Y Cyfarfod Llawn

Plenary

16/03/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Dirprwy Lywydd

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, hoffwn nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar yr agenda.

Byddwn yn atgoffa'r holl Aelodau i sicrhau bod eu cwestiynau'n gryno ac o fewn amser, ac i Weinidogion hefyd roi atebion cryno. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Yn gyntaf y prynhawn yma mae cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae cwestiwn 1 gan Mark Isherwood.

Tlodi

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru? OQ57781

Mae ein rhaglen lywodraethu'n nodi uchelgeisiau clir i sicrhau Cymru fwy llewyrchus a mwy cyfartal a chreu canlyniadau gwell i bobl. Rwy’n gweithio gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet i sicrhau bod ymrwymiadau'r rhaglen yn cael eu llunio a’u cyflawni gyda threchu tlodi ac anghydraddoldeb yn nod canolog.

Diolch. Fel y gwyddoch, ym mis Rhagfyr 2018, nododd Sefydliad Joseph Rowntree mai Cymru, o bedair gwlad y DU, sydd wedi bod â'r gyfradd tlodi uchaf yn gyson dros yr 20 mlynedd diwethaf. Roeddent yn dweud ym mis Tachwedd 2020 fod bron i chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi cyn y coronafeirws hyd yn oed. A fis Mai diwethaf, dywedodd cynghrair Dileu Tlodi Plant y DU mai Cymru sydd â’r gyfradd waethaf o dlodi plant o bob gwlad yn y DU. Pa ystyriaeth y byddwch yn ei rhoi, felly, i'r adroddiad 'Poverty Trapped' fis Tachwedd diwethaf gan John Penrose AS, sy’n dadlau bod Prydain gyfan wedi methu trechu tlodi oherwydd y ffocws ar drin y symptomau yn hytrach na'r achosion strwythurol ac mai

'ateb gwell fyddai gwella cyfleoedd i bawb, gan eu harfogi â'r sgiliau a'r agweddau i achub ar gyfleoedd pan fyddant yn codi fel y gallwch gael mwy o reolaeth dros eich llwybr mewn bywyd.'

Mae’n adroddiad sydd wedi cael cefnogaeth nifer o arbenigwyr, gan gynnwys yr athro symudedd cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerwysg, a ddywedodd:

'Mae hwn yn adroddiad difrifol ar bwnc a ddylai fod yn gymhelliant canolog i unrhyw un sy'n ymhél â gwleidyddiaeth: sut y mae creu cymdeithas lle y gall pawb achub ar gyfleoedd, beth bynnag fo'u cefndir?'

Diolch, Mark Isherwood. Wel, fe wyddoch mai'r ysgogiadau allweddol ar gyfer trechu tlodi yw'r pwerau dros y system dreth a lles sydd gan Lywodraeth y DU, ond rydym yn gwneud popeth a allwn i leihau effeithiau tlodi a chefnogi'r rheini sy'n byw mewn tlodi. Ac fe fyddwch yn ymwybodol iawn o'n cynllun cymorth tanwydd y gaeaf ar gyfer 2022, gyda'r taliad o £200, a gynorthwyodd deuluoedd i dalu eu costau ynni a chadw eu cartrefi’n gynnes, yn ogystal â'r uwchgynhadledd costau byw a gadeiriais ar 17 Chwefror, gydag amryw o randdeiliaid, fel y gallem nid yn unig fynd i'r afael â'r argyfwng byrdymor, uniongyrchol yn sgil toriadau lles yn arbennig, a chodi trethi o ganlyniad i weithredoedd eich Llywodraeth, ond i edrych hefyd ar y ffordd ymlaen mewn perthynas ag anghenion a pholisïau tymor canolig a mwy hirdymor i drechu tlodi, ac edrych yn ofalus ar ganfyddiadau ein hadolygiad tlodi plant wrth eu hystyried ochr yn ochr â thystiolaeth ynglŷn â'r hyn sy’n gweithio i Gymru mewn perthynas â threchu tlodi.

Prif achos tlodi yw cyflogau isel ac oriau afreolaidd. A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod angen gwrthdroi’r toriad creulon i'r credyd cynhwysol a rhoi diwedd ar gontractau ecsbloetiol—diswyddo ac ailgyflogi—a bod pawb yn cael y cyflog byw gwirioneddol fan lleiaf?

Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges. Fis Hydref diwethaf, gwnaeth penderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â'r codiad o £20 yr wythnos i'r credyd cynhwysol i ben orfodi miloedd o aelwydydd ledled Cymru i fywyd mewn tlodi. Hefyd, gyda rhagolygon y bydd chwyddiant yn cyrraedd 7 y cant, cafodd y cynnig i gymeradwyo’r cynnydd o 3.1 y cant yn unig mewn taliadau budd-daliadau lles o fis Ebrill ymlaen ei basio yn Nhŷ’r Cyffredin, a chyda chefnogaeth lawn yr ASau Ceidwadol mae'n rhaid imi ddweud. Ond mae'r hyn a ddywedwch yn wir ynglŷn â sicrhau hefyd ein bod yn gweithio i wella lefelau cyflog ac yn mynd i'r afael â chontractau ecsbloetiol. Mae'n hanfodol ein bod yn arwain drwy esiampl fel cyflogwr cyflog byw gwirioneddol achrededig, ac yn sicrhau hefyd, drwy ein gwaith teg a'n partneriaeth gymdeithasol, ein bod yn mynd i'r afael â'r contractau ecsbloetiol hynny hefyd.

13:35
Costau Byw

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fentrau Llywodraeth Cymru i gynorthwyo aelwydydd gyda'r cynnydd parhaus mewn costau byw? OQ57805

Ar 16 Tachwedd, cyhoeddais becyn cymorth gwerth £51 miliwn ar gyfer aelwydydd incwm isel. Yn ogystal, ar 14 Chwefror, gwnaethom gyhoeddi pecyn cymorth gwerth mwy na £330 miliwn, i ariannu amrywiaeth o fentrau a fydd yn cynorthwyo aelwydydd Cymru i ymdopi â'r argyfwng costau byw.

Diolch, Weinidog. Gofynnais i chi am y costau byw; wrth gwrs, yr hyn y dylwn fod wedi gofyn i chi yn ei gylch oedd yr argyfwng costau byw Torïaidd. Nid damwain yw hyn, nid gweithred gan Dduw, ond canlyniad polisi bwriadol i greu rhagor o dlodi ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn y wlad hon. Cawsom ddegawd o gyni, a fethodd gyflawni pob amcan a osodwyd ar ei gyfer, ac mae gennym bellach argyfwng costau byw a grëwyd yn Stryd Downing. Gwyddom y bydd argyfwng i’r rhai mwyaf agored i niwed, gwyddom y bydd codiadau, nid yn unig yn y costau gwresogi a welwn ar hyn o bryd, a’r costau tanwydd a welwn ar hyn o bryd, ond gwyddom hefyd y bydd codiadau gwirioneddol yng nghost bwyd wrth inni fynd i mewn i’r gwanwyn a’r haf. Weinidog, a allwch barhau i wneud y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei arwain, i ddarparu cymorth a diogelwch i’r bobl fwyaf agored i niwed, i barhau i weithio i wrthdroi’r toriadau i'r credyd cynhwysol, ac i sicrhau bod cyllidebau teuluoedd a'r teuluoedd dan fwyaf o bwysau yn y wlad hon yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i'w cael drwy'r amseroedd hyn?

Diolch yn fawr iawn, Alun Davies. Ac yn wir, canlyniad degawd o gyni a grëwyd yn Stryd Downing, yw bod pobl, aelwydydd yn wynebu'r argyfwng costau byw hwn. Mae’n argyfwng costau byw Torïaidd, ac mae’n cael ei achosi gan brisiau ynni cynyddol, ond hefyd, mae pwysau ar gyllidebau aelwydydd, newidiadau i'r credyd cynhwysol, yn golygu y bydd tri chwarter yr aelwydydd ar gredyd cynhwysol yn waeth eu byd ym mis Ebrill nag a oeddent flwyddyn yn ôl. Mae pobl wedi colli mwy na £1,000 o ganlyniad, a hefyd, bydd derbynwyr nad ydynt yn gweithio o gwbl yn colli’r codiad COVID cyfan, sy'n cyfateb i dros £1,000 y flwyddyn. Felly, mae'n bwysig fod gennym ein pecyn cymorth gwerth £330 miliwn i gynorthwyo aelwydydd. Ond nid oes a wnelo hyn â threchu tlodi tanwydd yn unig. Soniais am ein cymorth tanwydd y gaeaf, ond mae gennym £1.1 miliwn yn mynd i gefnogi a hybu banciau bwyd, partneriaethau bwyd cymunedol, hybiau cymunedol; £60,000 i barhau i godi ymwybyddiaeth o gredyd fforddiadwy, gyda'n hundebau credyd; £250,000 i dreialu cynllun cymorth trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer ceiswyr lloches; a hefyd, £1.3 miliwn—sy'n berthnasol i chi, wrth gwrs, Alun Davies—i'w gwneud yn haws i bobl yng nghymunedau'r Cymoedd, a'r rheini nad oes ganddynt fynediad at dechnoleg ddigidol, fanteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus newydd a gwell. Felly, mae’r rhain oll yn ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r argyfwng costau byw Torïaidd hwn.

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, prif weithredwr Age Cymru, cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru, prif weithredwr Gofal a Thrwsio Cymru, pennaeth National Energy Action Cymru, a phennaeth Oxfam Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd sy’n nodi y dylid ehangu cymhwystra ar gyfer cynllun cymorth tanwydd y gaeaf i gynnwys pobl hŷn sy’n hawlio credyd pensiwn. Nawr, mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 yn nodi y bydd y meini prawf yn cael eu hehangu i bensiynwyr sy’n gymwys i gael credyd pensiwn. Er y byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau y bydd unigolion sy’n hawlio credyd pensiwn yn dod yn gymwys o ddechrau’r flwyddyn ariannol nesaf, Weinidog, a wnewch chi egluro’r rhesymeg dros eu heithrio yn y flwyddyn ariannol hon ac a ellir darparu unrhyw gymorth ôl-weithredol i'w cynorthwyo gyda'u tlodi tanwydd? Nid yw’n deg rhoi'r bai am yr argyfwng costau byw ar y Ceidwadwyr yn Llywodraeth y DU. Mae pethau y gallwch eu gwneud yn Llywodraeth Cymru, felly pam nad yw’r cymorth hwnnw ar gael iddynt ar gyfer eleni? Diolch.

Wel, Janet Finch-Saunders, er budd y bobl sydd eisoes wedi elwa o'n cynllun cymorth tanwydd y gaeaf unigryw a phwrpasol, mae’n wirioneddol bwysig gweld y ffaith bod y cynllun hwnnw wedi estyn allan, yn enwedig at yr aelwydydd sy’n cael budd-daliadau oedran gweithio sy'n dibynnu ar brawf modd i’w cynorthwyo gyda chostau tai hanfodol, a chydnabod bod llawer ohonynt wedi colli credyd cynhwysol—y toriad hwnnw gan eich Llywodraeth Dorïaidd. Ac mae'n bwysig iawn gwybod bod awdurdodau lleol wedi cael bron i 200,000 o geisiadau ers i'r cynllun agor ddiwedd mis Rhagfyr.

Byddwn yn ailadrodd y cynllun hwn. Mae hwn yn gynllun ar gyfer Cymru'n unig. A dweud y gwir, cydnabyddir ein bod wedi bod yn fwy hael na rhannau eraill o'r DU. Yn amlwg, nid oes unrhyw beth yn dod gan Lywodraeth y DU o ran y math hwn o gymorth. Felly, yn ein huwchgynhadledd costau byw, gwnaethom drafod hyn gyda phartneriaid. Dywedasom y byddem yn ystyried ehangu’r cymhwystra, yn dyblu'r arian i £200, ac yn edrych yn arbennig ar yr aelwydydd sy'n fwy agored i niwed o ganlyniad i gyni, ac o ganlyniad i’r toriad i'r credyd cynhwysol, a'r ffaith, o fis Ebrill, nid yn unig o ran costau tanwydd cynyddol, chwyddiant cynyddol, ond hefyd, y cynnydd o 3.1 y cant i fudd-daliadau—a 7 y cant o ran chwyddiant—. At bwy y mae'r bobl ar fudd-daliadau'n mynd i droi? Bydd yn rhaid iddynt droi at Lywodraeth Cymru, ond dylent fod yn troi at Lywodraeth y DU am fargen well o lawer i’r aelwydydd hynny.

13:40

Hoffwn gysylltu fy hun efo'r sylwadau gafodd eu gwneud gan Alun Davies a'r Gweinidog. Yn sicr, mae hyn yn ddewis gwleidyddol, a fedrwn ni ddim osgoi'r ffaith, ac mae'n rhaid i chi gymryd cyfrifoldeb os ydych chi'n gwneud penderfyniadau gwleidyddol sydd yn amharu ar yr argyfwng costau byw.

Fis diwethaf, trefnais uwchgynhadledd costau byw ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru yn Nhrefforest, gan ddod â sefydliadau trydydd sector a gwirfoddol ynghyd i drafod yr heriau rydym yn eu gweld yn ein cymunedau, a thrafod sut y gallwn sicrhau bod y gefnogaeth ar gael i'r rhai sydd yn cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw. Tra'n ddiolchgar am waith caled pawb fynychodd, yn cefnogi unigolion a theuluoedd, roedd pawb yn pryderu bod hwythau dan bwysau o ran medru ateb y galw. Mae o'n warthus bod ni'n gweld mwy o angen ar fanciau bwyd, a bod nhw'n cael eu gweld fel y norm o fewn cymdeithas yn lle bod ni'n uno i stopio'r angen iddyn nhw fodoli. Pa gefnogaeth, felly, sydd yn cael ei roi nid yn unig yn uniongyrchol i aelwydydd, ond hefyd i'r trydydd sector a'r sector gwirfoddol i sicrhau bod modd cydlynu'r gefnogaeth sydd ar gael, a sicrhau bod pawb sydd angen cymorth yn derbyn y cymorth sydd ar gael?

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Ac mae'n galonogol iawn eich bod wedi cynnal yr uwchgynhadledd leol honno hefyd a edrychai ar yr argyfwng costau byw. Cawsom dros 140 o bartneriaid yn yr uwchgynhadledd ar gyfer Cymru gyfan, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy’n hollbwysig ar lefel yr awdurdodau lleol ar gyfer cydgysylltu, yn ogystal â’r sector gwirfoddol i ateb y galw hwnnw. Credaf fod yn rhaid inni ddweud eto fod hwn yn argyfwng costau byw sydd wedi’i greu o ganlyniad i bolisïau Llywodraeth y DU, ac rydym yn cynnig y cymorth o £200 i aelwydydd. Ond hefyd, rydym yn ariannu ein trydydd sector, ac yn arbennig o bwysig i'ch cwestiwn, mae'r cymorth a roddwn i'r gronfa gynghori sengl, Cyngor ar Bopeth, gan weithio ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Trussell, y banciau bwyd, yr holl grwpiau tosturiol a gofalgar yn ein hardaloedd sy’n gweithio i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn.

Ond hoffwn ddweud un peth arall. Rwy’n siŵr y byddech yn ymuno â ni i ddweud bod yn rhaid i’r Canghellor wneud rhywbeth yn natganiad y gwanwyn i gyflwyno cyllideb a fydd yn dangos mewn gwirionedd fod Llywodraeth y DU yn ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am yr argyfwng costau byw hwn, o ran treth a lles. Eu cyfrifoldeb hwy ydyw, ac rydym yn cefnogi'r galwadau am dreth ffawdelw ar gynhyrchwyr olew a nwy môr y Gogledd. Mae honno'n un ffordd y gallent sicrhau'r cyllid a defnyddio'r cyllid hwnnw i gefnogi aelwydydd bregus.

Rwy'n cysylltu fy hun â sylwadau Alun Davies a Heledd Fychan. Ac rwy'n parhau i ddweud, hyd nes bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyfleu'r neges i'w cyd-Aelodau yn Senedd y Deyrnas Unedig, y dylent adfer y toriad o £20 i'r credyd cynhwysol. Mae'n gywilyddus—mae'n gwbl gywilyddus nad ydynt yn gwneud hynny, ac rwy'n mawr obeithio y byddant yn oedi ac yn ystyried—[Torri ar draws.]

—oedi ac yn ystyried yr effaith yr ydych yn ei chael ar deuluoedd tlawd iawn.

Hoffwn grybwyll y teuluoedd y mae cynnydd mewn prisiau tanwydd yn effeithio arnynt, yn enwedig mewn rhanbarthau gwledig, fel fi, a gwn fod fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, wedi codi hyn hefyd. Mae'r bobl nad ydynt ar y grid, sy'n dibynnu ar danwydd solet, olew a thrydan, yn wynebu cynnydd sylweddol yn eu costau tanwydd ac ynni. Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, mae 27 y cant o'r eiddo heb fod ar y grid, gyda Phowys a Cheredigion ymhlith yr uchaf. A gaf fi ofyn, Weinidog, pa gamau y gallech eu hystyried i gefnogi pobl yn y sefyllfa hon ac efallai ystyried taliad untro i’r aelwydydd yr effeithir arnynt? Diolch yn fawr iawn.

13:45

Diolch yn fawr iawn, Jane Dodds. Wrth gwrs, bydd yr argyfwng costau byw yn arwain at drafferthion ariannol i lawer mwy o aelwydydd yng Nghymru, gan gynnwys y rheini mewn ardaloedd gwledig. Rydym wedi canolbwyntio ein cymorth, gyda'r Gweinidog cyllid, ar yr aelwydydd mwyaf agored i niwed ac rydym wedi cyhoeddi dadansoddiad sy'n dangos dosbarthiad ac effeithiau ein hymateb uniongyrchol, y byddwch yn ei groesawu, rwy'n siŵr, i weld lle'r ydym yn targedu hyn yn effeithiol.

Yn ogystal â’r taliad costau byw o £150 ar gyfer pob aelwyd mewn eiddo ym mandiau A i D y dreth gyngor, yn ogystal â'r taliad o £200, hoffwn ddweud, i'r ardaloedd gwledig, i gartrefi nad ydynt ar y grid, fod cyllid ar gyfer y gronfa cymorth dewisol yn hollbwysig. Cafodd ei gynyddu. Gwnaethom ei ddwyn ymlaen i gefnogi'r gwaith o gyflwyno cymorth dros y gaeaf i gleientiaid tanwydd nad ydynt ar y grid. Ac wrth gwrs, fe wyddom, mewn ardaloedd gwledig, yn eich ardaloedd chi, fel y dywedoch chi, fod un o bob tair aelwyd yn cael rhywfaint o'u cyflenwad ynni neu'r cyflenwad cyfan o ffynonellau nad ydynt ar y grid. Felly, gan ailgyflwyno hynny, cyflwynwyd y gyllideb derfynol, gyda chyllid pellach ar gael i sicrhau ein bod yn cyflawni hyn. Ac mae'n wir fod angen inni gyrraedd y rheini. Ac i roi rhai enghreifftiau i chi, fe wnaethom helpu 494 o ymgeiswyr yn sir Gaerfyrddin, Ceredigion, sir Benfro a Phowys o ganlyniad i'r gronfa cymorth dewisol bwrpasol honno. Felly, Cymru gyfan. Mae gan yr ardaloedd gwledig broblemau penodol o ran ffynonellau ynni a thanwydd nad ydynt ar y grid, ond rydym yn ymateb i hynny drwy'r gronfa cymorth dewisol a gadwyd ar agor gennym, ac rydym wedi cadw’r hyblygrwydd y galwyd amdano yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac mae hynny'n mynd i wneud gwahaniaeth.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch. Fel y gwyddoch o ohebiaeth, mae cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng ngogledd Cymru wedi mynegi pryderon difrifol nad yw asesiadau llety Sipsiwn/Teithwyr awdurdodau lleol wedi ymgysylltu â hwy, ac felly, mae'r asesiadau hynny wedi methu nodi eu hanghenion llety. Ysgrifennodd eiriolwr ar eu rhan at eich adran, gan nodi eu bod yn parhau i ymgyrchu am safleoedd newydd, hyd yn oed os yw gwleidyddion o bob plaid a swyddogion proffesiynol yn eu hanwybyddu’n llwyr, ac nad yw'r gyfraith a’r canllawiau presennol yng Nghymru—cyfraith a chanllawiau Llywodraeth Cymru—yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn adeiladu safleoedd preswyl neu safleoedd tramwy newydd, nac yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer safleoedd preifat. O ran eich cyfrifoldebau eich hun yng Nghymru, nid yw ymateb eich is-adran cymunedau ond yn datgan, 'Rydym yn argymell yn gryf fod awdurdodau lleol yn dilyn y canllawiau'n agos, ynghyd ag unrhyw astudiaethau sydd ar y gweill ar hyn o bryd.' Sut rydych chi, felly, yn ymateb i'r Sipsiwn yng ngogledd Cymru sydd wedi dweud, 'Hiliaeth yw cael cyfarfodydd am safleoedd heb fod Sipsiwn yno. Cyn bo hir, ni fydd gennym unrhyw safleoedd tramwy yng ngogledd Cymru na de Cymru. Rwy'n teimlo bod y bobl yr oeddwn am ymddiried ynddynt wedi gwneud tro gwael â ni, a dywedwch wrthynt am beidio â chwyno pan fydd y teuluoedd sydd angen safleoedd tramwy a safleoedd parhaol, nad ydynt wedi'u cynnwys yng nghynlluniau'r cyngor, yn mynd i mewn i gaeau ac ati'?

Diolch, Mark Isherwood, am gwestiynau pwysig iawn mewn perthynas â chyflawni ein hymrwymiadau i Sipsiwn, Roma a Theithwyr er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau statudol i ddarparu safleoedd digonol a phriodol lle bo angen. Ac fe wnaethom ail-greu'r ddyletswydd hon—Llywodraeth Cymru a'r Senedd yma—i nodi a diwallu'r angen am lety priodol. Mae hynny o fewn—ac roeddech chi yma—Deddf Tai (Cymru) 2014, ac mewn gwirionedd, rydym wedi gweld ymhell dros 200 o leiniau newydd yn cael eu creu neu eu hadnewyddu, yn bennaf ar safleoedd llai, a hynny o'i gymharu â'r hyn a oedd ar gael cyn hynny, sef llond llaw yn unig, ac rydym hefyd yn ariannu awdurdodau lleol i adeiladu lleiniau newydd ac adnewyddu llawer mwy.

Mae'n hanfodol fod Sipsiwn/Roma/Teithwyr yn cymryd rhan yn y broses gyda'u hawdurdodau lleol. Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw hyn ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi a chael gwared ar rwystrau i ddiwallu anghenion. Rydym yn ariannu Teithio Ymlaen, fel y gwyddoch wrth gwrs, drwy TGP Cymru i ddarparu cyngor ac eiriolaeth i gefnogi cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac mae’r cyllid hwnnw’n parhau hefyd. Ond mae'n wir—rwy'n credu eich bod yn iawn, Mark—y ffaith bod gennym gyfle eto yn awr i adolygu, o ganlyniad i'r asesiadau llety—mae'r dyddiad cau wedi bod—ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, ac mae angen inni edrych ar hyn o safbwynt cydymffurfiaeth, canllawiau, ansawdd yr ymgysylltu a chyfrifo anghenion.

13:50

Roeddech chi a minnau’n bresennol yn 2005 yn lansiad yr adroddiad ar anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn Llandrindod, os cofiaf yn iawn, a dilynwyd hynny gan y ddeddfwriaeth. Ond y pwynt yma yw bod aelodau’r gymuned eu hunain yn dweud nad yw eu llais wedi’i glywed yn yr asesiad a gyflwynwyd i chi, ac felly nad yw’n adlewyrchu gwir angen ac mae’n creu bom amser o broblemau ar gyfer y dyfodol.

Ond i symud ymlaen, mae eich cyfrifoldebau cydraddoldeb a hawliau dynol hefyd yn cynnwys cam-drin domestig. Mae Hourglass Cymru, yr unig elusen yng Nghymru sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar roi diwedd ar niweidio a cham-drin pobl hŷn, wedi gweld cynnydd o 47 y cant yn y galwadau a atebwyd yn ystod y pandemig, gyda dros 25 y cant yn dod y tu allan i oriau gwaith arferol. Dangosodd arolwg barn yn 2020 gan Hourglass fod dros 443,000 o ddioddefwyr cam-drin hŷn yng Nghymru, ac mae eu llinell gymorth rhadffôn genedlaethol yn darparu cymorth a chyngor i’r dioddefwyr hyn ac unrhyw un sydd â phryderon yn ymwneud â cham-drin ac esgeuluso pobl hŷn. A heddiw, mae Hourglass Cymru wedi lansio gwasanaeth 24/7 i gefnogi pobl hŷn a’u teuluoedd, y gwasanaeth cyntaf o’i fath yng Nghymru gydag arbenigedd mewn perthynas â cham-drin pobl hŷn. Mae Swyddfa Gartref y DU—

Iawn. Mae Swyddfa Gartref y DU wedi cefnogi’r gwasanaeth hwn yn Lloegr, ac yng Nghymru, mae Hourglass yn defnyddio eu cronfeydd wrth gefn eu hunain i ariannu’r gwasanaeth. Pa ystyriaeth a roddwyd gennych felly i sicrhau’r un lefel o gymorth arbenigol i bobl hŷn sydd mewn perygl, ac a wnewch chi gyfarfod ag Hourglass Cymru i drafod y gwasanaeth hanfodol hwn ac ystyried darparu cymorth arbenigol?

Diolch, Mark Isherwood. Wel, rwy'n fwy na pharod i gyfarfod ag Hourglass. Ond hefyd, rwyf wedi cyfarfod â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru mewn perthynas â'r mater hwn, sydd, ei hun a chyda’i thîm, wedi gwneud ymchwil ac wedi ymgysylltu â phobl hŷn i nodi achosion o gam-drin pobl oedrannus. Mae hyn yn hanfodol i gam nesaf ein strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Rydym wedi ymgynghori ar y mater, rydym yn datblygu'r strategaeth genedlaethol bum mlynedd nesaf, mae gennym sefydliadau partner allweddol, a byddaf yn ymateb i hynny cyn bo hir. Ond mae’n wir fod yn rhaid inni edrych ar hyn yn enwedig mewn perthynas â’r pandemig a’r effaith a gafodd y cyfyngiadau symud a’r pandemig ar bobl hŷn hefyd. Felly, rwy’n ddiolchgar ichi am dynnu fy sylw at hyn y prynhawn yma.

Byddant yn falch o glywed eich cynnig i gyfarfod oherwydd, fel y dywedant, mae cam-drin pobl hŷn yn parhau i fod yn faes nad yw’n cael ei gefnogi’n ddigonol ac nad adroddir yn ei gylch yn ddigonol.

Fy nghwestiwn olaf. Mae eich cyfrifoldebau mewn perthynas â chydraddoldeb a hawliau dynol hefyd yn cynnwys tlodi mislif. Gan weithio gyda'u llysgenhadon actif, datblygodd Grŵp Llandrillo Menai ymgyrch 'Nid Yw'n Rhwystr'. Ym mis Chwefror 2019, cyn COVID a chyfyngiadau symud y Llywodraeth, gwnaethant ffilmio a chyfweld ag amryw o athletwyr o bob rhan o ogledd Cymru i rannu eu profiad o reoli eu mislif wrth barhau i hyfforddi, ac fel rhan o hynny, mae’r coleg am hyrwyddo pwysigrwydd parhau â gweithgarwch corfforol i dynnu sylw at fanteision lleihau symptomau mislif ac na ddylai'r mislif fod yn rhwystr rhag cymryd rhan mewn dysgu na gweithgarwch llesol. Maent hefyd wedi datblygu adnoddau ymarfer corff ategol am ddim y gall dysgwyr eu gwneud gartref a chynghorion ar hunanofal a hylendid mislif. Wel, fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, felly, pa drafodaeth yr ydych yn ei chael gyda’r Gweinidog addysg ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi dysgwyr addysg bellach a dysgwyr mewn addysg seiliedig ar waith sy’n cael mislif, gan gynnwys dysgwyr traws, yn y tymor hwy?

Gwneuthum ddatganiad ychydig wythnosau yn ôl, fel y byddwch yn cofio, ar urddas mislif, yn tynnu sylw unwaith eto at y ffaith ein bod wedi blaenoriaethu hyn yn ein rhaglen lywodraethu. Mae gennym ein cynllun gweithredu strategol ar urddas mislif o ganlyniad i ymgynghori, ac rwy'n cadeirio grŵp bord gron gyda rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys y rheini o'r sector addysg, ysgolion a cholegau. Ac yn wir, rydym wedi darparu £110,000 ychwanegol i awdurdodau lleol eleni, ond mae hynny'n ychwanegol at y £3.3 miliwn i awdurdodau lleol a cholegau bob blwyddyn. Yr hyn sy'n hollbwysig yw'r ffaith bod dysgwyr yn cymryd rhan yn y grŵp bord gron. Mae gennym lysgenhadon, ac fe fyddwch wedi cyfarfod â hwy, ac mae’r cyfarfod nesaf yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar 22 Ebrill.

13:55

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae 3 miliwn o ffoaduriaid bellach wedi gadael Wcráin. Mae’r DU yn ei gwneud yn ofynnol i’r ffoaduriaid hynny wneud cais am fisâu, ac mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod dileu rheolau fisâu, er bod hyn yn gwrth-ddweud ein rhwymedigaethau rhyngwladol o dan gonfensiwn ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig 1951, sy’n nodi na ddylai unrhyw un sy'n ffoi rhag rhyfel, o ble bynnag y deuant, orfod gwneud cais am fisa cyn ceisio diogelwch.

Mae grŵp o ffoaduriaid o Abertawe, yr ail ddinas noddfa erioed yn y DU, wedi ysgrifennu llythyr agored at y Llywodraeth, yn galw am fwy o gymorth i bawb mewn amgylchiadau eithafol ledled y byd i gael ffordd ddiogel o gyrraedd y DU. O ystyried y safbwynt ar fisâu a nodwyd gan y Prif Weinidog yr wythnos hon, yn groes i safbwynt eich cyd-bleidwyr Llafur yn San Steffan, gan gynnwys ASau Llafur hŷn o Gymru, a wnewch chi ddatgan heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso am hepgor gofynion fisâu yn llwyr ar gyfer pob ffoadur, yn unol â’n nod i Gymru ddod yn uwch-noddwr i’r rheini sy’n ffoi o Wcráin ac yn genedl noddfa go iawn?

Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr, Sioned Williams. Ac wrth gwrs, rwy’n cymeradwyo ymrwymiad y Prif Weinidog i hyn. Mae angen inni sicrhau nad oes unrhyw rwystrau rhag cefnogi pobl sy’n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin. Rydym am ddarparu noddfa a diogelwch yng Nghymru. Rydym am iddynt ddod yma. Gellir gwneud unrhyw wiriadau sydd eu hangen pan fyddant wedi cyrraedd yma, felly rwy'n cymeradwyo'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn llwyr. Ac roedd yn ei ddweud fel Prif Weinidog Cymru, sy’n gyfrifol am bolisi Llywodraeth Cymru ar y mater, ond nid yw'r pwerau hynny wedi’u datganoli, felly yr hyn sy’n bwysig yw bod y Prif Weinidog wedi cadarnhau ein bwriad i ddod yn uwch-noddwr ar gyfer cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU.

Rwyf newydd gyhoeddi diweddariad heddiw, yn dilyn datganiad y Prif Weinidog ddydd Llun, ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gwblhau’r manylion er mwyn sicrhau y gellir gwneud y trefniadau paru cyntaf o dan y cynllun hwn. Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’n holl awdurdodau lleol. Cyfarfu pob un ohonynt â’n swyddogion ddoe. Drwy sefydliadau trydydd sector, rydym bellach yn datblygu cysylltiadau â rhwydweithiau a grwpiau o Wcreiniaid ledled Cymru gyfan, ac rwy'n ddiolchgar am y cysylltiadau sydd wedi'u rhannu â mi o bob rhan o'r Siambr. Ac wrth gwrs, dyma lle mae'n rhaid i ni ein hunain fod yn barod gyda'r canolfannau croeso, y gwasanaethau cofleidiol y gall fod eu hangen ar bobl sy'n cyrraedd o ardaloedd rhyfel.

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac mae’n dda clywed bod cynnydd yn cael ei wneud ar ein hymateb i gynllun noddi’r DU, gan fod y cynllun hwnnw ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin yn gwbl annigonol. Mae'r system yn rhy araf, mae'n anghyson, ac mae wedi cadw awdurdodau lleol Cymru yn y tywyllwch. Ysgrifennodd arweinydd Cyngor Gwynedd ddoe at Brif Weinidog y DU, yn mynegi cryn bryder ynghylch yr hyn y maent wedi’i alw’n ymateb annigonol ac anaddas gan Lywodraeth y DU, ac yn tynnu sylw at y modd y maent wedi mynegi parodrwydd i ddarparu noddfa i ffoaduriaid a sicrhau bod llety ar gael yn awr, ond heb gael unrhyw wybodaeth am fwriadau Llywodraeth y DU.

Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch dod yn uwch-noddwr i ffoaduriaid o Wcráin i’w groesawu’n fawr, felly a wnewch chi ddarparu rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r cynnig hwn a sut y bwriadwch weithio gydag awdurdodau lleol i greu strwythur cymorth cyfannol a chadarn? Rwy’n deall bod Llywodraeth y DU wedi cytuno i ddarparu £10,000 i awdurdodau lleol ar gyfer unigolyn, ond ni cheir unrhyw gymorth i sefydliadau elusennol. Felly, pa adnoddau y credwch y byddant ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol, ac a fydd unrhyw gyllid ar gael i sefydliadau trydydd sector allu darparu cymorth arbenigol hanfodol i bobl sy'n cyrraedd?

Wel, diolch yn fawr iawn unwaith eto am eich cwestiwn dilynol. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth yr Alban, fel y gwyddoch, fel bod Prif Weinidog yr Alban a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi codi’r cynnig hwn inni ddod yn uwch-noddwyr, yn seiliedig ar ein profiad mewn gwirionedd, ein hymrwymiad fel cenedl noddfa, ein profiad o ganlyniad i’r bobl a adawodd Affganistan, ond hefyd am flynyddoedd cyn hynny, degawdau o groesawu pobl i Gymru, gan ein bod yn gweithio fel tîm. Yn wir, cyfarfuom â holl arweinwyr llywodraeth leol Cymru, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a minnau, cyn gynted ag y gallem. Rwyf am ddweud hefyd, yn ogystal â bod arweinydd Cyngor Gwynedd wedi mynegi ei bryderon, ysgrifennodd y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ar unwaith hefyd wrth i bethau ddechrau symud, am ei fod yn pryderu am y rhwystrau gyda fisâu. Felly, ysgrifennodd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyd hefyd. Cyfarfu pob un o’r prif weithredwyr â’n swyddogion ddoe, a byddwn yn bwrw ymlaen â hyn.

Fel yr adroddodd y Prif Weinidog ddoe, rwy'n credu, cawsom lythyr yn ôl gan Michael Gove ato ef a Nicola Sturgeon yn cydnabod y byddem yn chwarae rôl yr uwch-noddwr, a hefyd yn rhoi mwy o fanylion i ni. Byddaf yn rhoi diweddariad i chi bob dydd yn ôl pob tebyg, a'r awdurdodau hynny hefyd. Er enghraifft, maent wedi cytuno i dariff tebyg i'r un a ddyrannwyd ar gyfer y cynllun i adsefydlu dinasyddion Affganistan—£10,500 am bob unigolyn sy'n cael budd. I noddwyr unigol, rydym wedi clywed, yn amlwg, am y £350 y mis, diolch, a thariff ar gyfer costau addysg hefyd, yn amrywio yn dibynnu ar y grŵp oedran, ac addysg gynradd/uwchradd hefyd. Felly, mae cryn dipyn o fanylion yn cael eu darparu. Rydym yn gweithio, fel y dywedais, gyda’n cyd-Aelodau yn Llywodraeth yr Alban i sicrhau, drwy’r llwybr uwch-noddwyr, y gallwn ddarparu llwybr clir a chefnogol i bobl allu ymuno â ni.

Ar y trydydd sector, byddwn hefyd yn datblygu cronfa 'croeso i Gymru' y gallwn gyfrannu ati fel Llywodraeth, ond hefyd, mae gennym seilwaith o sefydliadau trydydd sector. Rydym wedi cyfarfod â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ond mae pob awdurdod hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda'u cynghorau gwasanaethau gwirfoddol. Ond mae llawer o ymddiriedolaethau elusennol yng Nghymru yn awyddus i gyfrannu, felly bydd modd inni ddarparu cronfa wedyn ar gyfer—. Mae hyn oll yn cael ei ddatblygu, felly rwy’n siarad wrth inni weithio ar hyn, ond bydd ar gyfer y grwpiau gwirfoddol, y grwpiau cymunedol, y cysylltiadau sy’n cael eu darparu. Felly, ar bob lefel, bydd dull tîm Cymru, y llwybr uwch-noddwyr ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin yno, ac rwy'n gobeithio y bydd pob cyd-Aelod yn gweld, heddiw fy natganiad diweddaraf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, a byddwn yn parhau i wneud hynny dros y dyddiau nesaf.

14:00
Yr Argyfwng Costau Byw

3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar blant? OQ57787

Mae gwaith dadansoddi diweddar gan sefydliadau fel Sefydliad Joseph Rowntree, Sefydliad Bevan a Plant yng Nghymru wedi dangos bod cartrefi â phlant ymysg y rhai sydd wedi eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw. Mae hyn wedi effeithio'n benodol ar y rhai sy'n unig rieni a'u plant. 

Diolch, Weinidog. Mae un o bob tri plentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac nid oes gan bron i bedwar o bob 10 cartref ddigon o arian i brynu dim byd y tu hwnt i eitemau bob dydd. Ac mae grwpiau gwrthdlodi yn rhybuddio, wrth gwrs, y bydd y lefelau tlodi uchel yma yn gwaethygu wrth i'r argyfwng costau byw dwysáu. Wrth i gyllid gormod o deuluoedd felly gael ei wasgu, mae'n fwy hanfodol nag erioed fod pob plentyn cynradd yn medru cael brecwast am ddim. Mae dechrau'r diwrnod ysgol gyda bwyd yn eu boliau mor allweddol ar gyfer addysg ac ar gyfer lles ac iechyd plant. Ond yn ôl ffigurau arolwg diweddar gan y Child Poverty Action Group a Parentkind, nid yw un o bob saith o deuluoedd incwm isel yng Nghymru yn gallu cyrchu brecwast am ddim i'w plant ar hyn o bryd, naill ai oherwydd nad yw eu hysgol gynradd yn cynnal clwb brecwast, neu oherwydd bod yna ddim lle i'w plant. Gyda threfniadau yn cael eu gwneud i ddarparu cinio am ddim i bob plentyn yn sgil y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru mewn ysgolion cynradd, a wnaiff y Llywodraeth hefyd ymrwymo i weithio gydag ysgolion i oresgyn unrhyw rwystrau a darparu cyllid a chefnogaeth ychwanegol iddynt i sicrhau bod clybiau brecwast am ddim ar gael i bob plentyn? Diolch. 

