Y Cyfarfod Llawn
Plenary
02/03/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29, gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda.
Eitem 1 yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae cwestiwn 1 gan Peter Fox ac i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog. Peter Fox.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r perygl o lifogydd ar yr A4042 ger pont Llanelen? OQ57710
Diolch. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwella'r systemau draenio presennol yn Llanelen i helpu i gyflymu adferiad a'r amserlen ar gyfer ailagor yr A4042 pan fydd llifogydd yn digwydd. Eleni, byddwn hefyd yn cyflawni cam 1 arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru i nodi opsiynau mwy hirdymor i helpu i fynd i'r afael â'r problemau llifogydd.
Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac ydy, mae’r A4042, y mae pont Llanelen yn rhan ohoni, yn gefnffordd hanfodol i gerbydau symud ar draws sir Fynwy. Mae'n bwysicach byth erbyn hyn gan ei bod yn galluogi cleifion i gyrraedd i Ysbyty Athrofaol y Faenor o ogledd Gwent a de Powys.
Nawr, fel y gwn eich bod chi'n gwybod, Weinidog, mae llifogydd ger pont Llanelen wedi bod yn broblem barhaus. Yn wir, caewyd y bont unwaith eto yn sgil llifogydd o ganlyniad i'r stormydd a welodd y DU yn ddiweddar iawn. Nid yn unig fod hyn yn tarfu ar drigolion, ond mae hefyd yn cynyddu amseroedd teithio ambiwlansys i ysbyty'r Faenor, fel y nodais, ac mewn argyfyngau meddygol o'r fath, gall oedi arwain at ganlyniadau difrifol.
Rwy'n croesawu proses yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru, a fydd yn digwydd yfory, rwy'n credu, a byddaf yn ymuno fel rhanddeiliad ac rwy’n croesawu hynny. Felly, a gaf fi ofyn a yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb parhaol i'r broblem, ac a fyddwch yn mynd i'r afael â'r broblem ar unwaith ar ôl i'r mesurau lliniaru posibl gael eu nodi? Dywedaf hynny gan y gall prosesau'r arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru gymryd blynyddoedd lawer, ac mae'n bwysig mynd i’r afael â hynny'n gyflym.
Wel, ydy, fel y mae’r Aelod yn nodi, mae’r bont yn Llanelen yn safle y cydnabyddir ei bod yn agored i lifogydd, ac mae'n cau weithiau pan fo stormydd neu law trwm. Mae’r sefyllfa yno wedi gwella ar ôl gwaith draenio, ac mae’r ffordd bellach wedi ailagor yn gynt nag yn y gorffennol o ganlyniad i'r gwaith hwnnw.
Mae proses yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru, fel y gwyddoch, i fod yn broses feddwl agored—ni ddylai ddechrau gyda chanlyniad mewn golwg. A dyna un o'r problemau a welsom yn gyson o ran y ffordd y mae'n gweithio, a dyna un o'r newidiadau yr ydym am eu sicrhau—nodi problemau trafnidiaeth a gweithio drwy atebion. Ond fel y dywedwch, mae’r gweithdy'n dechrau yfory, felly gadewch inni weld i ble mae’r broses honno yn ein harwain.
Gyda llifogydd a thywydd garw cynyddol o ganlyniad i newid hinsawdd, rydym yn cydnabod, wrth gwrs, y byddwn yn gweld mwy o stormydd a mwy o seilwaith yn agored i effeithiau'r tywydd. Ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau wedi nodi'r adroddiad ddydd Llun gan Banel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd, a oedd yn adroddiad sobreiddiol a brawychus, ac a ddywedai wrthym fod y sefyllfa gyda newid hinsawdd yn waeth nag a feddyliom, a bod y cyfle i adeiladu cymdeithas â mwy o allu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn prysur ddiflannu. Ac un o’r cwestiynau y mae’n rhaid inni eu gofyn yw sut y mae diogelu ein seilwaith mewn cyd-destun o’r fath. Mae gennym gronfa ffyrdd cydnerth o £18.5 miliwn eleni. Rydym wedi gofyn i’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, fel rhan o’r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, asesu sut i leihau effaith llifogydd ar seilwaith, ac mae’r adolygiad ffyrdd hefyd yn edrych ar rôl cynnal a chadw a rôl seilwaith wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella seilwaith trafnidiaeth yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ57715
Diolch. Bydd ein rhaglen gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer metro gogledd Cymru yn trawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol ar draws yr ardal. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru a fydd yn datblygu llif o gynlluniau trafnidiaeth ar gyfer gogledd Cymru, gan gynnwys Alun a Glannau Dyfrdwy.
Diolch i’r Gweinidog am ei ymateb, ac wrth gwrs, rydym yn aros am ganlyniad yr adolygiad ffyrdd y sonioch chi amdano yn y cwestiwn blaenorol a’r penderfyniad ar y llwybr coch yng Nglannau Dyfrdwy. Nawr, wrth gwrs, bwriad y llwybr coch oedd lleihau llygredd aer gan gydnabod bod angen atebion ar drigolion i'r broblem beryglus hon. Pe na bai’r llwybr coch yn mynd rhagddo, er enghraifft, byddwn i a thrigolion Alun a Glannau Dyfrdwy yn disgwyl y dylid gwario’r arian a ddyrannwyd iddo ar fynd i’r afael â llygredd aer yng Nglannau Dyfrdwy, fel a ddigwyddodd, rwy'n credu, pan wnaed y penderfyniad yn erbyn ffordd liniaru’r M4 yng Nghasnewydd. A gaf fi ofyn i chi, felly, Ddirprwy Weinidog, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i glustnodi’r arian hwn ar gyfer yr ardal lle cafodd ei ddyrannu’n wreiddiol, i’w wario ar brosiectau newydd a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon sy’n benodol iawn i Lannau Dyfrdwy?
Diolch. Fel y dywedwch, mae’r adolygiad ffyrdd yn ystyried y llwybr coch, ynghyd â 54 o gynlluniau eraill, ac mae’n gwneud hynny mewn dull trefnus, a bydd yn adrodd yn yr haf. Felly, ni ddylem geisio dyfalu beth fydd canlyniad y broses honno, gan fy mod yn cymryd y bydd rhai cynlluniau ffyrdd yn mynd rhagddynt, ond rwyf hefyd yn cymryd na fydd nifer fawr ohonynt yn gwneud hynny. Felly, mae'n gwbl resymol meddwl am beth fyddai'n digwydd yn y sefyllfa honno. Credaf fy mod am ei atgoffa, o ran ariannu, yr amcangyfrifir y bydd hwn yn gynllun £300 miliwn; nid oes gennym £300 miliwn yn ein cyllideb yn aros i gael ei wario ar y cynllun hwn. Yn wir, holl ddiben adolygiad Burns i’r M4 oedd dod o hyd i ateb a oedd yn costio hanner cymaint â'r M4 arfaethedig ac a oedd yn dal i fynd i’r afael â'r broblem tagfeydd. Felly, yr hyn rwy'n ei obeithio, drwy'r adolygiad ffyrdd a chomisiwn Burns ar gyfer gogledd Cymru, yw y byddwn yn nodi atebion trafnidiaeth i broblemau sy'n gydnaws â'n hymrwymiadau newid hinsawdd, yn ogystal â mynd i'r afael â phroblemau trafnidiaeth lleol, ond mae angen inni wneud hynny mewn ffordd sy’n gwneud y defnydd gorau o’r cyllid sydd ar gael i ni, gan gofio fy mod newydd fod yn sôn wrth y Siambr am y sefyllfa ddifrifol rydym ynddi gyda newid hinsawdd.
Nawr, mae buddsoddiad sylweddol yn mynd i ogledd Cymru, i wella trafnidiaeth gyhoeddus. O fis Mai, bydd nifer y gwasanaethau ar lein y gororau, rhwng Wrecsam a Bidston, yn cynyddu i ddau bob awr. Bydd gennym wasanaeth bob awr newydd rhwng Lerpwl a Llandudno o fis Rhagfyr 2023, ac o fis Rhagfyr 2024, gwasanaeth newydd bob dwy awr rhwng Lerpwl a Chaerdydd, a gwasanaeth bob awr rhwng Amwythig a Lerpwl. Felly, ar ôl i bobl y gogledd fod aros yn hir ac amyneddgar, credaf fod y buddsoddiad rydym yn ei wneud yn y seilwaith bellach yn dwyn ffrwyth. Y dasg allweddol i gomisiwn Burns yw gosod hynny at ei gilydd, gan ein bod am i bobl deimlo mai’r ffordd hawsaf o fynd o le i le yw drwy drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau. Nid dyna’r realiti i’r rhan fwyaf o bobl ar hyn o bryd, a’r cwestiwn i ni yw: sut y mae newid hynny?
Roedd y prosbectws a gyhoeddwyd yn 2016 gan bartneriaeth Growth Track 360—cynghrair drawsffiniol o arweinwyr busnes, gwleidyddol a'r sector cyhoeddus, gan gynnwys Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy—yn nodi y byddai gallu cysylltu â HS2 yn lleihau tagfeydd, yn gwella logisteg busnes ac yn denu buddsoddiad a swyddi. Ac ym mis Ionawr, croesawodd partneriaeth Growth Track 360 Fil Rheilffyrdd Cyflym (Crewe-Manceinion) y DU, a fydd yn hwyluso’r gwaith o adeiladu HS2, lle mae cynlluniau a gadarnhawyd yn cynnwys y gyffordd newydd yr oeddent wedi galw amdani i’r gogledd o orsaf Crewe. Mewn gwirionedd, dywedodd eu his-gadeirydd, arweinydd Cyngor Sir y Fflint,
'Byddai ein cyrchfannau diwydiannol, masnachol a thwristiaeth yn cael hwb aruthrol yn sgil gwella cysylltedd rheilffordd uniongyrchol â Llundain, Manceinion a Maes Awyr Manceinion fel y byddai HS2 yn ei gynnig pe bai ein rheilffyrdd lleol yn cael eu huwchraddio ar yr un pryd.'
Ond pan gododd cadeirydd y grŵp seneddol hollbleidiol ar gyfer Glannau Mersi Dyfrdwy gogledd Cymru fater tebyg yn Nhŷ’r Cyffredin—Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd, Dr James Davies—cafodd ymateb eithaf calonogol gan Weinidog perthnasol y DU, a ddywedodd y byddent yn ymgysylltu’n gadarnhaol â’r adolygiad o gysylltedd yr undeb, a oedd yn cynnwys cysylltiadau rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon, a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf. Felly, pa ymgysylltiad sydd rhyngoch a'r holl asiantaethau amrywiol hyn, i fanteisio ar y cyfleoedd y mae pob un ohonynt yn ceisio'u sicrhau, a'r croeso cyffredinol y mae pob un ohonynt wedi'i roi i gyhoeddiad mis Ionawr?
Wel, roeddwn yn falch fod Growth Track 360 wedi rhoi croeso cynnes i gyhoeddiad comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru, ac mae hwnnw'n ymateb i argymhelliad yr adolygiad ffyrdd ac i'r adolygiad o gysylltedd yr undeb gan Syr Peter Hendy, a oedd yn galw am astudiaeth aml-ddull ar draws gogledd Cymru. Yn amlwg, bydd rhan o'r gwaith hwnnw'n ymwneud ag edrych ar sut y gall gwasanaethau rheilffordd yn y gogledd gysylltu â HS2, os a phan fydd yn cyrraedd, er y credaf y dylai pob un ohonom fod yn bryderus ynglŷn â'r diffyg buddsoddiad yng Nghymru gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â rheilffyrdd, a'r diffyg cyllid canlyniadol Barnett yn sgil arian HS2. Sylwaf ei fod yn optimistaidd wrth dynnu sylw at fanteision i’r gogledd o ganlyniad i rywfaint o gysylltedd â rheilffordd yn Lloegr, ond nid oes unrhyw fudd uniongyrchol i deithwyr yng Nghymru, nac i'r seilwaith yng Nghymru, a dylai hynny beri pryder i bob un ohonom, o bob plaid.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, ac yn gyntaf y prynhawn yma, llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Gweinidog yr economi strategaeth ofod genedlaethol Llywodraeth Cymru, gan amlinellu ei huchelgais i sicrhau cyfran o 5 y cant o sector gofod y DU, a fyddai’n cyfateb i £2 biliwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar dyfu potensial datblygiadau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn y sector gofod yma yng Nghymru, gan gynnwys gallu hyfforddi a phrofi lansio i'r gofod, ynghyd â phrofi a gwerthuso technolegau gyriant gwyrddach newydd yn Llanbedr. Mae’n amlwg fod y cyhoeddiad hwn yn bwrw amheuaeth ar benderfyniad eich panel adolygu ffyrdd i ganslo ffordd osgoi arfaethedig Llanbedr, gan wastraffu £1.7 miliwn o arian trethdalwyr yn y broses. Gan fod y meini prawf sy’n dylanwadu ar y penderfyniad yn sicr o fod wedi newid bellach, a wnewch chi gytuno nawr i ailystyried y mater hwn a gofyn i’r panel adolygu ei benderfyniad o ystyried y manteision economaidd posibl i’r ardal ac i Gymru gyfan?
Wel, unwaith eto, dywedaf wrth Natasha Asghar yr hyn a ddywedais wrth y Siambr ar y dechrau: dywedai adroddiad y panel ar newid hinsawdd a gyhoeddwyd ddydd Llun fod y sefyllfa sy'n wynebu pob un ohonom yn waeth nag a feddylient—mae ar ben uchaf yr amcanestyniadau o effaith cynhesu byd-eang a’r effaith drychinebus a gaiff hynny ar ein heconomi a’n cymdeithas. Dywedai ein bod eisoes wedi cael ein heffeithio, fod y newidiadau'n ddiwrthdro, a bod y cyfle i adeiladu cymdeithas â mwy o allu i wrthsefyll newid hinsawdd yn prysur ddiflannu. Credaf y dylai pob un ohonom fod o ddifrif ynglŷn â hynny. Ni allwn ddatgysylltu’r pethau hyn am ein bod am sgorio pwyntiau gwleidyddol am fater gwahanol. Edrychodd y panel adolygu ffyrdd, fel rhan o’u meini prawf, ar effaith newid hinsawdd ar drafnidiaeth a’r llif o brosiectau sydd gennym, a daethant i’r casgliad nad oedd cynllun Llanbedr yn gydnaws â strategaeth drafnidiaeth Cymru, ac nad oedd yn gydnaws â chyflawni sero net. Nawr, ni chredaf y gellir anwybyddu hynny ar chwarae bach.
Os darllenwch adroddiad y panel ar y maes awyr, o ran mynediad i’r safle hwnnw, dangosai fod opsiynau eraill i'w cael, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chyngor Gwynedd i archwilio’r opsiynau hynny i weld beth y gellir ei wneud. Ond rydym yn dal i ddod yn ôl at y pwynt sylfaenol: mae canlyniadau dwys ac arwyddocaol i bawb ohonom yn sgil newid hinsawdd, ac mae angen inni ddechrau adlewyrchu hynny yn y penderfyniadau a wnawn. Nid yw o unrhyw werth i'r Ceidwadwyr ymrwymo i dargedau pan fyddant yn galw am ddull gwahanol o fynd ati bob tro y gwneir penderfyniad o ganlyniad i'r targedau hynny. Nid yw'n gyson.
Iawn. Diolch, Ddirprwy Weinidog. Gallaf eich sicrhau bod pob un ohonom yn pryderu am newid hinsawdd. Nid oes modd ei wadu, a chredaf y bydd fy nghyd-Aelodau ar y fainc hon, a hyd yn oed yn San Steffan, yn cytuno â mi ar hynny. Fodd bynnag, ar ôl gweld y wybodaeth a gyhoeddwyd gan Weinidog yr Economi, roedd yn amlwg fod rhai o’r meysydd dan sylw wedi’u diogelu, felly mae hynny’n peri pryder i ni ynglŷn â sut y bydd hyn yn cael ei wireddu.
Gan ddod at fy ail gwestiwn, rwyf eisoes wedi sôn am ganslo ffordd osgoi Llanbedr gan wastraffu £1.7 miliwn o arian trethdalwyr ar sawl achlysur bellach yn y Siambr hon. Ers hynny, mae’r panel adolygu ffyrdd wedi canslo cynlluniau i gael gwared ar y cylchfannau ar gyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55, gan wastraffu bron i £9 miliwn. Felly, Ddirprwy Weinidog, hyd yn hyn, mae eich polisi wedi arllwys £10.5 miliwn o arian trethdalwyr i lawr y draen, ac mae mwy na 50 o brosiectau i wella seilwaith ffyrdd Cymru yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Rwyf wedi gofyn y cwestiwn o'r blaen ac nid wyf yn ymddiheuro am ei ofyn eto, gan nad wyf yn credu bod y wybodaeth ar gael yn hawdd i mi nac i eraill. Felly, er mwyn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd, pe bai’r panel adolygu ffyrdd yn canslo pob un o’r prosiectau sy’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd, beth fyddai cyfanswm yr arian sydd wedi'i wario eisoes a fyddai’n cael ei golli? Diolch.
Wel, nid yw'r panel adolygu ffyrdd wedi dod i gasgliad eto, ac eithrio ar ddau gynllun y gofynnwyd iddynt eu rhoi ar lwybr carlam. Ac ar gyfer y ddau gynllun, maent wedi cyhoeddi'r rheswm pam, at ei gilydd, mai dyna'r penderfyniad gorau wrth symud ymlaen. Yn amlwg, mae arian wedi’i fuddsoddi mewn cynlluniau. Fel rydym wedi'i drafod eisoes yn y Siambr, ond rwy’n fwy na pharod i’w ailadrodd, roedd llawer o’r buddsoddiadau yng nghyffyrdd yr A55, er enghraifft, ar gyfer astudiaethau a fyddai’n dal i fod yn ddefnyddiol i gomisiwn Burns yn y gogledd ar gyfer ei waith yn y dyfodol. Felly, nid yw wedi'i wastraffu; mae wedi'i ailgyfeirio.
Ond ar ryw bwynt, mae angen inni ddod â chynlluniau i ben, oherwydd rhesymeg ei safbwynt yw ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn cynlluniau am fod rhywfaint o fuddsoddiad wedi'i wneud, ni waeth beth fo'u heffaith ar allyriadau carbon, ni waeth beth fo'u heffaith ar ansawdd aer, ni waeth beth fo'u heffaith ar dagfeydd a newid hinsawdd. Ac ni chredaf fod hynny'n gydnaws â'r hyn y mae'r wyddoniaeth yn ei ddweud wrthym am yr angen i edrych o'r newydd a rhoi camau gwahanol ar waith. Wrth wraidd hyn, mae'n rhaid i bob un ohonom wynebu'r ffaith bod gwyddoniaeth yn dweud wrthym fod angen inni newid cyfeiriad, ac mae canlyniadau i newid cyfeiriad.
Iawn. Ddirprwy Weinidog, dywedir eich bod wedi dweud yn ddiweddar y dylai bysiau trydan—bydd hyn yn rhywbeth y gwn y byddwch yn ei fwynhau [Chwerthin.]—y dylai bysiau trydan gael eu gwneud yng Nghymru yn hytrach na chael eu mewnforio o Tsieina, gan fynegi dymuniad i agor ffatri fysiau trydan yma i greu swyddi gwyrddach. Mewn ymateb, dywedodd Andy Palmer, prif weithredwr Switch Mobility, un o’r llond llaw o gwmnïau yn y DU sydd eisoes yn gwneud bysiau trydan, ei fod wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch adeiladu ffatri ond nad yw wedi gwneud fawr o gynnydd. Yn ddiweddar, mae cwmnïau bysiau yng Nghasnewydd a Chaerdydd wedi prynu bysiau trydan o Tsieina, sy’n newyddion gwych. Mae gweithredwyr bysiau wedi honni bod angen cynllun ariannu cenedlaethol ar gyfer y cynllun i newid fflyd fysiau Cymru gyfan yn gerbydau allyriadau sero erbyn 2035, ond nid oes gan Gymru gronfa a reolir gan y Llywodraeth i’w helpu gyda chost seilwaith cerbydau gwyrdd, yn wahanol i Loegr a'r Alban. Dywedodd John Dowie, cyfarwyddwr partneriaethau First UK, sy’n berchen ar First Cymru, ei bod yn bryd i Gymru sefydlu ei chynllun ei hun sy’n addas ar gyfer amgylchiadau Cymru a llywio ei hagenda ei hun, yn hytrach nag aros i godi briwsion Lloegr. Ddirprwy Weinidog, pa bryd y byddwch yn cyflwyno cynllun ariannu i gefnogi’r newid i fysiau trydan yng Nghymru, fel y maent wedi’i wneud yn Lloegr a’r Alban? Diolch.
Wel, fel y mae Natasha Asghar eisoes wedi nodi’n garedig iawn, rydym yn buddsoddi yn y newid i fysiau trydan, yn enwedig yng Nghaerdydd a Chasnewydd, lle mae ganddynt gwmnïau bysiau sy'n eiddo dinesig. Hoffwn wneud dau beth i sicrhau newid systemig, yn hytrach na gwneud cyhoeddiadau sy’n plesio’r diwydiant yn unig. Y cyntaf yw dylunio system fysiau sy'n gydlynol, lle nad yw buddsoddiad o Gymru yn diferu allan o'r wlad. Nawr, ar hyn o bryd, mae gennym system breifat fasnachol dameidiog, lle mae cwmnïau bysiau preifat yn disgwyl i'r trethdalwr ariannu eu cyfalaf, ac yna maent yn pocedu'r elw heb roi gwasanaethau cydlynol i ni na rhoi cyfle i bobl newid dulliau trafnidiaeth. Mae angen unioni hynny, a dyna fydd dan sylw yn y Papur Gwyn ar fysiau sydd ar y ffordd.
Yn ail, hoffwn weld diwydiant domestig yn cynhyrchu bysiau trydan, a chredaf fod yma gyfle economaidd i Gymru. Yn hytrach na buddsoddi symiau sylweddol—cannoedd o filiynau o bunnoedd—i brynu bysiau o Tsieina, mae cyfle yma i ddatblygu diwydiant bysiau Cymreig a Phrydeinig. Fe sonioch chi am fuddsoddwr. Yr hyn nad ydym am ei wneud yw dychwelyd at y model mewnfuddsoddi. Mae cyfle yma i adeiladu cwmnïau lleol; adeiladu'r canol coll yr ydym wedi sôn amdano'n fynych. Sefydlais dasglu, dan arweiniad James Davies, cadeirydd a phrif weithredwr Diwydiant Cymru, i archwilio sut y gallwn gydgrynhoi'r galw. Ar hyn o bryd, mae llawer o lyfrau archebion yn dod drwy’r sector cyhoeddus. Os down â hwy ynghyd, a chronni ein harchebion, mae cyfle i ddiwydiant Cymreig ddatblygu, a dyna'r gwaith yr ydym yn ei wneud.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae Canolfan Cydweithredol Cymru newydd ryddhau adroddiad sydd yn galw ar i'r Llywodraeth gyflwyno Deddf grymuso a pherchnogaeth gymunedol er mwyn cynorthwyo grwpiau cymunedol i ddatblygu tai fforddiadwy parhaol yn eu cymunedau. Mae'r adroddiad yn dangos sut mae'r system dai presennol, o dan reolaeth y farchnad agored, yn methu pobl a chymunedau Cymru. Wrth fod prisiau tai yn codi'n sylweddol ar draws Cymru a diffyg tai fforddiadwy go iawn i bobl leol, gall polisïau’r ganolfan gydweithredol chwarae rhan bwysig wrth i ni edrych i sicrhau tai cymunedol o dan berchnogaeth leol. Mae'r adroddiad yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu comisiwn i annog meddwl arloesol ar berchnogaeth leol o dir ac asedau yng Nghymru, i gyflwyno Deddf grymuso a pherchnogaeth leol, i ddatblygu bas data neu gofrestr o berchnogaeth tir, i sefydlu cronfa cymorth ariannol ar gyfer prosiectau tai sy'n cael eu harwain yn gymunedol, ac i ddatblygu proses ffurfiol ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol.
Ydy'r Gweinidog yn cytuno y byddai cynlluniau o'r fath o fudd i bobl Cymru? Ac a wnaiff hi ystyried cynnwys argymhellion y ganolfan gydweithredol fel rhan o raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth? A gobeithio hefyd y byddwch chi yn cytuno â mi fod y gallu i gymunedau lwyddo i ddelifro ymrwymiadau tai yn ddibynnol ar argaeledd tir fyddai'n galluogi grwpiau i adeiladu tai cymunedol. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gofrestru perchnogaeth tir ac adnabod tir sydd yn addas at ddatblygu anghenion cymunedol?
Mae'n ddrwg gennyf, collais ychydig o'r cyfieithiad, ond fe gefais yr hanfodion, rwy'n credu, felly maddeuwch i mi os nad wyf wedi deall ychydig o'r manylion, yn enwedig ar y diwedd. Nid wyf yn gwybod pam y methodd yn sydyn am ryw reswm. Felly, rydym yn sicr yn croesawu’r gwaith a wnaed gan y ganolfan gydweithredol. Rydym yn cytuno’n llwyr fod tai a arweinir gan y gymuned yn rhan fawr iawn o’r ateb tai yng Nghymru, ac y byddant yn sicr yn cyfrannu at gyflawni ein targed o 20,000 o gartrefi cymdeithasol. Rydym eisoes wedi ailddatgan hynny drwy’r rhaglen lywodraethu: ein hymrwymiad i gefnogi tai cydweithredol, mentrau a arweinir gan y gymuned ac ymddiriedolaethau tir cymunedol. Ac rwy'n falch iawn o allu dweud ein bod wedi gallu cynyddu'r grant i'r ganolfan gydweithredol yr wythnos diwethaf er mwyn hwyluso llawer o'r gwaith hwn. Felly, rwy'n falch iawn o fod wedi gallu gwneud hynny.
Yr egwyddor graidd hollbwysig, fel y dywed Mabon, yw galluogi pobl i gymryd mwy o reolaeth ar sut y caiff eu tai eu darparu a’u rheoli. Felly, mae ein cymorth drwy raglen Cymunedau’n Creu Cartrefi, a ddarperir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, wedi cynnwys a chefnogi 64 o grwpiau hyd yma ers dechrau’r rhaglen yn 2019. Ceir nifer o gyfleoedd ar hyn o bryd hefyd, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, ac rwy’n falch fod y rhaglen gymorth gyfredol wedi dylanwadu ar bolisïau, gan gynnwys ein cynllun Nyth, ac mae’n cysylltu â pholisïau a rhaglenni ehangach Llywodraeth Cymru i ddarparu cyfleoedd go iawn i oresgyn rhai o’r rhwystrau sy’n wynebu grwpiau a arweinir gan y gymuned.
Ond cytunaf fod angen gwneud mwy i hwyluso hyn a’i ymgorffori, os mynnwch, yn y diwylliant yr hoffem ei weld. Rydym yn gwneud gwaith parhaus i archwilio pa gymorth ychwanegol sydd ei angen drwy raglen tai a arweinir gan y gymuned yn y dyfodol. Rydym hefyd wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru ynghylch cyllid ar gyfer grwpiau cymunedol ers sawl mis bellach, ac edrychaf ymlaen at glywed canlyniadau’r trafodaethau hynny hefyd. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd iawn—rwy’n cyfarfod, ac mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd iawn—â Chanolfan Cydweithredol Cymru.
Rwy'n croesawu'r adroddiad, ond mae rhywfaint ohono—. Yn anffodus, nid ydym wedi rhyngweithio yn ei gylch eto, felly edrychaf ymlaen at y rhyngweithio hwnnw. Felly, er enghraifft, mae i Lywodraeth Cymru efelychu gwaith Cofrestrfa Tir y DU yn amlwg yn dyblygu ymdrech drud, ond mae sicrhau bod yr wybodaeth ar gael yn llawer haws i grwpiau cymunedol yn werthfawr iawn, ac rydym yn gwneud gwaith gyda MapDataCymru a fydd yn helpu i wireddu’r uchelgeisiau a nodir yn yr adroddiad ar gyfer hynny, er enghraifft. Mae nifer o bethau lle byddaf am fynd drwy'r adroddiad i nodi lle'r ydym arni gyda hwy, lle'r ydym yn hapus i dderbyn yr argymhelliad, a lle'r ydym eisoes wedi rhoi camau ar waith tuag at wneud yr hyn a argymhellir.
Rwy’n falch iawn hefyd o fod wedi gallu hwyluso'r ffordd i ymddiriedolaethau tir cymunedol a thai cydweithredol gyda phartner sy'n landlord cymdeithasol cofrestredig gael mynediad at y grant tai cymdeithasol, ac rwy’n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol o ymddiriedolaeth tir cymunedol Solfach, gan ein bod yn edrych ar hwnnw fel rhyw fath o gynllun peilot i weld pa mor dda y mae'n gweithio. Mae gennym nifer o grwpiau eraill yn gwneud hyn hefyd. Felly, mewn egwyddor, rwy’n cytuno’n llwyr. Mae angen inni weithio drwy rai o'r manylion i sicrhau ein bod yn cael gwerth am arian—mae'n ddrwg gennyf, ystrydeb ofnadwy, ond rydych yn deall yr hyn rwy'n ceisio'i ddweud. Rydym hefyd, fel y mae'n digwydd, yn gwneud rhywfaint o hyn, ond nid yn union fel y mae'r adroddiad yn ei nodi. Felly, mewn egwyddor, rydym yn gwbl gefnogol i hynny, ac rwy'n awyddus iawn i weld cymaint o bobl ag y gallwn ymdopi â hwy yn dod at ei gilydd yn y maes tai cydweithredol yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb yna ac, i'r record, hoffwn ddiolch i Vikki Howells am gyflwyno'r adroddiad yn y grŵp trawsbleidiol y bore yma. Mae yna gefnogaeth drawsbleidiol i ddatblygu cynllun o'r fath, ac felly dwi'n edrych ymlaen i weld y camau fydd yn cael eu cymryd i'r perwyl yma.
Os caf i fynd ymlaen i retroffitio, os gwelwch yn dda. Mae tlodi tanwydd yn broblem anferthol, fel rydych chi'n gwybod, ar draws Cymru, ac rydw innau'n gwybod fel Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd am effaith andwyol tlodi tanwydd ar y cymunedau yno. Mae gennym ni'r stoc dai hynaf yng ngorllewin Ewrop ac maen nhw ymhlith y tai lleiaf effeithiol o ran ynni. Mae hyn yn arwain at lawer o bobl yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu tai neu gael bwyd—dewis na ddylai neb orfod ei wynebu. Mae prisiau tanwydd ar eu huchaf ac mae'r cap ar bris ynni am gynyddu 54 y cant o 1 Ebrill, fel rydych chi'n gwybod. Mae'r rhai hynny ar dariff rhagosodedig sy'n talu trwy ddebyd uniongyrchol am weld cynnydd o rhwng £693 a £1,971 y flwyddyn ar gyfartaledd. Bydd hyn yn gwthio dros 0.25 miliwn o bobl yng Nghymru i fewn i dlodi tanwydd.
Mae angen inni fynd i'r afael â thlodi tanwydd rŵan, yn fwy nag erioed, drwy ymateb i'r argyfwng a gwella effeithlonrwydd ynni tai. Hefyd, mae'n werth nodi bod 10 y cant o allyriadau carbon Cymru yn dod o anheddau preswyl, a bydd datrys tlodi tanwydd yn ein cynorthwyo i fynd i frwydo yn erbyn newid hinsawdd. Mae'r sector tai cymdeithasol am fod yn allweddol wrth inni ddadgarboneiddio ein tai a sicrhau bod y budd economaidd o wneud hynny yn aros yng Nghymru. Mae'n her sydd angen ei gweithredu o fewn y 10 mlynedd nesaf. Bydd y Gweinidog yn gwerthfawrogi, wrth gwrs, na fydd dadgarboneiddio tai yn medru cael ei weithredu heb y cyfuniad cywir o grantiau, cyllid preifat, safonau rheoleiddio a llwybr clir—road map—wedi cael ei osod.
Mae'r gyllideb derfynol—
Cwestiwn, plis, Mabon ap Gwynfor.
Rwy'n dod ato rŵan, diolch yn fawr iawn am eich amynedd.
Mae'r gyllideb derfynol—
Dyw e ddim yn ddi-ben-draw. [Chwerthin.]
—yn neilltuo £35 miliwn yn ychwanegol o'r cyfalaf trafodiadau ariannol—y financial transactions capital—i arbrofi a datblygu modelau ariannu newydd er mwyn helpu cyflymu maint a pha mor sydyn y gellir dadgarboneiddio tai yng Nghymru. A all y Gweinidog gadarnhau os bydd y sector tai cymdeithasol yn medru cael mynediad neu fudd o'r ariannu yma—[Torri ar draws.]
Yn nes ymlaen, efallai. Yn nes ymlaen.
A sut bydd y gronfa yn cael ei defnyddio er mwyn medru cyflymu'r polisi a'r ariannu dadgarboneiddio tai?
Cwestiwn da. [Chwerthin.]
Iawn. Rwy'n cael fy nhemtio'n fawr i ddweud 'ie' ac eistedd. [Chwerthin.]
Yn bendant, rydym eisoes wedi gwneud rhywbeth yng Nghymru nad ydynt wedi’i wneud yng ngweddill y DU, sef sicrhau, drwy safon ansawdd tai Cymru, fod ein holl dai cymdeithasol yn cyrraedd lefel D y dystysgrif perfformiad ynni, EPC, sy’n uwch o lawer na'r hyn yr arferai fod. Dywedwyd wrthym dro ar ôl tro na fyddai hynny’n bosibl wrth inni ddechrau ar y daith honno, felly rwy’n falch iawn o ddweud, gydag un eithriad, ac rydym wedi’i dderbyn am resymau COVID, fod pawb arall wedi cyflawni hyn, a bydd yr un eithriad hwnnw wedi gorffen y broses honno erbyn diwedd y flwyddyn hon.
Felly, rydym eisoes yn cael trafodaethau â'n cynghorau a'n landlordiaid cymdeithasol ynghylch sut beth fydd safon ansawdd tai Cymru 2, a beth fydd yn ddisgwyliedig, a fyddwn yn gofyn iddynt gynyddu lefelau EPC tai i B neu A, beth fyddwn yn ei wneud gyda'r tai na ellir eu codi i'r safon honno a pha fesurau eraill y gellir eu rhoi ar waith. Rydym hefyd yn dysgu’r gwersi o safon ansawdd tai Cymru 1, oherwydd ar gyfer y rhan helaethaf o gartrefi, roedd yn llwyddiannus iawn, ond i rai cartrefi, nid oedd yn llwyddiannus ac arweiniodd at broblemau gydag anwedd dŵr a lleithder, y gwn y bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â hwy, ac rwy'n sicr yn gyfarwydd â hwy yn fy etholaeth fy hun. Felly, rydym wedi dysgu’r wers honno. Rydym wedi rhoi’r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio ar waith i ganfod beth sydd ei angen ar bob tŷ yng Nghymru, felly pa gyfuniad o’r math o insiwleiddio, technoleg, y math o do ac ati sy’n ofynnol fel bod eiddo'n cyrraedd y sgôr EPC uchaf y gallant ei chyflawni.
Nid ydym ychwaith wedi cyhoeddi cynllun i olynu cynllun Arbed eto. Roedd cynllun Arbed yn dda iawn i lawer o bobl mewn tlodi tanwydd yng Nghymru, am ei fod yn darparu boeleri llawer mwy effeithlon yn lle rhai aneffeithlon iawn, ond roeddent yn dal i fod yn foeleri nwy ac roeddent yn dal i gyfrannu allyriadau carbon, felly nid ydym am wneud hynny, ond nid yw’n ddigon dweud, 'Fe rown ni bwmp gwres ffynhonnell aer i chi,’ oherwydd, fel rwyf wedi’i ddweud droeon yn y Siambr hon, mae hynny cystal â gwresogi’r cae y tu ôl i’ch tŷ ar gyfer rhai tai. Felly, mae angen y cyfuniad hwnnw arnom.
Fel y gwnaethom gyda safon ansawdd tai Cymru, byddwn yn gorsgilio’r gweithlu drwy’r prosiectau tai cymdeithasol, fel y gallwn gynnig grantiau i bobl yn y sector preifat wedyn, gan wybod beth fydd yn gweddu i’w math o dŷ a gwybod y byddwn yn cael gwerth da am arian. Credaf fod Aelod arall o grŵp Plaid Cymru ar fin gofyn cwestiwn ar y papur trefn i mi ynglŷn â rhai o'r problemau a gawsom, a'r hyn y ceisiwn ei wneud yw dysgu'r gwersi hynny, fel nad ydym yn gosod y math anghywir o ateb technolegol yn y math anghywir o eiddo. Felly, mae’r pethau hyn bob amser yn llwyddiannus iawn i’r rhan fwyaf o bobl sy'n eu cael, ond wedyn rydym wedi cael problemau gyda rhai tai, felly rydym yn ceisio dysgu’r gwersi hynny a sicrhau ein bod yn darparu'r ateb iawn yn y lle iawn. Felly, cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi safon ansawdd tai newydd Cymru er mwyn gwella hynny.
Mae gwaith i'w wneud yn y sector rhentu preifat i sicrhau bod gennym y cymelliadau cywir, fel nad yw pobl yn dod allan o'r sector ond yn sicrhau bod eu tai yn cyrraedd y safon, fel rwyf wedi'i nodi droeon, ac mae amrywiaeth o bethau eraill y gallwn eu gwneud ar gyfer perchen-feddianwyr, gan gynnwys defnyddio dull abwyd a ffon yn y system dreth leol, y byddwn am eu cyflwyno ar lawr y Senedd.
3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynllun Arbed 2 yn Arfon? OQ57712
Diolch, Siân. Mae 742 o gartrefi yn Arfon wedi elwa o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref o dan gynllun Arbed 2, ac amcangyfrifir bod hynny wedi arbed oddeutu £300 ar gyfartaledd iddynt ar eu biliau ynni domestig blynyddol.
Diolch yn fawr iawn, ond rydych chi yn gwybod am y problemau sydd wedi codi efo'r cynllun hefyd, a dwi yn diolch ichi am eich cefnogaeth efo hyn cyn belled. Dwi ar hyn o bryd yn helpu—
Bydd yn rhaid i fi dorri ar eich traws, Siân Gwenllian. Rŷn ni'n cael problem gyda'r cyfieithu ar hyn o bryd—
Mae'n mynd a dod. Gallaf ei glywed weithiau, ac nid—
Iawn, fe gymerwn seibiant technegol er mwyn datrys y—. Na, mae hynny'n hollol iawn. Felly, fe gymerwn seibiant technegol byr yn awr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:58.
Ailymgynullodd y Senedd am 13:59, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Reit, fe fedrwn ni ailgychwyn nawr, a gwnaf i ofyn i Siân Gwenllian i ofyn ei chwestiwn atodol i'r Gweinidog. Siân Gwenllian.
Diolch ichi am eich cefnogaeth efo'r mater yma, achos rydych chi yn gwybod bod yna nifer o broblemau wedi bod yn codi yn fy etholaeth i. Dwi yn dal i helpu nifer o etholwyr efo ceisiadau am iawndal gan y contractwyr neu'r cwmnïau gwarant, ond does yna'r un o'r achosion yma wedi cyrraedd pen ei daith yn llwyddiannus hyd yma, ac mae yna o leiaf pum achos dwi'n gwybod amdanyn nhw yn wynebu sefyllfa lle mae'r cwmni adeiladu a'r cwmni gwarant wedi mynd i'r wal, felly does yna ddim iawndal ar eu cyfer nhw. Er mai cynllun gwahanol sydd wedi achosi problemau yn ardal Maesteg, dwi yn credu bod Llywodraeth Cymru yn mynd i roi cymorth i etholwyr sydd mewn sefyllfa debyg iawn i fy etholwyr i yn Arfon yn yr ardal honno. Cynllun gwahanol ydy hwnna, ie, ond yr un ydy'r egwyddor, sef y dylid rhoi cymorth i bobl lle mae'r cwmnïau adeiladu a'r cwmnïau gwarant wedi mynd i'r wal. Cynlluniau Llywodraeth oedd y rhain; cynllun Llywodraeth Cymru oedd Arbed 2, ac fe gymerodd bobl ran yn y cynlluniau ar argymhelliad y Llywodraeth. Felly, os ydy pobl ardal Maesteg i gael ad-daliad, onid ydy hi'n deg disgwyl i bobl yn fy etholaeth i gael eu trin yn gydradd a'u bod hwythau hefyd yn cael arian er mwyn adfer eu cartrefi?
Diolch, Siân. Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn yr ydych yn ei ddweud, yn amlwg. Fel y gwyddoch, buom yn gweithio gyda Fortem Energy Services, rheolwr cynllun Arbed 2, i adolygu sefyllfa'r holl breswylwyr a elwodd o'r inswleiddio waliau allanol a sicrhau eu bod yn ymwybodol o brosesau unioni lle mae problemau wedi codi. Oherwydd yr hyn y ceisiwn ei wneud yw sicrhau bod pobl yn dilyn camau unioni lle mae'r llwybrau hynny'n dal i fod ar gael iddynt. Felly, rydym yn sicrhau, lle mae'r cwmni'n dal i fod yno, os ydynt ar fai yn y modd y cyflawnwyd y gwaith gosod, mai hwy sy'n talu'r pris am hynny, ac yn yr un modd gyda'r gwarantwr.
