Y Cyfarfod Llawn

Plenary

25/01/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llwydd

Prynhawn da, bawb, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma. 

Cyn inni gychwyn heddiw, a gaf i gymryd y cyfle i ddymuno pen-blwydd hapus yn 100 oed i un o'n cymdogion ni yma ym Mae Caerdydd, sef Urdd Gobaith Cymru, ac un o fudiadau ieuenctid mwyaf Ewrop? Ac os na fuasem ni fel Senedd yn cwrdd yn rhithiol heddiw, yna mi fyddwn i wedi eisiau i'r holl Aelodau i sefyll ar eu traed nawr a chydganu:

'Hei, Mistar Urdd, yn dy goch, gwyn a gwyrdd, / Mae hwyl i'w gael ym mhobman yn dy gwmni.' 

Ond, gan ein bod ni'n rhithiol, ac ar ôl i fi 'embarrass-o' fy hunan yn llwyr yn fanna, mi wnawn ni jest ddymuno'n dda i'r Urdd am y ganrif nesaf, a diolch iddyn nhw am bopeth maen nhw wedi'i gyflawni ar gyfer ein pobl ifanc ni. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Felly, mi wnaf i symud ymlaen nawr, yn sydyn iawn, i gwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Llyr Gruffydd. 

Difrod gan Lifogydd

Diolch, Llywydd. Wnaf i ddim canu'r cwestiwn, dwi'n ofni. 

1. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i atal difrod gan lifogydd mewn cymunedau yn y gogledd yn sgil newid hinsawdd? OQ57533

Llywydd, yn unol â'r cytundeb cydweithio, mae ein cyllideb ddrafft yn nodi cynnydd mewn cyllid cyfalaf a chyllid refeniw i amddiffyn rhag llifogydd ac amddiffyn yr arfordir ledled Cymru, wrth inni ymateb i heriau’r newid yn yr hinsawdd.

Diolch am yr ateb. Mae'n dda clywed hynny. Wrth gwrs, un rhwystredigaeth yw ein bod ni'n cymryd gymaint o amser yn aml iawn i fynd i'r afael ag adfer is-adeiledd. Yn y cyfamser, yn aml iawn, mae'r difrod yn gallu gwaethygu, ac mae'r gost yn y pen draw yn mynd yn fwy. Dwi'n meddwl am enghreifftiau fel y B5606 yn Newbridge ger Wrecsam. Mae dros flwyddyn nawr ers i'r difrod ddigwydd yn fanna. A phont Llannerch yn Nhrefnant yn Sir Ddinbych, lle mae yna flwyddyn hefyd ers i'r difrod ddigwydd i'r bont yn fanna. Ac yn y ddau achos, wrth gwrs, mae trigolion lleol, pan oedden nhw'n gallu cwblhau teithiau byr, nawr yn gorfod cwblhau teithiau hir eithriadol gan fod yr is-adeiledd wedi'i golli, ac mae hynny'n dod â chost o safbwynt ôl-troed carbon hefyd. 

Felly, a gaf i wneud cais ar i'r Llywodraeth edrych yn fuan, yn ogystal, wrth gwrs, ag edrych yn ffafriol, ar geisiadau gan yr awdurdodau lleol am fuddsoddiad i adfer y ddwy enghraifft yna o is-adeiledd sydd wedi cael eu colli oherwydd llifogydd a newid hinsawdd, oherwydd nid yn unig y mae'r oedi yn golygu bydd y gwaith yna'n costio mwy yn ariannol, ond mae hefyd yn golygu bod yna gost uwch o safbwynt newid hinsawdd?

Wel, Llywydd, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiynau. Un o'r rhesymau pam rŷn ni wedi rhoi mwy o refeniw i mewn i'r system yw i helpu awdurdodau lleol i baratoi ceisiadau am arian i wneud gwaith ble mae'r gwaith yn angenrheidiol. Ac rŷn ni'n cydnabod y ffaith bod yr awdurdodau lleol wedi cael trafferth i roi popeth gyda'i gilydd, i roi pethau i mewn i ni. Er enghraifft, dwi ddim yn gyfarwydd gyda'r enghraifft roedd Llyr Gruffydd yn cyfeirio ati yn Wrecsam, ond dwi yn gyfarwydd gyda phont Llannerch, ac, ar hyn o bryd, dŷn ni ddim wedi derbyn cais oddi wrth y cyngor lleol.

So, beth rŷn ni wedi gwneud yw nid jest gynyddu arian ar yr ochr cyfalaf i wneud y gwaith, ond y refeniw hefyd i helpu awdurdodau lleol a phobl eraill i baratoi at y gwaith, i roi ceisiadau at ei gilydd, i'w rhoi nhw i mewn i ni, a thrwy wneud hynny, i gyflymu'r broses sydd gyda ni i gyd. 

Prif Weinidog, mae llawer o gyrchfannau glan môr ar draws y gogledd, fel y gwyddoch chi, yn agored i berygl llifogydd, gan gynnwys Tywyn a Bae Cinmel yn fy etholaeth i. Nawr, ceir cynlluniau i wella'r amddiffynfeydd môr yn Nhywyn a Bae Cinmel, yn rhan o'r rhaglen rheoli risg arfordirol. Ond mae'r cynigion a ddatblygwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hyd yma yn eithaf anneniadol o'u cymharu â rhai o'r cynlluniau mewn rhannau eraill o'r gogledd, gan gynnwys ym Mae Colwyn a'r Rhyl cyfagos, ac nid yw'n ymddangos eu bod nhw'n adlewyrchu statws pwysig Tywyn a Bae Cinmel i'r economi ymwelwyr. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i'r etholwyr yng Ngorllewin Clwyd o ran gallu Llywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy nawr i gyflwyno gwelliannau newydd i amddiffynfeydd rhag llifogydd arfordirol yn ardal Tywyn a Bae Cinmel a fydd nid yn unig yn gwella diogelwch rhag llifogydd ond hefyd yn gwella'r arfordir, yn gwella mynediad at ein traethau lleol, ac yn gwneud y cyrchfannau hyn yn fwy deniadol i bobl leol ac ymwelwyr hefyd, fel y gallan nhw ennill statws baner las ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau?

13:35

Diolch i Darren Millar am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'n codi nifer o faterion pwysig. Mae'n iawn, wrth gwrs—Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw'r awdurdod rheoli perygl llifogydd ar gyfer y rhannau hynny o'r arfordir, Bae Cinmel i Landdulas, a'r rhannau eraill y soniodd amdanyn nhw. Fel y dywedais i yn fy ateb i Llyr Gruffydd, un o'r rhesymau yr ydym ni wedi cynyddu ochr refeniw ein cyllideb yw i ganiatáu i awdurdodau lleol gael mwy o gapasiti i ddatblygu'r cynlluniau y maen nhw'n eu cyflwyno ar gyfer cyllid wedyn. Ceir 10 cynllun rhaglen rheoli risg arfordirol ar draws y gogledd, ac mae'r arian wedi'i neilltuo—cyfanswm o £190 miliwn, rwy'n credu—i alluogi'r holl gynlluniau hynny i gael eu cyflawni.

Mae mater y mae'r Aelod yn ei godi sy'n un eithaf anodd, yn fy marn i. Mae'n rhaid i'r arian sy'n cael ei neilltuo ar gyfer y rhaglen rheoli perygl arfordirol ganolbwyntio ar ddiogelu cymunedau a busnesau, ac yn y blaen, rhag llifogydd—llifogydd arfordirol. Ac nid yw yno yn bennaf, felly, i gynyddu pa mor ddeniadol yw ardaloedd, nac i ddenu twristiaeth, ond, wrth gwrs, mae'r rheini yn ystyriaethau pwysig iawn pan fydd y cynlluniau hyn yn cael eu dylunio. Nawr, ceir tensiynau, felly, weithiau o ran dod â gwahanol ffrydiau ariannu at ei gilydd, i wneud yn siŵr, pan fydd gwaith yn cael ei wneud, ei fod yn gwneud y prif beth—diogelu cymunedau rhag peryglon llifogydd a llifogydd arfordirol. Ond mae'r ystyriaethau y mae Darren Millar yn eu codi ynghylch sut mae'r gwaith hwnnw yn effeithio wedyn ar ba mor ddeniadol yw ardal ac yn cyfrannu at ei heconomi yn ehangach yn rhai pwysig. A byddaf yn gwneud yn siŵr bod y pwynt hwnnw yn cael ei gyfleu i'r bobl sy'n gyfrifol am oruchwylio'r rhaglenni.

Prif Weinidog, rwy'n croesawu cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru o goeden am ddim i bob aelwyd. Mae etholwyr wedi gofyn i mi holi a fydd yn bosibl i aelwydydd ymuno â'i gilydd a phlannu eu coed mewn mannau cymunedol, i greu coedwigoedd bach ac, mewn rhai achosion, i helpu i amsugno dŵr wyneb mewn ardaloedd cymunedol a allai, o bosibl, arwain at lifogydd i gartrefi fel arall.

Diolch i Ken Skates am hynna, Llywydd. Mae'n gwneud pwynt pwysig—bod plannu coed yn rhan o'r amddiffynfeydd rhag llifogydd naturiol yr ydym ni'n awyddus i'w hyrwyddo fel Llywodraeth Cymru. Diolch iddo am dynnu sylw at ein cynllun i annog pob dinesydd yma yng Nghymru i blannu coed. Bydd Ken Skates yn gwybod, Llywydd, bod dwy elfen i'r cynllun: bydd aelwydydd yn gallu dewis coeden eu hunain a'i phlannu yn eu gardd eu hunain, neu byddan nhw'n gallu gwneud eu coeden yn rhan o ymdrech gymunedol. Bydd y rhan honno o'r cynllun yn cael ei harwain gan Coed Cadw. Rwy'n credu ei bod hi'n wych clywed bod cymunedau mewn cysylltiad â'u Haelod o'r Senedd lleol yn gofyn sut y gallan nhw weithredu gyda'i gilydd drwy'r cynllun hwn i wneud gwahaniaeth o'r math a amlinellodd Ken. Ym mis Chwefror, bydd tudalen bwrpasol yn cael ei chyhoeddi gan Coed Cadw—tudalen we—ac yna bydd y grwpiau hynny yn gallu bod mewn cysylltiad â Coed Cadw a gweld sut y gellir manteisio ar y cyfle gwych hwnnw i blannu mwy o goed yn y ffordd gyfunol honno a gwneud gwahaniaeth o ran llifogydd ac amwynderau cymunedol eraill.

13:40

Mae cwestiwn 2 [OQ57495] wedi ei dynnu yn ôl. Cwestiwn 3 sydd nesaf, felly, gan Delyth Jewell. 

Addysg Gymraeg yn Nwyrain De Cymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol addysg Gymraeg yn Nwyrain De Cymru? OQ57532

Diolch yn fawr i Delyth Jewell am y cwestiwn, Llywydd. Mae’r galw am addysg Gymraeg yn parhau’n uchel yn y rhanbarth. Mae’r awdurdodau lleol ar fin cyflwyno i Weinidogion Cymru eu cynlluniau 10 mlynedd yn gosod mas sut maent yn bwriadu tyfu addysg Gymraeg yn lleol mewn ymateb i’r uchelgais yn 'Cymraeg 2050'.

Wel, diolch am hwnna. Mae'r strategaeth 2050 yn cyfeirio at gynyddu'r gyfran o bob grŵp ysgol sy'n cael addysg drwy'r Gymraeg o 22 y cant erbyn 2031. Mae yna siroedd yn y de-ddwyrain lle nad oes ysgol uwchradd Gymraeg o gwbl. Ond, hyd yn oed gydag ysgolion cynradd, mae yna lefydd sydd ar eu colled. Ers cau adeilad Ysgol Gymraeg Rhyd-y-Grug ym Mynwent y Crynwyr, neu Quakers Yard, does dim ysgol Gymraeg amlwg i blant oedran cynradd sy'n byw yn y pentref, nac yn Nhreharris yn sir Merthyr, nac ychwaith yn Nelson, sydd jest dros y ffin yng Nghaerffili. Gallai ysgol gynradd yn yr ardal yna wasanaethu nifer fawr iawn o ddisgyblion: plant sydd naill ai yn teithio yn bell iawn ar fws bob bore a phob nos, neu sydd ddim yn gallu mynychu ysgol Gymraeg. Rwy'n deall bod cyfrifoldeb ar gynghorau fan hyn, ond, Prif Weinidog, mae plant a theuluoedd yn colli cyfle euraidd i gael mynediad hawdd at addysg Gymraeg. A fyddech chi'n gallu cymryd cyfrifoldeb a gweithio ar y cyd â chynghorau, yn enwedig i'w cael nhw i weithio ar y cyd hefyd, i ffeindio ffyrdd o sicrhau bod plant yn Nelson a Mynwent y Crynwyr yn gallu cael mynediad hawdd at addysg Gymraeg? 

Wel, diolch yn fawr, i Delyth Jewell am y cwestiwn ychwanegol, Llywydd. Ac mae'n wych i gael y cwestiwn ar y diwrnod ble rydym yn dathlu canmlwyddiant yr Urdd, sydd wedi gwneud cymaint o waith i hybu'r iaith gyda phobl ifanc. Fel dwi wedi clywed pan ydw i wedi sgwrsio gyda swyddogion sy'n gweithio ar y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, maen nhw wedi dod i mewn gyda'r uchelgais roeddem ni'n edrych i'w weld yn y cynlluniau newydd. Ac, wrth gwrs, mae hwnna yn ymateb i beth roedd Delyth Jewell yn ei ddweud—treial tyfu'r Gymraeg ym mhob rhan o'r rhanbarth, ond ledled Cymru hefyd, yn enwedig gydag ysgolion cynradd. Dwi ddim wedi gweld y cynlluniau eto. Maen nhw'n dod i'r Gweinidogion yn ystod yr wythnos sydd i ddod, a dwi'n edrych ymlaen at weld cynlluniau ym mhob awdurdod lleol yn rhanbarth Dwyrain De Cymru i weld beth maen nhw'n gallu gwneud er mwyn gwneud mwy i dynnu mwy o blant i mewn i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Pan fyddwn ni'n siarad am ysgolion uwchradd, beth rydyn ni'n gobeithio  gweld yw awdurdodau lleol yn cydweithio—ble dydyn nhw ddim yn gallu gwneud darpariaeth jest ar eu pen eu hunain, i gydweithio gydag awdurdodau lleol eraill i gael addysg uwchradd i blant sy'n gyfleus iddyn nhw, ac o'r safon ble rydyn ni'n gallu gweld yr iaith yn parhau i gynyddu. 

A gaf i ddatgan fy mod i'n dal i fod yn gynghorydd yn Sir Fynwy? Diolch am yr ateb yna i gwestiwn atodol Delyth, Prif Weinidog. Ac, i ychwanegu at hynny, a gaf i ddweud bod darparu mwy o leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ledled Cymru yn hanfodol i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Felly, rwy'n siŵr y gwnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i groesawu'r newyddion am gynllun 10 mlynedd uchelgeisiol Cyngor Sir Fynwy i ddyblu'r lleoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ledled y sir. Mae mynediad at ysgolion cyfrwng Cymraeg mewn rhai ardaloedd gwledig yn anodd iawn, ac mae'r pellter y byddai'n rhaid i rai deithio yn aml yn atal rhieni rhag dewis ysgol Gymraeg i'w plant. Mewn llawer o etholaethau gwledig ledled Cymru, opsiynau trafnidiaeth yw un o'r rhwystrau mwyaf o hyd sy'n atal rhieni rhag anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Prif Weinidog, a wnewch chi a'ch Llywodraeth ailystyried y gofynion a'r anghenion trafnidiaeth presennol ar gyfer plant sy'n dymuno mynychu addysg cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru i sicrhau eu bod yn ddigonol i ddiwallu anghenion rhieni, plant ac awdurdodau lleol? A wnewch chi geisio buddsoddi yn y maes hwn i sicrhau, ochr yn ochr â'n hawdurdodau lleol, nad yw trafnidiaeth yn golygu rhwystr i ymgymryd ag addysg cyfrwng Cymraeg mwyach? Diolch.

13:45

Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog wedi clywed hynna yn ddigon da i'w ateb. Roedd problem gyda'ch meicroffon, felly os gallwn ni wirio hynny yn dechnegol cyn i chi gyfrannu y tro nesaf, ond rwy'n credu ei fod yn ddigon clir, braidd, onid oedd, Prif Weinidog?

Oedd, diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, rwy'n croesawu yn fawr y twf i'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Sir Fynwy ac yn llongyfarch y rhai sy'n gysylltiedig â meithrin y twf hwnnw. Nid mor bell yn ôl â hynny cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn llwyddiannus iawn yn y sir, lle gwnaeth cydweithiwr Laura Jones, Peter Fox, lawer iawn i hyrwyddo'r posibilrwydd hwnnw a gwneud hynny yn llwyddiant. Felly, pan fo arweinyddiaeth leol gref, hyd yn oed mewn rhannau o Gymru lle nad yw'r iaith gryfaf, gallwn ddal i sicrhau twf sylweddol iawn.

Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, wrth gwrs, am gyfleustra addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a'r angen i wneud yn siŵr bod teithio yn cael ei ystyried pan fydd y cynlluniau hynny yn cael eu gwneud, a gallaf ei sicrhau bod y Gweinidogion sy'n gyfrifol—y Gweinidog addysg a'r Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth, Lee Waters—yn trafod yn y Cabinet yr wythnos hon ffyrdd y gallwn ni ddelio â rhai o'r cymhlethdodau sy'n bodoli o ran cludiant i'r ysgol, a rhoi hynny ar waith i gefnogi ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer cynyddu nifer y bobl ifanc sy'n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn cyrraedd ein targed yn 2050.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Ac ar ran y Ceidwadwyr heddiw, Paul Davies. 

Diolch, Llywydd. Cyn ein bod ni'n symud ymlaen i ofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog, hoffwn i ategu'ch sylwadau chi, Llywydd, wrth ddymuno pen-blwydd hapus iawn i'r Urdd, sydd wedi ac sydd yn dal i gyfrannu'n enfawr i'n treftadaeth, i'n hiaith, i'n pobl ifanc ni ac i'n bywyd pob dydd ni. Felly, pen-blwydd hapus iawn.

Prif Weinidog, mae tua 20 y cant o bobl yng Nghymru ar restr aros am driniaeth nad yw'n fater brys, ac mae 1 o bob 4 o'r cleifion hynny wedi bod yn aros dros flwyddyn am driniaeth, ac mae dros 42,000 o bobl bellach wedi bod yn aros am driniaeth ers mis Tachwedd 2019. Nawr, yr wythnos diwethaf, rhybuddiodd y Gweinidog iechyd bod ffigurau yn debygol o waethygu cyn iddyn nhw wella. Felly, yng ngoleuni sylwadau'r Gweinidog iechyd ychydig ddiwrnodau yn ôl, a allwch chi ddweud wrthym ni pa fodelu y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ran ffigurau amseroedd aros? Oherwydd mae'n hanfodol eich bod chi, fel Llywodraeth, yn edrych ar y senarios gwaethaf fel bod byrddau iechyd yn gallu cynllunio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau yn eu rhanbarthau yn fwy effeithiol. Ac a yw'r Gweinidog iechyd yn iawn bod amseroedd aros yn debygol o waethygu?

Llywydd, rwy'n credu bod y Gweinidog iechyd yn iawn, yn y byrdymor, nad ydym ni wedi gweld eto yn y ffigurau a gyhoeddwyd hyd yma effaith y don omicron a'r angen i ddargyfeirio adnoddau'r gwasanaeth iechyd i'r rhaglen frechu a gynhaliwyd yn ystod mis Rhagfyr. Felly, rwy'n credu bod y Gweinidog iechyd, drwy'r modelu sy'n cael ei wneud, yn rhybuddio pobl y bydd y sefyllfa anodd a fydd yn wynebu'r GIG yn gwaethygu cyn iddi wella. Ond bydd yr Aelod Paul Davies wedi gweld Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru yn dweud, hyd yn oed yn y ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, bod arwyddion cyntaf o adferiad, ac mae hynny wedi'i seilio ar fodelu, modelu a wnaed gan fyrddau iechyd, modelu a wnaed ar draws arbenigeddau, wedi'i gefnogi yn aml iawn gan drefniadau cenedlaethol, er enghraifft ym maes orthopedeg, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud ein gorau i gyfateb capasiti newydd i ddelio â'r galw cynyddol sydd wedi tyfu dros yr 20 mis diwethaf. A cheir cyfres o ffyrdd y bydd byrddau iechyd yn bwriadu gwneud hynny—gwneud y mwyaf o'u capasiti eu hunain, cyflawni mwy o restrau ar benwythnosau, ceisio cydweithredu ar draws ffiniau â byrddau iechyd eraill a thros y ffin i Loegr, i'r siroedd a'r byrddau iechyd hynny sydd wedi'u lleoli ar hyd y ffin honno, ac yna gallu gweld y trai yn troi ar y rhestrau sydd wedi datblygu dros y cyfnod diwethaf pan oedd COVID yn goruchafu.

13:50

Prif Weinidog, mae'r Gweinidog iechyd wedi dweud ein bod ni yn dal mewn sefyllfa lle mae cyfyngiadau gwirioneddol iawn yn ein hysbytai oherwydd COVID, ac felly dylai eich sylwadau eich hun yr wythnos diwethaf ein bod ni heibio'r brig, a bod y sefyllfa wedi gwella yn sylweddol, olygu, yn dilyn ffigurau mis Rhagfyr, y dylai amseroedd aros ddechrau lleihau. Yn y cyfamser, mae'n hanfodol nad yw cleifion sy'n mynd i safleoedd GIG mewn perygl o ddal COVID-19. Byddwch wedi gweld yr adroddiad arolygu ysbyty damniol ar Ysbyty'r Tywysog Charles fis diwethaf, a ganfu nad oedd y trefniadau ar gyfer atal a rheoli heintiau yn yr adran achosion brys a'r uned penderfyniadau clinigol yn diogelu cleifion, aelodau'r cyhoedd a staff. Canfu'r adroddiad hwnnw hefyd fethiannau sylweddol o ran cadw at ganllawiau lleol a chenedlaethol, ac fe'i gwnaed yn eglur gan y staff eu hunain eu bod nhw'n poeni am ddal COVID-19 ac yn bryderus am eu cleifion. Felly, Prif Weinidog, pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion y tynnwyd sylw atyn nhw yn yr adroddiad hwnnw? Ac yn ehangach, a allwch chi ddweud wrthym ni beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod trefniadau ar gyfer atal a rheoli heintiau ym mhob ysbyty yn diogelu cleifion a staff mewn gwirionedd?

Llywydd, mae'r hyn a ddywedodd Paul Davies ar y dechrau yn cyfeirio at y cyfyng-gyngor cyfan yma, onid yw? Mae ysbytai yn parhau i orfod delio â nifer sylweddol iawn o gleifion sydd wedi dal coronafeirws—mae dros 1,000 o welyau yn y GIG yn dal i fod yn y sefyllfa honno—ac ysbytai yn gorfod rhannu eu hunain yn barthau coch a pharthau gwyrdd, a staff yn dal i orfod gwisgo cyfarpar diogelu personol, gyda'r holl amser y mae hynny'n ei gymryd a'r effaith y mae'n ei chael ar gynhyrchiant, yr angen i lanhau safleoedd a theatrau llawdriniaethau yn ddwys rhwng cleifion, yn enwedig os ydych chi'n gweithredu lle mae'n hysbys bod COVID yn rhan o gyflwr y claf hwnnw. Nid yw'r gwasanaeth iechyd mewn ffordd gyflym yn mynd i allu parhau fel pe na bai dim o hynny yn digwydd. Bydd sgil-effaith faith ar y gwasanaeth iechyd, ac mae arnaf ofn mai'r camau y mae'r bwrdd iechyd yn eu cymryd a fyddai'n arafu cynhyrchiant yn anochel yw'r union rai y mae Paul Davies yn cyfeirio atyn nhw, sy'n diogelu rhag trosglwyddiad coronafeirws o fewn amgylchedd yr ysbyty.

Nawr, gwelais i'r adroddiad ar sefyllfa Merthyr, ac roedd yn fater a godwyd gan aelodau staff eu hunain. A lle mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dweud bod y cynlluniau gan y bwrdd iechyd lleol i wella'r sefyllfa honno wedi dod atyn nhw mewn ffordd a oedd yn rhoi hyder y byddai'r pethau hynny yn gwella nawr.

Gallwch fod yn siŵr bod staff, ar draws y GIG cyfan, yn gweithio yn ddiflino i geisio atal COVID rhag cylchredeg yn yr ysbyty. Yr un cyfraniad mwyaf y gallwn ni ei wneud at hynny yw parhau i ostwng cyfraddau yn y gymuned, oherwydd mae hwn yn feirws sy'n canfod ei ffordd i leoliadau agored i niwed lle bynnag y mae'r lleoliadau hynny i'w canfod, a pho fwyaf y mae coronafeirws yn cylchredeg yn y gymuned, yr anoddaf yw atal y feirws hwnnw rhag symud i mewn, pa un a yw hynny i leoliad carchar, i leoliad cartref gofal, i ysbyty. Lleoliadau caeedig yw lle mae'r feirws yn ffynnu, a'r cyfraniad mwyaf y gallwn ni i gyd ei wneud i atal y feirws rhag cylchredeg yn yr ysbyty yw lleihau ei gylchrediad yn y gymuned.

Prif Weinidog, mae'n amlwg bod yr adroddiad hwn yn rheswm arall pam mae angen ymchwiliad COVID Cymru gyfan, fel y gellir craffu'n llawn ar faterion fel hyn ac ateb cwestiynau ynghylch sut y digwyddodd y methiannau hyn. Mae gan gleifion yr hawl i deimlo'n ddiogel mewn ysbyty, ac eto, fel y mae'r adroddiad hwn yn ei ddangos, ceir perygl o draws-heintio, ac roedd cleifion mewn perygl mewn rhai achosion. Yn ôl ffigurau diweddar, cafodd bron i chwarter y bobl a fu farw o coronafeirws yng Nghymru eu heintio yn yr ysbyty, ac er i Weinidogion ddweud wrthym ni yn gyson eu bod nhw'n dysgu gwersi ac yn rhoi protocolau cryfach ar waith, mae adroddiad Ysbyty'r Tywysog Charles yn dangos bod cleifion yn dal i gael eu peryglu. Mae wedi dod i'r amlwg bellach, diolch i Grŵp Teuluoedd mewn Profedigaeth COVID-19 dros Gyfiawnder—Cymru, bod adroddiad 'gwersi a ddysgwyd' gan Lywodraeth Cymru yn dilyn yr achosion o SARS yn 2004, lle ymrwymodd Llywodraeth Cymru i archwilio a dyrannu cyllid i wneud iawn am y diffyg cyfleusterau ynysu. Felly, Prif Weinidog, a ddigwyddodd yr archwiliad hwnnw, ac a gafodd ysbytai Cymru y gefnogaeth gywir i foderneiddio eu lleoliadau i ymladd feirysau a drosglwyddir drwy'r awyr rhwng 2004 a dechrau pandemig COVID? Os felly, pam mae rhai byrddau iechyd yn dweud wrth deuluoedd bod diffyg cyfleusterau ynysu wedi peryglu eu gallu i gadw cleifion yn ddiogel? Ac o ystyried y galwadau bellach am ymchwiliad Cymru gyfan gan sefydliadau, gan wleidyddion a chan deuluoedd ledled Cymru, beth fydd yn ei gymryd o'r diwedd i Lywodraeth Cymru gytuno i ymchwiliad Cymru gyfan, fel y gall teuluoedd gael cyfiawnder ac y gallwn ni gael atebion o'r diwedd o ran penderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru gan eich Llywodraeth chi?

