Y Cyfarfod Llawn

Plenary

01/02/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd, ac eraill yn ymuno ar gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn yma heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Buffy Williams. 

Cam-drin a Chamfanteisio Rhywiol

1. Pa gymorth sydd ar gael i blant sydd wedi dioddef cam-drin a chamfanteisio rhywiol? OQ57540

Llywydd, mae gwasanaeth ymosodiadau rhywiol Cymru yn cael ei arwain gan y GIG, gan weithio gyda'r heddlu, gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau arbenigol yn y trydydd sector. Gyda'i gilydd, eu nod yw atal cam-drin rhywiol a chamfanteisio ar blant, amddiffyn dioddefwyr sy'n blant a chynorthwyo plant sydd wedi cael eu cam-drin i wella.

Mae cam-drin plant yn rhywiol yn cael effeithiau pellgyrhaeddol a hirhoedlog ar iechyd corfforol a meddyliol. Gall plant sydd wedi dioddef trawma lluosog ddatblygu anhwylder straen wedi trawma, iselder a gorbryder. Yn ystod chwe mis cyntaf 2021-22, bu cynnydd o 65 y cant i nifer atgyfeiriadau cam-drin rhywiol a chamfanteisio ar blant y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, o'i gymharu â'r un cyfnod o chwe mis yn ystod y flwyddyn flaenorol. Disgwylir i gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar atal a mynd i'r afael â cham-drin plant yn rhywiol ddod i ben yn ystod haf eleni. Gyda'r wybodaeth y gall plant sy'n cael y cymorth cywir wella heb effeithiau hirdymor, mae angen i ni gadw'r momentwm i fynd a blaenoriaethu argaeledd gwasanaethau cam-drin rhywiol arbenigol integredig sy'n canolbwyntio ar y plentyn i blant. Mae'r Lighthouse yng ngogledd Llundain yn un enghraifft lwyddiannus o fodel Tŷ Plant, yn seiliedig ar y Barnahus yng Ngwlad yr Iâ, a dyma'r unig wasanaeth cymorth cam-drin a chamfanteisio ar blant amlasiantaeth o'i fath yn y DU. A wnaiff y Prif Weinidog werthuso gwasanaeth y Lighthouse a chan ddefnyddio'r dystiolaeth, ystyried darparu'r un gwasanaeth i blant yng Nghymru?

Wel, Llywydd, diolchaf i Buffy Williams am y pwyntiau pwysig yna a'r cwestiwn ychwanegol yna. Mae adroddiad interim gwasanaeth y Lighthouse ar gael, ond ni fydd yr adroddiad gwerthuso terfynol ar gael tan yn ddiweddarach eleni. Edrychwn ymlaen, wrth gwrs, at weld beth mae'r gwerthusiad hwnnw yn ei ddweud. Cynsail sylfaenol model y Lighthouse yw ei bod hi'n well dod â gwasanaethau i blant yn hytrach na bod plant yn gorfod ymweld â nifer o leoliadau i gael gwasanaethau, ac yn amlwg mae llawer i'w ddweud dros hynny. 

Mae'n ymddangos yn annhebygol i mi mai codi model o ran hynod drefol o Lundain—mae pum bwrdeistref yn Llundain yn cyfrannu at wasanaeth y Lighthouse—a'i ollwng yn syml yng Nghymru yw'r ateb cyflawn. Yn yr adroddiad interim, Llywydd, roedd yn dweud bod 29 o atgyfeiriadau y mis ar gyfartaledd o'r pum bwrdeistref yn Llundain i'r gwasanaeth hwnnw. Yng Nghymru, mae gan wasanaethau'r gogledd a'r de rhyngddyn nhw gyfartaledd o ychydig dros 19 o atgyfeiriadau'r mis, a fyddai, i bob pwrpas, yn golygu y byddai un ganolfan ar gyfer Cymru gyfan, ac ni fyddai hynny yn cyd-fynd â'r syniad sylfaenol ei fod yn fwy cyfleus i bobl ifanc. Felly, rwy'n credu, yn ogystal â dysgu gwersi gwasanaeth y Lighthouse a'i lwyddiant, bod yn rhaid i ni ddatblygu model prif ganolfan a lloerennau yma yng Nghymru, lle ceir gwasanaethau arbenigol i blant sydd yn y sefyllfa ofnadwy honno ond lle ceir gwasanaethau hefyd yn nes at eu cartrefi eu hunain, sy'n gallu darparu'r math o gymorth a amlinellais yn fy ateb gwreiddiol.

Diolch, Llywydd, ac mae'n wych bod yn ôl yn y Siambr. Prif Weinidog, yn anffodus, mae'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael yng Nghymru yn parhau i fod yn druenus o annigonol ac rydym ni'n siomi ein dioddefwyr. Ac er ein bod ni'n gwella, mae gennym ni gryn dipyn i'w wneud o hyd. Mae gan gymorth trawma restrau aros mor hir fel nad oes pwynt iddo fod yno bron. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno, ochr yn ochr â'r cymorth o'r radd flaenaf, y dylem ni hefyd fod yn gwneud mwy o ymdrech i atal? A wnewch chi sicrhau bod pob gwasanaeth plant yn mabwysiadu dull gweithredu ar sail trawma, fel y maen nhw yn yr Alban? 

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno, wrth gwrs, y bydd hi bob amser yn llawer gwell, yn enwedig mewn maes fel hwn, atal niwed rhag digwydd na cheisio helpu plant i ymdopi â chanlyniadau niwed. Rwy'n credu y byddai cwestiwn yr Aelod yn fwy defnyddiol pe bai'n dibynnu llawer iawn llai ar haeru ac yn rhoi ychydig mwy o dystiolaeth i ategu'r hyn yr oedd ganddo i'w ddweud, oherwydd ni chlywais unrhyw dystiolaeth o gwbl yn rhan gyntaf ei gwestiwn atodol, dim ond cyfres o haeriadau heb dystiolaeth.

O ran arferion ar sail trawma, wel, wrth gwrs, mae gennym ni'r rhaglen digwyddiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a sefydlwyd gan fy nghyn gyd-Aelod Carl Sargeant, sydd wedi gwneud cymaint yng Nghymru i wneud yn siŵr bod gweithwyr rheng flaen ym maes amddiffyn plant, ond yn llawer mwy na hynny, ym maes tai, ac ym maes iechyd, ac mewn gwasanaethau rheng flaen eraill, yn dilyn y dull o weithredu hwnnw ar sail trawma o ymdrin â'r gwaith y maen nhw'n ei wneud. Felly, ar y pwyntiau sylweddol y mae'r Aelod yn eu gwneud—atal ar y naill law, arfer ar sail trawma ar y llaw arall—rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd y prynhawn yma.

13:35
Seilwaith Rheilffyrdd

2. Pa sgyrsiau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd yng ngogledd Cymru? OQ57560

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Gweinidogion Cymru yn manteisio ar bob cyfle i godi gyda Llywodraeth y DU eu hesgeulustod cywilyddus o fuddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd yng ngogledd Cymru.

Diolch. Mae Llywodraeth Dorïaidd y DU yn buddsoddi ychydig o dan £100 biliwn mewn seilwaith rheilffyrdd HS2. Pe bai fformiwla Barnett yn cael ei defnyddio, dylai Cymru fod â hawl i gyfran poblogaeth o 5 y cant, sy'n £5 biliwn. Bydd yr Alban yn derbyn £10 biliwn. Ond gan fod Llywodraeth y DU yn dweud bod y rheilffordd o Lundain i Birmingham yn mynd i fod o fudd i Gymru, dydyn ni'n cael dim. Ar ben hyn, gwnaed cais i Lywodraeth y DU am gyllid codi'r gwastad i'w fuddsoddi ar reilffordd Wrecsam-Bidston, y mae ei angen yn daer, ond, eto, methodd Llywodraeth y DU â darparu buddsoddiad, a bydd yn cymryd amser ac adnoddau sylweddol i'r awdurdod lleol wneud cais eto. Y cwbl yr ydym ni'n gofyn amdano yw bod Cymru yn cael ei thrin yn deg. Prif Weinidog, mae pobl yn y gogledd yn haeddu eu cyfran deg o fuddsoddiad yn y rhwydwaith rheilffyrdd—mae'n hanfodol. Beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod hyn yn digwydd? Diolch.

Llywydd, fel y dywedodd yr Aelod, mae Cymru yn cael ei thrin yn unrhyw beth ond teg o ran buddsoddiad mewn rheilffyrdd gan Lywodraeth y DU. Yn ystod yr adolygiad cynhwysfawr diwethaf o wariant, yn fympwyol, lleihaodd y Trysorlys y ffactor cymharedd o dan Barnett ar gyfer yr adran drafnidiaeth yn Lloegr o 89 y cant i 36 y cant, sy'n golygu, fel y dywedodd yr Aelod, bod Cymru ar ei cholled o werth biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad. Mae'n hurt—yn hollol hurt—i honni, oherwydd bod gwasanaeth newydd o Lundain i Birmingham, bod hynny rywsut yn golygu bod Cymru wedi cael ei chyfran deg o'r buddsoddiad hwnnw. Daeth y Pwyllgor Materion Cymreig ym mis Rhagfyr 2020, dan gadeiryddiaeth Aelod Seneddol Ceidwadol, gyda mwyafrif o Aelodau Seneddol Ceidwadol ar y pwyllgor hwnnw, i'r casgliad y dylid ailddosbarthu HS2 fel prosiect Lloegr yn unig. A phe bai hynny'n wir, yna wrth gwrs byddai Cymru yn cael y £5 biliwn y mae Carolyn Thomas wedi cyfeirio ato. Bydd gan yr Alban, lle derbynnir cymharedd, £10 biliwn i'w fuddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd yn yr Alban, y mae pob ceiniog ohono yn cael ei wrthod yma i Gymru.

Ac mae hynny i gyd yn dod ar ben degawd o esgeuluso buddsoddiad yn y seilwaith yma yng Nghymru. Rydych chi wedi clywed y ffigurau yma o'r blaen—mae 2 y cant o'r rheilffordd yng Nghymru wedi'i thrydaneiddio. A ydych chi'n gwybod faint mae hynny yn ei olygu, Llywydd? Mae dwy filltir ar hugain—22 filltir o'r rheilffordd yng Nghymru wedi'i thrydaneiddio. Mae'n druenus, ac mae'n ganlyniad uniongyrchol i dorri addewidion gan y blaid gyferbyn. Mae pethau y gallen nhw eu gwneud, mae pethau y dylen nhw eu gwneud. Mae Llywodraeth Cymru, ar y llaw arall, Llywydd, yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau rheilffyrdd yn y gogledd. Eleni, byddwn yn cynyddu gwasanaethau ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn darparu gwasanaethau newydd rhwng Lerpwl a Llandudno. A'r flwyddyn ar ôl hynny, bydd gwasanaethau newydd o'r gogledd i Gaerdydd. Tra bod Llywodraeth y DU yn trin Cymru yn ddirmygus pan ddaw i fuddsoddi yn y rheilffyrdd, mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fuddsoddi yn y gogledd ac yng ngweddill Cymru.

13:40

Prif Weinidog, rwyf innau hefyd eisiau gweld mwy o fuddsoddiad gan Lywodraethau'r DU a Chymru yn y gogledd yn y seilwaith rheilffyrdd. Un o'r pethau yr hoffwn ei weld yn fawr yn fy etholaeth i yw arhosfa drenau newydd yn ardal Tywyn a Bae Cinmel. Byddwch yn ymwybodol pa mor boblogaidd yw ardal Tywyn a Bae Cinmel fel cyrchfan: 50,000 o leoedd gwely mewn carafanau gwyliau, ac mae'n rhaid i lawer o'r bobl hynny neidio oddi ar y trên yn y Rhyl neu yn Abergele er mwyn neidio i mewn i gar wedyn i gyrraedd y man lle maen nhw eisiau cyrraedd. Nawr, os ydym ni eisiau newid dulliau teithio, os ydym ni'n mynd i ostwng yr allyriadau carbon mewn trafnidiaeth a chynnig dewis gwirioneddol i bobl gyrraedd eu cyrchfannau, yna byddai gorsaf newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr yn y gymuned honno. Roedd un ers talwm; fe'i caewyd flynyddoedd lawer yn ôl. Mae'n bryd ei hailsefydlu ac ailfywiogi trafnidiaeth rheilffyrdd yn fy etholaeth. 

Wel, Llywydd, nid wyf i'n amau am eiliad bod yr Aelod eisiau gweld buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau yn ei etholaeth ei hun. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i wneud cais i gronfa y DU i ailsefydlu gorsafoedd lle cawsant eu cau, ac, yn wir, cawsom un canlyniad cadarnhaol allan o'r rhaglen honno pan benderfynwyd ddiwethaf: gorsaf newydd yn Sanclêr yn sir Gaerfyrddin, yr wyf i, mae arnaf ofn, yn ei chofio yn cael ei hagor cyn iddi gael ei chau flynyddoedd lawer yn ôl. A dywedaf hyn wrth yr Aelod, y byddai Llywodraeth Cymru yn hapus iawn i weithio gydag ef a buddiannau lleol eraill i wneud y ddadl dros orsaf yn ardal Tywyn a Bae Cinmel, ac yna bydd yn rhaid i ni gyflwyno honno i Lywodraeth y DU a gobeithio am y gorau. 

Prif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich atebion i'r cwestiynau pwysig hyn am seilwaith rheilffyrdd yn y gogledd? Y ffordd fwyaf syml o fynd i'r afael â thanariannu hanesyddol, wrth gwrs, fyddai datganoli cyfrifoldebau a chyllid priodol i Lywodraeth Cymru, ac rydym ni'n dal i aros am gyllid Llywodraeth y DU i wella ein rheilffyrdd yn y gogledd. Ond, Prif Weinidog, a allwch chi ein sicrhau ni bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn awyddus i fuddsoddi mewn gwasanaethau rheilffyrdd a chyfleusterau rheilffyrdd lle a phryd y gall wneud hynny, boed hynny'n orsafoedd rheilffordd segur neu drwy gymorth i grwpiau hynod bwysig, fel Cyfeillion Gorsaf y Waun, Cyfeillion Gorsaf Rhiwabon yn fy etholaeth i? 

Wel, Llywydd, daeth yr adolygiad cysylltedd yr undeb a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU i'r casgliad bod datganoli wedi bod yn dda i drafnidiaeth—pan wnaed y penderfyniadau yn nes at ble y bydden nhw'n cael eu heffaith, gwnaed penderfyniadau gwell. Mae'r adroddiad yn tanlinellu'r ddadl y mae Llywodraethau Cymru olynol wedi ei gwneud dros ddatganoli cyfrifoldeb dros reilffyrdd i'r Senedd, ynghyd fodd bynnag, fel y dywedodd Ken Skates, â'r cyllid y mae angen iddo fynd ochr yn ochr â'r cyfrifoldeb hwnnw. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i barhau i fuddsoddi yn y ffordd y mae Ken Skates wedi'i hamlinellu, Llywydd. Rwyf i wedi cael cyfle i ymweld â gorsaf Rhiwabon gydag ef ac i weld y gwaith gwych y mae cyfeillion yr orsaf yn ei wneud yno i'w chynnal a'i gwneud yn lle mor ddeniadol i ymweld ag ef. I Trafnidiaeth Cymru, mae gwelliannau pellach yn Rhiwabon yn parhau i fod yn flaenoriaeth: peiriant gwerthu tocynnau newydd, atebion tocynnau cerdyn clyfar i wneud yn siŵr y gellir defnyddio'r orsaf mor aml â phosibl, oherwydd ei bod yn cyfrannu at ein hagenda teithio llesol ac oherwydd ei bod yn borth i'r diwydiant twristiaeth yn y rhan honno o Gymru gyda phopeth sydd ganddi i'w gynnig.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, y mis diwethaf, adroddodd nifer o gwmnïau cyfryngau am ddarganfyddiad dogfen ddamniol yr ymgyrchydd tomen lo o 2014, a oedd yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru ar y pryd yn blaenoriaethu'r economi dros ddiogelwch lle byddai ariannu gwaith yn gwneud gwahaniaeth mawr i domenni glo yn y Cymoedd. Mae'r ddogfen hon yn dweud bod y cyllid i adfer tomenni glo yn annhebygol o gael ei ddarparu gan Weinidogion Llafur oni bai fod achos busnes. Yn benodol, mae'n nodi tomen Tylorstown, lle bu tirlithriad peryglus yn sgil storm Dennis yn 2020, fel un â phroblemau sefydlogrwydd nad oedd cyllid ar eu cyfer. Mae'n amlwg nad chi oedd y Prif Weinidog yn ystod y cyfnod hwn, ond roeddech chi wrth gwrs yn aelod o'r Llywodraeth. A ydych chi'n gresynu at y penderfyniad a'r ffordd yr ymdriniwyd â hyn gan y Llywodraeth ar y pryd, Prif Weinidog?

13:45

Wel, mae llawer iawn o wleidyddiaeth yn cael ei chwarae gan eich Llywodraeth yn enwedig pan ddaw i ariannu a diogelwch tomenni glo, Prif Weinidog, ond mae'r cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli. Eich plaid chi wnaeth ddatganoli'r cyfrifoldeb hwn yn y setliad datganoli gwreiddiol mewn gwirionedd, er fy mod i'n derbyn bod materion yn ymwneud ag etifeddiaeth. Serch hynny, gellid fod wedi ariannu a datrys hyn erbyn hyn.

Gellid fod wedi defnyddio'r cyllid ar gyfer y maes awyr, er enghraifft, ar domenni glo, tua £200 miliwn a mwy. Mae hwnnw yn arian y gwnaethoch chi ddewis ei roi mewn prosiect arall y gellid bod wedi ei ddefnyddio i wneud tomenni glo yn ddiogel yn y Cymoedd. Felly, Prif Weinidog, o ystyried y cynnydd sylweddol—. Rwy'n gallu eich gweld chi'n chwerthin, Prif Weinidog, ond mae llawer o gymunedau yn y Cymoedd sy'n edrych ar hyn fel sefyllfa hunllefus iddyn nhw ac sydd ddim yn gallu cysgu'r nos. Felly, efallai eich bod yn chwerthin, yn sefyll yn y Siambr hon, Prif Weinidog, ond nid yw'n fater i chwerthin yn ei gylch. Mae gennych chi'r cyfrifoldeb—

Wel, nid oes angen brathu yn ôl, Prif Weinidog. Chi sydd 'r cyfrifoldeb. Chi sydd â'r cyfrifoldeb, roedd yr arian gennych chi ac fe gawsoch chi'r dewis i'w wneud. Pam nad ydych chi wedi ei wneud?

Wel, Llywydd, mae'r hyn sydd gan yr Aelod i'w ddweud yn hurt. Mae'n dechrau gyda chyhuddiad nad yw'n wir o gwbl. Ni chafodd cais am gyllid ei wrthod gan Lywodraeth Cymru erioed gan na wnaed cais am gyllid erioed. Felly, dyna'r darn cyntaf o nonsens y dylem ni ei roi o'r neilltu y prynhawn yma.

Yna, yr awgrym hurt y gallai buddsoddiad yn y maes awyr yng Nghaerdydd—ac, wrth gwrs, buddsoddiad y mae ei blaid wedi ei wrthwynebu erioed, heb ddiddordeb erioed mewn gwneud yn siŵr bod y darn hanfodol hwnnw o seilwaith ar gyfer ein cenedl ar gael i ni—y gellid fod wedi dargyfeirio hwnnw rywsut i ddiogelu tomenni glo.

Gadewch i mi ymateb i'w bwynt gwreiddiol. Roedd y rhaglen y cyfeiriodd ati yn rhaglen a sefydlwyd o dan Lywodraeth Geidwadol yn y 1980au, fe'i rhedwyd gan Awdurdod Datblygu Cymru ac roedd yn dibynnu ar achos busnes. Wel, glywsoch chi'r fath beth, cyn i chi wario arian cyhoeddus, mae angen achos busnes arnoch chi; gwerth £4.5 biliwn, wrth gwrs, o dwyll yn arwain at ymddiswyddiad Gweinidog Torïaidd yn Llundain, heb achos busnes i'w weld yn unman. Rydym ni'n deall y ffordd y mae ei blaid yn mynd i'r afael â'r cyfrifoldebau hyn. Yma yng Nghymru, os ydych chi'n gwario arian cyhoeddus, wrth gwrs y byddech chi'n disgwyl cael achos busnes.

Y gwir amdani o ran diogelwch tomenni glo yng Nghymru yw hyn, Llywydd, nad yw'r safonau a oedd yn ofynnol yn y 1980au a'r 1990au bellach yn addas yn ystod oes y newid hinsawdd. Rydym ni wedi gweld dros y ddau aeaf diwethaf effaith digwyddiadau tywydd eithafol yng nghymunedau'r Cymoedd. Mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i unioni'r etifeddiaeth yr ydym ni wedi ei gweld yma yng Nghymru ac maen nhw wedi gwrthod darparu un darn ceiniog. Dyna'r gwir amdani. Ni fydd unrhyw nonsens am wario arian maes awyr ar adfer tomenni glo yn celu'r ffaith bod y cyfrifoldeb am unioni'r etifeddiaeth yr ydym ni'n ei gweld yng Nghymru—gyda'r holl hanes sydd gennym ni yma yng Nghymru, gyda'r holl ofn y mae hynny yn ei achosi yng nghymunedau'r Cymoedd—yn dibynnu ar Lywodraeth Geidwadol y DU, a'r ateb y maen nhw'n ei roi yw, 'Does dim darn ceiniog i helpu.'

Rydych chi'n gwybod yn iawn fod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod arian ar gael ar gyfer adfer tomenni glo, Prif Weinidog, felly rydych chi wedi camarwain y Cynulliad yn y fan yna drwy ddweud bod 'dim darn ceiniog' ar gael. Ond byddwn yn dweud wrthych chi, Prif Weinidog, pan fyddwch chi'n sôn am achosion busnes, nad oedd yr achos busnes dros gymryd y maes awyr drosodd yn gadarn iawn, oedd e'? Ond, rydych chi wedi buddsoddi bron i £200 miliwn yn y maes awyr, ac yn parhau i orfod ei achub, dro ar ôl tro. Byddai hynny wedi bod yn flaendal sylweddol i wneud tomenni glo yn ddiogel ar draws cymunedau'r Cymoedd. 

Nawr, rwy'n barod i weithio gyda chi, Prif Weinidog, ar hyn i wneud yn siŵr fod cymunedau ar hyd a lled y Cymoedd yn gallu cysgu'n dawel yn y nos a chael gwneud y tomenni hynny yn ddiogel drwy weithio gyda chydweithwyr ar ddau ben yr M4. Ond, hyd yma, nid ydych chi wedi cyflwyno amserlen ac nid ydych chi wedi cyflawni eich cyfrifoldebau. Felly, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda mi i wneud yn siŵr y gallwn ni roi amserlen ar waith, fel y gall cymunedau y mae aelodau eich meinciau cefn yn eu cynrychioli gael y diogelwch hwnnw a'r hyder hwnnw bod y Llywodraeth yma yn gweithio er eu budd pennaf? Oherwydd eich cyfrifoldeb chi yw hyn. Roedd hynny yn rhan o'r setliad datganoli ac nid yw'r dewisiadau a wnaed gennych chi wedi sicrhau bod yr arian hwnnw ar gael i wneud tomenni glo yn ddiogel yma yng Nghymru, Prif Weinidog. 

Llywydd, mae amserlen ar waith, sef yr amserlen a luniwyd gan yr Awdurdod Glo sydd heb ei ddatganoli, yn gweithredu o dan gyfarwyddyd y pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio ar y cyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Nid oes angen unrhyw wersi arnaf i gan arweinydd yr wrthblaid yma am weithio gydag eraill pan fyddaf i'n cyd-gadeirio'r grŵp gyda'r Ysgrifennydd Gwladol sydd wedi goruchwylio'r gwaith hwn. Rydym ni wedi ariannu, fodd bynnag, nid Llywodraeth y DU, rydym ni wedi ariannu gwaith ychwanegol yr Awdurdod Glo, ac mae'r Awdurdod Glo yn dweud wrthym ni mai amserlen 10 mlynedd yw'r amserlen, y bydd angen rhwng £500 miliwn a £600 miliwn dros y cyfnod hwnnw er mwyn adfer tomenni glo yng Nghymru, lle nad yw'r safonau presennol yn addas ar gyfer oes lle mae'r newid hinsawdd yn achosi'r mathau o effeithiau yr ydym ni wedi eu gweld yn Nhylorstown ac mewn rhannau eraill o gymunedau'r Cymoedd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Felly, mae'r amserlen yno. Mae'r gwaith sydd ei angen yno. Yr hyn yr ydym ni'n brin ohono yw yr un geiniog tuag ato. Nawr, mae'r Aelod yn dweud fy mod i wedi camarwain y Senedd, nad wyf i'n hapus iawn yn ei gylch, Llywydd, oherwydd gallaf ddweud wrthych na wnes i ddim o'r fath beth. Roedd yr arian a gawsom ni gan Lywodraeth y DU i helpu gyda'r gwaith brys a oedd yn angenrheidiol yn Nhylorstown. Nid yw'n ddarn ceiniog tuag at y rhaglen hirdymor honno y mae'r Awdurdod Glo wedi ei hargymell sy'n angenrheidiol yma yng Nghymru. Pan ddaw Llywodraeth y DU at y bwrdd i helpu cymunedau Cymru, byddan nhw'n canfod partner parod. Yn y cyfamser, bydd yn rhaid i'r Senedd hon ddod o hyd i'r arian hwnnw oherwydd nid wyf i'n fodlon i gymunedau glo fynd heb y gwaith adfer sydd ei angen arnyn nhw, a bydd yn rhaid i'r arian hwnnw ddod o arian a ddarperir fel arall i ni ar gyfer ysgolion, ar gyfer ysbytai, ar gyfer seilwaith trafnidiaeth a'r holl bethau eraill sydd wedi'u datganoli i'r Senedd hon. A dyna'r ateb y mae ei Lywodraeth ef, yn y llythyrau y maen nhw'n eu hysgrifennu ataf i, yn cynnig y dylem ni ei weithredu.

13:50

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, nos Iau wythnos diwethaf, bues i mewn cyfarfod cyhoeddus yn fy etholaeth a alwyd yn sgil prynu fferm leol, Frongoch, gan gronfa fuddsoddi Foresight er mwyn plannu coed ac ennill credydau carbon. Mi oedd yna deulu ifanc yno oedd wedi gwneud cynnig i brynu'r fferm a ffermio'r tir nes bod Foresight wedi cynnig swm sylweddol yn fwy. Mae'n wir flin gen i orfod dweud hyn, Prif Weinidog, ond nid pantomeim yw hi pan fod cymuned gyfan yn cael ei 'gazump-io', ond trasiedi. Mi oedd angerdd yn y cyfarfod hwn a geiriau enwog Gwenallt am bentref gerllaw yn adleisio,

'Ac erbyn hyn nid oes yno ond coed... / Coed lle y bu cymdogaeth, / Fforest lle bu ffermydd'.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru a'r NFU y bore yma wedi darparu gwybodaeth i ni sydd yn awgrymu bod hyn yn digwydd ar raddfa sylweddol, yn arbennig yn sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys. Ydy'r Llywodraeth yn foldon adolygu'r wybodaeth yma ar fyrder i ganfod gwir faint y broblem? 

Wel, wrth gwrs, Llywydd, unrhyw wybodaeth sy'n helpu ni i weld maint y broblem, bydd hwnna yn ddefnyddiol. Mae'r wybodaeth sydd gen i yn mynd fel hyn:

Yn ystod 10 ffenestr gyntaf cynllun creu coetir Glastir, roedd 1,121 o fuddiolwyr. Roedd gan 35 o'r rheini gyfeiriadau y tu allan i Gymru, ac ymhlith y 35 hynny mae sefydliadau fel Coed Cadw. Nawr, os oes rhagor o wybodaeth sydd ar gael drwy'r undebau ffermio, yna wrth gwrs byddai hynny yn ddefnyddiol iawn, ac edrychaf ymlaen at ei gael.

Ddwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd yr Athro John Healey a'i dîm yn ysgol gwyddorau coedwig Prifysgol Bangor adroddiad oedd wedi ei gomisiynu gennych fel Llywodraeth, a oedd yn gosod mas dwy senario o berchnogaeth bosibl ar gyfer dyfodol coedwigaeth yng Nghymru. Senario 1, ac fe ddyfynnaf i yn Saesneg: 

'trosglwyddo unedau tir mwy...o amaethyddiaeth i goedwigaeth...drwy werthu daliadau tir amaethyddol cyfan...i fuddsoddwyr coedwigaeth. Gall hyn achosi pryderon ynghylch colli gwerthoedd diwylliannol amaethyddol a'r defnydd is-optimaidd o adnoddau tir'.

A senario 2: 

'blociau coedwig llai o fewn daliadau tir amaethyddol parhaus yn rhan o strategaeth tuag at arallgyfeirio ffrydiau incwm ar gyfer daliadau fferm. Gall lleiniau coetir llai a mwy ynysig o'r fath hefyd fod â manteision o ran lleihau'r risg o haint pathogen coed.'

a

'manteisio ar gyfalaf cymdeithasol presennol yn y sector ffermio a'i wella, drwy reoli cydweithredol'.

Ydy Llywodraeth Cymru yn barod i ymrwymo i gefnogi'r ail fodel a gwrthwynebu'r cyntaf? 

13:55

Wel, dwi'n meddwl, Llywydd, fod hanes beth rŷn ni wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos mai'r ail awgrym yw'r un rŷn ni wedi mynd ati i'w wneud. Beth rŷn ni eisiau ei weld yw ffermwyr Cymreig yn arwain y ffordd, ffermwyr Cymreig yn plannu coedwig a pherchnogaeth yn aros yn lleol.

Pe bai pob ffermwr yng Nghymru yn plannu 25 hectar o goetir, felly, nid yr ateb cyntaf y mae'r Aelod—. Mae'n ddrwg gen i, 5 hectar o goetir, mae'n flin gen i. Pe bai pob ffermwr yn plannu 5 hectar o goetir—coetir cymysg, coetir llydanddail ar gyfer dal carbon a choetir cynhyrchiol ar gyfer adeiladu tai yma yng Nghymru—byddem ni ymhell ar ein ffordd i gyrraedd y targedau y mae'n rhaid i ni eu cyrraedd yma yng Nghymru oherwydd y newid hinsawdd, gan gadw cyfoeth a rheolaeth yn lleol. Dyna'r union fath o batrwm y byddai Llywodraeth Cymru yn dymuno ei weld yn y dyfodol.

Mae stripio asedau carbon yn ffenomen fyd-eang. Ychydig cyn y Nadolig, cynigiodd Llywodraeth Awstralia feto weinidogol ar ddatblygiadau credyd carbon coetir dros 15 hectar neu lle maen nhw'n ffurfio mwy na thraean o fferm. A ydych chi'n barod i ystyried diwygio'r system gynllunio neu gyflwyno dimensiwn cymdeithasol ac ieithyddol i'r broses asesu effaith i atal conwydd a sbriws rhag gwneud i'n cymunedau amaethyddol yr hyn y mae ail gartrefi wedi ei wneud i'n rhai arfordirol?

Gwers y profiad ail gartrefi yw na allwch chi fforddio aros. Ar ôl i'r tir amaethyddol gael ei golli, ni fydd byth yn dod yn ôl. Ar ôl i'r credydau carbon, sydd mor hanfodol yn ein taith ein hunain i sero net, yn cael eu tynnu o Gymru, ni fyddan nhw byth yn dychwelyd. A wnewch chi archwilio ar frys y cynnig, eto mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o 2014, o farchnad credyd carbon yng Nghymru, a fyddai'n golygu mai dim ond endidau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru fyddai'n gallu defnyddio credydau a gynhyrchir gan goedwigaeth yng Nghymru?

Llywydd, gwn y bydd Adam Price yn gwybod bod y Gweinidog sy'n gyfrifol eisoes wedi sefydlu grŵp arbenigol o bobl i'n helpu i weld sut y gallwn ni ddod â buddsoddiad pellach i greu coetiroedd yng Nghymru mewn ffordd nad yw'n arwain at y mathau o ddifrod a nododd, a bydd yn gwybod bod gan y grŵp hwnnw lawer o fuddiannau wedi'u cynrychioli ynddo—Llais y Goedwig, Woodknowledge Wales, yn ogystal ag arbenigwyr fel yr Athro Karel Williams o Brifysgol Manceinion.

Mae'r grŵp hwnnw wedi cyflwyno ei argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac mae ganddo gyfres o gynigion yr oedd Gweinidogion yn eu trafod dim ond yr wythnos diwethaf: lleihau cyfraddau talu yn y cynllun creu coetir newydd i bobl nad ydynt yn ffermwyr, er enghraifft, i wneud yn siŵr bod yr arian yn mynd i bobl sy'n ffermwyr gweithgar ar y tir yma yng Nghymru; y dewis o leihau taliadau yn y cynllun creu coetir newydd i bobl sy'n cael credydau carbon, i ymdrin â'r pwynt a godwyd gan yr Aelod; a gweithio i ddiffinio coetir llai cynhyrchiol, fel bod dyfodol i ffermio yng Nghymru lle mae'n gwneud ei gyfraniad, drwy blannu coed, i ymdrin â'r newid hinsawdd, ond nad yw'n ymwthio ar dir y gellid ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu bwyd cynhyrchiol, y gellir ei werthu yn fasnachol hefyd.

Nawr, nid yw'r adroddiad hwnnw yn argymell newidiadau i'r system gynllunio, gan gredu y byddai'n ffordd aneffeithiol o ymdrin â'r materion y gofynnwyd i'r adroddiad ymateb iddyn nhw. Ond bydd Gweinidogion yn bwrw ymlaen â hynny, ynghyd â syniadau eraill sydd ar gael o ffynonellau eraill, er mwyn gwneud yn siŵr, fel y dywedais, mai'r hyn yr ydym ni'n ei gyflawni yma yng Nghymru yw plannu coed ar y raddfa y mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn ei hargymell i ni. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn dweud bod yn rhaid i ni blannu 86 miliwn o goed yng Nghymru dros y degawd nesaf, os ydym ni'n mynd i sicrhau sero net, nid erbyn 2035 ond erbyn 2050. Os ydym ni'n mynd i wneud hynny, gallwn ei wneud dim ond gyda chefnogaeth frwd maes amaethyddiaeth Cymru. Er mwyn gwneud hynny a chadw cefnogaeth cymunedau o'r math y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw—ac roedd yn ddiddorol clywed am ei gyfarfod â phobl leol yn ardal Cwrt-y-cadno—wrth gwrs mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym ni'r buddsoddiad hwnnw mewn ffordd sy'n mewn perchnogaeth leol. Ac nid wyf i'n golygu perchnogaeth ffisegol yn unig, rwy'n golygu perchnogaeth yn yr ystyr o bobl eisiau ei gefnogi hefyd, oherwydd dyna'r ffordd y byddwn ni'n gallu gwneud yn siŵr ein bod ni'n cyflawni ein huchelgeisiau newid hinsawdd heb wneud niwed i gymunedau lleol a dyfodol ffermio yng Nghymru.

14:00
Rhestrau Aros Orthopedig

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am restrau aros orthopedig yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys? OQ57538

Llywydd, mae 4,433 o drigolion Powys yn aros am driniaeth orthopedig, ac mae 2,532, neu 57 y cant ohonyn nhw, yn aros am driniaeth yn Lloegr. Gostyngodd nifer trigolion Powys a oedd yn aros dros 36 wythnos am driniaeth orthopedig 16 y cant rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Tachwedd 2021.

Diolch, Prif Weinidog. Mae nifer y bobl sy'n aros am lawdriniaethau neu asesiadau orthopedig yn cynyddu—mae'r data yno—yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Nid problem i Gymru yn unig yw hon, mae hon yn broblem i'r DU, gyda phobl yn aros am lawdriniaethau. Mae pobl bellach yn byw mewn poen o ddydd i ddydd. Canfu astudiaeth yn y DU fod 71 y cant o bobl hŷn a oedd yn aros am driniaeth yn dweud bod eu hiechyd wedi gwaethygu yn ystod y pandemig. Mae llawer o bobl ar eu colled yn eu bywydau ac maen nhw'n cymryd benthyciadau preifat fel y gallan nhw gael triniaeth yn y sector preifat. Rwyf i wedi bod yn siarad â gweithwyr meddygol proffesiynol ar draws y GIG sydd o'r farn bod angen i ni ystyried cael dau ysbyty arbenigol, un yn y de ac un yn y gogledd, sy'n canolbwyntio'n llwyr ar ofal orthopedig ac adsefydlu, oherwydd nid yw'r model presennol o bob ysbyty yn gwneud popeth yn gweithio gyda'r gofynion enfawr ar le llawdriniaeth. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ystyried edrych ar y model hwn i leihau rhestrau aros orthopedig, fel y gallwn ni roi rhywfaint o obaith a rhywfaint o oleuni i'r bobl hynny sydd mewn poen ym Mhowys ac ar draws gweddill Cymru? Diolch, Llywydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn barod i ystyried yr holl syniadau sydd yno er mwyn ein helpu ni i ymdrin â'r ôl-groniad sydd wedi datblygu yn ystod pandemig COVID. Mae James Evans yn iawn; nid yw'n broblem i Gymru, mae'n broblem i'r DU, ac mae hynny yn cael ei gadarnhau yn bendant o ran yr amgylchiadau ym Mhowys.

