Y Cyfarfod Llawn
Plenary
16/11/2021Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr a rhai Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn y trafodion, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn yma, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda.
Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan John Griffiths.
1. Pa effaith y mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd COP26 yn ei chael ar Gymru yn cyrraedd sero net? OQ57192
Rwy'n diolch i John Griffiths am y cwestiwn yna, Llywydd. Bydd COP26 yn rhoi cyfleoedd i Gymru arloesi, cydweithio a datblygu partneriaethau rhyngwladol i'n helpu i gyflawni ein huchelgais sero-net erbyn 2050. Byddwn yn cynyddu ein hallforion sgiliau a gwasanaethau gwyrdd ac yn denu buddsoddiad i Gymru wrth geisio sicrhau trosglwyddiad cyfiawn i sero-net.
Prif Weinidog, roeddwn i'n ffodus o gael bod yn bresennol yn COP26 yr wythnos diwethaf, ac roeddwn i'n falch o weld sylw yn cael ei dynnu yno at bwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn yr ymdrech fyd-eang i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Ac, wrth gwrs, yn lleol yn y de-ddwyrain mae gennym ni argymhellion comisiwn Burns, y mae llawer ohonyn nhw yn cyfeirio at yr angen hwnnw am drafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig fel y ffordd ymlaen i'n hardal ni. Rwy'n meddwl tybed, pan fyddwch chi'n myfyrio ar COP26 a chomisiwn Burns, a sut y maen nhw'n cysylltu â'i gilydd, beth fyddech chi'n ei ystyried yw'r ffordd ymlaen ar gyfer yr argymhellion hynny gan Burns, ac yn arbennig efallai, mesurau cychwynnol dros y flwyddyn neu ddwy nesaf os ydym ni am chwarae ein rhan yn y de-ddwyrain i wneud y cynnydd angenrheidiol o ran trafnidiaeth integredig, sy'n rhan bwysig o'r ymdrech gyffredinol i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Hefyd, o gofio bod tacsis yn rhan bwysig o'r cymysgedd ac, yn wir, yn arwyddocaol ar gyfer ansawdd aer, pryd y gallwn ni ddisgwyl gweld fflydoedd tacsis ledled Cymru yn mynd yn gerbydau trydan?
Llywydd, rwy'n diolch i John Griffiths am hynna, ac yn diolch iddo am fod yn COP i gynrychioli ei bwyllgor ei hun ac i wneud yn siŵr bod Cymru, ar lefel seneddol, yn cael ei chynrychioli ac yn gallu cynnal sgyrsiau, mi wn, â chynrychiolwyr seneddol o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig a ledled y byd.
Wel, mae'n ymddangos i mi, Llywydd, fod adroddiad pwyllgor Burns yn gwbl gyson â neges COP26, bod yn rhaid i ni newid y ffordd yr ydym ni'n teithio, bod yn rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd a gwell o wneud yn siŵr ein bod ni'n pwysleisio llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer cludiant yn hytrach na dibynnu ar y car. Nawr, mae'r uned sydd wedi ei sefydlu gan Trafnidiaeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r 58 o argymhellion adolygiad Burns, ac rydym yn disgwyl ei hadroddiad blynyddol cyntaf yn fuan gan y ddau berson annibynnol sydd wedi eu penodi i oruchwylio gwaith yr uned honno. Bydd yn canolbwyntio ar gamau y gellir eu cymryd ar unwaith—gwella llwybrau teithio llesol i orsafoedd rheilffordd, er enghraifft, gan wneud yn siŵr bod llwybrau beicio newydd arloesol i ganiatáu i bobl symud ar feic yn ogystal ag ar drafnidiaeth gyhoeddus, a bydd yn parhau â'i gwaith i roi mwy o fanylion am argymhellion yr adolygiad sy'n dibynnu ar ailagor y llinell arall sydd ar gael o dde Cymru dros y ffin. Ac, fel hynny, rydym yn parhau i edrych ymlaen at ganlyniadau adolygiad cysylltedd Llywodraeth y DU. Bydd yn brawf gwirioneddol o Lywodraeth y DU a'i pharodrwydd i fuddsoddi mewn pethau y mae'n gyfrifol amdanyn nhw ac sy'n gwneud gwahaniaeth mor uniongyrchol yma yng Nghymru.
O ran tacsis, Llywydd, mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais y bydd pob tacsi a cherbyd hurio preifat yn cynhyrchu dim allyriadau o bibellau mwg erbyn 2028. Rydym yn cynorthwyo yn y gwaith trosglwyddo hwnnw gyda chyllid yn ogystal â mesurau polisi, ac rwy'n gwybod y bydd John Griffiths wedi gweld, yr wythnos diwethaf, ar 10 Tachwedd, ein bod ni wedi lansio cynllun treialu 'rhoi cynnig cyn prynu'. Mae'n gynllun sy'n caniatáu i yrwyr a pherchnogion tacsis ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, yn sir Ddinbych, ac yn sir Benfro roi cynnig ar gerbyd cwbl drydanol sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn am ddim am 30 diwrnod er mwyn hysbysebu manteision y cerbydau trydan y tynnodd John Griffiths sylw atyn nhw.
Prif Weinidog, rydym ni i gyd eisiau i Gymru sicrhau sero-net cyn gynted â phosibl, ac rwy'n croesawu rhai o'r cynlluniau yr ydych chi newydd eu hamlinellu. Ond er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o siarad, gan ddatgan argyfwng hinsawdd yma yn 2019, mae polisïau a newid wedi bod yn araf ac yn feichus, mae targedau allweddol wedi eu methu neu eu newid, ac mae cyllidebau olynol wedi bod ymhell o fod yn wyrdd. Mae adroddiad cyflwr natur 2020 wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw Cymru wedi cyflawni unrhyw un o'i phedwar nod ar gyfer y dull rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac mae'r cynllun cerbydau trydan diweddaraf yn hwyr ac nid yw'n cynnwys y manylion sydd eu hangen ar bobl Cymru. Prif Weinidog, pryd wnewch chi fuddsoddi'r arian sydd ei angen i fodloni'r targedau y mae eich Llywodraeth eich hun wedi eu gosod i'w hun?
Llywydd, nid wyf i'n adnabod y darlun truenus y mae'r Aelod yn ei gyfleu; byddai croeso mawr i ychydig yn fwy o sirioldeb ynghylch Cymru a'n rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Mae'r Llywodraeth hon wedi cymryd camau radical, sydd fel rheol yn cael eu gwrthwynebu, wrth gwrs, gan ei Haelodau hi; pryd bynnag y bydd newid, mae Aelodau'r Blaid Geidwadol ar eu traed i'w wrthwynebu, ac mae ganddyn nhw'r agwedd honno wrth sôn am newid yn yr hinsawdd. Gadewch i ni glywed cyfres arall o areithiau o blaid ffordd fawr o amgylch Casnewydd a gweld pa les fyddai hynny i'r newid yn yr hinsawdd. [Torri ar draws.] Dyna'n union yr wyf i'n ei olygu. Daw'r cwestiwn sy'n cael ei ofyn i mi gan blaid sydd â'r hanes erioed o wrthwynebu'r camau angenrheidiol sydd eu hangen, boed hynny ym maes trafnidiaeth, boed hynny yn y ffordd y bydd angen i ni newid ein deiet yn y dyfodol—byddwn ni'n clywed araith arall yn y munud o blaid polisïau adweithiol ym maes amaethyddiaeth. Beth bynnag yw ef, maen nhw yn ei wrthwynebu, rydym ni'n ei wneud.
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gost gynyddol o fyw ar bobl yng Nghymru? OQ57215
Llywydd, mae aelwydydd o dan bwysau ariannol digynsail o ganlyniad i'r pandemig, ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd, costau byw cynyddol a thoriadau i gymorth lles. Mae penderfyniadau bwriadol a niweidiol gan Lywodraeth y DU yn gwthio llawer mwy o aelwydydd agored i niwed yng Nghymru i dlodi.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynna. Mae'r cymysgedd gwenwynig o Brexit ac anallu a chamreolaeth economaidd y Torïaid yn ergyd drom i deuluoedd. Rwy'n gweld hynny bob dydd ym Mlaenau Gwent. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn gweld yr effaith ar deuluoedd gwirionedd, pobl wirioneddol, bywydau gwirioneddol. Rydym ni'n gweld costau ynni cynyddol, costau bwyd yn cynyddu, chwyddiant ar draws holl gyllideb yr aelwyd, ac rydym ni'n gweld toriadau i gredyd cynhwysol yn ergyd fwyaf i'r tlotaf yn ein plith, ond dyna a allwch ei ddisgwyl gan Lywodraeth Dorïaidd. Prif Weinidog, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gamu i mewn a helpu i gefnogi teuluoedd ledled Cymru sy'n ei chael hi'n anodd o ganlyniad i'r anallu Torïaidd hwn?
Rwy'n diolch i Alun Davies am hynna. Rwy'n credu ei fod yn hael yn disgrifio polisïau'r Llywodraeth Geidwadol fel canlyniad anallu. Fy marn i yw eu bod nhw'n aml iawn yn benderfyniadau bwriadol gan Lywodraeth sy'n gwybod beth mae'n ei wneud, yn gwybod y bydd miloedd yn fwy o blant mewn tlodi yng Nghymru oherwydd eu toriadau nhw i gredyd cynhwysol, ond nid oes dim ots ganddyn nhw. Nawr, yma yn Llywodraeth Cymru heddiw, rydym ni wedi cyhoeddi £51 miliwn yn fwy i gefnogi teuluoedd yng Nghymru yn ystod misoedd anodd y gaeaf—misoedd pan ddywedodd Llywodraethwr Banc Lloegr, Andrew Bailey, wrthyf yr wythnos diwethaf y byddem ni'n gweld chwyddiant yn codi i 5 y cant, dros fisoedd y gaeaf, ar yr union adeg pan fydd gan bobl lai o arian i'w wario ar y pethau sylfaenol hynny gan gynnwys ynni a bwyd, fel y dywedodd Alun Davies. Bydd y £51 miliwn hwnnw yn rhoi £100 i deuluoedd ar yr incwm isaf yng Nghymru i'w helpu gyda'r costau hynny dros y gaeaf hwn. Bydd yn caniatáu i ni adeiladu ymhellach ar ein gwasanaethau cronfa gyngor sengl, gwasanaethau sydd wedi arwain, yn ystod y chwe mis diwethaf, at hawlio £17.5 miliwn yn ychwanegol gan ddinasyddion Cymru o'r system fudd-daliadau. A byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y gronfa cymorth dewisol.
Llywydd, pan edrychwch chi yn awr i weld y penderfyniadau a wnaed yma yn y Siambr hon, pan benderfynodd y Llywodraeth Geidwadol gael gwared ar y gronfa gymdeithasol, rhwyd ddiogelwch olaf y wladwriaeth les, fe wnaethom ni benderfyniad yma yn y Siambr hon i fuddsoddi mewn cynllun i Gymru sydd yr un fath ledled Cymru gyfan, sydd wedi ei seilio ar reolau, sy'n caniatáu i bobl apelio yn erbyn penderfyniadau pan fyddan nhw'n credu nad ydyn wedi eu gwneud yn deg. Yn Lloegr, maen nhw'n gorfod ailddyfeisio system y cefnwyd arni ers tro, ond, yma yng Nghymru, byddwn ni'n parhau i roi arian yn y gronfa cymorth dewisol. Cronfa sydd, yn ystod cyfnod y pandemig yn unig, wedi talu bron i chwarter miliwn o daliadau i'n dinasyddion tlotaf, am gost o £15.9 miliwn, i helpu'r bobl hynny i ymdrin â chanlyniadau uniongyrchol pandemig byd-eang. Dyna'r pethau y mae'r Llywodraeth Cymru hon yn benderfynol o barhau i'w gwneud i amddiffyn ein haelwydydd agored i niwed rhag y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud mewn mannau eraill.
Yn ogystal â thaliadau tywydd oer parhaus a thaliadau tanwydd gaeaf ledled y DU, a'r £0.5 biliwn i gefnogi pobl i gael swyddi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU fis diwethaf, gyda £25 miliwn o hyn yn mynd i Lywodraeth Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gronfa cymorth newydd i aelwydydd gwerth £0.5 biliwn ar gyfer aelwydydd agored i niwed dros y gaeaf i'w dosbarthu gan gynghorau yn Lloegr, gyda Llywodraeth Cymru hefyd yn derbyn £25 miliwn o hyn. Fis diwethaf, gofynnais i'ch Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei chyfran hi o'r arian hwn yn helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf yng Nghymru yn y pen draw. Rwy'n croesawu, felly, gyhoeddiad Llywodraeth Cymru o becyn gwerth £51 miliwn i gynorthwyo pobl y gaeaf hwn, yr wyf i'n cymryd sy'n arian cyfatebol o'r £2.5 biliwn ychwanegol bob blwyddyn i Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yng nghyllideb ddiweddar y DU. Sut, felly, byddwch chi'n gwario'r £11.9 miliwn o'ch cronfa cymorth i aelwydydd gwerth £51 miliwn nad yw wedi ei gyhoeddi eto? A sut byddwch chi'n gweithio mewn partneriaeth wirioneddol â chynghorau, y sector gwirfoddol, grwpiau cymunedol ac entrepreneuriaid cymdeithasol eraill ac yn eu grymuso i helpu i ddarparu'r atebion i broblemau hirdymor ein cymunedau mwyaf difreintiedig?
Wel, Llywydd, nid yw'n ddathliad mawr yng Nghymru o gwbl i gael cynnig £25 miliwn gan Lywodraeth sy'n tynnu bron i £250 miliwn allan o bocedi ein dinasyddion tlotaf. Rwyf i'n galw hynny yn arian mân iawn yn wir. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu mwy na dyblu'r swm o arian a gawsom ni yn y swm canlyniadol hwnnw. Ac mae'r ateb i gwestiwn yr Aelod i'w weld yn y datganiad y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ei gyhoeddi heddiw, oherwydd, yn ogystal â'r taliad arian parod o £100 tuag at dalu biliau tanwydd y gaeaf, mae'r datganiad yn rhoi manylion buddsoddiadau i gefnogi a chryfhau banciau bwyd, i fuddsoddi mewn cynlluniau cymorth trafnidiaeth gyhoeddus, i roi rhagor o arian yn y gronfa cymorth dewisol, ac i barhau, fel y dywedais i, i gefnogi dinasyddion Cymru i wneud yn siŵr eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw gan system fudd-daliadau'r DU drwy ein Advicelink Cymru—Advicelink Cymru, Llywydd, lle'r ydym ni'n cyflogi 35 o gynghorwyr budd-daliadau lles cyfwerth ag amser llawn newydd i ymdrin â'r hyn yr ydym ni'n gobeithio bydd yn llawer iawn o bobl sy'n manteisio ar ein hymgyrch Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi, y byddwn ni'n ei redeg o nawr tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae'r holl bethau hynny yn cael sylw yn natganiad fy nghyd-Weinidog Jane Hutt, ac rwy'n ei gymeradwyo i'r Aelod.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn ddiweddarach yr wythnos hon byddwch chi'n cyflwyno adolygiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o COVID-19 yng Nghymru. Wrth gwrs, yn ystod y cyfnod adolygu presennol hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen â mesurau pellach ar ffurf pasys COVID i lawer o leoliadau adloniant, ac mae pryderon wedi eu codi yn briodol ynglŷn ag effeithiau cyfreithiol a moesegol pasys COVID. A'r gwir amdani yw nad oes unrhyw dystiolaeth i ddangos bod pasbortau brechlyn yn cyfyngu ar ledaeniad y feirws nac, yn wir, yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn. Yr wythnos hon, ceir ofnau gwirioneddol y bydd Llywodraeth Cymru yn ymestyn pasys COVID i leoliadau lletygarwch hefyd. Prif Weinidog, nid yw pasbortau brechlyn yn llwybr allan o gyfyngiadau; maen nhw'n gyfyngiadau, yn wir. Felly, Prif Weinidog, wrth i'r nifer sy'n manteisio ar frechlynnau barhau i gynyddu ac achosion COVID barhau i ostwng, a wnewch chi gadarnhau heddiw na fyddwch chi'n cyflwyno'r pasys COVID hyn mewn lleoliadau lletygarwch? A pha feini prawf y mae'n rhaid eu bodloni bellach i gael gwared ar y pasys COVID yr ydych chi wedi eu cyflwyno yn ddiweddar?
Wel, Llywydd, mae'r Aelod wedi ei chael hi'n gwbl anghywir. Mae pasys COVID yno i helpu i gadw Cymru ar agor. Maen nhw yno i ddilyn y cyngor sydd gennym ni gan SAGE y dylai Llywodraethau gymryd y mesurau cynnar dwysedd isel hynny y gallwch chi eu rhoi ar waith i geisio ymdrin â lledaeniad coronafeirws, sydd wedi bod yn llawer rhy uchel yng Nghymru, a mesurau syml a all, yn gyfunol, wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dyna pam maen nhw wedi eu cyflwyno yng Nghymru—eu cyflwyno yn llwyddiannus iawn yng Nghymru. Rwy'n cofio'r holl ddarogan gwae er mwyn denu sylw o'i feinciau ef ynghylch sut na fyddem ni'n gallu ei wneud, am ba mor anodd y byddai a pha lanast a fyddai pan fyddem ni'n ei wneud—nid oes dim o hynny yn wir. Nid oes dim o hynny yn wir, a dylai'r Aelod wybod yn well na'i awgrymu. Mae'n cael ei wneud yn llwyddiannus iawn, yn ddidrafferth iawn ac yn cael ei wneud gan bobl sy'n gweithio'n galed i amddiffyn y cyhoedd yng Nghymru. Bydd yn helpu i gadw busnesau ar agor. Dyna'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud, ac nid wyf i'n gwneud unrhyw ymddiheuriadau amdano o gwbl. Dyna oedd y peth iawn i'w wneud, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi defnyddio'r arf ychwanegol hwnnw yn yr arfdy i helpu i gadw Cymru yn ddiogel a chadw Cymru ar agor.
Dair wythnos yn ôl, pan oedd y Cabinet yn gwneud ei benderfyniadau, roeddem ni newydd gyrraedd uchafbwynt o 730 o achosion fesul 100,000 yng Nghymru—y ffigur uchaf ar unrhyw ddiwrnod yn ystod holl gyfnod y pandemig. Ni fyddech chi'n meddwl o'i gwestiwn fod Cymru yn wynebu'r math hwnnw o argyfwng, ond dyna'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi. Diolch byth, oherwydd yr ymdrechion y mae pobl yng Nghymru wedi eu gwneud, oherwydd y pethau ychwanegol yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith, mae'r niferoedd hynny bellach wedi lleihau, ac wrth i'r niferoedd leihau, yna mae'r angen i gymryd camau ychwanegol y tu hwnt i'r rhai sydd ar waith eisoes yn lleihau hefyd. Ond yn ystod y ddau ddiwrnod diwethaf, Llywydd, mae'r niferoedd hynny wedi dechrau cynyddu eto. Maen nhw wedi cynyddu yn sylweddol yn yr Alban yn ystod yr wythnos ddiwethaf; maen nhw wedi cynyddu yn sylweddol iawn mewn gwledydd sy'n agos iawn i'r Deyrnas Unedig. Felly, ni ddylai neb feddwl ein bod ni rywsut wedi gweld cefn hyn eto. Bydd y Cabinet yn edrych yn ofalus iawn ar y niferoedd. Rydym ni mewn gwell sefyllfa o lawer nag yr oeddem ni dair wythnos yn ôl, diolch byth, a bydd hynny yn ffurfio'r cyd-destun ar gyfer y penderfyniadau y byddwn ni'n eu cyhoeddi ddiwedd yr wythnos hon.
Prif Weinidog, rydych chi'n gwybod gystal â minnau nad oes unrhyw dystiolaeth wyddonol i ddangos bod pasys COVID yn effeithiol. Mae'r prif swyddog meddygol ei hun wedi dweud bod effaith uniongyrchol wirioneddol pasys COVID yn eithaf bach, fwy na thebyg, felly nid oes unrhyw dystiolaeth wyddonol i awgrymu bod pasys COVID yn gweithio mewn gwirionedd.
Nawr, ffordd arall o helpu i atal lledaeniad COVID-19 yw drwy brofion, ac felly roedd hi'n destun siom mawr yr wythnos diwethaf i glywed y dirprwy brif swyddog meddygol yn dweud nad yw'n credu bod profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos i staff y GIG yn arbennig o bwysig yn y darlun mawr. Prif Weinidog, mae'n hanfodol bod staff y GIG yn cael eu profi fel mater o drefn fel y gallwn ni leihau unrhyw heintiau sy'n cael eu dal mewn ysbytai a rhoi hyder i bobl y byddan nhw, pan fyddan nhw'n mynd i leoliad iechyd, yn cael eu trin gan staff sydd wedi eu harchwilio yn rheolaidd. Mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r broblem hon ar frys ac yn dechrau ystyried o ddifrif ei dull o reoli heintiau mewn ysbytai, fel y gallwn ni ddiogelu cleifion yn GIG Cymru yn well. Wrth gwrs, mae profi yn fwy cyffredinol yn parhau i fod yn rhan bwysig o'r sefyllfa COVID. Trwy gynnal profion rheolaidd, gallwn ddeall ble mae achosion a sicrhau bod gwasanaethau lleol yn gallu ymateb, ac ymdopi yn fwy effeithiol â'r galw ar unedau gofal dwys. Felly, Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â heintiau sy'n cael eu dal mewn ysbytai yng Nghymru? A ydych chi'n cytuno â sylwadau'r dirprwy brif swyddog meddygol, ac a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo ac annog staff y GIG i gymryd profion llif unffordd rheolaidd? Ac o ystyried pwysigrwydd profi'r cyhoedd yn ehangach i liniaru'r risg o drosglwyddo'r feirws i bobl eraill, beth ydych chi'n ei wneud i gryfhau'r system brofi yng Nghymru i sicrhau ei bod hi mor effeithiol â phosibl?
Wel, Llywydd, roedd yr Aelod yn dymuno awgrymu nad oeddem ni'n cymryd cyngor y prif swyddog meddygol ar un llaw—mae'n anghywir yn hynny o beth, gyda llaw: rydym ni yn dilyn cyngor y prif swyddog meddygol, ac mae'n cefnogi ein safbwynt ar y pàs COVID—ond yna mae'n dymuno fy mod i'n anwybyddu cyngor y dirprwy brif swyddog meddygol wrth sôn am y drefn brofi. Byddwn yn dilyn y cyngor gorau y gallwn ni ei gael, byddwn yn parhau i ddiogelu ein gweithwyr iechyd a'n gweithwyr gofal cymdeithasol. Rwyf i wedi cael fy nghalonogi yn fawr gan y nifer sy'n manteisio ar y brechlyn atgyfnerthu yn y ddau sector hynny, a byddwn yn parhau i fod â threfn brofi yn y ddau leoliad hynny sy'n gyson â'r cyngor gorau yr ydym ni'n ei gael.
O ran y pwynt ehangach y mae'r Aelod yn ei ofyn am brofion, wel, rwy'n cytuno ag ef yn hynny o beth, wrth gwrs, bod profion yn rhan bwysig iawn o'n harfogaeth wrth ymdrin â coronafeirws. Rydym ni'n annog pobl i gael eu profi pryd bynnag y bydd ganddyn nhw symptomau neu eu bod nhw wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi ei gadarnhau yn achos coronafeirws, ac, wrth gwrs, mae ein trefn pasys COVID yn caniatáu i rywun ddangos eu bod nhw wedi cymryd y camau y mae angen iddyn nhw eu cymryd i gadw nhw eu hunain ac eraill yn ddiogel drwy gynnal prawf o fewn cyfnod byr o fynd i leoliad lle mae'r risg yn arbennig o uchel. Felly, byddwn yn parhau i wneud hynny. Byddaf i yn dweud hyn wrth yr Aelod, mai'r pryder mwyaf sydd gen i ynglŷn â phrofi yng Nghymru yw'r arwyddion yr ydym ni'n eu cael gan Lywodraeth y DU a gan y Trysorlys eu bod nhw'n bwriadu tynnu arian yn ôl o'r drefn brofi ledled y Deyrnas Unedig, ac mai eu cynllun ar gyfer y cyfnod ar ôl y gaeaf yw lleihau profion i ran weddillol o'r amddiffyniad yn hytrach na'r rhan ganolog o'r amddiffyniad fel y mae ar hyn o bryd ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn sicr yma yng Nghymru.
Wel, Prif Weinidog, y rheswm mae profi staff y GIG fel mater o drefn mor bwysig, ac, wrth gwrs, profion rheolaidd yn y gymuned, yw oherwydd bod pobl wedi colli anwyliaid i COVID-19. Yng Nghymru, mae un o bob pedair marwolaeth COVID o heintiau a gafwyd mewn ysbytai, ac felly mae sylwadau fel rhai'r dirprwy brif swyddog meddygol wedi cael ymateb dig gan y rhai sydd wedi colli anwyliaid, a hynny'n ddealladwy. Nawr, Prif Weinidog, mae'n rheswm arall eto pam mae angen i ni gael ymchwiliad COVID Cymru gyfan, ymchwiliad sydd uwchlaw gwleidyddiaeth bleidiol ac sy'n rhoi'r atebion sydd eu hangen ar bobl. Mae'r Aelod o Senedd y DU dros Islwyn, Chris Evans, yn llygad ei le i dynnu sylw at y ffaith na all datganoli pwerau olygu y gall Llywodraeth Cymru osgoi atebolrwydd, ac rwy'n annog pob Aelod o'r Siambr hon o bob plaid i roi gwleidyddiaeth o'r neilltu a chefnogi ymchwiliad COVID Cymru gyfan. Felly, Prif Weinidog, yn ysbryd cydweithredu gwirioneddol ar draws llinellau gwleidyddol ac o gofio bod gennych chi aelodau o'ch plaid eich hun yn galw am un erbyn hyn, a wnewch chi a'ch Llywodraeth ailystyried eich safbwynt yn awr a chefnogi ymchwiliad COVID penodol i Gymru gyfan i sicrhau bod pobl Cymru yn cael yr atebion y maen nhw'n eu haeddu o ran y ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ymdrin â COVID-19 yma yng Nghymru?
Llywydd, ceir sinigiaeth ddwys yn y cwestiwn yna sy'n peri pryder gwirioneddol yn fy marn i. Mae'r Aelod yn gwneud pwyntiau gwleidyddol pleidiol gan esgus nad yw'n gwneud dim o'r fath. Mae'r ymosodiadau ar Lywodraeth Cymru ar y mater hwn gan ei blaid ef yn gwbl amlwg yn wleidyddol eu natur. Ysgrifennais at Brif Weinidog y DU eto yr wythnos diwethaf, Llywydd, gan nodi'r prosbectws y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl iddo gael ei ddarparu drwy'r ymchwiliad y DU gyfan y mae Prif Weinidog y DU wedi ei addo. Byddaf i'n cyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am hynny yr wythnos hon. Byddaf i'n cwrdd â'r teuluoedd eto ddechrau mis Rhagfyr. Rwyf i o'r farn o hyd mai'r ffordd orau y byddan nhw'n cael yr atebion y maen nhw'n chwilio amdanyn nhw ac yn haeddu mynd ar eu trywydd yw drwy ymchwiliad sy'n rhoi'r profiad yma yng Nghymru o dan y microsgop, ond sy'n gwneud hynny o fewn y cyd-destun y gwnaed y penderfyniadau hynny ynddo. Dyna'r unig ffordd, rwyf i'n credu, y byddan nhw'n cael y mathau o atebion y maen nhw'n chwilio amdanyn nhw. Byddaf i'n dweud eto, fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, Llywydd, os nad ydym ni'n cael y sicrwydd sydd ei angen arnom ni gan Lywodraeth y DU, yna byddai'n rhaid i ni ailfeddwl. Ond popeth y mae Prif Weinidog y DU wedi ei ddweud wrthyf i yn uniongyrchol ac y mae'r Gweinidogion sy'n gweithio ar ei ran wedi ei ddweud wrthyf yw eu bod nhw'n rhannu ein barn ni y dylai'r ymchwiliad gael ei lunio mewn ffordd sy'n darparu'r math o ymchwiliad i benderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru ond yn ei wneud mewn ffordd sy'n caniatáu i'r penderfyniadau hynny gael eu deall yn y cyd-destun ehangach y cawson nhw eu gwneud ynddo bob amser.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Prif Weinidog, hoffwn godi gyda chi y canlyniadau ofnadwy y mae ymgais Llywodraeth San Steffan i sicrhau Brexit caled yn dechrau eu cael ar ein safonau byw ni yma yng Nghymru ac ar draws yr ynysoedd hyn, a gofyn beth allai eich Llywodraeth chi, mewn cydweithrediad â'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, ei wneud i berswadio'r Llywodraeth druenus hon yn Llundain i newid trywydd. Yn ei rhagolygon economaidd a chyllidol fis diwethaf, daeth y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i'r casgliad, o ganlyniad i Brexit caled, y bydd masnach rhwng y DU a'r UE 15 y cant yn is na phe baem ni wedi aros yn yr UE. Mae hynny ddwywaith yr amcangyfrif o gostau hirdymor COVID. Mae'n cyfateb i £80 biliwn y flwyddyn, mwy na phedair gwaith cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru. Yn wir, mae tystiolaeth gerbron Pwyllgor Materion Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi yr wythnos hon wedi nodi ei fod yn ostyngiad o 25 y cant mewn masnach ers 2015 mewn gwirionedd. Yn anochel, bydd hyn yn effeithio ar Gymru yn fwy na mwyafrif y rhannau eraill o'r DU, o gofio dibyniaeth gymharol uwch ein heconomi ar weithgynhyrchu ac amaethyddiaeth, ac felly masnach gyda'r UE. Beth yw dull strategol Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â'r broblem hirdymor gynyddol hon?
