Y Cyfarfod Llawn

Plenary

30/11/2021

Cynnwys

Contents

Datganiad gan y Llywydd
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: y Cynllun Gweithredu Digartrefedd
4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am COVID-19
6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio
7. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwrnod AIDS y Byd
8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl Anabl
9., 10., 11., 12., 13., 14., 15., 16. & 17. Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021; Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 2021; Rheoliadau Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Diwygio) 2021; Rheoliadau Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Diwygio) 2021; Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021; Rheoliadau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021; Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021; Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio'r rhestr o awdurdodau Cymreig) 2021; Rheoliadau'r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021
18. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd
19. Cyfnod Pleidleisio

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da, bawb, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn yma, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Y cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd. 

Cynllun Dychwelyd Ernes

1. Pryd mae'r Prif Weinidog yn disgwyl i Gymru gael cynllun dychwelyd ernes gweithredol? OQ57293

Llywydd, yn gynharach yn y mis hwn, cafodd pwerau i weithredu cynllun dychwelyd ernes eu datganoli i Gymru. Yn gynnar yn y flwyddyn newydd, byddwn yn cyhoeddi ein dyluniad ar gyfer cynllun o’r fath a’r dyddiad yr ydym ni’n bwriadu ei roi ar waith.

Wel, mi edrychwn ni ymlaen yn fawr iawn i weld beth yw'r dyddiad yna. Wrth gwrs, y trasiedi yw ein bod ni wedi colli blynyddoedd i bob pwrpas. Rŷn ni wedi bod yn sôn am gynllun dychwelyd ernes i Gymru ers bron i ddegawd, ac, wrth gwrs, rŷn ni dal yn sôn am gynllun dychwelyd ernes i Gymru.

Nawr, mi benderfynoch chi, wrth gwrs, redeg proses ymgynghorol ar y cyd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Beth petai uchelgais Llywodraeth y Deyrnas Unedig o safbwynt sgôp y cynllun maen nhw'n mynd i'w gyhoeddi, pan fyddan nhw'n penderfynu, yn wahanol iawn i'r uchelgais sydd gennym ni yma yng Nghymru? Rydych chi wedi dweud mewn cyd-destunau eraill fod Cymru wastad yn gweithredu'n fwyaf effeithiol, a'r Senedd yma yn gweithredu'n fwyaf effeithiol, pan fyddwn ni'n dod â datrysiadau Cymreig i gwrdd â'r heriau sy'n ein hwynebu ni. Felly, am ba hyd ŷch chi'n hapus i aros i Boris Johnson gael ei act at ei gilydd, yn hytrach na chyflwyno, unwaith ac am byth, gynllun dychwelyd ernes i Gymru?

Wel, y peth cyntaf, Llywydd, oedd i gymryd y pwerau. Heb y pwerau, does dim cyfle gyda ni i gael unrhyw fath o gynllun, a dydy hwnna ddim yn ein dwylo ni fel Senedd; mae'n rhaid i ni dynnu'r pwerau nôl i fan hyn i gael cynllun, a dyna beth sydd wedi digwydd drwy gydweithio â phobl eraill. Rŷn ni wedi bod yn cydweithio nid jest gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond gyda Llywodraeth Gogledd Iwerddon hefyd, i dynnu'r gwersi mas o'r gwaith maen nhw'n ei wneud. 

Mae natur y ffin rhyngom ni a Lloegr, Llywydd, yn golygu ei bod hi'n bwysig i ni drio creu gymaint o dir cyffredin ag sy'n bosibl, i helpu'r cynllun, a'r bobl sy'n rhedeg y cynllun ar y tir, i'w wneud e mewn ffordd sy'n gweithio i ni ac i bobl yma yng Nghymru. Ac mae nifer fawr o bethau ymarferol i feddwl amdanyn nhw, a chynllun Cymreig fydd e pan fyddwn ni'n dod ymlaen â'r cynllun. Fel, dwi'n siŵr, mae'r Aelod yn ymwybodol, roedd Llywodraeth yr Alban, yn gynharach yn y mis hwn, wedi gorfod gohirio gweithredu ar eu cynllun nhw. Nawr, mae'r pwerau i gyd gyda nhw, so doedd hwnna ddim yn broblem iddyn nhw. Maen nhw wedi wynebu nifer o broblemau ymarferol ac maen nhw wedi tynnu eu cynllun nhw yn ôl. 

Rŷn ni eisiau bwrw ymlaen i gydweithio â phobl eraill i gael datrys nifer o'r problemau ymarferol—cynhyrchu'r cynllun, penodi gweinyddwyr nid er elw, cytuno ar lefelau ernes hyblyg, er enghraifft—a'r bwriad yw, yn gynnar yn y flwyddyn newydd, i ddod nôl i'r Senedd gyda'r cynllun i ni yma yng Nghymru. 

Prif Weinidog, fis Tachwedd diwethaf, roeddwn i'n hynod o falch o fod wedi cyflwyno cynnig deddfwriaethol ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes ac, yn bwysig, cafwyd pleidlais fwyafrifol i gefnogi'r cynigion hynny. Nawr, yng nghyfarfod cyntaf Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y chweched Senedd, roeddwn i hefyd yn falch o sicrhau ymrwymiad pellach gan eich Gweinidog Newid Hinsawdd y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y byddai unrhyw gynllun dychwelyd ernes yn drwyadl. Yn ogystal â sicrhau cydnawsedd â'r DU, dywedodd rhwng 77 y cant ac 83 y cant o'r rhai a gymerodd ran mewn arolwg y bydden nhw'n defnyddio cynllun dychwelyd ernes ar y rhan fwyaf o adegau ar gyfer y pum math o gynwysyddion a gafodd eu harchwilio, gan gynnwys poteli plastig, poteli gwydr, caniau metel ar gyfer yr holl ddiodydd meddal, diodydd alcoholig a chynhyrchion sy'n seiliedig ar laeth. O ystyried hyn, ac o gofio dyddiad terfyn yr hydref ar gyfer gosod deddfwriaeth y gwnaethoch chi ymrwymo iddi wrth ymateb i fy nghwestiwn i chi ym mis Mehefin, pa ymdrechion—ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi sôn am hyn yma heddiw—ydych chi wedi eu gwneud i adolygu effaith gost gweithredu cynllun dychwelyd ernes trwyadl ar awdurdodau lleol? Ac, i unrhyw un sydd wedi gwneud gwaith glanhau traethau, yn rhy aml rydym ni'n gweld llawer o dopiau a chaeadau poteli wedi eu gadael ym mhob man, gan effeithio ar ein hamgylchedd morol. O gofio bod ymgyrch glanhau traethau Prydain Fawr 2021 y Gymdeithas Cadwraeth Forol wedi canfod 18.7 o dopiau a chaeadau—

13:35

Iawn, mae angen i ni gyrraedd y cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda. Dim ond ar gwestiwn 1 ydym ni.

—fesul pob darn 100 metr o draethau Cymru, a wnewch chi ymgorffori, yn ogystal â'r poteli eu hunain, y topiau yn y cynllun dychwelyd? Diolch.

Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna ac am ei diddordeb cyson yn y pwnc hwn yn gyffredinol. Bydd hi'n gyfarwydd iawn â'r cynllun a gafodd ei dreialu yng Nghonwy yn gynharach yn y flwyddyn, a dysgwyd llawer iawn o'r gwaith hwnnw, yn ogystal â chynllun treialu yng Ngogledd Iwerddon, a'r gwaith a gafodd ei wneud yn flaenorol yn Wirral yr wyf i'n gwybod ei bod hi'n ymwybodol ohono. Felly, byddwn yn cyflwyno cynigion. Mae arnaf ofn y byddan nhw ar ddechrau'r flwyddyn newydd bellach, yn hytrach na'r hydref, oherwydd yr oedi cyn trosglwyddo'r pwerau i ni. Byddwn yn ymateb i'r ymgynghoriad a gafodd ei gynnal rhwng mis Mawrth a mis Mehefin eleni. Bydd yn mynd i'r afael â nifer o'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi y prynhawn yma, ac mae'n iawn i dynnu sylw at adroddiad y Gymdeithas Cadwraeth Forol, a gafodd ei gyhoeddi ryw wythnos yn unig yn ôl, Llywydd. Mae yn dangos gostyngiad i rai mathau o sbwriel, yn enwedig y rhai lle bu gweithredu llywodraethol ar y cyd—ffyn cotwm, er enghraifft, a bagiau plastig untro. Ond roedd 75 y cant o'r sbwriel a gafodd ei gasglu ar draethau yn blastig neu'n bolystyren, ac roedd topiau poteli yn amlwg iawn yn y sbwriel a gafodd ei gasglu. Mae'n bendant yn dangos yr angen i ni weithredu o ran cynlluniau dychwelyd ernes a hefyd ymrwymiad y Llywodraeth hon i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd y plastigau untro mwyaf cyffredin, ac edrychwn ymlaen at gyflwyno gerbron y Senedd yn ddiweddarach y tymor hwn.

Tlodi Plant

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar strategaeth y Llywodraeth i ddileu tlodi plant? OQ57286

Diolch yn fawr i Sioned Williams am y cwestiwn, Llywydd. Er y rhwystrau sydd wedi eu creu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, byddwn ni’n bwrw ymlaen gyda’r mesurau sydd yn ein rhaglen lywodraethu a’r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru i fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru.

Diolch, Brif Weinidog. Hoffwn longyfarch Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru am lunio cytundeb cydweithredu blaengar a chynhwysfawr a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl Cymru, ac o ran taclo tlodi plant yn benodol. Rwyf fi, ers cael fy ethol, ac eraill ym Mhlaid Cymru, wedi holi'r Prif Weinidog am ehangu prydau bwyd am ddim lawer gwaith yn y lle hwn, ac mae grwpiau gwrthdlodi fel Sefydliad Bevan ac eraill wedi bod yn ymgyrchu'n galed drosto. Mae'r cytundeb cydweithio'n nodi bod hyn yn gam pellach tuag at ein nod ar y cyd na ddylai'r un plentyn fod yn llwglyd—nod rwy'n ei rannu a'i groesawu. O ystyried y nod hwn, yn ogystal â'r ffaith bod bron i 10,000 o blant ysgol uwchradd sy'n byw mewn tlodi yn cael eu hamddifadu o brydau ysgol am ddim, ydy'r Prif Weinidog yn cytuno â fi y dylid anelu hefyd at gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion uwchradd, pan fo adnoddau yn caniatáu? Yn ogystal, oni bai y bydd cynnydd yn y lwfans cynhaliaeth addysg, sy'n cynnig cefnogaeth hanfodol i oedolion ifanc mewn addysg o aelwydydd incwm isel, fe fydd, erbyn diwedd y cyfnod o dair blynedd, wedi cael ei rewi am 20 mlynedd mewn termau real. A wnaiff y Prif Weinidog, felly, amlinellu cynlluniau'r Llywodraeth i'w gynyddu? Diolch.

Diolch yn fawr am y cwestiwn, wrth gwrs, a diolch i'r Aelod am beth ddywedodd hi am y cytundeb. A nawr mae cyfleon gyda ni i gymryd camau pellach, drwy ymestyn prydau ysgol am ddim ac ymestyn darpariaeth gofal plant. Bydd y Llywodraeth yn canolbwyntio ar beth sydd yn y cytundeb, achos mae hwnna'n heriol ac uchelgeisiol, ond nawr rŷn ni'n gallu cydweithio i wneud beth mae'r cytundeb yn ei ddweud. Bydd popeth rydyn ni'n mynd i'w wneud yn gallu gwneud mwy i amddiffyn ein plant rhag tlodi. Wrth gwrs, mae mwy o bethau yn y dyfodol rydym yn gallu meddwl amdanynt, ac roedd nifer o bwyntiau pwysig gan yr Aelod. Ond i ni, fel Llywodraeth, y peth pwysig i ni yw i ganolbwyntio ar y pethau sydd yn y cytundeb ac i fwrw ymlaen i roi popeth ar waith. 

13:40

Prif Weinidog, yn yr un modd â'r prydau ysgol am ddim, wrth gwrs, ac mae i'w groesawu, ond onid yw'n peri pryder i chi, fel gyda'ch cynllun treialu ar gyfer incwm sylfaenol cynhwysol, y bydd miliwnyddion yn elwa arno? A ydych chi'n credu mai dyma'r defnydd gorau gwirioneddol o adnoddau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru yn uniongyrchol? Rydych chi wedi cael 20 mlynedd, Prif Weinidog, i wneud eich marc yma yng Nghymru, ac eto nid yw'r Llywodraeth hon wedi cyflawni dim yn hyn o beth. A dweud y gwir, mae tlodi plant wedi cynyddu i 1 o bob 3 phlentyn. Mae hynny'n 200,000 o blant sy'n dal i fod wedi eu gadael mewn tlodi yma yng Nghymru. Pa gamau, pa gamau gweithredu ydych chi'n eu cymryd, ar wahân i'r pethau hynny, i fynd i'r afael yn wirioneddol â thlodi yn uniongyrchol yma?

Wel, Llywydd, rwyf i wedi esbonio o'r blaen ar lawr y Senedd, cyn belled ag y mae tlodi plant yn y cwestiwn, y gellir rhannu'r cyfnod datganoli yn ddau gyfnod yn hawdd iawn. Yn y cyfnod cyntaf, y degawd cyntaf, gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur yma, gostyngodd tlodi plant flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ystod y cyfnod hwnnw. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gyda'i Llywodraeth hi wrth y llyw yn San Steffan, yr ydym ni wedi gweld tlodi plant yn cynyddu nid yn unig yma yng Nghymru, ond ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Eu mesur diweddaraf a mwyaf creulon yw amddifadu plant mewn teuluoedd sy'n dibynnu ar gredyd cynhwysol o'r £20 yr wythnos ychwanegol hwnnw yr oedden nhw'n dibynnu arno. Os ydych chi eisiau gwybod pam mae tlodi plant wedi cynyddu ar draws y Deyrnas Unedig, yna'r cwbl y mae'n rhaid i chi ei wneud yw edrych ar y camau uniongyrchol a bwriadol y mae ei phlaid hi wedi eu cymryd yn ystod ei chyfnod mewn Llywodraeth. 

Ac rwy'n gwrthod yn llwyr yr hyn a ddywedodd yr Aelod wrth agor. Polisi'r blaid Dorïaidd erioed yw y dylid cadw gwasanaethau ar gyfer pobl dlawd, ac eto rydym ni'n gwybod yn iawn yr hyn y mae hynny yn arwain ato: mae gwasanaethau sy'n cael eu cadw ar gyfer pobl dlawd yn troi'n wasanaethau gwael yn gyflym. Rydym ni'n dibynnu, lle bynnag y gallwn, ar wasanaethau cynhwysol y mae gan bawb ran ynddyn nhw, ac mae pawb eisiau i'r gwasanaethau hynny fod cystal ag y gallan nhw fod. A lle ceir miliwnyddion, mae'r system dreth yno i ymdrin â nhw i wneud yn siŵr, os byddan nhw'n elwa, fel y byddwn i'n dymuno iddyn nhw ei wneud, o wasanaethau cynhwysol, eu bod yn talu'r arian hwnnw yn ôl drwy'r system dreth i barhau i gynorthwyo pobl eraill. Dyna'r ffordd, Llywydd, o wneud yn siŵr nad yw plant mewn teuluoedd tlawd yn cael eu gwahanu oddi wrth weddill cymdeithas ac yn cael eu gwneud yn fuddiolwyr pryder diwerth y Blaid Geidwadol, ond i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu cynnwys yn briodol gyda phob plentyn arall ym mhob dim yr hoffem ni weld plentyn yng Nghymru yn ei gael yn rhan o'u dinasyddiaeth.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae ffigurau diweddaraf y GIG yn dangos bod gwasanaethau iechyd Cymru yn ei chael hi'n anodd, wrth i amseroedd aros ac amseroedd ymateb ambiwlansys gofnodi eu lefelau gwaethaf erioed yn ddiweddar. Mae is-lywydd Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys Cymru, Dr Suresh Pillai, wedi dweud bod 709 o gleifion yng Nghymru yn 2020-21 yn unig wedi marw o ganlyniad uniongyrchol i orlenwi ac arosiadau hir. Dywedodd hefyd,

'Roedd modd atal y marwolaethau hyn; mae'n rhaid i'r llywodraeth, Byrddau ac arweinwyr y GIG ddeall a gweithredu nawr i sicrhau nad yw'r argyfwng presennol yn gwaethygu ac yn arwain at ragor o farwolaethau y byddai modd eu hosgoi.'

Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â sylwadau Dr Pillai y gellid atal y marwolaethau hyn?

Nac ydw, nid yn y ffordd or-syml honno, Llywydd. Mae'r Aelod, wrth gwrs, yn iawn bod y GIG yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd o dan y gofynion y mae'n rhaid iddo fynd i'r afael â nhw ar hyn o bryd, ac mae hynny ar fin gwaethygu a mynd yn fwy anodd oherwydd yr amrywiolyn newydd sydd eisoes wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig. Mae'r gwasanaeth iechyd yn ymdrin ag effaith pandemig byd-eang, gyda'r oediadau i driniaeth y mae hynny wedi eu creu yn anochel. Mae'n ymdrin â'r holl bethau bob dydd yr ydym ni'n disgwyl iddo eu gwneud—darparu'r rhaglen brechu rhag y ffliw mewn gofal sylfaenol, er enghraifft—ac, ar yr un pryd, mae'n ymateb i'r lefelau uchaf erioed o alw drwy'r system frys a thrwy adrannau damweiniau ac achosion brys. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn—ac yn hyn o beth, rwyf i wedi cytuno yn y gorffennol â chyngor gan y coleg meddygaeth frys—fod yn rhaid ystyried hynny yn broblem, nid yn unig wrth ddrws blaen yr ysbyty, ond i'r ysbyty yn ei gyfanrwydd, a bod yn rhaid i'r system gyfan ddod o hyd i ffordd o ymateb i'r pwysau niferus iawn sydd ar y gwasanaeth ar hyn o bryd. Rwy'n credu ei bod yn wirionedd difrifol iawn, Llywydd, bod y problemau hyn ar fin mynd yn fwy heriol byth dros yr wythnosau nesaf wrth i ni geisio ymateb i'r troadau a'r troellau diweddaraf yn stori heriol iawn coronafeirws.

13:45

Prif Weinidog, y gwir amdani yw bod angen gweithredu, a hynny yn gyflym iawn. Wrth i ni symud i'r gaeaf, bydd pwysau pellach ar wasanaethau'r GIG, a gyda'r newyddion bod amrywiolyn COVID newydd yn y DU, mae'n hanfodol nawr bod gan Lywodraeth Cymru gynllun i sicrhau y rhoddir sylw i amseroedd aros ac nad yw marwolaethau y gellir eu hatal yn digwydd.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos mai'r amser cyfartalog a gafodd ei dreulio mewn adrannau achosion brys oedd tair awr a saith munud, sef y ffigur uchaf erioed, ac maen nhw hefyd yn dangos bod perfformiad ambiwlansys o ran y targed ymateb o wyth munud yr isaf erioed, sef 50 y cant, a oedd i lawr o 52.3 y cant yn y mis blaenorol. Mae Dr Pillai wedi rhybuddio nid yn unig bod angen rhoi sylw i gapasiti gwelyau, ond bod diffyg staff o tua 100 o feddygon ymgynghorol brys hefyd, ynghyd â nyrsys meddygaeth frys hanfodol, staff iau a staff ategol eraill. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo nawr i ddychwelyd adfer capasiti gwelyau yn ôl i'r lefelau cyn y pandemig, ac a wnewch chi hefyd ymrwymo i gyhoeddi cynllun gweithlu hirdymor sy'n recriwtio staff ac yn eu cadw nhw hefyd?

Llywydd, mae mwy o bobl yn gweithio yn GIG Cymru heddiw nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes, ac mae hynny yn cynnwys mwy o feddygon, mwy o nyrsys, mwy o ffisiotherapyddion, mwy o therapyddion galwedigaethol, a'r holl dîm sy'n cyfrannu at ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru. Mae hynny o ganlyniad i fuddsoddiad parhaus gan Lywodraethau Cymru olynol yn ein GIG ac yn ei weithlu. Mae'r nifer uchaf erioed o bobl nid yn unig yn cael eu cyflogi, ond yn cael eu hyfforddi hefyd—mwy o nyrsys yn cael eu hyfforddi, mwy o weithwyr proffesiynol sy'n gysylltiedig â meddygaeth yn cael eu hyfforddi—nag ar unrhyw adeg yn ein hanes.

Rydym ni wedi cyhoeddi'r cynlluniau hynny bob un flwyddyn ac maen nhw'n dangos canlyniad y buddsoddiad hwnnw. Bu mwy o welyau ar gael yn ystod argyfwng COVID o ganlyniad i gapasiti ysbytai maes a'r capasiti ychwanegol arall yr ydym ni wedi sicrhau ei fod ar gael drwy fuddsoddiad ychwanegol sylweddol, ac ymdrechion enfawr gan bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth i sicrhau bod y capasiti ffisegol hwnnw ar gael ac yna i ddod o hyd i bobl i ddarparu'r gwasanaethau ochr yn ochr ag ef. Pan fydd y pandemig ar ben a gallwn ni ddychwelyd i'r lefelau o weithgarwch yr oeddem ni'n gallu eu gweld yn GIG Cymru cyn iddo ddechrau, yna wrth gwrs bydd angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni'r capasiti ffisegol i fynd ochr yn ochr â'r aelodau staff ychwanegol y byddwn ni wedi eu recriwtio yn y cyfamser.

Prif Weinidog, mae'n gwbl eglur bod angen i chi flaenoriaethu mynd i'r afael â'r ôl-groniadau hyn, a phe bai Llywodraeth Cymru yn dymuno blaenoriaethu'r mater hwn byddem ni wedi gweld rhywfaint o ymrwymiad i fynd i'r afael â phroblemau'r GIG yn eich cytundeb clymblaid gyda Phlaid Cymru. Yn hytrach, fe wnaethoch chi ddewis blaenoriaethu mwy o ddiwygio cyfansoddiadol, mwy o wleidyddion, a hyd yn oed creu awdurdod darlledu, er nad yw'n rhan o gylch gwaith y Llywodraeth hon. Nid oedd dim am flaenoriaethau'r bobl—yr angen am ymyrraeth frys i gefnogi ein gwasanaethau iechyd—ac yn sicr nid oedd dim sôn am ymchwiliad Cymru gyfan yn ymwneud â COVID yn benodol.

Nawr, byddwch chi wedi gweld sylwadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sydd hefyd wedi dadlau dros ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru, gan ei bod yn credu y byddai'n rhoi'r cyfle gorau i bobl hŷn gael eu clywed, i  deimlo gwerthfawrogiad o'u profiadau a'u safbwyntiau, a chael atebion i'w cwestiynau, ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi wrando arni hi, oherwydd bod angen i ni weld atebion ac atebolrwydd.

Prif Weinidog, codwyd cam-drin cleifion a'r diwylliant o fwlio a bygwth sydd wedi digwydd yn y GIG yn y gogledd gyda chi yr wythnos diwethaf, ac nid oedd unrhyw atebion nac atebolrwydd gwirioneddol gan y Llywodraeth hon. Yr wythnos hon, rwyf i wedi gofyn i chi am yr hyn y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael ag amseroedd aros ac atal marwolaethau y gellir eu hatal rhag digwydd. Unwaith eto, nid oes dim atebion nac atebolrwydd gwirioneddol, a bellach, mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi ymuno â galwadau am ymchwiliad COVID Cymru gyfan. A fyddwn ni'n cael atebion ac atebolrwydd nawr, Prif Weinidog, neu a fyddwch chi'n parhau i wrthwynebu ymchwiliad cyhoeddus i Gymru ac atal pobl Cymru rhag cael yr atebion y maen nhw'n eu haeddu?

13:50

Llywydd, byddai'n well pe na bai'r Aelod yn darllen ei sgriptiau a baratowyd ymlaen llaw i ni, oherwydd wedyn byddai wedi cael cyfle i wrando ar yr atebion yn hytrach na darllen yr hyn yr oedd yn mynd i'w ddweud, beth bynnag oedd yr ateb yn digwydd bod. Mae arnaf ofn bod ei gwestiynau heddiw yn flinedig ac yn anghywir. Nid yw wedi darllen—neu os ydyw wedi darllen, nid yw wedi deall—y cytundeb yr ydym ni wedi ei daro gyda Phlaid Cymru. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus iawn i fentro egluro iddo, pan fydd yn dweud pethau wrthyf sy'n amlwg yn anghywir, ei bod yn rhan o fy swydd i yma i'w helpu i ddeall ychydig yn well nag y mae natur y cytundeb hwnnw. Mae'r cytundeb, fel y bydd eraill sydd wedi mynd i fwy o drafferth yn ei ddeall, yn gytundeb cyfyngedig a phenodol ar amrywiaeth o faterion pwysig iawn yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw gyda phlaid arall yn y Siambr. Ceir llawer iawn o bethau eraill y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud sy'n rhan o'n rhaglen lywodraethu y byddwn ni'n bwrw ymlaen â nhw, a bydd gan unrhyw blaid yn y Siambr hon hawl i gyflwyno safbwynt i'r gwrthwyneb ar y materion hynny os byddan nhw'n dewis gwneud hynny. Dyna natur y cytundeb hwn—wedi ei lunio yn benodol i Gymru yn unig ac wedi ei deilwra i Gymru.

O ran ei bwyntiau olaf, rwyf i wedi gweld llythyr y comisiynydd pobl hŷn. Rwyf i hefyd yn falch o ddweud fy mod i wedi derbyn llythyr gan Brif Weinidog y DU yn ystod yr wythnos ddiwethaf lle mae'n darparu cyfres o ymrwymiadau ynghylch natur yr ymchwiliad cyhoeddus arfaethedig; ymrwymiadau i gynnwys Llywodraethau datganoledig yn y broses o benodi'r cadeirydd, ac yng nghylch gorchwyl yr ymchwiliad; ymrwymiad y bydd yr ymchwiliad yn ymateb yn gadarnhaol i'r pwyntiau y gwnes i iddo yn fy llythyr pan nodais yr hyn y byddai angen i bobl yng Nghymru ei weld mewn ymchwiliad ar gyfer y DU. Cefais lythyr hefyd heddiw gan Brif Weinidog yr Alban, lle mae'n amlinellu ei chefnogaeth i'r pwyntiau a wnaed gen i yn fy llythyr at Brif Weinidog y DU, ac yn ail-bwysleisio’r angen i ymchwiliad y DU ymrwymo i gynrychioli'r materion y bydd pobl mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig eisiau gweld, a hynny yn gwbl briodol, ymchwiliad o'r fath yn ei wneud.

Felly, rwy'n cymryd rhywfaint o hyder o'r ohebiaeth yr wyf i wedi ei chael gan Brif Weinidog y DU a gan Brif Weinidog yr Alban. Mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd, Llywydd, i wneud yn siŵr bod yr ymrwymiadau hynny yn cael eu cyflawni yn ymarferol, a'n bod ni'n gweld ymchwiliad sydd â'r cyfle gorau o ddarparu'r atebion gorau posibl y mae pobl yng Nghymru yn dymuno eu gweld, a hynny yn gwbl briodol, yn cael eu codi a'u hateb, ond, am y tro, rwy'n credu bod y sicrwydd y mae llythyr Prif Weinidog y DU yn ei roi yn mynd â ni ymhellach i lawr y llwybr hwnnw, ac rwy'n parhau i fod wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU ar y mater hwn fel bod pobl yng Nghymru yn cael ymchwiliad y gallan nhw fod yn gwbl hyderus ynddo, ac a fydd yn rhoi atebion iddyn nhw y maen nhw'n chwilio yn gwbl briodol amdanyn nhw.

Diolch yn fawr, Llywydd. Fel y gwyddoch, Brif Weinidog, mae'r ffair aeaf yn digwydd yn Llanelwedd ar hyn o bryd. Y bore yma, fe fûm yno yn gynnar iawn. Roedd e'n gyfle gwych i gael cyfarfod yn uniongyrchol gydag amaethwyr a gyda chynrychiolwyr y gymuned. Y neges yn glir roeddwn i'n gael o sector sydd yn wynebu cymaint o bwysau o wahanol gyfeiriadau oedd bod angen sefydlogrwydd ar y diwydiant yn y cyfnod hynod heriol yma. A fyddech chi, Brif Weinidog, yn ategu y neges hynny, ac ydych chi'n cytuno gyda ni ym Mhlaid Cymru, er mwyn galluogi ffermydd i fod yn gynaliadwy yn amgylcheddol, a chwarae eu rhan nhw yn gwireddu cyfraniad Cymru fel gwlad i ddelio â'r argyfwng hinsawdd, er enghraifft, bod angen i ffermwyr hefyd gael cynaliadwyedd economaidd?  

Wel, Llywydd, a allaf i ddechrau drwy longyfarch pob un sydd wedi bod yn rhan o greu gŵyl y gaeaf yn Llanelwedd, mewn ffordd sy'n addas i'r cyd-destun rŷm ni'n wynebu? Fe gefais i gyfle i siarad gyda'r Gweinidog, Lesley Griffiths, am ei hymweliad hi i Lanelwedd ddoe, a dwi'n falch i glywed popeth oedd yn ei le i helpu pobl i fynd at y ffair mewn ffordd ddiogel. Ac wrth gwrs, dwi'n gwybod bod y cyd-destun presennol yn un heriol i'r ffermwyr yng Nghymru ar ôl Brexit, yn y cyd-destun coronafeirws, ac yn y blaen. Mae pethau yn newid, Llywydd, ym maes amaethyddiaeth. Mae'n rhaid i bethau newid. Ond wrth gwrs rŷn ni'n cydnabod y ffaith fod sefydlogrwydd yn bwysig i ffermwyr hefyd, so rŷn ni, fel rhan o'r cytundeb gyda Phlaid Cymru, yn mynd i fwrw ymlaen i gydweithio yn agos gyda'r bobl yn y sector i baratoi am y dyfodol, dyfodol ble rŷn ni'n gallu talu ffermwyr am y pethau pwysig iddyn nhw eu gwneud i'n helpu ni yng nghyd-destun newid hinsawdd. So, trwy gydweithio, trwy glywed beth mae pobl yn y maes yn dweud, a thrwy chynllunio yn agos gyda'n gilydd, dwi'n hyderus y gallwn ni greu dyfodol i'r sector ond hefyd i'w wneud e mewn ffordd sydd yn rhoi sefydlogrwydd ond hefyd sy'n creu posibiliadau newydd i'r sector sy'n mynd i helpu ni i gyd gyda'r sialens rŷn ni i gyd yn wynebu yn newid hinsawdd.

13:55

Un o'r heriau penodol sy'n wynebu'r gymuned amaethyddol ar hyn o bryd yw bod cwmnïau ariannol byd eang yn dod i mewn i gymunedau gwledig ar hyn o bryd ac yn prynu tir amaethyddol i blannu coed er mwyn prynu credydau carbon. Fe gefais i ar ddeall y bore yma gan un o'r undebau amaethyddol fod gwerthwyr tir nawr yn galw ffermwyr o ddim unman, fel petai—cold calling—mewn ymgais i'w cymell nhw i werthu eu tir i gwmnïau buddsoddi. A allwch chi, Brif Weinidog, roi sicrwydd bod y Llywodraeth yn ystyried bod yr ymgais yma, sy'n gwneud mwy dros elw, a dweud y gwir, na chynaliadwyedd, mewn gwirionedd, yn groes i'n syniad ni yng Nghymru o gynaliadwyedd, yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mai ein nod ni fel cenedl arweiniol yn y maes yma yw cefnogi perchnogaeth a rheolaeth leol o fesurau i helpu cynlluniau o ran yr hinsawdd, fel rŷm ni'n bwriadu gwneud, wrth gwrs, o ran generadu ynni adnewyddol i'r un graddau?

Wel, Llywydd, mae'r Gweinidog, Julie James, a'r Gweinidog, Lesley Griffiths, wedi cwrdd gyda'r undebau i drafod beth rŷm ni'n clywed sy'n mynd ymlaen ar hyn o bryd. Y peth pwysig i ni yw i gasglu'r wybodaeth, i fod yn glir am y sefyllfa a beth sydd yn digwydd yn y maes. A dweud y gwir, dŷn ni ddim cweit yn siŵr eto beth yn union sydd yn mynd ymlaen, ond rŷn ni eisiau cydweithio gyda'r undebau a phobl eraill i gasglu'r wybodaeth. Rŷn ni wedi dod â grŵp o bobl gyda'i gilydd i'n helpu ni, ac mae hwnna yn cynrychioli pobl sy'n gweithio yn y maes, i feddwl am sut y gallwn ni dynnu buddsoddiadau i mewn i'r maes. Bydd rhaid inni wneud hynny, ond ei wneud e mewn ffordd sy'n mynd gydag ein polisïau ni, nid yn erbyn nhw, ac wrth gwrs, rŷm ni'n ymwybodol i'w wneud e fel yna. Rŷn ni eisiau ei wneud e drwy weithio gyda chymunedau lleol, i fod yn glir am berchnogaeth y tir yma yng Nghymru, ond hefyd, ble gallwn ni—. Ac mae'n bwysig inni ei wneud e; gallwn ni ddim dod at ein huchelgais yn y maes hwn heb dynnu pobl eraill ac arian arall i mewn i'r sector. Dyna beth rŷn ni eisiau trafod gyda'r bobl, i gynllunio gyda nhw, ac fel dywedais i, i dynnu at ei gilydd y wybodaeth, y wybodaeth go iawn am beth sy'n mynd ymlaen ar hyn o bryd.

14:00

Rydym ni hyd yn oed wedi clywed yn ddiweddar rhai Ceidwadwyr yn y Senedd hon yn codi eu lleisiau yn erbyn corfforaethau rhyngwladol yn prynu tir amaethyddol Cymru. Mae'n wych gweld y Torïaid yn cael tröedigaeth hwyr yn erbyn gweithrediad anghyfyngedig y farchnad rydd, ac rwy'n credu bod angen ychydig o undod ar fyd amaeth Cymru, sydd o dan yr holl bwysau hyn ar hyn o bryd. Ond mae'r ymgais ehangach i gyflwyno'r blaid Dorïaidd fel un sy'n amddiffyn ffermio Cymru yn anodd ei lyncu i lawer o ffermwyr. Pan gawson nhw addewid ym maniffesto 2019 y byddai'r Ceidwadwyr yn sicrhau cyllideb flynyddol ffermwyr ym mhob blwyddyn y Senedd nesaf, beth ydym ni wedi ei gael ond y gwrthwyneb: yr addewid o doriad bob blwyddyn yn yr adolygiad cynhwysfawr hwn o wariant? Cymaint felly, mewn gwirionedd, fel y mae Undeb Amaethwyr Cymru yn ei nodi, erbyn 2025, mae'n mynd i fod yn—[Torri ar draws.] —mae dyraniad amaethyddiaeth Cymru yn mynd i fod £248 miliwn yn llai. Rwyf i'n llwyr o blaid dod o hyd i dir cyffredin, ond gadewch i ni fod yn eglur pwy yw'r gelyn cyffredin: Llywodraeth yn San Steffan sydd wedi bradychu ffermwyr a ffermio yng Nghymru dro ar ôl tro.

Wel, Llywydd, cafodd arweinydd Plaid Cymru gyfle i fynd i Lanelwedd heddiw. Treuliais i nos Wener yng nghwmni Clwb Cinio Caerfyrddin, a noson braf iawn oedd hi hefyd. Roedd pawb o fy nghwmpas yn bobl sy'n gweithio yn y diwydiant ffermio, a'r hyn a ddywedodd Adam Price oedd yr hyn a gafodd ei adlewyrchu i mi yn sicr. Dyma bobl sy'n teimlo eu bod wedi eu siomi yn fawr iawn gan yr addewidion a gafodd eu gwneud iddyn nhw—[Torri ar draws.] Gallaf sicrhau'r Aelod nad oedd sôn am barthau perygl nitradau wrthyf i unwaith, ond yr hyn a gafodd ei grybwyll i mi dro ar ôl tro oedd yr addewidion yr oedden nhw o'r farn y cafodd eu gwneud iddyn nhw yn y cyfnod cyn y refferendwm yn 2016. Roedd digonedd o bobl ar y meinciau yna yn barod iawn i wneud yr addewidion hynny yn y dyddiau hynny. Rydych chi'n eu cofio nhw: 'Dim ceiniog yn llai', 'Sicrwydd pendant'—£137 miliwn yn cael ei gymryd oddi ar economi wledig Cymru gan eich plaid chi eleni yn unig, a rhagor o doriadau i ddod bob blwyddyn, bob un blwyddyn, o'r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Ble oedd y 'sicrwydd pendant' o 'ddim ceiniog yn llai' a glywodd y bobl hynny gennych chi bryd hynny? Nid oes dim rhyfedd—. Nid oes dim rhyfedd, dim rhyfedd—[Torri ar draws.] yn fy marn i—[Torri ar draws.] Allaf i ddim clywed yr Aelod, Llywydd, ond mae'n ymddangos ei fod yn dynwared plismon traffig. Efallai fod hwn yn uchelgais arall ar y meinciau yna.

Yr hyn yr wyf i'n cyfeirio ato, Llywydd, yw'r hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru, y dicter sy'n cael ei deimlo—[Torri ar draws.]—y dicter sy'n cael ei deimlo mewn cymunedau gwledig ynglyn â'r addewidion a gafodd eu gwneud iddyn nhw a'r ffordd y maen nhw wedi eu siomi byth ers hynny—cymryd arian oddi wrthyn nhw;  taro cytundebau masnach mewn rhannau eraill o'r byd heb unrhyw ystyriaeth o gwbl o'r effaith y byddan nhw'n ei chael ar yr economi wledig yma yng Nghymru. Nid oes dim rhyfedd—[Torri ar draws.]—nodd oes dim rhyfedd, pan fyddwch chi'n cyfarfod â phobl o'r cymunedau hynny, eu bod nhw'n mynd allan o'u ffordd i ddweud wrthych chi am eu dicter a'u siom yn y Blaid Geidwadol yma yng Nghymru.

Busnesau Bach

3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu busnesau bach i dyfu yn Ogwr? OQ57300

Llywydd, fel conglfaen cymunedau ledled Cymru, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo yn llwyr i gefnogi busnesau bach yn Ogwr a phob rhan o Gymru i ffynnu, i gynnal ac i dyfu drwy wasanaethau allweddol, gan gynnwys Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Dros y mis cyfan hwn, yn y cyfnod cyn Dydd Sadwrn Busnesau Bach, rwyf i a fy nghyd-Aelod da Chris Elmore AS wedi bod yn arddangos dwsinau ar ddwsinau ar ddwsinau o fusnesau anhygoel ac amrywiol ym meysydd gweithgynhyrchu, adeiladu, gwasanaethau proffesiynol, manwerthwyr ar y stryd fawr a mwy ar hyd a lled etholaeth Ogwr. Rydym ni wedi bod yn annog pobl i ddefnyddio'r busnesau lleol hyn yn y cyfnod cyn y Nadolig, ond hefyd drwy gydol y flwyddyn, boed hynny i brynu'r cinio Nadolig blynyddol neu'n paratoi'r ffurflen dreth flynyddol neu'n adeiladu'r estyniad newydd hwnnw hefyd. Felly, Prif Weinidog, os ydym ni'n mynd i adeiladu'r Gymru gryfach, wyrddach a thecach hon, mae'n bwysig bod busnesau bach yn chwarae eu rhan hefyd ac yn cael eu cefnogi i wneud hynny, felly mae'r cyllid a gyhoeddodd Gweinidog yr economi yr wythnos diwethaf ar gyfer ein busnesau bach i'w helpu i ddatblygu, datgarboneiddio a thyfu yn bwysig iawn. Pa asesiad ydych chi wedi ei gynnal o'r effaith y bydd y gronfa £45 miliwn hon yn ei chael ar fusnesau bach yng Nghymru ac o ran hybu ein hadferiad economaidd gwyrddach a thecach?

14:05

Rwy'n diolch i Huw Irranca-Davies am hynna. Rwyf i, fel yntau, yn edrych ymlaen at fod gyda busnesau bach ddydd Sadwrn nesaf—Dydd Sadwrn Busnesau Bach—a chael siarad â busnesau am y cymorth y maen nhw eisoes wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru a'r cymorth newydd y cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething yr wythnos diwethaf. Diben y cymorth hwnnw, Llywydd, yw helpu'r busnesau hynny i ail-fuddsoddi i greu'r amodau lle byddan nhw, ar ôl y pandemig, yn gallu datblygu a thyfu. Ac fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae'n bartneriaeth allweddol â'n hawdurdodau lleol sydd yno ar lawr gwlad—rwy'n falch iawn o weld bod Pen-y-bont ar Ogwr dan arweiniad Llafur wedi hysbysebu'r cynllun grant newydd ar eu gwefan yn syth ar ôl ei gyhoeddi ac wedi tynnu sylw at bwyslais penodol y cynllun ar greu cadwyni cyflenwi newydd a lleol fel y gall busnesau bach atgyfnerthu ei gilydd a helpu ei gilydd ar y llwybr hwnnw at adferiad.