Diolch yn fawr. Mae hwnnw hefyd yn gwestiwn pwysig iawn, oherwydd roedd yn destun balchder pan gyhoeddwyd gennym, sawl blwyddyn yn ôl bellach, y byddai brecwast am ddim yn cael ei ddarparu mewn ysgolion, ac roedd yn gynllun brecwast am ddim mewn ysgolion a oedd i fod ar gael ym mhob ysgol yng Nghymru. Rwy'n ymwybodol fod gan rai ysgolion eu cynlluniau eu hunain cyn hynny. Yn amlwg, rhaid trefnu hynny rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion, ond fe ofynnaf i'r Gweinidog addysg adolygu argaeledd a'r nifer sy'n cael brecwastau am ddim mewn ysgolion ar hyn o bryd, oherwydd yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'n gadarn iawn, a gallaf roi adborth ar hynny. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod brecwast am ddim yn yr ysgol yn ddechrau allweddol i'r diwrnod sy'n faethlon ac am ddim. Ond a gaf fi ddweud hefyd fod pwysigrwydd y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru i ymestyn prydau ysgol am ddim i gynnwys pob disgybl ysgol gynradd dros oes y cytundeb yn allweddol i'ch cwestiwn ynglŷn â sut y gallwn helpu ein plant a'n pobl ifanc a'n cartrefi mwyaf agored i niwed, sut y gallwn sicrhau ein bod yn darparu amddiffyniad a chymorth yn sgil effaith yr argyfwng costau byw ar blant? Rydym yn edrych ar ganfyddiadau ein hadolygiad o dlodi plant, ac yn edrych ar ffyrdd y gallwn dargedu'n benodol y plant a'r teuluoedd sy'n wynebu'r perygl mwyaf. Gwyddom eu bod yn cynnwys rhieni sengl yn enwedig, a gwyddom fod ffyrdd eraill y gallwn gynorthwyo, drwy'r rhaglen gwella gwyliau'r haf, gan dargedu cymorth i blant, nid yn unig mewn perthynas â phrydau ysgol am ddim, ond drwy fentrau eraill hefyd i helpu'r teuluoedd hynny. 

14:05

Diolch am eich atebion hyd yn hyn, Weinidog. Hoffwn groesawu'n gynnes y £100 ychwanegol a roddir i bob teulu sydd â hawl i'r grant datblygu disgyblion - mynediad. Mae'n cael croeso mawr gan deuluoedd yng Nghwm Cynon, a ledled Cymru, rwy'n siŵr, yr wythnos hon. A gaf fi ofyn, Weinidog, beth sy'n cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r gronfa ychwanegol honno, ac yn arbennig i gefnogi teuluoedd sydd â rhwystrau ieithyddol neu heb fynediad at TGCh, oherwydd mae'r broses ymgeisio ar ei chyfer yn un ar-lein?

Diolch, Vikki Howells. Rwy'n falch iawn eich bod wedi tynnu sylw at y cyhoeddiad diweddaraf ar 14 Mawrth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ynglŷn â'r grant datblygu disgyblion - mynediad, oherwydd roedd hynny'n rhan o'n cyhoeddiad £330 miliwn. Gallaf rannu yn awr ar draws y Siambr eto y bydd yn cynyddu £100 y dysgwr—mae'r Gweinidog wedi gwneud datganiad yn ei gylch—i'r rheini sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae'n codi cyllid y grant datblygu disgyblion - mynediad i dros £23 miliwn ar gyfer 2022-23. Gwn fod ein hysgolion, yn enwedig, yn ymwybodol o'r pwysau ar deuluoedd ac aelwydydd eu disgyblion. Gwn y bydd awdurdodau lleol hefyd, a ymatebodd i'r argyfwng costau byw ac a fynychodd ein huwchgynhadledd, yn codi ymwybyddiaeth o gymhwystra i gael y cyllid hwnnw. A gaf fi ddweud hefyd, fel rhan o'r gronfa cymorth i aelwydydd, ein bod yn rhoi arian tuag at alluogi ysgolion i ddefnyddio arian ychwanegol i'w galluogi i estyn allan, fel bod disgyblion yn gallu cymryd rhan ym mhob gweithgaredd—tripiau a chynlluniau a allai fod wedi galw am gyfraniad teuluol personol? Felly, dyna sut rydym yn cefnogi plant a theuluoedd mewn angen.

Weinidog, diolch i'r pandemig, ac i ryfel anghyfreithlon Putin yn Wcráin yn awr, mae prisiau bwyd a thanwydd bellach yn codi'n gyflymach nag y gwnaethant ers yr ail ryfel byd, gan orfodi mwy o deuluoedd i fyw mewn tlodi, sydd, fel erioed, yn cael yr effaith fwyaf ar blant. Weinidog, mae llawer wedi'i wneud o'r cymorth i deuluoedd ar fudd-daliadau, ond ychydig iawn a ddywedwyd am gymorth i deuluoedd sy'n gweithio. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet a Llywodraeth y DU ynghylch y camau y gallwch eu cymryd i helpu teuluoedd sydd dan bwysau? Er enghraifft, a ydych wedi trafod camau y gallwch eu cymryd gyda gofal plant a lleihau aflonyddu ar ysgolion, fel nad oes rhaid i rieni sy'n gweithio'n galed boeni am gymryd absenoldeb di-dâl i ofalu am eu plant?

Mae'n ymddangos bod rhai'n gwadu achosion yr argyfwng costau byw sy'n effeithio ar gynifer o'n plant a'n pobl ifanc a'n haelwydydd, yn sgil y nifer mawr o bwyntiau a chwestiynau a thrafodaethau a gawsom y prynhawn yma. Rwy'n falch iawn fod gennym y cynnig gofal plant mwyaf hael yn y DU, a chafodd ei ymestyn yr wythnos diwethaf gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, er mwyn estyn llaw i rieni sydd mewn addysg a hyfforddiant. Hefyd, rwyf wrth fy modd, ac rwy'n siŵr fod hyn wedi digwydd y bore yma—. O ganlyniad i'n cytundeb cydweithio, rwy'n deall bod cyhoeddiad wedi'i wneud am ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar yn raddol, o ganlyniad i'r cytundeb cydweithio. Mae rhaglen flaenllaw Dechrau'n Deg yn hanfodol er mwyn ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yn raddol i gynnwys pob plentyn dwyflwydd oed, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma lle y dylem fod yn canolbwyntio ein cyllid—er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y plant a fydd yn elwa o Dechrau'n Deg, gan gynnwys y 9,000 o blant dwyflwydd oed sydd eisoes yn cael gofal plant o ansawdd uchel. Bydd yr ehangu'n digwydd gyda bwriad i gyrraedd 2,500 o blant eraill o dan 4 oed. Teuluoedd yw'r rhain sydd angen gofal plant am ddim ac rwy'n falch iawn fod y Dirprwy Weinidog wedi cyhoeddi hynny o ganlyniad i'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Mae ehangu'r cynllun yn awr yn mynd i wneud gwahaniaeth i fywydau'r teuluoedd hynny.

14:10
System Les i Gymru

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at system les i Gymru? OQ57799

Rydym yn cydgynhyrchu siarter gyda rhanddeiliaid a fydd yn sail i ddarparu system fudd-daliadau gydlynol a thosturiol i Gymru. Fodd bynnag, mae'r ffocws uniongyrchol ar sicrhau bod ein taliadau cymorth ariannol presennol a newydd yn cyrraedd aelwydydd ledled Cymru y mae eu hincwm dan fwy o bwysau nag erioed o'r blaen.

Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol o'r gwaith gan Sefydliad Bevan ar y system budd-daliadau Cymreig. Eu dadansoddiad nhw o'r sefyllfa bresennol yw er bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig lefelau digynsail o gefnogaeth, mae ymdrechion yn cael eu tanseilio gan y ffordd gymhleth y mae cymorth yn cael ei weinyddu. Mae'r sefydliad yn dadlau y byddai angen i deulu incwm isel sydd â dau o blant gyflwyno hyd at naw ffurflen gais wahanol. Gallai creu system ddiwygiedig o grantiau a lwfansau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, sy'n golygu eich bod yn gallu gwneud cais am yr holl gymorth y mae gennych hawl iddo mewn un lle, wella mynediad teuluoedd incwm isel at gymorth drwy ei wneud yn haws. Mae'r misoedd diwethaf wedi dangos pa mor bwysig yw hi nawr inni fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, felly dwi'n gofyn i'r Gweinidog i gyflymu gwaith y Llywodraeth ar hyn. Mae angen arnom ni system fwy cydlynol ar waith nawr sy'n cael y gefnogaeth i bocedi'r rhai sydd ei hangen fwyaf mor fuan â phosib.

Diolch yn fawr, Luke Fletcher, am eich cwestiwn pwysig iawn.

Mae'n hanfodol ein bod yn cael y cyllid, y budd-daliadau, i'r aelwydydd ar yr incwm isaf, ac mae angen inni symud hynny ymlaen, gan ddysgu gwersi a bwrw ymlaen â llawer o'r argymhellion, byddwn yn dweud, a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn y Senedd flaenorol ynghylch y nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau. Soniais am ddatblygu siarter ar gyfer system budd-daliadau Cymru, ond hefyd, gan fynd at graidd eich cwestiwn, i alluogi system fwy cydgysylltiedig a symlach fel y gall mwy o bobl gael yr hyn y mae ganddynt hawl i'w gael. Ar hyn o bryd, rydym yn trafod i sicrhau bod gennym brotocol treth gyngor ar gyfer awdurdodau lleol, rhywbeth a fydd yn hollbwysig er mwyn cael mynediad at y cyllidebau hynny gyda'n siarter. Ond gallaf eich sicrhau bod hyn yn brif flaenoriaeth er mwyn datblygu'r system nawdd cymdeithasol yr ydym ni yng Nghymru yn credu y dylai fod yn dosturiol, yn deg yn y ffordd y mae'n trin pobl, ac wedi ei chynllunio fel ei bod yn gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at drechu tlodi. Mae'r system nawdd cymdeithasol bresennol yn y DU yn syrthio'n fyr iawn o'r nod mewn sawl ffordd.

Canolfan Breswyl i Fenywod

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch sefydlu'r ganolfan breswyl gyntaf i fenywod yng Nghymru? OQ57779

Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r Gweinidog Gwladol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i drafod y ganolfan breswyl i fenywod yng Nghymru. Mae gwaith yn mynd rhagddo ac mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ar y fenter bwysig hon.

Diolch yn fawr, Weinidog. Dangosodd data a ryddhawyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru fod cynnydd wedi bod yn y nifer gyfartalog o fenywod Cymru a oedd yn y carchar rhwng 2020 a 2021—fe gododd o 208 i 218. Mae hefyd yn dangos bod menywod o ogledd Cymru yn cael eu cadw mewn carchardai ledled Lloegr, ymhell iawn o'u rhwydwaith cymorth. Er gwaethaf y cyhoeddiad bron i ddwy flynedd yn ôl ar ddechrau mis Mai 2020 ynglŷn â chanolfan breswyl yng Nghymru, yn ôl yr hyn a ddeallaf, rydym yn dal i fod heb gael safle, yn dal i fod heb gael dyddiad agor, ac yn dal i fod heb gael gwybod beth fydd statws cyfreithiol y ganolfan breswyl honno. Yn y cyfamser, Weinidog, fel y gwyddoch yn iawn, mae menywod yn dioddef yng Nghymru, ac nid yw'n hysbyseb dda i waith partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae angen inni symud ymlaen gyda hyn. Pryd fydd y ganolfan yn agor, Weinidog? Beth fydd ei statws? A sut y gallwn sicrhau y bydd gan fenywod ledled Cymru statws cyfartal, o lle bynnag y deuant? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Rwy'n ysu i'w gweld lawn cymaint â chi, gallaf eich sicrhau. Mae'n ymwneud â gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, a bydd y ganolfan breswyl i fenywod yn cael ei threialu yng Nghymru. Mae'n elfen allweddol o'r glasbrint troseddu benywaidd. Fel y dywedais, cyfarfûm â'r Gweinidog yn ddiweddar iawn. Rwy'n gobeithio y cawn newyddion yn fuan iawn ynglŷn â'r ganolfan, oherwydd mae'n hanfodol er mwyn mynd i'r afael â'r anghyfiawnder y mae menywod yn ei wynebu yn y system cyfiawnder troseddol. Rwyf wedi ymweld â menywod mewn carchardai yn Lloegr. Ni ddylent fod yno, maent wedi'u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd. Maent yn aml yn y carchar oherwydd tlodi a chamdriniaeth, ac rydym am iddynt gael eu cefnogi yn ein canolfan breswyl i fenywod yng Nghymru, canolfan a fydd yn darparu llety i hyd at 12 o fenywod allu aros yn agos at eu cartrefi a'u cymunedau, a mynd i'r afael wedyn â'r achosion mewn gwirionedd, yn enwedig mewn perthynas â chamdriniaeth a thlodi, sydd wedi golygu eu bod yn y system cyfiawnder troseddol. Rwy'n ysu i'w gweld, ac rwy'n bwrw ymlaen â'r mater.

14:15
Deddf Hawliau Dynol 1998

6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gynigion Llywodraeth y DU i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998? OQ57783

Ar ôl ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid, anfonwyd ein hymateb i'r ymgynghoriad hwn at y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'i gyhoeddi ar ein gwefan. Rydym wedi dweud yn glir ein bod yn gwrthwynebu'n sylfaenol y cynnig i ddisodli'r Ddeddf Hawliau Dynol bresennol gan fil hawliau.

Weinidog, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ddoe, diolchais i Lywodraeth Cymru am ei hymrwymiad i helpu'r rhai sy'n ffoi rhag yr erchyllterau a welwn yn Wcráin ac am gynnal y gwerthoedd sy'n gwneud Cymru'n cenedl noddfa. Dywedais fod y caredigrwydd a'r haelioni a welwn ledled ein cymunedau yn dangos Cymru ar ei gorau, a phan fydd pobl yn dioddef amgylchiadau mor drawmatig a dinistriol, fe wnawn yr hyn a allwn i'w helpu yn eu hawr o angen.

Mae'n warthus, felly, ein bod, mewn argyfwng o'r fath, yn gweld Llywodraeth y DU yn argymell diwygio Deddf Hawliau Dynol 1998 a chynnwys canlyniadau niweidiol i bobl sy'n ceisio noddfa neu loches ledled y DU. Weinidog, mae digwyddiadau diweddar wedi dangos y gall canlyniadau rhyfel effeithio ar unrhyw un ohonom a hoffwn atgoffa Llywodraeth y DU bod niwed i un grŵp o bobl yn niwed i hawliau pob un ohonom. Nid oes unrhyw amodau ynghlwm wrth gydraddoldeb. Felly, a wnaiff y Gweinidog sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU i wrthwynebu unrhyw ddiwygio a fydd yn peryglu hawliau pobl?

Gallaf sicrhau'r Aelod o hynny. Rydym yn galw—y Cwnsler Cyffredinol a minnau; fe welwch yn ein datganiad ysgrifenedig—rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i newid cyfeiriad. Mae'n dal yn bosibl gwneud hynny, ac mae argyfwng Wcráin yn dangos ei bod hyd yn oed yn bwysicach eu bod yn gwneud hynny. Dylent roi'r gorau i'r cynigion presennol, dylent ailymrwymo, nid yn unig i gadw'r Ddeddf Hawliau Dynol bresennol, ond i warantu cydymffurfiaeth lawn y DU â'r rhwymedigaethau y mae wedi ymrwymo i'w cyflawni yn rhan o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol ac fel aelod o Gyngor Ewrop, a bwriadwn gael dadl ar hyn cyn gynted ag y gallwn, a gwn y bydd fy nghyd-Aelodau'n ymuno â ni i gefnogi'r bwriad hwnnw o ran ein safbwyntiau.

Cefnogi Myfyrwyr Anabl mewn Addysg Uwch

7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch mesurau i gefnogi myfyrwyr anabl i gael mynediad at addysg uwch? OQ57793

Gall myfyrwyr anabl cymwys yng Nghymru gael hyd at £31,831 o'r grant lwfans i fyfyrwyr anabl nad yw'n ad-daladwy i'w cynorthwyo i gael mynediad at addysg uwch. Mae'r swm hwn yn codi i £32,546 ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog ac a gaf fi groesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gynorthwyo myfyrwyr anabl i fyw'n annibynnol pan fyddant yn derbyn addysg uwch? Ond yn ystod cyfarfod diweddar gyda Cyngor ar Bopeth sir Ddinbych, tynnwyd fy sylw at y ffaith bod rheoliadau newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU wedi ei gwneud yn anos i fyfyrwyr anabl mewn addysg nad yw'n addysg uwch fod yn gymwys i gael cymorth tai drwy'r credyd cynhwysol drwy gael gwared ar eithriad i'r gofyniad i beidio â bod yn derbyn addysg. A phan gyhoeddwyd y rheoliad ym mis Rhagfyr, bu'n rhaid i Cyngor ar Bopeth hysbysu cleient a gofrestrwyd ar gwrs coleg na fyddent bellach yn gallu byw'n annibynnol drwy gredyd cynhwysol pe baent yn dymuno parhau â'u cwrs coleg. Felly, eu hopsiynau oedd tynnu'n ôl o'r cwrs a byw'n annibynnol, neu roi'r gorau i fyw'n annibynnol a pharhau â'r cwrs, sy'n ddewis ofnadwy i'w wynebu.

Felly, pa sgyrsiau a gawsoch gyda'r Gweinidog addysg i weld sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo pobl anabl mewn addysg nad yw'n addysg uwch i fyw'n annibynnol drwy ei chymhwysedd dros gyllid myfyrwyr, fel y mae'n ei wneud ar hyn o bryd i'r rheini sydd mewn addysg uwch? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Carolyn Thomas. Cymru sy'n darparu'r lefel fwyaf hael yn y DU o gymorth grant lwfans i fyfyrwyr anabl nad yw'n ad-daladwy, ond rydych wedi tynnu sylw at broblem a wynebodd eich etholwr o ganlyniad i'ch ymgynghoriad. Rydym yn cadw golwg ar y rheoliadau hyn, ac rydym hefyd mewn cysylltiad â holl gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol y colegau addysg bellach, er mwyn iddynt allu bod yn ymwybodol o'r materion sy'n codi.

14:20
Yr Argyfwng Costau Byw

8. Pa bolisïau y mae Llywodraeth Cymru yn eu dilyn i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed drwy'r argyfwng costau byw? OQ57801

Rydym yn cynorthwyo'r bobl fwyaf agored i niwed i wneud y gorau o incwm a datblygu eu gwytnwch ariannol, ac yn ddiweddar cyhoeddwyd pecyn gwerth £330 miliwn o fesurau gennym i helpu pobl sy'n agored i niwed yr effeithiwyd arnynt gan yr argyfwng costau byw.

Weinidog, fel y gwyddom, mae'r argyfwng eisoes gyda ni, ond yn anffodus, mae'n debygol o waethygu'n sylweddol o ran costau bwyd, tanwydd, ynni a llawer o bethau eraill. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau penodol i roi cynlluniau ar waith i helpu, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond yn amlwg, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am lawer o bethau, a'r system fudd-daliadau, er enghraifft. Yn anffodus, Weinidog, mae llawer o'r budd-daliadau hynny heb eu hawlio yng Nghymru o hyd ac mae gennym lu o sefydliadau, megis Cyngor ar Bopeth, cymdeithasau tai, elusennau amrywiol ac awdurdodau lleol yn darparu cymorth a chefnogaeth fel bod pobl yn ymwybodol o'r hyn y mae ganddynt hawl iddo, ac yn ei hawlio. Ond yn anffodus, nid yw hynny i'w weld yn ddigon. Weinidog, tybed a allai Llywodraeth Cymru edrych o'r newydd ar y ffynonellau gwybodaeth a chyngor sydd ar gael, a gweld a oes unrhyw fylchau?

Cofiaf yn iawn pan oedd gan bob awdurdod lleol gynghorwyr budd-daliadau lles ac yn amlwg, nid yw hynny'n wir heddiw ar ôl y blynyddoedd o gyni. Felly, tybed—

Diolch yn fawr iawn, John Griffiths. Wel, mae gwneud y gorau o incwm a'r defnydd o fudd-daliadau yn hanfodol bwysig i hyn, ac mae'n werth inni edrych ar bwy sy'n ein helpu gyda'n hymgyrch, ein hymgyrch genedlaethol i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau a gynhaliwyd gennym y llynedd. Rydym yn cynnal ymgyrch arall—fe wnaethom gyhoeddi hyn fel rhan o'n hymateb i'r argyfwng costau byw—ymgyrch o'r enw 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', a lansiwyd eleni. Mae hefyd yn bwysig iawn ein bod yn cysylltu hyn â'n cefnogaeth i'r gronfa gynghori sengl. Gyda Cyngor ar Bopeth, rydym wedi cymeradwyo dros £11 miliwn o gyllid grant i fod ar gael i'r rhai sy'n darparu ar gyfer y gronfa gynghori sengl. Ac mae angen inni gael sefydlogrwydd ar gyfer hynny, felly rydym wedi sicrhau y gallant estyn allan. Ond mae'n bwysig iawn ein bod yn ymateb i hyn, oherwydd dyma'r ffordd y gallwn gael arian i bocedi pobl, nid yn unig drwy'r cynllun cymorth tanwydd gwerth £200, y £150 i'r rhai ar fandiau'r dreth gyngor, ond hefyd y gronfa cymorth dewisol. Ond dylent fod yn manteisio ar fudd-daliadau lles Llywodraeth y DU, ac yn hollbwysig yn fy marn i, ar gredyd pensiynwyr, lle mae'r niferoedd sy'n ei gael yn dal i fod yn isel. Felly, diolch ichi am y sylwadau hynny.

Myfyrwyr Rhyngwladol

9. Pa fesurau diogelu sydd ar waith i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn myfyrwyr rhyngwladol wrth iddynt ymgeisio am swyddi yng Nghymru? OQ57798

Mae Cymru'n croesawu myfyrwyr rhyngwladol ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu cymdeithas decach lle nad yw pobl yn wynebu gwahaniaethu ar sail eu hil. Mae cyfraith cydraddoldeb a chyflogaeth yn darparu amddiffyniadau i ymgeiswyr am swyddi a byddwn yn parhau i fynd ar drywydd polisi dim goddefgarwch tuag at hiliaeth drwy ein cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol.

Diolch, Weinidog, am yr ateb yna.

Fodd bynnag, roedd adroddiad diweddar gan Charanpreet Khaira i BBC Cymru Wales yn gofyn cwestiynau difrifol ynglŷn ag a yw myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu trin yn deg gan gyflogwyr yng Nghymru. Roedd yr adroddiadau'n cynnwys cyfweliad â menyw o Nigeria a oedd yn gymwys ar gyfer swydd GIG band 7 ar ôl gradd Meistr mewn iechyd cyhoeddus yng Nghymru, ond cafodd ei gwrthod ar gyfer swyddi gofalwr band 2, er bod galw am staff yn y sector hwnnw. Dywedodd elusen Cymorth Iechyd Meddwl BAME eu bod wedi helpu mwy na 40 o bobl—roedd 20 ohonynt yn feddygon wedi cymhwyso—i wneud ceisiadau, ond cawsant i gyd eu gwrthod. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o hyn oherwydd ymatebodd Gweinidog yr economi i'r adroddiad, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi, Weinidog, roi sicrwydd y byddwch yn gweithio gyda'ch cyd-Aelodau yn y Llywodraeth i geisio canfod maint y broblem hon a dod o hyd i atebion a fyddai o fudd i fyfyrwyr rhyngwladol a darparwyr gwasanaethau yng Nghymru.

Diolch. Gallaf eich sicrhau'n llwyr, Delyth Jewell, fod hyn yn hollbwysig wrth inni gyflawni ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol o hyn, mae'n peri pryder mawr, ond hoffwn dynnu eich sylw hefyd at y rhaglen Taith gwerth £65 miliwn, sy'n agored i geisiadau yn awr, i gynorthwyo myfyrwyr a staff o bob sector addysg yng Nghymru i astudio a dysgu ledled y byd, ac sydd hefyd yn cydnabod bod gennym hanes balch o groesawu gweithwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol o bob cwr o'r byd. Fe welwch hyn yn ein cynllun ar ffurf camau gweithredu a chyflawni wrth inni fwrw ymlaen i gyhoeddi'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol terfynol ar gyfer Cymru wrth-hiliol.

14:25
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Mae cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad nesaf. Cwestiwn 1, Rhys ab Owen.

Deddf Hawliau Dynol 1998

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y newidiadau arfaethedig i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ar setliad datganoli Cymru? OQ57785

Diolch am y cwestiwn. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ddiwygio'r Ddeddf Hawliau Dynol ar 8 Mawrth, gan nodi ein pryderon sylweddol a'n gwrthwynebiad i'r cynnig i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998 gan fil hawliau.

Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Fel y gwyddoch, mae Deddf Hawliau Dynol 1998 a'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn ganolog i ddatganoli yng Nghymru. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn diogelu cydymffurfiaeth â hawliau'r confensiwn a phleidleisiodd pobl Cymru drosti ddwywaith mewn refferenda. O gofio bod Llywodraeth San Steffan yn honni ei bod yn parchu refferenda, mae'n syndod y gallent fod yn fodlon cael gwared ar y pŵer hwn i bobl Cymru allu dwyn Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon i gyfrif.

Os bydd Llywodraeth San Steffan yn gweithredu ei newidiadau arfaethedig, sy'n golygu na fydd angen i is-ddeddfwriaeth y DU fod yn gydnaws â hawliau'r confensiwn mwyach ac na ellir ei herio mwyach drwy adolygiad barnwrol, Gwnsler Cyffredinol, a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried pa effaith y byddai hynny'n ei chael ar statws cyfraith Cymru? Diolch yn fawr.

Wel, diolch am y pwyntiau a wnewch. Mae hwn yn bwynt cyfansoddiadol difrifol yn wir oherwydd, fel y sonioch chi, mae hawliau dynol wedi'u gwreiddio yn ein statws cyfansoddiadol. Fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, fod gennym bryderon difrifol ynghylch natur yr ymgynghoriad. Er ei fod yn sôn am ddatganoli, nid yw'n ymdrin â'r materion datganoli sydd yno mewn gwirionedd, ac mae'n codi nifer o feysydd sy'n peri pryder inni pan sonnir am chwyddiant hawliau, h.y. bod gennym ormod o hawliau, mae'n debyg, a'i fethiant i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â hawliau economaidd-gymdeithasol.

Ond ar y pwynt cyfansoddiadol penodol ynglŷn â phe bai Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen yn groes i argymhellion ei hadolygiadau annibynnol blaenorol, bydd yn rhaid inni ystyried wedyn beth yw'r goblygiadau i gyfraith Cymru. Bydd yn rhaid inni ystyried beth yw'r opsiynau o ran sut rydym yn gwarchod statws cyfraith a safonau hawliau dynol yn ein deddfwriaeth ein hunain. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei ystyried ar hyn o bryd, ac os bydd angen, byddaf yn adrodd yn ôl maes o law.

Ymchwiliad y Llys Troseddol Rhyngwladol

2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch unrhyw gymorth y gall ei roi i ymchwiliad y Llys Troseddol Rhyngwladol i droseddau rhyfel y tybir bod lluoedd Rwsia wedi'u cyflawni yn Wcráin? OQ57802

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n croesawu'r ymchwiliad gan erlynydd y Llys Troseddol Rhyngwladol ac rwy'n falch fod 40 o wladwriaethau bellach wedi cyfeirio'r mater at y llys i'w ystyried. Mae Llywodraeth Cymru yn sefyll mewn undod ag Wcráin a'i phobl, a bydd yn parhau i gefnogi a chynorthwyo mewn unrhyw ffordd y gall.

Diolch yn fawr am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Gwn fod Aelodau ar bob ochr i'r Siambr eisoes wedi mynegi eu hundod â phobl Wcráin a byddant yn parhau i estyn allan at bobl yn Wcráin i fynegi'r gefnogaeth a'r undod hwnnw drwy gydol yr wythnosau a'r misoedd nesaf. A gwn y bydd Aelodau hefyd ar bob ochr i'r Siambr hon yn estyn allan atoch chi, Gwnsler Cyffredinol, yn y ffordd yr ydych wedi siarad a'r effaith y mae wedi'i chael arnoch chi a'ch teulu.

Rydym i gyd am weld diwedd ar y rhyfel gwarthus hwn, ac rydym i gyd am weld y rhai sy'n gyfrifol am gyflawni gweithredoedd troseddol a throseddau rhyfel yn cael eu dwyn i gyfrif am hynny. Bydd Llywodraeth Cymru, gobeithio, yn cefnogi Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud hynny, a gobeithio, Weinidog, y gallwch ein sicrhau y prynhawn yma y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn creu cynghrair ryngwladol o bobl ledled y byd i sicrhau bod Putin nid yn unig yn cael ei drechu yn Wcráin, ond pan gaiff ei drechu, y caiff ef a'i Lywodraeth eu dwyn i gyfrif am y troseddau y maent yn eu cyflawni heddiw.

Diolch am y sylwadau hynny. Wrth gwrs, mae mater hawliau dynol, gweithredoedd ymosodol, troseddau rhyfel, a hil-laddiad mewn gwirionedd, yn faterion sy'n trosgynnu gwahaniaethau gwleidyddiaeth bleidiol, yn enwedig pan fyddwn yn eu gweld yn digwydd ar newyddion 24 awr, yn fyw o flaen ein llygaid ein hunain mewn ffordd nad yw erioed wedi digwydd o'r blaen, mae'n debyg. Gallaf ddweud hyn wrth yr Aelodau: ar 1 Mawrth 2022, cyfeiriodd nifer o aelod-wladwriaethau, gan gynnwys y DU, y mater at y Llys Troseddol Rhyngwladol, ac fel y dywedais, mae hynny wedi cynyddu i 40 bellach.

Ar 2 Mawrth, cyhoeddodd yr erlynydd ei fod wedi agor ei ymchwiliad, ac mae cwmpas yr ymchwiliad yn cynnwys honiadau o droseddau rhyfel yn y gorffennol a'r presennol, troseddau yn erbyn y ddynoliaeth neu hil-laddiad, a gyflawnwyd ar unrhyw ran o diriogaeth Wcráin gan unrhyw berson o 21 Tachwedd 2013 ymlaen.

Ac yna, ar wahân i hynny, ar 7 Mawrth 2022, cafwyd gwrandawiad yn y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol mewn perthynas â honiadau o hil-laddiad o dan y Confensiwn ar Atal a Chosbi Trosedd Hil-laddiad. Roedd hyn yn ymwneud ag achos a ddygwyd ger bron gan Wcráin yn erbyn Ffederasiwn Rwsia. Penderfynodd Ffederasiwn Rwsia beidio â chymryd rhan.

Wrth gwrs, byddwn yn sicr o dderbyn nifer o ffoaduriaid o Wcráin maes o law. Mae'n bosibl y bydd rhai ohonynt wedi tystio i droseddau rhyfel ac achosion o hil-laddiad ac efallai mai un o'r pethau y gallem ei wneud yw archwilio i ba raddau y mae'n bosibl diogelu'r dystiolaeth honno ar gyfer rhan o'r ymchwiliad troseddol rhyngwladol.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr, ac a gaf fi gysylltu fy hun â'r undod a ddangoswyd yn y Siambr heddiw mewn perthynas â phobl Wcráin?

Weinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau a gynhaliwyd gennych gyda Llywodraeth y DU a'ch swyddogion ynglŷn â mabwysiadu darpariaethau Bil Etholiadau Llywodraeth y DU?

Gallaf. Mae trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt. Maent wedi bod yn gadarnhaol ac yn adeiladol iawn. Nid ydynt wedi'u cwblhau eto. Ceir dau fater yn ymwneud â chymhwysedd sy'n dal i gael eu trafod ac mae'r rheini ac a oes angen memorandwm cydsyniad deddfwriaethol dan ystyriaeth ar hyn o bryd. 

Rwy'n ddiolchgar am yr wybodaeth ddiweddaraf ac rwy'n ddiolchgar eich bod wedi dweud i'r trafodaethau fod yn adeiladol. Yn amlwg, gwn mai un o'r materion y mae Llywodraeth Cymru yn bryderus yn ei gylch yw dulliau adnabod pleidleiswyr. A byddem ni ar feinciau'r Ceidwadwyr yma yn eich annog yn gryf iawn i fabwysiadu dulliau adnabod pleidleiswyr ar gyfer pob etholiad yma yng Nghymru fel bod rhywfaint o gysondeb pan fydd pobl yn pleidleisio. A ydych yn derbyn y gallai peidio â chael cysondeb achosi problemau sylweddol i bleidleiswyr drwy wneud pethau'n ddryslyd iddynt, yn enwedig os cynhelir etholiadau ar gyfer pethau fel etholiad cyffredinol Llywodraeth y DU neu etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu ar yr un diwrnod ag etholiadau i'r Senedd?

Wel, wrth gwrs, mae honno'n broblem sydd eisoes wedi codi, oherwydd cawsom etholiadau'r Senedd ar yr un pryd ag etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu, ac wrth gwrs roedd etholfreintiau gwahanol ar gyfer pob un o'r etholiadau hynny mewn gwirionedd.

Rwy'n credu ei bod yn amlwg iawn fod yna lefel o ymrannu. Credaf y bydd yr ymraniad hwnnw'n cynyddu, a chredaf fod angen mwy o bwyslais ar eglurder yr etholiadau hynny a lle mae'r gwahaniaethau hynny'n berthnasol mewn perthynas ag etholiadau penodol. Roeddem wedi cyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU wrth gwrs fod eu cynigion mewn perthynas â dulliau adnabod pleidleiswyr nid yn unig yn debygol o greu rhwystrau i bobl rhag pleidleisio, ond eu bod yn creu ymrannu diangen hefyd. Mae'n amlwg fod Llywodraeth y DU wedi dewis bwrw ymlaen â'r rheini. Rydym yn anghytuno â hwy am yr holl resymau a drafodwyd gennym mewn dadleuon yn ddiweddar.

Wel, fel y gwyddoch, mae ein safbwynt yn glir iawn, sef bod gan 99 y cant o bobl o grwpiau anodd eu cyrraedd ryw fath o ddull adnabod ffotograffig a fyddai'n eu galluogi i bleidleisio mewn etholiadau, a 98 y cant o'r boblogaeth gyfan. Gall y 2 y cant sy'n weddill, nad oes ganddynt ddull adnabod ffotograffig o'r fath, gael cardiau adnabod ffotograffig am ddim. Nid ydym yn gweld problem gyda hynny o gwbl. Ac wrth gwrs, y Llywodraeth Lafur a gyflwynodd ddulliau adnabod ffotograffig i bleidleiswyr allu pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon rai blynyddoedd yn ôl.

Os yw Llywodraeth Cymru yn parhau i wrthwynebu dulliau adnabod pleidleiswyr a bod hyn yn achosi mwy o ymrannu, fel yr awgrymoch chi eisoes sy'n debygol o ddigwydd, a ydych yn derbyn mai un o ganlyniadau hynny—a gwn eich bod wedi pwysleisio hyn yn y grŵp rhyngweinidogol ar etholiadau—yw ei bod yn debygol iawn y byddai'n rhaid ichi gynnal etholiadau ar ddiwrnod gwahanol i'r etholiadau ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu, neu etholiadau cyffredinol, na fyddant, gobeithio, yn gwrthdaro yn y dyfodol wrth gwrs? Pa fath o oblygiadau a allai fod o ran costau i drethdalwyr Cymru pe baech yn dewis cynnal etholiadau ar wahanol ddyddiau pan allai arbedion effeithlonrwydd o ran y costau fod yn broblem a bod yn onest?

14:35

Wel, credaf fod rheoli etholiadau'n effeithlon yn rhywbeth sydd dan ystyriaeth bob amser, ac wrth gwrs mae wedi codi yn y gwahanol drafodaethau rhyngweinidogol. Er enghraifft, bydd rhai costau ariannol ynghlwm wrth gynigion a wneir gan Lywodraeth y DU, hyd yn oed mewn perthynas ag etholiadau San Steffan yn unig, ac rydym wedi cyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU fod yn rhaid talu'r costau hynny, yn amlwg. Rwy'n credu bod yr ymateb wedi cael ei dderbyn yn gadarnhaol.

O ran dulliau adnabod pleidleiswyr, fe wyddoch mai ein barn ni a'r gwahaniaeth rhyngom ar hyn yw ein bod ni'n gweld dulliau adnabod pleidleiswyr fel dau beth yn y bôn: (1) nid oes sylfaen dystiolaethol i'w gyfiawnhau, ond yn ail, mae'n ymwneud mwy ag atal pleidleiswyr nag y mae'n ymwneud â chadernid etholiadau. A phe na bai hynny'n wir, byddai sail dystiolaethol dros ei gyflwyno. Nid yw'r sylfaen dystiolaethol honno erioed wedi'i chynhyrchu, ac nid oes dadl gadarn wedi'i chyflwyno drosti hyd yn oed.

