Y Cyfarfod Llawn
Plenary
06/07/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ac i'w ofyn gan Peredur Owen Griffiths.
1. Sut y mae'r Llywodraeth yn hyrwyddo cyflog teg i weithwyr yn y trydydd sector? OQ58319
Trafodwyd effaith yr argyfwng costau byw ar y trydydd sector a’i weithlu yng nghyfarfod diweddaraf cyngor partneriaeth y trydydd sector. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ac yn parhau i wneud hynny, ac rydym yn defnyddio ein hysgogiadau ehangach i hyrwyddo cyflogau teg yn y trydydd sector.
Diolch am yr ateb.
Un o’r problemau y mae’r sector yn eu hwynebu ar hyn o bryd yw ariannu setliadau cyflogau teg sy’n adlewyrchu’r cynnydd mewn costau byw. Mae hyn yn arbennig o wir gyda sefydliadau sydd â chontractau gyda sawl darparwr sector cyhoeddus sy'n gwneud pethau gwahanol o ran cynyddu contractau. Mae gan un sefydliad rwy'n ymwybodol ohono gontractau ar draws llawer o awdurdodau lleol, gydag oddeutu traean yn cynyddu contractau, traean yn gwrthod a thraean eto i benderfynu. Mae hyn yn rhoi'r sefydliad mewn sefyllfa amhosibl o orfod bod yn deg â'r holl staff heb allu ariannu cyflogau teg. A wnaiff Llywodraeth Cymru arwain y gwaith o sicrhau polisi cyson ar gynyddu contractau a sicrhau y gall y sector barhau i gadw ei staff gwerthfawr a helpu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas?
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ac yn amlwg, am gydnabod sector sydd nid yn unig yn helpu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ond sydd hefyd yn darparu cyflogaeth i bobl mewn cymunedau ledled y wlad. Fel y dywedais, yng nghyfarfod diweddaraf cyngor partneriaeth y trydydd sector ar yr argyfwng costau byw, codwyd yr effaith y mae'n ei chael ar gyflogau teg yn y sector, ac yn sicr, mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau'n fwy na pharod i fynd ati i weld sut y gallwn ddefnyddio ein dull partneriaeth gymdeithasol yn ogystal â'r holl ysgogiadau sydd gennym i geisio sicrhau cysondeb ar draws y sector a darparu cymorth lle mae cymorth ar gael.
Rydym wedi cydnabod rhai o’r heriau y mae’r sector yn eu hwynebu mewn perthynas â chyllid nid yn unig ar gyfer sefydlogrwydd prosiectau, ond ar gyfer sefydlogrwydd staff hefyd, felly mae hynny’n un o’r rhesymau y tu ôl i newid am y tro cyntaf i ymrwymiad grant tair blynedd, sy’n amlwg yn galluogi gwell cynllunio hirdymor, gan gadw staff a sgiliau. Credaf ei bod yn bwysig iawn, fel y dywedoch chi, fod y sefydliadau trydydd sector hyn nid yn unig yn darparu cymorth a gwasanaethau hanfodol, ond eu bod hefyd yn darparu cyfleoedd da iawn i bobl weithio, ac mae angen inni fod yn ymwybodol o hynny wrth inni symud ymlaen.
Mae’r mater y mae’r Aelod dros Ddwyrain De Cymru yn ei godi yn un pwysig, wrth gwrs. Felly hefyd sut y caiff gweithwyr a gwirfoddolwyr y trydydd sector eu talu am dreuliau ychwanegol sy'n codi wrth iddynt gyflawni eu rolau—er enghraifft, costau tanwydd. Yn ddiweddar, mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol wedi cysylltu â mi, cymdeithas sy’n gweithio gyda nifer o elusennau i ymgyrchu dros gynnydd yn y cynllun taliadau lwfans milltiredd cymeradwy (AMAP). Maent yn nodi bod y cynnydd diweddar yng nghost tanwydd yn cael effaith negyddol ar weithwyr a gwirfoddolwyr y trydydd sector ac yn ei gwneud yn anoddach i recriwtio staff ychwanegol. Rwy'n ymwybodol nad yw mater o’r fath wedi’i ddatganoli, ond serch hynny, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda’ch swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynghylch cynyddu cyfraddau AMAP yn y tymor byr i helpu i liniaru problemau o’r fath? A beth yn benodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi sefydliadau, gweithwyr a gwirfoddolwyr y trydydd sector gyda chostau cynyddol yn ogystal â chefnogi sefydliadau i recriwtio a chadw mwy o staff a gwirfoddolwyr? Diolch.
A gaf fi ddiolch i Peter Fox am ei gwestiwn? Rydych yn iawn i gydnabod yr effaith y mae'r cynnydd mewn costau tanwydd yn ei chael, nid yn unig ar y trydydd sector, ond clywais heddiw mewn cyfarfod gyda Chyngor Partneriaeth Cymru am yr effaith y mae'n ei chael yn enwedig ar bobl yn y sector gofal cymdeithasol hefyd, sy'n teithio rhwng pobl y maent yn gofalu amdanynt. Felly, cytunaf yn llwyr â chi—. Gwn fod galwadau am godiad o 45c i 55c, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddem ni, fel Llywodraeth, yn ei gefnogi, ac rydym wedi'i godi eisoes gyda swyddogion cyfatebol ar lefel Llywodraeth y DU. Ac mewn gwirionedd, mae eich cwestiwn yn rhagweledol iawn, oherwydd y bore yma, fe wnaethom ymrwymo gyda phartneriaid ar draws llywodraeth leol ac ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, a'r trydydd sector hefyd, i alw ar y cyd am gynnydd yn hynny o beth i helpu i liniaru rhywfaint o’r effaith costau byw y mae'n ei chael ar bobl sy’n darparu gwasanaethau sy’n hanfodol, nid yn unig i bobl, ond i’n cymunedau hefyd.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i chyd-Weinidogion ynghylch mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil mewn gweithleoedd yn y sector cyhoeddus? OQ58304
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Wel, roedd yr eitem hon ar yr agenda heddiw ar gyfer y cyngor partneriaeth llywodraeth leol, dan gadeiryddiaeth fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans. Mae’n ymwneud â nod cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, sef bod llywodraeth leol yn gyflogwr enghreifftiol, gyda pholisïau adnoddau dynol a chyflogaeth gwrth-hiliol, gyda chyllid gwella’n cael ei ddefnyddio i annog arferion gorau o’r fath, gan gyfrannu at lywodraethu a pherfformiad da.
Diolch, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi'r holl waith yr ydych yn ei wneud. Mae oddeutu 35 y cant o staff meddygol Cymru o gefndiroedd ethnig leiafrifol, ac mewn rhai ysbytai, mae dros 60 y cant o’u staff yn perthyn i grwpiau ethnig leiafrifol. Canfu adroddiad diweddar ar hiliaeth mewn meddygaeth gan Gymdeithas Feddygol Prydain fod bron i draean y meddygon a holwyd wedi ystyried gadael y GIG neu eisoes wedi gadael o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd lefelau parhaus ac annioddefol o hiliaeth ar lefel bersonol a sefydliadol. Mae'r arolwg yn datgelu bod rhwystrau sefydliadol rhag camu ymlaen yn eu gyrfa, lefelau isel o roi gwybod am ddigwyddiadau hiliol, a baich iechyd meddwl cynyddol ar feddygon o leiafrifoedd ethnig yn rhai o'r rhesymau pam eu bod yn gadael. Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd yng Nghymru, os nad yw pethau’n gwella ar frys, y gallai GIG Cymru wynebu chwalfa. Felly, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda’r Gweinidog iechyd i roi diwedd ar hiliaeth strwythurol yn y GIG yma yng Nghymru, ac i unioni’r canlyniadau anghymesur i yrfaoedd a boddhad swydd gwahanol grwpiau ethnig, er enghraifft drwy wneud ceisiadau am swyddi yn ddienw er mwyn diogelu ethnigrwydd ymgeiswyr yn y dyfodol? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n croesawu eich cwestiwn. Yn wir, os edrychwch ar gynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, mae’n cwmpasu pob adran o Lywodraeth Cymru, gyda chamau gweithredu a nodau. Felly, yn amlwg, mae hynny nid yn unig yn cynnwys iechyd ond iechyd a gofal cymdeithasol hefyd. Felly, y nodau, mewn perthynas â GIG Cymru, yw y dylai fod a bod yn rhaid iddo fod yn wrth-hiliol, ac y dylai staff allu gweithio mewn amgylcheddau diogel a chynhwysol. Rwyf innau wedi cyfarfod â Chymdeithas Feddygol Prydain a Chymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd ar sawl achlysur, ac rwy'n mynychu—fel chithau hefyd, rwy'n siŵr, a chyd-Aelodau—eu digwyddiadau blynyddol. Maent wedi cyfrannu at gynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, ac yn wir, mae’r nodau a’r amcanion i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn glir iawn o ran cyflawni’r amcanion hynny ar gyfer GIG Cymru. Ac a gawn ni ddiolch eto i'r rheini sy'n gweithio yn GIG Cymru—fe wnaethom gydnabod ei ben-blwydd ddoe—a'r rôl a chwaraewyd yn ystod y pandemig gan ein gweithwyr proffesiynol du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn y GIG, pan oedd y pandemig hefyd yn cael effaith anghymesur arnynt hwythau? Felly, rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn, a byddwn yn sicrhau y byddwn yn adrodd, gan fod yna bwyllgor atebolrwydd sy'n cael ei gyd-gadeirio gan yr Ysgrifennydd Parhaol a'r Athro Emmanuel Ogbonna, ac yn wir, mae'n cynnwys cynrychiolaeth o'r GIG.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
Diolch, Lywydd. Fel y gŵyr y Gweinidog yn iawn, mae Arlywydd Uganda, Yoweri Museveni, wedi cefnogi Rwsia’n gryf yn y gwrthdaro presennol rhwng Rwsia ac Wcráin, gan nodi, yng nghyd-destun y rhyfel parhaus, y dylid ystyried Rwsia yn graidd disgyrchiant yn nwyrain Ewrop. I'r rheini sy'n anghyfarwydd â'r ieithwedd filwrol hon, yr hyn y mae'r Arlywydd yn ei ddweud yw mai Rwsia yw'r ffynhonnell grym sy'n darparu cryfder moesol a ffisegol yn y rhanbarth hwnnw, ac fel y cyfryw, fod ganddi'r rhyddid i orfodi'r cryfder moesol a ffisegol hwnnw. Mae mab yr Arlywydd Museveni, yr Is-gadfridog Muhoozi Kainerugaba, pennaeth tirluoedd Llu Amddiffyn Pobl Uganda, a’r unigolyn y disgwylir iddo olynu’r Arlywydd, wedi mynnu bod y rhan fwyaf o bobl Affrica yn cefnogi Rwsia, ac wedi nodi bod:
'y rhan fwyaf o bobl nad ydynt yn wyn yn cefnogi safiad Rwsia yn Wcráin, ac mae Putin yn iawn yn ei ymgais i'w goresgyn.'
O ystyried cefnogaeth gyhoeddus Uganda i Rwsia, sydd, gyda’r gwrthdaro hwn, wedi achosi dioddefaint dynol aruthrol, nifer uchel o farwolaethau sifil ac argyfwng ffoaduriaid yn Ewrop ar raddfa nas gwelwyd ers diwedd yr ail ryfel byd, a ydych chi, Weinidog, yn credu ei bod yn foesol anghywir a rhagrithiol i Gymru fod yn uwch-noddwr ffoaduriaid a pharhau i gefnogi ac anfon cymorth i Uganda, ni waeth pa mor fach, sy'n credu bod Rwsia yn iawn i gyflawni'r gwrthdaro hwn? Ac os yw’r Gweinidog yn credu ei bod yn iawn i barhau i ddarparu cymorth yn Uganda, pa gyfiawnhad y gall ei roi am hyn i’r ffoaduriaid sy’n ffoi am eu bywydau? Diolch.
Wrth gwrs, mae'r arian sy'n mynd drwy raglen Cymru ac Affrica yn mynd i gymunedau yn Uganda. Mae'n mynd i gymunedau yr ydym yn gweithio'n agos gyda hwy, ac wedi bod yn gweithio'n agos gyda hwy ers blynyddoedd lawer. A hefyd, wrth gwrs, ledled Cymru, mae partneriaethau mewn cymunedau, ac fel y gwyddoch, yn eich rhanbarth chi hefyd—partneriaethau rhwng pobl leol yn ein trefi a’n dinasoedd a’n pentrefi. Yn wir, mae'r Ymddiriedolaeth Rhwydweithio Tramor rhwng Partneriaethau (PONT) yn un y byddwch yn gwybod amdani sy'n gweithio ledled Cymru, gyda chymunedau, gyda sefydliadau anllywodraethol yn Uganda, yn rhan o'n rhaglen Cymru ac Affrica.
Yn amlwg, mae’n ffiaidd pan fyddwn yn clywed y safbwyntiau hyn—unrhyw safbwyntiau—a phan fynegir y safbwyntiau hynny, rydym yn eu condemnio mewn perthynas ag arweinwyr llywodraethau, ac mae hynny’n digwydd ledled y byd. Ond gadewch inni edrych ar yr hyn a wnawn a beth yw'r canlyniadau i'n rhaglen Cymru ac Affrica o ran ein hymrwymiad i'r cymunedau yr ydym wedi gweithio gyda hwy, ac y mae dinasyddion ledled Cymru yn gweithio gyda hwy bob dydd er mwyn eu cefnogi.
Diolch, Weinidog. O, bu bron imi regi yn awr—dwy eiliad, Lywydd—[Anghlywadwy.]—Daeth yn rhydd. [Chwerthin.]
Diolch am gondemnio’r sylwadau hynny, Weinidog, a chefnogaf y condemniad hwnnw. Hoffwn annog, felly, yn y dyfodol, ein bod yn edrych yn ofalus ar ble mae'r cymorth hwnnw'n mynd a sut y caiff ei ddefnyddio. Fel y gwyddoch, crëwyd cynllun grant blaenllaw Llywodraeth Cymru, Cymru o Blaid Affrica, i alluogi grwpiau a sefydliadau cymunedol yng Nghymru i gael mynediad at gyllid ar gyfer prosiectau ar raddfa fach sy’n cyfrannu at ymdrech Cymru i gyflawni nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, ac i sicrhau manteision i bobl sy’n byw yng Nghymru ac yn Affrica. Fe fyddwch yn ymwybodol fod cyfanswm cyllid y cynllun hwn oddeutu £150,000 y flwyddyn, a bod cyfraniad y GIG i sicrhau bod rhai prosiectau’n canolbwyntio ar weithgareddau iechyd yn £50,000 y flwyddyn, ac mae’r ffigurau hyn wedi aros ar y lefel honno dros y 15 mlynedd diwethaf. Pan ystyriwch faint cyllideb GIG Cymru, mae’r swm hwn yn gymharol fach, ac o ystyried effeithiau hirdymor COVID yn Affrica Is-Sahara, rwy’n awyddus i wybod pam eich bod yn rhoi symiau mor bitw i ariannu eich menter flaenllaw. Yn gyntaf, Weinidog, a wnewch chi ddweud a yw’r diffyg cynnydd yng nghyfraniad y GIG dros y 15 mlynedd diwethaf yn esgeulustod ar ran y Llywodraeth hon, neu a yw'r methiant i gynyddu'r cyllid yn rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni nodau hirdymor y rhaglen Cymru o Blaid Affrica? Ac yn ail, gyda symiau mor fach, sut ydych chi'n mynd ati i fesur a yw'r rhaglen hon wedi arwain at unrhyw fudd hirdymor, yng Nghymru ac yn Affrica?
Wel, daeth cynllun grantiau bach Cymru ac Affrica, a gontractiwyd i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ei weithredu, i ben ar 31 Mawrth. Ond cafodd y contract ei osod ar dendr eto yn gynharach eleni yn dilyn ymarfer caffael, a bydd CGGC yn parhau i weithredu a rheoli'r cynllun grantiau bach hwnnw. Mae bellach ar agor, rownd 1 o gynllun grantiau bach Cymru ac Affrica 2022-25, a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 24 Gorffennaf.
Er eu bod efallai’n swnio fel swm bach o arian o ran ein blaenoriaethau yn Llywodraeth Cymru a’r pwysau ar ein cyllideb, mae'r grantiau bach hyn yn bwysig am ein bod yn dal i gredu ei bod yn bwysig buddsoddi yng Nghymru ac Affrica. A gall y symiau bach hyn o arian wneud gwahaniaeth enfawr, wrth weithio gyda phartneriaid ar brosiectau sy'n ymwneud ag iechyd, newid hinsawdd, yr amgylchedd, dysgu gydol oes a bywoliaeth gynaliadwy. Ac mae'r rhain yn brosiectau sy'n cael eu harwain, fel y dywedais, gan bartneriaid yn Affrica, gan y cyrff anllywodraethol sy'n gweithio gyda llawer o grwpiau ledled Cymru. A chredaf mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod wedi gweithio i gefnogi llawer o gymunedau yn ystod y pandemig. Rydym wedi darparu gwerth miliynau o bunnoedd o gyfarpar diogelu personol i Namibia drwy Brosiect Phoenix. Credaf fy mod yn cofio sylwadau anffafriol gan eich plaid am y ffaith ein bod yn gwneud hynny. Credwn yn gryf iawn y dylem wneud hynny. Rydym hefyd yn cefnogi prosiectau yn Zambia, Zimbabwe, Liberia, Lesotho, Ghana, Nigeria ac Uganda, ac mae'r rhain oll yn brosiectau lle mae'r canlyniadau yn amlwg yn cael effaith enfawr ar y cymunedau hynny.
Diolch am eich ymateb, Weinidog, a hoffwn ailadrodd, oni bai ein bod yn cael asesiad o effaith yr arian sy'n mynd i Affrica, rydym yn meddwl tybed pa fath o fudd y mae'n ei ddarparu i drethdalwyr Cymru.
Ond os symudaf ymlaen at y cwestiwn nesaf, un o fanteision honedig rhaglen Cymru ac Affrica yw y gall cymunedau ar wasgar ddod â gwybodaeth a phrofiad i Gymru sydd fel arall yn anodd eu cael yma. Mae sefydlu’r bartneriaeth iechyd o dan ymbarél Cymru ac Affrica hefyd yn galluogi gweithwyr GIG Cymru i brofi rhai o’r heriau y mae cymunedau Is-Sahara yn eu hwynebu drostynt eu hunain, ac i sefydlu system drosglwyddo gwybodaeth gydfuddiannol sy’n galluogi cymunedau Affrica i wella addysg iechyd ac uwchsgilio gweithwyr iechyd proffesiynol a gweithwyr eraill mewn gwledydd partner. Mae 24 y cant o faich afiechydon y byd yng ngwledydd Affrica Is-Sahara, ond maent yn cyflogi 3 y cant yn unig o weithwyr iechyd y byd. Gallaf weld bod angen digynsail i ddatblygu partneriaethau iechyd a darparu hyfforddiant. Rwy’n ymwybodol mai cymharol ychydig o weithwyr iechyd proffesiynol Cymru sy’n ymwneud â chynlluniau partneriaeth iechyd, ac mae’n debygol mai ychydig iawn y maent yn ei wybod am yr hyn y gall y partneriaethau iechyd ei gyflawni ar gyfer cenhedloedd Is-Sahara ac i ba raddau y gallant hwy neu GIG Cymru elwa. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa asesiad effaith y mae’r Llywodraeth hon wedi’i wneud o’r manteision y mae partneriaethau iechyd wedi’u darparu yma yng Nghymru ac yn Affrica, yn enwedig i GIG Cymru, a sut y mae’r Llywodraeth hon yn archwilio’r rôl y gall partneriaethau iechyd ei chwarae wrth gefnogi gyrfaoedd gweithwyr iechyd proffesiynol Cymru yn y dyfodol? Diolch.
Rwy'n tybio ac yn gobeithio eich bod wedi cyfarfod â Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, sefydliad dynamig iawn sy'n cael ei arwain yn bennaf gan bobl yn GIG Cymru. Mae'n un o'r rhwydweithiau pwysicaf sydd wedi'u datblygu o fewn y GIG, fel bod gennych bartneriaethau rhwng byrddau iechyd, rhwng ysbytai, rhwng cymunedau yng Nghymru ac Affrica. Os nad ydych wedi cyfarfod â hwy, rwy'n gobeithio y byddwch yn gwneud hynny, gan eu bod yn dod o dan ymbarél Hub Cymru Affrica.
Mae'n bwysig ein bod yn ail-lansio ein rhaglen cyfleoedd dysgu rhyngwladol. Cafodd ei ail-lansio ym mis Ebrill ar ôl dwy flynedd o fethu anfon pobl ar leoliadau oherwydd COVID. Mae'n ffordd wirioneddol bwysig y gall pobl yng Nghymru gyfrannu at nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, drwy gael lleoliad o hyd at wyth wythnos naill ai yn Lesotho, Namibia neu Uganda. Ariennir hynny gan raglen Cymru ac Affrica. Mae'r math hwn o gyfnewid hefyd yn digwydd gyda gweithwyr y GIG. A dweud y gwir, rydym wedi galluogi pobl yn y GIG i gael amser o'r gwaith er mwyn cael profiad o'r fath.
O ran canlyniadau, mae’r arian a ddarparwyd gennym, sef £3.1 miliwn ers mis Mawrth 2020, i edrych ar yr ymateb ac addasiadau i’r pandemig, yn helpu plant i fynd yn ôl i’r ysgol, darparu dŵr glân a gorsafoedd sebon a chyfarpar diogelu personol hanfodol, codi ymwybyddiaeth ynglŷn ag effaith COVID-19, dileu gwybodaeth ffug, pwysleisio pwysigrwydd cael brechiadau, helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau digidol a chymorth mewn ardaloedd na allent ei ddarparu o'r blaen. Dyna ganlyniad ein buddsoddiad yn Affrica.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Gwyddom fod teuluoedd â phlant ymhlith yr aelwydydd tlotaf yn ein gwlad. Yn dilyn llwyddiant y cynllun bocsys babanod yn yr Alban, cafodd cynllun ei dreialu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ddarparu bwndeli babanod i 200 o deuluoedd er mwyn lleihau’r angen am wariant ar hanfodion ar gyfer babanod newydd-anedig. Roedd y cynllun peilot i'w weld yn llwyddiannus, yn ôl y gwerthusiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Felly, a gaf fi ofyn pa ddatblygiadau sydd wedi digwydd yn sgil cwblhau'r cynllun peilot hwn? O ystyried llwyddiant y cynllun peilot, pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynllun bwndeli babanod ar waith eto? Wrth gwrs, pe bai gennym fwy o bwerau dros les, gallem ddatblygu cynllun cymorth arian parod, y mae ymgyrchwyr gwrthdlodi yn galw amdano fel y ffordd orau o gefnogi teuluoedd â phlant, yn debyg i gynllun Best Start yn yr Alban. Gallem helpu rhieni yn ystod yr argyfwng costau byw a chynorthwyo i dynnu teuluoedd allan o dlodi. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr ymrwymiad a wnaed yn y cytundeb cydweithio i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddatganoli lles?
Diolch yn fawr, Sioned. Dechreuaf gyda’r bwndeli babanod, oherwydd, fel y dywedwch, rydym wedi eu treialu ar gyfer teuluoedd ledled Cymru. Bydd hynny o gymorth mawr yn yr argyfwng costau byw i rieni yng Nghymru. Dyma'r eitemau allweddol sy'n hanfodol i ddatblygiad a llesiant eu babi newydd. Hoffwn roi cydnabyddiaeth i Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a ddatblygodd y syniad hwn a helpu i lansio’r cynllun peilot, gan ddysgu llawer gan Lywodraeth yr Alban ac ymhellach gan ein cynllun peilot ni hefyd. Gwn y bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud cyhoeddiadau yn ddiweddarach eleni, ond rydym yn ystyried hyn yn rhan allweddol o'n pecyn cymorth ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.
Ydy, mae’n bwysig ein bod yn symud ymlaen gyda'n hymrwymiad yn y cytundeb cydweithio mewn perthynas â datganoli'r gwaith o weinyddu budd-daliadau lles. Roeddwn yn hynod siomedig o glywed heddiw fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod argymhellion go synhwyrol a gweddus gan y Pwyllgor Materion Cymreig, a gynhaliodd ymchwiliad i’r rhyngweithio yng Nghymru rhwng budd-daliadau lles, nawdd cymdeithasol a'r berthynas â Llywodraeth Cymru. Roeddent yn argymell y dylid gwneud gwaith a sefydlu pwyllgor rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i edrych ar y rhyngweithio, gan fod llawer iawn y gellid ei wneud yn awr, cyn inni symud ymhellach, gydag ymgyrchoedd llawer cryfach i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau, y ffaith bod Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU yn methu ymgysylltu â ni ar ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi', credyd pensiwn—sy'n un o gyfrifoldebau Llywodraeth y DU, wedi'r cyfan—a chymaint o'r budd-daliadau sydd eu hangen ar bobl yn ystod yr argyfwng costau byw.
Unwaith eto, rydym yn ceisio gwneud cynnydd ac edrych ar y ffordd ymlaen gyda datganoli'r gwaith o weinyddu budd-daliadau, ond o’r ymateb gan Lywodraeth y DU, rwy'n ofni ein bod yn mynd i'w chael hi'n anodd gwneud cynnydd. Ond gadewch inni gael y dystiolaeth a gadewch inni gael y gefnogaeth, fel sydd gennym gyda'n cytundeb cydweithio. Hefyd, rwy’n cyfarfod â swyddog o Lywodraeth yr Alban i ddysgu ganddynt hwy sut y maent wedi gallu gwneud cynnydd ar hyn, a beth y mae hynny wedi’i olygu o ran effeithiau buddiol.
Diolch, Weinidog. Mae'n dda clywed y bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud ar y bwndeli babanod. Wrth inni baratoi i'r argyfwng costau byw waethygu'n ddifrifol wrth i fisoedd yr hydref a’r gaeaf ymddangos ar orwel sydd eisoes yn llwm, tybed a allai’r Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd pa mor effeithiol y mae'r cymorth ariannol presennol a roddir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddarparu, ac ystyried y camau sydd eu hangen i wella hyn er mwyn gwella cynlluniau presennol, ac i feddwl am yr hyn y gallwn ei wella cyn cyflwyno unrhyw gynlluniau newydd er mwyn sicrhau bod y rheini sydd fwyaf o angen cymorth yn gallu cael yr hyn yr ymrwymwyd iddo, ac i weld a yw'r mesurau'n cael yr effaith a ddymunir.
Mewn egwyddor, dylai llawer o’r hyn sydd gennym ar waith ddarparu sylfaen dda i helpu rhai o’r aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru y gaeaf hwn, neu o leiaf yr hyn y gallwn ei roi ar waith o fewn ein cymwyseddau datganoledig. A oes angen inni wella'r niferoedd sy'n manteisio ar y cymorth presennol, ei ddarpariaeth a'r ymwybyddiaeth ohono? A wnaiff y Gweinidog ystyried uno cynlluniau fel rhyw fath o siop un stop, er enghraifft, i wella mynediad?
Diolch am y cwestiwn hynod ddefnyddiol hwn hefyd. A dweud y gwir, bu'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a minnau yn y cyngor partneriaeth y bore yma gyda phob un o arweinwyr newydd llywodraeth leol yng Nghymru, a chawsom eitem ar yr argyfwng costau byw. Yn wir, diolchais i lywodraeth leol am y rôl y maent wedi’i chwarae, gan eu bod yn darparu nid yn unig y taliadau costau byw a ddarparwyd fel rhan o’r pecyn £385 miliwn, ond maent wedi gallu rheoli a chyflawni cynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Cawsom adborth clir yno ar y nifer sy'n manteisio ar y cynllun.
Ddydd Llun, byddaf yn cadeirio uwchgynhadledd ddilynol arall ar yr argyfwng costau byw, unwaith eto gyda’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae 120 o randdeiliaid wedi cofrestru ar gyfer hynny. Fel rhan o hynny, byddwn yn cael cyflwyniad gan arweinydd llywodraeth leol hefyd, gan fod angen inni weithio gyda hwy i sicrhau nid yn unig fod 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' ar gael i hawlio'r hyn a ddarparwn ar ffurf budd-daliadau fel cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, ond y ceir ymgysylltu digonol hefyd â'r rhai sy'n darparu ein cronfa gynghori sengl, gan mai Cyngor ar Bopeth, yn amlwg, sy'n darparu gwasanaethau cynghori sengl yn bennaf, a hwy sy’n gweithio ar yr Advicelink ar gyfer ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi'.
Ond ar symleiddio—codais hyn y bore yma—mae cyfleoedd i symleiddio a phasbortio ein holl fudd-daliadau. Teimlaf mai’r cyfrifoldebau sydd gennym ar hyn o bryd yw sicrhau bod yr hyn sydd gennym o ran ein cyfrifoldebau dros nawdd cymdeithasol, sef y ffordd credaf y dylid ei ystyried, mor gadarn ac mor syml â phosibl, a'u bod yn cael eu pasbortio cymaint â phosibl i gyrraedd pobl yn yr amseroedd enbyd hyn. Ond rwy'n gobeithio, hefyd, y gallwn gydnabod, bob tro y bydd rhywun yn mynd i fanc bwyd, eu bod yn cael eu cyfeirio, yn awr, eu bod yn mynd i allu cael mynediad—pobl ar fesuryddion rhagdalu—at y talebau tanwydd. Pan fydd pobl sy'n agored i niwed ac mewn angen yn gofyn am gymorth, ceir cymaint o gyfleoedd i'n holl asiantaethau gydweithio, ac rwy'n siŵr y byddwn yn trafod hynny ddydd Llun.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Heddlu Gogledd Cymru ynghylch effaith cyfrifoldebau gwasanaeth iechyd ar eu llwyth gwaith? OQ58300
Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r heddlu, y comisiynwyr heddlu a throseddu, a chyda’r gwasanaeth iechyd, nid yn unig yng ngogledd Cymru, ond ledled Cymru gyfan. Rwy’n cael cyfarfodydd a thrafodaethau rheolaidd gyda’n partneriaid am ystod eang o faterion sy'n ymwneud â phlismona.
Diolch am eich ymateb cychwynnol, Weinidog. Fis diwethaf, cefais y pleser o ymuno â Heddlu Gogledd Cymru ar un o’u shifftiau, a chefais y fraint hefyd o weld y gwaith gwych y maent yn ei wneud ar ein rhan yn ein cymunedau. Treuliais yr amser hwn gyda hwy yn dilyn achlysur 10 mlynedd ynghynt pan euthum ar shifft gyda Heddlu Gogledd Cymru i arsylwi ar y gwaith a wnânt. Un o’r pethau y sylwais arnynt am y gwahaniaeth rhwng 10 mlynedd yn ôl a heddiw yw’r anawsterau cynyddol yn sgil pwysau’r gwasanaeth iechyd ar swyddogion yr heddlu ac ar yr heddlu. Mae’r cynnydd hwn wedi arwain at swyddogion yr heddlu’n ymdrin â diffibrilwyr, yn gorfod aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys am oriau lawer, ar brydiau, yn aros i’r bobl y gallent fod wedi’u harestio gael eu gweld, ynghyd â chynorthwyo gyda materion iechyd meddwl—mae angen hynny oll, wrth gwrs, ond byddwn yn dadlau mae'n debyg nad yw'n ddefnydd da o adnoddau ac arbenigedd yr heddlu. Mae'n amlwg i mi fod pwysau'r gwasanaeth iechyd yn mynd ag amser swyddogion yr heddlu yn eu rôl arferol, ac wrth gwrs, gallai hyn arwain at ein heddluoedd yn methu cyflawni eu gwaith traddodiadol. Yng ngoleuni hyn, Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o’r pwysau cynyddol ar swyddogion yr heddlu, a pha drafodaethau a gawsoch gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y pwysau cynyddol hwn?
Diolch yn fawr iawn am dynnu ein sylw at hyn heddiw, Sam Rowlands, a llongyfarchiadau ar ymuno â’r shifft. Ar draws y Siambr, rwy'n credu y bydd pobl sydd eisoes wedi gwneud hynny neu a fydd yn manteisio ar y cyfle hwnnw, gan ei fod yn dangos i chi sut beth yw bywyd ar y rheng flaen i swyddogion yr heddlu a phawb y maent yn ymwneud â hwy, nid yn unig y dinasyddion y maent yn ymdrin â hwy ond wrth gwrs, yr holl bobl eraill ar y rheng flaen, y gwasanaeth ambiwlans, y gwasanaeth damweiniau ac achosion brys—y system ofal brys gyfan yn gweithio gyda'i gilydd.
Codir y materion hyn yn ein bwrdd partneriaeth plismona, a gadeirir gennyf fi neu’r Prif Weinidog. Rydym yn gweithio gyda phobl ym maes plismona, felly y prif gwnstabliaid, y comisiynwyr heddlu a throseddu, ac yn wir, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymuno â ni, felly mae wedi’i ddatganoli a heb ei ddatganoli. Rydym yn edrych ar faterion strategol. Yn y cyfarfod diwethaf a gawsom, buom yn edrych ar ddigartrefedd ac yn edrych ar gamddefnyddio sylweddau. Rydym yn edrych yn rheolaidd ar y pwysau ar y gwasanaeth iechyd, rhywbeth y mae’n rhaid i blismona fynd i'r afael ag ef bellach, a byddwn yn dweud bod y bwrdd partneriaeth plismona yn ffordd ddelfrydol o sicrhau y gallwn weithio, fel y gwnawn, ar lefel ddatganoledig, o ran y gwasanaethau. Ac wrth gwrs, mae’n cynnwys llywodraeth leol, yn ogystal â'r byrddau iechyd a’r heddlu eu hunain.
Ond gadewch inni gydnabod hefyd y gwaith caled a wneir gan swyddogion yr heddlu ledled Cymru. Rwy’n sicr yn edrych ymlaen at ddathlu pen-blwydd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ymhen ychydig wythnosau, i gydnabod y gwaith a wnânt hwy ar y rheng flaen hefyd.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid undebau llafur i ddiogelu buddiannau gweithwyr yn y sector cyhoeddus? OQ58314
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ac yn ymgorffori partneriaeth gymdeithasol mewn cyrff cyhoeddus drwy Fil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus a llesiant. Mae hyn yn adeiladu ar y trefniadau presennol, er enghraifft gyda'r GIG, llywodraeth leol a’r fforwm gwasanaethau ar draws y sector cyhoeddus, cyngor partneriaeth y gweithlu.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Bydd y Llywydd yn sicr yn ymwybodol y bydd yn rhaid imi ddatgan buddiant yma fel aelod balch o ddau undeb llafur. [Torri ar draws.] Roeddent yn gwybod, rwy'n credu.
Ond yn anffodus, Lywydd, rydym wedi gweld enghreifftiau di-rif dros y blynyddoedd o arferion gwael o ran cefnogi gweithwyr, a’r camau a’r bygythiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar, nid yn unig i danseilio datganoli ond i danseilio gweithwyr y sector cyhoeddus sy’n streicio am gyflog teg, yw'r diweddaraf mewn cyfres hir o ymosodiadau gan y Torïaid ar weithwyr. Ond rydym yn gwneud pethau gwahanol yng Nghymru, ac mae'n bwysicach ein bod yn parhau i weithio ar y cyd â gweithwyr ac yn cryfhau'r berthynas â'n partneriaid yn yr undebau llafur. A gaf fi ofyn i’r Gweinidog amlinellu sut y gellid cyflawni hyn, ac a yw’n cytuno â mi mai’r ffordd orau i weithwyr y sector preifat a’r sector cyhoeddus ddiogelu eu buddiannau a’u bywoliaeth a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed yw drwy ymuno ag undeb llafur?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn? Ni fydd yn syndod i eraill yn y Siambr fy mod yn cytuno’n llwyr â’r pwyntiau mae Jack Sargeant wedi’u gwneud, ac rwy’n credu bod agwedd Llywodraeth y DU tuag at undebau llafur a hawliau gweithwyr yn benodol, ac yn arbennig eu cyhoeddiad cudd, bron, o’u bwriad i geisio diddymu Deddf Undebau Llafur (Cymru), a’u hymosodiadau helaeth ar draws y DU o ran ceisio cael gwared ar hawliau gweithwyr, nid yn unig yn amharchus i weithwyr ond yn amharchus tuag at ddatganoli hefyd. Ac yn lle mynd ati i ymosod ar weithwyr sy’n asgwrn cefn ein gwasanaethau cyhoeddus, sy’n teimlo’r argyfwng costau byw eu hunain, dylent ailweithredu eu hymrwymiad i Fil cyflogaeth, i wella'r cymorth i bobl mewn gwaith a gwella eu hawliau.
Cytunaf â chi fod undebau llafur cryf ac effeithiol yn fuddiol i'n gwlad yn ei chyfanrwydd nid gweithwyr a chymunedau yn unig, ac er gwaethaf peth o’r rhethreg rydym yn ei chlywed gan rai o’n cyd-Aelodau—nid bob amser yn y lle hwn, ond efallai mewn mannau eraill ac yn y cyfryngau asgell dde—mae barn gadarnhaol am undebau llafur yn un a adlewyrchir gan lawer o’r cyhoedd yng Nghymru mewn gwirionedd, oherwydd gallwn weld bod lefelau aelodaeth o undebau llafur yng Nghymru wedi cynyddu 33,000 rhwng 2020 a 2021; yr unig wlad yn y DU i weld cynnydd. A phan fyddwn yn sôn am bartneriaeth gymdeithasol, mae'n ymwneud â gweithredu yn hytrach na siarad yn unig. Mae gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yn mynd y tu hwnt i ddeddfwriaeth; mae'n ymwneud â dull o gydweithio sy'n seiliedig ar werthoedd er budd cyffredin a phwrpas cyffredin ac mae iddo botensial enfawr i ysgogi newid nid yn unig i unigolion ond yn gyfunol i'n cymunedau.
Hoffwn ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno’r cwestiwn pwysig hwn yma heddiw. Ychydig iawn o bobl yn y Siambr hon sy’n gwybod fy mod yn arfer bod yn aelod o Unsain amser maith yn ôl, felly mae buddiannau ein gweithwyr yn y sector cyhoeddus ledled Cymru yn bwysig i mi.
Pasiodd y Senedd hon Ddeddf Undebau Llafur (Cymru) 2017 o dan y drefn rhoi pwerau ac ers Deddf 2017 (Cymru), cafodd y cymhwysedd datganoledig ei gadw'n ôl gan Lywodraeth y DU. Rwy’n parchu datganoli a’r deddfau sy’n cael eu pasio yn y Senedd hon, hyd yn oed os nad wyf yn cytuno’n sylfaenol â hwy weithiau.
Weinidog, mae fframweithiau prosesau datrys anghydfodau ar waith i geisio datrys anghydfodau rhwng Llywodraethau, felly hoffwn wybod a yw hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei roi drwy broses datrys anghydfodau i geisio dod o hyd i ateb i’r rhaglen hon? Oherwydd rwy’n credu bod angen inni ddod o hyd i ffordd drwy’r cyfyngder hwn i wneud yn siŵr bod datganoli a setliadau cyfansoddiadol ar draws y Deyrnas Unedig yn cael eu parchu, oherwydd cawsom ein hethol yma yn ein hawl ein hunain i greu deddfau ar gyfer pobl Cymru.
A gaf fi ddiolch yn ddiffuant i’r Aelod am ei gyfraniad meddylgar ac ystyriol? Rwyf am ddechrau drwy ddweud, James, fy mod yn siŵr y byddai croeso mawr i chi ailymuno ag Unsain, ond rwy'n credu bod y meinciau nesaf atoch—[Torri ar draws.]—wedi cael cryn syndod o glywed eich bod yn arfer bod yn gyn-aelod o undeb llafur. Ond mae undebau llafur yno i bawb, ac fel y dywedasom, dyma'r ffordd orau i gynrychioli ac amddiffyn eich hun yn y gweithle a chydweithio.
Gwn fod cyfres o gwestiynau ar yr un mater a godwyd gennych ar gyfer fy nghyd-Aelod, y Cwnsler Cyffredinol, i ddod ar ôl hyn, ac rwy’n siŵr y bydd y pwyntiau y byddwch yn eu hystyried yn rhai amserol iawn, ac rwy’n siŵr y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn hapus iawn i fwrw ymlaen â hynny, a diolch ichi am eich cyfraniadau.
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau tlodi tanwydd yn Ynys Môn? OQ58308
Diolch yn fawr. O ddefnyddio mesur tlodi tanwydd Cymru, gallai hyd at 45 y cant o holl aelwydydd Cymru fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn codi'r cap pris ym mis Ebrill 2022. Roedd yr amcangyfrifon diwethaf a gasglwyd ar gyfer Ynys Môn yn 2018 yn amcangyfrif bod y gyfradd tlodi tanwydd yno yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru ar y pryd.
Diolch am yr ateb yna, ac mae'n frawychus, ond ydy hi, ac rydyn ni'n gweld sut mae costau o ran ynni a thanwydd, fel rhan o'r argyfwng costau byw ehangach, yn dyfnhau o ddydd i ddydd, bron, a'r caledi ariannol mae rhai o fy etholwyr mwyaf bregus i yn ei wynebu. Dŷn ni'n ei weld o yn y cynnydd mewn galw am wasanaethau banc bwyd, er enghraifft. Roeddwn i'n gweld yr wythnos yma Cyngor Sir Ynys Môn, mewn partneriaeth efo Elfennau Gwyllt, yn arwain ar brosiect newydd i ddarparu ffrwythau a llysiau ffres i fanc bwyd Ynys Môn, banc Amlwch a Bwyd Da Môn, a dwi'n llongyfarch pawb sy'n rhan o'r cynllun hwnnw—dwi'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi yn hynny o beth—ond mae'n gywilydd bod angen hynny.
Mae disgwyl i brisiau ynni, wrth gwrs, godi eto wrth i'r cap godi ymhellach yn ddiweddarach y flwyddyn yma. Fy nghwestiwn i ydy: pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd rŵan i ystyried yr opsiynau ar gyfer rhoi cefnogaeth ychwanegol i fy etholwyr mwyaf bregus i pan ddaw'r ergyd drom arall honno'n ddiweddarach yn y flwyddyn?
Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Cwestiwn pwysig iawn ac yn wir, buom yn trafod yr argyfwng costau byw gydag arweinwyr y cynghorau yn y cyngor partneriaeth y bore yma. Roedd arweinwyr cynghorau hefyd yn mynegi’r pryderon hyn, ond roeddent hefyd yn nodi enghreifftiau cadarnhaol o sut y mae cymunedau’n dod at ei gilydd, y banciau bwyd a’r pantris bwyd; FareShare, yr elusen sy'n gweithio ledled Cymru; Lesley Griffiths yn cysylltu â'r archfarchnadoedd; a hefyd ffermwyr amaethyddol. Mae pawb yn chwarae eu rhan i geisio cefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed. Dywedais ein bod yn bwriadu—. O ran 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi', rydym yn annog pobl i hawlio'r hyn a allant, ac mae gennym ein talebau tanwydd newydd, sy'n wirioneddol bwysig i aelwydydd sy'n rhagdalu, ond hefyd pobl oddi ar y grid o ran y gronfa wres. Bydd yr iteriad nesaf o'n cynllun cymorth tanwydd yn dechrau cael ei dalu'n gynt. Byddwn yn cyhoeddi hwnnw mewn ychydig wythnosau.
Ond rwy’n credu bod angen ymateb gan Lywodraeth y DU i hyn hefyd. Hwy sydd â’r pwerau. Rydym wedi gofyn yn gyson, a gobeithiaf y byddwch yn ymuno â ni ac yn cefnogi hyn, y dylai Llywodraeth y DU ostwng y cap pris ar gyfer aelwydydd incwm is er mwyn sicrhau y gallant dalu costau eu hanghenion ynni a chael gwared ar holl gostau polisi amgylchedd cymdeithasol o filiau ynni'r cartref. Maent yn gwneud hynny yng ngweddill Ewrop; pam nad yw Llywodraeth y DU yn gwneud hynny? Talu'r costau hynny ar gyfer trethiant cyffredinol, adfer yr £20 ychwanegol mewn credyd cynhwysol, uwchraddio budd-daliadau o 2022-23 ymlaen i gyfateb â chwyddiant. Cynnydd o 3.2 y cant mewn budd-daliadau—edrychwch ar chwyddiant ar 9 y cant. Felly, fe wnawn yr hyn a allwn. Y cynllun cymorth tanwydd, talebau’r sefydliad tanwydd ac yn wir, dilyn y taliadau costau byw a wnaed, y £150, y talwyd mwy na £1.4 miliwn ohono hyd yn hyn. Ond hefyd, os gwelwch yn dda, gadewch inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â'r materion hyn, ac yn wir, yn rhoi sylw iddynt wrth i ni gynnal ail uwchgynhadledd costau byw ddydd Llun.