Hoffwn ddiolch i arweinydd Plaid Cymru am y cwestiwn yna. Rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth yn werth ei ailadrodd, Llywydd, onid yw, fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, cynghorwyr y Llywodraeth ei hun, yn y cyfnod cyn y gyllideb bythefnos yn ôl, wedi dod i'r casgliad y byddai effaith Brexit o ran crebachu economi'r DU ddwywaith maint y pandemig byd-eang. Ac er bod y pandemig byd-eang yn rhywbeth y gallwn ni adfer ar ei ôl, mae effaith Brexit wedi ei llunio yn y cytundeb a wnaeth Prif Weinidog y DU—cytundeb heb, fel y byddem ni wedi dymuno ei weld, berthynas economaidd â'r Undeb Ewropeaidd a mynediad at y farchnad sengl, undeb tollau, i'w gefnogi. A'r canlyniad yw y bydd pobl yng Nghymru yn dlotach yn barhaol—yn barhaol—o ganlyniad i'r fargen a darwyd gan Brif Weinidog y DU. Ac rydym ni'n ei weld, fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru, ar draws ystod economi Cymru. Rydym ni'n ei weld yn y sector cartrefi gofal, lle nad ydym yn gallu recriwtio pobl mwyach a oedd yn gwneud gwaith mor werthfawr yma yng Nghymru. Rydym ni'n ei weld yn y prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, sy'n ffenomenon ledled y DU a lle mae'r mesurau tila a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn cael effaith ddibwys ar y gyfres honno o anawsterau. Mae gennym ni ddiwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru nad yw'n gallu gweithredu i'w gryfder llawn oherwydd tagfeydd yn y gadwyn gyflenwi, oherwydd nad yw masnach yn llifo gyda'n cymdogion agosaf a phwysicaf heb rwystrau mwyach.
Llywydd, rydym ni'n mynd i'r afael â'r sefyllfa fel Llywodraeth Cymru mewn dwy ffordd benodol. Ceir y problemau penodol sy'n cael eu hachosi ym mhorthladdoedd Cymru, yng Nghaergybi ac yn sir Benfro, gyda masnach wedi gostwng ac anawsterau newydd ar ei llwybr. Ac yn hynny o beth rydym ni'n ceisio perswadio Llywodraeth y DU i wneud y pethau a fyddai'n caniatáu i'r bont dir, y ffordd fwyaf effeithiol o gludo nwyddau rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon a'r DU ac ymlaen i Ewrop, wneud i honno weithredu eto fel yr oedd cyn i'w chytundeb gael ei daro. Ac yna, yn ehangach, rydym ni'n gweithio gydag eraill, rydym ni'n gweithio gyda'n cydweithwyr yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, i geisio rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i gynnal cysylltiadau â'n partneriaid masnachu pwysicaf ar sail parch at ei gilydd, ar y sail, os oes anawsterau mewn cytundebau y mae angen eu datrys, eich bod chi'n dod o amgylch y bwrdd, rydych chi'n gweld y sefyllfa o safbwynt y person arall yn ogystal â'ch safbwynt chi eich hun, ac yna rydych chi'n cyrraedd fformiwla sy'n arwain at welliant. Yr hyn nad ydych chi'n ei wneud yw mynd i'r afael â'r sefyllfa fel y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, lle mae popeth yn ddadl, lle mae popeth yn gyfle i ffraeo, lle mae popeth, fel y mae'n ymddangos i mi, yn gyfle i wneud sefyllfa anodd hyd yn oed yn waeth.
Prif Weinidog, fe wnaethoch chi sôn am Gaergybi yn y fan yna ac, wrth gwrs, rhagwelir y bydd dimensiwn Gogledd Iwerddon anhyblygrwydd Llywodraeth y DU wrth fynd ar drywydd y Brexit caletaf posibl yn gwneud pethau yn llawer iawn gwaeth. Mae Llywodraeth San Steffan bellach yn bygwth, fel yr ydym ni'n gwybod, atal rhannau o gytundeb Gogledd Iwerddon sy'n diogelu marchnad sengl yr UE, erthygl 16 y cytundeb masnach a chydweithredu. Yn wir, hyd yn oed neithiwr, roedd Boris Johnson yn dweud y byddai ataliad o'r fath yn ddilys, yn rhesymol ac yn briodol, pan nad yw'n ddim o'r pethau hyn o gwbl wrth gwrs; mae i'r gwrthwyneb yn llwyr. Pe bai hynny yn digwydd yna, mewn ymateb, byddai'r UE yn ddi-os yn talu'r pwyth drwy atal neu wrthod anrhydeddu rhan o'r cytundeb masnach ar ôl Brexit sydd gan Brydain â'r UE, neu'r cytundeb cyfan. Byddai hynny yn gwneud ein colledion masnachu yng Nghymru hyd yn oed yn waeth, ar wahân i'r chwalfa lwyr o ymddiriedaeth a fyddai'n digwydd rhwng Prydain a'r UE. Pa gamau lliniaru ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio os bydd Llywodraeth y DU yn wir yn dilyn y trywydd hwn, sy'n ymddangos yn fwyfwy tebygol?
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, gadewch i ni obeithio na fyddan nhw'n dilyn trywydd o'r fath, oherwydd, fel y mae Adam Price wedi ei ddweud, byddai'n gwneud sefyllfa anodd hyd yn oed yn fwy niweidiol—yn economaidd, o ran masnach, ond hefyd o ran y sefyllfa ar ynys Iwerddon.
Llywydd, yn ddiweddarach yr wythnos hon, bydd Cymru yn cynnal cyfarfod nesaf y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Bydd yn dod â'r Taoiseach a'r Tánaiste yma i Gymru. Bydd yn dod â Phrif Weinidog yr Alban a Gweinidogion o Ogledd Iwerddon yn ogystal â'r cyfranogwyr eraill. Rwyf i wir yn gobeithio na fydd y cyfarfod hwnnw yn digwydd yn erbyn cefndir gweithredu unochrog gan Lywodraeth y DU ar erthygl 16, oherwydd bod hwnnw yn fforwm lle mae pobl, yn hanesyddol, wedi gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod y pethau iawn yn cael eu gwneud, bod y cysylltiadau yn cael eu gwella nid eu niweidio. A bydd cyfleoedd yno, gan nad yw Prif Weinidog y DU yn dewis mynychu'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig mwyach, ond bydd Michael Gove yno, a bydd cyfleoedd i drafodaethau ar y materion anodd hyn gael eu cynnal yno ac osgoi'r chwalfa ymddiriedaeth y cyfeiriodd Adam Price ato.
Fel cadeirydd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yr wythnos hon, felly, mae Cymru wedi bod yn gweithio'n galed yn barod a bydd yn parhau i weithio'n galed yn y cyngor i wneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio'r cyfle hwnnw yn y ffordd fwyaf adeiladol posibl, gan gydnabod yr amgylchiadau unigryw ar ynys Iwerddon a'r niwed a fyddai'n cael ei wneud pe bai erthygl 16 yn cael ei sbarduno.
Mewn cyfweliad gyda'r BBC ychydig dros wythnos yn ôl, dywedodd eich swyddog cyfatebol yn San Steffan, Syr Keir Starmer, ei fod yn dymuno gwneud i Brexit weithio. Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi beth yw eich dealltwriaeth chi o'r ymadrodd hwnnw neu sut yr ydych chi'n ei ddehongli? A fyddwch chi'n ei gynghori, er budd pennaf Cymru, yn ogystal â'r DU, y dylai olygu, o leiaf, ailymuno ag undeb tollau a marchnad sengl yr UE?
Wel, Llywydd, rwy'n credu y bydd Syr Keir Starmer, a arweiniodd dros Lafur yn ystod misoedd hir hynny y trafodaethau ymadael, wedi bod yn cyfeirio at wahaniaeth yr oedd Llywodraeth y DU mor amharod i'w gydnabod. Mae'r Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r frwydr honno ar ben. Roedd cyfle i greu perthynas economaidd newydd—ddim yn rhan o'r undeb gwleidyddol mwyach, ddim yn rhan o'r undeb cymdeithasol mwyach, ond perthynas economaidd—a fyddai wedi bod yn gwbl dderbyniol i Mrs Thatcher, a gytunodd y rhan fwyaf ohoni, ac a fyddai wedi cadw gallu busnesau yma yng Nghymru i barhau i fasnachu a pharhau i ddatblygu marchnadoedd yr oedden nhw wedi buddsoddi cymaint ynddyn nhw dros y 40 mlynedd. Roedd honno yn ddadl a wnaeth Syr Keir Starmer yn rheolaidd ac fel mater o drefn yn ystod yr holl drafodaethau hynny. Clywais ef fy hun. Cefais gyfle i fod mewn cyfarfodydd gydag ef lle y gwnaeth y pwynt hwnnw i Weinidogion y DU—y gallech chi adael yr Undeb Ewropeaidd yn yr ystyr wleidyddol, yn y ffordd yr oedd y refferendwm wedi ei benderfynu, ond nid oedd hynny yn golygu bod yn rhaid i chi niweidio eich buddiannau economaidd yn y broses. Mae'n ymddangos i mi mai ailadeiladu cyfres economaidd o drefniadau sy'n caniatáu i fasnach lifo, sy'n caniatáu i fusnesau ffynnu, yw'r uchelgais fwyaf cymedrol y byddai unrhyw un sy'n edrych ar y sefyllfa bresennol yn dymuno ceisio ei chyflawni.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganran gweithlu Cymru sy'n ennill cyflog byw go iawn neu'n uwch na hynny? OQ57177
Rwy'n diolch i Mike Hedges am y cwestiwn yna, Llywydd. Yn ôl y Sefydliad Cyflog Byw, yn 2021, 82.1 y cant oedd cyfran y swyddi cyflogeion yng Nghymru a oedd yn cael o leiaf y cyflog byw gwirioneddol yn dâl. Bydd cyhoeddiad ddoe o gynnydd i gyfradd yr awr y cyflog byw gwirioneddol o fudd i bron i 13,000 o weithwyr yng Nghymru i 359 o gyflogwyr achrededig.
A gaf i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich ateb? Gwneud Cymru yn genedl lle mae pawb yn cael o leiaf y cyflog byw gwirioneddol yn dâl yw un o fy uchelgeisiau i. Er na all Llywodraeth Cymru gyfarwyddo cwmnïau preifat nad ydyn nhw'n cael unrhyw gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae ganddyn nhw ddylanwad dros sefydliadau a ariennir yn uniongyrchol a'r rhai sy'n contractio gyda sefydliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r rhai sy'n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru. Sut mae Llywodraeth Cymru yn dylanwadu ar gwmnïau o'r fath i dalu'r cyflog byw gwirioneddol, yr wyf i'n credu bod pawb yn ei haeddu?
Rwy'n diolch i Mike Hedges am hynna. Mae'n uchelgais yr amlinellodd yr wyf i'n sicr yn ei rannu, a, Llywydd, y newyddion da oedd bod cam mwy ymlaen o ran nifer y cyflogwyr a gafodd eu hachredu fel rhai a oedd yn talu'r cyflog byw gwirioneddol y llynedd nag ers nifer o flynyddoedd yn y gorffennol, ac mae hynny er gwaethaf yr holl anawsterau y mae cwmnïau wedi eu hwynebu yn y cyfnod hwnnw, a chafwyd achrediadau newydd sylweddol eleni—Canolfan Mileniwm Cymru, Techniquest, y Village Bakery yn Wrecsam, i gyd yn ymuno â'r rhestr gynyddol honno o gyflogwyr sy'n cydnabod nid yn unig yr achos cyfiawnder cymdeithasol a nodwyd gan Mike Hedges, ond yr achos economaidd dros fusnes. Nid enillion enw da yn unig sydd i'w cael o fod yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol; mae'n golygu eich bod chi'n fwy tebygol o recriwtio, eich bod chi'n fwy tebygol o gadw, eich bod chi'n fwy tebygol o fod â phobl sy'n dymuno cyfrannu at lwyddiant y cwmni hwnnw. Ceir dadl fusnes dros y cyflog byw gwirioneddol.
Rwy'n bwriadu ysgrifennu, Llywydd, at bob cyflogwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn dilyn cyhoeddiad ddoe o'r cynnydd i'r cyflog byw gwirioneddol, i'w hannog unwaith eto i ymrwymo i fod ar y daith achredu honno. Rwy'n hapus i gydnabod, neu rwy'n barod i gydnabod o leiaf, y bydd y daith honno yn cymryd mwy o amser i rai cyrff nag eraill; yr hyn nad wyf i'n fodlon ei dderbyn yw nad ydych chi wedi ymrwymo i ddechrau'r daith honno. A phan fyddwch chi yn y broses, yna rydym ni wedi gweld o ddigwyddiadau yma yng Nghaerdydd—lle mae gennym ni fwrdd iechyd sydd wedi ei achredu, cyngor sydd wedi ei achredu, uchelgais i fod yn ddinas cyflog byw gwirioneddol—pan fyddwch chi ar y daith, yna bydd gwynt yn eich hwyliau a fydd yn mynd â chi i'r sefyllfa a nododd Mike Hedges yn ei gwestiwn atodol.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a phrynhawn da, Prif Weinidog. Prif Weinidog, mae eich Llywodraeth yn dweud mai ei nod yw talu'r cyflog byw gwirioneddol i'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Er nad oes eglurder o hyd ynghylch pryd y bydd hyn yn digwydd, nid oes amheuaeth bod wir ei angen. Fel yr ydym ni newydd ei drafod, cynyddodd y Sefydliad Cyflog Byw y cyflog byw ac mae bellach yn £9.90 yr awr. Ond mae hyn yn dal yn is na'r lefel y byddem ni yn y Ceidwadwyr Cymreig a'r gwrthbleidiau eraill yn ei thalu i'n staff gofal—rydym ni'n addo £10 yr awr. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu ei bod hi'n iawn bod rhywun sy'n casglu troliau mewn archfarchnad yn ennill cymaint â'r rhai sy'n gofalu am ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yma yng Nghymru? A ydych chi'n meddwl bod hynny'n iawn?
Wel, rwy'n dychmygu bod yr Aelod yn gefnogwr cryfach o lawer o economi'r farchnad nag y byddwn i, ond mae'n ymddangos ei fod yn barod i ymyrryd ynddo pan fydd yn credu bod hynny o fantais iddo. Roeddwn i'n falch, Llywydd, o weld bod chwe chwmni gofal wedi cyhoeddi ddoe eu bod nhw wedi ymuno â'r rhestr achrededig o gwmnïau yng Nghymru sy'n talu'r cyflog byw gwirioneddol. Gwnaeth ein plaid ni, fy mhlaid i, ymrwymiad yn yr etholiad diwethaf y byddem ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol i ofalwyr yng Nghymru, a dyna fyddwn ni'n ei wneud. Rydym ni bellach wedi derbyn cyngor y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol; cyfarfu wyth gwaith er mwyn llunio'r cyngor hwnnw i ni. Bydd cyfarfod gweinidogol gyda'r fforwm yr wythnos nesaf, a phan fyddwn ni'n cyhoeddi ein cyllideb ddrafft ar 20 Rhagfyr, bydd yr Aelodau yn gweld sut rydym ni'n bwriadu rhoi'r addewid hwnnw ar waith.
Prif Weinidog, rwy'n rhannu uchelgais Mike Hedges, ac yn cytuno â chi o ran budd economaidd y cyflog byw gwirioneddol. Rwyf i wedi fy siomi gan sylwadau'r Ceidwadwyr, bob amser yn ceisio rhoi pobl yn erbyn ei gilydd—mae'n drist ac mae'n gwbl ddiangen.
Prif Weinidog, mae 300 o gyflogwyr cyflog byw achrededig yng Nghymru, gan gynnwys pob un sector addysg uwch yng Nghymru—yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig. Roeddwn i'n falch ddoe gyda chyhoeddiad Dafydd Llywelyn—Comisiynydd Heddlu a Throsedd Plaid Cymru yn Nyfed-Powys—fod Dyfed-Powys yn dilyn y llwybr hwnnw, ond yr unig heddlu yng Nghymru. Ac, fel y gwnaethoch chi sôn, Cwm Taf, Cwm Taf yw'r unig—. Mae'n ddrwg gen i, Caerdydd a'r Fro yw'r unig fwrdd iechyd, ond mae Cwm Taf yn dechrau ar y daith honno.
Rwy'n sylwi eich bod chi wedi dweud y byddech chi'n ysgrifennu llythyr atyn nhw, ond beth arall allwch chi ei wneud, Prif Weinidog, i annog y cyrff cyhoeddus hyn i wneud yn siŵr, erbyn yr Wythnos Cyflog Byw nesaf y flwyddyn nesaf, y gellir achredu pob corff cyhoeddus yng Nghymru, neu'n sicr fod yn dechrau'r daith bwysig honno ymlaen? Diolch yn fawr.
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna, ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd. Rwyf i hefyd yn croesawu penderfyniad Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys i fod yn gyflogwr achrededig, ac mae Rhys ab Owen yn iawn i dynnu sylw at lwyddiant y sector addysg uwch yng Nghymru. Yn Abertawe, yn ninas Mike Hedges ei hun, mae'n enghraifft flaenllaw o'r hyn y gellir ei wneud. Mae Llywodraeth Cymru ein hunain yn ceisio arwain drwy esiampl. Rydym ni'n gyflogwr cyflog byw gwirioneddol achrededig. Rydym ni'n ariannu Cynnal Cymru i fod yn gyfrwng sy'n ymgyrchu ar y mater hwn, sydd wedi cael y llwyddiant a amlinellais yn gynharach. Mae'r bwlch rhwng canran y cyfloegion sy'n cael eu talu y cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru ac mewn mannau eraill wedi crebachu eto y llynedd. Mae wedi bod yn crebachu o flwyddyn i flwyddyn, ac rydym ni bellach yn agos iawn at sefyllfa'r DU hefyd. Rydym ni'n defnyddio'r dylanwad sydd gennym ni drwy ein contract economaidd, ac yn sicr, yn y llythyr y byddaf i'n ei ysgrifennu at gyrff cyhoeddus yng Nghymru, byddaf yn gwneud yr holl bwyntiau y mae'r Aelodau wedi eu gwneud yma am fanteision gwneud hynny.
4. Beth yw asesiad y Prif Weinidog o effaith COP26 ar Gymru? OQ57202
Rwy'n diolch i'r Aelod. Llywydd, un o brif effeithiau COP26 fydd y cynnydd y mae wedi ei wneud i ymwybyddiaeth y cyhoedd yng Nghymru o'r angen am weithredu brys. Trwy COP Cymru ac Wythnos Hinsawdd Cymru, ein nod yw ysgogi'r ymdrech gyfunol sydd ei hangen gan ddinasyddion Cymru ar ôl COP26 i geisio sicrhau planed sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Prif Weinidog, edrychaf ymlaen yn fawr at gymryd rhan yn COP Cymru, oherwydd rwy'n siŵr bod hynny yn gwbl gywir—mae angen i ni gynnwys pawb yn y fenter hon i achub y byd rhag trychineb hinsawdd.
Yn amlwg, mae COP yn waith sydd ar y gweill i ddwyn perswâd ar bob gwlad bod yn rhaid i ni newid yn sylweddol er mwyn osgoi'r trychineb hinsawdd sydd mor olau â'r dydd. Mae'r DU yn cadw ei harweinyddiaeth o COP ac eto, yn y wlad hon, mae'r DU yn parhau i wario £10 biliwn y flwyddyn ar gymorthdaliadau tanwydd. Felly, rwy'n croesawu'n fawr y ffaith bod Cymru yn ymuno â'r gynghrair rhoi terfyn ar olew a nwy. Sut ydych chi'n credu y gallwch chi helpu i ddwyn perswâd ar Lywodraeth y DU ynghylch yr angen i roi terfyn ar sgandal cymorthdaliadau tanwydd ffosil, sy'n gyfrannwr mor fawr at y problemau sy'n ein hwynebu yn awr?
Rwy'n diolch i Jenny Rathbone am hynna, ac yn diolch iddi hefyd am fod wedi cymryd yr amser i deithio i Glasgow a bod yn rhan o'r trafodaethau COP, fel y gwn y gwnaeth Aelodau eraill mewn rhannau eraill o'r Siambr hefyd. Rwy'n cytuno, Llywydd, â'r hyn a ddywedodd Jenny Rathbone—fe wnaeth COP gyflawni nifer o ganlyniadau pwysig iawn. Y camau ymlaen o ran datgoedwigo, o ran methan, o ran y symiau o arian sydd wedi eu rhoi at ei gilydd yn awr i gynorthwyo'r gwledydd hynny mewn rhannau eraill o'r byd sydd eisoes yn dioddef effeithiau'r newid yn yr hinsawdd—roedden nhw yn llwyddiannau y broses COP, ac roedden nhw'n llwyddiannau arweinyddiaeth y broses COP a ddangoswyd gan Alok Sharma hefyd. Fodd bynnag, roedd pethau y byddem ni wedi gobeithio y byddai COP wedi gallu mynd i'r afael â nhw sydd bellach wedi eu gohirio tan ddiwrnod arall. Ac yn sicr, mae lleihau echdynnu tanwydd ffosil yn un o'r pethau na wnaeth COP ei gyflawni yn y ffordd y byddai ei uchelgeisiau cychwynnol wedi ei awgrymu.
Felly, rwy'n falch iawn, Llywydd, bod Cymru yn un o wyth aelod sylfaenol y gynghrair rhoi terfyn ar olew a nwy. Roedd yn un o uchafbwyntiau ein cyfranogiad ni yn y gynhadledd. Rydym ni'n aelodau ochr yn ochr ag aelod-wladwriaethau fel Costa Rica, Denmarc, Ffrainc, Iwerddon, Sweden a Seland Newydd, ac rydym ni yno gyda Llywodraethau is-genedlaethol eraill o California a Quebec. Bydd y gynghrair yn dod yn gyfrwng, rydym ni'n credu, y byddwn ni, gyda'n gilydd, gyda'r partneriaid eraill hynny, yn gallu gwneud mwy drwyddo i roi terfyn ar echdynnu tanwyddau ffosil. Yma yng Nghymru, mae gennym ni'r hierarchaeth a ddatblygodd fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths yn ystod yr amser yr oedd hi'n gyfrifol am y pethau hyn, lle mae tanwyddau ffosil ar waelod ein hierarchaeth tanwydd ac ynni. Ac yng Nghymru, rydym ni wedi ymrwymo i leihau ac yna atal echdynnu pellach o'r adnoddau hynny sydd, yn anochel, yn gyfyngedig ac yn ddarfodedig. Byddwn yn cyflwyno'r polisïau yr ydym ni wedi eu darparu a'r penderfyniad sydd gennym ni i'w gweithredu i fod yn rhan o'r gynghrair honno, ac yna'n denu eraill i'r un achos, oherwydd bod hynny yn rhan gwbl angenrheidiol o'r gwaith dilynol y bydd yn rhaid ei wneud yn awr y tu hwnt i'r gynhadledd yn Glasgow.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog twf yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru? OQ57211
Diolch i'r Aelod. Llywydd, bydd y cyfraniad mwyaf at dwf y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru yn dod drwy ostyngiad parhaus yng nghyfradd y coronafeirws yn yr ardal. Ers dechrau'r pandemig, mae'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus wedi gwella ond mae'n dal i fod yn llawer is na lefelau cyn y pandemig.
Diolch, Prif Weinidog. Roeddwn i yn COP26 yn ddiweddar a'r brif thema oedd ein bod ni angen camau radical i newid ein tynged ar y blaned hon. Mae hyn yn cynnwys y ffordd yr ydym ni'n trefnu trafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen iddi fod yn fwy deniadol os yw pobl yn mynd i gefnu ar eu ceir. Yn anffodus, mae'r newid diwylliant hwn y mae wir ei angen wedi cael ei lesteirio gan olygfeydd gorlawn fel y rhai a welsom ni ar ôl gêm Cymru yn erbyn Belarws, y problemau y mae'n ymddangos eu bod nhw wedi cael eu datrys gyda Stagecoach ddim yn talu cyflog teg i yrwyr, sydd wedi effeithio yn ddifrifol ar wasanaethau yn fy rhanbarth i, a rhai gwasanaethau cyn COVID yn diflannu oddi ar yr amserlen. Mae strategaeth drafnidiaeth Cymru a ddatgelwyd gennych chi yn gynharach eleni yn cynnwys targed y bydd 45 y cant o deithiau yn cael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2040, cynnydd o 32 y cant yn y cyfnod cyn y pandemig. Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun yn fy rhanbarth i sy'n dal heb ei argyhoeddi bod trafnidiaeth gyhoeddus y gwasanaeth glân, cyfforddus a dibynadwy y maen nhw angen iddi fod?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig yna, sydd, yn fy marn i, yn codi cyfres o faterion pwysig iawn. Mae cyd-destun COVID yn dal i fod yn real iawn i drafnidiaeth gyhoeddus, Llywydd. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwariodd Llywodraeth Cymru £176 miliwn yn ychwanegol at yr hyn y byddem ni fel arfer wedi ei wario ar wasanaethau rheilffordd er mwyn cadw'r gwasanaeth rheilffordd i fynd. Yn ystod y 15 mis diwethaf, rydym ni wedi gwario £108 miliwn yn cynnal gwasanaethau bws, ac eto mae nifer y teithwyr y tu allan i'r diwrnodau digwyddiadau mawr hynny yn dal i fod yn sylweddol is na'r hyn y byddai wedi bod yn y mis cyn i'r coronafeirws daro. Gostyngodd nifer y teithwyr ar fysiau hyd at 95 y cant yn ystod diwrnodau gwaethaf y pandemig; mae wedi gwella i 66 y cant. Fe wnaeth teithiau rheilffordd wella ac maen nhw'n gwella eleni, ond yn y chwarter diwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei gyfer, roedd 182 miliwn o deithiau teithwyr rheilffordd ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn yr un chwarter yn 2019, 437 miliwn oedd y ffigur. Ar hyn o bryd, dyna'r cyd-destun sy'n llywio ein darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus o hyd. Mae ganddyn nhw lawer llai o bobl, mae eu blwch arian yn llawer iawn mwy gwag, maen nhw'n dibynnu ar ein gallu cyfyngedig i barhau i ddarparu cymorthdaliadau, ac mae'n anodd iddyn nhw lunio'r dyfodol hwnnw.
Serch hynny, fel Llywodraeth Cymru, rydym ni'n parhau i wneud y pethau y gwnaethom ni ddweud y byddem ni'n eu gwneud i greu metro de Cymru, a fydd yn berthnasol i ranbarth yr Aelod. Byddwn yn cyhoeddi cynllun bws ym mis Ionawr, a fydd yn rhagflaenu'r Papur Gwyn a'r Bil y byddwn ni'n ei gyflwyno wedyn yma yn y Senedd i ail-reoleiddio gwasanaethau bws. Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y fflyd drydan, sydd i'w gweld yng Nghasnewydd a Chaerdydd a'r tu allan hefyd. Felly, er gwaethaf yr anawsterau, sy'n real iawn ac sy'n dal i bwyso yn galed iawn ar y diwydiant, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn yr amodau a fydd yn caniatáu i'r sawl y cyfeiriodd Peredur Owen Griffiths ato, bod yn rhaid i ni ei argyhoeddi bod rhaid cefnu ar y car a mynd ar fws neu drên, y bydd gennym ni'r atebion iddo y bydd yn eu hystyried yn argyhoeddiadol.
6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o reolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ57214
Llywydd, penodwyd prif weithredwr newydd, cyfarwyddwr meddygol newydd a dau aelod annibynnol newydd eleni i gryfhau arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fel sy'n ofynnol o dan y lefel bresennol o ymyrraeth a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Diolch. Prif Weinidog, yn ogystal â'r prif weithredwr, y cadeirydd, yr is-gadeirydd, saith aelod annibynnol, saith cyfarwyddwr gweithredol, mae'r bwrdd hefyd yn talu wyth cyfarwyddwr rhanbarth cyfan a 36 o gyfarwyddwyr, penaethiaid ac arweinwyr ar gyfer y rhanbarthau unigol—cyfanswm o 66 o gyfarwyddwyr. Er gwaethaf y strwythur rheoli pendrwm hwn, byddwch yn ymwybodol o lythyrau a dderbyniwyd yr wythnos diwethaf gan feddygon sy'n gweithio mewn adrannau brys yn Ysbyty Gwynedd, Glan Clwyd a Maelor, ac roedden nhw'n eich rhybuddio chi ac eraill bod ein harweinyddiaeth feddygol a nyrsio wedi methu â mynd i'r afael â phatrymau ymddygiad sy'n andwyo effeithlonrwydd ac nad ydyn nhw wedi esblygu ers degawdau.