Ond rwy'n credu mai'r pwynt a wnewch yw hyn: ein bod, wrth reoli etholiadau, yn amlwg eisiau gweld diwygio yn y dyfodol, ac wrth gwrs, rydym eisiau gweld Bil diwygio etholiadol yn cael ei gyflwyno. Rydym eisiau digideiddio'r system etholiadol, a fydd yn ei gwneud yn llawer haws rheoli etholiadau, yn llawer mwy costeffeithlon i reoli etholiadau, a hefyd yn llawer mwy hygyrch. Ond mewn amgylchiadau lle y gallai fod dau etholiad yn digwydd gyda gwahanol etholfreintiau, credaf fod y systemau'n gallu ymdopi, fel y maent wedi gwneud eisoes, â'r ffaith bod yna feysydd lle y ceir ymraniad, ac y bydd systemau gwahanol ar waith. Ond mae'n rhaid ei reoli. Mae'n anffodus, ond rwy'n credu mai dyna yw natur datganoli. Mae gennym ni gyfeiriad penodol mewn perthynas ag etholiadau sy'n gysylltiedig â hygyrchedd a bod yn agored a chynyddu'r gallu i bleidleisio a chyfrif pleidleisiau. Credaf fod y dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU yn un sy'n mynd i gyfeiriad gwahanol.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, rydych yn ymwybodol iawn o fy mhryderon i a nifer yn y Siambr hon—ym Mhlaid Cymru a'r Blaid Lafur—ynghylch effaith y cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar y setliad datganoli a'u defnydd cynyddol yn y Senedd hon. Mae'r llythyr heddiw gan Ddirprwy Weinidog y celfyddydau yn dangos natur anhrefnus proses y cynigion cydsyniad deddfwriaethol; nid yw'n gweithio o gwbl. Dywedodd y Gweinidog addysg yn y Siambr ei fod yn ceisio gwelliant i'r Bil Cymwysterau Proffesiynol, er mwyn sicrhau na allai Gweinidogion y DU ddiwygio'r Ddeddf ddatganoli bwysig, Deddf Llywodraeth Cymru 2006—cam synhwyrol iawn, byddech yn meddwl. Ond i'r gwrthwyneb, mae'r Gweinidog iechyd wedi dweud na fyddai'n ceisio gwelliant o'r fath. Disgrifiodd bŵer Gweinidogion y DU i wneud gwelliannau i'r Bil pwysig hwnnw fel risg gyfansoddiadol fach. Roedd hi'n fodlon ag addewid a wnaed ar lawr Senedd y DU gan un o Weinidogion y DU, rhywbeth nad yw'n rhwymo'r Llywodraeth hon hyd yn oed, heb sôn am unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol. Felly, pa un yw hi am fod, Gwnsler Cyffredinol? Pa un o'r dulliau sy'n gwrthdaro, dull y Gweinidog addysg, neu ddull y Gweinidog iechyd, yw'r egwyddor y mae Llywodraeth Cymru yn ei dilyn yn awr mewn perthynas â chynigion cydsyniad deddfwriaethol? Diolch yn fawr.

Wel, wrth gwrs, nid wyf yn ystyried eu bod yn gwrthdaro nac yn anghyson yn y ffordd honno, oherwydd mae'n rhaid asesu pob Bil penodol yng ngoleuni'r amgylchiadau penodol sy'n berthnasol iddo. Ac, wrth gwrs, mae cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn ofyniad cyfansoddiadol y mae'n rhaid inni ymdrin â hwy o ganlyniad i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU, lle mae'n newid neu'n effeithio ar ddatganoli. Rydych yn sicr yn gywir nad yw'n gyfrwng priodol i sicrhau bod deddfwriaeth yn destun y lefel o graffu y dylech ei wneud arni o bosibl. Ac, wrth gwrs, caiff hynny ei waethygu yn enwedig pan fo Biliau'r DU yn cael eu cynhyrchu'n hwyr, a nifer sylweddol o welliannau'n cael eu gwneud iddynt yn hwyr iawn, heb fawr o gyfleoedd i graffu'n briodol o ganlyniad i hynny. Credaf fod y rheini'n bethau y mae angen eu hystyried yn gyfansoddiadol, ac rwy'n gobeithio y bydd yr adolygiad rhynglywodraethol yn darparu mecanwaith ar gyfer adolygu o leiaf sut y mae hynny'n gweithredu mewn gwirionedd.

Mae rhai o'r pwyntiau a godwch yn mynd yn ôl at Sewel ei hun. Fe sonioch chi am y Bil Cymwysterau Proffesiynol a'r safbwynt a fabwysiadwyd yno, sef peidio â rhoi cydsyniad. Rwy'n credu bod y pwynt a godwyd gennych gyda'r Gweinidog iechyd o natur wahanol oherwydd mae'n ymwneud â diwygiadau canlyniadol. Ac wrth gwrs, gallem fabwysiadu'r safbwynt lle byddem yn dweud, 'Na, byddem yn gwrthwynebu'r mân ddiwygiadau canlyniadol hyn y mae gennych bŵer i'w gwneud', ond os felly mae'n rhaid ichi gofio ein bod ni hefyd, wrth gwrs, yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU. Felly, pe baem yn mabwysiadu'r safbwynt hwnnw, byddai'n effeithio ar y ffordd y cyflawnwn ein deddfwriaeth ein hunain lle mae angen inni wneud diwygiadau canlyniadol yno hefyd. 

14:40

Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Edrychaf ymlaen at glywed eich datganiad yr wythnos nesaf am fwrw ymlaen ag argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd yng Nghymru. Mae mwy o'r system gyfiawnder wedi'i datganoli i Gymru nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei feddwl mewn gwirionedd, yn enwedig ar y meinciau gyferbyn â mi. Ond un ddadl gref dros ddatganoli'r gweddill fyddai er mwyn dangos bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r hyn sydd ganddynt eisoes yn dda, ac mae'n deg dweud nad yw hynny wedi bod yn wir yn y gorffennol, gyda thribiwnlysoedd Cymru yn aml yn cael eu hanghofio a'u hesgeuluso i raddau helaeth gan Lywodraeth Cymru, a chan y lle hwn hefyd. Byddai gweithredu argymhellion y ddau adroddiad, rhywbeth y mae gan Lywodraeth Cymru bŵer i'w wneud, yn arwain at newidiadau cadarnhaol i bobl Cymru. Mae'n hawdd inni bwyntio bys at y Torïaid drwy'r amser, ac mae'n hwyl onid yw, ond weithiau, mae angen inni ysgwyddo cyfrifoldeb ein hunain. 

Cymerwch fy sylw nesaf yn yr un ysbryd da ag y cafodd ei ddweud, ond rwy'n aml yn cael trafferth gyda datganiadau Llywodraeth Cymru. Rwy'n ei ddarllen ac rwy'n ceisio canfod beth y mae'n ceisio ei ddweud mewn gwirionedd, ac yn fwy na hynny, beth y bydd yn ei gyflawni mewn gwirionedd. Felly, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi sicrwydd i ni y bydd y datganiad yr wythnos nesaf yn glir, y bydd yn darparu cerrig milltir allweddol ac y bydd arweinyddiaeth atebol ynghlwm wrtho? Diolch yn fawr. 

Ond rwy'n credu mai'r hyn y dylwn ei ddweud, yn sicr gyda fy mhortffolio i fel Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yw ein bod wedi cydnabod, wrth gwrs, fod Comisiwn Thomas wedi argymell y dylid cael Gweinidog cyfiawnder; wel, mewn gwirionedd, rydym wedi creu'r swydd honno i bob pwrpas drwy'r cydweithrediad agos a gawn mewn sawl ffordd, sy'n fwy manteisiol i'r ffordd y gweithiwn. Ond wrth gwrs, mae mater cyfiawnder ac agweddau technegol ar gyfiawnder, ac yn enwedig y rhai sydd o fewn ein hawdurdodaeth, yn mynd law yn llaw â chyfiawnder economaidd-gymdeithasol hefyd. A chredaf fod y bartneriaeth honno wedi bod yn effeithiol tu hwnt. 

A chredaf y byddwn hefyd yn dweud, wrth gwrs, fod y gwaith sy'n mynd rhagddo i baratoi dadansoddiad manwl iawn o argymhellion comisiwn Thomas, y gwaith sy'n mynd rhagddo mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, yr hyn y mae wedi'i gyflawni a sut y gallai gyflawni mwy, y pethau y credwn y gellid eu cyflawni'n well o safbwynt cyfiawnder drwy ddatganoli cyfiawnder, a hefyd dechrau gosod y fframwaith ar gyfer cyfiawnder, credaf y bydd y gwaith hwnnw'n sylweddol iawn. Ac edrychaf ymlaen at y ddadl honno, oherwydd credaf ein bod wedi cyrraedd pwynt lle mae sylwadau'r Arglwydd Thomas o Gwmgïedd fod datganoli cyfiawnder yn fater o 'pryd' yn hytrach nag 'os' yn dechrau dwyn ffrwyth. Ac rwy'n gweld mai un o'r cyfraniadau pwysig i hynny yw diwygio'r tribiwnlysoedd. Ac fel y dywedwch, maent wedi dod atom mewn ffordd braidd yn ad hoc, ac maent wedi'u datblygu neu eu creu yn y math hwnnw o amgylchedd hefyd. Ond mae gennym gyfle, rwy'n credu, o ganlyniad i argymhellion Comisiwn y Gyfraith, i ystyried creu system cyfiawnder gweinyddol newydd yng Nghymru, gyda'i strwythur apeliadol ei hun o bosibl, a chredaf y byddai hwnnw'n gam sylweddol iawn tuag at amcan y byddai'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n gweithio yn y system gyfiawnder yn ei gydnabod fel cam ymlaen. 

Rhwystrau i Gyfiawnder

3. Pa sgyrsiau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw trigolion Cymru yn wynebu rhwystrau i gyfiawnder? OQ57789

Diolch am y cwestiwn. Mae materion sy'n ymwneud â mynediad at gyfiawnder i ddinasyddion Cymru bob amser yn rhan bwysig o fy agenda yn y cyfarfodydd rheolaidd ac aml a gaf gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Ac fe fyddwch yn gwybod—. Mae'r ddau ohonom, fel y gŵyr yr Aelodau, yn teimlo'n angerddol iawn ynglŷn â sicrhau bod gan bobl yng Nghymru fynediad llawn a phriodol at gyfiawnder. Ac fe fyddwch wedi fy nghlywed sawl tro yn y Siambr hon, Gwnsler Cyffredinol, yn codi anghyfiawnderau sgandal Horizon Swyddfa'r Post, a thrychinebau Hillsborough a Grenfell. Rwy'n eich cymeradwyo chi a'ch arweinyddiaeth yn y rôl hon, a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, am sefyll dros bobl Cymru mewn perthynas â chyfiawnder, ac rwy'n ddiolchgar am eich cyngor cyson yn y maes hwn, a'ch ymrwymiad i weithio gyda mi i weld sut y gallwn ddefnyddio ein pwerau presennol yng Nghymru i helpu i droi mantol cyfiawnder tuag at bobl gyffredin. 

Gwnsler Cyffredinol, fe fyddwch yn ymwybodol o'r ymchwiliad parhaus i sgandal Horizon Swyddfa'r Post, ac ar ôl i'r ymchwiliad hwnnw ddod i ben, a wnewch chi ymrwymo i barhau i gefnogi'r teuluoedd y mae'r sgandal wedi effeithio arnynt gyda beth bynnag sydd ei angen arnynt, gan gynnwys eu brwydr—eu brwydr barhaus—i sicrhau cyfiawnder priodol yn ogystal â lefel ystyrlon o iawndal? 

14:45

Wel, a gaf fi ddiolch ichi am y cwestiwn atodol hynod bwysig hwnnw? Oherwydd mae'r mater rydych wedi tynnu sylw ato, fel gwnaethoch gyda mater Hillsborough, yn un o anghyfiawnderau mawr yr unfed ganrif ar hugain: yr anghyfiawnder fod miloedd o bobl wedi cael eu heffeithio gan ddiffyg cyfrifiadurol yn system gyfrifiadurol Horizon, sydd wedi dinistrio neu ddifetha bywydau nifer fawr o bobl, pobl a gafodd eu carcharu, pobl y mae eu teuluoedd wedi chwalu, eu priodasau wedi chwalu. Mae 72 o apeliadau wedi'u gwrthdroi hyd yn hyn; mae mwy i ddod. Ac yn aml anghofiwn fod honiadau wedi'u gwneud yn erbyn oddeutu 2,500 o bobl mewn gwirionedd, a'u bod wedi ad-dalu arian i Swyddfa'r Post nad oedd angen o gwbl iddynt fod wedi'i ad-dalu, am nad oeddent yn euog o unrhyw beth, ond fe wnaethant hynny er mwyn osgoi erlyniad. Felly, mae effaith hyn wedi bod yn enfawr.

Rwy'n falch iawn mai Syr Wyn Williams yw cadeirydd yr ymchwiliad.  Mae'n amlwg y bydd angen iddo gwblhau ei waith, ond mae'n rhaid inni sicrhau dau beth: yn gyntaf, fod yn rhaid gwneud popeth y gellir ei wneud i sicrhau cyfiawnder i'r bobl yr effeithiwyd arnynt; ond yn ail, un o'r pethau nad yw'n deillio o ymchwiliadau yn aml yw ein bod eisiau gwybod sut y digwyddodd, pam y digwyddodd, sut y gellir ei osgoi yn y dyfodol, ac a oes unigolion o fewn strwythur Swyddfa'r Post y dylid eu dwyn i gyfrif, oherwydd yn sicr mae rhywfaint o'r dystiolaeth yn yr ymchwiliad hyd yma'n dangos, pan ddaeth Swyddfa'r Post Cyf yn ymwybodol o'r mater, fod ymgais wedi bod i'w ysgubo i'r naill ochr. Nawr, nid wyf yn dweud hynny er mwyn rhagfarnu canlyniad yr ymchwiliad a diau y bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud yno, ond mae'n ymddangos i mi fod yn rhaid cael atebolrwydd yn ogystal ag iawndal. Rwy'n croesawu'r ymdrechion rydych wedi'u gwneud, ac yn sicr, byddaf fi, a Llywodraeth Cymru hefyd, rwy'n gwybod, yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r dinasyddion o Gymru yr effeithiwyd arnynt yn y modd hwnnw.  

Cronfa Indemniad Cyfreithwyr

4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Chymdeithas y Cyfreithwyr ar y cynnig gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr i gau'r gronfa indemniad cyfreithwyr? OQ57784

Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn trafod dyfodol y gronfa indemniad cyfreithwyr gyda'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Chymdeithas y Cyfreithwyr. Cyfarfûm â chadeirydd a phrif weithredwr bwrdd yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ym mis Tachwedd. Rydym yn cyfarfod eto yn ddiweddarach y mis hwn, ar 26 Ebrill rwy'n credu, i drafod eu camau nesaf arfaethedig yn dilyn eu hymgynghoriad diweddar.

Diolch yn fawr, Gwnsler. Gwn eich bod yn ymwybodol iawn o natur y proffesiwn yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol. Mae gennym weithwyr ac ymarferwyr cyfraith proffesiynol sy'n heneiddio. Mewn ardaloedd fel Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae dros 60 y cant o'r cyfreithwyr cyfraith droseddol sy'n weithredol dros 50 oed, a cheir canran uchel o ddeisyfyddion yn yr ardaloedd hyn hefyd. Nawr, mae'r gronfa indemniad cyfreithwyr yn darparu amddiffyniad gwirioneddol i ddefnyddwyr, ond hefyd i'r proffesiwn cyfreithiol ei hun. Heb ddewis amgen dichonadwy, ac nid oes dewis amgen dichonadwy yn cael ei grybwyll ar hyn o bryd, gallai cau'r gronfa gael effaith enfawr ar y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru ac ar y cyhoedd yng Nghymru. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau y bydd ef a swyddogion yn Llywodraeth Cymru yn atgoffa'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr yn garedig fod yna broffesiwn cyfreithiol y tu hwnt i Lundain a'r dinasoedd mawr? Diolch yn fawr. 

Diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw, a chredaf efallai fod angen gwneud ychydig mwy na'u hatgoffa'n garedig oherwydd credaf eich bod yn iawn—mae effaith bosibl y newidiadau hyn—. Mae'r rhain yn newidiadau lle y ceir cronfa indemniad y mae pawb yn cyfrannu ati am indemniad wedi'r cyfnod cyfyngu o chwe blynedd. Felly, effeithir yn andwyol iawn ar gwmnïau llai o faint, yn enwedig y rheini mewn meysydd fel trawsgludiadau, ewyllysiau a phrofiant, lle y gall materion ddod i'r amlwg flynyddoedd lawer yn ddiweddarach. Felly, mae'n effeithio'n anghymesur ar Gymru, ac rydym eisoes yn cael digon o drafferth gyda'r anialwch cyfreithiol sydd gennym a phroblemau gyda chynaliadwyedd cwmnïau bach yng Nghymru. Felly, rwyf wedi codi'r pryderon hynny gyda'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a chyda Chymdeithas y Cyfreithwyr, sydd wedi dadlau'n gadarn dros gadw'r gronfa indemniad. Byddaf yn gwneud hynny mewn cyfarfodydd yn y dyfodol hefyd. Rwyf eisoes wedi tynnu sylw at y ffaith nad y proffesiwn cyfreithiol yn unig a fyddai'n cael ei effeithio'n andwyol, ond y defnyddwyr hefyd, y rhai sy'n dibynnu ar wasanaethau cyfreithiol. Ac wrth gwrs, unwaith eto, mae'n erydu hyder pobl yn y proffesiwn cyfreithiol. Felly, diolch ichi am y sylwadau hynny, ac fe af ar drywydd y materion hynny.

14:50
Canllawiau Gweithio Gartref

5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ai Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU sydd â'r pŵer i gyhoeddi canllawiau gweithio gartref mewn perthynas â COVID-19 yng Nghymru? OQ57796

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Mae'r canllawiau presennol i gyflogwyr mewn perthynas â gweithio gartref wedi'u cyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau eang o dan ddeddfwriaeth iechyd a Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i gyhoeddi canllawiau ar faterion iechyd cyhoeddus.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Y rheswm rwy'n ei ofyn yw oherwydd, fis diwethaf, gofynnodd AS Ceidwadol Aberconwy i Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn yn Nhŷ'r Cyffredin egluro y dylai gweision sifil Llywodraeth y DU sy'n gweithio yng Nghymru ddilyn y rheolau a nodwyd gan Lywodraeth y DU yn hytrach na Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chanllawiau ar weithio gartref. Ond fel rydych newydd ei ddweud, Llywodraeth Cymru sy'n gosod y canllawiau ar gyfer gweithwyr yng Nghymru. Hefyd, cawsom Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dweud yn ddiweddar y byddai'n well ganddo pe na bai Cymru wedi gallu gosod ein rheolau ein hunain oherwydd:

'Byddem wedi gweld mwy o ddealltwriaeth gyhoeddus'.

A ydych yn cytuno â mi, Gwnsler Cyffredinol, mai ASau Ceidwadol mewn gwirionedd sy'n mynd ati'n fwriadol ac yn anghyfrifol i hau dryswch ynglŷn â hyn, yn enwedig pan ganfu arolwg diweddar gan YouGov ei bod yn gwbl glir fod y cyhoedd yng Nghymru yn deall ac yn cefnogi'r dull a fabwysiadwyd yng Nghymru o fynd i'r afael â COVID?

Diolch ichi am y cwestiwn atodol. O ran rhai o'r Aelodau Seneddol sydd wedi bod yn gwneud y sylwadau hynny, os yw'r arolygon barn yn dynodi unrhyw beth, mae'n debygol na fyddant yma mwyach erbyn yr etholiad nesaf, felly efallai na fydd honno'n broblem yno. Ond mae'r sefyllfa'n glir iawn: ni sy'n penderfynu, o fewn ein cyfrifoldebau cyfreithiol ein hunain, beth yw'r mesurau priodol, ac mae hynny'n berthnasol i wasanaeth sifil Cymru a gweithwyr hefyd. Ynglŷn â'r ffordd nad yw rhai Gweinidogion yn fodlon ar hynny, wel, mae'r rheini yn bwyntiau a wnânt. Rwy'n credu eu bod yn bwyntiau treuliedig. Rwy'n credu eu bod yn cael eu gwneud naill ai mewn anwybodaeth ynglŷn â datganoli neu er mwyn creu cynnen. Yn y bôn, bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn dilyn y cyngor meddygol y mae'n ei gael, a bydd yn ceisio rhoi cyngor ac arweiniad sy'n gymesur ac sy'n diogelu iechyd y cyhoedd ac iechyd ein gweithwyr a'n gweision sifil hefyd.

Pwll Glo Aberpergwm

6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ei phwerau mewn perthynas ag ehangu pwll glo Aberpergwm? OQ57782

Diolch am y cwestiwn. Mae adran 26A o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymeradwyo awdurdodiadau cloddio a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Glo cyn iddynt ddod yn weithredol. Cafodd pwll glo Aberpergwm ei awdurdodiad cyfreithlon cyn i'r pwerau gael eu cyflwyno yn 2018. Ni châi Gweinidogion Cymru ymyrryd yn y broses drwyddedu.

Diolch am eich ymateb.

Rydym i gyd eisiau cadw glo yn y ddaear. Mae grŵp ymchwil Global Energy Monitor yn amcangyfrif y gallai'r pwll glo hwn, un o ffynonellau mwyaf Ewrop o'r math o lo carreg carbon trwm a ddefnyddir i wneud dur, ryddhau 100 miliwn tunnell o garbon deuocsid dros y cyfnod hwnnw. Rwy'n deall mai asesiad Llywodraeth Cymru yw bod y drwydded wedi'i rhoi dan amod yn 2016 a bod hynny felly yn rhagflaenu'r pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru yn Neddf Cymru 2017. Ni chafodd caniatâd cynllunio ar gyfer yr estyniad ei gadarnhau gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot tan fis Medi 2018, bum mis ar ôl i'r darpariaethau yn Neddf Cymru ddod i rym. Ar 10 Ionawr eleni, dywedodd yr Awdurdod Glo wrth Lywodraeth Cymru na fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad yn yr achos hwn. A dyma'r darn hollbwysig: dywedodd yr Awdurdod Glo, o dan Ddeddf Cymru 2017, pe bai Gweinidogion Cymru wedi eu cyfarwyddo i beidio â thrwyddedu'r gwaith o ehangu'r pwll glo, na fyddent wedi gallu rhoi trwydded lawn i'r gweithredwr. Felly, a gaf fi ofyn i chi pa gyngor y byddwch yn ei roi i Weinidogion yn awr ynghylch gwrthwynebu'r cais i ehangu pwll glo Aberpergwm? Diolch yn fawr iawn.

14:55

Wel, diolch am y cwestiwn atodol. Nid yw darpariaeth adran 26A, a gyflwynwyd drwy gyfrwng Deddf Cymru 2017, yn rhoi pwerau trwyddedu glo llawn i Weinidogion Cymru. Yr Awdurdod Glo yw'r awdurdod trwyddedu ar gyfer y DU o hyd. Mae adran 26A yn bŵer i gymeradwyo gweithgareddau cloddio a awdurdodwyd o dan drwydded a roddwyd gan yr Awdurdod Glo. Felly, nid oes gennym bwerau i wneud penderfyniad yn yr achos hwn, gan fod y drwydded yn rhagflaenu'r pŵer adran 26A. A dim ond gweithredu awdurdodiad a roddwyd eisoes gan yr Awdurdod Glo yn 2013 a wnaeth gweithredwr y pwll glo. Felly, roedd y penderfyniad i gyhoeddi hysbysiad yn cyflawni amodau a oedd yn y drwydded yn barod yn fater i'r Awdurdod Glo ei ystyried yn unol â'r dyletswyddau a osodwyd arno gan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994. 

Y broblem sylfaenol yw bod yna Awdurdod Glo sydd â dyletswydd i gynnal diwydiant glofaol yn y DU. Felly, rydym wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i newid y ddyletswydd hon yn Neddf y diwydiant glo i adlewyrchu'r argyfwng hinsawdd. Felly, er nad oeddem yn gallu ymyrryd yn yr achos hwn, mae ein polisi'n glir: rydym eisiau rhoi diwedd mewn dull wedi'i reoli ar gloddio a defnyddio glo ar gyfer llosgi thermol. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r diwydiant cloddio am danwydd ffosil ar y newid i fodelau busnes sy'n gynaliadwy yn hirdymor ac sy'n cefnogi datgarboneiddio.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Eitem 3 sydd nesaf—cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, a chwestiwn 1 i'w ateb gan Joyce Watson. Peredur Owen Griffiths.

Hygyrchedd y Senedd

1. Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i sicrhau bod y Senedd yn hygyrch i bobl ddall a phobl â golwg rhannol? OQ57803

Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Mae Comisiwn y Senedd wedi ymrwymo i fod yn sefydliad hygyrch sy'n cefnogi Senedd gynhwysol. Mae staff ar draws y Comisiwn yn cynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad i'r Senedd a'u bod yn gallu cymryd rhan lawn ym mhob gweithgaredd. Er enghraifft, cafodd ein gwefan newydd ei phrofi gan bobl anabl, a rhoddir ystyriaeth i faterion mynediad wrth wneud gwaith ar yr ystad, a gwneir addasiadau rhesymol i bobl sy'n ddall neu'n rhannol ddall.

Cyn bo hir, bydd y Comisiwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer y chweched Senedd. Byddwn yn cysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid a byddwn yn croesawu adborth ar sut y gallwn wneud y Senedd yn fwy hygyrch i bobl ddall neu bobl sydd â nam ar eu golwg.

Diolch am yr ateb yna. Mae colli golwg yn broblem gynyddol yn y wlad yma. Ddoe, gwnaeth RNIB Cymru gynnal digwyddiad—cyflwyniad i golled golwg—i annog Aelodau i feddwl am sut rydym ni'n cefnogi a chyfathrebu gyda'n hetholwyr dall neu â golwg rhannol. Mae RNIB Cymru yn dweud bod 13 yn fwy o bobl yn dechrau colli eu golwg bob dydd yng Nghymru. Maent hefyd yn rhagweld y bydd y niferoedd yn cynyddu'n ddramatig, gyda nifer y bobl sy'n byw gyda cholled golwg yn dyblu erbyn y flwyddyn 2050. Un o'r pethau eraill mae RNIB Cymru yn ei ddweud yw bod stad y Senedd ei hun yn arbennig o anodd i bobl ddall a rhannol ddall i symud o'i chwmpas. Mae hyn oherwydd y doreth o wydr clir, yn ogystal â llawr a grisiau lliw llechi. Gan gofio hynny, a fyddai cynrychiolwyr y Comisiwn yn barod i gyfarfod ag RNIB Cymru, gyda'r bwriad o ymrwymo i'w hegwyddorion 'visibility better' ar gyfer dylunio adeiladau cynhwysol? Diolch yn fawr.

Gallwch fod yn gwbl sicr y byddaf yn ymrwymo i gyfarfod ag RNIB Cymru a gwrando ar y pethau sy'n peri pryder ac yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iddynt. Mae'r Senedd, a hefyd Aelodau'r Senedd fel chi, yn awyddus iawn i bawb, beth bynnag fo'u gallu neu eu hanabledd, allu defnyddio'r holl wasanaethau mewn ffordd y maent yn teimlo'n gyfforddus â hi. Felly, rwy'n sicr yn fwy na pharod i wneud hynny, ac os ydych chi eisiau, mae croeso i chi ddod i'r cyfarfod hwnnw hefyd.

Bioamrywiaeth ar Ystad y Senedd

2. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fioamrywiaeth ar ystad y Senedd? OQ57786

15:00

Diolch. Nawr, er gwaethaf y mannau gwyrdd cyfyngedig ar ein hystad, mae’r Comisiwn wedi gwneud gwelliannau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf i hybu bioamrywiaeth, ac yn ein strategaeth garbon, rydym yn ymrwymo i ddyblu’r mannau gwyrdd ar ystad y Senedd. Mae’r ystad honno wedi’i tharmacio i raddau helaeth, ond rydym wedi gwneud gwelliannau lle y gallwn, gyda llain o ardd fach wedi'i hymestyn y llynedd, yn cynnwys ail bwll, cychod gwenyn, coed sy'n blodeuo, blychau adar a gwestai trychfilod. Rydym hefyd yn cynnal a chadw’r tir gerllaw y Senedd i hybu blodau gwyllt, er nad yw’n eiddo i ni. Mae'r glwyd rhwng y ddwy ardal yn caniatáu i rywfaint o bryfed a bywyd gwyllt mwy o faint symud o amgylch yr ystad.

Diolch i’r Comisiynydd am ei hymateb. Fel rhywun sy’n cofio dod i lawr yma i'r bae pan oedd yn cael ei ailddatblygu ar ddiwedd y 1980au ac yn gors o fwd du, yn y bôn, rwy’n falch o weld bod gwelliant wedi bod, nid yn unig ar ystad y Senedd, ond ar draws ardal gyfan y bae. Ond mae llawer mwy y gallwn ei wneud. Rwyf wedi codi priffyrdd draenogod gyda Llywodraeth Cymru, gan fod draenogod yn rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb—roeddwn yn mynd i ddweud cryn ddiddordeb ynddynt, neu mae fy swyddfa'n dweud wrthyf fod gennyf gryn ddiddordeb ynddynt—[Chwerthin.] Mae’n bwysig mesur y bywyd gwyllt sydd yn ardal y bae, ac mae arolygon wedi dangos bod mwy o ddraenogod yn ardal y bae erbyn hyn, gan chwilio am gynefinoedd yn benodol, a deallaf fod y Comisiwn hefyd yn edrych ar briffyrdd draenogod a'r posibilrwydd o greu'r priffyrdd draenogod hynny ar draws ystad y Cynulliad. Ond a ydych wedi meddwl am osod cynefinoedd, fel tai draenogod, fel y gallant aeafgysgu yn y tai hynny a gall pobl ddangos mwy o ddiddordeb yn y bywyd gwyllt sydd yn ardal y bae? Ni allaf gredu fy mod wedi gofyn y cwestiwn hwn, a dweud y gwir wrthych. [Chwerthin.]

Wel, rwy'n falch iawn eich bod wedi gofyn y cwestiwn. Yr hyn y gallaf ddweud wrthych, fel y Comisiynydd datblygu cynaliadwy, yw fy mod yn falch iawn o Nerys a Matthew ac Ed, wrth gwrs, ein cyfarwyddwr, am y gwaith y maent yn ei wneud y tu ôl i'r llenni yn cynyddu ein bioamrywiaeth a chadwraeth. Ar ôl imi weld eich cwestiwn i’r Gweinidog, fe wawriodd arnaf y dylem fod yn edrych ar briffyrdd draenogod mewn gwirionedd, ac mae’n ffaith ei bod yn bosibl i greaduriaid o’r fath symud, o ystyried y glwyd sy’n gwahanu’r ystad oddi wrth ardal ehangach y bae. Gellid cyflwyno mesurau pellach hefyd i annog y creaduriaid hyn; fodd bynnag, mae'n rhaid inni gydnabod bod rhan helaeth o'r safle'n faes parcio, felly efallai nad dyma'r cynefin mwyaf addas iddynt ei archwilio. Ond rydym yn mynd i fod yn edrych ar briffyrdd draenogod a thai draenogod, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ynglŷn â hynny, a diolch i chi am y cwestiwn. 

A gaf finnau ddweud 'diolch' am y cwestiwn i'r Aelod, gan ei bod yn bwysig inni godi'r materion hyn ar draws yr ystad, ond hefyd i bobl Cymru, gan y gwn fod gan lawer ohonynt ddiddordeb brwd mewn lles anifeiliaid, gan gynnwys lles draenogod?

Cwestiwn 3 i'w ateb gan Joyce Watson. Delyth Jewell.

Cymorth Iechyd Meddwl

3. Pa gefnogaeth iechyd meddwl y mae'r Comisiwn yn ei darparu i'w staff? OQ57794

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae Comisiwn y Senedd yn parhau i flaenoriaethu iechyd meddwl a llesiant. Cafwyd llawer o dystiolaeth o hyn yn ystod cyfnod heriol y pandemig. Mae gan y Comisiwn weithiwr iechyd galwedigaethol proffesiynol ar y safle ers peth amser yn ogystal â rhaglen cymorth i weithwyr, a all ddarparu gwasanaethau cwnsela ac ystod o wasanaethau y gellir cael mynediad atynt 24/7. Hefyd, mae gan y Comisiwn rwydwaith iechyd meddwl sefydledig sy'n cynnig arweiniad a chymorth gan gymheiriaid, cyfarfodydd cyswllt wythnosol a nifer o swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl hyfforddedig.

Mae’r holl wasanaethau a chymorth a ddarperir yn parhau i fod ar gael wyneb yn wyneb ac ar-lein, gan gynnwys tudalen llesiant meddwl bwrpasol i gynorthwyo’r newid i weithio o gartref ac i ymdrin â’r pryderon dydd i ddydd sy'n codi yn sgil y pandemig, ac maent hwythau hefyd ar gael i Aelodau a staff.

Diolch am yr ateb cynhwysfawr yna. Rwy'n gwybod bod nifer fawr iawn o bobl yn—

Mae'n ddrwg gennyf, a yw'n gweithio?

Mae nifer fawr iawn o bobl sy'n gweithio yn y Comisiwn yn gweithio yn galed iawn i helpu pobl sydd angen cymorth fel hyn. Gwaetha'r modd, fel dŷch chi wedi dweud, mae'r pandemig wedi gwaethygu problemau iechyd meddwl i lawer o bobl, wedi achosi argyfwng i rai. Mae'r rhaglen cymorth i weithwyr wedi bod yn help enfawr i nifer, ond dydy'r gwasanaeth yma ddim wastad yn ddigon bob tro. Mae rhai yn ffonio'r gwasanaeth unwaith ond ddim yn dilyn i fyny, mae eraill sydd ddim yn ffonio o gwbl oherwydd eu bod nhw'n bryderus ynglŷn â siarad am bethau anodd dros y ffôn. Hoffwn i wybod, plis, os byddai modd i'r Comisiwn ystyried darparu gwasanaeth cwnsela mewnol i gyd-fynd â'r rhaglen EAP fel bod staff sydd angen cymorth arbenigol ar gyfer argyfwng iechyd meddwl, straen, gorflinder, hyd yn oed bwlio, yn gallu troi at rywun am gefnogaeth arbenigol sydd ar gael yn syth. A fyddai hyn yn rhywbeth y byddai modd i'r Comisiwn ei ystyried, os gwelwch yn dda, nid yn unig ar gyfer staff Aelodau, ond pawb sy'n gweithio yn ein Senedd?

15:05

Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch yn glir, ac roeddwn yno pan wnaed y penderfyniad i'w sefydlu yn y ffordd hon. Un o'r rhesymau dros ei sefydlu'n allanol yn hytrach nag yn fewnol oedd am fod unigolion yn dweud bryd hynny y byddai'n well ganddynt wasanaeth cwnsela hyd braich, er mwyn sicrhau, pe baent yn—. Roeddent yn teimlo'n fwy cyfforddus, dyna'r hyn a ddywedwyd wrthym ar y pryd. Ond os yw'r dystiolaeth wedi newid a bod pobl yn teimlo y byddent yn fwy cyfforddus i gael rhywbeth yn fewnol, yna wrth gwrs, byddem yn ystyried hynny. Ond mae'n ymwneud â'r stigma. Dyna’r rheswm pam ei bod yn well gan bobl i hyn gael ei sefydlu yn y ffordd y cafodd ei sefydlu, a hefyd i gydnabod, mewn rhai achosion, wrth gwrs, y gallai rhai o’r honiadau hynny fod yn erbyn cydweithwyr a phobl sy’n gweithio’n agos atynt. Felly, efallai ei fod yn fater o gymysgu pethau i raddau, efallai, ond wrth gwrs, credaf fod y cymorth galwedigaethol sydd ar y safle wedi’i gynllunio i wneud hynny. Ond fel bob amser, rydym yn fwy na pharod i gael sgyrsiau; rwy’n fwy na pharod i gael sgwrs gyda chi ac eraill i weld a allwn ei wella, gan mai dyna rydym am ei wneud, yn y bôn.

Cyfranogiad y Cyhoedd ym Mhwyllgorau'r Senedd

4. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad ar sut mae'n annog cyfranogiad y cyhoedd ym mhwyllgorau'r Senedd? OQ57792

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Mae annog ymgysylltu efo pwyllgorau'n elfen bwysig o waith ymgysylltu'r Senedd, a hynny er mwyn sicrhau, wrth gwrs, fod barn y cyhoedd yn cael ei adlewyrchu yn ein trafodaethau. Yn ystod y pandemig, mi lwyddwyd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd drwy raglen ymgysylltu rithwir, yn cynnwys grwpiau ffocws a digwyddiadau ar-lein eraill, ac wrth i ni symud yn ôl i'r byd ôl-bandemig, rydyn ni'n datblygu cynlluniau i sicrhau bod ein gwaith ymgysylltu ar-lein yn ategu ein gwaith wyneb-yn-wyneb traddodiadol, ac mae gwaith yn digwydd rŵan i ddod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau amrywiaeth ehangach o bobl a grwpiau rydyn ni'n ymgysylltu efo nhw er mwyn sicrhau bod profiadau bywyd pobl ym mhob rhan o Gymru yn ganolog i'n gwaith ni.

Diolch yn fawr am eich ateb, Gomisiynydd. Rwy’n ddiolchgar am y gwaith y mae’r Comisiwn wedi’i wneud yn ystod y pandemig a’r hyn y mae’n parhau i’w wneud. Os caf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddatgan buddiant yn y fan hon fel Cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd, ac fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, rwyf am i bobl Cymru ei weld fel eu pwyllgor hwy; hwy sy'n llunio ein hagendâu gyda’u deisebau a’u llofnodion, ac rwyf am i bawb wybod hynny ac ystyried llofnodi neu gyflwyno deiseb i’n Senedd.

Ond er mwyn gwneud hynny, mae angen iddynt ddeall y meysydd y mae'r pwyllgor yn ymdrin â hwy a beth sy'n fater ar gyfer rhywle arall. Credaf y gallwn wneud hyn drwy hyrwyddo llwyddiant deisebau blaenorol a gawsom yn ein Senedd, nid yn unig yn y Senedd hon, ond mewn Seneddau blaenorol hefyd wrth gwrs. Mae gennyf syniad y credaf y gallem ei ddefnyddio i hyrwyddo hyn, ac mae’n cynnwys lansio gwobr deiseb y flwyddyn, dan arweiniad y pwyllgor a’r Senedd hon. A wnaiff y Comisiwn ystyried fy nghefnogi gyda’r syniad hwn a gweld sut y gallwn gydweithio i lansio gwobr deiseb y flwyddyn yn y Senedd hon?

Wel, diolch yn fawr iawn am y syniad yna. Yn sicr, mae angen i ni wastad fod yn trio arloesi yn y ffordd rydyn ni'n ymgysylltu efo pobl. Mae'r Pwyllgor Deisebau, wrth gwrs, yn bwyllgor sy'n cael ei yrru gan ymgysylltu uniongyrchol efo pobl Cymru. Dwi'n gwybod bod Jack, yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, wedi bod yn ymwneud ag un ymgyrch arbennig o lwyddiannus yn ddiweddar, ac o ganlyniad i waith y tîm cyfryngau cymdeithasol efo Rhian Mannings, yn dilyn ei deiseb hi am helpu teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac annisgwyl, dwi'n meddwl bod yna dros 20,000 o gysylltiadau Twitter wedi bod, dros 2,300 o gysylltiadau Facebook, a hynny'n dangos bod deiseb sy'n dal dychymyg pobl, efo gwaith ymgysylltu effeithiol o'i chwmpas hi, wir yn gallu helpu i ddylanwadu ar y broses bolisi. Felly, mae gennym ni syniad yn y fan hyn ar sut i roi hwb pellach i'r broses ddeisebau. Mae'r syniad o wobr yn un da ac yn haeddu ystyriaeth bellach. Yn sicr, mi wnaf i'n siŵr bod trafodaeth yn digwydd rhwng Jack a'r tîm ymgysylltu i weld sut mae modd mynd â syniad o'r fath yn ei flaen.