13:55

Wel, Llywydd, rwyf i wedi ateb y cwestiwn hwn gan Aelodau o'r Blaid Geidwadol dro ar ôl tro, ac nid wyf i'n bwriadu ailadrodd yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud wrthyn nhw ar yr achlysuron lawer hynny. Yr hyn y byddai'n ei gymryd i ni gael ymchwiliad Cymru gyfan fyddai i mi golli ffydd, fel y mae ef wedi ei wneud eisoes, yn amlwg, yng ngallu Prif Weinidog y DU i ddarparu'r ymchwiliad y mae wedi ei addo. Nawr, os byddaf yn dod at y diffyg hyder sydd ganddo ym mharodrwydd Prif Weinidog y DU i wneud hynny, yna byddai'n rhaid i mi feddwl eto am y trefniadau yma yng Nghymru. Hyd yn hyn, fel yr wyf i hefyd wedi ei esbonio droeon yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi cael cyfle i fod yn rhan o benodiad y barnwr, y Barnwr Hallett, a fydd yn arwain ymchwiliad annibynnol y DU gyfan, ac roeddwn i'n fodlon â'r penodiad hwnnw. Rwy'n falch iawn ei bod hi'n rhywun sydd â dealltwriaeth gref iawn o'r cyd-destun datganoledig a bydd yn dod â'r gallu i sicrhau bod yr ymchwiliad hwnnw yn canolbwyntio ar brofiadau yma yng Nghymru.

Ceir rhwystr arall i'w basio yn ystod y dyddiau nesaf, pan rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld y cylch gorchwyl drafft. Mae gyda'r barnwr o hyd ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru, drwy ein swyddogion, wedi cyfrannu at ddatblygu'r cylch gorchwyl hwnnw. Mae Prif Weinidog y DU wedi addo y bydd cyfle mwy ffurfiol i ni wneud sylwadau arnyn nhw ar ôl i'r Barnwr Hallett gwblhau ei hystyriaeth. Byddaf eisiau gweld bod y cylch gorchwyl hwnnw yn sicrhau y bydd y profiad yma yng Nghymru yn cael ei archwilio yn briodol ac yn llawn gan yr ymchwiliad hwnnw. Ac yna bydd cyfres arall o faterion y bydd angen i mi fod yn fodlon â nhw, ynglŷn â'r ffordd y bydd yr ymchwiliad ei hun yn ymgymryd â'i waith. Byddaf yn disgwyl i'r ymchwiliad gael mynediad at arbenigedd am Gymru. Byddaf yn disgwyl iddo gael gwrandawiadau yma, yn uniongyrchol yng Nghymru, i wneud yn siŵr y gall gasglu profiadau, safbwyntiau a chwestiynau pobl yng Nghymru a fydd eisiau i'r ymchwiliad hwnnw allu gwneud y synnwyr gorau y gall o brofiad teuluoedd, cleifion, staff yma yng Nghymru yn ystod y pandemig. Ni fyddan nhw ond yn cael yr atebion hynny, yn fy marn i, pan fyddan nhw'n gallu archwilio'r hyn a ddigwyddodd yma yng Nghymru o fewn y cyd-destun ehangach ac weithiau'n llunio cyd-destun y DU hwnnw. Dyna pam rwy'n credu mai dyna'r ffordd orau o hyd o gael atebion y bydd pobl yn dymuno eu gweld o ymchwiliad i'r hyn a ddigwyddodd yma yng Nghymru. Ac nid oes amheuaeth y bydd hynny yn cynnwys y cwestiynau eraill y mae'r Aelod wedi eu codi y prynhawn yma.

Llywydd, a gaf innau hefyd longyfarch Urdd Gobaith Cymru ar ran Plaid Cymru am eu canmlwyddiant a hefyd am eu llwyddiant gyda'r ddwy record byd? A diolch iddyn nhw am eu cyfraniad anhygoel i fywyd Cymru dros y ganrif sydd wedi mynd, a hefyd diolch iddyn nhw am roi esgus ichi ddangos eich doniau cerddorol o'r gadair y prynhawn yma. Ond, ymlaen at y craffu.

Prif Weinidog, bu llawer o drafod yn ddiweddar ynghylch byw gyda COVID. Mae'n bwysig cofio, pan fyddwn ni'n clywed yr ymadrodd hwnnw, wrth gwrs, bod bron i 60,000 yng Nghymru, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn byw gyda COVID hir. Mae COVID hir neu syndrom ôl-COVID-19 yn cynnwys amrywiaeth eang o symptomau, ond y nodwedd fwyaf cyson, fel y gwyddom ni, yw math o flinder parhaus difrifol a all fod yn gwbl wanychol. Y tri grŵp galwedigaethol sy'n cael eu heffeithio fwyaf, yn ôl ystadegau swyddogol, yw gofal cymdeithasol, addysgu a gofal iechyd—pobl sydd wedi rhoi eu hunain ar y rheng flaen i wasanaethu eraill ac sydd bellach yn talu'r pris am eu diwydrwydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y dylid dosbarthu COVID-19 fel clefyd galwedigaethol bellach, fel sydd wedi digwydd eisoes mewn wyth gwlad yn Ewrop, yn ogystal ag yng Nghanada a De Affrica, ac y dylai fod gan y rhai sydd wedi dal COVID hir fel clefyd cronig drwy gael eu hamlygu yn y gwaith hawl i iawndal?

14:00

Wel, Llywydd, ni fyddai hwnnw yn fater i Weinidogion, yn fy marn i, i wneud penderfyniad o'r fath heb y cyngor y byddai ei angen arnyn nhw, ac nid wyf i wedi gweld unrhyw gyngor yn uniongyrchol o'r math hwnnw. Ond rwy'n cytuno â'r hyn y mae Adam Price wedi ei ddweud am bwysigrwydd COVID hir. Mae ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wyf i'n credu ei fod yn dibynnu arnyn nhw yn dangos yn wir fod 58,000 o bobl sy'n byw mewn cartrefi preifat yng Nghymru yn dioddef symptomau COVID bedair wythnos ar ôl dal y clefyd am y tro cyntaf, ac mewn bron i draean o'r rheini, neu tua thraean o'r rheini, mae pobl yn dal i ddioddef y symptomau hynny flwyddyn ar ôl cael y digwyddiad acíwt.

Felly, un o'r rhesymau pam yr wyf i'n teimlo mor rhwystredig pan fyddaf yn clywed gwleidyddion Ceidwadol yn bennaf yn siarad yn rhwydd am fyw gyda coronafeirws, fel pe bai'n rhyw fath o fater dibwys, yw ein bod ni'n gwybod mai po fwyaf y bobl sy'n dal coronafeirws yn y gymuned, hyd yn oed pan fydd yn ysgafn i'r rhan fwyaf o bobl, bydd cyfran ohonyn nhw yn byw gyda COVID hir yn y pen draw, a po fwyaf y bobl sy'n dal y clefyd, y mwyaf o bobl y bydd yna sydd â COVID hir. Ac nid yw hynny yn rhywbeth i roi o'r neilltu fel pe na bai'n cyfrif am ddim.

Hyd yma, mae clinigau arbenigol ar gyfer COVID-19 hir wedi cael eu sefydlu yng Nghanada, yr Unol Daleithiau, Lloegr, yr Almaen, Gwlad Belg, Ffrainc, Sbaen, Norwy, ac, yn yr Eidal, mae'r sefydliad iechyd cenedlaethol yno wedi argymell yn ddiweddar y dylid creu clinigau cleifion allanol ôl-COVID yn eu gwlad hwythau hefyd. Y farn gyson ymhlith cleifion yw ei bod hi'n annheg disgwyl i feddygon teulu ddarparu'r cymorth angenrheidiol ar gyfer cyflwr sydd angen ymyrraeth arbenigol ac y mae ei drin yn gofyn am gysylltiad cryf ag ymchwil trosiadol na ellir ond ei ddarparu gan glinigau penodedig, ac y mae ei absenoldeb yn gorfodi llawer o bobl i fynd yn breifat ar hyn o bryd. Byddai hynny yn anghywir beth bynnag, ond mae'n arbennig o anghywir pan fo ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod COVID hir ddwywaith mor gyffredin ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig. A yw Llywodraeth Cymru yn barod i ailystyried ei dull gweithredu a sefydlu clinigau arbenigol y mae cleifion ac arbenigwyr meddygol yn rhyngwladol yn galw fwyfwy amdanyn nhw?

Wel, rwy'n credu bod llawer o anfanteision i'r strategaeth honno. Nid yw'r dystiolaeth y mae'r Aelod yn cyfeirio ati gen i; nid wyf i'n gwybod beth mae'n ei olygu wrth ddweud bod llawer o bobl yn mynd yn breifat, ac yn sicr nid wyf i'n cydnabod y safbwynt bod cleifion o'r farn gyffredinol nad meddygon teulu yw'r bobl iawn i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae'r canolfannau yn Lloegr wedi eu gorlethu gymaint gan atgyfeiriadau erbyn hyn bod rhestrau aros mor hir â COVID hir. Felly, nid yw cymryd y cam syml o sefydlu canolfan o bell ffordd yn sicr yn rhoi'r ateb sydd ei angen ar gleifion. Ac rwyf i wedi credu erioed, os ydych chi'n dioddef o COVID hir—. Roedd Adam Price yn iawn pan ddywedodd bod 51 y cant o'r bobl hynny yn dweud mai blinder gwanychol iawn yw'r prif symptom. Nawr, os oes gennych chi flinder gwanychol iawn ac y dywedir wrthych chi bod yn rhaid i chi wneud taith hir o ble’r ydych chi'n byw i ganolfan arbenigol ymhell i ffwrdd er mwyn cael triniaeth, nid wyf i'n sicr mai dyna'r ateb gorau i'ch cyflwr.

Felly, y dull gweithredu sydd gennym ni yng Nghymru yw ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein clinigwyr gofal sylfaenol mor barod â phosibl i ymateb i gynifer o bobl â phosibl yn llwyddiannus yn agos at eu cartrefi eu hunain, oherwydd natur y cyflwr, ac yna, pan fydd pobl sydd angen math mwy arbenigol o driniaeth, gallu darparu honno drwy'r GIG hefyd. Nid wyf i wedi fy argyhoeddi eto mai'r syniad o ganolfannau yw'r ateb cywir i Gymru.

Rwy'n credu bod y farn gonsensws, yn sicr ymhlith yr arbenigwyr rhyngwladol yr wyf i wedi bod yn eu darllen, yn symud tuag at strategaeth ategol, y mae'n amlwg sydd â rhan i'w chwarae ar gyfer gofal sylfaenol, ond sy'n ategu hynny gyda'r clinigau arbenigol hyn mewn cyflwr lle mae gwybodaeth yn datblygu yn gyflym. Nawr, mae amcangyfrifon ledled y byd yn awgrymu bod rhwng 10 y cant ac 20 y cant o blant sy'n dal COVID-19 yn datblygu COVID hir pediatrig, a chan ddefnyddio ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae'n bosibl amcangyfrif bod ymhell dros 5,000 o blant yng Nghymru yn dioddef o'r cyflwr hwn ar hyn o bryd. Os nad yw Llywodraeth Cymru yn barod i sefydlu clinigau arbenigol ar gyfer oedolion, am y rhesymau y mae'r Prif Weinidog wedi eu hamlinellu, a yw o leiaf yn barod i wneud hynny ar gyfer plant y mae eu bywydau cyfan mewn perygl o gael eu difetha os na chânt y diagnosis cyflymaf posibl, y cyngor meddygol gorau a'r driniaeth fwyaf effeithiol, yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf? Siawns nad yw'r genhedlaeth hon o bobl ifanc, ar ôl yr hyn y maen nhw wedi bod drwyddo eisoes, yn haeddu dim llai.

14:05

Gadewch i mi ddechrau, Llywydd, trwy gytuno â rhywbeth a ddywedodd Adam Price, oherwydd nid wyf i'n meddwl—. Nid fy mwriad i oedd nodweddu'r drafodaeth hon fel pe bai meddwl Llywodraeth Cymru yn gaeedig o ran hyn i gyd, oherwydd mae'n iawn bod gwybodaeth yn datblygu drwy'r amser. Mae astudiaethau ymchwil yn adrodd drwy'r amser. Mae 19 o astudiaethau COVID o ansawdd uchel ar y gweill ar hyn o bryd, ac mae Cymru yn cymryd rhan mewn cryn dipyn ohonyn nhw. Felly, rydym ni'n parhau i ddilyn canlyniad y ddadl honno, ac os oes gwahanol fathau o ddarpariaeth y mae'r wybodaeth sy'n datblygu yn awgrymu y dylem ni eu darparu yma yng Nghymru, yna wrth gwrs dyna'r hyn y byddwn ni'n ystyried ei wneud. Roeddwn i'n myfyrio, ac rwy'n dal i fyfyrio, nad yw'r sefyllfa bresennol o ran gwybodaeth yn fy arwain i gredu mai rhoi ein prif bwyslais ar ganolfannau arbenigol yw'r ffordd orau o gael y cymorth gorau i'r rhan fwyaf o bobl. Nawr, o ran plant, un o'r problemau yma yw nad oes diffiniad y cytunwyd arno o hyd—dim diffiniad clinigol y cytunwyd arno—ymhlith y colegau brenhinol ac eraill sy'n gyfrifol am yr hyn yw COVID hir mewn plant i fod. Sut fyddech chi'n gwneud diagnosis? Sut fyddech chi'n nodi rhywun? Mae'n anodd pan nad yw'r diffiniad ei hun wedi'i gytuno.

Nawr, rydym ni'n dal i fod mewn cysylltiad agos â'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ar y mater hwn. Mae'r niferoedd yr ydym ni'n gwybod amdanyn nhw, sy'n cael eu hadrodd, o blant sydd â COVID hir yng Nghymru yn dal i fod yn isel. A gallwch allosod niferoedd yn y ffordd y gwnaeth arweinydd Plaid Cymru, ond nid yw nifer y plant yn y system mewn gwirionedd y nodwyd eu bod nhw'n dioddef o COVID hir mor uchel ag y byddai'r allosod hwnnw yn ei awgrymu. Mae byrddau iechyd yn trin y plant hynny yn unol â'u hanghenion penodol. Nawr, mae gennym ni grŵp arbenigol ar COVID hir yma yng Nghymru, ac mae ganddo is-grŵp erbyn hyn, sy'n edrych yn benodol ar sut rydym ni'n trin plant â COVID hir, a cheir seminar a drefnwyd ar gyfer 7 Chwefror i glinigwyr sy'n ymwneud â thrin plant ddod at ei gilydd a rhannu profiadau a'n helpu i ddatblygu ein dull o ddarparu gwasanaethau ar eu cyfer. Yn union fel y dywedodd Adam Price, Llywydd, mae ein sefyllfa o ran gwybodaeth a dealltwriaeth yn datblygu, yn gyffredinol, drwy'r amser o ran COVID hir. Rwy'n credu bod hynny yn arbennig o wir am blant, lle mae'n debyg bod gan wybodaeth a dealltwriaeth gryn dipyn o dir i'w ennill cyn y gallwn ni fod yn sicr am y ffyrdd gorau o ddiwallu anghenion y bobl ifanc hynny.

10 Mlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru

4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i nodi 10 mlwyddiant llwybr arfordir Cymru? OQ57530

Diolch i John Griffiths, Llywydd. Mae cynlluniau ar gyfer pen-blwydd llwybr arfordir Cymru yn ddatblygedig iawn. Ym mhob rhan o Gymru, bydd syniadau newydd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd yn dathlu'r llwyddiant eiconig hwn o'r cyfnod datganoli, gan gynnwys, wrth gwrs, cyfleoedd newydd i bobl o bob oed a gallu cerdded.

Prif Weinidog, roedd yn fraint fawr i mi fel Gweinidog yr amgylchedd ar y pryd agor ein llwybr arfordir Cymru gwych, ac, ers hynny, mae awdurdodau lleol, gwirfoddolwyr ac eraill wedi gweithio'n galed i'w gynnal a'i wella. Mae teithiau cerdded cylchol yn ei gysylltu â chymunedau lleol, ac apiau meddalwedd sy'n cyfeirio cerddwyr at nodweddion treftadaeth, mannau o ddiddordeb, bwyd, diod a llety. Mae'n bwysig iawn i wariant ymwelwyr a thwristiaeth, mor bwysig i'n heconomi, ac wrth gwrs mae'n bwysig i bawb yng Nghymru gael y mynediad hwnnw at ein hawyr agored, i gysylltu yn gryfach â'n hamgylchedd, i fod â'r manteision iechyd a llesiant. Felly, rwy'n meddwl gydag asedau mor ardderchog yma yng Nghymru, Prif Weinidog, ei bod hi'n gwbl briodol y dylem ni ddathlu'r 10 mlwyddiant, ac rwy'n credu mai un ffordd effeithiol iawn o'i wneud yw cerdded y llwybr hwnnw, trefnu teithiau cerdded lleol o fewn ffiniau awdurdodau lleol drwy ysgolion, cymunedau a grwpiau cerdded lleol, fel bod y llwybr cyfan, ar adeg y pen-blwydd hwnnw, yn cael ei gerdded yn rhan o'r dathliad mawr hwnnw.

14:10

Rwy'n cytuno yn llwyr â John Griffiths, Llywydd. Mae'n ased cenedlaethol ardderchog. Rwy'n cofio yn dda ei gyfraniad ar y dechrau un, a 10 mlynedd yn ddiweddarach, mae Llywodraeth Cymru eisiau adeiladu ymhellach ar gyflawni'r llwybr, ac rydym ni wedi gofyn i Huw Irranca-Davies arwain adolygiad o bopeth y mae llwybr arfordir Cymru wedi'i gyflawni hyd yn hyn a sut y gallwn ni sicrhau bod ei 10 mlynedd nesaf yr un mor llwyddiannus â'r 10 cyntaf, ac i ehangu ei ddefnydd mewn gwahanol ffyrdd. Rwy'n credu mai'r ffordd orau o ddathlu'r llwybr, fel y mae John Griffiths yn ei ddweud, yw ei ddefnyddio, a'i ddefnyddio ym mhob rhan o Gymru.

Ac a gaf i ddweud wrth John hefyd, Llywydd, fy mod i'n credu bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd yn gwneud gwaith gwych o ran hyrwyddo'r 23 milltir o'r llwybr sydd o fewn y fwrdeistref? Mae canolfan gwlyptiroedd Casnewydd yn un o'r lleoedd sydd wedi creu un o'r teithiau cerdded cylchol hynny y cyfeiriodd John Griffiths atyn nhw, ac, yn rhan o ddathlu'r 10 mlynedd, ceir cynlluniau i gysylltu llwybr yr arfordir â thaith gerdded cwm Sirhywi, taith gerdded dyffryn Wysg, ac i wneud mwy i ddod â phlant a phobl ifanc allan i'w ddathlu. Rydym ni wedi bod yn sôn am ganmlwyddiant yr Urdd yn barod; mae dros 1,000 o flynyddoedd, Llywydd, ers i Gerallt Gymro ddisgrifio rhan o le mae llwybr yr arfordir yng Nghasnewydd yn rhedeg fel rhywle sy'n disgleirio â disgleirdeb gwych, ac, os gallwn ni ddod ag ychydig o'r disgleirdeb gwych hwnnw i ddathlu llwybr yr arfordir yn ystod y flwyddyn hon, rwy'n sicr y bydd y llwyddiant a gychwynnwyd gan John Griffiths 10 mlynedd yn ôl yn parhau i gael ei ddathlu ar draws ein cenedl gyfan.

Mae'n gwbl briodol ein bod ni'n nodi dengmlwyddiant llwybr yr arfordir. Nid yn aml yr wyf i'n dweud fy mod i'n cytuno yn llwyr ac yn croesawu geiriau John Griffiths a'r Prif Weinidog o ran llwybr yr arfordir, oherwydd mae'n helpu i gysylltu ein cymunedau arfordirol â'i gilydd ac yn helpu i hyrwyddo teithio llesol, a dylem ni fod yn falch o'r ffaith bod y llwybr y cyntaf o'i fath yn y byd hefyd. Mae'r llwybr yn mynd drwy fy nhref enedigol ym Mhrestatyn, sef y dref gyntaf yng Nghymru i ennill statws Croeso i Gerddwyr, ac mae hefyd ar un pen o lwybr Clawdd Offa, ac, o Brestatyn, nid yn unig y gallwch chi gerdded ar hyd holl arfordir Cymru, gallwch hefyd gerdded ar hyd ei ffin. Felly, Prif Weinidog, gyda hynny mewn golwg, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fanteisio ar hyn, wrth i ni ddod allan o COVID, i roi hwb i'r sector, sydd wedi cael ei daro yn galed iawn gan y pandemig?

Diolch i'r Aelod am dynnu sylw at y cysylltiad gwych ym Mhrestatyn o lwybr yr arfordir a'r llwybr o'r gogledd i'r de hefyd. Bydd yn gwybod bod y llwybr wedi cael sylw cyson mewn gwobrau cenedlaethol a chanllawiau teithio rhyngwladol blaenllaw—y Lonely Planet, y Rough Guides—ac, o ganlyniad i waith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i nodi'r dengmlwyddiant, rydym ni'n eithaf hyderus bellach y bydd y National Geographic, sy'n gyhoeddiad â chyrhaeddiad rhyngwladol, yn cynnwys erthygl bwysig ar lwybr yr arfordir adeg Dydd Gŵyl Dewi, gan wneud yn siŵr unwaith eto bod popeth sydd gan Gymru i'w gynnig, a'r cynnig lletygarwch a thwristiaeth yr ydym ni'n ei wneud yn arbennig, yn cael ei ddathlu a'i gyfathrebu i gynulleidfa nid yn unig yma yng Nghymru, ond y tu hwnt i lannau'r Deyrnas Unedig.

14:15

Mae cwestiwn 5 [OQ57534] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 6, Mike Hedges.

Llygredd yn Afon Tawe

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd yn afon Tawe? OQ57488

Llywydd, mae gan Dŵr Cymru raglen o weithredu a buddsoddi i fynd i'r afael â llygredd o'i waith trin ar Afon Tawe. Ymdrinnir â mathau eraill o lygredd, gan gynnwys amaethyddiaeth a llygredd o fwyngloddiau metel segur, drwy Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n rhaid i bob corff perthnasol wneud ei gyfraniad at fynd i'r afael â llygredd afonydd er mwyn i'r ymdrechion hynny lwyddo.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb? Mae llygredd difrifol yn Afon Tawe, yn enwedig lle mae'n teithio drwy Abertawe. Rydym wedi cael cwestiynau am lygredd yn Afon Gwy yn y gorffennol, ond mae Afon Tawe hefyd wedi dioddef gollyngiadau, fel y soniodd y Prif Weinidog, o waith trin Trebannws, ac mae deunyddiau gwastraff, fel darnau o goed a phlastig, yn achosi llygredd. Dywedir wrthyf fod tystiolaeth o ewtroffigedd ar Afon Tawe. Mae fy etholwyr yn teimlo nad oes digon o weithredu gan Cyfoeth Naturiol Cymru—y rheini yw'r rhai sy'n credu bod unrhyw weithredu o gwbl. A wnaiff y Prif Weinidog godi'r materion pwysig yn ymwneud â llygredd afonydd a chamau posibl i'w leihau a'i ddileu mewn trafodaethau gyda chydweithwyr yn y Cabinet fel mater o frys?

Wel, Llywydd, diolch i Mike Hedges am hynna, ac rwy'n cytuno ag ef fod llygredd afonydd yn fater brys. Rwy'n credu ein bod ni wedi trafod yr wythnos diwethaf yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog adroddiad Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol Tŷ'r Cyffredin ar amodau ar Afon Gwy. Mae'r rhain yn faterion sydd angen sylw brys, a gallaf sicrhau'r Aelod, yn ogystal â'r pethau yr ydym ni'n disgwyl iddyn nhw gael eu gwneud drwy ein hasiantaethau, drwy'r rheoleiddwyr a thrwy gwmnïau preifat, bod Llywodraeth Cymru ei hun yn gweithredu. Mae ein cynlluniau draenio cynaliadwy ar gyfer adeiladau newydd yn golygu bod y perygl o ddŵr ffo trefol yn llifo i garthffosydd ac yn eu gorlethu yn cael ei leihau, a bydd yr atebion llifogydd seiliedig ar natur y cyfeiriodd Ken Skates atyn nhw ei gwestiwn cynharach, y rheoliadau llygredd amaethyddol a basiwyd gan y Senedd ar ddiwedd tymor diwethaf y Senedd a'n system newydd o gymorth i ffermydd i gyd yn cyfrannu at leihau llygredd yn ein hafonydd o'r ffynonellau hynny.

Soniodd Mike Hedges am effaith plastigau sy'n cael eu gadael ar ein hafonydd ac rydym ni wedi ymrwymo i ddeddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon ar y plastigau untro mwyaf cyffredin. Rydym ni'n ystyried fel Llywodraeth sut y gallwn ni ddefnyddio, er enghraifft, y rheoliadau trwyddedu amgylcheddol i dynhau ar y llygredd sy'n dod o'r amrywiaeth eang honno o ffynonellau y soniodd Mike Hedges amdanyn nhw, Llywydd, oherwydd, yn ogystal—a gwn ei bod yn broblem arbennig yn Afon Tawe o amgylch Trebannws—â gollwng carthion i'r afon, ceir llawer iawn o ffynonellau eraill o lygredd sy'n llifo i'n hafonydd. Mae'r hanes glofaol o amgylch Abertawe, yng nghwm Tawe, yn sicr yn rhan o'i hanes sy'n gadael etifeddiaeth o ran llygredd afonydd heddiw, a gollyngiadau diwydiannol, datblygiad tai a dŵr ffo o ffyrdd. Er mwyn gwella ansawdd dŵr afon, mae'n rhaid i ni gymryd golwg gyflawn ar yr holl wahanol ffyrdd y mae'r llygredd hwnnw yn digwydd, ac yna symud ymlaen, i ddod o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael â bob un ohonyn nhw.

Llywodraethu'r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig

7. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch llywodraethu'r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig? OQ57513

Llywydd, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau, yn egnïol, i ddadlau'r achos dros ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus annibynnol a ariennir yn gyhoeddus. Gyda memorandwm cyd-ddealltwriaeth teiran a lofnodwyd yn ddiweddar yn weithredol rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a'r BBC, rydym ni'n disgwyl cymryd rhan lawn mewn trafodaethau ar siarter y BBC.

Diolch, Prif Weinidog. Fel cyn-aelod o Gyngor Darlledu'r BBC yng Nghymru, hoffwn ddatgan ar gyfer y cofnod.