Rwy’n ddiolchgar ichi am gytuno i fynychu cyfarfod trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni ddydd Llun nesaf, a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar aelwydydd gwledig agored i niwed, gan gynnwys y rheini yng nghefn gwlad Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru. Ymhlith y rhain, mae tenantiaid sydd â'u nwy a’u trydan wedi’u cynnwys yn eu rhent yn debygol o fod wedi'u methu yn rownd olaf cynllun cymorth tanwydd y gaeaf Llywodraeth Cymru, oherwydd nad hwy oedd y talwr biliau ynni a enwyd yn eu cyfeiriad. Pa gamau, felly, y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i fynd i’r afael â hynny ar gyfer y rownd nesaf?
Mark Isherwood, rwy'n edrych ymlaen at ymuno â chi, fel rwyf wedi’i wneud bob tro y cefais wahoddiad i’r grŵp trawsbleidiol, a hefyd yn wir, bydd yn digwydd ochr yn ochr â’n huwchgynhadledd. Byddwn yn sicr yn edrych ar y mater hwn i wneud yn siŵr bod ein cynllun cymorth tanwydd pwrpasol yn cyrraedd y tenantiaid sydd ei angen fwyaf.
6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o allu plant a phobl ifanc mewn sefydliadau gofal preswyl sy'n cael eu rhedeg yn annibynnol i gael mynediad at eiriolwr annibynnol? OQ58301
Diolch yn fawr, Jane, am eich cwestiwn pwysig iawn.
Mae’r dull cenedlaethol o ymdrin ag eiriolaeth statudol, a sefydlwyd yn 2017, yn mynd i’r afael â hygyrchedd, argaeledd a darpariaeth eiriolaeth i bob plentyn a pherson ifanc, gan gynnwys y rheini mewn lleoliadau gofal preswyl. Mae’r dull cenedlaethol yn cael ei fonitro gan y fforwm cenedlaethol sy’n goruchwylio hygyrchedd darpariaeth eiriolaeth ledled Cymru.
Diolch, Weinidog. Yn gyntaf, diolch i Lywodraeth Cymru am fabwysiadu agwedd wahanol i un Llywodraeth Geidwadol y DU mewn perthynas â chael gwared ar elw o ofal plant sy’n derbyn gofal. Mae'n gam pwysig ymlaen, ac rwy’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth ar y mater hwn. Fel y dywedwch, Weinidog, yn 2017, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod mynediad at eiriolwr annibynnol ar gael i bob plentyn. Ac eto, mae adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan Tros Gynnal Plant, y gwyddoch amdano, wrth gwrs—prif elusen hawliau plant Cymru—yn amcangyfrif nad oes gan y mwyafrif o ddarparwyr gofal plant preifat unrhyw ddarpariaeth eiriolaeth ymweliadau preswyl ac nad oes gan y rhan fwyaf o sefydliadau, fel Stepping Stones a Priory er enghraifft, eiriolaeth ymweliadau preswyl o gwbl. O ystyried yr hyn a wyddom ynglŷn â sut y gallwn ymgysylltu â phlant, eiriolaeth ymweliadau preswyl yw’r mwyaf effeithiol gan ei fod yn meithrin ymddiriedaeth gyda phlant. Felly, fy nghwestiwn, Weinidog, yw: beth y gallech chi ei wneud i weithio’n galetach a chyflymu’r gwaith o sicrhau bod gan bob plentyn unigol sy’n derbyn gofal yr hawl honno i gael mynediad at eiriolaeth annibynnol? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane. A gaf fi ddweud, unwaith eto—rwyf eisiau cofnodi, a byddai'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei ddweud gyda mi, fel y gwnawn ni fel Llywodraeth Cymru—fod dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal yn elfen allweddol o'n gweledigaeth ehangach ar gyfer diwygio gwasanaethau cymdeithasol plant. Ac mae cynnydd yn cael ei wneud; mae bwrdd rhaglen amlasiantaeth, a gadeirir gan y prif swyddog gofal cymdeithasol, bellach yn symud ymlaen gydag asesiadau effaith llywodraethu a chydweithio â'n rhanddeiliaid. A chredaf mai dyna'r ymateb i'r cwestiwn a ofynnwch ynglŷn â sut y gallwn sicrhau cysondeb a chydgysylltu gwasanaethau ar draws chwe rhanbarth Cymru gyda dull cenedlaethol o weithredu eiriolaeth statudol. Yn wir, bydd y Dirprwy Weinidog yn cyhoeddi datganiad am hyn cyn bo hir, ac mae'r fforwm cenedlaethol, wrth gwrs, wedi edrych ar y dull cenedlaethol hwn o weithredu eiriolaeth statudol, ac yn wir, yn edrych ar hyn i gyd er mwyn gwella canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal. A gwn fod gwaith Tros Gynnal Plant wedi edrych ar hyn ac wrth gwrs, yn awr mae angen i'r Gweinidog gyflwyno ei datganiad ysgrifenedig, sydd i'w gyhoeddi'n fuan, ar y dull sy'n deillio o'r dull cenedlaethol o weithredu'r hyn a etifeddwyd gan y grŵp gorchwyl a gorffen ar eiriolaeth statudol.
Mae'n siomedig gweld bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiddymu'r ddarpariaeth breifat ar gyfer plant yma yng Nghymru, o gofio ei bod yn ffurfio 80 y cant o'r sector. Yr hyn y dylai'r Llywodraeth fod yn canolbwyntio arno yw dod â'r plant mewn gofal allan o'r system i gartrefi sefydlog. A all y Gweinidog amlinellu pa broses sydd ar waith i gyfarfod â'r sector gofal preswyl preifat i blant a beth yw'r amserlen ar gyfer cynlluniau'r Llywodraeth? O ran eiriolaeth, pa mor hyderus yw'r Gweinidog y bydd y comisiynydd plant a benodwyd yn ddiweddar yn sefyll dros blant mewn gofal, o ystyried y cynnwys a welwyd ganddi ar y cyfryngau cymdeithasol yn hanesyddol?
Na, rwy'n credu fy mod yn anghytuno â phob pwynt. Mae'n anodd ateb cwestiwn fel hwnnw, onid yw? Wel, nid cwestiynau ydynt, ond sylwadau—sylwadau ydynt, ac ni fyddaf yn ymateb i'ch pwynt olaf o gwbl. Mae gennym gomisiynydd plant annibynnol a benodwyd gan banel trawsbleidiol, ac rydym yn dymuno'n dda iddi yn ei swydd.
Ond a gaf fi ddweud bod hwn, wrth gwrs, yn ymrwymiad gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, yn ein rhaglen lywodraethu, a gefnogir, rwy'n gwybod, gan Blaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, y byddwn yn cael gwared ar elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal ac yn bwrw ymlaen â hynny. Ac wrth gwrs, mae hynny'n golygu gweithio gyda rhanddeiliaid wrth inni fwrw ymlaen â hynny. Wrth gwrs, mae'n waith cydweithredol gyda'n rhanddeiliaid ac mae'n ymwneud â newid i ddarpariaeth ddielw. Mae'r newid yn allweddol ac mae'r gefnogaeth i'n plant sy'n derbyn gofal—atebodd y Prif Weinidog y cwestiwn hwn yn llawn brynhawn ddoe—yn gadarn yn fy marn i o ran ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn gofalu am ein plant sy'n derbyn gofal, ond hefyd ein bod yn sicrhau bod llai o blant yn gorfod dod i mewn i'r system plant sy'n derbyn gofal.
7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith Bil Hawliau arfaethedig Llywodraeth y DU ar y fframwaith deddfwriaethol a pholisi yng Nghymru? OQ58292
Diolch, Huw Irranca-Davies. Ni welodd Llywodraeth Cymru y bil cyn iddo gael ei gyflwyno. Mae'n galw am, ac mae bellach yn cael ystyriaeth ofalus, ac rydym yn sicr yn parhau i fod â phryderon sylfaenol am ei effaith anflaengar bosibl ar hawliau dynol yn y DU ac ar ein hagenda gadarnhaol yng Nghymru.
Felly, Weinidog, diolch am yr ateb, ac ymddiheuriadau am wyro ychydig i hanes, ond gwyddom mai yng nghysgod yr ail ryfel byd y cefnogodd Churchill a Mitterrand ac eraill gonfensiwn, gyda chefnogaeth 100 o seneddwyr o 12 aelod-wladwriaeth Cyngor Ewrop, i ddrafftio'r siarter hawliau dynol a sefydlu llys i'w gorfodi. Yr AS Prydeinig a'r cyfreithiwr Syr David Maxwell Fyfe oedd un o'r aelodau blaenllaw a arweiniodd y gwaith o ddrafftio'r confensiwn, ond fel erlynydd yn nhreialon Nuremberg, roedd ganddo wybodaeth uniongyrchol o'r modd y gellid cymhwyso cyfiawnder rhyngwladol yn effeithiol.
Mae Llywodraeth y DU bellach wedi penderfynu, yn ei doethineb, y gall wneud y gwaith yn well. Cawn weld. Ond mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi dweud yn glir y gellid newid cymhwysedd sefydliadau Cymru, yn dibynnu ar gwmpas y bil hawliau newydd hwn, a gallai effeithio'n sylweddol ar ehangder a natur ein cymwyseddau datganoledig. Nid yw ein profiad diweddar gyda Llywodraeth y DU wedi bod yn dda yn hyn o beth, felly a ydych yn hyderus, Weinidog, y bydd barn Cymru a hawliau pobl yng Nghymru yn cael eu diogelu wrth ddrafftio bil hawliau'r DU?
Wel, diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw. Fe wnaethom ein gwrthwynebiad sylfaenol i'r cynigion yn y Bil Hawliau yn glir yn ystod yr ymgynghoriad ar ddechrau'r flwyddyn, ac fe wyddoch i'r Cwnsler Cyffredinol a minnau gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar 22 Mehefin i atgyfnerthu ein pryderon. Yr wythnos diwethaf, cawsom gyfarfod grŵp trawsbleidiol rhagorol, dan gadeiryddiaeth Sioned Williams, ar hawliau dynol. Roedd llais y gymdeithas sifil mor gryf, yn ogystal â chynrychiolaeth drawsbleidiol, yn egluro eu pryderon am y Bil, ac wrth gwrs, mae hynny'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r Llywodraeth—gwrthodwyd yn llwyr yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad a gyflwynwyd yn erbyn y bil hawliau fel y'i gelwir. Rydym hefyd yn awr yn sefydlu grŵp cynghori ar hawliau dynol. Mae'n cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn; byddwn yn trafod y Bil. Rydym eisiau bwrw ymlaen â chynllun gweithredu cadarnhaol a blaengar i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol i holl bobl Cymru. Y sefyllfa yn awr o ran Llywodraeth y DU: gadewch inni alw arnynt eto heddiw i newid cyfeiriad tra bo modd gwneud hynny. Efallai y gallai rhai o'r rhai a ymddiswyddodd ymuno â ni yn yr alwad honno heddiw.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gerrig milltir cenedlaethol ar gyfer cyflawni nodau llesiant Llywodraeth Cymru? OQ58297
Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae cerrig milltir cenedlaethol yn rhan bwysig o Llunio Dyfodol Cymru. Rydym yn cyflwyno'r cerrig milltir cenedlaethol mewn dau gam. Gosodwyd y cam cyntaf gerbron y Senedd ym mis Rhagfyr 2021 a chyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar gam 2 ym mis Mehefin. Bydd adroddiad 'Llesiant Cymru' yr hydref hwn yn cynnwys diweddariad cynnydd ar y cerrig milltir cenedlaethol.
Diolch yn fawr, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod yn pryderu am y diffyg pwerau gorfodi y tu ôl i'r nodau llesiant. Beth fyddai canlyniadau peidio â chyflawni'r cerrig milltir cenedlaethol?
Wel, mae'n hanfodol o ran gorfodadwyedd. Mae'n ymwneud â chyflawni ein nodau, onid yw, ein cerrig milltir cenedlaethol. Felly, rydym wedi cytuno ar werthoedd cerrig milltir cenedlaethol, sy'n cynrychioli'r weledigaeth gyffredin ar gyfer Cymru. Ac fe wnaethom ddatblygu'r rheini ar y cyd â chyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid. Ond mae'n rhaid inni gydnabod, o ran y cerrig milltir cenedlaethol, fod yn rhaid i bob corff cyhoeddus sy'n cael ei gynnwys yn y Ddeddf amlinellu pa gamau y maent yn eu cymryd i gyfrannu at eu llwyddiant. Ac yn wir, rhaid i chi ein dwyn i gyfrif, fel y gwnewch, ac yn wir, rydym yn dwyn y cyrff cyhoeddus hynny i gyfrif hefyd. Ac mae hyn yn hanfodol o safbwynt y gwaith sy'n cael ei wneud hefyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar edrych ar effeithiolrwydd y Ddeddf yn ogystal ag adolygiad ôl-ddeddfwriaethol.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sarah Murphy.
1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau gweithredu diwydiannol gan fargyfreithwyr o ran mynediad at gyfiawnder yng Nghymru? OQ58290
Diolch am y cwestiwn. Mae cau llysoedd yng Nghymru, cyfyngiadau ar y dyddiau y maent yn weithredol, cyflenwad sy'n lleihau o fargyfreithwyr sy'n barod i fynd i mewn neu barhau i weithio mewn proffesiwn sy'n cael ei danariannu'n ddifrifol, ynghyd ag ôl-groniadau llysoedd, i gyd yn cyfrannu at y ffaith bod y system cyfiawnder troseddol yn beryglus o agos at fethu gweithredu'n effeithiol o gwbl.
Diolch, Weinidog—mae'n ddrwg gennyf, diolch, Gwnsler Cyffredinol. Cytunaf â'r hyn yr ydych wedi'i ddweud: mae bargyfreithwyr yng Nghymru yn dioddef yn sgil y ffaith bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn tanariannu'r system gyfiawnder yng Nghymru. Nid yn unig y mae hyn yn effeithio ar fargyfreithwyr sy'n gweithio yn y diwydiant—mae'r diffyg buddsoddiad a chefnogaeth iddynt gan Lywodraeth y DU yn effeithio ar y system gyfiawnder gyfan ac mae hyn yn anochel yn effeithio ar y rhai sy'n chwilio am gyfiawnder yn ein cymunedau. Mae bargyfreithwyr Cymru a'n cenedl yn haeddu mwy na hyn. Gwnsler Cyffredinol, beth y mae hyn yn ei olygu mewn perthynas â denu pobl i mewn i'r proffesiwn a'r system gyfiawnder yng Nghymru o dan y Llywodraeth Dorïaidd?
Diolch am y pwyntiau a'r cwestiwn atodol. Ein barn ni yw bod y system gyfiawnder gyfan, a chymorth cyfreithiol yn arbennig, wedi'i thanariannu'n ddifrifol ers peth amser, ac mae Cymru'n dioddef yn anghymesur mewn gwirionedd. Cawsom adolygiad Bellamy wrth gwrs. Cyfarfûm â'r Arglwydd Bellamy, a thrafodasom y gwelliannau y mae'n eu hargymell mewn perthynas â chymorth cyfreithiol troseddol. Nid yn unig fod rhai gwelliannau wedi'u hargymell, mae Llywodraeth y DU wedi dynodi hefyd y byddant yn cael eu gweithredu. Wrth gwrs, mae'r Arglwydd Bellamy bellach yn Weinidog cyfiawnder, ond mae'n hynod siomedig fod Llywodraeth y DU wedi gwneud cyn lleied ac wedi gwrthod bwrw ymlaen â chymaint o'r argymhellion, ond hefyd yr argymhellion posibl y gellid eu gwneud.
Y realiti yw—ac rydym yn dechrau gweld hyn yng Nghymru ein hunain, yn enwedig yn y maes troseddol, ond mewn llawer o feysydd eraill lle nad oes cymorth cyfreithiol ar gael mwyach—ein bod yn gweld llai a llai o gyfreithwyr ifanc a bargyfreithwyr ifanc yn dod i mewn i'r proffesiwn i wneud gwaith cymorth cyfreithiol, i wneud gwaith cymorth cyfreithiol troseddol. Mae gennym broblem eisoes gyda phrinder cyngor ac mae problemau cynhenid arwyddocaol, sydd wedi'u hymwreiddio bellach, yn tanseilio'r dyfodol o ran mynediad at gyfiawnder a'r gallu i gael mynediad at gynrychiolaeth gyfreithiol briodol.
2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth yr Alban ynghylch y goblygiadau i Gymru o'r penderfyniad i geisio dyfarniad Goruchaf Lys ar gyfreithlondeb cynnal refferendwm newydd ar annibyniaeth i'r Alban? OQ58323
Diolch am y cwestiwn. Dim.
Da iawn. [Chwerthin.] Mae ein hundeb o bedair gwlad yn ymgymryd â thasg aruthrol ar hyn o bryd wrth geisio diogelu dyfodol ein plant rhag grymoedd Rwsia sy'n ymosod ar Wcráin. Rydym wedi teimlo difrifoldeb y rhyfel ym mhob cartref yma yng Nghymru a byddwn yn parhau i wneud hynny hyd nes y caiff Putin ei hel ymaith. Mae canlyniadau'r rhyfel wedi gwaethygu argyfwng costau byw a diogeledd bwyd. Dyma'r amser i bawb ohonom fod yn trafod ffyrdd y gallwn gefnogi ein diwydiannau amaethyddol a chynhyrchu bwyd yma yng Nghymru, nid drwy ddamcaniaethu ynglŷn â hollti ein hundeb yn enw agenda genedlaetholgar Gymreig nad oes ganddi fandad etholiadol. Mater i'r Alban a Llywodraeth y DU yw penderfynu ar eu trefniadau cyfansoddiadol eu hunain gyda'i gilydd, ond a all y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau, os bydd y Goruchaf Lys yn rhoi sail gyfreithiol i'r Alban ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth, na fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio darpariaethau cyfartal i gynnal refferendwm annibyniaeth i Gymru?
Wel, gallaf helpu'r Aelod drwy ddweud bod refferendwm ar annibyniaeth yn fater sy'n amlwg yn bwysig i Lywodraeth yr Alban a'i fod wedi'i godi ganddynt yn ystod etholiadau diwethaf Senedd yr Alban. Cafodd y cyfeiriad gan yr Arglwydd Adfocad ei gyflwyno i mi fel cyd-swyddog y gyfraith ar 28 Mehefin 2022. Cyhoeddodd y Goruchaf Lys orchymyn ar 29 Mehefin, yn rhoi manylion ynglŷn â pha bryd y dylai swyddogion y gyfraith ffeilio cydnabyddiad cyflwyno ac achos pe baent yn dymuno cymryd rhan. Byddaf yn awr yn ystyried y materion sydd wedi'u cynnwys yn y cyfeiriad yn ofalus, gan gynnwys unrhyw oblygiadau i Gymru. Pan fyddaf wedi cael cyfle i wneud hynny, byddaf wedyn yn penderfynu a ddylwn gymryd rhan yn y cyfeiriad neu gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â'r mater hwn, a gall yr Aelod fod yn sicr y byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd wrth i'r mater hwn fynd rhagddo.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Er nad oes athrawiaeth absoliwt o wahanu pwerau yn y DU, mae'r cysyniad o wahanu pwerau rhwng y ddeddfwrfa, h.y. y Senedd, y Weithrediaeth, h.y. Llywodraeth Cymru, a'r farnwriaeth wedi bod yn berthnasol ers tro byd yn y DU ac ar draws y DU i atal pŵer rhag cronni drwy ddarparu dulliau o gadw'r cydbwysedd—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf. Nid oeddwn yn eich clywed yn glir iawn.
Nid oes angen i chi ei glywed. Parhewch â'ch cwestiwn.
Fis Medi diwethaf, gan gyfeirio at bapur ymgynghori Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru i helpu i lunio Bil tribiwnlysoedd Cymru, a gynlluniwyd i reoleiddio un system ar gyfer tribiwnlysoedd, gofynnais i chi am eich ymateb cychwynnol i gynigion y papur ymgynghori i ddiwygio uned Tribiwnlysoedd Cymru, y rhan o Lywodraeth Cymru sy'n gweinyddu'r rhan fwyaf o dribiwnlysoedd datganoledig ar hyn o bryd, i fod yn adran anweinidogol.
Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith ei adroddiad terfynol ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, a oedd yn cynnwys
'rydym wedi ein hargyhoeddi mai model yr adran anweinidogol yw’r un y dylid ei fabwysiadu ar gyfer gweinyddu’r system tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol'.
Er ei fod hefyd yn nodi:
'Dylai’r gwasanaeth tribiwnlysoedd fod yn annibynnol yn weithredol ar Lywodraeth Cymru',
nid yw eich datganiad ysgrifenedig dilynol ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru ond yn datgan hyn:
'Mae Llywodraeth Cymru yn gryf ei chymeradwyaeth o egwyddor sylfaenol yr argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith, sef y dylid gweithredu un system sy’n annibynnol yn strwythurol ar gyfer tribiwnlysoedd yng Nghymru.'
Pa gasgliadau y daethoch iddynt erbyn hyn ar ôl ystyried canfyddiadau Comisiwn y Gyfraith mewn perthynas â'r pwynt penodol hwn?
Wel, diolch am y cwestiwn. Rydych yn codi pwynt difrifol a phwysig iawn, ac unwaith eto rwyf am ymateb yn adeiladol iawn. Ymdriniwyd â rhai o'r materion sy'n codi o ddiwygio tribiwnlysoedd yn ein papur 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' wrth gwrs. Rhoddir ystyriaeth ar hyn o bryd i'r hyn y gallai strwythur Bil tribiwnlysoedd fod, yr hyn y gallai'r ddeddfwriaeth fod, sut y gallem weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith.
Efallai mai'r sicrwydd gorau y gallaf ei roi i'r Aelod ar hyn o bryd yw hwn: mae fy marn yn gadarn iawn mai'r hyn y byddem yn ei greu i bob pwrpas yw strwythur embryonig system gyfiawnder ddatganoledig i Gymru. Byddem yn defnyddio'r rhan honno o'r system gyfiawnder sydd eisoes wedi'i datganoli ac yn ei hymestyn ymhellach i greu strwythur apeliadol. Felly, mae'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi yn gwbl sylfaenol, sef bod yn rhaid i'r rhan honno o'r system gyfiawnder fod yn annibynnol ar y Llywodraeth, nid cael ei gweld i fod yn annibynnol yn unig, ond i'r un graddau, ar wahân i'r Llywodraeth yn fy marn i. Wrth gwrs, mae yna gysylltiadau, fel sydd gennych gyda'r system gyfiawnder a chyda'r Llywodraeth ac mewn perthynas â'r cyllid, ond mae'n rhaid iddo fod yn fodel sy'n sicrhau gweithrediad annibynnol uned Tribiwnlysoedd Cymru, y rhan honno o'r system gyfiawnder, a bod y penodiadau iddi, ac yn ogystal, yn bwysig, llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a'r swyddogaethau y byddai'r person hwnnw'n eu cyflawni, unwaith eto yn rhai sy'n meddu ar egwyddorion sylfaenol llawn rheolaeth y gyfraith sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r farnwriaeth, a'r rhai sy'n gweithredu o'i mewn, fod yn annibynnol.
Diolch. Wel, gobeithio bod hynny'n golygu, fel y dywedasant, y bydd hynny'n sicrhau eu bod yn gweithredu'n annibynnol ar wleidyddion, yn enwedig.
Ond fel y dywedais yma ym mis Mawrth 2019 ar bwnc gwahanol, ni fyddai Papur Gwyn Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, 'Diogelu Dyfodol Cymru', a oedd yn galw am barhau i fod yn aelod o farchnad sengl yr UE, yn golygu na fyddai gennym unrhyw reolaeth dros ein ffiniau, ein masnach a'n cyfreithiau, ac felly mewn enw'n unig y byddai gennym Brexit.
Wrth siarad yma yr wythnos diwethaf, canmolodd y Prif Weinidog rinweddau Cymru a'r DU oddi mewn i'r farchnad sengl, er ei fod yn ymddangos fel pe bai'n camu'n ôl o hyn ddoe ar ôl datganiad Keir Starmer fod Llafur wedi diystyru ailymuno â'r farchnad sengl fel polisi'r blaid, ond honnodd y gallai ddileu rhwystrau masnach a theithio er hynny. Pa gyngor y byddech chi'n ei roi felly fel Cwnsler Cyffredinol i'r Prif Weinidog a Mr Starmer ynghylch y rhwystrau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â hyn?
Wel, y darn cyntaf o gyngor y byddwn yn ei roi yw y dylid cynnal pwysigrwydd cyfraith ryngwladol a rheolaeth y gyfraith. Yr ail ddarn o gyngor y byddwn yn ei roi yw gwrthwynebu a pheidio â chefnogi unrhyw ddeddfwriaeth sy'n tanseilio'r egwyddorion hynny, ac un ohonynt, yn amlwg, fyddai gwrthwynebu cyfeiriad y bil hawliau, sydd, mewn gwirionedd, yn trosglwyddo hawliau cyfreithiol i ddinasyddion o lysoedd y DU i Lys Hawliau Dynol Ewrop, felly mae'n symud i ffwrdd oddi wrth hawliau pobl mewn gwirionedd, ac yn ei hanfod, byddai'n sail i'r egwyddorion hynny ym mhob deddfwriaeth sydd gennym i sicrhau eu bod wedi'u hymwreiddio'n gyfansoddiadol ac i gefnogi'r camau sy'n angenrheidiol i alluogi'r gwledydd datganoledig—Seneddau datganoledig y Deyrnas Unedig—i allu sicrhau eu bod hefyd wedi'u hymwreiddio o fewn eu systemau cyfreithiol eu hunain.
Diolch—ymateb diddorol. Wrth gwrs, mae'r llys hawliau dynol y tu allan i strwythur yr UE yn llwyr ac fel y gwyddoch, chwaraeodd y DU ran annatod yn y gwaith o'i sefydlu, ond dyna ni.
Wel, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ceisio negodi cytundeb i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n bodoli er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer masnach heb lawer o wrthdaro a diogelu uniondeb marchnad sengl y DU—rhywbeth y byddai unrhyw Lywodraeth yn y DU yn wynebu rhwystrau yn ei gylch. Yn y cyfamser, onid yw'n wir yn y gyfraith, er nad yw'r gwaith wedi'i orffen a bod angen i'r DU weithredu ymhellach ac yn gyflymach i ddarparu cyfleoedd Brexit i'r DU gyfan, fod Llywodraeth y DU oherwydd Brexit wedi gallu cyflwyno'r brechlyn yn gynt nag unrhyw le yn Ewrop, wedi torri treth ar werth a biwrocratiaeth, wedi llwyddo i gael 73 o gytundebau masnach ac wedi cyhoeddi bod porthladdoedd rhydd newydd yn cael eu darparu, gan gynnwys un cychwynnol yng Nghymru? Ac ar ben hynny, onid yw'n wir hefyd fod y DU wedi cyrraedd y brig ar ddenu'r mwyaf o fuddsoddiad technoleg ariannol yn Ewrop gyfan, ac wedi cyrraedd y brig yn Ewrop a'r ail le y tu ôl i'r Unol Daleithiau yn rhyngwladol yn y mynegai cymell tawel byd-eang, ac yn arbennig, fod allforion bwyd a diod o Gymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed yn 2021, gan gynnwys cynnydd o £51 miliwn i'r UE?
Wrth gwrs, cyfarfûm yn ddiweddar â'r Gweinidog Jacob Rees-Mogg er mwyn siarad am gyfreithiau'r UE a ddargedwir, y credaf fod eich cwestiwn yn dechrau ei nodi. Ac wrth gwrs, y Gweinidog cyfleoedd Brexit, a phe bai llyfr yn cael ei ysgrifennu am hynny, byddai'n sicr yn llyfr byr iawn yn wir—. Credaf fod nifer o'r pwyntiau a godwyd gennych yn ymwneud â phortffolios eraill, ond maent yn amheus iawn. I bob pwrpas, nid yw nifer llethol o'r cytundebau masnach y llwyddwyd i'w cael ond yn ailgreu'r cytundebau a oedd eisoes ar waith mewn cysylltiad â'r Undeb Ewropeaidd beth bynnag.
Rwyf am ddweud hyn: yn gyntaf, o ran cyfreithiau'r UE a ddargedwir, mae'n amlwg y bydd angen gwneud llawer iawn o waith yn hynny o beth. Rwyf wedi cael sicrwydd y bydd datganoli'n cael ei barchu. Rwy'n monitro hynny'n agos iawn i sicrhau, mewn meysydd datganoledig, fod pob un o'r oddeutu 2,000 o ddeddfau sydd wedi'u nodi hyd yn hyn, y rhai sy'n ymwneud â materion datganoledig yn rhai yr ymdrinnir â hwy yn y lle hwn ac sy'n gyfrifoldeb i'r lle hwn ac nad ydynt yn arwain at danseilio'r setliad datganoli. Nawr, credaf fy mod wedi cael sicrwydd i ryw raddau. Fe arhoswn i weld sut y caiff hynny ei weithredu. Mae hwn hefyd yn fater a godais yn ddiweddar yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, dan gadeiryddiaeth Michael Gove, a byddaf yn monitro hyn wrth gwrs, ac yn amlwg hefyd rwy'n siŵr y bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn craffu arno. Ond wrth gwrs, bydd unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Senedd hon.
Cwestiynau nawr gan lefarydd Plaid Cymru, Rhys ab Owen.
Diolch yn fawr, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, mewn erthygl ddiweddar ar gyfer papur newydd The National, dywedodd un o academyddion blaenllaw Cymru, Richard Wyn Jones, nad oedd y ddadl am ddyfodol cyfansoddiad Cymru yn ddigon realistig. Er bod consensws cryf yng Nghymru am ragor o bwerau, meddai, mae'n amlwg nad oes awydd amdano yn Llywodraeth San Steffan a dywedodd nad oes tystiolaeth fod Keir Starmer yn cefnogi pwerau pellach i'r Senedd. Mewn gwirionedd, os y cofiaf yn iawn, dywedodd mewn cyfweliad i ITV nad oedd dan bwysau o gwbl i roi rhagor o bwerau i'r Senedd hon. Felly, pa mor sicr y gallwch fod, os neu pan ddônt i rym, y bydd Keir Starmer a'r Blaid Lafur yn San Steffan yn rhoi pwerau pellach i'r Senedd?
Wel, y peth cyntaf, mae llawer o'r newidiadau hynny'n dibynnu ar newid Llywodraeth. Mae'n debyg y gallaf ddweud bod hynny'n edrych yn fwyfwy tebygol yn ddyddiol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Llywodraeth Lafur nesaf yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach—efallai'n fuan iawn hyd yn oed—i drafod diwygio cyfansoddiadol.
Mewn perthynas ag arweinydd y Blaid Lafur, wel, wrth gwrs, mae wedi grymuso Gordon Brown i baratoi comisiwn cyfansoddiadol. Mae adroddiad i'w ddisgwyl a fydd yn amlwg o ddiddordeb sylweddol i bob un ohonom yng Nghymru, o ran diwygio cyfansoddiadol. Ond mae'n wir hefyd nad yw diwygio cyfansoddiadol yn dod o'r hyn a benderfynir yn San Steffan neu o fewn y DU, a dyna pam fod gennym ein comisiwn annibynnol ein hunain, ac mae hwnnw yn ein galluogi i asesu ein hunain sut y dylai dyfodol Cymru fod, a chyflwyno hynny wedyn i bobl Cymru. Oherwydd mae unrhyw newid cyfansoddiadol sylweddol o'r math hwnnw yn y pen draw yn rhywbeth sy'n perthyn i berchnogaeth neu sy'n eiddo i bobl Cymru, ac sy'n cael ei benderfynu yn y pen draw gan bobl Cymru drwy ein hetholiadau ein hunain.
Cytunaf â chi, Gwnsler Cyffredinol: mae'r ateb yma yng Nghymru. Ac roeddwn braidd yn bryderus pan oedd y Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, fel pe bai'n awgrymu mai Llywodraeth Lafur yn San Steffan oedd yr ateb. Nawr, mae Brexit yn gwbl anghydnaws â chytundeb Dydd Gwener y Groglith ac mae'n arwain tuag at ailuno Iwerddon. Ni fydd arweinydd y Blaid Lafur yn cyfaddef bod Brexit yn drychineb. Ni fydd Llywodraeth San Steffan a Phlaid Lafur San Steffan yn caniatáu hunanbenderfyniaeth i bobl yr Alban. Mae Llywodraeth San Steffan yn ceisio diddymu deddfwriaeth sylfaenol Gymreig, tra bo'r arweinydd Llafur yn San Steffan yn gwahardd aelodau cabinet yr wrthblaid rhag cefnogi gweithwyr. Gwnsler Cyffredinol, a ydych chi'n aelod o Lafur dros Annibyniaeth eto? [Chwerthin.]
Wel, diolch ichi am y cwestiwn difrïol iawn hwnnw, a rhoddaf ateb sydd efallai'n llai difrïol iddo. Y pwyntiau a wnewch am Brexit, nid wyf yn credu bod unrhyw anghydweld gwirioneddol ymhlith pobl resymol a diduedd nad yw Brexit wedi bod yn dda i Gymru, nad yw wedi bod yn dda i'r Deyrnas Unedig, ac nad yw wedi bod yn dda i Ewrop. Y cwestiwn cyfansoddiadol yw sut yr awn ati i ddatblygu masnach heb wrthdaro gydag Ewrop, sy'n rhywbeth yr ydym i gyd am ei weld, ac wrth gwrs, ymdriniodd y Prif Weinidog â hynny'n drwyadl iawn ddoe.
O ran y rheini sydd â hawl i fynychu llinellau piced, wel, roeddwn yn falch iawn o ymuno â'r Aelod ychydig yn ôl, yng ngorsaf Caerdydd, i gefnogi'r bobl yn y rhwydwaith rheilffyrdd a oedd yn gweithredu'n ddiwydiannol yn erbyn Network Rail, y cwmnïau rheilffyrdd, ac i bob pwrpas, yn erbyn Llywodraeth y DU, ond nid yn erbyn Llywodraeth Cymru.
3. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o oblygiadau cyfansoddiadol cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017? OQ58310
Diolch am y cwestiwn. Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ei bwriad i ddiddymu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 yn enghraifft arall eto o'i dirmyg tuag at y setliad datganoli, ei amarch tuag at y Senedd hon a etholwyd yn ddemocrataidd, a'i diystyrwch amlwg o hawliau gweithwyr yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb. Mae'r ddeddfwrfa hon i fod yn sofran mewn meysydd penodol. Hynny ydy, boed yn gywir neu'n anghywir, ein dewis ni yn ein Senedd genedlaethol ni ydy i ddeddfu a gosod rhai rheolau. Dwi'n falch bod ein Senedd wedi penderfynu pasio Deddf i amddiffyn ein hundebwyr llafur, ond wrth gwrs, fel efo unrhyw ddeddfwriaeth Gymreig arall, mae parhad y Ddeddf hon yn ddibynnol ar ewyllys da San Steffan. Ac fel rydyn ni wedi ei weld, does yna ddim llawer o ewyllys da yn bodoli yno.
Tra nad ydw i'n amau diffuantrwydd eich Prif Weinidog a'ch plaid wrth gyflwyno'r Ddeddf, ydych chi ddim yn meddwl ei fod yn safbwynt anghynaliadwy i ddweud mai'r unig ffordd o sicrhau parhad y Ddeddf hon, ac eraill, ydy i aros tan bod Llafur mewn grym unwaith eto yn San Steffan? Mae'r Ceidwadwyr wedi bod mewn grym yn San Steffan ers 70 mlynedd allan o 100 o flynyddoedd, ac felly, yn ystadegol o leiaf, does yna ddim llawer o sicrwydd yno. Oni fyddai hi'n well gwthio am annibyniaeth i Gymru er mwyn gwarantu'r hawliau yma a sicrhau rhagor o hawliau i weithlu Cymru?
Diolch am y cwestiwn, ac rwy'n sicr yn cytuno â rhan ohono. Wrth gwrs, fe aeth y ddeddfwriaeth a basiwyd gennym—Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017—drwy'r holl brosesau cywir yn y Siambr hon. Ac wrth gwrs, ar ôl i ddeddfwriaeth gael ei phasio yma, rhaid ei chymeradwyo, neu fe fydd cyfnod o amser lle y gall Llywodraeth y DU herio ei chymhwysedd. Nawr, Llywodraeth y DU, cawsom lythyr gan y Cyfreithiwr Cyffredinol bryd hynny, a ddywedai yn y bôn nad oedd Llywodraeth y DU yn bwriadu herio ei chymhwysedd. Felly, roedd Llywodraeth y DU yn amlwg yn derbyn, pan basiwyd y ddeddfwriaeth honno, ei bod o fewn ein cymhwysedd. Ni chredaf ei bod yn briodol o gwbl felly, pan fo newidiadau cyfansoddiadol pellach wedi bod pan ddaeth Deddf Llywodraeth Cymru 2017 i rym, i weld rywsut fod hynny'n fandad i edrych ar ac i wrthdroi deddfwriaeth a basiwyd yn ddemocrataidd ac sydd wedi cael cymeradwyaeth a chydsyniad Ei Mawrhydi y Frenhines.
Nawr, ar hyn o bryd, nid yw'r rheoliadau y bwriedir eu cyflwyno'n fuan iawn gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â gweithwyr asiantaeth yn gwrthdroi ein deddfwriaeth ac ni allant ei gwrthdroi. Mae goruchafiaeth ein deddfwriaeth sylfaenol y tu hwnt i hynny. Mae yna arwydd eu bod am wneud hynny i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn Lloegr yr un fath ag yng Nghymru. Wel, os yw hynny'n digwydd, byddai Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'n gadarn unrhyw ymgais i wneud hynny. Er mwyn cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol fel hyn, heb roi unrhyw hysbysiad inni mai dyna oedd y bwriad—ac rydym wedi ymdrin â'r rhan ohono sy'n ymwneud ag amarch—byddai angen ichi ddangos fod rhyw ddiben i'r ddeddfwriaeth sylfaenol honno a'r holl gostau a oedd yn gysylltiedig. Mewn gwirionedd, nid oes sail dystiolaethol o gwbl a fyddai'n cyfiawnhau gwrthdroi'r ddeddfwriaeth honno. Mewn gwirionedd, mae'r holl wybodaeth dystiolaethol sydd gennym yn nodi y byddai'n niweidio partneriaeth gymdeithasol; byddai'n tanseilio cysylltiadau da a'r polisi partneriaeth gymdeithasol sydd gennym, ac felly, ni fyddai'n cyflawni unrhyw ddiben o gwbl.
Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaed yn gynharach. Mae hwn yn fater, o'i dynnu allan o'r arena wleidyddol, a phan fydd pennau doethach yn ei ystyried, y byddent efallai'n dod i'r casgliad nad yw'n ateb unrhyw ddiben o gwbl. Ni fyddai'n cyflawni dim o gwbl; mewn gwirionedd, byddai'n niweidiol yn ôl pob tebyg, ac rwy'n meddwl tybed o ddifrif a yw'n fater y byddai Llywodraeth y DU yn awyddus i fwrw ymlaen ag ef.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Fel y dywedoch chi, mae'n ddewis, onid yw? Mae'n ddewis gan y Llywodraeth Dorïaidd, sydd bellach mewn anhrefn—ni all gytuno â hi ei hun hyd yn oed—i wrthod y pethau hynny yn Neddf undebau llafur Cymru yr ydym yn eu caniatáu ar hyn o bryd. Ac un o'r pethau hynny a ganiateir, wrth gwrs, yw'r amser cyfleuster y telir amdano, sy'n fanteisiol i'r bobl sy'n cael eu cynrychioli ac i'r cwmnïau sy'n cyflogi pobl. Mae'n aml iawn yn arwain at benderfyniadau cynnar iawn yn hytrach na dwysáu materion y mae pobl yn teimlo'u bod angen cynrychiolaeth yn eu cylch. Ac yn aml iawn, gellir datrys pethau syml iawn yn gynnar—pethau fel iechyd a diogelwch, trafodaethau cyflog. Mewn geiriau eraill, drwy siarad â'i gilydd a chynrychioli'r ddwy ochr.
Rydym wedi gweld, yn ôl yr hyn nad yw Llywodraeth y DU wedi'i wneud yn ystod y cylch diweddaraf o weithredu diwydiannol sydd wedi digwydd gyda gyrwyr trenau, eu bod wedi'i yrru i'r cyfeiriad arall. Nawr, nid ydym am weld y math hwnnw o ganlyniad yma yng Nghymru, a dyna pam ein bod wedi'i roi—
Joyce, a wnewch chi ofyn eich cwestiwn, os gwelwch yn dda?
Fy nghwestiwn i chi, Gwnsler Cyffredinol, yw hwn: a ydych yn credu felly y byddai'n annoeth i Lywodraeth y DU geisio cymryd y camau hynny yma yng Nghymru ac achosi'r holl anrhefn hwnnw?
Wel, gwrandewch, rwy'n cytuno â'r holl bwyntiau a wnaethoch. Ac rwyf am wneud y pwynt hwn hefyd: mae llawer o'r ddeddfwriaeth sydd wedi dod i rym, sy'n ymwneud ag amser cyfleuster, yn ddeddfwriaeth y cytunir ar draws y pleidiau gwleidyddol ei bod yn gadarn ac yn bwrpasol. Mae llawer o lefarwyr Ceidwadol wedi dweud eu bod wedi cydnabod pwysigrwydd hynny. Ac os meddyliwch am hynny gyda chyflogwr, pan fo gennych nifer fawr o weithwyr y mae'n rhaid ichi ymgysylltu â hwy, mae cael cynrychiolwyr sy'n gallu siarad ar ran y gweithlu, sy'n gallu ymdrin â'r materion, y materion disgyblu ac yn y blaen, sy'n gallu ymdrin â holl gymhlethdodau iechyd a diogelwch, ac sy'n gallu ymdrin â'r holl drafodaethau amrywiol sy'n digwydd, os nad oes gennych hynny, mae gennych gwmni sy'n eithaf camweithredol mewn gwirionedd. Fy mhryder i yw y byddai symud i'r ddeddfwriaeth nid yn unig yn tanseilio partneriaeth gymdeithasol, ond y byddai'n cyfrannu at y camweithredu hwnnw mewn gweithleoedd. Nid yw'n beth da i gyflogwyr. Nid yw hyn yn ymwneud yn unig â phethau sy'n dda i undebau llafur, ac yn y blaen; mae hyn yn dda ar gyfer arferion diwydiannol, modern, yn yr unfed ganrif ar hugain.
4. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o oblygiadau datganiad Llywodraeth yr Alban ei bod am gynnal refferendwm annibyniaeth ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru? OQ58311
Diolch am eich cwestiwn. Mae penderfyniadau ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru yn fater i bobl Cymru benderfynu arnynt drwy'r Senedd hon a etholwyd yn ddemocrataidd. Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru ac i ystyried opsiynau ar gyfer llywodraethu Cymru yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb. Does yna ddim amheuaeth fod yna gynnydd yn y niferoedd sydd yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, ac mae llanast San Steffan yn amlygu'n ddyddiol pam na allwn ni barhau i fod yn yr undeb llwgr yma sy'n dangos cymaint o ddirmyg tuag at ein pobl.
Pe byddech chi wedi bod yn Wrecsam ar ddydd Sadwrn, yna mi fyddech chi wedi teimlo gwefr ryfeddol efo'r ymdeimlad clir fod yna dwf amlwg yn y galw am annibyniaeth i Gymru. Yr hyn oedd yn drawiadol am orymdaith Wrecsam oedd nifer y bobl ifanc oedd yno a'r nifer fawr oedd yn dod o ardal y ffin yn galw am annibyniaeth, nid oherwydd cenedlaetholdeb gul a mewnblyg, ond oherwydd eu bod nhw am ymestyn gorwelion Cymru ac yn credu y gallwn ni adeiladu Cymru decach o gael y pwerau i wneud hynny. Ydych chi ddim yn ofni eich bod chi'n prysur osod eich hun ar yr ochr anghywir i hanes, ac y dylid paratoi am refferendwm ar annibyniaeth yma yng Nghymru, fel fydd yn yr Alban?
Diolch am y cwestiwn. Wrth gwrs, tra oeddech yn Wrecsam yn gorymdeithio, roeddwn mewn cynhadledd yng Nghaerdydd yn sôn am ddiwygio'r Senedd, a fydd yn amlwg yn rhywbeth a fydd yn cymryd cryn dipyn o fy amser yn y dyfodol gweddol agos.