15:10
Effaith y Sancsiynau Economaidd ar Rwsia

5. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o effaith y sancsiynau economaidd ar Rwsia ar gronfeydd pensiwn staff ac Aelodau? OQ57807

Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch yn gyntaf i Peter Fox am y cwestiwn hwn? Yn amlwg, mae’r cwestiwn ynglŷn â lle y caiff cronfeydd eu buddsoddi o gryn ddiddordeb i’r Aelodau ar hyn o bryd, gan na fyddent, yn gwbl briodol, yn dymuno gweld arian yn cael ei fuddsoddi mewn unrhyw endidau Rwsiaidd. Nawr, yn amlwg, nid oes gan y Comisiwn unrhyw ffordd o ddylanwadu ar ddyraniad asedau cynllun pensiwn yr Aelodau. Y bwrdd pensiwn, sy’n annibynnol ar y Comisiwn, sydd â'r pŵer hwnnw, ac mae’r penderfyniad ynglŷn â lle i fuddsoddi yn seiliedig ar gyngor a gafwyd gan gynghorwyr buddsoddi’r bwrdd a chytunir arno gan y bwrdd pensiwn yn ei gyfanrwydd. Felly, er bod y Comisiwn yn ymwybodol o'r materion sy'n codi, nid lle'r Comisiwn ei hun yw gwneud asesiad ariannol—mater i'r bwrdd pensiwn ydyw.

Deallaf fod y bwrdd pensiwn wedi cyhoeddi datganiad yn ddiweddar iawn i’r Aelodau ynglŷn â'r mater hwn. Gellir ei weld ar dudalen fewnrwyd yr Aelodau. Dylid cyfeirio cwestiynau am fuddsoddiadau cynllun yr Aelodau at y bwrdd pensiwn. Gwn fod Mike Hedges, fel ymddiriedolwr a enwebwyd gan yr Aelodau, yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan yr Aelodau.

Nawr, mae’r ail gronfa, sef cynllun pensiwn y staff cymorth, yn cael ei rhedeg gan Aviva, a’u hymgynghorwyr buddsoddi arbenigol a’r staff cymorth eu hunain sy’n gyfrifol am benderfyniadau ynghylch buddsoddiadau pensiynau staff cymorth. Felly unwaith eto, nid yw’r Comisiwn yn ymwneud â'r broses o benderfynu sut y caiff yr asedau eu buddsoddi ar gyfer y cynllun hwnnw ychwaith. Serch hynny, mae tîm pensiynau’r Comisiwn wedi bod yn ymgysylltu ag Aviva, sydd wedi cadarnhau mai ychydig iawn o ddaliannau sydd ganddynt yn Rwsia, ac mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu’n gyson. Mae'r tîm wedi gweithio gydag Aviva i gyfathrebu â staff cymorth er mwyn rhoi sylw i unrhyw bryderon a allai fod ganddynt, ac unwaith eto, gellir gweld hyn ar dudalennau'r fewnrwyd.

Nawr, mewn perthynas â'r drydedd gronfa, sef staff y Comisiwn—. Cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil, sef y drydedd gronfa, mae hwnnw'n gynllun nad yw'n cael ei ariannu, ac felly, nid oes ganddo asedau i’w buddsoddi. Telir buddion drwy'r cynllun hwnnw o refeniw treth yn hytrach nag o asedau.

Diolch am eich ymateb, Gomisiynydd. Rwy'n credu ei fod yn ddefnyddiol iawn i'r Aelodau ac i eraill sy'n gwylio. Fel y gŵyr pob un ohonom, mae llawer o bobl ledled y DU a'r byd yn awyddus i ddadfuddsoddi o fusnesau yn Rwsia yn ogystal â stociau a chyfranddaliadau. Wrth gwrs, ar adegau normal, mae’n arferol defnyddio pethau fel cynlluniau pensiwn i fuddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau tramor, ond mae ymosodiad anghyfreithlon a diangen Rwsia ar Wcráin wedi golygu ei bod yn bwysig sicrhau nad yw arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio’n anfwriadol i gefnogi cyfundrefn sydd wedi dangos nad oes ganddi unrhyw barch at ddemocratiaeth na’r drefn ryngwladol sy’n seiliedig ar reolau.

A wnaiff y Comisiwn gadarnhau ei ymrwymiad—a chredaf fy mod yn gwybod beth yw'r ateb—i weithio gyda’r bwrdd pensiwn a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod unrhyw fuddsoddiadau sy’n deillio o gynlluniau pensiwn staff ac Aelodau yn cael eu dadfuddsoddi o unrhyw fusnesau yn Rwsia? Ac a wnewch chi ateb: sut y mae'r Comisiwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y polisïau pensiwn perthnasol yn cefnogi buddsoddiadau cyfrifol?

A gaf fi ddiolch i Peter Fox a rhoi sicrwydd iddo y byddwn yn ymrwymo i weithio gyda’r bwrdd pensiwn i sicrhau bod yr holl fuddsoddiadau'n fuddsoddiadau moesegol? Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru ei hun, drwy’r contract economaidd sydd ganddi â busnesau, yn hybu economi sy’n cael ei harwain gan werthoedd, ac rydym ni fel Comisiynwyr hefyd yn awyddus i sicrhau, lle rydym yn buddsoddi, ein bod yn buddsoddi mewn busnesau—yn bennaf yng Nghymru lle y gallwn, ond busnesau mewn mannau eraill hefyd—a chanddynt sylfeini moesegol cadarn. Mae adran benodol ar y fewnrwyd, y datganiad gan y bwrdd, sy’n nodi,

'Ym mis Mawrth 2022, yn unol â pholisi prisio gwerth teg y rheolwr buddsoddi, penderfynodd y rheolwr buddsoddi nodi’r daliant hwn—

sef yr elfen fach honno o ddaliannau Rwsiaidd—

'yn sero.'

Mae hynny'n dangos bod y bwrdd yn gweithio'n agos iawn gydag arbenigwyr Aviva i sicrhau na ellir buddsoddi unrhyw arian mewn endidau Rwsiaidd. Fel y dywedwch, byddai’n gwbl anghywir buddsoddi mewn unrhyw fusnesau Rwsiaidd ar hyn o bryd, ac felly, mae’r Comisiynwyr a’r bwrdd pensiwn yn ymwybodol iawn o’r angen i sicrhau bod yr holl fuddsoddiadau’n cael eu gwneud mewn ffordd foesegol ac yn cael eu buddsoddi mewn busnesau sy'n foesegol hefyd.

15:15
4. Cwestiynau Amserol
5. Datganiadau 90 eiliad

Diolch yn fawr iawn. Sefydlwyd cwrs sylfaen celf Coleg Menai yn 1981, ond dim ond eleni mae’r dathliadau 40 mlynedd yn cael eu cynnal, oherwydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus y llynedd. Dyna ysgogodd arweinydd y cwrs, Owein Prendergast, i alw’r arddangosfa yn '40+1'. Sefydlwyd y cwrs ym Mangor gan yr arlunydd Peter Prendergast, tad Owein, a chyfoedion iddo. Mae gweithiau celf arbennig i ddathlu’r pen-blwydd yn cael eu harddangos yn oriel gelf Storiel a chanolfan Pontio ar hyn o bryd. Aeth Owein ati i guradu darnau o gelf, un ar gyfer pob blwyddyn y pen-blwydd, gwaith gan gyn-fyfyrwyr, darlithwyr, a sylfaenwyr y cwrs, ac mae’r gwaith yn tystio i gyfraniad aruthrol y cwrs dros y degawdau. Mae rhai o enwau amlycaf y sin gelfyddydol yng Nghymru wedi bwrw eu prentisiaeth yna, ond dwi ddim am ddechrau eu henwi nhw rhag i mi anghofio rhywun a phechu. Ond mae pob un yn talu teyrnged i gyfnod creadigol, arbrofol, ffurfiannol oedd yn rhoi cyfle iddyn nhw flodeuo fel unigolion yn ogystal ag fel artistiaid. Felly, pen-blwydd hapus, cwrs celf Coleg Menai, a llongyfarchiadau mawr ar gyrraedd carreg filltir bwysig. Hir y parhaed y cwrs i gyfrannu’n helaeth i gelfyddyd gweledol ein cenedl. Diolch.

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Janet Finch-Saunders (Aberconwy)—Cynllunio morol yng Nghymru

Eitem 6 y prynhawn yma yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, cynllunio morol yng Nghymru. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7896 Janet Finch-Saunders

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gynllunio morol yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) gwneud darpariaethau ar gyfer polisïau a fyddai'n helpu i lywio lleoliad datblygiadau i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt ecolegol, lleihau'r effeithiau cronnol ar gynefinoedd a rhywogaethau sy'n agored i niwed, a rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr;

b) creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hwyluso'r gwaith o greu cynllun datblygu morol cenedlaethol, a'i adolygu o leiaf unwaith ym mhob Senedd;

c) sefydlu meysydd adnoddau strategol ar gyfer ynni morol;

d) cyhoeddi strategaeth ar gyfer gwrthdroi dirywiad adar môr;

e) ei gwneud yn ofynnol i ffermydd gwynt ar y môr gynnwys adfer cynefinoedd gwely'r môr; strategaeth ar gyfer cynaeafu bwyd môr cynaliadwy o fewn ardal y fferm wynt a mesurau gwella amgylcheddol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae absenoldeb hanesyddol cynllunio gofodol morol a dull ynysig o reoli ein moroedd yn golygu ein bod bellach yn wynebu sgrialfa anhrefnus am ofod ac oedi cynyddol i ddiwydiant. Gan fod angen inni ymbellhau ar frys oddi wrth hydrocarbonau Rwsiaidd yn dilyn ymosodiad anghyfreithlon Putin, mae'n rhaid inni gael y ddeddfwriaeth orau bosibl, sy'n hyrwyddo prosiectau ynni morol a chynyddu diogelwch ffynonellau ynni gan sicrhau ar yr un pryd fod yr argyfwng natur a hinsawdd yn parhau i fod yn rhan ganolog ohoni. Byddai’r cynnig hwn yn gwneud yn union hynny.

Felly, pam y dylai’r Senedd hon, Senedd Cymru, ddeddfu ar gynllunio morol? Wel, amlygodd adroddiad diweddar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar y gyllideb ddrafft ein canfyddiad fod yna bryder ynghylch rhwystrau rhag cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru, gan gynnwys prinder tystiolaeth amgylcheddol forol, a chymhlethdod sy’n peri oedi yn y broses gydsynio a thrwyddedu. Mae pryderon eang ynghylch gallu CNC i gyflawni ei rolau a’i gyfrifoldebau’n effeithiol, gan gynnwys monitro ac asesu cyflwr safleoedd morol i gefnogi cynllunio morol, ac er bod adolygiad i symleiddio’r broses gydsynio i’w groesawu, ni cheir sylfaen dystiolaeth gadarn o hyd i danategu penderfyniadau datblygu, ac o ganlyniad, ceir risgiau cynhenid wrth gynyddu gwaith datblygu. Yn sicr, nid dyma rydym am ei glywed ar adeg pan fo Llywodraeth y DU, a hynny’n gwbl briodol, wedi gosod targed uchelgeisiol i gynhyrchu 40 GW o ynni gwynt ar y môr erbyn 2030. Mae oddeutu 4 GW o ddatblygiadau ynni gwynt ar y môr ychwanegol ar y ffordd yng ngogledd Cymru, ac mae Ystad y Goron yn mynd ar drywydd cynlluniau gwynt arnofiol yn y môr Celtaidd. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi methu'r terfyn amser i gyflawni neu hyd yn oed i gynnal statws amgylcheddol da dyfroedd morol. Mae bioamrywiaeth forol yn dirywio. Mewn gwirionedd, yn ôl yr ail 'Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol', 46 y cant yn unig o nodweddion rhwydwaith yr ardaloedd morol gwarchodedig sydd mewn cyflwr ffafriol. Mae diffyg cynllunio gofodol go iawn i arwain defnydd cynaliadwy o'n moroedd yn atal statws amgylcheddol da ac yn bygwth y broses o gynyddu datblygiadau ynni gwynt ar y môr.

Er fy mod yn cydnabod yr ymrwymiad yn yr archwiliad dwfn ar ynni adnewyddadwy, a diolch i’r Dirprwy Weinidog am wneud hyn, i weithio gyda CNC a rhanddeiliaid allweddol i nodi ardaloedd adnoddau strategol morol erbyn 2023, roedd hyn er mwyn darparu arweiniad i gyfeirio at ardaloedd priodol ac amhriodol ar gyfer datblygu. Ond arweiniad yn unig yw hynny. Mae angen inni greu dyletswydd gyfreithiol yn awr i greu cynllun datblygu morol cenedlaethol, un sy’n berthnasol i Gymru, a’i adolygu'n rheolaidd. Fel y mae’r RSPB wedi’i nodi, mae diffyg polisïau gofodol a rheolaethau datblygu statudol cadarn wedi'u pwysoli i lywio datblygiadau oddi wrth ardaloedd amgylcheddol sensitif o’r cychwyn yn creu ansicrwydd i bawb, ac yn arwain yn anochel at wrthdaro yn ystod y cam ymgeisio.

Cefnogodd y Farwnes Brown o Gaergrawnt gynllunio gofodol, gan nodi:

'Credaf fod cynllunio gwely'r môr er mwyn sicrhau y gallwn alluogi'r gweithgareddau hyn i gydfodoli heb... drefoli gwely'r môr, yn hynod bwysig.'

Mae llawer o’r Aelodau’n gweithio gyda’r Gymdeithas Cadwraeth Forol, ac maent wedi datgan eu bod yn wyliadwrus o ddull tameidiog sydd, o’i gyfuno â chynnydd sylweddol mewn cynigion datblygu, yn rysáit ar gyfer effeithiau annisgwyl, cronnol a chyfunol. Mae angen i ardaloedd adnoddau strategol fod yn rhan o gynllun gofodol morol cyfannol, fel yr amlygir yn yr adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru ei hun. Mae rhanddeiliaid amgylcheddol wedi galw am gynllun gofodol statudol traws-sector sy’n mynd i’r afael ag effeithiau cronnol datblygu morol. Felly, gadewch inni ofyn i ni'n hunain: sut y gall fod yn iawn, pan fo gan gynllunio ar y tir 'Cymru’r Dyfodol', 'Polisi Cynllunio Cymru' a chynlluniau datblygu lleol i lywio datblygiad, nad oes system debyg ar gael ar hyn o bryd ar gyfer yr hyn sy'n digwydd yn ein moroedd—a hoffwn ychwanegu, yn ehangder mawr ein moroedd? A hynny er bod gan Gymru oddeutu 32,000 km sgwâr o foroedd tiriogaethol.

15:20

Nid wyf yn gwybod pa sgrin i edrych arni. Rydych o fy mlaen i ddwywaith, Janet. Diolch yn fawr am gyflwyno’r ddadl hon; credaf ei bod yn un bwysig iawn. Un o'r pethau nad wyf yn glir yn ei gylch, a tybed a allwch chi helpu, neu efallai y gall y Gweinidog wneud hynny wedyn, yw a oes angen deddfwriaeth newydd arnom, neu a yw'r ddeddfwriaeth gynllunio morol ac arfordirol bresennol yn caniatáu inni roi cynllun morol ar sail statudol heb gyfraith newydd. A allwch roi unrhyw eglurder ynglŷn â hynny? Os na allwch, a wnewch chi ychwanegu'r cais hwnnw i’r Gweinidog at eich cyfraniad: a allwn fwrw iddi i'w wneud yn awr, neu a oes angen deddfwriaeth newydd arnom?

Diolch, Huw. Mae'n deg dweud fy mod yn gwerthfawrogi gweithio gyda chi ar y pwyllgor rydym arno. Ynglŷn ag a oes angen deddfwriaeth newydd arnom neu a allwn addasu, canllawiau'n unig yw llawer o'r mesurau ar hyn o bryd, Huw. Felly, o ganlyniad, rydym am sicrhau bod y ddeddfwriaeth honno'n cynnwys rhai o'r pethau rwyf wedi sôn amdanynt, ac mae llawer mwy i ddod eto. Rhaid i hyn gael ei gynnwys mewn deddfwriaeth. Nid wyf yn gwybod a all y Dirprwy Weinidog neu’r Gweinidog ddweud wrthym heddiw a oes angen i honno fod yn ddeddfwriaeth newydd, ond yn sicr, mae angen i’r cynllun gofodol morol fod yn gyfraith, yn hytrach na chanllawiau'n unig.

Y canlyniad, er enghraifft, yw bod Ystad y Goron yn arwain y broses drwy rowndiau unigol o osod prydlesau gwely'r môr. A dweud y gwir, yng nghyllideb garbon 2, rydych chi fwy neu lai’n cyfaddef eich bod yn gadael i Ystad y Goron arwain, gan ddatgan eich bod yn cydweithredu er mwyn deall beth yw'r cyfleoedd gofodol ar gyfer ynni gwynt ar y môr, gan gynnwys datblygiadau gwynt arnofiol. Yn hytrach na’r ffocws diweddar sydd wedi bod ar ddatganoli Ystad y Goron, dylem fod yn blaenoriaethu’r argyfwng hinsawdd a natur drwy ddatblygu cynllun datblygu morol cenedlaethol, ac un sydd wedi'i gynnwys mewn deddfwriaeth.

Mae angen inni hefyd greu strategaeth adfer adar môr Cymru. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ill dwy wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r bygythiadau a’r pwysau ar adar môr, ac unwaith eto, rydym yn dal i aros yma, a hynny er gwaethaf y dirywiad difrifol a fu yn niferoedd y gwylanod coesddu sy’n magu yng Nghymru, 35 y cant ers 1986. Mewn gwirionedd, dywedodd Dr Catharine Horswill yn ddiweddar:

'Mae angen inni dynhau asesiadau i wella dealltwriaeth o'r effeithiau posibl ar fywyd gwyllt sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd, megis yr wylan goesddu.'

Yn yr un modd, mae Lisa Morgan o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru wedi datgan y dylai lleoliad, graddfa a math cynlluniau ynni adnewyddadwy morol gael eu pennu gan asesiadau amgylcheddol priodol. Yn wir, ni allaf weld sut y gallai unrhyw un ddadlau â hynny. Mae hyd yn oed ein pysgotwyr a’r sector dyframaethu wedi tynnu sylw at angen dybryd i weithredu mewn perthynas â ffermydd gwynt.

15:25

Janet, rydych wedi defnyddio eich amser. Rwy’n mynd i roi amser ychwanegol i chi gan fod ymyriad wedi'i wneud, ond ychydig iawn o amser sydd gennych ar ôl i gloi, os na wnewch chi gloi'r rhan gyntaf nawr.

Iawn. Fel y clywodd ein pwyllgor newid hinsawdd yn ddiweddar, nid yw’r cynllun morol yn addas at y diben yng nghyd-destun y cynnydd sylweddol a ragwelir o ran datblygu. Gofynnaf i’r Senedd adael i’r broses o ddatblygu ein moroedd barhau mewn ffordd sydd o fudd i’r hinsawdd a’n hargyfwng natur drwy gefnogi’r cynnig deddfwriaethol hwn heddiw. Diolch.

Diolch, Janet, am gyflwyno’r ddadl hon. Fel Aelod sy’n cynrychioli darn sylweddol o’n harfordir, hoffwn atgoffa pobl fod moroedd Cymru yn fwy na thraean yn fwy o faint na thirfas Cymru. Felly, mae cynllunio morol yn allweddol i lawer o bolisïau a blaenoriaethau, o newid hinsawdd i fioamrywiaeth, o ddatblygu economaidd i ddiogelu ffynonellau ynni. Fel aelod o bwyllgor y Senedd a gyflwynodd adroddiad yn ddiweddar ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru, rwyf wedi edrych ar sut y mae’r galwadau hyn sy'n cystadlu â'i gilydd ac yn gorgyffwrdd yn cael eu rheoli a’u cydbwyso.

Ers inni adrodd fis diwethaf, mae'r sefyllfa wedi newid yn sylweddol. Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi rhoi diogelwch ffynonellau ynni a lleihau mewnforion tanwydd ffosil ar frig yr agenda. Wrth gwrs, roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon 95 y cant erbyn 2050. Mae’r sancsiynau yn erbyn Rwsia yn amlygu pam fod hynny’n fater o ddiogelwch gwladol yn ogystal â diogelwch hinsawdd. Byddwn yn clywed llawer mwy am gynhyrchu trydan o ffermydd gwynt ar y môr, ynni'r tonnau a cheryntau llanw dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Mae Cymru, wrth gwrs, mewn sefyllfa wych—yn llythrennol, yn ddaearyddol—i gynhyrchu’r mathau cynaliadwy hyn o ynni. Yng ngorllewin Cymru, mae gennym ardal arddangos sir Benfro a Wave Hub. Fel yr ardaloedd cynhyrchu ynni eraill, mae’n cael hawl i ddefnyddio gwely’r môr ar brydles gan Ystad y Goron, fel y mae Janet newydd ei grybwyll. Ac os gall datganoli’r ystad ein helpu i gyflawni ein dyhead i fod yn arweinydd byd-eang ym maes ynni adnewyddadwy, mae'n rhaid inni fynd ar drywydd hynny, wrth gwrs. Ond mae'n rhaid inni sicrhau hefyd fod gennym gynllun cadarn i leoli a datblygu’r technolegau hyn mewn modd sensitif a phriodol er mwyn lliniaru a lleihau’r effeithiau ar ecosystemau morol a storfeydd carbon glas. Rwy'n cytuno gyda Janet ynglŷn â hynny.

Rwy'n sôn am garbon glas oherwydd, yn ogystal â’r ardaloedd sensitif o safbwynt ecolegol a’r cynefinoedd a'r rhywogaethau dan fygythiad y mae’r cynnig yn eu rhestru, rhaid inni hefyd ystyried cynefinoedd a storfeydd carbon glas, ac atafaelu ac adfer carbon. Mae o leiaf 113 miliwn tunnell o garbon wedi'i storio yng nghynefinoedd morol Cymru, gwerth bron i 10 mlynedd o allyriadau carbon Cymru. Felly, maent yn allweddol i gyflawni ein nodau newid hinsawdd. Mae CNC i fod i gyhoeddi adroddiad cyn bo hir yn dogfennu’r potensial atafaelu carbon ar gyfer yr ardaloedd morol gwarchodedig presennol, ac edrychaf ymlaen at ei ddarllen.

Mae gan Lafur Cymru ymrwymiad maniffesto i adfer cynefinoedd arfordirol. Gallem ymestyn hynny i gynnwys cynefinoedd carbon glas a chynefinoedd o bwys ecolegol yn ardal forol Cymru. Wrth symud ymlaen, dylai achub ar bob cyfle i warchod, adfer a gwella cynefinoedd carbon glas, fel dolydd morwellt, fod yn nod trosfwaol.

15:30

Hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Aberconwy am roi cyfle imi siarad yn ei dadl y prynhawn yma. Efallai fod fy nghyd-Aelodau'n ymwybodol iawn o fy nghysylltiad â morlo llwyd yr Iwerydd. Yn wir, mae'r cartref teuluol wedi ei enwi ar ôl un. Fel ei hyrwyddwr rhywogaethau yma yn y Senedd, rwy'n hynod ddiolchgar o gynrychioli, a bod yn llais dros greadur mor wych sy'n byw yn y dyfroedd oddi ar ar arfordir Cymru.

I'r rhai nad ydynt yn gwybod, mae dros hanner poblogaeth y byd o forloi llwyd yr Iwerydd yn nofio yn y tonnau oddi ar ynysoedd Prydain, o arfordir Amroth ac ynys Sgomer, i ynysoedd Erch ym mhellafion yr Alban. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad fod y creaduriaid hardd hyn hefyd yn dewis byw yn y lleoedd harddaf—arfordir Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yw eu hoff leoliad wrth gwrs.

Fodd bynnag, mae pob un o'r lleoliadau hyn hefyd yn cynnig adnoddau gwerthfawr wrth inni chwilio am ynni adnewyddadwy glanach a gwyrddach. Yn fy etholaeth i, gwelir prosiect gwych Blue Gem Wind, fferm wynt ar y môr sy'n datblygu cynhyrchiant ynni newydd yn ein môr Celtaidd. Ar ôl cael cyfle i ymweld â Blue Gem a dysgu am y manteision y gall eu cynnig ar ffurf ynni adnewyddadwy a ffyniant economaidd, mae'n ased gwirioneddol wych nid yn unig i sir Benfro ond i Gymru gyfan.

Fel y mae'r cynnig hwn yn nodi, rhaid ystyried ein hawydd i ddatblygu ynni adnewyddadwy morol yng nghyd-destun ein holl ymrwymiadau morol presennol, gan gynnwys pysgodfeydd, dyframaeth, morgludiant, sianeli mordwyo, a bioamrywiaeth a diogelu anifeiliaid morol wrth gwrs. Yn wir, dyma beth y mae Blue Gem wedi'i wneud mor llwyddiannus. Fe wnaethant ddatblygu dull o ddethol safleoedd sy'n dilyn y cynllun, wedi'i lywio gan ystyriaethau technegol ac amgylcheddol, gyda'r amcan trosfwaol o nodi safle hyfyw gan leihau'r effaith ar yr amgylchedd a bywyd morol ar yr un pryd.

Cyn gwneud penderfyniad i ddatblygu safle sir Benfro, ystyriwyd llu o ffactorau, gan gynnwys bathymetreg, mesur dyfnder dŵr; adnoddau gwynt; agosrwydd at natur; dynodiadau cadwraeth; adar môr; mamaliaid môr; pysgodfeydd; morgludiant; ac agosrwydd at borthladdoedd—llu o opsiynau. Dyma enghraifft o sut y dylid ei wneud yn y ffordd gywir, proses y dylai unrhyw ddatblygiad morol yn y dyfodol ei hefelychu. Ond fel y nododd yr Aelod dros Aberconwy yn gywir, dim ond canllawiau ydyw ar hyn o bryd, ac mae angen ei ychwanegu at y statud deddfwriaethol yma yng Nghymru. Soniodd yr Aelod hefyd am yr RSPB, sydd wedi dweud mai un cyfle sydd gennym i sicrhau ein bod yn darparu ynni adnewyddadwy morol ar gyflymder ac i raddau sy'n ein galluogi i gyrraedd ein targedau amgylcheddol, o ran yr hinsawdd a natur. Yn wir, mae'r ddau yn mynd law yn llaw.

Felly, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Aberconwy am gyflwyno hyn. Mae angen inni wneud hyn yn iawn. Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hwyluso'r gwaith o greu cynllun datblygu morol cenedlaethol, i ddiogelu hinsawdd a natur Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch.

Diolch am y cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw yma i'r Aelod dros Aberconwy. Dwi yn gweld gwerth ystyried sut y gellid tynnu ynghyd y gwahanol elfennau sy'n ymwneud â chynllunio mewn perthynas â'r môr mewn fframwaith deddfwriaethol newydd, er fy mod i, fel Aelod Ogwr, ddim yn hollol eglur bod angen gwneud hynny. Mae ystyried hynny a gwthio'r ffiniau ynghylch beth sy'n bosibl, dwi'n meddwl, yn rhywbeth pwysig.

Mae yna elfennau o'r cynnig sydd o'n blaenau ni dwi'n meddwl y buaswn i wedi'u cyflwyno mewn ffordd wahanol. Mae o'n sôn am adar y môr a ffermydd gwynt, lle mae beth sydd angen ydy ei osod o, o bosib, mewn ffordd dipyn ehangach na hynny. Mae yna fwy i fywyd môr nag adar. Mae yna fwy i gynlluniau ynni na ffermydd gwynt ac yn y blaen. Ond, er hynny, mae yna egwyddorion pwysig yma. Beth sydd angen, wrth gwrs, ydy cael y cydbwysedd iawn rhwng defnyddio a manteisio ar ein hadnoddau morol ni a chael lefel ddigon cadarn o warchodaeth iddyn nhw hefyd.

Mae cynllun Morlais, oddi ar arfordir fy etholaeth i, yn enghraifft dda iawn, dwi'n meddwl, o beth dŷn ni'n trio ei gyflawni—cynllun arloesol i ddatblygu technolegau ynni llif llanw, cynllun sydd â'r diben o hwyluso arbrofi yn y maes hwnnw drwy hwyluso'r broses ganiatáu i ddatblygwyr unigol, ac yn glir iawn ar yr un pryd ynglŷn â'i ddyletswyddau o ran gwarchodaeth, ac yn gwneud hynny hefyd, wrth gwrs, fel menter gymdeithasol, sy'n bwysig iawn. Ond mae hi wedi bod yn broses llawer hirach nag y dylai hi fod. Ac os gallwn ni gael deddfwriaeth sy'n helpu yn hynny o beth, wel, gadewch inni edrych ar hynny. Dwi'n gwybod bod y Llywodraeth, y Gweinidog a'i Dirprwy, yn gefnogol i'r cynllun hwnnw—dwi'n ddiolchgar iawn am hynny—ond mae angen gwneud yn gwbl glir bod prosesau Cyfoeth Naturiol Cymru, er enghraifft, yn gweithio'n adeiladol ac yn effeithiol efo cynlluniau fel cynllun Morlais, er mwyn gallu eu gwireddu nhw mewn ffordd, ie, sydd yn gydnaws â'n hamgylchedd naturiol ni.

Gaf i roi sylw i un cymal penodol yn y cynnig yma—yn cyfeirio at yr angen i fod yn ymwybodol iawn o effaith gronnol datblygiadau? Mae hynny'n gonsérn gwirioneddol i fi yng nghyd-destun datblygiadau solar yn Ynys Môn—yr egwyddor yr un fath, dwi'n meddwl, ar y tir ac yn y môr. A chwestiwn yn y fan hyn yn uniongyrchol gen i i'r Gweinidog: ydy'r Gweinidog yn cytuno y dylai penderfyniadau cynllunio ac amgylchedd Cymru rŵan edrych ar effaith gronnol y nifer uchel o geisiadau ynni solar yn Ynys Môn cyn i ni jest gyrraedd at y pwynt, yn annatod, lle y bydd yna effaith gronnol negyddol? Fel dwi'n ei ddweud, yr un fyddai'r egwyddor, pa un ai ar ddatblygiadau tir neu fôr.

Ond i gloi, dwi'n synnu bod yr Aelod dros Aberconwy yn parhau i wrthwynebu datganoli Ystad y Goron. Onid ydy hi'n amlwg y byddai hynny'n annog defnydd gwell a mwy arloesol o'r môr o'n cwmpas ni ac yn annog atebolrwydd? Ond i grynhoi, mae angen gweledigaeth, mae eisiau cynllun, mae eisiau rhaglen weithredu glir. Ac os ydy rhoi fframwaith deddfwriaethol newydd yn helpu yn hynny o beth, wel, gadewch inni edrych ar hynny.

15:35

A gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders am y ddadl hon hefyd? Ac rwyf am sefyll, yn union fel y gwnaeth Samuel Kurtz, dros fy rhywogaeth. Fi yw'r hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer y fôr-wyntyll binc—enw arall amdano yw gorgoniad, ond mae'n llawer gwell gennyf y fôr-wyntyll binc. Math o gwrel ydynt, ac nid oes rhaid iddynt fod yn binc—gallant fod yn oren neu gallant fod yn wyn. Gall y rhan fwyaf o fôr-wyntyllau pinc dyfu i uchder o tua 25 cm, er bod rhai'n cyrraedd 50 cm, a rhai'n 1m o uchder, ac mae'n cymryd blwyddyn iddynt dyfu 1 cm. Mae'r fôr-wyntyll binc yn brin yn genedlaethol a than fygythiad yn fyd-eang, ac fe'i diogelir o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae'n rhywogaeth â blaenoriaeth o dan fframwaith bioamrywiaeth y DU ar ôl 2010, ac yn nodwedd gadwraeth natur ddynodedig, y gellir dynodi parthau cadwraeth morol ar ei chyfer.

Mae cyflwr ein hardaloedd morol, fel y clywsom, ac iechyd ein bywyd gwyllt morol, yn dirywio, ac mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu a gwella bywyd gwyllt y môr. Wrth gwrs, rhaid cydbwyso hynny â'n cynlluniau i ehangu ein hynni llanw, ac mae'r angen am hynny'n fwy yn awr nag y bu erioed. Felly, byddwn yn anghytuno â'r Ceidwadwyr ynglŷn â'r diffyg cyllid ar gyfer morlyn llanw Abertawe, oherwydd byddai hwnnw wedi rhoi cymaint o gyfle inni ehangu ein hynni llanw. Ond rwy'n cefnogi'r bwriad yma i sicrhau bod yr arian, y cynlluniau, yr hyfforddiant a'r rheoleiddio angenrheidiol ar waith fel y gallwn ddiogelu, nid yn unig y fôr-wyntyll binc, ond llawer o rywogaethau bywyd gwyllt a chynefinoedd eraill, a'r rhywogaethau eraill hynny sydd mewn perygl. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn am y cyfle i ymateb i'r ddadl y prynhawn yma.

Mae'n ddadl bwysig, ac mae'n canolbwyntio ar bwysigrwydd cynllunio ar gyfer datblygu, gan ddiogelu ac adfer ein hamgylchedd morol ar yr un pryd. Ac mae'r Llywodraeth yn gefnogol iawn i'r safbwyntiau hyn, ac fel y nododd y pwyllgor, mae angen gweithredu ar frys i sicrhau sero net, gan warchod ein moroedd a bioamrywiaeth forol ar yr un pryd. Yn wir, mae llawer o'r ardaloedd sydd â'r potensial mwyaf inni allu manteisio ar ynni morol hefyd yn rhai o'n safleoedd mwyaf sensitif ar gyfer bywyd morol. Felly, rhaid inni sicrhau cydbwysedd gofalus.

A dyna pam ein bod wedi rhoi cynllun morol cyntaf Cymru ar waith, cynllun y byddwn yn ei adolygu yn yr hydref, a chaiff ei adolygu bob tair blynedd, a bydd y Llywodraeth yn adrodd ar ei ganfyddiadau i'r Senedd. Felly, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau cynllunio morol helaeth a blaengar eisoes o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, fel y soniodd Huw Irranca-Davies, ac rydym wedi defnyddio'r pwerau hyn i gyflwyno ein cynllun morol. Felly, nid ydym yn teimlo bod angen rhagor o bwerau. Rydym yn canolbwyntio ar weithredu'r cynllun wrth i ni ddatblygu cynlluniau morol.

Ond wrth gwrs, mae technoleg wedi datblygu ers cyflwyno'r cynllun yn 2019, ac rydym yn cydnabod bod modd, a bod rhaid inni wneud rhagor. A'n blaenoriaeth yw darparu rhagor o gyfarwyddyd datblygu drwy'r cynllun morol, ac mae hyn yn cynnwys gwella ein dealltwriaeth o gyfleoedd datblygu, a bod rhaid ystyried sensitifrwydd amgylcheddol. Ym mis Ionawr, cyhoeddwyd ein canllawiau lleoliadol cyntaf, ac mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio at ardaloedd lle y ceir potensial i ddatblygu, ac yn helpu datblygwyr i ddeall sensitifrwydd amgylcheddol. Fe'u cefnogir gan fapiau rhyngweithiol ar y porth cynllunio morol. Mae'r cynnig yn sôn am ddatblygu ardaloedd adnoddau strategol, ac rwy'n falch o ddweud wrth yr Aelodau fod gwaith eisoes ar y gweill ar ardaloedd adnoddau strategol. Yn wir, cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf i randdeiliaid ddoe. Bydd yr ardaloedd adnoddau strategol hyn yn ein helpu i ddeall pa ardaloedd sydd â photensial ar gyfer datblygu cynaliadwy, gan gynnwys ar gyfer ynni adnewyddadwy. Nawr, caiff yr ardaloedd hyn eu diogelu drwy ein system cynllunio morol. Felly, er mwyn bod yn glir, bydd yn rhaid i bob datblygiad, gan gynnwys ardaloedd adnoddau strategol, fodloni rheoliadau amgylcheddol cadarn cyn y rhoddir caniatâd. 

Mae'r brys i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn glir, Ddirprwy Lywydd, ac roedd yr archwiliad dwfn ar ynni adnewyddadwy a gyflawnwyd gennym ychydig cyn y Nadolig yn ailddatgan ein hymrwymiad i ddatblygu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy cynaliadwy a chwalu unrhyw rwystrau a oedd yn sefyll yn ei ffordd. Rydym yn glir fod ynni morol, gan gynnwys gwynt ar y môr, yn rhan hanfodol o'n cymysgedd ynni yn y dyfodol. Mae'r cynnig hefyd yn galw ar ffermydd gwynt ar y môr i gynnwys gwelliannau amgylcheddol. Nid yn unig y mae'r cynllun morol yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ystyried sensitifrwydd ecosystemau morol, mae hefyd yn annog datblygwyr i gyfrannu at adfer a gwella'r amgylchedd morol. Un o'r camau gweithredu a ddeilliodd o'r archwiliad dwfn oedd adolygiad proses gyfan o'r system trwyddedu morol, ac rydym yn dechrau gweithio ar hynny. Nod yr adolygiad yw nodi cyfleoedd i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer ynni adnewyddadwy a bioamrywiaeth forol. Ond rydym yn cydnabod bod angen gwneud rhagor i ddiogelu ein hadar môr a gwella eu statws, ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a'r RSPB, i gynhyrchu strategaeth cadwraeth adar môr Cymru. Bydd y strategaeth yn asesu maint y bygythiad y mae rhywogaethau adar môr yn ei wynebu ac yn nodi camau gweithredu i gefnogi eu gwarchod. 