Rydym ni wedi cael y ddadl hon ar lawr y Senedd o'r blaen, a byddwn yn dweud wrtho yr hyn yr wyf wedi ei ddweud wrth eraill: yn naearyddiaeth Cymru, mae'r math hwnnw o ateb yn anodd, oherwydd os ydych chi'n mynd i droi ysbyty presennol yn gyfan gwbl at lawdriniaeth oer, llawdriniaeth a drefnwyd, yna ni fydd popeth arall y mae pobl yn dibynnu ar yr ysbyty hwnnw i'w wneud ar gael iddyn nhw yno mwyach. Cefais y ddadl hon gyda Paul Davies yn y Siambr, a gofynnais iddo bryd hynny sut yr oedd yn credu y byddai pobl Hwlffordd yn ymateb pe bai Llwynhelyg yn dod yn un o'r ddwy ganolfan hynny, oherwydd wedyn, ni fyddai popeth arall y mae pobl yn mynd i Llwynhelyg ar ei gyfer ar gael iddyn nhw yno.

Nid wyf i'n sicr fy hun bod ein daearyddiaeth yn addas i newid ysbyty cyfan yn ganolfan lawdriniaethau a drefnwyd. Ond yr hyn nad yw hynny yn ei olygu yw na allwn ni ddechrau canolbwyntio'r cyfleusterau hynny mewn ysbytai penodol, fel yr ysbyty yn Llanelli, y Tywysog Philip, fel Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, sy'n mynd i fod yn gwneud mwy o waith a drefnwyd, tra gall barhau i ddarparu'r cyfleusterau cleifion allanol eraill hynny a chyfleusterau eraill y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw. Rwy'n credu bod ffordd o ddefnyddio'r syniad. Nid wyf i'n credu y bydd mor syml â neilltuo ysbyty cyfan, ond mae'r syniad ein bod ni'n canolbwyntio cyfleusterau lle nad yw llawdriniaethau yn cael eu canslo oherwydd bod gwaith brys yn dod i mewn ac yn ei oddiweddyd ac ati—rwy'n credu bod rhinwedd yn hynny, ac mae'n sicr yn rhan o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar gyfer yr adferiad sydd ei angen arnom ni yn y dyfodol.

Gwasanaethau Fasgiwlar

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o wasanaethau fasgiwlar yng ngogledd Cymru? OQ57582

Cafodd gwasanaethau fasgiwlar y gogedd eu had-drefnu yn 2019. Mae gwasanaethau arbenigol wedi cael eu datblygu yn Ysbyty Glan Clwyd, tra bod gwasanaethau fasgiwlar eraill yn aros yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam. Cafodd y model newydd ei gymeradwyo gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a'r Gymdeithas Fasgiwlar.

14:05

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb. Lywydd, rai blynyddoedd yn ôl, roedd y bwrdd iechyd yn y gogledd efo rhywbeth i frolio yn ei gylch, sef gwasanaeth fasgiwlar Ysbyty Gwynedd, a oedd ymhlith y gorau o'i fath. Yna, am ryw reswm, fel rydych chi wedi sôn, y tu hwnt i fy nealltwriaeth i, ddaru rhywun yn rhywle, o dan reolaeth y Llywodraeth yma drwy'r mesurau arbennig, benderfynu canoli'r gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd. Bellach, mae'r gwasanaeth fasgiwlar yn y gogledd yn dioddef problemau aruthrol, efo'r gyfradd uchaf o farwolaethau yn dilyn trychiadau, sef amputations. Ydych chi'n credu bod hyn yn dderbyniol? Yn sicr, dydw i ddim. Mae Siân Gwenllian, ein Haelod ni fan hyn ar feinciau Plaid Cymru, eisoes wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i mewn i'r canoli yma. Mae'n gywilyddus bod gwasanaeth a oedd ar un adeg ymhlith y gorau o'i fath ac i frolio yn ei gylch wedi disgyn i'r fath drafferthion. A wnewch chi sicrhau bod yna ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal i'r canoli?

Rwy'n credu bod dau beth y mae'n rhaid gwahaniaethu rhyngddyn nhw yma. Ceir y penderfyniad gwreiddiol i ganolbwyntio gwasanaethau fasgwlaidd arbenigol yn Ysbyty Glan Clwyd. Dywedodd yr Aelod bod hynny wedi digwydd 'am ryw reswm' fel pe bai'n fater dibwys a oedd wedi cael ei dynnu allan o'r awyr. Bydd yn gwybod yn iawn fod yr achos dros ganolbwyntio gwasanaethau arbenigol yn un, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, a gefnogwyd yn gryf gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, gyda chefnogaeth Cymdeithas Fasgwlaidd Prydain Fawr ac Iwerddon, oherwydd y dystiolaeth o fannau eraill bod gwasanaethau arbenigol yn arwain at ganlyniadau gwell pan fydd gennych chi bobl sy'n gwneud y gwaith hwnnw ddydd ar ôl dydd ac yn gwneud y pethau arbenigol hynny. Roedd ugain y cant o wasanaethau i fod i gael eu darparu yn Ysbyty Glan Clwyd, gan adael 80 y cant o wasanaethau fasgwlaidd yn dal i gael eu darparu yn Wrecsam ac ym Mangor. Mae apwyntiadau cleifion allanol, llawdriniaethau gwythiennau chwyddedig, diagnosteg, adolygiadau o atgyfeiriadau fasgwlaidd cleifion mewnol ac adsefydlu yn dal i gael eu darparu ar draws y gogledd.

Nid wyf i fy hun yn credu mai'r model, fel y'i cynigiwyd ac y'i cefnogwyd yn wreiddiol gan y bwrdd ac na chafodd ei wrthwynebu gan y cyngor iechyd cymuned, oedd yr un anghywir. [Torri ar draws.] Gwn fod yna bobl nad ydyn nhw'n cytuno â hynny. Sylwais fod Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn ei adroddiad wedi dweud bod y tanseilio cyson o'r model gan feirniadaethau lleol wedi gwneud gweithredu'r model yn fwy anodd ei gyflawni. [Torri ar draws.] Wel, dyma mae'n ei ddweud. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n ei hoffi, ond dyna mae'n ei ddweud. Dywedwyd ganddyn nhw bod yr ymdrechion cyson i danseilio'r model wedi gwneud ei weithredu yn fwy heriol, ac y gallai tanseilio ysbryd pobl sy'n gyfrifol am y gwasanaethau gan y beirniadaethau hynny, arwain yn y pen draw at wasanaethau gwaeth i gleifion. Efallai nad ydych chi'n ei hoffi, ond dyna mae'r adroddiad yn ei ddweud.

Rwy'n gwahaniaethu fy hun rhwng y model, a oedd, yn fy marn i, yn un cywir, a'r problemau gweithredu, y mae'n rhaid eu cywiro. Nododd yr adroddiad gwreiddiol—ceir adroddiad dau gam gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon—nifer o bethau yr oedd angen eu gwneud o hyd i wneud yn siŵr bod y cleifion yn y gogledd yn cael y budd mwyaf posibl o'r model newydd. Cyfrifoldeb y clinigwyr sy'n arwain y gwasanaeth hwnnw o hyd, a'r bwrdd, yw gwneud yn siŵr bod y buddsoddiad a ddarparwyd—buddsoddiad yn y seilwaith yng Nglan Clwyd ac mewn staffio arbenigol y gwasanaeth yng Nglan Clwyd—bellach yn sicrhau'r manteision yr oedd y model yno i'w sicrhau. Os oes mwy i'w wneud, yna edrychaf ar y bobl sy'n gyfrifol am y gwasanaeth i wneud yn siŵr eu bod nhw'n dysgu'r gwersi gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon ac yn unioni unrhyw beth y mae angen ei gywiro, oherwydd y model ei hun yw'r un iawn i bobl yn y gogledd. 

Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn heddiw. Sylwaf hefyd bod gan gyd-Aelod gwestiwn ar y pwnc hwn yfory, felly mae'n amlwg yn fater pwysig i drigolion y gogledd. Prif Weinidog, fel yr amlinellwyd eisoes yma, cafwyd y newid sylweddol hwnnw i'r gwasanaethau fasgwlaidd yn y gogledd. Mae Mr ap Gwynfor wedi tynnu sylw at lawer o'r problemau y mae'n ymwybodol ohonyn nhw, ac rwy'n sicr yn ymwybodol o rai tebyg, gyda'r newidiadau hynny. Fe wnaethoch chi sôn, Prif Weinidog, am adroddiad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon; maen nhw wedi tynnu sylw at brinder gwelyau sylweddol a dryswch ynghylch lefelau staffio, ac maen nhw hefyd wedi amlinellu risg diogelwch i gleifion yn eu hadroddiad hefyd. Wrth gwrs, mae aelodau'r bwrdd iechyd yn y gogledd wedi amlinellu'r cynnydd sy'n cael ei wneud i ddatrys y broblem hon. Ond, Prif Weinidog, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, os nad oes dim o'i le ar y model sydd yno ar hyn o bryd, oni fyddech chi'n derbyn y byddai ymchwiliad cyhoeddus yn gam da tuag at adfer ffydd y cyhoedd y mae mawr ei hangen yn y gwasanaeth hwn? Diolch.

14:10

Nid wyf i'n credu y byddai ymchwiliad cyhoeddus, gyda'r amser y byddai'n ei gymryd, o fudd mawr i gleifion yn y gogledd. Yr hyn yr wyf i'n ei gredu yw bod adolygiad annibynnol o'r gwasanaeth yn cael ei gynnal gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, ac nid yw rhan 2 o hwnnw wedi adrodd eto. Rwy'n disgwyl i'r adroddiad hwnnw gael ei gymryd o ddifrif gan y bwrdd a chan y bobl sy'n gyfrifol am y gwasanaeth fel bod y newidiadau sydd wedi digwydd mewn gwasanaethau fasgwlaidd, nid yn unig yn y gogledd, fel y dywed yr Aelod—. Mae gwasanaethau fasgwlaidd wedi newid ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Mae'n ddisgyblaeth fwy arbenigol nag yr arferai fod, ac os oes angen nid yn unig sylw fasgwlaidd bob un dydd ond gwasanaethau arbenigol, yna mae'n well i chi fel claf dderbyn gofal gan bobl sy'n cyflawni'r llawdriniaethau hynny drwy'r amser, yn hytrach na chan bobl sy'n eu gwneud bob nawr ac yn y man yn rhan o'r amrywiaeth ehangach honno o ddyletswyddau y maen nhw'n eu cyflawni. Dyna natur meddygaeth fodern. Mae'n anodd, oherwydd mae'n anochel bod pobl yn gweld pethau yn newid ac mae pobl yn hoff o'r gwasanaeth sydd ganddyn nhw. Ond ar draws y Deyrnas Unedig gyfan dyma fu'r patrwm mewn gwasanaethau fasgwlaidd—gwasanaethau arbenigol wedi'u dwyn ynghyd, a'r agweddau mwy mater o drefn yn parhau i gael eu cyflawni yn fwy lleol. Dyna mae'r model yn ei ddarparu. Mae bellach, fel y dywedais, i fyny i'r bobl hynny sy'n gyfrifol am y gwasanaeth hwnnw, sy'n gyfrifol yn glinigol amdano ac sy'n gyfrifol amdano ar lefel bwrdd, wneud yn siŵr bod yr holl fuddsoddiad sydd wedi cael ei wneud ynddo yn talu ar ei ganfed fel gwell gwasanaeth i gleifion yn y gogledd.

Sgiliau yn y Gweithle

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fentrau Llywodraeth Cymru i ddatblygu sgiliau yn y gweithle ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion uwchradd? OQ57561

Mae datblygu sgiliau yn y gweithle yn rhedeg fel llinyn ar draws holl feysydd y Cwricwlwm i Gymru newydd. Mae'n paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd diweddarach drwy roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau iddyn nhw ffynnu yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Diolch, Prif Weinidog. Mae'r arolwg sgiliau cyflogwyr wedi nodi bod diffyg ystod eang o sgiliau a phriodoleddau ymhlith ymgeiswyr am swyddi yng Nghymru, gyda dros 84 y cant o swyddi gwag yn cael eu hachosi yn rhannol gan ddiffyg gallu technegol neu ymarferol, a 66 y cant yn cael eu hachosi yn rhannol gan ddiffyg sgiliau pobl a sgiliau personol, fel y gallu i reoli eich amser eich hun a blaenoriaethu tasgau. Rydym ni i gyd yn cytuno bod addysg academaidd dda yn bwysig i'r gweithle, ond mae'n rhaid i ni gydnabod y gall y galluoedd hyn gael eu gwastraffu os nad oes gan rywun y sgiliau ategol sydd eu hangen i gael gwaith. Mae'r sefyllfa hon yn waeth byth os oes ganddyn nhw'r cymwysterau academaidd anghywir sydd eu hangen ar gyfer y gyflogaeth y maen nhw ei heisiau. Mae'n ymddangos yn amlwg mai un ateb ymarferol ar gyfer mynd i'r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc a recriwtio i swyddi yw i ysgolion uwchradd gael perthynas well o lawer â busnesau lleol lle mae'r busnesau hyn yn gallu dangos yn uniongyrchol i ddysgwyr y sgiliau a'r addysg sydd eu hangen ar gyfer swyddi ac i roi cyfle i ddysgwyr ddeall yn well sut mae busnesau yn gweithio, pa sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw, ac o bosibl, hyd yn oed agor y drysau ar gyfer gwell cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth.

I gynnig enghraifft, mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, sy'n cynrychioli consortiwm o gwmnïau adeiladu yng Nghymru, wedi bod yn effeithiol iawn o ran agor drysau i ddysgwyr ysgol uwchradd i gael profiad o safleoedd adeiladu gweithredol ac iddyn nhw gael golwg y tu ôl i'r llenni i weld y prosiectau a'r dyluniadau adeiladu diweddaraf. Mae diffyg cyngor gyrfaoedd a phrofiad gwaith priodol a pherthnasol wedi bod yn destun pryder i mi erioed ac rwy'n credu y gallwn ni wneud yn well ar gyfer ein dysgwyr ysgol uwchradd, gan ddarparu integreiddiad hwy i'r gweithlu a thrwy ddarparu profiadau manwl o ddiwydiant a fydd yn caniatáu iddyn nhw ddeall a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa ymrwymiad wnewch chi ei roi i sicrhau bod ysgolion uwchradd yn gweithio yn rhagweithiol gyda busnesau lleol i integreiddio dysgwyr i'r gweithlu tra byddant yn yr ysgol?

Diolch i'r Aelod am hynna. Rwy'n cytuno â nifer o'r pwyntiau a wnaeth; yn ogystal â'r sgiliau technegol a'r cymwysterau academaidd sydd eu hangen ar bobl, yn aml y sgiliau dynol, y sgiliau meddal sy'n cael pobl i mewn i'r gweithle ac yn caniatáu iddyn nhw lwyddo yn y profiad cyntaf hwnnw. Rwyf i hefyd yn cytuno mai po fwyaf y gellir ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc, yn ein hysgolion uwchradd yn arbennig, yn gallu cael profiad gwaith, i gyflogwyr ddod i mewn i ysgolion a cholegau, y mwyaf o gyfleoedd fydd i bobl ifanc, ar y naill law, i ddysgu am gyfleoedd sydd yno ar eu cyfer, ond, mewn gwirionedd, hefyd i gyflogwyr ddenu pobl ifanc i'r swyddi hynny.

Oherwydd, Llywydd, rwy'n credu yn yr amser yr wyf i wedi bod yn gysylltiedig â datganoli, ein bod ni wedi gweld newid dwys iawn fel hyn, sef, ers amser maith, yr hyn yr oeddem ni'n credu oedd y dasg oedd dod o hyd i swyddi i bobl ifanc eu gwneud, ac, yn y dyfodol, rwy'n credu mai'r her fydd dod o hyd i bobl ifanc i wneud y swyddi, gan fod gennym ni lai o bobl ifanc yng Nghymru. Mae gennym ni fwy o bobl o oedran ymddeol. Rydych chi'n gweld y prinder sgiliau sydd eisoes yn economi Cymru, a bydd yn rhaid i gyflogwyr weithio yn galetach i ddenu pobl ifanc i ddod i'r swyddi y mae angen iddyn nhw gael eu gwneud. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n stryd ddwyffordd yn y ffordd honno: mae'n sicr o fudd i bobl ifanc, ond mae cwmnïau synhwyrol o'r math y soniodd Joel James amdanyn nhw, sy'n gwneud yr ymdrechion hynny, maen nhw'n gwybod ei fod o fantais iddyn nhw hefyd, gan y byddan nhw'n gallu denu'r bobl ifanc hynny yn well i'w swyddi yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd y mis hwn i ysgolion ar yrfaoedd a gweithgarwch sy'n gysylltiedig â gwaith mewn ysgolion, ac, mewn gwirionedd, Llywydd, mae llawer iawn yn digwydd. Yn Wythnos Darganfod Gyrfa ym mis Gorffennaf y llynedd, cymerodd 146 o ysgolion uwchradd ran; mae 177 o ysgolion uwchradd, neu 85 y cant o'r cyfanswm, yn adrodd, yng Nghymru, eu bod nhw'n ymgysylltu â chyflogwyr yn ystod y flwyddyn, a dywedodd wyth o bob 10 eu bod nhw'n cysylltu â nhw sawl gwaith. Felly, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am yr angen i adeiladu o'r platfform hwnnw, oherwydd po fwyaf y gwnawn ni ddod â'r ddau fyd hynny at ei gilydd, y mwyaf bydd manteision i bobl ifanc ac i gyflogwyr da hefyd.

14:15
Y Gost Gynyddol o Fyw

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gost gynyddol o fyw ar bobl yng Nghymru? OQ57562

Llywydd, bydd yr argyfwng hwn yn cael effaith ddwys ar filoedd o deuluoedd yng Nghymru. Mae toriadau creulon a bwriadol i fudd-daliadau, methiant i wrthbwyso cynnydd mewn prisiau tanwydd, a phenderfyniad i fwrw ymlaen ag addewid maniffesto a dorrwyd i beidio â chynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol yn dangos bod hwn yn argyfwng a grëwyd yn Stryd Downing.

Mae biliau bwyd archfarchnadoedd wedi cynyddu a byddan nhw'n cynyddu ymhellach, gallai aelwydydd dalu £700 y flwyddyn yn fwy ar gostau ynni yn y pen draw, ac mae treth yswiriant gwladol y Torïaid yn ymddangos ar y gorwel. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn newid y ffordd y mae'n adrodd ar gostau byw, felly byddwn ni'n cael darlun mwy cywir o effaith penderfyniadau'r Torïaid yn San Steffan. Maen nhw'n cael partïon; mae ein cymunedau ni yn talu'r bil. I'r gwrthwyneb, mae polisi Llywodraeth Cymru, fel cynllun tanwydd y gaeaf, yn rhoi cymorth. Sut arall y bydd eich Llywodraeth yn blaenoriaethu cynorthwyo pobl yng Nghwm Cynon a ledled Cymru yr effeithir arnyn nhw fwyaf gan yr argyfwng costau byw?

Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn pwysig yna, Llywydd, a diolch iddi am dynnu sylw at gynllun tanwydd y gaeaf, yn enwedig ar ddiwrnod pan fo fy nghyd-Weinidog Jane Hutt wedi gallu cyhoeddi dyblu faint o gymorth sydd ar gael ganddo—wyddoch chi, peth gwych iawn i allu ei wneud yn wyneb yr holl heriau yr ydym ni'n gwybod y bydd yn rhaid i deuluoedd yng Nghymru fyw drwyddyn nhw nawr. Felly, mae £200 ar gael nawr. Ddoe, Llywydd, cafwyd 146,000 o ymgeiswyr eisoes ar gyfer y gronfa honno, ac roedd dros 106,000 o geisiadau eisoes wedi cael eu talu. Mae'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais wedi cael ei ymestyn i 28 Chwefror, ac rydym ni eisiau i fwy o bobl ddod ymlaen i fanteisio ar y cynllun a fydd ar gael yma yng Nghymru, a dim ond yma yng Nghymru.

A, Llywydd, i ateb cwestiwn ehangach Vikki Howells, dim ond un elfen yw honno o becyn cymorth llawer ehangach y byddwn ni'n parhau i'w ddarparu i'r teuluoedd hynny sy'n gweld anawsterau gwirioneddol o'u blaenau eleni. Mae'r cynllun budd-dal y dreth gyngor, a ddiddymwyd yn Lloegr, sy'n cael ei gadw yma yng Nghymru—£244 miliwn yn cael ei ddarparu bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr nad oes yn rhaid i'r teuluoedd tlotaf, yr aelwydydd tlotaf yn ein gwlad, gyfrannu at y dreth gyngor. Mae'r gronfa cymorth dewisol, a ddiddymwyd yn Lloegr, sy'n cael ei chadw yma yng Nghymru, ac am resymau COVID yn unig, Llywydd, wedi gwneud dros 280,000 o daliadau am gost o fwy na £19 miliwn. Ac os ydych chi eisiau cymryd un enghraifft yn unig, Llywydd, yr enghraifft nodweddiadol, ym mis Ebrill eleni, bydd cleifion yn Lloegr sydd yn sâl ac sydd angen cael presgripsiwn gan eu meddyg yn ei chael—[Torri ar draws.] Bydd cleifion yn Lloegr—[Torri ar draws.] Bydd cleifion yn Lloegr, Llywydd, sy'n sâl ac sydd angen cymorth drwy bresgripsiwn yn talu £9.35 am bob un eitem, ac, yn Lloegr, bydd y Llywodraeth Geidwadol yn ychwanegu at hynny drwy godi'r ystod oedran pan fydd presgripsiynau am ddim. Maen nhw am ddim yn 60 oed nawr, a'r bwriad yw ei godi i 65—bydd 2.6 miliwn yn fwy o bobl yn ddiweddarach mewn bywyd yn cael eu hunain yn talu'r £9.35 hwnnw, ac ni fydd yr un ohonyn nhw, Llywydd, yn talu'r arian hwnnw yma yng Nghymru.

14:20
Dydd Gŵyl Dewi

7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi? OQ57549

Llywydd, diolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn. Byddwn yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yma a thramor, gan fanteisio ar ein diwrnod cenedlaethol i godi proffil ac ymwybyddiaeth o Gymru ar draws y byd. Bydd fy amserlen i fy hun ar Ddydd Gŵyl Dewi yn cynnwys digwyddiadau rhithiol yn Japan a’r Almaen, a chyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda chynrychiolwyr o Quebec, Canada a phartneriaid allweddol o Ewrop.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Braf yw clywed y gwaith sy'n digwydd gyda'r Cymry ar wasgar. Mae'n ffordd arbennig i gynyddu proffil Cymru ledled y byd. Ond siom, er nid syndod, oedd darllen unwaith eto fod Llywodraeth San Steffan yn gwrthod creu gŵyl y banc ar ŵyl ein nawddsant, ond, wrth gwrs, nid dim ond y Torïaid sydd wedi ei wrthod; gwnaeth Llywodraeth Lafur ei wrthod nôl yn 2002, wedi cais gan y Cynulliad. Mae'n braf gweld cefnogaeth ar draws y pleidiau yma o blaid creu Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc, a mawr obeithiaf fod hwn yn gallu bod yn rhan o'r chweched Senedd, ein bod ni'n creu'r gefnogaeth trawsbleidiol honno. A wnaiff y Prif Weinidog annog cynghorau eraill, fel Cyngor Gwynedd, fel Cyngor Tref Aberystwyth, i roi diwrnod o wyliau i'w staff ar Ŵyl Dydd Dewi, ac ydy'r Prif Weinidog wedi siarad gyda'r Blaid Lafur yn San Steffan a chael ar ddeall fyddan nhw ddim yn gwrthod cais o'r lle hwn unwaith eto? Diolch yn fawr.

Wel, Llywydd, beth dwi eisiau ei weld yw'r cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo i'r Senedd i ni fan hyn gael y cyfle i ddeddfu i gael Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl y banc. Yn nwylo'r Senedd, dwi'n meddwl, byddai'r lle gorau i gael y penderfyniadau yna. Maen nhw gyda'r bobl yn Lloegr, yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon yn barod. Dim ond yma yng Nghymru allwn ni ddim gwneud y penderfyniadau drosom ni ar y pwnc yna. A dwi eisiau ei wneud e fel yna achos dwi eisiau gweld gŵyl y banc i bob un o'r bobl yma yng Nghymru, nid jest pobl sy'n gweithio i gynghorau, nid jest pobl sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus, ond pob un ohonom ni'n cael y cyfle i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi fel yna, a dyna pam dwi eisiau gweld y pwerau yn nwylo Aelodau'r Senedd i wneud y penderfyniadau sy'n well i ni yma yng Nghymru ar rywbeth sy'n bwysig i bobl ledled Cymru fel Dydd Dewi Sant.

Ac yn olaf, cwestiwn 8, Jane Dodds. Reit, dydyn ni ddim yn clywed Jane Dodds ar hyn o bryd. Os safwch chi eiliad, rwyf i'n siŵr y cewch chi eich dadfudo. Dyna chi.

Cymorth i Ffoaduriaid

Diolch yn fawr i Jane Dodds am y cwestiwn, Llywydd. Mae ein cynllun cenedl noddfa yn nodi'r cymorth y gall ffoaduriaid sy'n cyrraedd Cymru ddisgwyl ei gael. Mae hyn yn cynnwys y cyngor a’r gwasanaethau sydd eu hangen i leihau anghydraddoldeb, atal ansefydlogrwydd, helpu integreiddio a helpu pobl sy'n ceisio noddfa i greu dyfodol gwell iddyn nhw eu hunain ac i Gymru hefyd.

14:25

Diolch, Prif Weinidog. Ar Ddydd Sant Ffolant y mis hwn, gofynnir i ni ddangos calon ar gyfer ffoaduriaid fel arwydd o gariad, cyfeillgarwch ac undod â phobl sydd wedi eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi i chwilio am ddiogelwch. Mae'n gwbl groes i ymagwedd Llywodraeth y DU yn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, ac rwy'n gwybod bod ein dull ni o weithredu yma yng Nghymru yn gwbl groes i ddull San Steffan. Prif Weinidog, ers 2010, mae mwy nag 850 o blant a phobl ifanc sy'n ceisio lloches ac sydd wedi cael eu masnachu wedi cael cymorth gan Wasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban. Mae'n wasanaeth sy'n cael ei gynnal gan yr elusen blant Aberlour mewn partneriaeth â Chyngor Ffoaduriaid yr Alban. Mae'r cynllun yn unigryw ledled y DU o ran cynnig cymorth un-i-un parhaus ym mhopeth o lywio biwrocratiaeth lethol y system loches i ymgartrefu yn eu cymunedau newydd. Tybed, Prif Weinidog, a yw hyn yn rhywbeth y gallem ni ystyried ei efelychu yma yng Nghymru i sicrhau nad oes rhaid i unrhyw blentyn neu berson ifanc ymdrin â'r amarch a'r creulondeb y mae'n ymddangos bod y Llywodraeth Geidwadol hon yn benderfynol o'u gwau i'n system loches. Diolch.

Wel, diolch yn fawr i Jane Dodds, Llywydd. 

Mae gwasanaeth annibynnol ar gyfer gwarchod plant sydd wedi eu masnachu yng Nghymru, a bydd llawer o geiswyr lloches ifanc, ar eu pen eu hunain yn bodloni'r diffiniad o gael eu masnachu i'r DU ac felly byddan nhw o fewn cwmpas y gwasanaeth hwn, ac mae'n debyg, ond nid yw'n union yr un fath, rwy'n gallu gweld hynny, i Wasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban. Rwy'n hapus iawn i ystyried a oes agweddau ar system yr Alban a allai fod yn ddefnyddiol i'w hefelychu yma yng Nghymru. Mae'r pwynt cyffredinol y dechreuodd Jane Dodds ag ef, Llywydd, yn un pwysig iawn: trychineb y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau sydd ar ddod. Oherwydd dyna fydd e i gynifer o bobl y maen nhw wedi eu cydnabod eu bod wedi dianc rhag ofn haeddiannol o erledigaeth ac a fydd yn gweld y Bil hwnnw bellach yn effeithio'n andwyol ar ddarparu cymorth integreiddio yng Nghymru, gan waethygu amddifadrwydd, cynyddu nifer y mudwyr sy'n cael eu camfanteisio ac sy'n gweithio'n anghyfreithlon yn ein cymunedau, a bydd y bobl hynny sydd eisoes yn agored i niwed yn gweld eu bod hyd yn oed yn fwy agored i niwed.

A byddwn yn gweld yr arwyddion gweladwy o hynny yma yng Nghymru, mae arnom ni ofn, o ran cynnydd mewn digartrefedd, o ran effeithiau ar iechyd y cyhoedd, gan ei bod yn debygol y bydd ofn ar bobl nad yw arian cyhoeddus ar gael iddyn nhw i gael gafael ar ofal iechyd. Llywydd, bydd cynnig cydsyniad deddfwriaethol o flaen y Senedd yn ddiweddarach y mis hwn, yn ymwneud yn arbennig â chymalau 48 i 56 o'r Bil, a fydd, yn ein barn ni, yn cyfyngu ar allu'r Senedd i gyflawni ein cyfrifoldebau datganoledig mewn cysylltiad â'r ceiswyr lloches ieuengaf. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig i'r Senedd ein bod ni'n atal cydsyniad i'r cymalau hynny, oherwydd nad ydyn nhw'n adlewyrchu'r gwerthoedd a'r credoau y mae'r Senedd hon, drwy ein rhaglen genedl noddfa, wedi arwain y byd arnyn nhw mewn sawl ffordd i sicrhau ein bod ni'n dweud y bydd pobl y mae angen cymorth arnyn nhw, ac  y mae angen arnyn nhw drwy ddod i Gymru, yn gweld ein bod ni'n genedl groesawgar, sy'n deall y trawma y maen nhw wedi ei wynebu ac sy'n benderfynol o wneud yr hyn a allwn i'w helpu i roi eu bywydau ar drywydd newydd, a thrwy wneud hynny, i wneud eu cyfraniad i Gymru.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Y datganiad a'r cyhoeddiad busnes sydd nesaf. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths. 

Diolch, Llywydd. Nid oes gen i unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

Diolch, Trefnydd, am eich datganiad. A gaf i alw am ddatganiad ar yr wybodaeth ddiweddaraf am system pasys COVID y GIG, os gwelwch yn dda? Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac rwy'n siŵr bod etholwyr aelodau eraill ar draws y Siambr hon wedi gwneud hefyd, a gafodd drydydd brechiad, yn hytrach na'r brechiadau atgyfnerthu, ar gyfer y rhai agored iawn i niwed yn gynharach na phryd dechreuodd yr ymgyrch brechiadau atgyfnerthu, ac, o ganlyniad i hynny, nid ydyn nhw'n gallu cael gafael ar dystiolaeth o'r trydydd brechiad hwnnw ar system pasys COVID y GIG. Mae hynny'n achosi problemau iddyn nhw, yn enwedig pan fyddan nhw'n dymuno teithio'n rhyngwladol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y system honno cyn gynted â phosibl, a byddai'n dda pe baem yn gallu cael datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gadarnhau y bydd hynny'n digwydd.

14:30

Felly, rydym ni'n aros i Lywodraeth y DU benderfynu ar newid y diffiniad o fod wedi eich brechu'n llawn, a phan fydd y penderfyniad hwnnw yn cael ei wneud, bydd yn ein galluogi i wneud y newidiadau digidol sydd eu hangen i ganiatáu i'r brechiadau atgyfnerthu ddangos ar y pàs COVID domestig. Yn anffodus, mae'r dyddiad hwnnw wedi ei symud sawl gwaith.

Fe wnaethoch chi sôn yn benodol am deithio rhyngwladol, ac, unwaith eto, mae disgwyl i Lywodraeth y DU ystyried a ddylai'r diffiniad o fod wedi eich brechu'n llawn ar gyfer teithio rhyngwladol mewnol gynnwys brechiadau atgyfnerthu, ac a ddylai terfyn amser fod ar gyrsiau sylfaenol, ac rydym ni'n disgwyl y penderfyniad hwnnw yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 7 Chwefror.

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, fel y gwyddoch chi, ym mis Medi 2021, diweddarodd Sefydliad Iechyd y Byd y canllawiau ansawdd aer byd-eang am y tro cyntaf mewn 16 mlynedd. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i'r canllawiau newydd a sut y byddan nhw'n cael eu hymgorffori mewn deddfwriaeth yma yng Nghymru?

Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch diweddaru canllawiau COVID ar gyfer ymweld â phobl mewn ysbytai? Cysylltodd un o fy etholwyr â mi o'i gwely ysbyty. Rhoddodd enedigaeth i'w merch gynamserol yn ddiweddar a dim ond am ddwy awr y dydd y mae ei gŵr yn cael caniatâd i ymweld â hi. Yn ogystal â methu â chael ei chefnogi yn ystod cyfnod trawmatig, mae ei gŵr hefyd ar ei golled drwy fethu â gweld ei ferch. Gofynnodd i mi, 'Pam ydy hi'n deg y byddaf i'n gallu mynd i gêm rygbi gyda miloedd o bobl ar gyfer y chwe gwlad  yn fuan ond ni allaf gael fy ngŵr gyda mi yn yr ysbyty?' Mae gan wahanol ysbytai bolisïau gwahanol. A gawn ni ganllawiau wedi eu diweddaru â'r wybodaeth ddiweddaraf os gwelwch yn dda er mwyn sicrhau eglurder a chysondeb i'r rhieni hyn?

Diolch. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ganllawiau newydd ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd, oherwydd, fel y gwyddoch chi, rydym ni yn edrych ar Fil ansawdd aer a sut y mae'n cyd-fynd â hynny.

O ran eich ail bwynt, rwy'n credu eich bod chi newydd ddisgrifio niwed arall COVID-19—ni allwn ni ond ddychmygu, fel mam newydd, pa mor anodd yw hi—ond, fel y dywedwch chi, mater i bob ysbyty a phob bwrdd iechyd yw ystyried sut y maen nhw'n dymuno i ymweliadau gael eu trefnu.

Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Gweinidog iechyd. Mae'r cyntaf yn ymwneud â pheidio â dadebru mewn ysbytai. Mae'r grŵp perthnasau mewn profedigaeth yn sgil COVID wedi dweud wrthyf fod peidio â dadebru wedi ei ddefnyddio heb unrhyw drafodaeth gyda pherthnasau. Ni waeth beth yw eich barn ar ewthanasia gwirfoddol, mae'n rhaid i ewthanasia anwirfoddol fod yn destun pryder. A gaf i ofyn i'r Gweinidog am ddatganiad ar ddefnyddio'r drefn peidio â dadebru mewn ysbytai a'r mesurau diogelu a ddylai fod ar waith?

Yr ail ddatganiad yr wyf i'n gofyn amdano yw un sy'n amlinellu'r cynnydd sydd wedi ei wneud i ddileu hepatitis C erbyn 2030. A wnaiff y Gweinidog yn y datganiad nodi nifer y cleifion y mae angen eu trin bob blwyddyn, a faint oedd yn cael eu trin bob blwyddyn cyn y pandemig?

Diolch. P'un a oes gan berson y gallu ai peidio, mae'n parhau i fod yn gwbl hanfodol bod penderfyniadau sy'n ymwneud â gofal diwedd oes yn cael eu gwneud ar sail unigol. Mae'n annerbyniol bod cynlluniau gofal uwch, gyda neu heb ffurflen peidio â dadebru wedi ei llenwi, yn cael eu defnyddio ar gyfer grwpiau o bobl o unrhyw fath, ac mae'n rhaid parhau i wneud y penderfyniadau hyn ar sail unigol yn ôl yr angen. Rwy'n gwybod, ar ddechrau pandemig COVID-19, fod y prif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio wedi ysgrifennu at bob bwrdd iechyd ar y cyd i sicrhau bod eglurder ynghylch gwneud penderfyniadau moesegol i bobl, ac rwy'n credu bod llythyr arall ar y cyd yn ailadrodd y sefyllfa hon wedi ei gyhoeddi ym mis Mawrth y llynedd. Felly, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog ystyried a oes angen llythyr arall.FootnoteLink

O ran hepatitis C, rwy'n credu bod angen, ac rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cytuno, i roi hwb i'r ymgyrch i ddileu hepatitis C yng Nghymru. Byddwch chi'n ymwybodol o'r ymateb digynsail i fynd i'r afael â'r pandemig ac, wrth gwrs, bu newid i ddefnydd adnoddau, ond rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda byrddau iechyd ledled Cymru i ystyried y cynlluniau adfer, a chafodd gweithdy cenedlaethol ei gynnal fis Hydref diwethaf lle'r oedd amrywiaeth o ffrydiau gwaith ar y gweill, yn ystyried sut y gallwn ni flaenoriaethu ein camau nesaf. Roeddwn i'n darllen am hepatitis C yng Nghymru, a ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gael gwared arno mewn carchar remánd, hynny yw Carchar ei Mawrhydi Abertawe, ac rwy'n gwybod ein bod ni'n ystyried cyflwyno'r cynllun yng Ngharchar ei Mawrhydi Berwyn yn fy etholaeth i, oherwydd ein bod ni'n wirioneddol awyddus i gael gwared ar hepatitis C yn ein carchardai. 