Ochr yn ochr â hynny i gyd, Llywydd, rydym ni'n parhau i wneud y pethau eraill y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud i wneud yn siŵr ein bod ni'n cefnogi adferiad economaidd yma yng Nghymru, boed hynny drwy'r warant i bobl ifanc—ac rydym ni'n gwybod mai llawer o fusnesau bach yw'r lle cyntaf y gall person ifanc gael ei droed ar yr ysgol i gyflogaeth—neu'r buddsoddiad parhaus yr ydym ni'n ei wneud yn yr economi sylfaenol yma yng Nghymru. Y busnesau hynny sydd yno ddydd ar ôl dydd, blwyddyn ar ôl blwyddyn ar ein strydoedd mawr ac sy'n darparu nid yn unig cyflogaeth werthfawr a chyfleoedd economaidd pwysig iawn, ond, fel yr ydym ni wedi ei glywed yn aml yma yn y Siambr, yn rhoi i'r trefi a'r ardaloedd hynny eu cymeriad, yn eu gwneud yn lleoedd lle mae pobl eisiau mynd ac eisiau bod. Ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn, fel y gwn y mae Huw Irranca-Davies, i fod allan yno ddydd Sadwrn i gefnogi'r agenda gyfan honno.

Prif Weinidog, wrth i ni edrych ymlaen at ddydd Sadwrn Busnesau Bach, fel yr ydych chi wedi ei wneud, hoffwn i gydnabod hefyd ddyfalbarhad anhygoel busnesau bach yma yng Nghymru, yn enwedig yn fy rhanbarth i, sef Gorllewin De Cymru. Mae'r cwmnïau hyn, lle mae llawer ohonyn nhw'n wedi eu rhedeg gan deuluoedd, yn gwneud tua £46 biliwn bob blwyddyn, sy'n fwy na dwywaith holl gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â darparu 62.5 y cant o'r holl gyflogaeth yng Nghymru, mae busnesau bach hefyd yn ail-fuddsoddi cyfradd uwch o'r refeniw yn ôl yn yr economi leol, sy'n hybu ffyniant cyffredinol ardal. Felly, gyda hynny mewn golwg, rwy'n credu ei bod hi'n destun siom gweld cwmnïau o Gymru yn dal i dalu'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain Fawr gyfan, gan fod Cymru yn defnyddio lluosydd uwch ar werth ardrethol na Lloegr neu'r Alban. Sut yn y byd y mae gadael cwmnïau o Gymru o dan anfantais gystadleuol â'u cymheiriaid yn y DU yn cyd-fynd ag ysbryd Dydd Sadwrn Busnesau Bach?

Ar adeg pan fo'n busnesau bach a'n strydoedd mawr yn ceisio adfer ar ôl y pandemig ac mae llawer yn wynebu mwy o gystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein hefyd, ni allwn fforddio gwasgu cwmnïau bach a theuluol gyda threthi uwch. Felly, er bod y cymorth COVID dros dro gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu, yn ôl ei union natur, mae dros dro. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau baich ardrethi busnes ar fusnesau bach yng Nghymru i ganiatáu iddyn nhw ffynnu?

Wel, Llywydd, nid wyf i'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod. Cymru sydd â'r cynllun cymorth ardrethi busnes mwyaf hael yn unman yn y Deyrnas Unedig, ac nid dim ond ar hyn o bryd y mae hynny, pan fo busnesau Cymru wedi cael sicrwydd o flwyddyn o wyliau o ardrethi busnes o'i chymharu â'r chwe mis y cawson nhw ei gynnig yn Lloegr, ond mae hynny ar unrhyw adeg—nid yw 70 y cant o fusnesau bach yng Nghymru yn talu ardrethi busnes o gwbl. Ac rydym ni wedi ymrwymo—ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog cyllid eisoes wedi gwneud hyn yn eglur—i ddefnyddio'r mynegai prisiau defnyddwyr, nid y mynegai prisiau manwerthu, fel y ffordd y byddwn ni'n pennu ardrethi busnes yn y dyfodol, a bydd hynny yn arwain at ddegau lawer o filiynau o bunnoedd o ryddhad i fusnesau bach yma yng Nghymru.

Yr hyn y gwnaf i gytuno ag ef o'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud, Llywydd, o ran ei ymadrodd, yw 'dyfalbarhad anhygoel' busnesau bach a'r camau y maen nhw wedi eu cymryd i ymdrin â'r pandemig. Ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, cyn mynd i Gaerfyrddin, bues i yn Llanelli, Llywydd, ac ymwelais â Jenkins Bakery yno i helpu i ddathlu eu canmlwyddiant; mae'n gwmni a gafodd ei sefydlu union 100 mlynedd yn ôl eleni. Roedd hi'n galonogol iawn clywed gan y cwmni am y ffordd yr oedden nhw, er gwaethaf yr heriau gwirioneddol iddyn nhw eu hwynebu ar anterth y pandemig a'r penderfyniadau anodd y bu'n rhaid iddyn nhw eu gwneud i gadw eu busnes yn fyw, bellach yn ail-fuddsoddi, yn ail-gyflogi, yn gwneud dyfodol i'r busnes hwnnw er mwyn iddo barhau ymhell i'r ganrif nesaf. Mae hynny yn deyrnged i ddyfalbarhad anhygoel y bobl sy'n rhedeg y cwmni a'r bobl sy'n gweithio iddo, ac rwy'n eithaf sicr bod hynny yn nodweddiadol o'r ffordd y mae cynifer o fusnesau bach yng Nghymru wedi gweithio i ddal ati a dod o hyd i ddyfodol, er gwaethaf yr heriau syfrdanol y bu'n rhaid i ni i gyd eu hwynebu.

14:10
Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynyddu nifer y gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru? OQ57301

Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna, Llywydd. Mae gwell cydnabyddiaeth ariannol, hyfforddiant am ddim a chydnabyddiaeth broffesiynol ymysg y camau sy'n cael eu cymryd, gyda phartneriaid, i helpu i adeiladu'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae data a gafodd eu cyhoeddi yn gynharach y mis hwn yn dangos bod y pwysau ar ein system iechyd a gofal yn parhau i dyfu. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth gynorthwyo'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau a helpu i leddfu'r pwysau ar eu cydweithwyr yn y GIG. Roeddwn i mor falch o weld eu gwaith caled yn cael ei gydnabod gan gyngor Rhondda Cynon Taf, sydd wedi ymrwymo i ddarparu'r cyflog byw gwirioneddol erbyn mis Rhagfyr i bob un o'i weithwyr gofal cymdeithasol i oedolion annibynnol sydd wedi eu contractio, yn ogystal â'r holl dderbynwyr taliadau uniongyrchol.

Mae'n gwbl gywir bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael diwrnod teg o dâl am ddiwrnod teg o waith. Rydym ni'n gwybod bod y pandemig wedi effeithio ar bob un ohonom ni, ein gwasanaeth iechyd a gofal a'n hawdurdodau lleol yn arbennig. O gofio hyn, a wnaiff y Prif Weinidog gyfarfod â'r Gweinidog llywodraeth leol a'n cydweithwyr llywodraeth leol i drafod y posibilrwydd o ddarparu cymorth ariannol ar unwaith i awdurdodau lleol cyn y Nadolig i helpu i ymateb i heriau gofal cymdeithasol a GIG y gaeaf hwn?

Llywydd, rwy'n diolch i Buffy Williams am hynna. Mae hi'n llygad ei lle i dynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol y gweithlu gofal cymdeithasol a'r pwysau sydd arno hefyd. Mae yna gamau y gellid eu cymryd i'n helpu i leddfu hynny. Ar 12 Hydref, ysgrifennodd Gweinidogion yma, ynghyd â'u cymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, at Lywodraeth y DU ar faterion mewnfudo, gan gynnwys gofal cymdeithasol. Codais yn uniongyrchol â Phrif Weinidog y DU yr angen dybryd i gael gofal cymdeithasol ar y rhestr o alwedigaethau prinder. Mae hon yn broblem nid yn unig yng Nghymru ond ledled y Deyrnas Unedig, sydd wedi ei gwaethygu yn Lloegr drwy golli, fel y mae Llywodraeth y DU ei hun yn ei amcangyfrif, 40,000 o weithwyr yn y sector ar 11 Tachwedd, pan ddaeth brechu gorfodol yn rhan o'r rhaglen dros ein ffin.

Rwy'n sicr yn ymuno â'r Aelod, Llywydd, i longyfarch cyngor RhCT ar fwrw ymlaen a thalu'r cyflog byw gwirioneddol. Bydd gennym ni fwy i'w ddweud am hynny, wrth gwrs, pan fydd ein cyllideb yn cael ei gosod y mis nesaf. O ran cymorth ar unwaith, fe wnaethom ni gyhoeddi gwerth £40 miliwn o gymorth ychwanegol yn y gronfa adfer ym mis Medi; £42 miliwn arall i ymdrin â phwysau gofal cymdeithasol y mis diwethaf; ac, erbyn heddiw, rydym yn disgwyl y byddwn ni wedi cael yr holl gynlluniau gan ein byrddau partneriaeth rhanbarthol ar gyfer buddsoddiad o'r gronfa honno—£10 miliwn i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny lle mae asiantaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn dod at ei gilydd—ac yn gobeithio y bydd y cynlluniau hynny yn caniatáu i ni ryddhau'r arian hwnnw iddyn nhw cyn gynted â phosibl fel y gallan nhw ddechrau gwneud y gwahaniaeth yr ydym ni'n gwybod y mae angen ar y sector ei weld.

Bwyd Lleol ar gyfer Prydau Ysgol

5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu faint o fwyd sydd wedi'i dyfu'n lleol a ddefnyddir mewn prydau ysgol? OQ57302

Rwy'n diolch i Jenny Rathbone am hynny, Llywydd. Rydym ni wedi ymrwymo i gynyddu cyfran y bwyd sydd wedi ei dyfu yn lleol sydd mewn prydau ysgol, a fydd o fudd i economïau lleol drwy gaffael a chadwyni cyflenwi cynaliadwy a chyfrifol. Er enghraifft, cafodd estyniad i'r prosiect Bocs Bwyd Mawr llwyddiannus ei gynnwys yn y cyhoeddiad y mis hwn o'n cronfa cymorth i aelwydydd newydd.

Prif Weinidog, byddwch chi'n ymwybodol fy mod i'n un o gefnogwyr mwyaf yr ymrwymiad pwysig iawn i sicrhau y bydd pob plentyn ysgol gynradd yn cael pryd ysgol am ddim yn y dyfodol, ond rwy'n gwbl ymwybodol o'r heriau sy'n gysylltiedig â hynny—cael y personél cywir sy'n gwybod sut i goginio, yn ogystal â sicrhau ei fod yn fforddiadwy yn y tymor hir. Mae'n ymddangos i mi yn hanfodol ein bod ni'n gofyn i'n hawdurdodau lleol egluro faint yn union o dunelli o datws a moron a'r holl bethau eraill sy'n mynd i mewn i fwyd i blant ysgol y bydd eu hangen arnyn nhw yn y dyfodol, er mwyn i ni allu cael ein ffermwyr i dyfu'r pethau hynny yn hytrach na gorfod cael gafael arnyn nhw o rywle arall, oherwydd wedyn rydym ni'n rhoi maeth i'n plant yn ogystal â meithrin ein heconomi leol. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed pa sgyrsiau sydd wedi digwydd gydag awdurdodau addysg lleol ar sut i ddechrau cynllunio'r mater pwysig hwn o ddifrif.

14:15

Rwy'n diolch i Jenny Rathbone am y pwyntiau pwysig iawn yna, ac am ei chefnogaeth gref iawn i brydau ysgol yn gyffredinol, ond hefyd i ansawdd a natur y prydau hynny. Rwy'n gwybod y bydd yr Aelod yn ymwybodol o brosiect cronfa her Cyngor Sir Gaerfyrddin, y gwnaethom ei ariannu drwy'r gronfa economi sylfaenol—prosiect gwirioneddol ragorol wedi ei arwain gan yr awdurdod lleol mewn partneriaeth â'r bwrdd iechyd lleol a'r brifysgol leol. Tynnodd sylw at nifer o gyfleoedd pwysig iawn, ond amlygodd hefyd rai o'r heriau ymarferol gwirioneddol, y mae Jenny Rathbone newydd dynnu sylw atyn nhw—problemau llunio bwydlenni, ceginau cyhoeddus, a diffyg capasiti prosesu. Felly, llaeth o Gymru yw'r holl laeth a ddefnyddir mewn ysgolion yn sir Gaerfyrddin, ond mae'n rhaid mynd â rhywfaint o'r llaeth hwnnw, nid yn unig y tu allan i'r sir, ond weithiau y tu allan i'r wlad, er mwyn ei brosesu a'i botelu. Mae'r awdurdod lleol wedi ymrwymo i wneud rhywfaint o waith i weld pa un a ellid ail-greu capasiti prosesu, ar sail gydweithredol, yn y sir. Ac roedd yr angen i ddatblygu sector garddwriaeth Cymru, y mae'r Aelod wedi sôn amdano yn aml ar lawr y Senedd, yn un o'r gwersi a gafodd eu dysgu o brofiad y gronfa her hefyd.

Felly, mae llawer o waith wedi ei wneud, Llywydd, i nodi'r problemau y mae angen eu datrys os ydym ni am wneud yn siŵr bod y gwaith o ehangu prydau ysgol am ddim yn cael ei ategu gan gynnydd i gapasiti cyflenwyr cynhenid Cymru i fod yn rhan o hynny i gyd wedyn. Mae cyngor Caerffili yn arwain Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o ran bwyd yn y sector cyhoeddus, ac rwy'n gwybod ei fod yn ymwneud yn uniongyrchol iawn ar hyn o bryd, er enghraifft, â Castell Howell, i weld lle ceir cyfleoedd i ddisodli rhai o'r cyflenwyr sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd â chyflenwyr o Gymru, nid yn unig o ran prydau ysgol, ond yn y sector bwyd cyhoeddus ehangach. Ceir cyfleoedd gwirioneddol yno, ond rhai problemau ymarferol, dilys iawn y bydd yn rhaid eu datrys os yw'r cyfleoedd hynny am gael eu gwireddu yn briodol.

Theatrau

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi theatrau i adfer o'r pandemig? OQ57267

Rwy'n diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Mae theatrau wedi cael cefnogaeth gref yng Nghymru yn ystod y pandemig, o'r gronfa adfer diwylliannol gwerth £93 miliwn a'r gronfa gweithwyr llawrydd—ffrwd adfer sydd ar gael yn unigryw yng Nghymru. Mae Theatr Hafren yn etholaeth yr Aelod ei hun wedi elwa ar fwy na £300,000 o'r cyllid adfer hwnnw.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb? Rwy'n ei werthfawrogi yn sôn am Theatr Hafren yn fy etholaeth i hefyd. Daeth y gronfa adfer diwylliannol bresennol i ben ddiwedd mis Medi, felly rwy'n sylweddoli ein bod ni'n sôn am gymorth sydd wedi bod ar gael hyd at ddiwedd mis Medi. Mae fy nghwestiwn, mae'n debyg, yn ymwneud â'r dyfodol o ran cynorthwyo theatrau, oherwydd ceir rhai heriau enfawr i theatrau a chanolfannau celfyddydol, wrth gwrs. Yr her yw cael cynulleidfaoedd yn ôl i'r adeiladau mewn niferoedd digonol i wneud cynyrchiadau yn hyfyw yn ariannol. Ceir her hefyd o ran staffio ychwanegol ar gyfer digwyddiadau ac o ran prosesu ad-daliadau y mae'n rhaid eu gwneud oherwydd bod pobl yn canslo, oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw hunanynysu, sydd, wrth gwrs, yn gwbl ddealladwy. Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog, pryd y gall y diwydiant ddisgwyl rhywfaint o wybodaeth am y rownd nesaf o gyllid sydd ei angen i fynd i'r afael â'r heriau penodol y maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd wrth iddyn nhw ddod allan o'r pandemig?

Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna, Llywydd. Mae'n llygad ei le bod y £30 miliwn, sef ail gam y gronfa adfer diwylliannol, i gyd wedi ei ddyrannu erbyn diwedd mis Medi. Siaradais ag uwch swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithio ar y gronfa adfer diwylliannol ddoe. Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i ystyried a oes angen rownd arall o gymorth ar gyfer lleoliadau diwylliannol. Fe wnaethon nhw ddweud wrthyf eu bod nhw'n disgwyl cael cyngor i Weinidogion cyn diwedd yr wythnos hon o ganlyniad i'r trafodaethau hynny, ac yna mater i Weinidogion, gan gynnwys y Gweinidog cyllid wrth gwrs, fydd gweld beth y gellir ei wneud i gynnig unrhyw gymorth arall i'r sector, gan ganolbwyntio ar oroesiad busnesau, yn y ffordd y mae Russell George wedi awgrymu. Wyddoch chi, mae hwn yn gyfnod anodd iawn i'r celfyddydau byw, ac os oes lleoliadau sydd â'r brif her o oroesi a'n bod ni'n gallu eu cynorthwyo nhw, yna bydd y cyngor sydd ei angen ar Weinidogion i wneud hynny gyda nhw yn fuan iawn, iawn.

14:20

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Dwi'n mynd i orfod dod â'r sesiwn i ben dros dro oherwydd bod yna faterion technegol sy'n golygu bod yr hyn sy'n digwydd yn y Siambr ddim yn cael ei gyflwyno i'r rheini sydd ar Zoom, ac felly rŷn ni'n mynd i gymryd toriad byr technegol a byddwn ni'n dod nôl i gwestiwn 7 gan Alun Davies. Felly, toriad byr nawr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:21.

14:25

Ailymgynullodd y Senedd am 14:26, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

Gwasanaethau Cyhoeddus ym Mlaenau Gwent

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ym Mlaenau Gwent? OQ57273

Llywydd, rwy'n ddiolchgar i'n holl gydweithwyr sy'n gweithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys Blaenau Gwent, am eu hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau yn ein cymunedau. Maen nhw'n hanfodol i helpu i amddiffyn ein pobl ac, yn wir, ein ffordd o fyw, yn ogystal â chynorthwyo adferiad ein gwlad ar ôl pandemig COVID.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Byddwch chi'n cofio i mi ei holi yr wythnos diwethaf am y gwasanaethau trafnidiaeth sy'n gwasanaethu bwrdeistref Blaenau Gwent, a hoffwn i ddychwelyd at hynny y prynhawn yma. Rwy'n siŵr y bydd wedi rhannu trallod ein cyd-Aelodau Ceidwadol o ddarganfod bod yr 'Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb', a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn cefnogi ei ddull ef a dull Llywodraeth Cymru o ymdrin ag adolygiad Burns a buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus yng nghoridorau'r de-ddwyrain a'r cyffiniau i sicrhau cysylltedd i Flaenau Gwent ac i rannau eraill o'r rhanbarth. A yw'n cytuno â mi, gan mai Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig nad yw'n cael buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau rheilffyrdd o ganlyniad uniongyrchol i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, mai'r unig ffordd y gall Cymru ddal i fyny â buddsoddiad mewn gwasanaethau rheilffyrdd yw drwy ddatganoli seilwaith rheilffyrdd i Lywodraeth Cymru?

Wel, Llywydd, rwy'n diolch i Alun Davies am hynna. Roeddwn i'n falch iawn o weld adolygiad llawn Hendy, Llywydd. Roeddwn i'n falch o weld y ffordd yr oedd yn cymeradwyo dull Cymru o wella trafnidiaeth ledled Cymru, y dylai fod yn aml-foddol, y dylai gynnwys gweithio gyda phartneriaid, ac wrth gwrs mae Alun Davies yn iawn: mae adolygiad Hendy yn cymeradwyo argymhellion adolygiad Burns yn y de, yn ogystal â galw am drydaneiddio'r rheilffordd yn y gogledd hefyd. Rwyf i yn gobeithio y byddwn ni'n gweld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu argymhellion ei hadolygiad ei hun bellach. Yn rhy aml yng Nghymru, rydym ni wedi gweld adolygiadau gan y Llywodraeth Geidwadol heb i gamau dilynol gael eu cymryd ar eu sail, fel yn achos morlyn llanw bae Abertawe, i roi un enghraifft yn unig.

Lle mae'r rheilffordd eisoes yn nwylo'r Senedd, Llywydd, rydym ni wedi gwneud buddsoddiadau mawr—buddsoddiadau trawsnewidiol—a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym Mlaenau Gwent ac mewn cymunedau eraill yng Nghymru. Pe bai gennym ni fwy o bwerau, cyn belled—cyn belled—ag y bo'r buddsoddiad sydd ei angen i fynd ochr yn ochr â nhw gennym ni, yna rwy'n siŵr, fel y dywedodd Syr Peter Hendy, y bu datganoli yn dda ar gyfer llunio polisïau trafnidiaeth, a byddai hyd yn oed yn well pe bai gennym ni'r gallu y cyfeiriodd yr Aelod ato er mwyn gwneud hyd yn oed mwy, i wneud yn siŵr y byddai gwasanaethau i'w gymuned ef ac eraill yn cael eu gwneud mewn penderfyniadau sy'n agos at bobl sy'n deall y cymunedau hynny ac yn gwybod beth sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer y dyfodol.

14:30
Yr Argyfwng Hinsawdd

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o ddifrifoldeb yr argyfwng hinsawdd? OQ57283

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu nifer o fentrau yng Nghymru yn y maes hwn, gan gynnwys rhaglen eco-sgolion Cadwch Gymru'n Daclus, gan rymuso pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i'w hysgol a'u cymuned, a gweithredu ar newid hinsawdd.

Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar y mater hwn wrth arwain y ffordd. Yn fy etholaeth i, mae Ysgol Golftyn yn enghraifft wych o arwain y ffordd ar y mater penodol hwn. Gwnaeth pob disgybl blwyddyn 2 o'r ysgol ysgrifennu ataf i'n ddiweddar, a chefais wahoddiad i'r ysgol i ateb cwestiynau heriol am newid hinsawdd. Cododd y llythyrau a'r cwestiynau bwysigrwydd ailgylchu a phryderon ynghylch y capiau iâ pegynol yn toddi a'r effaith y mae'n ei chael ar fywyd gwyllt, ac yn arbennig, eirth gwyn. Pan ymwelais â'r ysgol ddydd Gwener diwethaf i ateb y cwestiynau heriol iawn hyn gan ddisgyblion blwyddyn 2, cefais fy synnu gan eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi longyfarch y disgyblion a'r staff yn Ysgol Golftyn yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ac a wnewch chi ofyn i'ch swyddogion ystyried y gwaith y maen nhw'n ei wneud fel arfer gorau Cymru ar faterion newid hinsawdd i ddisgyblion a staff ysgolion?

Rwy'n diolch i Jack Sargeant, Llywydd, am hynny i gyd, ac ar bob cyfrif, estynnwch fy llongyfarchiadau i'r bobl ifanc hynny am eu hymrwymiad i'r agenda hon a'u diddordeb ynddi. Rwy'n credu ei bod yn nodweddiadol o bobl ifanc ym mhob rhan o Gymru. Rwyf i wedi cael y fraint o ymweld â nifer o ysgolion i siarad yn uniongyrchol â phobl ifanc am y materion hyn. Cymerais ran, gyda nifer o gyd-Weinidogion, mewn trafodaethau gyda phobl ifanc ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant wythnos yn ôl. Nid ydych byth yn cwrdd â grŵp o bobl ifanc heb iddyn nhw ofyn y cwestiynau heriol hynny i chi ynghylch yr hyn y mae oedolion yn ei wneud i sicrhau dyfodol iddyn nhw yn rhydd rhag ofn yr hyn y byddai newid yn yr hinsawdd yn ei wneud yn eu bywydau.

Rwy'n credu ein bod ni'n hollol gywir, Llywydd, i fod yn falch o'r ffordd nad bod yn ymwybodol yn unig y mae plant a phobl ifanc yng Nghymru o ddifrifoldeb yr argyfwng hinsawdd yn unig, ond eu bod wedi ymrwymo i helpu i wneud rhywbeth yn ei gylch. Roedd y llysgenhadon hinsawdd ifanc a gynrychiolodd Gymru yn y gynhadledd COP yn Glasgow yn glod llwyr iddyn nhw eu hunain ac i Gymru. Gwnaethon nhw wahaniaeth gwirioneddol o ran cyflwyno'r neges a bod yr unigolion heriol hynny sydd eu hangen arnom ni, ac maen nhw wedi dychwelyd ac wedi cymryd rhan yr wythnos diwethaf yn yr Wythnos Newid Hinsawdd yma yng Nghymru—digwyddiad mawr; 110 o siaradwyr, 25 o sesiynau, dros 3,000 o bobl wedi cofrestru ar-lein, a sesiynau wedi eu cynnal yn uniongyrchol gan bobl ifanc eu hunain. Yn ogystal â gofyn cwestiynau heriol i ni, maen nhw hefyd yno yn ceisio creu atebion i'r her fyd-eang fawr honno sy'n ein hwynebu ni i gyd. Mae'n wych clywed am y ffordd y mae pobl ifanc yn Alun a Glannau Dyfrdwy hefyd yn rhan o'r ymdrech genedlaethol fawr honno.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths. 

Diolch, Llywydd. Rwyf i wedi gwneud tri newid i'r agenda heddiw. Yn gyntaf, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am COVID-19, ac o ganlyniad, mae'r datganiad ar 'Cymru Iachach' wedi ei ohirio tan 11 Ionawr. Yn ail, bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl. Ac yn olaf, mae'r ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd wedi ei gohirio tan 11 Ionawr. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Rwyf i'n datgan buddiant fel aelod etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid caledi COVID ar gyfer cynghorau lleol yng Nghymru. Fel y soniwyd sawl gwaith ar draws y Siambr, mae'r gwaith da y mae awdurdodau lleol wedi ei wneud drwy gydol pandemig COVID-19, gan gadw pobl yn ddiogel, a darparu gwasanaethau hanfodol yn ein cymunedau—. Mae hefyd yn werth nodi'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu drwy gronfa caledi COVID i awdurdodau lleol, gan sicrhau y gall y gwasanaethau hynny barhau gystal â phosibl. Ond hoffwn i gael datganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa caledi COVID honno y mae awdurdodau lleol wedi bod yn ei chael, ac, yn bwysig, gallu'r gronfa hon i ymdrin â'r hyn sy'n debygol o fod yn bwysau pellach oherwydd COVID-19 cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, ac, os yw'n bosibl, diweddariad ar gynlluniau'r gronfa hon yn y dyfodol y tu hwnt i fis Mawrth hefyd. Diolch.

14:35

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ein bod ni wedi gweithio'n agos iawn mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19. Yn sicr, mae llawer o wasanaethau na fydden nhw wedi eu darparu oni bai am eu gwaith. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw newidiadau i'r gronfa caledi ar hyn o bryd. Efallai y bydd yn rhan o'n cyllideb ddrafft, ond, os na, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni.

Hoffwn i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth i drafod ariannu seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Mae tanariannu trychinebus ein rhwydwaith rheilffyrdd wedi ei amlygu gan adolygiad cysylltedd yr undeb Llywodraeth y DU, sy'n argymell, yn syfrdanol, wella cysylltiadau â Lloegr, er mai Llywodraeth y DU ei hun a wnaeth gefni ar ei haddewid i drydaneiddio prif reilffordd de Cymru. Mae ymchwil Canolfan Llywodraethiant Cymru, Trefnydd, yn dangos ein bod ni wedi colli gwerth £0.5 biliwn o gyllid rheilffyrdd dros 10 mlynedd, oherwydd nad yw seilwaith rheilffyrdd wedi ei ddatganoli, a bydd HS2 yn gwneud hynny'n waeth. Mae penderfyniad Trysorlys y DU i bennu'r ffactor cymharedd ar gyfer Cymru ar 0 y cant yn golygu na chawn ni ddim o wariant HS2. Bydd yr Alban yn cael tua £10 biliwn, bydd Cymru'n cael sero, a hyn pan fo'n trenau eisoes yn orlawn, yn rhy aml yn hwyr, ac yn annibynadwy. Felly, Trefnydd, rwy'n credu y byddai'r Aelodau ar draws y Siambr yn croesawu cyfle i drafod yr argyfwng hwn a'r hyn y byddai modd ei wneud yn ei gylch, cyn i ni, yng ngeiriau Will Hayward o'r Western Mail, gael ein condemnio i ganrif arall o reilffyrdd eilradd.

Diolch. Mae'n sicr yn siomedig iawn gweld na fydd Cymru yn elwa ar y cynnydd hwnnw mewn cyllid rheilffyrdd, fel yr oeddem ni yn sicr wedi gobeithio ei wneud. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn y Siambr gyda mi ac mae hi wedi clywed eich cais. Yn amlwg, mae ganddi hi a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am drafnidiaeth, gwestiynau yr wythnos nesaf, felly byddwn i'n awgrymu eich bod chi'n cyflwyno cwestiwn iddyn nhw yr wythnos nesaf.

Rydym ni i gyd wedi cael ein dal rhywfaint gan yr iteriad diweddaraf o COVID, gyda'r amrywiolyn newydd o'r enw omicron, yn enwedig dinasyddion Cymru a oedd dramor ar y pryd pan oedd angen i ni gyflwyno'r cyfyngiadau ychwanegol hyn ar deithio. Roeddwn i'n meddwl tybed a all y Llywodraeth wneud datganiad ynghylch sefyllfa Gleision Caerdydd a'r Scarlets, a fydd, yn amlwg, yn gorfod cymryd rhan mewn cystadlaethau eraill, y gallai fod tarfu arnyn nhw yn sgil yr angen sy'n parhau iddyn nhw fod mewn cwarantin. A allech chi ddweud a yw'n bosibl i'r Gleision ddychwelyd o Dde Affrica a bod mewn cwarantin yma yng Nghymru, neu, os nad ydyn nhw, beth yw'r sefyllfa iddyn nhw?

Diolch. Fel yr wyf i newydd ei gyhoeddi, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am COVID-19 y prynhawn yma. Gwnaethoch chi ofyn yn benodol—gwnaethoch chi sôn am Rygbi Caerdydd a'r Scarlets. O dan y rheoliadau presennol, nid oes gennym ni'r opsiwn i ddod â'r parti adref cyn i'r cwarantin 10 diwrnod ddod i ben, gan ei bod yn amlwg yn anghyfreithlon dod i mewn i Gymru os ydych chi wedi bod mewn gwlad ar y rhestr goch yn ystod y 10 diwrnod diwethaf. A hyd yn oed os nad oedd hynny'n wir, mae'n amlwg nad oes gennym ni'r cyfleusterau cwarantin hynny yma yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae parti teithio y Scarlets mewn gwasanaeth cwarantin wedi ei reoli yn Belfast, lle cyrhaeddon nhw ddydd Sul, ac mae angen iddyn nhw aros mewn cwarantin a mynd trwy'r cyfnod dynodedig o 10 diwrnod. O ran Gleision Caerdydd, maen nhw'n dal i fod yn Ne Affrica, a'r sefyllfa bresennol yw, wrth deithio i'r DU o wlad ar y rhestr goch, ni chewch chi deithio yn syth i Gymru. Rydym ni'n gwybod bod sawl aelod o'r parti yn sâl, ac rydym yn dymuno gwellhad buan iddyn nhw.

Wn i ddim beth yw hi amdanoch chi, Rhys, ond mae'n ymddangos fy mod i bob amser yn eich galw chi ar yr adeg anghywir. [Chwerthin.] Altaf Hussain, ac yna Rhys ab Owen.

Gweinidog, ddydd Mercher, mae gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus yng nghanol y ddinas yn cael ei gyflwyno am dri mis yn Abertawe, a bydd yn berthnasol i ymddygiad fel cymryd cyffuriau a meddwi. Mae'n golygu y bydd modd atafaelu alcohol a chyffuriau sy'n cael eu defnyddio ar y stryd cyn i'r sefyllfa fynd yn broblem, ac mae modd cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol fel rhegi ac ymddygiad ymosodol. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ddadl yn amser y Llywodraeth i'r Senedd ystyried llwyddiant mesurau o'r fath? Diolch.

14:40

Rwy'n credu roedd problem gyda'ch meicroffon ar un adeg yn y fan yna, Altaf Hussain. Rwy'n mynd i ddod yn ôl atoch chi ar ddiwedd y cwestiynau i weld a oes modd datrys y mater ar eich meicroffon. Rwy'n galw nawr ar Rhys ab Owen.

Diolch yn fawr, Llywydd. Trefnydd, i nodi dros ddwy flynedd ers cyhoeddi adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, cynhaliwyd cynhadledd y bore yma o dan gadeiryddiaeth Anna McMorrin, sef yr Is-weinidog dros ddioddefwyr a gwasanaethau ieuenctid. Roedd undebau llafur yno hefyd, a'r cyn Arglwydd Brif Ustus Thomas. Roedd e'n canmol y camau sydd wedi digwydd yn barod wedi cyhoeddi ei adroddiad, fel mwy o arweinyddiaeth yn y lle hwn o dan y Llywodraeth a mwy o graffu yn y Senedd. Roedd e hefyd yn canmol sefydlu Cyngor Cyfraith Cymru a sefydlu peilot llys teuluol cyffuriau ac alcohol. Ond dywedodd bod llawer eto i'w wneud. Gyda hyd at draean o'r argymhellion o fewn pŵer Llywodraeth Cymru, gan fod dwy flynedd nawr wedi pasio, a gawn ni ddatganiad ynglŷn â chynllun y Llywodraeth i weithredu'r argymhellion hynny sydd o fewn eu pŵer nhw eu hunain? Diolch yn fawr. 

Byddwn, byddwn i'n hapus iawn i ofyn i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol gyflwyno datganiad.

Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar addysg cerddoriaeth yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, cefais i'r pleser o ymweld â menter Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych, sefydliad dielw sy'n darparu hyfforddiant cerddoriaeth o safon yn ardaloedd sir Ddinbych a Wrecsam, ac enillydd gwobr Tech for Good yng ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2021. Mae'r fenter gydweithredol yn cael ei chynnal gan athrawon er budd disgyblion, a chaiff ei rheoli gan bennaeth gwasanaeth yn sir Ddinbych. Maen nhw'n darparu hyfforddiant ar amrywiaeth eang o offerynnau a llais, gyda'r nod o ddatblygu potensial cerddoriaeth pob disgybl yn unol â'u hanghenion a'u dyheadau unigol. Mae eu model llwyddiannus a chost-effeithiol sy'n diwallu anghenion iechyd a lles plant a phobl ifanc yn haeddu cefnogaeth i barhau a thyfu. Fe wnaethon nhw ddweud wrthyf mai nhw yw'r unig wasanaeth cerddoriaeth cydweithredol yng Nghymru. Gwnaethon nhw enwi awdurdodau lleol naill ai heb wasanaeth cerdd neu sy'n ceisio diswyddo pob athro cerdd, a gwnaethon nhw ddweud mai dim ond dau awdurdod lleol yng Nghymru sy'n darparu gwasanaeth i ddisgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim, gan gynnwys Wrecsam. Gwnaethon nhw ddweud wrthyf hefyd eu bod nhw wedi datblygu model sy'n gweithio, ond ar ôl sefydlu sylfaen dda dros wyth mlynedd, mae angen cyllid cynaliadwy arnyn nhw i fod yn fodel gogledd Cymru neu Gymru gyfan, lle maen nhw'n rhoi cyfle i ddarparu gwasanaethau gwell yn fwy cost-effeithlon, dan arweiniad yr aelodau cydweithredol sydd eu hunain yn weithwyr proffesiynol ym maes cerddoriaeth. Fodd bynnag, gwnaethon nhw fynegi pryder na ddylai'r gwasanaeth cerdd cenedlaethol sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru fynd â'u gwasanaeth yn ôl yn fewnol, a gwnaethon nhw ofyn a fyddai'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol newydd yn cynnwys model cydweithredol newydd gyda chyllid ar gyfer mentrau cydweithredol. Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch. Rwy'n amlwg yn ymwybodol iawn o'r gwasanaeth cydweithredol y mae Mark Isherwood yn cyfeirio ato. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud ar ddiwedd eich cyfraniad, mae'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yn ymrwymiad y rhaglen llywodraethu i ni, ac mae'n cael ei datblygu ar hyn o bryd. Felly, nid wyf i'n credu ei bod yn briodol cyflwyno datganiad ar hyn o bryd, ond rwy'n sicr y bydd gan y Gweinidog ddiddordeb mawr mewn clywed y sylwadau y mae Mark Isherwood wedi eu gwneud—y mae wedi eu cyflwyno gan y cwmni cydweithredol—a byddaf i'n sicrhau bod eu barn yn amlwg yn cael ei hystyried wrth i ni gyflwyno'r gwasanaeth.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar stopio a chwilio yng Nghymru. Cafodd un o fy etholwyr i ym Mhencoed ei stopio wrth adael gêm bêl-droed dan 15 oed, ac roedd fy etholwr ei hun yn 15 oed ac nid oedd ganddo riant na gwarcheidwad yn bresennol gydag ef pan gafodd ei chwilio. Yn ogystal â bod yn ergyd i'w hyder ei hun, mae hefyd yn fy nharo i fod hyn eto yn fater o broffilio. Er fy mod i'n derbyn na all y Trefnydd a'r Gweinidog wneud sylwadau ar faterion unigol, rwy'n siŵr bod llawer ohonom ni wedi cael etholwyr yn cysylltu â ni gyda straeon tebyg yn ein hamser yma fel cynrychiolwyr.

14:45

Diolch. Wel, na, ni allaf i wneud sylw ar achos unigol, ac ni all y Gweinidog wneud hynny chwaith. Fodd bynnag, yn amlwg, mater i'r heddlu yw hwn, sydd, fel y gwyddoch chi, yn fater a gadwyd yn ôl, ond byddaf i'n sicr yn sicrhau bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi clywed eich sylwadau. Efallai y byddai'n well pe baech chi'n ysgrifennu'n uniongyrchol at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, oherwydd, yn amlwg, mae'n cyfarfod yn rheolaidd â'r pedwar heddlu.

Hoffwn i gael datganiad gan y Gweinidog newid hinsawdd, os gwelwch yn dda, ar storm Arwen. Fel y bydd llawer ohonoch chi'n gwybod, cafodd 30,000 o gartrefi eu gadael heb bŵer, ataliodd Trafnidiaeth Cymru y rhan fwyaf o'i wasanaethau rheilffordd, gwnaethom ni golli ffenestri eglwysi yn Llandudno, a chwympodd cannoedd o goed, yn aml ar draws y priffyrdd. Cafodd cyflymder gwynt o 81mya ei gofnodi yn Aberporth yng Ngheredigion, ac, wrth dalu teyrnged i'n hawdurdodau lleol, a oedd yn gyflym iawn yn dod allan i helpu lle'r oedd pobl wedi cael coed yn cwympo, rwyf i'n meddwl tybed, o gofio ein bod ni i gyd yn teimlo bod hynny'n ddamwain natur fympwyol—rwy'n ofni bod y mathau hynny o stormydd yn debygol o gynyddu, wrth symud ymlaen, gyda newid hinsawdd—a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog newid hinsawdd ar sut yr ydych chi'n bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod ganddyn nhw'r holl bethau sydd eu hangen arnyn nhw, pe bai'r mathau hyn o stormydd yn digwydd eto, hyd yn oed dros y gaeaf hwn o bosibl? Diolch.

Rwy'n credu nad oes amheuaeth y gwelwn ni lawer mwy o'r stormydd hyn. Rydym ni wedi gweld llawer mwy o'r stormydd hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydym ni wedi gweld mwy o lifogydd, ac yn y blaen, ac mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd, yn amlwg, yn y Siambr, yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen arnyn nhw. Yn amlwg, yr oedd llawer o dai heb bŵer, rwy'n gwybod, nid cynifer yn fy etholaeth i, ond yn yr etholaeth gyfagos. Hyd at neithiwr, hyd yn oed, roedd pobl yn dal i fod heb drydan. Ond mae'r Gweinidog yn parhau i weithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol, gyda sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru i weld beth allwn ni ei wneud i helpu i amddiffyn ein cymunedau yng ngoleuni'r stormydd hyn.

Trefnydd, hoffwn i godi mater gwasanaethau dibyniaeth ar gyffuriau yng Nghymru. Yn dilyn y ddadl fer yr wythnos diwethaf gan Jayne Bryant a'r ddadl fer a gynhaliais i ar gamddefnyddio sylweddau yn gynharach y tymor hwn, ymrwymodd y Llywodraeth hon i greu dull tosturiol o ymdrin â dibyniaeth. Roedd yn galonogol clywed y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles yn dweud,

'Yng Nghymru, lleihau niwed ac adeiladu cymunedau adfer cryf yw ein dull gweithredu o hyd.'

Gyda'r ymrwymiad clir hwn mewn golwg, hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar sut y bydd rhaglenni dibyniaeth ar gyffuriau, y cawson nhw eu hariannu gan arian cronfa gymdeithasol Ewrop ar un adeg, yn cael eu cynnal pan ddaw'r contractau presennol i ben.

