau nad ydynt yn ategu ei gilydd yn y pen draw, risg o ddyblygu, ac yn sicr risg o werth gwael am arian hefyd. Ac fe gyfeirir at Lluosi yn y gwaith wrth gwrs. Mae addysg a sgiliau wedi'u datganoli, ond ni chafodd Llywodraeth Cymru unrhyw rôl wrth ddatblygu'r cynigion hynny. Dylai fod larymau mawr yn canu yno ynghylch y ffordd y mae Llywodraeth San Steffan yn ymyrryd mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, ac unwaith eto, yn creu risg o ddyblygu difrifol mewn perthynas â rhai o'r rhain.
Rydym bellach yn symud o gylchoedd ariannu'r UE o 10 mlynedd, gyda gorgyffwrdd o ddwy flynedd hefyd, a ddarparodd sefydlogrwydd a pharhad, ac a'i gwnâi'n bosibl cael rhagolwg strategol hirdymor, i gylch ariannu tair blynedd y gronfa ffyniant gyffredin. Rydym ar ddiwedd neu bron ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf nawr, ac mae awdurdodau lleol yn dal i aros am gadarnhad ynglŷn â chynlluniau buddsoddi'r gronfa ffyniant gyffredin. Nid dyma'r defnydd gorau o adnoddau.
Fel y maent yn cadarnhau yn eu hymateb i'r adroddiad, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi creu tîm penodedig ar gyfer Cymru i redeg ochr fiwrocrataidd y ffrydiau cyllido ôl-UE hyn, ac mae hynny'n cynnwys gwaith ar adrodd, monitro, sicrwydd a gwerthuso. Mae pob un yn bwysig iawn—wrth gwrs—ond mae'r rhain i gyd eisoes yn bodoli yng Nghymru ac mae hyn i gyd yn ddyblygu, mae'n gymhlethdod ychwanegol, ac mae'n gost i drethdalwyr Cymru. Felly, fy nghasgliad i yw bod pethau'n edrych yn wael iawn hyd yma, ac mae gennym ffordd bell iawn i fynd i sicrhau y bydd yr addewidion a wnaed chwe blynedd yn ôl yn dod yn agos at gael eu cyflawni.
Fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid hefyd, roeddwn yn awyddus iawn i'r pwyllgor ymgymryd â'r gwaith hynod bwysig hwn i Gymru fel mater o flaenoriaeth, er tegwch a gonestrwydd ac er ariannu teg fel egwyddor, ac er mwyn cyflawni addewid gwleidyddol ac ymddiriedaeth ac fel nad yw Cymru'n cael ei thrin gyda dirmyg ychwaith. Mae hyn oherwydd mai Cymru oedd y wlad a oedd yn derbyn y gyfran fwyaf o gyllid yr UE mewn perthynas â'i phoblogaeth o holl wledydd y DU. Mae'n hanfodol ein bod yn dal Llywodraeth y DU at ei haddewid ac yn ei dwyn i gyfrif, ac na fydd Cymru, yn ei geiriau ei hun, geiniog yn dlotach wedi i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad, lle maent yn datgan nad oes ceiniog o'r cyllid yn lle cyllid yr UE wedi cyrraedd Cymru.
Mae'n galonogol i mi fod Llywodraeth Cymru wedi parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i drafod ymhellach â Llywodraeth y DU, sy'n cynnwys trafodaeth ar y gronfa ffyniant gyffredin, lefelau cyllido a dyraniadau, ynghyd â sefydlu swyddogaeth gwneud penderfyniadau ar y cyd ddilys ar gyfer Gweinidogion, er mwyn gwella effaith a gwerth am arian y gronfa yng Nghymru. Mae pobl Cymru yn haeddu gweld Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ymroi ac yn gweithio'n adeiladol i sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled yn ariannol. Erbyn hyn, cyfrifoldeb Rishi Sunak, trydydd Prif Weinidog Torïaidd y flwyddyn, yw anrhydeddu'r addewid blaenorol i Gymru, sef na fyddai pobl Cymru, unwaith eto, geiniog yn waeth eu byd ar ôl inni adael yr UE.
Ddirprwy Lywydd, wrth i'r argyfwng costau byw Torïaidd ddwysáu, ac ar ôl prif weinidogaeth fyrhoedlog Liz Truss a'i chyllideb fach, mae pobl Cymru yn haeddu ac yn mynnu bod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn gwneud y peth iawn ac yn anrhydeddu eu haddewid i Gymru.