Ond rydych chi'n llygad eich lle; i gydnabod sefyllfa deiliaid tai mewn mannau eraill, ar gyfer cynlluniau eraill yn y DU lle nad yw'r cwmni adeiladu a'r gwarantwr ar gael mwyach am eu bod wedi rhoi'r gorau i'r busnes neu am amrywiaeth o resymau cymhleth eraill, rydym wedi cytuno i weithio gyda'r cynghorau yno i ariannu gwaith adferol a pheth iawndal—gwaith adferol yn bennaf, serch hynny—i'r rheini, yn ogystal ag yng Nghaerffili ar gyfer gwaith ym Mryn Carno. Rwy'n fwy na pharod i archwilio gyda chi i weld a fyddai hynny'n rhywbeth y gallem ei ofyn i'r cyngor lleol i weld a fyddent yn hapus i wneud hynny. Ond gallaf bwysleisio ein bod am i bobl fynd ar drywydd yr holl rwymedïau sydd ar gael iddynt drwy'r llwybrau arferol yn gyntaf, a gwn eich bod wedi bod yn gweithio ar hynny. Felly, os ydych am anfon manylion am hynny ataf, rwy'n fwy na pharod i gael sgwrs gyda chi a'r cyngor i weld a oes unrhyw beth pellach y gallwn ei wneud.
Diolch i'r Aelod dros Arfon am godi'r cwestiwn pwysig hwn, oherwydd fel hithau, mae trigolion wedi bod mewn cysylltiad yn rhannu eu straeon trychinebus am y cynllun yn eu heiddo. Weinidog, fe wnaethoch dynnu sylw at rywfaint o'r arian sydd ar gael i gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, a byddwn yn gobeithio y byddai Cyngor Gwynedd am weithio gyda chi ac eraill i gefnogi'r trigolion hynny. Mae'r cwestiwn sydd gennyf yn ymwneud â chynlluniau yn y dyfodol. Fe sonioch chi'n briodol ar y dechrau, rwy'n credu, am y gwersi a ddysgwyd ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol. Tybed a ydych chi'n credu bod mwy o rôl i gynghorau ei chwarae yn nodi'r eiddo hyn ac yn cefnogi perchnogion cartrefi ar gyfer cynlluniau tebyg yn y dyfodol.
Rwy'n bendant yn credu hynny. Un o'r problemau a gawsom yw lle'r ydym wedi cael cwmnïau adeiladu bach yn rhoi'r gorau i'r busnes o ganlyniad neu lle mae'r cynllun gwarantu wedi methu. Felly, byddwn yn sicr yn ceisio archwilio cynlluniau gwarantu lle mae'r cyngor yn gweithredu fel y gwarantwr terfynol, ond rydym am fod yn ofalus iawn nad ydym yn trosglwyddo atebolrwydd a risg a ddylai fod ar ysgwyddau'r sector preifat i'r sector cyhoeddus am ddim rheswm, a gadael i bobl beidio â gorfod wynebu canlyniadau. Ni allaf bwysleisio digon ein bod am i bobl ddilyn y llwybrau preifat sydd ganddynt yr holl ffordd i'r pen draw, ac mae gennym nifer o wasanaethau cynghori ar waith i helpu pobl i wneud hynny. Lle mae pobl wedi disbyddu'r llwybr hwnnw, credaf fod yn rhaid cael rhyw lwybr pellach iddynt ei ddilyn er mwyn cael gwaith adferol wedi'i wneud. Fodd bynnag, ni allaf bwysleisio digon mai'r hyn yr ydym yn sôn amdano yw gwaith adferol, ac nid iawndal, oherwydd mae'r rheini'n ddau beth gwahanol iawn. Felly, mae hyn yn golygu rhoi eich tŷ yn y sefyllfa y dylai fod wedi bod ynddi pe bai'r gwaith wedi cael ei wneud yn gywir yn y lle cyntaf, ac mae'n siŵr y bydd rhyw elfen yno'n ymwneud â biliau ac yn y blaen. Rydym yn awyddus iawn i bobl gael eu rhoi yn y sefyllfa honno, oherwydd holl bwynt y cynllun oedd rhoi pobl mewn sefyllfa lle'r oedd eu tŷ wedi'i inswleiddio'n dda a'u biliau tanwydd wedi'u lleihau, a'r hyn nad ydym am ei weld yw tŷ sy'n parhau i allyrru carbon a chreu costau ynni uchel er ei fod wedi elwa o un o'r cynlluniau hyn. Rydym yn edrych yn fanwl ar hynny wrth lunio cynllun Arbed 2 a nifer o gynlluniau eraill yr ydym yn edrych arnynt.
Cwestiwn 4, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd. Diolch yn fawr iawn. Ddirprwy Weinidog, os ydych o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â newid hinsawdd a dileu'r oedi mynych ar ein rheilffyrdd—
Mae angen i chi ddarllen y cwestiwn ar y papur trefn yn gyntaf.
Mae'n ddrwg gennyf.
Mae'n iawn.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi datgarboneiddio trafnidiaeth? OQ57685
Diolch, ac mae'n braf clywed gennych eto. Mae 'Llwybr Newydd', strategaeth drafnidiaeth Cymru, yn nodi sut y byddwn yn lleihau allyriadau carbon drwy annog teithio mwy llesol, mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â chefnogi'r defnydd o gerbydau allyriadau isel.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Ddirprwy Weinidog, os ydych chi o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â newid hinsawdd a dileu'r oedi mynych ar ein rheilffyrdd, rhaid ichi sicrhau bod gan Gymru wasanaeth rheilffordd modern. Fodd bynnag, mae ffigurau eich Llywodraeth eich hun yn dangos bod 69 y cant o drenau Trafnidiaeth Cymru dros 30 oed, a bod 44 y cant yn 35 oed neu'n hŷn. Dyma gyfle i gael trenau hydrogen yn lle ein trenau sy'n heneiddio, trenau hydrogen fel sy'n cael eu treialu yn yr Almaen ar hyn o bryd. Mae'r trên di-allyriad hwn yn creu lefelau isel o sŵn, gyda dim ond ager ac anwedd dŵr yn unig yn cael ei allyrru, rhywbeth a fyddai'n ein galluogi i gyrraedd targedau newid hinsawdd. Felly, a gaf fi ofyn, Ddirprwy Weinidog, pa ystyriaeth a roddwyd gennych a pha drafodaethau a gawsoch ynghylch datgarboneiddio trafnidiaeth yng Nghymru drwy gael trenau hydrogen yn lle ein trenau sy'n heneiddio er mwyn gwella gwasanaethau rheilffyrdd a gwella'r amgylchedd? Diolch.
Diolch. Rwyf wedi gweld yr ymgyrch anonest ddiweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol ar hyn gan y Ceidwadwyr Cymreig ynglŷn â'r record dros 20 mlynedd. Gadewch imi ddweud—[Torri ar draws.] Mae Andrew R.T. Davies yn dweud ei fod yn dweud wrth y bobl beth sy'n gywir. Wel, yn gyntaf oll, mae angen ichi egluro beth yw'r setliad datganoli. Rwy'n hapus i fy swyddogion drefnu sesiwn friffio i Aelodau'r Blaid Geidwadol i egluro'r hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r hyn nad yw wedi'i ddatganoli a sut y mae fformiwla Barnett yn gweithio. Gallai hynny fod yn ymarfer addysgiadol iddynt. [Torri ar draws.] Lywydd, mae'n anodd clywed—hyd yn oed drwy ei fasg, mae'r Aelod yn dal i fod yn eithaf uchel ei gloch. [Torri ar draws.] Yr hyn nad wyf yn ei hoffi yw ymgyrchoedd slic ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n cuddio'r gwirionedd, sef bod Llywodraeth y DU yn tanariannu teithwyr Cymru. Dyna'r gwir, Andrew R.T. Davies. Dros y—[Torri ar draws.] Lywydd, os gwelwch yn dda, nid sgwrs yw hon. Gofynnwyd cwestiwn i mi, rwy'n ceisio rhoi ateb gyda sylwebaeth fyw gan y dyn yn y masg. Am yr 20 mlynedd diwethaf—
Mae pob dyn mewn masg. Gadewch inni roi'r gorau i'r cyfeiriadau at fasgiau, os gwelwch yn dda, a gadewch inni ganiatáu i'r Dirprwy Weinidog ateb y cwestiwn a ofynnwyd iddo.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, Lywydd, gyda'r Ceidwadwyr wedi bod mewn grym yn y DU am 12 ohonynt, lle nad yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, mae Cymru wedi cael llai na 2 y cant o'r £102 biliwn y mae Llywodraeth y DU wedi'i wario ar wella'r rheilffyrdd. Mae gennym 20 y cant o'r croesfannau rheilffordd ar draws Cymru a Lloegr, mae gennym 11 y cant o'r gorsafoedd, mae gennym 11 y cant o'r trac rheilffordd, mae gennym 5 y cant o'r boblogaeth, ac eto dim ond 2 y cant o'r cyllid a gawn. Mae 41 y cant o'r trac rheilffordd yn Lloegr wedi'i drydaneiddio, mae 2 y cant o'r trac rheilffordd yng Nghymru wedi'i drydaneiddio. Yr hyn sydd wedi'i wneud yn waeth yw bod ffactor cymharedd yr Adran Drafnidiaeth a ddefnyddir ar gyfer cyfrifiadau fformiwla Barnett ar gyfer Cymru wedi gostwng o 89 y cant i 36 y cant. Golyga hyn fod llai o arian i Gymru, er gwaethaf cynnydd sylweddol mewn gwariant ar y rheilffyrdd ar gyfer Lloegr. Mae hynny'n gwbl anghywir, ac yn rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr ar y pwyllgor dethol ar faterion Cymreig wedi'i gydnabod, ac mewn ymdrech drawsbleidiol wedi dweud bod angen i Lywodraeth y DU sicrhau bod gwariant HS2 yn cael ei Farnetteiddio'n briodol ledled y DU, a bod Cymru'n cael ei chyfran o 5 y cant. Nid wyf wedi clywed dim oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr, er imi ofyn sawl gwaith am ymdrech drawsbleidiol ar hynny, a byddwn yn dal i'w chroesawu, yn hytrach na gwneud sylwadau hawdd a pheidio â beio'r rhai y dylid eu beio. [Torri ar draws.] Lywydd, mae'n ymyriad annerbyniol gan feinciau'r Ceidwadwyr, ac mae'n drueni fod yn rhaid imi dynnu sylw ato. Er gwaethaf hynny, rydym yn buddsoddi £800 miliwn ar fflyd newydd o drenau a fydd yn gwasanaethu 95 y cant o deithiau teithwyr ledled Cymru o 2024 ymlaen. Mae'r cyntaf o'r rheini eisoes yn cael eu treialu, a byddant yn dechrau gwasanaethu teithwyr yng ngogledd Cymru eleni.
Ddirprwy Weinidog, fel y gwyddoch, un o elfennau allweddol metro de Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Lafur Cymru, fydd cyflwyno trenau tram trydan glanach, gwyrddach, ecogyfeillgar ar reilffyrdd craidd y Cymoedd, gan gynnwys rhwng Aberdâr, yn fy etholaeth i, a'r brifddinas. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd y trenau hyn yn ei chael ar leihau ein hallyriadau carbon?
Mae system metro fodern yn rhan annatod o system drafnidiaeth gyhoeddus gydgysylltiedig. Rhan ydyw, dim ond rhan, ac mae angen rhannau eraill hefyd. Mae angen inni integreiddio'r gwasanaethau bysiau, sy'n cario baich trymaf y system trafnidiaeth gyhoeddus ac sy'n cludo'r rhan fwyaf o bobl, ynghyd â theithio llesol ar gyfer y rhan olaf o'r daith. Gwyddom fod dros hanner yr holl deithiau car o dan bum milltir o hyd. Caiff y milltiroedd hyn eu gwneud yn y car ar hyn o bryd, yn amlwg, a gellid eu gwneud ar droed ac ar feic. Mae gan system sy'n cysylltu'r rhain i gyd â system metro fodern botensial sylweddol, gydag ymyriadau newid ymddygiad, i sicrhau newid i ddulliau teithio, sy'n rhan o'n strategaeth drafnidiaeth ac yn rhan o'n cynllun sero net. Gweledigaeth y metro yw darparu gwasanaeth cyrraedd a mynd. Bydd pobl yn gwneud y peth hawsaf i'w wneud. Ar hyn o bryd, rydym wedi cynllunio system sy'n golygu mai'r peth hawsaf i'w wneud yw gyrru, ac mae angen inni newid hynny fel mai'r peth hawsaf i'w wneud yw defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol. Bydd y buddsoddiad a welwn ym metro de Cymru, sef y prosiect peirianneg sifil mwyaf o'i fath yng Nghymru ar hyn o bryd—dros y blynyddoedd nesaf byddwn yn dechrau gweld hynny'n cael ei amlygu'n helaeth—yn gam sylweddol ymlaen ochr yn ochr â'r mesurau eraill yr ydym yn gweithio arnynt.
5. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi i gwmnïau yn sir Benfro i’w helpu i leihau eu hallyriadau carbon? OQ57722
Diolch, Cefin. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ystod eang o gymorth i helpu busnesau i leihau eu heffaith amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys ein cynghorwyr effeithlonrwydd adnoddau Busnes Cymru, sydd, ers 2016, wedi cynorthwyo 170 o fusnesau sir Benfro i wella eu strategaethau cynaliadwyedd amgylcheddol.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Ychydig o wythnosau yn ôl, ces i'r pleser o gwrdd ag awdurdod porthladd Aberdaugleddau a chael cyfarfod buddiol iawn ynglŷn â'u cynlluniau nhw ar gyfer y dyfodol. Daeth hi i'r amlwg yn y cyfarfod hwnnw, wrth i Gymru geisio cynyddu ei hymdrechion i gyrraedd ei thargedau net zero wrth fanteisio i'r eithaf, wrth gwrs, ar gyfleoedd twf gwyrdd, bod angen i'r prif gyflogwyr olew a nwy yn sir Benfro drawsnewid o'u sectorau traddodiadol er mwyn lleihau allyriadau carbon a datblygu diwydiannau gwyrdd newydd o gwmpas porthladd Aberdaugleddau, er enghraifft, sy'n cynnal dros 4,000 o swyddi da yn lleol. Felly, yn ogystal â phroject morol Doc Penfro, sy'n rhan o fargen ddinesig bae Abertawe, fel y gwyddoch chi, a wnewch chi amlinellu a yw Llywodraeth Cymru'n barod i fuddsoddi ymhellach ac yn uniongyrchol mewn rhai o'r technolegau megis hydrogen a gwynt o'r môr, a hefyd cynlluniau i ddal carbon, carbon capture, er mwyn darparu swyddi gwyrdd yn ardal sir Benfro gan ddatgloi cyfle posibl gwerth £5 biliwn i'r rhanbarth ac i Gymru?
Yn sicr. Rwy'n hapus iawn i wneud hynny, oherwydd rydym yn awyddus iawn i sicrhau'r swyddi gwyrdd hynny. Fe fyddwch yn gwybod bod ein cynllun Cymru Sero Net yn tynnu sylw at sut yr ydym yn awyddus i leihau allyriadau gan gyflawni'r manteision ehangach yr ydych newydd eu hamlinellu. Ar hyn o bryd rydym wedi darparu £6 miliwn o gymorth grant cynllun diogelu'r amgylchedd i Valero, i gynorthwyo eu hymdrechion datgarboneiddio. Mae hynny wedi sicrhau £120 miliwn o fuddsoddiad i osod safle cydgynhyrchu i leihau allyriadau a'u tynnu oddi ar y grid. Rydym wedi darparu ystod o gymorth arloesi, gan gynnwys £100,000 o arian sefydlu ar gyfer datblygiad prosiect Milford Haven: Energy Kingdom, sydd wedi ysgogi £4.5 miliwn o gyllid DU a Gweriniaeth Iwerddon. Fel y dywedoch chi, Cefin Campbell, mae busnesau sir Benfro yn chwarae rhan bwysig yng nghlwstwr diwydiannol de Cymru. Mae un o'r busnesau hynny, RWE, wedi lansio canolfan sero net i wneud y mwyaf o botensial hydrogen, gwynt arnofiol ar y môr a dal carbon, ac roeddwn yn falch iawn o siarad yng nghynhadledd y porthladdoedd i dynnu sylw at eu hymdrechion. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu astudiaeth ddichonoldeb cam 2 gwerth £100,000 ar gyfer cyflenwi hydrogen gwyrdd i sir Benfro ac Aberdaugleddau, gan ddefnyddio technoleg cynhyrchu hydrogen gwynt arnofiol ar y môr ERM Dolphyn.
Mae'r cwmnïau hyn i gyd yn allweddol i glwstwr y môr Celtaidd a'n pwyslais ar y diwydiant ynni adnewyddadwy ar y môr. Mae gennym hefyd y gronfa her datgarboneiddio a COVID sy'n agored i fusnesau bwyd a diod, felly y tu hwnt i'r busnes ynni ei hun, i geisio helpu adferiad yn sector bwyd a diod Cymru, yr effeithiodd y pandemig yn andwyol arno. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyngor busnes, gwybodaeth a chyfeirio cyffredinol, yn ogystal â meysydd cyngor arbenigol megis effeithlonrwydd adnoddau a chyfeirio at bolisïau gwyrdd i leihau allyriadau carbon ledled Cymru drwy Busnes Cymru, ac mae nifer o fusnesau sir Benfro wedi cysylltu â ni ynglŷn â hynny. A'r un olaf i dynnu sylw ato yw prosiect Milford Haven: Energy Kingdom yn sir Benfro, sef y prosiect £4.5 miliwn hwnnw, sy'n dangos y rôl hanfodol y gall hydrogen ei chwarae mewn dyfodol ynni wedi'i ddatgarboneiddio. Roeddwn am dynnu sylw at yr un pwynt hwnnw, oherwydd dyna'r allwedd—trosglwyddo o danwydd ffosil i fath gwahanol o dechnoleg sy'n diogelu'r swyddi medrus iawn sy'n rhan o'r clwstwr hwnnw yn sir Benfro.
Weinidog, yn gynharach eleni cefais y pleser o ymweld â datblygiad arobryn Pludds Meadow y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn Nhalacharn yn fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, safle a weithredir gan Salem Construction, sy'n cynhyrchu cartrefi ansawdd uchel sy'n defnyddio ynni'n effeithlon ar gyrion un o drefi enwocaf sir Gaerfyrddin. Roedd yr adeiladwyr yn awyddus iawn i leihau eu hôl troed carbon, gan ddefnyddio staff lleol ac eitemau fel pympiau gwres ffynhonnell aer i wresogi eu cartrefi. A wnewch chi amlinellu pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau fel Salem Construction i helpu i leihau eu hallyriadau carbon hyd yn oed ymhellach, drwy'r ffordd y caiff eu busnesau eu rhedeg a thrwy barhau i gynhyrchu cartrefi sy'n creu ôl troed carbon bach? Diolch.
Rydym yn croesawu'n llwyr y symudiad gan nifer fawr o gynhyrchwyr bach a chanolig eu maint ledled Cymru tuag at dai carbon isel. Byddwn hefyd yn cyflwyno newidiadau i'n rheoliadau adeiladu—bydd fy nghyd-Aelod, Lee Waters, yn cyflwyno newidiadau i'r rheoliadau adeiladu i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon honno ar gyfer pawb, ac rwy'n hapus iawn i weld nifer o gwmnïau BBaChau, fel yr un y sonioch chi amdano, yn arwain y ffordd.
Fel rwyf newydd ei ddweud wrth ateb Cefin Campbell, rydym yn darparu ystod eang o gyngor busnes cyffredinol drwy Busnes Cymru, sy'n cynnwys effeithlonrwydd adnoddau, cymorth ar bolisïau gwyrdd i leihau allyriadau ac yn y blaen. Rydym hefyd yn hapus iawn i weithio gydag unrhyw gyflenwr tai gwyrdd i'n helpu i'w defnyddio i adeiladu ein tai cymdeithasol ac i adeiladu ystadau deiliadaeth gymysg fel bod gennym dai tebyg ym mhob man, fel nad oes gennym bobl yn wynebu tlodi tanwydd yn y dyfodol. Ac rydym hefyd yn awyddus iawn—. Unwaith eto, mae gan y Dirprwy Weinidog a minnau fforwm adeiladu, sy'n is-grŵp tai, ac rydym yn awyddus iawn i gael busnesau bach a chanolig fel yr un y sonioch chi amdano yn dod i'r fforwm adeiladu i rannu arferion da ac i glywed am amrywiaeth o fenthyciadau a chyfleoedd eraill sydd gennym—cronfeydd safleoedd segur ac yn y blaen—i gyflwyno tir i'w ddatblygu a fydd yn caniatáu i'r BBaChau sy'n adeiladu tai mor hyfryd gael gafael ar gyllid i sicrhau bod datblygiadau pellach yn cael eu defnyddio yng Nghymru cyn gynted â phosibl.
6. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau lleol i fynd i'r afael â llygredd aer? OQ57721
Diolch. Yn ddiweddar, rydym wedi lansio cronfa cymorth rheoli ansawdd aer lleol i helpu awdurdodau i fynd i'r afael â llygredd aer, ac rydym wedi dyrannu dros £350,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Mae'r grant yn cefnogi gwaith ar lawr gwlad a byddwn yn parhau i gydweithio ag awdurdodau lleol i sicrhau aer glanach i Gymru.
Diolch ichi am hynny, Weinidog. Mae'n hollbwysig ein bod yn cael ein polisïau i fynd i'r afael â llygredd aer yn iawn, o ystyried yr effaith ar iechyd y cyhoedd, cyflyrau anadlol a chyflyrau iechyd eraill ac wrth gwrs, yr effaith ar ein hamgylchedd. A chredaf fod y problemau hyn yn arbennig o ddifrifol yn ein cymunedau mwy difreintiedig. Felly, gorau po gyntaf y cawn bolisïau ymarferol ar waith sy'n mynd i wneud gwahaniaeth go iawn. A chredaf mai un enghraifft o hynny yw newid ein fflydoedd tacsis yn gerbydau trydan, neu ddefnyddio tanwydd mwy ecogyfeillgar yn sicr. Ac o fewn yr arian sydd ar gael, Weinidog, ac a ddisgrifiwyd gennych a'r cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, tybed i ba raddau y ceir asesiad o ba mor barod yw ein hawdurdodau lleol ar gyfer gwneud y gwelliannau ymarferol hyn a gweithio gyda hwy i wneud gwahaniaethau cadarnhaol cyn gynted â phosibl. Oherwydd mae'n broblem sy'n rhaid cael ateb iddi ar frys i'n cymunedau, a pho gyntaf y cawn y gwelliannau ymarferol hyn ar waith, cyntaf oll y bydd iechyd y cyhoedd a'n hamgylchedd yn elwa.
Rydym eisoes yn gweithio ar welliannau ymarferol. Mae'r enghraifft yng Nghasnewydd o deithio am ddim ar fysiau ar gyfer mis Mawrth yn enghraifft berffaith o gynllun ymarferol i dreialu rhywbeth i weld pa effaith y mae'n ei chael, i weld a yw'r manteision yn cyfiawnhau'r gost ai peidio, i weld beth yw'r nifer sy'n manteisio arno, i ddeall beth yw'r rhwystrau, i lywio ein gwaith ymhellach wrth i ni geisio sicrhau newid i ddulliau teithio. Mae enghreifftiau ymarferol pellach yng Nghasnewydd o deithio llesol, gydag uned gyflawni Burns a'r bwrdd annibynnol dan gadeiryddiaeth Simon Gibson i gyflawni cynllun Burns—a gwelsom adroddiad interim bwrdd Burns yn ddiweddar, a chyfarfûm â John Griffiths a'i gydweithiwr o Orllewin Casnewydd yng Nghasnewydd i'w drafod—lle'r ydym yn gweld gwaith sylweddol ar lif o gynlluniau ar gyfer Casnewydd yn awr, a fydd yn arwain at fuddsoddiad mawr iawn i'r ddinas ar gyfer teithio llesol. Felly, credaf fod dwy enghraifft yno o gynlluniau ymarferol sydd eisoes ar y gweill.
Mae John Griffiths hefyd yn sôn am yr hyn y gallwn ei wneud i annog tacsis i newid i gerbydau trydan ac fel y gŵyr, mae gennym gynllun peilot ar hyn o bryd ar gyfer 'rhoi cynnig arni cyn prynu' ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, yn sir Benfro ac yn sir Ddinbych, i gymell gyrwyr tacsis i roi cynnig ar gerbydau trydan gyda'r bwriad o'u gweld yn eu prynu wedyn. Byddwn yn gwerthuso hynny er mwyn penderfynu ai dyna'r defnydd gorau o'n hadnoddau prin ai peidio, o ystyried y ffordd y mae'r farchnad eisoes yn symud; mae eisoes yn gystadleuol i brynu car trydan yn hytrach na char petrol newydd. A byddwn yn gwerthuso'r prosiectau hynny ac yn edrych ymhellach ar ba gynlluniau ymarferol eraill y gallwn eu gwneud, wrth inni ddatblygu ein cynllun aer glân a chyflwyno deddfwriaeth.
7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi am hyrwyddo manteision economaidd cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng ngogledd Cymru? OQ57690
Rwy'n sicr yn cydnabod y cyfle economaidd sylweddol y gall gogledd Cymru ei sicrhau o ynni adnewyddadwy. Rwy'n gweithio gyda Gweinidog yr Economi a chyd-aelodau eraill o'r Cabinet i grynhoi'r manteision o newid ein hynni, gan gynnwys drwy'r strategaeth ynni ranbarthol a fframwaith economaidd gogledd Cymru.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog, ac rwy'n falch iawn o glywed eich bod chi hefyd yn gweld y cyfleoedd sydd gan ynni adnewyddadwy i'w cynnig i ni yng ngogledd Cymru a Chymru gyfan. Os ydym yn ddigon uchelgeisiol, gallem weld trawsnewid ein heconomi drwy'r economi werdd sydd yno o'n blaenau. Fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, mae nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy sylweddol yn ymddangos ledled gogledd Cymru ar hyn o bryd, boed yn brosiectau ynni gwynt, solar neu forol. Un o'r pethau sy'n peri pryder i mi, serch hynny, yw nad ydym yn gwireddu'r cyfle a'r potensial llawn y gallem ei gael o'r rheini. Felly, o sicrhau bod ein dociau'n cael eu defnyddio'n briodol ac y gellir creu swyddi yno, boed hynny yng Nghaergybi, Mostyn neu rywle arall ar arfordir gogledd Cymru, a pheidio â cholli'r swyddi hynny i'r dociau yn Lerpwl, efallai, neu rywle arall—. Felly, rwyf am glywed ychydig mwy ynglŷn â sut y bwriadwch sicrhau bod rhai safleoedd penodol yn cael eu defnyddio'n dda, bod prentisiaethau'n cael eu hyrwyddo yng ngogledd Cymru a bod pobl ifanc yn enwedig yn cael cyfleoedd i gael swyddi gwych yn y rhanbarth yn sgil y prosiectau hyn.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Sam Rowlands. Ceir cyfleoedd sylweddol i sicrhau'r gwerth cymdeithasol gorau posibl o'n hadnoddau naturiol, gan gynnwys drwy gynhyrchu ynni glân lleol. Ac fel y nodwch yn gywir, nid faint o ynni adnewyddadwy sy'n cael ei ddatblygu sy'n creu'r cyfoeth ond datblygu'r holl strwythurau perchnogaeth leol, cadwyni cyflenwi a chyfleoedd cyflogaeth sy'n dod gyda hynny. Felly, rydym wedi cychwyn, wedi ariannu ac wedi cefnogi pedair strategaeth ynni ranbarthol a fydd yn dechrau nodi graddfa'r newid sydd ei angen i gyflawni'r system ynni carbon isel. Mae'r strategaethau i gyd wedi'u cyd-ddatblygu gan y partneriaethau rhanbarthol ac maent yn cynnwys asesiad economaidd o sut i ysgogi'r gwerth cymdeithasol mwyaf o'r buddion adnewyddadwy diamheuol sydd gennym ledled Cymru.
Amcangyfrifir bod y weledigaeth a gyflwynir yn strategaeth ynni gogledd Cymru yn mynd i arwain at 24,400 o swyddi net ychwanegol a chynnydd cysylltiedig yn y gwerth ychwanegol gros o tua £2.4 biliwn yn y cyfnod hyd at 2035, o'i gymharu â busnes fel arfer. Ac mae hynny'n gwbl gysylltiedig â darparu technolegau cynhyrchu trydan adnewyddadwy yn gyflymach a lefelau uwch o effeithlonrwydd ynni i fynd gyda hynny. Mae'n amcangyfrif y bydd dros 1,200 yn fwy o swyddi twf yn gysylltiedig â darparu technolegau gwresogi carbon isel mewn senario o'r fath, yn gysylltiedig â £192 miliwn arall o werth ychwanegol gros.
Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi ei bod yn ddyletswydd ddiamheuol ar bob un ohonom i weithio tuag at sicrhau ein bod yn pwysleisio perchnogaeth gymunedol, neu ryw gyfran o berchnogaeth gymunedol lle y bo'n bosibl, a pherchnogaeth gymunedol a all hefyd gynnwys perchnogaeth awdurdodau lleol a pherchnogaeth y Llywodraeth lle y bo'n briodol i gynorthwyo cymunedau i gael troedle yn y strwythur perchnogaeth. Ond mae hefyd yn cynnwys sicrhau bod gennym y sylfaen sgiliau gywir i ddenu'r swyddi cywir yma, fel nad y swyddi cynnal a chadw ac adnewyddu yn unig sydd gennym, ond y swyddi peirianneg, cynllunio ac adeiladu sy'n dod gyda hwy—y swyddi pen uchaf a'r swyddi rheoli sy'n dod gyda hynny hefyd. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, ac rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'n partneriaethau rhanbarthol i sicrhau hynny.
Yn olaf, cwestiwn 8, Tom Giffard.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Dŵr Cymru i liniaru perygl llifogydd yng Ngorllewin De Cymru? OQ57683
Diolch, Tom. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu awdurdodau rheoli risg, megis awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, i leihau perygl llifogydd. Dŵr Cymru sy'n gyfrifol am reoli eu hasedau carthffosiaeth eu hunain. Rydym yn annog pob parti i gydweithio i fynd i'r afael â pherygl llifogydd i'n holl gymunedau.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Efallai eich bod yn ymwybodol o'r penderfyniad a wnaed gan Dŵr Cymru i gau pont Faerdre sy'n croesi Afon Tawe yng Nghlydach yn fy rhanbarth i. Canfu arolwg strwythurol a gynhaliwyd gan Dŵr Cymru dair blynedd yn ôl nad oedd y bont yn ddiogel ac yn hytrach na'i hatgyweirio, fe wnaethant gau'r bont. Mae trigolion lleol wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod yn pryderu bod malurion bellach yn cronni ac yn ffurfio argae a allai arwain at broblemau llifogydd difrifol yn yr ardal, yn enwedig gan y gwyddys bod yr afon yn codi i gwrdd â'r bont yn ystod glaw trwm. Mae cau'r bont hefyd yn achosi aflonyddwch sylweddol yn y gymuned. Er enghraifft, mae Clwb Rygbi Faerdre yn defnyddio'r bont i'w chwaraewyr a'u cefnogwyr allu cyrraedd eu caeau, ac maent bellach yn gorfod teithio dros filltir o'u hystafelloedd newid i'r cae. Roedd y clwb rygbi hefyd yn weithgar yn y gymuned ac yn clirio'r malurion pan gâi'r bont ei defnyddio, ond gan ei bod bellach wedi'i chau, ni allant wneud hynny, a dyna, felly, sy'n achosi'r pryder llifogydd yn y gymuned y soniais amdano'n gynharach.
Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa werth y disgwyliwch i Dŵr Cymru ei roi ar bwysigrwydd ased i gymuned wrth ystyried pa gamau y mae'n mynd i'w cymryd? Hefyd, pa waith cynnal a chadw ac atal llifogydd y disgwyliwch i Dŵr Cymru ei wneud ar ased o'r fath sydd ar gau i'r cyhoedd? Yn olaf, a wnewch chi ofyn am eglurhad gan Dŵr Cymru ar ran pobl Clydach ynglŷn â'u cynlluniau ar gyfer pont Faerdre yn y dyfodol ac a wnânt ystyried cadw neu ailagor y bont y mae cynifer o drigolion y gymuned honno'n dibynnu arni?
Byddwn yn disgwyl i Dŵr Cymru ystyried hierarchaeth o bethau. Y cyntaf yw atal llifogydd. Dyna'r cyntaf yn bendant iawn—atal anaf neu golli bywyd ac atal llifogydd; dyna'r peth cyntaf y mae'n rhaid iddynt ei wneud. Felly, os ydynt yn edrych ar falurion yn cronni o amgylch y bont ac yn y blaen, mae disgwyl iddynt ei glirio. Mae disgwyl iddynt weithio ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdodau lleol, ac asiantaethau eraill sy'n gyfrifol am hynny, gan gynnwys—nid wyf yn gwybod am yr enghraifft a roddwch, ond gan gynnwys perchnogion y glannau ac yn y blaen, i sicrhau bod y rheini yn y cyflwr gorau posibl i ymdopi ag unrhyw stormydd ychwanegol ac yn y blaen. Felly, dyna'r peth cyntaf y mae angen iddynt ei wneud. Wedyn, yr ail beth y mae angen iddynt ei wneud yw sicrhau bod yr holl amwynderau lleol yn cael eu hadfer mor gyflym â phosibl a sicrhau eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd mor amserol â phosibl.
Nid wyf yn gyfarwydd â'r digwyddiad a nodwch, felly byddwn yn eich annog i ysgrifennu ataf gyda manylion y digwyddiad, a gallaf edrych wedyn ar y manylion ar eich cyfer. Ond yn gyffredinol, y peth cyntaf, yn amlwg, yw atal llifogydd ac anaf a cholli bywyd, wedyn sicrhau bod asedau seilwaith mor ddiogel ag y gallant fod, ac yna sicrhau bod amwynderau'n cael eu hadfer cyn gynted â phosibl.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynnydd tuag at gyflawni'r targedau a nodir yn 'Cymraeg 2050'? OQ57717
Ddoe cyhoeddais adroddiad blynyddol 'Cymraeg 2050' ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21. Mae'n nodi cynnydd yn erbyn ein targedau. Pan fydd canlyniadau cyfrifiad 2021 wedi'u cyhoeddi, byddwn yn ailedrych ar y taflwybr ystadegol tua'r filiwn, fel yr addewais fis Gorffennaf y llynedd wrth gyhoeddi ein rhaglen waith ar gyfer 2021-26.
Diolch, Weinidog. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb, dim ots os ydyn ni'n siarad yr iaith ai peidio.
Ond mae sylwadau annymunol yn ddiweddar wedi ceisio ail-greu rhaniadau ynghylch y Gymraeg. Mae Jeremy Bowen, Jonathan Meades ac eraill wedi cael eu beirniadu'n briodol, ond gallai hyn, yn eironig, fod yn gyfle, oherwydd gallai cynlluniau'r Llywodraeth gyda 'Cymraeg 2050' ganolbwyntio nid yn unig ar gynyddu nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg, er mor hanfodol yw hynny, ond gallent ganolbwyntio hefyd ar greu amodau ffafriol. Rhaid mai rhan o hyn yw cynyddu'r ymdeimlad o berchnogaeth y mae'r di-Gymraeg yn ei deimlo ar yr iaith sy'n cyfoethogi pob un ohonom mewn cymdeithas. Mae rhai o'r ymgyrchwyr mwyaf brwd y gwn amdanynt dros addysg Gymraeg yn bobl a gafodd eu hamddifadu o'r cyfle i ddysgu Cymraeg pan oeddent yn ifanc. Felly, Weinidog, sut y credwch chi y gall cynlluniau a thargedau'r Llywodraeth weithio ar y cyd â'r angen i gynyddu'r lefel hon o gefnogaeth i'r Gymraeg ymhlith y rhai na allant ei siarad? Sut y gallwn sicrhau bod pawb sy'n byw yng Nghymru a phawb sy'n teimlo'r ymdeimlad hwn o berthyn i Gymru—eu bod yn teimlo bod yr iaith, hefyd, yn perthyn iddynt hwy a bod ganddynt ran i'w chwarae yn ei stori?
Os caf, hoffwn ategu'r teimlad yn y cwestiwn yn llwyr; rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddisgrifiwyd gennych yn eich cwestiwn. Mae'n wych fod gan 86 y cant o oedolion Cymru ymdeimlad o falchder ynghylch y Gymraeg, boed yn ei siarad ai peidio. Ystyriwch yr ystadegyn hwnnw; mae'n wych fel rhyw fath o fan cychwyn ar gyfer y dadansoddiad.
Fel y dywedais yn y datganiad ddoe, credaf mai un o'r pethau y mae'n rhaid inni ei wneud yw sicrhau ein bod yn annog pawb, hyd yn oed os mai gair neu ddau o Gymraeg sydd ganddynt, ac mae gan y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru air neu ddau o'r iaith, i ddefnyddio'r geiriau hynny, oherwydd, mewn gwirionedd, drwy greu'r defnydd o'r Gymraeg yn gyhoeddus, hyd yn oed yn y ffordd fach hon, y byddwn yn helpu ein gilydd ar hyd y daith honno.
Mae llawer o bobl yn teimlo, efallai, nad yw eu Cymraeg cystal ag yr hoffent iddi fod, a chredaf y dylem newid y disgwyliad a dweud, 'Defnyddiwch y Gymraeg sydd gennych; dysgwch ychydig bach mwy o eiriau a defnyddiwch ychydig bach mwy bob dydd.' Drwy wneud hynny, byddwn yn gwneud cynnydd gwirioneddol tuag at y miliwn o siaradwyr Cymraeg ac yn dyblu'r defnydd o'r Gymraeg bob dydd.
Mae 'Cymraeg 2050' yn cydnabod pwysigrwydd cymunedau Cymraeg eu hiaith fel lleoedd sy'n hwyluso'r defnydd o'r iaith ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd. Fodd bynnag, gyda Llywodraeth Cymru ond yn darparu 4,616 o'r 12,000 o gartrefi newydd sydd eu hangen bob blwyddyn yng Nghymru, mae prinder enfawr o dai i'n cenedlaethau ieuengaf allu aros yn eu trefi neu eu pentrefi eu hunain. Yn wir, gadawodd cyfanswm cronnol o 14,240 o bobl ifanc yn y grŵp oedran 20 i 29 bedair sir yng Nghymru rhwng 2012 a 2016. [Torri ar draws.] Amlygodd yr ymgynghoriad ar gynllun tai cymunedau Cymraeg eich bod yn ystyried opsiynau i helpu pobl leol i gael gafael ar dai fforddiadwy. Weinidog, mae llawer o bobl ifanc Cymraeg eu hiaith yn dod o ffermydd ac fel y cyfryw, mae eu teuluoedd yn berchen ar dir. Mae nodyn cyngor technegol 6 yn caniatáu datblygiad preswyl newydd ar ei ben ei hun mewn ardal wledig agored i weithwyr mentrau gwledig, ond a ydych erioed wedi ystyried cynnal trafodaethau gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i ehangu efallai—[Torri ar draws.] Ie, gallech ei wneud yn awr.
Gadewch i'r Aelod barhau â'i chwestiwn. Rwy'n siŵr ei bod yn dod ato'n fuan.
Ydw. Ymhelaethu ar TAN 6 fel y gall plant ffermwyr ei chael yn haws sicrhau caniatâd cynllunio i adeiladu cartrefi ar dir eu teuluoedd eu hunain. Diolch.
Wel, credaf fod y cwestiwn yn fodel o graffu trawslywodraethol, o ran—[Torri ar draws.]—o ran ei ehangder a'i gwmpas, sy'n ganmoladwy. Rwy'n credu, braidd yn groes i'r sylwadau y clywais yr Aelod yn eu gwneud y bore yma am y cynigion y mae'r Llywodraeth yn eu cyflwyno mewn perthynas â'r dreth gyngor er budd rhai o'r cymunedau y mae'n eu nodi'n briodol yn ei chwestiwn—[Torri ar draws.] Y mae'n eu nodi'n briodol yn ei chwestiwn—
Parhewch, Weinidog, ie.
—fel pryder penodol i lawer ohonom yn y Siambr hon. Gwn o'r trafodaethau a gawsom mewn lleoliad preifat ei bod yn rhannu llawer o'r pryderon hynny hefyd. Byddwn yn anghytuno â'r ffigurau a roddwyd gennych mewn perthynas â darpariaeth tai, a gwn fod fy nghyd-Aelod yma, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn anghytuno'n angerddol â hwy wrth fy ochr i yma hefyd. Ond rwy'n croesawu ei hymrwymiad i sicrhau bod ein cymunedau Cymraeg, lle mae'r Gymraeg yn brif iaith, yn cadw eu bywiogrwydd a'u ffyniant yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio ei bod wedi manteisio ar y cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad a ddaeth i ben yn ystod yr wythnos ddiwethaf a byddaf yn edrych ymlaen at ddarllen ei sylwadau os yw hi wedi gwneud hynny.
2. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael i ddatrys yr anghydfod pensiwn mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru? OQ57697
Mae prifysgolion wrth gwrs yn gyrff annibynnol ar y Llywodraeth, ac yn gyfrifol felly am eu materion gweinyddol eu hunain. Does gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ddim awdurdod i ymyrryd yn y trafodaethau hynny ond, wrth gwrs, rŷn ni'n gobeithio y byddan nhw'n cyrraedd diweddglo hapus.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Braint oedd cyfarfod â rhai o’r streicwyr heddiw ar risiau’r Senedd ac roedden nhw'n canmol fy nghyfeillion i Sioned Williams a Mike Hedges am y gefnogaeth y maent wedi’i rhoi iddyn nhw.
Dylai pensiwn teg fod yn hawl sylfaenol i bob gweithiwr yng Nghymru, ac mae’r ffaith eu bod nhw'n torri pensiynau diwedd cyflogaeth gan 35 y cant yn hollol warthus, a hynny wedi'i seilio ar dystiolaeth sydd wedi'i dyddio bellach. Mae’r wybodaeth newydd yn dangos bod y deficit yn y pensiwn wedi torri yn ddifrifol yn ystod y pandemig, ac mae ffigurau cyllideb prifysgolion wedi bod yn iachus iawn, gyda nifer y myfyrwyr sy’n mynd i brifysgolion wedi aros yn gyson a chynyddu. Mae hynny’n dangos safon y gweithwyr sydd gyda ni yn y system addysg uwch.
Dwi'n derbyn yr hyn rŷch chi'n ei ddweud, bod prifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill yn annibynnol, ond mae yna ddylanwad gyda chi, Weinidog, a dwi'n gobeithio y byddech yn gwneud mwy na jest dymuno’n dda, ac yn defnyddio eich dylanwad i ysgrifennu at yr is-gangellorion, dangos eich cefnogaeth chi i weithwyr y system addysg uwch a dweud wrth yr is-gangellorion fod yn rhaid iddyn nhw ddod yn ôl at y bwrdd i negodi. Diolch yn fawr.
Wel, roeddwn i eisoes wedi gwneud fy nisgwyliadau’n glir i’r sector. Mae'n bwysig bod y negodiadau sy'n digwydd yn cyrraedd setliad sy'n adlewyrchu cyfraniad a buddiannau'r staff. Mae hynny'n bwysig o ran y gallu i sicrhau darpariaeth addysg uwch, ond hefyd o ran sicrhau ein bod yn gallu denu pobl i mewn—myfyrwyr ac i ddysgu hefyd. Rwyf hefyd wedi esbonio bod angen bod yn dryloyw ac yn atebol o ran y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud a'r incwm sy'n dod i mewn i'n prifysgolion ni. Felly, rwyf wir yn gobeithio y bydd hyn yn gallu cyrraedd diweddglo sydd yn adlewyrchu buddiannau’r staff hefyd.
Rydym i gyd eisiau gweld datrys yr anghydfod hwn, Weinidog, a deallaf, yn amlwg, fod addysg uwch yn gorff annibynnol a'u bod yn gyfrifol am y trafodaethau ar yr agwedd benodol hon. Mae llawer o darfu wedi bod ar addysg myfyrwyr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gyda COVID a gweithredu diwydiannol yn awr. Rydym mewn cyfnod tyngedfennol i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr, sy'n gorfod cwblhau eu traethodau hir erbyn mis Ebrill, i gael eu marciau'n barod ar gyfer eu graddau, gobeithio. Lle cafodd cyfleusterau eu cau a lle cafodd gwasanaethau eu tynnu'n ôl i fyfyrwyr, a fyddech yn cefnogi y dylid eu had-dalu? Oherwydd, yn amlwg, mae myfyrwyr wedi talu'r prifysgolion hynny gan ddisgwyl amser tiwtorial ac amser addysgol wyneb yn wyneb, ac os oes gweithredu diwydiannol yn digwydd yn y sector addysg uwch nad yw'n cael ei ddarparu, ac mewn unrhyw sector arall, byddech yn disgwyl rhywfaint o ad-daliad. Felly, a fyddech yn cefnogi ad-dalu myfyrwyr nad ydynt wedi cael y gwasanaeth hwnnw wedi'i ddarparu iddynt?
Wel, mae prifysgolion wedi darparu ystod o wahanol ffyrdd y gall myfyrwyr barhau â'u haddysg, hyd yn oed yn amgylchiadau heriol iawn y ddwy flynedd ddiwethaf mewn gwirionedd. Ac mae hynny wedi golygu cynnig dull cyfunol, ac rwy'n siŵr na fyddai'r un ohonom eisiau ei weld fel y norm, ond mae wedi bod yn ffordd o gynnal profiad myfyrwyr, a hynny gyda rhywfaint o arloesedd ar rai campysau yn arbennig, rwy'n credu. Lle mae myfyrwyr yn teimlo bod ganddynt bryder penodol am gwrs penodol, mae ganddynt hawl i'w drafod â'u hundebau myfyrwyr—byddwn yn eu hannog i wneud hynny—a thrwy'r prifysgolion eu hunain.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Jones.
Diolch, Lywydd. Weinidog, credaf fod y ddau ohonom yn rhannu awydd i ddiogelu addysg ar gyfer y dyfodol yng Nghymru, yn enwedig ar ôl Brexit, sy'n cyflwyno ac a fydd yn cyflwyno cynifer o gyfleoedd rhyngwladol wrth symud ymlaen. Mae angen inni sicrhau bod disgyblion o Gymru yn cael y cyfleoedd gorau a'u bod yn gallu cystadlu ar lwyfan byd-eang. Siaradais yn ddiweddar yn y Siambr am fanteision darparu ieithoedd modern a rhyngwladol ar draws ein lleoliadau addysgol, felly ni wnaf ailadrodd hynny. Ac mae'n ymddangos yn glir, o'r arian y mae Llywodraeth Cymru wedi'i neilltuo ar gyfer yr agwedd hon ar ddysgu, eich bod yn cydnabod y manteision hynny hefyd, Weinidog. Felly, er eich bod wedi darparu cyfanswm o £5.7 miliwn i raglen Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru, a chynyddu'r cyllid 71.8 y cant ers 2015, tybed sut y mae nifer y cofrestriadau TGAU mewn Ffrangeg ac Almaeneg wedi gostwng 41.2 y cant a 45 y cant yn y drefn honno. Mewn cyferbyniad, yn Lloegr, cafwyd cynnydd amlwg yn Ffrangeg a Saesneg o 2019-20. Ac am y tro cyntaf ers dechrau cadw cofnodion, yn Lloegr, denodd Sbaeneg dros 100,000 o gofrestriadau—bron i ddwbl cyfanswm 2005. Mae'n amlwg, mewn cymhariaeth, Weinidog, fod rhywbeth yn y rhaglen Dyfodol Byd-eang yn methu. A allech chi egluro i'r Senedd sut y bydd unrhyw arian newydd ar gyfer y rhaglen aflwyddiannus hon yn gwrthdroi'r gostyngiad hwn? Diolch.
Wel, byddwn yn anghytuno â'r argraff y mae'r cwestiwn yn ei roi, mae arnaf ofn, sef bod hon yn her sy'n benodol i Gymru. Nid yw hynny'n ei wneud yn llai o her yng Nghymru, ond mae'n dweud rhywbeth wrthym am natur yr her, sef bod dirywiad cyffredinol, mewn gwirionedd, mewn ieithoedd tramor modern ledled y DU. Felly, rwy'n credu ei bod yn sefyllfa drist y mae'n rhaid i bob un o bedair gwlad y DU ymgodymu â hi. Credaf fod y gwaith y mae partneriaid wedi bod yn ei wneud drwy'r rhaglen Dyfodol Byd-eang—. Ffocws y rhaglen honno oedd hyrwyddo a chodi proffil ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru yn gyffredinol. Rydym yn gweithio gydag Estyn, gyda'r consortia rhanbarthol, gyda phrifysgolion, gyda Cymwysterau Cymru, ac yn y cymysgedd hwnnw, mae cyfoeth o brofiad ac adnoddau i gefnogi ein hysgolion yng Nghymru. Ond rwy'n credu mai un o'r cyfleoedd allweddol, wrth inni gyflwyno'r cwricwlwm newydd, a diwygio ein cymwysterau, yw ehangu'r dewis sydd ar gael i'n dysgwyr, a chredaf y bydd yr hyblygrwydd ychwanegol a ragwelwn yn ein helpu gyda'r her hon hefyd.
Diolch, Weinidog. Rwyf am ailadrodd: mewn cyferbyniad, yn Lloegr, cafwyd cynnydd amlwg mewn Ffrangeg a Sbaeneg o 2019-20, ac ers dechrau cadw cofnodion, mae Sbaeneg wedi cynyddu i 100,000 a mwy. Mae'n hollol wahanol i'n niferoedd ni, sy'n gostwng. Hefyd, rydym wedi gweld niferoedd athrawon ieithoedd tramor modern mewn Almaeneg a Ffrangeg yn gostwng 14 y cant a 15 y cant yn y drefn honno dros y pum, chwe blynedd diwethaf. Ai un o'r rhesymau pam fod y rhaglen Dyfodol Byd-eang yn methu yw prinder athrawon, ac, os felly, pa gamau yr ydych yn eu cymryd i unioni hynny, os gwelwch yn dda, yn benodol, fel y dywedoch chi, am fod y cwricwlwm newydd yn rhoi cynifer o gyfleoedd i ni, fel y mae newid y diwrnod ysgol o bosibl? Felly, mae angen inni gael yr athrawon hyn ar waith fel y gall pobl fanteisio ar y cyfleoedd hynny ym maes ieithoedd modern os dymunant, wrth symud ymlaen. Diolch.
Rwy'n cytuno â'r her y mae'r Aelod yn ei disgrifio o ran recriwtio. Wrth gwrs, mae gennym gynllun cymhelliant i annog athrawon i bynciau fel y rhai y cyfeirir atynt, sydd wedi bod yn heriol o ran recriwtio yn y gorffennol. Ac mewn gwirionedd, mae'r cynlluniau hynny'n arwain at ganlyniadau buddiol. Rwy'n credu bod cymysgedd o heriau, mewn gwirionedd. Un o'r agweddau ar ddiwygio addysg a allai effeithio ar sut y gallai hyn edrych yn wahanol yn y dyfodol yw rhyngwladoli'r system addysg yn gyffredinol yng Nghymru drwy'r rhaglen Taith, sydd, er bod y ffocws wedi bod ar addysg uwch, hefyd o fudd i addysg bellach, ysgolion hefyd, a gwasanaethau ieuenctid. Felly, rwy'n credu bod cyfle cyffrous iawn yn rhan o hynny i godi proffil pwysigrwydd ieithoedd tramor modern yn ein hysgolion, ochr yn ochr â'r cwricwlwm newydd, yn ogystal ag addysgu'r Gymraeg, wrth gwrs.
Diolch, Weinidog. Nawr, gan symud i bwnc mwy sobreiddiol, ond un pwysig i fynd i'r afael ag ef heddiw, Weinidog, mae'r sefyllfa yn Wcráin yn dorcalonnus, ac yn sicr nid yw'n rhywbeth yr oedd unrhyw un ohonom yn meddwl y byddem byth yn ei weld eto yn Ewrop, rwy'n siŵr. Fe'i gwnaed yn glir ddoe ein bod ni i gyd eisiau gweld Cymru fel lloches i ffoaduriaid Wcráin sy'n dianc rhag y gwrthdaro. Er mwyn darparu ar gyfer y plant a darparu'r addysg y maent ei hangen ac yn ei haeddu pan fyddant yma, mae angen inni fod yn barod.
Weinidog, gyda phrinder athrawon cyffredinol ledled Cymru, a nifer fawr o ysgolion yn llawn, pa gamau yr ydych yn eu cymryd i sicrhau ein bod yn gallu croesawu'r plant hyn i'n system addysg yng Nghymru gyda breichiau agored?
Wel, rwy'n anghytuno â'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynghylch prinder cyffredinol o athrawon yn ein system. Nid wyf yn credu bod hwnnw'n adlewyrchiad teg o'r sefyllfa yr ydym ynddi o bell ffordd, ond byddwn yn cytuno â'r teimlad yn ei chwestiwn ynghylch pa mor bwysig yw hi ein bod ni yng Nghymru yn gallu estyn ein croeso i'r rhai sy'n gadael ac yn ffoi o Wcráin. A bydd yr Aelod wedi clywed y pwyntiau a wnaeth y Prif Weinidog ddoe yn y Siambr mewn perthynas â'n huchelgeisiau fel cenedl yn y cyd-destun hwnnw, ac efallai eich bod hefyd wedi clywed bod trafodaethau gyda phartneriaid llywodraeth leol ynglŷn â sut y gallwn gydweithio i sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i groesawu'r rhai a allai symud yma—ac rydym yn gobeithio y byddant yn gwneud hynny—a bydd hynny'n rhan o'r trafodaethau hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Llywydd, a hoffwn ddatgan diddordeb bod fy ngŵr yn gweithio i Brifysgol Abertawe.
Heddiw, mae myfyrwyr o Gymru yn cymryd rhan mewn streic a drefnwyd gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, a nod y streic yw dychmygu gweledigaeth newydd ar gyfer addysg, ac mae hefyd yn dangos cefnogaeth i'r camau diwydiannol a gymerwyd gan aelodau'r Undeb Prifysgolion a Cholegau, lle mae staff ym Mhrifysgol Abertawe a'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn mynd ar streic ynghylch contractau ansicr, llwyth gwaith annheg a thoriadau i'w pensiynau. Mae'r weledigaeth newydd hon o addysg uwch ac addysg bellach hygyrch wedi'i hariannu'n llawn, gyda chyflogau, pensiynau ac amodau priodol i staff yn rhywbeth y mae arnom ei angen yn ddirfawr.
Ar 28 Ionawr, cyhoeddodd Gweinidog prifysgolion Llywodraeth y DU y byddai'r trothwy ad-dalu a throthwyon cyfradd llog sy'n gymwys i fenthyciadau myfyrwyr cynllun 2 a chynllun 3 yn cael eu rhewi yn 2022-23. Mae'r trothwyon wedi codi gydag enillion cyfartalog yn y gorffennol. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi dweud bod hwn, i bob pwrpas, yn gynnydd treth llechwraidd ar raddedigion.
Weinidog, rydych wedi cadarnhau y byddai'r rhewi'n berthnasol i raddedigion o Gymru, er bod polisi addysg a rhannau sylweddol o'r system cyllid myfyrwyr wedi'u datganoli. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn ddi-rym i wrthwynebu'r rhewi hwn, a fydd yn ychwanegu cannoedd o bunnoedd at filiau treth graddedigion Cymru sydd eisoes yn wynebu effeithiau'r argyfwng costau byw, ac nid dyma'r unig faes lle mae myfyrwyr yn wynebu costau cynyddol. Mae rhent cyfartalog myfyrwyr yng Nghymru wedi codi 29 y cant yn ystod y tair blynedd diwethaf, sy'n golygu ei fod bellach yn mynd â 60 y cant o uchafswm y pecyn cymorth i fyfyrwyr yng Nghymru, a hyn oll er ein bod yn gwybod bod myfyrwyr yn wynebu cynnydd mewn biliau ynni o ganlyniad i'r cynnydd arfaethedig yn y cap ar brisiau.
Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi myfyrwyr a graddedigion yn ystod yr argyfwng costau byw? Diolch.
A gaf fi wneud sylwadau ar y pwynt cyntaf y mae'r Aelod yn ei wneud mewn perthynas â'n huchelgeisiau ar gyfer y system addysg yng Nghymru? Ac rwy'n cytuno â hi fod yr egwyddor sy'n sail i'r system addysg uwch yng Nghymru yn llawer mwy blaengar na'r hyn a ddywedai sy'n digwydd dros y ffin mewn perthynas â chyllid myfyrwyr. Mae'n amlwg y bydd yn gwybod bod pob myfyriwr israddedig amser llawn yng Nghymru yn cael gwerth o leiaf £1,000 o grant a chymorth ychwanegol, lle bynnag y dewisant astudio yn y DU, ac mae gennym bolisi mwy blaengar mewn perthynas ag astudio rhan-amser hefyd.
Un gwahaniaeth llai amlwg, neu un sy'n cael ei drafod yn llai aml, sydd gennym yng Nghymru hefyd yw bod Llywodraeth Cymru yn gwneud darpariaeth i ganslo hyd at £1,500 o ddyled benthyciadau cynhaliaeth ar gyfer pob myfyriwr sy'n dechrau ad-dalu. Cymru yw'r unig ran o'r DU sy'n gwneud hynny, ac rydym yn falch iawn o gael system gyllido fwy blaengar yma yng Nghymru.
Ar y pwynt a wnaeth am y trothwy benthyciadau, y gwneuthum ddatganiad ysgrifenedig amdano yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, rhan o'r her a wynebwn yma yng Nghymru, er bod llawer o'r pwerau yn ein dwylo ni mewn perthynas â chyllid myfyrwyr, yw nad yw'r gallu i weithredu polisi gwahanol ar lawr gwlad yn ein dwylo ni. Mae hwnnw'n gwestiwn i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi mewn sawl ffordd a chyrff eraill nad ydynt wedi'u datganoli. A phan wneir penderfyniad polisi ar fyr rybudd fel yn yr achos hwn, nid yw'n bosibl ymateb iddo mewn ffordd wahanol yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Fodd bynnag, yn ystod y dyddiau diwethaf, bydd wedi gweld ystod o gynigion eraill a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â diwygio cyllid myfyrwyr, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion weithio gyda swyddogion y Trysorlys a swyddogion Llywodraeth y DU i weld faint o le sydd gennym i symud yng Nghymru fel y gallwn wneud dewisiadau gwahanol i'r rhai a wneir mewn amgylchiadau gwahanol iawn dros y ffin.
Diolch, Weinidog. Sefydlwyd Cymwysterau Cymru ym mis Awst 2015, ac mae'n gorff rheoleiddio annibynnol a sefydlwyd i sicrhau bod cymwysterau'n effeithiol ar gyfer diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru ac i hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn cymwysterau a system gymwysterau Cymru. Rhaid i Cymwysterau Cymru lunio adroddiad blynyddol sy'n nodi sut y mae wedi arfer ei swyddogaethau. Fodd bynnag, nid oes gofyniad cyfreithiol i Cymwysterau Cymru gael ei adolygu'n annibynnol ar ôl cyfnod penodol o amser. Nid yw'r trefniadau presennol yn caniatáu adolygiad annibynnol rheolaidd i sicrhau bod y corff yn gweithio er lles gorau'r sector addysg a bod ganddo'r pwerau priodol i gyflawni ei ddiben, yn enwedig pan fyddwn yn meddwl yn awr am y newidiadau sylweddol sy'n cael eu gwneud ar hyn o bryd i gymwysterau a TGAU fel y gwelsom yn ddiweddar.
Yn Lloegr, mae Ofqual yn defnyddio bwrdd cynghori ar safonau, sy'n cynnwys arbenigwyr asesu annibynnol, i adolygu ymchwil a gwneud argymhellion ar gynnal safonau. Yn yr un modd, sicrhaodd Deddf Awdurdod Cymwysterau'r Alban 2002 fod cyngor ymgynghorol yn cael ei sefydlu fel rhan o Awdurdod Cymwysterau'r Alban. Mae'r cyngor hwn yn rhoi cyngor cyson i Awdurdod Cymwysterau'r Alban a Gweinidogion yr Alban ac yn caniatáu darpariaeth gysylltiedig neu atodol fel y gwêl Gweinidogion yr Alban yn dda. Felly, byddai'n dda gennyf glywed a yw'r Gweinidog yn cytuno y byddai'n fuddiol i Cymwysterau Cymru ddilyn yr enghreifftiau hyn o strwythurau llywodraethu statudol a chael eu hadolygu'n rheolaidd ac yn annibynnol i helpu i gyflawni nodau craidd y corff. Diolch.
Wel, bydd angen imi atgoffa fy hun mewn cyd-destun gwahanol o sylfaen statudol rhai o'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi yn ei chwestiwn a rhai o'r cwestiynau penodol ynghylch y manylion llywodraethu y mae'n cyfeirio atynt, ac rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud ar hyn o bryd yw bod rhaglen ddiwygio sylweddol iawn ar y gweill mewn perthynas â chymwysterau yng Nghymru, lle rwy'n gwybod, yn y trafodaethau a gawsom yn y cytundeb cydweithio, fod gennym uchelgais gyffredin i gael cyfres uchelgeisiol a radical o ddiwygiadau i'n cymwysterau yng Nghymru i adlewyrchu'r cwricwlwm newydd, ond hefyd i adlewyrchu'r dirwedd newidiol yn y byd cymwysterau galwedigaethol, er enghraifft. Ac mae gan bob un ohonom nifer o gyfleoedd ar hyn o bryd i ymgysylltu â Cymwysterau Cymru i helpu i lunio rhywfaint o hynny, fel bod y gwaith y maent yn ei wneud ar ein rhan yn adlewyrchu anghenion dysgwyr yng Nghymru yn y ffordd orau sy'n bosibl. Felly, byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd y mae'r cymwysterau hynny'n gweithio yn y byd go iawn a'r budd y maent yn ei ddarparu i'n dysgwyr i ymgysylltu. Mae cyfle gwirioneddol i ni i gyd wneud hynny yn awr.
3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gasglu a defnyddio data biometrig disgyblion mewn ysgolion? OQ57698
O'n cyfarfod ym mis Rhagfyr, rwy'n gwybod y byddwch yn ymwybodol na allwn atal ysgolion yn gyfreithiol rhag casglu a defnyddio data biometrig. Fodd bynnag, o ganlyniad i'r trafodaethau a'r materion y mae'r Aelod wedi ein helpu i'w deall yn well, mae swyddogion wrthi'n adolygu'r canllawiau i ysgolion ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau, pan gaiff data ei gasglu a'i ddefnyddio, ei fod yn cael ei wneud yn y ffordd briodol.
Diolch. Ym mis Mawrth 2020, gosododd Bwrdd Diogelu Data Ewrop ddirwy ar ysgol Bwylaidd am ddefnyddio data biometrig, neu olion bysedd, ar gyfer 680 o blant yn ffreutur yr ysgol yn gyfnewid am eu prydau ysgol. Er y nodwyd bod yr ysgol wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan rieni, pwysleisiodd y bwrdd nad oedd data biometrig yn hanfodol ar gyfer arferion amser cinio. Ni chaent ddefnyddio dulliau sy'n ymyrryd â phreifatrwydd plant. Weinidog, gallwch ddychmygu fy arswyd pan gefais wybod bod yr un arferion hyn yn digwydd mewn ysgolion ledled Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl a ledled Cymru. Yn fwy pryderus fyth, mae'r defnydd o ddata biometrig yn cael ei werthu i ysgolion a rhieni gan gwmnïau diegwyddor fel opsiwn mwy diogel. Weinidog, ni allaf bwysleisio hyn ddigon: nid yw'n ddiogel nac yn gymesur. Gellir ailosod cyfrineiriau a chodau PIN. Pan fydd eich data biometrig wedi ei beryglu, mae wedi ei beryglu am oes. Mae'n atal y plant, am weddill eu hoes, rhag gallu defnyddio eu holion bysedd am resymau diogelwch. Rydym hefyd yn addysgu ein plant ac yn normaleiddio'r arfer o ddefnyddio eu cyrff yn gyfnewid am brydau bwyd fel rhan o drafodiad yn ein hysgolion ym mhobman. Credaf fod angen dadl ei hun ar y pwnc hwn, ond yn y cyfamser, a wnaiff y Gweinidog sicrhau bod diogelu data yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon a sicrhau, fan lleiaf, nad yw plant yn dioddef yn sgil tramgwyddau data wrth i dechnolegau sy'n dod i'r amlwg gyrraedd ein hysgolion?
Mae hwn yn fater pwysig iawn, ac rwy'n cymeradwyo'r Aelod yn llwyr am hyrwyddo'r mater yn gyson, ac os caf ddweud, mewn modd mor arbenigol, yn y Siambr a thu hwnt. Mae gan ysgolion opsiwn, fel y dywed yn ei chwestiwn, i ddefnyddio systemau biometrig fel un o'r dulliau dilysu a ddefnyddiant i ddarparu, er enghraifft, arlwyo heb arian yng nghyd-destun prydau ysgol am ddim ac yn y blaen. Mae hynny wedi helpu i ddileu rhywfaint o'r stigma.
Fodd bynnag, fel y dywedais, o ganlyniad i'r trafodaethau a gawsom, mae swyddogion wedi bod yn ymgysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Comisiynydd Plant Cymru, yn ogystal â Chomisiynydd Biometreg Cymru a Lloegr, er mwyn diwygio'r canllawiau hynny. Bydd y canllawiau'n cynnwys gwybodaeth fanwl am rwymedigaethau ysgolion mewn perthynas â diogelu data, asesiadau effaith ac, yn hollbwysig, asesiadau o'r effaith ar hawliau plant cyn gwneud penderfyniad i gyflwyno system fiometrig. Bydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan a bydd ar gael i rieni, i ofalwyr, ac i bobl ifanc eu hunain. Mae preifatrwydd dysgwyr ifanc yn gwbl hanfodol, a bydd y canllawiau'n atgyfnerthu'r neges nad yw cymryd rhan mewn system fiometrig yn orfodol a bod yn rhaid i rieni a gofalwyr roi caniatâd ysgrifenedig cyn y gellir casglu unrhyw ddata biometrig. Ac rwy'n gobeithio y byddai'n croesawu'r ffaith hefyd y bydd fersiwn addas i blant o'r canllawiau yn cael ei chyhoeddi hefyd fel bod plant a phobl ifanc yng Nghymru yn deall eu hawliau eu hunain i breifatrwydd yn y ffordd y maent yn ymdrin â'r mathau hyn o gwestiynau mewn ysgolion. Byddwn yn gofyn am adborth uniongyrchol gan ddysgwyr ifanc yn ddiweddarach y mis hwn ynghylch cynnwys y canllawiau hynny.
Weinidog, rwyf wedi gweld budd data biometrig mewn ysgolion, fel cynghorydd awdurdod lleol. Fe'i cyflwynwyd i helpu i leihau'r stigma ynghylch prydau ysgol am ddim. Pan fo pawb yn defnyddio'r un ciw a'r un system dalu, mae'n lleihau'r perygl o fwlio ac aflonyddu. Fodd bynnag, mae rhai rhieni a phlant yn poeni, ac yn poeni'n briodol, ynglŷn â'r defnydd o'r data biometrig a lle mae eu manylion yn cael eu storio ac a ydynt yn ddiogel. Felly, Weinidog, a wnewch chi achub ar y cyfle hwn i dawelu meddwl rhieni ac unigolion pryderus ynghylch risg tramgwyddau data yn dilyn gosod dyfeisiau biometrig, ac a allwch chi gadarnhau a fu unrhyw achosion o dramgwyddau data mewn ysgolion neu golegau ledled Cymru? Diolch, Lywydd.
Diolch i James Evans am y cwestiwn hwnnw. Fe'i cyfeiriaf at yr ateb a roddais i Sarah Murphy eiliad yn ôl mewn perthynas â hynny. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ysgolion neu golegau yng Nghymru sy'n defnyddio'r dechnoleg fiometrig fwy newydd megis systemau adnabod wynebau, er enghraifft, ond rwy'n ei sicrhau, fel y gwneuthum gyda Sarah Murphy, y bydd y canllawiau'n nodi ar gyfer ysgolion a rhieni a gofalwyr, ond hefyd ar gyfer dysgwyr, y fframwaith hawliau a'u hawliau mewn perthynas â hyn. Hefyd, mewn maes lle mae'r dechnoleg yn aml yn newid yn gyflym iawn, byddwn yn ymrwymo i adolygu hynny'n rhagweithiol wrth i dechnolegau newydd ddod i'r amlwg.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi myfyrwyr addysg uwch sy'n dymuno astudio iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru? OQ57716
Mae ein pecyn cymorth hael i fyfyrwyr a chynllun bwrsariaeth GIG Cymru yn galluogi myfyrwyr yn y meysydd hyn, ynghyd â'n buddsoddiad sefydliadol mewn pynciau cost uchel, gan gynnwys meddygaeth a deintyddiaeth. Rydym wedi ymrwymo i sefydlu ysgol feddygol gogledd Cymru, a fydd yn ategu'r addysg feddygol o ansawdd uchel sy'n bodoli eisoes yng Nghymru.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Mae'r pandemig coronafeirws wedi dangos i bawb ohonom pa mor bwysig ac allweddol yw gweithwyr cymdeithasol, ac os ydym am annog pobl i ymuno â'r proffesiwn gwaith cymdeithasol, rwy'n credu bod angen bwrsariaeth sy'n gydradd â bwrsariaeth y GIG y sonioch chi amdani. Mae pobl sydd am ymgymryd â'r hyfforddiant hwn yn aml yn hŷn ac maent yn aml o gefndir amrywiol iawn. Cefais y pleser o gwrdd ag ychydig o'r rheini y prynhawn yma, ac mae gwir angen y fwrsariaeth hon arnynt. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o ddeiseb sy'n mynd drwy broses pwyllgor y Senedd ar hyn o bryd, ac mae honno'n galw am ddileu'r holl rwystrau sy'n atal unigolion rhag cael mynediad at y proffesiwn ac mae'n galw am gydraddoldeb i'r fwrsariaeth a pharch cyfartal yn y cynnig hwnnw. A wnewch chi ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb i'r fwrsariaeth ac os felly, pryd?
Wel, fel y dywed yr Aelod, nid yw myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn gallu cael mynediad at fwrsariaeth y GIG, ond gallant gael mynediad at y fwrsariaeth gwaith cymdeithasol drwy Gofal Cymdeithasol Cymru, ac mae hwnnw'n rhoi cyllid iddynt tuag at gost eu ffioedd byw a dysgu. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol o'r sylwadau, gan gynnwys y rhai y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt, nad yw'r cyllid bwrsariaeth yn darparu'r un lefel o gyllid â bwrsariaeth gyfatebol y GIG, ac rydym wrthi'n adolygu ac yn asesu ein hopsiynau mewn perthynas ag ariannu hyfforddiant gwaith cymdeithasol. O 2022-23, bydd pob myfyriwr gwaith cymdeithasol ôl-raddedig sy'n derbyn y fwrsariaeth yn gallu cael benthyciad cyllid myfyrwyr ar gyfradd is, sy'n cau bwlch sydd wedi eu hatal rhag cael y math hwnnw o fenthyciad cyn hyn.
Weinidog, mae angen inni wneud popeth yn ein gallu i annog mwy o bobl ifanc i ystyried astudio ar gyfer gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn enwedig yn y gogledd, fel y sonioch chi o'r blaen, i atal y draen dawn y soniwn amdano'n aml. Ni fydd unrhyw swm o arian yn datrys yr argyfwng sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Nid prinder arian sy'n achosi ein rhestrau aros cynyddol ond prinder pobl. Felly, pa gamau a gymerwch i annog mwy o bobl i astudio pynciau STEM? A pha drafodaethau a gawsoch gyda phrifysgolion Cymru ynghylch y camau y gallant eu cymryd i'w gwneud yn haws i fyfyrwyr o Gymru astudio yn y maes hwn?
Ceir amrywiaeth o ymyriadau, y gweithiais arnynt gyda fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, mewn ysgolion mewn perthynas â hyn, ac mae angen sicrhau bod y pynciau STEM yn hygyrch ac yn ddeniadol i bob myfyriwr. Weithiau mae gogwydd rhywedd o fewn y pynciau hynny. Felly, credaf yn sicr fod mwy y gallwn i gyd ei wneud yn hynny o beth.
Mae rhai o'r diwygiadau y soniais amdanynt yn awr—diwygiadau i gymwysterau yn y dyfodol—wedi'u cynllunio'n benodol i agor mwy o gyfleoedd ar gyfer ystod ehangach o gymwysterau TGAU, gyda llawer ohonynt yn bynciau agos i STEM, er enghraifft ym meysydd peirianneg a gweithgynhyrchu. Credaf y bydd hynny'n creu diwylliant gwahanol a chyfres wahanol o ddisgwyliadau yn ein hysgolion, ac yn creu mwy o gyfleoedd i bobl astudio pynciau STEM neu bynciau sy'n berthnasol i STEM.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad at ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg? OQ57713
Gan weithio gyda phartneriaid, yn cynnwys awdurdodau lleol a Mudiad Meithrin, rydym yn buddsoddi'n sylweddol mewn darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg drwy ein grantiau cyfalaf, y rhaglen Sefydlu a Symud, a'n buddsoddiad yn y gweithlu. Rydym hefyd yn ariannu lleoedd cyfrwng Cymraeg drwy Dechrau'n Deg, y cynnig gofal plant, a'n darpariaeth addysg gynnar.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Nawr, mae gan Gwm Cynon nifer o gylchoedd meithrin llewyrchus, ym Mhenderyn, Aberdâr, Aberpennar ac Abercynon, ac mae'n bwysig eu bod yn gynaliadwy ac yn gallu cael gafael ar staff sydd â chymwysterau addas. Mae'r cymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gylchoedd meithrin a gyhoeddwyd gennych ychydig yn ôl i'w groesawu'n fawr wrth gwrs, a gwn ichi gyfeirio at Cam wrth Gam yn eich datganiad ar Ddydd Gŵyl Dewi ddoe, yn nodi uchelgais y Llywodraeth i feithrin y Gymraeg. Ond a allwch chi ddarparu ychydig mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i annog, hyrwyddo a chefnogi pobl i ddilyn gyrfaoedd ym maes gofal plant cyfrwng Cymraeg?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig hwnnw. Y cyfarfod diwethaf a gefais cyn dod i'r Siambr heddiw mewn gwirionedd oedd cyfarfod gyda'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn adolygu'r cynllun gweithlu 10 mlynedd ar gyfer y sector, a bûm yn nodi gyda hi beth arall y gallwn ei wneud i annog pobl ifanc i leoliadau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn ehangach. Ond mae rhaglen eang ac amrywiol o gymorth ar waith ar gyfer y gweithlu gofal plant, gwaith chwarae a blynyddoedd cynnar mewn perthynas â dysgu a gwella'r Gymraeg, sy'n cynnwys rhaglenni fel Camau, sef cwrs hunan-astudio lefel mynediad ar-lein, a chael mynediad at ddysgu yn y gweithle. Mae nifer o opsiynau ar gael hefyd i bobl sy'n ystyried ymuno â'r sector gofal plant, gyda phrentisiaethau a chyrsiau amser llawn a rhan-amser ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rydym yn ymwybodol, yn amlwg, fel y mae ei chwestiwn yn awgrymu, fod y nifer sy'n dilyn y cyrsiau hynny drwy gyfrwng y Gymraeg yn is nag yr hoffem iddynt fod, a byddwn yn gweithio i wella hyn yn ystod tymor y Senedd.
Gweinidog, ddoe cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer 11 o brojectau cyfalaf i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, a dwi'n falch o weld £2.5 miliwn yn cael ei ddyrannu i Ysgol Caer Elen yn fy etholaeth i, i ariannu 60 o leoedd cyfrwng Cymraeg ychwanegol i blant yn y tymor hir. Mae'r cyllid hwn i'w groesawu ac yn sicr o helpu gwella mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg yn sir Benfro, er mae hi yn hynod o bwysig bod plant yn gallu cael mynediad i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg ym mhob rhan o'r sir. Felly, a allwch chi ein diweddaru ni ar y trafodaethau rŷch chi wedi eu cael gyda Chyngor Sir Penfro ynglŷn â gwella mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg? Ac a allwch chi hefyd ddweud wrthym ni pa drafodaethau sydd wedi’u cynnal gyda Mudiad Meithrin, sydd hefyd yn chwarae rhan bwysig iawn wrth gyflwyno teuluoedd i’r Gymraeg drwy gynlluniau Cylch Ti a Fi a Chlwb Cwtsh, er enghraifft?
Wrth gwrs, mae’r awdurdod wedi cyflwyno’r cynllun strategol addysg Gymraeg yn ddiweddar i fi er mwyn cymeradwyo. Rwy'n edrych ar hynny ar hyn o bryd. Mae pob awdurdod yng Nghymru wedi cael gofyniad i fod yn uchelgeisiol ynglŷn â'r hyn maen nhw'n darparu o ran addysg Gymraeg dros y ddegawd nesaf. Dyma'r tro cyntaf i ni allu symud i gynllun dros ddegawd, a dwi'n credu bydd hynny'n hwyluso'r cynllunio ieithyddol, yn cynnwys ein hysgolion ni, wrth gwrs, ond hefyd y blynyddoedd cynnar.
Mae gennym ni gynllun o fuddsoddiad gyda Mudiad Meithrin dros dymor y Senedd hon. Rŷn ni wedi cyrraedd y nod diweddaraf o ryw 43. Mae 12 yn cael eu hagor yn y flwyddyn ariannol hon fel rhan o 60 dros dymor y Senedd hon hefyd. Rŷn ni'n gwybod bod y siawns y bydd rhywun yn mynd ymlaen i addysg Gymraeg lawer yn uwch os ydyn nhw wedi bod mewn addysg blynyddoedd cynnar Cymraeg hefyd, felly rwy’n rhannu gyda'r Aelod y flaenoriaeth i hynny.
6. Pa gyngor a chymorth y mae Llywodraeth Cymru'n eu darparu i ysgolion i sicrhau bod cyfranogiad mewn chwaraeon ar gael i bob myfyriwr? OQ57711
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi iechyd corfforol a lles holl ddysgwyr Cymru. Dyna pam fod hyrwyddo manteision gydol oes iechyd corfforol, gan gynnwys chwaraeon, yn rhan orfodol o bob cwricwlwm ym mhob ysgol a lleoliad yng Nghymru ar gyfer dysgwyr tair i 16 oed.
Diolch, Weinidog. Diolch am eich ymateb. Weinidog, fe fyddwch eisoes yn ymwybodol fod prif swyddogion meddygol y DU wedi cyhoeddi’r canllawiau cyntaf erioed yn ddiweddar ar weithgarwch corfforol i blant a phobl ifanc anabl. Argymhellir bellach fod pobl ifanc anabl yn cymryd rhan mewn oddeutu 20 munud o ymarfer corff y dydd, a gweithgareddau cryfder a chydbwysedd deirgwaith yr wythnos. Bydd y canllawiau hyn yn cyfrannu rhywfaint at y gwaith o gefnogi plant a phobl ifanc anabl i wella eu hiechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â chau’r bwlch iechyd ehangach rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Fodd bynnag, mae'n bwysig fod ysgolion a chyfleusterau addysgol eraill yn helpu i hwyluso cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol i bob dysgwr, a gall hynny fod yn eithaf anodd pan fo diffyg offer a chyfleusterau priodol, a'r cwricwlwm yn orlawn.
Weinidog, pa drafodaethau rydych chi a’ch swyddogion wedi’u cael ynglŷn ag effaith y canllawiau newydd ar addysgu chwaraeon mewn ysgolion, a pha gymorth arall y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i ysgolion i sicrhau bod ganddynt y cyfarpar sydd ei angen fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael mynediad cyfartal at chwaraeon a gweithgarwch corfforol?
Mae swyddogion yn ystyried hynny yn y ffordd rydych yn ei hawgrymu yn eich cwestiwn ar hyn o bryd. Cytunaf yn llwyr â'r pwynt a wnewch, sef ei bod yn hanfodol fod mynediad at weithgareddau chwaraeon a gweithgareddau corfforol mewn ysgolion ar gael ac yn hygyrch i'n holl ddysgwyr. Credaf fod honno’n egwyddor sy’n ategu pwysigrwydd iechyd a lles yn ein cwricwlwm newydd, a gwneuthum araith ychydig wythnosau yn ôl lle roeddwn yn awyddus i bwysleisio bod y cwricwlwm yn gwricwlwm i’n holl ddysgwyr, ac felly mae angen meddwl amdano yn y ffordd honno, a byddwn yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud o ran dysgu proffesiynol ac adnoddau i sicrhau bod y rhan honno o’r cwricwlwm mor gynhwysol ag y gall fod.
Diolch.
Mae COVID-19 wedi amharu ar bron bob rhan o’n bywydau, ond i lawer o bobl ifanc, maent wedi colli'r cyfleoedd cyntaf hollbwysig hynny i gymryd rhan mewn chwaraeon sy’n eu diddori a’u cyffroi, a dyma rai o’r blynyddoedd ffurfiannol pwysicaf. Mae pob un ohonom yn ymwybodol o'r manteision y gall chwaraeon eu creu i les corfforol a meddyliol ein pobl ifanc, ac mae'n rhaid inni sicrhau nad yw plant yn colli’r manteision hynny am flynyddoedd i ddod oherwydd y pandemig.
Pa rôl y mae’r Gweinidog yn gweld ein hysgolion yn ei chwarae wrth sicrhau bod ein cenhedlaeth ieuengaf yn dal i gael y cyfleoedd hyn, a beth arall y gallwn ei wneud i annog mwy o gyfranogiad mewn chwaraeon mewn ysgolion?
