Y Cyfarfod Llawn

Plenary

13/07/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Dirprwy Lywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, fe hoffwn nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw. Nodir y rhain ar yr agenda.

Cyn symud i'r eitem gyntaf, hoffwn gyhoeddi canlyniad y balot ar gyfer Bil Aelod a gynhaliwyd heddiw. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y gall Sam Rowlands ofyn am gytundeb y Senedd ar ei gynnig ar gyfer Bil addysg awyr agored Cymru.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw cwestiynau i Weinidog yr Economi, a dwi'n galw ar Llyr Gruffydd.

Twf Economaidd yn y Gogledd

1. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i annog twf economaidd yn y gogledd? OQ58364

Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn mynd ati'n weithredol i weithio gyda'n partneriaid rhanbarthol, gan gynnwys Uchelgais Gogledd Cymru, i sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl ar gyfer y rhanbarth. Cyhoeddwyd y fframwaith economaidd rhanbarthol ar gyfer gogledd Cymru, a gynhyrchwyd ar y cyd, fis Rhagfyr diwethaf. Mae'n nodi'r blaenoriaethau a rennir gennym ar gyfer y rhanbarth a bydd yn sail i gynllun cyflawni y cytunwyd arno.

Wel, diolch i chi am yr ateb.

Mae canlyniadau'r cyfrifiad newydd yn dangos bod y boblogaeth yn gostwng mewn nifer o awdurdodau lleol ar draws gogledd Cymru. Rydym hefyd yn gweld y boblogaeth dros 65 oed yng Nghymru yn cynyddu, ac mae'r boblogaeth 15 i 25 oed wedi gostwng yn ystod cyfnod y cyfrifiad. Nawr, ddoe, gwadodd y Prif Weinidog, i bob pwrpas, fod tuedd glir lle rydym yn colli llawer o bobl ifanc o’n cymunedau ledled Cymru, ac nid yn unig pobl yn symud allan o Gymru, ond pobl yn symud o gymunedau gwledig i gymunedau trefol, o’r gogledd i’r de. Pa risg y mae hynny’n ei pheri, yn eich barn chi, i dwf economaidd yn fy rhanbarth yn y gogledd, a beth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i geisio mynd i’r afael â’r broblem honno?

Wel, ni chredaf ei bod yn deg dweud bod y Prif Weinidog wedi gwadu bod y duedd ffeithiol honno’n bodoli. Roedd yn fwy i'w wneud â’r naratif a naws yr hyn y ceisiwn ei wneud i gydnabod bod hynny’n digwydd. A dweud y gwir, roedd yn rhan o’r genhadaeth economaidd newydd a gyhoeddais ym mis Hydref y llynedd. Mae’n rhan o'r gwaith a wnaed ymlaen llaw i gydnabod nad her i wasanaethau cyhoeddus yn unig yw hon. Yn fy rôl flaenorol, roeddem yn sôn yn aml am y realiti y bydd systemau iechyd a gofal dan fwy o bwysau oherwydd y newyddion da y gall mwy ohonom ddisgwyl byw yn hirach. A dweud y gwir, yr her ychwanegol sydd gennym yng Nghymru yw bod maint ein poblogaeth hŷn yn cynyddu'n gyflymach na’r boblogaeth oedran gweithio. Mae hynny'n bwysig yn economaidd hefyd.

Felly, rydym yn wynebu heriau ynghylch yr hyn a wnawn i ddenu pobl i ddychwelyd i Gymru os ydynt wedi mynd i rannau eraill o’r byd i weithio ac i astudio. Mae'n ymwneud hefyd â sut rydym yn denu pobl nad ydynt yn dod o Gymru i fod yn rhan o’n dyfodol. Ac rydym yn ystyried hynny'n fudd net posibl i Gymru hefyd. Ni chredwn y bydd hynny'n digwydd heb opsiynau deniadol ar gyfer byd gwaith, ac yn wir, ansawdd y bywyd y gall pobl ei gael yng Nghymru yn ogystal. Ac mewn gwirionedd, mae'r pandemig wedi cyflymu ystod o'r tueddiadau hynny—y gallu i weithio o bell mewn gwahanol rannau o'r byd, a'r ffaith bod gan bobl fwy o ddiddordeb yn eu hansawdd bywyd, lle mae gan Gymru gryn dipyn i'w gynnig. Mae'n ymwneud â sut y mae gennym fwy o bobl yn awyddus i gynllunio eu dyfodol yma. Mae Cymru yn lle da iawn i gynllunio’ch busnes a thyfu eich busnes, a dylai hynny ein helpu gyda’r her a wynebwn gyda demograffeg a’r effaith ar yr economi.

Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog wedi gweld y cyhoeddiad diweddar gan Rolls-Royce fod Glannau Dyfrdwy yn un o chwe lleoliad ar y rhestr fer i agor y ffatri adweithyddion niwclear fach gyntaf. Nawr, y gwir amdani yw y bydd gan ynni niwclear ran i'w chwarae yn y broses o roi diwedd ar ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, a bydd y Gweinidog a'r Aelodau'n gwybod bod gennym y gweithlu medrus iawn sydd ei angen ar gyfer ceisiadau o'r fath yng ngogledd-ddwyrain Cymru. A dywedaf hynny gyda balchder fel Aelod sydd wedi gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu a pheirianneg yng Nglannau Dyfrdwy yn flaenorol ochr yn ochr â chydweithwyr yn y sector hwnnw, ac rwy’n falch o allu dweud hynny. Weinidog, mae hwn yn gyfle i gynyddu twf economaidd, nid yn unig yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ond ar draws y gogledd. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn i chi beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi cais o’r fath?

Ie, rwy'n cydnabod y sylwadau agoriadol ynglŷn â'r realiti y bydd ynni niwclear yn rhan o'n cymysgedd ynni yn y dyfodol. Os edrychwch ar beth yw'r dewis arall, mae'r Almaen, er enghraifft, ar ôl ymbellhau oddi wrth ynni niwclear, bellach yn gorfod ailddechrau ac ailfuddsoddi mewn glo, ac mae gan hynny ganlyniadau anorfod real a sylweddol i'r blaned gyfan ac nid i'r Almaen yn unig. Felly, rydym wedi dweud yn glir iawn ein bod yn dymuno gweld buddsoddiad a fydd o fudd i'r economi leol, ac wrth gwrs, rydych yn llygad eich lle fod gan ogledd Cymru, drwyddo draw, gryfderau sylweddol mewn gweithgynhyrchu uwch a pheirianneg. A phe bai’r buddsoddiad hwnnw’n cael ei wneud yng Nglannau Dyfrdwy, a hoffem weld hynny'n digwydd, byddai niferoedd sylweddol o swyddi, nid yn unig yng Nglannau Dyfrdwy, ond yr hyn a fyddai’n ei olygu ar gyfer y dyfodol. Felly, byddwn yn parhau i ymgysylltu'n gadarnhaol mewn perthynas â Thrawsfynydd, mewn perthynas ag Wylfa, ac mewn perthynas ag uchelgeisiau posibl Rolls-Royce a'r hyn y gallai hynny ei olygu i Gymru. Mae fy swyddogion yn parhau i gyfarfod â Rolls Royce; ceir ymgysylltu adeiladol da. Ac rydym yn edrych ymlaen ac yn gobeithio mai yng Nglannau Dyfrdwy, yn y pen draw, y bydd y ffatri adweithyddion niwclear fach gyntaf yn agor, ac yn wir, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, dyfodol i gynhyrchu radioisotopau yn Nhrawsfynydd hefyd.

13:35

A gaf fi hefyd gefnogi galwadau Jack Sargeant am y cymorth parhaus hwnnw, a diolch i chi, Weinidog, am eich ymrwymiad i hynny ar gyfer gogledd Cymru? Fel y dywedwch, bydd yn welliant economaidd sylweddol i ni yn y rhanbarth.

Yr wythnos diwethaf, Weinidog, cefais y pleser o gyfarfod â Chyngor Busnes Cymru, grŵp sydd, fel y gwyddoch rwy’n siŵr, yn dwyn ynghyd oddeutu 31 o sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau’r sector preifat yma yng Nghymru. Fe wnaethant nodi'n benodol pa mor bwysig yw denu swyddi medrus iawn i fy rhanbarth yn y gogledd—wrth gwrs, y math o beth y mae Jack Sargeant newydd ei godi gyda chi. Maent hefyd yn croesawu eich ymgysylltiad parhaus â’r sector preifat a’r berthynas barhaus honno. Tybed sut y byddech yn disgrifio’r berthynas honno, Weinidog, a phe baech yn cael gwelliannau personol yn y berthynas honno â’r sector preifat dros doriad yr haf, pa feysydd y byddech am eu gwella?

Credaf ein bod mewn sefyllfa dda iawn yn ein perthynas ag ystod o randdeiliaid. Rwy’n cyfarfod â grwpiau undebau llafur yr wythnos nesaf. Cyfarfûm â Community, undeb llafur sy’n ymwneud â'r maes dur yn bennaf, i drafod dyfodol y sector ddoe. A chyfarfûm â’r Ffederasiwn Busnesau Bach, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a Siambrau Cymru yr wythnos hon hefyd. Mewn gwirionedd, mae'n un o'r pwyntiau a wnaed gan y sefydliadau busnes eu hunain pan ddechreuais yn y swydd hon, eu bod yn teimlo bod natur y berthynas â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ehangach yn gryfach nag y bu erioed, oherwydd y ffordd y bu'n rhaid inni weithio gyda’n gilydd yn ystod y pandemig, oherwydd y ffordd gyson roedd gwybodaeth yn cael ei rhannu, a’r gallu i adeiladu ar 20 mlynedd o ymddiriedaeth mewn datganoli, a phwysau dwys iawn y ddwy flynedd ddiwethaf. Lle rydym wedi bod yn onest a lle rydym wedi anghytuno, yn ogystal â lle rydym wedi cytuno, rydym bob amser wedi llwyddo i gryfhau ein perthynas. Ond ni chredaf mai ein perthynas yw'r pwynt y byddwn yn dweud bod angen inni ei weld yn gwella, ac mewn gwirionedd, mae angen mwy o sicrwydd arnom mewn amgylchedd lle rydym yn mynd i wneud dewisiadau. Mae hynny'n wir am fasnach gyda'n partneriaid Ewropeaidd ac ynghylch dewisiadau buddsoddi. Buom yn siarad yn gynharach yng nghwestiwn Jack Sargeant am ynni niwclear; nid yn unig fod arnom angen uchelgais, ond mae angen gwneud dewisiadau, ac yn bendant, mae angen sicrwydd arnom ar gyfer ein sector dur, a fydd yn rhan hanfodol o sut y gallwn fanteisio ar ynni adnewyddadwy, o amgylch ein harfordir yn arbennig, ac ystod o gyfleoedd eraill ym maes gweithgynhyrchu a pheirianneg uwch.

Economi Casnewydd

2. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yng Nghasnewydd drwy ddod â chyflogaeth i'r ddinas? OQ58348

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio ar y cyd â phartneriaid, megis y brifddinas-ranbarth, ac yn wir, Cyngor Dinas Casnewydd, er mwyn darparu manteision economaidd i’r ardal.

Weinidog, diolch byth, mae Casnewydd yn mwynhau llawer o fanteision datblygu economaidd. Credaf fod ei lleoliad daearyddol, rhwng dinasoedd mawr Bryste a Chaerdydd, a'i manteision cyfathrebu yn sgil y system reilffyrdd a'r draffordd, er enghraifft, yn gryfderau pwysig iawn. Ac mae bod yn rhan o’r brifddinas-ranbarth, yn ogystal â phorth trawsffiniol y gorllewin, yn bwysig iawn yn wir. Tybed a allwch ddweud wrth y Siambr, wrthyf fi, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r grwpiau rhanbarthol hynny i ddatblygu'r gwaith hwnnw, a sicrhau ei fod yn cynhyrchu'r mathau o fuddion y mae pob un ohonom am i Gasnewydd a'r ardal gyfagos eu cael.

Credaf mai un o'r agweddau allweddol yw'r ffaith, yr ochr hon i'r etholiadau awdurdodau lleol, fod Jane Mudd a'i thîm wedi darparu sefydlogrwydd ac arweinyddiaeth barhaus, ac mae hynny'n bwysig i ni—cael partneriaid sefydlog y gellir ymddiried ynddynt. Mae'n ymwneud hefyd â'u gwaith yn rhan o'r brifddinas-ranbarth ehangach. Rydym yn gweld dyfodol ar gyfer swyddi o ansawdd uchel yn y ddinas, ac mae gweledigaeth, unwaith eto, fod rhaid i'r cyngor a'r rhanbarth fod yn rhan o'r gwaith o'i chyflawni ar y cyd â'r Llywodraeth. Mae'r bartneriaeth honno'n wirioneddol bwysig. Ac yn wir, mae’r fframwaith economaidd ar gyfer y rhanbarth yn cydnabod cyfleoedd yng Nghasnewydd, o dechnoleg ddigidol, gan gynnwys y sector seiber, technoleg ariannol a deallusrwydd artiffisial, gwyddorau bywyd, ac wrth gwrs, y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd. Hoffwn weld—unwaith eto, gan feddwl am gwestiwn blaenorol—rhywfaint o sicrwydd yn y ffordd y bydd y clwstwr hwnnw'n gallu datblygu. Felly, byddai penderfyniad gan Lywodraeth y DU ar Nexperia o fewn y 45 diwrnod nesaf i'w groesawu'n fawr, er mwyn cael sicrwydd ynglŷn â buddsoddiad. Byddai hynny hefyd yn ein helpu gyda dewisiadau ar draws ardal porth y gorllewin, lle mae angen i arweinwyr etholedig yma yn Llywodraeth Cymru, ac awdurdodau lleol yn y rhanbarth, weithio gyda chydweithwyr ar draws ardal porth y gorllewin, oherwydd yn sicr, ceir synergedd o fuddiannau economaidd, ac edrychwn ymlaen at chwarae rhan adeiladol yn hynny gyda chi, gyda’ch cymydog a'ch cyd-Aelod etholaethol, ac yn wir, gyda'r cyngor a’n cymheiriaid yn San Steffan.

13:40

Weinidog, ymwelais â dociau Casnewydd yn ddiweddar i drafod potensial cais gan Associated British Ports i sefydlu porthladd rhydd yn ne Cymru. Fel y gwyddoch, ym mis Mai, cyhoeddwyd bod Llywodraethau’r DU a Chymru wedi llunio cytundeb i gydweithredu a darparu porthladd rhydd newydd yng Nghymru, wedi'i gefnogi gan £26 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gynorthwyo i adfywio cymunedau drwy ddenu swyddi a buddsoddiad a busnesau newydd. Ar ôl cyfarfod â Michael Gove i drafod codi'r gwastad yn y Deyrnas Unedig, archwiliais y posibilrwydd y gallai Associated British Ports wneud cais am borthladd rhydd yng Nghasnewydd. Credwch neu beidio, fe wnes i hynny. Er mwyn i gais o’r fath lwyddo, bydd yn ofynnol i’r holl randdeiliaid, sef ABP, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, gydweithio’n agos i ddatblygu’r achos gorau posibl dros borthladd rhydd yn ne Cymru. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i weithio’n agos mewn partneriaeth â’r rhanddeiliaid hyn i fwrw ymlaen â chais, a pha drafodaethau a gawsoch chi eisoes, efallai, gyda chyd-Weinidogion ynglŷn â dod â’r swyddi a’r cyfleoedd newydd yr ydych newydd fod yn sôn amdanynt i Gasnewydd? Diolch.

Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r cyhoeddiad ar borthladdoedd rhydd. Fi oedd Gweinidog Llywodraeth Cymru a gwnaeth y cyhoeddiad hwnnw gyda Michael Gove yn ei rôl ar y pryd. A hynny oherwydd ein bod wedi cael, o'r diwedd, ar ôl yr holl sŵn blaenorol, lle roedd yr Ysgrifennydd Gwladol blaenorol wedi dweud yn gyson na ellir sefydlu porthladd rhydd ac mai bai Llywodraeth Cymru oedd hynny, yn y pen draw, dechreuodd yr adran yn Llywodraeth y DU sy'n gwneud y penderfyniadau siarad yn uniongyrchol â ni. Ac roedd modd inni weithio'n weddol gyflym wedyn i gael cytundeb ar brosbectws ar y cyd ar gyfer ceisiadau, lle bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau ar y cyd. Mae hynny’n cynnwys pethau sy’n bwysig i ni fel, os cofiwch, ein hagenda gwaith teg a diogelu’r amgylchedd. Felly, mae hynny'n bwysig.

Yr her, serch hynny, ar ôl sicrhau cytundeb ar gyllid cyfartal ar gyfer porthladd rhydd, a fu'n destun dadlau yn y gorffennol, yw bod gennym Weinidog gwahanol yn y swydd bellach, sef Greg Clark. Ac nid lladd ar Mr Clark yw fy mwriad, ond y gwir amdani yw nad wyf yn credu y byddwn yn gwneud yr holl gynnydd y gallem fod wedi'i wneud fel arall, oherwydd byddwn yn synnu pe bai Llywodraeth y DU yn gallu gwneud penderfyniadau ar hyn tan ar ôl y ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol. Fodd bynnag, yn y cyfamser, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud cynnydd ar y gwaith o lunio'r prosbectws. Bydd hynny’n golygu siarad ag ystod o randdeiliaid, amrywiaeth o bartïon a chanddynt fuddiant yn y diwydiant, ond hefyd, cydweithwyr yn yr undebau llafur, ac yna dylem allu symud, cyn gynted ag y bydd Llywodraeth y DU yr un mor sefydlog â ninnau yn Llywodraeth Cymru, ac y gallant wneud dewisiadau ynghylch prosbectws eu cais.

Ni fyddaf yn cyfrannu at y gwaith o roi cynigion unigol at ei gilydd, wrth gwrs, gan y byddaf yn un o'r rhai a fydd yn gwneud penderfyniadau ar y cynigion a ddaw o amrywiaeth o ardaloedd yn y wlad, a gwn y bydd pobl ar draws y siambr ddaearyddol yn cefnogi gwahanol gynigion.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a phrynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Gyda digwyddiad WWE Clash at the Castle yn Stadiwm Principality yn cael ei gynnal ymhen ychydig fisoedd, roeddwn am eich holi ynglŷn â chyflwr reslo proffesiynol yng Nghymru. Ym mis Ebrill 2021, cyhoeddodd grŵp seneddol hollbleidiol San Steffan ar reslo, dan gadeiryddiaeth yr AS dros Bontypridd, Alex Davies-Jones, eu hadroddiad ar reslo proffesiynol ym Mhrydain. Canfu'r adroddiad nad oedd y diwydiant wedi'i ddiffinio'n glir fel camp na theatr, ac felly, fod ganddo broblemau enfawr o ran diffyg rheoleiddio o ganlyniad. Dywedodd fod safonau iechyd a diogelwch yn frawychus o isel ym maes reslo annibynnol, ac nad oedd amddiffyniadau a gwiriadau digonol ar waith i bobl a oedd yn cyflawni rolau hyfforddwyr, yn enwedig mewn perthynas â phobl ifanc dan oed oherwydd y broblem gyda'i gategoreiddio fel chwaraeon neu theatr. Gwelsom hefyd fudiad Speaking Out ym mis Mehefin 2020, gyda nifer syfrdanol o uchel o fenywod ifanc a oedd wedi bod yn gweithio ym maes reslo proffesiynol yn rhannu eu straeon am gael eu cam-drin gan gyd-reslwyr neu hyfforddwyr. Felly, mae’r diwydiant, ers gormod o amser, ar y lefel annibynnol, wedi bod yn brin o ran rheoleiddio diogelwch a diogelu, ac mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ynglŷn â sut i fynd i’r afael â hynny. Rwy’n sylweddoli na fydd yr holl argymhellion wedi'u datganoli yn y cyd-destun Cymreig, ond mae llawer ohono wedi'i ddatganoli. Felly, pa gamau a gymerwyd gennych, Ddirprwy Weinidog, yn y 15 mis ers cyhoeddi’r adroddiad brawychus hwnnw, i sicrhau bod pobl ifanc sy’n dewis dilyn gyrfa ym maes reslo proffesiynol yn ddiogel pan fyddant yn gwneud hynny?

Wel, diolch am eich cwestiwn, Tom. Ac a gaf fi, yn gyntaf oll, groesawu'r ffaith y bydd digwyddiad WWE yn cael ei gynnal yma yn nes ymlaen eleni? Mae’n ddigwyddiad enfawr a bydd yn hwb enfawr i’n heconomi. Ond rydych yn gwneud pwynt da iawn, onid ydych, am y gwahaniaeth rhwng chwaraeon a theatr, sydd, wrth gwrs—. Mae'r ddau faes yn rhan o fy mhortffolio. Ac rwy'n tueddu i ystyried WWE, yn enwedig, yn adloniant yn hytrach na chwaraeon. Nid ydym yn ystyried reslo ar y raddfa honno yn yr un ffordd ag yr ydym yn ystyried chwaraeon. Ond rydych yn gwneud pwynt dilys am yr adroddiad. Nid wyf wedi derbyn unrhyw adroddiadau yn sgil yr adroddiad hwnnw mewn perthynas ag unrhyw bryderon penodol y mae'r maes reslo proffesiynol yng Nghymru wedi’u codi gyda ni. Ond rwy'n fwy na pharod i ymchwilio i hynny ymhellach ac i ddod yn ôl atoch gyda safbwyntiau ac argymhellion y gallem fod am eu hystyried yma yng Nghymru. Ond nid oes unrhyw bryderon wedi'u dwyn i fy sylw ynghylch y meysydd hynny.

13:45

Iawn. Diolch, Ddirprwy Weinidog. Gan symud i arena hollol wahanol, y tro hwn, un rithwir, hoffwn ofyn i chi am e-chwaraeon.

Cyfarfûm yn ddiweddar â John Jackson, sy’n rhedeg Echwaraeon Cymru, a grybwyllodd y bydd tîm e-chwaraeon Cymru yn cystadlu ym Mhencampwriaethau E-chwaraeon y Gymanwlad cyn bo hir, a fydd, fel Gemau’r Gymanwlad, yn cael eu cynnal y mis nesaf yn Birmingham. Rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol, Ddirprwy Weinidog, o’r manteision economaidd a chymdeithasol enfawr y mae e-chwaraeon yn eu darparu. Ond un o’r pethau a ddaeth yn amlwg iawn yn ystod y sgwrs a gawsom oedd nad yw’r rhain, yn ôl pob golwg, fel reslo proffesiynol, yn ffitio’n daclus iawn yn strwythurau eich Llywodraeth. Soniasant eu bod yn aml yn cael eu trosglwyddo o un lle i'r llall, rhwng Cymru Greadigol a Chwaraeon Cymru, wrth chwilio am gyllid. Ac ar gyfer mudiad sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, dylem fod yn sefydlu strwythurau ac yn cael gwared ar gymaint o fiwrocratiaeth â phosibl fel y gall y sefydliadau hynny gael mynediad at y cyllid sydd ei angen arnynt i barhau â'r gwaith da y maent yn ei wneud. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi e-chwaraeon yng Nghymru? A sut rydych yn ei gwneud yn haws i’r sefydliadau hynny gael mynediad at gyllid grant pan fydd ei angen arnynt?

Wel, mae’r rhan fwyaf o’r cyllid ar gyfer e-chwaraeon yn cael ei ddarparu drwy Cymru Greadigol, ac mae hynny’n parhau. Rwy'n ymwybodol hefyd fod gennym nifer o golegau, er enghraifft, sy'n datblygu gemau e-chwaraeon. Mae gennyf un yn fy etholaeth i. Bûm yn chwarae un gêm benodol—peidiwch â gofyn i mi beth oedd hi, hyd yn oed—gyda JakeyBoyPro yng Ngholeg Merthyr Tudful, a oedd—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod. Gwrandewch, sgoriais gymaint o bwyntiau gyda fy mhlant am wneud hynny, ni fyddech yn credu, pan euthum yn ôl a dweud fy mod i wedi chwarae e-chwaraeon gyda JakeyBoyPro. Ond y pwynt rwy'n ei wneud yw bod y pethau hyn yn gorgyffwrdd yn helaeth: chwaraeon, adloniant, ac addysg hefyd, mewn gwirionedd, oherwydd datblygiad gemau e-chwaraeon. Ond o ran e-chwaraeon, mae gennym y gorgyffwrdd rhwng Chwaraeon Cymru a chyllid ar gyfer datblygu agwedd broffesiynol y gamp honno, a datblygu'r gwaith o greu gemau. Felly, nid oes ffrwd gyllido unigol, ac mae hynny'n wir am lawer o bethau yn fy mhortffolio; mae cryn dipyn o orgyffwrdd. Ond mae cyllid sylweddol ar gael ar gyfer datblygu ac ar gyfer agwedd broffesiynol e-chwaraeon.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. A chan mai hwn yw fy nghwestiwn olaf i chi cyn toriad yr haf, a gaf fi ddymuno toriad hapus iawn, a heddychlon hefyd, gobeithio, i chi a'ch swyddogion? A dyma hefyd y set olaf o gwestiynau i chi cyn dau ddigwyddiad allweddol: yn gyntaf, tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad, ac rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i'w cefnogi, ac yn ail, er na fyddwn yng nghwpan y byd yn Qatar, gan y bydd yn cychwyn yn hwyrach eleni, byddwn yn amlwg yn dechrau ein paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth honno yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ond mae pob un o'r athletwyr yr wyf wedi siarad â hwy yn sôn am bwysigrwydd cyfleusterau da yn eu hardaloedd i'w helpu i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd, ac yn anffodus, yng Nghymru, mae'r darlun yn eithaf anghyson. Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, fel y gwyddoch, wedi dweud yn y gorffennol fod:

'ein cyfleusterau ar lawr gwlad yn gwbl warthus yma. Rwyf wedi fy syfrdanu'n fawr gan ba mor wael yw'r cyfleusterau yma. Felly, os ydych am sôn am hygyrchedd, mae Cymru'n warthus o ran cyfleusterau.'

Felly, fel y gwyddom, gyda Chymru'n cymryd rhan yng nghwpan y byd yn Qatar, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £4 miliwn ar gyfer pêl-droed llawr gwlad, gyda’r nod o wella cyfleusterau. Ond o ystyried eu bod wedi dweud yn y gorffennol fod angen hyd at £150 miliwn o fuddsoddiad i wella ein cyfleusterau yma yng Nghymru, a’n bod am fanteisio ar y ffaith ein bod wedi cyrraedd cwpan y byd, pa gymorth pellach y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i sicrhau nad yw Cymru nid yn unig yn cael ei gweld fel cenedl bêl-droed ar hyn o bryd, ond ei bod yn harneisio potensial twf ar gyfer y dyfodol hefyd?

Wel, a gaf fi ddiolch i Tom am y pwyntiau hynny, sy'n hynod bwysig, ac a gaf fi hefyd ychwanegu ein dymuniadau gorau i dîm Cymru yn Birmingham y mis nesaf—neu'r mis hwn, a dweud y gwir; diwedd y mis hwn? Rwyf wedi cael y pleser enfawr o gymryd rhan yn y gwaith o ddosbarthu citiau i'n hathletwyr. Mae gennyf fathodyn y Gymanwlad, sydd wedi'i wneud o aur Clogau, gredech chi byth. Dosbarthu'r cit, y—beth yw'r enw arno—taith y baton ac ati—. Felly, aethom i Gaergybi i groesawu taith y baton. Ni chredaf i mi eich gweld yno, Rhun, wnes i? Ond gwelsom daith y baton yn dod i mewn o Iwerddon i Gaergybi, ac yna cefais y pleser o weld taith y baton yn dod drwy fy etholaeth innau hefyd, gan ddechrau yn Aberfan. Felly, pob lwc i dîm Cymru, ac yn amlwg, pob lwc i'r tîm yn Qatar ym mis Tachwedd—tîm cwpan y byd yn Qatar.

Mae mater cyfleusterau yn un sydd wedi codi dro ar ôl tro, ac rwy'n ymwybodol iawn o farn prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynghylch sut y gallwn fanteisio ar y gwaddol y mae'r ffaith y bydd Cymru yng nghwpan y byd yn ei adael. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw ein man cychwyn yw ein bod wedi buddsoddi’r swm uchaf o gyfalaf mewn cyfleusterau a wnaethom erioed drwy Chwaraeon Cymru. Felly, dros y tair blynedd nesaf, rydym yn buddsoddi £24 miliwn mewn cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru.

Ond credaf fod angen inni gofio hefyd fod cyfleusterau chwaraeon yn ymwneud â mwy na’r arian sy’n cael ei ddarparu drwy Chwaraeon Cymru yn unig. Mae’n rhaid inni feddwl am faint o arian sy’n mynd tuag at gyfleusterau chwaraeon aml-ganolfan yn ein hysgolion, er enghraifft. Felly, os edrychwn ar faint o fuddsoddiad a gawsom yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain a'i hiteriad presennol—unwaith eto, yn fy etholaeth i, mae gennym gyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf mewn llawer o’r ysgolion hynny, ac mae’n rhaid ychwanegu'r rheini i gyd at y cyfleusterau chwaraeon cymunedol a ddarparwn.

Rwy'n cytuno â phrif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod gennym lawer ar ôl i'w wneud o ran yr holl gyfleusterau hynny, a gwn fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gweithio ochr yn ochr â chyrff llywodraethu cenedlaethol eraill i ddatblygu a darparu cyfleusterau chwaraeon a all fod yn rhai aml-ddefnydd hefyd. Felly, os ydym yn buddsoddi mewn caeau 3G newydd, er enghraifft, ni ddylem fod yn buddsoddi mewn caeau pêl-droed yn unig. Dylai'r rhain fod yn gaeau aml-wyneb lle gellir chwarae rygbi, hoci a chwaraeon eraill, a gwn fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gweithio gyda chyrff llywodraethu cenedlaethol ar hynny.

Ar y £4 miliwn y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ei fuddsoddi, neu sy’n mynd i gael ei fuddsoddi gan y Gymdeithas, mae hynny i’w groesawu, wrth gwrs, ac mae'r arian hwnnw ar gael iddynt am eu bod wedi cyrraedd cwpan y byd, a dyna’r swm y gallant ei ddarparu drwy'r arian y maent wedi'i gael yn wobr am gyrraedd cwpan y byd. Byddwn yn parhau i weithio gyda hwy a chyda chyrff llywodraethu cenedlaethol eraill i weld sut y gallwn ddatblygu’r cyfleusterau llawr gwlad hynny a sut y gallwn sicrhau bod y gwaddol hwnnw yn sgil cyrraedd cwpan y byd yn sicrhau canlyniadau ac yn darparu’r cyfleusterau cymunedol mawr eu hangen hynny.

13:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. O ystyried mai dyma'r sesiwn gwestiynau olaf i lefarydd yr economi cyn toriad yr haf, a'r ffaith y bydd llawer ohonom yn ymgysylltu â’r sector lletygarwch mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, roeddwn yn meddwl y byddem yn edrych ar y sector hwnnw.

Mae'r darlun ar gyfer lletygarwch yn parhau i fod yn weddol ansicr. Fel y gŵyr y Gweinidog, rwy'n siŵr, nid yn unig ein bod wedi cael prinder staff, ond mae costau byw yn parhau i gael effaith fawr. Amcangyfrifodd adroddiad diweddar gan Fanc Barclays fod yr argyfwng costau byw a phrinder staff yn bygwth twf gwerth £36 biliwn yn y sector lletygarwch a hamdden. Nawr, credaf fod sawl rheswm dros y prinder, ond os cawn ganolbwyntio ar un agwedd benodol am eiliad, mae cynrychiolwyr y diwydiant wedi galw ar Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â'r prinder sgiliau yn y sector. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa waith y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud hyd yn hyn ar y pwynt penodol hwn?

Rydym wedi cynnal ymgyrch ar y cyd gyda'r sector ar gyfer recriwtio ac edrych ar anghenion sgiliau'r dyfodol. Mae'n bwynt sydd wedi'i godi gyda mi yn rheolaidd, ac wrth gwrs, mae'r sector yn eithaf amrywiol. Gallwch fynd o leoliadau bwyta o safon uchel, er enghraifft, fel rhan o'r sector, i'r hyn a fyddai'n lleoliad traddodiadol o fewn ardal leol, ac nid ar yr un pen. Felly, rydym yn cydnabod bod hyn hefyd yn gysylltiedig â meysydd eraill. Mae cydgysylltiad amlwg rhwng lletygarwch a thwristiaeth a'r strategaeth digwyddiadau yr ydym newydd ei chyhoeddi heddiw hefyd. Rwy'n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr am y gwaith a wnawn ym maes lletygarwch i ymdrin â sgiliau a chanlyniadau’r ymgyrch yr ydym wedi’i chynnal gyda hwy drwy gydol y flwyddyn hon.

Diolch am eich ateb, Weinidog, a byddwn yn gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny yn fawr. Wrth gwrs, fel y dywedais, mae sawl rheswm dros y prinder staff ym maes lletygarwch. O brofiad, mae angen i gyflogau ym maes lletygarwch wella, mae angen i’w cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith wella, mae angen i sicrwydd gwaith yn ogystal ag amodau’r gweithle wella, fel y gwelsom yn adroddiad ddiweddar Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar letygarwch. Nawr, mae'r sector yn awyddus i broffesiynoli ei yrfaoedd, ond mae’n credu bod gan y Llywodraeth rôl i’w chwarae yn eu helpu i gyflawni hyn. Credaf ei bod yn bwysig pwysleisio bod y sector lletygarwch, yn gyffredinol, yn sector gwych i weithio ynddo. Cefais amser da yn gweithio yn y sector fy hun. Rwy’n dal i fod mewn cysylltiad â llawer o’r ffrindiau a wneuthum yn y sector, ac wrth gwrs, mae'n cynnwys llawer o sgiliau trosglwyddadwy. Y peth mwyaf defnyddiol i mi oedd siarad cyhoeddus. Rwyf wedi dweud hyn droeon yn barod, ond os gallwch weithio y tu ôl i'r bar ar ddiwrnod rygbi yng Nghaerdydd a chael eich galw’n bob math o bethau, rwy'n sicr y gallwch godi yn y Siambr a chael eich heclo gan yr Aelodau. Ond ar nodyn difrifol, mae angen newid diwylliant yn y sector, felly hoffwn glywed gan y Gweinidog lle mae’n credu y gall y Llywodraeth ddod i mewn ar hyn.

13:55

Wel, credaf fod hyn yn ymwneud â gweithio ochr yn ochr â'r sector i geisio'i gynllunio yn yr un ffordd yn union ag y gwnaethom gyda'r sector manwerthu, lle mae gennym strategaeth ar waith. Efallai nad dyna y maent yn dymuno'i wneud, ond er mwyn deall yr hyn y maent yn ei ofyn a bod yn onest gyda hwy am yr hyn y gallwn ei wneud gyda hwy. Fel y dywedaf, rydym wedi bod yn hyrwyddo gyrfaoedd—nid gwaith tymhorol yn unig, ond gyrfaoedd—mewn lletygarwch, ynghyd â'r sector, ac rydych yn llygad eich lle, ceir argraff nad yw'r cyflog cystal ag y gallai fod, ac mae her ynghylch cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Mae gennyf frawd sy'n gogydd. Rwyf bob amser wedi bod yn hapus iawn i fwyta ei fwyd, ond yn yr amser y bûm yn gweithio yn y sector ac o’i gwmpas, ceir her ynglŷn â’r cydbwysedd hwnnw. Mae hynny wedi'i waethygu eto gan y pandemig, ac mae'n un o'r rhesymau pam fod her wedi bod o ran recriwtio i'r sector. Mae pobl wedi ailfeddwl ynglŷn â'r hyn y maent ei eisiau. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn dymuno gallu mynd allan a mwynhau’r sector lletygarwch fel cwsmeriaid, ond mewn gwirionedd, mae arnom angen pobl yn gweithio i safon uchel yn y sector er mwyn inni allu ei fwynhau. A chredaf fod rhan o'r neges yn ymwneud â phob un ohonom ni a'n hetholwyr yn edrych ar y bobl sy'n gweithio yn y sector nid fel pobl a ddylai fod yn cael unrhyw beth wedi'i daflu atynt, ar lafar neu fel arall, pan fyddant yn y gwaith, ond dangos caredigrwydd. Mae'r byd i gyd yn ceisio ymdopi gyda phrinder staff, felly dylem fod yn garedig ac yn deg gyda'r bobl sydd wedi dod i'r gwaith fel y gallwn fwynhau rhan sylweddol o'n bywydau ninnau hefyd. Ond rwy’n fwy na pharod i ymrwymo unwaith eto, nid yn unig yn y cyfarfodydd a gefais, ond i weithio gyda’r sector a fy swyddogion i edrych ar yr heriau o ran cyflogau, beth yw’r neges gan y sector, yr her o sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, y pwyntiau ynghylch sicrwydd a’r hyn y gallwn ei wneud i sicrhau bod gennym sector lletygarwch ffyniannus, oherwydd, fel y dywedaf, mae’n sail i ystod o sectorau eraill o fewn yr economi ehangach.

Cwpan y Byd FIFA 2022

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo masnach a buddsoddiad yng Nghymru yn fyd-eang yn dilyn tîm pêl-droed dynion Cymru'n cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2022? OQ58345

Diolch. Rydym yn gweithio’n frwd gyda nifer o bartneriaid yn y DU, Qatar a mannau eraill yn y byd i sicrhau'r cyfleoedd masnachu a buddsoddi gorau posibl i Gymru yn sgil cwpan byd dynion FIFA 2022.

Yng ngrŵp trawsbleidiol rhyngwladol Cymru yr wythnos diwethaf, mynegwyd pryderon fod cynnydd wedi bod yn araf o ran cynnull y tîm Cymru mawr ei angen i sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl yn sgil y ffaith y bydd Cymru'n chwarae yng nghwpan y byd. Dywedodd llawer o’r rhai a oedd yn bresennol ei bod yn aneglur pwy sy’n arwain a sut y bydd sefydliadau a busnesau’n cael eu cynnwys a’u cefnogi i gymryd rhan, nad oes unrhyw amcanion allweddol ac uchelgeisiol wedi’u pennu eto, ac nad yw’n glir pa fuddsoddiad sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw cyfleoedd yn cael eu colli. Mae'n ofidus fod cyfeiriadau wedi'u gwneud at ymgyrch GREAT a sut y byddai Cymru’n gallu elwa o hyn, a fyddai’n mynd yn groes i bopeth y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi’i wneud i ddatblygu ymwybyddiaeth o’n hunaniaeth unigryw fel cenedl. Gyda phob diwrnod sy'n mynd heibio, rydym yn colli cyfleoedd hollbwysig i Gymru os na wnawn hyn yn iawn. Fel y rhybuddiodd Laura McAllister, yn gywir ddigon, byddai’n anfaddeuol peidio ag achub ar y cyfle hwn. Pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi i leddfu’r pryderon a fynegwyd, a phryd y cawn yr wybodaeth ddiweddaraf am y tîm, yr adnoddau a’r amcanion a roddwyd ar waith, ac a fydd y rhain ar waith cyn y toriad?

Ie, o ran y gwaith a wnawn, wrth gwrs, mae'n amserlen gymharol ddiweddar. Mae gwaith wedi'i wneud a'i ragweld ymlaen llaw, ond tan yr achlysur gwych yn Stadiwm Dinas Caerdydd pan wnaethom sicrhau ein lle yng nghwpan y byd, ni allem fod yn sicr o'n sefyllfa, ac roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn arbennig o awyddus i beidio â chael eu gweld yn ymddwyn fel pe baem wedi sicrhau ein lle cyn inni wneud hynny. A dweud y gwir, ar y daith fasnach, y daith fasnach wyneb yn wyneb a arweiniais i Qatar, roedd yn ddefnyddiol iawn cael cysylltiadau uniongyrchol yn llysgenhadaeth y DU yno, ac maent wedi dweud yn glir iawn eu bod am gefnogi holl wledydd y DU sy'n cyrraedd cwpan y byd, ac mae hynny wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Felly, mae gennym gysylltiadau yno ar lawr gwlad, ond hefyd, mae ymgyrch GREAT y soniwch amdani yn gyfle ac yn risg. Byddwn am i arian Llywodraeth y DU fod o fudd i Gymru wrth iddo gael ei wario, ac ni all ymgyrch GREAT fod yn Lloegr mewn enw arall yn unig. Mae Lloegr eu hunain wedi cyrraedd cwpan y byd, ac edrychaf ymlaen at fod yno i weld Cymru’n eu curo ar ddiwedd y cam grŵp, ond mae’n rhaid inni nodi'n glir fod ymgyrch GREAT i fod ar gyfer holl rannau cyfansoddol Prydain, ac felly mae hynny'n un o'n heriau. Felly, rydym yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch hynny.

Rydym yn glir nad ydym am gael ein tynnu i mewn i rywbeth sy'n tanseilio ein hunaniaeth, a'r estyniad a'r cyfle y mae hyn yn ei ddarparu, yn rhan o ymgyrch ehangach nad yw'n bodloni ein hamcanion ein hunain. Mae'n ymwneud â'r gwaith yr ydym am ei wneud yn y rhanbarth ei hun, ond mae'n ymwneud hefyd â'r gallu i arddangos Cymru ar lwyfan byd, yn dilyn y digwyddiad WWE ym mis Medi yma yng Nghaerdydd. Mae hynny'n bennaf oherwydd y gallu i ddod â ffocws ar Gymru mewn marchnad fawr iawn lle mae mwy o gyfleoedd i Gymru achub arnynt. Mae'r ffaith bod ein gêm gyntaf yn y grŵp yn erbyn UDA yn gyfle gwirioneddol bwysig i ni. Felly, mae'n ymwneud â mwy na chyfleoedd yn y rhanbarth yn ffisegol, mae'n ymwneud â llwyfan y byd hefyd.

Gallaf gadarnhau bod y Prif Weinidog wedi gofyn imi arwain gwaith ar draws y Llywodraeth ar gyflawni a datblygu cynllun gyda’n rhanddeiliaid, Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac yn ehangach. Felly, rwy'n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr am waith y grŵp hwnnw, a’r cyflymdra cynyddol yn y gwaith y bydd angen inni ei wneud dros yr haf, ac yn wir, yn yr ychydig fisoedd cyn inni gymryd rhan ar lwyfan y byd yn y rowndiau terfynol am y tro cyntaf ers 64 mlynedd.

14:00

Diolch i Heledd Fychan am gyflwyno ei chwestiwn. Mae cwpan y byd yn gyfle delfrydol i hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd, ond gadewch inni edrych ychydig yn ehangach ar y llwyfan byd-eang hwnnw. Mae gan Lywodraeth Cymru 21 o swyddfeydd rhyngwladol ac mae gan bob un gylch gwaith i ddenu mewnfuddsoddiad. Fodd bynnag, mae’n amheus pa mor effeithiol y bu’r rhain o ran sicrhau cyfleoedd newydd i fusnesau Cymru; er enghraifft, dim ond un neu ddau aelod o staff sydd gan y mwyafrif o’r swyddfeydd hyn ac rwy'n credu mai dim ond tua £750,000 o gyllideb rhwydwaith sydd gennym. Os rhannwch hynny, mae'n oddeutu £35,000 i bob swyddfa fyd-eang.

Weinidog, roeddwn yn meddwl tybed pa asesiad a wnaethoch o effeithiolrwydd ein swyddfeydd tramor yn hybu masnach i fusnesau Cymru. Pa ystyriaeth a roesoch i ddarparu adnoddau ychwanegol i helpu i ehangu capasiti’r swyddfeydd hynny? Mae mor bwysig ein bod yn hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd ac yn gwneud hynny’n effeithiol, ac nid yn dameidiog. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn gwneud cynnydd, ac roeddwn yn meddwl tybed pa gynlluniau penodol sydd gan y Llywodraeth i roi hwb i rôl y swyddfa ryngwladol yn Doha, Qatar, o ystyried y bydd cwpan y byd yn cael ei gynnal yn y wlad honno'n fuan. Diolch.

Wel, mae'n ddefnyddiol fy mod wedi ymweld â'r rhanbarth ddwywaith yn awr, ac mae ein swyddfa yn Doha yn gweithio ar ystod o feysydd. Er nad oes gennym niferoedd enfawr o staff yn ein swyddfeydd, mae gan saith o'r gwledydd sydd wedi cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol cwpan y byd y dynion swyddfeydd Llywodraeth Cymru ynddynt. Rwy’n credu ein bod yn gwneud yn well na’r disgwyl o ran lle mae’r swyddfeydd hynny wedi’u lleoli, yn rhannol oherwydd, ar lawr gwlad, i ffwrdd o wleidyddiaeth rhai o’r gwahaniaethau parhaus a fydd rhyngom ni a chyfeiriad gwleidyddol Llywodraeth y DU, mae cysylltiadau da iawn rhwng y llysgenhadaeth a thimau’r Adran Fasnach Ryngwladol ym mhob un o’r gwledydd hynny. Gwelais hynny drosof fy hun pan oeddwn yn yr Emiradau Arabaidd Unedig ac yn wir, yn Qatar hefyd.

Rwy’n meddwl bod rhan o’r her yn ymwneud ag un o’r pwyntiau a wnaethoch ar y diwedd: pa mor effeithiol y gallwn fod yn manteisio ar y cyfleoedd sy’n bodoli? Hyd yn hyn, gallaf ddweud yn onest wrthych fod yr amrywiaeth o gysylltiadau yr ydym wedi llwyddo i'w darparu, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i fusnesau Cymru, wedi gwneud argraff fawr arnaf. Nid oes angen ichi dderbyn fy ngair i; os siaradwch â busnesau bwyd a diod yn rhanbarth y dwyrain canol, maent yn gadarnhaol iawn ac yn canmol y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ochr yn ochr â hwy i agor marchnadoedd newydd. Os siaradwch â’r busnesau sydd wedi bod ar deithiau masnach, unwaith eto byddant yn dweud bod y gwaith y mae ein swyddfeydd yn ei wneud yn real ac yn arwyddocaol.

Gan fod fy nghyd-Aelod wedi dod i mewn i’r Siambr, dylwn gydnabod bod llawer o hynny’n dod o’r strategaeth ryngwladol a luniwyd gan Eluned Morgan pan oedd mewn rôl weinidogol flaenorol. Rwy'n credu y byddwn yn gweld budd gwirioneddol o hynny, nid yn unig yn y misoedd nesaf ond yn llawer mwy hirdymor hefyd.

Effaith Economaidd Brexit

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith economaidd Brexit ar Gymru? OQ58339

Mae economi Cymru yn dilyn economi'r DU yn eithaf agos ar y cyfan. Amcangyfrif cyfredol Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol Llywodraeth y DU yw bod Brexit wedi lleihau cynnyrch domestig gros y DU tua 1.5 y cant hyd yma, gyda gostyngiad pellach o 2.5 y cant i ddod eto. Yr Undeb Ewropeaidd fydd partner masnachu agosaf a phwysicaf y DU o hyd, a dylem anelu i sicrhau'r fasnach agosaf a mwyaf llyfn sy'n bosibl gyda'r UE.

Diolch yn fawr, Weinidog. Nid yw Brexit yn gweithio i Gymru. Mae wedi costio biliynau i ni a'r DU mewn masnach a refeniw treth a gollwyd; mae cynnyrch domestig gros wedi gostwng, mae buddsoddiad wedi gostwng ac mae masnach nwyddau wedi gostwng. Gyda'r chwyddiant uchaf ers canol y 1970au, gyda'r argyfwng costau byw yn brathu'r bobl yn ein cymunedau, nid yw safbwynt presennol Llywodraeth Cymru a Llafur yn San Steffan yn gynaliadwy. Weinidog, rydym yng nghanol tymor y cystadlu am arweinyddiaeth yn awr. Bydd un yn digwydd yma yn fuan. A wnewch chi gyflwyno datganiad yn fuan, Weinidog, y bydd Cymru'n ailymuno â'r farchnad sengl?

14:05

Nid yw swydd y Prif Weinidog yn wag, ac ni fydd yn wag am y dyfodol y gellir ei ragweld. Edrychwch, o ran realiti ein safbwynt, rwyf wedi dweud y bu gostyngiad mewn masnach, ac mae gan Gymru fwy o fasnach gyda'r UE o gymharu â gwledydd eraill Prydain, felly mae'n her fwy i ni. Ac rwy'n ymwneud â rhai o'r agendâu polisi anghyson a gwrthnysig yn Llywodraeth y DU ar ffiniau a'n masnach barhaus, ac mae'n bwysig. Rwyf eisiau gweld ein sefyllfa bresennol yn gweithio cystal â phosibl. Byddai'n well gennyf—ac mae hyn wedi'i gofnodi—pe na baem wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond pleidleisiodd pobl yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, dros adael, a rhaid inni geisio mynd i'r afael â hynny gan sicrhau cyn lleied o niwed â phosibl, a cheisio bachu ar gyfleoedd lle bo rheini ar gael, a bydd angen rhywfaint o onestrwydd ar ein rhan ynghylch yr hyn y byddai hynny'n ei olygu. Tra bo gennym rai safbwyntiau ar lefel Llywodraeth y DU ynglŷn â'r hyn na allwn ei wneud, mae hynny'n creu her wirioneddol i ni, ond gobeithio y bydd synnwyr cyffredin a synnwyr cyffredin economaidd yn trechu ynghylch y math o berthynas y dylem ei chael gyda'r Undeb Ewropeaidd, oherwydd byddai hynny ynddo'i hun yn goresgyn rhai o'r heriau y gwyddom ein bod yn eu hwynebu heddiw.

