Y Cyfarfod Llawn

Plenary

23/11/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd sydd gyntaf y prynhawn yma, a dwi wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, yn ateb yr holl gwestiynau y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Sarah Murphy.

Defnydd Dyddiol o Ddŵr Mewn Cartrefi

1. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i leihau'r defnydd dyddiol o ddŵr mewn cartrefi? OQ58731

Diolch, a Lywydd, hoffwn ymddiheuro ar ran Julie James am fethu bod yma y prynhawn yma.

Gwnaethom gyhoeddi ein datganiad strategol ar flaenoriaethau ac amcanion ym mis Gorffennaf. Mae'n gosod mandad clir i Ofwat gymell defnydd effeithlon o adnoddau dŵr drwy annog cwmnïau i leihau eu defnydd o ddŵr.

Diolch, Weinidog. Mae gwyddoniaeth hinsawdd yn dweud wrthym y byddwn yn cael hafau hirach, poethach a sychach gyda'r tebygolrwydd o brinder dŵr mwy difrifol. Byddai lleihau’r defnydd dyddiol o ddŵr nid yn unig yn lliniaru rhywfaint o’r heriau rydym wedi’u hwynebu ac y byddwn yn parhau i’w hwynebu yn ystod yr haf, ond gall hefyd fynd i’r afael â thlodi dŵr yn ystod yr argyfwng costau byw sydd ohoni. Er enghraifft, mae rhannau o Gymru ar lefelau sychder yn barod a hithau ond yn fis Tachwedd. Mewn gwledydd eraill, mae targedau eisoes wedi’u gosod ar gyfer defnydd dŵr, gyda Brwsel wedi gosod targed o 96 litr yr unigolyn y dydd, a cheir atebion technolegol hefyd, megis dyfeisiau fflysio sy'n arbed dŵr a dyfeisiau ar gyfer tapiau y gwn fod Dŵr Cymru eisoes yn eu darparu i gwsmeriaid, ac roedd fy ngrŵp, Porthcawl U3A, yn awyddus iawn i mi eich holi yn eu cylch. Felly, Weinidog, o ystyried bod rhannau o Gymru yn debygol iawn o barhau i wynebu sychder yn yr haf ac wrth i filiau barhau i godi, pa ystyriaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi i godi ein statws effeithlonrwydd dŵr, ac o bosibl, i gyflwyno targed sy’n ddigon uchelgeisiol i fod yn ystyrlon mewn argyfwng hinsawdd ac argyfwng costau byw?

Wel, diolch. Mae’r Aelod yn codi mater gwirioneddol bwysig. Fel y dywed, mae ein system ddŵr dan straen parhaus oherwydd newid hinsawdd a achoswyd gan bobl, ac mae'n mynd i waethygu. Roedd y negeseuon a ddaeth allan o COP yr wythnos diwethaf yn yr Aifft ynglŷn â chyflwr yr wyddoniaeth a lefel difrifoldeb y bygythiad i ni yn dorcalonnus. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn arbed ein dŵr ac yn ei drin fel yr adnodd prin ag ydyw. Rwyf wedi croesawu ymgyrch Cyfeillion y Ddaear i dynnu sylw at hyn.

Mae nifer o bethau’n digwydd. Ceir mentrau unigol gan gwmnïau dŵr. Felly, mae gan Dŵr Cymru, er enghraifft, set o awgrymiadau y mae’n eu hyrwyddo, sy'n annog pobl i gymryd camau bach fel y gall pobl wneud gwahaniaeth, fel cael cawod yn lle bath, peidio â gadael y tap i redeg pan fyddwch yn glanhau eich dannedd—mae'r rhain, gyda'i gilydd, yn gwneud cyfraniad ystyrlon. Mae Ofwat hefyd wedi herio’r cwmnïau dŵr i leihau gollyngiadau o leiaf 15 y cant dros y pum mlynedd nesaf ac mae’r ddau gwmni dŵr yng Nghymru wedi ymrwymo i wneud hyn.

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gynigion i gyflwyno cynllun labelu effeithlonrwydd dŵr i labelu cynhyrchion sy’n defnyddio dŵr fel tapiau, cawodydd, toiledau a pheiriannau golchi llestri, a bydd hyn yn galluogi defnyddwyr i gymharu effeithlonrwydd dŵr cymharol y peiriannau hyn, fel y gallant ar gyfer offer nwy a thrydan. Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gyflwyno targedau, ond yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni barhau i'w adolygu, yn dibynnu ar sut mae'r amgylchedd yn parhau i newid.

Weinidog, y llynedd, cwsmeriaid Dŵr Cymru a ddefnyddiodd fwyaf o ddŵr yr unigolyn y dydd o gymharu â phob rhanbarth arall yn Lloegr. Roedd ein defnydd dyddiol, 176 litr, yn sylweddol uwch nag ardaloedd fel Bryste, er enghraifft, a ddefnyddiodd 161 litr y dydd. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Dŵr Cymru ynglŷn â'r rhesymau dros y defnydd uwch o ddŵr yn y cartref? Wrth inni geisio bod yn fwy cyfrifol gyda’n hadnoddau naturiol, mae’n amlwg fod angen inni roi camau ar waith i fynd i’r afael â hyn.

Wel, diolch am dynnu sylw at y mater pwysig hwn. Mae dyletswydd ar y cwmnïau dŵr i gynhyrchu cynlluniau rheoli adnoddau dŵr bob pum mlynedd ac mae’n rhaid i’r rhain gadw at egwyddorion Llywodraeth Cymru, sy’n darparu fframwaith lefel uchel i’r cwmnïau ei ddilyn wrth ddatblygu eu cynlluniau. Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i leihau defnydd cyfartalog y pen eu cwsmeriaid domestig i 110 litr yr unigolyn y dydd erbyn 2050, ac maent yn bwriadu gwneud hyn drwy gyfuniad o addysg ac ymgyrchoedd newid ymddygiad ynghyd â mwy o fesuryddion cartref ac atgyweirio gollyngiadau. Ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda hwy ar hynny, a chyda Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â Hafren Dyfrdwy—y ddau gwmni sy'n gweithredu yng Nghymru.

13:35
Gwelliannau Cyffyrdd ar yr A483

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adolygiad Llywodraeth Cymru o welliannau cyffyrdd ar yr A483? OQ58740

Mae’r panel adolygu ffyrdd wedi cyflwyno ei adroddiad terfynol i Lywodraeth Cymru ar ei ganfyddiadau ar gyfer pob un o’r cynlluniau ffyrdd y mae wedi’u hadolygu, ac mae hyn yn cynnwys gwelliannau i gyffyrdd 3-6 ar yr A483. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ar gamau nesaf yr adolygiad ffyrdd erbyn diwedd y mis.

Diolch am eich datganiad, Weinidog. Wrth gwrs, nid oedd cyffordd 1 yn Rhiwabon wedi'i chynnwys yn yr adolygiad ffyrdd, ac felly nid yw gwaith ar wella’r gyffordd honno wedi’i oedi, a hynny am reswm da. Mae’r gyffordd benodol honno’n beryg bywyd, ac mae wedi creu hafn o dagfeydd i fyny’r A483, gyda chynnydd mewn allyriadau carbon o ganlyniad i hynny. Ac wrth gwrs, mae hefyd yn anfon modurwyr ar ffyrdd lleol, gan beryglu bywydau unwaith eto, yn enwedig plant ysgol, a dirywio ansawdd yr aer yn Rhiwabon a'r cyffiniau. Weinidog, a wnewch chi gytuno i ymweld â’r A483 ac i gyfarfod ag arweinwyr cymunedol, ac a wnewch chi amlinellu pa gynnydd a wnaed yn y flwyddyn ddiwethaf ar waith i wella cyffordd 1 ar yr A483?

Diolch. Fel y dywed Ken Skates, yn gwbl briodol, nid oedd cyffordd 1 wedi'i chynnwys yn rhan o’r cynlluniau adolygu ffyrdd yr edrychodd yr adolygiad arnynt, ond cafodd y cyffyrdd eraill eu hystyried. Byddai’r cynigion a gyflwynwyd gan y cyngor lleol ar gyfer cyffordd 1 yn golygu cryn dipyn o ailwampio ar y gyffordd, a fyddai’n ddrud ar garbon ac yn cynyddu capasiti’r ffyrdd. Felly, mae hyn yn berthnasol i'r argymhellion rydym yn eu rhagweld o'r adolygiad ffyrdd ynglŷn â chynlluniau ffyrdd yn y dyfodol. Yr hyn nad ydym am ei wneud, drwy drin cynlluniau ar eu pennau eu hunain—mae achos dros gynlluniau unigol bob amser—yw i effaith gronnol hynny ychwanegu at lefel y traffig. Felly, mae angen inni feddwl yn ofalus iawn. Wedi dweud hynny, lle ceir problemau traffig, mae angen atebion, ac un o’r themâu yn yr adolygiad ffyrdd yw sut y gellir sicrhau bod ffyrdd yn y dyfodol yn cydymffurfio â pholisïau presennol ar newid hinsawdd, trafnidiaeth, a chynllunio. Felly, pan fyddwn yn cynhyrchu’r canlyniadau, yn yr ardaloedd lle rydym yn derbyn argymhellion yr adolygiad i beidio â bwrw ymlaen â ffordd, byddwn yn awyddus i weithio gyda’r awdurdod lleol a phartneriaid eraill i weld beth arall y gellir ei wneud yn yr achos hwnnw. Fel y dywedaf, ni allaf rag-gyhoeddi’r hyn sydd wedi’i benderfynu—yn bennaf gan nad ydym wedi penderfynu eto—ond byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn yr wythnosau nesaf ar y camau nesaf.

Weinidog, mae un gwelliant sydd ei angen ar yr A483 yn ymwneud â ffordd osgoi Pant-Llanymynech, y soniais amdani nifer o weithiau yn y Siambr hon, ac fe fyddwch yn gwybod fy mod yn awyddus iawn i weld y ffordd osgoi hon, y mae rhan ohoni yn fy etholaeth, yn mynd yn ei blaen. Felly, oherwydd yr adolygiad ffyrdd ar ochr Cymru, nid wyf yn awyddus i'r cynllun hwn gael ei ohirio ymhellach. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Llywodraeth y DU—. Mae’n gynllun ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gyda Highways England yn arwain ar y cynllun. Tybed a ydych mewn sefyllfa i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am y cynllun, Weinidog, os nad heddiw, yn ysgrifenedig, gan fod y cynllun hwn yn arbennig o bwysig, gan nad ffordd osgoi yn unig ydyw; mewn gwirionedd, mae'n welliant diogelwch ar y ffyrdd. Ac os byddwch yn mynd i fyny'r A483 i ymweld â Ken Skates yn ei etholaeth, a gaf fi ofyn ichi stopio ar y ffordd a chyfarfod â mi yn fy etholaeth i drafod y rhan hon o'r ffordd hefyd?

Nid oes unrhyw beth yn well gennyf na theithio o amgylch Cymru yn mynd i weld ffyrdd osgoi gyda fy nghyd-Aelodau o'r Senedd, felly cawn weld a yw'r dyddiadur yn caniatáu hynny. Mae arnaf ofn—. Mae'n gynllun trawsffiniol, fel y dywedwch—5 y cant yn unig ohono sydd yng Nghymru, gyda'r gweddill yn Lloegr. Ac mae trafodaethau ar y gweill rhwng Highways England a swyddogion Llywodraeth Cymru ynghylch symud i'r cam nesaf, ac rwy'n disgwyl cyngor ynglŷn â hynny cyn bo hir, ac rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod pan fyddaf yn gwybod mwy.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Natasha Asghar.

Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, yn ystod cyfweliad diweddar ar Sharp End, fe wnaethoch wawdio Bws Caerdydd am godi pryderon ynglŷn â'ch cynlluniau dadleuol i gyflwyno terfynau cyflymder 20 mya ledled Cymru. Roeddent yn ofni y byddai'r newid—a fydd, mae'n rhaid imi bwysleisio, yn costio mwy na £32 miliwn—yn arwain at deithiau bws arafach a mwy annibynadwy. Ddirprwy Weinidog, mewn ymateb i’r pryderon dilys a godwyd gan y cwmni, fe ddywedoch chi fod gan Bws Caerdydd, ac rwy'n dyfynnu,

'safbwynt hynod o gul'.

Fodd bynnag, onid y gwrthwyneb sy'n wir, Ddirprwy Weinidog? Chi sydd â'r safbwynt cul, wrth ichi fwrw ymlaen â'r cynllun 20 mya hwn gan anwybyddu pryderon dilys, yn enwedig yng ngoleuni adroddiad newydd sy'n dangos nad yw torri terfynau cyflymder i 20 mya yn gwella diogelwch ar y ffyrdd mewn gwirionedd.

Mae arnaf ofn fod gyrfa’r Aelod fel golygydd papur newydd tabloid wedi achub y blaen arni. Credaf fod y syniad fy mod wedi eu 'gwawdio' braidd yn gyffrogarol. Roeddwn yn mynegi fy rhwystredigaeth gyda rhai o’r sylwadau a wnaed, nad wyf yn derbyn eu cynsail. Rwy'n deall y pryderon, ac rydym yn gweithio gyda hwy arnynt, ac rydym yn gweithio i ddeall rhai o'r problemau sydd ganddynt yn well. Gwyddom mai un o’r problemau mawr sydd gan gwmnïau bysiau yw dibynadwyedd a thagfeydd. Y dystiolaeth sydd gennym hyd yn hyn yw y bydd terfyn cyflymder o 20 mya yn cynhyrchu llif traffig llyfnach. Mae’r rhan fwyaf o’r achosion o oedi ar gyffyrdd, ac mae pobl yn cyflymu ac yn arafu i gyrraedd y set nesaf o oleuadau traffig cyn gynted ag y gallant yn un o brif achosion llygredd aer lleol, yn ogystal â defnyddio tanwydd, ac wrth gwrs, mae'n berygl ar y ffyrdd. Felly, os gallwn lyfnhau'r llif traffig, dylai hynny helpu cwmnïau bysiau.

Nid ydym yn deall yn iawn ychwaith pa mor gywir yw amserlenni'r rhan fwyaf o gwmnïau bysiau. Maent yn dweud ein bod yn achosi oedi i'w hamserlenni; wel, mewn llawer o achosion, nid ydynt yn cadw at eu hamserlenni eisoes, a hynny'n bennaf oherwydd tagfeydd. Felly, mae dadl gylchol yma.

Felly, rydym yn sicr yn awyddus i weithio gyda hwy i ddeall y sefyllfa'n well. Lle ceir problemau, rydym yn awyddus iawn i edrych ar ailddyrannu gofod ffordd. Mae creu lonydd bysiau a mesurau blaenoriaeth i fysiau yn ffordd wahanol o sicrhau arbedion effeithlonrwydd ar gyfer bysiau heb gael, fel y mae hi'n awgrymu, terfyn cyflymder y gwyddom ei fod yn cynyddu’r perygl o gael eich lladd os cewch eich taro gan gar—oddeutu pum gwaith yn fwy ar 30 nag ar 20. Nid yw'r astudiaeth y cyfeiriodd ati yn Belfast yn astudiaeth y gellir ei chymharu â'r hyn rydym yn ei gynnig yng Nghymru, ac roeddwn yn siomedig nad oedd y sylw a roddwyd i'r astudiaeth honno'n adlewyrchu ei realiti. Ond rwy'n siŵr, pe bai'n ei hastudio, ac yn astudio ein cynigion, y byddai'n sylwi ar wahaniaethau sylweddol.

13:40

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Credwch fi, astudiais eich cyfweliad, a chan gadw at thema Sharp End yma, Ddirprwy Weinidog, gofynnwyd i chi a all pobl Cymru ddisgwyl gweld mwy o barthau terfyn cyflymder 50 mya—yn union fel y rhai aneffeithiol sydd eisoes wedi’u gosod ar hyd yr M4 yng Nghasnewydd, lle rwy'n byw—yn codi ar draws y rhwydwaith ffyrdd. Fe ateboch chi, 'Gallant.' Yn syml iawn, nid yw’r camerâu 50 mya yng Nghasnewydd wedi gweithio, Ddirprwy Weinidog. Mae tagfeydd trwm yn dal i fod yn bla ar y darn hwnnw o'r ffordd bob dydd. Ni allaf weld pam ar y ddaear y byddech hyd yn oed yn ystyried gosod camerâu mewn mannau eraill ledled y wlad pan nad ydynt yn gwneud unrhyw beth i leddfu tagfeydd, ac yn gwneud popeth i wneud bywydau modurwyr yn fwrn. Ddirprwy Weinidog, onid yw’n wir fod gosod terfynau cyflymder afrealistig yn ymwneud nid â thorri llygredd ond â gorfodi modurwyr oddi ar ein ffyrdd annigonol i guddio eich methiant i ddarparu rhwydwaith ffyrdd effeithiol ac effeithlon i Gymru?

Wel, rwy'n mwynhau'r dadansoddiad o fy nghyfweliadau; mae bob amser yn dda cael adborth, ac unwaith eto, gan olygyddion papurau newydd tabloid. Efallai y dylai fod yn gritig teledu tabloid hefyd; yn sicr, mae llwybrau eraill yn agored iddi pe bai'n penderfynu nad oes dyfodol iddi ym myd gwleidyddiaeth, a byddai hynny'n drueni mawr.

Fel y gŵyr yr Aelod, mewn llawer o achosion, gorchmynnwyd y ddarpariaeth o derfynau cyflymder 50 mya gan lys am eu bod yn torri targedau ansawdd aer, ac yn hytrach na'u bod wedi bod yn aneffeithiol, y gwrthwyneb sy'n wir, fel y gŵyr yn iawn. Maent wedi bod yn effeithiol wrth ostwng lefelau llygredd, yn ogystal â chyfrannu at lif traffig llyfnach. Felly, mae arnaf ofn fod ei ffeithiau'n anghywir, mae ei dadansoddiad yn anghywir ac mae ei diagnosis o'r cymhelliant sy'n sail iddynt yn anghywir.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Diolch am eich galwad arnaf i newid gyrfa yn y dyfodol, ond rwy'n eithaf bodlon lle rwyf fi. Rwy'n bwriadu aros yma am amser hir iawn gan fod angen i rywun eich dwyn i gyfrif.

Yn yr un cyfweliad, gan ddychwelyd at Sharp End, Ddirprwy Weinidog, gofynnwyd i chi a all modurwyr ledled Cymru ddisgwyl gweld mesurau codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yn cael eu cyflwyno. Unwaith eto, eich ymateb oedd 'Gallant.' Nid ydym ni ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig erioed wedi bod ag unrhyw amheuaeth fod y Llywodraeth Lafur hon yn elyniaethus tuag at yrwyr, ond rydych wedi cadarnhau ein hamheuon gwaethaf gydag un gair syml, sef 'Gallant.' Mae pobl ledled y wlad yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd oherwydd y pwysau costau byw cynyddol, ac ar yr un pryd, rydych chi'n llunio cynlluniau i wasgu hyd yn oed mwy o arian allan ohonynt. Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi roi’r gorau unwaith ac am byth i gosbi gyrwyr ar bob cyfle ac ailfeddwl eich cynlluniau ar gyfer 50 mya ac ar gyfer codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd?

Wel, ni allaf ond tybio bod ymchwilwyr Natasha Asghar ar wythnos o wyliau, ond yn amlwg, cafodd lawer allan o Sharp End yr wythnos hon, ac rwy'n siŵr y byddant yn falch iawn ynglŷn â hynny.

Nawr, yn syml, mae mater codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yn adlewyrchiad o’r ffaith y bydd treth ar betrol yn diflannu wrth i bobl roi’r gorau i yrru ceir petrol. Llywodraeth ei phlaid hi yn y DU sydd wedi pennu terfyn amser cyfreithiol ar gyfer gwahardd gwerthu ceir petrol, ac rwy'n ei lwyr gefnogi. Mae hynny’n golygu, drwy ddiffiniad, y bydd yn rhaid ailasesu dibyniaeth y Trysorlys ar dreth tanwydd i ariannu rhannau helaeth o wasanaethau cyhoeddus gan na fydd pobl yn prynu petrol. Felly, mae rhyw fath o dâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yn anochel, ac mewn gwirionedd, mae ei Llywodraeth yn Llundain yn mynd ati'n weithredol i weithio ar hynny. Felly, pryd bynnag y bydd yn llunio labeli hysterig i'w taflu ataf, mae gwir angen iddi feddwl y tu hwnt i'r sylw bachog y mae'n ei ddweud, gan fod hyn yn rhywbeth y mae pob Llywodraeth yn ei wneud, oherwydd yn syml iawn, mae'r rheolau'n newid. Rydym wedi dweud yn ein strategaeth drafnidiaeth ein bod yn ffafrio dull buddion a thaliadau, yn union fel sy’n cael ei ystyried yng Nghaerdydd, lle rydym yn edrych ar godi tâl mewn rhai amgylchiadau, ond defnyddir yr arian hwnnw i dalu am well trafnidiaeth gyhoeddus a dewisiadau gwahanol i geir. Credaf y byddai pobl yn fodlon talu tâl, ac yn sicr, byddai’r arolygon barn yn cefnogi hynny, pe baent yn teimlo eu bod yn cael dewisiadau dilys eraill, o ansawdd da, yn lle gyrru. Dyna rydym yn gweithio arno, ac rydym yn gwneud hynny'n ofalus. Ond ni fydd y syniad o gadw at y system bresennol yn gweithio.

13:45

Diolch, Llywydd. Weinidog, rwyf eisiau gofyn i chi am COP27. Roedd gwledydd sy'n datblygu yn dathlu fore Sul, oherwydd, am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd, cytunodd y gwledydd datblygedig i ddarparu cyllid i'w helpu nhw i ymateb i drychinebau sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd, a elwir yn gronfa colled a difrod. Roedd y cytundeb yn COP27 ymhell o fod yn berffaith, gyda sawl elfen allweddol yn ddiffygiol. Dywedodd rhai gwledydd nad oedd yr ymrwymiadau i gyfyngu tymheredd i 1.5 gradd Celsius yn cynrychioli unrhyw gynnydd, ac roedd yr iaith ar danwyddau ffosil yn wan. Gwnaeth y cynnig colli a difrod ennyn clod, ond mae'n amlwg bod newid yn yr hinsawdd yn achosi dinistr nawr, tra rŷn ni yn siarad. A ydych chi'n cytuno mai'r hyn y dylem ni fod yn anelu ato, mewn gwirionedd, yw osgoi ac atal trychinebau, yn lle eu prisio nhw i mewn? Os felly, pa gyfraniad bydd Cymru yn ei wneud i'r ymdrechion yma?  

Cytunaf yn llwyr â Delyth Jewell fod canlyniadau uwchgynhadledd COP yn siomedig ac yn rhwystredig. Y problemau gyda’r uwchgynadleddau rhyngwladol hyn yw eu bod yn anochel yn symud ar gyflymder yr arafaf, gan fod angen cytundeb unfrydol. Yn amlwg, mae gan nifer o wledydd eu rhesymau eu hunain dros arafu cynnydd, ac yn syml iawn, nid yw hynny'n mynd i fod yn ddigon i ymdrin â difrifoldeb y bygythiad y mae’r wyddoniaeth yn awgrymu sy’n ein hwynebu bellach yn sgil cynhesu byd-eang a achoswyd gan bobl.

Credaf ei bod yn iawn mai’r mymryn bach o gysur oedd rhywfaint o gymorth i’r gwledydd datblygol—y rhai, wrth gwrs, sy’n cyfrannu leiaf at gynhesu byd-eang, ond y rhai sy'n dioddef fwyaf yn gyntaf. Felly, mae rhwymedigaeth foesol wirioneddol arnom, fel economi sydd wedi'i sefydlu ar danwydd ffosil, i wneud cyfraniad, ond hefyd, hunan-les cryf. Gwyddom y bydd lefelau ymfudo yn cynyddu wrth i newid hinsawdd daro, gyda phobl sydd wedi’u dadleoli o’u gwledydd yn methu cynnal bywoliaeth. Byddant yn symud i wledydd eraill, a bydd hynny'n anochel yn effeithio arnom ni. Dylai hyd yn oed y rheini nad ydynt wedi'u hargyhoeddi'n llwyr gan y wyddoniaeth newid hinsawdd ac sy'n llenwi ein papurau newydd â rhybuddion am ymfudo dalu sylw i'r angen i helpu'r gwledydd datblygol i liniaru'r effeithiau er mwyn osgoi effeithiau andwyol ar bethau y maent yn poeni amdanynt yn y dyfodol.

