Y Cyfarfod Llawn

Plenary

22/03/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd, ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau  sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda chi.

13:30
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mabon ap Gwynfor. 

Costau Byw

1. Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effaith cynnydd costau byw ar aelwydydd yn Nwyfor Meirionnydd? OQ57826

Wel, Llywydd, diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn. Bydd effaith yr argyfwng costau byw yn enfawr i aelwydydd yn Nwyfor Meirionnydd, yn enwedig y rhai tlotaf. Bydd lefelau incwm, sydd wedi eu llethu gan ddegawd o galedi, yn cael eu gostwng ymhellach gan doriadau i werth budd-daliadau, cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol a lefelau chwyddiant sy’n codi’n gyflym.

Diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am yr asesiad llwm iawn yna. Mae gwaith ymchwil gan Sukhdev Johal a Karel Williams o brifysgol Manceinion yn dweud rhywbeth tebyg, yn rhybuddio y byddwn ni'n gweld pris tanwydd i dai yn cynyddu £1,500 yr aelwyd, ar gyfartaledd, y flwyddyn; tanwydd cerbydau yn cynyddu £500 y flwyddyn; bwyd yn cynyddu dros 20 y cant. Mae hyn yn awgrymu y bydd costau blynyddol nwyddau elfennol bywyd yn cynyddu £3,000 y flwyddyn, a dydy hyn ddim yn ffactora chwyddiant cyffredinol ar nwyddau eraill. I bobl ar incwm isel, neu ar gredyd cynhwysol, bydd y £300 y mis ychwanegol yma yn amhosib iddyn nhw ei dalu. Mae'r economegydd Richard Murphy yn peintio darlun hyd yn oed yn fwy tywyll, ac yn amcangyfrif y gall 70 y cant o aelwydydd fynd mewn i ddyled. 

Yn dilyn yr uwchgynhadledd y trefnodd y Llywodraeth ar yr argyfwng yma fis diwethaf, a wnewch chi fel Llywodraeth, a chithau, Brif Weinidog, ystyried trefnu rhywbeth tebyg, ond yn tynnu ynghyd y byrddau iechyd, y prifysgolion, y trydydd sector, a chyrff eraill all gynghori a chynorthwyo, er mwyn gwneud yn siŵr bod cymdeithas gyhoeddus yng Nghymru yn gwneud pob dim o fewn eu gallu i liniaru ar yr argyfwng yma?

Wel, diolch yn fawr i Mabon ap Gwynfor. Mae'r ymchwil mae e wedi cyfeirio ato gan y brifysgol ym Manceinion yn dod ar ben popeth arall rŷn ni wedi ei weld, gyda'r Resolution Foundation, yr Institute for Public Policy Research, ac yn y blaen, sy'n dangos yr un peth—yr effaith. Mae'r codiad mewn costau byw yn mynd i gael effaith enfawr ar bobl yma yng Nghymru. 

Arweiniodd fy nghyd-Weinidog Jane Hutt uwchgynhadledd yn ôl ym mis Chwefror, a ddenodd dros 150 o bobl o amgylch y bwrdd at ei gilydd, i wneud yn siŵr bod gennym ni'r wybodaeth orau bosibl gan y sefydliadau hynny sy'n darparu gwasanaethau i bobl ar y rheng flaen, ac i wneud yn siŵr bod gwasanaethau cyhoeddus hefyd yn paratoi i chwarae pa bynnag ran y gallen nhw wrth ymateb i'r argyfwng—ac fe fydd yn argyfwng—sy'n wynebu cynifer o deuluoedd yng Nghymru.

Wrth gwrs, os bydd cyfle i gael pobl rownd y bwrdd unwaith eto, a rhannu gwybodaeth a chynllunio gyda'i gilydd, bydd y Llywodraeth yn agored i wneud hynny. 

Strategaeth Frechu COVID-19

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth frechu COVID-19 Llywodraeth Cymru? OQ57856

Diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y strategaeth frechu COVID-19 ddiweddaraf ar 24 Chwefror. Ar 14 Mawrth, dechreuodd GIG Cymru gyflwyno brechiadau atgyfnerthu'r gwanwyn, gan ddechrau gyda phreswylwyr cartrefi gofal, ynghyd â'r brechiadau cyntaf i blant pump i 11 oed.

Diolch am y diweddariad yna, Prif Weinidog. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn cau dwy o'i ganolfannau brechu cymunedol, gan gynnwys yr un yng Nghwm Cynon. I fy etholwyr i, y safle agosaf bellach fydd Merthyr Tudful. Mae heriau gwirioneddol o ran cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, a byddai angen i rai o fy etholwyr ddal pedwar bws dim ond i gyrraedd yno. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda byrddau iechyd i sicrhau bod canolfannau brechu yn hawdd eu cyrraedd i bob dinesydd yng Nghymru, a pha asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r berthynas rhwng brechiadau yn gwanhau a'r cynnydd i nifer yr achosion COVID?

Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn yna, Llywydd, ac fe wnaf i ateb ei phwynt olaf yn gyntaf, oherwydd, ar ôl cyfnod hir o nifer y bobl sy'n mynd yn sâl gyda'r coronafeirws yng Nghymru yn gostwng o wythnos i wythnos, yn y 10 diwrnod diwethaf rydym ni wedi gweld niferoedd yn codi eto, ac nid yn unig yn codi ond yn codi yn gyflym ac ar gyfradd sy'n cyflymu. Nawr, Cymru sydd â'r nifer isaf o achosion o'r coronafeirws o hyd o unrhyw un o bedair gwlad y DU, ond mae'r niferoedd yr ydym ni'n eu gweld yn gyrru mwy o bobl i'r ysbyty, ac rydym ni wedi gweld yr arwyddion rhagarweiniol iawn bod angen gofal dwys ar fwy o bobl hefyd. Felly, mae'r rhain yn amgylchiadau pryderus iawn y mae'n rhaid i ni eu hwynebu dros yr wythnos hon, wrth i ni ddod at ddiwedd yr adolygiad tair wythnos.

Ceir tri ffactor y mae ein cynghorwyr yn cyfeirio atyn nhw y tu ôl i'r niferoedd hynny. Y cyntaf, a'r mwyaf arwyddocaol, yw'r cynnydd i BA.2—yr amrywiolyn omicron sydd hyd yn oed yn fwy trosglwyddadwy na'r BA.1 gwreiddiol. Ceir effaith y brechlyn yn gwanhau, yn enwedig ymhlith y rhannau hynaf a mwyaf agored i niwed o'r boblogaeth, gan mai nhw gafodd eu brechu yn gyntaf a nhw gafodd eu brechiadau atgyfnerthu yn gyntaf, ac os oes unrhyw wanhau, mae'n effeithio arnyn nhw yn gyntaf. A cheir yr arwyddion efallai nad yw pobl efallai mor ymrwymedig ag yr oedden nhw yn gynharach yn y pandemig i gymryd y camau syml hynny—gwisgo masgiau, cadw pellter cymdeithasol, ac yn y blaen, sef y camau pwysicaf y gallwn ni, ar y cyd, eu cymryd. Felly, mae hynny yn rhan o'r rheswm pam mae'r rhaglen frechu barhaus mor bwysig—ymgyrch atgyfnerthu'r gwanwyn, wedi'i hanelu at bobl dros 75 oed.

Ac mae'r pwynt a wnaeth Vikki Howells am yr angen i wneud yn siŵr bod canolfannau brechu yn parhau i fod yn hawdd eu cyrraedd i'r boblogaeth gyfan, wrth gwrs, yn un pwysig iawn. Wrth i ni symud i fyw yn ddiogel gyda COVID, bydd yn rhaid i nifer y canolfannau leihau, a bydd yn rhaid i ni ryddhau staff yn ôl i'r holl swyddi pwysig eraill yr ydym ni'n disgwyl iddyn nhw allu eu cyflawni yn y gwasanaeth iechyd. Yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf, ceir niferoedd sylweddol o bobl yn y categorïau hynny—3,400 o bobl a fydd yn cael eu brechu gartref gan eu bod nhw'n gaeth i'w cartrefi. Ac i bobl nad oes ganddyn nhw ddefnydd o'u cerbyd eu hunain na'r gallu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yna bydd y cynllun 'vaxi taxi', a weithredir drwy Age Connect—felly cynllun a arweinir gan y trydydd sector—ar gael, i wneud yn siŵr nad yw pobl yn yr amgylchiadau a nodwyd gan Vikki Howells yn cael eu gadael heb unrhyw fodd o gael y brechiad hanfodol hwnnw.

13:35

Prif Weinidog, rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod sydd wedi dechrau cael cynnydd cyson i negeseuon e-bost gan etholwyr yn gofyn pryd y byddan nhw'n cael eu pedwerydd brechiad. Mae hyn ynddo'i hun yn gadarnhaol, wrth gwrs, bod pobl yn dymuno cael eu brechiad nesaf. Rwyf i wedi clywed, wrth gwrs, eich ateb i Vikki Howells, o ran pobl dros 75 oed yn ei gael yn ystod y gwanwyn, ond mae llawer o bobl sydd yn y grŵp oedran hwnnw sy'n cysylltu â mi—a bydd yr un fath yn wir i Aelodau eraill hefyd. A bydd y rhai nad ydyn nhw yn y categori hwnnw yn dymuno gwybod pryd y byddan nhw'n cael eu pedwerydd pigiad hefyd. Fy mhryder i yw y bydd pwysau yn cael ei roi ar wasanaethau iechyd neu feddygon teulu neu feddygon, gyda thrigolion yn gofyn pryd y byddan nhw'n cael eu pedwerydd pigiad. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf ba negeseuon cyfathrebu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyfleu, a'r hyn y mae byrddau iechyd yn ei gyhoeddi, i wneud yn siŵr bod pobl yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ba bryd y byddan nhw'n debygol o gael y llythyr cychwynnol cyntaf hwnnw ar gyfer y pedwerydd pigiad hwnnw?

Diolch i Russell George am y cwestiwn yna. Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, dechreuodd ymgyrch brechiadau atgyfnerthu'r gwanwyn yng Nghymru yr wythnos diwethaf, ar 14 Mawrth, gan ganolbwyntio ar breswylwyr cartrefi gofal yn y lle cyntaf. Rydym yn disgwyl, o fewn tair wythnos arall, y byddwn ni wedi cwblhau'r rhan fwyaf o'r brechu mewn cartrefi gofal. Bydd rhai cartrefi gofal, oherwydd achosion, lle bydd angen rhywfaint o amser ychwanegol, ond bydd y rhan fwyaf o breswylwyr cartrefi gofal wedi cael y brechiad atgyfnerthu hwnnw. Ac yna byddwn yn parhau â gweddill y boblogaeth. Mae'n dibynnu, fel y gwn fod yr Aelod yn ymwybodol, pryd y cawsoch eich brechiad diwethaf pryd cewch chi eich galw, gan fod yn rhaid i nifer penodol o wythnosau fynd heibio cyn ei bod hi'n ddiogel ac yn synhwyrol i chi gael y pedwerydd brechiad. Byddwn yn defnyddio'r holl ddulliau cyfathrebu arferol—yn uniongyrchol gan fyrddau iechyd, gan ddefnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru ei hun, y mae arweinydd yr wrthblaid wedi dangos cryn ddiddordeb ynddyn nhw yn ddiweddar. Byddwn yn eu defnyddio nhw i wneud yn siŵr ein bod ni'n cyfleu'r neges honno, a'r neges allweddol yng Nghymru yw y bydd y gwasanaeth iechyd yn cysylltu â chi; nid yw'n dibynnu arnoch chi'n mynd i chwilota am apwyntiad. Bydd y gwasanaeth iechyd yn dod atoch chi, a bydd yn gwneud hynny, fel yr ydym ni wedi gweld drwy'r pandemig cyfan, mewn modd dibynadwy iawn ac ar yr adeg iawn i chi.

13:40

Diolch i lwyddiant y rhaglen frechu, mae cyfran y bobl sy'n dal y feirws ac sydd yn mynd yn ddifrifol wael yn gymharol is o'i gymharu â'r hyn y dylai fo fod, ond, wrth gwrs, mae yna gynnydd sylweddol, fel y dywedodd y Prif Weinidog, yn y nifer sydd yn dal y feirws ar hyn o bryd. Dwi'n clywed am drafferthion staffio mewn iechyd a gofal, ysgolion yn gyrru plant adref, un coleg addysg bellach â chymaint â chwarter y disgyblion â COVID ar hyn o bryd, a meithrinfa yn gorfod cyfyngu ar faint o blant sy'n cael mynd yno am y tro cyntaf drwy'r pandemig cyfan. O ystyried yr amgylchiadau yna, ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi mai'r peth synhwyrol i'w wneud yn yr adolygiad tair wythnosol nesaf ydy peidio newid y rheolau sydd gennym ni ar hyn o bryd, yn benodol o gwmpas gwisgo mygydau ac o ran hunanynysu? Ac a oes yna awgrym i'r rheini sy'n bryderus iawn am y cynnydd sy'n digwydd ar hyn o bryd am unrhyw gamau pellach a all gael eu cymryd hefyd? 

Diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth. Mae'r sefyllfa rydym ni'n ei hwynebu yn ystod yr wythnos hon yn un heriol, onid yw hi? Wrth gwrs, rydym ni eisiau bwrw ymlaen â'r cynllun oedd gyda ni wythnosau yn ôl, ond mae'r cyd-destun yn newid. A dyna pam mae'r Cabinet wedi penderfynu aros tan ddydd Iau am y ffigurau diweddaraf ac am y cyngor diweddaraf gan y prif swyddog meddygol, ac yn y blaen, i'n helpu ni i wneud y penderfyniadau anodd yna. Mae'n bosib meddwl am ddyfodol ble gallwn ni symud ymlaen gyda rhai pethau ond cadw rhai pethau yn eu lle i ymateb i'r sefyllfa sy'n codi nawr. Rydym ni i gyd yn clywed am bobl sydd ddim yn gallu bod yn y gweithlu a'r effaith mae hynny'n ei chael ar wasanaethau cyhoeddus, ond mewn busnesau preifat hefyd. 

Gyda'r bobl fregus, ysgrifennodd y prif swyddog meddygol mas at bob un ar y rhestr rai wythnosau yn ôl gyda'r sefyllfa ddiweddaraf. Y peth gorau gallwn ni i gyd ei wneud i helpu pobl sydd yn pryderu am fynd mas ar ôl cyfnod hir, a nawr yn clywed am beth sydd yn digwydd, yw i ddal i wneud y pethau rydym ni i gyd wedi dysgu eu gwneud: jest i ddefnyddio mygydau, cadw pellter cymdeithasol, parchu pobl. Os yw pobl fregus yn teimlo bod pobl eraill yn gwneud beth maen nhw'n gallu ei wneud, dwi'n meddwl mai hwnna yw'r help gorau gallwn ni ei roi iddyn nhw i godi hyder a dechrau mynd yn ôl i gymdeithasu a gwneud y pethau bob dydd sy'n bwysig iddyn nhw. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.  

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rydym yn sôn yn aml am ganlyniadau cau rhannau o'r GIG i ymdrin â'r coronafeirws, sydd wedi gadael 20 y cant o boblogaeth Cymru ar restr aros y GIG, ac, o'r 20 y cant hynny, mae un o bob pedwar o bobl yn aros dros flwyddyn. Ond nid yw'r un o'r rhestrau hynny yn cynnwys yr amseroedd aros ar gyfer deintyddiaeth. Mae'r arosiadau mor gronig erbyn hyn ein bod ni'n gweld pobl yn gorfod talu cannoedd o bunnoedd, os nad miloedd o bunnoedd, neu gymryd camau mwy eithafol i dynnu eu dannedd eu hunain.

Hoffwn eich cyflwyno i Adam, sy'n dod o'r gogledd, a gafodd broblem debyg pan geisiodd gael gafael ar wasanaethau deintyddol yn y gogledd. Mae'n athro ym Mangor, a cheisiodd dro ar ôl tro gofrestru gyda phractisau deintyddol ym Mhorthaethwy, Bangor, Llandudno, Penmaenmawr, Bae Colwyn, Caernarfon, ac, ar bob un achlysur, ni allai gofrestru, gan fod yr amseroedd aros yn hirach na dwy flynedd ym mhob un o'r practisiau hynny. Nawr, pan fyddwn ni'n gweld triniaethau deintyddol yn gostwng 70 y cant dros y 12 mis diwethaf, ydych chi'n cytuno â mi bod problem wirioneddol o ran capasiti yng ngwasanaethau deintyddol Cymru a gallu pobl i gofrestru gyda darpariaeth y GIG?

Wel, nid oes amheuaeth bod deintyddiaeth y GIG yn cael ei herio yn fawr ar hyn o bryd, Llywydd, ond nid yw'n gymaint o fater o gapasiti; mae'n ymwneud â'r amgylchiadau ar gyfer cyflawni triniaeth ddeintyddol. Mae gennym ni niferoedd sylweddol o ddeintyddion yng Nghymru o hyd sy'n cyflawni triniaeth ddeintyddol y GIG, ond nid ydyn nhw'n gallu darparu niferoedd y triniaethau yr oedden nhw'n eu darparu o dan amodau cyn COVID, oherwydd, o'r holl bethau y mae'r GIG yn eu gwneud, y gweithdrefnau cynhyrchu aerosol y mae deintyddiaeth yn dibynnu arnyn nhw yw'r rhai sydd fwyaf tebygol o ledaenu COVID. Felly, yr amodau o hyd yw bod yn rhaid i ddeintyddion leihau nifer y cleifion y gallan nhw eu gweld mewn diwrnod, mae'n rhaid iddyn nhw gael cyfnodau hirach rhwng apwyntiadau er mwyn gwneud gwaith glanhau angenrheidiol, ac mae hynny yn arwain at yr amgylchiadau anodd iawn y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw.

Mae adferiad ym maes deintyddiaeth. Rydym yn ôl i fyny i tua 70 y cant o'r niferoedd a oedd yn bosibl cyn COVID. Mae ffyrdd newydd o roi cyngor i bobl. Rwy'n credu bod dros 2,000 o bobl yr wythnos yn cael cyngor dros y ffôn gan eu hymarferydd deintyddol. Ac mae cynlluniau yn arbennig i arallgyfeirio'r gweithlu deintyddol, a fydd yn golygu y gellir cyflwyno'r capasiti sydd ei angen arnom ni yn y dyfodol. Yn y cyfamser, bydd y sefyllfa yn parhau i fod yn anodd. Er bod mwy o arian yn y system, nid yw'r system yn gallu amsugno'r arian y mae'r Gweinidog iechyd wedi ei roi iddo yn y flwyddyn galendr hon. Oherwydd nid yr arian yw'r ateb yma. Nid oes amser yn y dydd na'r gweithwyr ar gael i allu gwneud popeth yr hoffem ni ei weld yn cael ei wneud.

13:45

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fe wnaethoch chi nodi bod heriau yn y gwasanaeth deintyddol ledled Cymru, ond mewn gwirionedd mae 83 yn llai o ddeintyddion yn gweithio ar draws byrddau iechyd Cymru nag yn 2020. Mae'n debyg nad yw hyn yn cael ei helpu gan gontract deintyddol newydd y Llywodraeth ar gyfer y GIG, y mae gweithwyr proffesiynol—nid fi fy hun—yn dweud ei fod yn lleihau'r pwyslais ar archwiliadau rheolaidd, yn gwneud i ddeintyddion ddewis rhwng hen gleifion a chleifion newydd, yn talu deintyddion ar sail data perfformiad sydd wedi dyddio ac yn cael ei ariannu gan swm sy'n gostwng, 15 y cant yn llai na chwe blynedd yn ôl. Mae hynny yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain. Mewn llythyr gan gadeirydd pwyllgor deintyddol lleol Dyfed Powys a anfonwyd at y Gweinidog iechyd, mae'r pwyllgor wedi cadarnhau—eto, nid fi sy'n dweud hyn—nad yw pob practis yn ardal y cadeirydd yn gallu llofnodi'r contract arfaethedig, a fyddai'n arwain at doriad o 75 y cant i gapasiti ar y lefelau presennol y cytunwyd arnyn nhw. Dywedodd y cadeirydd—ac eto, y cadeirydd sy'n ei ddweud, nid fi fy hun—nad yw pob aelod yn barod i gyfaddawdu ar ansawdd gofal eu cleifion. Mae hynny, fel grŵp, yn peri pryder mawr—bod gwasanaethau deintyddol y GIG yn y gorllewin mewn perygl o fethu cyn gynted â'r mis nesaf. Nid fi sy'n dweud hynny, cadeirydd y proffesiwn deintyddol yn ardal bwrdd iechyd Dyfed Powys. Os ydych chi'n derbyn bod heriau o ran y mater penodol hwn, pam ydych chi'n cyflwyno contract a fyddai'n gwneud y sefyllfa yn waeth ac o bosibl yn creu anialwch deintyddol mewn rhai rhannau o Gymru?

Rwy'n pendroni ynghylch yr adroddiad am y llythyr, oherwydd, o'r mis nesaf ymlaen, mae gan ddeintyddion yng Nghymru ddewis. Gallan nhw gymryd y contract newydd, ond os ydyn nhw'n teimlo nad yw'r contract newydd yn addas ar eu cyfer nhw, byddan nhw'n gallu parhau â'r contract presennol. Nid oes neb yn cael ei orfodi i gymryd y contract newydd. Mae'r contract newydd wedi ei gytuno yn ofalus iawn gyda'r cyrff proffesiynol. Mae llawer iawn o ddeintyddion yn credu ei fod yn llawer gwell na'r contract presennol gan ei fod yn caniatáu iddyn nhw gyflawni deintyddiaeth o ansawdd yn hytrach na'r ffrwd o unedau gweithgarwch deintyddol sy'n ysgogi'r contract presennol ac yn gwthio deintyddion i gynnal archwiliadau rheolaidd, triniaethau bach, yn hytrach nag ymarfer ar ben uchaf eu cymhwysedd proffesiynol. Mae'r contract newydd yn gwobrwyo deintyddion am waith ataliol ac am wneud y pethau y mae angen i ddeintydd cwbl gymwys eu gwneud. Ond, os bydd practis unigol yn credu mai'r contract presennol yw'r un sy'n gweithio iddyn nhw, yna bydd hwnnw ar gael iddyn nhw ar ôl 1 Ebrill.

Yn amlwg, mae cadeirydd y proffesiwn deintyddol yn ardal bwrdd iechyd Dyfed Powys yn teimlo yn wirioneddol fod potensial i wasanaethau fethu, a dyna pam y mae wedi ysgrifennu ar ran ei aelodau at y Gweinidog iechyd ynghylch y mater penodol hwn. Ni allwn anghofio pa mor anodd fu cael gafael ar ddeintyddiaeth y GIG cyn y pandemig. Dywedodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain y llynedd fod mynediad at wasanaethau i gleifion newydd yng Nghymru wedi mwy na haneru ers 2012, gan ostwng i 15 y cant ar gyfer practisau sy'n derbyn cleifion sy'n oedolion, a 27 y cant ar gyfer plant sy'n defnyddio gwasanaethau deintyddol. Rydym yn gwybod bod y contract newydd yn dod drwodd. Rydym yn gwybod bod gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain a chynrychiolwyr ar lawr gwlad bryderon. Rydym yn sylweddoli bod cyfyngiad ar gyflenwad. Beth yn union allwn ni edrych ymlaen ato dros y 12 mis nesaf i wneud yn siŵr bod y cyfyngiadau hynny yn cael eu codi a bod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau deintyddol? Rwyf wedi ei glywed gan aelodau eich meinciau cefn dro ar ôl tro, pan fyddan nhw'n holi Gweinidogion, ei bod yn broblem o'u hardaloedd eu hunain. Nid dim ond y Ceidwadwyr sy'n sefyll ac yn dweud hyn. Mae hyn ledled Cymru, ac mae angen gweithredu. 

13:50

Ceir cyfres o gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Gwrandewais ar y cwestiwn cyntaf gan arweinydd yr wrthblaid. Bydd yr athro a nodwyd ganddo sy'n byw ym Mangor yn gallu manteisio, rwy'n gobeithio, ar y ganolfan newydd a fydd yn agor ym Mangor—canolfan ddeintyddol fawr newydd a fydd yn darparu lefel newydd o ddarpariaeth ddeintyddol y GIG i bobl yn y gogledd-orllewin. Byddwn yn parhau i ddarparu mwy o arian ar gyfer deintyddiaeth y flwyddyn nesaf—£2 filiwn gylchol arall gan y Gweinidog iechyd i gryfhau'r ddarpariaeth ddeintyddol. A byddwn, fel y dywedais wrth yr Aelod, yn bwrw ymlaen â rhyddfrydoli'r proffesiwn. Mae angen gwahanol garfan o weithwyr proffesiynol ym maes deintyddiaeth, sy'n gallu gwneud y gwaith arferol nad oes angen deintydd cwbl gymwys arnoch i'w wneud. Rydym ni wedi gweld rhyddfrydoli'r proffesiwn yn sylweddol mewn gwasanaethau meddygon teulu. Os ewch chi i feddygfa bellach, rydych chi'n debygol iawn o weld fferyllydd y practis, ffisiotherapydd y practis, nyrs y practis. Ceir amrywiaeth o weithwyr proffesiynol sy'n cyfrannu at y tîm o dan oruchwyliaeth y meddyg teulu. Mae angen yr un dull arnom ym maes deintyddiaeth. Mae angen i sgiliau a galluoedd ein deintyddion hynod fedrus gael eu neilltuo i wneud y pethau dim ond deintydd sy'n gallu eu gwneud, ac yna, ochr yn ochr â nhw, i gael lledaeniad ehangach o weithwyr proffesiynol perthynol eraill sy'n gallu ymgymryd ag agweddau ar ofal deintyddol nad oes angen deintydd cwbl gymwys arnyn nhw, wedi'i gyflawni o dan ei oruchwyliaeth. Fel hynny, byddwn yn gallu cynyddu capasiti deintyddiaeth y GIG a gwneud y defnydd gorau o'r staff drytaf a mwyaf cymwys sydd gennym ni yn y maes hwnnw.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddydd Sul, fe wnes i a channoedd o bobl eraill, gan gynnwys y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Cwnsler Cyffredinol, ymgynnull a gorymdeithio yma yng Nghaerdydd fel rhan o ddiwrnod gwrth-hiliaeth y Cenhedloedd Unedig. Clywsom dystiolaeth rymus gan ymgyrchwyr cyfiawnder teuluol, gan undebwyr llafur ac ymgyrchwyr cymunedol, a siaradodd am y profiad cyffredin o hiliaeth strwythurol y mae pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig eraill yma yng Nghymru yn ei wynebu bob dydd. Wrth wrando ar y lleisiau hynny, roeddwn i'n teimlo bod pob sefydliad yn y gymdeithas, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol—fy mhlaid i yn eu plith—wedi methu â chydnabod a mynd i'r afael yn briodol â'r hiliaeth systemig sydd i'w chael ym mron pob maes, o wleidyddiaeth i iechyd, i addysg a'r economi. Fel cam symbolaidd pwerus, ond ymarferol hefyd, i gyflawni'r dyhead cyffredin hwnnw i fod yn genedl wrth-hiliaeth, a wnewch chi ymrwymo i Gymru ymuno â'r Alban i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar ddileu pob math o wahaniaethu ar sail hil mewn cyfraith?

Diolch i'r Aelod am hynna. Roedd yn dda iawn darllen adroddiadau am yr orymdaith ddydd Sul—gorymdaith y bydd Aelodau yma yn gwybod sy'n coffáu cyflafan Sharpeville, a ddigwyddodd ym 1960. Mae'n wych, yn fy marn i, weld hynny yn parhau i gael ei goffáu yma yng Nghymru. Cefais gyfle i siarad â fy nghyd-Weinidog Jane Hutt, a agorodd yr areithiau yn y rali, ac rwy'n gwybod bod y Cwnsler Cyffredinol wedi siarad wrth i'r gorymdeithwyr weithio eu ffordd i lawr i'r Senedd. Darllenais adroddiadau am yr hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru yn yr orymdaith hefyd.

Yn ein cynllun gweithredu ar gydraddoldeb hiliol, y cyngor, rwy'n credu, yr ydym ni wedi ei gael gan bobl sydd â phrofiad byw o hiliaeth yw bod yn rhaid i ni symud y tu hwnt i ymrwymiad i beidio â bod yn hiliol i ymrwymiad i fod yn gadarnhaol wrth-hiliol yn y ffordd yr ydym yn trefnu ein hunain fel pleidiau gwleidyddol, fel gwasanaethau cyhoeddus. Mae hynny i'w weld ar bob tudalen, rwy'n credu, o'r cynllun a ail-luniwyd—a ail-luniwyd o ganlyniad i'r ymarfer ymgynghori y gwnaethom ei chynnal. Rwy'n gwbl fodlon, wrth gwrs, i drafod y pwynt penodol y mae'r Aelod wedi ei godi ac i wneud hynny gyda'r grŵp hwnnw o bobl yr ydym ni wedi gallu manteisio arno mewn ffordd mor rymus wrth lunio'r cynllun, oherwydd eu profiad byw nhw sy'n siarad drwyddo draw. Mae hefyd yn ymateb, rwy'n gobeithio, i'w penderfyniad y dylai'r cynllun gweithredu, yn ogystal â chynnwys rhai camau datganol a symbolaidd pwysig, fod yn gynllun ymarferol mewn gwirionedd, ei fod yn canolbwyntio ar y pethau hynny y gallwn ni eu gwneud, camau pendant ac ymarferol, wedi eu seilio ar newid sylfaenol. Dyna maen nhw'n ei ddweud wrthym ni y maen nhw eisiau ei weld yn digwydd yma yng Nghymru.

13:55

Ar yr un penwythnos â'n rali gwrth-hiliaeth, penderfynodd Heddlu De Cymru, gyda chefnogaeth y comisiynydd heddlu a throseddu, ei bod hi'n amser priodol i ailgychwyn y defnydd o dechnoleg adnabod wynebau yng nghanol y ddinas y gorfodwyd iddo ei hatal gan y Llys Apêl oherwydd pryderon ynghylch ei duedd hiliol cynhenid. Yn ôl grŵp moeseg biometreg a fforenseg Llywodraeth y DU ei hun, mae diffyg cynrychiolaeth wynebau lleiafrifoedd ethnig yn y data hyfforddi y mae'r dechnoleg a ddefnyddir gan yr heddlu wedi ei seilio arnyn nhw yn golygu ei bod hi'n fwy tebygol o nodi pobl dduon ddiniwed yn droseddwyr. Bydd hyn yn gwaethygu'r anghymesuredd hiliol mewn cyfraddau cadw yr ydych chi eich hun wedi eu cydnabod. Yn yr Alban, mae'r defnydd o'r dechnoleg hon wedi ei wahardd am y rheswm hwn. Nid yw'r grym gennym ni i wneud hynny yng Nghymru ar hyn o bryd, ond a wnewch chi o leiaf gefnogi'r gwaharddiad ar ei ddefnydd ar dir cyhoeddus fel grisiau'r Senedd, lle cynhaliwyd y rali ddydd Sul?