Weinidog, mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru 'Brexit a Chymru'

'yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn arwain busnesau drwy'r rheoliadau newydd; yn annog ailhyfforddi a chreu swyddi yn y sector tollau i ateb y galw cynyddol; yn cynnal cyllid brys ar gyfer sectorau y mae oedi ar y ffin yn effeithio arnynt; ac yn monitro'r effeithiau ar borthladdoedd Cymru yn barhaus.'

A yw'r Gweinidog yn derbyn gweithrediad yr argymhellion hyn, ac os felly, pa gynnydd y gall ei adrodd? Diolch.

Rydym bob amser wedi cydnabod, ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, y byddai'r gallu i fasnachu yn dal i fod yno, ond y byddai rhwystrau ychwanegol i hynny. Yr her mewn perthynas â gadael yr Undeb Ewropeaidd yw bod mwy o rwystrau nag a fyddai wedi bod fel arall. Yr hyn yr ydym yn dal i geisio'i wneud yw annog busnesau i barhau â'r fasnach honno, i barhau i fod eisiau bod yn allforwyr. Dyna pam y mae gennym raglen gwerth £4 miliwn i gefnogi allforion yn yr economi. Roeddwn wrth fy modd yn gweld BBC Cymru yn adrodd ar hanesion llwyddiannus mewn perthynas ag allforio yn ddiweddar, gan gynnwys un yn fy etholaeth fy hun. Yr her, fodd bynnag, yw ei fod wedi atal nifer o fusnesau rhag allforio.

Cyfarfûm yn ddiweddar â busnesau bach yn fy etholaeth i a'r Ffederasiwn Busnesau Bach, a chafwyd ymgysylltiad uniongyrchol a gonest iawn ynghylch rhai o'r heriau y maent yn eu hwynebu wrth ddod â nwyddau i mewn ac wrth allforio hefyd. Cyflwynwyd safbwyntiau tebyg gan Siambrau Cymru a Chydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru hefyd, felly mae'n sicr fod costau ychwanegol wedi'u cyflwyno. Mae'r her yn ymwneud â sut y byddwn yn parhau i gefnogi busnesau, i godi ymwybyddiaeth o'r hyn y bydd angen iddynt ei wneud a'r costau ychwanegol a allai ddod yn sgil hynny, ond parhau i'w hannog i fod eisiau bod yn fusnesau allforio llwyddiannus, oherwydd dylai hynny ddal i helpu i dyfu economi Cymru a swyddi o ansawdd da.

Prynhawn da, Weinidog. A gaf fi barhau â thema gadael yr Undeb Ewropeaidd? O edrych ar Brexit heb ei goginio'n iawn y Ceidwadwyr, roeddwn eisiau canolbwyntio ar fesurau rheoli a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ynghylch mewnforion risg uchel fel anifeiliaid, cynhyrchion anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion planhigion. Mae rhai cynrychiolwyr o'r diwydiant wedi rhybuddio y byddai'r mesurau rheoli hyn yn cynyddu costau cwmnïau bwyd y DU yn sylweddol, gannoedd o filiynau o bunnoedd o bosibl. Yn amlwg, bydd y costau hynny'n cael eu trosglwyddo i'r defnyddwyr. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni, os gwelwch yn dda, Weinidog, ynghylch pa sylwadau a gyflwynwyd gennych i Lywodraeth y DU ynghylch llesteirio'r costau hynny i fusnesau, er mwyn atal y gost rhag cael ei throsglwyddo i'n haelwydydd sydd eisoes dan bwysau? Diolch yn fawr iawn.

Wel, mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio, sawl gwaith yn y Siambr hon, at y dystiolaeth ddiweddar ar yr effaith uniongyrchol y mae Brexit wedi'i chael ar gostau bwyd yn gyffredinol, yr heriau o ran mewnforio ac allforio i fusnesau bwyd a diod yn y DU yn enwedig, ac mae wedi bod yn nodwedd reolaidd yn y sgyrsiau ynghylch ffiniau a masnach a gefais yn fwyaf diweddar mewn sgwrs eithaf rhwystredig gyda Michael Ellis, Gweinidog Swyddfa'r Cabinet, ac mae hynny'n ymwneud â realiti'r sefyllfa yr ydym ynddi gyda'r rhaglen. Mae'n golygu bod gan fusnesau sydd eisiau allforio o Gymru i ynys Iwerddon, er enghraifft, wiriadau ar nwyddau, ond mewn gwirionedd, nid yw hynny'n wir am nwyddau sy'n dod o'r cyfeiriad arall ar hyn o bryd. Efallai fod hynny'n golygu bod y nwyddau hynny'n rhatach, ond mae'n rhoi ein busnesau ein hunain o dan anfantais.

Ac un o'r heriau sydd gennym  ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd yw nad oes gennym bellach y fantais a oedd gennym o'r blaen o gael golwg gynnar ar risgiau i fioddiogelwch. Mae hynny'n golygu ein bod yn fwy agored i niwed, yn enwedig gan nad yw'r gwiriadau cyrchfannau sy'n digwydd ar hyn o bryd ond yn cael eu gwneud ar lai na 5 y cant o'r nwyddau sy'n dod i mewn. Mae hynny'n golygu bod risgiau i ni yn gyffredinol. A phan oeddem o fewn yr Undeb Ewropeaidd, roedd gennym allu o hyd i gyflwyno gwiriadau ychwanegol fel aelodau hefyd. Felly, mae nifer o risgiau yn ein hwynebu, o ran bioddiogelwch ac yn wir, ceir anfantais gystadleuol i fusnesau bwyd a diod yn enwedig o dan y trefniadau presennol. A byddwn yn gobeithio, fel y dywedais, y bydd synnwyr cyffredin yn drech yn y pen draw i sicrhau bod busnesau Cymru'n gallu allforio a mewnforio yn llawer mwy cyfartal â chymheiriaid yng ngwledydd Ewrop.

14:10

Weinidog, cytunaf yn llwyr â rhagdybiaeth y cwestiwn fod Brexit wedi bod yn niweidiol iawn i economi Cymru. Gallaf gofnodi fy mod yn cytuno, ac rwy'n tybio bod y Gweinidog hefyd, er nad wyf am ei roi yn y sefyllfa o ofyn hyn iddo, ei fod yn anghytuno â gadael y farchnad sengl a safbwynt presennol Plaid Lafur y DU. Ond mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod yn cydnabod, yn deall ac yn disgrifio'r niwed economaidd i'r wlad hon, ein cymunedau a'n pobl yn sgil Brexit, ac yn sgil penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. A wnaiff y Gweinidog addo y bydd Llywodraeth Cymru, o leiaf ddwywaith y flwyddyn, ond byddai'n well gennyf pe baent yn ei wneud bob tymor, yn cyhoeddi dadansoddiad o'r niwed y mae Brexit yn ei wneud i economi Cymru, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r niwed hwnnw? Oherwydd mae angen inni ddeall dimensiwn y problemau yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd os ydym am fynegi ffyrdd o fynd i'r afael â hwy.

Nid wyf yn credu y gallwn gytuno â'r ffordd y mae'r pwynt wedi'i eirio, oherwydd mae'n dod ato o safbwynt penodol. Ond rwy'n credu bod y pwynt am ba mor rheolaidd yr ydym yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr a'r cyhoedd yn ehangach am realiti ein sefyllfa fasnachu newydd yn un teg. Dyna pam y cyfeiriais, wrth ymateb i Rhys ab Owen ar y dechrau, at asesiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ei hun—felly, nid corff Llywodraeth Cymru, ond corff a grëwyd gan Lywodraeth y DU. Yn ôl eu hasesiad hwy, mae'r ffaith ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau y gwnaethom adael wedi crebachu economi'r DU, gyda mwy i ddod. Ac yn ogystal â chyflwyno hynny, rwy'n credu y byddem hefyd eisiau ceisio egluro'r hyn yr ydym yn ei wneud i geisio cefnogi'r economi yn hynny o beth. Byddaf yn hapus i roi rhywfaint o ystyriaeth i'r ffordd y gwnawn hynny, oherwydd mae'n codi'n gymharol reolaidd mewn amrywiaeth o wahanol ffurfiau: y datganiadau y bu'n rhaid i mi eu rhoi ar ffiniau, y gwaith y mae'n rhaid i ni ei wneud ar hynny; mae mwy am yr heriau a'r trefniadau ariannu newydd, a pha mor debygol yw hi y byddwn yn gallu bod yn gysylltiedig â Horizon hefyd, rhywbeth a fydd yn cael effaith sylweddol. Felly, byddaf yn ystyried sut y gallwn wneud hynny'n ddefnyddiol, ac mae'n ddigon posibl y bydd hynny o gymorth nid yn unig i'r Siambr ond i Aelodau yn eu pwyllgorau craffu perthnasol hefyd.

Blaenoriaethau Economaidd ar gyfer Preseli Sir Benfro

6. Beth yw blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro am y 12 mis nesaf? OQ58334

Diolch. Ein blaenoriaethau o hyd yw cefnogi busnesau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes drwy wasanaethau Busnes Cymru a'r tîm rhanbarthol. Rydym wedi darparu cymorth helaeth drwy'r pandemig a'r byd masnachu yn dilyn Brexit. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu economi wyrddach, fwy cyfartal a ffyniannus i bob rhan o Gymru.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol, a rhanddeiliaid yn wir, i nodi diffygion o ran sgiliau a chapasiti mewn ardaloedd lleol er mwyn bodloni gofynion newidiol y farchnad. Efallai eich bod yn ymwybodol fod EDF Renewables UK, DP Energy a Choleg Sir Benfro wedi cydweithio i ddarparu cwrs o'r enw Destination Renewables, sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer swyddi yn y sector ynni adnewyddadwy yn y dyfodol. Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r math hwn o gydweithio yn sir Benfro, fel y gall helpu i adeiladu gweithlu sy'n diwallu anghenion sgiliau'r dyfodol? A pha fuddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn sectorau fel ynni adnewyddadwy, er mwyn inni allu dechrau datblygu arbenigedd Cymru yn y sector penodol hwn?

Wel, mae'r enghraifft a roesoch yn enghraifft o'r hyn y mae angen inni weld mwy ohono, gyda diwydiant yn cydweithio â'r sefydliadau a ariannwn—y coleg, er enghraifft, y cyllid y bydd yn ei gael drwy Lywodraeth Cymru—ond mae hefyd, rwy'n credu, yn tynnu sylw at y pwynt fod angen mwy o eglurder a sicrwydd i fuddsoddwyr allu gwneud y dewisiadau hynny. Pan wyf wedi bod yn sir Benfro yn ddiweddar, yn siarad ag un o'r busnesau sydd â diddordeb sylweddol yn ein dyfodol ynni adnewyddadwy, maent wedi gwneud y pwynt hwn. Mae'n codi'n rheolaidd yn y sgyrsiau a gawn. Cyfarfûm ag Ystad y Goron, ynghyd â Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ac unwaith eto yn gwneud y pwynt y byddai mwy o sicrwydd a rhaglen flaengar yn caniatáu mwy o hyder i fuddsoddwyr wneud buddsoddiadau mwy hirdymor a fydd o fudd i seilwaith yn ein porthladdoedd a'r swyddi a ddaw yn sgil hynny ar yr ochr weithgynhyrchu hefyd. Fe'i gwelwch o safbwynt y sgiliau y credwn y byddwn eu hangen a sut y byddwn yn gallu helpu pobl i wneud mwy o hynny pan ddown at y cynllun sgiliau sero net y disgwyliwn ei gyhoeddi yr hydref hwn. Credaf eich bod wedi gofyn cwestiynau imi am hynny yn y gorffennol. Felly, mae'r pethau hyn i gyd wedi'u cysylltu. Os gwnawn ni hyn yn iawn, bydd elw economaidd sylweddol i'w wneud i Gymru mewn gwirionedd, nid dim ond y budd ehangach o gael pŵer glanach a gwyrddach. Edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod a'r Siambr am y gwaith hwnnw.

14:15
Economi Caergybi

8. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o bwysigrwydd ailsefydlu marina yng Nghaergybi i economi'r dref? OQ58343

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn bartner hirsefydlog, ochr yn ochr â chyngor sir Ynys Môn, awdurdod y porthladd a phartneriaid eraill, mewn cynlluniau i geisio dyfodol economaidd cynaliadwy i Gaergybi. Gyda'n gilydd, fe wnaethom gomisiynu astudiaeth eang ei chwmpas i fanteision economaidd posibl Porth Caergybi, yn ogystal â dyfarnu cyllid yn dilyn storm 2018.

Mae mwy na phedair blynedd wedi bod bellach ers i storm Emma ddinistrio'r marina yng Nghaergybi. Aeth perchnogion y marina ati i lunio cynllun i ailadeiladu ar unwaith, ac er ei bod yn anochel y byddai hynny'n cymryd peth amser, mae'r cynlluniau'n cael eu rhwystro gan y ffaith bod datblygiad arall wedi'i fwriadu ers tro byd ar gyfer y glannau yng Nghaergybi sydd hefyd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer marina. Credaf y dylai'r datblygwr hwnnw, Conygar, os yw am ddangos bod ganddo ddiddordeb mewn gwneud yr hyn sy'n iawn i Gaergybi, fod yn gwneud popeth yn ei allu i hwyluso'r gwaith o ailsefydlu marina cyn gynted â phosibl—pwy bynnag sy'n gwneud hynny. A gaf fi apelio ar y Llywodraeth i fod yn glir yn ei chefnogaeth i'r marina, yn arbennig? A gaf fi ofyn i'r Gweinidog ystyried pa gymorth ymarferol ac ariannol y gall ei roi? Ac yng ngoleuni'r rhwystredigaeth honno ar hyn o bryd, a yw Llywodraeth Cymru yn barod i chwarae rhan a dod â'r gwahanol bartïon at ei gilydd, a gweithio gyda rhanddeiliaid lleol, gan fy nghynnwys i, yr awdurdod lleol ac yn y blaen, i ddod o hyd i ateb cyn gynted â phosibl?

Credaf mai'r ateb bras i'r cwestiwn yw 'ydy'. Mae'r Llywodraeth eisiau gallu chwarae rhan. Yn aml, os yw Llywodraeth Cymru yn cynnull sgyrsiau, mae'n golygu bod pawb yn dod at y bwrdd, a gall hynny fod o gymorth. Rydym eisiau sicrhau bod rhanddeiliaid mor gydgysylltiedig â phosibl mewn perthynas â'r cyfleoedd sy'n bodoli. Os yw'r Aelod eisiau ysgrifennu ataf, byddai hynny'n ddefnyddiol. Byddaf yn cyfarfod ag arweinydd y cyngor dros yr haf a bydd yn ddefnyddiol cael cynnig i'w drafod gyda'n tîm yng ngogledd Cymru a sut y gallai hwnnw ffitio i'r cynllun rhanbarthol ehangach. Yn fy marn i, mae hyn ar gyfer mwy na'r ynys ei hun yn unig—ceir effaith bosibl ar sail ehangach hefyd.

Banc Cymunedol i Gymru

9. Pa fanteision a ddaw i ganolbarth a gorllewin Cymru yn sgil sefydlu banc cymunedol i Gymru? OQ58353

Diolch. Y weledigaeth ar gyfer y banc cymunedol, sydd bellach yn cael ei ddatblygu gan ein partneriaid, Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, yw y bydd yn fanc gwasanaeth llawn sydd â'i bencadlys yng Nghymru ac y bydd yn darparu cynnyrch a gwasanaethau bancio dwyieithog drwy amrywiaeth o sianeli, gan gynnwys dros y ffôn, yn ddigidol ac mewn safleoedd ffisegol. 

Diolch yn fawr iawn am yr ateb. Fis diwethaf, fe gyhoeddodd banc Barclays ei fod yn cau canghennau ar draws y rhanbarth, gan gynnwys y Trallwng, y Drenewydd a Llambed. Mae hwn wedi dod yn batrwm cyffredin iawn, wrth gwrs, dros y blynyddoedd diwethaf. Yn wir, dros y naw mlynedd ddiwethaf, mae rhyw 40 y cant yn llai o ganghennau yn y rhanbarth dwi’n ei chynrychioli nag yr oedd dros naw mlynedd yn ôl. Ac mae effaith hyn, wrth gwrs, yn fawr iawn ar ein cymunedau gwledig, gan gynnwys yr henoed, busnesau a mudiadau bach ac amaethwyr yn yr ardal. Mae’r sefyllfa mor argyfyngus erbyn hyn, mae sawl tref farchnad yn y rhanbarth, yn eu plith Llanidloes, Tregaron a Llanymddyfri, bellach wedi ennill y statws o drefi heb fanc—no-bank towns. Mae bancio ar-lein, wrth gwrs, yn anodd gan fod diffyg band llydan dibynadwy. Rŷch chi wedi nodi'r bwriad i sefydlu banc cymunedol i Gymru; allaf i ofyn i chi: ydy cymunedau gwledig Cymru yn mynd i gael chwarae teg yn y cynlluniau newydd hyn?

Mae'r weledigaeth ar gyfer y banc cymunedol yn un sydd wedi cael cefnogaeth o bob ochr i'r Siambr, ac mae hynny ynddo'i hun yn gymharol anarferol. Yn ogystal â chael y weledigaeth serch hynny, mae'r her, rwy'n credu, yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gallu darparu gwasanaethau bancio go iawn y bydd pobl eu heisiau ac yn eu defnyddio, a hefyd ein bod yn gallu cael rhaglen o agor y canghennau ffisegol sy'n cyfateb i'r gallu gwirioneddol. Credaf fod perygl y bydd pob Aelod yn dweud, 'Hoffwn gael cangen banc cymunedol yn fy etholaeth i neu fy rhanbarth i'. Rwy'n sicr wedi cael sylwadau ar fy ochr fy hun gan amrywiaeth o bobl, gan Jack Sargeant, Joyce Watson ac amrywiaeth o rai eraill. Rydym eisiau i'r banc fod yn llwyddiannus, ac rydym eisiau gweld y gwasanaethau hynny'n cynyddu. Y rheswm pam ein bod wedi cyrraedd y cam hwn yw oherwydd yr union bwynt a fynegwyd gan yr Aelod: mae banciau traddodiadol wedi bod yn symud i ffwrdd o amryw o gymunedau, mewn trefi a dinasoedd yn ogystal ag mewn rhannau gwledig o Gymru. Dyma ein hymdrech i sicrhau bod gennym gynnyrch bancio hyfyw a fydd yn ceisio llenwi rhywfaint o'r bwlch hwnnw. Rwy'n edrych ymlaen at ddarparu diweddariad pellach, ynghyd â Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, ar sut y mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo'n ymarferol. Ond rwy'n ystyried y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud.

14:20
Polisi Masnach

10. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio i sicrhau bod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang yn cael ei ymgorffori yn ei pholisi masnach? OQ58361

Yn hytrach nag ystyried polisi masnach mewn termau economaidd yn unig, mae ein dull o weithredu yn dibynnu ar ddefnyddio lens llesiant cenedlaethau'r dyfodol i ystyried yr effaith lawn y gallai polisi masnach ei chael ar Gymru. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod ein dull o weithredu'n cyd-fynd â'n nod llesiant cenedlaethol o fod yn genedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Diolch am hynny, Weinidog. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyfrifoldeb byd-eang yn gam i'w groesawu, yn enwedig o ran bioamrywiaeth, newid hinsawdd, datblygu economaidd cynaliadwy a hawliau cyflogaeth o ran polisi masnach. Fodd bynnag, mae masnach fyd-eang yn cael effeithiau eraill, llai diriaethol ar fywydau pobl ledled y byd. Mae'r cytundebau masnach rhyngwladol hyn yn effeithio ar ddiwylliannau, traddodiadau, hunaniaeth ac ieithoedd ym mhob gwlad sydd ynghlwm wrthynt, yn aml mewn ffyrdd negyddol neu ymelwol. Mae'n rhaid i'n cydwybod ymestyn cyn belled â therfynau'r cadwyni cyflenwi hynny, neu fel arall ni fydd yr ymrwymiad i gyfrifoldeb byd-eang yn cael ei gyflawni'n llawn. Felly, Weinidog, sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei pholisi masnach yn gyfrifol ar lefel fyd-eang o ran yr effaith ar ddiwylliant, ieithoedd a ffyrdd o fyw i ddinasyddion mewn gwledydd eraill?

Rydym yn ceisio mynd ati mewn modd cyflawn o ran ein ffordd o hyrwyddo a chefnogi busnesau Cymru fel allforwyr, ac fel mewnforwyr hefyd. Mae'n rhan o'r rheswm pam ein bod wedi bod yn pryderu am effaith rhai o'r cytundebau masnach y cytunwyd arnynt eisoes, er enghraifft eu heffaith ar yr economi wledig yma. Fe fyddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud mai un o'r heriau fyddai mewnlifiad posibl o nwyddau eraill, a allai olygu nad yw Cymru wledig bellach yn rhan o'r hyn y deallwn y gallai ac y dylai fod.

O ran ein heffaith ar fasnach mewn rhannau eraill o'r byd, unwaith eto rydym yn ceisio ystyried hynny yn y mathau o gytundebau masnach a wnawn a'r hyn a wnawn gyda'n cymorth fel Llywodraeth. Fe fyddwch yn cofio, er enghraifft, y byddai'n well gan rai rhannau o'r diwydiant petrocemegol pe byddem yn parhau i fynd i rai o'r digwyddiadau rhyngwladol; rydym wedi dewis peidio â gwneud hynny, oherwydd ein bod yn newid i roi llawer mwy o'n cefnogaeth i weithgynhyrchu uwch a pheirianneg ac yn wir, i fod eisiau sicrhau mwy o gyfleoedd yn y sector ynni adnewyddadwy, yma yng Nghymru a thu hwnt. Felly, yn hytrach na'r pwynt cyffredinol, credaf y gallai fod yn fwy defnyddiol meddwl am rai o'r cwestiynau unigol hynny mewn perthynas â phwy y gwnawn fusnes â hwy fel gwledydd a chenhedloedd, ond hefyd y mathau o gwmnïau y bwriadwn eu cefnogi i sicrhau eu bod yn gallu tyfu'r economi yma ac mewn rhannau eraill o'r byd.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Y cwestiynau nesaf fydd i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sam Rowlands.

Y Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Sylwaf fod y Gweinidog yn cyrraedd ei lle yno.

1. Sut mae'r Gweinidog yn ystyried llais cleifion er mwyn llywio penderfyniadau ar flaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru? OQ58358

Diolch yn fawr. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n penderfynu ar flaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru. Maent yn ystyried anghenion eu poblogaeth leol, ac mae hynny'n seiliedig ar waith y byrddau partneriaeth rhanbarthol, sy'n cynnwys paneli dinasyddion. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr o bob cyngor iechyd cymuned yng Nghymru, gan gynnwys Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru.

Diolch am eich ymateb, Weinidog, a hefyd am amlinellu eich ymwneud â chleifion drwy'r cynghorau iechyd cymuned, fel y sonioch chi, a pha mor bwysig yw eu llais. Lle hollbwysig i'r llais hwn yn y dyfodol, wrth gwrs, yw'r bwrdd llais y dinesydd sydd newydd ei benodi, ac fel y gwyddoch, mae gan y bwrdd hwn gyfle i sefyll dros bobl gogledd Cymru—Cymru gyfan, ond gogledd Cymru yn enwedig—o ystyried nifer y problemau y mae cleifion ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, Weinidog, dim ond un o'r aelodau bwrdd sydd newydd eu penodi sy'n byw yn y gogledd, ac mewn gwirionedd, nid yw'r aelod dan sylw'n dod o'r ardal, drwy fod wedi gweithio a byw mewn mannau eraill am y mwyafrif helaeth o'u hamser. Deallaf hefyd, Weinidog, fod chwech o aelodau'r bwrdd wedi mynd i'r un brifysgol, lle roedd cadeirydd presennol y bwrdd yn is-ganghellor. Efallai y gallwch ddeall pam fod rhai o fy nhrigolion yn pryderu nad oes cynrychiolaeth briodol efallai, cynrychiolaeth eang ledled Cymru, ac yn enwedig yn y gogledd. Felly, Weinidog, a ydych yn credu, os ydym am gael cynrychiolaeth go iawn ac os ydym am fanteisio i'r eithaf ar botensial y bwrdd newydd hwn, a bod o ddifrif ynglŷn â llais cleifion yn y pen draw, fod angen iddo gael ei wreiddio yng ngogledd Cymru gyda chynrychiolaeth gref o'r gogledd sy'n byw, yn gweithio ac yn deall gogledd Cymru yn ei holl amrywiaeth? Diolch yn fawr iawn.

14:25

Diolch yn fawr. Gadewch inni fod yn glir nad yw'r bwrdd i fod yn gynrychiolaeth ddaearyddol. Pe byddem yn dechrau hynny, byddai'n anodd iawn cael cynrychiolaeth o Gymru gyfan. [Torri ar draws.] Rwyf am barhau. Cefais y pleser o siarad â Dr Rajan Madhok. Mae'n rhywun a ymddeolodd i Gymru bedair blynedd yn ôl. Mae wedi cael gyrfa hynod o ddisglair. Bu'n feddyg iechyd y cyhoedd, bu'n gyfarwyddwr ymddiriedolaeth gofal sylfaenol, bu'n gadeirydd Cymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd, mae wedi bod ar y Cyngor Meddygol Cyffredinol, ac mae wedi cael profiad o weithio ar Ynysoedd Shetland. Nid oeddwn yn gwybod bod yna gyfnod cymhwyso i fod yn Gymro. A yw hynny'n rhywbeth y mae'r Torïaid yn ei argymell bellach? Gadewch i ni fod yn gwbl glir y bydd y dyn hwn yn gynrychiolydd anhygoel. A wyddoch chi beth arall? Siaradais ag ef yn Gymraeg.

Gwasanaethau Deintyddol y GIG yn Arfon

2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am sefyllfa gwasanaethau deintyddol a ddarperir drwy’r GIG yn Arfon? OQ58352

Wrth i academi ddeintyddol gogledd Cymru gael ei sefydlu yn yr hydref eleni, a gan fod 96 y cant o gyllid deintyddiaeth yr NHS ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn mynd i bractisau sy’n rhan o'r broses diwygio’r contract, dwi’n disgwyl gweld gwelliannau sylweddol o ran mynediad i gleifion yn y gogledd yn y dyfodol agos.

Dwi'n falch iawn o glywed hynny, oherwydd mae nifer fawr o etholwyr Arfon yn cysylltu â mi am y diffyg darpariaeth. Mae yna nifer cynyddol yn methu â chofrestru efo deintydd NHS, yn cynnwys plant, a does yna ddim lle efo deintyddion yn unman yn y gogledd. Mae'r gwasanaeth brys dan straen hefyd, efo un claf yn honni iddo geisio cysylltu â'r rhif arbennig dros 200 o weithiau mewn diwrnod, ac eraill yn honni eu bod nhw wedi gorfod aros ar y ffôn am dair awr cyn cael ateb gan y gwasanaeth brys. Mi fedrwn i fynd ymlaen ac ymlaen yn rhestru mwy a mwy o'r problemau sy'n cael eu hadrodd imi. Dwi yn falch fod yna rywfaint o oleuni ar gyfer y cleifion yma rŵan. Fedrwch chi roi amserlen ynglŷn â datblygiad yr academi ym Mangor, a phryd ydych chi'n meddwl y gwelwn ni newid sylweddol yn y sefyllfa yn fy etholaeth i? 

Diolch yn fawr. Mae'r sefyllfa yn un anodd o ran deintyddiaeth ar draws Cymru. Wrth gwrs, rŷn ni dal mewn sefyllfa lle mae COVID wedi effeithio ar y gwasanaeth. Roeddem ni i lawr at 50 y cant tan yn ddiweddar iawn, ac rydym ni nawr nôl at tua 80 y cant. Wrth gwrs, mae lot o bobl nawr eisiau gweld deintydd ar ôl aros cyhyd.

O ran yr academi newydd, rwy'n falch iawn y bydd adcademi newydd yn agor ym Mangor yn hydref eleni, ac unwaith y bydd hi wedi ei sefydlu'n llawn, fe fyddwn ni'n disgwyl gweld access i 12,000 i 15,000 o bobl, a bydd honno ar agor chwech diwrnod yr wythnos. Felly, fe fydd hwnna'n gwneud newid sylweddol, gobeithio.

Ond am y tymor byr, mae'r bwrdd iechyd wedi creu mwy o access i bobl sydd yn ffeindio'u hunain mewn sefyllfa urgent, ac maen nhw wedi creu access i'r rheini sy'n ffeindio eu hunain heb ddeintydd os oes yna emergency.

Wrth gwrs, nid yw hyn yn newydd. Cyn y pandemig, roedd etholwyr yn cysylltu â mi ynglŷn â diffyg deintyddion y GIG yn Arfon. Fel y nododd un ohonynt yn 2019,

'Mae fy merch a minnau wedi bod heb ddeintydd ers ymhell dros flwyddyn erbyn hyn. A oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i ddatrys problem diffyg deintyddion y GIG ym Mangor a thu hwnt?'

Ysgrifennais atoch fis Awst diwethaf ar ran etholwr a ddywedodd,

'Rwy'n ysgrifennu i dynnu eich sylw at y prinder eithafol o ddarpariaeth ddeintyddol y GIG yng ngogledd-orllewin Cymru. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn aelod o bedwar practis deintyddol gwahanol, i gyd o amgylch fy nghartref neu yn ninas Bangor. Mae'r pedwar naill ai wedi cau neu wedi rhoi'r gorau i drin cleifion y GIG.'

Yn eich ateb, fe ddywedoch chi

'Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwneud llawer o gynnydd gyda'u cynlluniau i sefydlu academi ddeintyddol newydd ar gyfer gogledd Cymru ym Mangor, a bydd honno'n rhoi cyfle i'r bwrdd iechyd gynyddu'r ddarpariaeth ddeintyddol yn sylweddol, gan wella mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG',

fel y nodoch chi yn eich ateb cychwynnol, a'ch bod yn gwneud cynnydd da gydag adfer gwasanaethau deintyddol. Ond hanner blwyddyn yn ddiweddarach, tynnodd arweinydd yr wrthblaid sylw'r Prif Weinidog at achos athro ym Mangor a oedd yn ei chael hi'n amhosibl dod o hyd i ddeintydd GIG newydd—

14:30

—pan roddodd ei ddeintydd presennol y gorau i gynnal triniaethau GIG a bod rhestr aros o ddwy flynedd o leiaf. Mae pobl mewn poen yn awr. Mae'n wych fod cymorth yn dod yn y pen draw, ond beth a wnewch yn ei gylch i'r bobl sydd ei angen yn awr?

Diolch yn fawr. Rwy'n treulio llawer o amser ar hyn, mae'n rhaid i mi ddweud wrthych. Mae gennym brif swyddog deintyddol newydd, a chredaf ei fod o ddifrif yn ceisio deall y sefyllfa, ac mae'n deall difrifoldeb y sefyllfa. Nid yw'n sefyllfa sy'n unigryw i Gymru, mae'n fater sy'n her ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Rydym ymhellach ymlaen nag y maent yn Lloegr gyda'r contract newydd a gobeithiwn y bydd hynny'n darparu 112,000 o gyfleoedd newydd ar gyfer mynediad i gleifion, a chredaf y bydd hynny'n arwyddocaol. Yn y gogledd, o ran y contract, mae 96 y cant o'r practisau wedi ymrwymo i'r contract newydd hwnnw. Felly, bydd newid yn y ffordd y mae deintyddion yn ymdrin â'r mater hwn, ond rydym yn gobeithio y bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth. Ac wrth gwrs, rydym yn canolbwyntio yn awr hefyd ar hyfforddi mwy o therapyddion deintyddol a dyna yw hanfod academi Bangor.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, fel chithau, roeddwn yn gwrando ar y drafodaeth rhwng arweinydd yr wrthblaid a'r Prif Weinidog ddoe ynglŷn ag amseroedd aros ac mae hynny'n drywydd yr wyf am ei barhau heddiw. A wnewch chi gadarnhau bod nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth GIG yng Nghymru wedi cynyddu bron 900 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod nifer y bobl sy'n aros am ddwy flynedd wedi gostwng yn y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ychydig wythnosau'n ôl. Bu gostyngiad o 3.4 y cant. Felly, credaf fod hynny'n dangos ein bod, mewn gwirionedd, yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Yn amlwg, bydd gennym fwy o ffigurau'n dod allan yr wythnos nesaf, a fydd yn dangos i ni a yw'r newid hwnnw wedi parhau. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni ystyried y ffaith nad yw COVID ar ben, ac mae'r ffaith bod gennym bron i 2,000 o bobl yn dal i fod yn sâl oherwydd COVID neu broblemau'n ymwneud â COVID yn golygu bod yr her yn dal yno. Ac felly, wrth gwrs, mae'n rhaid inni gynllunio. Wrth gwrs, os byddwch yn parhau i gael y tonnau hyn, yr anhawster yw y byddwn yn cael ein bwrw'n ôl. Ond fe'm calonogwyd yn fawr gan y ffaith ein bod, am y tro cyntaf, wedi gweld y ffigurau hynny'n gostwng yn ystod y mis diwethaf.

Diolch am yr ateb, Weinidog, ac er ei fod yn newyddion da wrth gwrs fod yr amser aros wedi gostwng dros gyfnod o un mis, mae'r taflwybr parhaus hirdymor yn mynd i'r cyfeiriad anghywir wrth gwrs. Felly, os edrychwn yn ôl ar 12 mis yn ôl, y ffigur oedd 7,600 ac erbyn hyn mae'n 68,000. Felly, dyna'r ffigurau dros y 12 mis diwethaf. Ac mae'r niferoedd, yn anffodus, wedi saethu i fyny yn y cyfnod hwnnw. Er gwaethaf yr hyn a ddywedwch, mae'r niferoedd wedi saethu i fyny. Ac wrth gwrs, rwy'n cytuno â chi: mae mater COVID a'r pandemig—mae hynny wedi effeithio ar wasanaethau'r GIG ledled y DU ac ar draws y byd. Ond mae'r hyn a welsom yma yn sefyllfa lawer gwaeth, a byddwn yn dweud bod hynny o ganlyniad i gamreoli gan y Llywodraeth a dyna pam ein bod yn gweld tangyflawni enfawr yma yng Nghymru. Oherwydd mae nifer o bobl yng Nghymru, gyda llawer ohonynt, yn anffodus, yn aros mewn poen ar restr aros sydd bum gwaith—bum gwaith—yn uwch na Lloegr gyfan, a hynny gan ystyried y boblogaeth lawer mwy o faint yn Lloegr—. Rydym wedi gweld pum gwaith y ffigur o bobl yn aros ar ein rhestr aros yma na sydd ar y rhestr aros yn Lloegr. Ar ben hynny, mae'r amser aros cyfartalog yma ddeng wythnos yn hwy nag yn Lloegr. Ac mae un o bob pedwar claf yng Nghymru yn aros dros flwyddyn am driniaeth; mae hynny, yn Lloegr, yn un o bob 20. Nawr, rwy'n derbyn, Weinidog—

14:35

Rwy'n derbyn eich ymrwymiad personol, Weinidog, ac rwy'n sylweddoli mai dim ond ers 12 mis yr ydych wedi bod yn eich swydd, ac rwy'n derbyn eich bod wedi cael lwc ddrwg. Ond a gaf fi ofyn i chi am eich asesiad chi o pam y mae Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa hon sy'n llawer gwaeth na'r sefyllfa mewn unrhyw ran arall o'r DU? A rhaid i chi gydnabod methiannau er mwyn deall lle mae angen gwneud gwelliannau.

Diolch yn fawr. Wel, bydd Russell yn ymwybodol fod y ffigurau wedi codi ym mhobman yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; nid yw hon yn sefyllfa unigryw—maent wedi saethu i fyny ym mhobman. Ac wrth gwrs, rydym i gyd yn cael ein herio yn awr, o ran lleihau'r rhestrau hynny, a dyna pam y gwnaethom gyhoeddi ein cynnig ar gyfer gofal wedi'i gynllunio yn ôl ym mis Ebrill, lle mae'r targedau wedi'u nodi'n glir iawn. Gallaf ddweud wrthych fy mod yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda chadeiryddion y byrddau iechyd, er mwyn tanlinellu pwysigrwydd cyrraedd y targedau hynny. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y ffordd yr ydym yn cyfrif ein rhestrau yn wahanol iawn i'r ffordd y maent yn cyfrif yn Lloegr. Felly, rydym yn cynnwys nifer y bobl sy'n aros am driniaeth ddiagnostig a therapïau—mae hynny'n nifer sylweddol o bobl. Felly, rydych yn cymharu dau beth gwahanol yma, ac mae'n bwysig fod pobl yn deall hynny. Rydym hefyd yn cynnwys apwyntiadau dilynol ar ôl profion diagnostig. Ac os byddwch yn trosglwyddo rhwng un meddyg ymgynghorol a'r llall, rydym yn dechrau llwybr newydd, felly mae hynny'n cael ei gyfrif eto. Felly, weithiau nid ydym yn helpu ein hunain, os wyf yn onest. Felly, mae hynny'n anodd, ac rwy'n amlwg wedi gofyn a gawn ni edrych ar y ffordd yr awn ati i gyfrif, ond mae newid y ffordd yr awn ati i gyfrif yn fater enfawr. Ac i fod yn gwbl onest, rwy'n credu ein bod yn fwy tryloyw gyda'r cyhoedd am realiti'r sefyllfa, yn wahanol i'ch Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr mae arnaf ofn.

Wel, na, y gwir amdani yw bod gennym 68,000 o bobl yng Nghymru yn aros dros ddwy flynedd, ac yn Lloegr mae'n 12,700. Dyna y mae'r ffigurau'n ei ddweud. Nawr, rwy'n derbyn—

—yr hyn yr ydych newydd ei ddweud. Rwy'n derbyn hyn yr ydych newydd ei ddweud, a'ch parodrwydd i edrych ar y ffordd yr ydych yn mesur y ffigurau hynny, oherwydd efallai mai dyma'r gwaith cywir i'r Llywodraeth ei wneud, sef gwneud y gymhariaeth honno. Oherwydd beth fyddai'r ffigurau hynny wedyn yn gallu ei ddweud wrthym? Byddent yn gallu dweud wrthym ein bod yn dal yn yr un sefyllfa—fod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa lawer gwaeth. Nawr, yr hyn a fyddai'n helpu'r ôl-groniad, wrth gwrs, a lleihau'r ôl-groniad, fyddai cyflwyno canolfannau llawfeddygol rhanbarthol, y gwnaethom alw amdanynt yn ôl yn haf 2020. Rwyf wedi siarad â nifer o gyrff iechyd a gweithwyr proffesiynol yr wythnos hon, a oedd yn dweud wrthym nad ydym wedi'u cael yng Nghymru o hyd, rydym yn dal i aros amdanynt, a dyna'r ffordd allan, yn rhannol, o'r sefyllfa yr ydym ynddi. A gwn eich bod wedi gwneud addewidion y byddant yn cael eu cyflwyno, Weinidog, ond rydym eto i'w gweld yn cael eu darparu. A hyd nes yr eir i'r afael â hyn, nid ydym yn mynd i osgoi'r rhestrau aros sydd gennym ar hyn o bryd. Dechreuodd Llywodraeth y DU baratoi ar gyfer y cyfnod ar ôl y pandemig yn llawer cynharach. Mewn gwirionedd, dywedodd eich rhagflaenydd y byddai'n ffôl gwneud yr un peth yma. Felly, a ydych yn gresynu at eiriau eich rhagflaenydd, pan ddywedodd—ac mae'n dangos ymagwedd hunanfodlon yn fy marn i—y byddai'n ffôl dechrau'r gofal wedi'i gynllunio ar gyfer y cyfnod ar ôl y pandemig cyn i'r pandemig ddod i ben? Ac onid ydych yn derbyn hefyd, er mwyn gwneud cynnydd, fod yn rhaid inni weld canolfannau llawfeddygol rhanbarthol yn cael eu cyflwyno'n gyflymach o lawer, a bod hynny'n rhan o'r ffordd allan o'r broblem yr ydym ynddi? Ac a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am ganolfannau llawfeddygol rhanbarthol?

Wel, fel y gwyddoch, rwy'n awyddus iawn i weld canolfannau llawfeddygol rhanbarthol yn cael eu datblygu. Rwyf wedi fy nghyfyngu gan faint o arian cyfalaf a roddwyd inni gan Lywodraeth y DU—dyna sy'n clymu fy nwylo ar hyn o bryd. A gadewch imi ddweud wrthych ein bod eisoes yn cychwyn y rhain; byddwch wedi gweld ddoe ein bod yn canoli ac yn cael un o'r canolfannau llawfeddygol hyn, ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd, yn ne Cymru. Felly, mae eisoes yn digwydd. Ceir llawer o enghreifftiau eisoes o hyn yn digwydd mewn meysydd orthopedig ac mewn llawdriniaethau cataract llygaid. Rydych wedi gweld beth sydd wedi digwydd yng Nghaerdydd; mae canolfan ranbarthol arall yn Abertawe. Felly, mae'r rhain eisoes yn bodoli. Nawr, faint yn rhagor y gallwn ei wneud? Yn amlwg, mae gennym ddiddordeb mawr mewn gweld faint yn fwy, ond cawn ein cyfyngu a'n rhwystro ar hyn o bryd gan ein cyfalaf. Ond gadewch imi ddweud wrthych ein bod wedi cael trafodaeth gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon yn ddiweddar, a'r hyn yr oeddent yn awyddus inni ei wneud, a'r hyn y bûm yn pwyso ar y byrddau iechyd i'w wneud, yw sicrhau ein bod yn defnyddio'r capasiti presennol yn fwy effeithlon, a chredaf fod gennym rywfaint o gynnydd i'w wneud ar hynny o hyd. 

14:40

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi am ganolbwyntio ar COVID hir. Mae'r ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu y gallai fod rhyw 60,000 o bobl yng Nghymru yn byw efo COVID hir, ac mae'r don dŷn ni ynddi rŵan, wrth gwrs, yn gwneud imi bryderu bod y niferoedd yn mynd i fod yn cynyddu. Mae llawer o'r rhai sydd yn dioddef yn bobl wnaeth gael y feirws tra'n gweithio yn y gwasanaethau iechyd a gofal. Rŵan, ers dechrau'r mis yma, dydy'r rheini wnaeth fynd yn sâl yn gynnar yn y pandemig ddim yn cael eu talu yn llawn bellach, tra eu bod nhw mewn swyddi iechyd tebyg yn Lloegr a'r Alban. Ydy'r Gweinidog yn cytuno y dylai byrddau iechyd ddefnyddio'r disgresiwn dwi'n deall sydd ganddyn nhw i barhau i dalu cyflog yn llawn tan eu bod nhw wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i ddod â'r gweithwyr yma sydd eisiau gwasanaethu o fewn y gwasanaethau iechyd yn ôl i swyddi lle maen nhw'n gallu gwneud hynny?

Diolch yn fawr, ac mae'n wir, mae yna lot fawr o bobl yn dioddef o COVID hir. Roeddwn i'n siarad gyda mam ddoe a oedd yn sôn wrtha i am ei mab hi sy'n dioddef o COVID hir, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod hon yn sefyllfa sy'n anodd iawn i'r rheini, yn arbennig y rheini sydd wedi ein gwasanaethu ni i gyd yn ystod y pandemig. A dyna pam rŷn ni wedi bod yn eithaf gofalus yn yr ardal yma wrth wneud yn siŵr ein bod ni wedi siarad gydag undebau cyn ein bod ni wedi symud ymlaen, a bod pob un yn deall bod yna eithriadau sydd yn bosibl, a bod y byrddau iechyd yn cael defnyddio eu disgresiwn nhw, ac mi fyddwn i'n awgrymu eu bod nhw'n cymryd y cyfle yna. 

Dwi'n falch iawn o glywed hynny, a dwi'n gobeithio y bydd Aelodau yma, wrth gynrychioli eu hetholwyr nhw, yn atgoffa eu byrddau iechyd yn eu rhanbarthau a'u hetholaethau nhw fod y disgresiwn yna ganddyn nhw.

Dwi'n falch o glywed y Gweinidog yn sôn am COVID hir, ac fel mae o'n effeithio plant yn arbennig. Dwi yn bryderus bod yna ddiffyg cefnogaeth i blant a phobl ifanc efo COVID hir. Rydw innau wedi siarad efo nifer o rieni—un yn dweud eu bod nhw wedi gorfod aros pum mis am referral, ac wedi gorfod mynd yn breifat at paediatrician yn y pen draw, a thalu cannoedd y mis am chiropractor er mwyn rhoi rhyw fath o gysur i'w mab hi. Mae mudiad Long Covid Kids yn dweud ei bod hi dal yn anodd cael gweithwyr iechyd proffesiynol, meddygon ac ati, i dderbyn bod rhywbeth sydd o'u blaenau nhw yn COVID hir. 

A all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa ymchwil mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w gomisiynu a buddsoddi ynddo fo, i mewn i COVID hir, ac fel mae o'n effeithio plant a phobl ifanc yn arbennig, a beth all gael ei wneud i sicrhau bod y gefnogaeth yno ar gyfer plant a phobl ifanc, achos maen nhw'n mynd i gael eu gadael ar ôl oherwydd yr amser mae hwn yn digwydd o fewn eu bywydau nhw?

Rŷch chi'n eithaf reit, a dwi'n meddwl bod rhaid inni fod yn wyliadwrus iawn. Mae'r effaith ar blant yn rhywbeth sydd yn mynd i effeithio arnyn nhw am amser hir os nad ydyn ni'n delio gydag e'n gynnar. Mi fyddwn ni'n cael update ar adferiad cyn bo hir, a dwi wedi gofyn i wneud yn siŵr ein bod ni'n ystyried plant wrth inni edrych ar y rhaglen. Ac rydych chi'n ymwybodol, wrth inni ddatblygu'r cynllun yna, fod hwn yn rhywbeth roeddwn i eisiau gweld yn newid wrth ein bod ni'n dysgu mwy am y feirws ac am y ffordd mae pobl yn dioddef. 

Felly, mae'r ffaith ein bod ni o hyd, pob chwe mis, â chyfle i ailedrych ar beth sy'n digwydd dwi'n meddwl yn rhoi cyfle inni edrych ar yr hyn rŷch chi wedi pwyntio allan heddiw. 

Symptomau Tiwmor yr Ymennydd

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau tiwmor yr ymennydd? OQ58340

Diolch yn fawr iawn. Roedd ein rhaglen ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal wedi'i gynllunio, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill, yn cynnwys ymrwymiad i barhau i hyrwyddo negeseuon allweddol am symptomau canser ac annog pobl gydag amheuaeth o ganser i ddod i gael eu gweld. Rydym hefyd yn hapus i gefnogi a hyrwyddo negeseuon gan elusennau canser yng Nghymru.

14:45

Diolch yn fawr, Weinidog. Fel y gwyddoch, darperir asesiadau anghenion cyfannol i gleifion canser yr ymennydd fel ffordd o nodi a chyfathrebu eu hanghenion cyfannol ar gyfer eu gweithwyr allweddol a chaniatáu i gynllun gofal addas gael ei roi ar waith. Mae defnyddio asesiadau anghenion cyfannol a chynllun gofal yn hanfodol ar gyfer profiad da i gleifion. Mae'n sicrhau bod cleifion yn cael eu cefnogi ym mhob agwedd ar eu triniaeth a'u gofal, ac mae'n eithriadol o bwysig i gleifion tiwmor yr ymennydd, oherwydd eu hanghenion amrywiol a chymhleth. Mae arolwg y Brain Tumour Charity ar wella gofal tiwmor yr ymennydd yn dangos mai dim ond 30 y cant o ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi cael cynnig asesiad anghenion cyfannol, a dim ond 11 y cant o'r ymatebwyr a deimlai fod y cynllun gofal a ddeilliodd o'u hasesiad yn gweithio'n dda. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod pob claf tiwmor yr ymennydd yng Nghymru yn cael asesiad anghenion cyfannol a chynllun gofal yn deillio o hynny? Ac a wnaiff y Llywodraeth hon ymrwymo i sicrhau bod pob claf tiwmor yr ymennydd yn cael cynnig y math hollbwysig hwn o gymorth fel rhan o'u gofal? Diolch. 