Ers i'r Torïaid gymryd rheolaeth dros Lywodraeth y DU yn 2010, mae cyllideb y BBC wedi dioddef toriad o 30 y cant mewn termau real. Nawr mae Nadine Dorries a'r Torïaid eisiau cynnig rhewi ffi'r drwydded am ddwy flynedd arall, ac mae hynny yn cyfateb i holl gyllideb radio'r DU. Prif Weinidog, 43c y dydd yw cost y BBC, ac eto mae ei wir gost yn anfesuradwy o ran dyletswydd sector cyhoeddus ac enw da byd-eang. BBC Cymru Wales fu'r prif sefydliad cyfryngau allweddol ar gyfer adrodd, dadansoddi a chyfleu pandemig COVID-19 yng Nghymru ac ymateb Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru iddo.

Prif Weinidog, ysgrifennodd David Dimbleby at The Times yr wythnos diwethaf i awgrymu y dylai'r BBC ystyried cynnig dull gwahanol i'r Llywodraeth o godi ei gyllid, yn seiliedig ar fandiau cyfradd y dreth gyngor, a byddai'r rhai ym mand A yn talu'r mwyaf am feddu ar set deledu a'r rhai ym mand D, y lleiaf. Prif Weinidog, beth yw barn Llywodraeth Cymru ar hyn a beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn ein BBC rhag y weithred warthus hon yn ei erbyn gan y Torïaid, a fydd yn erydu newyddiaduraeth yn llechwraidd?

14:20

Llywydd, a gaf i ddiolch i Rhianon Passmore am ei chyfres o bwyntiau pwysig iawn? Rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn y dywedodd hi am bwysigrwydd y BBC yma yng Nghymru. Mae 92 y cant o oedolion yng Nghymru yn defnyddio'r BBC bob un wythnos, boed hynny ar gyfer chwaraeon, ar gyfer newyddion neu ar gyfer diwylliant, neu yn y ffordd y mae BBC Cymru yn cefnogi'r Gymraeg. Ac mae ehangu gweithrediad y BBC yng Nghymru wedi bod yn rhan annatod o lwyddiant rhyfeddol y diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, rydym ni'n gwbl gywir i amddiffyn y BBC ar amrywiaeth eang o ffryntiau: ei annibyniaeth a'i gylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus i hysbysu, addysgu a diddanu, a hefyd i'w amddiffyn rhag yr hyn a nodweddai'r Financial Times yng nghyhoeddiad Nadine Dorries drwy Twitter nos Sul fel rhan syml o gynllun Downing Street i dynnu sylw oddi wrth broblemau arweinyddiaeth Boris Johnson.

Nawr, rwy'n credu bod cyfraniad David Dimbleby yn un diddorol. Nid wyf i fy hun yn gefnogwr diamwys o ffi'r drwydded; mae'n ddigon posibl, fel y dywedodd John Whittingdale, AS Ceidwadol arall a chyn-Weinidog dim ond yr wythnos hon, mai dyma'r ffordd leiaf gwael o godi arian i'r BBC o hyd, ond mae'n dreth atchweliadol; mae'n achosi'r baich mwyaf i'r rhai sydd â'r lleiaf, a gallai system raddedig o'r math a nodwyd gan Rhianon Passmore fod yn ffordd o gyfuno math o ffi drwydded gyda mwy o degwch yn y dyfodol. Ond mae angen meddwl am y pethau hynny yn ofalus a chan Lywodraeth sydd â rhinweddau craidd y BBC fel rhywbeth y mae eisiau eu dathlu, nid rhoi'r BBC yn y rheng flaen oherwydd ei anawsterau helaeth ei hun.

Stelcio

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol o stelcio? OQ57529

Llywydd, rydym ni'n cryfhau ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i gynnwys stelcio ac aflonyddu ar fenywod a merched mewn mannau cyhoeddus yn ogystal ag yn y cartref. Mae mynd i'r afael â chasineb at fenywod a thrais gwrywaidd wrth wraidd ein dull gweithredu.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu eich ateb. Yn 2012, yn dilyn ymgyrch dan arweiniad cyn-AS Plaid Cymru Elfyn Llwyd, daeth deddfau newydd i rym a oedd, am y tro cyntaf, yn cydnabod stelcio fel trosedd benodol. Chwaraeodd fy nghyd-Aelod Plaid Cymru Delyth Jewell ran ganolog yn yr ymgyrch hon hefyd. Gan ei bod hi'n Fis Ymwybyddiaeth Stelcio Cenedlaethol, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i fynd i'r afael â'r drosedd hon a chefnogi dioddefwyr.

Mae bron i 1.5 miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr yn dioddef stelcio bob blwyddyn—trosedd sydd wedi tyfu ers dechrau'r pandemig—a chan fod dros 80 y cant o ddioddefwyr sy'n galw'r llinell gymorth stelcio genedlaethol yn fenywod a'r tramgwyddwyr yn ddynion yn gyffredinol, mae stelcio yn amlwg yn drosedd sy'n seiliedig ar ryw. Rhwng Ionawr 2020 a Mawrth 2021, yn bryderus, dim ond dau orchymyn amddiffyn stelcio, neu SPO, llawn a ddyfarnwyd yng Nghymru, er i 3,000 o droseddau stelcio gael eu hadrodd i'r heddlu. A yw'r Prif Weinidog wedi cysylltu â chomisiynwyr heddlu a throseddu Cymru i'w hannog i sefydlu cymorth arbenigol i ddioddefwyr stelcio a hyfforddiant i swyddogion yr heddlu? Ac a wnaiff y Llywodraeth hefyd fynd i'r afael â'r diffyg SPOs a sicrhau bod cwnsela i ddioddefwyr stelcio hefyd yn cael ei gynnwys yn ei strategaeth trais yn erbyn menywod a merched? Diolch.

14:25

Wel, diolch yn fawr am y cwestiynau.

Gwnaed cyfres o bwyntiau pwysig gan yr Aelod yn y fan yna. I fod yn eglur, Llywydd: nid ydym yn cytuno â dull y Swyddfa Gartref, sy'n ymddangos fel pe bai'n rhoi'r pwyslais ar fenywod yn cymryd camau i amddiffyn eu hunain drwy newid eu hymddygiad yn hytrach na newid agweddau ac ymddygiad y rhai sy'n cyflawni'r cam-drin. Nawr, yma yng Nghymru, mae gennym ni raglen fel Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth, i nodi stelcwyr yn well, o hyfforddiant rhanbarthol i ymarferwyr er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r problemau y mae'r Aelod yn eu codi. Wrth gwrs, mae llawer o'r hyn y mae'n ei ddweud, fel y gwnaeth hi gydnabod, yn nwylo'r heddlu, y gwasanaeth nad yw wedi'i ddatganoli. Ond gallaf ei sicrhau yn llwyr fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu yn uniongyrchol â'r pedwar heddlu yng Nghymru ar y mater hwn.

Cafodd Jane Hutt, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol, gyfarfod ag arweinydd cenedlaethol—ac rwy'n golygu'r DU wrth ddweud hynny—yr heddlu dros drais yn erbyn menywod ar 1 Rhagfyr. Cadeiriodd fwrdd partneriaeth yr heddlu ar 2 Rhagfyr, ac roedd hynny yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am gyfraniad yr heddlu at yr ymgynghoriad ar strategaeth VAWDASV gan y prif gwnstabl Pam Kelly, prif gwnstabl Gwent. Ac eto, bu Jane Hutt mewn cysylltiad â'r prif gomisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru ar 19 Ionawr, lle'r oedd y trafodaethau yn cynnwys casineb at fenywod. Felly, ein nod yw defnyddio ein pwerau gymaint ag y gallwn, yn y ffordd honno o godi ymwybyddiaeth, i wneud yn siŵr bod ymarferwyr wedi'u paratoi, ond i weithio gyda'r heddlu hefyd, fel eu bod nhw'n arfer eu cyfrifoldebau a'u pwerau yng Nghymru sy'n effeithiol yn erbyn y materion a godwyd gan yr Aelod.

A, Llywydd, i gloi efallai y caf i annog unwaith eto unrhyw un nad yw wedi ymateb eto i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ein strategaeth genedlaethol VAWDASV ddiwygiedig i wneud hynny. Daw'r ymgynghoriad hwnnw i ben yn eithaf buan nawr ar 7 Chwefror, a bydd yn ffordd i ni fwrw ymlaen â llawer o'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi y prynhawn yma.

Diweithdra Ymysg Pobl Ifanc

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fentrau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc yng nghymoedd de Cymru? OQ57504

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol na fydd unrhyw genhedlaeth goll yng Nghymru o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws. Mae ein gwarant i bobl ifanc yn rhaglen uchelgeisiol, sydd â'r bwriad o ddarparu cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb dan 25 oed yn ne Cymru, gan gynnwys Cymoedd y De.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynna. Tybed, Prif Weinidog, a wnewch chi amlinellu eich gweledigaeth ar gyfer sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni mewn mannau fel Blaenau Gwent, lle, yn hanesyddol, rydym ni wedi cael anawsterau yn manteisio ar rai o'r cyfleoedd hynny, a sicrhau bod mynediad cyfartal a chyfle cyfartal i bobl lle bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru. Rwy'n awyddus bod person ifanc yn Nhredegar neu Frynmawr, Glynebwy neu Abertyleri yn cael yr un cyfle i fanteisio ar brentisiaeth, i fanteisio ar gyfleoedd addysg bellach ac uwch, i fanteisio ar gyfle i ddechrau gyrfa a gweithio fel plentyn sy'n tyfu i fyny yn rhywle arall, person ifanc sy'n byw yn rhywle arall. Felly, rwy'n awyddus i ddeall, Prif Weinidog, sut y gallwn ni sicrhau bod hwn yn cael ei ddarparu yn gyfartal ledled Cymru gyfan.

Wel, diolch i Alun Davies am hynna, Llywydd. Dywedais yn fy ateb gwreiddiol fod y warant i bobl ifanc yn canolbwyntio ar fwy o gyfleoedd mewn addysg, mewn caffael sgiliau ac yn uniongyrchol mewn cyflogaeth. A hoffwn sôn yn gryno iawn am enghreifftiau o bob un o'r tri, yn enwedig yng Nghymoedd y De ac yn etholaeth yr Aelod ei hun.

Bydd yn gwybod bod rhan o'r ysbrydoliaeth ar gyfer y syniad o warant i bobl ifanc wedi dod o ymweliad a wnaeth ef a minnau i Thales yn ystod gwanwyn y llynedd, pan wnaethom ni ddarganfod yn benodol am y gwaith ymroddedig iawn sy'n digwydd yno i ddatblygu cyfleoedd i fenywod ifanc, ar gyfer swyddi ym meysydd gwyddoniaeth a pheirianneg, a bydd y gwaith hwnnw yn parhau ym mis Chwefror: ar 9 Chwefror, digwyddiad ysbrydoliaeth gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg i ysgolion yn rhanbarth y Cymoedd Technoleg; ac, ar 28 Chwefror, digwyddiad gyrfaoedd i fyfyrwyr peirianneg o Goleg Gwent ac o goleg Merthyr. Mae'r llwyddiant hwnnw yn sail i gynnig arwyddocaol iawn ar gyfer canolfan beirianneg uwch sy'n cynnwys cyngor Blaenau Gwent a Choleg Gwent a fydd yn darparu 400 o leoedd i fyfyrwyr addysg bellach ac eraill ennill y sgiliau hynny sydd eu hangen mewn gweithgynhyrchu uwch. Mae'r sgiliau hynny hefyd, Llywydd, yn ganolog i'n rhaglen brentisiaeth, lle mae dros 100 o oedolion ifanc, er enghraifft, wedi elwa o'r rhaglen brentisiaeth gyffredin ym Mlaenau Gwent yn ddiweddar.

Eto, Llywydd, roeddwn i gydag Alun Davies pan gafodd y ddau ohonom ni gyfarfod ag uwch aelodau cwmni Ciner i drafod y cam diweddaraf ymlaen yn eu cynlluniau i ddod â 600 o swyddi newydd i Lynebwy. Ac roedd y belt cludo hwnnw o bobl ifanc fedrus—sgiliau a enillwyd, er enghraifft, mewn canolfan beirianneg uwch—yn hollbwysig. Clywsom ganddyn nhw eu bod nhw'n hollbwysig i'w penderfyniad i leoli ffatri yng Nghymoedd y De. Felly, ar bob un o'r tair agwedd ar y warant i bobl ifanc—addysg, caffael sgiliau, gan arwain wedyn yn uniongyrchol i gyflogaeth—gallwch weld y warant honno ar waith yn ymarferol yn etholaeth yr Aelod ei hun, ac mae hynny yn cael ei ailadrodd wedyn mewn rhannau eraill o Gymru. 

14:30
Sgiliau Digidol

10. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu sgiliau digidol yng Nghymru? OQ57515

Ymhlith y camau sy'n cael eu cymryd i wella sgiliau digidol yng Nghymru mae cwricwlwm newydd i ysgolion, buddsoddiad mewn addysg bellach ac uwch, a chreu prentisiaethau lefel uwch.

Diolch am yr ateb yna. Wythnos yn ôl, rôn i'n holi y Gweinidog iechyd am nifer o faterion, yn cynnwys sut i sicrhau fod yna fwy o gamau yn cael eu cymryd o ran datblygu'r ymateb digidol i COVID, datblygu ap NHS Cymru ac ati. Mi wnaf i ddyfynnu o ateb y Gweinidog yn fan hyn:

'oh my gosh, Rhun, dwi jest mor awyddus â ti. Un o'r problemau sydd gyda ni o ran problemau digidol yw does jest ddim digon o bobl gyda'r doniau digidol gyda ni yn ein systemau ni.'

Beth mae'r Prif Weinidog yn mynd i'w wneud, o ystyried mai dyna'r sefyllfa yng ngolwg y Gweinidog iechyd, i ddefnyddio'r pandemig, a'r sefyllfa rydyn ni ynddi, a'r anawsterau rydyn ni'n eu hwynebu o ran datblygu'r ap ac ati, i sbarduno pethau o ran cyflymu'r broses o roi i'n gweithlu ni, a'n pobl ifanc ni yn arbennig, y sgiliau digidol mae Cymru eu hangen?

I ddechrau, a allaf gytuno gyda beth mae Rhun ap Iorwerth wedi'i ddweud am bwysigrwydd tynnu mwy o bobl ifanc i mewn i'r rhaglenni sydd ar gael yn ein hysgolion ni, yn ein colegau, sy'n canolbwyntio ar sgiliau digidol? Ble rŷn ni wedi'i wneud e'n barod, rŷn ni'n gallu gweld y llwyddiant sy'n dod mas o hynny. Yn y de-ddwyrain, drwy'r prifysgolion, rŷn ni wedi creu pobl gyda'r sgiliau sydd wedi tynnu cwmnïau i mewn yn y maes cybersecurity. Mae'r grŵp mwyaf yn y Deyrnas Unedig o gwmnïau yn y maes hwn yma yng Nghymru. Ac un o'r rhesymau pam eu bod nhw wedi symud i mewn a chreu swyddi newydd yw ein bod ni, drwy'r gwaith mae ein prifysgolion yn ei wneud gyda'r cwmnïau, yn creu pobl gyda'r sgiliau sy'n angenrheidiol i gael y sector yma i lwyddo.

Rŷn ni'n gallu gweld yn ymarferol yr achos i wneud mwy. Dyna pam mae'r cwricwlwm newydd yn ein hysgolion ni yn mynd i fod yn bwysig. Dyna pam rŷn ni yn buddsoddi mewn colegau, nid jest addysg uwch, ond addysg bellach hefyd, i drio creu mwy o gyfleon, ac i dynnu pobl ifanc i mewn i sector ble mae'r posibiliadau am waith yn y dyfodol, a chreu llwybr i bobl ifanc i'r dyfodol, yn amlwg pan rŷch chi'n edrych i mewn i beth sydd wedi digwydd yn barod. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Diolch yn fawr i'r Prif Weinidog. Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw.

14:35

Diolch, Llywydd. Mae gennyf i un newid i agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw. Mae'r cynnig i atal y Rheolau Sefydlog a'r ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd wedi'i dynnu'n ôl. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Gweinidog Busnes, hoffwn i alw am ddatganiad gan Weinidog yr Economi, os gwelwch yn dda, gan ymateb i'r newyddion bod gan un o'n prif ddinasoedd, canol dinas Casnewydd, fwy o unedau manwerthu gwag nawr nag unrhyw ganol dinas arall ym Mhrydain. Llywydd, yn ei hanterth, roedd Casnewydd wrth wraidd manwerthu yng Nghymru—roedd pobl yn heidio i ganol y ddinas i wneud eu siopa o bob twll a chornel. Gwelwn ddarlun digalon nawr, ar ôl blynyddoedd o esgeulustod gan Lywodraeth Cymru yn trin Casnewydd fel cefnder tlawd Caerdydd, a rheolaeth wael gan y cyngor Llafur lleol yng Nghasnewydd. Mae un o bob tair uned fanwerthu yn wag. Hyd yn oed cyn y pandemig hwn, cafodd ei adrodd mai Casnewydd oedd un o'r dinasoedd sy'n perfformio waethaf yn y DU o ran y nifer o siopau gwag, ond mae hyn, wrth gwrs, nawr wedi'i waethygu gan y pandemig, gan symud dyfodol Casnewydd i le pryderus. Ychydig sydd wedi'i wneud i geisio dod â siopau angori newydd i ddatblygiad Friars Walk i geisio ymdrin ag effeithiau dinistriol Debenhams yn gadael, y siop angori allweddol yn natblygiad Friars Walk, ynghyd â chyfadeilad y sinema. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu yn ei ddatganiad a yw ef a Llywodraeth Cymru yn bwriadu camu i mewn i helpu Cyngor Dinas Casnewydd i ymdrin â'r materion cynyddol bryderus y mae busnesau Casnewydd yn eu hwynebu, ac wrth gwrs yr effaith andwyol a gaiff hynny ar bawb ledled fy rhanbarth, ac, yn wir, Cymru. Diolch, Gweinidog busnes.

Diolch. Nid wyf i'n credu bod hon yn broblem sy'n unigryw i Gasnewydd, nac yn wir yn unigryw i Gymru. Rwy'n credu bod pob un o ganol ein trefi, yn anffodus, wedi gweld gostyngiad yn nifer y siopau; gwn i'n sicr fod hynny'n wir am Wrecsam, yn fy etholaeth i. Felly, nid wyf i'n credu bod hwn yn fater y gallwch chi ei osod wrth ddrws awdurdod lleol Casnewydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'n hawdurdodau lleol. Byddwch chi'n ymwybodol o'r cynlluniau niferus sydd gennym ni i gefnogi canol ein trefi; yn sicr, mae'r cynllun Trawsnewid Trefi yn bwysig iawn. Ymwelais i â Bangor yn ddiweddar, yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog â chyfrifoldeb dros y gogledd, i weld pa gamau yr oedden nhw'n eu cymryd i ailddyfeisio, os mynnwch chi, ganol ein trefi.

Hoffwn i gael datganiad am sicrhau diogelwch menywod ar drafnidiaeth gyhoeddus, os gwelwch yn dda. Mae fy nghyd-Aelod Peredur Owen Griffiths a minnau wedi bod yn ymdrin ag achos menyw yn ei 70au hwyr a geisiodd fynd ar fws Stagecoach yn y Gelli ddiwedd mis Tachwedd. Gwnaeth hyfforddwr wrthod mynediad iddi, a dywedodd wrthi fod y gwasanaeth wedi'i fwriadau at ddefnydd myfyrwyr yn unig, er nad oedd yr amserlen yn dweud hynny, ac roedd y fenyw dan sylw wedi dal yr un bws ar achlysuron blaenorol di-rif. Fe wnaeth yr hyfforddwr gau'r drws yn glep a gyrru i ffwrdd, gan ei gadael hi ar ei phen ei hun yn y tywyllwch, yn y Gelli, 30 milltir o'i chartref. Nid oes safle tacsis yn y Gelli, ac felly roedd hi'n teimlo'n ynysig ac yn agos at ddagrau. Nid yw'r atebion yr ydym ni wedi'u cael gan Stagecoach wedi bod yn foddhaol. Ond mae'n ymddangos bod hyn yn ymwneud â mater ehangach. Mae achosion wedi'u hadrodd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar o fenywod ledled y DU yn cael eu gadael wrth safleoedd bysiau, ar ôl rhedeg i gael y bws olaf, o fewn golwg glir y gyrrwr, sydd wedyn wedi gyrru i ffwrdd. Felly, hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, gan Lywodraeth Cymru, yn nodi pa hyfforddiant gorfodol y byddai modd ei ddarparu yn ofynnol i'r rhai sy'n gweithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ynghylch y rhan hanfodol sydd ganddyn nhw yn helpu i sicrhau diogelwch menywod.

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn. Byddwch chi'n ymwybodol bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyflwyno datganiad yr wythnos diwethaf ar ddiogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru. Yn amlwg, rydych chi'n gofyn yn benodol am drafnidiaeth gyhoeddus, ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y byddai modd i ni ei ystyried, i weld pa gefnogaeth y gallwn ni ei rhoi. Rwy'n credu, o'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud, nad mater o gael ei gadael ar ôl yn unig ydoedd; roedd hi'n cael ei thrin yn anghwrtais hefyd. Yn amlwg, mae hynny'n fater y mae angen ei godi gyda'r cwmni. Rwy'n gobeithio y cewch chi ymateb yn y dyfodol agos iawn. Ond rwyf i yn credu bod y mater ehangach hwnnw ynghylch hyfforddiant yn rhywbeth y gallem ni ei ystyried.

Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ymwybyddiaeth o ganser yr ofari yng Nghymru. Ddydd Mercher diwethaf, gwnes i gynnal, agor a chadeirio cyfarfod ymwybyddiaeth canser yr ofari Cymru ar-lein, a gafodd ei drefnu gan Target Ovarian Cancer a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau y Merched Cymru, a oedd yn trafod arwyddion tawel canser yr ofari a'r angen am ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd yng Nghymru. Gwnaethom ni glywed bod dros 300 o fenywod yn cael diagnosis o ganser yr ofari bob blwyddyn yng Nghymru, po gynted y caiff canser yr ofari ddiagnosis, yr hawsaf yw ei drin, a chyn pandemig coronafeirws mai dim ond 37 y cant o fenywod â chanser yr ofari yng Nghymru a gafodd ddiagnosis mewn cyfnod cynnar. Gwnaethom ni glywed hefyd ei bod 'yn hanfodol bod menywod yn ymwybodol o'r symptomau os yw canser yr ofari yn mynd i gael diagnosis cynnar.' Yng Nghymru, dim ond 15 y cant o fenywod fyddai'n gwneud apwyntiad meddyg teulu brys pe baen nhw â symptom teimlo'n chwyddedig yn barhaus, ac mae angen i hyn newid.

Felly, mae angen i ni glywed gan Lywodraeth Cymru o ran pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i wella'r gydnabyddiaeth o symptomau canser yr ofari ymhlith meddygon teulu, a chynyddu nifer yr atgyfeiriadau; pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog menywod sydd â symptomau canser yr ofari i gysylltu â'u meddyg teulu yn dilyn llacio'r cyfyngiadau coronafeirws; a yw'r Gweinidog wedi ystyried yr angen am ymgyrch ymwybyddiaeth o symptomau cenedlaethol canser yr ofari yng Nghymru; a, heb broses sgrinio hyfyw i ganfod canser yr ofari, pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i ymdrin â'r diffyg ymwybyddiaeth o symptomau yng Nghymru. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.

14:40

Diolch i chi. Roeddwn i'n ymwybodol eich bod chi wedi cynnal y cyfarfod i godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod digwyddiadau o'r fath yn cael eu cynnal a'u cefnogi gan Aelodau'r Senedd. Fy nealltwriaeth i yw bod llawer o'r symptomau yn rhai mud. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig i ni gael clywed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac fe wnaf ofyn iddi hi gyflwyno datganiad ysgrifenedig.

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y wybodaeth ddiweddaraf am gaffael

Rydym ni'n gallu symud ymlaen yn awr i eitem 3. Yr eitem hwnnw yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y wybodaeth ddiweddaraf am gaffael. Rwy'n galw felly ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.  

Diolch, Llywydd. Mae caffael yn un o'r ysgogiadau pwysicaf a mwyaf grymus y gall Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i helpu i gyflawni ei dyhead o ran ei rhaglen lywodraethu ar gyfer Cymru fwy llewyrchus, fwy cyfartal a gwyrddach. Dim ond rhai o'r blaenoriaethau niferus y gellir eu cefnogi drwy bolisi caffael clir, clyfar ac effeithiol yw twf economaidd cynaliadwy, gwaith teg, datgarboneiddio a darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol. Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau heddiw am ein gwaith ni gyda phartneriaid ledled y sector cyhoeddus, y sector preifat, a'r trydydd sector i gefnogi'r uchelgeisiau hyn.

Mae cwmpas amrywiol a graddfa eang gwariant y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gosod sylfeini cadarn i wneud yn fawr o'n cyfraniad ni at y saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r gallu gan gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau canlyniadau o ran gwerth cymdeithasol ehangach ar gyfer llesiant Cymru. Mae 'gwerth cymdeithasol' yn derm eang a ddefnyddiwyd i ddisgrifio effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol, ac economaidd y camau a gymerwyd gan gymunedau, sefydliadau, llywodraethau ac unigolion. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt i ddatblygu dull modern a chynaliadwy o gaffael, ac rwyf i wedi comisiynu ymgynghoriaeth Canolfan Cydweithredol Cymru i fapio'r tirlun cyfredol o ran gwerth cymdeithasol, gan gynnwys yr offer amrywiol sydd ar gael i sector cyhoeddus Cymru. Fe fydd Canolfan Cydweithredol Cymru yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i gasglu canfyddiadau a gwneud argymhellion i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwerth cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, ac yn y pen draw fe fydd hynny'n cefnogi dull gweithredu cyson ledled Cymru.

Mae caffael yn faes lle gellir cyflawni llawer iawn pan fydd partneriaid blaengar yn cydweithio â'i gilydd, ac mae cytundeb cydweithredu Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru yn cynnwys ymrwymiad i archwilio sut i bennu nodau ystyrlon i gynyddu cyfran y gwariant caffael a roddir i gyflenwyr yng Nghymru o'i chyfradd bresennol. Rydym ni eisoes yn annog ac yn cefnogi busnesau bach a chanolig eu maint i dendro am gyfleoedd, ac fe fyddaf i'n ymchwilio i fesurau pellach a all wneud y broses dendro yn un haws ac yn fwy ymarferol i fusnesau bach yng Nghymru. Ar gyfer cynyddu cyfran y cyflenwyr yng Nghymru eto, fe fyddwn ni'n cynnal dadansoddiad manwl o gadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus. Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar ag aelod dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell, i drafod datblygiad cynnar y gwaith hwn, ac fe fyddaf i'n rhoi diweddariad arall i'r aelodau ar wahanol elfennau'r gwaith hwn maes o law.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer o waith eisoes i hyrwyddo prynu cynnyrch a wnaed yng Nghymru, gan gynnwys defnyddio dur o Gymru mewn prosiectau seilwaith. Fe fyddaf i'n ymchwilio ymhellach gyda fy nghyd-Weinidogion i'r cyfleoedd y mae'r Strategaeth buddsoddi yn seilwaith Cymru newydd yn eu cynnig i ni ar gyfer gwneud cynnydd pellach yn y maes hwn, gan gynnwys ymestyn y cyfleoedd ar gyfer dur Cymru mewn prosiectau cyhoeddus.