Ers nifer o flynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio drwy ein prosiect Cymru ac Affrica i helpu gwledydd datblygol. Mae'n brosiect rhagorol. I roi un enghraifft i chi, yn rhanbarth Mbale yn Uganda, rydym yn gweithio gyda ffermwyr coffi i blannu coed. Rydym wedi plannu 20 miliwn o goed ers i'r prosiect ddechrau. Nid yn unig fod hynny'n helpu i roi bywoliaeth iddynt, ond mae hefyd yn sefydlogi eu tir rhag fflachlifoedd a gynhyrchir gan newid hinsawdd, drwy ddefnyddio’r coed i rwymo'r tir at ei gilydd. Rwyf wedi cyfarfod â nifer o’r ffermwyr coffi, sy’n bobl ryfeddol. Mae angen inni ddeall effaith ein hymddygiad ni ar eu gallu hwy i fyw eu bywydau.

Diolch, Weinidog. Gan gadw at thema COP, ar ôl COP27, ymddengys bod Llywodraethau ledled y byd wedi cefnu ar y gobaith o 1.5—y cyfle i gadw'r cynnydd yn y tymheredd byd-eang i lefel sydd ond ychydig yn drychinebus, sef 1.5 gradd C uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol. Mae'r cyfle hwnnw'n prysur ddiflannu. Cefnir arno mewn colofnau papurau newydd ac ym mholisïau llywodraethau. Mae'n llithro i'r gorffennol—dyfodol y gallem fod wedi'i achub i ni ein hunain, ond na lwyddasom i'w sicrhau. Ac er y gellir mesur y gwahaniaeth rhwng 1.5 gradd a 2, 2.5, neu 3 gradd drwy ffigurau difodiant, marwolaethau a sychderau, gellir ei gatalogio hefyd drwy drybestod ac anobaith pobl ifanc. Beth arall y gall eich Llywodraeth ei wneud i gadw gobaith i bobl ifanc mewn byd sy’n cefnu ar eu dyfodol? A all eich Llywodraeth ddylanwadu ar gadw 1.5 yn fyw?

Mae'n llygad ei lle, wrth gwrs, i boeni ynglŷn â'r tebygolrwydd cynyddol nad ydym yn mynd i allu cyflawni'r targed a osodwyd yng nghytundeb Paris, a chredaf fod angen i bobl ganolbwyntio ar yr hyn y mae hyn yn ei olygu. Pan fo gwyddonwyr y byd yn dweud wrthym ein bod yn wynebu newid hinsawdd trychinebus na ellir ei wrthdroi, mae gwir angen inni wrando a chymryd sylw. Rydym yn mynd i orfod rhoi cyfrif am ein methiant i weithredu yn wyneb tystiolaeth glir iawn i'n plant a chenedlaethau'r dyfodol. Felly, mae'n hollbwysig ein bod yn brwydro'n galed i sicrhau ein bod yn cymryd camau ystyrlon ar unwaith, nid aros tan 2030 neu 2040, oherwydd erbyn hynny, mae'n debyg y bydd yn rhy hwyr gan y bydd gennym allyriadau corfforedig parhaol.

I ateb ei chwestiwn, 'Beth y gallwn ei wneud?’, credaf y gallwn ddangos arweiniad, gallwn ddangos i Lywodraethau eraill ein bod yn barod i gymryd camau sy'n cyd-fynd â'n rhethreg. Dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi comisiynu'r adolygiad ffyrdd. Ceir cyfaddawdau tymor byr anodd i’w hwynebu bob amser, ac amhoblogrwydd weithiau, gan fod newid yn anodd ac yn boenus, ond mae’r dewis arall yn llawer iawn gwaeth.

13:50
Lleihau Allyriadau Carbon

3. Beth mae'r Gweinidog wedi'i wneud i leihau ôl-troed carbon ei hadran yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? OQ58745

Mae gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â sefydliadau cyhoeddus eraill, gyfrifoldeb i leihau ei heffaith carbon ac i fod yn esiampl i eraill. Mae swyddogion yn ein hadran wedi datblygu cynllun strategol sero net ar gyfer Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn y Nadolig i lywio camau gweithredu yn y dyfodol.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn derbyn bod problem enfawr gyda newid hinsawdd, ac ni all unrhyw un wadu hynny. Mae eich Llywodraeth yn aml yn sôn am fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Yn wir, gwrthododd Llywodraeth Cymru fynd i’r COP27 diweddar yn yr Aifft, fel y dywedodd y Gweinidog, oherwydd pryderon ynghylch yr ôl troed carbon. Mae hwnnw’n benderfyniad moesol iawn. Fodd bynnag, mae Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru eleni wedi mwynhau taith fyd-eang a fyddai’n codi cywilydd ar lawer o fandiau roc, yn fy marn i. Rydych wedi bod yn Norwy, Gwlad Belg, yr Emiradau Arabaidd Unedig, Seland Newydd, UDA, Qatar, ac rwy'n siŵr fod llawer o leoliadau eraill i ddod. Yn wir, mae’n rhaid imi ddweud wrthych fod rhai o’r lleoedd hyn ymhellach i ffwrdd na’r Aifft, ac o ganlyniad, bydd cynnydd sylweddol yn lefel y carbon yn yr atmosffer. Felly, hoffwn wybod sut y gallwch chi a'r Gweinidog hinsawdd gyfiawnhau peidio â mynd i COP yng ngoleuni sylwadau'r Gweinidog a phopeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Mae cod y gweinidogion yn nodi'n glir fod yn rhaid i Weinidogion feddwl yn ofalus am yr angen i deithio ac a oes cyfiawnhad dros hynny ai peidio. Wrth gwrs, bydd yna adegau pan fydd cyfiawnhad dros deithio. Roedd yr enghreifftiau a ddewisodd yn ymwneud â mynd ar drywydd cyfleoedd masnach, datblygu perthynas â gwledydd eraill, a dweud wrth bobl am y gwaith a wnawn. Mae rôl i hynny, ond mae angen inni ei wneud yn ddetholus. Felly, do, penderfynodd Julie James a minnau na fyddai'n briodol mynd i'r COP eleni gan nad oedd yn COP a oedd yn gwneud penderfyniadau, fel yr un yn Glasgow y llynedd. Yn lle hynny, bydd Julie James yn mynd i Ganada y mis nesaf ar gyfer y COP bioamrywiaeth gan y credwn y gallwn ychwanegu gwerth at hynny mewn ffordd nad oeddem yn credu y byddem yn ychwanegu gwerth at un yr Aifft, er ein bod yn cael ein cynrychioli gan swyddogion. Rwy’n sylweddoli bod yr Aelod yn awyddus i wneud pwynt hawdd, ond mae grym i’r ddadl fod angen inni leihau ein hôl troed carbon ein hunain ac na ddylem deithio’n rhyngwladol oni bai bod achos cryf dros hynny, fel yn wir y mae cod y gweinidogion yn ei nodi'n glir.

Ynni Gwynt ar y Môr Arnofiol

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyfleoedd ddaw yn sgil datblygu ynni gwynt ar y môr arnofiol yng Nghymru? OQ58727

Mae gan wynt arnofiol botensial i gyfrannu’n sylweddol at system ynni sero net Cymru a Phrydain yn y dyfodol, ac mae’n gyfle gwych i ddod â buddion cymdeithasol ac economaidd i’n cymunedau arfordirol. Rydym yn gweithio’n agos gyda'r diwydiant, Ystad y Goron a Llywodraeth y DU i wireddu hyn.

Cytunaf â chi, Ddirprwy Weinidog, fod y cyfleoedd a gyflwynir gan wynt arnofiol yn enfawr. Fel y gwyddoch, rwy’n cefnogi’r cais trawsnewidiol ar gyfer y porthladd rhydd Celtaidd, a fyddai, yn fy marn i, yn chwarae rhan enfawr yn y broses o ddatblygu dyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae'n hanfodol fod pob prosiect datblygu morol wedi'i leoli'n strategol i ddiogelu rhywogaethau morol a chefnogi adferiad y cefnfor. Mae fferm wynt arnofiol gyntaf Cymru, prosiect Erebus, yn cael ei datblygu 40 km oddi ar arfordir sir Benfro. Cyflwynodd y datblygwyr, Blue Gem Wind, y cyfarfûm â hwy droeon, eu cais caniatâd cynllunio ym mis Rhagfyr 2021, gyda chais clir am benderfyniad ar y caniatâd ymhen 12 mis er mwyn galluogi’r prosiect i gystadlu yn y rownd ddyrannu contractau ar gyfer gwahaniaeth nesaf. Felly, Ddirprwy Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i Erebus a phob darpar brosiect ynni gwynt arnofiol arall y bydd penderfyniadau ynghylch caniatadau'n cael eu rhoi mewn modd amserol er mwyn galluogi prosiectau i symud ymlaen ac fel nad ydynt yn colli cyfleoedd gwerthfawr i gael cyllid yn y dyfodol?

13:55

Efallai y bydd yr Aelod yn cofio, ychydig yn llai na blwyddyn yn ôl, imi arwain archwiliad dwfn o ynni adnewyddadwy er mwyn edrych ar ba rwystrau sy'n ein hatal rhag cyflawni ein targedau uchelgeisiol. Un o'r argymhellion a luniwyd gennym oedd adolygiad proses gyfan—os gall archwiliad dwfn arwain at adolygiad proses gyfan; fe wyddoch beth rwy'n ei olygu, rydym yn boddi mewn jargon yma—o'r broses gydsynio o'r dechrau i'r diwedd, i edrych ar beth oedd yn rhwystredig i ddatblygwyr, a beth oedd yn achosi oedi, ac roedd achos, er enghraifft, dros edrych ar sylfaen dystiolaeth mewn ffordd gydweithredol, a fyddai'n arbed datblygwyr unigol rhag gorfod gwneud hynny bob tro. Roedd y prosiect hwn yn un o’r rhai y buom yn edrych arnynt fel rhan o’r broses honno. Rydym wedi cael canlyniadau’r adolygiad proses gyfan, ac rydym bellach yn gweithio drwyddynt yn fanwl i weld gyda CNC beth y gallwn ei roi ar waith i gynorthwyo cynlluniau fel hyn yn y dyfodol. Ar y prosiect penodol hwn, rydym yn gweithio gyda datblygwyr y prosiect ar y broses ar gyfer cael trwydded forol. Gan fod gennym rôl yn y broses apelio, fe fyddwch yn deall na allaf wneud sylw pellach ar hynny, ond mae ein swyddogion yn gwneud yr hyn a allant, ac wrth gwrs, mae angen i’r datblygwyr hefyd wneud yr hyn a allant hwy i gadw at y dyddiad cau y maent wedi gofyn i ni gadw ato.

Mae llawer o ffocws wedi bod ar wynt arnofiol wrth gwrs. Mae'n teimlo i raddau fel pe bai'n rhywbeth sy'n ffasiynol ar hyn o bryd, ond mae'n hynod ddilys, wrth gwrs—nid oes unrhyw un yn herio hynny—yn enwedig gyda'r ffocws ar y môr Celtaidd. Ond mae'n rhaid inni beidio ag anghofio, wrth gwrs, fod potensial enfawr o hyd i'w wireddu mewn perthynas â thyrbinau sefydlog ym Môr Iwerddon. Mae hynny'n sbardun allweddol ar gyfer economi gogledd Cymru yn fy marn i, gyda ffocws penodol ar ddatblygu presenoldeb ynni gwynt ar y môr cryf yng Nghaergybi. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym beth yw dyheadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â môr Iwerddon, yn enwedig ar ôl rownd lesio 4 Ystad y Goron, a beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo'r cyfleoedd hynny'n barhaus o ran tyrbinau sefydlog, yn enwedig ym Môr Iwerddon?

Mae'n llygad ei le, ac mae gennym ddiddordeb ym mhob cyfle i wella capasiti ynni adnewyddadwy. Un o'r pethau rydym hefyd yn awyddus i'w gwneud yw sicrhau bod gennym gadwyn gyflenwi a budd i'r economi leol, drwy berchnogaeth a thrwy weithgynhyrchu. Nid wyf erioed wedi deall pam fod cronfeydd pensiwn yr Almaen yn cael eu buddsoddi mewn ffermydd gwynt oddi ar ogledd Cymru pan nad ydym yn elwa'n uniongyrchol o'r elw ein hunain. Dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi cyhoeddi y byddwn yn creu cwmni ynni i Gymru, i fanteisio ar y cyfleoedd a geir ar ystad Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym hefyd—gyda Phlaid Cymru—yn gweithio ar gynnig ar gyfer ynni cymunedol. Felly, mae llawer o waith yn mynd rhagddo i fanteisio ar hyn. Mae angen inni weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU ar strategaeth ddiwydiannol i gyd-fynd â’r cynlluniau adnewyddadwy. Codais hyn gyda Greg Hands pan oedd yn Weinidog ynni, ac mae'n rhywbeth y mae’r diwydiant ei hun yn frwdfrydig yn ei gylch, gan fod potensial sylweddol o ran ynni yn ogystal â photensial o ran cyflogaeth hefyd os cawn hyn yn iawn.

Gwasanaethau Rheilffordd

5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu ansawdd ac argaeledd teithiau trenau yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ58747

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynyddu nifer y gwasanaethau rheilffordd ar reilffordd Calon Cymru o fis Rhagfyr eleni o bum gwasanaeth y dydd i saith. Mae'r gwaith o adnewyddu'r cerbydau rheilffyrdd a ddefnyddir ar y rheilffordd hon hefyd wedi'i gwblhau'n ddiweddar, gan ddarparu cyfleuster gwell i deithwyr.

Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Wrth gwrs, byddi di a minnau yn gyfarwydd iawn gyda'r llinell yma, gan ei bod hi'n mynd trwy ganol y dref lle cawsom ni ein haddysg. Mae hi'n cynnig taith hyfryd, wrth gwrs, o gwmpas canolbarth Cymru. Ond mae nifer o'm etholwyr innau wedi bod yn cael profiadau gwael yn ddiweddar o ran y gwasanaeth—o ran oedi cyson, ac argaeledd gwael ac annibynadwy. Yn ystod y mis diwethaf, er enghraifft, rwyf wedi cael ar ddeall bod un etholwr wedi cael ei adael i bob pwrpas gyda'i gyd-deithwyr yn Llanwrtyd yn aros oriau am wasanaeth bws amgen yn lle'r trên. Bu'n rhaid i etholwr arall ganslo gwyliau yn yr Amwythig ar ôl i wasanaeth gael ei ganslo heb rybudd o flaen llaw. Yn ogystal â hyn, mae problemau hefyd yn Nglan-y-fferi o ran y llinell arall, lle dyw'r gwasanaeth sy'n mynd o Fanceinion i Aberdaugleddau ddim yn stopio yn Nglan-y-fferi er ei fod e'n mynd trwy'r pentref. Felly, oes modd cael gair gyda Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â'r ddau bwynt hynny?

14:00

Roeddwn yn ddiolchgar fod yr Aelod wedi ysgrifennu ataf ynglŷn â phrofiad ei etholwyr o gael eu gadael ar ôl yn Llanwrtyd, ac rwy'n gobeithio ei fod wedi cael fy ymateb ar hynny. Mae problemau wedi bod ar draws y system reilffyrdd. Rydym wedi ei chael hi'n arbennig o anodd gyda'r fflyd o drenau a etifeddwyd, gyda llawer ohonynt heb fod mor ddibynadwy ag y byddem am iddynt fod, ac mae hynny wedi effeithio ar ddibynadwyedd gwasanaethau. Rydym yn obeithiol iawn fod y trenau newydd—mae un eisoes yn gweithredu ar reilffordd dyffryn Conwy, mae un arall i fod i gael ei ddefnyddio ar reilffordd cwm Rhymni yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ac yna byddant yn cael eu rhaeadru drwy gydol y flwyddyn, a chredaf y bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth sylweddol, nid yn unig o ran cyfforddusrwydd teithwyr, ond hefyd o ran y capasiti; byddant yn gallu cario mwy o deithwyr.

Rydym hefyd yn hyrwyddo rheilffordd Calon Cymru drwy gynnig teithio am ddim i ddeiliaid pas rhatach rhwng mis Hydref a mis Mawrth, ac rydym yn edrych hefyd ar gyfleoedd i ymwelwyr o amgylch y gorsafoedd pan fyddant yn cyrraedd yno. Rwy'n cyfarfod â grwpiau teithwyr yn fuan i drafod cyfleoedd pellach ar gyfer hynny.

Ar y pwynt cyfathrebu y mae'n ei godi pan fo pethau'n mynd o chwith, rwy'n meddwl ei fod yn bwynt teg iawn, ac fe wyddom fod methiannau wedi'u nodi yn y Siambr hon o'r blaen, gyda chyfathrebu gwael â theithwyr. Byddaf yn gofyn i Trafnidiaeth Cymru ysgrifennu atoch ymhellach ynglŷn â hynny a mater aros yng Nglanyfferi i weld beth arall y gellir ei wneud am yr hyn sy'n gŵyn hollol deg.

Diolch i Adam Price am gyflwyno'r cwestiwn hwn, oherwydd mae'n berthnasol i fy etholwyr innau hefyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro sydd, dros y penwythnosau diwethaf, wedi cael eu taro gan ddiflastod ac oedi wrth iddynt deithio i ac o Gaerdydd ar gyfer gemau rygbi rhyngwladol yr hydref yng Nghymru. 'Wedi ymlâdd', 'dim syniadau newydd' a 'di-gyfeiriad' oedd y geiriau a ynganwyd wrthyf gan etholwr—nid disgrifiad o dîm rygbi dynion Cymru ar ôl iddynt golli yn erbyn Georgia, ond eu disgrifiad o'r gwasanaethau rheilffordd yn sir Gaerfyrddin a de sir Benfro. O ystyried hyn, Ddirprwy Weinidog, pa opsiynau penodol sydd gennych mewn golwg er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n byw yn llythrennol ar ben draw'r lein yn cael gwasanaeth cyfartal a chystal â phobl yng ngweddill de Cymru?

Roedd rhai anawsterau ar ôl gêm Georgia ar y penwythnos, unwaith eto oherwydd dibynadwyedd rhai o'r cerbydau, ac fel y dywedais, mae gennym gynlluniau gweithredol nawr i unioni hynny yn y misoedd nesaf, a chredaf y bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr. Rydym yn buddsoddi'n sylweddol mewn gwasanaethau, ac i gyd-fynd â hynny mae angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi yn seilwaith y system rheilffyrdd. Nid yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, ac fel rydym wedi ailadrodd yn y Siambr hon, nid ydym yn cael agos digon o gyllid nac yn elwa ar fanteision HS2.

Cefais fy siomi'n fawr wrth weld Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, David T.C. Davies, a oedd wedi hyrwyddo'r achos hwn pan oedd yn Gadeirydd y pwyllgor dethol Cymreig, yn cydnabod yr achos gyda chonsensws trawsbleidiol ar y pwyllgor hwnnw, ac rwy'n falch o ddweud, cefnogaeth nawr hefyd gan y Ceidwadwyr yn y Siambr hon i weld y cyllid canlyniadol Barnet llawn ar gyfer prosiect HS2 yn cael ei drosglwyddo i Gymru. Yn anffodus, cyn gynted ag y mae'n eistedd o amgylch bwrdd y Cabinet, lle mae i fod yn llais dros Gymru, mae'n cefnu ar hynny ac yn gwneud yr achos dros beidio â'i drosglwyddo ar y sail y byddai pobl yng ngogledd Cymru yn gallu dal trenau yn Crewe, gan anwybyddu'r ffaith bod ei achos busnes ei hun yn dangos niwed sylweddol i economi de Cymru yn sgil HS2, yn ogystal â'r diffyg buddsoddiad y bydd yn rhaid i ni ei fuddsoddi mewn atebion amgen. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn barhau i weithio ar sail drawsbleidiol i geisio cael synnwyr yn San Steffan ac i gael yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros drafnidiaeth i newid eu meddyliau.

Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Hoffwn ddweud yn gyflym iawn imi gael taith dda iawn gyda Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar, ac roedd staff y swyddfa docynnau'n gymwynasgar tu hwnt. Felly, rwy'n gwybod eu bod yn gweithio'n galed iawn, ac rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig cofnodi cyflawniadau llawer o'r bobl hynny. Ond hoffwn grybwyll rheilffordd wych arall, o'r Amwythig i Aberystwyth, gyda dargyfeiriad bach i Bwllheli. Nawr, mae'r llwybr hwnnw'n union fel mynd trwy'r Eidal, ydy wir. Mae'r môr ar un ochr, fe ewch dros aber y Fawddach, fe welwch Abermaw, gallwch fynd i fyny i dref hyfryd Pwllheli. Mae'n llwybr rheilffordd gwych, ond nid oes digon o drenau'n mynd ar hyd-ddo. Pan oeddwn yn byw yn y Trallwng ac yn teithio i'r gwaith, pe bawn yn colli trên 6.30 y bore, nid oedd un arall tan 9.00 y bore. Nawr, nid ydym yn gofyn llawer; rydym yn gofyn am wasanaeth trên bob awr ar hyd lein y Cambrian. Felly, roeddwn i meddwl, Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthym ynglŷn ag unrhyw gynlluniau i hynny ddigwydd, a phryd y gallai hynny fod. Diolch yn fawr iawn.

14:05

Diolch. Oes, mae yna heriau penodol ar y rheilffordd honno, am mai dim ond un o'r trenau sydd gennym sy'n gallu ei defnyddio. Felly, pan fo problemau gyda'r cerbydau, mae'n ei gwneud hi'n anodd iawn cynnig darpariaeth yn ei lle. Fel y dywedais, wrth i ni raeadru ein fflyd newydd o drenau ar draws y rhwydwaith, rwy'n credu y bydd gwelliannau i 95 y cant o deithwyr a theithiau, a fydd yn gam sylweddol ymlaen.

Mae'r rheilffyrdd yn her i ni. Maent yn fath drud o drafnidiaeth gyhoeddus ac ond yn cludo nifer cymharol ychydig o deithwyr. Rydym wedi wynebu dyfarniad o fuddsoddiad mewn bysiau ac mewn teithio llesol i geisio cyrraedd ein targedau newid dulliau teithio, ac yn amlwg, gyda chwyddiant, mae cost rhedeg prosiectau rheilffyrdd hefyd yn sylweddol, yn ogystal â mathau eraill o oedi sydd i'w teimlo ledled y diwydiant. Felly, mae'n sefyllfa heriol ac mae'r cynnydd yn araf; mae'n teimlo weithiau fel pe bai popeth yn cymryd oes. Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ac rydym yn eu gweithredu, ond mae lle i wneud llawer mwy, sy'n mynd i fod yn anos i'w gyflawni gyda'r toriadau rydym yn eu disgwyl nawr gan Lywodraeth y DU. Clywais arweinydd yr wrthblaid yn dweud eto ddoe fod cyllideb Cymru yn mynd i fod yn well o ganlyniad i'r gyllideb, gan anwybyddu effaith chwyddiant yn llwyr. Rydym yn mynd i fod oddeutu £3 biliwn yn waeth ein byd, nid £1 biliwn yn well ein byd, a hynny heb ystyried y £1 biliwn rydym wedi'i golli o gronfeydd Ewropeaidd. [Torri ar draws.] Dyna Janet Finch-Saunders yn heclo am y tro cyntaf heddiw i ofyn imi werthu'r maes awyr. Wel, nid yw diffyg o £3 biliwn yn mynd i gael ei godi o werthu maes awyr am oddeutu £50 miliwn, a hynny gan ragdybio y gallem ddod o hyd i brynwr.

Amgylcheddau Trefol Mewnol

6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru i wella amgylcheddau trefol mewnol? OQ58752

Ffocws ein rhaglen Trawsnewid Trefi yw datblygu canol ein trefi yn gynaliadwy, cefnogi buddsoddiad yn ein trefi sy'n cael eu llunio gan gynlluniau creu lleoedd ac sy'n cynnwys mannau gwyrdd, ailddefnyddio adeiladau anghyfannedd fel canolfannau cymunedol a chynyddu amrywiaeth y gwasanaethau sydd ar gael.

Ymwelais am y tro cyntaf â marchnad Casnewydd ar ei newydd wedd yr wythnos diwethaf, wedi ymweliad gyda John Griffiths i agor y storfa ddiogel ar gyfer beiciau ynghanol y ganolfan, a rhaid i mi ddweud, roeddwn yn meddwl bod y farchnad yn wych ac rwy'n falch o'r rôl a chwaraewyd gennym ni gyda'r cyngor lleol i wneud hwnnw'n gyfleuster deniadol, a dywedir wrthyf ei fod yn llawn ar benwythnosau. Ac i'r rhai sydd heb ymweld, byddwn yn eich annog i fynd yno. 