Diolch yn fawr iawn, Joel. Pryd bynnag y byddwn yn ymdrin â materion corfforol lle mae pobl yn wynebu sefyllfaoedd anodd tu hwnt, rwy'n credu bod rhaid inni ystyried yn benodol, efallai, yr effaith ar iechyd meddwl y bobl sy'n ceisio ymdopi â'r sefyllfaoedd hynny, ac felly, yn amlwg, lle bo'n bosibl, dylid gwneud asesiad anghenion cyfannol. Ond rwy'n falch fod gennym arbenigwyr go iawn yng Nghymru ym maes tiwmor yr ymennydd. Dyfarnwyd statws canolfan ragoriaeth i Ganolfan Niwro-oncoleg Caerdydd gan y Tessa Jowell Brain Cancer Mission, ac rwy'n falch iawn hefyd fod £9.4 miliwn wedi'i fuddsoddi yng nghanolfan ymchwil delweddu'r ymennydd Prifysgol Caerdydd.  

Roedd gan fy mam diwmor ar yr ymennydd, a bu farw o hynny, yn anffodus. Roedd y meddyg teulu'n ei thrin am gyfnod hir, yn y cyfnodau cynnar, ar gyfer problemau thyroid—a chael profion ar y thyroid. Erbyn iddi fynd i'r ysbyty, roedd wedi cyrraedd cam 4. Dim ond pan ledaenodd i rannau eraill o'r corff y cafodd ei chyfeirio am sgan CT. Rwyf am ofyn i feddygon teulu gael eu hyfforddi i adnabod y symptomau a phrofi am diwmorau'r ymennydd, a pheidio â cheisio dod o hyd i rywbeth symlach. 

Diolch yn fawr iawn, Mike, ac mae'n ddrwg gennyf glywed am eich mam. Credaf mai'r hyn sy'n glir yw bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn, oherwydd, yn amlwg, mae meddygon teulu'n gweld niferoedd dirifedi o bobl sydd â chur pen neu broblemau gyda chydbwysedd neu symptomau amwys, megis blinder, felly mae'n anodd iawn iddynt fod yn gwbl glir. Ac mae canllawiau proffesiynol cydnabyddedig iawn eisoes ar waith gan NICE i feddygon teulu atgyfeirio oedolion sy'n colli gweithrediad niwrolegol canolog yn gynyddol am archwiliad brys. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol fod y GIG yng Nghymru bellach yn cyflwyno canolfannau diagnostig cyflym i'r boblogaeth gyfan, ac rwy'n falch o ddweud fod hynny'n cael ei ddefnyddio a bod llawer o bobl bellach yn cael eu atgyfeirio.  

Cwpan y Byd FIFA 2022

5. Sut y mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y ffaith bod tîm pêl-droed dynion Cymru wedi cymhwyso ar gyfer cwpan y byd 2022 i wella iechyd y cyhoedd drwy gymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad? OQ58346

Mae swyddogion yn cynnal trafodaethau cynnar gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ystyried sut y gallwn ddatblygu ystod o raglenni drwy 'Pwysau Iach: Cymru Iach' a'n fframwaith presgripsiynu cymdeithasol arfaethedig. Bydd y rhaglenni hyn yn cynnwys ffocws ar iechyd corfforol a meddyliol.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Weinidog. Mae hwnnw'n ymateb calonogol iawn, oherwydd yn ddiweddar rhannodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru â'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol—nid oes modd dweud hynny'n gyflym, mae'n ddrwg gennyf—eu cyflwyniad i Lywodraeth Cymru ynghylch sut y gallwn dyfu pêl-droed yng Nghymru i wella iechyd y genedl. Roedd eu cais am fuddsoddiad o £10 miliwn y flwyddyn am ddegawd. A gwyddom, yng Nghymru, er gwaethaf ein cariad at rygbi, fod pêl-droed yn dod i'r amlwg fel y gamp tîm fwyaf poblogaidd o ran diddordeb a chyfranogiad y cyhoedd, gyda phêl-droed cadair olwyn drydan a phêl-droed cerdded yn dod yn fwyfwy poblogaidd hefyd. Mae cyfle, drwy gwpan y byd, i ysbrydoli pobl o bob oed a chefndir i ddod yn fwy heini a gwella iechyd y cyhoedd. Rydych wedi amlinellu rhai o'r pethau, ond a fydd ymgyrch weithredol hefyd i sicrhau ein bod yn manteisio ar hyn? Diolch. 

Diolch, Heledd, a chytunaf yn llwyr fod cwpan y byd yn rhoi cyfle gwirioneddol dda inni ddefnyddio grym a brwdfrydedd pêl-droed i fynd i'r afael â rhai o'r problemau iechyd cyhoeddus sy'n ein hwynebu. Nid wyf wedi gweld y papur y cyfeiriwch ato, ond byddaf yn sicr yn gofyn am gael copi ohono.

Er mwyn ehangu ychydig ymhellach ar y gwaith sydd wedi bod yn digwydd, fel y dywedais, mae uwch swyddogion wedi cyfarfod â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac yn datblygu cyfres o syniadau a chynigion i ystyried gweithredu pellach, ac mae hynny'n cynnwys negeseuon ar draws y boblogaeth. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Chwaraeon Cymru, gan gynnwys drwy fuddsoddi yn ein Cronfa Iach ac Egnïol, a chyda chyrff llywodraethu cenedlaethol eraill, i ystyried sut y gallwn gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ledled Cymru. Mae swyddogion hefyd yn cynnal trafodaethau cynnar gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynghylch rhaglen o'r enw Football Fans in Training—FFIT—sef ymyrraeth colli pwysau a gefnogir drwy glybiau pêl-droed, ac mae ganddi sylfaen dystiolaeth yn yr Alban a Lloegr, ac rydym yn ystyried a allwn gyflwyno cynlluniau peilot o hynny yng Nghymru, gan harneisio'r brwdfrydedd dros bêl-droed. Fel y gŵyr yr Aelodau hefyd, mae gennym gynlluniau peilot i blant a theuluoedd yn gweithredu ledled Cymru, ac mae ein trafodaethau gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd yn ystyried y posibilrwydd o ehangu rhywbeth o'r enw Pêl-droed â'r Teulu, sy'n cefnogi plant i ddysgu ystod o sgiliau, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer symud o ansawdd uchel tra'n ysbrydoli rhieni. Rydym hefyd, yn rhan o'r trafodaethau hyn, wedi siarad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru am ein fframwaith presgripsiynu cymdeithasol, y byddwn yn ymgynghori arno cyn bo hir, gan fod hynny hefyd yn rhoi cyfle inni harneisio rhai o'r materion hyn.

14:50

Weinidog, rwy'n siŵr y cytunwch â mi fod chwaraeon yn eithriadol o bwysig i'n pobl ifanc ledled Cymru nid yn unig o ran eu hiechyd corfforol, ond hefyd eu hiechyd meddwl. Mae'n wych i bobl fynd allan yn yr awyr iach a phrofi hynny. Mae'n gwneud i bobl fod yn agored hefyd—a siarad am eu problemau. Rydych yn sôn am bresgripsiynu cymdeithasol, a chael meddygon teulu i wneud mwy o bresgripsiynu cymdeithasol i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael mynediad at hynny i sicrhau ei fod yn helpu eu hiechyd meddwl. Ond hefyd, mae angen i hynny fynd i ysgolion hefyd, er mwyn sicrhau bod ein hysgolion yn addysgu pobl ifanc am ffyrdd iach o fyw i helpu eu hiechyd meddwl. Felly, a wnewch chi ddweud wrthyf pa waith a wnaethoch ar draws y Llywodraeth i ddeall effeithiau iechyd meddwl a chwaraeon ar ein pobl ifanc?

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, James. Mae hwn yn sicr yn fater trawslywodraethol. Fel y gwyddoch, mae ein cynllun 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn gynllun trawslywodraethol, gyda'r holl Weinidogion yn cyfrannu at yr hyn y ceisiwn ei wneud. Yn amlwg, mae yna rôl bwysig iawn i addysg, ac rydym mewn sefyllfa unigryw o dda yng Nghymru gyda'n cwricwlwm newydd, gyda'n maes dysgu sy'n canolbwyntio ar iechyd a llesiant, i ymgorffori'r ddealltwriaeth honno o iechyd mewn ysgolion fel bod ein pobl ifanc yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Hefyd, bydd pobl ifanc yn nodwedd o'r hyn a wnawn drwy ein rhaglen presgripsiynu cymdeithasol. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau nad yw hynny i'w weld yn rhywbeth sydd ar gyfer pobl hŷn yn unig, oherwydd gwyddom mai pobl ifanc yn aml iawn sy'n profi unigrwydd fwyaf.

Cyfleoedd Chwarae Plant

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod cyfleoedd chwarae ar gael ac yn hygyrch i bob plentyn? OQ58356

Mae mynediad at gyfleoedd chwarae o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol pob plentyn. Rwy'n falch mai Cymru oedd y wlad gyntaf i ddeddfu, gan warantu hawl plant i chwarae drwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn sicrhau digon o gyfleoedd, drwy'r ddyletswydd digonolrwydd cyfleoedd chwarae.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n cydnabod yn llwyr yr hyn a ddywedoch chi, sef bod chwarae'n bwysig iawn i iechyd corfforol a meddyliol. Rwy'n croesawu mentrau fel y cynllun Haf o Hwyl i ymestyn chwarae. Fodd bynnag, rwyf wedi cael trafodaethau diweddar gyda Scope, ac maent yn awgrymu bod offer yn aml yn anhygyrch i blant anabl a bod llawer o feysydd chwarae heb gael eu cynllunio gyda hygyrchedd llawn mewn golwg. Mewn gwirionedd, mae hanner y rhieni sydd â phlant anabl yn dweud bod rhyw broblem gyda hygyrchedd yn eu maes chwarae lleol. Yn amlwg, mae hynny'n golygu bod llawer o bobl ifanc yn teimlo nad ydynt wedi cael eu cynnwys wrth chwarae. Mae gan Gymru ymrwymiad clir i fod yn wlad sy'n creu cyfleoedd i chwarae, ac felly mae angen buddsoddiad penodol i gefnogi'r uchelgais hwn. Ddirprwy Weinidog, tybed pa sgyrsiau a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet am y camau y gellir eu cymryd i wella hygyrchedd mewn meysydd chwarae. Ac a wnewch chi ystyried galwadau i greu cronfa ar gyfer meysydd chwarae cynhwysol i gydgynhyrchu meysydd chwarae newydd a gwella'r rhai presennol gyda phlant anabl a'u teuluoedd? Diolch.

14:55

Diolch yn fawr iawn i Peter Fox am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n ymwybodol o Scope, ac rwyf wedi cael llythyr gan Scope hefyd. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyfarfod â swyddogion Scope ddwywaith eleni. Gallaf eich sicrhau'n llwyr o'n hymrwymiad parhaus i ddarparu cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc allu chwarae'n ddiogel ac i gefnogi gwell mynediad at chwarae i blant anabl. Mae Llywodraeth Cymru a'r sector chwarae yng Nghymru yn ffafrio chwarae cynhwysol lle gall plant anabl a phlant nad ydynt yn anabl chwarae gyda'i gilydd, a chefnogir hyn gan y Fforwm Polisi Chwarae Plant a Fforwm Diogelwch Chwarae y DU, a ryddhaodd ddatganiad sefyllfa ar y cyd eleni i gefnogi chwarae cynhwysol, sydd, wrth gwrs, yn mynd y tu hwnt i feysydd chwarae hygyrch. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol, fel y gŵyr yr Aelod, rwy'n siŵr, sicrhau bod digon o gyfleoedd chwarae ar gael i bob plentyn yn unol â'r darpariaethau o dan adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, ac mae hyn yn cynnwys darpariaeth benodol ar gyfer ystyried anghenion plant anabl. Felly, dylai awdurdodau lleol fod yn edrych ar hyn eisoes.

Er mwyn rhoi syniad o faint o gymorth sy'n cael ei roi gan Lywodraeth Cymru, ers cyflwyno'r ddyletswydd digonolrwydd cyfleoedd chwarae ym mis Tachwedd 2012, rydym wedi sicrhau bod £33.330 miliwn o gyllid refeniw ar gael i awdurdodau lleol i'w galluogi i fodloni'r gofynion—mae hynny ers 2012—ond ar gyfer blynyddoedd ariannol 2020-21 a 2021-22, dyfarnwyd cyfanswm o £8 miliwn o gyllid cyfalaf adferiad COVID i awdurdodau lleol, a oedd yn rhoi hyblygrwydd i awdurdodau brynu eitemau mawr ac adnewyddu meysydd chwarae a mynediad atynt. 

Ddirprwy Weinidog, pan fûm yn trafod chwarae cynhwysol gyda chi yn y gorffennol, roeddem yn cytuno mai'r hyn sy'n allweddol i wella mynediad i'r cyfleoedd hyn yw sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn hawdd fel bod rhieni, gwarcheidwaid, plant, pobl ifanc a theuluoedd yn gwybod pa chwarae cynhwysol sydd ar gael a ble mae wedi'i leoli. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod gwybodaeth o'r fath yn cael ei rhannu—rhywbeth sy'n bwysig drwy gydol y flwyddyn, ond yn enwedig wrth inni edrych ar wyliau'r haf?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, Vikki Howells. Gwn pa mor ddiwyd yr ydych wedi mynd ar drywydd y mater hwn. Gall gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd awdurdod lleol roi gwybod i rieni a gofalwyr am argaeledd a lleoliad cyfleoedd chwarae, a byddant hefyd yn gallu cyfeirio rhieni a gofalwyr at y tîm chwarae, sydd yn y sefyllfa orau i asesu eu hanghenion. Mae gan lawer o gynghorau lleol yng Nghymru wybodaeth am hygyrchedd ar adrannau chwarae eu gwefannau, ac rydym yn annog awdurdodau lleol i wneud hyn fel rhan o'u gweithredoedd digonolrwydd cyfleoedd chwarae. Dylai awdurdodau lleol fod yn cydweithio ar draws ystod o feysydd polisi allweddol, a bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol i gydweithio i gefnogi anghenion pobl leol. Felly, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud hyn, ac mae ganddynt ddyletswydd i hysbysu'r cyhoedd. Rwy'n ymwybodol y byddai'r Aelod yn hoffi cael rhywbeth llawer mwy penodol, felly fe ddywedaf wrthi y byddwn yn trafod gydag awdurdodau lleol unrhyw beth arall y gellir ei wneud fel bod pobl yn gwybod ble mae'r cyfleusterau ar gael, yn enwedig gyda'r Haf o Hwyl sydd ar y gweill yn awr.  

Gwerth Maethol Bwyd Ysbytai

7. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella gwerth maethol prydau bwyd a weinir mewn ysbytai yng Nghymru? OQ58333

Cyhoeddwyd safonau maeth ac arlwyo Cymru gyfan yn 2011 i sicrhau bod bwyd mewn ysbytai yn diwallu anghenion amrywiol poblogaeth yr ysbytai. Mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i adolygu'r safonau hynny er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fodloni gofynion maethol a deietegol cleifion ysbytai yng Nghymru.

Diolch yn fawr, Weinidog. Yn ystod dau arhosiad diweddar yn yr ysbyty, un yn Ysbyty Tywysoges Cymru a'r llall yn Ysbyty Athrofaol Cymru, cefais fy synnu gan y diffyg dewis deietegol a oedd ar gael. Fel Mwslim, ni chefais gynnig bwyd halal. Fe'm hysbyswyd ers hynny fod llysieuwyr hefyd yn aml heb gael cynnig bwyd sy'n diwallu eu hanghenion deietegol. Y canlyniad: cleifion mewnol yn gorfod dibynnu ar deulu neu ffrindiau i ddod â bwyd i mewn yn ystod amser ymweld, nad yw wedi bod yn bosibl yn ystod blynyddoedd y pandemig. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod hyn yn annerbyniol ac y bydd yn arwain at achosion lle nad yw cleifion yn cael y cydbwysedd cywir o faeth i'w helpu i wella. Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod pob ysbyty yng Nghymru yn gweini prydau sy'n bodloni gofynion deietegol cleifion yn ogystal â bod yn gytbwys o ran maeth? Diolch.

15:00

Diolch yn fawr iawn, Altaf, ac rwy'n falch o ddweud bod swyddogion eisoes yn gweithio gyda'u cymheiriaid yn y GIG i ddechrau'r broses o adolygu'r safonau sy'n cynnwys bwyd mewn ysbytai. Fodd bynnag, mae'n waith sylweddol iawn ac yn amlwg, rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cynnwys bwyd lleol yn hynny os gallwn. Nawr, nid oes gennyf amserlen benodol hyd yma ar gyfer cyhoeddi'r safonau diwygiedig, ond rwy'n derbyn ei bod wedi bod yn amser hir ers cyhoeddi'r safonau diwethaf, a dyna pam y byddwn yn ystyried yr adolygiad ac wrth gwrs, bydd rhai o'r materion a nodwyd gennych yn cael sylw yn yr adolygiad hwnnw.

Y mater pwysicaf i mi y penwythnos hwn, a bod yn onest, yw'r gwres anhygoel sy'n dod tuag atom ac sydd eisoes yn ein taro. Rwy'n bryderus iawn am yr effaith ar bobl hŷn. Gobeithio y bydd pobl sy'n dioddef o broblemau cardiofasgwlaidd a chlefydau anadlol yn ofalus iawn. Rydym yn edrych ar dywydd sy'n cael effaith fawr. Rydym yn pryderu'n benodol am yr hyn a fydd yn digwydd ddydd Sul a dydd Llun. Hoffwn annog pobl i yfed llawer o ddŵr, i beidio â mynd allan pan fydd y gwres ar ei boethaf, ac i fod yn ymwybodol o'r pwysau ar y GIG. Mae eisoes yn ddwys: mae ein gwelyau'n llawn; mae gennym 1,000 o gleifion COVID; mae adrannau damweiniau ac achosion brys dan straen; mae ambiwlansys dan bwysau mawr. Rydym yn awyddus iawn i geisio osgoi mwy o bwysau ar y GIG ar hyn o bryd, felly byddwch yn ofalus y penwythnos nesaf.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru

8. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru? OQ58362

Rydym yn parhau i ddarparu cyllid sylweddol a pharhaus i gefnogi'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl. Yn ogystal â'i ddyraniad a neilltuwyd ar gyfer iechyd meddwl, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn derbyn £4.9 miliwn ychwanegol o gyllid iechyd meddwl rheolaidd eleni i barhau i wella cymorth iechyd meddwl.

Ar 15 Mehefin, mewn ymateb i gwestiwn am gau Sied Dynion Dinbych yn sydyn, fe ddywedoch chi,

'Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â'r bwrdd iechyd ac wedi cael gwybod, yn dilyn gwiriad iechyd a diogelwch, fod risgiau wedi'u nodi a'u bod yn teimlo'u bod o'r fath natur fel bod angen atal y gwasanaeth hwn dros dro.' 

Nawr, mae cwestiynau difrifol wedi'u codi am ddilysrwydd y penderfyniad hwnnw. Mae'n debyg fod y staff dan sylw wedi methu dilyn y weithdrefn, a dywedir wrthyf nad oedd sail i atal y gwasanaeth mewn gwirionedd ac yn y pen draw, dangoswyd ei fod yn annilys. Nawr, rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi, wrth gwrs, i ddathlu ailagor Sied Dynion Dinbych wedi hynny, er gwaethaf y trafferthion niweidiol a achosodd hynny i rai o'n pobl fwyaf bregus ac agored i berygl, ond a gaf fi ofyn: pa broses sydd gan y Llywodraeth ar waith i wirio a yw'r wybodaeth a ddarperir i chi gan gyrff eraill, wrth ichi baratoi i ateb y cwestiynau hyn, yn gywir mewn gwirionedd ac yn adlewyrchu realiti'r sefyllfa ar lawr gwlad?  

Diolch, Llyr, ac roeddwn yn falch iawn fod sied y dynion ar agor eto, a gwelais ar Twitter eich bod wedi gallu ymweld â hwy i ddathlu'r agoriad hwnnw. Bu swyddogion yn holi'r bwrdd iechyd beth oedd y sefyllfa mewn perthynas â chau sied y dynion yn sydyn. Roeddwn wedi cael e-bost yn ei gylch yn fy mewnflwch fel Aelod o'r Senedd, felly llwyddais i roi gwybod i swyddogion, a chawsom y sicrwydd a roddais wedyn yn y Siambr fod materion iechyd a diogelwch wedi'u hamlygu, ond bod y rhain yn cael eu datrys yn dilyn rhywfaint o weithredu brys. Yn amlwg, pan fyddwch yn cael gwybodaeth, rydych yn gobeithio ei bod yn gywir. Os ydych yn dweud nad yw hynny'n wir, hoffwn eich cynghori efallai i ysgrifennu ataf ynglŷn â hynny.

Yr Agenda Gofal Iechyd Ataliol

9. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'i hagenda gofal iechyd ataliol? OQ58347

15:05

Fel rhan o'n strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' a'n strategaeth rheoli tybaco, rydym yn cydfuddsoddi, gyda byrddau iechyd lleol, mewn nifer o raglenni ac ymyriadau sy'n cefnogi canlyniadau iechyd y boblogaeth.

Diolch am hynny, Weinidog. Yn ddiweddar, rhedais ras parkrun Llanisien, a oedd yn dathlu cysylltiadau rhwng trefnwyr parkrun a phractisau meddygon teulu i hybu cymunedau lleol mwy integredig a chefnogol, gan ganolbwyntio ar les. Weinidog, nodaf y byddai trefnwyr parkrun yn awyddus iawn i weld dull gweithredu cyson ledled Cymru, gan wneud cysylltiadau rhwng y rhai sy'n gweithio yn y sector iechyd a threfnwyr parkrun, a hwyluso cyfathrebu a chydweithio. Hoffwn ofyn beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gryfhau'r agenda honno a'i datblygu yng Nghymru. 

Diolch yn fawr iawn, John, a gwn eich bod yn un o gefnogwyr brwd y rasys parkrun, a chredaf eu bod yn chwarae rhan enfawr yn sicrhau y gallwn gael pobl yn fwy egnïol ac rwy'n awyddus iawn i'w cefnogi.

Cyn y pandemig, roedd fy swyddogion mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a parkrun UK ynghylch rhaglen i hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer parkrun, ac mae practisau yng Nghymru eisoes wedi bod yn cefnogi'r rhaglen hon. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ailsefydlu'r cysylltiadau hyn ac ystyried gwaith pellach ar hynny y gellid ei ddatblygu ledled Cymru. 

Atal Clefyd y Galon

10. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal clefyd y galon? OQ58332

Gall unigolion roi amrywiaeth o gamau ar waith i leihau'r perygl o ddatblygu clefyd y galon, drwy beidio ag ysmygu, cynnal pwysau iach ac ymarfer corff yn rheolaidd, er enghraifft. Mae ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' a'n strategaeth rheoli tybaco yn datblygu ystod o fesurau i gefnogi pobl i wneud y dewisiadau iachach hynny.

A gaf fi ddiolch ichi am yr ateb hwnnw? Gwyddom fod ysmygu wedi lleihau, ac mae'n parhau i leihau, ac mae llawer ohonom yn aros iddo gyrraedd sero. Yn anffodus, mae gordewdra'n symud i'r cyfeiriad arall, ac mae hynny'n peri i nifer fawr o bobl ddioddef o bethau sy'n gallu achosi clefyd y galon. Mae caledu'r rhydwelïau'n digwydd 10 gwaith yn amlach mewn pobl sy'n ordew nag mewn pobl nad ydynt yn ordew. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth ordewdra er mwyn ceisio sicrhau bod pobl yn cyrraedd eu pwysau cywir? Bydd yn rhaid i hynny gynnwys llawer o weithredu cymdeithasol; yn hytrach na rhoi tabled i bobl ar gyfer popeth, ceisio cael pobl i ymarfer corff, ceisio cael pobl i fynd ar ddeiet, a cheisio cael pobl i ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain, yn hytrach na gobeithio y bydd meddyg yn datrys popeth.

Diolch yn fawr iawn, Mike. Fe fyddwch yn falch o wybod bod gennym strategaeth gwrth-ordewdra gynhwysfawr iawn yng Nghymru o'r enw 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Mae'n strategaeth 10 mlynedd yr ydym yn ei rhannu'n gynlluniau cyflawni dwy flynedd fel y gallwn ganolbwyntio'n iawn ar sicrhau ein bod yn cyflawni mewn maes sy'n wirioneddol gymhleth. Mae'n faes hynod heriol, oherwydd gwyddom i gyd am arferion afiach, ond mae cael pobl i newid yr arferion hynny'n gymhleth iawn. Felly, mae gennym ddull amlweddog yn ein strategaeth sy'n cynnwys newid ymddygiad, ac mae'n cynnwys ariannu pethau fel y cynlluniau peilot ar gyfer plant a phobl ifanc; rydym yn buddsoddi'n sylweddol iawn yn y rhaglen rheoli pwysau ar gyfer Cymru i sicrhau bod llwybrau ym mhob rhan o Gymru, ac rydym yn buddsoddi mewn chwaraeon cymunedol, yn y gronfa iach ac egnïol, a hefyd, yn hanfodol, fel y dywedais mewn ymateb i James Evans yn gynharach, mae ein cynllun yn cynnwys ffocws cryf ar rôl addysg a sicrhau bod pobl ifanc yn dysgu o oedran cynnar sut i ddod yn fwy iach. Mae'n agenda wirioneddol heriol, ond rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'w chyflawni. Mae gennym fwrdd gweithredu newydd yr wyf yn gadeirydd arno, mae gennym uwch arweinwyr o bob rhan o Gymru ar y bwrdd hwnnw, ac rydym yn gwbl benderfynol o fwrw ymlaen â'r agenda hon.

3. Cwestiynau Amserol
Tlodi Plant

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiadau bod lefelau tlodi plant wedi codi yng Nghymru yn ystod y pandemig er eu bod wedi gostwng yng ngweddill gwledydd y DU? TQ657

Diolch i Luke Fletcher am y cwestiwn hwnnw. Mae'r dulliau allweddol o fynd i'r afael â thlodi plant—pwerau dros y system dreth a lles—yn nwylo Llywodraeth y DU, ond byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu gyda'r pwerau sydd gennym i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a gwella canlyniadau i bob plentyn yng Nghymru fel y gallant gyflawni eu potensial. 

15:10

Diolch am yr ateb hwnnw, Gweinidog.

Y gwir amdani yw bod tlodi plant wedi aros yn frawychus o uchel dros y degawd diwethaf. Er i fy nghydweithiwr, Liz Saville Roberts, ddweud wrth Brif Weinidog y DU yng nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw y dylai ddileu'r terfyn dau blentyn ac adfer y cynnydd o £20 i bob teulu sydd â hawl i les—gyda llaw, rhaid imi ddweud ei fod yn ymateb gwael arall ganddo ar y mater hwn—rwy'n awyddus i ddysgu beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud.

Nawr, byddwn yn cael dadl yn ddiweddarach heddiw ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru. Byddaf yn cyflwyno'r achos eto dros ehangu'r lwfans cynhaliaeth addysg. Rwy'n derbyn y bydd blaenoriaethau'n gwrthdaro yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, ond dylai mynd i'r afael â thlodi plant fod yn un o'r prif flaenoriaethau yn y gyllideb honno. Byddwn yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu hyn, nid yn unig drwy gyflwyno cymorth pellach ond hefyd drwy gytuno i osod targedau tlodi plant fel y gallwn fesur llwyddiannau neu fethiannau Llywodraeth Cymru yn well yn y maes hwn. Ac ar y pwynt hwn hefyd, mae Sefydliad Bevan yn iawn i ddweud nad yw'r ffaith nad yw targedau tlodi wedi gweithio yn y gorffennol yn rheswm dros ddiystyru manteision posibl gosod rhai newydd. 

Wel, diolch yn fawr am y cwestiynau atodol pwysig hynny. Gwelais fod y gynghrair Dileu Tlodi Plant wedi dweud yn glir iawn wrth Lywodraeth y DU y dylai taliadau budd-daliadau gadw i fyny'n barhaol gyda chwyddiant—3.1 y cant, y cynnydd ym mis Ebrill—a hefyd y dylid diddymu'r terfyn dau blentyn ar fudd-dal plant, ac yn wir, y cap ar fudd-daliadau. Ac rwyf wedi galw am hynny. Yn wir, pan gyfarfûm gyntaf â'r comisiynydd plant—y comisiynydd plant blaenorol—dyna oedd y galwadau, a chan Sefydliad Bevan yn wir. Ond rwyf am ddweud ein bod yn parhau i dargedu cymorth at deuluoedd â phlant. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i barhau i gefnogi ein rhaglen flaenllaw o ymyriadau cynnar, Dechrau'n Deg; ymestyn mynediad y grant datblygu disgyblion, cynllun gwerth hyd at £200 y plentyn i gefnogi mwy o deuluoedd gyda gwisg ysgol, cit ysgol; ac rydym mor falch ein bod, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, wedi ymrwymo i gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Gallwn barhau, ond rwyf am ddweud mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod wedi ymrwymo i gyhoeddi strategaeth tlodi plant ar ei newydd wedd, ac wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid dros yr haf fel y gallwn ei chyhoeddi eleni.  

Weinidog, nid oes gennyf ddiddordeb mewn beio heddiw. Yr hyn yr hoffwn ei glywed heddiw a'r hyn y mae fy etholwyr sy'n ei chael hi'n anodd am ei glywed heddiw yw beth y mae'r Llywodraeth Lafur hon yn mynd i'w wneud am y ffaith bod 36.3 y cant o blant yn ninas Casnewydd yn fy rhanbarth yn byw mewn tlodi, yn ôl y data diweddar sydd newydd ei ryddhau gan yr elusen tlodi plant, Dileu Tlodi Plant. Mae hyn yn golygu mai Casnewydd yw'r awdurdod lleol tlotaf yng Nghymru. Yn anffodus, nid yw'r darlun yn llawer gwell ledled Cymru, gyda 34 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi, fel yr amlinellwyd gan Luke Fletcher, sy'n gwneud Cymru'n waeth nag unrhyw wlad arall yn y DU—i fyny o 31 y cant cyn y pandemig COVID-19. Mae gan bawb rôl i'w chwarae i gael y plant hyn allan o dlodi—y Llywodraeth hon, Llywodraeth y DU a Chyngor Dinas Casnewydd dan arweiniad Llafur. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau nad yw'r plant hyn yn cael eu gadael ar ôl ac yn dioddef yn ddiangen. Nid wyf am ddadlau heddiw ynglŷn â phwy sydd ar fai am beth, ac rwy'n gwerthfawrogi eich ymrwymiad, Weinidog, ond mae angen gweithredu ar fwy o frys, ac rwyf am glywed gennych heddiw beth yn union y byddwch yn ei wneud, yn fwy nag y gwnewch eisoes, i sicrhau ein bod yn gwrthdroi'r duedd bryderus hon a welwn yng Nghasnewydd. Diolch.

Wel, mae'n rhaid imi ofyn i Laura Anne Jones: a ydych yn mynd i ymuno â ni, a ydych yn mynd i ymuno â mi, a ydych yn mynd i ymuno ag ASau'r wrthblaid yn San Steffan heddiw, sy'n codi'r materion a godwyd gan y gynghrair Dileu Tlodi Plant, ac a godwyd gennym ni ddydd Llun yn yr uwchgynhadledd costau byw mewn gwirionedd, lle ymunodd—[Torri ar draws.] A gaf fi ateb y cwestiwn, Ddirprwy Lywydd, os gwelwch yn dda?

Mae'n bwysig fod Aelodau ar yr holl feinciau yn caniatáu i bobl naill ai ofyn y cwestiwn neu ateb y cwestiwn. 

Felly, a gaf fi ddweud eto: a wnewch chi alw ar Lywodraeth Geidwadol y DU i sicrhau bod taliadau budd-daliadau—rhywbeth y galwyd amdano—yn cadw i fyny â chwyddiant yn barhaol a hefyd bod y terfyn dau blentyn ar fudd-dal plant a'r cap ar fudd-daliadau yn cael ei ddiddymu? Ac wrth gwrs y byddwn yn chwarae ein rhan. Rwyf eisoes wedi amlinellu ffyrdd yr ydym yn chwarae ein rhan gyda'n cyfrifoldebau ni, ac rwy'n mynd i ychwanegu at hynny. I ymateb i'ch cwestiwn, Laura Anne Jones, rydym hefyd yn mynd i ymestyn y cynnig gofal plant i rieni plant dwyflwydd oed a'r rhai mewn hyfforddiant neu addysg, ac ers mis Tachwedd rydym wedi darparu mwy na £380 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi aelwydydd yr effeithir arnynt gan yr argyfwng costau byw. Mae'n dda rhoi'r ffigurau eto heddiw: cafodd 166,000 o aelwydydd fudd o'r taliad o £200 drwy ein cynllun cymorth tanwydd y gaeaf cyntaf; mae 83 y cant o aelwydydd cymwys yng Nghymru eisoes wedi derbyn eu taliad costau byw o £150; ac ym mis Ionawr eleni, cyrhaeddodd hawliadau i'r gronfa cymorth dewisol £3 miliwn am y tro cyntaf. Rydym yn parhau â'r taliadau hynny a'r hyblygrwydd yn y taliad cymorth dewisol.

Ond rwyf hefyd yn falch—a bydd yn helpu eich etholwyr—ein bod bellach wedi ariannu'r Sefydliad Banc Tanwydd i ddosbarthu tua 49,000 o dalebau—sydd eu hangen yn ystod misoedd yr haf ar gyfer coginio, yn y gaeaf ar gyfer gwresogi a choginio—i aelwydydd sy'n rhagdalu, yr aelwydydd tlotaf ledled Cymru sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu. Felly, rydym yn chwarae ein rhan, ond gallech ymuno â ni i alw am weithredu gan Lywodraeth y DU.

15:15

Yn un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd, ni ddylai unrhyw blentyn fynd yn llwglyd. Ni ddylai unrhyw blentyn fyw mewn tŷ tlawd. Yn anffodus, mae llawer iawn yn byw mewn tai felly. Mae ehangu prydau ysgol am ddim—rhywbeth y bûm yn gofyn amdano ers nifer o flynyddoedd, ac a fabwysiadwyd wedyn gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru—yn gam cadarnhaol iawn, ond mae gennyf famau yn fy etholaeth sy'n ofni gweld gwyliau haf yr ysgol yn dod am fod rhaid iddynt ddarparu 10 pryd ychwanegol yr wythnos i bob plentyn. A wnaiff Llywodraeth Cymru barhau â'i menter cinio am ddim dros bob gwyliau ysgol, gan gynnwys gwyliau'r haf eleni? Ac a fydd brecwast am ddim ar gael i bob plentyn ysgol yn ystod gwyliau'r haf a gwyliau eraill? Byddai hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fynd i'r afael â thlodi yn fy etholaeth.

Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges, ac rwy'n cofio dod i ymweld â'ch prosiect Ffydd mewn Teuluoedd, prosiect pwysig, yn Nwyrain Abertawe a gweld yr hyn yr oeddent yn ei wneud fel elusen i gefnogi'r gymuned leol, gan ymwneud yn fawr â mynd i'r afael â thlodi bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol, yn ogystal ag yn ystod y tymor. A ddydd Llun yn yr uwchgynhadledd ar argyfwng costau byw, a gadeiriais gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, cefais y pleser o gyhoeddi £3 miliwn ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o ddatblygu partneriaethau bwyd traws-sector, a chryfhau'r partneriaethau bwyd presennol. Mae hwnnw ar gyfer cydgysylltu rhwydweithiau bwyd lleol ar lawr gwlad, gan feithrin cydnerthedd, a gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai Cymru a gwasanaethau cynghori i ddeall a mynd i'r afael ag anghenion lleol. Rwy'n siŵr y bydd hyn hefyd yn cynnwys edrych ar y materion a godwyd gennych y prynhawn yma.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar 11 Gorffennaf bob blwyddyn, rydym yn cofio Srebrenica a hil-laddiad 8,372 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd Bosniaidd. Mae'r ymdrechion i gofio yma yng Nghymru yn cael eu gyrru gan Abi Carter a bwrdd Cofio Srebrenica Cymru, sy'n gweithio'n galed i sicrhau nad ydym yn anghofio straeon Srebrenica a'n bod yn dysgu gwersi'r hil-laddiad creulon hwnnw. Y thema eleni ar gyfer y coffáu yw mynd i'r afael â gwadu, a herio casineb. Drwy ddeall a wynebu'r ochr dywyll hon o'n hanes cyfunol, gallwn sicrhau ein bod yn goleuo'r tywyllwch â gobaith.

Tyfodd plant y rhyfel hwn i fyny heb fod wedi cael plentyndod, heb fod wedi gweld heddwch a heb aelodau o'u teuluoedd. Fel y dywedodd un goroeswr,

'Roeddwn i'n 10 oed pan ddaeth y rhyfel i ben, ond daeth fy mhlentyndod i ben bedair blynedd ynghynt.'

Mae ymdrechion cofio Srebrenica drwy ymweliadau addysgol, ymhlith pethau eraill, yn sicrhau bod y cof am yr erchylltra hwn yn parhau, gan ddysgu gwers werthfawr ynglŷn â lle gall casineb arwain. Mae'r gwaith yn parhau drwy ddisgyblion Ysgol Gyfun Treorci, enillwyr teilwng y wobr i Lysgenhadon Ieuenctid yn y digwyddiad coffa yr wythnos diwethaf. Dywedodd un goroeswr,

'Er gwaethaf popeth, rwy'n gobeithio y gallaf ddysgu fy merched i dyfu i fyny heb gasineb. Dyna fydd fy llwyddiant.'

Rhaid inni beidio ag anghofio'r hil-laddiad creulon hwn, a rhaid inni barhau i herio casineb a phob ffurf ar eithafiaeth.

Mae Cymru'n cofio Srebrenica. 

Wyth deg pum mlynedd yn ôl, yn dilyn bomio Guernica yn ystod rhyfel cartref Sbaen, cafodd 4,000 o blant Basgaidd a staff cysylltiol eu symud i Brydain. Roedd yn enghraifft hynod o drefniadaeth gymunedol ar lawr gwlad. Daeth dros 200 o blant i Gymru, lle sefydlwyd cartrefi a elwid yn 'colonies' ar gyfer ffoaduriaid, ac roedd un ohonynt yn Cambria House yng Nghaerllion, lle cyrhaeddodd 56 o blant ar 10 Gorffennaf 1937. Roedd yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus yn y DU. Roedd yn gyfnod o ddiweithdra a thlodi mawr, ond croesawodd pobl Caerllion a Chasnewydd y plant â breichiau agored. Cymerai pawb ran mewn gweithgareddau i godi arian, o Ffederasiwn Glowyr De Cymru a gwirfoddolwyr lleol, i'r plant eu hunain. Fe wnaethant ffurfio tîm pêl-droed Basgaidd aruthrol, cynhyrchu eu papur newydd dwyieithog eu hunain, a helpu i godi arian drwy ddawnsiau a chaneuon Basgaidd traddodiadol.

Ar y pen-blwydd nodedig hwn, rwy'n falch iawn y bydd dirprwyaeth o Lywodraeth Gwlad y Basg yn bresennol mewn cyfres o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yng Nghaerllion. Mae penwythnos yr ŵyl yn cynnwys gemau pêl-droed, dawnswyr, cantorion a beirdd o Gymru a Gwlad y Basg, seminarau a sgyrsiau, a theithiau o amgylch treftadaeth Rufeinig Caerllion. Mae'n addo bod yn achlysur gwych. Gyda rhyfel unwaith eto'n gwmwl dros Ewrop, mae'n hawdd iawn gweld elfennau tebyg rhwng y cyfnod hwnnw a ffoaduriaid a lletygarwch y Cymry heddiw. Dylai haelioni a charedigrwydd pobl Caerllion fod yn rhywbeth y mae ein gwlad yn falch ohono. Rwy'n falch iawn ei fod yn cael ei goffáu, a hir y parhaed y berthynas honno rhwng ein pobl.

15:20

'Gall un plentyn, un athro, un llyfr ac un ysgrifbin newid y byd.'

Dyma eiriau Malala Yousafzai, menyw ifanc wirioneddol ysbrydoledig, a anwyd ar 12 Gorffennaf 1997 yn nyffryn Swat ym Mhacistan. Pan oedd hi'n ddim ond 11 oed, meddiannodd y Taleban ei phentref a chau ei hysgol. Er ei hoedran ifanc, penderfynodd na fyddai'n rhoi'r gorau i'w haddysg heb frwydr. Siaradodd yn gyhoeddus ar ran merched a'u hawl i ddysgu. Ac fe'i saethwyd yn ei phen am ei hymdrechion. Ond diolch i Lywodraeth y DU a thîm o feddygon yn Birmingham, goroesodd Malala a pharhaodd i siarad dros gydraddoldeb rhywiol o'i chartref newydd yma ym Mhrydain.

Diolch byth, nid yw ein merched a'n hwyresau yn wynebu'r un heriau ag a wynebodd Malala, neu sy'n wynebu 130 miliwn o ferched ym mhob cwr o'r byd heddiw, ond diolch i fenywod ifanc ysbrydoledig fel Malala, gallant edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair a mwy cyfartal. Felly, pen-blwydd hapus—os ychydig yn hwyr—i Malala, a diolch am bopeth y parhewch i'w wneud i sicrhau bod ein byd yn lle gwell. Diolch.

Hoffwn longyfarch Côr CF1 am ennill cystadleuaeth Côr y Byd yn Eisteddfod Llangollen wythnos diwethaf. Er mwyn ennill y teitl, wnaeth y côr ganu caneuon gan gynnwys trefniant o 'Dros Gymru'n Gwlad', 'Gwinllan a Roddwyd i’n Gofal' a hefyd cân werin Ffrangeg a gweddi mewn Rwsieg—repertwâr oedd yn briodol o ryngwladol ar gyfer gŵyl fel hon.

Cafodd CF1 ei sefydlu yn 2002 dan arweiniad Eilir Owen Griffiths, ac ers yr adeg yna mae wedi mynd o nerth i nerth, ac yn sicr, Dirprwy Lywydd, mae'n galonogol i weld tlws Pavarotti yn cael ei gadw yng Nghymru am flwyddyn arall. Ac am ffordd hyfryd i'r côr allu dathlu ei ben-blwydd 20 mlynedd.

Erys Eisteddfod Llangollen yn un o gystadlaethau canu enwocaf y byd, ac yn blatfform i dalent pobl Cymru hefyd ar y llwyfan rhyngwladol. Felly, llongyfarchiadau CF1 ac i bob côr ddaeth i'r brig yn y cystadlaethau, a da i weld tlws mor werthfawr yn cael ei gadw eto yng ngwlad y gân.

Diolch, bawb. Yn symud ymlaen, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu caiff y ddau gynnig o dan eitemau 5 a 6, cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog, eu grwpio ar gyfer y ddadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiadau.

5. & 6. Cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog—Rheol Sefydlog 34 a chymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd, a Chynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog—Pleidleisio drwy Ddirprwy

Cynnig NDM8063 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 34 a chymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2022.

2. Yn cymeradwyo'r cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 6, 12 a 17, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi argymhelliad y Pwyllgor Busnes y dylai Rheol Sefydlog 34 beidio â bod yn effeithiol, fel y trefnwyd, ar 1 Awst 2022.

Cynnig NDM8062 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 12.41A-H Dros Dro ar Bleidleisio Drwy Ddirprwy’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2022.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynigion.

A gaf i ddweud faint ydw i'n croesawu'r cynnig hwn heddiw, nid er fy mwyn i na'r un ohonom ni sydd yma yn Aelodau o'r Senedd rŵan, ond y rhai hynny sydd byth yn ystyried y gallan nhw fod yn Aelod o'r Senedd—pobl sydd â rolau gofalu, er enghraifft, ac nid dim ond â phlant, ond efallai â rhiant oedrannus neu bartner sydd angen eu cefnogaeth nhw; pobl anabl sydd yn meddwl eu bod nhw byth yn mynd i allu bod yma yn rheolaidd oherwydd y cyflyrau sydd ganddyn nhw, a bod y ffaith bod angen bod yng Nghaerdydd yn rhwystr iddyn nhw feddwl y gallan nhw fod yn gynrychiolydd yn eu rhanbarth neu eu hardal nhw; a'r rhai sydd yn byw yn bell hefyd?

Dwi'n lwcus; dwi'n cynrychioli Canol De Cymru. Dydy hi ddim yn bell i mi ddod yma i'r Senedd; mae'r Senedd o fewn fy rhanbarth i. Ond, eto, am y rhai sydd wedyn yn gorfod teithio efallai 20 awr yr wythnos dim ond er mwyn gallu bod yma, mae hynny yn rhwystr i nifer ystyried bod yn Aelod o'r Senedd. Felly, dwi'n croesawu hyn. Os ydyn ni am gael Senedd sydd yn ddemocrataidd, yn gynrychioladol ac sydd hefyd â 96 o Aelodau, os daw hynny, dwi eisiau iddi fod yn Senedd sydd yn cynrychioli Cymru yn ei holl gyfanrwydd, a dwi'n croesawu hyn yn fawr.

Wrth gwrs, mae yna adegau pan fydd hi'n fanteisiol bod yma yng Nghaerdydd. Mae'r mwyafrif ohonom ni yn ceisio bod yma, ac mae yna gymaint o fanteision pan fyddwn ni ynghyd, o ran gallu rhannu syniadau, dod i adnabod ein gilydd mewn pwyllgorau ac ati. Ond, dydy bod yma bob tro ddim yn angenrheidiol, ac rydyn ni wedi dangos ei fod yn gweithio drwy gyfnod COVID.

Mi ydw i'n siomedig iawn o glywed sylwadau rhai o'r Torïaid yn y wasg heddiw, yn sôn am 'gynrychioli o'r Senedd ac nid o'r soffa'. Wel, mae gennym ni gyd swyddfeydd o fewn ein rhanbarthau a'n hetholaethau; mae'n bosibl i ni fod yn cynrychioli yn y fan yna. A dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni feddwl hefyd ein bod, y mwyafrif helaeth ohonom ni, wedi manteisio ar hyn ar adegau. Yn sicr, pan fydd rhywun yn cael galwad ffôn o ysgol ei blentyn i ddweud eu bod nhw'n sâl, mae'r ffaith eich bod chi'n gallu bod yna i'w casglu nhw ac, efallai, cyfrannu i'r Senedd yn eithriadol o bwysig ac yn golygu eich bod chi ddim yn cael eich cosbi am fod yn rhiant, oherwydd ei bod hi'n bosibl i chi fod yna.

Gymaint o weithiau pan oeddwn i'n gynghorydd sir, mi oeddwn yn cael fy meirniadu os oeddwn i'n colli un cyfarfod oherwydd doedd hi ddim yn bosibl i fi fod yn hybrid, o gymharu efo, efallai, dyn a oedd wedi ymddeol ac a oedd yn gallu bod ym mhob cyfarfod. A oedd hynny'n golygu fy mod i'n llai o gynrychiolydd o fy nghymuned oherwydd fy mod i'n methu un cyfarfod? Mae'r ffaith, wedyn, fy mod i'n gallu bod yno efo fy mhlentyn gartref ac yn gallu cynrychioli fy nghymuned, mi wnaeth hynny wahaniaeth gwirioneddol, oherwydd mae pobl yn defnyddio hynny yn eich erbyn chi, os ydych chi'n edrych dim ond ar record bod yn bresennol. Dydy hynny ddim yn golygu eich bod chi ddim yn gynrychiolydd effeithiol.

O siarad â phobl ag anableddau hefyd a oedd yn croesawu'r newid hwn, dywedwyd y byddai hyn yn golygu y gallan nhw sefyll, oherwydd y rhwystr mwyaf yw gorfod bod yma ar gyfer pob un sesiwn ac i bleidleisio. Felly, dwi'n croesawu hyn yn fawr. Dwi'n gobeithio'n fawr y gwnaiff y Torïaid ailfeddwl rhai o'u sylwadau dirmygus, yn fy marn i, oherwydd dydy'n democratiaeth ni ddim yn agored i bawb fel y mae hi. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen; ni fydd yn datrys pob rhwystr, ond mae'n gam pwysig ymlaen a dwi'n ei groesawu'n fawr.

15:25

Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Rheol Sefydlog 34 a chymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â phleidleisio drwy ddirprwy? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Nesaf yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Siân Gwenllian.

Cynnig NNDM8068 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sarah Murphy (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Mike Hedges (Llafur Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Incwm Sylfaenol a'r newid i economi ddi-garbon

Eitem 7 heddiw yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar incwm sylfaenol a'r newid i economi ddi-garbon, a galwaf ar Jane Dodds i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8028 Jane Dodds, Jack Sargeant, Luke Fletcher, Carolyn Thomas

Cefnogwyd gan Delyth Jewell

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod nifer sylweddol o weithwyr o Gymru yn cael eu cyflogi mewn diwydiannau a fydd yn cael eu newid yn sylweddol fel rhan o'r broses o drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon;

b) pwysigrwydd sicrhau newid teg i economi ddi-garbon;

c) cynllun peilot incwm sylfaenol parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sut y gellid ymestyn y cynllun peilot incwm sylfaenol i weithwyr yn y diwydiannau hyn er mwyn llywio'r broses o drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn i'r Pwyllgor Busnes am ddewis y cynnig hwn.

