Y Cyfarfod Llawn

Plenary

17/11/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Eitem 1 yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.

Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol

1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynlluniau i gyflwyno ardoll iechyd a gofal cymdeithasol i Gymru o fis Ebrill 2023 ymlaen? OQ57187

Ni wnaeth Llywodraeth y DU ymgysylltu â Llywodraeth Cymru cyn y cyhoeddiad. Mewn un o gyfarfodydd pedairochrog y Gweinidogion cyllid cyn yr adolygiad o wariant, pwysais ar Brif Ysgrifennydd y Trysorlys am ragor o fanylion. Yn dilyn hynny, mae fy swyddogion wedi cyfarfod â swyddogion Trysorlys ei Mawrhydi i ddeall y manylion o ran sut y bydd y cyllid yn llifo.

Diolch yn fawr. Mae llawer o'r sgyrsiau ynglŷn â'r ardoll iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr wedi canolbwyntio ar oedolion hŷn. Mae NSPCC Cymru yn poeni y gallai plant gael eu hanghofio os nad ydym yn sicrhau bod eu hanghenion yn rhan o'r sgwrs yma yng Nghymru. Mae data wedi dangos, ar lefel y DU, fod nifer y plant sy'n derbyn gofal yn tyfu'n gyflymach na'r boblogaeth sy'n blant. Ar yr un pryd, mae cynnydd parhaus o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, gan arwain at alw cynyddol am wasanaethau sydd eisoes dan bwysau. I fynd i'r afael â hyn, bydd angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar fuddsoddiad ychwanegol mewn cymorth cynnar i deuluoedd, gan gynnwys cymorth i rieni newydd a darpar rieni. A yw'r Gweinidog yn cytuno y dylai fod cyllid cyfartal rhwng plant ac oedolion sydd angen gofal cymdeithasol pan ddaw'r ardoll newydd i rym?

Diolch yn fawr am godi'r mater hwn. Rwyf wedi bod yn trafod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf gyda fy nghyd-Aelodau, ond eleni, rydym eisoes wedi cydnabod bod gwir angen inni fuddsoddi ymhellach mewn gwasanaethau plant ac yn arbennig felly gan ein bod yn poeni am nifer y plant sy'n derbyn gofal. Felly, dyna pam y dyrannais £40 miliwn ar 14 Medi i gynorthwyo'r gwaith o weithredu'r fframwaith adfer gofal cymdeithasol, a bydd hynny'n amlwg yn cefnogi gwasanaethau plant.

Ond rydym hefyd wedi darparu £20 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i reoli'r galw am leoliadau ac i sicrhau gwell lleoliadau i blant a phobl ifanc sydd eu hangen, tra bo gwaith yn mynd rhagddo i gynyddu'r ystod o lety a dewisiadau i gleifion mewnol er mwyn diwallu anghenion y rheini sydd â'r anghenion mwyaf. Mae gennym raglen ddiwygio uchelgeisiol iawn ar gyfer datblygu gwasanaethau plant. Mae hynny ar gyfer y tymor byr a'r tymor canolig er mwyn helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau plant drwy gymryd camau i ddatblygu'r hyn a ddechreuwyd gennym yn nhymor y Senedd ddiwethaf i atal teuluoedd rhag cael eu gwahanu, lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal a darparu gofal i blant sydd mewn gofal yn llawer agosach at adref lle bo hynny'n briodol.

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau plant, gan ddyfarnu £3.5 miliwn i fyrddau partneriaeth rhanbarthol er mwyn ysgogi darpariaeth llety preswyl rhanbarthol ar gyfer plant â phrofiad o fod mewn gofal sydd ag anghenion cymhleth. Ond fel y dywedaf, rydym yn edrych ymlaen at weld cyllid ychwanegol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ac yn cael y trafodaethau hynny gyda chyd-Aelodau ar hyn o bryd, ond hoffwn roi sicrwydd ein bod yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol plant, yn ogystal ag iechyd meddwl plant.

Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno ei bod yn argyfwng ar ofal cymdeithasol—argyfwng sydd wedi lledaenu y tu hwnt i'r sector gofal ac sy'n cael effaith wirioneddol ar ein GIG a'n gwasanaethau. Fodd bynnag, nid ydym yn mynd i ddatrys y problemau mewn gofal iechyd drwy ddargyfeirio mwy o arian i'r GIG. Bydd yr ardoll iechyd a gofal cymdeithasol yn darparu arian mawr ei angen i sicrhau bod ein staff gofal cymdeithasol yn ennill cyflog teg—cyflog a fydd yn gwneud gofal cymdeithasol yn broffesiwn deniadol ac yn helpu i fynd i'r afael â'r problemau recriwtio sy'n wynebu'r sector. Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod cyllid o'r ardoll gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu i lywodraeth leol fel y gallwn sicrhau bod y sector gofal yn cael ei ariannu'n iawn? Diolch.

Mae hwnnw'n gwestiwn diddorol a phwysig gan ein bod yn llwyr gydnabod bod pwysau ym maes gofal cymdeithasol yn cael effaith uniongyrchol ar wasanaethau'r GIG, ac rydym yn gweld rhywfaint o hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'n ddiddorol hefyd oherwydd bod Llywodraeth y DU, o ran y cyfraniadau yswiriant gwladol, wedi awgrymu y byddant yn rhoi'r mwyafrif helaeth o'r arian hwnnw i mewn i wasanaethau iechyd yn hytrach na gwasanaethau cymdeithasol yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, fel y dywedaf, rwy'n cael trafodaethau gyda fy nghyd-Aelodau ynglŷn â'r gyllideb y byddwn yn ei chyhoeddi ar 20 Rhagfyr, a hoffwn roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau ein bod yn rhoi'r pwys mwyaf ar wasanaethau cymdeithasol. Rydym eisoes wedi nodi y byddem yn ceisio rhoi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol gan fod y gwasanaethau hynny, wrth gwrs, yn cael eu darparu'n bennaf drwy lywodraeth leol, er bod y prif grŵp gwariant iechyd fel arfer yn gwneud cyfraniad hefyd.

13:35
Taclo Tlodi

2. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i daclo tlodi wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio cyfiawnder cymdeithasol? OQ57198

Mae trechu tlodi yn ganolog i agenda’r Llywodraeth hon, fel yr amlinellir yn y rhaglen lywodraethu. Ddoe, cyhoeddasom becyn gwerth £51 miliwn i gefnogi aelwydydd agored i niwed sy’n wynebu'r argyfwng costau byw drwy fisoedd y gaeaf.

Diolch am yr ymateb, Gweinidog. 

Canfu dadansoddiad diweddar gan y gynghrair Dileu Tlodi Plant mai Cymru sydd â'r gyfradd tlodi plant uchaf o unrhyw wlad yn y DU. Mae hyn er gwaethaf dau ddegawd o strategaethau, cynlluniau ac ymchwiliadau gan y Senedd, ac mae Comisiynydd Plant Cymru wedi dweud mai tlodi plant yw her fwyaf Llywodraeth Cymru, ond nid yw’n cael ei grybwyll yn y rhaglen lywodraethu bum mlynedd. Mae'r rheini ar incwm isel wedi colli swm sylweddol o arian wrth gael eu rhoi ar ffyrlo neu eu diswyddo, gyda 54,000 o barseli banciau bwyd yn mynd i blant yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021. Dyna un parsel bob 10 munud. Er bod y £51 miliwn o gymorth a gyhoeddwyd fel rhan o'r gronfa gymorth i aelwydydd i'w groesawu, a oes gan y Gweinidog Cyllid unrhyw gynlluniau cyllido radical neu fwy hirdymor i fynd i'r afael ag achos sylfaenol problem barhaus tlodi plant yma yng Nghymru? Rwy'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi fod y ffaith bod cynifer o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru heddiw yn warth ar ein cenedl.

Diolch am godi'r mater pwysig hwn, ac rwy'n siŵr ein bod yn rhannu llawer o bryderon am y plant sy'n cael eu magu mewn tlodi yng Nghymru. Yn amlwg, ni ddylai fod yn digwydd; mae'n dorcalonnus. Ond mae'n digwydd yn rhy aml o lawer. Mae Sefydliad Resolution wedi nodi y bydd teuluoedd sydd bellach yn wynebu'r toriad o £20 i'w credyd cynhwysol yn colli £1,040 y flwyddyn, sy'n swm enfawr o arian, ac mae'n effeithio ar nifer enfawr o deuluoedd ledled Cymru. Felly, bydd un o bob pum aelwyd yn colli'r arian hwnnw, a chredaf y bydd hynny'n gwthio mwy o blant i mewn i dlodi.

Ond o safbwynt Llywodraeth Cymru, mae gennym ein strategaeth tlodi plant, ac mae honno'n nodi ein hamcanion ar gyfer trechu tlodi plant drwy ganolbwyntio'n barhaus ar yr hyn y gwyddom ei fod yn gweithio'n dda. Yn 2019-20, cynhaliodd y Prif Weinidog adolygiad o dlodi plant, a nododd yr adolygiad hwnnw feysydd sy'n amlwg yn gweithio a lle dylem fuddsoddi ymhellach. A gwn fod gennych gryn ddiddordeb mewn prydau ysgol am ddim, ac mae hwnnw'n faes lle gwyddom y gallwn wneud gwahaniaeth i deuluoedd. Bydd rhan o'r cyllid a gyhoeddais ddoe yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ac atgyfnerthu banciau bwyd a phartneriaethau bwyd cymunedol a hybiau cymunedol, i ddarparu ystod ehangach o gymorth i unigolion o'r lleoliadau hynny, gan gynnwys gwneud y gorau o incwm, gan y gwyddom nad oes llawer o unigolion a theuluoedd yn cael mynediad at yr holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo o hyd. Felly, bydd y gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau drwy'r prosiectau hynny.

Rydym hefyd wedi darparu cyllid ddoe i sefydlu 25 prosiect Bocs Bwyd Mawr arall ledled Cymru i leihau tlodi bwyd, helpu i wella cymeriant maethol, gwella llesiant, lleihau gwastraff bwyd a gwella dealltwriaeth am fwyd. Ac mae'r adolygiad a wnaethom o'r cynllun Bocs Bwyd Mawr presennol wedi dangos ei fod wedi bod yn hynod gadarnhaol i'r teuluoedd sydd wedi cael cymorth drwyddo.

Felly, yn sicr, mae gennym lawer o gynlluniau eisoes ar y gweill, a llawer o fuddsoddiad pellach rydym yn bwriadu ei wneud yn y maes pwysig hwn.

Weinidog, wrth inni agosáu at y gaeaf, mae pwnc tlodi tanwydd ar ein meddyliau ac ar feddyliau llawer o fy etholwyr yn ne-ddwyrain Cymru. Yn ddiweddar, galwodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynlluniau diwygiedig i drechu tlodi tanwydd er mwyn sicrhau eu bod ar waith erbyn mis Ebrill 2022. Pa drafodaethau a gawsoch gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn ag adolygu eich cynllun ar dlodi tanwydd ac i roi cyhoeddusrwydd i'r cynlluniau sydd eisoes ar waith i gynorthwyo'r bobl agored i niwed hynny â'u biliau tanwydd dros y gaeaf hwn?

Ie, mae pris ynni'n destun cryn bryder dros y gaeaf sydd i ddod, a dyna pam y gwnaethom gyflwyno cynllun £51 miliwn ddoe i greu cronfa gymorth i aelwydydd, ac fel rhan o hynny, bydd £38 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf. Mae'n golygu yn ymarferol y bydd cartrefi cymwys sydd ar incwm isel yn gallu hawlio taliad o £100 i'w cefnogi gyda'u biliau ynni dros y gaeaf. Mae'r pwynt a wnewch ynglŷn â rhoi cyhoeddusrwydd i'r cymorth hwn yn bwysig iawn, a dyna pam ein bod yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith a wnânt. Felly, bydd pob awdurdod lleol yn ysgrifennu at bobl yn eu hardal y gwyddant eu bod yn gymwys i gael y cymorth hwn, i sicrhau eu bod yn ymwybodol ohono. A hefyd, i'r rheini sy'n meddwl y gallent fod yn gymwys ond sydd heb glywed gan eu hawdurdod lleol eto, erbyn diwedd mis Rhagfyr, byddwn yn argymell iddynt edrych ar wefan yr awdurdod lleol lle gallant wneud eu cais eu hunain am y cymorth hwnnw. Ond rydym yn disgwyl cyrraedd oddeutu 350,000 o aelwydydd gyda'r taliad o £100, i gynorthwyo gyda'r costau ynni uwch dros y gaeaf.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch am eich gohebiaeth yn ddiweddar i ddarparu diweddariad ar yr ymgynghoriad nesaf ar gyd-bwyllgorau corfforedig. Hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiynau ar hynny heddiw. Yn gyntaf, Weinidog, a ydych yn cytuno â chyn-ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus mai'r hyn yw cyd-bwyllgorau corfforedig yn y bôn, a dyfynnaf:

'yw ad-drefnu cynghorau drwy'r drws cefn'?

Credaf fod cyd-bwyllgorau corfforedig yn rhywbeth cwbl wahanol i hynny, gan fod hyn yn rhywbeth sy'n cael ei arwain gan awdurdodau lleol. Maent yn cynnig cyfleoedd i symleiddio cytundebau cydweithredu presennol, ac yn darparu'r eglurder a'r cysondeb y mae'r prif gynghorau wedi bod yn chwilio amdanynt mewn sawl maes, yn enwedig yn y meysydd y byddant yn gyfrifol amdanynt—alinio datblygu economaidd, er enghraifft, trafnidiaeth a dulliau cynllunio a defnydd tir, er mwyn datblygu economïau rhanbarthol llwyddiannus a hybu twf lleol. Felly, tybed a ydych yn camddyfynnu Julie James yn hynny o beth, gan ei bod yn bendant o'r farn fod hwn yn gam pwysig ymlaen, sy'n cael ei wneud gydag awdurdodau lleol.

Diolch, Weinidog. Ac er eglurder, nid dyfynnu Julie James roeddwn yn ei wneud; y Gweinidog cyn Julie, a daeth y dyfyniad drwy'r pwyllgor llywodraeth leol. Ond diolch am eich ateb.

Pryder enfawr sydd gennyf ynghylch cyd-bwyllgorau corfforedig, ac un yr ymddengys bod llawer o gynghorwyr ac arweinwyr cynghorau ledled y wlad yn ei rannu, yw eu natur ddemocrataidd, neu ddiffyg natur ddemocrataidd o bosibl, ac effaith bosibl colli pwerau cynghorau a phobl a etholwyd yn ddemocrataidd i wneud penderfyniadau a sylwadau ar ran eu cymunedau. Yn eich llythyr at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar 29 Hydref, fe ddywedoch mai bwriad cyd-bwyllgorau corfforedig yw darparu mwy o gydlyniaeth a chael gwared ar beth o gymhlethdod trefniadau llywodraethu rhanbarthol, gan gryfhau atebolrwydd democrataidd lleol. Ond ymddengys bod hynny'n groes i'r hyn a ddywed prif weithredwr Cyngor Caerdydd, a nododd y gallent, ac rwy'n dyfynnu:

'leihau atebolrwydd democrataidd'.

Ac yn wir, nododd un o gynghorwyr Cyngor Abertawe:

'Os ydych yn dymuno bod yn dwrci, pleidleisiwch dros y pwyllgorau newydd hyn.'

Felly, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i gynghorau ledled Cymru na fydd y cyd-bwyllgorau corfforedig hyn yn mynd â phwerau a democratiaeth oddi wrth y cynghorau a'r bobl a etholwyd yn lleol i gynrychioli eu cymunedau?

Credaf fod atebolrwydd democrataidd yn gwbl hanfodol, ac mae angen i bobl fod â ffydd yn y strwythurau newydd a roddir ar waith. A dyna pam ei bod yn bwysig mai arweinwyr pob cyngor cyfansoddol fydd aelodau'r cyd-bwyllgorau corfforedig, ac yn amlwg, byddant hwythau wedyn yn atebol i'w cynghorau cyfansoddol am y penderfyniadau a wnânt fel rhan o'u cyd-bwyllgor corfforedig. A bydd yn ofynnol hefyd i'r cyd-bwyllgorau corfforedig roi'r trosolwg priodol a'r trefniadau craffu ar waith, ar ôl ymgynghori a chytuno arnynt â'u cynghorau cyfansoddol, a bydd hynny, wrth gwrs, yn rhan bwysig iawn o atebolrwydd y cyd-bwyllgorau corfforedig. Ac wrth gwrs, bydd gan bob un ei is-bwyllgorau llywodraethu ac archwilio ei hun, gyda'r un swyddogaethau ag un mewn awdurdod lleol, gan gynnwys adolygu a chraffu ar faterion ariannol, rheoli risg a rheolaeth fewnol cyd-bwyllgor corfforedig. Felly, credaf ein bod wedi rhoi mesurau cadarn ar waith i sicrhau atebolrwydd democrataidd.

Diolch, Weinidog. Yn sicr, rhoesoch ateb rhannol ynglŷn â chyfrifoldeb pleidleisio'r arweinwyr ar y cyd-bwyllgorau corfforedig hynny, ond wrth gwrs, fel yn fy rhanbarth i, mae gennych chwe chyngor, felly chwe arweinydd, ac mae'n debyg fod gennych bron i 400 o gynghorwyr ar draws y rhanbarth sydd wedi'u hethol yn lleol. A chredaf fod hwn yn faes nad yw'n cael ei werthfawrogi ar hyn o bryd, efallai, o ran yr atebolrwydd democrataidd lleol hwnnw. Wrth gwrs, holl bwynt dod â datganoli yma i Gymru yw peidio ag aros yma yng Nghaerdydd, ond dod â phwerau i bobl leol, sydd yn y sefyllfa orau i gynrychioli pobl leol ar y cynghorau hynny hefyd. Mae'n amlwg i lawer mai nod Llywodraeth Cymru, yn ôl pob golwg, wrth gyflwyno'r cyd-bwyllgorau hyn yw mynd â phwerau oddi wrth y cynghorau lleol hynny a'r bobl a etholwyd yn lleol. I wrthdroi hynny, Weinidog, mae cyfle yma i bwerau ddod o Gaerdydd i lawr i'r cyd-bwyllgorau corfforedig. Felly, pa bwerau, pa ysgogiadau, rydych yn disgwyl eu rhyddhau o Gaerdydd yma i'r cyd-bwyllgorau corfforedig hynny fel y gall pobl wneud penderfyniadau'n lleol yn eu hardaloedd?

13:45

Diolch am godi hynny. Mae'n bwysig fod cynghorwyr yn teimlo y gallant graffu ar yr arweinwyr sy'n cynrychioli ar y cyd-bwyllgorau corfforedig. Ac yn amlwg, bydd y trefniadau hynny ar waith, ac mae atebolrwydd cyhoeddus hefyd yn bwysig iawn. A bydd yn ofynnol i'r cyd-bwyllgor corfforedig annog aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, gan sicrhau bod unigolion yn gallu cyfrannu at y gwaith o lunio'r gwasanaethau y maent hwy a'u teuluoedd yn dibynnu arnynt, ac a fydd yn amlwg yn cael effaith bwysig ar eu bywydau bob dydd. Ond mae'r pwynt ynglŷn â sybsidiaredd yn bwysig iawn, ac mae Llywodraeth Cymru'n agored i ddatganoli pwerau pellach i gyd-bwyllgorau corfforedig. Nawr, nid oes gennym farn sefydlog ynglŷn â pha bwerau y dylid eu datganoli. Rydym yn bendant o'r farn y dylid mynd i'r afael â'r mater hwn o'r cyd-bwyllgorau corfforedig i fyny. Felly, mater i'r cyd-bwyllgorau corfforedig fydd cyflwyno'r achos dros ddatganoli pwerau a chyfrifoldebau pellach iddynt a chael trafodaethau unigol gyda Gweinidog y portffolio perthnasol, ond rydym yn agored iawn i'r trafodaethau hynny.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Yn sgil COP26 yr wythnos diwethaf, dwi eisiau holi am rôl llywodraeth leol wrth helpu Cymru i gwrdd â'i hymrwymiadau o safbwynt torri allyriadau carbon, a'ch rôl chi, wrth gwrs, fel Gweinidog llywodraeth leol yn hynny o beth. Dwi'n deall bod 16 awdurdod lleol erbyn hyn wedi datgan argyfwng hinsawdd. Nawr, man cychwyn yw hynny, wrth gwrs, mewn proses hirach, ac mae yn siomedig bod yna chwe awdurdod mae'n debyg sydd dal hyd yn oed heb wneud hynny. Ond mae datgan yn beth hawdd i'w wneud, wrth gwrs; y gweithredu sy'n bwysig yn sgil hynny. Ac mae yna wahanol awdurdodau lleol ar gyfnodau gwahanol o'r daith honno, mae'n debyg—rhai yn fwy blaengar ac yn delio â'r mater yn fwy ystyrlon ac mewn modd mwy uchelgeisiol na'i gilydd efallai. Ond fy nghwestiwn cyntaf i i chi yw: beth ŷch chi'n ei wneud i annog, i gefnogi a hyd yn oed i orfodi, mewn rhai sefyllfaoedd, awdurdodau lleol Cymru i helpu gyda'r gwaith o gael y maen i'r wal o safbwynt gostwng allyriadau? 

Felly, rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i ofyn i bob un ohonynt ddatblygu cynllun ar gyfer lleihau allyriadau a mynd i'r afael â'r anghenion sy'n ymwneud â datgarboneiddio. Ac mae pob un o'r rheini bellach wedi'u cyflwyno, a buom yn edrych ar y cynlluniau hynny, gan archwilio ble mae'r cryfderau, ond hefyd ble mae bylchau neu wendidau posibl, fel y gall awdurdodau lleol ddysgu gan ei gilydd a chael elfen o herio'i gilydd yn y maes penodol hwn. Mae gennym grŵp datgarboneiddio hefyd, sy'n edrych yn benodol ar yr hyn y gall awdurdodau lleol ei wneud, ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn chwarae rhan bwysig ynddo. Ac wrth gwrs, byddwch wedi gweld ein cynllun 'Cymru Sero Net' diweddar, a chredaf fod hwnnw'n wirioneddol uchelgeisiol, o ran y cyfrifoldebau y mae'n eu rhoi ar lywodraeth leol i chwarae ei rhan i sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cyrraedd sero-net erbyn 2030. Felly, mae cryn dipyn o waith yn mynd rhagddo yn y maes hwn, ac mae'n rhaid imi ddweud, mae cryn dipyn o ymrwymiad yn y maes hwn. Daw'r grŵp datgarboneiddio y cyfeiriais ato o dan gyngor partneriaeth Cymru, a gadeirir gennyf, ac mae datgarboneiddio'n eitem sefydlog ym mhob un o'r cyfarfodydd hynny.

Diolch ichi am hynny. Mi gyfeirioch chi at y WLGA, ac maen nhw, wrth gwrs, wedi galw ar y Llywodraeth i ddarparu'r arfau—y twls—a'r adnoddau i lywodraeth leol i allu 'baseline-o' a mesur cynnydd yn lleol yn erbyn targedau newid hinsawdd, fel eu bod nhw'n gallu gwneud hynny mewn modd cywir a chyson ar draws Cymru. Nawr, mi allai hynny, wrth gwrs, fod yn sail i greu targedau net sero lleol—hynny yw, dadgyfuno neu 'disaggregate-o' targedau net sero ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. Licen i glywed os ydych chi'n cytuno y byddai hynny'n rhoi cymhelliad i bob awdurdod lleol, yn enwedig y rhai efallai sydd ychydig ar ei hôl hi, i ymateb gyda mwy o arddeliad i'r argyfwng hinsawdd a natur, ac a ydy hynny yn rhywbeth ŷch chi a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ei ystyried? 

Diolch am eich awgrym. Mae'n rhywbeth y byddaf yn edrych yn agos iawn arno, gan y credaf ei bod yn bwysig ein bod, yn y maes hwn, fel mewn cynifer o feysydd eraill, yn symud cyn gynted â'r cyflymaf, nid yr arafaf, ac nid oes gennym amser i aros cyn mynd i'r afael â newid hinsawdd. Felly, yn sicr, byddaf yn ystyried yr awgrym hwnnw. Credaf ein bod wedi darparu set ddefnyddiol o offer i awdurdodau lleol. Mae gennym ddangosfwrdd datgarboneiddio, er enghraifft, lle gall awdurdodau lleol archwilio effeithiau'r amryw ddewisiadau y gallant eu gwneud er mwyn ceisio cyflawni eu targedau datgarboneiddio, megis beth fyddai'r effaith pe byddent yn newid i ddefnyddio mwy o gerbydau trydan, er enghraifft—gallant ddarganfod beth fyddai effaith hynny o ran carbon. Credaf fod asesiadau effaith carbon yn bwysig iawn, ac mae hyn yn rhywbeth rydym wedi bod yn ceisio'i ddatblygu dros y blynyddoedd diwethaf drwy ein proses gyllidebol, ac mae'n rhywbeth rydym yn parhau i roi ffocws cryf arno. Mae'n sicr yn rhywbeth y bydd gan lywodraeth leol ddiddordeb ynddo hefyd.

13:50

Dwi'n falch eich bod chi wedi sôn am y broses gyllidebol, oherwydd dyna lle dwi'n mynd nesaf, ac eisiau holi ynglŷn â chyllideb ehangach y Llywodraeth a'ch rôl chi fel Gweinidog cyllid. Fel rhywun sydd wedi bod yn rhan o graffu cyllidebau'r Llywodraeth yn eithaf agos yn y blynyddoedd diwethaf, un cerydd sydd wedi codi ei ben yn gyson yw ei bod hi'n anodd darllen ar draws o wariant Llywodraeth i ganlyniadau mesuradwy o ran lleihau carbon. Nawr, sut allwch chi edrych ar linell ar daenlen a bod yn hyderus bod y gwariant hwnnw yn cael yr effaith rŷch chi'n awyddus iddo fe ei gael? Mae'n bosib, wrth gwrs, edrych ar brojectau penodol, mae hynny yn rhywbeth hawdd i'w wneud, ond, er mwyn mesur llwyddiant cyllideb Llywodraeth Cymru i yrru'r newid ehangach rŷn ni eisiau ei weld ar draws llywodraeth a'r sector gyhoeddus, mae angen deall sut mae pob ceiniog yn cyfrannu at y nod yna o net sero. Felly, sut byddwch chi—gyda golwg, wrth gwrs, ar y gyllideb rŷch chi'n gweithio arni ar hyn o bryd, a fydd yn cael ei chyhoeddi mewn ychydig dros fis—sut byddwch chi'n sicrhau tryloywder ac yn sgil hwnnw atebolrwydd i chi fel Llywodraeth o gwmpas y mater yna? A hefyd, a ydych chi'n cytuno bod angen i'r gyllideb nesaf fod y gyllideb mwyaf hinsawdd a natur gyfeillgar yn hanes datganoli?

Diolch am ofyn cwestiwn pwysig unwaith eto. Ar ein gwaith asesu effaith carbon, byddwn yn dweud ein bod ar daith gyda hynny; rydym yn ceisio gwella'r ffordd rydym yn cynnal yr asesiadau effaith carbon. Gwnaeth Prifysgol Caerdydd, rwy'n credu, waith i ni, yn y lle cyntaf, lle buom yn edrych ar y prif grŵp gwariant iechyd a sut y gallem fesur carbon drwy hynny, ac roedd hwnnw'n waith diddorol iawn. Fe wnaethant dynnu ein sylw at y ffaith bod oddeutu hanner cyllideb Llywodraeth Cymru yn mynd ar gyflogau—felly, talu cyflogau ac ati yn y bôn—ac felly, mae'r hyn sy'n digwydd y tu hwnt i hynny o ran asesu effaith carbon yn ymwneud i raddau mwy o lawer â'r dewisiadau rydym yn caniatáu i bobl eu gwneud a cheisio'i gwneud yn haws i bobl wneud dewisiadau sy'n cael effaith gadarnhaol ar ddatgarboneiddio ac ati. Felly, byddwn yn parhau â'r dull rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer asesiadau effaith carbon, ac mae tryloywder yn bwysig. Nid wyf yn dweud ein bod wedi'i berffeithio eto, ond rydym yn dal i geisio cymryd camau pwysig ar y daith honno. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid i'r gyllideb hon gydnabod difrifoldeb yr argyfwng hinsawdd a natur sy'n ein hwynebu, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, gyda bwriad i'w gyhoeddi ar 20 Rhagfyr.

Twristiaeth

3. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ddarparu cyllid ychwanegol i bortffolio'r economi i gefnogi twristiaeth? OQ57195

Y cymorth rydym wedi'i roi i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru drwy gydol y pandemig yw'r mwyaf hael yn y DU, gyda busnesau cysylltiedig yn elwa o £50 miliwn o gronfa buddsoddi mewn twristiaeth Cymru a £56 miliwn o'r gronfa cadernid economaidd.

Diolch. I etholaethau fel Pen-y-bont ar Ogwr, mae twristiaeth wedi chwarae rhan annatod yn ein heconomi a'n hanes yn lleol—daw ymwelwyr o etholaethau y tu hwnt i'n ffiniau drwy gydol y flwyddyn i fwynhau ein traethau, lletygarwch ac atyniadau i dwristiaid, ac mae buddsoddiad yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn hanfodol i lawer o'r llwyddiant hwnnw, rhywbeth sydd bellach dan fygythiad, gyda Llywodraeth y DU yn gwrthod darparu cyllid yn lle'r cyllid hanfodol hwnnw. Gyda Llywodraeth y DU yn sathru ar ddatganoli ac yn ceisio gwneud penderfyniadau yn Whitehall yn hytrach nag yng Nghymru, a symud ymhellach i ffwrdd oddi wrth y bobl sy'n deall dymuniadau ac anghenion y cymunedau sy'n byw yno, a all y Gweinidog gadarnhau ei bod yn gweithio i amddiffyn cymunedau fel Pen-y-bont ar Ogwr a rhannau o Borthcawl, yn hytrach na bod y cadarnleoedd Torïaidd yn unig yn elwa o unrhyw fuddsoddiadau yn y dyfodol?

Yn sicr. Diolch yn fawr am godi hynny ac am gofnodi'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi ceisio taenu ychydig iawn o gyllid ar draws eu hardaloedd etholaethol eu hunain, a golyga hynny fod Pen-y-bont ar Ogwr, mewn gwirionedd, wedi'i chael hi'n arbennig o wael yn sgil ymagwedd Llywodraeth y DU. Cafodd yr ardal ei dad-flaenoriaethu ar gyfer cyllid gan y Ceidwadwyr yn San Steffan, er ei bod wedi cael budd yn flaenorol o'r lefel uchaf o gymorth yr UE. A dangoswyd hyn wrth i'r sir dderbyn £785,000 yn unig o'r gronfa adfywio cymunedol gwerth £47 miliwn a ddyfarnwyd i awdurdodau lleol Cymru. A gadewch inni gofio mai £47 miliwn yw hwnnw yn lle'r £375 miliwn y byddem wedi'i gael pe bai Llywodraeth y DU wedi ymrwymo a chadw at ei haddewid na fyddem yn cael yr un geiniog yn llai drwy adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ac wrth edrych ymhellach tua'r dyfodol hefyd, mae proffiliau gwariant hirdymor y gronfa ffyniant gyffredin yn £400 miliwn i gyd ledled y DU yn 2022-23, £700 miliwn yn 2023-24, a £1.5 biliwn yn 2024-25. Ac mae hynny ledled y DU. Felly, yn amlwg, nid oes gan Lywodraeth y DU unrhyw fwriad o gwbl i ddarparu cyllid cyfwerth â'r £375 miliwn y flwyddyn o gyllid y byddai Cymru wedi cael budd ohono o'r UE pe byddem wedi parhau i fod yn aelodau o'r UE, er gwaethaf addewidion y Ceidwadwyr na fyddem geiniog yn waeth ein byd.

13:55

Fel gŵyr y Gweinidog, mae nifer o sefydliadau o'r sector diwylliannol, megis theatrau a lleoliadau lleol cerddoriaeth, dal heb fedru gweithredu gyda chapasiti llawn eto oherwydd y mesurau diogelwch maent wedi eu rhoi mewn grym i warchod pobl rhag COVID. Ac er bod nifer eu mynychwyr yn llai, mae angen mwy o staff er mwyn medru rhoi'r mesurau diogelwch ar waith, gan gynnwys gweithredu'r pas COVID. Oes bwriad gan y Llywodraeth i ehangu'r gefnogaeth ariannol i'r sectorau hyn fel rhan o'u hadferiad yn sgil COVID er mwyn gwarchod dyfodol sector sy'n eithriadol o bwysig o ran economi Cymru? 

Wel, rydym wedi bod yn ymgysylltu drwy gydol y pandemig â fforwm yr economi ymwelwyr a'r grŵp rhanddeiliaid lletygarwch, a bydd rhai o'r busnesau a ddisgrifiwyd gennych wedi'u cynrychioli gan y grwpiau hynny. Yn amlwg, mae pethau'n dal i fod yn heriol i'r sector hwnnw. Rydym wedi ceisio sicrhau bod y pàs COVID mor syml â phosibl, ond rwy'n cydnabod ei bod yn dasg ychwanegol rydym yn gofyn i fusnesau ei chyflawni. Ond gadewch inni gofio mai pwrpas y pàs COVID yw cadw busnesau ar agor, a dyna'r peth gorau y gallwn ei wneud i gefnogi busnesau o bob math, eu cadw ar agor. A dyna un o'r pethau rydym wedi bod yn ceisio eu gwneud drwy gyflwyno'r pàs COVID.

Rydym hefyd yn edrych drwy ein lens tuag at y dyfodol mewn perthynas ag adfer y sector, ac rydym wedi bod yn gweithio ar y cynllun, a gyhoeddwyd yn ddiweddar iawn gan fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog, sef y cynllun adfer twristiaeth a lletygarwch. Ac roedd hwnnw, wrth gwrs, yn canolbwyntio ar ailadeiladu a gwytnwch ar gyfer y sector. Cafwyd cyfleoedd cyllido newydd arloesol ar gyfer y sector hefyd, megis cronfa gyfalaf y Pethau Pwysig. Fe'i hail-lansiwyd yn ddiweddar gyda chronfa gyfalaf o £2.4 miliwn i gyflawni rhai gwelliannau ar raddfa fach i'r seilwaith twristiaeth ledled Cymru. Ac rydym hefyd wedi ariannu prosiectau drwy ein cynllun cyrchfannau denu twristiaeth. Felly, mae sawl ffynhonnell o gyllid y gallwn eu defnyddio i gefnogi'r sector.

Cyfrifoldebau Cyd-bwyllgorau Corfforaethol

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyfrifoldebau'r cyd-bwyllgorau corfforaethol arfaethedig? OQ57205

Bydd y pedwar cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd ar 1 Ebrill 2021 yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â chynlluniau defnydd tir strategol a chynlluniau trafnidiaeth ranbarthol. Bydd ganddynt rym hefyd i wella llesiant economaidd eu hardal.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Roeddwn i'n gwrando'n astud ar eich atebion chi i rai cwestiynau blaenorol ar y maes yma, ac mi wnaethoch chi fynd i'r afael â'r cwestiwn ynglŷn â phasio cyfrifoldebau i lawr o Lywodraeth Cymru i'r cydbwyllgorau corfforaethol, ond wnes i ddim clywed o reidrwydd eich safbwynt chi o safbwynt y consérn sydd yna ymhlith llywodraeth leol, wrth gwrs, y bydd y Llywodraeth dros amser yn ychwanegu mwy a mwy o gyfrifoldebau sydd, ar hyn o bryd, yn gorwedd gydag awdurdodau lleol i'r CJCs—hynny yw, bod y cyfrifoldeb yn symud lan y tsiaen ac nid i lawr. Nawr, adeg pasio'r ddeddfwriaeth gynradd, fe roddwyd sicrwydd na fyddai hynny'n digwydd, a byddwn i'n gofyn ichi hefyd heddiw a allwch chi roi yr un sicrwydd ag yr ydyn ni wedi clywed gan eich rhagflaenydd chi na fydd symud cyfrifoldebau o awdurdodau lleol i'r cyd-bwyllgorau corfforaethol yma'n digwydd oni bai bod awdurdodau lleol yn ewyllysio hynny.

14:00

Yn sicr. Ni fydd cyfrifoldebau'n cael eu symud oni bai bod y ceisiadau hynny'n dod gan awdurdodau lleol eu hunain. Rwy'n credu bod hyn yn ymwneud mwy â datganoli pŵer o Lywodraeth Cymru i'r cyd-bwyllgorau corfforedig na dim arall. Hyd yma, nid ydym wedi cael ceisiadau i ddatganoli meysydd mawr o gyfrifoldebau newydd, oherwydd mae'n ddyddiau cynnar o ran yr hyn rydym yn ei weld gyda chyd-bwyllgorau corfforedig. Mae'n bwysig eu bod yn gallu cael eu traed tanynt cyn inni ddechrau cael sgyrsiau am gyfrifoldebau yn y dyfodol.

Weinidog, yr hyn yw cyd-bwyllgorau corfforedig, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, yw ad-drefnu'r Llywodraeth drwy'r drws cefn yn y bôn. Fe'u gwrthodwyd gan grŵp arweinwyr CLlLC am eu bod yn creu haenau diangen o fiwrocratiaeth gostus ac mae penderfyniadau'n cael eu gwneud ymhellach oddi wrth gymunedau lleol, sy'n tanseilio'r holl broses o ddatganoli pwerau i'n cymunedau a'n cynghorau lleol. Bydd yr un a sefydlwyd yng nghanolbarth Cymru yn cael rhoi barn ar gynllunio strategol. Weinidog, dylai cymunedau lleol a'r cynghorwyr a etholir yn uniongyrchol allu rhoi barn ar gynlluniau strategol a'r cynlluniau datblygu yn y dyfodol ar gyfer eu cymunedau. Felly, Weinidog, a wnewch chi bopeth yn eich gallu i sicrhau y bydd gan gymunedau lleol lais ar gyd-bwyllgorau corfforedig ac na fyddant yn cael eu gwthio ymhellach oddi wrth y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymunedau? Diolch, Lywydd.

Hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth ateb Sam Rowlands yn gynharach am bwysigrwydd atebolrwydd cyhoeddus a'r ffaith y bydd yn ofynnol i gyd-bwyllgor corfforedig annog aelodau o'r cyhoedd i gymryd rhan yn ei benderfyniadau, gan sicrhau eu bod yn gallu cyfrannu at lunio'r gwasanaethau, sy'n gwbl bwysig, a gwn y bydd cyd-bwyllgorau corfforedig eisiau gwneud y gwaith hwnnw beth bynnag. Credaf fod dadl gref iawn i'w chael fod rhai swyddogaethau'n cael eu cyflawni'n well ar yr ôl troed rhanbarthol hwnnw. Mae'r gwaith i wella ffyniant economaidd ardal yn un enghraifft amlwg, fel y mae cynlluniau trafnidiaeth, ac yn amlwg dylid gwneud hynny ar yr ôl troed mwy hwnnw. Felly, credaf mai'r meysydd y mae'r cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyfrifol amdanynt yw'r rhai cywir, a chredaf y byddant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran bod yn fwy cydlynol a chaniatáu i benderfyniadau gael eu gwneud sydd o fudd i bobl yn yr ardaloedd hynny.

Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Awdurdodau Lleol

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y pwysau ariannol ar wasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion o fewn awdurdodau lleol? OQ57179

Ym mis Medi, cyhoeddwyd £40 miliwn o gyllid ychwanegol i weithredu'r fframwaith adfer gofal cymdeithasol. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi £20 miliwn ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol hyd yma eleni i reoli'r galw am wasanaethau plant, ac rwy'n agored i ddyraniadau pellach yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Ym Mhowys, ac yn wir ledled Cymru, mae pwysau sylweddol, wrth gwrs, ar wasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion, nid yn unig gyda chyfradd atgyfeirio uwch, ond gydag achosion mwy cymhleth yn dod i'r amlwg hefyd. Pan godais y mater gyda'r aelod cabinet perthnasol yng Nghyngor Sir Powys, nodwyd bod atgyfeiriadau wedi dyblu o gymharu â'r cyfnod cyn y pandemig, am yr holl resymau a fydd yn gyfarwydd, rwy'n siŵr. Roedd y drafodaeth honno gyda'r aelod cabinet yn ymwneud â sut y mae ateb, sut rydym yn dod o hyd i'r ateb. Mae angen cyllid ychwanegol, oherwydd mae angen cadw staff presennol sy'n gadael ar hyn o bryd ac mae angen tâl uwch i'r staff hynny hefyd. Dyma rai o'r problemau sy'n cael eu trafod. Nid grantiau untro yn unig yw'r ateb ychwaith, wrth gwrs, oherwydd pe bai hynny'n wir ni fyddai'r awdurdodau lleol yn gallu cynnig pecyn cyflog uwch wedi hynny neu gadw mwy o staff. Felly, Weinidog, a allwch roi sylwadau ar yr hyn rwyf wedi'i ddweud ac amlinellu unrhyw gymorth pellach ychwanegol y byddwch yn ei roi i awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r mater penodol hwn.

Diolch yn fawr iawn. Nid wyf yn credu y byddwn yn anghytuno â'r hyn rydych wedi'i ddweud ynglŷn â'r pwysau difrifol ar wasanaethau cymdeithasol, ac yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau plant. Hoffwn eich sicrhau bod fy swyddogion ar hyn o bryd yn gweithio gyda llywodraeth leol i nodi lle mae'r pwysau a lle gall cyllid ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon fod o ddefnydd, o gofio'r pwynt a wnaethoch fod nifer y plant sydd ag atgyfeiriadau'n cynyddu, ond hefyd y cymhlethdod am yr holl resymau y byddem yn eu deall yng nghyd-destun eu profiadau dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Felly, mae'r cyllid ychwanegol yno eisoes eleni, ond rwy'n fwy na pharod i edrych am ragor pe bai ei angen. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau ar hyn o bryd.

Ac yna, wrth gwrs, mae cadw staff o fewn y sector gofal cymdeithasol yn hollbwysig. Yn amlwg, maent wedi cael blwyddyn neu ddwy wirioneddol anodd hefyd o safbwynt y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud, yn cefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ac mae ein hymrwymiad i dalu'r cyflog byw gwirioneddol yn un pwysig iawn, yn ogystal â ffyrdd eraill o edrych ar gydnabod a chynnal gweithwyr gofal cymdeithasol. Er enghraifft, weithiau gofynnir iddynt dalu am rai o'r pethau y maent eu hangen ar gyfer eu swydd; mae angen inni edrych ar hynny i weld a oes mwy y gallwn ei wneud yn y meysydd hynny. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfarfod bob wythnos yn awr gyda llefarydd ac arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i archwilio beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi'r sector gofal cymdeithasol.

14:05
Etholiadau Lleol

6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r trefniadau ar gyfer yr etholiadau lleol flwyddyn nesaf i sicrhau eu bod yn cael eu rhedeg yn effeithiol? OQ57188

Mae gan swyddogion canlyniadau a'r Comisiwn Etholiadol gyfrifoldebau statudol i sicrhau bod pob etholiad yn cael ei gynnal yn effeithiol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda swyddogion canlyniadau a'r comisiwn i gefnogi'r gwaith o weithredu newidiadau i'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer etholiadau lleol a chyflawni ein rhaglen arloesedd etholiadol.

Diolch yn fawr, Weinidog. Etholiadau wedi'u cynnal yn effeithiol yw conglfaen unrhyw ddemocratiaeth dda, ac mae'n bwysig fod pleidleiswyr yn teimlo bod pleidleisio'n hygyrch iddynt. Ar ddiwrnod etholiad y Senedd yn gynharach eleni, yn ddealladwy oherwydd rheoliadau COVID, bu'n rhaid inni bleidleisio mewn ffordd wahanol. Ond un o sgil-effeithiau hynny oedd ciwiau hir mewn llawer o orsafoedd pleidleisio, hyd at oddeutu dwy awr, a gwn am un orsaf bleidleisio yng Ngorllewin Caerdydd a oedd yn dal i dderbyn pleidleisiau am 11.30 y nos. Yn naturiol, dewisodd rhai pobl adael.

Yr wythnos diwethaf, buom yn trafod cynhwysiant pleidleisio, cynnwys cynifer o bleidleiswyr ag y gallwn yn y Senedd hon. Bydd gorfod ciwio cyhyd, yn enwedig os yw'r tywydd yn arw, yn enwedig os yw'n hwyr yn y nos, yn golygu nad yw pleidleisio'n hygyrch i bawb mewn gwirionedd, ond yn enwedig yr henoed, yn enwedig pobl â phlant ifanc, yn enwedig pobl sy'n byw gydag anableddau. Gyda'r posibilrwydd y bydd rheoliadau COVID yn dal i fod ar waith yn etholiadau mis Mai y flwyddyn nesaf, pa drafodaethau a gawsoch gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod pleidleisio mor hygyrch â phosibl ac na fyddwn yn gweld y ciwiau hir a welsom yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai eto? Diolch yn fawr.

Diolch am godi hyn, ac yn amlwg mae'n fater pwysig y bydd angen mynd i'r afael ag ef wrth inni symud tuag at yr etholiadau llywodraeth leol fis Mai nesaf. Rydym yn gweithio'n agos i geisio gwella'r nifer sy'n manteisio ar bleidleisiau post, sy'n ffordd syml y gall pobl osgoi'r ciwiau, ond hefyd i geisio sicrhau bod mwy o bleidleisiau post yn cael eu gwneud yn gywir y tro cyntaf. Felly, rydym yn edrych ar gynllun pleidleisiau post oherwydd gwyddom fod gwallau'n digwydd ac mae angen i bobl deimlo'n hyderus eu bod wedi llenwi'r ffurflen yn gywir ac nad ydynt wedi'u drysu ganddi. Mae'r ffurflenni'n gofyn am lawer o wybodaeth, felly rydym wedi gwneud rhywfaint o ddadansoddi, ac mae tua hanner yr holl bleidleisiau post annilys yn ymwneud â phroblem gyda dyddiad geni'r etholwr, felly dyna brif ffocws ein gwaith ar ddiwygio'r ffurflenni i geisio cael gwared ar y mathau hynny o broblemau.

Felly, mae hynny'n rhan ohono, ond yn amlwg, bydd trafodaethau hir gyda swyddogion canlyniadau etholiadol wrth inni ddechrau ar y gwaith cynllunio manwl, ac yn amlwg bydd trafodaethau ynglŷn ag osgoi'r ciwiau hir y cyfeirioch chi atynt yn rhan o hynny.

A gaf fi ddiolch i Rhys ab Owen am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn, a datgan buddiant hefyd fel cynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd? Nodaf gyda diddordeb fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu treialu mesurau newydd megis pleidleisio'n gynnar mewn rhai wardiau yng nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr cyn yr etholiadau llywodraeth leol y flwyddyn nesaf, a'r cyfiawnhad dros wneud hynny yw y bydd yn digwydd yn y wardiau a oedd â'r nifer isaf o bleidleiswyr yn y gorffennol. Fodd bynnag, yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, nid yw'r weledigaeth yn cyd-fynd yn llwyr â'r realiti, gan fy mod yn nodi bod Llangrallo, sy'n un o'r ddwy ward a welodd y ganran uchaf o bleidleiswyr yn y sir gyfan yn yr etholiad diwethaf, yn un o'r ardaloedd sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun peilot pleidleisio cynnar, sy'n gwbl groes i'r bwriad a nodwyd. Felly, onid yw'n amlwg, Weinidog, nad yw'r cynlluniau peilot hyn fel y'u gelwir yn cael eu cyflwyno i sicrhau mwy o gyfranogiad gan bleidleiswyr yn yr etholiadau hyn, ond yn hytrach eu bod yn cael eu cynnal i wella rhagolygon etholiadol y Blaid Lafur?

14:10

Awgrymaf nad ddylai'r Aelod Ceidwadol farnu'r Llywodraeth hon yn ôl safonau ei Lywodraeth ei hun. Mae gennym ddiddordeb mawr mewn cefnogi pawb sydd â hawl i bleidleisio i wneud hynny, a byddant yn amlwg yn pleidleisio dros y sawl y maent yn ei ddewis. Rydym wedi cymryd camau ledled Cymru, gan gynnwys mewn etholaethau a gynrychiolir gan Aelodau Ceidwadol ar hyn o bryd, i gyflwyno swyddogion ymgysylltu democrataidd newydd. Felly, maent yno ledled Cymru, ac maent yn golygu bod gennym bellach, am y tro cyntaf, rwydwaith o swyddogion sy'n gyfrifol am nodi rhwystrau i gofrestru, ac maent yn cydweithio â phartneriaid lleol i'w goresgyn. Rydym hefyd wedi sefydlu rhwydwaith swyddogion cofrestru awdurdodau lleol i ddod â'r unigolion a ariennir drwy'r rhaglen at ei gilydd i rannu gwybodaeth a syniadau ynglŷn â sut i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cofrestru i bleidleisio, a'i gwneud mor hawdd â phosibl iddynt fwrw'r bleidlais honno. Mae hynny'n digwydd ledled Cymru.

Gwasanaethau Anstatudol

Hoffwn ddatgan ar ddechrau'r cwestiwn fy mod yn gynghorydd sir ar gyfer Rhondda Cynon Taf.

7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau anstatudol? OQ57201

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau statudol ac anstatudol drwy gyllid blynyddol y setliad craidd a thrwy grantiau penodol.

Diolch, Weinidog. Un sector sydd yn derbyn arian gan lywodraeth leol sy'n anstatudol ydy amgueddfeydd lleol. Hoffwn ofyn, felly, pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu amgueddfeydd lleol yn benodol, sydd yn bennaf yn cael eu hariannu gan awdurdodau lleol, ond sydd wedi dioddef toriadau enbyd o 31 y cant dros 10 mlynedd, gan nad ydynt yn wasanaeth statudol. Oes mwy mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud o ran darparu cyllid penodol i'w cefnogi i oroesi?

Credaf mai'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i ddiogelu gwasanaethau anstatudol yw rhoi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol drwy'r grant cynnal refeniw a thrwy'r grantiau penodol eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu. Nid yw tua 80 y cant o'r grant cynnal refeniw wedi'i neilltuo, felly mae'n bwysig fod gan awdurdodau lleol ryddid i fuddsoddi yn unol â'u blaenoriaethau lleol. Ond fel y dywedais, byddwn yn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr, ac rydym eisoes wedi nodi y byddem yn ceisio blaenoriaethu cyllid ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac anelu i roi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol. Wrth wneud hynny, credaf mai dyna'r ffordd orau o sicrhau bod y gwasanaethau anstatudol ond hynod werthfawr hyn yn y sefyllfa orau.

Sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sefydlu cyd-bwyllgorau corfforaethol mewn llywodraeth leol yng Nghymru? OQ57203

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Rwy'n croesawu'r cynnydd ym mhob un o'r rhanbarthau, gan gynnwys yn ne-ddwyrain Cymru, ar sefydlu eu cyd-bwyllgorau corfforedig. Rwyf wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda llywodraeth leol i gefnogi'r gwaith o sefydlu eu cyd-bwyllgorau corfforedig a'r newid o'r trefniadau rhanbarthol presennol.

Teimlaf fod angen siarad dros gyd-bwyllgorau corfforedig o ystyried rhai o'r materion sydd wedi codi yn y Siambr y prynhawn yma. Rwyf wedi bod yn gwneud gwaith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Stagecoach a Trafnidiaeth Cymru er mwyn ceisio sicrhau gwell cysylltiadau bws ag Ysbyty Athrofaol y Faenor ger Cwmbrân, a bydd y llwybr arfaethedig, a gobeithio y gallwn ddechrau ar y gwaith hwnnw, yn cwmpasu tair ardal bwrdeistref sirol. Rwy'n credu y byddai dull cyd-bwyllgor corfforedig sy'n cynnwys darpariaeth drafnidiaeth o'r fath yn datrys rhai o'r problemau a gafwyd yn y gorffennol, a theimlaf fod gan gyd-bwyllgorau corfforedig rôl bwysig i'w chwarae yn hynny o beth. A gaiff hynny ei gynnwys mewn unrhyw ddarpariaethau yn y Bil bysiau yn y dyfodol, ac a yw'r Gweinidog yn cytuno y gall cyd-bwyllgorau corfforedig ddarparu'r lefel honno o gymorth?

Mae hwnnw'n gwestiwn da iawn, ac mae'n rhoi cyfle imi ddweud y bydd cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyfrifol am ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol wrth gwrs, ond yn amlwg, bydd y rhain yn ystyried materion sy'n ymwneud â thrafnidiaeth i ac o bob ardal cyd-bwyllgor corfforedig, ac yn cynnwys polisïau ar gyfer gweithredu strategaeth drafnidiaeth Cymru.

Mae'r pwynt am fysiau yn bwysig iawn, oherwydd, yn amlwg, mae angen i'r system ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau bysiau fod yn effeithlon ac yn effeithiol, ac rydym eisiau i bob rhan o'r system gydweithio i gyflawni'r math o wasanaeth bws rydym ei eisiau. Mae'n ymwneud ag un rhwydwaith, un amserlen ac un tocyn. Mae'n ymddangos yn syml, ond mewn gwirionedd, bydd angen llawer o waith arno. Credaf y bydd y ffaith y gallem wneud rhywfaint o waith ar sail ranbarthol yn wirioneddol bwysig. Yn amlwg, byddai angen eglurder ynghylch y rolau a sut y gall awdurdodau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol integreiddio i sicrhau atebolrwydd lleol a phersbectif cenedlaethol ar ddyfodol gwasanaethau bysiau, ond rwyf eisiau sicrhau Hefin David fod gwaith ar y gweill gydag awdurdodau lleol i ystyried lle sydd orau i'r swyddogaethau hynny fod er mwyn cyflawni hyn. Gallai fod rôl bwysig i gyd-bwyllgorau corfforedig, o ystyried eu swyddogaeth drafnidiaeth a'r trosolwg clir a fydd ganddynt o bwysigrwydd rhwydweithiau yn eu hardaloedd.

14:15
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau i’r Gweinidog materion gwledig a'r gogledd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mike Hedges. 

Plaladdwyr

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith defnyddio plaladdwyr yng Nghymru? OQ57175

Diolch. Mae'r mater hwn yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Fodd bynnag, gallaf gadarnhau bod pob plaladdwr a awdurdodir yn y DU yn destun asesiad gwyddonol a thechnegol helaeth, ac yn bodloni safonau rheoleiddio llym i sicrhau nad ydynt yn fygythiad i iechyd pobl, anifeiliaid a'r amgylchedd.

Defnyddir glyffosad i ladd chwyn. Rwyf fi, ynghyd â llawer o rai eraill, yn pryderu am effaith glyffosad ar bobl, anifeiliaid a'r amgylchedd. Mae'n chwynladdwr systemig annetholus sy'n lladd ystod eang o blanhigion drwy fynd i mewn i'r planhigyn drwy'r dail ac yn defnyddio system gylchredol y planhigyn i gyrraedd y brigdyfiant a'r gwreiddiau. A yw'r Gweinidog yn rhannu fy mhryder, ac a yw'r Llywodraeth yn bwriadu deddfu ar y defnydd o glyffosad?

Rwy'n amlwg yn ymwybodol o'r pryderon ynghylch defnyddio glyffosad. Ar ddiwedd 2017, cafodd ei ailgymeradwyo am bum mlynedd arall gan yr UE, ac rwy'n ymwybodol fod trafodaethau'n dechrau yn awr rhwng Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a'r Asiantaeth Gemegion Ewropeaidd. Ond yn amlwg, ers mis Ionawr eleni, mae cyfundrefn reoleiddio plaladdwyr annibynnol newydd wedi dechrau gweithredu ym Mhrydain, ac mae gan honno broses asesu risg barhaus, drylwyr a chynhwysfawr ar gyfer plaladdwyr. Felly, yn awr bydd Gweinidogion Cymru yn parhau i wneud penderfyniadau perthnasol ynghylch plaladdwyr ar gyfer Cymru, a bydd Prydain yn cynnal ei hasesiadau annibynnol ei hun o'r dystiolaeth ar y cemegyn. Yn amlwg, bydd Gweinidogion Cymru yn rhan o'r trafodaethau hynny.

Weinidog, nod cynllun gweithredu cenedlaethol y DU ar gyfer defnyddio plaladdwyr yn gynaliadwy yw lleihau risgiau ac effeithiau plaladdwyr i iechyd pobl a'r amgylchedd, tra'n sicrhau bod plâu ac ymwrthedd i blaladdwyr yn cael eu rheoli'n effeithiol. Ar hyn o bryd mae llawer o ffermwyr a rheolwyr tir yn defnyddio plaladdwyr i reoli a diogelu eu cnydau rhag niwed gan infertebratau, clefydau a chwyn. Mae un o amcanion cynllun gweithredu cenedlaethol y DU yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu, felly a allwch chi amlinellu pa waith ymchwil a datblygu a wnaethpwyd yn uniongyrchol yma yng Nghymru mewn perthynas â phlaladdwyr fel y gallwn leihau ein dibyniaeth arnynt a helpu i ddiogelu'r gadwyn cyflenwi bwyd?

Diolch. Fel y dywedais, nid yw'r mater hwn yn rhan o fy mhortffolio mewn gwirionedd—mae'n perthyn i'r weinyddiaeth newid hinsawdd—ond rwy'n ymwybodol fod ymgynghoriad ar y cyd yn y DU ar fersiwn ddrafft o gynllun gweithredu cenedlaethol diwygiedig ar gyfer defnyddio plaladdwyr yn gynaliadwy wedi'i lansio ddiwedd y llynedd. Gwn fod swyddogion y Gweinidog yn gweithio'n agos iawn gyda'u swyddogion cyfatebol ledled y DU fel y gallant ddiwygio'r cynllun drafft, tra'n ystyried yr ymatebion a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad.

Buddsoddi mewn Isadeiledd yn y Gogledd

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch buddsoddi mewn isadeiledd yn y Gogledd? OQ57186

Diolch. Rwyf wedi cynnal sawl trafodaeth gyda Gweinidog yr Economi ar amrywiaeth o faterion ledled gogledd Cymru, ac yfory byddaf yn cadeirio pwyllgor y Cabinet ar ogledd Cymru, y bydd y Gweinidog yn ei fynychu. Rydym yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'n partneriaid yn y sector cyhoeddus i sicrhau'r buddsoddiadau seilwaith economaidd gorau posibl ar draws pob rhan o Gymru, fel yr amlinellir yn ein rhaglen lywodraethu.

Gyda hynny mewn golwg, mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, i beidio â chefnogi cais cyngor Wrecsam i'r gronfa lefelu i fyny i adnewyddu'r Cae Ras yn ergyd i'r clwb ac i bêl-droed yn ehangach, ac, yn wir, i'r rhanbarth yn ehangach hefyd. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, dwi'n gwybod, bod tîm pêl-droed Wrecsam eisoes yn denu torfeydd o ryw 10,000 ar gyfer gemau cartref erbyn hyn. Mae'r Cae Ras yn llawn ar ddyddiau Sadwrn, ac mae angen datblygu y Cae Ras, nid yn unig er mwyn y clwb, ond er mwyn, fel roeddwn i'n dweud, sicrhau adnodd rhanbarthol a chenedlaethol fydd yn medru denu gemau rhyngwladol ar bob lefel yn y dyfodol. Mae hynny'n berthnasol yn enwedig heddiw, wrth gwrs, gan fod yna filoedd o bobl o'r gogledd wedi gorfod teithio unwaith eto i Gaerdydd i wylio'r tîm cenedlaethol yn chwarae. Mae Llywodraeth ar ôl Llywodraeth, wrth gwrs, yma yng Nghaerdydd, wedi siarad am hyn o safbwynt y Cae Ras, ond erioed wedi delifro. Dwi'n awyddus inni sicrhau bod datblygiad yn mynd yn ei flaen er gwaethaf penderfyniad Llywodraeth San Steffan, felly a wnewch chi fel Gweinidog ymrwymo i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu'r rhan yma o'r dre, ac, wrth gwrs, gyfrannu at dwf y rhanbarth yn ehangach?

14:20

Diolch. Fel y dywedwch, roedd llawer mwy ar eu colled, rwy'n credu, nag a oedd ar eu hennill yng Nghymru o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa codi'r gwastad. Chwe awdurdod lleol yn unig a fu'n llwyddiannus yn eu ceisiadau, a gwrthodwyd gwerth £172 miliwn o geisiadau am gyllid. Roedd hynny'n amlwg yn cynnwys y Cae Ras yn fy etholaeth i yn Wrecsam, a thri chais canol tref ym Mangor, Abermaw a'r Bala. Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn, a chofiais eto neithiwr; pan oeddwn yn ferch ifanc, ni fyddwn byth wedi gallu dod i lawr i Gaerdydd i wylio gemau pêl-droed rhyngwladol. Roedd yr holl gemau pêl-droed rhyngwladol a welais ar y Cae Ras, a chredaf ein bod yn colli grŵp o bobl ifanc nad yw eu rhieni'n gallu eu hebrwng i lawr. Yn sicr, fel y dywedwch, mae'r Cae Ras yn denu torfeydd o ychydig o dan 10,000 bob yn ail wythnos. Yn bendant, mae ewyllys o fewn y clwb pêl-droed a'r dref i weld cyfleusterau ychwanegol yn dod i'r Cae Ras. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn bartner ym mhrosiect porth Wrecsam, gan weithio gyda Phrifysgol Glyndŵr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a byddaf yn sicr yn gwneud popeth y gallaf ei wneud, fel Aelod o'r Senedd, ac fel Gweinidog gogledd Cymru, i sicrhau bod y prosiect hwnnw'n mynd rhagddo'n hwylus. Mae'n sicr yn ymddangos felly. Rwy'n sylweddoli ei fod yn brosiect hirdymor.

Yn ffodus, mae cais porth Wrecsam yn mynd i rownd 2 y gronfa codi'r gwastad, ac wrth gwrs roedd cais De Clwyd yn llwyddiannus yn rownd 1.

Yn gynharach eleni ymwelais â safle'r tirlithriad rhwng Trecelyn a Chefn Mawr, a achoswyd gan storm Christoph, gan gau'r B5605 yno. Pan ysgrifennais at Lywodraeth Cymru am y niwed hwn i seilwaith allweddol, nododd ymateb y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ym mis Gorffennaf fod cais cyngor Wrecsam am gyllid i Lywodraeth Cymru yn

'aflwyddiannus oherwydd na fyddai gwaith atgyweirio yn lleihau'r perygl o lifogydd i eiddo ac na fyddai ond o fudd i'r briffordd'.

Yna ysgrifennodd arweinydd amgylchedd a thrafnidiaeth cyngor Wrecsam, 'Rydym yn rhagweld cost atgyweirio o tua £1 filiwn ac rydym yn pryderu na fydd y cyngor, heb gefnogaeth, yn gallu ariannu'r niwed sy'n gysylltiedig â stormydd.' Ond fel yr ysgrifennodd etholwr yr effeithiwyd arno y mis hwn, 'Mae llawer o bobl yn y pentrefi hyn heb geir at eu defnydd, ac maent angen trafnidiaeth sy'n golygu cerdded milltiroedd i'r safle bws agosaf neu orfod llogi tacsis costus.' Yn gynharach y mis hwn, cadarnhaodd y cyngor eu bod wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyngor gan ymgynghorwyr geodechnegol, a byddant yn cyflwyno achos busnes ar gyfer cyllid gan Lywodraeth Cymru. Sut, felly, rydych yn ymateb i'w datganiad mai'r rhwystr mwyaf fydd cael cyllid yn y flwyddyn ariannol hon i'w galluogi i gynllunio a chyflawni'r gwaith cyn gynted â phosibl?

Y tro diwethaf imi gael trafodaeth am y mater hwn gyda dirprwy arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fy nealltwriaeth i oedd eu bod yn credu mai mater iddynt hwy oedd hyn bellach, a'u bod yn prosesu eu cais. Felly, nid wyf yn cydnabod hynny.

Rwyf wedi cael ymateb ynglŷn â hynny hefyd a dywedwyd wrthyf ei fod yn cael sylw, gyda swyddogion yn cyfarfod â swyddogion Wrecsam hefyd. Diolch.

Cafodd gwelliannau ar hyd yr A55 yng Ngwynedd 50 y cant o gyllid yr UE i wneud y gwaith. Un enghraifft yn unig yw hon o sut roedd seilwaith gogledd Cymru yn elwa o fod yn fuddiolwr net o gyllid Ewropeaidd. Cawsom addewid na fyddem yn waeth ein byd ar ôl Brexit, ac eto un awdurdod lleol yn unig yng ngogledd Cymru—Wrecsam—a elwodd o'r gronfa newydd, y gronfa codi'r gwastad, a hynny ar gyfer traphont ddŵr Pontcysyllte. Cyflwynodd cyngor sir y Fflint gais am gyllid rhanbarthol â blaenoriaeth uchel ar gyfer prosiectau seilwaith, gan gynnwys gorsaf barcffordd Glannau Dyfrdwy, a fyddai'n gwella mynediad i drigolion gogledd Cymru at 400 o fusnesau a 5,000 o swyddi ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, cyfleusterau parcio a theithio yng ngorsaf Pen-y-ffordd, a gwelliannau ar gyfer cludo nwyddau yn Castle Cement i alluogi cynnydd arfaethedig yn y gwasanaethau ar reilffordd Wrecsam-Bidston i ddau drên yr awr. Ni chafodd dim o hyn ei ariannu. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod Llywodraeth y DU yn gwneud cam â gogledd Cymru drwy beidio â darparu'r un swm o gyllid a buddsoddiad mewn seilwaith ag y byddem wedi'i gael pe byddem yn dal i fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd?

14:25

Yn sicr, rwy'n cytuno â'r Aelod. Yn amlwg, mae gweithredoedd Llywodraeth y DU yn gostwng y gwastad i Gymru gyfan, a gogledd Cymru yn bendant, yn hytrach na chodi'r gwastad, ac yn sicr mae gennym lai o lais dros lai o arian. Credaf fod hynny'n gwbl annerbyniol ac yn bendant, nid dyna a addawyd i ni. Felly, credaf eich bod yn iawn i fynegi pryderon ynghylch buddsoddiadau ar gyfer gogledd Cymru yn y dyfodol. Credaf fod hyn yn debyg o fod wedi gosod cynsail ar gyfer yr hyn sydd i ddod yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn defnyddio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a'i methiant i sicrhau cyllid llawn yn lle cyllid Ewropeaidd. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw sylwedd yn sail i'w hagenda codi'r gwastad.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Samuel Kurtz.

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn y datganiad ar y strategaeth ar gyfer dileu TB buchol ddoe, fe ddywedoch chi mai un o'r rhesymau pam eich bod yn rhoi'r gorau i ddal moch daear a chynnal profion arnynt, yn eich geiriau chi, yw oherwydd ei fod yn amhoblogaidd gyda ffermwyr. Fodd bynnag, gellid dadlau mai un o'r rhesymau a gyfrannodd at fethiant y rhaglen oedd bod rhestr o'r ffermydd a gymerodd ran wedi'i chyhoeddi yn 2018 mewn achos canfyddedig o dorri diogelwch data, gan arwain at fwlio ac aflonyddu ar y ffermwyr a gymerodd ran yn y rhaglen. Yn ogystal, dywedodd llywydd Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, John Davies:

'Ymddengys mai Llywodraeth Cymru yn unig sydd o'r farn y gellir dileu'r clefyd hwn heb ymdrin yn rhagweithiol ag anifeiliaid sydd wedi'u heintio mewn poblogaethau bywyd gwyllt yn ogystal â gwartheg.'

Gyda ffermwyr yn mynegi pryderon ynghylch gallu Llywodraeth Cymru i drin data sensitif a sicrhau dull digonol o ddileu'r clefyd heb strategaeth ddileu gyfannol a rhagweithiol, pa mor hyderus y gall ffermwyr fod y bydd eich Llywodraeth yn ennill y frwydr yn erbyn TB buchol?

Diolch. Un o'r rhesymau pam y dywedais fy mod am roi'r gorau i ddal moch daear a chynnal profion arnynt oedd oherwydd ei fod yn galw am lawer o adnoddau ac nid oedd wedi darparu cymaint o ddata â'r hyn y meddyliais y byddai'n ei wneud. Credaf y byddai'r cyllid a ddarperais ar gyfer y cynllun dal a phrofi yn y gorffennol wedi cael ei ddefnyddio'n well mewn cynllun brechu moch daear. Felly, dyna pam y cyhoeddais £100,000 ddoe. Rwy'n llwyr gydnabod yr hyn a ddywedwch am dorri diogelwch data—rwy'n ceisio cofio ai tair neu bedair blynedd yn ôl y digwyddodd, ond roedd ychydig flynyddoedd yn ôl, ac yn amlwg, fe wnaethom ymddiheuro. Ond rwyf eisiau i'n sector ffermio a'r gymuned fod â ffydd yn y rhaglen hon i ddileu TB. Fel y trafodwyd yn helaeth ddoe, credaf ei bod yn gweithio. Mae'n bryd ei hadnewyddu yn awr, gan fod pedair blynedd wedi bod ers inni ei chyflwyno, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd pobl yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Wel, Weinidog, bydd hynny'n siomedig, gan fod Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru yn credu bod cael gwared ar y cynllun dal a phrofi yn gam yn ôl.

Ond i symud oddi wrth TB a chanolbwyntio ar gymorth ariannol, yr wythnos diwethaf, clywodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig dystiolaeth gan yr undebau ffermio, pan ofynnwyd iddynt am eu pryderon ynghylch y ffaith bod cyllid rhaglen datblygu gwledig heb ei wario erbyn diwedd y rhaglen. Mynegodd Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru eu siom fod traean o'r gyllideb wreiddiol yn dal heb ei wario ym mis Awst eleni, er i'r rhaglen ddod i ben y llynedd. Weinidog, a ydych yn rhannu'r pryderon hyn ac yn cytuno bod yn rhaid gwario cyllid y rhaglen datblygu gwledig yn effeithiol ac mewn modd tryloyw? Pa sicrwydd y gallwch ei roi i ffermwyr na fydd eich tanwariant yn cael unrhyw effaith ar unrhyw gytundebau ariannu yn y dyfodol?

Rwy'n cytuno â chi y dylid ei wario'n llawn; nid wyf yn rhannu pryderon na fydd hynny'n digwydd. Rwy'n dal i fod yn hyderus y bydd arian y rhaglen datblygu gwledig i gyd wedi'i wario erbyn diwedd 2023, sef yr adeg y mae'n rhaid i'r arian fod wedi'i wario. Rwy'n siŵr y byddwch yn deall y bu heriau sylweddol i rai prosiectau oherwydd effaith y pandemig ac effaith barhaus y ffaith ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yn ddiweddar, cyhoeddais estyniadau i gontractau amaeth-amgylcheddol Glastir am ddwy flynedd, drwy'r rhaglen datblygu gwledig, ac rwy'n credu bod hynny wedi cael croeso mawr. Oherwydd roeddwn eisiau rhoi sicrwydd i'r prosiectau amgylcheddol hynny nad oeddem wedi colli'r enillion a gawsom drwyddynt, cyn trosglwyddo i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'r ymrwymiad lefel prosiect presennol yn £764.7 miliwn ac mae hynny'n ymrwymiad o 91.2 y cant o gyllid yn erbyn cyfanswm gwerth y rhaglen o dros £838 miliwn.

Diolch. Fe sonioch chi am y prosiectau amgylcheddol, ac ar fater taliadau rhaglen datblygu gwledig effeithiol a thryloyw, mae ffigurau a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod cyfran gynyddol o gronfa creu coetir Glastir Llywodraeth Cymru yn cael ei defnyddio i ariannu prosiectau plannu coed ar dir fferm yng Nghymru a brynwyd gan fusnesau tramor, heb unrhyw fudd i Gymru na'n cymunedau ac yn groes i'n hymdrechion ein hunain i fynd i'r afael â newid hinsawdd. O ystyried bod busnesau mawr o'r tu allan i Gymru yn gwneud defnydd o grantiau Glastir, a ffermwyr lleol fel David Mills o Bowys yn cael eu cosbi a'u dirwyo o filoedd o bunnoedd am wneud y peth iawn drwy blannu coed, a wnewch chi ddatgelu i'r Siambr faint o arian trethdalwyr, a ddyrannwyd drwy gronfa creu coetir Glastir, sydd wedi'i roi i fusnesau gwerth miliynau o bunnoedd i blannu coed yng Nghymru?

14:30

Felly, rwy'n ymwybodol o'r achos y cyfeiriwch ato, ac ni allaf wneud sylw oherwydd, yn amlwg, mae'n mynd drwy broses.

Mewn perthynas â chwmnïau rhyngwladol yn prynu tir yng Nghymru, mae'n amlwg fod hyn yn rhywbeth sy'n peri pryder i mi a chyfarfûm â'r undebau ffermio yr wythnos diwethaf a gofyn iddynt a oeddent yn gallu darparu tystiolaeth. Roedd y ddau undeb wedi ei ddwyn i fy sylw. A dywedodd un o'r undebau wrthyf fod llawer ohono'n anecdotaidd, felly byddai'n well gennyf gael ffeithiau cadarn, ac maent wedi ymrwymo i wneud hynny, oherwydd credaf ei bod yn bwysig inni wybod pa dir sy'n cael ei brynu.

Fodd bynnag, rwy'n clywed drwy'r amser fod parseli mawr o dir yn cael eu prynu a bod coed yn cael eu plannu. Fe fyddwch yn ymwybodol nad ydym wedi cyrraedd ein targedau plannu coed ers amser maith. Felly, rwy'n ceisio sicrhau cydbwysedd, ond mae angen cynnydd sylweddol mewn gwaith creu coetir ac rwy'n credu mai ein ffermwyr sydd yn y sefyllfa orau i allu gwneud hynny i ni.

Felly, credaf fod dau beth gwahanol yno. Rwy'n credu bod angen inni wybod i bwy rydym yn gwerthu ein tir. Yn anffodus, fel y dywedwch, mae rhywfaint o'r cyllid yn mynd i gyfeiriadau nad ydynt yng Nghymru. Nid wyf yn credu ei fod mor sylweddol ag yr awgrymwch. Ac unwaith eto, os oes gennych dystiolaeth, anfonwch hi ataf, ond credaf ein bod i gyd yn cytuno bod llawer ohoni'n anecdotaidd. Ond wrth edrych ar y cynllun ffermio cynaliadwy, o fewn hynny, rwy'n awyddus iawn i allu helpu ein ffermwyr sy'n awyddus i blannu coed, sy'n awyddus i blannu gwrychoedd a lleiniau ac i allu eu cynorthwyo i wneud hynny.

Diolch, Llywydd. Wrth inni edrych y tu hwnt i COP26, mae'n rhaid inni, erbyn hyn wrth gwrs, droi ein geiriau yn weithredoedd er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Yn ystod y gynhadledd, cafwyd diwrnod amaethyddiaeth ac fe wnaeth arweinwyr y sector ffermio yng Nghymru ymrwymiadau uchelgeisiol a chadarn iawn i helpu Cymru gyrraedd y nod o fod yn net sero.

Wrth gwrs, rŷn ni'n deall bod angen diwydiant ffermio hyfyw ar Gymru i sicrhau nad ŷn ni'n gweld llai o gamau'n cael eu cymryd i ddiogelu'r amgylchedd naturiol a llai o gyfraniadau economaidd gan y sector i economi Cymru. A dŷn ni ddim, yn sicr, eisiau gweld effeithiau negyddol ar yr hinsawdd drwy fewnforio cynnyrch fferm o wledydd tramor, fel ŷn ni wedi clywed bydd yn bosibl—o Awstralia a Seland Newydd.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, cyhoeddodd Hybu Cig Cymru ddiweddariad i'w hadroddiad, 'Perffeithio'r Ffordd Gymreig', sy'n cynnwys canllawiau ar ffermio defaid a chynhyrchu cig eidion mewn ffordd gynaliadwy. Cyhoeddodd NFU UK hefyd adroddiad cynhwysfawr ar sut y gall y sector arwain y ffordd i fod yn net sero. Ac mae hyn yn wahanol iawn i'r geiriau gwag rŷn ni wedi eu cael gan y Torïaid ar newid hinsawdd. A yw'r Gweinidog yn cytuno, felly, fod cyfraniad ffermwyr yn hollbwysig i gyrraedd net sero a'u bod nhw'n rhan o'r ateb ac nid y broblem?

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â chi eu bod yn rhan o'r ateb ac yn sicr rwy'n meddwl—. Fe sonioch chi am Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ar lefel y DU, ond mae NFU Cymru, yn fy marn i—fe wnaethant nodi eu strategaeth cyn i ni wneud hynny. Credaf eu bod wedi bod yn glir iawn eu bod yn gweld eu hunain fel rhan o'r ateb ac nad ydynt yn dod atom i ofyn cwestiynau—maent yn dod gydag atebion. Felly, credaf eu bod wedi arwain y ffordd go iawn mewn perthynas â hynny.

Roeddwn yn falch iawn o weld adroddiad newydd Hybu Cig Cymru, 'Perffeithio'r Ffordd Gymreig'. Mae hwnnw eto'n cydnabod y camau y bydd angen i ffermwyr da byw Cymru eu cymryd tuag at gyflawni'r targedau cynaliadwyedd rydym wedi'u gosod ac maent yn darparu canllawiau ar gyfer gwelliant parhaus. Mae gennym bryderon hefyd ynglŷn â chytundebau masnach y DU â Seland Newydd ac Awstralia y cytunwyd arnynt mewn egwyddor ac mae swyddogion yn parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU.

