Y Cyfarfod Llawn

Plenary

23/11/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn y trafodion, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar yr agenda. 

13:30
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders. 

Trafnidiaeth Gyhoeddus

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn Aberconwy? OQ57229

Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae darparu cerbydau rheilffordd newydd a chychwyn gwasanaethau bysiau Fflecsi newydd, arloesol sy'n ymateb i'r galw ymysg y camau sy'n cael eu cymryd i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn etholaeth yr Aelod.

Diolch. Prif Weinidog, mewn argyfwng hinsawdd, mae angen i ni fod yn grymuso ein trigolion i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Nawr, er ein bod ni wedi gweld rhywfaint o gynnydd o ran cyrraedd cymunedau gwledig drwy wasanaeth bysiau Fflecsi dyffryn Conwy fel y gwnaethoch chi sôn, y gwir amdani yw bod cysylltiad rhai cymunedau yn nyffryn Conwy i'r arfordir yn cael ei dorri yn y nos. Mae'r trên olaf yn gadael am 16:07 a'r bws olaf am 18:34, a cheir etholwyr bellach sy'n gorfod wynebu'r cyfyng-gyngor o dalu ffioedd tacsis uchel a chostus. Mae hyd yn oed mwy o gyfle erbyn hyn hefyd wrth i dwristiaid yrru eu hunain i Barc Cenedlaethol Eryri, ac rydym ni i gyd yn gweithio ar fentrau yno i geisio lleihau'r defnydd o geir preifat, yn hytrach na defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, ein rheilffordd yw un o'r atebion tymor byr gorau.

A wnewch chi, Prif Weinidog, weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i weld a ellid trefnu gwasanaethau min nos rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog, a hefyd, a wnewch chi geisio diwygio rhaglen metro gogledd Cymru er mwyn cynnwys gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol rhwng Blaenau Ffestiniog a Maes Awyr Manceinion, a fyddai'n gwneud cryn dipyn i ddatrys rhai o'r problemau trafnidiaeth gyhoeddus sydd gennym ni yn Aberconwy? Diolch.

Wel, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd, ac am yr awgrymiadau adeiladol y mae wedi eu cynnig. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths, a hithau'n Weinidog gogledd Cymru, yn cyfarfod â Trafnidiaeth Cymru yfory ar faterion trafnidiaeth yn y gogledd, a bydd yn gallu rhoi sylw i rai o'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau, Llywydd, i fuddsoddi ym metro gogledd Cymru—cafodd £9.2 miliwn ei sicrhau yn wreiddiol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ac mae gwerth £9.3 miliwn arall o gyllid wedi ei gyhoeddi i awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru ers hynny. Rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi gallu bod yn bresennol mewn digwyddiad yn hyb Llandudno yn ddiweddar, a bydd hynny yn helpu i gynnal partneriaeth rheilffordd gymunedol dyffryn Conwy, datblygiad pwysig arall yn ei hetholaeth.

A, Llywydd, ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, llwyddais i gyfarfod â'r Taoiseach yn Neuadd y Ddinas yma yng Nghaerdydd, lle cawsom ni gyfle i edrych gyda'n gilydd ar gyfres o gerbydau trydan ar gyfer casglu deunydd ailgylchu, ac mae 13 ohonyn nhw ar eu ffordd i gyngor Conwy, nid trafnidiaeth gyhoeddus, rwy'n gwybod, ond cerbydau cyhoeddus yn lleihau allyriadau, fel yr awgrymodd Janet Finch-Saunders. Ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi comisiynu gwasanaeth bysiau mini batri trydan hygyrch dim allyriadau 100 y cant, a bydd hwnnw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cynghorau hynny sy'n rhan o'r cynllun Fflecsi, gan adeiladu ar rai o'r syniadau a amlinellodd yr Aelod yn gynharach.

Fel y gwyddoch chi, Prif Weinidog, mae pont bibell Dolgarrog, sy'n cysylltu'r gymuned leol â'r orsaf drenau, wedi bod ar gau i gerddwyr a defnyddwyr lleol oherwydd pryderon diogelwch sylweddol, gan gynnwys dirywiad y byrddau dec pren a'r angen am fesurau ychwanegol i ddiogelu'r prif gyflenwad dŵr i dros 3,000 o gartrefi yn y gogledd. O ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd y llwybr cerdded poblogaidd yn Nolgarrog yn Aberconwy yn ailagor gyda chyfleusterau wedi eu huwchraddio, a fydd yn gwella mynediad at yr orsaf drenau leol. A allai'r Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwelliant hwn sy'n cael ei wneud i'r ardal sydd i'w groesawu'n fawr? Diolch.

Rwy'n diolch i'r Aelod am hynna. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid o bron i £0.75 miliwn i ariannu cyfraniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy at ailwampio'r bont ac i ddarparu ar gyfer gwaith uwchraddio sylweddol yn ei gyfleusterau. Fel yr ydym ni wedi ei glywed, mae'n amwynder lleol poblogaidd iawn a bu'n rhaid ei gau yn ddiweddar. Nid yn unig y bydd yn cynorthwyo'r bobl hynny sy'n dymuno bod yn cerdded ac yn mwynhau amwynderau gwych y rhan honno o Gymru, ond bydd hefyd yn caniatáu mynediad haws rhwng y pentref a'i orsaf reilffordd, yn ogystal, wedyn, ag atyniadau twristiaeth lleol ehangach yn yr ardal. Felly, rwy'n falch iawn yn wir o weld ateb i'r problemau a gafwyd yno, ac yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud ein cyfraniad at wneud hynny.

13:35
Technoleg Protein Amgen

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl technoleg protein amgen o ran sicrhau sero net? OQ57224

Llywydd, mae angen sector amaethyddol cynaliadwy ar Gymru a chadwyni bwyd sy'n gweithio tuag at sicrhau sero net. Bydd datblygu technolegau newydd a chreu ffynonellau protein amgen yn cyfrannu at ostyngiadau pellach i'n hallyriadau nwyon tŷ gwydr.

Diolch, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch chi, mae'r tir a ddefnyddir yn fyd-eang i dyfu cnydau i'w bwyta yng Nghymru yn cyfateb i 40 y cant o faint Cymru, ac un o'r cnydau mwyaf sy'n cael ei dyfu dramor i'w bwyta yng Nghymru yw ffa soia, sy'n cael eu defnyddio yn bennaf gan ddiwydiant dofednod Cymru. O'r herwydd, er mwyn i Gymru newid ei harferion ffermio fel nad yw'n cyfrannu at ddatgoedwigo dramor, byddai angen i ni fod yn llai dibynnol ar borthiant anifeiliaid soi o dramor. Un o'r ffyrdd y gellid cyflawni hyn yw trwy ddefnyddio protein amgen, fel larfâu pryfed, y mae treialon helaeth wedi dangos ei fod yn ddewis amgen ymarferol iawn yn hytrach na defnyddio soi i fwydo ein dofednod. Mae protein amgen, fel hwn, yn rhoi atebion hinsawdd a chyfleoedd ar gyfer twf economaidd yma yng Nghymru a'r DU, ac mae gwaith ymchwil gan y rhwydwaith buddsoddwyr Risg ac Enillion Buddsoddiad mewn Anifeiliaid Fferm wedi canfod y gallai ffynonellau protein amgen gyfrif am hyd at 64 y cant o'r farchnad protein fyd-eang erbyn 2050. Prif Weinidog, yn eich cydweithio i wireddu cynllun Sero Net Cymru 2021-25, nid oes unrhyw gyfeiriad o gwbl at broteinau amgen, sy'n awgrymu yn gryf eich bod chi naill ai wedi eu diystyru'n llwyr, neu heb hyd yn oed ystyried proteinau amgen fel ffordd o fynd i'r afael â phroblemau porthiant anifeiliaid sy'n cael ei fewnforio o ardaloedd sydd wedi eu datgoedwigo. A allwch chi esbonio'r rhesymau pam mae'r Llywodraeth hon wedi dewis peidio â chynnwys proteinau amgen yn rhan o'ch cynllun cyrraedd sero net? Diolch.

Wel, Llywydd, roedd yr Aelod yn gwneud yn dda iawn tan ran olaf ei gwestiwn, oherwydd roedd yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn ac yn cyfeirio at gyfleoedd sydd ar gael i ni yma yng Nghymru. Mae'r angen i ddatblygu ffynonellau protein amgen yn angenrheidiol yma yng Nghymru, ond yn gwbl angenrheidiol yn fyd-eang. Ac yma yng Nghymru, mae gennym ni fuddiannau gweithredol mewn dewisiadau amgen sy'n seiliedig ar blanhigion, dewisiadau amgen microbaidd, dewisiadau amgen sy'n seiliedig ar bryfed, cig wedi ei dyfu mewn labordy, amaethyddiaeth celloedd. Roedd yr holl faterion hynny, Llywydd, yn cael eu trafod yn Aberystwyth—yng nghampws ArloesiAber—pan oeddech chi a minnau yno ar gyfer ei agoriad ffurfiol ar 21 Hydref. Mae'r dechnoleg bioeplesu sy'n cael ei datblygu yn y ganolfan yn rhan o ganolfan bwyd y dyfodol, sydd yno yn y rhan honno o Gymru—yno oherwydd Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig a'r holl waith y mae wedi ei wneud dros flynyddoedd lawer i hyrwyddo dewisiadau amgen yn y sector hwn.

Mae'r posibiliadau i Gymru yn arbennig o bwysig, oherwydd bod gan ein hamaethyddiaeth ein hunain fanteision naturiol enfawr, mae ein hinsawdd yn darparu ar gyfer twf helaeth o ran glaswellt ac, felly, ar gyfer ffermio da byw cynaliadwy nad yw'n ddwys. Gallwn barhau â hynny a bod â'r hyder o wybod y gellir datblygu'r technolegau protein amgen hynny yma yng Nghymru ochr yn ochr â'n hamaethyddiaeth bresennol a'u hategu. Dyna pam mae'n gynnig mor gyffrous i ni yng Nghymru. Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd yr Aelod, hyd at ei gyfraniad terfynol a oedd braidd yn grintachlyd. Y gwir amdani, rwy'n siŵr, yw bod diddordeb cyffredin gwirioneddol, ar draws y Siambr, mewn gwneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio ar y cyfleoedd hyn ac yn eu rhoi ar waith dros Gymru.

Prif Weinidog, neithiwr, gwyliais gyda fy merch blwydd oed bennod o Peppa Pig, y cartŵn a ysbrydolodd Prif Weinidog y DU ar ôl ymweliad â pharc thema. Nid wyf i'n gymaint o ffan â Phrif Weinidog y DU, ond roedd gan Peppa rai geiriau doeth yn y bennod neithiwr. [Chwerthin.] Dywedodd, 'Mae dau fath o falŵn yn y byd: balwnau sy'n mynd i fyny a balwnau sy'n mynd i lawr', ac, os yw'n wir am falwnau, mae hefyd yn wir am bleidiau gwleidyddol, onid yw, Prif Weinidog y DU. A hoffwn i—

—eich llongyfarch chi ac Adam Price—

—ar gyrraedd y tir uwch, y tir cyffredin uwch, ac rwy'n gobeithio y bydd pleidiau eraill yn dilyn hynny, ond rwy'n siŵr y bydd pobl eraill yn ceisio ei dynnu i lawr yn ddiweddarach yn y sesiwn hon.

Mae'r ymrwymiad i geisio sicrhau sero net erbyn 2035 yn rhan mor bwysig o'r cytundeb cydweithredu rhwng ein pleidiau, a bydd technoleg yn chwarae rhan allweddol wrth wneud hynny. Fe wnaethoch chi ddweud yn eich datganiad ysgrifenedig heddiw y bydd angen syniadau, ymchwil ac arloesi newydd i gyrraedd sero net. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe wnaethom ni arwain y ffordd gyda'r chwyldro diwydiannol, ac, yn hytrach na dweud y drefn wrth weision sifil sy'n gweithio'n galed am beidio â meddwl am fochyn cartŵn, sut gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i gyrraedd sero net erbyn 2035 a gwneud yn siŵr, drwy ddefnyddio'r dechnoleg honno, nad yw yn nwylo ychydig o filiwnyddion cyfoethog yn unig y tro hwn, ond yn cael ei rhannu rhwng pobl Cymru? Diolch yn fawr.

13:40

Diolch yn fawr i Rhys am y cwestiwn yna ac am fod ar flaen y gad yn y maes yma. 

Rhannais lwyfan â Phrif Weinidog y DU yn COP26. Neilltuodd ei anerchiad mewn ffordd na allwn i helpu ond teimlo a wnaeth adael 40 o arweinwyr rhyngwladol o'n blaenau wedi drysu braidd ynghylch pwysigrwydd ymddygiad gwell gan wartheg wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Felly, mae'n amlwg bod ganddo ddiddordeb hirsefydlog mewn cyfraniad anifeiliaid fferm at ddadl wleidyddol. [Chwerthin.] Fodd bynnag, pwysigrwydd y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yw hyn: mae technolegau yn newid, fel yn y maes a nodwyd yn y cwestiwn gwreiddiol. Bydd posibiliadau newydd yn dod i'r amlwg. Rydym ni eisiau i Gymru fod yn flaenllaw bob amser ac ar flaen y gad o ran yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud i sicrhau carbon sero-net. Os gallwn ni symud y dyddiad ymlaen o 2050, sef yr hyn y mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn ei ddweud wrthym ni yw'r posibilrwydd i Gymru ar hyn o bryd, gyda'r hyn yr ydym ni'n ei wybod heddiw, rydym ni eisiau gwneud hynny, wrth gwrs. A bydd y gwaith a fydd yn cael ei wneud nawr yn erbyn y dyddiad newydd yn dweud wrthym ni ble mae'r cyfleoedd newydd hynny ac a yw'n bosibl mynd hyd yn oed ymhellach ac yn gyflymach nag yr ydym ni wedi gallu ei wneud hyd yn hyn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau ac, ar ran arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n gwybod yr hoffech chi i ni ganolbwyntio yn sesiwn cwestiynau'r Prif Weinidog heddiw ar gytundeb eich plaid gyda chenedlaetholwyr Cymru, ond nid wyf i eisiau canolbwyntio ar yr hyn y mae llawer o bobl ar fy ochr i o'r Siambr yn ei ystyried yn fater eilradd. Rwyf i eisiau canolbwyntio ar faterion sy'n wirioneddol bwysig i bobl Cymru. Felly, hoffwn i eich holi ynghylch iechyd meddwl. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf cafodd adroddiad ei gyhoeddi ar wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Roedd yn anodd iawn ei ddarllen. Amlygodd adroddiad Holden, a gafodd ei atal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am bron i wyth mlynedd, ddiwylliant o fwlio, bygythiadau, prinder staff, esgeuluso cleifion, i gyd yn uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd. A allwch chi ddweud wrthyf, Prif Weinidog, pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi eu dysgu o'r adroddiad hwnnw?

Wel, fel y dywedodd yr Aelod, Llywydd, mae'r adroddiad yn wyth mlwydd oed, ac mae llawer o wersi wedi eu dysgu ers hynny. Cefais fy nghalonogi fy hun o weld bod adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar uned Hergest yn 2018 wedi canfod tystiolaeth bod yr uned yn darparu gofal diogel ar y pryd, a phan gynhaliodd AGIC archwiliad ansawdd yn yr uned ym mis Mai eleni, cadarnhaodd eto fod cynnydd sylweddol wedi ei wneud o ran dod â'r uned honno i lefel fwy derbyniol o ofal a darpariaeth i ddinasyddion yn y rhan honno o Gymru. Felly, dyna'r gwersi sydd wedi eu dysgu dros y cyfnod hwnnw o wyth mlynedd—y gellir goresgyn profiadau anodd iawn hyd yn oed a chyflwyno llwybr at welliant gyda phwyslais ac ymrwymiad priodol gan y rhai dan sylw.

13:45

Rwy'n synnu at eich ateb, Prif Weinidog. Ni ofynnais i chi pa wersi yr oedd y bwrdd iechyd wedi eu dysgu, gofynnais i chi pa wersi yr oeddech chi wedi eu dysgu—yr oedd Llywodraeth Cymru wedi eu dysgu. Chi oedd y Gweinidog iechyd ar y pryd pan oedd y problemau hyn yn amlwg yn y gogledd. Roedd clychau larwm yn canu, roedd staff yn cwyno, roedd cleifion yn cael eu hesgeuluso, roedd rhai yn cael eu niweidio, ac roeddwn i, ynghyd â chynrychiolwyr etholedig eraill a oedd yn Aelodau o'r Senedd bryd hynny, yn mynegi pryderon mewn gohebiaeth â chi. Ond cymerodd ddwy flynedd i chi—dwy flynedd hir iawn—ac adroddiad damniol arall ar gam-drin ac esgeuluso sefydliadol mewn gwasanaethau iechyd meddwl, ar ward Tawel Fan Ysbyty Glan Clwyd y tro hwn, cyn i chi fynd ati o'r diwedd i roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Ond wrth gwrs roedd yn rhy ychydig, yn rhy hwyr i'r cleifion hynny a oedd wedi dioddef niwed yn y cyfamser ac i'w hanwyliaid. A ydych chi, fel y Gweinidog iechyd ar yr adeg benodol honno, yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am y niwed a ddioddefodd y cleifion? A pha gamau sy'n cael eu cymryd yn awr i ddwyn i gyfrif y bobl hynny a oedd yn gyfrifol am y methiannau a gafodd eu nodi gan Holden am yr hyn a aeth o'i le?

Wel, Llywydd, rwy'n cymryd cyfrifoldeb llawn am bopeth a wnes i ac a benderfynais i pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, yn y llawer iawn o gwestiynau a ofynnwyd i mi ar lawr y Senedd hon ac a atebais ar y pryd. Ymwelais ag uned Hergest pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, yn rhannol mewn ymateb i'r ohebiaeth yr oeddwn i'n ei chael yn ei chylch. Gwelais staff dan warchae ond ymroddedig iawn, yn benderfynol bob dydd i geisio gwneud gwahaniaeth ym mywydau'r bobl hynny yr oedd eu salwch yn gofyn am sylw iechyd meddwl cleifion mewnol. Roedd y bobl hynny yn benderfynol, er gwaethaf yr holl feirniadaeth, i ddod i'r gwaith bob dydd i wneud eu gorau, a dyna yr wyf i'n credu sy'n digwydd bob dydd, byth ers hynny, gan y bobl hynny sy'n darparu'r gwasanaethau hynny yn y gogledd. Nid oes gan yr Aelod, fel erioed, byth air da i'w ddweud dros unrhyw un sy'n gweithio i'r gwasanaeth iechyd—[Torri ar draws.] Wel, nid wyf i wedi clywed gair da yn cael ei ddweud eto. Cawn weld a yw'n gallu dod o hyd i un nawr. Mae'r bobl hynny yn haeddu cefnogaeth gan bobl yn y Siambr hon, nid gofyn beth rydym ni'n mynd i'w wneud i gynnal rhyw fath o ymchwiliad ôl-weithredol i weld pwy y gellir rhoi'r bai arno. Fy nghred i yw, gyda rheolaeth newydd y gwasanaeth iechyd yn y gogledd—. A chefais gyfle ddoe, Llywydd, i drafod gyda chadeirydd y bwrdd iechyd, y prif weithredwr newydd a'r person sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd meddwl y cynlluniau sydd ganddyn nhw i barhau i ddatblygu ar y gwelliannau y maen nhw wedi gallu eu cyflawni. Mae angen llawer o welliannau pellach, ac mae hynny i gyd yn cael ei gydnabod gan y bobl sy'n gyfrifol ar lawr gwlad, ond wrth edrych ymlaen i adeiladu o hynny, i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu i bobl yn y gogledd o ansawdd ac o safon ac o gysondeb y bydden nhw'n dymuno eu gweld.

Prif Weinidog, rwy'n siomedig iawn gyda'ch ymateb. Nid wyf i wedi bychanu mewn unrhyw ffordd y bobl ar rengoedd blaen ein gwasanaeth iechyd sy'n darparu gofal o ansawdd uchel o dan bwysau mawr ddydd ar ôl dydd. Yr hyn yr wyf i'n ei ofyn i chi yw: a wnewch chi dderbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd yn y gogledd i'w wasanaethau iechyd meddwl, o gofio mai chi oedd y Gweinidog iechyd ar y pryd? Ble mae'r atebolrwydd, ble mae'r ymddiheuriad i'r unigolion hynny a ddioddefodd o ganlyniad i'r oedi hwnnw cyn gweithredu? Fe wnaethoch chi osgoi cyfrifoldeb bryd hynny ac rydych chi'n ceisio gwneud yr un peth nawr, nid yn unig o ran gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd, ond hefyd wrth gwrs o ran eich penderfyniadau ynghylch y pandemig.

Felly, a gaf i ofyn cwestiwn ychydig yn wahanol i chi? A wnewch chi a'ch partneriaid clymblaid ym Mhlaid Cymru ddysgu'r gwersi o'r gorffennol? A wnewch chi roi'r gorau i'r petruso ac a wnewch chi wrando ar alwadau teuluoedd sy'n galaru sy'n adleisio yn fy nghlustiau, ac yn adleisio yn eich clustiau chi rwy'n siŵr, a chymryd camau cyflym yn awr—nid oedi cyn gweithredu—i gomisiynu ymchwiliad COVID penodol i Gymru cyn gynted â phosibl i ddysgu'r gwersi o'r pandemig hwn ac i wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n cael eu hailadrodd yn y dyfodol?

Wel, Llywydd, ymysg ei sylwadau mwy sarhaus, fe wnaeth yr Aelod lwyddo i wasgu brawddeg allan i gydnabod ansawdd uchel y gofal sy'n cael ei ddarparu i'w etholwyr yn y gogledd. Trafodais holl fusnes ymchwiliad gyda Michael Gove, y Gweinidog sy'n gyfrifol am y mater hwn yn Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf. Cefais sicrwydd pellach ganddo o ymrwymiad Llywodraeth Geidwadol y DU i ymchwiliad a fydd yn rhoi'r atebion sydd eu hangen ar deuluoedd yng Nghymru. Dywedodd wrthyf ei fod yn gwbl ymwybodol o weithredoedd plaid Geidwadol Cymru i geisio tanseilio'r cytundeb yr wyf i wedi ei wneud gyda Phrif Weinidog y DU. Mae'n parhau yma eto heddiw. Efallai nad yw'n barod i ymddiried yn yr hyn y mae aelodau ei blaid ef yn y Llywodraeth yn San Steffan yn ei ddweud wrthyf; tan i mi weld tystiolaeth nad ydyn nhw'n barod i wneud yr hyn maen nhw'n ei ddweud wrthyf bob tro y byddaf i'n ei drafod gyda nhw—[Torri ar draws.] Bob tro yr wyf i'n ei drafod gyda nhw, maen nhw'n dweud wrthyf eu bod nhw'n benderfynol o ddarparu ymchwiliad a fydd yn rhoi'r atebion y mae pobl sy'n siarad â mi a gydag ef—. Byddaf i'n eu credu nhw tan i mi weld tystiolaeth nad yw'r hyn y maen nhw'n ei ddweud wrthyf yn wir. Ni fu ganddo ef unrhyw ymddiriedaeth yn yr hyn y maen nhw'n ei ddweud wrthyf o'r cychwyn cyntaf.

13:50

Diolch, Llywydd. Roeddwn i'n meddwl bod Darren Millar yn hynod dawedog heddiw am y cytundeb cydweithredu. Efallai, wn i ddim, ei fod yn gresynu at rai o'i linellau ymosod dros nos. Ond fe wnaethon nhw ddweud—ac fe wnaethoch chi ddweud—nad yw'r cytundeb yn gwneud dim i helpu pobl Cymru: dywedwch hynny wrth y 200,000 o blant a fydd yn cael prydau ysgol am ddim yn awr o ganlyniad i hynny; dywedwch hynny wrth y miloedd ychwanegol o blant a fydd yn derbyn gofal plant am ddim. Maen nhw'n dweud nad yw'n gwneud dim i'r GIG ac eto, yn y ganolog iddo y mae creu gwasanaeth gofal cenedlaethol a fydd yn gwneud y cyfraniad unigol mwyaf y gellir ei ddychmygu at ddatrys heriau hirdymor y gwasanaeth iechyd. Rydym ni'n addo gyda'n gilydd i fwydo ein plant a gofalu am ein henoed, a'r cyfan y gallan nhw ei gyfleu yw eu hagwedd negyddol arferol. Nid wyf i'n synnu nad yw The Daily Telegraph yn hoffi gweithredu radical ar ail gartrefi, ond pan fyddan nhw a'r Torïaid yn uno yn erbyn Cymru, onid dyna'r arwydd mwyaf sicr bod yn rhaid ein bod ni'n gwneud rhywbeth yn iawn?

Wel, Llywydd, erbyn diwedd y tymor Senedd hwn, bydd hi'n 25 mlynedd yn y diffeithwch i Blaid Geidwadol Cymru, ac fel y clywsom ni dros nos ac y clywsom ni eto heddiw, maen nhw'n gweithio yn galed iawn i haeddu'r sefyllfa honno. Hoffwn i dynnu sylw—ni fyddan nhw'n ei hoffi eto; rwy'n gallu eu gweld nhw'n ysgwyd eu pennau o'r fan yma—yn syth ar ôl yr etholiad, cawsom ddadl yma ar lawr y Senedd; cafodd llawer ei ddweud am yr angen i gydweithio ar faterion yr oeddem ni'n cytuno arnyn nhw. Ysgrifennais yn syth ar ôl hynny at arweinydd Plaid y Ceidwadwyr Cymreig yma ac ysgrifennais at arweinydd Plaid Cymru. Cefais ateb gan arweinydd Plaid Cymru; ni chefais ddim o gwbl gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Dyna pam nad ydyn nhw erioed wedi bod yn agos at y Llywodraeth yn y lle hwn, oherwydd nid yw'r aeddfedrwydd ganddyn nhw—y gallu, hyd yn oed—i fod yn rhan o Lywodraeth yma. Maen nhw yn y diffeithwch gan mai dyna le maen nhw'n haeddu bod.

Fel yr ydym ni'n ei ddweud yn y rhagair i'n cytundeb, trwy bleidleisio i greu ein democratiaeth, roedd pobl Cymru hefyd yn dymuno gweld math newydd o wleidyddiaeth. Nawr efallai y gallwn ni faddau, ac yn wir dosturio wrth y Ceidwadwyr am gael eu dal yn eu meddylfryd San Steffan; byddai'n well gan lawer ohonyn nhw fod yno nag yma wedi'r cyfan. Maen nhw'n gweld y byd mewn gwrthwynebau deuaidd; rydym ni'n ceisio manteisio ar y traddodiad Cymreig mawr o gydweithredu. Cyfeiriais at Robert Owen yn fy sylwadau ddoe, yn sôn am Gymru a gafodd ei hadeiladu drwy gydweithrediad pawb er budd pob un. O'r traddodiad hwnnw rydym ni wedi creu model newydd, cytundeb pwrpasol rhwng un blaid mewn Llywodraeth ac un blaid sy'n wrthblaid, na allai neb fod wedi ei ragweld. Ond mae'n rhan o'r awydd hwnnw am wleidyddiaeth newydd a adeiladodd y sefydliad hwn a bydd y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn ei groesawu gan nad ydyn nhw eisiau gwleidyddion sy'n chwarae gemau parlwr San Steffan; maen nhw eisiau i'w cynrychiolwyr etholedig gydweithio i ddod o hyd i atebion i'n problemau niferus. Onid dyna, wedi'r cyfan, yw holl bwynt democratiaeth?

Llywydd, mae Adam Price yn llygad ei le i dynnu sylw at y ffordd y bu'n bosibl, ers dechrau datganoli, creu cytundebau rhwng pleidiau blaengar yma; pleidiau â syniadau, pleidiau â pharodrwydd i dderbyn y cyfrifoldeb o fod mewn Llywodraeth. Yr haf cyntaf un yr oeddwn i'n gweithio yn y Cynulliad fel yr oedd ar y pryd, Llywydd, haf y flwyddyn 2000, roeddwn i'n cael cyfarfod bob wythnos gyda phennaeth staff plaid y Democratiaid Rhyddfrydol yma, ac fe wnaethom ni lunio cytundeb a arweiniodd yr hydref hwnnw at y Llywodraeth drawsbleidiol gyntaf yma yng Nghymru. Roeddem ni'n meddwl ar y pryd ein bod ni'n gwneud rhywbeth rhyfedd ac anarferol iawn, ac yn wir rwy'n cofio mynd gyda'r Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, i gyfarfodydd y Blaid Lafur lle'r oedd yn ysgwyddo'n llawn y dieithrwch a'r peth anarferol yr oedd wedi ei wneud.

Ers hynny, yn nhymhorau olynol y Senedd, rydym ni wedi dangos ein bod ni yma yng Nghymru yn gallu gwneud pethau yn wahanol, ein bod ni'n gallu llunio gwahanol fath o wleidyddiaeth, yn y ffordd y mae Adam Price wedi ei ddweud. Mae'r cytundeb y mae ei blaid ef a fy mhlaid i wedi ei daro yn wahanol i unrhyw fath blaenorol o gytundeb, ond mae hynny oherwydd ein bod ni'n barod i wneud y peth anodd, sef dod o hyd i'r creadigrwydd, dod o hyd i'r dychymyg, a dod o hyd i'r tir cyffredin ar gyfer cytundeb rhyngom. O ganlyniad, byddwn yn gallu cyflawni pethau yn y Senedd hon i bobl ledled Cymru na fydden nhw efallai wedi bod yn bosibl fel arall. Rwy'n credu y bydd hynny yn cael ei groesawu. Rwy'n credu bod pobl y tu allan i'r Senedd yn disgwyl i ni weithio gyda'n gilydd pan fyddwn ni'n gallu, ar y pethau y mae gennym ni gytundeb ar eu cyfer, a byddan nhw'n gweld ffrwyth ymarferol hynny dros y tair blynedd nesaf.

13:55

Beth bynnag fo barn rhywun am gynnwys y cytundeb cydweithio, does dim dwywaith bod hwn yn gytundeb radical a fydd yn delifro ar rai o'r pethau y mae ymgyrchwyr wedi bod yn brwydro arnyn nhw ers degawdau, fel rheoli'r farchnad dai. Ond does bosib na fyddai unrhyw un yn anghytuno y dylai ein dinasyddion ni allu cael y wybodaeth gywir i'n dal ni i gyd i gyfrif, ac mae'n gwbl amlwg i bawb nad yw hynny'n digwydd fel y dylai fe ar hyn o bryd. I'r rhannau hynny o'r wasg Lundeinig a wnaeth, a bod yn deg, drafferthu i adrodd ar y datblygiad newydd hwn yng ngwleidyddiaeth Cymru ddoe, roedd yr anwybodaeth yn drawiadol. Roedd un adroddiad yn cyfeirio at 15 Aelod Plaid Cymru o'r Senedd ac un arall yn sôn mai Plaid Cymru oedd y drydedd blaid o fewn Llywodraeth Cymru. Oni ddylai pawb, gobeithio, allu uno tu ôl i'r cyfle mae'r cytundeb yn ei gynnig i gau'r bwlch democrataidd a chreu system gyfryngol i Gymru sy'n gwasanaethu anghenion ein pobl ac yn eu grymuso nhw i gymryd rhan yn ein democratiaeth ni?

Dwi'n cytuno ag Adam Price achos mae'r bwlch democrataidd yn amlwg i unrhyw berson i'w weld pan ydyn nhw'n darllen beth mae'r wasg yn Llundain wedi ei ddweud am bron popeth sy'n mynd ymlaen yma yng Nghymru, ac roedden nhw'n gwneud yr un peth ddoe hefyd. Ar ddiwedd y dydd, Llywydd, fel roeddem ni'n dau yn sôn ddoe, yn nwylo pobl yng Nghymru bydd y penderfyniadau ar ôl y cytundeb. Os yw pobl yng Nghymru yn gallu gweld beth rŷn ni'n ei wneud, pethau blaengar a phethau uchelgeisiol, dwi'n siŵr y bydd hwnna yn cael ei werthfawrogi. Ond yn eu dwylo nhw mae e ar ddiwedd y dydd.

Trais yn Erbyn Menywod a Merched

3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched? OQ57258

Rwy'n diolch i Joyce Watson am hynna, Llywydd. Rydym ni'n cryfhau ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i gynnwys trais a cham-drin yn gyhoeddus ac yn y gweithle, yn ogystal ag yn y cartref. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y strategaeth yn cael ei lansio fis nesaf. Mae hon yn broblem gymdeithasol sy'n gofyn am ymateb cymdeithasol.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n gwybod bod eich Llywodraeth yn parhau i flaenoriaethu'r mater hwn, a gyda Jane Hutt mae gennym ni Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sy'n hyrwyddwr diflino ar ran dioddefwyr a goroeswyr. Ond, yn anffodus, mae'r penderfyniad gwleidyddol i ddileu trais dynion yn erbyn menywod a merched yn cael ei danseilio yn rhy aml gan y methiannau yn y system cyfiawnder troseddol. Mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru a Lloegr yn ein hatgoffa o hynny yn eglur: mae achosion o drais rhywiol wedi codi 10 y cant o'r llynedd i fis Mehefin, tra bod nifer yr achosion sy'n arwain at gyhuddiad ar ei hisaf erioed. Wrth gwrs, nid yw'r ddeddfwriaeth a llawer o'r toriadau ariannol y tu ôl i'r ffigurau hyn wedi eu datganoli, ond wrth i ni nesáu at Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ddydd Iau, a'r 16 diwrnod o weithredu a fydd yn dilyn, a wnewch chi drafod gyda heddluoedd a chomisiynwyr trosedd yr angen dybryd i flaenoriaethu diogelwch menywod a merched?

14:00

Rwy'n diolch i Joyce Watson am hynna, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy dalu teyrnged i bopeth y mae'n ei wneud drwy gydol y flwyddyn, ac yn ystod cyfnod y Rhuban Gwyn hefyd, i dynnu sylw at y materion y mae wedi cyfeirio atyn nhw eto heddiw? Mae hi'n llygad ei lle bod y pwyntiau y mae'n eu codi yn rhai pwysig iawn i Lywodraeth Cymru ac yn cael eu hyrwyddo yn egnïol iawn gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Mae'n cyfarfod yn rheolaidd iawn â phrif gwnstabliaid a gyda'r comisiynwyr heddlu a throsedd. Y prif gomisiynydd heddlu a throsedd ar hyn o bryd, Llywydd, yw comisiynydd heddlu a throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi cyfarfod ag ef yr wythnos diwethaf ac y bydd yn cyfarfod ag ef eto ar 16 Rhagfyr. Bydd Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru yn cyfarfod ar 2 Rhagfyr. Bydd hwnnw yn gyfle i ni barhau â'r ddeialog yr ydym ni wedi ei sefydlu gyda'n heddluoedd. Nid ydyn nhw wedi eu datganoli, fel y dywedodd Joyce Watson, ond rydym ni wedi llwyddo i greu cyfres o drefniadau sefydliadol sy'n gwneud yn siŵr bod y materion sy'n peri pryder i bobl yng Nghymru yn cael eu trafod yno yn rheolaidd, yn uniongyrchol â buddiannau'r heddlu eu hunain, ond gyda phartneriaid eraill hefyd yn yr awdurdodau lleol, yn y gwasanaeth iechyd. Byddwn yn codi'r materion y mae'r Aelod wedi eu nodi heddiw eto yn y fforwm hwnnw, a hoffwn i ddweud, Llywydd, ar gyfer y cofnod, ein bod ni, yn ein profiad ni, yn cael ymateb ymroddedig iawn gan ein partneriaid a'n partneriaid heddlu yma yng Nghymru.

Mae hwn yn bwnc eithriadol o bwysig, yn enwedig yr wythnos hon cyn Diwrnod y Rhuban Gwyn, a hoffwn gofnodi fy niolch i Joyce Watson am ei holl waith yn codi ymwybyddiaeth o'r mater pwysig hwn. Rydym ni'n croesawu'r ffaith bod aflonyddu, bellach, wedi ei gynnwys yn yr ymgyrch Byw Heb Ofn, ond i'r rhai hynny sy'n estyn allan ac yn dianc rhag sefyllfaoedd treisgar yn barhaol, bydd yn rhaid i lawer ailadeiladu eu bywydau yn llwyr, a gall cymorth fod yn annigonol yn aml, yn enwedig os oes rhaid i ddioddefwyr ffoi o'r ardal lle maen nhw wedi byw. Gweinidog, pa gymorth ychwanegol wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i'w roi i ddioddefwyr y bu'n rhaid iddyn nhw ffoi rhag trais yn y cartref, yn enwedig pan fu'n rhaid iddyn nhw adael eu rhwydwaith cymorth cyfan ar ôl?

Rwy'n diolch i Laura Anne Jones am y pwyntiau pwysig yna, Llywydd. Mae hi'n llygad ei lle; mae effaith cam-drin domestig yn ofnadwy ym mywyd unrhyw un, ond i bobl sy'n gorfod alltudio eu hunain o'u cartrefi eu hunain, ac weithiau o'u cymunedau eu hunain, yna mae'r effaith yn fwy byth. Byddwn yn parhau fel Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y cyllidebau yr ydym ni'n eu darparu yn y maes hwn. Rydym ni wedi cynnwys £2.5 miliwn ychwanegol mewn cyllid anghylchol eleni, yn rhannol er mwyn helpu'r gwasanaethau hynny i ymdopi ag effaith y pandemig, lle'r ydym ni'n gwybod bod rhai o'r pwyntiau y mae'r Aelod newydd eu gwneud wedi eu gwaethygu—lle nad yw pobl wedi cael mynediad at ddiddordebau a sefydliadau allanol y gallen nhw fod wedi tynnu sylw'r bobl hynny at eu tynged. Rydym ni wedi ymrwymo yn llwyr i'r agenda ac i'w hariannu ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag eraill yn y Siambr hon arni yn y 12 mis sydd i ddod.

Prif Weinidog, fel yr ydym wedi ei glywed, mae hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn Erbyn Menywod yr wythnos hon. Bob blwyddyn rydym yn nodi'r diwrnod hwn, ac eto bob blwyddyn mae mwy o fenywod yn marw oherwydd trais gan ddynion, a bob dydd mae menywod yn addasu eu hymddygiad er mwyn osgoi dioddef ymosodiad neu gael eu lladd. Mae'n swnio'n eithafol, ond mae hwnnw yn benderfyniad bob dydd y mae menywod di-rif yn ei wneud. Fe wnaethoch chi gefnogi gwelliant gan Blaid Cymru yn ddiweddar yn galw am strategaeth gan y Llywodraeth ar atal ymosodiadau ac aflonyddu rhywiol. A allech chi ddweud mwy wrthym ni am y strategaeth honno, os gwelwch yn dda, ac, yn bwysig, sut y bydd yn gwneud bywyd yn fwy diogel i fenywod a merched, gan fod 97 y cant o fenywod rhwng 18 a 24 oed eisoes wedi dioddef aflonyddu yn eu bywydau? Mae pedair o bob pump o fenywod yn dioddef aflonyddu yn y gweithle, a thybir bod o leiaf naw menyw wedi colli eu bywydau drwy drais gan ddyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yng Nghymru. Os ydym ni'n sôn am ddileu trais gan ddynion yn erbyn menywod, Prif Weinidog, mae'n ymddangos bod gennym ni fynydd serth iawn i'w ddringo o hyd.

Mae'r ffigurau hynny y mae Delyth Jewell newydd eu darllen i ni yn ofnadwy, ac rwy'n cytuno yn llwyr â hi nad yw hon yn broblem i gael ei datrys gan ddioddefwyr. Nid mater i fenywod yw addasu eu hymddygiad er mwyn dod o hyd i ateb; mater i ddynion, yn y ffordd y maen nhw'n ymddwyn, a'r ffordd yr ydym ni'n magu ein plant, yn enwedig bechgyn, yw bod yn rhan o'r ateb hwnnw. Yn ddiweddarach yr wythnos hon, bydd fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn cyhoeddi datganiad ar yr adroddiad blynyddol ar gynnydd o ran gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yma yng Nghymru. Rydym ni'n aros am adroddiad Comisiwn y Gyfraith, a ddisgwylir yn fuan, ar y newidiadau a argymhellir i ddeddfwriaeth troseddau casineb. Mae angen i ni weld ymrwymiad i ddeddfu gan Lywodraeth y DU pan fydd yr adroddiad comisiwn hwnnw ar gael. Bydd hynny yn ein helpu i lunio'r strategaeth y cyfeiriodd Delyth Jewell ati. Mae ein swyddogion gyda'n partneriaid a'n cynghorwyr gwych yn y maes hwn, yn gweithio ar hynny yn weithredol i wneud y gorau posibl y gallwn ni yng Nghymru.

14:05

Prynhawn da, Prif Weinidog. Hoffwn i yn fawr iawn hefyd ychwanegu fy niolch i Joyce Watson, yn enwedig am yr wylnos gannwyll neithiwr i nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn. Diolch yn fawr iawn, Joyce, am drefnu hynny. Roedd yn brofiad hynod o deimladwy, ac rwy'n siŵr bod y rhai ohonom ni a oedd yno yn teimlo ei fod yn rhywbeth a oedd yn bwysig iawn i ni i gyd. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Prif Weinidog, ymwelais dros yr haf â nifer o ddarparwyr yn y rhanbarth y mae Joyce Watson a minnau yn ei chynrychioli, Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac rwyf i hefyd wedi siarad â'r mudiad Cymorth i Fenywod Cymru, a hoffwn i ddiolch i'r rhai a siaradodd â mi mor agored am eu gwasanaethau. Un o'r materion yr oeddwn i eisiau ei godi oedd hwnnw yn ymwneud â chynaliadwyedd cyllid i'r darparwyr hynny a'r gwasanaethau hynny. Siaradodd llawer â mi am y mesurau a'r cyllid byrdymor a oedd ar waith, sy'n peri problemau sylweddol wrth geisio cynllunio gwasanaethau. Rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn cytuno bod llawer ohonyn nhw wedi darparu gwasanaeth rhagorol, yn enwedig yn ystod y pandemig. Felly, tybed a allech chi roi ymateb i ni ynghylch cynaliadwyedd a chyllid mwy hirdymor, os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. 

Rwy'n cytuno yn llwyr â hi am y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud gan sefydliadau trydydd sector, eu partneriaid mewn llywodraeth leol, a'r gwaith sy'n cael ei wneud gan feddygon teulu yn rhan o brosiect IRIS wrth nodi dioddefwyr cam-drin domestig. Mae hyn yn waith caled, Llywydd. Mae'r rhain yn feysydd anodd iawn lle mae ofn ar bobl i siarad yn aml, ac mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan bobl ar y rheng flaen yn gwbl glodwiw. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, bu'n rhaid i ni fynd drwy gyfres o flynyddoedd lle mae Llywodraeth y DU wedi datgan cyllideb blwyddyn yn unig, gan wthio dyddiad yr adolygiad cynhwysfawr o wariant tair blynedd yn ôl dro ar ôl tro. Pan fyddwn ni ond yn gwybod faint o arian sydd gennym ni flwyddyn ar y tro, mae hynny'n golygu yn anochel bod yn rhaid i ni ddarparu cyllid ar y sail fyrdymor honno i'r partneriaid sy'n dibynnu ar y penderfyniadau cyllideb yr ydym ni'n eu gwneud yma. Mae gennym ni adolygiad cynhwysfawr o wariant tair blynedd a'r gallu bellach i gynllunio ymlaen llaw. Mae hynny yn bwysig iawn nid yn unig i Lywodraeth Cymru ei hun, ond i'n partneriaid yn y trydydd sector ac mewn awdurdodau lleol. Ein nod pan fyddwn ni'n gosod ein cyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr fydd trosglwyddo pa sicrwydd bynnag sydd gennym ni bellach iddyn nhw hefyd.

Seilwaith Trafnidiaeth ym Mlaenau Gwent

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth ym Mlaenau Gwent? OQ57256

Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae cwblhau'r gwaith gwerth £1 biliwn o ddeuoli'r A465 a buddsoddiad mawr mewn seilwaith rheilffyrdd ym Mlaenau Gwent yn dangos cryfder ymrwymiad Llywodraeth Cymru i etholwyr yr Aelod, hyd yn oed wrth i Lywodraeth y DU wrthod ariannu ei chyfrifoldebau ei hun.

Prif Weinidog, fe wnaeth pobl gogledd Lloegr ddarganfod yr wythnos diwethaf yr hyn yr ydym ni yng Nghymru wedi ei wybod ers rhai blynyddoedd—na allwch chi ymddiried yn addewidion y Torïaid wrth sôn am fuddsoddiad mewn seilwaith a threnau a dyfodol cysylltedd yn ein cymunedau. Fe wnaeth pobl Lloegr ddarganfod neithiwr yn Nhŷ'r Cyffredin mai Llywodraeth yn Llundain ar gyfer Llundain yw hon, ac nad yw'n poeni am unrhyw ran o'r DU y tu allan i Lundain. Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi'r buddsoddiad yn rheilffordd Glynebwy? Rydym ni'n gwybod mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hi, ond maen nhw wedi gwrthod, dro ar ôl tro, buddsoddi yr un geiniog yn eu cyfrifoldebau i ddatblygu'r rheilffordd honno. Llywodraeth Cymru sydd wedi ailagor y rheilffordd honno, Llywodraeth Cymru sydd wedi buddsoddi mewn datblygu'r rheilffordd, Llywodraeth Cymru sydd wedi buddsoddi yn seilwaith y rheilffordd honno, Llywodraeth Cymru sydd wedi buddsoddi yn y cerbydau ar y rheilffordd honno, oherwydd ein bod ni wedi dysgu ym Mlaenau Gwent na allwch chi ymddiried mewn gair y mae Boris Johnson a'r Torïaid yn ei ddweud wrthym ni.