Wel, byddwn yn sicr yn ymuno â chi, Weinidog, i annog cymaint o bobl â phosibl i ymweld â marchnad Casnewydd sydd wedi'i hadnewyddu a'i thrawsnewid yn wych. Mae llawer o waith da yn digwydd yng Nghasnewydd. Enghraifft arall, Weinidog, yn Nwyrain Casnewydd yw prosiect adnewyddu Maendy. Mae wedi ennyn diddordeb trigolion lleol i drawsnewid yr ardal leol, sy'n amgylchedd trefol prysur iawn gyda llawer o draffig ar y ffyrdd. Yn rhan o'r prosiectau hynny, mae Gwyrddu Maendy yn cynhyrchu mannau gwyrdd o ansawdd da iawn i'w mwynhau gan y gymuned leol. Mae yna brosiect gwneuthurwyr Maendy sy'n ailddefnyddio ac ailgylchu, gan gynhyrchu pethau fel cynwysyddion blodau cludadwy i helpu gyda'r ymdrech wyrddu, ac mae gan driongl Maendy, sydd gyferbyn â'r llyfrgell gymunedol, gaffi a gofod perfformio, lle cynhaliwyd gŵyl gerddoriaeth Maendy, y gyntaf erioed, yr haf hwn. Felly, mae llawer yn digwydd yno, Weinidog, ond ceir cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer gwaith pellach. Tybed a fyddech chi'n ystyried sut y gallai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi'r gwaith trawsnewidiol hwn ac ymweld â'r ardal gyda mi, gobeithio, i weld drosoch eich hun y cynnydd a wnaed, a chlywed am y cynlluniau ar gyfer y dyfodol, a fyddai'n trawsnewid y gymuned leol bwysig honno yn fy marn i. 

Wel, diolch yn fawr am dynnu sylw at y gwaith gwych sy'n digwydd ym Maendy, John. Rwy'n falch fod prosiect triongl Maendy Unlimited wedi derbyn dros £200,000 o arian Llywodraeth Cymru tuag at drawsnewid hen doiled cyhoeddus yn ganolfan gymunedol a man gwyrdd. Digwyddodd hynny drwy ein rhaglen cyfleusterau cymunedol, a gall ymgeiswyr gyflwyno hyd at dri chais sy'n werth cyfanswm o £300,000 mewn unrhyw gyfnod o dair blynedd. Mae hyn yn golygu y gall Maendy Unlimited ymgeisio am grant ychwanegol o tua £70,000 o fewn y cyfnod ymgeisio presennol, a byddwn yn awyddus i weithio gydag ef a siarad gyda hwy ynglŷn â chyfleoedd eraill a allai fod i wella'r ardal. 

Mae canol dinas Abertawe wedi gweld buddsoddiad sydd i'w groesawu gan y cyngor lleol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU dros y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf o ganlyniad i fargen ddinesig bae Abertawe. Mae'r buddsoddiad, sy'n werth tua £1.3 biliwn, wedi helpu i gyflawni pethau fel yr arena ddigidol newydd yn Abertawe a phrosiectau eraill, gyda'r nod o wneud y ddinas yn lle mwy deniadol i weithwyr a chyflogwyr. Ond mae etholwyr wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r pwyslais anghymesur y teimlant ei fod wedi'i roi ar hyn a chyllid arall, ar ôl cael ei anelu at ganol y ddinas yn benodol. Mae Abertawe yn gartref i gytrefi gwych eraill, fel Treforys, Gorseinon, y Mwmbwls a Phontarddulais, ac mewn rhai o'r ardaloedd hynny, mae'r stryd fawr yn ei chael hi'n anodd iawn, ac nid yw anghenion trafnidiaeth a seilwaith yn cael eu diwallu yn yr un ffordd ag y byddent pe baent ynghanol y ddinas.  Felly, gyda hynny mewn cof, sut rydych chi'n gweithio gyda chyngor Abertawe a chynghorau eraill i sicrhau nad canol dinasoedd yn unig sy'n elwa o gyllid ychwanegol ar gyfer gwella ardaloedd trefol?

14:10

Wel, bûm yn arwain ymarfer i edrych ar beth y gallwn ei wneud i helpu canol trefi; beth yw'r rhwystrau i'w gwella? Rydym i gyd yn gwybod, yn ein hardaloedd ein hunain, am gyflwr truenus llawer o ganol trefi a'r pwysau enfawr sydd arnynt—pwysau sydd ond yn mynd i waethygu gyda phrisiau ynni cynyddol. Ac rwy'n bryderus iawn na cheir cynnig gan Lywodraeth y DU i fusnesau gogyfer â'r cynnydd sylweddol iawn yn eu biliau ynni. Roeddwn yn siarad â pherchennog siop sglodion ym Mhorth Tywyn yr wythnos o'r blaen, ac fe ddywedodd wrthyf fod eu biliau ynni wedi codi 300 y cant. Mae'n anodd iawn gweld sut y gall busnesau fel hynny gynnal codiadau o'r fath am yn hir iawn.

Felly, rwy'n ofni y bydd gennym ganol trefi mewn cyflwr hyd yn oed yn fwy truenus dros y misoedd nesaf wrth i fusnesau gau am na allant gynnal y cynnydd anghynaladwy yn eu biliau ynni. Hoffwn annog Llywodraeth y DU i roi pecyn at ei gilydd i helpu gyda hynny.

Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau argymhellion y grŵp gweithredu ar ganol trefi yn fuan. Ond un o'r pethau y gwnaethom edrych arnynt oedd profiad Treforys, fel rhan o'r gwaith hwnnw—yr astudiaeth a wnaed gan yr Athro Karel Williams o werth y stryd fawr hir iawn honno, a'r hyn y mae pobl leol yn ei werthfawrogi mewn gwirionedd. Ymhell o fod yn seilwaith, o'r math y mae'n sôn amdano, canfuwyd eu bod yn gwerthfawrogi seilwaith cymdeithasol.  Felly, cyflwr y parc, cyflwr y toiledau—pethau sydd wedi cael eu taro'n sylweddol gan doriadau cyni yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ac a fydd yn cael eu taro hyd yn oed ymhellach gan y toriadau cyni rydym yn eu disgwyl o ganlyniad i'r gyllideb.

Felly, mae'n anodd iawn gwella pethau pan fo gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu taro, fel sydd wedi digwydd o dan y Llywodraeth Geidwadol hon. Ond rydym wedi cynnig cyfres o argymhellion ymarferol ynglŷn â phethau y gallwn eu gwneud, gan weithio gydag awdurdodau lleol, i helpu canol trefi i ailadeiladu.

Stoc Tai Gwag

7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o faint o stoc tai gwag sydd ar dir sy'n eiddo i awdurdodau cyhoeddus? OQ58730

Diolch am godi'r mater pwysig hwn. Mae'r ffigurau diweddaraf yn awgrymu bod tua 1 y cant o'r stoc tai cymdeithasol sy'n eiddo i awdurdodau lleol wedi bod yn wag ers dros chwe mis.

Diolch. Nawr, nid oes angen imi ddweud wrthych fod gennym brinder difrifol o ddarpariaeth dai ar draws gogledd Cymru. Yn ystod 2021-22, cysylltodd 1,126 o bobl â Chyngor Gwynedd oherwydd eu bod yn ddigartref—50 y cant yn fwy nag yn 2018-19. Mae tua 2,000 ar y rhestr ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac yn Wrecsam, mae nifer yr unigolion sy'n cael eu hystyried yn ddigartref wedi mwy na dyblu i 2,238, rhwng 2019-20 a 2021-22.

Nawr, er bod pobl yn ysu am unedau tai, mae'n ffaith bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gymaint â 750 o unedau llety ar draws gogledd Cymru nad ydynt yn cael eu defnyddio. Rwyf wedi ei godi gyda'r Gweinidog iechyd; rwyf wedi ei godi hefyd gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol roi gwybod imi eto yr wythnos diwethaf fod y bwrdd iechyd bellach yn y broses o edrych ar opsiynau caffael i weithio gyda phartner ar gyfer ei breswylfeydd. Nawr, rwy'n gwybod o gysylltu â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig y gellid gwneud yr unedau hyn yn stoc dai hyfyw, naill ai i'r rhai yn y sector meddygol, neu'n wir, i rai sydd ond eisiau cartref. Felly, Weinidog, a ydych chi'n cytuno, o ystyried fy mod wedi codi'r pryderon hyn nawr ers—o, dechreuais eu codi y llynedd, pan ddarganfûm fod gennym yr holl stoc tai gwag hyn. Onid ydych chi'n credu ei bod hi'n annerbyniol nad oes rhyw fath o weithio mewn partneriaeth bellach rhwng y Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am dai; y Gweinidog iechyd; a phwy bynnag y mae'n ei gymryd i wneud y stoc wag hon yn gartrefi cynnes, diogel i'r cannoedd lawer o bobl sy'n oedi ar restr aros am dai allu byw ynddynt? Diolch. 

Wel, rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi'n ei godi, ac mae'n gwestiwn da, a diolch i chi am ei godi. Rydych chi wedi ysgrifennu atom ac rydym yn gweithio ar ymateb ac yn mynd at wraidd y sefyllfa yn Betsi Cadwaladr. Wrth gwrs, nid yw pob stoc tai gwag sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus ar gael nac yn addas i'w gosod: mae'n ddigon posibl eu bod yn cael eu cadw ar gyfer cynlluniau eraill; efallai eu bod yn rhan o ddatblygiadau pellach. Felly, nid yw'n ddarlun syml; dyna pam fod angen inni geisio mynd at wraidd y mater. [Torri ar draws.] Mae Janet Finch-Saunders yn dweud wrthyf ei fod yn llawer symlach na rwy'n ei gredu. Wel, gall pethau ymddangos yn syml o feinciau'r wrthblaid; gallaf addo i chi, yn y Llywodraeth, fod pethau'n aml ychydig yn fwy cymhleth nag y maent yn ymddangos. Ond mae hi'n iawn i'w godi, rydym am fynd i'r afael ag ef; mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i ddod â thai gwag ar draws Cymru yn ôl i ddefnydd.

Roeddwn i'n rhan o gynllun peilot yn nhasglu'r Cymoedd, yn seiliedig ar gynllun ardderchog y mae Rhondda Cynon Taf wedi bod yn ei weithredu ers nifer o flynyddoedd i roi grantiau i berchnogion tai preifat er mwyn dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Mae Rhondda Cynon Taf unwaith eto'n dangos arweinyddiaeth wych drwy gynyddu'r dreth gyngor ar gartrefi gwag ac ailgylchu'r cyllid hwnnw i gael rhagor o eiddo gwag wedi'i lenwi, ac mae hynny'n rhywbeth y gall awdurdodau lleol eraill ei wneud. Gallant gynyddu'r dreth gyngor 300 y cant ar dai gwag sydd wedi bod yn wag ers dros chwe mis. Ar draws pob landlord cymdeithasol—awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig—roedd oddeutu 1,700 o unedau'n wag ers dros chwe mis, ac o'r rhain roedd 286 o unedau ar gael i'w gosod ac yn aros am denant.

Felly, mae yna gryn botensial yno i geisio cael y rhain yn ôl i ddefnydd yn gyflym, ac rydym yn darparu dros £24 miliwn i brynu ac adnewyddu eiddo gwag, a £65 miliwn arall yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro i ymateb i hyn. Byddwn yn dod â mwy na 1,000 o gartrefi ychwanegol i ddefnydd dros y 18 mis nesaf fel cartrefi hirdymor o ansawdd da i bobl. Ond fe ysgrifennaf atoch pan gawn wybodaeth bellach am yr enghraifft benodol a nodwch. 

14:15
Ynni Adnewyddadwy

8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r potensial o ddefnyddio pŵer y môr i gynhyrchu ynni adnewyddadwy? OQ58737

Diolch. Ceir potensial adnoddau sylweddol iawn yn y moroedd o amgylch arfordir Cymru ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Dyna pam ein bod wedi sefydlu'r rhaglen ynni morol i arwain ar ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i wneud Cymru'n ganolfan fyd-eang ar gyfer technolegau llanw.

Diolch. Weinidog, fel gwlad sydd ag arfordir sylweddol, mae'r cyfleoedd i harneisio grym y môr i gynhyrchu ynni yn enfawr, ac er y bu rhai cyhoeddiadau diweddar, fel ym Morlais yng ngogledd Cymru, hoffwn weld mwy o uchelgais gan y Llywodraeth, gan weithio gydag Ystad y Goron a phartneriaid allweddol eraill, i ddatblygu'r uchelgais os ydym am droi ein cynhyrchiant ynni a'n heconomi tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Un ardal arwyddocaol yw aber afon Hafren, sydd â'r amrediad llanw a'r grym llanw mwyaf trawiadol, ond nid oes neb wedi manteisio ar hynny hyd yma. A yw'n bryd bellach inni ailedrych ar hyn gyda Llywodraeth y DU ac eraill?

Wel, rwy'n falch fod yr Aelod wedi sôn am gynllun Morlais ar Ynys Môn, sy'n gynllun ardderchog a wnaed yn bosibl drwy arian Ewropeaidd—cyllid nad yw ar gael i ni mwyach, ac ni chafwyd arian yn ei le er gwaethaf yr addewid gan Lywodraeth y DU na fyddem geiniog yn waeth ein byd. Felly mae ein gallu i wneud cynlluniau tebyg i un Morlais wedi'i rwystro gan Brexit a methiant Llywodraeth y DU i gyflwyno cynllun amgen. Gall James Evans ochneidio, ond ffeithiau yw ffeithiau, gyfaill, ac mae canlyniad yn y byd go iawn, sydd—. Rwy'n cefnogi galwad eich cyd-Aelod arnom i wneud mwy i harneisio pŵer y môr; ei Lywodraeth ef sy'n rhwystro hynny. Mewn gwirionedd, lleihau eu trefniadau cymell yn gynamserol a arweiniodd at lesteirio gallu'r farchnad i gyflawni'r targedau sydd gennym, a dyna pam ein bod wedi sefydlu ein rhaglen ynni morol, i sicrhau manteision go iawn i Gymru. 

I fynd yn ôl at sut y dechreuasom y cwestiwn, gyda chynllun Morlais, dylem dalu teyrnged i'r arweiniad enfawr a roddir gan Menter Môn, menter gymdeithasol wedi'i lleoli ar yr ynys, sydd wedi gyrru hyn o'r dechrau, ac mae rôl y sector cymunedol yn gweithio gyda'r Llywodraeth i fwrw ymlaen â'r prosiectau hyn yn allweddol bwysig. 

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Heledd Fychan.

Mynediad At Addysg

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dysgwyr yng Nghanol De Cymru y mae eu mynediad at addysg wedi ei effeithio gan yr argyfwng costau byw? OQ58751

14:20

Mae ein grant datblygu disgyblion—mynediad yn darparu cyllid yn uniongyrchol i deuluoedd cyfoes i brynu gwisg, cit a chyflenwadau eraill ar gyfer yr ysgol. Fe wnes i gyhoeddi taliad untro ychwanegol o £100 i bob plentyn a pherson ifanc sy'n gymwys i gael y grant eleni, gan gynyddu'r cyllid i fwy na £23 miliwn ar gyfer 2022-23. 

Diolch, Weinidog. Gwn i chi ymweld yn ddiweddar ag Ysgol Uwchradd Llanishen, lle codwyd gyda chi cost trafnidiaeth fel un o'r rhwystrau sy'n effeithio ar bresenoldeb dysgwyr yn yr ysgol. Mae hon yn broblem barhaus sydd wedi ei chodi gyda mi, ac yn rhywbeth rydych wedi dweud yn flaenorol eich bod yn cydweithio efo'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd arno. Serch hynny, deallaf gan y dysgwyr mai gwaethygu mae'r sefyllfa, gyda mwy o ddysgwyr wedi cael eu gwrthod rhag mynd ar y bws gan nad oedd ganddynt arian i dalu am siwrnai. Pa drafodaethau sydd wedi eu cynnal felly gydag awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru—sef Caerdydd, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf—i sicrhau nad yw cost y diwrnod ysgol, gan gynnwys cost trafnidiaeth, yn rhwystr i bob disgybl fynd i'r ysgol? 

Diolch i Heledd Fychan am y cwestiwn pellach, ac mae hwn yn bwynt teilwng iawn; mae e yn sefyllfa heriol, fel gwnaeth yr Aelod ddweud. Fe fues i yn ddiweddar yn ysgol Llanishen yn trafod gyda grŵp o ddisgyblion, yn cynnwys Aelod o'r Sened Ieuenctid, oedd wedi bod yn gwneud ymchwil i fewn i impact hyn ar yr ysgol, ac wedi bod yn edrych am ddatrysiadau. Ac roedd e'n ymweliad buddiol ac yn drafodaeth ddefnyddiol iawn, ac rwy'n sicr yn deall y consárn a'r heriau mae teuluoedd yn eu wynebu yn y cyd-destun hwn. Mae swyddogion yn yr adran newid hinsawdd, sydd yn gyfrifol am drafnidiaeth, fel mae'r Aelod yn gwybod, wedi bod mewn trafodaethau gydag awdurdodau lleol a gyda darparwyr trafnidiaeth ysgol ar draws Cymru, a dweud y gwir, i edrych ar gost trafnidiaeth ysgol yn benodol wrth i awdurdodau barhau i gyrraedd eu dyletswyddau statudol i ddarparu trafnidiaeth. Mae'r cynnydd mewn cost tanwydd wedi bod yn her sylweddol i hyn. Fel mae'r Aelod yn gwybod, dyw'r dreth sy'n cael ei thalu am danwydd ddim yn rhywbeth sydd wedi ei ddatganoli, felly. Nid yw'r Llywodraeth yn San Steffan, wrth gwrs, wedi gweithredu yn hynny o beth, yn anffodus. Rŷm ni wedi ysgrifennu at Llywodraeth San Steffan i ddwyn sylw at hynny. Mae'r adolygiad sydd wedi digwydd o'r Learner Travel (Wales) Measure 2008 yn ddiweddar wedi dangos bod angen edrych ymhellach i rai elfennau ohono, ac mae'r gwaith hwnnw'n digwydd ar hyn o bryd o ran y swyddogion yn yr adran newid hinsawdd. 

Weinidog, fel rwy'n siŵr eich bod yn gwybod, mae plant difreintiedig yn wynebu llu o heriau nad ydynt o reidrwydd yn bodoli i'r rhan fwyaf o bobl. Un anfantais o'r fath yw argaeledd rhyngrwyd a dyfeisiau priodol gartref. Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi amcangyfrif nad oes gan rhwng traean a hanner y plant efallai ddyfeisiau priodol at eu defnydd, a hyd yn oed pan fo'r rhain ar gael, fod problem o hyd yn sgil y ffaith bod aelwydydd incwm isel yn llai tebygol o fod â chysylltiad â'r rhyngrwyd. Mae hyn yn arbennig o wir am gymunedau gwledig, lle mae'r gallu i gael digon o led band ar gyfer band eang yn gyfyngedig dros ben, a heb fod yn werth ei brynu mewn gwirionedd. O ystyried bod dysgu gartref wedi dod yn arf a fabwysiadwyd gan ysgolion i reoli addysgu yn ystod cyfyngiadau COVID—ac rwy'n ymwybodol fod llawer o ysgolion, os nad pob un, wedi cadw'r system yn ei lle i barhau i helpu i ddarparu cymorth dysgu ychwanegol—pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac ysgolion i helpu i sicrhau bod digon o ddyfeisiau gyda mynediad at y rhyngrwyd ar gael ar gyfer aelwydydd incwm isel sydd â phlant oed ysgol? Diolch. 

Diolch i Joel James am dynnu sylw at y mater hwn. Roedd yn un o'r meysydd blaenoriaeth allweddol i ni yn ystod y pandemig COVID am y rheswm pwysig iawn y mae'n ei nodi—i sicrhau nad oedd anallu i fforddio offer neu gysylltedd digidol yn rhwystr i bobl ifanc allu manteisio ar y dysgu cyfunol a oedd yn digwydd ar y pryd. Fe wnaethom fuddsoddi dros £180 miliwn i ddiogelu ein seilwaith technoleg addysg ar gyfer y dyfodol a sicrhau ei fod ar gael i bob dysgwr ar sail deg. Roedd hynny'n cynnwys 216,000 o ddyfeisiau defnyddiwr terfynol a chysylltedd hefyd. Felly, rwy'n siŵr y bydd yna enghreifftiau lle mae hynny'n parhau i fod yn rhwystr, ond ein hymrwymiad yw sicrhau bod pot sylweddol o gyllid ar gael i sicrhau nad oes unrhyw ddysgwr dan anfantais oherwydd anallu naill ai i fforddio offer cyfrifiadurol neu gysylltedd band eang.

14:25

Weinidog, soniais yn ystod sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog ddoe am fy ymweliad ag Ysgol Gynradd Capcoch yn Abercwmboi yn ddiweddar i weld y gwaith a wnânt ar fynd i'r afael â thlodi plant, gwaith sydd wedi'i ganmol gan Estyn. Mae eu hymyriadau'n cynnwys pethau fel cyfnewidfa ddillad, banc bwyd ac ymagwedd gynhwysol tuag at fynd ar deithiau ysgol, sy'n fwyfwy hanfodol pan fyddwn yn wynebu pwysau cynyddol ar gyllidebau aelwydydd, ac sy'n gallu creu rhwystrau o ran mynediad at addysg. Sut mae Llywodraeth Cymru'n hybu enghreifftiau o arferion gorau o'r fath, fel y gall ysgolion gynorthwyo dysgwyr a'u teuluoedd i liniaru effaith yr argyfwng costau byw?

Diolch i Vikki Howells am dynnu sylw at y gwaith da sy'n digwydd yn ysgol Capcoch yn Abercwmboi. Rwy'n gobeithio bod y grant datblygu disgyblion—grant mynediad a ddarparwn yng Nghymru wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i lawer o deuluoedd, neu lawer o deuluoedd incwm is o leiaf, o amgylch Cymru, gan helpu, fan lleiaf, i gael gwared ar rywfaint o'r pryder sy'n gysylltiedig â phrynu gwisg ysgol, er enghraifft, neu git ac offer arall. Yn ogystal â'r hyn a ddywedais nawr mewn ymateb i'r cwestiwn cynharach, rydym am wneud yn siŵr y gall plant fynychu'r ysgol a chymryd rhan lawn mewn gweithgareddau ar yr un lefel â'u cyfoedion. Mae'r grant hwnnw bellach ar gael i blant a phobl ifanc cymwys ym mhob blwyddyn ysgol orfodol. Fe fydd hi'n gwybod, fel y soniais yn gynharach, ei fod wedi cynyddu £100 yn ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Ond rydym hefyd yn edrych ar y defnydd a wneir o'r cyllid grant datblygu disgyblion yn gyffredinol. Mae yna rai enghreifftiau da iawn—ac mae hi wedi tynnu sylw at rai ohonynt yn ei chwestiwn—o ysgolion yn defnyddio'r cyllid mewn ffordd effeithiol iawn, ac rwyf am sicrhau, yn rhan o'r adolygiad hwnnw, fod gan bob pennaeth sy'n edrych ar y ffordd orau o ddefnyddio'r cyllid fynediad at sylfaen dystiolaeth dda, astudiaethau achos da ac arferion gorau o lefydd eraill. Ac rwy'n siŵr mai'r gwaith y mae hi wedi tynnu sylw ato yn ysgol Capcoch yw'r math o beth rydym ei eisiau er mwyn gwneud yn siŵr fod ysgolion ym mhob man yn gallu manteisio arno.

Hoffwn ofyn pa gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr mewn addysg bellach a cholegau eraill sydd ar y cyfan yn gwasanaethu'r myfyrwyr tlotaf, oherwydd ehangder eu cwricwlwm. Ni roddodd Llywodraeth y DU unrhyw arian i golegau yn y datganiad ariannol yr wythnos diwethaf, er eu bod wedi rhoi ychydig o arian i ysgolion. Beth y gall colegau yng Nghanol De Cymru ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru?

Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn hwnnw. Gallant ddisgwyl i'n hymrwymiad i addysg bellach barhau; roeddwn yn benderfynol y byddem yn adlewyrchu'r ymrwymiad hwnnw yn ein setliad cyllideb ar gyfer eleni. Felly, ar gyfer y flwyddyn 2022-23, fe welwch fuddsoddiad o dros £400 miliwn yn uniongyrchol i golegau ar gyfer darpariaeth a chymorth craidd, sef y cynnydd mwyaf ers blynyddoedd lawer mewn gwirionedd, ac roedd hwnnw er mwyn adlewyrchu ein hymrwymiad i'r gwaith y mae colegau addysg bellach yn ei wneud, yn enwedig ar gyrraedd rhannau o'n cymunedau na fydd ysgolion weithiau'n gallu eu cyrraedd bob amser, oherwydd ehangder y cynnig yn y ffordd y soniodd hi yn ei chwestiwn. Ond mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r sector i nodi effaith yr argyfwng costau byw ac i chwilio am gyfleoedd i leihau costau i'r sector drwy gaffael ar y cyd, trafod ar y cyd. Cyn bo hir, byddaf yn cyhoeddi cyllid pellach ar gyfer arloesi yn hyn o beth, fel y gall colegau addysg bellach edrych i weld sut y gallant ddarparu pethau'n wahanol, er mwyn rhyddhau arbedion mwy hirdymor efallai. A byddaf hefyd yn cyhoeddi cyllid pellach i golegau a fydd o fudd i'r dysgwyr yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw drwy gyfrwng £1.3 miliwn ychwanegol i gynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer cronfeydd ariannol wrth gefn, a £2.5 miliwn ychwanegol i gyfrannu tuag at gostau cynyddol deunyddiau traul, sy'n gwbl hanfodol ar gyfer cyflawni rhai o'r rhaglenni galwedigaethol y mae colegau addysg bellach yn eu cyflwyno mor dda.