Credaf fod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ar ddyfodol Cymru—. Un o'r rhesymau dros sefydlu comisiwn annibynnol yw ymgysylltu â phobl Cymru a ffurfio opsiynau a dadansoddiadau y gallwn eu hystyried a'u mabwysiadu ar y cyfeiriad y byddwn yn ei ddilyn. Rwy'n credu mai camgymeriad fyddai rhag-farnu canlyniad y comisiwn annibynnol. Credaf ei bod yn ddoeth inni aros nes bod gennym yr adroddiad interim, yn sicr, ac yna'r adroddiad pellach yn y pen draw. Maent yn gwneud gwaith pwysig tu hwnt, a chredaf y bydd yn werthfawr iawn pan fyddwn yn ystyried rhai o'r materion cyfansoddiadol hyn yn y dyfodol.
Credaf mai'r pwynt pwysicaf a wnaethoch yw hwn: mae pobl am weld diwygio, mae pobl am weld newid, mae cymunedau am gael eu grymuso, mae pobl am gael mwy o lais dros eu bywydau. Mae sybsidiaredd, sy'n rhywbeth y buom yn siarad llawer amdano yn y 1980au a'r 1990au, bron â bod wedi cael ei wthio i un ochr. Y tir cyffredin yw bod angen diwygio go iawn sy'n grymuso pobl a chymunedau fel bod pobl yn teimlo bod ganddynt lais gwirioneddol yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Credaf mai dyna yw'r tir cyffredin. Mae'n amlwg fod y ffordd y mae hynny'n digwydd mewn strwythur cyfansoddiadol yn ddadl a fydd yn parhau am beth amser, ond caiff ei dylanwadu, gobeithio, gan waith y comisiwn annibynnol a sefydlwyd gennym.
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y newidiadau arfaethedig i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ar ddeddfwriaeth Cymru a'r setliad datganoli? OQ58291
Diolch yn fawr iawn, unwaith eto, am y cwestiwn hwnnw. Ni welodd Llywodraeth Cymru y Bil cyn iddo gael ei gyflwyno. Mae'n galw am, ac mae bellach yn cael ystyriaeth ofalus. Yn sicr, rydym yn parhau i fod â phryderon sylfaenol am ei effaith anflaengar bosibl ar hawliau dynol yn y DU ac ar ein hagenda gadarnhaol yng Nghymru.
Diolch am hwnna. Rwy'n ymwybodol eich bod chi wedi rhoi ymateb i'r ymgynghoriad yn nodi gwrthwynebiad, ac rwy'n cytuno gyda phopeth rydych chi wedi dweud yn yr ymgynghoriad. Mae'n anghrediniol fod y Llywodraeth fwyaf llwgr erioed yn credu bod ganddyn nhw'r hawl foesol i wahaniaethau rhwng y bobl sy'n haeddu cael hawliau dynol a'r rhai sydd ddim. Ond, wrth gwrs, mae'r bobl sydd wir yn credu mewn hawliau dynol yn gwybod mai eu holl bwrpas yw eu bod nhw'n perthyn i bawb yr un fath. Nawr, mae'r Llywodraeth sydd wedi cynnig y newidiadau erchyll yma yn y broses o ddinistrio ei hunan, felly mae'n bosibl, wrth gwrs, y bydd hyn yn newid. Ond mae e hefyd yn bosibl y bydd olynydd y Llywodraeth yna yn parhau â'r cynlluniau, felly mae'n hanfodol cyflwyno Deddf hawliau dynol Gymreig yn gyflym. Dwi'n croesawu'r hyn dŷch wedi gosod mas am hyn. Alla i ofyn ichi a ydych chi'n credu y gallai'r gwaith o baratoi'r ddeddfwriaeth, yn ogystal â'r gwaith mwy cyffredinol o hyrwyddo hawliau dynol a chefnogi mudiadau i'w gweithredu, gael ei hwyluso drwy sefydlu comisiwn hawliau dynol Cymreig, fel sydd yn bodoli yn yr Alban ers 2008?
Yn gyntaf, diolch am y sylwadau a'r pwyntiau adeiladol iawn a wnaed, ac wrth gwrs, mae llawer o ystyriaeth yn cael ei rhoi i fater bil hawliau ac mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi gwneud sylwadau ar hynny eisoes wrth gwrs. Gwneuthum y pwynt hefyd mewn cwestiynau cynharach fod y Bil, fel y mae wedi'i ddrafftio, yn ymwneud â throsglwyddo hawliau dinasyddion ar faterion hawliau dynol yn ôl i Strasbourg yn hytrach na gallu eu codi yn llysoedd y DU. Felly, mae'n ymwneud â chyfyngu ar hynny, ac mae hynny'n beth rhyfedd iawn i fod yn meddwl amdano.
A gaf fi ddweud ei fod hefyd yn codi materion pwysig iawn am gyffredinolrwydd cyfraith ryngwladol? Un o'r rhesymau pam y mae gennych lysoedd rhyngwladol yw oherwydd ei bod yn amlwg nad yw'n briodol, gydag egwyddorion sylfaenol, i'r llys unigol allu dewis a yw'n hoffi'r hawliau dynol hynny ai peidio neu sut y mae am eu dehongli. Mae hynny wedi bod yn egwyddor sylfaenol erioed, ac wrth gwrs, mae'n egwyddor y mae Llywodraeth y DU yn ei chydnabod o ran y Llys Troseddau Rhyngwladol a'r ymchwilio i droseddau rhyfel sy'n digwydd yn Wcráin. Ac mae'n eironi mawr, onid yw, fod Duma Rwsia wedi pasio deddfwriaeth i ddileu awdurdodaeth Llys Hawliau Dynol Ewrop o Rwsia ar yr un pryd ag y mae Llywodraeth y DU yn lleihau rôl Llys Hawliau Dynol Ewrop ar gyfer y Deyrnas Unedig, ac mae pryder gwirioneddol ynghylch y gorgyffwrdd hwnnw yn yr ymagwedd tuag at bwysigrwydd cyfraith ryngwladol.
Cyhoeddwyd dadansoddiadau ac erthyglau da iawn ar fater hawliau dynol a lle mae'r DU yn sefyll o fewn hynny, ac rwyf am ddweud hyn—roedd hyn gan yr Athro Mark Elliott, academydd uchel iawn ym Mhrifysgol Caergrawnt—
'nid yw'r Llywodraeth yn hoffi craffu ac mae'n ystyried mecanweithiau atebolrwydd fel bygythiadau y dylid eu niwtraleiddio neu o leiaf eu gyrru i'r cyrion.'
A chredaf fod hynny'n crynhoi'n union beth yw safbwynt Llywodraeth y DU. Dywedodd mai awdurdodaeth ydyw a'i fod yn gyfyngiad awdurdodaidd ar graffu. Ac os darllenwch drwy'r Bil, dyna'n union y mae'n ei wneud ac yn ei gyflawni. Wrth gwrs, mae iddo lawer o oblygiadau eraill hefyd, ond mae'n sicr y bydd dadlau pellach ar hyn. Rydym yn ei wrthwynebu'n gryf, ac rydym hefyd yn gefnogol iawn i waith i edrych ar sut y gallem ymgorffori a chynnal safonau hawliau dynol o fewn ein strwythur cyfansoddiadol ein hunain ac o fewn ein deddfwriaeth ein hunain.
Prynhawn da, Gwnsler Cyffredinol.
Diolch i Delyth am godi'r mater pwysig yma.
Credaf fod hyn yn agor dadl ehangach y mae ei hangen yma yng Nghymru ynglŷn â'n hawliau dynol cyfunol. Fel yr ydych wedi'i ddweud, roedd llawer o gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig wedi'u hymgorffori yn neddfwriaeth yr UE, ac o ystyried hanes y Llywodraeth bresennol yn ceisio datgymalu llawer o'r hyn sydd ar ôl o gyfraith yr UE, fel y dywedoch chi, ac fel y mae Delyth wedi nodi hefyd, byddai'n synhwyrol i ni yma yng Nghymru fabwysiadu dull mwy rhagweithiol o ymgorffori ein hawliau yn y gyfraith. Felly, tybed a gaf fi ofyn cwestiwn mwy penodol ynghylch ffurfio bil hawliau i Gymru, fel yr ydych wedi crybwyll. A wnewch chi amlinellu beth fyddai'r camau tuag at fil hawliau Cymreig, ac yn fwy arbennig, pa ymgysylltiad a pha bwerau y byddai eu hangen arnom gan y Llywodraeth Geidwadol er mwyn hyrwyddo hyn? Diolch yn fawr iawn.
Diolch ichi am hynny, a diolch am eich cefnogaeth. Fe wnaf ddau sylw sy'n dilyn rhai o'r pethau a ddywedwch. Wrth gwrs, o fewn y Bil Hawliau a gynigir, mae'n hepgor adran 3 o'r Ddeddf Hawliau Dynol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i lysoedd ddehongli deddfwriaeth ddomestig i gyd-fynd â hawliau'r confensiwn, ac nid oes adran ychwaith i gymryd lle adran 2 o'r Ddeddf Hawliau Dynol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i lysoedd ystyried gwyddor cyfraith Llys Hawliau Dynol Ewrop. Felly, nid oes dim byd tebyg i hynny yn y Bil, ac mae hynny'n arwydd, rwy'n credu, o'r graddau y mae'n torri i ffwrdd o holl broses hawliau dynol, ac yn wir o Gyngor Ewrop. Wrth gwrs, mae'r comisiynydd hawliau dynol yng Nghyngor Ewrop, yr oedd y DU yn rhan o'r gwaith o'i sefydlu ym 1959, wedi dweud ei fod yn gam yn ôl. Wrth gwrs, mae nifer o sylwadau wedi'u gwneud yn ddiweddar am y camu'n ôl ar hawliau dynol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a chredaf y bydd gan unrhyw un sy'n dilyn y dadleuon sy'n digwydd lawer o gytundeb â hynny.
Mewn perthynas â'r camau ymarferol ynghylch sut y gallai ddigwydd, y man cychwyn yw hyn: ein bod wedi cael y papur pwysig iawn a gomisiynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar ran Llywodraeth Cymru gan Simon Hoffman o Brifysgol Abertawe, sydd wedi rhoi dadansoddiad manwl iawn o'r materion hawliau dynol hynny. Ers sefydlu corff hawliau dynol gyda chynrychiolwyr sectoraidd a'r holl agweddau hynny ar gymdeithas ddinesig ac yn y blaen sy'n ymwneud â'r maes hawliau dynol, credaf y byddaf mewn lle priodol i fod yn ystyried ac yn trafod sut y gellid ei gyflawni. Ar fy rôl i yn Llywodraeth Cymru a'r ochr gyfreithiol, rydym eisiau archwilio cymhlethdodau'r ffordd y gallem ei wneud mewn ffordd sydd o fewn y cymhwysedd, sy'n gwneud mwy na dim ond ailadrodd yr agweddau hawliau dynol a'r confensiynau amrywiol, ac sy'n rhoi rhywfaint o sylwedd a ffocws clir i ni ynglŷn â'r hyn yr ydym am ei gyflawni o fewn deddfwriaeth Cymru, oherwydd mae gennym eisoes rwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru i wneud hynny. Ond gallaf eich sicrhau ein bod wedi ymrwymo i edrych ar hynny. Nid wyf yn dweud o gwbl ei fod yn hawdd, ac nad oes cymhlethdodau sylweddol ynghlwm wrth y gwaith. Ond o gofio'r ddadl sy'n digwydd, mae'n waith pwysig iawn sydd wedi dechrau ac fe fydd yn parhau.
6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith gronnol y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd, a'r Bil Hawliau ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru? OQ58293
Yn rheolaidd, mae Llywodraeth y DU yn methu ymgynghori'n ddigonol â ni cyn cyflwyno deddfwriaeth newydd, a'r Bil Hawliau yw'r enghraifft ddiweddaraf. Nid ydym eto wedi cynnal asesiad penodol o effeithiau cronnol yr enghreifftiau diweddaraf hyn o sut y mae Llywodraeth y DU yn cyfyngu ar fynediad at gyfiawnder ac yn tanseilio rheolaeth y gyfraith.
Credaf fod yr effaith gronnol yn bwysig iawn, Gwnsler Cyffredinol. Rhoddwyd llawer o sylw i'r Bil Hawliau a'r effaith yma yn y Senedd heddiw, a hynny'n gwbl briodol, ond eto gallai'r holl ddeddfwriaeth DU, sydd wedi ei frysio a heb ei graffu'n effeithiol ar hyn o bryd, effeithio ymhellach ar fynediad dinasyddion unigol Cymru at gyfiawnder drwy leihau neu wadu'r cyfiawnder hwnnw i bobl fregus neu dlawd, i'r rhai sy'n anghytuno â safbwyntiau'r sefydliad ac sy'n ceisio'r hawl i brotestio ac i godi llais, i'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth a rhyfel ac yn cyrraedd Cymru, ac eraill y mae eu lleisiau eisoes yn wan. Felly, rwyf am ofyn i chi, Gwnsler Cyffredinol, gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wneud asesiad clir o effaith gronnol yr holl ddeddfwriaeth hon yn y DU, deddfwriaeth lem y DU, a chyflwyno'r sylwadau cryfaf i Lywodraeth y DU, yn eich cyfarfodydd ac yn eich datganiadau cyhoeddus hefyd.
Diolch ichi am y pwyntiau atodol hynny, ac wrth gwrs, rydym yn bachu ar bob cyfle i godi'r materion hyn, ac rydym wedi'u gwneud yn y cyfarfodydd rhyngweinidogol hefyd. Mae'r pwynt a wnewch am y gwahanol ddeddfwriaeth sydd wedi'i phasio wedi bod yn rhywbeth a drafodwyd gennym droeon wrth gwrs. Fe gofiwch Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd wrth gwrs. Roedd nifer o elfennau yn honno yr oeddem yn eu gwrthwynebu, y gwrthodasom gydsyniad deddfwriaethol iddynt. Cafodd rhai o'r rheini eu gwrthdroi. Ond wrth gwrs, fe wnaeth Tŷ'r Arglwyddi ddileu elfennau ohoni hefyd, ac mae'n siomedig iawn, o fewn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, y bydd Bil protest sy'n ailgyflwyno'r holl feysydd a oedd o bryder gwirioneddol i ni, sy'n gyfyngiadau ar hawliau sifil a rhyddid i lefaru.
Roedd yna erthygl bwysig iawn, sydd newydd ymddangos ym mlog Uned y Cyfansoddiad, ac fe gododd bedwar pwynt sydd, yn fy marn i, yn arwyddocaol iawn wrth ddeall beth sy'n digwydd. Maent yn sôn am erydu democratiaeth yn gyfansoddiadol, ac maent yn ei alw'n 'wrthgilio democrataidd'. Dywedodd ei fod yn dechrau gyda phedwar peth, ac os caf grybwyll y rhain oherwydd efallai y byddai Aelodau am farnu a ydynt yn credu eu bod yn berthnasol i'r sefyllfa ar hyn o bryd. Dywedasant mai'r cyntaf yw methiant normau ymddygiad gwleidyddol a safonau. Nid wyf yn credu bod angen inni edrych yn bell iawn i weld yr eitem honno. Yn ail, ceir dadrymuso'r ddeddfwrfa, y llysoedd a rheoleiddwyr annibynnol. Wel, gwelwn hynny yn y bil hawliau, yr ymgais i gyflawni hynny, ac yn wir mewn deddfwriaeth arall. Yn drydydd, lleihau hawliau sifil a rhyddid y wasg, ac rydym eisoes wedi gweld y cyfyngiadau ar hawliau sifil sydd eisoes wedi'u cyflwyno mewn eitemau o ddeddfwriaeth. Ac yn bedwerydd, niwed i uniondeb y system etholiadol, ac rydym wedi gweld hynny eisoes yn y Bil etholiadau. Credaf fod pob un o'r pedwar pwynt yn ddilys ac yn rhywbeth a ddylai beri cryn bryder inni wrth ystyried cyfeiriad Llywodraeth y DU ar hyn o bryd.
7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau cyfreithiol ymdrechion diweddar Llywodraeth y DU i ddiddymu deddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd? OQ58315
Diolch am eich cwestiwn. Mae bwriad honedig Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth mewn un ddeddfwrfa i ddiystyru'r ddeddfwriaeth a basiwyd gan un arall nid yn unig yn anghyfansoddiadol, mae hefyd yn dangos amarch i'r Senedd a etholwyd yn ddemocrataidd. Mae'n enghraifft arall o ddirmyg tuag at y setliad datganoli a hawliau pobl Cymru.
Gwnsler Cyffredinol, rydym wedi gweld y bygythiadau tuag at weithwyr y sector cyhoeddus gan y Llywodraeth Geidwadol amharchus, warthus, lwgr hon sydd bellach yn chwalu—Llywodraeth nad yw'n poeni am bobl sy'n gweithio, yn enwedig y bobl sy'n gweithio yng Nghymru. A phwy a ŵyr lle byddwn yn y dyfodol agos. Ond rwy'n siŵr y cytunwch â mi, Gwnsler Cyffredinol, ei bod yn bryd gweld newid yn San Steffan, ei bod yn bryd cael Llywodraeth Lafur yn y DU. Fodd bynnag, gyda'r holl anhrefn sy'n digwydd, sy'n parhau i ddigwydd, yn neuaddau San Steffan, ni ddylem golli golwg ar yr hyn y mae'r Torïaid yn ceisio'i gyflawni yma drwy danseilio datganoli. Gwnsler Cyffredinol, os ydynt yn bwrw ymlaen â'r camau y maent wedi'u bygwth yn ôl y sôn, a gaf fi ofyn am sicrwydd gennych ein bod yn barod i herio, fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd y camau cychwynnol sydd eu hangen i herio safbwynt Gweinidogion Torïaidd yn y llysoedd, yr ymosodiad ar y Senedd a'r ymosodiad ar bobl sy'n gweithio yng Nghymru? Diolch.
Diolch am y pwyntiau cadarn hynny. A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod yn credu bod rhai o fewn y Blaid Geidwadol, a hyd yn oed o fewn Plaid Geidwadol Cymru o bosibl, yn cefnogi undebau llafur a'r rôl y maent yn ei chwarae, ac sy'n cefnogi ymgysylltu pragmatig ac ymarferol? Ceir rhai sy'n dal i gredu yn y cysyniad o geidwadaeth un genedl, ac mae hynny wedi bod yn sylfaen i lawer iawn o ddeddfwriaeth drawsbleidiol yn y meysydd hyn dros y blynyddoedd. Fe wyddom hyn o brofiad yn y gorffennol, oherwydd mae'r gwahanol refferenda a gawsom wedi bod yn ddibynnol ar gydweithrediad a chytundeb trawsbleidiol, rhwng Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur Cymru, ac mae hynny bob amser wedi bod er budd Cymru a chynnydd cyfansoddiadol da. Felly, gan fod gennym Lywodraeth sy'n chwalu—ac mae'n debyg bod hynny o reidrwydd yn golygu bod cwestiwn ynghylch etholiad cyffredinol yn debygol yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach—yr hyn y byddwn yn ei obeithio, yn rhai o'r meysydd hyn, yw bod yna ymagwedd lawer mwy blaengar ac ymarferol a chydweithredol drwy'r ddealltwriaeth gyffredin y credaf fod llawer ohonom yn ei rhannu, sef bod angen diwygio, mae angen newid. Rwy'n siŵr y gallwn, ar y cyd, gyflawni llawer iawn o hynny. Mae'r gwrthdaro presennol, sydd wedi dod i'r amlwg ers 2018, ac sy'n ymddangos mewn pob math o ffyrdd diangen mewn deddfwriaeth, nid yn unig yn costio llawer o arian, ac yn cymryd llawer o amser arbenigwyr, ond a bod yn onest, mae'n arwain at ddeddfwriaeth wael iawn.
8. Pa ymgysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael â Llywodraeth y DU ar ddatblygu'r Bil Hawliau? OQ58294
Rydym wedi ceisio ymgysylltu'n ystyrlon ers i Lywodraeth y DU lansio eu hymgynghoriad ym mis Rhagfyr. Cyfarfu'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau â'r Dirprwy Brif Weinidog ym mis Chwefror. Er gwaethaf ein hymateb llawn i'r ymgynghoriad, ychydig iawn o arwydd a gafwyd bod y pryderon hynny wedi cael sylw.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Mae'r heriau gyda'r bil hawliau hwn sy'n cael ei gyflwyno wedi cael eu trafod yn helaeth y prynhawn yma, yn enwedig y risgiau sylweddol y mae arsylwyr allanol wedi'u nodi i'r setliadau datganoli ledled y DU, a hefyd y goblygiadau sylweddol i hawliau dynol a chydraddoldeb, yn enwedig erthygl 10, rhyddid mynegiant, ac erthygl 11, rhyddid i ymgynnull, ac yn y blaen—yr hyn a ddisgrifiwyd fel sylfeini hanfodol cymdeithas ddemocrataidd. Fodd bynnag, un o broblemau cynnig deddfwriaethol brysiog fel hwn yw'r diffyg ymgynghori, nid yn unig gyda Llywodraeth Cymru, ond gyda sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n siarad ar ran grwpiau sydd â diddordeb megis pobl anabl, y rhai sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig, a mwy. A wnewch chi sicrhau yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth y DU eu bod yn ymgynghori, gan ddefnyddio'r fframweithiau sydd gan Lywodraeth Cymru gyda phartneriaid ledled Cymru, gyda'r sefydliadau hynny, gyda'r unigolion hynny?
Yr ateb yw y byddwn yn sicr yn gwneud hynny. Yn wir, roeddwn i a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi mynychu nifer o gyfarfodydd gyda sefydliadau dinesig a oedd yn bryderus iawn am oblygiadau'r bil hawliau a'r cyfeiriad yr oedd yn ei ddilyn. Buom mewn cyfarfod yn fwy diweddar ar hynny, ac mae cyfarfodydd pellach i fod i gael eu cynnal.
Ar yr ymgynghoriad ei hun, wel, wrth gwrs, fe wnaethom gyflwyno ymateb manwl iawn i'r ymgynghoriad ac fe wnaethom rannu hynny gyda sefydliadau dinesig a'r trydydd sector. Credaf fod hynny wedi'i groesawu a'i werthfawrogi'n fawr. Cafwyd tua 13,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad. Yr hyn sy'n amlwg iawn o hynny yw bod llawer iawn o'r rheini'n gwrthwynebu'r hyn sy'n cael ei gynnig, ac nid yw'n annisgwyl oherwydd bod y Bil sy'n cael ei gyflwyno yn mynd yn groes i asesiad annibynnol Llywodraeth y DU ei hun o'r angen i ddiwygio, sef adroddiad Gross.
Er nad oes dim o gwbl o'i le gyda'r syniad fod deddfwriaeth dan ystyriaeth o bryd i'w gilydd, mae hyn yn cael ei yrru gan ystyriaethau ideolegol a gwleidyddol, ac mae'n cael ei yrru i gyfeiriad sy'n tanseilio democratiaeth ac yn tanseilio rheolaeth y gyfraith. Nid wyf yn credu bod unrhyw gefnogaeth sylweddol a chredadwy iddo. Yn sicr, nid oes iddo sylfaen dystiolaethol, ac mae'r ymgynghoriad yn dangos hynny. Felly, byddwn yn parhau i ddatblygu ein cysylltiadau a'n gwaith, a byddaf yn parhau i gysylltu â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch yr holl faterion hyn, oherwydd bydd y pethau hyn yn effeithio'n sylweddol ar draws cymdeithas Cymru a ledled y DU.
Yn y Llywodraeth newydd yr ydym yn debygol o'i chael, rwy'n siŵr y ceir dull llawer mwy blaengar o ymdrin â hawliau dynol, a gobeithio y byddant yn cefnu'n llwyr ar y Bil hwn mewn gwirionedd.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Rhys ab Owen.
9. Pa gymorth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i sector cyfreithiol Cymru yn dilyn newidiadau arfaethedig i arferion gwaith gan Lywodraeth y DU? OQ58299
Diolch am y cwestiwn. Mae'n gwestiwn ymarferol iawn, ac mae'n un pwysig. Rydym wedi tynnu sylw yn ein cyhoeddiad 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' ym mis Mai at rai o'r mesurau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi'r sector cyfreithiol. Er enghraifft, drwy Busnes Cymru, rydym yn darparu cymorth wedi'i dargedu i gwmnïau cyfreithiol i'w helpu i ddod yn fwy gwydn, i arloesi a thyfu. Mewn partneriaeth â swyddfa Cymru Cymdeithas y Cyfreithwyr a phwyllgor cenedlaethol Cymru—rwy'n falch iawn o weld bod Cymdeithas y Cyfreithwyr bellach wedi rhoi cydnabyddiaeth genedlaethol i'w chorff yng Nghymru—rydym wedi datblygu cyfres weminar ar gymorth busnes a digidol, seiberddiogelwch a thechnoleg gyfreithiol.
Yn ddiweddar rydym wedi buddsoddi £100,000 i helpu practisau cyfreithiol yng Nghymru i ennill achrediad seiberddiogelwch drwy gynllun y mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn ei drefnu. Rydym hefyd yn edrych ar ymestyn llwybrau i mewn i’r proffesiwn cyfreithiol i helpu mwy o bobl ifanc i ddod i mewn i faes y gyfraith o amrywiaeth o gefndiroedd er mwyn sicrhau amrywiaeth yng ngweithlu’r sector cyfreithiol a chadw mwy o’n doniau cynhenid Cymreig, a hefyd, oherwydd pwysigrwydd datblygiad y proffesiwn cyfreithiol cyfrwng Cymraeg.
Ym mis Ebrill, cyhoeddasom fframwaith prentisiaeth ar gyfer dau gymhwyster newydd Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol ar lefelau paragyfreithiol 3 a 5, ac rydym yn edrych ar waith pellach ar hynny. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn technoleg gyfreithiol a seiberddiogelwch—tua £3.9 miliwn o gyllid Ewropeaidd tuag at Labordy Arloesedd Cyfreithiol Cymru yn ysgol y gyfraith Abertawe, a fydd yn gwneud cyfanswm o ychydig llai na £6 miliwn, rwy'n credu, sy’n cael ei fuddsoddi yn y prosiect hynod gyffrous a phwysig hwnnw.
Felly, dyma’r camau yr ydym yn eu cymryd. Rydym yn amlwg yn bwriadu gwneud mwy a mwy i gydnabod pwysigrwydd yr economi gyfreithiol yng Nghymru, ac unwaith eto, i wneud y pwynt mai un o’r pethau pwysicaf y gallai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ei wneud fyddai rhoi canolfan cyfiawnder sifil weddus i ni yng Nghaerdydd.
Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn dod yn fwyfwy gelyniaethus tuag at y proffesiwn cyfreithiol, yn enwedig y rheini sy'n eu dwyn i gyfrif drwy atal symud pobl yn anghyfreithlon o'r Deyrnas Unedig a'u dwyn i gyfrif am dramgwyddo hawliau dynol; hyn i gyd, hefyd, tra bo bargyfreithwyr troseddol ar streic. Yr incwm blynyddol canolrifol presennol i fargyfreithiwr troseddol yw £12,200, a hynny oherwydd blynyddoedd o doriadau i gymorth cyfreithiol gan y Llywodraeth Dorïaidd. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Gwnsler Cyffredinol, fod cymorth cyfreithiol yn agwedd ar les; ers blynyddoedd, mae wedi bod yn codi'r gwastad i bobl fel y gallant gael cynrychiolaeth gyfreithiol dda. Fel swyddog cyfreithiol Llywodraeth Cymru, pan gaiff cyfiawnder ei ddatganoli i Gymru, a wnewch chi roi sicrwydd i ni y bydd cyfreithwyr yn cael eu parchu'n briodol ac yn cael eu talu'n briodol pan fydd hynny'n digwydd?
Rwyf wedi gwneud y pwynt droeon fod hygyrchedd y gyfraith yn bwysig tu hwnt, oherwydd yn y bôn mae'n ymwneud â hawliau unigolion a chymunedau; mae'n ymwneud â grymuso'r rheini yn ogystal. Wrth gwrs, rwyf bob amser wedi canmol yr elfennau hynny o'r proffesiwn cyfreithiol—y bar, cyfreithwyr, a'r paragyfreithwyr sy'n gweithio gyda Cyngor ar Bopeth—sy'n gweithio yn y maes ac sy'n gwneud eu gorau i roi cymorth i bobl yn y cymunedau.
Nid dyma'r cyfreithwyr bras y byddwch yn darllen amdanynt yn y papurau; nid dyma'r cyflogau y bydd rhai cyfreithwyr yng nghwmnïau corfforaethol Dinas Llundain yn dechrau arnynt, sef £120,000 y flwyddyn. Mae'r rhain yn bobl sy'n gwneud cyfraniad hollol ddilys i'n cymunedau; dyma'r sector yr ydym am ei ehangu a'i gynyddu ledled Cymru. Os nad yw cyfiawnder yn hygyrch i bobl, nid oes gennych gyfiawnder go iawn ac nid oes gennych ddemocratiaeth go iawn, felly rwy'n cytuno â'r holl bwyntiau a wnaethoch.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Eitem 3 sydd nesaf, cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd yr holl gwestiynau y prynhawn yma yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Huw Irranca-Davies.
1. Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i gynyddu cyfran yr ystafelloedd pwyllgora a chyfarfod a all ddarparu ar gyfer cyfarfodydd hybrid ar draws ystâd y Senedd? OQ58295
Mae gan bob ystafell bwyllgora ar ystâd y Senedd gyfleusterau i gefnogi cyfarfodydd hybrid. Yn yr un modd, mae gan ystafelloedd cyfarfod eraill offer ar gyfer cyfarfodydd hybrid llai ffurfiol neu ar raddfa lai. Mae gweithio hybrid wedi dod yn beth normal, ac mae'r Comisiwn yn bwriadu datblygu’r ddarpariaeth dechnegol a'i gwella ymhellach. Byddwn yn gwneud gwaith pellach dros yr haf a byddwn yn ychwanegu at y 12 ystafell sy’n gallu cynnal cyfarfodydd hybrid ar hyn o bryd.
Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Mae'n dda gweld y gwaith sydd wedi bod yn digwydd eisoes, ac sy'n parhau i ddigwydd, ar gynyddu cyfran yr ystafelloedd y gellir eu defnyddio ar ffurf hybrid, oherwydd, fel y gwyddom i gyd, mae'n ymddangos y bydd yn rhaid inni ddefnyddio hyn fel ffordd fodern o weithio yn awr, ac yn sicr wrth inni wynebu'r hydref a'r gaeaf. A yw'n realistig disgwyl y gallai'r rhan fwyaf, os nad y cyfan, o'r ystafelloedd pwyllgor a chyfarfod yn y dyfodol tymor byr i ganolig fod yn hybrid? Hefyd, a fyddai staff ar gael er mwyn gwasanaethu'r cyfarfodydd hybrid hynny hefyd?
Wel, fel dwi wedi dweud, mae'n ffordd normal nawr o weithio ein bod ni'n gallu cynnig darpariaeth i gyfrannu o bell yn ogystal â chyfrannu ar yr ystad, ac felly mae yna raglen o fuddsoddi i mewn i fwy o ystafelloedd er mwyn sicrhau bod y gallu i gwrdd yn hybrid yn yr ystafelloedd hynny, gan gynnwys, wrth gwrs, mewn rhai ystafelloedd bod gyda ni'r dechnoleg ar ffurf mobile, sy'n golygu ei bod yn gallu cael ei symud i mewn o un stafell i ystafell arall, ac felly mae hynny'n rhoi hyd yn oed yn fwy o hyblygrwydd i ni. Ac wrth gwrs, fel mae'r Aelod wedi dweud ac fel rŷn ni wedi dysgu dros y ddwy flynedd diwethaf yma, mae'r dechnoleg yn un peth, ond mae cael y staff ardderchog hynny sydd eu hangen arnon ni i wneud yn siŵr bod y dechnoleg yn gweithio ac yn gweithio'n hwylus i Aelodau yn hollbwysig. A dwi'n meddwl ein bod ni wedi profi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yma fod gennym ni staff rŷn ni'n cyflogi'n uniongyrchol ar yr ochr dechnoleg gwybodaeth sydd wedi ymateb i'r her o weithio'n hybrid ac yn rhithiol ac wedi gwneud hynny gyda graen ac yn barod i fynd i'r camau nesaf sydd angen eto i sicrhau ein bod ni'n Senedd sy'n medru addasu ac arloesi yn barhaol yn y maes yma.
2. Pa drafodaethau y mae'r Comisiwn wedi'u cael gyda'r Bwrdd Taliadau ynghylch newidiadau i gynllun pensiwn staff cymorth yr Aelodau? OQ58326
Mae penderfyniadau ynghylch lefel y buddion sy’n daladwy i staff cymorth, gan gynnwys eu buddion pensiwn, yn fater i fwrdd taliadau annibynnol y Senedd. Nid yw’r Comisiwn wedi cael unrhyw drafodaethau â'r bwrdd taliadau ynghylch newidiadau i gynllun pensiwn staff cymorth. Mae Aelodau a'u staff wrth gwrs yn gallu codi materion yn uniongyrchol gyda'r bwrdd taliadau drwy amryw sianeli, a dwi ar ddeall bod sesiwn o'r fath yn cael ei gynnig ar gyfer Aelodau gan y bwrdd taliadau heddiw.
Diolch am yr ymateb yna, Llywydd.
Yn ddiweddar, tynnwyd fy sylw at wahaniaeth yng nghyfraniadau pensiwn cyflogwyr rhwng staff cymorth yr Aelodau a staff Comisiwn y Senedd. Ar hyn o bryd, gall staff cymorth yr Aelodau ddisgwyl cyfraniad pensiwn cyflogwr o 10 y cant, tra bod y swm cyfatebol ar gyfer staff y Comisiwn yn 26.6 y cant. Roeddwn yn meddwl tybed a wnaiff y Comisiwn edrych eto ar hyn, neu annog y bwrdd taliadau yn wir i edrych eto ar hyn, ac ailystyried. Nid wyf yn credu ei bod yn deg pan fydd gweithwyr yn yr un adeilad â'i gilydd yn cael bron i hanner y cyfraniadau pensiwn cyflogwr y mae eu cydweithwyr yn y Comisiwn yn ei gael.
Mae staff y Comisiwn yn aelodau o gynllun pensiwn y gwasanaeth sifil, ac mae'r cynllun hynny yn un statudol, ac felly dyw staff cymorth Aelodau ddim yn gymwys ar gyfer y cynllun penodol hynny, sef cynllun y gwasanaeth sifil. O ran yr hyn yr ydych chi fel Aelodau—. Roeddwn i'n clywed Aelodau eraill yn cymeradwyo'r hyn yr oeddech chi'n dweud, Luke Fletcher. Os ydych chi eisiau dylanwadau ar bensiwn ar gyfer staff cymorth a'r staff cymorth eisiau edrych ar hynny hefyd, yna, fel dwi wedi dweud, mae'n bwysig ichi wneud y sylwadau a thrafod hynny gyda'r bwrdd taliadau. Y bwrdd taliadau annibynnol sydd yn cymryd y penderfyniadau ar y materion yma, a dyw e ddim, fel mae'n digwydd, yn fater i'r Comisiwn. Felly, dwi yn eich annog chi, os ydych chi eisiau bod yn lladmeryddion ar hyn ar ran eich staff chi, i wneud y materion yna yn wybyddus i'r bwrdd taliadau.
Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol, a bydd y cwestiwn cyntaf yn cael ei ateb gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Galwaf ar Jane Dodds.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n derbyn gofal sydd wedi'u lleoli mewn llety heb ei reoleiddio a llety dros dro? TQ651
Mae ein deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio llety sy'n diwallu anghenion pobl ifanc â phrofiad o ofal yn unol â'u cynllun llwybr. Nid yw'n darparu ar gyfer lleoliadau heb eu rheoleiddio, ond gall fod adegau pan ddefnyddir y rhain fel ateb brys, a rhaid i ddarparwyr gael eu cymeradwyo i'r safonau gofynnol.
Diolch, Weinidog. Neithiwr clywsom am gyfweliadau brawychus, annymunol a thrist gyda phlant a phobl ifanc mewn gofal a oedd wedi dioddef yn sgil camfanteisio, cam-drin, trais a bygythiadau yn y darpariaethau gwely a brecwast a hosteli lle cawsant eu lleoli. Mae hyn chwe blynedd ar ôl i Lywodraeth Cymru addo dileu'r defnydd o'r holl lety heb ei reoleiddio ar gyfer plant a phobl ifanc yn ein gofal. Dim ond drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth i bob cyngor y gwyddom bellach fod dros 300 o blant, gyda rhai ohonynt mor ifanc ag 11 oed, wedi'u rhoi mewn darpariaeth gwely a brecwast, hosteli neu fathau eraill o lety sy'n anniogel yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Mewn ymateb i fy ngalwadau am adolygiad annibynnol, gwahoddodd y Prif Weinidog yr Aelodau i amlinellu bylchau rhwng yr adolygiadau a gynhaliwyd, ac rwyf am amlinellu'r bylchau hynny, oherwydd gwyddom fod adolygiadau wedi'u cynnal yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond nid yng Nghymru. Atebodd fy swyddfa yr alwad honno a nododd fwy nag 20 o feysydd pwnc yn y gwasanaethau i blant sydd wedi'u hadolygu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond nid yng Nghymru. Ac mewn gwirionedd, o edrych ar ddau o'r adroddiadau hynny'n unig, gyda'r cylchoedd gorchwyl ehangaf mewn gwirionedd, gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac Arolygiaeth Gofal Cymru, clywsom mai dim ond 30 o bobl ifanc â phrofiad o ofal a dim ond chwe awdurdod lleol y cysylltwyd â hwy ac a gafodd eu cyfweld. Cymharwch hynny â Lloegr, lle gwerthuswyd 1,100 o ymatebion, a'r Alban, lle clywyd dros 5,500 o brofiadau.
A'r wythnos diwethaf rwy'n siŵr ein bod oll wedi digalonni pan glywsom am y dedfrydu yn dilyn llofruddiaeth greulon Logan Mwangi, a'r manylion a ddaeth allan o hynny hefyd. Rwyf am ei gwneud yn glir nad wyf yn beio neb mewn perthynas â'r digwyddiad hwnnw, a gwn na fyddai neb yma'n gwneud hynny. Nid yw hyn yn ymwneud â'r awdurdod lleol a oedd yn gyfrifol am ofal a diogelwch Logan, ond oni fyddech yn cytuno bod angen i ni yn y Senedd wybod bod y plant hynny'n cael eu diogelu. Mae angen inni glywed lleisiau'r bobl sy'n gweithio ym maes diogelu plant a gofal plant, a chlywed yr hyn sydd ei angen arnynt. Rydym yn gyfrifol am y plant a'r bobl ifanc hyn, ac yn fy marn i mae'n hanfodol inni gael adolygiad i ddweud wrthym beth yw'r problemau, pa gymorth sydd ei angen a sut y gallwn sicrhau nid yn unig fod gan ein gweithwyr cymdeithasol, ond y rhai sy'n gweithio ym mhob rôl ym maes diogelu plant a gofal plant yr adnoddau sydd eu hangen arnom.
Felly, Weinidog, rwy'n gorffen drwy ddweud: beth arall sy'n mynd i orfod digwydd er mwyn i Gymru fod yr un fath â phob gwlad arall a chael yr adolygiad annibynnol hwn a fydd yn ein helpu i gyd i sicrhau bod gennym y camau, yr adnoddau a'r gefnogaeth sydd eu hangen i ddiogelu ein plant a'n pobl ifanc? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, Jane Dodds. Gwn pa mor fawr yw eich pryder ynglŷn â'r materion hyn, ac wrth gwrs mae mor ofidus clywed am Logan a chlywed am y bobl ifanc â phrofiad o ofal a gafodd sylw neithiwr ar y rhaglen ddogfen.
O ran ymchwiliad annibynnol i Logan, rwy'n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol y bydd adolygiad o ymarfer plant yn cael ei gynnal gan fod y dedfrydu wedi'i wneud erbyn hyn, a bydd yn cyflwyno adroddiad yn yr hydref. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn edrych ar yr hyn y mae'r adolygiad o ymarfer plant yn ei ddweud. Rydym am ddysgu gwersi o sut y digwyddodd hyn ac rydym am weld a oes unrhyw wersi ehangach y mae angen inni edrych arnynt. Felly, bydd yr adolygiad hwnnw o ymarfer plant yn digwydd, ac ers yr amgylchiadau trasig hyn, mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cynnal arolygiad o wasanaethau cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr, ac rydym hefyd yn aros am y canlyniad hwnnw. Felly, rwy'n siŵr ei bod yn ymwybodol fod y rhain yn digwydd, a byddwn yn edrych ar y rheini'n ofalus iawn pan gânt eu cyhoeddi, a dylai hynny ddigwydd cyn diwedd y flwyddyn.
Ar y sylwadau eraill, credaf ei bod yn gwbl briodol ein bod yn gwrando ar blant, ac yng Nghymru credaf fod gennym hanes da iawn o wrando ar blant. Rydym yn ariannu Voices from Care, sy'n dod atom ac yn dweud wrthym yn agored iawn beth yw eu barn. Mae gennym blant â phrofiad o ofal ar fwrdd goruchwylio ein rhaglen drawsnewid ar gyfer gwasanaethau plant. Rydym yn cynnwys plant â phrofiad o ofal yn y trafodaethau ar y warant isafswm incwm y byddwn yn ei chyflwyno. Mae gennym blant â phrofiad o ofal ar y bwrdd hwnnw—yr incwm cyffredinol. Ac rwy'n siŵr y bydd yn cydnabod, yn y bôn, drwy ddarparu hynny, fod Cymru'n mynd ymhell ar y blaen i unrhyw wlad arall yn y byd gyda darparu cymorth ariannol i blant sydd â phrofiad o ofal. Felly, gobeithio y bydd yn cydnabod hynny. Felly, rydym yn gwrando ar blant. Ac ym mis Medi rydym yn cynnal uwchgynhadledd, sy'n uwchgynhadledd ar gyfer plant â phrofiad o ofal, lle byddwn yn gwrando ar yr hyn y mae plant sydd â phrofiad o ofal yn ei ddweud.
Ar lety, o'r plant â phrofiad o ofal a adawodd ofal rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021, barnwyd bod 628 o blant, sef 95 y cant, mewn llety addas ar y dyddiad y daeth eu gofal i ben, ond roedd 5 y cant heb fod mewn llety addas. Ac yn amlwg, rwy'n credu mai'r straeon, yr hanesion a glywsom neithiwr, oedd rhai o'r 5 y cant hynny, ac yn amlwg mae'n 5 y cant yn ormod, ac rydym yn gweithio'n galed i weld bod eu sefyllfa'n gwella.
Galwodd y Ceidwadwyr Cymreig am adolygiad cyffredinol o wasanaethau plant ledled Cymru, a soniodd fy nghyd-Aelod amdano—Andrew R.T. Davies—ddoe ddiwethaf yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Fe'i codais yn y datganiad busnes. Mae Jane Dodds wedi sôn amdano mewn cwestiwn amserol heddiw, Ddirprwy Weinidog. Ac fel y nododd Jane Dodds, mae adolygiad yn cael ei gynnal yn Lloegr, yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, ond dywedodd y Prif Weinidog nad oes angen un yng Nghymru. Ond gennym ni y mae'r gyfradd waethaf o blant sy'n derbyn gofal yn y DU. Rydych newydd ddweud i'r gwrthwyneb, gan ddweud bod gennym gyfradd dda, ond mae'r ystadegau'n dweud mai ni sydd â'r gyfradd waethaf o bob un o wledydd y DU. Felly, pam y mae Cymru'n eithriad i'r adolygiad mawr ei angen hwn pan fo'n eithriad o ran y gyfradd o blant sy'n derbyn gofal? A dylai achos trist Logan Mwangi ym Mhen-y-bont ar Ogwr sbarduno persbectif cenedlaethol i gael adolygiad o'r holl wasanaethau plant ar draws y 22 awdurdod lleol. Felly, a wnewch chi ymrwymo eich Llywodraeth i edrych ar hyn eto, a gobeithio y gwelwn adolygiad o wasanaethau plant ledled Cymru, fel y gallwn gael trefn arnom ein hunain a pheidio â chael achosion fel un Logan Mwangi yn digwydd eto yng Nghymru? Diolch.