O ran cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer diwygio caffael, mae fy swyddogion i wedi bod yn gweithio'n agos gyda thîm Bil diwygio caffael y DU i gyfrannu at ddatblygu'r Bil. Bydd yr Aelodau'n cofio fy natganiad ysgrifenedig ar 18 Awst, lle nodais y bydd darpariaeth ar gyfer awdurdodau contractio Cymru yn cael ei gwneud o fewn Bil diwygio caffael Llywodraeth y DU. Roedd y penderfyniad hwn yn dilyn ymgysylltu â phartneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, ac roedd yn amodol ar dderbyn sicrwydd ysgrifenedig gan Lywodraeth y DU na fyddai ymuno â deddfwriaeth y DU yn cael effaith negyddol ar Fil Partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru), yn hytrach fe fydd y ddeddfwriaeth yn ategu ei gilydd ac yn gwneud y mwyaf o'n gallu i gyflawni'r canlyniadau polisi pwysig yr ydym ni'n eu ceisio.

Er y bydd y Bil i ddiwygio caffael gan Lywodraeth y DU yn canolbwyntio ar y prosesau sylfaenol ar draws y cylch bywyd masnachol, fe fydd y Bartneriaeth gymdeithasol a'r Bil caffael cyhoeddus yn canolbwyntio ar sicrhau bod canlyniadau sy'n gyfrifol yn gymdeithasol yn cael eu cwblhau oherwydd ein caffael ni. Fel y cadarnhaodd fy nghyd-Aelod i, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, mae fy swyddogion i'n parhau i gysylltu â thîm Bil diwygio caffael y DU a thîm y Bartneriaeth Gymdeithasol a'r Bil Caffael Cyhoeddus i sicrhau cyn lleied o gamosodiadau â phosibl rhwng y ddau ddarn pwysig hyn o ddeddfwriaeth.

Rydym ni'n deall mai bwriad Llywodraeth y DU yw cyflwyno'r Bil diwygio caffael pan fydd amser seneddol yn caniatáu hynny. Mae fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, wedi dweud o'r blaen hefyd ein bod ni'n dal i fod ar y trywydd iawn i gyflwyno'r Bil partneriaeth a chaffael cymdeithasol ym mlwyddyn gyntaf y tymor Seneddol hwn. Felly, mae hi'n bosibl y bydd Bil diwygio caffael y DU a Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflwyno i'r Senedd tua'r un pryd â'i gilydd. Fe fydd y ddau Fil hwn, gyda'i gilydd, yn rhoi llwyfan newydd a blaengar ar gyfer caffael yng Nghymru sy'n sicrhau canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd, a diwylliannol, gan gynnwys ein huchelgais ni i wneud Cymru yn wlad gwaith teg.

Rydym ni'n ymwybodol iawn o'r cymorth y bydd ei angen ar yr ymarferwyr a'r diwydiant o ganlyniad i'r newidiadau hyn yn y ddeddfwriaeth, ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau y bydd canllawiau statudol ymarferol a chynhwysfawr ar waith cyn gynted â phosibl ar ôl i'r Biliau dderbyn Cydsyniad Brenhinol. Fe fydd y canllawiau hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun yr her barhaus o ran diffyg maint a gallu caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Roeddwn i'n falch o gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i'r Senedd yn gynharach ym mis Tachwedd yn tynnu sylw at yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i helpu i roi hwb i'r proffesiwn. Mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, rydym ni wedi darparu rhaglen ar gyfer cynyddu maint a gallu'r proffesiwn caffael yng Nghymru gyda chyllid o bron i £700,000 ers 2020. Rydym ni wedi cefnogi 118 o aelodau staff y sector cyhoeddus i ymgymryd â rhaglen ddyfarnu'r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi. Mae'r cyrsiau pwrpasol yn cynnwys defnyddio iaith a therminoleg gyfarwydd, gan ddefnyddio enghreifftiau o Gymru i helpu myfyrwyr i roi polisi caffael Cymru ar waith. Yn ddiweddar, rwyf i wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y rhaglen i'r dyfodol a fydd yn cefnogi 76 o leoedd eraill ar y rhaglen garfan.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni hefyd wedi cynnal ymarfer darganfod i'n helpu ni i wella ein systemau caffael digidol ni a'u paratoi nhw i gefnogi diwygio caffael yn ogystal ag ysgogiadau pwysig eraill o ran caffael, fel y Bil partneriaeth gymdeithasol. Defnyddiwyd yr adborth hwn i lunio ein map ffyrdd digidol diweddaraf o ran caffael am y tair blynedd nesaf, ac mae'r gwaith hwn bellach wedi cyrraedd ei gam cyflawni. Mae ein gwaith ni'n cyd-fynd hefyd ag argymhellion gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ar gyfer canolfan ragoriaeth caffael yng Nghymru. Fe wnaethom ni lansio ymarfer darganfod ar ddiwedd y llynedd gyda chyfraniad oddi wrth randdeiliaid o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Byddaf yn ystyried y canfyddiadau a'r argymhellion sy'n deillio o'r ymarfer hwn yn ystod yr wythnosau nesaf.

Caiff llawer iawn o waith cyffrous ei wneud gan Lywodraeth Cymru i hybu caffael er budd y cyhoedd yng Nghymru ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan Aelodau ar draws y Siambr heddiw. Diolch.

14:45

A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad? Rwy'n croesawu rhai o'r datblygiadau a amlinellwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru ac y gwnaethoch chi ymhelaethu arnyn nhw heddiw. Er enghraifft, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gweithio gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'i chynigion i drawsnewid caffael cyhoeddus gan ein bod ni wedi ymadael â'r UE erbyn hyn. Rwyf i o'r farn y bydd defnyddio un cyfrwng deddfwriaethol yn ogystal â chydweithredu trawslywodraethol yn helpu i sicrhau y bydd y dull o gaffael yn y DU yn fwy cyson ac yn symlach. Fe fydd hynny'n cynnig cyfleoedd newydd i fusnesau yng Nghymru, yn ogystal â galluogi Llywodraeth Cymru i fynd ar ôl ei hagenda ei hun.

Gweinidog, a wnewch chi ymhelaethu mwy ar eich datganiad chi ynglŷn â thrafodaethau gyda swyddogion y DU ynghylch datblygiad y Bil, yn ogystal â'ch barn chi ynglŷn ag ymateb Llywodraeth y DU i'r ymgynghoriad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd? Sut fydd eich Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus arfaethedig chi'n sicrhau cydlyniad deddfwriaethol â Bil caffael y DU yn y dyfodol? Hefyd, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda sefydliadau yng Nghymru ynghylch y cymorth, ar wahân i'r canllawiau statudol a'r cyllid capasiti yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw yn y datganiad, y gallai fod angen iddyn nhw addasu i'r fframwaith deddfwriaethol newydd sydd yn yr arfaeth?

Fe fyddai hi'n dda gennyf ddeall hefyd sut mae'r ymateb i'r pandemig wedi llywio meddylfryd y Llywodraeth ynghylch y tirlun caffael yng Nghymru. Mae COVID wedi rhoi pwysau aruthrol ar systemau a orfodwyd yn aml i addasu ar gyflymder mawr, gan arwain at heriau sylweddol. Gweinidog, pa gynnydd sydd wedi bod o ran cryfhau'r sector caffael ers cyhoeddi eich datganiad 'Esblygiad Caffael Llywodraeth Cymru' yn ôl ym mis Mawrth 2021? At hynny, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaeth comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn ei hadroddiad adran 20 diweddar hi, y mae gan rai ohonyn nhw oblygiadau pwysig i Lywodraeth Cymru, yn enwedig o ran arweinyddiaeth?

Ac yn olaf, Gweinidog, mewn unrhyw drafodaeth am gaffael, ni allaf wrthsefyll y demtasiwn i gyfeirio at fy Mil i fy hunan, sef Bil bwyd (Cymru), sydd, yn ei hanfod, yn ceisio cynyddu cyfleoedd i gynhyrchwyr bwyd lleol werthu mwy o'u cynnyrch rhagorol yma yng Nghymru. Nawr, mae eich cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru yn cyfeirio at hybu prynu cynnyrch a gwasanaethau a wnaed yng Nghymru, pa waith a gafodd ei wneud hyd yma i gynyddu swm y bwyd a gaiff ei gynhyrchu yn lleol y mae'r cyrff cyhoeddus yn ei brynu? Diolch.

14:50

Diolch yn fawr iawn i Peter Fox am y cwestiynau pwysig yna ac am roi'r cyfle i mi ddweud ychydig mwy am ymateb Llywodraeth Cymru i her diwygio caffael gan ein bod ni bellach wedi ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Tirlun cymhleth iawn yw caffael ac yn un newidiol erbyn hyn, ac fe geir cyfleoedd i ni ddefnyddio Bil Llywodraeth y DU ar un ystyr, ond yna i ategu hwnnw hefyd, oherwydd rydym ni bob amser wedi bod yn eglur iawn mai dim ond yng Nghymru y dylid gwneud y penderfyniadau ar y canlyniadau polisi yr ydym ni'n awyddus i'w cyflawni o ran caffael, ac mae gennym ni safbwyntiau gwahanol iawn i rai Llywodraeth y DU ynglŷn â rhai o'r materion hynny, fel pwysigrwydd gwaith teg a'r swyddogaeth y gall ac y dylai caffael fod â hi wrth ysgogi hyn. A dyna pam y bydd ein Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru) ni mor bwysig o ran cynnwys y rhain yn y gyfraith.

Fodd bynnag, rwyf i o'r farn fod hwn yn gyfle i ni ddefnyddio deddfwriaeth Llywodraeth y DU i ddiwygio'r prosesau sylfaenol, ac fe nodwyd y prosesau hynny ym Mhapur Gwyrdd Llywodraeth y DU yr oedd Peter Fox yn cyfeirio ato, 'Transforming public procurement'. Fe roddwyd y dewis i ni ddefnyddio deddfwriaeth San Steffan i ddiwygio'r prosesau sylfaenol hyn. Fe wnaethom ni bendroni llawer iawn ynghylch beth oedd y peth iawn i'w wneud, ac roeddem ni'n ymgysylltu yn eang iawn ag awdurdodau contractio Cymru a'u barn nhw oedd y dylem ni fod yn mynd gyda Llywodraeth y DU ar y Bil hwn, serch hynny, fe ddylem ni fod yn edrych ar Fil i Gymru o ran yr hyn yr ydym ni'n awyddus i'w gyflawni. Felly, mae prosesau o'r fath a'r gweithrediadau i'w cael ym Mil Llywodraeth y DU, ac yna fe fydd y canlyniadau yr ydym ni'n awyddus i'w datblygu yn cael eu cyflawni yn ein deddfwriaeth ni ein hunain. Rwy'n credu bod hynny'n cyd-daro yn ymarferol iawn wrth ddiwygio caffael wedi ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Fe gyfeiriodd Peter Fox at y pandemig, ac un o'r pethau da sydd wedi dod, mae'n debyg, os gellir ystyried bod unrhyw ddaioni wedi dod o'r pandemig, yw'r ffordd y mae caffael wedi cael ei ddiwygio a'r ffordd y mae'r proffesiwn caffael yma yng Nghymru wedi ymateb yn wirioneddol i'r heriau. Mae swyddogion wedi gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i gaffael eitemau brys hanfodol, ac mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, y blychau bwyd ar gyfer y rhai a oedd yn gwarchod ledled Cymru, ac ymestyn cymorth gydag iechyd meddwl i'r holl weithwyr yn y GIG, a llety i'r troseddwyr hynny a ryddhawyd yn gynnar yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, ac yna fe fu contractio gyda'r Post Brenhinol ar gyfer dosbarthu presgripsiynau, a darparu cymorth i dimau gofyniad cyfarpar hanfodol a'r podiau ymweld i gartrefi gofal. Felly, fe geir enghreifftiau gwych o ffyrdd y mae'r proffesiwn caffael yma yng Nghymru wedi grwpio gyda'i gilydd, mewn gwirionedd, i fynd i'r afael â phroblemau a heriau'r pandemig, ac rwyf i o'r farn iddyn nhw wneud gwaith rhagorol iawn, hefyd, gan weithio'n agos, er enghraifft, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod gorchuddion wyneb ar gael ym mhob un o ysgolion Cymru. Yn gynnar yn ystod y pandemig, fe fuom ni'n gweithio gyda gwneuthurwr o Gymru i ddarparu gorchuddion wyneb achrededig o ansawdd uchel, y gellir eu hailddefnyddio, a gyflwynwyd i ysgolion wedyn. Yn ogystal â hyrwyddo amgylcheddau gweithio mwy diogel, fe wnaethom ni lwyddo i greu swyddi o ganlyniad i ehangu'r cwmni hwnnw. Felly, lle bynnag y bo modd gwneud hynny, roeddem ni'n ceisio, drwy gydol y pandemig, cefnogi busnesau Cymru ond yn chwilio wedyn hefyd am y bylchau hynny yn y gadwyn gyflenwi y gallem ni eu llenwi. Ac mae hwnnw'n ddarn pwysig o waith yr ydym ni'n ei wneud nawr a thu hwnt i'r pandemig—gan ystyried ein cadwyni cyflenwi ni a lle ceir cyfleoedd i ni lenwi'r bylchau hynny yn y fan hon gan gefnogi busnesau newydd yng Nghymru.

Roedd adroddiad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn bwysig iawn. Fe fuom ni'n gweithio'n agos iawn gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ac roedd hi'n ein holi ni a'n swyddogion ni am y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ynglŷn â chaffael, ac mae'r adroddiad wedi bod yn ddefnyddiol iawn, rwy'n credu, o ran canolbwyntio ein meddwl ar y ffordd ymlaen. Mae'r awgrym gan y Ganolfan Ragoriaeth Caffael wedi bod o gymorth mawr, ac, fel roeddwn i'n sôn yn y datganiad, cafodd yr ymarfer darganfod hwnnw ei lansio ar ddiwedd y llynedd, gyda chyfraniadau oddi wrth randdeiliaid unwaith eto o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r canfyddiadau hynny'n dod at ei gilydd ac fe fyddaf i'n eu hystyried nhw nawr dros yr wythnosau nesaf wrth i ni gael popeth yn ei le, ac fe fyddaf i'n gallu rhoi diweddariad pellach i gydweithwyr ynglŷn â hynny wrth i ni symud ymlaen. Ond, unwaith eto, rwyf i o'r farn fod meddu ar gyrchfan i'r rhagoriaeth honno, a bod â chartref i'r rhagoriaeth honno, yma yng Nghymru, yn bwysig. Rydym ni wedi edrych ar batrwm y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, sydd, unwaith eto, yn ystorfa o ragoriaeth a gwybodaeth ac yn y blaen, ac mae hwnnw wedi bod yn batrwm defnyddiol ar gyfer yr hyn yr ydym ni'n gobeithio ei gyflawni drwy'r ganolfan ragoriaeth caffael.

Fe geir llawer o ddiddordeb yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud o ran caffael bwyd. Fe wn i fod Peter Fox wedi cynnal trafodaethau defnyddiol gyda rhai o fy nghyd-Weinidogion ynglŷn â hynny hefyd. Mae ein rhaglen lywodraethu ni'n ymrwymo i ddatblygu strategaeth bwyd cymunedol i Gymru yn ystod y tymor Seneddol hwn, ac fe wn i fod y potensial yn hynny i sicrhau llawer o fanteision a allai ein helpu ni ar hyd y ffordd sy'n arwain at y nodau hynny o ran llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Wrth gwrs, y ffactor cyffredin yn hynny yw bwyd, ond yna fe all manteision cymdeithasol fod yn eang iawn, gan gynnwys manteision economaidd, ac o ran adfywio cymunedau lleol, gwella lles, iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn ogystal â'r amgylchedd, a manteision o ran cynaliadwyedd hefyd. Felly, mae llawer i ni ei drafod yn ei gylch yn y dyfodol, rwy'n credu, wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw, oherwydd fe wn i fod hwn yn faes sydd o ddiddordeb arbennig i Peter Fox.

14:55

Diolch, Weinidog, am eich datganiad chi. Dwi wedi defnyddio, wrth gwrs, yn y gorffennol y gymhariaeth fod economi Cymru fel bwced â thyllau ynddo fe, ac nid dŵr sy'n llifo allan, wrth gwrs, ond cyfoeth a phres a fyddai'n cryfhau, wrth gwrs, yr economi Gymreig ac economïau lleol ar draws Cymru petaem ni'n llwyddo i gau'r tyllau yna sydd yn y bwced.

Rŷn ni'n sôn, wrth gwrs, am ffigurau eithriadol o uchel fan hyn: £6.3 biliwn y flwyddyn ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru—prin hanner hwnnw'n aros yng Nghymru. Nawr, rŷn ni wedi bod yn siarad am hyn ers 20 mlynedd o ddatganoli, a dwi'n dal ddim yn teimlo ein bod ni wedi cyrraedd lle dylem ni fod, a bod yn onest, ac rŷn ni'n edrych ar wledydd eraill ar draws Ewrop lle mae dros 90 y cant o werth caffael cyhoeddus yn aros o fewn ffiniau'r gwledydd hynny. Dyna pam, wrth gwrs, roedd Plaid Cymru am greu targed o 75 y cant o werth y caffael yng Nghymru yn aros yng Nghymru, ac mae hynny'n bwysig oherwydd mae pob 1 y cant yn ychwanegol rŷn ni yn cadw yng Nghymru yn gyfwerth â 2,000 o swyddi newydd. Felly, mi fyddai hynny, o gyrraedd y nod yna, yn creu rhyw 46,000 o swyddi yng Nghymru, ac yn creu y rheini, wrth gwrs, heb o reidrwydd wario unrhyw bres ychwanegol, ond jest gwario'r pres rŷn ni'n ei wario'n barod mewn ffordd sy'n dod â mwy o fudd i'n heconomi ni yma yng Nghymru. Dwi yn falch, felly—ac mi roedd y Gweinidog, wrth gwrs, yn cyfeirio at y cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru—fod y nod yma o sefydlu targed yn rhywbeth sy'n mynd i gael ei edrych arno o ddifrif nawr er mwyn trio sicrhau y budd uchaf posib i'r economi yma yng Nghymru. 

Dwi'n cydnabod y ffaith, hefyd, yr oeddech chi'n cyfeirio yn eich datganiad at gynyddu capasiti a chynyddu sgiliau o fewn yr ymarferwyr caffael yn y sector gyhoeddus. Ond, wrth gwrs, dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn cydnabod bod yna ffordd bell iawn i fynd eto, ond yn sicr o safbwynt capasiti hefyd ar ôl i ni weld, wrth gwrs, nifer o adrannau caffael yn cael eu rhedeg i lawr dros y blynyddoedd o ganlyniad i doriadau economaidd a chyni mewn gwariant cyhoeddus.

Nawr, mae yna nifer o fuddion, wrth gwrs, fel mae'r Gweinidog wedi'u rhestru, o gael polisi caffael da. Beth dwi ddim wedi'i glywed yn eich datganiad chi, wrth gwrs, yw beth yw'r egwyddorion sylfaenol fydd yn greiddiol i'r polisi caffael cyhoeddus. Dywedwch wrthym ni, er enghraifft, i ba raddau fyddwch chi'n mynnu yn eich polisi 'lleol yn gyntaf', lle mae hynny'n bosibl. Dyna'r man cychwyn bydden i'n tybio, ac wedyn os dyw e ddim ar gael yn lleol, wedyn rŷch chi'n mynd ymhellach i chwilio am y gwasanaeth neu am y nwyddau rŷch chi am eu caffael.

Mae'r datganiad yn sôn am weithio gyda Gweinidogion eraill, wrth gwrs—mi wnaethoch chi gyfeirio'n benodol at ddur. Allwch chi sôn pa feysydd eraill y byddwch chi'n ffocysu arnyn nhw ac yn blaenoriaethu? Bydden i'n tybio, er enghraifft, ac rŷn ni wedi clywed yn y cyfraniad blaenorol, fod amaeth a bwyd yn un maes sy'n aeddfed ar gyfer manteisio arno fe, a byddai hyn i gyd oll, wrth gwrs, yn cyfrannu wedyn at gynyddu capasiti prosesu Cymru yng nghyd-destun bwyd yn enwedig.

Wnewch chi hefyd annog pob awdurdod lleol yng Nghymru, efallai, i efelychu llwyddiant Cyngor Gwynedd? Oherwydd mae'r cyngor wedi defnyddio'r cymal budd cymdeithasol wrth gaffael ac, o ganlyniad i hynny, maen nhw wedi llwyddo i weld cynnydd o 39 y cant yn eu gwariant ar nwyddau a chytundebau oddi mewn i Wynedd. Hynny yw, mae wedi mynd i fyny o £56 miliwn yn 2017-18 i £78 miliwn y llynedd. Nawr, mae Gwynedd wedi dangos, yn hynny o beth, beth sy’n bosibl, ond, wrth gwrs, mae angen i hyn fod yn norm ac nid yr eithriad, efallai. Ac felly bydden i'n gofyn ichi i'w llongyfarch nhw, ond hefyd i annog awdurdodau lleol i efelychu'r llwyddiant yna.  

Yn olaf, Gweinidog, roeddech chi'n sôn am Fil diwygio caffael Llywodraeth y DU, wrth gwrs, ac rydych chi'n gwybod beth yw safbwynt Plaid Cymru ar adael llonydd i Lywodraeth y DU ddeddfu ar faterion a ddatganolwyd i ni yma yn y Senedd. Roedd Peter Fox yn gofyn sut y gallwn ni sicrhau cydlyniad deddfwriaethol. Wel, gadewch i ni wneud hynny ein hunain—gadewch i ni sicrhau bod y ddau ddarn o ddeddfwriaeth yn cael eu cyflwyno ar yr un pryd gan yr un Llywodraeth a'r un Senedd i graffu arnyn nhw. Ond rydych chi'n dweud bod gennych chi sicrwydd na fydd caniatáu i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan ni'n cael effaith ddinistriol ar Fil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru) arfaethedig Llywodraeth Cymru. Ai dyma'r un sicrwydd a roddwyd i chi o'r blaen ynglŷn â chyllid yr UE neu ynglŷn â chyllid amaethyddol neu'r enghreifftiau eraill yr ydych chi eich hun yn ein hatgoffa ni'n fynych amdanyn nhw o Lywodraeth y DU yn methu â chadw ei gair?

15:00

Diolch i Llŷr Gruffydd am y cwestiynau pwysig yna, ac rwyf i am ddechrau trwy gyfeirio at y cytundeb sydd gennym ni gyda Phlaid Cymru yn ein cytundeb cydweithredu ni, sef i archwilio sut i bennu nodau ystyrlon o ran cynyddu caffael sector cyhoeddus Cymru o'i faint ar hyn o bryd. Yn gam cyntaf, fe fyddwn ni'n cynnal dadansoddiad manwl o gadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus ac yn hybu prynu cynnyrch a gwasanaethau a wnaed yng Nghymru, ac fe fydd hwnnw'n waith pwysig. Ond, mewn gwirionedd, rydym ni'n deall ar hyn o bryd fod canran y gwariant ar gaffael yng Nghymru ar tua 52 y cant. Wel, dyna'r ffigwr y gallwn ni ei rannu yn gyhoeddus. Eto i gyd, nid ydym ni o'r farn fod honno'n gynrychiolaeth gywir o faint y gwariant caffael a aiff i gwmnïau yng Nghymru. Yn amlwg, mae yna nifer o resymau am hynny, ac mae un ohonyn nhw ar sail cod post cyfeiriad yr anfoneb ar gyfer y cyflenwyr yng Nghymru, ac, yn amlwg, mae sawl cyfyngiad ar y dull hwnnw, oherwydd nid yw'n ystyried y gadwyn gyflenwi sy'n cynnal y prif gontractwr.

Ar hyn o bryd, ni allwn ni wneud dadansoddiad manylach o'r gadwyn gyflenwi gan nad ydym ni'n casglu'r data i ganiatáu hynny. Ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi cynnal ymarfer darganfod i'n helpu ni i wella ein systemau digidol ar gyfer caffael, hynny yw, eu paratoi nhw i gefnogi ein diwygiadau caffael ni nawr ac, yn benodol, i annog tryloywder ac ysgogiadau pwysig eraill, fel y Bil partneriaeth gymdeithasol. Felly, yn rhan o'r gwaith hwnnw, rydym ni'n gweithio ar weithredu safon data'r contract agored, ac fe fydd hynny'n gwella tryloywder drwy gydol y cylch caffael, a'r nod wedyn yw i hwnnw roi cyfradd o ddata er mwyn i ni gael darlun llawer mwy eglur o'r gwariant sy'n aros yng Nghymru. Ac mae gennym ni aelod o'n tîm caffael sy'n ymgymryd ag aseiniad yn rhan o'u cymhwyster Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi ar gyfer edrych yn benodol ar wariant yng Nghymru. Felly, wrth i ni symud ymlaen ar y cyd â Phlaid Cymru ar y darn arbennig hwn o waith, fe wn i y byddwn ni'n cael data o ansawdd gwell i gefnogi'r gwaith hwnnw, sy'n bwysig iawn wrth i ni ddeall y gwahaniaeth y bydd ein penderfyniadau ni'n ei wneud wrth i ni symud ymlaen gyda'n gilydd yn hynny o beth.

Fe ofynnodd Llŷr Gruffydd am allu a chapasiti'r sector. Fe wn i fod llawer o bobl ardderchog yn gweithio yn y sector, sy'n mynd o'u ffordd i geisio cael gwerth da am arian cyhoeddus, ac sy'n gwneud mwy nawr o ran cael y gwerth cymdeithasol hwnnw. Wrth i'r proffesiwn geisio llywio'r tirlun hwnnw sy'n gynyddol gymhleth, mae angen i ni fod yn buddsoddi ymhellach mewn gallu a chapasiti, a dyna un o'r rhesymau pam rydym ni wedi cyflwyno rhaglen i ariannu 50 o unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru i ymgymryd â rhaglenni gwobr gorfforaethol y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi ar gyfer ymarferwyr ac ymarferwyr uwch. Mae pob un o'r unigolion hynny wedi ymrwymo i aros yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn yr hirdymor, ac rwyf i o'r farn fod hynny'n bwysig iawn, oherwydd rydym ni'n aml yn hyfforddi pobl sy'n gadael wedyn i weithio mewn mannau eraill, ac yn mynd â'r cyfarwyddyd hwnnw i gyd gyda nhw. Ac mae gennym ni bedwar myfyriwr hefyd sydd ar eu blwyddyn olaf ond un o'u cadwyn gyflenwi logisteg a'u cymhwyster caffael nhw ym Mhrifysgol De Cymru, ac maen nhw am gael cynnig o leoliad blwyddyn mewn adrannau caffael ledled Cymru, gan gynnwys yn Llywodraeth Cymru. Unwaith eto, nod hynny yw cadw'r bobl dalentog hyn yma yng Nghymru ac yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Felly, mae yna lawer yn digwydd ym maes gallu a chapasiti, gan gynnwys paratoi cyfres o fodiwlau addysg masnachol craidd yn electronig, a fydd yn bwysig iawn, yn ogystal â'r trafodaethau cynnar yr ydym ni'n eu cael ynghylch archwilio dewisiadau i sefydlu rhaglen brentisiaeth caffael genedlaethol, a fydd yn gyffrous iawn, a'r posibilrwydd o raglen fentora ym maes caffael i Gymru hefyd. Felly, unwaith eto, mae yna lawer yn digwydd yn y maes arbennig hwnnw.