Credaf fod gan ysgolion rôl bwysig iawn yn sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael, a chredaf fod y disgwyliad gorfodol ar gyfer iechyd corfforol yn y cwricwlwm newydd o fis Medi ymlaen yn adlewyrchu'r rôl bwysig sydd gan ysgolion i'w chwarae yn hynny. Rydym yn gweithio’n galed yn y Llywodraeth i barhau i sicrhau y gall pob ysgol gynnig yr ystod honno o gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol o ansawdd uchel.
Byddwch wedi clywed y Dirprwy Weinidog yn sôn ddoe am y strategaeth newydd 'Pwysau Iach: Cymru Iach’, ond hefyd y cynnig gweithredol dyddiol hwnnw fel rhan o’r dull strategol ar gyfer ein holl ddysgwyr, ac mae rhan o hynny’n ymwneud â sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael mynediad i leoliadau lle mae iechyd corfforol a meddyliol yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Ac felly, bydd sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu rhaglen sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau drwy rwydwaith Cymru o gynlluniau ysgolion iach yn gyfraniad pwysig at hynny; y cynnig gweithredol dyddiol rwyf wedi sôn amdano hefyd, ynghyd â gwaith a wnawn gyda Chwaraeon Cymru a sefydliadau eraill yn y trydydd sector i sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad at gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Bydd hefyd yn ymwybodol o'r pecyn gaeaf llawn lles sydd wedi’i gyflwyno’n raddol dros yr ychydig wythnosau diwethaf, ac yn amlwg, rhan bwysig o hwnnw yw darparu sesiynau ychwanegol o amgylch y diwrnod ysgol i hybu llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain yn Abertawe? OQ57682
Rwy'n falch fod buddsoddiad arfaethedig gwerth £150 miliwn Abertawe yn yr ystad ysgolion yn parhau i wneud cynnydd cyflym, gyda phedwar prosiect eisoes wedi'u cwblhau. Golyga hyn fod mwy na £38 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn ysgolion yn Abertawe yn ystod ail don y buddsoddiad drwy raglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu.
A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei ymateb? Fis diwethaf, bûm yn agoriad swyddogol ysgol newydd Tan-y-lan, ysgol fy wyrion, a’r mis hwn, byddaf yn mynd i agoriad ysgol newydd Tirdeunaw. O'r chwe ysgol gyfun yn Abertawe, mae tair wedi'u hailadeiladu ar yr un safle, un wedi'i hadnewyddu'n llwyr ac un yn ysgol gymharol newydd. Yr unig ysgol sydd wedi cael gwaith brys arni yn unig yw Ysgol yr Esgob Vaughan, yr ysgol Gatholig leol. A wnaiff y Gweinidog gyfarfod â Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig, Cyngor Abertawe a’r ysgol i drafod ffordd o ailadeiladu’r ysgol ar y safle presennol?
Rwy’n gobeithio ymuno â chi yn agoriad ysgol Tirdeunaw a dweud y gwir, felly edrychaf ymlaen at y cyfle hwnnw. Yn amlwg, rydym yn ymwybodol fod angen adnewyddu ac ailadeiladu nifer o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ac mae fy swyddogion yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac awdurdodau esgobaethol i archwilio'r opsiynau ariannu sydd ar gael. Byddaf yn cyfarfod, mewn gwirionedd, â chynrychiolwyr o Wasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig a'r cyfarwyddwyr addysg esgobaethol yr wythnos nesaf i drafod yr heriau y mae’r sector yn eu hwynebu, ac rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â Chyngor Abertawe a chynrychiolwyr ysgolion yn benodol er mwyn trafod y mater y mae’r Aelod wedi’i godi.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn ag argaeledd deunydd adolygu ar gyfer y prawf gyrru theori yn Gymraeg? OQ57689
Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi bod yn ymchwilio i'r mater hwn. Dim ond cyhoeddiadau y mae'r Driver and Vehicle Standards Agency yn eu cynhyrchu sy'n berthnasol i'w cynllun iaith. Felly, ar hyn o bryd, nid yw'r deunydd ymarfer ar gael yn y Gymraeg, ond byddaf i'n parhau i weithio gyda swyddfa'r comisiynydd i geisio datrysiad i hyn.
Diolch yn fawr iawn. Dwi wedi bod yn trio cael datrysiad i hyn drwy'r DVSA a drwy ofyn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ers rhyw wyth mlynedd, dwi'n meddwl, erbyn hyn. Mae o mor rhwystredig. Yn syml iawn, mae croeso ichi wneud prawf theori'n Gymraeg, ond does yna ddim deunydd ymarfer ar-lein, ffug brofion ac ati, ar gael o gwbl. Dwi'n gwybod am lawer oedd eisiau gwneud prawf theori yn Gymraeg, ond wnaeth ddewis gwneud yn Saesneg oherwydd hyn, a dwi'n gallu deall pam. Dwi'n gwybod hefyd am rai sy'n teimlo eu bod nhw wedi bod dan anfantais wedyn oherwydd nad oedd y prawf yn eu hiaith gyntaf.
Rŵan, mi gafodd Cai Phillips, cyn-Aelod o'r Senedd Ieuenctid, afael ar ffigurau drwy gais rhyddid gwybodaeth yn dangos bod 382 o bobl wedi gwneud prawf gyrru ymarferol yn Gymraeg yn 2018-19, ond dim ond 53 wnaeth y prawf theori yn Gymraeg. Mae'r patrwm yr un fath mewn blynyddoedd eraill hefyd. Ac fel rydyn ni wedi'i glywed, mae'r DVSA yn dweud, 'Dim ni sydd angen gwneud hyn; mater i'r sector breifat ydy o a does yna ddim cystadleuaeth am y Gymraeg.' Ond allwn ni ddim gadael hyn i lawr i rymoedd y farchnad, mae angen ymyrraeth.
Rŵan, mae cyn-Weinidogion, ac fel rydyn ni wedi'i glywed, Comisiynydd y Gymraeg, wedi dweud eu bod nhw'n rhannu fy anfodlonrwydd i, ond plis gawn ni fwy o ymrwymiad na'r ychydig eiriau yna, er mor bositif ydyn nhw, i bwyso ar y DVSA ac yn wir i weithio ar y DVSA—i weithio efo nhw—a pheidio ag ildio rŵan tan mae hyn yn newid, nid yn unig oherwydd ei fod o'n bwysig o ran egwyddor, ond oherwydd yr angen ymarferol am y profion yma?
Wel, mae'r Aelod yn dweud bod hyn yn rhwystredig, mae e'n rhwystredig. Mae'n sefyllfa bryderus iawn, byddwn i'n dweud. Mae pobl yn amlwg yn mynd i edrych ar argaeledd deunydd adolygu Cymraeg pan fyddan nhw'n penderfynu pa ffordd i ddewis gwneud eu prawf. Felly, mae hynny'n risg amlwg, fyddwn i'n dweud, ac mae'n hen bryd i'r DVSA gydnabod eu cyfrifoldebau yn y maes hwn a darparu deunydd yn y Gymraeg hefyd. Felly, does dim diffyg eglurder ynglŷn â beth yw'r gofyniad a beth yw cyfrifoldeb y DVSA yn hyn o beth.
Fel y gwnaeth yr Aelod grybwyll, mae'r mater wedi cael ei drafod sawl gwaith ar hyd y blynyddoedd, fan hyn ac mewn mannau eraill. Dyw agwedd y DVSA ar y mater ddim wedi newid, ac yn sgil hynny mae swyddogion y comisiynydd am drafod hyn gyda Chyngor Llyfrau Cymru i weld a oes opsiynau amgen y gallan nhw ein cynorthwyo ni gyda nhw yn hyn o beth. Bydd swyddfa'r comisiynydd hefyd yn trafod y mater gyda swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Rwy'n awyddus i gefnogi gwaith y comisiynydd yn hyn o beth gan fod ymchwiliad yn digwydd. Felly, byddaf i eisiau gweithio ar y cyd â nhw i weld beth mwy y gallwn ni ei wneud i annog y corff i wella ei wasanaethau Cymraeg. Byddaf i'n codi'r mater gyda'r dirprwy gomisiynydd pan fyddaf yn ei gweld hi nesaf. Ond, mae'n ddigon clir beth yw cyfrifoldeb y DVSA yn hyn o beth.
Diolch i'r Gweinidog.
Y cwestiwn amserol sydd nesaf, ac mae'r cwestiwn i'w ateb gan y Gweinidog materion gwledig ac i'w ofyn gan Mabon ap Gwynfor.
1. Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o effaith cytundeb masnach y Deyrnas Gyfunol ac Aotearoa (Seland Newydd) ar amaethyddiaeth yng Nghymru? TQ602
Rydym wedi gweithio gyda'n rhanddeiliaid yn y diwydiant i nodi'r effeithiau ar amaethyddiaeth yng Nghymru. Roedd y gwaith hwn yn sail i’n sylwadau i Lywodraeth y DU na ddylai unrhyw gytundeb masnach roi ffermwyr Cymru o dan anfantais na pheryglu ein safonau anifeiliaid ac amgylcheddol uchel.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb yna. Rŵan, beth bynnag ydy sbin Llywodraeth Geidwadol San Steffan, y gwir ydy y bydd y cytundeb yma yn gadael ffermwyr Cymru ar fympwy marchnad nad sydd ganddyn nhw unrhyw reolaeth drosto. Os bydd rhywbeth yn newid yn y farchnad gig oen, yn arbennig o safbwynt Tsieina neu'r Unol Daleithiau, yna bydd llawer iawn mwy o gig o Seland Newydd yn cyrraedd y glannau yma neu'r Undeb Ewropeaidd, gan danseilio ein ffermwyr ni. Heb dariff, does gan ffermwyr Cymru ddim dweud a dim byd i'w hamddiffyn. Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio ers talwm y bydd y cytundebau masnach yma yn cael effaith andwyol ar ffermwyr Cymru. Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhagamcan y bydd effaith y cytundeb gydag Awstralia, er enghraifft, yn arwain at gwymp o £29 miliwn yn GVA diwydiant cig coch Cymru. Tra nad ydy o'n bosib inni wneud yr un rhagamcangyfrifon ar gyfer cytundeb efo Seland Newydd, mae'r data sydd ar gael yn awgrymu y bydd effaith y ddau gytundeb yma yn arwain at gwymp o rywle oddeutu £50 miliwn yn GVA marchnad cig coch Cymru.
Hoffwn i ofyn i chi fel Gweinidog, felly: ydych chi'n credu bod hyn yn bris sydd yn werth ei dalu? Mae ffermwyr Cymru'n fwy agored i niwed a ddaw o gytundeb gwael na ffermwyr eraill y wladwriaeth hon. Hefyd, ydy'r Gweinidog yn cytuno â fi fod angen i Lywodraeth San Steffan gynnal asesiad llawn o'r cytundebau masnach yma ar ffermwyr Cymru?
Ydw. Credaf mai'r effaith gronnol honno ydyw, gan ei bod yn amlwg iawn i ni, ac i’ch plaid chithau yn ôl pob tebyg, ac yn sicr i’r rhanddeiliaid y buom yn siarad â hwy, mai un o’r pethau yr oeddem yn bryderus iawn yn eu cylch gyda chytundeb Awstralia yw y byddai’n gosod cynsail a gallwch weld bellach gyda chytundeb Seland Newydd fod hynny'n gwbl wir. Felly, credaf fod angen asesiad. Gyda'r cytundeb wedi'i lofnodi bellach, yn amlwg, mae angen i'n swyddogion a minnau graffu ar y bennod nesaf honno. Ond fe wnaethom eu rhybuddio; dyma y gwnaethom ddweud wrthynt fyddai'n digwydd. Rydym yn bryderus iawn am y safonau iechyd a lles anifeiliaid a'r safonau amgylcheddol. Credaf fod gan Seland Newydd safonau tebyg iawn i ni, os nad yn uwch mewn rhai achosion efallai, lle nad oes gan Awstralia, yn sicr. Ond yr effaith gronnol honno ydyw—wyddoch chi, beth y mae'r cytundeb masnach nesaf yn mynd i'w wneud? Felly, credaf ei bod yn bwysig inni ei fonitro'n ofalus iawn. Rydym wedi mynegi pryderon am hyn dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU, ond mae arnaf ofn nad ydynt wedi gwrando arnom.
Weinidog, rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd am gyflwyno’r cwestiwn hwn heddiw, ond mae’n bwysig nodi a chofio bod y fargen fasnach hon yn werth llawer mwy ac yn llawer ehangach nag amaethyddiaeth yn unig. Nid sbin yw hyn—[Torri ar draws.] Nid sbin yw hyn, fel y dywedodd yr Aelod. Y cytundeb hwn yw'r cytundeb mwyaf datblygedig y mae Seland Newydd wedi'i lofnodi gydag unrhyw genedl ac eithrio Awstralia. Er gwaethaf grwgnach yr Aelod o Flaenau Gwent ar y meinciau cefn, mae’n un o’r cytundebau mwyaf amgylcheddol wyrdd erioed, sy'n cadarnhau ymrwymiadau i gytundeb Paris a sero net. Bydd yn rhyddfrydoli tariffau ar y rhestr fwyaf o nwyddau amgylcheddol mewn unrhyw gytundeb masnach rydd hyd yma ac yn annog masnach ac yn arwain at fuddsoddiad mewn technoleg a gwasanaethau carbon isel. Bydd hefyd yn sicrhau bod cynnyrch na ellir ei dyfu na’i gynhyrchu yma yng Nghymru, fel sauvignon blanc Marlborough, mêl manuka a ffrwythau ciwi, yn dod yn fwy fforddiadwy i brynwyr Cymru. Ar hyn o bryd, mae 210 o fusnesau Cymru yn allforio gwerth £23 miliwn o nwyddau—[Torri ar draws.] Efallai eu bod am imi dawelu, ond dyma’r ffeithiau, Lywydd.
Na, ni fydd raid ichi dawelu oni bai fy mod i'n dweud hynny, a gallwch barhau, yn fy marn i.
Diolch, Lywydd. Ar hyn o bryd, mae 210 o fusnesau Cymru yn allforio gwerth £23 miliwn o nwyddau i farchnad Seland Newydd, ac mae’r arwyddion yn nodi, ar draws y DU gyfan, fod gwerth y berthynas hon yn debygol o gynyddu bron 60 y cant. Er fy mod yn deall pryderon y diwydiant amaethyddol y bydd Cymru yn cael ei gorlethu gan gig oen o Seland Newydd, rydym eisoes yn gwybod nad yw Seland Newydd hyd yn oed yn defnyddio hanner y cwota y caniateir iddynt ei allforio o dan y rheolau presennol. Mewn gwirionedd, mae allforion cig defaid Seland Newydd i’r DU wedi gostwng bron i hanner dros y degawd diwethaf. Gyda Chymru ar hyn o bryd yn allforio gwerth £1.8 miliwn o gynnyrch amaethyddol i Seland Newydd, a £23 miliwn o allforion at ei gilydd, a gaf fi ofyn i’r Gweinidog pa gynlluniau sydd ganddi i helpu sector amaethyddol Cymru i dyfu’r farchnad hon ymhellach, a pha drafodaethau y mae'n eu cael gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet i sicrhau ein bod yn manteisio’n llawn ar y cytundeb masnach hwn â Seland Newydd?
Mae’r Aelod yn gwneud gwaith rhagorol yn rhoi sbin cadarnhaol iawn ar y cytundeb masnach hwn. Y cwestiwn a ofynnwyd i mi—[Torri ar draws.]
Gadewch i’r Gweinidog ymateb, os gwelwch yn dda.
Roedd y cwestiwn a ofynnwyd i mi'n ymwneud â’r effaith ar amaethyddiaeth, ac fe fyddwch yn deall mai ar hynny y bûm yn canolbwyntio. Mae'n bwysig ein bod yn edrych ar sut y gallwn ehangu ein hallforion. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Gweinidog yr Economi yn Dubai yn Expo 2020 ar hyn o bryd, lle cafodd bwyd a diod o Gymru ei hyrwyddo, ddoe, am y diwrnod cyfan, ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, ym mhafiliwn y DU. Rydym newydd gael Gulfood, lle'r oedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi wyth cwmni bwyd a diod, ac rydym yn parhau i weithio gyda Hybu Cig Cymru i sicrhau ein bod yn ehangu marchnadoedd newydd ar gyfer ein cig oen a’n cig eidion o Gymru, sydd o safon uchel iawn. Ond nid yw hynny’n lleddfu'r pryderon sydd gennym am gytundeb masnach Seland Newydd. Rydych yn llygad eich lle; nid yw Seland Newydd yn cyrraedd eu cwotâu di-dariff ar gyfer cig oen ar hyn o bryd, a hynny’n bennaf oherwydd y costau a phellter allforio i’r DU, o gymharu â marchnad Tsieina, sy’n llawer agosach, ac yn amlwg, yn fwy. Ond mae perygl y bydd Seland Newydd yn troi oddi wrth Tsieina, yn enwedig oherwydd y gwrthdaro masnachu presennol. Wrth gwrs, mae Seland Newydd, fel y dywedaf, yn anfon y rhan fwyaf o'u cig eidion, er enghraifft, i Tsieina a'r Unol Daleithiau. Mae'r rhain yn farchnadoedd mawr a fydd yn dal i fynnu'r rhan fwyaf o allforion, ond rydym yn pryderu'n fwyaf arbennig am yr effaith gronnol.
Rwy’n ddiolchgar am gael cymryd rhan yn y cwestiwn hwn, a diolch i Mabon am ei ofyn. Yn wahanol i Samuel Kurtz, a fydd yn ceisio amddiffyn yr anghyfiawnadwy, ac sydd wedi llyncu, yn amlwg, y llyfr bach du neu beth bynnag a roddwyd iddo i wneud hynny, nid wyf yn teimlo mor sicr, ac rwy'n siŵr na fydd y ffermwyr yn fy ardal a'i ardal yntau'n teimlo mor sicr ychwaith. Mae'n ffaith—gadewch inni gadw at y ffeithiau yma—fod lles anifeiliaid Awstralia yn is. [Torri ar draws.] Rydych yn llygad eich lle, cytundeb masnach Seland Newydd yw hwn bellach. Gŵyr pob un ohonom fod cryn ddibyniaeth yn ein hardal ar allforio cig oen o Gymru, ac yn fy marn i, dyna yw'r cig oen gorau yn y byd; nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ond ni allwn anwybyddu'r ffaith y bydd yr holl gytundebau masnach hyn yn cael effaith gronnol. Nid oes ots faint y ceisiwch ei gyfiawnhau. A bydd hynny ynddo’i hun yn cael effaith negyddol ar y ffermwyr yma yn y DU, yn enwedig yma yng Nghymru. Roedd Brexit i fod i sicrhau rhyddid. Wel, nid yw'n mynd i sicrhau llawer o ryddid i'r ffermwyr hyn pan nad oes ganddynt unrhyw arian yn eu pocedi. Felly, fy nghwestiwn i chi, Weinidog, yw: y tu hwnt i’r hyn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wneud i gefnogi ffermwyr Cymru, sy’n llawer mwy na Llywodraeth y DU gyda llaw, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, o gofio bod y gyllideb i ffermwyr eisoes wedi’i lleihau lawer gormod, fel bod Llafur Cymru yn sicrhau dyfodol ffermio yma yng Nghymru, yn wahanol i’r Llywodraeth Dorïaidd sy’n benderfynol o’i ddinistrio?
Mae Joyce Watson yn gwneud pwyntiau pwysig iawn. Ni all Llywodraeth y DU, ni waeth faint y mae’r Torïaid yn eu hamddiffyn, gymryd arnynt eu bod erioed wedi cefnogi ffermwyr yn y cytundebau y maent wedi’u cyflwyno ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac nid oes ond rhaid ichi edrych ar fy nghyllideb i weld faint o arian y mae ffermwyr wedi’i golli gan Lywodraeth y DU yn eu cyllid i Lywodraeth Cymru. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod gwaith yn mynd rhagddo ar gyflwyno Bil amaethyddiaeth eleni. Bydd hynny’n sicrhau bod ein cynlluniau yn y dyfodol yn ystyried effeithiau posibl cytundebau masnach. Mae hynny'n rhywbeth rwyf wedi bod yn awyddus iawn i swyddogion weithio drwyddo. Yr hyn yr ydym am ei wneud yw gwneud amaethyddiaeth yn llawer mwy gwydn a chystadleuol, ac wrth gwrs, rydym wedi dweud bob amser, onid ydym, fod ein cymunedau gwledig mor bwysig i'n diwylliant, i'n treftadaeth yng Nghymru, ac wrth gwrs, i'r iaith Gymraeg, ac mae ffermwyr yn ganolog i hynny.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad. Un sydd heddiw, a hwnnw gan Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Heddiw, dwi eisiau talu teyrnged i griw bad achub Trearddur.
Heddiw, mae gorsaf bad achub a chriw Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub Bae Trearddur yn creu hanes, gan mai hwy yw'r orsaf gyntaf erioed i dderbyn medal dewrder arian am achubiad ar fwrdd bad achub y glannau dosbarth B Atlantic 85. Meddyliwch yn ôl at stormydd mis Mai y llynedd. Wrth i'r rhan fwyaf ohonom gysgodi, galwyd criw'r Atlantic 85 allan, gan lansio ar derfyn eithaf gallu'r cwch, mewn gwyntoedd cryfion grym 9, i achub syrffiwr mewn trafferth. Daethant o hyd iddi yng ngheg y bae, o fewn ychydig fetrau i wyneb garw'r graig, yn ceisio cadw'i phen uwchben y dŵr. Mae'r wobr arian fawreddog yn mynd i'r llywiwr, Lee Duncan, i gydnabod ei arweinyddiaeth, ei forwriaeth a'i waith llywio cwch rhagorol. Llywiodd y cwch yn gywir eithriadol a chydag amseru rhyfeddol i gyrraedd yr unigolyn mewn trafferth, gan ganiatáu i'r criw ei hachub o'r dŵr yn gyflym. Yn ogystal â gwobr arian Lee Duncan, rhoddir medalau efydd i’r criw gwirfoddol, Dafydd Griffiths, Leigh McCann a Michael Doran, i gydnabod eu dewrder. Cyfarfûm â Dafydd yn yr orsaf ychydig ddyddiau ar ôl yr achubiad, ac fe'i disgrifiodd fel un o’r digwyddiadau gwaethaf a welodd mewn dros 20 mlynedd o wirfoddoli gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub. Mae tîm cyfan Bae Trearddur a fu'n rhan o'r achubiad yn cael eu cydnabod gyda chymeradwyaeth y prif weithredwr. Nid yw’r criw yn gwneud yr hyn a wnânt er mwyn cael cydnabyddiaeth, ond mae hyn yn fodd o atgoffa'r cyhoedd am ddewrder ac anhunanoldeb gwirfoddolwyr Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub ym mhobman.
Mae Ynys Môn yn falch ac yn ddiolchgar iawn, iawn i chi.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Eitem 5 sydd nesaf, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, effaith gorlifoedd stormydd. Galwaf ar Alun Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7833 Alun Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i leihau effaith andwyol gorlifoedd stormydd.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) gosod dyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru i sicrhau gostyngiad cynyddol yn effaith andwyol gollyngiadau o orlifoedd stormydd yr ymgymerwr;
b) lleihau effeithiau andwyol gollyngiadau carthion ar yr amgylchedd ac ar iechyd y cyhoedd;
c) ei gwneud yn bosibl i'r ddyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth gael ei gorfodi gan Weinidogion Cymru neu gan yr Awdurdod gyda chydsyniad awdurdodiad cyffredinol a roddir gan Weinidogion Cymru, neu'n unol â hynny.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy’n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno’r cynnig deddfwriaethol hwn. Bydd Aelodau sydd wedi cael cyfle i nodi’r ddeddfwriaeth rwy'n ei chynnig—wel, yr Aelodau craff hynny, yn sicr—yn nodi rhywbeth cyfarwydd am y geiriad. Dyma’r geiriad, wrth gwrs, a dderbyniwyd fel gwelliant yn Nhŷ’r Arglwyddi fis Hydref diwethaf. Pan gyflwynais y cynnig deddfwriaethol hwn fis Hydref diwethaf, gwneuthum hynny gyda'r bwriad o geisio deall beth yw sefyllfa Cymru, beth yw’r fframwaith deddfwriaethol a statudol ar gyfer rheoli gollyngiadau i gyrsiau dŵr yng Nghymru, gan y credaf fod angen inni ddeall hynny'n iawn. Rwy’n falch fod y Gweinidog ei hun yn ymateb i'r ddadl hon, gan y credaf y byddai’n ddefnyddiol iawn inni ddeall y fframwaith statudol sy’n bodoli yng Nghymru. Dylwn ddweud, ers imi gyflwyno hyn, fy mod yn deall bod y pwyllgor newid hinsawdd hefyd wedi manteisio ar y cyfle i edrych ar y pwnc, a chredaf fod pob un ohonom yn edrych ymlaen at ddarllen adroddiad y pwyllgor hwnnw.
Fy mhryder yw bod y fframwaith sy’n bodoli ar hyn o bryd er mwyn rheoleiddio’r rhan hon o’r llyfr statud braidd yn gymhleth. Rwy’n cwestiynu a yw’n addas at y diben, ac edrychaf ymlaen at weld y Gweinidog yn rhoi sicrwydd i ni ei fod. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’r fframwaith deddfwriaethol presennol wedi’i sefydlu i raddau helaeth gan, yn gyntaf oll, Deddf y Diwydiant Dŵr 1991, ond wedyn, Deddf Dŵr 2003 a Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017, sy’n darparu ar gyfer y mecanwaith sylfaenol ar gyfer asesu a rheoli'r amgylchedd dŵr. Mae’r rheoliadau hyn wedyn yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i atal dirywiad ac i wella pob corff dŵr i statws ‘da’ erbyn 2027. Byddwn yn ddiolchgar am gadarnhad y Gweinidog ei bod wedi ymrwymo i gyflawni’r amcan hwnnw.
Gwyddom hefyd fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn paratoi cynlluniau rheoli basn afonydd ar gyfer pob un o’r tair ardal basn afon yng Nghymru, a dylai’r cynlluniau hyn effeithio ar ansawdd dŵr a dylent osod amcanion amgylcheddol a gweithredu rhaglen o fesurau i warchod a gwella’r amgylchedd. Er fy mod yn croesawu’r ffaith bod gan CNC y gallu ac y dylai osod y cynlluniau rheoli hyn, mae’n anodd nodi heb siom, er yr ymgynghorwyd arnynt dair blynedd yn ôl, nad oes unrhyw gynlluniau terfynol wedi’u cyhoeddi eto. Credaf fod hynny’n destun cryn siom, a phryder hefyd i ni. O ystyried yr amgylchedd statudol braidd yn gymhleth hwn, tybed pam y ceisiodd Llywodraeth Cymru eithrio Cymru o rai o’r cynigion yn Neddf yr Amgylchedd 2021, a gafodd Gydsyniad Brenhinol fis Tachwedd diwethaf.
Ar adegau arferol, byddwn bob amser yn dadlau—ac mae’r Gweinidog wedi fy nghlywed yn dadlau—y dylid cael llyfr statud ar wahân i Gymru lle gellir dod o hyd i’r ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar Gymru a chael mynediad hawdd ati. Un feirniadaeth a wnaed, wrth gwrs, am y llyfr statud gan y cyn Arglwydd Brif Ustus Thomas yn adroddiad ei gomisiwn yw ei bod yn anodd iawn cael mynediad at gyfraith Cymru a deall lle mae'n bodoli. Y rheswm am hynny yw cymhlethdod, ac un o’r rhesymau dros y cymhlethdod yw’r ffaith bod cyfraith Cymru yn bodoli mewn mwy nag un lle. Weithiau, mae'n bodoli mewn nifer o wahanol leoedd, sy'n golygu ei bod yn anodd ei deall, nid yn unig i ni ond hefyd i gyfreithwyr, barnwyr a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol. Mae honno’n feirniadaeth deg a rhesymol i’w gwneud. Hoffwn ddeall ble rydym arni yng Nghymru ar hyn o bryd, beth yw’r fframwaith statudol, a sut y mae hynny’n cyflawni’r amcanion y credaf y bydd pob un ohonom yn eu rhannu ar bob ochr i’r Siambr heddiw a ledled y wlad. Mae pob un ohonom yn awyddus i weld ansawdd dŵr afonydd yn gwella, rydym am weld ansawdd cyrsiau dŵr yn gwella, rydym am weld ansawdd cyrff dŵr yn gwella, ac rydym am gael fframwaith statudol sy’n ddealladwy, sy’n hawdd ei werthfawrogi a’i ddeall, ac y gellir ei roi ar waith wedyn gan y cyrff, yr unigolion, y sefydliadau a'r busnesau y mae'n effeithio arnynt.
Yr hyn nad wyf am ei wneud y prynhawn yma yw beirniadu naill ai’r cwmnïau dŵr sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd, neu’r bobl sy’n darparu ar gyfer gollyngiadau i gyrsiau dŵr, gan nad dyna yw diben yr hyn rwy'n ei gynnig heddiw. Yr hyn rwyf am ei wneud yw sicrhau bod gennym fframwaith statudol ar waith i reoleiddio gollyngiadau i gyrsiau dŵr a chyrff dŵr, ac yna gallwn gael y ddadl a’r drafodaeth ynglŷn â sut y cyflawnwn y gwelliant mewn ansawdd dŵr, gan fod hynny wedyn yn galluogi inni gyflawni hynny mewn pob math o wahanol ffyrdd.
Credaf mai un o'r pethau sydd wir wedi effeithio'n wirioneddol ar lawer ohonom—. Fel rhywun a fagwyd yng Nghymoedd de Cymru, yn Nhredegar, rwy'n cofio afon Sirhywi pan oeddwn yn blentyn, ac roedd yn fudr, a siarad yn blwmp ac yn blaen. Roedd y dŵr hwnnw'n cynnwys unrhyw beth y gallech ei ddychmygu, bron iawn. Cofiaf ddweud wrth ffrindiau i mi a oedd yn byw ‘lawr yn y wlad’, fel yr arferem ei ddweud, i lawr yn Llangynidr a lleoedd eraill, fod ‘Ein hafonydd ni’n well na’ch rhai chi gan fod mwy o liw ynddynt’, ac ‘Mae’n afon ofnadwy gan y gallwch weld ei gwaelod'. Credaf fod y dyddiau hynny wedi mynd, ac rwy'n gobeithio eu bod wedi mynd, ond yr hyn sydd ei angen arnom yn awr yw fframwaith statudol a fydd yn sicrhau, wrth symud ymlaen, fod pob un ohonom yn gallu gwarantu ansawdd dŵr lle bynnag yr ydym yn byw yng Nghymru, a’n bod yn gallu cael fframwaith statudol y gall pob un ohonom ei ddeall hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddiolch i Alun Davies AS am yr hyn yr ystyriaf ei fod yn gynnig deddfwriaethol eithriadol. Nawr, er bod y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru yn targedu pob ffermwr mewn perthynas â llygredd dŵr drwy Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, Dŵr Cymru a chwmnïau dŵr eraill sy'n gyfrifol i bob pwrpas am ormod o ddigwyddiadau llygredd dŵr a chaniateir iddynt wneud hynny heb orfod wynebu unrhyw ganlyniadau, ac nid yw'r mater yn cael sylw. Yn rhy aml, yn fy etholaeth i, gallaf feddwl am ddigwyddiadau lle bu farw cannoedd ar gannoedd o bysgod o ganlyniad i ddigwyddiadau llygredd dŵr, a physgotwyr lleol sy'n tynnu fy sylw atynt. Yna, rwy'n cysylltu â'r cwmnïau dŵr ac CNC yn wir, ond nid ydynt yn gweithio'n ddigon cyflym. Y llynedd, gweithiais ar achos a oedd yn tynnu sylw at y ffaith, er bod Dŵr Cymru'n ymwybodol o broblemau llifogydd yn deillio o orlifo hydrolig mewn cilfan yng Nghapel Curig yn ystod glaw trwm, a bod hynny wedi bod yn digwydd ers 2004, ei bod hi'n dal yn wir, bron i ddau ddegawd yn ddiweddarach, na all y sefydliad gyfiawnhau ateb parhaol i'r problemau llifogydd.
Yn ôl Cyngor Defnyddwyr Cymru mae'n bwysig deall, os yw'r llifogydd wedi'u hachosi gan y garthffos gyhoeddus, mai'r darparwr carthffosiaeth sy'n gyfrifol am ddatrys y broblem. Yn ogystal, mewn perthynas ag ymgymerwyr carthffosiaeth, nodir y canlynol yn adran 94(1)(a) o Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991:
'Bydd yn ddyletswydd ar bob ymgymerwr carthffosiaeth... i ddarparu, gwella ac ymestyn system o garthffosydd cyhoeddus o'r fath (boed yn eu hardal neu rywle arall) ac felly i lanhau a chynnal y carthffosydd hynny ac unrhyw ddraeniau ochrol sy'n eiddo i'r ymgymerwr, neu a freiniwyd iddo, er mwyn sicrhau bod yr ardal yn cael ei draenio'n effeithiol ac yn parhau i gael ei draenio'n effeithiol'.
Credaf mewn gwirionedd, ac mae'n ddealladwy—nid oes neb yn dweud fel arall—eu bod yn methu cyflawni'r ddyletswydd honno ar hyn o bryd oherwydd problemau ariannol. Mae angen inni gynnal trafodaeth onest gyda'r sefydliad i ganfod yn union beth sydd ei angen i sicrhau bod eu seilwaith yn gweithredu mewn ffordd effeithiol nad yw'n niweidio'r amgylchedd. Ac mae'n rhaid imi ddweud, er tegwch i Dŵr Cymru, pan fu ganddynt broblemau, y gall fod—. Credaf fod gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae yma, Weinidog. Credaf y dylai pob un ohonom, fel Aelodau, wneud mwy i dynnu sylw at y broblem fod clytiau plastig sy'n cael eu fflysio i lawr y toiled—yr effaith negyddol a gaiff hynny. Rwy'n aml iawn yn ail-drydar hysbysiadau Dŵr Cymru yn gofyn i bobl beidio â rhoi'r pethau hyn yn y toiled, oherwydd maent yn achosi llygredd trwm, rhwystrau trwm, ac yn gwneud—
A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben yn awr—[Anghlywadwy.]?
—ein hafonydd yn afiach. Iawn, dyna ni. Diolch.
Diolch i'r Aelod dros Flaenau Gwent am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol yma. Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu efo fi, fel llawer o Aelodau eraill dwi'n gwybod, yn poeni am garthffosiaeth yn cael ei gollwng i'r dyfroedd o orlifoedd storm cyfuno neu combined sewer overflows—llawer ohonyn nhw'n cefnogi'n benodol yr alwad gan Surfers Against Sewage i roi'r gorau'n llwyr i ryddhau carthffosiaeth i'r môr erbyn 2030. Mae'r bobl yma—maen nhw'n cynnwys nofwyr, maen nhw'n cynnwys syrffwyr, pobl hefyd sy'n cael eu hannog i fynd i'r môr er mwyn eu llesiant a'u hiechyd. A'r pryder ydy bod gan yr arferion ar hyn o bryd nid yn unig oblygiadau amgylcheddol amlwg, ond hefyd eu bod yn cynrychioli peryg uniongyrchol i ddiogelwch defnyddwyr. Mi oedd un syrffiwr wir eisiau cymryd mantais o ddiwrnod da o donnau, fel dŷn ni'n ei gael o gwmpas Ynys Môn yn aml, ond yn dweud wrthyf i, 'Dwi ddim yn siŵr iawn pa mor sâl fyddaf i os bydda i'n mynd i syrffio.'
Wrth edrych i mewn i'r mater, un peth ddaeth yn amlwg i fi oedd mai dim ond yn ystod beth fyddech chi'n ei alw'n dymor arferol nofio mae monitro dŵr yn digwydd, ac nid yn y gaeaf pan fo yna botensial i gyfraddau gollwng CSO fod yn uwch, wrth gwrs, ac yn amlach hefyd oherwydd tywydd gwlypach. Ac o gynrychioli etholaeth sy'n ynys, mi allaf i ddweud wrthych chi fod pobl yn mynd i'r dŵr bob amser o'r flwyddyn, ac, yn wir, bod rhai o'r tonnau gorau ar gyfer syrffio yn dod yng nghanol y gaeaf. Mae ishio edrych ar eu pennau nhw, os ydych chi'n gofyn i fi—mae o'n edrych yn oer iawn—ond mae yna bobl yn mwynhau. Dwi'n mwynhau eu gwylio nhw hefyd.
Ond mi ofynnaf i i'r Aelod, ydy o'n cyd-fynd â'r angen am fonitro o gwmpas y flwyddyn, ac ydy hynny'n rhywbeth y byddai'r Bil y mae o'n ei gynnig yn ei gyflawni? Efallai y gall y Gweinidog hefyd wneud sylw ar yr angen i ymestyn y monitro tymhorol presennol. Mi fyddai'n help mawr i etholwyr, yn sicr, wrth wneud dewisiadau ar ba un ai i fynd i'r dŵr ai peidio, a dwi hefyd yn meddwl y byddai o'n helpu efo nod y ddeddfwriaeth arfaethedig yma hefyd. A dwi'n hapus iawn i gefnogi hyn.
A gaf fi ddiolch hefyd i fy nghyd-Aelod, Alun Davies, am gynnig y ddeddfwriaeth bwysig hon? Mae'n rhywbeth y byddaf yn ei gefnogi ar ran fy etholwyr sy'n byw yng nghwm Tawe isaf. Mae llygredd difrifol yn Afon Tawe, yn enwedig wrth iddi deithio drwy Abertawe ar y ffordd i'r môr. Mae'r Tawe'n cario gollyngiadau o waith trin dŵr gwastraff Trebannws, ac mae deunyddiau gwastraff fel rhannau o goed a phlastig yno hefyd yn achosi llygredd. Mae pysgotwyr yn pryderu am wastraff dynol heb ei drin sy'n mynd i afon lle mae plant yn chwarae'n rheolaidd. Dywedir wrthyf fod tystiolaeth o ewtroffigedd yn Afon Tawe. Mae fy etholwyr yn teimlo nad oes digon o weithredu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a cheir rhai sy'n credu nad oes unrhyw weithredu o gwbl gan CNC.
Yn ôl Dŵr Cymru, pan fo glaw trwm, gall gormod o ddŵr fynd i mewn i'r garthffos, sy'n golygu bod rhaid ei ryddhau yn ôl i afonydd neu'r môr heb y driniaeth arferol. Mae hyn yn mynd yn ôl i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae Dŵr Cymru wedi dweud eu bod wedi cael caniatâd i weithredu carthffosydd fel hyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a bod yr arfer yn annhebygol o achosi niwed amgylcheddol. Wel, os yw'n annhebygol o achosi niwed amgylcheddol, rhaid gofyn y cwestiwn, pam nad ydynt yn gollwng pob carthion yn uniongyrchol i'r afonydd ac i'r môr, os nad oes unrhyw niwed amgylcheddol yn cael ei achosi? Nid wyf yn argyhoeddedig nad oes unrhyw niwed amgylcheddol; mae fy etholwyr yn sicr heb eu hargyhoeddi nad oes unrhyw niwed amgylcheddol.
Mae pysgotwyr lleol yn dweud bod yr afon yn dal i ddrewi ddyddiau ar ôl i law trwm ddod i ben, ac mae hynny'n bryder o ran iechyd y cyhoedd. Maent hefyd yn pryderu y gall y carthion achosi tyfiant gormodol o algâu, a allai amharu ar ecosystem yr afon. Ac nid wyf yn credu ein bod bob amser yn meddwl am ecosystemau afonydd, ond fel ym mhob man arall, maent yn agored iawn i un peth sy'n digwydd a all achosi problemau difrifol. Ac mae gennym afonydd sydd bron â bod wedi marw oherwydd yr algâu sy'n tyfu ynddynt, ac mae hynny'n rhywbeth nad ydym am ei weld yn digwydd.
Os oes storm yn digwydd a'ch bod yn cael llawer o ddŵr yn y draen, mae'r rhan storio dŵr storm o'r garthffos yn llenwi ac yn gollwng i mewn i'r afon. Dylai ddod i ben pan fydd y storm yn dod i ben. Ond yma mae'r broblem yn parhau am hyd at 36 awr ar ôl y storm, am fod gorlif dŵr wyneb yn mynd i mewn i'r garthffos. Ni cheir digon o fuddsoddi mewn dulliau storio dŵr storm, a'r unig ateb yw gwario mwy o arian. Yr unig ffordd y gallwn sicrhau bod mwy o arian yn cael ei wario yw drwy ei wneud yn ofyniad cyfreithiol. Dyna pam fy mod yn cefnogi cynnig Alun Davies.