Rwy'n cyfeirio'n benodol at y gwasanaeth mentora cymheiriaid y tu allan i'r gwaith, sy'n dod i ben ym mis Awst y flwyddyn nesaf. Yn fy rhanbarth i, enw'r rhaglen hon yw Cyfle Cymru, ond rwy'n gwybod bod ganddi enwau eraill, yn dibynnu ar ba ran o Gymru y mae'n gweithredu ynddi. Mae sôn y bydd y rhaglen Gymru gyfan hon yn dod yn fewnol ac y bydd yn cael ei hymgorffori mewn contractau cyflogadwyedd sydd eisoes yn bodoli. Mae'r rhai sydd â phrofiad yn y maes yn dweud y bydd hyn yn drychinebus gan fod eu cleientiaid yn aml yn byw bywydau anhrefnus, a bod ganddyn nhw anghenion meddwl difrifol a bod angen ymdrin â nhw'n wahanol. Nid rhyw amheuaeth yn unig yw hon gan y rhai hynny yn y maes, oherwydd bod cynsail i'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddwyn yn fewnol o'r blaen; ac yn anochel, fe wnaeth chwalu. Mae'r model presennol dan arweiniad cymheiriaid wedi bod yn llwyddiannus ers pum mlynedd, ac mae angen ymrwymiad i ymestyn ei gyllid y tu hwnt i haf y flwyddyn nesaf. Diolch yn fawr.

Diolch. Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch gwasanaethau a chynlluniau sydd wedi eu hariannu gan gyllid Ewropeaidd a'r hyn y byddwn ni'n ei wneud i'w parhau, fel nad ydym ni'n taflu'r holl waith da hwnnw ymaith. Rydych chi newydd roi enghraifft glir iawn, rwy'n credu, o gynllun o'r fath. Bydd y rhain yn rhannau o drafodaethau y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghyd â'i dirprwyon—felly mae hynny'n cynnwys y Dirprwy Weinidog iechyd meddwl—yn eu cael wrth i ni nesáu at osod y gyllideb ddrafft, felly bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhoi bryd hynny.

Gaf i ofyn am un datganiad ysgrifenedig, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Economi a/neu'r Gweinidog diwylliant ynglŷn â lefel yr help ariannol neu ymarferol all gael ei roi i sinemâu, theatrau, canolfannau celfyddydol wrth iddyn nhw weithredu'r pàs COVID? Dwi'n meddwl am sefydliadau fel Canolfan Ucheldre, Theatr Fach a sinema'r Empire yn Ynys Môn, sy'n cael eu rhedeg fel mudiadau cymdeithasol a sydd jest angen ychydig o help er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu gweithredu y pasys yn effeithiol. 

Hefyd, hoffwn i ofyn am ddatganiad llafar gan Lywodraeth Cymru yn llongyfarch pobl Barbados ar drawsnewid i fod yn weriniaeth. Enillodd y wlad ei hannibyniaeth, rwy'n credu, ryw 55 mlynedd yn ôl ac erbyn hyn mae hi'n cymryd y cam olaf ar y daith honno. Ac wrth siarad â'r dorf ar y safle sydd newydd ei ailenwi yn Sgwâr yr Arwyr Cenedlaethol, dywedodd Tywysog Cymru:

'Rhyddfreiniad, hunanlywodraeth ac annibyniaeth oedd eich cerrig milltir. Rhyddid, cyfiawnder a hunan-benderfyniad a fu'n eich tywys.'

Rwy'n dymuno'r gorau i Barbados wrth iddyn nhw wynebu eu dyfodol newydd, cyffrous, ar yr union adeg y mae nifer cynyddol o bobl yng Nghymru yn sylweddoli'r manteision a allai ddod i ni o groesawu'r dyfodol yn genedl annibynnol. Ac rwy'n edrych ymlaen at ddatganiad adeiladol gan Lywodraeth Cymru.

14:50

Wel, nid wyf i o'r farn y byddai'n briodol i ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â hynny.

O ran eich pwynt cyntaf ynghylch y celfyddydau a diwylliant, byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud yn ei sesiwn gwestiynau ei fod wedi cyfarfod â swyddogion ddoe a oedd yn ystyried pa gefnogaeth, os o gwbl, neu pa gymorth pellach, y byddai ei angen ar y sector celfyddydau a diwylliant. Ac rwy'n credu iddo ef ddweud bod y Gweinidog yn aros am ragor o gyngor cyn dod i benderfyniad.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, ddydd Mercher, bydd Gorchymyn diogelu mannau agored cyhoeddus canol y ddinas yn cael ei gyflwyno am dri mis yn Abertawe ac fe fydd yn berthnasol i ymddygiad fel cymryd cyffuriau a meddwdod. Mae hynny'n golygu y gellir atafaelu alcohol a chyffuriau sy'n cael eu defnyddio ar y strydoedd cyn i'r sefyllfa fynd yn broblem, ac y gellir cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol fel rhegi ac ymddygiad ymosodol. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ddadl yn amser y Llywodraeth i'r Senedd allu ystyried llwyddiant mesurau o'r fath? Diolch i chi.

Wel, mater i bob awdurdod lleol yw hynny o ran pa gamau y maen nhw'n eu cymryd ynglŷn â pharthau, er enghraifft, o ran lleihau'r defnydd o alcohol neu ei wahardd yn llwyr ar y strydoedd. Felly, rwy'n credu mai mater i awdurdodau lleol unigol yw hwn ac nid wyf i o'r farn ei bod hi'n briodol i ni gael datganiad yn amser y Llywodraeth.

3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: y Cynllun Gweithredu Digartrefedd

Yr eitem nesaf y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: y cynllun gweithredu digartrefedd. Galwaf ar y Gweinidog, Julie James. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n lansio cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd. Cynllun yw hwn sy'n datblygu ar ein strategaeth o 2019 i roi terfyn ar ddigartrefedd ac argymhellion y grŵp gweithredu arbenigol ar ddigartrefedd. Mae'n pennu'r cyfeiriad ar gyfer cyflawni ein huchelgais o roi terfyn ar ddigartrefedd i bobl ledled Cymru. Hoffwn i ddweud ar y dechrau, ac ar y noson cyn i'r cytundeb cydweithredu ddod i rym, fod rhoi terfyn ar ddigartrefedd yn uchelgais yr ydym ni'n ei rannu gyda Plaid Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghyd-Aelodau i roi'r cynllun hwn ar waith a gwneud popeth yn ein gallu i wireddu'r uchelgais hwnnw.

Dirprwy Lywydd, mae'r pandemig wedi effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau. Mae wedi newid sut rydym ni'n ymateb i ddigartrefedd hefyd. Ers mis Mawrth 2020, gyda chefnogaeth ein hawdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a phartneriaid yn y trydydd sector, rydym ni wedi herio yn ei hanfod, ganrifoedd o ymfodloni a goddefgarwch. Mae'r pandemig wedi amlygu lefel o ddigartrefedd a oedd wedi ei chuddio yn flaenorol, ond mae hefyd wedi ein galluogi i gefnu ar ffyrdd sefydledig o weithio ac, wrth wneud hynny, mae wedi dangos i ni, drwy newid ein dull gweithredu yn wirioneddol ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol.

Rwyf i wedi bod yn eglur iawn: ni fydd dim troi yn ôl. Mae cyfle erbyn hyn i adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ystod y pandemig, i gymryd camau radical i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Yr hyn sydd wrth wraidd y cynllun gweithredu i roi terfyn ar ddigartrefedd yw'r angen am newid radical i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. I wneud hyn, mae'n rhaid i ni wneud y newidiadau angenrheidiol i'r system i atal digartrefedd a symud yn gyflym i ailgartrefu er mwyn i bobl fod mewn llety dros dro am yr amser byrraf posibl. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod digartrefedd yn cael ei atal yn y rhan fwyaf o achosion er mwyn iddo fod yn beth anghyffredin yn y dyfodol. Mae'n ymwneud â thrawsnewid ein gwasanaethau digartrefedd a thai fel bod digartrefedd, pan fydd yn digwydd, yn para am amser byr, ac y bydd pobl yn cael eu cefnogi yn gyflym i'w lleoli mewn cartref addas a sefydlog fel na chaiff eu profiad o ddigartrefedd ei ailadrodd.

Mae'r cynllun gweithredu yn pennu gweledigaeth fesuredig a strategol ar gyfer dyfodol gwasanaethau digartrefedd ac yn ein galluogi i ddatblygu model ôl-bandemig o'r hyn sy'n normal. Mae ein dull gweithredu wedi ei seilio ar dystiolaeth ac mae'n adeiladu ar adroddiadau ac argymhellion y grŵp gweithredu digartrefedd arbenigol, sydd wedi gweithio gyda'r sector, darparwyr gwasanaethau ac, yn bwysicaf oll, gyda defnyddwyr y gwasanaethau. Nid mater o dai yn unig yw hwn. Mae'r cyfrifoldeb dros roi terfyn ar ddigartrefedd yn ymestyn y tu hwnt i'r timau a'r adrannau pwrpasol ar gyfer digartrefedd a thai. Mae'n rhaid i hyn fod wedi ei seilio ar ymateb gan y gwasanaethau cyhoeddus i gyd ac felly y bydd hi.

Mae achosion digartrefedd yn ymestyn y tu hwnt i nifer y cartrefi fforddiadwy sydd ar gael. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â materion strwythurol craidd tlodi ac anghydraddoldeb, sicrhau bod y mesurau atal cyffredinol ac wedi eu targedu ar gael ac yn effeithiol, ymateb yn effeithiol i drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, salwch meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Mae hyn yn gwneud rhoi terfyn ar ddigartrefedd yn flaenoriaeth draws-sector, draws-Lywodraeth sy'n berthnasol i iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, cyfiawnder troseddol, gwasanaethau cymunedol a'n heconomi ehangach. Caiff hyn i gyd ei gydnabod yn y cynllun gweithredu, yn ogystal â'r angen am ddiwygio deddfwriaethol a pholisi yn eang. Mae'r cynllun gweithredu yn dibynnu ar bartneriaeth ac ar waith ataliol; bydd angen ategu hyn â dewrder ac arweinyddiaeth ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Rwy'n derbyn y bydd rhai o'r newidiadau uchelgeisiol yr ydym yn awyddus i'w gweld, fel y pwyslais ar atal ac ailgartrefu yn gyflym, diwygio deddfwriaethol, a'r rhaglen fawr a pharhaus o adeiladu tai cymdeithasol yn heriol. Gallai hyn achosi pryder ynghylch cyflymder y newid. Rwy'n deall y pryderon hyn ac rwy'n benderfynol y bydd Llywodraeth Cymru, lle bynnag y bydd angen rhagor o gymorth, yn ei ddarparu, fel yr ydym ni wedi ei wneud gyda'r buddsoddiad mwyaf erioed yn y grant cymorth tai a'r grant tai cymdeithasol.

Rwy'n disgwyl i landlordiaid, timau datblygu tai, a chynllunwyr arddangos brys yn y ffordd yr ydym yn rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Rwy'n disgwyl gweld anghenion tai cymunedau amrywiol a'r hyn yr ydym ni'n ei wybod erbyn hyn am raddfa a natur wirioneddol digartrefedd yn cael eu hadlewyrchu yn yr asesiad o'r farchnad dai leol, a'r anghenion hynny yn cael eu hadlewyrchu mewn prosbectysau tai awdurdodau lleol a chynlluniau datblygu rhaglenni. Mae'r brys yn amlwg yn hyn o beth, gyda mwy na 6,900 o oedolion a phlant yn byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd. Yn y tymor byr, rwy'n disgwyl gweld pob landlord cymdeithasol, y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r awdurdodau sy'n dal stoc, yn dod i'r adwy ac yn chwarae eu rhan wrth ddyrannu tai i'r rhai mwyaf anghenus ledled Cymru, a byddaf i'n gwylio eu cynnydd yn ofalus yn hyn o beth.

Yn rhy aml, defnyddir dyraniad tai yn wobr am ymddygiad da yn hytrach na bod yn rhagofyniad hanfodol ar gyfer mynd i'r afael ag allgáu ac anghydraddoldeb cymdeithasol. Rwy'n disgwyl gweld newid yn hyn o beth. Yn y tymor hwy, i roi terfyn ar ddigartrefedd, mae angen i ni gynyddu capasiti tai yn y sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat. Mae ein rhaglen adeiladu tai cymdeithasol uchelgeisiol yn arf pwysig i gyflawni ein hamcan o roi terfyn ar ddigartrefedd a symud tuag at ailgartrefu cyflym.

Mae gan y sector rhentu preifat ran bwysig iawn yn y farchnad dai, gan alluogi pobl a theuluoedd i ddod o hyd i gartref sy'n addas iddyn nhw. Felly, mae'n bleser gen i gyhoeddi cyllid heddiw ar gyfer cyflwyniad cenedlaethol gynllun lesio Cymru. Rhaglen yw hon sy'n seiliedig ar ein cynllun treialu llwyddiannus, a gwerth £30 miliwn dros bum mlynedd, ac mae'n ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu a fydd yn ei gwneud yn haws cael gafael ar dai fforddiadwy hirdymor yn y sector rhentu preifat. Mae'n rhoi sicrwydd i denantiaid a hyder i landlordiaid. Bydd perchnogion eiddo yn cael eu hannog i gynnig eu heiddo ar les i awdurdodau lleol yn gyfnewid am warant rent a chyllid ychwanegol i wella cyflwr yr eiddo. Yna fe all awdurdodau lleol ddefnyddio'r eiddo hynny i ddarparu llety fforddiadwy o ansawdd da i bobl ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Bydd tenantiaid ar y cynllun yn elwa ar sicrwydd o ddeiliadaeth tymor hwy am rent sydd wedi ei gyfyngu i gyfraddau'r lwfans tai lleol, a gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cael y lefel o gymorth y bydden nhw'n ei ddisgwyl mewn tai cymdeithasol. Bydd yn cryfhau'r berthynas rhwng awdurdodau lleol a landlordiaid y sector preifat, gan agor llwybrau i dai ar gyfer aelwydydd sy'n dioddef digartrefedd neu dan fygythiad digartrefedd ac yn cynnig sefydlogrwydd a chymorth ariannol i landlordiaid. Nid wyf i'n tanbrisio maint y trawsnewid sydd ei angen, ond, fel sy'n glir yn y rhaglen lywodraethu a'r cynllun gweithredu, rwyf i wedi ymrwymo i'r trawsnewid hwn yn llwyr.

Rydym ni wedi gweld yr hyn y gallwn ni ei gyflawni pan fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd, drwy sicrhau nad oedd neb yn cael ei adael ar y strydoedd drwy gydol y pandemig. Nawr, mae angen i ni gamu ymlaen gyda'n gilydd yn arweinwyr ac yn weithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau cyhoeddus, yn unfryd o ran peidio â goddef digartrefedd a gweithio i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le i'w alw'n gartref. Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy'n gweithio ym maes digartrefedd a gwasanaethau cymorth tai am y cymorth a'r gefnogaeth enfawr y maen nhw'n eu rhoi bob dydd. Maen nhw'n trawsnewid bywydau pobl, maen nhw'n estyn gobaith ac yn ddi-os maen nhw wedi achub llawer o fywydau drwy gydol y pandemig hwn. Fy mlaenoriaeth i bellach yw adeiladu ar y llwyddiant hwn, a bydd hyn yn cael ei ddwyn ymlaen mewn cydweithrediad â grŵp Seneddol Plaid Cymru yn rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Diolch yn fawr.

14:55

Diolch, Dirprwy Lywydd. I ddatgan buddiant, hoffwn i gyfeirio Aelodau a'r cyhoedd at fy nghofrestr buddiannau i fy hun.

Gweinidog, mae'r argyfwng digartrefedd cynyddol yng Nghymru yn ddinistriol ac yn ynysu llawer gormod yn ein cymdeithas. Yn 2019, cafodd 12,399 o aelwydydd eu hasesu yn ddigartref, sef cynnydd o 79.9 y cant ar 2015-16. Mae'r data diweddaraf yn dangos bod 6,935 o bobl mewn llety dros dro ar ddiwedd mis Medi 2021, ac mai plant dibynnol oedd 1,742 o'r rhain. Er fy mod i'n cydnabod eich bod chi yn gorfoleddu yn y gronfa gyllid newydd o £30 miliwn i awdurdodau lleol dros bum mlynedd o dan gynllun prydlesu'r sector rhentu preifat, y gwir amdani yw bod hyn yn dilyn pum mlynedd o rewi cyllideb y Grant Cymorth Tai, sydd wedi gwaethygu materion digartrefedd.

Yn wir, yn ei ymchwiliad i gysgu ar y stryd, canfu Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Senedd—ac roeddwn i ar hwnnw bryd hynny—fod diffyg cyllid cynaliadwy hirdymor yn rhwystr, o bosibl, i atal a mynd i'r afael â chysgu ar y stryd. Gweinidog, hoffwn i ofyn yn gyntaf a ydych chi mewn sefyllfa heddiw i ddiwygio adran 2 o'ch tabl gweithredu lefel uchel i neilltuo'r cynnydd i'r grant cymorth tai am o leiaf dair blynedd er mwyn gallu darparu sicrwydd hirdymor i ddarparwyr tai a gwasanaethau atal digartrefedd.

Rydym yn croesawu'r ffaith eich bod chi'n gweithredu bellach ar alwadau'r Ceidwadwyr Cymreig am fodel Tai yn Gyntaf yng Nghymru, sy'n gweithio drwy roi tai diogel a glân i bobl ar unwaith, ni waeth beth fo'u hanghenion, a rhoi cymorth cofleidiol iddyn nhw. Er hynny, mae tai boddhaol yn cael eu disodli fwyfwy gan arosiadau dros dro mewn sefydliadau gwely a brecwast ac ystafelloedd gwesty—a lleoli preswylwyr sy'n agored i niwed mewn ystafelloedd mewn gwestai, gan breswylio yno wrth i deuluoedd eraill fod yn ymwelwyr. Yn ogystal â bod yn gwbl anaddas ar gyfer lles y rhai digartref, mae'n anghynaliadwy i bwrs y wlad hefyd. Mae gen i etholwyr yn fy etholaeth i yn Aberconwy sydd wedi bod mewn llety dros dro ers 18 mis; nid wyf i'n gwybod sut y gall unrhyw un ddisgrifio hwnnw yn un dros dro.

Mewn atebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a gafwyd gan fy swyddfa i yn y flwyddyn 2021, gwariodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr £1,266,253 ar lety gwely a brecwast. Dywed Rhondda Cynon Taf eu bod nhw wedi gwario £0.5 miliwn ar lety o'r fath. Mewn cyferbyniad, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod modelau tai yn gyntaf ar gyfer unigolion digartref ag anghenion cymhleth wedi dychwelyd £3.60 am bob £1 a wariwyd, a bod pob £1 a gaiff ei buddsoddi mewn symud pobl allan o ddigartrefedd yn creu £2.80 mewn budd-daliadau. Felly, mae hwn yn benderfyniad amlwg.

Felly, Gweinidog, a wnewch chi egluro pa drafodaethau diweddar yr ydych chi wedi eu cael gyda chymdeithasau tai ac awdurdodau lleol o dan y rhwydwaith tai yn gyntaf i bennu dangosyddion newydd a allai nodi eiddo addas y gellid ei ddefnyddio i ddarparu tai?

Rydym ni'n gwybod bod tua 67,000 o bobl yng Nghymru ar restr aros am dai cymdeithasol am hyd at 18 mis, sy'n cyfateb yn fras i ryw 20,000 o aelwydydd. Mae'r ystadegau hyn yn tanlinellu y gallai'r argyfwng digartrefedd barhau i waethygu os na chymerir camau nawr. Ac eto, hoffwn i erfyn arnoch chi yn Weinidog cyfrifol am gymryd camau brys i helpu i sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto ar gyfer pobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Mae'r cynlluniau yr ydych chi'n rhoi lle blaenllaw iddyn nhw heddiw, y cymhelliant o £25,000 i landlordiaid ddychwelyd eu heiddo, sydd wedi bod ar gael, ond faint o awdurdodau lleol—? Gweinidog, a wnewch chi ddweud wrthym ni heddiw faint o awdurdodau lleol sydd wedi defnyddio hwn? Yn ôl yr atebion Rhyddid Gwybodaeth y cyfeiriais atyn nhw'n gynharach, yn 2020, dim ond dau fenthyciad cartrefi gwag Troi Tai'n Gartrefi a roddodd Cyngor Caerdydd, a dim ond un a roddodd Cyngor Dinas Casnewydd er cywilydd.

Gweinidog, gan fod eich datganiad yn dweud eich bod chi'n dymuno cryfhau'r berthynas rhwng awdurdodau lleol a'r sector preifat, a wnewch chi ymrwymo i gynnal trafodaethau pellach gydag awdurdodau lleol i adolygu sut i gynyddu proffil a chyfradd y ceisiadau llwyddiannus o ran y cynllun benthyciadau cartrefi gwag?

Hoffwn i gloi drwy egluro fy uchelgais i o ran penodi comisiynydd digartrefedd ar gyfer Gymru. Yn ddelfrydol, dylai fod yn rhywun sydd â llawer iawn o brofiad yn y maes hwn. Gan nodi bod Bwrdd Cynghori Cenedlaethol Cymorth Tai wedi ei sefydlu, byddwn i'n rhagweld y byddai'r comisiynydd hwn yn arwain cyngor o'r fath er mwyn helpu i gydlynu a chyflawni'r gwaith o fonitro canlyniadau a'r strategaeth. Wrth i gamau gweithredu 13 a 14 y cynllun fynd rhagddyn nhw, Gweinidog—

15:00

A wnewch chi ymrwymo i gyfarfod â mi i ffwrdd o'r Siambr er mwyn i ni gael trafod y cynnig hwn am gomisiynydd yn fanylach, gan sicrhau bod gweithredu polisi yn adlewyrchu'r flaenoriaeth angenrheidiol i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol digartrefedd unwaith ac am byth? Diolch.

Wel, fel arfer, mae Janet Finch-Saunders wedi darllen cyfres o ystadegau, heb lawer o ystyriaeth, yr oeddwn i wedi nodi llawer ohonyn nhw yn fy natganiad i fy hun, ac wedi gwneud—wel, wn i ddim yn iawn beth oedd hi'n ei wneud. Mae hi'n galw arnaf i weithredu ar unwaith—rwy'n lansio'r cynllun gweithredu heddiw, felly rwy'n credu bod hynny yn ymateb mor uniongyrchol ag y gallech ei gael i alwad am weithredu. Felly, dyma lansiad y cynllun gweithredu. Efallai, Janet, pe byddech chi'n gwrando ar yr hyn yr oeddwn i'n ei ddweud yn hytrach na rhagfarnu'r hyn yr oeddech chi am ei ddweud, byddech chi'n gwybod hynny.

Fe wnaethoch chi ddweud rhywbeth hefyd am rewi'r grant cymorth tai. Mae'n rhaid eich bod chi wedi drysu rhwng gwahanol grantiau yn hynny o beth, rwy'n credu. Nid ydym ni wedi gwneud unrhyw beth o'r fath. Nid ydym ni wedi gallu rhoi setliadau amlflwydd ychwaith, sef yr hyn rwy'n credu yr oeddech chi'n galw amdano, oherwydd, yn syml, tan yr adolygiad cynhwysfawr presennol o wariant, dim ond ein cyllidebau blynyddol ni ein hunain yr ydym ni wedi eu cael. Gan fod gennym ni ddatganiad amlflwydd erbyn hyn, mae'n debyg iawn y gwelwch chi ymrwymiadau cyllideb ddrafft yn cael eu cyflwyno i gyllid amlflwydd, er na fyddaf i'n dweud dim am yr hyn y bydd y gyllideb ddrafft yn ei ddweud—bydd yn rhaid i'r Aelodau aros i fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, wneud y cyhoeddiadau hynny.

Mae'r hyn yr ydym ni'n ei gyhoeddi heddiw yn newid radical yn ein ffordd o fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru. Gadewch i ni fod yn glir: mae gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau digartrefedd ledled Cymru, gan gynnwys holl gyfranogiad y sector cyhoeddus, hanes eithriadol o dda. Mae'r hyn yr ydym ni wedi llwyddo i'w wneud yn ystod y pandemig yn rhyfeddol, a hynny'n cywilyddio'r Llywodraeth Geidwadol dros ein ffin, lle mae gennych chi nifer enfawr o bobl yn cysgu ar y stryd, oherwydd eu bod nhw wedi atal y polisi i gael pawb i mewn yr haf diwethaf, er mawr gywilydd. Felly, rydym ni wedi llwyddo i wneud hynny. Oes, mae yna lawer iawn o bobl mewn llety dros dro, oherwydd fel arall cysgu ar y stryd fydden nhw, fel rydych chi'n ei weld drwy'r amser yn Lloegr. Felly, peth da fyddai i chi edrych tuag at eich Llywodraeth Geidwadol chi yn y fan honno am rywfaint o dosturi.

Fe wnaethoch chi sôn hefyd am achosion sylfaenol digartrefedd, ac un ohonyn nhw yw tlodi. Nid oes angen i mi eich atgoffa chi eto am yr £20 sydd wedi ei dynnu'r o'r credyd cynhwysol, am rewi'r lwfans tai lleol, am y lluosydd gwarthus i bobl sy'n gweithio ac ar gredyd cynhwysol. Felly, Janet, nid wyf i am ddysgu unrhyw wersi o gwbl gennych chi am dosturi nac am roi terfyn ar ddigartrefedd, gan nad yw eich Llywodraeth chi dros y ffin, yr ydych chi'n ei chefnogi ac nad ydych chi byth yn ei beirniadu, wedi gwneud unrhyw beth o'r fath. Yma yng Nghymru rydym ni wedi gwneud rhywbeth radical. Rydym ni wedi gwneud hynny ar y cyd â'n grŵp gweithredu ar ddigartrefedd, sy'n cynnwys arbenigwyr o bob rhan o'r sector. Rydym ni wedi cael canmoliaeth gan grŵp amrywiol o bobl, gan gynnwys Arglwydd Deben, sy'n gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, am ein camau gweithredu ar ddigartrefedd a thlodi, a byddai hi'n dda o beth i chi ddysgu rhai gwersi o hynny, a pheidio â meddwl—nid wyf i'n gwybod yn iawn beth yr oeddech chi'n ei awgrymu ar y diwedd. Rwyf i bob amser yn hapus i gyfarfod â chi y tu allan i'r Siambr, Janet, ond a dweud y gwir, byddai hi'n dda o beth i chi fwrw golwg ar yr hyn y mae'r cynllun gweithredu yn ei ddweud mewn gwirionedd cyn i ni gyfarfod fel hynny.

15:05

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Prynhawn da a diolch, Gweinidog, am y datganiad. Dirprwy Lywydd, mae o'n drist dweud, ond mae'r ystadegau digartrefedd diweddaraf yma yng Nghymru yn peintio darlun trist, a hynny yn rhannol oherwydd polisïau ciaidd Boris Johnson a'i Lywodraeth ddiegwyddor yn San Steffan. Symudwyd, er enghraifft, bron i 1,400 o bobl ddigartref mewn i lety dros dro yn ystod mis Medi, a oedd yn gynnydd o 176 ar fis Awst, gan ddod â'r cyfanswm mewn llety dros dro, fel rydyn ni wedi clywed, i oddeutu 7,000 o bobl. Roedd bron i 280 ohonyn nhw'n blant dibynnol o dan 16 oed, gan ddod â'r cyfanswm o blant dibynnol mewn llety dros dro i 1,700. Serch hynny, symudwyd llai na 500 o bobl ddigartref i lety hirdymor addas, 52 yn llai nag ym mis Awst, ac o'r unigolion a gafodd llety hirdymor addas, roedd 152 yn blant dibynnol o dan 16 oed, gostyngiad o 19 o fis Awst.

Dyna'r darlun o ddigartrefedd yng Nghymru heddiw, a dydy o ddim yn un hardd. Ond, mae yna resymau am hynny, fel rydyn ni wedi'i glywed. Dwi'n siŵr y buasech chi'n cytuno na all un gymdeithas honni i fod yn gymdeithas wâr a theg tra bod pobl yn methu cael to uwch eu pennau. Y newyddion da ydy, serch hynny, rhwng dechrau'r pandemig a diwedd Medi eleni, cafodd dros 15,000 o bobl a oedd gynt yn ddigartref gymorth i lety dros dro brys. Mae'n rhaid yma heddiw llongyfarch y gweithwyr diwyd hynny yn ein hawdurdodau lleol a'r elusennau cymorth yna sydd wedi gweithio yn ddiflino i gartrefi'r bobl yma. Ond mae hyn yn dangos graddfa'r broblem. Dwi'n siŵr bod pawb yma yn rhannu'r uchelgais o ddirwyn digartrefedd i ben, ond os ydyn ni o ddifri am wireddu hyn, yna mae'n rhaid gweld gweithredu radical, gweithredu effeithiol er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau. Rydyn ni bellach wedi clywed droeon am y model Ffinnaidd, ac am Housing First, ond rŵan mae'n amser i ddarfod â thrafod theori ac amser gweithredu. Wedi'r cyfan, dewis gwleidyddol ydy digartrefedd, a dewis gwleidyddol ydy ei ddileu.

Mae'r ymrwymiadau a amlinellir yn y cytundeb cydweithredu rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn uchelgeisiol a phellgyrhaeddol. Mae'r cytundeb yn nodi y dylai digartrefedd fod am gyfnod byr, yn brin ac heb ei ailadrodd. Byddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd i ddiwygio cyfraith tai, gweithredu'r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 er mwyn rhoi diogelwch i rentwyr, a gweithredu argymhellion y grŵp gweithredu digartrefedd. Dwi'n edrych ymlaen i gydweithio yn y meysydd yma efo chi, Weinidog, er lles pobl Cymru. 

Felly, Llywydd, yn yr ysbryd yna o gydweithio a thrafod i ganfod atebion, hoffwn i'r Gweinidog ateb rhai cwestiynau ynghylch pryderon penodol o ran digartrefedd yma yng Nghymru heddiw, a'r cynllun i roi terfyn ar ddigartrefedd. Mae cysgu ar y stryd ymhlith y dangosyddion mwyaf eithafol ac amlwg o ddigartrefedd, sydd ei hun yn ddangosydd o'r argyfwng tai yn ehangach. Dyma'r math mwyaf peryglus o ddigartrefedd. Er bod y pandemig wedi dangos fod posib gweithredu yn wahanol mewn amser byr iawn, mae yna lawer iawn mwy i'w wneud, gyda'r data diweddaraf yn dangos cynnydd mewn pobl sy'n cysgu ar y stryd yma yng Nghymru. Pa sicrwydd, Gweinidog, allwch chi roi i ni y bydd y mater o gysgu ar y stryd yn cael ei wneud yn beth sy'n perthyn i'r gorffennol, a hynny ar frys? Hefyd, a all y Gweinidog amlinellu pa gymorth penodol y bydd y Llywodraeth yn ei gynnig i bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru? Gall cymorth o'r fath gynnwys adnabod pawb sy'n cysgu ar y stryd yn sydyn, a'u helpu am gyhyd ac mae'n ei gymryd er mwyn dod o hyd i gartref, gan gynorthwyo gyda blaendaliadau i'w helpu i gael tai diogel ac addas, yn hytrach nag ateb dros dro. Mae angen ymgorffori dull tai yn gyntaf ledled Cymru. 

Mae adroddiadau'r grŵp gweithredu digartrefedd yn nodi bod gwasanaethau cyhoeddus y tu hwnt i'r adrannau tai yn aml yn dod i gysylltiad â phobl sydd mewn perygl o ddigartrefedd, a hynny yn gynnar cyn i'r gwasanaethau tai a digartrefedd ddod ar eu traws nhw. Rhaid edrych felly yn agosach i lygad y ffynnon, upstream, er mwyn adnabod pobl ynghynt, megis ymyriadau a wnaed yn y sector iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a chyfiawnder troseddol, er enghraifft. Weinidog, pa waith penodol sydd ar y gweill i gryfhau eich gwaith ataliol i fynd i'r afael â digartrefedd yn hyn o beth, fyny yn agosach i lygad y ffynnon, fel petai? 

A hoffwn orffen drwy sôn am gyflwyno cynllun prydlesu Cymru yn genedlaethol—rydych chi wedi sôn amdano eisoes, wrth gwrs. Fe sonioch y bydd perchnogion eiddo yn cael eu hannog i brydlesu eu heiddo i awdurdodau lleol yn gyfnewid am warant rhent a chyllid ychwanegol i wella cyflwr yr eiddo. Dwi am wybod mwy am hyn a sut y gall hyn weithio yn ymarferol, os gwelwch yn dda. Pwy fydd yn annog y perchnogion eiddo i gymryd rhan, a sut fydd hynna'n digwydd? Faint o arian ychwanegol fydd yn cael ei ddyrannu er mwyn gwella cyflwr y tai? A fydd yr arian ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol i redeg y cynllun yma? A pa wersi ddaeth o'r cynllun peilot ddaru chi sôn amdano, a sut fydd y gwersi hyn yn llywio eich dull gweithredu yn edrych ymlaen? Diolch yn fawr iawn. 

15:10

Diolch, Mabon. Rwy'n cytuno yn llwyr â chraidd y neges yn eich cyfraniad chi. Cysgu ar y stryd yw'r pla mwyaf, y math o ddigartrefedd sy'n weladwy ac yn fwyaf arswydus, ond mae llawer o fathau eraill o ddigartrefedd, ac os yw'r pandemig wedi amlygu unrhyw beth i ni, mae wedi amlygu i ni faint o hynny sy'n digwydd ledled Cymru. Mewn hap-gyfrifiadau blaenorol o nifer y bobl a oedd yn cysgu ar y stryd, roeddem ni'n gwybod eu bod yn tangyfrif nifer y bobl. Roeddem ni'n gwybod yn arbennig nad oedd menywod yn cael eu darganfod. Fel arfer, mae menywod yn cysgu yn y dydd ac yn aros ar ddi-hun drwy'r nos er diogelwch, ac ati, os ydyn nhw'n cysgu ar y stryd. Felly, roeddem ni'n gwybod ei fod yn tangyfrif, ond nid oedd gennym ni'r un syniad i ba raddau oedd hynny, a'r hyn a wnaeth y pandemig oedd dangos y graddau gwirioneddol hynny.

Mae'r system yng Nghymru wedi ymateb i hynny mewn ffordd ragorol. Pe byddech chi wedi dweud wrthyf cyn y pandemig y gallem ni gartrefu nifer y bobl y gwnaethom ni eu cartrefu, dros dro neu fel arall, ledled Cymru, byddwn i wedi credu y byddai'n amhosibl. Yn ffodus, bryd hynny, roeddem ni wedi comisiynu'r grŵp gweithredu ar ddigartrefedd i weithio gyda ni, ac roedden nhw, ychydig wythnosau cyn i'r pandemig daro, wedi rhoi'r cyntaf o'u cynlluniau gweithredu i ni, ac roedden nhw'n rhagweld, fel ninnau, y byddai'n cymryd tair i bum mlynedd i ni roi'r pethau hynny ar waith. Fe wnaethom eu rhoi ar waith mewn 16 wythnos oherwydd bod pawb yng Nghymru mor anhygoel. Rwy'n rhyfeddu at y ffordd y gwnaethon nhw weithio. Ond, wrth gwrs, dim ond llety dros dro oedd hwnnw i'r rhan fwyaf ohonyn nhw. Roedd rhai ohonyn nhw'n ddigon ffodus i gael llety parhaol, ond llety dros dro a gafodd y rhan fwyaf o bobl.

Ac yna, yr hyn yr ydych chi'n sôn amdano yw'r corddi yr ydym ni wedi ei weld byth oddi ar hynny. Felly, wrth i'r awdurdodau lleol symud 500 neu 600 o bobl allan bob mis i'w cartref parhaol, mae 1,000 arall yn dod i'r amlwg ledled Cymru, felly mae'r hyn sydd gennym ni fel dŵr yn rhedeg o dap. Felly, yn amlwg, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw ceisio rhoi'r mesurau ataliol ar waith ar gam cynharach. Ond fe wnaethoch chi nodi yn eich sylwadau am Lywodraeth Boris Johnson, un o'r prif broblemau sydd gennym ni, oherwydd un o achosion hyn yw tlodi a straen dyled. Felly, mae gennym ni berthynas rhwng teuluoedd yn chwalu—gwaethygodd hynny oherwydd y pandemig—felly bydd yn rhaid i ni roi llawer o arian—a dyna yw ein bwriad—i gynorthwyo teuluoedd i aros gyda'i gilydd, ac mae llawer o bethau ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus i wneud hynny, yr holl wasanaethau plant a theuluoedd a'r gwasanaethau cymdeithasol ac yn y blaen. Rydym ni wedi rhoi cynnig cyngor penodol ar ddyledion ac incwm i helpu pobl i wneud yn fawr o'u hincwm, ac mae llawer iawn o gynlluniau—. Bydd y Dirprwy Lywydd yn ddiamynedd iawn gyda mi os byddaf i'n dechrau eu rhestru nhw yn fy ateb i chi, ond mae yna llawer iawn o gynlluniau ar waith, a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yw hyfforddi pobl i allu cael gafael ar gyfer y teuluoedd.

Mae gan bobl broblemau penodol iawn o ran iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau wrth iddyn nhw fynd yn ddigartref, nid ar y dechrau o reidrwydd, ond maen nhw'n syrthio i batrwm, ac yn arbennig mae yna lwybr i bobl yn y system carchardai, felly rydym ni wedi bod yn cynnal cynllun treialu llwyddiannus gyda charchar Caerdydd, lle'r oeddem ni'n targedu pobl a oedd i bob pwrpas yn dod yn ôl dro ar ôl tro i sicrhau bod gennym ni lwybr at dai parhaol ar eu cyfer. Ac fe wnes i gyfarfod â dyn ifanc ysbrydoledig iawn ddoe o'r enw Jonathan yn etholaeth Mike Hedges, a oedd wedi bod â'r math hwnnw o fywyd anhrefnus ofnadwy ac sydd erbyn hyn yn ddyn ysbrydoledig oherwydd ei fod wedi cael ei gartref parhaol, a chael y gefnogaeth o'i gwmpas ac mae'n sefyll ar ei draed ei hun. Mae ef yn brawf, os oedd angen hynny arnom, nad yw hyn yn ymwneud â'r unigolyn. Mae hyn yn ymwneud â'u cychwyn ofnadwy mewn bywyd a throeon gwael wedi hynny, yn llai ffodus na chi a minnau, efallai. Felly, fe wnaeth hynny fi hyd yn oed yn fwy penderfynol o sicrhau bod pobl yn cael ail gyfle fel hyn i roi eu bywyd yn ôl ar y trywydd iawn.

Felly, mae angen dull gweithredu tai yn gyntaf arnom ni, ond dim ond rhan o ddull ailgartrefu cyflym yw hynny. Cyfres benodol iawn yw tai yn gyntaf o bethau yr ydym ni'n eu gwneud ar gyfer pobl sydd â llawer o ofynion cymorth, ond gellir defnyddio dull ailgartrefu cyflym ar gyfer pobl nad ydyn nhw felly mewn gwirionedd ond sydd wedi colli eu cartref. Nid oes angen y cymorth cofleidiol cyfan arnyn nhw o reidrwydd. Ond yr ailgartrefu cyflym hwnnw yw'r peth hanfodol. Ni fydd gennym ni'r lle haeddiannol ar ysgol mwyach, lle'r ydych chi'n cael gwobr ac yna'n syrthio'n ôl ac ati. Nid wyf i'n deall sut y daeth unrhyw un erioed i gredu y byddai rhywbeth o'r fath yn gweithio. Mae'n amlwg nad yw'n gweithio, ac felly rydym ni am symud i ffwrdd oddi wrth hynny.

Y cynllun lesio yr ydym ni'n ei gyhoeddi yw ein hymgais ni i wneud yn sicr ein bod yn sicrhau bod y nifer mwyaf posibl o dai ar gael, ac rydym ni'n pryderu'n arbennig am y sector rhentu preifat a'r gofynion iddyn nhw sicrhau bod eu heiddo yn cyrraedd y safon gan Lywodraeth y DU—felly, tystysgrif perfformiad ynni E ar hyn o bryd, ar fin mynd yn dystysgrif perfformiad ynni C—a'n pryder ni yw na fydd y sector rhentu preifat yn gallu ateb y gofyniad hwnnw ac y byddan nhw'n tynnu eu heiddo yn ôl o'r sector rhentu preifat. Felly, mae'r cynllun hwn yn ffordd o warantu incwm iddyn nhw a rhoi grant iddyn nhw i sicrhau bod eu heiddo yn aros yn y sector rhentu preifat ac yn rhoi gwell sicrwydd o ddeiliadaeth a chymorth i'r tenantiaid yno. Felly, dyna ei nod uniongyrchol, er y byddem ni'n croesawu unrhyw landlord a oedd yn dymuno bod yn rhan o'r cynllun. Felly, mae'n ymwneud â—. Mae'n cynnwys elfen o newid hinsawdd, os hoffech chi, oherwydd ei fod yn gwella'r eiddo hynny, yn rhoi gwell inswleiddiad, mae'n gymorth rhag tlodi tanwydd ac mae'n rhoi sicrwydd deiliadaeth i bobl. Ac felly bydd y swm o arian sydd ar gael yn amrywio gan ddibynnu ar y math o eiddo a'i gyflwr a'r angen i'w wella, ond yr amcan yw cynyddu nifer y tai sydd ar gael i ni er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn cael cartrefi parhaol fel hyn.