14:30
Addysg Wyneb Yn Wyneb

2. Pa gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod addysg yn cael ei ddarparu mewn fformat wyneb yn wyneb? OQ58743

Mae'n hanfodol fod dysgu wyneb yn wyneb o ansawdd uchel yn cael ei gynnal i bob dysgwr pryd bynnag y bydd yn bosibl ac yn ddiogel i wneud hynny. Dylai unrhyw newid i ddysgu o bell fod yn ddewis olaf a dylai ddigwydd mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, er enghraifft lle nodir risg i iechyd a diogelwch neu ddiogelu.

Weinidog, diolch i chi am eich ateb. Roeddwn yn pryderu'n fawr wrth ddarllen bod y Democratiaid Rhyddfrydol sy'n gyfrifol am Gyngor Sir Powys yn ystyried gorfodi plant i fethu un diwrnod yr wythnos o'r ysgol o blaid addysg rithwir fel y'i gelwir. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod hyn yn rhoi llawer iawn o bwysau ar rieni a disgyblion. Ac rwy'n gobeithio y byddwch hefyd yn cytuno—ac fe gefais hynny o'ch ateb—mai dysgu wyneb yn wyneb yw'r peth gorau i ddatblygiad, addysg a llesiant cyffredinol ein plant. Mae ein plant wedi cael llawer gormod o amser allan o'r ystafell ddosbarth oherwydd y pandemig. Felly, Weinidog, a wnewch chi bwysleisio wrth Gyngor Sir Powys a'r Democratiaid Rhyddfrydol yno mai addysg wyneb yn wyneb yw'r peth gorau i'n plant ac y dylent roi'r gorau i'r syniad hwn?

Wel, er eglurder, fel rwy'n deall, ni chafodd y cynnig ei wneud yn ffurfiol. Mae'n ymddangos mai awgrym a wnaed mewn trafodaeth pwyllgor ydoedd, ac sy'n amlwg wedi dod yn wybodaeth gyhoeddus, ond nid oedd erioed yn gynnig ffurfiol, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae Cyngor Sir Powys wedi rhoi sicrwydd nad yw'n rhywbeth y maent yn bwriadu mynd ar ei drywydd. Ysgrifennodd fy swyddogion at y cyngor ar y pryd pan ddaeth hyn i sylw'r wasg i egluro ein bod i gyd yn ystyried ei bod yn bwysig fod dysgu wyneb yn wyneb yn cael ei flaenoriaethu drwyddi draw ac rydym wedi cael sicrwydd mai dyna hefyd yw bwriad Cyngor Sir Powys.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.

Diolch, Lywydd. Ychydig wythnosau yn ôl, cyhoeddodd y Gweinidog gynllun peilot yr Undebau a Byd Gwaith—polisi a fyddai'n golygu bod undebau llafur yn mynd i mewn i'n hysgolion, ac yn cael cyswllt uniongyrchol gyda'n dysgwyr. Lywydd, nid oes gan y Ceidwadwyr Cymreig unrhyw broblem gyda phlant yn cael eu dysgu am y gweithle ac mewn gwirionedd, byddai'n annog gyrfaoedd a phrofiad sy'n gysylltiedig â gwaith, ond nid yw'n ymddangos yn deg nac yn briodol fod undebau llafur gwleidyddol sy'n rhoi symiau mawr o arian i'r Blaid Lafur yn cael eu caniatáu i ddod i'n hysgolion lle mae'r gallu ganddynt i ddylanwadu. Yn y pen draw, mae amhleidgarwch gwleidyddol yn helpu ysgolion i ennyn hyder ein cymdeithas amrywiol ac aml-farn. Lywydd, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrth rieni ar hyd a lled Cymru sut mae caniatáu i rai sy'n rhoi arian i'r Blaid Lafur ddod i'n hystafelloedd dosbarth yn cefnogi'r gofyniad am amhleidgarwch yn ein hysgolion?

Wel, rwy'n meddwl bod yr Aelod wedi methu'r pwynt braidd. Yr hyn y mae'r cwricwlwm wedi'i lunio i'w wneud yw sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael addysg gyflawn a'u bod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus pan fyddant yn gadael ein system addysg, gan ddeall yn llawn yr ystod o hawliau a chyfrifoldebau democrataidd sydd ganddynt; pwysigrwydd gweithredu cymdeithasol; eu grym fel unigolion, ynghyd â hanes democrataidd a diwydiannol eu cymunedau a'u gwlad. Ac mae'r cynllun peilot y cyfeiriwch ato yn un sy'n weithredol mewn 35 o ysgolion ar hyn o bryd a'i fwriad yw arfogi athrawon i allu cyflwyno'r rhan honno o'r cwricwlwm. Rwy'n ddiolchgar i TUC Cymru am y gwaith a wnaethant ar gynorthwyo athrawon i wneud hynny. Rwy'n gwybod y bydd hi hefyd yn cytuno pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr ein bod yn darparu adnoddau a dysgu proffesiynol i athrawon allu cyflwyno pob rhan o'r cwricwlwm, ac nid yw'r rhan hon yn wahanol i unrhyw ran arall.

Yn bendant, Weinidog. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych chi'n ceisio ei wneud, ond gadewch inni ystyried Unite, sydd wedi'u rhestru fel cyfranwyr i allu cyfrannu ar lefel bersonol ar gyfer ein dysgwyr. Mae Unite wedi rhoi miliynau o bunnoedd i Blaid Lafur y DU—£33,000 i'r Blaid Lafur yng Nghymru yn uniongyrchol ers 2020. Mae'r Gweinidog ei hun yn aelod o Unite ac wedi cael bron i £2,000 tuag at dreuliau ei ymgyrch etholiadol ei hun. Gellid dadlau bod hyn yn bwrw amheuaeth ddifrifol ar gymhellion Unite ac eraill i fod yn rhan o'r prosiect hwn. Lywydd, a bod yn gwbl onest, mae'r cynllun cyfan yn drewi o ffrindgarwch. Onid yw'r Gweinidog yn gweld gwrthdaro buddiannau yma neu onid yw'n poeni?

Wel, nid wyf yn siŵr a glywodd yr Aelod fy ateb blaenorol. Pwrpas y cynllun hwn yw gwneud yn siŵr fod pobl ifanc yn gallu manteisio ar amrywiaeth lawn y cwricwlwm. Yn ogystal â'r amcanion ehangach y cyfeiriais atynt yn gynharach, rydym yn glir yn ein hymrwymiad i'n pobl ifanc i'w paratoi ar gyfer byd gwaith, drwy brofiadau sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd. Rydym hefyd am sicrhau eu bod yn deall byd busnes yn ehangach. Mae'n gwricwlwm llawn, mae'n gwricwlwm cyfoethog, ac mae'n hollol briodol fod pobl ifanc yn cael mynediad at bob rhan ohono, wrth iddynt weithio drwy eu taith ysgol. Gwelsom fod deall hawliau democrataidd pobl, aelodaeth o undebau, hawliau yn y gweithle, cyfrifoldebau yn y gweithle, yn rhywbeth cadarnhaol ym mywydau pobl. Ac yn union fel deall y llwybrau gyrfa sydd ar gael iddynt, rydym am i bobl ifanc ddeall y cyfleoedd sydd ganddynt i ymuno ag undeb llafur, i gymryd rhan yn hynny fel rhan o'r broses ddemocrataidd, i ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau. Dyna ddiben y cynllun peilot. Rwy'n gobeithio ac yn disgwyl y bydd yn llwyddiannus, ac os ydyw, rwy'n edrych ymlaen at allu ei gyflwyno.

14:35

Lywydd, mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfleoedd gwych i ddod â busnesau lleol i mewn. Fodd bynnag, mae'n fy mhryderu'n fawr fod y Gweinidog yn dal i beryglu amhleidgarwch ysgolion. Mae angen i ffocws cyntaf y Llywodraeth hon fod ar gael y pethau sylfaenol yn iawn yma yng Nghymru yn gyntaf. Cymru sydd â chanlyniadau gwaethaf y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn y DU; nid yw athrawon yn teimlo eu bod yn cael digon o gefnogaeth i ddatblygu'r cwricwlwm newydd; nid oes gan ddisgyblion ac athrawon syniad o hyd sut ffurf fydd ar arholiadau; ac mae athrawon yn wynebu trais yn yr ystafell ddosbarth yn ddyddiol. Gallwn barhau. Weinidog, oni fyddai'n well i chi dreulio'ch amser yn canolbwyntio ar gael y pethau sylfaenol yn iawn gyntaf yn y byd addysg yng Nghymru cyn gwastraffu arian ar geisio cyflyru ein plant?

Nid wyf yn siŵr pa bwynt y mae'r Aelod yn ceisio ei wneud; yr hyn a glywais i oedd rhestr o bethau'n beirniadu ein system ysgolion. Rwy'n credu y byddai'n well iddi dreulio ei hamser, os caf ddweud, yn dod o hyd i ffyrdd o graffu arnaf mewn ffordd sy'n cyflwyno dewis arall cadarnhaol. Os nad yw'n credu bod yr hyn a wnawn o fudd i'r system ysgolion, efallai yr hoffai gynnig safbwynt ei hun—beirniadaeth a golwg ar y byd, neu un polisi—ond ni chlywaf unrhyw beth o un wythnos i'r llall o'r rhan honno o'r Siambr ond agwedd negyddol a thanseilio'r gwaith y mae athrawon yn ei wneud yn ein hysgolion. Rwy'n gobeithio—. Roedd yna adeg pan oedd hi'n cefnogi'r cwricwlwm a rhaglen ddiwygio'r Llywodraeth; hoffwn ofyn iddi feddwl nôl. Mae'n bwysig iawn i'n pobl ifanc ein bod yn gallu sicrhau bod y math o gefnogaeth drawsbleidiol y mae ein diwygiadau wedi gallu ei chynnig yn parhau i wneud hynny—mae hynny er eu lles gorau. A byddwn yn parhau fel Llywodraeth i sicrhau ein bod yn blaenoriaethu ysgolion, yn blaenoriaethu ein diwygiadau addysg, i wneud yn siŵr fod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

Diolch, Lywydd. Hoffwn i ymateb i'r pwynt hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn beth cadarnhaol fod pobl ifanc yn gwybod eu hawliau yn y gweithle, ac nid wyf yn rhannu'r pryderon. Rydym i gyd fel gwleidyddion yn mynd i ysgolion, ac yn gallu siarad am ein gwerthoedd a'n gwahaniaethau fel pleidiau gwleidyddol, ac mae hyn yn rhan o'r broses addysg honno.

Ar ôl degawd o lymder, mae ysgolion wedi gwneud yr holl arbedion y gallant eu gwneud, ac mae prif athrawon yn rhybuddio y bydd yr unig bethau sydd ar ôl i'w torri yn cael effaith uniongyrchol a sylweddol ar blant a phobl ifanc. Mae arolwg newydd NAHT Cymru yn dangos bod y mwyafrif o ysgolion yn dweud y bydd yn rhaid iddynt ddiswyddo athrawon neu ddod â chytundebau i ben oherwydd argyfwng ariannu. Dywedodd tua 73 y cant y bydd yn rhaid iddyn nhw ddiswyddo cynorthwywyr dosbarth neu leihau eu horiau, gyda bron i hanner yr ysgolion yn dweud y byddant yn cael eu gorfodi i gwtogi ar gymorth megis cwnsela, therapi a chymorth iechyd meddwl. Ymhellach, dywedodd 56 y cant y bydd yn rhaid iddynt leihau gwariant ar ymyriadau ychwanegol wedi'u targedu ar gyfer disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol, gan gynnwys anghenion dysgu ychwanegol. Sut bydd y Gweinidog yn sicrhau nad yw’r sefyllfa ariannol bresennol yn effeithio’n andwyol ar ddysgwyr, nac ychwaith y gweithlu yn ein hysgolion?

Wel, fel mae'r Aelod yn ei wybod, roedd gennym ni gyfle yn natganiad yr hydref yr wythnos diwethaf i weld, ar draws y Deyrnas Gyfunol, fod cyllidebau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb i'r her o ran chwyddiant sydd wedi digwydd i gyllidebau yma yng Nghymru, fel ar draws y Deyrnas Gyfunol yn gyffredinol. Nid hynny welsom ni. Fe welsom ni rhyw gynnydd yn yr hyn sydd i'w ddisgwyl, ond dyw e ddim yn mynd yn agos at ateb yr her y mae ysgolion, a gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach, yn ei hwynebu. Dyw e'n sicr ddim yn gwneud i fyny am impact chwyddiant ar gyllidebau.

Dwi wedi gweld yr hyn mae'r arolygiad gan yr NAHT yn ei ddweud; dwi wedi trafod hynny gyda nhw mewn cyfarfod, a chyfarfod ar y cyd gydag undebau eraill. Rŷn ni fel Llywodraeth yn mynd i flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus. Rŷn ni'n mynd i flaenoriaethu addysg, fel rŷn ni wastad wedi gwneud. Ond mae'r sefyllfa yn un heriol iawn o ran cyllidebau. Rŷn ni wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i'w cefnogi nhw yn eu trafodaethau gydag ysgolion i wneud y gorau o'r hyn sydd ganddyn nhw o ran arian wrth gefn ar hyn o bryd. Mae hynny, ar hyn o bryd, ar lefel uchel, uchel iawn. Ond dyw hynny ddim yn ateb cynaliadwy. Wrth gwrs, unwaith mae'r ffynhonnell honno wedi ei gwario, mae wedi ei gwario. Ond rŷn ni'n cefnogi awdurdodau i weithio gydag ysgolion ar hyn o bryd i weld pa ddefnydd gorau y gellir ei wneud er mwyn osgoi'r gwaethaf o'r hyn y mae'r Aelod yn sôn amdano.

14:40

Diolch, Weinidog, ac yn amlwg wrth i'r trafodaethau yna barhau, fe fyddem ni'n ddiolchgar o'r diweddariadau, fel rydych chi'n eu rhoi, o ran y cymorth angenrheidiol sydd ei angen fel nad yw dysgwyr, nac ychwaith staff, yn cael eu heffeithio'n andwyol, cyn belled â bo modd. 

Neithiwr, cynhaliodd Rhieni dros Addysg Gymraeg gyfarfod yn Rhondda Cynon Taf. Tynnwyd sylw at achos Jenna a David o Gilfach Goch, sy'n wynebu gorfod talu am gludiant i'w mab fynychu Ysgol Llanhari yn dilyn newid polisi gan gyngor sir Pen-y-Bont ar Ogwr i beidio parhau i dalu am gludiant am ddim i'w hysgol uwchradd Gymraeg agosaf, sydd dros y ffin yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r cyngor yn parhau i dalu i gludo disgyblion o'r un ardal i ysgol cyfrwng Saesneg yn Rhondda Cynon Taf, sef Ysgol Gymunedol Tonyrefail. Barn Rhieni dros Addysg Gymraeg yw bod hyn yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac yn amddifadu cymunedau fel Gilfach Goch o addysg Gymraeg hygyrch. 

Pa gamau sydd yn cael eu cymryd gan y Llywodraeth i unioni hyn, a sicrhau bod plant, megis mab Jenna a David, yn derbyn cludiant am ddim i'w hysgol Gymraeg agosaf?

Wel, diolch i'r Aelod am godi'r pwynt hwnnw. O ran y pwynt ehangach, mae'r pwynt mae hi'n ei wneud yn y cyd-destun hwn, fel yn y cwestiwn blaenorol, yn un teilwng o ran pa mor bwysig yw cludiant ar gyfer cael mynediad at addysg yn gyffredinol. Ond oherwydd y dosbarthiad daearyddol, mae'n aml yn benodol o bwysig yng nghyd-destun addysg cyfrwng Cymraeg, fel mae ei chwestiwn hi yn awgrymu.

Mae elfen o hyblygrwydd neu ddisgresiwn, os hoffech chi, ynghlwm yn y Mesur, sydd yn caniatáu i awdurdodau wneud penderfyniadau amrywiol yn y cyd-destun hwn. Beth sydd yn glir i ni yw bod yn rhaid sicrhau, gorau gallwn ni, fod y diwygiadau sy'n digwydd i'r Mesur yn mynd i'r afael â hyn. Yn y cyfamser, beth rwy'n bwriadu ei wneud yw cael trafodaethau â phob awdurdod lleol yng Nghymru ynglŷn â'u hymrwymiadau nhw yn eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. A lle mae polisi gan awdurdodau—mae hyn yn digwydd mewn mwy nac un man—sydd yn cael yr effaith mae hi'n sôn amdano fe, ar y ffiniau rhwng awdurdodau, byddaf yn trafod hynny'n benodol gydag awdurdodau a byddaf yn hapus i roi diweddariad i'r Aelod ar ddiwedd y broses honno.

Y Lwfans Cynhaliaeth Addysg

3. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi dysgwyr ôl-16 oed yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr sy'n derbyn y lwfans cynhaliaeth addysg? OQ58748

Mae ystod o fesurau cymorth ychwanegol ar gael i ddysgwyr ôl-16 sy'n derbyn y lwfans cynhaliaeth addysg—mesurau sy'n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru drwy law eu coleg neu eu hysgol. Mae'r rhain yn cynnwys teithio am ddim, neu gyfraniad at y gost, prydau am ddim, nwyddau mislif am ddim, a mynediad at gyllid caledi lle bo ar gael.

Mae'n destun balchder i ni yng Nghymru ein bod ni wedi parhau â'r lwfans cynhaliaeth addysg, sydd ddim yn wir mewn rhai mannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ond un peth sydd ddim wedi digwydd, wrth gwrs, fel mae'r Gweinidog yn ymwybodol, yw dŷn ni ddim wedi codi'r lwfans yn unol â chwyddiant ers iddo fe gael ei gyflwyno yn 2004. Felly, mae wedi colli gwerth real yn ystod y cyfnod yna—bron i ddau ddegawd erbyn hyn—ac, wrth gwrs, mae hynny wedi cynyddu nawr gyda chwyddiant yn cynyddu yn aruthrol yn ystod y cyfnod diwethaf yma gyda'r crisis costau byw. 

Mae Sefydliad Bevan yn amcangyfrif mai tua £45 y dylai'r lwfans fod nawr pe bai e wedi cadw yn unol â chwyddiant. Mi fyddai'r cynnydd yna yn gwneud cymaint o wahaniaeth i'r 18,000 o fyfyrwyr ar draws Cymru sydd yn derbyn y lwfans. Dwi'n gwybod bod arian yn brin, Weinidog. Pymtheng miliwn—tua—fyddai e'n costio, ond byddai e'n drawsnewidiol o ran ei effaith ar fyfyrwyr sydd ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig sydd gyda ni yn ein gwlad.

14:45

Wel, fel mae'r Aelod yn gwybod, ac rwy'n gwybod ei fod e'n cydnabod hyn hefyd, rydyn ni'n gwneud popeth gallwn ni i sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu darparu i gefnogi'r rheini sydd eu hangen nhw fwyaf yn ein system addysg ni. O ran yr ymrwymiad i gynnal EMA, mae hynny yn ein rhaglen lywodraethu ni. Rydym ni yn falch ein bod ni wedi parhau â hynny, fel mae'r Alban wedi gwneud hefyd, fel mae Gogledd Iwerddon wedi gwneud, ond ddim Lloegr. Mae'r lefel sydd gyda ni yma, o ran tâl, yr un lefel ag sydd gan y Llywodraeth yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon hefyd. Beth rydym ni wedi ceisio gwneud yw sicrhau bod cyrhaeddiad yr EMA yn cynyddu. Felly, rydym ni wedi diwygio'r system fel ein bod ni'n gallu ehangu'r cyfnod o daliadau backdated sydd ar gael i ddysgwyr unigol, ac rwyf wedi dwyn hynny i sylw colegau fel eu bod nhw'n mynd ati i hysbysu pobl o hynny, a hefyd, lle mae amgylchiadau arbennig gan ddysgwyr unigol, fod y rheini'n cael eu cymryd mewn i ystyriaeth wrth gynnig y taliadau hwy yna. Rydym ni hefyd, wrth gwrs, mewn maes arall, wedi ehangu prydau bwyd am ddim yn ystod gwyliau colegau ac, fel gwnes i sôn wrth Jenny Rathbone jest nawr, wedi ehangu'r arian sydd ar gael yn y financial contingency fund. Mae'r rhain ymhlith rhai o'r ymyraethau rydym ni'n eu gwneud i gefnogi dysgwyr unigol sydd angen y mwyaf o gefnogaeth mewn addysg bellach.

O ran y costau mae'r Aelod yn sôn amdanynt, fel mae'n digwydd, oherwydd chwyddiant, ers adroddiad Sefydliad Bevan, mae'r ffigwr, efallai, nawr yn agosach i ryw £54 er mwyn cynnal ei werth o ran chwyddiant. Felly, mae'r ffigwr o £15 miliwn hyd yn oed yn fwy erbyn hyn, ac rwy'n gwybod bydd e'n deall, heb gyllid ychwanegol, sydd ddim wedi dod i law, yr unig ffordd i dalu am hyn yw wrth edrych ar rai o'r ymyriadau blaengar eraill rydym ni yn eu gwneud fel Llywodraeth yn y rhaglen lywodraethu yn gyffredinol, yn y cytundeb cydweithio. Felly, mae'r heriau yma yn rhai real, ond byddwn ni'n gwneud popeth gallwn ni o fewn y gyllideb sydd gyda ni. 

Rwy'n ddiolchgar fy mod yn gallu dilyn cyfeiriad cwestiynau'r Aelod mewn perthynas â'r lwfans cynhaliaeth addysg. Cafodd 18,650 o fyfyrwyr gymorth y lwfans cynhaliaeth addysg yn y flwyddyn 2020-21. Fel rhywun a oedd yn gymwys i gael y lwfans hefyd, rwy'n gwybod bod deall sut y gall myfyrwyr gael mynediad ato a pha fyfyrwyr sy'n gymwys yn gymhleth, ac yn wir, wrth siarad ag adran ymchwil y Senedd ar gyfer llunio'r cwestiwn atodol hwn, mae'n gymhleth canfod nifer cywir y rhai sy'n gymwys i gael lwfans cynhaliaeth addysg ac sy'n manteisio arno, a'r rheini, felly, nad ydynt yn manteisio arno. Felly, a gaf fi ofyn beth y mae'r Gweinidog a'i Lywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod pawb sy'n gymwys i gael lwfans cynhaliaeth addysg yn gallu cael y cymorth? 

Fel roeddwn i'n dweud wrth Adam Price yn gynharach—mewn ymateb i Adam Price—er nad ydym wedi gallu cynyddu gwerth y peth, rydym wedi gallu sicrhau bod y cynnig presennol cystal ag y gall fod. Felly, rydym wedi ehangu'r garfan gymwys i gynnwys rhai o'r bobl ifanc fwyaf bregus yng Nghymru, gan gynnwys rhai yr effeithiwyd arnynt gan Brexit, aelodau o deuluoedd y rhai sydd â statws mewnfudo gwarchodedig, er enghraifft, ac yn fwy diweddar, yr ehangu i gynnwys pobl ifanc sy'n ffoi o'r rhyfel yn Wcráin. Felly, rydym yn edrych bob amser ar ffyrdd y gallwn wneud yn siŵr fod cyrhaeddiad y lwfans cynhaliaeth addysg, ar ei lefel bresennol o leiaf, yn cael ei ymestyn. Fel roeddwn i'n dweud, rydym yn parhau i ganiatáu i ddysgwyr elwa o gyfnod estynedig o daliadau lwfans cynhaliaeth addysg wedi'u hôl-ddyddio. Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi hysbysiad i bob ysgol a choleg yn eu hatgoffa o'r ffordd y mae hynny'n gweithio, ac yn tynnu sylw at y disgresiwn yn y cynllun ar gyfer dysgwyr mewn amgylchiadau penodol—cyfrifoldebau gofalu, er enghraifft—i sicrhau nad ydynt dan anfantais o ran eu gallu i gael lwfans cynhaliaeth addysg. Gall pob unigolyn ifanc wneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg ar unrhyw adeg yn y flwyddyn academaidd. Weithiau nid yw hynny'n hysbys; nid yw pobl yn ymwybodol o hynny. A lle mae eu hamgylchiadau teuluol yn newid, a allai arwain at ostyngiad mewn incwm, rydym yn annog pobl ifanc i wneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg gydag asesiad incwm o'r flwyddyn gyfredol. Felly, byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu fel Llywodraeth, ac rwy'n gwybod bod colegau'n gwneud beth bynnag a allant i dynnu sylw at y cynllun presennol i wneud yn siŵr fod y nifer sy'n manteisio arno mor fawr ag y gall fod. 