Mae'r llythyrau brawychus hyn yn tanlinellu bod adrannau wedi mynd yn orlawn fel mater o drefn i'r pwynt lle mae darparu hyd yn oed yr agweddau mwyaf sylfaenol ar feddygaeth frys, fel trosglwyddiad cyflym o ambiwlansys, brysbennu, asesiadau ac ymchwiliadau cynnar, ac ymyriadau cyfnod allweddol o ran sepsis, strôc, gofal cardiaidd, trawma mawr a dadebru wedi'i beryglu yn fawr. Ac mae hynny er gwaethaf cyfradd swyddi gwag bresennol o 670 o swyddi gwag ar gyfer nyrsys rheng flaen. O ystyried yr anhrefn hwn sy'n bodoli o fewn y bwrdd hwn, a wnewch chi gael trafodaeth gyda'ch Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i sefydlu ymchwiliad i'r rheolwyr i ganfod ai eu tynnu nhw allan o fesurau arbennig, ychydig cyn etholiad, oedd y penderfyniad cywir mewn gwirionedd?
Wel, Llywydd, yr wythnos diwethaf roedd yr Aelod yn cwyno nad oedd digon o fiwrocratiaid y tu ôl i'w desgiau, a'r wythnos hon mae hi eisiau cwyno bod gormod. [Torri ar draws.] Roeddwn i yn y Siambr yr wythnos diwethaf pan gwynodd yr Aelod am brinder pobl y tu ôl i'w desgiau yn y gogledd, ac rwy'n gwrando'n astud ar yr hyn y mae'n ei ddweud heddiw wrth gwyno bod gormod o bobl yn gwneud y swyddi hynny. Ni dderbyniwyd unrhyw lythyr yr wythnos diwethaf, Llywydd. Ysgrifennwyd y llythyrau hynny ym mis Rhagfyr y llynedd a mis Mehefin eleni—[Torri ar draws.] A'r llythyrau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw, Llywydd—. Rwy'n gwrando'n astud arni, hyd yn oed os nad yw'n gwrando arni hi ei hun. Ysgrifennwyd y llythyrau y cyfeiriodd hi atyn nhw ym mis Rhagfyr y llynedd a mis Mehefin y llynedd—
Cymerwch y peth o ddifrif—
Fe wnaf i gymryd y peth o ddifrif, oherwydd rwyf i hefyd wedi gweld yr ateb a roddodd y bwrdd i'r llythyrau hynny ym mis Gorffennaf eleni—y papur bwrdd, y papur bwrdd manwl iawn, a'r papur bwrdd difrifol iawn a aeth drwy'r pwyntiau a godwyd gan y clinigwyr hynny, oherwydd maen nhw wir yn bwyntiau pwysig iawn, ac mae'r bwrdd yn eu trin gyda'r difrifoldeb y maen nhw'n ei haeddu. Mae ganddyn nhw 800 yn fwy o nyrsys yn Betsi Cadwaladr nag yr oedd ganddyn nhw ddechrau tymor diwethaf y Senedd, felly mae hynny'n 800 yn fwy o bobl sy'n gallu helpu'r bwrdd i ddarparu'r gwasanaethau y mae pobl yn etholaeth yr Aelod ac ar draws y gogledd yn dibynnu arnyn nhw ac yn eu haeddu.
Mae'r gwasanaeth iechyd, ym mhob rhan o Gymru ac ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, o dan y pwysau mwyaf enfawr, a gall fod yn sicr a gall y bobl—[Torri ar draws.] Efallai nad yw'n ddigon da i'r Aelod, ond nid oes ganddi hi hudlath ac nid oes ganddi atebion hawdd i'r problemau hyn ac nid oes gan neb arall chwaith. Gall fod yn sicr ac, yn bwysicach na hynny, gall trigolion y gogledd fod yn sicr bod holl ymdrech y bwrdd a'i uwch reolwyr yn cael ei gyfeirio at wneud popeth o fewn eu gallu i ymdrin â'r pwysau dyddiol y mae'r gwasanaeth iechyd yn eu dioddef, ac i wneud yn siŵr bod y miloedd o bobl sydd, dim ond heddiw, yn ystod yr un diwrnod hwn, y miloedd o bobl yn y gogledd a fydd wedi defnyddio'r gwasanaeth iechyd ac wedi ei ddefnyddio yn llwyddiannus, yn parhau i dderbyn y gwasanaeth hwnnw.
7. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa adnewyddu cymunedol? OQ57196
Llywydd, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud penderfyniad bwriadol i eithrio'r Senedd rhag bod yn rhan o ddylunio a darparu'r gronfa honno. Mae'n parhau i sathru ar y setliad datganoli ac i gefnu ar ei haddewid na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Prif Weinidog, yr anhawster gyda hyn a'r diffyg ymgysylltu yw'r diffyg cyfatebiaeth yn y fframwaith polisi yng Nghymru, gyda Deddf cenedlaethau'r dyfodol, ein dull o fuddsoddi economaidd, ein dull o ymdrin â swyddi a sgiliau a'n dull o ddatblygu ac integreiddio'r sector addysg uwch yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i bweru'r economi yn ei blaen. Os cawn ni fewnbwn ar hap o gyllid gan Lywodraeth y DU heb unrhyw ymgysylltiad â hynny, yna mae'n gofyn am anhrefn, a bod yn gwbl onest. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog: a oes ganddo unrhyw obaith o gwbl y bydd Swyddfa Cymru, Gweinidogion adrannol y DU ac, yn wir, Prif Weinidog y DU ei hun yn deffro i'r realiti o weithio gyda Chymru, nid yn unig gydag awdurdodau lleol a sefydliadau unigol ar lawr gwlad, ond gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth etholedig Cymru, er mwyn gwneud yn siŵr bod y buddsoddiad yn cyflawni'r hyn y mae i fod i'w gyflawni?
Wel, Llywydd, rwyf i wedi cynnig dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU gymryd rhan yn y rhaglen hon ar sail proses gwneud penderfyniadau ar y cyd. Roeddwn i'n gyndyn i wneud hynny, Llywydd, gan y dylai'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud yma; mae'r rhain yn gyfrifoldebau datganoledig, a gadarnhawyd mewn dau refferendwm gan bobl Cymru. Mae'n gyllid sy'n perthyn yma i'r Senedd hon benderfynu arno, ond oherwydd yr holl ddadleuon y mae Huw Irranca-Davies yn eu gwneud, Cadeirydd—ac mae'n eu gwneud nhw gydag awdurdod gan mai ef yw cadeirydd y fforwm strategol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru—oherwydd yr holl ddadleuon hynny ynghylch dymuno i arian cyhoeddus gael ei ddefnyddio i'r eithaf orau, i wneud yn siŵr bod y prosiectau a ddewisir yn cyd-fynd â'r pethau eraill sy'n cael eu hariannu yn y maes hwnnw, rwyf i wedi cynnig ymgysylltiad Llywodraeth Cymru ynddo, ar yr amod ein bod ni'n gyd-wneuthurwyr penderfyniadau. Nid oes gan Lywodraeth y DU ddiddordeb yn y cynnig hwnnw. Mae'n dymuno bwrw ymlaen fel y mae wedi dangos yn ystod yr wythnosau diwethaf; mae eisiau i benderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yn Llundain. Mae eisiau i Whitehall wybod yn well na ni am y pethau sydd bwysicaf yma yng Nghymru, a tra bo hynny yn parhau fel y ffordd y mae'n ymdrin â'r pethau hyn, mae arnaf ofn, pa gynigion bynnag y byddem ni'n eu gwneud fel Llywodraeth Cymru i gynorthwyo, maen nhw'n annhebygol—ac rwy'n drist iawn; rwy'n wirioneddol drist i ddweud—mae'n annhebygol iawn y byddan nhw'n cael eu clywed gydag unrhyw dderbyngarwch.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Joyce Watson.
8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi rhieni newyddenedigol? OQ57209
Diolch i Joyce Watson, Llywydd. Yn nhymor diwethaf y Senedd, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £110 miliwn mewn datblygiadau newyddenedigol ledled Cymru. Mae hynny yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol, sydd bellach ar gael ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, wedi'u cefnogi gan dros £3 miliwn o gyllid gwella iechyd meddwl blynyddol.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'n Ddiwrnod Cynamseroldeb y Byd yfory, pan fyddwn ni'n troi ein meddyliau a'n canolbwynt at enedigaeth gynamserol, sydd, yn anffodus, weithiau yn cael effaith aruthrol ar deuluoedd. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae eich Llywodraeth wedi rhoi sylw arbennig iddo drwy'r rhaglen 1000 Diwrnod Cyntaf, a chyda buddsoddiad cyson mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, yr ydych chi wedi sôn amdano. Roedd diweddariad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar hyn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn nodi'r cynnydd da a wnaed o ran cymorth profedigaeth, ond a oes diweddariad ar yr hyn sy'n cael ei wneud i wella cymorth seicolegol i rieni newyddenedigol hefyd, yr oedd y pwyllgor hefyd wedi ei argymell?
Rwy'n diolch i Joyce Watson am hynny, Llywydd, ac am dynnu sylw at Ddiwrnod Cynamseroldeb y Byd yfory. Bydd angen gofal newyddenedigol ar un o bob 10 babi yng Nghymru, ac rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn synnu o glywed y cafodd 2,800 o fabanod yng Nghymru eu derbyn i ofal newyddenedigol yn 2020. Rwy'n ddiolchgar iawn i sefydliadau fel Bliss am y cymorth y maen nhw'n ei gynnig i deuluoedd o dan yr amgylchiadau hynny, ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r aelodau staff hynny, oherwydd mae gwasanaethau newyddenedigol yng Nghymru wedi bod dan bwysau aruthrol, ochr yn ochr â gweddill y gwasanaeth iechyd, Llywydd, yn yr wythnosau diwethaf, gyda chyfraddau absenoldeb o hyd at 30 y cant—staff yn mynd yn sâl gyda coronafeirws, wedi'u heffeithio arnyn nhw ganddo mewn ffyrdd eraill.
Pan oeddwn i’n Weinidog iechyd, Llywydd, cefais i gyfle i ymweld â nifer o unedau newyddenedigol. Prin eich bod chi eisiau anadlu pan fyddwch chi yno gyda babanod mor fach ag y gwelwch chi'n cael gofal llwyddiannus yno. Wrth gwrdd â rhieni, mae'n brofiad gofidus iawn i lawer ohonyn nhw, ac mae cymorth seicolegol, fel y dywedodd Joyce Watson, yn bwysig iawn iddyn nhw hefyd. Mae yna safonau'r Coleg Brenhinol yn y maes hwn, y mae pob bwrdd iechyd yn gweithio i'w cyrraedd, a lle mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid newydd i'w cynorthwyo i wneud hynny. Mae gwella cyfle i fanteisio ar therapïau seicolegol yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer ariannu gwella gwasanaethau yn y maes hwn, ochr yn ochr â'r seilwaith ffisegol, sy'n amlwg iawn yn ardal Joyce Watson o Gymru. Ond mae'r ochr therapiwtig hefyd yn derbyn y buddsoddiad hwnnw.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Rwyf i wedi ychwanegu un datganiad at yr agenda heddiw ar COP26, a fydd yn cael ei gyflwyno gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Mae'r datganiadau ar ail gartrefi a fforddiadwyedd a chynllun tai cymunedau Cymraeg wedi'u gohirio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Diolch i chi am eich datganiad busnes, Gweinidog. A gaf i alw am ddatganiad i nodi Wythnos Rhyng-ffydd? Wythnos Rhyng-ffydd yw'r wythnos hon, ac, wrth gwrs, mae grwpiau ffydd ledled Cymru yn gwneud cyfraniad enfawr i gymdeithas. Rwy'n credu y byddai'n amserol i nodi'r wythnos pe bai datganiad yn cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth. Byddai hefyd yn ddefnyddiol, rwy'n credu, yn y datganiad hwnnw, os gallech egluro pam y llwyddodd y Prif Weinidog i ddathlu Diwali, gŵyl Hindŵaidd bwysig, yr wythnos hon heb orchudd wyneb, tra bod pobl ledled y wlad yn dal i orfod gorchuddio eu cegau er mwyn canu emynau mewn addoldai ledled y wlad. Mae hynny'n amlwg yn safon ddwbl ac mae angen mynd i'r afael â hyn. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad ar y materion pwysig hyn.
Diolch. Dydw i ddim yn credu ei bod yn briodol gwneud datganiad, ond yn sicr byddwn i'n talu teyrnged i'r holl sefydliadau sy'n ein cefnogi ni fel Llywodraeth Cymru. Byddwch chi'n ymwybodol o'r gwaith anhygoel y maen nhw'n ei wneud gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Rwy'n gwybod eich bod chi'n arwain cyfarfodydd gweddi bob wythnos, ac, unwaith eto, rwy'n diolch, yn arbennig i David Emery.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad yn ymwneud â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar deithio rhyngwladol. Yn benodol, mae etholwr yng nghwm Llynfi wedi dal COVID-19 yn ddiweddar, ond daeth ei chyfnod ynysu hi i ben ddydd Mawrth 9 Tachwedd. Mae hi'n bwriadu teithio i San Francisco ddydd Mercher 24 Tachwedd, ond er mwyn gwneud y daith honno mae angen ardystiad meddygol yn ogystal â'r pas COVID arni. Mae hi wedi rhoi cynnig ar bob llwybr, ac mae hi wedi cael ei chyfeirio gan sawl gwasanaeth at ei meddygfa leol ym Maesteg, ond maen nhw'n dweud wrthi nad ydyn nhw wedi cael unrhyw arwydd eu bod yn gallu darparu ardystiad meddygol gan awdurdodau uwch. Gallaf i ddychmygu bod hwn yn broblem nid yn unig i fy etholwr i yng nghwm Llynfi, ond hefyd i nifer o bobl sy'n dymuno teithio. Mae'n ymddangos i mi nad yw'r gwasanaethau perthnasol yn cyfathrebu â'i gilydd ar hyn o bryd, ac nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw ganllawiau penodol gan Lywodraeth Cymru i'r GIG yng Nghymru ynghylch cyhoeddi llythyrau neu dystysgrifau meddygol at ddibenion teithio. Byddwn i a fy etholwr yng nghwm Llynfi yn gwerthfawrogi'n fawr ganllawiau gan y Gweinidog iechyd cyn gynted â phosibl.
Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig, rwy'n credu mai'r wythnos diwethaf yr oedd hi ar deithio rhyngwladol. Fe wnaf i'n sicr ofyn iddi hi a oes unrhyw beth arall o ran yr ymholiad yr ydych chi'n ei godi, ac, os oes, gofynnaf iddi wneud datganiad ysgrifenedig arall.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, y cyntaf ar bolisi Llywodraeth Cymru ar drefnu contractau allanol—yn uniongyrchol neu gan gyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru yng Nghymru, fel Chwaraeon Cymru. Rwy'n gwrthwynebu trefnu trwy gontractau allanol, oherwydd rwy'n credu bod perygl difrifol o naill ai gostwng ansawdd y ddarpariaeth, neu ostyngiad o ran telerau ac amodau'r rhai sy'n cael eu cyflogi, neu'r ddau yn aml.
Hoffwn i hefyd gael datganiad ar uwchraddio TG ar gyfer sefydliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae Comisiwn y Senedd o'r farn y gall fod yn fwy anodd uwchraddio systemau diogelwch ar gyfrifiaduron hŷn; maen nhw'n gweld bod gliniaduron hŷn hefyd yn methu'n fwy rheolaidd, gan achosi amhariad. Maen nhw'n dweud bod eu ffordd nhw o weithio yn cyd-fynd ag arfer gorau'r diwydiant. Eu diffiniad nhw o gyfrifiadur hŷn yw un sy'n bum mlwydd oed. Faint o gyfrifiaduron mewn sefydliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd dros bum mlwydd oed, a pha raglen sydd gennych i'w huwchraddio?
Diolch. O ran eich ymholiad cyntaf, ynghylch trefnu contractau allanol, rydym ni'n awyddus i archwilio ble y gall gwasanaethau a chontractau gael eu dychwelyd i sector cyhoeddus cryfach. Mae'n un o'n hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu, ac rydym ni'n disgwyl cyflawni honno yn gynnar yn y tymor llywodraethol hwn, yn sicr o edrych ar flwyddyn 2, byddwn i'n dweud—2022-23. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, ac yn amlwg mae gennym ni dîm Bil partneriaeth gymdeithasol i sicrhau dull gweithredu cyson gyda'r Bil.
O ran eich ail gwestiwn, nid wyf i'n hollol siŵr faint o gyfrifiaduron sydd dros bum mlwydd oed—yn sicr, mae fy un personol yn llawer hŷn na hynny. Mae'n bwysig iawn bod gennym ni strategaeth ddigidol, a bydd yr Aelod yn ymwybodol o'n strategaeth ddigidol, a gafodd ei chyhoeddi gennym ni ym mis Mawrth, ychydig cyn yr etholiad. Mae hynny'n gosod gweledigaeth ac uchelgais glir iawn ar gyfer dull digidol wedi'i gydgysylltu yma yng Nghymru.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd am bwysigrwydd y diwydiant logisteg yn ein bywydau bob dydd? Mae'r diwydiant logisteg werth dros £127 biliwn i economi'r DU, ond mae ei wir werth yn y rôl y mae'n ei chwarae wrth sicrhau ein bod ni'n cael popeth sydd ei angen arnom ni—o'r rholiau papur toiled hollbwysig hynny i dwrci ar ein byrddau, ac, yn enw cydraddoldeb, rhost cnau i'r rhai ohonoch chi sy'n llysieuwyr a figaniaid yn ein plith. Felly, mae'n hanfodol i'r ffordd yr ydym ni'n byw ein bywydau. Yr wythnos diwethaf, gwnes i gyfarfod â chynrychiolwyr o'r Road Haulage Association i glywed yr hyn sy'n cael ei wneud i annog pobl i ymuno â'r diwydiant fel dewis gyrfa, ac, yn benodol, i bobl ifanc, i ddangos yr amrywiaeth eang o gyfleoedd cyflogaeth yn y sector logisteg, gan gynnwys gweinyddu, gyrru, gwaith warws, gwaith gweithdy, a hefyd rheoli. Yn ystod yr ymweliad, gwnaethon nhw fynegi'r farn nad yw Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi'r gwaith y maen nhw'n ei wneud, a gaiff ei ddangos gan fethu â phenodi unrhyw un o'r diwydiant i'r panel adolygu ffyrdd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog sy'n cydnabod pwysigrwydd y diwydiant logisteg i economi Cymru, a pha gamau y mae ef yn eu cymryd i gefnogi'r sector hanfodol hwn o'r economi, er mwyn sicrhau tegwch a chydraddoldeb yn y broses o wneud penderfyniadau yma yng Nghymru? Diolch i chi, Gweinidog.
Mae Llywodraeth Cymru yn sicr yn gwerthfawrogi ein diwydiant logisteg. Yn amlwg, dangosodd y pandemig ei fregusrwydd, ac mae Brexit, yn anffodus, wedi cael effaith sylweddol arno. Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth y DU wir fynd i'r afael â'r materion logisteg yr ydym ni'n eu hwynebu. Maen nhw wedi cyflwyno mesurau dros dro; rwy'n ymwybodol eu bod wedi ysgrifennu, rwy'n credu, at bawb sydd â thrwydded HGV i weld a allan nhw eu hannog yn ôl. Byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni newydd gynnal Blas Cymru, ac, yn amlwg, mae'r diwydiant bwyd a'r sector yma yng Nghymru yn dibynnu'n llwyr ar ein staff logisteg. Roedd yn dda gweld rhai ohonyn nhw'n cael eu cynrychioli yno. Dyma sut yr ydym ni'n ei wneud yn ddeniadol iddo fod yn ddewis gyrfa ac yn gyfle. Felly, unwaith eto, o fewn fy mhortffolio, o'r adran fwyd, rydym ni'n sicr yn gwneud llawer iawn o waith, ond gwn i fod y Dirprwy Weinidog yn sicr yn gwerthfawrogi'r diwydiant yn fawr iawn.
Trefnydd, dros y pythefnos diwethaf, dwi wedi codi ddwywaith gyda'r Gweinidog iechyd bryderon pobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd ynglŷn â'r pàs COVID. Er i'r canllawiau COVID gael eu diweddaru yr wythnos diwethaf i ddweud y dylai lleoliadau roi mynediad i bobl sy'n methu â chymryd prawf llif unffordd, nid yw hyn yn ddigon clir a chryf o'i gymharu â'r system yn Lloegr. Noda gwefan y Llywodraeth eich bod yn dal i weithio ar y system a fydd yn diweddaru'r pàs COVID yn awtomatig, er mwyn gallu cofnodi pobl nad yw'n bosib iddynt gael eu brechu am resymau meddygol. A gawn ni ddatganiad ac eglurder gan y Gweinidog ar y sefyllfa hon, os gwelwch yn dda, gan gynnwys amserlen o ran pryd fydd y system hon wedi ei diweddaru, a phryd fydd canllawiau mwy manwl ar gael o ran sicrhau mynediad i leoliadau i bobl sy'n methu â chael y brechlyn a methu cymryd prawf llif unffordd?
A gaf i hefyd ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd am ddiweddariad ynglŷn â'r anghysondeb rydyn ni yn ei weld o ran gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru, yn benodol o ran cyhoeddiadau ynglŷn â phwysigrwydd gwisgo gorchudd wyneb? Dwi wedi derbyn nifer o gwynion gyda phobl yn pryderu'n fawr nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel ar y trenau ar y funund, a byddwn i'n ddiolchgar i wybod beth sydd yn digwydd, er mwyn sicrhau bod y cyhoeddiadau yn gyson a'r negeseuon yn gyfan gwbl eglur ynghylch pa mor angenrheidiol ydy hyn. Diolch.
Diolch. O ran eich cwestiwn cyntaf, rwy'n ymwybodol bod gwaith ar y gweill o ran y pàs COVID yn y ffordd yr ydych chi'n ei awgrymu. Felly, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi datganiad ysgrifenedig pan fydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau.
O ran eich ail bwynt, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol bod Trafnidiaeth Cymru yn parhau i wneud cyhoeddiadau ac i sicrhau bod pobl yn gwisgo gorchuddion wyneb. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn sicr yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ynghylch hynny. Des i lawr ar drên ddoe o ogledd Cymru. Roedd yn rhaid i mi ofyn i'r arweinydd atgoffa pobl bod mwgwd yn orfodol yng Nghymru, oherwydd byddwch chi'n gwerthfawrogi yn dod i lawr o Wrecsam rydych chi'n croesi i Loegr. Mae'n rhaid i mi ddweud, pan ofynnodd ef i bobl, eu bod nhw i gyd wedi gwisgo eu masgiau, pob un ohonyn nhw. Felly, mae pobl yn gwneud y dewis, neu efallai nad ydyn nhw'n gwybod ei fod yn orfodol yng Nghymru. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod cyhoeddiadau'n cael eu gwneud ar ein trenau ni i sicrhau bod pobl yn ymwybodol ei fod yn orfodol ac yn gyfraith yma yng Nghymru.
Diolch, Trefnydd. Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog iechyd. Yn gyntaf, dydd Mercher yw Diwrnod Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint y Byd, a ledled Cymru mae dros 76,000 o bobl yn byw gyda chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, sy'n gallu cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd unigolyn. Mae gan etholaethau fel fy un i, gyda threftadaeth ddiwydiannol, gyfraddau uwch na'r cyfartaledd. Felly, a gawn ni ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl yng Nghymru sydd â'r cyflwr hwn?
Yn ail, mae dydd Iau yn nodi blwyddyn ers i Sefydliad Iechyd y Byd lansio strategaeth fyd-eang i gyflymu'r broses o ddileu canser ceg y groth fel mater iechyd cyhoeddus. Gan weithio gyda Jo's Cervical Cancer Trust, cyflwynais ddatganiad barn yn croesawu'r pen-blwydd hwn. Ond a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf o ran ymyriadau Llywodraeth Cymru i ddileu canser ceg y groth? A beth yn benodol sy'n cael ei wneud i wella mynediad i sgrinio serfigol?
Diolch. Fel y dywedwch chi, heddiw rydym ni'n nodi Diwrnod Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint y Byd. Mae'n gyfle i dynnu sylw at effaith clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac ystyried yr effaith y mae'r pandemig hefyd yn ei chael ar bobl sydd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Rydym ni yn sicr wedi ymrwymo i wella gofal a chanlyniadau i bobl sy'n byw gyda'r cyflwr hwn, ac mae gennym ni nifer o raglenni sy'n cael eu harwain yn genedlaethol. Rydym ni hefyd wedi cyhoeddi £240 miliwn o gyllid yn ystod y flwyddyn i gefnogi adferiad y GIG, ac mae hynny'n cynnwys £1 miliwn ar gyfer rheoli cyflyrau cronig mewn gofal sylfaenol. Mae'n bwysig iawn bod pobl sydd â chlefyd Rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn defnyddio'r ap clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint sy'n cael ei ddatblygu yma yng Nghymru ar hyn o bryd gan y GIG, oherwydd rwy'n credu y bydd hynny'n helpu unigolion sydd â'r cyflwr a hefyd y GIG i gydweithio'n well.
O ran eich ail bwynt ynghylch canser ceg y groth, fel y dywedwch chi, mae'n flwyddyn ddydd Iau ers i Sefydliad Iechyd y Byd ymrwymo i ddileu canser ceg y groth fel mater iechyd cyhoeddus, ac rydym ni'n cefnogi'n llwyr eu strategaeth i gael gwared ar ganser ceg y groth erbyn 2030. Rydym ni'n ymwybodol y caiff hyn ei gyflawni drwy frechu, drwy sgrinio, a thrwy drin namau cyn-ganseraidd. Rydym ni'n falch iawn mai Sgrinio Serfigol Cymru oedd y rhaglen sgrinio serfigol gyntaf yn y DU i gyflwyno profion HPV risg uchel yn llawn fel prif gynllun yn ôl yn 2018. Ac ers 2008, mae merched 12 a 13 oed yma yng Nghymru wedi cael cynnig y brechlyn HPV. Gwyddom ni fod y cyfuniad hwnnw o imiwneiddio a sgrinio wir yn cael effaith gadarnhaol, ac rwy'n credu mai ein lle ni i gyd yw sicrhau ein bod ni’n annog ein hetholwyr i fanteisio'n llawn ar y sgrinio hwnnw.
Ac yn olaf, Laura Jones.
Diolch, Llywydd. Diolch i chi, Gweinidog busnes. Hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog addysg o ystyried y newyddion diweddar a'r newyddion pryderus bod athrawon yn cael eu recordio yn ystod gwersi a bod y ffilm yn cael ei huwchlwytho i'r llwyfan cyfryngau cymdeithasol TikTok. Mae'n sefyllfa sy'n mynd allan o reolaeth, ac rwy'n ymwybodol bod llawer o ysgolion nawr wedi ysgrifennu at rieni i godi ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n digwydd. Mae'n dod yn fwyfwy amlwg bod angen i lywodraethau weithredu nawr, gan weithio gyda sefydliadau cyfryngau cymdeithasol, i fynd i'r afael â fideos sarhaus sy'n canolbwyntio ar athrawon. Mae athrawon ledled Cymru wedi'u targedu gan fideos difenwol a sarhaus wedi'u postio gan y disgyblion hyn ar TikTok. Mae hyn yn achosi pryder sylweddol ymhlith athrawon a staff yr ysgol. Mae athrawon yn gwneud gwaith gwych yn addysgu ein plant. Rydym ni i gyd yn gyflym i ganmol y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Mae angen i'w rhan mewn ysgolion fod yn lle diogel iddyn nhw, yn ogystal â'r disgyblion. Felly, a allai'r Gweinidog wneud datganiad ar sut y mae'r Llywodraeth yn ceisio helpu ein darparwyr addysg ni i ymdrin â hyn, ac i egluro pa ganllawiau y byddwch chi'n eu rhoi i athrawon i geisio eu helpu nhw yn hyn o beth?
Diolch i chi. Mae hi'n gwbl annerbyniol bod athrawon yn wynebu ymddygiad fel hyn. Mae ymddygiadau fel creu cyfrifon ffug, er enghraifft, yn gallu bod yn ddinistriol iawn ac maen nhw'n cael effaith andwyol ar unigolion. Fe wn i fod y Gweinidog wedi cysylltu â Chyngor Diogelwch y Rhyngrwyd y DU i sicrhau bod dull gweithredu cydgysylltiedig gennym ni ledled y DU ynglŷn â'r mater hwn, ac mae Cyngor Diogelwch y Rhyngrwyd y DU wedi cysylltu â TikTok ynglŷn â'r mater hwn.