Yn ystod y tri mis diwethaf, mae glaw monsŵn wedi achosi llifogydd trychinebus yn Bangladesh; gwres eithafol wedi crino rhannau o dde Asia ac Ewrop; sychder estynedig wedi gadael miliynau ar drothwy newyn yn nwyrain Affrica; ac yn agosach adref, edrychwch ar yr hyn sy'n digwydd yma: rydym yn profi tymheredd uchel iawn. Mae'r Senedd hon a'r Llywodraeth wedi cydnabod yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol sy'n ein hwynebu. Felly, mae'r achos dros drawsnewid ein heconomi a'n cymdeithas i allu byw o fewn terfynau adnoddau cyfyngedig ein planed yn ddi-droi'n-ôl bellach.

Ond y cwestiwn yw sut y cefnogwn y bron i 220,000 o swyddi ledled Cymru mewn diwydiannau a fydd, o ganlyniad i newid i sero net, yn anochel yn peidio â bod yn y dyfodol. Ni allwn aros yn segur tra bo gweithwyr a chymunedau'n wynebu'r newid cyflymaf a mwyaf sylweddol mewn degawdau. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Llafur Rhyngwladol wedi dweud ein bod yn byw mewn cyfnod o ddiweithdra uchel difrifol, pan gaiff swyddi newydd eu creu'n bennaf ar raddfeydd cyflog isel, gyda diffyg budd-daliadau a diogelwch amlwg, incwm real nad yw'n cynyddu, neu sy'n gostwng, a systemau nawdd cymdeithasol sydd naill ai'n gwbl absennol neu'n cael eu dogni'n llym.

Rhaid i'n huchelgais ar gyfer gweithwyr a'n cymunedau fod yn bellgyrhaeddol ac yn hollgynhwysol fel rhan o'r newid i sero net. Ni fydd yn newid teg na chyfiawn os bydd gweithwyr yn colli eu swyddi neu'n mynd i gyflogaeth fregus. Cawn ein rhybuddio y bydd gwledydd sy'n methu paratoi ar gyfer y newid economaidd hwn tuag at waith mwy bregus yn cael eu taro fwyfwy gan yr ansefydlogrwydd sy'n gysylltiedig â'r argyfwng hinsawdd. Rhaid inni darfu'n fwriadol ac yn rhagweithiol ar y duedd beryglus tuag at waith ansicr. Ac fel y cawn ein rhybuddio, mae newid mawr ar ei ffordd.

Rhaid inni sicrhau bod y newid nid yn unig wedi'i gynllunio'n dda, ond ei fod yn gymdeithasol gyfiawn. Am y rheswm hwn, rwy'n cynnig bod Llywodraeth Cymru yn ymestyn y cynllun peilot incwm sylfaenol parhaus i gynnwys y rhai a gyflogir mewn diwydiannau carbon-ddwys. Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol o fy nghefnogaeth i incwm sylfaenol cyffredinol, gan ddatgloi potensial a rhyddid pobl o bob cefndir sy'n cael eu dal yn ôl a'u hatal rhag llunio eu dyfodol eu hunain. Byddai incwm sylfaenol wedi'i dargedu at weithwyr yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y newid i sero net yn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu a'u grymuso i benderfynu ynglŷn â'u dyfodol. Byddai'n gweithredu fel rhwyd ddiogelwch wrth i'n heconomi newid ac wrth i ddiwydiannau addasu.

Rwy'n croesawu'r gwaith sy'n mynd rhagddo gan Lywodraeth Cymru yn eu cynllun ar gyfer cyflogaeth werdd, ond nid yw'n mynd i'r afael â'r ffordd y mae Cymru'n sicrhau ei fod yn newid teg. Nid yw'r cynllun yn glir ynghylch pa ddiwydiannau a gaiff eu cefnogi a pha gymorth fydd ar gael. Dim ond £1 filiwn sydd wedi'i ddyrannu ar gyfer y flwyddyn ariannol hon i gynllun gweithredu sgiliau Cymru Sero Net, nad yw'n adlewyrchu'r brys na'r raddfa, er y nodwyd bod tua 15 o ddiwydiannau ledled Ewrop yn debygol o newid yn sylweddol.

I orffen, yn fy marn i, bydd cynllun peilot incwm sylfaenol yn taflu goleuni ar botensial incwm sylfaenol i gefnogi gweithwyr nid yn unig i newid i economi ddi-garbon, ond i helpu Cymru i ddod yn gymdeithas decach, wyrddach a mwy cyfiawn. Gobeithio y gall y Senedd gefnogi'r gweithwyr hynny a'r cynnig hwn heddiw. Diolch yn fawr iawn.

15:30

Daeth Rhun ap Iorwerth i’r Gadair.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i Jane Dodds am roi'r cyfle unwaith eto i ni drafod incwm sylfaenol yn y Senedd hon, ac rwy'n falch o allu cyd-gyflwyno'r cynnig heddiw. Fel y bydd rhai o'r Aelodau'n cofio o'r ddadl a arweiniais yn galw ar Gymru i arwain y ffordd a chyhoeddi treial ar gyfer incwm sylfaenol cyffredinol yma yng Nghymru, un o brif atyniadau incwm sylfaenol i mi yw'r gallu i helpu trigolion i ymdopi—y rhwyd ddiogelwch y cyfeiriodd Jane Dodds ati. Ond nid rhwyd ddiogelwch yn unig sydd yno, ond y gallu i ganiatáu i breswylwyr ffynnu, i fod yn sbardun mewn cyfnod o newid sydd bron yn ddigynsail.

Mae cymheiriaid, yn fyd-eang, yn wynebu heriau na ellir eu hanwybyddu—newidiadau enfawr yn y ffordd y bydd ein heconomïau a'n cymdeithasau'n gweithio. Un o'r rhain yn arbennig yw testun y ddadl heddiw, sef yr angen i ailstrwythuro ein heconomïau i ymateb i her yr argyfwng hinsawdd. P'un a ydych yn derbyn y peth neu beidio, Aelodau—a gobeithio y bydd yr Aelodau yn y Siambr hon, bob un ohonom, yn ei dderbyn—mae dyfodol y ddynoliaeth mewn perygl. Os ydym am droi ein cymdeithasau'n garbon niwtral, ni fydd hyn yn hawdd, ond rwy'n siŵr ei fod yn creu cyfle mawr yn ogystal â heriau. Mae cymunedau fel fy un i yn Alun a Glannau Dyfrdwy, wedi'u hadeiladu o amgylch gweithgynhyrchiant, a dylent fod ar flaen y gad yn adeiladu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion carbon niwtral, yn seiliedig yn bennaf ar gynhyrchiant ynni, trafnidiaeth gynaliadwy ac ôl-ffitio busnesau a chartrefi.

Roeddwn yn falch o arwain dadl yn galw ar Gymru i fod yn genedl gyntaf y byd i ddadfuddsoddi mewn cronfeydd pensiwn o danwydd ffosil, a siaradais bryd hynny am y ffordd y gallai'r cronfeydd hyn sbarduno buddsoddiad yn y mathau o dechnolegau newydd sydd eu hangen arnom. Mae'r cynnig heddiw gan Jane Dodds yn ymwneud â'r ffordd y rheolwn y newid hwnnw. Fel peiriannydd ymchwil a datblygu hyfforddedig, sy'n rhywbeth eithaf anarferol mewn gwleidyddiaeth etholedig, ymhell o fod yn gynghorydd gwleidyddol, mae gennyf allu i gydnabod y newid enfawr hwn yn ein cymdeithas, a'r newidiadau a wynebwn, a'r heriau a wynebwn oherwydd awtomeiddio, digideiddio a deallusrwydd artiffisial. Bydd y swyddi yr ystyriwn eu bod yn fedrus iawn yn cael eu gwneud gan robotiaid, yn cael eu gwneud gan beiriannau. Ond mae'r newid yn digwydd, hoffi neu beidio, a ph'un a ydym yn ei wrthsefyll ai peidio. Ac mae'n rhaid inni ei reoli.

Un o fy rolau fel peiriannydd oedd rheoli newid, a rhaid inni ddysgu o enghreifftiau lle mae Llywodraethau wedi rheoli newid yn drychinebus o wael. Ac yn fy nghymuned i, sef Alun a Glannau Dyfrdwy, rydym wedi gweld hynny'n uniongyrchol. Rydym yn dal i deimlo poen hynny'n uniongyrchol. Cawsom ein taflu i'r bleiddiaid pan ddigwyddodd dad-ddiwydiannu yn yr 1980au ar ffurf cyfres o newidiadau heb eu rheoli, o ganlyniad i ideoleg Thatcheraidd. Fe niweidiodd fywydau ac fe niweidiodd gyfleoedd bywyd. Fel y dywedais, rydym yn dal i deimlo'r boen yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Yn yr etholiad diwethaf, honnodd Torïaid y DU eu bod yn cydnabod hyn, a'u bod yn honni ac yn siarad am godi'r gwastad. Ond nid yw hynny wedi digwydd. Ac yn awr—fe'i gwelwn, oni wnawn—maent yn cefnu ar y syniad a'r addewidion hyn yn gyflym, ac maent hyd yn oed yn sôn am ddychwelyd i'r hunllef Thatcheraidd sy'n gysylltiedig ag Alun a Glannau Dyfrdwy—y diswyddiad torfol mwyaf yn Ewrop. 

Lywydd Dros Dro, mater i rymoedd mwy beiddgar fydd rheoli'r newid hwn yn briodol, rheoli ac archwilio'r atebion polisi beiddgar fel incwm sylfaenol cyffredinol. Mae ein Haelodau Ceidwadol yn gweiddi na ellir ei wneud, ac maent wedi'i weiddi o'r blaen. Ond oni wnaethant honni hynny pan gafodd ein GIG annwyl ei grybwyll yn gyntaf a'i gyflawni gan Lafur Cymru? Felly, gyd-Aelodau, rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Senedd heddiw. Rwy'n gobeithio y bydd fy nghyd-Aelodau—

15:35

Fe wnaethoch grybwyll y GIG yno, ond fel y gwyddoch, ac rwyf am ichi gadarnhau hyn, Gweinidog iechyd Ceidwadol a argymhellodd y dylid creu gwasanaeth iechyd gwladol am y tro cyntaf—Henry Willink yn 1941. Felly, mae dweud ein bod bob amser wedi gwrthwynebu'r gwasanaeth iechyd gwladol yn ffeithiol anghywir, onid yw?

Wel, nid yw'n ffeithiol anghywir o gwbl, oherwydd Nye Bevan oedd yr unigolyn a gyflwynodd y gwasanaeth iechyd. Felly, os edrychwch ar y ffeithiau hynny, Joel James, fe welwch hynny. Ac mae'n fwy na'r GIG yn unig, onid yw? Rydym wedi clywed y dadleuon hyn o'r blaen. Yr un oedd y ddadl pan wnaethom geisio atal plant rhag mynd i lawr y pyllau glo 100 mlynedd yn ôl. Nid oeddech yn derbyn hynny bryd hynny, ac nid ydych yn derbyn hyn yn awr. 

Gyfeillion, rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Senedd. Rwy'n gobeithio y bydd ein cyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn cefnogi'r cynnig beiddgar a gyflwynwyd, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur Cymru feiddgar, dan Mark Drakeford, yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch yn fawr. 

Diolch am gynnig y ddadl hon, Jane. Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn cytuno bod nifer sylweddol o weithwyr Cymru'n cael eu cyflogi mewn diwydiannau a fydd yn newid yn sylweddol fel rhan o'r trawsnewid i sero net. Fodd bynnag, nid wyf wedi fy argyhoeddi bod y newid i economi ddi-garbon yng Nghymru yn mynd i achosi diweithdra eang na chael unrhyw effaith negyddol ar gyflogaeth o gwbl. Os rhywbeth, byddwn yn dadlau y bydd y diwydiannau hyn yn buddsoddi mwy yn eu staff er mwyn eu hyfforddi ar gyfer y newid i ddatgarboneiddio, ac fel y cyfryw, nid wyf yn deall pam y byddai pobl yn meddwl y gallai fod yn newid anghyfiawn i weithwyr wrth inni symud i economi ddi-garbon.

At hynny, mae gennym gyfreithiau cyflogaeth cryf ledled y Deyrnas Unedig, felly hyd yn oed pe bai gweithwyr mewn sefyllfa lle cawsant eu gwneud yn ddi-waith o ganlyniad i ddatgarboneiddio, byddent yn cael eu digolledu fel y bo'n briodol. Mae hyn yn fy arwain i gwestiynu pa dystiolaeth sydd wedi'i chyflwyno i awgrymu, yng Nghymru, y bydd y rhai a gyflogir mewn diwydiannau sy'n datgarboneiddio yn cael eu heffeithio'n annheg. Yn ystod y trawsnewid i fod yn ddi-garbon, rwy'n credu ei bod yn debygol y bydd gweithwyr yn gweld gwelliannau yn eu hamodau gwaith, ac mae'n debyg y byddant yn cael gwell cyflogau yn y tymor hir, wrth i'r busnesau arbed arian drwy dechnolegau mwy effeithlon.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol iawn fod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, corff statudol annibynnol a sefydlwyd o dan Ddeddf Hinsawdd 2008 gyda'r diben o gynghori'r DU a'r Llywodraethau datganoledig ar addasu, ymhlith pethau eraill, i effeithiau newid hinsawdd, wedi dweud y bydd y newid i Sero Net yng Nghymru,

'yn creu arbedion gwirioneddol, wrth i bobl ddefnyddio llai o adnoddau a mabwysiadu technolegau glanach, mwy effeithlon,' 

Ac felly, byddwn yn dadlau bod galw ar Lywodraeth Cymru i roi arian i bobl ar ffurf incwm sylfaenol i helpu'r newid hwn, ar y rhagdybiaeth y bydd gweithwyr yn cael eu heffeithio'n annheg, yn ddefnydd anghyfrifol o arian cyhoeddus.

At hynny, mae'r syniad fod incwm sylfaenol i'r rhai a gyflogir mewn diwydiannau sy'n datgarboneiddio i'w helpu i brofi newid teg yn ddiffygiol, oherwydd ni fydd gan gyflogwyr unrhyw gymhelliant i gynyddu cyflogau a rhoi yn ôl i gyflogeion y manteision ariannol sy'n deillio o ddatgarboneiddio eu diwydiannau. Mae'n debygol o effeithio'n anghymesur ar y rhai mewn swyddi â chyflogau is yn fwy na swyddi sy'n talu'n well, gan gyfyngu ar y duedd tuag at isafswm cyflog uwch a fyddai'n debygol o gael ei ddarparu gan fusnesau sy'n symud tuag at allbynnau di-garbon. Rhaid inni fod yn ymwybodol y bydd y treial incwm sylfaenol hefyd yn rhoi arian i lawer o bobl sydd eisoes yn cael eu talu'n dda iawn am y gwaith, a bydd hyn yn cael ei wneud ar draul helpu rhai o'r bobl dlotaf yng Nghymru.

Rhaid inni gwestiynu ble y mae pobl yn credu y daw Llywodraeth Cymru o hyd i'r arian ar gyfer y treial incwm sylfaenol estynedig hwn. Ni allant ei fenthyca, ac yn sicr ni ddylent allu gwneud hynny. 

15:40

Diolch. Ar yr £1 biliwn yn llai a gawsom, neu na chawsom, yng Nghymru, onid eich lle chi yw dadlau dros anghenion Cymru wrth eich Llywodraeth yn y DU, er mwyn inni gael yr hyn sydd ei angen arnom? 

Mae'n ddrwg gennyf, ond a wnewch chi ailadrodd y cwestiwn eto, ond i mewn i'r meicroffon? 

Rwy'n ymddiheuro, Joel. Ar y sylw yr ydych newydd ei wneud, y dylem gael mwy o arian yng Nghymru, a wnewch chi ddweud wrthyf pam nad ydym yn cael yr arian y dylem fod wedi'i gael i Gymru, fel y gallwn wneud mwy gyda'r hyn y dylem ei gael?

Fel y mae Janet wedi'i ddweud eisoes, credaf ein bod eisoes yn cael ein hariannu'n ddigonol fel y mae. [Torri ar draws.]

Diolch, Lywydd dros dro. Fel y nododd Janet, credaf ein bod eisoes yn cael ein hariannu'n ddigonol fel y mae. Nid yw Llywodraeth y DU yn mynd i gynyddu cyllideb Llywodraeth Cymru i gefnogi'r arbrawf costus hwn, ac felly byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ag arian o gyllidebau iechyd, addysg a chyllidebau eraill yng Nghymru, sydd, fel y clywsom dro ar ôl tro yn y Siambr hon, yn sectorau sydd eisoes mewn angen dybryd. 

Yr wythnos diwethaf, ymwelais ag ysgol gynradd yng Nghaerdydd y mae ei hadeilad mewn cyflwr mor wael fel bod sgaffaldiau wedi'u codi yno ers dros dair blynedd. Mae llwydni du yn gorchuddio waliau ystafelloedd dosbarth, prin y gellir agor ffenestri i awyru'r ysgol, ceir problemau lleithder sylweddol gyda phlastr wedi cracio'n disgyn, mae amser cinio wedi'i wasgaru dros ddwy awr oherwydd bod 40 y cant o'r iard chwarae dan sgaffaldiau, nid oes bron ddim golau naturiol mewn ystafelloedd dosbarth, mae dŵr yn gollwng yn agos at bwyntiau trydanol, ac mae'n rhaid defnyddio bwcedi i ddal dŵr glaw. Rwy'n cwestiynu sut y mae ehangu'r cynllun peilot incwm sylfaenol hwn yn ddefnydd da o arian cyhoeddus pan fo'r Llywodraeth hon yn caniatáu i blant ein gwlad gael eu haddysgu mewn amodau mor ofnadwy.

A gaf fi atgoffa'r Aelodau hefyd nad yw'r incwm sylfaenol yn fater sydd wedi'i ddatganoli? Dylem annog y Llywodraeth i roi'r gorau i wastraffu arian ar y prosiectau dibwrpas hyn, a defnyddio'u hamser a'u hadnoddau i ddatrys y materion y mae ganddynt gyfrifoldeb i'w datrys, megis ceisio datrys y safonau addysg sy'n gostwng yn barhaus ac ymdrin â'r 700,000 o bobl sydd ar restrau aros y GIG. Lywydd Dros Dro, ni welaf unrhyw fudd i bobl Cymru o fod y Llywodraeth hon yn ymestyn eu treial incwm sylfaenol a gwastraffu arian cyhoeddus yn y ffordd hon. Nid wyf yn credu yr effeithir yn annheg ar weithwyr mewn diwydiannau sy'n newid i fod yn ddi-garbon. Felly, hoffwn annog pob Aelod yma i bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn. Diolch.  

I ddechrau, wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ni allwn ganolbwyntio ar ddatgarboneiddio'r economi yn unig. Mae'n rhan bwysig, ydy, ond mae arnom angen newid ehangach hefyd yn y ffordd y mae ein heconomi'n gweithio a sut yr awn ati i fyw ein bywydau o ddydd i ddydd. Mae arnom angen trawsnewid ac ad-drefnu'r system economaidd bresennol yn sylweddol er mwyn mynd i'r afael yn effeithiol â'r newid hinsawdd ac ymateb i ganlyniadau'r argyfwng hinsawdd. Y gwledydd a'r poblogaethau tlotaf a mwyaf ymylol yw'r rhai sy'n lleiaf cyfrifol am gynhyrchu nwyon tŷ gwydr, ond maent yn fwy tebygol o fod yn agored i effeithiau negyddol newid hinsawdd, ac mae eu gallu i gael gafael ar yr adnoddau sydd eu hangen i ymateb, ymdopi ac ymadfer yn sgil effaith yr argyfwng hinsawdd yn fwy cyfyngedig. Rhaid rhoi anghydraddoldebau wrth wraidd strategaeth effeithiol ar gyfer mynd i'r afael â'r newid hinsawdd. Rhaid i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd olygu mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb hefyd.

Nawr, i siarad am y cynnig, bydd newid teg yn hanfodol. Mae nifer o'r Aelodau ar draws y Siambr wedi gwneud y pwynt hwn yn y gorffennol. Rhaid inni fynd â phobl gyda ni ar y daith tuag at sero net. Mae un o bob pum gweithiwr yng Nghymru mewn sectorau hinsawdd-gritigol, sectorau y bydd y newid i sero net yn effeithio'n aruthrol arnynt. Dyma'r sectorau carbon uchel y mae cynifer o gymunedau yng Nghymru yn dibynnu arnynt ar gyfer cyflogaeth a llwyddiant economaidd. Dyna un o'r rhesymau pam y bûm yn dadlau o blaid comisiwn pontio teg ers cael fy ethol, er mwyn cael corff i fonitro penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â sero net ac i asesu'r effaith ar ein cymunedau a sicrhau bod cynllun ar waith ar gyfer y cymunedau hynny, megis cyfleoedd ailhyfforddi. Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi sefydlu comisiwn o'r fath.

Y gwir amdani yw na allwn fforddio gadael pobl ar ôl yn yr un modd ag y gadawyd pobl ar ôl pan gaeodd y pyllau glo yn ystod cyfnod Thatcher. Mae Jack Sargeant eisoes wedi tynnu sylw at hyn. Ni chafodd ei effeithiau ar gymunedau eu monitro, ni chafwyd cynllun i ymdrin â'r canlyniadau, ac o ganlyniad, rydym yn dal i deimlo effeithiau'r cyfnod hwnnw heddiw. Ni allwn adael i'r un camgymeriadau gael eu gwneud eto. 

Nawr, wrth gwrs, fel y noda'r cynnig, un ffordd y gallwn liniaru rhai o effeithiau posibl sero net fyddai drwy incwm sylfaenol. Bydd sicrhau sylfaen i bobl gyda'r nod o'u hatal rhag syrthio i dlodi yn mynd yn bell. A chyda llaw, ochr yn ochr â pholisi a chynllun peilot Llywodraeth Cymru, nid oes angen inni edrych yn bell am enghreifftiau o sut y byddai hyn yn gweithio. Rydym wedi cael math o incwm sylfaenol i ffermwyr ers nifer o flynyddoedd bellach. Mae'n gysyniad profedig ar gyfer cefnogi sectorau a'r gweithwyr yn y sectorau hynny, a hoffwn annog yr Aelodau i bleidleisio o blaid y cynnig hwn heddiw. Bydd y newid i sero net yn orchest enfawr. Rhaid iddo ddigwydd. Nid oes dadl gredadwy yn erbyn ei weld yn digwydd, ond rhaid inni sicrhau bod cymunedau'n cael eu diogelu a'u cefnogi tra bydd yn digwydd.

Yn olaf, Gadeirydd, hoffwn ddiolch i Jane Dodds am gyflwyno'r cynnig, ac rwy'n falch iawn ei bod wedi gofyn i mi gyd-gyflwyno.

15:45

Diolch i Jane am gynnig y ddadl hynod bwysig hon, ac rwy'n falch iawn o'i chyd-gyflwyno i'r Senedd. Mae'r broses o gyflwyno treial incwm sylfaenol Llywodraeth Cymru yn gam sydd i'w groesawu'n fawr tuag at system les fwy blaengar. Edrychaf ymlaen at weld y canlyniadau ac rwy'n gobeithio y byddant yn arwain at ymestyn incwm sylfaenol yn ehangach ledled Cymru.

Nid yw'r llwybr at economi ddi-garbon yn un hawdd. Bydd angen penderfyniadau anodd gan wleidyddion, newidiadau mawr i'r ffordd y mae ein cymdeithas yn gweithredu ac addasu ein ffyrdd o fyw a'n hymddygiad. Gadewch imi fod mor glir â'r dystiolaeth ar newid hinsawdd: nid oes gennym ddewis ond dilyn y llwybr hwnnw. Nid oes amheuaeth nad ydym yn wynebu rhwystrau mawr a brawychus weithiau. Rhaid inni fod yn onest am y bygythiadau y maent yn eu creu, yn enwedig i ddiwydiannau carbon-ddwys. Ond er ein bod yn dal i orfod goresgyn heriau ar hyd y ffordd, bydd trawsnewid i economi ddi-garbon hefyd yn darparu llu o gyfleoedd i adeiladu cymdeithas decach, fwy cyfartal a gwyrddach. 

Mae'n ddyletswydd arnom ni fel gwleidyddion i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn, ac yn hynny o beth hoffwn ganolbwyntio ar ddau ddiwydiant yn enwedig: amaethyddiaeth anifeiliaid a gofal. Mae amaethyddiaeth anifeiliaid, fel y gwyddom, yn arbennig o ddwys o ran carbon, yn ogystal â bod yn brif achos llygredd afonydd. Bydd lleihau neu ddileu ein dibyniaeth ar fwyta cig a chynnyrch llaeth yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd. Fodd bynnag, mae'r protestiadau ffermwyr enfawr sy'n parlysu'r Iseldiroedd ar hyn o bryd yn dangos pa mor bwysig yw hi fod newid ffermio yn deg ac mor flaengar â phosibl. Gall darparu incwm sylfaenol i'r diwydiant ffermio roi hyblygrwydd a chyfle iddynt arallgyfeirio eu modelau busnes i baratoi ar gyfer cymdeithas sy'n llai dibynnol ar fwyta cig a llaeth. 

Yn y Ffindir, mae datblygiadau technolegol yn cael eu harneisio i droi bacteria a hydrogen yn broteinau y gellir eu defnyddio wedyn i wneud unrhyw beth o laeth ac wyau i gig a physgod a dyfir yn y labordy, a'r cyfan heb unrhyw niwed i anifeiliaid. Gallai addasiadau bach i'r proteinau hyn gynhyrchu asid lawrig, a allai ddod â'r defnydd hynod ddinistriol o olew palmwydd i ben. Mae'r awdur amgylcheddol, George Monbiot, yn rhagweld y bydd y dechnoleg hon yn gwneud y ddadl rhwng deiet planhigion a deiet yn seiliedig ar gig yn amherthnasol, a chyda phob math o fwydydd yn cael eu creu yn y modd cellog hwn, gallai'r bwydydd di-fferm hyn, fel y mae Monbiot yn eu galw, ganiatáu inni roi rhannau helaeth o'n tir yn ôl i natur, lleihau'r defnydd o blaladdwyr yn helaeth a rhoi diwedd ar ddadgoedwigo. A dyma lle daw'r Llywodraeth i mewn: os caiff y dechnoleg hon ei harneisio gan y wladwriaeth a'i chadw allan o ddwylo'r sector preifat, gallai ddarparu bwyd iach fforddiadwy a helaeth i'r ddynoliaeth. Yn hytrach na rhoi cymhorthdal i ffermio carbon-ddwys, gallem ddarparu incwm sylfaenol a swyddi gwyrdd sy'n eiddo i'r wladwriaeth i ffermwyr heddiw i'w helpu i greu bwyd y dyfodol.

Ac yn y diwydiant gofal, byddai incwm sylfaenol i weithwyr gofal yn ail-lunio'r diwydiant o fod yn un ag iddo enw am gontractau dim oriau ansicr, cyflog isel a throsiant staff uchel i fod yn un a allai drawsnewid gwasanaethau gofal i'r rhai sydd eu hangen ac i'r rhai sy'n gweithio ynddynt. Byddai ymestyn yr incwm sylfaenol i weithwyr gofal nid yn unig yn annog ac yn creu cyflogaeth, byddai hefyd yn hybu cydraddoldeb oherwydd y gyfran uchel o'r gweithlu sy'n fenywod neu'n ddu, Asiaidd, neu leiafrifol ethnig.

O ran helpu'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd, mae ymchwil yn dangos bod swyddi mewn gofal yn cynhyrchu allyriadau is na'r swydd gyfartalog, gan helpu Cymru ar ei ffordd tuag at economi ddi-garbon. Mae unrhyw ymgais ddifrifol i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn ei gwneud yn ofynnol inni ystyried yr obsesiwn neoryddfrydol â thwf a mesur cynnyrch domestig gros. Byddai buddsoddi'n briodol mewn adferiad a arweinir gan ofal yn dangos ymrwymiad i adeiladu cymdeithas sy'n gwerthfawrogi'n briodol y mesuriadau hynny nad ydynt yn rhai economaidd, megis hapusrwydd a lles.

Mae effeithiau'r argyfwng hinsawdd yn wanychol yn fyd-eang ar gynifer o bethau. Gall olwynion newid mewn gwleidyddiaeth fod yn rhwystredig ac yn araf i ymateb i ofynion cymdeithas, ond gyda newid hinsawdd, nid oes gennym amser i fod yn araf. Mae Cymru eisoes wedi dangos y gall arwain ar newid hinsawdd. Rhaid inni barhau i arwain drwy groesawu'r atebion radical ac uchelgeisiol a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer newid teg i economi ddi-garbon. Diolch.

15:50

Er gwaethaf yr holl gwyno yma ynghylch pa mor brin o arian ydych chi gan Lywodraeth y DU, y mis diwethaf, ar gost o £20 miliwn, cyhoeddwyd y byddai tua 500 o bobl sy'n gadael gofal yng Nghymru bellach yn cael swm penodol o arian: £1,600 bob mis am ddwy flynedd, yn yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn cyfeirio ato fel arbrawf radical. Nid ydym fis i mewn i'r gofynion hyn hyd yn oed ac maent bellach yn awgrymu y dylid cyflwyno'r incwm sylfaenol cyffredinol i weithwyr mewn diwydiannau a fydd yn newid yn sylweddol yn rhan o newid Cymru i fod yn economi ddi-garbon. Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn methu ei weld, ac yn wir unrhyw un sy'n cefnogi'r nodau hyn, yw mai'r hyn y mae ar bobl Cymru ei angen yw cyfle; nid ydynt yn edrych am arian am wneud dim.

Mewn gwladwriaeth faldodus ers 22 mlynedd, mae Mark Drakeford a'i ragflaenwyr wedi methu adeiladu gwladwriaeth Gymreig fodern sy'n addas ar gyfer heriau'r dyfodol. Maent wedi methu gweithredu ymrwymiadau maniffesto craidd, ac argymhellion gan y Senedd ar faterion fel Deddf aer glân a deddfwriaeth ar gynllunio morol yng Nghymru. Maent wedi methu gwneud y gorau o ddatganoli, gan wneud y mwyaf ohono i'r graddau fod y lefelau tlodi uchaf erioed ymhlith babanod a phlant—

Dim ond i wneud pwynt syml iawn ar faniffestos: mae maniffestos ar gyfer y tymor, hyd Senedd gyfan, nid i'w gyflawni ar y diwrnod cyntaf. Er bod yn rhaid imi ddweud, mae pump o'r pwyntiau allweddol a oedd gennym ym maniffesto Llafur eisoes wedi'u cyflawni, ynghyd â rhai eraill a oedd yn rhan o'r cytundeb cydweithio. Fe gyrhaeddwn yno ar y pethau eraill.

Diolch am y cyfraniad hwnnw, ond bydd yn rhaid inni anghytuno. O'm  rhan i, rydych wedi gwneud cam â phobl Cymru mewn perthynas â Deddf aer glân.

Mae gennym y lefelau tlodi uchaf erioed ymhlith babanod a phlant a lefelau isel o fuddsoddiad yn ein trefi a'n dinasoedd. Mae draen dawn wedi lledu ar draws y wlad, gan adael ein diwydiannau, ein gwasanaeth sifil a'n hysbytai yn brin o staff a heb unrhyw le i dyfu. Mae cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol yn ymgorfforiad o gyflwr presennol materion Llywodraeth Cymru. O dan y rhagdybiaeth sy'n sylfaen iddo, mae incwm sylfaenol cyffredinol yn cyflwyno'r syniad y dylai rhai fod â hawl—hawl—i gael tâl gan y wladwriaeth a bod ar eraill rywbeth i ni fel unigolion. Ond pryd y bu hyn erioed yn feddylfryd y mwyafrif o bobl Cymru? Gadewch inni beidio ag anghofio bod Cymru ar un adeg yn genedl wych o ran adeiladu gwladwriaeth yma ar ynysoedd Prydain. Ymhell cyn y Magna Carta, cawsom gyfreithiau Hywel, y gyfres fwyaf blaengar a chynhwysfawr o gyfreithiau a osododd sylfaen ar gyfer cymdeithas wâr a blaengar yng Nghymru. O hau pridd ein caeau gwyrdd, i gloddio ein pyllau glo a'n chwareli llechi, mae ein pentrefi arfordirol a'n cymunedau mynyddig wedi goroesi adfyd, ac wedi parhau'n ymrwymedig i wella bywydau'r rhai yn ein cymunedau drwy eu dycnwch, eu gwaith caled a'u penderfyniad eu hunain.

15:55

Wel, cawsom ddatganoli ers 24 mlynedd, gyda Llafur, a Phlaid Cymru yn eu cynnal. Dyna lle'r aeth o'i le.

Onid ydych yn sylweddoli eich bod wedi bod yn siarad am Gymru annibynnol am y pum munud diwethaf?

Ein hacademyddion—[Torri ar draws.] Allforiodd ein hacademyddion syniadau rhyddfrydiaeth ac ideoleg geidwadol, gan ymladd dros hawliau eiddo tir, hunanbenderfyniad crefyddol a chydnabyddiaeth ddiwylliannol a threftadaeth, a'r hawl i siarad mamiaith y genedl. Ni wnaethom gyflawni hyn drwy demilad o hawl, na thrwy'r syniad fod rhywbeth yn ddyledus i ni fel pobl. Fe wnaethom ddyfalbarhau oherwydd ein bod wedi brwydro i wneud hynny. Mae ein pobl a'n cenedl yn falch ac yn hanesyddol maent wedi cael eu parchu am eu gallu eu hunain i fwrw ymlaen â'r gwaith.

Mae newid yn y gwynt gyda Llafur Cymru wedi golygu bod y wladwriaeth hon, dros y 22 mlynedd diwethaf, wedi gwneud cam â phobl Cymru. Mae wedi methu darparu addysg ddigonol, i ddatblygu meddylwyr ac arloeswyr newydd. Mae wedi methu sefydlu system gofal iechyd sy'n gofalu am bobl o'r diwrnod cyntaf, ac mae wedi methu adeiladu seiliau sylfaenol gwladwriaeth sy'n meithrin twf ac yn hwyluso cyfnod modern o fod yn wladwriaeth Gymreig. Mae hyn yn arwain heddiw at roi arian am ddim a chaniatáu i genedlaethau'r dyfodol wynebu'r canlyniadau yn nes ymlaen. Os nad oes cyfle i bobl Cymru, neu os ydynt yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd, neu os na allant ddod o hyd i swyddi, y rheswm am hynny yw bod Llafur Cymru wedi methu treulio eu blynyddoedd fel Llywodraeth yn gweithio ar bolisi sy'n sicrhau canlyniadau real i wella bywydau pobl.

Nawr, wrth gwrs, byddant yn gwerthu'r syniad o incwm sylfaenol cyffredinol fel gwleidyddiaeth dosturiol. Ond ble roeddent—? Yn wir, ble rydych chi yn awr, pan fo gan Gymru rai o'r cyfraddau tlodi plant uchaf yn Ewrop? Ble roeddent pan roddwyd mandad ar ôl mandad iddynt ddatrys y problemau a welwn mor aml—

Diolch yn fawr iawn. Mewn perthynas â rapporteur tlodi'r Cenhedloedd Unedig a feirniadodd yn llwyr y system les gamweithredol ar y pryd, sut rydych chi'n teimlo bod diffyg system les weithredol yn effeithio ar dlodi yng Nghymru? 

Yn y pen draw, dylem geisio rhoi cyfle cyfartal i bobl, gan eu helpu i ddod o hyd i waith, a hybu potensial pawb, nid dweud, 'Wyddoch chi beth, fe fyddwn yn wladwriaeth faldodus ac fe rown arian i chi beth bynnag.' Ble mae'r cymhelliad i unrhyw un feddwl y gallant fod yn greadigol? Mae wedi mynd.

Ond eto, ble roeddent pan gawsant fandad ar ôl mandad i ddatrys y problemau yr ydym i gyd yn dyst iddynt heddiw? System iechyd sy'n methu, system addysg sydd â safonau gwael iawn—[Torri ar draws.] O, dewch.

Na, mae arnaf ofn nad oes amser. Rydym wedi caniatáu ymyriadau, ond mae'r cloc yn ein herbyn. Janet Finch-Saunders.

Diolch. Mae Cymru wedi dangos ei bod yn arwain y byd ar lawer yn y gorffennol. Yr hyn sydd ei angen yn awr yw i'r Llywodraeth hon yng Nghymru ystyried rhinweddau ei phobl ei hun a pha mor bell y maent wedi cario Cymru, ond hefyd faint ymhellach y gallwn fynd. Dylai gwleidyddiaeth heddiw ymwneud â sicrhau swyddi i'ch plant a'ch wyrion. Mae hyn yn ymwneud â mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n bodoli o fewn proses weinyddol Cymru, a chyflwyno'r achos—

A wnewch chi ddod â'ch sylwadau i ben, os gwelwch yn dda? Diolch yn fawr iawn.

—ar gyfer cyllid yng nghenedlaethau'r dyfodol. Pleidleisiwch yn erbyn hyn heddiw, newidiwch Lywodraeth Cymru yfory, ac yn sicr fe gaiff pob un ohonom ddyfodol llawer gwell a mwy disglair.

Gaf i alw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, os gwelwch yn dda?

Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Mae pynciau'r ddadl hon heddiw yn agos at galon blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, yn ogystal â blaenoriaethau'r Aelodau a gyflwynodd y cynnig hwn i'w drafod heddiw. Mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi ein cynlluniau ar gyfer adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni wneud y cynnydd mwyaf posibl tuag at ddatgarboneiddio. Ac yn ein cytundeb cydweithio yn 2021 gyda Phlaid Cymru, fe wnaethom nodi cynlluniau uchelgeisiol i greu Cymru carbon isel a symud tuag at sero net. Mae hwn yn gynnig sy'n gofyn am ymateb ar draws y Llywodraeth, yn amlwg. A fy nghyd-Weinidog, Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, sy'n gyfrifol am bolisi economaidd ac ymyriadau i gefnogi diwydiant a busnes, ond rwyf am amlinellu'n fyr ein safbwynt ar newid i economi ddi-garbon.

Mae hwn yn gyfnod heriol i fusnesau ac unigolion, gyda chostau ynni a deunyddiau crai'n cynyddu'n sylweddol. Ac yn erbyn y cefndir hwn y mae angen inni ddatblygu economi fwy gwydn yng Nghymru gan gyflawni ein nodau lleihau carbon ar yr un pryd. Mae sicrhau newid teg i sero net yn hanfodol, ac mae wedi bod yn un o amcanion pennaf y Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae'n rhaid inni fynd â holl ddinasyddion Cymru gyda ni heb adael unrhyw un ar ôl wrth inni symud i ddyfodol gwyrddach, tecach. A dyma pam fod y polisi cyntaf yn ein cynllun Cymru Sero Net yn canolbwyntio ar sicrhau newid teg, fel y mae Aelodau wedi galw amdano heddiw.

Mae angen inni sicrhau bod y newid i ddyfodol glanach, tecach yng Nghymru a’r byd yn cael ei reoli’n ofalus. A diolch, Jane Dodds, am dynnu sylw at effaith y newid hinsawdd ar Affrica. Bydd y newidiadau, sy’n cael eu hysgogi gan yr angen i ddatgarboneiddio ein heconomi yma ac yn y byd wrth gwrs, yn cael effaith ar ddiwydiannau, sectorau’r gweithlu a grwpiau economaidd-gymdeithasol mewn gwahanol ffyrdd, yn dibynnu ar y llwybrau, y polisïau a’r camau gweithredu a ddewiswn. Fel Llywodraeth, mae gennym ymrwymiad cryf i amodau gwaith teg i weithlu Cymru, ac mae hyn yn ganolog i’n newid i economi ddi-garbon, wrth inni geisio creu Cymru lanach, gryfach, decach. Mae llais gweithwyr a chynrychiolaeth gyfunol yn nodwedd hanfodol o waith teg, felly mae'n bwysig fod gan weithwyr yn y sectorau yr effeithir arnynt lais cryf a'u bod yn cael eu cynrychioli'n effeithiol yn y newid i sero net. Mae'n hanfodol ein bod yn ymgysylltu â'r gweithlu a busnesau i ddatblygu dealltwriaeth lawn o effaith y newid ar y gweithlu yn y sectorau yr effeithir arnynt.

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni'r newid i economi ddi-garbon drwy'r dull partneriaeth gymdeithasol dan arweiniad fy Nirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, gan ddod â’r Llywodraeth, undebau llafur a chyflogwyr ynghyd, a chan gydnabod pwysigrwydd ymgysylltu’n gynnar. Wrth greu diwydiannau a swyddi’r dyfodol, byddwn yn adolygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y newid i sero net ac yn ceisio darparu cyfleoedd i adleoli gweithwyr o sectorau diwydiannol traddodiadol. Byddwn yn ymgysylltu â’r gweithlu a'r diwydiant fel rhan o’r cynlluniau hyn. Ond rydym hefyd wedi cytuno i weithio gyda Llywodraeth yr Alban, drwy eu fforwm polisi newid teg, er mwyn inni allu rhannu a dysgu gan ein gilydd ar y cyd.

Fel y dywed Jack Sargeant, yn gywir ddigon, rhaid inni newid o economi sy’n seiliedig ar danwydd ffosil i un sy’n seiliedig ar drydan a hydrogen, a gynhyrchir i raddau helaeth o ynni adnewyddadwy—a diolch, unwaith eto, Jack, am eich arweinyddiaeth a’ch profiad gwaith uniongyrchol a'ch arbenigedd ar y materion hyn. Bydd creu seilwaith newydd sy'n seiliedig ar drydan yn creu llawer o gyfleoedd newydd, gan gynnwys mewn meysydd gweithgynhyrchu traddodiadol, ac rydych yn gwneud pwyntiau rhagorol am effaith y newid ar y gweithlu presennol. Rydym wedi ymrwymo, fel y dywedais, i sicrhau bod llais gweithwyr yn cael ei glywed—y rheini sydd â'r profiad byw hwnnw a'r ddealltwriaeth a'r sgiliau hynny—a'n bod yn gwrando arnynt fel rhan o'r newid hwn.

Gan droi at y cynllun peilot incwm sylfaenol, fel y gŵyr yr Aelodau, ar 28 Mehefin, gwneuthum ddatganiad yn cyhoeddi dechrau’r cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru. Mae’r cynllun peilot yn brosiect radical ac arloesol, sy’n cynnig sefydlogrwydd ariannol i dros 500 o bobl sy’n gadael gofal yng Nghymru, a bydd llawer ohonoch ar draws y Siambr wedi clywed y datganiadau teimladwy gan bobl ifanc sy’n rhan o'r cynllun peilot hwnnw. Mae’n brosiect hynod gyffrous, sy’n rhoi sefydlogrwydd ariannol i genhedlaeth o bobl ifanc. Mae gormod o bobl sy’n gadael gofal yn wynebu rhwystrau enfawr rhag gallu cyflawni eu gobeithion a’u huchelgeisiau, megis problemau gyda chael cartref diogel a sefydlog i gael swydd ac adeiladu gyrfa foddhaus, a bydd y cynllun hwn yn helpu pobl i fyw bywyd heb rwystrau a chyfyngiadau o’r fath. Ond byddwn yn gwerthuso'r gwersi a ddysgwyd o'r peilot yn ofalus. Bydd gwrando ar bawb sy’n cymryd rhan yn hollbwysig wrth bennu llwyddiant y prosiect uchelgeisiol ac arloesol hwn, a byddwn yn archwilio i weld a yw incwm sylfaenol yn ffordd effeithlon o gefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ac nid yn unig o fudd i’r unigolyn, ond i’r gymdeithas ehangach hefyd.

Bydd y gwerthusiad yn ystyried effaith y peilot o ran gwella profiadau pobl o ofal unigol a sut y mae bod yn rhan o’r cynllun peilot wedi effeithio ar fywydau pobl ifanc, gydag adborth rheolaidd gan dderbynwyr a fydd yn sicrhau bod y gwerthusiad yn seiliedig ar eu profiadau, ac yn cefnogi gwelliannau i'r peilot wrth iddo gael ei gyflwyno. Ond wrth gwrs, y bwriad yw y bydd y cynllun peilot hefyd yn darparu gwybodaeth werthfawr i brofi manteision honedig incwm sylfaenol, megis mynd i’r afael â thlodi a diweithdra a gwella iechyd a llesiant ariannol. Felly, mae'n debygol o ddarparu gwybodaeth a mewnwelediad gwerthfawr ar gyfer y dyfodol ynghylch sut y gallai'r cysyniad o incwm sylfaenol fod yn berthnasol i grwpiau eraill yn ehangach. Fel y mae'r Aelodau wedi nodi heddiw, mae'r cynllun a'r gweithrediad yn profi rhai o egwyddorion incwm sylfaenol.

Nawr, Ddirprwy Lywydd dros dro, rwy’n cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Mae'n cyd-fynd ag amcanion Llywodraeth Cymru. Rydym wedi clywed y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, yn adleisio, rwy'n ofni, llawer o'r datganiadau a glywn gan yr ymgeiswyr am arweinyddiaeth y blaid: marchnad rydd, gwladwriaeth fach, dadreoleiddio, torri trethi, torri gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn credu mewn gwladwriaeth sy’n ymyrryd er mwyn sicrhau newid teg a dylem archwilio pob cyfle i wneud i hynny weithio. Diolch yn fawr.

16:05

Diolch yn fawr iawn, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma.

A gaf fi ddiolch i fy nghyd-gyflwynwyr, Jack Sargeant, Carolyn a Luke hefyd? Diolch yn fawr i bob un ohonoch. Diolch i bawb a gymerodd ran hefyd, ac rwy'n mynd i drafod rhai o'r pwyntiau a godwyd, os caf. Jack, diolch am eich cefnogaeth barhaus i incwm sylfaenol ar gyfer ein pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Mae hynny wedi bod yn newid mor wych a sylweddol i’r bobl ifanc hynny. Ac rydych hefyd wedi tynnu sylw at y profiad gwirioneddol yn Alun a Glannau Dyfrdwy o'r newid anghyfiawn o danwydd ffosil i fawr ddim cyflogaeth ar gyfer y bobl hynny. Felly, mae'n rhaid inni roi sylw i hynny.

Rwyf am droi at ein cyfranwyr Ceidwadol, yn gyntaf, at Joel—diolch yn fawr iawn am eich cyfraniadau. Fe ddywedoch chi nad oeddech yn deall yr angen i drosglwyddo o danwydd ffosil i ffordd wyrddach o weithio. Wel, gadewch imi roi rhywfaint o dystiolaeth i chi. Mae gennym un yma yng Nghymru: Aberpergwm, pwll glo lle rydym yn gobeithio ymestyn y drwydded, fel bod glo yn gallu parhau i ddod allan o'r ddaear. Fe wyddoch fy mod wedi siarad yn erbyn hynny. Nawr, gadewch inni feddwl, pe gallem gynnig rhywbeth i'r gweithwyr hynny sy'n dweud, 'Nid oes angen ichi weithio yn y diwydiant tanwydd ffosil hwn. Rydym am eich cefnogi wrth ichi uwchsgilio, wrth ichi chwilio am swyddi, tra bo gennych rwyd ddiogelwch wrth ichi newid.'

A Janet, waw. Mae gennyf nifer o bethau i'w dweud, os caf, Janet. Yn gyntaf, nid wyf yn eistedd yma ar feinciau Llafur, ond mae’r ‘wladwriaeth faldodus’ hon wedi’i hethol ers 22 mlynedd, felly mae pobl Cymru wedi dewis y Llywodraeth Lafur hon. Rwy’n ddiolchgar i chi—rwy’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru—nad ydym yn ôl yn yr amseroedd lle rydych chi am inni fod, lle efallai nad oedd hawliau gan fenywod, lle roedd plant yn gweithio lawr yn y pyllau glo, lle roedd gweithwyr yn cael eu cam-drin. Fe sonioch chi am ddycnwch, gwaith caled a phenderfyniad. Mae rhai pobl, yn anffodus, oherwydd salwch, oherwydd eu bod yn agored i niwed, oherwydd lle maent yn byw, oherwydd eu cyfleoedd bywyd, oherwydd sut y cawsant eu magu, yn methu cael y dycnwch, y gwaith caled a'r penderfyniad hwnnw. A sylwaf, Janet, eich bod yn gwneud rhywbeth wrth imi geisio mynd i’r afael â rhai o’r pwyntiau a godwyd gennych. [Torri ar draws.] Diolch, Mabon.