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Gareth Davies. Hoffwn ei gywiro, ni ddywedais fod gennym gyfradd dda o blant mewn gofal. Credaf ei fod wedi camglywed. Dywedais fod gennym gyfradd dda o wrando ar blant. Mae gennym hanes da o wrando ar blant. Ac mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed iawn dros y tair blynedd diwethaf i geisio lleihau nifer y plant sydd mewn gofal, oherwydd rydym yn cydnabod yn llwyr fod gennym ormod o blant mewn gofal yng Nghymru. Ac fel y dywedodd y Prif Weinidog wrth ateb Andrew R.T. Davies yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ddoe, un o'r ffyrdd yr ydym am fynd i'r afael â'r materion hyn yw drwy leihau nifer y plant sydd mewn gofal, oherwydd drwy roi mwy o gymorth i blant sydd ar gyrion gofal, helpu'r plant a'u teuluoedd, teimlwn y gallwn gadw llawer o blant allan o ofal, ac rwy'n credu mai dyna yw un o'n prif nodau—cadw plant allan o ofal. Ac rydym wedi bod â'r strategaeth leihau hon dros y tair blynedd diwethaf, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r gyfradd bellach wedi dechrau gostwng, felly rydym ar y trywydd iawn, ond mae gennym lawer i'w wneud eto. Felly, yn sicr, nid wyf yn credu bod gennym hanes da o ran nifer y plant mewn gofal.
Ar yr adolygiad, fel y dywedais wrth ymateb i Jane Dodds, ceir adolygiad o ymarfer plant a fydd yn digwydd yn awr, a bydd hwnnw'n cyflwyno adroddiad yn yr hydref. Bydd yn rhaid inni weld beth sy'n deillio o'r adolygiad hwnnw o ymarfer plant, p'un a oes unrhyw faterion ehangach y mae angen eu codi ledled Cymru, a hefyd rydym yn aros am adroddiad AGC ar wasanaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Felly, rydym yn aros i weld beth yw canlyniadau'r ddau. Mae gennym gynllun ar gyfer trawsnewid gwasanaethau plant. Rydym wedi ymrwymo arian iddo. Rydym yn gweithio arno ac rydym yn credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn bwrw ymlaen ac yn gweithredu ar y rheini, ac rydym yn sicr yn mynd i edrych yn ofalus iawn ar ganlyniad yr adolygiadau hyn.
Diolch i Jane Dodds am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn. Fel chithau, cefais fy mrawychu gan y rhaglen ddogfen. Rwy'n credu bod sylwadau Niall wedi aros gyda mi pan ddywedodd, 'Byddai carchar wedi bod yn well i mi.' Carchar yn well na rhywle lle roeddent i fod yn ddiogel. Hefyd, hoffwn ategu'r galwadau am adolygiad annibynnol o waith cymdeithasol plant. Rwy'n credu bod hyn yn hanfodol. Rydym yn eithriad, ac mae'r rhain yn arbenigwyr sy'n dweud wrthym—nid gwleidyddion sy'n pwyso am hyn; arbenigwyr sy'n gweithio yn y maes yw'r rhain. Ac a gaf fi gymryd o'ch ymateb i Gareth Davies, felly, nad ydych yn diystyru'r angen yn awr, eich bod yn aros am y ddau adroddiad ac felly'n dal i fod yn agored i adolygiad annibynnol os na fyddwch yn fodlon â'r ddau adroddiad y cyfeirioch chi atynt? Credaf y byddai hynny'n gam i'w groesawu heddiw.
Ac os caf hefyd, gwyddom fod plant sy'n derbyn gofal yn arbennig o agored i niwed a bod canlyniadau'n rhy aml yn llawer gwaeth nag y byddem yn ei ddymuno, ac mae ymchwil ar gyfer adroddiad End Youth Homelessness Cymru, 'Don't Let Me Fall Through the Cracks', yn dangos y cysylltiadau rhwng profiad gofal a digartrefedd ymhlith pobl ifanc—gan adleisio'r galwadau a welsom gan y bobl ifanc ddoe. Dengys tystiolaeth fod angen inni allu targedu gwasanaethau arbenigol at y bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl o brofi digartrefedd ymhlith pobl ifanc, ac mae hyn yn rhan o'r agenda atal y cyfeirioch chi ati hefyd—pa mor bwysig yw hi ein bod yn cefnogi pobl fel nad ydynt yn mynd i mewn i'r system ofal. Ond ni allwn wadu bod pobl ifanc yn wynebu risgiau heddiw—fel y dywedoch chi, y 5 y cant hynny; mae'n nifer sylweddol o bobl ifanc yn syrthio drwy'r craciau. Felly, i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r canlyniadau i bobl ifanc mewn gofal, oherwydd, yn amlwg, mae llawer gormod yn y system heb y rhwyd ddiogelwch honno ar hyn o bryd?
Diolch i Heledd Fychan am ei chwestiwn. O ran adolygiad, credaf fod ein safbwynt wedi’i nodi gan y Prif Weinidog, fel y gwnaeth yng nghwestiynau’r Prif Weinidog. Ond fel y dywedais, rydym yn edrych ar ganlyniad yr adolygiad ymarfer yn nes ymlaen eleni ac ar yr hyn y mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ei ddweud am y gwasanaethau cymdeithasol, a chawn weld a oes unrhyw wersi ehangach y mae angen i ni eu dysgu o hynny. Rydym wedi cael llawer o adolygiadau yng Nghymru. Rydym yn teimlo'n gryf y dylem fod yn parhau â'r camau yr ydym wedi'u dechrau i wella bywydau pobl ifanc â phrofiad o ofal ac i sicrhau ein bod yn rhoi'r cyfle gorau posibl iddynt. Credaf ei bod yn bwysig sôn am y 95 y cant yr ystyrir bod ganddynt lety da sy’n saff, yn ddiogel ac yn fforddiadwy, gan fod llawer o bobl ifanc sy’n gadael gofal yn cyflawni ac yn cael bywydau hapus, bodlon, felly ni fyddwn am i unrhyw un feddwl bod y straeon trasig a glywsom yn nodweddiadol, ond maent mor bwysig, a rhain yw'r 5 y cant y mae hi'n nodi bod yn rhaid inni wneud popeth a allwn i'w helpu. Ac i adleisio unwaith eto, dyna pam ein bod yn dymuno lleihau nifer y plant sydd mewn gofal er mwyn inni allu darparu ein holl adnoddau ar gyfer plant y mae gwir angen iddynt fynd i mewn i ofal, i geisio sicrhau nad oes—wyddoch chi, i geisio rhoi'r bywydau gorau posibl iddynt.
Ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc, mae hynny'n amlwg yn rhywbeth yr ydym yn bryderus iawn yn ei gylch ac rydym yn darparu adnoddau sylweddol i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Rhoesom £3.7 miliwn drwy’r grant cymorth ieuenctid, ac mae gennym swyddogion digartrefedd yn gweithio mewn timau ieuenctid er mwyn nodi pobl ifanc a allai fod mewn perygl. Ac rydym hefyd wedi rhoi £3.1 miliwn yn y gronfa arloesi ar gyfer pobl ifanc ddigartref, a chyda'r gronfa honno, rydym yn rhoi cynnig ar wahanol ffyrdd o ddarparu llety i bobl ifanc. Rydym hefyd, eleni, wedi darparu £60 miliwn ar gyfer tai a gofal, er mwyn darparu llety lle gall pobl ifanc sydd angen cymorth fyw'n annibynnol ond gyda chymorth. Felly, bydd y £60 miliwn hwnnw yn cael ei wario eleni ar ddarparu'r math hwnnw o lety. Ac yn gyffredinol, credaf fod gennym £197 miliwn mewn cymorth digartrefedd a thai eleni. Felly, credaf ein bod yn sicr wedi darparu'r arian, ac rydym yn sicr yn gweld ymatebion arloesol o ganlyniad i hynny, ond rwy’n derbyn pwyntiau Heledd yn llwyr, a chredaf fod yn rhaid inni wneud popeth a allwn i helpu'r 5 y cant hynny.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Bydd yr ail gwestiwn y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, a galwaf ar Samuel Kurtz.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynigion newydd ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy? TQ654
Roeddwn yn falch o gyhoeddi ein cynigion ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy heddiw. Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn cytgord â'r amgylchedd. Edrychaf ymlaen at glywed barn ffermwyr a rhanddeiliaid ar y cynigion yn ail gam ein gwaith cydgynllunio.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy’n falch o weld faint o gynnydd y mae’r datganiad hwn wedi'i wneud ers ymgynghoriad cychwynnol 'Brexit a’n tir’ yn 2018, lle trafodwyd arian yn lle arian Ewrop am y tro cyntaf. Yn gyntaf, rwy'n siomedig, o ystyried y datganiad i’r wasg sy’n galw hwn yn gyhoeddiad pwysig—ac yn wir, mae'n bwysig, gan mai dyma’r cynllun a fydd ar waith yn lle cynllun y taliad sylfaenol a’r polisi cymorthdaliadau cyntaf a ddatblygwyd erioed yng Nghymru ar gyfer ffermwyr Cymru—datganiad ysgrifenedig yn unig a gyhoeddwyd y bore yma. Credaf y byddai datganiad llafar i’r Siambr hon wedi bod yn fwy priodol, o ystyried difrifoldeb y newidiadau sydd ar y gweill. Rwy’n sylweddoli bod gennym haf hir o sioeau amaethyddol o’n blaenau, lle byddwch chi, fi ac Aelodau eraill yn trafod y cynllun ffermio cynaliadwy yn fanwl gyda’r undebau a’r rhanddeiliaid, ond gwn y byddai'r Aelodau wedi gwerthfawrogi’r cyfle i’ch holi ar y cynllun hwn cyn y toriad. Felly, rwy’n ddiolchgar i’r Llywydd am dderbyn fy nghwestiwn amserol.
Gan symud ymlaen at y cynnwys, mae llawer i'w ganmol yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Fodd bynnag, mae rhai meysydd yr hoffwn ofyn am eglurhad pellach yn eu cylch. Rydych yn dweud na fydd penderfyniad ar sut y bydd y cynllun terfynol yn edrych yn cael ei wneud hyd nes y bydd ymgynghoriad pellach ar y
'cynigion manwl a'r dadansoddiad economaidd wedi'i gyflwyno yn 2023.'
Bydd hyn yn cynnwys modelu'r camau gweithredu yn y cynllun ac asesu sut y mae'r camau gweithredu yn helpu ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Ymddengys bod y gwaith modelu hwn yn anwybyddu'r angen am ddiogeledd bwyd, ar adeg pan fo amodau byd-eang mor ansicr a bregus. Hoffwn eich annog i sicrhau bod unrhyw waith modelu a wneir cyn y flwyddyn nesaf yn ymgorffori diogeledd bwyd a chynyddu ein cynaliadwyedd hunangynhaliol o ran bwyd. Ar y gwaith modelu hwn, hoffwn bwysleisio bod yn rhaid cael dynodwyr allweddol i bennu effaith y cynllun nid yn unig ar ein cynhyrchiant bwyd cynaliadwy ond hefyd ar ein diwylliant, yr iaith Gymraeg a bywiogrwydd ein cymunedau gwledig. Nid mater amgylcheddol yn unig yw cynaliadwyedd, mae hefyd yn ddiwylliannol ac yn economaidd-gymdeithasol, a byddwn yn gobeithio gweld mwy yn y cynllun ffermio cynaliadwy i ddangos bod yr amcanion allweddol hyn wedi'u cynnwys.
Ceir pryderon ynghylch y cynlluniau i bob fferm sicrhau bod coed wedi'u plannu ar 10 y cant o’u fferm. Er bod y diwydiant yn cytuno bod angen gwelliannau a’i fod yn fodlon chwarae ei ran i gefnogi natur, mae’n hanfodol mai’r coed hyn yw’r coed iawn yn y lle iawn. Gallai polisi sy'n llawn bwriadau da gael effeithiau negyddol. O brofiad, gwn y bydd llawer o ffermydd eisoes yn agos iawn neu hyd yn oed yn uwch na'r gofyniad hwn o 10 y cant, ond mae gan eraill lefelau isel iawn o orchudd coed, oherwydd lleoliadau eu ffermydd. Er enghraifft, mae llawer o ffermydd ar arfordir gorllewin Cymru—
A gaf fi atgoffa’r Aelod mai cwestiwn amserol yw hwn, ac nid dadl o reidrwydd? Felly, os gwelwch yn dda, mae angen inni gael y cwestiynau, o'r gorau.
Iawn, wrth gwrs. Mae gennyf lawer o gwestiynau ar hyn, Ddirprwy Lywydd, felly—
Wel, amser cyfyngedig sydd gennych, fel y gwyddoch.
Wel, diolch yn fawr iawn. Ond o ran hyn, mae llawer o wahanol fathau o ffermydd yng Nghymru—sut y gall gorchudd cyffredinol o 10 y cant fod yn berthnasol i ffermydd ar arfordir Cymru, lle na all coed dyfu cystal ag ar ffermydd mewndirol? Rwy’n derbyn yr hyn y mae’r Dirprwy Lywydd wedi’i ddweud, felly rwyf am ddirwyn i ben yn y fan honno, ond hoffwn glywed mwy am y cynllun ffermio cynaliadwy, wrth symud ymlaen. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. A chredaf ichi groesawu'n fras yr amlinelliad o'r cynllun ffermio cynaliadwy a gyhoeddwyd gennym heddiw, ac rwy'n sicr wedi fy nghalonogi'n fawr gan ymateb llawer o'n rhanddeiliaid, ein hundebau ffermio ac unigolion. Ac fel y dywedwch, credaf ein bod yn sicr wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd mewn pedair blynedd, os edrychwch yn ôl at yr ymgynghoriad cyntaf, yn ôl yn 2018, ar 'Brexit a’n tir’. Ac mae hynny oherwydd y ddau ymgynghoriad a gawsom, y Papur Gwyn a gawsom, a cham cyntaf y gwaith cydgynllunio. Ac roeddwn yn awyddus iawn i gyhoeddi'r cynllun amlinellol hwn cyn sioeau'r haf—roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn ei gyhoeddi, fel y gallwn gael y trafodaethau pellach hynny, a hefyd i annog ffermwyr a rhanddeiliaid i ymrwymo i ail gam y gwaith cydgynllunio. Cawsom 2,000 o ffermwyr yn ein helpu ar y cam cyntaf y llynedd; hoffwn guro hynny. Rwyf wedi gosod y targed hwnnw, felly rwy'n awyddus iawn i bawb ymuno yn y sgwrs honno. Ac wrth gwrs, mae gennyf ddiddordeb mawr yn eich safbwyntiau chi ar y cynllun.
Fe wnaethoch ganolbwyntio ar un neu ddau o bwyntiau. Credaf mai'r her fwyaf i ddiogeledd bwyd yw'r argyfyngau hinsawdd a natur. A dyna pam fod gennym yr un agenda hon, os mynnwch—ni allwch ddewis un peth; maent yn amcanion integredig a chyflenwol iawn, yn fy marn i, sy'n mynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Ac yn amlwg, awn ymhellach pan fyddwn yn cyhoeddi’r Bil amaethyddol yma yn y Senedd yn yr hydref. Y prif beth yw bod y cynllun wedi’i gynllunio i gadw ffermwyr ar ein tir, ac rwy’n llwyr gydnabod yr hyn a ddywedwch am amcanion a chanlyniadau cymdeithasol a diwylliannol ar gyfer ein ffermwyr.
Ar goed, mae gennym darged heriol iawn i greu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030 i’n helpu i liniaru newid hinsawdd. Ac fe fyddwch yn ymwybodol o argymhellion Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU mewn perthynas â hynny. Ac yn amlwg, mae gan ffermwyr ran bwysig i’w chwarae yn ein helpu i gyflawni'r targed hwnnw. Rydych yn llygad eich lle, bydd gan lawer o ffermwyr 10 y cant o’u tir wedi'i orchuddio gan goed eisoes. Mewn fferm yr ymwelais â hi ddydd Llun i lansio’r cynllun, nid oes ganddo 10 y cant, ac roedd ganddo gwestiynau heriol iawn ynglŷn â sut y gallai gyrraedd 10 y cant. Bydd gan eraill 10 y cant, a gorchudd cynefin o 10 y cant hefyd. Ac mae hynny'n rhan o'r sgwrs, gwrando ar bryderon ffermwyr, ond hefyd sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y targedau hynny'n cael eu cyrraedd.
Gwn y bydd pobl yn siomedig nad yw'r lefelau ariannol yno. Fodd bynnag, rwy’n aros i weld y dadansoddiad economaidd. Ni allwn wneud unrhyw beth tan y cawn y dadansoddiad a'r gwaith modelu hwnnw, a chredaf fod hynny wedi'i dderbyn, mai dyna fydd y rhan nesaf cyn yr ymgynghoriad terfynol y flwyddyn nesaf. Felly, dim ond cam arall ar y ffordd yw hwn. Mae'n debyg ein bod ar y pedwerydd cam mawr ar y daith honno ar hyn o bryd.
Weinidog, mae’n braf iawn eich clywed yn dweud eich bod am gadw ffermwyr ar y tir, a chredaf mai dyna mae pawb ohonom am ei weld, a dyna roedd ein diwydiant ffermio am ei weld. Ym mharagraff 2.3.5, nodir:
'Dylai pob ffermwr gael manteisio ar y Cynllun.'
'Mae’n bwysig bod y Cynllun yn gweithio er lles ffermydd o bob math. Mae’r Cynllun wedi’i lunio fel y gall pob math o fferm fanteisio arno, gan gynnwys tenantiaid a’r rheini sydd â hawliau ar dir comin.'
Weinidog, mae llawer o ffermwyr tenant yn pryderu efallai mai o fudd i'r tirfeddiannwr yn unig y bydd gwaith da y maent yn mynd i’w wneud ar wella’r amgylchedd, neu o bosibl, y gallai tirfeddianwyr droi tenantiaid allan o’u ffermydd er mwyn elwa ar gyllid y cynllun eu hunain. Gofynnodd ffermwr ifanc o sir Frycheiniog i mi y diwrnod o’r blaen ynglŷn â gwrthbwyso carbon, ac roeddent yn awyddus iawn i wybod a fydd y gwrthbwyso carbon yn cyfrif i'r ffermwr actif sy’n gwneud y gwaith ar y fferm, neu a fydd yn cyfrif i'r tirfeddiannwr, er enghraifft yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Felly, Weinidog, pa amddiffyniadau a roddwch ar waith i warchod ffermwyr tenant a sicrhau bod cyllid y cynllun yn mynd i'r ffermwr actif, yn hytrach nag i uwchgwmnïau mawr nad ydynt yn gwneud unrhyw waith ffermio?
Credaf fod ffermwyr tenant wedi chwarae rhan enfawr yn sicrhau ein bod yn cyrraedd y sefyllfa rydym ynddi yn awr, ac efallai eich bod yn ymwybodol y byddaf yn cynnull gweithgorau arbenigol i’n helpu i edrych ar sut y mae'r cynllun wedi'i gydgynllunio cyn yr ymgynghoriad terfynol. A thenantiaethau oedd y gweithgor cyntaf yr oeddem am ei sefydlu, gan y credaf fod ganddynt bryderon perthnasol a phenodol iawn. Ac os nad yw'n gweithio i ffermwyr tenant, ni fydd y cynllun yn gweithio i ffermwyr. Felly, rwyf wedi dweud hynny'n glir iawn, yn enwedig wrth y Gymdeithas Ffermwyr Tenant, y cefais lawer o drafodaethau â hwy.
Holl bwynt y cynllun yw mai'r ffermwyr sy'n mynd ati'n weithredol i reoli'r tir a fydd yn cael eu gwobrwyo. Felly, bydd hynny’n rhan o’r drafodaeth wrth symud ymlaen. Fel y dywedais, rhaid i hyn weithio i bob math o ffermwr. Rhaid i hyn weithio i bob math o fferm hefyd. Felly, roeddwn mewn fferm ddefaid ddydd Llun, fel y dywedaf, i glywed pryderon Russell Edwards am y cynllun, ond roedd hefyd yn wirioneddol galonogol ei fod eisoes yn ticio llawer o'r blychau i gael y taliad sylfaenol hwnnw. Ond fel y dywedaf, dyma ddechrau’r cam nesaf; rwy'n siŵr y bydd newidiadau. Dyma pam nad yw’n ymgynghoriad ffurfiol, oherwydd, wrth inni gael y sgyrsiau hynny, rwy’n siŵr y bydd newidiadau a phethau newydd yn cael eu cyflwyno cyn yr ymgynghoriad terfynol.
Diolch i Sam Kurtz am gyflwyno'r cwestiwn yma heddiw. Ac ystyriwch lle roedden ni ryw bedair mlynedd yn ôl efo 'Brexit a'n tir'; mae yna sifft sylweddol wedi bod fan yma efo'r ieithwedd a'r dôn, ac mae hwnna i'w groesawu. Dwi'n falch hefyd o weld bod y bartneriaeth cydweithredu efo Plaid Cymru a'r Llywodraeth wedi arwain at sicrhau bod yna daliadau sefydlogrwydd am barhau yn ystod y cyfnod trosiannol tan 2029. Eto, mae hynny i'w groesawu yn gynnes.
Ond, ac mae yna 'ond', mae angen i'r system newydd gydnabod y pwysigrwydd o rôl ffermwyr wrth gynhyrchu bwyd, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni. Dylai cynhyrchu bwyd fod yn un o'r deilliannau craidd, a dylid gwobrwyo ffermwyr am hyn. A fydd cynhyrchu bwyd felly yn rhan ganolog o unrhyw Fil newydd, ac yn un o'r deilliannau? Yn ogystal â hyn, fel rydyn ni wedi'i glywed, mae pwysigrwydd amaeth efo cymuned a diwylliant yn ganolog i ddatblygiad ein cenedl yma. A fydd diwylliant felly yn un o'r deilliannau craidd, ac a fydd ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am gynnal ein cymunedau a'n diwylliant?
Mae yna gryn sylw am yr angen i neilltuo tir ar gyfer coedwigaeth, dyfroedd a bywyd gwyllt. A wnewch chi sicrhau na fydd gofyn i ffermwyr neilltuo tir amaethyddol da ar gyfer hyn, ac, yn hytrach, y byddwch yn cydweithio efo ffermwyr i adnabod y tir mwyaf addas? Hefyd, oes yna hyblygrwydd o ran y canran o dir a fydd yn cael ei neilltuo? Ydych chi'n sôn am goedwigaeth, yntau ydych chi hefyd yn sôn am wrychoedd? Ydy tir brwynog yn cyfrif tuag at y 10 y cant o ddyfroedd er enghraifft?
Yn olaf, efo tua 30,000 o unedau fferm yma yng Nghymru, mi fydd yn bwysig sicrhau bod gan Cyswllt Ffermio yr adnoddau cywir i fynd i'r afael â'r gwaith ychwanegol. Pa adnoddau ychwanegol ydych chi am eu rhoi er mwyn sicrhau y gall Cyswllt Ffermio gyflawni eu gwaith? Ac, a fedrwch chi roi sicrwydd na fydd ffermwyr yn cael eu cosbi am fethiannau all ddod yn sgil diffyg capasiti o fewn Cyswllt Ffermio? Dwi'n gofyn hyn nid yn unig ar ran fi fy hun, ond fe ddaru hogyn ifanc o Ddyffryn Ardudwy, Nedw, godi rhai o'r pwyntiau yma efo fi ddoe a gofyn beth fyddai dyfodol ffermio iddo fo. Felly, mae'r cwestiynau yma'n bwysig i'r new entrants hefyd. Diolch.
Diolch. Hoffwn ateb y pwynt olaf. Soniais yn fy ateb i James Evans ein bod yn sefydlu rhai gweithgorau arbenigol, a bydd ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid yn weithgor arbenigol arall, gan y credaf eich bod yn llygad eich lle, mae'n hanfodol fod y cynllun yn gweithio ar gyfer ffermwyr cenedlaethau'r dyfodol hefyd. Dyma’r tro cyntaf inni gael polisïau a phrotocolau a chynlluniau amaethyddol pwrpasol ar gyfer Cymru, felly mae'n debyg y bydd angen inni gael pethau’n iawn am ddau neu dri degawd, byddwn yn dweud. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid yn rhan o'r sgwrs honno. Bydd yna bedwar gweithgor arbenigol—tenantiaethau; ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid; busnesau fferm trawsffiniol; a thir comin—gan ei bod yn bwysig iawn inni ystyried yr holl safbwyntiau hynny.
Credaf mai egwyddor drosfwaol y cynllun yw eich bod yn cynhyrchu bwyd. Os nad ydych yn cynhyrchu bwyd, ni fyddwch yn y cynllun, felly rwy'n gobeithio bod hynny’n ateb eich cwestiwn. Rydym yn amlwg yn cydnabod bod cynhyrchu bwyd yn hanfodol i’n gwlad, ond mae’r cynllun hwn hefyd yn cydnabod bod yn rhaid inni ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur os ydym am gael y sector amaethyddol cynaliadwy a gwydn y mae pob un ohonom yn dymuno'i weld. Fel y dywedais mewn ateb cynharach, credaf mai’r argyfyngau hynny yw’r bygythiad mwyaf i ddiogeledd bwyd byd-eang.
Fe sonioch chi am Cyswllt Ffermio, ac mae’n bwysig ei fod yn addas at y diben ac yn gallu ymdopi. Yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y buom yn edrych arno'n fanwl iawn, nid yn unig wrth baratoi'r cynllun hwn, ond dros y tair blynedd diwethaf, mae'n debyg, wrth inni gyflwyno'r polisi. Rydym wedi bod yn edrych ar Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein fel rhyw fath o fesur o sut y gwnaethom hynny i fwrw ymlaen â’r cynllun hwn hefyd.
Ar y 10 y cant, yn sicr, bydd modd cynnwys gwrychoedd. Mae'n debyg na fydd rhai ffermydd yn gallu cyrraedd 10 y cant, felly rheini yw'r ffermwyr y gobeithiaf y byddant yn cael trafodaethau gyda ni. Rydym yn gofyn i bob ffermwr gyrraedd 10 y cant, fel y gallwn rannu'r baich ledled Cymru er mwyn osgoi newid defnydd tir ar raddfa fawr. Fel y dywedaf, rydym am gadw ffermwyr ar y tir, felly mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn cael y sgyrsiau hynny. Er mwyn helpu i gyrraedd y targedau plannu coed, rydym yn mabwysiadu dull 'gwrychoedd ac ymylon' o gyflawni'r camau cyffredinol, felly byddwn yn cefnogi ffermwyr i integreiddio mwy o goed ar eu tir ac yn y system ffermio. Yn sicr, mae ffermwyr wedi dweud wrthyf eu bod yn awyddus i blannu mwy o wrychoedd, eu bod yn awyddus i blannu lleiniau cysgodi, a choed yng nghorneli caeau. Felly, dyna'r hyn y byddwn yn gweithio gydag ef. Ar hyn o bryd, rydym yn argymell caniatáu hyd at bum mlynedd i ffermwyr gyrraedd yr isafswm o 10 y cant. Credaf mai Sam Kurtz a soniodd am y goeden iawn yn y lle iawn; mae hynny'n wirioneddol bwysig, a bydd hynny'n rhan o'r gwaith hwnnw hefyd.
Diolch i'r Gweinidog.
Symudwn ymlaen i'r datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Vikki Howells.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y mis hwn, bydd can mlynedd a hanner ers i Caradog arwain y Côr Mawr i fuddugoliaeth yn y cwpan her. Ganed Caradog—Griffith Rhys Jones—yn Nhrecynon, a bu’n gweithio fel gof yng ngwaith haearn Aberdâr. Roedd yn gerddor talentog, ond daeth i enwogrwydd tragwyddol fel arweinydd. Ffurfiwyd Undeb Corawl De Cymru, gyda 500 o aelodau, i gystadlu yn y gystadleuaeth ganu wythnos o hyd a drefnwyd gan y Crystal Palace Company ym 1872. Ymunodd lleisiau o bob rhan o dde Cymru, er mai Aberdâr oedd canolbwynt y fenter. Caradog oedd y dewis naturiol i fod yn arweinydd y côr. Fe'u harweiniodd i fuddugoliaeth, gan ailadrodd y llwyddiant wrth iddynt amddiffyn eu teitl y flwyddyn ganlynol, y tro olaf i'r gystadleuaeth gael ei chynnal. Saif cerflun Caradog yn falch yn Sgwâr Fictoria yng nghanol tref Aberdâr. Ond eleni, bydd Caradogfest yn sicrhau bod y dref yn atseinio gyda'r cof am Caradog a llwyddiant ysgubol y Côr Mawr. Mae ystod gyffrous o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio, gan ddechrau gyda lansiad arddangosfa a darlith Llafur yn Amgueddfa Cwm Cynon y penwythnos diwethaf. Efallai mai’r uchafbwynt fydd y côr o 400 a fydd yn perfformio yn Sgwâr y Llyfrgell ac sy'n cynnwys pobl o’r ardal leol ac yn ail-greu’r Côr Mawr. Bydd ysgolion lleol hefyd yn rhan ganolog o’r digwyddiad, gan sicrhau bod enw Caradog yn parhau ac Aberdâr yn cyfiawnhau ei henw da fel tref y gân.
Yr wythnos diwethaf, cawsom wybod am farwolaeth drist yr ymgyrchydd ysbrydoledig ac anhygoel, y Fonesig Deborah James, Bowelbabe. Cafodd y Fonesig Deborah ddiagnosis o ganser y coluddyn cam 4 yn 2016, a hithau ond yn 35 oed. Hyd yn oed gyda diagnosis angheuol, ni roddodd y gorau i godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn. Aeth y diweddar newyddiadurwr, cyn-bennaeth ysgol a cholofnydd papur newydd ati i sefydlu You, Me and the Big C, a enillodd wobrau, ac ysgrifennodd yn ddewr mewn papur newydd cenedlaethol, gan sôn am ei brwydrau gyda’i salwch ar y teledu a’r radio. Aeth ar genhadaeth i wneud pawb yn ymwybodol o arwyddion a symptomau canser y coluddyn, gyda llawer o bobl yn dweud ei bod wedi achub llawer o fywydau am iddi fod yn agored a siarad yn ddewr am ei thaith gyda chanser y coluddyn, a gwneud pobl yn ymwybodol o arwyddion a symptomau’r salwch. Llwyddodd i godi'r swm anhygoel o £7.3 miliwn drwy Bowelbabe, a sefydlwyd ganddi, gan godi arian mawr ei angen ar gyfer ymchwil i ganser y coluddyn. Mae canser y coluddyn yn rhywbeth y mae pobl yn aml yn ei chael hi'n anodd siarad amdano, ac nid ydynt yn gwneud hynny am ei fod yn gwneud iddynt deimlo embaras. Mae mor bwysig, yng Nghymru, fod pob un ohonom yn sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan i godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn a’r arwyddion y mae angen i bobl edrych amdanynt i ddal y canser angheuol hwn cyn gynted â phosibl. Rwyf am gloi gyda’r neges olaf drist a phwerus gan y Fonesig Deborah ei hun:
'dewch o hyd i fywyd gwerth ei fwynhau; mentrwch; carwch yn ddwfn; peidiwch ag edifarhau am ddim; a gwnewch yn siŵr fod gennych obaith gwrthryfelgar bob amser. Ac yn olaf, cadwch lygad ar eich carthion—gallai achub eich bywyd.'
Eitem 6 y prynhawn yma yw'r cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022, a galwaf ar Tom Giffard i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8031 Tom Giffard
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:
Yn cytuno bod Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022, a osodwyd gerbron y Senedd ar 24 Mai 2022, yn cael ei ddirymu.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn wneud y cynnig hwn yn ffurfiol drwy bwysleisio gwrthwynebiad parhaus fy mhlaid i’r cynnydd mympwyol i ardrethi annomestig busnesau hunanddarpar ledled Cymru. Ac rydym yn ochri gyda'r diwydiant ar y mater hwn. Credwn y byddai cynnydd o 70 diwrnod i 105 diwrnod er mwyn iddynt gyd-fynd â gofynion Cyllid a Thollau EM yn llawer mwy priodol na’r hyn a gynigir. Mae perygl y bydd y newid hwn yn y ddeddfwriaeth yn effeithio'n aruthrol ar y diwydiant hunanddarpar ledled ein gwlad. Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru, Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU ac UK Hospitality Cymru wedi rhybuddio y gallai’r newidiadau treth orfodi cymaint â 30 y cant o fusnesau hunanddarpar i gau neu orfod gwerthu.
I roi rhywfaint o gyd-destun i’r newidiadau hyn: ar hyn o bryd, mae'n rhaid i eiddo hunanddarpar yng Nghymru fod ar gael i’w osod am o leiaf 140 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, a chael ei osod am 70 diwrnod er mwyn bod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes yn hytrach na’r dreth gyngor; o dan y cynigion newydd, mae'n rhaid i eiddo fod ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod a bod wedi'i osod am 182 diwrnod i fod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes—cynnydd aruthrol o 160 y cant. Bydd hyn yn effeithio'n niweidiol iawn ar allu busnesau i weithredu yng Nghymru ac yn niweidio ein heconomi, gyda llawer o fusnesau'n cael eu gorfodi i gau. Mae hyn, ynghyd â threth dwristiaeth bosibl a rhoi’r gallu i gynghorau gynyddu cyfraddau’r dreth gyngor hyd at 300 y cant ar y busnesau hyn nad ydynt yn gymwys, yn golygu bod yn rhaid iddynt wynebu ergyd driphlyg y mesurau, a fydd, i mi, yn mygu’r diwydiant a’n heconomi yng Nghymru o ganlyniad.
Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis bwrw ymlaen â chynlluniau treth, er iddynt dderbyn môr o dystiolaeth o effeithiau niweidiol gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU ac UK Hospitality Cymru, a arolygodd dros 1,500 o fusnesau llety hunanddarpar ledled Cymru. Dywedasant nad yw'r
'dull Cymru gyfan, un ateb sy'n addas i bawb, yn ystyried y gwahanol fathau o fusnesau sy’n gweithredu mewn blwyddyn dwristiaeth dymhorol yng Nghymru. Nid yw ychwaith yn ymateb i'r ffaith nad yw'r broblem y mae hyn yn bwriadu ei datrys yn effeithio ar Gymru gyfan, rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi'i gydnabod.'
Yn yr ymgynghoriad ar y mater, a oedd yn edrych fel ymarfer ticio blychau, mae’n ddrwg gennyf ddweud, Weinidog, roedd y diwydiant twristiaeth yn cefnogi’r egwyddor o godi nifer y dyddiau y mae’n rhaid i eiddo (a) fod ar gael a (b) fod wedi'i ddefnyddio er mwyn bod yn fusnes dilys. Ymateb y mwyafrif i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, a gynhaliwyd o ddiwedd y llynedd ymlaen, oedd codi’r trothwy defnydd o 70 diwrnod i 105 diwrnod, yn unol â gofynion CThEM—roedd hynny’n gynnydd o 50 y cant, a awgrymwyd gan aelodau o sector proffesiynol sy'n deall tueddiadau archebu, marchnata ac ymddygiad cwsmeriaid. Felly, hoffwn glywed, yn ymateb y Gweinidog, pam na wnaethant wrando ar eu hymgynghoriad eu hunain, a oedd yn amlwg yn cefnogi newid i 105 diwrnod.
Yn lle hynny, awgrymwyd y cynnydd hwn o 160 y cant gan naw ymatebwr yn unig, llai nag 1 y cant o'r cyfanswm. Mae hyn wedi bod yn sioc enfawr i'r diwydiant cyfan, nid y sector hunanddarpar yn unig. Er nad yw’r Llywodraeth yn rhwym i ddilyn yr hyn y mae ymgynghoriad yn dweud wrthi am ei wneud air am air, yn sicr, mae ganddi ddyletswydd i egluro pam ei bod wedi anwybyddu un yn llwyr. Nid yw hynny wedi’i ateb na’i esbonio’n ddigonol o hyd, ac mae’n dangos diffyg parch at bobl ledled y wlad sy’n haeddu esboniadau, yn hytrach na dim ond dictadau.
Mae Ashford Price, ysgrifennydd Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru yn credu y byddai oddeutu 1,400 o fusnesau yn mynd i'r wal oherwydd y newidiadau ac y byddai'n rhaid diswyddo miloedd o weithwyr yng Nghymru. Ychwanegodd,
'Bydd ardaloedd gwledig yn dlotach hefyd, oherwydd pan fydd gweithredwyr hunanddarpar dilys yn rhoi'r gorau i weithredu, bydd llai o dwristiaid yn gwario arian yn eu hardal yn ystod y tymor twristiaeth. Mae "arian twristiaid yr haf" yn helpu siopau, garejys a thafarndai lleol i oroesi'r gaeafau tawel hir mewn llawer o fannau gwledig.'
Dyna pam ei bod yn syndod gweld y Gweinidog yn dweud mai,
'Diben y newid yw helpu i sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i gymunedau lleol, er enghraifft drwy gynyddu eu cyfraniad i’r economi leol'.
Bydd hynny’n ergyd mor chwerw i’r rheini yn y diwydiant sy’n cefnogi swyddi, cynnyrch a chadwyni cyflenwi lleol. Maent yn buddsoddi yn ein cymunedau, a bydd cynyddu’r trothwy drwy’r newid cosbol hwn yn taro economïau ledled y wlad. Mae angen inni gefnogi’r diwydiant, gan mai dyma un o’r diwydiannau yr effeithiwyd arnynt fwyaf drwy gydol y pandemig, yn hytrach na’u gwthio i’r cyrion a’u cosbi am ddiffygion hanesyddol Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag adeiladu tai.
Yn olaf, Lywydd, oherwydd y camau hyn gan y Llywodraeth, bydd nifer fawr o'r eiddo hunanddarpar hwn yn cael ei roi ar werth. Fodd bynnag, ni fyddai’r eiddo ar gael i’r rhan fwyaf o bobl leol eu prynu gan y byddai’r pris gofyn, yn ôl pob tebyg, y tu hwnt i’w cyrraedd. Felly, rwy’n annog Aelodau ar draws y Siambr i bleidleisio dros ddirymu heddiw, i ddangos ein bod yn sefyll gyda’r diwydiant ac yn gwerthfawrogi’r cyfraniad y maent yn ei wneud i’n heconomi ledled Cymru. Diolch.
A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, Tom Giffard, am gyflwyno’r cynnig heddiw i ddirymu, oherwydd, fel yr amlinellwyd wrth agor y cynnig heddiw, a’r dystiolaeth a glywais fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, byddai’r Gorchymyn hwn yn niweidiol i’r diwydiant twristiaeth, a byddai'n arwain at lawer o fusnesau dilys, gweithgar yn mynd i'r wal yng Nghymru?
I ddechrau heddiw, hoffwn amlinellu pa mor bwysig yw'r diwydiant twristiaeth i Gymru, gan ei bod yn amlwg iawn i mi nad yw Llywodraeth Cymru yn deall hyn. A bod yn deg â’r Gweinidog yma heddiw, dylai Gweinidog yr Economi fod yma hefyd, yn cefnogi’r busnesau hyn yma yng Nghymru, yn hytrach na chuddio. Ond fel y gwyddom, mae degau o filiynau o ymwelwyr yn gwario eu harian, gan gyfrannu oddeutu £6 biliwn i’n heconomi bob blwyddyn a chefnogi oddeutu 12 y cant o swyddi yma yng Nghymru, gan roi hwb i fywoliaeth pobl a chymunedau lleol, yn bwysicach fyth.
Hoffwn ganolbwyntio ar dri maes allweddol i ddangos pam fod angen cefnogi’r cynnig heddiw. Yn gyntaf, fel yr amlinellodd Tom Giffard, bydd angen gosod yr eiddo hunanddarpar am 182 diwrnod bellach—cynnydd o 160 y cant fel yr amlinellodd Tom Giffard—sy’n wahaniaeth mawr i’w sefyllfa yn y cyfnod diweddar. Fel y gwyddom o'r holl dystiolaeth y cyfeiriwyd ati eisoes heddiw, bydd llawer yn methu bodloni'r gofyniad hwn. A beth fydd yn digwydd os nad ydynt yn gallu gwneud hynny? Byddant yn wynebu oddeutu £6,000 o fil treth bob blwyddyn, o bosibl, nad oes yn rhaid iddynt ei wynebu ar hyn o bryd, ac mae hynny'n mynd i gael effaith ar eu helw net a bydd yn sicr yn effeithio ar eu gallu i weithredu. Mae'n amlwg na fydd hyn yn bosibl i lawer ohonynt, a bydd gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn rhoi pobl allan o fusnes ac allan o waith.
Yr ail bwynt yw ein bod, fel y gwyddom, yn parhau i weld llawer o bobl yn tynhau eu gwregysau bellach. Nid nawr yw'r amser i wneud pethau'n anodd i'r busnesau hyn. Mae angen inni eu cefnogi er mwyn iddynt ffynnu a goroesi. Mae'n amlwg fod y Gorchymyn hwn wedi syfrdanu'r diwydiant, gyda llawer o fusnesau dilys ddim yn gwybod beth i'w wneud. Rydym wedi clywed heddiw fod eu hiechyd meddwl a’u llesiant wedi cael ergyd enfawr.
Y trydydd pwynt, a’r rhan fwyaf siomedig, a amlinellwyd eisoes gan Tom Giffard, yw y byddai’r diwydiant wedi derbyn cynnydd yn y cyfraddau defnydd. Maent yn barod i weithio gyda'r Llywodraeth i wneud i hyn ddigwydd. Mae'n chwerthinllyd y bydd yn rhaid i'r busnesau hunanddarpar hyn gyflawni'r newidiadau hyn yn awr heb unrhyw gyfnod pontio—cynnydd o 160 y cant heb unrhyw gyfnod pontio. Felly, beth sy'n mynd i ddigwydd i'r rhai na allant gyflawni hyn? Sut y gallwn annog y busnesau hyn i ddod i Gymru a ffynnu yn ein gwlad?
I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae’n amlwg nad yw’r Gorchymyn hwn wedi’i ystyried yn iawn, gan ei fod yn creu mwy o gwestiynau nag o atebion. Mae Llywodraeth Cymru yma, a dylai fod yma, i gefnogi busnesau i ganiatáu iddynt ffynnu yn hytrach na’u dinistrio. Heddiw, mae gennym gyfle i unioni’r newidiadau niweidiol hyn a gweithio gyda’r diwydiant twristiaeth i sicrhau cynnydd yn y cyfraddau defnydd, ie, ond un sy’n deg, un sy’n gweithio iddynt hwy, ac na fydd yn golygu bod pobl yn colli eu swyddi a'u bywoliaeth. Felly, Aelodau o bob rhan o’r Siambr, mae gennych fusnesau twristiaeth ffyniannus yn llawer o’ch rhanbarthau a'ch etholaethau. Maent yno, maent yn cefnogi eich cymunedau ac maent yn cynnig ac yn cyfrannu cymaint at y lleoedd yr ydym yn gweithio ac yn byw ynddynt. Mae heddiw'n gyfle i feddwl am y cymunedau a’r busnesau hynny, i'w cefnogi, a phleidleisio dros ddirymu’r Gorchymyn niweidiol hwn. Diolch yn fawr iawn.
Mae'n siomedig, ond nid yn annisgwyl, hwyrach, gweld y Ceidwadwyr yn neidio ar y cyfle cyntaf sydd ganddyn nhw i geisio datgymalu un o'r camau cyntaf o'r pecyn o fesurau sydd wedi eu cyhoeddi i fynd i'r afael â'r argyfwng tai—yn benodol, yr argyfwng ail dai.
Rydyn ni eisoes ar flaen y gad yma yng Nghymru, gan gymryd camau i ganiatáu codi premiwm treth cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag ers 2014, gyda Chyngor Gwynedd yn buddsoddi'r incwm ychwanegol yn eu cynlluniau i ddarparu mwy o dai cymdeithasol i bobl leol. Rŵan, ar ôl 10 mlynedd o achwyn a strancian, mae'r Ceidwadwyr am fabwysiadu polisi premiwm treth cyngor yn Lloegr hefyd. Mater o amser ydy o cyn eu bod nhw'n efelychu'r polisïau eraill yno.
Ond, fe ddangosodd y profiad cynnar o weithredu'r premiwm fod rhai perchnogion ail gartrefi wedi canfod ffordd o chwarae'r system, ac osgoi talu naill ai'r premiwm na'r un geiniog o dreth ar eu heiddo. Sgileffaith hyn oedd colli miliynau o bunnau o refeniw o'r coffrau cyhoeddus mewn sawl ardal—[Torri ar draws.]