Yna, roedd cwestiwn ynghylch beth yw'r egwyddorion sylfaenol sy'n sail i hyn i gyd, yr hyn yr ydym ni'n awyddus i'w gyflawni drwy gaffael, mewn gwirionedd. Wel, ym mis Mawrth 2021 fe gyhoeddais ddatganiad polisi caffael diwygiedig Cymru, ac roedd hwnnw'n nodi'r weledigaeth strategol ar gyfer caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac fe'i hysgrifennwyd mewn partneriaeth â'n rhanddeiliaid. Ein nod ni, mewn gwirionedd, yw helpu i ddiffinio ein cynnydd ni yn ôl y nodau llesiant yr ydym ni'n ceisio eu taro ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol wrth hanfod hynny i gyd. Yr allwedd i gyflawni hyn, mewn gwirionedd, fydd gweithio gyda'n gilydd, a'n nod ni yw adnewyddu ac adolygu'r datganiad hwnnw yn rheolaidd gyda phartneriaid, i sicrhau ei fod yn adlewyrchiad cywir o sut yr ydym yn symud tuag at yr uchelgais honno a rennir ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu i ategu'r gwaith cyflawni yn ôl egwyddorion y datganiad, ac fe gyhoeddwyd hwnnw ar ein gwefan. Erbyn hyn, rydym ni'n annog sefydliadau sy'n prynu, naill ai'n unigol neu mewn ffordd gydweithredol, i gyhoeddi eu cynlluniau gweithredu eu hunain hefyd.

Ac yna'n olaf ar hyn, fe fydd canllawiau statudol y Bil Partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru) arfaethedig yn ystyried bod datganiad polisi caffael Cymru a'r cynlluniau gweithredu cysylltiedig yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau contractio i gyflawni canlyniadau drwy gaffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol ac sy'n sicrhau bod gwaith teg a gwerth cymdeithasol yn ganolog, yn hytrach na chanolbwyntio ar arbedion ariannol.

Meysydd yr ydym ni'n awyddus i edrych yn arbennig arnyn nhw—felly, fe soniodd Llŷr Gruffydd am ddur a bwyd; rwy'n awyddus iawn hefyd i wneud mwy o waith ar bren, ac mae hwnnw'n rhywbeth yr ydym ni'n ei ystyried ar draws y Llywodraeth. Ac rydym ni hefyd yn gwneud gwaith ehangach sy'n ystyried y bylchau hynny yn y gadwyn gyflenwi y cyfeiriais i atyn nhw wrth ymateb i Peter Fox, er mwyn i ni allu nodi'r cyfleoedd hynny i feithrin busnesau Cymru i lenwi'r bylchau hyn.

Yna, o ran y diwygiadau deddfwriaethol, fe wn i ein bod ni wedi anghytuno yn sylfaenol ynglŷn â hynny, ond rydym ni wedi cael sicrwydd ysgrifenedig gan Lywodraeth y DU yn hyn o beth. Hefyd, rydym ni'n ymchwilio i ba rannau o Fil y DU yr ydym ni am eu saernïo ar gyfer gweinidogion Cymru, felly mae gwaith yn mynd rhagddo yn y maes hwnnw hefyd. Ond fe wn i fod swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd iawn, iawn â Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn, ac yn holi ynglŷn â'r manylion yn ddyfal iawn, iawn.

15:05

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn ac yn gobeithio y gallwn ni gael dadl gan y Llywodraeth ar gaffael yn nes ymlaen eleni. Mae caffael yn un o'r ysgogiadau pwysicaf a mwyaf pwerus y gall Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i helpu i sicrhau twf economaidd. Fe all twf economaidd cynaliadwy, gwaith teg, datgarboneiddio a chefnogi'r economi leol i gyd elwa ar strategaeth gaffael flaengar. Mae sector cyhoeddus Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â llywodraeth leol, cymdeithasau tai, colegau a phrifysgolion, yn brynwyr mawr o ran nwyddau a gwasanaethau. Rydym ni wedi gweld yr hyn a gyflawnodd Preston mewn un ddinas; meddyliwch beth y gellid ei gyflawni gan genedl gyfan, fel yng Nghymru. A fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith teg yn rhagofyniad ar gyfer tendro am gontractau sector cyhoeddus Cymru? A wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau na fydd unrhyw gwmni sy'n ymhél â diswyddo ac ailgyflogi yn gymwys i dendro am gontractau sector cyhoeddus Cymru? Ac a fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio lleihau maint y contractau i gynyddu nifer y cwmnïau lleol sy'n gallu tendro? Yn rhy aml o lawer fe welwn ni'r prif gontract yn mynd i rywun yn Lloegr neu yn Ewrop ac mae'r is-gontractau wedyn yn mynd i gwmnïau yng Nghymru, ac mae llawer gormod o'r elw'n mynd i Loegr ac Ewrop ac nid yn aros yng Nghymru.

15:10

Rwy'n diolch i Mike Hedges am y cwestiynau penodol yna, ac fe fydd llawer ohonyn nhw'n cael eu cynnwys yn y trafodaethau polisi manwl a gaiff eu cynnal wrth i'r Bil caffael cyhoeddus hwn yng Nghymru ddechrau datblygu. Ac fe wn i y bydd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi clywed yr ymholiadau arbennig hyn mewn perthynas â'r hyn y bydd y Bil yn ceisio ei gyflawni a pha ddeddfwriaeth a fydd yn cael ei rhoi ar waith.

Rwy'n falch iawn fod Mike Hedges wedi cydnabod y pwysigrwydd a'r cyfle sydd i gaffael cyhoeddus o ran datgarboneiddio. Dyna un o'r meysydd y cyfeiriodd ef atyn nhw ar y dechrau. Rydym ni'n ceisio archwilio beth arall y gellir ei wneud yn y maes hwnnw. Yn ddiweddar iawn, rydym ni wedi bod yn cyhoeddi hysbysiadau caffael cyhoeddus Cymru ar gyfer sector cyhoeddus Cymru yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys Llywodraeth Cymru, y GIG, awdurdodau lleol ac eraill. Ac un o'r meysydd yr ydym ni wedi bod yn gwneud gwaith ynddo yw o ran y nwyddau a'r gwasanaethau a brynwyd. Felly, fe fyddai hynny'n cynnwys teithio busnes, cymudo gweithwyr, gwaredu gwastraff, defnyddio cynhyrchion a werthwyd, cludo a dosbarthu, i fyny ac i lawr yr afon, buddsoddiadau ac asedau a masnachfreintiau ar brydles. Ac rwy'n sôn am hynny oherwydd bod ymchwil yn tanlinellu pwysigrwydd mynd i'r afael â nwyddau a gwasanaethau a brynwyd sy'n dangos y gallan nhw gyfrif am hyd at 60 y cant o swm ôl troed carbon unrhyw sefydliad. Felly, mae'r cyfleoedd sy'n bod i wneud rhywfaint o gynnydd o ran y daith tuag at sero net yn sylweddol iawn. Rhan o'n gwaith ni drwy'r hysbysiad caffael yw cefnogi awdurdodau contractio Cymru yn y ffyrdd y gallan nhw leihau eu hôl troed carbon nhw drwy ddatgarboneiddio—drwy'r dewisiadau a wnawn nhw drwy gaffael, fe ddylwn i ddweud. Felly, mae hynny wedi bod yn bwysig iawn.

Mae Mike Hedges yn iawn i dynnu sylw at y gwaith da a ymgymerwyd ag ef yn Preston. Dyna'r hyn, mewn gwirionedd, a ddechreuodd rhan o'n taith ni tuag at y gwaith o ran yr economi sylfaenol, gan edrych yn fanwl iawn ar yr hyn a ddigwyddodd yno a defnyddio'r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol i roi cyngor manwl i ni ynghylch sut y gallwn ni ddechrau gwneud pethau tebyg yma i sicrhau bod y bunt honno'n cael ei defnyddio eto yn ein dull economi sylfaenol ni yma yng Nghymru. Felly, mae'r rhain i gyd yn bwyntiau hollbwysig, ac fe fydd rhai o'r cwestiynau manylach hynny'n rhan o'r ystyriaeth ar gyfer y Bil.

Gweinidog, mae'n ddrwg gennyf i os ydw i'n ailadrodd ryw ychydig, ond fe wyddom ni i gyd pa mor bwysig yw caffael cyhoeddus a chymaint o ysgogiad economaidd gwirioneddol y mae'n ei roi i'r sector cyhoeddus i helpu ein busnesau ni ledled Cymru. A, Gweinidog, fy nghwestiwn i yw hwn: pa ymgysylltu a thrafodaethau a gawsoch chi gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r fforwm economaidd sydd ganddyn nhw yno i geisio annog awdurdodau lleol ledled Cymru i gefnogi busnesau lleol, oherwydd fe fydd gwneud hynny'n helpu economïau lleol ledled Cymru? Ac, yn dilyn ar hynny, beth yw dyfodol GwerthwchiGymru gyda'r Bil hwn, oherwydd fe wn i fod llawer o gwmnïau lleol yn fy etholaeth i'n dweud wrthyf i eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd bwrw ymlaen â fframweithiau GwerthwchiGymru, ac yna mae hi'n amlwg yn anodd iawn i awdurdodau lleol ddefnyddio cwmnïau lleol wedyn oherwydd ei bod hi'n rhaid iddyn nhw fynd drwy GwerthwchiGymru. Felly, rwy'n gofyn i chi hefyd beth fydd dyfodol GwerthwchiGymru gyda'r Bil hwn. Diolch.

Gwych, diolch am y cwestiynau yna. Rydych chi'n iawn i ddweud bod hwn yn wariant sylweddol yng Nghymru. Bydd tua £7 biliwn yn cael ei wario drwy sector cyhoeddus Cymru bob blwyddyn ar gaffael, ac mae gennym ni 267,000 o fusnesau yng Nghymru, a busnesau bach a chanolig eu maint yw 99.4 y cant ohonyn nhw. Felly, fe geir cyfleoedd enfawr wrth i ni gefnogi'r busnesau hyn. Mae ein hasiantaethau cymorth busnes yng Nghymru, fel Busnes Cymru a GwerthwchiGymru, ar gael i helpu busnesau bach a chanolig i addasu i ofynion arbennig y sector cyhoeddus a'u hateb nhw, a newidiadau mewn caffael hefyd—oherwydd y diwygiadau mawr sydd gennym ni ar hyn o bryd, mae angen iddyn nhw fod â rhan weithredol i'w helpu nhw i ennill mwy o gontractau. Felly, un o'r pethau yr ydym ni'n eu gwneud yw edrych yn fanwl iawn ar ein systemau digidol ni, ac mae gennym ni gynllun gweithredu digidol ar gyfer caffael sydd ar ei gam cyflawni nawr. Un o'r meysydd pwysig hynny o waith yw uwchraddio system GwerthwchiGymru i gefnogi'r gwaith contractio agored data safonol a soniais i amdano o'r blaen mewn ymateb i gydweithiwr arall, a gwella tryloywder. Ac rwy'n credu y bydd hynny'n bwysig o ran helpu busnesau bach a chanolig i ymgysylltu yn well, oherwydd rwy'n credu bod gwaith i'r ddwy ochr yn hyn, mewn gwirionedd—fe geir gwaith i'r sector cyhoeddus ei wneud ar gyfer bod yn fwy hygyrch a gwneud ei systemau yn haws i'w defnyddio, ond fe geir gwaith i'r sector preifat hefyd, wedyn, o ran ymgysylltu.

Ac fe soniais i am yr hysbysiadau polisi cyhoeddus o'r blaen, ac mae un ohonyn nhw, sy'n ystyried busnesau bach a chanolig eu maint, yn rhoi cyngor i lywodraeth leol yng Nghymru ac awdurdodau contractio eraill o ran yr hyn y gallan nhw ei wneud i helpu i ymgysylltu â mwy o fusnesau bach a chanolig eu maint. Mae enghreifftiau o'r cyngor yn cynnwys lleihau'r gwaith gweinyddol sydd ei angen ar gyfer tendro, a symleiddio dogfennau, a darparu briffiau clir iawn sy'n nodi'r holl ofynion ac yn defnyddio iaith ddealladwy. Fe fyddech chi'n credu y byddai hynny'n digwydd beth bynnag, ond, mewn gwirionedd, mae caffael mor gymhleth, pe gellid ei symleiddio ar gyfer busnesau nad ydyn nhw wedi ymgyfarwyddo â chaffael yn y sector cyhoeddus o'r blaen, rwy'n credu y byddai hynny'n gwneud gwahaniaeth.

Ac yna rydym ni'n argymell mabwysiadu meddalwedd ar gyfer caffael, felly fe fyddai agweddau ar hynny'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, eGyrchu, systemau prynu deinamig, eOcsiynau, anfonebu electronig, catalogau a chardiau prynu electronig, a phecynnu contractau mawr wedyn yn elfennau ar wahân i wneud defnydd o lotiau rhanbarthol, os yw hynny'n bosibl ac yn briodol, i sicrhau nad yw busnesau bach a chanolig yn cael eu hatal rhag contractio. Ac yna rydym ni'n gofyn hefyd i ddarpar gyflenwyr BBaChau gael cyfle i drafod caffael wyneb yn wyneb er mwyn iddyn nhw gael deall a ydyn nhw'n addas ar gyfer y lot arbennig honno.

Felly, rwyf i o'r farn fod cyngor da ar gael gennym ni'n ddiweddar yn ein nodiadau newydd o ran caffael, ond fe fyddaf i'n hapus iawn i gael trafodaethau pellach gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch beth allem ni fod yn gallu ei wneud yn y cyswllt hwn i'w cefnogi i gaffael yn lleol.

15:15

Lywydd, ges i sgwrs ddifyr iawn yn ddiweddar efo economegydd a roddodd gyfres o ystadegau diddorol iawn i fi wrth ein bod ni'n trafod polisi caffael y Llywodraeth, a dyma ddaru mi ddysgu. Mae 35 y cant o weithlu Cymru yn gweithio yn y meysydd iechyd, addysg a gofal. O ganlyniad i hynny a'r nifer o bobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus, mae tua 70 y cant o bres cyhoeddus felly yn mynd ar wahanol lefelau o gyflogau. O bres cyhoeddus Cymru, tua 17 y cant sy'n cael ei wario ar brynu nwyddau cadwyn hir, pethau fel fflyd ceir neu gyffuriau, pethau sydd byth yn mynd i gael eu gwneud yng Nghymru. Wrth ystyried caffael felly a'r ystadegau yma, oni ddylid sicrhau bod mwy o'n gwariant cyhoeddus ni yn cael ei ddefnyddio ar hyfforddiant, datblygu a chyflogaeth leol a sicrhau bod gennym ni'r sgiliau yma i wneud y gwaith, yn debyg i'r rhaglen meithrin ein nyrsys, 'Grow Your Own Nurse', sydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? 

Ie, diolch i chi am godi'r cwestiwn hwnnw, ac, yn sicr, rwyf wedi sôn am bwysigrwydd capasiti a gallu o fewn y sector caffael, ond mae llawer i'w wneud o ran sicrhau bod pobl yn cael y cyfle i ddod o hyd i waith yn ein sector cyhoeddus. Un o'r pethau yr wyf i'n gyffrous iawn yn ei gylch yw ein cyfrifon dysgu personol. Felly, fe wnaethom ni gyflwyno'r rhain tua 18 mis yn ôl, ac maen nhw'n rhan o'n gwaith treialu ar gyfer y dull cyllidebu ar sail rhyw sydd gennym ni yma yng Nghymru, ond rwyf i o'r farn ei bod hi'n gyffrous iawn ar hyn o bryd am ein bod ni'n ehangu hwnnw i feysydd eraill hefyd. Mae'r cyfrifon dysgu personol ar gael mewn gwirionedd i gefnogi pobl a allai fod mewn cyflogaeth ar hyn o bryd, ond sy'n awyddus i ddringo'r ysgol ym maes eu cyflogaeth, neu i ailhyfforddi i wneud rhywbeth arall o bosibl. Ac rwy'n credu bod llawer o gyfleoedd i ddefnyddio'r rhain yn y sector cyhoeddus i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y swyddi sy'n addas ar eu cyfer nhw.

Rwyf i am roi rhywfaint o ystyriaeth bellach i'r cyfraniad, felly, ac o bosibl yn ei archwilio ef gyda rhai o'm cyd-Aelodau eraill, oherwydd mae gennym ni grŵp gweinidogol sy'n edrych ar gaffael, ac mae hwnnw yno i gael trafodaethau traws-Lywodraeth i sicrhau ein bod ni i gyd yn ystyried cyfleoedd ar gyfer dulliau cydgysylltiedig o gaffael er mwyn i ni allu dysgu oddi wrth ein gilydd a nodi heriau cyffredin ar draws y Llywodraeth. Rwy'n credu bod y pwynt a wnewch chi ynglŷn â sgiliau a maint yn un o'r heriau cyffredin hynny, felly fe fyddaf i'n siŵr o nodi honno'n eitem ar ein hagenda nesaf ni. Diolch i chi.

15:20

Yr wythnos nesaf, fe fyddaf i'n ymweld â fferm organig bîff a defaid yn etholaeth y Prif Weinidog, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at wneud hynny. Ni fyddech chi'n synnu o wybod y byddaf i, gyda swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru a fydd yn bresennol, yn codi'r hyn y gallwn ni ei wneud i dyfu mwy o ffrwythau a llysiau yng Nghymru, sydd ar hyn o bryd yn cael eu mewnforio gennym ni, sy'n golygu eu bod nhw'n llai ffres ac yn llai maethlon. Felly, yng ngoleuni geiriau Rachel Lewis-Davies o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, a ddywedodd y byddai ffermwyr yn fodlon tyfu unrhyw beth lle ceir marchnad iddo, beth ydym ni'n ei wneud i helpu awdurdodau lleol i symleiddio eu hanghenion caffael, yn enwedig gyda phrydau ysgol rhad ac am ddim i bob ysgol gynradd dan ystyriaeth, fel gellir rhoi contractau mewn cegeidiau bach? Gan nad ydym ni'n dymuno i'r gwaith i gyd fynd i un busnes arbennig; rydym ni'n awyddus i sicrhau bod gennym ni farchnadoedd lleol a ffermwyr yn gallu bwydo i anghenion penodol ar gyfer dwy neu dair ysgol, dyweder, nes y gallan nhw ehangu eu busnes ymhellach. Ond dydyn nhw ddim—. Sut ydych chi am wneud hyn, o gofio nad yw hyn fel agor tap, ac mae'n rhaid i chi gynllunio'r pethau hyn? Mae hi'n ymddangos i mi fod honno'n dipyn o her i'r Bil caffael cyhoeddus, ac rwy'n edrych ymlaen at graffu ar hwnnw yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Diolch, ac mae'r ymadrodd 'cegeidiau bach' yn gwneud i mi wenu; roeddwn i'n credu bod honno'n ffordd ardderchog o ddisgrifio gwneud contractau bwyd yn haws eu llyncu. Felly, roedd hynny'n hyfryd. Byddwn, fe fyddwn i'n awyddus i'ch sicrhau chi ein bod ni'n gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i ddeall y gofynion a'r cyfleoedd, ar hyn o bryd, y mae'r mesur cytundeb cydweithredu yn eu cynnig o ran prydau ysgol rhad ac am ddim i bob plentyn. Rwy'n credu bod cyfle sylweddol i'w gael yn hynny o beth. Ac yna rydym ni'n gweithio gyda chyngor Caerffili hefyd, sy'n arwain rhaglen fframweithiau bwyd sector cyhoeddus Cymru, y gwn i eich bod chi'n gyfarwydd â hi, ac yn gweithio hefyd gyda Castell Howell a chyfanwerthwyr eraill i geisio cynyddu'r cyflenwad o fwyd o Gymru i'r sector cyhoeddus drwy'r fframweithiau hyn. Mae hyn yn mynd rhagddo, ac mae angen ei gynllunio, wrth gwrs, i drefniadau cynhyrchu a chyflenwi cyflenwyr Cymru. Felly, y pwynt sylfaenol, mewn gwirionedd, yw'r un ynglŷn â bod ffermwyr yn gallu cynhyrchu'r hyn y mae'r farchnad yn awyddus iddyn nhw ei gynhyrchu. Felly, mae hi'n rhaid i'r trafodaethau hynny ddigwydd hefyd. Ac mae cyngor Caerffili wedi sefydlu grŵp bwyd drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a'i ddiben yw cynllunio'r dull a'r strwythur ar gyfer y tendrau bwyd nesaf, sydd i'w cyhoeddi yn 2023, felly fe geir cyfle arall a charreg filltir allweddol yn hynny, yn fy marn i. Amcan y gwaith hwnnw yw manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i gynhyrchwyr bwyd bychain a chynyddu faint o gynnyrch o Gymru sy'n mynd drwy'r fframwaith. Felly, fe fydd hynny'n digwydd cyn 2023, sy'n allweddol yn fy marn i.

Rydym ni'n gwneud gwaith pwysig gyda Chyngor Sir Fynwy hefyd i ddatblygu dealltwriaeth hyperleol o allu tyfwyr a chyflenwyr o fewn y cyngor hwnnw, ac fe fydd hwnnw'n waith pwysig bryd hynny i'n helpu ni i gryfhau cadwyni cyflenwi lleol yno, ac rydym ni wedi ariannu'r gwaith hwnnw erbyn hyn hefyd i'w raddio i gwmpasu Gwent i gyd. Felly, unwaith eto, mae hwn yn brosiect pwysig arall y gallwn ni ddysgu ohono.

Un peth diddorol y gwnes i ei ddarganfod wrth baratoi ar gyfer heddiw oedd bod prinder dofednod wedi llesteirio ein hymdrechion i gynyddu'r cyflenwad o ddofednod yng Nghymru, ac fe welsom ni, mewn gwirionedd, fod cyflenwyr dofednod lleol o fwy o werth o ran cadwyni cyflenwi presennol y sector preifat a'u bod nhw'n llai awyddus i ymgysylltu â busnesau newydd yn y sector cyhoeddus, oherwydd mae'r cadwyni cyflenwi sydd ganddyn nhw gyda'r sector preifat yn gweithio'n iawn, mae hi'n ymddangos, ar hyn o bryd. Felly, mae angen i ni ddod o hyd i ffordd i'n cynnig ni fod yn un deniadol a digyfnewid i gynhyrchwyr yng Nghymru. Ac rydym ni'n gobeithio y gellir datblygu cadwyn o ddofednod yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn 2022-23. Felly, mae hwnnw'n fwlch arbennig yn y farchnad, os hoffech chi, y gwnaethom ni ei nodi. Ac yna, yn olaf, rydym ni'n ariannu prosiectau caffael bwyd arloesol y GIG ac awdurdodau lleol i gynyddu'r cyflenwad lleol, ac fe fydd yr hyn a gaiff ei ddysgu'n cael ei rannu ledled Cymru.

Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Fel roeddech chi'n ei amlinellu ar y dechrau, mae caffael yn un o'r ysgogiadau sylweddol hynny y gellir eu defnyddio wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ac roeddwn i'n falch iawn o'ch clywed chi'n cyfeirio at allu cefnogi datgarboneiddio drwy bolisi caffael clir, deallus ac effeithiol—dyna roeddech chi'n ei ddweud. Wythnos diwethaf, serch hynny, fe gefais i'r pleser o fod yn bresennol, credwch neu beidio, yn sesiwn graffu'r Pwyllgor Cyllid ar eich cyllideb chi ar ran cydweithiwr, ac yno fe godwyd mater caffael gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Sophie Howe, ac roedd hi'n dweud wrthym ni ei bod hi, yn 2019-20, wedi cynnal adolygiad adran 20 ynglŷn â chaffael, gan edrych ar 363 o gontractau GwerthwchiGymru. Ac roedd y canfyddiadau yn gwbl syfrdanol. Nid oedd unrhyw un o'r 363 o dendrau hynny'n cyfeirio at leihau carbon fel gofyniad yn y tendrau hynny. Felly, mae hi'n ymddangos bod bwlch sylweddol yn bodoli rhwng yr hyn y siaradir amdano yn y Siambr y Senedd o ran newid hinsawdd a'r hyn sy'n cael ei wneud gyda'r dulliau presennol hynny o newid drwy gaffael. Felly, gyda hyn mewn golwg, Gweinidog, a ydych chi o'r farn bod y fframwaith caffael presennol yn adlewyrchu pa mor ddifrifol yr ydych chi'n ystyried her yr hinsawdd yr ydym ni i gyd yn ei hwynebu?

15:25

Diolch am godi hynna, ac mae'n rhoi cyfle da iawn i mi dynnu sylw at ddull newydd yr ydym ni wedi'i nodi mewn un o'n hysbysiadau caffael cyhoeddus eraill yng Nghymru, sef 'Datgarboneiddio drwy gaffael—Ystyried Cynlluniau Lleihau Carbon'.

Felly, yn y bôn, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu awdurdodi'r defnydd o gynlluniau lleihau carbon ar gyfer contractau Llywodraeth Cymru gwerth £5 miliwn neu fwy o 1 Ebrill eleni. Ac yn amlwg, rydym ni'n ei argymell felly, fel arfer da, i weddill sector cyhoeddus Cymru, a bydd yn ein helpu ni yn y bôn i fynd ar y daith honno i sero net erbyn 2030 ar gyfer sector cyhoeddus Cymru. Ac mae'n cael ei gefnogi, felly, gan y trywydd yr ydym ni wedi'i gyhoeddi, y 'Statws carbon sero-net erbyn 2030. Trywydd ar gyfer datgarboneiddio ar draws sector cyhoeddus Cymru'. Yr hyn y mae'n ei wneud yn ei hanfod yw cyflwyno gofyniad i bob ymgeisydd ar gyfer contractau cyhoeddus gwerth £5 miliwn neu fwy gynnwys cynlluniau lleihau carbon fel rhan o'u tendrau, a gall awdurdodau contractio sector cyhoeddus Cymru gadarnhau bod darpar bartneriaid y gadwyn gyflenwi wedi ymrwymo i weithio gyda nhw i gyflawni sero net drwy gwestiynu'r cynlluniau lleihau carbon hynny. Felly, rwy'n credu bod y rheini'n rhoi dull newydd pwysig ac arwyddocaol, a fydd dan fandad nawr o 1 Ebrill.

Ochr yn ochr â hynny, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed i ddarparu adnoddau newydd i awdurdodau contractio Cymru, felly rydym ni wedi darparu taenlen adrodd sero net newydd a chanllawiau ategol i gyrff cyhoeddus gyfrifo ac adrodd ar eu hallyriadau carbon. Byddwch chi wedi clywed efallai yn y—neu fod rhai cyd-Aelodau wedi clywed yn rhai o'r sesiynau tystiolaeth am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o ddangos effaith carbon ein gwariant ni drwy ein cyllideb ddrafft, a'r gwaith sydd gennym ni yn ein cynllun cyllid seilwaith, sy'n rhan o'r strategaeth buddsoddi mewn seilwaith newydd. Ac yna hoffwn i dynnu sylw hefyd at gyhoeddiad cyfoeth naturiol, sef 'Cyngor ar ddulliau cyfrifo ac adrodd ar allyriadau i lywio'r gwaith o gyflawni polisi datgarboneiddio'r sector cyhoeddus yng Nghymru'. Felly, rwy'n credu bod rhai datblygiadau arloesol eithaf pwysig wedi bod yn ddiweddar, a ddylai fynd â ni ymlaen yn y maes hwn, ac rwy'n credu y bydd y cynlluniau lleihau carbon yn rhan bwysig o hynny.