Rwy'n ymwybodol iawn o'r pryderon sy'n gysylltiedig â thechnoleg adnabod wynebau, ac rwy'n credu bod y pryderon hynny yn haeddu cael eu cymryd o ddifrif. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog Jane Hutt wedi cael cyfle i drafod hyn a materion cysylltiedig gyda Phrif Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru, Dafydd Llywelyn, a byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod y pryderon hynny yn cael eu cyfleu yn briodol i'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, ac yn wir i brif gwnstabliaid pan fo'n fater gweithredu.

Er bod cysgod ffasgaeth dros Ewrop eto, mae'r comedïwr Jimmy Carr yn dal i wrthod ymddiheuro am awgrymu bod marwolaethau cannoedd o filoedd o Sipsiwn wrth law'r Natsïaid rywsut yn rhywbeth i'w ddathlu. Ddydd Llun nesaf, mae'n perfformio yn ein prifddinas yn Neuadd Dewi Sant. Mae Sipsiwn Cymru yn gofyn i'r lleoliad ganslo'r perfformiad mewn undod â nhw. Cyngor Caerdydd sy'n berchen ar Neuadd Dewi Sant ac yn ei rheoli ac mae'n cael cymhorthdal gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y mae Llywodraeth Cymru yn ei ariannu. Fel Prif Weinidog, ac yn wir fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, a wnewch chi ofyn i arweinyddiaeth Lafur Cyngor Caerdydd gytuno i alwad cwbl resymol cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, o dan yr amgylchiadau, na ddylai unrhyw leoliad a ariennir yn gyhoeddus fod yn llwyfan ar gyfer hyrwyddwr diedifar o ymadroddion hiliol? Os byddan nhw'n gwrthod gwneud hynny, a wnewch chi ofyn i gyngor y celfyddydau adolygu telerau ei gyllid ar frys?

Mae'r safbwyntiau a briodolwyd i'r unigolyn yn gwbl annerbyniol a byddai unrhyw un, rwy'n credu, yn eu condemnio yn y Siambr hon. Fe wnaethom ni siarad yr wythnos diwethaf am ein pryderon ynghylch cymunedau Sipsiwn/Teithwyr, ac fe wnaethom ni eu trafod am gryn amser ym mwrdd plismona Cymru, yr oedd fy nghyd-Weinidog Jane Hutt a minnau yn bresennol ynddo. Pe bai mor syml â chyhoeddi gorchymyn ac unioni pethau, yna wrth gwrs byddem ni'n gallu gwneud hynny, ond rwy'n gwybod o'r hyn yr wyf i wedi ei glywed gan Gyngor Caerdydd nad yw mor hawdd â hynny. Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yn wrthun i fy nghydweithwyr yng Nghyngor Caerdydd, fel y maen nhw i bob un ohonom ni yma, ac rwy'n siŵr y bydd y teimladau hynny yn cael eu cyfleu yn rymus.

Plant mewn Gofal

3. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y plant mewn gofal yng Nghymru? OQ57822

Diolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn. Mae gormod o blant yn cael eu cymryd oddi wrth eu teuluoedd a'u rhoi yn y system ofal yng Nghymru. Mae'r niferoedd wedi codi bob blwyddyn dros y ddau ddegawd diwethaf. Rhoddodd comisiwn Thomas ddadansoddiad pwerus o'r hanes trist hwn, a gyda'n partneriaid o fewn llywodraeth leol rydym yn parhau i fynd ar drywydd y polisïau a gynigiwyd ganddo.

14:00

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Dwi'n gwybod bod hwn yn rhywbeth sy'n agos iawn i'ch calon chi, a'ch bod chi wedi bod yn gweithio i drio ffeindio mas beth yw'r broblem.

Dangosodd y gwaith ymchwil diweddar gan y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gynnydd o 87 y cant i gyfradd y plant mewn gofal rhwng 2004 a 2020. A'r hyn sy'n fy synnu i yw'r amrywiad enfawr o fewn awdurdodau lleol—felly, Torfaen, cynnydd o 251 y cant, ond ni fu unrhyw gynnydd o gwbl yn sir Gaerfyrddin—a'r amrywiadau lleol rhwng rhywle fel Torfaen a Chasnewydd. Mae'r ffaith bod plentyn yn Nhorfaen bum gwaith yn fwy tebygol o fynd i mewn i'r system ofal na phlentyn yn sir Gaerfyrddin yn gwbl anghywir. Nawr, nid yw'r wybodaeth hon yn newydd; fel y gwnaethoch chi sôn, roedd yn adroddiad Thomas, rhywbeth y gwnes i ddod yn ymwybodol ohono ryw pedair blynedd yn ôl. Felly, a allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf, os gwelwch yn dda, o'ch rhaglen lywodraethu am yr hyn yr ydych chi'n ei wneud i leihau'r risg y bydd plant yn mynd i mewn i'r system ofal, a pham mae gennym ni amrywiad mor enfawr rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru? Diolch yn fawr.

Wel, diolch yn fawr i Rhys ab Owen.

Mae hwn yn fater pwysig iawn o bolisi cyhoeddus yma yng Nghymru ac mae'n llygad ei le: mae'r gwahaniaeth rhwng gwahanol awdurdodau lleol yng Nghymru yn drawiadol iawn ac, yn fy marn i, yn ateb y pwynt sy'n cael ei wneud weithiau mai'r cwbl y mae'r ffigurau yn ei adlewyrchu yw gwahanol amodau economaidd-gymdeithasol mewn gwahanol rannau o Gymru. Pe bai hynny yn wir, sut byddai hynny'n esbonio llwyddiant eithriadol cyngor Castell-nedd Port Talbot yn fwy diweddar o ran lleihau'r niferoedd sydd ganddyn nhw mewn gofal, gyda gostyngiad pellach o 21 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig? Sut mae hynny yn esbonio pam mae cyngor fel sir Gaerfyrddin wedi llwyddo, drwy gydol cyfnod datganoli, i gadw ei niferoedd i lawr, tra bod cynghorau eraill sydd â nodweddion tebyg iawn wedi gweld cynnydd mor sydyn? Wel, dyma dri esboniad posibl amdano, Llywydd. Un, a'r mwyaf arwyddocaol yn fy marn i, yw diwylliannau ymarfer lleol. Mae'n—. Roeddwn i'n ddigon ffodus i ymweld, gyda fy nghyd-Weinidog Julie Morgan, â Chyngor Sir Gaerfyrddin ac i siarad â gweithwyr rheng flaen a'u goruchwylwyr, a chryfder y diwylliant lleol, a oedd yn benderfynol o wneud popeth yn ei allu i gadw teuluoedd gyda'i gilydd, oedd y rheswm mwyaf grymus, yn fy marn i, pam mae wedi cael y llwyddiant hwnnw.

Yna ceir arweinyddiaeth leol. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae'r pwynt lle mae eu niferoedd yn dechrau gostwng yn gysylltiedig yn fy marn i â phenodi cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol newydd ac arweinydd newydd ar gyfer gwasanaethau plant, ac maen nhw wedi dangos penderfyniad grymus i newid y patrwm y gwnaethon nhw ei etifeddu fel cyngor.

Ac yna'n drydydd—ac mae hyn yn adolygiad Thomas, fel y bydd yr Aelod yn gwybod—ceir arfer y llysoedd hefyd, ac mae hynny'n amrywio o un rhan o Gymru i'r llall, ac mae'n rhaid i ni allu tynnu barnwyr sy'n eistedd yn adran y teulu i mewn i'r sgwrs. Mae llywydd adran y teulu ar lefel Cymru a Lloegr wedi dweud yn ddiweddar mai'r mater unigol pwysicaf o'i flaen yw deall a mynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu derbyn i ofal ledled Cymru a Lloegr gyfan. Ac mae'r sefyllfa yng Nghymru, Llywydd, yn waeth: rydym yn tynnu mwy o blant oddi wrth eu teuluoedd yng Nghymru, ac rydym ni wedi gwneud hynny ar gyfradd sy'n cyflymu o'i chymharu â rhannau o Loegr sy'n edrych fel rhannau tebyg o Gymru. Dyna pam mae'r mater mor frys, ond dyna hefyd pam y gallwn ni fod â rhywfaint o optimistiaeth yn ei gylch. Gall pethau gael eu gwneud yn wahanol ac maen nhw yn cael eu gwneud yn wahanol, ac mae angen i'r dull gwell hwnnw gael ei fabwysiadu ledled Cymru.

Prif Weinidog, ym mis Mehefin y llynedd, adroddwyd mai Cymru sydd â'r gyfran uchaf o blant yn y DU sy'n derbyn gofal gan y wladwriaeth. Roedd 7,170 o blant yn derbyn gofal oddi cartref yng Nghymru, sef 1.14 y cant o'r plant mewn gwirionedd. Fel y gwnaethoch chi a fy nghyd-Aelod Rhys ab Owen sôn, mae'r gyfradd wedi cynyddu'n sylweddol yma yng Nghymru, ac mae'r duedd hon yn destun pryder, yn enwedig yr effaith ar y canlyniadau i blant sy'n cael eu derbyn i ofal o ran cyrhaeddiad addysgol, iechyd, diweithdra, digartrefedd a chyfiawnder troseddol. Fodd bynnag, ceir amrywiadau sylweddol lleol ar draws awdurdodau lleol yma yng Nghymru. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y gwahaniaethau hyn yn gysylltiedig â'r rhyngweithio rhwng arferion diogelu, lefelau amddifadedd a ffactorau rhieni, ac mae tuedd i roi mwy o bwyslais yng Nghymru ar ddod o hyd i leoliadau parhaol i blant, yn hytrach nag ailuno teuluoedd biolegol â'u plant, er bod llawer o deuluoedd yn dymuno gweld ailuno.

Felly, Prif Weinidog, gan nad yw'r cyfrifoldeb am blant mewn gofal yn nwylo adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn unig—ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi sôn yn eich ateb blaenorol fod y pwyslais ar lywodraethau lleol, yn ogystal â'r llysoedd—a bod amrywiaeth o asiantaethau mewn gwirionedd yn darparu gwasanaethau i blant a theuluoedd sydd mewn perygl, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud yn benodol i wella arferion gwaith i hwyluso gwell profiadau a chanlyniadau i'r rhai sy'n dod i gysylltiad â'r gwasanaethau hyn? Diolch.

14:05

Wel, Llywydd, mae pethau rydym ni eisoes yn eu gwneud fel Llywodraeth. Mae hynny'n cynnwys y pwyslais y mae fy nghyd-Weinidog Julie Morgan wedi ei roi i wneud hyn dros y tair blynedd diwethaf. Mae'n cynnwys gweithio gyda'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, i hyrwyddo'r pethau yr ydym ni'n gwybod sy'n gweithio mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae'n drawiadol i mi, yn sir Gaerfyrddin, y gwnaethom ni sôn amdani yn gynharach, fod un cyfarwyddwr sy'n gyfrifol am addysg a gwasanaethau cymdeithasol, gan wneud yn siŵr bod ysgolion yn chwarae eu rhan i helpu'r teuluoedd hynny i aros gyda'i gilydd. Yn y gyllideb a basiwyd ar lawr y Senedd yn y fan yma yr wythnos diwethaf, mae gennym ni ffrwd gyllid newydd i ddarparu eiriolaeth i deuluoedd y ceir perygl y bydd eu plant yn cael eu cymryd i ofal cyhoeddus, i wneud yn siŵr, pan fydd y penderfyniadau hynny yn cael eu gwneud, fod llais y teulu yn cael ei glywed yr un mor rymus ag unrhyw weithiwr proffesiynol sy'n rhan o'r penderfyniad hwnnw. Un yn unig o nifer o gamau yr ydym yn eu cymryd yw hwnnw, Llywydd, ac mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i gysoni ein hunain â'r angen i leihau nifer y plant mewn gofal cyhoeddus yng Nghymru yn ddiwyro.

Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi, pan fo plant mewn gofal preswyl, fod cyfeiriad polisi Cyngor Dinas Casnewydd yn briodol? Trwy ei Brosiect Perthyn, mae'n dod â darpariaeth o ofal i blant sy'n derbyn gofal yn ôl yn fewnol, gyda lleoliadau y tu allan i'r awdurdod yn dychwelyd i gartrefi newydd Cyngor Dinas Casnewydd. Mae'n dod â'r plant hynny yn ôl i'w hardaloedd cartref, eu teuluoedd a'u hysgolion ac yn darparu gofal o'r radd flaenaf. A fyddech chi'n cytuno mai dyma'r dull cywir ar gyfer ein pobl ifanc ac o ran adroddiad diweddar yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar y farchnad gofal cymdeithasol i blant, sy'n dangos bod darparwyr preifat yn codi gormod ar awdurdodau lleol, gydag elw o 22.6 y cant a thaliadau cyfartalog o tua £3,830 yr wythnos?

Wel, rwyf yn llongyfarch cyngor Casnewydd. Dros y degawd diwethaf, mae wedi sefyll allan fel un o'r awdurdodau hynny sydd wedi cymryd amrywiaeth o gamau i ganolbwyntio ar helpu teuluoedd i fynd drwy'r adegau anodd hynny y mae pob teulu yn eu hwynebu, a lle mae trwsio'r difrod hwnnw, yn hytrach nag achub plant ohono, er budd hirdymor y plentyn. Ac mae'r hyn y maen nhw'n ei wneud yn Prosiect Perthyn yn enghraifft dda iawn o hynny.

Hoffwn dalu teyrnged am eiliad, Llywydd, os caf i, i'r comisiynydd plant Sally Holland, yr Athro Sally Holland, sydd ar fin ymddeol ar ôl saith mlynedd yn y swydd honno, a bydd digwyddiad yma yn y Senedd yr wythnos nesaf i nodi'r achlysur hwnnw. Grym ei hadroddiadau hi, sy'n adlewyrchu safbwyntiau pobl ifanc mewn gofal eu hunain, sy'n arwain y Llywodraeth hon i fod ag ymrwymiad i ddileu gwneud elw preifat ar ofal plant yng Nghymru.

Nawr, mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn dod i'r casgliad yn ei adroddiad, sy'n dangos yn iawn pa mor wael y mae'r farchnad yn gweithio, mai'r hyn sydd ei angen arnoch yw i'r farchnad weithio yn well. Wrth gwrs, mae ein casgliad ni i'r gwrthwyneb: yr hyn sydd ei angen arnoch yw peidio â chael marchnad ym maes gofal plant. Nid marchnadoedd yw'r dull cywir o ddarparu ar gyfer y bobl ifanc agored i niwed hynny. Ac mae'r gwaith y mae Casnewydd yn ei wneud yn bwysig iawn yn hynny.

Mae dileu elw yn ymwneud â gwerthoedd yn ogystal â chost. Mae'n ymwneud â rhoi anghenion o flaen yr hyn sy'n broffidiol. Mae £10 miliwn yn y gyllideb i helpu awdurdodau lleol yn y cyfnod pontio hwn, yn y cyfnod pontio hwn, ac yn rhan o hynny bydd—. Rwy'n meddwl am y pwynt y soniodd Natasha Asghar amdano; rydym ni wedi derbyn cynlluniau bellach gan chwech o'r saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol, y byddwn ni'n eu hariannu, i greu canolfannau rhanbarthol newydd lle gallwn ni symud plant, nid yn unig cadw plant yn eu teuluoedd eu hunain, ond gallwn ni symud plant sy'n derbyn gofal y tu allan i'w sir yn ôl i'w sir, yn agosach at eu teuluoedd; gallwn symud plant y telir amdanyn nhw yn ddrud iawn y tu allan i Gymru yn nes at ble mae'r teuluoedd hynny yn byw. Bydd y canolfannau rhanbarthol hynny yn bwysig iawn o ran darparu adnodd lle gellir gofalu am y bobl ifanc hynny yn briodol ac yn llwyddiannus, ac rydym ni ar daith yma, yn bendant, ond mae'n galonogol iawn gweld bod chwech o'r saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol hynny wedi cyflwyno cynigion a'n bod ni fel Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w hariannu.

14:10
Canolfan Iechyd Newydd yng Nghaergybi

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu canolfan iechyd newydd yng Nghaergybi? OQ57829

Diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth. Llywydd, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar draws Cymru. Yn y canolfannau hyn, bydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn cael eu lleoli gyda gwasanaethau eraill. Mae'r bwrdd prosiect sy'n arwain y drafodaeth am ddatblygiad o'r fath yng Nghaergybi yn parhau i gwrdd bob mis.

Mae bron i dair blynedd wedi mynd heibio ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr orfod cymryd rheolaeth uniongyrchol dros feddygfeydd Longford Road a Cambria yng Nghaergybi, ac, ydy, mae wedi bod yn gyfnod o her na welwyd ei thebyg o'r blaen i ofal sylfaenol ym mhob man. Ond, ers bron i dair blynedd bellach, mae cleifion yn y ddwy feddygfa hynny wedi gorfod derbyn safon gofal ymhell islaw'r hyn y dylen nhw allu ei disgwyl. Oes, mae canolfan gofal sylfaenol brys newydd ar y ffordd i Ysbyty Penrhos Stanley, ond mae hynny'n wahanol. Ac ydy, mae'r staff yn Longford Road a Cambria yn gwneud popeth o fewn eu gallu o dan amgylchiadau anodd iawn. Ond mae angen canolfan gofal iechyd sylfaenol amlddisgyblaeth newydd arnom ni, sy'n gallu denu staff a darparu'r gwasanaethau angenrheidiol, ac mae ei hangen arnom ar frys. Rwyf i wedi bod yn mynd ar drywydd hyn ers, do, bron i dair blynedd bellach, ond, mewn cyfarfod diweddar gyda'r bwrdd iechyd, daeth yn amlwg i mi fod pethau yn symud yn araf iawn, iawn. A all y Prif Weinidog ddweud wrthyf pryd y byddai'n disgwyl i bobl Caergybi sy'n gleifion yn y meddygfeydd hynny, gael safon y gwasanaeth y dylen nhw allu ei disgwyl? A beth all ef ei wneud i sicrhau'r buddsoddiad hwnnw ar frys—buddsoddiad yr wyf i wedi bod yn galw amdano ers cymaint o amser?

Wel, diolch i'r Aelod am hynna. Rwy'n credu y tro diwethaf iddo ofyn cwestiwn o'r math hwn i mi, fy mod i wedi gallu dweud wrtho fod cynlluniau i recriwtio meddygon teulu newydd i gefnogi'r gwasanaeth yng Nghaergybi, ac rwyf i o leiaf yn falch o allu dweud wrtho heddiw fod y tri meddyg teulu y disgwyliwyd iddyn nhw gael eu recriwtio bryd hynny i gyd wedi eu recriwtio erbyn hyn, ac ymunodd yr olaf ohonyn nhw ym mis Ionawr. Rwyf i hefyd yn falch o ddweud bod prosiect Flex, sy'n brosiect sy'n cael ei redeg yn y rhan honno o Gymru sy'n cynnig contractau hyblyg i feddygon teulu sydd wedi ymddeol—ac rydym yn gwybod bod llawer o feddygon teulu wedi ymddeol yn gynnar o'r proffesiwn oherwydd y trefniadau pensiwn a orfodwyd arnyn nhw gan Lywodraeth y DU—i ddod o hyd i ffyrdd hyblyg y gallan nhw ddod yn ôl i'r gweithlu a darparu gwasanaethau, ac mae meddygon teulu yn y categori hwnnw eisoes yn gweithio yng Nghaergybi.

Yr ateb hirdymor yw'r un y mae Rhun ap Iorwerth wedi ei nodi: y ganolfan newydd. Mae'r nodyn yr wyf i wedi ei gael yn dweud wrthyf fod y bwrdd—y bwrdd prosiect, nid y bwrdd iechyd lleol, y bwrdd prosiect; nid y bwrdd iechyd yn unig ydyw, ond yr awdurdod lleol, cyngor y dref, y buddiannau lleol eraill—byddan nhw'n destun ymgysylltiad cyhoeddus ym mis Mai. Mae'n rhaid iddyn nhw aros tan hynny oherwydd etholiadau'r awdurdodau lleol, ond maen nhw wedi cyrraedd pwynt lle gallan nhw fynd allan a chael yr ymgysylltiad cyhoeddus hwnnw. Maen nhw'n ystyried nifer o safleoedd; byddan nhw i gyd yn gyfarwydd i'r Aelod lleol. Yna bydd yn rhaid iddyn nhw gyflwyno'r achos hwnnw i'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol a bydd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn cyflwyno ei gynigion i Lywodraeth Cymru. Nid wyf i'n credu bod llawer y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gyflymu'r broses honno, gan fod yn rhaid iddi fod yn deg â phawb a allai ddymuno gwneud cais am un o'r canolfannau newydd. Ond mae'r broses bellach yn eglur ac edrychaf ymlaen ati yn arwain at gynnig penodol a ddaw i Lywodraeth Cymru y byddwn ni'n gallu ei ystyried, rwy'n siŵr, gydag achosion cymhellol eraill a fydd yn cael eu cyflwyno gan rannau eraill o'r gogledd.

14:15
Costau Byw

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gost gynyddol o fyw ar bobl yn Ne Clwyd? OQ57861

Llywydd, mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bobl ledled Cymru, gan gynnwys yn Ne Clwyd. Mae'n rhaid i ddatganiad y gwanwyn yfory gynnwys camau gweithredu i roi cymorth i'r rhai sydd leiaf abl i reoli'r argyfwng yn yr agweddau mwyaf hanfodol ar fywyd bob dydd, gan ehangu mynediad at fwyd ac at danwydd i'r rhai a fydd fel arall yn cael eu gorfodi i fynd hebddyn nhw.

Diolch, Prif Weinidog. A byddwch chi'n ymwybodol, rwy'n siŵr, o ddata o adroddiad 'Crunch Point' gan Cyngor ar Bopeth, sy'n dangos na fydd 14.5 miliwn o bobl—un o bob pump o bobl ym Mhrydain—yn gallu fforddio eu biliau ynni pan fydd prisiau yn codi ym mis Hydref, yr union adeg y byddwn ni'n cyrraedd y gaeaf. Ac erbyn hynny, bydd un person sy'n cael budd-daliadau yn gwario hyd at 47 y cant o'i gredyd cynhwysol ar filiau ynni. Bydd aelwydydd ar fesuryddion rhagdalu yn cael eu taro'n arbennig o galed, ac felly, wrth gwrs, mae plant, yr henoed a phobl anabl yn debygol o wynebu'r gaeaf llymaf oni chymerir camau.

Prif Weinidog, ni ddylai'r un Llywodraeth ganiatáu i'w phobl rewi na newynu, ond dyna'n union sy'n mynd i ddigwydd oni bai bod Prif Weinidog y DU a'r Canghellor yn cymryd camau dramatig ar unwaith o ran costau ynni. Ac rwy'n pryderu na ddylai'r rhai sydd mewn trafferthion aros yn guddiedig, o'r golwg, na chael eu hamddifadu o gymorth hanfodol. Prif Weinidog, a ydych chi'n ymwybodol o ba ddata sy'n cael eu casglu gan gwmnïau ynni ynghylch hunan-gyfyngu cyflenwadau ynni, neu hunan-ddatgysylltu yn wir?

Wel, Llywydd, diolch i Ken Skates am y cwestiwn ychwanegol grymus yna. Wrth gwrs, mae'n iawn: yn natganiad y gwanwyn yfory, mae gan Ganghellor y Trysorlys gyfle i wneud y pethau ymarferol hynny a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf ym mywydau'r bobl hynny sydd angen y cymorth hwnnw fwyaf. Ysgrifennodd fy nghyd-Weinidogion Jane Hutt a Julie James, gyda'i gilydd, at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn ôl ar 11 Ionawr, gyda chwe gwahanol gam ymarferol y gallai Llywodraeth y DU eu cymryd a fyddai'n arwain ar unwaith at ryddhad i bobl sy'n wynebu'r her fwyaf.

Ond, Llywydd, mae Ken Skates wedi nodi, yn fy marn i, un o'r is-grwpiau sy'n peri'r pryder mwyaf yn y boblogaeth honno: pobl sy'n dibynnu ar fesuryddion rhagdalu ar gyfer eu cyflenwad ynni. Mae'r ffigurau diweddaraf sydd gen i yn awgrymu y bydd defnyddwyr mesuryddion rhagdalu yn gwario £10 bob dydd i ychwanegu at eu mesurydd. Os ydych chi'n berson sengl sy'n byw ar fudd-daliadau, mae gennych chi £77.29 am yr wythnos gyfan ar gyfer popeth. Felly, ni fyddan nhw'n talu £10 y dydd, byddan nhw'n mynd hebddo. Dyna'r unig ffordd y byddan nhw'n gallu ymdopi. Bydd eu biliau yn codi o £1,309 ar hyn o bryd i £2,017 ar ôl mis Ebrill.

Ac mae arnaf ofn mai'r ateb i gwestiwn Ken Skates yw nad oes ffigurau yn cael eu cadw ar bobl sy'n hunan-ddatgysylltu. Ers llawer rhy hir, mae'r cwmnïau ynni wedi cuddio y tu ôl i'r ffuglen gyfforddus bod pobl sy'n dibynnu ar fesuryddion rhagdalu yn dewis datgysylltu, ond rydym yn gwybod yn iawn mai dyma'r unig ffordd y gallan nhw ymdopi. Ac mae pobl yn wynebu gaeaf llwm dros ben o dan yr amgylchiadau hynny.

Llywydd, rai blynyddoedd yn ôl, pan oeddwn i'n rhan o rywfaint o waith ymchwil prifysgol ar y mater hwn, roeddwn i'n ymwneud ag Undeb y Brigadau Tân, a gyhoeddodd adroddiad ar nifer y marwolaethau plant—marwolaethau plant a achoswyd gan bobl y gorfodwyd iddyn nhw hunan-ddatgysylltu gan na allen nhw fwydo'r mesurydd, a ddefnyddiodd ganhwyllau mewn ystafelloedd gwely, lle aeth llenni ar dân ac y bu farw plant. Wyddoch chi, dyna'r amgylchiadau y bydd llawer o deuluoedd yng Nghymru yn cael eu hunain ynddyn nhw eto ar ôl y mis nesaf. Os oes unrhyw beth mwy brys ar fwrdd y Canghellor, mae'n anodd dychmygu beth allai fod yn hytrach na gwneud yn siŵr bod cymorth priodol i deuluoedd sy'n wynebu'r dewisiadau llwm dros ben hynny.

Gweithwyr Ifanc

6. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi gweithwyr ifanc yng Nghymru? OQ57854

Diolch i Jack Sargeant am hynna, Llywydd. Mae rhoi'r warant i bobl ifanc ar waith, buddsoddi mewn sgiliau, ariannu cyfrifon dysgu personol, a gwneud Cymru yn genedl waith teg ymysg y camau yr ydym ni'n eu cymryd i gefnogi gweithwyr ifanc ym mhob rhan o Gymru.

14:20

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yn ddiweddar, gwnaeth y Resolution Foundation waith ymchwil a ganfu, ar ôl i COVID daro, bod pobl o dan 34 oed yn fwy tebygol o wynebu diweithdra neu waith ansicr. Rwy'n siŵr y bydd ein cyd-Aelod ar draws y Siambr Tom Giffard wedi gweld fy mod i wedi defnyddio fy sianeli cyfryngau cymdeithasol fy hun i estyn allan at bobl ifanc, gan ofyn iddyn nhw am eu profiadau eu hunain. Prif Weinidog, nid oedd yn braf darllen yr hyn a ddaeth yn ôl.

Dywedodd un ymatebydd wrthyf, wrth weithio yn y sector lletygarwch yn ystod y pandemig, y cafodd ei hannog i beidio â gwisgo masg a dywedodd y byddai, a dyfynnaf, Prif Weinidog, yn 'effeithio ar gildyrnau i weithwyr benywaidd'. Soniodd person ifanc arall am gael ei orfodi i brentisiaeth ffug ac ymelwol, gan ddweud, ac eto, dyfynnaf,

'Wnaethon nhw ddim hyd yn oed fy nghofrestru ar y cwrs, felly roeddwn i'n cael fy nhalu hanner y cyflog am yr un gwaith heb gael unrhyw hyfforddiant.'

Un mater cyffredin a wynebwyd gan lawer oedd contractau ansicr, gydag un unigolyn yn gwneud cais am swydd a hysbysebwyd fel un 40 awr yr wythnos, dim ond i gael cynnig contract dim oriau.

Prif Weinidog, gallaf weld bod fy amser wedi dod i ben, ond gallwn barhau. Mae'r gwaith ymchwil a'r ymatebion yn tynnu sylw yn eglur at y ffaith ein bod ni angen mwy o amddiffyniadau yn y gweithle ac i weithwyr ymuno ag undeb llafur. Rwy'n mynd i barhau â'r gwaith hwn ac ymgyrchu dros newid. A wnewch chi ymuno â mi, Prif Weinidog, i gyfleu'r neges hon i Lywodraeth y DU, na allwch chi godi'r gwastad trwy ganiatáu i gyflogwyr gwael ymddwyn yn warthus fel hyn?

Wel, Llywydd, rwy'n llongyfarch Jack Sargeant ar y gwaith y mae wedi ei wneud ei hun gyda phobl ifanc, ac mae'n sicr y rhoddwyd mwy o frys fyth i'r pwyntiau y mae'n eu gwneud yn yr wythnos ddiwethaf hon gan weithredoedd cyflogwyr yn P&O. Bydd pobl o'i etholaeth, acw yn y gogledd-ddwyrain, sydd wedi ennill eu bywoliaeth yn Lerpwl, lle mae P&O yn gweithredu. Clywais y cyn Weinidog Ceidwadol Ros Altmann ar y radio y bore yma yn galw am weithredu pellach yn erbyn y cwmni, ac yn benodol gwrthod caniatáu i'r rhiant gwmni gymryd rhan yng nghynlluniau porthladdoedd rhydd Llywodraeth y DU. Mae ffordd ymarferol y gallai Llywodraeth ddangos ei phenderfyniad nad yw'r mathau o ymatebion a glywsoch gan Jack Sargeant yn cael eu hailadrodd mewn mannau eraill. Rydym ni'n sicr yn galw ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio ei phwerau a gadwyd yn ôl ym maes hawliau cyflogaeth i wneud yn siŵr bod hawliau pobl, hawliau pobl ifanc yn cael eu parchu yn briodol yn y gweithlu. Ac ymuno ag undeb llafur yw'r un cam mwyaf effeithiol y gall unigolyn ifanc ei gymryd i wneud yn siŵr ei fod yn cael y cymorth a'r gefnogaeth y byddai eu hangen arno, pe bai'n wynebu'r mathau o amgylchiadau y mae Jack Sargeant wedi eu hamlinellu y prynhawn yma.