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
A wnewch chi gydnabod nad yw hyn yn ymwneud â pherchnogion ail gartrefi nad ydynt yn cofrestru eu cartref gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac sy'n osgoi'r dreth gyngor, a bod hyn yn ymwneud â busnesau lleol Cymru? A wnewch chi gydnabod bod pob busnes sydd wedi cysylltu â mi—ac mae cannoedd ohonynt wedi gwneud bellach—yn Gymry lleol, ac eithrio un, a anwyd yng Ngwynedd ac sy'n siarad Cymraeg, ond sydd i ffwrdd gyda'r fyddin ac sydd wedi cadw ei gartref er mwyn iddo allu dychwelyd iddo pan fydd yn gadael y fyddin ac ar wyliau?
Diolch am y cyfraniad yna. Na, dydw i ddim yn derbyn hynny. Mae'r polisi yma ar gyfer cau'r loophole; dyna ydy'r pwynt. Bwriad y Gorchymyn hwn yr ydych chi fel Ceidwadwyr yn ceisio ei ddiddymu heddiw ydy cau'r bwlch, neu'r loophole, fel rydw i'n sôn, sydd yn y gyfraith.
Dwi'n meddwl y byddai'r rhan fwyaf o bobl resymol yn cytuno bod yna rywbeth sylfaenol anghywir am sefyllfa lle mae miloedd o fy etholwyr i—gweithwyr allweddol, nyrsys, ymladdwyr tân, gweithwyr siop, gweithwyr cyngor—yn byw mewn amodau annerbyniol neu'n methu â chael cartref o gwbl yn lleol, tra mae'r rheini sydd yn gallu fforddio ail gartref yn y cymunedau hynny yn medru chwarae'r system er eu budd eu hunain, a thra bod mwy a mwy o dai annedd mewn ardaloedd preswyl yn cael eu colli i'w defnyddio fel Airbnb ac ati. Airbnbs a'r platfformau hynny sydd yn bygwth cynaliadwyedd y sector llety gwyliau. Mae busnesau sefydlog ac aeddfed sydd wedi bod yn gweithredu ac yn cyfrannu at yr economi bellach yn gweld eu bodolaeth yn y fantol oherwydd y cynnydd aruthrol yma, efo nifer fawr o dai yn cael eu prynu fel asedau i'w gosod ar blatfformau fel Airbnb. Mae hyn yn tanseilio busnesau hirsefydlog.
Yn ogystal â hyn, does yna ddim math o reoleiddio ar y platfformau newydd yma. I bob pwrpas, gall unrhyw un osod eiddo ar y platfformau tra bod cwmnïau hirsefydlog sydd yn defnyddio darparwyr cyfrifol, sydd efo cydwybod gymunedol, fel Dioni, yn gorfod cyrraedd safonau penodol cyn cael eu llogi allan. Felly, rhaid peidio ag edrych ar y polisi 182 niwrnod ar ei ben ei hun. Mae'r polisi yma o 182 niwrnod yn rhan o becyn ehangach—yn yr achos yma'n benodol, y cyhoeddiad ddydd Llun am gyflwyno cyfundrefn drwyddedu statudol newydd i letyau gwyliau. Mae'r sector wedi bod yn galw am hyn ers blynyddoedd, a rŵan, fel rhan o'r cytundeb cydweithio efo Plaid Cymru, rydyn ni'n gweld hyn yn cael ei gyflwyno o'r diwedd.
Dwi'n croesawu'r ymrwymiad mae'r Gweinidog wedi'i roi yn barod yn ei datganiad ysgrifenedig ar 24 Mai wrth gyflwyno'r Gorchymyn i gadw'r pecyn yn ei gyfanrwydd dan adolygiad, gan gynnwys sut y gellir defnyddio'r mesurau diweddaraf wrth iddynt ddod yn weithredol i gyflawni'r nod yn fwyaf effeithiol. Fel y dywedodd Adam Price, mae cydweithio rhwng pleidiau, a'r angen i weithredu'n gyflym i geisio gwneud gwahaniaeth ymarferol a chyflwyno datrysiadau ar unwaith i fethiannau sydd wedi bodoli ers degawdau yn y farchnad dai, yn gofyn am gyfaddawd a phragmatiaeth—cyfaddawd ynghylch defnyddio is-ddeddfwriaeth er mwyn gweithredu'n gyflym, tra'n cydnabod cyfyngiadau ehangach ein deddfwriaeth gynradd treth gyngor, a phragmatiaeth ynghylch parhau i fireinio wrth fynd yn ein blaenau, gan gynnwys cyn i'r Gorchymyn yma ddod yn weithredol fis Ebrill nesaf.
Dwi'n croesawu hefyd felly yr ymrwymiad gan y Llywodraeth i (1) edrych ar eithriadau penodol ar gyfer llety gwyliau go iawn cyn i'r Gorchymyn ddod yn weithredol fis Ebrill nesaf, a (2) i ddiwygio'r canllawiau i gadarnhau y gall cynghorau ddileu'r liability treth gyngor mewn rhai amgylchiadau. Gellir gwneud hyn i gyd heb daflu popeth allan drwy'r ffenest a chyn i'r newidiadau ddod i rym. Felly dwi'n galw ar Aelodau i wrthod y cynnig. Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod dros Orllewin De Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn? Mae'n deg dweud bod y sector twristiaeth yn hanfodol i gynifer o'n cymunedau, sydd wedi'u taro mor galed gan y pandemig ac sy'n pryderu'n fawr am effaith bosibl y rheoliadau hyn, fel y mae Tom Giffard a Sam Rowlands wedi'i fynegi'n huawdl. Yn wir, fel y nodwyd yn y dystiolaeth a ddarparwyd gan nifer o gyrff twristiaeth yng Nghymru, dim ond naw ymateb i ymgynghoriad gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar y cynigion hyn a oedd o blaid cynnydd yn y trothwy defnydd, ac rwy'n anobeithio ynghylch y diffyg dealltwriaeth o'n heconomi bwysig yng Nghymru a'r ffaith bod y materion hyn sy'n ymwneud â pherchnogaeth tai a busnesau yn cael eu cyfuno heb roi digon o ystyriaeth briodol i hynny.
Nid yw'n golygu bod y diwydiant yn erbyn y cynnydd yn y trothwy defnydd, ond y pryder yw y bydd cynnydd mor fawr yn y trothwy, fel y'i cynigiwyd gan y Llywodraeth, yn golygu y bydd yn rhaid i lawer mwy o fusnesau hunanddarpar dalu'r dreth gyngor, sef 300 y cant o'r cyfraddau arferol o bosibl yn y cymunedau hynny, rhywbeth nad yw llawer o'r busnesau hynny, sy'n dal i wella o effeithiau'r pandemig, yn gallu ei fforddio. Ceir pryderon hefyd ynghylch yr effaith y gallai'r argyfwng costau byw ei chael ar y sector twristiaeth, a allai amharu ymhellach ar allu busnesau i gyrraedd y trothwy newydd. Yn wir, mae Cynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality Cymru ac eraill wedi rhybuddio y gallai cynifer â 30 y cant o fusnesau hunanddarpar, fel y clywsom eisoes, gau neu werthu o ganlyniad i'r newidiadau hyn. Nid yn unig y byddai hyn yn niweidio ein sector twristiaeth, ond byddai'n amlwg yn peryglu bywoliaeth a swyddi pobl. Felly, Ddirprwy Lywydd, credaf na ddylid gweithredu'r rheoliadau hyn ac y dylai'r Llywodraeth ailasesu ei safbwynt.
Fodd bynnag, os yw'r Llywodraeth a Phlaid Cymru yn glynu wrth eu safbwynt presennol, rwy'n llwyr gefnogi galwadau i gyflwyno eithriadau yn unol â'r ddeiseb bresennol a gyflwynwyd i'r Senedd gan nifer o sefydliadau twristiaeth. Yn benodol, rhaid cael proses apelio briodol yn ogystal ag eithriad ar gyfer tai i'w gosod sydd wedi'u cyfyngu gan ganiatâd cynllunio. Mae'r agwedd olaf hon yn rhywbeth sydd wedi bod yn destun pryder i nifer o fy etholwyr. A yw'n deg, mewn gwirionedd, y bydd busnesau gwledig, sydd wedi cael eu hannog i arallgyfeirio i'r sector twristiaeth, yn cael eu llyffetheirio gan reolau cynllunio fel na fyddent yn gallu newid defnydd eu llety pe na baent yn dymuno parhau yn y sector twristiaeth mwyach o ganlyniad i'r rheolau hyn?
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio o blaid y cynnig ac yn erbyn y rheoliadau hyn, sy'n amlwg yn annoeth.
Cyn imi ddechrau, gadewch imi fod yn glir iawn; gwyddom i gyd ar draws y Siambr hon fod problem gydag ail gartrefi yng Nghymru sy'n atal ein pobl ifanc a'n gweithwyr allweddol lleol, fel y dywedodd Mabon ap Gwynfor, rhag cael troed ar yr ysgol eiddo. Ond nid wyf yn credu mai ymosod ar fusnesau gwyliau dilys yw'r ffordd gywir o fynd i'r afael â'r broblem. Rwyf wedi cael fy llethu gan ohebiaeth gan fusnesau twristiaeth yn fy etholaeth ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu Gorchymyn ardrethu annomestig 2022. Mae'r cynnydd yn nifer y diwrnodau o ddefnydd i 182 yn naid enfawr o'r trothwy presennol, ac yn gynnydd sylweddol ar lefel Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi o 105 diwrnod y flwyddyn. Mae llawer o fusnesau gwyliau yn ofni nad oes modd cyrraedd y trothwy o 182 diwrnod y flwyddyn a bydd yn gorfodi llawer i roi'r gorau i fasnachu. Rwy'n credu ei bod yn werth ailadrodd yr hyn a ddywedodd Tom Giffard. Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru, Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU ac UKHospitality Cymru wedi rhybuddio y gallai newidiadau treth orfodi cymaint â 30 y cant o fusnesau hunanddarpar i gau neu werthu. Tri deg y cant. Bydd hynny'n cael effaith andwyol enfawr ar economi leol, ar draul swyddi a bywoliaeth pobl, ac mae hynny'n rhywbeth—[Torri ar draws.] Rwy'n fodlon derbyn ymyriad, Mr Kurtz.
Diolch, James. Dyna un o'r pethau sy'n peri pryder gwirioneddol yn hyn—nad yw llawer o'r eiddo a fydd yn cael eu llyffetheirio gan hyn erioed wedi bod yn eiddo preswyl. Maent yn dai allan sydd wedi cael eu datblygu ar ffermydd, er enghraifft, nad ydynt erioed wedi bod yn gartrefi parhaol i bobl, ond sy'n rhan mor bwysig o'r economi leol.
Mae hynny'n gwbl gywir, a dyna y mae'n rhaid inni ei gael yma. Dyna pam y bydd eithriadau Llywodraeth Cymru yn allweddol iawn, ac rwyf eisiau clywed mwy gan y Gweinidog am hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi dewis bwrw ymlaen â'u cynlluniau treth er eu bod wedi cael tystiolaeth am yr effaith niweidiol ar y sector. Mae'r sefydliadau a oedd gyda ni heddiw wedi arolygu mwy na 1,500 o fusnesau hunanddarpar ledled Cymru, ac mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi dewis anwybyddu'r rheini. Sylwaf fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar—[Torri ar draws.] Rwy'n fodlon derbyn ymyriad, iawn.
Onid ydych yn derbyn y bydd y cynllun trwyddedu yn helpu'r sector mewn gwirionedd, y sector cynhenid sydd wedi bod yn gweithio ers degawdau yn ein cymunedau, a hefyd mai'r broblem fwyaf sy'n wynebu'r sector hwnnw yw'r cynnydd enfawr mewn Airbnbs, a dyna'r bobl sy'n effeithio ar nifer y nosweithiau y bydd pobl yn aros yn y llety yng Nghymru ar hyn o bryd?
Credaf fod Airbnbs yn broblem, ond mae yna fusnesau lletygarwch dilys y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnynt.
Sylwaf fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar eithriadau, ond nid wyf yn credu eu bod yn mynd yn ddigon pell. Beth am lety gwyliau nad ydynt mewn cyrchfannau gwyliau poblogaidd, sydd â thymhorau twristiaeth byr iawn? Sut y gwnawn ni ymdopi â hynny? Beth am y busnesau na allant weithredu drwy gydol y flwyddyn? Oherwydd nid oes gan rai ohonynt wres digonol yn ystod misoedd oer y gaeaf. Anogodd Llywodraeth Cymru fusnesau fferm i arallgyfeirio ac erbyn hyn mae Llywodraeth Cymru wedi'u gadael ar y clwt heb—. Beth am y llety gwyliau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer grwpiau elusennol? A ydych wedi meddwl am hynny? Nid wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi meddwl am hynny. Fel y mae eraill yn mwmian wrth fy ochr, gallai eich rhestr o eithriadau fynd ymlaen ac ymlaen.
Y broblem sylfaenol yma yw ein bod yn bygwth busnesau gwyliau go iawn a bywoliaeth pobl, ac maent yn cael eu cosbi—eu cosbi—gan y Llywodraeth hon am nad yw'r Llywodraeth yn adeiladu digon o dai. Dyna'r broblem yma, ac rwyf wedi gweld tai gwyliau yn dod yn ôl ar y farchnad yn fy etholaeth am fod pobl yn eu gwerthu am £400,000. Hoffwn wybod sut y gall y Gweinidog feddwl y gall pobl ifanc leol godi £400,000, oherwydd gallaf eich sicrhau na all pobl yn fy etholaeth i wneud hynny.
Rydym yn defnyddio ffigurau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi mewn llawer o feysydd eraill, megis ar gyfer ein lwfans cyfradd y filltir. Pam na allwn ddefnyddio'r trothwy 105 diwrnod ar gyfer busnesau gwyliau? Mae'r ardrethu annomestig hyn yn farwolaeth araf a phoenus i'n diwydiant lletygarwch. Mae'r cyhoeddiad yr wythnos hon gan y Prif Weinidog ac Adam Price i sicrhau mwy o reoleiddio, mwy o fiwrocratiaeth, mwy o gostau i'n busnesau, gan frifo'r diwydiant pan fo angen mwy o gefnogaeth gan y Llywodraeth hon, nid llai—. Felly, yn eich cytundeb cydweithio, pan fyddwch yn gweithio gyda'ch gilydd, credaf ei bod yn hen bryd i'r ddau ohonoch gefnogi ein busnesau a chefnogi ein diwydiant lletygarwch, oherwydd dyna y mae ein gwlad ei eisiau, ac nid oes angen i'r Llywodraeth hon lethu ein sector twristiaeth â threthi. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r cynnig heddiw.
Ar 2 Mawrth, dros 12 mis cyn i'r newidiadau ddod i rym yn ymarferol, cyhoeddais ganlyniad ein hymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar. Ers hynny, rwyf wedi ateb cwestiynau gan Aelodau yn y Siambr ac mewn mannau eraill, rwyf wedi ymateb i ddadl gan yr wrthblaid ar bwnc y cynnig heddiw, ac rwyf hefyd wedi cael trafodaethau gyda rhanddeiliaid. Drwy gydol y cyfnod hwn rwyf wedi bod yn glir am benderfyniadau Llywodraeth Cymru, ac am amseriad y newidiadau. Rwyf wedi esbonio'r rhesymau y tu ôl i'n penderfyniad i gynyddu'r trothwyon gosod ar gyfer llety hunanddarpar i'w dosbarthu fel llety annomestig at ddibenion trethiant lleol. Bydd ein dull o weithredu yn sicrhau na fydd yr eiddo dan sylw ond yn cael ei ystyried yn eiddo annomestig os yw'n cael ei ddefnyddio at ddibenion busnes am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, ac os caiff ei osod yn llai aml, bydd yn rhaid iddynt dalu'r dreth gyngor. Mae hyn yn ymwneud â pherchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i'r cymunedau lle mae ganddynt gartrefi neu lle maent yn rhedeg busnesau. Mae gweithredwyr hunanddarpar—[Torri ar draws.] Gwnaf.
A fyddech yn derbyn ac yn cyfaddef bod cyfraniad teg i'r gymuned yn aml yn edrych fel busnesau ffyniannus sy'n cefnogi bywoliaeth pobl ac yn rhoi bwyd ar eu byrddau? Os nad yw'r busnesau hynny'n bodoli yn ein cymunedau, nid yw'r cyfraniad teg hwnnw i'n cymunedau yn bodoli.
Credaf fod yn rhaid gwneud y cyfraniad teg i gymunedau yng nghyd-destun cymunedau cynaliadwy, lle mae gennym gydbwysedd o fusnesau a chydbwysedd o drigolion yno. Gwyddom fod yna gymunedau yng Nghymru lle mae 40 y cant o'r eiddo'n ail gartrefi sydd weithiau'n cael eu gosod fel tai gwyliau. A gwyddom, am rannau helaeth o'r flwyddyn, mewn rhai ardaloedd, y bydd y goleuadau wedi'u diffodd. Felly, mae angen inni gefnogi'r busnesau hyn i ddod—[Torri ar draws.]
Gofynnaf i'r Aelodau ganiatáu i'r Gweinidog ateb y cwestiwn a gorffen ei chyfraniad.
Credaf fod y mater y cyfeiriodd Mabon ap Gwynfor ato yn ei gyfraniad, ynglŷn â sicrhau cydbwysedd rhwng y rheini ym mhen mwy achlysurol y sector a'r rhai sy'n fusnesau sefydledig, yn bwysig ac y bydd gwaith ar gofrestru yn bwysig wrth wneud hynny, fel y gallwn symud pobl tuag at y busnesau mwy sefydledig a'u cefnogi i osod yr eiddo am nifer fwy o nosweithiau o'r flwyddyn. Ond dof at rai pwyntiau pellach ar hynny, oherwydd, fel rydym wedi'i ddweud, bydd gweithredwyr hunanddarpar uwchlaw'r trothwyon yn gwneud eu cyfraniadau i'r gymuned drwy'r gweithgarwch economaidd uwch y maent yn ei gefnogi, a bydd y rhai sy'n is na'r trothwy yn gwneud eu cyfraniad drwy'r dreth gyngor yn yr un modd â'r rhai nad ydynt yn bodloni'r trothwyon presennol. Ac mae hyn, yn ei dro, yn rhan o'n dull triphlyg o fynd i'r afael â'r effaith y gall nifer fawr o ail gartrefi a thai gwyliau ei chael ar gymunedau. Ac fel y gwyddoch, dyna yw'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn partneriaeth drwy'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Ac rwy'n cydnabod cryfder y teimladau ymhlith gweithredwyr, ac rwyf wedi clywed y sylwadau hynny gan unigolion a chynrychiolwyr y diwydiant.
Yng nghyd-destun y flaenoriaeth bolisi ehangach, i gefnogi'r cymunedau cynaliadwy hynny a thai fforddiadwy, mae terfyn ar y dystiolaeth sydd ar gael mewn perthynas ag effaith unrhyw opsiwn, mae hynny'n wir, ond mae hynny hefyd yn cynnwys gwneud dim. Mae'r dystiolaeth sydd ar gael wedi cael ei hystyried ac mae wedi'i chyhoeddi i bob Aelod ei gweld yn yr asesiad effaith rheoleiddiol sy'n dod gyda'r Gorchymyn. Ac rwy'n cydnabod y gallai'r meini prawf cryfach fod yn heriol i rai gweithredwyr, ond mae'n bwysig cydnabod bod tystiolaeth yn dangos bod defnydd cyfartalog eiddo hunanddarpar yn fwy na 50 y cant dros y tair blynedd cyn y pandemig. Felly, mae llawer o weithredwyr ym mhob rhan o Gymru eisoes yn bodloni'r meini prawf newydd. A chredaf ei bod yn rhesymol disgwyl i fusnesau fabwysiadu model gweithredu sy'n gwneud y defnydd gorau o'u heiddo a'r budd a ddaw yn ei sgil i gymunedau lleol. [Torri ar draws.] Rwy'n fodlon derbyn ymyriad, Lywydd.
Mae gennych amser i dderbyn ymyriad os dymunwch.
Rwy'n hapus i wneud ymyriad. Byddai'r rhan fwyaf o weithredwyr wrth eu bodd i'w heiddo gael ei ddefnyddio am fwy na 50 y cant o'r flwyddyn, ond nid dyna'r realiti mewn sawl rhan o Gymru. Ac nid wyf yn credu bod gosod rheol defnydd mympwyol o 50 y cant drwy'r flwyddyn yn deg iawn, Weinidog. Byddwn wrth fy modd pe baech yn dod i gyfarfod â rhai o'r busnesau bach iawn yn fy etholaeth sy'n dibynnu ar yr incwm hwn i roi bwyd ar y bwrdd ac a fydd bellach yn wynebu distryw ariannol posibl o ganlyniad i'ch penderfyniad.
Wel, fel y dywedais, mae'r defnydd cyfartalog yn uwch na 50 y cant dros y tair blynedd cyn y pandemig, felly mae nifer o'r busnesau hynny'n cyrraedd y trothwy hwnnw, ac rwyf eisoes wedi sôn am y pwynt am y system reoleiddio, a fydd yn helpu i wthio twristiaid ac ymwelwyr tuag at y busnesau sefydledig hynny ac i ffwrdd o ben mwy achlysurol y farchnad, sy'n cael effaith, rwy'n credu, ar fusnesau.
Wrth gwrs, bydd nifer o newidiadau ymddygiadol posibl yn digwydd ymhlith perchnogion ail gartrefi a llety hunanddarpar mewn ymateb i'r newidiadau, ac wrth gwrs mater i berchnogion unigol yw ystyried y dull y maent yn ei fabwysiadu. Ond rwy'n cydnabod, ac mae nifer o gyd-Aelodau wedi cyfeirio at hyn, fod peth eiddo hunanddarpar wedi'i gyfyngu gan amodau cynllunio sy'n atal meddiannaeth barhaol fel prif breswylfa. Mae eithriad o bremiwm treth gyngor eisoes yn cael ei ddarparu ar gyfer un math o amod cynllunio ac fel y dywedais droeon bellach yn y Siambr hon, rwy'n ystyried a ddylai eithriad fod yn berthnasol i amodau cynllunio eraill. Fy mwriad yw y bydd unrhyw newidiadau angenrheidiol yn dod i rym o 1 Ebrill 2023, ochr yn ochr â'r trothwyon uwch.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mae amser y Gweinidog yn dirwyn i ben.
Un cyflym iawn.
Na, mae amser y Gweinidog wedi dod i ben. Bydd yn cael amser rwy'n ei ganiatáu oherwydd ymyriadau blaenorol yn awr.
Iawn, fe geisiaf ddirwyn i ben. Byddaf hefyd yn cyhoeddi'r canllawiau diwygiedig y clywsom amdanynt mewn perthynas â'r opsiynau ychwanegol sydd ar gael os nad yw eiddo hunanddarpar sydd wedi ei gyfyngu gan amodau caniatâd cynllunio yn bodloni'r trothwyon hynny. Mae'r opsiynau hyn yn cynnwys disgresiwn i ostwng neu hyd yn oed i ddileu cyfradd safonol y dreth gyngor ar gyfer eiddo penodol lle y bernir ei bod yn briodol gan yr awdurdod lleol—a mater i awdurdodau lleol yw penderfynu a ddylid codi premiwm ac ar ba lefel i'w godi. Ond ni ddylem dybio y bydd pob awdurdod lleol yn mabwysiadu uchafswm premiwm uwch y dreth gyngor o 300 y cant a fydd yn cael ei ganiatáu o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf. Mae'r pwerau wedi bod ar gael i'w gynyddu 100 y cant ers 2016, a dim ond tri awdurdod lleol sy'n codi'r uchafswm hwnnw ar hyn o bryd.
Felly, i gloi, fel rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, rydym yn cymryd camau uniongyrchol i fynd i'r afael ag effaith ail gartrefi a thai anfforddiadwy mewn cymunedau ledled Cymru, gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthiant. Rydym yn cydnabod bod y rhain yn faterion cymhleth sy'n galw am ymateb amlweddog ac integredig, ac ni fydd newidiadau i'r trethi lleol ar eu pen eu hunain yn rhoi'r ateb i ni, a dyna pam ein bod yn datblygu'r pecyn hwnnw o ymyriadau. Felly, Ddirprwy Lywydd, hoffwn annog yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y cynnig heddiw.
Galwaf ar Tom Giffard i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau gwerthfawr i fy nghynnig i ddirymu heddiw? Clywsom gan amrywiaeth o Aelodau ar draws y Siambr, ac rwyf am gyfeirio at rai o'u sylwadau'n gyflym iawn. Dechreuodd Sam Rowlands drwy sôn am yr effaith economaidd—y bil treth ychwanegol o £6,000 y bydd rhai o'r busnesau hyn yn gorfod ei dalu yn awr. Dywedodd Peter Fox nad dyma'r amser cywir ar ei gyfer. Rydym newydd gefnu ar bandemig, rydym yn wynebu argyfwng costau byw—nid dyma'r adeg iawn, os bu un erioed, i weithredu'r newidiadau hyn yn y lle cyntaf. A siaradodd James Evans lawer hefyd am y dull unffurf o weithredu'r mesurau ar draws y wlad. Os ydym eisiau annog twristiaeth ledled Cymru ac mewn gwahanol rannau o Gymru, ni allwn gael un rheol unffurf o 182 diwrnod ledled y wlad. Nid yw'n gweithio. Soniodd Sam Kurtz hefyd fod y polisi hwn yn methu'r nod yn llwyr. Bydd eiddo nad yw erioed wedi bod ar gael at ddefnydd preswyl yn cael ei ddal yn y newidiadau hyn hefyd.
A gaf fi sôn am gyfraniad pwysig Mabon ap Gwynfor—[Torri ar draws.]
A gaf fi siarad yn gyflym iawn am gyfraniad Mabon ap Gwynfor hefyd, pan soniodd am or-dwristiaeth? Credaf fod y diwydiant twristiaeth eisiau helpu i ddatrys problemau gor-dwristiaeth—mae wedi dweud ei fod eisiau gwneud hynny—yn yr ardaloedd lle mae nifer yr ail gartrefi'n uwch. Ond fel y dywedodd Mark Isherwood, mae hynny'n cyfuno dau fater gwahanol yma, ac o ganlyniad, mae'r busnesau hyn wedi cael eu llesteirio gan faich treth uwch i'w dalu yn lle hynny.
Ac yn olaf gan y Gweinidog, nodais eich bod wedi sôn llawer am gyfraniad teg, ac fel y dywedodd Sam Rowlands, nid oedd cydnabyddiaeth gan y Gweinidog, rwy'n credu, mai cyfraniad teg i ardal leol yw economi ffyniannus yn yr ardal honno—fod y busnesau lleol hynny ar agor. A dyna y mae twristiaid yn ei ddisgwyl pan fyddant yn ymweld ag ardal—maent eisiau cymuned leol ffyniannus hefyd, a heb y busnesau hyn yn yr ardal honno, efallai na fydd hynny'n digwydd.
Ac yn olaf, rwyf eisiau siarad am yr eithriadau hefyd. Rydym yn gwneud hyn yn y ffordd hollol anghywir, Weinidog. Gofynnir inni bleidleisio i gefnogi'r Bil hwn heddiw heb wybod am yr eithriadau a fydd yn dilyn. Mae'n ffordd gwbl anghywir o'i wneud. [Torri ar draws.] Yn sicr.
Diolch. Mae'r Gweinidog yn dweud bod eithriadau ar waith, ond onid yw hyn yn cadarnhau bod y polisi hwn y tu ôl ymlaen yn y lle cyntaf, a bod y polisi hwn yn anghywir ac yn annheg, oherwydd dylai'r eithriadau fod wedi cael eu hystyried yn gynharach o lawer, nid yn awr?
Ydy. Rwy'n credu bod y polisi hwn wedi'i ruthro, a dweud y gwir, i fodloni gofynion ac anghenion Plaid Cymru a'r cytundeb cydweithio.
Felly, i gloi—. Wel, rwyf am ddweud un peth arall wrth Russell, roedd yn werth nodi—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
O, rwy'n hapus i dderbyn ymyriad gan y dirprwy Brif Weinidog.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
A ydych chi'n sylweddoli mai'r rheswm pam ein bod yn cyflwyno'r pecyn hwn o fesurau ar frys yw oherwydd ein bod yn wynebu argyfwng tai yn y cymunedau hyn? Ac nid ydym am ymddiheuro am gydnabod brys yr argyfwng y mae pobl ifanc, yn enwedig, yn ei wynebu yn ein cymunedau.
Nid wyf yn credu eich bod yn cydnabod bod y bobl hyn wedi'u lleoli yn y cymunedau hyn. Maent yn cynnal ac yn gweithredu busnesau mewn lleoedd fel sir Gaerfyrddin. Maent yn rhan annatod o'r cymunedau hynny ac yn helpu i'w cynnal. Mae'r ffaith bod eich plaid chi a'r Blaid Lafur yn eu cosbi yn y ffordd hon yn gwbl annheg—[Torri ar draws.]—a chredaf ei bod yn werth nodi na wnaeth yr un aelod o'r meinciau cefn Llafur godi i gefnogi'r rhain—
A gaf fi ofyn i bob Aelod gadw'n dawel, oherwydd rwyf eisiau clywed cyfraniad yr Aelod?
Nid oes unrhyw aelod o'r meinciau cefn Llafur wedi codi i amddiffyn eich cynlluniau heddiw, Weinidog. Credaf fod hwnnw'n bwynt sy'n werth ei wneud hefyd. Ac felly, byddwn yn annog yr Aelodau i bleidleisio i ddirymu'r Bil hwn heddiw—pleidleisiwch i achub twristiaeth Cymru cyn i'r ergyd driphlyg hon o gyhoeddiadau a pholisïau gan Lywodraeth Cymru ein gadael heb unrhyw sector ar ôl i'w arbed.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gallaf weld gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 7, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: gwaharddiad ar gymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent. Galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8038 Luke Fletcher
Cefnogwyd gan Carolyn Thomas, Peredur Owen Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i wahardd cymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) cyflwyno cytundeb tenantiaeth safonol tebyg i gytundeb tenantiaeth enghreifftiol Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021;
b) cynnig cyfres o fesurau a fyddai'n sicrhau nad yw perchnogion anifeiliaid anwes cyfrifol yn cael eu trin yn annheg o ganlyniad i'r math o lety y maent yn byw ynddo;
c) caniatáu mai'r sefyllfa ddiofyn gyfreithiol yw caniatáu anifeiliaid anwes mewn tai cymdeithasol a'r sector rhentu preifat, oni bai bod rheswm y gellir ei gyfiawnhau dros beidio â gwneud hynny;
d) ymestyn caniatáu anifeiliaid anwes mewn llochesi a llety i bobl ddigartref.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am neilltuo amser i'r cynnig hwn a diolch i'r Aelodau sydd eisoes wedi mynegi cefnogaeth. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, Dogs Trust, Blue Cross a Cats Protection am eu cefnogaeth yn y cyfnod cyn y ddadl hon.
Amcangyfrifir bod tua hanner yr aelwydydd yng Nghymru yn berchen ar anifeiliaid anwes, ond yn y sector rhentu preifat mae tenantiaid yn aml yn sôn am waharddiadau cyffredinol ar gadw anifeiliaid anwes. Pan oeddwn i a fy mhartner yn ceisio rhentu lle, dywedodd yr asiant tai wrthym y byddai cael ci yn broblem enfawr. Mewn tai cymdeithasol, mae yna bolisi anifeiliaid anwes nad yw wedi cael ei ddatblygu'n ddigonol, tra bod pobl ddigartref yn wynebu'r penderfyniad rhwng cael llety diogel neu gadw eu hanifeiliaid anwes.
I'r rheini ohonom sy'n berchen ar anifail anwes—ac unwaith eto, mae'r rhan fwyaf ohonoch yn gwybod fy mod yn berchen ar filgi bach—mae'n rhan fawr o'r teulu. Dyna pam y mae'r penderfyniadau y mae pobl yn cael eu gorfodi i'w gwneud mor dorcalonnus.
Wrth agor y ddadl hon, mae rhai pwyntiau rwyf eisiau sôn amdanynt. I ddechrau, ychydig iawn o resymau neu broblemau sydd yna na ellir eu datrys o ran pam na all rhywun fod yn berchen ar anifail anwes mewn llety rhent. Pan fyddwch yn chwilio am dŷ, mae bod yn berchen ar anifail anwes yn rhwystr ychwanegol sydd, i rai, yn anorchfygol. Mae Dogs Trust yn gweithredu prosiect Lets with Pets, sy'n ceisio annog landlordiaid ac asiantaethau gosod tai i dderbyn tenantiaid ag anifeiliaid anwes a gwneud y gwaith o chwilio am dŷ yn haws i denantiaid, ac mae wedi bod yn orchwyl anodd iddynt.
Mae'n waeth byth pan edrychwch arno o safbwynt digartrefedd. Mae prosiect Hope, sydd eto'n cael ei redeg gan Dogs Trust, yn ceisio helpu pobl ddigartref gyda mynediad at wasanaethau a chymorth, ond unwaith eto, mae bod yn berchen ar anifail anwes yn rhwystr sylweddol. Mae'r rhan fwyaf o ddarpariaethau llety i bobl ddigartref yn amharod i roi lle i rywun sydd ag anifail anwes oherwydd y pryder y gallai fod angen ystafell arnynt am amser hir, o gofio'r anhawster i ddod o hyd i lety sy'n caniatáu anifeiliaid anwes yn y sector tai—cylch dieflig.
Mae'r frwydr honno, yn ei thro, yn cysylltu â'r argyfwng lles a wynebwn gyda llochesi anifeiliaid. Mae Dogs Trust ac achubwyr eraill yn aml yn dweud bod anawsterau i ddod o hyd i lety yn cael ei nodi fel rheswm pam fod pobl yn trosglwyddo eu hanifeiliaid iddynt.
Felly, beth allwn ni ei wneud? Ar hyn o bryd, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i ddeddfu ynghylch cadw anifeiliaid anwes mewn eiddo ar rent. Mae'n rhaid i'r sefyllfa hon newid. Mae angen Deddf anifeiliaid anwes mewn tai ar Gymru. Hyd yn oed pe baem yn ychwanegu at Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, mae'r RSPCA, ymhlith eraill, wedi codi pryderon y byddai landlordiaid yn dal i wrthod anifeiliaid anwes. Maent yn gwneud hynny ar raddfa fawr yn barod, felly oni bai ein bod yn ei gwneud yn glir na allant wrthod heb reswm da, byddant yn parhau i wneud hynny. Rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn cytuno na allwch roi modfedd i landlordiaid.
Nid wyf yn dweud hyn yn aml, ond mae Llywodraeth y DU yn gwneud un peth yn iawn drwy ddeddfu i gryfhau hawliau perchnogion anifeiliaid anwes. Dyna'r union fath o beth y dylem fod yn ei wneud yma. Mae amser yn brin, a gwn fod nifer o Aelodau eisiau cyfrannu, ond hoffwn annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Cefnogwch y cynnig i roi hawl i bawb gael cydymaith a chefnogwch y cynnig i'w gwneud yn haws i denantiaid a'r rhai sy'n profi digartrefedd gadw anifeiliaid sydd wedi dod yn aelodau o'u teuluoedd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i Luke am gyflwyno'r ddadl hon. Diolch yn fawr iawn. Fe wyddoch i gyd fod gennyf filgi o'r enw Arthur. Nid wyf erioed wedi bod yn ddigartref, ond pe byddwn wedi bod yn y sefyllfa honno, nid wyf yn gwybod pa ddewis y byddwn yn ei wneud—naill ai cysgu yn rhywle lle na allwn fod gydag Arthur neu barhau i fod gydag ef a bod allan ar y stryd o bosibl. Dyna'r mater rwyf eisiau canolbwyntio arno, y bobl sy'n ddigartref, y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, Luke, atynt.
Amcangyfrifir bod gan 10 y cant o'r bobl sy'n ddigartref anifeiliaid anwes, ac eto mae'r rhan fwyaf o lochesi i'r digartref a thai cymdeithasol yn gweithredu polisi 'dim anifeiliaid anwes' cyffredinol. Mae hwn yn amlwg yn rhwystr enfawr i'r rhai sy'n ceisio mynd i loches i'r digartref, sy'n golygu bod llawer yn cael eu gwrthod o lety ac yn cael eu gadael heb gartref. Er enghraifft, dim ond wyth hostel y gallai'r RSPCA eu nodi ledled Cymru sy'n gweithredu polisi sy'n ystyriol o gŵn. Mae hyn yn gadael pobl ddigartref mewn sefyllfa amhosibl ac mae hefyd yn golygu bod lles anifeiliaid mewn perygl hefyd.
Gwyddom pa mor bwysig yw cŵn yn arbennig i bobl ddigartref. Maent yn rhoi cymorth iddynt, cwmni, cynhesrwydd pan fydd hi'n oer a chyfle iddynt fod gyda rhywun sydd wedi bod drwy gymaint hefyd. Mae'n wirioneddol hanfodol ein bod yn ystyried rhoi'r gorau i'r polisi 'dim anifeiliaid anwes' hwn.
Mae gwaith ymchwil arall yn dangos nad oes yr un awdurdod lleol yng Nghymru wedi mynd i'r afael â mater anifeiliaid anwes yn eu strategaeth ddigartrefedd, felly, heb ymyrraeth llywodraeth genedlaethol yma yng Nghymru, nid yw'n ymddangos y bydd y mater yn cael sylw priodol, a bydd pobl sy'n ddigartref yn parhau i orfod ymdopi â heriau wrth gael gafael ar lety a'r dewis ofnadwy hwnnw.
Byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn ac rwy'n falch o weld y bydd Cymru, gobeithio, yn cymryd cam pwysig ymlaen drwy ddileu'r gwaharddiad cyffredinol hwn, sy'n sylfaenol annheg ac sy'n effeithio ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Gobeithio na fyddaf byth yn ddigartref yng Nghymru, ond os byddaf, gobeithio na fyddaf yn cael fy ngwahanu oddi wrth Arthur. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Luke am gyflwyno’r cynnig hwn. Mae'n un rwyf wedi'i gefnogi ers tro, ac yn wir, mae'r ddeiseb i'r Senedd i wahardd cymalau 'dim anifeiliaid anwes', a lofnodwyd gan fwy na 850 o bobl, yn tarddu o fy etholaeth i yng Ngogledd Cymru gan Sam Swash.
Ar lefel egwyddorol, mae'n gwbl annheg fod y gallu i fod yn berchen ar anifail anwes yn dibynnu, ar hyn o bryd, ar p'un a ydych yn berchen ar dŷ ai peidio. Mae diffyg deddfwriaeth sy'n gwahardd cymalau 'dim anifeiliaid anwes' yn gosod cosb bellach ar y nifer cynyddol o bobl, yn enwedig pobl ifanc, nad ydynt yn gallu mynd ar yr ysgol dai. Byddai’n well gan y rhan fwyaf o’r bobl hyn gael eu cartref eu hunain, ond ni allant wneud hynny oherwydd anghydraddoldeb cyfoeth, prisiau tai uchel iawn a phrinder tai fforddiadwy. Maent yn aml yn cael eu gorfodi i rentu o anghenraid, gan dalu mwy mewn taliadau rhent nag y byddent mewn taliadau morgais, am fod ein system dai wedi torri i'r fath raddau. Ac mae cyfyngu ymhellach ar ryddid y grŵp hwn o bobl i fod yn berchen ar anifail anwes, a fyddai'n dod â chysur mawr iddynt, yn halen ar y briw.
Nid yw unrhyw gymdeithas sy’n rhoi cyfyngiadau ar hawliau pobl yn seiliedig ar eu gallu i fforddio eiddo yn un sydd â’r hawl i alw ei hun yn flaengar. Mae tenantiaid ac anifeiliaid anwes yn dioddef bob dydd ledled Cymru oherwydd y gwaharddiadau cyffredinol cosbol hyn ar anifeiliaid anwes. Y prif reswm a roddir dros roi cŵn mewn canolfannau ailgartrefu yw oherwydd newid yn amgylchiadau pobl, sef methu byw mewn eiddo rhent gydag anifail anwes. Mae’n gwbl amlwg fod y ddeddfwriaeth bresennol yn methu. Nid oedd annog landlordiaid i fod yn fwy cymwynasgar drwy rannu arferion gorau â hwy byth yn mynd i fynd i'r afael â'r broblem hon, fel yr amlygir yn y ffaith bod llai na 7 y cant o eiddo rhent preifat yn cael eu hysbysebu fel rhai sy'n gyfeillgar i anifeiliaid anwes—llai na 7 y cant.
Rwy'n aml yn clywed esgusodion am y niwed posibl y gallai anifeiliaid anwes ei wneud i eiddo rhent, ac eto ychydig iawn o denantiaid preifat sy’n berchen ar anifeiliaid anwes sy’n achosi difrod i’r eiddo y maent yn ei rentu—nid yw’n digwydd. Yn ychwanegol at hynny, yn ôl Shelter Cymru, nid yw 34 y cant o lety rhent preifat yng Nghymru yn bodloni'r safonau ar gyfer amodau byw boddhaol beth bynnag. Pan nad yw mwy na thraean o dai rhent preifat yng Nghymru yn bodloni safonau byw derbyniol, mae’n amlwg nad yw’r landlordiaid hyn yn ddarostyngedig i'r un safonau â thenantiaid, pan fydd tenantiaid yn cael eu cosbi'n llym ar sail digwyddiadau damcaniaethol, posibl.
Nid yw’r sefyllfa yng Nghymru yn un gynaliadwy mwyach, a chaiff hyn ei waethygu gan y ffaith bod Llywodraeth y DU, nad yw’n enwog am ei hagweddau blaengar, eisoes wedi deddfu i roi diwedd ar yr arfer hwn. A byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i roi cynnig Luke ar waith cyn gynted â phosibl i sicrhau nad ydym yn parhau i wahaniaethu yn erbyn tenantiaid ag anifeiliaid anwes yma yng Nghymru.
Un o'r darnau cyntaf o waith achos ces i ar ôl cael fy ethol oedd apêl am help gan fenyw oedd wedi cael ei hail-gartrefi a'i had-leoli yn sgil dianc o gamdriniaeth ddomestig. Roedd hi mewn cyflwr hynod fregus, wedi gorfod symud o'i chartref a'i chymuned i dref newydd, wedi gorfod symud ei merch i ysgol newydd, yn ceisio gwneud ffrindiau newydd ac ymdopi â'r trawma a ddioddefodd yn sgil trais domestig.
Roedd ganddi hi hwyaid, ac fe soniodd hi wrthyf i fod gwylio'r hwyaid a gofalu amdanynt yn ei helpu i ymdopi â'r straen meddyliol oedd arni, ond doedd y gymdeithas tai ddim yn fodlon iddi gadw'r hwyaid am eu bod yn cael eu cyfrif nid fel anifeiliaid anwes ond fel da byw.
Es i i'w gweld. Nifer fach o hwyaid bach oedd y rhain, wedi eu cadw yn lan ac yn ddestlus mewn cwt bach pwrpasol pert yn ei gardd gefn—anifeiliaid anwes oedd yn dod â phleser a chysur i berson bregus oedd dirfawr angen y pleser a'r cysur hwnnw. Dwi'n cofio hi'n dweud wrthyf i, 'Dwi'n cael fy nhrin yn wahanol gan nad ydw i'n medru fforddio prynu fy nghartref.'
Fe ildiodd y gymdeithas tai yn y pen draw, ar ôl i fi ymyrryd, ond faint yn fwy o bobl sy'n derbyn gorchmynion ac yn eu derbyn, heb y gallu na'r egni na'r wybodaeth o ran sut i'w herio? Pam ddylai rhywun sydd yn methu â fforddio prynu eu cartref, neu sydd wedi gorfod symud i gartref newydd am ba bynnag rheswm, gael eu hamddifadu o'r gwmnïaeth, o'r cymorth i iechyd meddwl, o'r pleser a'r cariad y gall anifeiliaid anwes eu darparu? Rwy'n eich annog chi i gefnogi'r cynnig hwn a fyddai'n sicrhau bod pawb yn gallu elwa o gadw anifail anwes, beth bynnag eu hamgylchiadau.
Codaf heddiw i siarad o blaid y cynigion hyn a byddaf yn pleidleisio o’u plaid heddiw. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod hyn yn destun deiseb, fel y mae Carolyn Thomas wedi’i ddweud, ac mae fy mhwyllgor yn dal i ystyried hynny, felly mae hynny'n dangos nad diddordeb gwleidyddol yn unig sydd yna yn y mater hwn; mae diddordeb cyhoeddus amlwg yng Nghymru ynddo. Bydd y Gweinidog hefyd yn ymwybodol fy mod wedi gweithio yn y Senedd flaenorol gyda nifer o sefydliadau fel y Dogs Trust, fel y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, fel y Wallich a’r Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl, a llawer o sefydliadau eraill, i gyflwyno 'pawlicy', fel y'i gelwais bryd hynny, sy'n ystyriol o anifeiliaid anwes. Prif ffocws y ddogfen honno oedd sicrhau nad oes unrhyw rwystrau ychwanegol i bobl ddigartref sy'n berchen ar anifeiliaid anwes rhag dod o hyd i lety addas.