14:35

Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn i ofyn am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ynghylch uwchraddio stoc reilffyrdd a moderneiddio trenau yng Nghymru. Fel yr ydym ni wedi ei glywed eisoes heddiw, mae llawer o bobl ledled Cymru yn ceisio ystyried symud tuag at ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy i gefnogi ein hamgylchedd a lleihau allyriadau carbon. Wrth gwrs, mae hon yn rhan bwysig o raglen lywodraethu Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae'n amlwg i mi, ac o ohebiaeth yr wyf i'n ei chael gan fy nhrigolion i, nad yw ansawdd y stoc reilffyrdd ac oedran trenau yng Nghymru yn caniatáu i hyn fod yn ddewis hawdd bob amser. Er enghraifft, ar fy ffordd i lawr yma i Gaerdydd ddoe, cyrhaeddodd sŵn y trên ar fy nhaith bedair awr o'r Rhyl, sydd â rhyw 0.5 miliwn o deithwyr yn ymuno ac yn ymadael â hi bob blwyddyn, dros 75 desibel, sy'n uwch na'r lefelau y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn eu hargymell ar gyfer gweithdai gweithgynhyrchu, ac roedd hynny ar daith trên bedair awr. Byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn darparu datganiad ynghylch y gwaith hwn o uwchraddio stoc drenau a moderneiddio trenau yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n galed iawn ar ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddarparu gwerth £800 miliwn o gerbydau newydd ar gyfer ein rheilffyrdd ac i sicrhau bod 95 y cant o deithiau trên ar drenau newydd erbyn 2024. Ac mae'r cyntaf o'r trenau newydd sbon hyn eisoes ar brawf ar hyd gogledd Cymru—efallai eich bod chi wedi bod ar un—cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno i wasanaeth teithwyr yn ddiweddarach eleni. Gwelais eich neges trydar mewn gwirionedd am eich taith i lawr o'r gogledd, ac, yn anffodus, bu'n rhaid i Drafnidiaeth Cymru ddefnyddio stoc arall o ansawdd is ar y trên a adawodd Caergybi am 11.33 a.m. ddoe. Felly, yn anffodus, nid oedd y stoc drên a cherbydau arfaethedig y dylen nhw fod wedi eu defnyddio ar gael y tro hwn.

Gweinidog, hoffwn i alw am ddau ddatganiad brys, os gwelwch yn dda, a'r cyntaf ar fynediad i ddeintyddiaeth y GIG. Rydym ni wedi bod yn ymwybodol ers cryn amser y bu rhywfaint o argyfwng o ran cael gafael ar wasanaeth deintyddiaeth y GIG mewn cymunedau ledled y wlad. Ond yng Nglynebwy ar hyn o bryd, mae argyfwng gwirioneddol, lle mae gwasanaeth deintyddiaeth y GIG wedi ei dynnu yn ôl, nid oes cyfle i blant, i bensiynwyr, fanteisio ar wasanaeth deintydd y GIG, ac mae llawer o bobl yn cysylltu â mi heddiw nad ydyn nhw'n gwybod ble i droi. Rydym yn gwybod bod gan y byrddau iechyd gyfrifoldeb i ddarparu gwasanaethau deintyddol, a hoffwn i gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru am ei wneud i sicrhau bod byrddau iechyd yn cyflawni'r ddyletswydd honno.

Mae'r ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano yn ddatganiad brys iawn. Rydym ni wedi sôn dro ar ôl tro yn y Siambr hon am sut y mae Llywodraeth Cymru, yn ystod y pandemig, wedi dod o hyd i offer diogelu personol o Gymru, o fentrau cymdeithasol ledled y wlad—yn fy etholaeth i, yn sir Fôn hefyd. Ac mae'r bobl hynny, a weithiodd mor galed, yn wynebu colli eu swyddi, hyd yn oed yr wythnos hon o bosibl, oherwydd nad ydym yn sicrhau bod y contractau hynny'n cael eu rhoi i fentrau cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnal gwaith a chyflogaeth yng Nghymru a sicrhau bod rhai o'r bobl sydd bellaf o'r gweithlu yn cael cyfle i weithio i gyflawni dros ein GIG. Mae'n argyfwng llwyr i'r bobl hynny, Gweinidog, a hoffwn i gael datganiad brys iawn, yr wythnos hon—datganiad ysgrifenedig os na allwch chi lunio datganiad llafar yfory—i ddangos bod Llywodraeth Cymru yn mynd i gymryd camau i sicrhau bod cyflogaeth yn parhau i'r holl bobl hynny.

Diolch. O ran eich ail ymholiad, gwnaeth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ddatganiad ar gaffael yn ddiweddar, ac rwy'n ymwybodol eich bod chi wedi codi'r mater penodol hwn yn ystod y datganiad hwnnw a'ch bod chi hefyd wedi bod mewn cysylltiad â swyddfa Gweinidog yr Economi. Byddaf i'n sicrhau eich bod chi'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y mater, a byddaf yn gofyn i'r Gweinidog cyllid a Llywodraeth Leol a oes unrhyw wybodaeth newydd arall.

Mewn ymateb i'ch cwestiwn ynghylch deintyddiaeth, byddwch chi'n ymwybodol bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi rhoi cyllid sylweddol i ddeintyddiaeth—rhywfaint o arian ychwanegol—a'i bod yn cyfarfod yn fisol â byrddau iechyd i weld sut y gallwn ni wella mynediad i ddeintyddiaeth y GIG ledled Cymru. Bydd y byrddau iechyd yn gallu buddsoddi'r cyllid hwnnw i ymdrin â'r anghenion a'r materion lleol hynny.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar yr adolygiad cenedlaethol o'r roster sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru? Yn benodol, hoffwn i gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y trafodaethau y mae swyddogion wedi eu cael gydag ymddiriedolaeth y GIG ambiwlans ar gynlluniau posibl i israddio'r gorsafoedd ambiwlans yn Nhrefynwy a Chas-gwent. Mae'n ddealladwy bod y newid hwn wedi achosi pryder yn fy etholaeth i, gan y gallai adael Trefynwy a Chas-gwent ag un cerbyd ambiwlans yr un yn unig. Pan fydd y ddau gerbyd ar alwad, mae hyn yn golygu, o bosibl, na fydd unrhyw ambiwlansys i ymateb i alwad goch o'r naill orsaf neu'r llall. Mae pryder mawr eisoes ynghylch yr amseroedd aros erchyll ar gyfer ambiwlansys yn yr ardal ar hyn o bryd, a byddai'r bygythiad hwn i'r gwasanaeth yn gwneud pethau'n waeth.

At hynny, rwyf i ar ddeall bod y cynlluniau i godi adeilad newydd yn lle'r ddau hen adeilad Portakabin garw yng nghefn yr hen orsaf ambiwlans yn Nhrefynwy wedi eu rhoi o'r neilltu hefyd, ac nid yw hynny'n argoeli'n dda ar gyfer dyfodol y gwasanaeth i lawer o bobl sy'n gwylio. Rwy'n croesawu'r ffaith bod prif weithredwr ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru wedi cytuno i gyfarfod â mi ac arweinydd cyngor Trefynwy ynghylch yr adolygiad o'r roster ac ymgais yr ymddiriedolaeth i sicrhau bod eu hadnoddau yn y lleoliad gorau yn ddaearyddol. Fodd bynnag, byddwn i'n ddiolchgar, Trefnydd, pe gallai eich cyd-Aelodau yn y Cabinet ymchwilio i'r mater hwn i helpu i roi hyder i fy etholwyr y bydd gwasanaeth ambiwlans digonol ar gael iddyn nhw o hyd yn y dyfodol ac y bydd gan staff fynediad i'r cyfleusterau modern sydd eu hangen arnyn nhw. Diolch yn fawr.

14:40

Wel, rwy'n credu eich bod chi wedi gwneud y peth iawn wrth ofyn am gyfarfod â phrif weithredwr ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru, a fydd yn gallu ateb eich cwestiynau penodol. Rwy'n ymwybodol o'r adolygiad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn aros am ganlyniad yr adolygiad hwnnw cyn gwneud datganiad. 

Prynhawn da, Trefnydd. Tybed a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, y cyntaf gan y Gweinidog addysg ar benderfyniad Llywodraeth y DU i gyflwyno rheoliadau i rewi'r trothwy ad-dalu benthyciadau myfyrwyr. Bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn ad-daliadau mewn termau real i raddedigion ar fenthyciadau myfyrwyr cynllun 2. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni gael eglurder ynghylch effaith y penderfyniad hwnnw ar raddedigion a chyllid myfyrwyr yma yng Nghymru.

Mae'r ail ddatganiad yr wyf i'n ei ddymuno gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y penderfyniad—sy'n peri pryder mawr—i roi trwydded ar gyfer ymestyn pwll glo Aberpergwm, sy'n gam enfawr yn ôl yn ein hymdrechion i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd. A gaiff y Senedd ddatganiad os gwelwch yn dda am y penderfyniad i ganiatáu estyniad, a oes unrhyw eglurder arall ynghylch ble mae'r pŵer i ymyrryd yn y mater hwn, a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried moratoriwm ar yr holl waith cloddio glo newydd yng Nghymru, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gael unrhyw bwerau y mae'n credu nad oes ganddi i atal ceisiadau o'r fath yn y dyfodol? Diolch. 

Diolch. O ran trothwyon ad-dalu benthyciadau myfyrwyr, mae'n debyg y byddwch chi'n ymwybodol bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth y DU i edrych ar y trothwy yn y rheoliadau ad-daliadau, ac nid oes angen i Lywodraeth y DU gael cytundeb Gweinidogion Cymru i ddiwygio'r trothwy ad-dalu, ond ni allan nhw orfodi'r newid hwnnw ar Gymru. Felly, bydd y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yn ystyried yr opsiynau yn ystod yr wythnosau nesaf, ac yn amlwg, os oes unrhyw beth y mae'n dymuno rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau amdano, rwy'n siŵr y bydd yn darparu llythyr neu ddatganiad ysgrifenedig.

O ran trwydded gloddio Aberpergwm, rydym ni wedi bod yn glir iawn nad ydym yn cefnogi echdynnu tanwydd ffosil, ac rydym yn canolbwyntio'n fawr iawn ar yr argyfwng hinsawdd. Gan fod y drwydded wreiddiol hon wedi ei chyhoeddi cyn i bwerau trwyddedu gael eu datganoli i Lywodraeth Cymru, ni chaiff Gweinidogion Cymru ymyrryd yn y broses drwyddedu ac, yn anffodus felly, gymhwyso ein polisi Cymru yn briodol. Felly, fe wnaeth yr Awdurdod Glo roi gwybod i ni ar 11 Hydref ei fod yn ystyried a yw amodau sydd ynghlwm wrth drwydded bresennol ar gyfer y pwll wedi eu cyflawni, ac yna, ar 26 Ionawr, diweddarodd yr Awdurdod Glo ei wefan yn cadarnhau bod y cais i dynnu'r amodau oddi ar y drwydded wedi ei gymeradwyo. 

Gadewch i mi ddechrau drwy adleisio'r galwadau gan Alun Davies heddiw ynghylch yr angen am ddatganiad ar ddeintyddiaeth y GIG. Mae wedi bod yn fater parhaus ers cryn amser, ac mae angen i ni ddeall sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector deintyddiaeth i gynyddu gallu ein hetholwyr i gael gwasanaeth deintydd.

Ond, ar fater ar wahân, mae'n amlwg o'r cwestiynau heddiw nad fi yw'r unig un sydd wedi derbyn llawer o ymholiadau ynglŷn â'r heriau y mae pobl sy'n imiwnoataliedig yn eu hwynebu o ran brechiadau atgyfnerthu a thrydydd brechiad ar gyfer y pàs COVID i deithio'n rhyngwladol. Nawr, rwyf i wedi codi hyn gyda Gweinidogion Cymru, ac rwy'n diolch iddyn nhw am rywfaint o eglurhad, yn arbennig o ran mater y trydydd dos sylfaenol i bobl imiwnoataliedig nad ydyn nhw'n ymddangos ar y pàs COVID ar gyfer teithio'n rhyngwladol, mae hyn yn ymwneud â mater o ran y ffordd y mae GIG Lloegr wedi bod yn cofnodi'r trydydd dos ar y system. Nawr, rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn pwyso am ddatrys i hyn, a bod y Gweinidog iechyd, yr Ysgrifennydd Gwladol dros iechyd, a swyddogion y tu ôl i'r llen yn gwneud eu rhan, ond a allwch chi egluro, Trefnydd, pryd y byddwn yn debygol o glywed mwy am ddatrys hyn i'n hetholwyr, ac a gawn ni wedyn ddatganiad ar unwaith pan fyddwn yn clywed am gynnydd, i weld bod y materion wedi'u datrys gan Lywodraeth y DU?

14:45

Diolch. Byddwch chi wedi clywed fy ateb i Darren Millar. Nid yw'r trydydd dos sylfaenol ar gyfer pobl sy'n imiwnoataliedig wedi bod yn ymddangos ar y pàs COVID ar gyfer teithiau rhyngwladol allanol oherwydd problem, fel y dywedwch chi, gyda'r ffordd y mae GIG Lloegr wedi bod yn cofnodi'r trydydd dos ar y system. Rydych chi'n hollol gywir bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi pwyso dro ar ôl tro ar yr Ysgrifennydd Gwladol dros iechyd ynghylch y mater hwn ac mae swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda swyddogion Llywodraeth y DU ar hyn. Felly, rydym yn parhau i weithio i wthio i ddatrys y materion hyn cyn gynted â phosibl er mwyn galluogi trydydd dos o'r brechlyn i fod yn weladwy ar y pàs COVID digidol, fel y gall pobl sy'n imiwnoataliedig ddefnyddio'r pàs COVID ar gyfer teithio'n rhyngwladol. Felly, cyn gynted ag y caiff hyn ei gyflawni—a byddwch chi wedi fy nghlywed i'n dweud wrth Darren Millar ein bod ni'n gobeithio yn ddiweddarach y mis hwn y bydd hyn yn digwydd—bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig.

Hoffwn i unwaith eto ategu cais gan Alun Davies AS a Huw Irranca-Davies am ddatganiad ynghylch diffyg darpariaeth gwasanaethau deintyddol. Yn sicr, yn fy etholaeth i yn Aberconwy, mae'n broblem fawr ac rwy'n cyfarfod â meddygon teulu ar hyn o bryd ac maen nhw'n teimlo'r straen oherwydd bod pobl yn gofyn am apwyntiadau pan fyddan nhw mewn poen ofnadwy. Felly, yn wirioneddol, mae'n rhywbeth—. Mae angen datganiad brys gan y Gweinidog.

Rwyf i hefyd yn credu bod datganiad arall yn hwyr, a hynny gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar gael gwared ar gladin peryglus yng Nghymru. Mae gennym ni gymaint o adeiladau preswyl uchel iawn. Yma yng Nghaerdydd, mae Celestia Action Group, perchnogion eiddo Redrow ym Mae Caerdydd, yn brwydro i gael eu datblygwr i unioni diffygion adeiladu mor ddifrifol. Fe wnaethon nhw gynnal protest y tu allan i'r Senedd dros y penwythnos ac fe wnaethon nhw siarad yn gyhoeddus yr wythnos diwethaf am y diffyg gweithredu gan Lywodraeth Lafur Cymru yn dilyn y datblygiad cadarnhaol yr ydym ni wedi ei weld yn Lloegr. Bythefnos yn ôl, ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Godi'r Gwastad, Tai a Chymunedau, y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, at y diwydiant datblygu eiddo preswyl yn gofyn am ymrwymiadau clir gan ddatblygwyr, gan gynnwys eu bod yn cytuno i wneud cyfraniadau ariannol eleni ac yn y blynyddoedd dilynol i gronfa bwrpasol i dalu am y gost lawn sy'n weddill i adfer cladin anniogel ar adeiladau 11m i 18m o uchder, ac mae hefyd wedi gofyn iddyn nhw ariannu a gwneud yr holl waith adfer angenrheidiol ar adeiladau dros 11m lle maen nhw wedi chwarae rhan yn y gwaith o'u datblygu.

Rwy'n cytuno, mewn gwirionedd, â'r Ysgrifennydd Gwladol nad yw'n deg nac yn weddus bod lesddeiliaid diniwed, y mae llawer ohonyn nhw wedi gweithio'n galed ac wedi aberthu i gael troed ar yr ysgol dai, yn cael biliau na allan nhw eu fforddio, i ddatrys problemau nad oedden nhw wedi eu hachosi. Felly, a wnewch chi gael datganiad brys gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, gan wneud datganiad i'r Senedd hon yn egluro a yw'n mynd i gymryd yr un camau beiddgar â Michael Gove a sicrhau mewn gwirionedd nad yw Cymru'n methu ac na fydd yn parhau i fod ar ei hôl hi o ran y mater hwn? [Torri ar draws.] Mae'n fater rhy bwysig. Ac mae'r heclo mewn gwirionedd, a dweud y gwir, yn ffiaidd.

Rydym ni wedi cymryd camau breision i wella diogelwch adeiladau yng Nghymru yn dilyn, yn amlwg, y tân yn Nhŵr Grenfell, ac mae hynny'n cynnwys: rydym ni wedi cael gwared ar gladin ACM anniogel o'r rhan fwyaf o adeiladau uchel iawn yng Nghymru heb unrhyw gost i lesddeiliaid, ac mae gwaith ar y gweill erbyn hyn ar yr adeiladau olaf sy'n weddill, felly dyna'r holl adeiladau; diwygiadau i reoliadau adeiladu sy'n gwahardd y defnydd o ddeunyddiau hylosg ar y tu allan i adeiladau preswyl uchel iawn, ysbytai a chartrefi gofal; ac rydym ni hefyd wedi gwneud diwygiadau o dan Ddeddf Diogelwch Tân 2021, a ddaeth ag amlen allanol adeiladau o fewn cylch gwaith personau cyfrifol.

Ym mis Medi, lansiodd y Gweinidog Newid Hinsawdd gam un cronfa diogelwch adeiladau Cymru, sy'n darparu cyllid ar gyfer arolygon diogelwch tân a chreu pasbortau adeiladu. Mae'r cam cyntaf hanfodol hwnnw yn defnyddio dull gweithredu cyfannol sy'n mynd y tu hwnt i gladin yn unig a bydd yn nodi pa fesurau a chamau gweithredu sydd eu hangen ar gyfer adeiladau amlbreswyl, i'w gwneud nhw mor ddiogel â phosibl. Rydym ni hefyd wedi darparu £375 miliwn yn ystod y tair blynedd nesaf i gefnogi'r gwaith o adfer materion diogelwch adeiladu mewn adeiladau preswyl aml-feddiannaeth sydd â diffygion presennol, ac ychydig fisoedd yn ôl, ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y gwaith o ddatblygu'r cynllun cymorth i lesddeiliaid, sydd â'r bwriad o gefnogi lesddeiliaid sy'n wynebu caledi ariannol sylweddol o ganlyniad i'r materion hyn. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer iawn o waith.

14:50

Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol y byddai ennill statws Dinas Diwylliant y DU yn rhoi hwb enfawr i hyder Wrecsam ac yn arwain at gyfleoedd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol enfawr. Rwy'n gwybod eich bod chi, fel yr Aelod lleol, wedi bod yn rhoi cymorth diysgog, sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr iawn. A gaf i ofyn am neges ffurfiol o ddymuniadau gorau gan Lywodraeth Cymru wrth i'r cais gyrraedd adeg dyngedfennol, ac wrth gwrs wrth i ni aros am ymweliad gan un o ffigurau mwyaf eiconig diwylliant pop yr unfed ganrif ar hugain, Will Ferrell?

Ac a gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gronfa cadernid economaidd, am gynllun benthyciadau COVID Banc Datblygu Cymru, ac am fathau eraill o gymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yn ystod y pandemig, a allai gynnig sicrwydd yma yng Nghymru, o ganlyniad i Lywodraeth Lafur Cymru, fod mesurau diogelu llym ar waith sy'n atal y mathau o lefelau o dwyll yr ydym ni'n eu gweld yn Lloegr a ledled y DU o gynllun benthyciadau adfer Llywodraeth y DU, sydd wedi arwain at hawlio mwy na £4 biliwn o arian trethdalwyr yn dwyllodrus wrth i lawer o drethdalwyr orwedd ar eu gwely angau?

Diolch. Rwy'n falch iawn bod yr awdurdod lleol yr ydym ni'n ei rannu ar draws ein hetholaethau yn gwneud cais am Ddinas Diwylliant y DU 2025. Rwy'n hapus iawn i ddarparu datganiad ffurfiol o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Ddydd Gwener diwethaf cafodd gynhadledd ei chynnal, cynhadledd rithwir, i gefnogi'r cais am un o'r chwe gweledigaeth sydd gan Wrecsam, ac roedd hynny'n ymwneud â bod yn ganolfan chwarae y DU, sydd, wrth gwrs, mor bwysig i'n plant a'n pobl ifanc, ac agorodd y Prif Weinidog y gynhadledd honno, felly rwy'n hapus iawn i ddarparu datganiad arall. Mae'r sïon am Will Ferrell yn dod i wylio'r tîm pêl-droed y mae'r ddau ohonom yn ei gefnogi, ar led, rwy'n meddwl. Mae'n ymddangos ein bod ni'n denu pobl enwog iawn i'r Cae Ras y dyddiau hyn.

O ran eich ail gais pwysig iawn am ddatganiad, rwy'n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol, pan fyddwn ni wedi bod yn gwneud benthyciadau brys drwy gynllun benthyciadau busnes COVID-19 Cymru, fod Banc Datblygu Cymru wedi cymryd camau i gyflymu'r broses o ddarparu cyllid, gan gynnal gweithdrefnau dilysu hunaniaeth i safon uchel iawn, iawn, ac roedd angen gwirioneddol am y dull cadarn hwnnw gan Fanc Datblygu Cymru i sicrhau ein bod ni'n diogelu arian cyhoeddus. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cynllun benthyciadau Banc Datblygu Cymru, bu'n rhaid i fusnes fod yn masnachu am fwy na dwy flynedd, ond y bu'r cynllun benthyciadau adfer yn darparu benthyciadau i gwmnïau yr oedd ofynnol iddyn nhw fod yn masnachu ers 1 Mawrth 2020, felly, yn gyflym iawn, iawn. Roedd Banc Datblygu Cymru hefyd yn defnyddio gwarantau personol safonol ar uchafswm o 20 y cant, ac roedden nhw'n  rhoi terfyn uchaf o £25,000 ar fenthyciadau hefyd, er nad oedden nhw erioed wedi eu cefnogi gan brif breswylfa breifat yr ymgeisydd, a oedd, ynghyd â'r broses o ddilysu hunaniaeth honno, yn lliniaru rhai o'r risgiau a oedd ar waith o ran cyflymder y ddarpariaeth. Felly, mae hyn yn golygu bod y risg o dwyll gyda'n cynllun ni yn llawer, llawer is o'i gymharu â'r benthyciadau adfer a'r cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws, gan fod cyfrifon wedi eu harchwilio ar gael i graffu arnyn nhw yn y broses ddiwydrwydd, ac nid oedd Banc Datblygu Cymru mewn perygl o gofrestru cwmnïau newydd twyllodrus.

Rwy'n ategu'r sylwadau ynghylch cais dinas diwylliant Wrecsam ac ymweliad posibl Will Ferrell, ond rwyf i'n galw hefyd am ddatganiad llafar ar wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Ar 29 Medi, dywedodd y Gweinidog iechyd wrth y Senedd fod darn o waith i sicrhau bod argymhellion adroddiad Holden 2013, sy'n cofnodi methiannau uned iechyd meddwl gogledd Cymru,

'yn rhoi sicrwydd bod camau wedi eu cymryd ac yn parhau i fod ar waith yn erbyn pob un o argymhellion yr adroddiad'.

Roedd hyn er gwaethaf adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yr wythnos flaenorol yn cadarnhau nad oedd yr argymhellion wedi eu bodloni. Ar 8 Rhagfyr, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles wrth y Senedd fod

'Y bwrdd iechyd wedi cymryd camau bryd hynny i fynd i'r afael â'r materion a gafodd eu codi, ac wedi comisiynu gwaith i sicrhau bod argymhellion Holden wedi eu gweithredu.'

Fodd bynnag, cadarnhaodd adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar 23 Rhagfyr fod y materion a godwyd gan chwythwyr chwiban yn 2013 yn dal i fodoli, gan gynnwys y gwelyau proffil a gafodd eu defnyddio gan gleifion i ladd eu hunain ym mis Rhagfyr 2020 a mis Ebrill 2021. Y diwrnod wedyn, anfonodd prif weithredwr Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru e-bost ataf yn datgan,

'yng ngoleuni adroddiad Holden a gafodd ei ryddhau yn ddiweddar, gallwn ni fod yn sicr nad oes modd gadael Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weithredu argymhellion heb oruchwyliaeth fanwl.'

Mae'r cod gweinidogol yn nodi,

'Mae'n hollbwysig bod gweinidogion yn rhoi gwybodaeth gywir a gwir i'r Senedd, gan gywiro unrhyw gamgymeriad anfwriadol cyn gynted â phosibl. Bydd disgwyl i weinidogion sy'n camarwain y Senedd yn fwriadol gynnig eu hymddiswyddiad'.

Rwy'n galw am ddatganiad yma gan y Gweinidogion sydd wedi eu nodi yn unol â hynny.

14:55

Diolch i chi. Wel, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Siambr ac fe glywodd hi'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud, ac os oes ganddi hi unrhyw beth arall i'w ychwanegu, rwy'n siŵr y bydd hi'n ysgrifennu at yr Aelod.FootnoteLink Rwy'n credu bod hwn hefyd yn gyfle i sôn, yn amlwg, ddydd Iau, y bydd hi'n Ddiwrnod Amser i Siarad. Mae hwnnw'n cwympo, fel rydym ni i gyd yn gwybod, ar y dydd Iau cyntaf ym mis Chwefror bob blwyddyn, ac yn gofyn i bob unigolyn gael sgwrs ynglŷn ag iechyd meddwl. Felly, fe hoffwn i atgoffa'r Aelodau mai da o beth fyddai i ni i gyd fyfyrio ar hynny ddydd Iau.

Diolch yn fawr iawn i chi, Llywydd. Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â diagnosis a thriniaeth i fenywod ag endometriosis. Rydych chi'n cofio, nôl yn 2018, i argymhellion grŵp gorchwyl a gorffen endometriosis gael eu cyhoeddi. Mae hynny'n ymddangos fel myrddiwn o flynyddoedd yn ôl, o ystyried y cyfan sydd wedi digwydd oddi ar hynny, ond rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am sicrwydd gan y byrddau iechyd i gyd eu bod nhw mewn sefyllfa i gydymffurfio â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal o ran triniaeth endometriosis. Ac fe gawsom ni ddadl ddilynol ar endometriosis yn y Siambr ym mis Hydref 2020. Ond, yfory, fe fyddaf i'n cwrdd â Beth Hales, a fydd yn cyflwyno deiseb gyda bron i 6,000 o enwau arni, sy'n rhoi darlun o sefyllfa sy'n gwaethygu, yn arbennig oherwydd bod yr unig ganolfan arbenigol achrededig ar gyfer endometriosis, sydd yng Nghaerdydd, wedi colli un o'i thri ymgynghorydd arbenigol ar y cyflwr. Ac, yn ôl y ddeiseb, nid oes unrhyw gynlluniau i lenwi'r swydd wag honno. Felly, fe fyddwn i'n hynod ddiolchgar pe cawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog ynglŷn â sut yn union y mae'r byrddau iechyd yn ymdrin â'r ôl-groniad o fenywod sydd ag angen diagnosis a thriniaeth ar gyfer endometriosis, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n helpu i hysbysu'r Pwyllgor Deisebau, a fydd yn gorfod ymateb i'r deisebwyr hyn ynghylch sut yr ydym ni yn y Senedd a Llywodraeth Cymru am fynd i fynd i'r afael â'r hyn sy'n amlwg yn sefyllfa ofidus iawn i laweroedd o fenywod.

Diolch i chi. Fe wyddom ni, gwyddom, fod endometriosis yn gyflwr sy'n effeithio ar nifer fawr o fenywod. Ac, fel y mae'r ddeiseb yr oeddech chi'n cyfeirio ati hi'n tynnu sylw ato, fe all yr effaith ar ansawdd bywyd fod yn aruthrol—yn wirioneddol iawn—ac fe all y diagnosis gymryd cyfnod sylweddol o amser, yn anffodus. Ac rwy'n credu weithiau fod diffyg dealltwriaeth ymhlith y proffesiwn iechyd ynglŷn â'r cyflwr.

Rwy'n nodi i'r grŵp gweithredu iechyd menywod gael ei sefydlu yn ôl ym mis Mawrth 2018; grŵp a oedd yn cael ei gyfeirio gan weinidogion oedd hwnnw ar gyfer ystyried adroddiadau ynghylch yr hyn y gellid ei ddefnyddio o ran y cyflwr. Ac, ers ei sefydlu, fe ddyrannwyd £1 filiwn y flwyddyn i'r grŵp i gefnogi ei weithgareddau, ac mae'r cyllid hwn wedi galluogi rhwydwaith o gydlynwyr iechyd a llesiant y pelfis i fod ar waith ym mhob bwrdd iechyd. Ac, yn fwy diweddar, cafodd rhwydwaith o nyrsys endometriosis arbenigol ei recriwtio ym mhob bwrdd iechyd hefyd i ddatblygu llwybrau cenedlaethol. Felly, fe allai hynny helpu i leihau amseroedd diagnostig ledled Cymru, a sicrhau bod menywod yn cael eu cefnogi, a sicrhau eu bod nhw'n cael diagnosis mewn da bryd hefyd. Rydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud mewn ateb cynharach ynghylch deintyddiaeth, ac mae'r un peth yn wir am endometriosis, sef bod y Gweinidog yn gweithio yn agos iawn gyda'r byrddau iechyd i ystyried sut y gallwn ni glirio'r ôl-groniad cyn gynted â phosibl.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lansio’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol newydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar lansio cronfa integreiddio rhanbarthol newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Dwi'n galw ar y Gweinidog nawr, felly, i wneud ei datganiad, unwaith bydd hi wedi tynnu'r masg bant. Eluned Morgan.

15:00

Diolch, Llywydd. Mae'n lyfli bod yn ôl yn y Senedd a gweld pobl lygad yn llygad am y tro cyntaf mewn sbel. 

Ym mis Awst 2021, fe gymeradwyais i gronfa bum mlynedd newydd ar gyfer integreiddio rhanbarthol i gefnogi datblygiad parhaus y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yng Nghymru. Heddiw, rwy'n falch o allu rhoi mwy o fanylion am y gronfa a lansio'r canllawiau yn swyddogol a gyd-gynhyrchodd fy swyddogion i gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol i baratoi ar gyfer lansio'r gronfa newydd ar 1 o fis Ebrill.

Ein cynllun hirdymor ni ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yw 'Cymru Iachach'. Mae'n cyflwyno gweledigaeth i'r dyfodol o ddull system gyfan o ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n canolbwyntio ar iechyd a llesiant, ac, yn allweddol, ar atal salwch. Mae'n cydnabod mai'r byrddau partneriaeth rhanbarthol yw ysgogyddion allweddol yr integreiddio, gan roi gallu iddyn nhw i gyfuno adnoddau ac arbenigedd ar gyfer darparu modelau gofal ataliol di-dor ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Yn ystod pandemig COVID-19 a chyda chymorth y gronfa gofal integredig a'r gronfa drawsnewid, mae byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi datblygu modelau newydd o ofal sydd wedi bod yn amhrisiadwy, gan gynnwys rhyddhau cleifion o'r ysbyty i'w cartref yn gyflym a modelau ar gyfer osgoi derbyn cleifion i ysbytai. Fe wyddom ni fod yna broblem eisoes o ran oedi wrth drosglwyddo gofal. Pe na bai'r modelau hyn ar waith, fe fyddai'r sefyllfa wedi bod yn llawer gwaeth. Ac yn awr, yn fwy nag erioed, mae cynllunio a darparu gwasanaethau integredig a chydgysylltiedig yn hanfodol i'n helpu ni wrth i ni barhau â'n hymateb i COVID-19, â'n bod ni'n adeiladu ar gyfer yr adferiad a'n bod ni'n trawsnewid ein system iechyd a gofal.

Rwy'n awyddus i weld Cymru yn adeiladu ar yr arferion da a'r gwaith partneriaeth sydd wedi datblygu ledled iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac yn ymgorffori datrysiadau cymunedol effeithiol ac ataliol. Fe fydd y gronfa integreiddio rhanbarthol newydd yn cefnogi'r gweithgareddau hyn drwy ymgorffori modelau gofal cenedlaethol presennol ymhellach, a thrwy ddatblygu rhai newydd ar gyfer y grwpiau blaenoriaeth a nodwyd yn y boblogaeth. Fe fydd y gronfa newydd yn rhedeg o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2027, ac fe fydd hi'n datblygu modelau gofal integredig cenedlaethol o amgylch chwe blaenoriaeth thematig allweddol. Y rhain yw: gofal yn y gymuned, atal a chydgysylltu cymunedol; yn ail, gofal yn seiliedig ar leoedd, gofal cymhleth yn nes at y cartref; yn drydydd, hyrwyddo iechyd a llesiant emosiynol; yn bedwerydd, cefnogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd yn ddiogel a thrwy ddarparu cymorth therapiwtig i blant sydd â phrofiad o ofal; yn bumed, gartref o'r ysbyty; ac yn chweched, atebion ar sail llety.

Rwyf i wedi gwrando ar adborth gan bartneriaid rhanbarthol ac ar ganfyddiadau'r gwerthusiadau annibynnol o gronfeydd blaenorol, a oedd yn nodi bod cyllid byrdymor yn ei gwneud hi'n anodd trawsnewid ac integreiddio. Mewn ymateb i hynny, rwyf i wedi ymrwymo i fuddsoddiad blynyddol o £144 miliwn am bum mlynedd.

Bydd y cyfnod buddsoddi pum mlynedd o fis Ebrill 2022 yn sicrhau bod cynlluniau buddsoddi tymor hirach yn gallu cael eu sefydlu a'u gwireddu ar sail fframwaith canlyniadau penodol. Er mwyn dangos o ddifrif ein bod yn gweithio gyda'n gilydd ar integreiddio, mae Llywodraeth Cymru a'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi creu dull graddedig o fuddsoddi. Bydd disgwyl i bartneriaid ddod o hyd i adnoddau cyfatebol yn gynaliadwy drwy gydol cylch bywyd y gronfa. Bydd hynny'n arwain at gymorth parhaus ar y diwedd ar gyfer modelau gofal integredig cenedlaethol.

Dwi wedi bod yn glir nad yw'r gronfa newydd hon yn barhad o'r cronfeydd blaenorol. Bydd angen i fyrddau partneriaeth rhanbarthol ddangos bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau integredig a fydd yn help i ddatblygu'r chwe model gofal cenedlaethol sydd wedi'u nodi. Bydd hyn yn ein helpu i gyflawni’r uchelgais sydd wedi'i nodi yn 'Cymru Iachach', sef i bobl gael gafael ar y gofal a'r cymorth iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn, ac i bobl gymryd rheolaeth o'u hiechyd a'u llesiant eu hunain i atal anghenion rhag gwaethygu.

Mae'r byrddau partneriaeth rhanbarthol yn dod â chynrychiolwyr iechyd, awdurdodau lleol a gwasanaethau cymdeithasol, tai, y trydydd sector, dinasyddion a gofalwyr a phartneriaid eraill at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau integredig yn effeithiol yma yng Nghymru. O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, eu diben yw gwella canlyniadau a llesiant pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, yn ogystal â'u gofalwyr. Bydd y gronfa integreiddio rhanbarthol yn helpu'r bobl hynny yng Nghymru a fyddai'n elwa fwyaf ar fodelau gofal integredig. Bydd y grwpiau poblogaeth â blaenoriaeth yn cynnwys pobl hŷn, gan gynnwys pobl sydd â dementia, plant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth, pobl sydd ag anableddau dysgu a chyflyrau niwroddatblygiadol, gan gynnwys awtistiaeth, gofalwyr di-dâl a phobl sydd ag anghenion llesiant iechyd meddwl ac emosiynol.