Cost y Diwrnod Ysgol

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhieni yng ngogledd Cymru gyda chost y diwrnod ysgol? OQ57858

Llywydd, bydd ein cronfa fynediad, sy'n helpu teuluoedd gyda chost y diwrnod ysgol, yn dechrau ar ei phumed flwyddyn y mis nesaf. Dros y cyfnod hwnnw, mae wedi cael ei hehangu yn raddol. Cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog addysg, y datblygiad diweddaraf, sef cynnydd o £100 y plentyn i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw eleni, ar 14 Mawrth.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae teuluoedd yn y gogledd yn teimlo'r wasgfa diolch i argyfwng costau byw'r Torïaid. Rwy'n croesawu'r gefnogaeth ychwanegol y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ei rhoi ar waith i helpu gyda chostau sy'n gysylltiedig â'r diwrnod ysgol. Bydd yr arian ychwanegol i ymestyn prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau, yr hwb ariannol i helpu gyda chostau ysgol ac ymestyn y cynnig gofal plant yn rhoi rhyddhad i'r rhai sy'n poeni am effaith costau cynyddol. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi a'r arbenigwr arbed arian Martin Lewis nad yw'r argyfwng costau byw hwn yn rhywbeth y gall rheoli arian ei drwsio i'r rheini sydd ar yr incwm isaf, ond yn hytrach yn rhywbeth sydd wir angen ymyrraeth gan Lywodraeth y DU? Diolch.

Llywydd, diolch i Carolyn Thomas am y croeso y mae hi wedi ei roi i'r camau diweddaraf y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd. Ymwelais ag ysgol yn fy etholaeth fy hun ddydd Gwener yr wythnos diwethaf mewn cymuned sy'n wynebu heriau mawr, lle yr oedd y croeso i'r £100 ychwanegol fesul plentyn yn gynnes iawn. Bydd wir yn caniatáu i deuluoedd gymryd rhan yn y cyfleoedd y gall yr ysgol eu cynnig mewn ffordd y gall teuluoedd eraill eu cymryd yn ganiataol. Ac ysgol oedd hon, Llywydd, lle yr oedd y diwrnod ysgol estynedig wedi bod ar waith, ac roedd hi'n wych gweld brwdfrydedd y staff yn yr ysgol honno at y ffordd yr oedd y cyllid hwnnw, y diwrnod estynedig hwnnw, wedi caniatáu iddyn nhw roi'r cyfleoedd hynny o flaen pobl ifanc na fydden nhw yn eu cael nhw heb y ffordd honno o'u darparu.

Mae Llywodraeth Cymru, Llywydd, yn gwneud cymaint mewn cynifer o ardaloedd i adael arian ym mhocedi teuluoedd a fyddai fel arall yn gorfod talu am eu presgripsiynau, am eu brecwast am ddim, am eu gwisg ysgol—yr holl bethau hynny sy'n caniatáu i deuluoedd reoli'r gofynion eraill yr ydym ni wedi bod yn sôn amdanyn nhw y prynhawn yma. Daeth y cwestiwn atodol, Llywydd, i ben gan Carolyn Thomas yn dweud bod angen i Lywodraeth y DU weithredu ei hun, ac rwy'n ategu hynny yn llwyr, ac fel yr ydym ni wedi dweud eisoes y prynhawn yma, mae cyfle yn dod iddyn nhw yfory yn natganiad y gwanwyn i ddangos yn union beth y gall Llywodraeth sydd â buddiannau ei phoblogaeth wrth ei chalon wneud i'w diogelu nhw.

14:25
Y Gwasanaeth Iechyd yn Sir Benfro

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn sir Benfro? OQ57816

Diolch i Paul Davies am y cwestiwn, Llywydd. Mae'r blaenoriaethau uniongyrchol ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn sir Benfro yn cynnwys cyflwyno cam diweddaraf rhaglen frechu COVID ac adfer gwasanaethau ehangach a mwy rheolaidd yn barhaus.

Prif Weinidog, yn gynharach heddiw, mewn ymateb i arweinydd yr wrthblaid, gwnaethoch chi ddweud fod y contract deintyddol newydd wedi'i negodi'n ofalus, ond fel eraill, mae deintyddion lleol yn fy etholaeth i sy'n teimlo'n rhwystredig gyda newidiadau i'r contract hwn wedi cysylltu â mi ac wedi rhybuddio y gallai'r newidiadau hyn gael effaith niweidiol ar ddarparu gwasanaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Nawr, yn gryno, mae'r bwrdd iechyd lleol yn bwriadu lleihau gwerthoedd contractau practisau i 25 y cant o'r lefelau presennol sydd wedi'u cytuno arnyn nhw, yn ogystal â thargedu arferion gyda thargedau a mesurau ychwanegol, ac, wrth gwrs, daw'r newidiadau hyn i rym nawr o 1 Ebrill. Gwnes i wrando yn ofalus iawn ar eich atebion cynharach chi, ond mae'n amlwg o'r gofidion yr wyf i wedi'u cael fod deintyddion yn poeni am y newidiadau hyn a allai gael effaith negyddol ar ddarparu gwasanaethau yn sir Benfro. Felly, Prif Weinidog, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd nawr i leddfu'r pryderon uniongyrchol hyn fel y gall deintyddion yn fy etholaeth i ddarparu gwasanaethau deintyddol y mae mawr eu hangen?

Llywydd, yr wyf i'n cymryd o ddifrif y pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u codi. Fel yr eglurais i'n gynharach, rhan Llywodraeth Cymru yw ariannu'r gwasanaeth, ac yr ydym ni'n gwneud hynny gyda buddsoddiad ychwanegol y flwyddyn nesaf. Mater i fyrddau iechyd lleol wedyn yw cynnal y trafodaethau uniongyrchol gyda'r bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny. Mae dewisiadau y bydd deintyddion yn gallu eu gwneud, fel yr eglurais i yn fy atebion i arweinydd yr wrthblaid. Fy ymateb i'r pwyntiau y mae Paul Davies wedi'u codi yw bod angen i'r bobl hynny sydd â'r pryderon hynny fod o amgylch y bwrdd gyda'u bwrdd iechyd lleol i ddod i benderfyniad sy'n sicrhau'r effaith fwyaf posibl y gall Llywodraeth Cymru ei chael ar ddarparu gwasanaethau deintyddol i sicrhau bod pobl yn ardal sir Benfro yn gallu cael gafael ar y gwasanaeth y mae ei angen arnyn nhw.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon: mae'r datganiad ar y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Dribiwnlysoedd Cymru wedi'i ohirio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, hoffwn i ofyn am ddatganiad ynglŷn â mynediad at wasanaethau meddygon teulu. Yn ddiweddar, cysylltodd etholwr â mi ar ôl i'w deulu geisio cael apwyntiad mewn meddygfa, dim ond i gael gwybod y byddai nyrs yn eu galw'n ôl gydag apwyntiad ffôn wedi'i drefnu am dair wythnos ar ôl i'r person geisio cael apwyntiad. Rwy'n deall bod meddygon teulu'n wynebu galwadau sylweddol arnyn nhw, fel y maen nhw yn arferol, ond mae nifer o etholwyr wedi codi gyda mi eu hanawsterau wrth gael apwyntiad gyda meddyg teulu, ac yn enwedig y gallu i weld meddyg wyneb yn wyneb. Ni all pawb ddefnyddio ffôn symudol na chael mynediad i'r rhyngrwyd, felly mae'n bwysig bod pobl yn gallu gweld eu meddyg mewn modd amserol mewn ffordd sy'n diwallu eu hanghenion.

Yn ail, Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad brys ynghylch gwasanaethau yn Ysbyty Prifysgol y Faenor? Mae'n gwbl anffodus bod yn rhaid i mi roi gwybod i'r Siambr am stori dorcalonnus arall am etholwr sydd wedi'i siomi gan faterion yn yr ysbyty. Mae'r stori benodol honno'n ymwneud ag etholwr, mam 99 oed sydd wedi marw ers hynny, yn anffodus. Arhosodd hi dros wyth awr gyda chlun wedi torri i ambiwlans gyrraedd. Yna cafodd ei gorfodi i aros y tu allan i'r ysbyty mewn ambiwlans oer am nifer o oriau. Yn y cyfamser ceisiodd ei merch ffonio'r ysbyty i ddarganfod beth oedd wedi digwydd, ond ni wnaeth unrhyw adran yr oedd angen iddi gysylltu â hi ateb. Rwyf i eisiau'i gwneud yn glir nid bai staff, meddygon a nyrsys yw hyn, ond diffyg strwythurau digonol, y mae angen i'r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru ymdrin â nhw o'r diwedd. Mae angen i'r Llywodraeth a'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â'r ffaith bod pobl yn haeddu gwell, ac ni ddylem ni orfod parhau i godi'r materion hyn yn gyson yn y Siambr a darganfod bod dim byd yn cael ei wneud yn eu cylch a dim gwelliant. Felly, mae'n flin gennyf i, Trefnydd, y byddaf i'n codi'r pethau hyn ymhellach os na allwn ni gael datganiad a rhywfaint o gynnydd ar y pethau hyn. Diolch yn fawr, Llywydd. 

14:30

Diolch i Peter Fox am y ddau gais yna. O ran mynediad at wasanaethau meddygon teulu, byddwch chi'n ymwybodol bod etholwyr, drwy gydol pandemig COVID-19, wedi gallu cael mynediad at eu meddyg teulu drwy ymgynghoriadau dros y ffôn, drwy ymgynghoriadau fideo. Ac, wrth gwrs, nid meddyg teulu yw'r un y mae angen i rywun ei weld bob tro; mae'n bwysig iawn eu bod yn gweld y person mwyaf priodol, ac weithiau nid yw hwnnw'n feddyg teulu. Ond rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gweld llawer mwy o ymgynghoriadau wyneb yn wyneb yn digwydd wrth i ni ddod allan o'r pandemig. Ac yr ydych chi'n hollol gywir—nid oes gan bawb fynediad at dechnoleg, ac yn bersonol, rwy'n credu ei fod yn fater, i bob meddygfa sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau. 

O ran ysbyty'r Faenor, yr oedd yn sicr yn erchyll clywed eich stori chi am eich etholwr, ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Siambr ac wedi clywed hynny. Rwy'n credu y dylech chi ysgrifennu ati ynglŷn â'r achos penodol, ond bydd y Gweinidog wedi clywed y pwyntiau cyffredinol yr oeddech chi wedi'u gwneud, am ysbyty'r Faenor a'r gwasanaeth ambiwlans. 

Mi hoffwn i gael datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog iechyd yn ymateb i bryderon sydd gen i ynglŷn ag arafwch bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i ymateb i ymholiadau a chwynion. Mae yna un achos yn sefyll allan yn benodol, yn ymwneud ag ymholiad ar ran etholwraig sy'n dioddef o COVID hir. Rŷn ni'n dal i aros am ymateb llawn i ymholiad ers mis Mai 2021 am y driniaeth a'r gefnogaeth sydd ar gael iddi hi. Mae yna deulu arall yn aros ers mis Tachwedd am ymateb i gŵyn ar ran eu diweddar fam am y driniaeth a dderbyniodd hi tra'n glaf ar ward yn Ysbyty Gwynedd. Maen nhw'n bryderus iawn bod yna wersi sylfaenol am ofal sydd angen eu dysgu, ac yn rhwystredig iawn eu bod nhw'n dal i aros am atebion. 

Mae yna lawer o enghreifftiau tebyg, mae gen i ofn. Ddylwn i ddim bod yn gorfod eu codi nhw yn fan hyn, mewn difri; dylen nhw fod yn cael eu datrys gan y bwrdd iechyd. Ond mi hoffwn i adolygiad gael ei gynnal o'r prosesau sy'n cael eu dilyn, ac i ddatganiad adlewyrchu canfyddiadau'r adolygiad hwnnw wedyn. 

Diolch. Rwy'n cytuno—yn eithaf aml mae ymatebion amserol yn bwysig iawn pan fyddwn ni'n ymdrin â materion emosiynol iawn. Rwy'n credu mai'r ffordd fwyaf priodol ymlaen fyddai i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol godi hyn gyda chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn eu cyfarfodydd rheolaidd. 

Gan fod Llywodraeth Cymru nawr yn uwch noddwr ar gyfer derbyn ffoaduriaid o Wcráin, rydym ni'n gobeithio y byddwn ni nawr yn gallu gweld pobl yn cyrraedd y wlad hon er mwyn manteisio ar y cynigion caredig iawn y mae cynifer o bobl ledled Cymru wedi'u gwneud. Yng ngoleuni cyrhaeddiad disgwyliedig y bobl hyn y mae gwir angen ein cefnogaeth arnyn nhw, yr oeddwn i'n meddwl tybed a allem ni gael datganiad gan Weinidog yr economi ynghylch a fyddai'n bosibl caniatáu mwy o hyblygrwydd yn y meini prawf ariannu ReAct ar gyfer galluogi ffoaduriaid i fanteisio ar wersi Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill, a fyddai hefyd yn llenwi'r lleoedd gwag sydd gennym ni yn rhai o'n hysgolion ieithoedd nad ydyn nhw wedi gallu recriwtio cymaint o fyfyrwyr tramor oherwydd effaith barhaus COVID. 

Diolch. Fel y gwyddoch chi, yn wir, mae Llywodraeth Cymru wedi cael statws uwch noddwr, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi bod yn gweithio'n agos iawn ac yn galed iawn gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod ni'n gallu derbyn pobl o amgylchiadau erchyll sydd mewn gwir angen. Gwn i fod swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda darparwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill a'r sector addysg ledled Cymru i asesu pa gapasiti presennol mewn ysgolion sydd yn y system, ac i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol i sicrhau y gallan nhw ddarparu'r cymorth di-oed a thymor hwy hwnnw i'r bobl hynny o Wcráin sy'n dod i Gymru. Mae hynny'n cynnwys gwaith i sicrhau bod y rhai sy'n cyrraedd yn gallu cael gafael ar gymorth priodol, gan gynnwys tai, gofal iechyd, gofal plant, addysg, budd-daliadau a chyflogadwyedd, ac mae hynny'n cynnwys rhaglen ReAct.

14:35

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn amlinellu na fydd hi'n ystyried mater y tâl 10 y cant sy'n ymwneud â gwerthu cartrefi mewn parciau yn breifat. Rwyf i wedi siarad â thrigolion cartrefi mewn parciau ledled fy etholaeth am hyn. Mae hyn wedi bod yn digwydd ers 2013. Mae preswylwyr cartrefi mewn parciau wedi bod yn aros naw mlynedd i'r tâl annheg hwn gael ei dynnu o'r llyfr statud. Mae cartrefi mewn parciau dal yn cael mynnu 10 y cant o'r pris gwerthu gan unigolion preifat sy'n byw mewn cartrefi mewn parciau. Penderfynodd y Gweinidog ar y pryd, Rebecca Evans, ar ôl llawer o ymgynghori, y byddai'r 10 y cant yn gostwng i 5 y cant ar y mwyaf dros gyfnod o bum mlynedd—roedd hyn i fod yn deg i'r ddwy ochr. Felly, a wnewch chi ofyn i'r Gweinidog ddod i'r Siambr i egluro pam na fydd yn ystyried hyn eto a pham y mae perchnogion cartrefi mewn parciau'n cael eu hesgeuluso a'u siomi dro ar ôl tro?

Yn sicr, fe wnaf i siarad â'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, gyda nifer enfawr o ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu, ac ati, o fewn ei phortffolio, roedd hyn yn rhywbeth nad oedd hi'n teimlo y gallai hi roi adnoddau iddo, yn sicr ar gyfer y tymor byr, ac yna efallai'r tymor hwy yn nhymor y Llywodraeth. Felly, fe ofynnaf iddi a fyddai hi cystal â darparu datganiad ysgrifenedig yn egluro'r sefyllfa.

Gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog iechyd yn amlinellu pa gamau y mae hi wedi eu cymryd ers i'r newyddion trasig am ddau ddigwyddiad difrifol arall yn uned fasgiwlar Ysbyty Glan Clwyd ddod i'r fei yr wythnos diwethaf? Mae'n rhaid i gleifion, eu teuluoedd, a'r cyhoedd yn Arfon, a thu hwnt, gael sicrwydd bod y Llywodraeth yn troi pob carreg i sicrhau bod yr uned yn ddiogel ac mai ateb dros dro ydy cynnal triniaethau yn Lerpwl. Mae'r ddau ddigwyddiad yma yn dod yn sgil adroddiadau damniol ac ar ôl i'r Gweinidog gyhoeddi bod yr uned mewn mesurau arbennig o ymyrraeth sylweddol. Onid ydy hi'n bryd codi'r lefel o ymyrraeth i'r lefel ddwysaf posib ar unwaith, yn hytrach na disgwyl dau fis arall, fel mae'n ymddangos y mae'r Gweinidog yn bwriadu ei wneud? Rydyn ni angen ein hargyhoeddi bod pob dim posib yn cael ei wneud, a bod hynny'n cael ei wneud ar fyrder.

Wel, fel y credaf eich bod chi newydd gyfeirio ato yn eich cwestiwn, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi rhoi tri mis i'r bwrdd iechyd ymdrin â'r materion hyn, i ddechrau ar unwaith. Rydym ni nawr fis i mewn i hynny, a gwn i ei bod hi wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf fisol gyntaf gan y bwrdd iechyd, a gwnaeth hi hefyd gyfarfod â chadeirydd y bwrdd iechyd i drafod y mater yn gynharach y mis hwn. Rwy'n gwybod ei bod hi'n siomedig iawn o glywed am broblemau eraill gyda gwasanaethau fasgwlaidd, ac yn sicr mae ein meddyliau gyda'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Gwn i, unwaith eto, fod y Gweinidog wedi croesawu'r gefnogaeth sy'n cael ei gynnig gan rwydwaith gwasanaeth fasgwlaidd Lerpwl, a bydd yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n ofalus iawn. Bydd adroddiad arall ar yr wybodaeth ddiweddaraf yn dod iddi ac rwy'n siŵr y bydd naill ai'n ailystyried neu'n parhau â'r ffordd i reoli'r sefyllfa y mae hi wedi'i hamlinellu i'r bwrdd iechyd. 

Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddatganiad ar safonau prydau ysgol yn Ysgol Dyffryn Taf yn Hendy-gwyn ar Daf, neu'n hytrach ynghylch y diffyg safonau. Mae adroddiadau diweddar yn y wasg wedi dangos rhai delweddau eithaf annymunol o fwyd heb ei goginio'n ddigonol a bwyd llawn dŵr, gan gynnwys cig, sydd wedi'i weini i ddisgyblion yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ac os nad oedd hynny'n ddigon gwael, mae llawer o ddisgyblion a rhieni wedi dweud bod maint y dognau'n fach iawn, gan adael y plant yn llwglyd. Gwyddom ni pa mor bwysig yw cael pryd da, ac mae stumog lawn yn galluogi disgyblion i ddysgu a chanolbwyntio hefyd, ac, i rai disgyblion, gwyddom ni hefyd mai dyma fydd eu prif bryd o fwyd. Ceir adroddiadau bod llawer o ddisgyblion wedi bod yn mynd heb ginio oherwydd ansawdd gwael y bwyd hwnnw, ac, yn ôl gwefan yr ysgol, Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n rhedeg y ffreutur. Rwy'n deall bod y pennaeth mewn trafodaethau gyda'r awdurdod lleol ynglŷn â'r mater ac mae prydau poeth wedi'u hatal ers dechrau'r wythnos hon. Mae hynny, yn fy marn i, yn gwbl annerbyniol ac ni fydd disgyblion yn gallu cael unrhyw fwyd poeth. Mae'n fater difrifol, ac mae'n codi rhai cwestiynau difrifol y byddwn i'n annog Llywodraeth Cymru i'w codi gyda'r ysgol a gyda'r awdurdod lleol. A dim ond oherwydd bod disgyblion wedi rhannu eu delweddau a'u pryderon ar y cyfryngau cymdeithasol y gwnaethant sylweddoli bod y bwyd hwn yn gwbl annigonol ac, mewn rhai achosion, mae modd dadlau nad oedd yn addas i'w fwyta gan bobl. Felly, yn dilyn y sgandal hwn—ac mae yn sgandal—hoffwn i ofyn hefyd i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw'n digwydd mewn ysgolion eraill ledled Cymru, a bod disgyblion yn cael cynnig prydau maethlon o ansawdd uchel sy'n addas i'w bwyta gan bobl a'u llenwi hefyd. 

14:40

Diolch. Rwy'n gwybod bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymwybodol o'r achos yr ydych chi'n cyfeirio ato, ac mae'n amlwg bod defnyddio deiet mwy maethlon yn ystod y diwrnod ysgol yn gwbl angenrheidiol am sawl rheswm, yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw. Mae gan Lywodraeth Cymru Reoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) (Cymru) 2013. Maen nhw'n nodi'r mathau o fwyd a diod y gellir eu darparu yn ystod y diwrnod ysgol ac yn diffinio cynnwys maethynnau ciniawau ysgol sy'n cael eu darparu ar gyfer disgyblion. A holl bwynt hynny yw gwella'r safonau maeth sy'n cael eu gweini mewn ysgolion ledled Cymru, a sicrhau bod ein plant ni a'n pobl ifanc ni'n cael cynnig bwyd iach drwy gydol y diwrnod ysgol. Gwn i fod swyddogion y Gweinidog wedi bod yn gweithio gyda'r awdurdod lleol i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto, ac mae'n bwysig iawn, os ydym ni'n ystyried unrhyw newidiadau sydd eu hangen, mai'r prif beth yw ystyried sut y gallwn ni gydymffurfio'n well â rheoliadau ledled Cymru, a byddan nhw’n cael eu hystyried fel rhan o'r gwaith o fonitro ein bwyd ysgol. 

Rwy'n gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn penderfyniad yr Uchel Lys ddoe i beidio â derbyn y waharddeb y gwnaeth gais amdani o ran sicrhau y gall y pŵer barhau ym Mharc Ynni Baglan tan fod cysylltiad newydd wedi'i gwblhau. Mae llawer o fy etholwyr i'n cael eu cyflogi yn y busnesau niferus sydd wedi'u lleoli yn y parc ynni, ac mae'r penderfyniad hwn nawr yn peryglu eu dyfodol ar adeg pan fo'r argyfwng costau byw eisoes yn peri pryder. Mae penderfyniad ddoe nawr yn agor y drws i'r derbynwyr swyddogol i ddechrau torri pŵer i'r busnesau hynny, a gallai hynny olygu colli dros 1,000 o swyddi sy'n talu'n dda, gan nad yw busnesau nawr yn gallu parhau i weithredu. Felly, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y camau y bydd yn eu cymryd yn awr i ddiogelu'r swyddi hynny yn yr economi leol. Bydd y penderfyniad hwn hefyd yn cael effaith enfawr ar yr amgylchedd ac ansawdd yr aer wrth i ffynonellau ynni eraill gael eu cyflwyno, a fydd bron yn sicr yn wael iawn i'r amgylchedd. 

Diolch. Rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi a'i swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos iawn ar y mater hwn, a bydd Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw.  

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Bwrw Ymlaen â’r Genhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi

Eitem 3 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi: bwrw ymlaen â'r genhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu’r economi. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Y llynedd, cyhoeddodd fy rhagflaenydd ein cenhadaeth economaidd drawslywodraethol ni. Roedd yn amlwg bryd hynny nad oedd dychwelyd i fusnes fel arfer yn ddewis. Mae'r ymateb i'r pandemig wedi cyflymu llawer o'r tueddiadau presennol ar draws datgarboneiddio, digideiddio ac effaith poblogaeth sy'n heneiddio. I fusnesau, daeth y pandemig â thrawma gwirioneddol hefyd. Mae'r cydnerthedd sy'n cael ei ddangos gan gynifer yn rhyfeddol ac mae'n dyst i'r creadigrwydd a'r angerdd sy'n ysgogi busnesau ledled Cymru.

Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu'r genhadaeth mewn rhaglen lywodraethu newydd, a bydd yr Aelodau'n cofio'r datganiad y gwnes i ei roi ar hyn fis Hydref diwethaf. Yn y datganiad hwnnw, nodais i fy uchelgais i greu'r amodau lle mae mwy o bobl yn teimlo'n hyderus ynghylch cynllunio eu dyfodol yng Nghymru. Yn wyneb adferiad anwadal, eglurais i hefyd ein hymrwymiad i ddarparu cymaint o sicrwydd ag y gallwn ni i helpu busnesau i gynllunio ymlaen llaw.

Fel y gwyddom ni, yn yr wythnosau a ddilynodd, trodd omicron economïau'n ôl i fodd argyfwng wrth i ni ymateb i'r don ddiweddaraf o COVID gyda chamau gweithredu wedi'u cyflawni mewn partneriaeth, yn seiliedig ar dystiolaeth. Roedd hyn yn cynnwys cylch arall o gymorth busnes gyda phecynnau ar gael yng Nghymru yn unig, fel y gronfa cadernid economaidd. Nid oedd cronfeydd tebyg, wrth gwrs, ar gael yn Lloegr. Er gwaethaf y broblem hon, rydym ni wedi parhau i symud ymlaen â'n cenhadaeth i helpu i greu economi gryfach, wyrddach a thecach yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddais i gynllun newydd ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau wedi'i gefnogi gan fuddsoddiad mawr mewn marchnad lafur fwy cynhwysol, a bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â hynny o gofio'r datganiad llafar y gwnes i ar y pryd. Yn erbyn cefndir ariannol anodd, rwyf i wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i flaenoriaethu'r gwaith o leihau'r rhaniad sgiliau, helpu mwy o bobl i ddod o hyd i waith a rhoi hwb i ragolygon gyrfa'r rhai sydd eisoes mewn gwaith. Rydym ni'n buddsoddi £1.7 biliwn yn y warant i bobl ifanc. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys £366 miliwn i helpu i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed yn ystod tymor y Senedd hon.

Fel y gwyddoch chi, Dirprwy Lywydd, mae gofal hygyrch i blant yn hanfodol i economi gryfach a thecach. Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cadarnhau y byddwn ni'n ehangu ein cynnig gofal plant i gefnogi mwy o deuluoedd. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o deuluoedd, a menywod yn arbennig, yn elwa ar well ragolygon cyflogaeth. Rydym ni hefyd wedi darparu £5 miliwn ychwanegol ar gyfer cyfrifon dysgu personol, i helpu gweithwyr ar gyflogau isel uwchsgilio mewn sectorau sy'n wynebu prinder yn y farchnad lafur, gydag enghreifftiau'n amrywio o yrwyr HGV i iechyd a gofal cymdeithasol. Rwyf i hefyd yn gweithio'n agos gyda fy nghyd-Weinidog, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ar hynt sefydlu'r comisiwn ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil. Dylai hyn ein rhoi ni mewn gwell sefyllfa i flaenoriaethu buddsoddiadau sy'n gwella cyrhaeddiad addysgol, datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi da, ac ysbrydoli cynlluniau gyrfa mwy uchelgeisiol ar gyfer pobl o bob oed. Cymru sydd â'r cynllun cyllid myfyrwyr mwyaf blaengar yn y DU o hyd, ac rydym ni'n awyddus i gynnal hyn wrth ystyried y ffordd orau o gefnogi cynnig dysgu gydol oes gwell.

Fel y dywedais i ym mis Hydref, rydym ni eisiau sicrhau bod ein dull llywodraeth gyfan ni'n caniatáu i fwy o bobl deimlo'n gadarnhaol ac yn uchelgeisiol ynghylch cynllunio eu dyfodol yma yng Nghymru. Gall cadw graddedigion ein helpu ni yn y genhadaeth hon, ac rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i gysylltu myfyrwyr yn fwy effeithiol â'r cyfleoedd cywir mewn busnesau yng Nghymru. Mae'r fenter llwybr gwaith newydd yn cynnig y gallu i fyfyrwyr rhyngwladol aros yn y DU a gweithio am ddwy flynedd ar ôl iddyn nhw raddio. Fy uchelgais i yw y gallwn ni ddod o hyd i ffyrdd i'r gweithwyr hyn symud ymlaen at fisâu gweithwyr medrus llawn fel y gallwn ni barhau i elwa ar eu cyfraniad mewn economi fwy deinamig yng Nghymru.

Fel yr wyf i wedi nodi, mae'r cynnydd hwn wedi'i wneud er gwaethaf yr ymateb brys yr oedd omicron wedi mynnu gennym ni. Fel y mae CBI Cymru wedi cydnabod, mae dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â'r pandemig wedi trin iechyd y cyhoedd a thwf economaidd fel dwy ochr yr un geiniog. Ers dechrau'r pandemig, rydym ni wedi defnyddio pob dull posibl i gefnogi busnesau Cymru. Gwnaethom ni ailflaenoriaethu ein cyllidebau ac addasu arian at ddibenion gwahanol i sicrhau bod cymorth ariannol ar gael lle'r oedd ei angen fwyaf. Wrth i ni symud ymlaen, mae'r cynllun pontio newydd yn nodi sut y byddwn ni'n mynd ati i ymdrin â'r dasg o fyw gyda coronafeirws. Byddwn ni'n parhau i weithio ar sail tystiolaeth, ac mae hynny'n golygu gweithio'n ddwys yr wythnos hon i ddeall beth mae'r cynnydd diweddaraf mewn achosion yn ei olygu i gydbwysedd y niwed yr ydym yn ei wynebu ar hyn o bryd.

Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym ni hefyd wedi darparu cynlluniau ac wedi'u cynllunio i gefnogi unigolion a busnesau i edrych i'r dyfodol, gan gynnwys: y gronfa cefnogi cwmnïau lleol, gan ddatblygu ein hymrwymiad i'r economi sylfaenol; cronfa cychwyn busnes gwerth £1 filiwn, sy'n canolbwyntio ar y rhai nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant; £0.5 miliwn ychwanegol i gefnogi a hyrwyddo'r sector mentrau cymdeithasol; a phecyn gwerth £116 miliwn o ryddhad ardrethi annomestig ar gyfer trethdalwyr manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru. Mae hyn yn ychwanegol at gyhoeddi fframweithiau economaidd rhanbarthol newydd i gryfhau rhanbarthau economaidd unigryw Cymru a'r contract economaidd newydd.

Mae ein heconomi ni wedi dod allan o ddirywiad digynsail oherwydd y pandemig, ac mae ein cyfradd diweithdra yn parhau i dracio'n is na gweddill y DU. Fodd bynnag, rwy'n dal i bryderu'n fawr am yr argyfwng costau byw parhaus, ac yr ydym ni eisoes yn gweld rhagolygon cynnyrch domestig gros ar gyfer y DU yn cael eu haneru. Yfory, bydd y Canghellor yn cyflwyno ei ddatganiad y gwanwyn, ac rwy'n ei annog i wneud mwy cyn i'r argyfwng fynd allan o reolaeth yn llwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn ei chyllideb i ddarparu pecyn cymorth arall gwerth mwy na £330 miliwn, ond Llywodraeth y DU sydd â'r prif ddulliau drwy'r system dreth a budd-daliadau.

Rhaid i gostau ynni a thanwydd cynyddol nawr sbarduno camau gweithredu i gyflymu'r broses o drosglwyddo i sero net. Ymdrin â'r argyfwng hinsawdd a natur fel rhan o newid i sero net yw uchelgais gyffredinol ein strategaeth buddsoddi seilwaith newydd gwerth £8.1 biliwn hefyd. Mae perygl hefyd y bydd ein cynnydd yn cael ei ddal yn ôl ymhellach gan benderfyniad Llywodraeth y DU i wrthod ein cyfran lawn o'r arian i gymryd lle arian yr UE a gafodd ei addo i ni. Dylai o leiaf £375 miliwn y flwyddyn fod wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru, ond bydd cynlluniau codi'r gwastad y DU yn gadael cyllideb Cymru £1 biliwn yn waeth ei byd erbyn 2024.

Dirprwy Lywydd, yn y dyddiau a'r misoedd nesaf, byddwn ni hefyd yn cyhoeddi strategaeth gweithio o bell newydd ac yna gweledigaeth strategol ar gyfer manwerthu, ymhlith camau gweithredu ehangach. Mae gan ein dull partneriaeth gymdeithasol rhan hanfodol ym mhopeth yr ydym ni wedi'i gyflawni, ac edrychaf i ymlaen at weithio mewn partneriaeth i gefnogi adferiad tîm Cymru, wedi'i adeiladu gan bob un ohonom ni. Diolch.

14:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Wrth i ni ddechrau addasu i fywyd ar ôl y pandemig, mae'n bwysig bod y sylfeini cywir yn cael eu creu er mwyn meithrin a chefnogi busnesau Cymru ar gyfer y dyfodol, ac nid mater o ymateb i'r pandemig yn unig ydyw, ond hefyd ymdrin â'r materion hirsefydlog y mae busnesau ledled Cymru wedi bod yn eu hwynebu, fel yr argyfwng hinsawdd, anghydraddoldebau cynhenid yn y farchnad lafur, a chystadlu mewn byd sydd wedi'i gysylltu fwy yn ddigidol. Mae datganiad heddiw'n nodi rhywfaint o'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar genhadaeth Cymru o ran cadernid ac ailadeiladu economaidd Llywodraeth Cymru, ac er bod y cynnydd hwnnw i'w groesawu, mae mwy y gellir ei wneud bob amser.

Mae datganiad heddiw'n cyfeirio at rai o'r camau sydd wedi'u cymryd i gefnogi'r economi sylfaenol, fel cyflwyno'r gronfa cefnogi cwmnïau lleol a'r pecyn cymorth i drethdalwyr manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru. Yn sgil y pandemig, mae'n bwysicach nag erioed bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn yr economi sylfaenol, oherwydd bod gan y buddsoddiad hwn fanteision amlwg mewn meysydd polisi eraill a gall helpu i ymdrin â'n hôl troed carbon a chyrraedd targed sero net Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod arfer da'n cael ei rannu a'i gyflwyno ledled Cymru, felly efallai y gall y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynghylch y ffordd y mae'n sicrhau bod hynny'n digwydd, boed hynny o ran caffael bwyd, y sector manwerthu, neu hyd yn oed ofal cymdeithasol.

Mae datganiad heddiw'n cyfeirio at y cynllun pontio newydd, a fydd yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r dasg o fyw gyda coronafeirws. Mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio ar sail tystiolaeth, felly efallai y caf ychydig mwy o wybodaeth gan y Gweinidog am y cynllun pontio a'r effaith y bydd yn ei chael ar fusnesau ledled Cymru, a sut y caiff eu lleisiau eu clywed wrth ddatblygu'r cynllun hwn. Nid dyna'r unig gynllun y mae'r datganiad heddiw'n cyfeirio ato, ac rwy'n croesawu'n fawr gyhoeddi'r strategaeth gweithio o bell a gweledigaeth strategol ar gyfer manwerthu. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod y strategaethau hyn ar gael gorau po gyntaf. Felly, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym ni pryd y mae'r strategaethau penodol hyn yn debygol o gael eu cyhoeddi.

Mae cenhadaeth cadernid ac ailadeiladu economaidd Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at ganol ein trefi, ac mae'n cydnabod, a hynny'n briodol, fod llawer o ganol trefi Cymru yn galw am weithredu ar frys. Nid meysydd busnes yn unig yw canol ein trefi—nhw yw calon ein cymunedau lleol, ac mae'n hanfodol bod camau'n cael eu cymryd i'w cefnogi wrth iddyn nhw frwydro yn erbyn cefndir o newid cymdeithasol enfawr. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r gwaith a gafodd ei wneud gan Archwilio Cymru fis Medi diwethaf ar adfywio canol trefi, ac yn fwy diweddar gan Ffederasiwn y Busnesau Bach, sy'n iawn i alw ar Lywodraeth Cymru i wneud yn ogystal â dweud  pan ddaw'n fater o weithredu'n greadigol i fynd i'r afael â phla unedau gwag a throi'r cydbwysedd o blaid canol ein trefi. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud i wrthdroi'r broses o ddiberfeddu canol trefi ac adfer eu bywiogrwydd unwaith eto.

Mae datganiad heddiw'n cyfeirio at sgiliau a chyflogaeth, ac rwy'n sylweddoli bod llawer o ddiwygiadau i'r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol gyda'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Mae'r datganiad heddiw hefyd yn cyfeirio at gadw graddedigion a sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i gysylltu myfyrwyr yn fwy effeithiol â'r cyfleoedd cywir gyda busnesau Cymru. Bydd y Gweinidog wedi gweld bod pamffled diweddar sy'n brolio cyfraddau cyflog cymharol isel wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar gan brifddinas-ranbarth Caerdydd, sy'n disgrifio bod gan Gaerdydd gyflogau is i raddedigion na Birmingham, Llundain, Caeredin a Glasgow, a fydd hyn yn gwneud dim i gynyddu nifer y graddedigion sy'n cael eu cadw. Felly, a wnaiff ddweud wrthym ni pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd a'r holl randdeiliaid eraill ynghylch cadw graddedigion a sut y mae Cymru'n cael ei marchnata?

Wrth i ni ailadeiladu ar ôl y pandemig, mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn denu buddsoddiad mewn adferiad gwyrdd. Gwyddom ni fod cyfleoedd sylweddol i'r diwydiant gwyrdd a thechnoleg werdd. Er enghraifft, mae gan hydrogen y potensial i ddarparu atebion cyflenwi ledled y sectorau ynni a thrafnidiaeth. Mae'n hanfodol bod y sectorau hyn yn cael buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ac, wrth gwrs, y sector preifat hefyd. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod Cymru wedi sefydlu targedau i 70 y cant o'n hanghenion trydan gael eu diwallu drwy ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Yng ngoleuni'r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni sut y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwaith yn y maes hwn a sicrhau bod y technolegau a'r sectorau hyn yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw. 

Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, mae nifer o gwestiynau eraill y gellid eu gofyn ynglŷn â'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran y genhadaeth cadernid ac ailadeiladu economaidd ond ni wnaf drechu amynedd y Dirprwy Lywydd. Felly, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog eto am ei ddatganiad yn amlinellu rhywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud i greu economi fwy llewyrchus, gwyrddach a mwy cyfartal? Diolch.

14:55

Diolch am y sylwadau a naws adeiladol yr ymateb gan lefarydd y Ceidwadwyr. Mae llawer o bethau yr ydym ni'n cytuno arnyn nhw fel heriau amlinellol y mae'r wlad yn eu hwynebu. Rydym ni wedi siarad yn rheolaidd am yr argyfwng hinsawdd a natur ac anghydraddoldeb y farchnad lafur y soniodd yr Aelod amdano yn ei gyflwyniad agoriadol, a'n her ni yw sut y gallwn ni ymdrin â hynny, a'r amrywiaeth o flaenoriaethau eraill y nododd ef yn ei gwestiwn. Dyna pam y mae'r weledigaeth yn cynnwys ardal mor eang, ond mae hefyd yn cyfeirio at lawer o feysydd cyfle a her i ni fynd i'r afael â nhw.

O ran eich pwyntiau penodol am yr economi sylfaenol, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn falch o glywed ein bod ni, fel Llywodraeth, wedi cael trafodaeth yn y Cabinet am yr economi sylfaenol a'r cam nesaf i symud hynny ymlaen—felly, nid dim ond yr arian sy'n cael ei bennu yn y gyllideb i gefnogi'r economi sylfaenol ymhellach, ond i wneud hynny fel yr awgrymodd yr Aelod, yn y ffordd yr ydym ni'n rhannu arfer da sy'n bodoli eisoes, ond wedyn sut yr ydym ni'n ailosod lefel yr uchelgais. Mae swyddogion yr economi sylfaenol a'n swyddogion caffael yn cydweithio, ac maen nhw'n bwriadu archwilio gwahanol rannau o'r Llywodraeth a'n gweithgarwch ochr yn ochr â gwasanaethau cyhoeddus a'r sector preifat. Mae gennym ni ddiddordeb arbennig yn yr hyn yr ydym ni eisoes wedi'i wneud yn y sector bwyd. Mae gennym ni ddiddordeb hefyd yn yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'r diwydiant bwyd yn ei ystyr ehangaf, drwy'r gadwyn gyfan o dwf, cyflenwi a hefyd gweithgynhyrchu bwyd hefyd, lle yr ydym ni eisoes wedi ychwanegu gwerth sylweddol. 

Rydym ni hefyd yn bwriadu datblygu gwaith sydd eisoes yn digwydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. A minnau wedi bod ar ochr arall y sgwrs hon mor bell yn ôl, gwn i fod gwaith wedi parhau am gyfnod i ystyried yr hyn y gall y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol ei wneud fel cyflogwyr mawr iawn, yn ogystal â phobl sy'n gwario symiau sylweddol o arian cyhoeddus. Mae arferion da iawn eisoes yn digwydd, er enghraifft, yn Hywel Dda. Rydym ni'n awyddus i ddysgu beth sydd wedi gweithio'n dda i gynyddu ymhellach yr hyn yr ydym ni wedi gallu'i wneud drwy ymgorffori gwerth cymdeithasol fel rhan o gontractau caffael yn y gwasanaeth iechyd, ac yna gwneud mwy ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Byddaf i'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ac efallai i'r Aelod gan wisgo het arall, pan fydd yn cadeirio un o'r pwyllgorau craffu.

O ran y cynllun pontio yr ydym ni'n gweithio drwyddo ynghylch sut i bontio i'r cam nesaf o fyw gyda COVID, ceir sgyrsiau rheolaidd gyda'n holl randdeiliaid, gan gynnwys grwpiau busnes hefyd, gyda mi'n uniongyrchol, ond hefyd gyda swyddogion. Nid yw dim ond yn ymwneud â natur reolaidd y broses adolygu 21 diwrnod sy'n adolygu ein rheoliadau, ond natur y sgyrsiau yr ydym ni'n parhau i'w cael o ran sut y gallwn ni ddeall gyda chymaint o ragweld â phosibl yr hyn y byddwn ni'n gallu ei wneud os byddwn ni'n parhau i gael amgylchedd sefydlog gyda COVID, ac, fel y dywedais i yn fy natganiad, cydbwyso'r niweidiau—y niwed uniongyrchol o COVID gyda chynnydd mewn achosion wedi'i gydbwyso yn erbyn niwed arall y mesurau sylweddol yr ydym ni wedi gorfod eu cymryd yn y gorffennol. Dyna'n union yr ydym ni'n bwriadu ei wneud pan fyddwn ni'n nodi cydbwysedd hynny yng ngweddill y cyfnod sydd i ddod. 

Mae hynny hefyd wedi bod yn rhan o'r cyd-destun yn y sgwrs yr ydym ni wedi'i chael, er enghraifft, ynghylch y strategaeth fanwerthu, a'r datganiad sefyllfa y gwnaethom ni ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf. Rwy'n disgwyl gallu cael y strategaeth fanwerthu lawn pryd yr ydym ni wedi gallu gweithio gydag undebau llafur a chyflogwyr i fod yn barod, cyn diwedd mis Mai gobeithio, i'w chyhoeddi. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda'r economi ymwelwyr, ar ôl symud o 'Gadewch i Ni Lunio'r Dyfodol', y cynllun adfer drwy COVID, i fod eisiau mynd yn ôl at y strategaeth tymor hwy i roi croeso i bobl i Gymru pan fyddwn ni'n manteisio'n briodol ar gyfleoedd economaidd mewn ffordd sy'n gynaliadwy i gymunedau a'n heffaith amgylcheddol. 

O ran canol trefi, mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn arwain y gwaith hwnnw. Rydym ni wedi cynnal dull 'canol tref yn gyntaf', nid yn unig yn yr economi, ond ar draws amrywiaeth o feysydd eraill hefyd. Ac mae'n siŵr y byddwch chi'n edrych ymlaen at glywed mwy gan y Dirprwy Weinidog am grŵp cyflawni canol y dref, sydd yn canolbwyntio ar atal datblygiadau ar gyrion trefi ac ailddefnyddio, gan ystyried yn benodol ddatblygiadau canol trefi mewn clystyrau a choridorau a sut y gall ailddatblygu canol trefi a chymdogaethau wir sicrhau bod gennym ni strydoedd mawr a chanol trefi bywiog.

Ac ar eich dau bwynt olaf—a byddaf i mor fyr ag y gallaf i, Dirprwy Lywydd—prifddinas-ranbarth Caerdydd, yr wyf i wedi cael, fel y mae fy swyddogion yn wir, amrywiaeth o sgyrsiau gyda nhw am eu huchelgeisiau, ac rwy'n credu bod y ffordd yr adroddwyd arni wedi'i chamgyfleu efallai. Rwy'n credu bod prifddinas-ranbarth Caerdydd o ddifrif ynghylch dweud bod degau o filoedd o raddedigion yn cael eu cynhyrchu bob blwyddyn o brifysgolion yn y brifddinas-ranbarth. Ar hyn o bryd, mae cyfraddau cyflog graddedigion yn is. Ein huchelgais yw denu cyflogwyr graddedigion i'r brifddinas-ranbarth i godi cyfraddau cyflog a chodi buddsoddiad yn y maes hwn. Mae gan y bobl hynny, o le bynnag y maen nhw wedi dod o'r blaen, brofiad gwirioneddol o fod wedi byw ac astudio yng Nghymru am gyfnod. Ac fel y dywedais i yn fy natganiad, rwy'n awyddus i bobl sy'n graddio o brifysgol yng Nghymru weld eu stori'n parhau yng Nghymru, nid yn unig yn eu swydd gyntaf ond yn wir yn eu dyfodol tymor hwy. A phwy a ŵyr, gallen nhw fod yn Luke Fletchers y dyfodol, yn edrych ymlaen at briodi yng Nghymru yn y dyfodol agos. 

Ac yn olaf, o ran ynni adnewyddadwy, rwyf i bob amser wedi bod yn glir iawn ynglŷn â nid yn unig y potensial i ddatgarboneiddio'r ffordd yr ydym ni'n cynhyrchu ac yn defnyddio pŵer ond y cyfle economaidd sylweddol sy'n dod ochr yn ochr ag ef, ac mae hynny'n sicr yn rhan o'r gwaith yr wyf i eisoes yn ei wneud gyda'r ddau Weinidog newid hinsawdd, ac edrychaf ymlaen at ddarparu mwy o'r wybodaeth ddiweddaraf i fy nghyd-Aelodau yn y dyfodol agos. 

15:00

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog, am eich datganiad. Does dim amheuaeth bod y ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn her i'r economi, felly mae'n bwysig nawr ein bod ni'n edrych at y dyfodol er mwyn cryfhau'r economi a gobeithio diogelu yn erbyn y dyfodol y gorau rydyn ni'n gallu. Mae yna bethau i'w croesawu, wrth gwrs. Fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, mae'n braf clywed bod gwaith yn digwydd ar yrrwyr HGV, er enghraifft. A hefyd dwi am ymuno â'r Gweinidog wrth alw ar y Canghellor i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw. Mae'n rhywbeth sy'n fy mhryderu i siẁd gymaint, a dwi wedi sôn yn y Siambr yn barod am fy mhryderon.

Os caf i ddechrau ar swyddogaeth cwmnïau cydweithredol, cafodd Cymru ei tharo'n wael gan y pandemig oherwydd ei thlodi incwm cymharol o'i chymharu â gwledydd eraill y DU. Gwyddom ni yr effeithiwyd fwyaf ar y cymunedau tlotaf, gyda'r rheini mewn cyflogaeth â chyflog isel ac ansicr y mwyaf tebygol o gael eu rhoi ar ffyrlo neu o golli eu swyddi. Wrth i ni geisio gwella o ddifrod economaidd y pandemig, dylem ni fod yn edrych o ddifrif ar ailadeiladu'r economi mewn ffordd ystyrlon er mwyn sicrhau diogelwch, ffyniant a thegwch hirdymor i aelwydydd a gweithwyr. Rwy'n credu, ac yr wyf i'n gwybod bod llawer o Aelodau yn y Siambr hon yn credu hefyd, fod yn rhaid i gwmnïau cydweithredol chwarae rhan ganolog yn hyn, ar flaen ein hadferiad ar ôl y pandemig. Felly, gofynnaf i i'r Gweinidog sut y mae'n rhagweld rhan mentrau cydweithredol yn y genhadaeth ailadeiladu hon i greu economi fwy ffyniannus a chadarn. Mae cwmnïau cydweithredol bron ddwywaith yn fwy tebygol o oroesi eu pum mlynedd cyntaf, o'u cymharu â mathau eraill o fusnesau. Mae'n hysbys hefyd eu bod yn dod â chynnydd mewn cynhyrchiant, hawliau gweithwyr, diogelwch swyddi a ffigurau cyflogaeth cyffredinol. Arbedodd cyfraith Marcora yr Eidal, sy'n hwyluso prynu'r cwmni gan weithwyr, fwy na 13,000 o swyddi rhwng 2007 a 2013, yn ystod y chwalfa ariannol. 

Wrth edrych ar astudiaeth achos o fy rhanbarth fy hun, cafodd BIC Innovation Ltd, cwmni ymgynghori sydd â swyddfeydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ei gefnogi gan Ganolfan Cydweithredol Cymru i ailstrwythuro ar gyfer perchnogaeth y gweithwyr. Ers dod yn eiddo i weithiwr, mae'r cwmni wedi cynyddu ei weithlu bedair gwaith yn ystod y cyfnod o dair blynedd. Mae cyfarwyddwr sefydlu BIC Innovation Ltd yn credu bod y busnes, o fod yn eiddo i weithwyr, wedi denu talent newydd gyda safbwyntiau amrywiol sy'n darparu syniadau gwahanol, wedi darparu gwell gwasanaethau i gleientiaid a gwerth ychwanegol i'r brand. Byddai darparu mwy o gefnogaeth i fwy o fentrau cydweithredol yn amlwg yn caniatáu i ni wneud cynnydd, nid yn unig o ran ffigurau cyflogaeth, ond mewn gwaith teg ac ystyrlon, ac yn caniatáu i ni ddatblygu cyfoeth cymunedol fel rhan o'n hadferiad. 

Ym mis Mehefin 2021, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru, ac yr wyf i'n llwyr gefnogi'r amcan hwn. Ond mae pwynt yr hoffwn i ei godi gyda'r Gweinidog. Mewn sesiwn graffu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gyda Banc Datblygu Cymru, roedd ansicrwydd ynghylch pa gyllid ychwanegol fyddai ar gael i'r banc i chwilio am fwy o achosion o weithwyr yn prynu cwmnïau. Os nad yw'r arian ychwanegol hwnnw ar gael, a yw'r Gweinidog yn ffyddiog y bydd yn cyrraedd ei nod, neu yn ei farn ef, a oes angen arian ychwanegol?

O ran amrywiaeth a thegwch, mae'n cael ei dderbyn yn gyffredinol nawr, wrth i ni geisio cael pobl yn ôl i gyflogaeth yn dilyn cyfyngiadau, colli swyddi a ffyrlo, y bydd pobl ifanc, menywod, pobl anabl a chymunedau lleiafrifoedd ethnig yn wynebu anawsterau penodol wrth geisio ailymuno â'r farchnad lafur, neu wrth fynd i mewn am y tro cyntaf. O fewn y grwpiau hyn, bydd effaith tlodi, incwm isel aelwydydd a lefelau is o addysg, yn ogystal ag anfanteision eraill, yn creu heriau eraill i'r unigolion hyn.

Mae'r effaith economaidd anghymesur y mae'r pandemig wedi'i chael ar y cymunedau hyn yn dangos yn glir nad yw'r polisi presennol yn ddigon i greu economi gyfartal a ffrwythlon i bawb yng Nghymru. Felly, wrth i ni ystyried ailstrwythuro'r economi i'w gwneud yn fwy cyfartal, tybed sut y mae'r Gweinidog, fel rhan o'r genhadaeth hon, yn bwriadu ymdrin â'r materion strwythurol sydd wrth wraidd ein heconomi sydd wedi caniatáu i'r grwpiau hyn fod yn fwy agored i ddiweithdra a gwahaniaethu economaidd, ac, wrth symud ymlaen, sut y gallwn ni sicrhau bod ein heconomi'n decach.

Yn olaf, o ran economi gylchol werdd, mae'r Gweinidog wedi nodi y dylai un o ganlyniadau eraill y genhadaeth hon fod yn economi wyrddach a mwy cylchol. Gwyddom ni fod y swyddi sy'n gysylltiedig â'r diwydiannau gwyrdd, gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg hyn yn aml yn cael eu rheoli gan ddynion gwyn nad ydyn nhw o ddosbarth gweithiol. Beth arall a gaiff ei wneud i sicrhau nad yw'r bwlch demograffig yn y math hwn o gyflogaeth yn gwaethygu wrth i ni ailstrwythuro ein heconomi i'w gwneud yn wyrddach? Sut y gallwn ni sicrhau nad yw menywod, cymunedau lleiafrifoedd ethnig, y rheini o gefndiroedd dosbarth gweithiol a grwpiau difreintiedig eraill yn cael eu hepgor o'r chwyldro gwyrdd hwn yng Nghymru?

Ac yn unol â fy thema ar degwch a gwelliannau mewn cyflogaeth, wrth i ni bwyso ar y sector gwyrdd i dyfu, unwaith eto, rwy'n gofyn a fydd y Llywodraeth yn ystyried dilyn arweiniad Llywodraeth yr Alban wrth sefydlu comisiwn pontio teg i oruchwylio'r newidiadau yn ein heconomi i sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl. Diolch.

15:05

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Gan ddechrau gyda'ch pwyntiau am yr economi gydweithredol, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, gan fy mod i'n Aelod Llafur a Chydweithredol o'r Senedd, mae'n rhywbeth y mae gennyf i ddiddordeb arbennig ynddo. Wrth gwrs, mae safbwyntiau ar draws y Siambr. Cofiaf ddadl Huw Irranca-Davies ar y posibilrwydd o gael cyfraith Marcora Cymru, a'r gwaith yr wyf i'n ei wneud gydag ef a Chanolfan Cydweithredol Cymru i ystyried yr hyn sy'n bosibl.

Nid yw rhai rhannau o gyfraith Marcora yn yr Eidal yn bosibl oherwydd nad oes gennym ni'r holl bwerau o fewn hynny. Ond, yn hytrach na dweud, 'Dyma'r holl bethau na allaf i eu gwneud', yr hyn a ddywedais i yn y sgwrs honno gyda Huw Irranca-Davies a Chanolfan Cydweithredol Cymru yw fy mod i eisiau ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud, i ddeall sut y bydd hynny'n ein helpu ni i gyrraedd ein nod, nid yn unig i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn ystod tymor y Senedd hon, ond beth arall y gallwn ni ei wneud i roi rhan gryfach yn ein dyfodol i'r economi gydweithredol. Gan fy mod yn cydnabod bod nifer o bethau cadarnhaol sylweddol. A gan gyfeirio at gwestiynau'r Ceidwadwyr yn gynharach, mewn gwirionedd, os ydym ni eisiau cynyddu a gwella cadernid yr economi sylfaenol, mewn gwirionedd, mae gan fentrau cydweithredol ran fawr i'w chwarae, yn ogystal â bod yn sefydliadau sy'n gallu gweithredu mewn busnesau canolig a mawr ledled y wlad hefyd. Felly, rwy'n hoff iawn o'r sector cydweithredol a chydfuddiannol.

Clywais i'r hyn yr oedd gennych chi i'w ddweud am y banc datblygu, ac a fyddai angen mwy o arian. Mae'n rhan o sgwrs barhaus yr ydym ni wedi'i chael gyda'r banc datblygu, a'r amcanion yr wyf i wedi'u gosod ar eu cyfer am weddill y tymor hwn. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y ffordd y mae'r banc datblygu wedi mynd ati i fod yn greadigol wrth ymateb i rai o'r heriau wrth i ni ddod allan o'r argyfwng wedi creu argraff fawr arnaf i, ac rwy'n edrych ymlaen at eu gweld yn parhau i fuddsoddi. Mae ganddyn nhw enw da am ddarparu nid yn unig gyllid, ond cyngor ochr yn ochr â busnesau hefyd. Mae nifer o feysydd penodol lle maen nhw eisoes yn gweithio. Mae ganddyn nhw gronfa olyniaeth rheoli gwerth £25 miliwn, sy'n ymwneud â rheolwyr yn prynu cwmniau. Mae ganddyn nhw hefyd fynediad i'r gronfa fuddsoddi hyblyg ar gyfer gweithwyr yn prynu cwmniau mwy.

Ond, mewn gwirionedd, bydd prif ran hyn yn deillio o'r cyngor pwrpasol y gall pobl ei gael gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, er enghraifft. Fel y nodais i yn fy natganiad, yr wyf i wedi cynyddu £0.5 miliwn arall yn ddiweddar i helpu Canolfan Cydweithredol Cymru. Rydym ni hefyd wedi gallu, mewn prosiect tymor hwy, cael arian cyfatebol cronfa ddatblygu ranbarthol Ewrop gwerth £11 miliwn ar gyfer prosiect y mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi'i gynnal.

Wrth i ni symud ymlaen, yr her yw, ar ôl cyllid yr UE, fod y cyllid hwnnw o dan fwy byth o bwysau nag o'r blaen, a phan wnes i sôn yn fy natganiad ac mewn datganiadau blaenorol am y pwysau sydd ar y cyllidebau, mae hynny'n golygu, os ydw i'n dewis parhau i ariannu'r maes hwnnw—ac rwy'n disgwyl y bydd gennyf i rywbeth i'w ddweud am ein gwaith ni gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru ar gyfer y dyfodol—mae rhannau eraill o'r hyn y mae adran yr economi wedi gallu'i wneud yn y gorffennol na fyddwn ni'n gallu ei wneud ar yr un raddfa a lefel, ond rwy'n credu bod hyn yn rhan o'r ateb i ymdrin â rhai o'r heriau sgiliau y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn ddiweddarach.

Ond yr ateb gorau, wrth gwrs, yw pwl o synnwyr cyffredin a chyflawni addewidion maniffesto clir iawn ar Gymru a gweddill y DU heb golli ceiniog o gronfeydd sy'n cymryd lle cyllid yr UE. Fel y mae ar hyn o bryd, mae'r adolygiad cynhwysfawr o wariant a'r gyllideb yn nodi y bydd pob rhan o'r DU a oedd yn manteisio ar gronfeydd yr UE o'r blaen ar ei cholled i raddau helaeth. Wedi dweud hynny, rwy'n obeithiol, er nad yn sicr, y bydd yr adran ar gyfer codi'r gwastad yn dod i safbwynt gwahanol ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch trafod a gwneud penderfyniadau am y cronfeydd hynny, wrth barhau i gyflwyno'r achos dros dalu'r swm llawn o arian.

Ac mae hynny, rwy'n credu, yn dod yn ôl at eich pwyntiau olaf. Rwy'n sylweddoli bod gan yr Alban gomisiwn pontio teg. Nid wyf i'n credu y bydd comisiwn ynddo'i hun o reidrwydd yn ymdrin â'r holl faterion fel y byddem yn dymuno; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â'r hyn yr ydym ni'n dewis ei wneud. Ac o safbwynt polisi, yr wyf fi a'r Gweinidogion newid hinsawdd yn glir iawn, wrth ddymuno gweld newid i economi sero net, fod cyfleoedd gwirioneddol, ond rhaid cael pontio teg i bobl sydd mewn gwaith nawr. Nid ydym ni eisiau taflu grŵp o bobl i'r naill ochr ac anwybyddu'r sgiliau a'r profiad sydd ganddyn nhw wrth i ni geisio creu diwydiannau newydd. Mae hynny'n arbennig o bwysig o gofio bod gennym ni brinder llafur a sgiliau, felly bydd angen i ni ddefnyddio pobl sydd eisoes â sgiliau ac yn sicr eisiau dyfodol economaidd hefyd.