14:10

Mae hwnna'n safbwynt, Llywydd, sy'n cael ei rannu gan Robbie Moore, AS Ceidwadol Keighley ers 2019, a ddywedodd fod ei etholwyr, o ganlyniad i'r cyhoeddiad, wedi eu twyllo yn llwyr. Mae'r cyhoeddiad cyn belled ag y mae gogledd Lloegr yn y cwestiwn, Llywydd, nid yn unig yn cymryd arian oddi wrth y rhan honno o Loegr, ymhell i ffwrdd o Lundain, fel y dywedodd Alun Davies, ond mae'n cymryd pwerau oddi wrthyn nhw hefyd. Rydym ni wedi hen arfer â'r math hwn o ymddygiad gan y Llywodraeth Geidwadol bresennol. Dywedodd Andy Burnham:

'Yn ogystal â cholli allan ar seilwaith, cawsom ein tawelu hefyd'

a bod yr unig strwythur ffurfiol ym mecanwaith Llywodraeth Prydain sy'n caniatáu i'r gogledd ddod ynghyd ag un llais bellach wedi ei ddiddymu. Yma yng Nghymru, rydym ni'n parhau i wneud pethau yn wahanol iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o weld y bydd gwasanaeth newydd ar reilffordd Glynebwy o ddydd Llun 13 Rhagfyr, gwasanaeth bob awr rhwng Crosskeys a Chasnewydd, a bydd y £70 miliwn y llwyddodd Llywodraeth Cymru i'w ddarparu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn golygu y bydd y seilwaith ffisegol yn cael ei roi ar waith i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau rheilffordd ychwanegol hynny yn rhedeg rhwng Glynebwy a Chasnewydd hefyd.

Er gwaethaf y toriadau i bobl yng ngogledd Lloegr a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, Llywydd, ceir ymrwymiad o hyd o £98 biliwn i brosiect Lloegr yn unig, gwrthodiad digywilydd gan y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain i ddarparu unrhyw arian canlyniadol i ni yng Nghymru, honiad hurt bod canolfan yn Crewe—[Torri ar draws.] Fe wnes i'r camgymeriad, Llywydd, o oedi am eiliad rhag ofn bod yr Aelod yn dweud rhywbeth synhwyrol. Dylwn i fod wedi gwybod yn well, a byddaf i'n cofio hynny y tro nesaf. Gwrandewch ar hyn, Llywydd; gwrandewch arno eto: £98 biliwn—biliwn—yn cael ei wario yn Lloegr a dim un geiniog o arian canlyniadol i Gymru, a honiad hurt—hurt—gan ei gyd-Aelodau bod canolfan yn Crewe a chanolfan yng nghanolbarth Lloegr rywsut yn cael eu creu er budd Cymru.

Bydd yr Aelodau yma yn gyfarwydd â'r ffigurau hyn, oherwydd bu’n rhaid i ni atgoffa ein cyd-Aelodau yno ohonyn nhw o'r blaen: mae 40 y cant o'r rhwydwaith rheilffyrdd yn Lloegr wedi ei drydaneiddio, mae 25 y cant o'r rhwydwaith yn yr Alban wedi ei drydaneiddio, ac o ganlyniad i weithredoedd Llywodraeth yr Aelod hwnnw, mae 2 y cant ohono wedi ei drydaneiddio yng Nghymru. Ac o ganlyniad i benderfyniadau'r wythnos hon, bydd y ffigur hwnnw yn Lloegr yn codi i 75 y cant—75 y cant i Loegr a 2 y cant i Gymru. Dyna'r hyn yr ydych chi'n ei gael gyda Llywodraeth Geidwadol.

Prif Weinidog, yn yr haf cyhoeddwyd bod gwerth mwy na £3 miliwn o welliannau ar fin cael eu gwneud ar rwydwaith ffyrdd Blaenau Gwent. Byddai cyllid llywodraeth leol yn cael ei gyfuno â swm ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth Cymru i ddod â chyfanswm y buddsoddiad i dros £3 miliwn i wella cyflwr y ffyrdd ym Mlaenau Gwent, gwelliannau a gafodd eu disgrifio, ac rwy'n dyfynnu, fel rhai 'hanfodol' i gymunedau lleol, busnesau ac ymwelwyr â'r fwrdeistref.

Cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gofyn am restr o'r ffyrdd sy'n cael eu hadolygu o ganlyniad i rewi gwaith adeiladu ffyrdd, ond dywedodd nad oedd yn gallu darparu'r wybodaeth cyn i'r panel adolygu ffyrdd lunio ei adroddiad cychwynnol. O ystyried anallu'r Dirprwy Weinidog i ymateb, a allwch chi ddweud a fydd y gwelliannau ffyrdd y mae mawr eu hangen hyn yn digwydd yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, ym Mlaenau Gwent ei hun? Diolch, Prif Weinidog.

14:15

Llywydd, roeddwn i'n gwneud fy ngorau i ddilyn y cwestiwn. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae'r Gweinidog wedi dweud wrth yr Aelod bod angen iddi ofyn cwestiwn gwell os yw hi eisiau ateb gwell. Byddaf i'n darllen y cofnod o'r hyn sydd wedi ei ddweud y prynhawn yma, Llywydd, ac os oes unrhyw beth arall y gallaf i ei ddarparu i'r ateb, yna, wrth gwrs, rwy'n hapus i wneud hynny.

Ers cael fy ethol, rwyf i wedi cynnal llawer o gymorthfeydd stryd, a phatrwm y byddwch chi'n ei weld yn aml yn y cymorthfeydd hyn, pan fydd fy nhîm i allan ym Mlaenau Gwent, yw cludiant i ysbyty'r Faenor. Rwy'n gwybod y gall gymryd hyd at 45 munud i deithio o'r Faenor i Dredegar, er enghraifft, gan fy mod i wedi ei wneud fy hun, ond os ydych chi'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, gall fod yn daith llawer anoddach sy'n cymryd llawer mwy o amser. Yn dibynnu ar ble'r ydych chi'n byw ym Mlaenau Gwent a pha adeg o'r dydd yw hi, gall gymryd hyd at bedwar gwahanol fws a mwy na dwy awr dim ond i fynd un ffordd. Rwy'n gwybod mewn rhannau eraill o Ddwyrain De Cymru y gall fod hyd yn oed yn waeth na hyn. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno nad yw cysylltedd i ysbyty'r Faenor yr hyn y dylai fod, ac os felly, pa gynlluniau sydd gennych chi i wneud yr ysbyty hwn yn fwy hygyrch i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu?

Wel, Llywydd, rwy'n ymwybodol iawn o'r mater o gysylltiadau bws ag ysbyty'r Faenor, ar ôl cael trafodaethau helaeth amdano gyda fy nghyd-Aelod, Alun Davies a gyda fy nghyd-Weinidog, Lynne Neagle yn y gorffennol hefyd. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n ddiwyd gyda Trafnidiaeth Cymru a'r awdurdodau lleol i gyflwyno cyswllt bysiau newydd i'r ysbyty a fydd yn mynd o Bont-y-pŵl, Trecelyn, y Coed Duon, Ystrad Mynach a Nelson. Y bwriad yw ei gyflwyno ddechrau 2022 a'i weithredu ar sail a fydd yn caniatáu i ni ddysgu'r gwersi o'r cyflwyniad hwnnw ac yna i weld beth arall allai fod ei angen i wneud yn siŵr bod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da a dibynadwy â'r Faenor.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru

6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru? OQ57254

Llywydd, yn ogystal â goruchwyliaeth weinidogol, ceir ymgysylltu rheolaidd rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd yn rhan o'r ymyriad wedi ei dargedu sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd.

Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb. Hoffwn i gymryd eiliad hefyd i dynnu sylw at adroddiad damniol Holden a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf, y mae fy nghyd-Aelod, Darren Millar wedi ei godi gyda chi yn gynharach heddiw, oherwydd ei fod yn adroddiad mor arwyddocaol i fy nhrigolion yr wyf i'n eu cynrychioli yn y gogledd. A, Prif Weinidog, mae'r adroddiad hwn yn frawychus. Mae'n ymddangos ei fod yn cyfeirio at batrwm o ymddygiad sy'n ymestyn yn ôl flynyddoedd lawer. Ac fel y nodwyd eisoes, eich Llywodraeth chi oedd yn gyfrifol am fethiannau sylweddol gwasanaethau iechyd meddwl yn y bwrdd iechyd hwn, a dyma'r un bwrdd iechyd y gwnaethoch chi synnu llawer o bobl drwy ei dynnu allan o fesurau arbennig ychydig fisoedd yn unig cyn yr etholiadau ym mis Mai.

Mae iechyd meddwl yn un o brif bolisïau allweddol rhaglen lywodraethu eich Llywodraeth chi—yn wir, mewn clymblaid â Phlaid Cymru—ac eto, mae'r adroddiad hwn wedi dangos bod cleifion wedi dioddef niwed ac wedi eu hesgeuluso o dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru. Felly, Prif Weinidog, sut gwnewch chi feithrin ymddiriedaeth pobl, yn enwedig y trigolion yr wyf i'n eu gwasanaethu yn y gogledd, iddyn nhw gredu eich bod chi'n cymryd iechyd meddwl o ddifrif?

Llywydd, rwy'n cytuno ei bod hi'n bwysig gwneud yn siŵr bod ymddiriedaeth briodol rhwng pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a'r ddarpariaeth o'r gwasanaethau hynny yn y gogledd ac mewn mannau eraill. Yn fy nhrafodaeth gyda chadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd ddoe, fe wnaethon nhw nodi rhai o'r llwyddiannau sydd yno mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd: y wobr genedlaethol i wasanaeth anabledd dysgu Llanfairfechan a'r ffaith eu bod nhw'n cyrraedd eu targedau amseroedd aros ar gyfer therapïau seicolegol yn y gogledd. Ac yna fe wnaethon nhw gyfeirio at yr heriau y mae'r bwrdd yn eu hwynebu hefyd; heriau o ran ei ystâd, ac mae Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio gyda'r bwrdd ar gynigion ar gyfer buddsoddiad newydd yn Ysbyty Glan Clwyd yn yr ystâd ffisegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yno; gan edrych ar recriwtio lle mae'r bwrdd wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn ddiweddar o ran cryfhau ei ddarpariaeth seiciatreg ymgynghorol; datblygu modelau newydd, er enghraifft, gyda therapyddion ymgynghorol; cydweithio â gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol i symud ymyrraeth yn fwy tuag at atal nag ymdrin â chanlyniadau salwch meddwl; ac ymgyrch recriwtio ym mis Ionawr i ddod â mwy o bobl i mewn i'r gwasanaeth hwnnw.

Dywedodd y Cadeirydd wrthyf fod y bwrdd yn gwbl ymwybodol o'r sefyllfa. Roedd gan aelodau annibynnol ddealltwriaeth gynhwysfawr o wasanaethau a heriau iechyd meddwl, a dywedodd y prif weithredwr newydd wrthyf fod ganddi bwyslais penderfynol ar welliant ym maes iechyd meddwl ar draws y bwrdd iechyd. Rwy'n credu y bydd y pethau hynny yn helpu i ailadeiladu ac ailsefydlu ymddiriedaeth, ac rwy'n credu bod y bwrdd a'i swyddogion gweithredol wedi ymrwymo yn llwyr i'r daith honno.

14:20
Gofalwyr Di-Dal

7. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi gofalwyr di-dâl y gaeaf hwn? OQ57259

Llywydd, i gydnabod y pwysau cynyddol a achoswyd gan y pandemig, rydym ni wedi dyrannu cyllid ychwanegol o £10 miliwn i gynorthwyo gofalwyr di-dâl o bob oed yn y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys dyrannu £5.5 miliwn i awdurdodau lleol i ddarparu amrywiaeth o gymorth i ofalwyr di-dâl dros y gaeaf hwn.

Diolch, Prif Weinidog. Mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar, canfu Carers UK fod 36 y cant o ofalwyr yng Nghymru wedi dweud eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd; ysgrifennodd 34 y cant fod eu hiechyd meddwl yn wael neu'n wael iawn; a dywedodd 36 y cant eu bod nhw'n aml, neu bob amser, yn unig. Yn anffodus iawn, canfu hefyd fod gofalwyr yn rhoi sgôr cyfartalog o 4 allan o 10 yn unig i'w boddhad cyffredinol â bywyd. Y tu ôl i bob ystadegyn mae rhywun sy'n gofalu am anwylyn.

Mae gofalwyr yn gwbl amhrisiadwy. Rwy'n gwybod bod gwasanaethau cymorth ar waith, ond mae'r pandemig wedi tarfu, ac yn dal i darfu ar lawer o wasanaethau. Mae hi'n Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr dydd Iau yma. Yn dilyn y 19 mis diwethaf, mae angen ein cymorth ar ofalwyr yn awr yn fwy nag erioed. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adfer gwasanaethau gofal y tarfwyd arnyn nhw, a sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob gofalwr yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael?

Llywydd, rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd Jayne Bryant am y gwasanaeth amhrisiadwy y mae gofalwyr di-dâl yn ei ddarparu yng Nghymru, ac effaith y pandemig, arnyn nhw yn uniongyrchol ac ar eu gallu i gael gafael ar wasanaethau. Er hynny, rwy'n credu bod partneriaid ledled Cymru gyfan, ac o bob perswâd plaid wleidyddol, yn gweithio yn galed iawn i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau hynny yn cael eu hadfer.

Yn ddiweddar, rhoddodd Llywodraeth Cymru £3 miliwn i awdurdodau lleol i'w helpu gyda'u gwasanaethau gofal seibiant. Felly, i roi rhai enghreifftiau i chi—a bydd fy nghyd-Weinidog Julie Morgan yn dweud mwy am hyn, Llywydd, mewn datganiad yn ddiweddarach yr wythnos hon—. Yng Ngwynedd, yn y gogledd, mae'r cyngor yno yn defnyddio ei gyfran o'r arian hwnnw i wella ac i ymestyn yr amrywiaeth o wasanaethau gofal seibiant y mae'n eu darparu. Yn Abertawe, maen nhw wedi datblygu gwasanaeth seibiant ymateb cyflym yn y cartref.

Yn Nhrefynwy, mae 1,400 o ofalwyr di-dâl a gofalwyr ifanc wedi manteisio ar gynllun newydd a sefydlwyd gan yr awdurdod lleol i ganiatáu mynediad at weithgareddau ar raddfa fach i bobl sy'n treulio cymaint o'u hamser yn gofalu am bobl eraill. Rwy'n credu y gallwch chi weld yno bod dychymyg a phenderfyniad ymhlith ein partneriaid i adfer y gwasanaethau hynny, a'i wneud mewn ffordd sy'n diwallu anghenion pobl sydd wedi cynnig cymaint.

Wrth gwrs, mae Jayne Bryant yn iawn, Llywydd, bod gwybod eich hawliau fel gofalwr yn bwysig iawn. Rwy'n falch y bydd Llywodraeth Cymru, unwaith eto eleni, yn helpu i ariannu a chymryd rhan yn yr ymgyrch wybodaeth hawliau gofalwyr genedlaethol. Mae'n bartneriaeth â Gofalwyr Cymru a'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yma yng Nghymru. Mae gennym ni rywfaint o dystiolaeth, Llywydd, o rywfaint o lwyddiant yn yr ymdrechion hynny.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru £1.25 miliwn mewn cronfa cymorth i ofalwyr i helpu gydag effaith benodol y pandemig. Roedd y gronfa honno ar gael rhwng mis Hydref y llynedd a diwedd mis Mawrth eleni. Llwyddodd tua 6,000 o ofalwyr i dynnu arian o'r ffrwd cyllid newydd honno, ac nid oedd 2,500 ohonyn nhw erioed wedi derbyn unrhyw fath o gymorth o'r blaen. Mae hynny yn rhoi rhywfaint o hyder i mi fod yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud i sicrhau bod y gwasanaethau sydd ar gael yn hysbys i'r bobl sydd eu hangen nhw—bod rhywfaint o lwyddiant yn cael ei sicrhau yn hynny o beth.

14:25
Adroddiad Holden

8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dilyn cyhoeddi adroddiad Holden? OQ57257

Diolch yn fawr i'r Aelod, Llywydd. Mater i’r bwrdd iechyd a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth oedd y penderfyniad i gyhoeddi adroddiad llawn Holden. Rydym yn parhau i geisio sicrwydd ynghylch gweithredu argymhellion adroddiad Holden fel rhan o’r ymgysylltu rheolaidd â’r bwrdd iechyd.

Diolch am yr ateb. Rydych chi’n dweud mai mater i’r bwrdd oedd hynny. Wel, mi wnaeth eich Gweinidog iechyd chi, a oedd yn Ddirprwy Weinidog iechyd meddwl ar y pryd, gadarnhau i mi flwyddyn yn ôl ei bod hi wedi darllen adroddiad Holden. Nawr, blwyddyn yn ôl oedd hynny, cofiwch, pan oedd y bwrdd dal mewn mesurau arbennig, ac felly’n dal o dan reolaeth uniongyrchol eich Llywodraeth chi. Pam felly na wnaethoch chi fynnu bod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi pan oeddech chi’n rhedeg y bwrdd iechyd, achos, wrth gwrs, mi fuoch chi’n rhedeg y bwrdd am bum mlynedd o’r wyth mlynedd hir buodd rhaid i bobl ogledd Cymru aros i’r adroddiad weld golau dydd?

Wel, fel esboniais i, Llywydd, nid mater i’r Llywodraeth oedd y penderfyniad cyfreithiol i gyhoeddi y ddogfen. Cyfrifoldeb y bwrdd oedd e i wneud y penderfyniadau yna. Dyna pam mai’r bwrdd sydd wedi bod mewn cysylltiad gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ac sydd wedi dod i’r casgliad gyda’r swyddfa a gyda’r tribunal sydd wedi bod yn edrych i mewn i benderfyniadau’r bwrdd i gyhoeddi’r adroddiad nawr. Eu cyfrifoldeb nhw yw e, a nhw sy’n gyfrifol am y penderfyniadau maen nhw wedi eu gwneud.

Diolch i'r Prif Weinidog. Pwynt o drefn yn deillio allan o gwestiynau. Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Rwyf i eisiau rhoi cyfle i'r Prif Weinidog gywiro'r Cofnod, os yw hynny'n bosibl. Yn ystod sesiwn holi'r Prif Weinidog cyfeiriodd at rywfaint o ohebiaeth ag arweinydd grŵp Ceidwadwyr Cymru, Andrew R.T. Davies, ynghylch parodrwydd i gydweithredu ar feysydd o ddiddordeb cyffredin. Cafodd y llythyr penodol hwnnw ei anfon at arweinydd yr wrthblaid ar 18 Mai, ac o fewn 24 awr cyhoeddodd ei swyddfa ymateb yn cynnig cyfarfod â'r Prif Weinidog. Cafodd dyddiadau cyfarfodydd eu rhoi yn y dyddiadur, ond wedi hynny cawsant eu canslo gan swyddfa'r Prif Weinidog, a'r neges olaf a ddaeth gan swyddfa'r Prif Weinidog oedd y byddai rhywun yn cysylltu i aildrefnu. Hoffwn i roi cyfle i'r Prif Weinidog dynnu'n ôl yr honiad a gafodd ei wneud yn gynharach, a chywiro'r Cofnod.

Rwy'n siŵr nad yw'r Prif Weinidog mewn sefyllfa i edrych ar yr ohebiaeth ar hyn o bryd, ond rwy'n siŵr bod modd edrych ar hyn yn ddiweddarach, ac y bydd modd gohebu i sicrhau bod y Cofnod yn gywir, neu'n cael ei gywiro os oes angen.

Ocê, diolch am hynny.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Rŷn ni'n mynd ymlaen nawr i'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac mae'r datganiad hynny gan y Trefnydd, Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Rwyf i wedi ychwanegu dau ddatganiad at yr agenda heddiw. Y rhain yw ail gartrefi a fforddiadwyedd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, a chynllun tai cymunedau Cymraeg gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Rwy'n galw am ddadl yn amser Llywodraeth Cymru ar adroddiad Holden. Cyn cyhoeddi'r adroddiad hwn ddydd Iau diwethaf, a oedd yn datgelu problemau difrifol a helaeth o ran diogelwch cleifion ar uned iechyd meddwl Hergest ym Mangor, anfonodd arbenigwr iechyd a oedd yn rhan o'r apêl ei sylwadau ataf i ar yr adroddiad a'i atodiad, gan ddweud, hyd yma, fod y bwrdd iechyd yn protestio bod yn rhaid i brif destun adroddiad Holden a'i atodiad, a gafodd eu cwblhau ym mis Rhagfyr 2013 ac sy'n cynnwys darnau o'r datganiadau damniol gan 40 o chwythwyr chwiban, barhau i fod wedi'u cuddio o olwg y cyhoedd er mwyn diogelu cyfrinachedd y chwythwyr chwiban. Roedd y penderfyniad i atal tystiolaeth o esgeulustod ar sail mor annilys yn fwriadol ac yn haerllyd. Mae e'n dweud hefyd fod y chwythwyr chwiban yn cwyno ynghylch ymddygiad tri uwch reolwr, gan gynnwys bwlio ac ymddygiad sy'n rhoi gofal cleifion mewn perygl difrifol. Mae'n gofyn sut felly yr oedd yn bosibl bod y rheolwyr mwyaf blaenllaw yn 2014 wedi cael cyflwyno adroddiadau i'r bwrdd iechyd a'i bwyllgor ansawdd a oedd yn cuddio ei ran ef ei hun ym mhroses Holden. A yw'r bwrdd iechyd nawr wedi bodloni ei hun bod yr uwch swyddogion sy'n gyfrifol am y llanastr hwn, ac am ei gadw'n dawel cyhyd, nawr i gyd wedi'u symud oddi wrth unrhyw gyfrifoldeb am ofalu am gleifion iechyd meddwl sy'n agored i niwed?

Wrth ymateb i ddadl fer mis Medi ar adroddiad Holden, dywedodd y Gweinidog iechyd ei bod yn bwysig nodi bod adroddiad cryno wedi'i gyhoeddi yn 2015, gan gynnwys argymhellion Holden. Felly, mae'n bwysig nodi, pan gyflwynodd prif weithredwr dros dro'r bwrdd iechyd yr adroddiad cryno i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd ym mis Tachwedd 2015, ei fod yn fyr iawn ac nad oedd yn disgrifio'r 31 o bryderon a oedd wedi'u rhestru gan staff.

A'r wythnos diwethaf, datgelodd adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru hefyd fod y bwrdd iechyd wedi ymddiheuro'n llawn i fab dynes a gafodd driniaeth ar ward Hergest—arwr y bobl, David Graves—am y methiannau a gafodd eu nodi a'r anghyfiawnder a gafodd ei achosi iddo ef a'i deulu—yr uffern y mae'r dyn hwnnw druan wedi'i ddioddef oherwydd cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Rwy'n galw am ddadl yn amser Llywodraeth Cymru yn unol â hynny. 

14:30

Diolch. Fel Llywodraeth, rydym ni'n croesawu cyhoeddi adroddiad llawn Holden yn fawr ac rydym ni'n cymeradwyo argymhellion adolygiad diweddar Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ofal claf a gafodd ei drin yn uned Hergest yn 2013. Rydym ni'n nodi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn yr holl argymhellion a byddwn ni'n sicrhau bod y rhain yn cael eu gweithredu'n gyflym.

Mae'r bwrdd iechyd yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer ei wasanaethau iechyd meddwl. Yn hynny o beth, mae Llywodraeth Cymru yn cadw goruchwyliaeth sylweddol. Mae'n golygu bod camau gweithredu clir iawn wedi'u cytuno ar waith i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i wella.

Rydym ni wrth gwrs yn cydnabod y bydd yr oedi wrth gyhoeddi'r adroddiad wedi bod yn anodd i'r unigolion yr effeithiwyd arnyn nhw a'u teuluoedd, ac rydym ni'n falch iawn bod y bwrdd iechyd wedi penderfynu, er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw, y bydd adroddiadau o'r math hwn yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi. Fel y gwnaethoch chi glywed y Prif Weinidog yn dweud yn ei atebion, mater i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd penderfynu pryd y byddai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi.

Mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi pecyn sylweddol o gymorth strategol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan gynnwys £12 miliwn y flwyddyn i gefnogi gweithredu ei strategaeth iechyd meddwl, ac i feithrin capasiti a gallu yn y sefydliad i allu cyflawni'r trawsnewid sy'n ofynnol.

Trefnydd, mae'n ddwy flynedd i'r wythnos hon ers i'r Senedd drafod dadl Lynne Neagle ar ganser y pancreas. Bu farw fy mam-gu o ganser y pancreas yn 2005, felly rwy'n un o ormod o bobl sy'n gwybod beth yw realiti creulon y clefyd hwn, sef y canser sy'n lladd gyflymaf, ac sydd a'r cyfraddau goroesi isaf. Yn ddiweddar, fe es i ac Aelodau i gyfarfod trawsbleidiol gyda Pancreatic Cancer UK i drafod eu blaenoriaethau presennol fel rhan o Fis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas. Gwnaethon nhw ddweud wrthym ni eu bod eisiau gweld therapi amnewid ensym pancreatig yn cael ei gyflwyno'n ehangach o fewn GIG Cymru, gan eu bod yn dweud bod y wyddoniaeth yn profi ei bod yn driniaeth effeithiol a all wella ansawdd bywyd cleifion a rhoi'r cryfder iddyn nhw gael triniaeth achub bywyd, ond nad yw'n cael ei roi ar bresgripsiwn ar hyn o bryd i 40 y cant o gleifion Cymru.

Hoffwn i gael datganiad gan Lywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, am ganser y pancreas sy'n ymateb i'r pwynt hwn yn benodol, ond hefyd sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau'n fwy cyffredinol ynghylch y cynnydd ers ymrwymiad Llywodraeth Cymru ddwy flynedd yn ôl i gymryd camau i wella cyfraddau goroesi'r canser dinistriol hwn.

Diolch. Ac, fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae'n sicr yn un o'r canserau mwyaf dinistriol sydd gennym ni. Nid wyf i'n ymwybodol o'r cyffur yr ydych chi'n cyfeirio ato, ond mae gan y Gweinidog gwestiynau y gallwch chi eu cyflwyno yr wythnos hon a byddwn i'n eich annog chi i wneud hynny.

Gweinidog, yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld dirywiad llwyr polisi'r DU tuag at yr Undeb Ewropeaidd, a dirywiad llawer o'r cytundebau a gafodd eu gwneud yn y cytundeb ymadael y llynedd. Mae'n ddigon posibl mai canlyniad hynny yw bod erthygl 16 yn cael ei gweithredu. Gallai hyn achosi niwed enfawr i economi Cymru ac i gymdeithas yng Nghymru. Byddwn i'n ddiolchgar felly pe byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad ar unrhyw gynllunio wrth gefn sy'n digwydd yn Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod Cymru'n cael ei diogelu rhag unrhyw effeithiau gweithredu erthygl 16.

Ar bwynt ehangach, hoffwn i ofyn am ddatganiad arall gan Lywodraeth Cymru o ran y niwed y mae Brexit yn ei wneud i'r wlad hon. Rydym ni wedi gweld cytundebau masnach yn cael eu cytuno gydag Awstralia a Seland Newydd a allai achosi niwed eithriadol i'r diwydiant amaeth. Rydym ni wedi gweld prinder gyrwyr, sydd wedi effeithio ar bob rhan o'n heconomi. Rydym ni wedi gweld cynnydd mewn prisiau sy'n arwain at argyfwng gwirioneddol i lawer o deuluoedd ar hyd a lled y wlad. Rydym ni'n gweld economi Cymru dan fwy o straen nag ar unrhyw adeg mewn hanes diweddar, o ganlyniad i gytundeb Brexit aflwyddiannus. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn deall y difrod hwn a'n bod ni yn y Siambr hon yn cael cyfle i drafod sut y gallwn ni fynd i'r afael â'r niwed y mae Brexit yn ei wneud yng Nghymru. Felly, byddai'n ymarfer defnyddiol, rwy'n credu, pe bai Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i wneud datganiadau rheolaidd i'r Siambr hon ar y niwed y mae Brexit yn ei wneud i Gymru.

14:35

Gallaf i sicrhau'r Aelod, a'r holl Aelodau, fod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i amddiffyn pobl Cymru rhag effaith ddinistriol, rwy'n credu, gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac yn sicr, mae'r materion y gwnaethoch chi eu codi ynghylch masnach a logisteg yn bynciau yr ydym ni'n eu trafod yng ngrŵp rhyng-weinidogol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Byddaf i'n cadeirio'r un nesaf, a byddaf i'n sicr yn falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y pwyntiau penodol ynghylch masnach a logisteg hefyd, oherwydd, yn amlwg, mae hynny'n cael effaith ddinistriol. Pwy fyddai wedi meddwl am gael dawnswyr bale fel swydd wedi'i diogelu a pheidio â chael cigyddion? Ac rydym ni'n gweld, yn anffodus, ostyngiad yn nifer y cigyddion sydd ar gael yma.

O ran eich pwyntiau ynghylch materion cyfansoddiadol, gwn i fod y Cwnsler Cyffredinol yn ystyried y materion hyn gyda Llywodraeth y DU. Unwaith eto, mae ganddo gwestiynau yfory; efallai y bydd cyfle i godi materion gydag ef os oes ganddo unrhyw wybodaeth arall.

Er gwaethaf gwrthwynebiad y cyngor a'r gymuned, mae datblygwyr o'r diwedd wedi sicrhau caniatâd i ddymchwel tafarn hanesyddol Parc y Rhath ar Heol y Ddinas yng Nghaerdydd, yn dilyn y duedd sydd wedi gweld adeiladwaith hanesyddol Caerdydd yn cael ei ddinistrio'n raddol. Yn anffodus, nid yw hwn yn ddigwyddiad neilltuol, ac mae ymgyrchwyr yn brwydro ledled y wlad i gadw adeiladau sy'n arwyddocaol iddyn nhw a'u cymunedau, ond nad ydyn nhw wedi bodloni'r gofynion wedi'u nodi gan Cadw fel rhai sydd ag arwyddocâd hanesyddol neu bensaernïol.

Un enghraifft o'r fath yw Ysgol y Merched y Bont-faen ym Mro Morgannwg, sef yr ysgol uwchradd bwrpasol gyntaf i ferched yng Nghymru, a'r gyntaf i gael, rwy'n deall, labordy gwyddoniaeth pwrpasol ar gyfer addysg merched yn y Deyrnas Unedig gyfan. Yn anffodus, er gwaethaf gwrthwynebiad  lleol, cenedlaethol a hyd yn oed academaidd sylweddol i'r cynigion hyn, mae Cadw wedi gwrthod darparu caniatâd adeilad rhestredig, penderfyniad sydd wedi'i gefnogi gan Weinidog Cymru. Rwy'n credu y dylai trigolion lleol gael y pŵer i atal dymchwel a dinistrio adeiladau y maen nhw'n credu eu bod yn cyfrannu at gymeriad eu hardal, cyfrannu at eu hiechyd a'u llesiant ac sy'n cynnal cysylltiad pendant â thraddodiadau a diwylliannau eu cymuned. Gyda hyn mewn golwg, a wnaiff y Gweinidog ganiatáu dadl ar y mater i drafod pa newidiadau posibl i ddeddfwriaeth gynllunio y byddai modd eu gwneud a fyddai'n rhoi mwy o bŵer i awdurdodau lleol atal dinistrio adeiladau o bwysigrwydd lleol yn eu cymunedau a hefyd yn rhoi mwy o lais i drigolion yn y ffordd y caiff eu hardal ei datblygu? Diolch.

Diolch. Mae'r Aelod yn cyfeirio at ddau fater penodol iawn, nad wyf yn ymwybodol ohonyn nhw, ac yn amlwg mae'r penderfyniadau hynny wedi'u gwneud. Ar bwynt mwy cyffredinol, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gwybodaeth gynllunio, a hefyd y ffordd y mae Cadw yn rhestru adeiladau, yn dryloyw, a byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog—y Dirprwy Weinidog, mae'n ddrwg gennyf i—a oes unrhyw beth arall y gall hi ei roi i chi er mwyn eich bod chi'n gallu cynghori'ch etholwyr.

Hoffwn i'ch cyfeirio at fuddiannau fy Aelod fel aelod o Gyngor Sir Powys. Trefnydd, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio ynghylch cyflawni cynlluniau datblygu lleol? Gwnaeth fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders a minnau gyfarfod â nifer o awdurdodau lleol yr wythnos diwethaf i drafod canllawiau ffosffad newydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Ac mae nifer o'r awdurdodau hynny'n pryderu'n fawr am gyflawni eu cynlluniau datblygu lleol oherwydd y cyfyngiadau y mae hyn yn eu rhoi ar ddarparu cartrefi cymdeithasol. Mae gan Lywodraeth Cymru dargedau uchelgeisiol ynghylch darparu cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy ledled Cymru, ac mae awdurdodau lleol yn pryderu y bydd y canllawiau hyn yn rhwystro'r gwaith o gyflenwi'r eiddo hynny mewn gwirionedd. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut yr ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r broblem hon? Diolch.

Wel, rwy'n credu bod y canllawiau wedi'u darparu gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn glir iawn. Fel y dywedwch chi, mae gennym ni dargedau cartrefi fforddiadwy, targedau cartrefi cymdeithasol, ac mae'n bwysig iawn bod yr wybodaeth gynllunio a'r nodiadau cyngor technegol yno i'w cynorthwyo. Felly, nid wyf i'n credu mewn gwirionedd bod angen cael dadl arall yn amser Llywodraeth Cymru.

14:40

Diolch i chi, Gweinidog busnes. Wrth gwrs, gwnes i groesawu'ch sicrwydd yr wythnos diwethaf eich bod chi a'ch Llywodraeth wedi bod yn cysylltu â Chyngor y DU ar Ddiogelwch y Rhyngrwyd, ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod athrawon yn wynebu gwawdio ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel TikTok. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu, ac mae athrawon yn parhau i gael eu lanlwytho i'r llwyfan cyfryngau cymdeithasol, ac mae adroddiadau nawr bod gan rai o'r fideos hyn hashnodau fel 'paedo', mae gan eraill iaith hynod ddifrïol, ac mae rhai wedi cynnwys wynebau athrawon wedi'u gosod ar ddelweddau pornograffig. Gweinidog, mae hyn yn achosi llawer o ofid i athrawon sydd wedi'u targedu, ac mae gan undeb yr athrawon NASUWT enghreifftiau o athrawon yn cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd straen, a hyd yn oed yn gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl nawr. Byddwn i'n croesawu datganiad manwl, os gwelwch yn dda, ar y mater hwn, a pha gamau yn union sydd wedi'u cymryd, a pha ganllawiau yn union sydd wedi'u rhoi i athrawon, ysgolion ac awdurdodau lleol ar y mater hwn, ac i'r Gweinidog amlinellu'n fanwl pa drafodaethau y maen nhw wedi'u cael gyda Llywodraethau eraill y DU, yn ogystal â Chyngor y DU ar Ddiogelwch y Rhyngrwyd. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen i'r Senedd gyfan fod yn ymwybodol ohono nawr, o ystyried difrifoldeb y problemau a'r effaith y mae'n ei chael nawr ar yrfaoedd addysgu a llesiant ac addysg ein plant. Diolch.

Diolch. Wel, rwy'n credu ein bod ni wedi trafod yr wythnos diwethaf pa mor gwbl annerbyniol yw'r math hwn o ymddygiad, ac mae'n hynod siomedig bod ein hathrawon yn cael eu targedu gyda cham-driniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Rhoddais i'r wybodaeth ddiweddaraf, rwy'n credu, yr wythnos diwethaf, ein bod ni wedi gofyn i TikTok ddileu unrhyw achosion o gynnwys amhriodol neu dramgwyddus ar unwaith, ac rydym ni wedi darparu canllawiau ar heriau feirol niweidiol i gefnogi athrawon i ymdrin ag unrhyw achosion. Mae'r Gweinidog wedi addo parhau i weithio gyda Chyngor y DU ar gyfer Diogelwch ar y Rhyngrwyd, a hefyd Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, fel y gallwn ni gael dull cydgysylltiedig, a gwn i ei fod yn edrych ar yr hyn y mae modd ei wneud ar sail pedair gwlad ledled y DU hefyd.

Hoffwn i, yn gyntaf, ofyn am ddau ddatganiad. Ond, yn y lle cyntaf, rwyf i eisiau adleisio'r pwyntiau a gafodd eu gwneud gan fy nghyd-Aelod James Evans. Roeddwn i'n bresennol yn y cyfarfod; rwy'n credu mai dydd Gwener ydoedd. A chefais i fy syfrdanu gan nifer yr arweinwyr cyngor, swyddogion cynllunio, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod a oedd yn codi eu pryderon am y diffyg— yr atal—adeiladu sy'n mynd yn ei flaen. A gwn i am y cytundeb clymblaid yr ydych chi wedi'i wneud gyda Phlaid Cymru—yr holl bwyslais ar ail gartrefi—ond eto mae gennym ni filoedd o gartrefi yng Nghymru nawr nad oes modd bwrw ymlaen â nhw oherwydd cynllunio. Ni all pobl ifanc gael troed ar yr ysgol; mae angen mwy o dai arnom ni. Mae'n wir fod ardaloedd arbennig y grŵp goruchwylio rheoli cadwraeth, is-grŵp cynllunio a grŵp prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru gyda sawl ffrwd waith wedi'u ffurfio, ond cafodd ei wneud yn glir iawn i mi nad yw hyn yn gweithio i'n cynghorau ledled Cymru. Felly, a wnewch chi drefnu i'r Gweinidog wneud datganiad llafar brys yn amlinellu pa gamau y bydd hi'n eu cymryd?

Yn ail, mae'r Gweinidog yn gwybod fy mod i'n gwrthwynebu tocynnau COVID y GIG, ond rwy'n derbyn bod y mwyafrif wedi pleidleisio o blaid a dyna yw democratiaeth. Fodd bynnag, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith mai dim ond 40 y cant o bobl dros 75 oed yng Nghymru sy'n defnyddio'r rhyngrwyd, o'i gymharu â 71 y cant o bobl 65 i 74 oed. Mae'n hanfodol bod gan bob preswylydd y gallu i ofyn am docyn COVID papur, a, Gweinidog—ac mae'r Prif Weinidog yma hefyd yn gwrando ar hyn—rwy'n cael llawer—. Mae gennym ni boblogaeth hŷn yn Aberconwy, ac mae pobl yn ffonio yn eithaf pryderus ynghylch y diffyg gallu i gael tocyn COVID fel y gallan nhw fynd i sioe neu theatr yn ein Venue Cymru. Nid yw'r llinellau ffôn bob amser yn gweithio—

—ac nid wyf i eisiau gwneud gwaith y Trefnydd iddi, ond mae gennym ni ddatganiad a rheoliadau ar docynnau COVID yn ddiweddarach y prynhawn yma. Felly, rydych chi'n gofyn am ddatganiad sydd ar fin cael ei alw, os ydych chi—

Iawn. Pwynt cyflym olaf: mae'r galwadau'n costio rhwng 2c a 40c y funud, ac mae hyn yn annerbyniol. Felly, a gawn ni ddatganiad ar hynny, ac efallai ei gynnwys—

Iawn, iawn. Byddaf i'n sicrhau bod y datganiad yn digwydd y prynhawn yma. Bydd y Gweinidog iechyd yma i ateb cwestiynau ar COVID y prynhawn yma.

A gallwch chi ei ofyn eto, Janet Finch-Saunders, os ydych chi'n dymuno, i'r Gweinidog.

Diolch. Nid wyf yn credu bod unrhyw beth arall i'w ychwanegu, ond rwy'n cytuno â chi y dylai pawb allu cael tocyn papur.

O ran y cytundeb clymblaid yr ydych chi'n cyfeirio ato, rwy'n tybio eich bod chi'n golygu'r cytundeb cydweithredu. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi—dylai cynllunio fod yn hwylusydd. Mae'n bwysig iawn bod hynny'n digwydd, a byddwch chi'n ymwybodol bod cynllunio wedi'i ddiweddaru. Felly, nid wyf i mewn gwirionedd, fel y dywedais i wrth James Evans, yn gweld yr angen am ddatganiad brys.

14:45
3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yng Nghymru

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yng Nghymru. Felly, y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd. Ar 19 Tachwedd, dydd Gwener diwethaf, cynhaliodd Cymru uwchgynhadledd Cyngor Prydeinig-Gwyddelig rhif tri deg chwech yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yng Nghaerdydd. Roedd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a minnau'n cynrychioli Llywodraeth Cymru. Ymunodd cynrychiolwyr o holl weinyddiaethau aelodau'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig â ni naill ai'n bersonol neu drwy ein systemau fideogynadledda. Croesawais arweinwyr o'r DU, Iwerddon, a oedd wedi'u cynrychioli gan y Taoiseach a'r Tánaiste, Gogledd Iwerddon, yr Alban, Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw. Cynhaliais gyfarfodydd dwyochrog hefyd gyda Michael Gove, a arweiniodd ddirprwyaeth y DU, Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, a dirprwyaeth Weithredol Gogledd Iwerddon—y Gweinidogion Deirdre Hargey a Gary Middleton—yn ogystal â Dirprwy Brif Weinidog newydd Ynys Manaw, Jane Poole-Wilson.

Cafodd yr uwchgynhadledd ei chynnal ar adeg arbennig o hanfodol i aelodau gweinyddiaethau'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, yng nghyd-destun adferiad o'r pandemig, trafodaethau parhaus rhwng y DU a'r UE, a'r angen i Lywodraethau gydweithio i weithredu yn erbyn newid hinsawdd, yn dilyn COP26 yn Glasgow. Rhoddodd ein trafodaethau ar y cyd, Dirprwy Lywydd, gyfle gwerthfawr i ystyried y datblygiadau gwleidyddol diweddaraf, i rannu profiadau o ymdrin â heriau cyffredin, ac i nodi ffyrdd y gallwn ni ddefnyddio profiad ac egni cyfunol y Llywodraethau er budd yr holl bobl ledled yr ynysoedd sy'n cael eu cynrychioli. Yn benodol, mewn cyfarfod bore cynnar ddydd Gwener cyn prif ddigwyddiad cyfarfod llawn yr uwchgynhadledd, gwnaethom ni drafod ffyrdd o gyflymu'r cyfraniadau cyfunol y gallai aelodau'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig eu gwneud wrth fynd ar drywydd agenda COP26. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar bwysigrwydd ymgysylltu â dinasyddion a'r gymuned mewn cyfnod pontio teg i sero net, ac mae gwaith wedi'i gynllunio i rannu ymchwil ac ystyried ymgysylltu arall â chymunedau arfordirol, ôl-ddiwydiannol a gwledig ar yr agenda hon.

Roedd y cyfarfod ffurfiol llawn yn gyfle i archwilio safbwyntiau gwahanol ar weithredu protocol Gogledd Iwerddon a chyflwr y berthynas rhwng aelodau cyfansoddol y cyngor a'r Undeb Ewropeaidd. O ran y sefyllfa bresennol ynghylch y trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r UE, manteisiais ar y cyfle i atgyfnerthu barn Llywodraeth Cymru am bwysigrwydd gwneud cynnydd a datrys materion drwy ddeialog yn hytrach na gweithredu unochrog neu wltimatwm.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Dirprwy Lywydd, mae pob uwchgynhadledd yn canolbwyntio ar faes penodol yng ngwaith y cyngor. Fel ei thema, dewisodd uwchgynhadledd Caerdydd edrych ar ieithoedd brodorol, lleiafrifol a llai eu defnydd, gan gyfeirio'n benodol at bolisi blynyddoedd cynnar a gofal plant. Wrth arwain ar yr eitem hon, roeddem yn gallu elwa ar y gwaith arloesol sydd gennym yng Nghymru ar addysg ieithyddol yn y blynyddoedd cynnar.

Yn unol â thema'r uwchgynhadledd hon, a'r ffordd yr ydym yn gweithio yng Nghymru fel gwlad ddwyieithog, cafodd trafodaethau'r cyfarfod llawn eu cynnal yn ddwyieithog am y tro cyntaf yn un o uwchgynadleddau'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Roedd darpariaeth cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg, y Wyddeleg a'r Aeleg i'r Saesneg. Roedd Gweinidogion o Gymru, yr Alban ac Iwerddon, felly, yn gallu cyfrannu i'r trafodaethau yn eu hieithoedd eu hunain. Roeddwn yn falch hefyd ein bod wedi cael cyfraniadau yn ieithoedd Ynys Manaw, Jersey a Guernsey yn ystod ein sgyrsiau, gan amlygu eto amrywiaeth ieithyddol gyfoethog yr ynysoedd hyn.