Ie, diolch yn fawr i'r Pwyllgor Cyllid am gyflwyno'r adroddiad hwn. Mae'n fanwl iawn ac mae'n glir iawn.
Diolch yn fawr iawn i Peredur a'r Aelodau eraill hefyd.
Mae gwrthwynebiad fy mhlaid i Brexit yn hysbys iawn. Mae Brexit wedi cael effaith ar ein safle yn y byd, ar ein gallu i deithio'n rhydd, ac yn bwysig, ar ein heconomi. Rwy'n tybio y gallem fod yn ennill y ddadl economaidd mewn gwirionedd, oherwydd yng ngoleuni'r argyfwng costau byw, fel y gall pawb ei weld, rydym yn debygol o fod yn waeth ein byd nag y byddem wedi bod pe baem wedi parhau i fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Rydym ni, Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn galw ar Lywodraeth y DU i ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau, fel y gallwn roi diwedd ar y fiwrocratiaeth ddiangen sy'n effeithio ar ein gallu i fasnachu gyda'n cymdogion agosaf.
Gan ganolbwyntio ar ganfyddiadau'r adroddiad, mae'n amlwg na fydd Llywodraeth y DU yn darparu arian newydd llawn yn lle'r cronfeydd strwythurol a oedd ar gael i Gymru cyn Brexit, a bydd Cymru'n bendant yn waeth eu byd yn ôl y metrig hwn. Mae hyn er gwaethaf addewid y Ceidwadwyr yn eu maniffestos yn 2017 a 2019 y byddai'r gronfa ffyniant gyffredin yn darparu arian yn lle cronfeydd strwythurol yr UE yn uniongyrchol. Mae'n peri pryder pellach hyd yn oed nad oes yr un geiniog o arian y gronfa ffyniant gyffredin wedi cael ei wario yng Nghymru hyd yma, ac y bydd Cymru yn bendant yn cael llai nag y byddai wedi'i gael pe baem wedi aros yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd.
Rwyf eisiau canolbwyntio ar un peth bach i orffen, sef casgliadau'r adroddiad ar gyllid i'r gwyddorau. Mae angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael ar frys â'r diffyg y bydd gwyddoniaeth yng Nghymru yn ei wynebu drwy gronfa ffyniant gyffredin y DU—y £772 miliwn sydd wedi'i golli i Gymru ar draws y tair blynedd nesaf. Meddyliwch am y rhif hwnnw: £772 miliwn y dylem fod yn ei gael ar gyfer ein gwyddorau. Ond rydym yn gwybod bod gwyddoniaeth, yn enwedig y maes ffiseg, yn hwb i'n heconomi Gymreig, ac fe glywsom gan Mike Hedges ynglŷn â sut mae sgiliau a phrifysgolion a dysgu mor bwysig i'n gwlad. Mae'r Sefydliad Ffiseg yn amcangyfrif bod ffiseg ei hun yn werth tua £7.3 biliwn i economi Cymru. Mae'n amlwg fod gan Lywodraeth Cymru waith i'w wneud i ymgorffori gwyddoniaeth yn rhan o'r strategaeth arloesi sydd ganddi ar y gweill, ond hefyd i geisio argyhoeddi Llywodraeth bresennol y DU ynglŷn â phwysigrwydd y sector hwn mewn perthynas â buddsoddi. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddechrau drwy gytuno'n gryf â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar y pwynt am ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau. Rwy'n credu y bydd y niwed a wnaed gan Brexit yn drychineb nid yn unig i'n cenhedlaeth ni ond i genedlaethau'r dyfodol, a gobeithio y bydd pob plaid wleidyddol yn cydnabod hynny. Nid wyf yn disgwyl i'r Gweinidog roi ateb i mi ar y pwynt hwn, ond rwy'n gobeithio ei bod hi a'i gwên enigmatig y prynhawn yma—efallai na ddylwn ddarllen gormod i mewn i hynny, ond rwy'n gobeithio ei fod yn golygu o leiaf nad yw hi'n anghytuno'n chwyrn â mi.