Fodd bynnag, dyma pam, yn y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau y gwnaethom ni ei gyhoeddi yn ddiweddar, yr oeddem ni'n glir iawn mai ein nod yw rhoi mwy o'n cefnogaeth i bobl sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur. Felly, nid yw'n golygu nad ydym ni'n mynd i gyrraedd ein targed prentisiaeth. Nid yw'n golygu nad ydym ni'n mynd i barhau i fuddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau a phobl sy'n agos at y farchnad lafur lle gallwn ni wneud gwahaniaeth. Ond, gan fod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn fwy gweithgar mewn rhywfaint o'r maes hwnnw, rydym ni'n ceisio sicrhau bod ein hymyriadau'n cefnogi pobl sydd bellaf i ffwrdd, ac yn aml pobl ag anabledd, yn aml pobl sy'n edrych fel fi, ac yn aml menywod sydd eisiau naill ai ddychwelyd i'r gweithle neu fynd i mewn i'r gweithle am y tro cyntaf, a'r ffaith, er ein bod ni wedi gwneud cynnydd gwirioneddol o ran ymdrin â'n cyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghymru, rydym yn dal ychydig y tu ôl i gyfartaledd y DU. Felly, dyna lle'r ydym yn ceisio canolbwyntio ein sylw a'n hymdrechion, a gobeithio y bydd hynny'n helpu nid yn unig rhan o'r pontio teg i bobl sydd eisoes mewn gwaith, ond i gael pobl i mewn i waith nad ydyn nhw ar hyn o bryd.

15:10

Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog hefyd am ei ddatganiad ac yr wyf i wedi bod yn mwynhau'r drafodaeth sy'n digwydd yma, ond gwelaf i fod y drafodaeth yn ymwneud â'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, ac nid oes neb wedi gofyn, 'Pam mae'r Llywodraeth yn gwneud hyn?' Tybed a yw'r Llywodraeth wedi gofyn y cwestiwn hwnnw ei hun, oherwydd yr wyf i wedi edrych drwy gydol y datganiadau yr ydych wedi'u gwneud drwy'r rhaglen lywodraethu, ac ni allaf i weld unrhyw ddatganiad o fwriad. Beth yw pwynt neu ddiben polisi, er enghraifft?

Mae'n syndod nad oes sôn am dlodi yn eich polisi ar hyn o bryd. Nawr, pe bai lleihau tlodi yn sbardun i bolisi, yna byddech chi'n gwneud penderfyniadau gwahanol na phe baech, er enghraifft yn—. Byddai pwyslais ar dwf neu gynnyrch domestig gros yn llywio penderfyniadau gwahanol iawn eto. Ac oni bai ein bod ni'n deall beth yw diben polisi, mae'n anodd iawn i ni eich dwyn i gyfrif, Gweinidog, ac, ar yr un pryd, ni welaf unrhyw amcanion na thargedau polisi. Felly, yr ydym ni wedi gweld, ac mae cytundeb wedi bod ar draws y Siambr ein bod ni eisiau gweld Cymru decach, Cymru wyrddach ac ati, ond nid oes syniad yn unman ynghylch yr hyn y mae hynny'n ei olygu'n ymarferol mewn gwirionedd. Beth yw'r amcan yr ydych chi'n ceisio'i gyflawni? Sut y byddwch chi'n gwybod a ydych chi wedi cyflawni Cymru decach? Sut y byddwn ni'n eich dwyn i gyfrif am wneud hynny? Nid oes amserlen. Nid oes terfynau amser. Nid oes targedau yn y polisi. Ac felly, yr wyf i'n cael fy hun, fel aelod o Blaid Lafur Cymru ac fel Aelod o'r lle hwn, yn methu deall sut, yn ystod y pedair blynedd, y gallwn ni eich dwyn chi i gyfrif am yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud heddiw, yr hyn a ddywedoch chi ym mis Hydref, yr hyn a gafodd ei gyhoeddi gan y Llywodraeth ym mis Rhagfyr, a sut, erbyn diwedd y cyfnod hwn o bum mlynedd, y byddwn ni'n gwybod, neu y byddwch chi'n gwybod, a ydych chi wedi cyflawni unrhyw un o'r uchelgeisiau hyn ai peidio.

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Mae'n gyson o ran ei bwynt ei fod yn credu y dylai fod mwy o dargedau ar draws amrywiaeth o feysydd. Yn fy marn i, wrth gwrs, mae tlodi'n rhan sylweddol o'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud a'r frwydr yn erbyn tlodi. Ac mewn gwirionedd, pe na bai gennym ni ddiddordeb yn hynny, ni fyddem ni'n ceisio cael ymyriadau, er enghraifft, yn y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, ar gyfer y bobl hynny sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur. Ni fyddai gennym ni'r agweddau sylweddol ar y warant i bobl ifanc sy'n ceisio cael pobl â sgiliau is, sy'n debygol o fod yn llai cefnog, pobl iau nad ydyn nhw eto wedi mynd i mewn i fyd gwaith, i sicrhau bod ganddyn nhw brofiad o fyd gwaith a chefnogaeth gadarnhaol. A dyna ran o'r pwynt ynglŷn â beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud, pam yr ydym ni'n gwneud hyn.

Wel, ar wahân i unrhyw beth arall, nid yw'n ymwneud â'r gwelliant i'r unigolion a'r cymunedau yn unig, ac nid yw'n ymwneud â sut yr ydym ni'n teimlo fel gwlad yn unig; mewn gwirionedd, heb gefnogaeth ac ymyrraeth gan y Llywodraeth, ni fyddai amrywiaeth o bethau'n digwydd. Felly, ni fyddai Busnes Cymru wedi cael ei greu ar ei ben ei hun gan y sector preifat. Mae amrywiaeth o feysydd yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw'n cefnogi'r economi gydweithredol, pe na bai'r Llywodraeth yn weithgar yn y maes hwnnw, gallwn ni fod yn ffyddiog iawn na fyddai'r pethau hynny'n digwydd. Ac mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i ddweud yw bod hyn yn ymwneud yn rhannol â symud tuag at ein cerrig milltir cenedlaethol, y cerrig milltir cenedlaethol a gafodd eu nodi gennym ni, y ffordd yr ydym ni eisiau gallu gwneud busnes, a hefyd, rhai o'r metrigau y byddwn ni'n eu defnyddio a gwyddom ni y byddwn ni'n cyfeirio atyn nhw. Felly, er enghraifft, a fyddwn ni wedi gwneud gwahaniaeth o ran lefelau gweithgarwch economaidd? Ble fyddwn ni o ran cyflogaeth? Ble fyddwn ni o ran cyflogau cyfartalog? Ac yn hollbwysig, y gwahaniaeth yng ngwahanol rannau o Gymru, sef sgwrs yr wyf i wedi'i chael yn rheolaidd gyda'r Aelod a chyd-Aelodau o etholaethau'r Cymoedd ynghylch pa wahaniaeth yr ydym ni'n ei wneud. Oherwydd gallem ni wneud gwahaniaeth i'r effaith genedlaethol ledled y wlad a gwneud dim am anghydraddoldeb economaidd, ac nid dyna safbwynt y Llywodraeth hon ac yn sicr nid dyna fy safbwynt i. Rwyf i'n edrych ymlaen nid yn unig at sgwrs gyda'r Aelod, ond at allu nodi'n fanylach, wrth i ni symud drwy'r tymor hwn, y cynnydd rwy'n credu y byddwn ni'n ei wneud ac yna'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, yn ei gymuned ef ac eraill ledled Cymru.

15:15
4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Safonau ac Uchelgeisiau Uchel i Bawb

Yr eitem nesaf y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar safonau ac uchelgeisiau uchel i bawb. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.
 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae taclo effaith tlodi ar gyrhaeddiad wrth wraidd cenhadaeth ein cenedl ym maes addysg. Dyna'r unig ffordd y gallwn ni lwyddo i gyrraedd y nod o sicrhau safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb. Wrth wireddu'r weledigaeth hon, dwi wedi ymrwymo i osgoi defnyddio dulliau sy'n canolbwyntio ar ddiffygion; yn hytrach fe fyddwn ni'n canolbwyntio ar gamau cadarnhaol i helpu i wireddu potensial pob person ifanc mewn ffordd sy’n meithrin ac yn adlewyrchu eu dyheadau.

Ers i mi ddod yn Weinidog y Gymraeg ac Addysg, dwi hefyd wedi ei gwneud hi'n glir bod yn rhaid ystyried pob polisi addysg o safbwynt a ydyn nhw'n helpu i daclo effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Bydd angen dull system gyfan er mwyn llwyddo; dull sy'n cefnogi plant a phobl ifanc drwy bob cyfnod o'u haddysg: cyn ysgol, oedran ysgol ac ôl 16. Heddiw, fe fyddaf i'n amlinellu rhai o'r camau y byddwn ni'n eu cymryd yn y maes hwn, camau y byddwn ni'n adeiladu arnyn nhw yn y misoedd nesaf.

Mae tystiolaeth ymchwil ac arolygu yn dangos taw ansawdd y dysgu a'r addysgu yw'r dylanwad unigol pwysicaf ar lwyddiant dysgwyr yn ein system addysg. Mae hyn yn arbennig o wir am ein dysgwyr difreintiedig. Dwi am sicrhau ein bod ni'n dal i wella ansawdd y dysgu a'r addysgu, gan wneud hynny'n sail i gyflwyno ein cwricwlwm newydd.

Fe fyddwn ni'n gweithio, Dirprwy Lywydd, gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a'n sefydliadau addysg gychwynnol i athrawon ar gyfer sicrhau bod priodoleddau anfantais addysgol, ac effaith hynny ar gyflawniad addysgol a sut y gellir goresgyn hynny, yn elfen amlwg o'n rhaglenni addysg gychwynnol ni ar gyfer athrawon. Fe fyddwn ni hefyd yn cynnwys hon fel nodwedd allweddol o hyfforddiant sefydlu a darpariaeth ddysgu proffesiynol.

Mae ein staff cymorth ni â rhan hollbwysig yn ein hysgolion, a llawer ohonyn nhw'n cael eu cyflogi eisoes yn benodol ar gyfer cefnogi athrawon wrth ymdrin ag effaith tlodi ar gyflawniad disgyblion. Arfer da yw hyn. I gryfhau rhagor ar allu staff cymorth addysgu i helpu i fynd i'r afael â'r flaenoriaeth hon, fe fyddwn ni nid yn unig yn sicrhau eu bod nhw'n gallu manteisio ar raglenni dysgu proffesiynol cymwys, ond fe fyddwn ni'n sicrhau bod arweinwyr ysgolion yn gallu cael gafael ar ganllawiau clir ynglŷn â'r ffordd fwyaf priodol o ddefnyddio staff cymorth i helpu i oresgyn anghydraddoldebau addysgol.

Fe wyddom ni pa mor hanfodol yw'r grant datblygu disgyblion i'n hysgolion ni. Mae tystiolaeth yn dangos bod y defnydd a wneir ohono gan ysgolion wedi cynyddu dros amser ers iddo gael ei gyflwyno. Er hynny, fe wyddom ni y gellir gwneud mwy eto i dargedu'r cyllid hwn yn well. Er mai ysgolion ddylai benderfynu ar y defnydd a wneir o'r cyllid hwn yn y pen draw, mae angen i'r penderfyniadau hyn fod â dylanwadu mwy strategol arnyn nhw, wedi'u seilio yn well ar dystiolaeth ac yn cael eu monitro yn drylwyr o ran eu heffaith. Felly, fe fyddwn ni'n ei gwneud hi'n ofynnol i ysgolion weithio yn agos gyda ni, gan rannu eu cynlluniau a sut y maen nhw'n bwriadu monitro effaith, a ategir gan ganllawiau pellach o ran defnydd o'r grant ar sail tystiolaeth.

Fe wyddom ni o dystiolaeth ymchwil ac arolygu mai ysgolion sy'n cyplysu dysgu ac addysgu mewn ffordd effeithiol gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â'r gymuned yw'r rhai mwyaf effeithiol o ran goresgyn effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Felly, fe fyddwn ni'n awyddus i weld ysgolion yn gweithredu fel ysgolion bro, gan ymestyn allan at rieni a gofalwyr ac ymgysylltu â'r gymuned gyfan.

Dros y misoedd nesaf, fe fyddwn ni'n buddsoddi £3.84 miliwn i gynyddu nifer y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a gyflogir gan ysgolion, gan ganolbwyntio rhan o'u gwaith ar wella cyfraddau presenoldeb disgyblion. Fe fyddwn ni'n darparu cyllid hefyd i dreialu penodi rheolwyr ysgolion bro, ac yn rhoi £20 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf i alluogi ysgolion i ddatblygu ymhellach yn asedau cymunedol, gan wneud ysgol yn fwy hygyrch ac agored i'w chymuned leol. Fe fyddwn ni'n gweithio hefyd gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd i geisio ymestyn darpariaeth cofleidiol, aml-asiantaeth i ddysgwyr yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

Dirprwy Lywydd, i rai o'n pobl ifanc, maen nhw'n dyheu am astudio'r cyrsiau gorau mewn prifysgolion blaenllaw. Mae rhwydwaith Seren yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan gefnogi rhai o'r bobl ifanc fwyaf disglair yng Nghymru i lwyddo yn y brifysgol. Yng ngham nesaf bywyd Seren, fe fyddwn ni'n canolbwyntio ar gynyddu cyfranogiad dysgwyr o gartrefi incwm isel. Nid prifysgol yw pinacl dyhead pawb, ond ni ddylai eich gallu chi i ddringo at y pinacl hwnnw, os mai hynny rydych chi'n ei ddewis, fod yn ddibynnol ar eich man cychwyn chi. Ac ochr yn ochr â hyn, rwy'n ceisio ei gwneud hi'n haws hefyd i gael cyngor gyrfaoedd annibynnol i bobl ifanc o gartrefi incwm isel ym mlynyddoedd olaf addysg gynradd ac yn 13 ac 16 oed, fel bod y wybodaeth orau bosibl ganddyn nhw ynglŷn â'r amrywiaeth o lwybrau a all fod o'u blaenau nhw.

Ac mae arweinyddiaeth yn hanfodol yn hyn i gyd: y weledigaeth i sicrhau bod y dysgu a'r addysgu gorau ar waith, yr argyhoeddiad y dylai ysgolion weithredu fel asedau i'r cymunedau ynghyd â'r dycnwch i godi dyheadau a chefnogi dysgwyr a'u teuluoedd. Fe all arweinwyr da wneud gwahaniaeth enfawr. Fe fyddwn ni'n gofyn i'r academi arweinyddiaeth ganolbwyntio mwy ar gefnogi ein dysgwyr mwy difreintiedig i ffynnu, a gweithio gyda gwasanaethau gwella ysgolion, fe fyddwn ni'n rhoi'r dasg iddyn nhw o gefnogi arweinwyr ysgolion i gyrraedd safonau a chodi dyheadau pawb. Fe fyddwn ni hefyd yn nodi carfan o benaethiaid ac uwch arweinwyr sydd wedi cael llwyddiant parhaus o ran goresgyn effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, ac fe fyddwn ni'n gofyn iddyn nhw weithio gyda ni i gefnogi ysgolion ac arweinwyr eraill mewn dull cydweithrediadol.

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, fe fydd hi'n hanfodol ein bod ni'n monitro cynnydd yn rheolaidd ar bob lefel o'r system. Fe fyddwn ni'n defnyddio ystod eang o ddangosyddion i fesur cynnydd, wrth barhau i roi pwyslais mawr ar gymwysterau. Fe fydd gan Estyn waith allweddol o ran cefnogi a monitro ein cynlluniau ni, ac fe fydd hynny'n cynnwys cynhyrchu canllawiau sy'n llywio eu gweithgarwch arolygu nhw yn y maes hwn, ac adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wneir gan ysgolion, colegau a darparwyr eraill, gan ddarparu adborth pellach ar lefel system drwy adolygiadau thematig, gan ganolbwyntio mwy ar y maes hwn wrth arolygu awdurdodau lleol a'r gwaith ymgysylltu y maen nhw'n ei wneud gyda gwasanaethau gwella ysgolion, a rhoi cymorth pellach i ysgolion.

Heddiw, Dirprwy Lywydd, rwyf i wedi disgrifio rhai o'r camau y byddwn ni'n eu cymryd yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac rwy'n edrych ymlaen at adrodd am ein cynnydd ni ar y daith hon gyda'r Senedd. Mae pob plentyn unigol mewn ysgol yng Nghymru yn haeddu'r gorau—y gorau o ran safonau a'r gorau o ran dyheadau. Ac nid dewis rhwng tegwch a rhagoriaeth yn ein hysgolion ni yw ystyr hynny. Dirprwy Lywydd, arwydd o gymdeithas iach yw'r gallu i gyflawni'r ddau. Rydym ni'n awyddus i ysgolion gyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb, ac fe fydd y camau yr wyf wedi'u hamlinellu heddiw yn ein rhoi ni ar y trywydd iawn i wneud hynny.

15:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rydym ni'n croesawu llawer o'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud, ac yn gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Serch hynny, yr hyn yr wyf i'n pryderu yn ei gylch yw amseriad a chynnwys rhywfaint o'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud.

Rwyf i am ddechrau gyda'r ffordd yr ydych chi wedi amlinellu ysgolion cymunedol, ein hysgolion ni ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Hynny yw, mae'r gwaith hwnnw wedi bod ar y gweill ers 2014—bron i ddegawd yn ôl erbyn hyn—a dim ond nawr yr ydym ni'n sôn am wneud yn siŵr eu bod nhw'n ysgolion gwirioneddol gymunedol. Mae pob un ohonom ni'n dymuno iddyn nhw fod felly, ond mae hi'n amlwg o'r ysgolion cymunedol, yr ysgolion unfed ganrif ar hugain hyn, wrth i chi fynd o amgylch ein hysgolion ni, nad dyna sy'n digwydd; maen nhw'n cau pan fydd yr ysgol yn cau. Felly, mae hynny'n bendant yn rhywbeth y mae angen i ni ymchwilio iddo. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y pethau y gwnaethoch chi eu cyhoeddi heddiw yn gwneud gwahaniaeth yn hyn o beth, ac y bydd ysgolion yn cael eu defnyddio hyd eithaf eu gallu a gyda'r defnydd a ddylid ei wneud ohonyn nhw i'w gwneud nhw'n ysgolion gwirioneddol gymunedol.

Yn eich datganiad hefyd—ac rwy'n cytuno yn llwyr â'r gosodiad—y dylanwad pwysicaf ar lwyddiant dysgwr o fewn y system addysg yw ansawdd y dysgu a'r addysgu—yn union, 100 y cant. Yr hyn sy'n fy mhoeni i yw bod angen mwy o gymorth ar athrawon, mae angen mwy o hyfforddiant arnyn nhw, ac mae angen mwy o athrawon arnom ni. Mae gennym ni brinder athrawon yn dod i'r amlwg nawr, ar wahân i'r rhaglen y gwnaethoch chi ei rhoi ar waith, na fydd hi, yn anffodus, yn parhau.

Fe gawsom ni sefyllfa lle'r oedd gennym ni grŵp arweinyddiaeth Chwarae Teg yn dod i mewn heddiw—menywod ifanc yn dod i mewn, â diddordeb mewn symud ymlaen yn y byd gwleidyddol. Roedden nhw'n grŵp gwych o fenywod, ond roedd hi'n ddiddorol iawn eu holi nhw ynglŷn â'u profiadau nhw o ran sut maen nhw'n gweld pethau ar hyn o bryd, sut roedd eu profiadau nhw o'r cyfnod clo yn effeithio ar eu dysgu, ar addysgu a phethau o'r fath. A'r hyn a ddaeth yn amlwg iawn i mi oedd eu pryder nhw, er eu bod nhw o'r farn fod athrawon yn gwneud gwaith ardderchog, fel y gwyddom ni eu bod nhw, am y diffyg cefnogaeth sydd yn bod o ran gwybod beth fydd cynnwys yr arholiad, pa fodiwlau y gallan nhw eu torri allan, ac yna roedd y merched eu hunain yn poeni am adolygu a'r hyn y dylen nhw ei adolygu. Ac er nad ydym ni'n hoffi'r term 'dal i fyny', roedden nhw'n sôn am y ffaith—roedden nhw'n dod o bob rhan o Gymru—fod ansawdd yr addysg o safon wael pan oedd hwnnw ar-lein yn y cyfnod clo, ac maen nhw'n canfod, hyd yn oed os oedd hwnnw'n dderbyniol, eu bod yn ailwneud yr hyn a wnaethon nhw yn ystod y cyfnod clo oherwydd roedd llawer o bobl heb fod ar-lein, er eu bod nhw wedi dweud eu bod nhw ar-lein, roedd y sgrin yn wag ac ni allai neb weld a oedden nhw yno, efallai nad oedden nhw hyd yn oed yn gwrando, felly roedd hi'n rhaid iddyn nhw ailadrodd yr holl beth i sicrhau bod pawb yn y dosbarth hwnnw wedi cael yr addysg y dylen nhw fod wedi'i gael. A'r hyn yr oedden nhw'n ei ddweud wrthyf i hefyd oedd mai'r bobl a oedd wedi colli allan fwyaf oedd y rhai o deuluoedd incwm isel, fel rheol, ac yn amlwg y bobl hynny â rhieni a oedd yn gweithio, fel na allen nhw gadw llygad ar eu plant a chefnogi eu plant yn y cartref yn ystod y cyfnod hwnnw. Ac roedd yr elfen aruthrol honno o ddal i fyny, er nad ydym ni'n hoffi defnyddio'r term hwnnw, yn wirioneddol; roedd yn wirioneddol iawn. Ac roedden nhw'n gweld honno'n straen enfawr arnyn nhw ac nid oedden nhw, mewn gwirionedd, yn cael y cymorth angenrheidiol o ran eu hiechyd meddwl.

Ac mae'r holl bethau hyn y gwnaethoch chi eu cyhoeddi heddiw yn wych, ond mae'n rhaid i ni fynd at hanfod yr hyn sy'n digwydd yma, o'r hyn sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth, a hynny yw gofyn a yw athrawon yn cael digon o gefnogaeth, ac a yw dysgwyr yn teimlo eu bod nhw eu hunain yn cael eu cefnogi. Ac i mi, heddiw, fe gefais i fy syfrdanu gan y ffaith nad oedd merched deallus iawn o bob cwr yn teimlo bod y gefnogaeth honno ar gael. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth y mae angen i ni ymchwilio iddo.

Hefyd, felly, yr anfantais addysgol ac effaith hynny ar gyflawniad addysgol. Ein canlyniadau PISA ni yw y gwaethaf; maent yn embaras i Gymru, yn fy marn i, ar yr un lefel â gwledydd y bloc Sofietaidd. A'r pandemig wedyn, sydd wedi gwaethygu'r bwlch cyrhaeddiad enfawr hwnnw rhwng y rhai y mae gwir angen i ni fod yn eu helpu.

Nid yw hyn i gyd yn creu darlun da iawn, ac er bod yr hyn y gwnaethoch chi ei gyhoeddi heddiw yn wych, rwyf i o'r farn bod llawer eto y mae angen i ni ymchwilio iddo. Ac yn ogystal â hynny, a yw pobl yn dal i gael y cymorth technegol sydd ei angen arnyn nhw, y cysylltedd sydd ei angen arnyn nhw, i deuluoedd incwm isel, y rhai a oedd yn dioddef fwyaf yn ystod y pandemig? Oherwydd mae llawer o bethau—fel rwyf i'n ymwybodol ohonyn nhw oherwydd mae fy mab i fy hunan yn yr ysgol uwchradd—ar-lein erbyn hyn; mae yna Google Classroom, mae yna Google Meet ar gyfer gwaith cartref ac adolygu. Mae angen meddwl am yr holl bethau hyn yn gyffredinol os ydym ni'n dymuno codi ein lefel ni o gyrhaeddiad mewn gwirionedd. Felly, meddwl ydw i tybed a oes gennych chi sylwadau i'w gwneud ar hynny i gyd, Gweinidog.

Rwy'n credu bod gen i—. Dyma ni: yn 2019 a'r llynedd, gosodwyd arholiadau traddodiadol, roedd y bwlch cyrhaeddiad ar y radd A* TGAU uchaf yn 5.3 pwynt rhwng y rhai a oedd yn cael prydau ysgol am ddim a'r rhai nad oedden nhw'n gymwys i'w cael nhw. Yna fe aeth y bwlch yn 11.5 y cant yn 2021. Nid yw hynny'n creu darlun da iawn, Gweinidog.

15:25

Iawn. Yna mae rhwydwaith Seren gennych chi hefyd, sy'n ardderchog; rwy'n credu bod honno'n ffordd wych o wneud pethau. 

I gloi, a fy nghwestiwn olaf i, Gweinidog: y cyngor gyrfaoedd annibynnol i bobl ifanc o deuluoedd incwm isel, yr ydych chi'n dymuno eu targedu, sut yn union ydych chi am wneud hynny, a pham at y garfan honno'n unig? Diolch i chi. 

15:30

Rwy'n diolch i Laura Jones am y croeso a roddodd hi i'r mentrau a gyhoeddwyd yn y datganiad heddiw. O ran ei phwynt agoriadol ynglŷn ag ysgolion cymunedol, mae hi'n gwybod y ceir amrywiaeth o brofiadau mewn ysgolion ledled Cymru ynglŷn ag i ba raddau y gallan nhw, yn eu hamgylchiadau eu hunain—eu cam nhw ar y daith, os hoffech chi. Mae'r cyfleusterau gan rai i allu gwneud hynny, efallai nad oes gan eraill, ond mae'r arferion ganddyn nhw sy'n golygu eu bod nhw â chyswllt dwfn â'u cymunedau lleol nhw.

Fe geir ymrwymiad gan y Llywodraeth yn y rhaglen lywodraethu i sicrhau ein bod ni'n annog ysgolion bro ledled Cymru, ac fe fydd fy nghyhoeddiad i heddiw yn cyfrannu at hynny. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â gwneud asedau ysgolion yn fwy hygyrch, ac fe geir buddsoddiad cyfalaf sylweddol heddiw i gefnogi hynny. Ond mae peth o hyn yn ymwneud â sut mae'r ysgol yn cysylltu â theuluoedd a theuluoedd dysgwyr. Rydym ni wedi gweld llawer o arferion da ledled Cymru o ran defnyddio'r grant datblygu disgyblion i ariannu swyddogion i ymgysylltu â theuluoedd. Yr hyn y bydd y gefnogaeth yr wyf i'n ei chyhoeddi heddiw yn ei ganiatáu yw ymestyn hynny, oherwydd, yn amlwg, mae ysgolion yn parhau i fod mewn sefyllfa heriol iawn sy'n ymateb i effeithiau cyfnodau hir o gyfyngiadau symud ac absenoldebau o'r ysgol. Fe fydd y buddsoddiad yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw yn cyfrannu at allu ysgolion i ymateb i hynny er mwyn cefnogi eu dysgwyr.

Mae'r profiad a ddisgrifiodd hi o siarad â'r menywod ifanc heddiw yn adleisio'r trafodaethau i raddau helaeth a gefais i gyda dysgwyr ym mhob rhan o Gymru o ran eu profiad nhw o'r ddwy flynedd ddiwethaf. O ran y pwynt penodol a wnaeth hi ynghylch cymorth ar gyfer arholiadau, mae hi'n gwybod, wrth gwrs, bod adnodd Lefel Nesa y gwnaethom ni ei ddarparu mewn ysgolion ar gael, ac rwyf i'n gobeithio ei bod hi wedi tynnu sylw'r menywod ifanc heddiw at hwnnw, oherwydd mae hwnnw'n cynnwys ystod eang o adnoddau adolygu ac yn ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth am yr addasiadau ar gyfer arholiadau, yr addasiadau i gynnwys arholiadau, yr hysbysiadau ymlaen llaw o ran cynnwys arholiadau—yr holl bethau hynny a fydd, gyda gobaith, yn cefnogi ein dysgwyr ni wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer arholiadau'r haf eleni.

Mae hi'n gwneud cyfres bwysig iawn o bwyntiau o ran llesiant disgyblion a'r ffordd orau o gefnogi ysgolion i gefnogi dysgwyr. Mae hi'n ymwybodol, wrth gwrs, i ba raddau yr ydym ni wedi ymestyn y dull ysgol gyfan o gyllidebu a chyllido dros y tair blynedd nesaf er mwyn helpu ysgolion i ymestyn eu darpariaeth ar gyfer cefnogi dysgwyr yn y maes hwn. Mae'r Sefydliad Polisi Addysg, fel y gŵyr hi, wedi nodi, rwy'n credu, i ba raddau y mae cyllid yng Nghymru wedi cael ei bwysoli yn benodol tuag at lawer o'n dysgwyr llai breintiedig ni yn y maes hwn, gan gynnwys o ran y pwynt pwysig a wnaeth hi ynglŷn â'r ddarpariaeth eang o gysylltedd ac offer digidol, yr wyf i o'r farn y caiff ei chydnabod yn gyffredinol yng Nghymru yn un dra datblygedig o'i chymharu â rhai rhannau eraill o'r DU, efallai.

Yn olaf, o ran y pwynt a wnaeth hi ynglŷn â chynnydd yn hanesyddol, y ffordd deg o ddisgrifio cynnydd yn hanesyddol, yn fy marn i, yw dweud, o ran cyrhaeddiad mewn ysgolion cynradd a chyfnod allweddol 3, fod y bwlch, yn sicr cyn y pandemig, wedi cau i raddau sylweddol iawn. Yn amlwg, ni ddylid bod â bwlch o gwbl, ond yr hyn sydd wedi digwydd yw bod y bwlch hwnnw wedi cau. Mae hynny wedi bod yn llai llwyddiannus yn achos TGAU. Mae'r ymyriadau yr wyf i'n eu rhoi gerbron heddiw, rhai ohonyn nhw yn seiliedig ar bethau a ddeallwyd gennym ni, a rhai ohonyn nhw yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o'r newydd, os hoffech chi, yn arbennig, rai o'r pethau y gwnaethom ni eu dysgu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac rwy'n gobeithio ac yn disgwyl y byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth sylweddol iawn yn hynny o beth hefyd. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog am eich datganiad heddiw. Yn debyg iawn i Laura Jones, dwi'n meddwl bod rhaid i ni gydnabod y trawma parhaus i'n plant a'n pobl ifanc ni. Dydy'r pandemig ddim drosodd. Rydyn ni'n gweld niferoedd uchel o athrawon a phlant a phobl ifanc ddim yn yr ysgolion ar y funud, bod y sefyllfa yn parhau felly, a'n bod ni ddim eto yn y cyfnod lle rydyn ni'n gallu edrych yn ôl ac ailadeiladu. Er bod hyn i'w groesawu heddiw, dwi'n meddwl bod yna lot fawr, fawr o waith i ni barhau i'w wneud i gefnogi ein hysgolion ni yn yr amgylchiadau eithriadol o anodd, ynghyd â dysgwyr o bob oed. 