Dirprwy Lywydd, gwnaethom ni hefyd nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r cynigion y cafodd eu cytuno arnyn nhw yn uwchgynhadledd Cyngor Prydeinig-Gwyddelig rhif tri deg pump yng Ngogledd Iwerddon ym mis Mehefin eleni, ac yn arbennig y cyfle i'r grŵp uwch swyddogion sydd newydd ei sefydlu gefnogi gwaith y cyngor yn y dyfodol. Roedd y Cyfarfod Llawn hefyd yn cymeradwyo gwaith y grŵp gweinidogol a gafodd ei gynnal yn gynharach yn y flwyddyn, a oedd yn canolbwyntio ar drefniadau trafnidiaeth gynaliadwy, yn enwedig yng nghyd-destun newid hinsawdd. Cafodd gorchymyn ar y cyd ei gyhoeddi ar ôl i'r uwchgynhadledd orffen.

Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn, Dirprwy Lywydd, i nodi fy niolch i David Anderson, cyfarwyddwr cyffredinol Amgueddfa Cymru, a'r tîm yn Sain Ffagan am fod yn westeiwyr mor ardderchog. Roedd cynnal y digwyddiad yn yr amgueddfa yn gyfle i ddangos hanes diwylliannol cyfoethog Cymru mewn lleoliad unigryw a chofiadwy, a chafodd hynny ei werthfawrogi'n eang gan y dirprwyaethau a oedd yn ymweld. Cytunodd yr uwchgynhadledd y bydd yn cyfarfod eto yn haf 2022, a'r tro hwn ar ynys Guernsey.

14:50

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad. Rwy'n credu ei bod yn galonogol iawn eich bod chi'n gwneud datganiad llafar i'r Siambr yn dilyn yr uwchgynhadledd yng Nghymru, oherwydd, wrth gwrs, fel arfer, rydym ni'n dueddol o dderbyn datganiadau ysgrifenedig o ran y cydberthnasau pwysig hyn yn unig. Felly, rwyf i'n croesawu hynny, a byddwn i'n cofnodi cais, os caf i, i hyn fod yn nodwedd fwy rheolaidd yn dilyn uwchgynadleddau'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn y dyfodol. Rwyf i hefyd yn falch o glywed bod yr uwchgynhadledd wedi digwydd, wrth gwrs, yn Sain Ffagan, rhywbeth yr wyf i'n hoffi ei arddangos i ymwelwyr â Chymru pryd bynnag y byddan nhw'n ymweld â'r rhan hon o'r byd. Mae hi wir yn un o'r amgueddfeydd mwyaf anhygoel, rwy'n credu, yn Ewrop gyfan, ac mae bob amser yn bleser gallu gweld yr ymateb ar wynebau pobl wrth iddyn nhw ddysgu am Gymru, ein diwylliant a'n hanes wrth iddyn nhw fynd o gwmpas y lle gwych hwnnw.

Prif Weinidog, gwnaethoch chi gyfeirio at nifer o faterion yn eich datganiad. Yn amlwg, bydd y protocol wedi bod yn fater pwysig i aelodau'r uwchgynhadledd ei ystyried, ac rwyf i'n falch ei bod yn ymddangos bod ymdeimlad gwahanol o amgylch y protocol ar hyn o bryd, ac mae'n ymddangos bod llawer iawn o barodrwydd ar ochr y Comisiwn Ewropeaidd ac ochr Llywodraeth y DU i fod eisiau sicrhau cytundeb heb sbarduno erthygl 16. Mae hynny, wrth gwrs, er budd pawb, ac rwyf i'n falch o weld bod hynny'n ymddangos yn wir nawr. A fyddech chi'n cytuno â mi fod y naws ychydig yn wahanol yn yr uwchgynhadledd benodol hon nag o drafodaethau blaenorol gyda Llywodraethau, yn Llundain a Dulyn, a beth yw eich gobeithion a'ch disgwyliadau o ran yr amserlen ar gyfer cytundeb? 

Gwnaethoch chi gyfeirio hefyd, wrth gwrs, at y gwaith y mae'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig wedi'i wneud o ran tynnu sylw at fater ieithoedd lleiafrifol. Fel y gwyddoch chi, rwyf i wedi bod yn aelod hirsefydlog o Gynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon, ac mae un o'n ffrydiau gwaith yn y cynulliad hwnnw wedi bod yn ymwneud ag ieithoedd lleiafrifol, ac mae'r gwaith sy'n arwain y byd yr ydym ni wedi'i wneud yma yng Nghymru wedi bod yn rhywbeth yr ydym ni bob amser wedi hoffi ei rannu ac annog pobl eraill yn y gwahanol awdurdodaethau Cynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon i'w mabwysiadu. Felly, rwy'n falch iawn bod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig hefyd wedi bod yn trafod y mater pwysig hwn. A tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni pa ystyriaeth y mae'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a gwesteiwyr pob uwchgynhadledd yn ei rhoi i agenda'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig wrth ystyried pa bynciau i'w cynnwys yn y themâu sy'n cael eu trafod ym mhob cyfarfod.

Nodais gyda diddordeb, eich bod chi wedi cyfeirio at effaith y pandemig hefyd, wrth gwrs, a'r rhaglen frechu yn eich datganiad. Mae hynny hefyd yn destun ymchwiliad presennol gan y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig—mewn gwirionedd, pwyllgor materion Ewropeaidd y cynulliad Prydeinig-Gwyddelig hwnnw, y mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant ynddo fel cadeirydd y pwyllgor hwnnw. Rydym ni'n cynnal ymchwiliad i gyflwyno brechiadau ledled Ewrop ac yn y gwahanol awdurdodaethau Cynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon ar hyn o bryd, ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i Gynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon rannu ei ganfyddiadau â'r holl Lywodraethau yn y gwahanol awdurdodaethau yng Nghynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon, yn amlwg, i weld a oes gan hynny unrhyw beth defnyddiol i'w ychwanegu at y trafodaethau a allai ddigwydd.  

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn. Rwy'n gobeithio y gallwn ni barhau i gael datganiadau llafar yn y dyfodol ar y pynciau pwysig hyn, ac efallai y bydd rhyw ffordd y gall pleidiau ledled y Senedd gydweithio i gyfrannu rhai o'r ffrydiau gwaith hyn i fusnes seneddol ehangach y Senedd yn y dyfodol er mwyn i ni allu manteisio ar y gwaith da sy'n cael ei wneud gan Gynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon, y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ac eraill o ran meithrin y cydberthnasau pwysig hyn ledled ynysoedd Prydain i gyd.

14:55

Dirprwy Lywydd, rwy'n diolch i Darren Millar am y cyfraniad hwnnw. Roeddwn i'n awyddus iawn i wneud datganiad llafar heddiw oherwydd i'r uwchgynhadledd benodol hon gael ei chynnal yma yng Nghymru ac oherwydd arwyddocâd yr eitemau a oedd ar yr agenda, ac rwyf i wedi clywed yr hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud o ran datganiadau llafar yn y dyfodol, pe byddai'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn ymwneud â materion a fyddai'n amlwg o ddiddordeb yma.

Rwy'n rhannu popeth a wnaeth ef ei ddweud am Sain Ffagan, yn fy etholaeth i, wrth gwrs. Nid hwn oedd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig cyntaf i gael ei gynnal yn Sain Ffagan. Cafodd yr un cyntaf ei gynnal yn 2002, ac oherwydd fy mod i mor hen ag Adda, Dirprwy Lywydd, roeddwn i yno hefyd. Bertie Ahern oedd y Taoiseach—[Torri ar draws.]—dylwn i fod; mae'n ddigon posibl fy mod i, yn wir. [Chwerthin.] Yn y dyddiau hynny, gan nad oedd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig wedi bod mewn bodolaeth ers tro oherwydd cytundeb Dydd Gwener y Groglith, roedd y Prif Weinidog yn bresennol hefyd, ac mae Darren Millar yn llygad ei le, Llywydd—gallwch chi weld yr argraff y mae'r amgueddfa yn ei gwneud ar bobl sy'n ymweld â hi am y tro cyntaf, ac roedd hynny'n amlwg iawn ddydd Iau a dydd Gwener yr wythnos diwethaf.

Rwy'n cytuno â'r hyn y dywedodd Darren Millar, Dirprwy Lywydd—y naws wahanol. Roeddwn i wedi cwrdd â llysgennad yr Almaen yma yng Nghaerdydd yn gynnar yn y dydd ddydd Iau, ac adroddodd ef yr un argraff gan y Comisiwn, ac roedd y cyfraniadau gan Michael Gove yn y cyfarfodydd llawn yn enwedig, yn fy marn i, wedi'u cynllunio i gynorthwyo yn y naws wahanol honno i helpu i symud ymlaen â'r posibilrwydd o sicrhau cytundeb. Yn sicr, pwysleisiodd pawb a siaradodd—ar wahân i Lywodraeth y DU, nad oedd, am resymau dealladwy, wedi gwneud sylwadau ar y mater hwn, ond rwy'n credu bod pob cyfraniad arall—wedi pwysleisio, fel y mae'r Aelod wedi, ei fod er budd pawb i osgoi sbarduno erthygl 16.

Diolch i Darren Millar am yr hyn a ddywedodd ef am waith y cynulliad seneddol. Yn bersonol, ac ar ran Llywodraeth Cymru, rwyf i wedi dadlau y dylai fod synergedd agosach rhwng gwaith y cyngor a gwaith y cynulliad ac y dylem ni feddwl amdano, bob hyn a hyn, gan ddod at ein gilydd lle mae darn cyffredin o waith yn digwydd. Nid yw hynny wedi bod yn farn sydd o reidrwydd wedi'i chefnogi gan holl aelodau'r cyngor, ond fy marn i yw bod llawer iawn o waith yn digwydd yn y ddau fforwm, sydd o ddiddordeb cyffredin yn aml, ac yn sicr cafodd effaith COVID ei thrafod mewn ffordd fywiog iawn ddydd Iau a dydd Gwener, oherwydd, wrth gwrs, mae Gweriniaeth Iwerddon wedi gorfod cyflwyno mesurau newydd yn ddiweddar, yr oedd y Weithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon ar ganol gwneud ei phenderfyniadau, ac, erbyn hyn, efallai ein bod ni wedi clywed am gasgliadau yn yr Alban hefyd. Felly, rwy'n hapus iawn i fynd ati i weithio ar y syniad hwnnw y dylem ni wneud mwy o'r synergeddau y mae modd eu creu rhwng gwaith y grŵp gweinidogol a'r grŵp seneddol pan fydd y ddau ohonom ni'n ymwneud â phryderon cyffredin.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu, yn eich datganiad ysgrifenedig, wrth ymateb i'r uwchgynhadledd ddiwethaf, roeddech chi wedi cyfeirio at y ffaith bryd hynny nad oedd y Prif Weinidog Prydeinig wedi mynychu. Doedd e ddim wedi mynychu eto, ac, a dweud y gwir, dwi ddim yn credu ei fod e byth wedi mynychu. Doedd Theresa May byth wedi mynychu, David Cameron byth wedi mynychu. Mae'n rhaid ichi fynd nôl i Gordon Brown yn 2007, dwi'n credu. Rwy'n gwybod hyn achos roeddwn i'n darllen—. Roedd e wedi mynychu ym Melffast bryd hynny a dwi'n gwybod hyn achos mae e yn llyfr newydd Ieuan Wyn Jones, a dwi'n credu iddo gynrychioli Llywodraeth Cymru yn yr uwchgynhadledd honno tra oedd Rhodri Morgan yn ymadfer o'i salwch. Fe wnaeth Gordon Brown ddim ond troi lan oherwydd dwi'n credu bod Ian Paisley a Micheál Martin wedi bygwth canslo'r holl beth pe bai e ddim. Pam ŷch chi'n meddwl bod Prif Weinidogion Prydeinig mor amharod i fynychu'r uwchgynhadledd? Hynny yw, onid yw e'n bwysig? Tra bod pob Llywodraeth arall fel arfer yn hala eu Prif Weinidogion nhw, ac yn yr achos yma y Taoiseach a'r Tánaiste, onid yw o leiaf yn dangos amharch, a dweud y gwir, i'r Llywodraethau eraill fod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ddim yn cael ei chynrychioli yn yr un modd?

Mae Micheál Martin, y Taoiseach, wedi cyflwyno rhai syniadau ynglŷn â'r cyngor a chryfhau'r cyngor. Ydyw e wedi rhannu rhai o'r syniadau rŷch chi wedi'u crybwyll nawr, rhai syniadau eich hunain o ran diwygio y berthynas gyda'r corff seneddol cyfochrog? Mae statws cyfansoddiadol gwahanol gan yr amrediad o aelodau o'r cyngor, onid oes e? Mae gennych chi'r Weriniaeth, wrth gwrs, fel gwlad annibynnol; mae gennych chi Ogledd Iwerddon, Cymru a'r Alban, wrth gwrs, gyda'u seneddau datganoledig; ac wedyn mae gennych chi'r Crown dependencies, wrth gwrs, sydd â statws rhywle yn y canol—yn eithaf diddorol, tu fas i'r Undeb Ewropeaidd ond tu fewn i'r undeb tollau, tu fas i'r Deyrnas Gyfunol ac eto yn arddel Prydeindod. Mae hynny'n ddiddorol yng nghyd-destun y trafodaethau ddaw drwy'r comisiwn cyfansoddiadol. Oeddech chi wedi cael cyfle yn ystod y sgyrsiau ar yr ochr, sydd weithiau y rhai mwyaf diddorol yn ystod y sesiynau yma, i drafod y comisiwn cyfansoddiadol a'r gwersi, efallai, o'r amrediad yna o fodelau cyfansoddiadol sydd yn berthnasol i ni?

Yn olaf, ieithoedd lleiafrifol oedd un o'r themâu oedd wedi cael eu trafod. Oedd yna drafodaeth o gwbl ynglŷn â'r addewid gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gyflwyno deddfwriaeth ynglŷn â'r iaith Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon yn dilyn yr argyfwng gwleidyddol a fu yn Stormont rai blynyddoedd yn ôl? Mae yna addewid i fod i ddeddfu cyn diwedd y flwyddyn, ond ychydig o wythnosau sydd ar ôl. Oedd yna unrhyw beth i'w adrodd o ran cynnydd i'r perwyl hwnnw?

15:00

Diolch yn fawr i Adam Price. Dwi wedi bod nawr dair neu bedair gwaith i'r uwchgynhadledd, a phob tro mae absenoldeb y Prif Weinidog yn codi—Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Fe allaf i weld, ddegawd yn ôl, pan oedd y system ar ôl cytundeb Good Friday yn rhedeg yn eithaf clir ac roeddem ni i gyd yn dal i fod o fewn yr Undeb Ewropeaidd—gallaf i weld roedd achos i'r Prif Weinidog beidio â bod yna. Ond, yng nghyd-destun Brexit ac yng nghyd-destun popeth sydd wedi digwydd ar ôl Brexit, mae'r achos i'r Prif Weinidog fod yna ac i siarad â'r partneriaid sydd mor bwysig yn y cytundeb yna—wel, mae hwnna'n cryfhau, dwi'n meddwl, ac roedd lot o bobl yn teimlo'n siomedig bod Mr Johnson ddim yn y gynhadledd. Roedd cyfle i fod yna ac i siarad â phobl eraill.

Roedd trafodaeth ddiddorol gyda'r Taoiseach a'r bobl eraill ar sut allwn ni gryfhau y cyngor, ac mae nifer o syniadau. Cyfeiriais i at y grŵp newydd o'r uwchswyddogion. Rŷn ni'n mynd i ofyn iddyn nhw i wneud rhyw fath o waith ar sut allwn ni gryfhau, ar yr un ochr, a jest diwygio sut mae'r cyngor yn gweithio, i gael popeth y gallwn ni mas o'r cyfle pan fydd pobl yn teithio o bob man i gwrdd â'i gilydd. Roedd hi'n ddiddorol, wrth gwrs, i glywed gan Ynys Manaw, Jersey a Guernsey. Mae agweddau diddorol ganddyn nhw. Roedd lot gan Brif Weinidog Jersey i'w ddweud ar y maes pysgota, er enghraifft, a sut mae hwnna'n rhan o'r trafodaethau sy'n mynd ymlaen gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Doedd dim sôn yn y cyfarfod llawn am ddeddfu yn y maes iaith i Ogledd Iwerddon, ond o gwmpas y gynhadledd, clywais i nifer o bobl yn siarad am bwysigrwydd ar un ochr a sensitifrwydd ar yr ochr arall yr holl bwnc, a beth mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi'i addo ac, ar hyn o bryd, ddim wedi ei ddelifro.

15:05

Fel eraill, rwy'n croesawu'r datganiad llafar y prynhawn yma. Rwy'n croesawu'r cyfle i drin a thrafod y materion sydd wedi codi, o'r cyfarfodydd yr wythnos diwethaf ond hefyd y materion ehangach sy'n ymwneud â chysylltiadau yn yr ynysoedd hyn. Fel eraill sydd wedi siarad y prynhawn yma, rwyf i hefyd yn cytuno bod y cyngor yn gyfle da, nid yn unig i ni wreiddio a dyfnhau heddwch yn ynysoedd Prydain, ond hefyd i ddysgu oddi wrth ein gilydd. Ac, yn sicr, fel cyfranogwr fy hun yn y gorffennol, gallaf i ddweud yn sicr fy mod i wedi dysgu llawer gan gyd-Weinidogion mewn gweinyddiaethau eraill. Ond, fe wnaethoch chi gyfarfod hefyd, Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, ar adeg eithriadol o anodd o ran cysylltiadau rhwng yr ynysoedd hyn. Nid wyf i'n credu bod unrhyw un a ddilynodd y ddadl a'r drafodaeth ynghylch protocol Gogledd Iwerddon wedi gweld dim ym mlwyddyn ddiwethaf ei weithrediad a oedd naill ai'n annisgwyl, neu heb ei ragweld neu'n syndod mewn unrhyw ffordd. Ac mae methiant polisi'r DU yn y maes hwn yn fater sy'n peri gofid mawr i bob un ohonom ni.

Ond, o ran lle Gogledd Iwerddon, wrth gwrs, mae yn cael effaith uniongyrchol ar wleidyddiaeth a pholisi y lle hwn, oherwydd os ydym ni'n cytuno ar fframweithiau cyffredin sy'n cynnwys tiriogaeth Gogledd Iwerddon, ac os yw Gogledd Iwerddon yn dilyn rheoliadau prif ffrwd Ewropeaidd, yna mae'n anodd gweld sut y gall fframwaith cyffredin sy'n cynnwys Gogledd Iwerddon amrywio o—

—normau Ewropeaidd. Felly, Prif Weinidog, fy nghwestiwn i yw: sut ydych chi'n gweld fframweithiau cyffredin yn cael eu gweithredu, os oes penderfyniad ym mholisi'r DU—a gwnaethom ni weld yr Arglwydd Frost yn dweud hyn eto—eu bod nhw eisiau newid cyfeiriad mawr oddi wrth reoliadau'r UE, oherwydd bydd hynny yn cael effaith uniongyrchol ar y ffordd y mae fframweithiau cyffredin yn gweithredu yma yng Nghymru?

Wel, diolch i Alun Davies am hynny, Dirprwy Lywydd. Mae'n hollol gywir i dynnu sylw at y ffaith bod y trafodaethau ynghylch dyfodol y protocol yn cael effaith uniongyrchol arnom ni yma yng Nghymru. Rwyf i yn gresynu yn fawr at y ffaith bod Llywodraeth y DU—yr Arglwydd Frost yn asiant yn y mater hwn—wedi gwrthod ein cais i fod yn yr ystafell pan oedd y trafodaethau hyn yn digwydd. Ein hunig ddiben o fod yno fyddai sicrhau bod buddiannau hanfodol Cymru yn hysbys i'r rhai a oedd yn gwneud y penderfyniadau. Nid oeddem ni'n disgwyl bod yn rhan o wneud y penderfyniadau. Roeddem ni o'r farn bod gennym ni ran adeiladol i'w chwarae o ran sicrhau bod y rhai a oedd yn gwneud y penderfyniadau yn cael gwybodaeth dda am effaith y protocol ar borthladdoedd Cymru, er enghraifft, y gwnes i ei drafod yn helaeth gyda'r Taoiseach a gyda Mr Gove.

Mae gwaith fframweithiau cyffredin, Dirprwy Lywydd, wedi parhau yn dawel ac yn y cefndir, yn arafach nag y byddem ni wedi dymuno, ond yn gwneud cynnydd. Ac rwy'n dal i fod yn obeithiol y gallwn ni fod mewn sefyllfa i gyhoeddi cyfres o'r fframweithiau cyffredin hynny ar gyfer craffu allanol yn fuan. Fodd bynnag, mae'r cyd-destun y mae'r gwaith hwnnw yn cael ei wneud ynddo wedi ei wneud yn fwy heriol yn sgil yr awyrgylch sydd, hyd at yn fwy diweddar, wedi amgylchynu'r trafodaethau hyn.

15:10

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydych chi'n dweud yn eich datganiad heddiw mai deialog, nid gweithredoedd unochrog neu gynigion terfynol, sy'n bwysig, ac wrth gwrs bydd hynny'n wir o ran peidio â gweithredu erthygl 16 i guddio y tu ôl i'r llanastr sydd wedi ei greu rywsut gan gytundeb gwael. Rwy'n pryderu'n fawr ynghylch porthladdoedd Aberdaugleddau, Abergwaun a Doc Penfro—bob un yn gyflogwr gwerthfawr yn fy rhanbarth i. Rwy'n sylwi, ar y camera, fod y Taoiseach wedi dweud eu bod eisoes wedi gweld llai o weithgarwch yn y porthladdoedd hynny, ac rydym ni i gyd wedi darllen adroddiadau am draffig môr yn osgoi porthladdoedd Cymru. Os ydym ni'n ychwanegu porthladdoedd rhydd hefyd, mae cynaliadwyedd a hyfywedd y porthladdoedd hyn yn dechrau cael eu cwestiynu, a byddan nhw'n cael eu herio'n ddifrifol yn y pen draw. Felly, rwyf i eisiau gwybod, Prif Weinidog, pa sgyrsiau gawsoch chi â Michael Gove yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, yn codi'r materion hynny yr wyf i newydd eu codi.

Dirprwy Lywydd, rwy'n diolch i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig iawn yna, sy'n gwbl berthnasol i'r rhan o Gymru y mae hi'n ei chynrychioli. Fe ges i gyfle i drafod y materion hyn, gyda Mr Gove ond gyda'r Taoiseach hefyd. Y perygl i Gymru, Dirprwy Lywydd, yw ein bod ni'n cael ein gwasgu o'r ddau gyfeiriad. Mae pobl yn y Weriniaeth yn gwneud cynlluniau i gludo nwyddau yn uniongyrchol i gyfandir Ewrop, gan osgoi'r holl gymhlethdodau newydd y mae'n rhaid iddyn nhw eu hwynebu os ydyn nhw'n dod â nwyddau i borthladdoedd Cymru, oherwydd nad ydym ni'n aelodau o'r farchnad sengl na'r undeb tollau mwyach. Ac ar yr ochr arall, mae tystiolaeth o nwyddau yn cael eu mewnforio i'r Deyrnas Unedig yn mynd i'r gogledd ar ynys Iwerddon, ac yna'n dod draw o Ogledd Iwerddon i borthladdoedd yn Lloegr a'r Alban; eto, er mwyn osgoi'r cymhlethdodau y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi eu creu.

Roedd y Taoiseach yn glir iawn gyda mi mai'r bont dir, ym marn ei Lywodraeth ef, yw'r llwybr cyflymaf, mwyaf diogel, mwyaf effeithlon a buddiol yn economaidd i gludo nwyddau rhwng Iwerddon a'r Deyrnas Unedig a gweddill yr Undeb Ewropeaidd o hyd. Ond er mwyn i'r bont dir honno fod yn effeithiol eto, mae angen cytundeb sefydlog arnom ni, oherwydd bydd yn rhaid i bobl gael cymhlethdod, ond mae angen cymhlethdod arnyn nhw y gallan nhw fynd i'r afael ag ef, ei ddeall, ac yna ei weithredu. Y perygl yw—a dyma le rwy'n credu y mae'n rhaid i ni fod mor wyliadwrus ag y gallwn ni fod—pan fydd pobl yn buddsoddi amser ac arian ac egni wrth sefydlu dewisiadau eraill, hyd yn oed pe baen nhw i fod yn ddewisiadau amgen tymor byr, os nad ydych chi'n ofalus, bydd y pethau hynny yn mynd yn barhaol. Er nad ydyn nhw mor effeithlon, er eu bod nhw'n cymryd mwy o amser, er eu bod nhw'n ddrutach, os ydych chi wedi rhoi llawer o'ch amser a'ch egni i'w sefydlu, efallai y byddwch chi'n penderfynu ei bod yn haws cadw atyn nhw, a phe bai hynny'n digwydd, yna byddai hynny'n sicr ar draul porthladdoedd yma yng Nghymru.

Prif Weinidog, mae'r pandemig a COP hefyd wedi dangos bod angen i Lywodraethau ledled y byd weithio'n agosach. Roedd uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a gafodd ei chynnal gan Lywodraeth Cymru yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan eiconig, yn gyfle unigryw i Gymru ddangos gwerth sut yr ydym ni i gyd yn gryfach yn cydweithio gyda'n gilydd.

Prif Weinidog, a gawsoch chi gyfle yn ystod eich cyfarfod dwyochrog â Michael Gove, a arweiniodd ddirprwyaeth y DU, i godi pryderon difrifol cymunedau Islwyn ein bod ni ac y gallwn ni o bosibl gael cam gan Lywodraeth Dorïaidd y DU? Nid yw'n helpu hyder pobl Islwyn pan fo Prif Weinidog y DU wrth annerch Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yn ddiweddar yn mwydro cyn gofyn i'r gynulleidfa a oedd unrhyw un wedi bod i Peppa Pig World. Prif Weinidog, sut gallwn ni a Llywodraeth Cymru sicrhau gwell eglurder a thryloywder o ran cyllid Llywodraeth y DU i gymunedau yng Nghymru yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, a sut gall Llywodraeth Cymru barhau i sbarduno cydweithredu systemig gan Lywodraeth Dorïaidd sy'n ymddangos yn benderfynol o wanhau datganoli?

15:15

Rwy'n diolch i Rhianon Passmore am hynna, Dirprwy Lywydd. Mae'r cyfarfodydd dwyochrog sy'n bosibl o gwmpas digwyddiad fel y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn werthfawr iawn. Fe gefais i gyfarfod o'r fath gyda Mr Gove. Fy nod i yn y cyfarfodydd hynny yw, pan wyf i o'r farn y gallwn ni weithio ar bethau gyda'n gilydd, rwy'n awyddus i bwysleisio'r pethau hynny, ac rwy'n awyddus i weld cynnydd yn digwydd ar dir cadarnhaol. Fe welsom ni hynny ar nifer o faterion, ac roedd ymchwiliad y DU i brofiad COVID yn un ohonyn nhw. Ond ni allaf i ymadael â chyfarfod o'r fath heb fod mor ddiamwys ag y gallwn i fod, ac nid wyf i'n credu y gallwn i fod yn fwy uniongyrchol gyda'r Ysgrifennydd Gwladol wrth egluro iddo ef mai'r ffordd y mae Cymru ar ei cholled o ran cyllid, wrth wneud penderfyniadau, ac o ran y pethau hynny a addawyd i Gymru o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, a gweithrediad Deddf y farchnad fewnol i gyflawni'r cyfan i gyd, yw'r her anoddaf sy'n wynebu'r Deyrnas Unedig heddiw, oherwydd dyna sy'n gwenwyno'r berthynas rhyngom ni. Hyd nes y bydd Llywodraeth y DU yn barod i fabwysiadu ymagwedd wahanol at y materion hynny, fe fydd hynny bob amser yn y cefndir, er gwaethaf yr ymdrechion y mae Michael Gove ei hunan—rwy'n hapus i gydnabod hynny—a ninnau, lle y gallwn ni, yn ceisio gwneud felly ar faterion lle mae mwy o dir cyffredin yn bosibl.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n gwerthfawrogi'r sylwadau am y trafodaethau a gafwyd ynglŷn â phorthladd Caergybi, ac rydych chi yn llygad eich lle bod gwasgu o'r ddwy ochr, gyda'r cynnydd yn y traffig uniongyrchol i'r cyfandir, ond fe geir y cyswllt â Gogledd Iwerddon hefyd. A wnewch chi roi sicrwydd i mi y byddwch chi'n pwyso ar Lywodraeth y DU i beidio â chaniatáu i borthladdoedd Lerpwl, porthladdoedd ar afon Mersi, fod â mwy o amlygrwydd na Chaergybi? Rwy'n cofio mor bell yn ôl â datblygiad y rhwydwaith trafnidiaeth TEN-T, lle'r oedd Caergybi yn cael ei ystyried yn llai teilwng o'r flaenoriaeth na phorthladdoedd afon Mersi bryd hynny. Nawr, rydym ni'n cyrraedd pwynt lle mae hynny'n golygu rhywbeth gwirioneddol, ac mae angen y sicrwydd hwnnw arnom ni i borthladd Caergybi.

Rwy'n gwbl fodlon i roi sicrwydd o'r fath, Dirprwy Lywydd. Fe godais i'n uniongyrchol gyda Llywodraeth y DU yr effaith, nid yn unig ar borthladdoedd yn Sir Benfro, ond ar Gaergybi yn arbennig o ystyried ei arwyddocâd fel porthladd i'r Deyrnas Unedig gyfan yng nghyd-destun y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, ac nid yw Gweinidogion Cymru fyth yn colli unrhyw gyfle i sicrhau ein bod ni'n dychwelyd at y mater hwn gyda Gweinidogion y DU bryd bynnag y cawn ni gyfle i wneud felly, a phwyso arnyn nhw i fynd y tu hwnt i'r math o sicrwydd a gawsom ni hyd yn hyn, sef mai dim ond trafferthion cychwynnol yw hyn i gyd, ac y bydd y cyfan yn setlo i lawr, ar yr amod ein bod ni i gyd yn parhau i groesi ein bysedd ni, fe fydd popeth yn iawn. Wel, mae arnaf i ofn, wrth i bob wythnos fynd heibio, fod y weledigaeth honno o'r byd yn mynd yn galetach i'w chynnal, ac mae gwir angen i ni symud Gweinidogion y DU y tu hwnt i hyn, ac ystyried pa gamau y gallan nhw eu cymryd, ac rydym ninnau'n barod i'w cymryd hefyd, i sicrhau bod y manteision gwirioneddol a ddaw yn sgil masnachu drwy borthladdoedd Cymru yn cael eu diogelu i'r dyfodol.

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, diweddariad ar COVID-19. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan. 

Diolch yn fawr, Llywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau o ran sefyllfa iechyd y cyhoedd a chanlyniad adolygiad yr wythnos diwethaf o reoliadau coronafeirws.

Ers fy niweddariad diwethaf i dair wythnos yn ôl, bu gostyngiad yng nghyfraddau cyffredinol yr haint yng Nghymru. Maen nhw wedi gostwng o'r lefelau uchel iawn a welsom ni ar ddiwedd mis Hydref, diolch i waith caled pawb ledled Cymru. Er hynny, nid ydym ni wedi cyrraedd y lan eto. Mae achosion yn parhau i fod yn niferus ledled Cymru â thua 500 o achosion fesul 100,000 o bobl, mae pobl yn parhau i gael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd COVID-19 ac, yn anffodus iawn, mae'r data diweddaraf yn dangos bod dros 250 o farwolaethau yn gysylltiedig â'r feirws wedi cael eu cofrestru yng Nghymru yn ystod y tair wythnos diwethaf.

Mae ein system gofal iechyd ni dan bwysau mawr ar hyn o bryd oherwydd y cyfuniad o bwysau'r pandemig a phwysau'r gaeaf; oherwydd cynnydd mawr mewn galwadau brys gan geisio hefyd dal i fyny â'r triniaethau a'r llawdriniaethau a ohiriwyd yn gynharach yn ystod y pandemig. Mae ein GIG ni a'n staff gofal ni'n gwneud gwaith ardderchog dan amgylchiadau eithriadol. Fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw am bopeth y maen nhw'n ei wneud bob dydd. Maen nhw'n dal i fod â rhan hanfodol yn ein hymateb ni i'r pandemig, wrth ofalu am y rhai sydd ag angen cymorth hefyd.

Bydd Cymru yn parhau i fod ar lefel rhybudd sero am y tair wythnos nesaf. Ni fydd unrhyw newidiadau pellach i'r gyfres o amddiffyniadau sydd gennym ni ar waith. Ni fyddwn ni'n ymestyn y defnydd o'r pàs COVID ymhellach ar hyn o bryd. Ond, fe fyddwn ni'n parhau i'w gadw yn ddewis i helpu i gadw busnesau lletygarwch yn agored ac yn gweithio drwy fisoedd y gaeaf a chyfnod prysur y Nadolig.

Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda'r sector. Ein nod ni yw cadw Cymru ar agor a diogelu Cymru. Efallai fod achosion wedi gostwng o'r cyfraddau uchaf erioed a welsom ni ychydig wythnosau nôl, ond mae'r pandemig ymhell o fod ar ben. Mae pedwaredd don yn ysgubo ar draws Ewrop ac mae llawer o wledydd yn cyflwyno cyfyngiadau newydd i reoli ymlediad coronafeirws. Fe ddechreuodd Awstria gyfnod o gyfyngiadau symud llawn o 20 diwrnod ddoe, a bydd brechiadau COVID yn orfodol yno o fis Chwefror ymlaen. Mae'r Almaen yn ystyried dilyn eu hesiampl nhw ar ôl cyflwyno cyfyngiadau newydd ar gyfer pobl sydd heb eu brechu mewn sawl ardal. Cyflwynodd Slofacia gyfnod o gyfyngiadau symud ddoe ar gyfer y rhai sydd heb eu brechu. Mae Llywodraeth y Weriniaeth Tsiec yn cyfyngu ar y gallu i wneud defnydd o amrywiaeth o wasanaethau, ac mae gan yr Iseldiroedd gyfyngiadau symud rhannol ar waith.

Yn nes adref, mae Gweriniaeth Iwerddon wedi cyflwyno amddiffyniadau newydd yn dilyn ymchwydd o achosion. Mae'r rhain yn cynnwys cyrffyw hanner nos ar gyfer lletygarwch, gweithio gartref, ac ymestyn ei phàs COVID ar gyfer theatrau a sinemâu. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd pàs COVID yn cael ei gyflwyno ar gyfer lletygarwch, clybiau nos, digwyddiadau, sinemâu a theatrau, ac mae'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cyfyngiadau pellach i leihau'r achosion cynyddol. Yn yr Alban, mae'r Llywodraeth yn penderfynu a ddylid ymestyn ei phasbort brechlyn i gynnwys sinemâu a theatrau dan do. Rwy'n credu eu bod nhw wedi penderfynu na fyddan nhw'n gwneud felly ar hyn o bryd.

Dirprwy Lywydd, brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn pobl rhag y feirws dychrynllyd hwn, yn enwedig pan fyddwn ni hefyd yn cymryd yr holl fesurau eraill sydd ar gael i ni ddiogelu ein hunain. Rŷm ni'n dal i annog pawb sy'n gymwys i dderbyn y cynnig i gael y brechiad a'r brechiad atgyfnerthu. Rŷm ni'n gweithredu'r cyngor diweddaraf gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu i gynnig ail ddos o'r brechlyn i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed. A byddwn ni nawr yn ymestyn y rhaglen atgyfnerthu i bobl 40 i 49 oed hefyd. 

Mae ein rhaglen frechu nawr yn cynnig dosau cyntaf i bawb sy'n 12 oed a throsodd ar yr egwyddor bod neb yn cael ei adael ar ôl, ail ddosau i bawb sy'n gymwys, gan gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed, trydydd dos sylfaenol i unigolion sydd â system imiwnedd wan iawn, a dosau atgyfnerthu i grwpiau cymwys, gan gynnwys pobl 40 i 49 mlwydd oed. Hyd heddiw, mae 90 y cant o oedolion cymwys wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn, ac mae 82 y cant wedi cael ail ddos. Mae mwy na 725,000 o ddosau atgyfnerthu wedi cael eu rhoi hyd yma. Mae 71 y cant o holl staff gofal iechyd y rheng flaen, tri chwarter o bobl dros 80 mlwydd oed, a 78 y cant o breswylwyr cartrefi gofal sy'n gymwys, wedi cael y brechiad atgyfnerthu.

Dirprwy Lywydd, nid yw'r arwyddion ar y cyfandir yn dda. Mae ton newydd o'r coronafeirws yn ymledu ar draws Ewrop unwaith eto, ac mae gwledydd o'n cwmpas ni yn tynhau eu cyfyngiadau nhw. Nid oes unrhyw un am weld cyfyngiadau nôl ar waith yng Nghymru dros y Nadolig, ond dydyn ni ddim chwaith am weld pobl yn mynd yn sâl gyda COVID adeg y Nadolig. Mae'r cylch tair wythnos hwn yn hanfodol. Mae angen help a chymorth pob un arnom ni i gadw'r feirws hwn o dan reolaeth wrth i ni ddechrau edrych ymlaen a chynllunio at y Nadolig. 

Byddwn ni'n dal i wneud popeth allwn ni drwy ein rhaglen frechu ac atgyfnerthu rhagorol; profi'n rheolaidd mewn ysgolion a rhoi mesurau amddiffynnol eraill ar waith i gadw'r feirws allan o'n hysgolion ni; defnyddio'r pàs COVID mewn rhai lleoliadau; hunanynysu os bydd gan rywun rŷm ni'n byw gyda nhw COVID-19; a chymryd yr holl gamau syml sy'n ein cadw ni i gyd yn ddiogel, sef golchi dwylo yn rheolaidd, gwisgo masgiau, a chadw pellter cymdeithasol pan fo hynny'n bosibl. 

Mae'r gostyngiad yn y cyfraddau ers yr adolygiad diwethaf yn gadarnhaol iawn, ond rhaid inni wneud mwy eto. Gadewch inni i gyd weithio gyda'n gilydd. Gadewch inni i gyd ddiogelu Cymru. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

15:25

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog am y copi ymlaen llaw o'r datganiad, a werthfawrogwyd yn fawr? Rwyf innau'r un mor hapus ein bod ni'n gweld y cyfraddau COVID hynny wedi gostwng yng Nghymru. Mae hynny'n newyddion cadarnhaol, er mai gostyngiad ydyw hwn o gyfradd uchel iawn, iawn o achosion ac, wrth gwrs, rwyf innau'n pryderu hefyd o ran cyfradd, yn drist iawn, y marwolaethau oherwydd COVID.

Tybed a gaf i ofyn rhai cwestiynau i ddechrau, Gweinidog, am basbortau brechlyn. Y rhan fwyaf brawychus, i mi, o'ch datganiad chi heddiw oedd eich bod chi'n cadw'r dewis ar y bwrdd o gyflwyno pasiau COVID ar gyfer y sector lletygarwch. Mae hyn yn arbennig o ofidus, yn fy marn i. Yn eich datganiad chi, Gweinidog, rydych chi'n dweud y byddwch chi'n parhau i weithio gyda'r sector, felly beth maen nhw'n ei ddweud wrthych chi? Beth mae'r sector lletygarwch yn ei ddweud wrthych chi o ran cyflwyno pasiau COVID ar gyfer eu sector nhw, a beth maen nhw'n ei ofyn i chi, hefyd? Yn y gorffennol, pan fyddwn i'n codi mater y gost ychwanegol, yr ateb a gefais i, yr ymateb, oedd, 'Wel, os ydych chi am fynd i theatr neu sinema, yna mae'n rhaid i chi ddangos dogfennau felly ni ddylai fod yna unrhyw waith ychwanegol yn hynny o beth.' Mae hyn yn wahanol i'r sector lletygarwch. Os ydych chi'n rhedeg caffi neu fwyty neu ryw elfen arall o'r sector lletygarwch, fe fydd angen staff ychwanegol arnoch chi, o bosibl, i fod ar y drws, ac wrth gwrs fe geir problem ar hyn o bryd o ran denu staff i ddod i weithio yn y sector lletygarwch, heb sôn am y gost sydd ynghlwm wrth hynny. Gan fod y dewis hwn yn aros ar y bwrdd, a wnewch chi amlinellu pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog cyllid o ran cymorth ariannol ychwanegol i'r sector lletygarwch, pe byddech chi'n dewis ymestyn y pasiau COVID yn y cyswllt hwn? Rwy'n gobeithio yn fawr na wnewch chi ddim, am yr holl resymau yr amlinellais i'n flaenorol.

O ran tystiolaeth, roeddech chi'n cyfeirio yn eich datganiad chi heddiw at y cyfraddau o achosion mewn rhannau o Ewrop, mewn rhai gwledydd ar gyfandir Ewrop. Mae cyfraddau'r achosion yn cynyddu ar gyflymder brawychus. Mae rhai o'r gwledydd hynny, wrth gwrs, wedi bod â phasiau COVID ers peth amser, felly fe ddylai'r data fod ar gael os yw'r dystiolaeth yn bresennol. Rwy'n sylweddoli bod amser eto cyn i'r pasbort brechlyn ymsefydlu yng Nghymru, ac efallai nad yw'r data ar gael eto, ond rwyf i o'r farn ei bod hi'n arbennig o hanfodol i ni fod â'r dystiolaeth cyn gynted â phosibl o ran effeithiolrwydd pasiau COVID, yn enwedig gan fod nifer o astudiaethau wedi dangos bod pobl sydd wedi cael dau frechiad yr un mor debygol o drosglwyddo COVID â phobl sydd heb eu brechu. Felly, mae hi'n bwysicach fyth fod gennym ni dystiolaeth sy'n cefnogi pasiau COVID, os ydych chi o'r farn mai honno yw'r ffordd briodol ymlaen, nid fy marn i, wrth gwrs.

Gweinidog, os caf i ofyn am frechiadau gorfodol, yn eich datganiad chi, roeddech chi'n iawn, wrth gwrs, i dynnu sylw at y ffaith bod cyfyngiadau symud llawn wedi dechrau ddoe yn Awstria, ac fe fydd brechiadau yn orfodol yno o fis Chwefror, ac mae gwledydd eraill yn ystyried yr un peth hefyd. Rwyf i'n gwbl wrthwynebus i frechiadau gorfodol. Rwy'n credu mai dyna safbwynt Llywodraeth Cymru a'ch safbwynt chwithau hefyd. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n cadarnhau ai honno yw'r sefyllfa neu beidio. Rwy'n sicr yn cytuno â chi mai brechu yw ein hamddiffyniad gorau ni yn erbyn y feirws ofnadwy, ac rwy'n credu y dylem ni i gyd fod yn annog pawb i gael y brechiad oherwydd hynny, ond fe fyddai eich barn chi am frechu gorfodol o werth mawr i ni.

Canolfannau brechu cerdded i mewn ar gyfer brechiadau atgyfnerthu—rwy'n credu mai honno yw'r ffordd gywir ymlaen, yn arbennig felly wrth i ni ymdrin â'r grwpiau hynny o oedran iau. Rydych chi eich hun yn dweud eich bod chi'n dymuno annog pobl i gael eu brechu. Rwy'n cytuno â hynny. I wneud hynny, rwy'n credu bod angen canolfannau galw i mewn arnom i, yn arbennig wrth i ni droi at y grwpiau oedran iau hynny, oherwydd fe fydd y grwpiau oedran iau hynny mewn amgylcheddau gwaith, ac mae angen i ni ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobl gael y brechiadau atgyfnerthu hyn. Nawr, yn flaenorol, rydych chi wedi dweud nad ydych chi'n cefnogi'r dull hwn, a bod hynny'n golygu ysgarmes. A ydych chi o'r un farn o hyd? Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n amlinellu pa fyrddau iechyd yng Nghymru sy'n ystyried neu wedi cyflwyno canolfannau cerdded i mewn oherwydd rwy'n credu bod y sefyllfa yn amrywio o ran yr hyn sy'n digwydd ledled Cymru. Felly, yng nghyd-destun eich barn chi ynglŷn â phryderu eu bod nhw'n golygu ysgarmes, a hefyd, bod rhai byrddau iechyd yn gweithredu canolfannau galw i mewn a rhai eraill heb fod yn gwneud felly, fe fyddai eich barn chi yn hynny o beth yn cael ei gwerthfawrogi.