A ydych yn cytuno y byddai hyn, incwm sylfaenol cyffredinol, yn dilyn yn nhraddodiad balch Cymru, a gyflwynwyd yn ôl ym 1909, pan gyflwynodd David Lloyd George Ddeddf Pensiynau’r Henoed—un o feibion gorau Dwyfor, a Rhyddfrydwr gwych yn ei amser hefyd?

Diolch yn fawr iawn. Ie, gadewch inni ganmol ein gilydd a'n pleidiau gwleidyddol, ar wahân, efallai, i'r un draw ar y fainc acw. Felly, gadewch inni—[Torri ar draws.]

Jane, diolch am fod mor barod i ildio. A wnewch chi nodi hefyd fod llais bach ond arwyddocaol ar asgell dde'r Ceidwadwyr sy'n cefnogi incwm sylfaenol cyffredinol ar sail rhyddhau pobl a rhoi'r gallu iddynt fod yn entrepreneuraidd, i sefyll ar eu traed eu hunain, i arbrofi, i greu eu bywydau eu hunain? Nid ydym wedi clywed dim o hynny heddiw nac erioed o’r meinciau acw yn unrhyw un o’r dadleuon hyn. Ble mae'r llais Ceidwadol hwnnw?

Mae hynny'n gwbl gywir. Mae yna farn, mewn gwirionedd, fod incwm sylfaenol cyffredinol yn golygu y gall pobl gael eu rhyddhau i fod yn entrepreneuriaid, i ddechrau eu busnes hunain, ac mae'n drueni na chlywsom rai o'r awgrymiadau cadarnhaol hynny gan ein cyd-Aelodau draw yn y fan acw.

Roeddwn yn awyddus iawn i siarad hefyd ynglŷn â sut y mae Cymru wedi bod yn arloesol. Mae gan Gymru Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, rydym wedi atal smacio plant, mae gennym bresgripsiynau am ddim, parcio am ddim mewn ysbytai, moratoriwm ar adeiladu ffyrdd. Rydym yn arwain ar y pethau hyn, a dylem fod yn falch o hynny. Ni ddylem fod yn edrych yn ôl ar yr oesoedd tywyll; dylem fod yn edrych tua'r dyfodol.

Hoffwn ddiolch i Luke hefyd am ei gefnogaeth barhaus i incwm sylfaenol cyffredinol. Diolch yn fawr iawn, Luke. Rydych wedi dweud pa mor bwysig yw sicrhau'r newid teg hwnnw ar gyfer y tlotaf a’r rhai ar gyrion ein cymdeithas, gydag un o bob pump o weithwyr yn dal i weithio yn y diwydiannau carbon uchel hynny.

Carolyn, diolch yn fawr iawn. Fe sonioch chi am y llwybr at fod yn ddi-garbon a sut y mae angen inni wneud y penderfyniadau anodd hynny. Rydych yn llygad eich lle fod yn rhaid inni edrych ar sut y gallwn gefnogi’r bobl hynny lle mae angen gwneud y penderfyniadau anodd hynny, oherwydd mae’r argyfwng hinsawdd, fel y dywedwch, yn wanychol.

Yn olaf, diolch i’r Gweinidog, hefyd—diolch yn fawr iawn—am eich cefnogaeth ac am eich sylwadau. Fel y gwyddom, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019. Rwyf wedi dweud o'r blaen fod hwn yn argyfwng, a dylem ei drin felly. Mae angen inni ddefnyddio’r amser yn awr i gynllunio sut i sicrhau sefydlogrwydd a sicrwydd i’r rhai mwyaf agored i niwed yn sgil y newidiadau y bydd ein heconomi yn eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod. Dyna pam y credaf y bydd ymestyn y cynllun peilot hwn yn rhoi mewnwelediad gwirioneddol i ni o ran sut y cydbwyswn y glorian yn yr hyn a allai fod yn newid annheg.

Gadewch inni gofio bod cynlluniau peilot incwm sylfaenol mewn gwledydd ledled y byd wedi dangos bod cynhyrchiant yn cynyddu gydag incwm sylfaenol, ac unwaith eto, apeliaf ar y Ceidwadwyr: fel y dywedais o'r blaen, edrychwch ar y dystiolaeth. Siaradwch â phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Edrychwch ar yr hyn sy'n digwydd ar draws rhai o'r mentrau hynny—Canada, Namibia, arbrawf y Ffindir—mae rhai o'r rhain yn mynd yn ôl sawl blwyddyn. Siaradwch â phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, peidiwch â chymryd yn ganiataol nad yw'n mynd i newid eu bywydau—mae rhai ohonom wedi siarad â hwy, ac rydym yn clywed yn uniongyrchol ganddynt. Felly, rwy'n apelio arnoch, ac os gallaf eich helpu i gysylltu â hwy, rhowch wybod i mi.

Mae’n rhaid inni newid i sero net, ond gallwn osgoi’r ansicrwydd sy’n gysylltiedig â’r newid hwnnw. Nid oes angen iddo fod yn anochel. Rwy'n gobeithio y gall y Senedd ddangos ein cefnogaeth i’r gweithwyr a’r cymunedau hynny a pharhau i arwain ar incwm sylfaenol yma yn y Deyrnas Unedig. Diolch yn fawr iawn.

16:10

Diolch am ddadl fywiog a pharchus, a finnau'n cymryd y Gadair am y tro cyntaf. Y cwestiwn ydy: a ddylid derbyn y cynnig? A oes yna unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi yn clywed gwrthwynebiad. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Mi symudwn ni ymlaen at eitem 8, dadl y Pwyllgor Cyllid, blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Peredur Owen Griffiths.

Cynnig NDM8060 Peredur Owen Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r gwaith ymgysylltu a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2023-24, ac yn nodi ymhellach y sylwadau a wnaed gan gyfranogwyr yn y digwyddiadau a ganlyn:

a) digwyddiad i randdeiliaid yn Sefydliad Glowyr Llanhiledd;

b) gweithdy gydag aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru; a

c) grwpiau ffocws ymgysylltu â dinasyddion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Cadeirydd. Mae’n bleser gen i fod yn agor y ddadl yma heddiw ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Rwyf wedi sôn o’r blaen yn y Siambr hon fod ymgysylltu â phobl ledled Cymru yn flaenoriaeth i mi fel Cadeirydd, yn benodol i wrando ar farn rhanddeiliaid ar yr hyn y dylai cyllideb Llywodraeth Cymru ei gynnwys.

Mae’n dda gennyf ddweud nad yw’r pwyllgor wedi bod yn segur dros y misoedd diwethaf. Rydym wedi bod yn brysurach nag erioed. Rydym wedi bod yn mynd allan i siarad â phobl sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud yn y lle hwn, a gwrando ar eu barn.

Cyn i mi ddechrau ar fy nghyfraniad y prynhawn yma, dwi’n falch iawn o groesawu pump Aelod o’r Senedd Ieuenctid sydd yn yr oriel gyhoeddus heddiw. Hoffwn eu cydnabod i gyd a dweud helo wrth Fatmanur, Ruben, Ella, Ffion a Harriet. Hefyd buaswn i'n hoffi diolch i Rosemary, a gymerodd ran yn y gweithdy ond sydd yn methu â bod yma hefo ni heddiw. Rhoddodd yr Aelodau ifanc hyn eu hamser i siarad yn onest ac yn agored am y materion sy'n eu pryderu. Dwi’n siarad ar ran holl aelodau’r pwyllgor pan ddywedaf ein bod yn hynod ddiolchgar am eu cyfraniadau ac yn llawn edmygu eu haeddfedrwydd a'u deallusrwydd, a gobeithio y gallwn wneud cyfiawnder â'u sylwadau y prynhawn yma.

Gadeirydd, roedd ein gwaith ymgysylltu ar y gyllideb ar gyfer 2023-24 yn cynnwys tair elfen: y digwyddiad i randdeiliaid yn Sefydliad Glowyr Llanhiledd ym Mlaenau Gwent; fel y crybwyllwyd, gweithdy gydag Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru; a nifer o grwpiau ffocws gyda sefydliadau a dinasyddion ledled Cymru. Ar ran y pwyllgor, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith.

Fodd bynnag, cyn troi at yr heriau a’r blaenoriaethau a nodwyd yn ystod y sesiynau hyn, hoffwn fynegi fy siom fod Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi penderfynu gohirio cyhoeddi’r gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf tan 13 Rhagfyr fan bellaf neu o fewn pedair wythnos i gyllideb hydref Llywodraeth y DU. Er fy mod yn cydnabod y rhesymau pam fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r dull hwn, mae’n destun gofid y bydd hyn yn golygu llai o amser i randdeiliaid ymgysylltu â galwadau’r pwyllgor am dystiolaeth a sesiynau craffu. Serch hynny, rydym yn ddiolchgar fod y Gweinidog yn barod i ddiweddaru’r amserlen pan fydd dyddiad cyllideb hydref Llywodraeth y DU yn cael ei gyhoeddi. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi parodrwydd y Gweinidog i ymgysylltu â ni ar y cam rhag-gyllidebol, ac edrychwn ymlaen at weld sesiynau o’r fath yn cael eu cynnal yn gynnar yn nhymor yr hydref.

Gadeirydd, hoffwn siarad yn gyntaf am yr heriau a nodwyd. Nid fydd yn syndod i’r Aelodau pan ddywedaf fod y rhai y buom yn siarad â hwy oll yn wynebu heriau sylweddol, gan gynnwys pwysau chwyddiant; yr argyfwng costau byw; yr argyfwng hinsawdd; a'r adferiad ar ôl COVID, neu fel y dywedodd rhanddeiliad wrthyf yn Llanhiledd, rydym yng nghanol 'storm berffaith'. Yn Llanhiledd, dywedodd pobl o wasanaethau'r rheng flaen wrthym ei bod yn costio mwy i wneud yr un peth, ac nad yw llawer o unigolion a sefydliadau yn gwybod sut i ymdopi â chostau cynyddol. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym hefyd fod cynaliadwyedd a fforddiadwyedd gwasanaethau cyhoeddus yn dod yn fwy a mwy heriol, ond eu bod hefyd yn fwyfwy hanfodol i leihau anghydraddoldebau iechyd. Mae’r Aelodau o'r Senedd Ieuenctid y buom yn siarad â hwy hefyd yn bryderus iawn ynglŷn â'r argyfwng costau byw, yn enwedig ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, a’r effaith y mae’r bwlch cynyddol rhwng y cyfoethog a’r tlawd yn ei chael ar ein cymdeithas.

Gan droi at flaenoriaethau penodol, nododd yr Aelodau o’r Senedd Ieuenctid iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau i bobl ifanc, a mesurau i liniaru’r argyfwng costau byw fel blaenoriaethau ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf. Daeth themâu tebyg i’r amlwg o drafodaethau yn Llanhiledd, a oedd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi a mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw; cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau cyhoeddus; creu Cymru wyrddach; gwella gwasanaethau i blant a phobl ifanc; ac effaith y cynnydd mewn costau trafnidiaeth ar draws gwahanol sectorau. Yn y grwpiau ffocws i ddinasyddion, addysg a phlant a phobl ifanc a oedd yn cael eu blaenoriaethu amlaf gan gyfranogwyr, gydag iechyd a gofal cymdeithasol heb fod ymhell ar eu holau.

O’r trafodaethau hynny, gallwn grynhoi’r materion hyn yn chwe maes blaenoriaeth allweddol. Yn gyntaf, mae angen inni wneud pob ymdrech i ddarparu cymorth i’r rhai sydd ei angen fwyaf cyn gynted â phosibl. Mae angen cymorth wedi’i dargedu ar y rheini mewn tlodi, ac yn anffodus, mae’r rhain bellach yn cynnwys pobl sy’n gweithio’n hynod o galed i gefnogi pobl sy’n agored i niwed yn ein cymdeithas, fel gofalwyr di-dâl a gwarchodwyr plant. Dywedodd pobl wrthym nad oedd yn iawn nad oedd y rheini a oedd yn gofalu yn cael gofal eu hunain, ac mae taer angen strategaeth arnom i sicrhau ein bod yn gofalu am y rhai sydd fwyaf mewn perygl.

Yn ail, cynllunio'r gweithlu'n well. Dywedwyd wrthym y bu cenhedlaeth o danfuddsoddi mewn hyfforddiant a gweithlu’r sector cyhoeddus a bod angen strategaeth gydlynus ar gyfer y gweithlu i sicrhau gwasanaeth cyhoeddus gwydn yng Nghymru ac i osgoi gorflinder a lefelau salwch uchel ymhlith gweithwyr y sector cyhoeddus.

Yn drydydd, buddsoddi mewn seilwaith ieuenctid. Fe allai ac fe ddylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi pobl ifanc drwy ddarparu cymorth i osgoi cau canolfannau ieuenctid a darparu trafnidiaeth am ddim i wella rhagolygon hyfforddiant a gwaith, a rhagolygon cymdeithasol.

Yn bedwerydd, cynyddu cyllid cyfalaf. Dywedodd y rheini ar y rheng flaen wrthym fod angen parhaus i fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion ac ysbytai a seilwaith sylfaenol o fewn gwasanaethau cyhoeddus.

Nesaf, hoffem weld gwell defnydd o ddata i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithiol a chydgysylltiedig. Mae costau uwch yn golygu bod angen inni wneud y gorau o’r hyn sydd gennym er mwyn gwneud ein gwasanaethau cyhoeddus yn fwy cynaliadwy a fforddiadwy. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud y gorau o’r data sydd ar gael, fel y gellir cynllunio gwasanaethau’n effeithlon. Gallai cynyddu llythrennedd digidol mewn cymunedau tlotach hefyd fod yn ffordd o sicrhau bod gwasanaethau a chymorth yn cael eu darparu’n lleol, lle mae’r angen ar ei fwyaf.

Yn olaf, cyllid gwyrdd sefydlog. Ar newid hinsawdd, mae angen i Lywodraeth Cymru roi eu harian ar eu gair a darparu cyllid pwrpasol i gyflawni eu targedau sero net.

Fel y gŵyr pob un ohonom, mae’n hawdd iawn llunio rhestrau o ddymuniadau gwario, ond mae'n llawer anoddach nodi meysydd lle gellid lleihau gwariant. O ganlyniad, roeddem hefyd yn awyddus i glywed gan gyfranogwyr ar y mater hwn. Cydnabu’r Aelodau o'r Senedd Ieuenctid y buom yn siarad â hwy, er ei bod yn anodd iawn tynnu cyllid yn ôl o feysydd, fod angen i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau anodd er mwyn blaenoriaethu meysydd lle ceir angen gwirioneddol. Er enghraifft, nododd y cyfranogwyr fuddsoddiad yn y Gymraeg a chysylltiadau rhyngwladol, ond roeddent yn teimlo na ddylid blaenoriaethu cyllid ar gyfer y meysydd hyn uwchlaw darparu gwasanaethau sy'n ymwneud ag iechyd a lles y cyhoedd.

Clywsom safbwyntiau diddorol am drethi. Yn nodedig, nid oedd yr holl Aelodau o’r Senedd Ieuenctid yn ymwybodol mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am godi rhywfaint o’r arian y mae’n ei wario. Yn ystod y grwpiau ffocws, roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn erbyn cynyddu treth incwm ar gyfer y rheini sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd yn ariannol ac yn teimlo y dylid cyfeirio unrhyw gynnydd mewn trethi at y rheini ag incwm uwch neu fusnesau mawr. Er y mynegwyd barn debyg yn ystod ein digwyddiad i randdeiliaid, nodwyd y gallai trethiant pellach ar fusnesau mawr arwain at fusnesau’n symud o Gymru. Gwn fod hwn yn faes sydd o ddiddordeb arbennig i’r Gweinidog, a hoffwn ei hannog i ymchwilio i ffyrdd y gellir gwella ymwybyddiaeth o’n pwerau codi trethi yng Nghymru.

Felly, wrth imi wneud y cynnig hwn yn fy enw i ar ran y pwyllgor, edrychaf ymlaen at weld yr Aelodau’n achub ar y cyfle i amlinellu i’r Gweinidog a’r Pwyllgor Cyllid beth ddylai’r blaenoriaethau fod ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Diolch yn fawr.

16:20

Diolch yn fawr iawn. Rydw innau'n falch iawn o weld Aelodau o'r Senedd Ieuenctid yma. Croeso mawr i chi, bob amser. Rŵan, mae yna nifer fawr o Aelodau wedi gofyn am gael siarad—mwy na fyddem ni'n gallu ei ganiatáu fel arfer mewn dadl awr o hyd, ond beth am drio gwasgu pawb i mewn? Anelwch am bedwar munud yn hytrach na phump, o bosib, ac mi gawn ni weld sut aiff hi. Jayne Bryant.

Rwyf am ddechrau drwy ailadrodd galwadau Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid am yr amser priodol i bwyllgorau’r Senedd ystyried cyllideb ddrafft 2023-24 a chyflwyno adroddiad arni. Rwy’n llwyr ddeall effaith digwyddiadau y tu hwnt i’w rheolaeth ar Lywodraeth Cymru, megis amseriad cyllideb hydref Llywodraeth y DU, a chroesawaf ymgysylltiad y Gweinidog â’r Pwyllgor Cyllid ynghylch amserlen eleni. Anogaf y Gweinidog i wneud yr hyn a all i roi amser i’r Senedd wneud cyfiawnder â’i gwaith craffu ar gyllideb ddrafft 2023-24.

Hoffwn yn awr godi rhai materion traws-bolisi pwysig sydd, yn fy marn i, yn berthnasol i bob pwyllgor, ac yn wir, i bob Aelod. Mae'r cyntaf yn ymwneud â deall effaith y gyllideb ar wahanol grwpiau o bobl. Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog ar 5 Gorffennaf ar gyllidebu ar sail rhyw a chyfraniad Aelodau o bob rhan o’r Siambr i’r ddadl honno. Cytunaf â’r Gweinidog fod cyllidebu ar sail rhyw yn darparu lens werthfawr y gallwn ei defnyddio i edrych ar effaith penderfyniadau gwariant ar fenywod ac ar ferched, ac rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru ddysgu o brofiad gwledydd eraill a defnyddio’r dysgu hwnnw i gyflymu’r amser y mae’n ei gymryd i sicrhau bod cyllidebu ar sail rhyw yn gwreiddio yma yng Nghymru.

Wrth gwrs, rydym ni fel pwyllgor yn pryderu ynglŷn ag effaith y gyllideb ar blant a phobl ifanc. Ar 8 Chwefror, mynegais ein pryder i’r Aelodau nad oedd y Llywodraeth hon wedi cyhoeddi unrhyw asesiadau o’r effaith ar hawliau plant i ddangos sut roedd hawliau plant wedi siapio dyraniad cyllideb ddrafft 2022-23 ar gyfer plant a phobl ifanc. Mewn gwirionedd, ni soniwyd am hawliau plant unwaith yn yr asesiad effaith integredig strategol cyfan. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau ei bod wedi gwrando ar ein pryderon ac amlinellu, efallai, fod hawliau plant wedi siapio penderfyniadau Llywodraeth Cymru ynghylch y blaenoriaethau gwariant ar gyfer 2023-24?

Yr ail fater traws-bolisi yr hoffwn ei godi heddiw yw’r llinell sylfaen ddiwygiedig, fel y’i gelwir. Cyfres o ffigurau yw'r llinell sylfaen ddiwygiedig y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i gymharu cyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf â gwariant y llynedd. Rwy'n siŵr nad ni yw'r unig bwyllgor sy'n ei chael hi'n anodd deall o ble y daw'r ffigurau ar gyfer y llinell sylfaen ddiwygiedig. Nid cyllideb ddrafft y flwyddyn flaenorol mohonynt, ac nid cyllideb atodol y flwyddyn flaenorol mohonynt ychwaith. Ond gadewch imi ddweud yn glir: rwy'n cefnogi bwriad datganedig Llywodraeth Cymru i alluogi cymariaethau mwy addas rhwng blynyddoedd ariannol, ond os yw pwyllgorau'n ei chael hi'n anodd deall sut y caiff y llinell sylfaen ddiwygiedig ei chyfrifo, mae hynny'n golygu nad yw'n ddigon clir. Mae angen ei chyfrifo mewn modd tryloyw a chyson. Mae angen i bwyllgorau wybod ble mae'r cyllid yn cynyddu, ble mae'n gostwng, ble mae'n cael ei dorri'n gyfan gwbl, pwy fydd yn cael eu heffeithio a pham. O ystyried y gorgyffwrdd sylweddol ar draws cylchoedd gwaith pwyllgorau, mae'n rhaid i’r dull o gyfrifo’r llinell sylfaen fod yn gyson ar draws portffolios gweinidogol hefyd. A byddwn yn croesawu gweithio ar y cyd â phwyllgorau eraill yn fawr iawn er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio'n agos ar y materion traws-bolisi hollbwysig hyn.

Rwyf am nodi dwy flaenoriaeth ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae ein gwaith hyd yma wedi codi pryderon dro ar ôl tro am iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Rydym yn pryderu am iechyd meddwl oherwydd effaith COVID. Rydym yn bryderus yng ngoleuni effaith aflonyddu rhywiol eang rhwng cyfoedion ar iechyd meddwl—ein hadroddiad a gyhoeddwyd y bore yma. Rydym yn pryderu am yr hyn a glywsom yn ystod ein hymchwiliad i absenoldeb disgyblion am y cysylltiadau rhwng iechyd meddwl a phresenoldeb yn yr ysgol, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd pryderon yn cael eu codi gan fyfyrwyr ac eraill wrth inni gychwyn ein hymchwiliad nesaf i gymorth iechyd meddwl mewn addysg uwch yr hydref hwn. Rwy'n ymwybodol o ymrwymiad y Llywodraeth i’r agenda hon, ac anogaf y Llywodraeth i ymrwymo cyllid i ymdrin â’r mater hollbwysig hwn, gyda theuluoedd, mewn ysgolion, mewn ysbytai, mewn prifysgolion, ochr yn ochr â phartneriaid yn y trydydd sector ac mewn mannau eraill.

Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi lansio ymchwiliad dros dymor cyfan y Senedd i weithredu diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol a'r Cwricwlwm newydd i Gymru. Rydym wedi clywed drwy gydol ein gwaith hyd yma am bwysigrwydd cefnogi staff ysgolion i roi’r diwygiadau hynny ar waith yn effeithiol. Golyga hyn roi digon o gyllid i awdurdodau lleol ddarparu ar gyfer cyllidebau craidd ysgolion. Mae hefyd yn golygu gweithio gyda llywodraeth leol i'w hannog i wario'r arian hwn ar ysgolion. Yn ychwanegol at hynny, bydd angen cyllid wedi’i dargedu o’r gyllideb addysg i gefnogi blaenoriaethau penodol. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y diwygiadau uchelgeisiol hyn yn cael y cymorth ariannol sydd ei angen arnynt i lwyddo. Maent yn rhy bwysig i fywydau plant a phobl ifanc i beidio â gwneud hynny. Diolch.

16:25

Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw fel aelod o’r Pwyllgor Cyllid, a chefnogaf y sylwadau a wnaed gan Gadeirydd ein pwyllgor, ac yn croesawu hefyd ein Haelodau o’r Senedd Ieuenctid yma heddiw. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi wynebu cyfres o heriau enfawr, o'r pandemig i'r pwysau chwyddiant presennol, ac wrth gwrs, yr argyfwng costau byw. Mae'n bwysicach nag erioed, felly, ein bod yn gwrando ar farn pobl Cymru a bod blaenoriaethau'r bobl yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru.

Roedd yn amlwg o’r trafodaethau fod mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a chefnogi teuluoedd drwy’r cyfnod anodd hwn yn fater pwysig y mae’n rhaid i’r gyllideb fynd i’r afael ag ef ar fyrder. Croesawodd nifer o randdeiliaid gynlluniau presennol Llywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda’r argyfwng costau byw, ond roeddent yn teimlo nad oedd y cymorth yn cyrraedd sectorau penodol, yn enwedig gofalwyr di-dâl. Cydnabuwyd hefyd fod angen ehangu cronfeydd dewisol, yn enwedig fel bod pobl sy’n ennill mwy na’r trothwyon budd-daliadau amrywiol ond sydd mewn sefyllfa ariannol fregus yn gallu cael cymorth mawr ei angen.

Mewn perthynas â chostau byw a phwysau chwyddiant, codwyd ystod eang o bryderon ynghylch cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol. Er enghraifft, dywedodd rhanddeiliad,

'y bydd Llywodraeth Cymru a darparwyr gwasanaethau’n debygol o orfod wynebu dewisiadau annymunol.'

Ceir pryderon gwirioneddol y bydd gwasgfa ar y cyllidebau yn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau, ac y bydd effeithiau parhaus y pandemig ynghyd â phrinder staff yn rhoi mwy o straen ar wasanaethau sydd eisoes dan bwysau.

Mae awdurdodau lleol hefyd yn wynebu llawer iawn o bwysau ac anghenion ariannu y mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy, yn syml iawn, os ydym am ddechrau mynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu. Felly, fel rhan o’r gyllideb, mae gwir angen cynllun uchelgeisiol wedi’i gostio’n llawn i recriwtio mwy o staff mewn meysydd fel ysgolion, gofal cymdeithasol a GIG Cymru i gynyddu gwytnwch gwasanaethau ac i fynd i’r afael â’r materion strwythurol. Hefyd, mae'n rhaid cael strategaeth ariannu fwy hirdymor ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol.

Y mater olaf yr hoffwn ei godi, Ddirprwy Lywydd, yw addysg, gan inni glywed gan rai o'r Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru ynghylch eu pryderon ynghylch dal i fyny ag addysg a gollwyd o ganlyniad i’r tarfu dros y blynyddoedd diwethaf, tra bo rhanddeiliaid eraill wedi nodi bod cost cludiant ysgol wedi cynyddu'n esbonyddol. Felly, mae'n bwysig fod y Llywodraeth yn parhau i fuddsoddi mewn addysg, yn enwedig er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm newydd yn llwyddiannus. Yn ychwanegol at hynny, bu galwadau ar y Llywodraeth i harneisio potensial mwy o ymchwil ac arloesi er mwyn cryfhau economi Cymru a hybu sgiliau. Yng ngoleuni hyn, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i gefnogi’r sectorau AB ac AU i'r graddau mwyaf sy'n bosibl a buddsoddi yn eu sylfaen sgiliau?

I gloi, Lywydd dros dro, nid wyf mewn unrhyw fodd yn bychanu maint yr her sy’n wynebu'r Gweinidogion. Mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi effeithio ar ein cymunedau ac mae angen ein cymorth arnynt. Ac wrth gwrs, nid yw’r Llywodraeth yn gweithredu ar ei phen ei hun. Fel y gwnaethom yn ystod y pandemig, mae'n rhaid inni weld cymorth gan Lywodraeth y DU sy’n cyfateb i faint y problemau sy’n ein hwynebu. Ond mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwneud y pethau iawn gyda'i chyllideb nesaf, ac yn gwrando ar farn cymunedau pan fydd yn penderfynu ar ei blaenoriaethau gwariant. Diolch.

16:30

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro, a diolch i Gadeirydd y pwyllgor am roi cyfle i ni drafod y mater yma. Dwi hefyd eisiau diolch i'r cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru oherwydd y bydd e, gobeithio, yn sicrhau y gallwn ni edrych ymlaen at raglen gyffrous a thrawsnewidiol yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Y peth amlwg cyntaf y byddwn i'n gofyn amdano yw sicrhau bod gwariant 2023-24 yn ymateb i ymrwymiadau y cytundeb cydweithredu hwnnw er mwyn gwneud yn siŵr y bydd y polisïau a fydd, wrth gwrs, yn gwella bywydau pobl Cymru yn cael y gefnogaeth ariannol i lwyddo ac i flodeuo er mwyn sicrhau, fel y mae'r Llywodraeth yn ein hatgoffa ni, ein bod ni yn gwireddu Cymru decach, wyrddach, gryfach. Ond fe fyddwn i'n dweud, yn sgil y cytundeb cydweithredu, Cymru hyd yn oed yn fwy teg na hynny, hyd yn oed yn fwy gwyrdd na hynny a hyd yn oed yn fwy cryf na hynny. Felly, dyna fe—dyna'r pwynt cyntaf roeddwn i eisiau ei wneud.

Mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, yn dweud wrthym ni fod y ffocws ar ddefnyddio, neu symud tuag at ddefnyddio, dulliau ataliol o lywodraethu, ac mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, rŷn ni yn ei gefnogi, ond er mwyn cyflawni hynny'n effeithiol, mae'n rhaid, wrth gwrs, mynd drwy'r cyfnod pontio yma, onid oes e, o fuddsoddi mewn meysydd ataliol ar yr un llaw, tra ein bod ni dal, wrth gwrs, yn talu am ddelio gyda chanlyniadau peidio â bod wedi buddsoddi yn hynny yn ddigonol yn y gorffennol. Mae’r pontio yna yn mynd i greu tensiwn a phwysau pan fo'n dod i gyllidebu. Ond mae’n rhaid i gyllid, dwi'n meddwl, ddilyn y bwriad. Er bod arallgyfeirio cyllidebau o un ffocws i'r llall yn anodd, rŷn ni i gyd yn gwybod mai talu ffordd byddai hynny yn gwneud yn y pen draw. Felly, dwi yn gobeithio y gwelwn ni gynnydd pellach, cynnydd sylweddol yn y pontio neu'r symud yna o ran ffocws y gwariant yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Mi fydd rhai o’m cyd-Aelodau ar y meinciau yma yn amlinellu rhai o’r materion penodol rydyn ni eisiau eu hamlygu yn y ddadl yma, ond gwnaf i jest cyffwrdd gydag un neu ddau yn yr amser sydd gen i y prynhawn yma.

Rŷn ni, wrth gwrs, yn awyddus i sicrhau gwell tâl ac amodau i staff yn y sector cyhoeddus—rhywbeth dwi'n gwybod y mae nifer ohonom ni'n ei rannu ar draws y Siambr fan hyn. Ac er gwaethaf Llywodraeth Geidwadol sydd ddim yn mynd i'r afael â hyn, sy'n golygu felly bod nifer o'r gweithwyr yma yn wynebu toriad cyflog mewn termau real, wrth gwrs, a'i gwneud hi'n anoddach i gael dau ben llinyn ynghyd, mae'r realiti sy'n ein hwynebu ni nawr yn un o haf o anfodlonrwydd, streiciau posibl ac yn y blaen. Mi fyddwn i felly yn awyddus i glywed gan y Gweinidog beth yw ei bwriad hi o safbwynt cynllunio ar gyfer codiadau cyflog yn y sector cyhoeddus yn y gyllideb y flwyddyn nesaf. Byddai rhai yn dadlau, os gallwn ni symud yn gynt, y byddem yn awyddus i wneud hynny eleni. Ond drwy gydnabod ffocws y ddadl, dwi'n meddwl, yn sicr, mae yna gyfle nawr i fynd i’r afael â hyn a dangos bwriad clir yn y flwyddyn nesaf.

Y peth arall amlwg, wrth gwrs, yw’r ymateb ehangach i’r creisis costau byw. Rŷn ni'n gwybod bod angen helpu i amddiffyn cartrefi rhag dyledion a'r costau maen nhw'n eu hwynebu. Mae chwyddiant, fel y mae, yn mynd i barhau i godi; costau syfrdanol ynni erbyn hyn. Rŷn ni eisoes yn gwybod fod 71 y cant o bobl Cymru yn dweud eu bod nhw'n fwriadol, o safbwynt ansawdd y bwyd y maen nhw'n ei fwyta, wedi gostwng yr ansawdd er mwyn trio ymateb i’r creisis yma. Ac mae hynny wrth gwrs yn gwneud y broses o lywodraethu yn ataliol hyd yn oed yn fwy anodd, achos rŷn ni'n symud i'r cyfeiriad anghywir cyn cychwyn. Y cap ar brisiau ynni, rŷn ni wedi sôn amdano fe. Dwi'n meddwl yn y gyllideb nesaf, mae angen edrych i ehangu cymhwysedd y taliad tanwydd gaeaf i gyrraedd mwy o aelwydydd mewn angen sydd ar incwm isel, sy'n agored i niwed, fel y rhai sy'n gymwys, er enghraifft, i gael credyd pensiwn. Mae hwnna'n rhywbeth rydyn ni'n awyddus i'r Llywodraeth i edrych arno fe. 

Jest i gloi, er mwyn cadw hwn yn fyr ar gais y Dirprwy Lywydd dros dro, gwnaf i jest gyfeirio at y pwynt a wnaethpwyd ynglŷn ag amserlen y gyllideb o safbwynt craffu fan hyn yn y Senedd. Mae e'n rhywbeth rydyn ni'n ei wynebu bob blwyddyn. Dwi'n meddwl mai hon yw'r bedwaredd flwyddyn lle mae craffu wedi cael ei gyfyngu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, oherwydd wrth gwrs ein dibyniaeth ni ar amserlenni digwyddiadau ffisgal San Steffan. Dwi'n meddwl ei bod hi yn gais teg nawr i ailedrych ar y protocol, oherwydd tra bod amgylchiadau eithriadol o gyfeiriad San Steffan yn un peth, buaswn i'n dadlau bod dilyn y protocol yng Nghymru nawr yn amgylchiadau eithriadol oherwydd dydy e byth yn digwydd, a dwi'n meddwl ei bod hi'n amserol iawn i edrych ar hynny o'r newydd. Diolch. 

16:35

Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Mae'r blaenoriaethau ym mhob cyllideb yr un fath: gwella iechyd, cefnogi llywodraeth leol, gwella'r amgylchedd a lleihau allyriadau carbon, gwella cyrhaeddiad addysgol, gwella'r economi, gwella ansawdd bywyd pobl yng Nghymru a lleihau neu'n well, rhoi diwedd ar dlodi. Wel, mae gennym yr holl ddadleuon hyn ac mae gan bob un ohonom ffyrdd gwahanol o'u cyflawni. 

Ym maes iechyd, rwy'n galw am flaenoriaethu gwella iechyd a gofal sylfaenol. Gofal sylfaenol yw'r pwynt cyswllt ar gyfer pob llwybr i'r gwasanaeth iechyd ar wahân i'r adran ddamweiniau ac achosion brys, a byddai sector gofal sylfaenol sydd ag adnoddau gwell a mwy o gyllid yn lleihau'r angen am ofal ysbyty. Fel y gwelsom, flwyddyn ar ôl blwyddyn, pan fo'r byrddau iechyd yn cael yr arian, mae gofal sylfaenol a phractisau meddygon teulu yn cael cyfran lai a llai o'r gacen. Gwyddom fod y canlynol yn gwella iechyd: golchi dwylo'n aml, a gwelsom yn ystod COVID fod hyn wedi arwain at leihad enfawr mewn problemau gastrig; cysgu am saith i naw awr bob nos; ystum corff da; bwyta deiet iach a chytbwys; yfed digon o hylifau; bod yn fwy heini; lleihau lefelau straen; a lleihau llygredd. 

Mae effeithiau gordewdra ar iechyd, sef y broblem fwyaf a wynebwn ar hyn o bryd, mae'n debyg, ac un lle rydym yn troi llygad ddall pan ddylem fod yn edrych arni, yn cynnwys: pwysedd gwaed uchel, braster ychwanegol yn y corff sydd angen ocsigen a maetholion er mwyn byw; diabetes—mae gordewdra yn un o brif achosion diabetes math 2, sy'n gost fawr i'r gwasanaeth iechyd a gallem fod yn gwneud rhywbeth i geisio lleihau'r gwariant hwnnw, ac nid yw'n ymwneud â pheidio â thrin pobl â diabetes math 2, mae'n ymwneud â cheisio sicrhau bod llai o bobl yn datblygu diabetes math 2; clefyd y galon—mae caledu'r rhydwelïau 10 gwaith yn fwy tebygol o ddigwydd mewn pobl sy'n ordew, ac er ein bod wedi gweld gostyngiad parhaus mewn ysmygu, yn anffodus, mae gordewdra'n mynd i'r cyfeiriad arall. Gordewdra yw'r ail achos mwyaf o ganser erbyn hyn, a byddwn yn tybio, pan gawn y rhestr nesaf o brif achosion canser, mai dyna fydd Rhif 1. Credaf fod yn rhaid inni drin gordewdra fel y peth pwysicaf sy'n ein hwynebu. 

Mae angen i Lywodraeth Cymru hyrwyddo ffordd iach o fyw a thrwy hynny leihau nifer y bobl sydd â chyflyrau iechyd. A yw'n syndod fod pobl sydd â deiet gwael ac sy'n byw mewn amodau oer a llaith yn fwy tebygol o fod yn sâl? Sylweddolodd Llywodraeth Attlee, o 1945 i 1951, Llywodraeth rwy'n ei chanmol yn aml, beth oedd y cysylltiad rhwng tai ac iechyd, ond yn anffodus nid oes unrhyw Lywodraeth wedyn wedi mynd ar drywydd hynny. Mae angen inni adeiladu tai cyngor o ansawdd uchel ledled Cymru i wella bywydau ac iechyd pobl. A yw'n syndod fod pobl sy'n byw mewn tai oer a llaith, sy'n ddrud iawn i'w gwresogi, yn fwyfwy tebygol o ddioddef afiechyd a fydd yn arwain at gost i'r gwasanaeth iechyd, ond pe baent yn byw mewn tai gweddus ac yn cael bwyd da a gofal da, ni fyddai hynny'n wir?

Mae gwella'r amgylchedd a darparu mannau gwyrdd a gwell ansawdd aer yn gwella iechyd a hefyd yn gwella bywyd y rhai sy'n byw yn yr ardal. Mae angen inni weithredu yn awr. A gaf fi wneud awgrym nad yw'n ymwneud â'r gyllideb? A'r awgrym hwnnw yw y dylai cynlluniau datblygu lleol ddynodi'r holl dir mewn ardal cyngor, gan gynnwys ardaloedd plannu coed, amaethyddiaeth a thir i hyrwyddo bioamrywiaeth—dylai ddynodi pob modfedd ar y map mewn gwirionedd, yn hytrach na dweud, 'Mae hyn ar gyfer tai, mae hyn ar gyfer busnesau sy'n datblygu', dweud, 'Dyma'r fan hon. Credwn y gallwch dyfu coed yma, credwn y gallwch gael amaethyddiaeth yma, credwn fod yn rhaid diogelu hyn', nid oherwydd ei fod mewn lletem las, nid oherwydd ei bod yn ardal o harddwch naturiol eithriadol nac unrhyw reswm arall sydd gennym, safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, neu unrhyw un o'r rhesymau eraill sydd gennym, ond oherwydd ein bod yn credu bod hyn yn bwysig i'r amgylchedd, heb orfod mynd drwy unrhyw gamau ar gyfer dynodi unrhyw beth arall. 

Mae gan ardaloedd llwyddiannus, gan gynnwys y DU, brifysgolion o ansawdd uchel, cyflenwad cyson o raddedigion newydd, màs critigol o gwmnïau technoleg ac ymchwil a datblygu'n digwydd, gyda nifer fawr o gwmnïau newydd. A all polisi economaidd Llywodraeth Cymru dargedu pethau fel gwyddorau bywyd, TGCh a gwasanaethau ariannol? Fel y dywedaf yn rheolaidd, mae arnom angen mwy o gwmnïau fel cwmni yswiriant Admiral a llai o gwmnïau fel LG. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, ac fel y nododd Plaid Cymru ddoe—chi eich hun a wnaeth hynny, Lywydd dros dro—mae gormod o raddedigion o Gymru nad ydynt yn aros yng Nghymru oherwydd diffyg cyfleoedd, nid diffyg ewyllys i aros yng Nghymru, ond diffyg cyfleoedd i ddod o hyd i waith yma. Creu gweithlu addysgedig iawn yw'r sbardun economaidd gorau sydd gennym.

Mae'r pethau y gellir eu gwneud yn cynnwys: defnyddio prifysgolion fel sbardunau twf; datblygu parciau gwyddoniaeth; ysgolion entrepreneuriaeth prifysgolion sy'n agored i bawb; adeiladu diwydiant prosesu bwyd fel y mae Arla wedi'i wneud yn Denmarc; sicrhau'r gwerth ychwanegol o brosesu bwyd, nid gwerth y cynhyrchion amaethyddol yn unig; deall pwysigrwydd gwasanaethau a ddarperir gan lywodraeth leol. Mae gwasanaethau llywodraeth leol yn bwysig i bobl, o barciau i wasanaethau cymdeithasol i gynnal a chadw ffyrdd i addysg. Mae'r gwasanaethau hyn yn hanfodol i lesiant pobl leol. 

Ceir meysydd y gallwn dorri'n ôl arnynt, a byddwn yn dweud bod angen inni edrych ar rywfaint o'r arian a wariwn ar ddatblygiad economaidd nad yw'n cyflawni unrhyw un o'r pethau hynny.  

16:40

Diolch am y cyfle i gymryd rhan. Un o'r pethau roeddwn i'n meddwl oedd yn ddifyr iawn—ac mae hyn eisoes wedi cael ei gyfeirio ato—oedd barn pobl ifanc a Senedd Ieuenctid Cymru. Dwi'n meddwl bod hyn yn cael ei ategu yn y pethau sydd wedi cael eu rhannu gyda mi, yn sicr fel Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru, o ran cost trafnidiaeth gyhoeddus yn benodol. Mae Ruben Kelman wedi ysgrifennu at nifer ohonom ni, yn broactif iawn fel Aelod o'r Senedd Ieuenctid, ond wedi rhannu bod cost trafnidiaeth gyhoeddus, i'r rheini efallai sydd ddim yn gymwys ar gyfer cael trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i'r ysgol, yn golygu bod hyn yn cael effaith ar bresenoldeb.

Mi ategodd Jayne yr holl bethau sydd eu hangen i gefnogi pobl ifanc, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni yn gweld, o ran yr holl sylwadau ddaeth fan yna, bod cost cynyddol trafnidiaeth gyhoeddus yn rhywbeth sydd angen i ni fod yn edrych arno fo. Efo'r argyfwng costau byw, mae'r ffaith ein bod ni yn cael tystiolaeth rŵan bod yna bobl ifanc ddim yn gallu mynd i'r ysgol oherwydd cost trafnidiaeth gyhoeddus yn rhywbeth y byddwn i'n gofyn i'r Llywodraeth edrych ar fyrder arno, oherwydd dwi'n meddwl os nad ydyn nhw yn yr ysgol, dydyn nhw ddim yn mynd i elwa o'r holl gyfoeth o brofiadau eraill, ac mae hon yn hawl sylfaenol gan ein pobl ifanc ni.  

Hefyd, mi oedd yna gyfeiriad o ran y rhaglenni cyfoethogi profiadau yn yr haf, sydd mor bwysig. Yn aml, y rhwystr mawr o ran y rheini o deuluoedd sydd yn wynebu'r argyfwng costau byw ydy cost trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyrraedd y gweithgareddau hyn. Felly, yn amlwg, rydyn ni'n falch iawn bod y buddsoddiad gan y Llywodraeth yn y rhaglenni cyfoethogi hyn, megis yr Haf o Hwyl ac ati, ond os nad ydy'r bobl mwyaf bregus yn medru eu cyrraedd nhw, yna sut mae pawb yn mynd i fanteisio? Felly, wrth i chi edrych ar gyllideb flwyddyn nesaf, os gallwn ni edrych ar rywbeth i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yn benodol o ran plant a phobl ifanc, fel eu bod nhw'n gallu elwa o'r holl bethau rydyn ni yn buddsoddi ynddyn nhw, dwi'n meddwl byddai hynny o gymorth anferthol. Diolch. 

Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i siarad yn nadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, a hynny gan dynnu ar brofiad y pwyllgor o'i waith craffu cyllidebol cyntaf erioed ar gyllideb ddrafft 2022-23. Y rheswm pam rwy'n siarad yw er mwyn canolbwyntio ar fater cyfiawnder, ond hoffwn ddweud wrth fynd heibio ei bod yn wych clywed y cyfraniadau sydd wedi bod eisoes o ran y ffordd y mae pobl ifanc a phlant wedi dylanwadu a siapio, gyda'u lleisiau'n cael eu clywed yn y Siambr hon eisoes.

Penderfynasom fel pwyllgor, yn enwedig gydag ychwanegu cyfiawnder at ein cylch gwaith, y byddai hon yn nodwedd reolaidd o'n rhaglen waith. Felly, edrychwn ymlaen yn unol â hynny at gyfrannu at y gwaith o graffu ar gyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Ar fater cyfiawnder, roedd gennym ddiddordeb mawr yng nghynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant yn y maes hwn wrth inni graffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23. Yn fwy diweddar hefyd wrth gwrs, rydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei rhaglen waith, 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru', sy'n cynnwys ei chynlluniau mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys cyfiawnder troseddol, cyfiawnder teuluol, mynediad at gyfiawnder, y sector cyfreithiol a chyfiawnder sifil a gweinyddol. Felly, rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd y rhaglen hon yn datblygu, ac yn wir, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ymrwymo droeon i adrodd yn rheolaidd ar ei chynnydd i'n pwyllgor ac i'r Senedd.

Mae hwn yn faes sydd o ddiddordeb gwirioneddol i'n rhanddeiliaid hefyd, fel y gwelsom pan wnaethom ymgysylltu ag ymarferwyr cyfreithiol a chyfreithwyr yn bersonol yn gynharach eleni ar fater mynediad at gyfiawnder. Roedd rhai a gymerodd ran yn y gweithgarwch ymgysylltu hwnnw'n awyddus i gydnabod y buddsoddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn pethau fel cyngor lles cymdeithasol, yn dilyn gweithredu Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, ond roeddent yn dweud y byddai angen cymorth pellach i ateb y galw.

Felly, er mwyn ein helpu ni a'n rhanddeiliaid a'r Senedd hon, yn wir, i ddeall faint o gyllideb Llywodraeth Cymru sy'n mynd tuag at wariant ar gyfiawnder ac i lle mae'r gwariant hwnnw'n mynd, rydym wedi galw am ddadgyfuno'r gwariant hwnnw yn y dyfodol. A diolchwn i'r Cwnsler Cyffredinol am ddweud wrthym y bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn archwilio'r ffyrdd y gall wella lefel yr wybodaeth y mae'n ei darparu am wariant cyfiawnder, felly edrychwn ymlaen at weld canlyniad hynny. Nid wyf yn gwybod a yw'n rhy gynnar i'r Gweinidog roi unrhyw ddiweddariad i ni ar y cam hwn. Rwy'n tybio bod hynny'n dal ar y gweill. Ond diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am drefnu'r ddadl bwysig hon heddiw, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi a phwyllgorau eraill y Senedd wrth inni graffu ar gynigion gwariant Llywodraeth Cymru eleni ac yn y dyfodol.

16:45

Rwy'n ddiolchgar i chi, Lywydd dros dro. Rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Pwyllgor Cyllid, yn ddiolchgar ichi am ddod i Lanhiledd, wrth gwrs, i wneud rhywfaint o'ch gwaith, ond hefyd am gynnal y ddadl hon y prynhawn yma, sydd, yn fy marn i, yn gwbl hanfodol wrth osod terfynau'r ddadl a gawn ar gyllideb Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf.

Yn wahanol i eraill, heb ddymuno bod yn anfoesgar, nid wyf yn rhannu barn y pwyllgor ar yr anawsterau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu wrth gyhoeddi cyllideb yn y flwyddyn sydd i ddod, oherwydd credaf ein bod yn wynebu, o bosibl, yr heriau ariannol anoddaf a wynebwyd gennym ers yr argyfwng yn 2008, a chredaf ei bod yn iawn ac yn briodol fod y Llywodraeth yn cymryd amser i ystyried yr heriau hynny ac yn cyhoeddi cyllideb ddrafft pan fydd yn gallu gwneud hynny a phan fydd mewn sefyllfa i drafod y materion hynny gyda ni. Felly, nid wyf yn beirniadu'r Gweinidog am ohirio'r gyllideb o gwbl ar hyn o bryd.

Ond mae'n rhaid inni ddeall, pan oeddem yn trafod y materion cyllid a gwariant hyn yn 2008, mai dim ond trafod cyllideb wariant a wnaem. Rydym yn awr yn trafod cyllideb lle rydym hefyd yn gyfrifol am godi rhan o'n hincwm ein hunain, ac mae hynny'n gwneud y ddadl hon yn sylfaenol wahanol i'r un a gawsom dros ddegawd a hanner yn ôl, oherwydd ers hynny rydym wedi gweld—. Drwy gyni, rydym wedi gweld diffyg twf, rydym wedi gweld diffyg twf mewn cynnyrch domestig gros, rydym wedi gweld diffyg twf mewn incwm. Ac nid yn unig ein bod wedi gweld diffyg twf mewn incwm, ond rydym wedi gweld newidiadau i ddosbarthiad incwm, lle mae'r bobl hynny sydd yn y degradd uchaf o incymau wedi gweld mwy o gynnydd na'r rhai sy'n cael llai, ac o ganlyniad bydd llai o arian ar gael, rwy'n credu, yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, a bydd mwy o heriau'n wynebu pobl yng Nghymru. Felly, sut rydym ni fel Senedd a sut y mae Llywodraeth yn cyhoeddi'r wybodaeth hon, a sut rydym yn mynd i'r afael â'r heriau hynny? Rwy'n credu mai sut rydym yn mynd i'r afael â heriau ein heconomi, ein cymunedau ac yna ein pobl yw'r her fwyaf sy'n ein hwynebu. Ac yn hytrach na rhestru gofynion gwariant, credaf fod angen inni gael dadl gyfoethocach, dadl fwy, ynglŷn â sut rydym yn codi'r arian hwn a sut rydym yn codi'r arian er mwyn cyflawni'r rhaglenni gwariant hynny.