Mae'r cynnig hefyd yn galw ar ddatblygwyr gwynt ar y môr i ddarparu strategaeth ar gyfer cynaeafu bwyd môr yn gynaliadwy, ac mae'r cynllun morol eisoes yn cynnwys polisi sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ystyried cyfleoedd i rannu'r un ardal neu seilwaith â gweithgareddau morol eraill. Felly, unwaith eto, y patrwm yma, Ddirprwy Lywydd, yw'r safbwynt y cytunwn yn ei gylch—nid ydym yn credu bod angen deddfwriaeth newydd ar hynny. Credwn y gellir gwneud hyn drwy gynllun wedi'i ddiweddaru, ac rydym am weithio gydag Aelodau i wneud y cynllun mor gryf â phosibl. Y ddadl ganolog yn sylwadau agoriadol Janet Finch-Saunders, y bydd yn dychwelyd ati rwy'n siŵr, yw y dylid rhoi ein canllawiau mewn statud, ond pan fyddwch yn rhoi canllawiau mewn statud, rydych yn eu gwneud yn anhyblyg, oherwydd wedyn rhaid ichi osod statud newydd er mwyn diweddaru'r canllawiau. A'r hyn a wyddom am newid hinsawdd yw bod y wyddoniaeth yn datblygu'n gyflym, ac ni fyddem am arafu ein gallu i weithredu drwy roi rhywbeth mewn statud a gynhwyswyd gennym mewn canllawiau sy'n seiliedig ar y gyfraith, yn union fel y gwnawn mewn pob math o feysydd eraill lle mae gennym fframwaith o ddeddfwriaeth ac mae gennym ganllawiau yr ydym wedyn yn eu diweddaru i adlewyrchu'r wyddoniaeth. Felly, credwn ei fod yn ddull llawer mwy hyblyg a mwy priodol, yn hytrach na chael ein llethu gan rwystrau cyfreithiol, sy'n rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr fel arfer yn ein hannog i beidio â'i wneud. 

Mae'r cynllun morol hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cynaeafu bwyd môr yn gynaliadwy. Mae'n gosod polisi clir, gan gefnogi arallgyfeirio ein pysgodfeydd yn gynaliadwy a datblygu dyframaeth, ac rydym yn datblygu canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau i ddeall cyfleoedd dyframaethu yn y dyfodol. Rydym hefyd yn datblygu gwaith ar fapio ardaloedd adnoddau strategol ar gyfer y sector hwn. Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sawl agwedd ar y cynnig hwn, ac rydym wrthi'n bwrw ymlaen â gwaith i fynd i'r afael â llawer o'r materion a godwyd—materion dilys. Credwn fod gennym y pwerau sydd eu hangen arnom, ond rydym am weithio gyda'n gilydd ar draws yr holl bleidiau i sicrhau, pan fyddwn yn diweddaru'r cynllun, ein bod yn manteisio ar bob cyfle i'w wneud mor effeithiol ag y gallwn. Diolch. 

15:45

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu a'r Dirprwy Weinidog, er gwaethaf ei agwedd negyddol ynglŷn â hyn, ond dyna ni. Hoffwn ailadrodd sylwadau Joyce Watson fod ein moroedd yng Nghymru yn llawer mwy na'n tirfas, risg a manteision dal a storio carbon glas, a'r rhinweddau eraill mewn gwirionedd, ac yn benodol, rwy'n credu, ei sylwadau am Wcráin, ac effaith y rhyfel ar Wcráin a'r angen inni edrych yn awr ar ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol. 

Rwy'n llongyfarch Samuel Kurtz ar fod yn hyrwyddwr morlo llwyd yr Iwerydd. Fi yw hyrwyddwr y llamhidydd. Ond mae gennym forloi llwyd yr Iwerydd yma ym Mhorth yr Helyg ar y Gogarth, ac mae gennym rai hefyd ym Mae Penrhyn. Rydym—. Mae'n ddrwg gennyf. Roedd clywed Jane Dodds yn sôn am y fôr-wyntyll binc ac am bethau sy'n brin yn genedlaethol a than fygythiad, a hefyd yr angen i ehangu ynni'r llanw, a chredaf fod hynny'n amlwg—. Mae Rhun yn gwneud cyfraniad pwysig am egwyddorion pwysig a manteisio ar adnoddau o wely'r môr, gan sicrhau ar yr un pryd y glynir wrth y dyletswyddau cadwraeth. Ac rwy'n falch eich bod wedi sôn am Morlais, Rhun, oherwydd credaf fod hwnnw'n brosiect arloesol iawn. 

Soniodd y Dirprwy Weinidog am gynllun morol Cymru, ond fel y gwelsom, wrth inni eistedd yma—wel, rwy'n eistedd yma—yn siarad amdano, mae'r rhywogaethau hyn yn dirywio, rydym yn colli bioamrywiaeth ac mae angen diogelu cadwraeth forol. Drwy roi hyn mewn deddfwriaeth, mae gennym gyfle mewn gwirionedd i ddiogelu ein moroedd a'n rhywogaethau, ac annog datblygwyr ar yr un pryd i ddod i mewn a dod o hyd i ffynonellau ynni adnewyddadwy o hynny. Credaf yn gryf fod angen deddfu ar hyn, oherwydd cawsom flynyddoedd yn awr ohonom yn mynd i unman ar hyn. Felly, fe'i gadawaf ar hynny am y tro, ond diolch i bawb am wrando ac am gyfraniadau pawb. Diolch. 

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Lluoedd Arfog

Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, y lluoedd arfog. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM7955 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod gwasanaeth ac aberth pobl o Gymru yn lluoedd arfog y DU.

2. Yn mynegi diolch i bersonél presennol a chyn-aelodau'r lluoedd arfog am eu cyfraniad i gymdeithas yng Nghymru.

3. Yn croesawu penodiad Cyrnol James Phillips fel Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Cyn-filwyr a Llywodraeth y DU i sicrhau bod cyfamod y lluoedd arfog yn cael ei gynnal yng Nghymru.

5. Yn credu y dylai adroddiadau blynyddol cyfamod lluoedd arfog Llywodraeth Cymru gael eu hystyried gan un o bwyllgorau priodol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Un o'r anrhegion a roddodd fy ngwraig i mi y Nadolig diwethaf oedd llyfr yn adrodd hanes go iawn teulu a gafodd eu dal gan ddigwyddiadau'r ail ryfel byd. Roedd yn cynnwys y llinellau canlynol: 'Fel llawer o bersonél y lluoedd arfog sy'n dychwelyd, cafodd drafferth am flynyddoedd gydag anableddau ac ôl-effeithiau eraill na chafodd eu cydnabod na'u trin. Yn hytrach, cawsant eu hannog i ailymroi i fywyd teuluol, cael swydd, anghofio'r gorffennol ac edrych tua'r dyfodol. Hyd yn oed yn fwy gwanychol na'r boen gorfforol gyson oedd yr hunllefau a fyddai'n ail-greu'r artaith a'r arswyd mor fyw nes y byddai'n gweiddi ac yn codi ei freichiau mewn ymdrech i amddiffyn ei hun ac yn deffro'n sgrechian a ffustio yn ei arswyd. Ond nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth na thriniaeth ar y pryd i greithiau meddyliol o'r fath. Cafodd anhwylder straen wedi trawma ei gydnabod yn swyddogol ym 1992, yn rhy hwyr i lawer.'

A siarad yn bersonol, cefais fy magu gan y genhedlaeth stoicaidd honno. Hwy oedd ein athrawon ysgol a'n siopwyr, pobl fusnes leol a darparwyr gwasanaethau lleol, ffrindiau teuluol ac aelodau o'r teulu. O leiaf cawsant gefnogaeth a dealltwriaeth dawel y bobl yn eu cymunedau lleol, gyda'r rhan fwyaf ohonynt hwythau hefyd wedi profi rhyfel mewn rhyw ffordd. Wrth gwrs, nid oedd hyn yn wir am y cenedlaethau a ddilynodd. 

Felly, mae ein cynnig heddiw yn galw ar y Senedd hon yng Nghymru i gydnabod gwasanaeth ac aberth pobl o Gymru yn lluoedd arfog y DU ac i ddiolch i bersonél presennol a blaenorol y lluoedd arfog am eu cyfraniad i gymdeithas Cymru. Mae cyfamod y lluoedd arfog yn cyfeirio at y rhwymedigaethau cydfuddiannol rhwng gwledydd y DU a'n lluoedd arfog. Arweiniais ddadl fer yma ym mis Ionawr 2008, yn cefnogi ymgyrch Anrhydeddu'r Cyfamod y Lleng Brydeinig Frenhinol, gan ddod i'r casgliad fod yn rhaid ymladd dros hyn nes iddo gael ei ennill, a chroesawais gyhoeddi cyfamod y lluoedd arfog ym mis Mai 2011 a gyflwynai ddyletswydd statudol o 2012 ymlaen i osod gerbron Senedd y DU adroddiad blynyddol sy'n ystyried effeithiau gwasanaeth ar aelodau rheolaidd ac wrth gefn o'r lluoedd arfog, cyn-filwyr, eu teuluoedd a'r rhai sydd mewn profedigaeth, a hefyd archwilio meysydd posibl lle y ceir anfantais a'r angen am ddarpariaeth arbennig lle y bo'n briodol.

Llofnododd Llywodraeth Cymru a phob awdurdod lleol yng Nghymru y cyfamod ac ymrwymo i weithio gyda sefydliadau partner i gynnal ei egwyddorion. Fodd bynnag, er bod gan bob un o'r 22 awdurdod lleol gyfamod cymunedol y lluoedd arfog sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gael hyrwyddwyr lluoedd arfog o blith eu haelodau etholedig, mae angen gwneud rhagor. Er gwaethaf ymrwymiad datganedig awdurdodau lleol a GIG Cymru i ddarparu cynifer o wasanaethau wedi'u teilwra ag y gallant i'r lluoedd arfog, mae fy ngwaith achos, a gwaith achos aelodau eraill mae'n siŵr, yn darparu tystiolaeth nad yw hwn yn mynd yn ddigon pell.

Wrth siarad yma ym mis Rhagfyr 2017, dywedais:

'Roedd ymateb Llywodraeth y DU yn 2017 i adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Amddiffyn a ddilynodd adroddiad blynyddol cyfamod y lluoedd arfog 2016 yn nodi cynnydd yng Nghymru.'

Mae'r dyfyniad yn parhau:

'Er gwaethaf hyn, fodd bynnag, hyd yn hyn ni chafwyd adolygiad annibynnol o gynnydd a darpariaeth ledled Cymru ers sefydlu'r cyfamod.'

Wrth siarad yma ym mis Tachwedd 2018, nodais unwaith eto na chafwyd adolygiad annibynnol o gynnydd a darpariaeth ledled Cymru gyfan ers sefydlu'r cyfamod. Felly, mae ein cynnig heddiw yn galw ar Senedd Cymru i ddatgan y dylai pwyllgor Senedd priodol, pwyllgor seneddol, ystyried adroddiadau blynyddol cyfamod y lluoedd arfog Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod cyn-aelodau o'r lluoedd arfog a'u teuluoedd yng Nghymru yn cael eu cefnogi'n briodol. 

Arweiniais ddadl yma gyntaf wyth mlynedd yn ôl i alw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiynydd lluoedd arfog. Wrth siarad yma yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ym mis Tachwedd 2017 ar ymchwiliad grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar y lluoedd arfog a chadetiaid i effaith cyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru, dadl a arweiniwyd gan Darren Hill fel y—Darren Millar fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol—. Camgymeriad diffuant. Mae hon yn ddadl ddifrifol, rwy'n ymddiheuro. Gelwais ar Lywodraeth Cymru i ystyried 23 o argymhellion yr adroddiad i wella cymorth. Fel y dywedais, nododd yr ymchwiliad:

'Er mwyn cynnal y cyfamod... dylai Llywodraeth Cymru ystyried penodi comisiynydd y lluoedd arfog ar gyfer Cymru i wella atebolrwydd sefydliadau sector cyhoeddus am ddarparu cyfamod y lluoedd arfog.'

Ychwanegais:

'Byddai comisiynydd yn cefnogi anghenion penodol cyn-filwyr, yn mynegi'r rhain i Lywodraeth Cymru ac yn craffu'n briodol ar wasanaethau i gyn-filwyr a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru ac awdurdodau lleol. Fel gydag argymhellion eraill yn yr adroddiad hwn, cafodd y rôl hon ei chefnogi gan gymuned y lluoedd arfog a phenaethiaid y lluoedd arfog.'

Pan godais hyn eto y flwyddyn ganlynol, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthyf y byddai hyn,

'yn dargyfeirio adnoddau o wasanaethau a chymorth ymarferol.'

Wrth siarad yma fis Tachwedd diwethaf felly, croesawais y cyhoeddiad yng nghyllideb hydref y DU ynglŷn â sefydlu comisiynydd cyn-filwyr i Gymru, a fydd yn gweithio i wella bywydau a chyfleoedd cymuned y cyn-filwyr yng Nghymru, gan gydnabod eu cyfraniad i luoedd arfog y DU.

Roeddwn yn falch iawn wedyn o groesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi penodi Cyrnol James Phillips fel Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni. Mae Cyrnol Phillips, sy'n briod ac yn byw yn sir Benfro, a chanddo bedwar o blant a llamgi Cymreig bywiog, newydd gwblhau ei gyfnod pontio ei hun i fywyd sifil ar ôl 33 mlynedd yn y fyddin. Bu'n gwasanaethu yn yr Almaen, Cyprus, yr Iseldiroedd, Gogledd Iwerddon, y Balcanau, Affganistan ac Irac, ac mae wedi arwain milwyr, morwyr a phersonél awyr ac wedi gweithio yn NATO, y Weinyddiaeth Amddiffyn, y cyd-bencadlys a phencadlys y fyddin. Wrth gael ei benodi, dywedodd:

'Mae cymuned cyn-filwyr y lluoedd arfog yn rhan bwysig o gymdeithas Cymru a cheir traddodiad hir o wasanaeth ac aberth. Byddaf yn defnyddio fy mhrofiad a fy swydd i wella bywydau pob cyn-filwr a'u teuluoedd.'

15:55

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Bydd Colonel Phillips yn adrodd yn uniongyrchol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn a Gweinidog y DU dros Bobl Amddiffyn a Chyn-filwyr. Fel y dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

'Mae gan y Lluoedd Arfog draddodiad hir a phwysig yng Nghymru ac rydym yn hynod falch o'n cyn-filwyr Cymreig. Mae ein cyn-filwyr a'u teuluoedd yn haeddu cydnabyddiaeth, cefnogaeth a pharch drwy gydol eu gwasanaeth a thu hwnt.'

Bydd penodi Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru yn cynyddu ac yn cydlynu'r cymorth sydd ar gael, ac yn tynnu sylw at ymrwymiad Llywodraeth y DU i les y dynion a'r menywod sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. Dywedais:

'Bydd y rôl newydd hon yn helpu i sicrhau na fydd unrhyw gyn-filwr yn cael ei adael heb gymorth priodol, a dymunwn y gorau i Colonel Phillips yn ei swydd newydd ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ef',

gan ychwanegu ei bod yn hanfodol fod Gweinidogion Llywodraeth Lafur Cymru yn

'gweithio law yn llaw â'r comisiynydd gan fod llawer o'r gwasanaethau y mae cymuned ein Lluoedd Arfog yn dibynnu arnynt wedi'u datganoli i Gymru.'

Felly, roeddwn yn falch hefyd o ddarllen datganiad Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, Hannah Blythyn—rwy'n falch o'i gweld yn y Siambr fod

'Cymru’n darparu ystod eang o gymorth i gyn-filwyr...ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i gefnogi pawb sydd wedi gwasanaethu'.

Dywedodd hefyd:

'Mae Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn benodiad Llywodraeth y DU. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Chyrnol James Phillips fel rhan o’n hymrwymiad i gyn-filwyr ledled Cymru'.

Rwy'n gobeithio felly y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein cynnig heddiw, sydd hefyd yn gofyn i Senedd Cymru groesawu penodiad Colonel James Phillips fel Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r comisiynydd cyn-filwyr a Llywodraeth y DU i sicrhau bod cyfamod y lluoedd arfog yn cael ei gynnal yng Nghymru.

Disgrifiodd adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar y cyfamod ar gyfer 2020 ddau brif gyflawniad: darpariaeth ariannu sefydledig ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr, sy'n galluogi cyn-filwyr â phroblemau iechyd meddwl i gael cymorth priodol, ac ariannu swyddogion cyswllt y lluoedd arfog tan 2023 i ymgorffori canllawiau'r cyfamod mewn awdurdodau lleol ledled Cymru. 

Er bod y grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog wedi croesawu'r adroddiad, cyflwynodd wyth blaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hwy yn ystod tymor y Senedd hon, gan gynnwys datblygu cynllun cenedlaethol i weithredu newidiadau o Ddeddf y Lluoedd Arfog 2011, ymrwymo i ariannu cronfa addysg plant y lluoedd arfog yng Nghymru yn barhaol, ac ymestyn blaenoriaeth tai am bum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth milwrol. Gall y comisiynydd cyn-filwyr chwarae rhan allweddol mewn meysydd fel y rhain.

Mae bron i 17 mlynedd ers imi godi am y tro cyntaf yr angen i gyn-aelodau o'r lluoedd arfog sydd wedi dioddef trawma gael gofal iechyd meddwl a chael triniaeth â blaenoriaeth. Yn y diwedd, fe lansiodd Llywodraeth Cymru GIG Cymru i Gyn-filwyr bum mlynedd yn ddiweddarach, gan roi asesiadau dibreswyl a thriniaeth seicolegol i gyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru ar gyfer problemau iechyd meddwl, gan gynnwys anhwylder straen wedi trawma. Fel y dywedodd GIG Cymru i Gyn-filwyr wrthyf fis Tachwedd diwethaf, roeddent yn ddiolchgar am y cynnydd ariannol y flwyddyn ariannol hon i gadw'r staff cyflogedig a gyllidwyd gan Help for Heroes ers tair blynedd. Fodd bynnag, roeddent yn ychwanegu bod Llywodraeth Cymru wedi methu ariannu nifer o geisiadau eraill am gyllid yn eu hachos busnes, gan gynnwys mentoriaid cymheiriaid a gyflogir gan y GIG a mwy o sesiynau seiciatrydd—un diwrnod y mis yn unig ar hyn o bryd. Felly, gall y comisiynydd cyn-filwyr hefyd chwarae rhan mewn materion allweddol fel y rhain. Diolch yn fawr.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Lywydd dros dro; rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood hefyd am y ffordd y mae wedi agor y ddadl hon. Byddwn yn cytuno â llawer o'i gyfraniad. Credaf y byddwn i gyd yn rhannu'r un ymdeimlad o wasanaeth i'r wlad hon ac i'n pobl. Felly, credaf ein bod i gyd yn cydnabod aberth y genhedlaeth a ddisgrifiwyd ganddo yn ei sylwadau agoriadol. A chredaf ein bod i gyd yn rhannu'r cyfrifoldeb felly i roi rhai gwahaniaethau gwleidyddol i'r naill ochr weithiau er mwyn darparu'r mathau o wasanaethau y mae cyn-filwyr eu hangen, a hefyd i gefnogi personél presennol a'u teuluoedd.

A dweud y gwir, credaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cryn dipyn dros y blynyddoedd i gyflawni hynny, ac mae’n rhaid imi ddweud, credaf fod gan Lywodraeth Cymru strwythurau cymorth pwysig ar waith ar hyn o bryd sy’n cyflawni ar ran cyn-filwyr a'u teuluoedd yn ogystal â phersonél sy'n gwasanaethu. Credaf fod pethau y gall y Llywodraeth eu gwneud i wella ei darpariaeth a’i pherfformiad, ond credaf hefyd y dylem gydnabod lle mae’r Llywodraeth wedi gwneud pethau’n iawn, ac weithiau yn ein sylwadau, nid ydym bob amser yn gwneud hynny. Y prynhawn yma, rwy'n gobeithio unwaith eto y gallwn gyrraedd man lle y gallwn gytuno ar draws y Siambr.

A gaf fi ddweud imi wrando, gan wenu, wrth wrando ar Mark yn dyfynnu ei areithiau ei hun, a rhai o fy areithiau innau mewn gwirionedd, o'r blynyddoedd a fu? Oherwydd fi oedd y Gweinidog, wrth gwrs, a wrthododd y cynnig gan Darren Millar a’r grŵp trawsbleidiol ar sefydlu comisiwn, a gwneuthum hynny am resymau da iawn, ac fe amlinellaf rai o’r rheini y prynhawn yma o bosibl.

Mae’r ffocws i mi a’r ffocws i bawb sy'n rhan o gymuned y lluoedd arfog yn ei ystyr ehangaf bob amser wedi bod ar ddarparu gwasanaethau, a darparu gwasanaethau i bobl mewn angen. Mae Darren Millar a minnau, fel cadeirydd ac is-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol, yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi swyddogion cyswllt y lluoedd arfog sydd wedi’u lleoli mewn llywodraeth leol ac sy’n atebol yn y cymunedau lleol i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu. Ac roeddwn yn falch o weld Llywodraeth Cymru, y llynedd, yn darparu cyllid parhaus ar gyfer hynny i CLlLC, fel y gall y swyddogion cyswllt hynny barhau i weithio gyda gwasanaethau lleol, cyn-filwyr lleol a chymunedau lleol y lluoedd arfog i sicrhau bod y gwasanaethau’n cael eu darparu yn y ffordd y dylent gael eu darparu, ac rwy'n croesawu hynny’n fawr.

Fe wnaf groesawu penodiad y comisiynydd, ond ni chredaf mai dyma’r rôl gywir; dywedaf hynny'n gwbl glir wrth yr Aelodau. Bydd rhai o'r Aelodau’n gyfarwydd â fy nghyfraniadau ar faterion eraill. Nid wyf yn argyhoeddedig fod y model o benodi comisiynwyr yn arbennig o dda i ddemocratiaeth. Credaf fod y lle hwn a phwyllgorau’r lle hwn wedi gwneud mwy i ddwyn Gweinidogion ac eraill i gyfrif mewn gwasanaethau plant a gwasanaethau i bobl hŷn na’r ddau gomisiynydd dros y blynyddoedd, a dweud y gwir yn blaen wrth yr Aelodau. Nid oes unrhyw beth i atal un o bwyllgorau'r lle hwn rhag cynnal adolygiad ac ymchwiliad i'r modd y darperir gwasanaethau i gymuned y lluoedd arfog nac ar gyfer cymuned y lluoedd arfog. Felly, mae’r ddemocratiaeth yno ac ar waith, ac fe all weithio, ac rwy'n credu ei bod hi'n gweithio. Nid wyf yn credu mai penodi comisiynydd sy'n atebol i Lywodraeth yw'r ffordd i gynyddu atebolrwydd. Dylai’r Llywodraeth fod yn atebol i ni ac nid y ffordd arall. Nid ydych yn creu atebolrwydd drwy benodi rhywun i'ch dwyn chi i gyfrif. Nid dyna sut y mae democratiaeth neu atebolrwydd yn gweithio ac yn sicr, nid dyna'r hyn y byddwn i'n ei gefnogi. Credaf y dylai atebolrwydd ddigwydd yma. Dylai ddigwydd yma yn y lle hwn, gyda’r rheini ohonom sy’n cael ein hethol yn dwyn Gweinidogion ac eraill i gyfrif am y modd y darperir gwasanaethau. Dyna’r model democrataidd. Mae'n un rwy'n ei gefnogi ac yn cytuno ag ef.

Ac mae'n rhaid imi ddweud, wrth inni fwrw ymlaen â'r materion hyn, credaf fod gennym agenda hynod bwysig o'n blaenau o hyd ac rwy'n talu teyrnged i waith Darren Millar ar y materion hyn; mae wedi bod wrthi fel daeargi bach, yn gweithio'n ddygn ac yn arwain y grŵp trawsbleidiol, ac mae wedi sicrhau bod y materion hyn ar agenda’r lle hwn a'r Gweinidogion yn gyson. Yn sicr, roedd ar fy ôl yn gyson pan oeddwn i yn y Llywodraeth, ac roeddwn yn gwerthfawrogi'r gwaith a wnâi.

Felly, credaf fod angen inni barhau i drafod y pynciau hyn. Weinidog, yn eich ymateb, hoffwn pe gallech amlinellu sut y byddwch yn parhau i adrodd i ni ar y materion y credwch eu bod yn flaenoriaethau ar gyfer darparu gwasanaethau, ac rwy'n gobeithio y gallwn eich gwahodd unwaith eto, Weinidog, i’r grŵp trawsbleidiol lle'r ydym yn parhau i gael y sgyrsiau hynny. Ac wrth inni fynd drwy waith y Senedd hon, rwy'n gobeithio hefyd y bydd pwyllgor Senedd yn dechrau, i sicrhau bod Gweinidogion yma, ac eraill, yn cael eu dwyn i gyfrif am ddarparu'r gwasanaethau a ddarperir i gyn-filwyr a chymuned gyfan y lluoedd arfog yng Nghymru.

16:05

Dwi'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae gan Gymru hanes hir o ddarparu personél i luoedd arfog y Deyrnas Unedig. Mewn llawer o deuluoedd yng Nghymru, bydd rhywfaint o gysylltiad â'r lluoedd arfog, boed hynny drwy berthnasau neu ffrindiau, yn enwedig yn y Cymoedd yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru.

Y rheswm am hynny yw bod Cymru’n darparu nifer anghymesur o uchel o bersonél i’r lluoedd arfog. Mae llawer yn gadael gwasanaeth gweithredol i ddychwelyd i Gymru bob blwyddyn mewn ymgais i bontio i fywyd sifil. Mae cyfuniad o ddisgyblaeth, sgiliau da ac ethig gwaith ardderchog yn golygu eu bod mewn sefyllfa dda i gyfrannu at yr economi. Yn anffodus, bydd llawer yn ei chael hi'n anodd o ganlyniad i anhwylder straen wedi trawma a phroblemau iechyd eraill sy'n deillio o'u cyfnod yn gwasanaethu yn y fyddin. Mae’n bosibl y bydd gan gyn-filwyr anghenion iechyd, ac y byddant yn cael anhawster cael mynediad at dai, a bydd nifer fach yn mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yn y pen draw.

Bydd llawer o gyn-filwyr wedi bod mewn gwasanaeth gweithredol dros yr ychydig ddegawdau diwethaf gan fod y DU wedi cymryd mwy o ran mewn gwrthdaro mwy hirdymor a rhyfela athreuliol. Mae hyn wedi golygu bod cyfnodau gorffwys rhwng gwasanaeth gweithredol yn fyrrach erbyn hyn, a gwelwyd cynnydd mewn straen a phwysau ar bersonél y lluoedd arfog oherwydd natur y tasgau a gyflawnir mewn gwrthdaro o'r fath. Canfu astudiaeth o 10,000 o bersonél y lluoedd arfog sy’n gwasanaethu—23 y cant ohonynt yn filwyr wrth gefn—fod 4 y cant wedi nodi anhwylder straen wedi trawma tebygol, 19.7 y cant wedi nodi anhwylderau meddyliol cyffredin eraill, a 13 y cant wedi dweud eu bod yn camddefnyddio alcohol. Ar ôl gofyn i bersonél y lluoedd arfog sefyll ar y llinell danio a mentro eu bywydau i bob pwrpas, mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau bod ganddynt yr hyn sydd ei angen arnynt i ddychwelyd i normalrwydd pan fyddant yn gadael y lluoedd arfog.

Yn y gorffennol, roedd cyn-filwyr yn aml yn cael eu hesgeuluso. Roedd hyn yn rhywbeth a amlygwyd gan grŵp trawsbleidiol San Steffan ar gyn-filwyr, a sefydlwyd gan AS Plaid Cymru ar y pryd, Elfyn Llwyd. Fe wnaethant gyhoeddi cyfres o argymhellion fwy na 10 mlynedd yn ôl, ac mae rhai ohonynt bellach yn weithredol. Felly, er bod pethau wedi gwella, mae gwaith i’w wneud o hyd. Edrychaf ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y Cyrnol James Phillips yn ei chael fel Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru. Mae dyletswydd arnom i gefnogi dynion a menywod sy’n gadael y lluoedd arfog pan fyddant yn dychwelyd i’w cymunedau. Mae dyletswydd arnom i roi'r cymorth angenrheidiol i'r cymunedau y byddant yn dychwelyd iddynt fel y gallant wneud y gorau o’r sgiliau gwerthfawr sydd gan bersonél y lluoedd arfog. A'n dyletswydd i'r byd yw dilyn llwybr heddwch ar bob cyfle. Diolch.

Mae gan ein gwlad hanes milwrol balch sy'n ffurfio cymaint o'n diwylliannau a'n traddodiadau modern. Ein lluoedd arfog yw'r gorau yn y byd ac maent wedi bod yn rhan o rai o'r ymgyrchoedd heddwch a'r gwrthdaro mwyaf ffiaidd ledled y byd i amddiffyn buddiannau Prydain gartref a thramor. Rwy’n falch o hanes ein cenedl a’r rôl y mae ein lluoedd arfog yn ei chwarae. Mae gennyf deulu a ffrindiau sydd wedi gwasanaethu, ymladd a marw dros ein gwlad, a byddaf yn ddiolchgar am byth am eu gwasanaeth ac i bawb arall sy'n cael yr anrhydedd ac sy'n ddigon dewr i wasanaethu dros ein gwlad wych.

Mae fy etholaeth i, Brycheiniog a Sir Faesyfed, yn gartref i fyddin Prydain yng Nghymru, ac rwy’n hynod falch o’u cynrychioli yma yn y Senedd. Mae gan fy etholaeth i a fy nhrigolion draddodiad milwrol anrhydeddus a balch. Adeiladwyd ein barics yn Aberhonddu ym 1805, ac o dan ddiwygiadau Cardwell, ehangwyd y barics i fod yn gartref i ddau fataliwn. Bydd y milwyr o'r barics hyn yn byw am byth yng nghof ein cenedl oherwydd eu dewrder yn Rorke's Drift yn ystod y rhyfel Eingl-Zulu.

Mae fy etholaeth yn dal i chwarae rhan allweddol fel cartref i ysgol frwydro milwyr traed orau’r byd yng ngwersyll y fyddin Dering Lines, a gwersyll y fyddin ym Mhontsenni, yn hyfforddi milwyr o bob rhan o’r byd i fynd i ardaloedd gwrthdaro i amddiffyn pobl ddiniwed. Gwn fod Aelodau o bob rhan o’r Siambr yma heddiw wedi ymweld â gwersylloedd y fyddin yn ddiweddar i weld yr hyfforddiant y mae ein milwyr yn ei gael. Roedd hefyd yn wych nodi bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd y barics yn parhau i chwarae rhan allweddol yn ein seilwaith milwrol ac y byddant yn cael eu defnyddio gan fyddin Prydain am ddegawdau i ddod.

Mae milwyr yn gwasanaethu eu gwlad yn rhagorol, ac maent yn wynebu rhai pethau na allwn ni yn y Siambr hon eu dirnad. Golyga hyn fod llawer ohonynt yn dioddef o ganlyniad i effeithiau negyddol rhyfel. Ceir oddeutu 250,000 o gyn-filwyr yng Nghymru, ac amcangyfrifir y bydd 4 y cant o’r cyn-filwyr yn dioddef rhyw fath o broblem iechyd meddwl, yn aml o ganlyniad i'w profiad o fod mewn ardaloedd ymladd .

Rwy’n ddiolchgar iawn ac yn falch fod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda’i gilydd ac wedi cyhoeddi Comisiynydd Cyn-filwyr newydd i Gymru, y Cyrnol James Phillips, sydd wedi’i leoli yn sir Benfro. Hoffwn dalu teyrnged a diolch i’r Dirprwy Weinidog am fod mor agored wrth weithio gyda mi i helpu i greu'r swydd hollbwysig hon.

Gyda hynny mewn golwg, credaf ei bod bellach yn bryd i Lywodraeth y DU edrych o ddifrif ar gynyddu nifer y milwyr yn ein lluoedd arfog. Mae niferoedd ein milwyr yn allweddol i heddwch byd-eang ac yn helpu i gynnal democratiaeth ledled y byd. Mae ein lluoedd arfog yn arallgyfeirio gyda dulliau newydd o dechnoleg filwrol oherwydd natur newidiol rhyfela, ac yn bersonol, credaf y dylai Llywodraeth y DU gynyddu gwariant a buddsoddiad yn ein seilwaith a’n personél milwrol. Mae gan Brydain fyd-eang rôl hanfodol i’w chwarae, a chredaf yn bersonol fod gan ein lluoedd arfog ddyfodol disglair o’u blaenau. Dylai pob un ohonom yn y Siambr hon fod yn dragwyddol ddiolchgar am y diogelwch a’r heddwch y mae ein lluoedd arfog yn eu darparu i’n teuluoedd ac i’n gwlad wych.

16:10

Diolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r cynnig heddiw. Mae pob diwrnod yn ddiwrnod dysgu, gan imi ddysgu bod Alun Davies yn arfer bod yn y Llywodraeth, ac rwy'n cytuno â sylwadau’r cyn-Weinidog yn gynharach yn ei gyfraniad ynghylch craffu gan y Senedd hon a’r gwaith pwyllgor y dylai fod yn ei wneud. Efallai fod pob diwrnod yn ddiwrnod dysgu, ond mae hefyd yn wahanol, gan imi synnu fy mod yn cytuno, at ei gilydd, gyda Mark Isherwood y prynhawn yma yn ei sylwadau agoriadol a’r hyn a ddywedodd.

Ond mae hwn yn faes sydd ar flaen meddyliau pob un ohonom ar hyn o bryd, wrth i fenywod a dynion dewr y lluoedd arfog ein cadw’n ddiogel. Lywydd dros dro, hoffwn achub ar y cyfle hwn i dynnu sylw'n benodol at y rhan y mae ein lluoedd arfog wedi’i chwarae drwy gydol y pandemig coronafeirws. Nid yw dweud eu bod wedi mynd y tu hwnt i'r galw yn gwneud cyfiawnder â'r gwahaniaeth y maent wedi'i wneud, ac rydym i gyd yn hynod ddiolchgar iddynt.

Fel y dywedais, rwy'n cytuno â sylwadau’r cyn-Weinidog ar y rôl y gall y Senedd ei chwarae a’r gwaith pwyllgor y mae angen iddi ei wneud, ac rwy'n dymuno gweld hynny’n digwydd. Ond rwy'n croesawu rôl y comisiynydd cyn-filwyr a byddwn yn falch o'r cyfle hefyd i gyfarfod â’r Cyrnol James Phillips i siarad am gyn-filwyr yn fy etholaeth i, Alun a Glannau Dyfrdwy, ac i glywed ei farn ynglŷn â'r ffordd orau y gall y Senedd hon eu cefnogi.

Lywydd dros dro, rwy’n falch o fod yn aelod anrhydeddus o gangen Shotton a Glannau Dyfrdwy o Gymdeithas Cymrodyr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Y penwythnos diwethaf, cefais y pleser o siarad â chynrychiolwyr Labour Friends of the Forces yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno—cynhadledd ragorol, os caf ddweud. A hoffwn dalu teyrnged i Labour Friends of the Forces a’r gwaith y maent yn ei wneud i gyfoethogi’r cysylltiad rhwng aelodau Llafur a’n lluoedd arfog, a byddaf yn sicr yn ymuno â hwy fel ffrind ac aelod.

Lywydd dros dro, i gloi, hoffwn ddweud, bob blwyddyn, ar Ddydd y Cofio, ein bod, yn gwbl briodol, yn oedi i gofio’r rheini a aberthodd gymaint i warchod y rhyddid a drysorwn. Ond drwy gydol y flwyddyn, fel Aelodau o’r Senedd hon, o Senedd Cymru, dylai'r rheini sy’n gwasanaethu a’r rheini sydd wedi gwasanaethu fod yn ein meddyliau wrth inni gyflawni ein cyfrifoldebau o ddydd i ddydd. Mae hwnnw’n ymrwymiad a wnaf heddiw. Byddaf yn parhau i wneud popeth a allaf i hyrwyddo achos ein cyn-filwyr a’n lluoedd arfog, fel Darren Millar, fel Alun Davies, fel James Evans, ac fel pawb sydd wedi siarad yn y ddadl hon. Gofynnaf i gyd-Aelodau o bob rhan o’r Siambr, bob un ohonoch, ymuno â mi i wneud yr ymrwymiad hwnnw heddiw. Diolch yn fawr.

16:15

Mae’n anrhydedd cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma ac i ddiolch i’n milwyr, yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, am eu haberth anhygoel sy’n caniatáu i mi a phob un ohonom sefyll yma heddiw. Oherwydd, peidied neb â chamgymryd, heb ein lluoedd arfog, ni fyddai unrhyw ddemocratiaeth. Ni fyddem yn siarad am ein cefnogaeth i’n lluoedd arfog; byddem o dan iau rhyw unben neu'i gilydd. Nid oes ond angen ichi droi at y newyddion i weld pa mor fregus yw ein democratiaeth. Mae’n bosibl mai’r uffern y mae Putin yn rhoi pobl Wcráin drwyddi fyddai ein dyfodol oni bai am wasanaeth dynion a menywod dewr ein lluoedd arfog, dynion a menywod sy’n barod i fentro eu bywydau i ddiogelu ein rhyddid. Fel y dywedodd Winston Churchill,

'Ni fu erioed ddyled mor fawr gan gynifer i gyn lleied.'

Mae hynny yr un mor wir heddiw ag yr oedd yn ôl ym 1940. Ond yn anffodus, rydym yn tueddu i anghofio’r ddyled honno. Rydym yn bwrw iddi â’n bywydau bob dydd, gan anwybyddu trafferthion ein milwyr a’n cyn-filwyr, gan ganiatáu i’n cyllidebau amddiffyn gael eu torri i’r byw, gan gyflenwi offer annigonol i’n milwyr, oherwydd y gred ffug fod yna heddwch yn y byd a bod lluoedd arfog yn bethau sy'n perthyn i oes a fu. Gwnaethom anwybyddu ymlediaeth Putin, sefyll o'r neilltu wrth i filwyr wastatáu Grozny, ymosod ar Georgia, cyfeddiannu rhannau o Wcráin yn 2014, saethu awyren deithwyr i lawr, a pharhau i ladd sifiliaid yn Donbas. Ac yn awr, mae Putin yn benderfynol o adfer yr Undeb Sofietaidd.

Heddiw, mae ei lygad ar Kyiv, ond beth am yfory? Ai Chisinau ym Moldofa sydd nesaf? Beth am Tallinn? Nid ydym yn gwybod, a dyna pam fod dynion a menywod dewr Cymru ar y ffin yn Estonia, yn ffurfio llinell goch yn erbyn ymlediaeth Putin, gan obeithio, fel y gweddill ohonom, am ateb heddychlon, ond yn barod i fentro'u bywydau i amddiffyn ein rhyddid. Mae'n rhaid inni gydnabod eu gwasanaeth a sicrhau bod ein dyled yn cael ei had-dalu gyda llog. Yn llawer rhy aml, rydym wedi gwneud cam â'n cyn-filwyr, a dyna pam y credaf fod penodi comisiynydd cyn-filwyr yn drobwynt. Rwy'n gobeithio y bydd penodi'r Cyrnol James Phillips yn rhoi diwedd ar ddiystyru cyfamod y lluoedd arfog, yn atal ein cyn-filwyr rhag bod yn ddigartref, rhag mynd i'r carchar neu i wardiau seiciatrig. Rydym yn dibynnu ar bersonél ein lluoedd arfog ar adegau o wrthdaro a chynnen. Dylent allu dibynnu arnom pan fyddant wedi rhoi eu harfau i lawr am y tro olaf. Mae'n rhaid inni ddarparu addysg, lles a thai blaenoriaethol a sicrhau eu bod yn pontio i fywyd sifil mewn modd mor ddi-dor a di-boen â phosibl. Mae arnom y ddyled hon iddynt o leiaf.

Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau’n cefnogi ein cynnig ac yn anfon neges glir fod y sefydliad democrataidd hwn yn sefyll yn gadarn y tu ôl i’r rheini sy'n amddiffyn ein democratiaeth. Diolch.

Diolch am gael cymryd rhan yn y ddadl yma. Mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod i yn cael trafferth efo dadleuon am gyn-aelodau o'r lluoedd arfog, nid oherwydd fy mod yn heddychwr, ond oherwydd fy mhrofiadau i efo aelodau o fy nheulu a wasanaethodd a dioddef gweld erchyllterau na fedraf i eu dirnad tra'n gwasanaethu, ond yna, ar ôl gwasanaethu, y teulu, yr aelodau yna, yn cael eu hamddifadu gan y wladwriaeth yn llwyr. Ac mae arnaf i ofn fod yr un patrwm yn cael ei weld drosodd a throsodd, ac yma heddiw. Ymddengys fod y nifer o hunanladdiadau ymhlith cyn-filwyr ar gynnydd. Mae cam-drin alcohol yn orgyffredin, ac mae'r diffyg gofal ar gyfer iechyd meddwl yn sen.

Hoffwn ganolbwyntio ar un elfen yn benodol, sef digartrefedd ymhlith cyn-filwyr. Es i i weld teulu ifanc yn fy etholaeth i yn ddiweddar. Roedd yna blant bach bywiog, hyfryd yn yr aelwyd, gydag un rhiant yn gweithio yn y sector iechyd, a rhiant arall yn gyn-filwr, wedi gwasanaethu yn Affganistan ond yn dioddef o PTSD. Roedd y teulu bach hyfryd yma yn ddigartref, yn gorfod byw efo'r nain mewn tŷ gorlawn. Yn anffodus, mae hon yn stori sy'n llawer rhy gyffredin. Mae'n gywilyddus fod gwladwriaeth yn disgwyl i bobl ifanc fynd allan i wynebau erchyllterau enbyd, ond yna yn eu hamddifadu ar ôl iddyn nhw adael y fyddin. Mae cyn-filwyr yn wynebu heriau mawr wrth ddygymod â'u profiadau, a'r peth lleiaf y gellir disgwyl ydy fod ganddyn nhw do uwch eu pen wrth iddyn nhw ddod nôl i beth mae pobl yn ei alw yn 'civvy street'. Dwi'n edrych ymlaen i weld y comisiynydd newydd, felly, yn blaenoriaethu hyn. Diolch yn fawr iawn.

16:20

Gwasanaethodd fy nhad-cu yn y rhyfel byd cyntaf, a bu'n gwasanaethu yn y lleoedd gwaethaf gyda’r niferoedd uchaf o rai a anafwyd. Roedd yn un o'r Magnelwyr Brenhinol, a oedd yn cludo’r gynnau i’r ffrynt gan ddefnyddio ceffylau, sy’n dangos pa mor bwysig yw hi i'r fyddin newid gyda thechnoleg newydd; ni allwn ymladd rhyfeloedd â cheffylau mwyach. Ni chafodd y cymorth iechyd meddwl oedd ei angen arno. Cafodd o leiaf ddwy chwalfa feddyliol yn ystod y rhyfel, ac ar ôl y rhyfel, ni chafodd y cymorth oedd ei angen arno bryd hynny ychwaith. Yn y diwedd, mae arnaf ofn ei fod wedi cyflawni hunanladdiad, ac wrth gwrs, roedd y golled i fy mam-gu a fy mam yn fawr.

Hoffwn sôn am berthnasedd y fyddin heddiw yn y sefyllfa bresennol a wynebwn gyda rhyfel yn Ewrop, gan fod rôl y credaf y gallai ac y dylai'r fyddin ei chwarae i gynorthwyo'r holl wledydd o gwmpas Wcráin sy'n cael trafferth ymdopi â'r niferoedd o bobl sydd wedi ffoi rhag y rhyfel. Mae'r Cymry wedi bod yn hael iawn i deuluoedd Wcráin; eisoes, rhoddwyd £25 miliwn i’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, ac mae Llywodraeth y DU wedi darparu arian cyfatebol, ac mae Llywodraeth y DU hefyd yn darparu cyflenwadau meddygol. Ond daw llawer o'r rhoddion mewn nwyddau o'r sector gwirfoddol.

Mae'n anodd inni amgyffred bod Gwlad Pwyl bellach yn darparu lloches ddiogel i 1.5 miliwn o bobl sy'n gwbl ddiymgeledd. Maent newydd ffoi gyda'r hyn y gallant ei gario, a gan eu bod yn agosach yn ddaearyddol na'r niferoedd sydd wedi cael lloches yn Rwmania, Slofacia a Moldofa, credaf fod angen inni ganolbwyntio ar geisio cynorthwyo pobl Gwlad Pwyl i leddfu rhywfaint o'r pwysau arnynt hwy, gan fod maer Warsaw wedi apelio ar wledydd eraill i rannu'r gwaith caled sydd ei angen i ddarparu llety priodol i blant a theuluoedd a henoed sydd wedi'u trawmateiddio. Rwy'n credu o ddifrif ei bod yn gywilyddus mai 4,000 o fisâu yn unig yr ydym ni yn y wlad hon wedi'u cynnig i alluogi pobl i ddod i Brydain, a hynny heb hyd yn oed drafod sut y maent yn mynd i gyrraedd yma. Yn llythrennol, mae pobl wedi'u gadael heb ddim.

Gwyddom fod oddeutu 7,000 o aelwydydd yng Nghymru eisoes wedi cynnig llety i deuluoedd sy’n ffoi rhag y rhyfel, ond hyd yn oed pan fydd y Swyddfa Gartref yn rhoi fisâu iddynt yn y pen draw, sut y mae’r bobl hyn i fod i gyrraedd yma? Nid yw'n ddigon da, ac rwy'n siŵr nad yw'r cyhoedd ym Mhrydain am inni barhau i sefyll o'r neilltu wrth i'r drasiedi hon ddatblygu. Felly, mae rôl i fyddin Prydain ei chwarae i gyflymu'r broses, a galluogi pobl i gyrraedd. Mae'n un peth i Rhys Jones a'i ffrindiau yrru o Gonwy i Wcráin. Ffermwyr yw’r rhain, pobl sy’n gwybod sut i drwsio eu cerbydau pan fyddant yn torri i lawr ac sy’n berffaith alluog i gyrraedd lleoedd anodd, ond nid yw’r rhan fwyaf o’r bobl yn fy etholaeth, y gwn eu bod wedi cynnig eu cartrefi, yn y sefyllfa honno. Pobl yw'r rhain a fyddai'n dibynnu ar gymorth brys ar ymyl y ffordd pe bai eu car yn torri i lawr, ac mae hynny’n chwerthinllyd, onid yw, yng nghyd-destun mynd i Wlad Pwyl i ddod â phobl yn ôl fel y gallant gael lle diogel yma yng Nghymru.

Credaf fod gwir angen inni gynnull unedau logistaidd Byddin Prydain i ddod â’r bobl hyn yn ôl i Gymru, gan fod logisteg yn allweddol i fyddin weithredu yn ystod gwrthdaro arfog. Dyna pam fod y Rwsiaid wedi cael y fath drafferth, am nad ydynt wedi gallu datrys sut y maent yn mynd i fwydo eu milwyr, heb sôn am eu hailarfogi. Dyma a’n galluogodd i ennill rhyfel y Falklands 3,000 o filltiroedd i ffwrdd—am fod y catrodau logistaidd yn wirioneddol drefnus. Nid oes unrhyw gatrodau logistaidd wedi’u lleoli yng Nghymru, ond mae gennym gatrawd y corfflu logisteg brenhinol 157, sef catrawd logistaidd wrth gefn, sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd gyda sgwadronau yng Nghaerdydd, Abertawe, Caerfyrddin, Hwlffordd a Queensferry. Gellid cynnull yr holl bobl hyn pe bai eu cyflogwyr yn cydweithredu. Maent wedi cael eu hyfforddi ar sut i ddod â phobl allan o ardaloedd gwrthdaro a gallant ddod â hwy oddi yno'n ddiogel ar y tir ac yna ar y môr fel y gall pobl gyrraedd Cymru'n gyflymach. Mae hon yn rôl dda iawn i'r fyddin yn y sefyllfa bresennol, felly rwy'n gobeithio y gallwn fynd ar drywydd hynny gyda Llywodraeth y DU, oherwydd yn amlwg, rhaid cysylltu â Llywodraeth Gwlad Pwyl i'w galluogi i fynd yno o gwbl.

16:25

Diolch, Lywydd dros dro. Yn gyntaf, hoffwn ddatgan fy mod yn dal yn gynghorydd sir yng Nghyngor Sir Fynwy. Hoffwn ddiolch i Darren Millar am gyflwyno’r ddadl heddiw. Gan fy mod yn hanu o deulu â hanes o wasanaethu yn y lluoedd arfog, mae’n gyfle gwych i ymuno â fy nghyd-Aelodau a nifer o rai eraill ar draws y Siambr, gobeithio, i groesawu Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf erioed Cymru, y Cyrnol James Phillips, a hefyd i gydnabod y cyfraniad enfawr y mae ein cyn-filwyr wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud yng Nghymru.

Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, mae ein comisiynydd newydd yn ddyn sydd wedi gadael y fyddin yn ddiweddar ar ôl 33 mlynedd o wasanaeth, gan gynnwys yn Irac, Affganistan, Gogledd Iwerddon a’r Balcanau. Gyda’i brofiad helaeth yn y lluoedd arfog, rwy’n siŵr y bydd yn dod â gwybodaeth, profiad a dealltwriaeth i rai o’r materion penodol y mae cyn-filwyr yn eu hwynebu ac yn cynrychioli eu hanghenion yn llawn. Rwyf wedi bod yn falch o wasanaethu ar gyngor yn sir Fynwy a ymunodd â chynllun cyfamod cymuned y lluoedd arfog fel rhan o fenter Llywodraeth Geidwadol y DU yn 2011 i hybu gwell dealltwriaeth rhwng y fyddin a’r cyhoedd yn gyffredinol. Yn ystod fy nghyfnod fel cynghorydd yng Nghyngor Sir Fynwy, cefais y fraint o fod yn hyrwyddwr y lluoedd arfog ar ran y cyngor. Yn fy rhanbarth i yng Ngwent, mae pob un o’r pum awdurdod lleol erbyn hyn wedi cyflawni safon aur yn y cynllun cydnabod cyflogwyr amddiffyn, ac mae pob un o’r pump wedi cynnig y cynllun gwarantu cyfweliad i gymuned y lluoedd arfog, gan gynnwys sir Fynwy. Mae’r cynllun hwn yn ffordd wych o gydnabod a diolch am y gwaith y mae’r awdurdodau lleol yn ei wneud, ac am y ffyrdd arloesol a thrylwyr y maent bellach yn cynnwys cyn-filwyr ym mhopeth a wnânt wrth symud ymlaen.

Nid i gyn-filwyr yn unig y gwelwn gymorth mawr ei angen yn cael ei roi yn awr, ond diolch i Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru sy’n gweithio’n galed i gydgysylltu ymchwil a chasglu tystiolaeth ar brofiadau plant y lluoedd arfog mewn addysg i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu deall yn dda, rydym yn gweld y gwasanaeth hwn yn bod o fudd i blant personél sy'n gwasanaethu. Fodd bynnag, mae’r diffyg data sydd gennym ar blant y lluoedd arfog yng Nghymru yn peri cryn bryder, ac mae’r angen i gasglu'r dystiolaeth hon mor hanfodol er mwyn inni allu cefnogi teuluoedd â phlant y lluoedd arfog yng Nghymru yn llawer gwell nag a wnawn ar hyn o bryd. Mae angen inni wybod lle maent, a gwybod lle mae eu teuluoedd er mwyn rhoi’r cymorth sydd ei angen arnynt. Felly, mae hyn yn hanfodol, ac rwy'n gobeithio y bydd ein comisiynydd newydd yn ceisio mynd i'r afael â hyn ac yn sicrhau bod data cyfredol ar gael ar y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) yn y dyfodol, lle mae angen iddo fod. Bydd hyn o fudd i gyn-filwyr, fel y dywedais, ond hefyd i blant personél sy’n gwasanaethu.

Mae’r swyddogion cyswllt, fel yr anhygoel Lisa Rawlings yn fy rhanbarth i yng Ngwent, yn chwarae rhan mor allweddol yng Nghymru, ac rwy’n mawr obeithio gweld eu contractau’n cael eu hymestyn neu eu gwneud yn barhaol, i weithio ochr yn ochr â’r comisiynydd cyn-filwyr, gan y credaf y bydd hwnnw’n dîm cynhyrchiol ar unwaith i sicrhau'r gorau i gyn-filwyr, lle y gall gwybodaeth lifo'r ddwy ffordd. Mae’r swyddogion cyswllt wedi bod yn ganolog i'r gwaith o greu canolfannau a gwneud llawer iawn o bethau i gynorthwyo cyn-filwyr, fel yr amlinellwyd yn awr gan yr Aelod dros Feirionnydd. Mae’r ganolfan i gyn-filwyr yng Nghaerffili, sy’n cael ei rhedeg gan Kelly Farr a Lisa Rawlings, wedi dangos tystiolaeth o ganlyniadau cadarnhaol ac mae'n siop un stop go iawn ar gyfer cyn-filwyr—yn yr un modd ag yng Nghasnewydd ac mewn llawer o ardaloedd eraill yng Nghymru. Mae'n wych fod gennym un yn sir Fynwy bellach hefyd. Mae’r canolfannau hyn yn enghreifftiau gwych o arferion gorau, ac rwy'n gobeithio y bydd y comisiynydd cyn-filwyr yn ystyried eu cyflwyno ledled Cymru. Mae mwy o lawer i'w wneud o hyd ar gyfer ein cyn-filwyr, boed yn sicrhau mynediad i gyn-filwyr sy'n gadael y lluoedd arfog at ddeintyddion y GIG neu'n brosesau casglu data gwell ar blant y lluoedd arfog. Ac mae'n rhaid inni barhau i ymdrechu i wella. A hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, am ddadlau achos cyn-filwyr yng Nghymru yn gyson, a rhoi gwybod i bobl, er ein bod wedi gwneud cynnydd mawr, fod angen inni wneud mwy o lawer.

Fel y soniodd Jack Sargeant eisoes, gwnaed gwaith gwych gan y grŵp trawsbleidiol, gan gynnwys Aelodau eraill, ar draws y pleidiau, fel Alun Davies, yn ogystal â’r rheini yn ein plaid ein hunain sydd bob amser wedi rhoi eu cefnogaeth gadarn i gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. Mae 5 y cant o boblogaeth y DU yn bersonél sy'n gwasanaethu. Fodd bynnag, mae’r ffigur yn dyblu yng Nghymru, gyda 10 y cant o boblogaeth Cymru yn bersonél sy’n gwasanaethu. Ac mae gennym oddeutu 140,000 o gyn-filwyr yn byw yma. Amcangyfrifir y bydd 4 y cant o gyn-filwyr y lluoedd arfog yn dioddef rhyw fath o broblem iechyd meddwl, megis unigrwydd, materion lles neu broblemau caethiwed, yn aml o ganlyniad i fod mewn ardal ymladd. Ac mae cyn-filwyr hefyd mewn perygl o fod yn ddigartref, fel y gwyddom. Ar hyn o bryd, ceir 6,000 o gyn-filwyr digartref yng Nghymru a Lloegr.

Oherwydd y problemau penodol hyn sy’n dal i fodoli yn ein gwlad, bu’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am benodi comisiynydd cyn-filwyr ers 2014. Bydd y comisiynydd newydd yn gweithredu fel llais i gyn-filwyr ac yn gweithio i wella cymorth, gan graffu a chynghori ar bolisi’r Llywodraeth. Ni fydd lle i unrhyw Lywodraeth guddio mwyach ac rwy'n gobeithio y bydd y cymorth hwn i gyn-filwyr yn gwella fwyfwy yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd y Cyrnol Phillips yn ymdopi â'i rôl newydd ac nid oes unrhyw amheuaeth gennyf y bydd yn gweithio ddydd a nos i sicrhau mai Cymru yw'r lle gorau i gyn-filwyr fyw, magu eu teuluoedd ac ymddeol, ac rwy'n annog pawb yn y Siambr hon i gefnogi ein cynnig.

16:30

Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl heddiw ar ran Llywodraeth Cymru i gefnogi'r rhai sydd wedi gwasanaethu a'r rhai sy'n parhau i wasanaethu.

Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo'n gadarn i adeiladu ar ein gwaith yn cefnogi personél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr a'u teuluoedd yng Nghymru. Byddwn ar fai pe na bawn yn dechrau heddiw drwy sôn am y sefyllfa ofnadwy yn Wcráin ac ailadrodd sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn sefyll mewn undod ag Wcráin a chyda phobl Wcráin, ac mae'n darparu £4 miliwn mewn cymorth ariannol a dyngarol i helpu i ddarparu cymorth hanfodol i'r rhai sydd mewn angen dybryd. 

Ac mae llawer o'r pwyntiau a godwyd gan Jenny Rathbone, yn amlwg, yn fater i Lywodraeth y DU, ond rwy'n ymwybodol o ohebiaeth ddiweddar fod milwyr Prydeinig yn barod i gefnogi'r ymdrech ddyngarol yn gysylltiedig â'r sefyllfa yn Wcráin. Credaf ei bod hefyd yn bwysig ein bod yn cydnabod y gallai'r sefyllfa bresennol gael effaith niweidiol ar rai o'n cyn-filwyr sydd â chyflyrau sy'n gysylltiedig â gwasanaethu yn deillio o'u hamser mewn ardaloedd rhyfel, ac mae ein gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr ac ystod eang o gymorth ar gael iddynt ei ddefnyddio, felly efallai y gallwn ddosbarthu manylion amdanynt i'r Aelodau eto i sicrhau eu bod yn gallu cyfeirio etholwyr, os bydd angen.

Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i gefnogi cymuned y lluoedd arfog ac yn cydnabod eu haberth yn fawr. Eleni, byddwn yn anrhydeddu'r rhai a wasanaethodd yn y Falklands, 40 mlynedd ar ôl y gwrthdaro hwnnw. Bydd y Prif Weinidog yn arwain gwasanaeth coffa cenedlaethol ym mis Mehefin, a byddaf yn cefnogi digwyddiadau ychwanegol, gan gynnwys taith feicio gyda chyn-filwyr, gan ddechrau wrth gofeb genedlaethol y Falklands yng Nghaerdydd.

Mae cyfraniad ein lluoedd arfog i'n gwlad yn rhywbeth yr ydym i gyd yn ei werthfawrogi, ac ni fyddwn byth yn ei anghofio, boed hynny filoedd o filltiroedd i ffwrdd neu yma gartref. Ac rydym i gyd wedi gweld, ac yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth y mae ein personél sy'n gwasanaethu wedi'i rhoi yn ystod y pandemig COVID, gan weithio gyda'r GIG. Maent wedi darparu cyflenwadau hanfodol, brechiadau, wedi gyrru ambiwlansys ac wedi ymgorffori'r ethos o roi eraill yn gyntaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu penodiad y Cyrnol James Phillips fel Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi sefydlu rolau comisiynwyr sy'n gweithio i wella'r cyfleoedd ar gyfer eu poblogaethau cyn-filwyr, a byddwn ninnau wrth gwrs yn cefnogi'r bwriad hwnnw yma yng Nghymru. 

Cefais gyfle i gwrdd â'r Cyrnol Phillips yn anffurfiol yng nghinio Dydd Gŵyl Dewi Brigâd 160 (Cymru)—y cinio y ceisiodd James Evans ddweud wrthyf ei fod wedi'i ganslo. Nid wyf yn gwybod beth oedd ei fwriad. [Chwerthin.] Nid wyf yn gwbod a oeddent wedi dweud wrth James ei fod wedi'i ganslo. [Chwerthin.] Ond o ddifrif, er fy mod wedi gallu cwrdd â'r Cyrnol Phillips yn anffurfiol wythnos neu ddwy yn ôl, rydym wedi estyn gwahoddiad iddo ymuno â ni yma yn y Senedd i ddysgu mwy am yr hyn a wnawn yng Nghymru, fel Llywodraeth ddatganoledig a hefyd sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd yn y lle hwn gyda'r un nod o gefnogi ein cyn-filwyr a'u teuluoedd.

Yn wir, teimlaf y gallwn ymfalchïo nid yn unig yn y rhan y mae gweithio mewn partneriaeth wedi'i chwarae yn ein cynnydd wrth inni gefnogi cyn-filwyr yng Nghymru, ond hefyd yn y consensws trawsbleidiol a'r ymdeimlad cyffredin o bwrpas sy'n parhau yn y lle hwn.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi cysylltu â swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU i drefnu cyfleoedd ymgysylltu rheolaidd lle y gallwn drafod sut y bydd penodiad y comisiynydd cyn-filwyr yn ychwanegu gwerth at y cymorth a ddarperir eisoes yng Nghymru o fewn ein strwythurau sefydledig, ac anghenion cymuned ein lluoedd arfog yn y dyfodol.

Rydym wedi ymrwymo i gydweithio, ac mae gennym hanes o wneud hynny, i gefnogi cymuned ein lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru, o'n grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog i'n swyddogion cyswllt y lluoedd arfog sydd bellach yn adnabyddus. Rydym yn canolbwyntio'n gadarn ar roi ein hadnoddau cyfyngedig tuag at gymorth a gwasanaethau rheng flaen, yn cynnwys: y buddsoddiad parhaus yn GIG  Cymru i Gyn-filwyr i sicrhau bod cyn-filwyr yn gallu cael y driniaeth iechyd meddwl sydd ei hangen arnynt; cefnogi cyn-filwyr i ddod o hyd i waith, gan gynnwys digwyddiad cyflogaeth i rai sy'n gadael gwasanaeth a chyn-filwyr ym mis Tachwedd y llynedd, gyda'r Bartneriaeth Pontio Gyrfa a'r 160 Brigâd, rhywbeth yr ydym yn awyddus i adeiladu arno eleni a chynllunio digwyddiad arall; yn ogystal â chyflwyno menter Gweithle Gwych i Gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog ym mis Tachwedd 2020, i roi'r dewis i gyn-aelodau'r lluoedd arfog ymuno â'r gwasanaeth sifil drwy gynlluniau gwarantu cyfweliad. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn gallu darparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn ei gylch yn ein hadroddiad blynyddol eleni, gan ddangos ein cred gadarn fod gan gyn-filwyr lawer i'w gynnig ar ôl gorffen eu gwasanaeth.

Mae cynnal egwyddorion cyfamod y lluoedd arfog yn hanfodol i'n gwaith yng Nghymru. Rydym yn cydnabod y bydd gweithio gyda'n partneriaid allweddol, a'r comisiynydd yn awr, a gwledydd eraill y DU yn helpu i adeiladu ar ystod a chwmpas y cymorth a ddarperir. Mae ein rhwydwaith o swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yn unigryw yn y DU ac fel y clywsom, maent wedi ymsefydlu yn ein hawdurdodau lleol ac maent yn gwbl hanfodol i gyflawni'r cyfamod ledled Cymru. Maent yn parhau i ddarparu cymorth allweddol, gan gynnwys cynnal cyrsiau a hyfforddiant iechyd meddwl a chymorth cyntaf, a sefydlu canolfannau i gyn-filwyr, fel y clywsom gan Laura Anne Jones heddiw, yn ardaloedd yr awdurdodau lleol, a darparu cymorth pwysig iawn ar lawr gwlad lle mae ei angen. Ac maent hefyd yn cynnig mecanwaith i godi rhai o'r materion lleol hynny gyda'r grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog er mwyn inni allu llenwi unrhyw fylchau a allai fod yn dal i fodoli o ran gwasanaethau a chymorth.

Fel Llywodraeth, ein dull gweithredu yw datblygu polisi drwy ymgynghori, mewn partneriaeth a rhwng cymheiriaid. Ymgysylltodd ein hymarfer cwmpasu ar gyn-filwyr, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, â thros 1,000 o gyn-filwyr, teuluoedd a sefydliadau ledled Cymru. Mae'n lefel o ymgysylltiad y byddem i gyd yn ei disgwyl gan unrhyw rôl sy'n cynrychioli barn cyn-filwyr, ac yn amlwg, byddwn yn cynorthwyo'r comisiynydd i sicrhau y gall ymgysylltu yn y ffordd orau â'r boblogaeth cyn-filwyr ym mhob rhan o Gymru.

Mae mwy o waith i'w wneud bob amser, ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i adeiladu ar y cymorth hwn, yn enwedig ym maes cefnogi plant y lluoedd arfog, ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar flaenoriaeth i gael y data CYBLD hwnnw a gwella hynny. Mae'n rhywbeth y gwnaethom ei gydnabod yn yr ymarfer cwmpasu, ac mae'n flaenoriaeth i ni wrth symud ymlaen yn awr.

Un o'r pethau yr ydym yn edrych ymlaen at ei drafod gyda'r comisiynydd newydd hefyd, y Cyrnol Phillips, yw'r cymorth i'r rhai sy'n gadael y gwasanaeth ac yn dychwelyd i Gymru. Ni yw'r unig wlad yn y DU sydd heb ganolfan adsefydlu, ac rydym yn ymgysylltu'n weithredol â Llywodraeth y DU ar hynny ar hyn o bryd. Felly, byddwn yn amlwg yn croesawu unrhyw gefnogaeth i hynny gan Aelodau ar draws y meinciau yn y Siambr.

Os caf droi yn awr at bwynt 5 yn y cynnig ac adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru, ac rwy'n hapus iawn i ystyried ai'r awgrym yn y cynnig yw'r ffordd fwyaf effeithiol o graffu ar yr adroddiad. Mae'r cymorth sydd ar gael i gymuned y lluoedd arfog yn cael ei gynnwys yn flynyddol yn adroddiad blynyddol y cyfamod, ac er nad ydym yn gorfod gwneud hynny ar hyn o bryd, rydym bob amser yn ceisio cael dadl flynyddol, a chaiff yr adroddiad ei osod yn y Senedd a'i graffu hefyd gan aelodau o'r grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog. Mewn gwirionedd, mae eu hadborth wedi'i gynnwys yn yr adroddiad i helpu i lywio ein blaenoriaethau wrth symud ymlaen. Rydym hefyd yn cyfrannu at adroddiad blynyddol cyfamod Llywodraeth y DU, sydd hefyd yn destun craffu gerbron Senedd y DU, ac rwy'n falch iawn o dderbyn y gwahoddiad i ddod i'r grŵp trawsbleidiol eto yn y dyfodol.

Lywydd dros dro, hoffwn orffen fel y dechreuais, yn y modd colegol hwnnw, a dweud bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â'r comisiynydd cyn-filwyr, gyda'r holl randdeiliaid a phartneriaid, i adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yma, ac i symud ymlaen er budd ein cyn-filwyr a'u teuluoedd yng Nghymru.

16:35

Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb hael i'r ddadl ac i bawb sydd wedi cyfrannu mor huawdl at y drafodaeth hon? Rwy'n falch iawn o glywed y bydd y Gweinidog yn ystyried ein cynnig. Rwy'n gobeithio, wrth hynny, ei bod yn golygu y bydd y Llywodraeth yn cefnogi ein cynnig. Credaf ein bod ni fel sefydliad yn y Senedd hon ac yma yng Nghymru yn haeddu clod am ein bod wedi gweithio gyda'n gilydd ar sail drawsbleidiol dros flynyddoedd lawer i geisio cefnogi ein cyn-filwyr yma yng Nghymru, a rhaid inni beidio ag anghofio rhai o'r ystadegau y soniwyd amdanynt, sef bod Cymru'n gwneud cyfraniad llawer mwy i'r lluoedd arfog nag unrhyw un o rannau eraill Y Deyrnas Unedig. Credaf mai dyna pam mai hwy yw'r gorau yn y byd, a dweud y gwir, am fod llawer o Gymry'n gwasanaethu mor rhagorol ynddynt.

Rwyf hefyd eisiau llongyfarch y Cyrnol James Phillips ar ei benodiad. Rwy'n credu ei fod yn ddewis rhagorol fel ein comisiynydd cyn-filwyr cyntaf yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth y buom yn ymgyrchu drosto ar feinciau'r Ceidwadwyr, nid yn unig ers 2014, ond ers 2011 mewn gwirionedd—roedd i'w weld yn ein maniffesto yn ôl yn 2011 ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ar y pryd. Ac rydym wedi bod yn ysgwyd y goeden yn gyson, ac rwy'n falch iawn bellach fod Llywodraeth y DU, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, wedi nodi'r ymgeisydd gwych hwn i gyflawni'r rôl. Credaf yn sicr y bydd ei brofiad diweddar yn amhrisiadwy wrth sicrhau bod anghenion cyn-filwyr yn cael eu cynrychioli'n dda iawn yn wir.

A gallwn weld y math o effaith y mae ein cyn-filwyr yn ei chael hyd yn oed yma yn y Senedd, oni allwn? Oherwydd mae gennym bobl sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog sydd bellach yn gweithio gyda rhai o'n timau. Mae gan fy nghyd-Aelod, Joel James, wraig ifanc o'r enw Hannah Jarvis, a oedd yn arfer gwasanaethu yn y lluoedd arfog—roedd ar ffin Wcráin yn ddiweddar, yn cludo cyflenwadau meddygol yno, gan ddefnyddio ei phrofiad, ei gwybodaeth am logisteg, i allu cyflawni'r rôl honno. Hoffwn roi clod iddi hi ac i eraill sy'n parhau i arddangos yr ymrwymiad sydd ganddi i wasanaethu'r cyhoedd. [Torri ar draws.] Ie.

16:40

Mae hynny'n arbennig o ddiddorol i'w glywed, ac a ydych chi felly'n credu bod gan gatrodau logistaidd rôl bwysig i'w chwarae yn cynorthwyo pobl Gwlad Pwyl ac eraill, a chwarae ein rhan drwy ddod â phobl o Wcráin cyn gynted â phosibl?

Ydw, yn sicr, Jenny, ac fe wnaeth eich cyfraniad i'r ddadl heddiw argraff fawr arnaf, ac rwy'n llwyr gefnogi eich galwadau yn hynny o beth. Fe wnaeth eich stori bersonol argraff arnaf hefyd, stori eich teulu, a ddangosai sut y mae methu cael y cymorth cywir yn gallu bod mor gostus i'n cyn-filwyr a'u hanwyliaid. Diolch ichi am rannu hynny. Rwy'n siŵr nad oedd yn hawdd i chi.

Cyfeiriodd Mabon ap Gwynfor, wrth gwrs, at rai o brofiadau ei deulu yntau hefyd, a dyna pam y mae'n rhaid inni sicrhau bod cyfamod y lluoedd arfog yn cael ei anrhydeddu. Rwy'n falch ein bod wedi gwneud cynnydd yn y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n credu bod 12 mlynedd bellach ers sefydlu GIG Cymru i Gyn-filwyr. Mae'n wych ein bod wedi rhoi mwy o danwydd yn y tanc i'r sefydliad hwnnw allu ateb y galw am ei wasanaethau, ac wrth gwrs rydym wedi gwneud cynnydd mawr mewn ffyrdd eraill hefyd, gyda swyddogion cyswllt rhagorol y lluoedd arfog y cyfeiriodd pobl fel Laura Anne Jones atynt yng Ngwent ac mewn mannau eraill ledled y wlad. Mae gennym bethau fel y cynllun cydnabod cyflogwyr amddiffyn, ac mae'n rhaid imi ddatgan buddiant yn hynny o beth, oherwydd rwy'n aelod o fwrdd Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru, sy'n gweithredu'r cynllun hwnnw mewn gwirionedd. Ond mae'n ardderchog iawn. Dylem fod yn annog pob cyflogwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i allu mabwysiadu'r cynllun a cheisio am y gwobrau efydd, arian ac aur hynny. Rwy'n gobeithio y bydd gwobr platinwm ar ryw adeg yn y dyfodol.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog hefyd am y gwaith parhaus y mae wedi bod yn ei wneud gyda'r grŵp arbenigol? Mae wedi bod yn bleser gallu cymryd rhan yn y grŵp arbenigol, a chredaf fod hyn eto'n dangos y ffordd yr ydym yn cydweithio ar sail drawsbleidiol er budd cymuned ein lluoedd arfog a chyn-filwyr yma yng Nghymru. Gan nad yw hynny'n arferol—nid yw'n arferol gwahodd pobl o'r gwrthbleidiau i grwpiau fel hynny, ond rydych wedi parhau i ganiatáu imi eistedd yno i ddod â her briodol i'r cyfarfodydd hynny, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn.

Cyfeiriodd Jack Sargeant at y ffaith bod cyn-Weinidog, Alun Davies, wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Wrth gwrs, roedd eich tad eich hun, Jack, yn Weinidog da iawn dros y lluoedd arfog pan oedd yn y swydd. Roedd yn dadlau'n frwd dros bobl yn y lluoedd arfog, a chymuned y cyn-filwyr yn wir, felly hoffwn dalu teyrnged iddo. Ac mae'n rhaid inni beidio ag anghofio ychwaith fod llawer o sefydliadau'r trydydd sector yn gwneud gwaith anhygoel yn cefnogi ein lluoedd arfog, nid dim ond y Lleng Brydeinig Frenhinol a Chymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd, ond sefydliadau eraill llai fel Woody's Lodge, Change Step yn fy etholaeth fy hun, ac yn wir mae gennym nifer cynyddol o siediau cyn-filwyr ledled Cymru, rhywbeth a ddechreuodd, mewn gwirionedd—. Dechreuodd y mudiad hwnnw yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Clwyd. Felly, mae'r rhain yn bethau y mae'n rhaid inni fod yn falch iawn ohonynt, ond bydd mwy o waith i'w wneud bob amser. Rydym eisiau sefyll ochr yn ochr â chi, Weinidog, a Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn cyflawni dros ein lluoedd arfog yma yng Nghymru, ac ar y sail honno rwy'n falch iawn eich bod yn cefnogi ein cynnig. Bydd pob un ohonom yn gweithio'n agos gyda'r comisiynydd newydd, rwy'n siŵr, i sicrhau bod ein cyn-filwyr yng Nghymru yn well eu byd. 

16:45

Iawn, y cynnig, felly—. Gadewch inni ddechrau yn y dechrau. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw—Yr effaith ar ysgolion a phlant

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 8, dadl Plaid Cymru, yr argyfwng costau byw—yr effaith ar ysgolion a phlant. Galwaf ar Sioned Williams i gyflwyno'r cynnig. 

Cynnig NDM7954 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith benodol ar ysgolion a phlant.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu mor effeithiol â phosibl drwy:

a) adolygu effeithiolrwydd canllawiau statudol ar bolisïau gwisg ysgol er mwyn sicrhau fforddiadwyedd cyson ledled Cymru;

b) cymryd camau brys i sicrhau nad yw dyled prydau ysgol yn cael effaith negyddol ar ddisgyblion;

c) gwella sut y cyfeirir at y grant datblygu disgyblion—mynediad; 

d) gweithio tuag at gofrestru pobl ar gyfer yr holl bethau y gallant hawlio amdanynt yn awtomatig i gynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt a sicrhau eu bod yn gwneud y gorau o incwm;

e) darparu cymorth pellach i ysgolion i ddarparu teithiau a gweithgareddau cynhwysol i bawb a sicrhau arferion cyson ledled Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. 

Rwy'n gwneud y cynnig, ac rwy'n falch o agor y ddadl bwysig ac amserol hon gerbron y Senedd. 

Yn yr ymadrodd enwog hwnnw, ystyrir mai addysg yw'r cydraddolwr gorau. Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion gorau ein hathrawon a'n staff cymorth, mae tlodi'n greadur llechwraidd. Mae'n treiddio i leoedd lle y dylai pawb gael ei drin yn gyfartal, gan lesteirio ymdrechion i drin pawb yn deg, a gadael trywydd o annhegwch, allgáu a stigma o'i ôl, yn mygu cyfleoedd ac yn niweidio llesiant ein dinasyddion ieuengaf. A chan fod tlodi plant yn bodoli ym mhob rhan o Gymru, mae'n bresennol ym mhob ysgol wladol. Ni cheir yr un ward cyngor sydd â chyfradd tlodi plant is na 12 y cant. 

Am y cyfnod o dair blynedd hyd at 2019, roedd 28 y cant o blant Cymru yn byw ar aelwydydd islaw'r llinell dlodi, tua 195,000 o blant. Erbyn 2021, roedd y ffigur hwn wedi codi i 31 y cant. Disgwylir y bydd yr argyfwng costau byw yn gwneud yr ystadegau brawychus hyn hyd yn oed yn waeth. Mae'r toriad i gredyd cynhwysol a chredydau treth gwaith wedi gostwng incwm 40 y cant o aelwydydd â phlant dros £1,000 y flwyddyn. Hyd yn oed cyn i argyfwng COVID daro, gyda'i effaith niweidiol ac anghymesur ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol, roedd y plant hyn mewn mwy o berygl o fod yn wael eu hiechyd ac yn llai tebygol o gyflawni'r graddau uchaf yn eu hysgol na'u cyfoedion o gartrefi incwm uwch. Mae'n rhaid inni ddod o hyd i atebion. Mae adroddiad y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant ar leihau cost y diwrnod ysgol yng Nghymru, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn rhoi llais i'r rhai sy'n cael eu gwneud i deimlo eu bod wedi'u hallgáu, yn anhapus neu'n wahanol oherwydd eu hamgylchiadau economaidd. Mae arnom angen gweithredu ar y cyd i godi incwm teuluoedd a lleihau costau byw, a chanolbwyntio ar newid arferion sy'n atgyfnerthu stigma ar hyn o bryd ac yn trin pobl sy'n byw mewn tlodi mewn ffyrdd llai ffafriol.