Ac, yn olaf, fel chwithau, rwy'n siŵr, mae gennyf i bryderon mawr, wrth gwrs, am gyflwr presennol y GIG yng Nghymru. Y mis diwethaf, fe welsom ni'r amseroedd aros gwaethaf erioed mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, yr amseroedd ymateb gwaethaf erioed i ambiwlansys, y rhestrau aros hwyaf am driniaeth a welwyd erioed—bron i 9,500 o bobl yn aros mwy na 12 awr am driniaeth frys. Mae hynny'n golygu 2,000 yn fwy o bobl yng Nghymru na Lloegr gyfan, ac o ystyried bod Lloegr 16 gwaith yn fwy o faint, mae honno'n sefyllfa bryderus. Mae gennym ni un o bob pedwar claf yn aros dros flwyddyn am driniaeth o'i gymharu ag un o bob 19 yn Lloegr. Felly, mae'r staff, fel dywedwch chi, yn gwneud gwaith ardderchog, Gweinidog iechyd, a'r hyn sydd ei angen arnyn nhw, wrth gwrs, yw cymorth i wneud eu gwaith. Felly, rwy'n bryderus iawn, fel rydych—

15:30

Rwy'n dod at fy nghwestiwn olaf, Dirprwy Lywydd. O ran amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys a llawer yn aros hyd at 36 awr, a fyddech chi'n rhoi manylion i mi, os gwelwch chi'n dda, ynglŷn â'ch cynllun chi i gefnogi staff rhagorol ein GIG ni o ran byrhau'r amseroedd aros hynny, a'r gwelyau ychwanegol sydd eu hangen i leihau'r gwaith sydd wedi pentyrru fel y gwelsom ni i'r fath raddau, o ran ambiwlansys yn aros y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai?

Wel, diolch yn fawr Russell. Mae'n rhaid i mi ddweud, o ran y pasbort brechlynnau, y byddwn ni, fel ym mhopeth arall, yn cadw'r holl ddewisiadau ar y bwrdd. Rwyf i o'r farn y byddai hi'n anghyfrifol i ni, yn enwedig pan welwn ni'r cyfraddau ar y cyfandir yn llamu, beidio â chadw pob dewis ar y bwrdd. Felly, fe fydd y dewis hwnnw'n parhau i fod ar y bwrdd. Rydym ni'n parhau â'n trafodaethau ni gyda'r sector. Mae hi'n wir ein bod ni'n clywed negeseuon cymysg, a dweud y gwir yn onest, oddi wrth y sector. Mae hi'n amlwg bod rhai'n llai brwdfrydig ynglŷn â'r posibilrwydd o basbortau brechlynnau, ond mae llawer o bobl eraill yn dweud, 'Edrychwch, os dyna'r hyn y bydd hi'n ei gymryd i'n cadw ni ar agor dros y Nadolig, yna fe fyddwn ni'n croesawu hynny.' Felly, mae hi'n well ganddyn nhw fod â sicrwydd o wybod beth yw'r sefyllfa debygol, a chadw yn agored yw'r hyn y maen nhw'n canolbwyntio arno'n wirioneddol.

Yn fy marn i, ynglŷn â'r sefyllfa ar y cyfandir, ei bod hi'n amlwg bod amrywiolyn delta yn eu taro nhw'n llawer hwyrach nag y trawyd ni ag ef. Felly, fe wyddom ni fod mantais o 70 y cant gan amrywiolyn delta dros amrywiolyn alpha, a dyna pam mae'n mynd yn llawer mwy trosglwyddadwy nawr ar y cyfandir, mewn gwirionedd. Ac mae yna ddigon o dystiolaeth i ddangos bod cyrchfannau dan do, lle mae llawer o bobl yn ymgynnull, yn fwy tebygol o weld ymlediad y feirws. Felly, mae yna ddigon o dystiolaeth i gefnogi'r achos hwn. Ac, felly, dyna'r hyn yr ydym ni'n cadw ein llygaid ni arno.

Nid oes gennym ni unrhyw gynlluniau i fod â brechiadau gorfodol. Rydym ni'n falch iawn o'r ffaith bod y cyhoedd yng Nghymru wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i'r rhaglen frechu. Mae 91 y cant o bobl dros 16 oed yma wedi cael y brechiad cyntaf; mae 86 y cant o bobl dros 16 oed wedi cael yr ail ddos. Ac rwy'n credu ei bod hi'n rhaid i ni gadw hyn mewn cof trwy'r amser. Pan fyddwn ni'n poeni o hyd am y sefyllfa o ran y pàs COVID—mae 86 y cant o'r cyhoedd wedi cael eu brechu, gyda'r ddau frechiad. Y lleiafrif sy'n gwneud llawer o sŵn yn hyn o beth, ac rwy'n credu bod angen i ni fod yn ofalus iawn ein bod ni'n gwrando nid yn unig ar leisiau'r lleiafrif, ond ein bod ni'n diogelu'r mwyafrif sydd wedi cerdded gyda ni ar y daith hon, sy'n deall y sefyllfa ac yn amgyffred eu cyfrifoldeb nhw i bobl eraill. Ac rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n colli golwg ar hynny.

Nid ysgarmes yw'r cynllun brechu yng Nghymru, o ran y brechiadau atgyfnerthu, nage ddim; rydym ni'n gweithredu rhaglen gynhwysfawr iawn ac rydym ni'n galw pobl yn eu trefn, rydym ni'n dilyn yr un drefn gyda'r rhaglen hon ag a wnaethom ni gyda'r brechiadau cyntaf. Yn amlwg, gyda brechlyn Pfizer y mae hi'n fwy cymhleth oherwydd mae'n rhaid i bobl aros am 15 munud ar ôl iddyn nhw gael eu brechu. Felly, mae hon yn rhaglen fwy cymhleth ac anodd. Ac, yn amlwg, mae gennym ni lawer o wahanol raglenni brechu yr ydym ni'n ymgymryd â nhw yn gydamserol hefyd. Mae hon yn gymysgedd gymhleth iawn, iawn yr ydym ni'n ceisio ei gweini hi ar hyn o bryd.

Ac, wrth gwrs, rydym ni'n fwy nag ymwybodol o'r pwysau sydd ar y GIG ar hyn o bryd, a dyna pam rydym ni, yn arbennig, o ran gwasanaethau brys—rydym ni wedi rhoi £25 miliwn ychwanegol mewn gofal brys. Rydym ni'n datblygu'r canolfannau gofal sylfaenol brys hyn; rydym ni'n gorffen sefydlu 111 o ganolfannau galwadau; rydym ni'n datblygu mwy o ganolfannau Gofal Brys ar yr Un Diwrnod i osgoi mynediadau i ysbytai; ac rydym ni'n gweithredu llawer mwy o ryddhau i asesu. Felly, mae'r holl bethau hynny'n cael eu gwneud gyda'n rhaglen chwe nod, ac, wrth gwrs, at hynny, rydym ni wedi dod â'r fyddin i mewn i'n helpu ni gyda'r gwasanaeth ambiwlans, ac rydym ni'n canolbwyntio yn wirioneddol ar fregusrwydd ein gwasanaeth gofal ni. 

15:35

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am y datganiad. Mae'r sefyllfa yn dal yn amlwg yn ddifrifol, er fy mod i'n falch o weld y ffigurau yn mynd i lawr rhywfaint, o ran niferoedd, ac o ran y gyfradd positifrwydd hefyd. Ond y prynhawn yma, dwi'n meddwl yn benodol am Ffion Parry, merch 10 oed o Amlwch, yn fy etholaeth i, sydd wedi bod yn sâl iawn yn ysbyty Alder Hey, ar ôl i'w chorff hi ymateb yn wael iawn i'r feirws yma. Dwi'n dymuno'n dda iddi hi a'i theulu. A dyna pam rydym ni yn cymryd y feirws yma o ddifrif o hyd, a dyna pam bod angen i bob un ohonom ni, ym mhob plaid yn fan hyn, fod yn ddifrifol yn ein hymateb iddo fo o hyd. 

Ydw, dwi'n deall rhwystredigaeth pobl ein bod ni yn dal yn wynebu rhai mesurau sydd yn cael impact ar ein bywydau bob dydd ni. Ond dwi'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran pob gwleidydd, pawb sy'n gwneud deddfau a rheoliadau, ein bod ni'n edrych ymlaen at gael gwared ar y deddfau a'r rheoliadau hynny mor fuan â phosib, ond dydyn ni ddim ar y pwynt hwnnw eto.

Ambell fater i'w codi gen i rŵan. Y cyntaf: diffyg cysondeb efo darparu'r booster. Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ddweud yn gynharach wrthyf y bydd swyddog yn edrych ar y sefyllfa yn fy etholaeth i—Caergybi ac Amlwch—lle mae yna niferoedd llawer is nag mewn ardaloedd cyfagos wedi cael y booster. Dwi eisiau gwybod beth sy'n digwydd yn fanno. Ond mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sicrwydd am y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau cysondeb yn lefel y booster sy'n cael ei rhoi ym mhob rhan o Gymru.

Yn ail: brechu ydy'r amddiffyniad gorau, rydyn ni'n gwybod, ond dwi'n dal yn bryderus bod yna ddiffyg gweithredu ar rai o'r pethau mwyaf sylfaenol eraill yna sy'n ein cadw ni yn ddiogel. A, phan dwi'n gweld lluniau neu'n clywed adroddiadau am drenau gorlawn a phobl ddim yn gwisgo masgiau o gwmpas gemau rygbi'r penwythnos, mae'n amlwg bod yna dal ddiffyg enforcement ac ati yn mynd ymlaen. Ac mi fyddwn i'n gwerthfawrogi clywed pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i drio mynd i'r afael â rheini, ac mewn ysgolion hefyd. Hynny ydy, mater dwi wedi codi tro ar ôl tro: beth sy'n mynd i fod yn cael ei wneud, wrth inni fynd mewn yn ddyfnach i'r gaeaf, i gryfhau polisïau awyru ac agor ffenestri a ballu mewn ysgolion i gadw plant ac athrawon a staff yn ddiogel? 

Os caf i droi at basys, rydyn ni wedi trafod, dwi'n meddwl, y trafferthion mae pobl wedi eu cael—llawer o bobl—i gael trwodd i'r rhif ffôn canolog i ofyn am bàs papur. Dwi'n gwerthfawrogi'r datganiad ysgrifenedig a gafodd ei roi mewn llythyr gan y Gweinidog y bore yma, yn egluro y bydd yna ragor o gapasiti yn cael ei greu. Dwi'n edrych ymlaen at glywed bod hynny'n gweithio, oherwydd os ydy pàs COVID yn rhywbeth synhwyrol, mewn egwyddor, mae'n rhaid iddo fo weithio yn ymarferol hefyd.

Ond un pwynt yn benodol iawn: mae yna bryderon gan bobl sy'n cefnogi'r egwyddor am sut mae o'n gweithredu yn ymarferol. Dwi wedi sôn wrth y Gweinidog yn barod am un sinema, lle'r oedd yna rwystredigaeth fawr am orfod troi pobl i ffwrdd—nain a thaid yno efo’u gwyrion yn methu dod i mewn, oherwydd eu bod nhw wedi methu cael y pàs ar bapur. Roedd ganddyn nhw eu prawf o frechu ac eisiau gallu defnyddio hwnnw i ddod i mewn. Doedd dim posib caniatáu hynny. Gofyn oedd y sinema, tybed a oedd yna fodd arall i allu defnyddio prawf o fod wedi cael brechiad ynghyd â phrawf ID, er enghraifft? Dwi'n gwybod, wrth gwrs, byddai rhywun yn gallu cael prawf llif unffordd, a byddai hynny'n ffordd fyddai'n osgoi gorfod aros am y pàs COVID. Ond, mae'n amlwg bod yna ddiffyg dealltwriaeth o hyd; mae'n amlwg bod angen help pellach ar nifer o sefydliadau er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu cadw pethau'n dynn, fel y maen nhw'n dymuno ei wneud. Felly, gaf i ofyn: beth ydy'r cymorth ychwanegol yna mae'r Gweinidog a'r Llywodraeth yn gallu ei gynnig i'r sinema yna ac i sefydliadau eraill ar draws Cymru, sydd yn wirioneddol eisiau gallu cefnogi hwn a chydweithio efo fo, ond jest yn cael ychydig bach o drafferth weithiau?

15:40

Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddrwg iawn gen i i glywed am sefyllfa Ffion, ac rŷn ni i gyd yn cofio amdani a gobeithio'r gorau iddi hi. A dwi'n meddwl bod hwnna'n bwynt pwysig i'w wneud: does dim un ohonom ni'n gwybod sut rŷn ni'n mynd i ymateb pan rŷn ni'n cael coronafeirws, a dyna pam mae mor bwysig ein bod ni'n cael y brechlyn os ŷn ni'n cael cynnig y brechlyn. Felly, dwi'n falch o weld bod cymaint o bobl wedi cymryd y cyfle i wneud hynny. Ar wahân i'r bobl sydd eisoes yn wan yn gorfforol a phobl sydd â phroblemau meddygol eisoes, mae canran fawr iawn o'r 58 o bobl sydd mewn gofal critigol yn ein hysbytai yn bobl sydd heb gael y brechlyn. Dwi'n meddwl bod yn rhaid inni feddwl am ein cyfrifoldeb ni fel unigolion i feddwl am y pwysau sydd ar ein hysbytai ni ar hyn o bryd. A phan mae 10 y cant o'r gwelyau yn ein hysbytai ni'n ymwneud â COVID, dwi yn meddwl bod yn rhaid inni ofyn cwestiynau i bob un sydd ddim yn cymryd y cyfle i gael y brechlyn i ofyn, 'Ble mae'ch cyfrifoldeb chi i ni sydd, efallai, angen defnyddio'r NHS ar gyfer pethau eraill hefyd?'

O ran enforcement, mae yn bwysig ein bod ni'n sicrhau, os rŷm ni'n dod i mewn â'r rheolau newydd hyn, mae'n bwysig bod enforcement yn cael ei wneud. A dyna pam rŷm ni'n cael trafodaethau cyson gyda'r heddlu, gydag, er enghraifft, y bobl sy'n gyfrifol am drenau a bysys a gyda llywodraeth leol, ac mae hynny'n digwydd yn aml iawn. Byddwch chi wedi gweld bod rhywun yn Abertawe ddim eisiau defnyddio pasys ar gyfer sinema; mae'n werth dweud fy mod i wedi cael ymateb gan Ben yn Snowcat Cinema, a beth yr oedd e'n dweud wrthyf oedd, ers inni gyflwyno'r pàs COVID—

—ers i ni gyflwyno'r pàs COVID, yn ei sinema ef, mae wedi gweld y gwerthiant yn codi'n aruthrol; a bod pobl, mewn gwirionedd, yn llawer mwy cyfforddus ynghylch mynd i'r sinema nawr, maen nhw'n teimlo yn fwy diogel ac maen nhw'n gofyn, 'A gawn ni gadw'r mesurau hyn pan fyddwch chi'n eu disodli nhw—? Os ydych chi am eu datgymalu nhw, fe fyddem ni'n hoffi parhau â'u gorfodi nhw'. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn clywed y neges honno; bod y cyhoedd, mewn gwirionedd, yn ymateb yn gadarnhaol iawn ac yn dweud, 'Rwyf i'n teimlo yn fwy diogel. Mae eich lle chi'n un y byddaf yn ymweld ag ef.'

Rwy'n ymwybodol iawn o'r capasiti yn y system o ran y gwasanaeth ffôn os nad yw pobl yn gallu lawrlwytho'r pàs. Dyna pam yr ydym ni'n rhoi llawer mwy o adnoddau i mewn i hynny ac yn sicrhau bod nifer y llinellau ffôn, er enghraifft, yn cynyddu. Felly, mae'r holl waith hwnnw'n digwydd. Ac, wrth gwrs, fel rydych chi'n dweud, mae hi'n bosibl i bobl ddefnyddio'r prawf llif unffordd os nad yw hynny ar gael iddyn nhw. Felly, rwy'n gobeithio bod hynna wedi bod o gymorth. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Fe fyddaf i'n siarad â llawer iawn o bobl ac yn cael llawer iawn o negeseuon e-bost, fel pawb arall yn y fan hon, ac mae hi'n wir fod pobl yn cefnogi'r cyfyngiadau hynny sydd gennym ni ar hyn o bryd a'r rhai hynny yr ydym ni'n eu gweithredu nhw. Ac rwyf i wedi cael negeseuon hefyd yn sôn bod pobl yn teimlo erbyn hyn eu bod nhw'n gallu mynd allan a mwynhau eu bywydau ychydig yn well oherwydd y pasiau COVID hyn, a'u bod nhw'n nerfus iawn i wneud hynny ynghynt. Ond ar y llaw arall, wrth gwrs, rwy'n deall nad yw pobl yn eu cefnogi nhw; eu bod nhw'n awyddus i'r holl gyfyngiadau ddod i ben. Serch hynny, mae'r ffigurau yn dangos y sefyllfa wirioneddol o ran ymlediad yr haint hwn a'r feirws hwn, a dim ond edrych o amgylch Ewrop y mae'n rhaid i ni wneud i weld beth yn union sy'n digwydd.

Felly, o ran gofyn cwestiwn i chi, rydych chi'n awgrymu—ac fe wnaethoch chi hynny eto heddiw—y gallai hi fod yn bosibl y bydd yn rhaid i ni ehangu'r pàs COVID i feysydd eraill lle nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd. Pryd fyddech chi'n gwneud y penderfyniad hwnnw? Beth fyddai'r sbardun i'ch gorfodi i wneud penderfyniad?

15:45

Diolch yn fawr iawn, Joyce. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, mai un o'r pethau y gallai hi fod yn werth i bob un ohonom ni ei ystyried yw defnyddio iaith wahanol yn hyn o beth. Rydym ni'n dal i siarad am gyfyngiadau. Wel, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni ddechrau siarad am amddiffyniadau, oherwydd dyna'r hyn yr ydym ni'n ei roi ar waith—amddiffyniadau. Rydym ni'n ceisio diogelu'r cyhoedd yma rhag coronafeirws. Felly, dyna rywbeth yr wyf i'n sicr am geisio ei ddefnyddio yn fy nhrafodaethau i'r dyfodol.

Yn sicr, o ran y pàs COVID ac unrhyw ehangu posibl arno, wrth gwrs, fe wneir hynny yng nghyd-destun yr adolygiad 21 diwrnod yr ydym ni'n ei gynnal bob tair wythnos. Y sbardun ar gyfer hynny fyddai, fel pob amser, y potensial a'r posibilrwydd y bydd y GIG yn cael ei orlethu wrth i ni fynd i mewn i gyfnod y gaeaf. Felly, hwnnw'r yw'r sbardun i ni bob amser: a all y GIG ymdopi?

A dweud y gwir, nid ydym ni wedi gweld y ffliw yn ymaflyd ynom ni mewn gwirionedd gyda'r math o rym yr oeddem ni'n ei ddisgwyl. Rydym ni'n dal i aros, ac mae hi'n bosibl iddi hi fynd felly. Ond fe fyddwn ni'n cadw llygad ar bethau. Mae tua 10 y cant o'r gwelyau sydd gennym ni mewn ysbytai ar hyn o bryd yn cael eu llenwi â chleifion COVID. Nawr, mae hynny'n gryn nifer o bobl. Yn amlwg, mae angen i ni gadw llygad ar y sefyllfa honno, ond mae hyn yn ymwneud hefyd â chadw llygad ar y GIG yn fwy eang. Mae honno'n sefyllfa bwysig. Diolch.

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, ac am roi briff i Aelodau'r pwyllgor iechyd amser cinio heddiw. Fel yn y diweddariadau blaenorol, rwyf i'n awyddus i ganolbwyntio ar y sector gofal yn fy nghwestiynau i, gan fod y pandemig wedi effeithio yn fawr ar y rhai sy'n byw mewn cartrefi gofal a'u teuluoedd nhw. Diolch byth, mae rhaglen frechu lwyddiannus yn y DU wedi golygu y gellir ymweld â chartrefi gofal unwaith eto.

Gweinidog, sut mae eich Llywodraeth chi am sicrhau y bydd preswylwyr cartrefi gofal yn parhau i gael ymweliadau gan eu hanwyliaid nhw, ac yn gallu mynd i ymweld â nhw hefyd? Pa gamau ydych chi'n eu cymryd i gyflymu'r rhaglen brechiad atgyfnerthu ar gyfer staff a phreswylwyr cartrefi gofal? Mae rhai cartrefi gofal ledled y DU yn gofyn am brawf o frechu erbyn hyn i ymwelwyr â chartrefi gofal. A yw hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei gyflwyno?

Yn olaf, Gweinidog, ochr yn ochr â COVID—ac rydych chi wedi sôn am hyn yn fyr yn eich ateb i Joyce Watson—mae'r ffliw. Fe fydd y ffliw yn fygythiad mawr y gaeaf hwn i'r rhai sydd mewn gofal. A wnewch chi gyhoeddi cyfraddau brechu rhag y ffliw ar gyfer staff a phreswylwyr cartrefi gofal, yn ogystal ag amlinellu'r camau yr ydych chi'n eu cymryd i roi hwb i gyfraddau brechu? Diolch yn fawr iawn i chi.

Diolch, Gareth. Fel chwithau, rwyf i'n cadw llygad barcud ar y sector gofal, fel gwnaiff fy nghyd-Aelod Julie Morgan—gan bryderu llawer iawn am y berthynas rhwng cartrefi gofal ac ysbytai ac mae'r llifeiriant yn hynny o beth yn hanfodol i gadw'r system gyfan yn gweithio. Mae gennym ni ganllawiau eglur iawn o ran ymweld â chartrefi gofal. Felly, caiff pob un o'r rhain eu nodi, ac mae'r wybodaeth honno i'w gweld ar ein gwefan ni. Mae hynny'n cynnwys y ffaith bod angen i ymwelwyr gymryd prawf llif unffordd cyn iddyn nhw ymweld â chartref gofal. Felly, mae'r cyfleuster hwnnw ar waith eisoes.

Mae tua 77 y cant o breswylwyr cartrefi gofal wedi cael eu brechiad atgyfnerthu. Roeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi taro nod ein hamserlen arfaethedig ni, sef i gynnig brechiad atgyfnerthu i bob un o'r preswylwyr hynny mewn cartrefi gofal erbyn 1 o fis Tachwedd. Fe wnaethom ni gyrraedd y garreg filltir honno, felly roeddwn i'n falch iawn o weld hynny. Fe allaf i ddod o hyd i'r cyfraddau brechu rhag y ffliw ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal, ond mae hi'n amlwg mai dyna un o'r lleoedd cyntaf yr awn ni o ran cyflwyno'r brechlyn ffliw. Ond rwyf i am ddweud hyn, a hynny yw nad ydym ni'n gweld yr un niferoedd ymhlith y cyhoedd ledled Cymru o ran brechu rhag y ffliw ag y gwnaethom ni'r llynedd. Fe fyddwn i'n annog pobl i fanteisio ar y cyfle hwnnw, oherwydd nid ydym ni'n gwybod beth sydd o'n blaenau ni, ac mae angen i bob un ohonom gymryd o ddifrif yr amddiffyniadau sydd ar gael i ni.

Diolch. Diolch yn fawr iawn i chi wir. Pa obaith y gallwch chi ei roi i'r etholwyr sydd wedi cysylltu â mi yn dweud eu bod nhw wedi cael un brechiad yn Lloegr ac un yng Nghymru, ac, er iddyn nhw gael eu taflu yma ac acw am wythnosau, maen nhw'n parhau i fethu â chael eu pàs COVID nhw am na allan nhw ddangos eu bod nhw wedi cael y ddau frechiad? A pha obaith y gallwch chi ei roi i'r nifer cynyddol o etholwyr sydd wedi cysylltu â mi i ddweud wrthyf i eu bod nhw wedi cael gwybod na fydd y brechiad atgyfnerthu yng Nghymru yn cael ei gynnwys ar eu pàs COVID nhw ar gyfer teithio dramor, er bod Ffrainc a gwladwriaethau eraill yr UE yn dweud y bydd yn rhaid i bobl o'r DU ddangos eu bod nhw wedi cael y brechiad atgyfnerthu naill ai i gael mynediad i'r wlad neu i gael mynediad i fwytai a lleoliadau lletygarwch?

15:50

Diolch yn fawr iawn i chi. Wel, o ran brechiadau yng Nghymru ac yn Lloegr, mae hynny'n fy synnu i'n fawr fod yna gymaint o broblem oherwydd, mewn gwirionedd, rydym yn rhannu'r data gyda'n gilydd. Felly, pe byddech chi'n ysgrifennu ataf i am yr achos penodol hwnnw, rwy'n fwy na pharod i ymdrin â hynny. Mae'r pàs COVID yn system sy'n cael ei rhannu, felly rydym ni'n gwneud hynny ar y cyd â Lloegr.

O ran teithio dramor a'r brechiad atgyfnerthu, ni chawsom ni wybod, rwy'n credu, tan yr wythnos diwethaf y byddai Lloegr yn diweddaru hynny. Ni chawsom ni gyfle cyn hynny i ofyn am gael gwneud hynny ar yr un pryd â nhw. Ar ôl iddyn nhw ddweud wrthym ni, fe wnaethom ddweud, 'Er mwyn popeth, rhowch y cyfle hwnnw i ni.' Felly, fe fyddan nhw'n rhoi'r cyfle hwnnw i ni. Rwy'n gobeithio, erbyn diwedd yr wythnos nesaf, y bydd hynny ar waith, felly fe ddylen nhw allu dangos ar eu pàs COVID nhw eu bod nhw wedi cael y brechiad atgyfnerthu hefyd.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am roi cyfle i mi gywiro'r cofnod. Mae hyn yn ymwneud â'r datganiad busnes yn gynharach. Fel gwyddoch chi, rwyf i'n gynghorydd, ac fe anghofiais i grybwyll hynny pan siaradais i. Diolch i chi.

Wel, mae hynny ar y cofnod nawr. Diolch yn fawr iawn i chi.

Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Hoffwn atgoffa Aelodau, os ydych chi’n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Ac yn olaf, dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:52.

16:00

Ailymgynullodd y Senedd am 16:02, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

5. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd

Dyma ni'n cyrraedd nawr eitem 5, sef y datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ail gartrefi a fforddiadwyedd. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad. Julie James.

Diolch, Llywydd. Mae gan y Llywodraeth hon record gref a balch o ran adeiladu tai fforddiadwy. Mae ein rhaglen lywodraethu yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i hyn gyda'n targed uchelgeisiol o ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu y tymor hwn. Ond, i rai pobl sy'n byw mewn rhai rhannau o Gymru, mae cartref fforddiadwy y tu hwnt i'w cyrraedd oherwydd cyfuniad o brisiau tai cynyddol a nifer anghymesur o ail-gartrefi ac eiddo gwyliau tymor byr.

Rydym eisiau i bobl ifanc gael gobaith realistig o brynu neu rentu tai fforddiadwy yn y lleoedd y maen nhw wedi tyfu i fyny, fel y gallant fyw a gweithio yn eu cymunedau lleol. Gall niferoedd uchel o ail gartrefi a chartrefi gwyliau mewn un ardal fygwth y Gymraeg yn ei chadarnleoedd ac effeithio ar gynaliadwyedd rhai ardaloedd gwledig. Rydym yn genedl groesawgar ac mae twristiaeth yn rhan bwysig o'n heconomi, gan ddod â swyddi ac incwm i sawl rhan o Gymru, ond nid ydym chwaith am gael pentrefi anghyfannedd mewn mannau gwyliau tymhorol—mannau lle nad oes neb gartref yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae'r rhain yn faterion cymhleth ac nid oes atebion cyflym. Efallai na fydd yr hyn a allai fod yn iawn i un gymuned yn gweithio i un arall. Mae angen i ni hefyd osgoi canlyniadau anfwriadol. Yn sicr, mae angen i ni gael cefnogaeth y cymunedau a'r bobl sy'n byw yno os ydym am ddod o hyd i ymatebion effeithiol a'u rhoi ar waith. Ac, mewn cyd-destun lle mae sylwebwyr yn cyfeirio at ddiffyg tystiolaeth gadarn am yr hyn sy'n gweithio, rhaid i ni greu ein ffordd Gymreig ein hunain, gan ddatblygu ein tystiolaeth ein hunain a'n hatebion ein hunain. Credaf ein bod i gyd yn cydnabod nad oes un ateb syml yma, a bydd angen i ni gyflwyno ystod o gamau gweithredu.

Ym mis Gorffennaf, nodais ddull gweithredu tair elfen y Llywodraeth: mynd i'r afael â materion fforddiadwyedd; defnyddio ein fframwaith rheoleiddio i reoli ail gartrefi ychwanegol ac eiddo a osodir ar gyfer gwyliau tymor byr yn well; a defnyddio trethiant cenedlaethol a lleol i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad tecach.

Mae ein hymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanarlwyo newydd gau. Ymatebodd bron i 1,000 o bobl i'r ymgynghoriad, sy'n dangos cryfder y teimlad a'r amrywiaeth barn. Rydym yn gweithio drwy'r rhain a byddwn yn ymateb gyda'r camau nesaf i sicrhau bod cyfraniad ariannol teg yn cael ei wneud, sy'n adlewyrchu cyfiawnder cymdeithasol.

Yn ei adroddiad rhagorol, 'Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru', argymhellodd Dr Simon Brooks ein bod yn treialu newidiadau i gyfraith cynllunio fel ffordd o fynd i'r afael â niferoedd gormodol o ail gartrefi mewn cymunedau lleol penodol. Dros yr haf, rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd, a hoffwn nodi fy niolch i'r cyngor am y ffordd adeiladol a chadarnhaol maen nhw wedi ymgysylltu â ni. Gan ddechrau ym mis Ionawr, byddwn yn cynnal cynllun treialu fesul cam i brofi nifer o ymyriadau yn Nwyfor, yng Ngwynedd. Dyma'r tro cyntaf y byddwn yn ymyrryd yn y farchnad i gefnogi pobl leol i fyw yn eu cymunedau lleol fel hyn. Mae Dwyfor yn un o'n cadarnleoedd Cymraeg. Mae'n ardal lle mae ail gartrefi yn amrywio o tua un o bob pump i bron hanner y stoc sydd ar gael.

Bydd cam cyntaf y cynllun treialu yn cynnwys ystod o gymorth ymarferol i helpu pobl i gael gafael ar dai fforddiadwy, a bydd yn cysylltu â'n hymyriadau presennol a newydd mewn ffordd sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar gamau rhagarweiniol, fel y gallwn ddechrau cyflawni gyda'n partneriaid cyn gynted â phosibl. Byddaf yn dweud mwy am y rhain ar ôl i'r Gweinidog cyllid gyhoeddi'r gyllideb ddrafft y mis nesaf, ond rydym yn awyddus i edrych ar gynlluniau rhannu ecwiti, atebion rhentu a'r hyn y gallwn ei wneud gyda chartrefi gwag.

Yng ngham dau, byddwn yn edrych ar y system gynllunio ei hun. Gwyddom fod y system gynllunio yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi ein hymdrechion i reoli ail gartrefi ychwanegol a llety gwyliau tymor byr. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod materion yn ymwneud ag ail gartrefi fel arfer yn lleol yn hytrach na ledled y wlad. Fodd bynnag, mae cyfraith cynllunio yn berthnasol ar draws Cymru gyfan. Felly, heddiw, rwyf yn lansio ymgynghoriad ar newidiadau a fyddai'n galluogi awdurdodau cynllunio lleol i newid yr angen am ganiatâd cynllunio i newid o gartref cynradd i gartref eilaidd neu lety gwyliau tymor byr.

Rydym yn cynnig newidiadau i'r Gorchymyn dosbarthiadau defnydd, a fyddai, o'u gweithredu, yn creu dosbarthiadau defnydd penodol ar gyfer preswylfeydd gwyliau cynradd, eilaidd a thymor byr. Ochr yn ochr â hyn, mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn ar gynigion i ddiwygio'r Gorchymyn datblygu cyffredinol a ganiateir. Byddai'r rhain yn symud rhwng y dosbarthiadau datblygiad a ganiateir hyn. Byddai awdurdodau cynllunio unigol wedyn yn gallu penderfynu a oeddent yn dymuno dileu'r hawliau datblygu a ganiateir drwy'r hyn a elwir yn gyfarwyddyd erthygl 4. Pe bai'n cael ei weithredu, byddai hyn yn golygu y byddai angen caniatâd cynllunio i symud cartrefi rhwng gwahanol ddefnyddiau cartrefi cynradd, eilaidd a gwyliau tymor byr yn yr ardaloedd lle yr oedd yr awdurdodau lleol wedi penderfynu mai dyna yr oeddent yn dymuno ei wneud. Byddwn hefyd yn gofyn am newidiadau posibl i 'Bolisi Cynllunio Cymru', gan gyfeirio at unrhyw newidiadau.

Nid ydym yn rhagfarnu canlyniadau'r ymgynghoriad hwn na'r ymgynghoriadau lleol ar gyfarwyddiadau erthygl 4. Mae'n bwysig iawn clywed ac ystyried pob llais, ac mae'n rhaid i ni a'n partneriaid wneud hynny a byddwn yn gwneud hynny. Os oes cefnogaeth eang i'r newidiadau hyn, byddwn yn gallu newid deddfwriaeth a gwerthuso'r effaith. Rwy’n rhagweld y gall hynny ddechrau digwydd o'r haf nesaf. Os bydd Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri yn penderfynu, ar ôl ymgynghori ac ar sail eu tystiolaeth, i ddefnyddio eu pwerau yn Nwyfor, byddwn yn cynnwys effaith hyn o fewn y cynllun treialu.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda chontractwr ar ddichonoldeb a ffurf cynllun trwyddedu neu gofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau, gan gynnwys llety wedi'i osod am dymor byr. Fel rhan o'r gwaith hwn, byddwn yn ymgysylltu â phartneriaid lleol gyda'r bwriad o sefydlu cynllun gwirfoddol yn ardal y cynllun treialu, i ddefnyddio gwersi i lywio gweithrediad cynllun statudol. Er mai Dwyfor fydd canolbwynt y cynllun treialu, bydd gwerthusiad annibynnol yn cynnwys dysgu gweithredol parhaus, fel y gall meysydd eraill ymgysylltu, dylanwadu a dysgu o'r cynllun treialu. Rydym eisiau gwybod beth fydd effaith gyfunol y camau a gymerwn fel rhan o'n dull gweithredu tair elfen.

Un o'r pethau rydym ni eisoes yn ei wybod yw bod gormod o gartrefi'n eistedd yn wag ac yn segur. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth grant o £2 filiwn i Gyngor Gwynedd ar gyfer prynu cartrefi gwag ar gyfer rhent cymdeithasol. Rhaid gwario o leiaf £1 miliwn o hyn yng nghynllun treialu Dwyfor. Bydd £1 miliwn arall yr un ar gael i gynghorau Ynys Môn, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin i'r un diben. Bydd yr arian yn ein helpu i asesu'r effaith mae hyn yn ei gael mewn cymunedau sydd angen cartrefi cymdeithasol a lle mae'r Gymraeg yn iaith gymunedol.

Heddiw, rwyf wedi nodi'r camau nesaf i fynd i'r afael â mater cymhleth ail gartrefi er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu byw a gweithio yn eu hardaloedd lleol. Nid oes atebion hawdd yma ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Chyngor Gwynedd drwy gynllun treialu Dwyfor, ond hefyd gyda Phlaid Cymru, i ddatblygu'r mesurau hyn ymhellach, fel rhan o'r cytundeb cydweithredu a gyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe. Rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i atebion a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol. Byddwn yn parhau i archwilio popeth y gellir ei wneud a datblygu'r dulliau polisi gorau posibl. Edrychaf ymlaen at eich cefnogaeth yn hyn o beth. Diolch.

16:05

Diolch, Gweinidog, am ddod â'r datganiad hwn i'r Siambr heddiw. Cyn i mi ddechrau, hoffwn gyfeirio Aelodau ac aelodau o'r cyhoedd at fy nghofrestr buddiannau fy hun o ran perchnogaeth eiddo.

Nawr, ddoe, clywsom i gyd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu cytundeb clymblaid â Phlaid Cymru. Mae llawer ohonom sydd wedi bod yma am beth amser bellach yn credu bod hwnnw'n drwm iawn o ran rhethreg ond yn ysgafn o ran manylion. Un diwrnod yn ddiweddarach, faint o syndod yw hi i ganfod bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi £2 filiwn o gymorth i Gyngor Gwynedd dan arweiniad Plaid Cymru ar gyfer prynu cartrefi gwag i'w rhentu'n gymdeithasol. Gweinidog, er ei bod yn dda iawn eich bod yn darparu £1 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol eraill, mae gan Gymru 22 o awdurdodau lleol, a chredaf, unwaith eto, na ddylai hyn gael ei gymell yn wleidyddol.

Mae gennyf lawer o amheuon ynghylch y datganiad a wnaed heddiw, gan ei bod yn bwysig nad yw Llywodraeth Cymru yn ymyrryd yn y farchnad mewn modd sy'n cael gormod o effaith. Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn cefnogi pobl i brynu tai, yn hytrach na gostwng prisiau tai yn ddiofal. Felly, nid cynyddu premiymau yw'r ateb, ac nid yw'r posibilrwydd chwaith o alluogi awdurdodau cynllunio lleol i newid yr angen am ganiatâd cynllunio i newid o gartref cynradd i gartref eilaidd neu eiddo a osodir ar gyfer gwyliau tymor byr.

Yn ystod y grŵp trawsbleidiol ar dai yr wythnos diwethaf, cytunodd swyddogion Shelter Cymru a oedd yn bresennol na fydd mynd i'r afael ag ail gartrefi yn datrys y broblem o fforddiadwyedd tai. Y ffaith syml yma yw bod angen i ni fod yn adeiladu mwy o gartrefi—wel, yn hytrach, mae angen i chi fel Llywodraeth fod yn adeiladu mwy o gartrefi. Mae angen tua 7,400 o gartrefi newydd bob blwyddyn i ateb y galw yng Nghymru, ac er bod pob tymor etholiadol yn dod, neu dymor y Senedd yn dod, cawn addewidion o'r hyn sy'n mynd i ddigwydd, ond nid yw'n digwydd. Yn 2019 roedd nifer y cofrestriadau ar gyfer cartrefi newydd wedi gostwng 12 y cant. Mae hyn yn hynod siomedig o gofio bod 67,000 o aelwydydd ar restrau aros am dai yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae rhai o'r rheini, nifer fawr, yn etholaeth Aberconwy.

Felly, Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau pa gynnydd arall sydd wedi'i wneud i droi tir gwag yn y sector cyhoeddus yn safleoedd sy'n barod i'w datblygu? Wyddoch chi yn y grwpiau yr ydym wedi'u cael yn drawsbleidiol, rydych chi’n gwbl ymwybodol fy mod wedi tynnu sylw at hyn, bod gan ein cyrff cyhoeddus lawer o dir ar gael, ac, mewn gwirionedd, adeiladau ar gael a fyddai'n sicrhau cartrefi diogel a chyfforddus i'r rhai sy'n dymuno mynd ar yr ysgol dai. Nid wyf wedi gweld dim byd tebyg i hynny'n cael ei gyflwyno, ond rwyf wedi clywed y rhethreg gan Blaid Cymru droeon am sut mae ail gartrefi ac eiddo a osodir ar gyfer gwyliau mor ddrwg i ni fel fy mod yn teimlo eich bod yn mynd i lawr y ffordd honno ychydig yn rhy gyflym.

Yr wythnos diwethaf yn unig, tynnwyd fy sylw at y ffaith na ellir symud ymlaen gyda chynifer â 10,000 o gartrefi—1,000 o'r rhain yn fforddiadwy—nawr oherwydd canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar ffosfforws. Gofynnais am ddatganiad, yn y datganiad busnes yn gynharach, gennych chi a James Evans, fe wnaeth fy nghyd-Aelod hefyd, oherwydd fe wnaethom gyfarfod arweinwyr, fe wnaethom gyfarfod aelodau'r cabinet, ac fe wnaethom gyfarfod swyddogion cynllunio llawer o gynghorau ledled Cymru yr wythnos diwethaf, ac roedden nhw i gyd yn dweud yr un peth: rydych chi’n gofyn am adeiladu mwy o dai, ond rydych chi'n eu hatal gyda'r rheoliadau cynllunio hyn ar ffosfforws. Felly, mae angen i chi gael gwared ar y rhwystr hwn naill ai drwy ofyn i CNC atal ei ganllawiau neu drwy weithredu eithriadau a galluogi tynnu ffosffad yn ein systemau draenio.

Mae angen mynd i'r afael â fforddiadwyedd drwy ddileu'r cap ar ddyhead drwy dorri'r dreth trafodiadau tir. Felly, er fy mod yn croesawu'r cyhoeddiad gan y Gweinidog cyllid y bydd deddfwriaeth newydd yn caniatáu i drethdalwyr hawlio ad-daliad o gyfraddau uwch LTT lle maen nhw’n disodli eu prif breswylfa, er mwyn gwneud Cymru yn gartref iddynt a chyfrannu'n economaidd at ein cymunedau, a fyddwch chi’n gallu cadarnhau'r amserlen ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth o'r fath?

Ac mae angen i ni wynebu mater eiddo gwag, ac, fel y dywedais, mae rhai o'ch mentrau'n dda, ond rhaid gwneud hyn ar gymesuredd llawer mwy teg a chytbwys. Roedd 25,725 o eiddo gwag hirdymor yng Nghymru, a phedair blynedd yn ddiweddarach—yn frawychus—dim ond o 24 mae'r ffigur hwn wedi gostwng. Mae'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol wedi cynnig dileu'r premiwm treth trafodiadau tir ail gartref a gwahanu eiddo prynu-i-osod oddi wrth ail gartrefi—oherwydd, unwaith eto, byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym heddiw, Gweinidog, yr hyn a ystyriwch yn ail gartref—fel maen nhw wedi’u diffinio yn y drafodaeth bresennol, gan annog landlordiaid i helpu i fynd i'r afael â mater eiddo gwag.

Fel y dywedodd cynrychiolydd yn ystod fy nghyfarfod bord gron diweddar, a gynhaliwyd ar y cyd â Propertymark, 'Pam nad ydym yn cymell adnewyddu gofod gwag uwchben siopau gwag?' Rwyf wedi clywed hynny ers 11 mlynedd: 'Rydym yn mynd i ddod â'r holl fannau swyddfa gwag hynny yn ôl uwchben siopau yn ein strydoedd mawr.' Nid wyf yn gwybod am lawer o achosion lle mae hynny wedi digwydd. O ran siopau gwag a chymryd y siopau hynny'n ôl, mewn rhai achosion, os byddwch yn chwalu adeiladau, byddwch yn cael eich treth ar werth yn ôl; os ydych chi'n adnewyddu, nid ydych chi’n ei gael. A wnewch chi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU i adolygu'r sefyllfa benodol hon fel modd i helpu i annog adnewyddu eiddo canolog fforddiadwy ac adfywio ein stryd fawr?

I gloi, edrychaf ymlaen at eich ymatebion i'r cwestiynau pwysicaf hyn a gobeithiaf y byddant yn peri i chi oedi i feddwl am gyfeiriad teithio eich polisi. Rydym eisiau gweithio gyda chi, Gweinidog. Credwn fod problem, nid oes digon o gartrefi yng Nghymru, ond rhaid cael ymateb llawer mwy cytbwys a chymesur, ac ni ddylai hyn fod yn rhan o unrhyw gytundeb clymblaid â phlaid wleidyddol arall.

16:15

Credaf i mi ganfod pedwar cwestiwn yn yr araith eithaf hir yna, felly byddaf—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod pedwar, rwy'n credu fy mod yn iawn yn dweud, sy'n dipyn o beth o ystyried hyd yr araith. Ond, dyna ni.

Roedd yr un cyntaf yn ymwneud â thir ar gyfer adeiladu tai. Bydd Janet Finch-Saunders, oherwydd ei bod yn rhan o'r gweithgor trawsbleidiol, yn gwybod yn iawn ein bod wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru ar eu cynlluniau datblygu lleol i nodi tir tai a nodir yn y CDLl i ddeall pam nad yw'n cael ei gyflwyno ar gyfer tai ac i sicrhau ein bod wedi dileu'r holl rwystrau ar gyfer hynny. Byddai'n gwneud yn dda i drafod gyda Propertymark ac eraill ynghylch faint o fancio tir sydd yn y sector preifat ledled Cymru a pham mae rhyddhau tai mor araf, ac a yw hynny'n cael unrhyw effaith ar brisiau presennol tai, oherwydd credaf y byddai rhai o'r atebion yn ei synnu'n fawr.

Mae'r syniad mai'r ateb i adeiladu tai yw dileu rheolaethau llygredd ar orlifdiroedd yn eithaf rhyfeddol. Ni allaf ddeall o gwbl sut y gall y Ceidwadwyr, ar y naill law, ddweud eu bod yn cytuno bod argyfwng hinsawdd, ac ar y llaw arall, dweud y dylem adeiladu ar orlifdiroedd gyda phroblemau ffosffad. Felly, nid wyf yn mynd i anrhydeddu hynny gydag ateb hyd yn oed, oherwydd mae'n gwbl amlwg beth yw'r ateb. Wrth gwrs na allwn adeiladu ar orlifdiroedd lle mae perygl o lifogydd neu lygredd. Felly, rhaid i ni ddod o hyd i dir arall neu mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o allu amddiffyn rhag llifogydd i sicrhau bod y tir hwnnw ar gael. A does gen i ddim problem o gwbl gyda chanllawiau CNC ar y pwnc.