15:15

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Mae ein pwyllgor ni wedi cytuno mai craffu ar bolisïau a chamau gweithredu i roi terfyn ar ddigartrefedd yw un o'n prif flaenoriaethau ni yn ystod tymor  y Senedd hwn. Yn wir, croesawodd y pwyllgor blaenorol, yr oeddwn i'n ei gadeirio hefyd, y camau a gafodd eu cymryd ar ddechrau'r pandemig i roi llety dros dro i bobl a oedd yn cysgu ar y stryd a phobl ddigartref eraill. Ers hynny, mae llawer iawn o bobl sy'n ddigartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref wedi bod yn cyflwyno'u hunain i'r awdurdodau lleol bob mis ac wedi cael llety dros dro. Mae nifer sylweddol o'r bobl hynny hefyd yn cael lle mewn llety parhaol hirdymor. Felly, mae llawer o waith da wedi ei wneud ac yn cael ei wneud, ond wrth gwrs mae hi'n hanfodol nad yw'r cynnydd a fu drwy gydol y pandemig yn cael ei golli, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn ymwybodol iawn o hynny. Rydym ni'n gweld nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn cynyddu eisoes, sy'n peri gofid mawr.

Yr wythnos hon, bydd ein pwyllgor yn clywed gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynglŷn â'i adroddiad, 'Adolygiad Digartrefedd: drws agored i newid cadarnhaol'. Rwy'n siŵr, yn dilyn y sesiwn honno, ac yn wir, datganiad y Gweinidog a'r drafodaeth hon heddiw, y bydd ein pwyllgor yn penderfynu ar ei gamau nesaf o ran parhau â'n gwaith craffu. Felly, mae datganiad y Gweinidog heddiw yn amserol iawn yn ein golwg ni, ac wrth gwrs mae'n amserol iawn o ran y bygythiad i bobl ddigartref yng Nghymru, o gofio ein bod ni wedi gweld y tymheredd yn gostwng yn sydyn a thywydd mawr. Dros yr wythnos ddiwethaf, rwy'n credu bod hynny wedi gwneud i bobl feddwl yn fwy byth am yr hyn y gellir ei wneud i helpu pobl sy'n wynebu'r sefyllfa enbyd honno o gysgu ar y strydoedd. Yn amlwg, mae gwir angen symud ar frys os ydym ni am sefydlu mannau diogel i bobl fyw oddi ar y strydoedd y gaeaf hwn.

Felly, hoffwn i ofyn i'r Gweinidog pa gamau penodol y byddwn ni'n eu cymryd y gaeaf hwn yng ngoleuni'r amgylchiadau presennol—y cynnydd a wnaed, ond yr heriau parhaus—i helpu pobl a'u hatal nhw rhag bod yn cysgu ar y stryd a'u helpu nhw oddi ar y strydoedd. Hefyd, mae'r cynllun gweithredu yn nodi'r angen am ddiwygio deddfwriaethol eang, a tybed a allai'r Gweinidog roi amcan o ba bryd y mae hi'n gobeithio y gallai'r ddeddfwriaeth hon gael ei chyflwyno gerbron y Senedd. Diolch yn fawr.

15:20

Diolch, John. Rwy'n croesawu ymgysylltiad y pwyllgor yn fawr iawn yn hyn o beth, ac rwy'n edrych ymlaen at drafod yr adroddiad archwilio cyhoeddus gyda chi, ac, yn wir, mae'r darpar gomisiynydd wedi llunio adroddiad tai yn ddiweddar hefyd, ac rwy'n gwybod y bydd y pwyllgor yn ymwybodol o hyn. Rwy'n edrych ymlaen at drafod hynny gyda'r pwyllgor yn fy sesiwn dystiolaeth nesaf.

O ran y manylion penodol, y gefnogaeth i bobl sy'n cysgu ar y stryd—dylwn i fod wedi dweud hyn wrth ymateb i Mabon hefyd—mae gennym ni weithwyr allgymorth sy'n mynd at bob unigolyn nad yw wedi dod i geisio gwasanaethau i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwybod pwy ydyn nhw a bod rhywun yn cysylltu â nhw. Nid yw hi mor syml â dod o hyd i le i fyw yn unig iddyn nhw—ac rwy'n gwybod bod y pwyllgor ac Aelodau eraill yn gwybod hynny—mae gan lawer o'r bobl hyn sy'n cysgu ar y stryd anghenion cymhleth iawn ac maen nhw'n amheus iawn o'r gwasanaethau cyhoeddus ac yn y blaen. Felly, mae angen i'r gweithwyr allgymorth, sy'n bobl ryfeddol, ennill ymddiriedaeth yr unigolion hynny a'u darbwyllo yn raddol i dderbyn gwasanaethau a lle i aros wedyn, yn y pen draw. Mae dyletswydd ar yr awdurdodau lleol i ddarparu llety i bawb. Gadewch i mi nodi nad ydym ni—. Nid yw'r awdurdodau lleol dan unrhyw gyfarwyddyd i gadw pobl ar y strydoedd nac unrhyw beth tebyg. Nid ydym ni'n derbyn llochesau nos; nid oes angen y math hwnnw o ddarpariaeth. Gellir rhoi gwasanaethau cymorth i bobl sydd â gwely ac ystafell; nid oes unrhyw angen o gwbl am y mathau o lochesau nos yr oeddem ni'n arfer eu gweld. Ond mae gan rai pobl anghenion cymhleth ac ni fyddan nhw'n gallu goddef bod dan do, felly rydym ni'n gweithio'n galed iawn gyda'r gweithwyr allgymorth i sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth y gallan nhw ei dderbyn o ystyried eu hamgylchiadau a bod y darbwyllo yn parhau i sicrhau bod pobl yn dod i mewn, yn enwedig pan fydd y tywydd yn oer ofnadwy.

Mae hi'n drist gweld nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn cynyddu rhywfaint, ond mae gennym ni'r gweithwyr allgymorth hyn yn mynd atyn nhw ac rydym ni'n awyddus iawn i'w cael nhw i mewn ac yn cael gafael ar wasanaethau cyn gynted â phosibl. Ac un o'r pethau calonogol ynglŷn â'r pandemig oedd y bobl y gwnaethoch chi gyfarfod â nhw a oedd yn amheus iawn, ond a ddaeth i mewn yn ystod y pandemig a chael gafael ar wasanaethau am y tro cyntaf ac sydd ar lwybr adferiad erbyn hyn, sy'n wirioneddol wych.

O ran y baich deddfwriaethol, byddwn ni'n cyflwyno Papur Gwyn tua diwedd y flwyddyn nesaf, neu ddechrau'r flwyddyn wedyn, i nodi'r fframwaith deddfwriaethol sydd ei angen arnom ni, ond bydd y pwyllgor yn ymwybodol ohono—mae angen i ni ddiwygio'r Ddeddf tai ac mae angen i ni wneud pethau i ymdrin ag angen blaenoriaethol a bwriadoldeb a'r holl bethau y bydd y pwyllgor yn gyfarwydd â nhw ar gyfer dileu'r rhwystrau hynny at dai a gosod dyletswyddau deddfwriaethol ar yr awdurdod lleol i roi tai parhaol i bobl. Felly, bydd Papur Gwyn yr wyf i'n edrych ymlaen at ei drafod gyda'r pwyllgor maes o law.

Diolch, Gweinidog, am ddod â'r datganiad heddiw i'r fan hon yn y Siambr heddiw. Yn sicr, rwyf i'n sicr yn croesawu'r cymhellion y tu ôl i'r cynllun gweithredu—mae'r awydd i fynd i'r afael â digartrefedd cyn gynted â phosibl yn sicr yn rhywbeth yr wyf i'n siŵr y byddem ni i gyd yn awyddus i'w gefnogi. Yn benodol, roeddwn i'n falch o glywed sôn o fewn y camau a nodwyd yn y datganiad am y cyfle i fod â'r tenantiaethau hirach hynny, yn enwedig, fel y gwnaethoch chi sôn, gyda landlordiaid y sector preifat y gellid gweithio yn agosach gyda nhw, a fyddai mewn gwirionedd yn cefnogi'r landlordiaid a'r rhai y mae angen y lleoedd hynny arnyn nhw.

Hoffwn i ganolbwyntio yn fyr ar ran o'ch datganiad chi, ac rwy'n dyfynnu, gan ddweud:

'Nid mater o dai yn unig yw hwn. Mae'r cyfrifoldeb dros roi terfyn ar ddigartrefedd yn ymestyn y tu hwnt i'r timau a'r adrannau pwrpasol ar gyfer digartrefedd a thai. Mae'n rhaid i hyn fod wedi ei seilio ar ymateb gan y gwasanaethau cyhoeddus i gyd ac felly y bydd hi.'

Ac rydych chi'n mynd ymlaen i ddweud:

'Mae hyn yn gwneud rhoi terfyn ar ddigartrefedd yn flaenoriaeth draws-sector, draws-Lywodraeth sy'n berthnasol i iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg'—

ac yn y blaen, ac yn y blaen. Ac rwy'n cytuno â hynny yn llwyr. Felly, gyda hynny mewn golwg, Gweinidog, o'r 16 o gamau gweithredu lefel uchel yn y cynllun gweithredu, pa rai o'r rhain, yn eich barn chi, a fydd yn gwneud y gwaith gorau o ran sicrhau na fydd y meysydd eraill o gyfrifoldeb, o wasanaeth cyhoeddus, yn dirywio'r sefyllfa ymhellach o ran rhai o'r materion yr ydym ni'n eu gweld ynglŷn â digartrefedd?

15:25

Ie, mae'n llinyn, onid yw, sy'n rhedeg drwy'r cynllun gweithredu. Felly, yn y rhagymadrodd, rydym ni'n siarad—. Nid fy nghynllun gweithredu i yw'r cynllun gweithredu; cynllun y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd yw hwn a gafodd ei gyflwyno i ni, ond rydym ni'n hapus iawn i'w dderbyn ac rwyf i o'r farn ei fod yn gynllun gweithredu ardderchog. Ond, i ni, y llinyn aur sy'n rhedeg drwyddo yw bod yn rhaid diwallu anghenion pob unigolyn. Felly, hyd nes y byddwch chi'n gweld yr unigolyn hwnnw o'ch blaen chi, nid ydych chi'n gwybod beth yw'r anghenion hynny.

Nawr, i rywun sydd wedi mynd yn ddigartref yn ddiweddar, mae'n debyg mai cartref parhaol arall yw ei angen pennaf. Ond mae rhai pobl ymhell iawn oddi wrth hynny—mae angen cymorth arnyn nhw gyda chymorth incwm; mae angen cymorth arnyn nhw hefyd gyda materion iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau; mae angen cymorth arnyn nhw i allu rheoli eu bywydau er mwyn gallu cynnal tenantiaeth, a gallu talu eu biliau, deall eu rhent a'r cwbl i gyd. Felly, ceir ystod enfawr o bethau sydd eu hangen arnoch chi.

Fel roeddwn i'n dweud wrth ymateb i Mabon, bydd Tai yn Gyntaf, er enghraifft, yn rhan o hynny, ond bydd hynny ar gyfer pobl â llawer iawn o anghenion sydd ymhell iawn o allu bod yn hunan-gynhaliol; i eraill, dim ond mater o allu cael gafael ar denantiaeth arall sy'n addas a diogel ydyw. Felly, mae'n debyg ei bod hi'n anodd dweud, 'Ar gam 5 mae angen—'. Mae'n llinyn sy'n rhedeg trwy'r cyfan y bydd pob cam yn briodol i'r unigolyn sydd o'ch blaen chi a'ch bod chi'n diwallu anghenion yr unigolyn hwnnw—neu'r teulu hwnnw, yn eithaf aml. Ac efallai bydd gan y grŵp teuluol anghenion mwy cymhleth.

Yna ni allaf bwysleisio digon y rhan ataliol o'r agenda—felly, mynd yn nes i darddiad hynny, nodi pobl sydd â'r anawsterau hynny a sicrhau eu bod nhw'n cael y cymorth i aros yn eu huned deuluol, pan fo hynny'n bosibl, neu i gael cefnogaeth os yw'r uned deuluol honno yn chwalu am unrhyw reswm, fel nad ydym ni'n eu gweld nhw mewn darpariaeth ddigartrefedd o gwbl. Mae hynny yn rhan bwysig iawn o hynny.

Mae'r agenda gyfan y mae fy nghyd-Aelod Lynne Neagle yn sôn llawer amdani, o ran profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac yn y blaen—ac rwy'n gwybod y buoch chi, mewn gyrfa flaenorol, wedi ymwneud â hynny yn fawr iawn—mae'r pethau hynny yn bwysig iawn. Felly, wrth siarad â'r dyn ifanc y siaradais ag ef ddoe, roedd hi'n amlwg y gallech chi wneud astudiaeth achos o ran pa brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a achosodd i'r dyn ifanc hwn weld bore oes a oedd yn ddi-drefn iawn, ac eto mae'n amlwg ei fod yn gallu bod yn aelod sefydlog a gwerthfawr iawn o'r gymdeithas.

Felly, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw bwrw ymlaen â rhai o'r materion eraill hynny, a dyna'r hyn yr wyf yn ei olygu wrth ddweud 'Nid yw'n ymwneud â'ch tŷ yn unig.' Os yw eich sgiliau magu plant yn rhai gwael iawn, yna mae eich plentyn yn llawer mwy tebygol o fynd yn ddigartref yn y dyfodol, o'i gymharu ag os nad ydyn nhw. Felly byddai helpu'r rhieni i fagu'r plant hynny yn y lle cyntaf, er enghraifft, yn atal cryn dipyn o'r digartrefedd yr ydym ni'n ei weld.

Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog a'r cynllun gweithredu. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog bod digartrefedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i gael gafael ar gartrefi fforddiadwy a'r niferoedd sydd ar gael, ond a yw'r Gweinidog yn cytuno bod sicrhau bod cartrefi fforddiadwy ar gael yn rhan bwysig o'r ateb?

A yw Llywodraeth Cymru yn derbyn diffiniad Shelter o ddigartrefedd, sy'n ymestyn y tu hwnt i'r rhai sy'n cysgu ar y stryd i'r rhai sy'n aros gyda ffrindiau, sy'n aros mewn hostel, sy'n aros mewn llety gwely a brecwast neu loches nos, sy'n byw mewn amgylchiadau anaddas sy'n effeithio ar eu hiechyd neu'n byw ar wahân i'w teulu agos?

A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch The Wallich a sefydliadau eraill y trydydd sector yn Abertawe ar y gwaith y maen nhw'n ei wneud, a'r gefnogaeth a ddarperir gan sefydliadau fel Caffi Matt hefyd, sydd yn etholaeth Gorllewin Abertawe, y gwn fod y Gweinidog yn gwybod yn iawn amdano?

Ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, bob tro y byddwn ni'n dechrau siarad am bethau, y byddwn ni'n siarad am arian yn y pen draw. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen cyllid ychwanegol ar bopeth y mae angen ei wneud, yn enwedig o ran y grant cymorth tai a'r grant tai cymdeithasol?

Yn olaf, drwy hap a damwain y mae pob un ohonom ni yn eistedd yma ac nid ar y stryd.

Ie, diolch yn fawr iawn, Mike. Rwy'n cytuno yn llwyr bod adeiladu tai yn hanfodol yn hyn o beth, wrth gwrs, ac adeiladu tai cymdeithasol. Un o'r rhesymau y mae gennym ni darged uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi ar gyfer rhentu cymdeithasol yw hynny yn union. Yn sicr, mae'n rhaid i ni fod â'r cyflenwad i ateb y galw.

Ond, wyddoch chi, nid yw'n ymwneud â'r to a'r waliau yn unig, er y dylai'r to a'r waliau hynny fod y to a'r waliau gorau posibl y gallem ni eu darparu, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod ein tai cymdeithasol carbon isel ni yw'r goreuon yn Ewrop hefyd, felly, pan fyddwch chi'n cael eich cartref parhaol, bydd hwnnw yn gartref da iawn y byddwch chi'n falch iawn o fyw ynddo. Nid yw hyn—. Yn wir, un o'r pethau yr ydym ni'n annog ein partneriaid yn y sector preifat i'w wneud yw adeiladu hyd at safon ein tai cymdeithasol ni. Rwy'n gweld fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone yma—rwy'n gallu rhagweld y cwestiwn y bydd hi'n ei ofyn yn ei phen. Byddwn ni'n cyflwyno'r rheoliadau adeiladu i sicrhau ein bod ni'n eu gorfodi i wneud hynny y flwyddyn nesaf.

Felly, rwy'n cytuno yn llwyr â chi. Rwy'n hapus iawn i roi canmoliaeth fawr i The Wallich. Roedd y dyn ifanc yr oeddwn i'n sôn amdano, y gwnes i gyfarfod ag ef yn eich etholaeth chi ddoe, Mike, yn gweithio i The Wallich ac yn helpu gyda'r holl waith da y maen nhw'n ei wneud. Mae Caffi Matt yn cael ei redeg gan ddyn ifanc rhagorol o'r enw Tom, yn annisgwyl. Yn Eglwys Sant Mathew y mae'r caffi a'i enw yw Caffi Matt, ac mae'n ganolfan galw heibio rhagorol i unrhyw un sy'n gysylltiedig â digartrefedd neu gymorth digartrefedd. Ac mae'n cynnig bwyd rhagorol, ac os ydych chi'n gallu talu amdano, fe gewch chi wneud hynny, ac os na allwch chi dalu amdano, yna fe allwch chi ei gael am beth bynnag y gallwch chi ei fforddio neu am ddim, ac mae hwn yn wasanaeth clodwiw iawn yr ydym ni'n ceisio ei ymestyn. Mae'n enghraifft dda iawn o fan cyfeillgar a chroesawgar, ond sydd hefyd yn eich galluogi i gael gafael ar yr holl ystod o wasanaethau niferus y gallai fod eu hangen arnoch i gael eich bywyd yn ôl ar y trywydd iawn.

Felly, mae Caffi Matt yn enghraifft wych o enghreifftiau ledled Cymru lle mae llu o wasanaethau yn dod at ei gilydd, felly meddygon teulu, y nyrsys allgymorth, y bobl sy'n rhoi cymorth i'r rhai sy'n gaeth i gyffuriau ac yn camddefnyddio sylweddau, y bobl iechyd meddwl, pobl sy'n rhoi cymorth ar gyfer byw a bwyta yn iach, a chydberthynas—gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw i gyd yng Nghaffi Matt. Rwy'n teimlo fel fy mod i am ddechrau canu cân roc, er mai 'Alison's Cafe' oedd enw'r gân honno rwy'n credu. Ond ni allaf i gymeradwyo digon y model hwnnw, ac mae'n gwneud gwaith da iawn yng nghanol Abertawe.

O ran cyllid, ein grant cymorth tai ni yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf oedd yr un mwyaf hael i ni ei roi erioed, ac er gwaethaf y demtasiwn gan bob Aelod o'r Senedd i wneud hynny, nid wyf i am geisio rhagweld y gyllideb ddrafft, felly bydd yn rhaid i chi aros hyd nes y bydd fy nghyd-Aelod Rebecca Evans yn dweud mwy am y gyllideb nesaf. Ond rydym ni eisoes wedi cyrraedd y pwynt lle mae'r grant cymorth tai sydd gennym ni yr un mwyaf cefnogol a fu erioed. Ac o ran y diffiniad, ie, yn hollol, a dyna pam mae'r niferoedd wedi codi mewn modd mor syfrdanol. Nid yw hyn yn ymwneud â chysgu ar y stryd; mae hyn yn ymwneud ag unrhyw un nad oes ganddo gartref parhaol i fyw yn ddiogel ac yn iach ynddo.

15:30

Gweinidog, wrth iddi nosi'n gynt ac oeri'n ofnadwy, mae grwpiau cymunedol fel Pride in Pill yn fy ninas i, yn fy rhanbarth i sef Dwyrain De Cymru, wedi bod yn mynd allan ar y nosweithiau oer hyn gan roi dillad a bwyd i bobl yn y tymheredd rhewllyd hwn, i bobl sy'n cysgu ar y stryd. Maen nhw'n gwneud gwaith cwbl wych ac nid ydyn nhw byth yn colli noson allan oherwydd yr oerfel; yn wir, mae'n eu gwneud nhw'n fwy penderfynol i fynd allan. Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'r grŵp hwn ac eraill yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru am bopeth y maen nhw'n ei wneud wrth estyn cymorth i'r rhai sy'n cysgu ar y stryd. Pan oeddwn i fy hunan allan gyda nhw, nid oeddwn i erioed wedi gweld cymaint o bobl yng nghanol Casnewydd, Gweinidog. Roedd hynny'n ofidus iawn, ac roedd gan y bobl hyn gartrefi yn ystod y pandemig ac maen nhw yn ôl ar y stryd erbyn hyn.

Felly, rwy'n meddwl tybed pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd ar frys i helpu'r bobl arbennig hynny y gaeaf hwn, fel nad oes rhaid iddyn nhw ddioddef mwy o nosweithiau oer. Prif Weinidog—. Gweinidog, mae'n ddrwg gen i—rwyf i wedi achub y blaen yn hynny. [Chwerthin.] Gweinidog, rydym ni'n croesawu'r cynigion yr ydych chi wedi eu cyflwyno heddiw, fel y dywedodd fy nghyd-Aelodau. Rydym ni'n croesawu unrhyw beth a fydd yn mynd i'r afael â digartrefedd, yn enwedig yr ymateb ôl-bandemig hwn yr ydych chi wedi ei wneud. Mae gennym ni i gyd yr un amcan ac mae'n dda eich bod chi wedi cydnabod bod angen i hon fod yn flaenoriaeth draws-sector, draws-Lywodraeth.

Mae'r cynigion yr ydych chi wedi eu cyflwyno yn gofyn am newid aruthrol a chymhellion galw oherwydd i'ch Llywodraeth chi fethu—

—yn llwyr â mynd i'r afael â digartrefedd dros y ddau ddegawd diwethaf. Felly, yn eich cynigion, a ydych chi o'r farn bod digon o gymhellion yno i sicrhau'r cyflymder priodol i'r newid hwn?

Ac o ran cefnogi pobl—fy nghwestiwn olaf—i fyw mewn llety dros dro, mae canllawiau Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i awdurdodau lleol ddiddymu eu dyletswydd gofal o ran eu cartrefu oherwydd y troseddau mwyaf mân, fel methu â chadw apwyntiad i ymweld ag eiddo er nad oedd bai arnyn nhw—bws heb gyrraedd neu broblemau gofal plant. Er mai digwyddiadau neilltuol a phrin yw'r rhain, hoffwn i gael eglurhad, Gweinidog, y bydd y cynigion hyn yr ydych chi'n eu cyflwyno heddiw yn atal y mathau hyn o bethau rhag digwydd yn y dyfodol. Diolch.

Wel, Laura Anne Jones, fe wnaethoch chi ddechrau yn dda iawn ond fe wnaethoch chi ddirywio ychydig wedyn. Felly, nid ydym ni wedi methu â mynd i'r afael â digartrefedd. Mae gan Gymru hanes da iawn o fynd i'r afael â digartrefedd, ac yn y pandemig, rydym ni wedi gwneud yn llawer gwell na'n cymdogion dros y ffin yr ydych chi'n eu cefnogi. Felly, nid wyf i am gymryd dim nonsens fel hynny gennych chi.

I fod yn eglur iawn, ar yr adeg hon, mae gan yr awdurdod lleol yr ydych chi'n sôn amdano yng Nghymru ddyletswydd i gartrefu pobl sy'n cysgu ar y stryd. Mae gan bob un ohonyn nhw weithwyr allgymorth. Efallai fod problemau pam na all yr unigolyn hwnnw fanteisio ar hynny, ond mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol i gartrefu'r bobl hynny. Nid ydyn nhw'n cael dweud nad ydyn nhw'n gallu gwneud hynny ac maen nhw'n cael eu cyllido'n briodol. Felly, nid oes unrhyw esgus am hynny.

Yr hyn nad ydym ni'n ei wneud yw helpu—. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i'r gwirfoddolwyr sydd, am y cymhellion gorau posibl, yn helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd. Ond yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw symud y system i ffwrdd o fod yn cefnogi pobl ar y stryd i fod yn eu cefnogi yn eu tai. Felly, mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol i gartrefu'r bobl hynny, felly dylen nhw fod yn gwneud hynny. Os hoffech chi ysgrifennu ataf i ynglŷn ag unrhyw achosion penodol yr ydych chi'n ymwybodol ohonyn nhw, byddwn i'n fwy na pharod i godi hynny gyda'r cyngor. Ond maen nhw i fod yn gwneud hynny eisoes.

Y bwriadoldeb y gwnaethoch chi sôn amdano ychydig yn ddiweddarach yn eich cyfraniad yw'r hyn yr wyf i'n sôn amdano o ran y newid deddfwriaethol y mae angen i ni ei weld. Felly, mae angen i ni ddiwygio Deddf Tai (Cymru) 2014 yn sylfaenol, sy'n cynnwys angen blaenoriaethol a bwriadoldeb ynddi. Bydd angen i ni wneud hynny gyda Phapur Gwyn ac yna rhywfaint o ddiwygio sylfaenol wedyn, y bydd yn rhaid i'r Senedd ei gymeradwyo, yn amlwg, a byddwn yn ei ddwyn nhw drwodd yn y ffordd arferol. Felly, mae angen i ni sicrhau newid diwylliannol radical iawn, rydych chi'n llygad eich lle. Ond wrth i ni siarad nawr, mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol i gartrefu'r bobl hynny, ac fe ddylai fod yn gwneud hynny.

15:35

Diolch. Diolch yn fawr am eich datganiad ac rwy'n llwyr gefnogi yr hyn yr ydych chi'n ceisio ei wneud. Ond rwy'n meddwl, dim ond dilyn yr hyn y mae eraill wedi ei ddweud—. Yn gyntaf, hoffwn i dalu teyrnged i weithwyr allgymorth Cyngor Caerdydd, sy'n mynd allan wythnos ar ôl wythnos, yn ceisio perswadio pobl i ddod i mewn a pheidio â bod ar y strydoedd. Mae hwn yn faes gwirioneddol gymhleth i lawer o bobl. Rwy'n sylweddoli, i rai, ei fod yn ymwneud â llety ansicr a diffyg arian i dalu rhent, ond i'r rhai sydd wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae hwn yn fater cymhleth iawn, fel y gellir gweld o stori Jonathan Lewis yn y Western Mail y bore yma. Felly, mae sefydliadau fel y Wallich a Llamau yn gwneud gwaith hynod brofiadol i alluogi pobl i ddod i mewn ac yna peidio â mynd yn ôl ar y strydoedd. Ac nid yw'n hud a lledrith o allu rhoi tŷ iddyn nhw.

Felly, hoffwn i eich holi ynglŷn â chost y cymorth sydd ei angen ar bobl sydd â phroblemau bod yn gaeth i sylweddau o ganlyniad i'w trallod emosiynol. Roedd gan Llamau, pan siaradais â'r prif weithredwr ddiwethaf, gyfraddau dychwelyd i ddefnyddio mor isel; mae 92 y cant o'r bobl y maen nhw'n gweithio gyda nhw nad ydyn nhw byth yn dychwelyd i fod yn ddigartref, ond rwy'n gwybod, gydag asiantaethau eraill sy'n ymdrin â phobl ddigartref, fod 70 y cant o'r bobl hyn yn mynd trwy ddrws troi. Ac mae dadl wirioneddol yn digwydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd ynglŷn â'r hyn y gallwn ei fforddio i gefnogi'r bobl hyn.

Felly, roeddwn i'n meddwl tybed pa ddadansoddiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effeithiolrwydd o ran cost wahanol ddulliau o gefnogi pobl ddigartref, er mwyn sicrhau nad ydyn nhw byth yn ddigartref eto.

Diolch, Jenny Rathbone, am y pwyntiau rhagorol hynny. Ac mae'r ateb yn un cymhleth iawn oherwydd, fel y dywedais i, mae'n dibynnu'n wirioneddol ar y person yr ydych yn sôn amdano, oherwydd bod gan bob unigolyn gyfres wahanol a chymhleth o anghenion. Y pellaf i ffwrdd o fod wedi cael cartref parhaol maen nhw, y mwyaf cymhleth yw'r anghenion. Nid yw'n fater o roi pedair wal a tho i chi yn unig. Pe byddech chi'n fy rhoi i mewn fflat yng nghanol Manceinion, lle nad wyf i'n adnabod neb, neu unrhyw ddinas arall lle nad wyf i'n adnabod neb, ac nad oedd gen i unrhyw fodd o gefnogaeth a dim dodrefn, ni fyddwn i'n debygol o gynnal fy llety, ac nid wyf i wedi cael yr holl brofiadau hynny. Felly, mae angen i ni drin pobl fel bodau dynol.

Rydym ni wedi gwneud dadansoddiad o gostau rhai o'r rhaglenni. Ond yn y pen draw, yr hyn mae'n rhaid i ni ymrwymo iddo yw sicrhau bod yr unigolyn hwnnw yn cael y cymorth sydd ei angen arno. Ac i rai pobl, mae hynny'n gweithio'n weddol gyflym, ac i eraill, gall gymryd—. Rwyf i wedi siarad â gweithwyr allgymorth sydd wedi bod yn gweithio gyda phobl ers dros ddwy flynedd, gan geisio eu cael i ymateb iddyn nhw, meithrin rhywfaint o ymddiriedaeth, cymryd paned o de ganddyn nhw hyd yn oed—mor ddwfn yw'r ddrwgdybiaeth o swyddogion neu gymorth. Ond wedyn, yn ystod y pandemig, rydym ni wedi cael achosion trawsnewidiol hefyd, wrth i bobl a ddaeth i mewn oherwydd y pandemig dderbyn gwasanaethau yn sydyn ac mae eu bywydau ar lwybr gwahanol. A Jonathan, y person yn y Western Mail, yw'r person y gwnes i gyfarfod ag ef ddoe. Os oedd angen prawf arnoch erioed nad yw hyn yn ymwneud â'r unigolyn a'i natur sylfaenol, mae hyn yn ymwneud â'r profiad rydych chi'n ei gael yn tyfu i fyny a beth yw eich profiad bywyd, a gellir ei drawsnewid.

Felly, er enghraifft, mae gennym ni lwybr gwych yng ngharchar Caerdydd, lle'r oedd gennym ni ddrws troi, fel rydych chi'n ei alw, gyda phobl yn dod i mewn ac allan drwy'r amser. Rydym ni wedi gallu gweithio'n unigol iawn gyda nifer o unigolion—mae honno'n garfan fach iawn ohonyn nhw—i weld a yw'n gweithio, ac mae ymhell dros 90 y cant ohonyn nhw ar y llwybr bellach i beidio â dod yn ôl ac mewn tai parhaol. Felly, yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw gwneud yr hyn sy'n gweithio. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â fy nghyllideb tai; mae hyn yn ymwneud â mi yn gweithio gydag Eluned a chyd-Aelodau eraill ar draws Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio eu cyllidebau a'u staff i ddarparu'r gwasanaethau i bobl sydd hefyd â phroblemau tai. Os byddwn ni'n ei ystyried felly, yn y ffordd gyfannol honno, rydym yn mabwysiadu ymagwedd wahanol iawn ac mae'n gweithio.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi am ymddiheuro i chi, Dirprwy Lywydd, am anghofio datgan diddordeb ar ddechrau'r drafodaeth a dechrau fy nghyfraniad i. Dwi eisiau tynnu eich sylw chi, os gwelwch yn dda, at fy natganiad o ddiddordeb am berchnogaeth eiddo, sydd, wrth gwrs, yn gyhoeddus. Diolch.

15:40
4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am COVID-19

Yr eitem nesaf yw eitem 5: datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, diweddariad ar COVID-19. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y datblygiad diweddaraf a difrifol iawn yn y pandemig hwn sy'n symud yn gyflym. Ddiwedd wythnos diwethaf, cynghorodd Sefydliad Iechyd y Byd wledydd ledled y byd i gymryd cyfres o fesurau yn dilyn nodi amrywiolyn newydd coronafeirws sy'n peri pryder. Cafodd yr amrywiolyn, a elwir bellach yn omicron, ei adrodd am y tro cyntaf i Sefydliad Iechyd y Byd o Dde Affrica chwe diwrnod yn ôl. Mewn llai nag wythnos, mae achosion o omicron wedi eu nodi mewn gwledydd mor bell ar wahân ag Awstralia, Hong Kong, Gwlad Belg, Israel a Chanada. Mae hefyd wedi cyrraedd y DU. Ac, mae arnaf ofn, dim ond mater o amser fydd hi, er gwaethaf yr holl fesurau yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith, cyn i'r achosion cyntaf gael eu cadarnhau yng Nghymru.

Hoffwn i rannu â chi yr hyn yr ydym ni'n ei wybod hyd yn hyn, a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i ymateb i arafu'r hyn sy'n anochel a chadw Cymru'n ddiogel. Rydym yn cymryd ymddangosiad omicron o ddifrif. Mae ganddo nifer mwy o fwtaniadau nag unrhyw un o'r amrywiolion a welwyd o'r blaen—mwy na 50 i gyd. Os edrychwn ar y rhan o'r feirws sy'n cysylltu'n gyntaf â chelloedd ein corff, mae 10 o fwtaniadau yn yr amrywiolyn omicron. Dim ond dau oedd gan yr amrywiolyn delta, a ddaeth yn gyflym y straen mwyaf amlwg y gaeaf diwethaf.

Mae'r dystiolaeth o Dde Affrica hyd yma yn awgrymu y gallai'r amrywiolyn hwn symud yn gyflym a'i fod yn gallu ail-heintio pobl sydd eisoes wedi cael coronafeirws neu sydd wedi cael eu brechu ddwywaith. Ond mae llawer nad ydyn ni'n ei wybod o hyd, ac na fyddwn ni'n ei wybod am sbel. Mae hyn yn cynnwys a yw'n arwain at fath mwy difrifol o salwch.

Ddoe, ysgrifennodd y Prif Weinidog a Phrif Weinidog yr Alban at Brif Weinidog y DU yn gofyn am gyfarfod COBRA i drafod ymateb cydgysylltiedig gan y pedair gwlad i'r amrywiolyn hwn. Yn siomedig, mae llefarydd y Prif Weinidog wedi gwrthod y cais hwn. Dull cydgysylltiedig, pedair gwlad fyddai'r ymateb mwyaf effeithiol i'r amrywiolyn newydd hwn.

Fodd bynnag, dros y penwythnos, rydym ni wedi gallu symud gyda'n gilydd â gweddill y Deyrnas Unedig. Rydym ni i gyd wedi rhoi 10 o wledydd de Affrica sy'n gysylltiedig â'r amrywiolyn omicron ar y rhestr goch ar gyfer teithio rhyngwladol. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n dychwelyd i'r DU o'r gwledydd hyn gwblhau 10 diwrnod o gwarantin mewn gwesty cwarantin a reolir. Yn ogystal, bydd yn rhaid i deithwyr sydd wedi eu brechu sy'n dod yn ôl i'r DU o wlad nad yw ar y rhestr goch hunanynysu a chael prawf PCR ar ddiwrnod dau ar ôl iddyn nhw ddychwelyd. Gallan nhw orffen ynysu os a phryd byddan nhw'n cael canlyniad negatif. Os bydd eu prawf yn bositif, bydd angen iddyn nhw ynysu am 10 diwrnod. Bydd angen i'r bobl maen nhw'n byw gyda nhw ynysu hefyd nes eu bod wedi cael prawf negatif. Mae'r rheolau newydd hyn yn disodli'r gofyniad i gael prawf llif unffordd wrth ddychwelyd o dramor, ac mae'n gam arall i atal yr amrywiolyn rhag lledaenu yn ein cymunedau. Byddwn yn cadw'r opsiwn o gyflwyno prawf PCR ar ddiwrnod 8 yn ddiweddarach.

Neithiwr, atgyfnerthodd y Gweinidog addysg y defnydd o orchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion am weddill tymor y gaeaf. Dylai'r holl staff a dysgwyr wisgo gorchuddion wyneb pan fyddan nhw dan do pan na ellir cadw pellter corfforol. A byddwn yn newid ein rheolau hunanynysu i'w gwneud yn ofynnol i bawb a nodir yn gyswllt agos ag achos omicron a gadarnhawyd neu hyd yn oed achos tybiedig o omicron yng Nghymru ynysu am 10 diwrnod, ni waeth beth fo'u statws brechu neu eu hoedran. Ac rydym yn gobeithio y bydd y camau hyn, o'u cymryd ynghyd â'r holl amddiffyniadau eraill sydd ar waith yng Nghymru, yn helpu i arafu lledaeniad yr amrywiolyn hwn.

Llywydd, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi argymell y dylai'r rhaglen frechu gael ei chyflymu ar ôl i'r amrywiolyn newydd hwn ddod i'r amlwg. Dwi wedi derbyn cyngor y cyd-bwyllgor, a dwi’n ategu geiriau ei gadeirydd, sydd wedi dweud y gwelwn y budd mwyaf os gallwn frechu pobl cyn i don arall daro. Byddwn yn ymestyn y rhaglen atgyfnerthu i bob oedolyn rhwng 18 a 39 mlwydd oed, ac yn lleihau'r bwlch rhwng yr ail ddos a'r pigiad atgyfnerthu o chwech i dri mis. Byddwn yn parhau i frechu pobl yn nhrefn eu risg—bydd pobl hŷn neu bobl sy’n fregus yn glinigol yn cael eu galw yn gyntaf. Byddwn yn cynnig dos atgyfnerthu i bobl sydd ag imiwnedd gwan, a hynny dri mis ar ôl iddyn nhw gael eu trydydd dos sylfaenol. Bydd pob plentyn o 12 i 15 oed hefyd yn gymwys i gael ail ddos. Nod y strategaeth hon yw achub bywydau, diogelu'r gwasanaeth iechyd a lleihau heintiau cyn belled â bo modd.

Bydd ehangu'r broses o gyflwyno'r rhaglen frechu yn heriol. Rŷn ni’n dibynnu ar weithlu ein gwasanaeth iechyd i ymateb ar frys unwaith eto i’r pandemig er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Maen nhw wedi gwneud cymaint yn barod drwy gydol y pandemig. Hoffwn i gofnodi fy niolch i'r holl staff iechyd a gofal sydd wedi gweithio mor galed, ac i'r timau brechu sy'n cynllunio’r gwaith o ehangu'r rhaglen hanfodol hon. Byddwn yn parhau i gynnig brechlynnau i bobl sydd heb eu brechu neu sydd efallai ond wedi cael un dos. A dwi eisiau ei gwneud hi’n hollol glir: dydy hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu.

Dirprwy Lywydd, mae’n bwysicach nag erioed pob un ohonom ni yn cydweithio i amddiffyn ein teuluoedd a'r rhai sy’n annwyl i ni. Yn ogystal â'n rhaglen frechu, mae angen i ni ddal ati i wneud y pethau bychain a fydd yn ein cadw'n fwy diogel drwy'r pandemig: hunanynysu a chael prawf os oes gyda ni symptomau, cymryd profion llif unffordd yn rheolaidd, yn enwedig cyn mynd allan i lefydd prysur, cwrdd â phobl yn yr awyr agored os yn bosibl, cadw ein pellter pan allwn ni, golchi ein dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb.

Mae hwn yn gyfnod pryderus ac, wrth gwrs, rŷn ni i gyd yn gobeithio na fydd y pandemig yn bwrw cysgod dros y Nadolig. Rŷn ni’n gwybod bod pawb wedi blino’n lân ar y pandemig. Mae pawb eisiau i hyn ddod i ben. Ond, mae angen i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i ofalu am ein gilydd unwaith eto. Mae’r sefyllfa yn symud yn gyflym, ac rŷn ni’n monitro’r sefyllfa yn ofalus. Os bydd tystiolaeth yn awgrymu bod angen inni gymryd camau pellach i amddiffyn pobl, byddwn ni’n gwneud hynny. Dydyn ni ddim eisiau gwneud bywydau pobl yn anodd i bobl, ond byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu ni i ddiogelu pobl Cymru. Diolch.

15:45

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich copi ymlaen llaw heddiw o'r datganiad, a datganiad pwysig iawn hefyd? Rwy'n credu bod y Llywodraeth yn iawn i gymryd yr amrywiolyn newydd hwn o ddifrif. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn ofalus, ond hefyd yn gytbwys, ac mae'r Gweinidog wedi nodi yn gywir bod llawer, wrth gwrs, nad ydym yn ei wybod, sef y sefyllfa bresennol.