Mae'r ddadl heddiw'n ymwneud â chyflawni hyn drwy'r system addysg. Efallai ein bod yn credu bod anfon plentyn i'r ysgol yn digwydd yn ddi-dâl. Fodd bynnag, fel y clywn, mae cost ddyddiol ynghlwm wrtho. Gofynnir i deuluoedd gyfrannu fel mater o drefn tuag at gostau gwisg ysgol, tripiau, elusennau, prydau ysgol a byrbrydau, ac i ddarparu cyfarpar ac adnoddau ar gyfer gwahanol bynciau. Gall hyn wneud plant yn agored i'r risg o stigma a chywilydd pan na allant fforddio hyd yn oed costau bach i allu cymryd rhan. Er bod canllawiau i gyrff llywodraethu ysgolion ar lawer o'r elfennau hyn o'r diwrnod ysgol a bywyd ysgol, mae llawer ohono'n anstatudol, a'r modd y caiff ei gymhwyso yn anghyson. Mae canlyniadau llawer o bolisïau neu ffyrdd o wneud pethau yn aml yn anfwriadol wrth gwrs, ond nid yw hynny'n ddigon da mewn gwirionedd. O safbwynt cydraddoldeb, o safbwynt hawliau dynol, o safbwynt hawliau plant, o safbwynt moesol, mae angen i bethau newid. 

Mae'r cynnig yn manylu ar rai o'r ffyrdd y gallai'r Llywodraeth fynd i'r afael â'r mater hwn. Bydd fy nghyd-Aelodau, Luke Fletcher, Delyth Jewell a Heledd Fychan yn canolbwyntio ar fesurau penodol, megis fforddiadwyedd gwisg ysgol, tripiau a gweithgareddau, a'r niferoedd sy'n hawlio budd-daliadau y mae ganddynt hawl i'w cael. Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl yn yr ysgol gynradd drwy'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn dangos ei bod yn bosibl gwneud newidiadau mawr i'r ffordd yr ydym yn ymdrin â thlodi plant ac yn ei drechu. O ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, dylem sicrhau yn awr fod cyflymu'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim yn yr ysgol gynradd yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth. Dylem hefyd gydnabod mai'r nod yn y pen draw yw adeiladu ar yr ymrwymiad hwnnw.

16:50

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae ein cynnig yn galw am sicrhau nad yw dyled prydau ysgol yn cael effaith negyddol ar ddisgybl, boed hynny drwy straen, stigma neu hyd yn oed orfod mynd heb fwyd, fel y clywsom mewn rhai achosion. Dylid ystyried bob amser pam y gallai dyled prydau ysgol fod wedi cronni. Nid yw'r rheswm byth o fewn rheolaeth y plentyn y mae'n effeithio arno ac yn ei niweidio. Felly, ni ddylai'r plentyn byth ddioddef canlyniadau'r ddyled honno. Mae angen i hyn fynd y tu hwnt i ganllawiau. Mae angen rhoi'r mater ar sail statudol, yn ogystal â sicrhau cynaliadwyedd ariannol gwasanaethau arlwyo ysgolion.

Y tu hwnt i ehangu prydau ysgol am ddim, mae rhai mentrau defnyddiol i helpu disgyblion eisoes ar waith wrth gwrs. Ond weithiau caiff eu heffeithiolrwydd ei lesteirio am nad oes llawer o bobl sydd â hawl i'r cymorth yn manteisio arno. Mae hwn yn faes lle y gallai'r Llywodraeth wneud gwahaniaeth go iawn. Mae hawliau wedi'u targedu i dalu costau addysg plant a phobl ifanc, fel y grant amddifadedd disgyblion - mynediad, a'r lwfans cynhaliaeth addysg, yn helpu i gynyddu incwm ac yn allweddol i fynd i'r afael â thlodi. Ond dengys ymchwil nad yw pob teulu cymwys yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo, naill ai oherwydd diffyg ymwybyddiaeth neu oherwydd natur y broses ymgeisio. Mae geiriau un rhiant, sydd wedi'u cynnwys yn adroddiad y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, yn crynhoi hyn yn dda:

'Hoffwn pe bai yna daflen yn rhestru'r lleoedd y gallem gael cymorth ond rwy'n teimlo, oherwydd bod y ddau ohonom yn gweithio, na fyddem yn gymwys i gael y cymorth beth bynnag.'

Felly, ceir camsyniad cyffredin nad yw plant yn gymwys i gael cymorth fel prydau ysgol am ddim a'r grant datblygu disgyblion - mynediad os yw eu rhieni neu eu gofalwyr mewn unrhyw fath o gyflogaeth â thâl. Mae hefyd yn bwysig nodi bod tri chwarter y plant sy'n byw mewn tlodi eisoes yn byw ar aelwyd lle mae rhywun mewn gwaith.

Mae'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn amcangyfrif nad yw tua 55,000 o blant sy'n byw mewn tlodi yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy'n golygu na allant gael y grant datblygu disgyblion - mynediad chwaith. Yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw, mae'n hanfodol fod pob teulu'n cael yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Byddai mesurau fel cyflogi gweithwyr cynghori mewn ysgolion, neu fabwysiadu proses gofrestru awtomatig a phasbortio hawliau heb orfod gwneud cais yn dileu rhwystrau ac yn sicrhau bod pawb sy'n gymwys i'w cael yn eu cael.

Wrth fabwysiadu'r cwricwlwm newydd, dylai fod yn ofynnol i ysgolion sicrhau nad oes angen i unrhyw ddisgybl brynu deunyddiau neu offer i allu cymryd rhan mewn pynciau penodol. Mae angen inni ostwng neu ddileu'r costau hyn i bob disgybl. Dylai addysg fod yn hollgynhwysol. Ni ddylech orfod talu i ddysgu unrhyw bwnc yn yr ysgol.

Mae'r cwricwlwm newydd yn cyfuno llawer o bynciau â'i gilydd, sy'n golygu y gallai costau a thaliadau am adnoddau ymddangos mewn pynciau a oedd yn arfer bod yn fwy fforddiadwy. Mae'r cwricwlwm newydd a'r ymrwymiad cyffredinol i brydau ysgol am ddim i bawb yn yr ysgol gynradd yn gyfle euraidd i greu system addysg wirioneddol gynhwysol, cyn belled â'n bod yn wynebu'r problemau a'r rhwystrau sy'n effeithio ar blant teuluoedd ar incwm isel ar hyn o bryd.

Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau ar draws y Siambr ar y mater pwysig hwn, ac rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig. Ni ddylai unrhyw blentyn na pherson ifanc deimlo eu bod wedi'u gadael allan oherwydd y pwysau economaidd ar eu teuluoedd. Mae'n rhaid inni weithredu i leihau'r effaith y mae tlodi yn amlwg yn ei chael ar ddysgu a chyfleoedd. Diolch.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Laura Anne Jones i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt 2(a) ac ailrifo yn unol â hynny:

'sicrhau nad yw symud i brydau ysgol am ddim cyffredinol yn cael effaith negyddol ar unrhyw blant yng Nghymru a fyddai wedi cael cyllid neu gymorth ychwanegol'.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn ddiolchgar i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'r argyfwng costau byw yn rhywbeth yr ydym i gyd yn pryderu'n fawr yn ei gylch, ac mae'n siŵr y caiff effaith ar ddysgwyr ac ysgolion yn ystod y misoedd nesaf. Ar ôl 22 mlynedd o fethiant Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant, gyda 200,000 o blant yn dal i fod yn byw mewn tlodi yng Nghymru, mae'n bwysig inni gael y ddadl hon.  

Rydym yn cefnogi'r cynnig a osodwyd ger ein bron heddiw, a hoffwn ofyn i Blaid Cymru dderbyn a chydnabod ein gwelliant ni fel ychwanegiad at y cynnig gwreiddiol, gan ein bod yn credu y bydd y gwelliant hwn yn ei wneud yn gryfach ac yn atgyfnerthu'r pwynt y ceisiwch ei wneud yma heddiw. 

Mae pwynt 1 y cynnig yn nodi bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith benodol ar ysgolion a phlant. Wrth gwrs, rydym wedi cael y cynlluniau brecwast am ddim a'r prydau ysgol am ddim sydd ar gael yn ein hysgolion—darpariaeth a fydd ar gael i bawb cyn hir—ac fel y nodwyd yn y Siambr yn gynharach, mae angen inni sicrhau bod y prydau hyn yn parhau i fod yn faethlon, a hefyd eu bod ar gael i bawb ym mhob ysgol, a sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael y cymorth y maent ei angen, nid dim ond y plant y nodwyd ar hyn o bryd eu bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Mae pawb ohonom yn gwybod bod y gymysgedd o chwyddiant, sgil-effeithiau'r rhyfel yn Wcráin ac effeithiau'r pandemig yn sicr o gael effaith eithafol ar ein heconomi. Felly, bydd llawer eisoes yn cael eu heffeithio, ac mae angen canolbwyntio ar gefnogi'r teuluoedd a'r plant mwyaf agored i niwed mewn ysgolion fel nad oes neb yn llithro drwy'r rhwyd. Efallai fod angen dull gweithredu wedi'i dargedu'n well, yn enwedig yn sgil symud tuag at brydau ysgol i bawb. 

Mae'r sefyllfa bresennol yng Nghymru gyda chostau byw wedi cynyddu'r straen a'r tensiwn sy'n gysylltiedig â chyllid teuluol a chanlyniadau sylweddol i blant a phobl ifanc, sy'n wynebu mwy o heriau iechyd meddwl o ganlyniad. Bydd hyn yn gwaethygu'r argyfwng iechyd meddwl y mae disgyblion Cymru eisoes yn ei wynebu, a ddoe yn unig y cyfaddefodd y Prif Weinidog fod y ddarpariaeth iechyd meddwl ymhell ar ei hôl hi. 

Mae'r argyfwng costau byw yn cael effaith sylweddol ar deuluoedd ledled Cymru a'r byd ehangach, fel yr Almaen ac UDA, felly nid y DU yn unig, gyda mwy a mwy o deuluoedd yn wynebu caledi, yn agos at fod yn dlawd neu'n byw mewn tlodi. Yn yr arolwg diweddaraf o ymarferwyr Barnardo's yn y DU a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022, dywedodd 68 y cant o'r ymatebwyr mai'r prif beth yr oeddent yn pryderu yn ei gylch mewn ysgolion oedd y diffyg cymorth ac adnoddau, a nododd 59 y cant ohonynt broblemau iechyd meddwl a llesiant.

Mae pwynt 2 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu mor effeithiol â phosibl, felly rwy'n falch fod y Gweinidog addysg wedi cyhoeddi y bydd y cynllun datblygu disgyblion - mynediad yn codi £100 y dysgwr am flwyddyn. Ac mae hyn yn beth da, ond mae angen mwy o ymwybyddiaeth o'r cynllun, fel y nodwyd yn gynharach yn y Siambr, a hefyd y broblem nad yw'n hygyrch i bawb am fod rhaid ichi wneud cais ar-lein amdano.

Mae'n wych gweld o'r diwedd fod Llywodraeth Cymru bellach wedi dilyn Llywodraeth y DU a rhoi cymorth i aelwydydd drwy gyhoeddi mesurau i wrthsefyll yr argyfwng costau byw yr ydym i gyd yn ei wynebu. Fodd bynnag, wrth symud at brydau ysgol i bawb, mae'n rhaid inni sicrhau nad yw nodi pwy sy'n gymwys ar gyfer y grant datblygu disgyblion yn mynd ar goll yn ystod y broses bontio, a bod gennym ddull yr un mor effeithiol ar gyfer nodi'r rhai sydd â'r angen mwyaf.

Er bod gwir angen y camau cychwynnol hyn, ac er eu bod i'w croesawu, mae'n dal i fod angen gwneud llawer rhagor, fel gwella sut y cyfeirir at y grant datblygu disgyblion, fel y nodir yn is-nodyn 2(c). Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed i ddarparu cymorth pellach i ysgolion i gynnwys arian ar gyfer teithiau a gweithgareddau, fel yr amlinellwyd gan Aelod o Blaid Cymru yn gynharach, i bawb, ac i sicrhau arferion cyson ledled Cymru, fel y mae is-bwynt (e) yn ei ddweud.

Ar hyn o bryd, mae'r sefyllfa'n annerbyniol, lle mae'n rhaid i rieni dalu costau enfawr ar gyfer tripiau ysgol ac i fynd i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ysgolion eraill, neu beth bynnag y bo, a llawer o bethau eraill a grybwyllwyd, ac nid yw'n sefyllfa a all barhau, oherwydd mae'n tynnu sylw at y plant nad oes ganddynt lawer o arian ac sydd wedyn yn gorfod dweud na allant gymryd rhan yn y gweithgareddau hynny. Ac mae'n rhywbeth sy'n digwydd yn awr, ac rwyf wedi'i weld wrth i fy mhlant fynd i'r ysgol, ac rwyf wedi gweld eu ffrindiau'n methu gwneud pethau, ac nid yw'n ddigon da, y sefyllfa honno—ni all barhau. Ac wrth gwrs caiff y broblem ei gwaethygu gan y sefyllfa a wynebwn yn awr.

Yn bersonol, fe'i cefais hi'n anodd fel mam sengl gyda fy mhlentyn cyntaf, felly rwy'n ymwybodol iawn fod angen i'r Llywodraeth hon gyrraedd y mannau nad ydym yn eu cyrraedd ar hyn o bryd oherwydd loteri cod post llawer o'r cynlluniau sydd ar gael. Hefyd, yn ogystal â'r plant sy'n cael prydau ysgol am ddim, mae angen inni sicrhau ein bod yn cyrraedd teuluoedd incwm isel sydd â rhieni'n gweithio, sydd mor aml yn cael eu hanwybyddu. Mae'n ymddangos ein bod wedi cael cynlluniau dros y 22 mlynedd diwethaf, ac eto, fel y dywedais ar y dechrau, mae 200,000 o blant yn dal i fyw mewn tlodi, ac mae'n ymddangos ein bod wedi bod yn plastro dros y craciau mewn gwirionedd, yn hytrach na nodi'n iawn yr hyn sy'n digwydd o dan yr wyneb. Diolch.

16:55

Rwyf finnau hefyd yn croesawu'r ddadl hon yn fawr. Yn gyntaf, rwyf eisiau rhoi sylw i'r problemau y mae ysgolion yn eu hwynebu. Mae'r setliad llywodraeth leol yn un da, ond ni all blwyddyn o gynnydd wneud iawn am dros 10 mlynedd o gyni. Er nad yw dyraniadau cyllidebau ysgolion yn y rhan fwyaf o gynghorau wedi'u cwblhau eto, disgwylir y byddant yn codi yn unol â gwariant y cyngor. Mae hyn yn wahanol i'r cynnydd yn y cymorth i'r cyngor gan Lywodraeth Cymru. Er bod taliad Llywodraeth Cymru yn rhan fawr o incwm cynghorau, caiff ei chwyddo gan ffioedd a thaliadau'r dreth gyngor. Gyda'r disgwyliad mai cynnydd bach a welir yn y dreth gyngor, cynnydd bach i ffioedd a chynnydd bach i daliadau, mae'n golygu y bydd gwariant y cyngor yn cynyddu llai—gryn dipyn yn llai yn aml—na'r swm o arian a roddwyd gan y Senedd i'r cyngor.

Ac wrth edrych ar gyllidebau ysgolion, costau staff yw'r rhan fwyaf o wariant cyllidebau ysgolion, yn cynnwys staff addysgu a staff cymorth. Mae dyfarniadau cyflog yn effeithio ar gyllidebau ysgolion, gan arwain at godi cyflogau staff a chostau pensiwn uwch. Bydd costau ynni cynyddol hefyd yn effeithio ar ysgolion. Yn un o'r ysgolion lle rwy'n gadeirydd y llywodraethwyr, roedd cost nwy a thrydan eleni ychydig yn llai na £15,000. Disgwylir y bydd dros £30,000 yn y flwyddyn i ddod. Mae'n ysgol gynradd o faint canolig. Mae'n gynnydd o ychydig o dan 2 y cant o gyfanswm cyllideb yr ysgol. Er ei bod yn ymddangos y bydd cyllidebau ysgolion yn codi'n sylweddol, bydd y pwysau a grybwyllwyd yn golygu na fydd cymaint ar gyfer cymorth ychwanegol i ddisgyblion, a chredaf mai dyna un o'r pethau yr ydym yn edrych arnynt: mae'r arian yn mynd tuag at gefnogi disgyblion. Mae ysgolion yn bodoli ar gyfer disgyblion; maent yn bodoli i'w helpu i gyflawni eu potensial yn y ffordd orau y gallant.

Rwy'n cefnogi adolygu effeithiolrwydd y canllawiau statudol ar bolisi gwisg ysgol er mwyn sicrhau fforddiadwyedd cyson ledled Cymru. Mae nifer o rieni wedi cysylltu â mi ynglŷn â gwisg ysgol, a'r angen i brynu naill ai gan gyflenwyr drud neu drwy'r ysgol, yn hytrach na siopau rhatach. Hyd yn oed pan fydd yr un lliw yn union, pan fydd yn union yr un peth fel arall, mae'r ysgol yn gofyn i chi dalu swm a all fod yn llawer mwy. Do, fe'i talais; roeddwn yn ddarlithydd coleg, gallwn fforddio ei dalu. Roedd eraill a oedd â phlant yn nosbarth fy merch, pobl nad oeddent yn ddarlithwyr coleg, pobl nad oeddent ar gyflog da, yn ei chael hi'n anodd ei dalu.

Efallai y gall y Gweinidog esbonio i mi, pan fydd athrawon ysgol yn gwrthod dysgu disgyblion am eu bod yn gwisgo'r dillad anghywir—ac mewn un achos yr ymdriniais ag ef, y lliw du anghywir—sut nad yw'r ysgol yn torri'r gyfraith, a pham nad yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio CYBLD i dorri cyllid i ysgolion sy'n gwahardd disgyblion ar sail gwisg ysgol, mae hwnnw'n fater yr hoffwn ei weld yn cael sylw. Mae plant yn cael eu cosbi. Nid yw y plentyn sy'n penderfynu. Nid yw plentyn naw, 10, 11, 12 oed yn penderfynu pa liw côt y maent yn ei gwisgo; nid ydynt yn penderfynu pa liw siwmper y maent yn ei gwisgo; mewn gwirionedd, nid ydynt hyd yn oed yn penderfynu pa liw dillad sydd ganddynt yn wyth neu naw oed. Eu rhieni sy'n gwneud hynny. Mae cosbi plant am yr hyn y mae eu rhieni'n ei wneud yn foesol anghywir a dylid ei atal.

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod sy'n cyflwyno'r ddadl yn ymuno â mi i gondemnio Cyngor Gwynedd a phenderfyniad pennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle a rybuddiodd rieni a gofalwyr mewn llythyr na fyddai eu plant yn cael prydau ysgol os na fyddai eu dyledion yn cael eu talu. Cosbi plant am yr hyn y mae eu rhieni'n ei wneud; mae hynny'n anghywir. Roedd y llythyr yn awgrymu na fyddai disgyblion yn cael eu bwydo pe baent mewn dyled o fwy na cheiniog. Yn ffodus ar ôl y sylw a gafodd a'r ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru, cafodd y bygythiad ei dynnu'n ôl. Sut y gall rhywun feddwl bod peidio â bwydo plant yn syniad da?

Sut y gallai rhywun feddwl nad oedd bwydo plant yn syniad da?

Rwy'n amlwg yn cefnogi prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd gwladol, ac yn aros i weld y cynllun yn ymestyn i gynnwys ysgolion uwchradd. Bydd y cynnydd mewn costau ynni a chostau bwyd yn cael effaith ddinistriol ar blant sy'n byw mewn teuluoedd incwm isel. Mae'n anochel y bydd rhai plant yn oer ac yn llwglyd yn ystod y flwyddyn nesaf. Bydd treulio noson mewn ystafell wely oer, heb gael digon o fwyd, a gorfod gwneud eich gwaith cartref yn yr un ystafell â gweddill y teulu a fydd yn gwylio adloniant ar y teledu neu'n gwrando ar gerddoriaeth, yn cael effaith andwyol ar gyrhaeddiad. Bydd llawer o deuluoedd sydd ond yn llwyddo i ymdopi o drwch blewyn heddiw yn troi'n deuluoedd nad ydynt yn ymdopi wrth i brisiau godi heb i gyflogau godi ar yr un cyflymder. Ar adegau fel hyn y teimlir colli Cymunedau yn Gyntaf, a'r gallu a oedd ganddo i ddarparu lle i blant gyfarfod a gwneud eu gwaith cartref. Rydym yn byw mewn cyfnod anodd; rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau nad plant yw'r rhai sy'n talu'r pris.

Os caf roi ychydig o brofiad personol, gan fy mod yn dod o deulu cymharol dlawd: nid ydych yn dod â nodiadau adref a roddwyd i chi am deithiau ysgol; nid ydych yn dod â nodiadau adref am y pethau sy'n digwydd yn yr ysgol; nid ydych yn dod â nodiadau adref am offerynnau cerdd sydd ar gael i ddysgu sut i'w chwarae. Y cyfan y mae hynny'n ei wneud yw peri gofid i'ch rhieni am allant fforddio talu amdanynt. Nid ydych yn mynd i'r ysgol ar y diwrnodau gwisgo dillad eich hun am nad ydych am ofyn i'ch rhieni am bunt er mwyn peidio â gorfod gwisgo gwisg ysgol. Dyna sut beth yw bywyd. Ac nid dyna sut y dylai bywyd fod. Rwy'n siarad o brofiad personol ar hyn; nid wyf eisiau i blant eraill orfod mynd drwyddo.

17:05

Rydym wedi siarad yn y Siambr hon am addysg fel cydraddolwr; gydag addysg wych, beth bynnag yw eich cefndir, yn ddamcaniaethol, gallwch gyflawni beth bynnag y penderfynwch chi ei gyflawni. Nawr, mae llawer i'w ddweud am y datganiad hwn, yn enwedig ar y pwnc penodol yr ydym yn ei drafod heddiw.

Tybir bod ysgolion yn fannau teg, lle mae potensial pawb yn cael ei feithrin yn gyfartal. Ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn dadlau nad dyna yw bwriad ysgolion, ond mae rhwystrau'n dal i fodoli, yn enwedig i blant o deuluoedd incwm isel. Rydym eisoes wedi clywed am y problemau gyda mynediad at yr hyn y mae gan bobl hawl i'w gael; mae'n un o'r rhesymau pam rwy'n credu yn egwyddor cyffredinioliaeth. Rydym wedi clywed am bwysigrwydd prydau ysgol am ddim—rhywbeth y gallaf dystio ei fod yn achubiaeth i lawer o deuluoedd. Ond mae ffactorau eraill i'w hystyried. 

Un ohonynt yw darpariaeth lwfans cynhaliaeth addysg—unwaith eto, darpariaeth y gwn o brofiad personol ei bod yn achubiaeth i lawer, ac yn rhywbeth rwyf wedi ymgyrchu drosto ers imi gael fy ethol i'r lle hwn. Mae'n bryd i'r Llywodraeth adolygu'r lwfans cynhaliaeth addysg, ac yn benodol, y swm a delir i fyfyrwyr a'r broses o wneud cais. Ar hyn o bryd, mae'r swm a delir i ddysgwyr yr un faint yn awr â'r hyn ydoedd pan oeddwn i'n ei gael. Mae'r swm yr un faint yn awr â phan gafodd ei gyflwyno gyntaf yn 2004: £30 yr wythnos. Mae hyn yn golygu nad ydym wedi gweld cynnydd mewn ychydig o dan 20 mlynedd, felly nid yw wedi codi gyda chwyddiant o gwbl. Ac mae Sefydliad Bevan yn amcangyfrif y byddai angen inni godi'r taliad i £45 er mwyn iddo fod yn gyfwerth â'r hyn ydoedd yng nghanol y 2000au.

Ar y broses o wneud cais, fel y gwyddom, mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn seiliedig ar brawf modd ac fel y dangosodd fy nghyd-Aelod, Sioned Williams, eisoes, mae problemau'n parhau o ran y nifer nad ydynt yn hawlio'r lwfans er eu bod yn gymwys, problem a achosir gan ffurflenni cymhleth ac anhawster i ddeall y broses o wneud cais. Yng Ngholeg Penybont, er enghraifft, ar gyfartaledd, mae rhwng 700 ac 800 o ddysgwyr addysg bellach llawn amser yn hawlio lwfans cynhaliaeth addysg, ond mynegwyd pryderon clir iawn gan staff yng Ngholeg Penybont fod llawer mwy o fyfyrwyr ei angen mewn gwirionedd. Mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn achubiaeth i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig. Rydym yn derbyn yn gyffredinol mai addysg yw'r llwybr gorau allan o dlodi, a bydd cadw myfyrwyr ôl-16 yn arwain at yr effaith ddymunol o roi cyfleoedd a sgiliau pellach i'r rhai o gefndiroedd difreintiedig, ond mae angen y cymorth hwnnw arnynt i barhau. 

Maes arall yr hoffwn gyffwrdd arno yn y ddadl hon yw trafnidiaeth, a sut y mae rhieni'n aml yn wynebu dewis rhwng cost a diogelwch eu plentyn. Caiff y dewis hwn ei grisialu i mi gan faint o ohebiaeth a gaf yn rheolaidd gan rieni yng nghwm Llynfi. Yng Nghaerau, cymuned sy'n uchel ar y mynegai amddifadedd yn gyson, ac sy'n aml ymhlith y pump uchaf yng Nghymru, ceir disgyblion sy'n wynebu taith o 45 munud i awr i gerdded i'r ysgol ar hyd ffyrdd prysur ac ym mhob tywydd. Yn aml, y realiti i lawer o rieni sy'n gweithio yw nad oes ganddynt y moethusrwydd o allu blaenoriaethu lifftiau, yn enwedig os ydynt yn cymudo ac yn enwedig os yw arian yn brin. Nid yw'n gadael unrhyw ddewis: naill ai dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, sy'n gallu costio £15 yr wythnos y plentyn i aelwydydd, neu ddibynnu ar adael i'r plentyn gerdded os nad yw trafnidiaeth gyhoeddus yn fforddiadwy, neu efallai na fydd ar gael o gwbl mewn rhai mannau hyd yn oed. Gyda chostau tanwydd yn codi, mae'r gost hon yn debygol o godi, sy'n dangos sut y byddai pethau fel adolygu'r lwfans cynhaliaeth addysg yn gwneud gwahaniaeth. Ac yn olaf, os caf, Ddirprwy Lywydd, gan siarad ar sail fy mhrofiadau fy hun wrth imi dyfu i fyny, mae'r gefnogaeth hon yn hanfodol.

Pe byddech wedi dweud wrthyf pan oeddwn yn yr ysgol gynradd y byddwn yn y Senedd yn rhoi areithiau fel hyn, y gwir amdani mae'n debyg yw mai fy ymateb cyntaf fyddai, 'Pam ar y ddaear y byddwn yn gwneud hynny? Mae gwleidyddiaeth yn ddiflas.' Ond ni fyddwn wedi ei gredu beth bynnag. Pan euthum i'r ysgol uwchradd, pan oeddwn yn y chweched yn Llanhari, er bod gennyf ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, ni fyddwn wedi credu y byddwn i yma yn awr. Ond rwy'n sicr mai'r gefnogaeth a roddwyd i mi pan oeddwn yn ifanc drwy brydau ysgol am ddim, drwy'r lwfans cynhaliaeth addysg yw un o'r rhesymau pam fy mod i yma yn awr.

Ond heddiw, er ei bod yn gwella drwy brydau ysgol am ddim i bawb er enghraifft, mae'r gefnogaeth honno'n dal i fod yn ddiffygiol. Mae hynny'n rhywbeth sydd ar flaen fy meddwl, nid ers cael fy ethol, ond ers imi adael yr ysgol. Yn hytrach na chodi'r ysgol ar fy ôl neu anwybyddu'r ffaith ei bod yn dechrau dangos ôl traul, gydag un neu ddwy o'r grisiau arni wedi torri yma ac acw, rwyf am ei chryfhau. Rwyf am ei gwneud yn haws i fyfyrwyr o gefndiroedd tebyg i fy un i, y rhai sy'n fi pan oeddwn i eu hoedran hwy, i allu camu ymlaen mewn bywyd. Ond mae'n dechrau gyda phob un ohonom yma. Ac rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom edrych yn ôl un diwrnod ar ein hamser yma a dweud ein bod wedi blaenoriaethu'r pethau cywir—gyda hyn yn un ohonynt.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, gan Luke yng nghanol y 2000au, a oedd stôn neu ddwy'n ysgafnach ac yn ddi-farf: diolch o waelod calon am y gefnogaeth honno. Ond gennyf fi, yn awr, yn y presennol, rhaid inni roi blaenoriaeth i fynd i'r afael â chost y diwrnod ysgol. Bydd yn newid bywydau plant o deuluoedd incwm isel er gwell.

17:10

Mae'n dda dilyn y cyfraniad hwnnw gan Luke. Ddirprwy Lywydd, rydym yn wynebu argyfwng, fel y gwyddom i gyd, argyfwng costau byw. Ac yn anffodus, fel y gwyddom i gyd hefyd, mae'n debygol o waethygu a gwaethygu'n sylweddol; cost bwyd, tanwydd, ynni a llawer o bethau eraill, mae'n straen aruthrol ar gyllidebau aelwydydd y rhai lleiaf abl i wrthsefyll yr effaith. Ac yn arbennig, mae'n effeithio ar deuluoedd a rhieni sengl, felly, mae'r plant yn yr ysgol o'r teuluoedd hynny'n wynebu brwydr aruthrol.

Un peth yr hoffwn ganolbwyntio arno, Ddirprwy Lywydd, yw'r profiad cyfoethogi addysg ehangach sy'n dod i bobl ifanc o gael cyfle llawn i adnabod, darganfod a datblygu eu doniau, boed mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, boed yn ddiwylliant, y celfyddydau a cherddoriaeth, yn ogystal â meysydd academaidd a galwedigaethol. Dylai pob un o'n pobl ifanc gael cyfle llawn i ddatblygu'r ystod honno o ddoniau, ond yn anffodus, fel y gwyddom i gyd, nid yw hynny'n wir. Ac mae llawer o'n pobl ifanc, diolch byth, yn cael profiad eang iawn yn y ffordd honno, boed drwy dacsi mam, tacsi dad, neu dacsi mam-gu a thad-cu yn wir, cânt eu cludo o gwmpas i wahanol ddosbarthiadau a grwpiau a bob dydd o'r wythnos weithiau, maent yn mynd i weithgareddau sy'n eu helpu i ddatblygu a thyfu. Yn ogystal â datblygu'r sgiliau penodol, maent hefyd yn elwa o'r profiad cymdeithasol, gweithio mewn tîm ac yn y blaen, ac mae'n wych gwylio'r broses honno'n digwydd.

Ond i'r plant sy'n dod o gymunedau mwy difreintiedig yn enwedig, mae cost y gweithgareddau hynny'n anhawster gwirioneddol ac weithiau nid yw rhieni, am ba reswm bynnag, yn mynd i'w cludo o gwmpas, na neb arall yn y teulu ychwaith, i gael y profiad hwnnw. A dyna pam y credaf fod ysgolion â ffocws cymunedol mor hynod o bwysig, oherwydd os yw'r profiadau cyfoethogi hynny, profiadau ehangach, ar gael yn yr ysgol, yn ystod amser cinio neu ar ddiwedd yr ysgol, yn aml iawn bydd y plant yn cael y profiad hwnnw, a dyna'r unig ffordd y byddant yn ei gael. Ac os yw'r ysgolion hynny hefyd yn gysylltiedig â sefydliadau allanol i ddarparu cyfleoedd, efallai mai dyna'r unig ffordd, unwaith eto, y bydd y plant yn cael y manteision penodol hynny.

Felly, gyda'r math hwnnw o gefndir, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ysgolion â ffocws cymunedol, ond credaf fod y rhwystredigaeth yn parhau ein bod ymhell o weld cysondeb ledled Cymru; mae'n dda mewn rhai ysgolion yn ardaloedd yr awdurdodau lleol, ond efallai nad yw cystal ar draws ardal yr awdurdod lleol. Mae rhai awdurdodau lleol yn dda iawn, ond nid yw eraill cystal, ac mae gwir angen hynny i fod yn gynnig o ansawdd cyson sy'n darparu cyfleoedd gwych i'n holl blant ar hyd a lled Cymru. Felly, gan fod gennym argyfwng costau byw yn awr, sy'n amlygu'r materion hyn yn fwy nag erioed oherwydd cost y gweithgareddau dan sylw yn ogystal â'r anawsterau y mae rhai teuluoedd yn eu hwynebu wrth fynd â'u plant i grwpiau a dosbarthiadau, rwy'n gobeithio y gwelwn ymdeimlad newydd o frys ar ran Llywodraeth Cymru, ein hawdurdodau lleol a'n hysgolion yn awr, Ddirprwy Lywydd, i ysgogi cynnydd a sicrhau bod gan bob ysgol yng Nghymru ffocws cymunedol gwirioneddol a phriodol.

Gall y diwrnod ysgol gynnwys llawer o straen. Nid sôn am brofion mathemateg yn unig ydw i neu ruthro i orffen gwaith cartref ar risiau'r ysgol, rwy'n siarad am blant sy'n mynd i'r ysgol yn llwglyd ac yn methu fforddio byrbryd yn ystod egwyl y bore, plant sy'n ofni mynd drwy'r giatiau oherwydd eu bod yn poeni y gallai rhywun sylwi nad ydynt yn gwisgo'r esgidiau cywir neu'n cario'r bag cywir, plant sy'n teimlo cywilydd pan gaiff tripiau ysgol eu trafod am eu bod yn gwybod na fyddant byth yn gallu ymuno yn y sgwrs. Oherwydd, Ddirprwy Lywydd, fel y mae'r nos yn dilyn y dydd, mae malltod tlodi yn dilyn plant i fuarth yr ysgol ac i mewn i ystafelloedd dosbarth. Mae'n golygu nad oes ganddynt ddillad cywir ar gyfer ymarfer corff neu gas pensiliau crand mewn gwersi, ac mae'r arwyddion hynny o wahaniaeth sy'n hofran uwch eu pennau yn arwain yn rhy hawdd at fwlio.

Yn 2015, cymerodd dros 3,000 o blant ran mewn adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru ar fwlio. Dangosodd yr adroddiad, o'r enw 'Stori Sam', fod y gwahaniaeth canfyddedig yn cael ei nodi gan y plant eu hunain fel rhywbeth sy'n allweddol i ysgogi bwlio. Ac er y gellir cysylltu'r gwahaniaeth hwnnw ag ymddangosiad, ethnigrwydd neu anabledd, mae tlodi'n chwarae rhan ofnadwy o amlwg. Gofynnodd awduron yr adroddiad i'r plant dynnu llun cymeriad dychmygol o'r enw Sam sy'n cael ei fwlio. Fe ddangosaf un o'r lluniau hynny i'r Siambr. Fe welwch fod gan Sam dyllau yn ei ddillad ac mae'r dillad yn edrych naill ai'n hen neu heb eu golchi. Mae'n arddangos arwyddion ystrydebol o dlodi. Canfu adroddiad y comisiynydd, 'Siarter ar gyfer Newid' fod rhai sydd wedi profi tlodi parhaus fwy na thair gwaith yn fwy tebygol o gweryla gyda ffrindiau ar y rhan fwyaf o ddyddiau, dros ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu bwlio'n aml, yn fwy tebygol o chwarae ar eu pen eu hunain, yn llai tebygol o fod â ffrindiau da, o gael eu hoffi gan blant eraill ac yn llai tebygol o siarad â'u ffrindiau am eu pryderon. Mae tlodi'n ynysu plant. Mae'n eu cloi yn y profiad ynysig o deimlo ar wahân. A Ddirprwy Lywydd, mae pethau penodol yn y ffordd y caiff ysgolion eu rhedeg sy'n dwysáu'r unigedd hwnnw ac sy'n arwain at fwlio.

Gadewch inni siarad eto am wisgoedd ysgol. Fel y clywsom, mae gan ormod o ysgolion gyflenwr penodol, sy'n cyfyngu ar ddewis ac yn golygu y gall y pris fod yn rhy uchel. Mae llawer o ysgolion, fel y clywsom, yn gorfodi polisi gwisg ysgol mor llym fel nad ydynt yn caniatáu sgert neu drowsus arall rhatach sydd yr un lliw, er enghraifft. Gall hynny godi cywilydd ar blant, a dyna pam ein bod yn galw am adolygu canllawiau statudol ar bolisïau gwisg ysgol. Mae rhywbeth yn arswydus yn y syniad fod plant yn cerdded o gwmpas yn gwisgo eu hembaras, fel y gall eraill dynnu arnynt o'i herwydd. Ac mae tripiau ysgol a diwrnodau gwisgo dillad eich hun, fel y clywsom, yn gallu gwneud i blant deimlo ar wahân ac yn wahanol hefyd. Mae cymorth y grant datblygu disgyblion yn amrywio ar draws gwahanol ysgolion, nid yw pob un ohonynt yn gwneud y gorau o allu gwneud teithiau â chymhorthdal, ac mae hynny'n golygu bod y plant tlotaf yn cael eu hamddifadu unwaith eto. A phan fydd eu ffrindiau i gyd yn treulio amser egwyl ac ar ôl ysgol yn sgwrsio am yr hyn y byddant yn ei wneud ar y tripiau, yn cynllunio beth i'w wisgo, nid yw'r rhai nad ydynt yn gallu fforddio mynd yn teimlo bod yr ysgol yn rhywle y maent yn perthyn iddo. Mae i fod yn gydraddolwr, gyda chyfle cyfartal i bawb. Mae dau ystyr i'r gair Cymraeg 'ysgol', ond i gynifer o blant, caiff yr ysgol ei chicio ymaith cyn iddynt gael cyfle i ddechrau ei dringo hyd yn oed.

I gloi, mae dadansoddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn dangos mai gwaethygu a wnaiff y sefyllfa, fel y clywsom. Bydd biliau ynni'r cartref yn codi £693 y flwyddyn ar gyfartaledd ym mis Ebrill, cynnydd sy'n cyfateb i 12 y cant o incwm gwario aelwydydd Cymru yn y dengradd tlotaf. A hynny cyn ystyried y ffaith bod disgwyl i chwyddiant gyrraedd y lefel uchaf ers 30 mlynedd yn y gwanwyn, sef 7 y cant. Beth fydd y pethau mwyaf tebygol i fynd, hyd yn oed i deuluoedd nad ydynt mewn trafferthion enbyd? Bydd pethau yr ystyrir eu bod yn foethusrwydd bach yn diflannu: dillad chwaraeon, arian poced, gwersi cerddoriaeth, tripiau. Ond ni ddylai'r rhain fod yn foethusrwydd. Dyma'r pethau sy'n gallu agor drysau a chyfoethogi bywydau plant ac sy'n golygu, er eich bod yn dod o gefndir tlotach, y gall eich bywyd fod yr un mor ogoneddus a llawen â bywyd eich cyfoedion. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y ddadl hon yn arwain at newid, oherwydd dylai pob plentyn deimlo'n hapus a theimlo bod croeso iddo yn yr ysgol.