Hefyd, mae'n rhaid i ni gydnabod, yn hanesyddol felly, bod hon wedi bod yn broblem ddirfawr cyn COVID, ac felly ein bod ni rŵan yn gweld bod yna gamau wedi mynd nôl o ran cyrhaeddiad a sicrhau'r dechrau cyfartal a theg i bawb. Efo cymaint o deuluoedd, fel rydyn ni'n ei wybod, efo'r argyfwng rydyn ni'n ei weld rŵan, efo pobl yn methu fforddio bwyd, trydan, ac ati, mae hynna i gyd yn mynd i gael effaith ar ein plant a'n pobl ifanc ni, a'r trawma maen nhw'n ei brofi adref, sy'n mynd i'w gwneud hi mor anodd iddyn nhw fod yn gwneud eu gwaith ysgol—yn medru ffeindio gofod diogel, cynnes, clyd, a'r sicrwydd o gartref, er mwyn medru gwneud y gwaith. Mae hyn i gyd yn rhan o becyn.

Dwi'n falch o'ch clywed chi'n canolbwyntio ar bwysigrwydd cymuned. Yn amlwg, community-focused schools yn Gymraeg ydy 'ysgolion bro'. Ond beth ydy 'bro', a sut ydych chi'n ei ddiffinio fo o ran model ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? Oherwydd, yn aml, rydyn ni'n gweld yr ysgolion gwych newydd yma allan o gymunedau, a mwy o ddysgwyr yn gorfod teithio iddyn nhw. Mae o'n bryder mawr gen i, ac mi rydyn ni wedi trafod yn y gorffennol, y ffaith bod yn rhaid i ddisgyblion deithio ar fws i gyrraedd yr ysgolion hyn, hyd yn oed ysgolion cynradd, gan deithio milltiroedd i'w cyrraedd nhw. Mae rhieni wedi siarad â mi ynglŷn â'r ffaith eu bod nhw'n gorfod teithio ar ddau neu dri bws i gyrraedd eu plentyn o'r ysgol os ydyn nhw'n sâl, neu i fynd i'r ysgol i noson rieni, ac ati.

Er bod yr adnoddau yma'n agored rŵan mewn rhai o'r ysgolion hyn, ac y bydd yna fwy o adnoddau ar gael, os nad ydy'n disgyblion mwyaf difreintiedig ni'n gallu defnyddio'r adnoddau hyn, yna onid ydym ni'n gwneud y bwlch hyd yn oed yn waeth? Felly, oes yna gynlluniau yn rhan o hyn hefyd i fuddsoddi mewn trafnidiaeth, er mwyn sicrhau bod pawb—? Oherwydd mae'n rhaid i ni fod yn realistig rŵan; dydy 'cymuned' ddim yn golygu eich bod chi'n gallu cerdded i'r ysgol yn y model sydd gennym ni o ran ysgolion rŵan. Mae cymuned yn gallu bod yn eang iawn, a dydy o ddim yn golygu 'bro' i nifer o bobl. Felly, sut mae pob disgybl yn mynd i gael y fantais o'r buddsoddiad hwn, fel ein bod ni ddim yn gweld yr anghysondeb hwnnw'n parhau?

Yn gyntaf oll, gan gydnabod yr angen i godi safonau addysg, mae hi'n amlwg hefyd fod angen adfer addysg ar ôl COVID, fel soniodd ein cyd-Aelod Laura Jones. Collwyd oriau lawer iawn o addysg eisoes, felly mae angen rhywfaint o adferiad cyn gwella safonau mewn gwirionedd. Fe wn i fod rhywfaint o fuddsoddiad wedi cael ei wneud, ond mae athrawon a rhieni wedi dweud wrthyf bod ysgolion wedi ei chael hi'n anodd gwario'r arian hwn yn yr amser a oedd ar gael iddyn nhw—nad oedd yr adnoddau na'r bobl ar gael mewn gwirionedd i'w helpu nhw i bontio'r bwlch hwnnw. Felly, fe hoffwn i ofyn i chi, Gweinidog, ynglŷn â gwariant ar adfer addysg, faint sydd wedi cael ei wario hyd yn hyn, sut cafodd yr arian ei wario yn benodol, a sut mae hyn wedi bod o gymorth gyda chyrhaeddiad? Fel y gwyddom ni, mae Cymru ar drothwy newid mawr yn y cwricwlwm hefyd, yn ogystal ag o ran diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol, a fydd yn golygu'r her fwyaf eto i agenda safonau ysgolion o ran maint yr uchelgeisiau ar gyfer newid. Sut mae'r Gweinidog yn rhagweld y bydd y cwricwlwm newydd yn gwella safonau, a hefyd, a yw'r Gweinidog o'r farn bod cyllidebau a gweithlu ysgolion ar waith ar gyfer ymateb i'r pwysau a achosir gan y diwygiadau hyn, ac, yn benodol, yn y ddwy iaith?

Mi wnaethoch chi sôn, Weinidog,

mae ein dysgwyr ni'n haeddu'r gorau, ac yn haeddu gallu cael gafael ar y gorau a'i ddefnyddio hefyd.

Rwy'n cytuno'n llwyr efo hynny, ac, wrth gwrs, yn croesawu unrhyw fuddsoddiad sydd yn mynd tuag at hynny. Ond, fel roeddwn i'n ei ddweud, mae'n rhaid i bob disgybl fedru manteisio ar hynny, a rhaid hefyd eu bod nhw'n gallu manteisio ar hyn yn y ddwy iaith. Ar y funud, dydy hynny ddim yn wir. Rydyn ni'n gwybod o wrando ar ein plant a'n pobl ifanc ni eu bod nhw ddim yn gallu cael mynediad i glybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol, ac ati, a rhai o'r cynlluniau yn yr ysgolion hyn. Mae'n rhaid i bawb ddim jest bod y gorau yna iddyn nhw i'w ddefnyddio, ond rhaid iddyn nhw allu eu defnyddio nhw hefyd os ydym ni am weld y newidiadau rydyn ni i gyd eu heisiau.

15:35

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae hi'n gwbl gywir i ddweud bod angen parhau i gefnogi ysgolion drwy'r cyfnod y maen nhw'n mynd drwyddo ar hyn o bryd, sy'n gyfnod sy'n parhau i fod yn heriol, wrth gwrs. Mi wnaeth hi ofyn tua'r diwedd am gadarnhad o'r hyn sydd wedi cael ei wario yn cefnogi'n hysgolion ni. Yn y flwyddyn ariannol hon, er enghraifft, mae yna ryw £278 miliwn o arian yn benodol ar gyfer yr ymateb i COVID, sy'n gynnydd dros y £220 miliwn yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Mae'r ffynhonnell arian honno wedi dod i ben o ran yr arian sy'n cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru gan y Llywodraeth yn San Steffan, ond, er gwaethaf hynny, yn cydnabod y pwynt mae'r Aelod yn ei wneud nad yw'r angen yn dod i ben, byddwn ni'n parhau i ariannu'r cynllun AAAS, sydd yn rhyw £37.5 miliwn y flwyddyn hon ac yn y dyfodol, a hefyd arian ar ben hynny i ymateb i'r anghenion sydd yn dod gan ddysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol ac ati, ynghyd â'r arian wnes i sôn amdano yn yr ateb i Laura Jones, sydd yn mynd i gael ei fuddsoddi i ymateb i'r heriau o ran iechyd meddwl a llesiant yn benodol i'n disgyblion ni ac i staff ysgol. Byddaf yn gwneud datganiad pellach ynglŷn â hynny yn y diwrnodau sydd i ddod. 

Mae'n iawn beth mae'r Aelod yn ei ddweud bod y pwysau o ran costau byw ar rai o'n disgyblion ni yn ddirfawr ar hyn o bryd. Felly, rwy'n gwybod ei bod hi'n cydnabod ac yn croesawu beth mae Llywodraeth Cymru wedi gallu gwneud o ran ehangu'r PDG mynediad i'r disgyblion hynny sy'n manteisio ar hynny er mwyn cyrraedd mwy o gostau ysgol, ynghyd ag ymestyn ein gallu ni i ddarparu prydau bwyd am ddim dros y gwyliau, ac, ar ben hynny, yr ymrwymiadau yn y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, wrth gwrs.

Gwnaeth hi bwynt pwysig ynglŷn â'r gallu i bob disgybl fanteisio ar yr hyn rydym ni'n sôn amdano fe yn y datganiad heddiw. Wrth gwrs, holl bwrpas y datganiad yw sicrhau bod y cyfleoedd a'r ddarpariaeth ar gael i bob disgybl. Roeddech chi'n sôn am ysgolion newydd; roeddwn i gyda Sioned Williams yn agor ysgol newydd yn fy etholaeth i ddydd Gwener diwethaf, sydd yn enghraifft ddisglair iawn o adnoddau cymunedol ar gael i gymuned. Mae cyfran uchel o ddisgyblion yn yr ysgol honno yn cael prydau am ddim. Roedd e'n grêt i weld y ddarpariaeth o ran adnoddau chwaraeon, ond hefyd drama, cerddoriaeth ac ati, fydd ar gael iddyn nhw, wrth gwrs, ond hefyd i'r gymuned ehangach.

Mae'r pwynt mae hi yn ei wneud o ran trafnidiaeth, wrth gwrs, yn bwynt pwysig iawn. Rwy'n cydnabod fod hynny'n ffactor pwysig. Rydym ni wedi cael trafodaethau eraill o ran pwysigrwydd hynny, ac rwy'n gwybod bod Lee Waters, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth, yn edrych ar beth mwy gellid ei wneud yn y cyd-destun hwnnw am y rheswm pwysig mae hi yn ei ddweud. 

Y pwynt diwethaf i'w wneud yw bod y cwricwlwm yn gyfle i ni allu sicrhau bod mynediad gan bob plentyn i'r safonau uchaf. Mae e'n rhoi hyblygrwydd, mae'n rhoi'r gallu i ysgogi pob disgybl mewn ffordd sydd yn ymateb i'w profiad nhw a'u blaenoriaethau nhw. Rwy'n credu bod yr ysgolion sydd yn gweithio gyda mwy o deuluoedd o gefndiroedd difreintiedig yn croesawu'r datblygiad, oherwydd ei fod yn cynnig mwy o gyfleoedd iddyn nhw. O ran adnoddau, wrth gwrs, mae mwy gyda ni i wneud o ran athrawon a gweithlu addysg yn y Gymraeg. Rydych chi'n gwybod ein bod ni'n gweithio ar hynny gyda rhanddeiliaid ar hyn o bryd, ac yn bwriadu cyhoeddi'r cynllun drafft hwnnw ym mis Mai. O ran cyllideb ysgolion, gwnaf jest atgoffa'r Aelod bod y setliad llywodraeth leol eleni yn rhyw 9.4 y cant yn uwch nag yr oedd e llynedd. Mae'n hanesyddol yn yr ystyr hwnnw. Mae'r pwysau, wrth gwrs, ar awdurdodau lleol yn uchel hefyd, ond mae hynny'n darparu sail gadarn ar gyfer ariannu ein hysgolion ni. 

15:40

Gweinidog, rwy'n croesawu eich ymrwymiad chi'n fawr iawn i roi mwy o dân o dan yr uchelgais i sicrhau bod pob ysgol yn canolbwyntio ar y gymuned. Fel Laura Anne Jones, rwyf innau'n teimlo ei bod hi wedi mynd braidd yn hwyr, ond mae hi'n dda iawn gen i glywed eich bod chi am gyflawni hynny mewn gwirionedd. Mae hi'n bwysig iawn bod yr hyn y mae'r trethdalwr yn ei ariannu ar gael i'r trethdalwr, yn hytrach na'r model diffyg hwn sy'n cadw teuluoedd y tu allan i'r ysgol a dim ond yn caniatáu'r rhai y maen nhw'n eu dewis.

Mae hi'n amlwg bod rhai heriau gennym ni. Yr wythnos hon, fe gysylltodd teulu â mi yr oedd eu plentyn nhw wedi bod o'r ysgol am ddwy flynedd—dwy flynedd. Felly, rwy'n croesawu yn fawr iawn eich ymrwymiad chi i gael mwy o swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, oherwydd mae gwir angen i ni fynd ar drywydd pobl mewn modd rhagweithiol pan na fyddan nhw'n bresennol. Mae hyn yn digwydd yn arbennig pan fydd plant yn gadael yr ysgol gynradd ac yn mynd i ysgol uwchradd, ac yn ystod COVID mae hon, a dweud y gwir, wedi bod yn broblem hynod o anodd. Ond rydych chi'n gallu gweld y math o waith y mae'n rhaid i ni ei wneud.

Fy mraint i yw cael bod yn llywodraethwr mewn ysgol sydd â ffydd, tegwch a rhagoriaeth yn ddatganiadau cenhadaeth i'r ysgol. Nid yw'r sôn am ffydd yn ymwneud â chrefyddusrwydd, ond yn hytrach â pharch a dathlu pob disgybl, eu cryfderau a'u gwendidau, eu hanghenion a'u doniau, a'r cyfraniad y gallan nhw ei wneud i'n byd anhygoel ond cythryblus iawn ni. Fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, mae ysgol Teilo Sant yn cadarnhau tegwch a—

15:45

—a rhagoriaeth ym mhopeth sy'n cael ei wneud yno, ynghyd ag ymrwymiad i beidio â chael gwared ar ddisgyblion unigol sy'n mynd yn anodd eu haddysgu, a allai fod â bywydau anodd gartref neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n rhoi ymrwymiad na fydd ysgolion yn cael gwared ar blant y maen nhw o'r farn eu bod nhw am achosi problemau iddyn nhw ac yn arbennig am effeithio ar ganlyniadau eu harholiadau, oherwydd rwy'n credu bod honno'n broblem mewn rhai ysgolion. Yn sicr, nid yw hynny'n digwydd yn yr ysgol yr wyf i'n llywodraethwr ynddi hi, ond mae angen i ni sicrhau bod y gefnogaeth iawn gennym ni i bob plentyn ar gyfer er mwyn gallu diwallu pob agwedd ar eu hanghenion. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gallu ein sicrhau ni y byddwch chi'n cymryd camau i atal ysgolion rhag gwahardd disgyblion am nad ydyn nhw'n hoffi'r olwg sydd arnyn nhw.

Fe wnaeth yr Aelod rai pwyntiau pwysig iawn yn ei chwestiwn hi yn y fan yna, ac rwy'n falch o'i chlywed hi'n sôn am yr ysgol y mae hi'n llywodraethwr ynddi sy'n canolbwyntio mor amlwg ar bwysigrwydd sicrhau bod disgyblion yn yr ysgol sy'n golygu'r amgylchedd gorau er eu llesiant nhw, ond, yn amlwg, yn sicr yr amgylchedd gorau o ran eu haddysg.

Rydym ni wedi bod yn gwneud darn sylweddol o waith o ran absenoldeb, nid yn unig i ystyried y data, sydd, yn amlwg, ar gael i'r cyhoedd, ond i edrych yn fanylach na hynny ar brofiadau'r ysgol, o ran yr achosion i absenoldebau parhaus disgyblion yn ogystal â'r math o wybodaeth fwy ansoddol sy'n hanfodol i ni ei deall os ydym ni'n awyddus i roi'r ymatebion cywir ar waith fel Llywodraeth i gefnogi ysgolion a gwneud yn siŵr bod disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol.

Ac mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â hyder yn ymdeimlad o lesiant y disgyblion, mae rhywfaint o hynny o amgylch—. Wyddoch chi, mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn brofiad i rai teuluoedd o fod ag ymdeimlad o beidio â bod yn yr ysgol fel rhan o brofiad arferol disgybl. Wel, ni ddylid caniatáu i hynny wreiddio i'r tymor hwy, yn amlwg. Ond nid her fyrdymor yw honno—. Nid her fyrdymor mo honno; rwyf i o'r farn y bydd angen i ni fod yn gweithio ar hyn yn gyson.

Mae'r pwynt a wnaeth hi ynglŷn â'n dull ni o asesu sut y mae ysgolion yn perfformio—mewn gwirionedd, rhan o'r hyn yr oeddwn i'n cyfeirio ato yn fy natganiad yw ehangu ar sut yr ydym ni'n edrych ar hyn o ran perfformiad ysgol, os hoffech chi, a symud oddi wrth edrych dim ond ar ganlyniadau arholiadau ac edrych ar gwestiynau sy'n ymwneud â phresenoldeb a gwahardd ac iechyd a llesiant mewn ffordd lawer mwy cyfannol, sydd, yn fy marn i, yn amlygu'r math o flaenoriaethau yr oedd Jenny Rathbone yn manylu arnyn nhw yn ei chwestiwn hi.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Ddeddf Plant (Cymru)

Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Ddeddf plant (Cymru).

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n hapus iawn i fod yma heddiw ar ddiwrnod hanesyddol i blant a'u hawliau.

Hyfrydwch pur i mi yw bod Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 wedi dod i rym ddoe. Mae gan y Llywodraeth ymrwymiad hirsefydlog i sicrhau hawliau plant, ar sail Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Fe fydd ein pwyslais cryf ni ar hawliau plant, a pharchu plant a phobl ifanc fel dinasyddion drwy eu hawliau eu hunain, yn helpu i sicrhau bod eu hanghenion nhw'n cael eu diwallu a bod eu huchelgeisiau nhw'n cael eu gwireddu, gan wneud Cymru yn lle gwirioneddol wych i dyfu fyny.

Yn gyson â'n dull ni o weithredu, a gydag erthygl 19 CCUHP, mae plant yn cael eu hamddiffyn yn ôl y gyfraith erbyn hyn rhag pob math o drais. Mae'r gyfraith yn anfon y neges nad oes unrhyw gosb gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru, gan wneud hynny'n eglur ac yn hawdd i bawb ei ddeall: ni ddylai plant fyth gael eu cosbi'n gorfforol, o dan unrhyw amgylchiadau. Mae termau fel 'smac ysgafn' neu 'smac o gariad' yn bychanu effaith cosbi corfforol mewn ffordd a fyddai'n gwbl annerbyniol pe bai hynny'n digwydd yn achos oedolion. Wedi degawdau o ymgyrchu, rwy'n falch bod gan blant yng Nghymru yr un amddiffyniad cyfreithiol rhag ymosodiadau ag oedolion erbyn hyn. Nid yw plant, sy'n fwy agored i niwed yn gorfforol ac yn emosiynol nag oedolion, yn haeddu dim llai na hynny. Yn syml, ni ddylai pobl fawr daro pobl bach.

Fe fydd yr eglurder yn y gyfraith yn rhoi sail sy'n fwy eglur a chyson i ymarferwyr wrth gefnogi rhieni i fabwysiadu dulliau adeiladol o ddisgyblaeth. O'r cychwyn cyntaf, roeddem ni'n mynegi y byddem ni'n gwneud pob ymdrech i weithredu'r Ddeddf yn effeithiol a sicrhau y byddai'r cyhoedd, gweithwyr proffesiynol a rhieni yn barod ar gyfer y newid yn y gyfraith. Rydym ni wedi gweithio gyda llawer o bartneriaid ar draws y sectorau allweddol, gan gynnwys iechyd, addysg, awdurdodau lleol, gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, cyfiawnder ieuenctid, y trydydd sector ac arweinwyr cymunedol, ac rwy'n ddiolchgar am eu penderfyniad nhw i gydweithio i weithredu'r Ddeddf. Ac fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, am ei hymrwymiad llwyr hi i'r mater hwn ac am weithio yn ddiwyro i hybu a diogelu hawliau plant.

Mae'r ddwy flynedd a aeth heibio ers pasio'r Ddeddf wedi bod yn eithriadol o heriol. Er gwaethaf y pandemig, mae'r ymateb rhyfeddol a gafwyd gan randdeiliaid wedi ein galluogi ni i gyflawni llawer iawn ers cyfarfod cyntaf ein grŵp gweithredu strategol ym mis Mai 2019. Roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn eglur yn ystod y broses graffu y dylem ni wneud yn siŵr bod y Ddeddf o fudd i blant a'u teuluoedd, i sicrhau bod pawb yn ymwybodol bod y gyfraith wedi newid a chefnogi rhieni i fabwysiadu dulliau cadarnhaol o fagu plant. Mae'r ymgyrch gyfathrebu ac ymgysylltu amlgyfrwng helaeth yn sicrhau'r ymwybyddiaeth fwyaf bosibl o'r newidiadau yn y gyfraith. Mae ein hymgyrch ni wedi cynnwys hysbysebion teledu a radio, ac mewn print y tu allan i'r cartref a hysbysebu digidol, ac fe fu yna ymgyrch genedlaethol o ddosbarthu taflenni. Fe fydd yr ymgyrch yn parhau ar ôl dechrau'r newid ar gyfer cynnal cyfraddau ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd. Mae ein gwefan bwrpasol ni'n cynnwys gwybodaeth i rieni, aelodau eraill o'r cyhoedd, a gweithwyr proffesiynol.

Mae Plant yng Nghymru yn cydweithio â ni ar gynllun ymgysylltu, ac fe fydd adnoddau i gefnogi codi ymwybyddiaeth gyda phlant a bydd gwybodaeth yn cael ei gwreiddio mewn ysgolion a mentrau sy'n bodoli eisoes, fel y gellir fframio hyn a'i drafod yng nghyd-destun hawliau plant, mewn lleoliadau addas. Yn rhan o'n gwaith ni o ymgysylltu, rydym ni wedi cysylltu â grwpiau a chymunedau lle gellid bod rhwystrau o ran cyfathrebu, ac mae hyn wedi cynnwys cynhyrchu adnoddau mewn amrywiaeth o ieithoedd a fformatau sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o anghenion. Ochr yn ochr â'r ymgyrch hon, rydym ni'n darparu llawer iawn o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth i rieni, gan gynnwys gan ymwelwyr iechyd, ein rhaglenni cymorth i deuluoedd a'n hymgyrch 'Magu Plant. Rhowch Amser Iddo'.

Fe adolygodd ein grŵp gweithredu arbenigol ar fagu plant y ddarpariaeth sydd ar gael i rieni yn drylwyr iawn. Pan nodwyd bylchau, mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd a/neu'n comisiynu cymorth arbenigol. Mae eu hadolygiad cynhwysfawr o ymgyrch 'Magu Plant. Rhowch Amser Iddo' wedi sicrhau bod honno'n ategu'r Ddeddf, ac mae cyngor ar fagu plant ar gael i rieni â phlant o'u geni hyd at 18 oed.

Rydym ni wedi gweithio gyda phartneriaid i ystyried effaith hyn ar brosesau proffesiynol. Cyhoeddwyd canllaw ar gyfer ymarferwyr, sy'n ategu'r gweithdrefnau diogelu presennol, ac mae'n cynnig gwybodaeth ychwanegol i ymarferwyr ynglŷn ag ymatebion diogelu o ran y Ddeddf. Yn y pen draw, rydym ni'n dymuno i'r negeseuon am y gyfraith gael eu hymgorffori yn y gwasanaethau cyfredol. Felly, rydym ni wedi diweddaru canllawiau rhaglen Plant Iach Cymru fel y bydd y wybodaeth angenrheidiol gan yr ymwelwyr iechyd pan fyddan nhw'n siarad â rhieni. Ac mae'r gyfraith yn ei gwneud hi'n eglur iawn: mae cosbi plant yn gorfforol yn erbyn y gyfraith. Fel y cafodd ei gydnabod yn ystod y broses graffu, fe allai nifer fach o unigolion gael eu cyhuddo neu eu herlyn mewn amgylchiadau na fyddai wedi digwydd cyn y newid yn y gyfraith.

Roedd adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn argymell y dylid bod â chynllun i ddargyfeirio achosion oddi wrth y system cyfiawnder troseddol, pan fo hynny'n briodol, gan ganolbwyntio ar gefnogi rhieni yn hytrach na'u cosbi nhw. Felly, gan weithio yn agos gyda'r heddlu ac awdurdodau lleol, rydym ni wedi sefydlu cymorth i fagu plant a addaswyd yn arbennig, y gellir ei gynnig fel amod i benderfyniad y tu allan i'r llys ac fel dewis amgen ar gyfer adsefydlu yn hytrach nag erlyn. Pan fydd yr heddlu o'r farn bod penderfyniad y tu allan i'r llys yn briodol, fe ellir cynnig cymorth magu plant i osgoi aildroseddu. Fe fydd awdurdodau lleol Cymru yn cael hyd at £2.4 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ariannu hyn, yn ogystal â'r bron i £500,000 a roddwyd eisoes.

Fe fydd y cymorth yn annog ac yn helpu rhieni i fabwysiadu dulliau cadarnhaol o fagu plant gan fynegi gydag eglurder llwyr ei bod hi'n annerbyniol dan unrhyw amgylchiadau i gosbi plentyn yn gorfforol, ac, o'r pwynt hwn ymlaen, fe fydd hynny'n anghyfreithlon. Mae'r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad ôl-weithredu dair a phum mlynedd ar ôl ei chychwyn, neu chyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol wedyn. Rydym ni wedi gweithio gyda'r heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol, Gwasanaeth Erlyn y Goron ac eraill i gytuno ar drefniadau i fonitro effaith y Ddeddf arnyn nhw, ac fe fyddwn ni'n parhau i ddefnyddio arolygon cynrychioliadol i olrhain cyfraddau'r ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a'r newidiadau o ran agweddau.

Felly, fe hoffwn i orffen drwy ddiolch i'r rhai sydd wedi gweithio mor galed i baratoi ar gyfer ei chychwyn. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gam gwirioneddol hanesyddol o ran helpu i ddiogelu hawliau plant a'u llesiant nhw. Dyma neges eglur am ein hymagwedd ni, yng Nghymru, at ein plant a'n pobl ifanc ni, ein bod ni'n eu parchu nhw, a'n bod ni eisiau'r gorau ar eu cyfer ac y byddwn ni'n gwneud popeth sydd yn ein gallu i wneud y profiad o blentyndod mor llesol â phosibl. Diolch yn fawr iawn.

15:55

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwyf i o'r farn nad yw hi'n gyfrinach ac mae llawer yn gwybod yn iawn yn y fan hon fy mod yn anghytuno yn llwyr â Deddf plant (Cymru) ac rwyf i'n condemnio, mewn gwirionedd, unrhyw ymgais i flaenoriaethu troseddoli rhieni da, cariadus a gofalgar. Gyda'r Ddeddf hon, mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn ymestyn ymhellach fyth i fywydau preifat teuluoedd, gan greu gwladwriaeth nani, lle mae Llywodraeth Cymru yn credu mai hi sy'n gwybod orau am amddiffyn a diogelu ein plant ni.

Roedd y memorandwm esboniadol yn nodi y byddai'r opsiwn a ffefrir i

'Deddfu i gael gwared ag amddiffyniad cosb resymol yng Nghymru'

yn costio cyfanswm o rhwng £6 miliwn ac £8 miliwn i'n trethdalwyr. Onid yw hi'n drueni, pan nad yw plant yn gallu cael gafael ar wasanaethau deintyddol, pan na allan nhw gael defnydd o wasanaethau iechyd meddwl, fod cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn cael ei ystyried yn beth mor bwysig mewn gwirionedd? Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario ychydig o dan £1.7 miliwn yn barod. Er hynny, mae hi'n ymddangos bod costau yn cynyddu fwyfwy. Roedd dogfennau ategol y Bil yn cynnwys cyllid ar gyfer cynllun cymorth y tu allan i'r llys ar gyfer magu plant, i'w ddefnyddio pan yr oedd yr heddlu yn penderfynu ei bod hi'n fwy priodol gwneud felly, ac rwyf i'n gallu dweud wrthych chi fod gennym ni blant yn lleol sy'n syrthio drwy'r rhwyd ddiogelu oherwydd nad yw'r adnoddau gan ein hadrannau ni nawr, Dirprwy Weinidog, felly, fe fydd hyn yn cynyddu'r pwysau arnyn nhw.

Fe ddyrannwyd rhwng £162,000 a £473,000 y flwyddyn ar gyfer y cynllun i ddechrau, ond mae'r dyraniad yng nghyllideb ddrafft 2022-23 bron ddwywaith cymaint â hynny erbyn hyn. Mewn ymdrech i gyfiawnhau dyblu'r costau hyn, roeddech chi'n dweud wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac rwy'n dyfynnu:

'Pan wnaethom ni nodi swm o arian ar gyfer y cynllun hwn, cafodd hynny ei wneud cyn gwneud y gwaith manwl a wnaethpwyd oddi ar hynny.'

Heddiw, rydym ni'n dysgu bod y gyllideb wedi neidio o £473,000 y flwyddyn i £2.4 miliwn erbyn hyn—

Llyr Gruffydd a gododd—

—dros y tair blynedd nesaf. Felly, Dirprwy Weinidog, rwy'n parchu'r hyn yr ydych chi'n ymgeisio i'w gyflawni yn hyn o beth, ond rwy'n dweud wrthych chi yma nawr y bydd hyn yn dod yn ôl i'ch brathu, ac mae hi'n drueni bod ein plant ni'n cael eu defnyddio fel hyn.

Felly, a fyddech chi cystal ag ateb y cwestiynau hyn: a wnaiff y Dirprwy Weinidog esbonio i'r Senedd hon pam y cyflwynodd hi Fil, ei ddwyn i Gydsyniad Brenhinol ac, i'ch dyfynnu chi,

'cyn gwneud y gwaith manwl'

y bu'n rhaid ei wneud ers hynny?

Yn wir, nid dyma'r tro cyntaf i chi gael eich dal allan gyda chostau cynyddol. Ers y memorandwm esboniadol, mae'r Bil wedi cynyddu o ystod o rhwng £2.3 miliwn a £3.7 miliwn i £6.2 miliwn a £7.9 miliwn yn y drefn honno. Mae'r asesiad diwygiedig o'r effaith reoleiddiol yn darparu cyfanswm cost gweithgareddau codi ymwybyddiaeth o £2.8 miliwn, a ddisgrifiwyd yn flaenorol fel rhai mewn ystod o £1.3 miliwn. Ac fe amcangyfrifwyd bod gwybodaeth am y cynlluniau i benderfyniad y tu allan i'r llys, nad oedd cost ar hynny'n wreiddiol, rhwng £810,000 a £2.5 miliwn. Fe ddylai'r ddeddfwriaeth hon fod yn wers i bawb bod angen cyfrifo'r costau yn briodol a'u hystyried cyn cytuno ar unrhyw ddeddfwriaeth newydd. Cwestiwn 2: a wnewch chi egluro a yw'r Ddeddf yn mynd i gostio mwy nawr na'r amcangyfrif uchaf o £8 miliwn a pham wnaethoch chi ddewis gwastraffu adnoddau o'r fath ar ddeddfwriaeth sy'n rhoi rheolaeth dros orfodi i ddau sefydliad a gadwyd yn ôl, sef Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu?