Dechreuodd fy niddordeb yn hynny pan gysgais ar y stryd yng Nghaer un noson, ac nid yw’r dewis hwnnw rhwng cael anifail anwes, sef eich unig gydymaith yn aml, fel y dywedodd Jane Dodds, neu gael to uwch eich pen, yn un y dylai unrhyw un ei wynebu yng Nghymru; nid yw’n un y dylai unrhyw un ei wynebu yn y Deyrnas Unedig. Cyfarfûm ag unigolyn y noson honno a oedd wedi gwneud y dewis hwnnw, a chysgodd gyda'i anifeiliaid anwes ar strydoedd Caer ar noson arw o aeaf. Gallaf roi sicrwydd i chi fy mod yn amau'n fawr y gwelaf yr unigolyn hwnnw eto, na'i anifail anwes.
Felly, Weinidog, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymateb. Gwn fod amser yn brin, ond hoffwn pe gallech fynd i’r afael â rhai o’r problemau y bydd y rheini sy’n cysgu allan yn enwedig yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Hefyd, a wnewch chi ystyried y cynigion a gyflwynwyd gan Luke Fletcher, ond a wnewch chi hefyd ymrwymo i ailedrych ar y ddogfen 'pawlicy' sy'n ystyriol o anifeiliaid anwes, y byddwn yn fwy na pharod i'w rhannu eto gyda'r Llywodraeth, i weld a allwn wella'r cynigion hyn ar ran y bobl sy'n caru eu hanifeiliaid anwes ac sy'n haeddu to cynnes uwch eu pennau dros y blynyddoedd i ddod? Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch hefyd i Luke Fletcher am gyflwyno’r pwnc hynod bwysig hwn i’w drafod yn y Senedd heddiw, ac wrth gwrs, rwy’n llwyr gefnogi bwriad cyffredinol y cynnig, sef caniatáu i fwy o bobl fwynhau’r gwmnïaeth y gall anifail anwes go iawn ei chynnig. Bu farw fy nghi yn ddiweddar, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod ar goll hebddo, felly rwy'n sicr yn deall y gwmnïaeth y gall anifail anwes o'r fath ei chynnig.
Wrth gwrs, mae'n hanfodol fod gan bawb dai diogel, fforddiadwy sy'n diwallu eu hanghenion yn awr ac yn y dyfodol, ac rwy'n cytuno'n llwyr na ddylid cyfyngu ar ddewisiadau pobl ynglŷn â'r ffordd y maent yn byw am fod landlordiaid penodol yn ceisio gwahardd anifeiliaid anwes. Ond hoffwn nodi'r safbwynt presennol yn gywir, Ddirprwy Lywydd. Mae pwynt 2(a) yn y cynnig braidd yn aneglur, wrth alw am y
'cytundeb tenantiaeth safonol tebyg i gytundeb tenantiaeth enghreifftiol Llywodraeth y DU'.
Felly, er eglurder ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cytundeb tenantiaeth enghreifftiol sy’n cynnwys cymal ar gadw anifeiliaid anwes, ond mae landlord sy’n defnyddio cytundeb enghreifftiol yn gwbl rydd i ddileu’r cymal, gan nad oes unrhyw hawl statudol i gadw anifail anwes yn unrhyw le yn y DU, a bydd hynny’n dal yn wir ar ôl i’r contract enghreifftiol hwn gael ei roi ar waith. Felly, mae arnaf ofn nad ydynt yn gweld y golau, yn sydyn iawn, o ran bod yn llawer mwy goleuedig.
Yng Nghymru, bydd gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn cyflwyno gofyniad i bob cytundeb rhentu, neu gontract meddiannaeth, fel y’u gelwir o dan y Ddeddf, gael eu nodi’n ysgrifenedig, a bod contractau enghreifftiol ar gael i gynorthwyo gyda hyn. Eto, er nad yw'r Ddeddf rhentu cartrefi yn creu hawl statudol i gadw anifail anwes ar hyn o bryd, gellir cynnwys telerau ychwanegol yn y contractau meddiannaeth i'r perwyl hwn. Os oes un o'r telerau yn caniatáu i ddeiliad contract ofyn am ganiatâd i gadw anifail anwes, ni all y landlord wrthod caniatâd yn afresymol, neu roi caniatâd ar sail amodau afresymol. Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 eisoes yn atal landlordiaid rhag gwrthod yn afresymol unrhyw gais rhesymol i ganiatáu i denantiaid fewnosod cymalau ychwanegol yn eu contract, ac mae hynny’n cynnwys cadw anifeiliaid anwes. Ac mae'n bwysig iawn cofio bod hyn eisoes yn gymwys i bob math o gontract neu gytundeb tenantiaeth, felly mae'r un mor berthnasol i dai cymdeithasol ag y mae i'r sector rhentu preifat. Fodd bynnag, mae deddfau diogelu defnyddwyr yn bŵer a gedwir yn ôl, felly byddwn yn aros i weld beth y mae cynnig Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y contract enghreifftiol yn ei wneud, ac a ydynt yn cryfhau hawliau o dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr mewn gwirionedd, ond nid ydynt wedi dweud mai dyna sy'n digwydd hyd yn hyn, ac rydym yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa.
Yma yng Nghymru, mae Rhentu Doeth Cymru eisoes yn mynd ati'n weithredol i hyrwyddo canllawiau arferion da ‘Homes for All’ yr RSPCA, yn ogystal â’r cytundeb anifeiliaid anwes drafft rhad ac am ddim y gall landlordiaid a thenantiaid ei ddefnyddio ac y mae Jack Sargeant a minnau eisoes wedi’i drafod yn y Senedd. Mae cod ymarfer Rhentu Doeth Cymru hefyd yn annog landlordiaid ac asiantau i fod yn gymwynasgar â thenantiaid ag anifeiliaid anwes. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw broblemau o gwbl ar hyn o bryd pan fydd tenantiaid yn dymuno cadw anifeiliaid anwes mewn tai cymdeithasol, ac mae hynny'n cynnwys amrywiaeth o anifeiliaid anwes nad ydynt yn gathod a chŵn yn unig, felly, os dewch ar draws hynny eto, byddwn yn falch iawn o gael gwybod, gan na ddylai hynny fod yn digwydd. Rydym wedi dweud yn glir iawn wrth ddarparwyr y dylid croesawu anifeiliaid anwes oni bai fod rheswm penodol iawn pam na all yr anifail anwes penodol hwnnw neu'r llety penodol hwnnw ei gartrefu. Oherwydd mae rhai mathau o lety yn gwbl anaddas ar gyfer rhai anifeiliaid anwes, ond rydym yn disgwyl i ddarparwyr weithio gyda thenantiaid i ddod o hyd i ryw fath o ateb sydd o fudd i'r ddwy ochr pan fydd y mater yn codi, gan gynnwys chwilio am lety arall, yn amlwg.
Mae gan ddarparwyr tai cymdeithasol hefyd ddyletswydd gofal i bawb sy’n byw yn eu cymuned, felly bydd yna achosion lle na fyddant yn caniatáu rhai cŵn, er enghraifft, unrhyw gŵn a nodir yn Neddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976.
Rwyf hefyd yn cytuno’n llwyr, i lawer o bobl sy’n cael eu gorfodi i gysgu allan ar strydoedd ein trefi a’n dinasoedd—nad yw'n digwydd yng Nghymru bellach, os caf ddweud, oherwydd, wrth gwrs, rydym yn darparu gwasanaethau i bawb sy’n ddigartref, felly mae hon yn sefyllfa wahanol iawn i'r briff y bydd yr Aelodau wedi'i gael, sy'n ymwneud yn bennaf â'r sefyllfa yn Lloegr, os caf yn eglur am hynny—. Ond serch hynny, mae ci neu anifail yn aml yn gydymaith hollbwysig i’w helpu i ymdopi â’r sefyllfa y maent ynddi, ac yn fuddiol iawn i iechyd meddwl, fel y nododd Sioned mewn perthynas â'r hwyaid. Felly, cytunaf na ddylai anifail anwes fod yn rhwystr iddynt rhag dod i mewn i wasanaethau, ac mae'n annerbyniol pan fo hynny'n digwydd.
Nawr, rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn drwy gydol y pandemig ac yn syth ar ei ôl, a chan gynnwys gydag argyfwng ffoaduriaid Wcráin—mae pobl Wcráin yn arbennig o hoff o anifeiliaid anwes hefyd—i sicrhau bod cymaint o'n hosteli a'n darpariaeth frys ledled Cymru yn darparu ar gyfer anifeiliaid anwes. Nid yw'n bosibl mewn rhai mannau, ond lle mae'n bosibl, rydym wedi dweud yn glir iawn fod yn rhaid darparu ar gyfer anifeiliaid anwes. Fodd bynnag, rydym yn cynnwys asesiad risg, ac mae'n rhaid gwneud hynny yn ôl disgresiwn y rheolwr prosiect ar y safle. Felly, nid wyf am fod yn negyddol o gwbl, gan fy mod yn gwbl gefnogol i'r hyn y ceisiwn ei gyflawni yma. Ond yn amlwg, os oes gennych bobl sydd wedi'u trawmateiddio a bod un ohonynt ofn cŵn, bydd problem fawr os oes ci yn y llety. Felly, mae'n rhaid inni gael ffordd gytbwys o sicrhau bod gennym ffyrdd o asesu risg sydd o fudd i’r ddwy ochr. Ac wrth gwrs, gall hynny fod yn rhwystr i rywun sydd eisiau mynediad i'r lloches neu'r gwasanaeth penodol hwnnw, felly mae'n ymwneud â cheisio cael y cydbwysedd cywir a'r hyblygrwydd cywir i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion unigolion. Ac yna, yn amlwg, y peth i'w ddweud yw bod llety brys, hostel, yn lle i fynd pan fetho popeth arall; nid ydym yn awyddus i bobl fod yno o gwbl, felly, yn amlwg, yr hyn y ceisiwn ei wneud yw cael y llety camu ymlaen gorau a'r tai hirdymor addas ar eu cyfer, a byddai hynny, wrth gwrs, yn caniatáu iddynt gadw eu hanifeiliaid anwes yn barhaol.
Felly, i grynhoi, rwy'n cytuno y dylid croesawu anifeiliaid anwes ym mhob math o lety, cyn belled â bod hynny'n briodol ar gyfer y tenant a’r anifail. Nid ydym yn credu bod angen deddfu, gan y credwn fod llawer o'r mesurau diogelu eisoes ar waith, ac mae gennym gydbwysedd da o ran asesu risg, ond os oes gan unrhyw Aelod enghraifft benodol o landlord cymdeithasol yn gwrthod anifeiliaid anwes heb fod angen, cysylltwch â mi gyda'r manylion hynny a byddwn yn gweithio gyda'r landlord cymdeithasol i sicrhau ein bod yn deall beth sy'n digwydd ac i sicrhau bod croeso i anifeiliaid anwes yn ein darpariaeth dai yng Nghymru. Diolch.
Galwaf ar Luke Fletcher i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb ac i Aelodau o bob rhan o'r Siambr am eu cyfraniadau. Credaf fod cytundeb trawsbleidiol, gobeithio, fod angen gweithredu yma. Rwyf bob amser yn clywed llawer am Arthur. Nid wyf wedi cyfarfod ag Arthur eto, ond credaf fod y pwynt a wnaeth Jane, a Jack hefyd, ynghylch digartrefedd a phobl ddigartref a chanddynt anifeiliaid anwes yn bwynt pwysig iawn. I lawer o'r bobl ddigartref hyn sy'n berchen ar anifeiliaid anwes, gwyddom mai'r anifail anwes hwnnw yw eu byd. Byddent yn rhoi'r anifail anwes cyn eu hunain. Gwn am lawer sy'n bwydo eu hanifeiliaid anwes cyn eu bod yn bwydo'u hunain. A dyna pam fod y mater arbennig hwn yn dorcalonnus, pan feddyliwn am y ffaith bod y bobl hyn yn cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd lle mae'n rhaid iddynt roi'r gorau i'w hanifail anwes er mwyn cael llety diogel. Felly, mae angen mynd i’r afael â hynny fel mater o flaenoriaeth. Ac mae’r ffigur o wyth hostel yn unig ledled Cymru yn ffigur gwirioneddol syfrdanol.
Unwaith eto, gan gyfeirio at Jack fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau—gobeithio nad wyf wedi achub y blaen ar unrhyw beth yma—fel cyd-aelod o’r Pwyllgor Deisebau, ac wrth gwrs, Carolyn hefyd, gan dynnu sylw at y ddeiseb a oedd gerbron y pwyllgor, a gyflwynwyd gan Sam Swash. Credaf fod hynny wedi dangos yr awydd am hyn y tu allan i’r Senedd. Felly, unwaith eto, nid galwad wleidyddol yn unig, ond rhywbeth y credaf fod y bobl y tu allan i'r Senedd am ei weld hefyd. A Sioned hefyd, rwy'n credu, gyda’r pwynt pwysig a wnaeth ynglŷn â'i hetholwr a’i hwyaid, gan y credaf ei bod yn bwysig inni gofio, pan fyddwn yn sôn am anifeiliaid anwes, nad sôn am gathod a chŵn yn unig a wnawn, rydym yn sôn am amrywiaeth eang o wahanol anifeiliaid. Ac roedd yn bwynt pwysig ynghylch pam y dylai pobl—. Roedd y pwynt a wnaeth Sioned yn bwysig, o ran pam y dylai pobl nad ydynt yn byw yn eu cartrefi eu hunain gael eu hatal rhag cael eu cydymaith eu hunain, fel llawer o bobl eraill—dros hanner aelwydydd Cymru.
Ar ymateb y Gweinidog, rwy’n hynod ddiolchgar am gefnogaeth y Gweinidog mewn egwyddor i’r syniad y dylid caniatáu i bobl gael anifeiliaid anwes boed eu bod yn eu cartref eu hunain neu mewn llety rhent. Credaf fod angen deddfu. Amlinellais rai o’r rhesymau hynny yn fy araith agoriadol. Nid fi yn unig sy'n dweud hynny; mae'r RSPCA yn dweud hynny hefyd. Ymddengys bod Llywodraeth y DU yn credu bod angen deddfu hefyd. Maent yn dechrau deddfu ar y pwynt penodol hwn. Oherwydd rwy’n cytuno â’r Gweinidog ar y cytundeb tenantiaeth enghreifftiol. Mae braidd yn aneglur, ond dywedir wrthyf fod rhagor o ddeddfwriaeth ar y gweill. Credaf efallai mai hwn yw'r tro cyntaf ers cael fy ethol imi ddweud fy mod yn cytuno â rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, felly gobeithio bod y Torïaid Cymreig yn gwerthfawrogi'r foment hon. Ond unwaith eto, mae'r RSCPA hefyd yn dweud hyn. Ymddengys bod datgysylltiad braidd rhwng yr hyn y mae’r Llywodraeth yn dweud sydd ar waith i atal pobl rhag gwahardd anifeiliaid anwes mewn llety rhent a’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad. Er ein bod yn anghytuno, credaf fod lle i barhau i drafod, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda’r Llywodraeth, gyda’r Gweinidog, ar y pwynt penodol hwn. A gobeithio, fel carfan drawsbleidiol o Aelodau yn y Senedd hon, y gall pob un ohonom weithio ar hyn wrth symud ymlaen, gan fod galw amlwg amdano.
Felly, i gloi, hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedais i ddechrau yn fy araith gyntaf, neu i gloi fy araith gyntaf, sef fy mod yn gobeithio y bydd Aelodau eraill yn cefnogi’r cynnig hwn er mwyn sicrhau hawliau pawb yng Nghymru i gael cydymaith, boed eu bod mewn llety rhent neu yn eu cartref eu hunain. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8 heddiw yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Vikki Howells.
Prynhawn da, a diolch, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i wneud y datganiad hwn heddiw. Mae’r pwyllgor heddiw wedi gosod gweithdrefn ddiwygiedig ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd, ac adroddiad cysylltiedig. Daw’r weithdrefn i rym ar 18 Gorffennaf 2022.
Fel gwleidyddion etholedig, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn gosod y safonau ymddygiad uchaf, ac fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, nid yw hynny byth yn bell o fy meddwl. Mae’r weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o’r Senedd yn rheoleiddio’r broses ar gyfer gwneud, ymchwilio a phenderfynu ar gwynion yn erbyn Aelodau, ac mae’n offeryn allweddol wrth nodi disgwyliadau ar gyfer y ffordd y dylai Aelodau ymddwyn. Rwy’n falch, felly, o allu gwneud y datganiad hwn heddiw, gan amlinellu sut y mae’r pwyllgor wedi diweddaru a gwella’r weithdrefn i wneud iddi weithio’n fwy effeithiol i bawb.
Yn ystod y pumed Senedd, cynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr o’r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Senedd, a chymeradwywyd cod newydd i ddod i rym o ddechrau’r chweched Senedd. I ategu hyn, cytunodd y pwyllgor i ystyried y weithdrefn bresennol, ac i ystyried a oedd yn dal i fod yn addas i'r diben, fel ein gwaith cyntaf o sylwedd yn y chweched Senedd.
Cyhoeddodd y pwyllgor weithdrefn ddrafft i ymgynghori arni rhwng 19 Ionawr a 21 Chwefror 2022, a chafodd 11 o ymatebion. Mynychodd Comisiynydd Safonau y Senedd, Douglas Bain, sesiwn dystiolaeth lafar a gallodd roi cyngor technegol sylweddol, gan dynnu ar ei brofiad o Ogledd Iwerddon yn ogystal â Chymru. Hoffwn achub ar y cyfle hwn heddiw i ddiolch iddo ar ran y pwyllgor am ei gymorth.
Wrth adolygu’r weithdrefn yn sylweddol am y tro cyntaf ers ei chyflwyno, mae’r pwyllgor wedi ymdrechu i’w gwneud yn gliriach ac yn fwy hygyrch i’r cyhoedd. Rydym wedi cynhyrchu canllawiau esboniadol mewn iaith hawdd ei deall a hygyrch i gyd-fynd â'r weithdrefn. Mae hyn ar ffurf dogfen camau allweddol a siart lif, sy'n galluogi aelodau o'r cyhoedd i gael cipolwg ar sut y mae'r weithdrefn yn gweithio. Mae'r pwyllgor hefyd wedi cynhyrchu canllawiau mwy technegol ar weithrediad y weithdrefn i wella dealltwriaeth. Bydd hon yn ddogfen fyw y gellir ei diweddaru pryd bynnag y bydd cwestiynau neu faterion newydd yn codi. Bydd y broses ei hun hefyd yn fwy tryloyw i'r rhai sy'n ei dilyn, gan y bydd y comisiynydd a’r pwyllgor yn cysylltu â’r achwynydd a’r Aelod y cwynwyd amdanynt ar gerrig milltir y cytunwyd arnynt o’r newydd, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt.
Er mwyn sicrhau bod digwyddiadau yn dal i fod yn ffres yn y meddwl a thystiolaeth ar gael yn rhwydd, mae'r pwyllgor wedi pennu amserlen o chwe mis ar gyfer gallu derbyn cwynion. Fodd bynnag, hoffwn roi sicrwydd y bydd y comisiynydd yn ystyried cwynion ynglŷn â digwyddiadau y tu hwnt i’r amserlen hon lle mae achos da dros oedi. Mae hyn yn sicrhau bod y weithdrefn yn gallu mynd i'r afael â chamweddau mynych, lle mae ymddygiad wedi bod yn digwydd dros gyfnod hwy o amser. Mae canllawiau pellach ar yr hyn a olygir wrth achos da wedi’u cynnwys yn y canllawiau.
Mae'r pwyllgor wedi dileu'r ddarpariaeth apelio yn y weithdrefn drwy benderfyniad mwyafrifol. Roedd hwn yn benderfyniad y gwnaethom ei ystyried yn ofalus iawn, gan edrych ar y prosesau mewn Seneddau eraill a phrofiadau’r Senedd ddiwethaf, lle defnyddiwyd y mecanwaith apelio am y tro cyntaf. Ceir nifer o gamau yn y broses sy’n galluogi mewnbwn a her a chodi’r pryderon a nodwyd fel sail ar gyfer apelio, o ystyried bod pob cwyn yn cael sylw gan y comisiynydd ac yn cael ei hystyried gan y pwyllgor, gyda’r adroddiad terfynol yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn. Mae gan yr Aelod y gwnaed y gŵyn amdanynt hawl i fynychu’r cyfarfod pwyllgor perthnasol er mwyn gwneud sylwadau. Fe wnaethom gryfhau cam gwrandawiadau llafar y weithdrefn, fel ei bod yn gliriach mai dyma’r cyfle i’r Aelod godi anghytundeb ynghylch y ffeithiau neu bryderon gweithdrefnol mewn perthynas ag ymchwiliad ac adroddiad y comisiynydd. Gall y pwyllgor hefyd gyfeirio materion a godwyd ar yr adeg hon yn ôl at y comisiynydd i’w hystyried ymhellach.
Y newid mawr olaf yw na fydd y comisiynydd bellach ond yn rhannu’r ffeithiau a sefydlwyd gyda’r achwynydd a’r Aelod y gwnaed y gŵyn amdanynt, a bydd y pwyllgor yn gyfrifol am anfon adroddiad y comisiynydd at yr Aelod y gwnaed y gŵyn amdanynt a’r achwynydd. Bydd hefyd yn ofynnol, ar y pwynt hwn, i’r pwyllgor nodi’r camau nesaf yn y broses i bawb sy'n gysylltiedig â'r mater, a gobeithiwn y bydd hynny'n cynyddu dealltwriaeth o’r broses ac yn mynd i’r afael â rhai o’r pryderon a rannwyd gyda ni ynghylch y gofid o beidio â gwybod beth sy'n digwydd yn ystod y broses gwyno.
Mae’r newidiadau eraill a wnaed gan y pwyllgor i’r weithdrefn wedi’u hamlinellu yn ein hadroddiad. Mae’r newidiadau hyn, gyda'i gilydd, yn creu dogfen sy’n llawer cliriach a haws ei deall na’r fersiwn flaenorol, ac maent hefyd yn ystyried profiadau’r comisiynydd safonau yn ei rolau blaenorol, yn ogystal â thystiolaeth ddefnyddiol gan gomisiynwyr eraill a rhanddeiliaid perthnasol.
Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad hwn am roi amser i ddarparu tystiolaeth werthfawr i ni, a sicrhau ein bod wedi gallu gwneud y weithdrefn yn addas i'r diben. Bydd aelodau’r pwyllgor ar gael i drafod unrhyw agwedd ar y weithdrefn ddiwygiedig gydag Aelodau mewn sesiynau galw heibio yr wythnos nesaf. Edrychaf ymlaen at ateb unrhyw gwestiynau sydd gan yr Aelodau yma yn awr.
Dim ond un Aelod sydd am siarad, a dwi'n galw Joyce Watson.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A diolch, Gadeirydd, am fynd i'r afael â rhywbeth hynod o gymhleth ac anodd ei wneud.
Ond mae gennyf un cwestiwn, ac mae'n ymwneud â dileu'r ddarpariaeth apelio drwy benderfyniad mwyafrifol. Fel y gwyddoch, cefais gryn drafferth wrth apelio yn erbyn penderfyniad a aeth o blaid Gareth Bennett yn y Senedd ddiwethaf ac yn fy erbyn i. Arweiniodd at orfod dod â rhywun arall o’r tu allan i wrthdroi’r penderfyniad hwnnw, gan fy mod mewn sefyllfa lle dywedwyd wrthyf na chawn apelio ac y byddai’n rhaid i bobl eraill siarad ar fy rhan, a oedd yn gwbl anfoddhaol, fel yr oedd y canlyniad gan y comisiynydd safonau blaenorol, a gytunodd fod casineb at fenywod, rhywiaeth a’r holl bethau hynny'n dderbyniol. Bellach, gwn fod y mater hwnnw wedi'i ddatrys, ond os nad oes gan unigolion hawl i apelio, ac fel yn fy achos i, os mai'r tro cyntaf imi glywed am y penderfyniad hwnnw oedd pan wnaed yr adroddiad terfynol hwnnw—. Ni chefais gyfle rhwng gwneud cwyn a chanfod beth oedd y canlyniad i wybod beth yn union oedd yn digwydd. Felly, nodaf fod y pwynt hwnnw wedi'i godi yn yr hyn a wnewch. Ond ni fyddwn yn hoffi gweld sefyllfa debyg, ac ni fyddwn am i unrhyw un fynd drwy'r hyn y bu'n rhaid imi fynd drwyddo eto, sef herio comisiynydd safonau, ac mai'r unigolyn hwnnw yw'r un yr ydych yn dibynnu arnynt i gynnal y safonau y dylem fod yn gweithio oddi tanynt, a hynny'n gwbl briodol.
Hoffwn ddiolch i Joyce Watson am ei sylwadau yma heddiw, ac rwy’n cydymdeimlo’n fawr â’r sylwadau a wnaed gan yr Aelod. A’r hyn y byddwn yn ei ddweud mewn ymateb i hynny yw bod y materion y mae Joyce Watson wedi’u codi heddiw yn berthnasol i'r cod yn bennaf, y cod ymddygiad, a fu’n destun ymgynghoriad a thrafodaeth sylweddol yn ystod hanner olaf y Senedd ddiwethaf, a’r adolygiad o'r cod a gafwyd bryd hynny. Mae’r pwyllgor hwn yn bwriadu rhoi amser i’r cod hwnnw ymsefydlu, a’i adolygu yn nes ymlaen yn y Senedd hon, i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben, sy’n arfer da, wrth gwrs, ac i fynd i’r afael ag unrhyw faterion a allai fod wedi codi. A nodaf sylwadau’r Aelod, a gellir eu cynnwys yn yr adolygiad hwnnw.
Ac fel y mae Joyce Watson wedi’i nodi’n gwbl gywir, nid oedd y broses apelio erioed wedi’i bwriadu i gael ei defnyddio yn y ffordd y byddai Joyce wedi hoffi cael y cyfle i'w defnyddio. Mewn gwirionedd, dim ond ar seiliau gweithdrefnol penodol iawn y gellid bod wedi gwneud unrhyw apeliadau yn flaenorol, ac fe'u cynhaliwyd yn gyfan gwbl ar sylwadau ysgrifenedig yr Aelod y gwnaed y gŵyn amdanynt a phapurau a oedd yn bodoli eisoes yn ymwneud â'r gŵyn. Mewn gwirionedd, yn y pumed Senedd, pan ddefnyddiwyd y broses apelio am y tro cyntaf, canfuom fod pryderon wedi'u mynegi ynghylch pa mor gostus oedd y broses apelio honno, ac y gallai gael ei chamddefnyddio gan Aelodau i geisio gohirio canlyniad y broses. Ar gyfer yr apêl ddiweddaraf, er enghraifft, cymerodd 11 wythnos ar ôl i’r Aelod dderbyn adroddiad y pwyllgor i'r unigolyn annibynnol a oedd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith ei dderbyn. A chan fod yr hawl apelio yn ddiamod ar gychwyn y broses, nid oedd unrhyw sancsiwn am wneud apêl nad oedd iddi deilyngdod. Gallai’r broses fod wedi cael ei defnyddio gan Aelod, nid yn y ffordd y byddai Joyce wedi hoffi ei defnyddio, ond i ohirio penderfyniad terfynol, er enghraifft yn achos cwyn yn codi tuag at ddiwedd tymor Senedd. A hoffwn gloi drwy ddweud hefyd mai ychydig llai na hanner yr ymatebwyr i'n hymgynghoriad a oedd yn cytuno y dylid dileu'r broses apelio honno, a hefyd nad oes proses apelio yn yr Alban.
Diolch i'r Cadeirydd.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar.
Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru, y cyntaf y prynhawn yma, ar gynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8047 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf i'w wneud yn addas i'r diben wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n ganol haf. Pan fo'r cymylau'n codi, mae'n gyfnod o fedru gwisgo dillad ysgafn, crysau T, agor ein ffenestri, eistedd yn yr ardd, sychu'r dillad ar y lein, mwynhau barbeciw, a gwybod, fel arfer, nad yw'r biliau ynni ddim cweit mor uchel ag arfer, y mesurydd ddim yn troi cweit mor glou wrth i wres yr haul dwymo ein crwyn a'n tai. Ond eleni mae'r wybren yn llawn cymylau duon a hirddydd haf yn arwain nid at deimlad o ymryddhau ac ymlacio ond yn hytrach i ormod o bobl at gyfnod o ofid. Achos dyw storm economaidd y misoedd diwethaf heb godi, ac mae'r gwaethaf eto i ddod.
Mae effaith yr argyfwng costau byw wir yn ddychrynllyd. Mae cost llenwi tanc petrol neu ddisel y car ymhell dros £100 erbyn hyn. Mae cost bwydydd bob dydd fel pasta 50 y cant yn uwch, a bara yn 17 y cant yn uwch. Ac mae'r biliau ynni, sydd eisoes yn anghredadwy o uchel ac anfforddiadwy, ac wedi achosi sut bryder i gymaint o bobl Cymru, hyd yn oed nawr ym misoedd yr haf, yn mynd i godi'n uwch yn yr hydref. Mae angen sicrhau bod unrhyw fesurau i gefnogi pobl a fydd yn byw mewn tlodi tanwydd neu mewn perygl o dlodi tanwydd yn gwbl effeithiol, yn gwbl hygyrch i'r rhai sydd neu a fydd mewn angen, ac yn lleddfu y pwysau difrifol a'r dewisiadau amhosib a fydd yn wynebu gormod o aelwydydd Cymru pan fydd y storm ar ei hanterth, pan ddaw'r gaeaf.
Rydym wrth gwrs wedi croesawu cynlluniau'r Llywodraeth i geisio cefnogi pobl sydd yn llygad y storm. Ond mae ein hymchwil ni yn cefnogi galwadau ymgyrchwyr sy'n credu bod modd sicrhau bod modd adolygu'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf er mwyn sicrhau cefnogaeth ddigonol i'r rhai sydd mwyaf ei hangen, ac mae rhai o'r awgrymiadau i wella'r cynllun wedi eu hamlinellu yng ngwelliannau'r Ceidwadwyr.
Byddwn i yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod hwn yn gynllun sydd ar gael drwy'r flwyddyn, yn hytrach na bod yn gynllun tymhorol, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn mynd heb wres neu bŵer yn ystod y misoedd oeraf. Ac fel y soniais, er ei bod yn haf, mae yna bobl nawr sy'n methu fforddio cynnau'r ffwrn neu dwymo'r bath. Dylem ehangu nifer y bobl sy'n gymwys ar gyfer cymorth, fel bod pawb sydd angen cefnogaeth o dan y cynllun yn medru ei chael, fel y rhai ar gredydau pensiwn, er enghraifft. Mae angen hefyd adeiladu mecanwaith i mewn i'r cynllun i sicrhau ei fod yn cyrraedd aelwydydd incwm isel sy'n talu am eu tanwydd fel rhan o'u taliadau rhent, er enghraifft. Gallai elfen o ddisgresiwn gael ei gyflwyno i'r cynllun, fel bod pobl a fyddai efallai ar ymyl cymhwysedd ac yn colli mas, neu yn cael eu hunain mewn sefyllfa newydd neu argyfyngus sy'n eu gwthio i dlodi, yn gallu gwneud cais am gymorth.
Mae'r Gweinidog wedi awgrymu ei bod yn gytûn bod angen sicrhau bod taliadau yn cael eu gwneud cyn i'r cap Ofgem gynyddu ym mis Hydref, ac mae angen felly adolygiad a gwerthusiad o'r cynllun blaenorol i sicrhau bod gwelliannau yn cael eu gwneud cyn hynny er mwyn gwneud yn hollol siŵr bod taliadau yn cyrraedd cymaint o aelwydydd cymwys â phosib. Mae angen camau i wella a chysoni sut mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu ag aelwydydd anghenus ac yn prosesu'r hawliadau, ochr yn ochr ag ymgyrch codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo gan y Llywodraeth. Tra bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cadarnhaol i helpu pobl drwy'r argyfwng costau byw hwn, yn enwedig o gymharu ag ymddygiad gwarthus a didostur Llywodraeth San Steffan, rhaid sicrhau bod y camau hynny yn rhai cwbl gadarn, er mwyn arbed dioddefaint nad oes yr un ohonom ni wedi gweld ei debyg. Dyna nod ein cynnig. Rwy'n annog Aelodau i'w gefnogi.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu’r pecynnau cymorth sylweddol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, sy’n werth cyfanswm o £380m ers Tachwedd 2021, gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd er mwyn darparu £200 tuag at filiau ynni nad oes gofyn ei ad-dalu, a £177m ar gyfer y cynllun cymorth costau byw.
2. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi methu’n llwyr â mynd i’r afael yn briodol â’r argyfwng hwn, ac wedi methu ag amgyffred pa mor ddifrifol yw ei effaith ar bobl ledled Cymru.
3. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu’r cynlluniau cymorth tanwydd presennol yn barhaus ynghyd ag ymyriadau posibl i’r dyfodol.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwarantu bod unrhyw newidiadau i'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn cael eu gwneud cyn yr hydref er mwyn sicrhau bod y taliad yn cyrraedd cymaint o aelwydydd cymwys â phosibl;
b) ehangu cymhwysedd y taliad tanwydd gaeaf i gyrraedd mwy o aelwydydd mewn angen ar incwm isel sy'n agored i niwed, fel y rhai sy'n gymwys i gael credyd pensiwn;
c) lansio ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf i wella ymwybyddiaeth a chynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y cynllun.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Rwy'n cynnig gwelliant 2. Mae tlodi tanwydd yn fater cyfiawnder cymdeithasol hirsefydlog yng Nghymru, ond mae'r cynnydd diweddar ym mhrisiau ynni byd-eang wedi dod â'r mater i'r amlwg. Mae National Energy Action Cymru wedi galw am wneud taliadau cynllun cymorth tanwydd y gaeaf yn yr hydref fel bod aelwydydd yn gwybod bod ganddynt yr arian cyn iddynt droi eu gwres ymlaen. Mae'r Gweinidog wedi dweud o'r blaen y byddai am i'r taliad fod ar gael erbyn mis Hydref, os nad mis Medi, sef yr hyn sydd yn ein gwelliant, sy'n galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i warantu bod unrhyw newidiadau i gynllun cymorth tanwydd y gaeaf yn cael eu gwneud cyn yr hydref i sicrhau bod y taliad yn cyrraedd cynifer o aelwydydd cymwys â phosibl. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau mai dyma yw ei bwriad o hyd?
Mae Age Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn meini prawf cymhwysedd ar gyfer eu cynllun cymorth tanwydd y gaeaf i gynnwys pobl hŷn sy'n derbyn credyd pensiwn. Dywedodd y Gweinidog yn flaenorol fod Llywodraeth Cymru yn mynd i ymestyn cymhwysedd ac y bydd yn edrych nid yn unig ar y rhai ar gredyd pensiwn, ond cymhwysedd ehangach. Felly, mae ein gwelliant yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ehangu cymhwysedd y taliad tanwydd y gaeaf i gyrraedd mwy o aelwydydd incwm isel, bregus sydd ei angen, megis y rhai sy'n gymwys i gael credyd pensiwn. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn unol â hynny?
Deallwn mai nifer gymharol isel o bobl a fanteisiodd ar y cynllun erbyn diwedd mis Ionawr, gydag amrywiadau rhwng awdurdodau lleol. Mae angen rhoi mwy o gyhoeddusrwydd hefyd i'r ffaith bod aelwydydd nad ydynt ar y grid nwy, sy'n defnyddio olew neu nwy petrolewm hylifedig, yn gymwys ar gyfer y cynllun os ydynt wedi'u cysylltu â'r grid trydan. Felly, mae ein gwelliant yn galw ar Lywodraeth Cymru i lansio ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus ar y cynllun cymorth tanwydd y gaeaf i wella ymwybyddiaeth a chynyddu'r nifer sy'n manteisio arno.
Er mwyn i bobl barhau i gynnig llety o dan gynllun Cartrefi i Wcráin Cymru, bydd angen cymorth arnynt hwythau hefyd gyda'u bil tanwydd. Fodd bynnag, mae'n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol gyda'u gwelliant. Mae cefnogaeth Llywodraeth y DU i gostau byw bellach yn fwy na £37 biliwn eleni. Bydd bron bob un o'r wyth miliwn o aelwydydd mwyaf bregus yn cael o leiaf £1,200. Bydd pob cwsmer trydan domestig yn cael o leiaf £400, sydd bellach i gyd yn grant yn hytrach na benthyciad ad-daladwy. Bydd aelwydydd sy'n derbyn pensiwn yn cael £300 yn ychwanegol, a bydd tua chwe miliwn o bobl ledled y DU sy'n derbyn budd-daliadau anabledd yn cael taliad untro o £150 o fis Medi ymlaen. Yn y categori hwnnw, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, rydym yn galw am fwy o gymorth, ond serch hynny mae'n gam i'r cyfeiriad iawn. Ar ben hynny, o heddiw ymlaen, bydd tua 30 miliwn o bobl yn arbed hyd at £330 y flwyddyn ar eu cyfraniadau yswiriant gwladol. Ac wrth gwrs, ni fyddai Llywodraeth Cymru wedi gallu cynyddu ei chynllun tanwydd y gaeaf heb yr arian canlyniadol a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU. Diolch yn fawr.
Weithiau, credwn fod tlodi'n gyflwr penodol: rydych naill ai'n dlawd neu beidio. Ond nid dyna sut y mae'n gweithio o gwbl. Bydd cymaint o bobl yn gweld eu bywydau'n croesi'r ffin i anhrefn dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac nid codi bwganod yw hynny—mae'n ffaith bendant. Bydd miloedd yn fwy o bobl yn ei chael hi'n anodd byw—i aros yn fyw—oherwydd pethau bob dydd fel biliau bwyd a nwy. Mae rhywbeth erchyll ac annormal am y modd y bydd pethau cyffredin yn troi'n frawychus.
Nid oes gennyf lawer o amser yn y ddadl hon, rwy'n gwybod, felly byddaf yn cadw fy mhwyntiau'n fyr. Mae angen dweud wrth aelwydydd sy'n gymwys i gael cymorth taliad tanwydd y gaeaf am y cymorth hwnnw. Fel y clywsom Cyngor ar Bopeth yn awgrymu, dylem fod yn cysylltu â phobl ar dariffau cymdeithasol ar gyfer dŵr neu ynni, a gallai'r Llywodraeth ddefnyddio eu trefniant rhannu data JIGSO neu gallent annog Dŵr Cymru i helpu. Rwy'n croesawu'r ffaith bod pobl ar gredyd pensiwn yn gymwys ar gyfer y cynllun, er bod Age Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw 70,000 o aelwydydd cymwys yn hawlio'r credyd hwnnw, ac mae llawer yn credu bod y meini prawf cymhwysedd yn dal yn rhy anhyblyg.
Rwy'n poeni'n ddirfawr, Ddirprwy Lywydd, am y rheini sydd eisoes mewn dyled—y bobl ar fesuryddion rhagdalu sy'n datgysylltu drostynt eu hunain eisoes. Mae un cleient Cyngor ar Bopeth yn ne Cymru yn defnyddio cannwyll ar gyfer golau, ac yn byw mewn un ystafell oherwydd eu biliau ynni. Bydd y straeon arswydus bob dydd hynny'n cael eu hailadrodd mewn tai ledled Cymru, y tu ôl i lenni sy'n cael eu cadw ar gau i gadw'r gwres i mewn, oherwydd nid yw tlodi'n gategori penodol; nid yw bywydau pobl bob amser yn ffitio i flychau taclus y gallwn ddweud yn bendant pwy sydd angen help a phryd.
Yn olaf, ni ddylai'r cynllun hwn fod ar gyfer y gaeaf yn unig. Unwaith eto, fel y clywsom, fel y mae NEA ac eraill wedi nodi, bydd angen y cymorth hwn ar bobl drwy gydol y flwyddyn. Dylid gwneud taliadau hefyd cyn i'r gaeaf daro. Dylai unrhyw un sy'n amau difrifoldeb yr effaith y mae'r argyfwng costau byw yn ei chael ddarllen tystiolaethau 'The Cost of Cold' Age Cymru, oherwydd maent yn dorcalonnus. Dywedodd Geraldine, sy'n 77 oed, wrthynt, 'Eisoes rwy'n gwisgo menig ar fy nwylo gartref a phecyn gwres y tu mewn i fy legins'. Ac mae pobl o bob oed yn cael eu heffeithio mewn cymaint o ffyrdd. Cyrhaeddodd atgyfeiriadau i fanciau bwyd gan Cyngor ar Bopeth y lefel uchel erioed ym mis Mawrth. Mae honno'n garreg filltir gywilyddus—y nifer uchaf erioed o bobl yn byw mewn anobaith llwyr.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n derbyn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, gwn fod llawer o achosion yr argyfyngau hyn yn fyd-eang neu y tu hwnt i'w rheolaeth, ond mae rhai o'r pethau hyn yn bethau y gall y Llywodraeth wneud rhywbeth yn eu cylch. Felly, os gwelwch yn dda, rwy'n erfyn ar y Gweinidog i wrando ar y pwyntiau a wnaed yn y ddadl hon, oherwydd mae pob dydd nad ydym yn gwneud y newidiadau hyn yn ddiwrnod arall y bydd mwy o bobl yn anobeithio.
Disgwylir i tua 75 y cant o aelwydydd gael eu cefnogi mewn rhyw ffordd gan ymyriadau costau byw Llywodraeth Cymru, gyda mwy o gymorth wedi'i dargedu at aelwydydd yn hanner isaf y dosbarthiad incwm. Gwyddom fod taliad cymorth tanwydd y gaeaf yn cael ei werthfawrogi gan bobl a'i derbyniodd a dywedodd un derbynnydd yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru, 'mae'r £100 wedi lleddfu fy nhlodi ar gyfer y mis hwn a bydd hefyd yn fy nghadw'n gynnes am o leiaf mis ac ychydig. Bydd £100 arall'—a roddwyd—'yn golygu y gallaf gadw'n gynnes ym mis Mawrth, Ebrill a hyd at ganol mis Mai. Gwnaeth gymaint o wahaniaeth.'
Rydym yn wynebu heriau difrifol iawn. Gostyngodd incwm aelwydydd y DU am y pedwerydd chwarter yn ddilynol ar ddechrau'r flwyddyn hon, sef y cyfnod hiraf o ddirywio ers 1955, ac amcangyfrifir bellach y gallai hyd at 45 y cant o'r holl aelwydydd yng Nghymru fod mewn tlodi tanwydd, a mwy na 100,000 o'r rheini mewn tlodi tanwydd difrifol. Mynegodd Cyngor ar Bopeth wrthyf sut yr oedd cynlluniau talebau tanwydd yn darparu achubiaeth hanfodol i'r rhai mewn sefyllfaoedd o argyfwng. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid hanfodol ar gael ar ffurf y cynllun talebau tanwydd a'r gronfa cymorth dewisol i gefnogi teuluoedd yn y sefyllfaoedd hyn, ac fe gafodd ei groesawu.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a all i gefnogi'r rheini sydd mewn angen, ond yn y bôn, mae pobl Cymru wedi cael eu siomi gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, sydd wedi methu gweithredu i atal prisiau ynni anferthol. I wneud pethau'n waeth, mae'r system les, fel y mae ar hyn o bryd, yn gwbl anaddas i'r diben, ac mae credyd cynhwysol yn methu diogelu teuluoedd. Mae blynyddoedd o gyfyngu cyllidol wedi rhoi pwysau ar ein gwasanaethau cyhoeddus ac wedi erydu cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn enw cynhyrchiant. Ond nid yw'r cynhyrchiant hwnnw wedi cynyddu cyflogau a chodi safonau byw.
Ateb dros dro yw grantiau, gallant fod yn fiwrocrataidd, methu cyrraedd pawb mewn angen, ac nid ydynt yn mynd i'r afael â'r problemau sylfaenol y mae pobl yn eu hwynebu. Sylwais fod Cyngor Sir y Fflint yn hysbysebu am 10 swyddog budd-daliadau newydd, ond mae'r rheini ar £19,200 yr un. Gallent fod yn mynd i fanciau bwyd cyn bo hir hefyd. Mae'n cynyddu drwy'r amser. Mae angen gweithredu yn awr i roi arian ym mhocedi pobl, wrth y pympiau tanwydd, ac yn eu pecynnau cyflog.