Rwy'n amau efallai y byddech yn cytuno â mi ar ran gyntaf yr hyn rwy'n ei ddweud, Gweinidog. Mae gennych chi lawer ar eich plât ar hyn o bryd, oherwydd ein bod ni'n gwybod bod dau fater arwyddocaol yma. Rydym ni'n gwybod am fodolaeth yr amrywiolyn newydd hwn ac am bwysigrwydd cyflwyno'r brechiadau, ac rydym ni hefyd  yn gwybod bod cyflwr ein GIG mewn sefyllfa anodd iawn hefyd. Nododd y Prif Weinidog heddiw, yn gywir, y bydd y pwysau ar y GIG yn mynd yn fwy difrifol wrth i ni fynd i mewn i'r gaeaf, wrth gwrs. Felly, yn hynny o beth, a gaf i ofyn pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda'r Prif Weinidog o ran Gweinidog brechu penodol? Wrth gwrs, mae galw newydd am hyn gen i fy hun, oherwydd ein bod ni'n gwybod bod gennym ni'r problemau gyda'r GIG ar y naill law o ran yr amser aros gwaethaf mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, yr amseroedd aros hiraf am ambiwlansys, a'r amseroedd aros hiraf erioed am driniaeth yn hanes y GIG yng Nghymru. Felly, ar y naill law, mae angen ymdrin â hynny ac ymateb iddo, ac ar y llaw arall, mae gennych chi gyflwyniad y rhaglen frechu, sydd hefyd yn rhoi cymaint o bwysau, wrth gwrs, ar eich amser hefyd, Gweinidog.

O ran y brechiadau, a gaf i ofyn ychydig o gwestiynau am hynny o ran y rhaglen frechu? Yn y sesiwn friffio heddiw, wrth gwrs, fe wnaethom ni glywed Dr Richardson yn amlinellu bod digon o gyflenwad o ran y brechlyn atgyfnerthu, sydd, yn fy marn i, yn newyddion cadarnhaol yn hynny o beth. Mae'r pwysau yma nawr ar ehangu a chynyddu'r rhaglen frechu honno. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi bod yn amharod i gefnogi canolfannau brechu galw i mewn yn flaenorol ac wedi cyfeirio atyn nhw fel rhai rhydd i bawb, ond, wrth gwrs, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi newid eu cyngor erbyn hyn o ran y dylai pob oedolyn gael y brechiad atgyfnerthu nawr, a'r cyfnod amser byrrach bellach rhwng yr ail ddos a'r brechlyn atgyfnerthu. Felly, tybed a fyddech chi'n ailystyried y dull hwnnw hefyd a hefyd yn sôn am y ffaith bod rhai byrddau iechyd ledled Cymru, wrth gwrs, mewn gwirionedd yn gweithredu canolfannau atgyfnerthu cerdded i mewn. Felly, mae dull gwahanol ledled Cymru mewn rhai ffyrdd, ond a wnewch chi roi eich pwysau'n llawn y tu ôl i'r canolfannau atgyfnerthu cerdded i mewn, sef y dull cywir yn sicr yn fy marn i? Os ydych chi'n cytuno hefyd, a wnewch chi roi unrhyw ddiweddariad o ran ailagor canolfannau brechu torfol ledled Cymru? Rwyf i'n credu y dylen nhw gael eu hailagor; byddwn i'n gwerthfawrogi eich barn ar hynny. Tybed a ydych chi hefyd yn cytuno â mi, Gweinidog, o ran pwysigrwydd cynyddu gwirfoddolwyr i weithio yn y GIG ac i gefnogi'r rhaglen frechu. Tybed allech chi ddweud wrthym ni ba gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ymateb i weithrediad gwirfoddolwyr COVID y GIG hefyd.

Mae cadw addysg ar agor, wrth gwrs, yn flaenoriaeth i mi ac i fy nghyd-Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr. Rwy'n credu ei bod i chi hefyd, Gweinidog. Cytunais â'r Gweinidog addysg neithiwr o ran ehangu'r defnydd o orchuddion wyneb mewn addysg ac mewn colegau. A gaf i ofyn am ymrwymiad mwy cadarn y bydd ysgolion yn aros ar agor? Rydym ni'n gwybod ein bod ni mewn cyfnod ansicr, ond a gaf i ofyn am ymrwymiad i lacio cyfyngiadau fel pasbortau brechu os nad yw'r amrywiolyn newydd yn fwy peryglus na delta? Rwy'n credu y bydd y cyhoedd yn dymuno gwybod hynny. A hefyd, a gaf i ofyn am ddiweddariad ar faterion a amlinellwyd yn flaenorol ynghylch pasys COVID a'r anhawster i'w cael? Mae problemau ynghylch faint o amser sydd ei angen ar bobl sy'n dymuno cymorth ychwanegol gyda llinell ffôn, llinell gymorth—os gallwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny—a hefyd o ran ardystio COVID. Cododd etholwr fater penodol gyda mi o ran cael un brechiad yn yr Alban a'r ail frechiad yng Nghymru. Rwy'n credu eich bod chi'n ymwybodol o'r broblem hon, oherwydd cafodd ei chodi yn flaenorol, ond a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y potensial i sicrhau bod GIG yr Alban a GIG Cymru yn siarad â'i gilydd, er mwyn sicrhau y gall pobl dderbyn ardystiadau COVID er mwyn iddyn nhw wneud eu gwaith, sef y sefyllfa yn yr achos hwn.

Ac yn olaf, tybed a allech chi siarad rhywfaint am y pigiadau atgyfnerthu o ran—. Y pryder sydd gen i, Gweinidog, yw y gallai gwthio'r pasys COVID heb y sail wyddonol honno danseilio hyder mewn Llywodraeth o ran cyfarwyddiadau eraill gan y Llywodraeth. Rwy'n pryderu y gallai hynny danseilio unrhyw gyfyngiadau pellach mae angen i chi eu cyflwyno o ran yr amrywiolyn newydd hwn o ran y sail wyddonol y tu ôl i frechiadau COVID, sydd, wrth gwrs, yn cael eu cefnogi'n llawn. Felly, i bob pwrpas, Gweinidog, mae'r dystiolaeth wyddonol y tu ôl i benderfyniadau yn gwbl hanfodol i'r cyhoedd ei deall.

15:50

Diolch yn fawr, Russell. I'w gwneud yn gwbl glir: rwy'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa ansicr rydym ni ynddi mewn cysylltiad â'r GIG wrth i ni fynd i'r gaeaf, sydd, yn draddodiadol, yn gyfnod heriol iawn beth bynnag, ond, yn amlwg, eleni mae gennym ni'r pwysau ychwanegol sydd wedi adeiladu oherwydd y pandemig. Rydym yn pryderu am yr achosion posibl o'r ffliw; mae galw sylweddol iawn eisoes ar yr adran damweiniau ac achosion brys. Felly, yr hyn yr ydym ni am geisio ei wneud yma yw ceisio sicrhau, ar ben hynny i gyd, nad ydym yn gweld ton ychwanegol o'r amrywiolyn omicron newydd hwn yn taro ein hysbytai. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw gwrando ar gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu—nhw yw'r arbenigwyr gwyddonol sy'n dweud wrthym, 'Gweithredwch yn gynnar a sicrhau bod pobl yn cael eu brechu cyn i unrhyw don bosibl ein taro'. Felly, rydym ni'n gwrando ar y cyngor hwnnw.

O ran Gweinidog brechu, yn amlwg, penderfyniad y Prif Weinidog yw hynny. Os oeddwn i am ddweud rhywbeth, byddwn i'n dweud mai'r Prif Weinidog, mewn gwirionedd, yw'r Gweinidog brechu, oherwydd ei fod yn cymryd diddordeb mor arbennig o weithredol yn y rhaglen frechu. Mae'n cael cyfarfodydd wythnosol lle mae'n holi'r swyddogion i sicrhau ein bod ar ben hynny, a byddwn i'n awgrymu bod hynny'n rhan o'r rheswm pam mae gennym un o'r rhaglenni brechu mwyaf llwyddiannus yn y byd i gyd. Felly, mae'n rhywbeth yr wyf i'n hyderus iawn bod ein Gweinidog brechu, sef, yn wir, y Prif Weinidog, yn gwneud gwaith da iawn yn ei gylch. O ran y cyflenwad, roeddem ni'n falch iawn o weld a chael cadarnhad bod cyflenwad digonol o Pfizer a Moderna, sef y ddau frechlyn sy'n cael eu hargymell.

O ran canolfannau cerdded i mewn, mae gen i gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yma a byddaf yn darllen yn union beth mae'n ei ddweud. Mae'n dweud

'Dylid cynnig brechiad atgyfnerthu bellach yn nhrefn grwpiau oedran ddisgynnol, gan roi blaenoriaeth i frechu oedolion hŷn a'r rhai mewn grŵp risg COVID-19.'

Dyna mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ei ddweud a dyna pam rydym yn dilyn eu cyngor. Mae'r canolfannau galw i mewn yn rhoi rhyddid i bawb droi fyny; rydym yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Os ydym ni am fynd ymhellach, yn amlwg, rydym yn mynd i ymateb yn awr o ran sut yr ydym yn ysgogi'r fyddin frechu newydd hon y byddwn yn ei datblygu yn ystod y dyddiau nesaf. Rydym eisoes, yn amlwg, wedi siarad â'n byrddau iechyd a fydd yn cyflwyno cynlluniau manylach ar ein cyfer yfory. Mae trafodaethau eisoes wedi digwydd gyda llywodraeth leol, gyda'r fyddin, gyda phob math o sefydliadau i weld beth arall y gallwn ei roi ar waith a phwy sy'n barod am hyn—pwy sy'n barod i'n helpu ar yr adeg heriol iawn hon.

Rydym ni bob amser wedi dweud mai ysgolion fydd y pethau olaf i gau. Rydym ni'n gwneud ein gorau glas i geisio eu cadw ar agor, ac roeddwn i'n falch iawn o weld bod y Gweinidog addysg wedi gwneud y cyhoeddiad hwnnw ddoe. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio cadw ein plant yn yr ysgol. Yn amlwg, os cawn wybod nad yw hwn yn amrywiolyn difrifol ac nad yw'n effeithio arnom yn rhy negyddol, yna byddwn yn ymateb mewn ffordd sy'n briodol. Gan nad ydym yn gwybod beth yw'r sefyllfa, rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol i ni fod yn ofalus.

O ran y pàs COVID, rydym ni'n gwybod bod y llinell ffôn wedi bod dan bwysau gwirioneddol. Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi cael llythyr gen i yn amlinellu'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud ynghylch hynny. Bu ymgyrch recriwtio i geisio cynyddu nifer y bobl sydd ar gael i ateb y ffonau. Rydym yn rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau y gallwn ni reoli pobl yn well. Rydym yn ymwybodol o'r sefyllfa o ran tystysgrifau COVID ac anhawster rhywun sydd wedi cael un brechlyn, efallai, yng Nghymru, ac un arall yn yr Alban. Dylai Cymru a Lloegr fod yn siarad â'i gilydd. Mae'n dal yn anodd i system Cymru a'r Alban, ond rydym yn ymwybodol o hynny ac rydym yn gweithio ar hynny. O ran y pàs COVID, nid wyf am ymddiheuro am y ffaith ein bod ni wedi cyflwyno'r pàs COVID hwn mewn ardaloedd lle mae llawer o bobl yn ymgynnull. Rydym yn gwybod bod y feirws yn ffynnu mewn mannau lle mae llawer o bobl yn ymgynnull dan do, ac felly nid wyf i'n mynd i ymddiheuro am hynny. Yr hyn y byddwn ni yn ei wneud yw pennu'r sefyllfa a mynd i'r afael â hi, wrth gwrs, yn ein proses adolygu 21 diwrnod tair wythnos, ond pe baem yn gweld bod y sefyllfa'n newid yn gyflym, mae'n amlwg y bydd angen i ni gyflwyno mesurau'n gyflymach na hynny. Nid ydym yn y sefyllfa honno eto, ond rydym ni, yn amlwg, yn cadw llygad ar y sefyllfa wrth i'r dyddiau fynd yn eu blaen.

15:55

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch am y diweddariad heddiw. Mae hon yn dro arall, onid ydy, yng nghynffon y pandemig yma, ac fel y clywsom ni rŵan, mae o'n ddatblygiad sydd yn sicr angen ei gymryd o ddifrif. Mae o'n bryder bod yna dystiolaeth ei fod o'n gallu ailheintio pobl sydd wedi cael COVID-19 yn barod neu sydd wedi derbyn brechiad dwbl, fel y clywsom ni, ond maen nhw'n ddyddiau cynnar, wrth gwrs, ac mae'n bwysig cofio hynny. Mae yna lawer o waith dysgu i'w wneud.

Rhyw hanner dwsin o gwestiynau, dwi'n meddwl, sydd gennyf fi, rhag ofn eich bod chi eisiau eu nodi nhw. Yn gyntaf, cwestiwn cwbl ymarferol: allwn ni gael cadarnhad bod y labordai sy'n gwneud y bulk o waith profi yng Nghymru yn gallu adnabod yr amrywiolyn yma fel ein bod ni yn cael rhybudd cynnar iawn o'r sefyllfa yma?

Ac yn ail, rhywbeth dwi'n gwybod mae un cartref gofal yn fy etholaeth i yn eiddgar i wybod: ydyn ni'n gwybod bellach ydy profion llif unffordd yn gallu adnabod yr amrywiolyn yma? Mae'n amlwg pam eu bod nhw'n bryderus. Maen nhw, gyda llaw, wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn holi ynglŷn â chefnogaeth i gyflwyno peiriannau profi PCR o fewn 90 munud, a dwi'n edrych ymlaen i weld yr ymateb ar hynny. 

Mae'n rhyfeddol, dwi'n meddwl, bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi gwrthod cais i weithio ar sail pedair cenedl wrth ymateb i'r amrywiolyn yma. Mae yna benderfyniadau, wrth gwrs, sydd wedi gorfod digwydd yn gyffredin ar draws y pedair cenedl, dros deithio rhyngwladol, er enghraifft. Dwi'n cyd-fynd yn sicr efo'r penderfyniad i'w gwneud hi'n angenrheidiol i wisgo mygydau.

Wedyn, mewn ysgolion yng Nghymru, rhywbeth sydd wedi cael ei benderfynu yma yng Nghymru o ran ysgolion uwchradd a cholegau, un cwestiwn penodol: a allaf i gael sicrwydd ydy'r gofyniad yna ar gyfer gwisgo gorchudd wyneb mewn ysgolion a cholegau yn ofyniad cyfreithiol? Roedd yna rywfaint o ansicrwydd wedi cael ei godi efo fi ynglŷn â hynny.

Mae'r Llywodraeth yn iawn i newid y rheolau hunanynysu, i dynhau y rheolau hunanynysu eto, ond, un cwestiwn penodol arall, pa gymorth ychwanegol, yn ariannol neu fel arall, mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar y posibilrwydd o'i gynnig i bobl i sicrhau eu bod nhw yn gallu ynysu yn effeithiol? Mae hwn yn gwestiwn rydyn ni wedi ei ofyn droeon dros y flwyddyn a thri chwarter ddiwethaf. Mae'n ymddangos ei fod o'n codi o bosib fel cwestiwn pwysig eto.

Yn symud at gyngor newydd y JCVI, oes, yn sicr, mae angen cyflymu ac ehangu'r broses frechu. Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael awgrym gan y Gweinidog o ba mor benderfynol y mae hi i godi gêr o ran y broses frechu rŵan mewn ymateb i'r cyngor yna. Gaf i ofyn beth ydy'r adnoddau ychwanegol fydd ar gael i wneud hynny, yn adnoddau ariannol ac fel arall?

A thema dwi'n dychwelyd ati hi eto: a gawn ni raglen gyfathrebu glir iawn fel bod pobl yn cael syniad clir o bryd maen nhw'n debyg o dderbyn eu brechiad, a beth i'w wneud wedyn os ydyn nhw ddim wedi cael gwahoddiad pan ddylen nhw? Dwi'n derbyn yr hyn mae'r Llywodraeth yn ei ddweud, bod angen mynd drwy bobl yn nhrefn blaenoriaeth, ond mae pobl yn eiddgar i gael y brechiad ac angen gwybod pa bryd mae eu tro nhw'n debyg o ddod. Ac os oes yna rywbeth wedi mynd o'i le, mae'n iawn eu bod nhw'n gwybod i godi'r ffôn neu gysylltu ym mha bynnag ffordd i ddweud, 'Rydych chi wedi methu fi.' Mae hynny, dwi'n meddwl, yn rhan bwysig o'r broses.

Yn olaf, buaswn i'n licio tynnu sylw'r Gweinidog at bryderon difrifol sydd wedi cael eu codi'r prynhawn yma am lesiant corfforol a meddyliol chwaraewyr a staff clwb Rygbi Caerdydd—y pryderon yna'n cael eu codi ar y cyfryngau cymdeithasol gan ohebydd chwaraeon ITV Cymru, Beth Fisher, oedd yn adrodd am bryderon difrifol i'r tîm, wrth gwrs, sydd dal allan yn Ne Affrica. Wrth gwrs, maen nhw eisiau dod adre, ac wrth gwrs, byddai'n rhaid rhoi cyfundrefn brofi a chwarantîn ac ati mewn lle iddyn nhw allu dod adre, ond, a all y Gweinidog ddweud beth mae hi yn ei wneud i hwyluso eu dychweliad nhw i Gymru mor fuan ag sydd yn bosibl?

16:00

Diolch yn fawr. Jest i wneud hi'n glir, mae rhai labordai ym Mhrydain ddim eto'n gallu adnabod drwy PCR yr amrywiolyn newydd yma. Felly, rŷn ni jest yn ceisio sicrhau ein bod ni'n gwybod pa labordai yw'r rheini. Wrth gwrs, mae un mawr yng Nghymru, ac mae hwnna yn y sefyllfa lle y bydden nhw yn adnabod.FootnoteLink 

Dwi ddim yn hollol siŵr o ran os mae LFTs, lateral flow tests, eto yn gallu. Ond, mae gwaith sydd wedi cael ei wneud yn yr Almaen hyd yn hyn yn dangos ei fod e'n debygol y byddan nhw'n gallu. Eto, dim ond ers chwe diwrnod ydyn ni wedi adnabod y sefyllfa yma, felly mae'r gwaith yna'n cael ei wneud ar draws y byd. Felly, mae hwnna'n bwynt pwysig. 

O ran y newidiadau hunanynysu, y rheolau a'r cymorth ariannol, rŷn ni wedi trafod yn fras efallai bydd angen gwneud rhywbeth yn y maes yma, ond dŷn ni ddim ar y pwynt yna, felly dŷn ni ddim wedi cael cytundeb ar hynny eto.

O ran mygydau mewn ysgolion, mae e'n recommendation in guidance, jest fel bod pobl yn glir beth mae hwnna'n golygu.

Ac wedyn, pryd fydd pobl yn derbyn y brechiad, wel, mae hi'n rhaglen rili cymhleth eisoes, cyn inni gael y rhaglen ychwanegol mawr yma, ac felly rŷn ni yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar, ac mi fyddwn ni mewn amser yn dweud, 'Reit, os nad ŷch chi wedi clywed hyd yn hyn, os ŷch chi yn y categori yma, wedyn cysylltwch.' Ond dŷn ni ddim ar y pwynt yna eto. Felly, ar hyn o bryd, byddwn i'n gofyn i bobl beidio â chysylltu, achos mae lot fawr o waith yn cael ei wneud, ac mae angen inni ganolbwyntio ar y rhaglen fawr. Mi ddown ni atoch chi, ac mi wnawn ni roi gwybod ichi. Os ŷch chi yn y grŵp a rŷch chi'n meddwl eich bod chi wedi colli allan, dŷch chi ddim wedi cyrraedd y pwynt yna eto. Mi wnawn ni roi gwybod i bobl, felly byddwch yn amyneddgar os yn bosibl.

Jest o ran clwb Caerdydd, yn amlwg, beth sydd wedi digwydd yw bod De Affrica wedi mynd ar y rhestr goch. Mae hwnna'n golygu bod yna ofyniad cyfreithiol iddyn nhw ynysu. Ein cyfrifoldeb ni fel Llywodraeth yw cadw pobl Cymru'n saff, ac felly mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud hynny trwy gadw'r amrywiolyn allan cyn hired â phosibl. Wrth gwrs, mae lot o bobl ar hyd a lled y byd yn yr un sefyllfa â chlwb Caerdydd, ac felly rŷn ni yn ymwybodol bod angen inni jest ystyried eu bod nhw efallai mewn sefyllfa galed, ond mae'n rhaid inni ystyried bod pobl yn yr un sefyllfa â nhw ar draws y byd, felly rŷn ni'n cadw llygad ar y sefyllfa.

Y ffaith yw nad oes yna westy lle maen nhw'n gallu hunanynysu yng Nghymru, ac mae yna reswm clir am hynny—oherwydd, yn gyffredinol, does dim awyrennau sy'n dod o'r gwledydd coch yma. Dyw Caerdydd ddim yn faes awyr lle mae red-list countries yn cael dod a glanio; mi fyddai fe'n anghyfreithlon. Os mai honno yw'r sefyllfa rŷn ni ynddi, mae hwnna'n golygu bod yn rhaid i bobl lanio yn Lloegr. Mi fyddai fe ddim yn gwneud lot o synnwyr o ran iechyd i drawsgludo pobl o faes awyr yn Lloegr i westy yng Nghymru. Mae'n anodd iawn i ystyried ar hyn o bryd a fyddai gwesty jest cyn Nadolig yn barod i newid ei hunan i mewn i westy sydd yn barod i dderbyn pobl o wlad coch, achos dyna'r unig beth maen nhw'n gallu ei wneud wedyn. Felly, byddai Nadolig, mewn gwirionedd, drosodd iddyn nhw fel gwesty, felly yn amlwg mae hwnna'n amhosibl inni ei weithredu ar hyn o bryd.

16:05

Hoffwn i ddiolch hefyd i'n gweithwyr gofal iechyd eto ar yr adeg hon, a hefyd y rhai sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu atgyfnerthu. Rwyf i yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd y rhaglen atgyfnerthu yn cael ei hymestyn i bob oedolyn, y bydd pob plentyn yn cael cynnig ail ddos, a bydd lleihau'r bwlch rhwng yr ail ddos a'r brechlyn atgyfnerthu o chwech i dri mis. Gweinidog, mae posibilrwydd i ymddangosiad y feirws omicron fod yn bryder difrifol iawn. Pa gamau bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflymu'r rhaglen frechu atgyfnerthu fel y gall pob oedolyn yng Nghymru gael brechlyn atgyfnerthu yn gyflym yn gynharach na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Rhianon, ac, wrth gwrs, byddwch chi'n ymwybodol bod gennym ni raglen glir iawn, a'n bod ni bellach yn mynd i ymgymryd â'r holl argymhellion sydd wedi dod gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Byddwn yn ehangu'r rhaglen frechu, fel y gwnes i egluro yn fy natganiad, i bob oedolyn rhwng 18 a 39 mlwydd oed, o ran y brechlyn atgyfnerthu, a bydd y rhai sydd â diffyg imiwnedd difrifol yn cael pedwerydd brechlyn, yn ei hanfod, ac, fel yr ydych chi wedi ei ddweud, cynigir ail ddos i blant o 12 i 15 mlwydd oed. Felly, ydym, rydym ni yn cyflymu'r rhaglen yn gyflym iawn. Roedd gennym ni darged i geisio cyrraedd pawb o dan 50 mlwydd oed erbyn y flwyddyn newydd. Rydym ni'n mynd i geisio gwthio'r holl broses gymaint â phosibl. Gobeithio y byddwn yn gallu rhoi ychydig mwy o fanylion yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf o ran beth fydd ein cynlluniau a beth ddylem ei ddisgwyl o ran hynny, ond, fel y dywedais i, dim ond chwe diwrnod hyd yn hyn, a gallaf eich sicrhau bod ein timau wedi bod yn gweithio drwy'r penwythnos ar hyn yn barod.

16:10

Mae'r rhan fwyaf o fy nghwestiynau wedi eu hateb, felly ni fyddaf yn gwastraffu gormod o amser, ond hoffwn i hefyd fod yn gysylltiedig â rhannu fy niolch i staff y GIG a staff gofal cymdeithasol sydd wedi gwneud cymaint ac sy'n mynd i wneud llawer iawn mwy, yn anffodus.

A diolch i chi am eich datganiad heddiw. Yr hyn yr oeddwn i am roi sylw iddo, ar gefn nifer o drigolion oedrannus sy'n bryderus iawn eu bod wedi cael trafferth cael pàs COVID, ac maen nhw'n bwriadu cynna digwyddiadau Nadolig gyda theulu ac maen nhw'n ofni bellach na fyddan nhw'n gallu gwneud hynny oherwydd efallai y bydd disgwyliad newydd yn cael ei gyflwyno bod yn rhaid defnyddio pasys COVID yn y sector lletygarwch. Ac rwy'n credu i mi weld hynny yn cael ei ailadrodd ar y newyddion rywle yn gynharach heddiw, lle mae mannau lletygarwch eisoes yn gweld bod pethau'n cael eu canslo. Nawr, rwy'n gwybod bod hynny efallai yn ganlyniad anochel i bryder cynyddol, fel sydd gennym ar hyn o bryd, ond nid wyf i'n siŵr, Gweinidog, a allwch chi ddweud unrhyw beth arall am unrhyw fwriad i ymestyn system pasys COVID i'r sector lletygarwch. Rwy'n gwybod y byddwch yn ei adolygu bob tair wythnos, ond byddai rhywfaint o'r eglurder hwnnw yn ddefnyddiol iawn i bobl oedrannus nad oedden nhw wedi cael Nadolig go iawn y llynedd, ac efallai mai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gael un, ac maen nhw'n poeni'n fawr y bydd yn rhaid iddyn nhw ganslo oherwydd na fyddan nhw'n gallu cael eu pàs os bydd ei angen. Diolch.

Diolch, Peter. Rydym ni i gyd awyddus iawn am Nadolig da eleni, onid ydym ni? Cawsom ein hamddifadu ohono y llynedd, ac rwy'n gwybod yn arbennig bod llawer o hen bobl yn dwlu ar yr amser hwnnw gyda'u teuluoedd ac yn edrych ymlaen ato yn fawr. Byddwn i'n annog pobl i ddeall mai pàs COVID ydyw, felly nid yn unig y gallwch ddefnyddio'r pàs, sy'n dangos eich bod wedi cael y brechiad, ond hefyd gallwch chi ddefnyddio prawf llif unffordd. Nawr, ar hyn o bryd, y bygythiad yng Nghymru mewn gwirionedd yw'r amrywiolyn delta. Gadewch i ni beidio ag anghofio, nid yw hwnnw wedi diflannu. Rydym ni'n dal i fod ar gyfradd lle rydym ychydig o dan 500 o achosion fesul 100,000 o bobl. Felly, mae angen i bobl gymryd o ddifrif y ffaith bod COVID yn dal yn fyw ac iach yn ein cymunedau. Felly, gallan nhw gymryd prawf llif unffordd os ydyn nhw'n cael trafferth, ond wrth gwrs byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio gwella'r sefyllfa o ran cael y pàs papur hwnnw, os byddai hynny'n ddefnyddiol iddyn nhw.

Ac o ran y sefyllfa lletygarwch, yn amlwg mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei adolygu yng ngoleuni'r adolygiad 21 diwrnod.

Weinidog, mae'n hanfodol nawr bod y trafferthion rŷn ni i gyd, dwi'n siŵr, fel Aelodau wedi clywed amdanynt o ran derbyn y brechiad atgyfnerthu, y pryderon yma rydyn ni wedi eu trafod y prynhawn yma, yn cael eu datrys. Mae un o fy etholwyr i, sydd yn ei saithdegau hwyr, yn dioddef o alergedd difrifol, a hyn yn glir ar ei chofnod meddygol, a gwnaeth e gael ei gymryd i ystyriaeth pan gafodd hi'r ddau bigiad gyntaf, wrth gwrs. Mae wedi cael gwahoddiad i dderbyn y brechiad atgyfnerthu, ac wedyn ar ôl mynd bob cam o Gwm-gwrach i'r ganolfan yn Abertawe, cafodd ei throi i ffwrdd am nad oedd modd delio â hi yno. Yna, fe gafodd hi wahoddiad gan ei meddyg teulu am y brechiad atgyfnerthu. Digwyddodd yr un peth. Dywedwyd wrthi y buasai'r tîm alergedd yn cysylltu, ond mae'n dal i aros ac mae'n rhai wythnosau nawr. Does dim ffordd ganddi—a dwi wedi edrych ar hwn hefyd—i gysylltu â'r tîm alergedd i wybod pryd y bydd hi'n gallu derbyn apwyntiad, ac ym mhle. Felly, hoffwn wybod beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod y bobl fregus yma, ym mhob rhan o Gymru, yn cael eu hamddiffyn yn brydlon ac yn llawn, yn enwedig o gofio'r pryder nawr am yr amrywiolyn newydd. Diolch.

Diolch yn fawr, Sioned. Yn amlwg, mae'n anodd i fi sôn am unrhyw achos unigol, ond beth dwi yn cydnabod yw ei bod hi wedi bod, efallai, yn fwy anodd y tro yma i fynd at bobl, yn arbennig yn eu cartrefi nhw, achos mae'n rhaid ichi aros am 15 munud ar ôl ichi gael y brechiad. Nid hynny yw'r achos yn yr achos yma, ond dwi'n meddwl ei bod yn bwysig bod pobl—ac mae'n dda i weld ei bod hi wedi ymateb i'r cais yna pan gafodd ei galw, a buaswn i'n meddwl ei bod yn gwneud synnwyr iddi gario ymlaen i fynd at y bobl sy'n deall y system alergedd a sut buasai hwnna'n effeithio arni. 

Cefais i fy mrechlyn atgyfnerthu Pfizer ddydd Sul. Ond yn eich datganiad ysgrifenedig neithiwr, 'Brechlyn COVID-19—cyngor pellach ar frechlynau atgyfnerthu gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu', fe wnaethoch chi ddatgan eich bod wedi derbyn argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn unol â chenhedloedd eraill y DU. Pa sicrwydd allwch ei roi felly i'r etholwr a ddywedodd y bore yma, 'Rwy'n ceisio ail-drefnu fy mrechlyn atgyfnerthu o 18 Rhagfyr i 11 Rhagfyr gan fy mod i'n teithio i Ffrainc ar 19 Rhagfyr ac, i fynd i Ffrainc, mae'n rhaid i mi fod wedi cael fy mrechlyn atgyfnerthu saith diwrnod ymlaen llaw. Rwy'n troi mewn cylchoedd gyda llinell frechu COVID Cymru. Allwch chi helpu? Mae'n cymryd oriau i fynd drwodd ac yna nid oes unrhyw un yn gallu ei newid. Rwyf i newydd ffonio'r llinell COVID eto ac fe wnaethon nhw ddweud nad yw eu systemau wedi eu diweddaru eto ac na allan nhw drefnu dyddiad cynharach na'r dyddiad sydd gen i. Ydw i'n gallu ceisio cael apwyntiad yn Lloegr? Mae hyn yn mynd yn hunllef. Rwyf i wedi bod yn ceisio ers dydd Gwener ac maen nhw'n dweud wrthyf o hyd nad yw systemau Cymru wedi eu diweddaru eto ac i ffonio eto y diwrnod wedyn.'

16:15

Diolch yn fawr iawn, Mark, a hoffwn i atgoffa eich etholwr mai'r cyngor teithio gan Lywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, yw peidio â'i wneud—peidiwch â theithio dramor. Nid nawr yw'r amser i deithio dramor, yn enwedig pan fo'r amrywiolyn newydd hwn nad ydym yn gwybod fawr ddim amdano wedi ymddangos. Felly, mae'n amlwg nad ydym yn mynd i newid ein system gyfan i geisio cyflymu'r broses i rywun sy'n mynd yn erbyn cyngor Llywodraeth Cymru; mae'n debyg na fyddai hynny'n gwneud unrhyw synnwyr yn wleidyddol i ni. Felly, mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i'ch etholwr aros ei dro, fel mae pawb arall yn ei wneud, a byddwn yn ei wneud ar y sail y mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi ein cynghori, hynny yw, yn nhrefn oedran a bod yn agored i salwch.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Hoffwn i eilio sylwadau Russell George gan fy mod i'n gwerthfawrogi bod gennych lawer ar eich plât a'ch bod yn ymdrin â sefyllfa gymhleth sy'n newid yn barhaus, felly rwyf i yn cydnabod hynny.

Felly, Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi, er bod angen i ni fod yn ofalus, nad oes angen i ni fynd i banig? Nid ydym yn gwybod digon am yr amrywiolyn newydd hwn, ond mae arwyddion cynnar yn dangos bod unigolion sydd wedi eu brechu'n llawn yn fwy tebygol o gael symptomau ysgafn. Felly, yr amddiffyniad gorau sydd gennym yw cynyddu'r brechlyn atgyfnerthu, a dim ond amser cinio heddiw dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson y dylem ni fod yn taflu popeth at y brechlynau atgyfnerthu hyn ac mae'n addawol gweld eich bod yn rhannu'r un brwdfrydedd ar sail drawsffiniol. Felly, Gweinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod yr holl staff gofal yn cael eu brechu'n llawn? Oherwydd mae'r ffigurau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod llai na 63 y cant o staff gofal wedi eu brechu'n llawn, o'i gymharu â bron i 80 y cant o weithwyr iechyd. Gweinidog, gan fod ymwelwyr â chartrefi gofal yn gorfod dangos prawf negyddol cyn y gallan nhw ymweld, a ydych chi'n cytuno mai'r staff yw'r cludwyr heintiau mwyaf tebygol ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal? Felly, a wnewch chi ymrwymo i sicrhau y bydd brechlynau atgyfnerthu yn cael eu cynnig a'u darparu i holl staff cartrefi gofal cyn y Nadolig? Diolch.

Diolch yn fawr. Rydych chi'n llygad eich lle; rydym ni'n bod yn ofalus ac nid ydym ni'n mynd i banig. Dyna union safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Rydym yn cynyddu ein dull brechu a dylai'r holl staff gofal fod wedi cael cynnig y brechlyn erbyn hyn. Felly, yn amlwg, weithiau, nid yw pobl yn y lle iawn ar yr adeg iawn ac felly mae angen i ni barhau i fynd yn ôl atyn nhw a sicrhau eu bod yn manteisio ar y cyfle hwnnw. Ond i dynnu sylw at y ffaith, pa un a ydyn nhw wedi cael y brechlyn atgyfnerthu ai peidio, gofynnir iddyn nhw, wrth gwrs, gymryd profion rheolaidd oherwydd eu bod yn gweithio mewn amgylchedd agored i niwed iawn.

Diolch, Weinidog. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Cofiwch, os gwelwch yn dda, os ydych chi'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu ddau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:19.

16:25

Ailymgynullodd y Senedd am 16:28, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio

Croeso nôl, a'r eitem nesaf yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: 'Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio'. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan. 

Diolch. Cafodd 'Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio' ei chyhoeddi ar 7 Hydref, yn dilyn rhaglen helaeth o ymgysylltu â phobl hŷn a'u cynrychiolwyr. Mae'r strategaeth yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru sydd o blaid pobl hŷn, sy'n cefnogi pobl o bob oed i fyw a heneiddio'n dda. Mae'r strategaeth yn herio stereoteipiau, sy'n rhagfarnllyd ar sail oedran, o bobl hŷn fel derbynwyr goddefol iechyd a gofal cymdeithasol, ac rwy'n pryderu y gallai'r pandemig fod wedi helpu i ymwreiddio stereoteipiau o'r fath ym meddyliau pobl. Mae'n rhy hawdd anwybyddu'r ffyrdd niferus y mae pobl hŷn yn cefnogi ein cymunedau i ffynnu.

Ni ddylem ni anghofio mai eu partneriaid, brodyr neu chwiorydd neu gymdogion, sydd yn aml yn hŷn eu hunain hefyd, sy'n gofalu am lawer o bobl hŷn sy'n byw gyda dementia, neu fod llawer o oedolion sy'n gweithio yn dibynnu ar neiniau a theidiau am ofal plant. Yn sicr, daeth gwerth gwirfoddolwyr hŷn i'r amlwg yn ystod y pandemig, gan fod llawer o elusennau'n ei chael hi'n anodd ymdopi heb eu cefnogaeth. Cyn COVID-19, yr amcangyfrif oedd bod cyfraniad pobl hŷn i economi Cymru dros £2 biliwn y flwyddyn.

Nod y strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio yw newid y ffordd yr ydym ni i gyd yn meddwl ac yn teimlo am heneiddio. Rydym ni eisiau creu Cymru lle mae pawb yn edrych ymlaen at fynd yn hŷn, Cymru lle gall unigolion gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a'u lles eu hunain gan deimlo'n hyderus y bydd cymorth ar gael ac yn hawdd ei gyrraedd os oes ei angen.

Diolch i ddatblygiadau arloesol ym maes iechyd a thechnoleg, mae'r boblogaeth fyd-eang o bobl dros 60 oed wedi bod yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw grŵp oedran arall, ond dangosodd y pandemig pa mor hawdd y mae modd i'r enillion hyn gael eu dileu. Dangosodd hefyd pa mor bwysig yw hi fod gwahanol genedlaethau'n deall ei gilydd, fel y gallan nhw ddod at ei gilydd ar adegau o argyfwng a chwarae i'n cryfderau fel cymunedau cryf a bywiog ledled Cymru. Mae gweithio mewn partneriaeth ar draws cenedlaethau, sectorau a chymunedau yn hanfodol i greu Cymru sydd o blaid pobl hŷn.

I wireddu'n gweledigaeth eleni, rydym ni wedi dyrannu £550,000 i awdurdodau lleol i gefnogi eu gwaith i fod yn sefydliadau sy'n cefnogi pobl hŷn ac i ennill aelodaeth o rwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd o ddinasoedd a chymunedau sy'n cefnogi pobl hŷn. Er mwyn ennill aelodaeth, rhaid i awdurdodau lleol ddangos sut maen nhw'n ymgysylltu â phobl hŷn. Mae ein gweledigaeth ni'n cael ei rhannu â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sy'n darparu cymorth ac arweiniad gwerthfawr i awdurdodau lleol wrth iddyn nhw weithio tuag at statws sydd o blaid pobl hŷn.

Mae egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth hon ac wedi bod yn rhan ohono drwyddi draw. Rwyf i eisiau i Gymru fod yn genedl sy'n dathlu oedran ac, yn unol ag egwyddorion y Cenhedloedd Unedig, cenedl sy'n cynnal annibyniaeth, cyfranogiad, gofal, hunan-foddhad ac urddas pobl hŷn bob amser. Eleni, byddwn ni'n dyrannu £100,000 i hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn ac ysbrydoli dealltwriaeth gyffredin o effeithiau trawsnewidiol dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau.

Rydym ni'n ffodus bod gennym ni ddealltwriaeth gadarn o amgylchiadau pobl hŷn yng Nghymru. Yn 2019, gwnaethom ni gomisiynu'r Ganolfan am Heneiddio Arloesol ym Mhrifysgol Abertawe sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol i feincnodi sefyllfa pobl hŷn yng Nghymru o'i chymharu â thair gwlad arall y DU. Cafodd y mesur hwn ei ddiweddaru yn 2021. Defnyddiodd y ganolfan amrywiaeth o fesurau i greu mynegai oedran y DU ac mae'r canlyniadau'n dangos bod Cymru ar y brig, gyda'r sgôr gyffredinol uchaf, ac yna'r Alban, Lloegr ac yn olaf Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn dangos bod llawer yr ydym ni'n ei wneud yn dda, a dylem ni deimlo'n falch bod tystiolaeth glir o'n hymrwymiad i gefnogi pobl hŷn.

Yn ogystal, mae adroddiadau Cyflwr y Genedl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn 2019 a 2021 yn cynnig sylfaen ystadegol ac empirig gadarn i'w datblygu, sy'n nodi effaith COVID-19. Gyda'i gilydd, mae'r adroddiadau hyn yn rhoi syniad clir o ble mae angen gweithredu i wella bywydau pobl hŷn ledled Cymru.

Mae pobl hŷn wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol â chreu'r strategaeth hon a byddan nhw'n ymwneud â'i chyflawni drwy fy fforwm cynghori gweinidogol ar heneiddio. Byddwn ni'n rhoi llais a phrofiad pobl hŷn wrth wraidd ein proses bolisi ac yn parhau i gefnogi pum grŵp a fforwm cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn, wedi'u cynnal gan Age Cymru. Gyda'i gilydd, mae eu gwaith yn ein helpu ni i ddeall ac ymateb i'r materion allweddol sy'n effeithio ar bobl hŷn heddiw.

Byddwn ni'n gweithio ledled y Llywodraeth i ymdrin â'r amrywiaeth eang o ffactorau sy'n dylanwadu ar sut yr ydym ni'n heneiddio, o'n systemau iechyd, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth i'r ffordd yr ydym ni'n cymdeithasu, yn gweithio ac yn gofalu am eraill. Nod y strategaeth yw datgloi potensial pobl hŷn heddiw a chymdeithas sy'n heneiddio yfory. Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu cynllun cyflawni sy'n nodi camau gweithredu, cerrig milltir ac amserlenni clir i fonitro gweithrediad y strategaeth.