Er mwyn sicrhau bod amcanion y gronfa newydd yn cael eu cyflawni, bydd fframwaith canlyniadau clir yn cael ei weithredu, gyda chanlyniadau a mesurau allweddol. Bydd cymunedau ymarfer yn cael eu sefydlu a fydd yn chwarae rhan hanfodol wrth rannu gwersi a helpu partneriaid i ddatblygu modelau gofal integredig cenedlaethol. Mae ein hymateb i'r pandemig wedi dangos beth allwn ni ei wneud a beth y gallwn ni ei gyflawni drwy gydweithio. Wrth lansio'r gronfa integreiddio rhanbarthol, dwi'n benderfynol ein bod yn adeiladu ar y profiadau hyn wrth inni ddelio â'r heriau parhaus sydd o'n blaenau. Diolch, Llywydd.

15:05

Diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog; mae hi'n dda eich gweld chi yn y cnawd ar ôl sawl wythnos o gyfarfodydd Zoom dirifedi. Y canlyniadau ddylai fod wrth hanfod integreiddio gofal, felly pam rydym ni'n integreiddio gofal os nad i ddarparu gofal o'r radd flaenaf i bob dinesydd yng Nghymru? Mae anghenion gofal iechyd ac anghenion gofal cymdeithasol mor ymhlyg yn ei gilydd o safbwynt y cleifion a'r sefydliadau. Gweinidog, sut wnaiff y gronfa newydd hon a'r modelau newydd hyn o ddarparu gofal sicrhau gofal gwell ac yn fwy amserol i gleifion? Sut y bydd cynlluniau a gydgynhyrchir gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol yn mynd i'r afael â'r prinder yn y ddarpariaeth o ofal?

Nid oes ond rhaid edrych ar y mannau gollwng y tu allan i'n hadrannau damweiniau ac achosion brys ledled y wlad i weld yr effaith y mae'r argyfwng ym maes gofal cymdeithasol yn ei chael ar ein GIG. Yn y pwyllgor iechyd yr wythnos diwethaf, yn rhan o'n hymchwiliad ni i ryddhau cleifion o ysbytai, fe gawsom ni dystiolaeth a oedd yn amlygu ac yn tanlinellu'r effaith yr oedd oedi'n ei chael. Fe nododd y Coleg Meddygaeth Frys Brenhinol y gallai gormod o ddisgwyl mewn adrannau damweiniau ac achosion brys fod wedi cyfrannu at bron i 2,000 o farwolaethau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; bu farw 1,946 o gleifion yng Nghymru am na ellid eu trin nhw mewn pryd. Gweinidog, pa mor fuan y bydd pobl Cymru yn gweld gwelliant a diwedd ar y marwolaethau y gellid eu hatal yn gyfan gwbl?

Rwy'n croesawu'r pwyslais a roddir ar atal, ond ni fydd hynny'n helpu'r degau o filoedd o bobl sy'n aros am driniaeth heddiw. Ar hyn o bryd, mae gennym ni gannoedd o gleifion sy'n feddygol barod i'w rhyddhau ond na ellir eu rhyddhau nhw i'w cartrefi nac i gyfleusterau gofal, dim ond am nad oes ganddyn nhw becyn gofal ar gael iddyn nhw. Fe gefais i siom o glywed bod nifer o gleifion yn mesur eu hamseroedd aros nhw mewn blynyddoedd, ac nid mewn wythnosau. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod honno'n feirniadaeth ysol o'n sefyllfa ni nawr pan fo'r awdurdodau lleol yn hysbysebu am wirfoddolwyr i gynnig gwasanaethau gofal cartref?

Mae Llywodraethau olynol wedi tanbrisio'r proffesiwn gofalu fel nad yw hi'n syndod ein bod ni'n ei chael hi'n anodd llenwi swyddi gwag. Heb ofalwyr, ni allwn ni roi pecynnau gofal; heb becynnau gofal, ni allwn ni ryddhau cleifion; a heb ryddhau'r rheini, nid oes posibl i ni dderbyn cleifion o'r newydd. Felly, Gweinidog, a ydych chi o'r farn y bydd byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gallu cael gwared ag achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal? A fyddan nhw'n gallu mynd i'r afael â'r argyfwng staffio?

Maddeuwch i mi os wyf i'n swnio braidd yn amheus, ond go brin fod byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi ennill bri yn ddiweddar. Roedd yr archwilydd cyffredinol yn canfod problemau gyda'r gronfa gofal integredig ac fe gododd bryderon o ran byrddau partneriaeth rhanbarthol yn methu â rhannu arfer gorau. A ydych chi'n credu bod byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi sicrhau gwerth am arian? Gweinidog, pa fesurau diogelu fydd ar waith i sicrhau bod y gronfa newydd hon yn llwyddo mwy na chronfeydd blaenorol? Sut caiff y gwariant hwn ei reoli a'i fonitro? Rwy'n croesawu'r sefyllfa o ran datblygu modelau newydd o ofal ac o ddarparu gofal yn nes adref, felly sut wnaiff y byrddau partneriaeth rhanbarthol ddod â gofal yn nes adref? A ydyn nhw am fabwysiadu dull o gynnal ysbyty yn y cartref fel roedd Coleg Brenhinol y Ffisigwyr yn ei awgrymu ac mae fy mhlaid i'n ei gefnogi?

Ac yn olaf, Gweinidog, rydych chi'n dweud y bydd y gronfa hon yn cefnogi'r grwpiau â blaenoriaeth a nodwyd yn y boblogaeth. Beth am bobl eraill sydd ag anghenion cymhleth? Oni fydden nhw'n elwa ar newid mor sylweddol ym maes gofal? Diolch yn fawr iawn i chi.

15:10

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch i chi, Gareth, ac mae hi'n hyfryd eich gweld chithau yn y cnawd hefyd. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn i ni sicrhau bod y fframwaith canlyniadau yn rhywbeth y byddwn ni'n canolbwyntio llawer iawn arno. Yr holl bwynt yn hyn o beth yw y mae'n rhaid i ni weld pethau y gellir eu cyflawni nhw ar ddiwedd y broses hon. Yr hyn sy'n gwbl amlwg yw'r gydberthynas rhwng iechyd a gofal, fel roeddech chi'n dweud. Mae hwnnw'n rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ymwybodol iawn ohono. Dyna pam y bu i ni gyflwyno cyfle i integreiddio yn fwy clòs nôl yn 2014, gyda'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, ac wrth gwrs, mae holl ymagwedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ymwneud ag atal ac integreiddio hirdymor hefyd. Felly, mae'r pethau hynny i gyd ar waith, a da o beth yw gweld bod Llywodraeth y DU yn dal i fyny o'r diwedd â'r athroniaeth honno a'r dull hwnnw o weithredu ac rydym ni'n gweld agwedd, o leiaf, ar hynny'n cael ei datblygu yn y Bil sy'n mynd drwy San Steffan ar hyn o bryd.

Yr hyn sy'n amlwg yw ein bod ni wedi mynd ffordd bell iawn oherwydd yr hyn y gwnaethom ni ei ddysgu drwy gynlluniau'r gronfa gofal integredig a chynlluniau'r gronfa drawsnewid. Eto i gyd, rydym ni'n awyddus iawn i ddysgu rhai o'r gwersi a eglurwyd ac a nodwyd, fel roeddech chi'n ei awgrymu, gan yr archwilydd cyffredinol. Rydym ni'n ystyried pob un o'r pwyntiau sydd wedi eu gwneud: canllawiau cynnar, a dyna pam rydych chi'n gweld y canllawiau hyn yn cael eu cyhoeddi heddiw, aliniad llawer o gronfeydd byrdymor, felly rydym ni wedi cael gwared â sawl gwahanol sianel ariannu yma ac rydym ni wedi rhoi'r cyfan mewn un pecyn, i leihau dyblygu, a chryfhau'r trefniadau llywodraethu hynny, yn ogystal â chraffu gwell, cytuno ar ganlyniadau allweddol, dysgu ar y cyd; mae hynny i gyd yn cael ei ymgorffori erbyn hyn yng ngham nesaf y gronfa integreiddio rhanbarthol.

Rydych chi'n sôn am yr anawsterau o ran rhyddhau cleifion o ysbytai; nid oes neb yn fwy ymwybodol o'r broblem nag yr wyf i. Rydym ni'n parhau i fod mewn sefyllfa o fod ag o gwmpas 1,000 o bobl yn ein hysbytai ni sy'n barod i fynd adref. Mae hynny'n ymwneud â'r rhyng-gysylltiad hwnnw rhwng yr ysbytai a'r angen i gael pobl allan i'w cymunedau, gan sicrhau bod pobl yn siarad â'i gilydd. Mae'r Dirprwy Weinidog a minnau wedi bod yn cyfarfod yn wythnosol gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod pawb o'r un feddwl, i sicrhau bod pawb yn deall yr hyn sydd angen ei wneud yn y cyswllt hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n werth tanlinellu, yn debyg iawn, mai'r angen am barch tuag at y bobl sy'n rhoi'r gofal hwnnw yn ein cymunedau ni yw ystyr hyn, ac mae hynny'n golygu eu bod nhw'n cael cyflog teilwng. Dyna pam y byddwn ni, o fis Ebrill ymlaen, yn cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol, sy'n ymrwymiad maniffesto y byddwn ni'n ei gyflawni o fis Ebrill—rwy'n falch iawn o weld hynny'n digwydd—a dechrau'r broses honno, i roi parch i'r bobl hynny sy'n gwneud gwaith mor deilwng yn ein cymunedau ni.

Ni waeth pa mor wael ac anodd yw hi yng Nghymru, fe allaf i eich sicrhau chi ei bod hi gryn dipyn yn waeth yn Lloegr. Rwy'n credu iddi fod yn hynod ddiddorol i ni wylio, yn y dyddiau diwethaf, sut y digwyddodd y tro pedol hwn o ran brechiadau a dweud nawr nad oes yn rhaid atal swyddi pobl sy'n gweithio yn y GIG nad ydyn nhw wedi cael eu brechu. Ond mae hi'n rhy hwyr; maen nhw wedi troi carfan gyfan o weithwyr gofal allan, felly os oedd yna broblem o'r blaen, mae'r broblem hyd yn oed yn waeth nawr yn Lloegr. Wrth gwrs, rydym ni mewn sefyllfa lle rydym ni eisoes â niferoedd uchel iawn o'n gweithwyr gofal ni wedi cael eu brechu; fe hoffem ni weld mwy ohonyn nhw'n cael brechiad atgyfnerthu, ond mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i bwyso ar bobl.

Wrth gwrs, mae llawer o enghreifftiau gennym ni eisoes o bethau fel ysbyty yn y cartref ym mhob rhan o Gymru. Holl ddiben hyn yw cymryd yr arferion gorau hynny a gweld sut y gallwn ni eu hymgorffori nhw a'u cyflwyno nhw ledled Cymru. Y mathau hynny o enghreifftiau, mae llawer o'r rhain gennym ni yng Nghymru eisoes, ond ystyr hyn yw ymgorffori'r hyn sy'n gweithio yn dda.

15:15

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi innau'n teimlo'r angen i ddweud fy mod innau'n ei gweld hi'n braf iawn gweld y Gweinidog wyneb yn wyneb ar ôl rhai wythnosau o weithio'n rhithiol.

Diolch am y datganiad yma heddiw; mae croeso gofalus, croeso cyffredinol, gen i, yn sicr ar yr egwyddor. Rydym ni'n gytûn ar yr angen i integreiddio cymaint â phosib. Mae Plaid Cymru ers blynyddoedd lawer wedi cefnogi rhoi cronfeydd mewn lle er mwyn annog cydweithio rhwng iechyd a gofal. Dwi'n meddwl, er bod y Gweinidog yn dweud nad parhad o'r hen gronfeydd ydy hwn, dwi'n meddwl bod yr intermediate care fund yn rhywbeth a ddaeth allan o'r gyllideb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth rhyw wyth mlynedd yn ôl erbyn hyn. Roedd hwnnw'n integrated care fund ac mae hwn yn dilyn y trywydd hwnnw; dyma'r ymgorfforiad diweddaraf. Mi ddof i nôl at y cwestiwn yma o a ydy hwn yn rhywbeth cwbl newydd neu yn barhad. Dwi'n cytuno, yn sicr, lle mae yna arloesi yn digwydd a lle mae yna arfer da, fod angen i hwnnw gael ei basio'n well o ardal i ardal a hefyd gallu cael ei weithredu i'r hirdymor. Dwi'n meddwl bod yna ormod o broblemau efo cyllido byrdymor, sy'n golygu bod prosiectau da yn cael eu torri yn eu blas, ac, yn hynny o beth, dwi'n croesawu'r ffaith bod yna bum mlynedd o gyllid yn cael ei roi mewn lle dan y cyhoeddiad yma rŵan.

Un cwestiwn wnaeth gael ei ofyn gan adroddiad yr archwilydd, dwi'n meddwl, yn 2019 oedd y cwestiwn yma o beth yn union ydyn ni'n ei gael allan o hyn. Ydy, mae'r egwyddor yn gweithio, ond beth ddywedwyd mewn adroddiad rhyw dair blynedd yn ôl oedd

'mae effaith y gronfa yn gyffredinol'—

the integrated care fund, hynny ydy

'yn parhau i fod yn aneglur o ran gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau, ac nid oes fawr o dystiolaeth eto fod prosiectau llwyddiannus yn cael eu prif ffrydio.'

Felly, beth fydd yn digwydd yn wahanol y tro yma i sicrhau bod y canlyniadau i gleifion yn well? Achos mi allen ni gytuno drwy'r dydd ar egwyddorion, ond oni bai bod yr egwyddorion hynny'n troi yn rhywbeth sydd yn gwneud gwahaniaeth i gleifion go iawn, wel does yna ddim fawr o bwrpas iddyn nhw.

At y cwestiwn yma o ran ai parhad ynteu rywbeth newydd ydy o, mae'r Gweinidog yn dweud nad parhad ydy o, ond beth am y pethau hynny sydd yn gweithio'n dda dan y cronfeydd presennol? Sut mae sicrhau bod y rheini yn gallu trosglwyddo i'r gronfa integreiddio rhanbarthol newydd yma? A hefyd mae yna bryder wedi cael ei leisio yn yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, ers i'r cynllun yma gael ei grybwyll am y tro cyntaf, gan, er enghraifft, y trydydd sector a grwpiau eraill sydd â swyddi, er enghraifft, wedi cael eu cyllido'n rhannol gan y cronfeydd fu'n bodoli tan rŵan. Beth sy'n digwydd i'r rheini? Pa sicrwydd eto y bydd y pethau hynny sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ac yn gweithio'n dda yn gallu parhau? 

Un cwestiwn olaf, o bosib, gen i. Mae yna berig dan y prosiectau sydd wedi eu cyllido dan y cronfeydd hyd yma mai annog cydweithio maen nhw yn hytrach nag integreiddio go iawn. A lle mae'r cydweithio'n gweithio'n dda, wel, iawn, ond nid integreiddio ydy o. Dydy galw hwn yn integreiddio ynddo'i hun ddim yn sicrhau integreiddio. Felly, lle mae'r Gweinidog yn meddwl y mae hwn yn ffitio i mewn i'r agenda ehangach yna dwi'n eiddgar iawn i'w weld yn symud ymlaen yn gyflym i wirioneddol integreiddio'r gwasanaethau iechyd a gofal. Achos siawns mai dyna rydyn ni'n chwilio amdano fe, yn y pen draw. Dwi angen gwybod sut ydyn ni'n mynd i fod yn mesur, dan y cynllun sy'n cael ei amlinellu rŵan, ydy'r integreiddio yna wirioneddol yn digwydd, ynteu gam tuag at brosiect arall o integreiddio go iawn fydd hwn.

Diolch yn fawr, Rhun. Dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig nad ydyn ni'n taflu popeth o ran beth ddigwyddodd o'r blaen, achos roedd yna arfer da yn gweithio gyda'r ICF a gyda'r transformation programme hefyd. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n cymryd hynny a'n bod ni'n cymryd yr arloesi. Ond y drafferth oedd, achos nad oedd pobl yn gweld bod yna barhad, doedden nhw ddim yn ei rhoi hi i mewn i'r mainstream, a dyna pam mae'r ffordd rŷn ni'n mynd i wneud pethau y tro yma'n mynd i fod ychydig yn wahanol. Bydd angen i bobl ddod â match funding at y bwrdd, ac mae hwnna'n golygu bod yn rhaid iddyn nhw roi lot mwy o'u harian eu hunain i mewn. A dwi'n gobeithio y bydd hwnna, wedyn, yn wirioneddol yn gweithio tuag at yr integreiddio yna rŷch chi'n sôn amdano, yn hytrach na jest cydweithio. A'r syniad, wedyn, yw bod pethau wedyn yn embedded. A'r peth arall yw, bydd tapering hefyd, felly, byddan nhw'n dechrau off gydag arian o'r gyllideb yma, ond y syniad yw y byddan nhw'n gweld y budd a byddan nhw'n symud arian o lefydd eraill i bethau maen nhw'n gwybod sy'n gweithio. Felly, dwi yn gobeithio—dyna'r syniad, ta beth—y bydd rhai o'r mesurau yna a oedd, fel yr oeddech chi'n ei ddweud, wedi'u dangos gan yr archwilydd cyffredinol—. Mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu o'r hyn welsom ni o'r blaen.

Mae yna enghreifftiau arbennig, dwi'n meddwl, o ble mae pethau wedi gweithio'n dda. Er enghraifft, yng Nghaerdydd, mae'r discharge hub, maen nhw wedi gwneud pethau fel cael full-time occupational therapist i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu symud allan a bod rhywun on call drwy'r amser. A social prescribing—mae hwnna wedi bod yn hynod o lwyddiannus yng Nghaerdydd, gyda 10 clwstwr yn gweithredu gyda social prescribing nawr. Yng Nghwm Taf, mae gennym ni assisted technology programme, sydd yn ddiddorol, achos mae'n galluogi pobl hen, efallai, i aros yn eu cartrefi nhw ac mae yna system responsive, wedyn, os oes rhywbeth yn mynd o'i le. A'r un peth yng Ngwent, er enghraifft. Mae home first programme, a'r syniad yw ein bod ni'n rhoi'r hospital discharge yna mewn lle, a'r un peth yn Grange Hospital—home first. Mae'r rheini i gyd yn enghreifftiau o le rŷn ni wedi gweld pethau arloesol yn digwydd, maen nhw'n llwyddiannus, ond mae angen inni nawr weld bod pethau'n symud i mewn i fod yn mainstream. Yn y gogledd, byddwch chi'n ymwybodol o'r ICAN communiy mental health hub, sydd wedi bod yn llwyddiannus hefyd. Felly, mae lot o bethau da yn digwydd, ond rŷch chi'n eithaf reit, beth sydd angen nawr yw i gymryd yr ICAN model a gweld, 'Reit, pam na allwn ni weld hwn yn digwydd mewn llefydd eraill yn y wlad?'

15:20

Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog ar y gronfa integreiddio rhanbarthol gofal cymdeithasol yn fawr iawn. Mae'n rhaid i integreiddio gofal cymdeithasol ac iechyd, gyda chleifion wrth galon y ddarpariaeth, fod yn rhywbeth i ni i gyd anelu ato. Rwy'n cofio pan lansiodd Jane Hutt y cyd-gynllun gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd cyntaf dros 20 mlynedd yn ôl.

Rwyf i wedi galw ers tro am ganolbwyntio ar atal salwch a mynediadau i ysbytai. Mae'n rhaid i honno fod yn gyrchfan wirioneddol i ni, heb aros i bobl fynd yn sâl a cheisio eu gwella nhw wedyn, neu fethu â gwneud hynny mewn rhai achosion, ond ceisio eu hatal nhw rhag gorfod mynd i mewn yn y lle cyntaf a'u hatal nhw rhag bod ag angen meddyginiaeth. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd yna fframwaith canlyniadau eglur; yn rhy aml, mae arian yn cael ei wario ar iechyd heb unrhyw ganlyniadau mesuradwy, dim ond, 'Peth da yw gwario arian ar iechyd, onid e? Nid oes ots beth mae'n hynny'n ei gyflawni.' Fe ddywedais i un waith pe byddai rhywun yn sefyll y tu allan i ysbyty ac yn taflu darnau punt i lawr y draen, cyn belled â bod y rheini'n ddarnau punt ar iechyd a fyddai'n mynd i lawr y draen, fe fyddai llawer o bobl yn dweud pa mor ardderchog fyddai hynny.

Felly, rwy'n credu mai'r hyn yr hoffwn i ei ofyn—[Torri ar draws.] Yr hyn yr hoffwn i ei ofyn yw: a wnaiff y Gweinidog drefnu ar gyfer cyhoeddi'r canlyniadau disgwyliedig? Rwy'n ymddiheuro i'r Gweinidog am hyn, oherwydd rwyf i am ofyn yr un fath o ran popeth y mae'r Gweinidog ac eraill yn ei gyflwyno: beth yw'r canlyniadau? Beth rydym ni'n gobeithio ei gyflawni? Ac nid, 'Rydym ni wedi gwario llawer o arian; da iawn, onid e?' Beth rydym ni'n gobeithio ei gyflawni a sut y gallwn ni weld a yw hynny'n gweithio? Ac weithiau ni fydd hynny'n gweithio, ac rwy'n credu bod rhaid i bob un ohonom ni fod yn ddigon aeddfed, ar feinciau'r gwrthbleidiau hyd yn oed, i sylweddoli na fydd ein cynlluniau ni'n gweithio weithiau, ond ymgeisio i wneud felly yw'r syniad cywir ac fe fyddwn ni'n dysgu o'r hyn na weithiodd yn iawn.

A'r cwestiwn olaf sydd gennyf i yw: a fydd y cymorth cymunedol ar gyfer ysbytai yn y cartref yn cael ei ariannu gan hyn neu a fydd hynny'n cael ei ariannu ar wahân? Oherwydd, mewn gwirionedd, mae'n rhaid i hynny fod yn un o'r pethau gorau y gallwn ni ei wneud ni. Mae nifer o sefydliadau yn gwthio'r peth—Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, Coleg Brenhinol Meddygaeth Geriatreg—sydd, mewn gwirionedd, yn ymdrin â phobl yn eu cartrefi, gan roi'r gwasanaeth llawn iddyn nhw gartref, ac yn gwneud iddyn nhw wella yn gynt ac fe fydd hynny'n gwella'r canlyniadau yn sylweddol. Felly, a gaiff hynny ei ariannu o hyn, neu a fyddwch chi'n dod gyda datganiad arall yn dweud y caiff ei ariannu o rywle arall?

Diolch yn fawr iawn, Mike. Yn sicr, o ran atal, dyna'r holl athroniaeth y tu ôl i raglen 'Cymru Iachach', yr ydych chi'n ymwybodol ohoni. Ac os yw'r pandemig wedi dangos unrhyw beth i ni, mae wedi dangos, mewn gwirionedd, mai'r bobl sydd fwyaf difreintiedig, y rhai mwyaf anghenus, yw'r rhai sydd wedi talu'r pris mwyaf mewn gwirionedd. Ac felly oni bai ein bod ni'n dechrau mynd i'r afael â'r mater hwnnw o atal, ataliaeth gynnar, o oedran ifanc, mae hi'n eglur na fyddwn ni'n debygol o weld unrhyw newid sylweddol o ran y canlyniadau tymor hwy i iechyd oni bai ein bod ni'n mynd i'r afael â'r materion hynny'n gynnar iawn.

O ran y canlyniadau, wel, yr hyn sydd gennym ni yw chwe maes blaenoriaeth. Felly, mae yna chwe maes blaenoriaeth: gofal yn y gymuned; gofal cymhleth yn nes at y cartref; hybu iechyd a llesiant emosiynol; cefnogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd; gwasanaethau gartref o'r ysbyty; gwasanaethau ar sail llety. Mae'r holl bethau hyn yn bethau eglur iawn o ran y blaenoriaethau. O ran y canlyniadau, yr hyn sy'n digwydd nesaf yw y byddwn ni'n eistedd i lawr gyda'r byrddau partneriaeth rhanbarthol—fe fydd gennym ni gyfarfod gyda nhw yfory—ac fe fyddwn ni'n dechrau mynd dros, 'Edrychwch, beth yw'r canlyniadau yr ydym ni'n chwilio amdanyn nhw?' Mae hi'n bwysig iawn, mewn gwirionedd, rwy'n credu, eu bod nhw'n gallu perchnogi'r canlyniadau yn hyn o beth hefyd. Felly, mae angen ymdeimlad o berchnogaeth arnyn nhw; mae hynny'n bwysig iawn, yn fy marn i, wrth i ni ddatblygu'r rhain gyda'n gilydd.

Ond, yn sicr, o ran adre o'r ysbyty, rydych chi'n sôn am Goleg Brenhinol y Llawfeddygon—wyddoch chi, rydym ni'n cytuno â nhw'n gryf iawn. Ac fe allwch chi weld, fel un o'r chwe blaenoriaeth yn hyn, gwasanaethau gartref o'r ysbyty—. Mae hynny'n digwydd, fe geir y gwasanaeth gartref o'r ysbyty, sy'n allweddol. Ond rydych chi yn llygad eich lle, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw'r gwaith atal ymlaen llaw, ac fe ellir ariannu hynny hefyd o'r cyllid hwn yn y fan hon, y gronfa integreiddio rhanbarthol.

15:25

Rwy'n bendant yn cefnogi eich uchelgais chi ar gyfer atebion cymunedol effeithiol ac ataliol, ac mae hi'n sicr bod angen llawer mwy o atal arnom, gan fod 20 y cant o'n poblogaeth yn aros am apwyntiadau ysbyty ledled Cymru—mae hwnnw'n ffigur deifiol iawn.

Beth bynnag, ddwy flynedd yn ôl, bron i'r diwrnod, fe ymwelais i â thîm nyrsio cymdogaeth Cwm Taf ychydig cyn i'r pandemig dorri, ac fe welais i'r gofal arbenigol anhygoel a ddarperir gan a chyda'r bobl yr oedd angen y gwasanaethau hyn arnyn nhw, a oedd yn amrywio o bopeth rhwng pobl yr oedd angen triniaeth ar eu clwyfau nhw hyd at bobl yr oedd angen gofal lliniarol arnyn nhw a'r rhai yr oedd angen cymorth arnyn nhw i ddeall sut i reoli eu cyflyrau, beth bynnag y gallen nhw fod, ar y cyd â'u teuluoedd a'u ffrindiau. Yn seiliedig iawn ar fodel cyd-gynhyrchu Buurtzorg, fe ddangosodd y cynllun treialu, yn y gwerthusiad, pa mor dda y mae hynny'n gweithio, ac fe wn i fod yna ymrwymiad i wasgaru hynny ledled Cymru gyfan. Felly, sut mae'r cyhoeddiad hwn heddiw yn cyd-fynd â'r uchelgais hwnnw i sicrhau bod gan bob cymuned dîm nyrsio cymdogaeth a gaiff ei hunanreoli, i sicrhau bod pobl nad oes angen iddyn nhw fod yno'n cael eu cadw draw o'r ysbyty?

Yn ail, fe hoffwn i eich holi chi am y canolfannau cymunedol hyn yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw. Roeddwn i yng nghynhadledd y Blaid Gydweithredol ar Zoom y diwrnod o'r blaen, ac roedd y Prif Weinidog yn sôn am 50 o ganolfannau cymunedol lleol, gan ddod ag iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â gwasanaethau eraill, gyda dinasyddion yn cael eu hystyried yn asedau, ar gyfer rhannu eu sgiliau nhw a chyfuno wrth ddatrys y problemau y mae'r gymuned honno'n eu hwynebu. Sut y mae hynny—yr hyn yr oedd y Prif Weinidog yn sôn amdano—yn cysylltu â'r hyn yr ydych chi'n sôn amdano a fydd yn cael ei arwain gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol hyn?

Diolch yn fawr iawn, Jenny, ac, yn gyntaf, fe hoffwn i ganmol eich brwdfrydedd chi ynglŷn â model Buurtzorg, y model nyrsys ardal cymdogaeth, y gwn i eich bod chi'n frwdfrydig dros ben ynglŷn ag ef? Yr hyn sydd gennym ni o ran nyrsys ardal cymdogaeth—. Rydym ni wedi dysgu rhai gwersi o fodel Cwm Taf. Cafodd nyrs arweiniol ei phenodi yn rhan o'r rhaglen strategol gofal sylfaenol a chymunedol, a'r syniad yw, oherwydd ein bod ni wedi dysgu hynny nawr, ein hymagwedd ni o gael dull gweithredu Unwaith i Gymru, ac un o'r pethau yr ydym ni'n awyddus iawn i'w ddysgu, o ganlyniad i'r hyn a ddigwyddodd mewn lleoedd fel Cwm Taf, yw'r e-amserlennu—felly, eich dull chi o drefnu tasgau—ac fe fydd hynny'n cael ei gyflwyno i bob bwrdd iechyd yng Nghymru erbyn dechrau mis Mai, rwy'n falch o allu dweud. Felly, mae manyleb gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer nyrsio ardal o fewn timau integredig cymunedol yn cael ei datblygu. Mae hynny ychydig ar wahân i'r hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, er ein bod ni'n deall, mewn gwirionedd, o ran y pethau hyn i gyd, yn y pen draw, fod angen i bobl fod yn cydweithredu hyd yn oed os ydyn nhw'n cael eu harian o wahanol gronfeydd.

Ynglŷn â'r 50 o ganolfannau cymunedol yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw, sydd, wrth gwrs, yn rhan o'n hymrwymiad maniffesto ni, rwy'n credu bod cyfleoedd gwirioneddol i'w cael i sicrhau ein bod ni'n defnyddio'r rhain yn llwyfannau i adeiladu'r math hwnnw o gymorth cymunedol lleol, ac nid oes unrhyw reswm pam na all pobl gael eu lleoli yn y canolfannau cymunedol hynny wrth iddyn nhw ddatblygu, ac rwy'n awyddus iawn i weld y rhain. Rydym ni'n datblygu cynigion ar gyfer lleoliad y rhain, sut y byddan nhw'n cael eu datblygu, a sut y byddan nhw'n cael eu hariannu, ac mae'r holl waith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. 

15:30

Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, rwy'n ofidus, ac rwy'n gobeithio y gallwch chi roi sicrwydd i mi. Rydych chi am ddyrannu £144 miliwn y flwyddyn am y pum mlynedd nesaf. Dyna dros £700 miliwn, ac nid ydym ni'n gwybod beth fyddwn ni'n ei gael amdano. Mae hynny'n fy mhoeni i. Mae'n fy mhoeni i oherwydd eich man cychwyn chi yw eich bod chi'n dymuno disodli cronfeydd blaenorol ac nid wyf i'n gwybod beth oedd y cronfeydd blaenorol hynny'n ei ddarparu. Fe gyhoeddwyd y cynllun diwethaf sydd ar gael i ni yng Ngwent ar gyfer 2018-19. Nid oedd hwnnw'n cynnwys yr un nod, yr un amcan, na'r un amserlen.

Nawr, os ydym ni am ddwyn y Llywodraeth i gyfrif am gyflawni'r materion hyn, mae angen i ni wybod am y pethau hynny ymlaen llaw, ac mae angen i ni ddeall yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei gyflawni. Fe all pob un ohonom ni weld y broblem. Y peth hawsaf yn y byd yw disgrifio'r broblem, ac mae Aelodau wedi gwneud hynny'r prynhawn yma: rydych chi'n gallu gweld yr ambiwlansys y tu allan i'r ysbytai; fe allwch chi weld y bobl sy'n dioddef; fe allwch chi weld y bobl sydd ag angen cymorth a chefnogaeth. Fe allwn ni i gyd ddisgrifio'r problemau, ond ai'r ateb i'r holl broblemau hynny yw mwy o bwyllgorau a thaflu arian at y pwyllgorau hynny? Ni chefais i fy argyhoeddi eto, ac ni chefais i fy argyhoeddi eto am ein bod ni wedi rhoi cynnig arni o'r blaen ac ni weithiodd hynny ddim. Ac rydym ni wedi rhoi cynnig arni hi o'r blaen, ac rydym ni wedi rhoi'r fframweithiau hyn o ran canlyniadau yn eu lle o'r blaen, ond nid ydym ni wedi pennu nodau eglur o ran yr hyn yr ydym ni'n awyddus i'w gyflawni, dim ond rhifo'r hyn sydd wedi digwydd. A phan ydych chi'n rhifo'r hyn a ddigwyddodd, rydych chi'n dweud, 'Wel, rydym ni wedi gwneud y gwahanol bethau hyn i gyd.' Ac mae'r  enghreifftiau unigol, yr enghreifftiau lleol, i gyd yn ganmoladwy iawn, ac nid beirniadaeth mo hon ar unrhyw un o'r bobl hynny sy'n gweithio yn galed i geisio cyflawni gwahanol bethau yn lleol—pethau rhagorol yw'r rhain i gyd, sydd i'w cefnogi—ond nid polisi mo hwn, ac nid uchelgais mohono, ac nid fframwaith ar gyfer polisi mohono, ac nid fframwaith ar gyfer uchelgais mohono, ychwaith.

Felly, fy mhryder i yw mai system ddrylliedig sydd gennym ni, ond ai sefydlu pwyllgor arall yw'r ffordd o'i hatgyweirio hi? Mae ugain mlynedd o wneud fel hyn wedi dweud wrthym ni nad yw hynny'n wir. Ac rwy'n ofidus fod gennym ni £700 miliwn yn mynd i system y mae taer angen cymorth arni, a chyn i Mike Hedges fy nghywiro i, y system gyfan yr wyf i'n ei olygu, ac nid yr adran ohoni sy'n ymwneud ag iechyd yn unig. Mae angen cymorth arni hi yn ei chyfanrwydd, ond mae angen cymorth arni hi ar y rheng flaen. Yr hyn nad oes ei angen arni hi yw hierarchaeth arall na fydd yn cyflawni dim ar y rheng flaen.

Diolch, Alun. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi ein bod ni, mewn gwirionedd, wedi dysgu toreth o'r gronfa drawsnewid, y mae agweddau arnyn nhw wedi bod yn hynod lwyddiannus os edrychwch chi ar rywfaint o'r gwaith a wnaethpwyd ar iechyd meddwl mewn mannau fel Gwent, a rhai o'r enghreifftiau eraill a roddais i. Fe wyddom ni fod y dull hwn yn gweithio. Fe ddywedaf i wrthych chi beth sydd heb ddigwydd a hynny yw nad yw hynny wedi cael ei brif ffrydio, nid yw wedi bod yn ei le i'r hirdymor. Felly, yr hyn a gawsom ni yw llawer o gynlluniau treialu da. Felly, y mater dan sylw yw: sut ydych chi am symud oddi wrth gynlluniau treialu i'r brif ffrwd? Yr hyn sydd gennym ni yma yw cyfle i wneud hynny. Mae gennym ni raglen bum mlynedd. Rydym ni'n dweud wrthyn nhw, 'Os ydych chi am chwarae, rhowch eich arian yn eich poced eich hun ac fe gewch chi chwarae, oherwydd os na wnewch chi, 'chewch chi ddim chwarae yn y lle hwn.'

Felly, ystyr hyn yw dod â phobl at ei gilydd hefyd. Ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Nid pwyllgor newydd mo hwn, Alun; pwyllgor yw hwn sydd wedi bod o gwmpas ers amser maith iawn a ddaeth i fod o ganlyniad i bobl yn dweud, mewn gwirionedd, am laweroedd o flynyddoedd, bod angen i ni wneud pethau mewn ffordd wahanol. Dyma'r hyn yr ydym ni'n ei gynnig. Yn sicr, nid oes unrhyw fwriad gennyf i daflu'r cyfan i fyny yn yr awyr a dweud, 'Gadewch i ni ddechrau eto.' Mae gennym ni rywbeth sy'n gweithio yn y fan hon. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, ac fe'i gwnes i hi'n eglur iawn i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol fod angen iddyn nhw fod yn llawer mwy hyblyg, mae angen iddyn nhw fod yn llawer cyflymach, mae angen iddyn nhw fod yn llawer mwy ymatebol—mae'r holl bethau hynny'n gwbl hanfodol. Ac o ran canlyniadau, dyna'r hyn y byddwn ni'n ei drafod nawr, y fframwaith canlyniadau—beth a gawn ni amdano. A dyna pam rydym ni nawr, yng nghyfarfodydd y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn sicrhau nad ydym ni'n rhyddhau dim o'r arian hwn nes ein bod ni'n gwbl sicr o ran yr hyn y cawn ni amdano.