Un pryder yr hoffwn ei godi gyda'r Gweinidog, fodd bynnag, yw bod llawer o denantiaid yn cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu preifat, sydd wedi'u heithrio o reoliadau uchafswm pris Ofgem. Caiff ynni ei ailwerthu gan y landlord i denantiaid, gyda'r landlord yn gallu trosglwyddo tâl sefydlog dyddiol i'r tenant. Mae hyn yn sefydlu premiwm tlodi pellach a godir ar y rhai sy'n defnyddio mesuryddion rhagdalu, ac nid oes gan lawer ohonynt ddewis yn y mater. Gan ei fod o fewn cymhwysedd Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar yr arfer hwn, tybed a allai'r Gweinidog wneud sylwadau ar yr arfer, os gwelwch yn dda, yn ei hymateb i'r ddadl, ac amlinellu a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i fynd i'r afael â hyn, os yn bosibl. Diolch.
Nod cynllun cymorth tanwydd y gaeaf Llywodraeth Cymru yw cefnogi'r rheini sydd fwyaf bregus, ac mae'n cael ei werthfawrogi gan y rhai sy'n ei dderbyn, fel y nododd Carolyn. Ond mae fy mhryder yn ymwneud â'r rhai nad ydynt yn ei dderbyn. Mae fy etholwr Michelle yn ofalwr anabl di-dâl llawn amser i'w gŵr anabl. Maent yn dibynnu ar eu taliadau annibyniaeth personol a'i lwfans gofalwr i oroesi. Fel y darganfu'n ddiweddar, nid oedd yn gymwys ar gyfer cynllun cymorth tanwydd y gaeaf am nad yw'n hawlio budd-dal cymhwyso sy'n dibynnu ar brawf modd a weinyddir gan y DU. Pam ein bod yn dewis dibynnu ar system yr Adran Gwaith a Phensiynau, sydd ag enw drwg am fod yn ddideimlad, i ddweud wrthym pwy sy'n gymwys ar gyfer cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, pan fyddwn yn aml yn gresynu cyn lleied o reolaeth sydd gennym dros ein system les ein hunain? A ydym o ddifrif yn gwadu'r gefnogaeth hon i rywun sy'n profi tlodi mor andwyol fel bod rhaid iddynt ddewis rhwng bwyd a thanwydd? Ni ddylai synnu'r Siambr o gwbl i wybod ei bod yn bosibl na fydd llawer o bobl sy'n profi tlodi yn gallu cael y budd-daliadau arferol sy'n dibynnu ar brawf modd. Drwy'r meini prawf cymhwysedd a ddewiswyd gennym ar gyfer cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, rydym mewn perygl o weithredu fel un o adrannau darparu lles yr Adran Gwaith a Phensiynau, gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau mewn gwirionedd yn dweud wrthym pwy sy'n gymwys i gael cymorth.
Rhaid inni ddangos blaengaredd yma yn y Senedd hon i sicrhau bod pawb sydd angen ein cefnogaeth yn ei gael. Mae gennym bŵer i wneud hynny gyda chynllun cymorth tanwydd y gaeaf drwy ehangu'r meini prawf cymhwysedd. Efallai y gallem hyd yn oed ychwanegu elfen ddisgresiwn at y gronfa ar gyfer y rhai sy'n methu'r meini prawf cymhwysedd o drwch blewyn. Yn achos Michelle, cefais gyfarwyddwyd i'w hysbysu bod y gronfa cymorth dewisol ar gael ar gyfer argyfyngau lle byddai angen iddi, yn ddelfrydol, wneud cais newydd am bob argyfwng gwahanol. Mae'n dda fod y gronfa yno, ond rhaid imi ofyn: pa argyfwng y dylai Michelle wneud cais amdano? Ei hanallu i oleuo ei chartref bob dydd? Ei diffyg dŵr poeth? Mae'r rhai sydd mewn tlodi yn profi argyfyngau fel y rhain bob dydd. Wrth inni nesáu at y gaeaf eleni, rhaid inni sicrhau bod y cynllun hollbwysig hwn yn addas i'r diben. Mae pobl fel Michelle a'i gŵr angen yr hwb ariannol y mae'r cynllun cymorth tanwydd y gaeaf yn ei ddarparu. Gadewch i ni newid y meini prawf cymhwysedd er mwyn inni allu helpu'r rhai mwyaf bregus drwy'r argyfwng costau byw hwn, a sicrhau hefyd fod taliadau'n rheolaidd ac yn amserol drwy gydol y flwyddyn, fel bod cymorth ar gael bob amser. Oherwydd, dyn a ŵyr, mae Michelle ac eraill ei angen.
Galwaf ar y Gweindog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, ac mae'n amserol iawn. Diolch i'r Aelodau ar draws y Siambr am eu cyfraniadau. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad o fewn y pythefnos nesaf ar y cynllun cymorth tanwydd newydd. Mae'n mynd i fod yn gynllun cymorth tanwydd—nid cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, ond cynllun cymorth tanwydd newydd i Gymru, gan ddysgu o'r cynllun yr ydym eisoes wedi'i ddatblygu dros y flwyddyn ddiwethaf, sydd—fel y dywed Carolyn Thomas, mae'r £200 hwnnw wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau llawer o bobl. A hefyd, yr hyn y byddaf yn ei gyhoeddi yn ystod y pythefnos nesaf yw'r meini prawf cymhwysedd ehangach ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd newydd, a bydd yn agor yn yr hydref. Felly, mae hyn yn bwysig, fod yr holl ymgysylltu a'r ymgynghori sydd wedi digwydd yn dylanwadu ar y cam nesaf.
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Roeddwn yn meddwl tybed a gawn eich holi beth oedd y nifer a fanteisiodd ar y cynllun gwreiddiol. Oherwydd fe wnaethoch sôn am y 350,000 o bobl neu ddeiliaid tai a oedd yn gymwys, a chyfeiriodd y Gweinidog Cyllid at 200,000 o aelwydydd a oedd wedi manteisio arno. A ydym yn siarad am yr un nifer o bobl, neu a wnewch chi egluro faint o bobl y credech eu bod yn gymwys ac y gallwyd rhoi gwybod iddynt mewn gwirionedd eu bod yn gymwys?
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw. Nid oeddem yn siŵr faint fyddai'n gymwys—rydym yn ddibynnol iawn ar ddata a gwybodaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau am hynny. Fel y cofiwch, fe wnaethom greu hyn i ddilyn y toriad i'r £20 o gredyd cynhwysol, felly roeddem yn edrych, ar y dechrau un, ar deuluoedd sy'n gweithio, a dyna pam y mae angen inni ei ehangu y tu hwnt i hynny yn awr. Ond roedd y niferoedd yn cyrraedd 200,000. Byddaf yn sicr yn rhoi arwydd cliriach o hynny pan gawn yr ymateb terfynol gan ein hawdurdodau lleol, a gyflawnodd y cynllun hwn i ni. Cyfarfûm â'r cyngor partneriaeth, gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y bore yma, nid yn unig i ddiolch iddynt am ddarparu cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, ond i'w hysbysu y byddem yn awr yn disgwyl iddynt gyflawni hyn. Ac wrth gwrs, mae'r niferoedd sy'n manteisio arno, y cyhoeddusrwydd, yr ymwybyddiaeth ohono, yn hanfodol bwysig, fel y dywedwyd.
Nawr, rydym wedi bod drwy'r cyd-destun—ers i Ofgem gynyddu'r cap ar brisiau ynni 54 y cant ym mis Ebrill, mae ein dadansoddiad wedi dangos bod nifer yr aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi codi o 12 y cant yn 2018 i tua 45 y cant. A bydd y cynnydd arfaethedig mewn prisiau ynni ym mis Hydref, wrth gwrs, yn gwaethygu ymhellach y problemau ariannol y mae aelwydydd yn eu hwynebu. Cynhaliwyd uwchgynhadledd costau byw gennym ym mis Chwefror, ac rwy'n cynnal digwyddiad dilynol ddydd Llun, ond hefyd yn cyfarfod â'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, fforwm hil Cymru, yn ogystal â'r grŵp trawsbleidiol, wrth gwrs, dan gadeiryddiaeth Mark Isherwood, er mwyn deall effaith yr argyfwng ar lawr gwlad a datblygu atebion gwybodus i'n harwain, oherwydd mae hyn yn ymwneud ag adeiladu cadernid aelwydydd bregus ar yr adeg hon.
Felly, mae'r adborth wedi helpu i lywio datblygiad y cynllun cymorth tanwydd pellach hwn i Gymru, sut y gall gyrraedd mwy o aelwydydd fel y gall mwy o bobl gael y £200, sy'n cynnig cymorth mor hanfodol, ond gan ehangu ei gymhwysedd. Ond dim ond un mewn cyfres o fentrau yw'r cynllun cymorth tanwydd i gefnogi pobl sy'n ei chael yn anodd talu cost gynyddol eu biliau ynni. Ac rwy'n falch iawn fod cyfeiriad wedi'i wneud at y cyhoeddiad a wneuthum am ein partneriaeth yn awr gyda'r Sefydliad Banc Tanwydd—bron i £4 miliwn o gyllid, ar 10 Mehefin y gwnaethom gyhoeddi hynny, ar gyfer y cynllun talebau tanwydd a chynllun y gronfa wres yng Nghymru. Felly, mae hynny hefyd yn mynd i ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i aelwydydd cymwys sy'n rhagdalu am eu tanwydd—y rhai sydd â mesuryddion rhagdalu, y rhai nad ydynt wedi'u cysylltu â'r prif rwydwaith nwy sy'n ei chael yn anodd talu ymlaen llaw am eu tanwydd.
Af ar drywydd y pwyntiau a'r cwestiynau hynny sydd wedi'u codi heddiw ynglŷn â chymhwysedd a'r effeithiau o ran landlordiaid a'r taliadau sefydlog, sydd wedi codi fwyaf yng ngogledd Cymru. A chyhoeddais hyn ym manc bwyd Wrecsam, oherwydd gwn sut roedd y cynnydd yn y taliadau sefydlog yn taro aelwydydd mewn ardaloedd gwledig ac yn y gogledd yn enwedig. Ond hefyd, mae'r arian hwnnw'n mynd i ariannu'r gwaith o ehangu'r rhwydwaith partner i gefnogi cyngor cofleidiol ar ynni ac arbedion. Mae hyn, unwaith eto, ac rydym wedi trafod hyn mewn ymateb i gwestiynau yn fy nghwestiynau llafar yn gynharach, yn ymwneud â'i gwneud hi'n bosibl lledaenu'r neges, rhoi'r gefnogaeth, pob cyswllt sydd wedi'i wneud, ond hefyd yr arian ychwanegol i sicrhau y gall ein cronfa cymorth dewisol ddarparu'r cymorth drwy gydol yr haf a'r gaeaf. Rydym wedi cytuno i wneud hynny hyd at ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf i bobl nad ydynt yn gallu fforddio, er enghraifft, eu cyflenwad nesaf o olew neu nwy petrolewm hylifol oherwydd caledi ariannol eithafol. Felly, mae'r mentrau hyn yn cyflawni ochr yn ochr â'n taliad costau byw o £150, ein cronfa ddewisol o £25 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol, ein rhaglen Cartrefi Clyd a 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'.
Nawr, yn olaf, Lywydd, fy rheswm dros ddiwygio'r cynnig oedd i sicrhau bod y ddadl yn cydnabod mai yn nwylo Llywodraeth y DU y mae'r prif ddulliau o fynd i'r afael â'r argyfwng tanwydd, a diolch i Sioned Williams am gydnabod hyn hefyd. Amharodrwydd Llywodraeth y DU i weithredu'n gynnar ar hyn a wnaeth ddwysáu effaith y cynnydd ym mhrisiau tanwydd. Hyd yn oed yn awr, er gwaethaf y dystiolaeth o'r effaith y mae'n ei chael, mae bylchau o hyd yn y cymorth y maent wedi'i gynnig. Felly, rwyf eisoes wedi ymateb, yn gynharach heddiw, i ddweud ein bod yn galw am ddileu'r holl gostau polisi amgylcheddol cymdeithasol o filiau ynni aelwydydd, er mwyn i'r costau hynny gael eu talu o drethiant cyffredinol a chyflwyno cap pris is ar gyfer aelwydydd incwm is er mwyn sicrhau y gallant dalu eu biliau ynni. Ond mae angen i ni hefyd gynyddu cyfraddau lwfans tai lleol, er mwyn cynyddu'r cyllid ar gyfer taliadau disgresiwn at gostau tai er mwyn atal nifer cryn dipyn yn fwy o bobl rhag dod yn ddigartref o ganlyniad i ôl-ddyledion rhent. Felly, gobeithio y bydd yr Aelodau'n ystyried cefnogi'r gwelliant hwn—nid yn unig ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, ond mae'n ddyletswydd hefyd ar Lywodraeth y DU i wneud cymaint mwy gyda'u pwerau a'u cyfrifoldebau, ac nid ydynt yn gwneud hynny. Ond bydd ein cynllun yn cael ei gyhoeddi ac mae wedi ymateb i lawer o'r materion sydd wedi'u codi heddiw. Diolch yn fawr.
Mabon ap Gwynfor i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Felly, mae prisiau ynni wedi codi i lefelau digynsail dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn sgil y cynnydd yn y cap ar brisiau ym mis Ebrill, gwelwyd cynnydd cyfartalog yn y bil nwy a thrydan i dros £2,000 y flwyddyn, cynnydd o £700. Yn ystod y 18 mis diwethaf yn unig, mae cost gwresogi cartref wedi dyblu. Bydd hyn yn taro'r aelwydydd tlotaf a mwyaf bregus galetaf, gyda llawer yn gorfod mynd heb bethau, yn gorfod dogni neu ddatgysylltu drostynt eu hunain hyd yn oed, fel y soniodd Delyth. Ar ben hyn, mae ôl-ddyledion biliau ynni yn fwy yng Nghymru ar hyn o bryd nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU. Ddoe, gofynnodd Jordan, disgybl o Ysgol Cefn Coch ym Mhenrhyndeudraeth i mi, 'Pam y mae tanwydd mor ddrud, a beth rydych chi'n ei wneud yn ei gylch yn y Senedd?' Mae plant yn sôn am hyn, ac mae'n achosi pryderon enfawr. Weinidog, a wnewch chi ateb Jordan yn onest a dweud, fel Llywodraeth, eich bod yn gwneud popeth yn eich gallu? Dyna pam y mae'n rhaid inni sicrhau bod y rheini sydd â hawl i fanteisio ar y cynllun cymorth tanwydd y gaeaf yn ymwybodol ohono yn y lle cyntaf, gyda rhai amcangyfrifon fod y nifer sy'n manteisio arno mor isel â 50 y cant. Do, dywedodd y Gweinidog yn ei hymateb fod ymwybyddiaeth yn hanfodol, felly dylai Llywodraeth Cymru lansio ymgyrch ymwybyddiaeth gydgysylltiedig i wella'r ffigur hwn, a rhyddhau ystadegau ynghylch y nifer sy'n manteisio arno i ganiatáu gwella a chraffu priodol.
Gwyddom hefyd y bydd pethau'n gwaethygu cyn iddynt wella, a rhagwelir y bydd biliau ynni'n codi tua £2,800 ar gyfartaledd ar ôl yr adolygiad nesaf o'r cap ar brisiau ym mis Hydref, ac mae'n ddigon posibl y byddant yn codi eto ym mis Ionawr os bydd Ofgem yn penderfynu adolygu bob tri mis, yn hytrach na phob chwe mis. A heddiw mae'r BBC yn adrodd bod arbenigwyr ynni yn dweud eu bod yn disgwyl i filiau ynni gyrraedd £3,000 y flwyddyn. Hyn i gyd tra bo cwmnïau ynni'n gwneud yr elw mwyaf erioed.
Byddai canlyniadau'r codiadau hyn yn ddinistriol i gymaint o bobl. Rhaid inni sicrhau bod gan bawb sydd angen cymorth hawl iddo, drwy ehangu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cynllun cymorth tanwydd y gaeaf ac ychwanegu elfen ddisgresiwn i'r rheini sydd mewn angen annisgwyl. Yn fy etholaeth i, mae gennym rai o'r cyfraddau tlodi tanwydd uchaf yn y DU. Yn y cyfamser, rydym yn cynhyrchu cymaint o drydan, ond eto nid ydym yn elwa ar yr enillion. Cymerwch Tanygrisiau, er enghraifft—cymuned dlawd iawn gyda lefelau annerbyniol o uchel o bobl mewn tlodi tanwydd. Ac eto, uwchben Tanygrisiau mae cronfa ddŵr Stwlan, sy'n eiddo i ac yn cael ei rhedeg gan First Hydro-Engie UK, gyda chapasiti cynhyrchu o 360 MW, sydd i gyd yn mynd i'r grid tra bo'r gymuned yn union oddi tani'n dioddef o dlodi tanwydd eithafol. Sut y gall hyn fod yn deg?
Gwnaeth y Gweinidog gyhoeddiad am gynllun cymorth tanwydd newydd, ac mae hynny'n wych ac i'w groesawu'n fawr. Ond mae tlodi gwledig yn broblem enfawr nad yw cynllun cymorth tanwydd y gaeaf a'r cynlluniau cymorth presennol yn mynd i'r afael â hi. Yn gyntaf, nid yw pob awdurdod lleol yn cynnig cynllun cymorth tanwydd y gaeaf i drigolion sydd oddi ar y grid, oherwydd geiriad cynllun Llywodraeth Cymru. Ac yn ail, i'r rheini sy'n rhoi'r cymorth i bobl oddi ar y grid, mae'r terfyn wedi'i osod ar £200, a fydd yn prynu 200 litr i chi ar brisiau olew heddiw, ond ni fydd dosbarthwyr olew yn darparu llai na 500 litr. Felly, nid yw £200 yn ddigon da i bobl oddi ar y grid. Mae'r un problemau'n amlwg yn berthnasol i'r cynlluniau talebau tanwydd a thaliadau disgresiwn. Mae gwahaniaethu'n digwydd yn erbyn preswylwyr sydd oddi ar y grid oherwydd hyn a rhaid ei ddatrys.
Felly, mae prisiau ynni uchel yma i aros ac nid yw cyflogau'n codi'n unol â hynny, gyda'r Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain yn gwneud popeth yn ei gallu i atal twf cyflogau am ei bod yn ofni chwyddiant. Felly, mae angen inni fod yn rhagweithiol a bod yn barod i barhau i wella'r cymorth a ddarparwn yma. Felly, rydym yn croesawu'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud ac yn derbyn mai Llywodraeth y DU sydd â'r prif ddulliau, ond mae angen inni wneud y gorau o'r hyn y gallwn ei wneud yn y Senedd hon. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, mae yna wrthwynebiad, a dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Eitem 10 yw'r eitem nesaf: dadl Plaid Cymru eto ar ailymuno â'r farchnad sengl. A dwi'n galw ar Luke Fletcher i wneud y cynnig yma.
Cynnig NDM8048 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu y dylai'r Deyrnas Unedig ailymuno â'r farchnad sengl.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Can biliwn o bunnoedd y flwyddyn—dyna faint y mae'r Financial Times yn amcangyfrif bod peidio â bod yn rhan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau wedi ei gostio i'r DU. Ar ben hynny, mae £40 biliwn yn llai o refeniw i'r Trysorlys y flwyddyn ac mae'r DU ar ei hôl hi o'i chymharu â gweddill y G7 o ran adfer o'r pandemig. Dyna lle rydym ni arni. Mae peidio â bod yn rhan o'r farchnad sengl yn sicr yn ein gwneud ni yma yng Nghymru yn waeth ein byd. Mae wedi crebachu ein heconomi a chyfyngu ar dwf economaidd, yn ogystal â gwaethygu'r argyfwng costau byw presennol. Bydd peidio â bod yn rhan o'r farchnad sengl yn gwneud adfer o'r pandemig a chael cyflogau i godi'n gynaliadwy yn ystod yr argyfwng costau byw yn llawer iawn anoddach.
Canfu adroddiad gan y Resolution Foundation ac Ysgol Economeg Llundain fod disgwyl i gynhyrchiant llafur ostwng 1.3 y cant erbyn 2030, am nad yw economi Prydain ar ôl Brexit mor agored ag y bu. Mae hyn yn cyfateb i golli chwarter yr enillion effeithlonrwydd a wnaed dros y degawd diwethaf. Mae wedi niweidio cystadleurwydd allforion y DU yn aruthrol, a gwyddom fod hynny'n effeithio'n arbennig ar ein cymunedau ffermio yma yng Nghymru, gyda disgwyl i allforion y DU i'r UE fod 38 y cant yn is erbyn 2030 nag y byddent pe baem o fewn y farchnad sengl, gyda gostyngiad pellach o 16 y cant o ganlyniad i roi'r gorau i integreiddio pellach â'r UE dros y cyfnod hwnnw.
Addawodd Boris Johnson i ni ym mis Hydref y byddai Brexit yn helpu i greu economi â chyflogau uchel a chynhyrchiant uchel, ond yn ddiweddar mae wedi annog gweithwyr i beidio â gofyn am godiadau cyflog uwch i atal trogylch rhwng cyflogau a phrisiau rhag gyrru chwyddiant yn uwch. Yn ystod y refferendwm, addawodd hefyd na fyddai gadael yr UE yn golygu gadael y farchnad sengl. Mae hyn ond yn datgelu rhagor o'i gelwyddau niferus. Ar ben hynny, mae Cyngres yr Undebau Llafur wedi rhybuddio bod cytundebau masnach ôl-Brexit yn methu gwarantu hawliau gweithwyr ac amddiffyniadau cyflogeion.
Gwyddom fod yr argyfwng costau byw a'r pandemig wedi taro ein cymunedau mwyaf bregus a thlotaf yma yng Nghymru galetaf, ac mae aros y tu allan i'r farchnad sengl yn gwneud hyn yn waeth. Amcangyfrifir bod costau mewnforio uwch yn costio bron i £500 y flwyddyn i weithwyr Prydain, sy'n ffigur hynod o serth i'r teuluoedd tlawd sydd eisoes yn cael trafferth.
Adroddodd The Guardian—ac nid wyf yn aml yn dyfynnu The Guardian—yn ddiweddar am y ffordd y mae Brexit yn effeithio ar blant ysgol, gyda nifer cynyddol o ddisgyblion bellach yn methu talu am brydau ysgol yn dilyn cynnydd yng nghostau bwyd a phrinder bwyd. Mae 90 y cant o gwmnïau sy'n darparu prydau ysgol yng Nghymru a Lloegr wedi dweud eu bod yn wynebu prinder bwyd o ganlyniad i broblemau yn y gadwyn gyflenwi, tra bo costau cyfartalog wedi cynyddu 20 y cant ers mis Ebrill 2020.
Mae effaith aros y tu allan i'r farchnad sengl yn wirioneddol amlwg ac yn effeithio ar bobl yn eu bywydau bob dydd, a dyna pam ein bod yn galw am gefnogaeth i'r cynnig hwn heddiw. Nawr, nodais ymateb y Prif Weinidog i Adam Price ddoe yng nghwestiynau'r Prif Weinidog—'meddyliau hudol'. Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf yn rhannu barn y Prif Weinidog. Yn sicr, nid yw'n feddyliau hudol i Wlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy—tair gwlad y tu allan i'r UE sydd oll yn aelodau o'r farchnad sengl. Nid yw ychwaith yn feddyliau hudol i Ogledd Iwerddon, sydd ar hyn o bryd yn rhan o'r DU nad yw'n rhan o'r UE ond eto yn y farchnad sengl, gyda chefnogaeth y rhan fwyaf o'r pleidiau yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon.
Pe gwrandewid ar y feirniadaeth ynghylch 'meddyliau hudol' bob tro, byddai llawer o bethau yr ydym yn eu coleddu na fyddent yn bodoli heddiw. Ond dyna a wnawn fel Aelodau etholedig: rydym yn nodi problem, rydym yn meddwl am ateb ac rydym yn adeiladu achos. Dyna yw nod Plaid Cymru heddiw, a dyna y byddwn yn ei wneud.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Weinidog yr Economi i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu y dylai y DU gael yr uchelgais o'r fasnach agosaf bosibl, heb wrthdaro gyda'r UE.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol, Lywydd.
Diolch. James Evans.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma. Rwy'n siŵr na fydd yn syndod i Aelodau yn y Siambr hon na fydd y rheini ohonom sy'n eistedd ar yr ochr hon yn cefnogi'r cynnig y prynhawn yma. Wrth gwrs, nid wyf yn synnu gweld bod Plaid Cymru wedi achub ar y cyfle i godi ei hobsesiwn gwleidyddol â'r Undeb Ewropeaidd eto. Yn wir, mae'n—[Torri ar draws.] Mae'n drueni mawr na allwch dderbyn ewyllys pobl Cymru.
Gadewch imi atgoffa'r Aelodau ar feinciau Plaid Cymru fod pobl Cymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n gwybod nad ydych yn hoffi'r ffaith honno, ond nid yw hynny'n ei newid. Pleidleisiodd pobl ledled y wlad dros adael, a chyda hynny maent eisiau gweld Cymru'n ffynnu mewn Teyrnas Unedig gref. Diolch i Lywodraeth Geidwadol y DU, Cymru gref mewn Teyrnas Unedig gref yw'r hyn y byddant yn ei gael.
Mae Llywodraeth y DU yn gweithio'n galed i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y ffaith ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n cyflwyno'r Bil rhyddid yn sgil Brexit, a fydd yn torri £1 biliwn o fiwrocratiaeth yr UE ac yn rhoi hwb i fusnesau Cymru drwy greu fframwaith rheoleiddio newydd wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer y DU a fydd yn manteisio ar ein rhyddid newydd yn sgil Brexit.
Gadewch inni beidio ag anghofio bod Llywodraeth y DU bellach wedi sefydlu cytundebau masnach rydd gyda dros 70 o wledydd, cytundebau sy'n werth dros £808 biliwn gyda'i gilydd—cytundebau sy'n ei gwneud yn haws i fusnesau Prydain allforio eu nwyddau. Mae'r rhain yn cynnwys cytundebau â Japan, Awstralia a Seland Newydd—cytundebau sy'n ein paratoi ar gyfer Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar Partneriaeth y Môr Tawel, sy'n werth £9 triliwn.
Bu cynnydd hefyd ar greu porthladdoedd rhydd newydd ledled y DU, gan leihau rheoliadau a chefnogi arloesedd. Bydd busnesau sy'n gweithredu o borthladdoedd rhydd yn elwa o ryddhad treth a bydd ganddynt system dollau a chynllunio symlach, a fydd yn eu helpu i dyfu a chreu swyddi. Mae angen inni fwrw ymlaen a manteisio ar y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â phorthladdoedd rhydd yma yng Nghymru.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod cydweithio rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sefydlu porthladd rhydd i Gymru eisoes ar y gweill. Mae angen inni gyflymu'r gwaith hwn er mwyn sicrhau nad ydym ar ein colled o ran buddsoddiad. Pan fydd porthladd rhydd i Gymru wedi'i sefydlu, bydd yn gallu denu busnesau, swyddi a buddsoddiadau newydd, yn ogystal â thyfu economi Cymru.
Yn ogystal â chytundebau masnach rydd a phorthladdoedd rhydd, mae gennym hefyd gytundeb masnach a chydweithredu y DU a'r UE, rhywbeth y dywedodd pobl yn y Siambr hon na fyddem byth yn gallu ei wneud. Mae'n gytundeb masnach heb dariff na chwotâu sy'n cwmpasu meysydd fel—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Rwyf am wneud un pwynt cyn derbyn yr ymyriad. Masnach ddigidol, eiddo deallusol, caffael cyhoeddus, awyrennau, trafnidiaeth ffyrdd, ynni, pysgodfeydd, nawdd cymdeithasol, gorfodi'r gyfraith, cydweithredu barnwrol a mwy. A Mabon, rwy'n derbyn eich ymyriad.
A ydych yn credu y bydd y cytundeb masnach â Seland Newydd ac Awstralia o fudd i'n cymunedau gwledig a'n ffermwyr?
Rwy'n credu bod cyfle gwych i'n busnesau ledled y wlad. Oes, mae yna broblemau y mae angen eu datrys, a dyna mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn bwriadu ei wneud. Pe baem yn gwrando ar y cenedlaetholwyr a'r sosialwyr yma, byddem yn dod yn wlad ynysig heb unrhyw bresenoldeb rhyngwladol o gwbl. Mae llawer o waith pwysig eisoes wedi'i wneud i sefydlu cytundeb cydweithio cryf, sy'n seiliedig ar ddarpariaethau i sicrhau chwarae teg a pharch at hawliau sylfaenol.
Ceir cytundeb partneriaeth cryf eisoes ar waith ar gyfer cytundebau masnach rhwng y DU a'r UE, felly nid oes angen ailymuno â'r farchnad sengl. Nid yw ailymuno â'r farchnad sengl yn rhywbeth y mae unrhyw fusnesau rwy'n siarad â hwy yn galw amdano. Mae'n amlwg fod hyd yn oed y Blaid Lafur a Llywodraeth Cymru wedi sylweddoli hyn ac—
Bydd yn rhaid i chi ddirwyn i ben yn awr, oherwydd rwyf wedi bod yn hael iawn gyda'r amser yn barod.
Nid yw'r Blaid Lafur eisiau ymuno â'r farchnad sengl mwyach hyd yn oed. Felly, dywedaf wrth Aelodau Plaid Cymru heddiw: deffrwch—mae Brexit wedi'i wneud. Pleidleisiodd Cymru dros adael.
Iawn, rwy'n credu—
Rydym bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, yr undeb tollau a'r farchnad sengl, felly derbyniwch y peth—[Anghlywadwy.]
Ie, iawn. Dyna ni. Cefin Campbell.
Wel, diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, dwi am ddechrau drwy wneud un peth yn glir: yn wahanol iawn i fywyd rhithiol James Evans, mae gadael y farchnad sengl wedi bod yn gwbl drychinebus i Gymru ac i holl wledydd y Deyrnas Gyfunol. Mae'r holl addewidion gan y Brexiteers wedi bod yn ddim byd mwy na thwyll, ac mae effaith hynny ar ein cymunedau wedi bod yn ofnadwy o andwyol.
Gadewch inni ystyried beth yw realiti gadael y farchnad sengl: mynydd o fiwrocratiaeth i'n busnesau er mwyn allforio nwyddau, cost gynyddol mewnforion, problemau gyda thaliadau treth ar werth, gwerth y bunt yn cael ei ddibrisio, ein ffermwyr yn wynebu gwiriadau ar y ffin ag Ewrop—border checks—wrth iddyn nhw werthu eu cynnyrch, tra bod bwyd sy’n dod mewn i’r gwledydd hyn yn dod mewn yn gwbl ddi-lyffethair.
A nawr ein bod ni wedi gadael y polisi amaeth cyffredinol, mae'r Torïaid yn San Steffan wedi torri £137 miliwn eleni a £106 miliwn y flwyddyn nesaf oddi ar gyllideb amaeth yng Nghymru. Felly, dyna yw benefit mawr Brexit i'n ffermwyr ni. Ac eto roedd Brexit i fod i olygu cyfleoedd newydd a chyffrous i’r sectorau amaeth a physgota. Yn anffodus, y gwrthwyneb sy'n wir. Roedd y cyfan yn rhethreg a seiliwyd ar anonestrwydd.
Fel y clywsom eisoes, ond mae'n werth ei grybwyll eto, gan fod ein sectorau gweithgynhyrchu a busnesau bach yn wynebu heriau biwrocrataidd diddiwedd, nid yw'n syndod fod disgwyl i allforion busnes gan gwmnïau bach i'r UE fod 38 y cant yn is erbyn 2030. Y flwyddyn nesaf, mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn cyfrifo mai'r DU fydd yn cofnodi'r twf lleiaf yn y G20, ac eithrio Rwsia. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dweud y bydd Brexit yn lleihau cynnyrch domestig gros y DU 4 y cant dros y blynyddoedd nesaf; mae hyn yn cyfateb i tua £100 biliwn mewn allbynnau a gollwyd, a £40 biliwn yn llai o refeniw i'r Trysorlys. Dywedodd y Ganolfan Diwygio Ewropeaidd fod economi'r DU, erbyn diwedd y llynedd, 5 y cant neu £31 biliwn yn llai oherwydd Brexit. Nawr, yn gynharach, clywais Mark Isherwood yn ymdrechu'n daer i restru manteision gadael, ond dyma'r realiti, wedi'i adrodd gan felinau trafod uchel eu parch nid sefydliadau Mickey Mouse. Addawodd cefnogwyr Brexit na fyddai unrhyw anfantais i adael yr UE a'r farchnad sengl, dim ond manteision gwych. Fe wnaethant ddweud celwydd wrthym; fe wnaethant dwyllo cymaint o bobl mewn cyn lleied o amser.
Wrth i ni edrych o'n cwmpas, beth rŷn ni'n ei gweld yw argyfwng costau byw—
Ydych chi'n cymryd ymyriad oddi wrth Joyce Watson, Cefin Campbell?
Wrth bwy?
Joyce Watson.
Ydw, wrth gwrs. Croeso.
Diolch, Cefin. Er y byddwn wrth fy modd yn ailymuno â'r farchnad sengl—byddwn yn ei wneud yfory nesaf, byddwn yn ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd yfory nesaf ac rwy'n siŵr y byddai pobl eraill yn gwneud yr un peth—ac rwy'n cytuno â phopeth rydych wedi'i ddweud, ond onid ydych yn derbyn, ar hyn o bryd, na allwn ailymuno â'r farchnad sengl yn awtomatig? Yr hyn y mae angen inni ei wneud mewn gwirionedd yw sicrhau gwell amodau i'r bobl yn y sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd a gwella hynny yn y lle cyntaf.
Wel, Joyce, mae Brexit wedi bod yn ffactor niweidiol iawn. Ni allwn ganiatáu i hyn ddigwydd; rhaid inni osod nod i ni'n hunain i wneud pethau'n well, a'n huchelgais yw ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd ac yn sicr y farchnad sengl, ac fel rydym eisoes wedi'i glywed gan Luke Fletcher, mae gwledydd eraill yn gwneud hyn ac mae'n gwbl bosibl i ni ei wneud hefyd. Felly, gadewch inni beidio â gostwng y bar, gadewch inni fod yn uchelgeisiol a throi ein golygon at ailymuno.
Felly, os caf fi orffen, Lywydd.
Fyddaf i ddim yn hir iawn. Beth rŷn ni'n ei gweld o'n cwmpas ni nawr yw argyfwng costau byw, cost tanwydd a bwyd yn cynyddu, chwyddiant ar ei uchaf ers 40 mlynedd, a rhai sectorau yn methu â recriwtio gweithwyr—ac mae yna nifer ohonyn nhw fan hyn; af i ddim ar eu hôl nhw.
Felly, yn ôl Plaid Cymru, ailymuno â’r farchnad sengl yw’r unig ffordd synhwyrol o ymateb i’r problemau dybryd hyn sydd wedi cael eu hachosi gan Brexit. Ie, roedd 2016 yn weithred o hunan-niweidio difrifol, ond mae modd negodi ffordd o ailymuno, ac mae'n rhaid gwneud hynny ar frys er lles ein cymunedau ni yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Gyfunol.
Wel, lle ar y ddaear y mae dechrau gyda hwn? Gadewch inni beidio â chamgymryd o gwbl beth yw diben dadl Plaid Cymru heddiw: nid oes ganddi ddim i'w wneud â'n cadw yn y farchnad sengl; mae ganddi bopeth i'w wneud â Phlaid Cymru yn ceisio ein cadw yn yr Undeb Ewropeaidd yn erbyn ein hewyllys. Mae wedi bod yn chwe blynedd, ond ni all Plaid Cymru, fel y'i gelwir, dderbyn bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Pe baent yn trafferthu gwrando ar bobl Cymru, byddent yn gweld nid yn unig fod arolwg barn wedi darganfod mai Cymru yw'r wlad fwyaf unoliaethol yn y DU, byddent hefyd yn darganfod bod 52.5 y cant o bobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, sy'n uwch na chyfartaledd y DU. Nid yw Plaid Cymru yn hoffi gwrando ar yr hyn sydd gan bobl Cymru i'w ddweud; maent yn hoffi siarad atynt. Ac efallai ei fod yn egluro pam fod Cymru'n gwrthod Plaid Cymru dro ar ôl tro yn y blwch pleidleisio, ac os nad ydych yn fy nghredu mai dyma yw hanfod hyn, gadewch inni edrych ar yr hyn sydd gan Blaid Cymru eu hunain i'w ddweud. Cafodd arweinydd Plaid Cymru yn 2018 ei ddyfynnu'n dweud, 'Rhaid atal Brexit.' Roedd eu maniffesto Ewropeaidd yn 2019 yn dweud:
'Dyna pam ein bod yn apelio am gefnogaeth o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol: i sicrhau Pleidlais y Bobl, i sicrhau bod Cymru'n cyfrif, ac yn y pen draw i gadw Cymru'n aelod o'r UE.'
Onid yw'n eironig, Lywydd, eu bod eisiau i bobl Cymru bleidleisio eto ar fater sydd wedi cael ei gefnogi'n gyson gan y cyhoedd yng Nghymru ond eu bod yn ofni'r syniad o roi llais i bobl Cymru ar fwy o wleidyddion yn y lle hwn? Serch hynny, rwy'n rhoi clod i Blaid Cymru am fod yn gyson, o leiaf, yn eu hanwybodaeth ynglŷn â barn pobl Cymru.
Mae'r Blaid Lafur, fel arfer, dros bob man: tair wythnos fer yn unig yn ôl, soniodd y Prif Weinidog am rinweddau'r farchnad sengl, yna, ddoe yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, ceisiodd ei orau glas i amddiffyn safbwynt arweinydd ei blaid yn San Steffan drwy ddiystyru aelodaeth o'r farchnad sengl fel un afrealistig, ac fe gafodd polisi Brexit newydd Keir Starmer, beth bynnag ydoedd, ei ddiystyru gan Alun Davies, lle bynnag y mae, fel polisi nad oes ganddo hygrededd o gwbl. Pwy a ŵyr beth yw barn y Blaid Lafur am Brexit? Dyn a ŵyr. Dyna pam ein bod ni fel Ceidwadwyr Cymreig, fel arfer—gwir blaid Cymru—yn sefyll ac yn amddiffyn buddiannau pobl Cymru, yn rhoi ein ffydd yn y ffaith mai hwy sy'n gwybod orau. Ni hefyd yw'r blaid sy'n amddiffyn eu pleidlais a'u llais yn erbyn y grymoedd sy'n ceisio ei hanwybyddu. Nid yw pobl Cymru eisiau ailymuno â'r farchnad sengl, nid ydynt eisiau ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd, yr hyn y maent ei eisiau yw dosbarth gwleidyddol sy'n gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud, yn hytrach na'u trin fel pe na baent yn gwybod am beth y maent yn sôn. Felly, dyna pam rwy'n annog pob Aelod i ddangos parch priodol at y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu ac yn eu cynrychioli a gwrthod y cynnig hwn heddiw.
Wel, mae gennyf newyddion i chi, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau, ac ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd, rywbryd yn y dyfodol. Rhaid imi ddweud, wrth gwrs, ei bod braidd yn siomedig fod cefnogaeth Llafur i'r farchnad sengl wedi'i hanghofio i bob golwg, ac rwyf wedi fy nrysu'n fawr gan eu sefyllfa bresennol oherwydd mae'n ymddangos fel pe bai'n newid yn eithaf sylweddol. Ond hoffwn ddweud ychydig o bethau y gobeithiaf y bydd pobl yn gwrando arnynt gyda pharch, oherwydd mae'n effeithio ar y bobl yma yng Nghymru.
Mae pwysau deublyg Brexit a'r pandemig wedi creu'r storm berffaith i'r bobl sy'n ei chael hi'n anodd iawn gyda chostau byw. Mae prisiau wedi bod yn codi ers inni adael y farchnad sengl, ac mae'n anochel y bydd hyn yn parhau oherwydd y rhwystrau i fasnachu gyda'n partneriaid Ewropeaidd. Roedd Cymru'n ddibynnol am lawer iawn o'i masnach ar yr Undeb Ewropeaidd, ac mae ein hallgáu o'r farchnad sengl wedi arwain at effaith lawer mwy sylweddol nag mewn rhannau o Loegr. Rwyf wedi clywed gan fusnesau bach, gan gynnwys Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, sy'n cael trafferth mawr gyda'r fiwrocratiaeth—[Torri ar draws.]
Credaf fod y mân siarad o feinciau cefn y Blaid Lafur yn—. Nid wyf yn pwyntio unrhyw fysedd, yn wahanol i chi, Hefin David. [Chwerthin.] Os gallwn gael ychydig o dawelwch i wrando ar Jane Dodds.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf wedi clywed gan fusnesau bach, gan gynnwys Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, sy'n ei chael yn anodd iawn gyda'r fiwrocratiaeth, y baich ariannol ychwanegol a achosir gan gytundeb y Ceidwadwyr. Yn y pen draw, cyfrifoldeb y Llywodraeth yw sicrhau bod ei dinasyddion yn cael gofal da, ac ni allwn fynd i'r afael yn iawn â'r argyfwng costau byw heb ailymuno â'r farchnad sengl. Ac fel y clywsoch, mae angen inni ystyried yr effaith ar y sector amaethyddol. Mae ffermwyr wedi profi cryn dipyn o ansicrwydd ers—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs y gwnaf.
Diolch. Er fy mod yn deall yn llwyr ac yn cydnabod y cyd-destun yr ydych wedi'i nodi, a wnewch chi esbonio sut y byddech yn ymdrin â'r ffaith bod y refferendwm, ei hoffi neu beidio, wedi'i gynnal?
Ie, diolch ichi am hynny. Rydym wedi ailadrodd y dadleuon hyn droeon. Ac rydych yn iawn i ddweud bod mwyafrif bach iawn o bobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros adael yr UE, ond yr hyn y maent wedi'i weld yw llu o gelwyddau ynghylch yr hyn y credent y byddent yn ei gael ac felly, mae'n rhaid inni feddwl yn wahanol. Fe ddof i ben mewn munud, os caniatewch imi symud ymlaen.
Roeddwn yn sôn am ffermwyr. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod yr effaith ar ein busnesau ffermio. Ac fel rhywun sy'n cynrychioli ardal wledig sylweddol, rwyf wedi clywed droeon gan ffermwyr am yr effaith y mae gadael yr UE wedi'i chael arnynt.
Cyn imi ddirwyn i ben, yn anffodus ni fyddaf yn pleidleisio dros welliant Llywodraeth Cymru, oherwydd rwyf wedi fy siomi gan ddiffyg dewrder Llafur ar y mater hwn ac fel y dywedais, rwy'n teimlo'n ddryslyd iawn. Felly, fy mhle i Aelodau Llafur, a allai fod yn teimlo'n ddryslyd hefyd, os ydynt yn sylweddoli bod aelodaeth o'r farchnad sengl yn allweddol i adferiad Cymru o'r pandemig ac i dwf yn y dyfodol, yw pleidleisiwch dros y cynnig hwn heb ei ddiwygio. Diolch yn fawr iawn.
Gweinidog yr Economi nawr i gyfrannu, Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy gydnabod, er gwaethaf y cyfraniadau a wnaed, fod meysydd cytundeb sylweddol rhyngom ni, Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Credwn y gallai ac y dylai partneriaeth gadarnhaol gyda'r UE, yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a gwerthoedd a rennir, leihau rhwystrau masnach, datgloi buddsoddiadau a helpu i ddiogelu swyddi. Mae'r nodau cyffredin hyn yn seiliedig ar yr hyn sydd, yn ein barn ni, yn gwasanaethu buddiannau economi Cymru orau.
Felly, pan fo'r Ysgrifennydd Tramor yn dweud wrthym ei bod, fel gwladgarwr, yn amddiffyn Bil Gogledd Iwerddon, gyda'r ensyniad amlwg sydd i hynny, gallwn weld, unwaith eto, pa mor isel y mae'r hyn sy'n weddill o Lywodraeth y DU yn fodlon suddo. Nawr, er ein bod yn anghytuno ar gynnig sy'n ennyn barn gref, a minnau gymaint ag unrhyw un arall, byddwn yn gobeithio y byddai pob Aelod yma'n cydnabod pa mor beryglus yw hi i Weinidogion y DU awgrymu bod cefnogaeth i Fil Protocol Gogledd Iwerddon yn brawf o wladgarwch unrhyw un. Ni ddylid normaleiddio'r iaith ymrannol hon yn y Llywodraeth, ac rwyf wedi egluro'n uniongyrchol i Lywodraeth y DU fod y cywair hwn yn broblem wirioneddol y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef ar frys.