Diolch yn fawr iawn. Wrth gwrs, dyw'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ddim yn unig wedi torri addewidion ynglŷn â newid hinsawdd am yr ail flwyddyn yn olynol. Rŷn ni wedi gweld addewidion wedi cael eu torri ar gyllid i amaeth yng Nghrymu. Mae toriadau cymharol i ddyraniad cyllid amaeth a datblygu gwledig a gyhoeddwyd yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant fis diwethaf yn torri addewid maniffesto'r Ceidwadwyr i beidio â thorri cyllid gwledig. Dangosodd yr adolygiad gwariant, a rŷch chi'n cofio am 'not a penny less', y byddai £300 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd yn cael ei ddyrannu i Gymru ar gyfer amaeth dros y tair blynedd nesaf. Nawr, mae hyn yn golygu £37 miliwn yn llai na'r gyllideb a ddyrannwyd yn 2019, yn y flwyddyn lle wnaeth y Ceidwadwyr yn eu maniffesto addo na fyddai toriadau yn y gyllideb i ffermwyr yn digwydd. Mae hyn yn golygu y bydd amaethyddiaeth Cymru dros y blynyddoedd nesaf, y pedair blynedd nesaf, yn gweld gostyngiad o £248 miliwn, gan ddatgelu mewn gwirionedd y gwagedd y tu ôl i'r addewidion a wnaed gan y Torïaid, y Brexiteers, yn eu maniffesto yn 2019. 

Felly, sut mae'r toriad hwn yn effeithio ar ymrwymiadau blaenorol y Gweinidog o ran cynnal cyllid cynllun y taliad sylfaenol i ffermwyr dros y blynyddoedd nesaf, a pha gamau y mae hi'n mynd i'w cymryd i sicrhau na fydd y toriadau hyn yn effeithio nac yn tanseilio ffermydd teuluol na'r economi wledig?

14:35

Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac yn sicr, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cam â'n ffermwyr a'n cymunedau gwledig yma yng Nghymru. Fel y dywedwch, byddwn ar ein colled o dros £106 miliwn o gyllid yn lle arian yr UE dros gyfnod yr adolygiad o wariant. Mae hynny ar ben y £137 miliwn y llynedd na chafodd ei ddarparu ar gyfer fy nghyllideb gan Lywodraeth y DU. Ni fyddai'r cyllid hwnnw wedi'i netio pe byddem yn dal i fod yn yr Undeb Ewropeaidd. Fel y gwyddoch, mae'n debyg, a byddwch wedi clywed y Gweinidog cyllid yn ei chwestiynau yn dweud nad yw'r rhethreg hon—a rhethreg oedd hi, onid e—ynghylch yr un geiniog yn llai yn dwyn ffrwyth, a gwn fy mod i a'r Gweinidog cyllid wedi cwyno'n barhaus am y fethodoleg a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth y DU. Ac rwy'n siomedig iawn na wnaethant fabwysiadu dull gwahanol o weithredu eleni yn dilyn ein sylwadau y llynedd.

Felly, mae'n golygu bod llawer llai o arian gan y Gymru wledig na phe byddem wedi aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Felly, yn amlwg yn awr, bydd yn rhaid i bob un ohonom ystyried hyn fel Cabinet cyn cyhoeddi ein cyllideb ar 20 Rhagfyr.

Diolch. Mae'n amlwg felly nad yw cefnogi ffermwyr Cymru yn uchel ar flaenoriaeth y Torïaid yn San Steffan. 

Gan symud ymlaen i edrych yn fwy arbennig ar bolisi ffermydd yn y dyfodol, y tu hwnt i'r cyllid presennol, un o'r pryderon sy'n cael eu mynegi gan y sector yw capio ar daliadau. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ymrwymo i gapio taliadau a fyddai'n gwneud y mwyaf o'r arian sy'n mynd i ffermydd teuluol bach. Ochr yn ochr â'r materion o ran diffinio beth yw ffermwyr gweithredol—active farmer—byddai rhoi'r gorau i gapio taliadau yn agor y drws i unigolion preifat a chyrff mawr gymryd arian oddi wrth ffermydd teuluol bach a chymunedau gwledig. 

Nawr, o 2023 ymlaen, fel rŷch chi'n gwybod, mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn cymryd camau breision i ailddosbarthu'r cymorth ariannol yn decach i ffermwyr, ac mae hyn yn golygu diffiniad cliriach o beth yw ffermwr gweithredol. A all y Gweinidog leddfu pryderon y sector heddiw felly drwy ymrwymo'n benodol i gynnal neu leihau'r cap presennol ar daliadau, a dilyn esiampl y cap newydd sydd yn cael ei argymell gan yr Undeb Ewropeaidd er mwyn rhoi chwarae teg i ffermwyr Cymru?

Wel, fel y gallwch ddeall rwy'n siŵr, gan fod y cynllun ffermio cynaliadwy wrthi'n cael ei ddatblygu, mae'n amlwg na allaf ymrwymo i hynny yma yn y Siambr, ond daw sylwadau i law yn rheolaidd ynghylch capio taliadau, a byddaf yn sicr yn edrych ar hynny fel rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy.

Tân Gwyllt a Lles Anifeiliaid

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i leihau effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid? OQ57182

Diolch. Rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith y gall tân gwyllt ei chael ar fywyd gwyllt, anifeiliaid dof ac anifeiliaid fferm. Yn niffyg ymrwymiad clir gan Lywodraeth y DU i dynhau rheoliadau yng Nghymru a Lloegr, rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU ystyried y posibilrwydd o drosglwyddo'r pwerau hyn i Weinidogion Cymru.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Gyda noson tân gwyllt wedi mynd heibio am eleni, a dathliadau'r flwyddyn newydd ar y gorwel, rydym bellach ynghanol y tymor tân gwyllt fel y'i gelwir. Eleni, fodd bynnag, mae'n wahanol iawn i'r rhan fwyaf o flynyddoedd eraill, gyda'r RSPCA yn dweud y bydd nifer ddigynsail o ddigwyddiadau answyddogol a heb eu cynllunio eleni, gyda 44 y cant o bobl yng Nghymru bellach yn mynychu digwyddiad fel hwn yn hytrach nag un wedi'i gynllunio. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn golygu bellach fod y digwyddiadau hyn at ei gilydd yn digwydd yn nes at gartrefi sy'n berchen ar anifeiliaid anwes, gan gynyddu'r tebygolrwydd o bryder a gofid eithafol i'r anifeiliaid hynny, a hyd yn oed anaf a marwolaeth mewn rhai achosion mwy eithafol. Weinidog, gwn ichi nodi'n gynharach y mis hwn fod angen inni wneud rhywfaint o gynnydd ar y mater hwn, felly a gaf fi ofyn pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu o ddathliadau 5 Tachwedd yn gynharach y mis hwn, a pha gynlluniau sydd gennych cyn dathliadau'r flwyddyn newydd i ddiogelu anifeiliaid domestig?

14:40

Wel, fel y dywedais, mater i Lywodraeth y DU yw hwn, ac yn sicr hoffem weld y pwerau hynny wedi'u datganoli, fel y gallwn wneud camau gwirioneddol arwyddocaol ymlaen. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith y gall tân gwyllt ei chael ar ein hanifeiliaid, felly roeddwn yn falch iawn o weld—gallaf feddwl am un archfarchnad yn benodol nad oedd yn gwerthu tân gwyllt eleni, a chredaf fod hynny wedi gwella pethau. Rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle yn yr hyn roedd yr RSPCA yn ei ddweud, mae'n debyg bod mwy o bobl wedi dathlu noson tân gwyllt gartref ac wedi prynu tân gwyllt at ddefnydd preifat yn hytrach na mynd i ddigwyddiadau mawr oherwydd y pandemig COVID.

Yn amlwg, mae lles anifeiliaid yn rhan o fy mhortffolio, ond yn flaenorol, pan oeddwn yn Weinidog yr amgylchedd, cefais lawer o drafodaethau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, a'r Alban hefyd, i weld beth y gallem ei wneud i edrych ar naill ai wahardd tân gwyllt, neu cael tân gwyllt tawel, neu dân gwyllt di-sŵn. Oherwydd mae yna gydbwysedd i'w daro, onid oes, rhwng mwynhad pobl o'r pethau hyn a'r gofid y maent yn anffodus yn ei achosi. Gwn fod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn edrych i weld beth arall y gellir ei wneud, a chredaf ei fod wedi gofyn am gyngor ynglŷn â therfynau rheoliadau presennol y DU.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Ac er fy mod yn cydnabod bod hwn yn fater sydd heb ei ddatganoli wrth gwrs, mae'n rhywbeth sydd, fel i lawer o Aelodau o'r Senedd, bob amser yn amlwg iawn yn fy mhost ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Nawr, gall cynghorau Cymru roi cyfres o gamau ar waith i liniaru effaith tân gwyllt, megis mesurau gwirfoddol neu leol, i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, gan annog y defnydd o dân gwyllt tawelach neu ddi-sŵn, a rhoi mwy o anogaeth i hysbysebu arddangosiadau swyddogol ar dir sy'n eiddo i'r cyngor. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'n partneriaid llywodraeth leol ynglŷn â'r camau y gallant eu cymryd?

Diolch. Gwn fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi dosbarthu'r deunyddiau ymgyrchu a gawsom gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn Whitehall i dimau sŵn yn awdurdodau lleol Cymru er mwyn iddynt eu defnyddio os dymunant. Ac wrth gwrs, mae llawer o awdurdodau lleol Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â'r gwasanaethau brys, yn weithgar iawn yn y maes hwn, heb fod angen anogaeth gennym ni. Gwn fod swyddogion y Gweinidog sy'n gyfrifol am hynny wedi bod yn cydweithio â BEIS i weld pa ganllawiau a rheoliadau pellach y gellir eu llunio. A gwn ein bod wedi dosbarthu deunydd cyhoeddusrwydd dwyieithog ar gyfer codi ymwybyddiaeth i'n holl awdurdodau lleol yng Nghymru fel y gallant eu defnyddio ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod ni, fel Llywodraeth, yn parhau i weithio gyda'n rhanddeiliaid allweddol, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys awdurdodau lleol, i sicrhau bod y neges honno'n cael ei chyfleu'n bendant ledled Cymru.

Ffermwyr a Newid Hinsawdd

4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y rôl y gall ffermwyr ei chwarae wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd? OQ57206

Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â chydweithwyr i drafod materion trawsbynciol, gan gynnwys y mater hwn. Ac rwy'n credu bod COP26 wedi dangos sut y mae gan ffermwyr rôl hanfodol i fynd i'r afael â newid hinsawdd drwy leihau allyriadau ar y fferm mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys gwella effeithlonrwydd cynhyrchiant da byw a chnydau, rheoli maethynnau, a chynyddu cynaliadwyedd technoleg a seilwaith ffermydd.

Diolch yn fawr iawn am eich ateb cyntaf, Weinidog. Yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf wedi cael y pleser, gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, o ymweld â dwy fferm wahanol iawn yn fy rhanbarth i, Gogledd Cymru—fferm Llyr Jones, Derwydd, ar ffin Conwy-sir Ddinbych, ac ystâd Rhug ger Corwen, y byddwch yn gyfarwydd â hi hefyd, rwy'n siŵr. Gan barhau i sicrhau bod gennym fwyd ar ein byrddau i'w fwyta, mae'r ddwy hefyd wedi arallgyfeirio i gynhyrchu ynni gwyrdd, sy'n helpu i redeg eu ffermydd. Mae'r rhain, fel y byddech yn cytuno rwy'n siŵr, yn enghreifftiau gwych o ffermwyr yma yng Nghymru yn arwain y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd presennol, yn ogystal â darparu ynni adnewyddadwy i'w busnesau, ac ar y grid i bawb arall allu elwa arno hefyd. Felly, Weinidog, pa gymorth a chymhellion pellach y gallwch eu darparu drwy Lywodraeth Cymru i ffermydd fel Derwydd a Rhug i helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur?

14:45

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ddwy fferm y cyfeirioch chi atynt, a chredaf ein bod wedi gweld arallgyfeirio ar ein ffermydd, yn enwedig mewn perthynas â chynhyrchu ynni gwyrdd. Rwy'n aml yn ymweld â ffermydd sydd ag un—rwyf wedi anghofio'r gair; rwyf am ddweud 'melin wynt', ond nid dyna'r gair—tyrbin, ac yn sicr nid darparu ynni gwyrdd iddynt hwy eu hunain yn unig a wnânt; fel y dywedwch, maent wedi'u cysylltu â'r grid. Ac ni allwn bob amser roi cymorth ariannol efallai, ond rydym yn hapus iawn i gefnogi gyda chymorth ac arweiniad swyddogion mewn perthynas â hynny. Ond fel y dywedais yn fy ateb cynharach i Cefin Campbell—a gwn fod y Dirprwy Weinidog sydd newydd ddod i mewn i'r Siambr wedi cyfarfod ag NFU Cymru yn y COP26—rwy'n gwbl argyhoeddedig eu bod yn bendant yn gweld eu hunain yn rhan o'r ateb. Ac mae addewid sero-net yr NFU erbyn 2040, a'r gwaith y maent yn ei wneud ar arwain amaethyddiaeth tuag at ddyfodol wedi'i ddatgarboneiddio tra'n cefnogi eraill yn y gadwyn cyflenwi bwyd y cyfeirioch chi ati fel un sy'n amlwg mor bwysig, yn rhagorol iawn.

Prynhawn da, Weinidog. Hoffwn ddiolch i Sam Rowlands am gyflwyno'r cwestiwn hwn. Fel y gwyddom, mae gan ffermwyr gyfraniad arwyddocaol i'w wneud i ymdrechion Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, ac mae sawl un yn y Siambr hon eisoes wedi nodi'r atebion y gall ffermwyr eu cynnig i gyrraedd sero-net. Gwn hefyd fod y sector yn awyddus i weithio gyda'r Llywodraeth i lunio polisi amaethyddol yn y dyfodol i sicrhau y gallwn fodloni ein hangen am gyflenwad bwyd diogel, am blaned ffyniannus, am gymunedau gwydn, ac am sector amaethyddiaeth a bwyd llwyddiannus. Fel y clywsom eisoes heddiw, roeddem i gyd yn bryderus wrth ddarllen yr wythnos diwethaf am ffermwr ym Mhowys, yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, a gafodd ddirwy o £15,000 yn ôl y sôn am amrywio'r cynlluniau y cytunwyd arnynt o dan gynllun creu coetir Glastir. A gwn eich bod eisoes wedi ymateb i Sam Kurtz, ac rwy'n cydnabod na allwch wneud sylwadau ar apeliadau sydd ar y gweill, ond roeddwn yn gobeithio y gallech daflu goleuni ar yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i ddysgu o Glastir a sut y defnyddir y gwersi hynny i lywio polisi amaethyddiaeth yn y dyfodol a threfniadau cyllido'r Llywodraeth yn y flwyddyn i ddod.

Diolch. Rhaid i Lywodraeth Cymru weinyddu holl gynlluniau Glastir yn unol â rheoliadau a rheolau'r cynllun. Rhaid i Daliadau Gwledig Cymru gynnal o leiaf un ymweliad â safle i wirio bod yr holl eitemau gwaith cyfalaf wedi'u cwblhau, ac os canfyddir bod y gwaith yr hawliwyd ar ei gyfer yn anghyflawn neu heb fod yn cydymffurfio â'r fanyleb ofynnol, gellir adfer y taliad a gellir gosod cosb hefyd am orddatgan. Ond fel y dywedoch chi, rwyf eisoes wedi dweud na allaf wneud sylw ar achosion penodol. Ond mae'n bwysig ein bod yn dysgu gwersi, ac er nad yw'n bosibl gwneud newidiadau i'r cynlluniau presennol sydd gennym, fy amcan yw symleiddio ein cymorth i ffermydd yn y dyfodol. Yn amlwg, wrth inni gyflwyno cynllun ffermio cynaliadwy a rhaglen yn lle'r rhaglen datblygu gwledig, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn inni weithio gyda rhanddeiliaid i'w cydgynllunio, fel eu bod yn llai biwrocrataidd ac yn symlach. Felly, mae fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda ffermwyr a rhanddeiliaid i ddeall pa faterion sy'n bwysig iddynt, a sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei gynnig yn ymarferol, a chredaf ein bod yn mynd i edrych ar sut y gellir gwneud defnydd o hunanfonitro. Credaf fod honno'n agwedd arall y gallem geisio ei gwella a gweld a ellir defnyddio hynny mewn ffordd effeithiol i gael gwybodaeth am gydymffurfiaeth, ac archwilir rôl cydnabyddiaeth a enillir am gydymffurfiaeth hefyd.

Maglau a Thrapiau Glud

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddefnyddio maglau a thrapiau glud yng Nghymru? OQ57207

Diolch. Mae'r rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i wahardd defnyddio maglau yng Nghymru. Fy mwriad yw y dylid ei gynnwys, ynghyd â darpariaethau'n ymwneud â defnyddio trapiau glud, yn y Bil amaethyddiaeth y bydd y Llywodraeth yn ei gyflwyno gerbron y Senedd yn ein rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn gyntaf.

Rwy'n falch iawn o glywed bod gennych ymrwymiad parhaus, oherwydd ni chafodd ei grybwyll yn y rhaglen lywodraethu wreiddiol. Felly, mae hynny'n newyddion da iawn. Pan fyddwn yn sôn am ddefnyddio maglau a thrapiau glud, rydym yn sôn am ddyfeisiau creulon sy'n lladd yn ddiwahân. Maent yn dal adar ac anifeiliaid, maent yn eu gadael i ddioddef yn greulon, ac i farw'n araf a phoenus iawn. Mae 73 y cant o ddigwyddiadau a welir gan yr RSPCA mewn perthynas â thrapiau glud yn gysylltiedig â rhywogaethau nad ydynt yn dargedau, fel anifeiliaid anwes ac anifeiliaid gwyllt. Credaf mai gorau po gynharaf y gallwn roi diwedd ar yr arferion hynod greulon hyn—ac mae rhai o'r maglau i'w gweld yn gyffredin o amgylch mannau lle cynhelir digwyddiadau saethu ffesantod a saethu adar hela—. Felly, mae'n rhyddhad imi glywed eich bod yn bwriadu cyflwyno'r gwaharddiad, ond hoffwn glywed braslun o'r amserlen.

14:50

Diolch. Mae hyn yn y rhaglen lywodraethu. Roedd yn cynnwys yr ymrwymiad i wahardd defnyddio maglau yng Nghymru. Fel y dywedais, rwy'n edrych ar ei gyflwyno yn y Bil amaethyddiaeth, sydd yn ein rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Rwy'n gyndyn i roi mis; rwy'n tueddu i ddefnyddio tymhorau pan ddywedaf fod rhywbeth ar ei ffordd, ond rwy'n sicr yn gobeithio ei gyflwyno ddechrau'r haf y flwyddyn nesaf.

Plannu Coed ar Dir Amaethyddol

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae buddsoddwyr yn prynu tir amaethyddol ar gyfer plannu coed i'w ddefnyddio fel credydau carbon yn ei chael ar ffermydd teuluol? OQ57184

Diolch. Rydym yn ymwybodol o nifer fach o brosiectau creu coetir ar dir a brynwyd gan fuddsoddwyr. Nid yw'r prosiectau hyn wedi'u plannu, felly nid yw'n bosibl asesu eu heffaith eto. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y pryderon ac rydym am i ffermwyr chwarae rhan ganolog yn y gwaith o greu coetiroedd.

Nifer fach o achosion, meddai'r Gweinidog. Rydyn ni'n clywed pryderon cynyddol am hyn. Rydyn ni wedi clywed am hynny'n gynharach. Nid oes gan ffermwyr na theuluoedd lleol dim gobaith cystadlu. Rydyn ni wedi gweld yn y gorffennol beth sy'n digwydd pan fydd tir yn cael ei golli yn gymdeithasol, yn economaidd, yn ddiwylliannol, yn ieithyddol. Rydyn ni'n meddwl am Epynt a Thryweryn, cynlluniau fforestydd mawr y ganrif ddiwethaf.

Rŵan, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau am hyn yn digwydd ym mhob sir yng Nghymru, ar draws ardal sy'n cyfateb, o bosibl, i 20 fferm deuluol. Mewn ateb i gwestiwn cynharach, mi ddywedodd y Gweinidog ei bod hi hefyd yn rhannu'r pryderon, fel y clywsom ni fanna rŵan, ond ei bod hi wedi gwahodd undebau amaeth i roi mwy o dystiolaeth iddi hi. 'Anecdotaidd ydy llawer o beth rŷn ni'n ei glywed', meddai hi. Mi ofynnodd hi i Aelod arall ddarparu mwy o dystiolaeth bod grantiau Llywodraeth Cymru yn cael eu talu i speculators. Mae'n ddrwg gen i, ond gwaith y Llywodraeth ydy gwneud y gwaith yna o gasglu data a chasglu tystiolaeth. Gwaith y Gweinidog ydy dod o hyd i'r dystiolaeth a mynd at waelod y mater. Felly, a wnaiff hi ymrwymo i drio deall yn union beth sydd yn digwydd, fel bod data cadarn gennym ni ar frys? A wnaiff hi, yn hytrach na dim ond dweud ei bod hi yn bryderus am y peth, wthio am newidiadau i'r system gynllunio i warchod rhag impact cynlluniau plannu coed o'r math yma, ac ystyried ar frys newid y rheolau cymhwyso ar gyfer cynlluniau fel Creu Coetir Glastir, fel mai dim ond rhai sy'n ffermio yng Nghymru sy'n gallu gwneud cais, ac nid speculators sy'n trio manteisio i'r eithaf ar y sefyllfa?      

Mae'n ymddangos eich bod yn eithaf beirniadol o fy ateb cynharach am fy nghyfarfodydd â'r undebau ffermio yr wythnos diwethaf. Hwy a ddywedodd wrthyf ei fod yn anecdotaidd, ac fe wnaethant gynnig cyflwyno'r dystiolaeth bellach. Dywedwch fod nifer gynyddol o bryderon, ac rwy'n cytuno—yn sicr ceir canfyddiad ar lawr gwlad. Nawr, nid yw'r cwestiwn ai canfyddiad yn unig ydyw ai peidio yn bwysig, gan fod canfyddiad yn bopeth mewn gwleidyddiaeth.

Mae angen inni wybod y ffeithiau ynglŷn â hyn, ac mae gennym ryw syniad o'r niferoedd, yn amlwg. Fodd bynnag, nid oeddwn yn ymwybodol o'r materion a gyflwynwyd i mi, yn enwedig gan un o'r undebau ffermio, felly rwyf wedi gofyn am dystiolaeth. Nid wyf yn credu bod hynny'n anarferol, er enghraifft. Yr hyn a wyddom yw mai ein ffermwyr yw'r rhan fwyaf o fuddiolwyr ein cynllun Creu Coetir Glastir. Felly, wrth ddatblygu unrhyw gynlluniau yn y dyfodol, rwyf am adolygu sut i sicrhau bod y rhain yn gweithio'n dda i'n ffermwyr yn y ffordd y cyfeiriais ati mewn ateb blaenorol.

Creulondeb at Anifeiliaid

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch strategaeth y Llywodraeth i daclo creulondeb at anifeiliaid yng Ngorllewin De Cymru? OQ57190

Diolch. Lansiais ein cynllun lles anifeiliaid ar gyfer Cymru ar 4 Tachwedd, ac mae'n adeiladu ar ein cyflawniadau ers datganoli pwerau lles anifeiliaid yn 2006. Mae'n amlinellu sut y byddwn yn bwrw ymlaen â'r ymrwymiadau lles anifeiliaid yn ein rhaglen lywodraethu, a mesurau eraill i wella lles anifeiliaid ledled Cymru.

14:55

Diolch, Weinidog. Rhwng mis Awst a mis Hydref 2021, ymatebodd yr RSPCA i 5,263 o achosion ledled Cymru, sy’n gynnydd o 10.2 y cant ar yr un cyfnod y llynedd. O’r achosion hyn, roedd 463 ohonyn nhw yn sir Abertawe, yn fy rhanbarth i—yr ail uchaf o’r awdurdodau lleol yng Nghymru. Ac yng Nghastell-nedd Port Talbot, hefyd yn fy rhanbarth, ble gwelwyd y bumed lefel uchaf yng Nghymru, roedd 298 o achosion, sy’n gynnydd o 90 achos o’r flwyddyn flaenorol. A yw’r Gweinidog yn cytuno, felly, fod angen gwneud mwy i daclo creulondeb tuag at anifeiliaid yng Ngorllewin De Cymru ac, yn wir, ar draws Cymru? Ac yn sgil cyhoeddi rheoliadau newydd ar les anifeiliaid, pa arian ychwanegol mae’r Llywodraeth wedi’i neilltuo ar gyfer awdurdodau lleol er mwyn eu galluogi i weithredu’r rheoliadau hyn yn effeithiol? Diolch.

Diolch. Mae'n erchyll clywed am nifer yr achosion y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt, ac rwyf am dalu teyrnged i'r RSPCA ac elusennau a sefydliadau eraill sy'n gwneud gwaith anhygoel mewn perthynas â hyn. Mae fy swyddogion wedi gweithio'n agos iawn gyda swyddogion gorfodi awdurdodau lleol i weld beth y gallwn ei wneud i wella hyfforddiant er mwyn iddynt allu mynd allan a phan fyddant yn ymdrin â'r achosion hyn, ac rydym wedi cyflwyno peth hyfforddiant drwy brosiect dros dair blynedd a ariannwyd yn llawn gennym. Yn amlwg, bydd yn rhaid imi ystyried a allaf barhau i'w ariannu pan ddaw'r prosiect i ben. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r RSPCA, ac maent yn cyflwyno ceisiadau am gymorth. Edrychwn ar hynny fesul achos.

Ffermwyr sy'n Denantiaid

8. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ffermwyr sy'n denantiaid ynghylch sicrwydd deiliadaeth? OQ57181

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu'r sector tenantiaid fferm a'r sector perchnogion fferm yn y diwydiant amaethyddol yng Nghymru. Mae cytundebau tenantiaeth yn gontractau y mae landlord a thenant yn ymrwymo iddynt. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy'n sail i denantiaethau amaethyddol yn deg i'r ddwy ochr.

Dwi’n falch i glywed hynny, Weinidog, oherwydd, fel gwnaeth Rhun ap Iorwerth awgrymu, mae hanes Cymru yn llawn o ffermwyr yn cael eu gorfodi i adael eu tir. Dwi’n falch i weld y Dirprwy Weinidog, Lee Waters, yma—mae e wedi siarad yn bwerus iawn am deulu ei dad-cu yn cael eu taflu allan o’r Epynt yn 1940. Colli Epynt, colli cymuned gyfan, ac fel roedd Rhun ap Iorwerth yn dweud, colli iaith, colli diwylliant, colli crefydd—colli’r holl oedd yn dda am y gymuned.

Ond nid mater i’r llyfrau hanes yn unig yw hyn. Eleni yng Nghaerdydd ac yn y Rhws, mae’r un peth yn digwydd. Mae’n dorcalonnus clywed am Jenkin Rees, ffarmwr rhwng Radur a Phentre-baen yng ngorllewin Caerdydd, o ffarm Maes y Llech, sy’n dangos hanes cyfoethog Caerdydd, yn cael ei orfodi i adael y ffarm mae wedi bod arni ers degawdau. Ac yna Model Farm yn y Rhws—teulu oedd wedi cael eu gorfodi i adael Epynt, ond yr un peth yn digwydd iddyn nhw eto. Er eu bod nhw wedi bod yno am bedair cenhedlaeth, mae’r un peth yn digwydd iddyn nhw eto. Maen nhw’n cael eu gorfodi i adael Model Farm, gyda Legal and General, cwmni mawr rhyngwladol, yn eu gorfodi, y teulu Cymreig a Chymraeg yma, i adael eu ffarm. Pa gamau ychwanegol allwch chi eu cymryd, fel Gweinidog ac fel Llywodraeth, i gynorthwyo’r ffermwyr tenant yma i aros ar y tir a gwneud yr hyn y mae’r tir yma wedi bod yn ei wneud ers canrifoedd? Diolch yn fawr.

Diolch. Wel, yn ôl yn 2019 rwy'n credu, fe wnaethom ymgynghori ynghylch ffermydd tenant, a'r tenantiaid arnynt wrth gwrs, ac roeddem eisiau edrych ar annog pobl i osod ffermydd yn fwy hirdymor. Roedd yr ymatebwyr yn gefnogol iawn i'r nod, er fy mod yn credu ei bod yn deg dweud bod yna sylw hefyd i'r ffaith na fyddai o bosibl yn arwain at yr effaith a fwriadwyd, fel y nodoch chi.

Mae gennym grŵp diwydiant ar ddiwygio tenantiaeth a arweinir gan DEFRA y gwn fod fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn ag ef i edrych ar ba fecanweithiau y gallwn eu cyflwyno i gefnogi ein ffermwyr sy'n denantiaid. Rydym hefyd wedi cael pwerau newydd ar gyfer datrys anghydfodau. Fe'u cyflwynwyd yn Neddf Amaethyddiaeth y DU 2020, ac rwy'n sicr yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yn ein Bil amaethyddiaeth ein hunain y byddaf yn ei gyflwyno y flwyddyn nesaf.

Weinidog, yn gyntaf hoffwn ddiolch i chi am gyflwyno'r cwestiwn hwn, oherwydd pan oedd y portffolio gennyf a phan siaradais â ffermwyr a oedd yn denantiaid, roedd yn drist iawn. Nawr, mae bron i 30 y cant o dir amaethyddol Cymru yn dir ffermydd tenant, gyda thyddynnod o'r fath yn gam hollbwysig i ffermwyr ifanc wrth iddynt gamu i'r diwydiant hanfodol hwn. Ac eto, mae gallu tenantiaid i gynllunio'n hirdymor ar gyfer eu teuluoedd a gweithredu arferion cynaliadwy wedi ei danseilio gan y rheolau. Mae'r Gymdeithas Ffermwyr Tenant wedi dweud bod ffermwyr yn cael eu llesteirio rhag ymgymryd ag arferion cynaliadwy oherwydd y cyfleoedd tymor byr y mae landlordiaid yn eu rhoi iddynt. Yn y rhan fwyaf o achosion, gwyddom nad yw ffermwyr sy'n denantiaid yn gallu plannu coed oherwydd cymalau cyfyngol yn eu cytundebau. Canfu strategaeth 'Growing Together' NFU Cymru fod perygl y bydd polisïau sy'n gyrru gweithgarwch plannu coed lle mae cyllid yn fwy na'r lefelau cymorth sydd ar gael ar gyfer tir amaethyddol yn effeithio ar denantiaethau tymor byr, a gall hyn greu risg y bydd landlord yn eu terfynu. Felly, o ystyried y sector hynod allweddol hwn, unwaith eto, beth y gallwch ei wneud i ddiogelu yn erbyn yr arferion negyddol y mae ein ffermwyr sy'n denantiaid yn eu profi?

15:00

Rwy'n gyfarwydd â rhai o'r materion y cyfeiria'r Aelod atynt a chredaf fod bod yn ffermwyr tenant yn aml yn gam i mewn i'r sector i'n ffermwyr ifanc, ac rydym am annog hynny. Byddwch wedi clywed fy ateb yn gynharach mewn perthynas â'r gwaith rydym wedi'i wneud gyda'r grŵp diwydiant ar ddiwygio tenantiaeth, a arweinir gan Lywodraeth y DU. Fel y dywedaf, ceir rhai pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth y DU a gyflwynwyd y llynedd, a byddaf yn sicr yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda chymdeithas y ffermwyr tenant yma yng Nghymru i gael eu barn, ac yn amlwg, wrth inni fynd drwy broses y Bil amaethyddol, edrychaf ymlaen at weld pa bwerau y gallwn eu cyflwyno yn y Bil hwnnw er mwyn cefnogi'r rhan bwysig hon o'r sector amaethyddol.

Bwyd a Diod o Ddyffryn Clwyd

9. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a chynhyrchwyr i hyrwyddo bwyd a diod o Ddyffryn Clwyd? OQ57200

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio gyda chynhyrchwyr a rhanddeiliaid allanol eraill yn Nyffryn Clwyd i hyrwyddo bwyd a diod gan ddefnyddio ystod eang o raglenni busnes, ac yn ddiweddar, Blas Cymru, ein digwyddiad unigryw i Gymru. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar lawer o feysydd sy'n fanteisiol i fusnesau Cymru.

Rwy’n gwerthfawrogi eich ateb yn fawr, Weinidog, a diolch. Mae Dyffryn Clwyd yn gartref i lawer o gynhyrchwyr a chynhyrchion bwyd a diod gwych, ac un o'r enghreifftiau gorau o'n cynnyrch gwych yw eirin Dinbych, boed eich bod yn eu bwyta ar eu pen eu hunain neu fel jam ardderchog neu'n ei yfed fel brandi eirin bendigedig. Eirin Dinbych yw gogoniant Dinbych a Dyffryn Clwyd i gyd. Weinidog, sut y bydd eich Llywodraeth yn helpu i hyrwyddo eirin Dinbych i gynulleidfa fwy ym mhob cwr o'r byd? Diolch.

Credaf ein bod wedi gwneud hynny drwy Blas Cymru. Dyna ble y down â'r byd i Gymru. Er na allem wneud hynny wyneb yn wyneb fel y gwnaethom yn 2017 a 2019, pan gynhaliwyd Blas Cymru gennym y mis diwethaf, cawsom lawer o gyfarfodydd rhithwir wrth gwrs. Yn amlwg, cafodd eirin Dinbych Dyffryn Clwyd statws enw tarddiad gwarchodedig yn 2019, felly buom yn gweithio'n agos iawn gyda hwy i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni hynny. Credaf fod cysylltiad annatod rhwng bwyd a thwristiaeth o ansawdd uchel, felly rydym yn gweithio gyda chwmnïau enw bwyd gwarchodedig eraill i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r gwaith rhagorol sy'n mynd rhagddo yng Nghymru. Credaf fod Blas Cymru yn glod i'n bwyd a'n diod anhygoel yng Nghymru, nid yn unig yn Nyffryn Clwyd, ond ledled Cymru. Yr adborth cynnar a gawsom yw bod nifer sylweddol o gontractau newydd wedi'u hennill yn Blas Cymru. Mae'n bleser gwirioneddol cael bod yn Weinidog â chyfrifoldeb am fwyd a diod a'i werthu i'r byd.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, ac mae yna un cwestiwn heddiw, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Jack Sargeant.

Gyrwyr Bysiau Arriva Cymru

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gyrwyr bysiau Arriva Cymru sy'n ceisio cyflog teg? TQ580

Diolch am y cwestiwn.

Rydym yn annog datrys anghydfodau yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol, ac rwy'n falch fod y trafodaethau'n parhau rhwng Arriva Cymru ac undeb Unite. Mae swyddogion trafnidiaeth yn cadw mewn cysylltiad agos â'r trafodaethau, ac rwyf wedi cyfarfod ag undeb Unite.

Rwy'n ddiolchgar am eich ateb, Weinidog. Lywydd, rwyf am ddechrau drwy ddweud fy mod, fel y gyrwyr hyn, yn aelod balch o undeb Unite. Mae'r gyrwyr hyn yn byw yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a'r peth olaf y maent yn dymuno'i wneud yw bod ar streic, ond maent yn y sefyllfa hon am fod Arriva'n talu cyfraddau gwahanol am yr un swydd, yr un swydd yn union, dafliad carreg i ffwrdd dros y ffin. Credaf fod hynny'n hurt. Mae'r gyrwyr hyn yn gyrru heibio i'w gilydd ar yr un ffyrdd.

Mae'r gwahaniaeth rhyngddynt a gogledd-orllewin Lloegr bellach wedi cynyddu o £1.81 i £2.20. Rwy’n argyhoeddedig fod y gyrwyr hyn yn iawn, ac rwy’n cefnogi eu galwadau am gydraddoldeb a thegwch. Felly, gyda hynny mewn golwg, Weinidog, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r gyrwyr hyn? Ac os caf, ac yn olaf, Weinidog, mae'n rhaid imi ddweud mai dadreoleiddio Torïaidd gan Lywodraeth dan arweiniad Thatcher a wnaeth gam â'r diwydiant ac a wnaeth gam â'n cymunedau, ac roedd ein cyd-Aelod, Ken Skates, yn ddigon dewr i ddweud hynny yn ystod ei gyfnod yn Llywodraeth Cymru. Felly, sut y gallwn sicrhau, yn y dyfodol, fod gennym weithredwyr bysiau sy'n gwasanaethu ein cymunedau a theithwyr ledled Cymru?

15:05

Diolch am eich sylw pellach. A gaf fi ddweud, wrth ddechrau, ein bod yn gobeithio y gellir osgoi gweithredu diwydiannol, er mwyn osgoi rhagor o darfu ar deithwyr? Roeddem yn falch fod yr anghydfod rhwng undeb Unite a Stagecoach yn ne-ddwyrain Cymru wedi'i ddatrys yn llwyddiannus drwy drafodaethau, ac fel y dywedaf, rydym yn falch fod y trafodaethau'n parhau ar hyn o bryd yn y gogledd, ac rydym yn gobeithio am ganlyniad tebyg. Wrth gwrs, mae gwahanol bethau dan sylw yn y ddau achos, a materion masnachol yw'r rhain yn bennaf. Ond i adleisio'r hyn a ddywedodd Jack Sargeant am effaith dadreoleiddio Ceidwadol ers y 1980au, mae'n ffactor mawr yn hyn. Ers dadreoleiddio, mae cyflogau gyrwyr bysiau wedi codi ar gyfradd arafach o lawer na'r cyfraddau cyfartalog ar gyfer galwedigaethau tebyg. Felly, mae perthynas uniongyrchol rhwng rheoleiddio a chyfraddau cyflog, a'n bwriad yw mynd i'r afael â dadreoleiddio a chyflwyno system fasnachfreinio. Hoffem weld un tocyn, un amserlen ac un pris ledled Cymru gyfan, ac yn rhan o hynny, un set o delerau ac amodau ar gyfer y gweithlu. Byddwn yn cyflwyno strategaeth fysiau a Phapur Gwyn ar fysiau yn y flwyddyn newydd, cyn cyflwyno deddfwriaeth newydd y gobeithiwn y bydd nid yn unig yn gwella'r telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu, ond hefyd yn gwneud bysiau'n ddewis llawer mwy hyfyw i fwy o bobl, fel rhan o'n hymdrechion i ymladd newid hinsawdd.