Rydym am leihau effaith gollyngiadau carthion ar yr amgylchedd ac ar iechyd y cyhoedd, ac mae angen inni osod dyletswydd ar ymgymerwyr carthffosiaeth, y gellir ei orfodi yn y gyfraith, i beidio â gollwng carthion heb eu trin. Os gallant osgoi cosb, pam y byddent yn mynd ati i'w drin? Mae angen inni gefnogi hyn oherwydd mae er budd unrhyw un ohonom sy'n byw wrth ymyl afon.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod dros Flaenau Gwent am gyflwyno hyn, ac am ei araith ragarweiniol, a nododd gymaint o bethau y credaf y byddwn i gyd yn cytuno â hwy? Nid oes amheuaeth fod gollyngiadau carthion yn bwysig iawn ac yn amserol iawn; credaf nad oes llawer o bethau eraill yn mynd â mwy o le yn fy mewnflwch na hyn ar hyn o bryd, yn enwedig yn ein hardal ni. Dangosodd ystadegau diweddar fod carthion amrwd wedi'u gollwng i afonydd Cymru dros 100,000 o weithiau, am bron i 900,000 o oriau, yn ystod 2020. Yn wir, gwelodd Tyndyrn, yn fy etholaeth i, rai o'r niferoedd uchaf o ollyngiadau carthion yn ne-ddwyrain Cymru yn 2020, a chofnodwyd 263 o ollyngiadau dros 1,489 awr. Mae'r rhain yn niferoedd hollol syfrdanol.
Mae'r mater hwn yn effeithio'n arbennig ar Afon Wysg. Mae wedi profi nifer o ddigwyddiadau gollwng carthion yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn ychwanegol at y rhai sydd wedi digwydd oherwydd glawiad uchel, a dyna asgwrn y gynnen. Y llynedd gwyddom fod ymchwiliad gan Panorama—fe'i gwelwyd gan bawb ohonom—fod gwaith trin dŵr gwastraff Aberbaiden ym Mrynbuga wedi gollwng carthion heb eu trin yn anghyfreithlon i Afon Wysg ar 12 diwrnod yn olynol ym mis Rhagfyr 2020. A chanfuwyd hefyd nad oedd trwydded wedi'i rhoi ar gyfer pibell orlifo carthion sy'n eiddo i Ddŵr Cymru i Afon Wysg. Nawr, gwn fod y materion hyn wedi cael eu harchwilio ers hynny a bod Dŵr Cymru yn gweithio arnynt. Fodd bynnag, erys pryderon ynghylch pa mor gyflym y gellir rhoi'r seilwaith gwaredu carthion gofynnol ar waith i liniaru effaith gollyngiadau carthion, a hynny ledled Cymru. Felly, mynegir pryder a rhwystredigaeth yn rheolaidd, yn sicr gan etholwyr, nad yw ein rheoleiddwyr yn rhoi camau digon cadarn ar waith yn erbyn y rhai sy'n llygru'n fwriadol, ac mae hynny'n cynnwys cwmnïau dŵr.
Fel y gŵyr pawb ohonom, mae gollwng carthion i'r amgylchedd naturiol, fel y clywsom eisoes, hyd yn oed pan nad oes unrhyw fodd o osgoi hynny, yn arwain at lygredd ac yn lleihau ansawdd dŵr, yn ogystal â niweidio bywyd gwyllt, ac mae'n amlwg, felly, fod angen mwy o weithredu i gyfyngu ar ddigwyddiadau o'r fath ledled Cymru. Fodd bynnag, rwy'n sylweddoli nad oes ateb hawdd, a bod cwmnïau'n rhoi rhai camau ar waith i leihau effaith gorlifo ar yr amgylchedd. Er enghraifft, rwy'n ymwybodol fod Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio gyda CNC i nodi gorlifoedd carthffosiaeth cyfunol heb drwydded ar eu cyfer fel y gellir eu rheoleiddio a'u cynnwys yn y rhaglen wella. Ond mae mwy i'w wneud, a dyna pam rwy'n cefnogi'r Bil arfaethedig a ddisgrifiwyd gan Alun Davies. Mae angen i gwmnïau dŵr ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros roi camau ar waith i sicrhau mai eithriadau yn hytrach na'r drefn arferol yw gollyngiadau carthion. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Dwi jest eisiau cyfrannu i'r ddadl yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, jest i roi gwybod i'r Senedd am y gwaith mae'r pwyllgor yn ei wneud yn y maes yma.
Mae amlder gollyngiadau carthion a'u heffaith ar amgylchedd ac iechyd y cyhoedd wrth gwrs yn faes, fel rŷn ni'n clywed, sy'n peri pryder difrifol i'r cyhoedd. Ac mewn ymateb i'r pryder hwn, ac yn sgil datblygiadau sylweddol yn Lloegr, fel y clywon ni amdanyn nhw yn y sylwadau agoriadol, fe benderfynodd y pwyllgor gynnal ymchwiliad byr i orlifoedd stormydd.
Diben yr ymchwiliad oedd deall yn well faint o garthion sy'n cael eu gollwng yng Nghymru, ac edrych ar y camau sy'n cael eu cymryd gan gwmnïau dŵr, gan reoleiddwyr ac, wrth gwrs, Llywodraeth Cymru, i geisio lleihau yr achosion yna. Mae'r pwyllgor wrthi'n cwblhau ein hadroddiad terfynol ar hyn o bryd, ac mi fydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi y mis yma, ac er na fyddwn am ragweld canfyddiadau yr adroddiad yna ar y foment yma, mi liciwn i dynnu sylw at rai o'r materion a drafodwyd gennym ni yn ystod ein hymchwiliad.
Nawr, mi ddylai gorlifoedd stormydd weithredu yn anaml ac mewn tywydd eithriadol yn unig. Ond, wrth gwrs, fel rŷn wedi clywed, dyw hynny, yn anffodus, ddim yn wir ar hyn o bryd. Yn lle hynny, rŷn ni'n clywed adroddiadau rheolaidd am ollyngiadau mewn afonydd ledled Cymru, ac mae'r data diweddaraf yn dangos bod carthion wedi'u gollwng i'n hafonydd fwy na 105,000 o weithiau yn 2020 yn unig—105,000 o weithiau mewn un flwyddyn. Ac mae hyn yn awgrymu, wrth gwrs, fod problem sylweddol.
Ond beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r sefyllfa? Roedd cwmnïau dŵr yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith, wrth gwrs, nad gollyngiadau carthion o orlifoedd stormydd yw prif achos llygredd afonydd yng Nghymru. Ac er bod hynny yn wir, wrth gwrs, mae'n rhaid inni beidio â defnyddio hynny fel esgus i beidio ag ymateb yn gryf i'r broblem. Waeth beth fo'u cyfraniad nhw i gyflwr gwael afonydd, mae gollyngiadau carthion, ar hyn o bryd, ar lefel annerbyniol.
Nawr, yn ystod ein hymchwiliad ni, fe glywon ni adroddiadau am welliannau mewn tryloywder ynghylch gorlifoedd stormydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hynny ar ôl cyflwyno dull o fonitro hyd digwyddiad ac adrodd blynyddol. Ond, eto, mae lle i wella o hyd. Soniwyd am y drefn reoleiddio a gorfodi bresennol ar gyfer gorlifoedd stormydd, gan gynnwys dull Cyfoeth Naturiol Cymru o ymchwilio i achosion o lygredd carthion. Nawr, mae'n rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru allu ymateb yn brydlon ac yn effeithiol i bob achos o lygru afonydd, waeth beth fo'i ffynhonnell. Ac rŷn ni'n gwybod o brofiad diweddar, yn anffodus, nad yw hynny yn digwydd.
Fe glywon ni fod Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid wedi sefydlu tasglu pwrpasol i ystyried y ffordd orau o fynd i'r afael ag effaith gorlifoedd stormydd. Ac mae hwn, wrth gwrs, yn ddatblygiad i'w groesawu'n fawr. Mi fydd y tasglu yn cyhoeddi map ffordd ar gyfer gorlifoedd stormydd yn fuan, ac wedyn mi fydd yna gynllun gweithredu yn dilyn yn ystod y misoedd nesaf.
A fydd y camau hyn yn ddigon i fynd i'r afael â'r broblem? Wel, amser a ddengys, ond mae'r cyhoedd wedi gwneud eu safbwynt nhw yn glir ar hyn, ac maen nhw am weld gwelliant sylweddol ar frys. Ac, fel pwyllgor, mi fyddwn ni'n parhau i adolygu hyn i wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru, y cwmnïau dŵr a'r rheoleiddwyr i gyd yn cyflawni, nid yn unig i amddiffyn yr amgylchedd, ond hefyd i amddiffyn iechyd cyhoeddus.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Flaenau Gwent am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn gan Aelod, gan fod cynnig deddfwriaethol gan Aelod hynod debyg wedi bod gennyf fi ar wella ansawdd dŵr mewndirol yma yng Nghymru. Ac er y gallai fod anghytundeb posibl ynghylch semanteg a manylion y polisi, mae'n galonogol gwybod ei fod yn fater sy'n ennyn cefnogaeth drawsbleidiol mewn gwirionedd. Ac fel y dywedodd mor huawdl wrth agor y ddadl, mae wedi nodi bod tebygrwydd rhwng ei gynnig deddfwriaethol a Bil Amgylchedd Llywodraeth y DU, sy'n creu dyletswydd i sicrhau bod cwmnïau dŵr yn sicrhau gostyngiad cynyddol yn effeithiau andwyol gollyngiadau o orlifoedd stormydd. Credaf ei bod yn galonogol, pan fydd syniad yn un da, ni waeth o ba ochr i'r rhaniad gwleidyddol y daw, ei fod yn cael ei gydnabod felly, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn y Siambr hon yn ymwybodol o'r hyn a ailadroddir yn fynych, nad oes gan yr un ochr fonopoli ar syniadau da, ac felly, byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle, fel yr Aelod dros Ynys Môn, i dalu teyrnged i Surfers Against Sewage am eu gwaith yn amlygu ac yn gwrthsefyll gollyngiadau carthion i'r môr ar draethau ledled Cymru. Efallai y bydd llawer o'r Aelodau'n ymwybodol o'r negeseuon e-bost a dargedir at Aelodau etholedig pan fydd gorlif carthffosiaeth cyfunol wedi gollwng carthion i ddŵr mewn lleoliad penodol. Mae Surfers Against Sewage wedi amcangyfrif, rhwng 1 Hydref 2020 a 30 Medi 2021, fod 5,517 o hysbysiadau gollwng carthion wedi'u cyhoeddi gan gwmnïau dŵr yn rhybuddio am lygredd carthion sy'n effeithio ar ddyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru a Lloegr. O'r rhain, cyhoeddwyd 3,328 o hysbysiadau gollwng carthion yn ystod y tymor ymdrochi rhwng 15 Mai a 30 Medi. Felly, yn seiliedig ar y cyngor a dderbynnir yn eang i beidio â nofio mewn dyfroedd sydd wedi'u llygru gan garthion am 48 awr ar ôl iddynt gael eu gollwng, mae hyn yn golygu bod 16 y cant o'r diwrnodau nofio posibl yn ystod y tymor ymdrochi wedi'u colli oherwydd digwyddiadau llygredd carthion.
Byddwn ar fai hefyd, fel Gweinidog materion gwledig yr wrthblaid, pe na bawn yn sôn am amaethyddiaeth a llygredd amaethyddol. Yn fy marn i, mae'r sector amaethyddol wedi'i dargedu'n annheg fel unig lygrydd ein dyfrffyrdd ers gormod o amser. Mae'r diwydiant eisiau gwella a gwneud yn well er mwyn yr amgylchedd ac er mwyn ein dyfrffyrdd, ond nid hwy yn unig sy'n gyfrifol am ddigwyddiadau llygredd dŵr. Felly, dyna reswm arall pam fy mod yn cefnogi'r cynnig hwn, wrth iddo anelu at leihau'r gollyngiadau carthion yn ein dyfrffyrdd, ac arwain, yn fy marn i, at welliannau cadarnhaol i ansawdd dŵr, ein hamgylchedd ac i iechyd y cyhoedd. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y dywedodd pob Aelod, bu llawer o sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar am ansawdd dŵr a gollyngiadau carthion i ddyfrffyrdd, ac fel y nododd Alun yn ei gyflwyniad, mae Llywodraeth y DU wedi deddfu i osod targedau i gwmnïau dŵr yn Lloegr i leihau'r rhain. Ond ceir canfyddiad cyffredinol mai dyma brif achos ansawdd dŵr gwael, ond mewn gwirionedd, fel y mae'r rhan fwyaf o bobl wedi cydnabod yn y Siambr heddiw, mae nifer o ffactorau'n cyfrannu at ansawdd dŵr gwael, gan gynnwys llygredd amaethyddol, cysylltiadau draeniau preifat diffygiol, gorlif tanciau carthion ac amrywiaeth o broblemau eraill.
Yn ddiweddar—nos Lun mewn gwirionedd—cyfarfûm ag Ofwat, ac maent wedi dweud wrthyf fod 35 o gyrff dŵr wedi'u nodi lle mae gollyngiadau carthion ysbeidiol yn cyfrannu'n rhannol at y rheswm dros beidio â chyflawni statws ecolegol da o dan Reoliadau'r Amgylchedd Dŵr (Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017, ac maent hefyd yn methu am resymau eraill. Felly, bydd Ofwat yn cynnal adolygiad o faint o'r gorlifoedd carthffosiaeth cyfunol a ollyngwyd, ac os felly, a gawsant eu gollwng ar y cyd â digwyddiad storm neu ddigwyddiad arall pan fo'r afon yn ei llif ac os felly, pam, ac os na, pam ddim. Felly, bydd canlyniad adolygiad Ofwat yn ddiddorol iawn i weld a yw cwmnïau dŵr yn defnyddio'r pwerau sydd ganddynt yn gywir er mwyn defnyddio'r gollyngiad yn iawn ai peidio. Ac i atgoffa pobl fod y gorlifoedd stormydd mewn gwaith trin dŵr gwastraff—mae llawer o acronymau yn hyn, felly rwy'n ceisio dweud yr enwau llawn—yn cyflawni rôl hanfodol i atal y gwaith rhag cael ei lethu yn ystod cyfnodau o law trwm, a fyddai'n gwneud i'r carthion weithio'n ôl i eiddo domestig. Felly, gadewch inni fod yn glir pa mor bwysig yw hi nad yw hynny'n digwydd a'r problemau iechyd cyhoeddus a fyddai'n codi o hynny.
Felly, mae gan Dŵr Cymru—. Mae gennym ddau gwmni dŵr yng Nghymru, i fod yn glir, ac mae gan y ddau ohonynt yr holl hawliau a chyfrifoldebau o dan ein Deddf yr amgylchedd a Deddf cenedlaethau'r dyfodol, gyda pheth ohono'n cael ei ddyblygu yn Lloegr. Ond hefyd, peth o'r—. Gofynnodd Alun yn uniongyrchol i mi pam na wnaethom fynd gyda deddfwriaeth Lloegr, a'r ateb yw bod gennym ddealltwriaeth lawer mwy cyfannol o'r hyn sy'n achosi llif mewn afonydd, gan gynnwys rhai o'r problemau gyda dalgylchoedd afon, ac rydym yn canolbwyntio'n fawr ar gael cymaint â phosibl o ddiogelwch naturiol rhag llifogydd a diogelwch naturiol rhag carthion, ac nid dim ond datblygu sianeli concrid i sianelu'r dŵr i ffwrdd tuag at y môr ac yn y blaen. Felly, rwy'n awyddus iawn inni ddatblygu atebion sy'n gweddu i ecoleg ac amgylchiadau penodol afonydd yng Nghymru.
Ond i fod yn glir, mae'n amlwg mai Dŵr Cymru sydd â'r mwyafrif helaeth o'r seilwaith yng Nghymru, ac maent wedi gosod dulliau monitro hyd digwyddiadau ar 99 y cant o'u hasedau gorlifoedd stormydd a byddant wedi'u gosod ar y gweddill erbyn diwedd y flwyddyn, erbyn y flwyddyn nesaf. Mae'r holl ddata perthnasol ar gael ar y wefan, felly gallwch weld beth yn union sydd wedi digwydd gyda'r rheini. Mae'n ofynnol iddynt ddarparu crynodeb o ddata gollyngiadau o'u monitorau i CNC yn flynyddol, ac maent yn darparu rhybuddion gorlifoedd stormydd amser real drwy gydol y flwyddyn mewn safleoedd ymdrochi allweddol. Felly, eisoes, ar y cyd â Surfers Against Sewage, mae Dŵr Cymru yn caniatáu i ddefnyddwyr cofrestredig, drwy ymgyrch moroedd diogelach Surfers Against Sewage, gael gwybodaeth amser real ynghylch pryd y mae gorlif storm yn dechrau gweithredu, am ba hyd y mae'n gweithredu a phryd y daw i ben. Felly, gall unrhyw un sydd am fynd i ymdrochi yn yr afonydd gael yr wybodaeth honno, ac mae'n ddefnyddiol iawn ei chael os ydych yn nofiwr dŵr gwyllt, a dylwn ddatgan diddordeb a dweud fy mod yn bendant yn un o'r rheini. Felly, mae gennyf ddealltwriaeth dda o'r angen i ddeall beth yn union sy'n digwydd.
Ac i fod yn glir, ni ddylai hynny ddigwydd oni bai bod yr afon yn ei llif, felly ynghanol storm fawr fel ambell un o'r rhai a gawsom dros yr wythnosau diwethaf. Ac ni fyddai'r afon honno'n addas ar gyfer nofio ynddi pe bai yn ei llif. Ni fyddech am weld pobl yn ceisio mynd i nofio dŵr gwyllt mewn afon sydd yn ei llif, sy'n codi uwchben ei glannau ac yn y blaen. Felly, dyna'r amgylchiadau, a dyna'r unig adeg y dylid defnyddio gorlifoedd stormydd. Felly, dyna fydd ymchwiliad Ofwat yn edrych arno i weld a yw'r ddau beth hynny'n cydgysylltu.
Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda CNC i fonitro, a lle y bo angen, i wella ansawdd dŵr afonydd ledled Cymru. Ddirprwy Lywydd, mae gennym nifer fawr iawn o bethau yr ydym yn eu gwneud, a byddaf yn mynd dros fy amser os ceisiaf eu darllen, ond wedi'u cynnwys ynddynt mae'r byrddau rheoli maethynnau a sefydlwyd gennym ar gyfer gwahanol afonydd, yr afonydd sy'n ardaloedd cadwraeth arbennig, yng Nghymru. Mae gennym waith yn mynd rhagddo gyda CNC i ddeall faint yn union o ddigwyddiadau y maent yn eu mynychu—maent yn mynychu'r mwyafrif helaeth o ddigwyddiadau llygredd—faint yw cost yr uned ar gyfer hynny, a'r hyn y gallwn ei wneud i wella hynny fel bod yr holl ddigwyddiadau y mae'r cyhoedd yn adrodd amdanynt yn cael eu mynychu. Ond hyd yn oed wrth fynychu a bod sampl wedi'i chymryd ar unwaith, nid yw bob amser wedi bod yn bosibl gwybod pwy yw troseddwr y digwyddiad llygredd, hyd yn oed pan fydd gennym samplau perthnasol wedi'u casglu ar unwaith. Felly, mae'n bwysig sicrhau bod gennym gyfres gyfan o fesurau ar waith i sicrhau nad yw digwyddiadau llygredd yn digwydd yn y lle cyntaf, yn ogystal â bod gennym garthffosydd sy'n addas i'r diben.
Y peth arall i'w ddweud yw bod gennym nifer fawr o bethau eraill yr ydym yn awyddus i'w gwneud. Felly, gwn fod y Ceidwadwyr yn awyddus iawn i weld yr ansawdd dŵr yn cael ei wneud, ac rwy'n croesawu hynny, ond wrth gwrs un o'r pethau a wnawn yw cynnwys ein gwaith ar system ddraenio tanddwr yn hyn o beth, lle'r ydym yn cael ein holl ddatblygiadau tai newydd i roi draeniad tanddwr o'r fath ynddynt. Holl bwrpas hynny yw atal y carthffosydd hynny rhag gorlifo'n ôl i'r systemau carthffosiaeth a adeiladwyd yn oes Fictoria ac nad ydynt wedi'u hadeiladu ar gyfer y niferoedd o dai sydd arnynt. Felly, unwaith eto, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Lee Waters nifer o weithiau'n gynharach yn ystod y cwestiynau, ni allwch wahanu'r pethau hyn. Mae gennym argyfwng hinsawdd, mae'n achosi tywydd eithafol, mae angen ymdopi â'r tywydd eithafol yn ein system garthffosiaeth, yn ein datblygiadau tai, yn ein datblygiadau masnachol, ac yn y gwaith trin dŵr gwastraff.
Felly, Alun, byddaf yn cyflwyno deddfwriaeth yn nes ymlaen. Rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi arni i sicrhau ein bod yn deddfu ar gyfer ein systemau draenio a rheoli dŵr gwastraff cynaliadwy a'n bod yn rhoi'r cynlluniau draenio a rheoli dŵr gwastraff hynny ar sail statudol. Rwy'n sicr yn bwriadu gwneud hynny yn ystod tymor y Senedd hon. Ond mae'n rhaid inni wneud hynny o fewn y fframwaith cyfannol sydd ei angen i reoli digwyddiadau llygredd a rheoli digwyddiadau all-lif carthion ar hyd ein hafonydd, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y ddau beth, ac yn y datblygiadau tai a datblygiadau masnachol a roddwn ar waith, fod gennym yr atebion draenio a charthffosiaeth cywir ar gyfer y rheini ar y cychwyn, fel nad ydym yn gorlwytho'r system yn y lle cyntaf. Diolch.
Galwaf ar Alun Davies i ymateb i'r ddadl.
Rwy'n ddiolchgar ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn ein dadl, neu ein sgwrs—roedd yn teimlo'n debycach i sgwrs rhwng unigolion yn hytrach na dadl fwy ffurfiol. Rwy'n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders am y ffordd y disgrifiodd rai o effeithiau gwastraff plastig, ac roedd yn adleisio rhai o'r pwyntiau a wnaed gan Mike Hedges, yn sôn am bwysigrwydd ecosystem o fewn afon, ac i edrych arno felly yn y ffordd yr awgrymodd y Gweinidog, mewn ffordd gyfannol.
Pan drafodwn y materion hyn gyda'n gilydd, y pwyntiau a wnaed gan Rhun ap Iorwerth am y monitro—. Rwy'n cytuno â chi, yn bendant iawn, fod angen inni edrych ar sut yr awn ati i fonitro a deall effaith gweithgareddau dynol yn yr ystyr ehangaf ar yr ecosystem ddŵr, ac mae angen inni wneud hynny drwy'r flwyddyn i gael dealltwriaeth o'r holl effaith ar yr ecosystem. Rwy'n deall, ac rwy'n gyfarwydd, yn amlwg, ag Afon Wysg ac Afon Gwy, fel y byddech chi'n ei ddychmygu, Peter, ac un o'r pethau gwirioneddol drawmatig rwy'n edrych arno weithiau yw'r effaith ar Afon Gwy ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod Sefydliad Gwy ac Wysg wedi rhoi cynllun i ni ar gyfer sut i reoli ansawdd dŵr dros gyfnod o amser. Nid wyf yn siŵr lle'r ydym wedi mynd o'i le ar hynny, a hoffwn edrych eto ar hynny. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu gweithio gyda Llyr a'r pwyllgor ar yr ymrwymiadau a roddwyd ganddi y prynhawn yma, oherwydd, fel y nododd Sam Kurtz yn gwbl briodol, ar adegau ceir llawer mwy sy'n ein huno nag sy'n ein rhannu.
Ddirprwy Lywydd, wrth gloi, cefais fy atgoffa yn ystod y ddadl am daith gerdded a wneuthum gyda'r Aelod dros Bontypridd a'r Aelod dros Ogwr ar hyd y Taf ym Mhontypridd, a buom yn siarad ynglŷn â sut yr oedd y dref yn troi eto at yr afon, ac yn y sgwrs a gawsom, ailadroddais sylw gan ffrind i mi yn Nhredegar a soniodd, wrth i'r chwyldro diwydiannol fwrw gwraidd yn natblygiad cymunedau'r Cymoedd yn arbennig, ein bod wedi troi ein cefnau ar ein hafonydd. Rhoddwyd yr afonydd mewn cwlfertau neu gosodwyd tarmac neu goncrid drostynt a'u datblygu a'u hanghofio. Trodd y trefi a'r bobl eu cefnau ar yr afon. Weinidog, gobeithio nad dyna a wnawn yma heddiw. Yr hyn a ddywedoch chi wrth ymateb i'r cynnig, i'r ddadl, am y dull cyfannol yw'r union bwynt y credaf y byddai'n uno'r Siambr i gefnogi'r gwaith a wnewch, a gobeithio y byddwn, dros y Senedd sydd i ddod, yn gallu gweld y ddeddfwriaeth—
Mae angen i chi ddod i ben yn awr.
—a awgrymwyd gennych, Weinidog, a gobeithio y bydd y pwyllgor perthnasol, wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, yn gallu argymell i'r Senedd ein bod yn deddfu ar y ddeddfwriaeth honno, a chyda'n gilydd fod pob un ohonom yn darparu'r math o fframwaith sydd ei angen arnom i ofalu am ein hafonydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6, dadl y Ceidwadwyr Cymreig, gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc. Galwaf ar Tom Giffard i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7932 Darren Millar, Lesley Griffiths, Siân Gwenllian, Jane Dodds
Cefnogwyd gan Natasha Asghar, Peter Fox
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl banc.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn i chi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i chi a phawb yn y Siambr hon? Nid wyf ddiwrnod yn hwyr; rwyf 364 diwrnod yn gynnar yn lle hynny. [Chwerthin.] Dyna ni.
Mae'n anrhydedd wirioneddol i mi agor y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, dadl a gyflwynwyd yn enw Darren Millar, ac un linell yn unig sydd i'r ddadl heddiw, sef bod y Senedd hon
'Yn credu y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl banc.'
I'r perwyl hwnnw, rwy'n falch iawn o weld bod Aelodau o Blaid Cymru, y Blaid Lafur a Jane Dodds oll wedi cyd-gyflwyno'r cynnig hwn hefyd. Rwy'n gobeithio'n fawr mai canlyniad y ddadl hon heddiw fydd consensws trawsbleidiol gwirioneddol ar wneud ein diwrnod cenedlaethol yn ŵyl banc.
Ar y pwynt hwnnw—ac nid oeddwn am wneud pwynt pleidiol heddiw, ond teimlais fod yn rhaid imi ymateb—siom oedd gweld y Gweinidog addysg ddoe ar y cyfryngau yn dweud bod gan Lywodraeth Cymru ymgyrch hirsefydlog a'i fod yn falch iawn o weld y Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi eu cefnogaeth. Rwy'n atgoffa'r Gweinidog—ac mae'n siomedig nad yw yma—fod y Ceidwadwyr Cymreig yma yn y Senedd wedi bod yn galw amdano ers dros ddegawd. [Torri ar draws.] Wel, roedd yn ddiddorol iawn gweld pa mor hirsefydlog oedd cefnogaeth Llywodraeth Cymru, felly edrychais yn ôl drwy Gofnod y Trafodion a nodais fod Julie James, yn 2018, a oedd yn aelod o'r Llywodraeth ar y pryd, wedi dweud mewn Cyfarfod Llawn, ac rwy'n dyfynnu,
'nid wyf yn credu bod gennym ni unrhyw gynlluniau o gwbl i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl gyhoeddus genedlaethol'.
Bedair blynedd yn ôl oedd hynny, felly rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru bellach yn cefnogi ymgyrch hirsefydlog y Ceidwadwyr Cymreig. Ond serch hynny, mewn ysbryd o gydweithrediad trawsbleidiol, rwy'n crwydro. Ond nid y 60 ohonom sy'n eistedd yn y Siambr hon ac ar Zoom yn unig sy'n credu y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl banc, mae hyn yn rhywbeth y mae pobl Cymru yn ei gefnogi hefyd. Nid yn unig fod 10,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn ddiweddar yn galw am wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc, dangosodd arolwg barn gan BBC Wales hefyd fod 87 y cant o bobl Cymru yn cefnogi'r syniad.
Gwyddom hefyd fod manteision economaidd sylweddol o wneud y diwrnod yn ŵyl banc. Yn ôl y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes, yn draddodiadol caiff gwerthiant siopau hwb o 15 y cant ar ŵyl banc, gyda lletygarwch ac arlwyo yn cael hwb o 20 y cant. Ac ar ôl wynebu mesurau anodd a cheisio ymadfer ar ôl y pandemig, oni fyddai'n newid i'w groesawu i'r diwydiannau hyn gael y budd ychwanegol hirdymor hwnnw hefyd? Byddai manteision economaidd enfawr i Gymru pe bai'n digwydd. Canfu astudiaeth yn 2018 fod rhoi gŵyl banc yn rhoi hwb ychwanegol o £253 o elw ar gyfartaledd i siopau bach y DU. Gallai hynny roi hwb o filiynau o bunnoedd i economi Cymru. Ac yn 2019, cyn i'r coronafeirws daro, rhoddodd dau ŵyl banc hwb o £118 miliwn i fusnesau bach a chanolig eu maint yn y DU.
A chredaf fod manteision diwylliannol enfawr hefyd, ac mae gŵyl banc ar ein diwrnod cenedlaethol yn rhoi cyfle inni hyrwyddo Cymru i weddill y byd. Mae sawl sefydliad eisoes wedi rhoi gŵyl banc Dydd Gŵyl Dewi i'w staff, gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Credaf na ddylai dathliadau'r diwrnod hwn fod yn gyfyngedig i'r bobl hynny yn unig, ond i bawb ledled Cymru. Credaf hefyd y byddai'r ŵyl banc hon yn ffordd addas o ddathlu ein treftadaeth a'n diwylliant, ochr yn ochr â'r hwb i'r economi a thwristiaeth—gan roi hwb mawr ei angen i'r diwydiant hwnnw ar ôl y pandemig. Mae gwyliau cyhoeddus yn caniatáu i bobl gael amser hamdden ychwanegol, sydd fel arfer yn helpu i greu effaith gadarnhaol ar dwristiaeth a lletygarwch, a byddai'n ysgogiad gwirioneddol i'r diwydiant twristiaeth, gan fod gwyliau banc yn ychwanegu tua £50 miliwn at dwristiaeth yn unig yn economi'r DU.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y byddai gŵyl banc Dydd Gŵyl Dewi yn denu miloedd o ymwelwyr i'n gwlad i nodi ein diwrnod arbennig, gan roi hwb mawr i economi a thwristiaeth Cymru. Ac mae'n gweithio: canfu ymgynghoriad gan Senedd yr Alban fod ymatebwyr yn cefnogi'r syniad fod gŵyl banc Dydd Gŵyl Sant Andrew yn hybu twristiaeth yn yr Alban. Mae gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc yn ffordd addas o ddangos y diwylliant a'r hanes i'r byd. Mae ymgyrchoedd fel Caru Cymru, Caru Blas yn helpu i hyrwyddo Dydd Gŵyl Dewi ledled Cymru a gweddill y DU, i ddathlu bwyd a diod o Gymru. [Torri ar draws.] Rwy'n eistedd wrth ymyl yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd, sy'n eiriolwr brwd dros eirin Dinbych. [Chwerthin.] Dyna ni. Mae'n braf i rywun arall gael hynny yng Nghofnod y Trafodion am newid.
Dylem fod yn dathlu popeth sydd gan Gymru i'w gynnig a chaniatáu i gynifer o bobl â phosibl brofi diwylliant a hanes cyfoethog Cymru, a byddai cael gŵyl banc yn helpu i hyrwyddo'r gwerthoedd hynny. Ddoe, dathlwyd Dydd Gŵyl Dewi ar draws y byd gan y diaspora Cymreig. Cynhaliodd Cymdeithas Cymru yn Llundain ginio yn y Guildhall; dathlodd cymdeithas Cymry Efrog Newydd ym mar Liberty NYC, yng nghysgod adeilad yr Empire State; ac mae Cymdeithas Dewi Sant Kansai yn Osaka, Japan, yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau rhithwir sy'n dathlu Cymru. Ar ôl effaith amhariadau COVID, onid yw'n wych gweld bod dathliadau'n ymadfer o'r diwedd ar ôl seibiant hir, yng Nghymru ac ar draws y byd? Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle perffaith i wella enw da ein gwlad yn fyd-eang, gan greu cysylltiadau ag amrywiaeth eang o bobl o bob cwr o'r byd.
Dylai pobl ledled Cymru allu mwynhau gŵyl banc ar Ddydd Gŵyl Dewi, a byddai'n foment wych i'n gwlad allu dathlu ac uno o amgylch ein treftadaeth a'n diwylliant. Mae gan bobl yr Alban a Gogledd Iwerddon ŵyl banc i ddathlu eu nawddseintiau, gyda Senedd yr Alban wedi ei wneud yn ŵyl banc yn 2006, a Chynulliad Gogledd Iwerddon yn 2000. A chredaf yn awr ei bod yn bryd i Gymru ddilyn eu hesiampl a chael yr un peth i'n nawddsant ni.
Ond mae'n bwysig inni gofio nad yr unig reswm inni gael gŵyl banc yw bod eraill yn cael un hefyd, ond ei bod yn ddiwrnod i fyfyrio ar ein diwylliant a'n treftadaeth. Gall hwn fod yn ddiwrnod lle rydyn ni'n meddwl beth mae'n ei olygu i fod yn Gymreig yn y flwyddyn 2022. Ac, i fi, nid yr ateb yw cawl, rygbi neu ddreigiau, ond Cymru fodern a chymunedau ar draws y wlad—cymunedau sy'n tynnu at ei gilydd pan fydd amseroedd yn anodd. Y Gymru dwi'n ei adnabod yw'r Gymru a ddeliodd â'r coronafeirws drwy fynd i'r siopau ar ran eu cymdogion; mae'r Gymru dwi'n ei hadnabod yn un sy'n sefydlu grwpiau cymunedol i helpu ei gilydd gyda phethau fel iechyd meddwl, er enghraifft; ac mae'r Gymru dwi'n ei hadnabod yn un sy'n sefyll mewn undod gyda phobl yn Wcráin. Wrth gwrs, rydyn ni'n dal i fod yn wlad beirdd a chantorion, ond rydyn ni hefyd yn wlad ag empathi.
Felly, rwy'n falch iawn o fod yn Gymro a gwn fod gan Gymru gymaint i'w gynnig i'r byd, ac rwy'n obeithiol iawn am ei dyfodol hefyd. A hoffwn gloi drwy ddyfynnu Prif Weinidog y DU, a ddywedodd ddoe,
'Yn fyr, Cymru a'r Cymry sy'n gwneud y DU yr hyn ydyw heddiw.'
Ac rwy'n cytuno'n llwyr.
Diolch yn fawr i'r Torïaid am ddod â'r ddadl yma ger bron, ond hoffwn i ddechrau heddiw trwy eich hebrwng yn ôl ar daith hanesyddol—nid nôl i oes Dewi a'r seintiau cynnar, ond yn ddigon pell yn ôl i gyfnod pan oedd Tom Giffard yn gwisgo trywser byrion yr ysgol gynradd, i Gareth Davies yn bwyta'r Denbigh plum ar lin ei fam, i Jack Sargeant heb farf ac i fi gyda mwy o wallt ar dop fy mhen. Ie, nôl 22 o flynyddoedd i Ddydd Gŵyl Dewi cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn y Siambr yn Nhŷ Hywel, fe wnaeth fy nhad arwain dadl yn cynnig bod Dydd Gŵyl Dewi yn dod yn ŵyl y banc. Dywedodd hyn wrth agor y ddadl 22 a diwrnod o flynyddoedd yn ôl:
'Mae Dydd Gŵyl Dewi Sant yn fwy na dathliad. Hwn yw ein diwrnod cenedlaethol a’r diwrnod pan yr ydym ni, pobl Cymru, gartref ac ar draws y byd yn gallu dathlu ein gorffennol a’n presennol a chael hwb ar gyfer ein hymdrechion yn y dyfodol.'
Fe gafodd y cynnig gefnogaeth unfrydol lot bellach yn ôl na degawd, Tom Giffard. Fe gafodd e gefnogaeth unfrydol y Cynulliad, cefnogaeth o bob plaid, gan gynnwys y Ceidwadwyr Cymreig. Ond, yn 2002, wedi oedi a llusgo traed, fe wrthododd Paul Murphy, yr Ysgrifennydd Gwladol, gais y Cynulliad. Yn 2005, rŷm ni bellach nawr yn ail dymor y Cynulliad, a Peter Hain nawr yn Ysgrifennydd Gwladol. Fe ofynnodd fy nhad am ddiweddariad oddi wrth Rhodri Morgan. Ateb Rhodri oedd:
'Mae San Steffan wedi gwrthod cais y Cynulliad, ond mae'r trafodaethau'n parhau.' Wel, nid wyf yn gwybod a ydynt yn parhau—
—nawr, ond dŷn nhw ddim wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yn hyn, ydyn nhw?
Ac yn 2021, wedi cais gan Gyngor Gwynedd, gwrthodwyd rhoi gŵyl y banc i Gymru gan Lywodraeth San Steffan. Déjà vu, groundhog day—galwch e beth y mynnwch chi—but we've been here before. Er llais unedig y Cynulliad a'r Senedd ar y mater yma, nid ydym wedi symud ymlaen o gwbl mewn 22 o flynyddoedd. Llywodraethau San Steffan o ba bynnag liw—Llafur, Ceidwadwyr, hyd yn oed y Democratiaid Rhyddfrydol—a dim un ohonyn nhw wedi rhoi Gŵyl Ddewi yn ŵyl y banc. Pum Prif Weinidog, saith Ysgrifenydd Gwladol, i gyd wedi dweud 'na'. Nid problem bleidiol yw hon. Gwelwn heddiw, fel 22 o flynyddoedd yn ôl, gefnogaeth drawsbleidiol unfrydol yn y Senedd hon. Y broblem yw San Steffan. Dro ar ôl tro, rŷm ni'n cael ein hanwybyddu.
Os yw'r Deyrnas Unedig yn undeb o genhedloedd cydradd, fel y mae'r unoliaethwyr cyhyrog a'r unoliaethwyr nad ydynt mor gyhyrog yn hoff o'i ddweud, byddai cydraddoldeb rhwng y cenhedloedd—cyfle cyfartal i ni ddathlu, dawnsio, canu a gorffwys ar ddiwrnod ein nawddsant. Ac fel y dywedodd Tom Giffard, yn ystod y 22 mlynedd diwethaf, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi creu gwyliau banc ychwanegol i ddathlu eu nawddseintiau, ac rwy'n gobeithio y bydd ein cymdogion yn Lloegr yn gwneud yr un peth yn fuan. Nid ydym yn gofyn am—.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Nid wyf eisiau torri traws ar eich anterth, ond rydych yn dweud nad y pleidiau yw'r broblem, ond San Steffan. A fyddech felly'n cytuno â mi, yn hytrach na phasio cynigion ac anfon y ceisiadau hyn i San Steffan, y dylai'r pwerau hyn fod yma i ni benderfynu arnynt?
Rhyfedd ichi ddweud hynny, Alun, oherwydd fy mrawddeg nesaf oedd, 'Mae angen i Gymru allu penderfynu pryd y cawn ein gwyliau banc ein hunain.' [Chwerthin.]
Yn lle hynny, rydym fel Oliver Twist, onid ydym ni, yn ysgwyd, yn mynd gyda'n powlen gardota yn gobeithio am ryw friwsionyn. Wel, dylem ni ddim mynd ar gardod ar Lywodraeth arall i sicrhau bod gŵyl ein nawddsant yn ŵyl y banc. Hyfryd oedd clywed Tom Giffard yn siarad Cymraeg ar Radio Cymru ddoe, hyfryd clywed ti'n siarad Cymraeg heddiw—dal ati, gyfaill, gwna fe eto—ond roeddwn i'n gresynu dy fod wedyn wedi dweud ar Radio Cymru y dylid symud un o wyliau banc mis Mai ar gyfer 1 Mawrth. Wel, mwy o wyliau banc sydd eu hangen arnom, Tom, nid cadw'r status quo; creu cyfartaledd gyda'n cyfeillion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, gydag 11 yn yr Alban, 10 yng Ngogledd Iwerddon ond dim ond wyth yng Nghymru a Lloegr. Pam? Dydy hynny ddim yn gwneud dim synnwyr.
Dwi'n credu y gall Llywodraeth Cymru ddilyn yn ôl traed Cyngor Gwynedd a chreu gŵyl y banc de facto yma yng Nghymru. Mae arweiniad Cyngor Gwynedd wedi arwain at y parc cenedlaethol yn Eryri, Cyngor Tref Aberystwyth a nifer o fudiadau'r trydydd sector yn rhoi gŵyl y banc i'w gweithwyr.
Gadewch imi ddweud: mae llawer wedi newid ers y ddadl ar ŵyl y banc yn y flwyddyn 2000, yn gyfansoddiadol ond hefyd, wrth reswm, i ni yn bersonol—cyfnodau llon a chyfnodau lleddf; cyfnodau o ennill ac o golli. Wedi’r cyfan, mae 22 o flynyddoedd yn gyfnod hir. Yn y cyfnod yna, mae fy nhad i—.
Rwy'n dirwyn i ben yn awr, Ddirprwy Lywydd.
Yn y cyfnod yna, mae fy nhad i wedi colli'r gallu i siarad yn llwyr, ond mae ei eiriau, a thrwy hynny ei lais, yn parhau. Terfynodd ei araith drwy ddyfynnu geiriau anfarwol ein nawddsant,
'Frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain.'
Aeth fy nhad, Ddirprwy Lywydd, ymlaen yn bellach i ddweud:
'Sylwch ar y geiriau "byddwch lawen", sydd yn golygu dathlu, mwynhau a, phwy a ŵyr, cael diwrnod o wyliau efallai? Pwy ydym ni i anwybyddu dymuniadau'r gŵr mawr?'