Lywydd, rydym wedi ceisio trafod amcanion a rennir gydag ymagwedd bragmatig ers refferendwm 2016. Dyna pam y gwnaethom gyhoeddi Papur Gwyn ar y cyd â Phlaid Cymru yn 2017, pan oeddem yn dal i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, yn nodi opsiynau ymarferol ar gyfer cynllun ar gyfer Brexit ar ôl y refferendwm. Roedd hynny'n cynnwys safbwyntiau cyfaddawdol a oedd yn ymarferol ac yn gredadwy ac yn wir, symudodd Theresa May yn agosach byth at ein safbwynt ni dros amser. Ond Lywydd, ni allwn gefnogi cynnig Plaid Cymru, oherwydd nid yw'n bodloni'r meini prawf hynny sy'n galw am fod yn ymarferol ac yn gredadwy, o gofio'r cyd-destun sy'n ein hwynebu heddiw. Nid yw'r cynnig yn darparu ateb ymarferol: ni fyddai bod yn aelod o'r farchnad sengl heb fanteision yr undeb tollau, y soniodd Luke Fletcher amdano yn ei frawddeg agoriadol, yn sicrhau'r amodau masnachu yr ydym wedi'u mwynhau o'r blaen. Mae'r cynnig hefyd yn codi mwy o gwestiynau nag y mae'n eu hateb. Nid yw'n awgrymu sut y byddai'r opsiwn hwn yn cael ei ddatblygu ar ôl sicrhau cytundeb nac a fyddai'r UE, a bod yn onest, yn ystyried cynnig o'r fath. Lywydd, ni allwn gymeradwyo safbwynt sydd mor benodol ar un elfen o'r berthynas tra'n cadw'n dawel ar y cwestiynau ehangach, sydd â goblygiadau mawr i'n hallforwyr yn enwedig.
Ein nod yw sicrhau'r fasnach agosaf a mwyaf esmwyth bosibl gyda'r UE. I gefnogi'r safbwynt hwnnw, mae gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu anghenion uniongyrchol busnesau sy'n allforio o bob rhan o Gymru, yn ogystal â phartneriaid fel ein prifysgolion, sydd wedi'u siomi gan fethiant Llywodraeth y DU i sicrhau mynediad at raglen Horizon. Ein blaenoriaeth yw hyrwyddo camau adeiladol a gynlluniwyd i drwsio protocol Gogledd Iwerddon, lleihau rhwystrau masnach diangen a sicrhau mynediad at gyfleoedd buddsoddi a rhaglenni ar y cyd. Rydym wrthi'n annog Llywodraeth y DU i newid trywydd mewn perthynas â'r holl faterion hyn ac atal y peryglon uniongyrchol a achosir i'n heconomi. Credwn y gallai dull partneriaeth gyda'r UE, yn seiliedig ar safonau uchel a pharch at gyfraith ryngwladol, sicrhau cynnydd mawr sydd er budd Cymru. Mae safonau uchel yn bwysig, oherwydd gwyddom nad yw'r peiriant sy'n gyrru economi fodern lwyddiannus yn cael ei bweru gan ras i'r gwaelod a threth ar hawliau gweithwyr.
O ystyried cwymp Llywodraeth y DU sy'n dal i fynd rhagddo, efallai nad yw'n syndod bod y Prif Weinidog yn cyflwyno rheolau newydd sy'n caniatáu i weithwyr asiantaeth dorri streiciau. Cyn bo hir, efallai y bydd yn troi atynt i lenwi swyddi'r Llywodraeth y cefnwyd arni gan nifer cynyddol o bobl sy'n tynnu eu llafur yn ôl, a dylwn ychwanegu, Lywydd, heb fudd pleidlais cyn gweithredu.
Ond Lywydd, o gofio'r gwirioneddau sy'n ein hwynebu, mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn bartner yn y gynghrair gynyddol o leisiau sy'n galw ar Lywodraeth y DU i newid trywydd yn ei pherthynas â'r UE. Mae'n bwysig oherwydd, fel y mae llawer ohonom yn cytuno, mae difrod sylweddol yn cael ei wneud i'n heconomi a gallai Llywodraeth y DU atal llawer o hynny. Dyna pam yr eglurais i Weinidog y DU nad ydym yn derbyn eu dadansoddiad o berfformiad masnachu presennol y DU. Mae allforion y DU i'r UE yn parhau i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig wrth gyfrif chwyddiant. Mae twf mewnforion hefyd yn golygu bod diffyg y DU ar gydbwysedd masnach mewn nwyddau hefyd ar ei lefel uchaf erioed yn ystod chwarter cyntaf eleni. Ac mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi nodi na fydd yr un o'r cytundebau masnach rydd newydd na'r newidiadau rheoleiddiol a gyhoeddwyd yn ddigon i gael effaith sylweddol ar yr ergyd i allforion y DU. Felly, nid ydym erioed wedi derbyn y rhethreg chwyddedig ynghylch cytundebau masnach rydd newydd, ac rydym yn dal i wrthwynebu'n gadarn unrhyw fygythiadau i ddadreoleiddio.
Mae'r dull partneriaeth yr ydym yn ei argymell yn gwbl wahanol i'r unochroldeb ymosodol sy'n torri rheolau sy'n diffinio safbwynt Llywodraeth bresennol y DU. Mae eu trywydd yn anllythrennog yn economaidd ac yn amddifad o bob moesoldeb. Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn newid y cyd-destun ar gyfer yr hyn y gellir ei gyflawni o fewn partneriaeth adeiladol gyda'r UE, a'r hyn a allai fod yn gamau nesaf credadwy. Ni allaf ddweud yn onest wrth fusnesau rwy'n cyfarfod â hwy y gall Llywodraeth Cymru eu helpu i oresgyn y problemau y maent yn eu hwynebu drwy fabwysiadu safbwynt nad yw'n gredadwy ac nad yw ar gael i Weinidogion y DU heddiw hyd yn oed. Rydym yn parhau i fod eisiau sicrhau'r fasnach agosaf fwyaf esmwyth sy'n bosibl gyda'r UE a byddwn yn parhau i bwyso'r achos hwnnw. Credwn hefyd y byddai'n llawer haws cyflwyno'r achos hwnnw pe bai gennym Lywodraeth newydd ar ôl pleidlais lle y gallai pob un ohonom fynegi ein barn.
Rhys ab Owen i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rydym wedi clywed rhesymau clir a ffeithiol y prynhawn yma, gan Cefin Campbell, gan Luke Fletcher, gan Jane Dodds, pam y dylem ymuno â'r farchnad sengl. Yn wir, credaf inni glywed rhesymau clir a ffeithiol gan Vaughan Gething, y Gweinidog, ynglŷn â pham y dylem ymuno. Nawr, gwyddom fod Boris Johnson wedi diystyru effaith Brexit ar yr economi mewn iaith anseneddol iawn cyn iddo ddod yn Brif Weinidog. Wel, ni chlywsom iaith o'r fath o'r meinciau gyferbyn heddiw, ond yn sicr fe glywsom James Evans a Tom Giffard yn rhefru fel Boris, oni wnaethom? A James a Tom, rwy'n credu bod angen i chi roi'r gorau i efelychu Boris Johnson oherwydd mae ei ddyddiau wedi'u rhifo.
I ateb—[Torri ar draws.]
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, rydych wedi cael digon o amser. I ateb James a Rhianon: mae hawl gan bobl i newid eu meddyliau, James a Rhianon. Dyna pam ein bod yn cael etholiadau rheolaidd, a bydd y Ceidwadwyr yn gweld, yn yr etholiad cyffredinol nesaf, fod llawer o bobl, yn sicr, wedi newid eu meddyliau. Ddydd Llun—[Torri ar draws.] Rwy'n fodlon derbyn ymyriad gennych chi, Hefin, ie.
Rwy'n gwerthfawrogi'r ymyriad gan fy nghyfaill; mae'n garedig iawn. Mae'n gwybod bod gennyf barch tuag ato, felly rwy'n gofyn y cwestiwn hwn yn ddiffuant. Nid wyf yn deall safbwynt Plaid Cymru o fod eisiau ailymuno â'r farchnad sengl Ewropeaidd, ond gadael marchnad sengl y DU. A wnaiff roi'r rhesymeg dros hynny?
Gallaf, wrth gwrs. Rydym eisiau bod yn rhan o Undeb Ewropeaidd mwy, yn rhan o genedl gyfartal gyda'r gwledydd Ewropeaidd eraill. Rydym yn blaid ryngwladolaidd; dyna'r ateb, Hefin David. Ac mae ein safbwynt yn glir iawn ac yn gyson yn hyn o beth, tra bo slogan diweddaraf Keir Starmer am wneud i Brexit weithio yn nonsens llwyr. Siaradodd yn erbyn ailymuno â'r undeb tollau ddydd Llun. Dylai Llywodraeth Cymru gytuno bod Brexit yn drychineb, ac y dylai'r slogan ddweud nad yw Brexit yn gweithio. Ac fel y cawsom ein hatgoffa gan Luke Fletcher, y rhai tlotaf yn ein cymunedau sy'n dioddef o'i herwydd. Gyda 62 o flynyddoedd ers ei farwolaeth, Aneurin Bevan a'i mynegodd orau:
'Gwyddom beth sy'n digwydd i bobl sy'n aros yng nghanol y ffordd. Cânt eu taro i lawr.'
A gobeithio y bydd Syr Keir yn gwrando ar y cyngor hwnnw, oherwydd mae'n amhosibl iddo sefyll dros y rhai tlotaf yn ein cymunedau, y tlotaf yng Nghymru, tra bo'n eistedd ar y ffens drwy'r amser. Mae'n siomedig ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn eistedd ar y ffens hefyd, ac maent wedi gwanhau'r cynnig i'w wneud yn ddiystyr heddiw—yn gwbl ddiystyr.
Yn y cyfamser, mae Llafur yr Alban wedi dweud mewn gwirionedd eu bod eisiau gweld newid tuag at ailymuno â'r farchnad sengl. Dyna pam ein bod yn galw ar bawb yma heddiw i gefnogi'r cynnig hwn. Llafur Cymru, rhowch y gorau i eistedd ar y ffens; mae fflawiau'n boenus. Mae'n bryd dweud 'ie' wrth y farchnad sengl, 'ie' dros economi well yng Nghymru, a 'na' i Brexit trychinebus Boris. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly byddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni'n dod i'r cyfnod pleidleisio nawr, ac felly fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr i baratoi ar gyfer y bleidlais yn dechnegol.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:59.
Ailymgynullodd y Senedd am 18:02, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Tom Giffard. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 6: Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022: O blaid: 14, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Eitem 7 yw'r bleidlais nesaf, a hon yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, sef y gwaharddiad ar gymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Luke Fletcher. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, 12 yn ymatal, saith yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.
Eitem 7: Dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—Gwaharddiad ar gymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent: O blaid: 30, Yn erbyn: 7, Ymatal: 12
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 9 yw'r bleidlais nesaf, ar ddadl Plaid Cymru ar gynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 9: Dadl Plaid Cymru—Cynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Does dim rhagor o bleidleisiau ar yr eitem yna. Felly, dyma ni'n cyrraedd eitem 10 ar ddadl Plaid Cymru ar ailymuno â'r farchnad sengl. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 10: Dadl Plaid Cymru—Ailymuno â'r farchnad sengl. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 sydd nesaf, felly. Pleidlais ar welliant 1, yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Eitem 10: Dadl Plaid Cymru—Ailymuno â'r farchnad sengl. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 37, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Y cynnig wedi'i ddiwygio yw'r bleidlais nesaf, felly.
Cynnig NDM8048 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu y dylai y DU gael yr uchelgais o'r fasnach agosaf bosibl, heb wrthdaro gyda'r UE.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 10: Dadl Plaid Cymru—Ailymuno â'r farchnad sengl. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 38, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ddiwedd ar ein pledleisiau.
Fe fyddwn ni nawr yn symud ymlaen i'r ddadl fer, pan fydd yr Aelodau wedi gadael y Siambr.
Os gall yr Aelodau adael y Siambr yn dawel, symudwn ymlaen at eitem arall o fusnes. Gofynnaf i John Griffiths siarad am y cynnig yn ei enw. John Griffiths.
Diolch, Lywydd. Gorau arf, dysg: addysg fel llwybr allan o dlodi. Lywydd, bydd Mike Hedges, Luke Fletcher a Laura Anne Jones yn cyfrannu at y ddadl fer hon.
Lywydd, ar lyfrgell Pilgwenlli, ceir maen clo ar ben yr adeilad sy'n nodi bod gwybodaeth yn bŵer. Rwy'n falch iawn o ddweud fy mod, ar ôl cael fy ngeni a fy magu ym Mhilgwenlli, sydd bellach yn cael ei gynrychioli mor fedrus fel rhan o Orllewin Casnewydd gan fy nghyd-Aelod, Jayne Bryant, yn cytuno'n llwyr â'r teimlad hwnnw. Mae gwybodaeth yn bŵer ac yn amlwg, mae addysg, hyfforddiant a sgiliau yn ffyrdd o sefydlu'r pŵer hwnnw yn ein cymunedau, os ydym yn sicrhau eu bod ar gael i bawb, ac yn enwedig y rheini mewn amgylchiadau mwy difreintiedig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Mae grym addysg yn werthfawr iawn i mi, Ddirprwy Lywydd, oherwydd fy llwybr fy hun allan o'r hyn y tybiaf ei fod yn dlodi cymharol drwy addysg a dysgu gydol oes. Euthum i'r ysgol uwchradd, Ddirprwy Lywydd, ond yn anffodus ni sefais unrhyw arholiadau, ac wedi hynny roeddwn am gyfnod yn ddi-waith a theulu ifanc gennyf, yn byw ar ystâd cyngor yng Nghasnewydd, ac yn meddwl nid yn unig am fy nyfodol fy hun, yn amlwg, ond am ddyfodol fy nheulu. Meddyliais am fy opsiynau, a phenderfynais mai addysg fyddai fy llwybr allan o'r amgylchiadau hynny, gobeithio, i mewn i rai mwy ffafriol, a diolch byth, fe ddigwyddodd hynny. Dosbarthiadau nos a'm galluogodd i fanteisio ar y cyfleoedd yn yr hyn a gâi ei alw gennym yn 'Nash tech', sef coleg Casnewydd yn awr mae'n debyg, yng ngholeg Gwent—campws Casnewydd. Dosbarthiadau nos ar gyfer TGAU, yna Safon Uwch, ac ymlaen wedyn i Brifysgol Caerdydd lle bûm yn astudio'r gyfraith. Yn ddiweddarach, bûm yn gyfreithiwr ac yna euthum ymlaen i fyd gwleidyddiaeth, gwleidyddiaeth leol ac yn awr i'r Senedd. Roedd y daith honno o fudd mawr i fy nheulu yn ogystal ag i mi, ac wrth gwrs, mae'n ymwneud â mwy na gwella incwm a gwella safon byw yn unig; mae hefyd yn ymwneud â datblygiad personol, ac i mi, cyflawni fy uchelgeisiau i geisio gwneud gwahaniaeth—helpu i wneud gwahaniaeth mewn gwleidyddiaeth, a cheisio helpu pobl eraill ar y daith honno, yn ogystal â bod wedi ei gwneud fy hun. Felly, mae addysg yn werthfawr iawn i mi—dysgu gydol oes—ond hefyd, yn amlwg, ceisio gwneud pethau'n iawn yn y blynyddoedd cynharaf ac ar lefel gynradd ac uwchradd, yn ogystal ag ymlaen i addysg bellach ac uwch, sgiliau a hyfforddiant.
A nodwn fod gwir angen darparu pa gyfleoedd bynnag y gallwn eu darparu i ganiatáu i bobl helpu i wneud Cymru'n wlad fwy cyfartal. Roeddwn yn edrych ar y papur a wnaeth Dr Mark Lang ar gyfer ColegauCymru a edrychai ar y materion hyn sy'n ymwneud â symudedd cymdeithasol ac os yw'r ddarpariaeth addysg bresennol yng Nghymru yn cefnogi'r symudedd cymdeithasol hwnnw ac yn galluogi pobl ifanc yn ddigonol i sicrhau llesiant ar hyd eu hoes. Mae'r ffocws ar ôl-16, ond mae hefyd yn ystyried y ddarpariaeth addysg yn fwy cyffredinol, ac a yw'r gwasanaeth yn cefnogi cynnydd cymdeithasol a chadernid economaidd-gymdeithasol, yn enwedig i bobl ifanc o gymunedau difreintiedig a chefndiroedd personol dan anfantais. Wrth gynhyrchu'r papur hwnnw, mae Mark Lang yn edrych ar y cefndir sydd gennym yng Nghymru a'r DU lle mae anghydraddoldeb sgiliau bellach yn fwy a symudedd cymdeithasol yn llai yn y DU nag unrhyw wlad ddatblygedig arall. Ac mae'n cyfeirio at gyhoeddiadau gan Janmaat a Green yn 2013, ac yna Oxfam yn 2016, sy'n dangos, unwaith eto, fod anghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol ar lefelau nas gwelwyd erioed o'r blaen. Nododd y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol yn 2019 fod symudedd cymdeithasol wedi aros yn ei unfan dros y pedair blynedd cyn eu cyhoeddiad, ar bob cam bron o enedigaeth i waith, ac mae cael eich geni dan anfantais yn golygu y bydd yn rhaid i chi oresgyn cyfres o rwystrau i sicrhau nad ydych chi a'ch plant yn sownd yn yr un trap. Ac mae adroddiad diweddar Augar, yn 2019, yn dweud na fu unrhyw welliant mewn symudedd cymdeithasol mewn dros hanner canrif. Ac yn wir, mae adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn 2018 yn dangos bod symudedd cymdeithasol yn dirywio. Felly, credaf ei bod yn amlwg fod heriau mawr iawn o'n blaenau os ydym am wrthdroi'r tueddiadau hynny, gwrthdroi'r patrwm ac yn fwyaf arbennig, os ydym am wneud rhywbeth yma yng Nghymru sy'n bwerus i wrthdroi'r darlun hwnnw.
Mae rhywfaint o obaith ar y gorwel wrth gwrs, ac yn wir, dywed Dr Lang, er bod prinder ystadegau yng Nghymru sy'n ddiweddar ac yn gynhwysfawr ar addysg a symudedd cymdeithasol, ceir rhai arwyddion o gynnydd yma yng Nghymru er hynny. Ond wrth gwrs, rydym yn gwybod ein bod, yn fwy diweddar, wedi profi'r pandemig. Bellach mae gennym yr argyfwng costau byw ac o ddydd i ddydd, mae ein cymdeithas yn gweld heriau newydd sy'n gwaethygu ac yn amlygu anghydraddoldebau ym mhob rhan o'n cymdeithas, a phenderfyniadau, polisïau a strategaeth wael iawn ar lefel San Steffan yn arwain at y cyfoethog yn mynd yn gyfoethocach a'r tlawd yn mynd yn dlotach byth. Mae rheolaeth wael ar yr economi yn gwaethygu'r anghydraddoldebau sy'n ein hwynebu. Felly, mae'n her fawr i bob un ohonom ac i'n hysgolion a'n sefydliadau addysgol geisio gwrthsefyll rhai o'r dylanwadau a'r tueddiadau hyn. Ond fel y dywedais ar y dechrau, mae gwybodaeth yn bŵer, a gall addysg fod yn llwybr allan o dlodi. Mae addysg dda yn caniatáu i bobl ifanc ddifreintiedig gael y sgiliau angenrheidiol i gael gwaith ar gyflogau uwch a chydag amodau gwell, ac mae hefyd yn ymwneud ag addysg fel rhywbeth da ynddo'i hun, nid yn unig i sicrhau cynnydd economaidd, ond datblygiad personol a chynnydd cymdeithasol hefyd.
Felly, beth yw'r ystadegau yng Nghymru y gallwn eu defnyddio wrth edrych ar y problemau a'r materion hyn? Maent yn dangos bod data o 2019 cyn y pandemig yn dangos mai 28 y cant o ddysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sy'n cyflawni lefel 2, sy'n cyfateb i 5 TGAU gradd A i C, o gymharu â 61 y cant o ddysgwyr nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae llawer o welliant wedi bod ar gau'r bwlch yma yng Nghymru ers datganoli, ond yn amlwg, mae angen gwneud rhagor. Mae Sefydliad Bevan, corff rwy'n gweithio'n agos ag ef yn y grŵp trawsbleidiol ar dlodi, wedi tynnu sylw at wahaniaethau yng nghanlyniadau arholiadau plant sy'n cael prydau ysgol am ddim a phlant nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim, ac mae llawer o'r bylchau a welwn yn ymddangos pan fydd plant yn ifanc iawn, ac yn tyfu wrth i blant fynd yn hŷn. Ac wrth gwrs, mae'r pandemig wedi gwaethygu'r bylchau hyn hefyd, sy'n destun pryder. Ychwanegodd Sefydliad Bevan fod y risg o fethu cael pum TGAU A i C ar ei uchaf ymhlith disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ond hefyd y rhai ar y gofrestr anghenion addysgol arbennig.
O ran y cwricwlwm newydd, ystyrir bod hwn yn gyfle pwysig iawn i wneud y math o gynnydd y mae angen inni ei weld yng Nghymru. Mae'n gyffrous iawn ac mae ganddo botensial mawr. Ac wrth gwrs, mae wedi'i adeiladu ar bedwar diben a'i nod yw datblygu dysgwyr sy'n ddinasyddion uchelgeisiol a galluog, mentrus a chreadigol, moesegol a gwybodus, ac iach a hyderus. Felly, mae'n ymwneud yn fawr â thiriogaeth ehangach datblygiad personol, cynnydd cymdeithasol, cael y cyfleoedd bywyd a'r ansawdd bywyd yr ydym am weld ein plant a'n pobl ifanc yn ei fwynhau, yn ogystal â chynnydd a mantais economaidd. Mae'n seiliedig i raddau helaeth ar y nod o leihau anghydraddoldebau mewn addysg. Rwy'n croesawu'r genhadaeth genedlaethol sy'n anelu at gyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb, a gwerth peidio â rhoi'r gorau i ddysgwyr sydd o dan anfantais oherwydd tlodi drwy barhau i gefnogi dysgwyr ar hyd eu taith addysgol drwy roi cyfleoedd iddynt gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau.
Rhan bwysig iawn o strategaeth Llywodraeth Cymru yw'r grant datblygu disgyblion, un o'u polisïau blaenllaw a gyflwynwyd gyntaf tua 10 mlynedd yn ôl gyda'r nod uniongyrchol o fynd i'r afael ag effaith amddifadedd ac anfantais ar ganlyniadau addysgol. Mae'n darparu arian ychwanegol i ysgolion yn seiliedig ar nifer y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar eu cofrestr, ac mae'n ceisio gwanhau'r cysylltiad rhwng amddifadedd cymharol a chyrhaeddiad uchel. Wrth gwrs, gwyddom am lawer o achosion cadarnhaol o bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig sy'n mynd ymlaen i wneud yn dda iawn mewn bywyd, ac sy'n gwneud yn dda iawn mewn addysg, ond nid oes llawer iawn ohonynt yn dilyn y llwybr hwnnw ac nid ydynt wedi'u harfogi, eu hannog a'u cynorthwyo i wneud hynny i raddau helaeth oherwydd methiant systemig. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru o £130 y flwyddyn ar y grant amddifadedd disgyblion yn werthfawr iawn yn wir, ac wrth gwrs mae'n cynnwys nid yn unig y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ond plant sy'n derbyn gofal a'r rhai mewn unedau cyfeirio hefyd. Mae'r cynnydd o £20 miliwn arall o 2022-23 hefyd i'w groesawu'n fawr, yn enwedig yng ngoleuni'r pandemig a'r argyfwng costau byw.
Yn nhymor diwethaf y Senedd, fel aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, gwn fod yr adroddiad 'Cyrraedd y nod?' wedi canolbwyntio ar y grant amddifadedd disgyblion a'i effeithiolrwydd, a gwnaeth lawer o argymhellion pwysig i fanteisio i'r eithaf ar y buddsoddiad hwn. Wrth gwrs, mae'r blynyddoedd cynharaf yn gwbl hanfodol, ac mae Dechrau'n Deg yn rhaglen bwysig iawn ar gyfer yr ymdrech hon. Mae plant o dan bedair oed sy'n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn elwa. Yng Nghasnewydd, mae dros 3,000 o blant, a llawer mwy yn fy rhan i o'r byd, fel petai, yn ardal cyngor sir Fynwy, yn elwa o'r gwasanaethau hyn. Mae 38 y cant o'r ffigur hwnnw yng Nghasnewydd yn blant o gefndir lleiafrifol ethnig, a byddwn yn cefnogi'n fawr yr hyn a ddywedodd Julie Morgan, ein Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ynglŷn â'r rhaglen, pan ddywedodd:
'Rwy wedi clywed gan rieni a gofalwyr am yr effaith gadarnhaol y mae Dechrau'n Deg wedi ei chael ar eu teuluoedd. Rydyn ni wedi ymrwymo i ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar, ac mae'r rhaglen wych hon yn cynnig y ffordd orau o wneud hyn. Rydyn ni'n gwybod bod plant sy'n mynd i leoliadau'r blynyddoedd cynnar sydd o ansawdd uchel yn cael budd o dreulio amser mewn amgylchedd hapus a magwrus gyda'u cyfoedion, a'u bod wedi'u paratoi yn well ar gyfer dechrau yn yr ysgol gynradd o ganlyniad i hynny.'
Yn Nwyrain Casnewydd hefyd, mae'r grant datblygu disgyblion yn darparu cyfleoedd, manteision a buddion pwysig iawn. Rwy'n credu bod Ysgol Gynradd Ringland yn enghraifft dda iawn o hyn. Mae gan gymuned Ringland amddifadedd cymharol, ac mae'n wych gweld bod gwaith yr ysgol wedi'i gydnabod fel ysgol Llais 21, arloeswr ym maes llafaredd a llesiant. Ac yn Ysgol Uwchradd Llysweri, mae cyfran fawr o'r grant datblygu disgyblion wedi cyflogi staff arbenigol yn effeithiol iawn.
I gloi, rwyf am sôn am un datblygiad arall sydd i'w groesawu'n fawr, sef Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy a mwy o flaenoriaeth ac amlygrwydd i ysgolion bro. Rydym yn gwybod bod llawer o blant mewn ardaloedd difreintiedig nad ydynt yn cael profiadau tacsi mam, ond byddant yn elwa o weithgareddau a chyfleoedd ar ôl y diwrnod ysgol os cânt eu darparu yn eu hysgol. Ddirprwy Lywydd, roedd Cymru fel pe bai'n darparu athrawon i'r byd ar un adeg. Rwy'n credu bod gwerth addysg yn dal i'w weld yn glir yn ein diwylliant a'n DNA. Rhaid inni ddefnyddio'r ysbryd hwnnw a'r gwerthoedd hynny ar gyfer cenhadaeth genedlaethol i ymgysylltu â'n plant, ein teuluoedd a'n cymunedau i sicrhau bod ein holl blant, pobl ifanc a dysgwyr gydol oes yn llwyddo yn ein gwlad.
Mae'r Aelod wedi dangos ei angerdd dros y pwnc ac wedi defnyddio'r holl amser a neilltuwyd iddo, ond rwyf mewn hwyliau hael y prynhawn yma, felly bydd y ddau Aelod yn cael siarad. Luke Fletcher.
Diolch i John Griffiths am ildio cyfran o'i amser. Mae hon yn ddadl bwysig i'w chael, a chytunaf yn llwyr fod gwybodaeth yn darparu llwybr allan o dlodi. Mae'r Aelodau'n gwybod hyn amdanaf eisoes, ond roeddwn yn cael prydau ysgol am ddim a'r lwfans cynhaliaeth addysg pan oeddwn yn tyfu i fyny a chyn imi ddod i fyd gwleidyddiaeth, roeddwn yn gweithio mewn bar. Nid wyf yn siŵr a yw John yn cofio—gobeithio ei fod—ond un o'r troeon cyntaf imi ei gyfarfod oedd pan oeddwn yn gwneud TGAU a chefais brofiad gwaith yn Llywodraeth Cymru, a John oedd y Gweinidog y cefais y profiad gwaith hwnnw gydag ef. Roedd hynny ar yr adeg y cyflwynwyd y tâl o 5c am fagiau plastig. Efallai fy mod yn creu ychydig bach o embaras i'r Aelodau o ran fy oedran. Ond credaf fod hynny'n hollbwysig—yn ogystal â'r prydau ysgol am ddim a'r lwfans cynhaliaeth addysg—i egluro pam fy mod yma heddiw. Mae'n rhywbeth rwy'n credu'n angerddol ynddo.
Rwyf am ganolbwyntio ar ddau bwynt yn gyflym iawn yma. Mae addysg yn llwybr allan o dlodi, ond nid yw pawb yn gallu teithio ar hyd y llwybr hwnnw'n llawn, gyda rhwystrau i addysg yn sgil cost y diwrnod ysgol. Mae prydau ysgol am ddim, wrth gwrs, yn gwneud llawer i fynd i'r afael â hynny, ac mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn ffordd arall. Rwyf wedi gwneud pwyntiau yn y gorffennol i'r Gweinidog ac i wahanol Aelodau eraill, ac yn parhau i wneud y pwynt, y dylai'r taliad gynyddu i £45. Mae'n £30 ar hyn o bryd, ac mae wedi bod yn £30 ers 2004; roedd yn £30 pan oeddwn i'n ei dderbyn. Felly, rwy'n credu ei bod yn hanfodol yn awr ein bod yn edrych ar sut y gallwn hwyluso cynnydd. Ac wrth gwrs, mae teithio i'r ysgol a chost teithio yn rhwystr arall. Mae gennym blant yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn cerdded am dros awr i gyrraedd yr ysgol. Ac wrth gwrs, gyda phrydau ysgol am ddim—unwaith eto, yn bwysig iawn—mae'n iawn, ond os na all y plant gyrraedd yr ysgol i gael y prydau ysgol am ddim, mae'n dal i greu rhwystr. Hyd nes y gallwn ddatrys cost y diwrnod ysgol, ni fydd y system yn caniatáu i blant dosbarth gweithiol, fel oedd John a minnau, ffynnu a chyrraedd eu potensial.
Ac yn olaf, yn gyflym iawn, Ddirprwy Lywydd—gwn fy mod yn profi eich amynedd—credaf fod angen inni hefyd gael ychydig o newid diwylliant mewn addysg. Yr hyn a olygaf wrth hynny yw bod angen inni symud oddi wrth yr obsesiwn â mynd i'r brifysgol. Dylai prentisiaethau fod yn gydradd â hynny. Rwy'n adnabod nifer o bobl a aeth ymlaen i wneud prentisiaethau sy'n hynod lwyddiannus yn awr, er nad oeddent o reidrwydd yn glyfar iawn yn academaidd, a byddent yn cyfaddef hynny eu hunain. Nid y Brifysgol yw'r unig lwybr allan o dlodi.
Diolch am eich haelioni, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau hefyd ddiolch i John Griffiths am roi munud i mi yn y ddadl hon. Yn draddodiadol, mae dau lwybr cyfreithlon allan o dlodi. Un ohonynt yw drwy ddawn yn y byd chwaraeon a'r llall yw drwy addysg, ond nid yw'r byd addysg yn cynnig cyfle cyfartal, ac mae wedi mynd yn llai cyfartal wrth i dechnoleg ddatblygu. Gallwn ddefnyddio pob llyfr a oedd gan fy nghyfoedion cyfoethocach, er mai drwy'r llyfrgell y gwnes hynny. Heddiw, byddwn wedi fy nghyfyngu i ddwy awr o gyfrifiadur mewn llyfrgell gyhoeddus, a gorfod talu i argraffu fy ngwaith. Treuliais 25 mlynedd gwerth chweil yn addysgu mewn addysg bellach, a chredaf imi helpu i newid bywydau nifer fawr o bobl.
Mae addysg yn cynnig cyfle i bobl ifanc, ond hefyd, drwy'r sector addysg bellach a'r Brifysgol Agored, mae cyfle i ennill cymwysterau drwy gydol eich oes. Mae manteisio ar y cyfleoedd hyn wedi trawsnewid bywydau a gallu i ennill cyflog llawer o bobl, gan eu symud o gyflogaeth cyflog isel i sectorau cyflog uwch. Hoffwn annog pawb i fanteisio ar eu cyfleoedd addysgol, oherwydd oni bai eich bod yn ddawnus iawn yn y byd chwaraeon, dyma eich un cyfle mawr. Fel John Griffiths, gallaf ddweud ei fod wedi gweithio i mi.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ymateb i'r ddadl—Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r ddadl hon mor bwysig, a diolch i John Griffiths am ei chyflwyno ac am y cyfraniadau eraill rŷm ni wedi'u clywed. Mae herio tlodi ac anghydraddoldeb yn rhan ganolog o'n holl waith ni fel Llywodraeth a'm gwaith i fel Gweinidog, ac mae addysg, fel rŷm ni wedi clywed, yn allweddol i gyflawni'r nod hwnnw. Rŷm ni am weld safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb, o ble bynnag maen nhw'n dod neu beth bynnag yw eu cefndir nhw.
Rŷm ni wedi cymryd camau sylweddol ymlaen yn barod, gan arwain at ein rhaglen ddiwygio bresennol, ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn addysg a gofal plentyndod cynnar, fel y clywsom ni gan John Griffiths, y Cwricwlwm i Gymru newydd, ein Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, cymorth i addysg ôl-16 a dysgu gydol oes—ac rŷm ni wedi clywed pŵer hynny heddiw yn glir—ein polisi prydau ysgol am ddim, ein cyllid ar gyfer costau'r diwrnod ysgol, mentrau yn ymwneud â'r gwasanaeth cerddoriaeth, a rhoi llyfrau yn anrheg. Mae pob un o'r rhain yn canolbwyntio ar oresgyn rhwystrau rhag llwyddiant a chydraddoldeb.
Er ein bod ni wedi symud ymlaen, rwy'n credu bod hynny wedi digwydd yn rhy araf. Edrychwch ar y grŵp oedran 14 i 16 oed, er enghraifft. Rŷm ni'n gwybod o'n data ein hunain na fu digon o gynnydd dros y degawd diwethaf wrth gau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr o gefndir incwm isel a rhai eraill. Ac mae'r pandemig COVID-19 wedi gwneud pethau'n waeth. Yn ôl ymchwil yn ein prifysgolion ni, mae lles a chyrhaeddiad dysgwyr mewn tlodi wedi cwympo hyd yn oed yn bellach y tu ôl, fel roedd John Griffiths yn dweud. Allwn ni ddim derbyn sefyllfa lle mae llwyddiant personol yn y dyfodol yn dibynnu ar gefndir, ac rwy'n benderfynol o gymryd camau radical a chyson i wneud yn siŵr o hynny.
Mae angen dull gweithredu system gyfan sy'n edrych ar y meysydd sy'n mynd i wneud gwahaniaeth i bobl, a dylai hyn fod yn seiliedig ar agwedd at addysg sy'n adlewyrchu ac yn tynnu ar y gymuned, ac sy'n gyson gyda datblygiadau polisi mewn meysydd fel iechyd a'r economi. Yn fy natganiad ar 22 Mawrth, mi wnes i ddechrau nodi rhywfaint o'n gwaith ni i gyflawni hyn, ac fe wnes i amlinellu camau pellach i Sefydliad Bevan ar 16 Mehefin. Cyn hir, byddaf yn cyhoeddi cynllun gweithredu sy'n dwyn y cyhoeddiadau yma ynghyd, ac sy'n nodi'r cyfeiriad ar gyfer cydweithio gyda'n partneriaid yn y dyfodol.
Mae cymwysterau yn chwarae rhan hanfodol, ond mae angen hefyd inni ystyried cyflogadwyedd, lles a chyflawni nodau personol. Rwy'n comisiynu adolygiad yn y maes hwn, ac rwyf wedi gofyn i'm cyfaill Hefin David, yr Aelod o'r Senedd dros Gaerffili, i edrych ar y ffordd mae darparwyr addysg yn cynnig profiadau sy'n ymwneud â byd gwaith, a gwneud argymhellion ynghylch ffocws, cysondeb ac effeithlonrwydd y profiadau hyn.
Bydd rhaid defnyddio'r grant datblygu disgyblion mewn ffordd effeithiol. Rŷm ni eisoes yn dechrau ar waith gyda'n partneriaid yn hyn o beth. Mae'r grant datblygu disgyblion mynediad, PDG access, wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i sawl teulu difreintiedig ledled Cymru, gan helpu i leddfu'r pryderon ynghylch prynu gwisg ysgol neu gyfarpar, a galluogi plant i fynd i'r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar yr un lefel â'u cyfoedion. Y llynedd, fe gafodd y grant ei ymestyn i blant a phobl ifanc ym mhob blwyddyn ysgol orfodol, gan olygu bod modd i hyd yn oed fwy o deuluoedd fanteisio ar y cymorth hwn bellach.
Gan gydnabod y pwysau ar deuluoedd, Dirprwy Lywydd, ym mis Mawrth fe wnes i gyhoeddi taliad untro ychwanegol o £100 i bob plentyn neu berson ifanc a oedd yn gymwys ar gyfer y grant. Mae hyn yn golygu bod y cyllid ar gyfer y grant hwnnw wedi codi i dros £23 miliwn ar gyfer y flwyddyn ysgol sydd i ddod.
Gan adeiladu ar hyn, a gweithio gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio, o fis Medi eleni ymlaen byddwn yn dechrau cyflwyno'r cynnig ar gyfer prydau ysgol am ddim i bawb yn yr ysgolion cynradd. Ddirprwy Lywydd, y dylanwadau mwyaf ar lwyddiant dysgwyr yw ansawdd y dysgu a'r addysgu y maent yn eu profi, ac yn arbennig i'n dysgwyr iau, fel y dywedodd John Griffiths, yr amgylchedd y maent yn ei brofi gartref ac ar lefel gymunedol hefyd. Ac rwyf eisoes wedi nodi rhai o'r camau sydd ar y gweill gennym i gefnogi ysgolion bro, er enghraifft, ond mae hefyd yn hanfodol ein bod yn gwella ansawdd y dysgu a'r addysgu y mae dysgwyr o gartrefi incwm isel yn eu profi yn barhaus, gan ein bod yn gwybod pa mor ddwfn yw'r effaith y mae hyn yn ei chael ar eu cynnydd. Felly, rwyf am edrych ar sut y gallwn gymell athrawon i addysgu yn yr ysgolion sy'n gwasanaethu ein dysgwyr mwyaf difreintiedig, ac rwy'n comisiynu ymchwil gychwynnol ar hyn, gyda golwg wedyn ar lansio cynllun peilot i archwilio dulliau o weithredu. Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn darparu dros £500,000 i alluogi ein gwasanaethau gwella ysgolion i gynnig rhaglen ddysgu broffesiynol benodol i ganolbwyntio ar sut i godi cyrhaeddiad a chefnogi llesiant dysgwyr o gefndiroedd incwm isel, a chaiff honno ei lansio ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.
Rydym hefyd yn sefydlu partneriaeth strategol gyda'r Sefydliad Gwaddol Addysgol, a byddant yn addasu eu pecyn cymorth addysgu a dysgu, sy'n rhoi tystiolaeth hygyrch i athrawon o strategaethau dysgu ac addysgu effeithiol, yn ein cyd-destun penodol yng Nghymru, a bydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg wrth gwrs. Yn rhan o'r cyfleoedd dysgu proffesiynol cyfoethog yr ydym yn eu cynnig i'n hathrawon, mae ein prifysgolion yn gweithio gyda ni i ddatblygu modiwl ar gyfer ein rhaglen Meistr genedlaethol, sy'n canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, a bydd hwnnw hefyd ar gael o 2023 ymlaen.
Mae'r cynllun gweithredu darllen a llafaredd a gyhoeddais yr hydref diwethaf yn nodi ein blaenoriaethau i wella lleferydd, cyfathrebu ac iaith. Rwyf wedi cyhoeddi £5 miliwn ychwanegol ar gyfer rhaglenni darllen ledled Cymru a fydd yn darparu llyfr i bob dysgwr ochr yn ochr â chynllun cymorth darllen wedi'i dargedu sy'n canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar ac ar ddysgwyr difreintiedig, ac rydym yn ehangu prosiect a fydd yn cefnogi dros 2,000 o blant i wella eu sgiliau iaith, cyfathrebu a darllen—prosiect dan arweiniad Prifysgol Bangor—ac mae'n darparu rhaglen iaith a llythrennedd ddwys a rhyngweithiol 100 wythnos o hyd i blant saith i 11 oed yn y Gymraeg a'r Saesneg, naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu'r tu allan iddi.
O ran dysgu ac addysgu, dengys tystiolaeth mai gwledydd sy'n mabwysiadu grwpiau dysgwyr cyrhaeddiad cymysg cyhyd ag y bo modd yw'r gwledydd sydd â'r systemau addysg mwyaf teg, felly gall hynny godi cyrhaeddiad cyffredinol dysgwyr a gall osgoi effaith andwyol setio, sy'n aml yn gallu arwain at leoli dysgwyr o gartrefi incwm is yn y grwpiau isaf, a hynny, yn rhy aml, yn llesteirio eu dyheadau. Gwyddom fod setio a mathau eraill o grwpio dysgwyr yn seiliedig ar gyrhaeddiad yn cael eu defnyddio'n helaeth yn ein system yng Nghymru, ond nid oes gennym dystiolaeth ymchwil gadarn ar hynny, a'r effaith a gaiff. Felly, rwy'n comisiynu adolygiad cychwynnol o dystiolaeth, gan ganolbwyntio ar y graddau y mae addysgu a dysgu cyrhaeddiad cymysg eisoes yn digwydd, beth yw manteision hynny, a beth yw'r anfanteision hefyd.
Mae'r holl ystyriaethau hyn yn flaenllaw yn y diwygiadau a gyflawnwyd gennym i'r cwricwlwm. Fel y dywedodd John Griffiths, mae wedi'i gynllunio i gyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb, ac mae hynny'n bendant yn cynnwys y rheini y mae tlodi'n effeithio arnynt. Mae ysgolion yn rhydd i gynllunio eu cwricwla eu hunain, gydag anghenion eu dysgwyr a'u cymunedau mewn cof. Cyhoeddais ddeunyddiau ychwanegol ym mis Mehefin i gefnogi ysgolion i gynllunio eu cwricwlwm, ac i ymgorffori'r wybodaeth a'r profiadau sy'n allweddol i'r broses o gynllunio'r cwricwlwm.
Mewn ymateb i'r aflonyddwch a achosodd y pandemig i ddysgwyr a oedd yn symud o addysg cyn-16 i addysg ôl-16, rydym wedi cyflwyno cynllun pontio ôl-16, wedi'i gefnogi gan werth £45 miliwn o gyllid ychwanegol rhwng 2020 a 2023. Ond mae llawer mwy y gall y sector ôl-16 ei wneud i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, ac yn fy natganiad llafar yn gynharach eleni, eglurais ein bwriad i ehangu gwaith rhwydwaith Seren er enghraifft, er mwyn iddi gyrraedd mwy o ddysgwyr difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol. Ac yn y Bil a basiwyd gennym drwy'r Senedd yn ddiweddar, bydd dyletswydd ddeddfwriaethol ar y comisiwn newydd i geisio ehangu cyfle cyfartal a gwella mynediad i ddysgwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ac i annog dysgwyr o gefndiroedd incwm is i mewn i addysg ôl-16.
Ddirprwy Lywydd, diolch i John Griffiths, unwaith eto, am gyflwyno'r ddadl hon. Mae ei stori ef, fel y clywsom, yn ymgorfforiad o fy uchelgais i Gymru fod yn genedl o ail gyfleoedd, lle nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu, a gwn hefyd ein bod ni'n dau'n rhannu'r argyhoeddiad, er y gall tlodi heb ei drechu fod yn rhwystr i addysg, gwyddom hefyd y gall addysg ar ei gorau fod yn rhwystr i dlodi hefyd. Ddirprwy Lywydd, gan weithio gyda'n partneriaid, rwy'n addo y byddwn yn adeiladu system addysg a all chwarae ei rhan lawn ar y daith i'r Gymru decach y mae pawb ohonom am ei gweld, lle rydym yn cyflawni safonau uchel ac yn gwireddu dyheadau i bawb.
Diolch i'r Gweinidog.
A diolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd, oherwydd rwy'n credu bod hwn yn bwnc pwysig ac mae'r angerdd a ddangoswyd gennych yn profi hynny.
Ac mae hynny'n dod â ni i ddiwedd ein busnes heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:35.