14:50
Effaith Amddifadedd ar Addysg

4. Sut fydd cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn mynd i'r afael ag effaith amddifadedd ar addysg? OQ58753

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn darparu cwricwlwm cyfoethog ac eang i bob plentyn, gan sicrhau bod pob plentyn yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau a fydd yn ei alluogi i symud ymlaen i'w lawn botensial, beth bynnag fo'i gefndir. Mae'n trin pob plentyn fel unigolyn, gyda chryfderau ac anghenion gwahanol.

[Anghlywadwy.]—miliwn o bunnoedd yn y flwyddyn ariannol hon mewn ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, o gofio eu bod yn adeiladu partneriaethau gyda theuluoedd, cymunedau ac amrywiaeth o sefydliadau, ac yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion na fyddai'n elwa arnynt fel arall. Yn Nwyrain Casnewydd, mae Ysgol Gynradd Maendy yn enghraifft wych o ysgol gymunedol. Fe'i lleolir yn un o rannau mwyaf difreintiedig Casnewydd. Mae'n aml-ddiwylliannol, gyda phoblogaeth eithaf sylweddol o blant o gefndir Roma a de Asiaidd. Maent wedi partneru gyda nifer o sefydliadau trydydd sector, megis y Prosiect Ieuenctid Cymunedol, Mosg Iqra, Positive Futures, G-Expressions, ac Urban Circle, ac mae'r holl sefydliadau hyn yn sicr yn gwella profiad disgyblion a gwella canlyniadau. Mae Anna a Martine, aelodau o staff Maendy, yn gwirfoddoli i FoodCycle, sy'n coginio ac yn gweini prydau poeth i deuluoedd Ysgol Gynradd Maendy. Weinidog, mae'n wirioneddol ardderchog gweld aelodau staff yn rhoi eu hamser eu hunain, o ystyried y pwysau sydd arnynt, i roi yn ôl i'r gymuned y maent yn ei gwasanaethu, ac mae hyn heb os yn cael effaith gadarnhaol yn yr ystafell ddosbarth. Mae Ysgol Gynradd Maendy hefyd yn ysgol gofrestredig gyda'r gronfa cymorth dewisol, sy'n cynorthwyo teuluoedd eu disgyblion gyda'u ceisiadau i'r gronfa cymorth dewisol. Weinidog, mae ysgolion fel Ysgol Gynradd Maendy yn cynnig gobaith i deuluoedd bregus sy'n ei chael hi'n anodd gyda'r ymagwedd gyfannol a chymunedol hon tuag at addysg. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod ein holl ysgolion yng Nghymru yn canolbwyntio ar y gymuned, fel Ysgol Gynradd Maendy, sut y gellir cysylltu hyn â chyflwyno'r cwricwlwm newydd, ac a wnewch chi ymweld â'r ysgol ichi allu gweld drosoch eich hun, Weinidog?

'Cynnig gobaith' yw'r union ymadrodd cywir yng nghwestiwn John Griffiths. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith y mae Ysgol Gynradd Maendy yn ei wneud. Rwyf wedi cyfarfod â rhai o'r staff, a byddwn yn falch iawn o ymweld â'r ysgol i weld drosof fy hun y gwaith gwych y gwn eu bod yn ei wneud. Y math o waith y mae'r ysgol yn ei wneud yw'r union fath o waith rydym am weld mwy a mwy o ysgolion yng Nghymru'n cael eu cefnogi i'w wneud. Rydym am i bob ysgol yng Nghymru fod yn ysgol â phwyslais ar y gymuned. Bydd hynny'n edrych yn wahanol mewn ysgolion gwahanol ac mewn cymunedau gwahanol, ond mae'n ymwneud yn sylfaenol ag adeiladu partneriaeth gref gyda theuluoedd, ymateb i'w cymuned, a chydweithio â gwasanaethau eraill. Rwy'n credu bod y cwricwlwm, gyda'i ffocws ar adlewyrchu cynefin a gwaith clwstwr a gwaith i adlewyrchu cymuned yr ysgol, yn rhoi sylfaen dda iawn i'r uchelgais sydd gennym. 

Mae gan ysgolion rôl hanfodol yn galluogi ein pobl ifanc i fod yn uchelgeisiol, yn fentrus ac yn foesegol—yr holl rinweddau a nodweddion sy'n ganolog i'r cwricwlwm newydd. Mae'r ysgol yn sylfaenol yn hynny, ond hefyd wrth gwrs, mae dylanwad amgylchedd eu cartref a'r gymuned ehangach yn dylanwadu'n fawr ar bobl ifanc. Dyna pam y mae gweithio ar y cyd, yn y ffordd roedd John Griffiths yn disgrifio'r gwaith yn Ysgol Gynradd Maendy, y cydweithio hwnnw, mor bwysig.

Hoffwn ddweud ein bod wedi cyhoeddi canllawiau yr wythnos diwethaf ar ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Maent yn esbonio beth yw ysgol sy'n canolbwyntio ar y gymuned a pham ein bod yn credu mai'r dull hwnnw yw'r dull gorau o gefnogi ein plant a'n pobl ifanc. Datblygwyd y canllawiau—a diolch i bawb a weithiodd gyda ni mewn perthynas â hwy—gan Estyn, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, y consortia, awdurdodau lleol, sefydliadau'r trydydd sector ac eraill. Felly, mae'r rheini bellach wedi eu cyhoeddi. I ddilyn hynny, bydd gennym raglen o ddysgu proffesiynol i gefnogi penaethiaid ac athrawon ar y daith honno. Yn allweddol i hyn mae ymgysylltiad amlasiantaethol, a byddwn yn cyhoeddi canllawiau atodol ar y ffordd orau o gyflawni hynny hefyd i gyrraedd ein nod ac i adlewyrchu'r math o waith gwych roedd John Griffiths yn tynnu sylw ato yn ei gwestiwn.

Rydym yn gwybod bod cydberthynas glir rhwng perfformiad academaidd gwael ac amddifadedd parhaus. Dywedodd y Sefydliad Polisi Addysg, ac rwy'n dyfynnu:

'Roedd disgyblion dan anfantais barhaus yn profi bylchau anfantais mwy eto, gyda'r rhai yn Lloegr yn dioddef bwlch anfantais parhaus o 23 mis a'r rhai yng Nghymru'n profi bwlch o 29 mis. Heb fawr o arwydd y bydd y bylchau anfantais parhaus hyn yn cau... dylai llunwyr polisïau roi blaenoriaeth i wella canlyniadau disgyblion dan anfantais barhaus.'

Tra bo'n glir fod disgyblion Cymru mewn ardaloedd difreintiedig yn dioddef bwlch amddifadedd mwy na'u cyfoedion mewn rhannau eraill o'r DU, mae angen gwneud mwy i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn lleihau'r bwlch hwn. Felly, sut mae cwricwlwm newydd y Gweinidog yn mynd i'r afael â'r bwlch y mae myfyrwyr Cymru'n ei wynebu? A pha gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wrando ar y cyngor hwn a sicrhau bod y bwlch yn lleihau yma yng Nghymru?

14:55

Wel, cyhoeddwyd yr adroddiad y cyfeiria'r Aelod ato yn dilyn y datganiad a wneuthum yn y Senedd, os cofiaf yn iawn—ond gallwch fy nghywiro—yn ôl ym mis Mawrth, a'r araith a wneuthum wedyn i Sefydliad Bevan ym mis Mehefin, rwy'n credu, sy'n nodi rhaglen lawn o ymyriadau o'r blynyddoedd cynnar i ddysgu gydol oes i fynd i'r afael â rhai o'r heriau a gadarnhawyd i ni yn yr adroddiad y cyfeiria ato. Mae gan y cwricwlwm ran bwysig i'w chwarae yn hynny. Rwy'n credu y bydd yn ein helpu i ddiwallu anghenion dysgwyr difreintiedig a bregus, ac mae honno wedi bod yn ystyriaeth bwysig yn y ffordd y cafodd ei lunio. Mae gwreiddio'r tegwch hwnnw mewn ysgolion yn allweddol wrth gwrs, ac oherwydd bod y cwricwlwm yn mynd â'r dysgwr lle dônt o hyd i'r dysgwr, mae'n ein galluogi i ddarparu llwybrau pwrpasol, os mynnwch chi, i ddysgwyr a all ein helpu i gefnogi'r disgyblion mwyaf difreintiedig yn well.

Ond fe fydd yn cofio, efallai, os yw wedi cael cyfle i atgoffa ei hun ynglŷn â'r datganiad hwnnw a'r araith honno, yr ystod eang o gamau rydym wedi bod yn gweithio arnynt. Mae rhai ohonynt ar gyfer cefnogi ysgolion i gyflogi'r math o athrawon sydd eu hangen arnynt i ddatblygu strategaethau yn y ffordd orau i helpu'r disgyblion sydd angen fwyaf o gefnogaeth. Mae peth ohono'n ymwneud â chefnogaeth gan gymheiriaid i arweinwyr ysgolion. Rwyf ar fin cyhoeddi rhai cynlluniau yn y maes hwnnw. Mae peth ohono'n ymwneud â thrafodaethau eithaf heriol y mae angen inni eu cael ynglŷn â sut yr awn ati i setio mewn ysgolion. Felly, rydym yn mynd i wneud ymchwil ar hynny. Mae hynny'n digwydd yn eithaf helaeth yng Nghymru. Rwy'n credu bod angen trafodaeth i weld ai dyna'r dull cywir ym mhob amgylchiad. Mae peth ohono'n ymwneud ag ymyriadau llythrennedd a darllen y bydd yn gwybod o ddarllen yr adroddiad eu bod wedi bod yn her arbennig dros y ddwy flynedd ddiwethaf o COVID er enghraifft. Ac ar y pwynt roeddwn yn ei wneud ar y dechrau mewn perthynas â defnydd effeithiol o gyllid ysgolion sy'n targedu amddifadedd—felly, yng Nghymru, y gronfa datblygu disgyblion—rydym yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor ar hyn o bryd i ddeall beth sy'n gweithio'n effeithiol, lle mae'n gweithio'n effeithiol, ac i ganlyniad yr adolygiad fod ar gael i bob pennaeth fel y gallant wneud y defnydd gorau o'r cyllid hwnnw.

Ond ceir ystod eang o gamau sydd eisoes ar y gweill. Byddaf yn adrodd i'r Senedd gyda diweddariad ar hynny, yn y flwyddyn newydd rwy'n credu. Ond y peth hollbwysig yw fy mod o'r farn nad oes unrhyw ymyrraeth unigol yn mynd i allu mynd i'r afael â'r mater; mae'n galw am ystod o ymyriadau. A hoffwn ddweud hefyd—ac rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud bod yr adroddiad wedi cydnabod hyn—nid yw amddifadedd yn y gymdeithas yn rhywbeth y gall ysgol ei liniaru'n llwyr ar ei phen ei hun. Mae hynny'n rhan o strategaeth ehangach, ond mae yna waith y gall ysgolion ei wneud, ac mae'r gwaith hwnnw'n rhan o'r cynllun ehangach. Mae ar y gweill ac fel rwy'n dweud, byddaf yn falch iawn o roi diweddariad manylach ar y gwaith hwnnw yn y flwyddyn newydd.

Hyfforddiant ym Maes Gofal Cymdeithasol

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch ynglŷn â datblygu hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol? OQ58738

Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda chyd-Weinidogion ynglŷn ag addysg, hyfforddiant a datblygu a'u portffolios.

Weinidog, rydym yn gwybod bod cael y nifer cywir o weithwyr proffesiynol cymwys wedi eu cefnogi'n dda yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Mae ein colegau addysg uwch ac addysg bellach yn allweddol i sicrhau y gallwn ddenu, ysbrydoli a hyfforddi pobl yn yr ystod o ddisgyblaethau iechyd a gofal sydd eu hangen arnom. Maent yn gwneud gwaith gwych. O edrych yn benodol ar addysg bellach, beth arall y gallwn ei wneud i hyrwyddo gyrfa mewn gofal i'r bobl ifanc a fydd yn weithlu'r dyfodol?

Dyna gwestiwn pwysig iawn—diolch i Altaf Hussain am ei godi. Mae gwaith aruthrol ar y gweill i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol ar draws y sector yng Nghymru yn gallu cael yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt i wneud eu gwaith yn dda, a bod hynny'n cael ei hyrwyddo i bobl fel llwybr gyrfa. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru, fel y rheoleiddiwr, y corff sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu'r gweithlu, yn gweithio gyda sefydliadau addysg uwch, sefydliadau addysg bellach ac eraill ar ystod o faterion sy'n gysylltiedig ag addysg a hyfforddiant, ond yn amlwg mae cymwysterau'n allweddol ar gyfer cofrestru'r gweithlu gofal cymdeithasol, sy'n rhan bwysig o'n hagenda broffesiynoli ar gyfer y sector. Rydym yn parhau i ddarparu cronfeydd sylweddol i'r sector gofal cymdeithasol ar gyfer hyfforddiant a datblygu, drwy raglen datblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Rwy'n credu y byddwch yn gwybod bod Cymwysterau Cymru hefyd wedi sefydlu grŵp cymwysterau sector yn ddiweddar i archwilio iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yn benodol, i gael adborth ar unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth, i ddatrys unrhyw faterion sy'n ymwneud â'r cymhwyster ôl-16, er mwyn inni wneud yn siŵr fod hwnnw'n llwybr deniadol a phoblogaidd i bobl ifanc sy'n edrych ar broffesiwn yn y sector gofal fel opsiwn, fel ei fod yn boblogaidd iddynt ei ddilyn.

15:00
Niwed Ar-lein

6. Sut fydd cwricwlwm newydd Cymru yn helpu pobl ifanc i adnabod niwed ar-lein ac amddiffyn eu hunain rhagddo? OQ58755

Mae cadw'n ddiogel ar-lein yn hanfodol i iechyd corfforol a meddyliol ein plant. Dyna pam y mae cymhwysedd digidol yn sgìl trawsgwricwlaidd gorfodol a dyna pam fod gan y maes iechyd a llesiant ffocws ar ddatblygu ymddygiad diogel ar-lein. Mae hefyd yn ffocws amlwg i'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae adroddiad gan y Gronfa Gwaddol Ieuenctid wedi tynnu sylw at ystadegau sy'n peri pryder: dros y 12 mis diwethaf yn unig, mae tua 54 y cant o blant a phobl ifanc Cymru wedi profi neu wedi gweld rhyw fath o drais ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn wedi cael effaith ddwys ar iechyd meddwl a llesiant y bobl ifanc hyn yn ogystal â'u haddysg a'u bywydau ehangach hefyd. Yng Nghymru, mae 57 y cant wedi newid eu hymddygiad ac un o bob deg wedi colli ysgol oherwydd trais ar-lein. Mae'r niferoedd hyn hefyd yn helpu i gefnogi llawer o'r arsylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn eu hadroddiad ar absenoldeb disgyblion o'r ysgol, a ddywedodd fod iechyd meddwl dysgwyr yn ffactor allweddol yn eu habsenoldeb o'r ysgol. Mae'r cwricwlwm newydd yn gam i'w groesawu i helpu pobl ifanc i ddeall rhai o'r materion hyn yn well, ac mae gan y maes dysgu a phrofiad iechyd a llesiant botensial i fod yn gyfrwng pwysig i gyflwyno materion o'r fath mewn lleoliadau addysg. Weinidog, sut mae'r Llywodraeth yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol eraill yn cael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i drafod y pynciau anodd ond pwysig hyn yn effeithiol gyda phobl ifanc? A oes gan y Llywodraeth gynlluniau i helpu ysgolion i ymgysylltu'n well â rhieni a gwarcheidwaid fel eu bod hwy hefyd yn gallu cefnogi plant i adnabod niwed ar-lein a diogelu eu hunain rhagddo?

Diolch i Peter Fox am godi hyn ac am y ffordd y mae wedi'i godi. Mae'n her ddwys iawn, onid yw, ac mae llawer ohonom sydd wedi hen adael yr ysgol—ers amser hir yn fy achos i, o leiaf—yn ei chael hi'n anodd deall graddfa'r her mewn gwirionedd. Ond mae'n broblem fawr iawn, ac fel roedd Peter Fox yn dweud, mae'r dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn glir iawn o ran maint yr her y mae pobl ifanc yn ei hwynebu.

Fe wnaethoch grybwyll y maes dysgu iechyd a llesiant yn y cwricwlwm, ac mae hwnnw'n hanfodol i sut y gallwn ddysgu pobl ifanc i ddatblygu ymddygiadau diogel mewn perthynas â'r byd ar-lein. Mewn sawl ffordd, mae cymaint o agweddau ar ein bywydau bellach yn gysylltiedig â defnyddio technoleg fel bod dysgu llythrennedd a gwytnwch digidol yn gwbl hanfodol.

Mae gennym ardal bwrpasol ar Hwb, y platfform dysgu, o'r enw 'Cadw'n ddiogel ar-lein', sy'n darparu ystod o adnoddau i ddysgwyr ond hefyd, yn y ffordd roedd ei gwestiwn yn holi yn ei gylch, i deuluoedd, ymarferwyr, gweithwyr proffesiynol a llywodraethwyr. Dyna lle y gwnawn yn siŵr fod ein holl adnoddau yn y maes yn cael eu cynnwys. Mae rhai ohonynt wedi'u datblygu'n benodol o ganlyniad i'r gwaith y buom yn ei wneud mewn perthynas ag aflonyddu'n rhywiol ar gyfoedion yn yr ysgol. Mae adnoddau ehangach yno hefyd, ac mae hynny'n ymwneud â gwella gwytnwch digidol ar draws bywyd yr ysgol yn gyffredinol, gan gynnwys diogelwch ar-lein yn amlwg ond hefyd diogelwch seiber a diogelu data. Mae'r holl agweddau hynny'n gallu cael effaith sylweddol, oni allant, ar fywydau pobl ifanc.

Hefyd, hoffwn ddweud bod cadw plant yn ddiogel yn amlwg yn rhan o'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, a diogelwch ar-lein yn y cyd-destun hwnnw, gan ymdrin â materion sy'n ymwneud â bwlio ar-lein, er enghraifft. Mae pob un o'r rheini wedi'u cynnwys yn y cod ar gam sy'n briodol yn ddatblygiadol, wedi'u trin mewn ffordd sensitif, a byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn dysgu proffesiynol a chefnogaeth i athrawon fel bod ganddynt yr adnoddau gorau sydd ar gael ar gyfer addysgu pobl ifanc yn y maes hwn. 

15:05
Gweithgareddau Hamdden drwy Gyfrwng y Gymraeg

7. Pa gefnogaeth y mae'r Llywodraeth yn ei rhoi i sicrhau gweithgareddau hamdden drwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobol ifanc? OQ58756

Rydym yn darparu dros £5 miliwn i bartneriaid fel yr Urdd, y ffermwyr ifanc a'r mentrau ar gyfer gweithgareddau Cymraeg. Yr wythnos diwethaf, ymunodd 230 o blant yn jamborî yr Urdd i ddathlu tîm Cymru yng nghwpan y byd, a byddaf i'n parhau i bwysleisio defnydd o'r Gymraeg yn fy holl waith.

Rhyw 230,000 o blant dwi'n meddwl roeddech chi'n ei olygu, nid 230.

Dwi jest eisiau amlygu i chi mater eithaf difrifol, a dweud y gwir, achos etholwr i fi sydd wedi bod yn aros dros dair blynedd am wersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg i'w blant e. Fe gyflwynwyd cwyn i'r comisiynydd iaith nôl yn 2017, ac mi farnwyd bryd hynny bod y cyngor wedi methu â chwrdd â'r safonau iaith angenrheidiol. Mi gymeradwywyd cynllun gweithredu i'r cyngor er mwyn darparu gwersi nofio yn y Gymraeg. Ymlaen, wedyn, i 2020, doedd hynny ddim wedi ei ddarparu, ac felly mi gafwyd cwyn arall. Mi ffeindiwyd eto bod y cyngor wedi methu â chwrdd â'r safonau iaith angenrheidiol ac wedi methu â chydymffurfio â'r cynllun gweithredu a roddwyd yn ei le yn dilyn y cwyn blaenorol. Rŷn ni nawr ar ddiwedd 2022, bron 2023, ac maen nhw'n dal i aros. Ydych chi'n cytuno â fi bod hynny'n annerbyniol? Oherwydd yr unig gasgliad dwi'n dod iddo fe yw bod hwn yn gwahaniaethu ar sail ieithyddol. Dwi eisiau gwybod beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cymryd hyn o ddifrif, oherwydd mae siaradwyr Cymraeg yn methu allan ar gyfleoedd sylfaenol y mae pawb arall jest yn eu cymryd yn ganiataol. 

A gaf i achub ar y cyfle i gywiro'r record mai 230,000 roeddwn i yn bwriadu ei ddweud yn yr ateb blaenorol?

Jest i ategu beth mae'r Aelod newydd ddweud, dwi'n siomedig iawn bod y teulu yma—ymysg eraill, siŵr o fod, yn y gymuned, byddwn i'n tybio—yn methu â chael mynediad at wersi nofio yn Gymraeg. Rydyn ni wedi paratoi safonau sy'n gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gynnig cyrsiau addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, sy'n cynnwys safonau penodol ar gyfer cyrsiau addysg wedi eu hanelu at bobl ifanc. Mater i'r comisiynydd, wrth gwrs, yw pennu'r safonau a monitro cydymffurfiaeth, fel mae'n cydnabod yn ei gwestiwn. Ond, er mwyn bod yn rhagweithiol o'n safbwynt ni yn y maes yma, rydyn ni'n darparu arian sylweddol i bartneriaid fel yr Urdd a mentrau iaith i ddarparu gweithgareddau hamdden yn y Gymraeg, a hefyd yn rhoi arian i gynllun prentisiaethau adran chwaraeon a phrentisiaethau'r Urdd sy'n canolbwyntio ar gynyddu sgiliau Cymraeg hyfforddwyr chwaraeon y dyfodol. Felly, mae sicrhau bod pobl yn gallu darparu'r gwersi yma yn y Gymraeg yn rhan bwysig o hynny, a dyna un o'n blaenoriaethau ni o ran ariannu.  

Rwy'n falch fod y cwestiwn hwn wedi cael ei godi y prynhawn yma oherwydd hoffwn gymeradwyo gwaith ac ymdrechion cylchoedd meithrin, neu gyn ysgolion Cymraeg eu hiaith, yn sir Ddinbych, gogledd Cymru, ac ar draws y wlad, sy'n chwarae rhan allweddol yn cyflwyno plant dan oed ysgol i'r Gymraeg ac yn darparu rhaglenni addysgol a rhaglenni'n seiliedig ar weithgareddau i annog manteision addysg Gymraeg ar lefel mynediad a chynnig sgiliau i bara oes. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch cylchoedd meithrin lleol a chenedlaethol a'r rolau y maent yn eu chwarae yn y gymdeithas yng Nghymru i fy etholwyr a phobl ledled Cymru? Diolch. 

15:10

Gwnaf, yn sicr. Maent yn chwarae rhan annatod yn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael mynediad at addysg blynyddoedd cynnar a meithrinfeydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hynny'n wych o ran sicrhau bod darpariaeth Gymraeg ar gael, ond mae hefyd yn cefnogi rhieni i wneud y dewis hwnnw i'w plant a weithiau'n annog rhieni eu hunain i ddysgu Cymraeg. Rydym yn gwybod mai dyna un o'r ffyrdd gorau posibl o sicrhau ein bod yn cyrraedd ein nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a gwneud yn siŵr fod pobl ifanc a phlant yn cael cefnogaeth ar gyfer yr opsiynau y maent eisiau eu dewis yn y maes hwn. Felly, rwy'n hapus iawn wir i ymuno â chi a llongyfarch a diolch i'r Mudiad Meithrin am yr holl waith y maent yn ei wneud.

Hyfforddi Athrawon

8. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar unrhyw gynnydd mewn denu pobl i hyfforddi fel athrawon i ddysgu mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg? OQ58757

Rŷn ni'n bwrw ymlaen gyda'n cynllun gweithlu Cymraeg mewn addysg 10 mlynedd, sy'n cynnwys datblygu a gweithredu strategaeth farchnata mewn partneriaeth â Chyngor y Gweithlu Addysg a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ddewis addysgu fel gyrfa.