Rydym ni wedi diweddaru ein canllawiau ni hefyd ar heriau feirysol i ddangos y cymorth sydd ar gael i athrawon er mwyn gallu diogelu eu lles eu hunain. Fel mae Aelodau yn ymwybodol, mae hi'n Wythnos Gwrth-fwlio'r wythnos hon, felly rydym ni'n gweithio gyda swyddfa'r comisiynydd plant i hyrwyddo'r ystod o adnoddau ystafell ddosbarth sydd ar gael ar Hwb i gefnogi ymddygiad parchus ar-lein. Ond, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol bod llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn cydnabod eu cyfrifoldeb nhw a'u dyletswydd nhw i ofalu am eu defnyddwyr.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw datganiad gan y Gweinidog materion gwledig ar y rhaglen i ddileu TB buchol. Rwy'n galw ar y Gweinidog i newid ei ffeil ac i gyflwyno'r datganiad ar TB. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n rhoi fy niweddariad blynyddol ar gynnydd ein rhaglen i ddileu TB. Lansiwyd y dull rhanbarthol bedair blynedd yn ôl ac rydym ni wedi mireinio ein polisïau yn barhaus, yn enwedig o ran y darlun o'r clefyd sy'n newid. Rwy'n cyhoeddi ymgynghoriad 12 wythnos hefyd ar adnewyddu'r rhaglen i ddileu TB. Rydym ni wedi gweld cynnydd da ers sefydlu ein rhaglen gyntaf, a lleihad hirdymor yn nifer a chyffredinolrwydd yr achosion. Mae'r gostyngiad o 48 y cant mewn achosion newydd o TB ers 2009 yn dangos bod ein rhaglen yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd a busnesau ffermio.
Yn anffodus, rydym ni, ar hyn o bryd, yn mynd i'r afael â chynnydd sydyn yn y clefyd yn ardal TB ganolradd y gogledd, ac ardal TB isel, drwy weithredu mesurau gwell. Ar y cyntaf o Dachwedd, fe neilltuwyd statws ardal TB ganolradd y gogledd i fuchesi mewn mannau lle ceir problemau yn sir Ddinbych a Dyffryn Conwy. Fe fydd hyn yn golygu cael profion cyn unrhyw symudiadau, sy'n fesur allweddol i leihau risg er mwyn atal y clefyd rhag ymledu. Bydd angen profion ychwanegol ar fuchesi ag achosion o TB nawr hefyd, gydag ymweliadau 'cadwch TB allan' milfeddygol ar gael i brofi buchesi cyffiniol sy'n profi'n glir yn y mannau arbennig hyn, a'r clwstwr bychan o amgylch Pennal, ac mae rhagor o fesurau ar y ffordd.
I ymateb i newidiadau mewn contractau llaeth, fe wnaethom ni roi caniatâd i sefydlu marchnadoedd oren ac unedau pesgi cymeradwy, gan gynnig rhywle i ffermwyr anfon lloi llaeth dros ben. Ar ôl derbyn llawer o sylwadau gan ffermwyr sy'n awyddus i gael y lleoedd hyn, mae hi'n siomedig gweld ychydig o ddefnydd yn cael ei wneud ohonyn nhw. Fe fyddwn i'n annog y diwydiant i ystyried sefydlu mwy ohonyn nhw i wneud y mwyaf o'u potensial.
Un o amcanion allweddol ein rhaglen ni yw nodi'r haint yn gyflym, yn gywir, ac yn gynnar. Rydym ni'n ymdrechu i wella diagnosteg TB, gan groesawu ymchwil newydd a bod yn agored i brofion newydd a ddilysir. Mewn cydweithrediad â'n bwrdd rhaglen a Phrifysgol Aberystwyth, rydym ni'n rhoi ystyriaeth i ddyfodol diagnosteg TB. Rydym ni yn ceisio barn yn yr ymgynghoriad ar brotocolau profi, o ran y prawf cyn symud yn y lle cyntaf, i leihau'r risg o symud gwartheg wedi'u heintio.
Gan ddysgu o brofiadau yn y gogledd, mae pecyn cymorth o fesurau gennym ni'n barod i'w defnyddio mewn ardaloedd lle ceir problemau os oes angen, i fynd i'r afael â chynnydd sydyn yn yr achosion o'r clefyd. Yn y flwyddyn newydd, fe fyddwn ni'n cryfhau ein rheolaethau ni o ran Buchesi ag achosion TB ledled Cymru, ac fe fydd ceidwaid yn cael rhagor o wybodaeth ymlaen llaw.
Wrth i ni ystyried y trefniadau profi, rydym ni'n cydnabod yr heriau o ran adnoddau sy'n wynebu'r proffesiwn milfeddygol. I ymateb i hyn, rwy'n comisiynu adolygiad o'r dewisiadau i ategu ein gallu milfeddygol ni ar gyfer profi am TB drwy ddefnyddio mwy o staff parabroffesiynol a hyfforddwyd a'u goruchwylio yn briodol.
Fe ellir priodoli wyth o bob 10 Buches ag achosion o TB yn yr ardal TB isel i symudiadau gwartheg, yn bennaf. Gan adeiladu ar ein cyllid cynharach i farchnadoedd, rydym ni'n parhau i annog pobl sy'n cadw gwartheg i ystyried gwybodaeth am TB wrth eu prynu. Rydym ni'n deall nad yw pawb sy'n cadw gwartheg yn cynnig gwybodaeth o'r fath, fel a ddaeth i'r amlwg oherwydd y nifer fawr o symudiadau risg uchel yn ystod 2020. Rydym ni'n annog aelodaeth o gynlluniau achredu hefyd, fel Safonau Ardystio Iechyd Gwartheg (CHeCS) ar gyfer TB buchol, i hybu iechyd buchesi a rhoi sicrwydd i ddarpar brynwyr.
Yn 2019, fe gyhoeddais i adolygiad o'r taliadau a gafodd ffermwyr am wartheg a laddwyd oherwydd TB. Roedd hyn yn dilyn gorwariant parhaus o flwyddyn i flwyddyn yn ôl y gyllideb, a cholli incwm oddi wrth yr UE a'r angen i annog ymarfer ffermio da. Mae'r dewisiadau a adolygwyd gan fwrdd y rhaglen yn gynwysedig yn yr ymgynghoriad, ac rwy'n annog ffermwyr i ymateb.
Fe fydd grŵp gorchwyl a gorffen newydd yn ystyried y ffyrdd gorau o gyfathrebu â phobl sy'n cadw gwartheg i'w helpu nhw i ddiogelu eu buchesi, ac estyn cymorth pan fo eu buchesi ag achosion o TB. Bydd yn ystyried swyddogaeth bosibl i hyrwyddwyr TB yng Nghymru. Fe ofynnwyd i sefydliadau ffermio a milfeddygaeth enwebu aelodau ar gyfer y grŵp hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weld eu hargymhellion nhw.
Fe fyddaf i'n diddymu yn raddol y gwaith o drapio a phrofi moch daear mewn cysylltiad â Buchesi ag achosion TB o eleni ymlaen. O safbwynt epidemiolegol, mae maint bach y sampl a'r cyfnod dilynol byr yn rhoi canlyniadau cyfyngedig o ran bod yn ystyrlon i fesur effaith ymyriadau ar TB mewn gwartheg. Bydd y gwaith sy'n mynd rhagddo ar ffermydd eisoes yn cael ei gwblhau, ond ni fydd rhai newydd yn cael eu recriwtio.
Rwy'n awyddus i ymchwilio ymhellach i'r cyfraniad y gall brechu moch daear ei wneud i'n rhaglen, gan asesu'r defnydd mwyaf priodol, cost-effeithiol o'r brechlyn BCG ar gyfer moch daear. Mae brechu moch daear wedi bod yn rhan o'n rhaglen ers 2012, ac fe ddefnyddiwyd hynny yn gyntaf mewn ardal triniaeth ddwys yn rhan o gyfres o fesurau. Mae hyn wedi arwain at ostyngiadau blynyddol sylweddol a pharhaus yn nifer a chyffredinolrwydd yr achosion yn yr ardal triniaeth ddwys. O 2014, rydym ni wedi cefnogi brechu moch daear yn breifat drwy grant ac fe wnaethom ni ariannu'r fenter, yn rhannol, a arweinir gan y diwydiant ar benrhyn Gŵyr. Rwy'n llongyfarch Cefn Gwlad Solutions, sydd wedi gwneud llawer iawn o waith i gyflawni'r prosiect hwn yn llwyddiannus.
Bydd cyllid a gaiff ei arbed drwy ddiddymu yn raddol y gwaith o drapio a phrofi moch daear yn ein galluogi i adeiladu ar yr ymdrechion i frechu, ac rwy'n croesawu'r diddordeb a ddangosir eisoes wrth fwrw ymlaen â phrosiectau preifat. I ddechrau, rwyf i am sicrhau y bydd £100,000 ychwanegol ar gael ar gyfer ehangu brechu moch daear ledled Cymru drwy'r cynllun grant. Rwy'n bwriadu parhau hefyd â'r arolwg Cymru gyfan o foch daear i gynyddu ein gwybodaeth am y clefyd mewn moch daear.
Rydym ni'n parhau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu brechlyn TB ar gyfer gwartheg y gellir ei ddefnyddio, gyda phrawf i wahaniaethu rhwng anifeiliaid a frechwyd i fod ar waith erbyn 2025. Mae hi'n siomedig nad oes yna unrhyw ffermydd yng Nghymru yn cymryd rhan yn y treialon hyd yma, ac fe fyddwn i'n annog diddordeb o'r ardal TB isel. Mae'r potensial i frechu gwartheg fod yn arf pwerus yn y frwydr yn erbyn y clefyd, ac rydym ni'n ymgysylltu â'r ganolfan ragoriaeth TB i gynllunio'r defnydd mwyaf priodol yng Nghymru.
Mae cydweithio a gweithio mewn partneriaeth, derbyn perchnogaeth a chydnabod bod gan bob un ohonom ni ran yn hyn yn allweddol i lwyddiant ein rhaglen. Mae TB buchol yn cael effaith ddinistriol ar y diwydiant ffermio, ac mae'r gost emosiynol yn ddirfawr. Mae'n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu ein buchesi rhag y clefyd hwn. Rwy'n edrych ymlaen at glywed eich barn chi ar y rhaglen ddiwygiedig i ddileu TB.
Fe hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am roi golwg ymlaen llaw i mi ar ddatganiad heddiw, ac rwy'n cyfeirio at fy nghofrestr buddiannau. Fe hoffwn i ddechrau, yn y lle cyntaf, drwy roi teyrnged i'n ffermwyr ni ledled Cymru am barhau i fwydo cenedl hyd yn oed yn wyneb y straen corfforol, meddyliol ac economaidd a achosir gan TB buchol. Yn anffodus, i rai ffermwyr, mae'r frwydr barhaus hon yn erbyn y clefyd erchyll hwn wedi bod yn ormod iddyn nhw ac maen nhw wedi cymryd eu bywydau eu hunain. Ni ellir amau difrifoldeb y sefyllfa hon na fydd llawer y tu allan i gefn gwlad Cymru yn ei deall hi'n llawn nac yn wir yn ei dirnad hi. Mae TB buchol yn taflu cysgod hir dros ein diwydiant ffermio ni, gan fod yn un o'r prif rwystrau i sicrwydd o sector amaethyddol cynhyrchiol, blaengar a llewyrchus. Mae achosion o TB ar fferm deuluol yn effeithio ar bob agwedd ar allu'r fferm honno i weithredu model busnes hyfyw. Ac felly, nid trafod haint trychinebus ar wartheg yn unig yr ydym ni, ond mae angen i ni ystyried hefyd fod bywoliaeth pobl yn y fantol.
Gweinidog, rydych chi'n sôn yn eich datganiad am ostyngiad o 48 y cant mewn achosion newydd o TB ers 2009, ond fe fyddai hi'n dda gennyf gael gwybod beth mae'r ystadegau yn ei ddweud am ailymddangosiad y clefyd mewn buchesi sydd wedi'u heintio a faint o fuchesi a ddiffiniwyd yn rhai sy'n rhydd o TB ar ôl cyfnod maith dan gyfyngiadau. Mae atal buchesi newydd rhag cael y clefyd yn bwysig, ond i'r ffermwyr hynny sydd wedi bod dan gyfyngiadau TB ers tro, y nhw sy'n gweld effaith economaidd a meddyliol fwyaf garw'r clefyd, ac ni ddylid anghofio amdanyn nhw. Ac er fy mod i'n ddiolchgar am eich datganiad chi'r prynhawn yma, mae'n dod ar ôl 13 mlynedd o bolisi sydd wedi bod yn araf i daro'r nod terfynol o weld cydnabyddiaeth swyddogol o Gymru yn rhanbarth o'r DU sy'n rhydd o TB.
Os caf i, fe hoffwn i sôn am dri phwynt penodol wrth ymateb i'ch datganiad: brechlynnau, profion, ac iawndal. Rwy'n siŵr y bydd y sector yn croesawu eich diweddariad ar y cynnydd a welir yng Nghymru wrth sefydlu cynllun brechu. Eto i gyd, mae'n rhaid i ni fod yn onest â'r diwydiant amaethyddol: ni fydd brechlyn yn atal yr haint yn llwyr. Os yw'r pandemig byd-eang wedi dysgu unrhyw beth i ni, hyd yn oed gyda defnydd cyffredin o frechlyn, fe all mynychder clefyd barhau a gellir ei drosglwyddo, hyd yn oed pan fo'r cyfraddau yn is. Fe fyddai brechlyn i wartheg yn golygu y bydd ffermwyr yn parhau i fynd i'r afael â phresenoldeb posibl TB buchol yn eu buches nhw. Felly, mae hi'n bwysig nad ydym ni'n cyflwyno'r brechlyn fel ateb hud a lledrith i weld diwedd ar TB buchol. Er hynny, yn sicr fe all fod yn arf arall sydd ar gael i ni. Ac er fy mod i'n croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu brechlyn TB ar gyfer gwartheg y gellir ei ddefnyddio, ni ddylai hynny guddio'r ffaith ein bod ni'n dal i fod sawl blwyddyn oddi wrth raglen hyfyw—dyna o leiaf bedair blynedd y bydd TB yn parhau i heintio ein gwartheg ni, a lladd ein da byw a niweidio cenhedlaeth arall o fusnesau teuluol.
I liniaru hyn, mae'n rhaid i ni fod yn arloesol ac yn uchelgeisiol yn ein cyfundrefn brofi. Mae hynny'n golygu ehangu ar y drefn brofi sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd a gwneud yn fawr o rai dewisiadau amgen sydd ar gael ar hyn o bryd yn y diwydiant. Fe wyddom ni eisoes fod y prawf croen cyfredol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru yn rhoi canlyniadau negatif anghywir, ac mae hynny'n cael ei nodi yn y rhaglen dileu TB ddiwygiedig gan ei bod hi'n nodi nad yw'n bosibl dileu'r risg o ymlediad TB yn llwyr drwy haint nad ydyw wedi ei ganfod. Ond, drwy wella'r profion, fe fydd hynny'n lleihau nifer yr achosion sydd heb eu canfod. Rydych chi'n sôn yn eich datganiad y bydd yr ymgynghoriad newydd yn gofyn am farn ar brotocolau profi, ond nid oes sôn am y profion a gaiff eu defnyddio. Fe hoffwn i gael rhagor o wybodaeth gennych chi am gyflwyno'r profion newydd hyn, gan gynnwys Enferplex ac IDEXX, i gael gwared ar ganlyniadau negatif anghywir wedi profion croen.
Yn olaf, iawndal. Roeddwn i'n bryderus o ddarllen bod y gyllideb ar gyfer taliadau TB wedi rhagweld gorwariant o £7 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae hon yn gyllideb sydd wedi gweld gorwariant bob blwyddyn ers 2015-16. Pe bai Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael â TB buchol, a mynd i'r afael â gwraidd y clefyd yn gynt, yna ni fyddai'r gorwariant wedi digwydd, gan na fyddai'r clefyd wedi gallu ymledu trwy Gymru benbaladr, gan weld 10,000 a mwy o wartheg yn cael eu lladd yn ystod y 12 mis diwethaf yn unig.
Gweinidog, rwy'n ailadrodd ei bod hi'n rhaid i ni wneud penderfyniadau strategol hirdymor o ran mynd i'r afael ag effaith y clefyd hwn. Mae hi'n anghyfrifol i ni beidio ag ariannu'r cynllun iawndal yn briodol i ffermwyr, a chwyno am orwario ac edrych ar ffyrdd o leihau taliadau i wneud yn iawn am golli da byw yn hytrach na chanolbwyntio ar ffyrdd cynaliadwy o leihau ymlediad y clefyd yn y lle cyntaf. Rwy'n nodi'r tri dewis sy'n cael eu hawgrymu gan Lywodraeth Cymru gyda diddordeb, ac er bod yn rhaid i unrhyw gynllun iawndal adlewyrchu gwerth am arian i drethdalwyr, mae hi'r un mor hanfodol ein bod ni'n setlo ar gynllun sy'n cynnig taliad TB teg a chymesur i geidwaid gwartheg. Rwy'n aros yn eiddgar am ganlyniad yr ymgynghoriad y gwanwyn nesaf, ond rwy'n poeni ein bod ni'n canolbwyntio ar swm yr arian y gellir ei arbed yn hytrach na datrys y broblem, sef TB buchol.
Gweinidog, rydych chi'n cyfeirio at hyrwyddwyr TB yn eich datganiad. A gaf i ofyn i chi ailystyried y geiriad, os gwelwch yn dda? Nid oes neb yn dymuno hyrwyddo clefyd mor angheuol, sydd wedi achosi cymaint o helbul i ffermwyr ledled Cymru.
Os ydym ni am fynd i'r afael â TB buchol, mae'n rhaid i ni geisio gwella ansawdd ein cyfundrefn brofi, a pharhau i fuddsoddi mewn prosiect i gyflwyno brechlynnau, a sicrhau bod ein ffermwyr yn cael eu cefnogi mewn modd priodol. Gweinidog, rydych chi'n iawn i ddweud bod cydweithredu a phartneriaeth yn allweddol, ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i hyn gyda mesurau cyfatebol. Ac felly rwy'n eich annog chi, peidiwch â gadael i ni weld 13 mlynedd arall yn mynd heibio; gadewch i ni weithio ar frys gyda'r diwydiant i weithredu strategaeth lawn a chynhwysfawr i ddileu TB sy'n cael ymwared o'r clefyd erchyll hwn yn ein gwartheg a'n bywyd gwyllt yng Nghymru unwaith ac am byth. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i Sam Kurtz am y cwestiynau yna. Ydy, mae hwn yn glefyd erchyll, rwy'n cytuno yn llwyr â chi, ac mae hi'n hanfodol ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth. Ni fyddwn i fyth bythoedd yn cyflwyno un peth yn y gist arfau fel—nid wyf i'n hoff o'r ymadrodd 'ateb hud a lledrith', ond dyna a ddywedasoch chi. Ond, nid dyna ystyr hyn, cyfres o fesurau sydd gennym ni, ac yn sicr am y pum mlynedd yr wyf i wedi bod mewn portffolio, fe ddysgais i hynny'n gyflym iawn, iawn. Pan edrychwch chi ar y wyddoniaeth, nid oes unrhyw un ateb; pe byddai hi felly, pa mor hawdd fyddai bywyd? Ond nid felly y mae hi. Ystyr hyn, felly, yw sicrhau bod y mesurau sydd gennym ni ar waith yn gwbl briodol.
Roeddech chi'n gofyn am ystadegau yn eich cwestiwn cyntaf chi ac yn sicr, gan edrych ar dueddiadau byrdymor, ar 30 o fis Mehefin eleni, roedd 81 yn llai o fuchesi o dan gyfyngiadau symud o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, 30 o'r mis Mehefin blaenorol yn 2020. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n darllen gormod i dueddiadau byrdymor, gan ein bod ni'n disgwyl amrywiadau byrdymor yn y ffigurau. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni edrych ar y ffigurau, ac fe soniais i yn fy natganiad am y 48 y cant yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw.
Nid wyf i'n cytuno â chi mai cynnydd araf sydd wedi bod. Ond rwyf i o'r farn ein bod ni wedi gwneud peth cynnydd sylweddol ers i ni fod â'r rhaglen hon, ond wrth gwrs os ydych chi wedi bod ag achosion hirdymor o TB yn eich buches chi—hynny yw am dros 18 mis—nid yw hynny o lawer iawn o gysur i chi o gwbl, ac rwy'n llwyr werthfawrogi hynny. Pan wnaethom ni adnewyddu'r rhaglen bedair blynedd yn ôl, fe ddaethom ni â'r cynlluniau gweithredu pwrpasol, sydd, yn fy marn i, wedi helpu rhai ffermwyr. Nid yw pob ffermwr wedi croesawu hynny, ond rwy'n sicr yn credu bod hyn wedi eu helpu nhw. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bryd i ni ddiwygio eto erbyn hyn ac, fel rydych chi'n dweud, yn yr ymgynghoriad, rydym ni wedi cyflwyno sawl peth i'w hystyried, ac rwyf i'n cynnig ein bod ni'n eu newid nhw.
O ran brechu gwartheg yr oeddech chi'n cyfeirio ato—fel rwyf i'n dweud, nid wyf i o'r farn fod unrhyw beth unigol, mae'n rhaid cael cyfuniad—y nod yw cael brechlyn TB ar gyfer gwartheg y gellir ei ddefnyddio gyda phrawf a all wahaniaethu rhwng anifeiliaid a frechwyd erbyn 2025. Yn sicr, pan wnes i gyfarfod â'r Athro Glyn Hewinson yn yr haf ym Mhrifysgol Aberystwyth, roedd ef yn gyffrous iawn am hyn gan ei fod ef wedi dweud ei fod ef bob amser wedi clywed y byddai'r brechlyn yn dod ymhen 10 mlynedd eto, ac erbyn hyn ymhen pedair blynedd eto yw'r ddealltwriaeth, ac rwy'n gwerthfawrogi bod hwnnw'n gyfnod gweddol faith, ond rydym ni'n nes at ddiwedd y daith nawr. Rwy'n sicr yn credu bod Llywodraeth y DU yn awyddus i gael brechiad ar gyfer gwartheg, ac yn bendant fe geir hwb ymlaen at hynny nawr, fe fyddwn i'n dweud, ledled y DU.
Roeddwn i'n sôn yn fy natganiad fy mod i'n siomedig nad oes unrhyw ffermydd yng Nghymru yn cymryd rhan yn y treialon hyn, ar ffermydd yn Lloegr y maen nhw i gyd ar hyn o bryd. Peth da fyddai unrhyw anogaeth i ffermydd o ardaloedd TB isel i gymryd rhan yn y treialon hyn. Yn sicr, yn y Llywodraeth, rydym ni'n gweithio yn agos gyda DEFRA a Llywodraeth yr Alban, ac fe fu yna tua 20 mlynedd o ymchwil i'r brechiad hwn erbyn hyn, ac fe wn i fod Llywodraeth Cymru, ymhell cyn fy amser i, wedi arwain ar hyn mewn gwirionedd.
Roeddech chi'n gofyn am brofion croen a phrofion yn gyffredinol. Yn sicr, mae'r prawf croen yn brawf hirsefydlog ac mae hwnnw'n cael ei ddefnyddio trwy'r byd. Dyma'r prif brawf gwyliadwriaeth, hyd y gwelaf i, ym mhob un o'r rhaglenni a reolir gan TB, ac mae'n debygol o roi dim ond un canlyniad positif anghywir i un anifail ym mhob 5,000 o wartheg nad ydyn nhw wedi cael eu heintio. Rwy'n awyddus iawn i edrych ar brofion newydd, ac fe soniais i fod hynny'n rhan o'r ymgynghoriad, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at glywed pobl yn rhoi eu safbwyntiau nhw ynglŷn â phrofion. Mae yna brofion nad ydyn nhw wedi cael eu dilysu hyd yn hyn, ond unwaith eto rwy'n gwybod bod fy swyddogion i wedi ymgysylltu â phobl ynglŷn â hynny. Rwy'n credu ein bod i gyd yn awyddus i wella'r profion ar y cyd, ac mae hwn yn gyfle gwirioneddol nawr i gael golwg ar hynny.
Roeddech chi'n sôn am y—rwy'n credu mai'r prawf gwrthgyrff IDEXX yn benodol, sef, fel y gwyddoch chi, prawf gwaed ac mae'n rhaid ei roi rhwng 10 a 30 diwrnod wedi prawf croen TB. Mae'r gyfradd uchel o brofion positif a welsom ni yn 2020 yn debygol o fod oherwydd ein bod ni wedi anelu'r prawf hwnnw, ac wrth gwrs, at ein hanifeiliaid ni â mwy o risg. Felly, rydym ni wedi bod yn ei ddefnyddio, yn ogystal â'r prawf gama, yn y mannau lle gwelwn ni lawer o achosion o TB yn y gogledd am y tro cyntaf. Felly, mae hi'n ddiddorol gweld y canlyniadau yr ydym ni'n eu cael yn y fan honno.
O ran iawndal, unwaith eto, rwy'n ymgynghori ar dri dewis, ac rwy'n gobeithio eich bod chi wedi cael amser i gael golwg ar yr ymgynghoriad. Rydym ni'n ymgynghori ar dri dewis. Maen nhw wedi cael eu hargymell i mi gan fwrdd y rhaglen. Felly, roeddwn i'n awyddus iawn i gael y tablau prisio ynghyd ag ychwanegiadau am fod yn aelod o gynllun achredu, ac yna'r ardoll TB. Caiff y tri dewis hynny eu nodi yn y ddogfen ymgynghori.
Roeddech chi'n sôn am y gorwariant ac rydych chi'n iawn: cynllun yw hwn sy'n cael ei arwain gan y galw, felly, yn amlwg—. Rwy'n credu, bob blwyddyn, ein bod ni wedi gordanysgrifio ar ei gyfer, ond, yn y Llywodraeth, mae gennym ni ddyletswydd statudol i dalu ffermwyr am anifeiliaid a gafodd eu lladd o dan y rhaglen, ac rydym ni'n dod o hyd i'r cyllid hwnnw bob tro. Rwyf i'n ailflaenoriaethu, rwy'n ailgyfeirio ac rwy'n dargyfeirio cyllid oddi wrtho, ond mae yna angen i ni leihau'r cyllid hwnnw—ac, unwaith eto, mae hynny'n rhan o'r ymgynghoriad. Felly, unwaith eto, fe fyddwn i'n annog Aelodau i annog ffermwyr, yn sicr, a'u hetholwyr nhw i gyd, os oes ganddyn nhw ddiddordeb yn hyn, i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Gaf i hefyd ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? Dwi'n mynd i gadw hwn yn weddol fyr achos dwi ddim eisiau ailadrodd llawer o'r pethau mae Sam Kurtz wedi'u dweud; dwi'n digwydd cytuno â nhw.
Gadewch imi ddechrau drwy ddweud bod TB mewn gwartheg yn parhau i gael effaith ddinistriol iawn ar ffermio yng Nghymru, nid yn unig o ran yr effaith economaidd, ond hefyd yr effaith emosiynol a'r effaith ar iechyd meddwl, fel rŷn ni wedi'i glywed yn barod. Felly, mae'n amlwg bod angen amryw o ddulliau gwahanol i ddelio gyda hyn, yn seiliedig ar angen lleol a statws clefydau. Mae'n rhaid rheoli'r clefyd, wrth gwrs, mewn bywyd gwyllt, yn ogystal â chyfyngiadau ar symud anifeiliaid a phrofion anifeiliaid.
Dwi'n croesawu'r ymgynghoriad, wrth gwrs, ac mae e'n gyfle i bobl sydd yn gallu cyfrannu ar sail eu harbenigedd ar y mater cymhleth hwn. Rwy'n croesawu'r ffaith bod yna leihad wedi bod yn y nifer o achosion, ond mae rhywun hefyd yn sylweddoli mai jest un mesur yn unig yw hwn.
Rydych chi wedi'i ddweud, a'r Prif Weinidog, sawl gwaith, fod difa moch daear ddim yn opsiwn i chi, felly mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar ffordd wahanol o weithio mor effeithiol â phosibl, gan leihau unrhyw anhwylustod i ffermwyr.
Nawr, beth fyddwn i wedi hoffi ei weld yn y datganiad hwn yw rhyw fath o ddatrysiad, mewn gwirionedd, lle rydych chi'n cydnabod bod yna gynnydd wedi bod mewn achosion TB mewn rhai ardaloedd, gan gyfeirio'n benodol at ogledd Cymru, ond rŷn ni'n gyfarwydd, dros gyfnod o 20 mlynedd, o ardaloedd lle mae yna sbeicio wedi digwydd o ran y diciâu.
O ran symud ymlaen, dwi ddim yn deall pam nad oes yna fwy o ymrwymiad yma i frechu moch daear yn yr ardaloedd yna sydd yn ardaloedd problematig i ni, a pham dim rhaglen fwy systematig, felly, o brofi moch daear ar ffermydd lle mae achosion cyson yn codi, a chysylltu hyn gyda rhaglen frechu leol. Felly, byddai hynny wedi cael ei groesawu, yn fy marn i. Rydych chi'n cyfeirio at raglen frechu yn ardal Gŵyr; mi fydden i wedi hoffi clywed mwy am ddeilliannau hyn—canlyniadau y prosiect arbennig yna.
Rydych chi'n cyfeirio at 'toolkit of measures in hotspot areas'—wel, unwaith yn rhagor, byddai mwy o fanylion ynglŷn â'n union beth ydy'r mesurau yna a beth maen nhw'n ei olygu yn ddefnyddiol.
O ran iawndal, eto, dwi'n cytuno'n llwyr gyda'r sylwadau wnaeth Sam Kurtz: mae achosion o TB ar ffermydd yn effeithio ar bob agwedd ddyddiol ar fywyd ffermio—prynu a gwerthu ac yn y blaen. Ac yn ein barn ni, mae'n rhaid i drefniadau iawndal adlewyrchu gwerth unigol pob anifail, a dim ond trwy brisiad unigol y gellir cyflawni hyn. Felly, ydy'r Gweinidog yn derbyn, os nad yw anifail yn cael ei brisio ar sail ei nodweddion unigol, fod perygl o orddigolledu ddigwydd, neu ar y llaw arall, tanddigolledu ddigwydd, rhywbeth a fyddai'n annheg iawn ar drethdalwyr a ffermwyr fel ei gilydd?