Mae'r ffigurau cartrefi gwag yn ddiddorol. Maen nhw’n cynnwys tai sydd, wrth gwrs, ar werth. Mae'n gwybod hynny hefyd o'r grŵp trawsbleidiol. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod gennym ffigurau priodol ynghylch cartrefi gwag, ac mae gennym nifer o fentrau yn hynny o beth, fel y bydd hefyd yn gwybod. Felly, ers amser maith bellach, rydym wedi bod yn cynnig cymorth grant i bobl ddod â'r cartrefi gwag yn ôl i ddefnydd buddiol, naill ai at eu defnydd eu hunain, os ydyn nhw'n byw ynddyn nhw am bum mlynedd, neu i'w rhoi i ni fel cartrefi rhent cymdeithasol, pan fo hynny'n addas.

O ran TAW, unwaith eto, nid yw'n ymddangos bod Janet Finch-Saunders yn deall ei bod yn aelod o Blaid Geidwadol nad yw wedi dileu TAW ar ailwampio cartrefi, nac adnewyddu neu ailddefnyddio. Efallai yr hoffai fynd i'r afael â hynny gyda’i Llywodraeth ei hun, sydd wedi gwrthod gwneud hynny'n llwyr er gwaethaf eu datganiad eu hunain o argyfwng hinsawdd.

A'r peth olaf y byddwn yn ei ddweud yw, os yw'n credu'n onest nad oes problem gydag ail gartrefi, yna awgrymaf ei bod yn mynd allan mwy, oherwydd yn y rhan fwyaf o Gymru mae problem yn sicr.

Ar gyfer y record, mae gen i dŷ lle mae gen i denant hirdymor yn byw ynddo hefyd, lawr yn Aberystwyth. 

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am y datganiad yma. Mae yna genedlaethau o bobl wedi bod yn ymgyrchu er mwyn ceisio cael llywodraethau i weithredu ar yr argyfwng yma, argyfwng sydd wedi bod yn wynebu rhai o'n cymunedau ers degawdau. Nôl ar ddechrau'r 1980au, fe wnaeth fy rhagflaenydd yn Nwyfor, Dafydd Wigley, gyflwyno syniadau i fynd i'r afael â'r cwestiwn ail dau yn San Steffan, ond fe'i wfftiwyd bryd hynny. Mae'n rhaid hefyd cydnabod rôl Cyngor Gwynedd—a Phlaid Cymru yn arwain y cyngor, wrth gwrs—a nhwythau eisoes wedi gwneud llawer o'r gwaith o amgylch hyn, a diolch iddynt am eu harweiniad yn y mater.

Mae'r ffaith ein bod ni'n gweld camau diriaethol yma heddiw er mwyn mynd i'r afael â'r cwestiwn yma o ail gartrefi a fforddiadwyedd tai yn rhai o gymunedau Cymru i'w groesawu. Mae yna dristwch ei fod wedi cymryd cyhyd, wrth reswm, efo nifer o gymunedau wedi gweld diboblogi aruthrol dros y degawdau oherwydd methiant llywodraeth ar ôl llywodraeth i gymryd y mater o ddifrif a gweithredu. Ond gwell hwyr na hwyrach, ac mae'r ystod yma o bolisïau yn cynnig gobaith. Mae'n bwysig hefyd bod yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn gytbwys ac yn deg, gyda phroses ac amserlen gywir yn cael eu dilyn yn llawn. Ni allwn ragfarnu'r canlyniad, ac mae'n rhaid i bob llais gael ei glywed. Ni allwn ychwaith risgio niweidio unrhyw gyfleoedd sydd gennym ni i weithredu ar unrhyw ddatrysiadau. Mae'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth rydyn ni wedi clywed amdano yn barod ar y meysydd penodol yma yn dangos fod posib gweithredu gwleidyddiaeth wahanol yma yng Nghymru. Dyma ddangos gwerth datganoli a bod posib cael datrysiadau yng Nghymru i broblemau sydd yn ein hwynebu ni yma yng Nghymru.

Mae'n rhaid hefyd cydnabod bod yr argyfwng tai ehangach yn effeithio ar gymunedau ledled Cymru. Mae fforddiadwyedd tai a chostau rhentu yn golygu bod nifer yn methu â fforddio talu am do uwch eu pennau, a dwi'n edrych ymlaen at weithio a chydweithio efo'r Llywodraeth ar ddatrysiad i'r problemau yma hefyd wrth inni gydweithio ar y Papur Gwyn. Wrth gwrs, mae'r sialens felly yn un anferthol, ond gyda'r awydd gwleidyddol, y weledigaeth, polisïau cryf ac adnoddau ariannol digonol i wireddu'r amcanion, mae yna obaith eto am ddyfodol gwell i gymunedau Cymru. 

Felly, i gloi, dwi am ofyn ychydig o gwestiynau i'r Gweinidog, os caf i. Pa sicrwydd, Weinidog, a pha atebion y gallwn ni eu cynnig i gymunedau eraill, y rhai y tu allan i'r cynlluniau peilot yma, nad ydyn nhw am gael eu gadael ar ôl? Bydd yna lawer yn pryderu am hyd y peilotiaid yma a'r symiau cymharol fach o bres sydd yn cael eu cynnig ar hyn o bryd. Pa mor sydyn allwn ni ddisgwyl i'r ardaloedd eraill yma gael eu cynnwys yn ymateb y Llywodraeth unwaith bod y peilot wedi cael ei weithredu ac unwaith rŷn ni'n dysgu gwersi o'r cynllun, fel bod pob ardal yn gallu gweld budd mor fuan â phosib? Ac a oes yna ymrwymiad i gynyddu'r cyfraniad ariannol ar sail peilot llwyddiannus?

Ac yn olaf, er bod y Papur Gwyn ar y ffordd, ynghyd â sôn am rhentu, fforddiadwyedd a phrisiau tai—ac mae hynny'n sicr i'w groesawu—hoffwn i ofyn pa gamau brys fydd yn cael eu gweithredu er mwyn ymateb i'r twf anghynaliadwy yn y bwlch rhwng prisiau tai, prisiau rhentu a chyflogau, sy'n atal nifer rhag fforddio cadw to uwch eu pennau. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.

16:20

Diolch, Mabon. O ran a allwn gyflwyno'r cynllun treialu, mae'n rhaid i ni gyrraedd y cynllun treialu yn gyntaf. Un o'r pethau y byddwn yn ei wneud yw rhoi contract gwerthuso ar waith fel y gallwn gael y data o'r cynllun treialu hwnnw cyn gynted ag sy'n bosibl fel y gallwn werthuso'r hyn yr ydym yn ei weld o'r cynllun treialu, yr effaith mae'n ei chael, a'r hyn y bydd angen i ni ei wneud i'w addasu, os oes unrhyw beth. Yn amlwg, mae'r data hwnnw'n hanfodol i gymunedau eraill sy'n edrych i weld a ydyn nhw eisiau cymryd rhan mewn cynlluniau treialu tebyg, felly byddwn yn rhagweld y byddem yn gweld y data'n dod i mewn yn eithaf cyflym—data prisiau tai, data meddiannaeth ac ati—a byddwn yn gallu defnyddio'r data hwnnw i gynorthwyo meysydd eraill i wneud hynny.

Gan dybio bod yr ymgynghoriad cynllunio yn caniatáu i'r Gorchymyn dosbarth defnydd gael ei newid a bod unrhyw erthygl ddilynol ar gyfer ymgynghori a wneir gan awdurdod lleol yn nodi yr hoffent wneud hyn, nid oes dim i'w hatal rhag gwneud hynny. Yr hyn yr ydym ni yn ei wneud yn ardal y cynllun treialu yw cynorthwyo'r cyngor i symud ychydig yn gyflymach gyda hynny gyda rhywfaint o adnoddau ychwanegol fel y gallwn gael y wybodaeth o'r cynllun treialu. Felly, nid ydym yn gosod unrhyw rwystrau yn y ffordd mae cynghorau'n ei wneud; rydym yn cynorthwyo Gwynedd, sydd wedi bod yn hynod o gymwynasgar a chydweithredol yn hyn o beth, ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw dros fisoedd lawer bellach wrth ddod i'r pwynt hwn, i fynd ychydig yn gyflymach fel y gallwn gael y data i mewn. Felly, y neges yno yw ei bod yn bosibl mewn mannau eraill, ond rydym yn mynd i gynorthwyo mewn maes penodol o angen.

O ran yr holl ddarpariaethau eraill, rydym, wrth gwrs, yn bwrw ymlaen â'n gwaith i adeiladu'r 20,000 o gartrefi cymdeithasol di-garbon neu garbon isel. Rydym yn sgwrsio â chynghorau yn yr ardaloedd sydd â lefelau uchel o ail gartrefi i nodi tir er mwyn gwneud hynny ac i sicrhau bod ein Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a'n cynghorau sy'n berchen ar stoc yn camu i fyny at hynny. Rwy'n falch iawn bod hynny'n mynd yn dda iawn, er gwaethaf y ffaith bod gennym gynnydd mawr mewn costau cadwyn gyflenwi fyd-eang. Felly, rydym wedi gallu helpu gyda hynny i'n hadeiladwyr BBaChau ledled Cymru i sicrhau eu bod yn aros mewn busnes, ac i gynorthwyo gydag arian ychwanegol i'r grant tai cymdeithasol i helpu gyda'r materion chwyddiant prisiau cyflenwi, sy'n effeithio, fel y gŵyr pob Aelod o'r Senedd, rwy'n siŵr, ar yr holl waith adeiladu, ar draws y Siambr. 

Roedd y darn olaf yn ymwneud â'r hyn yr ydym ni’n ei wneud i sicrhau bod y farchnad llety rhent yn gwella mewn ardaloedd o dwristiaeth uchel ac ail gartrefi. Un o'r pethau yr ydym eisiau ei weld yn y cynllun treialu yw a fydd cofrestru eiddo a osodir ar gyfer gwyliau ar yr un sail neu'n debyg i drefniadau Rhentu Doeth Cymru yn cael effaith ar p'un a yw pobl yn dewis aros yn y sector rhentu hirdymor neu a ydynt yn dal i fod eisiau symud i eiddo a osodir ar gyfer gwyliau. Felly, un o bwyntiau'r cynllun treialu yw treialu a allwn gael dylanwad ar p'un a yw pobl yn gwneud y penderfyniad hwnnw ai peidio, er mwyn cynyddu'r cyflenwad o lety rhent hirdymor mewn niferoedd mawr yn rhannau arbennig o brydferth Cymru.

Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan y Gweinidog. Pe bai gennym ormod o dai, yna ni fyddai perchnogaeth ail gartrefi yn broblem, ond yn anffodus, mae gennym brinder llety ledled Cymru ac mewn rhai rhannau o Gymru, prinder enfawr. Rwyf yn ei chael hi'n foesol anghywir bod gan rai pobl ddau neu fwy o dai ac eraill naill ai'n ddigartref, yn byw mewn tai o ansawdd gwael iawn neu'n byw mewn llety sy'n gwbl annigonol ar gyfer y niferoedd sy'n byw ynddo.

A yw'r Gweinidog yn cytuno bod yn rhaid i'r gwaith o adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr fod yn rhan o unrhyw ateb tai? Gwyddom mai'r unig adeg y cawsom gydbwysedd rhwng adeiladu tai a'r galw oedd yn ystod yr amser yr adeiladwyd tai cyngor ar raddfa fawr yn y 1950au a'r 1960au.

Mae eiddo a osodir ar gyfer gwyliau tymor byr yn broblem gynyddol, hyd yn oed yn Nwyrain Abertawe. Gofynnaf eto i eiddo ar gyfer rhent tymor byr gael ei reoli drwy'r system gynllunio; mae'n digwydd ac mae'n achosi problemau enfawr i'r cymdogion. Rwy'n cytuno bod profi rhywbeth mewn un ardal yn syniad gwych, a gobeithiaf y bydd Gweinidogion eraill yn dysgu o hynny fel y gallwn brofi pethau cyn i ni eu gweithredu ledled Cymru gyfan.

Yn olaf, a gaf i ofyn eto i dai gael eu heithrio o ryddhad ardrethi busnesau bach? Dyna un o'r pethau sy'n ystumio'r farchnad, ac yn caniatáu i bobl wneud llawer o arian drwy beidio â thalu unrhyw dreth gyngor a pheidio â thalu unrhyw ardrethi busnes bach. Credaf fod angen i ni sicrhau bod tai ar gyfer pobl, nid er elw.

16:25

Diolch, Mike. Cytunaf yn llwyr â chi ynghylch yr adeiladu tai cymdeithasol ar raddfa fawr. Dyna pam mae gennym yr 20,000 o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu yn nhymor y Senedd hon. Dim ond yn ddiweddar, wrth gwrs, y mae cynghorau wedi cael eu tynnu oddi ar gap y Ceidwadwyr ar y cyfrifon refeniw tai, ac maen nhw wedi gwneud pethau rhyfeddol ers hynny wrth gynyddu'r rhaglen adeiladu tai, gan orfod ailgyfansoddi llawer o'u sylfaen sgiliau a thalent yr oedden nhw wedi'u colli yn y 40 mlynedd ers i Thatcher gymryd yr hawl oddi wrthyn nhw. Rwy'n falch iawn o'r llwyddiant y maen nhw wedi'i gael wrth wneud hynny, ac rydym yn sicr yn gweithio gyda'r 11 cyngor sy'n dal stoc i gynyddu hynny ledled Cymru ar y cyd â phartneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hefyd.

O ran y rhenti tymor byr, un o'r pethau yr ydym yn benderfynol iawn o'i wneud yw gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Mae'r Ddeddf rhentu cartrefi yn newid y berthynas rhwng landlordiaid a thenantiaid a bydd yn helpu'n fawr yn yr adran rhentu tymor byr. Bydd yn rhoi sicrwydd i landlordiaid o incwm ac offer gwell i sicrhau bod eu tenantiaid da yn aros yn eu lle. A bydd yn rhoi gwell dulliau i denantiaid eu defnyddio yn erbyn y landlordiaid twyllodrus nad oes gennym lawer iawn ohonyn nhw yng Nghymru, ond pan fyddwn yn dod ar eu traws, mae angen inni ymdrin â'r sefyllfa. Rwy'n falch iawn y byddwn yn gallu gwneud hynny, ac rydym ar y trywydd iawn i weithredu hynny wrth i ni fwrw ymlaen.

Wrth gwrs, mae'r pwynt eithrio ardrethi busnes yn rhan o'r ymgynghoriad sydd bellach wedi'i gwblhau. Rydym yn dadansoddi'r 1,000 o ymatebion a gawsom o hwnnw, a byddwn yn gallu dod yn ôl i'r Senedd gyda chanlyniad hwnnw cyn gynted ag y byddwn wedi gallu dadansoddi'r ymatebion hynny.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Fel aelod o'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, un o'r pethau sydd wedi fy nharo fwyaf yw'r diffyg tystiolaeth ddibynadwy a mesuradwy ynghylch yr hyn sy'n digwydd mewn cymunedau y mae'n ymddangos bod perchnogaeth ail gartrefi yn effeithio arnyn nhw, er gwaethaf y ffaith bod y Llywodraeth hon yn bwriadu newid polisi cynllunio yn y wlad hon i ymdrin ag ef. Rwy'n cydnabod, mewn rhai mannau, fod problem ddifrifol gyda thai, ond heb ymchwiliad priodol, dim ond damcaniaethu bydd ynghylch achosion y broblem dai. Ychydig iawn o gyfeiriadau sydd gan eich dogfen ymchwil eich hun, 'Gwaith ymchwil ar ail gartrefi: crynodeb o'r adolygiad o'r dystiolaeth', a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf eleni, y mae'n siŵr sydd wedi helpu i lywio eich datganiad, at unrhyw dystiolaeth a gasglwyd yng Nghymru o gwbl, gyda'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd yn dod o safbwynt Ewropeaidd ehangach, hyd yn oed cyn belled â Thwrci. At hynny, mae'r adroddiad yn nodi 

'nid yw’r llenyddiaeth yn ein galluogi i ddarlunio nac i feintioli effaith ail gartrefi yng Nghymru yn fanwl gywir er mwyn deall ehangder yr effeithiau yn llawn. Felly mae gwerthuso a mynd i’r afael ag effaith ail gartrefi ar farchnadoedd tai a chymunedau yn parhau i fod yn fater o ddefnyddio crebwyll.'

A wnaiff y Gweinidog felly egluro a oes gan y Llywodraeth hon gynlluniau i gasglu unrhyw ddata perthnasol am effaith wirioneddol ail gartrefi yng Nghymru er mwyn llywio eu polisi yn hytrach na chasglu tystiolaeth sy'n asesu effaith y cynigion ail gartrefi yr ydych newydd eu cyhoeddi? Diolch.

Yr ateb byr iawn i hynny yw 'oes'. Rydym yn casglu ystod o dystiolaeth yn barod, ac wrth gwrs byddwn yn gwerthuso'r cynllun treialu. Deallaf yr adroddiad tystiolaeth y mae'n ei ddyfynnu, ond credaf fod tystiolaeth ein llygaid ein hunain yno i bawb ei gweld. Mae'r ffyniant prisiau tai yr ydym yn ei brofi ar hyn o bryd ledled y DU a'r farchnad danbaid iawn yng Nghymru yn prisio pobl allan o'r farchnad wrth i ni siarad. Does ond rhaid i chi edrych ar y papurau newydd lleol i weld y cynnydd ym mhrisiau tai a pha mor gyflym y mae'r tai'n cael eu gwerthu, weithiau i bobl nad ydyn nhw hyd yn oed wedi'u gweld. Nid cael eu gwerthu i bobl sydd eisiau byw yn y tai hynny a gawn yma, ond gwerthu fel buddsoddiad. Un o'r problemau gyda marchnad dai'r DU yw nad cartref yn unig ydyw, mae'n fuddsoddiad, ac mae hynny'n drysu'r ffigurau yr ydym yn edrych arnyn nhw mewn gwirionedd. Felly, mae'r ffigurau eiddo gwag y soniodd Janet Finch-Saunders amdanyn nhw, er enghraifft, yn cynnwys tai ar werth. Felly, mae'n anodd iawn gwneud hynny, ond yr ydym yn benderfynol iawn o wella'r data, ac wrth gwrs rwyf newydd ateb mewn ymateb i Mabon y byddwn yn gwerthuso'r cynllun treialu yn ofalus iawn, gyda chontract wedi'i roi ar waith i wneud hynny.

Diolch yn fawr, Llywydd, a byddaf, byddaf yn siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai heddiw. Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Bydd ein pwyllgor yn edrych ar dai yn gyffredinol yn ystod tymor y Senedd—argaeledd tai fforddiadwy o ansawdd da sy'n ateb yr heriau newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, mae ein ffrwd waith gyntaf ar ail gartrefi—yn is-set, mewn gwirionedd, o'r darlun cyffredinol hwnnw—ac fe wnaethom lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddar fel rhan o'r ymchwiliad hwn, a fydd ar agor tan ganol mis Ionawr. Gobeithiwn dderbyn ystod eang o ymatebion er mwyn casglu tystiolaeth, a gobeithiwn y daw hynny o sbectrwm o safbwyntiau gwahanol fel ein bod yn clywed pob safbwynt ar y materion pwysig iawn hyn.

Credaf fod datganiad y Gweinidog heddiw yn amserol iawn wrth i ni ddechrau ein hymchwiliad. Un o brif elfennau ein gwaith fydd archwilio argymhellion Dr Simon Brooks yn ei adroddiad, a byddwn hefyd yn edrych, wrth gwrs, ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion hynny. Rhan o'r ymateb llywodraethol hwnnw oedd bwrw ymlaen â'r cynlluniau treialu ac, yn amlwg, eu gwerthuso maes o law. Tybed, Gweinidog, a wnewch chi ddweud ychydig mwy am yr ymarfer hwnnw a beth oedd y meini prawf a ddefnyddiwyd i benderfynu ar ardal y cynllun treialu. Yn amlwg, mae maint y problemau yn y rhan benodol honno o Gymru yn bwysig iawn, ond tybed a allech ychwanegu at hynny gydag unrhyw feini prawf eraill a ddefnyddiwyd. A hefyd, a allech ddweud unrhyw beth am faint o ddiddordeb cymunedol sydd mewn dod yn ardaloedd cynllun treialu. Byddai'n dda gwybod beth oedd maint y diddordeb hwnnw. 

Mae'n amserol iawn, wrth gwrs, y mater hwn, ac mae wedi cael cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau yn ystod y misoedd diwethaf ac, yn wir, dros gyfnod eithaf hir. A chredaf nawr yn enwedig yng ngoleuni'r pandemig a'i effaith bosibl o ran cynyddu gallu pobl i weithio gartref, a gwerthfawrogiad o'r amgylchedd ac awydd i fyw mewn ardaloedd arfordirol a gwledig deniadol, tybed a yw'r Gweinidog yn cytuno bod hynny'n ddimensiwn ychwanegol ar hyn o bryd y mae angen ei ystyried yn y materion hyn.

Nid ydym wedi cael digon o dystiolaeth eto i ddod i unrhyw gasgliadau, ond gwyddom fod hwn yn fater cymhleth iawn. Fel y dywedodd Joel, rydym wedi clywed bod angen mwy o ymchwil a data er mwyn deall maint y broblem yn llawn, a byddwn yn parhau i archwilio hynny drwy ein gwaith. Rydym hefyd yn awyddus i ddeall yn well lle mae'r cydbwysedd rhwng manteision economaidd ail gartrefi ac ar ba bwynt y byddwch yn cyrraedd yr hyn sy’n cael ei ddisgrifio’n aml fel pwynt tyngedfennol, lle mae niwed cymdeithasol yn drech na manteision economaidd posibl.   

Felly, byddwn yn parhau â'n hymchwiliad i'r flwyddyn newydd pan fyddwn yn gwahodd rhanddeiliaid gydag amrywiaeth o safbwyntiau i gyflwyno eu tystiolaeth, a byddwn hefyd yn eich gwahodd chi, Gweinidog, i roi tystiolaeth ffurfiol i'r ymchwiliad cyn i ni ystyried ein casgliadau a chyhoeddi adroddiad. Diolch yn fawr.  

16:30

Diolch yn fawr iawn, John Griffiths. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r pwyllgor ar hyn, felly byddaf wrth fy modd yn dod i roi tystiolaeth i'r pwyllgor ar eu hymchwiliad. Mae hwn yn fater mawr ledled Cymru, mewn gwirionedd. Fodd bynnag, mae gan rai ardaloedd fan poblogaidd iawn ar ei gyfer. Dewiswyd y cynllun treialu am ein bod wedi bod yn sgwrsio gyda Chyngor Gwynedd ers cryn amser cyn taro ar gynllun treialu, am y problemau yng Ngwynedd. Mae gan Wynedd un o'r lefelau uchaf o ail gartrefi, hynny yw pobl nad ydyn nhw yn eu defnyddio ar gyfer eu prif breswylfa, yng Nghymru, ac mae'n bryder y mae'r cyngor wedi mynegi i mi yn fy swyddogaeth flaenorol fel y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar sawl achlysur. Felly, roeddem yn gallu gweithio'n dda gyda Chyngor Gwynedd, a oedd yn gallu gweithio gyda'u cymuned i sicrhau bod y gymuned yn dymuno cael y cynllun treialu. Felly, dyna sut y daeth y cynllun treialu i fodolaeth. Roeddem hefyd yn awyddus iawn i'w dreialu mewn ardal gyda lefel uchel o ail dai ac eiddo a osodir ar gyfer gwyliau, ac mewn ardal Gymraeg ei hiaith, am resymau amlwg, oherwydd mae rhai o'r pryderon yn ymwneud â'r hyn sy'n digwydd i'r Gymraeg os oes gennych chi nifer fawr o bobl nad ydyn nhw yn byw drwy'r amser yn y gymuned.   

Hoffwn wneud y pwynt, serch hynny, eich bod wedi taro'n llwyr ar y ffaith, yn ystod y pandemig, daeth pobl yn ymwybodol y gallen nhw weithio o unrhyw le cyn belled â bod ganddyn nhw gysylltiad band eang digon da, ac maen nhw’n symud allan o'r dinasoedd. Fy safbwynt personol i yw bod Cymru'n genedl groesawgar. Os ydych chi eisiau dod i wneud eich cartref yng Nghymru ac integreiddio â'r gymuned leol a rhoi eich plant yn yr ysgol leol, mae croeso mawr i chi. Mae hynny'n beth hollol wahanol i ddweud mai'r hyn yr ydych chi eisiau ei wneud yw cael tŷ hyfryd ar lwybr arfordirol yn rhywle, sy'n edrych dros fôr hardd, y byddwch chi’n dod iddo dri phenwythnos y flwyddyn. Mae hynny'n beth arall yn gyfan gwbl. Mae ehangu ein cymunedau oherwydd bod pobl eisiau dod i fyw a gweithio a bod ynddyn nhw yn un peth. Mae eu gwagio, neu eu cafnu nhw, oherwydd bod gennym nifer fawr o dai sy'n wag i raddau helaeth, yn beth arall. 

Gwyddom ein bod eisiau cymunedau cynaliadwy. Mae cymunedau cynaliadwy yn gymunedau sy'n gallu cynnal pethau fel siopau a thafarndai a chyfleusterau cymunedol. Os nad oes digon o bobl yn y gymuned i wneud hynny, yna mae gan y gymuned gyfan y pwynt tyngedfennol hwnnw y gwnaethoch chi sôn amdano. Felly, mae'r cynllun treialu yno i weld a fydd yr ymyriadau yr ydym yn eu hawgrymu yn gwneud gwahaniaeth i hynny, p'un a yw pobl Dwyfor yn hapus â'r ymyriadau neu a oes ganddyn nhw bethau eraill i'w hawgrymu, a bydd y data sy'n dod yn ôl ohono yn amhrisiadwy. Mae'n gontract dysgu gweithredol yr ydym yn ei osod ar gyfer y data o'r cynllun treialu. Felly, byddaf yn falch iawn o allu rhannu hynny gydag Aelodau'r Senedd a gyda'r pwyllgor, John, wrth i'r data ddechrau dod i mewn, fel bod gennym set ddeinamig o ddata y gallwn ei rannu.

16:35

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Hoffwn hefyd groesawu'r sylwadau a wnaethoch nawr i Gadeirydd y pwyllgor a diolch i chi am eich cyfathrebu parhaus, fel aelod o'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, hefyd. Yn unol â'ch datganiad, Gweinidog, cytunaf â chi fod angen i ni ddeall y materion yn llawn, yn unol â sylwadau Joel James hefyd, gan gasglu'r dystiolaeth fel y gallwn gael darlun llawn o rai o'r heriau, ond hefyd, fel y gwnaethoch chi ei ddweud eiliad yn ôl yn un o'ch ymatebion, gan gofio'r her acíwt, efallai, y gall hyn fod mewn rhai cymunedau, sy'n wahanol iawn o un gymuned i'r llall, hyd yn oed ychydig filltiroedd ar wahân i'w gilydd. Rydych chi'n cydnabod yn eich datganiad, ac rwy'n dyfynnu, yr

'angen i osgoi canlyniadau anfwriadol'

yn sgil unrhyw fesurau y gellir eu rhoi ar waith ar y mater hwn. Fel y gwyddoch, pryder enfawr sydd gennyf gyda'r drafodaeth ail gartrefi ar adegau yw naws y ddadl a'r effaith niweidiol bosibl y gallai ei chael ar ein sector twristiaeth yng Nghymru. Fel y gwyddoch, mae'n sector hanfodol bwysig yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru, lle mae'n cefnogi degau o filoedd o swyddi ac yn cyfrannu tua £3.5 biliwn y flwyddyn i'r economi. Felly, Gweinidog, pa waith y byddwch chi'n ei wneud, gyda Gweinidog yr Economi, i sicrhau bod Cymru'n parhau i gael ei gweld fel gwlad agored a chroesawgar? Ie, i'r 11 miliwn o ymwelwyr domestig dros nos hynny, i'r 87 miliwn o ymwelwyr dydd, ac i'r 1 miliwn o ymwelwyr rhyngwladol yr ydym yn eu croesawu o flwyddyn i flwyddyn, sy'n dod i Gymru, yn gwario eu harian, yn cefnogi ein swyddi i bobl leol, ac yn gweld yr atyniadau eithriadol sydd gan ein gwlad i'w cynnig. Diolch yn fawr iawn.

Ie, yn union, Sam Rowlands. Cytunaf yn llwyr â hynny. Mae Cymru yn wir yn wlad groesawgar, ac yn un sy'n falch iawn o'i chynnig twristiaeth a'r croeso cynnes. Felly, yn union. Nid yw hyn yn ymwneud â pheidio croesawu pobl sy'n dod ar eu gwyliau i wario eu harian gyda ni a threulio eu hamser gyda ni a rhannu eu bywyd a'u profiadau gyda ni—wrth gwrs nad yw —ond mae'r twristiaid hynny eisiau dod i gymunedau bywiog. Dydyn nhw ddim eisiau dod i drefi gwag lle nad oes siopau a dim tafarn, dim byd, oherwydd na allant gynnal eu hunain drwy fisoedd y gaeaf pan nad oes neb yno. Mae pobl eisiau mynd i gymuned fywiog. Pan fyddaf yn mynd fel ymwelydd i wahanol rannau o Gymru, rwyf eisiau gweld cymuned fywiog yno. Dydw i ddim eisiau gweld cragen wag heb ddim ond eiddo a osodir ar gyfer gwyliau. Felly, mae hyn i gyd yn ymwneud â'r lefel gywir a'r cynaliadwyedd. A dweud y gwir, credaf ei bod yn hanfodol i'r cynnig i dwristiaid. Nid ydych chi eisiau mynd i'r hyn sydd i bob pwrpas yn barc gwyliau; rydych chi eisiau mynd i dref neu bentref bywiog neu le bynnag yr ydych chi'n mynd, ac rydych chi eisiau gweld y ffordd mae'r bobl leol yn byw eu bywydau, oherwydd mae hynny'n rhan o brofiad y cynnig i dwristiaid.

Felly, mae hyn i gyd yn ymwneud â'r cydbwysedd. Mae'n ymwneud â sicrhau bod pobl yn gallu tyfu i fyny, byw, a disgwyl parhau i fyw yn y gymuned y maen nhw wedi tyfu i fyny ynddi a theimlo'n rhan ohoni, ac yna croesawu'r ymwelwyr yn eu niferoedd, oherwydd wrth gwrs bydd hynny'n rhan fawr o'u cynnig economaidd. Felly, mae'n ymwneud â'r cydbwysedd, ac fel y dywedais, rwyf hefyd yn gwahaniaethu rhwng pobl sy'n symud i Gymru ac yn gwneud eu cartref yma, sydd i'w groesawu'n fawr, a phobl sy'n ei ddefnyddio'n achlysurol iawn am un neu ddau benwythnos, sydd mewn gwirionedd yn cael effaith wael iawn ar yr economi, oherwydd byddai'r tŷ hwnnw fel arall yn cefnogi teulu neu gynnig i dwristiaid a fyddai'n cael ei ddefnyddio drwy'r amser ac a fyddai felly'n dod â budd economaidd i'r ardal.

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, a chroesawaf y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r diffyg tai fforddiadwy ledled y DU yn broblem y mae cenedlaethau iau yn ei theimlo'n ddifrifol. Nid yw llawer yn gallu cael morgais ac maen nhw'n teimlo eu bod wedi'u dal o fewn y sector rhentu preifat, gan dalu morgais y landlord yn hytrach na chael talu eu morgeisi ei hunain. Yn aml, gall tenantiaid fod yn talu llawer mwy mewn taliadau rhent nag y bydden nhw mewn ad-daliadau morgais ac eto dywedir wrthyn nhw na allan nhw fforddio morgais.

Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i annog banciau a chymdeithasau adeiladu, yn enwedig banciau cymunedol fel Banc Cambria, i ystyried taliadau rhent hanesyddol tenantiaid wrth gynnig morgeisi? Ac a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheolaethau rhent i helpu'r rhai sy'n cael trafferth yn y sector rhentu preifat presennol? Diolch.

16:40

Ie. Diolch, Carolyn, maen nhw yn ddau bwynt da iawn. Rydym ni wedi bod yn siarad â rhai benthycwyr ynghylch pa un a allem ni ddyfeisio cynllun a fyddai'n caniatáu i gofnod rhent hir o fwy na'r morgais efallai gael ei ystyried ar y gallu i dalu ai peidio. Yn aml, fodd bynnag, mae blaendal hefyd yn broblem i bobl sy'n rhentu, oherwydd gall cael eu blaendal at ei gilydd fod yn broblem wirioneddol. Felly, un o'r pethau yr ydym yn mynd i'w dreialu yn ardal Dwyfor yw newid bach i rywbeth o'r enw Prynu Cartref. Mae gennym ni gynllun o'r enw Prynu Cartref yr wyf i'n credu eich bod chi'n gyfarwydd ag ef, lle rydym yn cynorthwyo pobl i brynu tŷ drwy gymryd cyfran ecwiti cyhoeddus ynddo, i bob pwrpas, ac yna, pan fyddwch yn gwerthu'r tŷ, byddwch yn talu'r gyfran ecwiti yn ôl ac yn gwerthu'r tŷ i bwy bynnag yr ydych yn dymuno ac i ffwrdd â chi â'ch bywyd. Yn yr ardal dreialu, rydym yn mynd i newid hynny fel bod y gyfran ecwiti yn aros yn y sector cyhoeddus ar gyfer y tŷ hwnnw. Felly, pan fyddwch chi'n gwerthu, byddwch chi'n gwerthu eich rhan chi ohono ac yna gall rhywun arall ddod i mewn a manteisio ar y tŷ hwnnw, i weld a yw hynny'n cadw'r tai hynny mewn cylchrediad i bobl leol mewn ffordd well, ac mae hynny'n rhan o'r dull treialu i weld a yw'n gweithio ai peidio. Os ydyw'n gweithio, yna gallwn ni ystyried ei ymestyn i fannau eraill ac os nad yw'n gweithio, gallwn ni edrych i weld beth arall y gallwn ni ei wneud. Rydym ni hefyd yn edrych i weld beth allwn ni ei wneud gyda benthycwyr, gan gynnwys y banc cymunedol a benthycwyr eraill sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn, i weld beth allwn ni ei wneud i gynorthwyo pobl i gael morgeisi â chymorth gan ddefnyddio cofnodion rhent fel prawf fforddiadwyedd.

O ran rheolaethau rhent, rydym ni, yn rhan o'r cytundeb cydweithredu, wedi cytuno i edrych ar Bapur Gwyn ar sut y byddai hynny'n gweithio; byddwn ni eisiau cynnal ymgynghoriad ar hynny a sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Yn benodol, byddwn i'n pryderu na fyddai landlordiaid y sector preifat wedyn yn codi eu tai i'r safon yr ydym yn disgwyl iddyn nhw fod, gan na fyddan nhw'n cael yr incwm o hynny. Felly, mae angen i ni fod yn ofalus ein bod ni'n gwneud y peth iawn i'n tenantiaid a'n bod ni'n gwneud y peth iawn i'n stoc tai, a'n landlordiaid, wrth gwrs. Rwy'n awyddus iawn i gynnig cynllun i landlordiaid sy'n caniatáu i'r Llywodraeth sicrhau bod eu cartrefi'n cyrraedd y safon, wrth ganiatáu hefyd i ni roi cytundebau rhentu tymor hwy o lawer i denantiaid yn y tai hynny, ac yna rhoi'r tŷ yn ôl i'r landlord ar ôl cyfnod hir. Drwy hynny, rydym yn cadw'r tai yn y sector rhentu ac rydym yn eu codi i'r safon. Rwy'n ofni nad oes gan lawer o landlordiaid sector preifat da y modd i sicrhau bod eu tai yn cyrraedd y safon. Felly, un o'r pethau y byddwn yn edrych arno yw rhyngweithio'r holl bethau amrywiol hyn i weld ein bod yn taro'r man iawn lle cawn ni'r lefel gywir o fuddsoddiad a chawn ni'r sicrwydd deiliadaeth iawn i'r tenantiaid.

Efallai y dylwn i ddechrau, o ystyried sylwadau'r Gweinidog, drwy ddatgan, yn fy swydd flaenorol yn gweithio i gymdeithas adeiladu, y bues i'n gweithio gyda Tai Cymru i gyflwyno nifer o gynlluniau perchentyaeth cost isel yng Nghymru.

Ond ddydd Gwener diwethaf, ymwelais â Phenmachno yng Nghonwy gyda'r rhaglen dyfodol gwledig wedi ei hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Pan oeddwn i yno, dangosodd trigolion lleol i mi nifer yr eiddo yng nghanol y dref a oedd bellach yn eiddo Airbnb—roedden nhw'n edrych mewn cyflwr da iawn, ond roedd bron pob un ohonyn nhw yn wag—a oedd yn arfer bod wedi eu meddiannu gan bobl leol. Fe wnaethon nhw gyflwyno cyflwyniad manwl i mi gyda thystiolaeth, gan ofyn i mi a fyddwn i'n rhoi hyn i chi yn bersonol. A gaf i drefnu i roi hyn i chi neu un o'ch swyddogion?

Gallwch, byddwn i wrth fy modd yn gwneud hynny. Rydym ni'n chwilio am y mathau hynny o gynlluniau menter i weld beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod tai yn cyrraedd y safon ac yn ôl i ddefnydd buddiol, felly byddwn i wrth fy modd yn gwneud hynny, Mark.

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar y cynllun tai mewn cymunedau Cymraeg. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd. Mae sicrhau bod pobl leol yn gallu fforddio byw yn y cymunedau lle'u magwyd, a chynnal hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol ffyniannus, yn nodau strategol allweddol i Lywodraeth Cymru.

Mae'r Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James, newydd amlinellu nifer o ymyraethau allweddol rydyn ni'n bwriadu eu gwneud ynglŷn ag ail gartrefi a fforddiadwyedd. Pwysleisiodd unwaith eto ein penderfyniad i gefnogi'n cymunedau er mwyn iddynt ffynnu. Nawr, rydw i am amlinellu elfen ategol ac allweddol o'r gwaith hwn, sef datblygu cynllun tai cymunedau Cymraeg, sydd hefyd yn un o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu.

Mae niferoedd uchel o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr wedi ysgogi teimladau cryf mewn rhai cymunedau yng Nghymru ers cryn dipyn o flynyddoedd. Yn y cymunedau hyn, yn aml, ceir ymdeimlad o anghyfiawnder bod pobl yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai leol gan y rheini sy'n prynu ail gartrefi neu gartrefi i'w gosod fel llety gwyliau tymor byr. Rŷn ni'n benderfynol o fynd i'r afael â'r mater hwn.

Rŷn ni'n ymwybodol o'r heriau, ac rydyn ni eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â nhw. Ar 6 Gorffennaf, gosododd y Gweinidog Newid Hinsawdd uchelgais o fynd i'r afael â materion yn ymwneud â pherchnogaeth ail gartrefi, ac mae ei chyhoeddiad heddiw yn nodi sut yr eir i'r afael â materion treth, cynllunio a fforddiadwyedd.

Ochr yn ochr gyda hyn, yn y cymunedau hynny lle mae'r Gymraeg yn iaith naturiol i'r gymuned, bydd ein cynllun tai cymunedau Cymraeg yn chwarae rhan hanfodol yn ein hymateb. Byddwn yn datblygu pecyn o ymyraethau a fydd yn gweithio gyda'n dull gweithredu ar y cyd er mwyn cefnogi a diogelu cymunedau Cymraeg.

Mae 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr' yn cydnabod pwysigrwydd y cymunedau hyn fel mannau sy'n hwyluso defnyddio'r iaith ymhob agwedd ar fywyd. Felly, mae angen inni lunio cynlluniau economaidd, cymunedol ac ieithyddol yn ofalus er mwyn galluogi cymunedau Cymraeg i fod yn hyfyw yn economaidd ac yn ieithyddol. Rhaid sicrhau bod modd i bobl, yn enwedig ein pobl ifanc, allu fforddio byw a gweithio yn y cymunedau Cymraeg hyn, a gwneud cyfraniad gwerthfawr atynt.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ystyried sut y gallai'r pecyn cyfan o ymyraethau, gan gynnwys y rheini y byddwn yn eu treialu yn Nwyfor, gael eu hategu ar lefel gymunedol er mwyn cefnogi a diogelu'r Gymraeg, tra hefyd yn osgoi unrhyw ganlyniadau annisgwyl. Mae'n ceisio barn ar ba fentrau ychwanegol sydd eu hangen i sicrhau y gall pobl, yn enwedig pobl ifanc, fforddio byw a gweithio yn ein cymunedau Cymraeg. Mae cyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd ein hymyraethau arfaethedig. Mae'n bosib y bydd rhai o'r ymyraethau a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn yn elwa ar gael eu cynnwys ym mheilot Dwyfor.

Mae'r ddogfen ymgynghori yn cynnig nifer o fesurau y gwahoddir barn amdanynt. Dyma'r mesurau. Yn gyntaf, rŷn ni'n cynnig darparu cefnogaeth i fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol cymunedol. Yn ail, rŷn ni'n cynnig sefydlu prosiect peilot ar gyfer busnesau cymdeithasol yn y sector twristiaeth a fydd yn eiddo i'r gymuned. Yn drydydd, rŷn ni'n cynnig sefydlu grŵp llywio gwerthwyr tai, er mwyn ystyried prosiectau ac ymchwil posib ynghylch marchnadoedd tai lleol.

Yn bedwerydd, rŷn ni'n cynnig ymchwilio i gynllun cyfle teg gwirfoddol, a fydd yn golygu bod tai sydd ar y farchnad ar gael i bobl leol yn unig am amser cyfyngedig. Yn bumed, rŷn ni'n cynnig sefydlu rhwydwaith o lysgenhadon diwylliannol i ymgysylltu ar lefel gymunedol, i annog cynhwysiant cymdeithasol a gwella dealltwriaeth pawb o'n diwylliant, y Gymraeg a'n treftadaeth.

Yn chweched, rŷn ni'n cynnig sefydlu comisiwn ar gymunedau Cymraeg i gael gwell dealltwriaeth o'r heriau y mae cymunedau Cymraeg yn eu hwynebu yng nghyd-destun y newidiadau ieithyddol, economaidd a chymdeithasol sydd wedi deillio o COVID-19 a Brexit. Bydd y comisiwn hefyd yn gweithio i ddatblygu model a fydd yn helpu i adnabod ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol neilltuol, lle gellir cyflwyno ymyriadau polisi wedi'u teilwra.

Yn seithfed, rydyn ni'n cynnig gweithio gydag arweinwyr awdurdodau lleol i gryfhau'r cysylltiad rhwng yr economi, tai a'r Gymraeg drwy ehangu gwaith bwrdd crwn yr economi a'r iaith i gynnwys tai a rôl i oruchwylio datblygiad y cynllun Tai cymunedau Cymraeg. Ac yn olaf, rŷn ni'n cynnig archwilio ffyrdd newydd o godi ymwybyddiaeth o enwau lleoedd Cymraeg a'u hyrwyddo.

Mae yma gyfleoedd i gymunedau arwain ar rai o'r ymyraethau hyn, ac rŷn ni am sicrhau bod ganddynt yr arfau angenrheidiol i ymbweru, annog a hwyluso cyfranogiad cymunedol. Mae mentrau cymdeithasol a chwmnïau chydweithredol eisoes yn rhan bwysig o dirwedd sosioeconomaidd Cymru. Rydyn ni am archwilio ffyrdd o annog cymunedau i arwain gyda datblygiadau tai ar raddfa fechan, yn ogystal â sefydlu busnesau cymdeithasol, i sicrhau bod cymunedau sydd mewn peryg o golli gwasanaethau pwysig yn gallu diogelu a rheoli eu dyfodol eu hunain.

Does yna ddim atebion hawdd. Rwy’n hyderus y bydd yr ymyraethau a gynigir heddiw yn helpu i sicrhau bod pobl mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith yn gallu fforddio byw yn y cymunedau lle’u magwyd.

Mae hwn yn faes cymhleth, a bydd gan bobl amrywiaeth eang o safbwyntiau ar sut y dylai Llywodraeth Cymru ymateb. Rŷn ni felly yn annog pawb yn y cymunedau yr effeithir arnynt, ledled Cymru, i ymateb i'r ymgynghoriad hwn, p'un a ydynt yn byw, yn rhedeg busnesau, yn berchen ar eiddo, neu'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y cymunedau hyn, i’n cynorthwyo i ffurfio ein cynllun tai cymunedau Cymraeg.

Fel y dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn awr, mae hwn yn faes a gwmpesir gan y cytundeb cydweithio a gyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe, ac felly dwi’n edrych ymlaen at gael trafodaethau pellach gyda'r Aelod dynodedig o Blaid Cymru wrth inni gydweithio i ymateb i'r maes pwysig hwn.

Byddwn ni’n parhau i ddatblygu ac ystyried pob opsiwn posib er mwyn sicrhau bod ein cymunedau Cymraeg yn ffynnu.