Diolch i fy nghyd-Aelod Jack Sargeant am ofyn y cwestiwn amserol hwn heddiw. Ddirprwy Weinidog, mae'r streic bresennol gan yrwyr a gyflogir gan Bysiau Arriva Cymru heb amheuaeth yn tarfu'n sylweddol ar fywydau pobl ledled gogledd Cymru, yn enwedig yr henoed a phobl agored i niwed nad oes ganddynt fathau eraill o drafnidiaeth at eu defnydd. Cytunaf â fy nghyd-Aelod, Jack, mai craidd y mater yw cyflogau sy'n gyfartal â chyflogau gyrwyr yng ngogledd-orllewin Lloegr, sy'n cael mwy o dâl yr awr na'u cymheiriaid yng ngogledd Cymru. Mae tebygrwydd rhwng hyn a'r anghydfod diweddar yn Stagecoach a ddeilliai o'r ffaith bod gyrwyr yng Nghymru yn cael llai o dâl yr awr na gyrwyr yn Lloegr, a chafodd yr anghydfod hwnnw ei ddatrys yn gyfeillgar drwy godiad cyflog o £1 yr awr. Mae'n dangos y gellir gwneud daioni ar y ddwy ochr pan fyddant yn trafod gyda hyblygrwydd ac yn ddidwyll. Nawr, gwn fod sôn wedi bod am ddyddiau Thatcher, ond gadewch inni ganolbwyntio ar 2021, gan mai dyma lle rydym ar hyn o bryd. Felly, Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i annog y ddwy ochr i geisio sicrhau datrysiad cyfiawn i'r anghydfod hwn cyn gynted â phosibl, ac os na fydd hynny'n digwydd yn y tymor byr, i annog y ddwy ochr i ddefnyddio'r gwasanaethau cyflafareddu i ddatrys hyn, fel y gellir ailddechrau darparu gwasanaethau bysiau i bobl gogledd Cymru? Diolch.

Wel, ie, fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, rwy'n falch fod y trafodaethau'n parhau. Rydym yn annog ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol, a gobeithiwn y byddant yn gallu datrys yr anghydfod yng ngogledd Cymru, fel y gwnaethant yn ne-ddwyrain Cymru. Ond ni chredaf y gall Natasha Asghar anwybyddu dadreoleiddio mor hawdd. Polisi bwriadol oedd hwn gan y Llywodraeth Geidwadol ym mhobman y tu allan i Lundain. Ac mae rheswm pam fod gwasanaethau bysiau'n well yn Llundain nag yng ngweddill y wlad, gan fod gwasanaethau bysiau Llundain yn cael eu rheoleiddio yn wahanol i'n rhai ni, sy'n cyfyngu ar ein gallu i ymyrryd yn y farchnad i sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu, yn hytrach na'r hyn y mae'r farchnad fasnachol yn ei bennu'n unig, a'r cyfraddau y mae'r marchnadoedd masnachol yn penderfynu eu talu, sydd wedi bod yn is ers dadreoleiddio nag ar gyfer y gweithlu yn ei gyfanrwydd. Felly, dyma ganlyniad uniongyrchol dadreoleiddio a grymoedd y farchnad rydd, y mae'r meinciau hynny'n eu dathlu ar bob cyfle posibl, ac ni allant ddianc rhag canlyniadau hynny.

Mae hon yn weithred na ellir ei hamddiffyn gan gwmni mawr sy'n rhedeg gwasanaethau gyda chymorthdaliadau cyhoeddus—ac ni ddylem anghofio hynny. Mae Bysiau Arriva Cymru wedi mwynhau monopoli, fwy neu lai, ar wasanaethau mewn rhannau o ogledd Cymru dros y blynyddoedd, ac mae'n derbyn y cymorthdaliadau hynny, wrth gwrs, gan Lywodraeth Cymru yn anuniongyrchol. Felly, hoffwn glywed bwriad cryfach gan y Llywodraeth i ymyrryd mewn rhyw fodd, gan fod y grant yn deillio o'r Llywodraeth, felly rhaid eich bod mewn sefyllfa i ystwytho'ch cyhyrau yma, ac os nad ydych, rhaid i chi allu dweud wrthym mai eich bwriad yw bodloni'r mathau hynny o ddisgwyliadau. Rydych wedi sôn yn y gorffennol am ddeddfwriaeth mewn perthynas â chaffael cyhoeddus, er enghraifft. Dyma'r math o beth y mae angen inni ei gynnwys fel mater o drefn mewn contractau yn y dyfodol. Nawr, mae'r cynnig o 29c yr awr fel codiad cyflog o gymharu â'r 39c, wrth gwrs, a roddwyd i gymheiriaid yng ngogledd-orllewin Lloegr yn golygu bod gennym wahaniaeth cyflog o £2.20 yr awr, fel y clywsom, am yrru'r un bysiau ar hyd llawer o'r un ffyrdd, ond wrth gwrs, mae pob un o'r gweithwyr hynny'n wynebu'r un argyfwng costau byw, ac maent yn weithwyr allweddol. Mae'n hawdd anghofio hynny—mae ein gyrwyr bysiau'n weithwyr allweddol. Rydym wedi canmol eu hymdrechion fel arwyr yn ystod y pandemig hwn; maent yn haeddu gwell. Ond wrth gwrs, i mi, mae hyn yn tanlinellu'r ffaith ei bod yn bryd ad-drefnu ein gwasanaethau bysiau. Rydym wedi bod ar drugaredd cwmnïau bysiau masnachol ers gormod o flynyddoedd. Felly, a ydych yn cytuno bellach, Weinidog, fod hyn yn tanlinellu'r angen i gael gwared ar gymhelliad elw preifat o ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac i ddod â gwasanaethau bysiau yn ôl i ddwylo cyhoeddus?

15:10

Wel, edrychaf ymlaen at glywed cefnogaeth frwd Janet Finch-Saunders i ymyrraeth Llyr Gruffydd—[Torri ar draws.]—yn y farchnad. 'Y sawl sy'n talu'r delyn sy'n gofyn am y gân', meddai Janet Finch-Saunders, ac rydym yn sicr yn gwybod hynny gan ei chymheiriaid yn San Steffan, sy'n rhoi eu hunain ar log i gwmnïau preifat. Felly, i ateb pwynt Llyr yn uniongyrchol, mae clytwaith o drefniadau yng Nghymru gan ei bod yn farchnad fasnachol, marchnad fasnachol a sefydlwyd yn fwriadol gan y Ceidwadwyr drwy breifateiddio bysiau. Mae gyrwyr Arriva, yn gyffredinol, ymhlith y rhai sy'n cael eu talu orau yng Nghymru ar hyn o bryd, yn well na gyrwyr Stagecoach, lle bu anghydfod yn ddiweddar, ond nid ydynt ar gyflogau cystal â'r gyrwyr dros y ffin yng Nglannau Mersi. Felly, mae'r rhain yn faterion masnachol cymhleth, ond yn sicr, gallaf ymrwymo ein bod yn dymuno gweld cysondeb ledled Cymru, o ran darparu gwasanaethau, darparu amserlenni a thelerau ac amodau staff. Ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei gynllunio yn rhan o'r Papur Gwyn ar fysiau rydym yn gweithio arno ar hyn o bryd ac y byddwn yn ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd. O ystyried y gefnogaeth a glywn ar draws y Siambr i streic, rwy'n gobeithio y caiff y gefnogaeth honno ei hadleisio pan gyflwynir y ddeddfwriaeth.

A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r cwestiwn amserol hwn ar fater mor bwysig? Fel Jack, rwy’n aelod balch o undeb Unite, ac ymunais innau â'r llinell biced ddydd Sul i gefnogi'r gyrwyr, sy’n cyflawni rôl mor bwysig yn ein cymunedau lleol ledled gogledd Cymru. Ni all fod yn deg fod gweithwyr yng Nghymru yn cael llai o dâl a'u gorfodi i weithio oriau hirach na'u cymheiriaid dafliad carreg dros y ffin yn Lloegr, tra bo costau byw yng nghymunedau gogledd-ddwyrain Cymru yn codi. Mae prisiau tai wedi codi cymaint â 40 y cant yno dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Enw’r depo yr ymwelais ag ef oedd Chester depot, ond mae yng Nghymru, yn talu cyflogau Cymreig, a tybed a yw hwn yn bolisi bwriadol i dorri costau? A yw'r Gweinidog yn cytuno ei bod yn gwbl annerbyniol i gwmni sy'n derbyn arian cyhoeddus sylweddol ymddwyn mewn ffordd mor anfoesol? Yn y dyfodol, wrth edrych ar ddiwygio, mae arnom angen gwasanaethau bysiau sy'n gweithredu er budd y cyhoedd sy'n teithio, gyda'r holl elw'n cael ei ailfuddsoddi yn y ddarpariaeth o wasanaethau, yn hytrach na model masnachfreinio a fydd yn lleihau cyflogau ac amodau gweithwyr yn enw elw.

Wel, fel y cafodd y pwynt ei wneud ar draws y Siambr, mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraethau ledled y DU, wedi achub y diwydiant bysiau preifat dros y 18 mis diwethaf, a fyddai wedi mynd i'r wal fel arall o ganlyniad i bandemig y coronafeirws, ac mae rhwymedigaeth ar y diwydiant bysiau i ymddwyn yn gyfrifol gan gydnabod eu bod, mewn gwirionedd, yno i wasanaethu'r cyhoedd.

Mae set gymhleth o drefniadau ar waith ar hyn o bryd, ac wrth gwrs, mae gwahanol rymoedd economaidd yn chwarae eu rhan. Ac nid yw hyn yn beth newydd; mae'n sefyllfa hanesyddol fod gyrwyr Glannau Mersi wedi cael eu talu'n well yn gyffredinol na gyrwyr yn y gogledd. Felly, nid oes ateb syml i hyn, ond yn sicr, ein bwriad, drwy fasnachfreinio, yw y bydd gennym delerau ac amodau cyson ledled Cymru. Yn sicr, nid ydym o'r farn fod masnachfreinio'n ffordd o lastwreiddio hawliau gweithwyr—i'r gwrthwyneb. Ond un peth rydym yn ofalus iawn ohono, ac mae hwn yn bwynt a wnaed i mi gan undeb Unite pan gyfarfûm â hwy, yw y gallai rhai cwmnïau fod yn ceisio cadw costau'n isel ar hyn o bryd er mwyn rhoi mantais gystadleuol i'w hunain pan fydd y masnachfreintiau'n cael eu hysbysebu, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni gadw llygad barcud arno a'i gynnwys yn ein trafodaethau ar ôl inni lwyddo i gael y ddeddfwriaeth drwy'r Senedd.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r datganiad cyntaf heddiw gan Llyr Gruffydd.

15:15

Diolch, Lywydd. Mae fy ffrind Abdul Khan yn dipyn o eicon. Ers 17 mlynedd, mae wedi bod yn gynghorydd sir yn nhref Bae Colwyn yn rhanbarth Gogledd Cymru, ac eleni, ef yw’r Bangladeshiad cyntaf erioed yng Nghymru i gadeirio cyngor sir, pan gafodd ei benodi’n gadeirydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae hefyd yn ddyn busnes llwyddiannus, yn berchennog bwyty hirsefydlog yn y dref, ac yn hael iawn ei gefnogaeth i elusennau a sefydliadau cymunedol lleol. Mae rhoddion i fanciau bwyd yn beth cyffredin, mae staff y GIG wedi cael prydau bwyd am ddim gan ei fwyty yn ystod y pandemig, ac mae wedi bod yn eiriolwr diflino dros gydlyniant cymunedol yn ei ardal leol. Nid yw'n syndod, felly, fod pawb yn adnabod Abdul. Mae pawb yn ei adnabod wrth ei enw cyntaf, ac mae'n agos iawn at galon ei gymuned.

Abdul hefyd oedd maer Bangladeshaidd cyntaf Cymru, felly mae wedi torri tir newydd yn gyson ac mae'n ddyn arloesol, a dyna pam fy mod am dalu teyrnged i'r dyn caredig a diymhongar hwn sydd wedi cyfoethogi ei gymuned i'r fath raddau. Mewn gwirionedd, y peth anoddaf am y datganiad 90 eiliad hwn oedd perswadio Abdul i adael i mi ei wneud amdano ef. Mae'n esiampl wych ac mae'n hyrwyddwr gwirioneddol ar ran ei gymuned. Diolch, Abdul, am dy holl waith.

Naw deg pum mlynedd yn ôl, cwblhawyd cofgolofn ryfel Penrhiwceibr. Gosodwyd y plac efydd i goffáu'r rheini a gollodd eu bywydau yn y rhyfel byd cyntaf ar waelod twr castellog a fyddai hefyd yn gloc y pentref. Fe'i dyluniwyd gan y pensaer o Aberpennar, W.H. William, talwyd amdani drwy danysgrifiad cyhoeddus, a chafodd ei hadeiladu â cherrig o hen gamlas Aberdâr.

Mae'n dirnod trawiadol, wedi'i leoli yn llythrennol ynghanol ei gymuned glos yn y Cymoedd, gyda draig goch yn geiliog gwynt y gellir ei weld o bell. Mae tŵr y cloc yn gwneud y gofgolofn yn un gofiadwy. Yn ddiweddarach, ychwanegwyd enwau'r rheini a fu farw yn yr ail ryfel byd, ac mae hefyd yn cynnwys nodwedd unigryw arall, sef cofeb i ryfel Korea. Mae'r tŵr bellach yn adeilad rhestredig gradd II, ond yn anffodus, mae ei gyflwr wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf ac nid yw'r cloc yn gweithio. Ond mae cynlluniau ar y gweill i newid hyn. Bydd y cloc yn cael ei atgyweirio a'r strydwedd yn cael ei gwella. Mae'r paneli pres eisoes wedi'u glanhau, a goleuadau newydd wedi'u gosod. Hoffwn ddiolch i Gyngor Rhondda Cynon Taf am wneud hyn fel rhan o'u hymrwymiad parhaus i gymuned y lluoedd arfog. Mae'r pentref yn cynnal eu gwasanaeth coffa wythnos ar ôl Sul y Cofio, y drydedd nodwedd unigryw. Felly, byddaf yn ymuno â'r gymuned ger y gofgolofn ddydd Sul i dalu teyrnged i'r rheini a roddodd eu bywydau.

Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn i longyfarch cymanfa ganu Westminster ar ddathlu ei chanmlwyddiant eleni. Sefydlwyd y gymanfa yn 1920 gan y Prif Weinidog ar y pryd, David Lloyd George, i goffau'r bobl a fu farw yn y rhyfel byd cyntaf. Wrth gwrs, eleni maen nhw'n dathlu'r canmlwyddiant oherwydd, am resymau amlwg, roedden nhw'n methu cwrdd y llynedd.

Braint fawr oedd llywyddu y gymanfa eleni yng nghapel hardd Castle Street yn Oxford Circus yn Llundain, a chyd-ganu gyda channoedd o Gymry Llundain. Ac yn eu plith, Llywydd, nifer fawr ohonynt yn Gardis, fel ymhob digwyddiad arall Cymry Llundain, ac roeddwn yn canu nesaf i’ch cyd-Aelod yng Ngheredigion, Ben Lake. Dwi ddim yn siŵr pwy oedd yn cadw pwy mewn tiwn. Roedd y gymanfa o dan arweiniad cynghorydd Plaid Cymru, Trystan Lewis—bydd Janet yn ei gofio'n iawn, wrth gwrs. Ac o dan ei arweiniad ef roedd y canu ychydig yn fwy afieithus a’r cofio ychydig yn ddwysach wrth gofio'r rheini sydd wedi marw ers y cyfarfod diwethaf yn 2019 yn ystod cyfnod COVID.

Beth bynnag yw dyfodol cyfansoddiadol yr ynysoedd hyn, a dim ond ffŵl fyddai’n ceisio dyfalu beth sydd yn mynd i ddigwydd, mae un peth yn sicr, bydd Cymry o hyd yn symud i fyw, i weithio ac i addoli yn Llundain. Mae Cymry Llundain wedi chwarae rôl flaenllaw ar hyd y canrifoedd, am dros 1,000 o flynyddoedd, ac mae nifer wedi cymryd mantais i hyrwyddo’r Gymraeg, ein diwylliant a statws Cymru fel cenedl yn y ddinas fawr honno. Felly, llongyfarchiadau mawr i’r Parchedig Rob Nicholls a phwyllgor y gymanfa, a dwi'n edrych ymlaen at 100 mlynedd arall o ganu hen emynau Cymru ym mhrifddinas Lloegr. Diolch yn fawr.

Dyna ni, felly. Rydyn ni'n cyrraedd egwyl fer nawr er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr, ac fe fyddwn ni'n canu'r gloch cyn inni ailgychwyn.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:19.

15:25

Ailymgynullodd y Senedd am 15:26, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

5. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Croeso nôl, a'r eitem nesaf yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Darren Millar. 

Cynnig NDM7826 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 22, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwr ar gyfer yr eitem hon. Felly, y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23. Galwaf ar Ken Skates, Comisiynydd y Senedd, i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7830 Ken Skates

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23, a osodwyd gerbron y Senedd ar 10 Tachwedd 2021 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig cyllideb y Comisiwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23, a gofynnaf iddi gael ei hymgorffori yng nghynnig y gyllideb flynyddol. Fel y byddwch wedi gweld yn nogfen y gyllideb, mae'r Comisiwn yn gofyn am gyllideb o £62.942 miliwn i gyd, ac mae hynny'n cynnwys £41.175 miliwn ar gyfer gwasanaethau'r Comisiwn, £17.552 miliwn i'w bennu gan y bwrdd cydnabyddiaeth ariannol, £165,000 ar gyfer swyddfa'r comisiynydd safonau, a £4.05 miliwn ar gyfer llog ac eitemau nad ydynt yn arian parod.

Nawr, mae'r gyllideb yn gynnydd o 4.36 y cant ar y gyllideb eleni, ac eithrio costau etholiad wrth gwrs, sydd efallai'n swnio'n sylweddol, ond mae'n gwbl angenrheidiol i'r Comisiwn allu parhau i gefnogi Aelodau i'r safonau rhagorol rydym wedi dod i arfer â hwy, a'u disgwyl yn wir. Y dyfarniad cyflog gan y Comisiwn i staff y Comisiwn ar gyfer 2022-23 fydd 2.7 y cant, yn unol â'r hyn a gytunwyd fel mecanwaith dyfarniad cyflog yn seiliedig ar y cynnydd cyfartalog yn yr arolwg blynyddol o oriau ac enillion ar gyfer y tair blynedd diwethaf, gyda therfyn uwch ac is o 3 y cant ac 1 y cant yn y drefn honno.

Mae'r Comisiwn, wrth gwrs, yn bodoli er mwyn cefnogi'r Senedd a'i Haelodau, ac mae'r pwysau ar Aelodau yn parhau i fod yn sylweddol iawn. O ystyried ein nifer gymharol fach a'r materion cymhleth rydym yn mynd i'r afael â hwy ar hyn o bryd, yn fwyaf nodedig, diwygio ac effaith barhaus Brexit, mae angen cyllideb arnom sy'n darparu'r lefel gywir o adnoddau i gefnogi'r Aelodau drwy'r cyfnod hwn, a hyn oll, wrth gwrs, heb ystyried y ffaith ein bod yn dal i lywio ein ffordd drwy bandemig byd-eang.

Yn y cyd-destun hwn, rydym wedi ychwanegu at nifer ein staff mewn ymateb i'r pandemig a blaenraglen waith y Comisiwn, ac yn benodol, at ein timau pwyllgor, i sicrhau y ceir cymorth clercio digonol wrth inni archwilio'r materion cymhleth hyn yn fwy manwl. Mae'r ffordd rydym wedi newid i weithio hybrid yn rhywbeth y gallwn fod yn hynod falch ohono yn fy marn i wrth edrych yn ôl ar y 18 mis diwethaf. Mae'r byd yn lle gwahanol iawn o'i gymharu â dwy flynedd yn ôl, a chyda gweithio gartref yn dal i fod yn sefyllfa ddiofyn i lawer, gan fy nghynnwys i, mae buddion gweithio yn ein hardaloedd yn parhau i dyfu. I mi ac i Aelodau eraill sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gaerdydd, er mwyn parhau i weithio ar y sail hon, mae angen buddsoddiad ychwanegol mewn cymorth TGCh. Yn y cyd-destun hwnnw, rydym wedi buddsoddi yn ein staff TGCh i ddarparu cydnerthedd a chefnogaeth i'r model hybrid, a bydd angen inni fuddsoddi ymhellach er mwyn cefnogi hyn yn y tymor hwy.

Mae'r gyllideb hon yn dryloyw, wedi'i gosod yng nghyd-destun y sefyllfa gyllido ariannol hirdymor yng Nghymru, ac mae'n ystyriol o ddatganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am graffu'n drylwyr ar y gyllideb hon a'u hymrwymiad parhaus i sicrhau tegwch a thryloywder yr hyn sy'n ofynnol gan y Comisiwn, gan barhau i ofyn cwestiynau, sy'n ein cynorthwyo i wella perfformiad a sicrhau rhagoriaeth.

Gwnaeth y pwyllgor naw argymhelliad, ac rydym wedi eu trafod yn ein hymateb. Eu hargymhelliad cyntaf oedd bod y Senedd yn cefnogi'r gyllideb hon, ac rydym yn ddiolchgar am hynny. Diolch i holl aelodau'r Pwyllgor Cyllid. Roedd tri argymhelliad yn ymwneud â rheolaethau cyllidebol, yn benodol ynghylch cyfyngu a rheoli costau yn y flwyddyn gyllidebol i geisio rheoli effaith y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol heb fod angen cyllideb atodol, yn ogystal â gweithio heb ragdybiaeth o gynnydd yn y blynyddoedd i ddod, ac yn olaf, cyfathrebu'n rhagweithiol ag aelodau'r Pwyllgor Cyllid ynghylch costau ychwanegol a allai godi ar gyfer 2023-24, pan fydd blaenoriaethau'r Comisiwn ar gyfer y chweched Senedd yn dechrau dod i'r amlwg.

Gofynnai dau o'r argymhellion i'r Comisiwn edrych ar ddefnydd o'r ystâd a gofynion mewn perthynas â gofod yn y dyfodol, gan gydnabod y ffaith bod ffyrdd newydd o weithio'n debygol o ddod yn ffyrdd arferol o weithio. Gofynnwyd i'r Comisiwn nodi lle gallai fod goblygiadau o ran adnoddau, beth y gallai'r goblygiadau hynny fod, yn ogystal â chael gwell dealltwriaeth o delerau'r les a'n rhwymedigaethau o ran ailosod yr holl ffenestri yn Nhŷ Hywel. Mae argymhelliad pellach yn gofyn inni barhau i fonitro effaith COVID ar ein cyllideb, o ran lle rydym wedi gwneud arbedion a lle gallem ddisgwyl parhau i wneud arbedion, ac ar yr ochr arall, meysydd lle mae wedi arwain at fwy o wariant. Argymhelliad arall yw ein bod yn nodi ac yn bwrw ymlaen ag atebion cyflym i gefnogi ein nodau o gyflawni strategaeth garbon niwtral. Ac yn olaf, gofynnwyd inni adrodd ar ein llwyddiant wrth ymgysylltu â'n carfanau anodd eu cyrraedd, yn enwedig y rheini mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is, ac wrth gwrs, rydym yn fwy na pharod i wneud hynny.

Rydym wedi derbyn yr argymhellion hyn ac fel bob amser, rydym yn agored i awgrymiadau ar sut i wella ein proses gyllidebu. Ac rydym yn barod i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan yr Aelodau. Yn y cyfamser, mae'n bleser gennyf gyflwyno'r gyllideb hon ar ran y Comisiwn a'i holl aelodau, ac ailadrodd ein hymrwymiad i weithio mewn ffordd sy'n agored ac yn dryloyw, gan sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian i bobl Cymru.

15:30

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi gychwyn drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith craffu ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23? Hoffwn ddiolch hefyd i Ken Skates, Comisiynydd y Senedd dros y gyllideb a llywodraethu, a swyddogion y Senedd am fynychu'r Pwyllgor Cyllid i drafod eu cynigion. Rydym yn gwerthfawrogi'r modd agored ac adeiladol yr ymatebodd y Comisiynydd a'i swyddogion i'n cwestiynau yn ystod y sesiwn dystiolaeth, ac rydym yn ddiolchgar am y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd ganddynt mor brydlon yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

Gwnaethom naw o argymhellion i’r Comisiwn mewn perthynas â’i gynigion. Rwyf wedi cael ymateb y Comisiwn i'n hadroddiad, ac rwy'n falch o weld bod wyth o’r argymhellion wedi cael eu derbyn ac un wedi ei dderbyn mewn egwyddor.

Mae cyllideb ddrafft y Comisiwn yn nodi’r hyn mae’n bwriadu ei wario ar gyfer 2022-23 ac mae'n cynnwys cynigion ar gyfer cyllideb o £62.9 miliwn, sef cynnydd cyffredinol o 4.4 y cant o ran gwariant sy'n gysylltiedig â'r Comisiwn ers 2021-22. Mae’r pwyllgor yn cefnogi’r cais cyffredinol hwn, ac mae’n credu y dylai’r Senedd gymeradwyo’r gyllideb ddrafft. Fodd bynnag, rydym wedi gwneud sawl argymhelliad fel cafeat i’r safbwynt hwn.

Fel y mae'r Aelodau'n gwybod, mae'r darlun ariannol presennol yn ansicr ac yn heriol. O ganlyniad i hynny, nid ydym yn credu y dylid trin y Comisiwn yn wahanol i sefydliadau eraill y sector cyhoeddus o ran y cyllid y mae’n ei gael. Yn benodol, rydym yn pryderu bod y gyllideb yn cyfeirio at senarios a allai olygu bod angen cyllidebau atodol i dalu am rai costau, gan gynnwys costau’n ymwneud â chynnydd mewn taliadau yswiriant gwladol a gafodd ei gyhoeddi yn ddiweddar. Roedd y pwyllgor yn gryf o’r farn y dylai'r Comisiwn ariannu pwysau o’r fath ar ei gyllideb trwy wneud arbedion a chymryd camau effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn, yn hytrach na dibynnu ar gyllidebau atodol. Dylai cyllidebau atodol gael eu defnyddio fel opsiwn olaf yn unig.

Roeddem ni hefyd yn bryderus nad yw'r gyllideb yn adlewyrchu nodau a blaenoriaethau'r Comisiwn ar gyfer y chweched Senedd, gan nad yw’r rhain wedi cael eu cytuno eto. Er bod y pwyllgor yn cydnabod mai megis dechrau y mae’r Senedd newydd, a bod angen rhywfaint o ystwythder o ran cynllunio ariannol, hoffem gadw llygad barcud ar oblygiadau cyllidebol yr amcanion hyn, ac rydym yn gofyn i'r Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor unwaith y byddant yn hysbys. Hefyd, hoffem atgoffa’r Comisiwn y dylai gadw at ddatganiad o egwyddorion y pwyllgor ar gyfer yr holl gyrff sy’n cael eu hariannu yn uniongyrchol wrth lunio cyllidebau yn y dyfodol, ac na ddylai gymryd yn ganiataol y bydd y cyllid yn cynyddu o un flwyddyn i'r llall.

Gan droi at faterion penodol, yn amlwg, mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar y Senedd, ei staff a’i gwasanaethau. Mae'r pwyllgor yn cydnabod ymroddiad a hyblygrwydd y staff wrth gefnogi'r Senedd yn llwyddiannus trwy gydol y pandemig. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi’r ffordd y mae’r Comisiwn wedi darparu gwybodaeth yn rheolaidd i’r pwyllgor am gostau ac arbedion sy’n gysylltiedig â COVID, ac mae’n argymell bod y dull hwn yn parhau. Roedd y pwyllgor yn falch o glywed manylion am gynllun carbon niwtral y Comisiwn ar gyfer 2021-30, ac mae'n galw am weithredu’r newidiadau syml a chost-effeithiol sy’n cael eu cynnig yn y strategaeth honno cyn gynted â phosib, er mwyn manteisio’n llawn ar eu buddion.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o brosiect sylweddol i osod ffenestri newydd yn adeilad Tŷ Hywel. Mae cost y prosiect, sef £6 miliwn, yn sylweddol, ac nid yw wedi'i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2022-23, er bod y Comisiwn yn nodi y gallai'r gwaith ddigwydd o bosib yn 2023-24 os bydd y gyllideb gysylltiedig yn cael ei hawdurdodi. Mae'r pwyllgor yn cydnabod bod gan y Comisiwn rwymedigaeth i gynnal a chadw’r adeiladau y mae’n eu rhentu i lefel y cytunwyd arni. Fodd bynnag, nid yw’n glir a yw’r Comisiwn yn rhwym o dan gontract i ailosod ffenestri Tŷ Hywel fel rhan o’i gyfrifoldebau prydles. Cyn ystyried unrhyw gynigion cyllidebol yn y dyfodol sy'n ymwneud â'r prosiect hwn, mae'r pwyllgor yn gofyn am ragor o fanylion a sicrwydd gan y Comisiwn cyn y gall fynegi barn ar ba mor fforddiadwy yw’r prosiect.

Yn olaf, roedd y pwyllgor yn croesawu ymagwedd y Comisiwn tuag at ymgysylltu a gwaith allgymorth, yn enwedig ei amcanion o ran cyrraedd cynulleidfaoedd a phobl newydd nad ydynt, yn hanesyddol, wedi ymgysylltu â'r Senedd. Mae’r rhain yn amcanion canmoladwy. Fodd bynnag, i sicrhau bod y gwaith hwn yn parhau i ddarparu gwerth am arian, rydym yn gofyn i’r Comisiwn ddarparu adroddiadau rheolaidd ar ei lwyddiant neu fel arall.

Ddirprwy Lywydd, mae craffu ar y gyllideb yn ganolog i'n gwaith. Fel pwyllgor, rydym eisiau bod yn gadarn ac yn drylwyr a sicrhau bod cyllidebau blynyddol y cyrff cyhoeddus a ystyrir yn rhan o'n gwaith yn gymesur ac yn gyfiawn. Credwn fod cyllideb y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn bodloni'r meini prawf hyn. Fodd bynnag, byddwn yn cadw llygad barcud ar gynlluniau gwariant y Comisiwn yn y dyfodol yn ystod y tymor seneddol hwn er mwyn sicrhau bod hyn yn parhau. Diolch yn fawr.

15:35

Hoffwn ddechrau, mewn gwirionedd, drwy fynegi fy llawenydd; dyma'r cyfle cyntaf i mi ddiolch i'r Aelodau, a fy ngrŵp fy hun yn wir, am fy mhenodi i fod yn un o Gomisiynwyr y chweched Senedd.

Peredur, hoffwn ddweud fy mod yn teimlo bod eich cyfraniad yn awr yn briodol iawn, oherwydd yn y pen draw, nid ydym ni fel Comisiwn—a gallaf ddweud 'ni fel Comisiwn'—y tu hwnt i gael ein craffu a'n herio, ac ni ddylem fod ychwaith. Rwy'n ymwybodol, pan fyddwch yn Gomisiynydd, eich bod—rwy'n siŵr y byddai Joyce yn cytuno—yn dod yn seinfwrdd ar gyfer unrhyw faterion y mae pobl yn dymuno eu codi gyda chi. Gwn fod rhai Aelodau wedi codi pryderon ynghylch gweld y gyllideb ddrafft yn hwyr. Rwyf wedi mynegi'r pryderon hyn, ond cefais eglurhad am hyn yn y cyfamser—y rheswm am hyn yw mai ym mis Mai y cawsom ein hailethol, ac yr etholwyd rhai am y tro cyntaf. Gwn fod hynny wedi gosod rhai cyfyngiadau. Fodd bynnag, fe'm sicrhawyd y bydd ymgysylltiad ein Comisiwn â'r holl Aelodau ynghylch ein cyllideb a'i gwariant yn llawer mwy tryloyw ac yn llawer mwy amlwg i'r holl Aelodau wrth inni symud ymlaen.

Yn ail, nodwyd gan rai o'r Aelodau fod y Comisiwn—ie, fel y nodwyd yn briodol—yn gofyn am gynnydd o 4.39 y cant yn y gyllideb, er mai dim ond 0.004 y cant yw'r cynnydd yn y gyllideb lwfans i'r Aelodau. Ac mae eisoes wedi cael ei ddweud, onid yw—. Rwyf wedi bod yma ers 11 mlynedd bellach, ac mae'n rhaid imi ddweud, er nad ydym, unwaith eto, eisiau gweld cynnydd yn ein gwariant, credaf fod yn rhaid cael rhywfaint o gymesuredd a rhywfaint o gydnabyddiaeth i'r ffaith bod ein Haelodau yma'n bwysig iawn, ac maent angen yr offer a'r adnoddau i wneud eu gwaith. Mae materion hefyd wedi'u codi gyda mi, ac rwyf wedi'u codi o'r blaen, am yr anghydraddoldeb yn y graddfeydd cyflog rhwng Comisiwn y Senedd a'n staff cymorth ein hunain yn wir. Cyn i unrhyw un ddweud wrthyf, gwn mai mater i'r bwrdd taliadau yw hynny, ond unwaith eto, rwy'n credu y dylem ni fel Comisiwn fod yn llawer mwy cadarn a gwneud y pwynt hwnnw'n gryfach. 

Fel arall, mae Aelodau hefyd wedi mynegi pryderon ynghylch cynnydd i'r gyllideb ddarlledu—ar dudalen 9. Mae hwnnw'n swm sylweddol o £100,000, gan aros ar y lefel honno ar ôl proses aildendro. Rwy'n dal i aros am well esboniad ar y pwynt hwnnw. Felly, a allech chi ymhelaethu mwy ar hynny, Ken? Oherwydd rydym yn ceisio edrych ar gyllidebau sy'n edrych yn fwy sefydlog, a'r broses aildendro felly, ond mae'n ymddangos bod ein cyllideb ddarlledu'n codi bob blwyddyn fel arfer, a dylem fod—. Y Pwyllgor Cyllid a'r gwaith rydych wedi'i wneud, y pwyntiau a wnewch—. Nid oes ots pa bwysau ariannol rydym yn ei wynebu, mae'n rhaid i chi edrych ar ble y gallwch chi wneud arbedion effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn.

Cafodd pryderon eraill eu dwyn i fy sylw ynghylch cronfeydd heb eu neilltuo ond sydd wedi'u clustnodi—mae £200,000 yn nhabl 10 ar gyfer ymgysylltu wedi'i glustnodi ar gyfer mentrau mwy, ond nid yw'r Comisiwn wedi penderfynu eto sut ac os y byddant yn ei ddyrannu. Erys cwestiynau ynghylch y gwariant arfaethedig ar reoli ystadau a chyfleusterau, sy'n costio £600,000 bob blwyddyn, ac a fyddai'n dal i fod angen inni ddyrannu £300,000 i ffyrdd o weithio yn y dyfodol, fel y rhagwelwyd yn 2024-25. Felly, unwaith eto, Gomisiynydd Ken, byddwn yn gwerthfawrogi pe bai'r pwyntiau hynny'n cael sylw yn eich ateb. Nodaf argymhellion y Pwyllgor Cyllid y dylai'r Comisiwn flaenoriaethu a gweithredu newidiadau'n gysylltiedig â'i strategaeth carbon niwtral ar gyfer 2021-30 sy'n syml, ond yn gosteffeithiol, ac i wneud hynny cyn gynted â phosibl. 

Y tro hwn, ni fydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn gallu cefnogi cyllideb ddrafft Comisiwn y Senedd. Ond unwaith eto, gwn fy mod yn siarad ar ran fy ngrŵp wrth dalu teyrnged i waith y Comisiwn a'i staff, sydd, heb unrhyw amheuaeth, drwy heriau'r 20 mis diwethaf, wedi sicrhau bod gwaith hanfodol y Senedd hon a'i Siambr yn gallu parhau, gan symud i weithio hybrid, tra'n cadw staff ac aelodau o'r cyhoedd yn ddiogel ar ein hystâd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r holl Gomisiynwyr a'r Llywydd dros dymor nesaf y Senedd, i sicrhau y gellir codi cwestiynau fel y rhain yn y modd hwn, ac y gallwn fod yn sicr o'r atebion angenrheidiol a phriodol. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

15:40

Nid wyf am wrthwynebu cyllideb y Comisiwn. Fodd bynnag, rwyf eisiau gwneud tri phwynt. Yn gyntaf, hoffwn ailadrodd argymhelliad 2 gan y Pwyllgor Cyllid:

'Yn unol â'r datganiad o egwyddorion, mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai'r Comisiwn ariannu pwysau yn ystod y flwyddyn ar y gyllideb y mae ganddo reolaeth drosti trwy wneud arbedion ac effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn, yn hytrach na thrwy gyllidebau atodol.'

Mae hyn yn anodd, ond mae'n rhaid i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus ei wneud. Gall fod yn anodd i'r Comisiwn. Byddwn yn dweud ei bod yn llawer haws i'r Comisiwn na Cyfoeth Naturiol Cymru neu adrannau gwasanaethau cymdeithasol cynghorau wneud yr arbedion hynny.

Yn ail, mae gan y Comisiwn sawl haen o reolaeth. Mae sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus wedi bod yn oedi ac yn cynhyrchu strwythurau mwyfwy gwastad. A gaf fi annog y Comisiwn i gynhyrchu strwythur mwy gwastad, ac wrth i swyddi gwag ddod ar gael, i symud tuag at strwythur mwy gwastad, mwy effeithlon a llai costus?

Yn olaf, ar wariant cyfalaf, ychydig flynyddoedd yn ôl, cafodd tua £2 filiwn ei wario ar ailfodelu llawr gwaelod Tŷ Hywel. Eleni, rydym wedi gweld rhaglen i osod setiau teledu newydd. Mae'r un sydd wedi'i symud o fy swyddfa yng Nghaerdydd yn fwy newydd na'r un sydd gennyf gartref. Wrth gwrs, ni ofynnodd neb i mi a oeddwn eisiau un mwy o faint a mwy newydd. Gan nad wyf ond yn ei ddefnyddio i ddilyn trafodion y Senedd yn fy swyddfa, roedd yr hen un yn ddigonol. Mae cyfrifiaduron gweithio a systemau gwaith sy'n dal i gael eu cynnal gan Microsoft yn cael eu newid, neu yn achos un yn fy swyddfa yng Nghaerdydd, ei analluogi. Rwyf wedi gofyn o'r blaen am gytundeb lefel gwasanaeth ar gyfer Aelodau unigol. Fe ofynnaf eto am gytundeb lefel gwasanaeth, ond dywedir wrthyf o hyd fod y Comisiwn yno i gefnogi'r Aelodau. Yn y geiriau anfarwol hynny, 'Gallech fod wedi fy nhwyllo i.' Credaf ei bod yn bwysig eich bod yn dweud wrthyf beth y gallaf ei ddisgwyl, oherwydd rwy'n credu bod yr hyn a gaf gan y Comisiwn yn wasanaeth eithaf gwael am y gost. Os ydych yn rhannu'r hyn sy'n cael ei wario gyda 60, nid wyf yn credu fy mod yn cael unrhyw beth yn debyg i werth am arian.