Rwy'n gweld heriau go iawn ar hyn o bryd. Rydym wedi clywed llawer am godi'r gwastad gan Lywodraeth y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gwyddom fod hwnnw ar ben bellach. Rydym wedi gweld hynny yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Slogan ydoedd o'r cychwyn, nid polisi, ond erbyn hyn rydym wedi'i weld yn cael ei daflu o'r neilltu mewn ras i'r gwaelod o ran toriadau treth a gofynion gwario. Gofynnais i'r Gweinidog, os caiff unrhyw un o'r ymgeiswyr Torïaidd sy'n ymgeisio am arweinyddiaeth y blaid Dorïaidd ar hyn o bryd ei ethol, sut y bydd y toriadau incwm o doriadau treth yn effeithio ar gyllideb Cymru, oherwydd os ydym yn dweud bod angen mwy o arian arnom i fynd i'r afael â'r holl flaenoriaethau gwahanol hyn, ac rwy'n cytuno â phob un ohonynt, sut y byddwch yn gwneud hynny gyda chyllideb sy'n lleihau? Sut rydych yn ei wneud mewn cyllideb sydd wedi bod yn gostwng oherwydd y toriadau treth a addawyd gan Lundain, a wedyn, pan na allwch godi trethi oherwydd effaith y dirwasgiad, a chostau byw, ar ein sylfaen drethi ein hunain?

A sut y cawn arian yn lle'r cronfeydd UE a gollwyd? Roeddwn yn siarad â Sefydliad Prydeinig y Galon heddiw am effaith colli arian yr UE ar ymchwil yng Nghymru. Nawr, mae prifysgolion yng Nghymru yn draddodiadol wedi dibynnu, wrth gwrs, ar raglen Horizon, ond mae anfedrusrwydd a dichell Llywodraeth y DU wrth ymdrin â'r Undeb Ewropeaidd yn golygu y gallem yn hawdd golli mynediad at y rhaglenni hynny. Felly, sut y byddwn yn cefnogi prifysgolion yn y dyfodol? A hefyd, Lywydd dros dro, effaith Brexit ar ein heconomi: gwyddom fod Brexit yn cael effaith ar ein gallu i dyfu ein heconomi. Gwyddom ei fod yn cael effaith ar gwmnïau a phobl, gwyddom y bydd yn cael effaith ar ein cyllideb, beth fydd yr effaith honno, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn deall y pethau hyn. Ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn deall effaith chwyddiant ar wasanaethau sydd wedi'u darparu. Beth fydd effaith chwyddiant ar y GIG neu ar addysg? Beth fydd effaith chwyddiant ar gyllidebau llywodraeth leol? Mae Brexit wedi bod yn drychineb i'r wlad hon. Mae'n drychineb barhaus a dyna sydd wrth wraidd llawer o'r heriau economaidd sy'n ein hwynebu. Ond mae'n rhaid inni ddeall sut y mae Llywodraeth Cymru yn wynebu'r pethau hyn. Felly, heb geisio profi eich amynedd, Lywydd dros dro, hoffwn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi mwy o wybodaeth—credaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud yn dda iawn, fel y mae'n digwydd, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn cyhoeddi gwybodaeth i gefnogi ei chyllideb—ond hoffwn weld mwy o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi'n gynharach i'n galluogi i ddeall yr heriau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru ac yna i wneud penderfyniadau gwleidyddol ar ein blaenoriaethau o ganlyniad i'r ddealltwriaeth honno. Diolch yn fawr iawn.

16:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Diolch yn fawr iawn i'r pwyllgor am eu gwaith yn llunio'r adroddiad hwn. Fel y gŵyr y Gweinidog, hoffwn weld cyllideb ar gyfer plant a phobl ifanc. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar blant a theuluoedd, roedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn darllen barn Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. Maent wedi tynnu sylw at wella gwasanaethau iechyd meddwl fel un o'u blaenoriaethau allweddol ar gyfer y tymor hwn, ac unwaith eto, tynnwyd sylw at hynny fel blaenoriaeth allweddol pan ymgysylltodd y pwyllgor â hwy. Yn ogystal â hyn, galwodd rhanddeiliaid allweddol a nodwyd gan y pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i weithredu cynllun iechyd meddwl cadarn ar draws prifysgolion Cymru, gan edrych unwaith eto ar anghenion iechyd meddwl ein pobl ifanc. Hoffwn gymeradwyo'r ymagwedd hon yn llawn, ond mae angen gwneud mwy i helpu pob plentyn a pherson ifanc gyda'u hiechyd meddwl.

Ym mis Ebrill eleni, roedd 59 y cant o bobl ifanc yn aros dros bedair wythnos am apwyntiad gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Mae Llywodraethau olynol, Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig, wedi sôn am bwysigrwydd sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol, ac eto, mae rhestrau aros yn dal i fod yn frawychus o uchel. Felly, hoffwn annog y Llywodraeth, wrth ystyried eu blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb nesaf, i fynd i'r afael â'r mater gwirioneddol ddifrifol hwn unwaith ac am byth.

Yn ogystal â phobl ifanc, hoffwn siarad am ddannedd, a dychwelyd at ddeintyddion unwaith eto. Mae gennym brinder deintyddion GIG, nid yn unig yn fy rhanbarth i, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru, ond ledled Cymru a ledled y DU. Mae'n fater y mae llawer ohonom wedi'i godi. Mae'r diffyg deintyddion, yn enwedig i'n plant a'n pobl ifanc unwaith eto yn golygu bod hon yn broblem iechyd go iawn wrth symud ymlaen, ac rwy'n siŵr bod llawer ohonom wedi cael gohebiaeth ar hyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf wedi cael etholwyr yn cysylltu â mi o bob rhan o'r rhanbarth yn cwyno am restrau aros o flynyddoedd, yn hytrach na misoedd, er mwyn gallu cael eu trin gan ddeintydd GIG. Penderfynodd un etholwr—a dyma rybudd bach yma—lenwi twll yn ei ddant ei hun gyda phecyn cartref am eu bod wedi aros cyhyd am apwyntiad. Mae hynny mor drist ac nid yw'n dderbyniol. Pan ofynnais am ymateb ar y mater, mae'n ymddangos bod yr ateb yn canolbwyntio ar sut y gallem recriwtio a chadw mwy o ddeintyddion, ac er fy mod yn cytuno'n llwyr, nid oes newid sylweddol wedi bod i'r rhai sy'n aros yn daer am driniaeth. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog: wrth ystyried meysydd ar gyfer cynyddu cyllid yn y gyllideb sydd i ddod, byddai ymrwymiad clir i'r sector deintyddol yma yng Nghymru yn cael effaith radical ar y rhestrau aros presennol ac ar iechyd ein plant a'n pobl ifanc.

Mater arall y credaf y dylai Llywodraeth Cymru weithredu yn ei gylch ar unwaith yw diogelwch tân mewn adeiladau. Gadewch inni feddwl am yr hyn y siaradwn amdano yma: mae unigolion a theuluoedd yn byw mewn blociau o fflatiau y gwyddant eu bod yn anniogel, ac maent yn dal i aros i waith adfer ddechrau. Hoffwn annog y Llywodraeth i fuddsoddi arian mewn gwaith adfer yn awr a rhoi pwysau ar ddatblygwyr i gyfrannu at unioni eu camweddau'n llawn.

Ac yn olaf, hoffwn adleisio'r hyn y soniodd fy nghyd-Aelod, Heledd Fychan, amdano yma. Ym mis Ionawr cyflwynais y cynnig o drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc dan 25 oed. Nododd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ei gefnogaeth gyffredinol i gynnig o'r fath, ac awgrymodd fod angen ymchwilio ymhellach iddo. Ers hynny, mae'r Almaen wedi cyflwyno tocyn misol o €9 ar gyfer teithio diderfyn ar fysiau, trenau, tramiau a thanlwybrau. A heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Sbaen y bydd pob taith trên pellter byr a chanolig yn rhad ac am ddim o fis Medi ymlaen. Felly, gallwn ei wneud yma yng Nghymru. Byddai'r cynnig nid yn unig yn ein helpu i orymdeithio tuag at ein cynnig sero net, byddai hefyd yn allweddol i fynd i'r afael ag allgáu ac ynysigrwydd cymdeithasol.

Felly, yn olaf, hoffwn ofyn i'r Gweinidog a fyddai'n fodlon cyfarfod â mi i edrych ar gyllideb plant a phobl ifanc wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn.

16:55

Byddaf yn siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Mae tai priodol wedi bod yn bryder allweddol i'n pwyllgor ers amser maith, a hoffem annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cyllid i sicrhau bod gan gynifer o bobl â phosibl yng Nghymru le diogel i fyw ynddo, gan weithio tuag at sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le diogel i fyw ynddo.

Pan siaradais â chi yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft yn gynharach eleni, pwysleisiais bryder y pwyllgor am y nifer uchel o bobl sy'n byw mewn llety dros dro. Mae'n hanfodol fod pobl yn cael eu symud i lety parhaol, hirdymor os ydym am sicrhau bod digartrefedd yn brin, yn fyr ac nad yw'n cael ei ailadrodd, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi'i addo yn ei strategaeth. Ers hynny, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl mewn llety dros dro, gan gynnwys pobl o Wcráin, sydd wedi cael llety dros dro yng nghanolfannau croeso Llywodraeth Cymru. Credwn y dylai sicrhau llety hirdymor mewn amgylchedd diogel fod yn flaenoriaeth allweddol. Mae gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig rôl allweddol i'w chwarae yn hyn o beth. Maent yn wynebu pwysau sylweddol i sicrhau llety addas i'r rhai mewn angen. Rydym yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd ac i weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu tai priodol. Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i adlewyrchu'r ymrwymiad hwnnw yn y gyllideb ddrafft drwy sicrhau darpariaeth ddigonol yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, a blaenoriaethu arian at y dibenion hynny. 

Maes allweddol arall sy'n peri pryder i'r pwyllgor yw diogelwch adeiladau ac ymgymryd â'r gwaith adfer sydd ei angen i wneud adeiladau'n ddiogel, a hoffem weld hyn hefyd yn cael ei flaenoriaethu yng nghyllideb y flwyddyn nesaf. Yn wir, cyfarfu aelodau o'r pwyllgor yn gynharach heddiw â chynrychiolwyr o grŵp Welsh Cladiators, sy'n parhau i godi eu pryderon niferus a phwysleisio eu rhwystredigaeth ynghylch graddfa a chyflymder y cynnydd sy'n cael ei wneud. 

Ar ochr llywodraeth leol, roeddem yn croesawu'r setliad i awdurdodau lleol y llynedd ac roeddem yn gobeithio y byddai'n eu galluogi i gyflawni cynllunio mwy hirdymor, yn hytrach nag ymateb i bwysau uniongyrchol yn unig. Ers hynny, rydym wedi gweld prisiau'n parhau i godi yn gyffredinol, sy'n amlwg yn ychwanegu at y pwysau ar wasanaethau lleol. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried effaith yr argyfwng costau byw ar awdurdodau lleol, a darparu setliad sy'n eu galluogi i ddarparu gwasanaethau mewn modd cynaliadwy. Diolch yn fawr.

Dwi'n gwerthfawrogi bod y cyfraniadau'n gryno heddiw. Mae p'un ai ydyn ni'n cael dau neu dri arall i mewn yn dibynnu pa mor gryno ydy'r gweddill. I arwain y ffordd, Luke Fletcher.

Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Fe fyddaf yn gryno. Deallaf fod y Llywodraeth yn cael ei thynnu i bob cyfeiriad gan Aelodau o ran yr hyn y dylent fod yn gwario arno, ac mae nifer o flaenoriaethau i'w hystyried. Hoffwn ddadlau'r achos dros gynyddu taliadau'r lwfans cynhaliaeth addysg. Roedd yn rhyddhad enfawr i deuluoedd pan gafodd ei gyflwyno yn ôl yn 2004. Mae'n parhau i fod yn rhyddhad enfawr i deuluoedd, a chredaf, mewn gwirionedd, ei bod yn gadarnhaol iawn fod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i'w gadw cyhyd ag y maent wedi gwneud hynny. Ar hyn o bryd, mae taliad yn werth £30 yr wythnos. Mae hynny wedi bod yn wir ers 2004, ac mae Sefydliad Bevan wedi tynnu sylw yn briodol at y ffaith y byddai angen i'r taliad gynyddu i £45 yr wythnos er mwyn iddo fod o'r un gwerth â'r hyn ydoedd yn 2004. Felly, byddwn yn annog y Llywodraeth i ystyried cynyddu taliadau'r lwfans cynhaliaeth addysg. 

Fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid, rwy'n falch fod y pwyllgor wedi mabwysiadu dull rhagweithiol o geisio barn pobl Cymru wrth helpu i lunio blaenoriaeth gwariant Llywodraeth Cymru, ffigur o bron i £21 biliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24. Rwyf hefyd eisiau tynnu sylw at waith stoicaidd y Cadeirydd, Peredur Owen Griffiths, a chyd-aelodau'r pwyllgor hefyd. Mae'n iawn ac yn briodol fod y pwyllgor yn ymgysylltu'n ystyrlon â rhanddeiliaid a dinasyddion, ac rwy'n falch o'r gwaith sydd wedi'i wneud ac yn falch o'r ffaith ein bod yn ymgysylltu'n rhagweithiol ac yn bwrpasol â'r Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru. Felly, diolch i bawb a gymerodd ran ac i bawb a fydd yn parhau i ymgysylltu. Serch hynny, Weinidog, gadewch inni beidio ag anghofio, a chofio bob amser, mai'r ymarfer ymgynghori mwyaf gyda phobl Cymru yw'r un a gynhelir mewn etholiadau democrataidd, a'r rhyddid i ddewis wrth y bocs pleidleisio, ac rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi'i hailethol i ymrwymo i gyflawni blaenoriaethau'r cyhoedd yng Nghymru.

Fodd bynnag, mae'r heriau presennol yr ydym i gyd yn eu hwynebu, yn niferus ac yn ddifrifol wrth i ni ymadfer yn dilyn pandemig COVID-19 ac wrth inni barhau i dyrchu ein ffordd drwy'r Brexit nad yw wedi'i goginio'n llawn. Heddiw, rydym yn wynebu argyfwng costau byw'r Torïaid sy'n ymosod ar bob un aelwyd, gyda chwyddiant yn codi i lefelau nas gwelwyd mewn dros bedwar degawd a rhagwelir y bydd yn saethu i fyny ymhellach. Mae hyn yn seismig ac yn drychinebus i genedl heb rwyd les weithredol. Ac er nad oes gennyf amser i'w grybwyll yn awr, mae'n briodol y bydd cyllidebu ar sail rhywedd hefyd ar agenda ein Gweinidog. Roedd yn amlwg o'r adborth a gawsom fel pwyllgor fod y cyhoedd yn gwerthfawrogi ein gwasanaethau cyhoeddus—yn eu gwerthfawrogi'n aruthrol—a'u bod yn pryderu am yr argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu, a'u bod eisiau gweld Llywodraeth Cymru ar eu hochr hwy. Yr wythnos diwethaf, wrth annerch y Senedd, nododd Prif Weinidog Cymru gynlluniau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, ac nid wyf am fanylu, ond Bil ar blastigau untro, Bil aer glân, Bil amaethyddol, Bil cydsynio seilwaith, Bil ar ddiogelwch tomenni glo—sydd mor bwysig i'n cymunedau. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn nodi ei hawydd cryf i fynd i'r afael â her newid hinsawdd ac i gefnogi'r amgylchedd.

Rhoddwyd llawer o sylw i'r Bil arfaethedig i ddiwygio'r Senedd, ond mae'n bwysig peidio ag anwybyddu'r Bil bysiau a fydd yn cael ei gyflwyno i alluogi pob lefel o lywodraeth yng Nghymru i gydweithio i gynllunio rhwydweithiau bysiau sy'n wirioneddol gydgysylltiedig ac sy'n gwasanaethu cymunedau yn dda. Bydd hyn ynddo'i hun yn drawsnewidiol i'r rhai y mae pawb ohonom yn eu gwasanaethu. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno mwy o degwch, wrth i ddinasyddion wynebu llif—ffrydlif—o gostau cynyddol, gyda Bil ar gyllid llywodraeth leol ar ddiwedd 2023 i ddiwygio'n sylfaenol y ffordd y mae dinasyddion yn talu'r dreth gyngor yng Nghymru.

Ac yn olaf, o fewn y fframwaith cymwyseddau datganoledig presennol, mae deddfwriaeth o'r fath yn hanfodol a gwn y bydd Llywodraeth Cymru—llywodraeth foesegol—yn ceisio blaenoriaethu pryderon y bobl, gyda pholisi wedi'i lunio ar gyfer y bobl i liniaru newid hinsawdd ac i fynd i'r afael ag effeithiau gwirioneddol erchyll yr argyfwng costau byw Torïaidd gwaethaf erioed. Ond mae Cymru, a'r lle hwn, fel rhan o'r Deyrnas Unedig, angen unioni'n sylfaenol y diffyg cyllid i Gymru ac er mwyn gwneud hyn, rydym angen Llywodraeth Lafur yn y Deyrnas Unedig wedi'i hethol mewn etholiad cyffredinol cyn gynted â phosibl, ar ran y bobl a chan y bobl. Diolch.

17:00

Diolch yn fawr iawn. Maent wedi trafod y pwynt yr oeddwn am gyfeirio ato. Diolch.

Dyna ni. Gaf i alw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans?

Diolch. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma, ond yn arbennig felly i'r Pwyllgor Cyllid am gyflwyno'r ddadl heddiw. Credaf fod hyn wedi bod yn ddatblygiad rhagorol iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n helpu i ganolbwyntio'r meddwl o ran deall beth yw blaenoriaethau cyd-Aelodau. Felly, diolch yn fawr am gyfraniadau pawb i'r ddadl heddiw. Bydd y Senedd, wrth gwrs, yn cofio ein bod wedi gallu cyhoeddi setliad cyllideb tair blynedd yn gynharach eleni, ac mae hynny'n rhoi lefel o sicrwydd a sefydlogrwydd o leiaf i'n partneriaid ac i bobl Cymru. Ond yn awr rydym yn wynebu cyfres newydd o heriau y mae'n rhaid inni eu hystyried yn ein cyllideb nesaf ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys parhau i ymateb i effeithiau parhaus pandemig COVID-19.

Fel llawer o wledydd eraill, rydym yn wynebu chwyddiant cynyddol ac mae hynny'n effeithio ar ein hymrwymiadau presennol. Mae hefyd yn peri i'n setliad cyllideb fod yn werth £600 miliwn yn llai na phan wnaethom ei ddyrannu ym mis Hydref 2021, a bydd hyn yn sicr ar flaen ein meddyliau wrth inni ddechrau ystyried ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ac wrth gwrs, rydym yn profi'r argyfwng costau byw parhaus yn ogystal â'r gwrthdaro yn Wcráin, ond mae ein hymrwymiad fel Llywodraeth i gefnogi cymunedau a dinasyddion wrth iddynt lywio'u ffordd drwy'r pethau hyn yn dal i fod yn gwbl gadarn.

Mae ein sefyllfa gyllidol yn anodd iawn. Rydym yn wynebu llawer o ansicrwydd o ganlyniad i'r digwyddiadau sy'n mynd rhagddynt yn Whitehall. Rydym eto i ddeall pryd y bydd digwyddiad cyllidol nesaf Llywodraeth y DU, ac nid yw Llywodraeth y DU, ar yr adeg hon, wedi dweud y bydd unrhyw arian ychwanegol yn dod i Gymru, ac ni allwn ddibynnu ar unrhyw ragdybiaeth y bydd yna arian ychwanegol. Yn wir, rhaid inni ystyried y posibilrwydd y gwelwn setliad llai, ac mae angen inni baratoi ar gyfer senario o'r fath am yr holl resymau a amlinellodd Alun Davies o ran Llywodraeth bresennol y DU ac agweddau'r ymgeiswyr am swydd y Prif Weinidog tuag at drethi, felly bydd hynny ar flaen ein meddyliau wrth inni ddechrau paratoi dros yr haf.

Credaf hefyd fod y Cadeirydd wedi cydnabod pa mor galed yw hyn, ac rwy'n falch fod y Pwyllgor Cyllid wedi ymgysylltu â chymunedau a phobl ifanc, gan ofyn y cwestiwn pwysig ynglŷn â ble y byddem yn torri pe bai'n rhaid inni dorri, neu os ydym am dorri i fuddsoddi mewn meysydd eraill. Felly, mae'n ddiddorol darganfod beth yw blaenoriaethau pobl a lefel eu goddefgarwch ynghylch toriadau mewn meysydd penodol. Felly, rwy'n ddiolchgar am y gwaith hwnnw ac am yr adroddiad cyfan ar ran y Pwyllgor Cyllid. Mae wedi bod yn ddefnyddiol tu hwnt, ac rwy'n ddiolchgar am yr holl ymgysylltu a wnaethoch.

Felly, rwyf am ymateb i rai o'r pwyntiau penodol, ond yr hyn nad wyf am ei wneud yw ymateb i'r ceisiadau am gyllid ychwanegol mewn meysydd polisi neu wariant penodol, oherwydd credaf nad dyna yw pwrpas y ddadl heddiw; pwrpas heddiw yw i mi glywed gan gyd-Aelodau. Ond rwyf am gydnabod a chadarnhau fy mod wedi clywed yr hyn y mae pobl wedi bod yn ei ddweud am yr argyfwng costau byw, iechyd meddwl, yn enwedig pobl ifanc, seilwaith ieuenctid, gofalwyr di-dâl, gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys addysg a gwasanaethau llywodraeth leol eraill, pwysigrwydd buddsoddi mewn ymchwil ac arloesi i hybu sgiliau a'r economi a'r holl heriau sy'n gysylltiedig â chyflogau ac amodau'r sector cyhoeddus. A chanolbwyntiodd cyfraniadau eraill ar wella iechyd a gofal sylfaenol, deintyddiaeth, a chlywsom hefyd am bwysigrwydd buddsoddi mewn datgarboneiddio a newid hinsawdd a mannau gwyrdd ac ansawdd aer. Clywsom hefyd am drafnidiaeth gyhoeddus a phryderon yn enwedig ynglŷn â sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad ati. A chyfeiriwyd at gyfiawnder, yn ogystal â diogelwch adeiladu a thai a digartrefedd yn fwy cyffredinol, a hyn i gyd gyda ffocws cryf iawn ar atal. Ac wrth gwrs, gwnaed y dadleuon o blaid y lwfans cynhaliaeth addysg hefyd. Felly, rwy'n credu bod llawer i'w ystyried yno wrth inni ddechrau paratoi ar gyfer y gyllideb.

Ond ar rai o'r pwyntiau proses, sef y pethau mwyaf defnyddiol y gallaf ymateb iddynt heddiw yn fy marn i, o ran amseriad y gyllideb, rwy'n rhannu pryderon a siom y Pwyllgor Cyllid yn ei gylch, a chredaf mai'r rheswm dros rai o'r ffyrdd yr aethom ati i gyflwyno'r gyllideb ddrafft yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn hwyrach nag y byddem fel arfer yn ei ragweld, yw oherwydd, ar adeg protocol y gyllideb, cafodd Llywodraeth y DU ei phrif ddigwyddiad cyllidol yn y gwanwyn, ond yn awr ymddengys ein bod yn ymateb i raddau helaeth i ddatganiadau arwyddocaol yr hydref, ac felly credaf fod y pwynt am edrych ar y protocol a chael trafodaethau ynghylch hynny yn drafodaeth bwysig i'w chael.

Credaf hefyd ei bod yn bwysig cydnabod y pwyntiau a wnaed ynghylch codi ymwybyddiaeth o'n pwerau codi trethi. Credaf fod y gyllideb yn adeg bwysig iawn i wneud hynny. Rydym wedi gwneud cryn dipyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf i geisio gwneud treth a'r gyllideb yn fwy hygyrch i bobl yn gyffredinol. Felly, mae gennym y canllaw cyflym ar wefan Llywodraeth Cymru, fel y gall pobl roi eu gwybodaeth i mewn a darganfod faint, yn gymharol, y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario o'u cyfraniad ar y gwahanol feysydd yr ydym yn gyfrifol amdanynt. Mae gennym hefyd arolwg Beaufort, sy'n gofyn i bobl am eu hymwybyddiaeth o gyfraddau treth incwm Cymru, er enghraifft. Rydym yn gweld cynnydd, ond mae'n rhy araf ac mae angen inni wneud mwy o waith ymgysylltu yno. Ac rydym hefyd yn gwneud ymdrech i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc drwy daflenni i blant a phobl ifanc, ac rwy'n ymgysylltu ag ysgolion a myfyrwyr economeg ac eraill i geisio cael y sgyrsiau hyn gyda phlant a phobl ifanc.

Clywais y galwadau am naratif cliriach ynghylch sawl elfen o'r gyllideb a hefyd am fwy o dryloywder. Rwyf bob amser yn awyddus i gyhoeddi cymaint ag y gallwn ac i fod mor dryloyw ag y gallwn. Felly, rwy'n barod i ymateb i unrhyw geisiadau penodol am ragor o wybodaeth, neu feysydd y gallwn eu gwella. Mae gennym ein cynllun gwella'r gyllideb, sy'n gynllun pum mlynedd treigl ar gyfer gwella'r ffordd y gwnawn ein cyllideb a'r ffordd yr ydym yn ei chyfleu. Felly, rwy'n amlwg yn hapus i archwilio'r hyn y gallwn ei ychwanegu o ran hynny hefyd.

Rydym yn cyhoeddi llawer iawn o wybodaeth, rhaid imi ddweud. Rydym yn cyhoeddi adroddiad y prif economegydd, llawer o ddata ynghylch trethi, mae gennym ein dadansoddiad effaith ddosbarthiadol, ein dull newydd o ymdrin ag effeithiau carbon—felly, mae llawer o wybodaeth ar gael, ond os oes angen rhagor, rwy'n awyddus i ddarparu hynny hefyd. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth bwysig drwy gydol y flwyddyn. Cyfeiriwyd at gyfraddau treth incwm Cymru a'r data alldro. Felly, bydd y data alldro ar gyfer y llynedd ar gael y mis hwn, a byddaf yn ei gyhoeddi ochr yn ochr â datganiad ysgrifenedig. Mae hyn yn bwysig, oherwydd dyma'r tro cyntaf i'r data hwn gael effaith ar gyllideb y flwyddyn nesaf mewn bywyd go iawn, felly credaf y bydd hynny'n ein helpu eto o ran meddwl ymlaen at ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Yn gyffredinol, Gadeirydd, rwyf am orffen drwy gadarnhau ein bod yn parhau i fod yn Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i Gymru decach, wyrddach a mwy ffyniannus. Bydd ein cyllideb sydd ar y ffordd a'n paratoadau ar ei chyfer yn cadw'r gwerthoedd hyn yn greiddiol iawn. Mae'r heriau sy'n ein hwynebu yn amlwg yn anodd iawn, ac mae gennym bwysau sylweddol ar ein cyllidebau, ond rhaid inni gael y gwerthoedd hyn a'n gweledigaeth yno i'n harwain. I gloi, rwy'n croesawu'n llwyr y ddadl heddiw, mae wedi bod yn addysgiadol iawn, ac edrychaf ymlaen at barhau i ymgysylltu â chyd-Aelodau ar draws y Senedd yn ystod y misoedd nesaf. Diolch.

17:10

Diolch, Cadeirydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau sydd wedi cyfrannu i’r ddadl heddiw. Mae wedi bod yn gyfle euraidd i’r Senedd ddylanwadu ar feddylfryd Llywodraeth Cymru cyn iddi gyhoeddi’r gyllideb ddrafft yn ddiweddarach eleni. Gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried y safbwyntiau a godwyd heddiw.

Diolch i'r holl Aelodau a Chadeiryddion pwyllgorau am eu cyfraniad i'r ddadl, ac ymateb y Gweinidog. Roedd yn amlwg fod yr argyfwng costau byw yn ymddangos fel blaenoriaeth bwysig, gyda llawer o'r Aelodau'n cyfeirio ato. Clywsom gan lawer o gyfranwyr heddiw, ac nid wyf am ailadrodd y dadleuon a'r sylwadau a glywsom, ond y meysydd yn fras oedd iechyd meddwl, addysg, gofalwyr cyflogedig a di-dâl, tâl ac amodau i weithwyr y sector cyhoeddus, seilwaith a gwariant cyfalaf, trafnidiaeth gyhoeddus, mynediad at gyfiawnder, codi refeniw, iechyd a gofal cymdeithasol a thai. Mae'r cwestiynau a godwyd yn niferus, ac nid yw'r atebion yn hawdd. Gobeithio y bydd y ddadl hon yn helpu i grisialu rhywfaint o hynny i'r Gweinidog. Rydym hefyd wedi clywed ymrwymiad y Gweinidog i ymgysylltu, ac rwy'n sicr yn croesawu hynny.

Fel y soniais ar ddechrau'r ddadl hon, nid yw'r materion hyn yn syndod i'r Aelodau. Maent yn sylweddol, yn heriol ac yn gymhleth, ond yr hyn a glywsom gan bobl Cymru oedd yr angen a pharodrwydd i weithredu i wneud rhywbeth am yr anawsterau y maent yn eu hwynebu. Yr hyn sydd ei angen ar y bobl y buom yn siarad â hwy yn fwy na dim yn awr yw i Lywodraeth Cymru wrando ar eu pryderon a thargedu ei hadnoddau'n briodol. Bydd hyn yn ein galluogi i wneud y defnydd gorau o'r hyn sydd gennym. Bydd yn ein galluogi i gael gwasanaethau sy'n gynaliadwy. Bydd hefyd yn ein galluogi i fynd i'r afael â phryderon a blaenoriaethau'r cyhoedd yng Nghymru.

Byddwn yn parhau i godi'r materion hyn gyda'r Gweinidog yn y pwyllgor ar ôl i'r gyllideb ddrafft gael ei gosod gerbron y Senedd yn ddiweddarach eleni, ac rwy'n gobeithio y bydd pwyllgorau eraill yn gwneud yr un peth o fewn eu meysydd pwnc eu hunain.

Hoffwn ddiolch i’r rhai sy’n bennaf gyfrifol am y ddadl heddiw: ein rhanddeiliaid a’r bobl y buom yn siarad â nhw. Maent yn ganolog i'n gwaith ac rydym yn ddiolchgar am eu hymgysylltiad parhaus. Yn olaf, hoffwn ddiolch o galon i'r tîm clercio ac ymchwil sydd yn gweithio yn galed yn y cefndir i hwyluso gwaith y pwyllgor a'n galluogi ni i graffu'n effeithiol ar y Llywodraeth. Diolch yn fawr.

Diolch. Y cwestiwn ydy: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn clywed gwrthwynebiad. Felly, mi dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: 'Adnewyddu Rhaglen Ddileu TB Buchol Cymru'

Symud ymlaen at eitem 9, dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Adnewyddu Rhaglen Ddileu TB Buchol Cymru'. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Paul Davies.

17:15

Cynnig NDM8066 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: 'Adnewyddu Rhaglen Ddileu TB Buchol Cymru' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mai 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i. Wrth i Lywodraeth Cymru adolygu ei strategaeth TB buchol, teimlai Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig fod hwn yn gyfle da i gynnal ymchwiliad byr a sydyn i'r rhaglen. O'r cychwyn cyntaf, hoffwn ddiolch i'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor ac a helpodd i lunio ein hadroddiad.

Un o'r rhai a roddodd dystiolaeth oedd Roger Lewis, ffermwr godro yn sir Benfro, a eglurodd fod ganddo 47 o wartheg yn ynysu o ganlyniad i achosion o TB. Dywedodd Roger wrthym ei fod yn gorfod arllwys gwerth £300 o laeth, a bwydo gwerth £100 o ddwysfwyd i'r gwartheg bob dydd. Fodd bynnag, dim ond rhan o'r boen i ffermwyr yw'r baich ariannol sy'n deillio o achosion, gan fod Roger wedi dweud wrth y pwyllgor hefyd am y trallod emosiynol a deimlai wrth weld ei wartheg wedi eu cau i mewn o un diwrnod i'r llall. Lywydd dros dro, roeddwn am agor y ddadl hon drwy dynnu sylw at brofiad Roger oherwydd credaf ei bod yn bwysig i'r Aelodau glywed barn ffermwyr tebyg iddo, fel y gallwn ddeall yn well beth yw'r effaith y mae achosion o TB yn ei chael ar ffermydd ledled Cymru.

Nawr, mae adroddiad y pwyllgor yn canolbwyntio ar bum maes allweddol y mae'n rhaid i'r Llywodraeth fynd i'r afael â hwy os ydynt am greu strategaeth ddiwygiedig a fydd yn dileu TB ac yn cefnogi ffermwyr drwy'r broses. Y meysydd hynny yw ymgysylltu â ffermwyr a'r diwydiant ehangach; prynu gwybodus; profion; iawndal; a bywyd gwyllt.

Clywsom fod y gwledydd a fu'n fwyaf llwyddiannus gyda rhaglenni dileu TB yn ymgysylltu'n dda iawn â ffermwyr. Dywedodd yr Athro Glyn Hewinson wrth yr Aelodau fod y systemau yn Iwerddon a Seland Newydd, lle ceir tystiolaeth o ymgysylltu da â ffermwyr, wedi arwain at ganlyniadau da. Felly, ar sail y gwaith da hwnnw, mae'r pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddilyn llwybr cydgynhyrchu wrth ddatblygu ei pholisi TB buchol, er mwyn denu cefnogaeth ddiffuant y diwydiant ffermio. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y pwyllgor ar ymgysylltu a'r egwyddor o gydgynhyrchu, a gwn o ddatganiad y Gweinidog yn gynharach yr wythnos hon ei bod yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar ymgysylltu â ffermwyr, ac adroddiad grŵp ffocws NFU Cymru ar TB.

Edrychodd y pwyllgor hefyd ar brynu gwybodus, ac fel y gŵyr yr Aelodau, ceir agwedd wirfoddol ar hyn o bryd tuag at brynu gwybodus yng Nghymru, lle caiff ffermwyr eu hannog i sicrhau bod hanes profion eu buchesi ar gael yn y man gwerthu i ganiatáu asesiad o lefel y risg o TB. Ystyriodd y pwyllgor a fyddai prynu gwybodus ar sail orfodol yn ffordd ymlaen, er bod y dystiolaeth a gawsom yn rhoi darlun cymysg iawn. Dadleuodd rhai tystion o blaid prynu gwybodus ar sail orfodol, gan ddweud y byddai hyn yn helpu ffermwyr i wneud y peth iawn, ond clywodd y pwyllgor hefyd y gallai greu system ddwy haen, lle bydd gwerth is i anifeiliaid yr ystyrir eu bod yn risg uwch.

Fodd bynnag, roedd un peth yn glir iawn: rhaid i brynu gwybodus, boed ar sail wirfoddol neu orfodol, fod yn seiliedig ar ddata cadarn. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru yn datblygu cronfa ddata amlrywogaeth newydd, EID Cymru, ac mae hyn yn gyfle i wella'r wybodaeth a ddarperir yn rhan o brynu gwybodus. Serch hynny, er bod rhanddeiliaid yn cefnogi datblygiad EID Cymru, codwyd pryderon dilys ganddynt am gydweddoldeb â gwahanol weinyddiaethau'r DU. Felly, er fy mod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor yr argymhellion ynghylch prynu gwybodus, nid aeth i'r afael â mater cydweddoldeb â systemau data eraill yn y DU, felly rwy'n gobeithio yr aiff y Gweinidog i'r afael â'r mater yn ei hymateb i'r ddadl hon.

Fel rhan o'r ymchwiliad, archwiliodd y pwyllgor y syniad o gynyddu profion TB, drwy ailgyflwyno profion cyn symud mewn ardaloedd risg isel a chynyddu sensitifrwydd y profion a ddefnyddir. Er bod cefnogaeth eang i gynyddu profion cyn symud, lleisiodd undebau'r ffermwyr bryderon y byddai profion mwy sensitif yn arwain at fwy o ganlyniadau positif anghywir, a fyddai yn eu tro'n cael effaith economaidd-gymdeithasol negyddol ar y diwydiant ffermio. Mae'r pwyllgor wedi argymell y dylid cynnal asesiad effaith economaidd-gymdeithasol manwl o unrhyw newidiadau i drefn profion TB, ac mae'n dda gweld bod yr argymhelliad hwnnw wedi'i dderbyn.

Lywydd dros dro, clywodd y pwyllgor sut y mae iawndal TB yn faes lle mae Llywodraeth Cymru yn gorwario arno dro ar ôl tro, sy'n anghynaliadwy. Un o'r atebion a gynigiwyd ar gyfer hyn yw symud oddi wrth y prisiad fesul buwch unigol a wneir ar hyn o bryd i system dablaidd ar gyfer iawndal, a chlywodd yr aelodau dystiolaeth o blaid symud gan yr RSPCA ac yn erbyn gan undebau'r ffermwyr. Daeth y pwyllgor i'r casgliad fod yn rhaid defnyddio iawndal TB i wobrwyo ffermio da ac os cyflwynir system iawndal dablaidd, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw ffermwyr sy'n magu gwartheg gwerth uchel yn cael eu trin yn annheg ac nad ydynt ar eu colled. Roedd aelodau'r Pwyllgor yn deall bod y rhaglen iawndal bresennol yn ddrud. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod y bydd ennill cefnogaeth ffermwyr i unrhyw system newydd yn hanfodol i'w llwyddiant.

Yn olaf, er i'r pwyllgor geisio cyfyngu ar ei waith ar fywyd gwyllt yn yr ymchwiliad hwn, wrth i'r ddadl honno barhau, roeddem yn credu bod bwlch yn y data ynghylch TB buchol mewn bywyd gwyllt. Yn yr ymateb i'r adroddiad, nododd Llywodraeth Cymru sawl astudiaeth a byddwn ni fel pwyllgor yn parhau i fonitro unrhyw waith gwyddonol a wneir yn y maes hwn.

Felly, Lywydd dros dro, efallai mai ymchwiliad byr a sydyn yw hwn, ond serch hynny mae ei gynnwys a'i adroddiad yn hanfodol, ac felly edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau am yr adroddiad a sut y gallwn helpu i wella polisi dileu TB Cymru cyn cyhoeddi'r cynllun cyflawni wedi'i adnewyddu yn ddiweddarach eleni. Diolch yn fawr.

17:20

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu. Mae TB buchol wedi bod yn gwmwl tywyll dros ddiwydiant amaethyddol Cymru ers gormod o amser, gan achosi i rai ffermwyr golli eu busnesau, eu bywoliaeth a chan effeithio'n ddifrifol ar eu hiechyd meddwl. A dweud y gwir, nid wyf yn poeni pwy gaiff y clod am ddileu TB o fuchesi Cymru, oherwydd ei fod yn glefyd mor filain sy'n achosi caledi aruthrol, rwyf ond eisiau iddo gael ei ddatrys unwaith ac am byth. Fel y mae'r diwydiant.

Mae'r adroddiad pwyllgor hwn yn cael ei drafod yn yr un wythnos ag y rhoddodd Llywodraeth Cymru ei diweddariad TB, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion yn llawn neu mewn egwyddor. Mae'r argymhellion a gyflwynwyd gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â'r broblem hon, gan ddod â ffermwyr yn ôl at y gwaith o wneud penderfyniadau ynglŷn â TB ar eu ffermydd. Mae cymaint hefyd y gallwn ei ddysgu gan wledydd eraill, megis Iwerddon, Seland Newydd a Lloegr, am y ffordd y byddent yn rheoli ac yn dileu TB buchol.

Gan ganolbwyntio ar ychydig o bwyntiau penodol, er bod rhywfaint o obaith, sydd i'w groesawu, fod nifer blynyddol yr anifeiliaid a laddir er mwyn rheoli TB wedi gostwng o 11,655 i 10,117, rhaid inni gofio, fodd bynnag, fod dros 100,000 o wartheg wedi'u lladd ers 2008—nifer sylweddol a gofidus o fawr.

Mae argymhelliad 10 yn nodi'r prinder milfeddygon a'r posibilrwydd o gyflwyno brechwyr lleyg i frechu gwartheg a phrofwyr lleyg i brofi gwartheg. Mae hwn yn argymhelliad pragmatig, sy'n rhyddhau milfeddygon gan barhau i'w gwneud hi'n bosibl cynnal profion TB, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i hynny. Fodd bynnag, hoffwn gael rhagor o wybodaeth ynghylch pryd y byddai Llywodraeth Cymru yn meddwl y gellid gweithredu hyn.

Yn ogystal, mae argymhellion 11 a 12 yn galw ar Lywodraeth Cymru i

'ddefnyddio taliadau iawndal TB i wobrwyo arferion ffermio da'.

ac yn datgan,

'Os bydd Llywodraeth Cymru yn dewis cyflwyno system dablaidd, rhaid iddi sicrhau nad yw ffermwyr sy’n magu gwartheg uchel eu gwerth (e.e. pedigrî) yn cael eu trin yn annheg ac nad ydynt ar eu colled.'

Er bod peth croeso i'r ffaith bod y Llywodraeth yn derbyn yr egwyddorion hyn, teimlaf fod yr ymateb yn un dros dro braidd, sy'n egluro bod y drefn daliadau dan ystyriaeth, gyda'r sylw ychwanegol y bydd costau canlyniadol yn cael eu tynnu o gyllidebau rhaglenni presennol. Felly, mae'n peri pryder i mi, gan nad oes arian newydd yn cael ei ddarparu i fynd i'r afael â'r clefyd hwn, fod hynny'n gadael y Llywodraeth yn agored i'r cyhuddiad mai tincran ar ymylon y broblem yn unig y mae'n ei wneud.

Mae dybryd angen cyfaill ar ffermio, yn enwedig mewn perthynas â TB. Rwy'n mawr obeithio heddiw, ar ôl y degawd anodd diwethaf i ffermwyr yn y frwydr yn erbyn TB, fod yr adroddiad hwn a datganiad Llywodraeth Cymru yn arwydd o droi'r dudalen gyda strategaeth wedi'i hadfywio i ddileu TB. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, yr Aelod dros Breseli Sir Benfro; y tîm clercio; y tystion a roddodd eu tystiolaeth; ac i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor. Diolch.

Wel, mae'n amhosib gorbwysleisio pwysigrwydd y diwydiant ffermio i Gymru wledig. Busnesau ffermio yng Nghymru ydy asgwrn cefn economi wledig Cymru, yr echel y mae cymunedau gwledig yn troi o'i chwmpas. Mae cynhwysion crai sydd yn cael eu cynhyrchu yma yn ganolog i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, sy'n werth miliynau o bunnoedd ac yn cyflogi dros 239,000 o bobl yma. Ond mae diciâu mewn gwartheg yn parhau i daflu cysgod tywyll ar draws y diwydiant yng Nghymru, ac mae'n un o'r prif fygythiadau i gyflawni'n gweledigaeth o ddiwydiant amaethyddol cynhyrchiol, blaengar a phroffidiol yma. Mae'r dicter a'r rhwystredigaeth yn y diwydiant o ran methiant Llywodraethau olynol dro ar ôl tro i weithredu strategaeth gynhwysfawr i ddileu diciâu yng Nghymru ar ei mwyaf erioed.

Dwi am atseinio barn yr undebau amaethol ynghylch eu gwrthwynebiad i system prisio yn ôl tabl—y tabulation rydym ni wedi clywed amdano—fel modd o bennu iawndal yn sgil y diciâu. Mae gan gynnig o'r fath ddiffygion sylweddol, ond oherwydd cyfyngder amser, dwi am bwysleisio un gwendid yn benodol, sef nad ydy system o'r fath yn deg i'r ffermwyr nac i'r Llywodraeth, oherwydd mae system sy'n seiliedig ar gyfartaleddau yn debygol o greu cynifer o achosion o orbrisio ag sy'n cael eu creu o danbrisio. Fedrwn ni ddim derbyn prisio yn ôl tabl heb sicrwydd felly fod ffermwyr am gael pris teg.

Mae'r sector filfeddygol yn wynebu heriau sylweddol ar hyn o bryd, a hynny yn sgil Brexit wrth i nifer o filfeddygon adael y wlad yma a mynd yn ôl i wlad eu mebyd. Mae hyn yn ei dro yn achosi trafferthion wrth brofi ar gyfer y diciâu ac fe glywodd y pwyllgor bryder fod hyn yn cael effaith uniongyrchol ar ffermydd a phrofion y diciâu. Mae aelodau Undeb Amaethwyr Cymru wedi cael eu cosbi oherwydd diffyg personél ac adnoddau milfeddygol. Felly, dwi’n annog y Llywodraeth i sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael cyn cyflwyno unrhyw ofynion profi cynyddol. Un ateb posibl, fel rydyn ni wedi'i glywed yn y cyswllt hwn, ydy cyflwyno profwyr lleyg; felly, mi fyddwn yn annog Llywodraeth Cymru i archwilio i hyn cyn gynted â phosibl.

Mae’r sefyllfa bresennol wedi dwysáu ymhellach gan raglen lywodraethu Llywodraeth Cymru 2021, sy’n datgan y bydd yn gwahardd difa moch daear i reoli lledaeniad y diciâu mewn gwartheg. Mae hyn yn gam gwag. Does yna ddim brechiad parod ar gyfer y diciâu mewn gwartheg na bywyd gwyllt, felly'r unig erfyn effeithiol sydd gennym ni ydy difa, ac mae’n rhaid i ddifa fod yn rhan o’r mix, er lles gwartheg a bywyd gwyllt. Mae yna dystiolaeth i gefnogi polisi effeithiol o ddileu’r diciâu dros y ffin yng Nghaerloyw a Gwlad yr Haf, ac fe welon ni ostyngiad o 66 y cant a 37 y cant yn nifer yr achosion yn y cyfnod difa yno. Does yna ddim ffordd arall wedi cael ei chynnig i fynd i’r afael â’r diciâu, felly mae’n rhaid defnyddio’r unig erfyn sydd gennym ni ar hyn o bryd, sef difa.

O ddarllen adroddiad y pwyllgor, mae’n rhyfeddol i mi ddeall nad oes yna ddata cywir ar lefel y clefyd ym mywyd gwyllt ychwaith. Dylai gwybodaeth o’r fath fod yn elfennol wrth ddatblygu polisi i fynd i’r afael â’r clefyd. Dydy o ddim yn syndod nad yw’r camau sydd wedi cael eu cymryd hyd yma ddim wedi llwyddo, gan mai dim ond un ochr o’r dystiolaeth sy’n cael ei hystyried. Mae’r diffyg yma yn y data yn gadael ein ffermwyr a bywyd gwyllt i lawr; mae’n rhaid gwella ar y data yma, felly. Mae’n rhaid i’r broblem yma ddod i ben. Mae pawb yma yn gytûn na all y sefyllfa bresennol barhau, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ffermwyr yn cael digon o gefnogaeth i ddileu’r clefyd erchyll yma o’r gwartheg ac o fywyd gwyllt.

17:25

Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am adroddiad diddorol. Cofiaf gael fy ethol yn 2007, ac roedd pryderon difrifol ynghylch TB buchol yng Nghymru bryd hynny, ond mae'r data'n dangos pa mor bell y daethom. Mae yna ddarlun newydd yn awr, fel y dywedodd y Gweinidog yn ei datganiad diweddaraf. Mae nifer yr achosion newydd mewn buchesi wedi gostwng 56 y cant ers 2008, ac rydym wedi cyrraedd yma drwy fod y Llywodraeth a'r diwydiant ffermio wedi cydweithio a dilyn y wyddoniaeth. Mae profion sensitifrwydd uwch yn arbennig wedi bod yn hanfodol. Mae llawer i'w wneud eto wrth gwrs, ond mae'r adroddiad hwn yn arwydd defnyddiol arall ar y ffordd i ddileu'r clefyd. Ac rydym i gyd am gyrraedd yno cyn gynted â phosibl.

Fel y nododd RSPCA Cymru yn eu tystiolaeth,

'mae'r clefyd yn cael ei ledaenu'n bennaf rhwng gwartheg',

gyda symudiadau gwartheg yn brif risg o ran trosglwyddo. Felly, mae'r dystiolaeth am bersonél ac adnoddau milfeddygol yn arbennig o bwysig, ac edrychaf ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynllun peilot y profwyr lleyg maes o law.