Rydyn ni'n sôn am y manteision amgylcheddol, y manteision economaidd o ddatblygu polisïau caffael cadarn i Gymru, ac mi wnaeth y pandemig roi rheswm arall eglur iawn inni dros y budd o gael cadwyni cyflenwi cynhenid cryf, ac mi oedd cwmni Brodwaith yn fy etholaeth i yn un o'r cwmnïau hynny wnaeth arallgyfeirio, os liciwch chi, er mwyn gallu darparu offer PPE i’r gwasanaeth iechyd, ac mi oedd cwmni Elite yng Nglynebwy hefyd, wrth gwrs, yn gwmni arall wnaeth gamu i’r adwy er mwyn rhoi i'n gwasanaeth iechyd a gofal ni yr hyn oedd ei angen arnyn nhw. Yn anffodus, ac mae hyn yn rhywbeth dwi wedi’i godi efo'r Gweinidog economi ac efo'r bwrdd iechyd yma yn y gogledd, mae yna arwyddion bod y cytundebau hynny yn mynd i gael eu tynnu oddi ar y cwmnïau Cymreig hynny rŵan bod pethau’n dechrau dod yn ôl i normal. Wel, mae hynny, wrth gwrs, yn golled enfawr i’r cwmnïau hynny, sydd mewn perygl o golli y busnes oherwydd eu bod nhw wedi arallgyfeirio, ond mae hefyd yn golled fawr i'r economi Gymreig ac i'r gwasanaeth iechyd. A gaf i sicrwydd y bydd y Gweinidog cyllid yn edrych ar ambell i enghraifft fel hyn o arfer da o gyfnod y pandemig a sicrhau nad ydyn nhw ddim yn cael eu colli o ran y cytundebau penodol yma i'r cwmnïau Cymreig yma, ond hefyd o ran yr egwyddor o beth oedd yn trio cael ei gyflawni drwy symud at roi cytundebau fel hyn i gwmnïau Cymreig, a'r budd, fel dwi'n dweud, yn dod yn amlwg ar sawl lefel?

15:30

Ie, diolch am godi hynna. A gwn eich bod chi wedi ysgrifennu at Weinidog yr Economi, yn nodi'ch pryderon, yn enwedig o ran Elite Clothing, ac rwyf i wedi cael cyfle i edrych ar hynny, a gwn i fod y Gweinidog yn paratoi ymateb i hynny.

Rwy'n gwybod bod y tîm cyflawni caffael masnachol wedi sefydlu system brynu ddeinamig ar gyfer cyfarpar diogelu personol a gwisg gwaith, ac mae hynny wedi'i gynllunio i sicrhau'r cyfleoedd gorau i gyflogwyr yng Nghymru ymgysylltu, ac mae Elite Clothing nawr yn rhan o hynny. Ac mae hynny'n golygu y gall sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus Cymru nawr gysylltu'n uniongyrchol â nhw yn hytrach na mynd drwy drefniadau is-gontractio, a fydd, gobeithio, yn darparu llwybr cyflymach i'w drws ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus Cymru.

Ond, fel y dywedais i, rwy'n ymwybodol o'r mater a'r ffaith bod Gweinidog yr Economi yn ymchwilio iddo, a byddaf i'n siŵr o gael sgwrs ag ef am y peth ar ôl eich cyfraniad chi heddiw.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd. Ac rwy'n ofni y byddaf i'n ychwanegu at y sgwrs honno, Gweinidog. Mae'n siomedig iawn bod ffordd newydd o weithio, a oedd wedi'i sefydlu, roedd llawer ohonom ni'n teimlo ac yn credu, o'r datganiadau a gafodd ei gwneud gennych chi, gan y Prif Weinidog, gan y Gweinidog iechyd, gan Weinidog yr Economi, yng nghanol argyfwng a pandemig, i bob golwg ei bod eisoes yn mynd yn hesb. Ac os ydym ni eisiau gwireddu'r rhethreg yr ydym ni'n ei chlywed gan y Llywodraeth, mae'n rhaid bod hynny'n cael ei deimlo mewn cwmnïau fel Elite, fel y mentrau cymdeithasol hynny sydd wedi cadw'r GIG i fynd yn ystod y pandemig, ac wedi cefnogi gwaith y Llywodraeth hon. Nawr mae angen i'r cymorth hwnnw barhau. Ac ni allwn ni gerdded i ffwrdd o'n cyfrifoldebau a cherdded i ffwrdd o'n rhethreg. Mae angen i ni sicrhau bod hyn wir yn digwydd.

Felly, byddwn i'n ddiolchgar, Gweinidog, pe byddai modd i ni sicrhau bod y pwynt y gwnaeth Rhun ap Iorwerth, o Sir Fôn, fy hun o Flaenau Gwent, yn cael ei gyfleu i wraidd y Llywodraeth, a'n bod ni'n sicrhau bod ymateb sy'n cynnal y polisi hwn, ac sy'n parhau i sicrhau bod y bobl hyn yn cael y contractau, a'n bod yn cyflawni'r addewidion yr ydym ni fel Llywodraeth wedi'u gwneud.

Diolch i Alun am ategu'r pwyntiau a gafodd eu gwneud gan y siaradwr blaenorol. Rwy'n gwybod bod Alun Davies hefyd wedi mynegi ei farn yn uniongyrchol i Weinidog yr Economi hefyd. Byddwn ni'n sicrhau ein bod ni'n cael cyfle i drafod yn fanylach y ddau achos penodol hyn, ond yna hefyd y pwynt cyffredinol yr ydych chi'n ei wneud ynghylch peidio â cholli'r ffyrdd newydd hyn o weithio, a'r ewyllys da, mewn gwirionedd, yr ydym ni wedi'u cael gan fusnesau ledled Cymru, sydd wedi newid o'u cynnyrch arferol, boed hynny—. Wel, mae gennym ni enghreifftiau nid nepell oddi wrthyf i, lle'r oedden nhw wedi newid o gynhyrchu jin i wneud jel dwylo, ond rwy'n credu eu bod wedi mynd yn ôl i jin nawr. Ond mae enghreifftiau eraill o fusnesau yn lleol sydd wedi newid o wneud baneri i wneud sgrybs ac ati. Felly, rwy'n credu, ie, cydnabod y ffordd y mae busnesau yng Nghymru wedi torchi llewys yn bwysig iawn, a byddaf i'n parhau â'r trafodaethau hyn gyda fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Cyllid Hosbisau

Diolch i'r Gweinidog. Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddiwygio cyllid hosbisau. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y datganiad hwn heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y cynnydd sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud wrth gyflawni ein hymrwymiad pwysig yn y rhaglen lywodraethu i adolygu cyllid hosbisau gwirfoddol yng Nghymru. Mae hosbisau'n chwarae rhan hollbwysig wrth ddarparu gofal hanfodol i fwy nag 20,000 o bobl yng Nghymru y mae salwch angheuol yn effeithio arnyn nhw bob blwyddyn, ac yn helpu i atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty. Mae dros 85 y cant o'r gofal hwnnw yn cael ei ddarparu yn y gymuned. Nid oes mwy o angen wedi bod am y gofal hwn erioed nag yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf pan fo hosbisau wedi bod yna, drwy gydol y pandemig, i gefnogi cleifion, teuluoedd a gofalwyr drwy'r cyfnodau anoddaf, o dan yr amgylchiadau anoddaf. 

Bydd COVID-19 wedi effeithio ar bawb yn y Siambr hon mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Bydd llawer wedi colli anwyliaid, a byddan nhw'n nabod rhywun sydd wedi'i gysuro gan yr amrywiaeth eithriadol o wasanaethau a chymorth y mae hosbisau ledled Cymru yn eu darparu. Heb y gwasanaethau hanfodol hyn, byddai'r effaith ar y GIG yng Nghymru wedi bod, bron yn sicr, yn fwy difrifol.

Cyn y pandemig, daeth tua dwy ran o dair o incwm hosbis—sef mwy na £25 miliwn—drwy weithgareddau codi arian a haelioni'r cyhoedd yng Nghymru. Fodd bynnag, gwelodd yr angen i weithredu cyfyngiadau symud ac amrywiaeth o gyfyngiadau eraill ar gymdeithas drwy gydol y pandemig ostyngiad sydyn yn yr incwm hwnnw. Cafodd digwyddiadau codi arian eu canslo, cafodd siopau elusennol eu cau a chafodd ymgyrchoedd eu hoedi. Ond roedd hosbisau'n ddyfeisgar ac fe wnaethon nhw addasu eu harferion mewn ymateb i'r pandemig. Gwnaethon nhw fanteisio ar ryddhad ardrethi busnes, defnyddio'r cynllun cadw swyddi, a chyflwyno datblygiadau arloesol i wella gofal i bobl sy'n agored i niwed—er enghraifft, addasu cerbydau trafnidiaeth a defnyddio technoleg ar gyfer cysylltu â chleifion.

15:35

Gweinidog, a wnewch chi aros am eiliad? Ni allaf eich gweld chi ar y sgrin; nid wyf i'n siŵr a all unrhyw un arall eich gweld chi ar y sgrin. Maen nhw i gyd yn ysgwyd eu pennau. A, dyna welliant. Diolch.

Diolch. Er gwaethaf y ffaith i'r hosbisau roi gweithgareddau codi arian brys ar waith a lleihau'r ddarpariaeth nad oedd yn hanfodol, roedd dal risg uchel a chynyddol y gallai gwasanaethau hosbis a gofal diwedd oes yn raddol fynd yn fethdalwyr. Dyna pam y camodd Llywodraeth Cymru i mewn a dyrannu bron i £14 miliwn o gyllid brys i gefnogi hosbisau Cymru drwy gydol y pandemig. Cafodd yr arian hwn ei ddarparu yn benodol i ad-dalu hosbisau am golli incwm drwy eu gweithgareddau elusennol, i ddiogelu eu gwasanaethau craidd ac i gryfhau cymorth profedigaeth.

Gan droi'n benodol at ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i adolygu cyllid hosbisau gwirfoddol, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau sylweddol i adolygu'r fformiwla ariannu gofal lliniarol arbenigol, a gafodd ei weithredu yn ôl yn 2010-11 yn dilyn yr adolygiad cynllunio gofal lliniarol y gwnaeth Vivienne Sugar ei gynnal. Yn dilyn adolygiad Sugar, cafodd cyllideb flynyddol o £6.3 miliwn ei rhoi ar waith i helpu i fwrw ymlaen ag argymhellion ei hadroddiad—cafodd £3 miliwn ohoni ei ddyrannu i hosbisau gwirfoddol. Yn 2014, cafodd yr arian hwnnw ei ddychwelyd i gyllidebau byrddau iechyd a'i glustnodi tan 2017.

Er bod hosbisau unigol wedi sicrhau cyllid ychwanegol fel rhan o gytundebau lefel gwasanaeth gyda byrddau iechyd, nid oes unrhyw gynnydd cydnabyddedig mewn costau craidd gwirioneddol wedi bod ers y dyraniad gwreiddiol yn ôl yn 2010-11. Gan gydnabod hyn, ym mis Gorffennaf 2021, gofynnais i'r bwrdd gweithredu gofal diwedd oes gynnal adolygiad ariannu hosbisau gwirfoddol fel rhan o adolygiad ehangach o wasanaethau gofal diwedd oes, a fyddai'n cynnwys holl ddarpariaeth y sector statudol a gwirfoddol. Y dull gweithredu a fyddai wedi'i ffafrio ar y pryd fyddai cynnal yr adolygiad ehangach o'r gwasanaeth gofal diwedd oes yn gyntaf, ac yna'r adolygiad o gyllid hosbisau gwirfoddol. Fodd bynnag, arweiniodd yr angen brys i wneud argymhellion ar gyfer cyllid hosbisau yn y dyfodol mewn da bryd ar gyfer cyllideb ddrafft 2022-23 at flaenoriaethu'r adolygiad o gyllid hosbis.

Roedd y fformiwla ariannu wreiddiol yn canolbwyntio ar fodel gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan fesur y gofal sy'n cael ei ddarparu ar sail nifer y gwelyau a'r timau clinigol, yn bennaf, o ymgynghorwyr mewn meddygaeth liniarol a nyrsys clinigol arbenigol. Cafodd hosbis yn y cartref ei eithrio o'r fformiwla, ac ers hynny mae wedi dod yn rhan hanfodol o ofal yn nes at gartref, gan ganiatáu i gleifion arfer eu dewis i farw gartref. Nid oedd y fformiwla chwaith yn ystyried y rhan hanfodol yr oedd hosbisau plant yn ei chwarae yn cefnogi plant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau a'u teuluoedd drwy ofalu bod gofal seibiant ar gael. Cafodd nifer o ystyriaethau arwyddocaol eu cydnabod hefyd ar ddechrau'r adolygiad, gan gynnwys bod hosbisau plant yn wahanol yn eu hanfod i hosbisau oedolion, ac nad oedd asesiad cynhwysfawr ar gyfer pobl ag anghenion gofal lliniarol a gofal diwedd oes wedi'i gynnal.

Cafodd yr adolygiad ei arwain gan dîm o Gydweithrediad Iechyd GIG Cymru. Roedd y gwaith yn cynnwys dadansoddi templedi gwybodaeth a gyflwynwyd gan hosbisau a chynnal cyfweliadau. Cafodd cyfarfodydd rheolaidd eu cynnal gyda Hospice UK a'r holl hosbisau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am hynt y gwaith. Yn ogystal â hyn, ystyriwyd hefyd i ba raddau mae cyllid statudol yn cyfrannu at wasanaethau'r sector gwirfoddol yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Cefais yr adolygiad terfynol ym mis Tachwedd 2021. Roedd yr adolygiad yn argymell cyllido hosbisau plant drwy gyfrannu 21 y cant o gostau gofal cytunedig yr holl hosbisau plant. Roedd hefyd yn argymell cynyddu'r cyllid ar gyfer hosbisau oedolion er mwyn adlewyrchu effaith dybiedig chwyddiant ar y dull gwreiddiol o gyfrifo'r cyllid. Byddai hyn yn cynnwys costau gwelyau a gwasanaethau cymunedol, a chyllido effaith ariannol y broses o ddarparu gwelyau ychwanegol a gyflwynwyd ers 2010-11. Dwi'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr adolygiad, ac y bydd yn darparu £2.2 miliwn yn ychwanegol ar gyfer hosbisau Cymru yn rheolaidd o 2022-23 ymlaen. Bydd £888,000 o'r cyllid hwn yn mynd i ddwy hosbis plant, Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith.

Bydd cam 2, sef yr adolygiad ehangach o'r holl gyllid statudol a chyllid y sector gwirfoddol ar gyfer gofal diwedd oes, yn ystyried yr holl sbectrwm gofal. Bydd yn gwneud hynny gan ddefnyddio modelau gofal wedi eu cytuno'n lleol, dilyn egwyddorion gofal iechyd yn seiliedig ar werth, a chael ei arwain gan y nodau yn y cynllun 'Cymru Iachach'. Bydd y cam hwn yn cael ei oruchwylio gan fwrdd y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal diwedd oes, sydd i'w sefydlu'n fuan, fel sydd wedi ei nodi yn y fframwaith clinigol cenedlaethol. Bydd y bwrdd yn edrych ar y gwahaniaethau rhwng y modelau darparu hosbisau a ddaeth yn amlwg yng ngham 1 yr adolygiad, a'r berthynas rhwng byrddau iechyd a hosbisau. 

I grynhoi, mae'r datganiad llafar hwn heddiw yn rhoi cipolwg ar y cynnydd rhagorol maen nhw wedi ei wneud wrth adolygu'r cyllid ar gyfer hosbisau gwirfoddol hyd yma. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn golygu cynnydd sylweddol yn y dyraniadau cyllid craidd ar gyfer hosbisau ledled Cymru, ac yn cynnig lefel o sicrwydd ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Ond, er bod y camau cadarnhaol hyn yn galonogol, mae'n amlwg bod her fawr o hyd o flaen yr holl wasanaethau gofal diwedd oes. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn dal yn benderfynol o gryfhau ei ffocws ar ofal diwedd oes. Byddwn yn parhau i weithio yn agos gyda bwrdd y rhaglen genedlaethol i annog gweithredu ar draws y Llywodraeth a gyda rhanddeiliaid i wella'r gwasanaethau gofal diwedd oes i bawb. Diolch yn fawr. 

15:40

Diolch am eich datganiad. Rwy'n falch o nodi bod Llywodraeth Cymru yn y pen draw wedi dyrannu bron i £14 miliwn o gyllid brys i gefnogi hosbisau Cymru drwy gydol y pandemig, ar ôl i mi, yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol, orfod codi'r bwlch dro ar ôl tro rhwng yr arian y gwnaeth Llywodraeth Cymru ei gael gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i'w chyllid ar gyfer hosbisau drwy gydol y pandemig yn Lloegr a'r swm a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru i ddechrau i gefnogi hosbisau yng Nghymru. 

Ddeuddeg mlynedd ar ôl i mi gynnal digwyddiad y Cynulliad yn 2006, yn tynnu sylw at y rhan hanfodol y mae hosbisau yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru, a galw ar Lywodraeth Cymru i ymdrin â'r argyfwng cyllido cynyddol yr oedden nhw'n ei wynebu, yr oedd pob hosbis yng Nghymru yn bresennol ynddo, cadeiriais i'r grŵp trawsbleidiol ar ymchwiliad hosbisau a gofal lliniarol i anghydraddoldebau o ran cyfle i fanteisio ar hosbisau a gofal lliniarol yng Nghymru, a wnaeth ddarganfod bod angen sylweddol heb ei ddiwallu, bod cyllid hosbis statudol wedi bod yn wastad ers degawd ac felly wedi gostwng mewn termau real bob blwyddyn, bod cyllid statudol ar gyfer hosbisau plant yng Nghymru yn is o lawer nag yn Lloegr a'r Alban, a bod cyllid statudol ar gyfer hosbisau oedolion yng Nghymru fel canran o wariant yn is nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU.

Wrth arwain dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar hosbisau a gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yma yn 2019, nodais i, er bod gan tua 23,000 o bobl yng Nghymru angen gofal lliniarol ar unrhyw un adeg, gan gynnwys dros 1,000 o blant, nid yw tua 1 o bob 4, tua 6,000 o bobl, yn cael y cyfle i fanteisio ar y gofal diwedd oes sydd ei angen arnyn nhw. Galwais i ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i helpu i wella'r cyfle i fanteisio ar hosbisau a gofal lliniarol yn sylweddol i bawb ledled Cymru. 

Mewn ymatebion i gwestiynau ysgrifenedig y llynedd, cadarnhaodd y Gweinidog iechyd mai dim ond tua £800,000 o'i £8.4 miliwn o gyllid diwedd oes a gafodd ei ddyrannu'n benodol i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol ledled Cymru, a bod llai na £200,000 o hyn wedi mynd yn uniongyrchol i hosbisau plant heb ddim ar gyfer hosbisau oedolion. Ac eto, er enghraifft, gwnaethom ni glywed yn y grŵp trawsbleidiol ar angladdau a phrofedigaeth ddydd Iau diwethaf, y gwnes i ei gadeirio, fod y prosiect ar y cyd rhwng prifysgolion Caerdydd a Bryste i archwilio profiadau gofal a phrofedigaeth yn ystod COVID-19 wedi darganfod bod y rhain yn llawer mwy cadarnhaol pan ddarparwyd cymorth gan hosbisau. 

O ystyried yr uchod i gyd, rwy'n ymuno â'n hosbisau i groesawu'r cyhoeddiad hirddisgwyliedig hwn, a rhaid i mi dynnu sylw at y gwaith caled y maen nhw wedi'i wneud i gyflawni hyn, gan gynnwys ymgyrch cronfa achubiaeth hosbisau plant Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith, gan nodi eu bod wedi derbyn llai na 10 y cant o'u cyllid o ffynonellau statudol yng Nghymru, y lefel isaf o gyllid statudol ledled gwledydd y DU, a galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r achubiaeth y mae ar gannoedd o blant a'u teuluoedd ledled Cymru ei hangen mor enbyd.

O ystyried ei datganiad heddiw bod y Gweinidog wedi derbyn argymhellion adolygiad ariannu hosbisau gwirfoddol y bwrdd gofal diwedd oes, ac y bydd yn sicrhau bod £2.2 miliwn ychwanegol ar gael i hosbisau Cymru bob blwyddyn, gan gynnwys £888,000 i Dŷ Hafan a Thŷ Gobaith, a wnaiff hi gadarnhau a yw hyn nawr yn cau'r bwlch cyfraniadau cyllid hosbis o'i gymharu â chenhedloedd eraill y DU, ar gyfer hosbisau plant ac oedolion? Os na, pam, a pha fwlch ariannu sy'n weddill? Sut y bydd yr arian ychwanegol yn cael ei ddarparu? Sut y bydd y Gweinidog yn monitro cyllid gofal diwedd oes sy'n cael ei ddarparu drwy fyrddau iechyd i ganfod faint o hyn sy'n cyrraedd hosbisau ac a yw hyn yn sicrhau'r canlyniadau gorau i gleifion a'u teuluoedd?

O ystyried datganiad y Gweinidog y bydd yr arian ar gael yn rheolaidd o 2022-23, a all hi ymrwymo i'r cyllid hwn fod ar sail reolaidd am o leiaf oes y chweched Senedd? A all hi roi rhagor o fanylion ynghylch pa gostau y mae hi'n rhagweld y bydd y cyllid hwn yn eu talu? A wnaiff hi gadarnhau a fydd yr arian hwn ar gael i'n hosbisau drwy un taliad blynyddol, gan ganiatáu'r adnoddau iddyn nhw fuddsoddi mewn ffyrdd o sicrhau y gallan nhw wneud y gwahaniaeth mwyaf i'r bobl a'r teuluoedd sy'n defnyddio eu gwasanaethau? A wnaiff hi roi rhywfaint o eglurder ynghylch sut y bydd yr hosbisau'n adrodd yn erbyn cyllid o'r fath ac yn cadarnhau a fydd hyn yn seiliedig ar gyrhaeddiad ac angen ac ni fydd yn rhy feichus? Ac yn olaf, sut y bydd hi, ei swyddogion a phartneriaid eraill yn y gwasanaeth cyhoeddus yn parhau i weithio gyda'n hosbisau oedolion a phlant; heb eu cynaliadwyedd a'u mewnbwn, byddai'n amhosibl creu Cymru dosturiol?

15:45

Diolch yn fawr iawn, Mark. A gaf i ddiolch i chi am eich ymrwymiad personol i'r maes pwysig iawn hwn? Ni allaf i ddychmygu'r pwysau a'r anawsterau y mae cynifer o deuluoedd wedi gorfod eu hwynebu yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Mae'n ddigon anodd colli anwylyn ar unrhyw adeg, ond mae'n rhaid bod ceisio ymdrin â hyn yng nghanol pandemig wedi bod yn anodd iawn, yn arbennig, rwy'n credu, pan ddaw'n fater o blant. Felly, diolch am eich cyfraniad a diolch am ganolbwyntio ar hyn. Diolch i chi am gydnabod ein bod ni wedi rhoi £14 miliwn i'r sector i wneud yn iawn am rywfaint o'r golled yr oedden nhw wedi'i gweld yn ystod y pandemig, ac am gydnabod y £2.2 miliwn ychwanegol hwnnw, y gallaf i gadarnhau y bydd ar sail reolaidd.

Rwy'n falch o weld eich bod chi'n cydnabod ein bod ni wedi cywiro rhywfaint o'r tanariannu a oedd yn digwydd, a dyna pam y gwnaethom ni'n siŵr ein bod ni wedi cynnal yr adolygiad hwn a'n bod ni wedi rhoi blaenoriaeth wahanol iddo. Mae adolygiad ehangach, ond aethom ni'n gyntaf am yr angen brys i lenwi'r bwlch cyllido. Yr arbenigwyr hynny a luniodd yr awgrymiadau o ran ble y dylai hynny lanio. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi glanio fwy neu lai yn yr un lle â Lloegr o ran cyllid hosbis plant, er fy mod i'n credu ei bod yn bwysig iawn, pan yr ydym ni'n sôn am hosbisau gwirfoddol, nad ydym ni'n cymharu afalau yma ag afalau Lloegr. Oherwydd, er enghraifft, yng Nghymru, mae rhai o'r hosbisau'n elwa ar gymorth clinigol, megis ymgynghorwyr meddygaeth liniarol, ac nid yw hynny o reidrwydd yn wir yn Lloegr. Mae'n ffordd ychydig yn wahanol o ymdrin â'r sefyllfa. Felly, diolch am hynny.

Wrth gwrs, byddwn ni'n monitro sut y caiff yr arian hwn ei wario, ac wrth gwrs byddwn ni'n sicrhau bod y byrddau iechyd yn sicrhau eu bod yn ystyried sut mae'r angen yn edrych o fewn y maes hwn. Rwy'n falch iawn o weld mai un o'r pethau sydd wedi cael ei gydnabod yma yw'r ffaith bod pobl, mewn gwirionedd, yn ddelfrydol, eisiau marw gartref yng nghysur eu cartref gyda'r bobl y maen nhw'n eu caru o'u hamgylch. Mae newid sylweddol wedi bod, rwy'n credu, o ran y mae'r hosbisau hyn yn rhoi pwyslais ar sicrhau y gallan nhw roi'r gofal hwnnw o fewn y gymuned. Felly, rwy'n falch bod hynny wedi cael ei gydnabod yn y fformiwla newydd hon sydd ar waith.

15:50

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Y peth cyntaf dwi am ei wneud ydy talu teyrnged a dweud 'diolch' i'r sector hosbisau yng Nghymru; diolch iddyn nhw am eu gwasanaeth cwbl, cwbl hanfodol. Mae unrhyw un sydd wedi cael y fraint o ymweld â hosbis neu brofi gwasanaeth hosbis yn y cartref yn gwybod am y gofal diflino. Dwi wedi gweithio efo'r sector y gorau y gallaf i fel Aelod Ynys Môn, fel llefarydd Plaid Cymru ar iechyd a gofal ac fel aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar hosbisau i drio dwyn pwysau am setliad ariannol fyddai yn rhoi y math o sicrwydd maen nhw yn ei haeddu. Dwi'n falch ein bod ni wedi cael y cyhoeddiad yma heddiw. Mi holais i'r Gweinidog am hyn yn y pwyllgor iechyd yr wythnos cyn ddiwethaf. Mi addawyd datganiad buan, felly dwi'n falch ei bod hi wedi cadw at ei gair. Ac mae o'n gam, heb os, i'r cyfeiriad cywir, ond mae yna dipyn o ffordd i fynd eto.