Wel, gyfeillion, 22 o flynyddoedd yn ddiweddarach, nid yn unig y mae dymuniadau'r gŵr mawr, Dewi Sant, wedi cael eu hanwybyddu, ond hefyd, dro ar ôl tro—
Mae angen i chi ddirwyn i ben yn awr.
—llais unfrydol y Cynulliad a’r Senedd. Mawr obeithiaf, gyfeillion, na fyddwn yn ôl mewn 22 o flynyddoedd yn cael yr un ddadl. Diolch yn fawr.
I'r record, dwi'n Gymro balch.
Fel Cymro balch, rwy'n ategu geiriau Rhys ab Owen a'i dad yn yr hyn y mae newydd ei ddweud. Mae hon yn ddadl sydd i'w chroesawu'n fawr heddiw, ac mae'n wych gweld bod y cynnig wedi ei gyflwyno gan holl bleidiau'r Senedd. Rwy'n gobeithio bod Llywodraeth y DU yn gwrando, ac yn gwrando gyda bwriad i sicrhau y gallwn wneud y penderfyniad hwn yma yn ein Senedd ni.
Tom Giffard, rydych yn iawn: nid oes gennym ddigon o wyliau banc, fel yr ategodd Rhys ab Owen. Pa ddiwrnod gwell i gael gŵyl banc ychwanegol nag ar Ddydd Gŵyl Dewi? Mae'n gyfle gwych i ddathlu Cymru, ond hefyd, i lawer, dim ond i gael peth amser yn ôl.
Ond mae'n werth cofio, Ddirprwy Lywydd, nad yw pawb yn cael gwyliau ar ŵyl banc, a dylem fod yn edrych ar wella ffyrdd o wella eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith hwythau hefyd. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod yn cefnogi wythnos pedwar diwrnod, oherwydd rwy'n cydnabod bod rhoi amser yn ôl i bobl yn cynnig budd mewn cynhyrchiant. Rydym yn cydnabod ein bod yn gweithio'r oriau hwyaf yn Ewrop, ac eto mae ein cynhyrchiant yn is na'r rhan fwyaf.
I'r rhai sy'n meddwl yn y sgyrsiau hyn heddiw pwy y dylent ddiolch iddynt yn y gorffennol am greu'r gwyliau banc sydd gennym yma yn y Deyrnas Unedig, yr undebau llafur ydynt. Fy neges heddiw i Aelodau ar draws y Siambr ac i bobl Cymru yw ymunwch ag undeb; ymunwch â'r frwydr mewn undod â'n cydweithwyr am well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Ddirprwy Lywydd, nid wyf am brofi eich amynedd, fel y mae eraill wedi'i wneud yn y ddadl hon, ond a gaf fi orffen drwy gymeradwyo ein harweinydd beiddgar—ein Prif Weinidog beiddgar—a'i neges ddoe ddiwethaf, pan alwodd am wneud y pethau bychain Cymreig? Wrth hynny, yr hyn a olygai oedd gweithredoedd da. Lledaenwch y pethau bychain Cymreig a lledaenwch garedigrwydd, boed hynny drwy fwyta cennin, plannu coeden eirin Dinbych, yfed Wrexham Lager neu beth bynnag y gallech chi ei wneud. Ond os gwelwch yn dda, lledaenwch y Cymreictod hwnnw a lledaenwch y caredigrwydd hwnnw, ffrindiau, ar Ddydd Gŵyl Dewi a phob dydd drwy gydol y flwyddyn. Diolch yn fawr.
Diolch i Darren Millar am gyflwyno'r cynnig y prynhawn yma. Bydd Aelodau'r Siambr sy'n fy nilyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwybod bod hwn yn achos rwy'n hynod angerddol yn ei gylch. Fel Rhys ab Owen, rwy'n mawr obeithio na fyddwn yn dal i fod yma ymhen 22 mlynedd yn trafod y pwnc hwn. Fodd bynnag, nid wyf am ddefnyddio fy sylwadau byr y prynhawn yma yn trafod y wleidyddiaeth. Byddai'n well gennyf sôn am y pethau niferus sy'n gwneud Cymru a'r Cymry'n wych ac yn deilwng o ŵyl banc genedlaethol, i ddathlu a chydnabod y cyfraniad enfawr y mae ein pobl, ein diwylliant a'n hanes wedi'i wneud nid yn unig i'r Deyrnas Unedig ond i'r byd.
Yn gyntaf, ein diwylliant a'n hymdeimlad o hiraeth, o berthyn i'n cenedl a'n hiraeth am ein gwlad, y syniad, ni waeth pa mor bell o Gymru y boch, y bydd eich clustiau'n codi pan glywch air neu ddau o Gymraeg neu acen Gymreig. Mae'n anochel y bydd gennych ffrindiau neu gydnabod yn gyffredin. Gwelais hyn yn uniongyrchol pan ymwelais â Gambia yn Affrica yn fy arddegau. Un bore, clywais 'bore da' gan un o'r tywyswyr teithiau Gambiaidd lleol, Mustapha Bojang, a fyddai'n mynd ati i arddangos ei wlad brydferth i ni, ac roedd ganddo ffrindiau yn Saundersfoot. Ac o'n heisteddfodau a'n cymanfaoedd canu neu hyd yn oed jamborïau'r Urdd, mae ein hanes o adrodd straeon, canu a dod at ein gilydd i fwynhau ein diwylliant yn gonglfaen i'r hyn sy'n gwneud Cymru'n wych.
Mae siarad am 'wychder' yn dod â mi at fy ail bwynt, sef ein chwaraeon, sy'n ffynhonnell cydlyniant cymdeithasol ac uchelgais cenedlaethol. Mae Cymru'n gartref i bencampwr bocsio, enillydd Tour de France, buddugwyr y Gamp Lawn, enillwyr Camp Lawn y dartiau, a phencampwyr medalau aur Olympaidd. Mae ein chwaraeon yn arf i fynd i'r afael ag iechyd meddwl gwael ac yn denu mewnfuddsoddiad. Heb os, mae chwaraeon wedi trawsnewid bywydau a gwella cymunedau ledled Cymru. Ac er mai cenedl fach ydym ni, mae'n ymddangos ein bod bob amser yn gwneud yn well na'r disgwyl—nad yw'n ffôl i genedl gydag ychydig dros 3 miliwn o bobl. Ond daw hyn â mi'n ôl at yr ymdeimlad hwnnw o gydlyniant, o berthyn ac o gymuned. Mae ein harwyr chwaraeon yn ein plith yma yng Nghymru, ac nid yn eilunod pell. Credaf ein bod yn agosach at ein sêr chwaraeon na llawer o wledydd eraill, ac felly rydym yn rhannu eu buddugoliaethau a'u maeddiadau i raddau mwy na rhai gwledydd eraill.
Daw hyn â mi at fy nhrydydd pwynt, ein cymuned. Wrth siarad heddiw ac ar ôl gweld ein hymateb i'r rhyfel a'r gwrthdaro yn Wcráin, mae'n ddiamau bod Cymru yn 2022 yn genedl agored, oddefgar a thosturiol, y mae ei dyngarwch a'i hempathi yn bodoli y tu hwnt i'n ffiniau a'n cymunedau ein hunain. A dyna'n union sy'n gwneud Cymru mor anhygoel o arbennig. Mae ein hysbryd cymunedol wedi'i wreiddio ym mhob sefydliad, pob traddodiad, a phob arfer. Mae'n rhan o sylfeini'r union Senedd hon, ac mae'n nodwedd y mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn ei rhannu.
Daw hyn â mi at fy mhedwerydd pwynt, ein hanes hir a chyfoethog o Gymry sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. Rydym i gyd yn ymwybodol o'n hymrwymiad a'n traddodiad hanesyddol dwfn yn lluoedd arfog Cymru, traddodiad sydd wedi gweld uned frwydro Frenhinol Cymru yn cael ei hanfon i Estonia i gefnogi ein cynghreiriaid Ewropeaidd a NATO mewn ymdrechion i gefnogi Wcráin ac ymladd yn ôl yn erbyn ymddygiad ymosodol. Yn ogystal â'r rhai sy'n gwasanaethu, mae Cymru'n gartref balch i nifer o gyn-filwyr, a ddoe ddiwethaf cyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU fod Cyrnol James Phillips wedi'i benodi'n gomisiynydd cyn-filwyr cyntaf erioed Cymru, rhywun y gall ein cyn-filwyr ddibynnu arno i wella cefnogaeth a chraffu ar bolisi'r Llywodraeth.
Ac yn olaf, fy mhumed pwynt, ein hiaith. Mae pawb yn siarad ein hiaith gyda balchder, a dyna yn union y pwynt: mae'r iaith Gymraeg i bawb ac mae'n chwarae rhan hollbwysig yn ein treftadaeth, ein hanes, a'n diwylliant. Ddoe, sefais yma a siarad am sut mae hunaniaeth cenedl nid yn unig yn seiliedig ar ddiwylliant a thraddodiad, ond cymuned hefyd.
Wrth i mi ddirwyn i ben, rwy'n myfyrio ar eiriau mab enwocaf Talacharn, Dylan Thomas, a ddywedodd am Gymru, 'Gwlad fy nhadau? Gall fy nhadau ei chael!' Mentraf ddweud, Ddirprwy Lywydd, fod y bardd Cymreig mor anghywir yn awr ag yr oedd bryd hynny. Yn wir, Cymru yw'r lle gorau ar y ddaear, a chredaf ei bod yn iawn inni gael gwyliau cenedlaethol i adlewyrchu a chydnabod hynny. Diolch.
A gaf i ddweud diolch yn fawr iawn hefyd i'r Torïaid am gyflwyno hyn, a hefyd diolch i Tom am ddechrau'r ddadl yma? Gwych eich clywed chi'n siarad Cymraeg. Diolch yn fawr iawn am hynny.
Gallwn gael cystadleuaeth fach, rwy'n credu, rhyngom ni, Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, a Llafur Cymru, oherwydd cyflwynwyd gwyliau banc am y tro cyntaf ym 1871 gan Syr John Lubbock, a oedd yn AS Rhyddfrydol a ddrafftiodd y Bil Gwyliau Banc. Fodd bynnag, hoffwn dalu teyrnged i'r undebau llafur, sydd wedi gwreiddio'r ymdeimlad yn ein diwylliant fod arnom angen cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Mae COVID, fel rydym i gyd wedi'i ddysgu, onid ydym, wedi gwneud inni ailfeddwl am ein bywydau o ran yr hyn sy'n bwysig i ni, a'r hyn nad yw mor bwysig i ni yn awr efallai, ac nid yw'n ymwneud â gweithio'n ddiddiwedd, ond yn hytrach, treulio amser gyda'n teuluoedd a'n ffrindiau a'n cymunedau sy'n bwysig mewn gwirionedd. Fel y clywsom—ac eto, mae Jack wedi sôn am hyn—mae'n bwysig iawn ein bod yn cofio'r holl bobl sy'n gweithio ar wyliau banc ac ar benwythnosau hefyd. Mae angen inni dalu teyrnged iddynt—ein gweithwyr gofal, ein gweithwyr siopau, ein gweithwyr ffatri, y rhai sy'n gweithio ym maes iechyd. Mae angen inni sicrhau eu bod hwy'n cael eu cefnogi a'u talu'n briodol hefyd.
Mae pawb ohonom yn cofio, y rhai ohonom a oedd yn yr ysgol, yr eisteddfodau, y Dyddiau Gŵyl Dewi pan fyddem yn gwisgo i fyny. I mi, roedd fy het, pan oeddwn tua chwech oed, yn fwy na mi mewn gwirionedd. Rydym i gyd yn cofio'r eisteddfodau y byddem yn eu cael drwy gydol y dydd yn blant, a byddem yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Dyna sydd angen inni feddwl amdano wrth symud ymlaen. Clywsom fod Cymru'n wlad wirioneddol wych. Mae gennym y Gymraeg, mae gennym ganu plygain. Cofiwch, yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, fod gennym ddathliadau plygain, sy'n ymwneud â chanu. Mae gennym ddefaid. Mae gennym ddefaid gwell nag unrhyw wlad arall yn y byd. Mae gennym ein diwylliant. Mae gennym chwaraeon, mae gennym gymaint mwy. Mae angen inni sicrhau bod y byd a'r wlad hon yn gwybod ein bod yn falch o fod yn Gymry, a dyna pam ein bod angen gŵyl banc Gymreig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Diolch yn fawr iawn.
Dewi Sant yw nawddsant ein gwlad, ac mae ei weithredoedd da yn parhau i ysbrydoli llawer ar draws ein cymdeithas gyfan. Mae Dydd Gŵyl Dewi hefyd yn nodi diwrnod gŵyl genedlaethol ledled Cymru a chymunedau Cymreig ledled y byd. Byddai creu gŵyl banc i nodi'r achlysur hwn yn rhoi amser i'n cymunedau fyfyrio a dathlu ein hanes a'n diwylliant a'r rôl bwysig y mae'r ddau wedi'i chwarae yn ffurfiant a diwylliant ehangach ein Teyrnas Unedig.
Gan fod hyn yn rhywbeth sydd eisoes yn cael ei wneud yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae'n briodol iawn y dylid rhoi'r un cyfle i Gymru. Er ein bod yn sicr yn deulu o genhedloedd, mae'n iawn hefyd fod pob aelod yn cael y cyfle hwn i fwynhau a dathlu ei hanes ei hun. Yn wir, mae llawer o sefydliadau, megis Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, eisoes yn rhoi diwrnod o wyliau i'w staff i nodi Dydd Gŵyl Dewi. Am y tro cyntaf eleni, mae St David's Commercial, busnes eiddo yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Darren Millar, wedi rhoi diwrnod o wyliau i'w staff. Felly, mae hynny'n dangos bod busnesau bellach yn dechrau cydnabod hyn.
Mae cymunedau o bob cwr o'n cymdeithas yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau mawreddog i nodi'r diwrnod. Yng Nghaerdydd, cafwyd gorymdaith drwy'r ddinas cyn canu anthem genedlaethol Cymru. Yn Ninbych, ailaddurnwyd siopau lleol i nodi'r digwyddiad. Mae sir y Fflint wedi bod yn cynnal pythefnos o weithgareddau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Gwn fod dirprwy faer Llandudno wedi mynychu gorymdaith ym Mae Colwyn, unwaith eto yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Felly, nid yw ond yn iawn creu gŵyl banc i gefnogi'r ymdrechion parhaus hyn a hefyd i annog mwy o gymunedau i nodi'r dyddiad cenedlaethol pwysig hwn.
Mae achos economaidd cadarn hefyd dros y gwyliau banc hwn. Fel y gŵyr llawer o'r Aelodau, rwy'n siŵr, mae busnesau bach a chanolig, yn enwedig y rhai sy'n gweithredu yn ein sectorau twristiaeth, lletygarwch a manwerthu gwerthfawr, yn wynebu heriau sylweddol yn ystod misoedd cynnar y flwyddyn. Byddai gŵyl banc ar 1 Mawrth yn rhoi hwb economaidd i'w groesawu'n fawr yn ystod chwarter ariannol heriol. Yn ôl gwasanaeth sy'n olrhain taliadau cardiau, rhoddodd dau wyliau banc yn 2019 hwb o £118 miliwn i fusnesau bach a chanolig Prydain.
Yn ogystal, mae'r Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes yn honni bod gwerthiant siopau yn draddodiadol yn cael hwb o tua 15 y cant ar ŵyl banc, tra bod lletygarwch yn gweld cynnydd o 20 y cant o'i gymharu â phenwythnos. Fel y cyfryw, byddai darparu gŵyl banc yn gynharach yn y flwyddyn yn rhoi hwb economaidd mawr ei angen i fusnesau sy'n asgwrn cefn i economi Cymru. Ac fel y dywedodd ein cyd-Aelod, Jane Dodds, bydd yn cefnogi diwydiannau sydd wedi dioddef cymaint yn sgil y pandemig yn arbennig. Felly, mae'n bleser mawr gennyf ychwanegu fy nghefnogaeth i'r cynnig hwn, sy'n gofyn i Lywodraeth y DU nodi Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl banc. Diolch.
Rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl banc yma yng Nghymru, a hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Tom Giffard, am arwain y ddadl yma yn y Senedd heddiw. Bydd gŵyl banc ar ein diwrnod cenedlaethol yn dod â'n cenedl ynghyd i ddathlu ein hanes, ein cyflawniadau, ein diwylliant unigryw a'n hamrywiaeth.
Fel rhywun a anwyd ac a fagwyd ac sy'n byw yng Nghasnewydd, efallai na fydd hyn yn syndod i chi, ond rwy'n siŵr y byddai fy niweddar dad wedi cefnogi'r cynnig hwn heddiw, yn union fel y byddai tad Jack Sargeant wedi'i wneud hefyd. Ni chafodd fy nhad ei eni yng Nghymru, ond dewisodd wneud Cymru'n gartref iddo, ac efallai mai ef oedd y dadleuwr mwyaf brwd dros Gymru imi erioed gwrdd ag ef. Ar wahân i hynny, teimlai fod ganddi botensial aruthrol ym mhob agwedd ar fywyd, o'r economi i addysg a thrafnidiaeth hefyd. Roedd eisiau creu Cymru well i bawb ac roedd yn ymrwymedig i ddod â'n cymunedau amrywiol at ei gilydd. Byddai gŵyl banc ar Ddydd Gŵyl Dewi yn rhoi cyfle i bobl ledled Cymru, boed wedi eu geni yma neu beidio, uno i werthfawrogi a dathlu'r lle yr ydym i gyd yn ei alw'n gartref. Fel y dywedodd Jane Dodds, byddai'n rhoi cyfle inni dalu teyrnged i'n harwyr ac wrth i Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod agosáu, ein harwyr benywaidd o Gymru. Fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, byddai'n amser i fyfyrio ar ein hanes a'i ddathlu.
Gwn mai un o'r dadleuon a gyflwynwyd yn erbyn y cynnig hwn yw'r gost i'r economi. Fodd bynnag, gadewch inni fod yn glir: nid yw'r cynnig hwn yn ymwneud â chreu gŵyl banc newydd, mae'n ymwneud â symud un gŵyl banc sy'n bodoli eisoes, naill ai Calan Mai neu ŵyl banc y gwanwyn, o fis Mai i fis Mawrth, fel y gallwn ddathlu diwrnod ein nawddsant. Fel y dywedodd Rhys ab Owen yn gynharach, mae gwledydd datganoledig eraill yn y DU eisoes yn gwneud hyn. Gwnaeth Cynulliad Gogledd Iwerddon Ddydd Sant Padrig yn ŵyl banc yn ôl yn 2000, a gwnaeth Senedd yr Alban yr un peth ar gyfer Dydd Sant Andrew yn 2006. Pam y dylid amddifadu pobl Cymru o'r un fraint? Ceir cefnogaeth eang ymhlith y cyhoedd i gam o'r fath. Nododd arolwg barn gan BBC Wales yn 2006 fod 87 y cant yn cefnogi'r syniad, ac mae dros 10,000 o bobl wedi arwyddo deiseb ddiweddar o blaid yr argymhelliad.
Mae hefyd yn braf fod y cynnig hwn wedi cael cefnogaeth gan bob plaid a gynrychiolir yn y Senedd heddiw. Byddai hefyd yn anfon neges gref i'r Cymry ar wasgar a'r rhai sy'n falch o'u treftadaeth Gymreig sy'n byw mewn rhannau eraill o'r DU, neu sy'n byw dramor, y gallant ddathlu gyda ni ar y diwrnod arbennig hwn bob blwyddyn. Ceir cymdeithasau Cymreig mewn mannau mor bell oddi wrth ei gilydd â Llundain ac Affrica, fel y soniodd Sam Kurtz yn ei gyfraniad, yn Efrog Newydd, ac fel y dywedodd Tom Giffard, yn Osaka hefyd. Roedd yn wych gweld mab y Seneddwr Gweriniaethol dros Utah a chyn-ymgeisydd am Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau, Mitt Romney, yn gwisgo crys rygbi Cymru cyn y gêm yn erbyn Lloegr. Mae hyn yn dangos ei falchder yn ei dreftadaeth Gymreig ar ochr ei fam, Ann Romney, a oedd yn wyres i löwr o'r Cymoedd.
Felly, Ddirprwy Lywydd, nid oes gennym bŵer yma i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc; mae'r pŵer gyda Llywodraeth y DU yn San Steffan. Byddai'r cynnig hwn, os caiff ei basio, yn ein galluogi i weithio'n adeiladol gyda San Steffan i sicrhau gŵyl banc Dydd Gŵyl Dewi i Gymru. Rwy'n annog y Senedd i siarad ag un llais i sicrhau'r newid hwn. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn Wcráin dros yr wythnos diwethaf yn peri gofid mawr. Mae wedi pwysleisio pa mor bwysig yw gallu dathlu eich bod chi'n genedl, a pha gyfle gwell inni ddathlu yma yng Nghymru nag ar Ddydd Gŵyl Dewi? Dyma sut rydyn ni'n dathlu ein bod ni'n wlad sy'n cefnogi gwledydd eraill hefyd. Rydyn ni'n dangos ein bod ni'n sefyll fel un gyda phobl o wledydd eraill ar draws y byd. Ddoe, roedd gweld daffodil Cymru ochr yn ochr â blodyn yr haul Wcráin yn dangos ein bod ni'n mynnu ein lle fel cenedl ymhlith cenhedloedd eraill y byd. Ac mae Llywodraeth Cymru yn falch o wneud hyn. Bob blwyddyn, rydyn ni'n hybu Cymru a'i diwylliant arbennig gyda gwahanol weithgareddau adeg Dydd Gŵyl Dewi. Bob blwyddyn hefyd, mae'r mater o gael diwrnod o wyliau cyhoeddus ar Ddydd Gŵyl Dewi yn codi. Dylai Aelodau fod yn gwbl sicr o farn Llywodraeth Cymru am y mater hwn. Mae'n rhywbeth rydyn ni wedi bod yn dadlau dros ei wneud ers dechrau datganoli, fwy neu lai.
Ceir cefnogaeth eang ymhlith y cyhoedd, fel sydd ar draws y pleidiau yn y Siambr hon, i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl yma yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw creu gwyliau banc yng Nghymru a Lloegr yn fater sydd wedi'i ddatganoli. Er mwyn gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc, byddai angen ychwanegu 1 Mawrth at y rhestr o wyliau banc presennol a gynhwysir yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971. Mae'r pŵer hwn yn nwylo Llywodraeth y DU ar hyn o bryd.
Bydd llawer o'r Aelodau'n ymwybodol ein bod, ar fwy nag un achlysur, wedi gofyn i Lywodraeth y DU naill ai greu Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl gyhoeddus neu drosglwyddo'r pŵer i'n galluogi ni i wneud hynny ein hunain. Yn anffodus, gwrthodwyd ein ceisiadau—
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Os gwelwch yn dda.
Diolch am ildio, ac rwy’n cysylltu fy hun â’r sylwadau a wnaethoch yn eich sylwadau agoriadol hefyd, fel y mae pawb ohonom, rwy’n siŵr.
A fyddai ganddo ddiddordeb mewn gwybod bod Bil wedi’i gyflwyno ar lawr Senedd y DU ar 1 Mawrth 2016 gan Mark Williams, yr Aelod Seneddol dros Geredigion ar y pryd? Fe’i galwyd yn Fil Datganoli (Gwyliau Banc) (Cymru). Roeddwn yn falch o fod yn un o'i gyd-gefnogwyr, ynghyd ag Aelodau o Blaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol ac Aelodau eraill o’r Tŷ. Y tro hwnnw, ni allwyd sicrhau unrhyw gefnogaeth gan y Ceidwadwyr, ond ymddengys ein bod yn gwneud cynnydd. Pe na byddem yn llwyddo i berswadio Llywodraeth y DU i gyflwyno eu cynnig eu hunain, a fyddai wedyn yn ceisio cefnogaeth drawsbleidiol, nid yn unig yn y Siambr hon, ond gyda chefnogaeth cyd-Aelodau Ceidwadol, i ddatganoli’r pwerau i Gymru?
Byddwn yn sicr yn cefnogi’r cynnig hwnnw, ac wrth gwrs, rydym yn cofio ei fod yn un o’r pethau y gofynnwyd amdanynt yn Neddf Cymru 2017 a gafodd eu gwrthod. Dof at hynny mewn eiliad efallai, ond diolch am y pwynt a wnaethoch, ac rwy’n siŵr ei fod yn cynrychioli’r teimlad trawsbleidiol yn y Siambr hon, a ledled Cymru mewn gwirionedd.
Tra bo'r Alban a Gogledd Iwerddon, wrth gwrs, yn mwynhau’r fraint o allu dathlu eu dyddiau cenedlaethol gyda gwyliau cyhoeddus, ni allwn ddeall pam y cawn ni ein hamddifadu o'r fraint honno. Nid oes unrhyw reswm rhesymegol dros beidio â chaniatáu ein cais, ond mae digon o resymau da pam y dylid ei ganiatáu. Byddai gwyliau cyhoeddus yn galluogi pobl, yn breswylwyr ac yn ymwelwyr, i ddathlu a dysgu mwy am dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ein gwlad, byddai’n annog twristiaeth, yn rhoi hwb posibl i’r economi, yn enwedig yn y rhannau hynny o Gymru y mae eu heconomi yn dibynnu i raddau helaeth ar ymwelwyr, a byddai’n rhoi cyfleoedd hamdden a chyfleoedd ymlacio mawr eu hangen, wrth inni droi cornel y tymhorau a symud i mewn i’r gwanwyn. Ac mae'n werth cofio, wrth gwrs, nad yw datgan gŵyl banc yn cael unrhyw effaith gyfreithiol. Nid yw'n golygu bod yn rhaid i siopau a busnesau gau ar y diwrnod hwnnw. Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth ychwaith i atal sefydliadau rhag cau neu gael hanner diwrnod ar Ddydd Gŵyl Dewi, a fyddai’n cael effaith debyg i greu gŵyl banc ar Ddydd Gŵyl Dewi. Mater i sefydliadau benderfynu arno eu hunain fyddai hynny. Yn wir, mae Cyngor Sir Gwynedd eisoes wedi rhoi diwrnod o wyliau i weision cyhoeddus ar draws y sir ar 1 Mawrth.
O’n rhan ni, fel Llywodraeth Cymru, rydym yn fwy na pharod i ailddatgan a chadarnhau ein cefnogaeth lawn i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc, a byddwn yn parhau i ddadlau’r achos dros ddatganoli pwerau i’r Senedd ac i Weinidogion Cymru allu gwneud hynny. A chyn gynted ag y bydd Llywodraeth Geidwadol y DU yn datganoli’r cyfrifoldeb hwn i ni, gallwn fynd ati i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc.
Galwaf ar Peter Fox i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a llawer o ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hynod bwysig hon heddiw. Ac a gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod Tom Giffard am agor ac am godi cywilydd arnaf, gan fod arnaf ofn nad wyf yn mynd i allu siarad Cymraeg fel y gwnaeth Tom? Ac rwy’n eich llongyfarch ar eich cynnydd, ac yn gobeithio eich efelychu rywbryd yn y dyfodol.
Mae gwledydd ledled y byd, yn gwbl briodol, yn dathlu eu balchder aruthrol yn eu hunaniaeth. Un ffordd y mae llawer ohonom yn gwneud hyn yw drwy ddathlu ein nawddsant, fel y clywsom eisoes. Efallai mai un o’r dyddiadau mwyaf llwyddiannus yn y calendr yw Dydd Sant Padrig, a phan grybwyllaf y dyddiad hwn, beth sy’n dod i’ch meddwl? Oherwydd yr hyn a ddaw i fy meddwl i yw'r gorau o ddiwylliant Gwyddelig a phopeth a ddaw yn ei sgil, o gerddoriaeth i ddawns i wyrddni i hapusrwydd—[Torri ar draws.]—a Guinness, yn wir. Ac er syndod, mae llwyddiant gŵyl banc Sant Padrig wedi rhoi Iwerddon ar y llwyfan byd-eang, lle mae miliynau o bobl yn llythrennol ledled y byd yn dathlu'r diwylliant Gwyddelig. Mae diwylliant yn ysgogi'r gorau mewn cenedl, onid yw, i ehangu'r gynulleidfa, ac mae hyn yn rhywbeth y mae pobl, a hynny'n gwbl briodol, yn ei warchod yn ddewr? Ymgorfforiad o'r hyn rwyf newydd ei ddweud yw Wcráin, y cyfeiriodd y Cwnsler Cyffredinol ati; mae pob un ohonom wedi gweld y lluniau pwerus ac emosiynol o bobl Wcráin yn amddiffyn eu gwlad yn ffyrnig. Mae eu hunaniaeth, eu tir, eu diwylliant a’u hanes mor werthfawr iddynt fel bod miloedd yn barod i fentro'u bywydau dros eu gwlad, gan fod eu hunaniaeth a'u balchder mor gryf, a gwelsom a chlywsom lawer o hynny ddoe.
Yma yng Nghymru, nid yw ein teimlad o falchder ac angerdd yn ddim llai. Rydym wedi ein bendithio â chymaint, onid ydym? Gystal ag unrhyw le yn y byd, mae ein diwylliant, ein hiaith a’n hanes, ynghyd â harddwch ein tirwedd, ein mynyddoedd a’n harfordir, cestyll a bwyd, yn ogystal â'r ddraig goch sy'n rhuo, ein harwyr ym myd y campau ac eiconau byd-eang, ac mae gennym bob rheswm dros fod yn falch. Gyda'r holl gynhwysion hyn, mae'r ddadl o blaid cael gŵyl banc ar Ddydd Gŵyl Dewi yn amlwg. Yn y bôn, mae’n ffordd addas o ddathlu treftadaeth a diwylliant Cymru, yn ogystal â bod yn hwb calonogol i’n busnesau. Ac fel y clywsom eisoes gan rywun, dangosodd arolwg barn gan y BBC a gynhaliwyd yn 2006 fod 87 y cant yn cefnogi'r syniad. Ac mae dadl heddiw yn anarferol, yn yr ystyr fod y Senedd yn siarad ag un llais diamwys: dylid gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc. Fel y mae fy nghyd-Aelodau wedi pwysleisio—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, os gwelwch yn dda?
Gwnaf, yn sicr.
Diolch yn fawr. Yng ngoleuni’r hyn yr ydych wedi’i ddweud ac wrth glywed yr hyn y mae Huw Irranca-Davies wedi’i ddweud hefyd, tybed a wnewch chi a’ch cyd-Aelodau gyfleu’r neges i’ch cymheiriaid yn San Steffan mai dyma yw ein dymuniad ac y byddwch yn sicrhau bod hyn yn digwydd. Diolch.
Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n gobeithio y bydd llawer o ASau Cymru yn gwrando ar hyn heddiw a byddwn yn sicrhau bod lleisiau pob un ohonom yn cael eu clywed yn uchel ac yn glir wrth inni hyrwyddo'r achos hwn ymhellach. A gaf fi ddiolch—[Torri ar draws.] Yn ysbryd y ddadl, rwyf am barhau i fod yn optimistaidd.
Diolch am eich sylw, Tom, ac am ddyfnder eich cyflwyniad unwaith eto. Roedd yn ddefnyddiol iawn, yn ein hatgoffa am gefnogaeth y Ceidwadwyr i hyn dros nifer o flynyddoedd—degawd yn wir. A diolch, Rhys, am fynd â ni ar y daith hanes honno i 22 mlynedd yn ôl—yr adeg bwysig pan ddaeth eich tad i'r Siambr hon a galw am hyn. Rwy'n siŵr y bydd yn falch eich bod yma'n siarad ac yn rhannu'r angen am hyn heddiw. Rwy'n croesawu hynny. Ac ie, gadewch inni fod yn llawen a gadewch inni ddathlu'r diwrnod hwn. Jack, mae angen i Lywodraeth y DU wrando—gwyddom hynny ac mae'n rhaid inni ddadlau'r achos hwnnw, gan ei bod yn bwysig fod gennym ein hunaniaeth yma. A Sam, rwy'n gobeithio y byddwch chi yma mewn 22 mlynedd—[Chwerthin.]—gan eich bod yn ddyn ifanc â chymaint i’w gynnig, rwy’n siŵr y byddwch mewn swyddi uwch yma yn y dyfodol. [Torri ar draws.] Ac rwy’n siŵr y bydd Mustapha Bojang—a yw hynny’n gywir—yn falch hefyd os bydd yn eich gweld yma pan fydd yn ymweld â Saundersfoot nesaf. A Jane, fe wnaethoch ein hatgoffa o'r daith hanesyddol ddyfnach honno hefyd. Mae hon yn ddadl sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers blynyddoedd lawer, ers canrifoedd, bron. A Janet, mae angen inni ganiatáu i'n cymunedau ddathlu—mae mor bwysig eu bod yn cael cyfle i wneud hyn, fel eraill ledled y byd. A Natasha, gwyddom y byddai eich tad, Oscar, wedi bod yn angerddol heddiw ac y byddai wedi bod yn gefnogwr brwd, yn Gymro go iawn wrth gefnogi popeth sydd gennym yma heddiw.
Gwnsler Cyffredinol, diolch am eich geiriau a’r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w darparu i geisio gwireddu hyn. Ac fel y rhannais, lle y gallwn, fe fyddwn yn ceisio gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod hyn yn digwydd. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Eitem 7: dadl Plaid Cymru ar anhwylderau bwyta. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7934 Sian Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2022 yn digwydd rhwng 28 Chwefror a 6 Mawrth 2022.
2. Yn nodi 'Adolygiad o Wasanaeth Anhwylderau Bwyta Llywodraeth Cymru 2018' ac adolygiad diweddar Beat, 'Adolygiad Gwnaeth Anhwylder Bwyta yng Nghymru—3 blynedd yn ddiweddarach'.
3. Yn credu bod gwelliannau mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta yn ystod y tair blynedd diwethaf wedi bod yn anwastad, gan barhau â'r annhegwch a nodwyd yn yr adolygiad.
4. Yn gresynu at y ffaith bod triniaeth i'r rhai yr effeithir arnynt yng Nghymru yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar oedran, diagnosis a lleoliad.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymrwymo i gynyddu'r adnoddau a ddyrennir i iechyd meddwl o flwyddyn i flwyddyn yn ystod y pum mlynedd nesaf a dwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu buddsoddiad mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta;
b) cyhoeddi fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta sy'n cynnwys amserlenni ar gyfer cyflawni targedau, gan ganolbwyntio ar:
i) ymyrraeth gynnar ac atal;
ii) gofal integredig;
iii) cymorth i deuluoedd a gofalwyr eraill;
iv) buddsoddi yn y gweithlu, gan gynnwys cymorth ar gyfer lles staff;
c) ailsefydlu a chynnal arweinyddiaeth glinigol dros ddarparu gwasanaethau anhwylderau bwyta ar lefel genedlaethol;
d) ariannu archwiliad clinigol anhwylderau bwyta i sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn casglu ac yn adrodd ar set safonol a chynhwysfawr o ddata o ansawdd uchel.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch o allu cyflwyno'r cynnig yma yn ffurfiol. Mae o'n rhywbeth sy'n bwysig i gymaint o bobl a theuluoedd ar draws Cymru. Mae o leiaf 60,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o ryw fath o anhwylder bwyta. Mae yna nifer o anhwylderau gwahanol: bwlimia, anorecsia, binge-eating disorder, a sawl math arall—bob un yn golygu heriau dwys a difrifol i'r rheini sy'n dioddef ohonyn nhw. Mae o'n costio bywydau. Anorecsia sydd â'r gyfradd farwolaeth uchaf o unrhyw afiechyd meddwl. Mae anhwylderau'n gallu arwain at bob mathau o gymhlethdodau a salwch corfforol hefyd.
Ond mae posib cynnig triniaeth, ac mae pobl yn gallu gwella ar ôl dioddef anhwylder bwyta. Maen nhw yn gwella, ac mae gallu cynnig y driniaeth gywir a'r gefnogaeth gywir ar yr amser cywir yn hanfodol. Mae oedi triniaeth yn dwysáu dioddefaint yr unigolion a'r rheini sy'n gofalu amdanyn nhw. Mae hefyd yn debyg o arwain at gostau llawer uwch i'r NHS. Felly, unwaith eto, dŷn ni'n sôn am faes lle mae ymyrraeth gynnar a thriniaeth gynnar yn dod ag enillion ar sawl lefel.
Nid cyd-ddigwyddiad ydy ein bod ni wedi dewis heddiw i gynnal y ddadl yma. Mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, a thema'r wythnos ymwybyddiaeth eleni, yn digwydd bod, ydy cynyddu dealltwriaeth o anhwylderau bwyta o fewn hyfforddiant meddygol. Mae cymaint o bobl yn dibynnu ar gyswllt efo meddyg teulu neu efo gofal sylfaenol er mwyn adnabod arwyddion o anhwylder bwyta—dechrau proses o ddiagnosis a thriniaeth. Ond eto, ar gyfartaledd, llai na dwy awr o hyfforddiant mae myfyrwyr meddygol yng Nghymru yn ei gael ar faterion yn ymwneud ag anhwylderau bwyta. Does dim amheuaeth, dwi ddim yn meddwl, fod y gwendid yna o fewn y broses hyfforddi wedi arwain at arafwch mewn mynediad at driniaeth i lawer o unigolion.
Mae'n dda adrodd bod yr elusen Beat yn meddwl eu bod nhw'n ennill tir ar hyn a bod ein dwy ysgol feddygol bresennol ni wedi ymateb yn gadarnhaol i'w cwestiynau nhw am ymestyn y lefel o hyfforddiant yn y dyfodol. A dwi'n siŵr y bydd y drydedd ysgol feddygol lawn ym Mangor hefyd eisiau cefnogi y fenter yma.
Yn ôl yng ngwanwyn 2018, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o wasanaethau anhwylderau bwyta, fel y'u gelwid bryd hynny, a chanfu’r adolygiad hwnnw, a gyflwynwyd i’r Llywodraeth ar ddiwedd 2018, system wedi’i hanelu at ddarparu gofal i’r rheini a oedd eisoes yn ddifrifol wael yn hytrach nag ymyrraeth gynnar. Canfu amrywiaeth sylweddol yn argaeledd ac ansawdd triniaeth anhwylderau bwyta ledled Cymru; bylchau rhwng gwasanaethau yn hytrach na gofal integredig; yn aml, nid oedd teuluoedd yn cael gwybodaeth, ni chaent eu cefnogi na'u grymuso drwy broses y driniaeth.
Amlinellodd yr adolygiad weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer gwasanaeth o'r radd flaenaf a ganolbwyntiai ar atal ac ymyrraeth gynnar, gan nodi a darparu triniaeth o safon cyn i bobl fynd yn ddifrifol wael ym mhob rhan o Gymru. Felly, ble rydym arni bellach? Beth a ddarganfu Beat yn eu hadolygiad dair blynedd yn ddiweddarach? Wel, er y gwnaed rhywfaint o gynnydd ar ehangu a gwella gwasanaethau anhwylderau bwyta dros y cyfnod hwnnw o dair blynedd, byddai Beat yn dadlau ei fod wedi bod yn anwastad, gan barhau â'r anghydraddoldeb a gofnodwyd gan yr adolygiad gwreiddiol o wasanaethau anhwylderau bwyta. Rwyf am sôn wrthych am un fenyw ifanc a welodd ei meddyg teulu yn fy etholaeth, ac roedd y meddyg teulu'n llawn cydymdeimlad a dealltwriaeth ac yn awyddus i helpu, ond dywedodd wrthi, 'Cofrestrwch yn y man lle'r ydych yn y brifysgol', gan nad oedd gan y meddyg teulu unrhyw ffydd yn y tebygolrwydd y byddai ei chlaf ifanc yn gallu cael cymorth yn ei chyfeiriad cartref. Ac mae hynny’n gwbl annerbyniol.
Galwodd yr adolygiad o wasanaethau anhwylderau bwyta am i driniaeth fod yn hygyrch yn gynnar, gan ddileu'r meini prawf cymhwysedd neu atgyfeirio. Mewn rhai ardaloedd, roedd timau arbenigol newydd wedi’u sefydlu yng ngwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, roedd rhai byrddau iechyd wedi datblygu neu ehangu gwasanaethau anhwylderau bwyta cymunedol i oedolion. Ond mewn rhai ardaloedd, mae mynediad at driniaeth arbenigol yn dal i fod yn gyfyngedig i'r rheini sydd eisoes yn ddifrifol wael ac nid yw ar gael i bobl â mathau penodol o anhwylderau bwyta, megis anhwylder gorfwyta mewn pyliau.
Felly, mae ein cynnig heddiw yn galw’n benodol am roi diwedd ar yr amrywio yn y modd y darperir gwasanaethau, loteri cod post arall sy’n rhoi dioddefwyr mewn rhai rhannau penodol o Gymru o dan anfantais. Mae gwelliant Llywodraeth Cymru yn dileu hynny, ac yn hytrach, yn nodi ymrwymiad cyffredinol i barhau â’r gwelliannau i wasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru, ac nid wyf wedi gwadu y gwnaed gwelliannau.