Diolch, Weinidog. Oes modd i chi egluro pa waith sy'n digwydd i adnabod y pynciau hynny ble mae prinder o athrawon cyfrwng Cymraeg uwchradd? Rŷn ni'n deall bod prinder difrifol o ran y rhai sy’n hyfforddi mewn pynciau fel ffiseg a mathemateg, er enghraifft, ac felly hoffwn wybod beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i ddadansoddi’r data er mwyn bwydo i mewn i’r gwaith o ddenu mwy o fyfyrwyr gyda graddau yn y pynciau hynny i hyfforddi fel athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg. Pwy sydd â chyfrifoldeb i wneud y gwaith dadansoddi, cynllunio a monitro hynny? O ran ffiseg yn benodol, ar gyfer Cymru gyfan, dim ond 43 y cant o’r rhai sy’n addysgu’r pwnc mewn ysgolion uwchradd a gafodd hyfforddiant yn y pwnc. A all y Gweinidog gadarnhau nifer yr athrawon ffiseg a hyfforddwyd mewn ffiseg sy’n gweithio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg? Y cymhelliant i hyfforddi i addysgu ffiseg mewn ysgolion uwchradd Cymraeg yw £20,000—£7,000 yn is na’r isafswm y bydd rhywun yn cael yn Lloegr. Mae’r bwlch ar gyfer y rhai sy’n addysgu yn y sector addysg bellach hyd yn oed yn fwy: £26,000 yn Lloegr o’i gymharu â dim ond £4,000 yng Nghymru. Felly, o ystyried yr angen, a yw’r Llywodraeth yn bwriadu mynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Mae’r data ŷn ni’n defnyddio yn sail i’r polisïau o ran cymhellion ariannol y mae’r Aelod eisoes wedi sôn amdanyn nhw. Dyw’r gymhariaeth rhwng beth sydd ar gael yng Nghymru a Lloegr ddim yn un cymwys, ond mae’r gefnogaeth yng Nghymru ar gael mewn pynciau lle mae prinder. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae cymhellion penodol ar gyfer athrawon sy’n bwriadu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Un o’r pethau ŷn ni eisiau gweld—roedd hi’n sôn am gymhellion ar draws y ffin—yw bod pobl sydd efallai yn siarad Cymraeg ond sydd ar hyn o bryd yn astudio yn y pynciau hynny yn Lloegr—ein bod ni’n gweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i adnabod pwy yw’r bobl hynny, ac i gael trafodaeth a chyfathrebu gyda nhw i ddwyn perswâd arnyn nhw i ddod nôl i Gymru i ddysgu. Felly, dwi’n credu bod hynny yn un o’r pethau creadigol ddaeth allan o’r gwaith gyda’n partneriaid a rhanddeiliaid yn y cynllun 10 mlynedd. Bydd rhai elfennau ohono fe yn llwyddo’n sylweddol iawn, byddwn i’n meddwl, ond dŷn ni ddim yn disgwyl llwyddiant ym mhob un o’r ymyriadau sy’n cael eu cynnig yn y cynllun, felly y peth pwysig yw ein bod ni’n cadw i adnewyddu hynny, yn cadw i edrych ar y data, fel mae’r Aelod yn dweud, i weld beth sydd yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad, beth sydd yn llwyddo orau, ac yn pwysleisio'r rheini. Ac os nad yw rhai elfennau ohono fe’n gweithio, byddwn ni’n barod i ddweud hynny a phwysleisio'r rheini sydd yn. Ond beth ŷn ni wedi gweld yw cydweithio creadigol iawn gan ein partneriaid ni ar draws y system, yn cynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn cynnwys yr EWC ac eraill, ac rwy’n credu bod yr her yn un mae pawb yn deall sydd yn gyffredinol; mae’n her sylweddol. Mae’r cymhellion mae’r Aelod wedi sôn amdanyn nhw yn un elfen o hynny, ond jest un elfen.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yw'r cwestynau amserol. Dim ond un sydd wedi ei gytuno y prynhawn yma. Mae e i'w ateb gan y Cwnsler Cyffredinol, ac mae e i'w ofyn gan Adam Price.

1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o sut bydd dyfarniad y Goruchaf Lys ar fwriad Senedd yr Alban i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth yn effeithio ar allu Cymru i benderfynu ar ei dyfodol cyfansoddiadol ei hun? TQ687

Cafodd y dyfarniad ei gyhoeddi y bore yma. Byddaf yn rhoi amser i astudio'r dyfarniad yn ofalus.

15:15

Wel, fel y gwyddom, Gwnsler Cyffredinol, cyhoeddodd y Goruchaf Lys ei ddyfarniad nad oes gan Lywodraeth yr Alban, er gwaethaf cryfder y mandad democrataidd a sicrhawyd yn etholiad Holyrood y llynedd, lwybr cyfreithiol o dan drefniadau cyfansoddiadol presennol y Deyrnas Unedig i gynnal refferendwm annibyniaeth os yw Llywodraeth San Steffan yn parhau i wrthod rhoi ei chaniatâd. Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig eisoes wedi datgan yn Nhŷ'r Cyffredin y bydd yn parhau i ddiystyru'r mandad diamwys hwnnw, er y gallech ddweud bod ei fandad personol yn anuniongyrchol ar y gorau ac ychydig yn ddisylwedd. Ac mewn gwirionedd, yr hyn sydd gennym yma, wrth gwrs, yw feto San Steffan, i bob pwrpas, sy'n crisialu athrawiaeth goruchafiaeth San Steffan yn glir nad ydym ni, fel cenedl, na'r Alban, fel cenedl, yn undeb cydradd. Nid ydym yn Senedd gydradd ychwaith, ac yn anffodus, wrth gwrs, ni fydd y sefyllfa hon yn newid, hyd yn oed gyda newid Llywodraeth yn San Steffan, oherwydd mae arweinydd Llafur y DU ei hun wedi dweud na fydd yn cytuno i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, o dan adran 30 yn achos yr Alban, i gynnal refferendwm ar annibyniaeth ychwaith. Felly, mae feto San Steffan yn cael ei ddefnyddio gan bleidiau Llafur a Cheidwadol yn San Steffan yn yr achos hwn.

Felly, a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â'r farn a fynegwyd heddiw gan Brif Weinidog yr Alban fod y dyfarniad hwn yn bendant ac yn ddigamsyniol yn dangos mai ffug yw'r syniad fod y Deyrnas Unedig yn bartneriaeth gydradd a gwirfoddol, yn gymdeithas wirfoddol? Nawr, mae Prif Weinidog yr Alban wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal cynhadledd arbennig i archwilio'r modd y gellid fframio etholiad cyffredinol nesaf y DU yn yr Alban fel refferendwm de facto. Nawr, mae hyn yn amlwg ymhell o fod yn ddelfrydol, ond dyma'r unig lwybr sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd, o ystyried y rhwystr ar lwybrau eraill tuag at hunanbenderfyniaeth. Fel y gŵyr y Cwnsler Cyffredinol, ceir cynsail hanesyddol yn hyn o beth, etholiad cyffredinol 1918, pan oedd Sinn Fein yn Iwerddon yn ceisio mandad ac yn sefyll dros sefydlu gweriniaeth Wyddelig, ac ar sail eu buddugoliaeth ysgubol yn y refferendwm hwnnw sefydlwyd Dáil Éireann a chyhoeddwyd gweriniaeth Iwerddon, er, yn anffodus, ni chafodd y mandad hwnnw ei barchu ar unwaith gan arwain at ganlyniadau trasig iawn y byddai pawb ohonom, rwy'n siŵr, yn dymuno pe baent wedi cael eu hosgoi.

A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â sylwadau'r Athro Ciaran Martin yn narlith y Senedd ar y cyd â Llywodraeth Cymru neithiwr y dylai holl genhedloedd yr ynysoedd hyn fod â llwybr clir a dilys i fynegi eu dymuniadau mewn perthynas â'u dyfodol cyfansoddiadol, gan gynnwys yr hawl i gynnal refferendwm annibyniaeth? A beth bynnag yw dyfarniad y Goruchaf Lys ynghylch ei ddehongliad o gyfraith ryngwladol, a yw'n cytuno, yn wleidyddol, yn ddemocrataidd, yn athronyddol, fod gan bob cenedl hawl i hunanbenderfyniaeth, ac fel y dywed y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol,

'Mae gan yr holl bobloedd hawl i hunanbenderfyniaeth'?

Fe fyddwch chi a minnau'n cytuno bod brys penodol ynghlwm wrth hynny yn achosion gwledydd sydd wedi cael eu gwladychu neu sy'n ddarostyngedig i feddiannaeth filwrol, yn sicr, ond mae'r egwyddor yn un gyffredinol y mae'n rhaid i bawb ohonom, fel democratiaid, ei harddel. Felly, a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno y dylai'r hawl i hunanbenderfyniaeth i Gymru, i'r Alban, i bobl gogledd Iwerddon, gael ei hymgorffori a'i gwarchod yng nghyfraith y DU er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg democrataidd sydd wedi'i ddatgelu'n amlwg yn y dyfarniad y bore yma? Mae'n effeithio'n arbennig ar bobl yr Alban, o ystyried y mandad clir iawn sydd yno, ond mae o bwys i ni hefyd wrth i ni ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol. Er eich bod chi a minnau'n anghytuno mewn perthynas ag annibyniaeth, a fyddech chi, fel democrat, yn mynegi eich undod â phobl yr Alban ac yn mynegi barn glir Llywodraeth Cymru fod gan bob cenedl, gan gynnwys y genedl Albanaidd, a phobl yr Alban, hawl i hunanbenderfyniaeth ac y dylid parchu hynny?

15:20

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch am y cwestiwn. Wrth gwrs, roeddwn yn credu bod cyflwyniad yr Athro Ciaran Martin yn drawiadol iawn neithiwr, yn dilyn y cyflwyniad blaenorol gan Syr David Lidington. Rwy'n credu bod y rhain yn gyfraniadau pwysig iawn i'n dealltwriaeth o'r materion cyfansoddiadol sy'n amlwg yn ein hwynebu.

I ddechrau, rwy'n credu ei bod yn werth inni fod yn glir ynghylch y dyfarniad y bore yma. Roedd y dyfarniad yn ddyfarniad unfrydol gan bob un o'r pum barnwr yn y Goruchaf Lys. Mae'n ddyfarniad 34 tudalen, a byddaf yn ystyried manylion y dyfarniad yn ofalus iawn. Y prif gwestiwn yn y dyfarniad oedd a oedd gan Senedd yr Alban rym i ddeddfu ar gyfer cynnal refferendwm annibyniaeth i'r Alban. Roedd ein rôl fel Llywodraeth Cymru yn yr achos hwnnw yn gyfyngedig. Nid oedd yn briodol ymyrryd, felly fe wnaethom gynnal briff gwylio. Credaf y bydd angen ystyried holl ganfyddiadau'r Goruchaf Lys ac ystyried yr holl gyflwyniadau a wnaed yn ofalus, yn ogystal ag ymateb y Goruchaf Lys iddynt. Yn sicr gallaf sicrhau'r Senedd y byddaf yn ymgymryd â'r dasg honno.

Mae hefyd yn bwysig inni fod yn glir ynghylch casgliad y Goruchaf Lys. Roedd y Goruchaf Lys yn glir iawn, mewn perthynas â darpariaeth Bil Refferendwm Annibyniaeth yr Alban, sy'n dweud mai'r cwestiwn y dylid ei ofyn mewn refferendwm yw, 'A ddylai'r Alban fod yn wlad annibynnol?', a phenderfyniad y Goruchaf Lys oedd bod hwnnw'n fater a gedwir yn ôl. Nawr, o ran Cymru, mae'r safbwynt rydym wedi'i fabwysiadu wedi'i nodi yn ein papur diwygio cyfiawnder, a gyhoeddwyd, rwy'n credu, ym mis Mehefin 2021, lle roedd yn dweud

'Dylid ystyried datblygiadau cyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig yn y dyfodol ar sail holistaidd ac ar sail egwyddor gyfansoddiadol, yn hytrach na thrwy ddiwygio setliadau cyfansoddiadol penodol mewn modd ad hoc. Dylid gwneud hyn drwy gonfensiwn cyfansoddiadol.'

Nawr, wrth gwrs, mae gennym ein comisiwn annibynnol ein hunain; rydym wedi ei sefydlu er mwyn ystyried ac archwilio rhai o'r materion y mae'r Aelod wedi'u codi'n benodol, ac efallai y dylwn atgoffa'r Senedd eto o dermau'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Ceir dau amcan eang: y cyntaf yw ystyried a datblygu opsiynau ar gyfer diwygio strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn sylfaenol, lle mae Cymru'n parhau i fod yn rhan annatod ohoni, a'r ail yw ystyried a datblygu pob opsiwn egwyddor flaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru. Yn sicr, nododd yr Athro Ciaran Martin y pwynt, yn gyfansoddiadol, fod angen llwybr lle gellir gwneud penderfyniadau mewn gwirionedd, ac rwy'n sicr yn gobeithio y bydd ein comisiwn ein hunain yn archwilio'r rheini.

Nawr, fe wyddoch mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw mai'r ffordd orau o ddiogelu buddiannau Cymru yw drwy fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig, ond Teyrnas Unedig sydd angen ei diwygio'n sylweddol ac yn radical, a nodir y diwygiadau hynny ym mhapur 'Diwygio ein hundeb: cydlywodraethu yn y DU'. Yn sicr, rwy'n credu mai'r ffordd orau o gyflawni newid a diwygio cyfansoddiadol yw drwy ethol Llywodraeth Lafur ar draws y DU yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Gwnsler Cyffredinol, rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch am eich barn ystyrlon. Yn amlwg, fe fyddwch yn darllen y dyfarniad yn ei gyfanrwydd. Ond o'ch ystyriaeth gychwynnol o'r dyfarniad, a ydych chi'n gallu cadarnhau nad yw ewyllys ddemocrataidd Cymru yn cael ei heffeithio, ac na fydd unrhyw etholiadau'n cael eu pennu gan y penderfyniad hwn yn y Goruchaf Lys, a bob tro y mae cwestiwn annibyniaeth wedi cael ei roi i bobl Cymru—yn fwyaf diweddar yn etholiad 2021—daeth y blaid a wnaeth y cynnig hwnnw'n drydydd pell, a siaradodd pobl Cymru ag un llais i ddweud eu bod eisiau aros mewn Teyrnas Unedig gref? 

Diolch am y cwestiwn. Mae'r dyfarniad yn glir iawn ynglŷn â mater cymhwysedd, a dyna, mewn gwirionedd, yw'r unig fater y mae'r Goruchaf Lys wedi ymdrin ag ef. Mae'n glir ac yn derfynol yn hynny o beth.

O ran sefyllfa Cymru, wel, yr hyn sydd gennym yw cydnabyddiaeth yng Nghymru, o'r maniffestos amrywiol, fod angen diwygio cyfansoddiadol. Mae angen ymgysylltiad o fewn hynny, ac mae'r Llywodraeth wedi gwneud achos cryf iawn dros yr angen am gonfensiwn cyfansoddiadol. Rwyf wedi nodi'r safbwynt sydd gennym o'r penderfyniad ar ddiwygio'r DU, ond wrth gwrs, yr un peth rydym yn edrych ymlaen ato—ac rwy'n credu ei bod yn bwysig inni beidio â rhagdybio beth fydd y casgliadau, na'r cyfeiriad a fydd yn cael ei bennu gan y comisiwn annibynnol a sefydlwyd gennym, a fydd yn rhoi arweiniad a gwybodaeth i ni wrth i ni fwrw ymlaen ymhellach â mater diwygio cyfansoddiadol.

Nawr, rydym yn disgwyl adroddiad interim maes o law gan y confensiwn cyfansoddiadol annibynnol. Ac rwy'n credu, pan fydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi, mai dyna fydd yr amser priodol i ni gael trafodaeth fanylach, fwy trylwyr ac yn fy marn i dadl fwy gwybodus ar rai o'r opsiynau cyfansoddiadol. Wrth gwrs, bydd adroddiad y comisiwn annibynnol yn un interim; bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi gan Gordon Brown hefyd maes o law ar safbwynt y Blaid Lafur—neu'n sicr, yr adroddiad y cafodd gyfarwyddyd i'w baratoi ar ddiwygio cyfansoddiadol. Felly, yr un peth y gallwn ei ddweud yw bod cydnabyddiaeth ddofn o'r angen am ddiwygio cyfansoddiadol—fod yna gamweithredu o fewn ein cyfansoddiad, a bod angen i'r newid hwnnw ddigwydd. Y cwestiwn yw beth yw'r newid hwnnw a sut y dylid ei gyflawni mewn gwirionedd. Nid yw hon yn ddadl sy'n mynd i ddiflannu, ac rwy'n edrych ymlaen at gael yr adroddiad interim ac unrhyw adroddiadau pellach, ac at drafodaethau pellach ynglŷn â hyn.

Mae'r materion cyfansoddiadol hyn yn bwysig, nid oherwydd ei bod yn rhyw fath o ddadl dechnegol; mae'r cyfansoddiad yn ymwneud â sut mae pŵer yn gweithredu, sut y caiff ei rannu, sut y caiff ei ddosbarthu, sut y caiff ei ddefnyddio. Felly, mae'r rhain yn faterion sy'n sylfaenol bwysig i bobl Cymru, ac i bobl y DU yn wir. Ond ar benderfyniad y Goruchaf Lys, rwy'n credu bod hwnnw'n arbennig o glir.  

15:25
4. Datganiadau 90 Eiliad
5. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda—eitem 5, sef cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24. Galwaf ar Ken Skates i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8137 Ken Skates

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, a osodwyd gerbron y Senedd ar 9 Tachwedd 2022, a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno cynnig cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2023-24, ac yn gofyn iddo gael ei ymgorffori yn y cynnig cyllidebol blynyddol. Fel y byddwch wedi'i weld yn nogfen y gyllideb, mae'r Comisiwn yn gofyn am gyfanswm cyllidebol o £67.643 miliwn, sy'n cynnwys £41 miliwn ar gyfer gwasanaethau'r Comisiwn, £17.8 miliwn ar gyfer dyfarniad y bwrdd taliadau, £101,000 ar gyfer swyddfa'r comisiynydd safonau, £547,000 am gostau sy'n gysylltiedig â darparu cymorth i'r bwrdd taliadau annibynnol, ac £8 miliwn ar gyfer llog ac eitemau nad ydynt yn arian parod. Mae cyfanswm y gyllideb yn cyflwyno cynnydd o 4.06 y cant ar gyllideb y flwyddyn bresennol.

Nawr, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, pennwyd cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2023-24 ar 28 Medi. Bu'n destun craffu ar 5 Hydref, a chyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar 21 Hydref. Er mwyn bodloni gofyniad y Rheolau Sefydlog i osod cyllideb ddrafft y Comisiwn erbyn 1 Hydref, cafodd gwaith i baratoi a datblygu'r gyllideb ei wneud yn ystod tymor yr haf ac yna fe'i cwblhawyd ym mis Awst eleni. Ochr yn ochr â'r amserlen hon, mae digwyddiadau gwleidyddol ac economaidd digynsail wedi golygu bod y gyllideb a ddeilliodd o hynny wedi cael ei goddiweddyd gan realiti newydd mewn perthynas â chyllid cyhoeddus. Er ei bod yn rhy gynnar i asesu effaith lawn datganiad yr hydref Llywodraeth y DU ar bwrs y wlad yng Nghymru, rydym yn nodi'r cynnydd o £1.2 biliwn yng ngrant bloc Cymru dros y ddwy flynedd nesaf. Fodd bynnag, mae'r cynnydd o 4.6 y cant yn y cyllid adnoddau rhwng 2022-23 a 2023-24, yn llawer is na chwyddiant, a gall hyn effeithio'n sylweddol ar allu Llywodraeth Cymru i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas a sicrhau dyfodol tymor byr y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol rydym yn dibynnu arnynt. Felly, mae'r Comisiwn bellach o'r farn y bydd angen adolygu'r cynnydd o 4 y cant yn y gyllideb ar gyfer 2023-24 i adlewyrchu'r pwysau ychwanegol sy'n wynebu'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru.

O ystyried hyn, byddaf yn ymrwymo i adolygiad yn ystod y flwyddyn gan y Comisiwn, fel corff cyhoeddus cyfrifol, i ddod o hyd i arbedion ac i gyflymu arbedion effeithlonrwydd. Bydd hyn yn adlewyrchu'r realiti sy'n ein hwynebu heddiw, yn hytrach na'r realiti a fodolai yn ystod y broses o bennu'r gyllideb dros yr haf. Mae'n ymarfer mewn pragmatiaeth gyfrifol a hyblyg. Roeddem eisoes wedi ymrwymo i wneud y gwaith hwn mewn pryd i'w ymgorffori yng nghyllideb 2024-25, ond rwy'n cynnig bellach fod gwaith yn cael ei wneud yn gyflymach. Mae hyn yn unol â datganiad egwyddorion y Pwyllgor Cyllid, sy'n dweud y dylai cyrff sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol geisio gwella prosesau a chynyddu arbedion effeithlonrwydd yn barhaus.

Nawr, rydym yn benderfynol o sicrhau bod unrhyw weithgareddau a gwasanaethau a gynlluniwyd i Aelodau yn effeithlon ac yn gynaliadwy. Mae'n bwysig, felly, fod unrhyw ostyngiadau'n cael eu cyflwyno'n effeithiol, ac yn parhau i gefnogi ein hymrwymiad i gynllunio'r gweithlu yn effeithiol ac i lesiant. Fodd bynnag, ni fydd yn dasg hawdd a bydd yn effeithio ar Aelodau. Rwyf wedi rhannu fy nghynigion ar gyfer arbedion a chyflymu arbedion effeithlonrwydd mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn gynharach yr wythnos hon, ac rwyf wedi pwysleisio y bydd angen inni wneud penderfyniadau anodd iawn. Ein gobaith yw y bydd Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yn dilyn yr egwyddor gyfrifol hon yn yr wythnosau i ddod, wrth inni geisio gwneud arbedion, er mwyn addasu i'r tirlun economaidd mwy difrifol sydd wedi ffurfio'n ddiweddar iawn.

I ddychwelyd at sylwedd y cynnig cyllidebol heddiw, mae'r Comisiwn yn bodoli i gefnogi'r Senedd, a'i Haelodau wrth gwrs, ac mae'r pwysau ar Aelodau'n parhau i fod yn sylweddol. Rydym wedi paratoi cyllideb y credwn ei bod yn dryloyw ac yn deg. Rydym wedi gweld rhywfaint o gynnydd anochel yn y gyllideb—er enghraifft, i dalu costau cyfleustodau cynyddol. Rydym wedi ceisio gwneud arbedion mewn mannau eraill i liniaru effaith lawn y cynnydd hwn mewn prisiau. Fe fyddwch hefyd yn gweld ein bod wedi nodi'r gyllideb yn glir i dalu costau amcangyfrifiedig diwygio'r Senedd. Er mwyn bod yn barod i gefnogi'r cynnydd posibl yn nifer yr Aelodau o 2026 ymlaen, mae angen i'r gwaith ddechrau nawr, ac mae'r gyllideb ar gyfer 2023-24 yn cydnabod y bydd angen inni ddod â sgiliau newydd ac adnoddau ychwanegol i mewn i gyflawni'r her hon yn gadarn ac yn briodol.

Nawr, mae'r normal newydd yn dal i amlygu ei hun ers y pandemig, ond mae'n amlwg fod staff yn gweithio'n effeithiol yn yr amgylchedd hybrid hwn. Rydym yn parhau i ymgysylltu â staff i fonitro iechyd a llesiant, ac rydym wedi buddsoddi mewn gofod swyddfa hyblyg ar gyfer staff y Comisiwn, fel bod pawb sy'n gweithio ar yr ystad yn dal i allu gwneud hynny'n hawdd ac yn ddiogel. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am graffu ar y gyllideb hon, ac am ei ymrwymiad parhaus i sicrhau bod y cyllidebau'n cael eu pennu ar lefel briodol, gan barhau i ofyn cwestiynau heriol, sy'n ein helpu i yrru perfformiad a chyflawni rhagoriaeth.

Nawr, fe wnaeth y pwyllgor wyth argymhelliad ac rydym wedi mynd i'r afael â hwy yn ein hymateb. Y cyntaf oedd bod y Senedd yn cefnogi'r gyllideb hon ac rydym yn nodi ac yn gwerthfawrogi hynny. Roedd pedwar yn canolbwyntio ar ystad y Senedd, roedd un yn edrych ar sut y gallwn liniaru costau cynyddol cyfleustodau yn y tymor byr i'r tymor canolig, ac yna, yn fwy hirdymor, rhoi ystyriaeth i'n hangen yn y dyfodol am ofod adeiladu a'r defnydd ohono—y rhai ym Mae Caerdydd, ac mewn mannau eraill yng Nghymru. Bydd y Comisiwn yn ceisio gweithredu mesurau i leihau defnydd, a lleihau'r gost yn y pen draw, drwy gymryd llawer o'r camau y byddwn yn eu cymryd yn ein cartrefi ein hunain. O ran y strategaeth ystadau fwy hirdymor, mae gweithgor yn cael ei ffurfio i ystyried ein hanghenion ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys effaith diwygio'r Senedd, ac i ystyried pa opsiynau sy'n diwallu'r anghenion hynny orau.