Felly, mae'r fframwaith canlyniadau hwn, yn fy marn i, yn bwysig iawn—ein bod ni'n datblygu hwnnw gyda nhw. Mae hi'n llawer gwell os ydych chi'n gweithio gyda phobl yn hytrach na gorfodi rhywbeth arnyn nhw, oherwydd maen nhw'n fwy tebygol o chwarae'r gêm gyda chi. Felly, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gymryd yr arfer gorau; ac fe fu yna enghreifftiau gwych o arfer gorau. Fe gawsom ni'r gronfa drawsnewid o £6 miliwn, yn benodol i gynyddu gweithgarwch adre o'r ysbyty. Fe welsom ni wahaniaeth yn hynny. Mae pawb yn dweud, 'Mae angen mwy o hynny arnom ni.' Mae pob un o'r colegau brenhinol yn dweud, 'Gwnewch fwy o hyn.' Dyna yw ein cynllun ni. Ond rydych chi'n iawn, mae angen i ni rifo—faint o bobl yr ydym ni wedi llwyddo i'w cadw nhw o'r ysbyty o ganlyniad? Yn hollol, a dyna'r hyn y byddwn ni'n sôn amdano o ran y fframwaith canlyniadau.

15:35
4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ymchwilio i ddiwygio’r diwrnod ysgol a’r flwyddyn ysgol

Eitem 4 sydd nesaf, datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ymchwilio i ddiwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.

Dirprwy Lywydd, yn ein cenhadaeth i sicrhau system addysg sy'n darparu safonau a dyheadau uchel i'n holl ddysgwyr, gall pob polisi, pob penderfyniad y Llywodraeth hon helpu i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar allu a chyfleoedd ein pobl ifanc i ddysgu a thyfu. Ond dim ond os byddwn yn cefnogi ac yn gwerthfawrogi lles ein holl ddysgwyr a staff y gallwn ni wneud hyn. Felly, dyma'r amser iawn i ofyn i ni'n hunain a yw siâp y flwyddyn ysgol a'r diwrnod ysgol yn ein helpu i gyflawni'r nodau hanfodol a chyfunol hyn. A yw gwyliau hir yr haf yn fanteisiol i ddatblygiad academaidd a phersonol ein dysgwyr mwy difreintiedig? A yw'r calendr anwastad, yn enwedig gyda thymor hir yn yr hydref, yn gadarnhaol ar gyfer lles staff ac yn osgoi gorweithio? A allem ni wneud mwy o ran sut yr ydym yn cefnogi ysgolion i gynllunio eu dyddiau a'u hwythnosau, fel bod dysgwyr yn cael mwy o gyfleoedd i feithrin galluoedd academaidd, diwylliannol a chymdeithasol?

Mae gormod o amser wedi mynd heibio heb i ni gael trafodaeth briodol ar y mater hwn. Yn wir, mae gennym ni galendr ysgol heb ei newid fawr ddim ers 150 mlynedd, pan oedd y disgwyliad i bobl ifanc gyfuno astudio â gweithio ar y fferm, mewn ffatrïoedd neu gefnogi gartref yn wahanol iawn i'r hyn ydyw heddiw. Mae profiad y ddwy flynedd ddiwethaf wedi gofyn i ni edrych o'r newydd ar sut yr ydym yn gwneud llawer o bethau. Mae hynny, yn amlwg, wedi bod yn anghenraid, ond mae hefyd yn gyfle. Felly, dyma'r amser iawn ar gyfer trafodaeth genedlaethol am y flwyddyn a'r diwrnod ysgol. Mae'n rhaid i ni archwilio sut y mae amser ysgol a'r ffordd yr ydym yn ei ddefnyddio yn cefnogi lles dysgwyr a staff yn y ffordd orau, yn lleihau anghydraddoldeb addysgol, ac yn gallu cyd-fynd yn well â phatrymau byw a gweithio cyfoes.

Ar hyn o bryd rydym yn casglu barn, safbwyntiau a phrofiadau ar sut yr ydym yn strwythuro'r flwyddyn ysgol. Mae hyn yn cynnwys clywed gan ddysgwyr, gan deuluoedd a'r gweithlu addysg, ond hefyd y sector cyhoeddus a phreifat ehangach, fel gofal plant, gwasanaethau iechyd, twristiaeth a thrafnidiaeth. Rydym ni wedi comisiynu Beaufort Research i'n cefnogi i fwrw ymlaen â hyn, fel ein bod yn datblygu sylfaen dystiolaeth eang sy'n benodol i Gymru, a bydd y gwaith hwn yn llywio ein camau nesaf.

I fod yn glir, Dirprwy Lywydd, nid ydym yn ystyried newid cyfanswm y diwrnodau addysgu na faint o wyliau fydd. Ond rydym yn gwrando ar farn ar sut y gallem ni drefnu calendr yr ysgol yn wahanol, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi cynnydd dysgwyr, i wella lles staff a dysgwyr, a chyd-fynd â ffyrdd cyfoes o fyw. Mae fy sgyrsiau cychwynnol, ac adborth cynnar o'r gwaith hwn, yn awgrymu bod awydd gwirioneddol i ystyried newid y calendr, a byddaf yn parhau i gasglu barn i helpu i lunio ein camau nesaf, drwy barhau i drafod yma yn y Senedd a thu hwnt.

Gan droi at y diwrnod ysgol, bydd yr Aelodau'n cofio y gwnes i gyhoeddi ar ddechrau mis Rhagfyr gynlluniau ar gyfer treial ar raddfa fach yn rhoi sicrwydd i ddysgwyr o gynnig gweithgareddau lles a dysgu ychwanegol dros gyfnod o 10 wythnos. Dirprwy Lywydd, mae'n bleser gen i gadarnhau bod y treialon hyn ar y gweill bellach. Mae tari ar ddeg o ysgolion ac un coleg, o bum awdurdod lleol, wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yn y treial, a bydd mwy na 1,800 o ddysgwyr yn elwa ar bum awr ychwanegol yr wythnos o sesiynau cyfoethogi o amgylch y diwrnod ysgol, gan gynnwys chwaraeon a'r celfyddydau, gweithgareddau cymdeithasol, cymorth lles a rhaglenni academaidd. Rydym yn gwybod o ymchwil y gall y math hwn o ddull arwain at enillion mewn cyrhaeddiad, yn ogystal â gwell presenoldeb, hyder a lles, yn enwedig i'n dysgwyr difreintiedig. Gall rhaglenni fel y treialon hyn, sy'n darparu sesiynau ychwanegol ysgogol ac sy'n cefnogi dysgwyr i ailymgysylltu â dysgu, gael mwy o effaith ar gyrhaeddiad na'r rhai â phwyslais academaidd yn unig.

Ysgolion, gan gynnwys dysgwyr, sydd wedi dylunio’r gweithgareddau, ac rydym ni wedi cyd-weithio gyda’r WLGA i ddarparu ymgynghorydd ar lawr gwlad i gefnogi’r ysgolion, cynnig arbenigedd ac i leihau llwyth gwaith.

Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi dangos mor bwysig yw amgylchedd yr ysgol fel y lle y mae plant a phobl ifanc yn dysgu, yn tyfu ac yn teimlo’n saff. Mae pwysigrwydd y cysylltiad rhwng yr ysgol a’r gymuned ehangach wedi cael ei bwysleisio hefyd. Drwy’r rhaglen dreialu yma, mae ysgolion yn gallu ehangu eu cysylltiadau â phartneriaid lleol a chenedlaethol, i greu’r lle a’r cyfle ar gyfer gweithgareddau a phrofiadau eang, sy’n gydnaws â’n diwylliannau. Wrth inni symud ymlaen, y cysylltiadau hyn â’r gymuned ehangach, yr ymgysylltiad cryfach nag erioed â theuluoedd, a’r gwaith o gydleoli gwasanaethau allweddol fydd yn cefnogi ein hymgyrch i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, a sicrhau bod pawb yn anelu’n uchel.

Ond yn ogystal â chefnogi dysgwyr, mae hwn yn gyfle hefyd i ddod i ddealltwriaeth well a chasglu tystiolaeth. Fe fyddwn ni’n gwerthuso’r rhaglen dreialu, felly, ac rydyn ni’n disgwyl gweld y canfyddiadau cyntaf erbyn dechrau’r haf. Y nod yw datblygu ymhellach ein hystyriaeth o sut rydyn ni’n defnyddio ac yn strwythuro amser yn yr ysgol, a sut y gallai sesiynau ychwanegol wella lefelau lles a datblygiad academaidd, a chynyddu cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol. Dwi wedi neilltuo hyd at £2 filiwn i gefnogi’r gweithgarwch cyfoethogi yma, ac fe fyddaf i’n rhoi mwy o wybodaeth i’r Aelodau ar hynt y gwaith yn ystod y misoedd i ddod.

Mae degawdau wedi mynd heibio heb inni gael sgwrs yng Nghymru o ddifrif am y ffordd rydyn ni’n strwythuro’r diwrnod a’r flwyddyn ysgol. Mae hynny’n llawer rhy hir. Rydyn ni, felly, yn gweithredu ar sail ein maniffesto, ein rhaglen lywodraethu a’r ymrwymiad yn ein cytundeb cydweithio i ymchwilio i’r opsiynau diwygio ac i feddwl am hyn o’r newydd, fel y gallwn ni leihau anghydraddoldeb addysgol, cefnogi lles dysgwyr a staff, a chreu trefn sy’n cyd-fynd yn well â phatrymau bywyd teuluol a gwaith modern.

15:40

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Dyma ni eto yn sôn am newid seismig arall mewn addysg, a fydd yn arwain at oblygiadau enfawr am flynyddoedd i ddod, os bernir bod angen newid. Dylid gweld newidiadau cadarnhaol iawn os bydd hyn i gyd yn mynd yn ei flaen. Mae ffurf bresennol y diwrnod ysgol wedi bod ar waith ers degawdau, fel yr ydych chi’n ei ddweud, Gweinidog, ac fe'i cynlluniwyd ar adeg i ddiwallu anghenion y rhai hynny, fel aelodau fy nheulu fy hun, a oedd yn gweithio ar y fferm bryd hynny. Ond mae pethau wedi newid, newid a newid eto ers hynny, ac mae'r byd cyfoes yn symud yn gyflym, fel y gwyddom ni i gyd, ac rwyf i yn credu bod angen i'r ffordd yr ydym yn addysgu a’r ffordd y mae wedi ei strwythuro addasu gydag anghenion a dymuniadau newidiol teuluoedd, athrawon, plant ac, wrth gwrs, cymdeithas yn gyffredinol, oherwydd yr effaith ehangach y byddai'r newid hwn yn ei chael arnyn nhw.

Rwy’n credu’n gryf fod angen i'n system addysg addasu i adlewyrchu anghenion marchnadoedd swyddi yn y dyfodol, yn lleol, yn genedlaethol, ac erbyn hyn yn rhyngwladol hefyd wrth gwrs, gyda'r cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit ac agor ein hunain i weddill y byd, gan ddefnyddio'r amser ychwanegol efallai i gyflwyno dysgu ieithoedd newydd, yn ogystal â'r ieithoedd modern newydd, ond hefyd ieithoedd fel Mandarin efallai. Ydym ni’n defnyddio'r amser i ganolbwyntio'n fwy ar godio? Ydym ni’n ei ddefnyddio i wella'r gweithgareddau corfforol a'r arlwy chwaraeon, a fyddai'n amlwg yn cael effaith ganlyniadol ar ordewdra ac iechyd meddwl myfyrwyr? Rwyf i'n meddwl tybed, Gweinidog, sut ydych chi’n ystyried y bydd yr amser yn cael ei ddefnyddio orau.

Rwy’n gweld hefyd yn eich datganiad eich bod yn dweud eich bod wedi comisiynu Beaufort Research i fwrw ymlaen â hyn. Yn amlwg ers tua degawd bellach, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn sôn am newidiadau i'r diwrnod ysgol, felly byddai wedi gwneud llawer o waith ymchwil ar hyn eisoes, ac roeddwn i’n meddwl tybed faint o hynny y byddwch chi’n ei ystyried—yn amlwg a fydd yn benodol i Gymru—ac wedi ei gynnwys yn hynny. Felly, yn hytrach na dechrau o’r dechrau, gallwn ni ddechrau gyda'r dystiolaeth sydd gennym ni ac ychwanegu ati.

Rwy’n gweld hefyd ei fod yn dweud yma y bydd y pum awr ychwanegol yr wythnos o sesiynau cyfoethogi ychwanegol o amgylch y diwrnod ysgol. Felly, dim ond meddwl, 'o amgylch y diwrnod ysgol', ydych chi’n gweld y pum awr ychwanegol hyn yn ddull cyfunol, ysbeidiol o ryw fath, rhwng gwersi, neu ydych chi’n ei weld yn dod ar ddiwedd y diwrnod ysgol? Rwy'n meddwl tybed beth yw eich gweledigaeth chi ar hyn o bryd, Gweinidog, cyn i ni weld y dystiolaeth o'r hyn sy'n digwydd. Hefyd wrth sôn am hynny, rydych chi’n dweud bod y gweithgareddau wedi eu cynllunio gan ysgolion yn bennaf ar hyn o bryd. Yn amlwg, yn y dyfodol, rwy’n gobeithio y bydd dull gweithredu cenedlaethol, oherwydd mae'n amlwg ein bod ni'n dymuno i'r cynnig addysg fod yr un fath i bawb. Rwy’n credu y byddai gwahaniaeth pellach pe byddem yn ei wneud fesul ysgol ar sail o'r fath. Ond mae'n dal i fod yn ddiddorol i mi fod yr ysgolion yn ei gynllunio hyd yma. Byddai'n dda gen i weld beth maen nhw'n ei wneud. Ydyn nhw’n gwneud y dull cyfunol? Ydyn nhw’n ei wneud ar ddiwedd y diwrnod ysgol? Tybed a allech chi roi ychydig o oleuni i ni ar hynny.

Hefyd, roeddwn i eisiau gofyn am y £2 miliwn. Yn amlwg, bydd yn ddiddorol gwybod sut yn union mae hwnnw wedi ei wario, ac mae'n debyg yn yr haf y byddwn yn gweld p’un a yw wedi ei wario'n ddoeth ai peidio. Ond ar ôl 150 mlynedd o fod â'r un systemau, Gweinidog, rwy’n edrych ymlaen at weld canfyddiadau'r adroddiad hwn. Diolch.

15:45

Diolch, Laura Anne Jones, am eich croeso i'r gyfres hon o dreialon. Rwy’n credu, fel yr ydych chi’n ei ddweud, wrth sôn am ddechrau o’r dechrau, rydym yn ceisio ailddyfeisio system sydd wedi bod ar waith mewn rhai ffyrdd ers amser maith. Ond rydych chi’n iawn i ddweud ei bod yn bwysig casglu tystiolaeth o bob ffynhonnell, ac mae yna gasgliad cyfoethog iawn o dystiolaeth mewn rhannau eraill o'r DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal ag eisoes yng Nghymru mewn gwirionedd, o'r manteision a all ddeillio o'r mathau o ddulliau sy'n cael eu treialu yn y nifer hwn o ysgolion dros y 10 wythnos nesaf.

Fe wnaethoch chi ofyn am yr amrywiaeth o bethau yr oeddwn i’n gobeithio eu gweld yn cael eu treialu mewn ysgolion, ac fe wnaethoch chi ofyn cwestiwn penodol am sut y gallai hynny ymwneud, er enghraifft, â'r byd gwaith a'r economi ehangach. Mae amrywiaeth o weithgareddau sy'n cael eu treialu. Mae rhywfaint o hynny yn ymwneud â'r celfyddydau a cherddoriaeth a dawns, mae rhywfaint ohono yn ymwneud â chwaraeon, o rygbi i jiwdo, mae rhywfaint ohono yn ymwneud â choginio a phwysigrwydd bwyd, ac rydym yn gweithio gyda'r Urdd. Mae amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu treialu. Mae gan rai ohonyn nhw y math o gysylltiad y gwnaeth hi ei nodi yn ei chwestiwn ynghylch busnes a menter, roboteg a chodio, gwyddoniaeth, technoleg werdd—felly, ystod eang iawn o weithgareddau. Rydym ni newydd wrando yn y datganiad cynharach ar y pwysigrwydd sy'n cael ei amlinellu yn y Siambr ar roi cynnig ar bethau newydd a bod yn onest pan fydd rhai ohonyn nhw'n llwyddo a rhai ohonyn nhw'n methu. Rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r hyn yr ydym yn ei dreialu yma i weld beth yw'r cymysgedd gorau.

O ran y weledigaeth ar gyfer defnyddio'r pum awr hynny, mewn gwirionedd, un hyblygrwydd yr ydym wedi ei roi i ysgolion yw defnyddio'r pum awr hynny mewn ffordd sy'n gweithio iddyn nhw. Yn amlwg, mae rhoi awr ychwanegol ar bob diwrnod yn un o'r opsiynau hynny. Nid oes gen i fy hun farn glir ar hyn o bryd mewn gwirionedd, oherwydd bod angen i ni weld beth sy'n digwydd ar lawr gwlad. Mewn ffordd, mae angen i dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio ein harwain ni yn y gwaith hwn, o ystyried ein hamcan, sef sicrhau bod ein dysgwyr yn ailymgysylltu â dysgu a rhoi hwb i'w hymdeimlad o hyder a lles, a fydd, rydym yn gwybod, yn cael effaith gadarnhaol ar ddilyniant a chyrhaeddiad.

Fe wnaethoch chi ofyn ar y diwedd am ddull gweithredu cenedlaethol, os hoffwch chi. Cyfres o dreialon yw hon yn amlwg, onid yw, felly mae canllawiau wedi mynd i ysgolion ynglŷn â'r ffordd orau o gynllunio'r gweithgareddau, ond wrth wraidd hyn mae gweld beth y gellir ei gynllunio'n lleol. Mae rhai ysgolion yn gweithio gyda sefydliadau lleol, rhai gyda sefydliadau cenedlaethol ac yn y blaen, i gael y cyfuniad gorau sy'n gweithio i'w carfan benodol nhw o ddysgwyr. Ond mae’r cyfle yma i ddysgu o'r hyn yr ydym yn ei ddarganfod dros y 10 wythnos nesaf a dod o hyd i ffyrdd o ymestyn hynny i'r dyfodol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog am eich datganiad. Yn fy rôl fel llefarydd Plaid Cymru ar blant a phobl ifanc, rwy'n edrych ymlaen at gydweithio efo chi ar y polisi hwn fel rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng fy mhlaid a'ch Llywodraeth. 

Mae cryn dipyn o dystiolaeth rhyngwladol ynglŷn â diwygio'r diwrnod a'r flwyddyn ysgol yn bodoli eisoes—rhai enghreifftiau llwyddiannus, a rhai enghreifftiau llai llwyddiannus. Nid yw'n syndod bod effeithiau ymestyn amser ysgol felly'n dibynnu ar sut mae'r amser yn cael ei ddefnyddio. Mae tystiolaeth yr EPI yn dangos i ni fod ymestyn diwrnod ysgol yn fwyaf effeithiol pan ydym yn defnyddio staff presennol sydd wedi'u hyfforddi'n dda, wedi'u hintegreiddio i ddosbarthiadau a gweithgareddau sy'n bodoli eisoes. Mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth empirig gadarn, ac mae'n fwy effeithiol, yn ôl tystiolaeth, ar gyfer mathemateg. Cyn belled â bod y dull hwn yn cael ei ddilyn, mae cyllid ychwanegol i alluogi amser ysgol estynedig yn debygol o arwain at enillion cyson a chryf. O gofio bod y dystiolaeth a ddarparwyd yn dangos inni fod ymestyn dyddiau ysgol yn fwyaf effeithiol pan fyddwn yn defnyddio staff presennol sydd wedi eu hyfforddi'n dda, a allai'r Gweinidog amlinellu sut y mae'r £2 miliwn o gyllid ar gyfer y peilot hwn, yn ogystal â'r cyllid ehangach ar gyfer adfer addysg, yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod staff sydd wedi eu hyfforddi'n dda ar waith i sicrhau adferiad addysg effeithiol ac i fanteisio i'r eithaf ar y manteision posib o ddiwygio'r diwrnod ysgol?

Fe fyddwch chi hefyd yn ymwybodol bod nifer o randdeiliaid, gan gynnwys undebau ac athrawon, wedi codi pryderon nad dyma'r amser iawn ar gyfer unrhyw newidiadau megis ymestyn y diwrnod ysgol. Cafwyd ymateb cymysg gan undebau athrawon, gyda Neil Butler yn nodi a rhybuddio bod goblygiadau i lwyth gwaith athrawon, ac yn wir iechyd a diogelwch wrth i ysgolion barhau i gael trafferth gyda dygymod â COVID. Yn wir, mae rhai ysgolion gyda'r lefelau uchaf erioed o COVID yn ystod y pandemig ar yr amser hwn. Er eu bod, fel undebau, yn agored i newidiadau i'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol, dywedodd UCAC eu bod, fel undeb, am sicrhau nad oes unrhyw niwed i delerau ac amodau athrawon. Felly, mae yna bryderon clir yma o ran llwyth gwaith, telerau ac amodau athrawon, ac iechyd a diogelwch o ran ymestyn y diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol. Felly, a allai'r Gweinidog gofnodi ac ymateb i bryderon yr undeb tra'n cynnig rhywfaint o sicrwydd i athrawon na fyddant yn wynebu mwy o lwyth gwaith ac effeithiau niweidiol i'w telerau ac amodau?

Mater arall yr hoffwn ei godi ydy—. Tra fy mod yn croesawu'r ffaith fod y peilot yn mynd rhagddo, gaf i godi mater sy'n peri pryder i mi? Yn ôl y wasg dwi wedi ei ddarllen, roeddech chi eisiau gweld 20 ysgol yn bod yn rhan o'r peilot i ddechrau, ond dim ond 14 sydd wedi arwyddo i fyny i gymryd rhan. Dwi'n deall, o'r 14, yn ôl cyfweliad a roesoch chi i Radio Cymru cyn y Nadolig, nad oes unrhyw un o'r rhain yn ysgolion cyfrwng Cymraeg a bod yr ysgolion i gyd un ai yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Castell Nedd Port Talbot neu Flaenau Gwent. Un her sydd gennym o ran ysgolion gwledig ac ysgolion cyfrwng Cymraeg yn benodol yw bod eu dalgylchoedd yn ehangach ac felly bod disgyblion yn gorfod dibynnu ar ddal bws i'r ysgol, gan golli cyfle yn aml, hyd yn oed rŵan, i ymuno efo clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol. Felly, os ydy'r peilot yma i fod mor ddefnyddiol a thrylwyr â phosibl, a ninnau'n edrych ar newid rhywbeth sydd wedi bodoli ers 150 o flynyddoedd, oni fyddai'n werth i'r Llywodraeth edrych hefyd ar drio cael chwech o ysgolion ychwanegol sydd yn benodol yn yr ardaloedd sydd ddim yn cael eu cynrychioli, ac edrych o ran ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg, os ydyn ni wir yn mynd i ddysgu gwersi o'r peilot hwn?

Yn gysylltiedig â hyn, mae'r pandemig wedi cael effaith andwyol iawn ar y Gymraeg, fel y gwyddom ni, ac mae wedi amddifadu nifer o blant o gefndiroedd di-Gymraeg rhag ei defnyddio'n rheolaidd ac yn naturiol. Heb os ac oni bai, mae hyn wedi cael effaith ar ddatblygiad dysgwyr ar eu ffordd i fod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, ac mae'n bendant wedi cael effaith yn barod ar ein hymdrechion i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. A allai'r Gweinidog felly amlinellu sut y mae'n credu y bydd y cynlluniau i ddiwygio'r diwrnod a'r flwyddyn ysgol yn cefnogi defnydd cynyddol o'r Gymraeg? Yn ychwanegol at hyn, o gofio'r prinder ymddangosiadol o athrawon Cymraeg yng Nghymru, a allai'r Gweinidog egluro sut yr ydych chi a Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau bod y gweithlu yn ei le i ddarparu'r amser dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg?

15:50

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. O ran y dystiolaeth, roeddech chi'n iawn i sôn am dystiolaeth yr EPI, sydd yn un o'r ffynonellau o dystiolaeth. Mae yna, wrth gwrs, fel roeddech chi'n ei gydnabod yn eich cwestiwn, amrywiaeth o enghreifftiau sydd yn dod o ffynonellau eraill, yn cynnwys yn rhyngwladol, sy'n dangos patrymau sydd o bwys inni wrth edrych ar sut i strwythuro, ar sut i brofi'r ffyrdd gwahanol yma o ymestyn y cyfleoedd i'n dysgwyr ni. Felly, mae gwneud hynny gyda staff addysgu yn un o'r fersiynau hynny, ond mae'n bosib gwneud hynny gydag amrywiaeth eraill, ac felly rydym ni'n profi'r holl opsiynau hynny, os hoffwch chi, o ran staff allanol, staff cynorthwyo, ynghyd ag athrawon hefyd. Felly, dyna ran o werth y treialon, os hoffwch chi, i weld beth yw'r canlyniadau o bob mix gwahanol.

Wrth gwrs, dŷn ni'n clywed y ddadl nad dyma'r amser iawn i dreialu hyn. Jest i'ch atgoffa chi, fel roedd eich cwestiwn pellach chi, efallai, yn cydnabod, treialon graddfa fach yw'r rhain. Mae gyda ni 13 o ysgolion ac un coleg. Mae pob un o'r rheini wedi penderfynu eu hunain eu bod nhw eisiau cymryd rhan yn y treial hwn. Felly, roeddem ni'n ddibynnol, os hoffwch chi, ar ysgolion yn cynnig i fod yn rhan ohono fe. Roedd hyblygrwydd o ryw lefel gyda nhw i ddewis pryd i ddechrau fe. Mae rhai wedi dechrau eisoes, mae'r rhan fwyaf yn dechrau'r wythnos hon, a bydd rhai yn dechrau ymhen rhai wythnosau. Felly, mae hyblygrwydd gyda'r ysgolion i ddarparu o fewn y cyfnod sydd yn siwtio eu hamgylchiadau nhw, ac, wrth gwrs, mae'r ddarpariaeth yn hyblyg yn ei hun o ran dylunio a darparu. Felly, mae elfen o'r hyblygrwydd yna'n gallu ymateb i rai o'r heriau, efallai, yr oeddech chi'n eu hawgrymu yn eich cwestiwn.

O ran y gofid am bwysau ar y gweithlu, dwi jest eisiau bod yn glir: nid newid telerau athrawon sydd wrth wraidd hyn o gwbl. Mae hi'n flaenoriaeth yn y cynllun hwn i sicrhau ein bod ni'n darparu gweithgareddau sydd o werth i'n dysgwyr ni. Nid cwestiwn o edrych ar y telerau yw e o gwbl. Dwi'n ddiolchgar i'r undebau. Mae rhai ohonyn nhw wedi ein helpu ni gyda'r canllawiau rŷn ni wedi eu darparu i'n hysgolion ni. Gallwn ni ddim gwneud unrhyw beth yn y maes hwn ond mewn partneriaeth gyda'r gweithlu addysg, gyda'r awdurdodau lleol ac ati. Felly, rŷn ni'n gweithio mewn ysbryd o bartneriaeth adeiladol yn hyn o beth. 

Roedd gyda fi ystod, os hoffwch chi, o ysgolion y byddwn i wedi gweld yn ddelfrydol i gymryd rhan yn y treial, o 10 i 20, felly rôn i'n teimlo bod 14 yn taro'r cydbwysedd iawn yn hynny o beth. Rŷch chi'n iawn i ddweud, o ran dosbarthiad daearyddol ar draws Cymru, nad yw'n golygu bod ysgolion ym mhob rhan o Gymru. Byddwn i wedi hoffi gweld hynny, wrth gwrs, a byddwn i'n sicr wedi hoffi gweld ysgol Gymraeg yn gwirfoddoli i fod yn rhan ohono fe. Ond gan mai gwirfoddoli yr oedd yr ysgolion yn ei wneud, doeddwn i ddim yn gallu, wrth gwrs, gorfodi ysgolion i gymryd rhan. Dylwn i ddweud hefyd fod y canllawiau'n gofyn i ysgolion ddarparu rhyw elfen o weithgaredd allgyrsiol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae amryw o'r ysgolion wedi gwneud hynny fel rhan o hyn. Ond nid dyma ddiwedd y daith o ran profi'r ffyrdd gwahanol yma. Bydd gyda ni ddata, gwybodaeth a thystiolaeth o'r cyfnod hwn, ac wedyn mae hynny'n caniatáu i ni dreialu pethau pellach yn y ffordd roeddech chi'n awgrymu'n adeiladol iawn yn eich cwestiwn chi.

O ran sut mae hyn yn ymwneud â'r nod ehangach o sicrhau addysg Gymraeg yn fwy hafal, os hoffwch chi, rŷch chi'n iawn i ddweud fod yr effaith mae COVID wedi ei gael mewn rhai enghreifftiau—ddim yn gyfan gwbl y darlun—. Yn sicr mae wedi cael impact andwyol ar gaffaeliad a chynnydd rhai sydd efallai o aelwydydd heb y Gymraeg. Rŷch chi'n gwybod fy mod i wedi darparu cyllideb ar gyfer aildrochi i rai disgyblion sydd yn y sefyllfa honno a hefyd cefnogi rhieni yn eu penderfyniadau nhw i ddewis addysg Gymraeg i'w plant. Mae cyfle gyda ni fan hyn, onid oes e, i sicrhau gweithgaredd allgyrsiol drwy'r Gymraeg, sydd hefyd yn rhan, fel y cofiwch chi, o'r system newydd o gategoreiddio ein hysgolion ni. Mae'r elfen allgyrsiol hynny nawr hefyd yn bwysig o ran hynny. Felly, mae'r ddau bolisi'n gyson yn hynny o beth.

Mae'r sialens olaf y gwnaethoch chi sôn amdano, am sut i sicrhau bod gennym ni'r staff i addysgu ac i ddarparu gweithgareddau drwy'r Gymraeg, yn her sylweddol, fel rŷn ni wedi'i drafod ar achlysuron eraill. Rwy'n disgwyl tua'r gwanwyn cyhoeddi cynllun drafft. Dŷn ni wedi bod yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid ar recriwtio'n gyffredinol i'r gweithlu addysg Gymraeg, a byddaf i'n hapus iawn i gael trafodaeth bellach gyda'r Aelod ynglŷn â hynny.

15:55

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad. Rwyf i yn croesawu'r ffaith eich bod yn edrych ar y flwyddyn ysgol a'r diwrnod ysgol, ac rwy'n credu, yn amlwg, gydag unrhyw system sydd wedi para am 150 o flynyddoedd, fod rheswm da iawn weithiau dros ei gadw, ac weithiau efallai y bydd rheswm da dros gael gwared arno.

Rwy'n sylwi bod gennych chi dreial 10 wythnos a fydd yn digwydd ac y bydd canlyniad i'r treial hwnnw ar ffurf adborth, ond yn amlwg dim ond cyfran fach iawn o'r flwyddyn ysgol gyfan yw 10 wythnos, ac mewn ardal fel fy un i, lle mae rhythm y flwyddyn yn cael ei bennu'n bennaf gan y diwydiant twristiaeth, mae llawer o bobl yn pryderu, yn enwedig ynghylch newid y flwyddyn ysgol yn sylweddol a'r effaith y gallai ei chael ar eu gweithlu, os ydyn nhw'n weithredwyr twristiaeth. Rwy'n gallu gweld eich bod chi wedi ymrwymo'n glir i ymgysylltu â'r sector preifat, gan gynnwys y diwydiant twristiaeth. A allwch chi ddweud wrthym ni pa fath o ymgysylltu y gall hynny fod, er mwyn i ni allu annog gweithredwyr twristiaeth i gymryd rhan ynddo?

16:00

Wel, o ran y—. Mae cwestiwn yr Aelod yn canolbwyntio'n bennaf ar y flwyddyn ysgol. Rwy'n credu, i fod yn glir, ar hyn o bryd ein bod ni ar y cam o gasglu'r ystod o leisiau, os hoffwch chi; y cam nesaf fydd gweld beth yw casgliad y broses honno, a bydd cyfle parhaus, os hoffwch chi, i drafod ac ymgynghori â'r holl sectorau a phartïon dan sylw. Ond ar y cam cynnar hwn o'r trafodaethau hynny mae cyfarfodydd bord gron yn cael eu cynnal gydag ystod o sectorau i brofi dulliau gweithredu, i brofi ymatebion cychwynnol i wahanol ffurfiau'r flwyddyn ysgol. Felly, ar hyn o bryd, y mathau o bethau sy'n cael eu profi, os hoffwch chi, yw a fyddai gwyliau haf byrrach yn gwneud synnwyr, a allai gwyliau gaeaf hirach wneud synnwyr, a yw dull mwy cyson o ran toriad y gwanwyn, y Pasg, yn gwneud synnwyr, a oes achos dros well rheoleidd-dra rhwng amseroedd y tymor ac amseroedd gwyliau. Felly, dyna'r math o bethau sy'n cael eu profi er mwyn cael ymatebion pobl, mewn gwirionedd, ar hyn o bryd. Ond er mwyn tawelu eich meddwl, rwy'n credu fy mod i'n iawn wrth ddweud—mae angen i mi wirio, ond rwy'n credu—hyd yn oed yr wythnos hon mae cyfarfodydd bord gron yn digwydd gyda chynrychiolwyr o wahanol sectorau. Ond bydd deialog barhaus mewn cysylltiad â'r hyn yr ydym yn ei glywed ganddyn nhw.

Diolch i'r Gweinidog. Byddwn ni nawr yn atal ein trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Cofiwch, os gwelwch yn dda, os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dwy funud cyn i'r trafodion ail-gychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:02.

16:10

Ailymgynullodd y Senedd am 16:11, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Mis Hanes LHDTC+

Eitem 5 y prynhawn yma, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Mis Hanes LHDTC+. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad—Hannah Blythyn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bob mis Chwefror, rydym yn nodi Mis Hanes LHDTC+. Mae'n gyfle i ddathlu a choffáu'r cyfraniad y mae pobl LHDTC+ wedi'i wneud i'n cymunedau a'n gwlad, i roi sylw i hanes, bywydau a phrofiadau cyfoethog pobl LHDTC+ a'u cydnabod yn briodol, i fyfyrio ar ba mor bell yr ydym wedi dod ac i gynyddu ein hymdrechion tuag at fwy o gydraddoldeb.

Gallwn fod yn falch o'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn y frwydr dros gydraddoldeb LHDTC+, o gamau i wahardd gwahaniaethu mewn nwyddau a gwasanaethau, i ddiwedd yr adran 28 niweidiol a phriodas gyfartal. Yng Nghymru yn unig, rydym yn ymgorffori addysg gynhwysol LHDTC+ fel rhan o'r cwricwlwm newydd. Rydym wedi sefydlu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i helpu ein teulu traws i fod yn nhw eu hunain. Ni oedd y genedl gyntaf yn y DU i gynnig proffylacsis cyn-gysylltiad yn rhad ac am ddim ar y GIG. Ac rydym ar ein ffordd i ddatblygu cynllun gweithredu LHDTC+ arloesol.

Bu brwydro caled i ennill y rhyddid a'r hawliau sydd gennym heddiw, ond maen nhw'n rhan o'n hanes cymharol ddiweddar. O fewn fy oes i, gallem golli swydd, ni allem fod yn ni ein hunain a gwasanaethu ein gwlad, nid oedd neb yn sôn amdanom ni mewn ystafelloedd dosbarth, cawsom ein diystyru fel ffordd o fyw neu glefyd y gellid ei wella, a'n bod yn ffieidd-dra yng ngolwg crefydd. Yn wir, pan eisteddodd y sefydliad hwn gyntaf, gallem barhau i gael ein gwrthod rhag gwasanaethu ym maes y gyfraith, rhag cael rhywle i fyw a chael gwrthod yr hawl i briodi'r unigolyn a garwn.

Ym mis Rhagfyr, roedd yn fraint cael cynnal digwyddiad yma yn y Senedd ar gyfer Diwrnod AIDS y Byd, wrth i ni nodi 40 mlynedd ers dechrau'r epidemig AIDS. Mae llawer wedi newid yn ystod y pedwar degawd diwethaf—nid yw HIV, y feirws sy'n achosi AIDS, bellach yn cael yr effaith a gafodd unwaith, ac mae ymrwymiad i ddileu achosion newydd o HIV erbyn 2030. Ddeugain mlynedd yn ôl, wynebodd y gymuned hoyw ofn, gelyniaeth a difenwad—cyfnod o hanes annerbyniol ac arteithiol a alluogwyd gan gymdeithas, wedi'i ysgogi gan y cyfryngau ac wedi'i gyfreithloni gan bolisi a diffyg gweithredu'r Llywodraeth. Ac eto, yn anffodus, heddiw, gwelwn lawer o'r un iaith o ddifrïo, ofn ac aralleiddio wedi'u hanelu at y gymuned draws. Y gwahaniaeth nawr yw bod Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda'n cymuned draws, ochr yn ochr â chynghreiriaid ac ymgyrchwyr di-rif.