Mae cyfeiriad yng ngwelliant y Llywodraeth at yr angen am ragor o fuddsoddiad. Unwaith eto, mae ein cynnig yn galw am hynny hefyd, ond lle mae gwelliant y Llywodraeth yn amwys, mae’r cynnig yn galw am gamau gweithredu penodol i sicrhau bod cynnydd mewn cyllid iechyd meddwl yn digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn ymgyrch bum mlynedd, fel rydym yn ei disgrifio, i gynyddu’r adnoddau sydd ar gael i drin anhwylderau bwyta ymhlith materion iechyd meddwl eraill.
Rydym yn galw am wneud mwy i ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu buddsoddiadau mewn anhwylderau bwyta, ond yn hollbwysig, rydym yn mynd ymhellach, rydym yn galw am gyhoeddi fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta, gan gynnwys amserlenni a thargedau, a byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, sy’n mynd i’r afael â mater amserlenni ac adrodd amserol hefyd. Mae arnom angen cynllun clir, map clir tuag at ddarparu’r ymyrraeth gynnar honno y dywedais ei bod mor bwysig.
Ceir bylchau sylweddol yn y data y mae byrddau iechyd yn ei ddarparu ar amseroedd aros ar hyn o bryd. Nid yw'n ymddangos bod system safonol ar waith ledled Cymru i fesur ac adrodd yn gyson ar yr amser aros llawn rhwng yr atgyfeirio cychwynnol, os bydd atgyfeirio'n digwydd yn ddigon cynnar o gwbl, a dechrau triniaeth arbenigol.
Mae angen inni flaenoriaethu atal hefyd. Mae angen canolbwyntio ar fuddsoddi yn y gweithlu. Ac ar ofal integredig, esboniodd yr adolygiad o wasanaethau anhwylderau bwyta fod angen dull integredig gyda chyfathrebu a chydweithio da rhwng gwasanaethau er mwyn darparu ymyrraeth gynnar a thriniaeth ar sail tystiolaeth. Yn arolwg Beat o weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr ym maes iechyd a gofal, nodwyd bod diffyg gweithio integredig neu gydweithredol gyda gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol eraill a diffyg cydweithredu integredig ag ysgolion, colegau a phrifysgolion yn aml yn cyfyngu ar allu eu timau a’u gwasanaethau i ateb y galw presennol am driniaeth anhwylderau bwyta. Mae cymaint o ffordd i fynd.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mi glywn ni fwy gan rai o fy nghyd-Aelodau i am wahanol elfennau o'r hyn rydyn ni a Beat a dioddefwyr a'u teuluoedd yn galw amdano, a dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau pellach o ar draws y pleidiau.
Rydyn ni'n gytûn yma ar yr egwyddorion, rydyn ni'n gytûn yma yn y Senedd ar yr angen i flaenoriaethu triniaeth iechyd meddwl, ond mor bwysig ag ydy undod o'r math yna, geiriau cadarnhaol a chefnogaeth i egwyddor, rhaid inni gofio ein bod ni angen trawsnewid gwasanaethau. Dydy'r geiriau ynddyn nhw eu hunain ddim yn ddigon. Gadewch inni ddefnyddio heddiw fel carreg filltir bwysig yn y broses o drawsnewid gwasanaethau i'r rheini sydd yn dioddef.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, i gynnig yn ffurfiol welliant 1.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod darparu gwasanaethau anhwylderau bwyta sy'n diwallu'r ystod o anghenion yn her; bod y pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar wasanaethau; a bod angen gwneud gwelliannau.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymrwymo i barhau i wella gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru, gyda mwy o fuddsoddiad i gefnogi hyn;
b) cryfhau'r arweinyddiaeth glinigol sydd ei hangen i yrru'r gwelliannau.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf nawr ar James Evans i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. James Evans.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
pennu targedau a chyhoeddi ystadegau misol ar amseroedd aros ar gyfer triniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys materion fel anhwylderau bwyta.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Rwy'n cynnig gwelliant 2. Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru a Rhun am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw ar anhwylderau bwyta. Mae hwn yn fater sy’n effeithio ar gynifer o bobl ar draws ein cymdeithas. Nid yw'n gwahaniaethu, a gall effeithio ar unrhyw un. Mae’r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, ac mae’n iawn ein bod yn tynnu sylw at y broblem hon ac yn gwneud popeth a allwn i helpu’r rheini y mae anhwylder bwyta'n effeithio arnynt. Hoffwn dalu teyrnged i fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, a fydd yn siarad yn nes ymlaen yn y ddadl hon, a’r gwaith y mae wedi’i wneud yn tynnu sylw at bwysigrwydd y pwnc hwn.
Mae anhwylderau bwyta'n salwch meddwl difrifol, a gallant arwain at ganlyniadau dinistriol i'r rheini yr effeithir arnynt. Maent yn effeithio ar yr unigolyn, ond maent yn cael effaith ehangach ar deuluoedd, gwasanaethau iechyd a’r gymdeithas ehangach hefyd. Mae gan oddeutu 1.25 miliwn o bobl yn y DU anhwylder bwyta, a gallwn ni yn y lle hwn wneud yr hyn a allwn heddiw i’w cefnogi. Fel y dywedodd Rhun, mae sawl math o anhwylder bwyta, gan gynnwys gorfwyta mewn pyliau, bwlimia, anorecsia ac eraill. Mae anhwylderau bwyta'n lladd, anorecsia sydd â’r gyfradd farwolaethau uchaf o unrhyw salwch meddwl, ac mae un o bob chwech o bobl ag anhwylder bwyta mewn pyliau yn ceisio lladd eu hunain. Mae pobl sy'n dioddef ag anhwylderau bwyta, yn amlach na pheidio, yn datblygu problemau iechyd corfforol difrifol fel clefyd y galon, osteoporosis, ac mae ansawdd eu bywyd yn waeth yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae triniaeth a gwellhad yn bosibl, a gall mynediad cynnar at y gofal a’r cymorth cywir newid bywyd rhywun. Ymyrraeth gynnar sy'n rhoi'r cyfle gorau i'r unigolyn ddechrau ar y llwybr tuag at wellhad. Mae unrhyw oedi cyn derbyn triniaeth a chefnogaeth yn ymestyn y dioddefaint i unigolion, eu ffrindiau a'u teuluoedd. Mae hefyd yn cynyddu costau hirdymor y GIG. Fel y dywedais, mae atal ac ymyrraeth gynnar yn well na gwella unrhyw broblem wedi iddi droi'n argyfwng. Rwyf wedi sefydlu fy ngweithgor iechyd meddwl fy hun ers imi fod yma, ac rwy’n clywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc ledled Cymru faint o bobl iau sy’n dioddef ag anhwylderau bwyta, a bod llawer mwy o ddylanwadau allanol yn effeithio’n negyddol ar eu cyflwr meddwl nag y mae llawer o wleidyddion yn y Siambr hon yn ei feddwl.
COVID-19—mae hynny wedi cael effaith enfawr ar bobl yr effeithir arnynt gan anhwylderau bwyta. Nododd arolwg prifysgol o bobl ag anhwylderau bwyta a gynhaliwyd yn 2020 fod naw o bob 10 o ymatebwyr wedi dweud bod eu symptomau wedi gwaethygu o ganlyniad i’r pandemig, a bod gwasanaethau cymorth, y gwaith gwych y mae Beat yn ei wneud, wedi gweld cynnydd o 300 y cant yn nifer y bobl sy'n gofyn am gymorth. Felly, mae'n rhaid inni roi mwy o gymorth i'r gwasanaethau hynny er mwyn helpu pobl sydd angen gofal.
Felly, beth sydd angen ei newid, a beth y gallwn ei wneud yma i helpu'r rheini yr effeithir arnynt? Yn y grŵp Ceidwadol, rydym yn cytuno â’r cynnig hwn a gynigiwyd gan Blaid Cymru, ac edrychwn ymlaen at gefnogi eich cynnig gyda’n gwelliant yn nes ymlaen, gan fod angen inni sefydlu targedau, cyhoeddi ystadegau misol ar amseroedd aros am driniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys anhwylderau bwyta, ac mae angen inni ddarparu gofal arbenigol yng nghymunedau pobl a pheidio â gwneud i bobl deithio dros y ffin i gael yr help a’r cymorth sydd ei angen arnynt, gan golli eu teulu, eu ffrindiau a’u rhwydweithiau cymorth.
Lywydd, ni chredaf fod gwelliant Llywodraeth Cymru yn ddigon da, ac mae’n drueni eu bod wedi ceisio glastwreiddio'r ddadl hon. Credaf fod y cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn gynnig da iawn, ac mae’n drueni fod y Llywodraeth wedi gwneud hyn unwaith eto. Ond y tu hwnt i’r cynnig hwn, rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog, wrth ymateb i’r ddadl hon, amlinellu’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i wella hyfforddiant meddygol ar anhwylderau bwyta, i sicrhau bod ein meddygon teulu a'n gweithwyr meddygol proffesiynol yn gwybod sut i nodi a thrin anhwylderau bwyta, a pha waith ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar ymchwil i ddeall mwy am anhwylderau bwyta a'r hyn sy’n eu hachosi.
Heddiw, Aelodau, mae gennym gyfle i sefyll gyda’r rheini sy’n dioddef o anhwylderau bwyta, i ddweud, 'Rydym yn eich cefnogi, ac fe wnawn bopeth a allwn i sicrhau eich bod yn cael gofal o’r ansawdd yr ydych yn ei haeddu.’ Rwy’n annog pob Aelod i gefnogi’r cynnig yn ddiweddarach heno. Diolch, Lywydd.
Rwy’n ddiolchgar i Rhun am agor y ddadl heddiw ac am amlinellu pam ein bod ni fel grŵp yn awyddus i gyflwyno’r cynnig pwysig hwn heddiw. Ac fel y crybwyllwyd eisoes, mae'n amserol ein bod yn gallu gwneud hynny yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, sydd unwaith eto yn rhoi sylw i fater sy'n effeithio ar gynifer o bobl. Hoffwn gofnodi hefyd fy ngwerthfawrogiad o waith Beat, sy’n gweithio’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth, yn ogystal â darparu cymorth uniongyrchol i’r rheini sy’n dioddef.
Fel yr amlinellwyd eisoes, mae nifer o ffactorau wedi effeithio ar gynnydd ers yr adolygiad, gan amrywio o fuddsoddiad cyfyngedig ac anwastad mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta, heriau'r gweithlu, yn ogystal, wrth gwrs, ag effaith COVID-19. Felly, y cwestiwn heddiw yw: sut y gallwn wneud cynnydd o'r diwedd ar y materion hyn? Yn 2009, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Fframwaith Anhwylderau Bwyta Cymru', a helpodd i lywio'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau yn y blynyddoedd canlynol. Roedd cylch gorchwyl yr adolygiad gwasanaeth yn cyfeirio at gyhoeddi fframwaith newydd yn 2019, a hyd yn hyn, dim ond blaenoriaethau lefel uchel cychwynnol ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta y mae Llywodraeth Cymru wedi’u nodi. Mae strategaeth ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-2022 yn ei hymrwymo i weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a byrddau iechyd i ddatblygu model gwasanaeth newydd mewn ymateb i’r adolygiad annibynnol diweddar.
Mae angen i Lywodraeth Cymru gyhoeddi fframwaith neu fodel newydd ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta sy’n cynnwys amserlenni ar gyfer cyflawni pob carreg filltir, a ddylai ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, gofal integredig, cymorth i deuluoedd a gofalwyr eraill a buddsoddiad yn y gweithlu, gan gynnwys cymorth ar gyfer lles staff. Byddai cyhoeddi fframwaith neu fodel o’r fath yn dangos ymrwymiad o’r newydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adolygiad o wasanaethau anhwylderau bwyta yn llywio gwasanaethau’r dyfodol yng Nghymru. Byddai mabwysiadu gweledigaeth uchelgeisiol, hirdymor ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta hefyd yn debygol iawn o chwarae rhan allweddol wrth recriwtio staff, yn ogystal â chadw staff, sy'n hollbwysig.
Er mwyn sicrhau bod gweithredu fframwaith neu fodel gwasanaeth newydd yn gyraeddadwy, mae angen newidiadau i sicrhau buddsoddiad digonol a theg mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru. Dywedodd clinigydd gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol plant a’r glasoed wrth Beat, os yw Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld y datblygiad hwn, fod angen iddynt fod yn glir ac yn gyfarwyddiadol iawn gyda'r byrddau iechyd.
Dylai Llywodraeth Cymru bennu isafswm gwariant ar anhwylderau bwyta o’r cyllid gwella gwasanaethau y mae’n ei ddyrannu i fyrddau iechyd, a dwyn byrddau iechyd i gyfrif mewn perthynas â'u buddsoddiad mewn anhwylderau bwyta.
Fel a nodwyd, gan gynnwys ddoe yn y Siambr, gwyddom fod 78 y cant o gleifion a atgyfeirir at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol plant a’r glasoed yn aros am dros bedair wythnos am eu hapwyntiad cyntaf, ac mae amseroedd aros am wasanaethau iechyd meddwl pobl ifanc yn waeth nag a gofnodwyd erioed erbyn hyn. Pobl ifanc yr ystyrir eu bod angen triniaeth frys, arbenigol yw'r rhain, ond cânt eu gorfodi i aros dros fis i gael eu gweld hyd yn oed. Mae'n rhaid inni gael darpariaeth gadarn ar waith fel y gall cleifion gael y driniaeth orau bosibl cyn gynted â phosibl, cyn i’w sefyllfa waethygu.
Mae’r arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer anhwylderau bwyta wedi darparu cymorth gwerthfawr i fyrddau iechyd, gwasanaethau a chlinigwyr ledled Cymru. Mae maint yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau a'r amrywio parhaus yn y gwasanaethau a ddarperir ledled Cymru yn tanlinellu pwysigrwydd adnodd canolog i helpu i lywio gwelliannau. Dylai Llywodraeth Cymru wneud swydd arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer anhwylderau bwyta yn swydd barhaol. Ac yn 2021, ymgynghorodd yr arweinydd clinigol cenedlaethol yn aml â phobl â phrofiad bywyd o anhwylderau bwyta i helpu i lywio ei gwaith a gwaith y byrddau iechyd. Mae'n rhaid adeiladu ar hyn yn awr i sicrhau bod lleisiau cleifion a theuluoedd yn cael eu clywed bob amser wrth ddatblygu gwasanaethau, ar lefel genedlaethol a lleol.
Canfu Beat fod bylchau sylweddol yn y data sy'n cael ei goladu gan fyrddau iechyd ar anhwylderau bwyta. Os bydd hyn yn parhau, bydd yn cyfyngu ar y gallu i fonitro cynnydd a sicrhau atebolrwydd. Disgwylir i archwiliad anhwylderau bwyta gael ei gomisiynu yn 2022, ac ar hyn o bryd, dim ond Lloegr sydd i'w gynnwys yn yr archwiliad hwn, ond gellid ei ymestyn i gynnwys Cymru hefyd.
Dylai Llywodraeth Cymru ariannu archwiliad clinigol o anhwylderau bwyta fel rhan o ymdrechion i sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn casglu ac yn adrodd ar set ddata safonol a chynhwysfawr o ansawdd uchel. Rwy'n gobeithio y gallwn weithio’n drawsbleidiol i gyflawni’r cynnig hwn heddiw. Diolch.
Ceir llawer gwell dealltwriaeth o anhwylderau bwyta erbyn hyn nag a oedd 50 mlynedd yn ôl. Gallaf gofio brodyr a chwiorydd ffrindiau i mi yn ei chael hi'n anodd deall beth y gallent ei wneud, ac nid oedd y proffesiwn meddygol yn gwybod yn iawn beth i'w wneud y tu hwnt i orfodi bwyd ar bobl a oedd yn benderfynol o lwgu eu hunain i farwolaeth.
Felly, rydym bellach mewn sefyllfa well o lawer i ymdrin â hyn, ac mae llawer llai o stigma ynghlwm wrtho hefyd. Mae dioddefwyr enwog iawn, fel Diana Spencer, Tywysoges Cymru, yn ei gwneud yn llawer mwy tebygol y bydd pobl ifanc yn gofyn am gymorth, ond rydym ymhell iawn o lle y mae angen inni fod. Credaf fod adolygiad 2018 yn grynodeb da o’r broblem a’r camau yr oedd angen eu cymryd. Felly, roedd yn siomedig na roddwyd unrhyw ymateb ffurfiol i’r adroddiad rhagorol hwnnw tan fis Medi 2019, a chymerodd 15 mis arall i recriwtio arweinydd clinigol ar gyfer anhwylderau bwyta. Clywn gan Beat fod yr unigolyn dan sylw wedi cael effaith gadarnhaol iawn ers iddi ddechrau ar y gwaith, sy’n ddatblygiad cadarnhaol wrth gwrs. Ond mae llawer iawn o rwystrau ac anawsterau yma, ac mae gwir angen inni fod yn onest ynglŷn â hynny.
Cafodd un o fy etholwyr, a ddatblygodd anhwylder bwyta difrifol yn ystod y cyfyngiadau symud, ei derbyn i'r ysbyty i ward CAMHS yn y lle cyntaf, cyn cael ei rhyddhau oherwydd ymchwydd o achosion COVID, ac yna cafodd ei gadael ar ei phen ei hun fwy neu lai, ac yn anffodus, dywedwyd wrthi fod yr ysbyty agosaf lle gallai fynd am wasanaeth anhwylderau bwyta arbenigol yn Wiltshire. Nid oedd unrhyw beth ar gael yng Nghymru. Rwy'n derbyn ein bod ynghanol pandemig ar y pryd, ond yn anffodus, fe geisiodd ladd ei hun, ac yn ffodus, cafodd ei hachub gan Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan, ac mae bellach yn ymgyrchydd gwych dros sicrhau nad yw pobl eraill yn gorfod wynebu'r hyn a wynebodd hi, felly rwy'n rhoi pob clod iddi.
Felly, yn sicr, gallwn weld o adolygiad Beat fod y pandemig wedi rhoi gwynt dan adain yr anhwylder. Gallwn weld y ffigurau y maent yn eu dyfynnu: cynnydd o 300 y cant yn nifer y bobl sy’n ceisio cymorth o gymharu â’r cyfnod cyn y pandemig, a chynnydd o 50 y cant mewn atgyfeiriadau mewn o leiaf ddau fwrdd iechyd. Felly, mae llawer mwy o gleifion angen cymorth nag sydd o glinigwyr i'w cefnogi.
Ond mae'n rhaid inni ddechrau yn y dechrau. Mae'n rhaid inni sicrhau bod ysgolion yn llawer mwy ymwybodol o'r arwyddion pan fyddant yn ymddangos. Mae fy etholwr yn gwneud pwyntiau da iawn ar hyn. Mae'n fater cymhleth iawn. Dyma’r ochr arall i’r datganiad a gawsom ddoe ar y strategaeth gordewdra. Faint o ysgolion sy'n cyfrannu'n weithredol neu'n oddefol at y broblem drwy annog pobl ifanc i beidio â chael cinio oherwydd diffyg amser, neu ddiffyg lle yn yr ystafell fwyta i'w wneud yn brofiad dymunol yn hytrach nag un y byddwch yn dymuno dianc rhagddo a mynd i guddio yn rhywle arall? Yn amlwg, mae hynny’n cael effaith fawr ar ddysgu myfyrwyr, yn ogystal â phroblemau hirdymor posibl i’w perthynas â bwyd.
Felly, yn sicr, dyna lle y mae angen inni ddechrau, ond mae angen i feddygon teulu fod yn llawer mwy ymwybodol o'r arwyddion hefyd, fel eu bod o ddifrif ynglŷn â hyn yn hytrach na gwthio pobl o bared i bost. Oherwydd nid yw'n ddigon da mynd at un gwasanaeth a chlywed, 'O, mae'n rhaid inni eich pwyso', a mynd at y gwasanaeth clinigol wedyn, sy'n dweud 'Mae'n rhaid inni eich pwyso.' Mae pobl yn cael yr argraff fod yn rhaid iddynt fynd yn salach cyn y gallant gael unrhyw sylw. Wel, mae hynny'n gwbl groes i'r ffordd y mae angen inni ymdrin â'r gwasanaeth iechyd. Felly, credaf fod angen dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, dim drws anghywir, a pheidio â gorfod dweud eich stori 65 o weithiau cyn i chi allu cyrraedd unman.
Felly, ceir rhai heriau difrifol iawn, ac rwy'n siŵr fod y Dirprwy Weinidog yn eu hystyried, ond mae angen inni wybod beth a wnawn i recriwtio mwy o seiciatryddion, mwy o bediatregwyr ac arbenigwyr meddygol eraill. Dywed Beat y gallai fod llai ohonynt nag a oedd cyn adolygiad 2018. Golyga hyn ein bod yn y man cwbl anghywir, nid lle mae angen inni fod. Mae angen inni gael her recriwtio a chadw staff a fydd yn sicrhau ein bod yn cadw'r rheini y llwyddwn i’w recriwtio ac nad ydym yn eu gorweithio. Felly, mae gennyf gryn ddiddordeb mewn clywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i’w ddweud, ond mae hwn yn fater difrifol iawn, a diolch i Blaid Cymru am ei gyflwyno.
Gwyddom fwy amdano, ond mae gennym ffordd bell iawn i fynd o hyd, ac mae mwy a mwy, fel y clywsom, o amrywiadau a mathau o anhwylder bwyta yn dod i'r amlwg bob dydd. O ystyried yr ystadegau a glywsom y prynhawn yma, gwyddom mai anorecsia sydd â'r gyfradd farwolaethau uchaf ar gyfer unrhyw salwch meddwl, mae gan 60,000 o bobl yng Nghymru anhwylder bwyta, ac ychydig iawn a wyddom o hyd, am y maes afiechyd hwn. Ac mae angen datblygiadau mawr yn ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n achosi anhwylderau bwyta yn y lle cyntaf, sut i'w hatal rhag datblygu a'r ffordd orau o'u trin.
Drwy ymchwil, rydym wedi dod i ddysgu am y gwahanol anhwylderau bwyta hyn, y ffordd y maent yn dechrau ac yn datblygu. Mae ymwybyddiaeth o orthorecsia, er enghraifft, sy'n obsesiwn afiach gyda bwyta bwyd pur, yn tyfu ac yn datblygu. Ond heb gyllid ymchwil, bydd anhwylderau bwyta yn parhau i fod yn broblem iechyd cyhoeddus sylweddol, gan ddinistrio bywydau, fel y clywsom, ac arwain, wrth gwrs, at gostau uchel i'r GIG. Mae ymchwil i anhwylderau bwyta nid yn unig yn angenrheidiol ond mae'n fuddsoddiad doeth, oherwydd yn aml collir cyfleoedd i ymyrryd yn gynnar, fel y clywsom, gan olygu nad yw triniaethau bob amser yn effeithiol nac yn cael eu teilwra'n briodol ac o ganlyniad, derbynnir llawer o gleifion am driniaeth ddrud mewn ysbyty, gan gynnwys mewn unedau arbenigol yn Lloegr mewn rhai achosion, sy'n effeithio ar yr unigolyn, wrth gwrs, yn ogystal â'r gwasanaethau eu hunain.
Yn 2020-21, cynhaliodd y grŵp seneddol hollbleidiol ar anhwylderau bwyta ymchwiliad i gyllid ymchwil ledled y DU, gan gynnwys Cymru, a chanfu'r ymchwiliad, er gwaethaf nifer yr achosion a difrifoldeb anhwylderau bwyta, mai ychydig iawn o gyllid a roddir tuag at ymchwil yn y maes. Cyfanswm buddsoddiad y DU o gyllid grant oedd £1.13 y pen y flwyddyn i'r rhai yr effeithiwyd arnynt rhwng 2009 a 2019. A rhwng 2015 a 2019, dim ond 1 y cant o gyllid ymchwil iechyd meddwl y DU, a oedd eisoes yn gyfyngedig iawn, a aeth tuag at ymchwil ar anhwylderau bwyta. Mae hyn er bod pobl ag anhwylderau bwyta oddeutu 9 y cant o gyfanswm nifer y bobl sydd â chyflwr iechyd meddwl yn y DU.
Canfu'r ymchwiliad hefyd fod diffyg buddsoddiad hanesyddol wedi arwain at gylch dieflig. Prin yw'r ymchwilwyr a'r canolfannau ymchwil sy'n edrych yn weithredol ar hyn, ac felly ychydig iawn o ymchwil a gyhoeddwyd. Ac mae hyn wedi helpu i stigmateiddio agweddau, sy'n atgyfnerthu capasiti bach y maes a'i ddiffyg cyllid. Dylai targed ariannu ar gyfer maes ymchwil anhwylderau bwyta y DU fod yn seiliedig, fan lleiaf, ar gydraddoldeb o fewn ymchwil iechyd meddwl, a dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid o fewn a thu hwnt i'n ffiniau i helpu i wireddu'r nod hwn.
Mae cysylltiad clir rhwng anhwylderau bwyta a'r cyfryngau cymdeithasol a'r cyfryngau ehangach. Yn aml, gall apiau sy'n newid ymddangosiad siâp a maint corff arwain at waethygu anhwylderau bwyta, drwy annog a normaleiddio syniad afrealistig o'r hyn sy'n dderbyniol o ran ymddangosiad corfforol. Mae pwysau ar ddylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol i olygu eu postiau, ac mae algorithmau'n gwobrwyo'r rhai sydd â chynnwys cyfryngau cymdeithasol sy'n denu sylw drwy gyfrwng delweddau o berffeithrwydd honedig, delweddau sydd yn bwydo diwylliant sy'n gwrthod amrywiaeth a realiti. Mae hyn yn arwain pobl ifanc yn enwedig at ddod i'r casgliad dealladwy bod yn rhaid iddynt ail-greu'r delweddau ffug yma o berffeithrwydd maen nhw'n gweld ar eu cyfrifon.
Rhaid inni felly gwneud mwy i ddathlu amrywiaeth a herio'r diwylliant gwrthdroëdig a'i negeseuon peryglus sy'n medru cael eu trosglwyddo i ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol drwy'r delweddau hyn. Rwy'n gobeithio y bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi lle digonol ar gyfer sicrhau bod gan bobl ifanc ddealltwriaeth o sut mae delweddau ystrydebol o gyrff perffaith wedi datblygu ac yn cael eu hannog gan y cyfryngau cymdeithasol, ac, o ddeall, yn cael yr hyder i herio a'r gallu i osgoi y niwed a ddaw yn sgil hyn. Yn ogystal, mae angen gweld y Llywodraeth yn gweithio gyda chwmnïau cyfryngau cymdeithasol i leihau effaith y llwyfannau hyn ar bobl Cymru o ran sbarduno a dwysáu anhwylderau bwyta.
Ystyriwyd anhwylderau bwyta ers tro, yn hanesyddol, yn salwch i fenywod—agwedd rhagfarnllyd sy'n gallu arwain at ddiffygion o ran triniaeth, yn ogystal â diagnosis, gan y gellir anwybyddu neu gamddehongli symptomau a allai fod yn gysylltiedig ag anhwylderau bwyta mewn dynion neu bobl LHDTC+. Yn wir, mae un astudiaeth wedi canfod bod rhyw 40 y cant o ddynion sy'n dioddef o anhwylder bwyta yn derbyn camddiagnosis, a bod y rhan fwyaf o'u symptomau yn cael eu cambriodoli i orbryder. Mae ymchwil hefyd yn dangos bod unigolion o wahanol hunaniaethau rhywedd yn profi effaith eu anhwylderau bwyta mewn modd gwahanol.
Mae hyn i gyd eto'n arddangos yr angen am fframwaith newydd sy'n ystyried y daith unigol mae bob person ag anhwylder bwyta yn ei chymryd, a bod angen cyllid, ymchwil ac atebolrwydd i atal achos ac effeithiau'r anhwylderau dinistriol ac arteithiol hyn—anhwylderau y gellir eu hatal. Diolch.
Mae arnaf ofn fy mod wedi bod yn eithaf prysur gyda fy meiro yn tynnu llinell drwy gyfraniadau sydd eisoes wedi'u gwneud, oherwydd mae'r nodiadau a baratoais y bore yma eisoes wedi cael sylw. Felly, er mwyn osgoi ailadrodd yr hyn sydd eisoes wedi'i ddweud—
Mae bob amser yn syniad gwych i roi llinell drwy'r hyn sydd eisoes wedi'i ddweud yn hytrach na'i ailadrodd.
Ydy, ond fe wnaf nodi yn awr fy mod yn credu mai realiti sylfaenol y sefyllfa yw y bydd pobl yn etholaeth neu ranbarth pawb yn dioddef gydag anhwylder bwyta, ac mae gennyf lawer o brofiad yn fy ngyrfa 11 mlynedd gyda'r GIG yn gweithio mewn timau iechyd meddwl cymunedol o drin pobl ag anhwylderau bwyta, ac rwy'n gwbl ymwybodol o'r holl faterion sydd ynghlwm wrth hynny. Ond mae arnaf ofn fod fy holl gyfraniad eisoes wedi'i grybwyll, felly, er mwyn osgoi ailadrodd, rwyf am ei gadael yn y fan honno. Diolch, Lywydd.
Rwy'n eich cymeradwyo am hynny, ydw. Mark Isherwood. Mae'n rhoi amser i'ch cyd-Aelod, Mark Isherwood, gyfrannu yn awr.
Diolch, Lywydd. Mae hynny'n fy rhoi mewn lle anodd, braidd. Os caf fentro ailadrodd rhai pethau, fe wnaf symud ymlaen. Ond wrth siarad yma ym mis Ionawr, heriais y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles ynghylch camau gweithredu i sicrhau cynnydd cyflymach a chyfartal ar wella gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru. Tynnais sylw at ganfyddiadau adroddiad 'Adolygiad Gwasanaeth Anhwylder Bwyta yng Nghymru: 3 blynedd yn ddiweddarach' yr elusen anhwylderau bwyta, Beat, a gyhoeddwyd yr wythnos honno, a galwais ar Lywodraeth Cymru i gefnogi argymhellion yr adroddiad. Nododd adolygiad gwasanaeth anhwylderau bwyta Llywodraeth Cymru yn 2018 weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer ymyrraeth gynnar, triniaeth yn seiliedig ar dystiolaeth a chymorth i deuluoedd, gyda'r elusen anhwylder bwyta Beat yn chwarae rhan allweddol yn yr adolygiad.
Ond canfu eu hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr fod y cynnydd tuag at gyflawni'r weledigaeth honno wedi amrywio'n fawr ledled Cymru, a phan ofynnais i'r Dirprwy Weinidog a fyddai Llywodraeth Cymru, yn unol ag argymhellion Beat, yn cyhoeddi model neu fframwaith gwasanaeth newydd, gan gynnwys amserlenni, i nodi'r hyn y maent yn ei ddisgwyl gan y byrddau iechyd, ac os felly, pryd y byddai'n disgwyl i hynny ddigwydd, atebodd y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio adroddiad Beat i lywio eu gwaith wrth symud ymlaen. Felly, mae angen inni wybod lle, pryd a sut.
Fel y dywed y cynnig hwn, mae
'gwelliannau mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta yn ystod y tair blynedd diwethaf wedi bod yn anwastad, gan barhau â'r annhegwch a nodwyd yn yr adolygiad',
ac mae
'triniaeth i'r rhai yr effeithir arnynt yng Nghymru yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar oedran, diagnosis a lleoliad.'
Pan gyfarfûm â swyddog cenedlaethol Beat ar gyfer Cymru ddechrau mis Ionawr, cyn cyhoeddi eu hadroddiad ar y tair blynedd diwethaf, dywedodd wrthyf fod Beat wedi bod yn galw am weithredu 28 argymhelliad yr adolygiad o'r gwasanaeth anhwylder bwyta yn llawn ers iddo gael ei gyhoeddi gyntaf gan Lywodraeth Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys dyrannu digon o gyllid, hyfforddiant i'r gweithlu a staff, ynghyd â chynllun gweithredu ac amserlenni ar gyfer gweithredu'r argymhellion yn llawn ledled Cymru. Felly, unwaith eto rwy'n annog Aelodau sy'n poeni'n wirioneddol am y mater hwn i bleidleisio o blaid ein gwelliant yn galw ar Lywodraeth Cymru i,
'[b]ennu targedau a chyhoeddi ystadegau misol ar amseroedd aros ar gyfer triniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys materion fel anhwylderau bwyta.'
Fel gyda chymaint arall, heb hyn, ni fydd sylfaen i gynlluniau Llywodraeth Cymru.
Rhaid pwysleisio hefyd fod thema ymgyrch Beat eleni, 'Worth More Than 2 Hours', yn ymwneud â'r diffyg hyfforddiant presennol ar anhwylderau bwyta i fyfyrwyr sy'n astudio mewn ysgolion meddygol. Yr hyn y gofynnant amdano'n bennaf fel polisi allweddol yng Nghymru ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2022 yw i anhwylderau bwyta gael eu haddysgu a'u hasesu'n briodol ym mhob ysgol feddygol, ac i bob meddyg iau gael profiad clinigol yn ystod ei hyfforddiant sylfaen, lle mae dysgu am anhwylderau bwyta yn cael ei anwybyddu at ei gilydd mewn hyfforddiant meddygol, gyda chanlyniadau difrifol i brognosis a diogelwch cleifion.
Pan gyfarfûm â swyddog cenedlaethol Beat ddechrau mis Ionawr, trafodwyd hefyd yr angen i gryfhau'r cysylltiad rhwng gwasanaethau anhwylderau bwyta a gwasanaethau arbenigol eraill gan gynnwys awtistiaeth a diabetes, amseroedd aros cynyddol am driniaeth arbenigol, gyda phobl yn dod yn agored i niwed yn y cyfamser, a'r angen am ymyrraeth gynnar a mwy o gymorth i deuluoedd. Wedi hynny, anfonodd ragor o fanylion ataf am anhwylder osgoi/cyfyngu ar fwyd, neu ARFID, a sut y gall gyd-ddigwydd â chyflyrau eraill fel awtistiaeth. Mae ARFID yn gyflwr lle mae'r unigolyn yn osgoi bwydydd neu fathau penodol o fwyd, yn cyfyngu ar faint y mae'n ei fwyta, neu'r ddau. Gallai rhywun fod yn osgoi a/neu'n cyfyngu ar yr hyn y maent yn ei fwyta am nifer o resymau gwahanol, gan gynnwys sensitifrwydd i flas, gwead, arogl neu olwg mathau penodol o fwyd, neu ond yn gallu bwyta bwydydd ar dymheredd penodol. Gall hyn arwain at osgoi neu gyfyngu ar y bwyd sy'n cael ei fwyta yn seiliedig ar y synhwyrau. Fel y dywed Beat, gall ARFID fod yn bresennol ar ei ben ei hun neu gall gyd-ddigwydd â chyflyrau eraill, anhwylderau gorbryder, awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd yn fwyaf cyffredin. Fel y dywed adroddiad 'Adolygiad Gwasanaeth Anhwylder Bwyta yng Nghymru: 3 blynedd yn ddiweddarach', eglurodd yr adolygiad o'r gwasanaeth anhwylderau bwyta
'[f]od ymyrraeth gynnar a thriniaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn gofyn am ddull integredig, gyda gwasanaethau’n cyfathrebu a chydweithio’n dda â’i gilydd.'
Yn benodol, canolbwyntiai ar wella integreiddio rhwng gwasanaethau anhwylderau bwyta, gofal sylfaenol, gwasanaethau rheoli pwysau, gwasanaethau diabetes, awtistiaeth a gwasanaethau niwroddatblygiadol, gwasanaethau iechyd meddwl a'r sector gwirfoddol a chymunedol. Fodd bynnag, canfu eu harolwg o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol a gwirfoddolwyr ddiffyg cydweithio integredig gyda gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol eraill a diffyg cydweithio integredig gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion, gan rwystro
'gallu’r timau/gwasanaethau i fodloni’r galw presennol am driniaeth anhwylder bwyta.'
Roedd hynny ym mis Ionawr. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif, rhaid iddi ymrwymo i'r camau gwirioneddol y mae'r cynnig hwn yn galw amdanynt yn unol â hynny.
Y Dirprwy Weinidog nawr i gyfrannu i'r ddadl—Lynne Neagle.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau heddiw am eu cyfraniadau ac am gyflwyno'r ddadl hon ar bwnc mor bwysig. Mae llawer yn y cynnig hwn rwy'n cytuno ag ef. Rwy'n ymwybodol iawn fod angen gwneud gwelliannau i wasanaethau anhwylderau bwyta ac rwyf wedi ymrwymo'n ddiffuant i hyrwyddo hyn. Rwyf hefyd yn croesawu'r sylw y mae Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta yn ei roi i'r effaith y mae anhwylderau bwyta yn ei chael ar unigolion, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn cefnogi ac annog pobl i ddod o hyd i gymorth priodol.
Dywedodd Jenny Rathbone fod angen inni fod yn onest, ac rwy'n cytuno. Roedd adolygiad annibynnol 2018 yn bwysig, ond roedd rhai o'u hargymhellion yn uchelgeisiol, gan ddarparu gweledigaeth hirdymor o wasanaethau. Mae ein hymgysylltiad â gwasanaethau ers cyhoeddi'r adolygiad wedi dangos eu hymrwymiad i wella, ac er bod cefnogaeth gyffredinol i'r dyhead mawr yn yr adolygiad, mae mwy i'w wneud i lunio'r model gwasanaeth a'r dull gweithredu sy'n gweddu orau i'n gwasanaeth yng Nghymru, ac mae cefnogaeth glinigol i'r model hwnnw yn gwbl hanfodol. Byddaf yn parhau i flaenoriaethu gwasanaethau anhwylderau bwyta yn fy ngwaith gweinidogol fy hun, gan gynnwys craffu ar y cynnydd mewn cyfarfodydd gydag is-gadeiryddion. Rwyf hefyd yn croesawu'r adolygiad gan Beat ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid i wella'r ystod lawn o gymorth sydd ei angen ar bobl ag anhwylderau bwyta, nid gwasanaethau'r GIG yn unig.
Er fy mod yn rhannu'r rhwystredigaeth ynghylch cyflymder y gwelliannau hyn, mae angen inni gydnabod y pwysau ar wasanaethau yn y 18 i 24 mis diwethaf. Mae'r pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar wasanaethau anhwylderau bwyta, gyda'r angen i ganolbwyntio ar bwysau uniongyrchol i sicrhau bod gwasanaethau'n darparu ymateb diogel a phriodol i'r rhai sydd ei angen. Gyda lefelau digynsail o alw, problemau mwy difrifol a chleifion mwy cymhleth, mae blaenoriaethu'n seiliedig ar angen clinigol wedi bod yn fwy heriol i'n gweithlu. Hoffwn ddiolch yn bersonol i holl staff y GIG sy'n gweithio ym maes gwasanaethau anhwylderau bwyta, sy'n parhau i wneud popeth yn eu gallu i ddiwallu anghenion cleifion yn y cyfnod eithriadol o heriol hwn. Rwyf hefyd yn cydnabod y galw cynyddol ar y trydydd sector o ganlyniad i'r pandemig, a'r rôl hanfodol y mae'r sector wedi'i chwarae.
Er gwaethaf y pwysau hwn, mae cynnydd i'w weld. Ymwelais â dau dîm anhwylder bwyta yr wythnos diwethaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gwelais y gwaith y maent yn ei wneud ar wella'r gefnogaeth yn y gymuned ac i atal pobl ifanc rhag cael eu lleoli y tu allan i'r ardal. Wrth ddisgrifio'r heriau allweddol yr oeddent wedi'u profi drwy gydol y pandemig, roeddent yn dangos dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac ar draws y system gyfan, gan ddefnyddio cymysgedd o sgiliau i ddarparu gwasanaethau—y math o wasanaeth yr ydym i gyd am ei weld ledled Cymru. Mae ein buddsoddiad ychwanegol a rheolaidd wedi arwain at gynyddu'r gweithlu gwasanaethau anhwylderau bwyta arbenigol, ac rydym wedi darparu hyfforddiant ychwanegol i staff. Gwnaed gwaith helaeth hefyd ar ymgysylltu â'r rhai sydd â phrofiad bywyd a'u teuluoedd a'u ffrindiau ar draws gwasanaethau anhwylderau bwyta a arweinir gan y bwrdd iechyd lleol, ac rwy'n benderfynol y bydd yr ymgysylltu hwn yn sail i'n cynlluniau ar gyfer gwella yn y dyfodol.
Ar lefel genedlaethol, gwnaethom ymateb yn gyflym i'r pwysau a'r galw cynyddol a welsom ar ddechrau'r pandemig, a chryfhau ystod o gymorth haen 0/1 yn sylweddol. Mae'r cymorth hwn yn darparu mynediad agored cynnar i gymorth a chyngor, gyda chymorth penodol ar gyfer anhwylderau bwyta drwy ein buddsoddiad sylweddol yn llinell gymorth Beat a'u gwasanaethau eraill. Darparodd ein buddsoddiad ychwanegol yn Beat dros 7,000 o sesiynau cymorth yng Nghymru yn ystod 2021. Sesiynau yw'r rhain sydd nid yn unig wedi'u targedu at y rhai sy'n byw gydag anhwylderau bwyta, ond ffrindiau a theulu yn ogystal, sydd mor allweddol i gefnogi unigolion drwy ddiagnosis a thriniaeth. Rydym hefyd wedi cymryd camau ar y cyd i godi ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta ymhlith gweithwyr meddygol proffesiynol ac i ysgogi diddordeb ynddynt. Fe ildiaf i Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn am gymryd ymyriad, ac rwy'n ymddiheuro ymlaen llaw os yw'n ymyriad cynamserol. Ni allaf aros tan ddiwedd eich sylwadau, am resymau amlwg, oherwydd bydd yn rhy hwyr wedyn i ofyn cwestiwn. Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedoch chi hyd yn hyn. Rwyf wedi cydnabod y bu enillion, ac roedd yr adolygiad tair blynedd gan Beat yn cydnabod y bu enillion. Er fy mod yn sylweddoli eich bod yn dweud bod llawer y cytunwch ag ef yng nghynnig Plaid Cymru heddiw, a wnewch chi egluro beth yn union yr anghytunwch ag ef yn y cynnig? Oherwydd nid ydym wedi clywed dim byd ond tir cyffredin yn awr, a dim rheswm hyd yma pam na fyddech yn cefnogi ein cynnig.