Roedd dau argymhelliad yn canolbwyntio ar lesiant staff, yn benodol sut mae staff y Comisiwn yn cael eu cefnogi yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae'r Comisiwn eisoes yn cynnig nifer o raglenni a mecanweithiau i gynnig cymorth, ac mae'r rhain yn cael eu hadolygu'n rheolaidd gyda'n hundebau llafur. Roedd yr argymhelliad olaf yn galw am ymgysylltu ag Aelodau, i gael eu barn ar y gwaith y maent eisiau i'r Comisiwn ei ddatblygu a sut y gellir rheoli'r gwaith hwnnw o fewn cyllidebau presennol, neu'n wir, sut y gellir eu hymgorffori mewn cynigion cyllidebol yn y dyfodol. Rydym wedi derbyn yr argymhellion hyn, ac fel erioed, rydym yn agored i awgrymiadau ar sut i wella'r broses gyllidebol. Rydym hefyd yn barod i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan Aelodau. Yn y cyfamser, rwy'n cyflwyno'r gyllideb hon, ar ran y Comisiwn, ac yn ailadrodd ein hymrwymiad i weithio mewn ffordd sy'n agored ac yn dryloyw, gan sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian i bobl Cymru.

15:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cyn i mi ddechrau, hoffwn ddiolch i Ken Skates, Comisiynydd y Senedd dros gyllideb a llywodraethu, a swyddogion y Senedd a ddaeth i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 5 Hydref i drafod cynigion y Comisiwn, a hefyd am yr wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd yn dilyn ein cais yn fuan ar ôl y cyfarfod hwnnw. Hefyd, hoffwn nodi ar ddechrau fy nghyfraniad fod y gwaith o graffu ar y gyllideb hon wedi bod yn anodd i’r pwyllgor yng nghyd-destun y darlun economaidd newidiol a’r diffyg sicrwydd ynghylch cyllid. Yn benodol, ac fel y mae’r Comisiynydd wedi ei awgrymu, mae’r cyd-destun ariannol hefyd wedi newid yn sylweddol ers i’r Comisiwn osod ei gyllideb ddrafft ar 28 Medi. Rydym o ganlyniad yn gwerthfawrogi’r llythyr gan y Comisiynydd yn gynharach yn yr wythnos, sydd wedi cadarnhau bwriad y Comisiwn i gynnal adolygiad o fewn y flwyddyn ariannol i ddod o hyd i arbedion.

Ystyriwyd cyllideb ddrafft y Comisiwn gan y pwyllgor, a chyhoeddodd ei adroddiad ar 21 Hydref. Canfuom fod y Comisiwn wedi datblygu ei gynigion cyllidebol mewn modd darbodus, ac o ganlyniad, rydym yn argymell y dylai’r Senedd gymeradwyo’r gyllideb sydd ger ein bron heddiw.

Fodd bynnag, fel y mae’r comisiynydd wedi’i grybwyll, bydd sefydliadau’r sector cyhoeddus ledled Cymru yn wynebu penderfyniadau ariannol anos fyth yn dilyn datganiad yr hydref yr wythnos diwethaf, ac mae’r pwyllgor yn credu na ddylai’r Comisiwn gael ei ynysu rhag ystyriaethau o’r fath. Felly, nodaf ymrwymiad y comisiynydd i ystyried cynnwys y datganiad hwnnw i sicrhau bod ei gynigion ar gyfer y flwyddyn nesaf yn parhau i fod yn gymesur.

Rwyf hefyd yn croesawu sicrwydd y comisiynydd ynghylch ymgysylltu â’r pwyllgor ar y materion, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am ei gynlluniau fel y gellir craffu arnynt, eu hystyried a’u hasesu cyn gynted â phosibl.

Rwy’n falch o ddweud bod gan y pwyllgor berthynas adeiladol â’r Comisiwn, yn seiliedig ar ddeialog agored, ac mae hynny'n rhywbeth y dymunwch ei weld yn parhau wrth inni gychwyn ar y trafodaethau hyn. Fodd bynnag, er fy mod yn derbyn bod y realiti sy’n ein hwynebu heddiw yn wahanol i’r cyd-destun a fodolai yn ystod y broses o bennu’r gyllideb dros yr haf, mae’n anffodus mai nawr yn unig y nodwyd y materion hyn, y tu allan i’r gweithdrefnau ariannol arferol sy’n llywodraethu’r gwaith o graffu ar gyllideb y Comisiwn. Nid yw'r Pwyllgor Cyllid yn hoff o weld gweithdrefnau o'r fath yn cael eu tanseilio. Gall hynny wanhau gwaith craffu ac arwain at ganlyniadau gwael. Rydym yn awyddus felly i hyn fod yn rhywbeth sy'n digwydd unwaith yn unig, a bod gwersi'n cael eu dysgu fel nad yw'r sefyllfa'n cael ei hailadrodd yn y blynyddoedd i ddod.

Gan droi nawr at ein hadroddiad, mae cefnogaeth gyffredinol y pwyllgor i gyllideb y Comisiwn hefyd yn dod gyda chafeat o wyth argymhelliad, gyda'r bwriad o sicrhau bod cymaint o dryloywder â phosibl yn cael ei ddarparu mewn perthynas â chynigion y Comisiwn. Rwyf wedi cael ymateb y Comisiwn i’n hadroddiad, ac rwy'n falch o weld bod chwech o’r rheini wedi’u derbyn a dau wedi’u nodi.

Yn gyntaf, mae’r pwyllgor yn bryderus iawn ynghylch effaith costau cynyddol cyfleustodau ar gyllideb y Comisiwn a’i allu i ddarparu ei wasanaethau craidd—problem sy’n wynebu holl sefydliadau'r sector cyhoeddus, busnesau a chartrefi ledled Cymru. Er ein bod yn croesawu ymdrechion gan y Comisiwn i archwilio opsiynau sy’n cadw costau cyfleustodau mor isel â phosibl, credwn fod angen rhagor o wybodaeth am effeithiolrwydd mentrau o’r fath i sicrhau bod y Comisiwn ar y trywydd iawn i gyflawni ei nodau cynaliadwyedd.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn droi nawr at ambell fater penodol. Yn amlwg, yr her sefydliadol fwyaf sy’n wynebu’r Comisiwn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yw cyflawni cynigion sy’n ymwneud â diwygio’r Senedd. Rydym hefyd yn deall yr anawsterau a wynebir gan y Comisiwn o ran darparu eglurder ynghylch y cyllid cysylltiedig, ac wrth wahanu ei gostau parhaus oddi wrth y buddsoddiad sydd ei angen i gefnogi’r newid. Rydym felly’n croesawu cynnwys llinell wariant benodol ar gyfer diwygio’r Senedd yn y gyllideb ddrafft, ac yn nodi bwriad y Comisiwn i ddarparu cymaint o dryloywder â phosibl wrth gyflwyno costau y gellir eu priodoli i’r cynlluniau hyn yng nghyllidebau’r dyfodol.

Gan droi yn awr at bwysau’r gweithlu, bydd y cynnydd mewn costau byw'n effeithio ar bob un ohonom, ond mae’r pwyllgor yn pryderu am ei effaith ar staff y Comisiwn, yn enwedig y rheini ar raddfeydd cyflog is. Rydym yn falch fod holl staff y Comisiwn yn cael y cyflog byw a bod mentrau cadarn ar waith, ond ni ddylai’r Comisiwn orffwys ar ei fri. Dyna pam yr hoffem weld y Comisiwn yn edrych ar ffyrdd y gall ddarparu cymorth ychwanegol i staff sy’n ei chael hi’n anodd, a bod camau’n cael eu cymryd i werthuso’r mentrau sydd eisoes ar waith yn drylwyr i sicrhau bod y cymorth a ddarperir yn cyrraedd y rheini sydd ei angen fwyaf. Roeddwn hefyd yn falch o weld na fydd y Comisiwn yn ystyried diswyddo staff fel mesur i arbed costau yn rhan o’r adolygiad canol blwyddyn y mae wedi’i addo.

I gloi, Dirprwy Lywydd, roedd cyd-destun y gwaith o lunio’r gyllideb hon, a chraffu arni, yn anodd. Fel pwyllgor, rydym yn deall bod pob corff cyhoeddus yn wynebu heriau sylweddol o ran darparu gwasanaethau o fewn eu cyllidebau. O ganlyniad, mae'n bwysicach nag erioed o’r blaen bod cynigion y Comisiwn yn gymesur ac yn dryloyw, a bod modd eu cyfiawnhau. Er bod cyllideb y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn cyflawni hyn yn ein barn ni, rydym hefyd yn nodi'r ymrwymiad a wnaed i adolygu’r cynigion yng ngoleuni datganiad yr hydref wythnos diwethaf. Edrychwn ymlaen i weithio gyda’r comisiynydd wrth iddo geisio sicrhau hynny. Diolch yn fawr. 

15:35

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch i'r comisiynydd am ei ddatganiad? Hoffwn egluro, er fy mod yn ymateb i hyn yn fy rôl fel Gweinidog cyllid yr wrthblaid, rwyf hefyd, wrth gwrs, yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid. Croesawaf ddull cyffredinol y comisiynydd o bennu'r gyllideb hon. Credaf ei fod wedi bod yn adeiladol, ac wedi ymgysylltu’n dda â’r Pwyllgor Cyllid a’r Aelodau yn ystod y broses, a diolch iddo am hynny.

Lywydd, rwy’n sylweddoli bod yr amgylchiadau ariannol cenedlaethol presennol yn anodd, a bydd hyn, fel yr amlinellodd y Comisiynydd, yn cael effaith ar gyllideb y Comisiwn. Ond credaf y gallai rhywfaint o hyblygrwydd fod wedi’i gynnwys ym mhroses y Comisiwn o osod y gyllideb i ganiatáu iddo ystyried a rhoi cyfrif am ddatganiad yr hydref yn ei gyllideb arfaethedig, fel y gallem ni, fel Aelodau, graffu ar gyllideb lawn a rhoi ein barn ynglŷn â lle gellid gwneud arbedion effeithlonrwydd. Ar hyn o bryd, rydym yn pleidleisio ar y gyllideb gan ddibynnu ar y llythyr a ddarparwyd gan y Comisiynydd i'r Pwyllgor Cyllid. Mae hyn yn anarferol, ond rwy'n cydnabod yr amserlenni sydd ar waith. Ond rwy'n croesawu'r ymrwymiad.

Gan symud at y gyllideb, rwy’n cydnabod bod y Comisiwn, yn debyg iawn i gyrff cyhoeddus, yn wynebu pwysau o ganlyniad i chwyddiant. Ar y cyfan, credaf ei fod wedi gwneud yn dda i gyfyngu'r cynnydd y mae’n gofyn amdano. Mae costau ynni'n effeithio'n sylweddol ar y gyllideb, fel y gwyddom, ond wrth geisio gwneud arbedion effeithlonrwydd, tybed a ellir gwneud mwy i leihau costau ynni ymhellach, a pha gynlluniau pellach sydd gan y Comisiwn i ymchwilio i hyn. Deallaf fod y Comisiwn wedi cymryd camau i ostwng thermostatau ar draws yr ystad—teimlais hynny yn fy swyddfa heddiw; mae hynny'n ffaith. Ond a ddylem, er enghraifft, ystyried eu gostwng ymhellach o bosibl, gan eu cadw ar lefelau cyfforddus, neu ddiffodd y gwres mewn ystafelloedd nad ydynt yn cael eu defnyddio? Beth am bethau fel paneli solar ar ein hystad? Yn yr adroddiad ar y gyllideb, ceir cyfeiriad at ystad y Senedd yn ymuno â rhwydwaith gwresogi ardal Caerdydd o 2024. A oes lle i ymuno ag ef yn gynt? Ac a yw'r Comisiwn wedi dadansoddi faint o arian y bydd hyn yn ei arbed, ac os felly, a roddwyd cyfrif am hyn yn ei ragamcanion cyllidebol ar gyfer y dyfodol?

Mae cwestiwn hefyd ynglŷn â sut y caiff yr ystad ei defnyddio. Mae llawer o weithwyr yn dal i weithio gartref am o leiaf rywfaint o'r wythnos, ac felly mae'n iawn i'r Comisiwn ystyried sut y gellir defnyddio'r ystad yn fwy effeithlon. Unwaith eto, hoffwn ofyn i’r Comisiynydd a oes arbedion ychwanegol y gellir dod o hyd iddynt drwy ddefnyddio rhywfaint o eiddo Llywodraeth Cymru yn y gogledd mewn gwahanol ffyrdd. A yw hyn wedi'i ystyried a'i gynnwys? Neu a yw’r Comisiwn wedi edrych ar leoliadau eraill posibl ar gyfer ei swyddfeydd a fyddai’n fwy costeffeithiol nag opsiwn Llywodraeth Cymru? Rwy'n deall bod y contract darlledu ar fin cael ei ystyried ar gyfer ei adnewyddu, ond er hynny, mae'r gyllideb ragamcanol ar gyfer hyn yn agos i'r un peth â blynyddoedd blaenorol. A gaf fi ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn, gan y gallai ganiatáu inni ddod o hyd i arbedion ychwanegol?

Mae'n rhaid imi sôn am ddiwygio'r Senedd, lle mae'r gyllideb yn cynyddu £571,000 i wneud y gwaith paratoi. Rwy'n deall y rhesymeg, ond o ystyried y cyd-destun ariannol y buom yn sôn amdano, mae hwn yn swm sylweddol o arian, y gellir dadlau y gellid ei ddefnyddio’n well mewn mannau eraill, megis i gefnogi aelodau staff neu ei ddefnyddio ar gyfer costau ynni. Ar gyfer beth y mae'r Comisiwn yn rhagweld y bydd y gyllideb hon yn cael ei defnyddio? Ac a yw wedi edrych ar leihau rhywfaint o'r gwaith hwn cymaint ag sy'n ymarferol bosibl fel y gellir dargyfeirio'r arian i'r mannau lle mae ei angen fwyaf?

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, yn ogystal â gwneud arbedion effeithlonrwydd, gallai’r Comisiwn edrych ar gynyddu ei incwm. Ar hyn o bryd, mae cyllideb o £200,000 ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu, ond dim ond oddeutu £20,000 y flwyddyn y mae siop y Senedd yn ei gynhyrchu. Pe bai’r strategaethau ymgysylltu ac allgymorth yn gweithio’n dda, oni fyddai gwerthiant yn cynyddu? Yn amlwg, mae angen ystyried sut mae hyn oll yn gweithio. Felly, pa ystyriaeth y mae’r Comisiwn wedi’i rhoi i arallgyfeirio ei ffrydiau incwm, fel y gall ychwanegu at ei gyllideb a bod yn llai dibynnol ar gyllid allanol? Diolch, Ddirprwy Lywydd.

15:40

A gaf fi ddiolch i’r Comisiynydd am ei ddatganiad? Ac rwy'n croesawu'r hyn y mae wedi'i ddweud heddiw yn fawr, er, i ryw raddau, nid wyf yn ei groesawu, gan ei fod wedi newid yr hyn roeddwn am ei ddweud yn union yn fy araith y prynhawn yma. Roeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid a fu’n craffu ar gyllideb y Comisiwn. Ar yr wybodaeth a ddaeth gerbron y Pwyllgor Cyllid, roedd y penderfyniad a wnaed yn un cywir yn fy marn i. Hoffwn dynnu sylw at ddau argymhelliad: mae’r pwyllgor yn argymell bod Comisiwn y Senedd yn mabwysiadu dull cydweithredol o leihau’r defnydd o ynni ar ystad y Senedd ac yn ymgysylltu â’r Aelodau, eu staff a staff y Comisiwn i gasglu syniadau ac i gynllunio a gweithredu prosiectau a pholisi fydd yn cyflawni’r nodau hyn. Dim ond am ddau ddiwrnod yr wythnos y byddaf yn defnyddio fy swyddfa yma. Nid oes angen gwresogi'r swyddfa honno ar wahân i ddydd Mawrth a dydd Mercher. A dweud y gwir, fe af hyd yn oed ymhellach: nid oes angen gwresogi'r ystafell honno ar ôl 10 o'r gloch ar ddydd Mawrth ac amser cinio ar ddydd Mercher. Felly, dyma'r pethau lle mae angen inni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i helpu, yn hytrach na dweud, 'Bai'r Comisiynwyr yw hyn', neu, 'Bai rhywun arall yw hyn.' Beth y gallwn ni ei wneud?

Mae'n rhaid lleihau'r defnydd o ynni, ac rwy'n gobeithio y bydd y Comisiwn yn cymeradwyo cynllun i leihau'r defnydd o ynni, ond rwyf hefyd yn gobeithio y bydd yr holl Aelodau yma'n gwneud awgrymiadau fel fy un i o ran yr hyn y gellir ei wneud pan nad ydynt yn defnyddio eu swyddfeydd. Mae rhai pobl yn defnyddio'u swyddfeydd neu mae ganddynt staff yn eu swyddfeydd drwy'r amser, ac mae hynny'n unol â'r rheolau ac yn berffaith iawn, ond i'r rhai ohonom nad ydynt yn gwneud hynny, mae arbedion i'w gwneud.

Hefyd, hoffwn i’r Comisiwn ystyried manteision ariannol a gweithredol, neu fel arall, prynu rhydd-ddaliad Tŷ Hywel yn hytrach nag ymestyn y les gyfredol. Rwy'n bryderus iawn ein bod yn ôl pob golwg yn gaeth i les yma sy'n mynd i bara am byth. Roedd rhai ohonom yn awyddus ar un adeg i ddefnyddio Neuadd y Ddinas yn hytrach na Thŷ Hywel. Roeddem yn aflwyddiannus gyda’r dadleuon hynny, ac nid wyf yn mynd i’w hatgyfodi. Ond os ydym am aros yma, prynwch y lle. Bydd yn llawer rhatach yn y tymor hir.

Yn olaf, proses gyllidebol dwy haen: credaf fod hynny’n rhywbeth sy’n sylfaenol anghywir. Rydym yn gosod y gyllideb drwy’r system hon ar gyfer Comisiwn y Senedd, yr archwilydd cyffredinol a’r ombwdsmon. Cânt eu hariannu gan y Senedd gyfan drwy'r Pwyllgor Cyllid. Nid ydynt yn cael eu cymharu â, 'A fyddai'n well gwario'r arian hwn ar iechyd, a fyddai'n well gwario'r arian hwn ar awdurdodau lleol, a fyddai'n well gwario'r arian hwn ar faterion amgylcheddol?' Cânt eu barnu yn erbyn absoliwt yr hyn y maent yn gofyn amdano. Ni chredaf mai dyna'r ffordd iawn o fynd o'i chwmpas hi. Ni chredaf fod hynny'n deg â gwasanaethau eraill, ac mae hefyd yn anffodus—fe soniaf am yr archwilydd cyffredinol a'r ombwdsmon—eu bod yn mynd i mewn ac yn edrych ar awdurdodau a sefydliadau sy'n brin o arian, ond nid ydynt yn brin o arian eu hunain, felly ni allant ddeall y problemau sy'n wynebu'r sefydliadau hynny. Fy nisgwyliad, ar wahân i iechyd, yw y bydd pob gwasanaeth cyhoeddus arall yn cael ei drin yn llai hael na’r rheini sy'n cael eu cyllidebau yn uniongyrchol gan y Senedd.

Mae hwn yn gwestiwn i bob plaid: a yw’r dull presennol o ariannu’r Comisiwn, yr ombwdsmon a’r archwilydd cyffredinol yn deg? Os ydym yn dadlau rhyngddynt hwy ag iechyd neu lywodraeth leol, yn sicr, ni fyddent yn cael y lefel o gymorth rydym yn ei rhoi iddynt ar hyn o bryd. A ddylai'r Senedd osod cynnydd canrannol ar gyfer pob un cyn i'r Pwyllgor Cyllid archwilio eu cyllidebau, fel mai'r cyfan rydym yn edrych arno yw sut y maent yn dod i lawr i'r ffigur hwnnw, ac nid y swm y gofynnant amdano?

Rwyf wedi codi hyn droeon yn y gorffennol, ond ymddengys fy mod yn gwthio wrth ddrws mwy agored y tro hwn, felly rwyf am bwysleisio'r pwynt. Rwyf wedi gofyn o'r blaen ym mhob un o gyllidebau'r Comisiwn, bron â bod, i beidio â chynyddu cyllideb y Comisiwn yn fwy na'r cynnydd yng ngrant bloc Cymru. Os bydd y Comisiwn yn cynyddu mwy, mae'n edrych fel pe baem yn rhoi ein hunain uwchlaw gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn dibynnu arnynt yng Nghymru.

Rwy'n mynd i ddweud rhywbeth hyd yn oed yn fwy dadleuol nawr: a oes angen y bwrdd taliadau arnom? A allwn ei fforddio? A yw'n ddefnydd da o adnoddau prin? A oes dulliau eraill o wneud yr hyn y mae’r bwrdd taliadau yn ei wneud am gost lawer is? Rydym eisoes wedi pennu bod ein cyflogau’n gysylltiedig â chodiadau cyflog yng Nghymru, ac roeddwn yn sicr o blaid hynny pan gafodd ei wneud, fel y rhan fwyaf o bobl yma rwy'n credu, fel nad ydym yn cael ein trin yn llai ffafriol na phobl Cymru.

Rydym yn parhau i gadw'r sefydliadau drud hyn, ac mae'r bwrdd taliadau yn un, sy'n mynd ag arian oddi wrth ein gwasanaethau allweddol. Felly, Ddirprwy Lywydd, gwn na allwn benderfynu cael gwared ar y bwrdd taliadau heddiw—er, pe bawn yn credu y gallem wneud hynny ac yn credu y gallwn gael pleidlais arno, byddwn yn cynnig hynny—ond a gawn ni ofyn iddo gael ei archwilio fel y gallwn weld a allwn wneud hebddo? Mae'n costio llawer iawn o arian i ni, arian y gallwn feddwl am lawer o ffyrdd gwell o'i wario.

15:45

Hoffwn innau ddiolch i fy nghyd-Aelod, Ken Skates, am roi'r gyllideb at ei gilydd. Nid yw byth yn hawdd gwneud hynny, yn sicr pan nad oes yr un ohonom yn gwybod beth fydd y costau cynyddol gydag ynni a'r argyfwng costau byw. Mae’n debyg mai dyma un o’r cyllidebau anoddaf ichi orfod eu rhoi at ei gilydd, ac nid yw diwygio’r Senedd wedi helpu ychwaith.

Hoffwn innau hefyd achub ar y cyfle i ddiolch i holl staff y Comisiwn sydd wedi helpu y tu ôl i'r llenni, ond hefyd am y gwaith y maent wedi'i wneud i'n cefnogi ni fel Aelodau. Yng ngoleuni’r pwysau chwyddiant presennol a’r argyfwng costau byw sy’n effeithio ar deuluoedd ledled Cymru, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni, fel Comisiwn, yn gwneud penderfyniadau anodd ond angenrheidiol a rhai sy’n helpu i gynnal hyder y cyhoedd. Er ein bod ni oll yma i graffu ar wariant Llywodraeth Cymru a’i herio, mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud hyn yn y modd mwyaf effeithlon. Yn ystod yr argyfwng costau byw, nid wyf yn rhy argyhoeddedig y gellir cyfiawnhau'r costau ychwanegol yr eir iddynt o ganlyniad i baratoi ar gyfer cynnydd o 60 Aelod o’r Senedd i 96 yn 2026 i’r cyhoedd yng Nghymru. Gwn fod mandad bellach, sef bod digon o bleidleisiau ar gyfer hynny, ond rwy'n dal i fod am ddweud fy marn yma heddiw.

Mae’n rhaid inni sicrhau ein bod yn cynnig gwerth am arian i’r trethdalwr fel sefydliad. Yn benodol, mae’n amhosibl cyfiawnhau llawer o’r costau sy’n gysylltiedig â diwygio’r Senedd, gan gynnwys y pris o £100 miliwn am 36 Aelod arall o'r Senedd, yn yr amgylchedd economaidd presennol. Ni ellir dechrau dychmygu’r ehangu sydd ei angen mewn gofod swyddfa, staff ychwanegol a chostau cysylltiedig eraill, ac mae geiriad ein cyllideb yn gadael y drws ar agor i gynnydd enfawr o wariant newydd i dalu am unrhyw gostau dilynol na allwn eu cefnogi. Wrth inni wynebu straen yr argyfwng costau byw, nid yw ond yn deg y dylai Comisiwn y Senedd adlewyrchu hyn yn ei brosesau cyllidebu—a chyfraniadau da iawn gan bawb sydd wedi siarad yn barod. Mae pob un ohonom yn ymwybodol o’r cynnydd sydyn yn ein biliau ynni, ond i mi, o’r adeg y deuthum i’r lle hwn, rwyf bob amser wedi teimlo ei bod yn ddyletswydd ar y Comisiwn i roi’r cymorth i ni fel Aelodau yn y modd mwyaf effeithlon.