Ond yr hyn sydd yn gwbl ganolog i'r datganiad yw os ŷch chi'n benderfynol o gynnal y strategaeth bresennol, mae'n anochel y gwelwn ni ddegau o filoedd o wartheg yn parhau i gael eu lladd eto dros y blynyddoedd nesaf yn yr un modd ag ŷn ni wedi gweld dros 30,000 o wartheg yn cael eu lladd dros y tair blynedd ddiwethaf, ie, 30,000 o wartheg, ac effaith economaidd ac emosiynol hynny ar ffermydd.
I arwain at yr iawndal, mae hyn yn anochel, wrth gwrs, yn mynd i olygu cynnydd mewn costau, ac mae awgrym eich bod chi'n ystyried hyn yn anghynaladwy. Nawr, tra gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd a cholli arian o ganlyniad i hyn fod yn gwaethygu'r sefyllfa, ydy'r Gweinidog yn derbyn mai cyfrifoldeb y Llywodraeth yw balanso'r llyfrau ar y mater hwn ac na ddylid disgwyl i ffermwyr dalu'r bil am gael pris teg am y gwartheg sy'n gorfod cael eu difa?
Ac mae'r pwynt olaf, Gweinidog, yn ymwneud â brechu. Pan fo brechu ar gael, mae rôl ar ei gyfer, yn amlwg, wrth ddileu TB, ond dim ond wrth atal ac nid wrth wella'r clefyd y gellir ei ddefnyddio. Mae treialon maes gyda brechu gwartheg yn erbyn TB, fel gwnaethoch chi amlinellu eisoes, ar y gweill, ac rydych chi'n gobeithio y bydd brechlyn effeithiol ar gael erbyn 2025, felly fy nghwestiwn i yw: pa mor hyderus ydych chi y gallwn ni daro'r nod hwn, o ystyried y nifer isel o ffermydd sy'n cymryd rhan yn y treialon ar hyn o bryd?
A'm pwynt olaf i yw hwn: drwy ddiystyru mesurau eraill fel rheoli'r clefyd mewn bywyd gwyllt, a yw'r Gweinidog yn derbyn, felly, fod y Llywodraeth yn fodlon cadw'r sefyllfa mor ddisymud ag y mae hi ar hyn o bryd am o leiaf dair neu bedair blynedd arall, ac na fydd yn ysgafnu'r baich emosiynol neu ariannol ar ffermwyr i ryw raddau, neu leihau nifer yr achosion o'r clefyd i'r un graddau ag a welsom ni mewn gwledydd eraill? A fy mhwynt olaf i hefyd yw'r arolwg o foch daear marw sydd, yn fy marn i, yn aneffeithiol a braidd yn ad hoc ac nid yw'n dysgu unrhyw beth i ni am y clefyd hwn o gwbl. Diolch yn fawr.
Rwyf i am ddechrau gyda'r ail bwynt olaf ynghylch yr arolwg, nid wyf—
Mae'n ddrwg gen i.
Popeth yn iawn. Nid wyf i'n cytuno â chi, rwyf i o'r farn ei fod wedi rhoi tystiolaeth dda iawn i ni, ac fe ddylai ddod i ben ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf, ond rwyf i wedi ymrwymo i'w barhau am ddwy flynedd arall, oherwydd mae ein cynghorwyr ni'n dweud, a'r prif swyddog milfeddygol, a'r gwyddonwyr ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod ni'n parhau â'r gwaith hwnnw, oherwydd maen nhw o'r farn ei fod yn werth ei wneud.
Ond rwy'n diolch i chi am eich cwestiynau, ac nid wyf i'n awyddus i barhau â sefyllfa ddisymud, wrth gwrs, ac un o'r rhesymau am gyflwyno'r nodau nôl yn 2017 a'r ymagwedd o fod â rhanbarthau oedd diogelu'r statws hwnnw o fod yn rhydd o TB cyn gynted â phosibl. Yn sicr, yn y trafodaethau a gefais i, yn arbennig felly pan oeddem ni yn yr Undeb Ewropeaidd, gyda phobl mewn cynghorau amaethyddol Ewropeaidd, ac ati, y farn oedd y byddai ymagwedd o fod â rhanbarthau yn ein helpu ni mewn gwirionedd. Felly, pe byddech chi'n gweld un rhanbarth yng Nghymru yn cael ei ddatgan yn rhydd o TB, fe fyddai hynny'n hwb aruthrol i weddill Cymru. Felly, roeddwn i'n awyddus iawn i ddod â'r ymagwedd o fod â rhanbarthau i mewn i'r rhaglen i ddileu TB nôl yn 2017, ac fe fyddaf i'n sicr o'i chadw.
Roeddech chi'n sôn am adegau lle cafwyd nifer fawr o achosion o'r clefyd dros y blynyddoedd blaenorol. Y rheswm y soniais i am hynny yw oherwydd dyma fy niweddariad blynyddol i, ac rwy'n gwerthfawrogi mai dyma'r un cyntaf i'r Aelod fod yn y Siambr ar ei gyfer, ond bob blwyddyn rwy'n ymrwymo i wneud datganiad. Felly, er fy mod i'n edrych hefyd ar ddiwygio'r rhaglen dileu TB, oherwydd nad ydym wedi cael un am bedair blynedd, fy natganiad blynyddol yw hwn, mewn gwirionedd, felly dyna'r rheswm pam roeddwn i'n canolbwyntio ar hynny.
Rwy'n ymwybodol eich bod yn cael sesiwn friffio dechnegol gyda'r prif swyddog milfeddygol, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n sicr yn gallu rhoi llawer mwy o fanylion i chi nag y gallaf i yn yr amser byr sydd gennyf i ynglŷn â phrosiect Gŵyr, ond mae hwnnw wedi bod yn galonogol iawn, yn sicr, ac rydym ni wedi defnyddio brechiadau i foch daear. Dyma un o'r pethau sydd wedi bod yn rhan o'n pecyn cymorth ni ers 2012; bu'n rhan o'n rhaglen ni, ac fe'i defnyddiwyd gyntaf, fel y dywedais i yn fy natganiad gwreiddiol, yn yr ardal triniaeth ddwys, yn rhan o'r gyfres honno o fesurau. Ac fe welsom ni ostyngiad yn nifer yr achosion a'r cyfraddau o ran mynychder yn yr ardal triniaeth ddwys. Ac, yn ffodus, mae'r sefyllfa honno wedi aros yr un fath.
Ystyr hyn yw bod â'r gyfres honno o fesurau y soniais i amdanyn nhw. Ac mae'r drefn brofi gennym ni, a'r drefn frechu gennym ni, ac rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn i ni ddefnyddio'r gair 'partneriaeth' yna unwaith eto. Ac rwy'n falch iawn—fe wnes i gyfarfod â'r NFU yr wythnos diwethaf, ac mae ganddyn nhw eu grŵp eu hunain i ganolbwyntio ar TB nawr, ac roedd hi'n galonogol iawn i glywed am y cynnydd y maen nhw'n credu sydd yn digwydd o fewn y grŵp hwnnw. Maen nhw wedi cael y prif swyddog milfeddygol yno i siarad â nhw, maen nhw wedi cyfarfod â'r Athro Glyn Hewinson i wrando ar ei farn ef, ac mae hi'n ardderchog bod â'r berchnogaeth honno, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i weithio mewn partneriaeth, oherwydd ni allwn ni wneud dim ar ein pennau ein hunain ac ni allan nhw wneud hyn ar eu pennau eu hunain; cydweithio yw ystyr hyn. A'i ystyr hefyd yw gwell bioddiogelwch, hwsmonaeth dda, ac, wrth gwrs, mae Cymorth TB gennym ni, rydym ni'n ariannu hwnnw, ac mae'n ceisio rhoi cymorth ymarferol i'n ffermwyr ni, i'r rhai sy'n cadw buchesi y mae TB yn effeithio arnyn nhw. Maen nhw'n cynnig ymyriadau milfeddygol pwrpasol ar wahanol gamau yn ystod y dadansoddiad. Rwyf i am ofyn i'r grŵp gorchwyl a gorffen a gyhoeddais i heddiw i fwrw golwg ar y dull o ymgysylltu â'n ffermwyr ni a'r rhai sy'n cadw buchesi i weld beth y gallwn ni ei wneud i wella'r ymgysylltiad hwnnw, a dangos mai bod mewn partneriaeth yw hyn yn gyfan gwbl, ac rwy'n cydnabod hynny i raddau helaeth iawn.
Rydym ni'n gweithio yn agos iawn hefyd gydag adrannau eraill Llywodraeth Cymru i gynnig cyngor parhad busnes i ffermwyr ac, yn bwysig iawn, eu teuluoedd nhw, oherwydd nid y ffermwr yn unig sy'n cael eu heffeithio; mae'r teulu cyfan yn dioddef oherwydd TB buchol. Ac fe fyddwn i'n annog ffermwyr a'u milfeddygon yn gryf i fanteisio ar y rhaglen cyngor milfeddygol bwrpasol honno a ariennir gan y Llywodraeth a ffermwyr i siarad â'u milfeddygon preifat nhw hefyd ynghylch hyn, a sut y gallan nhw gael gafael arno. Ac, unwaith eto, bydd dyfodol Cymorth TB ac unrhyw fentrau eraill sydd gennym ni'n cael eu cynnwys o fewn cylch gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen, ac fe wnaf ofyn iddyn nhw edrych ar hynny.
Ynglŷn â'ch cwestiynau chi o ran iawndal, nage, mater i Lywodraeth Cymru yw mantoli'r llyfrau. Fy ngwaith i yw sicrhau bod yr arian hwnnw gennyf i. Nid wyf i'n disgwyl i'r ffermwyr fod ag unrhyw ran yn hynny. Ein dyletswydd statudol ni yw hon. Er hynny, yr hyn yr wyf i'n ei ddisgwyl yw, os yw rhywun yn meddwl—. Felly, y terfyn nawr yw £5,000, felly os ydych chi'n meddwl bod gennych chi wartheg sy'n werth mwy na hynny, yna fe ddylech chi ystyried yswiriant. Rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth pwysig iawn i'w wneud.
Mae'r brechiad ar gyfer gwartheg, fel y dywedais i yn fy ateb i Sam, yn fy marn i, o fewn cyrraedd nawr—rhyw dair, bedair blynedd ac rwy'n ffyddiog y cawn ni hwnnw. Roeddech chi'n sôn bod nifer y ffermydd yn isel, ac fe soniais i nad oedd yna unrhyw fferm yng Nghymru, ac fe fyddwn i wir yn annog ffermydd Cymru i gymryd rhan yn y treial, oherwydd rwy'n awyddus i fod yn rhan ohono. Fel y dywedais i, rwy'n gweithio gyda DEFRA ac rwy'n gweithio gyda Llywodraeth yr Alban, ac mae llawer o ffermydd yn Lloegr yn rhan o'r treial, ond yr hyn yr wyf i'n awyddus i'w weld mewn gwirionedd yw gweld rhai ffermydd yng Nghymru yn rhan o'r treialon hynny.
Diolch i chi am eich diweddariad blynyddol, Gweinidog. Fel mae'r prif swyddog milfeddygol yn ei nodi yn y rhagair i'r ddogfen ymgynghori, roedd y rhaglen ddileu bob amser yn golygu taith bell ac mae'r tueddiadau hirdymor yn parhau i fod yn gadarnhaol. Rydym ni wedi caniatáu i'r wyddoniaeth lywio a'n rhanddeiliaid allweddol ni—ffermwyr, milfeddygon a chyrff cynrychioliadol—wrth fwrw ymlaen â honno. Mae Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi bod yn hyblyg wrth addasu'r cynllun cyflawni, ond fe wnaethom ni dynnu llinell o ran difa moch daear, ac rwy'n falch bod rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn gwahardd difa moch daear i reoli ymlediad TB mewn gwartheg. Yn wahanol iawn, ni fydd Llywodraeth y DU ond yn dechrau gwneud hynny'n raddol yn Lloegr y flwyddyn nesaf. Mae'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt yn amcangyfrif, pan ddaw'r difa i ben, y gallai 300,000 o boblogaeth a amcangyfrifir i fod yn 485,000 o foch daear fod wedi eu lladd, gan ddifa'r poblogaethau mewn ardaloedd sydd wedi bod yn gynefin iddyn nhw ers yr oes iâ.
Ond yn ôl at ddatganiad heddiw ac yn ôl at y daith bell honno yr ydych chi'n sôn amdani hi—ac fe fu yna ddigon o sôn yn y fan hon y prynhawn yma am y treial brechu gwartheg. Ac, fel roeddech chi'n dweud, fe fyddai brechlyn TB effeithiol ar gyfer gwartheg yn arf pwerus iawn. Rydych chi wedi crybwyll hefyd mai dim ond un peth yn y gist arfau ydyw hyn. Felly, rwyf innau wedi fy siomi hefyd yn niffyg cyfranogiad ffermwyr Cymru. Rwy'n cymryd eich bod chi wedi trafod hynny gydag undebau ffermio, a da iawn o beth fyddai i chi allu rhoi unrhyw ddiweddariad ar hynny, naill ai nawr neu yn y dyfodol agos. Diolch i chi.
Diolch. Felly, o ran eich sylwadau chi ynghylch ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu ni na fyddwn ni'n caniatáu i ddifa moch daear fod yn rhan o'r mesurau i ymdrin â TB buchol, nid yw astudiaethau gwyddonol diweddar wedi cynnig unrhyw dystiolaeth bendant y byddai difa moch daear yn lleihau cyfraddau mynychder mewn buchesi gwartheg. Ac roeddech chi'n sôn am Loegr, sydd wedi lladd nifer aruthrol o foch daear, ond maen nhw'n tynnu'n ôl nawr ac yn cilio oddi wrth hynny. Ac rwy'n credu mai'r rheswm am y pwyslais ar frechu gwartheg, yr wyf i'n ei groesawu yn fawr, yw bod Llywodraeth y DU yn edrych ar ba ddewisiadau eraill sydd ganddyn nhw. Ac os edrychwch chi ar yr ardaloedd lle maen nhw wedi difa moch daear, mae TB buchol yno o hyd. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn.
Rwyf i wedi codi'r diffyg ffermydd—wel, dim un fferm—yn cymryd rhan yng Nghymru yn y treialon gyda'r NFU ac Undeb Amaethwyr Cymru, ac fe soniais i yn fy ateb yn gynharach i Cefin Campbell fod y prif swyddog milfeddygol wedi mynychu grŵp ffocws TB yr NFU ac fe godwyd hyn yn y fan honno, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n gwneud popeth yn eu gallu i annog ffermydd yn yr Ardal TB isel i gymryd rhan.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad heddiw. Gweinidog, fel y gwyddoch chi, mae ffermydd ledled y gogledd â rhan enfawr yn y gwaith o gefnogi ein heconomi leol ni, ein cymunedau ni ac yn wir ein cadwyn fwyd ni. Mae llawer o ffermwyr yr wyf i wedi cwrdd â nhw yn ystod y misoedd diwethaf ochr yn ochr â'r NFU wedi codi eu pryderon nhw am raglen dileu TB buchol nad ydyw hi'n ddigon cadarn ac nad yw hi'n gwneud digon i ymdrin â gwraidd y broblem. Ac mae'r pryderon hyn ynghlwm â'r cynnydd mewn achosion yn y gogledd, rhywbeth y gwnaethoch chi ei gydnabod yn eich datganiad heddiw ac roedd hynny'n rhywbeth y cyfeiriodd Mr Campbell ato yn gynharach yn ei gyfraniad yntau. Wrth gwrs, fe wyddom ni fod y posibilrwydd o orfod lladd buchesi cyfan o wartheg yn dilyn achosion o TB yn bryder gwirioneddol i ffermwyr yn fy rhanbarth i, ac, er bod iawndal ar gael, nid yw hynny'n gwneud cyfiawnder â'r tarfu ar eu busnes, a allai wneud fferm yn anymarferol, heb sôn am y straen emosiynol ar ffermwyr sy'n gweithio mor galed. Felly, Gweinidog, pa gymorth penodol y byddwch chi'n ei roi i ffermwyr yn y gogledd lle mae'r cynnydd mewn TB wedi cael ei brofi a sut ydych chi am weithio gyda'r ffermwyr hynny i sicrhau bod y tarfu ar fusnes yn cael ei gadw dan reolaeth gymaint â phosibl? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi, ac fe gyfeiriais i at yr adegau lle cafwyd nifer fawr o achosion a welsom ni, yn anffodus, ac roeddwn i'n sicr yn bryderus iawn o weld y rhain, fe soniais i am y nodau y gwnaethom ni eu pennu i fod yn rhydd o TB buchol. Roedd yr Ardaloedd TB isel yn amlwg yn bwysig iawn yn rhan o hynny.
Gwelwyd nifer fawr o achosion mewn tair ardal sef Conwy, sir Ddinbych a Phennal, ac rydym ni wedi bod yn gweithio gyda nhw. Rydym ni wedi cyflwyno mesurau gwell, profi ac ati, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda nhw. Ond rwy'n credu, unwaith eto, ei bod hi'n bwysig iawn nodi bod wyth o bob 10 o'r achosion hynny o ganlyniad i symudiadau gwartheg, felly mae hi'n bwysig ein bod ni'n parhau i weithio, bod ffermwyr yn cael gafael ar y cymorth hwnnw, ei fod ar gael, a'r canllawiau a'r cyngor hwnnw sydd ar gael, wrth symud ymlaen.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Nid oeddwn i'n bwriadu ymateb i'r datganiad mewn gwirionedd, ond rwyf i wedi bod yn eistedd yma ac yn gwrando yn astud ar yr hyn yr oedd gennych chi i'w ddweud, ac, yn y bôn, nid oes unrhyw beth wedi newid, mewn gwirionedd, a oes yna? Fe allech chi fod wedi cyflwyno'r datganiad hwn 10 mlynedd yn ôl, ac, yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym ni'n parhau i ddifa 10,000 o wartheg bob blwyddyn. Mae hyn yn awgrymu bodloni ar y sefyllfa, mewn gwirionedd. Felly, dewch ymlaen, gadewch i ni fod yn ddewr yn hyn o beth. Gadewch i ni fod yn radical. Gadewch i ni fwrw'r maen i'r wal a rhoi'r gorau i din-droi. Onid yw hi'n hen bryd i'r Llywodraeth hon ddod i'r adwy a mynd i'r afael â TB mewn bywyd gwyllt? Oherwydd, os na wnewch chi hynny, yna, yn siŵr i chi, fe fyddwn ni yn ein holau yma mewn 12 mis arall pan fyddwch chi'n cyflwyno eich datganiad blynyddol nesaf. A wyddoch chi beth? 10 mlynedd arall eto fel hyn fydd hi.
Felly, mae'n debyg fy mod i'n anghytuno yn gyfan gwbl â phopeth a ddywedodd Llŷr Huws Gruffydd. Rydych chi'n sôn am fywyd gwyllt ac, yn hollol, os edrychwch chi yn y cynlluniau gweithredu pwrpasol, un o'r meysydd yr oeddem ni'n dweud yn benodol y byddem ni'n anelu tuag atyn nhw gyda'r buchesi ag achosion TB hirdymor oedd o ran y bywyd gwyllt. Ac os edrychwch chi ar y cynlluniau gweithredu pwrpasol a gyflwynwyd gennym ni—ac rwy'n ceisio cofio'r ganran, ond fe geir nifer sylweddol—nid oedd y bywyd gwyllt ag unrhyw ran yn y dadansoddiad hwnnw. Ac un o'r rhesymau yr wyf i am roi'r gorau i brofi a thrapio moch daear—mae'n ddrwg gennyf i, y trapio a'r profi—mewn cynlluniau gweithredu pwrpasol yn y dadansoddiad hirdymor yw am nad yw hynny wedi bod yn boblogaidd mewn gwirionedd. Nid oedd rhai ffermwyr yn dymuno i ni wneud hynny, ac rwy'n credu ei bod hi'n well gwario'r arian ar frechu moch daear. Felly, rwy'n cytuno yn llwyr â chi fod yn rhaid i ni weithredu, ac un o'r pethau yr ydym ni'n ei wneud—ac rwyf i wedi cyhoeddi'r £100,000 ychwanegol heddiw, oherwydd mae hi'n ymddangos bod hynny o fudd mawr.
Yn ferch i ffermwr, Gweinidog, rwyf i wedi gweld effaith ddinistriol TB Buchol ar ffermwyr a'n cymunedau gwledig ni â'm llygaid fy hun, ac mae'n rhaid i mi gytuno â Llŷr; mae hi'n llythrennol yn teimlo fel ein bod ni'n troi yn yr unfan yn y Senedd hon yn hyn o beth. Roeddwn i'n sefyll yma yn ymateb i ddatganiad tebyg iawn yn ôl yn 2003, gan glywed dadleuon tebyg iawn, iawn, ac eto rwy'n sefyll yma heddiw ac rwy'n nodi nad oes fawr ddim wedi newid, Gweinidog. Nid yw hyn yn ddigon da. Nid oes unrhyw gynnydd o sylwedd wedi bod o gwbl, ac mae Cymru yn crefu am ateb cymwys i TB buchol.
Mae'r diffyg dealltwriaeth sy'n gynhenid yn y Llywodraeth hon o ran ein cymunedau gwledig ni a'r hyn sydd ei angen arnyn nhw yn peri dryswch i mi. Fe allwch chi ddefnyddio ystadegau, fel gwnaethom ni heddiw, i gefnogi'r naill ochr neu'r llall i ddadl heddiw, ond yr hyn sy'n ein hwynebu ni i gyd yw bod problem wirioneddol yn parhau o ran TB buchol. Caiff 11 mil o wartheg eu lladd bob blwyddyn i reoli TB. Mae hi'n amlwg nad yw hyn yn gynaliadwy, sef bod gwartheg yn cael eu lladd yn y niferoedd hyn o flwyddyn i flwyddyn. Mae brechiadau ar gyfer moch daear, yr ydych chi o'r farn eu bod nhw'n ddatrysiad i hyn, yn rhy agored i broblemau cyflenwad a chostau uchel, ac mewn gwirionedd, fel dywedodd fy nghyd-Aelod Sam Kurtz yn gynharach, nid yw'n gwella'r anifail o'r haint. Nid yw'n ateb hud a lledrith i bopeth, ac mae hi'n amlwg bod llu o bethau y mae angen eu gwneud ar y cyd i fynd i'r afael â TB buchol, fel yr amlinellwyd gennych chi'n gynharach.
Mae yna sôn wedi bod am frechlyn i wartheg ers bron i 30 mlynedd erbyn hyn, Gweinidog. Rwy'n falch tu hwnt o'ch clywed chi'n dweud bod cynnydd yn cael ei wneud o'r diwedd ac mae hi'n ymddangos ein bod ni'n gweld cynnydd yn hyn o beth, ond roeddech chi'n dweud, ac rwy'n dyfynnu, 'Rwy'n credu y byddwn ni'n ei weld yn y dyfodol.' 'Rwy'n credu y byddwn ni'n ei weld'—felly, nid oes yna ddyddiad pendant o gwbl. Rwy'n meddwl tybed a fyddech chi'n cynnig rhywbeth ychydig yn fwy sylweddol i ni yn hynny o beth, oherwydd mae'n beth cyffrous, oherwydd fe fyddai hynny, rwy'n credu, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Dros y ffin yn Lloegr maen nhw wedi bod yn treialu difa moch daear mewn rhai ardaloedd yn ddiweddar, gyda gostyngiad o 66 y cant mewn TB yn Swydd Gaerloyw a gostyngiad o 37 y cant mewn TB yng Ngwlad yr Haf. Mae'r Prif Weinidog wedi diystyru difa tra bydd ef wrth y llyw, mae'n debyg, ond mae'r canlyniadau yno, Gweinidog. Mae hynny'n gweithio. Rydym ni wedi siarad a siarad, wedi ymgynghori, ymgynghori, ymgynghori yn y Siambr hon, Gweinidog, ond mae angen gweithredu pendant ar Gymru. Yn sicr iawn, mae'n rhaid i ddifa fod yn rhan o'r ateb nawr, gan na allwn ni anwybyddu'r gronfa ym mywyd gwyllt ddim mwy.
Fe wnaethoch chi hepgor 'ar y cyd'—mae angen i ni wneud hyn ar y cyd. Mae hi'n ymddangos eich bod chi'n dweud mai ar Lywodraeth Cymru y mae'r bai am bopeth, ac nid yw hynny'n wir o gwbl. Fe ddywedais i'n benodol ei bod hi'n rhaid i ni wneud hyn mewn partneriaeth. Nid yw'r holl atebion gennyf i, na Llywodraeth Cymru, ac nid yw ffermwyr wedi gwneud hynny ychwaith, ac mae hi'n bwysig iawn eu bod nhw'n gweithio ar y cyd.
Ni ddywedais i fy mod i'n credu y byddwn ni'n ei gael yn y dyfodol—dywedais i fy mod i'n credu y byddwn ni'n ei gael yn 2025, ac un o'r rhesymau yr wyf i o'r farn y byddwn ni'n ei gael yn 2025—ac, unwaith eto, dweud wnes i, pe baech chi wedi bod yn gwrando—yw bod Llywodraeth Cymru wedi arwain yn wirioneddol ar yr ymchwil hwn mewn perthynas â hynny—ymhell cyn fy amser i, nid wyf i'n derbyn unrhyw glod, ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud hynny. Ond mae DEFRA erbyn hyn yn cymryd diddordeb brwd, ac un o'r rhesymau y mae DEFRA yn cymryd diddordeb brwd, yn fy marn i, yw am nad ydyn nhw o'r farn fod difa wedi gweithio. Felly, os—wyddoch chi, rydych chi'n dyfynnu ffigurau ar fy nghyfer i. Pam maen nhw'n rhoi'r gorau i ddifa? Os yw hynny mor llwyddiannus, pam mae Lloegr yn arafu ac yn ymatal rhag difa? Pam maen nhw'n chwilio am rywbeth gwahanol i'w wneud? Y rheswm yw bod TB yn parhau o hyd yn yr ardaloedd yr ydych chi newydd gyfeirio atyn nhw.
Felly, mae'r rhaglen hon i ddileu TB wedi mynd allan i ymgynghoriad erbyn hyn, nawr yw'r amser i bobl roi eu barn arni hi. Rwyf i wedi anghofio pwy ddywedodd nad oedden nhw o'r farn ei bod yn ddigon cadarn; Llŷr, efallai. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n clywed barn pobl nawr. Ond ni ddywedais i erioed fod unrhyw beth unigol yn—. Fel dywedais i, nid wyf yn hoffi'r ymadrodd 'ateb hud a lledrith i bopeth' mewn gwirionedd, rwy'n defnyddio'r geiriau yr ydych chi Geidwadwyr yn eu defnyddio nhw, ond nid oes un yn bod. Pe byddai un i'w gael, fe fyddem ni i gyd wedi dod o hyd iddo erbyn hyn, oni fyddem ni?
Un o'r pethau yr wyf i o'r farn y bydden nhw o gymorth fyddai system brynu gwybodus orfodol. Yn sicr, fe weithiodd hyn yn Seland Newydd. Maen nhw'n dweud wrthyf i mai dyna'r un peth a weithiodd orau, mae'n debyg—felly, unwaith eto, allan i ymgynghoriad ar hynny. Rydym ni wedi rhoi arian grant ar gyfer hynny ac, yn anffodus, nid wyf i'n credu bod marchnadoedd yn cynnig y wybodaeth honno, neu efallai mai'r prynwyr sy'n peidio â'i chynnig i'r marchnadoedd er mwyn i bawb allu prynu yn wybodus fel hyn.
Ac yn olaf, James Evans.
Diolch, Llywydd. Mae gen i ffrind agos sydd â'i fusnes wedi ei ddinistrio gan TB; dywedaf hynny fel buddiant.
Gweinidog, mae rhaglen dileu TB Llafur wedi ei sefydlu ers rhai blynyddoedd, gyda nod hirdymor o ddileu TB buchol. Ac eto, yng Nghymru, nid yw pethau'n gwella, maen nhw'n gwaethygu, oherwydd na fyddwch chi'n cymryd y camau sydd eu hangen i fynd i'r afael ag achos sylfaenol y broblem mewn bywyd gwyllt heintiedig. Nid oes gan y bywyd gwyllt hwnnw unrhyw ysglyfaethwyr naturiol yn y wlad hon. Mae TB buchol wedi dod yn ddiwydiant enfawr ynddo'i hun, gan gyflogi llawer iawn o weision sifil am gost o filiynau o bunnau i'r trethdalwr bob blwyddyn. Rydym ni bellach yn gweld gwartheg cyflo a heffrod yn cael eu lladd ar y buarth, tra bod y llo heb ei eni y tu mewn iddyn nhw yn cicio wrth dagu i farwolaeth. Nid yw'n brofiad dymunol i unrhyw un ei weld ac mae'r straen meddyliol a roddir ar ein ffermwyr yn enfawr.