17:15

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i agor drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig heddiw? Mae'r camau sydd wedi cael eu nodi yn rhai rydyn ni fel Llywodraeth yn eu cymryd. Felly, rydyn ni'n hapus i gefnogi'r cynnig a symudwyd gan Sioned Williams yn ogystal â'r gwelliant a symudwyd gan Laura Jones.

Rydyn ni'n gwybod bod tlodi yn gallu tanseilio gallu plant i ddysgu, yn gallu cyfyngu ar eu cyfleoedd nhw mewn bywyd, yn gallu eu rhwystro rhag manteisio yn llawn ar addysg. Fel Llywodraeth rŷn ni'n gwbl ymroddedig i wneud ein gorau glas i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Mae ein hymrwymiad ni yn y cytundeb cydweithio i ymestyn y garfan sy'n cael prydau ysgol am ddim i gynnwys holl ddisgyblion ysgol gynradd yn gyfraniad pwysig yn hyn o beth. Mae ein record ni o ran darparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion yng Nghymru yn destun rŷn ni'n falch ohono fel Llywodraeth, ac rydyn ni wedi gweld hyn fel rhywbeth hollbwysig er mwyn sicrhau safonau uchel i bawb.

Fel rhan o'r pecyn cymorth ehangach i helpu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â'r argyfwng costau byw, rŷn ni am ofalu bod bwyd iach a maethlon ar gael i blant a phobl ifainc. Mae £21.4 miliwn ychwanegol wedi cael ei ddarparu yn 2022-23 i helpu gyda chost prydau bwyd i ddisgyblion cymwys yn ystod gwyliau'r Pasg, hanner tymor yr haf a'r gwyliau haf eleni. Mesur yw hwn mewn ymateb i'r pandemig ac i'r argyfwng costau byw. Gan mai bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim yw'r sail i nifer o hawliau a chynigion cymorth lleol a chenedlaethol, rŷn ni'n cymryd nifer o gamau i ymateb i'r impact ar y rhain yn sgil y newidiadau yn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim. Ond dwi eisiau bod yn glir, Ddirprwy Lywydd, y bydd pob plentyn a pherson ifanc sy'n gymwys i gael budd-daliadau eraill ar hyn o bryd, er enghraifft y grant datblygu disgyblion mynediad, yn dal i fod yn gymwys fel yr oedden nhw o dan y trefniadau blaenorol. Fe fydd hyn yn cael ei esbonio'n glir i deuluoedd, fel y gallan nhw barhau i gael y cymorth y mae gyda nhw hawl i'w gael er mwyn gwneud yn siŵr nad yw dechrau cynnig prydau ysgol am ddim i bawb yn effeithio'n negyddol ar y plant a fyddai wedi cael arian neu help ychwanegol. 

Rŷn ni'n cydnabod bod y costau sydd ynghlwm wrth y diwrnod ysgol, er enghraifft gwisg ysgol, yn gallu bod yn faich ariannol. Rŷn ni'n glir y dylai gwisg ysgol fod yn rhywbeth y mae teuluoedd yn gallu ei fforddio.

Yn 2019, Ddirprwy Lywydd, ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud canllawiau ar wisg ysgol yn statudol i gynorthwyo cyrff llywodraethu yn well wrth iddynt wneud eu penderfyniadau ar bolisïau gwisg ysgol o ran mynediad, fforddiadwyedd a hyblygrwydd. Byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion a chyrff llywodraethu i sicrhau bod y canllawiau'n cefnogi fforddiadwyedd i deuluoedd ledled Cymru yn effeithiol.

Cytunwn na ddylai plant a phobl ifanc fod o dan anfantais oherwydd dyled prydau ysgol. 

17:20

A wnewch chi ofyn i ysgolion bennu'r lliwiau y maent am i blant eu gwisgo yn unig, yn hytrach na'i wneud yn gymhleth?

Diolch i Mike Hedges am yr awgrym hwnnw. Rydym yn adolygu ein canllawiau ar hyn o bryd, a byddaf yn sicrhau bod y pwynt hwnnw'n cael ei ystyried yn llawn yn yr adolygiad. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaeth yn ei gyfraniad i'r ddadl yn gynharach ar y pwnc hwnnw.

Cytunwn na ddylai plant a phobl ifanc fod o dan anfantais oherwydd dyled prydau ysgol, ac rydym eisoes wedi gweithredu. Ym mis Tachwedd, fe wnaethom ysgrifennu at bob pennaeth yn nodi ein disgwyliad clir y dylai awdurdodau lleol ac ysgolion weithio mewn partneriaeth â theuluoedd pan fyddant yn cael anawsterau i ddod o hyd i ateb i sicrhau bod pob plentyn yn cael cinio iach. Yn bwysig, atgoffwyd awdurdodau lleol ac ysgolion hefyd o'u gallu i ddefnyddio eu disgresiwn i weithredu strwythurau prisio amrywiadwy i roi gwell cymorth i blant a theuluoedd ar incwm isel nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Y grant datblygu disgyblion - mynediad yw'r cynllun mwyaf hael o'i fath yn y DU, ac roeddwn yn falch o gyhoeddi yn ddiweddar y bydd y grant ar gael yn awr i bob grŵp blwyddyn ysgol. Gan weithio gyda fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog cyllid a llywodraeth leol, bydd yr Aelodau wedi gweld y datganiad ysgrifenedig yr wythnos hon yn cyhoeddi taliad untro ychwanegol o £100 i bawb sy'n gymwys. Mae'r cynnig yn galw am wella'r modd y cyfeirir at y grant. Fe wnaethon gynnal ymgyrch genedlaethol lwyddiannus, yn fy marn i, i godi ymwybyddiaeth o'r cynllun dros fisoedd y gaeaf i helpu teuluoedd a allai fod yn newydd i fudd-daliadau a heb fod yn ymwybodol o'r cynllun. Mae awdurdodau lleol hefyd yn cynnal eu hymgyrchoedd cyfathrebu eu hunain i gynyddu'r nifer sy'n manteisio arno, ac rwy'n dal i fod yn ymrwymedig i ehangu'r gwaith da hwn.

Mae'r cynnig hefyd yn galw am weithio heddiw tuag at gofrestru awtomatig. Mae hwn yn nod y credaf y byddem i gyd yn ei rannu. Fodd bynnag, oherwydd y rhyngweithio â system dreth a budd-daliadau Llywodraeth y DU, mae'n gymhleth ac nid yw'n rhywbeth a all ddigwydd ar unwaith, yn anffodus. Ond fel rhan o'r cynllun gweithredu pwyslais ar incwm, a gweithio gydag awdurdodau lleol, rydym wedi datblygu a chyhoeddi pecyn cymorth arferion gorau. Mae'n coladu'r hyn sy'n gweithio i helpu i symleiddio'r broses ymgeisio am fudd-daliadau datganoledig, gan eu gwneud yn fwy hygyrch i bobl sydd angen y cymorth hwn. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i archwilio ffyrdd pellach o symleiddio'r broses ymgeisio am fudd-daliadau Cymru a nodi opsiynau ar gyfer cynyddu'r nifer sy'n eu cael.

Byddwn yn parhau i wella ymwybyddiaeth o fudd-daliadau Cymru drwy gyflwyno cynlluniau ar gyfer darpar ymgeiswyr a'r staff rheng flaen sy'n cefnogi ymgeiswyr, gan helpu mwy o bobl i fanteisio ar y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i gyrff llywodraethu ar godi tâl am weithgareddau ysgol. Mae Deddf Addysg 1996 yn nodi'r gyfraith ynghylch pa daliadau y gellir ac na ellir eu codi am weithgareddau. Ni cheir codi tâl am deithiau ysgol sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar godi tâl yn nodi na ddylai teuluoedd sy'n cael prydau ysgol am ddim orfod talu am dripiau ysgol. Byddwn yn darparu cymorth parhaus i ysgolion ar sicrhau bod pob taith a gweithgaredd yn gynhwysol.

Ddirprwy Lywydd, dyma rai yn unig o'r camau yr ydym yn eu cymryd yn y maes hwn, ochr yn ochr â mentrau eraill ehangach, megis buddsoddi yn y gronfa cymorth dewisol a chynllun cymorth tanwydd y gaeaf pellach, y cyfan er mwyn cefnogi teuluoedd sy'n cael trafferth ymdopi â'r argyfwng costau byw. Mae'r Llywodraeth hon wedi, a bob amser yn mynd i roi plant a hawliau plant wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud, a hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am y cyfle i ystyried y materion pwysig hyn yn y Siambr heddiw.

17:25

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Pam ein bod ni yma fel Aelodau'r Senedd os nad ydym yn gwneud hyn yn iawn? Wedi'r cyfan, mae gwleidyddion wedi bod yma o'r blaen. Rwy'n siŵr fod llawer ohonom yn cofio'r targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020—rhywbeth a oedd wrth wraidd ymgyrch etholiadol 1997 i'r Llywodraeth Lafur, ac a gadarnhawyd bryd hynny gan Tony Blair yn 2002 a'i fabwysiadu gan y Senedd hon hefyd fel targed. Cofiaf yn 2008, pan oeddwn yn gweithio i gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru, fod hynny'n ffocws ac yn flaenoriaeth i'n gwaith, ac eto dyma ni, mewn sefyllfa sy'n gwaethygu. Nid sgorio pwyntiau yw hyn, ond os ydym am wneud unrhyw beth yn nhymor y Senedd hon, gadewch inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau nad yw'r rhain yn eiriau gwag a ailadroddir eto mewn degawd, wrth i'r ystadegau barhau i wneud cam ag un genhedlaeth ar ôl y llall o blant.

Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl ac a rannodd straeon personol iawn hefyd. Rwy'n credu ei bod yn hawdd iawn weithiau i bobl edrych arnom fel cynrychiolwyr etholedig a chymryd yn ganiataol ein bod yn dod o gefndir penodol. Felly, diolch, Luke, a Mike hefyd, am rannu eich profiadau personol eich hunain, oherwydd mae'n bwysig fod y Senedd hon hefyd yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru, a gwyddom nad yw pobl yn gallu cael dechrau teg mewn bywyd a mynediad cyfartal at yr holl gyfleoedd ar hyn o bryd.

Sioned Williams, yn ei sylwadau agoriadol—. Roedd yn emosiynol iawn gwrando ar y pethau yr oeddech yn eu dweud. Credaf mai un o'r pethau a wnaeth argraff arnaf oedd yr un allweddol—nad yw'r rheswm byth o fewn rheolaeth y plentyn, ac eto, yn rhy aml, cawsom enghreifftiau mynych drwy gydol y ddadl hon o'r plentyn yn teimlo'r cyfrifoldeb hwnnw. Mike, pan sonioch chi am beidio â mynd â nodiadau adref, am beidio â rhoi eich rhieni yn y sefyllfa honno—. Oherwydd yn aml, y canfyddiad yw bod tlodi yn ddewis neu fod pobl ar fai, ond nid yw hynny'n wir, a chredaf fod angen inni fod yn realistig yma ynglŷn â'r ffaith ei fod yn ddewis gwleidyddol. Mae gennym ddulliau at ein defnydd. Rwy'n gwybod ein bod yn teimlo'n rhwystredig yma yng Nghymru ar adegau nad oes gennym yr holl ddulliau i newid hyn at ein defnydd, ond fe allwn newid pethau os ydym yn benderfynol o wneud y newidiadau hynny.

Ar gyfraniad Laura Anne Jones—cyfeiriad eto at argyfwng costau byw fel rywbeth sy'n bodoli mewn gwledydd eraill. Efallai fod hynny'n wir, ond mae gennym gyfraddau tlodi plant sydd ymhlith y gwaethaf yn Ewrop, a chredaf nad yw dweud bod argyfwng costau byw mewn mannau eraill yn golygu ei bod hi'n iawn ei fod yn bodoli yma, a chredaf fod angen inni wneud popeth yn ein gallu, nid yn unig i dderbyn bod yna argyfwng costau byw, ond i dderbyn cyfrifoldeb am benderfyniadau gwleidyddol sy'n arwain at hynny. Oherwydd, wedi'r cyfan, mae gennym yr ystadegau, gwyddom am effaith peidio â chadw'r ychwanegiad o £20 yr wythnos, a chredaf fod angen inni fod yn glir hefyd, hyd yn oed pe bai wedi'i gadw, nad yw'n golygu na fyddai pobl yn byw mewn argyfwng. Byddai wedi gwneud pethau ychydig yn well, fel y gwnaeth yn ystod y pandemig, ond ni fyddai wedi cadw pobl rhag mynd i ddyled, neu dlodi plant rhag gwaethygu, ond mae peidio â'i gael yn gwneud y sefyllfa'n waeth byth. Felly, mae angen inni fod yn glir yma, nid yw'r ffaith bod gwledydd eraill o bosibl yn wynebu argyfwng costau byw yn dileu cyfrifoldeb Llywodraeth y DU, ac mae yna bethau y gallem eu newid. Y ffaith nad yw'r credyd cynhwysol yn codi gyda chwyddiant hyd yn oed—penderfyniadau gwleidyddol yw'r rheini.

Mae'r anghysondeb yn rhywbeth a ddaeth yn amlwg yn y ddadl—anghysondeb o ran y costau, o ran y modd y caiff y canllawiau eu gweithredu gan ysgolion. A Mike, rwy'n credu ichi sôn ei bod yn foesol anghywir i achosi cywilydd i unrhyw blentyn. Wrth gwrs ei bod, ac ni ellir dirnad sut y byddai unrhyw un yn meddwl bod hynny'n dderbyniol. Ond eto, mae'n digwydd, dro ar ôl tro. A hoffwn adleisio galwadau fy nghyd-Aelod, Luke Fletcher, mewn perthynas â'r lwfans cynhaliaeth addysg—y ffaith nad yw wedi newid ers 2004. Ac eto, gofynnwch i unrhyw un, mae costau trafnidiaeth wedi codi, cost gwerslyfrau—mae popeth wedi codi, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno ar fyrder. Credaf fod y ffaith eich bod yn gallu dweud, Luke, ynglŷn â'r effaith honno'n bersonol—mae hynny'n gywir, mae angen inni feddwl am sicrhau bod y cyfle hwnnw ar gael i bawb.

Soniodd John Griffiths am gost gweithgareddau a phrofiadau, ac ysgolion â ffocws cymunedol, gan sôn hefyd am yr anghysondeb ledled Cymru a hyd yn oed o fewn awdurdodau lleol o ran mynediad cyfartal at gyfranogiad. A Delyth, roedd y portread o Sam yn dangos arwyddion ystrydebol o dlodi yn drawiadol iawn. Mae hynny'n dorcalonnus, ac os nad yw hynny'n ein hysgogi i weithredu gyda'n gilydd ar hyn, beth arall a all wneud hynny? Oherwydd rydych chi'n iawn, mae angen inni sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal ac nad yw pobl yn cael eu gwneud i deimlo'n wahanol. Cofiaf fy nyddiau ysgol fy hun, a gweld rhai o fy ffrindiau yn aros mewn rhes ar wahân am eu cinio am eu bod yn cael prydau ysgol am ddim, ac ar unwaith, mae'r ffaith y gall hynny barhau i ddigwydd yn awr, gwahaniaethu o'r fath yn ffiaidd.

Ar ymateb y Llywodraeth, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am amlinellu cefnogaeth y Llywodraeth i hyn. Yn amlwg, mae gennym nifer o bethau yn y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan gynnwys darparu prydau ysgol am ddim. Ond fel y soniais ar y dechrau, os ydym o ddifrif ynglŷn â dileu tlodi plant a rhoi dechrau teg mewn bywyd i bawb, mae gofyn i bob un ohonom ymrwymo i hynny. Siaradwyd geiriau gwag o'r blaen. Rydym yn Senedd newydd yma, mae yna ymrwymiad o'r newydd. Gadewch inni ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw, gadewch inni sicrhau nad ydym yn dweud yr un peth ymhen degawd ac yn siomi cenhedlaeth arall o blant. Diolch.

17:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

17:35
10. Dadl Fer: Adfer ein trefi glan môr i'w hen ogoniant: Tasg angenrheidiol neu amhosibl?

Symudaf yn awr i ddadl fer heddiw, a galwaf ar Gareth Davies i siarad am y pwnc y dewiswyd ganddo.

Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n dawel er mwyn i'r Aelod allu gwneud ei gyfraniad. 

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Janet Finch-Saunders, Tom Giffard a Darren Millar.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i chi am y cyfle i drafod y pwnc hwn, sy'n agos at fy nghalon. Mae angen help ar ein trefi glan môr. Rydym wedi goruchwylio eu dirywiad yn rhy hir o lawer. Ffurfiwyd llawer o'n trefi glan môr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac roeddent ar eu hanterth yn ystod teyrnasiad y Frenhines Victoria, a hyd at y 1970au a'r 1980au. Mae hynny'n sicr yn wir am y dref fwyaf o'r fath yn fy etholaeth i, sef y Rhyl. 

Mae fy nghysylltiad â'r dref yn un hir. Cefais fy magu yn y Rhyl, ond roedd fy nheulu'n byw yno o'r adeg cyn iddi fod yn dref. Enwyd Stryd Williams oddi ar Ffordd y Dyffryn ar ôl teulu fy hen hen fam-gu, a oedd yn byw yn yr ardal honno yn y 1800au. Ffurfiai eu bythynnod y rhes a ddaeth yn Stryd Williams yn ddiweddarach. Ganed fy nhad-cu mewn tŷ teras ar Ffordd y Dyffryn ym 1927. Mae fy nheulu wedi bod yn berchnogion nifer o fusnesau yn y dref, ac wedi bod yn aelodau gweithgar o'r gymuned. 

Rwy'n dal i fod yn aelod balch o glwb rotari'r Rhyl, sy'n cynnal traddodiad balch fel un o'r clybiau rotari hynaf yng Nghymru, ar ôl cael ei siarter ym 1926. Mae'n ddiogel dweud bod fy nheulu wedi bod yn dyst i enedigaeth a threigl bywyd y Rhyl, ac yn anffodus, maent wedi bod yn dyst i'w dirywiad hefyd. Ond nid wyf am eistedd yn segur a gwylio tranc y dref sydd yn fy ngwaed, yn rhan o fy nhreftadaeth—y Rhyl, neu dylwn ddweud 'sunny Rhyl', fel y mae'r taflenni gwyliau'n disgrifio'r dref, a hynny'n gwbl briodol. Credir iddi gael ei henwi ar ôl y maenordy, Tŷ'n Rhyl, ar Ffordd y Dyffryn, a ddeilliodd yn ei dro o Tŷ'n yr Haul—felly 'sunny Rhyl'. Mae'n debyg mai cred yw llawer o hynny, ond dyna rwy'n dewis ei gredu, beth bynnag.

Tyfodd y dref yn y 1800au diolch i'w 3 milltir o draethau tywod a'r gred Fictoraidd yn rhinweddau iachusol awyr y môr. Yn wir, y gred hon a ddenodd y bardd Fictoraidd enwog, Gerard Manley Hopkins, i'r Rhyl am bum niwrnod er lles ei iechyd. Roedd Hopkins, a oedd hefyd yn offeiriad Jeswitaidd, wedi treulio tair blynedd yng Ngholeg Sant Beuno yn Nhremeirchion ar ddiwedd y 1870au. Yn ystod ei arhosiad yn y Rhyl yr ysgrifennodd y gerdd 'The Sea and the Skylark'.

Dyfodiad y rheilffordd ym 1848 a gyflymodd boblogrwydd a thwf y dref. Daeth yn gartref i bier glan môr cyntaf Cymru ym 1867, creadigaeth wych a gostiodd £15,000 i'w hadeiladu ar y pryd. Roedd yn 2,335 troedfedd o hyd ac yn 11 troedfedd uwchben y llanw uchel. Yn wreiddiol, roedd yn cynnwys rheilffordd pier ac yn cynnig gwibdeithiau llongau ager i gyrchfannau eraill yng Nghymru ac i Lerpwl.

Profodd atyniadau eraill, yn cynnwys bwytai, ystafelloedd te, safle seindorf, siopau a baddonau preifat, yn dipyn o atyniad i bobl ar eu gwyliau yn ystod Oes Victoria, o ogledd-orllewin Lloegr yn bennaf. Yn drasig, dioddefodd y pier gyfres o drychinebau. Ym mis Rhagfyr 1883, achosodd sgwner y Lady Stuart ddifrod helaeth iddo, a arweiniodd at golli 183 troedfedd o'r pier. Ym 1891, bu'n rhaid achub 50 o bobl pan darodd llong ager o'r enw Fawn y pier. Ym 1901, dinistriwyd y pafiliwn gan dân a chaewyd rhan o'r pier. Achosodd cyfres o stormydd ym 1909 i ran arall o'r pier gwympo. Erbyn 1913 roedd y pier yn anniogel a chafodd ei gau, yn anffodus. Bu'n adfail nes i gyngor y Rhyl ei gaffael yn y 1920au. Dymchwelwyd y pen pellaf ond ailddatblygwyd y pen ger y lan gan gynnwys adeiladu amffitheatr. Ailagorodd y pier ym 1930 ac arhosodd felly tan 1966, pan gafodd ei gau eto am resymau diogelwch. Erbyn hynny prin 330 troedfedd oedd ei hyd. Yn anffodus, dymchwelwyd y pier ar sail diogelwch ymhell cyn i mi gael fy ngeni, a gwelwyd tynged y pier fel rhywbeth a oedd yn symbol o ddirywiad y dref, ochr yn ochr â dymchwel adeilad gwreiddiol Theatr y Pafiliwn ym 1974. 

Credir bod teithio tramor rhatach wedi cyfrannu at ostyngiad yn nifer yr ymwelwyr, gostyngiad a gyflymodd yn ystod y 1970au a'r 1980au. Arweiniodd y gostyngiad at ddirywiad yn ffyniant y dref. Rhoddodd llawer o fusnesau lleol y gorau i fasnachu, gan gynnwys busnesau fy nheulu i. Ers 2007, mae nifer yr unedau gwag yng nghanol tref y Rhyl wedi dyblu, ac mae'r dref wedi colli nifer o siopau mawr. Nid yw'n fawr o syndod felly fod y Rhyl bellach yn gartref i rai o'r wardiau tlotaf yng Nghymru, os nad y DU, ond er hynny, mae'n dal i fod yn gyrchfan gwyliau poblogaidd sy'n denu ymwelwyr o bob rhan o'r DU. Ond ni allwn gystadlu â gwyliau tramor rhad. Efallai nad yw Benidorm yn meddu ar yr un swyn â'r Rhyl na'i golygfeydd ardderchog, ond gall fanteisio ar heulwen a dyfroedd cynnes bron iawn drwy'r amser. Nid yw'n brifo eich bod yn gallu cael awyren o Fanceinion i Alicante ac yn ôl yn rhatach nag y gallwch gael trên i'r Rhyl. Efallai fod angen i Trafnidiaeth Cymru ateb y broblem honno. Gyda mwy a mwy o gwmnïau hedfan rhad yn ymddangos sy'n cynnig teithiau hedfan i gyrchfannau pell am y nesaf peth i ddim, sut y gall ein trefi glan môr obeithio cystadlu? 

Mae'r dirywiad a welais yn y Rhyl i'w weld hefyd mewn trefi eraill ar hyd arfordir Cymru, ac yn anffodus, nid yw Llywodraethau ar bob lefel wedi cymryd camau digonol i atal y dirywiad hwn. Mae teitl y ddadl hon yn codi cwestiwn: a yw adfer ein trefi glan môr i'w hen ogoniant yn dasg angenrheidiol neu amhosibl? Nid wyf yn credu ei bod yn dasg amhosibl. Yn sicr, ni fydd yn hawdd, ond os gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd—llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ochr yn ochr â'r diwydiant hamdden a theithio—gallwn gystadlu â theithio tramor. Gallwn roi trefi glan môr fel y Rhyl yn ôl ar y map cyrchfannau. Mae angen inni feddwl yn greadigol, gweithio gyda'n gilydd ac yn gydweithredol i werthu manteision ein trefi glan môr i bob cwr o'r byd, a gweithio i helpu i greu cynnig drwy gydol y flwyddyn a gweithio i arloesi ac arallgyfeirio ein trefi glan môr.

Mae ein trefi glan môr ar gyrion rhai o olygfeydd gorau'r byd. Mae'r Rhyl, er enghraifft, dafliad carreg oddi wrth fryniau Clwyd, sydd, wrth inni siarad, yn ceisio dod yn barc awyr dywyll rhyngwladol. Gallwn ddenu ymwelwyr o bob cwr o'r byd nid yn unig i ryfeddu at ein traethau, ein bryniau, ein hafonydd a'n cymoedd, ond hefyd ein golygfeydd heb eu hail o'r ffurfafen. Mae gennym beth o'r harddwch naturiol gorau yn y byd. Rydym yn genedl sydd wedi ein trwytho mewn hanes, yn llawn o lên gwerin wych a mytholeg ddofn, ond rydym yn echrydus am ei werthu, a dyna'r broblem. Nid yw ein dinasyddion ein hunain yn ymwybodol o'r trysorau ar garreg eu drws, felly sut y gallwn ddisgwyl i bobl o fannau pellach wybod amdanynt?

Efallai na allwn ail-greu'r galw Fictoraidd am awyr glan y môr—nid wyf yn twyllo fy hun ac mae amser yn symud yn ei flaen—ond fe allwn ac mae'n rhaid inni werthu manteision ein trefi glan môr. Rhaid inni integreiddio ac adnewyddu ein marchnadoedd hamdden a thwristiaeth, hyrwyddo ein bwyd a'n diod rhagorol. Ni allwn ei wneud yn rhatach ond gallwn ei wneud yn well. [Torri ar draws.] Ac eirin Dinbych tra byddwn wrthi—pam lai? Roedd yn siom i rai o'r Aelodau na soniais am hynny yn yr araith, felly dyna ni. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn arwain ar hyn, ac yn helpu i adfywio ac ailfywiogi ein trefi glan môr, o'r Rhyl i'r Rhws, o Borthcawl i Brestatyn. Diolch yn fawr. 

17:40

Nawr, rwy'n falch iawn o gynrychioli etholaeth sydd â nifer o drefi glan môr—Llanfairfechan, Penmaenmawr, Conwy, Deganwy, Llandudno a Bae Penrhyn—ac mae Llandudno'n enwog ledled Cymru fel brenhines y cyrchfannau Cymreig, a'r rheswm am hynny yn fy marn i yw ein busnesau twristiaeth a lletygarwch gwych. Rydym wedi llwyddo, fel tref, i gadw ein rhinweddau Fictoraidd, diolch i gymorth a chadwraeth Ystadau Mostyn. Ond trwy gydol y pandemig, cefais fy syfrdanu gan benderfyniad ein busnesau a'u buddsoddiad yn ein tref. Mae pier hanesyddol Llandudno, yr hiraf yng Nghymru, wedi gweld ffrwydrad o fusnesau newydd, gweithgareddau a lliw, gydag olwyn Ferris o ben arall y wlad yn cael ei gosod. Ac maent hefyd wedi cael cyfres lwyddiannus iawn ar ITV Wales a ddarlledwyd yn genedlaethol.

Mae blaen sawl gwesty wedi'u hailbeintio yn barod i groesawu'r tymor newydd o bobl ar eu gwyliau, ac mae gennym bellach gadwyni cenedlaethol fel Travelodge a Premier Inn sydd hefyd wedi ymsefydlu yn y dref. Mae ein stryd fawr yn croesawu siopau, tafarndai a bwytai newydd. Mae'r buddsoddiad anhygoel hwn gan y sector preifat yn dangos eu bod eisoes yn gweithio i adfer ein trefi glan môr i'w hen ogoniant, ar ôl mynd drwy bopeth y maent wedi mynd drwyddo gyda'r pandemig. Felly, fy nghwestiwn i chi, Ddirprwy Weinidog: beth fyddwch chi'n ei wneud fel Llywodraeth Cymru i'w cefnogi yn y genhadaeth hon? Diolch. 

Diolch i Gareth Davies am gyflwyno'r ddadl fer bwysig hon, ac nid wyf yn siŵr a yw ein cymunedau arfordirol bob amser yn cael y sylw y maent yn ei haeddu. Felly, diolch i chi am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Nid wyf yn credu bod munud yn ddigon o amser i fyfyrio ar amrywiaeth eang ein cymunedau arfordirol ar draws fy rhanbarth i, sef Gorllewin De Cymru. Ond fel Gweinidog yr wrthblaid ar ran y Ceidwadwyr Cymreig dros dwristiaeth, teimlaf y byddwn ar fai pe na bawn yn sôn am y bygythiad cliriaf i'r cymunedau hyn yn fy rhanbarth—

17:45

Llywodraeth Cymru [Chwerthin.]

Byddai treth twristiaeth Llywodraeth Cymru yn gwbl ddinistriol i'r cynnig twristiaeth mewn cymunedau fel Gŵyr, y Mwmbwls a Phorthcawl yn fy rhanbarth i. Ar ôl ychydig flynyddoedd eithriadol o anodd, yn hytrach nag annog mwy o ymwelwyr i ddod i'n cymunedau arfordirol, ymddengys mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw eu trethu yn lle hynny.

Ar ôl imi godi'r mater hwn yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ddoe, mae'n amlwg o ateb y Prif Weinidog yn awr, oherwydd cyfyngiadau'r dreth honno, y gallai'r union gymunedau hyn orfod ysgwyddo'r baich o drethu eu hymwelwyr a pheidio â gweld unrhyw arian ychwanegol yn cael ei wario wedyn yn y gymuned honno o gwbl. Mae dadl arferol Llafur a Phlaid Cymru, 'Mae'n gweithio i Fenis felly pam na fyddai'n gweithio i Borthcawl?' wedi ei hateb yn glir iawn bellach, Ddirprwy Lywydd: mae Fenis yn gweld budd ariannol o'u treth dwristiaeth; efallai na fydd Porthcawl. 

Diolch i Gareth Davies am gyflwyno'r ddadl hon. Mae eisoes wedi mynd â ni ar daith i'r Rhyl, ac rydym hefyd wedi bod ar daith i Aberconwy a'r cyrchfannau gwych yno. Ond hoffwn fynd â chi i ymweld â lleoedd yn fy etholaeth fy hun: Bae Colwyn, Llandrillo-yn-Rhos, Towyn a Bae Cinmel—cyrchfannau gwych, a nifer ohonynt yn cystadlu â Rhyl a Phrestatyn i lawr y lôn.

Ond mae tynged pob un o'r cyrchfannau hyn, fel y dywedwyd eisoes, yn dibynnu llawer iawn ar y diwydiant twristiaeth, ac a bod yn onest, bydd y twristiaid sensitif i brisiau sy'n dod i fwynhau atyniadau glan môr rhad Towyn a Bae Cinmel yn dewis mynd i rywle arall os oes gwahaniaeth yn y prisiau rhwng y lleoedd hardd ar arfordir y gogledd y gall pobl ymweld â hwy a mannau eraill. Felly, rhaid inni wneud yr hyn a allwn i wrthsefyll yr argymhelliad erchyll ar gyfer treth dwristiaeth yma yng Nghymru.

Un pwynt bach arall: rwyf o'r farn y gellir gwrthdroi dirywiad ein trefi glan môr a'u hadfywio. Clywsom eisoes gan Janet Finch-Saunders am ei phrofiad yn Llandudno. Wel, mae Bae Colwyn wedi troi cornel hefyd. Mae wedi gweld buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru yn ei hamddiffynfeydd arfordirol, sydd wedi gwella'r arfordir yn fawr ac wedi creu traeth newydd. Ond ar ben hynny, mae wedi ailddyfeisio ei hun yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi profi dadeni fel canolbwynt digwyddiadau a chwaraeon gogledd Cymru. A chredaf mai oherwydd ei bod wedi bwrw iddi i ddatblygu'r syniad hwnnw y bu'n llwyddiant. Dim ond drwy edrych am fwlch yn y galw a mynd ati i'w lenwi y gall y trefi twristiaeth, y cyrchfannau glan môr y buom yn sôn amdanynt heddiw, wella eu ffyniant. Felly, rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r Rhyl, Prestatyn a'r holl drefi glan môr eraill y buom yn sôn amdanynt heddiw wrth iddynt geisio dilyn llwyddiant Bae Colwyn.  

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf nad wyf yn y Siambr gyda chi; rydych chi'n swnio fel pe baech chi i gyd yn cael amser hwyliog iawn yno.

Mae'r ffordd y defnyddiwn drefi a'n rhesymau dros ymweld â hwy wedi newid ac mae canol ein trefi'n addasu i set newydd o alwadau. Mae dibyniaeth y gorffennol ar fanwerthu wedi'i thanseilio gan dwf siopa ar-lein. Roedd y tueddiadau'n glir hyd yn oed cyn y pandemig, ac mae COVID wedi cyflymu'r newid. Gwyddom fod arnom angen gwell swyddi a gwasanaethau yng nghanol trefi, lle y gall pobl gael gafael arnynt heb orfod mynd i mewn i'r car. Mae angen inni feddwl yn wahanol am ein trefi. Mae angen inni ganolbwyntio arnynt fel mannau lle'r ydym yn cyfarfod, yn gweithio ac yn treulio amser hamdden. Os gallwn arallgyfeirio'r hyn sy'n cael ei gynnig yng nghanol trefi, byddwn yn denu pobl yn ôl iddynt. Felly, rhaid canolbwyntio ar adfywio, adeiladu lleoedd ac ailddyfeisio. Ac wrth gwrs, mae'r heriau hyn yn arbennig o anodd yn rhai o'n trefi arfordirol, sy'n chwarae rôl ddeuol y ganolfan leol ochr yn ochr â dibyniaeth ar dwristiaeth. Mae lleoliadau arfordirol yn dibynnu'n helaeth ar dwristiaeth ar gyfer swyddi. Yng Nghonwy, sir Benfro ac Ynys Môn mae tua 22 y cant o gyflogaeth yn y sector twristiaeth. Mae natur dymhorol gwaith yn lleihau effaith gwariant lleol, gan arwain at dangyflogaeth, tlodi a diffyg llesiant cymdeithasol.

Mae ymchwil wedi dangos sut y mae'r pandemig yn cael effaith negyddol ar economïau trefi arfordirol. Soniodd Gareth Davies mewn ffordd ffwrdd-â-hi am y twristiaid sydd, yn ymadrodd Darren Millar, yn sensitif i brisiau, am effaith prisiau a hedfan i Alicante o Fanceinion yn hytrach na dal trên i'r Rhyl. Mae'r ffordd yr ydym wedi caniatáu i bris trafnidiaeth gyhoeddus godi o'i gymharu â mathau eraill o drafnidiaeth yn broblem wirioneddol, ond mae honno'n broblem a achoswyd gan Lywodraethau olynol yn y DU nad ydynt wedi buddsoddi'n ddigonol mewn trafnidiaeth gyhoeddus, ac fel y nodwyd gennym yn y ddadl yr wythnos diwethaf, mae Cymru'n wynebu £5 biliwn o danariannu yn sgil ymyrraeth HS2, a phe baem yn cael ein £5 biliwn, gallem effeithio'n sylweddol ar bris a dibynadwyedd gwasanaethau trên ar draws arfordir gogledd Cymru, ac rwy'n ailadrodd eto fy apêl i ni weithio gyda'n gilydd i geisio cael Llywodraeth y DU i newid ei meddwl ar hynny.

Mae angen inni fanteisio i'r eithaf hefyd ar botensial ein hasedau arfordirol naturiol, gan ddiogelu marchnadoedd tai lleol, gwasanaethau lleol, cymunedau a'r iaith Gymraeg at yr un pryd. Ddirprwy Lywydd, rhoddodd Llywodraeth y DU y gorau i gronfa cymunedau'r arfordir, ond yma yng Nghymru rydym wedi parhau i roi cymorth penodol i drefi arfordirol, gan fuddsoddi £6 miliwn arall fis Mawrth diwethaf i gefnogi 27 o brosiectau sy'n canolbwyntio ar greu a diogelu swyddi ac adfywio'r stryd fawr yng nghanol trefi arfordirol. Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn darparu pecyn cymorth gwerth £136 miliwn i ganol trefi, ac mae'r buddsoddiad hwn i gefnogi canol ein trefi, gan gyflawni prosiectau cyfalaf mawr i addasu eiddo gwag a thir yng nghanol trefi ledled Cymru at ddibenion gwahanol, wedi'i seilio yn y bôn ar alluogi lleoedd i esblygu ac arallgyfeirio. Un prosiect gwych yr ymwelais ag ef fis Medi diwethaf yw gofod cydweithio Costigan yn y Rhyl, lle'r ydym wedi cefnogi'r gwaith o drawsnewid tafarn led-adfeiliedig ger gorsaf drenau'r dref, man amlwg yn y dref, yn ofod busnes o ansawdd uchel ar gyfer cydweithio—prosiect gwych.

Mae ein hegwyddor 'canol y dref yn gyntaf', sydd wedi'i hymgorffori yng nghynllun datblygu cenedlaethol Cymru, 'Cymru'r Dyfodol', yn sicrhau mai canol trefi a dinasoedd a ddylai fod yn ystyriaeth gyntaf ar gyfer pob penderfyniad ynghylch lleoli gweithleoedd a gwasanaethau, ac yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau yn edrych ar ddyfodol canol ein trefi: un gan Archwilio Cymru ac un arall a gomisiynais gan yr Athro Karel Williams o Brifysgol Manceinion, 'Small Towns, Big Issues'. Mae'r ddau adroddiad yn tynnu sylw at yr angen i weithio gyda chymunedau i newid pethau yng nghanol trefi ac i roi diwedd ar ddibyniaeth ar geir. Ac rydym yn gwneud hynny. Rwyf wedi sefydlu grŵp o randdeiliaid allanol i ddarparu mewnbwn a her ac i weithio drwy'r hyn sydd ei angen i alluogi newid, gan gymell datblygiadau yng nghanol y dref, ond gan ddatgymell unrhyw ddatblygiad y tu allan i'r dref sy'n anghyson â'r nod hwnnw hefyd. Felly, rwy'n croesawu'r ddadl hon fel cyfle i edrych ar ffyrdd o gefnogi ac adfywio ein trefi a'n dinasoedd, gan ddeall bod yr heriau a'r cyfleoedd yn ddeinamig ac yn gymhleth, ac mae hyn yn cynnwys ein cymunedau arfordirol. Diolch.

17:50

Daeth y cyfarfod i ben am 17:53.