Y cyd-destun ariannol, fel dywedodd y Gweinidog, ydy bod yna ddim cynnydd wedi bod yn y cyllid creiddiol, mewn difrif, ers degawd erbyn hyn. Rŵan, dwi'n gweld hyn fel cywiriad, os liciwch hi. Dwi'n cydnabod yr hyn a glywon ni gan y Gweinidog—bod yna gymal arall i ddod i'r adolygiad yma gan y Llywodraeth. Ond i roi syniad o ystyr y ffigurau rydyn ni wedi'u clywed gan y Gweinidog heddiw, mae £2.2 miliwn o ychwanegol yn mynd i'r sector cyfan yng Nghymru yn flynyddol; mae'n costio rhyw £5 miliwn y flwyddyn i redeg hosbis Dewi Sant yn unig, efo llai na 10 y cant ohono fo'n dod gan y Llywodraeth neu'r bwrdd iechyd. Cyn y cyhoeddiad yma, 10 y cant o gyllid hosbisau plant Cymru oedd yn dod o'r pwrs cyhoeddus. Mi fydd yna rŵan, os dwi wedi deall yn iawn o'r datganiad, yr un lefel â Lloegr, sef 21 y cant, ond cofiwch fod Gogledd Iwerddon yn talu 25 y cant a'r Alban yn talu hanner y costau. Felly, ydy, mae'r arian ychwanegol i'w groesawu, ond dwi yn edrych ymlaen at weld datganiad pellach.

Mae hi'n afresymol, dwi'n meddwl, inni barhau i ddisgwyl y lefel o ofal a'r lefel o wasanaeth rydyn ni wedi arfer â fo ac sydd mor bwysig i deuluoedd ar draws Cymru heb ein bod ni'n barod i wneud cyfraniad teg tuag at hwnnw. Ac mi hoffwn i ofyn i'r Gweinidog am sicrwydd y bydd cymal 2 o'r adolygiad yn edrych ar y posibilrwydd o gynyddu'r cyllid craidd hwnnw i'r sector gwirfoddol ymhellach. Ac un cwestiwn ychwanegol, hefyd. Mae yna fwy na dim ond symiau o arian sydd angen edrych arnyn nhw; mae eisiau sicrhau hefyd bod mynediad at wasanaeth hosbisau yn gyfartal i bawb, pwy bynnag ydyn nhw, lle bynnag maen nhw yng Nghymru. Mae yna anghydraddoldebau mawr ar hyn o bryd. Ydy hyn hefyd yn rhywbeth mae'r Gweinidog yn mynd i edrych arno fo er mwyn gwneud yn siŵr y bydd y gwasanaeth rhagorol hwn wirioneddol yn wasanaeth rhagorol y mae pawb yn gallu cael mynediad ato fo?

15:55

Diolch yn fawr, Rhun. Rŷch chi'n eithaf iawn; mae yna ail gymal i fynd a dwi'n gobeithio y bydd hwnna'n cymryd llai na blwyddyn i'w gwblhau. Beth fydd yn digwydd yw y bydd grŵp bach yn cael ei gynnal dan arweinyddiaeth y lead clinigol ar gyfer diwedd oes, Dr Idris Baker, ac maen nhw'n datblygu ar hyn o bryd beth fydd y remit ar gyfer yr ail gymal yna. Bydd hwnna'n cael ei oruchwylio gan raglen newydd end-of-life care, felly bydd hwnna'n is-grŵp o hwnna. Ac mi fydd y review yna'n edrych ar ariannu yn y sector ac yn edrych ar y gwahaniaethau o ran y modelau gwahanol o ran hosbisau sydd wedi cael eu darganfod yn ystod y cymal cyntaf.

Dwi hefyd yn poeni rhywfaint, Rhun, ynglŷn â sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad i'r help yma ble bynnag y maen nhw. Yn sicr, roedd hwn yn rhywbeth y gwnes i godi gyda'r hosbisau plant pan roeddwn i'n siarad gyda nhw ynglŷn â sut maen nhw'n cyfro, er enghraifft, ardaloedd cefn gwlad, os ydyn nhw'n bell i ffwrdd o'r canolfannau lle maen nhw wedi'u seilio. Maen nhw wedi ei gwneud hi'n glir eu bod nhw eisoes wedi rhoi darpariaeth, ond maen nhw'n deall bod ychydig mwy o le gyda nhw i fynd ar hynny hefyd. Felly, gobeithio y gwelwn ni hynny, ac, wrth gwrs, bydd hwnna'n rhywbeth dwi'n gobeithio y byddan nhw'n edrych arno yn y cymal nesaf.

Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Mae'r mudiad hosbisau yn ychwanegiad gwirioneddol anhygoel at ofal iechyd yn y DU, gan ei fod yn llenwi'r bwlch sydd wedi'i adael gan wasanaethau statudol. Un o wirioneddau trist bywyd, yn anffodus, a'r un peth sy'n cael ei warantu mewn bywyd, yw ein bod ni i gyd yn marw yn y pen draw, ac mae hosbisau yno i helpu i sicrhau y gall y rhai sydd â salwch angheuol gael dewisiadau ynghylch diwedd eu hoes. Mae fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd yn ffodus o gael hosbis Sant Cyndeyrn sy'n wych, sydd wedi'i lleoli yn Llanelwy, i ddarparu gofal lliniarol rhagorol. Gweinidog, mae Sant Cyndeyrn yn cael ychydig dros un rhan o chwech o'i chyllid o ffynonellau statudol. A ydych chi'n credu bod hynny'n gynaliadwy neu'n deg, o ystyried y gwasanaeth gwerthfawr y mae'n ei ddarparu i fy etholwyr yn holl ranbarth y gogledd-ddwyrain? Hyd yn oed pan gaiff cyllid ei ddarparu, mae Sant Cyndeyrn yn cael cyfran is na darparwyr tebyg yn y de. Felly, beth yr ydych chi'n ei wneud i ymdrin â'r gwahaniaeth hwn? Ac yn olaf, a ydych chi'n cytuno, er na ddylai neb farw mewn gwely ysbyty acíwt, nid pawb sydd eisiau marw gartref? Ac felly, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ariannu cynyddu capasiti gwelyau mewn mannau fel Sant Cyndeyrn i roi dewis i bawb ynghylch sut y maen nhw'n marw gyda salwch angheuol?

Diolch yn fawr iawn, Gareth. Fel y gwyddoch chi, mae tua 33,000 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn ac mae tua 200 ohonyn nhw'n blant, ac ni allaf i ddychmygu'r gwewyr y mae'n rhaid i rieni yn arbennig fynd drwyddo. Mae hynny'n cyfateb i tua 90 o bobl y dydd, ond yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw ein bod ni'n mynd i weld nifer cynyddol o bobl yn marw oherwydd proffil demograffig y wlad. Felly, erbyn 2039, byddwn ni'n gweld cynnydd o 10 i 15 y cant yn y nifer hwnnw—tua 36,000 y flwyddyn yn marw. Ac felly, yn amlwg, mae hwn yn faes y bydd angen mwy o sylw iddo ac mae angen cynllun strategol arnom yn anad dim ar gyfer sut y bydd y dyfodol yn edrych.

Mae gennyf i ddiddordeb mewn clywed am hosbis Sant Cyndeyrn a'i sefyllfa. Un o'r pethau yr ydym ni wedi gofyn i'r ail adolygiad ei wneud yw ystyried, rwy'n tybio, y gwahaniaethau sy'n cael eu hystyried—yr amrywiannau o ran y gwahanol fodelau. Felly, bydd yn ddiddorol iddyn nhw edrych ar yr hyn y mae Sant Cyndeyrn yn ei wneud yn wahanol i rai o'r lleoedd eraill. Felly, mae hynny'n rhywbeth y bydd yr adolygiad hwnnw'n ei gynnal.

Ac o ran capasiti gwelyau: wel, rydym ni wedi gweld cynnydd yng nghapasiti gwelyau, ac un o'r pethau y mae'r fformiwla sydd wedi'i adolygu wedi'i ystyried yw'r ffaith bod cynnydd mewn capasiti gwelyau, ac mae'n un o'r rhesymau dros a rhan o'r cyfiawnhad dros roi arian ychwanegol.

16:00

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad y prynhawn yma. Gadewch imi ddechrau drwy ddweud ei bod hi ddim yn unig yn ddiwrnod gwych i'r Urdd ar gyfer dathlu ei chanmlwyddiant heddiw, a hefyd y ffaith ein bod ni'n dathlu Diwrnod Santes Dwynwen hefyd, ond yn berthnasol i'r datganiad yma, dwi hefyd yn dymuno pen-blwydd hapus i Tŷ Hafan, sydd heddiw'n dathlu pen-blwydd yn 23 mlwydd oed. Ac mae'r datganiad yma yn ffordd wych o ddathlu'r ddwy hosbis plant yng Nghymru.

Mae'r ddwy hosbis plant yng Nghymru wedi bod ar waelod y rhestr yn y DU o ran cefnogaeth y wladwriaeth. Cyn y cyhoeddiad hwn, cafodd ein hosbisau lai na 10 y cant o'u cyllideb o ffynonellau'r wladwriaeth. Er mwyn cymharu, mae hosbisau plant yn yr Alban yn cael 50 y cant o'u cyllideb o ffynonellau'r wladwriaeth. Nid ydym ni'n sôn heddiw am fod yn gydradd â chenhedloedd eraill, ond mae'n gam i'r cyfeiriad cywir.

Rwy'n ystyried mai'r datganiad heddiw yw'r isafswm sy'n dderbyniol, ac mae'n fan cychwyn da i gynyddu'r gyllideb yn y dyfodol. Mae'n hawdd i'ch sylw gael ei dynnu gan ffigurau a thaenlenni wrth sôn am setliadau cyllideb, ond beth mae'r cyhoeddiad hwn yn ei olygu heddiw? Bydd yr arian ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i wneud pethau fel darparu—

Mae'n ddrwg gen i. Pan fyddwch chi'n rhoi'r cyhoeddiad hwn heddiw mewn cyd-destun o ran y sicrwydd ariannol sydd ei angen arnom ni ar gyfer hosbisau plant, rwy'n siŵr y bydd cytundeb ledled ein Senedd heddiw, ac nid yn unig y mae'n hen bryd ei gael, ond mae'n rhywbeth i'w groesawu'n fawr iawn. Diolch.

Diolch yn fawr, Peredur, a hoffwn i hefyd roi diolch i'r holl waith mae Tŷ Hafan wedi'i wneud, a dymuno pen-blwydd hapus iddyn nhw am eu holl waith nhw dros y blynyddoedd. Maen nhw wedi trawsnewid bywydau pobl mewn cyfnod lle mae pobl wirioneddol yn mynd trwy'r amser caletaf yn eu bywydau nhw, a gallwn ni ddim diolch digon iddyn nhw am bopeth maen nhw wedi'i wneud i blant a theuluoedd ar draws yr holl flynyddoedd hynny. Diolch hefyd—

Diolch, Peredur. Ond dim ond i ddweud, wrth gwrs, rydym ni'n deall bod ail gam i hyn, ac, yn amlwg, bydd y materion ariannol sy'n gysylltiedig â hyn yn parhau i gael eu harchwilio yn ystod yr ail gam hwnnw.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Ers i mi ddod yn Aelod o'r Senedd, un o'r pethau cyntaf a wnes i oedd cwrdd ac ymweld â Thŷ Gobaith yn fy rhanbarth i, gogledd Cymru, sydd, ynghyd â Thŷ Hafan, yn gwneud gwaith eithriadol, ac mae'r cyfan wedi cael ei gydnabod yma heddiw, wrth gefnogi cleifion ifanc a'u hanwyliaid. Rwyf i wedi cael fy synnu gan y gwaith y maen nhw'n ei gynnig a'i ddarparu.

Un o'r pryderon enfawr y gwnaethon nhw ei godi gyda mi oedd y diffyg cyllid hwn gan y Llywodraeth, ac, felly, rwy'n falch iawn bod cefnogaeth drawsbleidiol o ran y diffyg cyllid hwn wedi arwain at y Llywodraeth heddiw yn cyhoeddi diwygio cyllid hosbisau. Rwyf i, fel eraill yma heddiw, yn croesawu'r cyllid hirddisgwyliedig hwn, sy'n ddechrau da, i gydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r cymorth y gall hosbisau ei ddarparu i bobl. Ond wrth edrych ymlaen, Gweinidog, ac ar fwrdd y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal diwedd oes yr ydych chi'n ei sefydlu, sut y byddwn ni'n cael sicrwydd o'u cynnydd cyflym, a sut y byddwch chi'n cydbwyso llais hosbisau ar y bwrdd hwn â lleisiau eraill sy'n cystadlu am gyllid mor bwysig?

Diolch yn fawr iawn, Sam. Mae gen i ofn nad ydw i wedi cael cyfle i ymweld â Thŷ Gobaith eto, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at wneud hynny, a'r un peth gyda Thŷ Hafan. Mae arnaf i ofn nad pandemig yw'r amser gorau i ymweld â hosbisau, ond rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael y cyfle i wneud hynny ac i ddiolch i'r staff am eu gwaith anhygoel dros gynifer o flynyddoedd.

Rydych chi'n hollol gywir, bydd y rhaglen gofal diwedd oes genedlaethol yn ystyried yr angen i sicrhau ein bod ni'n rhoi cyllid digonol i mewn, a byddan nhw'n edrych ar yr amrywiannau o ran modelau hosbis y sector gwirfoddol i sicrhau ein bod yn cael asesiad teg, ei fod i gyd yn gyfartal ledled Cymru, gan sicrhau eu bod yn rhoi'r gwasanaeth i'r boblogaeth gyfan.

16:05
5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Cofio'r Holocost

Eitem 5 y prynhawn yma: datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol— Diwrnod Cofio'r Holocost. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt, i wneud y datganiad.

Bydd dydd Iau yma yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2022, ac, ar y diwrnod hwn, rydym yn cofio'r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod yr Holocost ac yn yr hil-laddiadau sydd wedi dilyn.

Y thema ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yw 'Un Diwrnod'. Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost wedi tynnu sylw at y gwahanol ffyrdd y gallwn ddehongli'r thema hon, megis: dysgu o ddigwyddiadau'r gorffennol i adeiladu dyfodol gwell, lle na fydd hil-laddiad un diwrnod; canolbwyntio ar un diwrnod mewn hanes a dysgu am ddigwyddiadau'r diwrnod penodol hwnnw; neu gofio'r rhai yr oedd eu bywydau'n frwydr unigryw yn ystod cyfnodau erchyll o hanes, lle na allai pobl ond cymryd un diwrnod ar y tro yn y gobaith y byddai'r diwrnod nesaf yn well.

Rydym yn cefnogi Diwrnod Cofio'r Holocost nid yn unig i gofio'r dioddefwyr a'r goroeswyr uniongyrchol, ond hefyd i gofio gwersi hanfodol o hanes. Nid yw casineb a rhagfarn yn faterion sydd wedi'u cyfyngu i'r gorffennol. Nid yw hil-laddiadau fel arfer yn dechrau gyda llofruddiaeth dorfol. Maen nhw'n dechrau gyda thanseilio rhyddid personol a rheolaeth y gyfraith yn raddol a'r ffordd y mae rhannau o gymdeithas yn cael eu haralleiddio'n anochel. Mae gennym weledigaeth i Gymru fod yn fan lle mae pawb yn cael eu parchu a bod amrywiaeth yn cael ei dathlu. Rydym ni eisiau rhoi blaen troed i gasineb a rhoi croeso cynnes i bawb, ac fe hoffwn i ailadrodd nad oes lle yng Nghymru i gasineb.

Fore Iau, bydd seremoni Cymru yn cael ei darlledu ar sianel YouTube Cyngor Caerdydd. Bydd Prif Weinidog Cymru yn cymryd rhan yn y seremoni, ochr yn ochr â goroeswr yr Holocost Eva Clarke. Symudodd Eva i Gymru ar ôl yr ail ryfel byd a chanfod diogelwch a hapusrwydd yma. Rydym yn ddiolchgar iawn i Eva a goroeswyr eraill yr Holocost a phob hil-laddiad sy'n treulio oriau di-rif yn rhannu eu straeon yn ein cymunedau. Mae eu straeon yn rhoi rhybudd llwm o beryglon naratifau atgas a chynhennus a'r hyn sy'n gallu digwydd pan fydd pobl a chymunedau'n cael eu targedu a'u dad-ddynoli, dim ond oherwydd pwy ydyn nhw.

Bydd seremoni'r DU ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2022 yn cael ei ffrydio ar-lein nos Iau, ac mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn gwahodd pobl ledled y DU i oleuo cannwyll am 8 p.m. a'i gosod yn y ffenestr i gofio'r rhai a gollodd eu bywydau oherwydd hil-laddiad. Fel rhan o'r ymdrech hon i oleuo'r tywyllwch, bydd adeiladau ledled Cymru yn cael eu goleuo'n borffor, gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Castell Coch a'r Senedd.

Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i gefnogi sefydliadau ledled Cymru i gynllunio eu digwyddiadau coffáu ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost eleni. Yn y cyfnod yn arwain at y diwrnod, mae'r ymddiriedolaeth wedi ymgysylltu â chymysgedd amrywiol o sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys sefydliadau'r trydydd sector, busnesau, addoldai, ysgolion, undebau myfyrwyr, amgueddfeydd a charchardai. Mae'r ymddiriedolaeth wedi cadarnhau bod rhai o sefydliadau Cymru sy'n cymryd rhan eleni yn cynnwys Sefydliad Celf Josef Herman Cymru, Canolfan Gymunedol Affricanaidd Cymru a'r Olive Trust. Mae awdurdodau lleol hefyd yn chwarae eu rhan, gan wneud datganiadau o ymrwymiad i Ddiwrnod Cofio'r Holocost a noddi arddangosfeydd a digwyddiadau. Mae'n galonogol gweld faint o ymgysylltu a fu a'r awydd i goffáu achlysur mor bwysig. Mae'n dangos ymrwymiad gan Gymru i gofio o hyd y rhai a gollwyd yn ystod hil-laddiad.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost i gynnal y rhaglen Gwersi o Auschwitz yng Nghymru. Mae'r ymddiriedolaeth wedi addasu i heriau pandemig COVID-19 drwy ddatblygu llwyfan digidol arloesol, rhyngweithiol i gyflwyno ei rhaglen ddysgu. Mae'r rhaglen yn cynnwys sesiynau byw rhyngweithiol ar-lein, dan arweiniad arbenigwyr ar hanes yr Holocost, tystiolaeth gan oroeswyr sy'n dal yn fyw, ac mae hefyd yn rhoi cyfle i ymweld â chofeb ac amgueddfa Auschwitz-Birkenau drwy dechnoleg rithwir. Bydd y rhaglen unwaith eto'n cael ei chyflwyno'n ddigidol yn 2022, gyda llwyfan dysgu gwell i gynnwys arteffactau ar ffurf ddigidol o amgueddfa Auschwitz-Birkenau a darn newydd o realiti rhithwir yn canolbwyntio ar dref Oświęcim, a alwyd wedyn yn Auschwitz pan ymosododd y Natsïaid arni yn 1939. Bydd yn galluogi cyfranogwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o'r gymuned Iddewig cyn y rhyfel a fodolai yn y dref hon yn ogystal â'r effaith ddinistriol a gafodd y cynnydd yn Natsïaeth ar y boblogaeth leol.

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif o ran cefnogi cymunedau lleiafrifol oherwydd gwyddom am y colli potensial y gall anghydraddoldeb ei wneud i bobl, yn ogystal â pheryglon cymunedau rhanedig. Drwy ein cynlluniau gweithredu amrywiol, rydym yn ceisio dileu anghydraddoldebau, boed hynny mewn perthynas â hil neu genedligrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhyw neu ryw, neu anabledd. Mae hyn yn cynnwys datblygu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, ymhlith eraill, i'n helpu i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru wrth-hiliol.

Rydym yn parhau i fynd i'r afael â throseddau casineb lle maen nhw'n digwydd drwy ariannu'r ganolfan genedlaethol adrodd am droseddau casineb a chymorth, y prosiect troseddau casineb mewn ysgolion, a'n rhaglen cydlyniant cymunedol. Nod ein hymgyrch troseddau gwrth-gasineb, Mae Casineb yn Brifo Cymru, yw portreadu effaith ddinistriol troseddau casineb, ond hefyd annog pobl i roi gwybod am y cyfryw droseddau a chael cefnogaeth.

Dangosodd yr ystadegau troseddau casineb diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021, gynnydd o 16 y cant mewn troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Hoffwn annog dioddefwyr casineb a thystion i ddod ymlaen ac adrodd am y digwyddiadau hyn i'r heddlu neu i'r ganolfan genedlaethol adrodd am droseddau casineb a chymorth, sy'n cael ei rhedeg ar ein rhan gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru. Mae cefnogaeth ar gael a chaiff unrhyw honiadau eu cymryd o ddifrif. Dirprwy Lywydd, mae angen inni barhau i herio casineb, lle bynnag y down ni ar ei draws, fel y gallwn ni, un diwrnod, anrhydeddu dioddefwyr hil-laddiad a dweud yn ffyddiog bod gwersi hil-laddiad wedi'u dysgu. Diolch yn fawr.

16:10

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog heddiw am ei datganiad y prynhawn yma. Credaf ei bod hi'n bwysig iawn bod y Senedd a chenedl Cymru yn rhoi amser i gofio a myfyrio ar erchyllterau'r Holocost a phob hil-laddiad ers hynny, ac mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn ein helpu i wneud hynny. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost ac i Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost am y gwaith a wnânt, nid yn unig ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, ond drwy gydol y flwyddyn, i hyrwyddo cofio'r pethau hyn. Oherwydd maen nhw nid yn unig yn cynnig cyfle i ni ystyried pawb a gollodd eu bywydau o ganlyniad i'r Holocost a hil-laddiadau ers hynny, maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i ni ystyried goroeswyr, yr unigolion hynny sy'n byw gyda'r creithiau meddyliol a chorfforol o'r cyfnodau erchyll hynny yn hanes y ddynoliaeth.

Mae'n drueni mawr, rwy'n credu, nad yw llawer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal yn y cnawd eleni oherwydd cyfyngiadau COVID, ond rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi parhau i ariannu Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost a llawer o'i gweithgareddau i gefnogi coffáu ledled y wlad. Hoffwn annog Aelodau'r Senedd i ymwneud â digwyddiadau yn eu hetholaethau eleni, yn enwedig y rhai sy'n cynnwys y dystiolaeth uniongyrchol gan y bobl hynny sy'n prinhau a oroesodd greulondeb drygioni'r gyfundrefn Natsïaidd. Ni all y rheini ohonom ni sydd wedi bod i ddigwyddiadau o'r fath yn y Senedd yn y gorffennol fethu â chael ein symud a'n hysgogi gan oroeswyr yr Holocost a rannodd eu straeon dros y blynyddoedd, gan gynnwys Mala Tribich, Henri Obstfeld a Henry Schachter, y mae pob un ohonyn nhw wedi ymweld â'r Senedd i rannu eu straeon syfrdanol a brawychus am eu profiadau personol a'u colled. 

Yn anffodus, wrth gwrs, gwyddom i gyd nad yw'r casineb a'r hiliaeth sy'n gweithredu fel meithrinfa'r drwg sy'n arwain at ddigwyddiadau fel yr Holocost wedi'u dileu'n llwyr yn anffodus, a dyna pam y mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus bob amser a gweithredu'n gyflym i fynd i'r afael â hiliaeth a chasineb lle bynnag y mae'n ymddangos. Er fy mod i'n gwybod am ymrwymiad personol y Gweinidog i ddileu casineb a hiliaeth yng Nghymru, ac yn croesawu'n fawr y mentrau y mae ei datganiad wedi cyfeirio atyn nhw, rwyf yn bryderus iawn bod nifer y troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn parhau i godi, gan gynnwys adroddiadau am wrth-semitiaeth. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod pryderon wedi'u mynegi gan y gymuned Iddewig yng Nghymru yn ystod y misoedd diwethaf am rwystro pobl o Israel rhag gallu cael mynediad i wefan Cadw. Nawr, er fy mod yn sylweddoli bod y mater hwn bellach wedi cael sylw, yn anffodus mae Llywodraeth Cymru wedi methu â rhoi unrhyw esboniad o hyd ynghylch pam y sefydlwyd ffurfweddiad y wal dân ar weinydd Cadw yn y fath fodd fel ei fod yn caniatáu i bobl o wledydd eraill ledled y byd gael mynediad i wefan Cadw, ac eto wedi rhwystro mynediad i'r unig wladwriaeth Iddewig yn y byd. Nawr, tynnwyd sylw Cadw at y mater hwn yn ôl ym mis Medi y llynedd, ac eto ni wnaed dim nes i mi godi'r mater yn y Senedd ym mis Rhagfyr. Felly, efallai, Gweinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni heddiw pwy a sefydlodd y wal dân honno yn y ffordd benodol honno? Pam y rhwystrwyd Israel? A pham y cymerodd fisoedd i ddatrys y mater? Mae'r gymuned Iddewig, rwy'n credu, angen atebion ac yn haeddu atebion.

Yn ogystal â hynny, codwyd pryderon hefyd ynghylch penodiad Rocio Cifuentes yn ddiweddar yn Gomisiynydd Plant newydd Cymru. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn dangos bod y comisiynydd yn bresennol mewn protest yn Abertawe lle clywyd pobl yn llafarganu 'Khaybar, oh Jews', sydd, wrth gwrs, yn rhyfelgri adnabyddus yn galw am hil-laddiad. Nawr, yn anffodus, mae ffrwd Twitter Ms Cifuentes yn dal i hyrwyddo'r rali yr wyf wedi cyfeirio ati. Mae ar Gymru angen comisiynydd plant, Gweinidog, sy'n hyrwyddo hawliau pob plentyn yng Nghymru, gan gynnwys rhai o'r ffydd a'r dreftadaeth Iddewig. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe baech yn dweud wrthym ni pa gamau y mae Llywodraeth Cymru bellach wedi'u cymryd i ymchwilio i bryderon am benodiad Ms Cifuentes a'i haddasrwydd ar gyfer y swydd bwysig hon.

Ac yn olaf, un o'r pethau yr hoffwn i gymeradwyo Llywodraeth Cymru amdano yw'r ffordd y mabwysiadodd ddiffiniad Cynghrair Cofio Rhyngwladol yr Holocost o wrth-semitiaeth. Ond, yn anffodus, Gweinidog, er gwaethaf yr arweiniad a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru yn y maes penodol hwnnw, mae llawer o sefydliadau, mae llawer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus sy'n cael arian Llywodraeth Cymru, nad ydyn nhw wedi'i fabwysiadu. Mae rhai o'r sefydliadau hynny'n sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yma yng Nghymru—ein prifysgolion. Nawr, dylai'r rhain fod yn fannau lle gall pobl deimlo'n ddiogel rhag drwg gwrth-semitiaeth, ond, yn anffodus mae amharodrwydd y sefydliadau hynny i fabwysiadu diffiniad gwrth-semitiaeth Cynghrair Cofio Rhyngwladol yr Holocost, rwy'n credu, yn achosi i lawer o bobl Iddewig a myfyrwyr yn y prifysgolion hynny fod yn ofnus ynghylch y dyfodol. A wnewch chi ddweud wrthym ni a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo heddiw i'w gwneud hi'n ofynnol i unrhyw un sy'n cael arian gan Lywodraeth Cymru i fabwysiadu'r diffiniad hwnnw fel mater o frys? Edrychaf ymlaen at eich ymatebion.