16:50

Diolch, Llywydd, a gwnaf i ddiolch i'r Gweinidog am y cyfle i weld y datganiad o flaen amser, a hoffwn hefyd ddatgan fod gen i ddiddordeb bersonol yn y mater hwn.

Roedd y datganiad heddiw wedi ei drefnu'n flaenorol ar gyfer yr wythnos diwethaf, ond cafodd ei ohirio. Mae'n amlwg bellach o'r datganiad heddiw ein bod ni mewn gwirionedd yn aros am fanylion terfynol y glymblaid Llafur/Plaid Cymru cyn i chi wneud unrhyw gyhoeddiad ffurfiol mewn cysylltiad â'ch polisi cynllun tai mewn cymunedau Cymraeg.

Mae problem unigryw mewn rhai ardaloedd yng Nghymru lle nad yw pobl leol yn gallu prynu cartrefi yn yr ardaloedd lle cawson nhw eu magu. Mae pob ochr i'r Siambr yn deall hyn, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog newid hinsawdd yn gynharach. Gyda hyn daw pryderon am yr effaith ar yr iaith a'r diwylliant Cymraeg.

Yn gyntaf, rwy'n croesawu'r ymgynghoriad, gan ei fod yn rhoi cyfle i bawb gyflwyno eu barn. Mae gan bawb yn y cymunedau hyn hawl i farn a hawl i'w mynegi, ac rwy'n gobeithio y bydd yr ymgynghoriad yn darparu ystod eang o atebion a senarios i sicrhau bod polisi yn y dyfodol o fudd.

Nid yw adeiladu tai ledled Cymru wedi cadw i fyny â'r galw, ac, er bod y Llywodraeth yn addo adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel, nid yw, o’r hyn a welaf, yn nodi ble yng Nghymru y bydd y cartrefi hyn yn cael eu hadeiladu. Mae angen adeiladu cartrefi lle mae eu hangen, nid lle mae hawsaf.

Hoffwn i dynnu sylw hefyd at y ffaith bod mwy o eiddo gwag yn bodoli ledled Cymru nag ail gartrefi, ac felly byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod beth y mae'r Gweinidog a'i gyd-Aelodau yn y Cabinet yn bwriadu ei wneud wrth fynd i'r afael â'r materion hyn. Beth fydd yn cael ei wneud i sicrhau bod yr eiddo hyn yn cael eu defnyddio eto, gan ganiatáu i fwy o bobl gael cartref? Gall eiddo sy'n wag yn barhaol bob awr o bob dydd ac nad ydyn nhw'n cael eu cynnal a'u cadw'n ddigonol gael effaith ar ardal leol, ond yn yr un modd gallan nhw helpu i gynorthwyo'r ateb i'r union drafodaeth hon yr ydym yn ei chael y prynhawn yma. Mae ofn arnaf i fod yr ateb hwn, efallai, wedi disgyn o dan y radar, ac felly mae'n un y mae angen mwy o ddadlau a phwyslais manylach arno.

Mae tystiolaeth hefyd mewn ardaloedd lle mae premiymau ail gartrefi wedi eu hychwanegu at y dreth gyngor bod perchnogion ail gartrefi yn troi eu heiddo drosodd ac yn eu cofrestru fel unedau hunanarlwyo, gan osgoi'r angen i dalu trethi uwch, ac weithiau mae hyn yn golygu nad ydyn nhw'n talu unrhyw ardrethi o gwbl. Mae'n rhaid i'r flaenoriaeth fod ar gryfhau'r meini prawf cymhwysedd i atal hyn rhag digwydd. Byddai busnesau hunanarlwyo gwirioneddol yn croesawu'r cam hwn i ddileu'r ymddygiad diegwyddor hwn gan rai perchnogion ail gartrefi. Ni ddylid ystyried twristiaeth yn elyn, ond yn hytrach yn ychwanegiad allweddol at ein heconomi. Mae ein diwylliant cyfoethog, tirweddau hardd a chroeso cynnes yn golygu bod pobl yn ymweld â Chymru, gan gefnogi swyddi a bywoliaethau.

Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae patrymau gwaith wedi newid, gyda llawer o bobl yn dychwelyd i’r ardaloedd lle cawsant eu magu, ac, wrth i ni drosglwyddo i ffwrdd o’r pandemig, mae’n annhebygol y bydd dychwelyd i’r ffyrdd traddodiadol o weithio wrth ddesg swyddfa. Mae yna enghreifftiau o weithwyr proffesiynol ifanc yn dychwelyd i’r ardaloedd y cawsant eu magu i barhau â'u swyddi dinas ffurfiol o gysur eu cartrefi eu hunain, ddim yn rhy annhebyg i’r Aelodau hynny o’r Siambr hon sy’n dewis mynychu Cyfarfod Llawn ar Zoom. Yn aml, gall y gweithwyr proffesiynol ifanc hyn ddychwelyd gyda’r iaith Gymraeg a gyda phlant sy’n mynychu’r ysgol leol. Mae angen i ni ganolbwyntio ar wella cyfleodd gwaith i bobl ifanc mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg eu hiaith. 

Mater arall yr wyf i wedi ei godi yn y Siambr hon yw prynu tir fferm o Gymru ar gyfer plannu coed gan sefydliadau a busnesau o'r tu allan i Gymru. Felly, byddwn i'n ei groesawu pe gellid ymestyn yr elfen mentrau cydweithredol a mentrau cymdeithasol a arweinir gan y gymuned i gynnwys tir amaethyddol. Mae gan amaethyddiaeth ganran uwch o siaradwyr Cymraeg na diwydiannau eraill, a bydd cefnogi'r diwydiant hwnnw, gan sicrhau bod gan y gymuned leol y cyfle i brynu a diogelu tir i gynhyrchu bwyd, yn naturiol yn helpu i ddiogelu'r iaith yn yr ardaloedd hyn, gan fod amaethyddiaeth yn cefnogi tua thair gwaith cymaint o swyddi â'r diwydiant coedwigaeth, er enghraifft.

Weinidog, wrth gloi, mae sicrhau bod gan Gymru wledig ddigon o gartrefi a swyddi o ansawdd i bobl leol, a bod cefnogaeth i'r iaith a diwylliant, yn her, ac mae angen mynd i'r afael â hi. Rwy'n gobeithio bod ymatebion i'r consultation yn darparu strategaeth hirdymor i sicrhau nad ydym yn siarad am y mater hwn mewn blynyddoedd i ddod. Diolch.

16:55

Gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiynau yn ei gyfraniad e? O ran y cwestiynau ar fforddiadwyedd ac o ran defnydd tai, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cael cyfle i wrando ar ei gwestiynau. Gwnaeth hi ymgymryd â rhai o'r atebion yn ei datganiad yn gynharach, ond mae'r cwestiynau wedi bod yn ddefnyddiol, diolch yn fawr iddo fe.

O ran ambell beth mwy penodol yng nghyd-destun fy natganiad i, o ran pwysigrwydd twristiaeth, rwy'n siŵr bydd e'n croesawu'r gwaith rŷn ni'n amlinellu yn y ddogfen ymgynghori ynglŷn â chefnogi busnesau llety gwyliau tymor byr i ailfuddsoddi er mwyn prynu stoc bellach, ar gael i bobl leol i rentu ar sail gymdeithasol, er mwyn cyfrannu at dirwedd twristiaeth a chyfle economaidd lleol sydd yn gydweithredol ac yn caniatáu defnydd pwrpasol cymdeithasol.

Rwy'n cytuno'n llwyr gydag e am yr hyn roedd e'n dweud am gyfleodd gwaith yn yr economi leol. Dyna un o'r amcanion sydd wrth wraidd cefnogi mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol, gan gynnwys yn y meysydd gwnaeth e sôn amdanynt yn ei gyfraniad. Ac mae amryw o enghreifftiau ledled Cymru—Cwmni Bro Ffestiniog, Partneriaeth Ogwen a Galeri yng Nghaernarfon, er enghraifft—sydd yn gwmnïau cydweithredol sydd yn caniatáu cyflogaeth leol ond hefyd defnydd y Gymraeg trwy bopeth maen nhw'n ei wneud, ac mae hwnna'n cyfrannu at yr economi leol.

O ran y pwynt diwethaf gwnaeth e godi yng nghyd-destun defnydd tir, rwy'n ymwybodol bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn edrych ar hynny ar hyn o bryd o safbwynt cynllunio.

Diolch yn fawr i chi, Weinidog, am y datganiad hwn. Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr iawn. Ac fel sydd wedi cael ei ddweud gan Mabon ap Gwynfor, rwy'n hynod o falch o weld bod cynifer o bolisïau cyffrous a chwbl hanfodol i ddyfodol ein cymunedau Cymraeg wedi cael eu cynnwys yn y cytundeb rhyngom ni fel dwy blaid.

Rwy'n croesawu'r nodau uchelgeisiol a amlinellir yn y datganiad hwn heddiw, a dwi'n edrych ymlaen at gydweithio gyda chi ar y materion pwysig hyn er mwyn creu Cymru well, lle gall yr iaith Gymraeg a'n diwylliant ffynnu, a lle mae cymunedau Cymraeg yn cael eu cefnogi a'u diogelu, a lle bydd bywydau pobl yn gyffredinol yn gwella'n sylweddol.

Rwy'n sicr yn croesawu uchelgais y gwahanol bolisïau sy'n cael eu hamlinellu, ac mae ymgyrchwyr iaith, a minnau yn eu plith, ochr yn ochr â Phlaid Cymru, wedi bod yn brwydro'n hir ac yn galed iawn ers degawdau, mewn gwirionedd, i geisio mynd i'r afael â'r broblem tai, ac ail gartrefi'n benodol, yn ein cymunedau Cymraeg, a'r egwyddor sydd wedi caei ei gydnabod gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, a chithau yn y datganiad yma—yr egwyddor pwysig y dylai pobl leol fforddio byw yn y cymunedau lle maen nhw wedi cael eu magu.

Rwy'n falch bod hwn yn ddatganiad clir gennych chi fel Llywodraeth, er rwy'n ofni bod y datganiad a'r gweithredu sydd yn dilyn hyn, gobeithio, ychydig bach yn rhy hwyr yn y dydd i rai cymunedau sydd wedi cael eu colli yn barod o ran y niferoedd uchel iawn o ail gartrefi a'r nifer o unigolion sydd wedi dioddef yn sgil hyn. Ond rŷn ni yma i gyflawni nodau strategaeth 'Cymraeg 2050', a beth sydd yn bwysig, wrth gwrs, yw gweld sut mae polisïau tai, polisïau cynllunio a'r iaith Gymraeg yn cydblethu gyda'i gilydd mewn strategaeth sydd yn un cadarnhaol a buddiol. Ac, wrth gwrs, rhan o'r ateb i'r broblem o geisio cadw pobl ifanc yn eu cymunedau yw tai, ie, ond hefyd cryfhau'r economi leol, fel bod pobl yn gallu dod o hyd i waith yn eu milltir sgwâr, cyfrannu mewn ffordd ystyrlon ac adeiladol i'w cymunedau lleol a chael bywoliaeth dda yn eu hardaloedd o'u dewis. Mae'r hen slogan a oedd gan Gymdeithas yr Iaith flynyddoedd yn ôl yn dod i'r meddwl: 'Tai a gwaith i gadw'r iaith.'

Felly, yn benodol o ran cwestiynau i chi. Rŷch chi wedi rhoi pwyslais mawr ar dai a chryfhau'r economi, felly, yn hynny o beth, allwch chi esbonio beth yn union sydd gyda chi mewn golwg o ran cryfhau'r economi a sicrhau tai i bobl leol? Beth yw'r cynlluniau penodol sydd gyda chi i fynd i'r afael â hynny? Ac o ran datblygiadau tai, mae hyn yn fater sensitif hefyd, achos mae angen i ddatblygiadau tai ddigwydd lle mae eu hangen nhw. Yn aml iawn, mae'r datblygiadau tai yma'n digwydd ar gyrion ein prif drefi, ac mae hynny'n golygu bod y datblygiadau tai yma'n bell o wasanaethau pwysig, yn bell o ysgolion, yn bell o gael gafael ar drafnidiaeth gyhoeddus a hyd yn oed swyddi, ac, yn aml iawn, dyw'r datblygiadau tai yma ddim yn cynnwys digon o dai fforddiadwy. Dwi am adleisio un pwynt sydd wedi cael ei wneud gan y Torïaid yn barod: bod angen, efallai, pwyslais mwy ar ddod â thai gwag nôl i ddefnydd. Felly, a wnewch chi fel Gweinidog amlinellu sut mae eich Llywodraeth chi yn bwriadu sicrhau bod tai newydd, mewn gwirionedd, yn diwallu anghenion lleol, yn arbennig mewn ardaloedd Cymraeg, a sut mae tai newydd a'r broses gynllunio yn gallu arwain at ganlyniadau gwell i'r iaith a siaradwyr Cymraeg ifanc? A hefyd, beth yw cyfrifoldebau cymdeithasau tai o safbwynt eu polisïau gosod o ran gwarchod cymunedau Cymraeg?

Fel y dywedais i, yn gyffredinol, rwy'n croesawu'r amrywiaeth o atebion polisi rŷn ni wedi clywed amdanyn nhw yn barod, ond, er mor uchelgeisiol yw rhai o'r mesurau ŷch chi'n eu cynnig, byddwn i'n licio cael ychydig bach mwy o fanylion, yn gyntaf o ran darparu cefnogaeth i fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol cymunedol—wel, i wneud beth a beth yw eu pwrpas nhw? Y prosiect peilot o ran y sector twristiaeth: beth yw'r model ŷch chi am ei ddefnyddio, beth yw rôl y llysgenhadon diwylliannol ac i bwy maen nhw yn mynd i fod yn atebol? Sefydlu comisiwn: beth mae hyn yn ei olygu, ai corff sefydlog neu grŵp tasg a gorffen? A hefyd bwrdd crwn yr economi a'r iaith: dwi wedi bod yn rhan o'r bwrdd crwn hwnnw ers y dechrau, a dwi'n meddwl bod angen inni symud ymlaen nawr i weld cynllunio gweithredu penodol yn digwydd.

Ac i gloi, Llywydd, os caf i, er mwyn gwireddu'r amcanion yma, mae angen cyllid, wrth gwrs, ac adnoddau. Felly, fyddech chi'n gallu rhoi rhagor o fanylion inni am sut fath o gefnogaeth ariannol a'r arbenigedd y gellir ei roi gan y Llywodraeth er mwyn darparu'r mesurau yma? Diolch yn fawr iawn.

17:00

Diolch i'r Aelod am yr amryw gwestiynau yn ei gyfraniad ef. O ran manylder y cynllun, rydyn ni heddiw'n cyhoeddi dogfen ymgynghori sydd yn ateb sawl un o'r cwestiynau sydd gan yr Aelod—cwestiynau pwysig am fanylion yr hyn rŷn ni'n bwriadu ym mhob un o'r wyth ymyrraeth wnes i eu hamlinellu. Felly, byddwn i'n argymell bod unrhyw un sydd â diddordeb ym manylion y cynnig yn edrych ar y ddogfen honno.

Ond, jest i roi blas iddo fe o'r hyn sydd gyda ni mewn golwg, o ran y gwaith tai lleol a sicrhau bod mynediad at y farchnad dai a chartrefi gan bobl leol, ynghyd â'r hyn mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd eisoes wedi'i ddatgan, un o'r pethau byddwn ni eisiau eu gwneud yw gweithio gyda'r cymdeithasau tai lleol y gwnaeth ef sôn amdanyn nhw yn ei gwestiwn i archwilio modelau tai cydweithredol, neu fodelau tai sydd wedi cael eu harwain gan y gymuned, i edrych ar ffyrdd o ddiwallu anghenion lleol. Mae hyn, wrth gwrs, yn elfen sydd eisoes yn bresennol mewn amryw o'n cymunedau ni, ond mae mwy o gefnogaeth a mwy y gallwn ni ei wneud yn y maes penodol hwnnw. 

O ran cyfleoedd yn y farchnad breifat, mae hwn, wrth gwrs, yn fwy anodd o ran ymyraethau economaidd. Mae'r ymyraethau cynllunio ac ati fel mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd eisoes wedi datgan. Rydym ni'n gobeithio, gyda'r grŵp llywio gwerthwyr tai, y gallwn ni sefydlu gwell perthnasau ac adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yno rhwng arwerthwyr a gwerthwyr tai lleol a chymunedau Cymraeg—mae gwaith da wedi bod yn digwydd eisoes gyda nhw mewn amryw o'n cymunedau ni i gynyddu ymwybyddiaeth o ddiwylliant lleol a phwysigrwydd y Gymraeg yn lleol—ac adeiladu ar hynny i gyflwyno cyfle chwarae teg i bobl leol sydd am brynu ac am rentu a chyfle iddyn nhw gael mynediad at y farchnad cyn bod y cyfleoedd yn mynd yn ehangach. Efallai fod hwnna'n un o'r pethau sydd angen eu treialu er mwyn gweld sut gall hynny weithio yn ymarferol.

Ac i fynd nôl at y pwynt ar brynu eiddo gan gwmnïau cydweithredol a chymdeithasau tai lleol ac ati, byddai efallai ychydig wythnosau yn ddigon i'r cwmnïau hynny allu paratoi pecyn ariannol i brynu rhai o'r cartrefi yma ar gyfer pwrpasau cymdeithasol hefyd.

Roedd e'n sôn am waith y bwrdd crwn. Mae un o atodlenni'r ddogfen ymgynghori yn amlinellu'r hyn mae'r bwrdd crwn eisoes wedi ei argymell. Mae llawer iawn o'r rheini naill ai ar waith neu yn cael eu datblygu ar hyn o bryd yn barod, ond mae'n sicr, fel ŷn ni wedi clywed yn barod, fod angen edrych am y cyfleoedd hynny, ac rydym ni wedi gweld rhai o'r rhain yng nghynllun Arfor eisoes—pobl yn cael cefnogaeth ariannol i sefydlu busnesau lleol yn eu cymunedau Cymraeg. Felly, mae hynny'n cael ei werthuso ar hyn o bryd. Dwi'n sicr y bydd cyfleoedd yn dod allan o'r gwerthusiad hwnnw i ehangu hynny mewn rhagor o gymunedau hefyd.

17:05

Diolch, Llywydd. Rydw i'n siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Diolch yn fawr i'r Gweinidog am ei ddatganiad.

Fel yr amlinellais yn gynharach, mae ein pwyllgor yn edrych ar ail gartrefi ar hyn o bryd a bydd yn edrych ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Dr Brooks ynghylch a yw'r camau a gymerwyd yn rhai priodol. Wrth gwrs, edrychodd Dr Brooks ar ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol, a chanfu fod mater ail gartrefi yn effeithio ar yr hyn a ddisgrifiodd, rwy'n credu, fel

'yn "graidd" tiriogaethol y Gymru Gymraeg draddodiadol.'

Dywedodd Dr Brooks y bydd angen polisïau newydd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ail gartrefi, os bydd cymunedau Cymraeg yn cael eu sefydlogi dros y degawdau nesaf. Felly, tybed a allai'r Gweinidog amlinellu sut y mae gwaith Dr Brooks wedi llunio'r cynllun hwn.

Mae'r effaith ar y Gymraeg a chymunedau Cymraeg yn agwedd bwysig iawn i fy mhwyllgor ei hystyried wrth drafod polisïau sy'n ymwneud ag ail gartrefi, ac, fel pwyllgor, rydym yn ymwybodol iawn o hynny a byddwn yn sicrhau ein bod yn archwilio'r elfen hollbwysig hon wrth i ni fwrw ymlaen â'n gwaith. Mae'n rhaid i'r iaith ffynnu ledled Cymru, ac mae'n rhaid i bolisïau a dulliau gweithredu ddiogelu hynny.

Argymhellodd Dr Brooks y dylid sefydlu comisiwn i wneud argymhellion ynghylch dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol, ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am yr wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu comisiwn. Bydd y pwyllgor yn casglu barn rhanddeiliaid ar y mater hwnnw drwy'r ymchwiliad.

Hoffwn i gloi drwy ddweud, yn amlwg, fod y mater hwn yn croesi ffiniau llawer o wahanol feysydd, gan gynnwys portffolios gwahanol Weinidogion Llywodraeth Cymru, ac mae angen dull cyfannol arnom, fel bob amser, pan fyddwn yn ymdrin â materion cymhleth ac anodd, a tybed a allai'r Gweinidog egluro sut y mae wedi gweithio gyda Gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru ar draws portffolios wrth ddatblygu'r cynllun hwn. Yn olaf, fel pwyllgor, rydym yn edrych ymlaen at archwilio'r materion hyn gyda rhanddeiliaid a'r Gweinidog hefyd, wrth gwrs, a byddwn yn ei wahodd i roi tystiolaeth y flwyddyn nesaf. Diolch yn fawr.

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny a byddwn i'n hapus iawn, wrth gwrs, i gydweithio ag e a'i bwyllgor i ddatblygu'r cynigion sydd yn y pecyn sy'n cael ei ymgynghori arno heddiw. O ran beth yw dylanwad gwaith Dr Brooks ar y cynllun hwn ac ar y cynllun mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ei ddatgan heddiw, dwi'n credu ei fod e'n gwbl greiddiol i'r holl weledigaeth sydd yma. Mae wedi cael effaith sylweddol iawn ar yr hyn rydyn ni'n cyhoeddi. Enghreifftiau o hynny, yw'r pwysigrwydd efallai y gwnaeth yr Aelod glywed ar sicrhau bod gennym ni sector dwristiaeth sy'n gynaliadwy ac sydd yn caniatáu gweithgaredd a chyfleoedd economaidd yn lleol, pwysigrwydd yr economi leol yn ehangach, ac mae hynny wrth wraidd yr hyn rŷn ni'n ei gynnig o ran mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol.

Ond yn benodol, felly, ar waith y comisiwn—a gydag ymddiheuriadau i Cefin Campbell, gwnes i ddim ateb y rhan hwn o'i gwestiwn e—dydyn ni ddim yn sôn am ryw gomisiwn sydd yn gorff statudol yn cael ei sefydlu yn annibynnol o'r Llywodraeth. Mae gennych chi gyfle yma i'r comisiwn edrych ar dystiolaeth empiric, os hoffech chi, fydd yn sail i'n dealltwriaeth ni o impact newidiadau sosioeconomaidd ar ein cymunedau Cymraeg ni, ond hefyd i greu sail o dystiolaeth ar gyfer y syniad yma o ardaloedd o ddiddordeb a sensitifrwydd sylweddol o ran yr iaith. A bydd hynny, efallai, yn creu cyfle inni deilwra pecyn o ymyraethau pellach yn y dyfodol yn benodol ar gyfer cymunedau sydd yn arbennig o sensitif o ran dyfodol a ffyniant yr iaith yn y cymunedau hynny.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â sut mae elfennau gwahanol y Llywodraeth yn cydweithio. Mae hwn yn flaenoriaeth sydd yn cyffwrdd â bron pob rhan o'r ystod o gyfrifoldebau'r Llywodraeth. Er enghraifft, mae'r bwrdd crwn eisoes yn un sydd yn cyffwrdd ar yr iaith, yr economi a nawr, o hyn allan, y cwestiwn o dai hefyd. Felly, mae gan y Gweinidogion sydd â diddordeb a chyfrifoldeb ymhob un o'r ardaloedd hynny rôl mewn perthynas â gwaith y bwrdd crwn. A hefyd mae grŵp trawsbleidiol wedi bod yn gweithio ar rai o'r pethau yma, ac mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, minnau, y Gweinidog cyllid, a Gweinidog yr Economi o bryd i'w gilydd wedi bod yn rhan o'r fforwm yna fel ein bod ni'n gallu cyfrannu ar y cyd i ateb y nod pwysig hwn.

17:10

Pwynt o eglurder sydd gen i a dweud y gwir, Gweinidog. Fe wnaethoch chi sôn yn y datganiad—un o'r mesurau gwnaethoch chi eu rhestru oedd ffyrdd newydd o godi ymwybyddiaeth o enwau lleoedd Cymraeg a'u hyrwyddo. Codi ymwybyddiaeth, nid diogelu. Ond, dwi'n nodi yn y cyfieithiad Saesneg rydyn ni wedi'i dderbyn ar e-bost—yn amlwg, doeddwn i ddim yn gwrando ar y cyfieithiad Saesneg drwy'r cyfieithu ar y pryd, ond yn y cyfieithiad o'r datganiad ar e-bost, mae'n sôn am 'safeguarding'. 'Safeguarding' yw'r term sy'n cael ei ddefnyddio. Wrth gwrs, mae diogelu yn wahanol i godi ymwybyddiaeth, onid yw e? A dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno bod disodli enwau lleoedd Cymraeg yn sarhad i'n hunaniaeth ni fel cenedl ac, wrth gwrs, yn golled i'n diwylliant a'n hanes. Felly, jest eisiau cael eglurder ydw i ar y pwynt yna. Diolch.

Diolch. Does dim gwahaniaeth o'm safbwynt i. Sylwedd y pwynt yw ein bod ni'n moyn gwneud popeth i ddiogelu enwau lleoedd. Gwnaf i gyfeirio'r Aelod at dudalen 14 yn y ddogfen ymgynghori sydd yn gosod allan y camau penodol sydd gennym ni mewn golwg.

7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021

Yr eitem nesaf felly yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021. Dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud y cynnig ar y rhain. Eluned Morgan. 

Cynnig NDM7838 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf y cynnig sydd ger ein bron.

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn rhoi'r fframwaith deddfwriaethol ar waith ar gyfer y lefelau rhybudd a ddisgrifir yn y cynllun rheoli coronafeirws. Yn niweddariad yr hydref a'r gaeaf y cynllun hwn, y gwnaethom ei gyhoeddi ar 8 Hydref, fe wnaethom nodi'r hyn yr ydym yn disgwyl ei gadw fel mesur sylfaenol ar waith dros yr hydref a'r gaeaf. Mae rhai o'r amddiffynfeydd allweddol a fydd yn ein cadw'n ddiogel dros y gaeaf yn y rheoliadau. Maen nhw'n cynnwys y ffaith bod yn rhaid i fusnesau gynnal asesiad risg COVID a rhoi mesurau rhesymol ar waith i leihau risgiau; gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do; y gofyniad i ynysu ar ôl prawf positif; defnyddio tocyn COVID y GIG i gael mynediad i ddigwyddiadau a lleoliadau penodol.

Daw'r rheoliadau presennol i ben ar 26 Tachwedd. Ar 29 Hydref, gosodwyd rheoliadau diwygiedig drafft a fydd yn ymestyn dyddiad dod i ben y rheoliadau am dri mis arall hyd at 25 Chwefror, a fydd yn mynd â ni drwodd i ddechrau'r gwanwyn. Fel sydd wedi digwydd ers dechrau'r pandemig, bydd y rheoliadau'n cael eu hadolygu bob tair wythnos a bydd mesurau nad ydyn nhw'n gymesur bellach yn cael eu dileu.

Mae deddfwriaeth ar wahân, swyddogaethau rheoliadau awdurdodau lleol, yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol yng Nghymru ymateb i fygythiadau difrifol a buan a achosir gan y coronafeirws yn eu hardaloedd. Disgwylir i hyn ddod i ben ar 26 Tachwedd hefyd ac mae'r rheoliadau diwygiedig drafft yn ymestyn dyddiad dod i ben y rheoliadau hyn tan 25 Chwefror hefyd. Mae rheoliadau swyddogaethau awdurdodau lleol wedi eu cynllunio i wneud tri pheth os yw ardaloedd yn wynebu achosion difrifol o'r coronafeirws: yn gyntaf, maen nhw'n grymuso awdurdodau lleol i gau neu osod cyfyngiadau ar safleoedd neu fannau cyhoeddus penodol; yn ail, maen nhw'n caniatáu iddyn nhw atal digwyddiadau rhag digwydd neu osod gofynion arnyn nhw; ac yn drydydd, maen nhw'n caniatáu i awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru gau llwybrau cyhoeddus a chyfyngu ar fynediad i dir.

Llywydd, gadewch i mi fod yn glir: wrth i ni symud i'r gaeaf, bydd y mesurau yn y rheoliadau yn ein helpu ni i gadw Cymru'n ddiogel ac i gymryd camau pellach os bydd angen ar lefel leol. Rwy'n falch iawn ein bod yn cael cyfle i drafod y cynnig hwn heddiw, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau ac ymateb iddyn nhw. Anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig.

17:15

Gweinidog, rydym yn diolch i chi am eich datganiad heddiw a'r rheoliadau yr ydych wedi eu nodi. Ni fyddwn ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi'r rheoliadau hyn heddiw. Hoffwn i dynnu sylw'r Gweinidog a'r Aelodau at y ffaith ein bod ni wedi cefnogi tua 90 y cant o reoliadau COVID Llywodraeth Cymru oherwydd ein bod ni'n derbyn ac yn cytuno eu bod ar waith am resymau da o ran cadw pobl Cymru'n ddiogel. Rydym ni yn cytuno â llawer o'r agweddau yr ydych chi wedi eu nodi yn y rheoliadau hyn heddiw; fodd bynnag, mae dau reswm penodol pam na fyddwn yn cefnogi'r rheoliadau heddiw. Y cyntaf yw na allwn ni gefnogi ymestyn y defnydd o docynnau COVID am y rhesymau yr wyf i wedi eu nodi o'r blaen. Mae goblygiadau moesegol, cydraddoldeb a goblygiadau negyddol eraill i docynnau COVID; rydym ni'n credu'n syml eu bod nhw yn drech nag unrhyw fudd. A phan fyddaf i'n dweud 'budd', nid ydym wedi gweld y dystiolaeth o unrhyw fudd hyd yn hyn. Wrth gwrs, rwyf i eisoes wedi gofyn cwestiynau ynglŷn â hyn heddiw, ond hoffem ni weld y dystiolaeth sy'n sail i'r tocynnau COVID, a'r budd a ddaw yn eu sgil. O ran yr ail bwynt, fe ddywedwn i na allwn ni gefnogi'r rheoliadau heddiw oherwydd bod y rheoliadau'n darparu estyniad o dri mis arall o holl gyfyngiadau COVID, gan gynnwys tocynnau COVID, ac rwyf i'n credu y dylai'r Llywodraeth fod yn cyflwyno'r rheoliadau fesul achos er mwyn i ni allu trafod y rhain yma yn y Siambr hon. Wrth i'r Gweinidog ymateb i fy sylwadau, byddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn ymateb i'r pwynt penodol hwnnw. Diolch yn fawr.

Ymestyn y rheoliadau tan ddiwedd Chwefror yw'r nod yn fan hyn. Mi fyddwn ni yn sicr yn cefnogi'r rheoliadau yma. Dwi'n synnu'n fawr o glywed sylwadau'r Ceidwadwyr eu bod nhw bellach ddim yn cefnogi cael unrhyw gyfyngiadau mewn lle, i bob pwrpas, achos dyma'r fframwaith, ac o fewn y fframwaith yma mae'r rheoliadau'n cael eu rhoi mewn lle. Mae Plaid Cymru wedi ei gwneud hi'n glir trwy gydol y pandemig ein bod ni yn cefnogi gweithredu ar sail tystiolaeth, yn cefnogi camau a all helpu i gyfyngu ar drosglwyddo'r feirws a chadw pobl Cymru yn ddiogel. Ac ydy, mae hynny i bob un ohonom ni ar draws pob plaid yma wedi golygu penderfyniadau anodd iawn dros y flwyddyn a naw mis diwethaf.

Dwi'n gwneud y pwynt eto yn y fan hon, fel dwi wedi gwneud droeon, bod angen gweithio'n fwy a mwy dygn ar gyfathrebu'r rhesymeg, ie, tu ôl i reoliadau, ond hefyd y camau pwysig sydd angen i bobl eu cymryd er mwyn cadw at y rheoliadau yna, yn cynnwys y pethau cwbl sylfaenol. Y mwyaf o bobl sy'n gallu gweithio gartref, yn defnyddio gorchudd wyneb mewn mannau prysur dan do, yn gwneud yn siŵr bod yna awyr iach o'u cwmpas nhw, y mwyaf ydy'r gobaith y gallwn ni gyfyngu ar drosglwyddiad y feirws. Dwi'n meddwl bod yna dystiolaeth o ble mae'r neges, o bosib, yn cael ei cholli, a'r neges yn cael ei gwanhau. Felly, dwi'n annog y Llywodraeth eto i wthio ar y maes hwnnw. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid i'r rheoliadau yma fynd law yn llaw ar yr un pryd â'r gwaith i gryfhau'r gwasanaeth iechyd.

Gwnaf y pwynt yma i gloi: efo pwysau mor fawr yn tyfu ar y gwasanaeth iechyd wrth i ni fynd i mewn i ddyddiau tywyll y gaeaf, mae'n rhaid i ni osgoi cael ein dal mewn cylch dieflig, diddiwedd, lle mae'r amseroedd aros yn gwaethygu fwy a mwy. Beth dwi'n ei weld ydy camau byrdymor yn cael eu cymryd gan y Llywodraeth, ie, ond rydyn ni angen gweld newid yn y tirlun iechyd yna sy'n mynd i olygu bod gennym ni wasanaethau iechyd a gofal mwy cynaliadwy ar gyfer yr hirdymor—ie, brwydro yn erbyn y feirws yma rŵan sy'n dal yn gymaint o fygythiad o fewn ein cymunedau ni, ond cadw llygad ar yr hirdymor yna a gwneud newidiadau rŵan sydd yn mynd i roi gwasanaethau mwy cadarn ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

17:20

Rwy'n diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw, a byddaf i'n cefnogi'r rhain. Mae'r rhain yn benderfyniadau anodd, ond mae'n rhaid i ni gydnabod hefyd eu bod yn fesurau dros dro ond brys, a'u diben, yn ogystal â diogelu iechyd y cyhoedd, yn wir, yw ceisio cadw busnesau ar agor hefyd gyda chyn lleied o fesurau â phosibl a fydd yn diogelu iechyd cyhoeddus nid yn unig eu cwsmeriaid, ond eu staff hefyd yn y mannau gwaith hynny, nad oes ganddyn nhw ddewis. Felly, mae'n anodd iawn, rydym ni'n gobeithio eu bod nhw mor dros dro ag y gallan nhw fod, ond mae angen i ni fynd drwy'r gaeaf hwn hefyd.

Rwy'n hoffi dod â phethau anarferol o flaen y Gweinidog, ac mae gen i un anarferol heddiw. Nid wyf i'n gofyn iddi ymyrryd na bwrw barn; ond rwyf yn gofyn iddi gadw ei dyddiadur ar agor, oherwydd efallai y bydd angen i mi ddychwelyd. Ganol mis Hydref, roedd dau glwb pêl-droed da iawn yn fy ardal i, clybiau pêl-droed da iawn sydd, yn ogystal â thimau oedolion, hefyd â thimau iau helaeth hefyd, i fod i chwarae ar fore Sadwrn ganol mis Hydref. Cafodd y tîm wybod ar yr union fore hwnnw—y bore hwnnw—fod dau chwaraewr wedi profi'n bositif. Erbyn diwedd dau neu dri diwrnod yn ddiweddarach roedd yn saith chwaraewr. Fe wnaethon nhw ymgynghori â'r awdurdod lleol i ddweud, 'Beth ddylem ni ei wneud?' Dywedodd yr awdurdod lleol, 'Peidiwch â chwarae'r gêm'. Ni wnaethon nhw chwarae'r gêm. Maen nhw wedi cael dirwy o £100 a thynnwyd tri phwynt oddi arnyn nhw am beidio â chwarae'r gêm. Mae ganddyn nhw apêl yr wythnos nesaf, ac mae'n rhaid i ni adael i hwn fynd ymlaen, felly peidiwch ag ymyrryd yn hyn eto, Gweinidog. Ond a wnaiff hi ddweud, yn gyffredinol, os caiff clwb ei gynghori gan swyddogion gorfodi COVID lleol na ddylen nhw fwrw ymlaen oherwydd bod rhai aelodau o'r tîm wedi profi'n bositif, dyna'n union yw'r canllawiau y dylen nhw eu dilyn, a pheidio â pheryglu eu chwaraewyr eu hunain, y cyfranogwyr, y bobl sy'n gwylio ar y cae nac yn wir y tîm arall—na ddylen nhw chwarae, a chwarae ar ddiwrnod arall yn lle hynny?

Gweinidog, o ran tocynnau COVID yng Nghymru, mae'n rhaid i'r Cabinet gael trothwy a pharamedrau o ran pryd maen nhw'n cael eu gorfodi ar leoliadau penodol. Yr hyn yr wyf i'n dymuno ei wybod yn benodol, Gweinidog yw: ar ba lefel y mae'n rhaid i COVID-19 fod yng Nghymru cyn y gellid diddymu tocynnau COVID? Gan nad yw unrhyw ddeddfwriaeth na rheolau na thocynnau sy'n cael eu cyflwyno yma i aros am gyfnod amhenodol. Felly, rwyf i'n credu ei bod yn bwysig iawn i'r cyhoedd wybod ar ba lefel y bydd tocynnau COVID yn cael eu diddymu yng Nghymru, oherwydd rwy'n credu bod honno'n wybodaeth hanfodol bwysig y mae angen i'r cyhoedd ei chael. Diolch, Llywydd.

Diolch yn fawr. Dwi'n ddiolchgar i Aelodau am eu cyfraniad i'r ddadl hon. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig fy mod i'n pwysleisio unwaith eto nad yw'r coronafeirws wedi diflannu, yn anffodus. Mae'r sefyllfa yng Nghymru yn dal i fod yn un difrifol. Mae'r cyfrannau'n rhy uchel, ac mae'r pandemig yn dal i roi pwysau sylweddol ar ein gwasanaethau iechyd ni.

Rwyf i wedi fy siomi'n fawr o glywed na fydd y Ceidwadwyr yn cefnogi'r rheoliadau hyn. Rydym ni mewn sefyllfa yng Nghymru lle mae gennym ni dros 500 o achosion ym mhob 100,000 o bobl. Mae hynny'n lefel uchel iawn o achosion yn ein cymunedau ac rwyf i'n credu ei bod yn anghyfrifol iawn peidio â chymryd y sefyllfa hon o ddifrif. Rydym ni wedi rhoi'r amddiffyniadau hyn ar waith er mwyn diogelu'r cyhoedd. Rydym ni'n cychwyn ar gyfnod anodd iawn, iawn gyda phwysau'r gaeaf, ac yn sicr mae'n destun siom gweld hynny. Gallaf eich sicrhau ein bod ni wedi cymryd o ddifrif yr holl faterion moesegol, cyfreithiol ac ymarferol sy'n ymwneud â chyflwyno tocynnau COVID nid yn unig cyn i ni eu cyflwyno, ond cyn i ni ystyried eu hymestyn i sinemâu. Fel y dyfynnais i chi'n gynharach, rwyf i wedi cael neges ddiddorol iawn gan sinema yn dweud bod gwerthiant tocynnau wedi mynd drwy'r to yn ei sinema benodol ers i ni gyflwyno'r tocyn COVID, oherwydd bod cwsmeriaid yn teimlo'n fwy diogel oherwydd eu bod yn ymwybodol bod pobl eraill wedi eu diogelu sy'n eistedd yn agos atyn nhw. Felly, i fod yn glir—

17:25

Diolch am ildio. Rwyf wedi siomi eich bod yn teimlo ei bod yn anghyfrifol nad ydym ni'n cefnogi'r rheoliadau hyn heddiw, ond fe wnaethoch chi eich hun a'r Prif Weinidog ddweud, wrth gyflwyno tocynnau COVID, eu bod yn benderfyniadau yr oedd angen eu gwneud yn ofalus iawn o ran goblygiadau moesegol. Felly, siawns eich bod yn derbyn ein bod â barn wahanol ar y penderfyniadau gofalus hynny y gwnaethoch chi eich hun sôn amdanyn nhw.

Rwy'n siŵr bod Russell yn ymwybodol nad yw'r rheoliadau hyn yn berthnasol i sinemâu yn unig; maen nhw hefyd yn berthnasol i'r rheoliadau ehangach sy'n ymwneud â'r holl fesurau eraill sydd gennym ar waith, gan gynnwys gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus, gweithio gartref a'r holl bethau eraill hynny. Felly, rwy'n credu wrth i ni ddechrau misoedd y gaeaf, ei bod yn bwysig iawn wrth i ni weld achosion yn cynyddu ar draws y cyfandir nad dyma'r amser i ddileu'r darpariaethau sydd gennym ni. [Torri ar draws.] Ie.

Rwy'n gwerthfawrogi yn wirioneddol y pwynt sydd newydd gael ei wneud gan Russell fod y rhain, weithiau, yn benderfyniadau gofalus iawn a'u bod yn cael eu cymryd yn rhan o ystod o fesurau. Ond fy mhwynt i yn syml fyddai, Russell a'r Gweinidog, os yw'n benderfyniad gofalus, y dylid arfer y gofal hwnnw felly er budd iechyd a diogelwch y cyhoedd, ac osgoi'r hyn yr ydym yn ei weld yn digwydd yn awr ar y cyfandir.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu mai un o'r pethau allweddol i'w gofio o ran yr hyn yr ydym yn ei drafod yma heddiw—mae'n drafodaeth gyfreithiol iawn yr ydym yn cymryd rhan ynddi yn y fan yma—yw bod rhan ohono'n ymwneud â sicrhau, mewn gwirionedd, nad yw'r cyfyngiadau hyn ar waith am gyfnod amhenodol. Mae gennym ni broses lle caiff y rhain eu diwygio, ond i bob pwrpas mae cymal machlud wedi ei gynnwys yn y rheoliadau hyn. Felly, nid pethau a fydd yn parhau yn y tymor hir yw'r rhain, ond, wrth gwrs, mae gennym ni rythm rheolaidd bob 21 diwrnod o ailasesu'r sefyllfa.

Diolch yn fawr i Rhun am yr ymrwymiad i gefnogi y rheoliadau newydd yma. Rŷch chi'n iawn bod y tirlun yn bwysig o ran beth rŷm ni'n gweithredu ynddo ar hyn o bryd. Mae 10 y cant o'r achosion sydd yn yr ysbytai heddiw yn ymwneud â COVID, ac, wrth gwrs, rŷm ni eisoes wedi ymrwymo i wario £0.25 biliwn i ailgodi ein gwasanaethau yn dilyn COVID. Felly, gobeithio y gallwn ni fynd ati nawr i drefnu gymaint ag sy'n bosibl i fwyta i mewn i'r achosion o bobl sydd wedi bod yn aros am amser hir am eu mesurau nhw a'u operations nhw ac ati. 

Huw, mae bob amser yn bleser clywed eich achosion arbennig, ac yn bleser arbennig i glywed yr un yma, sydd yn eithaf anarferol. Ond rwy'n siŵr, os nad wyf i fod i ymyrryd ar hyn o bryd, rwy'n credu, o siarad yn gyffredinol, os yw pobl wedi cael cyngor gan arbenigwyr iechyd cyhoeddus i beidio â gwneud rhywbeth penodol, rwy'n credu y byddai'n ddoeth iddyn nhw fod mewn sefyllfa lle'r oedden nhw'n gwrando ar y cyngor hwnnw, ac y byddai'n rhaid iddyn nhw fod yn ddewr iawn pe byddai pobl yn gorfodi dirwy ar bobl pe na byddai'r sefyllfa honno wedi ei dilyn. Diolch yn fawr i chi i gyd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd)

Eitem 8 yw'r eitem nesaf, a hwn yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd). Rwy'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig—Rebecca Evans. 

Cynnig NDM7837 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am ystyried ac adrodd ar y memorandwm. Ni wnaeth y naill bwyllgor na'r llall nodi rhwystr i'r Senedd gytuno i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Rwy'n nodi'r pwyntiau defnyddiol a gafodd eu codi gan y ddau bwyllgor, ac rwyf wedi ysgrifennu at yr Aelodau cyn y ddadl heddiw yn rhoi eglurhad ar y materion a gafodd eu codi.

Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) ar 12 Mai i ddarparu na ellid ystyried materion y gellir eu priodoli i COVID-19 at ddibenion apeliadau ardrethi annomestig gan nodi newid sylweddol mewn amgylchiadau. Bydd darpariaethau yn y Bil sy'n berthnasol i Gymru yn atal apeliadau o'r fath, yn arfaethedig ac yn ôl-weithredol, a hynny ar unwaith o ddyddiad y Cydsyniad Brenhinol. Ar 1 Tachwedd, gosodais Reoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021, a ddechreuodd yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Effaith y rheoliadau hynny yw atal, yn arfaethedig, apeliadau newid sylweddol mewn amgylchiadau rhag cyfeirio at faterion sy'n ymwneud â COVID-19. Mae'r Bil yn gweithredu fel cyfrwng addas i atal apeliadau o'r fath, yn arfaethedig ac yn ôl-weithredol. Mae'r darpariaethau yn y Bil yn disodli'r rheoliadau, ac rwy'n bwriadu dirymu'r rheoliadau, ar ôl i'r Bil gael ei basio, er mwyn sicrhau eglurder deddfwriaethol. Y prif reswm dros gyfyngu ar apeliadau o'r math hwn yw y bydd effaith economaidd ehangach pandemig COVID-19 yn cael ei hystyried yn rhan o'r ailbrisio ardrethi annomestig nesaf ym mis Ebrill 2023. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu pecyn helaeth o gymorth i fusnesau a thalwyr ardrethi eraill i'w helpu drwy'r pandemig.