Felly, Gweinidog, a wnewch chi edrych eto ar y rhan hon o'r ddeddfwriaeth er mwyn rhoi hyblygrwydd, i ganiatáu i loi, os dyna yw'r dymuniad, gael eu geni a'u profi ar ôl i'r fam roi genedigaeth? A hefyd, a wnewch chi a'r Llywodraeth hon gymryd y camau beiddgar y mae angen eu cymryd i fynd i'r afael â TB buchol yng Nghymru ac i arbed llawer o deuluoedd ffermio ledled ein gwlad rhag cael eu dinistrio gan iechyd meddwl a cholled emosiynol oherwydd TB buchol yng Nghymru? Rydym ni wedi bod yn sôn am frechlyn ar gyfer TB buchol ers dechrau'r 2010au. Nid yw yma eto. Os gwelwch yn dda, Gweinidog, ewch ymlaen â'r gwaith, a gadewch i ni ddarparu brechlyn a rhywbeth sydd wir yn dileu TB yng Nghymru.
Felly, unwaith eto, nid wyf i'n credu bod yr Aelod wedi bod yn gwrando oherwydd rwyf i wedi sôn droeon ein bod ni'n gweithio gyda DEFRA, gyda Llywodraeth yr Alban, i gyflwyno brechiad gwartheg. Ac, unwaith eto, soniaf fod Glyn Hewinson wedi dweud wrthyf erioed ei fod yn credu ei fod 10 mlynedd ar y blaen, ac mae'n credu mewn gwirionedd, oherwydd bod DEFRA bellach wedi rhoi pwyslais ar hyn, y byddwn yn ei gael erbyn 2025. Ond, unwaith eto, nid yr un peth fydd hwnnw; mae angen iddo fod yn gyfres o bethau. Mae'r rhaglen dileu TB wedi arwain at welliant. Soniais am y ffigurau yn fy natganiad. Nid yw'n ymddangos bod pobl eisiau derbyn ystadegau, felly ni fyddaf yn ailadrodd hynny.
O ran lladd ar y fferm, rwy'n cytuno yn llwyr â chi pa mor ofidus y gall hynny fod. Cefais i sylwadau gan y diwydiant, ac roeddwn i'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni geisio dod o hyd i ateb ar gyfer lladd ar y fferm. Ac fe wnaethom ni dreialu—ac efallai y byddwch chi'n ymwybodol o hyn—ewthanasia fferm ar gyfer gwartheg TB drwy chwistrelliad marwol. Roedd yn anodd iawn ei gyflawni yn ymarferol ar y fferm. Roedd yn rhaid i chi gydlynu presenoldeb milfeddygon a chludwyr. Dywedodd rhai ffermwyr wrthyf fod hynny hyd yn oed yn fwy gofidus iddyn nhw, a bod yn well ganddyn nhw saethu eu gwartheg. Felly, unwaith eto, rwy'n credu bod hynny yn rhywbeth sy'n ddewis personol i'r ffermwr.
Gwelais hefyd fod y cynllun treialu wedi achosi oedi wrth gael gwared ar wartheg heintiedig. Wrth gwrs, rydym ni'n gwybod am bwysigrwydd gwneud hynny. Felly, fe wnaethom ni roi'r gorau i'r cynllun treialu ar ôl cryn ystyriaeth—rwy'n credu mai yn ystod yr haf y llynedd oedd hynny. Edrychais ar Loegr a'r hyn yr oedden nhw'n ei wneud ac roedd yn ymddangos nad oedd ganddyn nhw yr un problemau â ni, ond rwy'n credu mai'r rheswm dros hynny yw eu bod wedi ymestyn yr amser rhwng ymateb a symud. Rwy'n credu bod hynny'n groes i ganllawiau rheoli clefydau, ac yn sicr dyna'r cyngor a gefais i gan y prif swyddog milfeddygol. Ond rwy'n agored iawn i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud, oherwydd fy mod i'n cytuno yn llwyr â chi, yn sicr mae hwn yn un o'r pethau mwyaf gofidus i ffermwr.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar COP26. Dwi'n galw arno fe i wneud ei ddatganiad. Lee Waters.
Diolch, Llywydd. Cyn Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, dywedodd Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd fod y data diweddaraf yn arwydd o god coch ar gyfer dynoliaeth. Eleni, cofrestrodd Canada ei thymheredd uchaf erioed, gan chwalu'r cofnod blaenorol gyda chynnydd o tua 5 gradd lawn. Roedd yn bwrw glaw yn hytrach nag eira am y tro cyntaf ar gopa llen iâ'r Ynys Las.
Yn nes at gartref, rydym ni wedi gweld effaith ddifrifol glaw trwm, gan arwain at fwy o lifogydd sydyn. Nid problem y byddwn yn ei hwynebu yn 2050 yn unig yw newid hinsawdd; mae'n broblem sy'n ein hwynebu ni nawr. Fel y mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud wrthym, oherwydd allyriadau carbon sydd eisoes yn yr atmosffer, mae cynnydd o 0.5m yn lefel y môr eisoes wedi ei sicrhau. Ac yn ôl yr Athro Richard Betts, prif wyddonydd y Swyddfa Dywydd, rydym yn wynebu codiadau yn lefelau'r môr o fetr yn yr 80 mlynedd nesaf yn seiliedig ar bolisïau cyfredol.
Llywydd, rydym ni wedi datgan argyfwng hinsawdd yn briodol ac mae angen i ni weithredu yn unol â hynny yn awr. Rydym ni wedi gweld rhywfaint o gynnydd o ran ymateb i raddfa'r her. Cytunodd y Senedd hon ym mis Mawrth i newid ein targedau deddfwriaethol. Erbyn hyn, mae gan Gymru darged sero-net ac, ychydig wythnosau'n ôl, gwnaethom gyhoeddi ein cynllun Cymru Sero-Net—ffordd gredadwy ac ymarferol o leihau allyriadau carbon dros y pum mlynedd nesaf, gan ein gosod ar y llwybr i ddyfodol cryfach, tecach a gwyrddach.
Gwnaethom gyflwyno ein cynllun, er ein bod yn wynebu oedi yn y cyngor a gawsom gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU, oherwydd ein bod ni'n dymuno mynd i COP gyda chynllun credadwy, gan nodi ymrwymiad Cymru i chwarae ein rhan. Roedd angen i COP26 fod yn foment allweddol, nid yn unig i Gymru ond yn fyd-eang. Hon oedd y bumed uwchgynhadledd ers cytundeb Paris yn 2015, a'r cyfle cyntaf i farnu uchelgais a chamau gweithredu cyfunol y byd i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae hyn yn golygu gweithredu ar allyriadau, ond hefyd ar addasu ac ystyried sut yr ydym yn cefnogi gwledydd datblygol i ymdrin â chanlyniadau tanau gwyllt, sychder, ymchwydd stormydd, llifogydd a lefelau'r môr yn codi.
Roedd Llywodraeth Cymru yn bresenoldeb gweithredol drwy gydol uwchgynhadledd COP, fel rhan o ddirprwyaeth y DU. Rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau eraill y Senedd hefyd yn Glasgow, yn cynrychioli ein Senedd. Ac rwy'n gobeithio bod eu profiadau mor heriol ac ysbrydoledig ag yr oedd rhai Julie James a minnau. Fe wnaethom ni glywed yn uniongyrchol gan bobl Guarani yng nghoedwig law Brasil, a gan bobl Wampis ym Mheriw. Mae eu coedwigoedd nhw yn dal yr hyn sy'n cyfateb i holl allyriadau Cymru yn flynyddol. Cafodd y ddau ohonom ein taro gan yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu wrth i'w cartrefi a'u diwylliannau gael eu bygwth gan ffermwyr a choedwyr, mewn ymateb uniongyrchol i'r galw gan ddefnyddwyr o'n gwledydd ni ac eraill. A'r neges o COP yw bod angen i ni newid.
Drwy gydol yr uwchgynhadledd, fe wnaethom ni ymgysylltu â phobl ifanc a chawsom ein hysbrydoli gan eu penderfyniad a'u dicter. Gwnaethom gyfnewid nodiadau gydag arweinwyr o leoedd fel Sao Paulo, Québec, a Chaliffornia, gan rannu'r gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu a chyfnewid dealltwriaeth. Ymysg llawer o'r cyfarfodydd cofiadwy, siaradodd y Prif Weinidog yn ddwyochrog â Llywodraethwr Louisiana, sydd â degau o filoedd o bobl yn byw mewn ystafelloedd gwesty yn dilyn corwynt Aida. Manteisiodd ar y cyfle i ddefnyddio ein haelodaeth o'r rhwydwaith economi llesiant i sicrhau bod trosglwyddo i ddyfodol gwyrddach yn un sydd â phobl wrth ei wraidd. Fe wnes i gyfarfod â Jenipher Sambazi o Mbale yn Uganda, sy'n enghraifft ysbrydoledig o sut mae menywod yn arwain y ffordd o ran ymladd newid hinsawdd, a chefnogi eu cymunedau i'w gwneud yn gydnerth ar gyfer y dyfodol.
Gwnaethom hefyd chwarae ein rhan yn annog eraill i gamu ymlaen a gweithredu. Mae ein haelodaeth weithredol mewn rhwydweithiau fel RegionsAdapt a'r Gynghrair Dan2 yn ddull gweithredu allweddol ar gyfer hyn. Yn 2015, roedd Cymru'n un o sylfaenwyr y Gynghrair Dan2, sydd bellach wedi tyfu i ddod â 260 o lywodraethau ynghyd, sy'n cynrychioli 50 y cant o'r economi fyd-eang a rhyw 1.75 biliwn o bobl. Gyda phwyslais ar y lefel is-genedlaethol fel y'i gelwir, mae'r gynghrair yn cynnig cyfle i ni ymgysylltu a chysylltu â chenhedloedd byd-eang, a dysgu oddi wrthyn nhw a chael ein hysbrydoli ganddyn nhw. Mae'r grŵp yn arbennig o bwysig lle mae'r llywodraethau cenedlaethol yn amharod i wneud penderfyniadau anodd, neu le mae gweithredu'n araf. Er enghraifft, pan oedd yr Arlywydd Trump mewn grym, gan dynnu America allan o gytundeb Paris, fe wnaeth y gynghrair y gwnaethom ni helpu i'w chreu ganiatáu i ddwsinau o daleithiau aros mewn cysylltiad â'r agenda newid hinsawdd fyd-eang a gwneud cynnydd. Mewn cyfnod o adfyd a newid byd-eang, mae swyddogaeth y llywodraethau gwladol a rhanbarthol hyd yn oed yn bwysicach gan fod cymaint o'r newid sydd ei angen ar lefel leol.
Yn yr un modd, roeddwn i'n falch ein bod yn rhan o'r Gynghrair Y Tu Hwnt i Olew a Nwy, a gafodd ei lansio yn yr uwchgynhadledd, dan arweiniad Costa Rica a Denmarc, sef cynhyrchydd olew mwyaf yr Undeb Ewropeaidd. Ni oedd yr unig genedl yn y DU i fod yn rhan o'r 10 aelod craidd. Ac rwy'n credu, drwy greu momentwm, y byddwn yn helpu eraill i ymuno â'r gynghrair honno i ddangos ffordd ymarferol ymlaen. Ni waeth beth fo canlyniadau COP, mae'n rhywbeth y gallwn ni ei wneud.
Fel rhan o'i rhaglen hi, roedd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn bresennol yng nghynulliad cyffredinol y Gynghrair Dan2, lle buom yn edrych ar sut y gallem ni gynyddu ein gwaith allgymorth, blaenoriaethu gweithredu a rhannu a dysgu oddi wrth ein gilydd. Er enghraifft, rydym yn gweithio drwy bartneriaethau fel fforwm polisi allyriadau sero-net de Awstralia, sy'n edrych ar gyflymu'r trosglwyddo i sero-net. Yn y cynulliad, pwysleisiodd yr angen am drawsnewid teg a chyfiawn, heb eithrio neb nac unrhyw le wrth i ni symud tuag at ddyfodol gwyrddach. Soniodd hefyd am sut yr ydym yn cefnogi Cronfa'r Dyfodol, sy'n sicrhau bod lleisiau'n cael eu clywed mewn digwyddiadau fel COP, a sut yr ydym wedi ymrwymo i weithio gydag eraill, fel Llywodraeth yr Alban, drwy'r Gynghrair Ariannu Trawsnewid Cyfiawn.
Gan fod COP26 bellach wedi dod i ben, hoffwn dynnu sylw'r Senedd at yr hyn sydd wedi ei gyflawni yn ogystal â'r camau nesaf, sy'n hollbwysig. Gwnaed cynnydd gwirioneddol o ran methan, o ran cyllid byd-eang a dechrau symud gwledydd y tu hwnt i lo, olew a nwy. Ond mae gennym ni lawer mwy i'w wneud i ysgogi'r uchelgais a'r camau sydd eu hangen i osgoi cynhesu byd-eang trychinebus yn ystod oes ein plant. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gymryd y camau sydd eu hangen i chwarae ein rhan deg ar y llwyfan byd-eang, ac anogaf Aelodau'r Senedd i ymuno â'r ymrwymiad hwnnw. Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Dirprwy Weinidog am eich datganiad. Rwy'n siŵr y byddech chi'n dymuno ymuno â mi wrth longyfarch llywydd COP26, Alok Sharma, am yr hyn a fu'n ddigwyddiad byd-eang llwyddiannus. Rwy'n credu, mae'n deg dweud, y bu rhywfaint o gnoi ewinedd ar ei ran ef tua'r diwedd un. Ond mae'n rhaid i ni fod yn realistig, ac roedd y byd ar y ffordd tuag at 4 gradd o gynhesu dinistriol y ganrif hon. Ar ôl Paris, roeddem yn symud tuag at 3 gradd ac, yn dilyn Glasgow, rydym ni erbyn hyn yn wynebu 1.8 gradd. Fodd bynnag, fel y dywedodd y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, ein Prif Weinidog, mae hynny'n dal i fod yn llawer rhy uchel. Yn wir, mae'r Prif Weinidog Mia Mottley wedi dweud bod 2 radd i Barbados a gwladwriaethau ynys bychain eraill yn ddedfryd o farwolaeth. Felly, mae'n rhaid i ni, fel yr ydych chi'n ei ddweud, wneud mwy a chadw at addewidion, er mwyn cadw'r nod o gyfyngu cynnydd y tymheredd i 1.5 gradd yn fyw. Diolch byth, bydd cytundeb hinsawdd Glasgow yn cyflymu'r broses o weithredu ar yr hinsawdd, ac mae pob gwlad, wrth gwrs, wedi cytuno i ailedrych ar ei thargedau allyriadau presennol a'u cryfhau hyd at 2030 y flwyddyn nesaf.
Yn ystod cyllideb garbon 2 mae angen i ni sicrhau gostyngiad cyfartalog o 37 y cant, gyda therfyn gwrthbwysiad o 0 y cant. Nawr, mae modelu'n dangos ein bod ni ar y trywydd iawn i sicrhau gostyngiad o 44 y cant o'i gymharu â'r llinell sylfaen, ond gallem ni fynd ymhellach a gallem ni fynd yn gyflymach. Rydym ni'n cytuno ar yr angen i gynyddu datblygiadau ynni adnewyddadwy, ac rwyf i yn croesawu eich astudiaeth ddofn. Rydych chi'n bwriadu ystyried camau tymor byr, canolig a hir. Felly, a gaf i ofyn, yng ngoleuni COP26, i chi amlinellu cynifer o gamau tymor byr â phosibl, er mwyn gweithredu'n gyflymach ar fwy o ynni adnewyddadwy?
Mae gan niwclear newydd ran hanfodol i'w chwarae o ran darparu ynni carbon isel dibynadwy a fforddiadwy, wrth i Brydain weithio i leihau ei dibyniaeth ar danwydd ffosil. Yr wythnos diwethaf, cefnogodd Llywodraeth y DU dechnoleg niwclear fach gyda £210 miliwn. Bydd hyn yn ein helpu i symud cam 2 y prosiect niwclear cost isel ymlaen, a'i dywys trwy'r prosesau rheoleiddio i asesu cynaliadwyedd y posibilrwydd o ddefnyddio'r prosiect yn y DU. Fodd bynnag, gall Cymru chwarae rhan allweddol yn Wylfa a Thrawsfynydd. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gwmni Egino a'r gwaith yr ydych yn ei wneud i gael yr adweithyddion modiwlaidd bach hyn yng Nghymru?
Mae trafnidiaeth ffyrdd yn cyfrif am dros 10 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang, ac mae cyfanswm yr allyriadau'n codi'n gyflymach nag unrhyw sector arall. Yn ystod COP, amlinellodd y Cyngor Pontio tuag at Gerbydau Dim Allyriadau ei gynllun gweithredu ar gyfer 2022, sy'n cynnwys nodi gweledigaeth gyfunol ar gyfer seilwaith gwefru byd-eang. Dim ond un pwynt gwefru cyflym sydd gennym ym Mharc Cenedlaethol Eryri, nid oes un pwynt gwefru cyflym yn Nwyfor Meirionnydd, ac eto dim ond 50 pwynt gwefru cyflym y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu darparu ar gyfer 1,000 o filltiroedd o rwydwaith cefnffyrdd Cymru erbyn 2025. Roedd trafnidiaeth yn cyfrif am 17 y cant o allyriadau Cymru yn 2019, a dyma ein sector allyrru nwyon tŷ gwydr mwyaf—y mwyaf ond dau, mae'n ddrwg gen i. Felly, a fyddwch chi'n adolygu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i ddarparu pwyntiau gwefru?
Gwelodd COP26 hefyd yr agenda gweithredu byd-eang ar drawsnewid arloesedd amaethyddol. Mae'r DU yn cefnogi hyn a'r pedair menter, gan gynnwys menter y Gynghrair Ymchwil Byd-eang ar Nwyon Tŷ Gwydr Amaethyddol, sy'n dod â gwledydd at ei gilydd i ddod o hyd i ffyrdd o dyfu mwy o fwyd heb gynyddu allyriadau nwyon tŷ gwydr. Yn hytrach na safbwynt Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb garbon 2, sy'n nodi mai eich uchelgais chi, er enghraifft, yw gweld gostyngiad sylweddol mewn cigoedd coch a chynhyrchion llaeth dros yr 20 mlynedd nesaf, a wnewch chi, Dirprwy Weinidog, gydnabod canfyddiadau Prifysgol Bangor bod gan ffermydd defaid a chig eidion Cymru sy'n defnyddio dulliau nad ydyn nhw'n rhai dwys rai o'r allyriadau nwyon tŷ gwydr isaf o systemau tebyg yn fyd-eang, ac edrych i weld sut y gallwch chi, yn eich swyddogaeth chi yn Llywodraeth Cymru, gefnogi cig Cymru a'r ffordd werdd y caiff ei gynhyrchu yn fyd-eang, yn enwedig gyda'r cysylltiadau newydd yr ydych wedi eu gwneud yn ddiweddar pan oeddech chi yn Glasgow? Diolch.
Diolch i chi am y cwestiynau yna. Rwy'n sicr yn cytuno bod Alok Sharma wedi gwneud gwaith da wrth roi COP ar brawf wrth ddod i gytundeb—nid yr un y byddem ni i gyd wedi dymuno ei weld, ond, serch hynny, cytundeb sy'n mynd â ni ymlaen, er iddo fethu uchelgais y Prif Weinidog i gadw 1.5 gradd yn fyw, nad yw'n rhywbeth anystyriol i'w daflu o'r neilltu. Soniodd Janet Finch-Saunders ein bod yn wynebu cynhesu o 1.8 gradd. I fod yn glir, ar 1.8 gradd bydd y rhan fwyaf o greigresi cwrel y byd yn cael eu dinistrio a bydd yr ecosystem sy'n dibynnu ar hynny yn cael ei dinistrio yn yr un modd. Mae hynny wedyn yn dechrau rhyddhau sgileffeithiau, a'r perygl o greu trothwyon tyngedfennol, oherwydd nid ydym ni'n gwybod—mae gennym ni fodelau, ond nid ydym ni'n gwybod ar ba adegau y bydd y trothwyon hyn yn cael eu sbarduno, ac mae'n llawer mwy tebygol y byddwn yn gweld sbigynnau a thywydd llawer mwy peryglus, stormydd, sychder, a fydd yn cael effeithiau trychinebus nid yn unig ledled y byd, ond yng Nghymru.
Felly, nid yw 1.8 gradd yn ddigon da, a dywedodd prif wyddonydd Swyddfa Dywydd y DU yn y cyflwyniad y bues i ynddo ein bod ni, ar sail polisïau cyfredol, yn symud tuag at gynhesu 4 gradd erbyn diwedd y ganrif. Ac i fod yn glir, dyna ddiwedd bodolaeth ddynol ar ei wedd bresennol. Felly, nid ystadegau yw'r rhain y gallwn ni eu taflu o gwmpas yn ddi-hid fel y gallem ni ei wneud mewn dadleuon polisi eraill. Bydd canlyniadau hyn yn ddinistriol os na fyddwn yn llwyddo i gyflawni mwy nag yr ydym ni wedi ei wneud yn COP.
Soniodd fod angen i ni sicrhau gostyngiad o 37 y cant erbyn diwedd cyllideb garbon 2. Mae hynny'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob un ohonom ni yn y Siambr hon nid yn unig ymrwymo i'r targedau, ond ymrwymo i ganlyniadau'r targedau hynny. Felly, fe wnaethom ni gyhoeddi adolygiad o'r ffyrdd. Er mor anghyfforddus yw hynny, mae hynny'n rhan o'r gyfres o fesurau y mae angen i ni eu gweithredu, ac mae angen i'r Aelodau yn y Siambr hon, er gwaethaf yr hyn y maen nhw'n ei ddweud heddiw, ddangos arweiniad a dewrder o ran cefnogi canlyniadau dilynol yr argyfyngau hyn yr ydym yn barod i'w cymeradwyo.
Gofynnodd yn benodol am Gwmni Egino. Rydym yn sefydlu hwnnw, ac rydym yn edrych ar yr achos dros gynnwys ynni adnewyddadwy o fewn hynny hefyd, oherwydd ein bod ni wedi ymrwymo i sefydlu cwmni ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r sector cyhoeddus ac a arweinir ganddo, ac rydym yn ystyried yr achos dros gyfuno'r arbenigedd hwnnw.
O ran y camau gweithredu tymor byr y gofynnodd amdanyn nhw, soniodd am yr astudiaeth ddofn yr ydym wedi ei chynnal ar goed, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ar ynni adnewyddadwy ar hyn o bryd, yr adolygiad ffyrdd ei hun a datblygu rheoliadau adeiladu llymach. Nifer bach yn unig o'r pethau yr ydym ni wedi eu gwneud yn ystod y chwe mis diwethaf ers sefydlu'r adran hon ydyn nhw, ac mae llawer mwy y mae angen i ni ei wneud. Mae angen cynnal cyflymder y newid.
Gofynnodd am fodolaeth pwyntiau gwefru cyflym, ac mae'n iawn. Wrth i'r nifer sy'n defnyddio cerbydau trydan gynyddu'n sylweddol, felly hefyd bydd yr angen i'r seilwaith gwefru gyfateb i hynny. Rydym ni wedi nodi strategaeth yn ddiweddar sy'n nodi'r hyn yr ydym yn ei wneud, sy'n ein helpu i gynyddu ar yr un raddfa yn ein barn ni. Nid gwaith Llywodraeth Cymru yn unig yw rhoi'r seilwaith gwefru ar waith; mae'n waith i'r sector preifat hefyd. Fel yr wyf i'n sôn o hyd, nid yw Llywodraeth Cymru yn darparu gorsafoedd petrol, ac ni ddylid disgwyl i ni ddarparu'r rhan fwyaf o'r seilwaith gwefru. Mae angen i ni edrych ar fodel y tu allan i mewn fel bod yr ardaloedd hynny sydd lleiaf tebygol o gael eu gwasanaethu gan y farchnad yn cael eu gwasanaethu'n dda. Ac rydym ni wedi cyhoeddi cyllid newydd eto ar gyfer y gronfa cerbydau allyriadau isel iawn.
Yn olaf, o ran cig, mae'n amlwg bod Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn gosod llwybr ar gyfer lleihau'r defnydd o gig, ac nid cig a gynhyrchir yn ein gwlad ni yn unig. Ydy, mae Janet Finch-Saunders yn iawn i ddweud bod gan gig Cymru allyriadau cymharol is na chigoedd o wledydd eraill, ond fel y soniais i am brofiad pobl frodorol Periw a Brasil, y cig rhad yr ydym ni'n ei brynu i mewn o Dde America yw'r cig sy'n gyrru'r galw am soia sy'n arwain at ddinistrio'r goedwig law, na fydd yno wedyn i ddal y carbon y mae angen ei ddal er mwyn cadw lefelau byd-eang i lawr. Felly, o ran cig, yn gyffredinol, mae angen i'r defnydd ddod i lawr. Ac fel yr wyf wedi ei ddweud yn gyson, rwyf i'n credu bod achos dros fwyta llai o gig, ond bod y cig yr ydym ni yn ei fwyta yn gig Cymru, yn gig lleol, yn gig o safon uwch. Ym mhob un o'r pethau hyn, mae'r holl newidiadau sydd eu hangen yn anodd ac yn anghyfforddus i ni, ond ni allwn fforddio osgoi'r her hon.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad. Roedd yr hyn y cytunwyd arno yn COP yn llawer gwannach na'r camau llym sydd eu hangen, ac er y byddwn yn ategu'r rhai sy'n canmol Alok Sharma am ei ymdrechion i greu consensws, mae'n siŵr y dylid condemnio Boris Johnson am wneud ei waith mor anodd. Ar adeg pan ddylai Prif Weinidog y wladwriaeth a oedd yn lletya'r gynhadledd fod wedi bod yn neilltuo ei holl egni i berswadio arweinwyr y byd i gytuno i fesurau nad oedden nhw eu heisiau ond bod y blaned eu hangen, treuliodd Johnson y pythefnos yn ymdrin â sgandal lygredd ddomestig yr oedd ef ei hun yn gyfrifol amdani. Ac os nad oedd hynny'n ddigon, aeth ymhellach drwy gynyddu tensiynau gyda'r UE dros brotocol Gogledd Iwerddon tra bo'r gynhadledd yn mynd rhagddi, gan ddieithrio ein cynghreiriaid yn ddiangen pan oedd eu hangen nhw arnom ni fwyaf. Pe bai wedi golygu un gair a ddywedodd yn ei araith i agor COP26, byddai wedi treulio ei amser cyfan yn adeiladu pontydd yn hytrach na'u llosgi—'llosgi' yw'r gair priodol, Gweinidog.
Byddai Prif Weinidog gyda chynllun, neu hyd yn oed dim ond y gallu i ganolbwyntio am gyfnod, wedi clywed clychau larwm yn canu pan gytunodd yr Unol Daleithiau a Tsieina ar gytundeb dwybleidiol yn ystod y gynhadledd i leihau'r defnydd o lo—bargen, y gellir dadlau, a roddodd rhwydd hynt wleidyddol i India yn y pen draw i arwain yr ymdrech i danseilio'r ymrwymiad, a enillwyd drwy fawr ymdrech, i ddiddymu glo yn gyfan gwbl ar y funud olaf un. Roedd dagrau Alok Sharma pan ddaeth hyn yn amlwg yn symbol o chwalu gobeithion biliynau di-rif o bobl. Mae rhoi diwedd ar losgi glo yn hanfodol er mwyn cadw cynhesu o dan 1.5 gradd. Am ennyd fer, roedd yn edrych fel pe bai bywyd ar y ddaear wedi sicrhau dyfodol hirdymor. Mae'r dyfodol hwnnw'n dal i fod yno i'w ennill, ac er ein bod ni wedi dioddef cam arall yn ôl, bydd y frwydr yn parhau. Un consesiwn pwysig, Gweinidog, y cytunwyd arno, oedd y bydd gwledydd yn dychwelyd gyda gwelliannau y flwyddyn nesaf ac yn 2023. Gan fod gan lywyddiaeth y DU flwyddyn i fynd o hyd, byddwn yn ddiolchgar pe baech yn rhoi rhai manylion ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei haelodaeth o'r Gynghrair Tu Hwnt i Olew a Nwy i wthio'r agenda hon dros y 12 mis nesaf. Mae hynny'n aelodaeth yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn ei chroesawu.
Gan droi at feysydd lle mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth uniongyrchol, rydych eisoes wedi siarad am ddatblygu ynni adnewyddadwy a'r astudiaeth ddofn yr ydych yn ei wneud, Gweinidog. Pe baech yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny, byddwn yn ddiolchgar. Lleihau allyriadau carbon deuocsid wrth gwrs yw'r unig ffordd o atal newid hinsawdd sydd allan o reolaeth a chadw'r ddaear yn blaned y gellir byw arni. Rydych wedi bod yn sôn, Gweinidog, am sut i weithredu cynlluniau mewn gwirionedd gan y gall cynnydd o ran newid hinsawdd olygu diwedd y ddynoliaeth. Rydych eisoes wedi bod yn sôn, yn eich ymateb i Janet Finch-Saunders, am rai o'r penderfyniadau anodd y mae angen i ni eu gwneud. Fel cenedl fach, hoenus, mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod Cymru'n chwarae ei rhan, gan fod cynifer o allyriadau cenhedloedd ar ochr arall y blaned yn cael eu cynhyrchu mewn gwirionedd oherwydd ein harferion ni o ran yr hyn yr ydym yn ei ddefnyddio. Rydych wedi bod yn sôn am gig a soia, Gweinidog. A gaf i ofyn i chi amlinellu eich cynllun i leihau allyriadau defnydd a lleihau ôl troed carbon byd-eang Cymru?