Fel yr eglurodd Dr Gareth Enticott o Brifysgol Caerdydd i'r pwyllgor, gallai cyflwyno profion lleyg helpu'n arbennig i gadw milfeddygon yn ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru. Gan aros yn fy rhanbarth i, nid oedd y pwyllgor wedi clywed am y prosiect peilot ar gyfer sir Benfro, ond soniodd y Gweinidog amdano yn ei datganiad, a byddai'n dda cael mwy o fanylion, os gwelwch yn dda, ar ôl y cyfarfod ffurfiol cyntaf yn sioe sir Benfro efallai.

Yn yr un modd, clywodd y pwyllgor ychydig am frechu moch daear, ond nid gwartheg. Ym mis Tachwedd, dywedodd prif swyddog milfeddygol Cymru:

'Rydym yn parhau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu brechlyn TB gwartheg y gellir ei ddefnyddio gyda phrawf i wahaniaethu rhwng anifeiliaid sydd wedi'u brechu ac anifeiliaid heintus erbyn 2025.'

'Mae potensial i frechu gwartheg ddod yn arf pwerus yn y frwydr yn erbyn y clefyd a byddwn yn trafod gyda'r Ganolfan Ragoriaeth TB i gynllunio sut i'w wneud yn y ffordd fwyaf priodol yng Nghymru.'

Felly, unwaith eto, gofynnaf am yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny. Ond rwy'n falch iawn fy mod wedi cymryd rhan yn y ddadl hon, ac edrychaf ymlaen at wrando ar eraill.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am adolygu'r cynigion a geir yn yr ymgynghoriad ar raglen ddiwygiedig i ddileu TB. Rwyf wedi ymateb yn ffurfiol i adroddiad y pwyllgor a drafodir gennym yma heddiw, a chefais fy nghalonogi wrth weld bod yr argymhellion yn cyd-fynd yn fras â'n cynigion.

Amlinellais fy mwriad i adnewyddu ein rhaglen i ddileu TB fis Tachwedd diwethaf. Roedd ein cynllun cyflawni presennol, sy'n dyddio'n ôl i 2017, yn nodi mesurau gwell, sydd wedi'u rhoi ar waith ers hynny fel rhan o ddull gweithredu rhanbarthol. Mae ein rhaglen yn parhau i fod yn seiliedig ar bedair egwyddor allweddol rheoli clefyd heintus: ei gadw allan, ei ganfod yn gyflym, ei atal rhag lledaenu a'i ddileu. Mae'r ystadegau TB diweddaraf yn dangos bod cynnydd wedi'i wneud ledled Cymru, gyda gostyngiadau hirdymor mewn nifer o ddangosyddion allweddol, megis digwyddedd a lefelau achosion. Rydym hefyd yn gweld gostyngiadau rhanbarthol hirdymor yn nifer yr achosion o TB yn ein hardaloedd TB uchel, a bydd ein cynllun cyflawni newydd yn adeiladu ar y gwaith da hwn. Mae'r 246 o ymatebion i'r ymgynghoriad ar raglen wedi'i hadnewyddu i ddileu TB, a ddaeth i ben ym mis Chwefror, yn helpu i lywio ein strategaeth, wrth symud ymlaen. Mae'r crynodeb o'r ymatebion i'w weld ar ein gwefan. 

Ym mis Tachwedd, comisiynais grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol i ystyried cyfathrebu â cheidwaid gwartheg ynghylch TB. Mae eu hargymhellion wedi'u cyhoeddi ac maent hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer ein dull o weithredu yn y dyfodol. Rwy'n falch o weld synergedd rhwng adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen, adroddiad grŵp ffocws NFU Cymru ar TB a'r adroddiad a gyflwynwyd gan y pwyllgor hwn. Mae thema sy'n codi dro ar ôl tro yn yr adroddiadau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd rôl milfeddygon yn y rhaglen dileu TB, ac yn enwedig eu perthynas â ffermwyr o ran cyfleu gwybodaeth gywir y gellir ymddiried ynddi.

Fel parhad o waith y grŵp gorchwyl a gorffen ac mewn ymateb i'w hargymhellion, edrychaf ymlaen at weld allbynnau gweithdy yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos nesaf i archwilio rôl y milfeddyg a'r rhyngwyneb rhwng Llywodraeth Cymru, milfeddygon a ffermwyr wrth fynd i'r afael â TB. Bydd yr allbynnau'n cael eu hystyried ochr yn ochr â chapasiti milfeddygol a datblygu cynllun peilot gyda phartneriaid cyflawni milfeddygol a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i dreialu'r defnydd o brofwyr TB lleyg yng Nghymru. 

Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn nodi bwriadau uniongyrchol a mwy hirdymor ar gyfer ein rhaglen. Mae gennym lawer iawn o waith i'w wneud a byddaf i a fy swyddogion yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu a mireinio ein dull o weithredu ymhellach. Bydd y ffocws cychwynnol ar ddatblygu cynllun peilot gyda'r nod o leihau nifer yr achosion o TB yn sir Benfro a sefydlu grŵp cynghori technegol. Fel blaenoriaeth, bydd y grŵp yn ystyried ein trefn brofi TB ac yn darparu argymhellion annibynnol, gan sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn parhau i fod yn ganolog yn y rhaglen. Yn ddiweddarach eleni, byddaf yn cyhoeddi cynllun cyflawni wedi'i adnewyddu, yn gosod y camau nesaf ar gyfer y rhaglen. Byddaf yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid. Rwyf bob amser wedi pwysleisio mai drwy weithio mewn partneriaeth yn unig y caiff TB buchol ei ddileu. 

Hoffwn ddiolch unwaith eto i bawb a ymatebodd i'n hymgynghoriad ac a gyfrannodd at yr amryw adroddiadau ac argymhellion, ac edrychaf ymlaen at ddarparu diweddariad pellach yn y Senedd maes o law. Diolch. 

17:30

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau, ac yn wir, i’r Gweinidog am eu cyfraniadau i’r ddadl hon. Rydym wedi clywed pa mor ddinistriol yw TB buchol i ffermwyr Cymru. Hoffwn ddweud wrth y sector fod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi eich clywed yn glir, a byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn i graffu ar Weinidogion er mwyn sicrhau gwelliannau yn y mater hwn.

Mae’n hollol gywir, serch hynny, fod rhaglen dileu TB Cymru yn gadarn ac yn effeithiol, ac er mwyn sicrhau hynny, mae’n rhaid inni weld mwy o ymgysylltu â’r sector yn y maes polisi hwn. Mae’r pwyllgor wedi dweud yn glir fod yn rhaid cael mwy o gefnogaeth gan ffermwyr i bolisïau’r Llywodraeth, ac mae'n rhaid iddynt gael eu trin fel partneriaid cyfartal gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu’r rhaglen dileu TB. Mae’r Athro Glyn Hewinson yn iawn i ddweud bod angen i hon fod yn ymdrech tîm Cymru, ac mae cynnwys ffermwyr, milfeddygon a’r Llywodraeth gyda’i gilydd wrth wneud penderfyniadau yn bwysig iawn.

Wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig fod y data a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru yn gywir ac yn gyfredol. Mae’r pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda ffermwyr i gasglu data lleol gwell ar heintiau mewn bywyd gwyllt, gan gynnwys casglu data ar lefelau’r haint ar dir fferm lle mae fferm wedi'i heintio â TB. Roedd data a’i bwysigrwydd yn rhan annatod o adroddiad y pwyllgor, boed hynny mewn perthynas â ffigurau bywyd gwyllt neu mewn perthynas â phrynu gwybodus neu newid y drefn brofi, ac felly rwy'n annog y Gweinidog i flaenoriaethu’r mater hwn ac i adolygu’r data cyn gynted â phosibl.

Mae Aelodau hefyd wedi codi mater digolledu, ac mae’n amlwg fod y rhaglen ddigolledu bresennol yn ddrud ac y bydd yn rhaid i rywbeth newid. Mae’r Gweinidog wedi dweud bod yn rhaid mai nod unrhyw drefn daliadau TB yw talu swm teg a phriodol am wartheg sy’n cael eu lladd, gan sicrhau hefyd ei bod yn deg â’r trethdalwr. Er bod hynny’n wir, mae’n rhaid iddi fod yn deg â’r ffermwr hefyd, ac felly gwn y bydd y pwyllgor yn parhau i gadw llygad barcud ar ddatblygiadau yn y maes hwn.

Crybwyllwyd prinder milfeddygon y prynhawn yma hefyd, ac rwy’n falch fod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad ac wedi cadarnhau y byddwch yn archwilio’r defnydd ehangach o brofwyr TB lleyg. Deallaf y bydd cynllun peilot yn cael ei sefydlu dros yr haf i dreialu’r dull hwn, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy amdano maes o law, fel y nododd y Gweinidog yn gynharach.

Felly, i gloi, mae’r Gweinidog wedi dweud yn glir y bydd yn cyhoeddi cynllun cyflawni newydd yn nes ymlaen eleni, i nodi’r camau nesaf ar gyfer y rhaglen dileu TB, ac mae’r pwyllgor yn edrych ymlaen at graffu ar y cynllun hwnnw maes o law. Felly, a gaf fi ddiolch i’r Aelodau ac i’r Gweinidog am eu cyfraniadau heddiw, a dweud bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar weithredu’r argymhellion yn ein hadroddiad maes o law? Diolch yn fawr iawn.

17:35

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Hepatitis C

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Eitem 10 y prynhawn yma yw dadl gyntaf y Ceidwadwyr Cymreig, ar hepatitis C. Galwaf ar Russell George i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8064 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod Cymru wedi gwneud cynnydd da tuag at ddileu feirws hepatitis C drwy sefydlu rhwydwaith clinigol cenedlaethol hynod effeithiol, yn ogystal â chael mynediad teg a thryloyw at driniaeth ledled y wlad.

2. Yn nodi'r llwyddiannau arloesol mewn sawl maes, gan gynnwys dileu feirws hepatitis C ym mhoblogaeth Carchar Ei Mawrhydi Abertawe (y carchar remánd cyntaf yn y DU), yn ogystal â thrawsblannu a thrin organau'n llwyddiannus gan roddwyr a oedd wedi eu heintio â feirws hepatitis C i dderbynwyr newydd - peth arall i ddigwydd fan hyn am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig.

3. Yn cydnabod, er bod Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn ymrwymedig i'w nod o ddileu strategol, fod angen mwy o flaenoriaethu ac adnoddau gwleidyddol i gau'r bwlch profi a thriniaeth sydd wedi dod i'r amlwg oherwydd pandemig COVID-19 ac i sicrhau na fydd yn mynd tu hwnt i ddyddiad targed 2030.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gorfodi ailsefydlu gwasanaethau rheng flaen ar gyfer firysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed ym mhob ardal bwrdd iechyd, fel y gellir ailddechrau'r broses o nodi, profi, a thrin cleifion feirws hepatitis C yng Nghymru, a'u cysylltu â gofal;

b) datblygu cynllun strategol cenedlaethol i ddileu feirws hepatitis C erbyn 2030 fan bellaf, sydd ag adnoddau cynaliadwy, sy'n canolbwyntio ar y claf ac sy'n canolbwyntio ar y llwybr cyfan;

c) sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu hariannu a'u bod yn atebol am gyflawni'r cynllun strategol cenedlaethol, o ran darparu gwasanaethau, monitro data ac adrodd ar berfformiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o arwain y ddadl gyntaf o ddwy y prynhawn yma. Mae ein dadl gyntaf y prynhawn yma ar hepatitis C. Roeddwn yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol nodi rhywfaint o gefndir, efallai, i Aelodau a allai fod yn llai gwybodus ynghylch y mater hwn. Mae feirws hepatitis C (HCV) yn feirws a gludir yn y gwaed sy'n effeithio ar yr afu, ac os na chaiff ei drin, mae pedwar o bob pump o bobl sydd wedi'u heintio yn datblygu hepatitis C cronig, a all achosi sirosis angheuol, creithio'r afu, a all arwain at fethiant yr afu, yn ogystal â chanser yr afu. Mae'r feirws yn cael ei ledaenu pan fo gwaed unigolyn sydd wedi’i heintio yn mynd i mewn i lif gwaed unigolyn arall.

Y brif ffordd y caiff HCV ei ledaenu yn y DU yw drwy rannu nodwyddau wrth ddefnyddio cyffuriau. Gall tyllu’r corff neu datŵio gan ddefnyddio nodwyddau heb eu sterileiddio ledaenu’r feirws hefyd, ac ar adegau prin, mae modd ei ledaenu drwy gyswllt rhywiol, neu o’r fam i’r babi cyn neu yn ystod genedigaeth. Mae pobl eraill sydd â risg uwch o gael HCV yn cynnwys pobl sy’n dod i gysylltiad â gwaed, megis gweithwyr gofal iechyd, swyddogion carchar a phobl sydd wedi cael trallwysiad gwaed cyn 1991 yn y DU, neu mewn gwledydd nad ydynt yn sgrinio gwaed a roddwyd am y feirws.

Nid oes brechlyn ar gyfer HCV. Ystyrir bod meddyginiaethau newydd wedi chwyldroi'r driniaeth fel bod modd ei wella bellach mewn naw o bob 10 o bobl, os caiff ei drin yn gynnar. Mae triniaethau tabledi newydd yn fwy effeithiol ac yn arwain at lawer llai o sgil-effeithiau, ac mae triniaeth yn cymryd oddeutu wyth i 12 wythnos. Hyd yn oed os nad yw triniaeth yn cael gwared ar y feirws, gall arafu llid neu niwed i'r afu. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod gan 71 miliwn o bobl ledled y byd haint hepatitis C cronig. Mae’r DU yn wlad sydd â nifer isel o achosion, ac mae gan Gymru oddeutu 12,000 i 14,000 o bobl â HCV.

Mae llawer o'r hyn rwyf newydd ei amlinellu yn fy agoriad wedi dod o adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon blaenorol a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2019. Yn eu hadroddiad, 'Hepatitis C: Cynnydd tuag at ei ddileu yng Nghymru', nododd y pwyllgor nifer o argymhellion, a oedd yn cynnwys argymhellion y dylai Llywodraeth Cymru gynhyrchu strategaeth ddileu genedlaethol gynhwysfawr ar gyfer hepatitis C, ymgyrch ymwybyddiaeth wedi’i thargedu, a buddsoddiad yng ngharchardai Cymru i wella'r drefn brofi. Derbyniodd Llywodraeth Cymru y rhan fwyaf o’r argymhellion—mewn gwirionedd, derbyniodd bob un o’r argymhellion naill ai mewn egwyddor neu’n llawn.

Yn anffodus, mae Cymru’n eithriad ymhlith gwledydd y DU o ran ei thargedau dileu. Mae Cymru mewn perygl o fethu targed dileu Sefydliad Iechyd y Byd, sef 2030. Felly, yr hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni yn ein cynnig heddiw, Weinidog, yw adeiladu ar argymhellion y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fandadu ailsefydlu gwasanaethau rheng flaen ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed ym mhob ardal bwrdd iechyd, fel y gellir ailddechrau’r gwaith o nodi, profi, a thrin cleifion HCV yng Nghymru a'u cysylltu â gofal. Rydym yn galw am gynllun strategol cenedlaethol i ddileu HCV erbyn 2030 fan bellaf, cynllun sydd ag adnoddau cynaliadwy ac sy'n canolbwyntio ar y claf. Mae'r trydydd pwynt yn ein cynnig yn galw am sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu hariannu’n llawn ac yn atebol am gyflawni’r cynllun strategol cenedlaethol.

Er bod y pwyllgor iechyd blaenorol wedi galw ar y Llywodraeth i ysgrifennu at fyrddau iechyd, rydym ni yn ein cynnig yn gofyn i’r Llywodraeth fynd hyd yn oed ymhellach a sicrhau bod gan ein byrddau iechyd lleol allu i gyflawni'r targed dileu. Heb weithredu, mae Cymru ar y trywydd i fethu ei hymrwymiad i ddileu hepatitis C erbyn 2030, gan arwain at y risg gynyddol o effeithiau pellach ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd yn ein cymunedau. Er mwyn cyrraedd targed i'w ddileu erbyn 2030 yng Nghymru, mae'n rhaid trin o leiaf 900 o gleifion bob blwyddyn, ac yn anffodus, 300 yn unig a gafodd driniaeth rhwng 2020 a 2022. Wrth gwrs, rwy’n derbyn mai'r pandemig yw'r rheswm am hyn. Fodd bynnag, hyd yn oed cyn y pandemig, roedd y cyfraddau triniaeth oddeutu 600 i 700 o gleifion y flwyddyn, na fyddai'n ddigon da erbyn hyn, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau a sylwadau’r Gweinidog yn ein dadl y prynhawn yma.

17:40

Rydw i wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

4. Yn nodi:

a) disgwyliad Llywodraeth Cymru y bydd gwasanaethau rheng flaen ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed, gan gynnwys ar gyfer hepatitis C, yn cael eu hailsefydlu ym mhob ardal bwrdd iechyd cyn gynted â phosibl;

b) bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r GIG yng Nghymru i gefnogi ei gynlluniau i sicrhau y gall Cymru gyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd, sef dileu hepatitis C erbyn 2030;

c) bod systemau sefydledig ar waith i sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu cefnogi a’u dal yn atebol am gyrraedd y targed o ran darparu gwasanaethau, monitro data ac adrodd ar berfformiad.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Dwi'n falch bod y cynnig yma o'n blaenau ni heddiw. Rwyf innau yn mynd i fod yn cyfeirio at ambell i bwynt sydd wedi cael ei wneud yn barod. Mae gan o leiaf 8,000 o bobl yng Nghymru heintiad cronig hepatitis C. Heb ei drin o, wrth gwrs, mae e'n gallu creu ac achosi afiechydon difrifol iawn—sirosis yr iau, canser yr iau, a phroblemau iechyd eraill. Dwi'n gwybod, o fod wedi siarad efo etholwyr, pa effaith mae o'n gallu cael ar fywydau bob dydd pobl. Yng ngeiriau un etholwr, a gafodd hepatitis C drwy waed wedi ei heintio yn yr 1970au, 'Dydw i byth yn cael diwrnod da, dim ond dyddiau drwg neu rai drwg iawn.' 

Erbyn hyn, wrth gwrs, mae hi'n bosib trin hepatitis C, gwella ohono fo a'i atal o yn y lle cyntaf, ac, yn allweddol, mi allwn ni gael gwared ar hepatitis C yn llwyr. Ond er bod cael gwared arno fo yn bosib, a bod Cymru yn y gorffennol wedi cymryd camau breision tuag at ddileu erbyn 2030, y gwir ydy ein bod ni rŵan yn llithro yn ôl a dydyn ni ddim ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i daro'r targed. Cymru ydy'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig i beidio â chael targed o ddileu hepatitis C cyn y targed yna o 2030 sydd wedi'i osod gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mae Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi pennu targed uchelgeisiol o ddileu erbyn 2025, a Llywodraeth yr SNP yn yr Alban yn gosod targed mwy uchelgeisiol fyth o ddileu erbyn 2020. 

Mi glywch chi'r Llywodraeth yma yng Nghymru yn dweud bod COVID wedi cael effaith, ac wrth gwrs dwi ddim yn amau hynny, ond hyd yn oed cyn y pandemig mi wnaeth y pwyllgor iechyd ddatgan pryderon nad oedden ni ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed 2030, hyd yn oed. Mae yna waith da iawn yn cael ei wneud. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r rheini o fewn y gyfundrefn iechyd ac elusennau am y camau bras maen nhw wedi sicrhau sy'n digwydd yn barod, ond mae angen gweithredu ehangach gan Lywodraeth Cymru.

Yn gyntaf, mi ddylai'r Llywodraeth roi cyllidebau penodol mewn lle—cyllideb benodol ar gyfer hepatitis C. Mi fyddai hynny yn rhoi y sicrwydd sydd ei angen ar fyrddau iechyd i allu buddsoddi yn unol â'r broses o ddileu'r clefyd erbyn y dyddiad hwnnw. Yn ail, mae angen inni sicrhau bod arbedion—ac rydyn ni wedi eu gweld yn ddiweddar mewn costau triniaeth oherwydd newidiadau i systemau caffael a chaffael canolog llwyddiannus—yn cael eu hailfuddsoddi i ddod o hyd i gleifion hepatitis C sydd heb gael diagnosis. Yn drydydd, efo cyfraddau uchel iawn o heintiad hepatitis C ymhlith defnyddwyr cyffuriau sy'n chwistrellu, mae angen cymorth ariannol penodol yn y maes hwnnw i gynnig a chynnal mwy o brofion, er enghraifft. Mi hoffwn i glywed ymateb y Llywodraeth a'r Gweinidog i'r tri phwynt yna.

Mae gen i ambell sylw arall, a dau gwestiwn. Mae rhai o'r strategaethau a fydd yn ein helpu ni i ddileu HIV a'r gwaith sy'n cael ei wneud yn y maes hwnnw, rhywbeth sydd wedi cael sylw yn ddiweddar, hefyd yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn wrth inni geisio cyrraedd y nod o ddileu hepatitis C. Ydy'r Llywodraeth yn gwneud yn siŵr bod y ddau nod, neu'r ddau ymgyrch yna, yn gweithio law yn llaw i osgoi dyblygu? 

Ac yn olaf, gan symud oddi wrth y ffocws ychydig bach, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar waed wedi'i heintio, yr wythnos yma mi glywodd yr ymchwiliad i waed wedi'i heintio dystiolaeth gan Syr Robert Francis am gynllun iawndal posib i ddioddefwyr neu deuluoedd. Mi fuaswn i'n ddiolchgar o glywed pa drafodaeth mae'r Llywodraeth wedi'i gael efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hynny yn ddiweddar. Diolch yn fawr.

17:45

I ailadrodd, mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun strategol cenedlaethol i ddileu HCV erbyn 2030 fan bellaf, cynllun sydd ag adnoddau cynaliadwy, sy'n canolbwyntio ar y claf ac sy'n canolbwyntio ar y llwybr cyfan. Amcangyfrifir bod o leiaf 8,000 o bobl yng Nghymru wedi’u heintio â hepatitis C cronig, ac nid yw oddeutu eu hanner yn ymwybodol fod ganddynt y feirws. Mae hepatitis C yn feirws a gludir yn y gwaed y gellir ei atal a'i drin ac sy'n effeithio'n bennaf ar yr afu. Gall fod yn angheuol heb driniaeth. Yn ystod dadl yma ar hepatitis C bum mlynedd yn ôl, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei hymrwymiad i ddyddiad Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer dileu'r feirws, sef 2030, dywedais fod dileu hepatitis C fel pryder iechyd cyhoeddus difrifol yng Nghymru yn nod cwbl gyraeddadwy. Gan nodi, yn y 1970au a’r 1980au, fod cyfran fawr o’r cynhyrchion gwaed a gyflenwyd i gleifion gan y GIG wedi’i halogi â HIV neu hepatitis C, deuthum i’r casgliad, er mwyn dileu hepatitis C, fod yn rhaid inni ddod o hyd i’r 50 y cant o bobl nad ydynt wedi cael diagnosis hyd yma, drwy ehangu mynediad at brofion ac ymchwilio ymhellach i ba grwpiau y gellid eu sgrinio mewn modd costeffeithiol, a chyda thriniaethau newydd effeithiol a hygyrch bellach ar gael i bawb sydd eu hangen, ei bod yn haws nag erioed i drin a gwella cleifion, gan gynnig cyfle gwych i ddileu hepatitis C yng Nghymru. Roedd hynny bum mlynedd yn ôl. Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae angen gweithredu i gael y daith i ddileu hepatitis C yng Nghymru yn ôl ar y trywydd iawn, ac i atal Cymru rhag cael ei gadael ar ôl.

Wrth gwestiynu’r Gweinidog iechyd yma ym mis Chwefror, nodais mai’r targed i ddileu hepatitis C yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yw 2025, a 2024 yn yr Alban, a gofynnais i’r Gweinidog gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ei dyddiad targed i ddileu hepatitis yng Nghymru erbyn 2030 fan bellaf, ac wrth wneud hynny, sut y bydd yn mynd i’r afael â galwadau i harneisio'r arferion gorau a ddatblygwyd yng Nghymru a gwledydd eraill y DU. Er i’r Gweinidog gytuno i edrych i weld a oedd unrhyw bosibilrwydd o symud y dyddiad targed yng Nghymru, ysgrifennodd ataf wedi hynny, gan nodi:

'Er nad wyf yn diystyru symud y targed dileu ymlaen yn y dyfodol, yn realistig, mae ein targed presennol o ddileu erbyn 2030 eisoes yn heriol iawn... Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am ein cynnydd.’

Ac yna bod 'y byrddau iechyd yn gweithio ar gynlluniau adfer, ac mae fy swyddogion yn y broses o adolygu’r gwrthwynebiad er mwyn blaenoriaethu’r camau nesaf.’ Fodd bynnag, er gwaethaf effaith y pandemig ar wasanaethau iechyd a phoblogaethau gwledydd eraill y DU, nid ydynt wedi newid eu dyddiadau targed ar gyfer dileu, ac maent wedi rhoi cynlluniau a rhaglenni strategol cenedlaethol ac adnoddau ychwanegol ar waith. Pam y dylai Cymru orfod bod ar ei hôl hi unwaith eto?

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a wnawn yng Nghymru i helpu i gyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu hepatitis C fel bygythiad sylweddol i iechyd y cyhoedd erbyn 2030. Targed Sefydliad Iechyd y Byd yw gostyngiad o 90 y cant yn nifer yr achosion, a gostyngiad o 65 y cant yn y nifer sy'n marw o hepatitis C erbyn 2030. Rydym ni yng Nghymru yn falch o fod wedi ymrwymo i’r targed hwn; yn amlwg, os gallwn fynd yn gyflymach, byddwn yn gwneud hynny. Efallai eich bod wedi sylwi bod cryn dipyn yn digwydd yn y GIG ar hyn o bryd, ond nid ydym yn addasu'r targed a osodwyd gennym eisoes. Diolch i ddatblygiadau meddygol, mae meddyginiaethau gwrthfeirol newydd sy'n gweithredu'n uniongyrchol wedi chwyldroi'r broses o drin hepatitis C, fel bod modd gwella'r clefyd i bob pwrpas yn y camau cynnar bellach. Mae triniaethau'n effeithiol ac yn para am gyfnod cymharol fyr. Mae’r newid sylfaenol hwn yn y driniaeth yn rhoi cyfle i leihau nifer yr achosion o hepatitis C yn sylweddol ym mhob cymuned yng Nghymru.

Wrth gwrs, yn ystod pandemig COVID-19, bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd i flaenoriaethu ein hadnoddau a'n harbenigedd mewn perthynas â diogelu iechyd. O ganlyniad, cafodd gwaith ar feysydd pwysig, gan gynnwys profion hepatitis C, ei ohirio dros dro. Ond rydym yn parhau'n ymrwymedig i weithio tuag at darged Sefydliad Iechyd y Byd ac i wella bywydau yng Nghymru. Mae ein ffocws ar gyfer dileu hepatitis C ar sicrhau bod gan fyrddau iechyd gynlluniau cadarn, cydlynus ar waith i allu canfod a thrin pobl sydd â hepatitis C drwy’r gwasanaethau lleihau niwed presennol, ac i wneud hyn, bydd angen inni ganolbwyntio ar unigolion nad ydynt yn gwybod bod y clefyd arnynt o bosibl, fel y nodwyd, neu sydd wedi bod yn amharod hyd yma i ymgysylltu â gwasanaethau iechyd traddodiadol. Rydym wedi gweithio gyda byrddau iechyd yn y gorffennol i nodi'r llwybr ar gyfer dileu hepatitis C, ac mae gennym swyddi a ariennir yn genedlaethol i gefnogi hyn.

Er gwaethaf heriau'r blynyddoedd diwethaf, mae gyda ni sawl stori o lwyddiant yma yng Nghymru, ac fe fydd y rhain yn gweithio fel catalydd i gyflawni ein targed. Rŷn ni wedi sôn yn barod am y profion optio allan ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed, a gafodd eu cyflwyno yng ngharchar Abertawe yn 2016. A thrwy wneud hyn, llwyddwyd i sicrhau micro-elimination yn y carchar—y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny. Mae hwn yn rhywbeth a oedd yn yr adroddiad wnaethoch chi ei ysgrifennu fel pwyllgor. Erbyn hyn, mae strategaeth ar waith yng ngharchar Berwyn hefyd, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi sicrhau cyllid i'w gyflwyno yng ngharchar Caerdydd. Y nod yw cael gwared ar y feirws yn holl garchardai Cymru yn y tymor hirach.

Ar ben hynny, mae cynllun cefnogol Follow Me yn ddull sefydledig o godi ymwybyddiaeth. O dan y cynllun hwn, mae staff o'r sector gwirfoddol, o Ymddiriedolaeth Hepatitis C, yn gweithio o fewn y llwybr clinigol, gyda phobl sy'n ei gweld yn heriol, i geisio help gan wasanaethau iechyd, ac yn eu hannog i gael eu profi a'u trin. Mae'r prosiect yn cael ei dreialu ar hyn o bryd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gyda gwaith codi ymwybyddiaeth mewn hosteli'r digartref yng Nghaerdydd, ac mae hyfforddiant pellach i staff i gael ei gyflwyno o safbwynt defnyddwyr gwasanaeth.

Rŷn ni'n ffodus bod rhwydwaith clinigol hepatitis C yn hynod o effeithiol ac yn ymroddedig yma yng Nghymru. Mae hyn yn arwain at arbed mwy na £40 miliwn mewn triniaethau cyffuriau ers i gyfryngau gwrthfeirol—anti-viral agents—sy'n gweithredu'n uniongyrchol, gael eu cyflwyno yn 2014. Mae'n ffordd hyblyg o ariannu cyffuriau a'u darparu i gleifion, yn gwella profiad y claf, gan wella canlyniadau a helpu i arbed costau hefyd. Er ein bod ni gyd yn ymwybodol o'r gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud, ac sydd i'w wneud eto, i wireddu ein targed o ddileu'r feirws erbyn 2030, rŷn ni'n parhau i weithio â'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru i gyflawni ein nod ar y cyd, a'n nod yw rhoi diweddariad pellach i chi yn yr hydref. Diolch.

17:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Rhun ap Iorwerth a Mark Isherwood am eu cyfraniadau? Ni allaf anghytuno ag unrhyw beth a ychwanegwyd ganddynt at y ddadl y prynhawn yma. Diolch i’r Gweinidog am ei diweddariad—gallaf groesawu a chefnogi llawer ohono, wrth gwrs. Ceir rhai elfennau yr oeddwn yn siomedig yn eu cylch—rwyf am ganolbwyntio ar y meysydd hynny. Gwnaethom ofyn yn ein cynnig am ailsefydlu gwasanaethau rheng flaen ar gyfer firysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed. Nid oedd y Gweinidog yn barod i dderbyn hynny yn ein cynnig, gan ddweud y bydd y gwasanaethau’n ailgychwyn cyn gynted â phosibl, ond mae’n siomedig na allem o leiaf gael dyddiad pan allai'r gwasanaethau fod wedi ailddechrau.

Y rhan arall i’n dadl y prynhawn yma, wrth gwrs, oedd gofyn am gynllun strategol i ddileu HCV. Ac mae'r Llywodraeth o ddifrif yn eithriad yn hyn o beth. Mae'r cynlluniau hynny ar waith gan gymaint o Lywodraethau ledled y byd, ac roeddem yn ymwybodol fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi galw am gynllun yn y gorffennol hefyd. Felly, nid ein cynnig heddiw yn unig sy'n galw am hyn, ond Aelodau ar draws y Siambr, ac mewn gwirionedd, cefnogodd dau Weinidog adroddiad y pwyllgor blaenorol. Roedd y Dirprwy Weinidog, Lynne Neagle, ar y pwyllgor a gefnogai'r adroddiad hwnnw ar y pryd, a’i hargymhelliad hi a alwai am gynllun i fynd i’r afael â HCV a’i ddileu. Felly, gobeithio y gall y Dirprwy Weinidog eich perswadio ar hynny. Roedd Dawn Bowden hefyd ar y pwyllgor a wnaeth yr argymhelliad hwnnw. Felly, gobeithio y gall cyd-Aelodau yn y Llywodraeth eich perswadio o'r angen am y cynllun. Ac roedd y Dirprwy Lywydd ar y pwyllgor a wnaeth yr un argymhelliad hefyd. Credaf fy mod wedi mynd drwy bawb yn awr—ac roedd fy nghyd-Aelod, Darren Millar, yno hefyd. A dyna bawb sydd yma ar hyn o bryd.

Ond diolch am eich diweddariad, Weinidog, ond byddai'n well gennym pe baech wedi mynd ymhellach gyda'r cynllun hwnnw wrth gwrs. Ni chredaf fod y sefyllfa bresennol yn ddigon da. Mae atebion dilys wedi'u cyflwyno. Rwy’n derbyn yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y pandemig, ond fel y nodais, hyd yn oed cyn y pandemig, nid oeddem yn trin digon o bobl hyd yn oed bryd hynny i gyflawni targedau Sefydliad Iechyd y Byd, y dywedwch ar hyn o bryd eich bod yn dal i fwriadu eu cyrraedd. Felly, credaf hefyd nad yw rhoi cyfrifoldeb ar fyrddau iechyd yn ddigon da. Credaf fod angen strategaeth arnom nad yw wedi'i chynllunio i fethu, un sy'n creu cynllun strategol manwl. Mae angen inni ariannu ein byrddau iechyd yn iawn, a dangos uchelgais yn y frwydr i ddileu’r feirws hwn. Rwy'n gwneud ein cynnig y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd.

17:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Digwyddiadau a sioeau'r haf

Eitem 11 y prynhawn yma yw ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddigwyddiadau a sioeau'r haf. Galwaf ar Samuel Kurtz i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8065 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu'r ffaith bod yr Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, ynghyd â sioeau a digwyddiadau haf ledled Cymru, wedi dychwelyd.

2. Yn cydnabod manteision tymor digwyddiadau'r haf o ran hyrwyddo'r Gymraeg, diwylliant Cymru, cynnyrch o Gymru a'n ffordd o fyw.

3. Yn diolch i bawb sy'n ymwneud â sicrhau bod y digwyddiadau'n llwyddiant.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, yng Nghyfarfod Llawn olaf y tymor yn cyn toriad yr haf, rwy’n falch iawn o agor y ddadl hon ar ran y Ceidwadwyr Cymreig ar bwnc sy’n agos iawn at fy nghalon. Mae ein dadl heddiw yn talu teyrnged i’r gwaith caled a wneir i drefnu, rhedeg a chynnal ein sioeau amaethyddol, ein digwyddiadau diwylliannol mawr, megis yr Eisteddfod Genedlaethol, a digwyddiadau awyr agored mawr eraill, megis cystadleuaeth Ironman, a gynhelir ger Dinbych-y-pysgod yn fy etholaeth yn nes ymlaen eleni.

Mae ein cynnig yn croesawu’r digwyddiadau hyn yn ôl wedi iddynt gael eu gohirio, ac yn cydnabod yr ymdrechion i gadw’r busnesau hyn i fynd yn ystod cyfyngiadau COVID. Mae hefyd yn cydnabod y manteision economaidd a diwylliannol aruthrol y mae cynnal y digwyddiadau hyn, yn aml mewn ardaloedd gwledig, yn eu creu i Gymru. Ddirprwy Lywydd, dyma'r pwynt pan fo'n rhaid imi ddatgan buddiant fel cadeirydd Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Benfro ac fel cyfarwyddwr CFfI Cymru. Ac er y bydd llawer o bobl fy oedran i yn mynd dramor yr haf hwn, nid oes ond un lle rwyf am dreulio wythnos gyntaf y toriad, sef yn y Sioe Frenhinol yn Llanfair-ym-Muallt—yr un lle ag y treuliais drydedd wythnos mis Gorffennaf am y rhan fwyaf o'r 25 mlynedd diwethaf. Sioe Frenhinol Cymru yw fy Glastonbury i. Mae’r bererindod flynyddol i ganolbarth Cymru yn dod â £40 miliwn i mewn i economi Cymru, a chafodd y sioe ddiwethaf a gynhaliwyd yn 2019 dros 250,000—0.25 miliwn—o ymwelwyr yn ystod wythnos y sioe. Felly, nid fi yw'r unig un sy'n edrych ymlaen at y sioe hon. Mae’n cynnig ffenestr siop ardderchog ar gyfer ein diwydiant amaethyddol gwych a’i gynnyrch. Ac ar ôl trafferthion y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r sioe'n cynnig cyfle i bobl o’r un anian gwrdd, cymdeithasu, cyfnewid syniadau ac ymlacio. Nid yn Sioe Frenhinol Cymru yn unig y mae hyn yn digwydd, serch hynny, mae’n digwydd ym mhob sioe amaethyddol a gynhelir ledled Cymru, o sioe wlad a thref undydd Penfro yn fy etholaeth i’r sioeau dros fwy nag un diwrnod fel Sioe Frenhinol Cymru. Mae eu dychweliad yr haf hwn, yn eu holl ogoniant, yn bwysig i iechyd meddwl a chorfforol ein pobl, yn ogystal ag i’r economi y maent ei chynnal. Ac nid mewn sioeau amaethyddol yn unig y gwelir y manteision hyn.

Mae ein heisteddfodau yn hollol bwysig i gryfhau ac amddiffyn ein hiaith a'n diwylliant. Fel crwt ifanc, roedd wythnosau'r haf yn llawn trafaelu ar draws gorllewin Cymru yn cymryd rhan mewn eisteddfodau lleol yn llefaru cerddi ar y llwyfan, ac ambell waith, fe wnes i ennill gwpan neu ddau. Pan gafodd Eisteddfod 2020 ei gohirio oherwydd y pandemig COVID-19, dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod beidio â chael ei chynnal ers 1914, pan fu'n rhaid canslo'r digwyddiad mewn ymateb i gychwyn y rhyfel byd cyntaf. Ond nawr rŷn ni'n croesawu nôl yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, ar ddiwedd mis Gorffennaf, ar ôl llwyddiant Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych nôl ym mis Mai.

Y digwyddiadau hyn yw'r llinyn arian sy'n rhedeg drwy stori a naratif ein hanes a'n diwylliant. Ni ellir gorbwysleisio eu pwysigrwydd a'u cyfraniad. Felly, Aelodau, wrth i'r haul dywynnu arnom ac wrth inni gynllunio ein hymweliadau yn ystod toriad yr haf, rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig ger eich bron heddiw, ond rwyf hefyd yn eich annog chi i gyd i ymweld â'n sioeau amaethyddol, ein heisteddfodau a'r holl ddigwyddiadau sy'n dychwelyd yr haf hwn. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

18:00

Dwi'n falch o allu ategu nifer o'r pwyntiau a godwyd gan Samuel Kurtz. Yn sicr, mae digwyddiadau'r haf yn rhan bwysig o'n calendr fel cenedl, o'r sioeau bach amaethyddol i'r Sioe Frenhinol a'r holl wyliau cerddorol a diwylliannol megis yr Eisteddfod Ryngwladol sydd newydd fod, wrth gwrs, yn Llangollen, a'r Eisteddfod Genedlaethol. Dwi'n meddwl ein bod ni i gyd wedi eu colli nhw'n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf yma a gweld eu colled nhw. Wrth gwrs, mi oedd yna bethau wedi mynd yn rhithiol, pethau fel Eisteddfod AmGen, oedd yn rhoi blas o'r eisteddfod, ond does yna ddim byd fel bod ar y Maes yn cwyno am y tywydd, beth bynnag fo hwnnw, ei bod hi'n rhy boeth neu fod yna ormod o law, a gweld hen gyfeillion a chreu ffrindiau newydd. Mae pethau dŷn ni wedi'u colli. Yn bersonol, Sioe Môn ydy'r sioe dwi wedi mwynhau mynd iddi ers yn blentyn, ac efo fy ffrind-oes Ann yn mynd ar y waltzers yn flynyddol, ac yn dal i wneud—ddim yn rhy hen i hynny—felly dwi'n edrych ymlaen i'r cyfle. Dwi'n rhannu gormod heddiw o bosib. [Chwerthin.]

Ond mae hi wedi bod yn dair blynedd hir, a dwi'n meddwl mai un o'r pethau oedd ar goll yn y cynnig—a dwi'n falch o weld bod Sam yn pwysleisio—ydy, wrth gwrs, y manteision economaidd mawr mae'r rhain yn eu rhoddi. Mae'r effaith economaidd, ac mae'r ffaith bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn teithio ledled Cymru—rhywbeth sydd wedi bod yn ddadleuol ar draws y blynyddoedd—yn dangos y gwaddol lleol wedyn, yn economaidd ond hefyd o ran yr iaith. Dwi'n siŵr bod nifer ohonom ni'n cofio'r Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni, er enghraifft, lle daeth yna gymaint o ddysgwyr ac ati—dwi'n gwybod roedd Peter Fox yn rhan fawr o hynny—a gweld y gwaddol yn Y Fenni a pha mor bwysig ydy ei bod hi yn teithio a bod hi'n eisteddfod wirioneddol genedlaethol i bawb yng Nghymru, a byddaf i'n falch iawn o weld yr Eisteddfod yn dychwelyd i Dregaron.

Un o'r pethau dwi'n meddwl dŷn ni'n anghofio'n aml, yn enwedig efo'r Eisteddfod Genedlaethol, ydy'r ffaith ei bod hi'n cael ei gweld fel gŵyl o ran y Gymraeg a'r Cymry Cymraeg, ond mae hi'n eisteddfod ac yn wŷl ryngwladol o bwys, a dwi'n meddwl weithiau nad ydym ni'n manteisio ddigon ar hynny, oherwydd pan fyddwn ni'n gweld pobl o dramor yn dod i'r Eisteddfod Genedlaethol, maen nhw'n gwirioni yn llwyr; maen nhw wrth eu bodd. Dwi'n cofio pan oedd Eluned Morgan yn Weinidog efo cyfrifoldeb rhyngwladol a dros yr iaith Gymraeg, pan oedd hi yn yr Eisteddfod ac yn gweld nifer o bobl ryngwladol yn dod i'r Eisteddfod ac wrth eu bodd yn gallu mwynhau hefyd oherwydd yr offer cyfieithu ac ati. A dwi'n meddwl weithiau ein bod ni'n colli cyfle i hyrwyddo'r Eisteddfod Genedlaethol yn rhyngwladol fel rhywbeth y gall pawb ei fwynhau, a'i bod hi'n dal yn gaeedig i ormod o bobl yng Nghymru. Dwi wedi croesawu, yn y blynyddoedd diwethaf, pan fo Llywodraeth Cymru hefyd wedi ariannu dyddiau am ddim i'r Eisteddfod Genedlaethol. Dwi'n meddwl, efo'r argyfwng costau byw hefyd, mai un o'r pethau sy'n fy mhryderu i ydy costau mynychu rhai o'r digwyddiadau pwysig yma, a byddwn i'n hoffi ein bod ni'n gallu edrych, i'r dyfodol, sut ydym ni'n gwneud gwyliau megis y Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod Genedlaethol yn fforddiadwy i bawb, yn enwedig y cymunedau hynny fydd yn cael eu trochi gan yr holl ddigwyddiadau yma ond efallai'n methu â mynychu oherwydd y costau hynny.

Felly, yn amlwg, dwi eisiau ategu'r diolch o galon i bawb sydd yn gweithio mor galed i sicrhau hyn, ond dwi'n meddwl bod yna waith inni ei wneud o ran edrych i'w gwneud nhw'n fforddiadwy i fwy o bobl eu mwynhau nhw, a hefyd i hyrwyddo'r rhain yn rhyngwladol.

Rhaid imi gytuno â phopeth a ddywedodd fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, yn gynharach, ac rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at fynd i Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos nesaf. Ac mae'r holl sôn am sioeau yn gwneud i mi ddyheu am y rhôl borc, crofen a saws afal rwy'n ei chael bob blwyddyn, yn ddi-ffael, ym mhob sioe rwy'n ei mynychu. A boed yn arddangos neu'n cynnig y cynnyrch lleol rhagorol sydd gennym yn fy sir i, sef sir Fynwy, ar draws fy rhanbarth, Dwyrain De Cymru, neu Gymru, neu'n arddangos ein da byw, yn cystadlu am y jamiau neu'r gacen gartref orau, neu'n edrych ar gystadlaethau ysgrifennu disgyblion o ysgolion lleol, gan ymweld â'r nifer fawr o stondinau, pebyll thema, garddwriaeth, neu, fel rwy'n treulio'r rhan fwyaf o fy amser yn ei wneud erbyn hyn, edrych ar dractorau, tractorau a mwy o dractorau, mae rhywbeth i bawb yn ein sioeau, yn yr amrywiaeth wych o sioeau sydd gennym ar draws fy rhanbarth a Chymru drwy gydol yr haf. Rydym mor lwcus i'w cael. Yn ogystal â denu llawer o ymwelwyr i Gymru—ni allwn anghofio'r budd economaidd enfawr y maent yn ei gynnig i'n hardaloedd, fel y mae rhai eisoes wedi'i nodi—mae'r sioeau hyn hefyd yn dod â chymunedau lleol at ei gilydd, ac yn eich galluogi i gyfarfod neu weld ffrindiau a theulu nad ydych wedi'u gweld ers oesoedd neu ers y sioe flaenorol y flwyddyn cynt.

Yr hyn sy'n fy nharo i yw'r gwaith enfawr sydd ynghlwm wrth gynnal sioe. Mae fy nhad bob amser wedi bod yn is-lywydd neu'n stiward yn fy sioe leol ym Mrynbuga, felly rwyf bob amser wedi bod yn weddol ymwybodol o hyn. Pan ymgymerodd fy nghyfaill, Nia Thomas, â'r rôl o drefnu ein sioe leol, cefais fy syfrdanu gan faint o waith a gâi ei wneud drwy gydol y flwyddyn i gynnal y sioeau hyn. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch iddi hi, tîm sioe Brynbuga a chydnabod yr holl wirfoddolwyr y tu ôl i'r llenni sy'n gwneud ein sioeau'n bosibl.

Mae ein sioeau hefyd yn addysgwyr da, gan fod ysgolion lleol bron bob amser yn cymryd rhan fawr, oherwydd mae sioeau amaethyddol yn rhoi cipolwg go iawn ar y ffordd wledig o fyw i'r rhai sydd efallai'n dod i sioeau am y tro cyntaf o ardaloedd trefol. Mae'n arbennig o bwysig i'n plant gael profiad uniongyrchol o weld anifeiliaid yn agos, deall y gadwyn fwyd, sut y mae pethau'n gweithio a sut y mae pethau'n cyrraedd eu platiau. Ffermwyr yw gwir geidwaid ein ffordd wledig o fyw a'n hamgylchedd, ac mae ein sioeau'n gyfle gwirioneddol i'w cefnogi. Rwy'n annog pawb i wneud hynny eleni.

Mae ein sioeau haf ac amaethyddol yn ymgorffori'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig mewn gwirionedd, ac fel y dywedodd Heledd, mae angen inni hyrwyddo hynny ymhellach ar lwyfan y byd. Yn anffodus, fodd bynnag, ni fydd pob un o'n sioeau yn dychwelyd eleni, gyda sioe sir Fynwy, sy'n 150 oed, yn cael ei chanslo oherwydd cyfyngiadau ariannol a achoswyd gan y pandemig. I mi, mae hyn yn crynhoi pa mor fregus yw ein sioeau mewn gwirionedd, a chymaint y maent angen ein cefnogaeth, ein hanogaeth, ein hyrwyddiad a'n cefnogaeth ariannol lle bo hynny'n bosibl yn ystod yr hafau nesaf. Felly, rwy'n ddiolchgar i'n grŵp am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac rwy'n ymuno â Sam Kurtz i annog pobl Cymru i gefnogi eu sioeau lleol.

18:05

Mae'n bleser mawr gennyf ymuno yn y ddadl hon.

Diolch yn fawr i Sam am gynnig y ddadl yma.

Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn tynnu sylw at bwysigrwydd cymunedau cydlynol, ac iaith a diwylliant Cymreig ffyniannus, ac mae ein sioeau'n gwneud cyfraniad mor bwysig at gyflawni'r nodau hynny. Fel y crybwyllwyd, boed yn Sioe Frenhinol Cymru, a gynhelir yn Llanelwedd, sy'n atyniad economaidd enfawr i'r rhan honno o Frycheiniog a Sir Faesyfed, neu'n eisteddfod Trefeglwys yn sir Drefaldwyn, sydd eleni'n dathlu ei phen blwydd yn gant a phump oed, mae'r sioeau hyn yn chwarae rhan hollbwysig yn dod â'n cymunedau at ei gilydd.