16:15

Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn, Darren Millar, a diolch am eich cydnabyddiaeth, yn enwedig nid yn unig o'n cefnogaeth i Ddiwrnod Cofio'r Holocost a'r digwyddiadau yr ydym ni'n cymryd rhan ynddyn nhw, ond hefyd o'n cefnogaeth o Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost, y cyllid a ddarparwn, ac rwy'n falch eich bod yn croesawu'r digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ledled Cymru. Yn wir, rwy'n siŵr yr hoffai llawer o Aelodau yma gyfeirio atyn nhw. Rwy'n credu bod gennym ni ystod eang iawn, gan gynnwys Sefydliad Celf Josef Herman Cymru—mae ganddyn nhw ffilm fer ar thema 'un diwrnod', sy'n mynd i edrych ar, yn y gorffennol, 1942, un diwrnod yn y presennol, gan ganolbwyntio ar drafferthion presennol ffoaduriaid, ac yna un diwrnod 50 mlynedd yn y dyfodol a mater ffoaduriaid yr hinsawdd, pob un yn gyfredol ac yn berthnasol iawn—edrych ar yr Olive Trust yn cynnal digwyddiad coffa ar-lein, gan gynnwys siaradwyr yn rhannu hanesion personol yr Holocost, ac, yn wir, Synagog Unedig Caerdydd sy'n cefnogi gwasanaeth cofio Diwrnod Cofio'r Holocost Cenedlaethol Cymru ar-lein sy'n cael ei gynnal ac yn cymryd rhan mewn gwasanaethau llai hefyd, ond gan gynnwys hefyd yn y digwyddiadau yr wythnos hon Eglwysi Ynghyd yng Nghymru gan ddefnyddio eu cyfleoedd, yn enwedig drwy'r cyfryngau cymdeithasol, Eglwys Gadeiriol Llandaf, gyda sesiwn weddi a gosber ar gân, yn ogystal ag Anabledd Cymru—sefydliadau amrywiol yw'r rhain i gyd—gan dynnu sylw at sut y cafodd pobl anabl eu targedu a'u trin yn ystod yr Holocost, a defnyddio adnoddau i ddangos yr effaith honno.

Rwy'n credu ei bod hi'n drist iawn nad ydym yn cael digwyddiad trawsbleidiol gyda'n gilydd, Darren, fel y cawsom ni droeon yn y gorffennol. Roedd hi'n 2020 arnom ni mewn gwirionedd, yn mynd gyda'n gilydd, fel Aelodau'r Cynulliad, fel yr oeddem ni bryd hynny, i ddigwyddiad yn y Senedd—ac mae'r digwyddiadau trawsbleidiol hynny'n bwysig; byddwn yn ymgynnull, rwy'n siŵr, yn y dyfodol i wneud hynny—gyda, fel y dywedoch chi, goroeswraig yr Holocaust Mala Tribich yn rhoi ei chyfrif personol. Ond hefyd roedd yn berthnasol iawn i ni gael Isaac Blake yn siarad am brofiadau dioddefwyr Roma a Sinti o'r Holocost, ond hefyd, byddai'n rhaid i mi ddweud, y Prif Weinidog a minnau yn mynd i seremoni gyhoeddus Synagog Unedig Caerdydd sef goleuo'r menora yng nghastell Caerdydd ar noson olaf Hanukkah cyn y Nadolig—digwyddiad hanesyddol, oherwydd dyma'r ddefod gyhoeddus gyntaf o oleuo'r menora erioed i'w chynnal yn y castell. A gallaf barhau, gyda'n hymgysylltiad rhyng-ffydd parhaus, gydag arweinwyr ffydd yn dod at ei gilydd, gan gynnwys y gymuned Iddewig. Felly, mae llawer y mae'n rhaid i ni fod yn gadarnhaol amdano, o ran cydnabod sut yr ydym ni'n dod at ein gilydd, gan ddysgu o hil-laddiad ar gyfer dyfodol gwell.

Nawr, rwyf yn cydnabod y materion yr ydych chi wedi'u codi. Yn amlwg, rhoddwyd sylw i'r materion sy'n ymwneud â gweinydd Cadw. A hoffwn wneud sylw ar benodi Comisiynydd Plant Cymru, oherwydd roeddwn wrth fy modd gyda phenodiad Comisiynydd Plant nesaf Cymru. Cytunodd y panel penodi trawsbleidiol a gadeiriais yn unfrydol ar yr ymgeisydd llwyddiannus, ac ni welodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a gynhaliodd wrandawiad craffu cyn penodi cyhoeddus, unrhyw reswm dros beidio â chymeradwyo'r penodiad. Mae'r Prif Weinidog wedi ymateb i'r Ceidwadwyr Cymreig, sydd wedi gwneud amrywiaeth o hawliadau di-sail, ac mae'n nodi cadernid y broses recriwtio, y mae pob Aelod yn ymwybodol ohoni. Ni fydd y broses benodi yn cael ei hailagor. Ond rwy'n credu, ei bod hi'n bwysig i mi ddweud hyn wrth Darren a fy nghyd-Aelodau, roeddwn yn benderfynol bod cynnwys plant a phobl ifanc yn rhan annatod o'r ymarfer recriwtio, ac fe wnaethon nhw gymryd rhan ar sawl achlysur drwy'r ymarfer recriwtio hwn, ac rwy'n siŵr yr hoffai'r Aelodau groesawu'r penodiad newydd a'r comisiynydd plant newydd, Rocio Cifuentes, a fydd yn dechrau yn ei swydd maes o law.

Mae'n bwysig ein bod yn parhau i fod yn wyliadwrus o ran ein hymrwymiad i wrth-semitiaeth, a chredaf fod y ffyrdd yr ydym ni'n dod at ein gilydd drwy gydol y flwyddyn, nid yn unig nawr, Diwrnod Cofio Cenedlaethol yr Holocost, yn bwysig. Credaf fod bod yn atebol fel Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol Cymru i Lywodraeth Cymru yn bwysig o ran ein hymrwymiad i fynd i'r afael â throseddau casineb a gwrth-semitiaeth, yn enwedig heddiw. Felly, mabwysiadu diffiniad gwaith Cynghrair Cofio Rhyngwladol yr Holocost o wrthsemitiaeth yn llawn, fel y'i nodwyd, yn ôl yn 2017, ac ailddatgan yr ymrwymiad hwnnw yn 2018, ar bob cyfle—. Ac wrth gwrs mae hwn yn gyfle i rannu pwysigrwydd hynny gyda'n holl gyrff cyhoeddus ledled Cymru, oherwydd mae ei fabwysiadu'n gam pwysig i gefnogi dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o ffurfiau cyfoes o wrthsemitiaeth, a bod yn glir na fydd gwrth-semitiaeth yn cael ei oddef yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda'r gymuned Iddewig. Rydym yn condemnio'r casineb ffiaidd a fynegwyd gan unigolion sy'n ceisio creu hinsawdd o ofn ac yn gobeithio darnio ein cymunedau.

Felly, rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus, ond rydym heddiw hefyd yn cydnabod yr hyn y gallwn ei wneud, pa gyfraniad y gallwn ei wneud ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost yn y Senedd hon ac yn Llywodraeth Cymru ac yn wir ledled Cymru, fel y bydd ein cefnogaeth i'r holl ddigwyddiadau hyn yr wyf wedi'u disgrifio yn dangos.

16:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn ei lyfr arobryn Yr Erlid, mae Heini Gruffudd o Abertawe yn olrhain hanes ei fam, y llenor a'r ysgolhaig, Käthe Bosse-Griffiths, ac effaith erchyll twf Natsïaeth yr Holocost arni hi a'i theulu yn yr Almaen. Cawson nhw, fel miliynau o deuluoedd eraill nad oedd yn cael eu hystyried yn bobl gan y Natsïaid a'u cynghreiriaid, eu herlid, a rhai fel ei fam yn gorfod troi'n alltud, eraill fel ei hen fodryb yn cyflawni hunanladdiad, a miliynau fel ei famgu yn cael eu lladd yn y gwersylloedd carchar. Mae'n anodd dirnad y dioddefaint. Ond mae cyfrolau fel Yr Erlid, drwy adrodd hanes un teulu, yn ein helpu i ddeall y modd y galluogwyd i ideoleg wrthdroëdig a rhagfarn esgor ar greulondeb annynol a hil-laddiad. Roedd profiad teulu fy chwaer yng nghyfraith, Dr Zoe Morris-Williams, yn un tebyg iawn, ac mae disgynyddion ei thadcu, yr arlunydd Heinz Koppel, ddaeth yn un o artistiaid blaenllaw Cymru, wedi gwneud cyfraniad mawr i'w cymunedau ac i Gymru, gyda Zoe, yn wyres i ffoadur, yn achub bywydau fel meddyg. 

Yn yr un modd ag y mae hanesion teuluoedd unigol yn sicrhau ein bod yn deall yr annealladwy, mae un diwrnod, Diwrnod Cofio'r Holocost, yn ein helpu i gofio bywydau'r miliynau a laddwyd yn sgil erledigaeth y Natsïaid, a hefyd pob teulu ar draws ein byd sydd wedi dioddef yn sgil hil-laddiad. Mae diwrnod o gofio yn rhoi cyfle inni wir adlewyrchu ar yr hanesion hyn ac i glywed a deall y rhybuddion sydd ymhlyg ynddynt, ac ymrwymo i weithio tuag at ddyfodol heb erledigaeth a chreulondeb o'r fath, ac i ddileu'r hiliaeth a'r anoddefgarwch sy'n medru arwain at hynny. 

Rydym ni wedi sôn yn y lle hwn ein bod ar hyn o bryd yn byw trwy argyfwng economaidd nas welwyd ei fath ers degawdau. Rydym wedi gweld mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol ac ansicrwydd economaidd sut mae anoddefgarwch yn gallu tyfu a hefyd yn gallu cael ei feithrin am resymau gwleidyddol. Dyw hyn ddim yn perthyn i'r gorffennol. Dim ond wythnos diwethaf y gwelais i symbol Natsïaeth wedi ei baentio ar wal gorsaf bws yng Nghastell-nedd. Ac mae'r ystadegau brawychus am adroddiadau o ymosodiadau gwrth-Semitaidd a hiliol yng Nghymru yn arddangos yn glir bod diffyg goddefgarwch ar gynnydd yma. Dysgodd yr Holocost i ni fod gwrthsefyll rhagfarn a senoffobia yn hanfodol.

Mae mudiadau ffoaduriaid yn rhybuddio y bydd Bil Cenedligrwydd a Ffiniau newydd Llywodraeth San Steffan yn tanseilio ein huchelgais yma yng Nghymru i fod yn genedl noddfa i bawb sydd ei angen. Mae gosod pobl mewn categorïau, profi eu cymhwyster trwy eu harchwilio yn gorfforol ac felly rhoi gwerth ar un bywyd uwchben un arall, yn rhywbeth y mae'n rhaid inni addo ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost o bob dydd i'w wrthwynebu. Hoffwn ofyn felly a yw'r Gweinidog yn cytuno bod yn rhaid gwneud popeth o fewn gallu'r Llywodraeth i wrthwynebu Bil Cenedligrwydd a Ffiniau y Deyrnas Gyfunol a fydd mor andwyol i'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth, a pha drafodaeth ydy hi wedi ei chael gyda Llywodraeth San Steffan am y Bil hwn. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau ein bod yn hyrwyddo ac yn dathlu cyfraniad teuluoedd sydd wedi ymgartrefi yng Nghymru ar ôl ffoi rhag rhagfarn, hiliaeth a thrais, ac a yw'r Llywodraeth yn cytuno i wneud datganiad ar Ddydd Cofio Hil-laddiad yr Arminiaid ym mis Ebrill, er enghraifft, fyddai'n gyrru neges o gefnogaeth ac o gydnabyddiaeth i'r gymuned honno? A pha rôl all y cwricwlwm newydd ei chwarae wrth sicrhau y bydd ein plant yn deall ac yn dysgu o wersi'r gorffennol fel y gallwn, un dydd, weld dyfodol na fydd yn cael ei greithio gan y modd mwyaf erchyll o greulondeb ac yn atal unrhyw genedl rhag cymryd y llwybr sy'n arwain at hil-laddiad? Diolch. 

16:25

Diolch yn fawr, Sioned Williams, a gawn ni ddiolch i chi hefyd am yr adroddiadau grymus hynny gan y goroeswyr hynny ac aelodau o'u teulu, a phwysigrwydd cydnabod bod yn rhaid i'r straeon hynny fyw a pharhau wrth iddyn nhw ein haddysgu—pob un ohonom ni—ac mae cymaint wedi cael eu cyffwrdd gan hynny? A bydd y straeon hynny'n cael eu clywed, wrth gwrs, yn ystod yr wythnos: ddydd Iau, Eva Clarke, gyda'r Prif Weinidog. Mae goroeswyr o hyd, sy'n gallu—. Ac mae cyn lleied ar ôl nawr sy'n gallu rhoi'r hanesion hynny, ac mae'n bwysig ein bod yn cydnabod ac yn cefnogi'r rheini gyda'n gilydd.

Ond, credaf fod hyn yn ymwneud hefyd—ac fe wnaethoch chi sôn am y cwricwlwm—y ffyrdd yr ydym ni'n estyn allan at ein plant a'n pobl ifanc, oherwydd ariannwyd Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost gennym i gynnal y rhaglen Gwersi o Auschwitz yng Nghymru. Mae'n cael ei gyflwyno ar-lein ar hyn o bryd, ond mae seminarau dan arweiniad arbenigwyr a thystiolaeth uniongyrchol gan oroeswyr yr Holocost. Mae'r myfyrwyr hynny—a chredaf y bydd llawer ohonom ni'n adnabod y bobl ifanc sydd wedi elwa ar y rheini o'n hysgolion a'n cymunedau—maen nhw'n dysgu am fywyd Iddewig cyn y rhyfel, cyn-wersylloedd marwolaeth a chrynhoi'r Natsïaid—fel y dywedais, Auschwitz-Birkenau—ac yna gallant barhau. Yr hyn sydd mor bwysig yw'r cysylltiadau a wnaethoch chi â pherthnasedd cyfoes yr Holocost. Felly, mae llawer o'r myfyrwyr hynny wedi dod yn llysgenhadon, llysgenhadon Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, ac mae hynny'n golygu eu bod yn parhau i rannu eu gwybodaeth, ond mae'n dylanwadu ar eu holl fywydau a'u gwerthoedd, ac maen nhw'n ei rannu yn eu cymunedau. Dyna swyddogaeth y llysgennad: annog eraill i gofio'r Holocost.

Mae'n bwysig eich bod yn llunio'r ddolen honno ac yn gwneud y cysylltiad hwnnw â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn awr yng Nghymru mewn cysylltiad â'n hymrwymiad i fod yn Gymru wrth-hiliol gyda'n cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, i sicrhau bod Cymru'n seiliedig ar werthoedd gwrth-hiliaeth, gan alw am ddim goddefgarwch o hiliaeth yn ei holl ffurfiau. A'r hyn sy'n bwysig am hynny, unwaith eto, yw'r ffordd y caiff y cynllun hwnnw ei gyd-adeiladu â phobl a chymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a nodi'r weledigaeth a'r gwerthoedd hynny y mae arnom ni eisiau eu cofleidio ar gyfer Cymru wrth-hiliol, a beth yw'r camau a'r nodau hynny y mae angen i ni eu datblygu o ran cael canlyniad. Nid dim ond rhethreg ynglŷn â chydraddoldeb hiliol yn unig yw hynny; mae'n ymwneud â gweithredu ystyrlon. Mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar hyn o ran pob agwedd ar fywyd cymunedol, ein haddysg, ein cwricwlwm hefyd, y soniais amdano hefyd, a chydnabod bod hwn yn gyfle inni heddiw bwyso a mesur y cynnydd yr ydym ni wedi gallu ei wneud o ran cydlyniant cymunedol ac addysg.

Credaf ei bod hi hefyd yn bwysig iawn i chi godi mater y pryderon sydd gennym ni am rywfaint o'r ddeddfwriaeth, er enghraifft, ar lefel Llywodraeth y DU. Byddwch yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o'r datganiad ar y cyd a wnes i gyda'r Cwnsler Cyffredinol o ran y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau. Rydym yn pryderu'n fawr y gallai achosi effeithiau annisgwyl ac anghyfartal ar bobl sy'n cyrraedd Cymru, dim ond oherwydd sut y maen nhw'n cyrraedd Cymru. Rydym ni'n parhau i godi'r pryderon hynny.

Rwy'n credu ichi sôn am Armenia. Gwyddom fod hil-laddiadau yr ydym ni'n pryderu'n fawr amdanyn nhw ac yr ydym ni'n eu crybwyll yn rheolaidd, weithiau drwy ddadleuon byr, weithiau mewn cwestiynau, ond hoffwn ddweud pa mor falch ydwyf ein bod ni, Lywodraeth Cymru, wedi gallu cefnogi'r academi heddwch, Academi Heddwch Cymru, gan gefnogi ein perthnasoedd rhyngwladol drwy ei gwaith heddwch a'i phartneriaethau, cefnogi hyrwyddo Cymru fel lle i weithio, astudio a byw. A pha mor arwyddocaol yw hi heddiw, wrth i ni ddathlu'r Urdd a'i heffaith ar ein cymunedau, ein bywydau, ein plant a'n pobl ifanc a'n haddysg. Nid wyf wedi cael cyfle i'w ddweud heddiw, ond hoffwn ddiolch i'r Urdd am y ffordd yr aethon nhw ati i estyn allan at ffoaduriaid Afghanistan a ddaeth atom ni ym mis Awst ac a ddarparodd gefnogaeth wych ac anhygoel, cefnogaeth tîm Cymru, i'r ffoaduriaid hynny, sydd bellach wedi'u hintegreiddio i'n cymunedau.

Mae'n rhywbeth lle gallwn weld—. Ym mhob agwedd ar y pwyntiau yr ydych chi wedi'u gwneud yn eich cyfraniad, y gallwn weld pa mor berthnasol yw Diwrnod Cofio'r Holocost i fyw ein polisïau, ein darpariaeth yng Nghymru o'n gwasanaethau cyhoeddus, ac, yn wir, yn y ffordd yr ydym ni hefyd yn codi cwestiynau a phryderon am raglenni deddfwriaethol Llywodraeth y DU, fel y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, a sut y mae'n rhaid i ni siarad am y pwyntiau hynny. 

16:35

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rydych chi yn llygad eich lle'n sôn am sawl cyflafan sydd wedi digwydd ers yr Holocost, ond hoffwn sôn am un ddwy gyflafan a ddigwyddodd yn ystod ac yn syth ar ôl y rhyfel byd cyntaf, y mae gan lawer o'm hetholwyr gof byw ac atgofion grymus ohonyn nhw. Mae Sioned Williams newydd sôn am gyflafan Armenaidd 1915. Roedd hwn yn ymgais a noddwyd gan Lywodraeth Twrci i ddileu pobl Armenaidd. Llofruddiwyd dros 1 miliwn o Armeniaid, gan ddefnyddio llawer o'r dulliau a fabwysiadwyd wedyn gan y Natsïaid: dadfeddiannu gorfodol, gorymdeithiau gorfodol, newyn, trywanu, ac yn y pen draw sgwadiau saethu a chladdu mewn beddau torfol bas. Mae hyn i gyd yn cael ei gofnodi'n ofalus gan Patrick Thomas, yr offeiriad o Sir Gaerfyrddin, y mae Armeniaid Cymreig yn ei edmygu. 

Ni ellir disgrifio cyflafan Jallianwala Bagh yn Amritsar yn 1919 fel ymgais i ddifa—caiff y sifiliaid di-arfau a gafodd eu saethu eu cyfrif yn eu miloedd yn hytrach na'r miliynau—ond dylai'r ffaith mai byddin Prydain a oedd yn gyfrifol am y gyflafan er mwyn atal galwadau am annibyniaeth i'r India ei gwneud hi yr un mor frawychus, am iddi gael ei chynnal yn ein henw ni, neu yn enw'r ymerodraeth Brydeinig. Cafodd hyn ei wadu'n llwyr gan Winston Churchill yn Nhŷ'r Cyffredin, nid yw erioed wedi arwain at ymddiheuriad ffurfiol i'r India, ac yn enwedig y Sikhiaid—

—sy'n rhybuddio am hyn mewn gwirionedd. Felly, rwy'n sylweddoli, yn anad dim, fod Diwrnod Cofio'r Holocost yn parhau i fod yn faich unigryw i'r gymuned Iddewig yng Nghaerdydd, yn ogystal â'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr a Roma, a hefyd yr holl gymuned hoyw, a gafodd eu lladd gan y Natsïaid. Ond heddiw, wrth i'r posibilrwydd o ryfel yn nwyrain Ewrop godi eto, beth mae'r Gweinidog yn credu y gallwn ni ei wneud ynghylch deall mai rhyfel ac eisiau a hiliaeth sy'n sail i'r lladdfeydd ofnadwy hyn sydd wedi rhannu cymunedau yn seiliedig ar ein gwahanol grefyddau, hil neu gyfeiriadedd rhywiol, ac nad yw rhyfel yn gwneud dim ond niwed, fel y gwelsom ni yn y newyn a wynebir gan y rhan fwyaf o boblogaeth Afghanistan y gaeaf hwn?

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, a diolch am siarad dros eich etholwyr, cymuned Armeniaid a'r gyflafan, a hefyd eich pobl Iddewig a'ch cymuned a'ch teuluoedd yn eich etholaeth, a'n holl etholaethau yng Nghymru. Diolch am gydnabod rhai o'r erchyllterau a'r digwyddiadau brawychus sy'n arwain at newidiadau byd-eang, annibyniaeth India.

Yn ddiddorol, heddiw, siaradais mewn digwyddiad ar undod byd-eang a drefnwyd gan Hub Cymru Affrica, a buom yn sôn am bwysigrwydd undod byd-eang ac i Gymru fod yn estyn allan, ac adeiladu ar Gynghrair y Cenhedloedd i'r Cenhedloedd Unedig, y swyddogaeth hollbwysig a chwaraeir drwy uno gyda'n gilydd o ran sicrhau bod gennym heddwch ac na allwn gael undod byd-eang heb heddwch. Felly, rydym yn byw mewn byd heriol.

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn gyfle i ni gydnabod ac adnabod yr erchyllterau a'r hil-laddiadau hynny sydd mewn hanes, ac mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn cydnabod bod hwn yn amser i bawb. Felly, rwy'n credu, fel y dywedwyd yn glir iawn gan y rhai sy'n trefnu Diwrnod Cofio'r Holocost, mae'n

'annog cofio mewn byd sy'n cael ei ddychryn gan hil-laddiad',

ac rydym yn hyrwyddo ac yn cefnogi Diwrnod Cofio'r Holocost—y diwrnod rhyngwladol ar 27 Ionawr—i gofio'r 6 miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, a'r miliynau o bobl a laddwyd o dan erledigaeth y Natsïaid, ac yn yr hil-laddiadau a ddilynodd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia, Darfur. Rwyf newydd gwrdd â'r rhai hynny a gydnabyddir, ond yn bwysicaf oll, drwy nodi, fel y gwnaf y datganiad hwn heddiw, pen-blwydd rhyddhau Auschwitz-Birkenau, y gwersyll marwolaeth Natsïaidd mwyaf. Felly, roedd yr Holocost hwnnw'n bygwth gwead gwareiddiad. Rhaid gwrthsefyll hil-laddiad bob dydd o hyd ac, fel y dywedant, yn y DU, yng Nghymru, rhaid i ragfarn ac iaith casineb gael eu herio gennym ni i gyd.

16:40

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad. Roeddwn yn ddigon ffodus i ymweld ag Auschwitz-Birkenau yn fy arddegau drwy fy ysgol. Mae'r llonyddwch a'r distawrwydd a oedd yn amgylchynu'r gwersyll crynhoi, y diffyg lliw neu lawenydd a phwysau'r erchyllterau a ganiatawyd i ddigwydd yn atgofion a fydd yn byw gyda mi am byth. Ysgrifennodd Elie Wiesel, Iddew a oroesodd Auschwitz ac a aeth ymlaen i fod yn enillydd Nobel, am ei amser yn y gwersyll crynhoi. Yn ei gofiant yn y 1960au, Night, mae'n rhannu ei alar o'r erchyllterau a ddigwyddodd a cheir y darn canlynol wedi'i argraffu ar wal yn Auschwitz:

'Fydda i byth yn anghofio'r noson honno, y noson gyntaf yn y gwersyll, sydd wedi troi fy mywyd yn un noson hir, saith gwaith yn felltigedig a saith gwaith wedi'i selio. Fydda i byth yn anghofio'r mwg hwnnw. Fydda i byth yn anghofio wynebau bach y plant, y gwelais eu cyrff yn troi yn dorchau o fwg o dan awyr las dawel.

'Fydda i byth yn anghofio'r fflamau hynny a ddinistriodd fy ffydd am byth.'

Roedd o leiaf 1.3 miliwn o bobl yn garcharorion yn Auschwitz. Lladdwyd o leiaf 1.1 miliwn o bobl. Llofruddiwyd chwe miliwn o ddynion, menywod a phlant Iddewig yn yr Holocost. Wrth i amser symud ymlaen a bod llai o oroeswyr yn gallu rhannu eu straeon yn uniongyrchol â'r genhedlaeth newydd, mae'n hanfodol nad yw eu straeon yn marw gyda nhw.

Mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost am eu gwaith diflino wrth sicrhau bod y straeon hyn yn cael eu dysgu a'u clywed. Eu nod yw addysgu pobl ifanc o bob cefndir am yr Holocost a'r gwersi pwysig i'w dysgu ar gyfer heddiw. Mae'r ymddiriedolaeth yn gweithio mewn ysgolion, prifysgolion ac yn y gymuned i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r Holocost, gan hyfforddi athrawon a darparu rhaglenni allgymorth i ysgolion—

—a chymhorthion addysgu a deunydd adnoddau. Mae'r prosiect Gwersi o Auschwitz y soniodd y Gweinidog amdano yn ei datganiad yn caniatáu i ddau fyfyriwr ôl-16 o bob ysgol a choleg yn y wlad ymweld ag Auschwitz-Birkenau. Wrth goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost a rhyddhau Auschwitz-Birkenau ar 27 Ionawr 1945, rydym yn dyst i'r rhai a ddioddefodd hil-laddiad ac yn anrhydeddu'r goroeswyr a phawb y newidiwyd eu bywydau y tu hwnt i adnabyddiaeth. Fel sydd hefyd wedi'i ysgrifennu ar y wal yn Auschwitz:

'Mae'r rhai nad ydynt yn cofio'r gorffennol wedi eu tynghedu i'w ailadrodd.'

Diolch.

Diolch yn fawr, Samuel Kurtz, ac a gaf i ddweud pa mor ddifyr yw dysgu mwy am ein Haelodau newydd o'r Senedd? Diolch yn fawr am y datganiad heddiw, Samuel, oherwydd soniais am Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn gynharach. Rwy'n gwybod—roedd hi ers 2008 pan oeddwn yn gyn-Weinidog addysg, pan fu i ni ddechrau cyllido Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost—pa mor bwysig fu