Diolch ichi am yr ymyriad hwnnw. Rwy'n ymwybodol o'r amser, Rhun, ond credaf mai prif asgwrn y gynnen, mewn gwirionedd, yw'r angen am fframwaith newydd, oherwydd gwyddom yn union lle y mae angen inni ei gyrraedd gyda gwasanaethau anhwylderau bwyta. Ceir canllawiau NICE clir y mae'n rhaid inni sicrhau eu bod yn cael eu bodloni. Rydym hefyd yn sefydlu trefniadau llywodraethu clinigol newydd, a bydd cynllun gwaith yn dod o dan hynny. Felly, i grynhoi, mae'n debyg mai dyna yw'r gwahaniaeth allweddol—nad ydym yn gweld yr angen am fframwaith ar wahân, oherwydd mae'r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill.
Fel y dywedais, rydym wedi cymryd camau i godi ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta, ac mae hynny'n cynnwys datblygu adnoddau clinigol ar gyfer meddygon teulu a chlinigwyr pediatrig, cynyddu dealltwriaeth a diddordeb yn yr arbenigedd hwn, helpu i nodi'r arwyddion, asesu anhwylderau bwyta, a chael mynediad at lwybrau atgyfeirio priodol. Gan adeiladu ar ein buddsoddiad blaenorol, rwyf wedi bod yn glir fod yn rhaid inni barhau i flaenoriaethu gwasanaethau anhwylderau bwyta, gyda'r cyllid cynyddol o'r £50 miliwn ychwanegol a neilltuwyd ar gyfer iechyd meddwl yn 2022-23. Mae hwn yn gyllid ychwanegol a rheolaidd sylweddol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cynyddu'r cyllid sylfaenol i gefnogi gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion iechyd meddwl sy'n newid o ganlyniad i COVID.
Fodd bynnag, dim ond rhan o'r ateb yw cyllid. Mae recriwtio i wasanaethau anhwylderau bwyta arbenigol yn parhau i fod yn her. Rhaid inni barhau i ddatblygu gweithlu cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae materion yn ymwneud â'r gweithlu yn effeithio ar wasanaethau iechyd meddwl, a dyna pam ein bod wedi comisiynu Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol i Gymru. Rydym wrthi'n ymgynghori ar y cynllun ar hyn o bryd, ac ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys sicrhau bod gennym y ddarpariaeth gywir yn y dyfodol i gefnogi'r rhai sy'n byw gydag anhwylder bwyta.
Rydym hefyd yn cydnabod yr angen i gael data cynhwysfawr, a bydd ein gwaith parhaus ar ddatblygu set ddata graidd iechyd meddwl yn gwella data ar draws y gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys gwasanaethau anhwylderau bwyta. Yn dilyn yr amrywiolyn omicron, rydym bellach wedi cyrraedd y pwynt lle mae angen inni ailosod ac adfer gwasanaethau iechyd meddwl, ac mae'n rhaid inni gofio eu bod wedi parhau i fod ar gael drwy gydol y pandemig. Wrth gwrs, mae hyn yn cynnwys anhwylderau bwyta, ac mae fy swyddogion eisoes yn gweithio gyda'r GIG ar y cyd i ailosod cynllun gwaith rhwydwaith anhwylderau bwyta'r GIG i gefnogi'r gwaith o wella gwasanaethau anhwylderau bwyta. Fel mater o flaenoriaeth, bydd hyn yn cynnwys cryfhau'r arweinyddiaeth glinigol genedlaethol i sbarduno'r newid hwn. Heb oedi'r gwaith gwella sydd eisoes ar y gweill, rydym am weithredu model rhwydwaith anhwylderau bwyta yng Nghymru a all wneud y gwelliant trawsnewidiol y mae pob un ohonom am ei weld ar gyfer y gwasanaethau hyn.
Wrth inni gefnu ar COVID, byddwn hefyd yn profi'r cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud yn erbyn y blaenoriaethau a bennwyd ar gyfer gwasanaethau yn seiliedig ar yr adolygiad annibynnol. Bydd hyn yn rhoi darlun clir i ni o'r cynnydd hyd yma o lle y mae pob bwrdd iechyd arni ar ei daith wella. Yn seiliedig ar hyn, gofynnir yn awr i fyrddau iechyd adnewyddu eu cynlluniau presennol gyda cherrig milltir clir i ailgyflunio gwasanaethau tuag at ymyrraeth gynharach, bodloni safonau NICE a chyflawni amser aros o bedair wythnos. Mae safonau ansawdd NICE yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn nodi chwe maes ansawdd. Fe'u cefnogir gan randdeiliaid allweddol a byddwn yn defnyddio'r rhain fel ein fframwaith i gefnogi gwelliant, yn hytrach na datblygu fframwaith ar wahân ein hunain. Bydd yr Aelodau hefyd am nodi ein bod wedi bod mewn trafodaethau ers haf 2021 gyda phartner allweddol i drefnu archwiliad clinigol cenedlaethol ffurfiol ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta ar gyfer Cymru a Lloegr, ac rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hynny maes o law.
Rwy'n cydnabod heddiw ein bod wedi canolbwyntio ar wasanaethau'r GIG, ac nid yw hynny ond yn rhan o'r newid sydd ei angen arnom. Mae anhwylderau bwyta yn gymhleth ac mae'r ffactorau risg yn amrywio. Rydym yn gweithio gydag ysgolion ar weithdai bwyta'n iach a delwedd y corff drwy ein dull ysgol gyfan, ac mae mor bwysig i mi ein bod yn gallu ymyrryd yn gynnar ac ar bwynt tyngedfennol yn natblygiad pobl ifanc. Rwy'n parhau'n gwbl ymrwymedig i hyrwyddo'r newid sydd ei angen yn ein gwasanaethau anhwylderau bwyta arbenigol, ond mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn y newidiadau trawsnewidiol system gyfan sydd eu hangen i leihau'r ffactorau risg cymhleth sy'n achosi anhwylderau bwyta. Nid yw hyn yn rhywbeth y gall neu y dylai'r GIG ei wneud ar ei ben ei hun. Diolch.
Rhun ap Iorwerth nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch i’r Dirprwy Weinidog am ei hymateb hi i’r ddadl a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth y prynhawn yma. Fel dwi'n dweud, mae yna gytundeb yma ar yr angen i gryfhau gwasanaethau. Dwi'n falch fy mod i wedi cael y cyfle i ymyrryd ar sylwadau'r Dirprwy Weinidog a gofyn yn union beth oedd ei gwrthwynebiad hi i’r cynnig sydd o'n blaenau ni, achos rŵan, rydyn ni yn deall.
Prif asgwrn y gynnen yw'r angen am fframwaith newydd, oherwydd mae hwn yn waith sydd eisoes ar y gweill. Nid ni sy'n dweud bod angen fframwaith newydd arnom, Beat sy'n dweud hynny; dyma'r sefydliad blaenllaw sy'n deall lle mae'r diffygion yn y ddarpariaeth bresennol i'r rhai sy'n dioddef o anhwylderau bwyta yng Nghymru. Rwy'n tueddu i wrando ar y rhai sy'n deall, yn yr un modd ag y gweithiaf gyda'r elusennau canser ac y gwrandawaf arnynt pan fyddant yn pwyso ac yn gofyn am gynllun canser newydd. Pan fydd Beat yn dweud wrthyf, 'Wyddoch chi beth? Nid yw'r fframweithiau sydd gennym ar hyn o bryd yn gweithio i ni mewn gwirionedd, mae angen inni adeiladu rhywbeth newydd', credaf fod honno'n neges glir fod angen inni symud i'r cyfeiriad hwnnw.
Mae yna sylwadau craff wedi cael eu gwneud o feinciau Llafur a'r Ceidwadwyr. Mi wnaf i fframio yr ychydig sylwadau sydd gen i ar ôl o gwmpas yr hyn ddywedwyd wrthyf i gan un dioddefwr anhwylderau bwyta. Mi fyddwch chi'n gwybod fy mod i wedi bod yn gwneud gwaith yn ddiweddar yn siarad efo pobl ifanc ynglŷn â mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn gyffredinol. Roedd y person yma wedi aros blwyddyn i gael dechrau cyfres o sesiynau cymorth ar gyfer anhwylderau bwyta, ac roeddwn i'n gwerthfawrogi ac yn gallu uniaethu yn y cyd-destun yma efo sylwadau yr Aelod dros Ganol Caerdydd, yn dweud na ddylem ni fod yn caniatáu bod drws anghywir i'w gnocio arno fo, ac na ddylai pobl ddim gorfod egluro eu hunain dro ar ôl tro fel oedd y person ifanc yma wedi gorfod ei wneud: 'Dwi newydd gael fy "discharge-io" o ofal gwasanaeth iechyd meddwl sylfaenol ar ôl disgwyl 12 mis amdano fo. Dwi dim ond wedi cael rhyw wyth i 10 sesiwn. Dwi wedi dysgu dipyn bach, ond dwi rŵan yn dal i stryglo a dwi ar fy mhen fy hun rŵan. Os dwi eisiau gofal eto, dwi'n gorfod 'apply-io' eto efo'r meddyg teulu a disgwyl yn hir iawn eto.' Dydy hi ddim yn dderbyniol, o fewn y fframweithiau presennol sydd gennym ni, fod ein pobl ifanc ni, a phobl o bob oed, yn teimlo mai dyna'r mathau o rwystrau sydd yn eu herbyn nhw. Mae'n rhaid inni gael modelau clir yn eu lle ar gyfer darparu'r ymyrraeth gynnar yma. Mae'n mynd yn ei blaen: 'Ffurf o broblem iechyd meddwl ydy o.' A dwi'n meddwl am sylwadau Sioned yn fan hyn ynglŷn â delweddau, cyfryngau cymdeithasol a phwysau cymdeithasol ac ati. 'Oherwydd y gymdeithas rydyn ni'n byw ynddi rŵan, mae ymddygiad anhwylderau bwyta weithiau'n cael ei normaleiddio, weithiau hyd yn oed yn cael ei gomplimentio', meddai'r person ifanc yma. Ond anhwylder iechyd meddwl ydy o, ac mae'n rhaid i bethau gael eu cymryd ychydig bach mwy o ddifrif.
Pan fo rhywun yn teimlo dyw anhwylder sydd yn fwrn ar eu bywydau nhw ddim yn cael ei gymryd o ddifrif, mae hynny hefyd yn neges inni bosib bod yna rywbeth o'i le yn y fframweithiau rydyn ni'n gweithio oddi mewn iddyn nhw. Felly, er mwyn i bawb gael yr help maen nhw ei angen, mor gyflym ag y maen nhw ei angen o, mae'n rhaid rhoi mwy o sylw i roi'r patrymau a'r gofal sydd yn angenrheidiol mewn lle.
Dwi'n gofyn ichi heddiw gefnogi cynnig Plaid Cymru sydd yn benodol yn yr hyn mae o'n gofyn amdano fo, a chefnogi gwelliant 2 hefyd sydd yn ychwanegu'r angen yma am dargedau fel ein bod ni'n gallu mesur y cerrig milltir wrth inni eu cyrraedd nhw. Fel y dywedais i, dydy cytundeb ynddo fo'i hun ar yr angen i wneud pethau'n well ddim yn golygu bod y map gennym ni ar sut i gyrraedd at y pwynt yma. Cefnogwch y cynnig yma heddiw fel datganiad ein bod ni o ddifrif ynglŷn â symud tuag at y math o ddarpariaeth mae poblogaeth Cymru ei hangen.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Bydd hynny'n dilyn egwyl fer y bydd angen inni ei chymryd nawr ar gyfer paratoi'n dechnegol ar gyfer y bleidlais. Felly, egwyl yn gyntaf.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:32.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:35, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais y prynhawn yma ar ddadl Plaid Cymru ar anhwylderau bwyta. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal a 40 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Anhwylderau bwyta. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 fydd nesaf, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal a 26 yn erbyn. Ac felly mae'r bleidlais ar hyn o bryd yn gyfartal ac fe fydd yn rhaid i fi fwrw fy mhleidlais yn erbyn—[Torri ar draws.]
Ie. Gwn pa ffordd, ond roeddwn yn disgwyl iddo ymddangos o fy mlaen.
Felly, dwi'n bwrw fy mhleidlais yn erbyn y gwelliant. Felly, canlyniad y bleidlais ar welliant 1 yw: o blaid 26, neb yn ymatal a 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2 fydd nesaf—gwelliant 2, wedi'i gyflwyno gan Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mi oedd y bleidlais yna unwaith eto yn gyfartal—26 o blaid, 26 yn erbyn—ac felly dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Felly, canlyniad y bleidlais yn derfynol ar welliant 2 yw bod 26 o blaid, neb yn ymatal a 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod. Dyw'r cynnig na'r gwelliannau wedi'u derbyn, ac felly, does dim byd wedi'i dderbyn.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Dyna ddiwedd ar ein pleidleisio ni y prynhawn yma.
Fe fyddwn ni nawr yn symud ymlaen i'r ddadl fer. Os gall y rhai ohonoch chi sy'n gadael y Siambr wneud hynny'n dawel.
Y rheini ohonoch sy'n gadael y Siambr, os gallwch wneud hynny'n dawel ac yn gyflym. Rwyf ar fin galw ar John Griffiths i gyflwyno ei ddadl fer. Rwy'n credu ein bod ni'n ddigon tawel yn awr, John, i chi barhau. John Griffiths.
Diolch, Lywydd. Lywydd, ym 1963, bron i 60 mlynedd yn ôl, gwahoddodd Clwb Rygbi Casnewydd yr All Blacks i Rodney Parade. Ac yn groes i'r disgwyl, fe wnaeth tîm Bryn Meredith nad oeddent wedi disgleirio rhyw lawer cyn y pwynt hwnnw, guro tîm o Seland Newydd a gâi ei ystyried yn un o'r goreuon yn ei gyfnod. Hyd heddiw siaradir am y gêm, ac rwy'n siŵr y bydd ar feddyliau nifer o bobl pan fyddant yn mynychu cinio oriel anfarwolion Clwb Rygbi Casnewydd yn ddiweddarach y mis hwn. Mae'r hanes hwnnw, yn fy marn i, yn dangos bod gan Gasnewydd hanes balch iawn yn y byd chwaraeon, yn ogystal â dyfodol disglair a chadarnhaol iawn hefyd yn y byd chwaraeon, rwy'n siŵr.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i'r Gadair.
Sylfaen chwaraeon yng Nghasnewydd, mewn gwirionedd, yw'r cyfleusterau a'r ymrwymiad ar lawr gwlad a welir yn y ddinas. Ac mae cyfleusterau Casnewydd Fyw yn bwysig iawn; maent ymhlith rhai o'r goreuon yng Nghymru. Y pwll nofio, y ganolfan tenis, Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a gweithgaredd y pentref chwaraeon rhyngwladol yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys y trac athletau a'r defnydd ohono gan Glwb Pêl-droed Casnewydd fel stadiwm.
Lywydd, o yfory ymlaen cynhelir y pencampwriaethau beicio trac cenedlaethol yn felodrom Geraint Thomas, a ailenwyd wrth gwrs ar ôl enillydd Tour de France yn 2018, un o'n hallforion chwaraeon mwyaf enwog yng Nghymru. Y felodrom hwnnw yw'r unig leoliad dan do o'i fath ar draws Cymru gyfan, a dyma lle y bu tîm Olympiaid Prydain yn hyfforddi o'r blaen. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd draw i weld y pencampwriaethau beicio trac cenedlaethol yr wythnos hon, gan obeithio cyfarfod â rhai o'r beicwyr, yn ogystal â helpu i wneud cyflwyniadau. Rwy'n credu bod y digwyddiad hwn yn dangos pa mor wych yw dinas Casnewydd yn dal i fod yn y byd chwaraeon hyd heddiw a pha mor angerddol yw'r ddinas ynglŷn â chwaraeon, boed yn bêl-droed, yn athletau, yn griced, yn rygbi, neu'n llu o gampau chwaraeon eraill. Ac mae'n dda iawn cael cyfle heno i dynnu sylw at lawer o waith da sy'n digwydd yn lleol.
Efallai y caf ddechrau gyda rygbi a phêl-droed, Lywydd, ac mae gennym hanes balch Clwb Rygbi Casnewydd a'r Dreigiau wrth gwrs yn y byd rygbi proffesiynol. Ac maent yn gwneud llawer o waith da iawn yn y gymuned, drwy gysylltu â sefydliadau y gymuned chwaraeon ar lawr gwlad, a chan edrych yn eang ar eu cylch gwaith, drwy gysylltu ag ymgyrchoedd Llywodraeth Cymru, â Chyngor Dinas Casnewydd, a llu o sefydliadau gwirfoddol eraill.
Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd yn gwneud pethau tebyg. Maent wedi gwneud llawer o waith da iawn gydag iechyd meddwl, ac iechyd meddwl dynion yn arbennig, yn ddiweddar, ar flaen y gad ymhlith clybiau pêl-droed proffesiynol a sut y maent yn cysylltu â'r agenda iechyd mewn perthynas â her—her fawr—iechyd meddwl yr ydym i gyd yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Ac mae ganddynt gangen gymunedol weithgar iawn sy'n gwneud llawer o waith da gydag ysgolion a chyda chymunedau ar lawr gwlad yng Nghasnewydd. Mae County in the Community yn bwysig iawn, a byddaf yn dychwelyd ato yn nes ymlaen.
Lywydd, mae Clwb Criced Casnewydd hefyd yn bennawd arall o ran yr hyn sydd gennym yn y ddinas, ac maent wedi'u lleoli yn y pentref chwaraeon rhyngwladol, rhan arall o'r lleoliad daearyddol gwych hwnnw ar gyfer chwaraeon yn y ddinas. Fel y rhan fwyaf o grwpiau a sefydliadau, mae'n amlwg fod COVID-19 wedi effeithio ar Glwb Criced Casnewydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac oherwydd newidiadau yn y pentref chwaraeon, ni chaniatawyd defnydd o'r cyfleusterau a ddefnyddir ganddynt ar gyfer sesiynau criced yn ystod misoedd y gaeaf am gyfnod, ac effeithiodd hynny ar eu gallu i gynnal sesiynau plant ac oedolion, gyda chwaraewyr yn gorfod mynd i rywle arall, i Gaerdydd a Glyn Ebwy, i hyfforddi. Rwyf wedi cwrdd â'r brodyr Knight, Mike a David, prif gynheiliaid Clwb Criced Casnewydd, i drafod y materion hyn, a hoffwn gofnodi'r ymrwymiad anhygoel sydd gan y brodyr a'r holl wirfoddolwyr o'u cwmpas i hyrwyddo criced ar sail wirfoddol, a sicrhau ei fod yn dal i fod ar gael yng Nghasnewydd i blant iau, i fenywod, i ferched, i uwch dimau'r dynion, i leiafrifoedd ethnig. Mae'r hyn y mae Clwb Criced Casnewydd yn ei gynnig yn eang iawn.
A byddai cyfleuster hyfforddi dan do newydd, rhwydi dan do newydd, yn allweddol iddynt allu bwrw ymlaen â'u hymdrechion. A gwn fod y Dirprwy Weinidog chwaraeon yn ymwybodol o'u huchelgais i ddatblygu'r prosiect hwnnw a'r datblygiad hwnnw, a byddai'n galluogi talent leol i barhau i ddisgleirio a'r agenda gynhwysol iawn honno sydd gan Glwb Criced Casnewydd i ffynnu. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y gwelwn Lywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, yn ogystal â Criced Cymru a Morgannwg, a chwaraeodd eu gemau Ail XI yng Nghasnewydd, i gyd yn cefnogi'r fenter hon, ac wrth gwrs, Casnewydd Fyw ei hun, gan gydnabod mai Clwb Criced Casnewydd yw un o'r clybiau mwyaf amrywiol a chynhwysol, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y DU gyfan. A byddai pwysigrwydd y cyfleuster dan do hwnnw mor—. Byddai'n caniatáu i gymaint mwy ddatblygu, pe bai'n mynd yn ei flaen. Felly, Ddirprwy Weinidog, rwy'n gobeithio y byddwch yn cyfarfod â chynrychiolwyr y clwb, gan gynnwys y brodyr Knight, i drafod eu huchelgeisiau'n fanylach.
Mae Parkrun Cymru a'r ffordd y mae'n gweithredu yng Nghasnewydd yn arwydd arall o ba mor weithgar a brwdfrydig ac egnïol yw'r boblogaeth leol. Ac mae'r ddau parkrun yng Nghasnewydd, un yng Nglan yr Afon ac un yn Nhŷ Tredegar yn etholaeth fy nghyd-Aelod Jayne Bryant, yn ennyn cefnogaeth dda iawn, ac maent yn ei gwneud hi'n bosibl i lawer ddigwydd er mwyn annog ffitrwydd ac iechyd da yng Nghymru, er enghraifft drwy'r rhaglen Couch to 5K a'r cysylltiadau â meddygfeydd lleol i sicrhau bod pobl yn gwybod mai un ffordd ymlaen tuag at iechyd da yw dilyn yr agenda ataliol honno a chysylltu â'r digwyddiadau parkrun a'r cyfan y maent yn ei alluogi yng Nghasnewydd, yn ein dinas.
Fis Hydref diwethaf, cyflwynais ddatganiad barn ar bwysigrwydd y gweithgaredd hwn, ac roeddwn yn falch iawn ei fod wedi cael cefnogaeth gan Aelodau'r Senedd ar draws y Senedd. Rwy'n gobeithio eto, Ddirprwy Weinidog, y bydd Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd a sefydliadau eraill yn parhau i ymrwymo i weithio gyda Parkrun Cymru a digwyddiadau parkrun lleol fel y rhai yng Nghasnewydd i hyrwyddo mentrau iechyd ataliol yn rhagweithiol a deall pwysigrwydd hynny a sut y mae angen inni symud ymlaen fwyfwy i'r sylfaen honno. Ddirprwy Weinidog, rwy'n siŵr y byddech yn gallu dweud wrthym am y trafodaethau yr ydych yn eu cael i wneud hynny.
Wrth gwrs, rydym yn sôn am rai o'r chwaraewyr allweddol, rhai o'r sefydliadau allweddol yn y byd chwaraeon yng Nghasnewydd, ond mae hyn i gyd yn dibynnu ar chwaraeon ar lawr gwlad ac mae'n rhaid iddynt gysylltu â chwaraeon ar lawr gwlad, a'r llu o glybiau, gyda'r holl wirfoddolwyr sy'n eu gwneud yn bosibl, mewn pêl-droed, mewn rygbi, mewn criced, mewn athletau, sy'n dangos yr angerdd ynghylch chwaraeon yng Nghasnewydd fel dinas. Gwn yn iawn faint o'r sefydliadau hynny, faint o deuluoedd, faint o bobl ifanc, faint o fenywod, lleiafrifoedd ethnig sy'n rhan o'r ymdrech honno i wneud hyn oll yn bosibl.
Ledled Casnewydd, mae County in the Community, cangen elusennol a chymunedol Clwb Pêl-droed Casnewydd, yn cyflwyno sesiynau Premier League Kicks yn rhai o rannau mwyaf difreintiedig y ddinas. Maent yn defnyddio chwaraeon i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, cynyddu cyfranogiad menywod a darparu cyfleoedd cynhwysol i'r rhai sy'n byw gydag anabledd. Yn Ringland yn Nwyrain Casnewydd, maent wedi ymgysylltu â dros 100 o bobl ifanc mewn sesiynau am ddim ac wedi cael eu cefnogi gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert. Yn debyg i Glwb Criced Casnewydd, yn ystod misoedd y gaeaf, maent yn darparu'r cyfleoedd hynny, gan barhau drwy gydol y flwyddyn. Ond rwy'n gwybod bod problemau wedi bod—problemau gyda diffyg goleuadau a chyfleusterau glân.
Ac mae'r prosiect y mae County in the Community yn ei ddatblygu yn Ringland wedi dangos i mi, hyd yn oed wrth i'r broses o adfywio ein cymunedau fynd rhagddi, ei bod weithiau'n ymddangos nad yw cyfleusterau chwaraeon yn flaenllaw yn hynny o beth, pan fo gwir angen iddynt fod. Ddirprwy Weinidog, gwn fod gennym brosiectau yng Nghasnewydd i adeiladu ar ein hanes chwaraeon i gysylltu â'r ganolfan iechyd a lles newydd yn Ringland, Parc a Dwyrain Casnewydd, cyfleuster a fyddai'n cynnwys meddygfa, gwasanaethau deintyddol, cyfleusterau i deuluoedd a therapi, fferylliaeth, gwasanaethau bydwreigiaeth, nyrsys cymunedol a gofal cymdeithasol i oedolion. Yn rhan o'r datblygiad hwnnw, dylem fanteisio ar y cyfle i wella cyfleusterau chwaraeon yn yr ardal, gan wneud cysylltiadau hollbwysig ag iechyd. Felly, roeddwn yn meddwl tybed, Ddirprwy Weinidog, a yw hyn yn rhywbeth y gallech chi, gyda'r Gweinidog iechyd, y bwrdd iechyd a chyngor y ddinas, ynghyd â rhanddeiliaid allweddol eraill, sicrhau ei fod yn cael ei archwilio.
Yn olaf gennyf fi heno, hoffwn dynnu sylw at hanner marathon Casnewydd, sy'n cael ei gynnal ddydd Sul, ac unwaith eto mae'n gwneud llawer i roi chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar flaen yr hyn sy'n digwydd yn lleol ac ym meddyliau pobl leol. Mae wedi'i drefnu, wrth gwrs, gan Ofal Hosbis Dewi Sant, sy'n sefydliad hynod bwysig yng Nghasnewydd—yn gwneud cymaint o waith da i deuluoedd lleol gyda gofal diwedd oes, a thrwy'r hanner marathon, mae'n codi llawer iawn o arian hanfodol ac yn galluogi rhedwyr i godi arian ar gyfer llu o elusennau hanfodol eraill ac yn amlwg, mae'n cael llawer o bobl i ddod yn fwy egnïol a heini yng Nghasnewydd a thu hwnt.
Y llynedd, nid oedd modd cynnal y ras ar ei ffurf arferol ac roedd yn rhithwir oherwydd COVID-19, ond ddydd Sul, bydd cymaint o redwyr yn cymryd rhan, gan fy nghynnwys i, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr. Mae'r digwyddiad wedi tyfu a thyfu dros y blynyddoedd—mae'n fwy ac yn well o un flwyddyn i'r llall, a bydd yn parhau i ddatblygu. Ddirprwy Weinidog, rwy'n gwybod ei bod ychydig yn hwyr i gofrestru erbyn hyn, ond rwy'n siŵr y byddai'r trefnwyr yn falch iawn o'ch clywed yn rhoi eich cefnogaeth i'r digwyddiad ddydd Sul. Rwy'n gobeithio bod yr hyn y gallais ei amlinellu mewn amser cyfyngedig yn rhoi blas o rywfaint o'r hyn sy'n digwydd yng Nghasnewydd a pha mor frwd ac angerddol yw Casnewydd ar lawr gwlad ac ar y lefel broffesiynol ynglŷn â chymryd rhan lawn mewn chwaraeon yng Nghymru a sicrhau bod hynny'n datblygu'n gryfach byth wrth inni symud ymlaen. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i fy nghyfaill, John Griffiths, am godi hyn heddiw ac am ganiatáu munud o'i amser i mi. Mae gan Gasnewydd hanes cyfoethog o gyfrannu at wead chwaraeon Cymru. Mae ein clybiau ar lawr gwlad, fel y rhai y mae John wedi sôn amdanynt, wedi meithrin a chefnogi cymaint o dalent. Hyd yn oed cyn curo'r All Blacks ym 1963, roedd gennym Arthur 'Monkey' Gould, yr ystyrid mai ef oedd seren gyntaf rygbi Cymru a'r byd, ac a oedd yn nhîm yr Invincibles yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, i rai fel Tony Pulis a Mike Flynn a'u heffaith ar bêl-droed, Christian Malcolm a oedd yn rhedwr o'r radd flaenaf ac sydd bellach yn hyfforddwr o'r radd flaenaf, a Mica Moore a'i llwyddiannau bobsledio. Mae pobl Casnewydd bob amser wedi chwarae eu rhan.
Yn fwy diweddar, cefais fy nghalonogi'n fawr wrth weld mabolgampwyr Casnewydd yn defnyddio eu llwyfan a'u gwreiddiau i newid meddylfryd ac ysbrydoli ein cymunedau—pobl fel Ashton Hewitt a Leon Brown o'r Dreigiau yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae Ashton yn gwneud cymaint i geisio trechu hiliaeth a gwahaniaethu mewn rygbi a chwaraeon yn gyffredinol, ac yn y gymdeithas, ac mae'r ddau chwaraewr yn llysgenhadon balch i'r rhaglen Dyfodol Cadarnhaol, gyda'r nod o ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol ac i efelychu eu cyflawniadau yn y byd chwaraeon. Mae gan Gasnewydd enw da am chwaraeon y gall fod yn falch ohono. Mae cymaint o hynny'n deillio o ymrwymiad a chefnogaeth pobl ar lefel gymunedol. Hir y parhaed.
Galwaf ar Ddirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon i ymateb i'r ddadl—Dawn Bowden.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i John am arwain y ddadl y prynhawn yma ac am gyfraniad Jayne hefyd? Rwy'n cydnabod angerdd John am chwaraeon a hamdden, a Jayne, mewn gwirionedd—mae'n gefnogwr rygbi a phêl-droed mawr, rwy'n gwybod—ond yn sicr mae John bob amser wedi bod yn gadarn ei gefnogaeth i'r gwahanol glybiau a chyfleusterau chwaraeon yn ei etholaeth, a chredaf ei fod wedi cyfleu hynny'n huawdl iawn y prynhawn yma, neu heno.
Hoffwn ddechrau fy ymateb drwy ddweud bod cefnogi ein clybiau a'n digwyddiadau chwaraeon cymunedol ledled Cymru yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ar lefel elitaidd a chymunedol. Mae buddsoddi yng cyfleusterau chwaraeon ein gwlad hefyd yn ymrwymiad personol i mi, fel y gallwn ddatblygu mwy o'n talent fel cenedl. Mae ein buddsoddiad ar lefel elitaidd, buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf i gefnogi llwyddiant chwaraeon ein gwlad ar y llwyfan byd-eang, yn allweddol i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.
Yng Nghasnewydd a'r ardaloedd cyfagos, hoffwn feddwl y gallwn ddatblygu'r genhedlaeth hon i efelychu sbrintwyr Olympaidd tebyg i Christian Malcolm, y mae Jayne eisoes wedi sôn amdano, a Jamie Baulch; y bocsiwr a enillodd fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad, Sean McGoldrick; y saethwr Paralympaidd, Pippa Britton, enillydd medal byd ac aelod allweddol o fwrdd Chwaraeon Cymru; Kyron Duke, a enillodd fedal arian Baralympaidd ar y waywffon a thaflu maen; y pêl-droediwr, Chris Gunter, gyda mwy na 100 o gapiau rhyngwladol dros Gymru; y nofiwr a enillodd fedal aur Baralympaidd, Liz Johnson; y chwaraewyr rygbi, Taine Basham ac Aaron Wainwright; neu Cerys Hale, un o'n menywod arloesol, sydd wedi derbyn cytundeb rygbi rhyngwladol yn ddiweddar i chwarae dros Gymru. Gallwn barhau, ond credaf ei bod yn deg dweud bod Casnewydd wedi cynhyrchu ei chyfran deg o dalent Cymru dros y blynyddoedd, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n parhau.
Rhaid imi ychwanegu hefyd fod Casnewydd wedi bod yn ganolfan hyfforddi i athletwyr rhagorol: y Paralympiaid Jordan Howe, Rhys Jones a James Ledger, i gyd wedi'u hyfforddi gan Christian Malcolm yn y ddinas; a llawer o feicwyr sydd wedi hyfforddi yn felodrom cenedlaethol Geraint Thomas, gan gynnwys James Ball, enillydd medal arian Baralympaidd. Ac yn y fan hon, hoffwn ddymuno pob lwc i'r rhai a ddewiswyd i gymryd rhan yng Ngemau'r Gymanwlad sydd i ddod yn Birmingham, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn cystadlu, ac yn dod â medalau yn ôl gyda hwy, gobeithio.
Ond rhaid inni geisio cefnogi a galluogi'r genhedlaeth nesaf yn awr, a'n hymrwymiad yw buddsoddi mewn cyfleusterau newydd a rhai sy'n bodoli'n barod i wella sylfaen ein chwaraeon cymunedol, a dyna pam, mor ddiweddar â'r mis diwethaf, y cyhoeddais £4.5 miliwn o gyllid cyfalaf pellach eleni i gefnogi'r ymrwymiad hwn, gan ddod â chyfanswm ein buddsoddiad yn 2021-22 i fwy na £13.2 miliwn. Mae rhai o'r buddsoddiadau hynny wedi'u gwneud yng Nghasnewydd, megis darparu cyfleusterau perfformiad uchel newydd yng Nghlwb Golff Parc, galluogi mynediad i'r anabl yng nghlwb bowls Beechwood, cyfrannu at alluogi dosbarthiadau bocsio i ferched a menywod yng Nghlwb Bocsio St Michael, ac uwchraddio'r goleuadau hyfforddi yng nghlwb rygbi Tŷ-du, i enwi ond ychydig o'r rhain.
Ac fel y nododd John yn ei gyfraniad, mae Clwb Criced Casnewydd yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer cyfleusterau newydd, a gwn eu bod wedi cael eu hannog i siarad â Criced Cymru a Chwaraeon Cymru i drafod hyn, a bydd fy swyddogion yn fwy na pharod i wneud y cyflwyniadau hynny os oes angen.
Ond wrth gwrs, rhaid inni beidio ag anghofio'r cyfleusterau o'r radd flaenaf sydd gennym eisoes yng Nghasnewydd, ac mae John eto wedi sôn am rai o'r rheini, ond mae gennym y Celtic Manor, a gynhaliodd Gwpan Ryder 2010 ac unwaith eto, nodaf felodrom cenedlaethol Geraint Thomas, sydd, fel y soniodd John, yn cynnal y Bencampwriaeth Beicio Trac Cenedlaethol yr wythnos hon. Heb y cyfleusterau deniadol a hygyrch hyn, ni allwn obeithio cynyddu cyfranogiad ar draws y campau, yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a dyma'r allwedd i gefnogi datblygiad ein plant a datblygu mynediad at chwaraeon, megis buddsoddi mewn chwaraeon merched a menywod.
Fodd bynnag, dim ond rhan o'r darlun yw'r cyllid a ddarparwn i Chwaraeon Cymru a chyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon. Rydym hefyd wedi buddsoddi yn hanner marathon Casnewydd a marathon Casnewydd dros y blynyddoedd diwethaf, gan groesawu niferoedd mawr o redwyr, gan gynnwys John, fel y soniodd eisoes. Rwy'n clywed eich bod yn mynd i'w redeg eto am y nawfed flwyddyn yn olynol, rwy'n meddwl, John. Felly, mae honno'n dipyn o gamp. Nid wyf yn gwybod a ydych chi'n anelu at amser cymhwyso ar gyfer Gemau'r Gymanwlad neu rywbeth, ond pob lwc i chi ddydd Sul, beth bynnag. Ac mae'r digwyddiadau hyn, wrth gwrs, yn dod â chefnogwyr a gwylwyr i mewn, gan hyrwyddo'r ddinas fel lleoliad chwaraeon gwych, a chyfrannu'n sylweddol at yr economi leol. Yr wythnos hon, mae Casnewydd hefyd yn cynnal cystadleuaeth snwcer agored Cymru, gan ddenu rhai o chwaraewyr gorau'r byd i'r ddinas, yn cynnwys Iulian Boiko, dyn ifanc yn ei arddegau o Wcráin y mae'n rhaid ei ganmol am gystadlu ar yr adeg anodd hon iddo'n bersonol, a Ng On-yee o Hong Kong, y fenyw gyntaf i gystadlu yn y gystadleuaeth.
Drwy gydol y pandemig, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi cymorth sylweddol i dimau chwaraeon proffesiynol yng Nghasnewydd—y Dreigiau a Chlwb Pêl-droed Casnewydd—i'w diogelu rhag effaith lawn cyfyngiadau COVID drwy'r gronfa chwaraeon gwylwyr. Rydym wedi rhoi cymorth iddynt i wrthbwyso colli incwm gan gefnogwyr a'u galluogi i fod yn gystadleuol yn eu priod gynghreiriau. Ac mae'n dda gweld, wrth gwrs, fel yr amlinellodd John unwaith eto, y camau a gymerwyd gan sefydliadau fel y Dreigiau a Chlwb Pêl-droed Casnewydd, a'r gwaith a wnânt i gefnogi eu cymuned.
Felly, gan edrych i'r dyfodol, Ddirprwy Lywydd, rydym eisoes wedi ymrwymo £24 miliwn o gyllid cyfalaf i Chwaraeon Cymru dros y tair blynedd nesaf ac o'm rhan i, dim ond man cychwyn ein huchelgais yw hynny, a byddwn yn ceisio adeiladu ar y buddsoddiad cychwynnol hwnnw, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ledled Cymru gyfan, ac nid Casnewydd yn unig, gyda llaw. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud cyfleusterau ar gyfer ein chwaraeon a'n gweithgareddau corfforol yn hygyrch i bawb os ydym am ryddhau manteision chwaraeon i bawb yng Nghymru, o'r rhai sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad i'r rhai ar lefel elît. Mae cyfleusterau modern, hygyrch a chynaliadwy yn hanfodol i annog pobl i ddychwelyd at chwaraeon neu i ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae'r ystad addysg, drwy ein hysgolion a'n colegau, hefyd yn darparu llwyfan pwysig ar gyfer ein cyfleusterau chwaraeon. Mae gan ein rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn flaenorol, ran bwysig i'w chwarae yn darparu cyfleusterau chwaraeon. Mae awdurdod lleol Casnewydd wedi elwa ar fuddsoddiadau o'r fath, sydd wedi eu galluogi i ddatblygu prosiectau sy'n cynnwys cyfleusterau cymunedol a chwaraeon. Rydym wedi darparu buddsoddiad yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed sydd newydd ei sefydlu, ysgol arbennig Ysgol Bryn Derw, ac Ysgol Basaleg, y mae ei chyfleusterau i gyd ar gael at ddefnydd ehangach y gymuned. Yn ysgol Is Coed, mae cyllid wedi helpu i ddarparu cae chwaraeon 3G maint llawn dan lifoleuadau i rai dan 18 oed, prif neuadd fawr gyda ffreutur a lle bwyta ar wahân, ac yn Ysgol Basaleg, mae buddsoddiad wedi helpu i ddarparu cae rygbi 3G maint llawn dan lifoleuadau a chae pêl-droed 3G llai o faint i rai dan 16 oed.
Ac wrth gwrs, mae gwerth chwaraeon i iechyd, y gymdeithas a'r economi wedi ei gydnabod yn eang, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn chwaraeon drwy bŵer ataliol chwaraeon. Soniodd John am ddigwyddiadau parkrun yn y cyd-destun hwnnw, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef ar hynny, oherwydd mae pŵer ataliol chwaraeon hefyd yn cynnwys presgripsiynu cymdeithasol, lle byddem yn cysylltu'n agos â chydweithwyr ym maes iechyd y cyhoedd ac yn gweithio ar y cyd i ddarparu cyfleoedd i sefydliadau a chlybiau chwaraeon gyfrannu a chymryd rhan mewn unrhyw ffordd bosibl i wireddu ymrwymiad mor bwysig yn y rhaglen lywodraethu.
Ond i ddychwelyd at brif elfen y ddadl, yr ymrwymiad i chwaraeon ar lawr gwlad, heb amheuaeth, yw carreg sylfaen ein llwyddiant ehangach fel gwlad ar lwyfan y byd. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru mewn ffordd gynaliadwy sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang i sicrhau mynediad cyfartal ac i gefnogi ein hathletwyr a'n hyfforddwyr talentog lle bynnag y maent yn byw a beth bynnag fo'u cefndir. Rydym eisoes wedi cael deialog gadarnhaol ac adeiladol gyda rhai o'n partneriaid cenedlaethol ynghylch cyflawni'r amcanion hynny gyda'n gilydd, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach yn y dyfodol agos. Diolch yn fawr.
Diolch i bawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:02.