Mae'r strategaeth hon yn ymwneud â sut yr ydym ni'n edrych i'r dyfodol, yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth gadarn—strategaeth wedi'i datblygu gyda phobl Cymru ac ar eu cyfer. Drwy gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniadau holl bobl hŷn Cymru, gallwn ni wrthod rhagfarn ar sail oedran a gweithio ar draws cenedlaethau i greu Cymru sydd o blaid pobl hŷn.

16:30

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Rwyf innau hefyd yn croesawu y strategaeth Cymru o blaid pobl hŷn—beth nad oes i'w hoffi amdano mewn gwirionedd—ar wahân i'r ffaith bod gennym ni strategaeth arall sy'n llawn dyheadau ond heb fawr o fanylion ynghylch sut y byddwn ni'n cyflawni'r strategaeth honno neu'r targedau hynny i fesur ein cynnydd yn eu herbyn. Pryd y byddwn ni'n gweld cynllun gweithredu a thargedau y mae modd eu cyflawni? Dylem ni fod â Chymru sydd o blaid pobl hŷn heddiw, nid mewn rhyw amserlen sydd eto i'w phenderfynu. Mae angen gweithredu ar bobl hŷn yng Nghymru, yr union rai a helpodd i lywio eich strategaeth nawr, nid mwy o bwyllgorau, paneli gweinidogol neu grwpiau ffocws eto.

Yn ystod yr wythnosau ar ôl cyhoeddi eich dogfen, Dirprwy Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddilyn polisïau nad ydyn nhw o blaid oedran. Gwnaethoch chi gyflwyno pasbortau brechlyn ar gyfer theatrau a sinemâu, ac eto mae pobl hŷn yn ei chael hi'n anodd cysylltu ar y llinell a gafodd ei sefydlu i gyflenwi tocynnau papur i'r rhai nad oes ganddyn nhw ffôn clyfar. Ddoe, cyhoeddodd eich Llywodraeth y byddai, o heddiw ymlaen, yn ychwanegu'r statws brechlyn atgyfnerthu i'r pasbortau brechlyn, ond mae pobl hŷn sy'n dymuno teithio dramor i ymweld ag anwyliaid dros y Nadolig yn anlwcus oherwydd na fydd y statws yn cael ei ychwanegu at docynnau papur tan rywbryd ym mis Ionawr. A yw hon yn Llywodraeth Cymru sydd o blaid pobl hŷn?

Pam felly bod pobl hŷn yn treulio llawer hirach yn ein hadrannau Damweiniau ac Achosion Brys? Yr amser aros cyfartalog mewn adran damweiniau ac achosion brys i'r rhai dros 85 oed yw saith awr a 47 munud—bron ddwywaith yr arhosiad targed. Dirprwy Weinidog, rydych chi'n dweud bod eich strategaeth yn cael ei llywio gan egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn, ond rydych chi wedi gwrthod cefnogi fy ngalwadau i i ymgorffori'r egwyddorion hyn mewn dull sy'n seiliedig ar hawliau o gynnal gwasanaethau i bobl hŷn yng Nghymru, felly ni allwch chi ddweud un peth ac yna pleidleisio yn ei erbyn yn ymarferol.

Yn y 10 i 15 mlynedd nesaf, bydd nifer y bobl dros 65 oed sy'n cael trafferth gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd yn tyfu dros draean. A ydych chi'n credu y gall eich Llywodraeth ddarparu gwasanaeth iechyd a gofal a all ddiwallu'r angen cynyddol hwn? Dirprwy Weinidog, pan ddaw'n fater o iechyd a gofal yng Nghymru, dylem ni fod yn gwario tua £1.18 am bob punt sy'n cael ei wario yn Lloegr i ddiwallu anghenion ychwanegol ein poblogaeth hŷn, ond mae ffigurau diweddar gan Archwilio Cymru yn dangos bod gwariant tua £1.05. A fyddwch chi'n annog y Gweinidog cyllid i gynyddu gwariant ar iechyd a gofal yn aruthrol er mwyn cyflawni'r amcanion sydd wedi'u nodi yn eich strategaeth?

Dirprwy Weinidog, prif elfennau eich strategaeth heneiddio yw galluogi pobl hŷn i gymryd rhan a lleisio eu barn. Mae ein poblogaeth hŷn wedi teimlo effeithiau pandemig COVID-19 i'r byw yn fwy nag unrhyw ran arall o'n cymuned. A ydych chi felly'n cytuno â fy mhlaid i—a'r comisiynydd pobl hŷn nawr—fod angen ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru arnom ni i ymdrin â'r pandemig hwn? Mae Mrs Herklots yn dweud, ac rwy'n dyfynnu,

'Bydd cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus sy'n benodol i Gymru yn sicrhau bod y Cadeirydd a'r panel sy'n cynnal yr Ymchwiliad yn deall datganoli a natur unigryw ddiwylliannol a gwleidyddol Cymru, yn ogystal â bod yn gynrychioliadol o amrywiaeth ein cenedl ac yn hygyrch mewn ffordd na all Ymchwiliad ledled y DU ei gyflawni.'

Mae hi'n mynd ymlaen i ddweud,

'Bydd hyn yn hollbwysig os ydym ni eisiau clywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn a'u hanwyliaid, y bydd llawer ohonyn nhw wedi colli rhywun, ac yn rhoi cyfle i'w hanesion nhw gael eu clywed. Bydd galluogi pobl i rannu eu profiadau a lleisio eu barn yn rhan sylfaenol o ymchwiliad, a bydd yn rhan o'n hadferiad ar y cyd o'r cyfnod mwyaf dinistriol hwn.'

A ydych chi'n cefnogi'r farn hon, Dirprwy Weinidog, ac a ydych chi'n cytuno bod peidio â chynnal ymchwiliad COVID sy'n benodol i Gymru yn peryglu colli cyfleoedd posibl i wneud ein gwasanaethau iechyd a gofal yn fwy cadarn a chynaliadwy? Dirprwy Weinidog, edrychaf ymlaen at weld eich cynllun cyflawni ac rwyf i'n cefnogi eich dyheadau, ond mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod yn dod yn fwy na hynny. Mae angen mwy na geiriau cynnes ar bobl hŷn yng Nghymru. Diolch.

16:35

Diolch i chi am y sylwadau hynny. Er mwyn ymdrin â'r hyn a allaf o'r holl bwyntiau hynny: dyhead a dim llawer o fanylion, rwy'n credu ein bod ni wedi nodi'n benodol yr arian yr ydym ni'n ei ddyrannu er mwyn sicrhau cymunedau sy'n addas ar gyfer pobl hŷn. Rydym ni wedi gwneud hyn ar y cyd â'r comisiwn pobl hŷn, ac mae pob awdurdod lleol yn bwrw ymlaen â chynlluniau i gyflwyno cymunedau sy'n fwy ystyriol o oedran yn eu hardaloedd. Ac os byddan nhw'n dod yn aelodau o rwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd, caiff ei fonitro, felly mae cryn dipyn o fanylion yn hyn i gyd. Felly, rwy'n credu ei bod yn gwbl anghywir i ddweud nad oes llawer o fanylion.

Mae hyn hefyd yn cael ei gefnogi'n gryf iawn gan y comisiynydd pobl hŷn; mewn gwirionedd, hi gymerodd y cam cyntaf gwreiddiol, gan fynd at yr awdurdodau lleol yn ceisio eu hannog i fod â chymunedau sy'n addas ar gyfer pobl hŷn. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod ni'n gwneud hyn, ac rwy'n credu bod llawer o fanylion yn y cynllun gweithredu. Wrth gwrs, mae'n cymryd cryn amser i gyfrifo'r cynllun gweithredu, oherwydd mae'n cael ei wneud yn gydgynhyrchiol, felly mae hynny'n bwysig iawn.

Yn amlwg, mae pobl hŷn eisiau bod yn ddiogel. Mae llawer ohonyn nhw wedi dweud wrthyf i, ac wedi dweud wrthym ni i gyd, gymaint o sicrwydd a roddwyd iddynt gan y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ofalus ynglŷn â'r ffordd y mae wedi ymdrin â'r pandemig COVID. Maen nhw wedi bod yn falch iawn ein bod ni wedi bod yn ofalus a'n bod ni wedi bod â phasbortau brechlyn, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio hynny.

O ran y gyllideb, mae'n amlwg y bydd y gyllideb yn cael ei chyhoeddi fis nesaf a byddwn ni'n gweld beth sy'n dod ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Ond rwy'n siŵr y byddwch chi'n cydnabod bod y gyllideb eisoes yn cymryd bron i hanner cyllideb Llywodraeth Cymru, ac rydym ni'n sicr yn gwario llawer o'n harian ar iechyd a gofal cymdeithasol.

Nawr, gan droi at y pwynt olaf y gwnaethoch chi am yr ymchwiliad, rwy'n credu i chi, glywed, mae'n debyg, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog fod y Prif Weinidog wedi gofyn i Brif Weinidog y DU am warantau gydag ymchwiliad ledled y DU, oherwydd mae'n gwbl hanfodol bod barn pobl Cymru yn cael ei hystyried. Mae'n gwbl hanfodol bod y bobl hynny sydd wedi colli pobl, bod eu profiadau'n cael eu clywed. Felly, mae'r Prif Weinidog wedi bod yn pwyso ar Brif Weinidog y DU o ran hynny, ac rwy'n credu iddo ddweud heddiw ei fod wedi cael ymateb. Nid wyf i'n credu y gallwn ni osgoi'r ffaith y bydd y dystiolaeth a fydd yn codi yn dangos natur gydgysylltiedig y ffordd y bu'n rhaid ymdrin â'r pandemig, ond rwy'n cytuno'n llwyr fod yn rhaid ystyried profiadau cleifion Cymru a pherthnasau o Gymru. Rhaid i unrhyw ymchwiliad ledled y DU gynnwys hynny, a gwn fod y Prif Weinidog hefyd yn siŵr iawn y dylai hynny ddigwydd.

16:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'n fras y datganiad gan y Llywodraeth heddiw. Yn gyffredinol, mae pobl yng Nghymru yn byw'n hirach; amcangyfrifir y gallai chwarter y boblogaeth fod dros 65 oed mewn 20 mlynedd. Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, mae cyhoeddi strategaeth sy'n gwneud bywyd yn haws i bobl hŷn yn rhywbeth y dylai unrhyw lywodraeth gyfrifol fod yn ei wneud, o ochr ymarferol pethau. Fodd bynnag, nid yw gofalu am ein pobl fwyaf agored i niwed yn ymarferol yn unig; mae hefyd yn beth moesol i'w wneud. Mae gennym ni ddyletswydd i ofalu am ein pobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ac mae rhai o'n pobl oedrannus ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed.

Yr wythnos diwethaf, cawsom ni Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, felly mae'r strategaeth hon yn eithaf amserol. Mae Confensiwn Cenedlaethol Pensiynwyr Cymru yn dweud bod gofalwyr di-dâl hŷn yn aml yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar gymorth wrth i wasanaethau gwybodaeth a chyngor barhau i symud ar-lein. Mae perygl gwirioneddol y gallai pobl hŷn gael eu hallgáu'n ddigidol yma ac mewn ffyrdd eraill hefyd. Sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau y bydd gwybodaeth ynghylch gwasanaethau a chymorth ar gael yn eang ac yn hygyrch ym mhob fformat? A yw'r Gweinidog yn cytuno y byddai cyfuno gwasanaethau iechyd a gofal yn well yn gwella hygyrchedd gwybodaeth, a bod angen gwneud rhagor o waith i gefnogi gofalwyr di-dâl a sicrhau eu lles corfforol a meddyliol?

Mae'r pandemig hefyd wedi newid y ffordd yr ydym ni'n defnyddio gwasanaethau iechyd. Mae llawer o ymgynghoriadau wedi symud ar-lein, sy'n golygu nad yw llawer o bobl hŷn yn gallu manteisio ar wasanaethau hanfodol oni bai eu bod yn fedrus ym maes technoleg gwybodaeth. Cafodd hyn ei ategu gan arolwg Age Cymru o brofiadau pobl hŷn yng Nghymru yn ystod cyfnod clo COVID-19. Gwnaethon nhw ddarganfod bod gan 40.5 y cant o'r ymatebwyr broblemau o ran cael gafael ar wasanaethau meddygon teulu, ac ymatebodd 6 y cant na allen nhw fanteisio ar wasanaethau meddygon teulu o gwbl. Rwy'n awyddus i sicrhau nad yw'r bobl hynny nad ydyn nhw ar-lein, am ba reswm bynnag, a'r rhai y mae'n well ganddyn nhw ymgynghoriadau wyneb yn wyneb yn cael eu gadael yn aros yn hir yn y ciw, gan dderbyn gwasanaeth eilradd. A wnaiff y Llywodraeth, felly, weithredu dull cyfunol sy'n cynnig mynediad priodol i'r rhai sydd angen a/neu sy'n well ganddyn nhw ymgynghori wyneb yn wyneb? 

Mae wedi hen sefydlu bod rhai pobl sydd â'r Gymraeg fel iaith gyntaf yn colli eu gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Saesneg wrth iddyn nhw fynd yn hŷn. Rwy'n falch bod y strategaeth hon yn cydnabod bod y mater hwn yn bwysig i bob gwasanaeth, ond mae hyn yn arbennig o wir ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, oherwydd gall cyfathrebu aneffeithiol beryglu ansawdd y gofal. A allai'r Gweinidog, felly, roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefel bresennol y ddarpariaeth Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd a gofal?

A yw'r Llywodraeth yn credu bod digon o staff sy'n siarad Cymraeg yn gweithio ym maes gwasanaethau iechyd a gofal ar hyn o bryd? I grynhoi, er mwyn i'r strategaeth hon fod yn effeithiol, rhaid ei chydblethu drwy'r Llywodraeth gyfan. A fydd pob adran yn ymwneud â chreu cymdeithas sydd o blaid pobl hŷn? A fydd y cynllun hwn, sydd i'w ganmol mewn print, yn cael y gyllideb a'r gefnogaeth angenrheidiol i'w rhoi ar waith? A fydd allbynnau'n cael eu monitro, eu hadolygu, ac yn arwain at newidiadau os bydd eu hangen? Er mwyn pobl hŷn, yr wyf i'n fawr obeithio hynny. Diolch yn fawr.

16:45

Diolch yn fawr iawn. Diolch am eich croeso i'r cynllun, ac am eich geiriau cadarnhaol iawn. Rwy'n credu ei bod yn gwbl gywir, fel y dywedwch chi, ein bod ni'n gwneud yr hyn a allwn ni i'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ond rwy'n credu hefyd ei bod yn bwysig cofio'r cyfraniad y mae pobl hŷn yn ei wneud, oherwydd rwy'n credu bod llawer o bethau cadarnhaol y gallwn i dynnu sylw atyn nhw, megis y gwirfoddoli y mae pobl hŷn yn ei gyflawni. Rwy'n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol o'r siopau elusen sy'n cael eu cynnal gan bobl hŷn, ac yn ystod y pandemig, sylwyd mewn gwirionedd ar sut y mae pobl hŷn, a oedd yn dueddol o aros yn eu cartrefi—gymaint yr oedd gweld eu heisiau. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n edrych ar yr ochr gadarnhaol o heneiddio hefyd. Ond rwy'n cytuno'n llwyr ag ef mai nhw yw rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed, ac mae angen i ni wneud yr hyn a allwn ni i'w helpu nhw.

Rwy'n falch ei fod wedi sôn am Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr. Gwnes i gyfarfod â nifer o grwpiau o ofalwyr di-dâl yr wythnos diwethaf i wrando ar y straeon ynghylch sut yr oedden nhw wedi ymdopi yn y pandemig a'r anawsterau yr oedden nhw wedi dod ar eu traws. Yr oedd yn angerddol iawn—yn eich cyffwrdd i'r byw, mewn gwirionedd—eu hymrwymiad i'r bobl yr oedden nhw'n eu caru, yn gofalu amdanyn nhw, a'r hyn yr oedden nhw'n ei wneud, ac rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol i ni wneud popeth o fewn ein gallu i'w helpu. Dyna pam, yn ystod y flwyddyn ariannol hon, yr ydym ni wedi rhoi £10 miliwn i ofalwyr, ac mae'r arian hwnnw'n mynd i ddarparu—. Wel, mae £3 miliwn ohono ar gyfer gofal seibiant, oherwydd dyna y mae gofalwyr di-dâl wedi'i ddweud wrthym ni—mai cael y seibiant a chael seibiant yw'r peth pwysicaf oll y maen nhw'n gallu ei gael. Ac yna rydym ni wedi rhoi £5.5 miliwn arall i'r awdurdodau lleol i'w rhoi'n uniongyrchol i ofalwyr i'w helpu gyda'r hyn sy'n bwysicaf iddyn nhw. Felly, yr ydym ni'n sicr wedi cydnabod hyn. Mae gofalwyr di-dâl hŷn yn cael eu cydnabod hefyd, oherwydd gwyddom ni fod cymaint o sefyllfaoedd lle mae person hŷn yn gofalu am ŵr, o bosibl, gyda Chlefyd Alzheimer—amser anodd, anodd iawn, a chymaint o gymorth â phosibl.

Mae cynhwysiant digidol yn bwysig iawn, ac mae ein strategaeth ddigidol yng Nghymru yn cydnabod y ffaith bod angen nid yn unig ddyfeisiau ar bobl i'w defnyddio, ond mae angen help arnyn nhw hefyd er mwyn eu defnyddio. Felly, mae hynny'n rhan o'n strategaeth. Ond hefyd rydym ni'n cydnabod bod llawer o bobl hŷn yn arbennig nad ydyn nhw eisiau bod yn llythrennog yn ddigidol neu sy'n methu bod, ac felly rhan o'n strategaeth yw cydnabod hynny ac mae angen i ni gael gwybodaeth i bob aelod o gymdeithas sut y maen nhw'n dewis cael eu gwybodaeth. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n cael ei gydnabod yn bwynt pwysig iawn.

O ran integreiddio gwasanaethau, yn sicr; dyna un o'r pethau allweddol yr ydym ni eisiau i Lywodraeth Cymru ei wneud—er mwyn integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn well. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau'n cydweithio'n agos iawn i sicrhau bod yr integreiddio hwn yno, a gobeithiwn ni weld mwy fyth o integreiddio rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. O ran mynediad i feddygon teulu, unwaith eto, mae rhai pobl wedi elwa'n fawr ar ffordd ddigidol o weithio, a gwyddom ni hynny, rwy'n credu. Ond rwy'n gwybod bod nifer sylweddol o bobl hŷn sydd eisiau cael y cyswllt wyneb yn wyneb. Rwy'n credu ei fod wedi awgrymu dull cyfunol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n debygol o symud tuag ato.

O ran y Gymraeg a'r iaith gyntaf, rwy'n cytuno'n llwyr. O fy mhrofiad teuluol fy hun, rwy'n gwybod efallai pan fyddwch chi'n mynd yn hŷn, dim ond eich iaith gyntaf eich hun yr ydych chi eisiau ei defnyddio. Ond, beth bynnag, dylai pobl gael y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg pan fyddan nhw'n defnyddio gwasanaethau, ac yn sicr os ydyn nhw mewn cartref gofal. Mae ein strategaeth ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, 'Mwy na geiriau' yn strategaeth yr ydym ni'n gweithio arni i wella nifer y siaradwyr Cymraeg. Nid wyf i o'r farn bod digon o staff sy'n siarad Cymraeg. Rydym ni eisiau cael cymdeithas sydd o blaid pobl hŷn lle mae pawb yn teimlo bod ganddyn nhw le, ac yna mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n cael y Gymraeg yn gywir yn ei lle cywir.

Ac yna, yn olaf, sut rydym ni'n mynd i'w adolygu a gweld sut y byddwn n'n gwneud cynnydd? Wel, yn sicr, mae ymchwil Abertawe wedi rhoi llinell sylfaen i ni. Mae ymchwil y comisiynydd pobl hŷn wedi rhoi llinell sylfaen i ni, ac felly byddwn ni'n mesur sut mae'r strategaeth hon yn gweithio.

16:50

Efallai y dylwn i ddatgan buddiant fel person hŷn. Ond mae gennyf i bob bwriad o dyfu'n hen yn warthus, oherwydd dydw i ddim yn credu fy mod i eisiau bod yn fy nghadair olwyn unrhyw bryd yn fuan.

Rwy'n credu bod y rhan a gafodd ei chwarae gan bobl hŷn yn ystod y pandemig wir wedi bod yn enfawr. Dychmygwch, mae'r rhan fwyaf o'r gofalwyr—rwy'n gwerthfawrogi bod gofalwyr ifanc, ac maen nhw'n gwneud gwaith gwerthfawr hefyd, ond mae'r rhan fwyaf o ofalwyr yn bobl hŷn sy'n gofalu am eu hanwyliaid, p'un ai oes ganddyn nhw ddementia neu a oes ganddyn nhw oedolion ifanc ag anawsterau dysgu. Dyma bobl sydd, yn ystod y pandemig, wedi gorfod gwneud y cyfan ar eu pen eu hunain, ac felly mae'n rhaid i ni eu canmol nhw am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud heb unrhyw seibiant. Mae angen i ni sicrhau, wrth i bobl fyw'n hirach, fod angen iddyn nhw fyw bywydau iachach hefyd, oherwydd mae'n eithaf diflas byw gyda chyflyrau iechyd niferus. Wyddoch chi, mae rhai pobl yn dweud, 'gallaf i ddim cymryd mwy o hyn'. Roeddwn i'n myfyrio ar faint o'r pethau yr ydym ni'n eu gwneud, er enghraifft, i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd, sy'n ymwneud ag achub y byd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Serch hynny, mae hefyd yn gwneud bywyd yn well i bobl hŷn hefyd. Felly, pan fyddwn ni'n—

—lleihau ein hallyriadau carbon, gyda llai o geir ar y ffordd, sy'n ei wneud yn fwy dynol. Felly, fy nghwestiwn i, Dirprwy Lywydd, yw: wrth i ni ailgodi Cymru decach a gwyrddach, sut y gallwn ni integreiddio ein holl wasanaethau i fod yn agored i'r doethineb y gall pobl hŷn ei ddarparu? Ond hefyd, gyda'r twf mewn dementia, sut y gallwn ni wneud ein holl wasanaethau'n addas ar gyfer pobl â dementia, fel nad oes rhaid i bobl gael eu cludo mewn bysiau ledled y lle, a gallan nhw fynd i'w cymunedau lleol i gael cefnogaeth ac ysgogiad?

Diolch yn fawr iawn i Jenny Rathbone am y sylwebaeth a'r cwestiwn diddorol hwnnw. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi ein bod ni eisiau gweld heneiddio'n iach. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n annog pobl hŷn i fod yn egnïol. Rwyf innau'n datgan buddiant hefyd, gan fy mod yn berson hŷn. Mewn gwirionedd, o dan ein strategaeth heneiddio'n iach, rydym ni'n ariannu teithiau cerdded Nordig, tai chi—o dan y rhaglen heneiddio'n iach. Es i ar daith gerdded Nordig, ac roedd hi'n llawer o hwyl. Gwnes i ei fwynhau'n enfawr ac nid oedd gennyf i syniad o'r manteision a dweud y gwir, nes i mi ei wneud. Rydym ni wedi bod yn ariannu Age Cymru i ddarparu'r gwasanaethau hynny ers 2007, sy'n cynyddu gweithgarwch ac sy'n cael ei werthfawrogi felly gan y bobl hŷn sy'n gwneud hynny. Gan ei fod nid yn unig yn egnïol ac yn iach—byddai amgylchedd di-garbon yn wych—ond mae hefyd yn gymdeithasol. Felly, rwy'n credu, o ran ymdrin ag iechyd pobl hŷn, y gallwn ni wneud hynny, ac rydym ni yn gwneud hynny i ryw raddau.

O ran dementia, gwyddom ni fod nifer y bobl sydd â dementia yn sicr naill ai'n codi neu'n cael ei adrodd yn ehangach, ac mae'n fater y mae'n rhaid i ni wneud yr hyn a allwn ni i helpu. Oherwydd, yn sicr, o nifer y bobl y mae angen iddyn nhw fynd i ofal preswyl pobl hŷn, mae nifer enfawr nawr yn dioddef o ddementia. Rwy'n cytuno y dylem ni allu cael pobl sy'n dioddef o ddementia yn defnyddio'r gwasanaethau sydd yno eisoes. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae hyfforddiant sy'n ystyriol o ddementia y mae llawer ohonom ni wedi'i wneud, felly rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu ni i annog yr hyfforddiant sy'n ystyriol o ddementia a'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Gymdeithas Alzheimer i godi ymwybyddiaeth. Rwy'n credu mai'r pwynt y mae hi'n ei wneud yw y dylai pobl â dementia allu mynd, dyweder, i ganolfan ddydd leol, nid un sydd wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer pobl â dementia. Yn ddelfrydol, rwy'n credu y byddai hynny'n rhagorol os byddai modd gwneud hynny, ond, yn amlwg, mae angen llawer o waith arnom ni o ran deall dementia, fel bod pobl yn sylweddoli ei bod yn bosibl integreiddio. Rwy'n credu bod hynny'n sicr yn rhywbeth y dylem ni weithio tuag ato.

16:55

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae heneiddio yn fendith. Yn 2018, gwnaeth y fforwm cynghori gweinidogol ar heneiddio gynnull pum gweithgor i ganolbwyntio ar y meysydd allweddol yr oedd yr Aelodau'n teimlo bod yn rhaid i ni eu cael yn iawn wrth gynllunio ar gyfer heneiddio, gan gynnwys sut i wneud hawliau'n wirioneddol i bobl hŷn. Gweinidog, siawns nad yw'n bryd nawr i ymgorffori hawliau pobl hŷn yn y gyfraith. Mae angen i ni osod safon i eraill ei dilyn. Felly, a yw hi'n cytuno bod gwneud hawliau'n wirioneddol yn golygu sefydlu beth yw'r hawliau hynny? Mae llawer o bobl hŷn yn agored i ymosodiadau. Weithiau mae datblygu galluoedd pobl hŷn yn dibynnu ar wybodaeth o ansawdd da. Fy nghwestiwn i i'r Gweinidog yw: a fyddech chi'n cefnogi fy ngalwad i Lywodraeth Cymru gynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth blynyddol yn erbyn cam-drin pobl hŷn, gwahaniaethu ar sail oedran a sgamiau a thwyll i helpu i hysbysu a galluogi ein poblogaeth hŷn? Bydd llawer o bobl hŷn yn wyliadwrus o strategaeth arall eto heb weledigaeth glir gan y Llywodraeth o ran pa fudd cadarnhaol y byddan nhw'n ei weld yn ymarferol. Gweinidog, adeg etholiad nesaf y Senedd, sut y bydd Cymru'n fwy o blaid pobl hŷn, a sut y byddwch chi'n gwybod sut beth yw llwyddiant mewn gwirionedd? Diolch.

Diolch yn fawr am y cwestiynau hynny. Rwy'n falch o ddweud bod y grŵp cynghori gweinidogol a'r is-grwpiau y soniodd ef amdanyn nhw'n llawn pobl hŷn sy'n cynghori ein strategaeth, a bod popeth yr ydym ni'n ei wneud yn cael ei wneud ar y cyd â phobl hŷn.

Y cwestiwn y gofynnodd ef i mi oedd pa mor bwysig yw ymgyrchu yn erbyn cam-drin pobl hŷn, er enghraifft. Dyna un o elfennau ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n ystyriol o oedran. Mae maes cam-drin pobl hŷn yn cael ei gynghori gan y grŵp a gafodd ei sefydlu gan y comisiynydd pobl hŷn, sydd wedi cymryd diddordeb arbennig ym maes cam-drin pobl hŷn. Mae agweddau penodol ar faes cam-drin pobl hŷn yr ydym ni wedi bod yn eu hystyried, ac mae gennym ni grŵp sy'n mynd i'r afael â hynny. Rwy'n credu, yn aml, pan feddyliwch chi am gam-drin, eich bod chi'n meddwl efallai am gam-drin domestig a'ch bod yn meddwl am bobl iau, ond gwyddom ni mai ychydig iawn o gyfleusterau sydd ar gael, er enghraifft, i fenyw hŷn fynd iddi pe byddai hi mewn perthynas gamdriniol a bod angen iddi adael. Dyna un o'r materion y mae'n rhaid i ni ei ystyried, yn sicr. Felly, ydy, mae maes cam-drin pobl hŷn yn rhan allweddol o'n strategaeth.

O ran sgamiau, mae ein strategaeth ddigidol yn cynnwys elfen o ddiogelwch ar-lein, ac yn sicr mae llawer o awgrymiadau a chynigion ynghylch sut y gallwch chi osgoi sgamiau a mynd i'r afael â nhw. Ac yna, rwy'n meddwl, i orffen, sut, yn etholiad nesaf y Senedd, y byddwn ni'n gweld a ydym ni wedi bod yn llwyddiannus, wel, bydd rhai pethau sylfaenol fel, er enghraifft, a fydd yr holl awdurdodau lleol yn rhan o rwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer cymdeithas sydd o blaid pobl hŷn. Dyna fydd un o'r pethau y gallwn ni ei wneud. Ac os ydyn nhw, rwy'n credu y byddem ni'n dweud y gallai hynny fod yn un mesur bach o lwyddiant. Ond rwy'n credu y byddai, yn y bôn, yn ymwneud â sut mae pobl hŷn yn teimlo. Cyn belled ag y gallwn ni ei fesur, byddwn ni'n defnyddio'r llinell sylfaen a gafodd ei darparu gan yr ymchwil a gafodd ei gwneud ym Mhrifysgol Abertawe. Felly, rwy'n credu bod gennym ni linell sylfaen dda i weithio ohoni.

17:00
7. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwrnod AIDS y Byd

Yr eitem nesaf heddiw yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—Diwrnod AIDS y Byd. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.

Diolch, Llywydd. Mae yfory yn nodi Diwrnod AIDS y Byd, sy'n amser i fyfyrio ac i edrych i'r dyfodol. Mae HIV ac AIDS yn dal i fod yn fater iechyd cyhoeddus byd-eang mawr, gan ei fod wedi cymryd tua 36.3 miliwn o fywydau yn fyd-eang. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod 680,000 o bobl wedi marw o achosion sy'n gysylltiedig â HIV yn 2020 ac 1.5 miliwn o bobl wedi cael eu heintio gan HIV. Er nad oes iachâd o hyd ar gyfer HIV, mae atal, diagnosis, triniaeth a gofal effeithiol bellach ar gael, gan alluogi pobl sy'n byw gyda HIV i fyw bywydau hir ac iach. Mae'r amcangyfrif diweddaraf yn awgrymu bod 105,200 o bobl yn byw gyda HIV yn y DU yn 2019. O'r rhain, mae tua 6,600 heb gael diagnosis, felly dydyn nhw ddim yn gwybod bod ganddyn nhw HIV.

Rydym wedi cyflawni llawer ers dyddiau tywyll y 1980au—a ddarluniwyd mor gofiadwy y llynedd yn It's a Sin ar Channel 4—pan oedd anwybodaeth a chreulondeb tuag at bobl â HIV yn rhemp. Mae llawer o gynnydd wedi'i wneud ers i Sefydliad Iechyd y Byd sefydlu Diwrnod AIDS y Byd yn 1988, ond mae cymaint mwy i'w wneud o hyd. Dyna pam, yng Nghymru, mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi ymrwymiadau uchelgeisiol i ddatblygu cynllun gweithredu HIV i Gymru ac i fynd i'r afael â'r stigma a brofir gan y bobl hynny sy'n byw gyda HIV. Mae'n rhaid cymryd mwy o gamau os yw Cymru yn mynd i gyrraedd targed byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer rhoi terfyn ar drosglwyddiadau HIV newydd erbyn 2030.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda byrddau iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid eraill, wedi gwneud cynnydd enfawr o ran gwella mynediad at brofion a thriniaeth yng Nghymru.

Yn 2018, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adolygiad cynhwysfawr o iechyd rhywiol yng Nghymru, a amlygodd amrywiad daearyddol mewn gwasanaethau a'r angen i edrych ar fodel gwahanol o ddarparu gwasanaethau i ateb y galw. Ers hynny, rydym wedi gweithio i wella mynediad at wasanaethau ledled Cymru. I'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol ar gyfer proffylacsis cyn-amlygiad, sydd bellach ar gael ledled Cymru, rydym wedi cyflwyno hunan-samplu HIV i wella'r gallu i gael gafael ar brofion ac amser clinig am ddim.

Ar ddechrau pandemig COVID-19, pan oedd y gallu i gael gafael ar wasanaethau iechyd rhywiol yn gyfyngedig, ehangwyd cynllun treialu profi heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ar-lein a oedd yn digwydd mewn tri bwrdd iechyd yng Nghymru eisoes. Er y disgwyliwyd y byddai'r gwasanaeth cenedlaethol ar-lein newydd sy'n profi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn diwallu anghenion y garfan nad oes ganddyn nhw unrhyw symptomau hysbys, gan ryddhau gwasanaethau'r clinig i weld achosion mwy cymhleth, mae hefyd wedi datgelu carfan o bobl nad oedden nhw'n hysbys i wasanaethau o'r blaen.

Mae darparu'r gwasanaeth ar-lein ledled Cymru wedi gwneud profion am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn fwy hygyrch a theg, sydd wedi arwain at grŵp a oedd heb eu nodi o'r blaen yn cael eu profi. Mae hyn nid yn unig wedi golygu bod mwy o bobl yn gallu cael eu profi a'u trin yn gynharach, gan leihau'r risg o drosglwyddo ymhellach yn y gymuned, ond mae gwasanaethau iechyd rhywiol wedi gallu canolbwyntio ar y rhai sy'n fwy agored i niwed mewn cymdeithas. Mae'r gwasanaeth hwn wedi cael ei groesawu gan y cyhoedd a'r gwasanaethau iechyd, ac mae'n angenrheidiol iddo barhau yn y tymor hirach. Hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â hwyluso'r gwaith o'i gyflwyno mor effeithlon ledled Cymru.

At hynny, rwy'n falch o ddweud, ar 1 Rhagfyr, y bydd triniaeth newydd, y driniaeth chwistrelladwy hirdymor gyntaf ar gyfer haint HIV-1 mewn oedolion, ar gael drwy GIG Cymru. Bydd hwn yn opsiwn gwerthfawr i'r bobl hynny sy'n gymwys a bydd yn golygu na fydd yn rhaid i bobl sy'n cael y driniaeth newydd hon gymryd meddyginiaeth ddyddiol mwyach.

Rwyf hefyd yn croesawu'r cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am PrEP, bedair blynedd ar ôl ei gyflwyno yng Nghymru. Mae PrEP yn feddyginiaeth gwrth-retrofeirysol sydd, os caiff ei chymryd yn gywir, yn gallu atal HIV i'r rhai hynny sydd mewn perygl.

Rwy'n falch o ddweud bod yr ymyrraeth hon wedi bod yn un llwyddiannus iawn, hyd yma. Does dim achosion newydd o HIV wedi bod ymysg y rhai sydd wedi bod yn derbyn PrEP. Rhwng Ionawr a Hydref 2021, gwnaeth 1,301 o bobl ddefnyddio PrEP. Serch hynny, yn ystod y pandemig, mae'r defnydd o PrEP wedi lleihau. Mae sawl rheswm posibl dros hyn, ond bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i phartneriaid, gan gynnwys y Terrence Higgins Trust, ar ymgyrch i gynyddu gwybodaeth am PrEP yng Nghymru i annog pobl i'w ddefnyddio ac i wella mynediad at PrEP. 

Mae achosion newydd o HIV yng Nghymru yn mynd ar eu lawr. Mae'n hanfodol bod y duedd hon yn parhau. Mae'n bwysig hefyd sicrhau diagnosis cynnar o achosion newydd o HIV a bod cleifion yn cael gofal o'r safon uchaf. Yn 2019—. Sori, yn 2021, roedd dros 2,300 o bobl sy'n byw yng Nghymru yn cael gofal HIV. Fe fydd y nifer yma'n cynyddu wrth i fwy o bobl wybod eu statws HIV a gallu cael triniaeth effeithiol.

Wrth gael triniaeth, mae gan rywun sydd â HIV lwyth feirysol nad oedd modd ei ganfod. Ni all y person basio HIV ymlaen, ac mae'n gallu disgwyl byw bywyd hir ac iach. Er mai dyna'r sefyllfa ers sawl blwyddyn, mae dal diffyg ymwybyddiaeth yn gyffredinol, ac mae llawer o gamsyniadau am HIV o hyd. Cyflwr cronig yw HIV. Fe ddylai bobl sydd â'r cyflwr deimlo eu bod nhw'n gallu bod yn agored am eu statws HIV, fel y buasen nhw gydag unrhyw gyflwr arall, heb ofni cael eu beirniadu neu eu trin yn wahanol. Rhaid cael gwared â'r stigma yn y gweithle, mewn ysgolion a lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Dwi'n disgwyl i bawb fod yn hyddysg am HIV a stigma HIV, a bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector addysg ac iechyd i gyflawni hyn. 

Mae fy swyddogion wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i roi cyngor ac arweiniad ar ddatblygu cynllun gweithredu ar HIV. Ei nod yw cyhoeddi'r cynllun hwn yn hanner cyntaf 2022. Fe fydd y cynllun yn cynnwys camau gweithredu mesuradwy wedi eu targedu er mwyn gwneud gwahaniaeth mawr o ran atal HIV, diagnosis, triniaeth, gofal a stigma. Cyn gynted ag y bydd y cynllun wedi ei chytuno a'i chostio, fe fyddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach, gydag amserlen i gymryd yr argymhellion ymlaen. 

Yn ogystal â helpu'r gwasanaeth iechyd i adfer a symud ymlaen ar ôl heriau anferthol y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i weithredu i sicrhau tegwch i bawb, a chael gwared ar anghydraddoldeb, stigma a rhagfarn ar bob lefel o gymdeithas. Gan weithio gyda phartneriaid ar draws y gwasanaeth iechyd, y byd academaidd a chyrff y trydydd sector, fel y Terrence Higgins Trust a Fast-Track Cities, sy'n llawn gwybodaeth ac arbenigedd, dwi'n hyderus y gall Cymru arwain y ffordd. Dwi'n edrych ymlaen at roi rhagor o wybodaeth ichi am waith pellach a'r ymrwymiadau hyn, sydd wedi eu gwneud yn rhaglen Llywodraeth Cymru, a'n hymdrechion pwrpasol i leihau trosglwyddiad HIV yma yng Nghymru.

17:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw? Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd yng nghyfraniad y Gweinidog. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, oherwydd y gwaith gwych a wnaed gan wyddonwyr a gweithwyr gofal iechyd, rydym wedi gweld trosglwyddo HIV yn lleihau'n sylweddol, sydd wedi helpu, wrth gwrs, i gyfyngu ar yr effaith andwyol y mae'r feirws wedi'i chael ar fywyd person. Mae ffigurau'n dangos bod achosion o HIV wedi gostwng 15 y cant yng Nghymru ers 2018, ac mae hyn yn dyst, wrth gwrs, i'r profion HIV estynedig ac effeithiolrwydd triniaethau HIV. Fodd bynnag, sylwais hefyd fod nifer y rhai yng Nghymru sy'n cael diagnosis hwyr yn llawer uwch na chyfartaledd y DU, felly wrth gwrs, rwy'n croesawu'r cynllun gweithredu HIV a amlinellwyd gan y Gweinidog ond tybed a all y Gweinidog roi rhywfaint o wybodaeth am sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â diagnosis hwyr, yng Nghymru yn benodol.

Rwy'n credu, diolch i'r gwaith anhygoel dros nifer o ddegawdau, y gall pobl sy'n byw gyda HIV wneud yn union hynny: gallan nhw fyw, a gall y rhai sydd â HIV bellach fyw bywydau hir ac iach gyda'r feddyginiaeth hyd yn oed yn ei wneud yn bosibl lleihau'r clefyd i sefyllfa lle nad yw'n cael ei drosglwyddo. Ond fel y nododd y Gweinidog yn ei datganiad heddiw, mae stigma o hyd ynghylch HIV, a tybed a all y Gweinidog efallai siarad ychydig yn fwy ar y cynllun gweithredu yn hynny o beth, oherwydd yn sicr fy marn i o'r ychydig ymchwil yr wyf i wedi'i wneud yn y fan yma yw y dylai'r mater o stigma fod yn rhan ganolog o'r cynllun hwnnw, felly tybed a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â'r safbwynt hwnnw.