Dair blynedd ar ddeg ar ôl cyflwyno gwaharddiad ar daro plant yn Seland Newydd, roedd arolwg yn canfod y byddai bron i 40 y cant o famau yn parhau i daro eu plant ac na fyddai 70 y cant o bobl yn adrodd am riant pe bydden nhw'n eu gweld nhw'n taro plentyn ar ei ben ôl neu ar ei law. Cwestiwn 3: o gofio eich ymrwymiad chi i ddefnyddio arolygon cynrychioliadol i olrhain cyfraddau ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a newidiadau o ran ymagwedd, a ydych chi'n cytuno i'r ymatebion i'r arolygon fod yn ddienw, ar gyfer gweld a yw rhieni yn parhau i ddefnyddio cosb resymol ac na fyddech chi'n adrodd am riant sy'n gwneud felly?

Dirprwy Weinidog, rydych chi'n gwybod pa mor gryf yw barn rhai o'r Aelodau ar y meinciau hyn, yn ogystal â minnau. Nid ydym ni'n credu bod y ddeddfwriaeth hon yn angenrheidiol nac yn ofynnol. Fe hoffwn i ddiolch i'r holl rieni hynny sy'n magu plant yn y cyfnod hwn yn ystod Llywodraeth Lafur Cymru gyda chyfraddau mawr iawn o dlodi plant, ac yn gwneud hynny ar aelwyd sy'n ofalgar, gariadus ac ystyriol. Diolch.

16:00

Wel, diolch i Janet Finch-Saunders am y cyfraniad yna. Tybed o ddifri ar ran pwy y mae hi'n credu ei bod yn siarad pan fyddwch yn parhau â'ch gwrthwynebiad i'r Ddeddf hon, a hoffwn ei hatgoffa, pan aeth y gyfraith hon drwy'r Siambr hon, cawsom gefnogaeth gref iawn gan ddau aelod o'i phlaid hi ac roedd un Aelod penodol yn rhan o'r grŵp craidd a ymgyrchodd yn ddiflino dros gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, felly yn sicr nid yw'n siarad ar ran ei phlaid. Rwy'n credu mewn gwirionedd eich bod ar ochr anghywir hanes, Janet. Ni all fod yn iawn i unigolyn mawr gael taro unigolyn bach, a hynny—[Torri ar draws.]

Rwy'n credu bod hwn yn gam gwych gan Lywodraeth Cymru. Mae wedi ymrwymo ei hun i blant, ac rydym ni hefyd mewn cytgord â'r cyhoedd. Cafwyd arolwg—[Torri ar draws.]

Esgusodwch fi, Dirprwy Weinidog. Ar hyn o bryd, datganiad yw hwn. Gofynnoch chi gwestiynau i'r Gweinidog, mae'n ofynnol yn awr i'r Gweinidog ymateb i'r cwestiynau hynny. Nid yw'n ddadl, a chofiwch hynny. Nid oes pwynt o drefn ynghylch rhoi gwybodaeth ychwanegol; dyma'r cwestiynau y dylech chi fod wedi eu gofyn i'r Gweinidog ar y pryd. Dirprwy Weinidog.

Do. Cafwyd arolwg gan YouGov ddoe a ddangosodd fod 68 y cant o'r cyhoedd yn Lloegr o'r farn y dylid cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn Lloegr, ac rwy'n credu y gwelwch chi mai dyma'r farn gyffredin. Roedd adeg pan oedd cosb gorfforol yn dderbyniol, ond erbyn hyn, yn ein holl arolygon mae'n dangos nad yw rhieni iau, teuluoedd iau yn ystyried cosbi eu plant yn gorfforol hyd yn oed. Yn wir, mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n credu ei fod yn anghyfreithlon yn barod, cyn i ni basio'r Ddeddf hon. Felly, rwy'n credu mewn gwirionedd eich bod chi, fel y dywedais, ar ochr anghywir hanes.

Ond wedyn, i symud ymlaen at rai o'r cwestiynau penodol eraill y gwnaethoch eu gofyn: rhwng 2016 a mis Mawrth 2022, y gost oedd £2.5 miliwn ac roedd hynny dros chwe blynedd, sydd, yn fy marn i, yn rhesymol iawn, a'r gwariant arfaethedig am y tair blynedd nesaf yw £3.44 miliwn, a bydd hynny'n cwmpasu codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu a'r cymorth rhianta ar gyfer datrysiadau y tu allan i'r llys. Rwy'n credu mai'r hyn nad ydych yn ei sylweddoli, Janet, yw bod hyn yn ganlyniad i lawer iawn o gydweithio, ein bod ni wedi sefydlu grŵp gweithredu pan basiwyd y gyfraith hon a buom yn gweithio yn y grŵp gweithredu hwnnw mor agos gyda'r heddlu a gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron, fel ein bod ni wedi cynhyrchu rhywbeth sy'n gynnyrch ar y cyd, oherwydd dyna sut yr ydym yn dymuno gwneud pethau yn y Llywodraeth hon; rydym yn dymuno gweithio gyda'n partneriaid. Felly, buom yn gweithio gyda'n gilydd i gael y cynllun datrysiadau y tu allan i'r llys, sydd, yn fy marn i, yn gwbl hanfodol oherwydd ein bod yn dymuno rhoi cymaint o gymorth â phosibl i rieni, ac rydym yn gwneud hynny. Nid ydym yn credu bod cosb gorfforol yn iawn, ond ynghyd â'i gwneud yn anghyfreithlon, rydym yn rhoi cymorth ychwanegol i rieni, a dywedais yn fy nghyflwyniad faint o arian yr ydym yn ei roi i'r awdurdodau lleol er mwyn helpu i gefnogi rhieni, ac mae hynny'n arian ychwanegol. Felly, rwy'n credu, fel y dywedais, ei bod hi werth bob ceiniog. Ac fe wnaethoch chi ddechrau drwy ddweud mewn gwirionedd, 'Pam ar wyneb y ddaear y gwnaethom ni gyflwyno'r Bil hwn?' Gwnaethom ni gyflwyno'r Bil hwn i sicrhau bod plant yn cael bywyd cystal â phosibl.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Os byddwch chi'n dilyn rhesymeg y Ceidwadwyr, yna nid oes angen unrhyw gyfreithiau arnom o gwbl. Rwy'n anghytuno â hynny, ac rwy'n credu os oes gennym ni ddeddfau i amddiffyn oedolion, yna dylem ni gael deddfau i amddiffyn plant, ac rwy'n falch o allu nodi bod cosbi plant yn gorfforol bellach yn anghyfreithlon yng Nghymru ar ôl i'r gyfraith newydd ddod i rym ddoe. Ac wedi'r cyfan, roeddech chi'n iawn, Dirprwy Weinidog, i bwysleisio hawliau'r plentyn. Mae hyn yn ei gwneud yn glir bod plant—[Torri ar draws.]

Rwy'n credu nad ydych chi'n deall, a bod yn onest. Rwy'n gwybod eich bod chi'n heclo yma, ond nid yw hyn yn ymwneud â pheidio â deall; mae'n ymwneud â hawliau'r plentyn. Ac, mewn gwirionedd, os ydych chi'n siarad â phlentyn neu os ydych chi wedi siarad â phlant, fel yr wyf i wedi ei wneud yn ystod ymweliadau ysgol—[Torri ar draws.] Ac rwy'n gwybod bod gennych chi blant, ond os byddwch chi'n siarad â'r plant hynny, fel yr wyf i wedi ei wneud yn ddiweddar, maen nhw'n gwybod mewn gwirionedd fod hon yn dod i rym. Maen nhw'n ei chroesawu. Rwy'n credu bod yn rhaid croesawu unrhyw gynnydd mewn ymwybyddiaeth bod gan blentyn hawliau. Ac rwy'n credu bod yr holl ymgyrchoedd gwybodaeth yn sicr yn cyrraedd plant a'u bod yn gwybod bod ganddyn nhw hawliau o'r diwedd, ac nid yw hynny'n wir ym mhob man yn y byd. Ni ddylem ni golli golwg ar y ffaith bod hyn yn hanesyddol ac yn iawn yng Nghymru, a bod hon yn foment bwysig. Ac mewn gwirionedd, mae'n synnwyr cyffredin y dylai plant gael yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion. Nhw yw aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas ac maen nhw'n haeddu hawliau cyfartal yn hyn o beth.

Fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog, mae'r gyfraith bellach yn glir. Mae'n ei gwneud yn haws i blant, pobl ifanc, rhieni, gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd ddeall, a bydd yn cyfrannu at y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac yn cael byw'r bywyd y maen nhw'n dymuno ei fyw.

Ac i gael hyn allan o'r ffordd, os caf herio honiad y Ceidwadwyr y bydd y Ddeddf yn arwain at ddiwylliant Stasi—pethau yr ydym ni wedi eu gweld yn y wasg. Mae hyn nid yn unig yn hurt ac yn hanesyddol anwybodus, ond mae hefyd yn sarhaus i ddioddefwyr cyfundrefn y Stasi a'r rhai sy'n byw mewn cyfundrefnau gormesol ledled y byd heddiw. Mae cymharu mesur amddiffynnol a gynlluniwyd i gynnal hawliau ein dinasyddion mwyaf agored i niwed â thactegau gormesol gwladwriaeth heddlu cyfnod y rhyfel oer yn annealladwy, ac nid yw hyn yn haeddu trafodaeth bellach mewn gwirionedd.

Felly, o ran y Ddeddf, mae'r heddlu a phrif erlynydd y goron yng Nghymru wedi datgan y byddai nifer y bobl sy'n cael eu cyhuddo neu eu herlyn yn isel iawn, rhywbeth yr ydym yn gwybod ei fod yn heriol iawn, gyda thrais yn erbyn menywod ac yn y blaen. Felly, yn yr un modd, a wnaiff y Dirprwy Weinidog ailadrodd beth yw diben canolog y ddeddfwriaeth hon, a sut y caiff ei gorfodi? Ac mae'r rhai sy'n gweithio ar y rheng flaen sy'n gyfrifol am amddiffyn plant, gan gynnwys yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y gwasanaethau cymdeithasol ac ati wedi datgan y bydd y Ddeddf hon yn gwella eu gallu i amddiffyn plant sy'n byw yng Nghymru oherwydd bydd yn gwneud y gyfraith yn gliriach.

Rydym ni wedi clywed, yn amlwg, rywfaint o wrthwynebiad i'r Ddeddf gan Aelodau heddiw, ond maen nhw mewn lleiafrif, yn ffodus. Ac rwy'n credu pan edrychwch chi ar bobl yn ceisio cyfiawnhau dulliau traddodiadol o fagu plant, wel maen nhw wedi dyddio erbyn hyn, ac mae angen i ni anfon y neges glir honno i'n plant a'n pobl ifanc ac i rieni ym mhob man.

Dywedodd Claire Campbell-Adams o'r blog Mum's Shoulders ei bod yn wych bod y gwaharddiad yn cau bwlch, ond nododd ei phryder y gallai ei gwneud yn anoddach i rieni sydd angen cymorth i fynegi eu hunain, felly rwy'n croesawu'r ymrwymiad gyda'r cyllid hwnnw ac ati. Ond tybed a allech chi, efallai, ymhelaethu ymhellach ar sut y gallwn ni annog pobl y mae angen cymorth arnyn nhw i gael gafael ar y cymorth hwnnw, fel nad yw'n rhywbeth cudd, ein bod ni'n sicrhau eu bod yn cael gafael ar y gwasanaethau sydd ar gael.

Hoffwn gloi trwy ddweud cymaint yr ydym yn llwyr gefnogi hyn ym Mhlaid Cymru. Mae'n foment hanesyddol, mae i'w chroesawu, ac mae'n hen bryd cydnabod hawliau'r plentyn fel hyn.

16:05

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, a diolch yn fawr iawn i chi am y gefnogaeth ddidwyll i'r Ddeddf hon, a hefyd am gydnabod bod hon yn foment hanesyddol.

O ran y pwyntiau a wnaethoch, rwy'n credu ei bod yn bwysig pwysleisio y bydd gallu pawb i amddiffyn plant yn cael ei wella gan y Ddeddf hon. Croesawyd y Ddeddf hon yn eang gan yr holl weithwyr iechyd proffesiynol—yr ymwelwyr iechyd, y meddygon—a phawb sy'n gweithio gyda phlant, gan gynnwys y gweithwyr cymdeithasol sy'n gweithio'n broffesiynol gyda phlant, gan fynd i'r afael â'r materion anodd iawn y mae'n rhaid i ni ymdrin â nhw. Dywedodd pob un ohonyn nhw eu bod eisiau i'r Ddeddf hon gael ei phasio. Felly, i ymdrin â gwrthwynebiad y Ceidwadwyr i hon, maen nhw'n siarad yn erbyn yr hyn y mae'r gweithwyr proffesiynol yn ei gredu hefyd. Roedden nhw bron yn gwbl unedig, y gweithwyr proffesiynol, mai dyma'r hyn yr oedden nhw'n ei ddymuno.

Ac mae'n ei gwneud yn llawer haws, oherwydd bod magu plant yn anodd iawn, felly rwy'n credu bod yn rhaid i bob un ohonom ni gydnabod—. Rydym ni i gyd yn cydnabod pa mor anodd yw magu plant, ac rydym yn dymuno'i gwneud mor hawdd ag y gallwn ni i rieni. Rwy'n gwybod cymaint yr oeddwn i'n croesawu cefnogaeth, ac rwy'n credu bod y gefnogaeth yr ydym ni'n ei chynnig yma, fel y dywedais, yn ychwanegol. Mae'n arian ychwanegol, mae'n arian hael—£810,000 y flwyddyn i'r awdurdodau lleol am dair blynedd—i ganolbwyntio'n benodol ar ddod ag ymateb wedi ei deilwra i ddatrysiad y tu allan i'r llys. Felly, bydd yn cael ei deilwra ar gyfer unigolion penodol.

Mae angen ei ystyried yn drylwyr iawn, oherwydd aeth cymaint o waith paratoi i mewn i'r Ddeddf hon. Ers ei phasio, rydym ni wedi cael dwy flynedd ddwys iawn, yn edrych ar yr holl faterion y mae Heledd mor briodol yn eu codi. Gwelais y clip hwnnw ar y teledu, gyda'r pryder ynghylch a fyddai rhieni'n poeni ac na fydden nhw'n dymuno mynegi eu teimladau, a dyna pam yr wyf i'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom ni a'r gwasanaethau i'w gwneud yn gwbl glir iddyn nhw ein bod yn rhoi cymorth ychwanegol ar gyfer hyn. Rydym yn dymuno i bobl rannu'r hyn y maen nhw'n ei deimlo, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni fynd ymlaen gan gydnabod bod angen i ni roi cymorth, oherwydd bod magu plant yn anodd. Nid yw hyn yn ymwneud â'r wladwriaeth faldodus; y gefnogaeth yr ydym yn ei rhoi yw'r gefnogaeth y dylem ei rhoi fel Llywodraeth i'n dinasyddion.

Felly, rwy'n cytuno â Heledd: mae'n ddiwrnod hollol wych. Rwyf wrth fy modd bod Cymru'n gwneud hyn, ac rwyf mor falch o'ch cefnogaeth. Diolch.

16:10

Rwyf i yn croesawu Deddf Cymru i ddiddymu amddiffyniad cosb resymol. Mae'n ddiwrnod hynod arwyddocaol, a phe baem ni yn dilyn y ddadl a glywsom yn gynharach gan Janet Finch-Saunders—bod y wladwriaeth yn ymyrryd ym mywydau pobl—wel, rwy'n falch ei bod hi, oherwydd pe baem yn dilyn y rhesymeg honno, ni fyddai'r wladwriaeth yn ymyrryd i roi terfyn ar gam-drin domestig, ac ni fyddai'r wladwriaeth wedi ymyrryd i ddileu hawl athrawon a oedd yn trin plant mewn ffordd greulon gyda'r gansen a'r pren mesur ac unrhyw beth arall a oedd wrth law. Felly, mae adegau pan fydd yn iawn i'r wladwriaeth ymyrryd, ac mae'n iawn fod y wladwriaeth yn ymyrryd yma. Mae gan blant yr hawl i gael eu trin yn gyfartal. Mae hynny'n amlwg o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a byddem ni wedi bod ar ein pennau ein hunain pe na baem wedi newid y ddeddfwriaeth honno.

Fe wnaethoch chi ddweud, Gweinidog, nad yw'n iawn i bobl fawr daro pobl fach. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae'r cyhoedd yn cytuno â ni, a fy nghwestiwn i chi yw: cyflwyno rhianta cadarnhaol ledled Cymru, sydd ynddo'i hun yn eiriad gwych, 'rhianta cadarnhaol', sut a phryd y caiff hwnnw ei gyflwyno? Rwy'n gwybod ei fod wedi dechrau. A sut y bydd pobl yn gallu cael gafael ar hwnnw os bydd angen y cymorth hwnnw arnyn nhw?

Diolch yn fawr iawn, Joyce, am eich cefnogaeth i'r ddeddfwriaeth hon. Rwy'n cytuno'n llwyr â'ch cyflwyniad, lle rydych chi'n dweud ei bod yn iawn i'r wladwriaeth ymyrryd, ac rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bwysig bod y wladwriaeth yn diogelu ei dinasyddion, a beth allai fod yn bwysicach i'w amddiffyn na'r plant?

Rwy'n credu eich bod yn iawn hefyd wrth ddweud, pe na baem yn gwneud hyn, y byddem wedi bod ar ein pennau ein hunain, oherwydd nid yw fel pe bai hyn yn unrhyw beth newydd. Rwy'n credu bod 63 o wladwriaethau eisoes wedi gwneud hyn, ac mae dros 20 o wladwriaethau yn ystyried ei wneud, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei drafod yma yn y Siambr hon ers blynyddoedd lawer. Rwy'n credu bron ar ddechrau'r Senedd fod pleidlais wedi ei chynnal yma gan Aelodau ar yr union fater hwn, ac yr oedd cytundeb bryd hynny, felly bu mwyafrif o blaid diddymu'r amddiffyniad hwn o gosb resymol ers i'r Senedd hon ddechrau, felly mae'n wych ein bod ni wedi cyrraedd y cam ein bod ni mewn gwirionedd yn cael gwared arno nawr.

Felly, o ran cyflwyno, mae'r grŵp arbenigol sydd wedi bod yn gweithio ar y materion, maen nhw wedi asesu gyda phob awdurdod lleol faint o gymorth, faint o adnoddau sydd ganddyn nhw i helpu gyda'r rhianta cadarnhaol, oherwydd ein bod yn dymuno i hwnnw fod ar gael ledled Cymru. Nodwyd unrhyw fylchau ac, er mwyn mynd i'r afael â'r bylchau hynny, mae'r awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod ganddyn nhw bobl ac adnoddau yno a fydd yn gallu gweithio nid yn unig gyda'r rhai sydd â'r datrysiad y tu allan i'r llys, ond hefyd y rhai sy'n dymuno cymorth magu plant yn gyffredinol. Dyna pam yr ydym ni wedi rhoi'r arian ychwanegol hwn i mewn. Rwy'n credu bod hyn yn rhan hanfodol o'r cynigion yr ydym yn eu cyflwyno heddiw, y cymorth magu plant hwnnw, sydd, wrth gwrs, eisoes yn bodoli, er enghraifft, yn Dechrau'n Deg, oherwydd Dechrau'n Deg yw un o'r meysydd allweddol lle rydym yn darparu cymorth magu plant. Rwy'n falch iawn ein bod, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, yn gweithio gyda'n gilydd i ehangu Dechrau'n Deg. Bydd cymorth magu plant fel rhan o Dechrau'n Deg yn cael ei ehangu fel rhan o'r cytundeb cydweithredu. Felly, rydym yn cynllunio'r gwaith hwn, sydd, fel y dywed Joyce Watson, eisoes wedi dechrau. Diolch yn fawr iawn.

16:15
6. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bwrw ymlaen ag argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd Cymru

Mae eitem 6, yr eitem nesaf, wedi cael ei ohirio.

Eitemau 7 ac 8 fydd nesaf. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan yr eitemau yma, sef y Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 a Gorchymyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022, yn cael eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahan. Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad.

7. & 8. Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 a Gorchymyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022

Felly, fe wnawn ni gario ymlaen gyda hynny. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynigion, felly. Rebecca Evans. 

Cynnig NDM7958 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2022.

Cynnig NDM7960 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2022.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynigion.

Roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn darparu ar gyfer creu cyd-bwyllgorau corfforedig i hybu cydweithio ymhellach ar draws llywodraeth leol. Ym mis Mawrth 2021, cymeradwyodd y Senedd reoliadau yn sefydlu pedwar cyd-bwyllgor corfforedig newydd yng Nghymru. Roedd y rheoliadau sefydlu hynny'n ddechrau dull graddol o sefydlu'r fframwaith rheoleiddio sy'n angenrheidiol ar gyfer y cyrff cyhoeddus newydd hyn. Ym mis Tachwedd 2021, cymeradwywyd ail gyfres o ddeddfwriaeth gan y Senedd, a oedd yn parhau i roi'r pwerau a'r dyletswyddau angenrheidiol ar waith i ategu gweithrediad y cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae Rheoliadau drafft y Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 sydd ger ein bron heddiw yn cynrychioli'r drydedd gyfres o reoliadau. Mae'r rhain yn parhau i gymhwyso'r fframwaith deddfwriaethol llywodraeth leol y bydd y cyd-bwyllgorau corfforedig yn gweithredu ynddo. Mae'r rheoliadau cyffredinol drafft hyn yn ymdrin â fframwaith deddfwriaethol cyd-bwyllgorau corfforedig sy'n ymwneud ag ymddygiad, penodi aelodau dirprwyol a gweithgareddau masnachol. Mae nifer o fân ddarpariaethau hefyd yn ymwneud â chyllid, achosion cyfreithiol, cofnodion a materion yn ymwneud â'r gweithlu. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y rheoliadau hyn rhwng 10 Tachwedd a 22 Rhagfyr 2021, ac rwy'n ddiolchgar i'r rhai a ymatebodd, gan gynnwys cydweithwyr mewn llywodraeth leol.

Mae Gorchymyn drafft Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022 hefyd yn rhan o'r drydedd gyfres o offerynnau statudol sy'n darparu ar gyfer fframwaith deddfwriaethol cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae'r offeryn drafft hwn yn diwygio Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Bydd cyd-bwyllgorau corfforedig yn cael eu cynnwys yn y rhestr o awdurdodau y mae'n rhaid iddyn nhw roi sylw dyledus i atal troseddu ac anhrefn wrth arfer eu swyddogaethau. Fel bob amser, y bwriad yw trin y cyd-bwyllgoaru corfforedig fel rhan o'r teulu llywodraeth leol yng Nghymru. Mae'r rheoliadau hyn yn parhau i sicrhau bod y cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig i raddau helaeth i'r un pwerau a dyletswyddau neu rai tebyg ag y mae awdurdodau lleol yn y ffordd y maen nhw'n gweithredu ac yn cael eu llywodraethu. Diolch.

Bydd y Senedd yn ymwybodol, wrth gwrs, fod Plaid Cymru wedi gwrthwynebu creu'r cyd-bwyllgorau corfforaethol yma nôl yn y Senedd ddiwethaf. Mae honno'n frwydr y gwnaethon ni ei cholli, wrth gwrs, ac felly os yw'r cyd-bwyllgorau yma am ddod i fodolaeth, yna mae angen iddyn nhw fod yn atebol i'r un safonau a disgwyliadau ag awdurdodau lleol, ac yn enwedig o ran safonau cod ymddygiad. Felly, dydyn ni ddim yn gwrthwynebu'r rheoliadau yma, ond dwi'n meddwl bod yna gwestiwn dilys jest ynglŷn â rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn hyn o beth, a chwestiwn ynglŷn â'r goblygiadau cyllidebol o safbwynt gwaith yr ombwdsmon o roi'r cyd-gynghorau o dan oruchwyliaeth yr ombwdsmon, sef y peth iawn i'w wneud. Ond, mae yn fy synnu i bod yr asesiad effaith rheoleiddiol yn awgrymu nad yw'r Llywodraeth yn teimlo bod yna gostau ychwanegol, neu os oes yna gostau ychwanegol, y gallan nhw gael eu hymgorffori yn y gyllideb y mae'r ombwdsmon yn ei derbyn yn arferol. Byddwn i'n tybio bod gan y Pwyllgor Cyllid rhywbeth i'w ddweud ynglŷn a hynny. Fel cyn-aelod o'r pwyllgor, dwi'n ymwybodol iawn bod y cyrff yma sy'n cael eu hariannu yn uniongyrchol yn dod i ofyn am arian ac yn cael awgrym, efallai, fod angen ailedrych a dod yn ôl. Felly, mae cyllidebau yn dynn. Byddwn i hefyd yn tybio, gan fod y cyd-bwyllgorau yma ymhellach o'r ffas lo—hynny yw, yn uwch i fyny ac ymhellach oddi wrth cymunedau—fod y potensial am heriau neu issues yn codi ar rai materion yn uwch. Felly, byddwn i yn tybio bod yna fwy o waith yn cael ei gynhyrchu ar gyfer yr ombwdsmon, ac oni ddylid hynny gael ei adlewyrchu yn yr asesiad effaith rheoleiddiol? Dwi jest eisiau deall yn well beth yw rhesymeg y Llywodraeth i dybio bod hyn jest mor ddi-nod bod modd ei ymgorffori yn y gyllideb bresennol. 

16:20

Diolch, Llywydd. Diolch i Llyr Huws Gruffydd am godi'r mater arbennig hwn y prynhawn yma. Dyna ein hasesiad, yn seiliedig ar ein dealltwriaeth o'r llwyth gwaith tebygol ac effaith debygol cynnwys cyd-bwyllgorau corfforedig dan nawdd y teulu llywodraeth leol. Ond, wrth gwrs, byddwn eisiau parhau i adolygu'r holl faterion hyn, a gwn y bydd y Pwyllgor Cyllid yn cymryd diddordeb arbennig yn hyn. Byddaf yn ymrwymo i gael rhai trafodaethau pellach gyda'r Pwyllgor Cyllid i archwilio maes o law a oes ganddyn nhw unrhyw bryderon penodol ynghylch y ffordd y mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn dwyn ffrwyth, neu fel arall, i sicrhau ein bod yn gwneud y dyraniadau priodol mewn cysylltiad â'r gwaith hwn. Ond, rydym ni'n credu, ar hyn o bryd, na fydd gwaith ychwanegol sylweddol i'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 7 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Mae cwestiwn hefyd ynglŷn ag a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad chwaith i hynny. Felly, mae'r cynnig o dan eitem 8 wedi cael ei dderbyn hefyd.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022

Eitem 9 yw'r eitem nesaf, felly, a hwnnw yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid i wneud y cynnig yma—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7959 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r rheoliadau hyn heddiw. Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022 yn cynyddu'r lefel uchaf y gall awdurdodau lleol bennu premiymau'r dreth gyngor ar anheddau a feddiennir yn gyfnodol—y cyfeirir atyn nhw yn fwy cyffredin fel ail gartrefi—ac ar eiddo gwag hirdymor, o 100 y cant i 300 y cant. Mae'r mesurau'n rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i'r afael â phroblem ail gartrefi a thai nad ellir eu fforddio y mae llawer o gymunedau yn eu hwynebu, fel y nodir yn y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Yr haf diwethaf, buom yn ymgynghori ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanarlwyo. Roedd hon yn un agwedd ar ddull tair elfen Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â phroblemau yn ymwneud ag eiddo fforddiadwy a'r effaith y gall nifer fawr o ail gartrefi a llety gwyliau ei chael ar gymunedau a'r iaith Gymraeg. Roedd yr ymgynghoriad yn rhan o adolygiad o'r ddeddfwriaeth dreth leol bresennol. Gofynnwyd am farn a thystiolaeth gan unigolion a sefydliadau ar y pwerau disgresiwn sy'n caniatáu i awdurdodau lleol godi cyfradd uwch o dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Cawsom bron i 1,000 o ymatebion, a oedd yn adlewyrchu ystod eang o ddiddordeb.

Mae'r gallu i godi premiymau treth gyngor ychwanegol wedi'i groesawu fel dull a all helpu awdurdodau lleol i liniaru'r effeithiau negyddol y gall ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor eu cael ar rai cymunedau. Er nad yw llawer o'r cyfleoedd i fynd i'r afael â materion tai drwy bremiymau wedi'u gwireddu'n llawn eto, bydd cynyddu'r lefel uchaf nawr yn galluogi awdurdodau lleol unigol i benderfynu ar lefel sy'n briodol ar gyfer eu hamgylchiadau lleol pan fydd yr amser yn iawn ar eu cyfer. Daw'r pwerau i rym o fis Ebrill 2023. Bydd awdurdodau lleol yn gallu gosod y premiwm ar unrhyw lefel hyd at yr uchafswm, a byddant yn gallu gosod premiymau gwahanol ar ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor. Nawr, mater i awdurdodau unigol fydd penderfynu a ddylid defnyddio premiwm ac ar ba lefel i'w osod. Wrth wneud y penderfyniadau hyn, bydd angen i bob awdurdod asesu'r effeithiau posibl ar unigolion, cymunedau a'r economi leol. Dylai awdurdodau lleol ymgynghori â phobl leol a pherchnogion cartrefi cyn cyflwyno premiymau, gan ganiatáu cyfnod o 12 mis o leiaf rhwng gwneud y penderfyniad cyntaf i gyflwyno premiwm a'r flwyddyn ariannol y mae'n dod i rym ynddi. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.

16:25

Galwaf Rhys ab Owen nawr i siarad ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Diolch yn fawr i chi, Lywydd. Dwi'n hapus iawn i gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac yn dymuno'n dda i'n Cadeirydd, Huw Irranca-Davies, ar yr achlysur hapus o raddio ei fab, wedi cael ei ohirio droeon oherwydd COVID.