O ran ein sefyllfa mewn perthynas â chyllid yr UE, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Cyllid am yr adroddiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn adroddiad pwysig iawn, ac rwy'n ei groesawu'n fawr. Rwy'n credu bod angen i ni gael dadl realistig ar ein sefyllfa mewn perthynas â chyllid yr UE. Mae arnaf ofn ein bod wedi gweld llawer o—beth yw'r gair; rwy'n ceisio dod o hyd i air gwahanol i'r gair 'nonsens' sydd wedi'i ysgrifennu o fy mlaen—mae llawer o'r siarad a fu am gyllid yr UE yn gyfeiliornus i raddau helaeth yn fy marn i. Rwy'n cofio un cyn-Brif Weinidog Cymru yn ei ddisgrifio fel cyfle unwaith mewn oes i gael newid sylfaenol. Ond nid oedd hynny erioed yn wir, ac ni allwch ddadwneud canrif o ddirywiad economaidd â ffrwd ariannu bum mlynedd. Rydych angen ffrwd ariannu dros nifer o flynyddoedd. Ac wrth gwrs fe gynlluniwyd hen statws Amcan 1 er mwyn cyflawni hynny. Nid oedd erioed yn mynd i fod yn arbrawf ariannu un-tro, os mynnwch, roedd bob amser yn mynd i fod yn rhan o gyfle ehangach i fod yn sail i ddatblygiad economaidd dros nifer o flynyddoedd. Ac roedd cyllid yr Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, bob amser yn seiliedig ar egwyddor ychwanegedd. Ni ragdybiwyd erioed y byddai'n cymryd lle gwariant gan Lywodraethau cenedlaethol. Ac roedd y bartneriaeth honno bob amser yn hanfodol iddo. Felly, roeddem bob amser yn anghywir i dybio bod cyllid yr UE yn ateb i bob un o'n hanawsterau economaidd. Ac roedd cyllid yr UE yn rhan o'r jig-so a'n galluogai i wneud llawer mwy nag y gallem ei wneud ein hunain. Roedd yr ychwanegedd yn golygu bod gennym ffrydiau ar gyfer buddsoddi mewn pobl, seilwaith a llefydd. Ac rwyf wedi gweld hynny yn fy etholaeth fy hun.
Mae Llywodraeth y DU wedi torri ei haddewid, ac mae mewn perygl o dorri'r undeb. Adroddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn y Senedd ddiwethaf ar hyn, a'r Dirprwy Lywydd, wrth gwrs, oedd yn cadeirio'r pwyllgor bryd hynny, ac fe fydd yn cofio, fel rwyf fi'n cofio, yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd yn rhoi ymrwymiad llwyr y byddai arian newydd yn dod yn lle pob ceiniog o gyllid yr UE o dan y system newydd. A beth bynnag yw'r cymhlethdodau rydym yn eu gweld nawr, mae'n amlwg nad yw'r ymrwymiad hwnnw wedi cael ei gyflawni. Ac rwy'n credu y gallwn fod yn glir iawn ynglŷn â hynny. Mae Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yn ddeddfwriaeth ddinistriol sy'n ymosod ar y lle hwn ac yn tanseilio cyfansoddiad y DU ac ewyllys gytûn pobl Cymru. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth Peter Fox fod hwn hefyd yn sefydliad a etholwyd yn ddemocrataidd, ac mae gan y lle hwn fandad, ac mae ganddo fandad a phwerau a roddwyd iddo nid yn unig drwy fympwy Ysgrifennydd Gwladol ond gan y bobl drwy refferendwm, ac mae ganddynt hawl i ddisgwyl i Lywodraeth barchu hynny. Ie?
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rwy'n derbyn canlyniadau refferenda; mae'n drueni mawr na wnaethoch chi dderbyn canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn eich etholaeth eich hun, pleidleisiodd 62 y cant o bobl dros adael. Sut ydych chi wedi eu cynrychioli hwy dros y blynyddoedd diwethaf?
Rwyf bob amser wedi sefyll—ac fe fyddwch chi, wrth gwrs, fel Ceidwadwr, yn gyfarwydd â gwaith Edmund Burke, tad Ceidwadaeth fodern. A'r hyn a ddywedodd yn glir iawn yn ei araith i etholwyr Bryste oedd y dylai Aelod etholedig fod yn ffyddlon i'r bobl a gynrychiolir ganddo, nid yn unig drwy ei waith ond hefyd drwy gyfleu'r hyn y mae'n ei gredu. A dyna rwyf fi wedi'i wneud, a byddaf yn parhau i wneud hynny. A byddaf yn dadlau dros fandad democrataidd i wrthdroi'r refferendwm yn 2016. Ni fyddwn yn ei wneud drwy'r drws cefn na chwaith drwy ddeddfu i'w wneud heb ymgynghori â'r bobl.