Mae peidio â gwybod ein hanes yn peryglu ein dyfodol. Nid yw hyn yn amser i eistedd yn ôl, i beidio â chodi llais a meddwl bod y gwaith yn cael ei wneud, bod hawliau'n cael eu hennill. Dyna pam yr ydym yn benderfynol o weld ein cynllun gweithredu LHDTC+ arloesol. Dyna pam mae'n rhan allweddol o'n rhaglen lywodraethu a'n cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru. A dyna pam yr ydym wedi ymrwymo i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar o ran LHDTC+ yn Ewrop. Hoffwn ddiolch i banel arbenigol LHDTC+ am eu holl gefnogaeth er mwyn i ni gyrraedd y man lle'r ydym ni heddiw. Rydym ar hyn o bryd yn dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad i'r cynllun drafft, ac edrychaf ymlaen at fod mewn sefyllfa i gyhoeddi'r cynllun a'i roi ar waith.

Rydym hefyd yn benderfynol o weld gweithredu ystyrlon a chyflym ar yr arfer ffiaidd hwnnw o therapi trosi. Er bod Llywodraeth y DU wedi rhoi arwydd ei bod yn symud ar hyn, rwy'n pryderu am yr oedi i'w hymgynghoriad a chryfder eu cynigion, yn enwedig o ran cydsyniad. Rwy'n glynu wrth ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu nid yn unig i ddefnyddio'r holl bwerau presennol i ddod â'r arfer i ben yng Nghymru, ond i geisio datganoli pwerau ychwanegol pe na bai cynigion Llywodraeth y DU yn mynd yn ddigon pell.

Er gwaethaf y cynnydd yr ydym wedi'i wneud, gwyddom mai'r gwir trist yw bod troseddau casineb ar gynnydd. Mae'r ystadegau'n dangos cynnydd o 16 y cant mewn troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru o'i gymharu â 2019-20. Roedd 19 y cant yn droseddau casineb cyfeiriadedd rhywiol, roedd 4 y cant yn droseddau casineb trawsryweddol. Mae canlyniadau erchyll troseddau casineb wedi'u hamlygu mewn adroddiadau diweddar am ddigwyddiad trasig ac ofnadwy a ddigwyddodd yng nghanol ein prifddinas.

Mae'n bryd i fwrw casineb, rhagfarn ac ofn i ebargofiant. Mae'n bryd symud ymlaen ag achos cyffredin i greu'r Gymru fwy cyfartal, fwy cyfiawn a fwy cynhwysol yr ydym ni i gyd am ei gweld. Yn ystod Mis Hanes LHDTC+, rydym yn talu teyrnged i'r arloeswyr; y gweithredwyr a'r cynghreiriaid; yr ymgyrchwyr a'r newidwyr; y rhai sydd wedi byw drwyddo a'r rhai a gollodd eu bywydau yn llawer rhy gynnar. Diolch. Ac i bawb sy'n parhau i arloesi a phob person LHDTC+ yng Nghymru; rydych chi'n anhygoel, rydych chi'n cael eich gwerthfawrogi ac rydych chi'n gwneud gwahaniaeth.

16:15

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am wneud y datganiad hwn heddiw ar Fis Hanes LHDTC+? Rwy'n credu ei fod yn bwnc pwysig iawn ac yn rhywbeth yr wyf i'n gobeithio y gallwn ni i gyd weithio ar draws y Siambr i godi proffil a helpu pobl i ddeall pwysigrwydd y mis hwn hefyd. Rwy'n falch iawn, fel chithau, o fyw yn un o'r lleoedd mwyaf agored a goddefgar yn y byd lle gall pobl uniaethu fel LHDTC+, ac rwy'n siŵr bod y mwyafrif llethol ohonom yn credu'n gryf y dylai pawb fod yn rhydd i fyw eu bywydau a chyflawni eu potensial ni waeth pwy y maen nhw'n dewis ei garu.

Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig nad yw'n achos yr ydym yn ei gymryd yn ganiataol, yn enwedig yn rhyngwladol, lle mae'r darlun yn aml yn wahanol iawn yn wir. Felly, er nad yw materion tramor wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru, mae gennym strategaeth ryngwladol o hyd i werthu Cymru i'r byd. A gaf i ddechrau drwy ofyn pa ddull y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymryd, drwy ei strategaeth ryngwladol, pan fydd yn ymdrin â gwledydd lle mae hawliau cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon neu nad yw hawliau LHDTC+ mor gryf ag y maen nhw yma yn y DU?

Ond mae'n rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon yma chwaith, ynghylch y darlun yma yn ddomestig. Dim ond nôl yn 1967—55 mlynedd yn ôl—yr oedd yn anghyfreithlon bod yn hoyw yng Nghymru a Lloegr. Diolch byth, dirymwyd yr adran 28 gywilyddus yn 2003 hefyd, ychydig yn llai nag 20 mlynedd yn ôl. Diolch byth, mae ein hanes diweddar wedi bod yn llawer mwy cadarnhaol. Y llynedd, dilëwyd y gwaharddiad tri mis ar ddynion hoyw a deurywiol rhag rhoi gwaed, er enghraifft, ac erbyn hyn mae digwyddiadau Pride ledled Cymru yn rhan hanfodol o'n calendr digwyddiadau blynyddol, pan fo COVID yn caniatáu hynny, yn amlwg.

Efallai mai'r newid nodedig mewn hawliau LHDTC+ yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn y DU oedd cyflwyno priodas o'r un rhyw, sydd yn llythrennol wedi bod yn newid bywyd i lawer o gyplau hoyw a lesbiaidd ledled y wlad. Bydd y flwyddyn nesaf yn nodi 10 mlynedd ers i'r Ddeddf gael ei phasio i gyfreithloni priodas o'r un rhyw yn y DU, felly tybed pa gynlluniau, os o gwbl, sydd gan Lywodraeth Cymru i goffáu'r digwyddiad pwysig hwn y flwyddyn nesaf.

Er gwaethaf yr holl gynnydd a'r hanes yn ystod y blynyddoedd diwethaf yr ydym ni'n dau wedi'i drafod, mae llawer iawn i'w wneud eto. Fe wnaethoch chi sôn am ystadegau, ac mae gennyf rai fy hun. Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Gallup, roedd wyth o bob 10 ymatebydd wedi profi troseddau casineb gwrth-LHDTC+ ac iaith casineb ar-lein yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn y DU, ac roedd pump o bob 10 ymatebydd wedi profi cam-drin ar-lein 10 gwaith neu fwy. At hynny, mae troseddau casineb sy'n seiliedig ar gyfeiriadedd rhywiol wedi codi 13 y cant ers 2017, tra bod troseddau casineb yn erbyn pobl draws wedi mwy na dyblu. At hynny, mae bron i un o bob pedwar o bobl LHDT wedi profi trosedd neu ddigwyddiad casineb oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol a/neu eu hunaniaeth rhywedd.

Rwy'n siŵr y cytunwch â mi, Dirprwy Weinidog, fod y rhain yn ffigurau pryderus. Felly, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau yr eir i'r afael â'r cam-drin hwn i'w wreiddiau a sicrhau bod Cymru'n lle diogel i bawb? Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl i roi gwybod am y troseddau hyn yn y lle cyntaf?

Dirprwy Weinidog, mae'n hanfodol bod unigolion LHDTC+ yn cael eu trin yn deg a chyfartal wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gyda staff wedi'u hyfforddi i gefnogi cleifion a defnyddwyr gwasanaethau ag anghenion penodol yn effeithiol. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau hyfforddiant cydraddoldeb digonol i'r GIG a'r rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau cymdeithasol, ac i fynd i'r afael â chroestoriadedd, gan gynnwys materion sy'n effeithio ar fenywod anabl, BAME a phobl anabl LHDTC+ hefyd?

Sonioch chi hefyd yn eich datganiad am gynllun LHDT Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Gorffennaf y llynedd. Bryd hynny, soniodd fy nghyd-Aelod Altaf Hussain yn briodol, ei bod yn bwysig i'r Senedd fod â swyddogaeth glir a pharhaus wrth graffu ar y cynllun hwnnw. Gofynnodd i chi ymrwymo i adolygiad blynyddol o'r cynllun yn y Senedd. Bryd hynny, fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn agored i feddwl am ffyrdd o gynnwys y Senedd wrth graffu ar y cynllun, i ddwyn pwysau ar y Llywodraeth. Felly, chwe mis yn ddiweddarach, roeddwn eisiau gofyn i chi beth yw canlyniad yr ystyriaeth honno ac a fyddwch yn ymrwymo i alwadau Altaf Hussain am adolygiad blynyddol gan Senedd y cynllun LHDT.

Yn olaf, Dirprwy Weinidog, fe wnaethoch chi sôn hefyd yn eich datganiad am y ffaith bod gwasanaethau hunaniaeth rhywedd yma yng Nghymru erbyn hyn, y bydd yr unigolion hynny sydd angen y gwasanaethau hynny yn eu croesawu'n fawr wrth gwrs. Fodd bynnag, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno ei bod yn fater o bryder nad oes clinig hunaniaeth rhywedd yma yng Nghymru ar hyn o bryd, sy'n golygu bod yn rhaid i'r rhai mewn angen deithio i Loegr i ddod o hyd i un. Ddwy flynedd yn ôl, pleidleisiodd y Senedd i archwilio'r posibilrwydd o agor clinig hunaniaeth rhywedd newydd yma yng Nghymru, ac eto Cymru yw'r unig un o'r pedair gwlad yn y DU sy'n dal heb gael un. Felly, er bod gwasanaeth rhywedd Cymru wedi'i greu yn dilyn ymrwymiad a wnaed yn 2017, pam y mae cymaint o bobl yn dal i orfod gwneud y daith honno i Loegr i fynd i glinig hunaniaeth rhywedd?

16:20

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniadau? Mae'n dda eich gweld yn ôl ac yn edrych mor dda ac rwy'n credu bod hwnna'n ymateb ystyriol a meddylgar iawn i bwnc pwysig iawn, ac mae'n iawn ein bod ni fel Aelodau yn dod at ein gilydd yr adeg hon o'r flwyddyn i ddathlu amrywiaeth gyfoethog ein cenedl ac fel y dywedwch chi, pa mor bell yr ydym wedi dod. Ond rydych yn llygad eich lle: ni allwn gymryd y cynnydd hwnnw'n ganiataol, oherwydd nid yw cynnydd yn anochel, ac mae'r cynnydd wedi digwydd oherwydd bod pobl yn barod i ymladd drosto ac i fwrw ymlaen â hynny. Ac fe wnaethoch chi gyfeirio at rai o'r pethau y dywedais i yn y datganiad ynghylch pa mor ddiweddar yw peth o'r hanes hwn, ac ni ddylem anghofio hynny a cholli golwg arno.

Ac, ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud yma yng Nghymru o hyd. Mae mwy i adeiladu arno, felly gobeithio y bydd y cynllun gweithredu yn cynnig arweiniad da i ni ar hynny a baromedr da o'r ffordd yr ydym yn bwrw ymlaen â hynny, ac rwy'n fwy na pharod i ymrwymo Llywodraeth Cymru i gael adolygiad blynyddol, gan sicrhau ei fod yn dod gerbron y Senedd hon. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, nid yn unig i'n gwneud ni'n atebol, ond ei fod mewn gwirionedd yn gynllun byw sy'n anadlu; nid yw'n rhywbeth i'w roi ar silff, mae'n rhywbeth i newid bywydau pobl, gobeithio.

O ran digwyddiadau Pride ledled Cymru a sut y mae hynny wedi newid dros y blynyddoedd, rwyf wedi dweud wrth bobl yma cyn hyn fy mod wedi bod i ddigwyddiadau Pride ledled y DU—Llundain, Lerpwl, Manceinion, Caerdydd—ond yr un mwyaf cyffrous i mi oedd yr un a aeth drwy'r dref farchnad yn fy etholaeth gartref, lle cefais fy magu, a gweld pobl yn gwneud eu siopa arferol yn y farchnad, stopio, clapio ac ymuno. Roedd yn foment wirioneddol wefreiddiol, ac mae'n dangos i chi pa mor bell yr ydym wedi dod a phwysigrwydd dod â gwahanol gymunedau at ei gilydd hefyd yn y mannau diogel hynny.

Cyfeirioch chi at y cynnydd mewn troseddau casineb ac rydym wedi clywed am ddigwyddiadau diweddar hefyd, ac rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n bwysig iawn i ni yw codi ymwybyddiaeth ar yr un pryd, yn ogystal â sicrhau bod pobl yn adrodd am y troseddau hyn, ein bod yn codi ymwybyddiaeth o'r hyn yw trosedd gasineb, ac mae iddi ffurfiau gwahanol: gallai fod yn ymosodiad dieflig erchyll, yn ymosodiad corfforol, ond gallai fod yn eiriau yn unig hefyd. Rwy'n credu fy mod wedi dweud yn y fan yma o'r blaen yn ddiweddar iawn, fy mod i a fy ngwraig wedi dioddef trosedd gasineb a'r person hwnnw—. Cydnabuwyd ei bod yn drosedd gasineb, dim ond rhywun sy'n credu ei bod hi'n iawn i gysylltu â chi ac yn y bôn i ddweud wrthych chi eich bod yn mynd i uffern ac mae angen i chi gael therapi trosi a phethau felly. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn siarad amdano ac yn cydnabod beth ydyw, a dyna pam yr ydym wedi cefnogi ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru. Gwn fod fy nghyd-Aelod Jane Hutt yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r heddluoedd o bob rhan o Gymru, ac rydym hefyd yn cefnogi Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, felly y prosiect arbennig o ran sut y gallant gefnogi yn enwedig pobl sydd wedi dioddef troseddau casineb LHDTC+. Ac rydym yn awyddus i fwrw ymlaen â'r argymhellion a phwyso ar argymhellion Comisiwn y Gyfraith i wneud troseddau casineb cyfeiriadedd rhywiol yn droseddau mwy difrifol fel y mae troseddau casineb eraill hefyd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r Dirprwy Weinidog am ei datganiad ac rwy’n falch iawn ar ran Plaid Cymru i nodi ein cefnogaeth ni i Fis Hanes LHDTC+ a’n hymrwymiad parhaus fel plaid i sicrhau bod lleisiau pobl LHDTC+ yn cael eu clywed, eu profiadau yn cael eu cydnabod, a’u cyfraniad i’n cymunedau a’n cenedl yn cael eu dathlu. Rwy'n falch hefyd, drwy ein cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, fod Plaid Cymru yn helpu i sicrhau drwy’r cynllun gweithredu LHDTC+ fod hawliau pobl LHDTC+ yn cael eu hyrwyddo a’u hamddiffyn, gan alw hefyd am y grymoedd sydd eu hangen i gael eu datganoli, er mwyn galluogi Cymru i fod yn un o’r cenhedloedd mwyaf diogel yn Ewrop i bobl LHDTC+ yn unol â nod y cynllun.

Mae cael y grymoedd i wella bywydau ac amddiffyn diogelwch pobl traws yng Nghymru yn hanfodol os ydym am sicrhau tegwch a rhoi diwedd ar ragfarn ac anghydraddoldeb. Mae Plaid Cymru a’r Llywodraeth yn gytûn o ran ein cefnogaeth i wahardd therapi trosi. Mae rhai datganiadau diweddar gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynglŷn â'r broses o ddiwygio'r ddeddfwriaeth wedi achosi pryderon yn y gymuned LHDTC+ yma yng Nghymru, dros y Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol. Mae’n dda, felly, clywed y Dirprwy Weinidog yn cadarnhau safbwynt y Llywodraeth ar wahardd therapi trosi a'r diwygiadau i'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004 o ganlyniad i’r datblygiad siomedig yma, ac mae Plaid Cymru yn adleisio hyn. Gallwn ni ddim ymddiried yn y Llywodraeth Dorïaidd adweithiol a llwgr yn San Steffan pan ddaw at ddileu anghydraddoldeb a sicrhau tegwch.

Thema Mis Hanes LHDTC+ eleni yw celf. Mae grym celf i herio normau cymdeithasol y mae artistiaid o Gymru wedi gwneud cyfraniad nodedig tuag atyn nhw, wrth gwrs, yn cael ei gydnabod yn eang. Ac mae syniadau a delweddau hoyw, lesbiaidd, traws, cwiar a syniadau a delweddau nad ydyn nhw'n cydymffurfio wedi bod yn rhan o ddiwylliant artistig dros fileniwm, ond mae hanes hir rhagfarn yn aml wedi gyrru artistiaid i guddio eu hysbrydoliaeth, eu neges a'u credoau, a hyd yn oed eu hunaniaeth eu hunain. Rhoddodd weithredu LHDTC+ o ddiwedd y 1960au ymlaen bŵer ac ysgogiad newydd i'r gelfyddyd hon. Ac mae'n rhaid i'n sefydliadau diwylliannol a chelf gyhoeddus Cymru gydnabod a dathlu cyrhaeddiad a grym celf i agor meddyliau, hyrwyddo cynwysoldeb a dathlu amrywiaeth. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau hyn?

Yn ogystal â dathlu yn ystod Mis Hanes LHDTC+, mae'r mis hwn hefyd yn amser i fyfyrio, fel y dywedoch chi, ar y frwydr dros hawliau, cydnabyddiaeth a chydraddoldeb, sy'n parhau yng Nghymru a thu hwnt. Gwyddom y gall gymryd hyd at bedair blynedd mewn rhai rhannau o'r DU i weld arbenigwr rhywedd, ac ar hyn o bryd mae 13,500 o bobl ar y rhestr aros hon. Ond a wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau cyfatebol i Gymru'n unig, ac a allai data ar ddarpariaeth gofal iechyd LHDTC+ yng Nghymru fod ar gael yn ehangach ac yn hygyrch i'r cyhoedd?

Datblygiad arall sy'n peri pryder, fel yr ydym ni wedi clywed gennych chi a Mark Giffard—Tom Giffard, mae'n ddrwg gen i—yw'r cynnydd cyson mewn troseddau casineb LHDTC+ dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi ein dychryn—ac fe wnaethoch chi gyfeirio ato, rwy'n credu—gan yr honiadau brawychus a glywyd yn achos llofruddiaeth Dr Gary Jenkins a laddwyd yn giaidd yma yng Nghaerdydd. Mae'r ystadegau troseddau casineb diweddaraf hefyd yn dangos cysylltiadau clir rhwng cynnydd mewn troseddau casineb a chyfnodau gwahanol o leihau cyfyngiadau symud. Felly, hoffwn wybod sut mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfrif am hyn. A yw'r Llywodraeth wedi neilltuo unrhyw adnoddau, cymorth neu fwy o gyllid i gefnogi dioddefwyr troseddau casineb neu i atal troseddau? Ac a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddarparu amserlen ar gyfer cwblhau'r cynllun gweithredu LHDTC+ a'i gael yn barod, rhywbeth nad oedd yn glir iawn yn ei datganiad, o ystyried y cynnydd pryderus hwn mewn troseddau casineb gwrth-LHDTC+?

Yr arwyddair ar gyfer y mis hanes hwn yw 'mae'r arc yn hir', o'r dyfyniad enwog gan Dr Martin Luther King Jr:

'mae arc y bydysawd moesol yn hir ond mae'n plygu tuag at gyfiawnder.'

Rydym wedi gweld yn llawer rhy aml fod plygu'r arc honno'n fater o ewyllys. Nid yw'n anochel, a rhaid i ni yng Nghymru barhau i sicrhau bod deddfwriaeth a pholisi yn chwarae eu rhan yn y frwydr hir sy'n herio casineb ac erledigaeth ac sy'n creu newid, yn caniatáu cynnydd ac yn creu cydraddoldeb. Diolch.

16:25

Diolch. A gaf i ddiolch i Sioned Williams am y cyfraniad angerddol ac emosiynol? Rwy'n croesawu'n fawr eich cefnogaeth a'r ffordd y gallwn ni gydweithio ar achos cyffredin a thir cyffredin o ran hyn. Fe wnaethoch chi godi o'r datganiad a siarad dipyn yn eich cyfraniad am y newid deddfwriaethol a pholisi, ond sonioch chi am bŵer celf hefyd. Dros y blynyddoedd, rydym wedi gweld newid diwylliannol enfawr o ran cynrychiolaeth pobl LHDTC+ yn y cyfryngau. Pan oeddwn i'n tyfu i fyny yn y gogledd, ni allwn i fyth fod wedi breuddwydio y byddech yn gwylio unrhyw raglen a gweld bod cynrychiolaeth gadarnhaol yn y fan honno. Mae hynny'n bwysig iawn ac ni allwn danbrisio pa mor bwysig yw cael gwelededd ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus, boed hynny'n ddiwylliant a chelf, gwleidyddiaeth neu'r cwbl.

O ran y pwyntiau a wnaethoch chi ynghylch data a darpariaeth, mae'n amlwg nad oes gennyf y wybodaeth honno wrth law, ond rwy'n fwy na pharod i godi hynny yn dilyn hyn a gweld beth y gallwn ni ei wneud i adeiladu ar hynny ac i godi hynny gyda'r Aelod hefyd. O ran y cynllun gweithredu, mae'n cael ei grynhoi a'i goladu, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu dod â hynny gerbron y Senedd hon yn fuan iawn, ond byddaf yn ymdrechu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a pharhau i wneud hynny wrth i ni symud ymlaen, oherwydd, fel y dywedwch chi, rwy'n awyddus iawn i gael y cynllun ar waith ac i ddechrau gweithredu rhai o'r camau hynny. Ond nid ydym ni'n mynd i aros i'r cynllun gael ei gyhoeddi yn unig; rydym yn dal i geisio datblygu nifer o gamau gweithredu a nifer o elfennau o'r cynllun.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at therapi trosi ac rydym wedi ymrwymo'n gryf i fwrw ymlaen â'r rhaglenni hynny ar gyfer ymrwymiadau'r llywodraeth. Cyfarfu Jane Hutt a minnau â'r Gweinidog dros Allforio a'r Gweinidog dros Gydraddoldeb, Mike Freer, ychydig cyn y Nadolig i bwysleisio ein pwyntiau ynghylch gwahardd y therapi trosi hwnnw a sut yr oeddem ni eisiau ei weld yn mynd ymhellach, a'n pryderon ynghylch yr elfen o gydsyniad fel rhan o hynny hefyd. Rydym ni'n dal yn awyddus, ar yr un pryd, i gadw llygad ar hwn, i geisio'r pwerau hynny os bydd eu hangen arnom ni, ond ar yr un pryd, edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i weithredu nawr. Rwy'n gobeithio cael cyhoeddiad i Aelodau, efallai, yn ystod Mis Hanes LHDTC+ ar y pwnc hwnnw hefyd, i roi cyhoeddusrwydd i gyhoeddiad na allaf i ei wneud eto. Ond, gobeithio, byddwn yn gallu gwneud rhywbeth mwy erbyn diwedd y mis.

Croesawaf gefnogaeth yr Aelod i hyn ac edrychaf ymlaen at gydweithio, fel y dywedwch chi, i barhau â'r cynnydd hwnnw; nid yw'n anochel ac mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i barhau â'r arc honno.

16:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae eich hanes eich hun o hyrwyddo cydraddoldeb yn siarad drosto'i hun. I gymuned LHDTC+ Cymru chi yw'r cynghreiriad mwyaf dibynadwy yn y Llywodraeth. Mae eich penderfyniad diweddar i adnewyddu'r rhaglen ariannu cydraddoldeb a chynhwysiant yn enghraifft dda o'ch ymrwymiad i hynny. Gall y Senedd hon hefyd fod yn falch o'i record a'i statws fel y gweithle gorau ar gyfer gweithwyr LHDTC+ yn y wlad, rhywbeth y gwn yr oedd tîm y Comisiwn yn benderfynol o'i gyflawni.

Mae mis hanes LHDTC+ wrth gwrs, yn ymwneud â dathlu cyflawniadau fel y rheini a'r cynnydd yr ydym ni wedi'i wneud fel cymdeithas, yn ogystal â chofio'r aberth a'r brwydrau a ddaeth â ni i le yr ydym ni heddiw. Ond mae'n bryd pwyso a mesur hefyd, ac edrych ar sut y gallwn ni wneud dyfodol tecach. Felly, ble ydym ni heddiw ar yr arc gyfiawnder honno? Mae dau fater mawr yn awr: arferion trosi ac amddiffyniadau ar gyfer ceiswyr lloches LHDTC+. Mae Llywodraeth y DU wrthi'n ymgynghori ar wahardd therapi trosi ac mae'r ymgynghoriad hwnnw'n dod i ben ddydd Gwener. Mae ymgyrchwyr yn pryderu y gallai ganiatáu i'r rhai a gafodd—a dyfynnaf—'gydsyniad ar sail gwybodaeth' gan eu dioddefwyr i osgoi cyfiawnder. Ni allwn ganiatáu i'r bwlch hwnnw yn y ddeddfwriaeth barhau; ni all pobl gydsynio i gamdriniaeth. Mae'n ymddangos fel y bydd yr Alban yn gweithredu gwaharddiad uniongyrchol a chwbl ar yr arferion hyn, a byddwn yn gobeithio y bydd y Senedd hon a Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr un peth yn wir yma.

O ran ceiswyr lloches, Gweinidog, roedd y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennych ddiwedd y llynedd yn tynnu sylw at eich pryderon ynghylch yr amddiffyniad annigonol y mae'n ei gynnig i unigolion LHDTC+. Er iddyn nhw gael profion i brofi eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth rhywedd, mae ceiswyr lloches yn gweld eu hawliadau'n cael eu gwrthod gan y Swyddfa Gartref fel mater o drefn, yn aml yn anghywir fel mae'n digwydd, oherwydd mae bron i hanner wedyn yn cael eu herio'n llwyddiannus ar apêl. Ac eto, byddai'r gyfraith newydd arfaethedig mewn gwirionedd yn cynyddu'r baich profi—

Mae gen i un frawddeg olaf. Mae cyfunrywioldeb yn parhau'n anghyfreithlon mewn tua 70 o wledydd, ac mae 11 o'r rheini'n dal i weithredu'r gosb eithaf. Pa drafodaethau ydych chi yn eu cael gyda Llywodraeth y DU i ddod â'r drosedd erchyll honno i ben?

A gaf i ddiolch i Joyce Watson, nid yn unig am ei chyfraniad heddiw, ond ei chyfraniad a'i hanes hir o fod yn gynghreiriad cadarn i'r gymuned LHDTC+ yng Nghymru a thu hwnt? Na, ni allwn ei wneud hyn ar ein pen ein hunain, mae arnom angen y cynghreiriaid hynny hefyd, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr bopeth y mae Joyce wedi'i wneud yn y lle hwn a thu hwnt hefyd.

Ychydig iawn y gallwn anghytuno ag ef o ran yr hyn a ddywedodd Joyce. Rwy'n rhannu'n llwyr y pryderon ynghylch i ba raddau y mae'r gwaharddiad ar therapi trosi, fel y cynigir yn yr ymgynghoriad, yn mynd rhagddo. Fel y dywedais i wrth Sioned Williams, mae hwn yn bwynt yr ydym ni wedi'i wneud i Lywodraeth y DU, a byddwn ni'n parhau i bwyso ac i edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud yng Nghymru o fewn ein pwerau presennol, pe bai angen i ni bwyso am ragor o bwerau i wneud y peth iawn ar gyfer y gymuned LHDTC+ yng Nghymru. Oherwydd rydych chi yn llygad eich lle ynglŷn â'r pryder ynghylch y ffaith na allwch gydsynio i gamdriniaeth. Rydym yn pryderu'n fawr am natur gymhellol therapi trosi hefyd a'r effaith y mae'n ei chael ar fywyd rhywun, eu llesiant corfforol a meddyliol. Ni ellir tanbrisio hynny.

Rwy'n rhannu eich pryderon ynghylch y sefyllfa—rwy'n credu ei fod mewn datganiad a roddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol—o ran sut y caiff ceiswyr lloches LHDTC+ eu trin. Nid yw ynghylch gallu cael asesiad ar y pwynt cyntaf hwnnw yn unig; mewn gwirionedd, rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda sefydliadau yng Nghymru yn ogystal â sicrhau bod ceiswyr lloches LHDTC+ mewn llety priodol pan fyddan nhw'n dod yma hefyd. Mae hynny'n bryder arall. Felly, rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda sefydliadau fel Glitter Cymru i weld sut y gallwn ni ddefnyddio'r dulliau ysgogi datganoledig sydd gennym yma i sicrhau bod pobl LHDTC yn cael eu diogelu ac yn teimlo'n ddiogel yma yng Nghymru.

Efallai y gallwn i ddod i ben ar nodyn ychydig yn fwy cadarnhaol. Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaeth Joyce Watson ynghylch parhau â'r rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant, a gobeithiwn hefyd gyflwyno ein cronfa Pride. Nid yw hynny'n ymwneud â chefnogi digwyddiadau yn unig, ond mae'n cefnogi gwaith LHDTC mewn cymunedau ledled y wlad.

16:35
6. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cymru ac Ewrop—Rheoli perthynas newydd

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar Gymru ac Ewrop, rheoli perthynas newydd. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae dwy flynedd bellach ers i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, a 13 mis ers diwedd y cyfnod pontio, pan newidiodd ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn sylweddol. Heddiw rwyf am roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fy asesiad o'r effaith bresennol ar Gymru, wrth i'n perthynas â'r hyn sy'n parhau i fod yn bartner masnachu agosaf a phwysicaf symud i normal newydd. Byddaf hefyd yn sôn am ein cynlluniau i gryfhau ein perthynas ag Ewrop ymhellach.

Mae ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd wedi newid sefyllfa'r DU yn y byd a swyddogaeth Llywodraethau datganoledig yn sylweddol. Mae gennym gyfrifoldebau a dyletswyddau newydd sylweddol mewn cysylltiad â materion a oedd yn eistedd gyda sefydliadau Ewropeaidd yn flaenorol. Mae ein hymadawiad â'r UE hefyd wedi arwain at newidiadau sylweddol yn y broses o lywodraethu'r DU a'r berthynas rhwng Llywodraethau'r DU. Mae rhai o'r rhain yn deillio, mae arnaf ofn, o elyniaeth Llywodraeth y DU tuag at ddatganoli, ond mae eraill hyd yn oed yn fwy sylfaenol ac yn deillio o'n setliad datganoli democrataidd yn cael ei gynllunio o amgylch aelodaeth y DU o'r UE.

Mae ymadael â'r UE wedi rhoi'r gallu i'r DU ymrwymo i'w chytundebau masnach rydd ei hun gyda gwledydd ledled y byd. Er ein bod yn parhau i fod yn gefnogol ar y cyfan i gytundebau masnach rydd newydd, mae'r cytundebau hyn wedi bod yn gymharol fach hyd yma ac ni fyddan nhw'n gwneud iawn am golli masnach gyda'n partneriaid masnachu agosaf. Er enghraifft, asesiad effaith Llywodraeth y DU ei hun o'r cytundeb masnach rydd gydag Awstralia yw y gallai gynyddu cynnyrch domestig gros y DU yn y tymor hir 0.08 y cant. Ac, wrth gwrs, asesiad cyfredol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yw y gallai ymadael â'r UE leihau cynnyrch domestig gros 4 y cant. Byddwn yn parhau i gefnogi ein busnesau i addasu i'r berthynas fasnachu newydd â'r UE, gan gynnwys y newidiadau hynny nad ydyn nhw wedi dod i rym eto. Fodd bynnag, ni ddylid bod ag unrhyw gamargraff ynghylch yr ergyd y mae ymadael â'r UE yn ei chael ar economi Cymru ac, yn wir, y DU gyfan.

Gyda'r cefndir hwnnw, rwyf eisiau nodi sut yr ydym yn ceisio rheoli ein perthynas newydd â'r UE, fel y nodir yn y cytundeb masnach a chydweithredu. Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn darparu ar gyfer system o lywodraethu a goruchwylio. Mae hyn yn cynnwys cyfres o bwyllgorau arbenigol ar lefel swyddogol a phwyllgorau masnach arbenigol sy'n adrodd i'r cyngor partneriaeth yn y pen draw. Bydd yr Aelodau'n cofio ein bod wedi pwyso'n gyson am ymgysylltiad priodol gan Lywodraeth Cymru yn y strwythurau hyn, o ystyried ein buddiannau datganoledig cyfreithlon. Ar y cyfan, o ran y pwyllgorau a'r gweithgorau lle mae gennym ddiddordeb datganoledig, rwy'n falch o adrodd bod ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar lefel swyddogol wedi bod yn dda ar y cyfan. Mae swyddogion wedi bod yn rhan o'r paratoadau ar gyfer nifer o bwyllgorau ac wedi bod yn bresennol fel arsylwyr. Fodd bynnag, mae'n siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi ymateb i'n galwad ddilys i Weinidogion datganoledig y Llywodraeth fod yn gyfranogwyr gweithredol yng nghyfarfodydd cyngor partneriaeth y DU a'r UE. Rwy'n bwriadu codi hyn eto gyda Liz Truss, sydd, fel y gŵyr yr Aelodau, wedi olynu'r Arglwydd Frost fel Gweinidog arweiniol y DU.

Cyn i mi droi at berthynas Cymru ag Ewrop, rwyf eisiau sôn yn fyr am brotocol Gogledd Iwerddon. Ein safbwynt ni'n gyson yw mai parchu a diogelu cytundeb Dydd Gwener y Groglith yw blaenoriaeth gyntaf y trafodaethau am ddyfodol y protocol. Mae gennym hefyd ddiddordeb uniongyrchol mewn unrhyw beth sy'n effeithio ar y ffordd y mae nwyddau'n llifo rhwng Prydain Fawr ac ynys Iwerddon, yn enwedig o ystyried yr effaith sylweddol y mae ymadael â'r UE eisoes wedi'i chael ar ein porthladdoedd sy'n wynebu'r gorllewin. Dim ond yr wythnos diwethaf, nododd Stena Line ostyngiad o 30 y cant yn y niferoedd drwy borthladdoedd Cymru ers diwedd y cyfnod pontio, a oedd yn gysylltiedig yn benodol ag ymadael â'r UE. Mae ansicrwydd gwirioneddol ynghylch a fydd y gostyngiad hwn mewn masnach yn gwella neu a yw'r golled yn barhaol.

Mae'n hanfodol bwysig bod y problemau sydd yn y fantol yn cael eu datrys, a dim ond drwy ddeialog barhaus y gall hyn ddigwydd. Gobeithiaf felly y bydd y cywair mwy adeiladol yr ydym wedi'i glywed yn ystod yr wythnosau diwethaf yn parhau. Os gellir dod i gytundeb ar y protocol, gallai hefyd helpu i symud y berthynas yn ei chyfanrwydd oddi wrth y dull gwrthweithiol sydd wedi'i fabwysiadu'n rhy aml gan Lywodraeth y DU a'i roi ar sail fwy cadarnhaol ac adeiladol. Rydym eisiau symud dros y tymor canolig i'r hirdymor tuag at y berthynas gryfach ac agosach â'r UE yr ydym bob amser wedi'i hyrwyddo.

Dirprwy Lywydd, yn dilyn y cytundeb masnach a chydweithredu, ysgrifennodd y Prif Weinidog at Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer perthynas agos ac adeiladol rhwng Cymru a'r UE. Mae ein hanesion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol wedi'u cydblethu â gweddill Ewrop ac rydym yn rhannu gwerthoedd sylfaenol yr UE sy'n cwmpasu urddas dynol, rhyddid, democratiaeth, cydraddoldeb, rheolaeth y gyfraith a hawliau dynol.

Yr UE fydd partner masnachu agosaf a phwysicaf y DU o hyd, a bydd dylanwad yr UE ar lunio polisïau a'r fframwaith rheoleiddio yng Nghymru yn parhau'n sylweddol hyd y gellir rhagweld. Am yr holl resymau hyn yr ydym wedi penodi Derek Vaughan i fod yn gynrychiolydd ar Ewrop. Gyda chefnogaeth ein swyddfa ym Mrwsel, bydd Derek yn gwneud cysylltiadau, yn casglu gwybodaeth berthnasol ac yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru a gyda rhanddeiliaid i gefnogi datblygu blaenoriaethau polisi. Ymwelodd â Brwsel yr wythnos diwethaf am y tro cyntaf yn y swydd hon a chynhaliodd drafodaethau cadarnhaol ac adeiladol iawn gydag uwch gydweithwyr yn sefydliadau'r UE, Llywodraeth y DU, Llywodraethau datganoledig eraill a rhanddeiliaid. Mae llawer o ewyllys da tuag at Gymru o hyd o fewn Ewrop, ond mae llawer o heriau i ddatblygu perthynas a all gefnogi anghenion economi a dinasyddion Cymru.