Gwyddom am y cynnydd mewn biliau ynni, gwyddom fod gwahanol fodelau o weithio bellach, o ran y ffaith bod llawer o staff y Comisiwn yn dal i weithio gartref oherwydd y pandemig, ac un o’r codiadau mwyaf a welwyd yng nghyllideb 2023-2024 yw ein costau cyfleustodau. Fel y mae Ken Skates eisoes wedi'i nodi yn ei lythyr at Peredur Owen Griffiths, mae’r gyllideb yn nodi cynnydd o £582,000 yn 2022-23 i gost amcangyfrifedig o £1.25 miliwn yn 2023-24. Nodaf fod y Pwyllgor Cyllid yn argymell y dylai’r Comisiwn ariannu pwysau yn ystod y flwyddyn ar y gyllideb, ac y dylai gael rheolaeth drwy wneud arbedion a sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn yn hytrach na thrwy gyllidebau atodol, ac yn enw cyfrifoldeb cyllidol, mae hyn yn rhywbeth rwyf innau hefyd yn ei gefnogi. Yn syml, ni all y Comisiwn ddisgwyl cyllideb atodol pryd bynnag y bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â chyllid. Mae’r pwyllgor hefyd yn nodi yn ei argymhellion na ddylai’r Comisiwn ragdybio cynnydd mewn cyllid o un flwyddyn i’r llall. Ar adeg pan fo'r cyhoedd yn gyffredinol yn gorfod dod o hyd i arbedion anodd, nid yw ond yn iawn ein bod ni, fel Comisiwn, ac fel sefydliad, yn arwain drwy esiampl.

Nawr, cefais fy nghalonogi o weld ymrwymiad i gefnogi staff a allai fod yn ei chael hi'n anodd gyda biliau uwch drwy'r gronfa caledi a chynlluniau eraill o'r fath, ond cefais sioc o glywed yn y lle cyntaf mai ar gyfer staff y Comisiwn y byddai'r cymorth hwnnw, ac efallai na fyddai staff cymorth y Senedd yn ei gael—roedd hwnnw'n benderfyniad ar gyfer y bwrdd taliadau. Dof at y bwrdd taliadau mewn munud. Ond i grynhoi, felly, mae’n rhaid i gyllideb y Comisiwn wneud darpariaeth i’r Senedd gyflawni ei waith hanfodol, gan wneud darpariaeth ar gyfer yr aelodau staff mwyaf agored i niwed, a chan gynnwys ar draws Cymru gyfan. Mae costau cynyddol sy’n cael eu hachosi'n bennaf gan yr awydd i fynnu Senedd fwy o faint yn golygu nad ydym yn credu bod cyllideb y Comisiwn yn ymateb yn ddigonol i'r heriau presennol. Yn lle hynny, rydym yn ymladd yn erbyn costau a beichiau posibl a osodwyd arnom gan Lywodraeth Lafur Cymru yn fy marn i, gyda chefnogaeth Plaid Cymru. Ond yr effaith y mae'n ei chael ar ein cyllidebau, pan fydd rhywun yn ystyried bod y cyfnod etholiadol nesaf yn dechrau yn 2026, a dyma ni'n cael ein heffeithio nawr, yn 2022.

Ond ar y bwrdd taliadau. Mae llawer o Aelodau wedi codi’r math o bryderon a godwyd gennych chi, Mike: ble mae’r tryloywder? Ble mae atebolrwydd y bwrdd taliadau? Pan ddeuthum yn Aelod yma gyntaf, roeddwn yn ymwybodol fod y bwrdd taliadau ar waith, ac mae’r cyfan yn rhan annatod o gyfansoddiad y Senedd, ond rwy'n credu'n wirioneddol mai nawr yw’r amser inni gael trafodaethau anodd ynghylch pa mor dda y mae’r bwrdd taliadau yn cefnogi'r Aelodau, a pha mor dda y mae ei brosesau ei hun—. Yn rhy aml, mae Aelodau’n teimlo bod penderfyniadau’n cael eu gwneud heb eu mewnbwn, heb eu cynnwys neu heb i'r penderfyniadau gael eu hesbonio iddynt hyd yn oed, ac yn rhy aml, mae Aelodau’n teimlo bod pethau’n cael eu gwneud iddynt yn hytrach na gyda hwy. Rwy'n credu'n onest fod hon yn mynd i fod yn drafodaeth anodd, ond credaf ei bod yn un y mae angen ei chodi gan fod yr Aelodau wedi codi cryn dipyn o bryderon ynghylch y bwrdd taliadau. Felly, diolch yn fawr.

15:55

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau? Codwyd nifer o themâu tebyg gan yr Aelodau, ac rwyf am geisio ateb pob un. Yn gyntaf oll, dylwn ddweud y byddwn yn cytuno’n llwyr â Peredur Owen Griffiths na ddylem ac na allwn ganiatáu i broses eleni, a ddigwyddodd mor hwyr, gael ei hailadrodd, ond yn sicr, fel y cydnabu Peredur ei hun, ni fyddwn byth yn gweld sefyllfa mor ansefydlog eto wrth inni osod cyllideb. Mae hwn wedi bod yn gyfnod digynsail. Mae’n siŵr na welwn dri gwahanol Brif Weinidog y DU eto yn ystod y broses o osod y gyllideb, tri gwahanol Ganghellor, cyllideb fach, datganiad yr hydref, a dirwasgiad yn yr economi. Felly, byddwn yn gobeithio mai eithriad fydd hyn, ond credaf hefyd ei bod yn gyfrifol inni ymrwymo i ddod o hyd i arbedion gwerthfawr yn ystod y flwyddyn, a diolch i’r Aelodau am dynnu sylw at rai o’r mesurau y gellir cytuno arnynt o bosibl wrth inni ystyried sut y gallwn arbed costau yn 2023-24.

O ran y gyllideb gyffredinol, un o’r heriau sydd gennym yn y Comisiwn yw nad oes gennym fawr ddim gwariant dewisol. Yn y bôn, rydym yn gwario’r gyllideb ar bobl ac ar y lleoedd, a phrin fod unrhyw arian ar ôl inni fuddsoddi yn rhai o’r mesurau a godwyd heddiw gan Peter Fox, er enghraifft paneli solar ffotofoltäig. Mae hynny’n rhan o'r gronfa prosiectau. Felly, wrth wneud yr arbedion rydym wedi’u haddo, rydym yn mynd i orfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â rhai o’r mesurau arbed ynni hynny roeddem wedi’u cynllunio o fewn y gronfa prosiectau.

Wedi dweud hynny, rydym eisoes wedi gwneud cynnydd da gydag arbedion ar gostau cyfleustodau. Cydnabuwyd ein bod wedi gostwng y tymheredd yma, a dylwn ddweud wrth yr Aelodau y bydd hynny’n arwain at arbediad o 10 y cant. Ond mae gan bob un Aelod yn y Senedd unedau rheoli yn eu swyddfa y gallant eu defnyddio i ostwng y tymheredd ymhellach. Yn bersonol, rwy'n hoff o weithio dan amodau Arctig. Byddwn yn ddigon bodlon bod yn Bob Cratchit, a dweud y gwir, ond gall yr Aelodau eu hunain ostwng y tymheredd, a byddwn yn eu hannog i wneud hynny er mwyn gwneud arbedion. Gellir diffodd systemau. Gellir diffodd parthau cyfan, a byddant yn cael eu diffodd. Efallai y bydd yn rhaid inni wneud y penderfyniad anodd i gau adeiladau os ydym am sicrhau arbedion mwy fyth, a hynny am fod cyn lleied o wariant dewisol. Rydym yn gwneud arbediad o 5 y cant, neu fwy, drwy ddiffodd y gwres mewn mannau y gwyddom nad ydynt yn cael eu defnyddio ar ddiwrnodau penodol, a bydd y mesurau hyn yn parhau drwy gydol y flwyddyn ariannol nesaf.

Ddirprwy Lywydd, os caf, hoffwn dynnu sylw at rai o'r meysydd eraill posibl ar gyfer arbedion—

—yn gryno. Rwyf wedi sôn am baneli solar. Byddwn yn edrych ar hyfforddiant ac ymgysylltu. Byddwn yn edrych ar arbedion drwy’r contract arlwyo, neu fel dewis arall yn lle arbedion, byddwn yn edrych ar godi refeniw, a chynyddu’r prisiau i Aelodau o bosibl. Byddwn hefyd yn edrych ar ailgyflwyno taliadau am barcio ceir, o ystyried yr angen i ddiogelu'r rheini ar y cyflogau isaf. Ac felly, unwaith eto, yr Aelodau, yn ôl pob tebyg, a allai fod yn talu mwy am barcio eu ceir, ond rwy'n siŵr, o ystyried y teimladau rydym wedi'u clywed heddiw, y byddai hynny'n cael ei groesawu.

Byddwn yn cau swyddfa gogledd Cymru yn 2023 ac yn ei hadleoli i adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno, ac fe wnaf dderbyn yr ymyriad.

[Anghlywadwy]—Darren, ond byddwch yn gryno, os gwelwch yn dda, gan ein bod yn brin o amser.

Fe fyddaf yn gryno, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle. Ar swyddfa gogledd Cymru, mae’n rhaid imi ddweud fel Aelod lleol ar gyfer yr etholaeth lle mae’r swyddfa honno wedi’i lleoli, fy mod wedi fy syfrdanu, a dweud y gwir, gyda’r diffyg ymgysylltu â mi cyn i'r penderfyniad gael ei wneud i gau’r swyddfa honno. Rwyf hefyd yn bryderus iawn am y penderfyniad i gydleoli swyddfeydd y Senedd yn un o adeiladau Llywodraeth Cymru. Mae hynny’n cyfuno ac yn peri dryswch pellach ynglŷn â'r gwahaniaeth rhwng y Senedd hon a’r Llywodraeth, dryswch sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru, a dylem wneud rhywbeth i fynd i’r afael â hynny. Felly, rwy'n siomedig iawn na fu unrhyw ymgynghori â mi, fel Aelod lleol, cyn i'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud.

Wel, rhaid imi ddweud, mae’r Aelod yn dymuno inni leihau ein cyllideb, a bydd gwneud yr hyn a argymhellais yn gwneud yn union hynny. Ni allwch ei chael hi bob ffordd.

Rwyf wedi awgrymu dewis amgen. Rwyf wedi awgrymu dewisiadau eraill.

Ac o ran ymgynghori, mae gennych aelod o'r Comisiwn yn eich grŵp sy'n gallu rhoi gwybod i chi am benderfyniadau—

—a chytunwyd yng nghyfarfod y Comisiwn y byddem yn cymryd y cam hwn i arbed costau. Cafodd ei dderbyn gan y Comisiwn.

Edrychwch, mae'n rhaid imi ddweud hefyd, o ran y bwrdd taliadau, fy mod yn meddwl efallai y dylai’r Pwyllgor Cyllid deimlo’n hyderus i wahodd y bwrdd taliadau ger ei fron i graffu arno, ac i ofyn y cwestiynau anodd a godwyd gan Mike Hedges, rwy'n credu, ac eraill.

I gloi, mae'r ymarfer cyflym hwn i nodi arbedion yn gyfrifol ac yn bragmatig. Credaf ei fod yn rhoi golwg ar y storm a wynebwn yn sgil y cythrwfl economaidd diweddar, a’r ffaith bod yr economi bellach mewn dirwasgiad.

16:00

Janet, a oeddech yn dymuno codi pwynt o drefn? Fe wnaf wirio i weld a yw'n bwynt o drefn, ond a oeddech yn dymuno codi unrhyw beth?

Oeddwn. Ar y pwynt y gwnaethoch chi sôn amdano. Yng nghyfarfod y Comisiwn, fe fyddwch yn cofio inni gael gwybod bod ymgynghori wedi digwydd gydag Aelodau gogledd Cymru. Pan godais y mater gyda fy Aelodau yn ddiweddarach, nid oedd ganddynt unrhyw wybodaeth am hynny, ac rwyf wedi codi'r mater gyda'r cyfarwyddwr penodol hwnnw.

Nawr, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Chweched Adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9

Eitem 6, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Chweched adroddiad i'r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9'. Galwaf ar John Griffiths i wneud y cynnig ar ran y pwyllgor.

Cynnig NDM8136 John Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Chweched Adroddiad i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 16 Tachwedd 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel Cadeirydd dynodedig dros dro y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol. Fe wnaeth y pwyllgor ystyried yr adroddiad gan y Comisiynydd Safonau mewn perthynas â chwyn a wnaed yn erbyn Hefin David AS ynglŷn â thrydariad sarhaus. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd, ac mae ein hadroddiad yn nodi dyfarniad y pwyllgor ynglŷn â'r gosb sy'n briodol yn yr achos hwn. Mae'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r gŵyn, a rhesymau'r pwyllgor dros ei argymhelliad, wedi'u nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i bwysleisio i'r Aelodau pa mor bwysig yw trin rhyngweithio ar y cyfryngau cymdeithasol yn unol â'r un egwyddorion a fyddai'n cael eu cymhwyso wrth ryngweithio wyneb yn wyneb ac atgoffa'r Aelodau fod cefnogaeth ar gael i Aelodau wrth ymdrin â'r cyfryngau cymdeithasol a defnydd cywir ohonynt. Mae'r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Senedd i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Iechyd meddwl a gwytnwch cymunedol

Eitem 7 heddiw yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar iechyd meddwl a gwytnwch cymunedol. Galwaf ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8130 Jenny Rathbone

Cefnogwyd gan Huw Irranca-Davies, Mike Hedges, Sam Rowlands, Sioned Williams, Vikki Howells

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) cyhoeddi adroddiad 'Gyda'n Gilydd Drwy Adegau Anodd' gan MIND Cymru;

b) bod gwytnwch cymunedol yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl da.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda'r sector gwirfoddol a chymunedol i adeiladu cymunedau gwydn drwy:

(i) hyrwyddo cyfalaf cymdeithasol;

(ii) buddsoddi mewn asedau cymunedol;

(iii) mynd i'r afael â rhwystrau sy'n wynebu rhai grwpiau;

b) cynnwys y rôl a chwaraeir gan asedau a rhwydweithiau cymunedol mewn unrhyw strategaeth iechyd meddwl yn y dyfodol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym yn byw mewn cyfnod anodd iawn. Rydym wedi gweld y lleihad mwyaf yng nghefnogaeth gwasanaethau cyhoeddus ers blynyddoedd lawer, ac mae gennym y gyfradd chwyddiant uchaf ers 41 mlynedd, gyda phrisiau defnyddwyr yn cynyddu dros 10 y cant. Mae prisiau bwyd wedi cynyddu dros 16 y cant yn ystod y 12 mis diwethaf, sef y naid fwyaf ers Medi 1977, pan oedd Jim Callaghan yn Brif Weinidog—amser maith yn ôl. Felly, rydym yn wynebu gaeaf pwysig a heriol iawn.

Nid pryderon ariannol yw'r unig beth sy'n gallu achosi salwch meddwl, ond yn sicr nid yw'n helpu. Roeddwn yn gwerthfawrogi sylwadau Dr Kamila Hawthorne heddiw, sydd bellach yn llywydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, a ddywedodd fod gan nifer o'i chleifion yn Aberpennar broblemau mor anhydrin nes ei bod yn teimlo'n ddi-rym i wneud unrhyw beth i'w helpu. Mae'n teimlo fel pe bai wedi cael ei gwasgu fel lemwn ar ddiwedd y dydd. Mae lefel y trallod y mae sefyllfa ei chleifion yn ei hachosi iddi hi a chymaint o feddygon teulu rheng flaen eraill yn faromedr go iawn o lefel y boen yn ein cymdeithas. Felly, roeddwn yn credu y byddai'n ddefnyddiol i ni drafod yr adroddiad hwn, 'Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd' a gynhyrchwyd y llynedd. Ond rwy'n credu ei fod yn atgoffa'n amserol iawn o'r hyn y mae'n rhaid inni ei wneud ar y cyd yn ein cymunedau i gefnogi pobl sydd mewn trallod.

Cafodd yr ymchwil a gomisiynwyd ganddynt, ar y cyd â chwaer elusennau yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, ei wneud mewn pedwar lle ledled y DU: un yn Hwlffordd, un arall yn Portadown yng Ngogledd Iwerddon, un yn Glasgow, ac un mewn maestref yn Wolverhampton. Mae'n cyflwyno tair neges allweddol i ni: siarad am les meddyliol; cefnogi hybiau cymunedol; a sector cymunedol a gwirfoddol cryf, cydweithredol. Mae'r rhain yn allweddol i'n galluogi i oroesi drwy gyfnodau anodd a datblygu cymunedau cryf sy'n gallu cefnogi ei gilydd.

O edrych ar y pwynt cyntaf, mae'n hanfodol fod lles meddyliol yn cael ei ystyried yn gydradd ag iechyd corfforol, ac rydym yn siarad am hynny yn aml. Mae pobl yn barod iawn i ddweud wrthyf am yr amser y bydd rhaid iddynt ei aros am lawdriniaeth ar y glun neu'r cefn drwg sydd ganddynt. Mae'n rhaid inni ddyblu ein hymdrechion i ymladd y stigma sydd ynghlwm wrth drallod meddwl.

Rydym wedi siarad llawer am yr epidemig o drallod meddwl yn ein hysgolion a'n colegau o ganlyniad i COVID ac yn amlwg bydd pobl sy'n byw mewn tai gorlawn, annigonol wedi dioddef yn fawr yn ystod y cyfyngiadau symud, ond nid tai gwael yw'r unig broblem. Byddai unrhyw blentyn sy'n byw mewn cartref camweithredol, lle mae trais yn y cartref yn cuddio o dan y radar, wedi dioddef o beidio â gallu dianc i ddiogelwch yr ysgol. Mae rôl bwysig iawn i ysgolion roi lle i bobl ifanc siarad am bethau sy'n eu poeni, mewn ffordd ddiogel, anfeirniadol. Yn hytrach nag aros am y drasiedi o ddisgybl ifanc yn cyflawni hunanladdiad, fel a ddigwyddodd yn Hwlffordd, mae angen inni sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn sbarduno'r newid sydd ei angen i ganolbwyntio ar lesiant disgyblion yn ogystal â'u cyflawniadau academaidd.

Mae gair o rybudd yn adroddiad Mind na ddylai cymunedau fod yn or-ddibynnol ar ysgolion i ddarparu'r gefnogaeth hon, a bod angen i bobl ifanc allu cael mynediad at gymorth y tu hwnt i'w cylch cymdeithasol hefyd. Ac mewn perthynas â bwlio, rwy'n siŵr fod hwnnw'n bwynt cwbl berthnasol. Mae gan wasanaethau ieuenctid rôl hynod bwysig i'w chwarae yma, ac maent yn aml yn sylwi ar faterion sy'n peri pryder nad ydynt wedi cael sylw yn yr ysgol. Ond mae hynny'n cysylltu â'r ail neges allweddol am wytnwch cymunedol drwy'r cyfnod anodd hwn, sef rôl hybiau cymorth cymunedol.

Roedd ymchwil Hwlffordd yn canolbwyntio ar bobl ifanc, a daeth i'r casgliad nad oedd plant a phobl ifanc yn Hwlffordd yn teimlo llawer o gysylltiad â'u cymunedau na llawer o berchnogaeth ar eu cymunedau. Mae'n rhaid i hybiau cymunedol ddarparu ar gyfer pobl o bob oedran, nid yr ifanc iawn a'r hen iawn yn unig. Nid oes gan blant a phobl ifanc geir, ac mewn lle fel Hwlffordd, mae'n debyg mai ychydig iawn o opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus sydd yno hefyd, felly maent yn ddibynnol iawn ar oedolion i'w hebrwng i lefydd lle gallant ddod o hyd i gyfeillgarwch a chael hwyl. Mae angen i hybiau lleol ddarparu ar gyfer pobl ifanc, er mwyn rhoi lle y tu allan i'r cartref iddynt i'w helpu i wneud y newid anodd o fod yn blentyn i fod yn oedolyn, nid o reidrwydd yn yr un gofod neu amser.

Ar y llaw arall, rwy'n hoff iawn o ddysgu rhwng cenedlaethau. Nid oedd fy ffrind da Stan Thorne yn bartïwr mawr, ond roedd yn cael pleser enfawr o'r cystadlaethau gwyddbwyll rhyngseneddol gyda phobl ifanc a oedd yn digwydd bob blwyddyn. I'r rhai nad oes ganddynt neiniau a theidiau sy'n byw gerllaw, gall gweithgareddau sy'n dod â'r cenedlaethau at ei gilydd—boed yn wyddbwyll, garddio, canu neu ryw weithgaredd arall—fod yn sbardun i gyngor ac ysgogiad annibynnol ar gyfer y ddwy ochr. Os mai'r unig le cymunedol mewn ardal yw tafarn, lle gall pobl ifanc o dan 18 oed fynd?

Fel pobl ifanc, amlygodd yr adroddiad fod newydd-ddyfodiaid i ardal, lleiafrifoedd ethnig a phobl sy'n byw mewn tlodi hefyd yn ei chael hi'n llawer anos dod yn rhan o rwydweithiau cymunedol presennol. Wedi dweud hynny, mae yna ddyfyniad gwych gan fenyw ym Mhortadown yng Ngogledd Iwerddon sy'n dangos y gall newydd-ddyfodiaid chwistrellu syniadau ac egni newydd i gymuned.

'Rwy'n byw ar ystad lle mae pobl yn garedig a chyfeillgar. Rydym yn bobl siaradus iawn'—

meddai'r fenyw hon—

'Mae fy nghymdogion ar bob ochr yn dod o Ddwyrain Ewrop. Roedd yn newydd i fi—rwy'n arfer byw gyda phobl o fy nghymuned ond yn ystod y cyfyngiadau symud rydym wedi cael mwy o amser i sgwrsio. Mae ganddynt yr un pwyslais teuluol ac maent yn dod â fy min i mewn.'

Rwy'n credu ei fod yn ein hatgoffa bod Gogledd Iwerddon yn llawer mwy amrywiol nag yr arferai fod—nid dim ond dwy gymuned sydd prin yn siarad â'i gilydd sydd yno. Efallai y bydd newydd-ddyfodiaid o'r tu allan, gyda phersbectif gwahanol ar y byd, yn chwarae rhan bwysig iawn yn y modd y gwnawn y newid tuag at heddwch parhaol yng Ngogledd Iwerddon, sut bynnag y bydd hynny'n edrych.

Yng Nghymru hefyd, mae newydd-ddyfodiaid yn aml yn dod â dynameg newydd gyda hwy, ac fe welais dystiolaeth gref o hynny nos Sul pan ymunais â Jane Hutt i rannu pryd o fwyd gydag aelodau o'r hen gymuned Asiaidd Ugandaidd a gafodd eu taflu allan o Uganda ym 1972, a gorfod gadael eu cartrefi a'u busnesau ar eu holau, a gwneud eu cartref newydd yng Nghymru. Nid yn unig fod llawer ohonynt yn chwarae rhan gwbl hanfodol yn ein GIG, pwrpas y noson oedd cynnal cinio blynyddol ar gyfer elusen Vale for Africa, i godi arian ar gyfer ardal Tororo, sydd yn y rhan dlotaf o Uganda. Mae'n enghraifft wirioneddol wych o ganlyniad cadarnhaol i amgylchiadau adfydus. Yn yr un modd, aeth y Menywod yn Erbyn Cau'r Pyllau Glo ymlaen i wneud llawer o waith hollol wych yn y degawd ar ôl gorchfygiad 1984-85.

Ond i droi'n ôl at yr hybiau cymunedol, maent wedi bod yn chwarae rhan mor bwysig yn cadw cymunedau gyda'i gilydd, oherwydd maent yn perthyn i bawb ohonom. Ein trethi sy'n talu amdanynt, ac felly mae gwir angen inni wneud yn siŵr, yng nghanol yr holl benderfyniadau anodd sy'n rhaid eu gwneud yn y dyfodol ar gyfer awdurdodau lleol, ein bod yn parhau i gadw'r hybiau i fynd, oherwydd maent yn rhan mor bwysig o wead ein cymunedau. Ond mae'n rhaid i ni hefyd eu hatal rhag cael eu cadw mewn asbig ar gyfer un criw bach yn unig.

Trydedd elfen gwytnwch cymunedol yw sector cymunedol a gwirfoddol cryf, cydweithredol. Mae hynny'n rhywbeth y mae gennym lawer iawm ohono yng Nghaerdydd, hyd yn oed yn rhai o'n cymunedau tlotaf. Mae gardd gymunedol Plasnewydd—sydd wedi ennill gwobrau fel lle i bobl gyfarfod, i drin bwyd a blodau, ond lle hefyd i rannu rhai o'r agweddau mwy trist ar eu bywydau. Mae Siediau Dynion hefyd yn ofod gwych i ddod â dynion at ei gilydd, gan fod dynion yn draddodiadol wedi ei chael hi'n anos mynegi eu hofnau a'u gobeithion neu eu trallod emosiynol. Gwn fod fy nghyd-Aelod Huw Irranca-Davies wedi chwarae rhan bwysig yn hyrwyddo Siediau Dynion—

16:10