Mae'r Bil hefyd yn rhoi eglurder i dalwyr ardrethi yng Nghymru yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Rwy'n credu bod y darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon. Fodd bynnag, rwy'n fodlon y dylid gwneud y darpariaethau hyn mewn Bil y DU. Mae perygl agos i gyllid cyhoeddus sy'n gofyn am weithredu cyflym i egluro'r sefyllfa. Ni ellid gweithredu hyn drwy ddeddfwriaeth sylfaenol yn y Senedd hon o fewn yr amserlen ofynnol. Mae hwn yn Fil byr i sicrhau newid sy'n rhoi sicrwydd o fewn y system apêl ardrethi annomestig ac ar gyfer cyllid llywodraeth leol yng Nghymru, ac rwy'n gofyn i'r Senedd gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.

17:30

Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. 

Fe wnaethon ni adrodd ar y memorandwm yr wythnos diwethaf. Fe wnaethon ni hefyd adrodd ar Reoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021, sydd hefyd yn berthnasol i'r ddadl y prynhawn yma.

Diolch, i ddechrau, i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, a'n tîm clercio hefyd, am eu diwydrwydd a'u gwaith craffu. Efallai nad oes llawer ohonom ni, ond rydym ni'n gadarn yn ein trafodaethau.

Llywydd, roedd y memorandwm a osodwyd gerbron y Senedd, yn ein barn ni, wedi ei ddrafftio'n wael. Roedd y Bil a gyflwynwyd yn wreiddiol i Senedd y DU, yn wir, yn Fil ar gyfer Lloegr yn unig, ac rydym ar ddeall y gwnaeth y Gweinidog gais i Lywodraeth y DU, a gofyn i berthnasedd y Bil gael ei ymestyn i Gymru. Nawr, i ni, y ffaith allweddol yw nad yw hyn wedi ei gynnwys yn y memorandwm esboniadol. Dywedodd y Gweinidog wrthym mai'r rheswm am hyn oedd ei bod yn wybodaeth gefndir ac, yn sgil hynny, nid oedd angen ei chynnwys, ond fel pwyllgor, Gweinidog, rydym yn anghytuno, yn barchus ond yn gryf iawn, oherwydd er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw wrth wneud penderfyniadau gan y Llywodraeth, yn enwedig mewn agweddau fel hyn lle mae gennym ni ddeddfwriaeth Cymru a Lloegr, mae yn bwysig. Mae'n fater perthnasol i'w dynnu i sylw'r Senedd yn rhan o'i hystyriaeth ar fater cydsyniad. Ac o dan amgylchiadau o'r fath lle gallai'r amserlenni atal pwyllgorau'r Senedd rhag craffu'n effeithiol, gofynnir i'r Senedd ystyried a phleidleisio heb dderbyn yr holl ffeithiau yn llawn. Nid ydym yn credu bod amgylchiadau o'r fath yn dderbyniol, a hoffem weld gwelliant yn hyn, fel bod y memorandwm esboniadol ar hyn neu ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol eraill a gyflwynir yn fwy cyflawn a chyfan.

Fe wnaethom ni ofyn i'r Gweinidog egluro i Aelodau'r Senedd sut, pryd, a pham y cyflwynwyd y cais i'r Bil i Loegr yn unig gael ei ddiwygio fel bod ei berthnasedd yn cael ei ymestyn i Gymru. Rydym yn nodi'r esboniad yn y sylwadau agoriadol, ond unwaith eto rydym yn credu y gallai fod mwy o eglurder, esboniad llawnach, er mwyn i Aelodau'r Senedd yn y fan yma allu ystyried hyn, nid ein pwyllgor ni yn unig.

Nawr, ar yr adeg hon hoffwn i dynnu sylw hefyd at y ffaith nad yw'r Gweinidog wedi ymateb yn ffurfiol i'n hadroddiad. Rydym yn cydnabod bod y Gweinidog wedi anfon llythyr at yr holl Aelodau ddoe, a oedd yn wir yn mynd i'r afael â dau argymhelliad penodol yn ein hadroddiad. Fodd bynnag, Gweinidog, mae'n rhaid i'n pwyllgor eich atgoffa yn garedig nad yw llythyr gan y Gweinidog yn ymateb ffurfiol gan Lywodraeth Cymru i adroddiad un o bwyllgorau'r Senedd.

Felly, o ran rhesymau'r Gweinidog dros wneud darpariaeth ar gyfer Cymru yn y Bil, mae gennym ni ddau brif bryder. Yn gyntaf, mae'r memorandwm yn nodi y byddai'r Bil, ac rwy'n dyfynnu,

'yn sicrhau bod apeliadau yng Nghymru yn cael eu trin mewn ffordd
sy’n gydnaws â Lloegr'.

Yn ein barn ni, fel pwyllgor, mae'n ddigon posibl y bydd y rhesymu hwn yn awgrymu mai'r sefyllfa ar gyfer Lloegr yw'r norm a'r sefyllfa ddiofyn. Rydym ni'n credu y dylai'r egwyddor arweiniol fod yn ateb sy'n diwallu anghenion y bobl yng Nghymru y mae'r ddeddfwriaeth yn effeithio arnyn nhw, a byddem yn hapus i glywed gan y Gweinidog nad dyma fwriad Llywodraeth Cymru, boed yn ymhlyg nac yn fwy eglur. Yn ail, er ein bod yn cydnabod barn y Gweinidog, drwy wneud darpariaeth ar gyfer Cymru yn y Bil, mewn dyfyniadau, byddai

'trethdalwyr Cymru yn cael eu trin mewn modd cyson',

nid yw'n glir a fyddai'r Gweinidog, ac a ddylai hi, wneud yr un ddarpariaeth yn union ar gyfer trethdalwyr Cymru drwy Fil Cymru o gofio nad yw darpariaethau o'r fath wedi eu profi gyda'r rhanddeiliaid hyn.

Hoffwn i drafod yn fyr y rheoliadau y soniais amdanyn nhw ar ddechrau fy nghyfraniad, yn enwedig gan eu bod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol ac na fyddan nhw yn naturiol yn cael eu cyflwyno gerbron y Siambr hon. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gytuno i'n hargymhelliad i'r rheoliadau hyn gael eu crybwyll heddiw. Er nad oes sôn amdano yn y memorandwm, roeddem yn ymwybodol o ddatganiad a gyhoeddodd y Gweinidog fis Gorffennaf pan ddywedodd y byddai rheoliadau'n dod i law a fydd yn cael effaith debyg i'r darpariaethau sydd i'w cynnwys ym Mil y DU hyd nes y daw'r Bil yn gyfraith. Mae hynny'n eithaf clir. Ar 19 Hydref, fe wnaethom ni ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn ble oedden nhw. Nawr, yn y diwedd, gosodwyd y rheoliadau hyn gerbron y Senedd am 9.00 a.m. ar 1 Tachwedd a daethon nhw i rym am 6.00 p.m. ar yr un diwrnod. Nawr, mae hynny'n enghraifft eithafol braidd o dorri'r rheol 21 diwrnod, yn enwedig gan fod Llywodraeth Cymru, rydym ni ar ddeall, yn gwybod ei bod yn dymuno gwneud y rheoliadau hyn fwy na thri mis cyn hynny.

Fe wnaethom ni ysgrifennu ar wahân at y Gweinidog ar y rheoliadau hyn, ac fe wnaeth y Gweinidog ymateb dros y penwythnos, ac rydym yn ddiolchgar iawn am hynny. Fodd bynnag, Gweinidog, byddwn i'n dweud yn syml fod y pwyllgor o'r farn nad yw nodi ein pryderon yn ymateb cwbl foddhaol; byddem ni wedi hoffi cael esboniad llawnach, a fyddai, yn ein barn ni, wedi bod yn fwy priodol a defnyddiol. Mae llythyr y Gweinidog atom hefyd yn tynnu sylw at rai materion eraill y byddwn o bosibl yn eu trafod ymhellach gyda hi.

Llywydd, rwy'n ymddiheuro am fynd ychydig dros yr amser, ond yn olaf, o ran gweithio rhynglywodraethol, dywedodd y Gweinidog wrthym fod y Bil wedi ei gyflwyno i Senedd y DU heb drafodaeth ymlaen llaw gyda Llywodraeth Cymru ynghylch a ddylid cynnwys darpariaethau ar gyfer Cymru. Mae hyn yn peri pryder mawr ynddo'i hun. Mae'n codi pwynt pwysig. Gan fod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod y mater hwn wedi ei ddatganoli'n llawn, nid yw'n glir a yw'r Gweinidog yn awgrymu y dylai Llywodraeth y DU ymgynghori â Llywodraeth Cymru fel mater o drefn i weld a yw'n dymuno cael darpariaethau deddfwriaethol mewn Bil yn y DU. Byddai sefyllfa o'r fath, ym marn ein pwyllgor, yn anfoddhaol. Diolch, Llywydd.

17:35

Gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod i'n cytuno'n llwyr gyda sylwadau Cadeirydd y pwyllgor? A diolch yn fawr iddo ef a'r tîm clercio am yr holl waith maen nhw'n ei wneud. Gaf i hefyd ddweud bod hyn yn gonsýrn nid yn unig i'ch adran chi, Weinidog, ond i nifer o adrannau'r Llywodraeth? Ac mae consýrn mawr gennyf i ac aelodau'r pwyllgor ynglŷn â'r broses LCM a hynny'n ein tanseilio ni fel sefydliad yma yn y Senedd. Gaf i ddechrau hefyd drwy adleisio sylwadau'r Cadeirydd ei fod yn siomedig ein bod ni ddim wedi cael ymateb ffurfiol i adroddiad y pwyllgor? Dylai hyn fod wedi digwydd cyn heddiw, a dwi'n gobeithio y cawn ni ymateb ffurfiol maes o law.

Ond, wrth i gymaint o LCMs ymddangos o flaen y chweched Senedd, nid yw peidio ymateb yn ffurfiol yn gwneud dim byd i hyrwyddo craffu go iawn yn y lle hwn. Rwy'n wirioneddol poeni bod gormod o LCMs yn cael eu pasio heb ystyriaeth ddigonol o'r effaith maen nhw'n ei gael ar y setliad datganoli, a thrwy hynny, ar y sefydliad yma. Yn sicr, ni ddylid disgwyl i Aelodau bleidleisio ar LCM heb i un o'r pwyllgorau sy'n craffu ar y Bil dderbyn ymateb llawn i'w adroddiad.

Mae'r pwyllgor wedi gofyn cyfres o gwestiynau pwysig, nid i fod yn lletchwith, Weinidog, nid i ofyn cwestiynau er mwyn gofyn cwestiynau, ond oherwydd mai dyna swyddogaeth y pwyllgor, a dyletswydd y Gweinidog yw ateb y cwestiynau hynny, yn enwedig wrth ddefnyddio'r system cynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n osgoi craffu llawn gan y Senedd.

Mae hanes y Bil, fel y soniodd Cadeirydd y pwyllgor, yn ddiddorol a dweud y lleiaf. Pan gafodd y Bil ei gyflwyno am y tro cyntaf, roedd yn berthnasol i Loegr yn unig. Gofynnodd y Gweinidog i Lywodraeth y DU ymestyn y Bil i Gymru—ffaith, fel y dywedodd y Cadeirydd, nad oes sôn amdano yn y memorandwm. Nawr, gwnaeth Llywodraeth y DU gydnabod bod y mater hwn wedi ei ddatganoli'n llawn. Ond, mae Llywodraeth Cymru yn dweud, fel beirniadaeth, nad oedd Llywodraeth y DU wedi ymgynghori â nhw cyn cyflwyno'r Bil. Rwy'n siŵr nad ydych yn bwriadu hyn, ond mae'n ymddangos bod hyn, Weinidog, yn awgrymu y dylai Llywodraeth y DU ofyn i Lywodraeth Cymru fel mater o drefn cyn cyflwyno Bil sy'n ymestyn i Loegr yn unig, sydd o fewn pwerau datganoledig Cymru. Mae'r dull hwn yn gwbl anghyson â'r hyn y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i ni—y canllawiau ynghylch pryd y dylid defnyddio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Mewn gwirionedd, mae'n gwbl anghyson â datganoli ei hun.

Pam fod disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymgynghori â Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno Bil sy'n ymwneud â Lloegr yn unig, mewn maes sy'n ddatganoledig i Gymru? Rôl Senedd Cymru yw pasio Deddfau mewn meysydd datganoledig. Nid rôl Llywodraeth San Steffan yw ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch a ydyn nhw am gynnwys rhywbeth mewn Bil yn San Steffan.  

Mae sylwadau'r Gweinidog am y Bil yn cyd-fynd â Lloegr yn tanseilio datganoli ymhellach drwy awgrymu, fel y soniodd y Cadeirydd, mai dilyn Lloegr yw'r norm. Gyda Llywodraeth San Steffan yn arfer ei hundebaeth gyhyrol, a ni yma yn clywed, yn gwbl gywir, dro ar ôl tro, gan Weinidogion Cymru am yr effaith y mae Llywodraeth San Steffan yn ei chael ar y setliad datganoli, ni allaf ddeall y dull hwnnw gan Lywodraeth Cymru. Enillodd y Llywodraeth hon, Llywodraeth Cymru, etholiad Senedd drwy ddangos i'r cyhoedd yng Nghymru nad dilyn Lloegr oedd y norm, ac y gellir gwneud pethau'n well drwy wneud pethau'n wahanol yng Nghymru.

Mae darpariaethau Cymreig wedi'u hychwanegu i'r Bil yma heb unrhyw gyfle am graffu go iawn yn y lle hwn. Mae hyn hefyd yn golygu na fydd y Bil yn ddwyieithog, na fydd yn rhan o gyfraith Cymru—a thrwy hynny, yn ei wneud yn llai hygyrch ac yn cymhlethu y setliad datganoledig ymhellach. Mae hyn hefyd yn mynd yn erbyn egwyddorion y Llywodraeth.

Yn ogystal â hyn, mae'r rheoliad dros dro a osodwyd ar 1 Tachwedd ac a ddaeth i rym yr un diwrnod—. Fel y dywedodd y Cadeirydd, rydym ni i gyd yn gwerthfawrogi bod angen torri'r rheol 21 diwrnod. Ond, mae yna dorri rheolau ac mae yna dorri rheolau—cafodd ei osod am 9 a.m. a'i orfodi erbyn 6 p.m. Cafodd hyn ei wneud dros saith mis ar ôl i'r rheoliad gael ei gyflwyno yn Lloegr. Nid yw hyn yn ddeddfu da, Weinidog. Gallwn ni wneud yn well yma yng Nghymru. Mae'n rhaid i ni wneud yn well yma yng Nghymru.

Wrth hyrwyddo datblygiad y lle hwn i dderbyn rhagor o bwerau, un o'r dadleuon cryfaf y gallwn eu rhoi yw ein bod ni'n gallu gwneud pethau'n well yma yng Nghymru nag sy'n digwydd yn San Steffan. Nid yw hyn yn arfer da wrth ddrafftio cyfraith yng Nghymru. Ac am y rhesymau hyn, ni fyddwn ni, fel Plaid Cymru, yn pleidleisio o blaid y cydsyniad deddfwriaethol. Diolch yn fawr.

17:40

Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddechrau drwy gywiro'r Cadeirydd ac aelod y pwyllgor. Fe wnes i ymateb i ohebiaeth y pwyllgor, dyddiedig 16 Tachwedd, â llythyr ar 20 Tachwedd. Fe gawsom ni gadarnhad o'r ffaith bod y pwyllgor wedi'i dderbyn hefyd, felly nid wyf yn siŵr sut nad yw hynny wedi cyrraedd aelodau'r pwyllgor.FootnoteLink

Ond, er eglurder, fe wnes i ddweud yn ysgrifenedig, er bod polisi ardrethi annomestig wedi ei ddatganoli, fod elfennau o'r system ardrethu sydd, yn ymarferol, yn gweithredu ledled Cymru a Lloegr. Mae prisio ac, yn ei dro, prosesu apeliadau yn y lle cyntaf, yn dod o dan y categoreiddio hwn, ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw'r corff sy'n gyfrifol am y materion hynny ledled Cymru a Lloegr.

Bwriad Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â'r mater hwn oedd sicrhau dull cydweithredol o weithredu â dull Llywodraeth y DU. Rydym ni wedi galw'n aml am gyfathrebu a chydweithredu wrth ddod i gonsensws ar ddull addas. Yn anffodus, nid yw'r dull cydlynol hwn wedi bod yn bosibl, ac nid oedd Llywodraeth Cymru wedi gweld—fel yr ydym ni wedi ei drafod—fwriadau Llywodraeth y DU nes bod cyhoeddiadau wedi eu gwneud. Yn ogystal â hyn, mae rhannu data perthnasol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi bod yn gyfyngedig, gan effeithio'n andwyol ar ddatblygu polisi priodol ac amserol i Gymru.

Mae polisi Cymru ar faterion datganoledig wedi ei bennu yng Nghymru, er bod cydnabyddiaeth hefyd fod natur gydgysylltiedig rhai materion polisi a gweithredol ledled Cymru a Lloegr yn golygu, er mwyn cael sicrwydd, ei bod yn well mabwysiadu dull cydgysylltiedig weithiau, ac, yn yr achos hwn, o ystyried yr effaith ar fusnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru a Lloegr, a'r ffaith bod cymorth busnes dilynol yn gysylltiedig â phasio'r Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd), mae dull gweithredu wedi ei alinio yn galluogi defnyddio ysgogiadau ariannol sydd, i raddau llai, o fewn arfau datganoledig Llywodraeth Cymru mewn modd gwell. Felly, mae hynny'n crynhoi'r hyn a ddywedais wrth y pwyllgor dros y penwythnos, a wnaeth ymateb i bryderon y pwyllgor, felly efallai y byddai'n well codi hynny gyda chlerc y pwyllgor.

Ond hoffwn i orffen drwy ddweud bod y system ardrethi annomestig yn darparu refeniw hanfodol ar gyfer ariannu gwasanaethau llywodraeth leol, ac mae eglurder ynghylch y system apelio yn rhoi sicrwydd ar gyfer cyllid cyhoeddus a thalwyr ardrethi. Ac rydym wedi ceisio gwrthbwyso effeithiau negyddol y pandemig drwy ein pecyn cymorth busnes, a bydd amodau'r farchnad sy'n ymwneud â'r apeliadau hyn yn cael eu hystyried yn rhan—

17:45

Llywydd, diolch yn fawr iawn. Ymyriad byr, Gweinidog. Byddwn yn gwirio'r cofnodion gohebiaeth a pha un a yw'r cwestiynau wedi eu hateb ai peidio, a byddwn yn cysylltu â chi. Os yw'n gamgymeriad ar ein rhan ni, byddwn yn derbyn yr ergyd heb gwyno, ond rydym ni'n awyddus i wirio hynny a dod yn ôl fel bod y cofnod yn gywir. Ond rydym yn cymryd y pwyntiau y mae'r Gweinidog wedi eu gwneud, a, Llywydd, er mwyn cywirdeb y cofnod yn Siambr y Senedd hon, byddwn yn dod yn ôl os bydd angen i ni gywiro unrhyw beth.

Felly, hoffwn i gloi, Llywydd, drwy ymrwymo i barhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith parhaus wrth edrych ar sut i ddiwygio'r system ardrethi annomestig yma yng Nghymru. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Bach yn hwyr, ond fe gyrhaeddodd jest mewn pryd. Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog

Eitem 9 yw'r eitem nesaf. Hwn yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog ar bartneriaethau cymdeithasol i wneud y cynnig. Hannah Blythyn.

Cynnig NDM7836 Hannah Blythyn

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Lluoedd Arfog i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Llywydd. Cynigiaf y cynnig heddiw a byddaf yn nodi pam yr wyf i'n credu y dylai'r Senedd ei gefnogi. Rydym wedi nodi cyfnod y cofio yn ddiweddar, fel yr ydym yn ei wneud bob blwyddyn, i dalu teyrnged i'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog, yn y gorffennol a'r presennol, a gwn fod Aelodau yn y Siambr hon wedi cymryd rhan mewn dadl yn ogystal â bod yn bresennol mewn gwasanaethau a digwyddiadau, fel yr ydym yn ei wneud bob amser, fel y gwnes i yn fy etholaeth fy hun. Fodd bynnag, rydym ni i gyd yn cydnabod nad yw cymuned ein lluoedd arfog yn weithredol neu'n weladwy yn ystod pythefnos ym mis Tachwedd yn unig—maen nhw'n gwasanaethu drwy gydol y flwyddyn, effeithir ar eu teuluoedd drwy gydol y flwyddyn, ac efallai y bydd angen cymorth ar y rhai hynny sydd wedi gwasanaethu, drwy gydol y flwyddyn ac am flynyddoedd lawer i ddod.

Mae cyfamod y lluoedd arfog, a gafodd ei weithredu 10 mlynedd yn ôl, wedi gweld camau breision ymlaen yn y gefnogaeth i gymuned ein lluoedd arfog. Mae wedi helpu i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith ein darparwyr gwasanaethau o'r materion sy'n wynebu cymuned y lluoedd arfog a'r cymorth y gallai fod ei angen. Fe wnaeth hefyd ddatblygu a chryfhau gwasanaethau meddygol pwrpasol, fel GIG Cymru i Gyn-filwyr, ac mae wedi gweld cynlluniau cyflogaeth newydd fel bod staff medrus ein lluoedd yn parhau i gyfrannu at ein cymunedau a'n heconomi. Fodd bynnag, mae mwy y gallwn ei wneud i sicrhau bod egwyddorion y cyfamod, sef dim anfantais oherwydd gwasanaeth ac ystyriaeth arbennig i'r rhai hynny sydd wedi rhoi'r mwyaf, yn cael eu cadarnhau. Yn rhy aml, gall cymuned ein lluoedd arfog barhau i lithro drwy'r rhwyd. Yn aml, nid yw hyn oherwydd nad yw darparwr gwasanaeth yn poeni neu nad oes ganddo'r strwythurau ar waith—gallai fod oherwydd diffyg ymwybyddiaeth neu adnabyddiaeth.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd cymal 8 o Fil y Lluoedd Arfog yn helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn. Bydd dyletswydd sylw dyledus, yn debyg i'r hyn a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, yn cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith darparwyr gwasanaethau. Bydd angen i ddarparwyr ddangos eu bod wedi ystyried anghenion cymuned y lluoedd arfog, nid o reidrwydd i roi mantais iddyn nhw dros bobl eraill, ond i sicrhau bod yr ebyrth unigryw y maen nhw wedi eu gwneud, a allai fod wedi effeithio ar eu gallu i gael gafael ar wasanaethau, yn cael eu hystyried.

Er fy mod i'n glir bod cymal 8 o'r Bil sy'n ymwneud â'r cyfamod o fewn cymhwysedd y Senedd, rydym yn cefnogi Bil ar draws y DU i sicrhau bod ymagwedd gydgysylltiedig tuag at yr elfen hon o gymorth i'r lluoedd arfog. Rydym yn gweithio'n agos gyda holl wledydd y DU ac yn rhannu arfer gorau gyda nhw, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae enghreifftiau diweddar wedi cynnwys datblygu pecyn cymorth cyflogaeth ar gyfer gwŷr a gwragedd a phartneriaid milwrol gyda Llywodraeth yr Alban.

Llywydd, hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu gwaith craffu ar y Bil, y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol. Rwy'n croesawu'r ohebiaeth â Chadeirydd y pwyllgor cydraddoldeb ac yn gobeithio y gallwn ni roi'r atebion i'r cwestiynau a godwyd ac a gyhoeddwyd yn adroddiad y pwyllgor. Rwyf i hefyd yn croesawu casgliadau ac argymhellion y pwyllgor deddfwriaeth, ac rwy'n fodlon mynd i'r afael â llawer o'u pwyntiau yn awr.

Fel y noda'r pwyllgor, roedd Llywodraeth y DU wedi nodi'n wreiddiol ei bod o'r farn y byddai cymal 8 yn ysgogi proses y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, gan y gallai'r Senedd wneud darpariaeth gyfatebol, ac yna fe wnaethon nhw newid eu safbwynt. Er bod asesiad cyfreithiol Llywodraeth y DU y tu hwnt i'n rheolaeth ni, ysgrifennais at y Gweinidog, Leo Docherty, ar 20 Mai i fynegi fy siom ddwys ynghylch y newid hwn mewn safbwynt a gofyn am eglurhad o ran eu rhesymu. Ymatebodd y Gweinidog ac esboniodd fod eu barn wedi newid ar ôl dadansoddi'r gyfraith yn fwy. Cododd fy swyddogion y mater hefyd mewn cyfarfodydd gyda Llywodraeth y DU. Gall ein hasesiadau o brif feysydd cymhwysedd yr elfen o'r Bil hwn ymwahanu, ond mae'r ddau, fodd bynnag, wedi ymrwymo i weithredu'r darpariaethau.

Rydym ni'n credu bod angen cydsyniad deddfwriaethol y Senedd, gan fod y rhan fwyaf o'r materion sy'n ymwneud â chefnogi cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru ym meysydd iechyd, addysg a thai sydd o fewn cwmpas y Bil o fewn ei chymhwysedd. Rwyf i'n credu felly ei bod yn iawn i Aelodau gael cyfle i drafod y Bil hwn a'r memorandwm a chael dweud eu dweud.

O ran y gwelliant y gwnaethom ofyn amdano i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn gwneud unrhyw newidiadau i'r canllawiau neu'r rheoliadau, roedd hefyd yn destun siom na fyddai Llywodraeth y DU yn cytuno i'r cais hwn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn syndod, o ystyried y gwahaniaeth yn asesiadau cymhwysedd deddfwriaethol y Bil rhwng Llywodraeth Cymru a thimau cyfreithiol y DU. Fodd bynnag, mae'r Bil yn darparu bod yn rhaid i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn cyhoeddi canllawiau sy'n ymwneud â swyddogaethau datganoledig Cymru. Hefyd, cyn gwneud unrhyw reoliad i ehangu cwmpas y ddyletswydd sylw dyledus i gynnwys cyrff neu swyddogaethau eraill sydd o fewn cymhwysedd y Senedd, mae'r Bil yn darparu hefyd fod yn rhaid i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi datgan y byddai unrhyw newidiadau o'r fath yn cael eu gwneud

'dim ond pan fydd budd mewn gwneud hynny ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol, megis Llywodraeth Cymru ac ar ôl i'r broses Seneddol briodol gael ei chynnal'.

Rwyf i wedi ei gwneud yn glir y byddwn i'n disgwyl i unrhyw gynigion o'r fath i newid canllawiau neu gwmpas y Bil gael eu trafod yn fanwl gyda Llywodraeth ddatganoledig Cymru a phartneriaid. Mae lefel y cydweithio heddiw ar y canllawiau statudol yn cefnogi fy marn ein bod yn gyfranwyr hanfodol wrth ddatblygu canllawiau sy'n ddefnyddiol i'n partneriaid yng Nghymru.

17:50

Dwi nawr yn galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd. Fe wnaethon ni ystyried memoranda Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r Bil Lluoedd Arfog ym mis Medi. Wrth wneud hynny, nodwyd bod ein pwyllgor blaenorol yn y bumed Senedd wedi bod yn craffu ar y Bil. Daeth ein hadroddiad i ddau gasgliad a gwnaeth un argymhelliad, ac rwy’n diolch i’r Dirprwy Weinidog am ymateb i'n hadroddiad cyn y ddadl y prynhawn yma.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Unwaith eto, diolch i fy nghyd-Aelodau yn y pwyllgor a'n clercod a'r tîm cymorth am eu gwaith ar hyn hefyd.

Nawr, fel y mae'r Dirprwy Weinidog wedi ei nodi, mae cymal 8 o'r Bil yn gwneud darpariaethau sy'n ymwneud â chyfamod y lluoedd arfog drwy ddiwygio Deddf y Lluoedd Arfog 2016, ac fe wnaethom nodi asesiad Llywodraeth Cymru bod cymal 8 o'r Bil yn gofyn am gydsyniad y Senedd.

Roeddem yn arbennig o bryderus o nodi, fodd bynnag, fod Llywodraeth y DU wedi newid ei safbwynt ynghylch a yw cymal 8 yn ymwneud â mater datganoledig rhwng cyflwyno'r Bil yn Nhŷ'r Cyffredin ar 26 Ionawr a'i ailgyflwyno ar 12 Mai. Ac, at hynny, nid oes unrhyw esboniad wedi ei roi.

Roeddem ni hefyd wedi siomi, er bod y memorandwm yn nodi newid safbwynt Llywodraeth y DU, nad oedd unrhyw asesiad na manylion pellach wedi eu darparu o ran newid barn Llywodraeth Cymru ar hyn hefyd. Felly, gofynnodd ein hadroddiad i'r Dirprwy Weinidog fynd i'r afael â'r mater hwn, ac fe wnaethom nodi ei hymateb, sy'n nodi ei hymgysylltiad â Llywodraeth y DU a safbwynt Llywodraeth Cymru. Rwy'n croesawu'r wybodaeth gan y Dirprwy Weinidog, a byddem, gyda pharch ac yn ddefnyddiol yn ein barn ni, yn awgrymu y gallai lefel y manylion a ddarparwyd wedyn fod wedi ei chynnwys yn y memorandwm gwreiddiol; i sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael mor rhwydd â phosibl cyn gynted â phosibl.

Nawr, fel yr wyf i wedi sôn eisoes, craffodd ein pwyllgor blaenorol ar y Bil hwn hefyd. Un o'u hargymhellion ar y pryd oedd y dylai'r Dirprwy Weinidog fynd ar drywydd diwygiadau i'r Bil i'r perwyl ei bod yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn cyhoeddi neu ddiwygio canllawiau a chyn gwneud rheoliadau o dan yr adrannau newydd a fewnosodir gan gymal 8. Ac rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ar drywydd yr argymhelliad hwn yn wir, ond rydym ni hefyd yn nodi bod eu cais i Lywodraeth y DU wedi ei wrthod, fel y mae'r Dirprwy Weinidog wedi ei nodi. Wrth wrthod y cais hwnnw, dywedodd Llywodraeth y DU y byddai unrhyw newidiadau o'r fath, mewn dyfyniadau, yn digwydd

'dim ond pan fydd budd mewn gwneud hynny ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol, megis Llywodraeth Cymru'.

Nawr, yn ein barn ni, nid yw'r ymateb hwn yn dangos dealltwriaeth o safbwynt Llywodraeth Cymru fel y Llywodraeth etholedig yng Nghymru. Dywedodd y Gweinidog wrthym, er ei bod wedi ei siomi gan y safbwynt y mae Llywodraeth y DU wedi ei fabwysiadu, ei bod o'r farn, mewn cydbwysedd, fod y manteision yn fwy nag unrhyw niwed sy'n deillio o safbwynt Llywodraeth y DU, ac felly, Llywydd, wrth gloi, tynnaf sylw'r Senedd at y sylwadau hyn. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

17:55

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am eich cyfraniadau yn y ddadl, a hefyd am yr ohebiaeth yr ydym ni wedi ei chael ar y mater hwn? Fel y dywedais yn y sylwadau agoriadol, rwy'n rhannu llawer o'ch pryderon a'ch siom hefyd, ac rwy'n sicr yn derbyn y pwyntiau a wnaethoch chi o ran lefel y manylion a ddarparwyd wedi hynny, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y gallwn ei gymryd yn ôl wedyn wrth i ni symud ymlaen. Ond rwy'n croesawu'r pwyntiau a wnaethoch wrth gloi, gan fy mod i'n credu ein bod ni'n glir bod hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth i gymuned ein lluoedd arfog ac rwy'n credu y bydd yn helpu i feithrin ymagwedd fwy cyson a safon ofynnol o ran darparu gwasanaethau yng Nghymru a ledled y DU, gan ategu gwaith rhagorol ein partneriaid yn y sector cyhoeddus ac elusennol sydd eisoes wedi ei wneud ac adeiladu ar hwnnw. Felly, byddwn i'n annog cyd-Aelodau'r Senedd i gefnogi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2020-21 ac ail adroddiad 5 mlynedd y Comisiynydd

Yr eitem nesaf heddiw yw'r ddadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2020-21, ac ail adroddiad pum mlynedd y comisiynydd. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig. Jeremy Miles.

Cynnig NDM7835 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2020-21)

2. Yn nodi Adroddiad 5 mlynedd Comisiynydd y Gymraeg (2016-20).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom ni yma yn y Senedd, yn y Llywodraeth ac, yn bwysicach, bobman arall yng Nghymru. Dyna dwi wedi'i bwysleisio ers cael fy mhenodi'n Weinidog dros ein hiaith ni, a dyna dwi'n ei bwysleisio heddiw. Faint bynnag o Gymraeg rŷn ni'n ei siarad a beth bynnag mae ein cyswllt â'r iaith wedi bod, mae gyda ni i gyd gyfraniad i'w wneud iddi. Mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf i mi. Dwi'n ddiolchgar i'm rhieni am ei rhoi hi i mi, ac mae medru dwy iaith yn rhoi dwy ffenestr inni edrych ar y byd. Felly, cyn mynd ymlaen at graidd y drafodaeth, dyma jest osod fy ngweledigaeth i yn gryno ar gyfer ein hiaith ni, a sut y byddaf i'n gweld fy ngwaith i fel Gweinidog y Gymraeg.

Dwi am i fwy gael beth ges i. Dwi eisiau i fwy o bobl ddysgu'n hiaith. Dwi am fyw hynny o fy mywyd a allaf i drwy'r Gymraeg. Rydych chi efallai'n meddwl bod dim byd newydd yn fanna, ond ydyn ni yn y pentref polisi Cymraeg yn canolbwyntio digon ar ddefnydd iaith? Ydyn ni'n osgoi hynny efallai am ei fod ef bach yn anodd weithiau? Dwi am i fwy o bobl ddefnyddio'n hiaith ni, nid jest gallu ei siarad hi. Felly, defnydd yw'r allwedd i mi, a drwy brism defnydd dwi'n gweld fy ngwaith fel Gweinidog—defnydd nid jest darparu. 

Nôl ym mis Gorffennaf, fe wnes i gyhoeddi cynllun gwaith pum mlynedd 'Cymraeg 2050' er mwyn gwneud yn siŵr bod y weledigaeth honno'n dod yn fyw. Edrych ymlaen at bum mlynedd nesaf polisi iaith rôn i bryd hwnnw, ac mae cynlluniau reit gyffrous gyda ni ar y gweill, a mwy am y rheini dros y misoedd sy'n dod. Ond o dro i dro mae'n bwysig edrych nôl, a dyna rŷn ni'n ei wneud heddiw, ac rŷn ni'n gwneud hynny dros y flwyddyn ddiwethaf a dros y pum mlynedd diwethaf drwy lygaid Comisiynydd y Gymraeg.

Dyw'r cyfnod diweddar ddim wedi bod yn un hawdd i'r comisiynydd. Fel pob un ohonom ni, roedd yn rhaid i'r comisiynydd addasu i ddulliau newydd o weithio oherwydd COVID. Ond ar ben hynny, fe ddioddefodd y comisiynydd ymosodiad seiber anffodus iawn, ac mae'r gwaith adfer yn dilyn hwnnw wedi bod yn sylweddol. Rŷn ni'n parhau i weithio gyda'r comisiynydd i'w helpu gyda'r gwaith o adfer ei systemau yn dilyn yr ymosodiad yna.

Ym mis Hydref, fe gyhoeddodd y comisiynydd ei adroddiad pum mlynedd. Diben yr adroddiad yw rhoi trosolwg annibynnol inni o sefyllfa'n hiaith, rhywbeth sy'n hollbwysig wrth inni weithio tuag at y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050, a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg.

Yn ei adroddiad pum mlynedd ar sefyllfa'r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'r comisiynydd yn ffocysu ar waith y Llywodraeth ac yn gosod sawl her inni. A dwi wastad yn croesawu heriau deallus ym mhob agwedd ar fy ngwaith. Does gan neb fonopoli ar syniadau da, a gaf i gymryd y cyfle i ddiolch i'r holl gyrff ac ymgyrchwyr eraill sydd wedi bod yn gweithio dros y Gymraeg yn y cyfnod o dan ystyriaeth yn yr adroddiad?

Mae themâu tebyg yn amlwg yn y ddau adroddiad rŷn ni'n eu trafod heddiw, yr adroddiad blynyddol a'r adroddiad pum mlynedd. Yn un peth, mae'r comisiynydd yn gofyn inni ddod â mwy o gyrff a sectorau o dan drefn safonau'r Gymraeg. Dwi am fod yn glir ac yn groyw am y safonau: rwy'n cefnogi'r drefn safonau ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Phlaid Cymru ar sail ein cytundeb cydweithredu ar hyn. Fel y comisiynydd, rwy'n falch bod gyda ni bellach fwy o hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg gyda chyrff cyhoeddus, a dwi hefyd eisiau gwybod beth yn union yw effaith y safonau yna ar ddefnydd dydd i ddydd ein hiaith ni.

Os nad yw e'n hollol amlwg hyd yn hyn, dwi'n benderfynol o ystyried popeth rwy'n ei wneud fel Gweinidog y Gymraeg, drwy ba sianel bynnag, drwy lens defnydd y Gymraeg. Felly, dwi wedi gofyn i'r comisiynydd wneud darn o waith yn ystyried hyn. Dwi wedi gwneud hyn oherwydd fy mod i'n awyddus i ddeall sut mae'r safonau sydd eisoes wedi eu gosod yn helpu siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio mwy o Gymraeg ac am y rhwystrau sy'n atal pobl rhag defnyddio gwasanaethau Cymraeg. Yn ei adroddiad pum mlynedd, mae'r comisiynydd ei hun yn cydnabod nad yw nifer y bobl sy'n dewis defnyddio gwasanaethau Cymraeg yn cyfateb i'r nifer sy'n gallu siarad Cymraeg, felly mae'n rhaid inni edrych i mewn i hynny. 

Mae'n rhaid inni ddeall mwy hefyd am y rhwystrau mae sefydliadau yn dod wyneb yn wyneb â nhw wrth iddyn nhw roi cynnig ar ddarparu gwasanaethau Cymraeg, a deall pwy sydd yn y lle gorau i'w helpu a sut mae'r help yna'n edrych. Bydd casgliadau'r gwaith yna yn cyfoethogi dylanwad y safonau y byddwn ni'n eu paratoi yn y dyfodol, gyda'r bwriad eu bod nhw'n cynyddu faint o Gymraeg rŷn ni'n ei defnyddio o ddydd i ddydd.

Mae'r comisiynydd hefyd yn rhannu ein pryderon ni am effeithiau COVID ar y Gymraeg. Trwy gydol y pandemig, rŷn ni wedi bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth a thu hwnt er mwyn ymateb i sefyllfa a oedd yn newid yn gyflym. Rŷn ni wedi cyhoeddi ymateb reit sylweddol i'r awdit wnaethom ni ar effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg. Rŷn ni eisoes wedi dechrau gweithredu. Hefyd, mae rhai llwyddiannau wedi dod yn ystod y cyfnod anodd yma. Rydym ni wedi gweld diddordeb fel rydym ni erioed wedi ei weld mewn dysgu Cymraeg, er enghraifft, gyda lot o gyrsiau rhithiol newydd.

Mae fy mlaenoriaethau i dros y Gymraeg yn glir. Dwi am weld mwy o bobl yn defnyddio pa Gymraeg bynnag sydd gyda nhw bob dydd, yn eu cartrefi, yn eu cymunedau a'u gweithleoedd. Mae angen inni ddysgu gwersi o beth sy'n gweithio a beth sydd ddim, ac mae angen inni fod yn ddigon dewr i newid siẁd rŷn ni'n gwneud pethau os nad ŷn nhw'n gweithio. Mae angen inni flaenoriaethu, a gallai hynny olygu stopio gwneud rhai pethau er mwyn gwneud pethau mwy pellgyrhaeddol. Ac mae angen inni i gyd, yn Llywodraeth, yn gomisiynydd ac yn bartneriaid oll, sylweddoli bod y byd wedi newid ac, oherwydd y newidiadau hyn, mae'n amlwg bod angen inni hefyd newid y ffordd rŷn ni'n gweithio ac esblygu hynny.

18:00

Hoffwn i groesawu'r ddadl heddiw ar y ddau adroddiad gan Gomisiynydd y Gymraeg, a hoffwn ddatgan buddiant. Dyma'r cyfle cyntaf i mi wneud sylwadau ar waith y comisiynydd a hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith caled y mae ef a'i dîm wedi'i wneud i gyflawni eu rolau, nid yn unig dros y 18 mis diwethaf, ond cyn hynny hefyd. Fel rydw i a llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi dweud, a chi hefyd, Weinidog, mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb, o bob cefndir. Mae'r gwaith y mae Comisiynydd y Gymraeg yn ei wneud yn helpu nid yn unig i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg, ond i ddiogelu a chynyddu’r defnydd hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gan edrych ar yr adroddiad pum mlynedd, rwy'n nodi pryder y comisiynydd:

'Er i'r uchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr gael ei chroesawu’n fawr adeg ei chyhoeddi yn 2017, mae peth amheuaeth ynghylch a yw'r ymdrechion hyd yma'n ddigonol i'w gwireddu.'

O gofio mai dim ond ers mis Mai yr ydych chi wedi bod yn Weinidog dros y Gymraeg, mae gennyf ddiddordeb mewn clywed a ydyn ni'n dal i fod ar y trywydd cywir i gyrraedd y targed hwn erbyn 2050 a pha gamau yr ydych chi wedi eu cymryd i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y targed.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod yna ganfyddiad ymhlith siaradwyr Cymraeg fod gwasanaethau Cymraeg yn gwella i lefel lle maent yn hapus i drafod eu busnes gyda sefydliadau cyhoeddus yn y Gymraeg. Ond, rwy'n rhannu pryder y comisiynwyr am y diffyg data i fesur faint mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio wrth ddelio â sefydliadau cyhoeddus, ac mae'n broblemus nad os unrhyw ofyniad i'r sefydliadau sy'n cael eu llywodraethu gan safonau'r Gymraeg fonitro'r defnydd o'r iaith. Beth yw eich cynlluniau, Weinidog, i fynd i'r afael â'r galwadau hyn?

Mae'r adroddiad yn cyffwrdd â'r angen i fusnesau ac i elusennau hyrwyddo'r ffaith eu bod yn cynnig opsiwn cyfrwng Cymraeg. Wrth beidio â hyrwyddo hyn, nid yw llawer o siaradwyr Cymraeg yn mynd i ofyn am y gwasanaeth, ac i ofyn a yw'r gwasanaeth ar gael, ac ni fyddant wedyn yn trafod eu busnes yn Gymraeg. Weinidog, hoffwn glywed mwy am ba rôl y gall eich Llywodraeth chi chwarae wrth helpu i ddangos y gellir cynnig gwasanaethau yn ddwyieithog.

Yn ystod y ddadl hon y llynedd, tynnodd Suzy Davies sylw at y cwymp yn y galw am Gymraeg Safon Uwch, a allai effeithio ar gynlluniau i recriwtio a hyfforddi mwy o athrawon sydd â sgiliau Cymraeg. Mae'r her o ran recriwtio athrawon, yn enwedig ar lefel uwchradd, yn fater dwi wedi'i godi gyda chi o'r blaen yn y Siambr. Hoffwn glywed pa gynnydd sydd wedi ei wneud yn y maes hyn.

Yn olaf, Weinidog, a gaf i ofyn am gynlluniau yn y dyfodol yn dilyn ymlaen o gynllun Arfor, a redodd rhwng 2016 a 2020, gan wario £2 filiwn ar draws pedair sir Gymraeg, yn naturiol, yn bennaf i greu mwy o swyddi a gwell swyddi i gefnogi'r iaith? Mae'r comisiynydd yn nodi mai prin yw'r dystiolaeth ar hyn o bryd o lwyddiant y prosiect, ac mae'n bosibl nad yw chwistrelliad untro o arian heb fod iddo ddiben penodol iawn yn ddigon i greu sail tystiolaeth ynghylch y cysylltiad rhwng gwaith ac iaith. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r feirniadaeth hon, a pha newidiadau y gellir eu gwneud i gynlluniau yn y dyfodol i sicrhau eu bod yn cyflawni eu nodau yn llawnach?

Weinidog, mae'r adroddiadau gan y comisiynydd yn gefnogol, ond maent yn gosod her i'ch Llywodraeth i ddangos bod ganddi syniadau newydd i'w helpu i gyflawni ei hymrwymiadau a'i nodau. Byddaf yn hapus i gefnogi eich ymdrechion i annog mwy o bobl i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg, ond rwy'n aros am ymatebion i rai o bryderon y comisiynydd yr wyf wedi eu hamlygu heddiw i sicrhau bod dyfodol y Gymraeg yn ddiogel am genedlaethau i ddod. Diolch.