Bydd ein holl ymgysylltu Ewropeaidd yn cefnogi'r blaenoriaethau a nodir yn ein strategaeth ryngwladol: codi ein proffil, tyfu ein heconomi a bod yn gyfrifol yn fyd-eang. Byddwn ni yn Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i feithrin perthynas agos a chadarnhaol â'r UE, er budd holl fusnesau Cymru ac, wrth gwrs, ein dinasyddion. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy groesawu datganiad adeiladol ar y cyfan y Gweinidog y prynhawn yma? Mae'n ddrwg gennyf glywed yn nhrydariad y Gweinidog y bore yma ei fod wedi profi'n bositif am COVID-19, ond rwy'n falch ei fod yn teimlo'n iawn a dymunaf yn dda iddo.

Mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud ei bod wedi bod yn ddwy flynedd ers i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac yn y cyfnod hwnnw bu nifer o ddatblygiadau, rhai o fewn cwmpas Llywodraeth Cymru a rhai, wrth gwrs, y tu allan i'w chylch gwaith. Serch hynny, mae'n hanfodol bod gan Gymru berthynas fasnachu lwyddiannus ag Ewrop, o gofio mai'r UE yw'r brif farchnad allforio ryngwladol ar gyfer nwyddau a chynnyrch amaethyddol o Gymru.

Wrth gwrs, mae masnach yn gymhwysedd a gadwyd yn ôl, ac felly mae'n hanfodol bod cysylltiadau rhynglywodraethol cryf rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y maes hwn. Felly, yr wyf yn falch o ddarllen yn y datganiad heddiw fod ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar lefel swyddogol wedi bod yn dda ar y cyfan, ac rwy'n cytuno y dylai gwledydd datganoledig fod mor gysylltiedig â phosibl mewn trafodaethau wrth symud ymlaen. Er enghraifft, gwn fod y fforwm gweinidogol ar gyfer masnach wedi bod yn gynhyrchiol ac wedi rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru gyfrannu at gytundebau masnach mewn ffordd a oedd yn gadarnhaol ac yn fuddiol i Gymru. Efallai y gwaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau diweddaraf y fforwm gweinidogol ar gyfer masnach, ac, yn benodol, pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal mewn cysylltiad â masnachu gyda phartneriaid Ewropeaidd.

Mae'r datganiad heddiw'n cyfeirio at brotocol Gogledd Iwerddon a'r sylwadau diweddar gan Stena Line bod porthladdoedd Cymru wedi gweld gostyngiad o 30 y cant mewn traffig o ganlyniad i'r berthynas fasnachu newydd â'r Undeb Ewropeaidd a bod y diwydiant logisteg wedi cael ei daro'n eithaf caled ar ôl i ni ymadael â'r UE. Er bod hyn yn amlwg yn siomedig, gwnaeth Stena Line hi'n glir iawn,

'Os edrychwn ni ar Fôr Iwerddon yn ei gyfanrwydd, mae'r cyfeintiau cludo nwyddau tua'r un fath. Yr hyn yr effeithiwyd yn andwyol arnynt yw porthladdoedd Cymru a llwybrau Cymru hyd yn hyn.'

Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym a yw wedi cyfarfod â gweithredwyr llongau yn ddiweddar i drafod effaith y berthynas newydd ar y diwydiant logisteg ac amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector wrth symud ymlaen.

Mae'n galonogol clywed bod Stena Line wedi ailadrodd eu hymrwymiad hirdymor i borthladdoedd Cymru, a'u bod yn disgwyl i'r sefyllfa wella, ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym a yw'n cytuno â Stena Line bod disgwyl i bethau wella, ac a wnaiff gyhoeddi asesiad Llywodraeth Cymru o'r berthynas newydd ag Ewrop ac egluro pa fodelu y mae'n ei ddefnyddio i ragweld rhagfynegiadau ar gyfer economi Cymru yn y dyfodol? Mae hyn hefyd yn bwysig o ran sefydlu safleoedd rheoli ffiniau, ac mae'r Gweinidog a minnau wedi cael sawl trafodaeth ynglŷn â'r mater hwn yn ystod y misoedd diwethaf. Ac rwyf i, wrth gwrs, yn datgan buddiant, Dirprwy Lywydd, gan fod posibilrwydd y gellid lleoli safle rheoli ffiniau yn fy etholaeth i.

Nawr, mae'r Gweinidog wedi dweud o'r blaen, pe byddai gostyngiad parhaol neu yn y dyfodol mewn masnach, byddai'n effeithio ar faint y safleoedd rheoli ffiniau, ac felly a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch lle yr ydym ni gyda safleoedd rheoli ffiniau a pha ddatblygiadau sydd wedi'u gwneud? Wrth gwrs, mae'n hanfodol bod safle rheoli ffiniau yn cael ei benderfynu'n ofalus, a gwn o'r sylwadau a gefais yn fy etholaeth pa mor ddadleuol yw'r lleoliad. Rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried yr effaith y bydd safle rheoli ffiniau yn ei chael ar gymunedau lleol ac ar seilwaith lleol, ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym sut y bydd yn sicrhau bod lleisiau lleol yn cael eu clywed wrth benderfynu ar safleoedd penodol. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn trafod gyda Llywodraeth y DU mewn cysylltiad ag ariannu'r gwaith o weithredu safleoedd rheoli ffiniau, ond efallai y gwnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y drafodaeth ddiweddaraf ar y mater hwn hefyd.

Nawr, wrth i'r berthynas newydd ag Ewrop gael ei llunio, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu allforion a masnach, ac mae'r cynllun gweithredu allforio yn dangos rhywfaint o'r gweithgarwch sy'n digwydd i gefnogi allforwyr Cymru wrth symud ymlaen. Nod y cynllun gweithredu allforio yw meithrin capasiti a gallu i allforio er mwyn sicrhau bod gan fusnesau Cymru'r sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder cywir i fod yn allforwyr llwyddiannus. O gofio bod y cynllun gweithredu allforio wedi'i gyhoeddi dros flwyddyn yn ôl, efallai y gwnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa un a yw'r capasiti hwnnw wedi'i adeiladu, drwy gadarnhau'n union pa gamau newydd sydd wedi'u cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw faterion capasiti a gallu. Ac efallai y gwnaiff ddweud wrthym hefyd a yw'n ffyddiog bod gan Gymru bellach ddigon o gapasiti a gallu i sbarduno twf allforion Cymru yn y tymor hwy a chynyddu'r cyfraniad y mae allforion yn ei wneud i economi Cymru.

Yn olaf, Llywydd, mae'r datganiad heddiw yn dweud

'bydd dylanwad yr UE ar lunio polisïau a'r fframwaith rheoleiddio yng Nghymru yn parhau'n sylweddol hyd y gellir rhagweld.'

Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn datblygu menter cenhadon, a fydd yn cynnwys nifer fach o genhadon a ddetholwyd â llaw, yn ogystal â phobl fusnes mewn marchnadoedd allweddol a all helpu i agor drysau i gyfleoedd allforio i fusnesau Cymru. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o gyfleoedd yn y farchnad yn yr UE sydd wedi'u nodi hyd yn hyn a dweud wrthym hefyd faint sydd wedi'i wario ar y cenhadon hyn.

Felly, Llywydd, wrth gloi, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma a dweud fy mod yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn adeiladol i sicrhau bod gan Gymru'r berthynas orau bosibl ag Ewrop fel y gall ein busnesau barhau i fasnachu'n llwyddiannus yn y dyfodol? Diolch.

16:45

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

A gawn ni ddad-dawelu'r Gweinidog? Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n credu ein bod ni wedi colli dechrau eich ymateb yn fan yna, mae'n ddrwg gennyf.

Rwyf wedi hen arfer â phobl yn fy nghlywed i pan na ddylen nhw. [Chwerthin.]

Diolch am eich dymuniadau da ar gyfer yr hyn yr wyf i'n gobeithio bydd yn wellhad buan o COVID. Rwy'n teimlo'n iawn, mae ychydig yn rhwystredig, ond dylem ni i gyd fod yn dilyn y rheolau.

Edrychwch, ar—. I ddechrau, gwnaethoch chi ddatganiad bod masnach, wrth gwrs, wedi'i chadw yn ôl, ac nid yw—yr hyn a gedwir yn ôl yw'r gallu i gwblhau trefniadau rhyngwladol newydd—ac fe wnaethoch chi ofyn nifer o gwestiynau i mi am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ym maes masnach, gan gynnwys cymorth ar y cynllun gweithredu allforio. Byddaf yn fwy na pharod i ddod â datganiad llawnach i Aelodau, boed yn ysgrifenedig neu fel arall, am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'r cynllun gweithredu allforio. Yr her yw, wrth gwblhau cytundebau newydd, bod y rheini'n croesi'n rheolaidd i feysydd datganoledig. Mae'n rhan o'r rheswm pam y mae'n bwysig i ni gael perthynas waith adeiladol â Llywodraeth y DU, ond hefyd, o safbwynt busnes, i fod yn glir ynghylch sut y dylai'r gwahanol Lywodraethau yn y DU fod yn cydweithio. Yn hyn o beth, rydym wedi sefydlu llwyddiant drwy Busnes Cymru ac eraill lle rydym yn helpu ac yn cefnogi busnesau i nodi a sicrhau cyfleoedd allforio a masnach yn y dyfodol. Rydym ni eisiau sicrhau nad yw'r darlun yn gymhleth ond mor glir â phosibl, ac, ar hynny, cafwyd rhai sgyrsiau adeiladol y bydd yr Aelod yn ymwybodol ohonyn nhw o waith craffu'r pwyllgorau ac o'n sgyrsiau blaenorol.

O ran y fforwm gweinidogol ar gyfer masnach, cyfarfûm â Gweinidogion eraill yn ddiweddar yn y fforwm hwnnw—Penny Mordaunt ar gyfer Llywodraeth y DU, a'r Gweinidogion perthnasol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Roedd yn sgwrs adeiladol, ond mae'r rhan fwyaf o'r gwaith sy'n mynd drwy hynna'n ymwneud yn bennaf â gweddill cytundebau masnach rydd y byd ar hyn o bryd. Cawn drafodaethau pellach am Ewrop, ond Liz Truss yw Gweinidog arweiniol y DU ar berthnasoedd â'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n amlwg bod ganddi waith i'w wneud, o gofio bod yr Arglwydd Frost wedi gadael gyda'r gwaith hwnnw'n anghyflawn. Felly, mae'n arwain ar y protocol ac yn fwy cyffredinol ar yr effaith y mae hwnnw'n ei gael ar berthnasoedd â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n dal yn her, ac yn un lle, fel y dywedais i yn fy natganiad, rwy'n credu bod arnom angen naws adeiladol sy'n caniatáu i ni gael atebion, ac nid yn unig ar gyfer ynys Iwerddon, ond bydd hynny'n effeithio'n uniongyrchol ar ein perthynas fasnachu ehangach â gweddill yr Undeb Ewropeaidd, a'r dewis y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud ar ffurf ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a beth mae hynny'n ei olygu o ran ein gallu ni i ymgysylltu mewn amrywiaeth o feysydd eraill.

Cyfarfûm hefyd yn ddiweddar â grŵp o randdeiliaid yr wythnos diwethaf, i drafod rhai o'r newidiadau yn dilyn y newid mewn perthynas fasnachu. Rwyf wedi cwrdd â Stena hefyd o'r blaen, i drafod rhai o'r effeithiau ar borthladd Caergybi yn arbennig. Amcangyfrifir y gallem weld—ac mae hyn yn uniongyrchol gan randdeiliaid sy'n ymwneud â rhedeg porthladdoedd a'r diwydiant logisteg—. Gallai fod 100,000 yn llai o symudiadau lorïau y flwyddyn os yw'r newid mewn masnach yn barhaol, gyda'r golled mewn meintiau. Nawr, mae hynny'n swm sylweddol o fasnach nad yw'n dod drwy Gymru, a bydd hynny'n cael effaith ar y gweithgaredd, gan gynnwys y swyddi, o amgylch porthladdoedd. Felly, nid yw'n fater dibwys gweld 30 y cant o'r fasnach yn cael ei cholli ar hyn o bryd. Mae Caergybi'n debygol o oroesi, wrth gwrs, oherwydd mae'n borthladd mor sylweddol i'r DU yn ogystal ag i'r Undeb Ewropeaidd, ond mae'n fwy heriol o hyd i'n porthladdoedd yn sir Benfro, ac yn arbennig y trefniant y cyfeiriodd yr Aelod ato ar gyfer safleoedd rheoli ffiniau, ac a oes cyfundrefn codi tâl ai peidio a sut y byddai hynny'n cael ei osod mewn gwirionedd, oherwydd efallai na fydd cyfundrefn codi tâl a gynlluniwyd ar gyfer porthladdoedd mawr iawn sydd â llawer iawn o draffig, yn addas i borthladdoedd llai mewn unrhyw ran o'r DU. Felly, mae heriau gwirioneddol ynghylch unrhyw drefn sydd wedi'i chynllunio.

Mae hynny'n mynd â ni at y pwyntiau a wnaeth yr Aelod am sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU am gyllid. Cawsom ymateb cwbl anfoddhaol gan Drysorlys y DU ar gostau rhedeg safleoedd rheoli ffiniau, sy'n debygol o fod yn y miliynau, ac mewn gwirionedd mae'r rheini'n gostau na ddylid eu symud yn uniongyrchol i gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru. Byddai'n rhaid i ni ddod o hyd i'r arian yn y gyllideb, arian na ellir ei wario mewn meysydd eraill i gefnogi'r economi neu wasanaethau cyhoeddus. Byddwn yn ei groesawu pe bai cefnogaeth drawsbleidiol wirioneddol i symud ymhellach ar hynny, gan gynnwys gan Aelodau Ceidwadol, a fydd yn cydnabod y difrod a allai wneud fel arall i wahanol rannau o'r economi, nid dim ond Caergybi a phorthladdoedd sir Benfro.

Fodd bynnag, nid yw'n glir a fydd y gostyngiad mewn masnach yn gwella. Rydym eisoes wedi gweld nifer o lwybrau uniongyrchol o ynys Iwerddon i gyfandir Ewrop, ac mae'n rhywbeth sy'n codi yn ein hymgysylltiad â Gweinidogion Iwerddon hefyd, y bydd yn well gan rai busnesau gael sicrwydd, hyd yn oed gyda chost uwch, o'i gymharu ag ansicrwydd ynghylch yr hyn fydd yn digwydd i'r llwybrau tir traddodiadol drwy Gymru hefyd. Felly, ni allaf roi sicrwydd ynghylch a fydd y fasnach honno'n gwella, neu asesiad uniongyrchol, oherwydd nid yw hynny'n sicr o hyd.

O ran dewis safleoedd rheoli ffiniau a safleoedd rheoli ffiniau yn fwy cyffredinol, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn pe bawn i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y mater hwn yn gyffredinol, oherwydd y cynnydd yr ydym yn ei wneud, a'n hawydd, gyda rhywfaint o gymorth gan Lywodraeth y DU, sydd wedi'i groesawu, a chynnydd adeiladol, ar y costau adeiladu ar gyfer safle rheoli ffiniau o amgylch porthladd Caergybi.

Dylwn i ddweud, o ran eich pwynt ehangach am weithredu allforio, ei bod wedi bod yn ddiddorol, gyda'r rhwystrau a'r tariffau, mai'r heriau mwyaf ar gyfer masnach yw'r rhwystrau nad ydyn nhw'n dariffau, y gwaith papur ychwanegol, y gost ychwanegol. Byddwch wedi gweld y lluniau o lorïau'n ciwio y tu allan i'r porthladdoedd ac ar sianelau cul yn Lloegr, ac mewn gwirionedd mae hynny wedi bod yn ffactor mawr iawn yn y busnesau hynny nad ydynt bellach yn masnachu gyda busnesau yn y DU, gan gynnwys yma yng Nghymru, ond hefyd i'r busnesau hynny sy'n bwriadu tynnu'n ôl o fod yn fusnesau allforio hefyd. Mae'n werth nodi bod masnach y DU â'r UE wedi gostwng mewn gwirionedd, ond hefyd â gweddill y byd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd hefyd, ac rwy'n credu bod hynny'n destun ansicrwydd a'r diffyg eglurder ynghylch lle mae'r DU.

Unwaith eto, byddwn yn fwy na bodlon wrth roi'r newyddion diweddaraf i bobl am y cynllun gweithredu allforio i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae ein cenhadon yn ei wneud. Dw i wedi cwrdd â phob un o'n cenhadon mewn gwahanol rannau o'r byd. Maen nhw'n falch iawn o fod yn rhan o'r Cymry ar wasgar, i fod yn ymladd dros Gymru ar gyfer buddsoddi mewn rhannau eraill o'r byd yn y dyfodol, a gobeithio, pan fyddaf wedi cwblhau fy nghyfnod o ynysu yn sgil COVID, gallaf gwrdd â phobl yn y gwledydd hynny lle yr ydym yn cydnabod bod gennym gyfleoedd gwirioneddol i gael mwy o lwyddiannau i fusnesau Cymru, ac yn sicr byddwn yn gwerthfawrogi'r cyfle i weithio'n adeiladol gydag Aelodau ar draws y Siambr i wneud hynny ar gyfer busnesau Cymru ac, wrth gwrs, ar gyfer swyddi yng Nghymru. 

16:55

Diolch i'r Gweinidog, a dwi'n dymuno iddo fe wellhad cyflym. 

Rydym wedi gweld y defnydd anghyson a gwael o gyd-bwyllgorau gweinidogol, a oedd i fod i wella cydweithrediad rhwng Llywodraethau'r DU a Llywodraethau datganoledig, ond a oedd yn bennaf, yn fy marn sinigaidd i, yn ddim ond ymarfer ticio blychau. Rwy'n pryderu y bydd llawer o'r fforymau a sefydlwyd drwy'r cytundeb ymadael a'r cytundeb masnach a chydweithredu yn gweld swyddogaeth Cymru naill ai'n bodoli neu'n gwbl artiffisial, heb i'r lleisiau yng Nghymru gael eu clywed yn wirioneddol ym mherthynas y DU â'r UE yn y dyfodol. Ac nid yw eich datganiad yn gwneud dim i fy sicrhau i y clywir Cymru.

Er bod rhagflaenydd Liz Truss, yr Arglwydd Frost, wedi awgrymu y bydd Llywodraethau datganoledig yn cymryd rhan mewn fforymau a sefydlwyd gan y ddau gytundeb pan sonnir am eitemau o gymwyseddau datganoledig, nododd hefyd fod hyn yn ddarostyngedig yn y pen draw i ddisgresiwn terfynol cyd-gadeirydd y DU o adran flaenllaw berthnasol Whitehall. Os nad yw'r broblem ynghylch hyn yn glir, gellir ei gweld yn glir iawn pan ofynnodd y Gweinidog, ym mis Tachwedd, a gaiff fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y cyd-bwyllgor fel aelod sy'n cyfrannu pan drafodwyd materion yn ymwneud â Gogledd Iwerddon, oherwydd, wrth gwrs, eu heffaith ar borthladdoedd Cymru, ond deallaf y gwrthodwyd y cais hwnnw, Gweinidog. Byddai'n ddiddorol gwybod ar ba sail y cawsoch eich gwrthod a'ch barn ar hyn, yn enwedig o ystyried, fel y dywedoch eisoes, ein bod, yn y newyddion yr wythnos diwethaf, wedi gweld bod porthladdoedd Cymru wedi profi gostyngiad o 30 y cant mewn traffig oherwydd Brexit, gyda darn sylweddol o hynny oherwydd newidiadau yn y defnydd o lwybr pontydd tir i borthladdoedd yr UE drwy Gaergybi, fel y cyfeiriodd Paul Davies ato hefyd.

Ar ôl cyfarfod cyntaf cyngor partneriaeth y cytundeb masnach a chydweithredu, ysgrifennoch chi, Gweinidog, at yr Arglwydd Frost yn disgrifio'r cyfarfod fel un anfoddhaol iawn ac yn un na allai Llywodraeth Cymru ei gefnogi'n gredadwy. Sylwaf fod y Gweinidog, yn ei ddatganiad ar y cyfan, yn falch bod ymgysylltu yn gyffredinol wedi bod yn dda, ond a oes gan y Llywodraeth ddigon o ddylanwad i gynrychioli lleisiau ac anghenion pobl Cymru yn briodol yn y cytundebau hyn? Os nad yw'r Gweinidog yn credu y gellir cynrychioli Cymru'n wirioneddol, yna pa sianeli sydd ar gael i'r Llywodraeth i godi ei phryderon?

Ac, yn olaf, mae'n rhaid i Lywodraethau datganoledig hysbysu Llywodraeth y DU o'r holl gynnwys a chyswllt sydd ganddyn nhw â sefydliadau ac aelod-wladwriaethau'r UE, ac, o'ch datganiad, mae'n amlwg bod y Prif Weinidog wedi bod mewn cysylltiad â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd i nodi perthynas adeiladol rhwng Cymru a'r UE yn y dyfodol, sydd i'w chroesawu wrth gwrs, ac wrth gwrs sylwadau Derek Vaughan. I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgysylltu â sefydliadau ac aelod-wladwriaethau'r UE, a beth yn union y mae'r Gweinidog yn rhagweld y bydd ffurf y berthynas hon yn y dyfodol?

Diolch am y gyfres o sylwadau a chwestiynau ac, unwaith eto, am eich dymuniadau da ar gyfer adferiad, gobeithio o fewn y cyfnod ynysu newydd. Edrychwch, ar eich pwyntiau ynghylch y Cyd-bwyllgor Gweinidogion a sut y mae cysylltiadau rhynglywodraethol i fod i weithio, rwy'n credu bod hyn yn dangos y gwahaniaeth y mae'r arweinyddiaeth ar lefel y DU yn ei wneud. Yn sicr, cefais fwy na fy nghyfran deg o anghytuno gyda'r Llywodraeth dan arweiniad Theresa May pan oedd yn Brif Weinidog, ond rwy’n credu bod mwy o sylw'n cael ei roi i'r hyn y cytunwyd arno ac yn cael ei gytuno drwy'r broses rynglywodraethol honno, drwy gyd-bwyllgorau gweinidogion, ac, wrth gwrs, daeth cyfarfodydd y cyd-bwyllgorau i ben. Yr her yn awr yw bod ein peiriannau rhynglywodraethol newydd yn gweithio mewn gwirionedd ac yn real ac nid ydym yn gweld buddiannau Cymru—nid yn unig buddiannau Cymru, ond rhai'r Llywodraethau datganoledig eraill—yn cael eu hanwybyddu neu eu gorlethu gan Lywodraeth y DU nad oes ganddi ddiddordeb mewn gwneud i'r trefniadau partneriaeth y dylem ni fod â nhw, weithio. Rwy'n credu, er bod gennych chi a minnau safbwyntiau gwahanol ar yr undeb, rwyf eisiau gweld yr undeb yn gweithio, a rhaid i hynny olygu bod yn rhaid cael parch priodol gan Lywodraeth y DU at y cytundebau sydd gennym ar waith ar sut yn union y mae hynny i fod i ddigwydd.

O ran cyngor partneriaeth y DU a'r UE, fel y dywedais wrth ateb Paul Davies, ymadawodd yr Arglwydd Frost gyda gwaith heb ei gwblhau mewn amrywiaeth o'r meysydd yr oedd wedi bod yn eu rhedeg ar gyfer Llywodraeth y DU. Rwyf wedi ei gwneud yn glir na all Gweinidogion fod yn arsylwyr yn y cyngor partneriaeth; rhaid i ni fod yn gyfranogwyr, neu ni fydd Gweinidogion yn ei fynychu. Mae'n ddefnydd gwael o fy amser i neu amser unrhyw Weinidog arall i eistedd ar y cyrion yn unig tra bo dim ond un Gweinidog Llywodraeth y DU yn siarad ar ran y pedair gwlad, gan gynnwys y meysydd hynny lle mae buddiant amlwg a chlir wedi'i ddatganoli. Ac nid oes rhaid i hyn fod yn faes lle mae gwrthwynebiaeth neu anghytundeb rhwng pedair Llywodraeth y DU. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod wedi cyfeirio'n rheolaidd at achlysuron blaenorol lle'r oedd Gweinidogion o wahanol rannau o'r DU yn ein hymgysylltiadau blaenorol â Chyngor Gweinidogion Ewrop yn cytuno ar safbwyntiau cyffredin a byddai Gweinidogion datganoledig yn arwain ar rai o'r eitemau hynny. Mae hynny'n ymarfer gwerthfawr o amser gweinidogol. Dylai hyrwyddo mwy o weithio i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y buddiannau cyffredin ledled y DU, ac mae angen i unrhyw un sydd eisiau esboniad llawnach o hyn dreulio ychydig o oriau gydag Alun Davies i gael esboniad manylach o'r ffordd y mae hynny wedi gweithio'n llwyddiannus ar adegau yn y gorffennol. Felly, mae model y profwyd ei fod yn gweithio eisoes ond nad yw'n mynd i faes lle mae Llywodraeth y DU yn teimlo bod ei safbwynt yn cael ei gamfeddiannu, ond yn fwy cyffredinol, mewn gwirionedd, yn adeiladu ar hynny hefyd. A dyna'r ffordd yr ydym yn mynd at ein perthnasoedd ehangach hefyd.

Felly, o ran eich pwyntiau olaf ynghylch cadw mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU ar ein perthynas a'n cyswllt ag Ewrop, rydym yn gwneud hynny fel mater o drefn. Nid ydym yn bwriadu gwneud hyn mewn ffordd sy'n fwriadol wrthweithiol neu'n torri'n fwriadol ar draws buddiannau Llywodraeth y DU. Rydym yn gwneud hynny mewn ffordd lle mae gwybodaeth yn cael ei rhannu'n wirioneddol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn y dywedwn y dylai pawb arall ei wneud, a bod â gwir ddiddordeb yn y ffordd yr ydym yn hyrwyddo buddiannau Cymru, ac i wneud hynny mewn ffordd a ddylai ychwanegu cryfder at le mae'r DU yn hytrach na'i thanseilio. Felly, rwy'n ffyddiog iawn y gallwn ni barhau i wneud hynny, pryd y mae Derek Vaughan yn gweithio i flaenoriaethau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru, ac yn gwneud hynny mewn ffordd sydd, yn fy marn i, yn fodel ar gyfer yr hyn a ddylai ddigwydd yn y dyfodol o fewn y DU ac yn allanol. 

17:00

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad pwysig hwn. Llywydd, os caf i, hoffwn ddechrau drwy groesawu penodiad Derek Vaughan i'r swydd hon. Bydd Derek yn dod â chyfoeth o brofiad i'r swydd, ac rwy'n credu ei fod yn benodiad gwych. Gweinidog, un cwestiwn gennyf i. A ydych chi'n cytuno ac a wnewch chi gadarnhau heddiw mai un o'r blaenoriaethau i'r rhai sy'n ceisio cryfhau ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yw y dylai sefydliadau yng Nghymru allu manteisio o hyd ar y cyllid ymchwil gan Horizon Europe, pan fydd yr UE yn cytuno ar ein cyfranogiad ni? 

'Gwnaf' yw'r ateb clir iawn. Mae'n flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru o ran ein perthynas barhaus â'r Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi gwneud y pwynt hwn yn glir iawn yn ein sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU ynghylch hyn. Mae'n weledigaeth a rennir gan rannau eraill o'r DU hefyd. Mae llawer iawn i'w ennill o allu gwneud hyn nid yn unig gyda chyfandir Ewrop, ond hefyd, wrth gwrs, gyda'n partneriaid ar ynys Iwerddon. Os cawn ni ein heithrio rhag cymryd rhan, yna swyddi, busnesau ac ymchwil Cymru fydd ar eu colled. Mae adnoddau o bwys ar gael nid yn unig mewn termau ariannol, ond y cyfle i rannu dysgu a mewnwelediad a ddylai helpu dyfodol ymchwil ac arloesi Cymru mewn gwirionedd, ac, wrth gwrs, beth mae hynny'n ei olygu o safbwynt busnes a swyddi. A byddwn i'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr a'r Aelodau am gynnydd y trafodaethau hynny er mwyn sicrhau y gall Cymru barhau i gymryd rhan yn llwyddiannus yn rhaglen Horizon Europe.   

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Bydd hi'n chwe blynedd ym mis Mehefin ers i bobl Cymru bleidleisio i gymryd rheolaeth yn ôl ac ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae Prydain bellach wedi cael dwy flynedd o adennill ein rhyddid, ac, er ein bod yn cael ei llesteirio gan bandemig, rydym yn dechrau gweld beth y gall ffrwyth cenedl fyd-eang wirioneddol annibynnol ei gyflawni. Mae'n bryd i ni ddechrau gweld potensial yr hyn sydd gan Brexit i'w gynnig, fel cytundebau masnach trawiadol gyda 70 o wledydd, gwerth dros £760 biliwn, gan gynnwys cytundebau nodedig gydag Awstralia a Seland Newydd sy'n paratoi'r ffordd i'n mynediad i'r cytundeb cynhwysfawr a blaengar gwerth £9 triliwn ar gyfer partneriaeth y Môr Tawel. Mae Prydain o'r diwedd wedi ailagor y drws i weddill y byd, ac rydym nawr yn mynd i weld manteision hynny. 

Y bore yma, roeddwn i'n rhan o gomisiwn Pwyllgor Ewropeaidd y Rhanbarthau ar gyfer dinasyddiaeth, llywodraethu, materion sefydliadol ac allanol, gydag Alun Davies, lle buom ni'n trafod cryfhau'r berthynas rhwng yr UE a'r DU ar lefel is-genedlaethol. Roedd yn drafodaeth gadarnhaol iawn, yn wahanol i'ch datganiad chi, Gweinidog, lle codwyd syniadau gwych i fanteisio i'r eithaf ar ein perthynas newydd, un sydd wedi'i hadeiladu ar gydweithredu, ymddiriedaeth a pharch at ein gilydd, ond o fewn paramedrau Brexit. Mae'n amlwg i mi fod angen i'r Senedd a'r Llywodraeth, yn y dyfodol agos, edrych ar gytundebau cydweithredu economaidd, gan gysylltu busnesau a sefydliadau â dinasoedd ac ardaloedd cydnaws, yn union fel y mae Manceinion a Llywodraeth y DU wedi'u cyflawni'n ddiweddar gyda rhanbarth metropolitan mwyaf yr Almaen, Gogledd Rhine. Nod y cytundeb cydweithredu yw cryfhau cysylltiadau diwylliannol ac economaidd, gan ganolbwyntio ar gamau gweithredu ar gyfer yr hinsawdd, trafnidiaeth gynaliadwy, digideiddio, seiberddiogelwch, arloesi ac ymchwil. Gallai hyn, mewn gwirionedd, fod yn ddull cyffrous i ni, Gweinidog. A ydych chi wrthi'n ceisio mabwysiadu cytundebau o'r fath? Beth ydych chi a Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod busnesau Cymru yn cael y cyfle gorau i gael eu cynnwys yn y cytundebau cydweithredu hynny? A oes gennych chi gynllun ar waith o fewn eich cytundeb rhyngwladol i sicrhau y gall rhanbarthau Ewrop a Chymru barhau i elwa ar ei gilydd o fewn ein perthynas newydd? Yn olaf, pa gynlluniau sydd gennych chi i ddenu mewnfuddsoddiad pwysig iawn i Gymru? Diolch.

17:05

O ran mewnfuddsoddiad, rydym yn parhau i weld mewnfuddsoddiad fel rhan gytbwys o'n hymagwedd at ddyfodol yr economi, ynghyd â chwmnïau a busnesau sy'n tyfu yng Nghymru nad ydyn nhw yn dibynnu ar fuddsoddiad uniongyrchol o dramor. Rwy'n credu, o ran eich sylwadau am adennill rhyddid, nad yw ein rhyddid byth yn cael ei dynnu oddi arnom; roeddem mewn perthynas fasnachu wahanol ac yn un a weithiodd yn llwyddiannus ac yn dda i fusnesau Cymru a swyddi yng Nghymru. Os nad ydych yn credu hynny, siaradwch â'r bobl sy'n rhedeg Airbus am eu dewisiadau buddsoddi a beth mae hynny'n ei olygu i swyddi da yng Nghymru, ewch i siarad â phobl sydd wedi masnachu'n llwyddiannus gyda'r Undeb Ewropeaidd ac sydd bellach yn gweld eu bod mewn sefyllfa lle nad yw hynny'n bosibl. Rydym wedi clywed, wrth gwrs, lawer am ddiwydiant pysgod cregyn Cymru a'r heriau sydd ganddyn nhw. Felly, y gwir fater yma yw, ar ôl gwneud dewis i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, y math o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yw'r un sydd gennym yn awr, ac yr oedd hynny'n ddewis a wnaed gan Lywodraeth y DU. Mae hynny'n ddewis a fydd, yn anochel ac yn ddi-os, yn ei gwneud yn anoddach i fusnesau Cymru fasnachu â gweddill Ewrop. Nawr, byddai'n onest dweud eich bod yn credu bod hynny'n bris gwerth ei dalu. Nid yw'n onest dweud ein bod rywsut mewn sefyllfa lle nad yw'r berthynas fasnachu wedi'i newid ac nad yw'n anoddach o gwbl i fusnesau Cymru sydd am weithio gyda phartneriaid Ewropeaidd. Mae gan Gymru, fel mater o ffaith, fwy o'n masnach â gweddill y byd a gyda gweddill Ewrop na rhannau eraill o'r DU, felly mae'n arbennig o bwysig er budd economi Cymru. Wrth gwrs, o'r 70 o wledydd y mae gennym gytundebau masnach â nhw y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, mae'r rhan fwyaf o'r rheini'n gytundebau masnach sy'n ymwneud â'r telerau yr oedd yr Undeb Ewropeaidd wedi'u negodi gyda'r gwledydd hynny hefyd. Mae'n gamarweiniol—rwy'n siŵr nad yw'n fwriadol—i geisio awgrymu bod Llywodraeth y DU wedi trafod 70 o gytundebau masnach unigol yn y cyfnod hwnnw mewn ffordd gwbl newydd.

Dylwn i nodi hefyd, er eich bod yn clodfori'r potensial i ymuno â phartneriaeth fasnach y Môr Tawel, wrth gwrs, yr anhawster yw bod y cytundebau masnach ag Awstralia a Seland Newydd wedi gosod bar neu wedi gosod pwynt mynediad ar gyfer gwneud hynny. Rwy'n credu bod hynny, yn arbennig, yn risg wirioneddol i amaethyddiaeth yng Nghymru. Fel y dywedais i yn fy natganiad, rydym yn fras o blaid cytundebau masnach rydd newydd, ond nid ydym yn cytuno â'r dull y dylid ystyried amaethyddiaeth fel rhywbeth dibwys i'w daflu ar y glorian er mwyn sicrhau bod y cytundebau masnach hynny'n digwydd. Ond mae arnaf ofn, dyna'r dull sydd wedi'i fabwysiadu mewn ffordd glir gan Lywodraeth y DU. Peidiwch â derbyn fy ngair i; gofynnwch i Undeb Amaethwyr Cymru. Yn sicr, dydyn nhw ddim yn deithwyr gwleidyddol nac yn ffrindiau i Lafur Cymru. Os nad ydych yn derbyn eu gair nhw, gofynnwch i Minette Batters, llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Nid yw hyn yn rhywbeth y gellir ei frwsio o'r neilltu. Mae risgiau gwirioneddol yn cael eu cymryd nid yn unig gyda sectorau o economi Cymru, ond gyda'r hyn y mae hynny'n ei olygu i ffordd Gymreig o fyw mewn rhannau helaeth o gefn gwlad Cymru.

Rwy'n derbyn eich pwynt am agor drws i'r byd. Wel, mewn gwirionedd, rydym yn gwneud llai o fasnachu gyda gweddill y byd ers i ni adael. Nawr, rydym yn gwneud popeth y gallem ni ac y dylem ni ei wneud, rwy'n credu, i gefnogi busnesau Cymru, i barhau i fasnachu'n llwyddiannus gyda phartneriaid Ewropeaidd a gyda gweddill y byd. Ein her yw gwneud hynny pan fo'r fasnach honno wedi mynd yn anoddach. Ac fel rhan o hynny, dyna pam yr wyf wedi bod yn awyddus i gynnal perthynas uniongyrchol â Llywodraethau rhanbarthol yn Ewrop. Rwyf wedi siarad â Llywodraethau rhanbarthol o fewn yr Iseldiroedd ac rwyf hefyd wedi siarad â Llywodraeth ranbarthol Gwlad y Basg yn ddiweddar yn ogystal â'i gwneud yn glir ein bod yn dal i fod eisiau parhau â'r berthynas dda a gawsom a'r cyfleoedd masnachu, ac i sicrhau y gallwn rannu gwybodaeth, rhannu adnoddau a sicrhau bod hynny'n dda i fusnesau Cymru a swyddi Cymru. Dyna fydd y dull o weithredu y byddaf yn ei fabwysiadu o hyd tra byddaf yn y Llywodraeth hon.  