Yn olaf, mae'r holl arian a werir ar y Comisiwn yn arian nad yw ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus eraill. Rydym yn mynd ag arian o wasanaethau cyhoeddus uniongyrchol ac yn ei roi i'r Comisiwn, felly mae'n rhaid inni sicrhau bod yr hyn y mae'r Comisiwn yn ei wneud yn fuddiol. Diolch.

15:45

A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniad y prynhawn yma? Yn gyntaf, hoffwn ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Peredur, rwy'n ddiolchgar iawn, nid yn unig am eich sylwadau cefnogol y prynhawn yma, ond hefyd am y ffordd rydych wedi cadeirio eich pwyllgor a chraffu arnaf fi a staff y Comisiwn yn ystod y broses o osod y gyllideb. Wrth gwrs, roedd naw argymhelliad yn deillio o adroddiad eich pwyllgor. Roeddem yn hapus i dderbyn wyth ohonynt, a derbyn un mewn egwyddor. Roedd yr un argymhelliad a dderbyniwyd gennym mewn egwyddor yn ymwneud â'r awydd i ni wneud arbedion yn ystod y flwyddyn ac arbedion effeithlonrwydd, yn hytrach nag â chyflwyno unrhyw gyllidebau atodol, yn enwedig mewn perthynas â newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol. Nawr, fe wnaethom dderbyn mewn egwyddor—. Ac mae hyn yn ymwneud â'r pwynt roedd Mike Hedges yn ei godi. Fe wnaethom ei dderbyn mewn egwyddor oherwydd bydd yr Aelodau'n ymwybodol nad oes cyllideb wrth gefn ar gael i ni, ac mae hynny'n wahanol i Senedd yr Alban, lle mae gan y fiwrocratiaeth yn yr Alban gronfa wrth gefn o £1 filiwn ar gael iddynt. Felly, i ateb y pwynt y mae Mike yn ei godi wrth gwrs, lle gallwn wneud arbedion effeithlonrwydd byddwn yn gwneud hynny, ond heb gronfa wrth gefn, os na allwn wneud yr arbedion hynny nid oes gennym ddewis arall ond dychwelyd gyda chyllidebau atodol. Cododd Peredur y pwynt pwysig hefyd am y strategaeth carbon niwtral ac rydym yn cyflwyno cynlluniau—enillion cyflym, fel y gallech eu galw—i sicrhau ein bod yn gwneud popeth sy'n bosibl i leihau ein hôl troed carbon, ac mae hynny'n cynnwys prosiectau fel newid goleuadau a sicrhau bod gennym y system fesur defnydd ddiweddaraf a all ysgogi arbedion effeithlonrwydd. 

Mae argymhelliad 6 yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn amlwg yn mynd i'r afael â phryderon ynghylch y ffenestri yn Nhŷ Hywel a'r defnydd a wneir o'r adeilad yn y dyfodol. Nawr, rydym wedi derbyn yr argymhelliad hwn, a byddwn yn archwilio ein rhwymedigaethau cytundebol gyda'r landlord yn llawn, ond byddwn hefyd yn ystyried y defnydd a wneir o Dŷ Hywel yn y dyfodol yng nghyd-destun y strategaeth adeiladau sy'n cael ei llunio ar hyn o bryd, a bydd yr Aelodau, rwy'n siŵr, yn falch o wybod y byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Cyllid am ein strategaeth adeiladau yn 2022. Wrth gwrs, mae angen inni hefyd ystyried dyfodol Tŷ Hywel mewn perthynas â bwriadau Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer ei hystâd a sut y mae'n gweld ffyrdd o weithio yn y dyfodol yn cael eu hymgorffori mewn cynlluniau ar gyfer ei hystâd a'i hadeiladau swyddfa, oherwydd bydd goblygiadau i'r Senedd gyfan yn sgil hynny wrth gwrs, ac i Dŷ Hywel yn benodol.

Gan symud ymlaen at Janet Finch-Saunders, a gaf fi ddiolch i Janet am y gwaith y mae wedi'i wneud fel Comisiynydd yn helpu i lunio'r gyllideb hon? Hoffwn ddiolch hefyd i Peter Fox, fel Aelod o'r Pwyllgor Cyllid, am y gwaith craffu a wnaeth yn ystod ein hymddangosiad gerbron y Pwyllgor Cyllid. Mae'n siomedig na fydd y Blaid Geidwadol yn cefnogi'r gyllideb, o ystyried bod dau aelod hynod effeithiol o'r grŵp hwnnw, naill ai fel aelod pwyllgor o'r Pwyllgor Cyllid neu fel Comisiynydd, drwy gydgyfrifoldeb, naill ai wedi argymell cymeradwyo'r gyllideb hon i'r Senedd, neu wrth gwrs wedi gweithio gyda Chomisiynwyr eraill i lunio'r gyllideb.

Gallaf ddarparu atebion manylach yn ysgrifenedig i'r Aelodau ynghylch y gyllideb ddarlledu a nododd Janet Finch-Saunders, ond yn gryno, byddwn yn aildendro ar gyfer y contract darlledu yn 2022-23. Hyd nes y byddwn yn derbyn yr ymatebion tendro, nid ydym yn gwybod beth fydd y gost ac a fydd cynnydd, ond o gofio ein bod wedi cael cost safonol ar gyfer y gofyniad penodol hwnnw ers peth amser, mae'n gwneud synnwyr darbodus i gynnwys £100,000 ychwanegol yn ein cynigion. Ond wrth gwrs, fel y nodwyd yn sesiwn graffu'r Pwyllgor Cyllid, mae'n debygol y bydd cyllideb 2023-24 yn adlewyrchu swm cyllidebol diwygiedig wrth inni gasglu data ar batrymau a gofynion gwariant newydd ar ôl y pandemig.

Ar ymgysylltu, wrth gwrs, ceir gostyngiad o £18,000 ar gyfer ymgysylltu drwy ddigwyddiadau y bydd yn rhaid cyfyngu arnynt o bosib, neu na fyddant yn mynd rhagddynt hyd yn oed o ganlyniad i'r pandemig, ond mae'n gwbl hanfodol ein bod yn sicrhau ein bod yn gweithio gyda chymunedau, carfannau anodd eu cyrraedd a dinasyddion Cymru i sicrhau ymwybyddiaeth o'n Senedd genedlaethol.

Ac o ran ffyrdd o weithio yn y dyfodol, credaf y byddai'n esgeulus i'r Comisiwn beidio â darparu ar gyfer sicrhau y gall ffyrdd posibl o weithio yn y dyfodol ddod yn ffyrdd arferol o weithio, ac er y gall model gweithio hybrid sicrhau arbedion cost ac arbedion effeithlonrwydd, gall hefyd arwain at gostau uwch mewn mannau eraill yn gysylltiedig â TGCh a chymorth TGCh. Felly, unwaith eto, mae ein cynlluniau ar gyfer yr elfen benodol honno o'r gyllideb yn gwneud synnwyr ac yn ddarbodus.

Rwyf am—

15:50

Gomisiynydd, mae eich amser wedi dod i ben, ond gwn ei fod yn fater pwysig, felly mae gennych ychydig mwy o funudau cyn inni ddod i ben, o'r gorau?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn cyrraedd fy mhwynt olaf, ac mae hwnnw'n ymwneud â'r gwasanaeth y mae'r Aelodau'n ei gael gan y Comisiwn a'i staff. Rydym yn ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth, ac rwy'n falch o allu dweud wrth Mike Hedges fod cytundeb gwasanaeth yn bodoli o ran pa mor gyflym y caiff hawliadau eu prosesu. Ond mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelodau a dinasyddion ledled ein gwlad, mai gwaith pennaf staff y Comisiwn o reidrwydd yw diogelu pwrs y wlad a sicrhau ein bod yn darparu gwerth am arian. Ac yn aml, gall hynny arwain at graffu pellach ar hawliadau, a all, yn anochel, arwain at rywfaint o oedi. Ond rydym yn ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth yn yr holl wasanaethau a ddarparwn.

Diolch, Comisiynydd. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ie, oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod: Bil Bwyd (Cymru)

Yr eitem nesaf yw eitem 7, cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn gofyn am gytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod, Bil bwyd (Cymru). Galwaf ar Peter Fox i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7813 Peter Fox

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

Yn cytuno y caiff Peter Fox MS gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gynhwysir yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd ar 27 Hydref 2021 o dan Reol Sefydlog 26.91A.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser cyflwyno'r cynnig ar y papur trefn heddiw, a gyflwynwyd yn fy enw i. Cyn imi ddechrau, hoffwn ddatgan fy mod yn ffermwr gweithredol. Ond wrth gwrs, mae'r Bil yn mynd yn llawer pellach nag amaethyddiaeth. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i staff y Comisiwn sydd wedi fy nghynorthwyo i baratoi'r Bil drafft hwn. Maent wedi bod yn rhagorol, fel y mae fy staff fy hun.

Mae gwybod o ble yn union y daw'r bwyd ar eich plât, a'r awydd i fynd i'r afael â diffyg maeth yng Nghymru, yn flaenoriaethau y credaf y gall pob plaid wleidyddol yn y Siambr hon eu cefnogi. Credaf fod gennym gydgyfrifoldeb moesol i gefnogi'r Bil hwn er mwyn sicrhau diogelwch ein cyflenwad a'n cynhyrchiant bwyd yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ers gormod o amser, rydym wedi cymryd ein cynhyrchiant bwyd a diogelwch y cyflenwad bwyd yn y wlad hon yn ganiataol. Nid oes digon o bobl wedi gofyn y cwestiynau moesol a moesegol anodd hynny, megis, 'O ble y daw'r bwyd hwn?', 'A wyf fi'n cefnogi'r economi leol gyda'r bwyd hwn?', 'Sut y gallwn ni fynd i'r afael â diffyg maeth mewn cymdeithas?', 'Sut y mae defnyddio'r system fwyd i fynd i'r afael â newid hinsawdd?' Mae angen inni weld pob Llywodraeth o bob lliw yn gweithredu er mwyn sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i bobl Cymru.

Ond nid wyf yma i sgorio pwyntiau gwleidyddol dibwys, Ddirprwy Lywydd; rwyf yma am fy mod yn credu y gallwn, gyda'n gilydd, wneud gwahaniaeth. A dyna pam y mae'n bryd i ni fel gwleidyddion ddefnyddio'r offer sydd ar gael i ni. Gadewch inni gamu i'r adwy a chyflawni meysydd allweddol y Bil hwn.

Felly, pam fod angen y Bil? Wel, rydym wedi gweld effaith ddinistriol COVID sydd wedi credu trafferthion mawr i gadwyni cyflenwi ledled y byd, a'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar argaeledd cynhyrchion yma yng Nghymru. Ond mae'r Bil yn cynnwys y glasbrint ar gyfer y modd y gallwn ddatblygu'r sector bwyd mewn ffyrdd sy'n gynaliadwy, ffyrdd sy'n gwella llesiant Cymru, ac yn creu rhwydweithiau cryf a fydd yn helpu i wneud ein system fwyd yn fwy gwydn.

Nid yw fy Mil yn cynnig ateb syml a fydd yn datrys yr holl broblemau sy'n wynebu'r gymdeithas yng Nghymru. Yn hytrach, mae'n darparu fframwaith cadarn a fydd o'r diwedd yn datrys llawer o'r problemau sydd wedi bod yn ein hwynebu yn rhy hir. Yn y pen draw, hanfod y Bil yw sicrhau defnydd o fwyd lleol, gan greu swyddi lleol, ysgogi economïau lleol, ynghyd â mynd i'r afael â materion llesiant ac iechyd mawr ar hyd a lled Cymru. Unwaith eto, credaf fod rhain yn bwyntiau y byddai pob gwleidydd yn y Siambr hon, boed yma neu'n rhithwir, yn eu cefnogi.

Felly, rwyf am esbonio ychydig mwy am fy Mil arfaethedig, a sut y datblygais y cynigion hyn. Mae materion sy'n ymwneud â bwyd yn cyffwrdd â sawl agwedd ar waith y Llywodraeth, o iechyd y cyhoedd i gymunedau, yr amgylchedd ac amaethyddiaeth, yn ogystal â'r economi, yn amlwg. Mae'n ymgysylltu â gwahanol adrannau ar draws Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi gweld nifer o gynlluniau a strategaethau gan Weinidogion yma yng Nghymru, megis y cynllun gweithredu ar gyfer bwyd a diod, a chynllun gweithredu COVID-19 Cymru ar gyfer bwyd a diod.

Ond fel rwyf wedi'i ddarganfod wrth drafod y cynigion hyn gyda rhanddeiliaid ar draws y gwahanol sectorau, yn aml nid yw'r cynlluniau hyn yn siarad â'i gilydd. Maent yn aml yn canolbwyntio gormod ar feysydd penodol, ac ar adegau, maent hyd yn oed yn gwrthdaro â'i gilydd yn yr hyn y maent yn ceisio'i gyflawni. Er fy mod yn credu bod llawer i'w groesawu, mae wedi bod yn glir o drafodaethau fod angen gwneud llawer mwy os ydym am wireddu potensial llawn y sector bwyd yng Nghymru i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau sy'n wynebu ein cymunedau.

Ac mae'n bwysig nodi bod y cynnydd a wnaed ar rai o'r materion hyn mewn rhannau eraill o'r DU yn golygu bod perygl y bydd Cymru yn cael ei gadael ymhellach fyth ar ei hôl hi. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi ei Good Food Nation Bill yn ddiweddar, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion yr Alban ac awdurdodau cyhoeddus perthnasol greu cynlluniau cenedl bwyd da, yn ogystal ag ystyried yr angen am gorff statudol. Disgwylir i Lywodraeth y DU lunio Papur Gwyn i ymateb i argymhellion adroddiad diweddar y strategaeth fwyd genedlaethol.

Mae fy nghynigion, felly, wedi'u llunio yn sgil llawer o drafodaethau gyda rhanddeiliaid ac arbenigwyr, yn ogystal ag Aelodau o'r Senedd o bob plaid. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu hamser a'u cymorth hyd yma. Rwyf hefyd yn falch iawn o fod wedi cael cefnogaeth gyffredinol gan Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr mewn perthynas ag egwyddorion ehangach y Bil. Mae'r Gynghrair Gweithwyr Tir hefyd yn credu bod angen gweledigaeth drosfwaol ar gyfer system fwyd iach, gref a chynaliadwy yng Nghymru.

Felly, i grynhoi, byddai fy Mil yn gwneud nifer o bethau. Mae sefydlu comisiwn bwyd i Gymru yn rhan allweddol o'r ddeddfwriaeth arfaethedig. Byddai'r comisiwn yn ailosod llywodraethiant y system fwyd yng Nghymru, a byddai'n cyd-greu ac yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni strategaeth fwyd i Gymru gyda Gweinidogion Cymru a rhanddeiliaid eraill. Nid yw wedi'i gynllunio i danseilio'r Gweinidog na'r Llywodraeth, ond i'w cefnogi i gyflawni eu nodau.

Bydd cyfansoddiad y comisiwn yn cael ei ddatblygu ymhellach mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wrth i'r Bil fynd rhagddo. Rwy'n croesawu mewnbwn gan Aelodau ynglŷn â sut y gallai hynny edrych. Bydd y Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gydgynhyrchu strategaeth fwyd drosfwaol i Gymru gyda rhanddeiliaid eraill. Bydd hyn yn gweithredu fel fframwaith trosfwaol strategol sy'n integreiddio polisïau'n ymwneud â'r system fwyd ar draws nifer o adrannau Llywodraeth Cymru.

Er bod Llywodraeth Cymru wrthi'n diweddaru ei chynllun gweithredu ar gyfer bwyd, mae dogfen ymgynghori'r Llywodraeth yn nodi nad yw'n gynnig ar gyfer newid i system fwyd gyfannol. Ac eto, dyna'n union sydd ei angen arnom yng Nghymru, a dyna fydd y strategaeth fwyd arfaethedig yn anelu i'w wneud. Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill, megis byrddau iechyd lleol, ddatblygu cynlluniau bwyd cymunedol. Bydd hyn yn cryfhau caffael cyhoeddus ac yn creu gwell seilwaith i gysylltu cynhyrchwyr a defnyddwyr bwyd.

Byddai'r rhain yn adeiladu ar yr arferion da sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru, megis cynllun gweithredu Cyngor Sir Fynwy ar ddatblygu bwyd, a byddai'n annog cymunedau lleol eraill i archwilio sut y gallant gryfhau'r cysylltiad rhwng cynhyrchwyr a defnyddwyr yn eu hardal.

Ceir rhai polisïau ychwanegol hefyd, megis y gofyniad i Weinidogion Cymru adrodd yn flynyddol ar gynhyrchiant bwyd yng Nghymru, fel y gallwn ddadansoddi canlyniad strategaeth fwyd Cymru yn glir, yn ogystal â chynlluniau bwyd lleol. Byddai'n caniatáu i lunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb i wneud asesiad o ba mor gynaliadwy a chadarn yw cynhyrchiant bwyd yng Nghymru.

Gallai'r Bil ei gwneud yn ofynnol i bob archfarchnad a manwerthwr arall roi bwyd nad oes mo'i eisiau neu heb ei werthu sy'n addas i'w fwyta i elusennau a banciau bwyd i helpu'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae hyn yn debyg i fesur a gyflwynwyd yn Ffrainc yn 2016. Byddai'r polisi'n helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei rhwymedigaethau presennol, megis y targed i haneru gwastraff bwyd y gellir ei osgoi erbyn 2025 a'i leihau 60 y cant erbyn 2030. Gwn fod rhai archfarchnadoedd eisoes yn gwneud gwaith da, ond nid yw'n ddigon.

Yn olaf, byddai'r Bil yn archwilio ffyrdd o gryfhau gofynion labelu bwyd. Byddai hyn yn canolbwyntio ar sicrhau bod cynhyrchwyr, gweithgynhyrchwyr ac yn bwysig, ochr ychwanegol y sector lletygarwch, yn cryfhau—byddai eu rheolau labelu bwyd yn cael eu cryfhau i sicrhau bod bwyd a gynhyrchir yng Nghymru wedi'i nodi'n glir i ddangos mai dyna ydyw.

Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, hoffwn bwysleisio mai cynigion yn unig yw'r rhain. Os caf ganiatâd i gyflwyno Bil yn ffurfiol, bwriadaf gydweithio'n agos ag ystod eang o randdeiliaid, yn ogystal ag Aelodau a Gweinidogion o bob rhan o'r Siambr, i sicrhau bod eu barn a'u hamcanion wedi eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth, oherwydd drwy gydweithio fel un Senedd y gallwn sicrhau Cymru fwy teg a chyfartal.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i apelio ar bob Aelod o'r Senedd fel unigolion, nid pleidiau gwleidyddol, nid chwipiaid y pleidiau: mae gennym gyfrifoldeb moesol i weithredu heddiw. Mae'n hawdd gorbwysleisio effaith deddfwriaeth. Fel y cydnabûm yn gynharach, un elfen mewn peiriant llawer ehangach fyddai fy nghynigion. Mae yna agweddau eraill ar y system fwyd sydd y tu hwnt i'n pwerau, a chredaf fod angen inni weld Llywodraethau eraill yn gwneud mwy i fynd i'r afael â rhai o'r problemau, ond byddai'r Bil hwn yn rhoi'r llwyfan sydd ei angen arnom yma yng Nghymru i ddechrau gweithredu'r newidiadau y mae angen inni eu gweld.

Clywn y gair 'blaengar' yn cael ei daflu o gwmpas yn aml yn y Siambr hon. Wel, gadewch inni weithredu mewn modd blaengar. Atebion Cymreig i broblemau Cymreig, wedi'u creu ar gyfer pobl Cymru. I ddyfynnu'r Athro Kevin Morgan a Simon Wright yn eu herthygl ddiweddar ar fy Mil:

'Mae synnwyr cyffredin, yn ogystal â thoreth o dystiolaeth ymchwil, yn dweud wrthym fod yn rhaid inni weithredu. Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn ei chael hi'n anodd deall ein methiant i wneud hynny.'

Ddirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen at glywed barn Aelodau o bob rhan o'r Siambr. Diolch.

16:00

Diolch. Diolch i Peter Fox am gyflwyno'i Fil arfaethedig heddiw, a chroesawaf y cyfle i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Cyfarfûm â Peter i drafod ei gynigion a gwnaeth ei angerdd dros yr agenda hon argraff arnaf, ac mae newydd ddangos hynny eto. Rwy'n gobeithio y gall y ddadl hon fod yn rhan o sgwrs barhaus am y ffyrdd y gallwn gydweithio i wireddu'r dyheadau sydd ganddo ac rwyf fi, a llawer ar draws y Siambr hon, yn eu rhannu. 

Cytunaf yn gryf â'r teimlad sy'n sail i'r Bil arfaethedig. Mae manteision lles enfawr i'w cael o ailfeddwl ein hagwedd tuag at fwyd a'r rôl y mae'n ei chwarae yn ein cymdeithas. Credaf fod llawer y gallwn ei wneud drwy adeiladu ar y consensws sydd gennym ar draws y Senedd, a thrwy gefnogi creadigrwydd ac ymrwymiad pobl ledled Cymru. Fodd bynnag, rwyf am annog yr Aelodau i ystyried y ffyrdd y gellir cyflawni dyheadau'r Bil yn gyflymach ac yn fwy effeithiol na thrwy'r darpariaethau penodol a gynigir, ac i weithio gyda ni i'w gwneud hi'n bosibl cyflawni cyfres o bethau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac ymarferol ar lawr gwlad.

Byddai'r comisiwn bwyd cenedlaethol a'r haenau o strategaethau blynyddol gan y Llywodraeth a gynigir gan y Bil yn creu perygl o lesteirio yn hytrach na chefnogi entrepreneuriaid lleol, trefnwyr cymunedol a gweision cyhoeddus. Credaf y byddai'n gwneud cyfraith ddiangen ar gyfer pynciau lle gellir a lle mae camau'n cael eu cymryd eisoes. Ceir cyfoeth o fentrau a chymunedau bywiog o ddiddordeb yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar fwyd, a chredaf fod y ffyrdd creadigol yr ymatebodd awdurdodau lleol Cymru a'r sector gwirfoddol i ddarparu bwyd i bobl agored i niwed yn ystod y pandemig COVID-19 yn un enghraifft, yn ogystal â'r cannoedd o brosiectau tyfu bwyd cymunedol a geisiodd gymorth drwy'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i ehangu eu gwaith fel ffordd o helpu pobl drwy'r effaith ofnadwy y mae'r feirws wedi ei chael, ac yn parhau i'w chael, ar ein cymunedau.

Mae'r rhwydwaith clwstwr o fusnesau bwyd yng Nghymru yn enghraifft wych arall o'r angerdd a'r ysbryd cydweithredol sy'n bodoli yn y diwydiant bwyd yma yng Nghymru, yn ogystal â chryfder busnesau Cymreig gafodd ei arddangos yng nghynhadledd Blas Cymru a gynhaliwyd y mis diwethaf, lle llwyddwyd i ddenu buddsoddwyr o bob cwr o'r byd. Drwy gronfa her yr economi sylfaenol, gwnaethom gefnogi prosiect, dan arweiniad bwrdd gwasanaethau cyhoeddus sir Gaerfyrddin, i ddatblygu cyfleoedd i'r sector cyhoeddus gaffael bwyd a gynhyrchir ac a gyflenwir yn lleol, gan gynorthwyo busnesau lleol i dyfu, prosiect a allai fod yn arweiniad defnyddiol yn fy marn i, lle gallwn gynorthwyo eraill i ddilyn.

Gan ddysgu o'r ffyrdd llwyddiannus y mae ein cymorth i fentrau sy'n seiliedig ar fwyd wedi'i ddarparu, a gweithio gyda busnesau a chymunedau yn ogystal â chyrff cyhoeddus, credaf fod arnom angen dull o weithredu o'r gwaelod i fyny, yn hytrach na dull o'r brig i lawr. Gall hyn adeiladu ar waith sydd eisoes wedi'i gyflawni ar raddfa fach i ganolig yng Nghymru, ac mae angen inni dyfu ac ymestyn hynny yn awr. Dyna lle credaf y dylai ein ffocws fod—ar ddatrys problemau yn ymarferol a chefnogi gweithredu lleol ledled y wlad, yn hytrach na chreu cyfres o ddyletswyddau cyfreithiol newydd a threfniadau biwrocrataidd.

16:05

Weinidog, fe wyddoch fod grŵp cydweithredol y Senedd, mewn gwirionedd, wedi cynhyrchu adroddiad ar hyn o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn wir, roedd yn cefnogi'n fawr y dull cydweithredol ar lawr gwlad o ddatblygu rhwydwaith bwyd cryfach, lle ceid rhwydweithiau bwyd lleol yn wir, lle gallai cynhyrchwyr sylfaenol, yn ogystal â chynhyrchwyr cydweithredol, a sefydliadau ar lawr gwlad, fod yn rhan o hyn. Ond mae gennym lawer iawn o gydymdeimlad, mewn gwirionedd, â rhai o'r rhannau o'r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd, felly a gaf fi ofyn i'r Gweinidog: os nad deddfwriaeth yw'r ateb, fel y tybiaf eich bod yn dadlau, sut y gallwch wireddu'r ymrwymiad i ymgysylltu â Peter, gyda rhanddeiliaid allanol, gydag eraill yn y Siambr hon heddiw, ond hefyd gyda'r mudiad cydweithredol ac eraill sydd am weld trawsnewidiad llwyr yn y maes hwn?

Diolch, ac mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n sicr wedi cael golwg ar yr adroddiad, ac fe fyddwch yn ymwybodol iawn ein bod, fel Llywodraeth, eisoes wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth bwyd cymunedol, a oedd yn ein maniffesto, ac a oedd yn seiliedig yn rhannol ar yr adroddiad hwnnw, ynghylch grymuso gweithredu a arweinir gan y gymuned, cysylltu'r system fwyd yn well â dinasyddion, a chreu cyflenwad amrywiol. Ac mae bellach yn ein rhaglen lywodraethu fel y gwyddoch, ac rwy'n hapus iawn i weithio gyda phwy bynnag sydd am fwrw ymlaen â'r strategaeth honno.

Bydd bwyd yn bendant yn ffactor cyffredin yn y strategaeth bwyd cymunedol, ac rwyf eisoes wedi dechrau gweithio gyda swyddogion, gan edrych ar gynlluniau trawslywodraethol, ac mae'n ddiddorol iawn gweld faint o gyllideb a werir ar draws y Llywodraeth. Pan edrychwch arno, bron nad oes gan bortffolio pob Gweinidog rywbeth a fydd wedi'i gynnwys yn y strategaeth bwyd cymunedol honno, a chredaf y bydd yn cryfhau ein cymunedau'n fawr, bydd yn gwella llesiant, bydd yn darparu cyfleoedd ar gyfer iechyd meddwl ac iechyd corfforol ac yn gwyrddu'r amgylchedd. Rwy'n hapus iawn i ymrwymo i barhau i weithio gydag unrhyw Aelod sydd am fwrw ymlaen â'r strategaeth honno, i nodi ffyrdd y gallwn fabwysiadu a datblygu syniadau a oedd yn yr adroddiad a gyflwynwyd.

Credaf fod gennym gyfle hefyd i fwrw ymlaen â chynigion ynghylch lleihau gwastraff bwyd gan fusnesau, a chyfeiriodd Peter at hynny hefyd, drwy ein rheoliadau arfaethedig ar ailgylchu gwastraff busnesau. Mae cyfleoedd hefyd i weithio gyda Llywodraethau eraill y DU a chyda busnesau yng Nghymru ar wella labelu bwyd. Credaf fod hynny'n gwbl hanfodol.

Felly, lle gall y Senedd ffurfio consensws ar y materion hyn, bydd llawer o gyfleoedd i roi'r cydflaenoriaethau hynny ar waith—cyfleoedd y credaf y byddai'r Bil arfaethedig, yn groes i'w fwriad, yn eu lleihau yn hytrach na'u gwella. Felly, hoffwn annog yr Aelodau i weithio gyda ni i gynorthwyo hyrwyddwyr lleol, er enghraifft, i weithio gyda'i gilydd, gyda chyrff cyhoeddus, gyda busnesau, fel y gall pawb chwarae eu rhan i wneud y mwyaf o'r manteision sydd gennym i edrych ar fanteision llesiant cynhyrchu bwyd, oherwydd mae llawer iawn yno, a dosbarthu bwyd yn fwy teg a phriodol, gan werthfawrogi'r rôl sydd gan fwyd i'w chwarae yn ein cymunedau.

Ni allaf gefnogi Bil yr Aelod fel y'i cynigiwyd oherwydd credaf y byddai ei weithredu'n tynnu ein sylw oddi wrth y blaenoriaethau y credaf ein bod yn eu rhannu, a chredaf hefyd fod llawer o argymhellion yn y Bil—a bydd Peter yn ymwybodol o hyn—nad wyf yn credu bod angen deddfwriaeth newydd ar eu cyfer. Fodd bynnag, rwy'n awyddus iawn i'w gefnogi yn ei benderfyniad i nodi ffyrdd o ddiogelu'r cyflenwad bwyd a gwella llesiant drwy hyrwyddo darpariaeth o fwyd cynaliadwy o ansawdd uchel wedi'i gynhyrchu yma yng Nghymru. Diolch.

16:10

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Peter Fox, am gyflwyno cynnig mor bwysig, y teimlaf y dylid ei groesawu ar draws y rhaniad gwleidyddol. Mae'n gynnig ardderchog ar gyfer Bil, ac rwy'n cymeradwyo fy nghyd-Aelod, Peter Fox, am ei gyflwyno. Fel Senedd, mae gennym gyfle i ddeddfu yn y maes pwysig hwn a chryfhau diogelwch y cyflenwad bwyd, gwella'r dewis i ddefnyddwyr Cymru a chefnogi ein cymunedau gwledig a'n ffermwyr a busnesau lleol ledled Cymru.

Mae'n amlwg fod cefnogi amaethyddiaeth yn ganolog i'r Bil hwn, ac fel merch fferm, mae hynny'n fy mhlesio. Ar lefel Cymru gyfan, rydym angen y sicrwydd o wybod bod cynhyrchiant bwyd yn gynaliadwy ac yn lleol i leihau milltiroedd bwyd a chyfyngu ar wastraff. Gyda dadl genedlaethol lawn ar newid hinsawdd ar y gweill ar hyn o bryd yng ngoleuni'r COP26, ceir mwy o ymwybyddiaeth o'r materion hyn ymhlith y cyhoedd, ac mae cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i sicrhau bod defnyddwyr yn cael gwybodaeth dda i'w galluogi i wneud dewisiadau ynglŷn â pha fwyd y maent yn ei brynu. Rydym angen rheoliadau cryfach ar labelu bwyd fel y gall y cyhoedd wneud dewis clir ynglŷn â lle maent yn dewis gwario eu harian. Mae nifer cynyddol o bobl am fynd ati'n rhagweithiol i brynu bwyd sydd wedi'i dyfu, ei gynaeafu a'i becynnu'n lleol, gyda chyn lleied o filltiroedd â phosibl, felly mae'n bwysig ein bod yn sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth hon i wneud dewis gwybodus. Yn gynyddol, mae sir Fynwy, fy sir enedigol, sir Peter, yn lleoliad bwyd pwysig yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda chymaint o gyflenwyr lleol o safon, ac mae angen inni fanteisio ar hynny, ond mae angen inni wneud mwy i gryfhau prosesau caffael lleol a sicrhau bod gan gynhyrchwyr bach a chanolig eu maint fynediad cyfartal at farchnadoedd cystadleuol.

Mae bwyd yn sbardun allweddol i'n heconomi dwristiaeth, a thwristiaeth yw bara menyn ein heconomi yma yng Nghymru, a dylem wneud mwy i gefnogi hynny. Ceir llawer o arferion rhagorol ar lawr gwlad fel y dywedoch chi, Weinidog, ond dylid eu helpu oddi fry, dylai'r Senedd eu helpu, i'w harwain yn dda a chyflwyno'r arferion gorau hynny ledled Cymru. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn defnyddio'r Bil hwn i osod dyletswydd ar Weinidogion i lunio strategaeth fwyd.

Fel Gweinidog yr wrthblaid dros addysg, mae gennyf ddiddordeb mewn prydau ysgol wrth gwrs, ac mae'r hyn a welwn ar fwydlenni ysgolion bob amser mor siomedig. Mae'n bwysig ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cynnyrch lleol gwych sydd o'n cwmpas i fwydo ein plant yn yr ysgolion, a chredaf fod ansawdd yr hyn sydd gennym o'n cwmpas a'r milltiroedd bwyd isel yn rhywbeth y mae plant am ei weld, ond hefyd mae'n bwysig i roi maeth iddynt, i fynd i'r afael â gordewdra a'r rôl ehangach y gall bwyd—bwyd da, bwyd lleol da—ei chwarae. 

Rwy'n falch iawn o fod yn Gymraes ac rwyf am weld dyfodol Cymru'n cael ei sicrhau fel gwlad gynaliadwy sy'n dathlu ac yn bwyta cynnyrch lleol. Credaf fod cyfle gwirioneddol gyda'r Bil hwn i ddathlu'r hyn sydd gennym yma. Mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo ac i'w fwynhau yn ein gwlad, a byddai'r Bil hwn o fudd i gynifer o sectorau gwahanol ac i gynifer o wahanol bobl. I mi, mae'n gwbl amlwg y dylem gefnogi'r cynnig gwych hwn y mae Peter wedi'i gyflwyno i ni heddiw. Da iawn, Peter.

Diolch, Peter, am ddod â'r Bil hwn i lawr y Senedd. Yn fy marn i, ni allwn ddarparu Cymru iachach, sy'n fwy gwyrdd a chyfartal oni bai ein bod yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ein perthynas â bwyd. Dylai pawb yng Nghymru fod â hawl i fwyd da, ffres. Yn anffodus, nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. O'n cwmpas, gallwn weld diabetes, clefyd y galon, epidemig canser—y cyfan yn dystiolaeth o'n perthynas afiach â bwyd.

Roeddwn yn trafod yn gyson yn y Senedd flaenorol gyda'r Gweinidog addysg sut y gallwn newid ansawdd prydau ysgol, ac mae'n debyg ei bod yn ddyletswydd ar lywodraethwyr ysgolion i'w harolygu a hefyd i adrodd arnynt yn adroddiad yr ysgol. Ond yn anffodus, ychydig iawn o lywodraethwyr sydd hyd yn oed yn ymwybodol fod ganddynt y ddyletswydd hon, heb sôn am gydymffurfio â hi, ac nid yw Estyn yn ei hystyried yn rhan greiddiol o'u dyletswydd hwythau. Felly, mae'n symptom o ddiffyg cadernid ein dull system gyfan o ymdrin â'r mater hwn.

Oes, mae llawer o fentrau gwych ar y gweill i wella ein system fwyd. Mae Bwyd Caerdydd wedi ennill gwobr arian y Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, mae'r rhaglen gwella gwyliau'r haf wedi bod yn rhaglen wych, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr fod Llywodraeth Cymru wedi dyblu'r gyllideb ar ei chyfer dros wyliau'r haf, ond mae arnaf ofn na wnaeth arwain, yn achos fy ysgolion i, at fwy o bobl yn manteisio ar y rhaglen. Arweiniodd at lai o ysgolion yn manteisio arni, ac rwy'n deall hynny, oherwydd mae ysgolion wedi blino'n lân ar ôl gorfod parhau i addysgu yn ystod y pandemig. Ond serch hynny, mae'n dangos nad yw pawb yn cefnogi hyn yn ddiwahân. Mae llawer gormod o ysgolion yn credu bod y pryd ysgol yn ychwanegiad i'r diwrnod ysgol—rhywbeth i'r disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim ac ychydig o rai eraill, yn hytrach na rhywbeth sy'n ganolog i les disgyblion.

Rhaid inni gofio bod lefelau gordewdra yn dyblu rhwng dechrau'r ysgol gynradd a phan fydd plant yn mynd i'r ysgol uwchradd. Dyna ystadegyn syfrdanol iawn. Rwy'n siomedig iawn nad oes unrhyw ysgolion yng Nghymru wedi llofnodi'r achrediad Bwyd am Oes, sy'n golygu nad yw ysgolion yn rhoi digon o sylw i bwysigrwydd prydau ysgol, nac ychwaith yn gwybod o ble y daw'r bwyd hyd yn oed, oherwydd nid oes neb yn monitro hynny mewn gwirionedd. Felly, roedd sir y Fflint yn arloesi o ran mabwysiadu'r achrediad Bwyd am Oes sy'n gwobrwyo pobl am gynyddu faint o fwyd ffres y maent yn ei ddarparu, gan gynyddu faint o fwyd organig y maent yn ei ddarparu, ac os gall Oldham, awdurdod lleol tlawd iawn, wneud hynny, pam na all Cymru ei wneud?

Felly, rhaid imi ddweud, er nad wyf yn cefnogi comisiwn bwyd, rwy'n llawer mwy  cefnogol i olrhain y ffordd y defnyddiwn yr arian cyhoeddus y dylem fod yn ei reoli ac y dylem fod yn sicrhau ei ansawdd, nid yn unig o ran ein prydau ysgol, ond yn ein holl gartrefi gofal, ym mhob un o'n hysbytai, a sicrhau yn gyffredinol fod gan bobl fwyd ffres ar gael iddynt a'u bod yn gwybod sut i'w goginio, oherwydd yn anffodus mae hynny hefyd yn rhan o'r broblem.

Felly, roedd gennyf un cwestiwn i Peter Fox: sut y credwch y gallwn gryfhau'r gofynion labelu bwyd? Oherwydd mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi tin-droi llawer yn ei gylch, wedi siarad llawer amdano, ond heb wneud dim yn ei gylch. Mae hyn yn rhywbeth y mae angen inni ei gael ar lefel y DU mewn gwirionedd, oherwydd byddai cael labelu bwyd gwahanol yng Nghymru yn unig yn arwain at gost ychwanegol enfawr i filiau bwyd pobl yng Nghymru. Mae gwir angen ichi weithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn. Ni allwn ddal ati i gael siwgr a halen mewn bwyd babanod i ddechrau, a hefyd y pwysau cyson gan gwmnïau bwyd mawr, sy'n gweithredu fel cwmnïau tybaco mawr, i sicrhau bod plant yn mabwysiadu arferion gwael o'r dechrau un. Maent yn gwario biliynau o bunnoedd ar geisio dweud wrth bobl beth y dylent ei fwyta, ac yn hytrach, mae gennym ymgyrch wych Nerth Llysiau, ond nid yw cynnydd o 2.3 y cant yn y llysiau ffres sy'n cael eu bwyta o ganlyniad i'r ymgyrch wych honno yn mynd i fod yn ddigon. Dyna pam y credaf fod angen i bob adran yn y Llywodraeth ganolbwyntio o ddifrif ar y mater hwn, oherwydd fel arall, nid 50 y cant o'r gyllideb y byddwn yn ei wario ar y GIG, ond tri chwarter y gyllideb, a byddwn yn byw bywydau diflas iawn.