Os caf, Ddirprwy Lywydd, rwyf am grybwyll un neu ddau ddigwyddiad rwy'n hoff iawn ohonynt yn fy rhanbarth: carnifal Neyland, cafwyd y canfed yr wythnos diwethaf; sioe Llanfair Caereinion, un o'r sioeau amaethyddol gorau; sioe Llanfechain, sioe fach iawn, sydd â'r gystadleuaeth bachu hwyaid orau; y Sesiwn Fawr yn Nolgellau, gŵyl gerddoriaeth. Dyma un y credaf y dylem i gyd ei mynychu: sioe gŵn Llanelli. Gŵyl Fwyd Pwllheli, y Big Summer Camp Out yn Llanbedr, ac yn olaf, Llanwrtyd, pentref ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, sydd â dwy ŵyl ryngwladol ryfeddol, yn gyntaf, y ras dyn yn erbyn ceffyl, a'r dyn a enillodd eleni—y tro cyntaf ers 15 mlynedd—ac wrth gwrs, Llanwrtyd—[Torri ar draws.] Gwnaf, wrth gwrs—ai chi, Jack, a enillodd y gystadleuaeth honno?

Yn sicr, nid fi ydoedd y tro hwn, ond efallai y flwyddyn nesaf. Tybed a fyddech chi'n cynnwys yn eich rhestr sioe Fflint a Dinbych, lle byddaf fi a Darren Millar ar stondin y cathod mawr yr haf hwn? [Chwerthin.]

Gwych. Felly, efallai y bydd sioe gŵn Llanelli yn ymweld â'r stondin cathod mawr yn sioe sir y Fflint. Roeddwn yn awyddus iawn, i gloi, i sôn am un lle arall ac un peth arall sy'n digwydd, yn Llanwrtyd: y pencampwriaethau cors-snorclo. Maent yn dychwelyd eleni. Nawr, i'r rheini ohonoch sydd eisiau cymryd rhan, credwch fi, bydd angen bath mawr iawn arnoch wedyn er mwyn sicrhau eich bod yn hollol lân, ond mae'n ddigwyddiad y mae'n rhaid i bob un ohonom ei fynychu.

I orffen, os yw hynny'n iawn, o ran iaith a diwylliant yn enwedig, rwy’n siŵr y gallwn ni i gyd gytuno ei bod hi’n wych bod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd y flwyddyn yma. Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol, a dwi'n hynod o falch y bydd miloedd o blant a phobl ifanc yn cael siawns i brofi'r sioe—y tro cyntaf i'r Eisteddfod ymweld â Cheredigion mewn 30 mlynedd.

Diolch i'r Ceidwadwyr ac i Sam am y ddadl yma—dadl wych ar ddiwedd ein hamser yma ac wrth edrych ymlaen i'r haf. Diolch yn fawr iawn.

18:10

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Mae sioeau haf yn rhan o wead bywyd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Rydym yn arbenigo ar sioeau haf, ac fel rhywun a gafodd ei eni a'i fagu yn fy etholaeth, treuliais lawer o fy ieuenctid yn rhedeg o gwmpas sioeau haf, i mewn ac allan o'r babell gwrw pan oeddwn yn 18 oed a hefyd yn mynd o gwmpas yn cymryd rhan yn y chwaraeon a phopeth arall. Mae'n rhan o'n cymuned, ac mae'n dod â chymunedau at ei gilydd ar draws fy etholaeth. Daw'r bobl ifanc at ei gilydd, daw'r hen bobl at ei gilydd, i ddangos eu da byw, eu hanifeiliaid anwes, y cneifio, y cacennau cri, y seidr, a hefyd, mewn rhai sioeau, y gystadleuaeth ysgallen hiraf. Byddwn yn cynghori unrhyw un i gymryd rhan yn y gystadleuaeth honno.

Bydd sioeau'r haf, cyn bo hir, ar eu hanterth ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, ac mae'n gyfle gwych i gyfarfod â'ch ffrindiau a chyfarfod ag etholwyr. Fel nifer o bobl ar draws y Siambr hon—

A wnaiff yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed dderbyn nad oes gan Frycheiniog a Maesyfed fonopoli ar sioeau, wrth gwrs, a bod sioeau gwych yn digwydd yn sir Drefaldwyn hefyd? Mae gennym sioe fawr Llanfyllin, sioe Trefaldwyn gyda'i chrïwr tref gwych, Sue Blower, a sioe Trefeglwys a sioe Llanfair Caereinion, sy'n cyfarfod ar ddiwedd y tymor ym mis Medi.

Ac yn olaf oll, sioe Dolfor, lle byddaf yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth fwyd eleni. Pan fyddaf yn mynychu'r sioeau, nid yn y pebyll cwrw yn unig y byddaf; byddaf allan yn cyfarfod â fy etholwyr.

Ac wrth gwrs, mae'n bwysig iawn cefnogi eich bragdai lleol, Russ, a fydd yn y pebyll cwrw, ond mae'n gyfle gwych i fynd o gwmpas sioeau'r haf i gyfarfod â'ch etholwyr, fel y dywedoch chi. Ac fel y gŵyr llawer o bobl ac ambell un yn y Siambr hon sydd wedi sefyll yn etholaeth wych Brycheiniog a Sir Faesyfed, os nad ydych yn mynd o gwmpas sioeau'r haf, ni fyddwch yn cael eich ethol, fel y cefais fy atgoffa gan Andrew R.T. Davies pan ddeuthum yma gyntaf.

Enwodd Russell lawer o sioeau yn sir Drefaldwyn, ond nid yw'n honni bod ganddo un o'r sioeau hynaf yn y Deyrnas Unedig. Cymdeithas amaethyddol Aberhonddu yw'r hynaf yn y DU, ac mae honno'n mynd yn ôl 267 o flynyddoedd, sy'n gyflawniad a hanner. Ond uchafbwynt tymor y sioe haf yw Sioe Frenhinol Cymru. Dyma goron holl sioeau'r haf. Mae'n denu dros 200,000 o bobl i Lanfair-ym-Muallt, fel y dywedodd Sam Kurtz, gan heidio i fy etholaeth i, ac fel y dywedodd Sam, roedd yn wyliau haf i mi am flynyddoedd lawer, a bydd yn wyliau haf i mi eleni.

Mae sioeau'n rhan o'r ffordd wledig o fyw, a hir oes iddynt. Ac fel y dywedodd Sam Kurtz yn gynharach, rydym yn agosáu at y toriad yn awr, felly os oes unrhyw un ohonoch eisiau dod i weld sioe haf dda iawn, byddwn yn awgrymu eich bod yn dod i Frycheiniog a Sir Faesyfed am groeso cynnes iawn, a hoffwn ddweud 'pob lwc' wrth bawb ledled Cymru, yn enwedig yn fy etholaeth i, a gobeithio y cânt sioeau haf gwych.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig a Samuel Kurtz am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Roedd yn ddadl dda iawn, roedd yn ddadl braf i'w chael ar ddiwedd y tymor, ac roedd yn hyfryd ei chlywed. Ac mae'n amserol iawn, o gofio ein bod wedi lansio ein strategaeth digwyddiadau cenedlaethol newydd heddiw.

Fel y mae llawer wedi'i nodi eisoes, nid yn unig y mae digwyddiadau'n rhywbeth yr ydym i gyd eisiau eu mwynhau, maent yn rhan hanfodol o'r economi ymwelwyr. Fel y nodwyd yn y rhaglen lywodraethu, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i helpu ein diwydiant twristiaeth, chwaraeon a'r celfyddydau i ymadfer yn sgil y pandemig, oherwydd ni ellir tanbrisio effaith y pandemig. Y sector digwyddiadau oedd un o'r rhai cyntaf i gau a'r olaf i agor. Yn ystod y cyfnod hwn, buom yn gweithio'n agos gyda'r sector, gan sefydlu grŵp cynghori ar ddigwyddiadau a gweithio mewn partneriaeth â threfnwyr digwyddiadau i gynnal digwyddiadau peilot pan oedd yn ddiogel i wneud hynny, ac mae'r thema gref o weithio mewn partneriaeth yn parhau drwy'r strategaeth newydd. Gwyddom fod yr argyfwng costau byw, Brexit a'r prinder staff/gwirfoddolwyr hefyd yn parhau i gael effaith, ond rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi diwydiant digwyddiadau Cymru i oroesi, gan edrych i'r dyfodol hefyd drwy ddatblygu digwyddiadau Cymreig a chyflenwyr a denu digwyddiadau rhyngwladol er mwyn gwella enw da Cymru ymhellach fel cyrchfan digwyddiadau blaenllaw. Cydnabuwyd pwysigrwydd digwyddiadau i economi Cymru a llesiant y genedl gan y gefnogaeth a ddarparwyd gennym, bron i £24 miliwn i dros 200 o fusnesau unigol yn y sector digwyddiadau drwy dair rownd o'r gronfa adferiad diwylliannol.

Felly, mae'r ffaith bod Sioe Frenhinol Cymru yn dychwelyd, wrth gwrs, i'w groesawu'n fawr, ac rwy'n falch fod y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, wedi cymeradwyo cyllid gwerth £110,000 yn ddiweddar i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23. Mae'r gymdeithas wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad amaethyddiaeth a'r economi wledig yng Nghymru ers ymhell dros ganrif. Mae ei gwaith yn cynnwys rhoi cymorth i fusnesau, lles cymdeithasol ac addysg mewn cymunedau gwledig yn ogystal â chyflawni ei hamcanion elusennol. Mae'r gymdeithas yn amcangyfrif ei bod yn cyfrannu dros £40 miliwn y flwyddyn at economi Cymru. Denodd y tri phrif ddigwyddiad yn 2019—Sioe Frenhinol Cymru, yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad a'r ffair aeaf—tua 300,000 o bobl, gan gynnwys dros 1,000 o ymwelwyr tramor o 22 o wledydd ledled y byd. Sioe Frenhinol Cymru yw'r digwyddiad mwyaf o'i fath yn y DU a thu hwnt, ac fe'i gwelir fel pinacl arddangos amaethyddiaeth Cymru, ac mae hefyd yn hyrwyddo diwylliant Cymru a'r Gymraeg.

A phan fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn agor ei giatiau yn Nhregaron ar ddiwedd y mis bydd yn cynnig 15,000 o docynnau am ddim i deuluoedd lleol nad ydynt fel arfer yn mynychu'r Eisteddfod. Bydd yn gwneud hyn drwy weithio'n agos gyda phartneriaid, fel y cyngor sir ac elusennau fel y Groes Goch a noddwyr fel cymdeithas dai Barcud. Gwneir hyn yn bosibl gyda £100,000 o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru drwy'r grant Haf o Hwyl. Yn fwyaf arbennig, bydd teuluoedd yn cael eu hannog i ymweld â'r Pentref Plant, lle bydd yr holl weithgareddau'n groesawgar a chynhwysol, gan annog pobl i ddefnyddio'r Gymraeg sydd ganddynt a dangos bod y Gymraeg yn iaith chwarae, hwyl a chymdeithasu, yn ogystal ag iaith ysgol ac addysg. Er ei bod yn bartner allweddol yn y gwaith o gyflawni nodau ein strategaeth iaith Gymraeg, 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg', mae'r Eisteddfod Genedlaethol hefyd yn dod â budd economaidd sylweddol i'r ardaloedd y mae'n ymweld â hwy bob blwyddyn. Unwaith eto, i gefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol drwy'r pandemig, dyrannodd Llywodraeth Cymru £800,000 yn ychwanegol yn 2021 i'r Eisteddfod, ac mae eu cyllid grant craidd blynyddol wedi'i gynyddu £300,000 yn 2022 i gefnogi dyfodol yr ŵyl mewn cyfnod sy'n dal i fod yn ansicr. Felly, fel y soniodd Heledd Fychan, fe wnaethom fwynhau'r Eisteddfod Amgen ar wahanol lwyfannau digidol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd yn hyfryd i bobl ddychwelyd i'r maes eleni i gymdeithasu, i wrando ar berfformiadau byw ac i fwynhau ein diwylliant unigryw ar ei orau.

Roedd hefyd yn wych croesawu Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych ym mis Mai eleni, ac i bobl allu dathlu 100fed blwyddyn yr ŵyl yn y cnawd. I gydnabod yr achlysur pwysig hwn, dyrannodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol o £527,000 i gefnogi mynediad am ddim, gan ganiatáu i bawb fwynhau'r ŵyl ieuenctid fwyaf yn Ewrop. Mae adroddiadau cynnar gan yr Urdd yn awgrymu bod hyn wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda llawer o deuluoedd yn ymweld â'r ŵyl am y tro cyntaf. Ac rwy'n sicr yn gobeithio bod hyn yn rhywbeth y gallwn weld mwy ohono wrth inni geisio ehangu mynediad at brofiadau o'r fath. Ac rwy'n falch iawn, yn ogystal â'u cyllid grant craidd blynyddol o £852,184, y bydd yr Urdd yn derbyn £1.2 miliwn yn ychwanegol eleni, a fydd yn rhoi cymorth i alluogi'r Urdd i ailadeiladu ei gwasanaethau yn dilyn COVID-19. Bydd yr arian ychwanegol yn cyflogi rhwydwaith o swyddogion datblygu i gefnogi plant a phobl ifanc mewn cymunedau ledled Cymru, yn ogystal â darparu rhaglen brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi llawer o wyliau lleol eraill a ddarperir drwy fentrau iaith, sydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn galluogi pobl i ddod at ei gilydd a defnyddio'r Gymraeg yn eu cymunedau lleol.

A'r wythnos diwethaf roeddwn wrth fy modd yn gweld Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dychwelyd ar gyfer ei phen-blwydd yn 75 oed, ac roeddwn yn ddigon ffodus i allu ei mynychu. Digwyddiadau fel hyn, yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Sioe Frenhinol yw uchafbwynt tymor yr haf i lawer o bobl ledled Cymru a thu hwnt. Maent yn cyfoethogi ein bywydau ac yn creu ymdeimlad o gymuned a balchder.

Ers lansio'r strategaeth ddigwyddiadau flaenorol yn 2010, rydym wedi gwneud cynnydd cryf yn gweithio ar draws y sector ac ar draws Cymru i ddatblygu portffolio trawiadol o ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon, ac yn fwy diweddar rydym wedi ymuno â'r farchnad digwyddiadau busnes am y tro cyntaf. Rydym wedi gweithio gyda pherchnogion lleol a rhyngwladol, wedi defnyddio ein lleoliadau o'r radd flaenaf yn ogystal â'n tirweddau naturiol, ac wedi gweithio gydag awdurdodau lleol, cymunedau ac asiantaethau digwyddiadau ledled Cymru i ddatblygu a thyfu digwyddiadau cynaliadwy sy'n sicrhau manteision economaidd, yn arddangos ein cenedl, yn codi ein proffil, ac yn ein helpu i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

18:20

Iawn. Roeddwn am ddweud y bydd y strategaeth newydd yn adeiladu ar y llwyddiannau hyn a saith nod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r strategaeth yn nodi uchelgeisiau clir i sicrhau dull Cymru gyfan o gefnogi digwyddiadau sy'n wirioneddol Gymreig, ac fe'i datblygwyd mewn ymgynghoriad â'r sector, a byddwn yn awr yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun gweithredu er mwyn cyflawni ein gweledigaeth a sicrhau bod Cymru'n cynnal digwyddiadau eithriadol sy'n cefnogi llesiant ei phobl, ei chymunedau a'r blaned. Diolch yn fawr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Ddirprwy Weinidog, am eich ymateb. Byddaf yn dod at yr hyn rwyf am ei ddweud mewn munud, ond credaf fod eich geiriau'n briodol iawn pan ddywedoch chi fod hon yn ddadl wych a chalonogol i'w chael ychydig cyn i bawb ohonom adael am doriad yr haf.

Felly, ydi, mae'r haf yma, ac felly hefyd rai o'r digwyddiadau awyr agored gorau a mwyaf yng Nghymru. O'r Sioe Frenhinol i'r Eisteddfod Genedlaethol, mae Cymru'n fan poblogaidd ar gyfer digwyddiadau a gwyliau yn ystod yr haf, sy'n dod â'n ffrindiau a'n teuluoedd, a ninnau fel cymuned Gymreig yn wir, at ein gilydd, ac mae'n braf iawn clywed brwdfrydedd ac angerdd fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, wrth agor y ddadl heddiw.

Nawr, wrth i'n gwlad symud ymlaen o'r pandemig, mae angen inni ganolbwyntio ar ddenu ymwelwyr yn ôl a rhoi hyder iddynt fod Cymru ar agor i fusnes eto yn awr, ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi anghenion cymunedau lleol yn ystod y tymor ymwelwyr ar ei brysuraf, ac mae'n galonogol iawn clywed am rywfaint o'r cyllid sydd wedi'i ddyrannu ar gyfer yr Eisteddfod a phethau felly, fel rydych wedi'i grybwyll heddiw. Nawr, ar 25 Mehefin, bûm yn sioe Llanrwst—fel fy nghyd-Aelod, Llyr Gruffydd, mewn gwirionedd. Rwy'n credu ein bod wedi rhannu paned ym mhabell Undeb Amaethwyr Cymru. Ond mae—[Torri ar draws.] [Chwerthin.] Cafodd y sioe amaethyddol wledig ei sefydlu tua 140 o flynyddoedd yn ôl, ac mae'n hyrwyddo bwyd a chrefftau a gynhyrchir yn lleol, yn arddangos da byw gwerthfawr—gwelwn rasio moch hyd yn oed—arddangosfeydd garddwriaethol gwych, ac mae'n un sy'n sicr yn ddiwrnod pwysig yng nghalendr amaethyddol Aberconwy, gan ddenu cystadleuwyr ac ymwelwyr o bob rhan o ogledd Cymru. Digwyddiadau fel hyn sy'n bywiogi ein cymunedau lleol.

Unwaith eto, ar 13 Awst, byddaf ar faes sioe Tal-y-Cafn ar gyfer sioe flynyddol Eglwys-bach.

Fe'ch gwelwn yno. [Chwerthin.] Nawr, fel i ddigwyddiadau mawr fel y Sioe Frenhinol, mae opsiynau ariannu yr un mor bwysig i ddigwyddiadau gwledig llai o faint. Nawr, dyna pam y gelwais, ym mis Mawrth y llynedd, oherwydd y pandemig ac oherwydd y problemau yr oedd sioeau llai yn eu hwynebu, gorfod stopio a dechrau eto ar ôl y pandemig, am sefydlu cronfa datblygu sioeau gwledig, a fyddai'n sicrhau bod grantiau ar gael i bob sioe i helpu gyda'u marchnata, mesurau diogelwch a hyd yn oed mwy o arallgyfeirio. Roedd clywed am eich cystadleuaeth ysgallen hiraf yn ddiddorol iawn, James, felly rwyf am edrych allan amdani pan fyddaf yn dod i ymweld â chi. Mae angen cynnwys cyfres o ganllawiau gweithredol ar gyfer sioeau amaethyddol, fel y gallant ddychwelyd gyda hyder. Mae angen inni weld Croeso Cymru yn cyhoeddi llwybr sioeau amaethyddol i Gymru, fel ein bod yn gwybod yn union lle mae'r holl sioeau hyn yn cael eu cynnal, oherwydd, er ein bod i gyd yn mynychu ein rhai ein hunain, yn bersonol, rwy'n hoffi mynychu digwyddiadau ym mhob un o'ch etholaethau.

Felly, a bod yn deg â'r Gweinidog, fe ymatebodd gan ddweud y byddai'n cyflwyno cronfa arloesi newydd yn ogystal â phecyn hyfforddi achrededig newydd i unigolion sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli gyda chymdeithasau sioeau, ac rydych wedi gwneud hynny. Fe ddywedoch chi hefyd y byddech yn datblygu canllawiau ar gyfer dychwelyd i'r awyr agored yng Nghymru ac yn gweithio gyda Croeso Cymru. Felly, roeddwn am ofyn i chi am ddiweddariad, ond gan fy mod yn cloi'r ddadl, ni allaf wneud hynny. Ond i mi, rydych yn gweithio ar y mater mewn gwirionedd, a dyna sydd angen inni ei wneud. Mae angen inni ddenu cynulleidfaoedd mwy o bob rhan o'r DU a thu hwnt. 

Mae diwylliant Cymru a'r Gymraeg yn brydferth iawn, yn fyw iawn ac yn bwysicaf oll, yn cael ei siarad yn ein sioeau diwylliannol, amaethyddol. Heledd Fychan, roeddech yn gywir iawn wrth sôn am y natur fregus, ond roeddech yr un mor frwdfrydig, yn fy atgoffa'n fawr iawn o'r hwyl a oedd i'w gael ar waltzer. A Laura Jones, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at rannu rhôl porc rhost a saws afal—

18:25

Na, nid rhannu'n llythrennol. [Chwerthin.] Ond mae'n rhaid inni hefyd—. Ac rydym wedi siarad am yr Eisteddfod. Ond mae'n rhaid i ni hefyd fod yn gyfarwydd â'r holl eisteddfodau eraill ledled Cymru. Dylem fod yn annog cyfryngau lleol, ac yn enwedig S4C, i fod yn bresennol mewn eisteddfodau sirol a chymunedol fel y gall pobl ledled Cymru a thu hwnt wylio talent o Gymru o gysur eu soffa eu hunain. 

Mae'r tywydd yng Nghymru eisoes yn ei gwneud yn lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiadau. Edrychaf ymlaen at weld mwy o ymwelwyr yn archwilio'r llu o weithgareddau sy'n rhoi atgofion melys i bobl am ein tir glas. Ac ni allaf anghofio Jane Dodds. Roeddech yn llygad eich lle hefyd yn cydnabod gwerth ein carnifalau cymunedol llai, ein sioeau cŵn a'r holl ddigwyddiadau sy'n dod â'n cymunedau lleol at ei gilydd. Felly, gyda hynny, hoffwn gydnabod Carnifal Dolwyddelan, Carnifal Rowen ac unrhyw garnifal neu sioe gŵn bach arall yn eich etholaethau chi. Gobeithio y cewch chi i gyd doriad hapus a phrysur iawn, yn gwneud beth bynnag y dymunwch ei wneud, ond edrychaf ymlaen hefyd at eich gweld ar y maes yr wythnos nesaf. Diolch. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly fe gymrwn ni doriad byr er mwyn paratoi ar gyfer y bleidlais yn dechnolegol. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:27.

18:30

Ailymgynullodd y Senedd am 18:31, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

12. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 5, cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 34 a chymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 5. Cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog - Rheol Sefydlog 34 a chymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Nesaf, pleidlais ar y cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog—pleidleisio drwy ddirprwy. Eitem 6. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Ac mae'r cynnig wedi ei dderbyn, felly.

Eitem 6. Cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog - Pleidleisio drwy Ddirprwy: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Nesaf, galwaf am bleidlais ar eitem 7, incwm sylfaenol a'r newid i economi ddi-garbon. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Ac mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Incwm Sylfaenol a'r newid i economi ddi-garbon: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 10, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar hepatitis C. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, yn erbyn 26.

Ac fe ddefnyddiaf fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig.

Felly o blaid 26, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.

18:35

Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Hepatitis C. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais nawr ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Fel sydd yn ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arddel fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant.

Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Gan fod y cynnig a'r gwelliant wedi'u gwrthod, nid oes dim wedi'i dderbyn. Daw hynny â ni at ddiwedd y pleidleisio am heddiw. A wnaiff yr Aelodau sy'n gadael y Siambr wneud hynny'n dawel os gwelwch yn dda?

13. Dadl Fer: Pleidleisio yn 16 oed: Rhoi'r offer i bobl ifanc ddeall y byd y maent yn byw ynddo, a sut i'w newid, drwy addysg wleidyddol

Symudaf yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Sioned Williams i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac fe fyddaf yn rhoi munud o fy amser i Heledd Fychan. Fe dyfais i lan yng Ngwent, ac i Gasnewydd y byddem ni'n mynd i siopa. Roedd y murlun enwog a oedd yn adrodd hanes y Siartwyr, sydd nawr bellach, yn anffodus, wedi'i chwalu, yn destun rhyfeddod i fi. Dysgais i am eu brwydr a'u haberth drwy ddelweddau graffig a dramatig y murlun. Byddwn yn mynnu cael yr hanes gan fy rhieni bob tro y byddem yn pasio, ac fe'm sbardunodd i ddysgu mwy am hanes fy mro a'm cenedl, ac am frwydr pobl gyffredin Cymru dros gael llais yn y modd yr oedd eu bywydau a'u cymdeithas yn cael eu rheoli.

Oes, mae modd ysbrydoli plant a phobl ifanc a thanio'u hangerdd a'u chwilfrydedd dros syniadau ac ymgyrchoedd, fel rhai y Siartwyr, a hynny drwy bob math o ffyrdd: gweld celf gyhoeddus neu berfformiad theatr; darllen llyfrau am ymgyrchwyr ifanc, fel Greta Thunberg neu Malala; gweld protestiadau ymgyrchwyr ifanc Cymdeithas yr Iaith ac Mae Bywydau Du o Bwys. Ond yn yr ysgol, wrth gwrs, mae modd sicrhau orau fod ein pobl ifanc yn cael eu cyflwyno i wleidyddiaeth yn ei holl ffurfiau, a'r modd y mae'r syniadau yma yn dylanwadu ar gymdeithas ac yn creu newid. Bydd cynnwys hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth, ac addysg wleidyddol, fel elfennau mandadol ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau yn y cwricwlwm yn sicr yn fodd o annog hyn. Achos fe fu galwadau lu a chroch yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig wrth inni benderfynu rhoi'r bleidlais i bobl 16 oed, am fframwaith gwell, a darpariaeth fwy cyson a chyflawn, i sicrhau addysg wleidyddol bwrpasol a safonol i bawb.

Mae'n hanfodol ein bod yn galluogi ein pobl ifanc i ddeall y modd y mae syniadau polisi, ideoleg a systemau llywodraethu yn creu'r gymdeithas a'r byd y maent yn rhan ohonynt, a sut gallant gael llais, mynegi barn a chwarae eu rhan yn y broses ddemocrataidd, a sylweddoli a gwerthfawrogi pam fod hynny'n bwysig, iddynt ddeall bod ganddynt rym. Does dim angen imi ailadrodd y dadleuon hynny nawr am eu bod wedi'u derbyn yn rhannol, o'r diwedd. Ac rwy'n croesawu'n fawr, felly, y cyfeiriad yn yr adroddiad blynyddol ar y Cwricwlwm i Gymru, a gyhoeddwyd ddechrau'r mis, at gefnogi dysgwyr i arddel eu hawliau democrataidd, a gwneud penderfyniadau gwleidyddol, er mwyn meithrin dealltwriaeth o'r ffordd mae systemau llywodraethu yng Nghymru yn gweithio, fel elfen ganolog o'r maes dysgu a phrofiad hwn. Felly, mae newid er gwell ar droed ac rwy'n croesawu hynny. 

Ond—ac mae hwn, dwi'n meddwl, yn 'ond' mawr, ac yn 'ond' sy'n werth ei godi yn y Siambr y prynhawn uma—nid yw'r hyn sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd yn ein system addysg yn ddigonol, yn gyson dros Gymru nac yn dderbyniol, felly, os ydym wir am rymuso ein pobl ifanc i fedru codi llais a chreu newid. Rhaid cofio na fydd unrhyw ddisgybl sydd ym mlwyddyn 7 neu uwch ar hyn o bryd yn cael ei addysgu o dan y cwricwlwm newydd. Rhaid inni beidio ag anghofio am y bobl ifanc hynny. A rhaid cofio y bydd etholiad San Steffan a'r Senedd yn digwydd o fewn y pum mlynedd nesaf, a bydd cannoedd o bobl ifanc yn troi'n 16 cyn hynny. Dyna pam rwyf am weld gwella addysg wleidyddol yn cael sylw'r Llywodraeth nawr. Mae yna hefyd bryderon nad yw'r cynlluniau yn y cwricwlwm newydd ar y seiliau mwyaf cadarn, ac fe soniaf am hynny yn y man.

Mae ein pobl ifanc wedi medru pleidleisio yn 16 oed nawr mewn dau etholiad—etholiad y Senedd a'r etholiadau lleol eleni. Mae hynny, wrth gwrs, yn destun llawenydd ac yn destun balchder cenedlaethol. Fe wnaeth fy merch bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau'r Senedd, a hynny, wrth gwrs, dros ei mam, a'm mab yn yr etholiadau lleol eleni, ac maen nhw'n amlwg yn dod o deulu sy'n trafod a wir yn byw gwleidyddiaeth. Ond, rwy'n gwybod nad oedden nhw na'u ffrindiau wedi trwytho yn y pwnc yn yr ysgol. Ac rydym yn gwybod nad yw nifer y pleidleiswyr sy'n cyfranogi yn ein democratiaeth yn ddigon uchel, yn enwedig, felly, o ran pobl iau.

Dangosodd data cychwynnol Llywodraeth Cymru y cofrestrodd rhwng 40 a 45 y cant o bobl ifanc 16 i 17 oed cymwys i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd y llynedd. Yn amlwg, roedd y pandemig wedi effeithio ar rai o'r cynlluniau i godi ymwybyddiaeth, ond mae arolwg ar ôl arolwg o bobl ifanc wedi dangos eu bod nhw eisiau mwy o addysg wleidyddol ffurfiol. A'r mwyaf y mae pobl ifanc yn dysgu am wleidyddiaeth, y mwyaf y maent eisiau cyfranogi mewn gwleidyddiaeth. Mae elfen gyfyngedig o'r hyn y gellir ei alw'n addysg wleidyddol yn rhan o'r cwricwlwm presennol, fel rhan o fagloriaeth Cymru ac addysg bersonol a chymdeithasol.

Wrth ymateb i ddeiseb a gyflwynwyd i Bwyllgor Deisebau'r pumed Senedd yn galw am addysg wleidyddol statudol, fe ddywedodd y Gweinidog Addysg ar y pryd, Kirsty Williams, 'Anogir ysgolion eisoes i ddarparu addysg eang, gan gynnwys ymwybyddiaeth wleidyddol, ac mae cyfleoedd i ddysgwyr archwilio gwleidyddiaeth yn y cwricwlwm cyfredol drwy'r fagloriaeth Gymreig ac addysg bersonol a chymdeithasol'. Ond sylwer ar y defnydd o'r gair 'cyfleoedd'. Nid yw'n rhoi llawer o hyder i rywun fod y sefyllfa bresennol yn sicrhau darpariaeth addysg wleidyddol o safon ym mhob ysgol.

Mae peth o'r addysg wleidyddol sy'n cael ei derbyn ar hyn o bryd gan ein pobl ifanc felly'n deillio o elfennau o fewn addysg bersonol a chymdeithasol, sy'n ofynnol yn statudol o dan y cwricwlwm sylfaenol, ond, yn wahanol i bynciau eraill y cwricwlwm cenedlaethol, mae'r modd y mae'n cael ei dysgu yn ddibynnol ar fframwaith—fframwaith y mae disgwyl i ysgolion ei ddefnyddio, ond nid oes angen iddynt ei ddilyn. Mae'r fframwaith yn dweud y dylai dysgwyr gael y cyfle i ddysgu am ddinasyddiaeth weithgar, ond nid bod yn rhaid iddynt gael y cyfle.

Mae sawl adroddiad yn adleisio canfyddiad ymchwiliad ein Senedd Ieuenctid flaenorol mai dim ond 10 y cant o'r bobl ifanc a holwyd ganddyn nhw a oedd wedi derbyn addysg wleidyddol. Dywedodd eu hadroddiad eu bod yn siomedig iawn i ganfod mai ychydig iawn o bobl ifanc yng Nghymru oedd yn dysgu am wleidyddiaeth drwy addysg wleidyddol—rhywbeth sy'n frawychus, meddant, o ystyried y newid yn yr oedran pleidleisio. Roedden nhw'n teimlo bod hyn yn adlewyrchu diffyg hyder cyffredinol athrawon ac ysgolion wrth addysgu'r pwnc. Mae Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru wedi adleisio'r pwynt yma ynglŷn â natur dameidiog y ddarpariaeth a'r angen i gefnogi athrawon yn well, yn enwedig o gofio'r newid sydd ar y gweill yn hyn o beth, gyda datblygiad y cwricwlwm newydd.

Mae undebau addysg wedi datgelu bod eu haelodau'n bryderus am ddarparu addysg wleidyddol. Beth mwy, felly, y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi addysgwyr i gyflwyno addysg wleidyddol goeth a chrwn—ymwybyddiaeth sy'n mynd y tu hwnt i ddealltwriaeth o fecanwaith a ffeithiau moel llywodraethiant Cymru? Sut ydym ni, er enghraifft, yn sicrhau bod gan ein pobl ifanc ddealltwriaeth o hanes a phwysigrwydd undebau llafur, neu eu hawliau iaith? Mae angen dysgu ynghylch y systemau ac ideolegau hynny sy'n rhoi cyd-destun ac ystyr i'r ymgiprys pleidiol a phrosesau etholiadol yn y lle cyntaf. Ac yn ôl yr NEU Cymru, mae dysgu proffesiynol yn amrywio dros Gymru, ac mae angen cefnogaeth ychwanegol ar gyfer y pwnc pwysig hwn nawr ac wrth baratoi at ofynion y cwricwlwm newydd. Mae'n wir bod adnoddau dysgu digidol newydd wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar, ond mae'r diffyg hyder ac, wrth gwrs, y diffyg profiad ymhlith athrawon—y mwyafrif helaeth heb dderbyn unrhyw addysg wleidyddol eu hunain—angen sylw cyflym er mwyn codi'r hyder a'r gallu ymhlith ein haddysgwyr i sicrhau safon uchel o ddarpariaeth.

O ran bagloriaeth Cymru, mae'r elfen dinasyddiaeth fyd-eang o fewn y dystysgrif her sgiliau yn medru caniatáu rhywfaint o addysg wleidyddol, ond nid yw hyn bob amser yn dilyn. Ar lefel genedlaethol sylfaenol, nod yr her dinasyddiaeth fyd-eang yw rhoi'r cyfle i ddysgwyr feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o fater byd-eang a ddewiswyd o un o'r pynciau canlynol: amrywiaeth ddiwylliannol, masnach deg, ynni'r dyfodol, anghydraddoldeb, byw'n gynaliadwy, trychinebau naturiol a dynol, maeth, tlodi. Ar lefel uwch, nod yr her dinasyddiaeth fyd-eang yw rhoi'r cyfle i ddysgwyr feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion byd-eang cymhleth ac amlochrog o fewn chwe thema: iechyd, bwyd a lloches, poblogaeth, trafnidiaeth, yr economi, a'r amgylchedd naturiol. Felly, er bod yn rhaid i bob dysgwr sy'n astudio bagloriaeth Cymru wneud yr her dinasyddiaeth fyd-eang, ni fydd hyn o reidrwydd yn cynnwys unrhyw beth am wleidyddiaeth Cymru nac addysg am systemau etholiadol neu lywodraethiant Cymru. A dyw bagloriaeth Cymru ddim yn orfodol chwaith, er bod Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion a cholegau i'w chynnig i bob dysgwr.

Yng nghenhedloedd eraill y Deyrnas Gyfunol, mae dinasyddiaeth yn brif elfen o'r cwricwlwm ôl-gynradd statudol, a'r Alban wedi cyflwyno hynny ymhell cyn rhoi'r bleidlais i bobl 16 oed. Ni allwn felly ddibynnu ar yr hyn sydd mewn lle ar hyn o bryd. Mae prosiectau codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu gwych iawn ar waith mewn nifer o'n lleoliadau addysg. Fe fues i'n cymryd rhan mewn sesiwn yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ddiweddar gyda'r Politics Project, ond mae prosiectau fel hyn, er yn effeithiol wrth ymgrymuso rhai grwpiau o bobl ifanc, yn dipyn o loteri cod post yn ôl y Gymdeithas Diwygio Etholiadol. Nododd adroddiad 'Making Votes-at-16 Work in Wales' gan Brifysgol Nottingham Trent na gyflwynwyd cynllun gan Lywodraeth Cymru i gryfhau addysg wleidyddol pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth i ostwng yr oed pleidleisio.

Ail fater a oedd yn ymwneud yn benodol â gweithredu pleidleisiau yn 16 oed yng Nghymru oedd nad oedd y ddeddfwriaeth yn cynnwys mesurau statudol pendant o addysg wleidyddol, rhywbeth a drafodwyd yn y broses ddiwygio yng Nghymru ac a nodwyd fel rhywbeth hanfodol mewn profiadau blaenorol o ddiwygio oedran pleidleisio mewn mannau eraill. Roedd hyn yn golygu, er gwaethaf ymrwymiadau ar lefel ysgol i addysg dinasyddiaeth, pan ddaeth y ddeddfwriaeth i rym, nad oedd unrhyw gynlluniau penodol ar gyfer ymdrech gydgysylltiedig i wella addysg wleidyddol mewn ysgolion a cholegau. Roedd darparwyr ymyrraeth addysgol i'w darparu drwy ysgolion, gan gynnwys y Senedd, y Comisiwn Etholiadol, gweithwyr ymgysylltu â phleidleiswyr a sefydliadau ieuenctid, yn ei chael yn anodd cyflwyno mesurau o addysg wleidyddol mewn modd systematig drwy gydol y cyfnod cyn yr etholiad. 

Yn ôl adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar etholiadau'r Senedd y llynedd, er roedd prosiect partneriaeth Democracy Box, a gefnogwyd gan y Senedd a'r Llywodraeth, yn gam gadarnhaol, mae angen ymestyn cyrhaeddiad ac effaith rhaglenni. Maent yn cydnabod bod angen nid yn unig gwella adnoddau presennol ond hefyd datblygu rhaglenni cymorth ar gyfer y rheini sy'n gweithio gyda'r grwpiau hyn. Rhaglen wybodaeth niwtral oedd hyn. Fel dwi wedi sôn, mae yna angen hefyd am ddealltwriaeth gyffredinol o'r syniadaeth a'r ideoleg sy'n gyd-destun hanfodol i etholiadau a llywodraeth. Does dim byd i atal hyn rhag cael ei gyflwyno o safbwynt niwtral yn yr un modd â'r dadleuon ar bynciau moesol cynhennus.

Rhaid cofio hefyd am y miloedd o bobl ifanc sydd bellach wedi gadael lleoliadau addysg ers iddynt dderbyn yr hawl i bleidleisio ac heb eu harfogi a'u hysbrydoli gan addysg wleidyddol. Mae gwendid hanesyddol a pharhaol ein tirlun darlledu a gwasg genedlaethol yn cyfrannu at y diffyg gwybodaeth ac ymwybyddiaeth gwbl allweddol sydd eu hangen arnynt. A oes felly modd i'r Llywodraeth ystyried cynnig cyfleon i fynd i'r afael â hynny mewn lleoliadau addysg gymunedol ac addysg bellach, neu drwy ddysgu anffurfiol mewn gweithleoedd, i sicrhau bod ein holl ddinasyddion ifanc yn cael chwarae eu rhan wrth greu y Gymru decach, wyrddach, fwy llewyrchus yr ydym oll am ei gweld?

Felly, wrth groesawu y cynnydd a'r cyfleon a ddaw yn y dyfodol, rwy'n gwneud yr achos dros sicrhau nad ydym yn amddifadu y bobl ifanc hynny sydd wedi'u rhyddfreinio gennym ond sydd heb eu hymgrymuso'n ddigonol i ddefnyddio'u pleidlais na deall eu grym. Mae'n amlwg bod gan bob un ohonom mewn bywyd cyhoeddus rôl i'w chwarae yn hyn o beth, ond dyletswydd Llywodraeth yw creu dinasyddion sy'n medru cyfrannu i'r genedl.

Mae pobl ifanc yn llai tebygol o bleidleisio na phobl hŷn, ac os nac ydych chi'n pleidleisio'n ifanc, byddwch chi'n llai tebygol o bleidleisio yn y dyfodol. Mae perygl gwirioneddol y bydd pobl ifanc heddiw nad ydynt yn mynd i elwa o'r cwricwlwm newydd yn tyfu'n oedolion nad ydynt yn pleidleisio yn y dyfodol. Mae angen inni dorri'r cylch hwn nawr er lles ein democratiaeth, ein Senedd a'n cenedl.

18:50

Diolch yn fawr i Sioned Williams am gyflwyno'r drafodaeth bwysig hon, oherwydd, heb os, er bod yna ddatblygiadau o ran y cwricwlwm newydd, mi ydyn ni angen gwneud cymaint mwy. Dwi'n meddwl bod beth gwnaeth hi bwysleisio o ran y loteri cod post yma'n eithriadol o bwysig. Dydyn ni ddim jest ishio grymuso pobl ifanc i fod yn pleidleisio ond hefyd i ystyried y gallen nhw fod yma, dim ots beth ydy eu cefndir nhw. Dwi'n meddwl drwy eu grymuso nhw a sicrhau bod eu llais nhw—. Oherwydd weithiau mae yna ganolbwyntio rŵan ar bobl 16 a 17 oed gan ein bod ni'n gallu cael eu pleidleisiau nhw. Ond mi ydyn ni hefyd yn cynrychioli plant a phobl ifanc. Mi oeddwn i'n falch iawn o weld disgyblion Ysgol Treganna tu allan i'r Senedd heddiw, tair ohonyn nhw'n ddisgyblion blwyddyn 6 yn ymgyrchu, ishio'n gweld ni'n gweithredu o ran yr argyfwng hinsawdd gymaint cynt, ac yn colli diwrnod o'r ysgol. Dydyn ni byth yn rhy ifanc i fod yn rhan o'n democratiaeth.

Y peth dwi'n meddwl sy'n ofnadwy o bwysig fan hyn ydy'r grymuso yna, bod gan bawb lais a'i fod o'n cyfrif, bod yr un pleidlais yn ddiwerth. Mi hoffwn bwysleisio hefyd un o'r pethau ddywedwyd wrthyf fi gan berson ifanc yn dilyn Brexit, sef y dylai fod yna uchafswm oed pleidleisio os nad ydy pethau'n effeithio arnoch chi. Rydyn ni'n sôn weithiau am bobl ifanc yn cael yr hawl, ond mae'n rhaid inni gofio pa mor bwysig ydy hyn, pa mor bwysig ydy datblygiadau fel Senedd Ieuenctid Cymru o ran sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc Cymru yn cael eu clywed gennym ni yma ac yn dylanwadu ar y polisïau fydd yn eu heffeithio nhw am ddegawdau i ddod.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am amserlenni'r ddadl fer heddiw ar bleidleisiau yn 16 oed.

Mae darparu'r arfau i'n pobl ifanc sylweddoli beth y mae'n ei olygu i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a'r byd yn rhan sylfaenol o addysg ddinesig. Mae'n cynnwys addysgu am ddemocratiaeth, ein cymdeithas a sut y gall pawb ohonom gymryd rhan, ac mae hefyd yn ymwneud â grymuso a rhyddfreinio.

Rwy'n gadarn fy nghefnogaeth i alluogi ein pobl ifanc i ddod yn gyfranogwyr gweithredol o fewn y broses ddemocrataidd, o gofrestru i bleidleisio i gymryd rhan mewn etholiadau a thu hwnt. Rwy'n falch ein bod wedi ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 i 17 oed ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol. Mae hyn yn rhoi llais i bobl iau yng Nghymru ynglŷn â'r ffordd y caiff Cymru ei rhedeg, ac mae'n sylfaen gadarn ar gyfer adeiladu democratiaeth gyfranogol. Mae fy mhlaid fy hun wedi ymrwymo i bleidleisiau yn 16 oed ar gyfer etholiadau Senedd y DU a phob etholiad arall a gadwyd yn ôl hefyd, a gobeithiwn weld hynny yn y dyfodol agos.

Rydym am helpu ein pobl ifanc i deimlo'n hyderus pan fyddant yn ymweld â gorsaf bleidleisio i fwrw eu pleidlais. Cyn etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol, buom yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i gefnogi ein pobl ifanc 16 i 17 oed i gofrestru i bleidleisio. Drwy ymgysylltu drwy ddigwyddiadau cymunedol, cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol ac ymweliadau ag ysgolion, llwyddodd awdurdodau lleol i gynyddu canran y bobl ifanc 16 i 17 oed a gofrestrodd i bleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol diweddar.

Gwnaethom hefyd ariannu nifer o sefydliadau trydydd sector i estyn allan ac ymgysylltu â phobl ifanc ynghylch pwysigrwydd cofrestru i bleidleisio drwy eu rhwydweithiau presennol. Mae'r sefydliadau hyn wedi datblygu a chyflwyno prosiectau eang, gan ddefnyddio cynnwys creadigol ar gyfryngau cymdeithasol, gweminarau ar-lein a sgyrsiau uniongyrchol gyda phobl ifanc, ac mae'r gweithgareddau cymdeithasol hyn wedi creu amgylchedd lle gallai trafodaethau ynghylch gwleidyddiaeth a democratiaeth ffynnu. Roedd y dull hwn yn ein galluogi i gyrraedd pobl ifanc yn uniongyrchol y tu hwnt i leoliadau addysg ffurfiol, gan ddarparu man croesawgar iddynt allu trafod y rhwystrau sy'n atal cyfranogiad llawnach.

Roedd hyn yn fwy heriol yn y cyfnod cyn etholiadau'r Senedd y llynedd oherwydd y mesurau diogelwch iechyd y cyhoedd a oedd ar waith o ganlyniad i'r pandemig. Ond rydym eisiau i'n holl bobl ifanc ddatblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth am bwysigrwydd cofrestru i bleidleisio a'u llais yn ein democratiaeth. Mae dysgu am y broses ddeddfwriaethol a strwythurau llywodraethol, deddfu, datganoli, pleidleisio ac etholiadau i gyd yn allweddol i gefnogi dealltwriaeth ein pobl ifanc o wleidyddiaeth, ond hefyd i gyfranogi ynddi. Rydym yn cydnabod bod addysg yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatgloi eu hawydd i gymryd rhan yn ein democratiaeth ac arfer eu hawliau.

Pan ymgynghorwyd ar ymestyn y bleidlais yn 2018, dywedodd pobl wrthym fod angen mwy o ymwybyddiaeth ac addysg i gynyddu cyfranogiad a gwyddom fod angen addysg briodol arnom fel y gall ein pobl ifanc wneud dewis gwybodus yn y blwch pleidleisio. Rwy'n cytuno â llawer o'r sylwadau a wnaed ynglŷn â phwysigrwydd yr addysg ddinesig honno. Bydd ein Cwricwlwm newydd i Gymru, sy'n cael ei gyflwyno o fis Medi ymlaen, yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gynnwys dysgu am hawliau yn eu cwricwlwm, gan gynnwys cefnogi ein dysgwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'u hawliau democrataidd a sut i'w harfer. Ac rwyf am ychwanegu pwysigrwydd hanes lleol hefyd yn rhan o'r prosesau addysg hynny. Rydym wedi buddsoddi mewn adnoddau addysgol i'n hysgolion a'n colegau i ddarparu'r cymorth y mae pobl ifanc yn dweud wrthym y maent eu hangen, ac rydym wedi cynhyrchu adnoddau dysgu proffesiynol i gefnogi ein hathrawon i addysgu'r maes hwn yn ddiduedd ac yn hyderus. Mae mwy o adnoddau'n cael eu datblygu i gefnogi dinasyddiaeth fyd-eang a dysgu am ein hawliau fel dinasyddion.

Rydym wedi ariannu rhaglen Deialog Ddigidol Cymru gan Politics Project, lle mae Aelodau o bob rhan o'r Senedd a llywodraeth leol yn mynychu sesiynau ar-lein gyda'n plant a'n pobl ifanc i ymgysylltu â hwy a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau'n uniongyrchol i wleidyddion. Mae'r sesiynau hyn wedi bod yn hynod lwyddiannus, fel y gŵyr yr Aelod dros Orllewin De Cymru, ar ôl rhoi ei hamser i fynychu un gyda disgyblion o Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Diolch i'r holl Aelodau yn y Senedd a gymerodd ran hyd yma a'r rhai a fydd yn cymryd rhan yn ystod yr wythnosau nesaf.

Wrth i'r Cwricwlwm i Gymru gael ei gyflwyno, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid addysg i gefnogi ein hysgolion yn y maes dysgu hwn. Wrth wneud hynny, rydym eisiau i'n plant a'n pobl ifanc gael y cyfleoedd a'r profiadau i gynyddu eu dealltwriaeth o ddemocratiaeth a'r rôl y mae'n rhaid iddynt ei chwarae fel dinasyddion mewn ffordd ddiddorol sy'n hybu arfer gydol oes o gyfranogi. Mae'n debyg y byddwn hefyd yn dweud wrth yr Aelod y bydd yn ymwybodol ein bod yn edrych ar gyflwyno Bil diwygio etholiadol, a fydd, gobeithio, yn agor y ffordd y mae ein system etholiadol yn gweithredu, yn cynyddu hygyrchedd, gan greu system etholiadol fodern ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, un a allai fod yn eithaf gwahanol i etholiadau Llywodraeth y DU, ond un lle credaf y bydd llawer o gyfleoedd i edrych ar ffyrdd arloesol, modern a newydd o fynd ati i annog a sbarduno cyfranogiad yn ein system etholiadol. Diolch.

18:55

Diolch, bawb. Mae hynny'n dod â thrafodion heddiw i ben. Rwy'n gobeithio y caiff pawb egwyl bleserus. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:57.