Yn olaf, hoffwn droi at fater lliniaru. Rydych wedi cydnabod yn gyhoeddus y bydd canlyniadau peidio â gweithredu ar gynhesu byd-eang ar ôl COP26 yn ddifrifol i Gymru. Mae arbenigwyr yng Nghymru wedi rhybuddio y bydd tywydd eithafol yn bygwth bywydau ac yn gwneud pobl yn dlotach. Rydym yn wynebu mwy o lifogydd, erydu arfordirol, a thomenni glo mwy ansefydlog o bosibl. Nodais fod Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud mewn erthygl ddiweddar ei bod, yn anffodus, wedi cymryd digwyddiadau mawr yn aml i'n gorfodi ni i fyfyrio ar ba mor barod yr ydym mewn gwirionedd ar gyfer tywydd mwy eithafol. Roedd yn siarad mewn cysylltiad ag amddiffynfeydd rhag llifogydd. Gan ein bod bellach yn gwybod nad ydym ar y trywydd iawn i gadw cynhesu o dan 1.5 gradd, rwy'n credu bod achos i Lywodraeth Cymru ailedrych ar strategaethau fel y cynllun llifogydd ac erydu arfordirol, yn ogystal â'n hymagwedd at domenni glo, sy'n fater yr wyf wedi'i godi gyda chi nifer o weithiau, i sicrhau eu bod yn ddigon cryf i wynebu maint yr her. Mae angen inni fod yn arloesol ac adeiladu ar arfer gorau i liniaru'r argyfwng hinsawdd. Felly, a wnewch chi ymrwymo, os gwelwch yn dda, i gyflwyno cynlluniau lliniaru newid hinsawdd cyflawn, cadarn ac wedi'u costio yn y dyfodol agos? Diolch yn fawr iawn.
Diolch ichi am y gyfres yna o gwestiynau. O ran y Gynghrair Y Tu Hwnt i Olew a Nwy, mae wedi bod yn llai nag wythnos ers ei chreu, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig inni anfon y neges ein bod yn rhan o honno fel gwlad a oedd yno ar ddechrau'r chwyldro diwydiannol, ac yn dangos ein bod yn credu nad yw tanwydd ffosil yn chwarae rhan yn ein dyfodol. Dechreuodd gyda 10 aelod o wahanol raddau o aelodaeth—mae California, er enghraifft, yn aelod cyswllt ac rydym ni'n aelod craidd. Ac yn union fel y soniais yn fy natganiad, y cynghreiriau eraill yr ydym wedi bod yn rhan o'u datblygiadau dros y blynyddoedd, ac sydd bellach wedi tyfu, gobeithiwn y bydd yr un peth yn digwydd gyda'r Gynghrair Tu Hwnt i Olew a Nwy. Rydym wedi cael rhai sgyrsiau anffurfiol gyda Llywodraeth yr Alban eisoes i'w helpu i ddeall beth mae'r broses aelodaeth yn ei olygu. Gobeithiwn, drwy'r enghraifft yr ydym wedi'i dangos, y bydd hon yn tyfu i fod yn gynghrair sylweddol.
Roeddwn yn credu, mewn wythnos, yn sicr yn yr ail wythnos o siarad, lle nad oedd llawer o gynnydd pendant, roedd y gynghrair hon yn arwydd o obaith o'r hyn y gall Llywodraethau ei wneud ni waeth beth fo canlyniadau COP. Gan fy mod yn credu bod angen i ni wahaniaethu rhwng y broses COP, sef negodi rhyngwladol, sydd, drwy ddiffiniad, yn symud ar gyflymder yr arafaf o'r cyfranogwyr, a'n hymrwymiad sero-net ni, sy'n bodoli ni waeth beth fo'r broses COP. Rydym wedi ymrwymo, yn ôl y gyfraith, fel Llywodraeth y DU, i sicrhau sero-net erbyn 2050 fan bellaf; nid oes angen i COP ddigwydd i gyflawni hynny, mae angen i bob un ohonom ganolbwyntio ar yr hyn y mae angen i ni ei wneud a pheidio â chael ein harafu gan eraill sy'n ei chael yn anos i wneud ymrwymiadau sy'n cyfateb i'n hymrwymiadau ni.
Mae'r astudiaeth ddofn ynghylch ynni adnewyddadwy ar y pwynt canol. Byddaf yn cyflwyno datganiad i'r Senedd ar 7 Rhagfyr yn nodi'r casgliadau cychwynnol. Fel gyda'r astudiaeth ddofn ynghylch coed, rwyf wedi dod ag amrywiaeth o safbwyntiau gwahanol at ei gilydd ac rydym wedi cyhoeddi'r cylch gorchwyl a'r aelodaeth. Rydym hefyd yn ategu hynny drwy gynnal cyfres o gyfarfodydd bord gron. Cawsom gyfarfod bord gron da iawn gyda chynrychiolwyr y diwydiant ac mae cyfarfod bord gron arall ar fin digwydd gyda sefydliadau anllywodraethol. Gyda'r grŵp ei hun, rydym yn nodi'n systematig beth yw'r rhwystrau rhag cynyddu ynni adnewyddadwy yn sylweddol, a hefyd, yn hollbwysig, sut y gallwn gadw gwerth yng Nghymru. Yr hyn nad wyf eisiau ei wneud yw ailadrodd y chwyldroadau diwydiannol blaenorol pan gafodd ein cyfoeth economaidd ei allforio a'i echdynnu gan fuddiannau y tu allan i Gymru; y tro hwn rwyf eisiau sicrhau bod ein cyfoeth yn cael ei gadw'n lleol. Ac mae hynny'n heriol, ond mae'n rhaid i hynny fod wrth wraidd ein dull gweithredu, fel nad ydym yn ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol.
O ran tomenni glo, mae h'n egluro, yn briodol, bod y rhain bellach dan fygythiad, o gofio ein bod yn gwybod am y newid hinsawdd sydd yn anochel. Rydym yn siomedig iawn nad yw Llywodraeth y DU, er ei bod wedi dangos arweiniad ar y cyd ar yr agenda hon i ddechrau, wedi ymwrthod yn llwyr â'i swyddogaeth, nid yw wedi ariannu'r gwaith o adfer tomenni glo yn setliad y gyllideb, ac mae'n ein gadael i ni fwrw ymlaen â hyn, er bod y tomenni glo hyn yn etifeddiaeth o'n gorffennol diwydiannol ac yn bodoli cyn datganoli. Rydym yn credu ei bod yn iawn i Lywodraeth y DU dderbyn cydberchnogaeth o'r broblem hon ac i weithio gyda ni. Mae wedi methu â gwneud hynny, felly mae gennym broblem wirioneddol nawr, yn ymarferol ac yn ariannol, o ran ymdrin â'r etifeddiaeth hon y mae'n ymddangos ei bod hi wedi troi ei chefn arni, gan ffafrio yn hytrach taenu ychydig o arian i gael sylw cadarnhaol mewn rhannau gwleidyddol gyfeillgar o'r wlad, yn hytrach na wynebu ei swyddogaeth yn rhan o'r undeb.
O ran lliniaru ac addasu, mae'n gwbl gywir, mae angen inni fod yn adolygu ein cynlluniau'n gyson i ymdrin â'r newid hinsawdd y gwyddom ei fod yn anochel, a dyna waith sy'n mynd rhagddo.
Rwy'n croesawu'r datganiad a'r cyfle i holi'r Gweinidog. Roedd COP26 yn siom; rwy'n credu bod pawb o'r farn honno. Pan welsoch chi nifer yr awyrennau'n glanio, roedd yn hawdd gweld nad oedd yn mynd i fod yn llwyddiant. Rhoddodd gormod o wledydd fudd economaidd tymor byr o flaen yr amgylchedd a'u budd economaidd hirdymor. Roeddwn i bob amser yn credu, pe bai pobl yn gweld canlyniadau newid hinsawdd, y bydden nhw yn mynnu gweithredu. Mae gormod yn ystyried digwyddiadau tywydd mawr fel lwc ddrwg yn unig, yn hytrach na chanlyniad anochel newid hinsawdd. Ni allwn newid COP26. Yr hyn y gallwn ni ei wneud yw gweithredu fel enghraifft i weddill y byd yng Nghymru. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i weithio tuag at wneud Cymru'n enghraifft i'r byd o ran yr hyn y gellir ei wneud i leihau allyriadau carbon? A fydd y Llywodraeth yn cefnogi, ar ôl COVID, yr awgrym i'r Senedd barhau i gyfarfod mewn modd hybrid, gan leihau ein hôl troed carbon ein hunain? A wnaiff y Llywodraeth lunio strategaeth nid yn unig ar gyfer newid yn y dull teithio a ddefnyddir ond ar gyfer gostyngiad blynyddol yn y milltiroedd sy'n cael eu teithio?
Diolch i Mike Hedges am y sylwadau yna. Rwy'n credu bod Cymru eisoes yn enghraifft i'r byd mewn llawer o'r camau yr ydym yn eu cymryd ar hyn o bryd. Yn sicr, un peth sydd wedi fy nharo, a bydd yr Aelodau'n gwybod nad wyf i'n rhywun sy'n anfeirniadol o berfformiad ein Llywodraeth ein hunain—yr hyn a oedd yn drawiadol iawn oedd y ffordd yr oedd Cymru'n cael ei hystyried ledled COP gan wledydd eraill o faint tebyg a rhanbarthau gwledydd mwy fel enghraifft o wlad a oedd yn gweithredu ac a roddodd ysbrydoliaeth i eraill, boed hynny ar lefelau ailgylchu neu yn wir ar ein hadolygiad o ffyrdd, sydd wedi ennyn diddordeb rhyngwladol sylweddol. Felly, rwy'n credu ein bod eisoes yn gweithredu mewn ffordd sy'n rhoi enghraifft i eraill, ac mae angen i ni barhau i wneud hynny.
O ran ei bwynt am weithio hybrid, mae gan Lywodraeth Cymru darged o 30 y cant yn gweithio o bell am yr union reswm hwnnw. Rydym eisiau sicrhau nad yw'r manteision a gafwyd yn ystod cyfnod cyfyngiadau symud COVID yn sgil lleihau allyriadau gan bobl yn gweithio gartref yn cael eu colli wrth i ni symud yn ôl tuag at ryw fath ar normalrwydd. Felly, mae'n bwysig bod pob busnes a'r sector cyhoeddus yn edrych i weld sut y gall gweithio hybrid ddod yn normal, a byddwn i'n gobeithio ac yn disgwyl i'r Senedd fod yn rhan o hynny.
Ar ei bwynt olaf, dim ond hanner ysgrifennu'r nodyn a wnes i ac rwyf bellach wedi anghofio beth oedd 'e—ymddiheuriadau. Mae croeso i chi—
Gostyngiad blynyddol yn nifer y milltiroedd sy'n cael eu teithio.
Diolch yn fawr iawn. Yn bendant, mae ein cynllun sero-net i Gymru yn cynnwys gostyngiad blynyddol o 10 y cant yn nifer y milltiroedd sy'n cael eu teithio dros y cyfnod o bum mlynedd, sy'n mynd i fod yn darged heriol iawn i'w gyrraedd. Rydym yn gosod hynny gan wybod ei fod yn darged ymestynnol. Nid oes gennym ni gynllun wedi'i lunio'n llawn, a dweud y gwir, ynghylch sut y byddwn yn ei gyflawni. Rydym ni'n gwybod sut yr ydym ni'n mynd i gyflawni tua 60 y cant ohono. Mae Llywodraeth yr Alban wedi rhoi targed iddyn nhw eu hunain i gyflawni gostyngiad o 20 y cant mewn milltiroedd sy'n cael eu teithio, ac rwy'n edmygu eu beiddgarwch. Doeddwn i ddim yn credu ei bod yn ddoeth iawn ymrwymo i rywbeth sydd ymhell y tu hwnt i'r hyn yr oeddem yn gwybod y gallem ni ei gyflawni. Mae mynd am ostyngiad o 10 y cant yn herio 70 mlynedd o bolisi trafnidiaeth ac mae'n mynd i fod yn her fawr. Rydym wedi nodi yn strategaeth drafnidiaeth Cymru y camau y byddwn yn eu cymryd i symud i'r cyfeiriad hwnnw. Byddan nhw'n anodd, ond mae angen inni wynebu hynny, oherwydd mae hynny'n rhan allweddol o gyflawni ein hymrwymiad i sero-net. Oherwydd os na fyddwn yn cyflawni yn ystod y pum mlynedd nesaf, ni fyddwn ar y trywydd iawn i'w gyflawni erbyn 2050.
Diolch yn fawr am eich datganiad, y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Roedd yn dda iawn eich gweld yn Glasgow yr wythnos diwethaf ar gyfer COP26, ac rwy'n credu ichi gwrdd â'r aelod sy'n cyfateb i mi yn San Steffan, Dr James Davies, felly roedd yn braf iawn gweld hynny.
Efallai ddim.
Cawsom sgwrs braf.
Peidiwch â bod mor negyddol. [Chwerthin.]
Er nad wyf yn rhannu'r farn a fynegwyd gan rai bod COP26 yn esgus dros beidio â gwneud unrhyw beth, ofnaf y bydd glastwreiddio’r addewidion yn gweld fy etholwyr yn wir yn wynebu dyfodol dyfrllyd. Wrth i rai o lygrwyr gwaethaf y byd barhau i ddibynnu ar lo, byddwn yn gweld tymheredd a lefelau'r môr yn codi. Dirprwy Weinidog, rydych wedi'i gwneud yn glir eich bod yn gweld dyfodol di-lo i Gymru. Nid wyf yn bwriadu swnio'n anghwrtais nac yn ansensitif ynghylch rhai o'r cwestiynau yr wyf ar fin eu gofyn, gan eu bod yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru.
Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gydag un o'r defnyddwyr mwyaf o lo ac un o'r llygrwyr mwyaf sef Tata Steel? A ydych am roi'r gorau i gynhyrchu dur crai yng Nghymru, cau'r ffwrneisi chwyth o blaid ffwrnais arc trydan, ailgylchu dur sgrap, ac a ydych chi wedi argyhoeddi'r undebau bod angen rhoi'r gorau i lo? Ac yn olaf, Dirprwy Weinidog, pa ran ydych chi yn gweld y broses o ddal a storio carbon yn ei chwarae yn nyfodol gwyrddach Cymru ac a fydd eich Llywodraeth yn buddsoddi mewn technoleg? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn, ac yn wir roeddwn yn falch o gyfarfod â'r AS James Davies ymhlith llawer o rai eraill yn COP. Roedd presenoldeb Cymreig da yn y gynhadledd.
Mae'n sôn am rai o lygrwyr gwaethaf y byd, wel wrth gwrs rydym ni ymhlith llygrwyr gwaethaf y byd. Gadewch i ni fod yn glir, y rheini ohonom yn y G20 yw'r gwledydd sydd wedi cyfrannu at y broblem hon, a'r rhai sy'n wynebu'r effeithiau tymor byr mwyaf disymwth ar hyn o bryd yn sgil newid hinsawdd, yn fwy difrifol na rhai ni, yw'r rhai sydd wedi cyfrannu'r lleiaf at newid hinsawdd. Felly, mae rheidrwydd moesol yn ogystal â rheidrwydd o safbwynt hunan-les arnom i weithredu. Ond gadewch i ni beidio â thwyllo ein hunain nad ydym yn euog o fod yn rhan o'r broblem hefyd. Nid Tsieina neu Brasil neu India yn unig sy'n euog, rydym ni, y DU yn rhan o'r broblem ac mae angen i ni symud i ffwrdd o hynny, ac wrth wneud hynny, mae'n rhaid iddo fod yn gyfnod pontio cyfiawn. Mae cynhyrchu dur yn enghraifft ddiddorol iawn. Yn amlwg, bydd angen dur arnom o hyd, hyd yn oed y tu hwnt i 2050. I gynhyrchu tyrbinau gwynt neu geir trydan, mae angen dur arnoch chi. Rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o gynhyrchu dur sy'n cael yr effaith amgylcheddol negyddol leiaf.
Mae gwaith yn mynd rhagddo yn ne Cymru, drwy glwstwr diwydiannol de Cymru—yn cael ei arwain gan y diwydiant, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gyda'i gilydd—i geisio dod o hyd i atebion technolegol i'r problemau, ac i geisio lleihau ôl troed carbon y diwydiannau hyn sy'n llygru'n drwm ond yn rhai pwysig. Mae hynny'n benbleth i ni, ac nid yw'n newid hawdd, ond mae'n un y mae'n rhaid inni ei wynebu'n llwyr.
O ran dal a storio carbon, rwy'n amheus o'r effaith y gall hynny ei chael oherwydd, ar hyn o bryd, mae'n dechnoleg heb ei phrofi. Mae rhai treialon sy'n dangos y gall weithio. Ni ddangoswyd ei fod yn gweithio ar raddfa fawr. Yr hyn yr wyf yn poeni amdano yng nghynllun sero-net Llywodraeth y DU yw ei fod yn dibynnu'n drwm ar y dybiaeth y bydd y technolegau hyn yn gweithio ar raddfa fawr o fewn 10 mlynedd. Nid yw hynny wedi'i brofi eto, ac nid wyf yn credu y dylem ni fod yn betio'r cwbl ar y ffaith bod atebion technolegol yn mynd i gyflawni'r gostyngiadau carbon y mae angen inni eu gweld.
Hoffwn ganmol arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Roedd eich presenoldeb yn COP yn arwyddocaol iawn, yn ogystal â phresenoldeb y Prif Weinidog a Julie James. Rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn falch o'r rhan y gallwn ni ei chwarae.
I mi, un o'r pethau pwysicaf oedd swyddogaeth llywodraethau rhanbarthol a gwladwriaethol. Yn enwedig pan fo llywodraethau cenedlaethol yn amharod i weithredu, mae cymaint y gallwn ni ei wneud ar lefel ranbarthol neu wladol; clywed gan bobl fel Sergio Graf Montero, y Gweinidog dros yr amgylchedd ar gyfer ail ardal fwyaf Mecsico—ardal ddiwydiannol sylweddol iawn—yn ogystal â'r Gweinidog dros y Maharashtra, nid yn unig yr ail dalaith fwyaf yn India a'i mwyaf diwydiannol, ond un sy'n cynrychioli 125 miliwn o bobl. Mae hynny ddwywaith maint y DU. Felly, mae gwir angen inni fod yn siarad â'r chwaraewyr mawr iawn hyn, a all wneud cyfraniad enfawr.
Ond, mae angen inni, fel y dywedwch chi, ddangos y ffordd a dangos ein bod yn cymryd o ddifrif y niwed yr ydym wedi'i wneud drwy fanteisio ar adnoddau'r byd heb ystyried y canlyniadau o ddifrif. Mae'n debyg fy mod eisiau dod yn ôl at y cwestiwn a ofynnais i'r Prif Weinidog, sef: beth allwn ni ei wneud i roi'r gorau i roi cymhorthdal i danwydd—yr olew a'r nwy? Gan eich bod yn rhan o'r gynghrair 'olew a nwy' hon, sut y gallwn gyfiawnhau'r ffaith ein bod yn parhau i roi cymhorthdal i'r union weithgaredd y gwyddom sy'n cael yr effeithiau mwyaf niweidiol ar y gwledydd sy'n datblygu, yn ogystal â'n gwlad ein hunain? Felly, tybed a wnewch chi ymateb i hynny.
Wel, rwy'n credu ei bod yn her deg. Nid oes gennyf y ffigur wrth law, ond rwy'n cofio darllen bod y cymhorthdal y mae Llywodraeth y DU wedi'i roi i danwydd ffosil drwy rewi'r esgynnydd toll tanwydd ers 2010 yn fwy na £30 biliwn. Gall hyd yn oed fod yn uwch na hynny—cymhorthdal uniongyrchol sylweddol iawn i danwydd ffosil.
Un o'r heriau a fydd gennym yw, wrth inni symud i ffwrdd o'r car peiriant tanio mewnol—. Er clod i Lywodraeth y DU, mae hi wedi dangos arweiniad rhyngwladol beiddgar ar ddileu ceir petrol a diesel yn raddol erbyn 2030. Gwnaethom ymuno â chynghrair yn COP i sicrhau bod gwledydd eraill, y prif wledydd, yn gwneud yr un peth erbyn 2035. Ond, hyd yn oed erbyn y targed hwnnw, bydd y DU bum mlynedd o'i flaen, ac rwy'n credu, i roi clod lle mae clod yn ddyledus: mae hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud yr ydym yn ei gymeradwyo'n frwd.
Bydd canlyniadau i hynny o ran y ffordd y caiff tanwydd ffosil ei drethu. Yn amlwg, mae gennym dreth betrol ar hyn o bryd. Pan na fydd eich car yn dibynnu ar betrol, ni fyddwch yn gallu cael y refeniw o dreth betrol. Felly, bydd angen math gwahanol o drethiant yn sgil hynny. Ond, wrth gwrs, oni bai bod y trydan a gynhyrchir i yrru'r ceir trydan hynny yn cael ei ddefnyddio'n gynaliadwy, yna rydych yn symud y broblem o un lle i'r llall.
Felly, yn sicr, ein huchelgais yw sicrhau ein bod yn dibynnu ar danwydd gwyrdd a hydrogen gwyrdd a gwynt i gynhyrchu trydan, a fydd yn ein symud i ffwrdd o danwydd ffosil. Felly, mae darparu'r enghraifft o newid ein cymysgedd ynni yn un ffordd o symud i ffwrdd o'r cymorthdaliadau ar gyfer tanwydd ffosil. Ond rwy'n dyfalu mai'r gwir amdani yw ein bod wedi creu system economaidd sydd wedi'i chysylltu'n gynhenid â chyflenwi ynni rhad, ac olew rhad yn arbennig, sy'n gymaint rhan o wead y gweithgareddau a wnawn a'r penderfyniadau yr ydym wedi'u gwneud. Felly, nid yw datglymu ein hunain o hynny'n gamp hawdd na syml, ac nid wyf eisiau esgus fel arall, ond mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i bob un ohonom gydweithio er mwyn ei gyflawni. A rhaid imi ddweud, nid yw Llywodraeth y DU yn edrych yn obeithiol yn yr ystyr hwnnw, oherwydd mae'n rhoi arwyddion cymysg. Roedd hi'n uchel ei chloch yn COP, ond yn y gyllideb, neu bythefnos cyn hynny, ni soniwyd am newid hinsawdd unwaith, cyflwynwyd cymorthdaliadau ar gyfer awyrennau domestig, ac mae hi'n parhau â'r cymhorthdal tanwydd ffosil uniongyrchol ar gyfer toll tanwydd. Felly, mae angen iddi wynebu ei hanghysondeb gwybyddol, fel y dylai pob un ohonom.
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Diolch. Yn ystod wythnos gyntaf COP26, cefais wahoddiad i gynhadledd gyda chyflwyniadau gan ysgolion ledled y gogledd, ac roedd gan y myfyrwyr ddealltwriaeth wirioneddol bod gan bob un o'n partneriaid ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd. Roedd eu hawgrymiadau a luniwyd ganddyn nhw yn cynnwys torri milltiroedd bwyd, dydd Llun di-gig, defnyddio ynni adnewyddadwy, ailddefnyddio ac arbed dŵr drwy gau'r tap tra byddan nhw'n brwsio eu dannedd. Roedden nhw hefyd yn pryderu am gyfiawnder hinsawdd a hyrwyddo'r defnydd o olew palmwydd cynaliadwy, gan weithio gyda Sŵ Caer, a gofynnwyd am labelu clir ar ddeunydd pacio. Maen nhw'n cydnabod bod y dewisiadau a wnawn ni yma yng Nghymru yn effeithio ar bobl sy'n byw mewn gwledydd ledled y byd. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno â'r bobl ifanc bod gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae a, gyda'n gilydd, drwy gamau unigol, gyda chymorth polisi'r Llywodraeth, y gallwn ni wneud gwahaniaeth mawr?
Byddwn, a diolch am y cwestiwn. Ac roeddwn yn falch iawn, pan oeddwn yn COP, i gymryd rhan mewn trafodaethau panel gyda llysgenhadon ieuenctid Climate Cymru, ynghyd â llysgenhadon ieuenctid yr Alban a'r Gweinidog o Lywodraeth yr Alban. A'r hyn a oedd yn amlwg oedd dicter pobl ifanc ynghylch yr etifeddiaeth a adewir i'w cenhedlaeth nhw, a phan edrychwch ar yr ystadegau a'r data sy'n dod i'r amlwg, mae effaith hyn yn ddwfn, ond mae hefyd ar ein pennau cyn i ni wybod hynny. O fewn 80 mlynedd—a gobeithio y bydd fy mhlant yn dal yn fyw—oni bai ein bod yn newid polisïau ledled y byd yn sylweddol, rydym yn wynebu pedair gradd o gynhesu byd-eang, a fydd yn dileu tua 70 y cant o'r ecosystemau sydd eu hangen i gynnal bywyd dynol. Nawr, mae hynny'n ddifrifol ac yn peri pryder ac yn cyfiawnhau'r dicter, a dweud y gwir. Felly, roeddwn i'n falch o'r awgrymiadau a ddyfynnwyd gennych gan y bobl ifanc yn eich ardal, ac rwy'n credu y gallwn ddysgu llawer o hynny. Mae ailgylchu mwy, cau'r tap dŵr, labelu olew palmwydd a bwyta llai o gig i gyd yn gamau syml y gallwn i gyd eu gwneud, gyda'n gilydd, i wneud gwahaniaeth.
Yr hyn y mae tystiolaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn ei awgrymu yw bod 60 y cant o'r camau gweithredu sydd eu hangen i fodloni sero-net yn gamau y gall unigolion eu cymryd; 40 y cant o'r camau y mae angen i Lywodraethau eu cymryd, ac mae angen i'r ddau beth hynny ddigwydd ochr yn ochr. Mae angen pŵer pobl arnom ni, ond mae angen newid systemig arnom ni hefyd. Ac, fel rwy'n dweud o hyd, i wneud hyn, mae angen i ni wneud yr hyn sy'n iawn ar gyfer yr hinsawdd y peth hawsaf i'w wneud. Ac mae hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn gyfrifol amdano, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni, Llywodraeth Cymru—ac eto, mae gennym gyfrifoldeb dros rywbeth fel 40 y cant o'r toriadau mewn allyriadau y mae angen iddyn nhw ddigwydd; mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol am 60 y cant. Rhaid i ni weithio gyda nhw i sicrhau bod newid systemig yn ei gwneud hi'n hawdd i ddinasyddion wneud y dewisiadau yr ydym i gyd yn dibynnu arnyn nhw i'w gwneud i atal newid trychinebus yr hinsawdd rhag dod yn realiti.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Cofiwch, os gwelwch yn dda, os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dwy funud cyn i drafodion ailgychwyn, a dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:14.
Ailymgynullodd y Senedd am 16:23, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Croeso nôl. Yr eitem nesaf yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: llefaredd a darllen plant. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gwella sgiliau darllen yn hanfodol os ydyn ni am wneud y cynnydd yr ydym ni i gyd am ei weld o ran lleihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a'u cyfoedion. Ac mae rhoi sylw i sicrhau bod gan bawb y sgiliau darllen sydd eu hangen arnyn nhw i gyrraedd eu potensial yn fater o gyfiawnder cymdeithasol, sy’n rhan annatod hefyd o sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfle i fanteisio ar ehangder ein cwricwlwm newydd. Roedd yn newid calonogol fod Cymru wedi cyflawni ei sgôr uchaf o ran profion darllen yn y set ddiwethaf o ganlyniadau PISA, a'n bod ni wedi dal i fyny â chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ond mae lle i wella o hyd.
Mae sgiliau siarad, gwrando a darllen yn hanfodol i bron â bod pob agwedd ar ein bywydau, o'r cartref i'r ysgol ac i fyd gwaith. Yn ogystal â bod wrth wraidd gallu cael mynediad at ddysgu, maen nhw hefyd yn galluogi datblygu perthynas â rhieni, â chyfoedion a chymunedau ehangach, ac yn gallu agor drysau i siarad am bynciau anodd, sy'n fuddiol i'n hiechyd meddwl a'n lles. Dyma pam mae gwella sgiliau darllen a helpu i gyffroi angerdd dros ddarllen yn ein hysgolion yn flaenoriaeth lwyr. A heddiw rwy'n gosod pecyn o gamau i gefnogi ein plant, eu teuluoedd a chymunedau ehangach i ddod at ei gilydd i fwynhau llafaredd a darllen.
Yn gyntaf, mae'n bleser gen i gyhoeddi £5 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer rhaglenni darllen ledled Cymru, a fydd yn darparu llyfr ar gyfer pob dysgwr ochr yn ochr â chynllun cymorth darllen wedi'i dargedu, gyda phwyslais ar ddysgwyr y blynyddoedd cynnar a dysgwyr difreintiedig. Bydd y rhaglen yn sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru ei lyfr ei hun i'w gadw. Bydd hefyd yn cynnwys darparu 72,000 o lyfrau ychwanegol i blant derbyn mewn ysgolion ledled Cymru, 3,600 o becynnau clwb blwch llythyrau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, llyfrau a hyfforddiant i ymarferwyr i gefnogi dysgu, a blwch o 50 o lyfrau i bob ysgol wladol yng Nghymru. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu plant, waeth beth fo'u cefndir, i ddatblygu'r sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu cynnar hynny ac yn dangos yr effaith y gall llyfrau a darllen ei chael i newid bywydau. Mae'r cyllid yn adlewyrchu pwysigrwydd Cymru fel cenedl ddwyieithog ac yn cefnogi dysgwyr i gyfathrebu yn y ddwy iaith mewn bywyd bob dydd.