16:15

Cyn imi ddechrau, hoffwn gofnodi y dylwn fod wedi datgan buddiant yn gynharach yn ystod y cwestiynau llywodraeth leol gan fy mod yn aelod o Gyngor Sir Powys, ar gyfer fy nghwestiwn atodol i gwestiwn 4, a dylwn ddatgan buddiant yma hefyd, gan fod fy nheulu-yng-nghyfraith yn gynhyrchwyr bwyd.

Hoffwn dalu teyrnged i fy nghyfaill, Peter Fox, fel rhywun sy'n hoff iawn o fwyd o Gymru. Rwyf fi, ynghyd â llawer yn y Siambr hon, wedi ymgyrchu dros system fwyd fwy cynaliadwy yma yng Nghymru, a gosod diogelu'r cyflenwad bwyd ynghanol y system honno a sicrhau y gallwn gynorthwyo ein cynhyrchwyr bwyd a diod bach, teuluol yng Nghymru i wella canlyniadau economaidd-gymdeithasol Cymru er budd y Cymry. A chredaf yn gryf, Peter, fod y Bil rydych wedi'i gynnig heddiw yn cyflawni hynny.

Yng Nghymru, mae gennym gyfle gwych drwy'r Bil hwn i wella iechyd y genedl, gan ein galluogi i fod yn iachach. Yn ein gwlad, mae gennym broblemau iechyd mawr ar ffurf costau byw cynyddol, gordewdra a newid hinsawdd, ac mae pob un o'r rheini wedi'i waethygu gan y pandemig COVID-19. Credaf y gall y Bil rydych wedi'i gynnig helpu i gyflawni polisïau Llywodraeth Cymru fel y strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', a chyflawni'r nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae comisiwn bwyd i Gymru yn rhan allweddol o'r cynnig hwn ac fe fyddaf yn onest, fel rhywun nad yw'n hoffi creu comisiynau neu bwyllgorau, i chi, Peter, efallai y byddwn yn gwneud eithriad y tro hwn, oherwydd credaf nad ydym wedi gweld strategaethau bwyd a diod Cymru'n cael eu cyflawni fel y credaf y dylent gael eu cyflawni. A chredaf ei bod yn iawn y gallai corff trosfwaol fel hwn ychwanegu manteision enfawr i'r sector bwyd. Credaf fod angen monitro pob strategaeth a dangos eu bod yn cyflawni ar gyfer y trethdalwr ac yn cyflawni ein gwerthoedd cymdeithasol. Oherwydd bydd dod â'r sgiliau a'r wybodaeth gywir at ei gilydd i ddatblygu'r sector yn helpu'r amgylchedd er gwell. Ac fel y dywedais yn gynharach, credaf y bydd comisiwn bwyd yn ein helpu i gyflawni hynny.

Fel y gwnaethoch amlinellu yn y Bil, nid dyma'r tro cyntaf i bobl alw am hyn. Mae nifer o randdeiliaid yn y gorffennol wedi galw o'r blaen am gorff trosfwaol, a gwn eich bod wedi gwneud llawer iawn o waith i ymgysylltu â'r diwydiant, fel y sonioch chi, gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru ac eraill, ac Aelodau eraill yn y Siambr hon wrth gwrs, i gael cefnogaeth drawsbleidiol i'r Bil. Rwy'n siŵr y bydd yr holl bobl hynny'n falch iawn eich bod yn cyflwyno hyn ac yn rhoi sylw iddo.

Fe wnaethoch amlinellu yn y Bil y nod o gryfhau gwytnwch y cadwyni cyflenwi lleol drwy sicrhau bod cyrff cyhoeddus lleol yn cynyddu faint o fwyd a gynhyrchir yn lleol y maent yn ei gaffael. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn i helpu'r economi leol a helpu busnesau lleol i ddatblygu. Mae'n dda iawn ac mae hyn yn cyd-fynd, mewn gwirionedd, â Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru ei hun, oherwydd credaf fod yr hyn a godwyd yn gynharach yn y Siambr yn bwysig iawn, ac fel y dywedais am 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Os gallwn gael gwell bwyd, bwyd o ansawdd gwell ar gyfer caffael cyhoeddus, credaf y bydd hynny'n helpu ein dysgwyr ifanc mewn gwirionedd a chredaf fod hynny'n rhywbeth rydym yn awyddus iawn i'w wneud yn y pwyllgor addysg, i sicrhau bod gennym ddarpariaeth o fwyd iachus ar gyfer ein plant.

Yn eich Bil, fe sonioch chi hefyd am labelu bwyd, ac rydym i gyd yn glir yma fod yn rhaid i fwyd o Gymru gael ei labelu'n glir i ddangos ei wlad tarddiad. Credaf y bydd y Bil yn sicrhau bod cynhyrchion bwyd wedi'u labelu'n well, a hynny yn ei dro yn helpu busnesau lleol ac yn gwneud i bobl wneud dewisiadau mwy gwybodus yn y siopau, ac mae'n eu galluogi i gael bwyd gwell ac fel y dywedoch chi hefyd, yn helpu'r elfen o'r fferm i'r fforc ac yn dangos i bobl o ble y daw eu bwyd, yn ei wneud yn fwy cynaliadwy ac yn helpu i leihau ein hôl troed amgylcheddol mewn gwirionedd, sy'n wirioneddol bwysig.

Gwn ein bod yn mynd i fynd dros yr amser yn ôl pob tebyg, felly fe fyddaf yn eithaf byr, Ddirprwy Lywydd, ond rwy'n awyddus iawn i'ch cefnogi ar hyn, Peter, ac fe gewch fy nghefnogaeth heddiw. Ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn eich cefnogi, oherwydd credaf fod y Bil hwn yn ddeddfwriaeth wych. Mae'n mynd i wella economi Cymru, bywydau pobl Cymru, ac rwy'n hapus iawn i'ch cefnogi heddiw.

16:20

Diolch i Peter Fox am ddod â'r Bil drafft hwn gerbron i ni ei ystyried fel Senedd. Dwi'n hapus i gefnogi'r Bil, ac yn barod i gefnogi'r cyfle iddo fe aeddfedu wrth i'r broses symud yn ei blaen achos dwi yn credu y gallai'r Bil hwn helpu i ddarparu system fwyd sydd yn wirioneddol addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ac mae llawer iawn o amcanion y Bil yn digwydd bod yn cyd-fynd â pholisi Plaid Cymru ar fwyd, fel roedd wedi cael ei amlygu yn ein maniffesto ychydig fisoedd yn ôl. Ac, wrth gwrs, rydyn ni newydd ddod allan o drafodaethau COP ac mae bwyd wedi cael mwy o ffocws na dim byd arall, ac rydyn ni wedi gweld effaith negyddol ar newid hinsawdd o ran cynhyrchu bwyd.

Dwi jest yn mynd i gymryd ambell i bwynt o'r hyn roeddwn i wedi bwriadu ei ddweud gan fod gymaint wedi cael ei ddweud yn barod a dwi ddim eisiau ailadrodd. Ond un peth sydd eisiau ei ailbwysleisio yw bod ein system fwyd bresennol ni yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, iechyd y cyhoedd, yr economi, amaeth a hyd yn oed sicrhau bwyd iach i'n plant mewn ysgolion, ac yn gallu'n effeithio'n fawr arnom ni fel cenedl o ran ein ffyniant ar gyfer y dyfodol.

O ran sefydlu comisiwn bwyd, dwi o blaid hyn, mae Plaid Cymru o blaid hyn, oherwydd mae e'n sicrhau cyfle i ddod â strategaeth fwyd holistaidd at ei gilydd, tynnu’r llinynnau yna at ei gilydd mewn ffordd gredadwy a phwrpasol, ac mae e'n gyfle hefyd i ddod nid yn unig â gwaith y Llywodraeth at ei gilydd, ond yr ymchwil sy'n cael ei wneud gan ymarferwyr yn ein prifysgolion ni, drwy roi darparwyr bwyd at ei gilydd, a'r holl adrannau hefyd ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Felly, dwi'n gweld y manteision o gydlynu'r cyfan mewn un corff, fel comisiwn bwyd, yn fanteisiol i ni.

Mewn perthynas â'ch nod eithriadol o bwysig o ddarparu system fwyd fwy cynaliadwy, mwy lleol a chryfhau'r agwedd caffael cyhoeddus, yn sicr mae hyn yn rhywbeth y mae Plaid Cymru bob amser wedi ei gefnogi ac rydym am weld cynnydd yn nifer a hyfywedd systemau cyflenwi bwyd lleol. Ar hyn o bryd, mae gormod o gynnyrch o Gymru yn cael ei gludo allan o Gymru i'w brosesu, gan golli gwerth ychwanegol mawr ei angen. Mae angen inni gynyddu capasiti prosesu Cymru gyfan, a bydd gwrthdroi colli capasiti prosesu lleol yn gam cadarnhaol i'r cymunedau sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig, ac i les anifeiliaid, ac i fynd i'r afael â'r agenda newid hinsawdd.

Disgrifiodd yr Athro Roberta Sonnino o Brifysgol Caerdydd gaffael cyhoeddus fel yr offeryn mwyaf pwerus sydd ar gael i Lywodraethau ar gyfer llunio economïau bwyd cynaliadwy, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae'n ganran enfawr o'n cynnyrch domestig gros, sydd fel arfer yn 13, 14 y cant yng ngwledydd Ewrop, a hyd at 70 y cant mewn gwledydd sy'n datblygu, felly mae'n gyfle euraidd i benderfynu pa fath o farchnadoedd bwyd rydym am eu creu, i bwy a sut. '

Ac fel y gŵyr pawb ohonom, mae tua 51 y cant o laeth Cymru yn cael ei brosesu y tu hwnt i'n ffiniau, ac mae 72 y cant o wartheg Cymru yn cael eu lladd y tu allan i Gymru. Nid yw hyn yn gwneud synnwyr o gwbl i mi. Ac er mwyn datrys hyn, mae angen inni leoleiddio cadwyni cyflenwi, ac rydym angen targedau uchelgeisiol ar gyfer caffael cyhoeddus. Dychmygwch y manteision economaidd ac amgylcheddol fel ei gilydd pe bai 75 y cant o'r bwyd a gaiff ei gaffael yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan gyflenwyr lleol. Ar lefel llywodraeth leol, amcangyfrifir y gall cynnydd o 1 y cant mewn caffael lleol arwain at greu neu ddiogelu cannoedd o swyddi.

A jest i gloi, Dirprwy Lywydd, dwi'n hoff iawn o'r cyfeiriad at ddileu pob math o wastraff bwyd. Roedd maniffesto Plaid Cymru yn galw am gyflwyno targedau i haneru gwastraffu bwyd o’r fferm i’r fforc erbyn 2030. Mae'n debyg bod 400,000 tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu bob blwyddyn gan gartrefi yng Nghymru.

Felly, dwi'n cloi drwy ddweud hyn: mae'n bosibl y gallai'r Llywodraeth ddadlau bod modd gwneud hyn i gyd mewn ffordd wahanol, ond mae yna wahaniaeth mawr rhwng 'gall y Llywodraeth ei wneud e' a 'byddant yn ei wneud e'. A beth fydd y Bil yma'n ei sicrhau yw y bydd y Llywodraeth yn mynd i’r afael â hyn, achos dwi'n meddwl mai dyma beth mae cenedlaethau’r dyfodol yn eu haeddu. Diolch yn fawr iawn.

16:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud cymaint o bleser yw gallu cyfrannu yn y ddadl hon heddiw ar Fil bwyd a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod, Peter Fox, gyda'r potensial i greu cyfleoedd enfawr i bobl ar hyd a lled Cymru? Rhaid imi ddweud ar y pwynt hwn hefyd fy mod wedi mwynhau cyfeiriadau'r Aelodau at fwyd yn eu cyfraniadau, megis 'bara menyn ein heconomi' o'r fan hon a 'cut the mustard' ar draws yr ystafell yno hefyd. Rwy'n siŵr nad oedd y mwyseiriau hynny'n fwriadol, ond fe wnes i eu mwynhau serch hynny.

Fel y dywed memorandwm esboniadol y Bil, a dyfynnaf:

'Diben y Bil yw sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru i wella diogelwch bwyd, gwella lles economaidd-gymdeithasol ymhlith pobl Cymru a chynnig mwy o ddewis i ddefnyddwyr.'

Mae gan y sector bwyd yng Nghymru rôl sylfaenol i'w chwarae yn helpu i greu Cymru fwy ffyniannus, iachach a gwyrddach. Rwyf am amlinellu pedwar maes yn gyflym i ddangos sut y credaf y bydd y Bil hwn sy'n cael ei gynnig heddiw yn ein helpu i gyflawni'r Gymru fwy ffyniannus, iachach a gwyrddach hon.

Soniwyd am y cyntaf gan Mr Campbell draw acw mewn gwirionedd. Rwy'n siŵr fod pob Aelod yn teimlo'n rhwystredig ynglŷn â faint o fwyd sy'n cael ei wastraffu gan siopau a manwerthwyr. Un agwedd allweddol ar y Bil hwn yw ei gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd a manwerthwyr eraill roi bwyd diangen a heb ei fwyta sy'n addas i'w fwyta gan bobl i elusennau a banciau bwyd i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Rwy'n sicr yn cymeradwyo'r manwerthwyr sy'n gwneud hynny ar hyn o bryd, ond byddai ei gwneud yn ofynnol i rywun wneud hynny'n sicr yn gwella pethau, yn debyg i ddeddfwriaeth y cyfeiriodd Mr Fox ati sydd eisoes mewn grym mewn gwledydd fel Ffrainc.

Yr ail faes sy'n bwysig yma yn fy marn i yw amcan y Bil i sefydlu comisiwn bwyd i Gymru, a fydd yn helpu i sicrhau dull mwy cydlynol o drafod polisi bwyd yng Nghymru yn ogystal â dod â meysydd polisi trawsbynciol a chynlluniau presennol at ei gilydd o dan un trefniant llywodraethu unedig. Gwn efallai fod rhai o'r Aelodau yma'n nerfus ynglŷn â'r elfen hon yn y Bil, ond fel y soniwyd o'r blaen, gwelaf hyn fel dechrau proses, dechrau'r daith i'r Bil hwn. Dylem geisio ei gefnogi fel y gellir ei ddatblygu ymhellach a'i ystyried ymhellach dros y misoedd nesaf.

Mae'r trydydd maes, os yw'r Bil hwn yn mynd i gefnogi Cymru ffyniannus, iach a gwyrdd, yn ymwneud â mynd i'r afael â'r problemau hirsefydlog sy'n dreth ar ein cymunedau, megis tlodi bwyd, diffyg maeth a gordewdra, y mae Aelodau eisoes wedi siarad mor dda amdanynt heno. Mae'r Bil yn pwyso am i fwydydd iachach fod ar gael mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill yn ogystal â sicrhau bod teuluoedd ar incwm is, sydd at ei gilydd yn ei chael hi'n anodd cael deiet cytbwys, yn gallu cael bwyd iach hefyd.

Y pedwerydd maes sy'n wirioneddol bwysig i ni, yn enwedig yn sgil y COP26, yw'r manteision amgylcheddol enfawr y bydd y cynigion yn y Bil hwn yn eu cynnig i'n gwlad. Mae'r Bil yn rhoi amaethyddiaeth Cymru yn y canol yn y gwaith o ddiogelu cyflenwad bwyd ein gwlad, gan arwain at gynnyrch o ansawdd uchel, ond cynnyrch sy'n ecogyfeillgar hefyd. At hynny, bydd canolbwyntio ar gynnyrch mwy cynaliadwy yn sicrhau gwelliant yn yr amgylchedd lleol, gan leihau'r milltiroedd bwyd hollbwysig hynny ar yr un pryd.

Rwyf wedi disgrifio pedwar maes a fydd yn helpu i sicrhau Cymru fwy ffyniannus, iach a gwyrdd. Ac wrth gwrs, nid yr Aelodau yn yr ystafell hon yn unig sydd wedi cefnogi hyn, ond mae wedi bod yn galonogol iawn nodi cymeradwyaeth i'r Bil gan Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, yn ogystal â llawer o rai eraill.

Rwy'n aml yn nodi apêl Llywodraeth Cymru am gyfraniadau cadarnhaol o bob ochr i'r Siambr hon, ac roeddwn yn falch iawn fod gennym rywbeth heddiw sy'n ymddangos i mi'n gadarnhaol iawn ac yn anwleidyddol mewn gwirionedd o ran ei gymhellion, ac sy'n denu cefnogaeth arbenigwyr yn y sector bwyd, i sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru, cefnogi'r diwydiant a gwireddu ei botensial. 

Rhaid imi ddweud mai siom oedd clywed y Gweinidog yn dweud na allai gefnogi'r Bil, ond rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr, boed yn rhithwir ar y sgrin neu yn y cnawd yma heddiw, yn gweld y manteision y gall y Bil hwn eu cynnig ac y byddant yn ei gefnogi heddiw, oherwydd mae'n haeddu mwy o amser a mwy o gefnogaeth fel y gall pobl ledled Cymru elwa, fel y disgrifiais yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.

16:30

Rwyf am ddweud ar y dechrau y byddaf yn cefnogi'r Bil y prynhawn yma gan y credaf fod ganddo'r potensial i weithredu fel catalydd go iawn ar gyfer newid. Mae bwyd yn rhan ganolog o bwy ydym ni—mae'n ganolog yn ein bywyd teuluol, mae'n ganolog i'n hiechyd a'n lles ac mae'n ganolog yn ein cymdeithas. Mae'n arwydd o'n hunaniaeth genedlaethol mewn sawl ffordd, fel y nodwyd eisoes y prynhawn yma. Pan ystyriwn beth yw bod yn Gymry, meddyliwn yn awtomatig am gig oen Cymru neu gig eidion Cymru, cocos neu fara lawr neu un o'r bwydydd eraill—y cawsiau rwy'n eu mwynhau ormod, efallai. Mae'n rhan bwysig o unrhyw gymuned ac unrhyw gymdeithas, a chredaf fod angen i ni yng Nghymru weithio'n galed i sicrhau bod bwyd nid yn unig yn cael lle canolog yn ein cymdeithas, ond yn cael lle canolog o ran pwy ydym ni. Mae angen inni gydnabod maint yr uchelgais, a chredaf fod gan y Bil hwn botensial i'w gyflawni.

Pan lansiais strategaeth fwyd—bron i ddegawd yn ôl bellach, rwy'n credu—roeddem yn cydnabod lle roeddem arni bryd hynny, a'r angen am newid sylfaenol yn y dulliau roeddem wedi'u hetifeddu ar y pryd. Ond pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau yn y Llywodraeth, mae angen herio'r penderfyniadau hynny hefyd, ac nid yw'r strategaeth a lansiais bryd hynny'n strategaeth y byddwn yn ei lansio heddiw. Yr hyn rwy'n ei hoffi am y weledigaeth sydd wrth wraidd y Bil hwn yw'r cyfle i greu rhywbeth fel Origin Green, sydd yn fy marn i wedi chwyldroi cynhyrchiant bwyd yn Iwerddon, lle mae cynaliadwyedd yn ganolog i'r hyn y mae Llywodraeth Iwerddon yn ceisio'i gyflawni, a lle mae'n gweithio i ddod â'r gadwyn gyflenwi a'r rhai ohonom sy'n ddefnyddwyr at ei gilydd. Mae'n dod â chynhyrchu bwyd at ei gilydd, mae'n dod â phrosesu bwyd at ei gilydd, mae'n dod â marchnata bwyd at ei gilydd, mae'n dod â manwerthu bwyd at ei gilydd, ac mae'n dod â'r rheini ohonom sy'n mwynhau'r cynhyrchion hynny a'r cynnyrch hwnnw at ein gilydd. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni allu ei wneud.

Un o'r pleserau mawr rwyf wedi'u cael yn ystod fy amser yma oedd ymuno ag ymgyrchoedd dan arweiniad fy nghyd-Aelodau. Credaf fod y gwaith y mae Jenny Rathbone wedi'i wneud ar gyfiawnder bwyd dros y blynyddoedd wedi arwain y ddadl ar fwyd yn y wlad hon a'i le yn ein cymdeithas. Roeddwn yn cytuno â phob gair a ddywedodd Jenny y prynhawn yma. Mae'r gwaith y mae Huw Irranca-Davies wedi'i wneud yn arwain y rhai ohonom sy'n aelodau o'r Blaid Gydweithredol wedi torri tir newydd unwaith eto drwy ddangos pwysigrwydd bwyd fel rhan o'n dull polisi. Clywais Aelodau'n dweud yn gynharach y dylem roi gwleidyddiaeth ein pleidiau o’r neilltu ar y materion hyn, ond gallwn gyflawni amcanion gwleidyddol ein pleidiau drwy hyn, pob un ohonom yn y Siambr hon, fel mae’n digwydd. Roedd cyfraniad Cefin Campbell yn drawiadol iawn, pan siaradodd am y gwahanol agweddau ar bolisi Plaid Cymru sydd wedi'u cynnwys yn y cynnig hwn. Wel, gallaf ddweud, fel aelod o'r Blaid Lafur ac fel aelod o'r Blaid Gydweithredol, fy mod yn teimlo pethau tebyg iawn. Gellir cyflawni'r gwaith rydym wedi'i wneud ar gynaliadwyedd, y gwaith y soniodd y Gweinidog Newid Hinsawdd amdano o'r COP dros yr wythnosau diwethaf, yn rhannol drwy rywfaint o'r ddeddfwriaeth hon, a'r catalydd ar gyfer newid y gall fod. Credaf y dylem fod yn gwneud hynny. Credaf y dylem fod yn ceisio herio'r hen ffyrdd o weithio, dylem fod yn dysgu gwersi o rannau eraill o'r byd, dylem fod yn dysgu gan ein cymdogion agosaf dros y dŵr am yr hyn y maent wedi gallu ei wneud, a chymhwyso hynny i'n cyd-destun ein hunain.

Hoffwn ddweud hyn wrth y Llywodraeth: mae'n bwysig fod yr Aelodau'n gallu cyflwyno deddfwriaeth yn y lle hwn, ac nad yw'r Llywodraeth yn ceisio mygu'r ddeddfwriaeth honno pan gynigir y ddeddfwriaeth honno gyntaf. Ers i bwerau deddfu sylfaenol gael eu trosglwyddo i’r lle hwn ddegawd yn ôl, unwaith yn unig y mae deddfwriaeth Aelod preifat wedi cyrraedd y llyfr statud, sef gwaith Kirsty Williams ar Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016. Roeddwn ar y pwyllgor ar y pryd, dan gadeiryddiaeth fedrus y Dirprwy Lywydd wrth gwrs, a gwelsom sut y gweithiodd y Gweinidog ar y pryd, Mark Drakeford, gyda Kirsty Williams i gyflwyno gwelliannau i'r ddeddfwriaeth er mwyn galluogi'r Llywodraeth i'w chefnogi a'i rhoi ar y llyfr statud. Yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrth y Llywodraeth heddiw yw bod honno'n wers y mae angen ei chymhwyso.

Os oes unrhyw feirniadaeth i'w gwneud o’r ddeddfwriaeth arfaethedig—ac mae’n ddigon posib y bydd—yr ymrwymiad a roddaf i Peter y prynhawn yma yw y byddaf yn pleidleisio drosti heddiw er mwyn galluogi i graffu ddigwydd. Nid wyf yn ymrwymo mwy na hynny am nad yw'r craffu hwnnw wedi digwydd, ac nid ydym wedi cael cyfle i drafod y ddeddfwriaeth. Mae angen cyfle arnom i’w thrafod, a’r hyn na allwn ei wneud yw trechu’r ddeddfwriaeth cyn cael cyfle i gael y sgwrs honno, i gael y ddadl honno, i gael y drafodaeth honno, ac yna i ffurfio barn ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidogion yn gweithio gyda Peter Fox i edrych ar y ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau ei bod yn addas at y diben.

16:35

Yna, bydd modd inni wneud penderfyniad ar y mater hwn maes o law. Diolch, Lywydd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn a fu'n drafodaeth hynod ddiddorol a phwysig iawn am ddyfodol y system fwyd yma yng Nghymru? Unwaith eto, hoffwn gofnodi fy niolch i bawb sydd wedi helpu i ddatblygu'r cynnig hwn. Bu'n sicr yn ymdrech tîm.

Mae'r ddadl hon, ar y cyfan, wedi bod yn gadarnhaol iawn ac wedi dangos pa mor effeithiol y gall y Siambr hon fod pan ydym yn gallu cyflwyno syniadau nad ydynt o reidrwydd yn bachu'r penawdau, ond cawsom gyfle i roi ystyriaeth ofalus i bethau sydd o ddifrif yn effeithio ar bob un ohonom, bob dydd. Fel y dywedodd Alun, mae'n ganolog i fywydau pawb yng Nghymru. Y system fwyd yw asgwrn cefn yr economi wledig, gan greu ffyniant a darparu swyddi. Mae'n helpu i arddangos y gorau o Gymru drwy allforio ein cynnyrch enwog, a chlywsom lawer o sôn am hynny heddiw hefyd. Mae'n helpu i leihau allyriadau carbon ac ymladd yn erbyn newid hinsawdd. Mae'n helpu i fwydo'r wlad, gwella iechyd a lles pobl, a rhoi'r platfform sydd ei angen arnynt i lwyddo.

Mae'n helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i'n plant a'n pobl ifanc, fel y clywsom gan Laura a Jenny Rathbone mewn perthynas â phwysigrwydd cael bwyd o ansawdd uchel yn ein hysgolion, a'r ffaith bod y cyfleoedd hynny yno, ac eto nid yw cymaint o'r cyrff a all wneud rhywbeth am hynny wedi llwyddo i'w wneud gan nad yw'n ymddangos bod nerth yno i wneud i'r penderfyniadau hynny ddigwydd, ac mae angen inni newid hynny. Yn syml, mae gan y sector bwyd ran sylfaenol i'w chwarae yn creu Cymru fwy cyfartal, iachach a gwyrddach, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands.

Hoffwn groesawu peth o'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud ar hyn, ac fel rwyf wedi'i ddweud bob amser, nid mater o geisio gweithio yn erbyn y Llywodraeth yw hyn. Weinidog, rwy'n gwybod eich bod yn cydnabod hynny. Mae'n ymwneud â sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd i wella'r cyfleoedd i Gymru. A gadewch inni beidio â thin-droi. Mae angen inni symud yn gyflym. Rydym angen system sy'n gweithio go iawn.

A gaf fi ddiolch i'r cyfranwyr? Jenny, fe godoch chi rai pwyntiau cryf iawn a diolch i chi am eich cefnogaeth. Mae'r pwyntiau ar labelu bwyd yn hollbwysig. Fel y dywedais yn gynharach, nid yw hyn yn ateb i bob dim—mae'n ddechrau proses. Dyma lle fydd angen inni weithio'n agos gyda'n gilydd. Fel y dywedais, mae angen inni weithio gyda'r holl Lywodraethau. Mae rhai pethau y tu hwnt i'n rheolaeth, felly mae angen inni ddylanwadu ar y Llywodraeth er mwyn newid pethau sy'n ddiffygiol.

Dyna pam fod y comisiwn mor bwysig. Nid wyf yn sôn am gomisiwn sy'n bogailsyllu drwy edrych ar strategaeth am flynyddoedd maith. Mae hwn yn gomisiwn a fyddai’n gwneud pethau ac yn gwneud i bethau ddigwydd gyda’r bobl iawn yno i lunio ac ychwanegu at rai o’r pethau hyn yr ystyrir eu bod yn ddiffygiol. Ond o ran y labeli, hoffwn eu gweld ar brydau bwyd pan fyddwch yn mynd i westy. Os ydych yn eistedd i gael pryd o fwyd, mae angen ichi wybod eich bod yn bwyta bwyd o Gymru. Mae angen ei labelu, ac mae cymaint o bethau y gallwn eu gwneud ynglŷn â hynny, ond mae gennym lawer i'w wneud i roi cig ar yr asgwrn, fel petai.

Cefin, diolch am eich cyfraniad. Rwy'n cydnabod eich bod chi a'ch plaid yn cefnogi llawer o'r elfennau. Rwy'n clywed eich negeseuon ac rwy'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth heddiw.

Alun, mae hwn yn gatalydd ar gyfer newid. Rydym wedi siarad o'r blaen am oren a gwyrdd a'r hyn sy'n digwydd yn Iwerddon, ac am fenter wych—sut y gallwn roi rhywfaint o'r gwersi a ddysgwyd o hynny ar waith yn yr hyn sydd ei angen ar ein system fwyd? Dyna sydd ei angen arnom mewn gwirionedd—y syniadau cydgysylltiedig hynny, y dysgu y gallwn ei ddwyn ynghyd drwy rannu ein profiadau a rhannu'r profiadau a welsom ledled y DU.

Rwy’n siomedig na allwch gefnogi’r Bil, Weinidog, ond diolch am eich ymwneud hyd yma a’ch gohebiaeth. Rwy'n ei werthfawrogi. Rwy’n cytuno bod y ddau ohonom, fel pob un ohonom yn y Siambr hon, yn rhannu nod tebyg o sicrhau dyfodol gwell i’r system fwyd yng Nghymru, ac rwy'n credu'n wirioneddol fod cyfle inni weithio gyda’n gilydd, gydag Aelodau ar draws y Siambr hon, i gyflawni hyn.

Weinidog, rwy'n gwybod eich bod o'r farn y gellid cyflawni'r holl bethau rwy'n eu hawgrymu heb ddeddfwriaeth, ond mae'n rhaid imi anghytuno, ac mae'n rhaid imi ofyn: os gall Llywodraeth yr Alban gyflwyno deddfwriaeth ar y mater hwn a bod Llywodraeth y DU hefyd yn datblygu deddfwriaeth ar hyn, pam na allwn wneud hynny yng Nghymru? Beth sy'n ei rwystro, ar wahân i ewyllys wleidyddol? Nid wyf yn dweud bod unrhyw beth o'i le ar y system sydd gennym yng Nghymru—mae rhai darnau da ynddi—ond mae angen y cyfarwyddyd cyfannol hwnnw arnom i ddwyn popeth ynghyd, a chredaf y byddai strategaeth fwyd Cymru yn gwneud hynny.

Rwy'n ymwybodol, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn brin o amser—[Torri ar draws.] Mae fy amser wedi dod i ben. Maddeuwch i mi, dwy eiliad. Ni fyddech yn herio eich plaid wleidyddol wrth bleidleisio o blaid y Bil hwn, ond byddech yn rhoi lles a llwyddiant Cymru yn y dyfodol yn gyntaf. Bydd peidio â chefnogi'r Bil hwn yn golygu y bernir ein bod wedi chwarae gwleidyddiaeth bleidiol yn hytrach na rhoi Cymru yn gyntaf. Bydd methiant i gefnogi'r Bil hwn yn bleidlais yn erbyn ffermwyr a chynhyrchwyr lleol yn ogystal ag iechyd a lles defnyddwyr a chymunedau ledled Cymru. Yn y pen draw, bydd methiant i gefnogi'r Bil yn cael ei ystyried yn gamgymeriad hanesyddol. Diolch, Aelodau. Diolch yn fawr, bawb.

16:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Cefnogi gwledydd incwm isel i reoli'r pandemig COVID-19

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar. 

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru ar gefnogi gwledydd incwm isel i reoli'r pandemig COVID-19. Galwaf ar Heledd Fychan i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7827 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod Cymru wedi ymrwymo, yn ôl y gyfraith, i weithredu fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

b) bod gwledydd incwm isel yn ysgwyddo'r baich uchaf o ganlyniadau iechyd ac economaidd pandemig COVID-19;

c) ymdrechion staff GIG Cymru i sicrhau bod gan Gymru un o'r rhaglenni cyflenwi brechlynnau mwyaf llwyddiannus yn fyd-eang.

2. Yn credu, gyda'r sefyllfa a'r profiad arweinyddiaeth hwn, fod cyfrifoldeb ar Gymru i rannu ei harbenigedd, ei gwybodaeth dechnegol a'i chyflenwadau meddygol gyda gwledydd incwm isel i gefnogi rhaglenni brechu a thriniaeth byd-eang.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnull byrddau iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac elusennau Cymru i nodi a darparu cymorth hirdymor i wledydd incwm isel i ddod â'r pandemig dan reolaeth ar lefel fyd-eang.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi cynlluniau i hepgor rheolau eiddo deallusol a mynnu bod gwybodaeth a thechnoleg brechlyn yn cael ei rhannu drwy gronfa mynediad at dechnoleg COVID-19 Sefydliad Iechyd y Byd, gan alluogi cynnydd mewn cynhyrchiant brechlynnau byd-eang a fydd yn achub bywydau. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Braint o'r mwyaf yw cael cyflwyno'r ddadl heddiw ar bwnc dwi'n gwybod y mae nifer o fy nghyd-Aelodau yn y Siambr hon hefyd yn teimlo'n angerddol amdano. Dim ond wythnos diwethaf, fe glywsom gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am yr amryw o brosiectau pwysig drwy'r rhaglen Cymru ac Affrica, a’i chefnogaeth hi i ymgyrch Brechlyn y Bobl. Rwyf yn gobeithio'n fawr felly, yn sgil y ddadl heddiw, y gallwn ni i gyd gyd-weithio ar draws y Siambr hon i sicrhau bod mwy yn cael ei wneud i ddod â'r pandemig hwn i ben, neu o leiaf dan reolaeth, a gwarchod cymunedau ledled y byd.

Mae gennym ni yng Nghymru gyfrifoldeb, fel gwlad incwm uchel, i gynorthwyo gyda darparu cymorth ariannol byd-eang, cyflenwadau meddygol, ac yn hanfodol, rhannu cyflenwadau o'r brechlyn. Mae hyn yn golygu darparu mwy o gymorth i'r gwledydd y mae gennym gysylltiadau â hwy eisoes, estyn allan at wledydd eraill sydd mewn angen, a phwyso ar Lywodraeth y DU i wneud yr hyn sy'n foesol gywir ac ailddosbarthu brechlynnau i'r man lle mae eu hangen ac ildio hawliau eiddo deallusol ar y brechlyn.

Mae cymaint o fuddion i rannu'r ddarpariaeth fel y nodwyd yn ymgyrch Brechlyn y Bobl; nid yn unig ei fod yn anghenraid meddygol i achub bywydau ac ymladd COVID-19, ond mae hefyd yn rheidrwydd moesol ac yn flaenoriaeth economaidd. Ers dechrau'r pandemig, mae'n ofnadwy mai 0.7 y cant yn unig o'r holl ddosau o'r brechlynnau a weithgynhyrchwyd ledled y byd sydd wedi mynd i wledydd incwm isel. Ar yr un pryd, mae bron i 50 y cant o'r brechlynnau a werthwyd gan bedwar o'r gwneuthurwyr brechlyn COVID-19 mwyaf: AstraZeneca, Pfizer, Moderna, a Johnson & Johnson wedi'u dosbarthu i wledydd incwm uchel. Serch hynny, 16 y cant yn unig o boblogaeth y byd sy'n byw yn y gwledydd incwm uchel hyn. Gyda'i gilydd, mae AstraZeneca, Pfizer, Moderna, a Johnson & Johnson wedi dosbarthu 47 gwaith yn fwy o ddosau i wledydd incwm uchel nag i wledydd incwm isel. Mae dosbarthu brechlynnau COVID-19 yn seiliedig ar gyfoeth neu genedligrwydd, yn hytrach nag ar angen, yn peryglu bywydau, yn atal adferiad economaidd, ac yn ymestyn hyd y pandemig.

Mae Cynghrair Brechlyn y Bobl wedi tynnu sylw at y pum cam canlynol y mae'n rhaid eu cymryd er mwyn darparu brechlyn y bobl yn llwyddiannus, sef: yr angen i frechu o leiaf 60 y cant o'r bobl ar y blaned; cael gwared ar hawliau eiddo deallusol ar frechlynnau a gwybodaeth am COVID-19; buddsoddi symiau mawr o arian cyhoeddus mewn gweithgynhyrchu mwy o ddosau o'r brechlynnau ar gyfer pob rhan o'r byd; darparu brechlynnau, triniaethau a phrofion yn rhad ac am ddim; a chynyddu cymorth ariannol byd-eang i'r gwaith o ehangu a gwella systemau iechyd y cyhoedd. Mae ymestyn hyd y pandemig, heb frechlyn y bobl, yn parhau i beryglu iechyd y cyhoedd ym mhobman, tra'n bygwth yr economi fyd-eang a safonau byw pobl. Gadewch inni sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan fel gwlad sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang drwy wneud popeth a allwn i gynyddu cynhyrchiant y brechlyn er mwyn achub bywydau pobl ym mhob rhan o'r byd. Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau eraill i'r ddadl heddiw. Diolch.

16:50

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Russell George i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth y DU wedi darparu £548 miliwn i ymrwymiad marchnad COVAX, sy'n darparu 1.8 biliwn o frechlynnau i hyd at 92 o wledydd er mwyn sicrhau mynediad teg byd-eang i frechlynnau COVID-19.

Yn cydnabod, fel rhan o Lywyddiaeth G7 y DU, fod Llywodraeth y DU wedi hyrwyddo mynediad teg i frechlynnau, therapiwteg a diagnosteg ac wedi sicrhau ymrwymiad AstraZeneca i ddosbarthu ei frechlyn ar sail ddi-elw.

Yn cydnabod bod rhwydwaith Llywodraeth y DU o gynghorwyr iechyd mewn gwledydd perthnasol yn cefnogi llywodraethau gwledydd hynny i dderbyn a darparu brechlynnau a bydd yn rhannu 100 miliwn dos ychwanegol erbyn mis Mehefin 2022.  

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig y gwelliant y prynhawn yma yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. A gaf fi ddiolch i Heledd a Phlaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma? Wrth edrych ar gynnig Plaid Cymru, roeddwn yn aelod o'r pwyllgor amgylchedd a fu’n craffu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a deddfwriaeth dda iawn oedd honno hefyd. Wrth gwrs, rwy’n croesawu rhannau helaeth o’r cynnig heddiw gan Blaid Cymru, yn enwedig yr ymdrechion, wrth gwrs, o ran cefnogi GIG Cymru. Gwelsom y brechlyn yn cael ei ddarparu'n wych ledled y DU, yma yng Nghymru, ac yn enwedig yn fy mwrdd iechyd fy hun, ym Mhowys, sydd wedi arwain y ffordd o ran y lefelau brechu fesul poblogaeth o gymharu â Chymru, a siroedd ar draws Lloegr hefyd. Felly, wrth gwrs, rydym yn diolch yn arbennig i'n staff a'n gweithlu gwych yn y GIG am bopeth a wnânt.