Diolch, Gweinidog, am ddiweddariad pwysig i'r Senedd. Rwy'n croesawu'n fawr y profiad a'r arbenigedd y bydd Derek Vaughan yn eu cynnig i'r swydd hon. Fel y dywedwch chi yn gywir, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnal a meithrin y berthynas waith ragorol honno rhwng Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, a'n bod yn parhau i geisio cysylltiadau rhynglywodraethol priodol a gweithio gyda Llywodraeth y DU. Ond mae'n ffaith bod Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi addo ym maniffesto'r etholiad yn 2019 y byddai'r gronfa ffyniant gyffredin newydd o leiaf yn cyfateb i'r £1.5 biliwn y flwyddyn o gronfeydd rhanbarthol yr UE a ddychwelwyd i'r DU yn ei hymrwymiad i aelodaeth yr UE. Yn wir, roedd addewid y Torïaid Cymreig, 'dim ceiniog yn llai', yn swnio'n debyg i gôr meibion gwan a sigledig o amgylch Siambr y Senedd hon. Fodd bynnag, y gwir yw bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrifo y bydd Cymru'n agos at £1 biliwn yn waeth ei byd dros y tair blynedd nesaf. Y cwestiwn sydd i'w ofyn yw: sut mae hyn yn gadael Cymru heb fod ceiniog yn waeth ei byd? Mae adran codi'r gwastad Llywodraeth Dorïaidd y DU ei hun wedi cadarnhau na fyddai gwariant Llywodraeth y DU yn cyfateb i'r £1.5 biliwn o daliadau cyfartalog yr UE tan 2024-25. Gwyddom fod ASau Torïaidd San Steffan mewn seddi wal goch a'r pleidleiswyr wal goch fel y'u gelwir a bleidleisiodd i'r Torïaid yn 2019 yn teimlo eu bod wedi'u bradychu. Felly, Gweinidog, sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn cadw at ei gair, ei haddewidion i bobl Cymru, pan, dro ar ôl tro, mae Alexander Boris de Pfeffel Johnson a'i Gabinet o filiwnyddion yn credu y gallan nhw ein hystyried ni'n ffyliaid byth a hefyd?

17:10

Wel, efallai eich bod wedi gweld bod y Financial Times heddiw, unwaith eto—nad yw'n nodedig am gyd-deithio gyda'r Blaid Lafur—wedi cynnal eu hymchwiliad eu hunain i'r hyn sydd wedi bod yn digwydd gyda chronfeydd yn lle rhai yr Undeb Ewropeaidd. Roedd addewid clir iawn ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn 2019—rwy'n credu mai tudalen 44 ydoedd—y byddai gan wledydd y DU o leiaf gymaint o arian ag y bu gennym pan oeddem yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r addewid hwnnw wedi'i dorri, wedi'i dorri yn amlwg iawn, ac rydych chi'n iawn bod y cyfanswm cyffredinol, gan ystyried colli incwm ffermydd ac amaethyddol hefyd, tua £1 biliwn dros y blynyddoedd nesaf.

Mae'n newyddion drwg i Gymru. Mae hefyd yn newyddion drwg i'r DU, oherwydd mae rhanbarthau yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a oedd gynt yn ddibynnol ar yr arian hwn hefyd yn mynd i fod ar eu colled yn sylweddol. Newyddion drwg i swyddi, newyddion drwg i sgiliau, newyddion drwg i ymchwil a datblygu, a'r rhan waethaf o hyn yw, nid oes arlliw o brotest gan yr un Ceidwadwr Cymreig yn y Senedd bod £1 biliwn yn cael ei herwgipio o Gymru. Mae'n warthus bod hyn wedi digwydd—addewid sy'n amlwg wedi'i dorri, ac yn waeth na diwerth gan y Ceidwadwyr Cymreig sy'n dal i fynnu ein bod yn derbyn, nid dim ond yn derbyn ond yn cefnogi, fod yr arian hwnnw wedi'i sugno allan o Gymru. Rwy'n credu mai'r unig ffordd o gael rhywbeth wedi'i wneud yn iawn yw i Lywodraeth Dorïaidd y DU dderbyn bod yn rhaid iddyn nhw gadw at eu haddewid a rhaid iddyn nhw weithio yn briodol ac yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr addewidion ariannu hynny'n cael eu cyflawni, ac os nad yw hynny'n digwydd, yna rwy'n credu ei bod yn amlwg iawn mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw Llywodraeth newydd yn y Deyrnas Unedig, ac rwy'n edrych ymlaen at yr ymgyrch etholiadol nesaf i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Rwyf yn ddiolchgar i chi, Llywydd, ac yn ddiolchgar i chi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Rwy'n gobeithio eich bod yn parhau i wella o COVID, ac rwy'n credu yr hoffai pobl ar draws y Siambr ddymuno'n dda ichi gyda hynny.

Fel eraill, hoffwn eich llongyfarch ar benodi Derek Vaughan. Mae'r rhai hynny ohonom sydd wedi gweithio gyda Derek Vaughan yn y gorffennol yn sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd yn gwybod pa mor effeithiol y mae wedi bod yn sefyll dros Gymru, ac edrychwn ymlaen at ei weld yn parhau i wneud hynny.

O ran eich datganiad y prynhawn yma, rwy'n cytuno'n fawr iawn â llawer o'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud, ond rwyf eisiau gofyn un cwestiwn i chi, Gweinidog, ac rwyf eisiau gofyn i chi wneud un peth yn y blynyddoedd i ddod: rwyf eisiau i chi ddweud y gwir am Brexit wrth y Siambr hon a phobl Cymru. Rwyf eisiau i chi ddweud wrthym ac rwyf eisiau i chi ddod i'r Siambr hon o leiaf unwaith bob chwarter i roi asesiad o'r difrod sy'n cael ei wneud i'r wlad hon o ganlyniad i Brexit a'r effaith y mae'n ei chael. Rydym ni wedi gweld busnesau yn cael eu colli, rydym wedi gweld colli masnach, rydym wedi gweld colli arian, ac mae'r Torïaid yn chwerthin. Un o'r pethau mwyaf rhyfeddol am y datganiad hwn y prynhawn yma yw po fwyaf y mae pobl yn sôn am y cyllid sydd wedi'i golli i bobl Cymru, y mwyaf y bydd eu meinciau cefn yn chwerthin. O leiaf mae eu mainc flaen yn ddigon doeth i wybod am y niwed y mae hyn yn ei wneud i'r wlad hon.

Gobeithio, Gweinidog, y byddwch chi'n gallu sôn am y ffordd yr ydym yn colli cyfleoedd, ond yn creu rhwystrau—rhwystrau i fusnesau, mwy o fiwrocratiaeth, mwy o dâp coch. Does dim ots iddyn nhw oherwydd dydyn nhw ddim yn poeni o gwbl. Gwyddom ni beth y dywedodd arweinydd y Torïaid am fusnes; ni wnaf ei ailadrodd y prynhawn yma, ond maen nhw wedi'i wneud yn amcan eu polisi, a dyna'r unig bolisi y maen nhw'n llwyddo ynddo.

17:15

Diolch am y sylwadau. Rwy'n credu bod dwy agwedd. Y gyntaf yw bod Derek Vaughan yn uchel ei barch ledled Ewrop, felly mae'n benodiad da i ni ar ôl ymarfer recriwtio agored a chywir sy'n briodol ar gyfer y gwasanaeth sifil.

Ni allaf glywed y Gweinidog oherwydd bod sgwrs barhaus yn y Siambr. Felly, os gwelwch yn dda, a gawn ni wrando ar ymateb y Gweinidog? Diolch. Gweinidog.

Fel yr oeddwn yn ei ddweud, recriwtiwyd Derek Vaughan yn briodol ac yn unol â gweithdrefnau recriwtio'r gwasanaeth sifil, ac rwyf i bob amser yn dweud y gallai Llywodraeth Cymru wneud gydag ychydig mwy o Vaughan i'w wneud yn fwy effeithiol.

O ran eich pwynt ehangach, fodd bynnag, am yr hyn sydd wedi digwydd, rwyf o'r farn nad oes ots sut y gwnaethoch chi bleidleisio yn awr, digwyddodd y refferendwm ac rydym wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn glir gyda phobl ynglŷn â'r hyn y mae hynny'n ei olygu: mae gwahanol berthnasoedd ar waith; mae'r DU wedi dewis bod yn drydedd wlad; mae Llywodraeth y DU wedi dewis peidio â chymryd rhan mewn marchnad sengl nac undeb tollau. Mae hynny'n golygu bod mwy o rwystrau ar waith. Nid yw'r cytundeb masnach a chydweithredu sydd gennym ni yn disodli rheini yn llawn; mae'n ei gwneud yn anos masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ac asesiad Llywodraeth y DU ei hun yw bod y pandemig yn debygol o leihau cynnyrch domestig gros 2 y cant. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau yr ydym wedi'u gwneud yn debygol o ddyblu hynny—colled o 4 y cant o gynnyrch domestig gros. Dyna'r dewis a wnaed gan Lywodraeth y DU. Nid wyf yn cofio'r tro diwethaf i Lywodraeth y DU ddewis lleihau allbwn economaidd y Deyrnas Unedig yn fwriadol, na'r hyn y mae hynny'n ei olygu o ran swyddi a busnesau yma. Mae hynny'n ychwanegol at y dewisiadau y maen nhw wedi'u gwneud wedyn am yr hyn sydd wedi digwydd, gan gynnwys yr £1 biliwn a dynnwyd oddi ar Cymru, gan gynnwys torri addewid maniffesto yn fwriadol na fyddai Cymru'n cael ceiniog yn llai. Dyna wirionedd y mater, ac os dim byd arall, rwy'n credu y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud rhai ffafrau â'u hunain pe bydden nhw ond yn cydnabod ffeithiau'r hyn sy'n digwydd a pheidio â chredu ein bod ni i gyd yn ffyliaid. Dyma'r dewis yr ydych chi wedi'i wneud, yr ydych chi wedi dadlau drosto ac yr ydych chi yn ei amddiffyn. Fe allech chi, wrth gwrs, ddewis peidio ag amddiffyn gweithredoedd anamddiffynadwy Llywodraeth y DU a dewis ymuno â ni i sefyll dros Gymru. Wnaf i ddim dal fy ngwynt.

Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad. Ers i bobl Cymru bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin 2016, rydych chi a'ch Llywodraeth wedi ymladd yn frwd i atal Brexit rhag digwydd. Achosion llys, galwadau am ail refferendwm a gwrthod mandad pobl y wlad hon a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Gweinidog, yn eich datganiad, fe wnaethoch chi sôn am gyfrifoldebau newydd yn dod i'r Senedd, ac rwy'n credu bod hynny'n beth cadarnhaol iawn gan ei fod mewn gwirionedd yn gwneud pobl yn y lle hwn yn fwy atebol i'r bobl sy'n ein hethol ni yma. Nid wyf ychwaith yn cytuno â chi, fel y gallwch chi gasglu, mae'n debyg, ar eich datganiad bod Llywodraeth y DU yn elyniaethus tuag at ddatganoli. Fel y mae'r Prif Weinidog ei hun wedi ei ddweud, mae'n hoffi datganoli; y broblem yw ein bod wedi bod â'r un Llywodraeth yma ers 1999, gan fethu pobl Cymru.

Gweinidog, mae gennyf un neu ddau o gwestiynau i chi. A wnewch chi amlinellu os gwelwch yn dda—rwy'n gwybod eich bod wedi amlinellu ychydig yma—penodiad y cyn-ASE Llafur Cymru Derek Vaughan, a chylch gwaith ei swyddogaeth a sut y mae'n mynd i weithio gyda swyddogion Llywodraeth y DU o fewn yr UE er budd gorau Cymru? Ac a wnewch chi hefyd amlinellu pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael ynghylch cyfleoedd i Gymru gydag adran fasnach y DU i sicrhau y gall ein busnesau yma fod yn rhan o Brydain wirioneddol fyd-eang? Ac yn olaf, a wnewch chi achub ar y cyfle hwn i ymddiheuro i'r rhan fwyaf o bobl Cymru a thynnu'n ôl y camau, y sylwadau a'r datganiadau a wnaed gennych chi a'ch Llywodraeth ynglŷn â Brexit, a chroesawu'r cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit i bobl Cymru?

Diolch. Rydym yn cael sgyrsiau adeiladol rhwng swyddogion ac, yn wir, gyda Gweinidogion yn yr Adran Masnach Ryngwladol. Efallai nad ydych chi wedi bod yn gwrando, ond fe wnes i, mewn gwirionedd, adrodd, wrth ateb y set gyntaf o gwestiynau gan Paul Davies, am y sgyrsiau adeiladol a gawsom yn y fforwm gweinidogol ar gyfer masnach, ac mewn gwirionedd ein hawydd i gael rhagor o sgyrsiau adeiladol ynghylch dyfodol ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Felly, mewn gwirionedd, rydym bob amser wedi bod yn bartneriaid parod o ran bod eisiau gwneud y peth iawn ac mewn modd adeiladol. Yr hyn na fyddwn ni'n ei wneud yw sefyll o'r neilltu tra bod pwerau'n cael eu dwyn oddi arnom ni.

A dweud y gwir, mae'n nonsens hurt sy'n gwadu realiti i geisio awgrymu nad yw Llywodraeth Boris Johnson yn elyniaethus tuag at ddatganoli. Maen nhw, yn weddol reolaidd, wedi bygwth, neu, yn wir, mewn rhai achosion, wedi ceisio diystyru pwerau a chymhwysedd datganoledig. Nid ceffyl pren Troea yw Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 ond yn hytrach ymgais i ddinistrio a chipio datganoli pryd bynnag y bydd Gweinidogion y DU yn dewis ei ddefnyddio. Ac mae'n rhyfeddol bod pobl sydd wedi'u hethol i Senedd Cymru wedyn yn dathlu pan gaiff cyfrifoldebau eu cymryd oddi ar Senedd Cymru, er gwaethaf y mandad—i ddefnyddio ei derm ef—bod pobl Cymru wedi rhoi i'r lle hwn, nid mewn un, ond mewn dau refferenda i bwerau a chyfrifoldebau fod gyda'r bobl a etholwyd i'r lle hwn. O ran parchu mandadau, hyn, gan ddyn sy'n mynd ar sefydliad newyddion eithriadol o elyniaethus i honni, oherwydd bod Llafur Cymru yn parhau i ennill etholiadau ac arwain Llywodraeth Cymru, nad yw'n teimlo ei fod yn byw mewn democratiaeth. Rwy'n credu y gallai fod angen iddo edrych arno'i hun a meddwl ychydig yn fwy gofalus am rai o'r pethau y mae'n barod i'w dweud am bobl sydd, mewn gwirionedd, yn llwyddo i ennill etholiadau yma yng Nghymru. Fodd bynnag, byddaf i yn parhau i weithio gyda phob Aelod adeiladol o'r Ceidwadwyr Cymreig ac, yn wir, ar draws y Siambr i wneud y gorau dros fusnesau a swyddi a mynd i'r afael â realiti newydd ein perthynas wahanol iawn â'r Undeb Ewropeaidd. 

17:20

Diolch, Gweinidog, a gobeithio y byddwch yn gwella'n fuan.

Ar 29 Ionawr, dywedodd Minette Batters, llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, a dyfynnaf:

'Roeddwn i'n ofni y byddai ffermwyr yn cael eu defnyddio fel gwystl mewn cytundebau masnach—a dyna beth ddigwyddodd.'

Fy nghwestiwn clir i'r Ceidwadwyr hynny sydd wedi siarad yw hyn: a ydyn nhw'n credu nad yw hi'n cynrychioli barn ffermwyr os ydyn nhw'n parhau i ddweud bod y cytundebau masnach hyn yn gamau cadarnhaol?

Rydym ni hefyd wedi sôn am borthladdoedd yng Nghymru, ac mae o leiaf 1,000 o swyddi yng Nghaergybi a thua 4,000 yn sir Benfro wedi'u cysylltu â'r porthladdoedd. Felly, mae'n bosibl bod teuluoedd yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y materion sy'n ymwneud â'r dirywiad mewn llongau o Iwerddon. Mae'r tâp coch wedi arwain at nifer o gludwyr yn penderfynu osgoi'r DU a Chymru yn gyfan gwbl, ac gwnaeth y defnydd o lwybrau fferi uniongyrchol rhwng Ffrainc ac Iwerddon gynyddu yn 2021. Yn 2020, roedd llai na 12 llwybr uniongyrchol, ac erbyn hyn mae'n 44, ers mis Hydref 2021. Maen nhw'n osgoi Cymru'n gyfan gwbl, felly mae'r symudiadau ym môr Iwerddon yn uchel, ond mae Cymru'n cael ei hosgoi.

Gweinidog, ar yr holl faterion hyn sy'n effeithio ar fywydau pobl Cymru—a gallaf glywed yr angerdd yn y Senedd—boed yn ffermwyr neu'n bobl sy'n gweithio mewn porthladdoedd, beth fyddech chi'n ei ddweud wrth bob un ohonom ni ar draws y Senedd, pa bynnag blaid yr ydym ni ynddi, i sicrhau a gweithio'n galed i weld bod ein cymunedau gwledig ac arfordirol yn parhau i fod yn iach ac yn fywiog? Diolch yn fawr iawn.

Diolch am y ddau gwestiwn. Rwy'n credu fy mod wedi amlinellu yn gynharach y realiti bod amaethyddiaeth wedi ei defnyddio fel gwrthbwys mewn cytundebau masnach rhyngwladol newydd. A dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n farn ymylol; rwy'n credu ei bod yn eithaf amhosibl edrych ar y bargeinion sydd wedi'u taro a pheidio â dod i'r casgliadau hynny. Mae hynny'n risg glir ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth ym mhob rhan o'r DU, ac roedd hynny'n rhan o'r drafodaeth a gawsom yn y fforwm gweinidogol ar gyfer masnach ac rwyf wedi codi hynny dro ar ôl tro gyda Gweinidogion masnach y DU ers cael eu penodi i'r rôl hon. 

Buom yn siarad yn gynharach yn y datganiad hwn am y realiti bod y fasnach mewn porthladdoedd yng Nghymru sy'n wynebu ynys Iwerddon wedi cael ei heffeithio'n uniongyrchol oherwydd y cynnydd sylweddol mewn traffig sydd wedi osgoi Cymru ac sydd wedi mynd yn uniongyrchol i gyfandir Ewrop. Os ydym ni eisiau bod â dyfodol da i gymunedau arfordirol, i amaethyddiaeth ac i'r holl fusnesau hynny sy'n dibynnu ar berthynas briodol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd, yna mae arnom angen eglurder gan Lywodraeth y DU ynghylch dyfodol y cydberthnasau masnachu hynny. Mae angen eglurder; mae angen dull adeiladol o ymdrin â'r cytundeb masnach a chydweithredu, a rhaid canolbwyntio hynny ar wneud cytundebau ac nid dim ond ar ysgrifennu erthyglau i gythruddo gwahanol rannau o sylfaen y Blaid Geidwadol.

Mae hefyd yn golygu bod angen i ni fod yn onest gyda phobl. Er gwaethaf yr holl weiddi a chymeradwyo yn y Siambr yr wyf i wedi'u clywed, a honni nad oes anfanteision i'n sefyllfa ni nawr, yn ein perthynas newydd, mewn gwirionedd, nid dyna y mae busnesau yn ei ganfod. Dylem barchu'r ffaith mai dyna realiti'r busnesau hynny a'r swyddi y maen nhw'n eu cefnogi, ac mae angen i ni fynd i'r afael â'r gwirioneddau hynny neu ni fyddwn ni byth yn manteisio ar ble mae cyfleoedd yn ogystal â dod o hyd i ffyrdd drwy rai o'r heriau gwirioneddol y mae swyddi a busnesau yn eu hwynebu. Mae'n rhaid mai'r ffordd ymlaen yw bargen o onestrwydd, y gwn nad yw bob amser yn rhywbeth y mae pob gweithredydd gwleidyddol yn rhoi premiwm arno, yn enwedig yn yr adeg bresennol, ond bargen o realiti a gonestrwydd, ac rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom ni, waeth pa blaid yr ydym ni ynddi, i fabwysiadu'r dull hwnnw.

17:25

Diolch, Llywydd, a rwyf innau, fel eraill, yn croesawu penodiad Derek Vaughan fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop. Bydd unrhyw arsylwr teg yn cydnabod ei brofiad perthnasol enfawr a'i wybodaeth, a'i enw da ar draws y pleidiau, a hefyd y berthynas y gall ei defnyddio yn yr UE. Mae'n ddewis ysbrydoledig, Gweinidog, a dymunwn y gorau iddo yn ei ymwneud â Chymru.

A gaf i groesawu hefyd ailddatgan ein gwerthoedd a rennir gyda chymdogion Ewropeaidd blaengar? Efallai ein bod wedi gadael aelodaeth o'r UE, ond nid ydym wedi rhoi o'r neilltu y gwerthoedd sylfaenol hynny o ryddid ac urddas dynol a democratiaeth a chydraddoldeb, rheol y gyfraith a hawliau dynol, ac rwy'n croesawu'r ailddatganiad hwnnw. A gaf i ofyn iddo gadarnhau y byddwn ni yng Nghymru yn parhau i weithio gyda ffrindiau yn Ewrop i ddiogelu a hyrwyddo'r gwerthoedd hynny, nid yn unig ar draws yr UE a'r cyfandir ond yn fyd-eang?

Nawr, Gweinidog, ni wnaf ailadrodd y sylwadau gan lawer heddiw ar yr hyn a oedd yn gelwydd noeth a ddywedwyd gan y Prif Weinidog wrth yr etholwyr, gan gynnwys y rhai hynny a bleidleisiodd i adael yr UE, na fyddai ceiniog yn cael ei cholli i Gymru mewn cronfeydd strwythurol i leoedd fel cymoedd y de, neu na fyddai ffermwyr Cymru ar eu colled o ran unrhyw gyllid nac yn cael eu haberthu mewn cytundebau masnach is na'u gwerth. Ond yn y pen draw mae dweud celwyddau yn dal i fyny gyda chelwyddgwn, ac rydym ni'n gweld hynny yn awr yn San Steffan.

Ond un cwestiwn olaf, Gweinidog: a wnaiff e' egluro ymgysylltiad Llywodraeth Cymru ar drafodaethau masnach gyda'r UE yn y dyfodol? Mae'r gallu i ddylanwadu a helpu i lywio masnach yn yr UE a'r tu allan yn hollbwysig, a byddai'n arwydd o Lywodraethau aeddfed, ac mae gan Alun Davies a minnau rywfaint o brofiad o sut y gall hyn weithio'n effeithiol. Hyd yn oed os yw'r prif safle gan Weinidogion y DU, Llywodraeth y DU ffôl a fyddai'n ceisio rhoi'r Llywodraethau datganoledig o'r neilltu. Byddai Llywodraeth y DU yn ddoeth i geisio ffrwyno sgiliau arbenigol a mewnwelediad ac effaith a dylanwad y gwledydd datganoledig, a defnyddio ein perthynas sydd wedi ei sefydlu'n dda yn yr UE i wella trafodaethau a chael gwell canlyniadau i Gymru ac i'r DU.

Diolch. Rwy'n credu bod ychydig o bwyntiau i ymateb iddyn nhw gan yr Aelod dros Ogwr, ac rwyf yn sicr yn cytuno—dyna pam y mae yn y datganiad. Rydym ni yn rhannu gwerthoedd â gwledydd Ewrop ar draws yr Undeb Ewropeaidd: ein gwerthoedd democrataidd; y ffaith ein bod yn derbyn canlyniadau etholiad, p'un a ydym yn eu hoffi ai peidio; y ffaith bod gennym etholiadau rhydd a theg; y ffaith bod pob un ohonom ni, gan gynnwys Gweinidogion, yn gyfartal o flaen y gyfraith ac yn ddarostyngedig i reol y gyfraith. Mae'r rhain yn bethau nad ydym ni'n eu gweld ym mhob rhan arall o'r byd, ac ni ddylem eu trin yn ysgafn na'u hildio er mantais bleidiol fach. Rydym wedi gweld y llwybr hwnnw a beth mae hynny'n ei olygu. Os edrychwch chi ar America, mae gennych chi bobl sy'n barod i ymosod ar adeilad y capitol yn America oherwydd nad oedden nhw'n hoffi canlyniad etholiad rhydd a theg. Felly, dylem warchod y gwerthoedd hynny'n genfigennus ac yn ofalus, boed yma neu mewn Llywodraethau eraill ledled y DU hefyd.

A phan ddaw'n fater o gytundebau masnach rydd, mewn gwirionedd, un o'r pethau yr ydym ni'n credu sydd wedi bod yn werthfawr fu rhai o'r pwyntiau ar werthoedd, ar edrych ar weithredu ar gyfranogiad pobl mewn bywyd cyhoeddus a'r hyn yr ydym ni am geisio'i gyflawni. Felly, mewn gwirionedd, mae hynny hefyd yn cynnwys rhai o'r pwyntiau amgylcheddol y gwnaeth Llywodraeth y DU geisio eu cynnwys yn y cytundeb masnach rydd gydag Awstralia. Felly, mae cyfleoedd o fewn y cytundebau masnach rydd hynny, a dyna pam yr ydym yn ceisio tynnu sylw at y ffaith mai Llywodraeth yw hon sydd wedi ymrwymo i fabwysiadu dull adeiladol, a dyna pam mae ein swyddogion wedi gweithio'n adeiladol gyda rhai Llywodraeth y DU. Dyna pam yr ydym yn credu y byddai'n synhwyrol manteisio nid yn unig ar y profiad, ond y mewnwelediad a ddaw yn sgil Gweinidogion Cymru, gyda'r mandad sydd gennym yn uniongyrchol gan bobl Cymru, yn y ffordd y gellid ac y dylid cynnal y trafodaethau hyn gyda gweddill Ewrop. Nid wyf yn credu ei fod yn safbwynt afresymol ac, fel y dywedwch chi, mae gennych chi, yn ogystal â'r Alun Davies anarferol o dawel, brofiad o wneud hyn yn rheolaidd fel rhan o dîm y DU sy'n parchu sefyllfa Llywodraeth y DU ond gweinyddiaethau eraill hefyd.

Edrychaf ymlaen at weld a yw bywyd ar ôl aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd mewn gwirionedd yn cyflawni'r addewidion a wnaed, a fyddwn ni'n gweld yr addewidion a dorrwyd yn cael eu datrys pan gawn y Papur Gwyn codi'r gwastad hir-ddisgwyliedig o'r diwedd, ac, o gofio bod yr Aelod yn cynrychioli rhan fawr o sir Pen-y-bont ar Ogwr, i sicrhau bod yr angen hwnnw'n cael ei adlewyrchu'n briodol yn y ffordd y bydd arian yn cael ei ddarparu yn y dyfodol. Rwy'n credu fod y ffordd y cafodd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a sir y Fflint eu trin mewn rowndiau treialu blaenorol yn frawychus ac yn anamddiffynadwy. Edrychaf ymlaen at fframwaith priodol ynghylch sut y dyrennir arian sy'n ystyried yn briodol yr angen ym mhob rhan o'r DU, gyda swyddogaeth briodol i Lywodraeth Cymru, ac, yn wir, rhoi diwedd ar dorri addewidion, i sicrhau ein bod yn cael yr holl arian a addawyd i ni. Ni waeth sut y gwnaethoch chi bleidleisio, roedd honno'n addewid uniongyrchol gan Lywodraeth y DU, ac yn un yr wyf i'n disgwyl iddyn nhw ei chyflawni. 

17:30
7. Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021

Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM7900 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Rhagfyr 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn ymwneud â phennu cyfraddau treth 2022-23 ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi. Fe'u gwnaed gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol 'gwnaed'. Mae'r rheoliadau hyn yn pennu'r cyfraddau gwaredu safonol, is ac anawdurdodedig ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi a fydd, yn amodol ar ganlyniad y ddadl heddiw, yn gymwys i warediadau trethadwy a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2022.

Yn unol â fy nghyhoeddiad yn y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, bydd y cyfraddau safonol ac is ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi yn cynyddu yn unol â'r mynegai prisiau manwerthu. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod y gyfradd yn parhau i fod yn gyson â threth tirlenwi Llywodraeth y DU ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan ddarparu'r sefydlogrwydd y mae busnesau wedi dweud wrthym ei fod ei angen arnynt. Eleni, drwy bennu cyfraddau treth sy'n gyson â threth tirlenwi'r DU, bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa o refeniw treth gan sicrhau bod y risg o symud gwastraff dros y ffin yn cael ei leihau.

Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud eleni i ystyried yr agenda tymor hwy ar gyfer cyfraddau treth gwarediadau tirlenwi. Rwyf hefyd wedi comisiynu adolygiad annibynnol o Ddeddf y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, a fydd yn dod i ben erbyn mis Medi 2023. Bydd unrhyw ganfyddiadau o'r adolygiad hwn yn bwydo i mewn i ddatblygu polisi yn y dyfodol. Bydd y gyfradd safonol yn cael ei chynyddu i £98.60, a £3.15 y dunnell fydd y gyfradd is. Y gyfradd anawdurdodedig, a bennwyd ar 150 y cant o'r gyfradd safonol i annog pobl i beidio ag ymwneud â gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon, fydd £147.90 y dunnell. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn.

Diolch. Does neb wedi dweud eu bod nhw am gyfrannu at y ddadl, felly dwi'n cymryd bod y Gweinidog ddim angen ymateb i ddim. Ac felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2022

Eitem 8 yw'r eitem nesaf. Hwn yw'r Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2022. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yma. Julie James.

Cynnig NDM7899 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Rwy'n falch o allu cyflwyno Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2022, sy'n gwneud mân ddiwygiadau technegol i Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020. Mae effeithiau'r gwelliannau hyn yn ddeublyg: yn gyntaf, bydd y pwerau rheoleiddio a gorfodi sydd ar gael i reoleiddwyr cenedlaethol wrth arolygu safleoedd yn cael eu cryfhau; yn ail, bydd y ffordd y caiff y lwfansau allyriadau yn y cynllun eu hildio yn cael eu gwella.

Mae'r Gorchymyn yn rhoi'r pŵer i archwilio safle er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth i berson awdurdodedig yn ychwanegol at y rheoleiddiwr, yn creu trosedd o rwystro personau yn fwriadol wrth arfer y pwerau gorfodi, yn galluogi cosb sifil gael ei chymhwyso i bersonau sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad i ddychwelyd lwfansau, ac yn cynnwys gofyniad i ildio unrhyw ddiffyg lwfansau o flynyddoedd blaenorol y cynllun ar yr adeg pan fo trwydded gosodiad wedi'i hildio neu ei dirymu.

Gofynnwyd am gyngor gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd wrth ddrafftio'r Gorchymyn. Trwy reoleiddio cynllun masnachu allyriadau'r DU yn well, byddwn yn gallu cyflawni'n well y canlyniadau amgylcheddol a ragwelir gan y cynllun. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am graffu ar y Gorchymyn, ac rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Siambr. Diolch.

Does gyda fi ddim siaradwyr yn y ddadl yma. Rwy'n cymryd eto nad yw'r Gweinidog eisiau cloi'r ddadl, ac felly fe wnaf i ofyn a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Does dim gwrthwynebiad, felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

17:35
9. Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

Eitem 9 yw'r eitem olaf heddiw. Y rhain yw'r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021. Dwi'n galw ar y Gweinidog materion gwledig i wneud y cynnig yma. Lesley Griffiths. 

Cynnig NDM7901 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Rhagfyr 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Diolch am y cyfle i roi rhywfaint o gefndir yn fyr ar gyfer y ddadl heddiw ar Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.

Gwneir y rheoliadau hyn gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol 'gwnaed' o dan bwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Fe'u gosodwyd gerbron y Senedd ar 23 Rhagfyr a daethant i rym ar 30 Rhagfyr. Newidiodd Rheoliadau gwreiddiol y Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011, a gymeradwywyd gan y Senedd ddechrau'r llynedd, y dyddiad gwreiddiol ar gyfer hysbysu ymlaen llaw am fewnforion i Gymru o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid o 1 Ebrill 2021 i 31 Gorffennaf 2021. Yn unol â chyflwyno rheolaethau ar y ffin yn raddol, gohiriwyd y gofynion ddwywaith y llynedd eto o 31 Gorffennaf 2021 i 1 Hydref 2021 ac yn ddiweddarach tan 1 Ionawr 2022. Gwnaed yr holl newidiadau blaenorol hyn yn unol â diwygiadau cyfatebol yn neddfwriaeth Lloegr a'r Alban, ac fe'u cymeradwywyd gan y Senedd. Bydd fy swyddogion yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac yn gweithio gyda Llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau trefn fewnforio gyson ledled Prydain Fawr.

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 2011 i ddileu'r gofyniad i gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a sgil-gynhyrchion anifeiliaid gael eu hategu gan y dystysgrif iechyd briodol ar gyfer mewnforion trydydd gwlad cyn diwedd y cyfnod graddoli trosiannol. Mae'r rheoliadau'n hepgor yr angen i'r rhan fwyaf o fewnforion cynnyrch anifeiliaid o ynys Iwerddon gael eu hysbysu ymlaen llaw o 1 Ionawr 2022 tan 1 Gorffennaf, gydag ambell eithriad. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Atodlen 5 i reoliadau 2011 i alluogi pwerau gorfodi i barhau i fod ar gael yn ystod y cyfnod graddoli trosiannol estynedig ac eithrio mewn mannau rheoli ar y ffin mewn perthynas ag anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid yng Nghymru.

Mae'r rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 i ymestyn y gwaharddiad dros dro ar y gofyniad bod paratoadau cig wedi'u rhewi'n ddwfn pan gânt eu mewnforio i Gymru o aelod-wladwriaethau'r AEE, Ynysoedd Faroe, yr Ynys Las neu'r Swistir, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r cyfnod graddoli trosiannol estynedig.

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nawr—Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog, hefyd. Ystyriwyd y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 17 Ionawr, ac mae ein hadroddiad i'r Senedd yn cynnwys un pwynt adrodd teilyngdod. 

Fel yr eglurodd y Gweinidog eisoes, mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 a Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.

Fe wnaethom nodi yn ein hadroddiad—dim ond ychydig o sylwadau byr sydd gennyf yma—bod Llywodraeth y DU wedi cynnal ymarfer ymgynghori byr ynglŷn â'i rheoliadau a oedd yn cydnabod rhai newidiadau sy'n effeithio ar Gymru. O gofio bod Llywodraeth y DU wedi gallu cynnal ymgynghoriad, gofynnwyd i Lywodraeth Cymru gadarnhau pam nad oedd yn gallu cynnal ymgynghoriad byr tebyg yng Nghymru. Yn ei hymateb i'n hadroddiad, eglurodd y Llywodraeth wedyn nad oedd wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yma oherwydd pa mor frys yr oedd y rheoliadau ond bod Llywodraeth y DU, yn wir, wedi gwneud hynny yn lle hynny. Aeth ymateb y Llywodraeth yma yng Nghymru ymlaen i egluro bod y ddogfen ymgynghori yn nodi y byddai newidiadau tebyg yn cael eu cyflwyno mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth ddomestig yng Nghymru, a bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn rhoi manylion penodol am randdeiliaid o Gymru y gofynnwyd iddynt ymateb i Lywodraeth y DU.

Rydym yn wir yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y wybodaeth honno, y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd yn ei hymateb i'n hadroddiad. Ond, Gweinidog, ac mae'n debyg bod hwn yn ailadroddiad cyfarwydd i chi yn awr gan ein pwyllgor ni, yr hyn a nodwn yw pe bai'r esboniad, a oedd yn ddefnyddiol iawn, wedi'i gynnwys yn y memorandwm esboniadol yn y lle cyntaf un, byddai wedi bod yn fwy defnyddiol fyth i gynorthwyo'r Senedd yn ei gwaith craffu, ond fel y dywedais i, Gweinidog, rydym yn ddiolchgar am yr esboniad dilynol mewn ymateb i'n hadroddiad, ac rydym bob amser yn ddiolchgar pan fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella'r ffordd y mae'n cyflwyno memoranda esboniadol hefyd. Diolch yn fawr iawn, Llywydd. 

17:40

Does gen i ddim siaradwyr eraill. A yw'r Gweinidog yn dymuno ymateb? Na, mae'r pwyntiau wedi'u gwneud.

Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does dim gwrthwynebiad, felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Mae pob cynnig y prynhawn yma wedi'i dderbyn, felly does yna ddim pleidleisio. Dyna ni, dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw. Diolch yn fawr. 

Daeth y cyfarfod i ben am 17:40.