Un o'r pethau allweddol a ddysgwyd o bandemig COVID-19 yw pwysigrwydd, wrth gwrs, y gallu i gael triniaeth effeithiol a thechnolegau newydd yn gyflym. Dylai pobl sy'n byw gyda HIV allu cael gafael ar unrhyw arloesedd a thechnoleg newydd mewn modd cyflym a diogel er mwyn helpu i wella ansawdd eu bywyd, ac mae'n wych gweld y driniaeth newydd a amlinellwyd gan y Gweinidog yn ei datganiad heddiw. Rwy'n credu mai triniaeth chwistrelladwy ydyw ar gyfer heintiau HIV-1 mewn oedolion, os wyf yn iawn ar hynny; rwy'n credu bod hynny'n cael ei gyflwyno'n fuan, fel yr wyf yn ei ddeall, sy'n golygu y bydd cleifion yn gallu rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaethau dyddiol. Ni wn a yw'r Gweinidog yn gwybod mwy am hynny, ond byddai'n ddefnyddiol gwybod os, gyda'r driniaeth newydd honno, pa mor aml y mae'n rhaid rhoi'r pigiadau, ac a fydd y driniaeth yn agored i bob oedolyn sydd â HIV yng Nghymru.

Byddai'n dda gwybod ychydig mwy am ddatblygiad y cynllun hefyd; soniodd y Gweinidog yn ei sylwadau am Ymddiriedolaeth Terrence Higgins a Fast-Track Cities. A yw'r sefydliadau hyn yn mynd i fod yn rhan o ddatblygu'r cynllun hwnnw? Ychydig mwy o wybodaeth yn hynny o beth.

Ac wrth gwrs, yn olaf, gwyddom fod gennym gyfradd swyddi gwag fawr o ran nyrsys yng Nghymru—1,700 o swyddi nyrsio gwag—felly wrth gwrs, rydym ni eisiau helpu'r rhai sy'n byw gyda HIV yng Nghymru i fyw bywydau hir ac iach, felly mae angen i ni gynnal gweithlu i hwyluso hynny. Felly, tybed a fydd y Gweinidog yn ymrwymo i ddatblygu strategaeth yn hyn o beth ar gyfer recriwtio a chadw'r gweithlu HIV, yn enwedig mewn lleoliadau clinigol, llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol. Diolch, Dirprwy Lywydd.

17:10

Diolch yn fawr, Russell. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn glir iawn ynghylch faint o bobl sy'n cael eu heffeithio gan HIV yng Nghymru; yn 2019, roedd gennym tua 2,378 o bobl a oedd wedi cael gofal HIV. Dynion oedd tua 77 y cant o'r rheini, ac rydych chi yn llygad eich lle i ganolbwyntio ar yr angen i geisio sicrhau bod gennym ddiagnosis cynnar. I wneud hynny, mae angen i bobl gamu ymlaen a dod ymlaen, ac felly mae cael gwared ar yr holl sefyllfa o stigma y gwnaethoch chi sôn amdani yn gwbl ganolog i hynny. A bydd yn ganolog i'r cynllun sydd wedi'i ddatblygu, ac yn amlwg, ar y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw, bydd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn rhan o ddatblygu'r cynllun hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cael sawl cyfarfod gyda rhanddeiliaid ac maent yn datblygu camau gweithredu penodol i fynd i'r afael ag addysg am HIV a'r stigma a brofir gan y rhai sy'n byw gyda HIV, a bydd cyfarfod cyntaf y grŵp stigma hwnnw'n cael ei gynnal cyn diwedd eleni.

Fe wnaethoch chi sôn am y driniaeth newydd sy'n cael ei datblygu, ac rydych chi yn llygad eich lle bod NICE, o 1 Ionawr ymlaen, wedi cymeradwyo hon. Caiff hon ei chyflwyno o Ionawr 1 yng Nghymru a bydd hynny'n atal pobl rhag gorfod cymryd meddyginiaeth yn ddyddiol. Felly, bydd ar gael i'r rhai y mae'r feddyginiaeth honno yn briodol ar eu cyfer, felly mae'n amlwg bod hynny'n benderfyniad clinigol yn hytrach na rhywbeth y gallaf fod yn glir amdano yma heddiw. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn deall bod stigma o hyd o ran HIV ac AIDS, a dydy un o bob wyth sydd ag AIDS ac yn sicr sydd â HIV erioed wedi dweud wrth unrhyw un am eu statws y tu allan i'r lleoliad gofal iechyd, ac mae tua 18 y cant o bobl â HIV wedi osgoi gofal iechyd hyd yn oed pan oedd ei angen arnyn nhw. Felly, mae'n rhaid i ni ddatrys hyn, ac mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r sefyllfa o ran stigma yng Nghymru.

17:15

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn ein bod ni fel Senedd yn cael cyfle i nodi Diwrnod AIDS y Byd. Mae'n gyfle hefyd i ganmol pawb a oedd yn ymwneud ag Wythnos Profi HIV Cymru; mi gafodd ei chydlynu gan Fast Track Caerdydd a'r Fro, a'r nod, wrth gwrs, oedd torri lawr y stigma sydd yn atal pobl rhag cael prawf. Mae o ynghlwm wedyn ynglŷn â'r targed o stopio heintiad newydd o HIV erbyn 2030, a dwi'n falch iawn, yn sicr, fod Cymru wedi bod yn flaengar trwy fod y cyntaf o wledydd y Deyrnas Unedig i ymrwymo i'r targed yna, a hefyd i sicrhau bod y cyffur atal HIV, PrEP, ar gael ar y NHS.

Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi datgan ein dymuniad ni y dylid dod â'r targed ymlaen i 2026. Mae'n bwysig iawn bod yn uchelgeisiol ac, fel mae neges Diwrnod AIDS y Byd yn ei dweud eleni, nid yn unig i siarad gêm dda, ond i roi cynllun mewn lle er mwyn gwireddu'r uchelgais honno. Y nod yn Seland Newydd ydy ei dileu erbyn 2025. Maen nhw efo tua'r un faint o bobl yn derbyn triniaeth am HIV ag sydd gennym ni yng Nghymru, felly mae hynny'n rhoi syniad i ni o beth gallem ni fod yn anelu amdano fo.

Gaf i ofyn, fel cwestiwn cyntaf, felly, pa gamau mae'r Llywodraeth wedi'u cymryd yn barod i ddysgu oddi wrth arferion da rhyngwladol, fel defnyddio'r tair egwyddor o aros yn saff, profi yn gynnar a thrin yn gynnar, fel maen nhw wedi'i wneud yn Seland Newydd er mwyn gallu dod â'r targed yna ymlaen?

Felly, ie, troi geiriau yn gweithredu ydy galwad y Terrence Higgins Trust. Rydym ni'n falch iawn mai dyna yw'r nod hirdymor. Mae'n bwysig cael yr un nod yn y pen draw, ond mi fuaswn i'n ddiolchgar hefyd o wybod beth ydy'r camau bach y mae'r Llywodraeth am eu cymryd ar y ffordd tuag at y nod yna yn y pen draw. Felly, all y Gweinidog ymrwymo heddiw, pan gaiff y cynllun gweithredu HIV ei gyflwyno blwyddyn nesaf, i gynnwys yn hwnnw'r camau, cam wrth gam, blwyddyn wrth flwyddyn, fydd yn cael eu cymryd i gynyddu profion, i dargedu adnoddau a mynd i'r afael â stigma bydd yn rhan, wedyn, o gynllun realistig i gyrraedd y targed tymor hir hwnnw?

Buaswn i hefyd yn licio sicrwydd ynglŷn â pharhad cyllid yn y hirdymor ar gyfer y cynllun profi HIV ac STIs trwy'r post, sydd wedi bod yn llwyddiannus fel cynllun cenedlaethol.

Troi at PrEP, mae mynediad at PrEP, fel rydym ni'n gwybod, yn hollol allweddol er mwyn dod â throsglwyddiadau HIV i lawr ac i ben, gobeithio. Yn ystod y pandemig, fel rydym ni wedi clywed, mi benderfynwyd rhagnodi a monitro pobl ar PrEP drwy'r platfform Attend Anywhere. Gan fod angen prawf HIV negyddol cyn mae PrEP yn cael ei rhagnodi, mi oedd clinigwyr yn gallu postio profion gwrthgorff neu antigen HIV i gartrefi pobl, a rhagnodi gwerth hyd at chwe mis o PrEP, ac yna fonitro cleifion ar-lein. Ydy'r Llywodraeth yn sicr yn mynd i barhau efo'r cynllun rhagnodi a monitro pobl ar-lein er mwyn pobl sydd eisiau osgoi gorfod dod i mewn i glinig? A throi hynny ar ei ben i lawr, sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau, i'r rhai sydd yn well ganddyn nhw, neu sydd angen, gwasanaethau wyneb yn wyneb, y gallan nhw gael y ddarpariaeth honno er mwyn sicrhau mynediad teg i apwyntiadau? Mae pawb yn chwilio am ffyrdd gwahanol o gael y mynediad, wrth gwrs.

Cwestiwn hefyd ynglŷn â gwasanaethau iechyd meddwl, rydym ni'n gwybod yn iawn sy'n bwysig iawn. Mi wnaeth arolwg Lleisiau Cadarnhaol nôl yn 2017 ddweud bod pobl sy'n byw efo HIV yng Nghymru a Lloegr ddwywaith yn fwy tebygol o brofi materion problemau iechyd meddwl o'u cymharu efo'r boblogaeth gyffredinol. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ochr yn ochr â byrddau iechyd Cymru ac ati i sicrhau bod darpariaeth a chefnogaeth iechyd meddwl mewn lle. 

Ac yn olaf, dwi'n canmol yn fawr y gwaith mae Fast-Track Cities yn ei wneud yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, yn cynnwys yr wythnos profi yna mi wnes i gyfeirio ati. Mi wnes i gael cyfarfod buddiol iawn efo nhw'n gynharach eleni yn trafod y posibilrwydd o ehangu'r cynllun, efallai i ardal Bangor yn y gogledd, ar garreg drws fy etholaeth i. Felly, ydy'r Llywodraeth yn cefnogi sefydlu rhwydweithiau cydweithredol Fast-Track Cities mewn dinasoedd neu ardaloedd eraill o Gymru er mwyn gallu adeiladu ar lwyddiant yr un yng Nghaerdydd a sicrhau bod y genedl gyfan yn gallu elwa o'r gwaith da sydd yn mynd ymlaen?

17:20

Diolch yn fawr, Rhun, a hoffwn i hefyd roi diolch am y gwaith anhygoel mae Fast-Track Cities Caerdydd yn ei wneud, a dwi yn meddwl bod yr wythnos profi yn rhywbeth dwi'n meddwl fydd yn dod yn rhywbeth sydd yn bwysig yn hanes HIV yn flynyddol yn ein gwlad ni. Fel chi, hoffwn i weld hwnna efallai yn cael ei ganolbwyntio—mae'n gwneud synnwyr i ganolbwyntio ar yr ardaloedd hynny lle rydym ni'n gwybod bod mwy o achosion nag mewn llefydd eraill. 

Rŷn ni hefyd yn awyddus i stopio trosglwyddiad HIV, fel mae'r WHO yn ein hannog ni i wneud. Wrth gwrs, os gallwn ni wneud hynny cyn 2030, bydd hwnna yn rhywbeth pwysig i ni ei weld ac, wrth gwrs, fe fydd angen inni glywed beth sydd gan y grŵp yma rŷn ni wedi ei sefydlu i ddweud am hynny. Dwi yn meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni yn edrych ar arfer da mewn gwledydd eraill. Fel rydych chi'n dweud, mae Seland Newydd, aros yn saff. Mae peidio â datblygu'r peth ar y dechrau yn gwneud lot o synnwyr, ac felly dyna pam mae rhoi PrEP i bobl, dwi'n meddwl, yn help. Rŷn ni wedi rhoi allan tua 2,197 o prescriptions i PrEP. Mae hwnna wedi ei roi i tua 1,300 o bobl. 

Dwi'n meddwl eich bod chi wedi gweld ein hymrwymiad ni fel plaid yn y maniffesto i daclo HIV. Mae hi yn glir i'w gweld, ac rŷn ni'n awyddus iawn i weld hwn yn ddatblygiad. Dyna pam y bydd yn rhaid aros nawr i glywed beth fydd y bartneriaeth yma yn dod i fyny gyda fe o ran beth maen nhw'n argymell fel strategaeth. Dwi yn gobeithio gweld amserlen glir mewn beth maen nhw'n mynd i awgrymu, a hefyd, wrth gwrs, fe fydd angen cyllid i fynd gyda hynny. Felly, dwi'n edrych ymlaen at roi mwy o fanylder ar hynny unwaith maen nhw wedi gwneud eu hargymhellion nhw. 

Dwi'n cytuno, o ran iechyd meddwl, fod hwnna'n rhywbeth mae'n rhaid i ni ei gymryd o ddifrif ac, wrth gwrs, mi fydd Lynne Neagle yn edrych mewn i hynny, ac mi fydd hwnna'n rhan bwysig o'i gwaith hi. 

A hefyd, jest o ran y rhagnodi a monitro o bell, mae hwnna wedi bod yn effeithiol, fel rydych chi'n dweud, ond rydych chi'n eithaf iawn—fe fydd rhai pobl fydd eisiau'r cysylltiad uniongyrchol yna, ac felly mae'n bwysig ein bod ni yn rhoi'r gwasanaeth yna ac yn cadw hwnna i fynd hefyd. Diolch. 

8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl Anabl

Eitem 8 ar yr agenda heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl Anabl. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dydd Gwener yma yw Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl y Cenhedloedd Unedig. Ym 1992, dynododd y Cenhedloedd Unedig y trydydd o Ragfyr yn ddiwrnod ar gyfer hyrwyddo hawliau a lles pobl anabl ac i ddathlu eu cyflawniadau ledled y byd. Y thema ar gyfer 2021 yw 'brwydro dros hawliau yn y cyfnod ar ôl COVID', ac mae hwn yn achos y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n gadarn iddo.

Does dim dwywaith fod pobl anabl ymhlith y rhai sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan y pandemig. Mae wedi amlygu nifer o'r anghydraddoldebau sydd wedi gwreiddio'n ddwfn a chadarn y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn ein cymdeithas. Mae llawer o bobl anabl wedi gorfod wynebu unigedd, datgysylltedd, amharu ar eu harferion a llai o wasanaethau, sydd heb os wedi effeithio ar eu lles meddyliol a'u bywydau. Mae hefyd yn ffaith ofnadwy bod chwech o bob 10 marwolaeth sy'n gysylltiedig â COVID, ledled y DU, yn bobl anabl. Nid oedd llawer o'r marwolaethau hyn yn ganlyniad anochel syml i nam, a llawer o farwolaethau wedi'u gwreiddio'n glir mewn ffactorau economaidd-gymdeithasol. Heddiw, rwyf nid yn unig yn ailadrodd bod y Llywodraeth hon yn cydnabod yr anghydraddoldebau hyn, ond ein bod yn gadarn yn ein penderfyniad i fynd i'r afael â nhw ac wedi cymryd camau sylweddol i wneud hynny.

Gwyddoch o'm diweddariadau blaenorol fod y Llywodraeth, drwy gydol y pandemig, wedi cyfarfod yn rheolaidd i drafod a mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar bobl anabl yng Nghymru. Arweiniodd rhan o'r trafodaethau hyn at gomisiynu a chyhoeddi'r adroddiad arloesol 'Drws ar Glo', adroddiad a daflodd oleuni clir ar yr annhegwch amlwg sy'n wynebu pobl anabl ac sydd wedi ein galluogi i gymryd y cam nesaf hanfodol o ffurfio'r tasglu hawliau anabledd, fel y cyhoeddwyd gan y Prif Weinidog. Rwy'n falch iawn o ddweud bod cyfarfod cyntaf y tasglu hawliau anabledd, a gadeiriwyd gennyf i a'r Athro Debbie Foster, wedi'i gynnal ar y deunawfed o'r mis hwn. Yn bresennol roedd pobl anabl oedd ag arbenigedd a phrofiad o'u bywydau eu hunain, ynghyd â sefydliadau o bob rhan o Gymru. Ailddatganwyd y penderfyniad i fynd i'r afael â'r materion a amlygwyd yn yr adroddiad 'Drws ar Glo' a thu hwnt i hynny.

Byddai'n esgeulus ohonof i beidio ag oedi yma am eiliad a diolch ar goedd i'r holl unigolion a ddaeth â ni i'r pwynt yma. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i holl aelodau'r grŵp llywio a'r Athro Debbie Foster, a luniodd yr adroddiad 'Drws ar Glo'. Hoffwn ddiolch iddynt am eu dycnwch a'u dyfalbarhad nid yn unig wrth lunio'r adroddiad hwn ond hefyd i sicrhau ein bod wedi cyrraedd y sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i bob aelod o'r tasglu a'r rhai a weithiodd i'w wneud yn bosibl. Gwyddom mai dim ond y dechrau yw hyn, ac eto gwyddom hefyd ein bod yn benderfynol o'n diben.

Ffurfiwyd y tasglu hwn i'n helpu i archwilio a gweithredu argymhellion yr adroddiad 'Drws ar Glo', ond, yn fwy na hynny, bydd angen iddo sicrhau bod pobl anabl yn gallu mwynhau'r holl fanteision a hawliau y mae eraill yn eu cymryd yn ganiataol. Bydd y tasglu hawliau anabledd yn cydweithio, gyda pharch ar y naill ochr a'r llall, i greu cynllun gweithredu hawliau anabledd newydd i Gymru. Bydd hyn yn adeiladu ar y fframwaith 'Gweithredu ar Anabledd: hawl i fyw'n annibynnol'. Gyda hyn, gallwn osod y sylfeini ar gyfer Cymru wirioneddol gynhwysol, a hynny mewn modd cadarnhaol.

Yn hollbwysig, deallwn y gall fod bylchau wrth ddatblygu unrhyw bolisi ac anghenion a dyheadau'r bobl y bwriedir iddo eu cefnogi. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydym wedi bod yn glir y bydd y tasglu yn rhoi lleisiau pobl anabl wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud. Bydd y cyfuniad o brofiadau proffesiynol a phrofiadau bywyd y tasglu yn allweddol wrth adnabod y rhesymau sylfaenol dros wahaniaethu a'r anghydraddoldebau sy'n deillio o hynny, a'r camau gweithredu tymor byr, canolig a hirach sydd eu hangen i fynd i'r afael â nhw.

I nodi'r diwrnod rhyngwladol hwn, rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i'r model cymdeithasol o anabledd. Gwyddom mai gwerthoedd, arferion, strwythurau, polisïau cymdeithasol ac economaidd ein cymdeithas a'r amgylcheddau adeiledig sy'n anablu pobl. Rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i ddeall a chymryd camau i fynd i'r afael â'r rhain a sicrhau nad dyma'r ffordd yr ydym ni'n parhau i weithredu. Mae ein gwaith, a gwaith y tasglu, wedi'i seilio ar ymrwymiad clir i'r model cymdeithasol o anabledd, ac rydym ni wedi ymrwymo i ymgorffori'r model cymdeithasol, yn ogystal â hawliau dynol, yn ein meddylfryd yn ogystal ag yn ein polisïau a'n harferion. Yn rhan o'r ymrwymiad hwn, byddwn yn sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ar y model cymdeithasol o anabledd i sicrhau bod hyn yn rhan annatod o waith y tasglu a sut y bydd yn gweithredu.

Wrth gwrs, rydym ni wedi gwneud cynnydd ar nifer o feysydd polisi ac rwy'n falch iawn bod ein cronfa mynediad i swyddi etholedig yn dal yn weithredol ac yn barod i gefnogi mwy o bobl anabl i sefyll etholiad, i gynyddu cynrychiolaeth, cyfranogiad ac i gefnogi eu cymunedau. Rwyf hefyd yn falch ein bod yn cwblhau dewisiadau ar gyfer uned data a thystiolaeth cydraddoldeb yng Nghymru. Bydd yr uned hon yn sicrhau bod gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yr wybodaeth orau wrth law am bobl â nodweddion gwarchodedig, ac mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys pobl anabl. Rydym ni hefyd yn croesawu ein hyrwyddwyr cyntaf ym maes cyflogi pobl anabl. Mae'r hyrwyddwyr hyn yn cefnogi cyflogwyr ledled Cymru i greu gweithlu sy'n gynrychioliadol ac yn agored i bawb.

Fel nodyn terfynol, Dirprwy Lywydd, mae'r cytundeb cydweithio a gyhoeddwyd yn ddiweddar rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, sy'n dechrau'r wythnos hon, yn dweud y byddwn, drwy gydweithio, ac rwy'n dyfynnu, yn:

'Cryfhau hawliau pobl anabl a mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau y maent yn parhau i’w hwynebu. Rydym wedi ymrwymo i’r model cymdeithasol o anabledd, a gyda’n gilydd byddwn yn sicrhau llwyddiant y Tasglu Anabledd a sefydlwyd i ymateb i’r adroddiad Drws ar Glo.'

Edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelod dynodedig Plaid Cymru i ddatblygu a goruchwylio'r broses o gyflawni gwaith yn y maes hwn dros y tair blynedd nesaf.

Felly, diolch eto i bawb sydd wedi ein helpu i gyrraedd y cam hollbwysig hwn. Rwy'n ffyddiog, pan fyddwn ni'n nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl y tro nesaf, y byddwn yn gwneud hynny o sefyllfa gryfach nag erioed. O'r sylfeini cadarn yr ydym ni wedi'u gosod gyda'n gilydd, byddwn yn gallu adeiladu Cymru gryfach, decach a mwy llewyrchus.

17:25
17:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Er ein bod yn croesawu'r dydd Gwener hwn fel Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, mae'n bwysig nid yn unig dathlu cyfraniad pobl anabl, ond i ofyn y cwestiwn: yn ystod y 12 mis diwethaf, ers inni gael yr un drafodaeth, beth sydd wedi newid er gwell? A all y Gweinidog ddweud wrth y Senedd sut mae bywydau pobl anabl wedi gwella a sut bydd y 12 mis nesaf yn edrych?

Mae'r sail ddeddfwriaethol sy'n diogelu hawliau pobl anabl yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Sefydlodd Tŷ'r Arglwyddi Bwyllgor Dethol penodol ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac Anabledd, a chyhoeddodd adroddiad ym mis Mawrth 2016 o'r enw 'Deddf Cydraddoldeb 2010: yr effaith ar bobl anabl'. Er gwaethaf cefnogaeth wleidyddol a chefnogaeth sylweddol gan y Llywodraeth i'r Ddeddf, casgliad pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi oedd bod gan y Ddeddf nifer o wendidau nad oedden nhw'n rhoi yr un amddiffyniad i bobl anabl ag i rai â nodweddion gwarchodedig eraill.

'Roedd ein tystion, a oedd yn cynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn, pobl ddall a byddar, a rhai ag anawsterau dysgu, bron yn unfrydol wrth gredu mai camgymeriad oedd ceisio ymdrin â gwahaniaethu ar sail anabledd, rhyw, hil a nodweddion gwarchodedig eraill mewn un Ddeddf Cydraddoldeb. Bu bywyd, medden nhw wrthym ni, yn haws gydag un ddeddf benodol, sef Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, a gydag un Comisiwn Hawliau Anabledd, yn hytrach na Chomisiwn sy'n cwmpasu pob anghydraddoldeb a hawliau dynol.'

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r amddiffyniad deddfwriaethol a gynigir i bobl anabl? Ac os nad yw hi wedi gwneud hynny, a wnaiff gomisiynu adolygiad o'i fath?

Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi nodi tri digwyddiad ar gyfer eleni, gan edrych ar lunio dyfodol cynhwysol, lleihau anghydraddoldebau drwy dechnoleg ac arweinyddiaeth cenedlaethau newydd, gan roi llais i'r plant hynny ag anableddau. Fy nghwestiwn i'r Gweinidog yw: pa raglenni neu themâu penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu datblygu i adlewyrchu'r rhai a sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig? Diolch. 

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain, a diolch am eich cwestiynau y prynhawn yma. Mae'n gwestiwn pwysig: beth sydd wedi newid? Yn fy natganiad, rwyf wedi nodi nifer o enghreifftiau o sut yr ydym ni wedi ceisio gwneud newid, yn enwedig o ganlyniad i'r adroddiad 'Drws ar Glo', a oedd yn taflu goleuni o'r fath ar effaith andwyol COVID-19 ar bobl anabl. Felly, fe ddywedaf eto fod y tasglu hawliau anabledd, roedd sefydlu hynny yn gam hollbwysig ymlaen. Mae'n mynd i fwrw ymlaen â'r ffordd yr ydym ni'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a amlygwyd gan 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19'. Ond yn bwysicaf oll, goruchwylio'r gwaith o roi camau gweithredu ar waith ar y cyd â'n partneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Ac roedd hi mor bwysig bod gennym ni bobl â phrofiad byw. Fe gyd-gadeiriais y tasglu gyda'r Athro Debbie Foster, ond cawsom gynrychiolaeth hefyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'n grŵp llywio o bobl anabl, y mae llawer ohonyn nhw hefyd yn eistedd ar ein fforwm cydraddoldeb i bobl anabl. Mae'r tasglu'n hanfodol o ran y ddealltwriaeth gyffredin honno bod yn rhaid inni fwrw ymlaen â'r gwaith hwn ar egwyddorion y model cymdeithasol o anabledd, a chydnabod y bwlch gweithredu a all ddod i'r amlwg yn aml rhwng datblygu polisi a darparu gwasanaethau. Felly, rydym ni wedi ymrwymo i gyflwyno carreg filltir genedlaethol o 2050 sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb cyflog a'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, anabledd ac ethnigrwydd a gwaith llawer ehangach ar adnewyddu ein cerrig milltir cenedlaethol hefyd.

Rwyf wedi sôn, Llywydd, am y gronfa swyddogaethau etholedig, oherwydd mae hyn yn hollbwysig o ran galluogi mwy o bobl i sefyll yn yr etholiadau llywodraeth leol a gynhelir yn 2022 ac, wrth gwrs, ein hetholiadau yn gynharach eleni. Nod y gronfa hon yw helpu pobl anabl i gystadlu ar yr un gwastad ag ymgeiswyr nad ydynt yn anabl. Aeth dau berson ar ofyn y gronfa am gymorth i gymryd rhan yn etholiadau'r Senedd, a bydd hyn yn hanfodol ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol y flwyddyn nesaf. Mae cwmpas y gronfa wedi'i ymestyn i gynnwys ymgeiswyr anabl sy'n sefyll dros gynghorau cymuned a thref yn etholiadau 2022, felly mae'n bwysig inni dynnu sylw at hyn heddiw a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny. Mae Anabledd Cymru yn cynnal rhai digwyddiadau mynediad-i-wleidyddiaeth.

Hoffwn hefyd sôn am hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl. Mae gennym ni bump o hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl, y mae gan bob un ohonyn nhw brofiad byw o'r rhwystrau sy'n bodoli rhag cael gwaith. Siaradais ddydd Gwener—siaradais yr wythnos diwethaf—mewn digwyddiad a drefnwyd gan yswiriant Admiral gyda'r Gymdeithas MS. Mae'n bwysig iawn bod y sector preifat yn cymryd—. Rydym yn cydnabod eu bod yn chwarae rhan flaenllaw, gan gydnabod y gallant elwa o gyflogi pobl anabl yn eu gweithlu. Roedd llawer o gyflogwyr yno o'r sectorau preifat a chyhoeddus, ond siaradodd un o'n hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl, Terry, am y gwaith y mae'n ei wneud i helpu cyflogwyr i ddeall y gallant newid pethau mewn difrif o ran y ffordd y mae cyflogwyr a darparwyr cyflogadwyedd yn meddwl am gyflogaeth pobl anabl. Felly, mae gennym ni becyn cymorth i gyflogwyr; mae ein pecyn cymorth i gyflogwyr ar gael ar wefan y porth sgiliau busnes. Hefyd, wrth gwrs, rydym yn gweithio tuag at fodel cymdeithasol o hyfforddiant anabledd a modiwl e-ddysgu cyflogaeth i gyflogwyr yn ogystal.

Mae'n bwysig iawn ein bod yn galluogi pobl anabl i fanteisio i'r eithaf ar fudd-daliadau lles, gyda'r toriadau creulon sydd wedi digwydd. Rydym ni'n cydnabod bod y toriadau creulon hynny—y toriad o £20 i gredyd cynhwysol—wedi effeithio ar filoedd o bobl anabl y cydnabyddir nad ydynt yn gallu gweithio. Mae'n hanfodol eu bod wedyn yn gallu cymryd rhan yn yr ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' ac elwa o'r gronfa grantiau byw aelwydydd gwerth £50 miliwn a gyhoeddais yn ddiweddar.

Credaf, yn olaf, dim ond o ran edrych ar faterion sy'n ymwneud â sicrhau cyflogaeth—nid dim ond diogelu cyflogaeth, ond hawliau hefyd—byddwch yn gwybod bod gennym ni ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu, ac mae'n ymrwymiad y gwn i y byddai eich cyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig yn ei groesawu, ein bod yn ceisio ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yng nghyfraith Cymru. Mae'n sicr yn cael ei gefnogi gan ein plaid ni, gan Lywodraeth Lafur Cymru, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd. Mae'n bwysig bod confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl wedi'i ymgorffori yng nghyfraith Cymru. Rydym ni wedi gwneud gwaith ymchwil—adroddiad ymchwil 'Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru'—i'n helpu i symud hyn yn ei flaen, a byddaf yn gallu diweddaru'r Siambr pan fydd cynnydd ar hyn, gan weithio gyda'r Cwnsler Cyffredinol yn hyn o beth.

17:35

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Rydym yn falch o'r penderfyniad a nodwyd i fynd i'r afael â'r annhegwch a wynebir gan bobl anabl yng Nghymru sydd wedi'i gynnwys yn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru.

Mae un o fy nheulu agos i yn anabl, felly rwy'n gwybod yn uniongyrchol am yr heriau a'r rhwystrau sydd, yn anffodus, yn rhan o'i fywyd bob dydd ac, wrth gwrs, bywydau miloedd o bobl eraill ledled Cymru: anawsterau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus; gyda chael gafael ar gymorth a gofal; safon byw is yn eithaf aml; ac, yn aml, dim ond yr her o gael eich gweld a chael eich clywed. Fel yr ydych chi wedi sôn yn eich datganiad, cafodd yr anawsterau a'r heriau hynny, wrth gwrs, eu dwysáu a'u gwaethygu gan COVID, er ein bod yn gwybod, hyd yn oed cyn y pandemig, fod llawer gormod o bobl anabl yn teimlo eu bod yn cael eu hanghofio neu eu hanwybyddu gan y Llywodraeth. Mae arolwg a gynhaliwyd gan Anabledd Cymru wedi canfod nad oedd 76 y cant yn credu y byddai hawliau anabledd yn gwella dros y pum mlynedd nesaf.

Roedd deddfwriaeth coronafeirws brys yn llacio'r ddyletswydd gofal ar awdurdodau lleol, a adawodd rai oedolion a phlant anabl, a'u gofalwyr, heb y cymorth sydd ei angen arnynt o ran gofalwyr—roedd yn y newyddion ddoe. Ac ehangodd y bwlch gweithredu rhwng polisi ac arfer, yn anffodus. Pan godwyd y cyfyngiadau, ni ddychwelodd y rhan fwyaf o bobl anabl i'w bywydau arferol gynt. Canfu adroddiad gan Scope fod 35 y cant o bobl anabl wedi canfod bod ganddyn nhw lai o arian ers y pandemig, ac mae'r bwlch cyflogaeth i bobl anabl wedi bod yn segur ar oddeutu 30 y cant ers dros ddegawd. Felly, rhaid inni geisio defnyddio profiad y pandemig i greu strategaeth i helpu i gau'r bwlch hwn.

Gan fod cyfyngiadau COVID wedi lleddfu ychydig, a bod pobl yn dechrau dychwelyd i'r gwaith, neu newid i weithio hybrid, mae perygl y gallai pobl anabl a oedd gynt yn elwa o gael eu cynnwys yn ddigidol dros y pandemig gael eu hynysu. Efallai y bydd cyflogwyr yn gallu ymddangos yn hygyrch a chynhwysol gan wneud fawr ddim i sicrhau cynhwysiant yn niwylliant y gweithle, dilyniant gyrfa neu gyfleoedd rhwydweithio proffesiynol i bobl anabl sy'n gweithio gartref. Ac mae hyn, wrth gwrs, hefyd yn wir am weithgareddau hamdden a chymdeithasol a oedd ar gael yn eang ar-lein yn anterth y cyfyngiadau symud sydd bellach wedi lleihau'n arw. Felly, hoffwn wybod beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau y bydd gweithio hyblyg yn parhau i weithio o blaid pobl anabl.

Ac a allai'r Gweinidog hefyd amlinellu pa ddarpariaethau sydd ar waith ar hyn o bryd, a pha gamau pellach sydd wedi'u cynllunio i sicrhau bod system drafnidiaeth Cymru yn gwbl hygyrch i bobl anabl, gan fod gallu teithio'n ddiogel yn ôl ac ymlaen i'r gwaith wedi dod yn fater cynyddol bwysig i lawer o bobl anabl yn ystod y pandemig?

Un canfyddiad allweddol yn yr adroddiad 'Drws ar Glo' oedd bod diffyg pobl anabl mewn swyddi dylanwadol wedi cyfrannu at benderfyniadau sy'n arwain at ganlyniadau negyddol i bobl anabl. Cynigiodd y mynediad i gronfa swyddi etholedig Cymru, y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn eich datganiad ac eto yn eich ateb i Altaf Hussain, y cymorth ariannol hwnnw i bobl anabl a ymgeisiodd yn etholiad y Senedd eleni, ac yn awr yn etholiadau llywodraeth leol 2022 sydd i ddod. Fe wnaethoch chi sôn fod dau berson wedi defnyddio'r gronfa hon. Oes gennych chi unrhyw wybodaeth bellach ynghylch pa mor effeithiol oedd y gronfa o ran cynorthwyo pobl anabl i sefyll fel ymgeiswyr? Pa welliannau a newidiadau sydd angen eu gwneud i'r gronfa hon, gan edrych ymlaen at etholiad 2022, i sicrhau ein bod yn cael mwy o bobl yn gallu defnyddio'r gronfa hon fel y gallant ymgeisio am sedd?

Wrth inni wynebu datblygiad arall pryderus, fel y clywsom ni heddiw yn y Siambr, yn y pandemig gyda dyfodiad yr amrywiolyn newydd hwn i'r DU, rhaid inni sicrhau bod gwersi a ddysgwyd o'r misoedd diwethaf yn cael eu hystyried mewn gwirionedd. Roedd pobl anabl, fel y dywedoch chi, yn cwmpasu 60 y cant o farwolaethau oherwydd COVID-19 yng Nghymru, ac nid oedd llawer o'r marwolaethau hyn, fel y dywedwch chi, yn ganlyniadau anochel namau, ond roedd modd eu hatal ac roedden nhw wedi eu gwreiddio yn y ffactorau economaidd-gymdeithasol y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw. Mae effaith cyfraddau heintio uchel ar ofal a gwasanaethau cymdeithasol wedi bod yn drychinebus i bobl anabl. Mae'r pryder sy'n cael ei deimlo'n awr wrth i ni wynebu canlyniadau'r amrywiolyn omicron hwn yn amlwg ymhlith pobl anabl, felly hoffwn ofyn: beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cefnogi'n well yn ystod y misoedd nesaf o ran pethau fel darparu cyflenwadau addas a digonol o offer, megis cyfarpar diogelu personol i staff gofal cymdeithasol a chynorthwywyr personol sy'n gofalu am bobl anabl, ond hefyd, yn hollbwysig, lefelau staffio digonol i ddarparu'r gofal a'r cymorth hanfodol, beunyddiol hwnnw? Diolch.

17:40

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy'n credu i chi grybwyll llawer o faterion pwysig ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi drwy ein cytundeb cydweithio, oherwydd mae'n ymwneud â chryfhau hawliau pobl anabl a mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y maen nhw'n parhau i'w hwynebu.

Rwyf wedi sôn am ein cyngor cyflogaeth arloesol fel un sy'n cael effaith ar estyn allan at gyflogwyr, yn enwedig yn y sector preifat, ond ar draws yr holl sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector. Ond rydym yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, gan hyrwyddo'r cynllun Mynediad i Waith i gyflogwyr a phobl anabl. Mae rhwydweithiau i sicrhau bod mwy yn elwa ar y cynllun. Mae'n ymrwymiad i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar Fynediad i Waith yng Nghymru, ac mae hynny eisoes yn ymrwymiad a wnaethom ni yn ein fframwaith 'Gweithredu ar Anabledd: hawl i fyw'n annibynnol'. Rydym yn cynnal fforwm gyda phartneriaid yng Nghymru gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau. Wrth gwrs, dyna lle nad oes gennym ni'r grymoedd; rhaid inni weithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod mentrau polisi newydd a hyrwyddo'r cynllun yn berthnasol i anghenion ac amgylchiadau Cymru.

Rhaid inni gydnabod bod problem enfawr gyda phobl anabl o ran y bwlch cyflog anabledd. Mae ffigurau diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y bwlch cyflog anabledd yn dal i fod yn 9.9 y cant yn 2018, a'u bod yn ennill llai yr awr na phobl nad ydyn nhw'n anabl. Mae'n llai yng Nghymru, y bwlch cyflog ar gyfer pobl anabl, na gweddill y DU. Ond byddwn ni bellach, fel y soniais amdano, yn gweld sefydlu yr uned data cydraddoldeb hon, ac mae gennym ni rym y pwrs cyhoeddus a'r dull partneriaeth gymdeithasol o ymdrin ag arferion gwaith teg, sy'n allweddol i fynd i'r afael â'r materion hynny.

Rwy'n falch eich bod wedi sôn am y rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu, ac rwy'n credu bod trafnidiaeth yn un maes. Ond gyda'n hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, rydym yn gwella mynediad i'n trenau i bobl anabl. Rydym ni wedi ymrwymo £800 miliwn i sicrhau trenau newydd, a fydd ar yr un lefel â'r platfform i allu mynd arnynt yn rhwydd gan ddileu'r angen i deithwyr archebu ymlaen llaw i sicrhau bod staff gorsafoedd wrth law i ddarparu ramp. Rydym ni hefyd yn buddsoddi dros £10 miliwn ar dair gorsaf ar brif reilffyrdd y Cymoedd. Mae'r cyfan yn rhan o'r rhaglen genedlaethol hygyrchedd  i bawb i ddarparu lifftiau a phontydd i sicrhau bod teithwyr â symudedd cyfyngedig hefyd yn gallu cael mynediad gwell at wasanaethau trên.

Credaf ei bod hi hefyd yn bwysig iawn eich bod yn gofyn y cwestiynau hynny am effaith wirioneddol hyd yma ein cronfa mynediad i swyddi etholedig, ac mae'n ddyddiau cynnar o hyd i weld effeithiau hynny. Rwyf wedi sôn am y ddau berson sy'n defnyddio'r gronfa a'n bod yn ei hymestyn, wrth gwrs, i gynghorau tref a chymuned, y gwn y byddwch yn ei groesawu. Ond mae'n bwysig, unwaith eto, darparu'r wybodaeth y gall pobl wneud cais am gymorth gyda chostau cymorth ychwanegol i oresgyn rhwystrau a diffyg technolegau addasol sydd ar gael yn rhwydd. Gall hynny gynnwys ystod eang o gostau cymorth ychwanegol, gan gynnwys cymhorthion cynorthwyol, offer, meddalwedd, hyfforddiant ar ddefnyddio offer a meddalwedd arbenigol, ac ati, a chymorth personol hefyd. Mae'r rhain yn bethau y mae angen inni ddysgu amdanyn nhw yma yn y Senedd hefyd, fel ym maes llywodraeth leol ei hun.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ichi sôn eto am effaith warthus COVID-19 ar bobl anabl. Rwyf wedi'i gwneud hi'n glir, fel y gwnes flwyddyn yn ôl, pan siaradais ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl y Cenhedloedd Unedig. Rydym ni wedi ymgysylltu'n fawr â'n fforwm cydraddoldeb i bobl anabl drwy gydol yr 20 mis diwethaf o'r pandemig. Mae'r fforwm hwnnw wedi rhoi cymaint o gefnogaeth a chyngor i ni o ran sut rydym ni'n ymateb, i ddiwallu anghenion pobl anabl. Rwy'n credu bod problemau. Rydych chi wedi codi mater gweithio hyblyg; sydd wedi darparu cyfleoedd yn ogystal â bygythiadau o ran unigedd posibl. Ond os oes unrhyw beth y mae'r pandemig wedi'i ddysgu i gyflogwyr, mae'n ymwneud â sut i groesawu arloesedd a ffyrdd hyblyg o weithio, gan gynnwys gweithio o bell. Felly, mae hyn, i ryw raddau, wedi gwneud pethau'n decach i rai pobl anabl, ac mae wedi dileu rhai o'r rhwystrau, fel teithio. Ond mae llawer i'w wneud o hyd o ran mynd i'r afael â rhai o'r stereoteipiau a'r rhagdybiaethau hynny sy'n bodoli am y rhwystrau i gyfleoedd cyflogaeth person anabl, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn edrych ar eu hamgylcheddau a'u cyfleoedd o ran gwaith. Gan fod gwir angen inni ganolbwyntio o'r newydd ar ein nodau i leihau rhwystrau cyflogaeth pobl anabl.