Credaf y byddai'n ddefnyddiol y prynhawn yma, yn y ddadl hon—ac mae'n ddadl dda iawn—inni dynnu sylw at ambell faes arall hefyd. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod £548 miliwn wedi'i roi i ymrwymiad marchnad ymlaen llaw COVAX, sy'n darparu cyfanswm o 1.8 biliwn o frechlynnau i 92 o wledydd—daw hynny gan Lywodraeth y DU ar ran y DU. Credaf fod hynny, wrth gwrs, yn gymorth enfawr i sicrhau mynediad teg ledled y byd at frechlynnau COVID-19. Ond nid ydym yn ddiogel, onid ydym, tan y bydd pawb yn ddiogel? Rwyf wedi clywed hynny mor aml, ac mae mor wir. Felly, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyfrannu at yr ymdrech i ddiogelu gwledydd eraill, addewid gan Lywodraeth y DU i roi 100 miliwn dos erbyn mis Mehefin 2022, gydag 80 y cant yn cael eu dosbarthu drwy COVAX a chredaf y bydd hynny'n hwb enfawr i'r gwledydd mwyaf agored i niwed.

Mae gan y G7, wrth gwrs, gyfrifoldeb mawr i weithredu hefyd. Mae'r pandemig, wedi'r cyfan, yn broblem fyd-eang. Felly, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth y DU wedi defnyddio ei llywyddiaeth mewn ffordd gadarnhaol drwy hyrwyddo mynediad teg at frechlynnau, ac yn wir, drwy sicrhau'r ymrwymiad gan AstraZeneca i ddosbarthu eu brechlyn ar sail ddi-elw. Credaf fod cael un dull iechyd wedi'i nodi gan y DU a'r G7 yn gwbl hanfodol i oroesi'r pandemig hwn, gwella integreiddio a chryfhau mesurau atal a pharodrwydd ar gyfer y pandemig er mwyn diogelu iechyd pob enaid byw. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â darparu brechlynnau yn unig i'r gwledydd hynny; mae hefyd yn ymwneud â darparu arbenigedd a chyngor. Felly, rwy'n falch ein bod ni, y DU, hefyd yn rhoi cymorth yn hynny o beth er mwyn sicrhau nid yn unig fod brechlynnau'n cael eu darparu i wledydd eraill sydd mewn sefyllfa wahanol i ni, ond bod y Llywodraethau hynny'n cael cymorth i ddarparu'r brechlyn hefyd.

Mae Rhwydwaith Brechlynnau'r DU yn dod â diwydiant, y byd academaidd a chyrff cyllido perthnasol at ei gilydd i dargedu buddsoddiad mewn brechlynnau penodol a thechnoleg brechlynnau a chlefydau heintus sydd â'r potensial i achosi epidemig. Felly, credaf fod gan y DU—gyda Chymru'n rhan o'r DU honno—mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo ynglŷn â chyfraniad ein gwlad. Nid yw hynny'n golygu na ellir gwneud mwy wrth gwrs, gan y gellir gwneud mwy, ond yn sicr, credaf ei bod yn iawn inni dynnu sylw at yr hyn y mae ein gwlad wedi'i wneud o ran ei hymateb byd-eang. Ond fel rwy'n dweud, mae mwy i'w wneud. Ond mae'n rhaid inni gofio’r ymateb y mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud ar ran gwledydd y DU hefyd. Diolch.

Roeddwn yn siomedig iawn o glywed gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y datganiad a wnaeth—yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, neu’r wythnos cynt, ond yn ddiweddar beth bynnag—nad oedd Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud unrhyw ymrwymiadau mewn perthynas â lle mae'r brechlynnau a roddwyd gennym wedi mynd. Ond rwyf wedi gallu darganfod ein bod newydd anfon—mae Llywodraeth y DU wedi anfon—10 miliwn dos i COVAX ddiwedd y mis diwethaf, ac mae disgwyl iddynt anfon 10 miliwn dos arall yn ystod yr wythnosau nesaf. Gyda'r rhai sydd eisoes wedi'u danfon, mae hynny'n 30.6 miliwn dos.

Yn amlwg, pan fyddwch yn cymharu hynny â phoblogaeth Affrica, 1.4 biliwn, nid yw'n ddim mwy na diferyn bach yn y môr. Serch hynny, rydym yn wlad fach, ac mae angen inni sicrhau bod pob gwlad yn y byd datblygedig yn gwneud eu cyfraniad teg i'r gwledydd sy'n datblygu nad oes ganddynt allu i gynhyrchu eu brechlyn eu hunain yn y rhan fwyaf o achosion. Yn amlwg, mae llawer o'r cwmnïau fferyllol yn amharod i roi'r fformiwla iddynt i'w galluogi i wneud hynny oherwydd, yn y pen draw, pan fo gennych y fformiwla, ni all fod mor anodd â hynny i'w gynhyrchu.

Felly, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan er mwyn cynyddu nifer y dosau sydd ar gael i wledydd sydd wedi'u llethu'n llwyr gan hyn. At ei gilydd, mae nifer y bobl sydd wedi cael eu brechu yn warthus o fach. Serch hynny, rydym yn dal i ddisgwyl i'r gweithwyr iechyd yn y gwledydd hynny barhau i nyrsio pobl sydd wedi dal COVID heb y diogelwch y gallwch ei gael gan y brechlyn. Felly, nid oes yr un ohonom yn ddiogel tan y bydd pawb wedi cael eu brechu, oherwydd fel arall, bydd hyn yn gysgod dros fywydau pob un ohonom, ein holl weithgarwch economaidd, a llesiant pawb am yr holl amser hwnnw. Felly, mae'n fater hynod bwysig.

Bydd angen inni helpu mewn sawl ffordd arall hefyd. Y ffyrdd y mae Cymru wedi chwarae ei rhan i sicrhau bod newid teg yn digwydd wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd—. Mae'n rhaid inni ddod o hyd i'r arian rydym wedi'i addo i wledydd sy'n datblygu, ac fe wnaethom addo £10 biliwn y flwyddyn iddynt yn ôl yn 2009, ac nid ydym wedi llwyddo i ddarparu'r rhan fwyaf ohono tan nawr. Nid yw hynny'n ddigon da. Rydym yn byw mewn byd cydgysylltiedig. Mae'n rhaid inni sicrhau bod pawb yn chwarae eu rhan, a bod y rheini sy'n lleiaf abl i helpu eu hunain yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt gan y rheini ohonom sydd yn y sefyllfa freintiedig rydym ynddi.

16:55

Rydym wedi clywed yr ymadrodd, 'Nid ydym yn ddiogel hyd nes y bydd pob un ohonom yn ddiogel' sawl gwaith y prynhawn yma. Mae hynny'n wir yma yng Nghymru a'r DU ac yn fyd-eang. Credaf fod pob un ohonom yn cytuno y dylem wneud popeth a allwn i sicrhau bod brechlynnau'n cael eu dosbarthu'n deg ym mhob cwr o'r byd.

Hoffwn drafod dwy elfen. Y gyntaf yw bod COVID-19 wedi llyncu cymaint o wahanol agweddau ar fywyd arferol, yn enwedig i'n GIG. Tra bo Cymru'n parhau i arwain yr ymdrechion i frechu rhag COVID, rydym hefyd yn brechu rhag y ffliw, ac mae plant yn cael y brechiadau rheolaidd ac ati. Ond ni ellir dweud yr un peth am wledydd yn hemisffer y de.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi rhybuddio y gallai fod diffyg o hyd at 2 biliwn o chwistrelli yn 2022. Nid yn unig y bydd hyn yn effeithio ar y ddarpariaeth o frechlynnau COVID, bydd hefyd yn effeithio ar frechiadau rheolaidd, yn enwedig i blant. Maent hefyd yn rhybuddio y gallai rhai gwledydd gymryd risg ac ailddefnyddio chwistrelli er mwyn cynnal rhaglenni brechu. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod ni, gan weithio gydag eraill, yn cyfrannu at ymdrech fyd-eang i sicrhau bod y gwaith o gyflawni rhaglenni iechyd cyhoeddus yn parhau ledled y byd. Mae hynny o fudd i bawb ohonom.

Mae'r ail bwynt yn ymwneud â gwelliant y Ceidwadwyr, ac mae'n ymwneud â meddwl yn hirdymor. Mae'r pandemig COVID-19 wedi gwrthdroi cynnydd datblygiadol yn llawer o wledydd tlotaf y byd, gan wthio 97 miliwn o bobl ychwanegol i mewn i dlodi eithafol. Felly, er bod yn rhaid i frechu teg fod yn sylfaen i'n brwydr yn erbyn bygythiad uniongyrchol COVID-19, mae'n rhaid inni ganolbwyntio hefyd ar ailgodi ac adferiad hirdymor wedi'r pandemig ar raddfa fyd-eang.

Felly, nodaf yr ymyriadau gan Lywodraeth y DU y mae'r gwelliant yn eu hamlinellu, ond mae'r Ceidwadwyr yn rhoi gydag un llaw ac yn cymryd yn ôl gyda'r llall. Mae eu toriadau anghyfrifol ac anystyriol i gymorth tramor wedi tanseilio a byddant yn parhau i danseilio ymdrechion i liniaru yn erbyn y niwed hirdymor a achoswyd gan y pandemig. Felly, mae gweithredu ar adeg o argyfwng yn un peth, ond mae'r gwahaniaeth i'w weld pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd yn hirdymor i greu byd tecach a mwy diogel. Felly, rwy'n gobeithio y gall y Senedd gefnogi’r cynnig hwn yma heddiw, ac rwy'n apelio ar Lywodraeth Cymru i barhau i ddadlau dros weld Cymru a’r Deyrnas Unedig yn cyfrannu tuag at sicrhau diogelwch a ffyniant byd-eang. Diolch yn fawr iawn.

17:00

Dwi’n falch iawn o gael cyfle i ddweud ychydig o eiriau yn y ddadl yma. Mae’n bwysig ein bod ni’n trafod hyn, a dwi’n meddwl ei bod hi’n annatod, mewn ffordd, fod pobl wedi edrych ar ein lles ein hunain dros y flwyddyn a naw mis diwethaf. Ac wrth hynny, mi allwn ni fod yn cyfeirio atom ni’n hunain fel gwlad, fel cymunedau, fel gweithwyr allweddol, fel teuluoedd neu fel unigolion hyd yn oed, ond un o hanfodion pandemig, fel mae’r enw yn ei awgrymu, ydy bod ei effaith o yn eang iawn, iawn, ac rydym ni’n sôn am rywbeth sydd wedi cael ei deimlo dros y byd i gyd. Mae’n bwysig, dwi’n meddwl, ein bod ni'n edrych rŵan a gofyn, tra rydym ni’n dal, wrth gwrs, yn ceisio gwneud popeth i edrych ar ein holau ni yn fan hyn, os oes yna fwy y gallwn ni fod yn ei wneud i helpu eraill sy’n dioddef. Arbed bywydau ydy’r nod yn fan hyn.

Mae anghyfartaledd mewn cyflenwad brechiadau ar draws y byd wedi ac yn dal i arwain at niferoedd uchel o farwolaethau diangen, ac yn enwedig mewn gwledydd incwm canolig neu isel y mae hynny yn wir. Mae llawer ohonyn nhw wedi gweld ton ar ôl ton yn sgubo drwy eu cymunedau nhw a heb allu cael mynediad nid yn unig at frechiadau, ond at bethau fel gwybodaeth iechyd, at brofion, at ocsigen, at gyfarpar diogelu personol a hyd yn oed hyfforddiant ar sut i ddefnyddio PPE. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi adrodd yn ddiweddar mai dim ond 14.2 y cant—un o bob saith—o heintiadau sy’n cael eu canfod yn Affrica, ac mae’r math yna o ystadegyn, dwi’n meddwl, yn dangos pam mae cefnogaeth Cymru i ymgyrch y People’s Vaccine neu Brechiad y Bobl mor, mor bwysig.

Fel dwi’n dweud, pandemig ydy o, rhywbeth sy’n cael effaith ar boblogaeth eang—yn yr achos yma, y byd i gyd—ac mae gwyddonwyr wedi rhybuddio o’r dechrau mai dim ond ymateb byd eang a all fod yn effeithiol wrth drio ymateb i’r pandemig yma a chael rheolaeth arno fo. Felly, mae brechiad yn gorfod cael ei weld fel rhywbeth sy’n dod â budd byd eang. Fel sydd wedi cael ei ddweud sawl tro, allwn ni ddim dweud bod unrhyw un yn ddiogel tan mae pawb yn ddiogel. A drwy gyfyngu ar gyflenwad y brechiadau mewn rhai gwledydd, rydym ni’n ymestyn oes y pandemig yma, o bosib, ac rydym ni’n creu cyfleon i amrywiolion newydd ddatblygu, yn ychwanegu at y bygythiad rydym ni’n ei wynebu. Ac mae cynghrair Brechiad y Bobl yn ofni y gallai methu â chynyddu'r ganran sy’n cael eu brechu yn fyd eang olygu bod brechiadau yn y gwledydd mwy cyfoethog, sy’n eu rhoi nhw’n eang iawn i’w pobl, yn mynd yn aneffeithiol mewn cyn lleied â blwyddyn. Felly, ystyriwch hynny.

Mi oedd yna ymateb gwyddonol rhyfeddol, wrth gwrs, i’r pandemig yma. Mi wnaeth ymchwilwyr yn y sectorau meddygol a fferyllol ymateb mewn ffordd ddigynsail. Maen nhw'n haeddu pob clod am hynny. Ond, wrth gwrs, pan ydych chi’n sôn am rai o gwmnïau pharma mwyaf y byd, allwn ni ddim anwybyddu’r ffaith bod hyn wedi creu cyfleon economaidd mawr a digynsail hefyd, ac mae gen i ofn bod y cwmnïau pharma wedi cymryd y camau arferol i warchod eu buddiannau eu hunain drwy, er enghraifft, wrthod rhannu eu gwybodaeth a’u heiddo deallusol efo’r COVID-19 Technology Access Pool yn Sefydliad Iechyd y Byd. Mae ganddyn nhw’r grym i gynnal prisiau drwy reoli’n ofalus faint sy’n cael ei gynhyrchu, a beth sydd gennym ni ydy rhwystrau i ganiatáu i wledydd incwm canolig ac isel gynhyrchu eu brechiadau eu hunain. Y cyfiawnhad, fel arfer, dros ymddwyn fel yma, ydy bod cwmnïau fferyllol mawr, ac yn ddealladwy, wrth gwrs, yn gorfod adennill y buddsoddiad enfawr maen nhw'n ei roi i mewn i ddatblygu meddyginiaethau newydd. Ond cofiwch yn yr achos yma gymaint o gyfran o'r gost datblygu sydd wedi dod o goffrau cyhoeddus. Dwi'n meddwl bod rhywbeth fel 97.6 y cant o'r arian i ddatblygu brechiad AstraZeneca wedi dod o ffynonellau cyhoeddus neu philanthropic, ac eto roedden ni'n gweld yn y dyddiadau diwethaf y cwmni yna'n dweud eu bod nhw'n tynnu'n ôl o'r addewid i weithredu mewn ffordd nid er elw. Ac er eu bod nhw'n dweud y bydd y gwledydd tlotaf yn dal i gael eu trin fel yna, mae yna, dwi'n meddwl, yn ôl Oxfam, 75 o wledydd incwm canolig sydd ddim yn rhan o'r cytundeb yna. Felly, gadewch imi gloi fel hyn, drwy awgrymu, os oes gennym ni frechiad wedi cael ei ddatblygu a'i dalu amdano fo gan y bobl, fod yn rhaid iddo fo weithio ar ran y bobl, a hynny yn fyd-eang.

17:05

Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr heddiw fel ffordd i Gymru a'r Senedd gydnabod ein bod yn rhan o'r gymuned fyd-eang, a bod y gymuned fyd-eang yn wynebu her aruthrol wrth ymdopi â'r pandemig. Nid yw COVID-19 yn cydnabod unrhyw ffiniau rhwng gwledydd. Mae'n brofiad y mae'r byd yn mynd drwyddo ar y cyd ar hyn o bryd yn anffodus, ac mae angen ymateb iddo yn unedig ac ar y cyd. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y ddadl hon heddiw. Rydym wedi dangos llawer iawn o gyfrifoldeb ac ymgysylltiad rhyngwladol drwy, er enghraifft, ein rhaglen ar gyfer Affrica, ac mae sawl agwedd ar honno'n gysylltiedig ag iechyd. Rydym wedi darparu clinigau iechyd mewn gwledydd yn Affrica Is-Sahara; rydym wedi cael llawer o gyfnewid rhwng meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Mae wedi bod yn wych gweld hynny'n digwydd, ac rwy'n credu ei fod yn fuddiol iawn i ni ein hunain a'r gwledydd eraill dan sylw.

Yn amlwg, mae'r pandemig yn her bwysig i'r systemau iechyd rydym wedi helpu i'w datblygu a'u cefnogi, a rhan hanfodol o ymdopi â'r pandemig yw'r brechlyn. Gwyddom pa mor bwysig a buddiol y bu'r brechlyn i Gymru a'r DU a gwledydd eraill lle cyflwynir y brechlyn yn effeithiol ac yn helaeth, ond yn anffodus, nid dyna'r sefyllfa mewn llawer o wledydd sydd â systemau iechyd llai datblygedig ac economïau llai cryf a chadarn. Felly, fel rhan o'n rhwymedigaethau rhyngwladol, drwy'r rhaglen ar gyfer Affrica ac fel arall, credaf y dylai Cymru chwarae rhan yn dadlau'r achos a helpu'r gwledydd eraill hynny i gael rhaglenni brechu effeithiol.

Yn fy ardal i, Ddirprwy Lywydd, mae gennym Love Zimbabwe, sefydliad gwych sy'n meithrin cysylltiadau rhwng Cymru a Zimbabwe. Cynhaliwyd ymweliadau yn ystod y pandemig—yr haf diwethaf, er enghraifft. Mae Love Zimbabwe yn dweud wrthyf fod llawer o broblemau'n codi, fel y byddech yn ei ddisgwyl, wrth fynd ati i ymdrin yn effeithiol â'r pandemig yn Zimbabwe. Mae profion llif unffordd, er enghraifft, yn costio tua £25 i'w cynnal, ac mae'n amlwg nad yw llawer o bobl yn gallu fforddio hynny, sy'n ei gwneud yn anodd asesu nifer yr achosion a graddau COVID-19 yn y wlad honno, gan greu problemau mawr wrth i'r system iechyd gynllunio ymateb digonol. Hefyd, er bod brechu'n digwydd, nid yw'r mwyafrif llethol o'r boblogaeth o 15 miliwn wedi'u brechu, a'r brechlyn a ddefnyddir yw'r un Tsieineaidd, nad yw'n cael ei gydnabod gan Lywodraeth y DU. Felly, mae hynny'n creu problemau, oherwydd, er nad yw Zimbabwe bellach ar y rhestr goch o wledydd Llywodraeth y DU mewn perthynas â COVID, mae'r ffaith bod y brechlyn Tsieineaidd hwnnw'n cael ei ddefnyddio yn golygu bod problemau gyda chwarantin a phrofion cyn gadael ar gyfer teithio o Zimbabwe i'r DU. Mae hynny'n creu llawer o oblygiadau i boblogaeth Zimbabwe ac wrth gwrs, i'r ffordd yr ymgysylltwn â hwy drwy Love Zimbabwe a grwpiau a sefydliadau eraill. 

Felly, rwy'n falch iawn fod y ddadl hon yn digwydd heddiw fel y gallwn gydnabod a deall y materion hyn. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn cryfhau ein llais yn awr yn yr ymgyrch i sicrhau bod brechu'n digwydd yn effeithiol mewn gwledydd ledled y byd, ac y byddwn yn gwneud yr hyn a allwn yn fwy uniongyrchol mewn perthynas â'n rhaglen ar gyfer Affrica, a'n hymdrechion eraill, i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldeb fel rhan o'r byd ffyniannus a sefydlog hwnnw, a deall pa mor ffodus rydym i fod yn y sefyllfa honno yma yng Nghymru.

17:10

Mae cyfrifoldeb yn greiddiol i'r ddadl hon—ie, safbwynt Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, ond yn ddyfnach na hynny, yr rwy'n ei olygu yw'r ymdeimlad sydd wedi bod gyda ni drwy gydol y pandemig fod y camau a gymerwn yn arwain at ganlyniadau nid yn unig i ni ein hunain ond i bawb o'n cwmpas. Rywsut, nid yw'r neges honno wedi gadael ei hargraff ar arweinwyr a Llywodraethau byd-eang. Maent yn parhau i weithredu fel pe na bai'r hyn sy'n digwydd y tu hwnt i'n ffiniau yn cael fawr o effaith ar ein sefyllfa ansicr ein hunain ac yn cau eu llygaid i'r ffaith, os yw'r feirws yn lledaenu yn unrhyw le, na fydd unman yn ddiogel. Ond mae cyfnodau pandemig yn gyfnodau o eithafion ac ni fydd torri corneli'n mynd â chi'n bell iawn.

Mae ein dadl heddiw yn ymwneud â mwy na thegwch mewn perthynas â dosbarthu brechlynnau i wledydd tlotach y byd, mae'n ymwneud â synnwyr cyffredin, oherwydd mewn pandemig byd-eang, bydd y camau y mae pawb ohonom wedi'u cymryd ers 20 mis i gadw ein hunain a theuluoedd a ffrindiau'n ddiogel i gyd yn ofer os bydd y feirws yn parhau i ledaenu mewn gwledydd lle nad oes ymwrthedd wedi datblygu drwy frechlynnau, gan ganiatáu i COVID newid a dod yn fwy marwol byth. Hyd yn oed os edrychwn ar y mater drwy brism hunan-les yn unig, mae'n gwneud synnwyr i ddosbarthu brechlynnau'n deg ar draws y byd, a pheidio â'u pentyrru a blaenoriaethu ein diogelwch ein hunain, oherwydd ni fydd neb yn ddiogel hyd nes y caiff pawb y sicrwydd hwnnw.

Felly, beth sy'n atal hynny rhag digwydd? Yn syml, Ddirprwy Lywydd, trachwant corfforaethol. Mae llywodraethau hemisffer y gogledd yn caniatáu i'r cwmnïau fferyllol mawr sathru ar y ddynoliaeth sy'n ein huno wrth geisio gwneud elw, ac mae'r un anghydraddoldebau a amlygwyd gan y pandemig yn dyfnhau yn hytrach na'u lleihau. Mae Moderna, BioNTech a Pfizer yn gweld elw anferthol i'w cyfranddalwyr oherwydd bod ganddynt fonopolïau ar batentau. Gadewch i ni edrych ar hynny: yr elw y maent yn ei weld, yr amcangyfrifir ei fod mor uchel â 69 y cant, dyna'r elw y maent yn ei wneud o gynnyrch a oedd i fod i achub bywydau pobl. Mae'r elw hwnnw'n fwy am mai hwy yn unig sydd wedi cael caniatâd i gynhyrchu'r brechlynnau. Mae trachwant a rhyfyg wedi sicrhau bod y cwmnïau mawr yn mynd yn gyfoethocach ar draul amlwg tlodion y byd. Fel y nododd Dinah Fuentesfina o ActionAid International:

'Rydym yn creu biliwnyddion brechlyn ond yn methu rhoi brechlyn i biliynau o bobl sydd mewn angen dybryd.'

Y ddeuoliaeth hyll honno yw natur bwystfil cyfalafiaeth ddilyffethair, y grechwen nodweddiadol ar ei wyneb a'r cyfarthiad yn ei frathiad sy'n golygu, er mwyn i'r cyfoethog fynd yn gyfoethocach, fod yn rhaid i'r tlawd ddioddef. Ni fyddai wedi bod yn ddigon i'r cwmnïau hyn gael hawl cyntaf ar rysáit y brechlyn, maent wedi eithrio eraill rhag eu datblygu.

Ac mae Llywodraethau hemisffer y gogledd hefyd wedi ymddwyn yn warthus. Nid archebu'r sypiau cyntaf o frechlynnau'n unig a wnaethom; rydym wedi gorarchebu'n drychinebus. Gallai o leiaf 100 miliwn o frechlynnau gyrraedd pen eu hoes heb eu defnyddio yng ngwledydd y G7 yn 2021. Yn ôl y sôn, mae'r DU yn eistedd ar hyd at 210 miliwn o frechlynnau dros ben, ac mae cais rhyddid gwybodaeth diweddar yn awgrymu bod mwy na 600,000 dos o'r brechlyn wedi'u dinistrio yn y DU ym mis Awst 2021—wedi'u dinistrio. Gobaith biliynau o bobl wedi'i daflu allan fel sbwriel. Mae'n swnio fel moeswers hunllefus ein bod wedi cyrraedd moment yn hanes y ddynoliaeth lle mae gennym allu gwyddonol i greu'r fformiwlâu hyn, ond eu bod wedi'u dal yn ôl gan hunanoldeb a thrachwant. Fe fu alcemyddion yn chwilio am ganrifoedd am fformiwla hud a fyddai'n troi metel sylfaenol yn aur, ond heddiw rydym wedi canfod y gwrthwyneb, a throi serwm bywhaol y brechlynnau yn elifiant neu'n garthion a arllwysir i lawr y draeniau.

Mae Dinah Fuentesfina wedi tynnu sylw hefyd at y ffaith, er bod cannoedd o filiynau o bobl wedi'u heintio gan y feirws a bod mwy na 5 biliwn o bobl—5 miliwn o bobl, maddeuwch i mi—wedi marw,

'mae o leiaf naw biliwnydd newydd wedi'u creu diolch i COVID.'

Ddirprwy Lywydd, mae'r byd wedi torri drwy rwystrau gwyddonol yn y pandemig hwn. Anghydraddoldeb yw'r rhwystr terfynol sy'n bygwth baglu ymdrechion misoedd a miliynau. Rydym yn gwybod beth a ddylai ddigwydd. Dylid ystyried brechlynnau yn nwyddau cyhoeddus byd-eang, nid eu rhoi dan glo a'u storio hyd nes eu bod wedi mynd heibio i'w hoes ddefnyddiol. Dylid dileu hawliau eiddo deallusol, hepgor patentau a rhannu technoleg brechu. Gadewch inni wneud yr hyn sy'n iawn tra bod gennym amser.

17:15

Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon ar gyfer y prynhawn yma ac am y cyfraniadau a glywsom hyd yma heddiw. Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'u safbwynt. Ac wedi'r cyfan, fel y soniodd Jane Dodds, nid oes yr un ohonom yn ddiogel hyd nes y bydd pob un ohonom yn ddiogel. Fodd bynnag, mae'r dull y maent wedi'i gyflwyno ychydig yn rhy simplistig, ychydig yn rhy naïf ac ychydig bach yn haerllug o ystyried bod Plaid Cymru, ychydig wythnosau yn ôl, yn argymell brechu pob plentyn er bod Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell yn erbyn hynny.

Beth bynnag, mae'r rhaglen frechu yn llwyddiant heb ei ail. Aethom o sero dos ychydig dros flwyddyn yn ôl i fod ar y trywydd iawn i roi 12 biliwn dos o frechlyn erbyn diwedd y flwyddyn, a 24 biliwn dos erbyn canol y flwyddyn nesaf. Ymhen ychydig fisoedd yn unig, bydd y cyflenwad o frechlynnau yn llawer uwch na'r galw, oherwydd mentrodd y DU ar hap ac archebu brechlynnau cyn ein bod yn gwybod y byddent yn gweithio. Rydym ar y blaen yn ein rhaglenni brechu. Rydym yn brechu ein poblogaeth yn gyflym, ac eto rydym yn dal i ddarparu brechlynnau i weddill y byd.

Y DU yw un o'r cyfranwyr mwyaf i gynllun COVAX. Gweithredir COVAX gan y gynghrair fyd-eang ar gyfer brechlynnau ac imiwneiddio, neu Gavi yn fyr. Ac mae'r DU yn un o chwe chyfrannwr gwreiddiol Gavi ac yn un o ddim ond dwy wlad sy'n cyfrannu at Gavi drwy bob un o'r pedair sianel ariannu. Mae ein gwlad wedi darparu bron i £2.2 biliwn ar gyfer y cynllun. Fel y noda ein gwelliant, defnyddiwyd ein llywyddiaeth o'r G7 i wthio am fynediad teg at frechlynnau, therapiwteg a diagnosteg, a sicrhau ymrwymiad AstraZeneca i ddosbarthu eu brechlyn ar sail ddi-elw. Mae cwmnïau fferyllol a biotechnoleg eraill yn dilyn eu hesiampl. Mae Moderna wedi cytuno i roi 0.5 biliwn dos o'u brechlyn COVID i COVAX. Ddoe ddiwethaf, cytunodd Pfizer i drwyddedu'r cyffuriau gwrthfeirysol y mae wedi'u datblygu i wledydd tlawd yn rhydd o freindaliadau. Mae'r cwmnïau fferyllol a biotechnoleg hyn wedi buddsoddi biliynau i ddatblygu'r cyffuriau, ac eto maent yn eu rhoi am ddim am eu bod yn deall eu rhwymedigaeth foesol i helpu'r ddynoliaeth yn ei hawr o angen.

Mae'r rhai sy'n galw arnynt i hepgor eu hawliau eiddo deallusol yn naïf. Nid ar gyfer COVID y datblygwyd ac y defnyddiwyd y fiotechnoleg mewn llawer o'r brechlynnau a'r therapiwteg, ond fe'i haddaswyd i ymladd COVID. A phan fydd y pandemig ar ben, caiff ei defnyddio i ddatblygu brechlynnau a chyffuriau eraill sy'n achub bywydau. Pam y byddai cwmni'n rhoi technoleg a ddatblygodd ar gost fawr am ddim i eraill, yn enwedig pan nad oes angen? Mae'r sector fferyllol a biotechnoleg wedi cynyddu'r ymdrechion i ymladd COVID yn aruthrol a chyn bo hir byddant yn cynhyrchu digon o frechlynnau i ddiogelu pob person ar y Ddaear sawl gwaith drosodd.

Mae Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain, drwy weithio law yn llaw â chyrff tebyg ledled y byd, wedi mabwysiadu cynllun pum pwynt i sicrhau bod gweithgynhyrchwyr, llywodraethau a sefydliadau anllywodraethol yn cydweithio i roi camau brys ar waith i fynd i'r afael ag annhegwch brechu. Maent wedi canolbwyntio ar gynyddu rhannu dosau'n gyfrifol a gwneud y mwyaf o gynhyrchiant heb beryglu ansawdd na diogelwch. Dyma'r ffordd orau o sicrhau ein bod i gyd yn cael ein diogelu rhag y feirws COVID-19, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant. Diolch yn fawr. 

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod heddiw. Rwyf bob amser yn awyddus i fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r rheini ar draws y GIG yng Nghymru a'n gwasanaethau cyhoeddus am ddarparu ein rhaglen frechu fwyaf llwyddiannus yn fyd-eang fel y cyfeirir ati yn y cynnig. Fodd bynnag, mae'n amlwg nad yw pawb o gwmpas y byd wedi bod yn ddigon ffodus i gael yr un mynediad at y brechiadau a'r offer arall sydd wedi bod gennym yma yng Nghymru.

Nawr, drwy gydol yr ymateb i COVID-19, mae wedi bod yn glir i bob un ohonom nad yw'r clefyd hwn yn parchu ffiniau a'i fod wedi cael effaith ddinistriol ym mhob cwr o'r byd. Ond gwyddom fod yr effaith hon wedi'i theimlo'n arbennig o ddifrifol mewn gwledydd incwm isel. Yn 2015, torrodd y Senedd hon dir newydd gyda'n Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol arloesol, a thrwyddi deddfodd y Senedd i'w gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, weithio tuag at wireddu Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Ac efallai nad yw hyn erioed wedi bod yn bwysicach nag y bu dros y cyfnod y buom yn ymladd COVID-19.

Mae llawer o wledydd, yn enwedig yn Affrica, yn dal i brofi tonnau mynych o heintiau sy'n ysgubo drwy eu cymunedau, gan gynyddu'r tebygolrwydd drwy'r amser y bydd amrywiolion newydd yn datblygu. Ac os ydym yn mynd i alw ein hunain yn wlad sy'n wirioneddol gyfrifol ar lefel fyd-eang, rhaid inni chwilio am gyfleoedd i roi'r offer i bobl i'w helpu mewn cyfnod anodd. O ystyried nad oes neb yn ddiogel hyd nes y bydd pawb yn ddiogel, fel y mae cynifer o bobl wedi dweud heddiw, mae'n hanfodol fod pawb yn y byd, lle bynnag y maent, yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddiogelu eu hunain rhag COVID-19. A dyna pam ein bod yn falch o gefnogi'r cynnig heddiw.

Wrth gwrs, o ystyried bod brechlynnau'n cael eu caffael ar sail y DU gyfan, mater i Lywodraeth y DU yw dosbarthu brechlynnau yn rhyngwladol. Fodd bynnag, ochr yn ochr â gwledydd eraill y DU, rwyf wedi cyfarfod â Gweinidog brechlynnau Llywodraeth y DU a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn rheolaidd, ac rwyf wedi dadlau dros gyfrannu ymhellach i COVAX. Yn benodol, rydym wedi pwyso ar Weinidogion Llywodraeth y DU i gyfrannu cyflenwadau o frechlynnau i wledydd Affricanaidd rydym wedi datblygu cysylltiadau cryf â hwy, fel Uganda, Lesotho a Namibia. O'n rhan ni, rydym yn monitro ein gofynion mewn perthynas â'r brechlyn yn ofalus er mwyn sicrhau nad oes dosau gormodol o frechlynnau yn cronni yng Nghymru pan ellid gwneud gwell defnydd ohonynt yn COVAX.

Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio mewn ffyrdd eraill i helpu'r rhai rydym wedi datblygu cysylltiadau rhyngwladol â hwy i ymateb i COVID-19, mewn ymateb i'n dyletswydd i fod yn genedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Er enghraifft, ym mis Medi eleni, roedd Llywodraeth Cymru yn falch o roi cyflenwad sylweddol o gyfarpar diogelu personol a oedd dros ben i Namibia i'w helpu yn eu brwydr yn erbyn COVID-19. Roedd y pecyn yn cynnwys dros 1.1 miliwn o fasgiau wyneb, 300,000 o brofion llif unffordd, 500,000 o gynau, 100,000 o ffedogau diogelu a gwerth dros £1 filiwn o ddiheintydd dwylo. Roedd hon yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth go iawn. Fe wnaethom i gyd weithio gyda'n gilydd: Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, Prosiect Phoenix ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia er mwyn cael y cyfarpar diogelu personol hwn i leoedd a oedd wedi bod yn galw am gymorth a helpu'r rhai sydd mewn gwir angen.

Er na allwn ni ein hunain anfon brechlynnau o Gymru, mae gwaith pwysig y gallwn ei wneud i gefnogi, a dyna pam dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £2.5 miliwn yn ychwanegol i sefydliadau Cymreig er mwyn gweithio mewn partneriaeth â llawer o wledydd yn Affrica i frwydro yn erbyn COVID-19.

Ochr yn ochr â'r gwaith yma, fe wnaeth Llywodraeth Cymru addasu cynllun grantiau Cymru ac Affrica yn 2020 i ddefnyddio cysylltiadau oedd wedi eu sefydlu dros nifer o flynyddoedd i ariannu grantiau ar gyfer prosiectau sy'n gysylltiedig â COVID-19. O ganlyniad i'r cysylltiadau hyn, llwyddodd sefydliadau Cymru i ymateb yn gyflym i'r pandemig yn Affrica is-Sahara trwy gydol 2020 a 2021, gan weithio gyda'u partneriaid yn Affrica i adnabod lle roedd angen cymorth fwyaf a sut i gael y cymorth hwnnw i'r bobl gywir yn gyflym.

Mewn cyfanswm, rŷn ni wedi buddsoddi bron i £3 miliwn mewn prosiectau i ymateb ac addasu i COVID-19 dramor. Mae'r cymorth hwn yn darparu cyflenwadau ocsigen hanfodol mewn ysbytai, yn hyfforddi nyrsys i ddefnyddio'r ocsigen yna ac yn helpu plant i fynd nôl i'r ysgol. Mae'n darparu dŵr glân, a sebon a PPE hanfodol; mae'n codi ymwybyddiaeth am COVID-19; mae'n cael gwared ar gam-wybodaeth, ac yn pwysleisio pwysigrwydd derbyn y brechlyn; ac mae'n helpu pobl i gael mynediad at gymorth digidol mewn ardaloedd lle nad oedd modd darparu hynny o'r blaen.

I gloi, fe fydd Aelodau’n ymwybodol, ym mis Mawrth 2020, comisiynodd fy rhagflaenydd adolygiad o weithgareddau iechyd rhyngwladol Cymru mewn ymateb i strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru a’r ymrwymiad i Gymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Cynhaliwyd yr adolygiad hwn gan yr Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol, a chyhoeddodd yr ymddiriedolaeth ei chanfyddiadau a'i hargymhellion yng nghynhadledd Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica yn gynharach ym mis Tachwedd. Gan gofio'r pwysau sy'n wynebu ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wrth i ni wynebu her pwysau'r gaeaf ar y naill law ac ymateb i COVID ar y llaw arall, dwi wedi gofyn i fy swyddogion ystyried yr argymhellion gyda phartneriaid allanol, a byddaf yn diweddaru'r Senedd wrth i'r gwaith yna fynd yn ei flaen yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Dwi'n gobeithio bod y wybodaeth dwi wedi ei darparu heddiw yn rhoi tystiolaeth bendant i Aelodau o ba mor ddifrifol mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ei dyletswydd i gyflawni Cymru sy'n gyfrifol ar lefel byd-eang, a hefyd yn rhoi blas o'r camau rŷn ni wedi'u cymryd, camau sydd wedi helpu'r rhai mwyaf anghenus mewn cyfnod o argyfwng byd-eang, a chamau y gallwn ni yma yng Nghymru fod yn hynod o falch ohonyn nhw. Diolch yn fawr.

17:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Rhaid imi ddweud fy mod yn bersonol yn ei chael hi'n eironig i fod yn agor a chau'r ddadl benodol hon ar ddiwrnod pan wyf fi fy hun wedi cael prawf positif am COVID, a phan wyf yn teimlo'n hynod ddiolchgar fy mod wedi cael dau ddos o'r brechlyn am ddim, ac felly wedi cael mwy o amddiffyniad i ymladd y feirws. Mae'n fy ngwneud yn ymwybodol iawn y dylid rhoi'r un cyfle i bawb.