Felly, dros y blynyddoedd diwethaf gwelsom ddiffyg tryloywder, diffyg dealltwriaeth o bwrpas nac amcanion y rhaglenni newydd, diffyg cydlynu, cau Llywodraeth Cymru allan, sy'n sarhad ar ddemocratiaeth Cymru, ac rydym wedi gweld system yn ei lle sy'n anhrefnus ac yn draed moch—a hynny yng ngeiriau AS Ceidwadol. Felly, gadewch inni fod yn gwbl glir ynglŷn â'r hyn rydym ei angen. Ble mae'n ein gadael? Mae gennym system sydd wedi torri ac mae'n un sydd angen ei hatgyweirio. Ac mae model yr UE yn dangos sut i wneud hynny mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod angen—ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi dadlau dros hyn o'r blaen—cyngor o Weinidogion i ddod i gytundeb drwy gonsensws yn hytrach na derbyn dictadau a osodir drwy ddatganiadau i'r wasg. Rydym angen tryloywder i allu dadlau a mynegi ein barn, ac o safbwynt y Ceidwadwyr, mae angen inni ddeall beth yw dibenion ac amcanion ffrydiau ariannu cyn eu cyflwyno yn hytrach na dim ond adrodd arnynt ar ôl iddynt gael eu cyflwyno. Ac mae angen inni fynd yn ôl at y cydlyniant roedd Huw Irranca-Davies yn ei arwain fel Cadeirydd pwyllgor cyllido'r UE ar y pryd, er mwyn sicrhau eich bod yn dod â phobl at ei gilydd, sicrhau nad ydych yn eithrio pobl a sicrhau bod Cymru'n cael ei gwasanaethu gan yr holl bobl y mae'n eu cynrychioli. Ar hyn o bryd, yr hyn sydd gennym yw system doredig ac rydym mewn perygl o gael undeb toredig.
Alun, diolch am gymryd fy enw'n ofer, ond mewn ffordd glodfawr yn y fan honno am ennyd. Ond hoffwn ddweud bod yr adroddiad yn dal yno ac mae'n dal i fod yn ddilys, rhaid i mi ddweud, ac fe gafodd ei roi at ei gilydd—. Fe drof at yr adroddiad hwn yn y man, ond rhaid imi ddweud bod yr adroddiad hwnnw ar ariannu yn y dyfodol, ariannu rhanbarthol, yng Nghymru, wedi gosod y meincnod ar gyfer yr hyn y dylem ei wneud ledled y DU, ac fe'i diwygiwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, fel y dywedodd Llyr. Cafodd ei gefnogi nid yn unig gan y diwydiant, undebau llafur, y trydydd sector, cymdeithas sifil, addysg ôl-16 ac yn y blaen, ac mae yno ar y silff, ac i fod yn onest, un o'i elfennau allweddol oedd sut y gallem weithio'n drawsffiniol â Llywodraeth y DU, ac ar sail draws-Ewropeaidd hefyd. Felly, hoffwn ddweud wrth Lywodraeth y DU o hyd, yn ogystal ag wrth Aelodau sydd heb ei weld efallai: edrychwch ar yr adroddiad hwnnw. Ni cheir model gwell ar gyfer ariannu rhanbarthol, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ar draws yr UE, ar hyn o bryd, a gallai Llywodraeth y DU ei droi'n bartneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a'r ffordd ymlaen.
Ond gadewch imi droi at yr adroddiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn wych. Rwyf wedi mwynhau ei ddarllen yn fawr, sy'n syndod i gadeirydd y pwyllgor a'i aelodau efallai, ond y rheswm rwyf wedi'i fwynhau yw oherwydd ei fod yn hyddysg iawn ac mae hefyd yn adlewyrchu'r hyn y mae'n rhaid fy mod i ac eraill wedi bod yn ei glywed gan fusnesau ac eraill yn eu hetholaethau eu hunain. Ond hefyd, y grŵp y soniais amdano a wnaeth y gwaith, mae llawer ohonynt bellach yn rhan o'r fforwm strategol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, sy'n ceisio gweithio drwy rai o'r anawsterau a amlygwyd yn yr adroddiad hwn.