18:05

Dwi'n falch iawn o allu cyfrannu i'r ddadl yma heddiw, ond, cyn symud ymlaen, dwi am ddiolch o galon i'r comisiynydd am ei waith a'i ymrwymiad diflino i'r Gymraeg.

Mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn yn barod am fanteision bod yn  ddwyieithog, ac rydw innau hefyd yn hynod o falch bod gen i ddwy iaith, oherwydd dwy iaith, dwywaith y dewis, ac, mewn gwirionedd, dwi am annog pawb yng Nghymru—plant, rhieni, pobl sydd yn oedolion—sydd am ddysgu'r iaith i fanteisio ar y cyfle i fod yn ddwyieithog.

Mae gan ddwyieithrwydd, wrth gwrs, nifer fawr o fanteision amlwg—yn fanteision cymdeithasol, economaidd, gwybyddol, ac yn y blaen—ac mae'r defnydd o'r iaith yn rhywbeth cymhleth dros ben, a dwi wedi cyfeirio'n barod at yr hyder sydd yn dod o ddefnyddio'r iaith yn gyson. Nawr, mae diffyg hyder, wrth gwrs, weithiau yn adlewyrchu ei hun yn y dewis, efallai, o Saesneg wrth ymwneud person â chyrff cyhoeddus. Mae diffyg hyder yn aml iawn deillio yn ôl i ddiffyg sgiliau yn y Gymraeg, felly mae'n rhaid i ni edrych arno fe fel cylch, mewn gwirionedd: diffyg sgiliau, diffyg hyder, diffyg defnydd. Felly, yn hytrach na bod yn feirniadol o'r diffyg ymwneud yna, mae'n rhaid i ni edrych i weld beth mae'r cyrff cyhoeddus yn ei wneud i'w gwneud hi'n rhwyddach i bobl ddefnyddio'r Gymraeg gyda nhw, a dwi'n croesawu'r ymchwil sydd yn mynd i gael ei wneud i hynny, achos mae angen i'r gwasanaeth dwyieithog yna fod yn un diofyn a dilestair, mewn gwirionedd, fel bod pobl yn gwneud y defnydd gorau o'r cyfleoedd. Beth sydd yn wych yn y Siambr yma yw bod yna bobl sydd wedi dysgu'r Gymraeg yn cymryd y cyfle hefyd i ddefnyddio'r iaith, ac mae hynny'n beth gwych iawn, iawn.

Mae adroddiad y comisiynydd yn nodi ystod eang o heriau sydd wedi wynebu'r Gymraeg dros y flwyddyn neu'r blynyddoedd diwethaf, o Brexit a'r pandemig i ganslo'r digwyddiadau cymdeithasol sydd wedi bod mor bwysig i bobl i ddod at ei gilydd i ddefnyddio'r iaith ym mhob rhan o Gymru, a chau ysgolion, a hefyd y mater o ail gartrefi rŷn ni wedi'i drafod yn barod y prynhawn yma, a'r diffyg gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael yn y Gymraeg.

Ond rwyf am dynnu sylw at un mater sydd yn peri pryder mawr i fi. Mae'r adroddiad yma yn adroddiad pum mlynedd, ac yn nodi mai un o amcanion craidd y strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg yw cynyddu capasiti a sgiliau'r gweithlu cyfrwng Cymraeg. Nawr, yn anffodus, rŷn ni wedi gweld gostyngiad yn hyn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r data yma yn peri gofid penodol. Bu cwymp trawiadol yn y pum mlynedd diwethaf yn nifer yr athrawon newydd gymhwyso sy'n gallu siarad Cymraeg, neu sy'n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gostyngiad o 23 y cant yn y nifer sy'n gallu siarad Cymraeg a 27 y cant sy'n gallu gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg. Nawr, mae hyn lawer yn fwy na'r 8 y cant o ostyngiad yng nghyfanswm yr athrawon newydd gymhwyso. Mae hyn, wrth gwrs, yn fater o bryder mawr, ac mae'n amlwg bod siaradwyr Cymraeg ifanc yn gweld gyrfa arall y tu fas i'r sector addysg, yn anffodus. Felly, hoffwn i ofyn i chi beth yn union yw'ch cynlluniau chi i fynd i'r afael â hyn er mwyn sicrhau gweithlu digonol i gyflawni amcanion strategaeth 2050?

Os caf i droi yn sydyn cyn cloi at safonau iaith, dwi am ofyn i chi beth yw'r rhwystrau rhag gweithredu mwy o safonau iaith yn y sectorau hynny lle nad yw'r safonau'n bodoli'n barod, sectorau fel trafnidiaeth gyhoeddus, rheoleiddwyr yn y sector iechyd, a nifer o gyrff cyhoeddus eraill, cwmnïau dŵr a chymdeithasau tai yn benodol. Felly, sut ŷn ni'n eu tynnu nhw i mewn i'r cylch o safonau iaith?

Rwyf am orffen, Dirprwy Lywydd, gyda hyn: fe wnaeth Sam gyfeirio at y ffaith bod y comisiynydd wedi dyfynnu pryder, a dwi'n dyfynnu peth amheuaeth ganddo fe, ynghylch a yw'r ymdrechion hyd yma yn ddigonol i wireddu amcanion strategaeth 2050? Ydych chi'n cytuno ag asesiad y comisiynydd o sefyllfa'r Gymraeg? Diolch yn fawr iawn.

18:10

Hoffwn i ddiolch i Gomisiynydd y Gymraeg a'i staff am eu gwaith parhaus. I'r rhai hynny sy'n ddibynnol ar y sector gofal, nid yw siarad Cymraeg yn fater o ddewis, mae'n anghenraid. Ar hyn o bryd rwy'n ymdrin ag etholwr y mae ei fam, sy'n dioddef o ddementia, wedi colli'r gallu i siarad yn Saesneg. Cwympodd yn ddiweddar a chafodd ei gorfodi i aros bron i bum awr am gymorth, sefyllfa wael ynddi ei hun, ond un a wnaed gymaint yn waeth gan nad oedd hi'n gallu cyfathrebu â staff yr ambiwlans. Treulio oriau mewn poen, wedi ofni ac yn gwbl ynysig, a'r cyfan oherwydd nad yw'r staff yn siarad eich iaith. Mae'r gallu i gyfathrebu yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn ei gymryd yn ganiataol. Mae'n rhaid ei bod yn frawychus pan nad yw pobl yn eich deall chi a hynny ar adeg o angen mawr. Yn anffodus, nid fy etholwr i yn unig a oedd yn wynebu'r profiad hwn. Yn anffodus, mae prinder staff sy'n siarad Cymraeg ym maes iechyd a gofal yn arwain at sefyllfa fel hon yn llawer rhy aml. Mae'r comisiynydd yn tynnu sylw at y ffaith bod cynnydd yn cael ei wneud i godi nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n mynd i ofal iechyd drwy gynlluniau fel Meddygon Yfory. Yn ôl adroddiad y comisiynydd, mae Meddygon Yfory, menter ar y cyd rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r ysgolion meddygol yng Nghaerdydd ac Abertawe, wedi gweld y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn dechrau eu hyfforddiant meddygol. Fodd bynnag, un peth yw hyfforddi meddygon Cymraeg yfory; peth arall yw eu hargyhoeddi i aros ac ymarfer yng Nghymru.

Ac er ein bod yn gwneud cynnydd, er yn araf, wrth recriwtio meddygon sy'n siarad Cymraeg, mae gennym ni broblem fwy byth ym maes gofal cymdeithasol. Ym maes gofal cymdeithasol, mae llai na 13 y cant o staff ledled Cymru yn siaradwyr Cymraeg. Rydym yn ei chael yn anodd recriwtio digon o staff i ddiwallu anghenion gofal Cymru heddiw, heb sôn am yfory. Er mwyn ymateb i'r heriau, mae gweiddi mawr i recriwtio staff o dramor. Er y gallai'r trefniadau tymor byr hyn leddfu'r argyfwng recriwtio, bydd hefyd yn lleihau nifer y staff gofal sy'n siarad Cymraeg. Rydym yn gwybod bod llawer o staff gofal cymdeithasol yn nesáu at oedran ymddeol yn ystod y degawd nesaf. Os nad ydym yn recriwtio staff Cymraeg eu hiaith sy'n hanu o Gymru i gymryd eu lle, yna rydym yn dwysáu'r broblem. Mae pobl fel fy etholwyr i yn dibynnu arnom ni i sicrhau bod y staff sy'n gofalu amdanyn nhw yn gallu cyfathrebu'n dda â nhw, ac mae anallu i siarad Cymraeg yn rhwystr i ofal, ac yn un y mae'n rhaid i ni ei oresgyn ar frys.

Diolch i Gomisiynydd y Gymraeg am ei waith parhaus i wella'r sefyllfa, ond mae'r cynnydd yn llawer rhy araf. Nid yn unig y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau i wneud gofal cymdeithasol yn yrfa ddeniadol gyda chyflog ac amodau mwy na digonol, mae'n rhaid iddyn nhw hefyd gymell siaradwyr Cymraeg i ymgymryd â phroffesiwn gofalu, yn ogystal â'i gwneud yn haws i staff presennol feithrin sgiliau Cymraeg. Mae angen ar ein hetholwyr i ni weithredu. Faint yn rhagor o bobl yn dioddef o ddementia fydd yn cael eu gadael yn ynysig ac ar eu pennau eu hunain, wedi drysu ac ag ofn, oherwydd bod staff yn methu â chyfathrebu â nhw yn eu mamiaith? Diolch yn fawr iawn.

18:15

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw? Ac mae'n amlwg wrth glywed geiriau brwdfrydig o bob rhan o'r Siambr fod cyfleoedd gyda ni i gyd yma yn y Siambr i gydweithio tu hwnt i'r cytundeb cydweithredol sydd rhyngom ni fel Llywodraeth a Phlaid Cymru, ond gyda phob rhan o'r Siambr i sicrhau ffyniant yr iaith, a sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn ni fel Llywodraeth, a hefyd y cyrff eraill rŷm ni'n gweithio gyda nhw fel partneriaid, i sicrhau ein bod ni'n gwneud ein gorau glas i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050, ac, wrth gwrs, y nod bwysig arall honno o ddyblu defnydd o'r Gymraeg dros yr un cyfnod. Ac rwy'n sicr bod Aelodau wedi clywed y pwyslais rwyf wedi dodi yn yr araith agoriadol ar ddefnydd fel lens polisi i fi fel Gweinidog y Gymraeg.

Fe wnaeth Sam Kurtz a Cefin Campbell ill dau godi'r cwestiwn pwysig iawn: 'Ydych chi'n sicr eich bod chi'n gwneud popeth sydd ei angen ar hyn o bryd? Ydych chi'n dal yn gwneud digon o gynnydd tuag at filiwn o siaradwyr a'r nod pwysig hwnnw o ran polisi Llywodraeth Cymru?' Wel, bydd y cyfle cyntaf i ni werthuso hynny o ran data yn cyrraedd y flwyddyn nesaf gyda'r cyfrifiad, a bydd angen i ni i gyd edrych ar y canlyniadau pwysig hynny. Mae amryw o arolygon yn y cyfamser wedi dangos cynnydd, ond ar sail y rhifau hynny rŷm ni'n disgwyl cael ein mesur. Felly, bydd cyfle i ni i gyd edrych ar y cyd ar hyn o ran y cynnydd sydd wedi bod y flwyddyn nesaf, a bydd cyfle i ni bryd hynny i edrych eto ar y rhaglen waith wnes i ei chyhoeddi yn ystod tymor yr haf. Ac mae'r rhaglen waith honno yn disgrifio'r camau rŷm ni'n bwriadu cymryd fel Llywodraeth, ar ôl i fi ddod mewn i'r rôl ym mis Mai, dros y pum mlynedd nesaf, i sicrhau ein bod ni ar y trac i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

O ran a ydy'r rhaglen waith honno yn ddigonol, does dim dadansoddiad yn adroddiad y comisiynydd o'r rhaglen waith. Fe fyddwn i yn gwerthfawrogi ac yn croesawu asesiad o'r cyfraniad hwnnw. Mae amryw o'r pwyntiau mae'r comisiynydd yn eu codi yn yr adroddiad yn cael eu hateb yn y rhaglen waith honno, felly byddwn i yn croesawu dadansoddiad pellach o'r hyn rŷm ni eisoes wedi ei gyhoeddi yn ystod tymor yr haf.

O ran y pwyntiau ehangach a wnaeth Sam Kurtz, 'A ydym ni'n gwneud popeth gallwn ni?' Rwyf jest eisiau pwysleisio bod y ffocws ar ddefnydd, rwy'n credu, yn un pwysig iawn oherwydd mae'n gyrru pob ymyrraeth arall gallwn ni ei gwneud fel Llywodraeth, o ran ariannu, o ran cydweithio â phartneriaid. Mae popeth rŷm ni'n ei wneud, o ran rheoleiddio, o ran annog a hybu, yn rhan bwysig o'r darlun cyflawn, ond mae'n rhaid sicrhau bod hynny yn arwain at fwy o ddefnydd dyddiol yn ein cymunedau ni, yn ein gweithleoedd ni, ac o fewn ein teuluoedd ni. Rwy'n credu bod y ffocws hynny yn un pwysig dros y cyfnod nesaf er mwyn sicrhau cynnydd.

Fe wnaeth Sam Kurtz sôn am ganfyddiad y cyhoedd bod y safonau a chyfreithiau eraill yn cynyddu mynediad at wasanaethau Cymraeg, ac mae hynny, wrth gwrs, yn beth i'w groesawu. Y cyfle nawr yw i symud tu hwnt i ganfyddiad a gallu cael casgliad, efallai, sicrach ar sail data a dadansoddiad o hynny. Does dim data newydd yn yr adroddiad rŷm ni'n ei drafod heddiw, a hoffwn i hefyd ddeall yn well y rhifau o bobl sydd yn defnyddio gwasanaethau. Mae'r pwynt a wnaeth Cefin Campbell yn bwysig iawn yn hyn o beth, hynny yw, yr hyder a'r gallu i wneud hynny, ond mae'n rhaid i ni gael gwell dealltwriaeth na sydd gyda ni o'r rhifau o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau yma. Mae'r adroddiad ei hun yn dweud bod hynny'n llai na'r rhifau o bobl sydd yn medru'r Gymraeg, ac rwy'n falch ein bod ni'n gallu cydweithio â'r comisiynydd ar ddeall y darlun hwnnw yn gyflawnach, a'r pwynt pwysig a wnaeth Cefin Campbell yn ei gyfraniad e o ddeall y rhwystrau sydd yn golygu nad yw pobl yn mynnu'r gwasanaethau yn y Gymraeg, neu fod sefydliadau ddim yn gallu eu darparu nhw fel y byddem ni'n disgwyl yn y Gymraeg. Mae dealltwriaeth o'r pethau sydd yn rhwystro hynny yn gwbl greiddiol, rwy'n credu, i'r broses o sicrhau bod y safonau yn gwneud y gwaith rŷm ni eisiau iddyn nhw ei wneud.

Fe wnaeth Cefin Campbell ofyn pwynt penodol ar y rhwystrau o ran y broses o osod safonau. Rwy'n credu mai dyna oedd pwynt y cwestiwn. Mae'r broses o'u gosod nhw, fel mae e wedi esblygu, ddim yn tueddu tuag at broses syml. Hynny yw, mae camau mae'r comisiynydd yn eu gwneud, mae camau pellach mae'n rhaid inni eu gwneud fel Llywodraeth, ac mae'r cyrff sydd yn disgwyl bod yn ddarostyngedig i'r safonau wedyn mewn proses gynyddol a pharhaol o ymgynghori a chyfrannu. Felly, dwi ddim yn credu mai dyna'r ffordd orau o wneud hyn. Rŷm ni wedi cael trafodaeth ac yn dal i gael trafodaeth gyda'r comisiynydd—trafodaeth adeiladol—am sut allwn ni sicrhau bod y broses honno yn symlach, fel ein bod ni'n gallu gosod safonau sy'n gwneud eu pwrpas yn haws yn y dyfodol, ac, wrth gwrs, mae hynny yn rhan o'r cytundeb sydd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ynghyd â'r cwestiynau wnaeth Cefin Campbell sôn am safonau ar drafnidiaeth, ar gwmnïau dŵr, ar reoleiddwyr iechyd a chymdeithasau tai. Rwy'n disgwyl ymlaen at y cyfle i drafod hynny ymhellach ag e.

Ond gaf i ddiolch i'r comisiynydd am ei waith? Gaf i ddiolch i'r holl sefydliadau a mudiadau ac ymgyrchwyr eraill sy'n gwneud cyfraniad mor bwysig i ffyniant y Gymraeg ac yn ein helpu ni i gyd ar y nod rŷm ni i gyd yn ei rannu o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dyblu defnydd pob dydd?

18:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Yr eitem nesaf heddiw yw'r ddadl ar adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7834 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar weithrediad Tribiwnlysoedd Cymru dros flwyddyn ariannol 2020-2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o agor y ddadl hon, y ddadl ar adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar gyfer 2020 i 2021. Dyma'r trydydd adroddiad blynyddol gan Syr Wyn Williams yn ystod ei gyfnod fel llywydd. Cyn imi drafod yr adroddiad ymhellach, dwi'n siŵr y bydd yr Aelodau am ymuno â mi i ddiolch i Syr Wyn, diolch iddo am ei ymroddiad bob amser yn ei swydd fel llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Syr Wyn yw'r cyntaf i wneud y swydd a gafodd ei chreu gan Ddeddf Cymru 2017. Mae Syr Wyn wedi chwarae rôl allweddol i ddatblygu'r system ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru yn y dyddiau cynnar. Rydym ni'n cofio hefyd am ei gyfraniad pwysig i gryfhau annibyniaeth y farnwriaeth ac arweiniad barnwrol. Mae ef wedi bod yn allweddol hefyd wrth lunio'r agenda ar gyfer diwygio Tribiwnlysoedd Cymru. Bydd gen i ragor o sylwadau am hyn mewn rhai munudau.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Tribiwnlysoedd Cymru wedi parhau i ymateb i'r heriau sylweddol iawn a ddaw yn sgil pandemig y coronafeirws. Rhoddodd y llywydd dystiolaeth i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar 1 Tachwedd a dywedodd fod Tribiwnlysoedd Cymru wedi ymdrin â phob achos a gyflwynwyd yn 2020-21. Ac mae'n glod i'r llywydd, arweinwyr barnwrol, aelodau'r tribiwnlys ac uned Tribiwnlysoedd Cymru bod Tribiwnlysoedd Cymru wedi gallu gweithredu o bell dros y cyfnod a gwneud hynny'n llwyddiannus yn wyneb amgylchiadau anodd parhaus. Mae'r perfformiad hwn yn arbennig o nodedig pan fydd rhywun yn edrych ar yr oedi yn y system gyfiawnder a welwyd ledled Cymru a Lloegr yn yr un cyfnod. Ac mae'n bwysig o ran mynediad at gyfiawnder bod Tribiwnlysoedd Cymru wedi parhau i weithredu'n effeithiol, gan y gallai'r canlyniadau i'r rhai a fyddai'n ceisio cymorth ganddyn nhw, yn enwedig defnyddwyr tribiwnlys yr adolygiad iechyd meddwl, fod wedi bod yn ddifrifol iawn oni bai am hynny.

Wrth gwrs, bu Syr Wyn hefyd yn gwasanaethu ar y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a chyfrannodd at ei gyfres gynhwysfawr o argymhellion ar ddyfodol cyfiawnder yng Nghymru. Yn fwyaf diweddar, yn llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, mae wedi gweithio gyda Chomisiwn y Gyfraith i lywio ei adolygiad o'r gyfraith sy'n llywodraethu gweithrediad y tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru. Ac mae un o'r argymhellion a wnaed gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, ac un yr wyf i'n rhagweld ei fod yn debygol y bydd Comisiwn y Gyfraith yn ei wneud, yn ymwneud ag annibyniaeth strwythurol uned Tribiwnlysoedd Cymru. Nid yn unig y mae hwn yn fater sydd wedi bod yn thema gyson ym mhob un o adroddiadau blynyddol y llywydd, mae'n un a ailadroddodd y llywydd yn ei ymddangosiad diweddar gerbron y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. I ddefnyddio geiriau'r llywydd o'i ymddangosiad gerbron y pwyllgor,

'dylai uned Tribiwnlysoedd Cymru fod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, a chael ei gweld felly',

er mwyn hyrwyddo egwyddor sylfaenol annibyniaeth y farnwriaeth. Nid yw hon yn sefyllfa y byddwn i'n ei gwrthwynebu.

Ac wrth i'n system o dribiwnlysoedd Cymru o dan Ddeddf Cymru 2017 ddatblygu, felly hefyd swyddogaeth uned Tribiwnlysoedd Cymru o ran eu gweinyddu. Mae'r uned yn rhan o Lywodraeth Cymru ac, fel Llywodraeth, rydym yn gwerthfawrogi ac yn parchu gwaith barnwriaeth Tribiwnlysoedd Cymru. Rydym yn cydnabod eu huniondeb, eu hymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus a'r rhan bwysig y maen nhw’n ei chwarae wrth arfer cyfrifoldebau cyhoeddus yng Nghymru. Ac nid oes gen i unrhyw amheuaeth nad yw'r Llywodraeth hon a'r Senedd hon yn cydnabod ac yn deall pwysigrwydd yr egwyddor o annibyniaeth farnwrol. Rwy'n ffyddiog wrth ddweud bod yr egwyddor hon yn llywio'r ffordd y mae sefydliadau barnwrol yn cael eu cefnogi ac y byddan nhw'n parhau i gael eu cefnogi yng Nghymru.

Nid oes gen i unrhyw amheuaeth ychwaith na fydd argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn nodi'r diwygiadau strwythurol sydd eu hangen i foderneiddio ein system dribiwnlysoedd. Bydd ailfodelu'r gwaith o weinyddu cyfiawnder yn rhan angenrheidiol o'n taith tuag at ddatblygu seilwaith cyfiawnder i Gymru sy'n gallu rheoli ymwahaniad fwy byth y gyfraith o Loegr.

Ac yn olaf, hoffwn i droi at flaenoriaethau'r llywydd yn y dyfodol, a dau yn benodol: yn gyntaf, gwerthuso sut y dylai Tribiwnlysoedd Cymru weithredu ar ôl y pandemig o ran y cydbwysedd rhwng gwrandawiadau o bell ac wyneb yn wyneb er mwyn sicrhau mynediad gorau at gyfiawnder; ac yn ail, ymateb i'r argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith a'u cynorthwyo i'w gweithredu. Gallwn ni i gyd fod yn falch iawn y bydd Syr Wyn yn dod â'i brofiad a'i arweiniad i fwrw ymlaen â'r materion pwysig hyn. Dirprwy Lywydd, wrth gloi, gobeithio y bydd yr Aelodau yn ymuno â mi i ddiolch i lywydd Tribiwnlysoedd Cymru am ei adroddiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Diolch, Dirprwy Lywydd.

18:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein pwyllgor yn croesawu’r ddadl heddiw ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i drefnu dadleuon ar adroddiadau blynyddol yn y dyfodol gan lywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Edrychwn ymlaen at weld y ddadl hon yn rhan arferol o fusnes y Senedd.

Dim ond ychydig o sylwadau byr sydd gen i heddiw, ond rwyf i'n ymuno â'r Gweinidog a'r Cwnsler Cyffredinol yn ei sylwadau a gofnodwyd ynghylch Syr Wyn, a hefyd gwaith Syr Wyn yn y dyfodol. Rwy'n credu ein bod ni wedi ein bendithio o fod â phobl fel fe, o'i safon ef, i arwain rhywfaint o'r gwaith hwn yng Nghymru.

Ar 1 Tachwedd, fel y dywedodd y Gweinidog, daeth llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Syr Wyn, i'n cyfarfod pwyllgor i drafod ei adroddiad blynyddol, ac mae hwn yn gynsail a osodwyd gan ein pwyllgor blaenorol. Rydym yn diolch i'r Cadeirydd ac aelodau ein pwyllgor blaenorol am fynd i'r cyfeiriad hwnnw. Mae'n un yr ydym yn bwriadu ei ddilyn drwy gydol y tymor Senedd hwn. Rwy'n credu ei fod yn arwydd o'r parch sy'n aeddfedu a chryfder y sefydliad democrataidd hwn hefyd ein bod yn gwneud hyn.

Yn ystod y cyfarfod, fe wnaethom ni drafod blaenoriaethau allweddol Syr Wyn ar gyfer gweddill ei dymor yn y swydd, o ran mynediad at gyfiawnder a phrosiect tribiwnlysoedd datganoledig Comisiwn y Gyfraith yng Nghymru, a materion eraill hefyd, y mae'r Gweinidog wedi sôn amdanyn nhw. Nid wyf i'n bwriadu manylu arnyn nhw heddiw, ond mae wedi nodi rhai o'r materion pwysig sy'n cael effaith mewn gwirionedd ar faterion bara menyn i ddinasyddion yng Nghymru. Roeddem yn ddiolchgar iawn i Syr Wyn am ei atebion gonest a helaeth. Ni fyddwn yn disgwyl dim llai, mae'n rhaid i mi ddweud, gan Syr Wyn; dyma'r ffordd y mae'n ymdrin â hyn—yn onest iawn, yn syml iawn. Bydd hyn yn ein helpu ni i lywio ein blaenraglen waith hefyd. Rwy'n credu iddo ein cyfeirio at feysydd i edrych arnyn nhw. Felly, rydym yn edrych ymlaen at barhau â'r ddeialog hon gyda Syr Wyn yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad sydd ar y gweill gan Gomisiwn y Gyfraith hefyd.

Yn rhan o'n trafodaeth gyda Syr Wyn, fe wnaethom ni ystyried gwaith tribiwnlysoedd unigol Cymru. Fel rhan o'n gwaith monitro rheolaidd, rydym ni wedi ysgrifennu erbyn hyn at bwyllgorau perthnasol y Senedd i dynnu eu sylw at yr adroddiadau blynyddol a gyhoeddwyd gan dribiwnlysoedd Cymru sy'n dod o fewn eu cylchoedd gwaith. Mae hyn, unwaith eto, yn rhan o gryfhau ein gwaith craffu a'n diwydrwydd dyladwy yma yn y sefydliad hwn. Felly, rydym yn edrych ymlaen at barhau â'r arfer hwn yn ein pwyllgor drwy gydol y chweched Senedd.

Ac yn olaf, wrth adleisio sylwadau'r Gweinidog a'r Cwnsler Cyffredinol, ar hyn o bryd mae disgwyl i dymor Syr Wyn yn y swydd ddod i ben ym mis Mawrth 2022, felly hoffem ni fel pwyllgor, a hoffwn i'n bersonol, fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i Syr Wyn am ei waith fel llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

Fel y dywed llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, mae rhan sylweddol o'i adroddiad yn canolbwyntio ar sut y mae tribiwnlysoedd Cymru wedi ymdrin â'r tarfu y mae'r coronafeirws wedi ei achosi. Fel y dywed yr adroddiad, mae aelodau'r tribiwnlys a staff uned Tribiwnlysoedd Cymru yn haeddu llawer o glod am eu penderfyniad i sicrhau bod gwaith tribiwnlysoedd Cymru wedi rhedeg mor ddidrafferth â phosibl. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at brosiect Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd Cymru ac at yr argymhelliad dros dro ym mhapur ymgynghori'r comisiwn y dylai uned Tribiwnlysoedd Cymru ddod yn adran anweinidogol. Fel y dywed yr adroddiad, mae'r rhesymeg dros gefnogi'r argymhelliad hwn yn gymhellol a byddai datblygiad o'r fath o fudd sylweddol.

Wrth siarad yma ym mis Medi, gofynnais i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb i hyn a chynigion eraill yn y papur ymgynghori, gan gynnwys safoni'r prosesau ar gyfer penodi a diswyddo aelodau'r tribiwnlysoedd, safoni rheolau gweithdrefnol ar draws y tribiwnlysoedd, disodli'r tribiwnlysoedd ar wahân presennol gydag un tribiwnlys haen gyntaf unedig, a dod â Thribiwnlys Prisio Cymru a phaneli apeliadau gwahardd o ysgolion o fewn y tribiwnlys haen gyntaf newydd unedig. Yn ei ymateb, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthyf ei fod yn edrych ymlaen at gael argymhellion y comisiwn. Byddai'n ddefnyddiol pe gallai egluro ei safbwynt yn awr, os yw'r argymhellion hyn yn cael eu cynnal yn adroddiad terfynol Comisiwn y Gyfraith.

Rwy'n croesawu aelodaeth llywydd Tribiwnlysoedd Cymru o wahanol gyrff yn y DU, sy'n sicrhau, meddai, ei fod mewn sefyllfa dda i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl ddatblygiadau pwysig yn y tribiwnlysoedd sy'n bodoli ym mhob un o bedair gwlad y DU. Gan gyfeirio at y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, mae'r adroddiad hwn yn nodi mai dim ond os oes datganoli sylweddol o'r swyddogaeth gyfiawnder i Gymru y gellir cyflawni'r argymhelliad y dylai llysoedd a thribiwnlysoedd sy'n datrys anghydfodau mewn cyfraith sifil a gweinyddol fod o dan un system unedig yng Nghymru. Fodd bynnag, drwy ddatganoli pwerau cyfiawnder mae perygl y gallai waethygu'r ffordd y mae pwerau datganoledig a phwerau nad ydyn nhw wedi eu datganoli yn croestorri ac y gallai arwain at gost o hyd at £100 miliwn y flwyddyn. At hynny, fel y dywed Cymdeithas y Gyfraith, mae angen datblygu ateb awdurdodaethol i ddarparu ar gyfer cyfraith Cymru heb greu rhwystrau rhag gweithredu cyfiawnder a gallu ymarferwyr i weithio ledled Cymru a Lloegr.

Yn olaf, mae'r adroddiad yn cyfeirio at Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, TAAAC, gan gyfeirio at yr angen clir i sicrhau nad oes amharu ar addysg plant sy'n agored i niwed, ac at y trosglwyddo o TAAAC i'r tribiwnlys addysg newydd. Yn y cyd-destun hwn, mae'n peri pryder mawr iawn i'r teuluoedd yr wyf i wedi eu cynrychioli na all TAAAC na'i gorff olynol gymryd unrhyw gamau gorfodi pellach pan fydd y cyrff perthnasol yn methu â chyflawni eu gorchmynion. 

18:35

Hoffwn i hefyd ategu'r deyrnged i Syr Wyn Williams, i aelodau'r tribiwnlysoedd, ac uned Tribiwnlysoedd Cymru am yr holl waith arbennig maen nhw wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn hynod heriol yma gyda'r pandemig. Rwy'n falch iawn, oherwydd yr estyniad synhwyrol i gyfnod penodiad Syr Wyn i fis Mawrth blwyddyn nesaf, mai nid dyma fydd adroddiad blynyddol olaf Syr Wyn. Rŷn ni wedi bod yn hynod ffodus o gael rhywun o'i safon ac o'i anian ef i fod yn llywydd cyntaf Tribiwnlysoedd Cymru. Mae Syr Wyn, yn ei adroddiad blynyddol, ac nid dyma'r tro cyntaf chwaith, wedi sôn am bwysigrwydd cynllunio ei olyniaeth. Fel rŷch chi'n gwybod, Cwnsler Cyffredinol, mae penodiad barnwrol yn cymryd misoedd yn hytrach nag wythnosau. A yw Llywodraeth Cymru wedi dechrau trafod gyda'r Arglwydd Brif Ustus i gynllunio ar gyfer olyniaeth Syr Wyn?

Gan symud ymlaen at strwythur y tribiwnlys, os yw Llywodraeth Cymru a'r Senedd o ddifrif ynghylch datganoli cyfiawnder yma, mae angen i ni sicrhau bod yr hyn sydd gennym ni eisoes yn cael ei redeg yn dda. Ym mis Hydref 2019, gwnaeth y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru lawer o argymhellion ynghylch tribiwnlysoedd Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weld adroddiad llawn Comisiwn y Gyfraith fis nesaf. Fe wnes i groesawu ei adroddiad ymgynghori, ac rwy'n croesawu creu tribiwnlys haen gyntaf a'r uwch dribiwnlys, a'r cysondeb o ran rheolau gweithdrefnol, penodi a diswyddo. Mae Syr Wyn Williams eisoes wedi nodi y bydd llwyth gwaith llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac uned Tribiwnlysoedd Cymru yn cynyddu'n sylweddol os gweithredir argymhellion Comisiwn y Gyfraith. Beth yw cynlluniau'r Llywodraeth o ran gweithredu?

Mae'n destun siom nad yw deddfwriaeth flaenorol Cymru wedi defnyddio tribiwnlysoedd Cymru. Mae hyn wedi achosi problemau rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru o ran cyllid, ac rydym ni hefyd wedi colli cyfle gwych i ehangu llwyth gwaith tribiwnlysoedd Cymru. A ydych chi'n cytuno â mi, a hefyd adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, y dylai'r broses o ddatrys anghydfodau, gyda holl ddeddfwriaeth Cymru yn y dyfodol, os yw'n ymarferol, ddefnyddio tribiwnlysoedd Cymru yn hytrach na llysoedd Cymru a Lloegr?

O ran perfformiad tribiwnlysoedd, rydym ni i gyd wedi nodi pa mor dda y mae'r tribiwnlysoedd wedi perfformio yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn. Fodd bynnag, mae Syr Wyn Williams yn sôn yn ei adroddiad am rai pryderon ynghylch y gostyngiad yn nifer yr achosion mewn cysylltiad â'r tribiwnlys tir amaethyddol a Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Nid yw'r rhesymau wedi eu canfod, ond mae'n ymddangos mai COVID oedd y prif reswm. Ond soniodd yn ei adroddiad y byddai ymchwil i'r gostyngiad yn y ffigurau i'w groesawu. A wnaiff y Llywodraeth gefnogi'r cais hwn ac ystyried pam mae'r niferoedd wedi gostwng?

Hoffwn i symud at faes yr wyf i'n gwybod sy'n agos iawn at eich calon, Cwnsler Cyffredinol, sef mynediad at gyfiawnder. Mewn tribiwnlysoedd, fel yn y rhan fwyaf o leoedd, ni fyddwn yn dychwelyd i'r ffordd yr oedd pethau cyn COVID. Yn yr adroddiad diwethaf, sy'n cael ei ailadrodd eto yn yr adroddiad hwn, mae Syr Wyn Williams yn sôn am fanteision gwrandawiadau o bell. Yn wir, mae'n dweud bod gwrandawiadau o bell drwy fideo-gynadledda wedi bod yn llwyddiant mawr. Mae hyn hefyd wedi arwain at danwariant digynsail yng nghyllideb Tribiwnlysoedd Cymru—dros £0.5 miliwn. Nawr, rwy'n sylweddoli nad yw gwrandawiadau o bell yn gweithio i bawb, ond gyda thystiolaeth mor glir gan Syr Wyn Williams eu bod nhw wedi gweithio ar y cyfan, a gyda thanwariant o'r fath yn y gyllideb, beth yw cynlluniau'r Llywodraeth i barhau â gwrandawiadau o bell yn y dyfodol, pan fo'n briodol?

Rydych chi wedi sôn am annibyniaeth, a'r rheswm yr wyf i'n sôn amdano eto yw oherwydd fy mod i'n credu ei bod hi mor bwysig pwysleisio'r pwynt hwn.

Ym mhob adroddiad blynyddol, fel dŷch chi wedi ei ddweud, mae Syr Wyn Williams wedi sôn am bwysigrwydd annibyniaeth uned Tribiwnlysoedd Cymru. Nawr, ddim am un eiliad dwi'n cwestiynu annibyniaeth yr uned yna, ond, fel rŷch chi'n ymwybodol, mae'n hanfodol bod cyfiawnder yn cael ei weld yn cael ei weithredu. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno, ond er mwyn y record, a ydych chi'n cytuno bod angen annibyniaeth strwythurol ar yr uned o Lywodraeth Cymru, a beth yw'ch cynlluniau i weithredu hyn?

Ac i gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy dribiwnlysoedd Cymru, mae gennym ni gyfle i adeiladu system gyfiawnder deg a hygyrch yng Nghymru. Er enghraifft, does dim rhaid talu unrhyw ffi gwrandawiad yn nhribiwnlysoedd Cymru. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni, er mwyn cael system deg, mae angen digon o sylw ac adnoddau gan y Llywodraeth a chan y Senedd i'r tribiwnlysoedd. Rhaid i lywydd y tribiwnlysoedd, rhaid i'w aelodau, rhaid i'r staff, a phob defnyddiwr, gael y cymorth sydd ei angen arnynt. A dyna, Gwnsler Cyffredinol, sut y mae modd i ni berswadio pobl Cymru, profi i bobl Cymru, y gallwn ni wneud cyfiawnder yn well yma yng Nghymru nag yn San Steffan. Diolch yn fawr.

18:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r holl siaradwyr sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon ar ddiwedd y diwrnod hir hwn? A gaf i hefyd ailadrodd y sylwadau o gefnogaeth a chydnabyddiaeth o waith Syr Wyn Williams? Rwy'n tybio ei fod yn gwrando, felly gobeithio nad yw'n credu bod rhai o'r sylwadau hyn yn ymdebygu i goffâd, oherwydd gallaf eich sicrhau chi ei fod yn fyw ac yn iach—mae'n swnio fel hynny weithiau; rwy'n siŵr nad yw'n mynd i unrhyw le am sbel.

A gaf i ddweud hefyd mai un o'r pethau y mae—? Mae'n amlwg fy mod wedi cyfarfod ag ef i drafod ei adroddiad, ac eto gyda'r Prif Weinidog, ac eto gyda'r Arglwydd Brif Ustus, ar faterion yn ymwneud â'r tribiwnlysoedd a materion cyfreithiol ehangach. Mae annibyniaeth yn mynd i galon un o'r pwyntiau yr oedd eisiau ei bwysleisio. Felly, ar ei ran, roedd hynny'n cael ei gynnwys yn fy marn i yn y datganiad a wneuthum i, ond hefyd credaf ei fod yn bwynt yr ydych chi wedi'i wneud, ac eraill wedi'i wneud, ac rydym yn cydnabod hyn. Gan fod yn rhaid i'r broses o drosglwyddo'r tribiwnlysoedd i'r hyn a fydd, gobeithio, yn wasanaeth tribiwnlys modern newydd maes o law, fod yn gonglfaen iddo.

Gwnaed nifer o sylwadau am y fformat ar gyfer y tribiwnlysoedd mewn nifer o'r materion a godwyd. A gaf i ddweud ein bod yn amlwg yn aros am adroddiad terfynol Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd? Edrychwn ymlaen yn fawr at yr argymhellion, ac yn wir, gobeithio, at weithredu'r argymhellion hynny. Oherwydd yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw rhoi at ei gilydd nawr yr hyn sydd wedi dod i'r amlwg ar sail ad hoc. Mae agweddau pwysig iawn ar gyfraith weinyddol sy'n bwysig iawn i fywydau pobl mewn sawl maes penodol, ac mae'n ymwneud â rhoi hynny i mewn i'r hyn a fydd, gobeithio, yn dod yn wasanaeth tribiwnlys haen gyntaf, a gwasanaeth apeliadau i Gymru, gyda llywydd tribiwnlysoedd a fydd â swyddogaeth benodol iawn.

A gaf i ddweud, yn amlwg, wrth yr Aelod, ein bod yn anghytuno, mae'n debyg, o ran y materion sy'n ymwneud â datganoli cyfiawnder? Gan fy mod yn cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd yr Arglwydd Thomas wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y diwrnod o'r blaen nad yw'n fater o 'os', mae'n fater o 'pryd'. Gan ei fod yn ymwneud â sut y gallwn ni wneud pethau'n well mewn gwirionedd, yn hytrach na 'Pwy sy'n berchen ar hwn?' neu 'Pwy sy'n berchen ar hwnna?', a chredaf fod y dadleuon hynny'n dod yn gliriach ac yn gliriach wrth i amser fynd yn ei flaen.

Gwnaed y pwynt yn gryf iawn yn yr adroddiad, ac eto gan Syr Wyn, o ran effaith COVID, ond yr ymdrechion a wnaed i sicrhau bod y gwaith o ymdrin â'r achosion hynny yn parhau—. Ac mae hefyd yn glir iawn hefyd bod manteision i symud ymlaen at y defnydd mwy o wrandawiadau ar-lein ac ati. A chredaf fod y pwynt mynediad at gyfiawnder yn ymwneud mewn gwirionedd â'r ffaith y bydd y tribiwnlysoedd hyn, mi gredaf, yn dod yn fwyfwy holgar, yn hytrach nag yn wrthwynebol, ac mae hynny yno i geisio'r canlyniad cywir, yn hytrach na phwy sydd â'r gynrychiolaeth orau ar ddiwrnod penodol. A chredaf fod hynny'n ffordd y gall y rhan hon o'n system gyfiawnder yng Nghymru wneud pethau'n wahanol iawn. Felly, credaf y bydd y newidiadau hynny'n digwydd, a chredaf fod yn rhaid i ni ystyried pob un o'r rheini yng nghyd-destun argymhellion Comisiwn y Gyfraith, ac eto, y ffaith y bydd arnom bron yn sicr, o ganlyniad i hynny, angen Bil Tribiwnlys Cymru, er mwyn diwygio'r strwythurau ac ati. Nid wyf eisiau achub y blaen arno, oherwydd mae'n amlwg bod yn rhaid inni aros am adroddiad y comisiwn. 

Ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu yw mynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru, ac mae is-bwyllgor y Cabinet ar gyfiawnder, yr wyf yn ei gadeirio, wedi cael ei ailymgynnull i fwrw ymlaen â hynny. Fel y gŵyr yr Aelodau, gwnaed yr achos clir dros newid gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Rydym yn parhau i fynd ar drywydd yr achos dros newid o fewn Llywodraeth y DU; parhau i weithio gyda'n rhanddeiliaid i archwilio'r ffordd orau o sicrhau newid; a pharhau i ddatblygu ein rhaglen waith ein hunain. Ac rwy'n falch bod Cyngor y Gyfraith newydd i Gymru bellach yn sefydledig, ac wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf ei hun.

Ym mis Hydref, ynghyd â'r Prif Weinidog, fel y dywedais, cyfarfûm â llywydd y tribiwnlysoedd i drafod ei adroddiad a'i flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â'r arglwyddi prif ustusiaid, gydag ynadon y Goruchaf Lys, a chydag uwch farnwyr eraill sy'n gwasanaethu yng Nghymru. Ac rwy'n credu y gall yr Aelodau gael eu calonogi oherwydd lefel yr ymgysylltu gan ein barnwyr uchaf ag anghenion penodol Cymru—. Ac rwy'n arbennig o falch o weld cymaint o ymgysylltiad barnwrol cadarnhaol â'r cyngor cyfraith newydd. Yn fwy diweddar, fel y dywedais i, cyfarfûm â'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd i drafod dyfodol cyfiawnder yng Nghymru. Ac, er bod y pandemig wedi arafu cyflymder y newid, mae'r dadleuon a wnaed gan y comisiwn ar gyfiawnder ar gyfer newid cyfansoddiadol a datganoli cyfiawnder, rwy'n credu, os o gwbl, wedi'u cryfhau gan yr amgylchiadau eithriadol y cawsom ein hunain ynddyn nhw.

Yn olaf, fel y dywedais i, rwy'n disgwyl cael adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar y tribiwnlys datganoledig erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd yn cyfeirio ein taith tuag at system dribiwnlysoedd fodern i Gymru, ac edrychaf ymlaen at ystyried argymhellion y comisiwn ar gyfer polisi Cymreig penodol yn y maes pwysig hwn. Dirprwy Lywydd, wrth gloi, hoffwn ddiolch eto i'r llywydd am ei drydydd adroddiad blynyddol, ac am ei arweiniad parhaus o ran Tribiwnlysoedd Cymru. Diolch.  

18:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12. Cyfnod Pleidleisio

Rydym wedi cyrraedd yr amser pleidleisio. Ond, yn gyntaf, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddwn yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r cyfnod pleidleisio. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:48. 

18:55

Ailymgynullodd y Senedd am 18:55, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
 

Rydym bellach wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac felly rydym yn symud ymlaen nawr at ein pleidleisiau. Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 7 ar yr agenda heddiw: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agorwch y bleidlais. O blaid, 37, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.

Eitem 7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021: O blaid: 37, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Yr eitem nesaf yw eitem 8: y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd). Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Diolch. Caewch y bleidlais. O blaid, 39, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.

Eitem 8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd): O blaid: 39, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Yr eitem nesaf yw eitem 11: y ddadl ar lywydd adroddiad blynyddol Tribiwnlysoedd Cymru—na, rwyf wedi gwneud honna. Mae'n ddrwg gen i. Rwy'n ymddiheuro—eitem 9: y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Hannah Blythyn. Agorwch y bleidlais. Diolch. Caewch y bleidlais. O blaid, 39, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.

Eitem 9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog: O blaid: 39, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Ac mae hynny'n cloi'r pleidleisio ar gyfer heno, ac mae'n dod â'r busnes i ben am y diwrnod. Rwy'n dymuno taith ddiogel adref i bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:58.