Os caf droi at y gwelliannau i ddechrau, ac esbonio efallai pam na fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd. Mewn gwirionedd, fe gyfeiriaf at fy nghyd-Aelod, Delyth Jewell, a'r pwynt a wnaeth ynghylch ateb i gais rhyddid gwybodaeth yn ddiweddar a awgrymai fod dros 600,000 o frechlynnau wedi'u dinistrio ym mis Awst 2021 yn y DU. Gadewch i'r ffaith honno suddo i mewn. Clywsom Gareth Davies yn ei gyfraniad, lle cafwyd cryn dipyn o sarhad, byddwn yn dweud, o ran ein bod yn simplistig, ac yn y blaen, ond rwy'n ei chael yn eithaf rhyfeddol eich bod yn llongyfarch Llywodraeth y DU am bentyrru brechlynnau, sydd wedyn wedi arwain at gyflenwad dros ben, a dinistrio brechlynnau. Rwy'n credu bod angen inni gwestiynu dull Llywodraeth y DU o weithredu yn hynny o beth.

Yn yr un modd gyda Russell George, rwy'n falch eich bod yn croesawu rhannau helaeth o'n cynnig heddiw, ond credaf fod angen inni ystyried cyfraniad y DU yma, a sut y mae'n cyd-fynd â'r ffaith mai Llywodraeth y DU sydd wedi bod yn gwneud y cyfraniad lleiaf: fel y soniais, pentyrru brechlynnau yma yn y DU, a'r syniad ein bod yn rhoi ein hunain yn gyntaf a pheidio â meddwl am gyfrifoldeb byd-eang. Pan edrychwn wedyn ar yr effaith fyd-eang, mae'r uned Economist Intelligence yn amcangyfrif y bydd gwledydd sydd â llai na 60 y cant o'u poblogaeth wedi'u brechu erbyn canol 2022 yn dioddef colledion cynnyrch domestig gros o $3.2 triliwn rhwng 2022 a 2025, a bydd niwed economaidd o'r fath yn bwrw'r gwledydd hyn i ddyled hirdymor, yn cynyddu tlodi ac yn lleihau gwariant ar systemau iechyd, gan waethygu'r pandemig hwn ymhellach a chynyddu anghydraddoldebau.

Roeddwn yn falch iawn o glywed yr holl sylwadau cadarnhaol a chefnogol gan Jenny Rathbone, Jane Dodds, Rhun, John Griffiths a Delyth Jewell, ac yn enwedig gan y Gweinidog, Eluned Morgan. Diolch, ac rwyf am ategu eich diolch i weithwyr y GIG hefyd. Rwy'n falch o gael eich cefnogaeth ac roedd yn wych clywed eich bod wedi bod yn dadlau dros gyfraniadau pellach i COVAX. Pan wyddom fod gwledydd COVAX yn dal i eistedd ar hyd at 210 miliwn o ddosau dros ben, credaf ei bod yn hanfodol fod pob gwlad yn chwarae ei rhan i sicrhau ei fod yn ymateb byd-eang, a'n bod i gyd yn wledydd sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Rhaid imi ddweud, wrth wrando ar y Gweinidog, cefais fy argyhoeddi yn fwy nag erioed pam fod angen i Gymru fod yn wlad annibynnol, a sut y cawn ein dal yn ôl drwy fod yn rhan o'r DU, ond dadl ar gyfer diwrnod arall yw honno.

I gloi, hoffwn ddiolch i'r Aelodau sydd wedi dweud y byddant yn cefnogi heddiw, a byddwn yn gweithio gyda phawb i sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan. Pan feddyliwch fod y DU wedi brechu dros 65 y cant o'i phoblogaeth yn llawn, ond mai 1.9 y cant yn unig o bobl mewn gwledydd incwm isel a chanolig sydd wedi cael un dos, gallwn ddeall pam y mae'r pandemig byd-eang hwn yn parhau. Nid oes un mesur ar ei ben ei hun yn mynd i allu ein helpu allan o'r pandemig, ond drwy ddarparu mwy o gyllid a chymorth rhyngwladol, cyflenwadau meddygol a chefnogi ymgyrch Brechlyn y Bobl, gallwn sicrhau mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â'r pandemig, cefnogi'r economi, diogelu dinasyddion a'u buddiannau tra'n achub bywydau ym mhob rhan o'r byd. Felly, gobeithio y cawn eich cefnogaeth heddiw i'n dadl a'n cynnig, ond nid i'r gwelliant. Diolch. 

17:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r cyfnod pleidleisio. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:31.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:35, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

17:35
9. Cyfnod Pleidleisio

Croeso'n ôl, bawb. Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio ar gyfer y prynhawn yma. Byddwn yn dechrau gyda'r bleidlais gyntaf ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Ken Skates. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

Eitem 6. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23: O blaid: 38, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn at y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod, Bil bwyd (Cymru). Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Peter Fox. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, dau yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

Eitem 7. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Bwyd (Cymru): O blaid: 27, Yn erbyn: 22, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

Symudaf yn awr at ddadl Plaid Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio wedyn ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru – Cefnogi gwledydd incwm isel i reoli'r pandemig Covid-19 (Cynnig heb ei ddiwygio): O blaid: 38, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

10. Dadl Fer: Cladin wal allanol: Unioni pethau pan fyddant yn mynd o chwith

Symudwn ymlaen at y ddadl fer. Galwaf ar Huw Irranca-Davies i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn y ddadl hon, byddaf yn nodi'r angen dybryd i gynhyrchu cynllun a ariennir ar y cyd ac a gefnogir gan y Llywodraeth i unioni gwaith nad yw'n ddigon da ar osod cladin allanol a rhywfaint o gladin waliau mewnol mewn cartrefi yng Nghaerau yn fy etholaeth o dan raglen arbed ynni yn y gymuned 2012-13/Arbed 1, ac i wneud iawn am y difrod a wnaed i gartrefi a bywydau pobl.

Mater o gyfiawnder naturiol yw hwn. Bron i ddegawd yn ôl, addawyd cartrefi cynhesach a mwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni gyda biliau is i drigolion. Yn yr achosion gwaethaf, maent bellach yn dioddef lleithder a llwydni helaeth ac amodau dirywiol, lle mae gwaith gosod diffygiol wedi niweidio nid yn unig eu cartrefi ond eu bywydau. Felly, Weinidog, gofynnaf i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy a chwarae rhan arweiniol i ddatrys y materion hyn, oherwydd yn syml iawn, ni all neb arall wneud hyn bellach.

Rwy'n ymwybodol fod enghreifftiau eraill o insiwleiddio is-safonol mewn rhannau eraill o Gymru, ac yn wir mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond fy nadl i i'r Gweinidog, serch hynny, a dadl trigolion yng Nghaerau, yw bod maint y difrod yng Nghaerau, nifer y cartrefi yr effeithiwyd arnynt a'r ffaith bod hyn wedi bod yn digwydd ers amser hir, yn golygu bod angen cynllun ar frys i ddatrys y materion hyn. Mae'n hen bryd. Mae angen inni ddatrys hyn yn awr.

I ddechrau, gadewch imi ailddatgan fy nghefnogaeth i bwysigrwydd hanfodol ôl-osod o ansawdd da mewn cartrefi hŷn, oerach ac aneffeithlon o ran eu defnydd o ynni. Yn wir, ym mis Gorffennaf, nododd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru pa mor enfawr yw'r her, ond hefyd nododd y manteision enfawr o wneud y penderfyniadau cywir ar ôl-osod ac effeithlonrwydd ynni. Dadleuodd y gellid dileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2030, gyda £15 biliwn—yn ei geiriau hi—o fuddsoddiad trawsnewidiol i ôl-osod cartrefi er mwyn lleihau'r galw am ynni a gwresogi, gan arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn i dalwyr biliau a £8.3 biliwn y flwyddyn ar filiau erbyn 2040, gan wella a moderneiddio stoc enfawr Cymru o dai hŷn, creu 26,500 o swyddi bob blwyddyn mewn cymunedau ledled Cymru erbyn 2030, arbed £4.4 biliwn i'r GIG erbyn 2040, a helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei dyletswyddau cyfreithiol i sicrhau allyriadau carbon sero-net erbyn 2050. 

Amlygodd yr adroddiad fod gan Gymru rai o'r tai hynaf a lleiaf effeithlon yng ngorllewin Ewrop, a bod tua un o bob wyth o gartrefi Cymru mewn tlodi tanwydd. Nododd ymhellach fod Cyngor ar Bopeth yn nodi bod mwy na 66,000 o aelwydydd yng Nghymru ar ei hôl hi gyda'u biliau ynni ers dechrau'r pandemig, a bod pobl anabl bedair gwaith yn fwy tebygol o fod mewn dyled ynni. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlygu dadansoddiad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal fod pobl sy'n agored i niwed sy'n byw mewn cartref oer yn fwy tebygol o ddioddef salwch difrifol ac iechyd gwael neu o farw, ac yn wynebu mwy o risg o ddioddef trawiad ar y galon, strôc, problemau anadlu, ffliw, iselder a chwympiadau. Felly, mae'r achos dros effeithlonrwydd ynni da, gan gynnwys ôl-osod, yn glir. Mae'n rymus, mae'n fater brys. Ond er mwyn bod yn hyderus yn y camau nesaf ar y daith hanfodol honno, mae angen inni hefyd roi hyder i bobl, pan fydd pethau'n mynd o chwith, fel y gwnânt weithiau, y bydd pethau'n cael eu hunioni'n gyflym ac yn effeithlon. Nid yw hyn wedi digwydd yng Nghaerau ac mewn rhai mannau eraill yng Nghymru a'r DU yr effeithiwyd arnynt yn sgil gwaith nad yw'n ddigon da ar osod cladin ar waliau mewnol ac allanol. 

Cyhoeddwyd asesiad annibynnol ym mis Gorffennaf 2020 o ddim ond 36 o gartrefi sampl yng Nghaerau, a oedd yn rhan o raglen arbed ynni yn y gymuned 2012-13/rhaglen effeithlonrwydd ynni Arbed 1. Adroddodd fod gan bob un o'r 36 o gartrefi yn y sampl a arolygwyd—pob un ohonynt—ryw fath o ddiffyg a achoswyd gan waith nad oedd yn ddigon da. Heb ystyried a oeddent yn rhan o gynllun Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Llywodraeth Cymru, neu Lywodraeth y DU—heb ystyried hynny—amcangyfrifir bod cyfanswm cost atgyweirio'r holl gartrefi yng Nghaerau oddeutu £1.1 miliwn. Rwyf wedi dweud yn gyson wrth Weinidogion ers peth amser—wrth y Gweinidog presennol ac wrth Weinidogion blaenorol yn nhymor diwethaf y Senedd—mai'r ffordd i'w ddatrys yw drwy gynllun wedi'i ariannu ar y cyd, gan ddefnyddio cyfraniadau ar ffurf arian neu'n weithredol gan bawb a oedd â rhan i'w chwarae yng nghynlluniau 2012-13. Mae'n rhaid i hynny gynnwys Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, rheoleiddiwr y DU, fel dirprwy i'r cwmnïau ynni mawr a ariannodd y cynlluniau hyn drwy gronfa ardoll, ac awdurdodau lleol a weinyddodd rannau o'r cynlluniau hefyd.

Yn wir, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y problemau a all godi ac a wnaeth godi yn rhai o'r cynlluniau cynnar. Yn 2018, comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad o'r enw 'Canllaw Prosiectau Inswleiddio Waliau
allanol (EWI): Canllaw caffael ar gyfer EWI i Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig'. I osod y cyd-destun, nododd fod tua chwarter yr anheddau yng Nghymru â waliau solet, un o bob 25 yn anheddau heb fod yn draddodiadol ac ychydig dros un o bob 10 â cheudodau cul. Mae'n nodi

'Er mwyn gwella perfformiad thermol anheddau â’r mathau hyn o waliau, mae angen inswleiddio ochr fewnol neu allanol y wal'.

Mae'n nodi bod hon yn

'broses ddrutach o lawer na’r mesurau gwella mwy cyffredin y cyfeiriwyd atynt yn gynharach. Fodd bynnag, mae’n gallu lleihau biliau ynni yn sylweddol a gwneud y cyfryw anheddau yn fwy cyfforddus.'

Popeth yn iawn hyd yma. Ond hoffwn nodi bod y rhan fwyaf o ddiffygion a difrod yng Nghaerau wedi deillio o'r math hwn o osodiad yn union, yn bennaf gyda chladin waliau allanol, ond rhai â chladin waliau mewnol hefyd. Felly, rwyf fi a'r trigolion yn nodi gyda diddordeb fod yr adroddiad y cyfeiriaf ato yn mynd rhagddo i ddweud, ac rwy'n dyfynnu:

'Yn anffodus, mae astudiaethau diweddar wedi nodi enghreifftiau o sgil-effeithiau annymunol yn dilyn gwaith inswleiddio ôl-addasu mewn anheddau â waliau ceudod a waliau solid. Mae hyn wedi arwain at lefelau uwch o anwedd a llwydni mewn anheddau, gan ddifrodi’r adeilad.'

Aiff ymlaen i fanylu ar achosion sylfaenol cyffredin sy'n cynnwys caffael, gosod a chynnal a chadw gwael. Maent mewn gwirionedd yn cynnwys yr holl ffactorau y bydd fy etholwyr yn gyfarwydd â hwy yng Nghaerau, megis safonau arolygu gwael o'r cychwyn; diffyg system ddylunio gadarn; dewis eiddo sy'n amhriodol ar gyfer y mesurau a ddewiswyd; manylebau gwael; dim defnydd o fanylion i fynd i'r afael â lefelau cysylltiad â'r tywydd na'r potensial ar gyfer pontio thermol; diffyg gwiriadau ansawdd ar safleoedd; diffyg gwirio a chynnal a chadw parhaus yn dilyn y gwaith gosod.

Felly, Weinidog, nod canllawiau Llywodraeth Cymru y cyfeiriaf atynt yw cywiro camgymeriadau blaenorol drwy gryfhau'r canllawiau ar ddefnyddio a chomisiynu mesurau ôl-osod effeithlonrwydd ynni. Maent i'w croesawu'n fawr iawn. Ond mae yna gydnabyddiaeth ddealledig fod pethau wedi bod yn mynd o chwith, hyd yn oed os yw'r rhan fwyaf o osodiadau ledled Cymru wedi bod yn llwyddiannus. Ac nid yw'n llawer o gysur i fy etholwyr sy'n gorfod wynebu camgymeriadau cynlluniau cynnar blaenorol.

Felly, ar y pwynt hwn, gadewch imi ailadrodd: Rhif 1, mae angen clir a grymus ar frys i barhau i ôl-osod eiddo hŷn, fel y mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi'i nodi, ac i wneud hynny'n gyflymach a chyda mwy o frys; ond Rhif 2, mae angen gwneud hyn mewn ffordd sy'n dysgu gwersi o bethau sydd wedi mynd o chwith, ac sy'n osgoi ailadrodd y camgymeriadau hynny; a Rhif 3, yn bwysicaf oll, mae yna angen yr un mor glir a grymus, i unioni camgymeriadau cynlluniau'r gorffennol a gwneud hynny yn awr. Oni wnawn hyn, bydd yr hyder mewn cynlluniau newydd yn sigledig, ar y gorau.

Felly, mae'r canllawiau diwygiedig y cyfeiriais atynt uchod wedi ceisio cryfhau gweithdrefnau, arferion a safonau. Mae'n siŵr y bydd y Gweinidog hefyd eisiau cyfeirio at y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio fel cam allweddol arall wrth ôl-osod yn dda, gyda'r gosodiadau cywir, yn yr eiddo cywir, gan y gosodwyr cywir, gyda'r oruchwyliaeth gywir, a chyda'r amddiffyniad cywir i breswylwyr. Ond nid yw hyn yn unioni'r problemau hanesyddol a pharhaus sy'n wynebu fy etholwyr yng Nghaerau, ac eraill ar draws rhannau eraill o Gymru ac yn y DU o ran hynny, lle mae'r gwaith o osod cladin wedi mynd o chwith.

Felly, Weinidog, rhaid canolbwyntio yn awr ar adfer eiddo lle mae pethau wedi mynd o chwith, ni waeth beth a achosodd y broblem yn y lle cyntaf a dweud y gwir. Dyna pam, ar ran fy etholwyr sydd wedi cael eu heffeithio, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru heddiw i helpu i ddatrys hyn.

Mae'r Gweinidog a minnau—a'i rhagflaenydd, yn wir—wedi trafod hyn yn fanwl, a'r rhwystrau niferus. Yn yr enghraifft hon yng Nghaerau, fel gyda chymaint, mae'r gosodwyr gwreiddiol wedi hen roi'r gorau i fasnachu. O ganlyniad, mae dwylo Safonau Masnach wedi'u clymu ar y mater hwn, gan fod y cwmnïau wedi diflannu. Mae gennym gymhlethdod ychwanegol, yn absenoldeb y cwmnïau gwreiddiol ac anallu Safonau Masnach i fynd ar drywydd hyn, oherwydd nid oes unrhyw endid cyfreithiol arall yn derbyn cyfrifoldeb, er mawr rwystredigaeth i mi a'r preswylwyr—ac i Weinidogion hefyd, rwy'n tybio.

Felly, er bod cynllun 2012-13 wedi'i ariannu ar y cyd yn wreiddiol gan y cwmnïau ynni mwy o dan eu rhwymedigaeth cwmni ynni (ECO), mae'r cwmnïau ynni hynny'n dadlau wrth gwrs nad oes ganddynt unrhyw beth i'w wneud â hyn ar lefel leol. Mae rheoleiddiwr cenedlaethol y DU sy'n goruchwylio rhwymedigaethau ynni ac ECO yn dadlau'r un peth. Maent yn rhy uchel i fyny.

Ar lefel genedlaethol, cafodd y gosodiadau hyn yng Nghaerau eu hysgogi gan Lywodraeth y DU o dan gynlluniau'r Rhaglen Arbed Ynni Cymunedau a'r rhwymedigaeth cwmni ynni, a Llywodraeth Cymru o dan gynllun Arbed, gan gymhlethu'r darlun ymhellach. Fy nealltwriaeth i, er efallai y gall y Gweinidog gadarnhau neu wrthod hyn, yw bod cynifer â phedwar o bob pump o'r gosodiadau yng Nghaerau wedi digwydd o dan gynlluniau'r DU. Ond mae hynny'n dal i olygu bod un o bob pump wedi'u gosod o dan gynllun Arbed.

Ar lefel leol iawn, gweinyddwyd rhai—er nad pob un—gan yr awdurdod lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er eu bod hwy'n dadlau mai'r gosodwr sy'n gyfrifol am y problemau, fel y mae'r adroddiadau wedi'i ddangos, nid y broses gaffael a dyfarnu contractau neu oruchwylio gwaith. Dylwn grybwyll hefyd, ond nid wyf am ei drafod yn fanwl, y ffaith bod ymchwiliad ombwdsmon cyfochrog ar y gweill i agweddau ar y modd y cafodd contractau eu dyfarnu'n wreiddiol.

Ond wyddoch chi, i drigolion yr effeithiwyd arnynt, mae'r cymhlethdod hwn yn amherthnasol. Mae'r ateb iddynt hwy yn amlwg iawn: mae angen i rywun gamu i'r adwy ac unioni'r difrod a wnaed. Mae'n hen bryd. Felly, Weinidog, gadewch imi ofyn rhai cwestiynau penodol iawn. Yn gyntaf oll, rwy'n croesawu uchelgais datganedig y cyngor, a chefais gadarnhad o hynny ganddynt, sef cytuno ar gynllun cynhwysfawr gyda Llywodraeth Cymru sy'n ceisio mynd i'r afael â'r problemau ym mhob eiddo yr effeithiwyd arnynt mewn modd sy'n gyson ac yn deg sut bynnag yr ariannwyd y gwaith yn wreiddiol. Weinidog, ai dyma fyddai bwriad Llywodraeth Cymru hefyd?

Weinidog, fe ysgrifennoch chi ataf yn gynharach eleni i gadarnhau eich bod—ac rwy'n croesawu hyn—wedi gwahodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gyflwyno cynnig i ddatrys y mater yn dilyn trafodaethau cynharach, a deallaf eich bod wedi derbyn hwn ar 6 Medi. A allech chi gadarnhau hyn, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar gynnydd?

A allai'r Gweinidog hefyd ystyried, mewn unrhyw gynllun adfer yn y dyfodol, y bydd angen i Lywodraeth Cymru danysgrifennu unrhyw risg i'r awdurdod lleol, a'r trethdalwr lleol wrth gwrs?

A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, Weinidog, am y trafodaethau a gawsoch gyda'r rheoleiddiwr ynni a Llywodraeth y DU ar eu rôl a'u cyfraniadau posibl i unrhyw gynllun adfer? Ac a fyddwch yn gofyn i Lywodraeth y DU gyfrannu at unrhyw gynllun adfer fel nad yw'r baich yn disgyn yn gyfan gwbl ar gyllideb Cymru neu ar drethdalwyr lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

Ac a fyddai'n cytuno â mi, a'r awdurdod lleol yn wir, y bydd oedi pellach cyn bwrw ymlaen â'r gwaith yn creu risgiau sylweddol, gan gynnwys difrod pellach i'r cartrefi yng Nghaerau wedi'i achosi gan y gwaith gosod gwreiddiol o ansawdd gwael a wnaed; yr effaith negyddol sylweddol ehangach ar wasanaethau cyhoeddus oherwydd y perygl posibl o orfod ailgartrefu teuluoedd os daw eu cartrefi'n anaddas i fyw ynddynt; ac effeithiau negyddol pellach ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol sy'n ymdrin â chanlyniadau llesiant y sefyllfa hon?

Yn olaf, yn ogystal â chryfhau safonau gosod a chaffael, fel y nodais yn gynharach, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno i roi ystyriaeth ofalus a manwl iawn i argymhellion Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu ar gyfer cymhwyster prentisiaeth inswleiddio yng Nghymru; yr angen am gynlluniau sgiliau manwl ar gyfer ôl-osod, gan gynnwys safonau a chymwysterau newydd; yr angen i ddatblygu a gorfodi systemau, sgiliau a gofynion cymhwysedd newydd o ansawdd cyn y cylch nesaf o gontractau; ac unrhyw ffyrdd eraill o gryfhau ansawdd y gwaith o insiwleiddio adeiladau'n dda?

Ac yn olaf, yn olaf, os na allwch, am ba reswm bynnag, roi'r atebion llawn imi ar gynllun adfer heddiw oherwydd bod yn rhaid i chi aros am benderfyniadau cyllidebol, neu oherwydd nad ydych wedi cael y cyngor terfynol eto gan swyddogion ar y cynigion gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a wnewch chi gytuno o leiaf i geisio datrys y materion hyn yn gyflym ac adrodd yn ôl i'r Senedd, i mi, ac i fy etholwyr cyn gynted â phosibl?

Rwyf wedi dweud yn glir, Weinidog, fod angen yn bendant i ni barhau i gyflwyno mesurau effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys, ac yn enwedig mewn peth o'r stoc dai hŷn, lle mae tlodi tanwydd ac aneffeithlonrwydd ynni i'w weld yn fwyaf amlwg. Ond er mwyn gwneud hynny mae angen i ni adfer hyder, ac mae hynny'n golygu unioni camgymeriadau'r gorffennol, yn ogystal â buddsoddi mewn sgiliau a safonau gwell ar gyfer y dyfodol. Felly, Weinidog, cafodd cartrefi a bywydau fy etholwyr eu difrodi gan fesurau gosod gwael mewn cynllun a gefnogwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, gyda rolau sylweddol yn cael eu chwarae gan y rheoleiddiwr ar lefel uchel a'r cyngor ar lefel leol, a chefnogaeth gan y cwmnïau ynni mawr. Gyda'r chwaraewyr hyn i gyd yn chwarae rhan i ryw raddau, roedd ganddynt hwy a minnau bob rheswm i gredu y byddai eu cartrefi'n cael eu gwella. Gwnaed cam â hwy. Mae'n bosibl mai gosodiadau gwael neu amhriodol yw'r achos sylfaenol, Ddirprwy Lywydd, ond mae'r ateb y tu hwnt i'r cwmnïau gosod sydd wedi hen fynd. Mater i ni, mewn partneriaeth, yw ei ddatrys drwy gyflwyno cynllun. Gofynnaf am eich cymorth chi a chymorth Llywodraeth Cymru i wneud hyn.

17:50

Diolch yn fawr iawn, Huw, am godi'r mater pwysig hwn. Mae'r ddadl heddiw yn dilyn cwestiynau ysgrifenedig ym mis Medi, ein cyfarfod ar 29 Medi, a'n trafodaeth yn y Cyfarfod Llawn wythnos yn ôl. Mae eich angerdd i ddod o hyd i ateb i'r digwyddiadau anffodus hyn yn gymeradwy iawn ac yn dyst i'ch ymrwymiad i'ch etholwyr.

Gadewch imi ddechrau drwy ddweud, wrth gwrs, fod iechyd a lles trigolion Caerau, ac yn enwedig y rhai y mae'r cynllun wedi effeithio'n andwyol arnynt, yn peri pryder mawr i Lywodraeth Cymru. Ers i chi a minnau drafod y materion sy'n wynebu trigolion yng Nghaerau ddiwethaf, rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, ond rwy'n cydnabod ac yn rhannu eich rhwystredigaeth chi a'ch etholwyr na weithredwyd yn ddigon cyflym i ddatrys yr anawsterau a grëwyd o ganlyniad i gynllun rhaglen arbed ynni cymunedau Llywodraeth y DU. Ac rwy'n gwybod, ac rydych wedi nodi heddiw, fod hwn yn fater cymhleth iawn ac yn un sydd wedi'i wneud yn anos gan ddiffyg penderfyniad gan Lywodraeth San Steffan.

I Aelodau o'r Senedd nad ydynt efallai'n ymwybodol o'r manylion, ac i danlinellu'r prif bwyntiau a wnaed yn y sylwadau gan yr Aelod, llwyddodd cais gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gael cyllid o dan gynllun rhaglen arbed ynni yn y gymuned Llywodraeth y DU, a oedd yn rhedeg rhwng 2009 a 2012. Roedd y cynllun yn golygu bod cwmnïau ynni yn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi. Defnyddiwyd yr arian i osod mesurau effeithlonrwydd ynni, a oedd yn cynnwys inswleiddio waliau allanol, newid boeleri, a falfiau a dulliau o reoli rheiddiaduron yn thermostatig. Fodd bynnag, ers cwblhau'r prosiect, mae awdurdodau lleol wedi derbyn cwynion am ansawdd y gwaith, lleithder a llwydni. Mae arolwg yr awdurdod lleol a gynhaliwyd ar y cartrefi yn 2018 yn dangos yn glir fod y gwaith yn llawer is na'r safon ddisgwyliedig yn achos 104 o gartrefi, gan effeithio ar iechyd a lles y perchnogion. Nid yw perchnogion y cartrefi wedi gallu mynd ar drywydd y gosodwyr a wnaeth y gwaith i gwblhau'r gwaith adfer, neu geisio iawndal. Nid yw'r cwmnïau, fel y nododd Huw Irranca-Davies, yn masnachu mwyach, ac ni ddarparwyd unrhyw warantau yn rhan o gynllun Llywodraeth y DU.

Mae'r mater difrifol hwn wedi cael ei gydnabod gan Ofgem mewn cyfarfodydd gyda fy swyddogion. Mae'r awdurdod lleol wedi mynd ati i edrych ar ariannu gwaith adfer gyda'r cyflenwyr ynni a ariannodd y gwaith gwreiddiol. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfarfod bord gron i drafod y materion rhwng yr awdurdod lleol a gweinyddwr y cynllun, Ofgem. Er gwaethaf ein hymdrechion gorau, mae'r rhain wedi bod yn aflwyddiannus, ond rydym yn parhau i ddadlau'r achos ar ran y deiliaid tai yr effeithiwyd arnynt.

Yn y cyfamser, mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio'n galed gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Y mis diwethaf, daeth achos busnes amlinellol i law'n gofyn am gymorth ariannol i atgyweirio'r 104 o gartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr. Rwy'n deall mai bwriad yr awdurdod lleol yw rheoli'r gwaith o adfer yr eiddo i gyflwr addas, drwy gymorth cyllid ganddynt eu hunain a chan y Llywodraeth. Mae'n amlwg nad yw'n iawn i breswylwyr orfod talu'r costau am gwaith adfer. Mewn rhai achosion, gallai'r gost fod oddeutu £30,000—swm sydd ymhell y tu hwnt i gyrraedd rhai o'r aelwydydd incwm isaf yng Nghymru. Yn anffodus, nid wyf eto wedi cael cyngor gan swyddogion ar y penderfyniad i ariannu'r cynllun yn seiliedig ar yr achos busnes a gyflwynwyd, ond wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod a'r Senedd pan fyddaf wedi'i gael. Fodd bynnag, fe fydd yn ymwybodol fod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant wedi bod yn siomedig i Gymru. Bydd hyn yn golygu gwneud penderfyniadau cyllidebol anodd y bydd yn rhaid eu hystyried yn eu cyfanrwydd. I fod yn glir iawn, ni lwyddodd y gwaith a ariannwyd drwy gynllun Llywodraeth y DU ddarparu'r sicrwydd a'r mesurau diogelu angenrheidiol i berchnogion cartrefi. Rwyf wedi bod yn glir yn fy sylwadau i Lywodraeth y DU mai eu cyfrifoldeb hwy yw sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer gwaith adfer. Yn eu hymateb cychwynnol, awgrymodd Llywodraeth y DU y dylai deiliaid tai gysylltu â Cyngor ar Bopeth am gymorth. Dengys hyn eu bod yn esgeuluso eu cyfrifoldeb, ac ysgrifennais unwaith eto at yr Arglwydd Callanan ar 29 Medi i ddadlau'r achos, ond nid wyf wedi cael ymateb eto. 

Rwy'n awyddus iawn i ddatrys y sefyllfa ofnadwy hon i'r 104 o drigolion yng Nghaerau sydd wedi cael cam yn sgil y cynllun gan Lywodraeth y DU, ac rwy'n ymwybodol fod prosiectau eraill a gyflawnwyd drwy'r rhaglen hon wedi cael problemau, nid yn unig yng Nghymru, ond yn Lloegr hefyd. Pan gaiff ei ddylunio a'i osod yn gywir, mae inswleiddiad waliau allanol yn ffordd effeithiol o wella effeithlonrwydd ynni thermol domestig i gefnogi pobl Cymru, ond ni fydd hynny'n llawer o gysur i drigolion Caerau, lle gwnaed gwelliannau sylweddol ar draws y sector i sicrhau bod gwersi'r gorffennol yn cael eu dysgu.

Mae'r gwersi, fel yr awgrymodd Huw, wedi helpu i lunio cynlluniau effeithlonrwydd ynni yn y cartref tebyg yng Nghymru ers 2015, wrth inni barhau i fuddsoddi yn y gwaith o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi presennol yng Nghymru, yn enwedig y cartrefi mwyaf aneffeithlon o ran eu defnydd o ynni, wrth inni fynd i'r afael â newid hinsawdd. Wrth inni gynorthwyo cartrefi i fod yn fwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni, mae'n bwysig iawn ein bod yn canolbwyntio ar adeiledd yn gyntaf, a'r gwaethaf eu byd yn gyntaf, i leihau effaith tlodi tanwydd ar aelwydydd yng Nghymru. Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi incwm is yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gefnogi aelwydydd i leihau eu biliau ynni a'u helpu allan o dlodi tanwydd.

Dylai'r un ansawdd gwasanaeth sydd bellach ar gael drwy ein rhaglen Cartrefi Clyd yng Nghymru fod wedi cael ei gynnig i drigolion Caerau. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £394 miliwn ers 2011 drwy'r rhaglen Cartrefi Clyd i sicrhau gwelliannau effeithlonrwydd ynni i fwy na 67,100 o gartrefi yng Nghymru. Mae'n dangos bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud ar wella ansawdd cynnyrch a gwaith ers i gynllun Caerau gael ei ddatblygu, ac mae'n cynnwys camau i roi sicrwydd i'r Llywodraeth a deiliaid tai. Mae cyflwyno safonau PAS 2030 a PAS 2035 yn 2019 hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y mesurau ôl-osod tai sy'n cael eu cynllunio a'u gosod. Wrth inni ddechrau'r ymgynghoriad ar gam nesaf ein rhaglen Cartrefi Clyd, mae'n hanfodol fod gan ddeiliaid tai hyder y bydd ein cynllun yn cyflawni gwelliannau effeithlonrwydd ynni o'r safon uchaf o ran eu cynllun a'r gwaith o'u gosod. Wrth gwrs, mae'n rhaid i drefniadau fod ar waith i sicrhau, os bydd pethau'n mynd o chwith, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, eu bod yn cael eu hunioni'n gyflym heb oedi a straen diangen i ddeiliaid tai. Rwy'n disgwyl y byddwn yn dechrau ein hymgynghoriad cyn diwedd mis Rhagfyr fan bellaf, ond gallaf rannu gyda'r Aelodau yn awr fy mod yn bwriadu sicrhau lle canolog yn y rhaglenni ôl-osod i'r trefniadau sicrhau ansawdd a gyflwynwyd yn PAS 2030 a 2035. 

Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl ledled Cymru, gan wella effeithlonrwydd ynni, lleihau biliau tanwydd a lleihau allyriadau carbon. Credwn fod ôl-osod cartrefi oer a drafftiog yn elfen bwysig o fynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwella lles ein dinasyddion. Ac fel y rhagwelodd Huw yn gywir, roeddwn yn falch iawn o gyhoeddi cyllid pellach yn ddiweddar ar gyfer ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Mae'r £50 miliwn sydd ar gael eleni a £150 miliwn arall dros y tair blynedd nesaf yn dangos ein hymrwymiad i'r agenda hollbwysig hon.

Mae'r rhaglen yn mabwysiadu dull profi a dysgu o gyflawni ffyrdd o ddatgarboneiddio cartrefi cymdeithasol sy'n bodoli eisoes. Drwy weithio fel hyn ac edrych ar ein stoc dai ar sail cartrefi unigol, gallwn osgoi ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol. Bydd y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn gwella effeithlonrwydd ynni ac yn lleihau ôl troed carbon y cartrefi, ac wrth wneud hynny, bydd yn helpu i sicrhau bod y bobl sy'n byw yno yn gynhesach ac yn arbed arian. Yn bwysig, defnyddir y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a'n gwerthusiad o ddata ynni clyfar ac effaith technolegau ôl-osod i ddarparu cysyniadau a brofwyd yn feirniadol a all lywio gwaith ôl-osod ehangach ar draws deiliadaethau. Cofiwch, os ydym am gyrraedd ein targedau lleihau carbon, mae angen inni helpu 1.4 miliwn o gartrefi i ddatgarboneiddio a bod mor effeithlon ag sy'n bosibl o ran eu defnydd o ynni.

Tra'n bod yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o gefnogi landlordiaid cymdeithasol a pherchnogion cartrefi drwy'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a Cartrefi Clyd, rhaid inni beidio ag anghofio am drigolion Caerau. Mae'n rhaid i'r sefyllfa y maent ynddi, a hynny heb unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, fod yn eithriad llwyr yn hytrach na sefyllfa sy'n gyffredin mewn unrhyw fodd. Rwy'n gobeithio y bydd ein hymrwymiad i fynd ar drywydd Llywodraeth y DU i gael ymateb teg a phenderfyniad i ddysgu gwersi o'r cynllun diffygiol hwn gan San Steffan a'n gwaith ar sicrhau dyfodol gwyrddach yng Nghymru, sy'n gwneud llesiant yn flaenoriaeth yn ein penderfyniadau, yn rhoi rhywfaint o gysur i'r Aelod tra bo fy swyddogion yn cwblhau eu cyngor mewn ymateb i'r achos busnes a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yn y cyfamser, rwy'n ei annog ef a'r Aelodau eraill i fynegi eu barn yn rhan o'r ymgynghoriad sydd ar y ffordd. Drwy ymgysylltu a chydweithio, gallwn sicrhau—

18:00

Mae'n ddrwg gennyf, Weinidog, roeddwn am roi cyfle, cyn ichi orffen, ichi nodi pa fath o amserlen y gallem fod yn edrych arni mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau terfynol ar y gyllideb, pa ffordd bynnag y byddant yn mynd, a chan obeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud ei dyletswydd ar hyn, ond amserlen fras hefyd—gwn na all osod dyddiad absoliwt—o ba bryd y gallai fod yn debygol o wneud penderfyniad yn seiliedig ar y cynnig a gyflwynwyd gan Ben-y-bont ar Ogwr. Byddai hynny'n rhoi rhyw syniad o'r amserlen i fy nhrigolion.

Wel, yn sicr, Huw, gallaf ddweud, yn amlwg, mai'r Senedd sy'n gyfrifol am gyllideb Llywodraeth Cymru, felly mae angen inni wybod sut olwg fydd ar y gyllideb a chael y Senedd i basio'r gyllideb ddrafft tua diwedd y flwyddyn galendr hon. Yn y cyfamser, rwy'n edrych i weld beth yw'r cyngor gan fy swyddogion ac a allwn ariannu'r rhaglen yn gyflymach na hynny. Ond mae'n anodd iawn i mi ddweud hynny ar hyn o bryd, gan nad wyf eto wedi cael y cyngor, mae'n ddrwg gennyf. Cyn gynted ag y byddaf wedi'i gael, fe wnaf yn siŵr eich bod yn cael gwybod. Rwy'n deall ei fod yn fater o frys.

Roeddwn yn dod â fy sylwadau i ben a dweud y gwir. Roeddwn yn mynd i ddweud ein bod am sicrhau nad oes neb nac unman yn cael eu gadael ar ôl wrth inni weithio tuag at ddyfodol mwy disglair i drigolion ledled Cymru. Rwyf am eich sicrhau, Huw, ein bod yn awyddus tu hwnt i ddod o hyd i ateb i drigolion Caerau; rydym ynghanol proses y cylch cyllidebol ac mae'n rhaid i mi ei ystyried yn ei gyfanrwydd. Ond mae fy nghalon yn gwaedu drostynt ac rwy'n awyddus iawn i ddod o hyd i'r ateb hwnnw.

Er eglurder, caiff y gyllideb ei gosod ddiwedd y flwyddyn hon a'i thrafod ddechrau'r flwyddyn nesaf.

Mae'n ddrwg gennyf—ie, caiff y gyllideb ddrafft ei gosod ar 20 Rhagfyr, rwy'n credu, ac mae dadl ddechrau'r flwyddyn galendr nesaf i'r Senedd ei chymeradwyo. Rwy'n credu bod hynny'n gywir, Ddirprwy Lywydd.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:03.