Gadewch imi fynd ar drywydd rhai o'r meysydd a nodwyd ganddynt sy'n cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad hwn. Wrth baratoi'r ceisiadau hyn gan awdurdod lleol, y baich amser aruthrol a roddodd—felly, ni symleiddiodd yn sydyn a lleihau beichiau, rhoddodd y baich yn gadarn ac yn llwyr ar ysgwyddau awdurdodau lleol i gynhyrchu ceisiadau mewn proses gystadleuol. Nid yn unig hynny, rhoddodd bwysau amser arnynt, a golygodd y pwysau amser na wnaethant ddewis y gorau weithiau, ni wnaethant edrych o gwmpas a chysylltu ag eraill—fe wnaethant eu gorau i'w wneud, ond roedd rhaid iddynt ddweud, 'Beth sydd gennym ar y silff sy'n barod? Mae gennym brosiect gwell ar y ffordd, pe bai ond gennym amser i weithio ar hwn, a gallem ei wneud gyda'r ddau neu dri awdurdod cyfagos, ond nid yw'n barod, felly bydd rhaid inni ddewis yr un acw, a dewis yr un acw a'i wthio ymlaen.'
Ac yna mae gennych chi'r ffaith nad dim ond y lle hwn sydd wedi cael ei anwybyddu, neu fod Llywodraeth Cymru wedi cael ei hanwybyddu, ac—[Anghlywadwy.]—ond y syniad, mewn rhannau o'r ffrydiau ariannu hyn yn y dyddiau cynnar, fod gennych chi Aelodau Seneddol mewn gwirionedd y gofynnwyd iddynt gyflwyno cynlluniau a oedd â'u henwau arnynt—nid Aelodau o'r Senedd, nid awdurdodau lleol, ond Aelodau Seneddol. Nawr, mae hyn yn eithaf diddorol, oherwydd gwleidyddiaeth y gasgen borc Americanaidd, hen ffasiwn yw hyn: 'Dyma brosiect sy'n agos at fy nghalon. Weinidog, fe wnaf eich cefnogi. Rhowch y prosiect hwn i mi. Efallai nad dyma'r un gorau i fy etholwyr, ond dyma'r un rwyf fi ei eisiau.' Nawr mae hyn yn anghywir. Y cyfan rwy'n ei ddweud wrth gyd-Aelodau yma ar fy llaw chwith ar y meinciau Ceidwadol yw: ni ddylech wneud hyn. Un o'r gwersi o ystodau blaenorol o arian Ewropeaidd oedd y feirniadaeth o gymhlethdod a'r amser a gymerai ac yn y blaen. Ond gallech ddweud un peth: roeddent yn atebol a chaent eu gyrru gan ddadansoddiad da o angen, a'u llywio gan ddulliau o'r gwaelod i fyny gan gymunedau a ddywedai, 'Dyma beth rydym ei eisiau.' Nawr gallai fod yna fodel gwahanol. [Torri ar draws.] Fe wnaf ildio, yn sicr.
Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny. Fe fyddwch yn ymwybodol fod pont reilffordd Penprysg yn rhywbeth sy'n elwa o gronfa ffyniant bro Llywodraeth y DU, ac mae eich cyd-bleidiwr, Chris Elmore AS, wedi cefnogi honno. A ydych chi'n dweud bod hwnnw'n benderfyniad anghywir?
Na, dim o gwbl. Mewn gwirionedd, byddwn i'n cefnogi honno, ond fy mhwynt i yw hyn: a ddylai un AS, un cynrychiolydd etholedig, sy'n anwybodus ynghylch y fframwaith polisi yng Nghymru, yn anwybodus ynghylch anghenion ehangach y rhwydwaith rheilffyrdd yn yr ardal honno hefyd, fel croesfan Maesteg a Ton-du, sydd wedi bod yn aros ers 20 mlynedd am fuddsoddiad gan UK Network Rail—nid yw hynny'n cael sylw—a ddylai fod un AS yn cael ei ddweud, boed yn Chris Elmore neu Jamie Wallis neu unrhyw un arall? Ni ddylai fod yn wleidyddiaeth casgen borc, a dyna fy mhwynt. Mae ffordd well o'i wneud. Rwy'n brin o amser. Gadewch i mi fynd ymlaen at rai o'r pethau eraill—
Rwyf wedi rhoi ychydig o amser ychwanegol i chi. Mae gennych ymyriad arall, os ydych yn dymuno ei dderbyn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad arall?
O—. Iawn, fe wnaf. Gwnaf.