Buom yn ystyried y rheoliadau yma yn ein cyfarfod ar 14 Mawrth, ac mae ein hadroddiad i’r Senedd yn cynnwys tri phwynt rhinwedd i gyflwyno adroddiad arnynt. Roedd angen ymateb gan y Llywodraeth i ddau o'r pwyntiau hynny, ac roeddem yn ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am roi'r ymatebion hynny mewn da o bryd inni fel pwyllgor ystyried a thrafod hynny cyn dod fan hyn ar lawr y Senedd.

Nododd ein pwynt rhinweddau cyntaf fod y cynnydd sylweddol yn nisgresiwn yr awdurdod sy'n codi tâl, o 100 y cant i 300 y cant, yn ymddangos fel pe bai'n ymgysylltu ag erthygl 1 o brotocol cyntaf y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Er cydnabyddir a derbynnir y gall gwladwriaethau ymyrryd ag eiddo dinesydd, yn yr achos hwn drwy gynyddu'r tâl treth gyngor ar anheddau gwag hirdymor neu anheddau a feddiennir yn gyfnodol, nid yw'r memorandwm esboniadol na'r nodiadau esboniadol i'r rheoliadau—nac ychwaith, mae'n ymddangos, yr ymgynghoriad gwreiddiol, mewn gwirionedd—yn nodi unrhyw ystyriaeth benodol o'r effaith ar hawliau'r confensiwn. Hefyd, nid ydyn nhw'n datgan bod y cynllun a weithredir gan y rheoliad yn ffordd gymesur o gyflawni nod cyfreithlon yn hyn o beth.

Yn ei hymateb i'n hadroddiad, dywedodd y Llywodraeth yn syml eu bod yn fodlon bod y rheoliadau'n gydnaws â hawliau'r confensiwn. Wel, efallai fod hynny'n wir, Gweinidog, ond siaradodd fy nghyd-Aelod, yr wythnos diwethaf, Alun Davies, yn y Siambr hon, unwaith eto ar ran y pwyllgor, a chododd bryderon unwaith eto am yr ymatebion nad ydynt yn llawn gwybodaeth y mae'r pwyllgor yn eu cael pan fyddwn yn cwestiynu ymhellach rwymedigaeth Llywodraeth Cymru o ran hawliau dynol ac asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb. Felly, a gawn ni ofyn yn barchus i'r Llywodraeth fyfyrio ymhellach ar y ddau sylw hyn, er mwyn sicrhau ein bod yn y dyfodol yn cael esboniad llawn ar y materion pwysig iawn hyn?

Mae ein hail bwynt rhinwedd yn tynnu sylw at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r rheoliadau, ac, yn benodol, at y modd y mae’r memorandwm esboniadol yn ymdrin â’r ymgynghoriad hwn.

Gan ystyried y nifer uchel iawn o ymatebion i'r ymgynghoriad a'r ffaith—prin ei bod yn syndod mae'n debyg—nad oedd y rhan fwyaf o'r ymatebion hynny'n cefnogi'r cynnig i gynyddu disgresiwn y gyfradd ganrannol, nid oeddem yn glir pam y mabwysiadwyd y dull gweithredu yn y rheoliadau. Mewn ymateb, dywedwyd wrthym fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystyriaeth lawn i'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad, a bod mynd ar drywydd opsiwn 2, fel y'i disgrifiwyd yn yr ymgynghoriad, yn ymateb cymesur wrth geisio cyflawni'r nod cyfreithlon o hyrwyddo ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i ddiwygio. Mae'r pwyllgor yn ymwybodol bod ein cyd-Aelodau yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn cael ymchwiliad i rinweddau'r polisi—neu fel arall—i'r hyn y mae'r rheoliadau hyn yn ceisio'i gyflawni, ac edrychwn ymlaen at yr adroddiad hwnnw.

Mae ein pwynt rhinwedd olaf, Weinidog—ac fel dywedais i, doedd dim angen ymateb i'r pwynt yma—yn nodi, yn syml, y bydd y cynllun a bennir yn y rheoliadau yn debygol o arwain at gynnydd yn refeniw yr awdurdodau bilio trwy ddarparu gwasanaethau sy’n dod o dan ffi’r dreth gyngor. Mae'r rheoliadau’n rhagnodi drwy welliant y mecanwaith o gynyddu'r ffi honno, yn ôl disgresiwn pob awdurdod bilio.

Felly, dyna sylwadau'r pwyllgor cyfansoddiad. Diolch yn fawr i chi, Weinidog.

16:30

Hoffwn atgoffa'r Aelodau i gyfeirio at fy ffurflen datgan buddiannau fy hun o ran perchnogaeth eiddo.

Nawr, mae'r rheoliadau hyn yn deillio o fethiant. Methiant Llywodraethau olynol Llafur Cymru i ddarparu cartrefi newydd: dim ond 4,616 o anheddau newydd a gwblhawyd yn 2021, pan ddylai'r ffigur fod wedi bod yn 12,000. Methiant o ran sicrhau defnydd newydd i gartrefi gwag: roedd 25,725 yn 2017-18, 22,140 yn 2022-23. Methiant  o ran sicrhau bod Cymru'n defnyddio'r dulliau cynllunio sydd ganddi eisoes i ddarparu cartrefi, nid gwestai, i'n pobl leol. Mae dros 7,000 o bobl wedi cael eu gwthio i ddigartrefedd ac sydd bellach yn byw mewn llety dros dro.

Nawr, o'r hyn a welaf i o ddarllen y memorandwm esboniadol, yr unig effaith gadarnhaol a gaiff y rheoliadau hyn yw y byddant yn cyfrannu at yr ymrwymiad yn rhaglen lywodraethu ddiweddaraf 2021-26 i geisio adolygu'r dreth gyngor, a byddant yn cyfrannu at yr amcan yn y cytundeb cydweithredu i roi mwy o bwerau i awdurdodau lleol godi premiymau'r dreth gyngor a chynyddu trethi ar ail gartrefi yr un pryd.

Bwriedir i'r disgresiwn a roddir i awdurdodau lleol godi premiwm fod yn offeryn i helpu awdurdodau lleol i ddod â chartrefi gwag hirdymor yn ôl, a chefnogi awdurdodau lleol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Fodd bynnag, nid oes unrhyw eglurhad o gwbl ynghylch sut y caiff unrhyw refeniw ychwanegol ei wario. Fel y mae'r memorandwm esboniadol yn ei wneud yn glir, gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r arian fel y gwelant orau. Yn wir, mae'n amlwg bod diffyg awydd a chefnogaeth i'ch cynigion, a chredaf fod fy nghyd-Aelod Rhys ab Owen AS newydd ddweud am y 1,000 o bobl allan o 3.1 miliwn sydd wedi ymateb a chyfran y rhai sy'n amlwg yn erbyn hyn, felly mae'n codi'r cwestiwn pam yr ydych chi'n ceisio mynd ar drywydd hyn. Hyd yma, dim ond hanner yr awdurdodau sydd wedi dewis gosod premiymau ar gartrefi gwag hirdymor neu ail gartrefi neu'r ddau. Dim ond 30 y cant o anheddau gwag hirdymor yn 2022-23 a fydd yn talu premiwm, ac nid oedd y rhan fwyaf o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cefnogi cynnydd yn y premiwm uchaf, felly os ydych yn mynd i anwybyddu ymgynghoriad, beth yw ei ddiben? Rydych chi'n mynd i anwybyddu barn y mwyafrif.

Yn bwysig, arweiniodd yr ymgynghoriad at dystiolaeth gyfyngedig bod rhanddeiliaid yn credu y gallai cynyddu'r ganran uchaf gael effaith gadarnhaol wrth fynd i'r afael â'r problemau sy'n deillio o ail gartrefi. Yr hyn sydd gennym yma yw cyfres o reoliadau yr ydych chi a'ch partneriaid clymblaid—o, cydweithredu—ym Mhlaid Cymru eisiau eu cael, i geisio gwneud i bobl feddwl eich bod yn brwydro dros fwy o gartrefi i bobl leol. Fodd bynnag, y realiti yw mai dim ond ceisio cuddio methiant a pholisi diffygiol yw'r strategaeth hon gan sosialwyr a gwrth—[Torri ar draws.] Arhoswch. Hei, arhoswch. Whoa, whoa, whoa. Dydw i ddim wedi gorffen eto. Cenedlaetholwyr gwrth-ymwelwyr. [Torri ar draws.] Ac mae'r ffordd yr ydych yn ceisio boddio Plaid Cymru yn costio'n ddrud—costau gweinyddol i Lywodraeth Cymru, casglu trethi, gorfodi, ymdrin â chwynion, costau i awdurdodau lleol, a chost i gydraddoldeb gwirioneddol.

Cefais fy syfrdanu o ddarllen yr honiad yn y memorandwm esboniadol y bydd y polisi'n cyfrannu at Gymru fwy cyfartal. Nid oes dim byd o gwbl yn gyfartal ynghylch y premiwm o 300 y cant, a byddwn i'n gofyn—fel y gofynnwyd i mi gymaint o weithiau—pam y gwnaethoch chi dynnu'r ffigur 300 y cant allan o'r awyr yn sydyn? Mae'r cwestiwn hwnnw—. Pa dystiolaeth, pa ddata, beth ydych chi wedi'i ddefnyddio, pa wybodaeth ydych chi wedi'i defnyddio, i ddod at y ffigur hwnnw? Rydych yn cosbi perchnogion ail gartrefi ac yn annog rhethreg gwrth-ymwelwyr yn ein cenedl. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y rheoliadau peryglus hyn heddiw, a byddwn yn parhau i hyrwyddo'r polisïau clir yr ydym wedi bod yn eu cynnig ers dechrau'r Senedd i sicrhau ein bod yn adeiladu cartrefi—ac, ie, cartrefi—ar gyfer pobl leol. Gofynnaf i'r Senedd, neu Senedd Cymru, ddweud 'na' wrth y ffasâd ffug hwn gan Lafur Cymru a Phlaid Cymru, a rhoi cyfle i atebion eraill.

Rhif 1: gadewch i ni fynd i'r afael â fforddiadwyedd drwy adeiladu mwy o gartrefi, gyda phwyslais ar gynhyrchu cymunedau cymysg. Dau: tynnu'r bloc sy'n atal cymaint â 10,000 o gartrefi newydd, gan gynnwys 1,700 fforddiadwy, oherwydd canllawiau gwirioneddol anghymedrol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ffosfforws. Tri: gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i hyrwyddo'r benthyciad cartrefi gwag yn well. Pedwar: adolygu pa gamau y gellir eu cymryd i droi gofod gwag uwchben unedau manwerthu yn dai fforddiadwy, wedi'u lleoli'n ganolog. Pump: defnyddio tir ac adeiladau sy'n eiddo i'r sector cyhoeddus unwaith eto ledled Cymru y gellid eu gwneud yn dai da i'r bobl hynny sydd eu hangen. Chwech: diwygio nodyn cyngor technegol 6 i ganiatáu i blant ffermwyr sy'n byw gartref ond sy'n gweithio mewn mannau eraill gael caniatâd cynllunio i adeiladu cartrefi ar dir teuluol yn haws. A saith: adfer yr hawl i brynu yng Nghymru, adeiladu tai ar gyfer pobl leol ar gyrion cymunedau, gan ailfuddsoddi elw gwerthiant mewn mwy o dai cymdeithasol, ac, os ydych yn diogelu'r cartrefi hynny rhag cael eu gwerthu am 10 mlynedd, bydd gennych rywfaint o—[Torri ar draws.]

16:35

Yr hawl i brynu yw rhan o'r rheswm ein bod ni yma'n trafod hyn, a bod yn onest.

Gadewch inni gofio mai pwerau disgresiwn rŷn ni'n sôn amdanyn nhw fan hyn—peidiwch ag anghofio hynny. Pwerau disgresiwn sydd fan hyn, nid gorchymyn yn dweud, 'Defnyddiwch y pwerau yma', neu, 'Mae'n rhaid ichi roi'r pwerau yma ar waith.' Un elfen yw hon mewn ystod llawer ehangach o arfau posib y bydd ein hawdurdodau lleol ni yn gallu eu defnyddio. Mae'n rhaid ichi beidio ag edrych ar hwn ar ben ei hun, in isolation; mae hwn jest yn un elfen mewn ateb llawer iawn ehangach, a rhai ohonyn nhw, a dweud y gwir, yn rhai rŷch chi wedi cyfeirio atyn nhw nawr, er ei bod hi'n drueni ei bod hi wedi cymryd pum munud o negyddiaeth i ddod at gwpwl o bwyntiau adeiladol ar y diwedd. Ar ei ben ei hun, dyw hwn ddim yn silver bullet, a does neb yn awgrymu am eiliad ei fod e, ond mae e'n un arf ymhlith nifer y bydd awdurdodau lleol yn gallu ei defnyddio. 'Ymhlith nifer', dwi'n dweud, ac mae yna gamau eraill rŷn ni fel Plaid, wrth gwrs, yn eu cefnogi, yn cynnwys mynd i'r afael ag argaeledd tai, mynd i'r afael â fforddiadwyedd tai, newid y gyfraith gynllunio, edrych ar gynlluniau cofrestru statudol ar lety gwyliau, ochr yn ochr wedyn â defnyddio'r gyfundrefn drethiannol, er mwyn cychwyn delio, os caf i ddweud, â'r broblem yn yr ardaloedd lle mae'n argyfwng—ac mae eisiau cofio hynny hefyd. Ac 'argyfwng' yw'r gair, os caf i ddweud. Ac os ydyw hi'n argyfwng, yna mae angen ateb y Llywodraeth i adlewyrchu'r argyfwng hwnnw. 

Dwi'n deall y pwynt roedd y pwyllgor yn ei wneud ynglŷn â hawliau dynol. Ond beth am hawliau dynol y bobl honno sy'n cael eu gyrru allan o'u cymunedau am eu bod nhw'n methu â fforddio tai—y cymunedau yma lle maen nhw wedi cael eu magu, lle maen nhw wedi cael eu codi, lle maen nhw'n galw'n gartref a lle maen nhw eisiau byw? 'Hawl i Fyw Adra' yw enw'r ymgyrch. Mae hawliau gan y rhai hynny sydd heb le i fyw. Felly, mi fyddwn i'n annog Aelodau i gefnogi'r cynnig yma fel un darn o'r jig-so, fel un rhan o'r ymdrech i ddelio â'r broblem, a rhoi opsiwn ychwanegol i awdurdodau lleol. Posib fydd nifer ohonyn nhw ddim yn ei ddefnyddio fe, ond mae e'n opsiwn i'r ardaloedd hynny lle mae'r broblem ar ei ddwysaf, ac mae'r ymateb o fan hyn yn mynnu ymateb o'r fath.

Cyn imi ddechrau, hoffwn ddweud fy mod yn siarad fel aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ond nid ar ran y pwyllgor hwnnw. Rwyf wirioneddol eisiau adeiladu ar y pwynt a wnaeth Rhys yn gynharach am asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb. Mae'n fwy o bwynt gweithdrefnol. Ond, Llywydd, hoffwn ofyn i'r Gweinidog am y diffyg asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ym memorandwm esboniadol y rheoliadau hyn. Mae hwn yn bwynt sylfaenol ac yn un sy'n berthnasol i unrhyw benderfyniad sydd i'w wneud gan y Llywodraeth neu'r Senedd. Nawr, rwy'n deall fod hwn yn bwynt gweithdrefnol, fel y dywedais i, ond rwy'n dal i feddwl ei fod yn bwynt pwysig i'w godi, oherwydd, ni waeth beth yw ystyr y rheoliadau, maen nhw'n dal i gael effaith ar bobl, gan gynnwys y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig o bosibl.

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig iddyn nhw o ran cydraddoldebau. Yn wir, o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru gael trefniadau priodol ar gyfer cynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb. Ac eto, mae'r memorandwm esboniadol yn nodi: 

'Ni nodwyd unrhyw effaith negyddol ar grwpiau sydd â nodwedd warchodedig o ganlyniad i gyflwyno'r Rheoliadau hyn.'

Nid oes unrhyw wybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu ynghylch sut y cynhaliodd Llywodraeth Cymru asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y rheoliadau hyn ac a yw'n cydymffurfio â dyletswyddau cydraddoldeb cyfreithiol. Gweinidog, pa drefniadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i gydymffurfio â'i dyletswyddau cydraddoldeb wrth ddatblygu'r rheoliadau treth gyngor hyn? Ac os yw wedi cydymffurfio, ble mae'r dystiolaeth o hyn? Heb os nac oni bai bydd darparu'r holl wybodaeth yn helpu i wella gwaith craffu'r Senedd nid yn unig ar y rheoliadau hyn, ond ar rai yn y dyfodol hefyd. Diolch, Llywydd.

16:40

Wel, bydd pawb yma yn ymwybodol o odidogrwydd Dwyfor a Meirionydd, yr etholaeth y mae gen i'r fraint anhygoel o'i chynrychioli. Ond tra bod ymwelwyr yn mwynhau prydferthwch rhyfeddol y lle, y gwir ydy bod teuluoedd yn gorfod crafu byw yno, efo incwm y pen ymhlith yr isaf yn y wladwriaeth a gwerth tai wedi saethu i fyny. Yn wir, yn ddiweddar, clywsom ni am gyt ar lan traeth Abersoch yn gwerthu am £200,000. Mae fy swyddfa i o dan y don ar hyn o bryd efo pobl yn cysylltu eisiau cymorth yn ymwneud â thai: rhieni ifanc yn ddigartref; rhieni sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus, yn gweithio yn y sector breifat, yn ennill incwm ond yn byw'n ddigartref; babanod yn cael eu magu mewn tai cwbl anaddas, efo mamau, yn amlach na pheidio, yn gorfod cario'r goetsh i fyny efo'r siopa a'r baban yn y llaw, a gadael y goetsh i lawr er mwyn mynd i fyny i lofft tamp—tai yn gwbl anaddas ar eu cyfer nhw. O Aberdyfi, Beddgelert, Criccieth, Morfa Nefyn a phob cymuned arall rhyngddyn nhw, mae un o bob pedwar tŷ mewn llawer o'r cymunedau yma, ac weithiau un o bob dau o dai, yn eistedd yn wag am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, tra bod y teuluoedd yma, yn magu'u plant mewn tai anaddas, yn orlawn efo neiniau a theidiau ac aelodau eraill o'r teulu ehangach, yn gorfod edrych ar y tai yn eistedd yn wag.

Fel y dywedodd Llyr, mae'n argyfwng ac mae'n gwbl anfoesol. Mae'n rhaid cymryd camau er mwyn datrys hyn, a dwi'n siarad ar ran pob un o'r bobl yma dwi wedi gweld yn ystod yr wythnosau diwethaf sydd yn byw mewn cartrefi anaddas, sydd yn ddigartref, a dwi'n croesawu unrhyw gam sy'n cael ei gyflwyno er mwyn ceisio cywiro'r anghyfiawnder enbyd yma.

Heddiw, rwyf eisiau siarad ar ran y busnesau twristiaeth dilys hynny y bydd y rheoliadau hyn yn effeithio arnyn nhw. Mae llawer o fusnesau dilys y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw wedi cysylltu â mi, ynghylch y cynnydd yn nifer y dyddiau y mae angen eu gosod o 140 i 252. Mae llawer o'r busnesau hynny a sefydlodd, yn ddiffuant, eu cwmni'n fel y gall pobl ddod i Gymru i fwynhau ein golygfeydd, i wario arian yn ein hardaloedd lleol, yn pryderu'n fawr, os nad ydyn nhw'n yn cyrraedd y trothwy o ran nifer y dyddiau o osod, y bydd eu busnesau'n gorfod cau, pan fydd yr eiddo hynny, a fydd, rwy'n siŵr, yn mynd yn ôl ar y farchnad agored, mae llawer o'r rheini'n destun cyfyngiadau cynllunio, mae rhai ohonyn nhw'n rhy fawr, byddant yn rhy ddrud ac ni fydd pobl leol yn gallu eu fforddio. A'r hyn nad wyf eisiau ei weld yw gweld llawer o fusnesau'n mynd i'r wal, llawer o fusnesau na allan nhw fforddio talu'r dreth gyngor 300 y cant, oherwydd dyna sy'n mynd i ddigwydd.

Pan fydd ymwelwyr yn dod yma, ni fydd ganddyn nhw unrhyw le i aros. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders, mae'n rhaid i'r rhethreg ynghylch ail gartrefi ddod i ben. Nid perchnogion ail gartrefi yw'r broblem yma, nid pobl sy'n rhedeg busnesau go iawn, y Llywodraeth yma sydd wedi methu ers blynyddoedd i adeiladu'r tai y mae eu hangen arnom ar gyfer ein pobl ifanc. Gallai'r Llywodraeth hon ddiddymu'r dreth trafodiadau tir ar gyfer pobl ifanc. Gallech fwrw ymlaen ac adeiladu mwy o dai. Gallech gael gwared ar y rheoliadau ffosffad. Ond nid oes gennych gynllun i fynd i'r afael ag ef. Mae hon yn Llywodraeth sosialaidd nodweddiadol. Yr unig ffordd—[Torri ar draws.] Yr unig ffordd yr ydych yn ymdrin â phroblemau yw drwy drethi, trethi, trethi. Treth ar ddyhead yw hon, mae'n dreth ar dwristiaeth, ac mae'n dreth yn erbyn pobl sydd eisiau ymweld â Chymru. Felly, awgrymaf fod y Llywodraeth yn bwrw ymlaen, yn adeiladu mwy o dai ac yn rhoi polisïau ar waith sy'n cefnogi pobl ifanc mewn gwirionedd i brynu cartrefi ac nid trethu pobl oddi ar wyneb y ddaear hon.

16:45

Wel, ar thema debyg, i gyfiawnhau ei gyhoeddiad y bydd unrhyw fusnes hunanarlwyo sy'n methu—[Torri ar draws.]

A gawn ni glywed Mark Isherwood yn awr, os gwelwch yn dda? A gawn ni rywfaint o dawelwch?

Er mwyn cyfiawnhau ei gyhoeddiad y bydd unrhyw fusnes hunanarlwyo sy'n methu â bodloni ei gynnydd i 182 diwrnod o osod yn flynyddol yn cael ei ddileu o'r gofrestr ardrethi busnes ac efallai y bydd yn rhaid iddo dalu premiwm treth gyngor o hyd at 300 y cant, dywedodd eich Llywodraeth fod ymatebwyr i'r ymgynghoriad, ymatebwyr sy'n cynrychioli'r diwydiant twristiaeth ehangach, yn amlwg yn cefnogi newid i'r meini prawf a bod llety hunanarlwyo i'w ddosbarthu fel un annomestig, a hyd yn oed yn fwy annisgwyl, eu bod o'r farn y byddai'r rhan fwyaf o fusnesau llety gwyliau go iawn yn gallu bodloni trothwyon llety gwyliau uwch. Wrth gwrs, ers hynny, rydym wedi clywed protest gan y sector ledled Cymru.

Mynegwyd pryderon i mi gan fusnesau gwyliau dilys, yn cynnwys, 'Mae gennyf ddau lety gwyliau yng ngardd ein cartref yng Ngwynedd. Rydym ar agor drwy'r flwyddyn, yn llawn yn ystod y tymor brig, ond fel arfer dim ond archebion am wyliau byr penwythnos a gawn ni yn ystod y misoedd tawelach. Rwy'n ofni y byddwn yn fethdalwyr yn y pen draw.

'Mae'r chwe bwthyn gwyliau sydd gennym gerllaw ein cartref wedi bod yn fusnes i ni ers 25 mlynedd, ac i fusnesau fel ein un ni nad ydyn nhw'n bodloni'r 182 diwrnod o osod, sut y gellid codi'r dreth gyngor ar fythynnod sydd â chaniatâd cynllunio sy'n datgan na allant byth fod yn rhai preswyl?'

'Mae ein bwthyn gwyliau 6 metr o'n drws ffrynt, felly, yn amlwg, nid yw'n ail gartref ac mae'n nodi hyn yn y llyfr pryniad.'

'Rydym wedi bod yn masnachu dros y saith mlynedd diwethaf, wedi mynd dros 182 diwrnod o osod mewn pedair allan o'r saith mlynedd.'

Felly, mae angen i ni wybod pa asesiadau effaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal o ran y canlyniadau i fusnesau gwyliau cyfreithlon, busnesau a sefydlwyd, mewn llawer o achosion, mewn ymateb i alwadau gan Lywodraethau Cymru ers datganoli iddyn nhw arallgyfeirio o fewn yr economi wledig—busnesau sydd ag eiddo nad ydynt erioed wedi'u defnyddio ac na fyddant byth yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi. Diolch yn fawr.

Diolch, Llywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau hynny sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw. Rwyf am ddechrau drwy ymateb i'r pwyntiau a wnaed ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ac wrth gwrs mae'n wir bod yr adroddiad wedi nodi dau bwynt craffu rhinweddau o dan Reol Sefydlog 21.3, sydd o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol, neu'n codi materion polisi cyhoeddus sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Senedd. Ac, wrth gwrs, yn ein hymateb, gwnaethom ddatgan ein bod yn fodlon bod y rheoliadau'n gydnaws â hawliau'r confensiwn, a gwnaethom egluro pam yr aethpwyd ar drywydd opsiwn 2 o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn hytrach nag opsiwn 1, ac yna aeth y pwyllgor ymlaen i gael ymateb Llywodraeth Cymru, yn dilyn cyngor gan gyfreithiwr y Senedd, a chadarnhaodd eu bod yn fodlon â'r ymateb. Ond fe wnaf fyfyrio rhywfaint ar y pwyntiau a godwyd ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gan Rhys ab Owen a hefyd gan Peter Fox y prynhawn yma.

Bydd y rheoliadau hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol, a gallant roi mwy o gymorth i gymunedau lleol wrth fynd i'r afael â'r effeithiau negyddol gwirioneddol y gall ail gartrefi ac eiddo ecwiti hirdymor eu cael, a dyma un o'r dulliau sydd ar gael i ni i greu system decach. Ac, fel yr oedd Llyr Gruffydd yn ei ddweud, dyma un offeryn ymysg llawer. Ac, wrth gwrs, mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio'r offerynnau sydd ar gael i ni, a chredaf fod Llyr Gruffydd a Mabon ap Gwynfor wedi nodi'n glir pam y mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn.

Un o'r offerynnau eraill a fydd ar gael i ni yw mater y trothwyon ar gyfer llety gwyliau. Fodd bynnag, nid dyna'r hyn yr ydym yn ei drafod y prynhawn yma. Felly, caiff James Evans a Mark Isherwood gyfle i gyfrannu ynghylch y rheoliadau hynny maes o law. Mae ymgynghoriad technegol ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ymateb, felly rwy'n siŵr y byddan nhw'n manteisio ar y cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad technegol hwnnw, sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Byddwn yn amlwg yn parhau i wneud pob ymdrech i gynyddu cyflenwad a fforddiadwyedd cartrefi, ac rydym wedi dangos yr ymrwymiad hwnnw yn y £1 biliwn o gyllid i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel, a gynhwyswyd yn ein cyllideb derfynol, a gymeradwywyd ar 8 Mawrth. Ac rydym hefyd yn cymryd camau pwysig i fynd i'r afael â mater cartrefi gwag, oherwydd rydym yn cydnabod, wrth gwrs, y gall anheddau gwag, ac yn enwedig y rheini sydd wedi bod yn wag am gyfnodau hir, achosi problemau gwirioneddol i gymunedau lleol. Rydym wedi mabwysiadu dull system gyfan, wedi'i ategu gan fuddsoddiad sylweddol, i fynd i'r afael â'r materion hyn. Yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, rydym wedi sicrhau bod £11 miliwn ar gael i awdurdodau lleol yr effeithir ar eu cymunedau gan berchenogaeth ail gartrefi a llety gwyliau, fel y gallan nhw brynu ac adnewyddu'r cartrefi gwag hynny ar gyfer tai cymdeithasol. Mae hwnnw'n ymyriad pwysig iawn. A hefyd, rydym wedi cael ceisiadau am gyllid yn ddiweddar gan awdurdodau lleol sir Gaerfyrddin a sir Benfro, yn ceisio cymorth gyda phrynu ac adnewyddu cartrefi gwag, ac mae'r ceisiadau hynny'n dod i gyfanswm o dros £13.5 miliwn.

Wrth gwrs, gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r refeniw a godir o bremiymau i fynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar y cyflenwad lleol o dai fforddiadwy, gan gynnwys defnyddio tai gwag unwaith eto. Mae nifer o awdurdodau lleol eisoes wedi defnyddio'r premiwm—hyd yma, 11 ohonyn nhw—i fynd i'r afael â materion cartrefi gwag hirdymor neu ail gartrefi neu'r ddau. Mae Gwynedd ac Abertawe wedi gosod y premiwm ar yr uchafswm presennol, sef 100 y cant ar gartrefi, ac roedd hynny o 1 Ebrill 2021. Bydd sir Benfro yn gwneud hynny o 1 Ebrill 2022, ac mae Ynys Môn, Gwynedd, sir Benfro ac Abertawe hefyd wedi gosod premiwm o 100 y cant ar anheddau gwag hirdymor. Felly, mae'n amlwg bod awydd yma ar ran awdurdodau lleol i ymgysylltu â'r offeryn newydd yr ydym yn ei ddarparu iddyn nhw, a byddan nhw'n gwneud hynny ar ôl ymgynghori'n lleol ac ar ôl gwneud y penderfyniad hwnnw o fewn eu cynghorau ar yr adeg sy'n iawn iddyn nhw, a phennu'r lefel ar y pwynt sy'n iawn iddyn nhw, a dyna beth fydd y rheoliadau hyn heddiw yn eu galluogi nhw i'w wneud.

Felly, yn olaf, fel yr amlinellais yn fy natganiad ar ddiwygio'r dreth gyngor ym mis Rhagfyr, ein huchelgais yw bod diwygiadau i'r dreth gyngor wedi'u cynllunio i sicrhau bod cyfraniadau gan aelwydydd yn cael eu gwneud mor deg â phosibl—meiddiaf ddweud, Llywydd, y ffordd sosialaidd—gan hefyd ar yr un pryd, gynnal ei swyddogaeth fel ffrwd refeniw sylweddol, sydd, wrth gwrs, yn helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ledled Cymru. Wrth gwrs, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiadau. Diolch.

16:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly fe fyddwn ni'n gohirio'r eitem ar gyfer y pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Ac rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr nawr cyn inni gynnal y bleidlais yma. Felly, toriad byr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:52.

16:55

Ailymgynullodd y Senedd am 16:56, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

10. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Felly, mae'r unig bleidlais y prynhawn yma ar eitem 9 ar Reoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yma, felly, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.

Eitem 9. Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022: O blaid: 36, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 16:56.