Credaf ei bod hi'n hollbwysig hefyd, o ran edrych ar iechyd a gofal cymdeithasol, ein bod yn cydnabod bod ffyrdd y gallwn ni gefnogi pobl anabl. Roedd y datganiad a wnaed gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yr wythnos diwethaf yn bwysig iawn o ran diwallu anghenion gofalwyr, ac, wrth gwrs, mae gennym ni ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016. Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gydweithio i asesu, cynllunio a diwallu anghenion gofal a chymorth pobl, gan gynnwys pobl anabl. Ac rydym ni wedi darparu cyllid sylweddol i bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i ymateb i effeithiau COVID a chefnogi adferiad, ac ariannu'r mentrau a'r prosiectau hynny sy'n cefnogi pobl anabl drwy'r gronfa gofal integredig a grantiau i sefydliadau'r trydydd sector. Mae'n bwysig, hefyd, bod pobl yn ymwybodol o fynediad at daliadau uniongyrchol hefyd, fel bod gan bobl lais a rheolaeth dros eu gofal, gan gynnwys y posibilrwydd o daliadau uniongyrchol. Mae gennym ni enghreifftiau da o sut mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda phobl fel y gallan nhw ddewis cymysgedd cyfunol o ofal a drefnir ar eu cyfer gan awdurdod lleol a chael gofal uniongyrchol hefyd.

Mae'r £10 miliwn i gefnogi gofalwyr di-dâl o bob oed, gan gynnwys y rhai sy'n gofalu am bobl anabl, ar gyfer 2022, wedi bod yn bwysig iawn, a hefyd y cyhoeddiad, fel y dywedais, yr wythnos diwethaf, gan Julie Morgan o'r £7 miliwn o gyllid i gefnogi gofalwyr di-dâl. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud heddiw yw cydnabod confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl—ein bod ni mewn gwirionedd yn dangos, heddiw, ar draws y Siambr, ymrwymiad clir i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol. Mae wedi'i ymgorffori yn neddfwriaeth sylfaenol Llywodraeth Cymru. Ond mae gennym ni lawer i'w wneud er mwyn cyflawni hynny mewn gwirionedd, ac rwy'n credu y bydd ein tasglu hawliau anabledd—a thasglu hawliau anabledd yw hwnnw—yn mynd â ni ymlaen.

17:50

Dim ond ychydig o sylwadau byr wrth groesawu'r datganiad heddiw, a chydnabod hefyd fod llawer yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru a chan asiantaethau eraill wrth i ni siarad i ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion niferus yr adroddiad 'Drws ar Glo'. Ond mae hynny'n ganolog i'r hyn yr hoffwn ei ofyn i'r Gweinidog. Yn y gwaith y mae hi'n ei wneud a'r gwaith y mae'r tasglu hawliau anabledd yn ei wneud, sut y mae'n mynd i flaenoriaethu'r myrdd, yr ystod eang o ganfyddiadau ac argymhellion a nododd yr adroddiad 'Drws ar Glo'? Roedd y rhain yn cwmpasu'r holl bethau a drafodwyd heddiw o fewn y datganiad, yr holl bethau a ymdriniwyd â nhw â'r cwestiynau gan Aelodau eraill, a llawer o agweddau eraill hefyd, gan gynnwys nid yn unig rhoi deddfwriaeth hawliau dynol mewn cyfraith, ond mynediad at gyfiawnder, effeithiau'r pandemig, ond hefyd cyn y pandemig o ran teithio diogel a fforddiadwy i bobl ag anableddau, mynediad at wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, iechyd meddwl a lles, tlodi economaidd, tai hygyrch, gwaith a chyflogaeth, yr ydych chi newydd sôn amdanyn nhw, a mynediad at fywyd cyhoeddus a mannau cyhoeddus hefyd. Felly, mae fy nghwestiwn yn ymwneud â'r mater hwnnw o flaenoriaethu, oherwydd ni allwch chi wneud popeth ar unwaith, ond mae angen mynd ar drywydd popeth.

Yn gysylltiedig â hynny, beth yw'r meysydd y mae'r Gweinidog yn credu yw'r rhai anoddaf a mwyaf heriol i'r tasglu hawliau anabledd, sy'n mynd i gymryd yr amser hiraf ac a fydd fwyaf anodd canfod ateb iddynt? A, Gweinidog, tybed a allech chi ateb un cwestiwn byr iawn arall. Fe wnaethoch chi sôn am allu pobl i benderfynu ar eu pecynnau gofal eu hunain, gan gynnwys defnyddio taliadau uniongyrchol. Gwyddom fod gan rai awdurdodau lleol arfer da iawn o ran cyd-gynhyrchu'r pecynnau hynny gan ddefnyddio taliadau uniongyrchol, a chaniatáu i'r unigolyn ddefnyddio taliadau uniongyrchol i gynhyrchu rhai eu hunain. Mae eraill nad ydynt cystal. A yw hynny'n un o'r enillion cyflym y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn defnyddio'r hyblygrwydd y gallai unigolyn ei fynnu drwy ddefnyddio taliadau uniongyrchol? 

Diolch yn fawr iawn, Huw Irranca-Davies. Rwy'n credu eich bod wedi gwneud y sylw hollbwysig hwn: pa mor anodd fydd hi i'r tasglu hawliau anabledd fynd i'r afael â'r blaenoriaethau allweddol, oherwydd mae cymaint, onid oes? A mynd yn ôl at pam yr ydym ni wedi ymrwymo ein hunain i sefydlu'r tasglu hawliau anabledd—mae hynny oherwydd y cawsom ni'r adroddiad hwnnw. Roedd yr adroddiad yn amlinellu hynny gyda'i argymhellion. Mae'n adroddiad cadarn, heriol i ryddhau bywydau a hawliau pobl anabl—dyna y mae'r adroddiad yn galw amdano. A hefyd, goruchwylio'r gwaith o roi, unwaith eto, camau gweithredu ar waith gyda phartneriaid. Wrth gwrs, dim ond o fewn cwmpas cylch gwaith cyfreithiol Llywodraeth Cymru y gall y tasglu weithio, nid yn y meysydd sy'n dod o dan gyfrifoldebau Llywodraeth y DU yn unig. Gan fod croestoriad, ac rwyf wedi sôn am y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau mewn perthynas â mynediad. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod bod y rhyngwyneb hwnnw'n bodoli, sy'n heriol. Mae'n siŵr y bydd y tasglu hawliau anabledd yn cydnabod y rhyngwyneb hwnnw wrth i ni fwrw ymlaen â'r blaenoriaethau allweddol.

Rwyf wedi sôn am y ffaith bod yn rhaid inni fynd i'r afael â'r bwlch cyflog. Rwyf wedi sôn am y gwaith sy'n cael ei wneud, yr arian sy'n cael ei fuddsoddi mewn trafnidiaeth hygyrch. Rwyf wedi sôn am ein cronfa mynediad i swyddi etholedig, ac rwyf hefyd wedi sôn am y ffyrdd y gallwn ni estyn allan i gefnogi pobl anabl drwy'r pandemig. Credaf fod ein hymrwymiadau i bobl anabl o ran y fforwm cydraddoldeb i bobl anabl wedi bod yn allweddol i ni weithio gyda phobl anabl i gael gwasanaethau'n iawn. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod rhwystrau enfawr hefyd. Rydych chi wedi sôn am fynediad at gyfiawnder hefyd. Gwyddom fod problemau'n ymwneud ag iechyd meddwl a lles, a dyma lle mae gennym ni'r pwerau i wneud newid y mae'n rhaid inni ddangos ein bod yn gweithredu a chyflawni hefyd.

Rydych chi wedi sôn am fynediad at daliadau uniongyrchol. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r hwb adnoddau taliadau uniongyrchol. Mae'n cael ei gynnal ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hynny wedi'i gyd-gynhyrchu, gyda gwybodaeth dda iawn am daliadau uniongyrchol, gyda phobl anabl ac eraill. Felly, mae hynny'n rhywbeth lle mae angen inni ymgysylltu'n gynhwysfawr â'n hawdurdodau lleol o ran enghreifftiau da o sut y maen nhw'n gweithio'n agos gyda phobl i ddatblygu atebion gan ddefnyddio mynediad at daliadau uniongyrchol, ond hefyd y gallwn ni edrych ar rai o'r canolfannau dydd a gwasanaethau seibiant. Y gwir amdani yw bod cau gwasanaethau wedi cael effaith andwyol iawn yn ystod y cyfyngiadau symud, a hefyd y ffaith bod hynny wedi effeithio ar bobl anabl a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Ond rydym ni wedi egluro i awdurdodau lleol y dylen nhw barhau i ailagor canolfannau dydd a gwasanaethau seibiant yn ddiogel a chyn gynted ag y gallant. Mae hyn yn digwydd fesul cam hefyd, ac mae llawer i'w ddysgu o hynny o ran rhywfaint o'r gwaith sydd wedi'i wneud gyda chyllid gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o ran Diwrnod Hawliau Gofalwyr.

Credaf ei bod hi'n bwysig cydnabod bod gennym ni faterion difrifol lle'r ydym yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, gan godi pryderon am effaith diwygiadau lles yng Nghymru, yn enwedig yr effaith ar rai grwpiau. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau'r Senedd yn gwybod o'u cymorthfeydd a'u gwaith achos am y materion hyn. Mae rhai grwpiau gwarchodedig, gan gynnwys pobl anabl, yn cael eu heffeithio'n anghymesur, fel yr ydym ni wedi dweud y prynhawn yma, gan bandemig COVID-19. Mae angen inni fod â system nawdd cymdeithasol sy'n gadarn ac yn hyblyg i ymateb i heriau. Rwy'n credu bod gwersi i'w dysgu o ganlyniad i COVID-19 a ffyrdd y gallwn ni fynd i'r afael â hyn. Rwy'n gwybod bod rhai o'r diwygiadau hynny, fel cyflwyno'r taliad annibynnol personol i gymryd lle lwfans byw i'r anabl, wedi cael effaith andwyol, ac rydym ni yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch newidiadau i fudd-daliadau fel PIP ac effeithiau ar bobl anabl. Mae angen gwneud mwy i helpu pobl anabl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor yn ogystal â deall y system fudd-daliadau a hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddyn nhw. Felly, unwaith eto, rydym ni'n gweithio ar hynny, ac yn edrych ymlaen at archwilio hynny ymhellach o ran y materion sy'n ymwneud â datganoli gweinyddu budd-daliadau lles.

Credaf fod gennym ni gyfleoedd gwirioneddol gyda'r tasglu hawliau anabledd sydd gennym ni, o fewn ein pwerau. A hefyd lle mae'n rhaid inni gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, byddwn yn gwneud hynny. Rhaid inni gydnabod hefyd fod problem o hyd o ran troseddau casineb a diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anghenion a hawliau pobl anabl. Hoffwn ddweud o'r diwedd ein bod yn parhau i ariannu'r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth, sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru. Mae'r ganolfan yn cynnig cyngor ac eiriolaeth gyfrinachol am ddim i bawb sy'n dioddef troseddau casineb. Mae Casineb yn Brifo Cymru yw ein hymgyrch troseddau gwrth-gasineb, ac rydym ni yn gweld, yn anffodus iawn, yn yr ystadegau troseddau casineb cenedlaethol, cynnydd o 16 y cant mewn troseddau casineb a gofnodwyd, ac roedd 11 y cant ohonynt yn droseddau casineb anabledd. Felly, mae gennym ni gyfrifoldeb gwirioneddol, nid yn unig yn y Llywodraeth ond pob un ohonom, o ran rhoi gwybod am y materion hyn.

18:00

Thema 2021 Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl ar 3 Rhagfyr yw 'brwydro dros hawliau yn y cyfnod ôl-COVID', gan ddathlu'r heriau, y rhwystrau a'r cyfleoedd i bobl anabl. Fel y gwyddoch chi, rwyf wedi cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar anabledd mewn sawl tymor Senedd, a'n diben yw mynd i'r afael â materion allweddol o ran cydraddoldeb anabledd sy'n cwmpasu pob nam, gan gynnwys gweithredu'r model cymdeithasol o anabledd a'r hawl i fyw'n annibynnol. Fel y gwyddoch chi, mae'r model cymdeithasol o anabledd yn cydnabod nad yw pobl yn anabl oherwydd eu namau ond gan y rhwystrau y mae cymdeithas yn eu gosod yn eu ffordd, a rhaid inni weithio gyda'n gilydd i ddileu rhwystrau i fynediad a chynhwysiant i bawb. 

Mae Deddf Cydraddoldeb y DU 2010 yn nodi bod yn rhaid i ddarparwyr gwasanaethau feddwl ymlaen llaw a chymryd camau i fynd i'r afael â rhwystrau sy'n llesteirio pobl anabl, ac ni ddylech aros nes bod person anabl yn cael anawsterau wrth ddefnyddio gwasanaeth. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn sefydlu system lle mae pobl yn bartneriaid llawn wrth gynllunio a gweithredu gofal a chymorth—mae'n rhoi hawliau a chyfrifoldebau clir a diamwys i bobl. Fodd bynnag, rwy'n parhau i dderbyn ffrwd ddi-ddiwedd o waith achos gan etholwyr, yn enwedig ynghylch rhai cyrff cyhoeddus sy'n cymryd arnyn nhw eu bod yn hollol ddiarwybod o'r holl ddeddfwriaeth hon, gan ddweud wrth bobl beth y gallan nhw neu na allan nhw ei gael a chanolbwyntio ar ymyriadau sy'n seiliedig ar ymddygiad, nid yr hyn sy'n sail i'r ymddygiad hwnnw, yn hytrach na gofyn i bobl a ydyn nhw mewn poen a beth y mae arnyn nhw eisiau ei gyflawni. Felly, pryd a sut yn ymarferol y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau monitro a gorfodi'n ystyrlon y broses o weithredu'r ddeddfwriaeth hon gan y cyrff cyhoeddus sy'n gyfrifol am wneud hynny ar ôl yr holl flynyddoedd hyn? A sut y byddwch chi'n sicrhau na welwn ni fyth eto ymateb adweithiol Llywodraeth Cymru i anghenion pobl anabl yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, lle, er enghraifft, dim ond ar ôl i'r elusen Guide Dogs ac i'r RNIB dynnu sylw at y rhwystrau a roddir yn ffordd pobl ddall a rhannol ddall ac eraill gan newidiadau Llywodraeth Cymru i fannau a rennir yng nghanol trefi y gwnaeth Llywodraeth Cymru weithredu; gan ddim ond ymateb ar ôl i oedolion ag anableddau dysgu a phobl â nam ar y synhwyrau amlygu absenoldeb cyfathrebu hygyrch ar eu cyfer o ran rheoliadau a chyfyngiadau ynghylch y coronafeirws; ac yn olaf fel enghraifft, gan ddim ond ymateb i anghenion pobl awtistig ac eraill yr oedd angen iddyn nhw deithio ymhellach i wneud ymarfer corff ar ôl i'w rhieni godi hyn gyda mi, o'r gogledd a'r de, a bu'n rhaid imi ei godi yn y Siambr cyn i newidiadau gael eu gwneud?

Wel, hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar anabledd ers tro—ac rwyf wastad yn croesawu'r gwahoddiad i ddod, fel y gwyddoch chi, Mark, i gyfarfod â'r rhanddeiliaid, partneriaid a'r bobl anabl sy'n dod at ei gilydd pan fyddwch yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol hwnnw—a hefyd y ffaith eich bod yn codi'r materion hyn, ac maen nhw'n cael eu codi mewn ysbryd trawsbleidiol, fe'u dygir at fy sylw i yn Llywodraeth Cymru. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, mewn gwirionedd, mai'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl—ac mae'r aelodaeth yn gorgyffwrdd ag aelodaeth y fforwm cydraddoldeb i bobl anabl—oedd y grwp cyntaf y cyfarfûm ag ef wrth i'r pandemig afael ynom ym mis Mawrth 2020, ac mae eu heffaith a'r cyngor a'r arweiniad gan y fforwm cydraddoldeb anabledd hwnnw wedi llywio a newid y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r pandemig, gan effeithio ar bobl anabl. Ac wrth gwrs, yna, fe wnaethom ni annog a galluogi'r adroddiad 'Drws ar Glo' hwn i'n helpu i ddywn y maen i'r wal o ran y tasglu hawliau anabledd, ac rwy'n siŵr y byddwn yn ymgynnull i'w drafod yn y grŵp trawsbleidiol yn fuan iawn.

Roedd yn bwysig i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sefydlu grŵp tasglu arbenigol i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â gallu defnyddio palmentydd—y cod anabledd mynediad i balmentydd, a oedd yn bwysig iawn o ran effeithiau hynny. Fe wnaethom ni sefydlu gweithgor i ddrafftio canllawiau gorfodi newydd ar gyfer awdurdodau lleol, i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod haf 2022, gan gymryd camau lle'r oedd cerbydau, er enghraifft, yn rhwystro palmentyndd. Mae hwn yn gyfrifoldeb i'r holl Lywodraeth o ran sicrhau ein bod yn diwallu anghenion pobl anabl.

Yn ystod pandemig COVID-19, cadeiriais wyth fforwm cydraddoldeb anabledd. Cawsom drafodaethau ar amrywiaeth o bryderon, ond hefyd, fel y dywedais, mae dylanwadu ar strategaethau newydd fel y strategaeth drafnidiaeth genedlaethol ac is-grŵp COVID-19 hefyd yn cael effaith ar arwain at y tasglu hawliau anabledd hwn.

Credaf ei bod yn bwysig iawn hefyd o ran cyrff cyhoeddus, ac fe wnaethoch chi sôn am y rheini, a'r gwir amdani yw y gweithredwyd mewn sawl modd, a dyna pam mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ymrwymo i'n tasglu hawliau anabledd—maent yn eistedd ar y tasglu—a hefyd rydym yn adolygu dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, ac mae hynny'n hollbwysig o ran dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym ni, y Llywodraeth, wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr enghreifftiol yn ogystal, a hefyd rydym yn cysoni canfyddiadau ymchwil yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol gyda'r adolygiad o ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Rwyf eisoes wedi ateb cwestiynau am y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, y ddyletswydd i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gydweithio ac asesu anghenion, a hefyd, o ran awtistiaeth, y cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth, rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth. Wrth gwrs, daeth i rym ym mis Medi eleni.

18:05

Diolch, Llywydd. Dim ond cwestiwn cyflym, oherwydd rydych chi wedi ateb fy holl gwestiynau mewn gwirionedd, Gweinidog, ond, yn amlwg, fel Gweinidog addysg yr wrthblaid, mae'r maes yna'n amlwg yn bryder i mi ac fel y gwyddoch chi, roedd rhieni a gofalwyr yn ei chael hi'n anodd iawn cefnogi eu plant yn ystod y pandemig, yn enwedig mewn cyfnodau o gyfyngiadau symud. Roedd y teuluoedd hynny ag anableddau yn cael mwy o drafferth na'r rhan fwyaf, ac o'r herwydd roedd addysg y plant hynny yn dioddef mwy na'r rhan fwyaf.

Tybed Gweinidog, sut yr ydych chi'n gweithio gyda'r Gweinidog addysg i sicrhau bod y plant hynny'n cael yr holl gymorth sydd ei angen arnyn nhw, yn enwedig nawr ein bod yn gweld ysgolion cyfan yn cau a grwpiau blwyddyn yn gorfod aros gartref eto oherwydd y cynnydd yn COVID. Diolch.

Diolch, Laura Anne Jones, ac rwyf wedi ymateb yn arbennig i'r materion sy'n ymwneud ag anghenion plant a theuluoedd a rhieni a gofalwyr plant awtistig. Mae'r cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth yn hanfodol i hynny, ond rwy'n credu bod yn rhaid diwallu llawer o anghenion plant anabl drwy gydweithio nid yn unig ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd, ond gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol i sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n cael eu darparu. Mae'n bwysig ein bod yn edrych ar y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant ar gyfer cymorth i blant a theuluoedd, ac rwy'n credu bod yn rhaid inni hefyd weithio gyda'r trydydd sector. Rhoddodd Diwrnod Hawliau Gofalwyr yr wythnos diwethaf, er enghraifft, rywfaint o arian i Gronfa'r Teulu i gefnogi teuluoedd incwm isel sydd â phlant difrifol wael neu anabl.

Felly, mae amrywiaeth o ffyrdd yr ydym ni'n cefnogi teuluoedd â phlant anabl a phlant anabl eu hunain. Ond yn sicr, mae hwn yn fater ar draws y Llywodraeth; mater i'r Gweinidog addysg hefyd yw e'. Mae'n dda gweld bod hyn yn rhywbeth lle y gallwn ddefnyddio'r ddeddfwriaeth sydd gennym ni, y pwerau sydd gennym ni, ac y gallwn ni ddefnyddio hyn, ac rwy'n siŵr y caiff hyn ei adlewyrchu yn y tasglu hawliau anabledd.

Diolch i'r Gweinidog. Felly, eitemau 9 hyd 17 fydd nesaf ac, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd yr eitemau yma, 9 i 17, ar y rheoliadau cyd-bwyllgorau corfforedig, yn cael eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Felly, os nad oes yna wrthwynebiad i hynny, fe symudwn ni, felly, i'r rheoliadau, 

18:10
9., 10., 11., 12., 13., 14., 15., 16. & 17. Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021; Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 2021; Rheoliadau Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Diwygio) 2021; Rheoliadau Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Diwygio) 2021; Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021; Rheoliadau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021; Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021; Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio'r rhestr o awdurdodau Cymreig) 2021; Rheoliadau'r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021

Mae'r eitemau i gyd i gael eu cyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans. 

Mae angen dad-dawelu Rebecca Evans. Ydy, mae hi wedi cael ei dad-dawelu nawr. Gallwch chi barhau.

Cynnig NDM7852 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2021.

Cynnig NDM7845 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2021.

Cynnig NDM7844 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2021.

Cynnig NDM7846 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2021.

Cynnig NDM7848 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2021.

Cynnig NDM7849 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2021.

Cynnig NDM7850 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2021.

Cynnig NDM7847 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio'r rhestr o awdurdodau Cymreig) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2021.

Cynnig NDM7851 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau'r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2021.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynigion. Ym mis Mawrth eleni, cymeradwyodd y Senedd y rheoliadau gan sefydlu pedwar cyd-bwyllgor corfforedig newydd, neu CBCau, yng Nghymru. Cymeradwyodd y Senedd hefyd nifer o reoliadau ychwanegol a oedd yn sicrhau y byddai CBCau yn destun gofynion goruchwylio, rheoli ac ymddygiad priodol o'r cychwyn cyntaf. Roedd y rheoliadau, a gymeradwywyd ym mis Mawrth, yn rhan o'r cam cyntaf o sefydlu'r fframwaith deddfwriaethol y byddai CBCau yn gweithredu ynddo, yn seiliedig ar yr egwyddorion y dylid trin CBCau fel rhan o'r teulu llywodraeth leol a dylen nhw weithredu yn yr un modd.

Mae'r rheoliadau yr ydym yn eu trafod heddiw yn rhan o'r ail gam o roi'r fframwaith hwnnw ar waith. Rwyf yn ymgynghori ar drydydd cam ar hyn o bryd, ac mae cam sylweddol terfynol wedi'i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'r dull gweithredu fesul cam hwn, y cytunwyd arno gyda llywodraeth leol, yn sicrhau ystyriaeth briodol o'r swm helaeth o ddeddfwriaeth llywodraeth leol bresennol, ac yn caniatáu i'r ddeddfwriaeth gael ei chyd-ddatblygu i CBCau yr ydym wedi ymrwymo iddyn nhw. Er y gallai Aelodau fod â barn ar egwyddor CBCau, mae'n bwysig nodi, heddiw, nad ydym yn trafod a ddylid sefydlu CBCau, ond sut y caiff CBCau eu rheoleiddio fel cyrff llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Rheoliadau Drafft y Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 yn darparu ar gyfer nifer o drefniadau gweinyddol technegol ar gyfer CBCau, gan gynnwys swyddogaethau rhai swyddogion gweithredol i gefnogi gwaith CBCau, yn ogystal â rhai darpariaethau cyffredinol mewn cysylltiad â staff CBC. Maen nhw hefyd yn darparu ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r CBC gan bobl eraill, er enghraifft ei staff neu ei is-bwyllgorau. Hefyd, maen nhw'n darparu ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion, ac yn gwneud nifer fach o ddiwygiadau amrywiol a chanlyniadol i roi effaith lawn i'r darpariaethau. 

Mae wyth offeryn statudol arall hefyd wedi'u gosod ochr yn ochr â'r rheoliadau cyffredinol, sy'n parhau i gymhwyso'r dyletswyddau corff cyhoeddus hyn y byddech yn disgwyl eu cymhwyso i gorff cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r rhain yn sicrhau bod CBCau yn cael eu dwyn o fewn cwmpas Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015, ac yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i wneud hysbysiad cydymffurfio mewn cysylltiad â CBCau; yn atebol i gydymffurfio â'r dyletswyddau datblygu cynaliadwy a llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015; yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010; cyfrannu at ddileu tlodi plant; rhoi sylw i ddibenion gwarchod a gwella harddwch naturiol ardal; cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer eu swyddogaethau; a rhoi sylw i ddibenion parciau cenedlaethol wrth arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â thir mewn parc cenedlaethol neu sy'n effeithio ar y tir hwnnw.

Mae'r rheoliadau yr ydym yn eu trafod heddiw wedi'u llywio gan yr ymatebion i'r ymgynghoriad a lansiais ym mis Gorffennaf, a thrwy ymgynghoriadau blaenorol ar CBCau. Maen nhw hefyd wedi eu llywio gan y gweithgareddau ymgysylltu yr wyf i a fy swyddogion wedi'u cynnal gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid allweddol. Y farn ysgubol oedd y dylai CBCau fod â'r un trefniadau deddfwriaethol a gweinyddol â phrif gynghorau, a dylen nhw fod yn ddarostyngedig i'r un dyletswyddau â chyrff cyhoeddus. Fel yn achos camau blaenorol, mae'r dull o ddatblygu'r model CBC yn parhau i fod yn un o gydweithio agos â llywodraeth leol. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i arweinwyr yr awdurdodau lleol a'u swyddogion am eu dull adeiladol o ddatblygu'r rheoliadau hyn, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw. Diolch. 

Rwy'n falch iawn heddiw o siarad fel llefarydd y Ceidwadwyr dros lywodraeth leol, a diolch ichi, Gweinidog, am eich cyflwyniad i'r rheoliadau a amlinellir yma heddiw. Yn gyntaf, hoffwn siarad am eitem 9, Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021. Fel y gŵyr cyd-Aelodau, mae'r rheoliadau hyn yn gysylltiedig â sefydlu'r cyd-bwyllgorau corfforaethol yng Nghymru drwy reoliad o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, nad yw'n swnio'n arbennig o gyffrous, ond rwy'n eich sicrhau ei fod yn gyffrous iawn.

Mae gan lawer o gynghorwyr ac arweinwyr cynghorau ledled Cymru bryderon enfawr ynghylch natur ddemocrataidd cyd-bwyllgorau corfforaethol. Mae cynghorau a chynghorwyr, wrth gwrs, yn cael eu hethol yn ddemocrataidd i wneud penderfyniadau a chynrychioli eu cymunedau, ac eto mae cyflwyno cyd-bwyllgorau corfforaethol yn debygol o gymryd pwerau oddi wrth y rhai sy'n cael eu hethol yn ddemocrataidd i wneud y penderfyniadau. Hoffwn ein hatgoffa i gyd yma heddiw fod datganoli, wrth gwrs, wedi'i gyflwyno i ddod â phŵer mor agos at y bobl â phosibl, ac nid wyf yn credu y bydd cyd-bwyllgorau corfforaethol yn cefnogi hyn o gwbl.

Mae'n amlwg i mi mai nod Llywodraeth Cymru gyda'r cyd-bwyllgorau corfforaethol hyn yw tynnu grym oddi wrth y rhai a etholwyd yn ddemocrataidd i wneud y penderfyniadau hynny. Yn ogystal â'r pryderon hynny, fel yr amlinellodd y Gweinidog, mae rhai manylion yn y rheoliadau yma heddiw, ond mae rhai materion perthnasol nad ydyn nhw yn cael sylw neu nad ydyn nhw'n cael eu nodi'n briodol. Yn gyntaf oll, staffio. Yn ail, cost hyn i gyd, ei ariannu. Faint bydd yn ei gostio i'r trethdalwr, yn enwedig gan y bydd yn rhaid cyflogi prif weithredwyr a bydd yn rhaid cyflogi prif swyddogion cyllid, ymhlith archwilwyr eraill ac ati, ac ati? Yn drydydd, y gynrychiolaeth—sut y caiff ei gynrychioli'n deg gan gynghorau unigol a sut y caiff hynny ei ddosbarthu ar draws y cyd-bwyllgorau corfforaethol hynny.

Llywydd, nid yn aml y dyfynnaf o faniffesto Plaid Cymru. Nid yn aml ychwaith yr wyf yn cefnogi'r hyn y maen nhw'n ei gynnig. Serch hynny, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddyfynnu'n uniongyrchol o'r maniffesto o ychydig fisoedd yn ôl, ym mis Mai, sy'n dweud;

'dylai dyfodol llywodraethu Cymru barhau i gynnwys haenau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol wrth wneud penderfyniadau ac y dylid gweithredu ar y lefelau cywir'—

popeth yn dda hyd yn hyn, wrth gwrs—

'a gydag atebolrwydd democrataidd clir i’r bobl. I’r perwyl hwn, byddwn ni’n diddymu pedwar rhanbarth cynllunio Llafur a’u Cyd-bwyllgorau Corfforaethol annemocrataidd'.

Felly, yng ngoleuni hyn, Llywydd, byddwn yn rhyfeddu pe bawn i'n clywed heddiw y byddai Plaid Cymru yn cefnogi'r cynigion yma ger ein bron heddiw. Maen nhw wedi gwneud gwaith rhagorol ac wedi bod yn arwrol yn eu gwrthwynebiad i gyd-bwyllgorau corfforaethol, ac rwy'n siŵr y byddai arweinwyr Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a sir Gaerfyrddin hefyd yn synnu clywed unrhyw wrthwynebiad, neu unrhyw gefnogaeth, y dylwn i ddweud i'r CBCau yma heddiw. [Torri ar draws.] Ni wnaethant ddim mewn gwirionedd. Gwiriwch y pleidleisiau gyda CLlLC. Ni allwn daflu democratiaeth leol a phwerau'r cyngor o dan y bws, hyd yn oed gyda'r cytundeb cydweithredu sydd ar waith, ac rwy'n falch ein bod ni fel Ceidwadwyr yn sefyll dros gynghorau a chynghorwyr a etholwyd yn ddemocrataidd.

Wrth symud ymlaen, rwy'n llawn optimistiaeth, Llywydd, ond nid wyf yn naïf ar yr un pryd. Sylwaf fod eitem 9 yn debygol o gael cefnogaeth fwyafrifol yma heddiw, ac, fel y cyfryw, ni fyddwn yn gwrthwynebu eitemau 10 i 17, oherwydd mae'n iawn, pan fydd CBCau ar waith, eu bod yn glynu wrth reoliadau priodol, fel yr amlinellodd y Gweinidog, fel y gallant weithredu'n briodol o fewn y rheoliadau hynny. Felly, i gloi, Llywydd, byddwn yn annog pob Aelod i barchu pwerau i gynghorau lleol a phleidleisio yn erbyn eitem 9, sy'n cyflwyno'r cyd-bwyllgorau corfforaethol hyn ymhellach. Diolch yn fawr iawn.

18:15

Wel, diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n amlwg bod Plaid Cymru wedi cyrraedd, oherwydd mae'r Ceidwadwyr yn treulio mwy o amser yn trafod maniffesto a pholisïau Plaid Cymru nag y maen nhw eu polisïau eu hunain, ac unwaith eto mae hynny'n tanseilio, dwi'n meddwl, pa mor gynyddol amherthnasol y mae'r Ceidwadwyr yn dod yn y lle yma.

Dwi'n falch bod Sam wedi darllen maniffesto Plaid Cymru. Jest gobeithio ei fod e wedi darllen gweddill y maniffesto hefyd, er mwyn dysgu un neu ddau o bethau ynglŷn â beth sydd angen i'r Ceidwadwyr ei efelychu. Do, mi wnaeth Plaid Cymru wrthwynebu'r cydbwyllgorau corfforaethol yma, ond mi basiwyd y ddeddfwriaeth gynradd yna, yn erbyn ein dymuniad ni, ac wrth gwrs y ffocws nawr yw sicrhau bod y cydbwyllgorau yma, sydd yn mynd i ddod i fodolaeth, dim ots beth mae'r Ceidwadwyr yn pleidleisio heddiw, yn cael eu cyflwyno yn y modd mwyaf cydnaws a mwyaf triw i'r egwyddorion yr ydym ni fel plaid yn dal i sefyll arnyn nhw. Ac os darllenwch chi'r cytundeb cydweithredu gyda’r Llywodraeth, mi welwch chi ein bod ni'n dweud yn gwbl glir yn y fanna ein bod ni'n mynd i barhau—a dwi'n dyfynnu—i 'adolygu gwaith partneriaethau rhanbarthol' ac ein bod ni wrth gwrs yn sicrhau eu bod nhw yn cael eu 'seilio ar flaenoriaethau lleol', sef yn union, wrth gwrs, y ffaith bod angen cadw'r cysylltiad yna gyda democratiaeth leol. Nawr, mi ddywedaf yn ychwanegol hefyd wrth lefarydd y Ceidwadwyr bod rhaid i chi ddysgu i wrando'n well pan fo'r Gweinidog llywodraeth leol yn ateb fy nghwestiynau i yn y Senedd yn fan hyn, oherwydd, dim ond pythefnos yn ôl, mi ofynnais i'r cwestiwn ynglŷn â chymryd mwy o gyfrifoldebau o lywodraeth leol lan i lefel y cydbwyllgorau rhanbarthol yma, ac mi ddyfynnaf i eto i chi, i'ch safio chi rhag mynd i edrych ar y Record. Yr hyn y dywedodd y Gweinidog wrthyf i oedd,

'Ni fydd cyfrifoldebau'n cael eu symud oni bai bod y ceisiadau hynny'n dod gan awdurdodau lleol eu hunain.' 

Felly, peidiwch â dod fan hyn i godi bwganod. Ydyn, mi rŷn ni o ddifrif ynglŷn â sicrhau bod gwasanaethau'n aros mor lleol ag sy'n bosib, ac mi fyddwn ni yn craffu'r rheoliadau ychwanegol hefyd fydd yn dod gerbron y Senedd yma drwy'r lens yna. Mae symud y strwythurau yma yn rhedeg y risg—a dwi'n cytuno—yn rhedeg y risg ein bod ni'n mynd i greu haen ychwanegol o lywodraethiant a bod hynny'n dod â biwrocratiaeth a chost ychwanegol gydag e, ond dyw beth ŷch chi'n mynd i bleidleisio ar y rheoliadau yn fan hyn heddiw ddim yn mynd i newid y ffaith bod y CJCs yn dod. Felly, tyfwch lan, 'engage-wch' gyda'r ddadl a gwnewch yn siŵr bod y CJCs yn gweithredu yn y modd rŷch chi eisiau iddyn nhw, yn lle plannu'ch pennau yn y tywod. Beth bynnag, dwi'n ymateb i'r ddadl yn y modd y dylai'r Gweinidog gwneud, felly, gwnaf fi ddim gwneud hynny.

Mae yna bwynt dilys ynglŷn â chost, mae yna bwynt dilys ynglŷn â chost. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn dangos dros chwe blynedd, gall y gost fod rhwng £10 miliwn ac £16 miliwn, a'r cwestiwn yw: o ble mae hwnna'n dod? Nawr, fel y dywedodd un arweinydd cyngor wrthyf i, dydyn nhw ddim mewn sefyllfa i secondio adnoddau dynol i lenwi rhai o'r swyddi yma oherwydd maen nhw'n gwegian yn barod pan fo'n dod i adnoddau dynol o safbwynt darparu gwasanaethau creiddiol. Dydyn nhw ddim chwaith mewn sefyllfa i 'top-slice-o' yr adnoddau ariannol sydd ganddyn nhw fel awdurdodau lleol, oherwydd mae gwasanaethau yn gwegian oherwydd y sefyllfa ariannol rŷn ni i gyd yn ymwybodol ohono. Felly, mae yna gwestiwn i'w ateb yn fanna a dyna fy nghwestiwn sylfaenol i i'r Gweinidog heddiw. Y Llywodraeth sydd wedi mynnu bod y cydbwyllgorau corfforaethol yma'n digwydd, felly, dwi'n tybio, Weinidog, mai'r Llywodraeth ddylai fod yn talu amdanyn nhw.

18:20

Diolch yn fawr iawn am gyfraniadau fy nghyd-Aelodau i'r ddadl heddiw. I ailadrodd, mewn gwirionedd, yr hyn yr oedd Llŷr Gruffydd yn ei ddweud yn y fan yna o ran ein bod yn trafod sut yr ydym yn gwneud i CBCau weithio heddiw, ac rydym yn trafod rhoi'r rheoleiddio, yr oruchwyliaeth a'r llywodraethu priodol ar waith y byddech chi yn eu disgwyl gan gyrff llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus yng Nghymru, yn hytrach na thrafod egwyddor CBCau. Rwy'n gyfarwydd â phryderon ehangach fy nghyd-Aelodau am CBCau, ym Mhlaid Cymru ac ar feinciau'r Ceidwadwyr, ac mae'r rheini wedi cael eu harchwilio'n eithaf manwl, yn fwyaf diweddar mewn cwestiynau llafar pryd yr oeddwn yn gallu ymateb i'r pryderon hynny a godwyd gan Sam Rowlands, yn arbennig, am rai o'r pryderon ynghylch atebolrwydd cyhoeddus a gododd a hefyd y pryderon ynghylch atebolrwydd democrataidd. Felly, ni wnaf ailadrodd y pwyntiau hynny heddiw, oherwydd nid ydyn nhw'n berthnasol i'r materion penodol yr ydym ni'n eu trafod.

Ond, fe ddywedaf i ar fater y gost, bydd cost CBC yn dibynnu'n sylweddol ar ddewisiadau aelodau cyngor cyfansoddol y CBC a sut y maen nhw am weithredu'r CBC a sut y byddan nhw'n defnyddio'r hyblygrwydd o fewn y model CBC. Er enghraifft, yr hyblygrwydd i CBCau gyflogi neu secondio staff ac i awdurdodau lleol drefnu bod staff ar gael i'r CBCau. Mae bod â rhai swyddogion statudol allweddol yn rhan annatod o gymhwyso trefniadau llywodraethu llywodraeth leol i CBCau a sicrhau bod CBCau yn gweithredu'n effeithiol ac yn briodol. A chafodd y dull hwn ei brofi a'i gadarnhau'n sylweddol yn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â'r gwaith hwn. Ond nid yw penodi swyddogion statudol nac unrhyw staff i gefnogi'r CBC yn golygu eu cyflogi'n uniongyrchol. Wrth gwrs, mater i'r CBC fydd sut y darperir y swyddogaethau a gallen nhw, er enghraifft, rannu neu secondio staff at y dibenion hyn. Rwy'n gwerthfawrogi popeth y mae Llyr Gruffydd wedi'i ddweud am y pwysau ar lywodraeth leol; deellir y rhain yn iawn a byddwn yn cael mwy o drafodaethau ar hynny wrth i ni symud tuag at bennu ein cyllideb ddrafft o ran y setliad cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer y blynyddoedd i ddod, cyn cyhoeddi ar 20 Rhagfyr.

Ond, i ailadrodd, mae'r hyn yr ydym yn sôn amdano yma heddiw yn ymwneud â sicrhau bod y rheoliadau sydd ar waith, sicrhau bod aelodau o'n teulu llywodraeth leol yma yng Nghymru yn cael eu rheoleiddio, eu goruchwylio a'u llywodraethu'n briodol. A byddwn yn gofyn i'r Aelodau, ar y sail honno, gefnogi'r rheoliadau.

18:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, bydd yr eitem yna'n cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 11? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Felly, eitem 12, y cwestiwn: a ddylid derbyn cynnig o dan eitem 12? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 13? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig o dan eitem 13.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Eitem 14, nesaf. A ddylid derbyn y cynnig yma? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yna.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 15? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r eitem yna wedi'i derbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Eitem 16, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu derbyn eitem 16? Nac oes. Felly, eitem 16 wedi'i derbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Eitem 17 yn olaf, felly. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu yr eitem hynny yn cael ei derbyn? Nac oes. Felly, unwaith eto, mae'r eitem yna o dan 17 wedi'i derbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

18. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd

Sydd yn golygu ein bod ni'n cyrraedd eitem 18, ond does yna ddim eitem 18 oherwydd mae honna wedi cael ei gohirio tan 11 Ionawr.

Ac felly, rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod i bleidleisio. Fe fyddwn ni felly yn paratoi ar gyfer y bleidlais yn dechnegol drwy gymryd egwyl fer, ac wedyn fe fydd y bleidlais yn cael ei chynnal. Yr egwyl, felly.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:27.

18:30

Ailymgynullodd y Senedd am 18:34, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

19. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r unig bleidlais y prynhawn yma ar eitem 9, sef y Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 9. Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:35.