Mae'n rhaid i ni hefyd gefnogi ein gweithlu. Mae addysg gychwynnol athrawon a dysgu proffesiynol parhaus yn hanfodol i ffurfio a pharhau i wella arfer pob ymarferydd yn y maes hwn. Trwy weithio gyda darparwyr addysg athrawon a chonsortia dros y misoedd nesaf, byddwn yn cychwyn adolygiad o'r ddarpariaeth bresennol i sicrhau bod ymarferwyr yn parhau i gael y cymorth o ansawdd uchel sydd ei angen arnyn nhw ledled Cymru. Gan ategu adroddiadau Estyn a thystiolaeth ymchwil, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid rhanbarthol i gynnal a gwella agweddau at ddarllen ac ymgysylltiad â darllen. Bydd Estyn yn parhau i ddarparu enghreifftiau o arfer effeithiol o ran addysgu darllen ar lefel ysgol gyfan a datblygu diwylliant o ddarllen. A byddwn yn edrych ar effaith ein hymyriadau er mwyn i ni allu gwella fel system a chefnogi ymgysylltiad a chyrhaeddiad plant a phobl ifanc mewn darllen a llafaredd.
Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn glir bod yn rhaid i addysgu ffoneg mewn modd systematig a chyson fod yn rhan allweddol o'r pecyn cymorth yn ein hysgolion, ar gam pryd y mae hynny'n briodol yn ddatblygiadol i'r dysgwr. Rydym yn annog ysgolion i fabwysiadu dull gweithredu o'r fath ochr yn ochr â datblygu geirfa a dealltwriaeth er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn gallu deall a gwneud synnwyr o'r hyn y maen nhw'n ei ddarllen a bod yn ddarllenwyr rhugl ac effeithiol. Mae'n rhaid i'r holl addysgu fod wedi ei seilio ar dystiolaeth o'r hyn yr ydym yn gwybod sy'n gweithio, ac felly rwyf i'n bwriadu egluro a chryfhau ein dull gweithredu yn y maes hwn. Yn ddiweddar, sefydlais rwydwaith cenedlaethol, corff wedi ei arwain gan ymarferwyr, sydd ar gael i bob ysgol, a fydd yn cefnogi'r gwaith o weithredu'r cwricwlwm newydd. Gallaf gadarnhau y bydd ein rhwydwaith cenedlaethol yn blaenoriaethu llafaredd a darllen yn y gwanwyn. Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr ac ymarferwyr i edrych ar y rhan sydd gan ffoneg yn y cwricwlwm newydd er mwyn i ni allu darparu'r cymorth a'r arweiniad gorau ar gyfer addysgu darllen.
Yn 2016, nododd y 'Rhaglen Llythrennedd a Rhifedd Genedlaethol—cynllun gweithredu strategol' y weledigaeth ar gyfer llythrennedd a rhifedd wrth i ni symud tuag at y cwricwlwm newydd. Er mwyn parhau i ddatblygu hyn, byddwn yn gweithio gydag ymarferwyr drwy'r rhwydwaith cenedlaethol i ddeall beth sy'n gweithio, gan fyfyrio ar addysgeg, enghreifftiau o arfer da a chyfathrebu, yn ogystal â'r hyn y mae angen i ni ei wella. Byddwn hefyd yn ystyried swyddogaeth barhaus y fframwaith llythrennedd a rhifedd o ran cefnogi cynnydd y sgiliau hyn a'r angen am adnoddau a deunyddiau ychwanegol. Bydd hyn yn helpu i ddarparu'r adnoddau, y cymorth a'r arbenigedd sydd eu hangen i hwyluso addysg llafaredd a darllen o ansawdd uchel. Mae gen i ddiddordeb mewn beth arall y gallwn ni fod yn ei wneud i rannu arfer da yn ein blynyddoedd cynnar a'n cyfnod sylfaen. Wrth feddwl am hynny, ein bwriad yw gweithio gydag ymarferwyr ac arbenigwyr dros y misoedd nesaf i ddatblygu pecyn cymorth a fydd yn helpu i rymuso athrawon i ddatblygu eu harfer yn yr ystafell ddosbarth sy'n diwallu anghenion eu dysgwyr.
Rydym yn gwybod, drwy brofiadau darllen a rennir, y gallwn ni annog cariad at lyfrau a straeon o oedran cynnar. Mae hyn yn arbennig o hanfodol i'n plant ieuengaf, lle mae'r blociau adeiladu ar gyfer datblygiad iaith cynnar yn dechrau datblygu eu sgiliau sylw, gwrando a deall. Mae'r gwaith sydd ar y gweill ar ein rhaglen Siarad gyda Fi yn tynnu sylw at bwysigrwydd datblygiad iaith cynnar a rhan rhieni wrth gefnogi hyn. Yn ddiweddar, rydym ni wedi comisiynu adolygiad o offer sgrinio iaith, wedi ei gynnal gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ac Uned Ymchwil Therapi Iaith a Lleferydd Bryste, a bydd yr adolygiad yn ystyried sut y gellir cefnogi ymarferwyr wrth nodi problemau o ran sgiliau gwrando, deall a siarad. Rwy'n disgwyl i adroddiad yr adolygiad gael ei rannu â mi yn ystod yr wythnosau nesaf. Ond gallwn ni wneud mwy ac mae'n rhaid i ni wneud hynny, ac rydym yn archwilio beth arall y gallwn ni ei wneud i ddarparu rhagor o gyfleoedd i gefnogi rhieni, er mwyn i'w plant allu cael cyfleoedd rheolaidd i ymgysylltu â deunyddiau darllen cyfoethog a chymryd rhan mewn straeon, caneuon a rhigymau.
Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i bob dysgwr gael y cyfle i gyrraedd ei botensial, a heddiw rwyf i wedi nodi rhai o'r camau yr ydym yn bwriadu eu cymryd dros y misoedd nesaf i gefnogi ein dysgwyr. Wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen, byddaf yn ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd yr ydym yn ei wneud.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Nid oes unrhyw amheuaeth mai plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef fwyaf drwy'r pandemig hwn. Mae ysgol mor bwysig, nid yn unig ar gyfer dysgu a chymdeithasu, ond o ran darparu strwythur a threfn i blant. Roedd y tri chyfnod o gyfyngiadau symud mor niweidiol i lesiant a chyfleoedd bywyd ein plant ac efallai y bydd cryn amser cyn i ni fod mewn sefyllfa i asesu yn gywir y niwed y mae'r amser dysgu coll hwn wedi ei achosi.
Fel yr ydych chi'n ei ddweud yn eich datganiad, Gweinidog, mae sgiliau siarad, darllen a gwrando yn gwbl sylfaenol i bron â bod pob agwedd ar ein bywydau, ac felly, mae mor hanfodol bwysig ein bod ni'n cael yr agwedd hon yn iawn drwy addysg yng Nghymru. Rwy'n pryderu ynghylch yr effaith y mae'r cyfyngiadau symud wedi ei chael ar blant yn hyn o beth, ond mae eich camau gweithredu arfaethedig a amlinellir yn y datganiad hwn heddiw yn ymddangos braidd yn wan ar y gorau, os caf i ddweud hynny: yn addo adolygiadau, yn sefydlu gweithgorau, heb unrhyw gamau gwirioneddol i fynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu wrth sicrhau bod pob plentyn yn cael ei gefnogi'n llwyr ym mhob ffordd orau bosibl drwy eu taith addysgol i sicrhau ei fod yn dod i ddiwedd ei daith addysg gyda'r cyfleoedd gorau posibl, ni waeth o ba gefndir y mae'n dod.
Rwy'n croesawu'r arian a fydd yn cael ei roi i fynd i'r afael â hyn; rwy'n croesawu'r arian ar gyfer llyfrau ychwanegol, ond ai un llyfr unigol fydd hyn, Gweinidog, i bob dysgwr, uwchlaw oedran derbyn, ar gyfer ei holl daith addysg? Neu a fydd hon yn rhaglen dreigl lle bydd disgyblion yn cael llyfr gan y Llywodraeth hon bob blwyddyn? A sut yn union y bydd y £5 miliwn yn cael ei wario o ran targedu'r cynllun cymorth darllen i fynd ochr yn ochr â'r llyfr? A fydd hyn yn golygu y bydd mwy o arian yn mynd yn syth i'n hysgolion oddi wrth y Llywodraeth hon i'w galluogi i ddewis y llyfrau sydd fwyaf addas ar gyfer eu hysgolion a'u grwpiau oedran nhw? A fydd hyn yn golygu y bydd mwy o arian yn mynd yn syth i'r ysgolion er mwyn iddyn nhw gyflogi staff newydd i gefnogi mwy o ddarllen, neu a fydd disgwyl i'r gweithlu presennol wneud y gwaith newydd hwn? A fydd yr arian hwn ar gyfer y dysgwyr cynnar neu'r dysgwyr difreintiedig yn unig, neu a fydd yn arian i roi cyfle teg i bawb pan fo'n fater o geisio gwella sgiliau darllen a llafaredd disgyblion?
Er fy mod i'n croesawu'n fawr unrhyw gymorth ychwanegol i'n staff addysgu fel y gwnaethoch ei amlinellu, ac rwyf i yn croesawu hynny, rwy'n gweld yn y datganiad 'dros y misoedd nesaf' a 'byddwn yn edrych y gwanwyn nesaf ar', a llawer o eiriau nad ydyn nhw'n ennyn llawer o hyder eich bod chi'n mynd i'r afael â'r broblem hon yn uniongyrchol, yn awr. Rydych chi'n dweud y byddwch yn edrych ar effaith eich ymyriadau, er mwyn i chi allu gwella'r system, ond pa fath o amserlen ydym ni'n sôn amdani, Gweinidog? Ai dyma'ch uwchgynllun i Gymru yn wirioneddol? Oherwydd siawns mai'r hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru yw mwy o athrawon, mwy o athrawon i bob disgybl, er mwyn i'r plant gael y canlyniadau y maen nhw'n eu haeddu. Pa gamau brys ydych chi'n eu cymryd yn awr, Gweinidog, i sicrhau bod y plant hynny sydd wedi colli sgiliau darllen, dysgu a llafaredd yn ystod y cyfyngiadau symud—? Beth ydych chi'n ei roi ar waith mewn gwirionedd i sicrhau bod y plant hynny yn cael cyfleoedd gwirioneddol i wneud iawn am y dysgu coll hwnnw yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf?
Bydd plant hŷn yn fwy hunangynhaliol o ran eu dysgu eu hunain, ond i ddisgyblion iau, bydd amser i ffwrdd o'r ysgol wedi arwain at golli llawer o amser darllen. O ran plant yn y cyfnod sylfaen sydd ar ei hôl hi o ran eu sgiliau darllen a siarad, rwyf i wedi clywed llawer o dystiolaeth anecdotaidd gan rieni ac athrawon, ond pa waith y mae eich swyddogion gweinidogol wedi ei wneud i fesur y gostyngiad hwn? Mae'n bwysig iawn, wrth ystyried mynd i'r afael â heriau dysgu coll, ein bod ni'n gwybod beth rydym yn ymdrin ag ef a maint y broblem mewn gwirionedd. Dim ond wedyn y byddwn yn gallu penderfynu sut i gau'r bwlch cyrhaeddiad cynyddol hwnnw. Ac a wnewch chi hefyd, Gweinidog, fesur y gostyngiad yn awr o'i gymharu â dechrau'r pandemig?
Rydych chi'n iawn wrth ddweud bod angen i ni rannu arfer gorau; dyna'r ffordd ymlaen bob amser, yn fy marn i, o ran mynd i'r afael â sgiliau darllen a llafaredd, ond sut y bydd ysgolion yn gweithio gyda chonsortia i rannu arfer gorau? Oherwydd drwy gydol y pandemig, nid yw hyn wedi bod yn digwydd fel y bu yn flaenorol. Mae angen i ni ddychwelyd i sefyllfa lle ceir goruchwyliaeth annibynnol a chadarn o safonau ysgolion drwy'r consortia ac Estyn i roi sicrwydd i rieni.
Mae llafaredd a llythrennedd cynnar yn bwysig iawn i ddatblygiad plant, ac rwyf i o'r farn ei fod wedi ei anwybyddu yn aml fel un o sylfeini allweddol datblygiad plentyn, yn enwedig dros y 18 mis diwethaf. Mae 'Siarad gyda fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu' yn arf defnyddiol i weithwyr proffesiynol a rhieni gefnogi datblygiad plant, ond ni fydd pob rhiant yn ymgymryd â'r swyddogaeth hon. Rwy'n gweld yn uniongyrchol yr effeithiau y mae darllen i blentyn yn rheolaidd yn eu cael ar fy mhlant fy hun, 11 a dau. Mae geirfa fy mhlentyn dwy flwydd oed yn wych ar gyfer ei oedran gan fy mod i wedi buddsoddi'r amser hwnnw gydag ef, ond sut, Gweinidog, ydym ni'n mynd i gefnogi rhieni nad ydyn nhw'n gallu, neu nad ydyn nhw'n gwybod sut i gefnogi eu plant yn yr un modd? Cafwyd menter wych gan fy ysgol gynradd leol lle'r oedd rhieni'n gallu dod i mewn, os oedden nhw'n dymuno gwneud, a darllen gyda phlant, darllen yn uchel mewn ystafelloedd dosbarth yn ystod y cyfnod hwnnw, gan helpu i gefnogi athrawon a phlant eraill yn ogystal â dysgu sut i ddarllen gyda phlentyn eu hunain, i gael y canlyniadau gorau posibl gan y plant. Efallai fod hyn yn rhywbeth y gellid ymchwilio iddo ymhellach.
Hefyd, ac yn olaf, mae'r rhaglen Dechrau'n Deg wedi mynd gryn ffordd i gefnogi datblygiad iaith a lleferydd plant cyn iddyn nhw fynd i addysg ffurfiol. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi galw am i'r rhaglen Dechrau'n Deg fod ar gael i bob plentyn, oherwydd ei bod yn loteri cod post yn hyn o beth o hyd, ac mae'n eithrio cymaint o bobl a phlant a fyddai'n elwa ar y cymorth Dechrau'n Deg hwn. Mae'r sefyllfa bresennol sydd gennym yn un o eithrio ar hyn o bryd a hoffwn i ofyn i chi, Gweinidog, a wnewch chi ystyried ymestyn y rhaglen hon i gyrraedd pob plentyn yng Nghymru.
Rwy'n diolch i Laura Anne Jones am yr ystod yna o gwestiynau. O ran y pwyntiau a ofynnodd am y buddsoddiad mewn adnoddau, sy'n un rhan o'r gyfres o gamau gweithredu yr wyf i'n eu disgrifio heddiw, bydd dewis i'r dysgwyr eu hunain o ran y llyfrau y byddan nhw'n eu derbyn. Felly, bydd ganddyn nhw ddewis rhwng amrywiaeth o lyfrau a byddan nhw'n cael dewis yr un y maen nhw'n ei ddymuno i'w hunain. Yn ogystal â'r llyfr hwnnw i bob dysgwr, bydd cyfres o adnoddau ar gael, cyfres o lyfrau ar gael i bob ysgol wladol yng Nghymru yn ogystal â hynny.
Pan oeddwn i'n fyfyriwr ifanc fy hun, cafodd fy nghariad at ddarllen ei ddatblygu yn gynnar iawn, ac rwy'n credu bod sicrhau y gallu i gael gafael ar yr amrywiaeth gyfoethog honno o ddeunyddiau darllen yn rhan bwysig o gyffroi angerdd dros ddarllen, a bydd hyn yn gyfraniad at hynny. Ond mae yna hefyd gyfres o ymyriadau sy'n cefnogi'r gwaith y mae Cyngor Llyfrau Cymru yn ei wneud. Byddan nhw'n gweithio gyda ni mewn cysylltiad â hyn, a hefyd gwaith BookTrust Cymru, fel y bydd hi'n gwybod, mewn cysylltiad â'r cynllun Dechrau Da a'r cynlluniau Pori Drwy Stori, ac yn y blaen. Felly, bydd pob un ohonyn nhw yn cael cymorth ychwanegol o ganlyniad i'r cyllid yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw, a fydd yn helpu dysgwyr ar eu taith ddarllen ac yn cefnogi ysgolion a rhieni i ddarllen gyda'n plant a'n pobl ifanc. Felly, mae yna gyfres o ymyriadau wedi eu targedu, os mynnwch chi, a chynnig mwy cyffredinol yn y cyllid yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw.
Mae'n gwneud pwynt pwysig ynghylch amseru, a phryd orau i gymryd rhai camau ar y daith hon. Yr hyn yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw yw, os mynnwch chi, ymgyrch ledled Cymru yn ystod y misoedd nesaf, gan arwain at ddechrau cyflwyno'r cwricwlwm newydd, ac mae yna gerrig milltir pwysig ar hyd y ffordd, fel y gwnaeth hi ei gydnabod yn ei chwestiwn. Byddwn yn gweithio gyda'r consortia—rydym yn gwneud hynny eisoes—a gydag Estyn i gefnogi ein hysgolion a'n hymarferwyr, o ran archwilio arfer gorau a rhannu rhywfaint o hynny, ac wrth ddarparu cymorth ychwanegol o ran adnoddau dysgu proffesiynol, a fydd yn hawdd eu canfod, yn hawdd eu llywio, er mwyn i'n hymarferwyr eu gwneud mor ddefnyddiol ag y gallan nhw fod. Rwy'n credu bod gan y rhwydwaith cenedlaethol ran bwysig i'w chwarae yn hyn o beth. Mae hwnnw wedi ei gychwyn gan Lywodraeth Cymru ond wedi ei arwain gan ymarferwyr, fel y bydd hi'n gwybod, a fy mwriad yw y bydd yn archwilio llafaredd a darllen yn y gwanwyn. Mae ganddo raglen waith ac mae'n bwysig ein bod ni'n cyflwyno hynny mewn ffordd y gall ymarferwyr elwa arni ac ymgysylltu â hi ymysg yr amryw o bwysau eraill y maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Felly, y bwriad yw y bydd hynny'n digwydd yn y gwanwyn.
Gwnaeth gyfres o bwyntiau pwysig iawn mewn cysylltiad â'r effaith y mae'r 12 i 18 mis diwethaf wedi ei chael yn arbennig, efallai, ar ein dysgwyr ieuengaf, a'u camau datblygu cynnar. Bydd hi'n gwybod bod y cymorth yr ydym ni wedi ei ddarparu hyd yma i ysgolion o ran y cyllid Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau a'r cynllun adnewyddu a diwygio wedi ei bwysoli, yn arbennig, tuag at y blynyddoedd cynnar. Felly, rydym ni wedi ymrwymo cyllid i'n lleoliadau gofal plant nas cynhelir tan fis Ebrill y flwyddyn nesaf, a phot sylweddol o arian i gefnogi addysgeg y cyfnod sylfaen hefyd. Mae'r syniad hwnnw o ddysgu drwy chwarae, yr ydym ni'n ei wybod mor dda, yn hanfodol er mwyn gallu helpu i ymgysylltu â rhai o'n dysgwyr ieuengaf gyda'u llafaredd a'u hanghenion addysgol. Felly, mae hynny eisoes wedi bod yn rhan o'r gwaith yr ydym yn ei wneud.
Mae tystiolaeth ar gael mewn cysylltiad â cholli dysgu. Mae'n ddarlun cymhleth. Mae yn dangos, yn ystod y 12 i 18 mis diwethaf, y bu colled o ran y gallu i ddarllen, ond mae hynny wedi ei unioni mewn rhai cyfnodau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Felly, mae'n ddarlun cymhleth dros y 18 mis diwethaf, ond mae'n gwbl wir ein bod ni'n gwybod bod angen rhagor o gymorth ar ddysgwyr o bob oed. Dyna fu egwyddor sylfaenol y buddsoddiad yr ydym ni wedi ei wneud hyd yn hyn i roi'r gallu ychwanegol hwnnw i ysgolion gefnogi dysgwyr yn y ffordd y gofynnodd yn ei chwestiwn.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch o glywed y bydd y rhaglen rydych chi'n ei chyhoeddi heddiw yn sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru lyfr ei hun i'w gadw. Mi ges i'n atgoffa yn ddiweddar o'r pleser ges i o ddarllen llyfr o'r enw Luned Bengoch pan oeddwn i'n blentyn—llyfr sydd newydd gael ei ailargraffu ac ar gael yn y siopau unwaith eto. Mi gefais i bleser o'r mwyaf o'i ailddarllen o yr wythnos diwethaf cyn cyfarfod o glwb darllen lleol yr ydw i yn aelod ohono. Mae hi'n hollol amlwg bod arferion darllen rydych chi'n eu dysgu pan rydych chi'n fach yn aros efo chi. Mae sefydlu sgiliau iaith cynnar da yn rhan allweddol o lythrennedd a gallu plant i gyflawni eu potensial addysgol a'u cyfleoedd bywyd, tra hefyd yn hanfodol i'r gallu i ffurfio a chynnal perthynas gymdeithasol efo teulu, cyfoedion a ffrindiau.
Mae yna ymchwil gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd sydd yn dangos bod y cyfnod COVID wedi gwaethygu’r oedi wrth gaffael sgiliau iaith a lleferydd ymhlith plant ifanc, ond dwi'n falch o'ch clywed chi'n sôn bod yna arwydd bod hynny yn gwella. Mae yna ymchwil hefyd ymhell cyn y pandemig. Mae yna dystiolaeth ar gael, wrth gwrs, fod plant o gefndiroedd difreintiedig yn fwy tebygol o fod y tu ôl i'w cyfoedion yn eu datblygiad o ran caffael sgiliau iaith a lleferydd erbyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol gynradd. Mae yna ymchwil gan Achub y Plant sy'n dangos bod tua wyth o bob 10 o athrawon derbyn yng Nghymru yn gweld yn glir fod plant sy'n ymuno efo'u hysgolion yn ei chael hi'n anodd siarad mewn brawddegau llawn, a bod plant sy'n cael trafferthion efo'u lleferydd a'u hiaith yn ystod eu blynyddoedd cynnar yn aml yn dal i fod y tu ôl i'w cyfoedion o ran sgiliau llythrennedd allweddol yn 11 oed.
Felly, mae yna nifer o heriau yn wynebu Llywodraeth Cymru, a dwi'n falch iawn eich bod chi yn cydnabod hynny, a bod y cynlluniau rydych chi'n eu cyhoeddi heddiw yn mynd o leiaf ran o'r ffordd tuag at ddechrau goresgyn rhai o'r problemau mawr yma sydd gennym ni. Gan gofio pa mor allweddol ydy addysg blynyddoedd cynnar wrth ddatblygu sgiliau lleferydd a darllen, mi fuaswn i'n licio clywed mwy am y toolkit roeddech chi'n sôn amdano fo, hwn sy'n mynd i gael ei roi ar waith ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Beth yn union fydd hwn, sut fydd hyn i gyd yn edrych a beth fydd yn newydd amdano fo? Fedrwch chi hefyd amlinellu pa gamau sydd am gael eu cymryd i ymateb i'r bwlch cyrhaeddiad, yr hwn roeddem ni'n sôn amdano fo, gan gofio bod plant o gefndiroedd difreintiedig yn fwy tebygol o fynd tu ôl i'w cyfoedion yn eu datblygiad o ran caffael sgiliau darllen a lleferydd? Ac rydych chi'n sôn am y dull ffoneg. Pam bod chi'n pwysleisio'r dull yma? Ac ydy hwn yn mynd i helpu yn benodol efo cau'r bwlch cyrhaeddiad? Oes yna fanteision penodol o ran yr agwedd yna sydd angen sylw?
Ac yn olaf, er mwyn gallu gwireddu amcanion 'Cymraeg 2050' a gwella sgiliau llafaredd a darllen plant yn y Gymraeg, mae'n glir, wrth gwrs, fod angen hyfforddi digon o athrawon i allu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi ddim yn mynd i ymddiheuro am ofyn unwaith eto am eich cynlluniau chi i gynyddu a chryfhau'r gweithlu addysg Cymraeg yn benodol. Dwi'n sylwi eich bod chi yn eich datganiad heddiw yn rhoi pwyslais ar ddwyieithrwydd a chreu deunyddiau yn y ddwy iaith, sydd i'w groesawu, wrth gwrs, ond mae angen inni weld cynllun ar waith sydd yn ein symud ni ymlaen i gynyddu'r gweithlu hefyd sydd yn gallu cynorthwyo plant i wella eu sgiliau llafaredd a darllen. Diolch yn fawr.
Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau pellach hynny. Dwi'n rhannu gyda hi'r cof o ddarllen llyfr oedd yn eiddo i fi pan oeddwn i yn yr ysgol, ac rwy'n cofio datblygu diléit am ddarllen yn ystafell ddosbarth Miss Annie Derrick yn Ysgol Gymraeg Pontarddulais pan oeddwn i'n grwtyn bach. Felly, mae'r pethau yma yn aros yn y cof. Ond fel mae'r Aelod yn dweud, dyw e ddim yn brofiad sydd ar gael yn yr un ffordd i bawb, oherwydd mae'n rhywbeth sydd hefyd yn cael ei annog ar yr aelwyd, ac wrth gwrs does gan bawb ddim yr un mynediad at yr un adnoddau a'r un gefnogaeth. Mae hwn yn gyfraniad tuag at hwnnw. Mae'r cynllun yn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau roedd hi'n sôn amdanynt—y bwlch cyrhaeddiad a'r pwyslais ar gefnogi dysgwyr sydd angen y mwyaf o gefnogaeth er mwyn gwneud cynnydd yn hyn o beth.
O ran y cwestiynau penodol, o ran y toolkit, mae hwn yn un o ystod o elfennau o gefnogaeth o ran datblygiad proffesiynol rydym ni'n gweithio arnyn nhw eisoes gydag Estyn a'r tîm mewnol yma yn Llywodraeth Cymru. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda'r consortia er mwyn sicrhau bod yr arfer da sydd eisoes ar gael yn cael ei rannu yn ehangach fel rhan o'r adnoddau sydd ar gael i'n hathrawon ni. Felly, mae'r toolkit yn elfen o hynny ac yn cefnogi athrawon i ddatblygu eu sgiliau dysgu yn y maes penodol hwn.
O ran pwysleisio ac annog pobl i ddefnyddio mwy o ddarllen ar yr aelwyd, yn y 18 mis diwethaf, wrth gwrs, mae'r berthynas rhwng ysgolion a rhieni a gofalwyr plant wedi newid, ac mae e, mewn amryw ffyrdd, wedi gwella wrth i ysgolion ymateb i sialensiau COVID. Bydd ymgyrch gyhoeddusrwydd sylweddol yn cychwyn ar ddiwedd y flwyddyn hon i annog rhieni a gofalwyr i siarad gyda'u plant a darllen gyda'u plant ac esbonio manteision hynny. Byddwn i eisiau sicrhau bod y negeseuon sydd yn rhan o'r ymgyrch gyhoeddusrwydd genedlaethol honno yn amlinellu manteision hynny ac yn annog rhieni o bob cefndir i allu rhannu'r amser hynny gyda'u plant.
Fe wnaeth yr Aelod ofyn cwestiwn pwysig o ran ffoneg. Mae ffoneg yn un elfen o ystod o opsiynau sydd ar gael i athrawon. Mae e'n rhan bwysig o'r toolkit arall hwnnw o ran camau y gellid eu cymryd, ond mae'n rhaid hefyd sicrhau bod dysgu geirfa a dysgu dealltwriaeth yn digwydd ar y cyd. Ond dwi eisiau sicrhau ein bod ni'n edrych ar y dystiolaeth yn hyn o beth, fel ein bod ni'n rhoi'r cyd-destun hwnnw hefyd i'n hathrawon ni, fel bod ganddyn nhw'r cyd-destun i'r dewisiadau maen nhw'n eu gwneud. Felly dyna, fel y gwnes i sôn yn y datganiad, rwy'n bwriadu ei wneud: edrych ar y dystiolaeth o ran y ffordd honno o ddysgu llefaredd a sicrhau ein bod ni'n gallu rhoi'r arfer gorau ar waith ar gyfer y cwricwlwm newydd.
Mae rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol, Lloegr yn benodol, yn cynnig prawf blynyddol ffoneg i fyfyrwyr; dwi ddim yn credu mai dyna'r ffordd iawn o fynd am y peth. Dŷn ni'n ceisio symud yn ein cwricwlwm oddi wrth y math yna o brawf sydd yn dangos snapsiot, os hoffwch chi. Mae gyda ni, wrth gwrs, asesiadau personol ar-lein ar gyfer darllen eisoes. Mae'r rheini ar gael mewn ffordd sydd yn hyblyg i athrawon allu eu gwneud yn ystod y flwyddyn gyda'u dysgwyr, ac sy'n rhoi darlun i athrawon ac i'r dysgwyr a'u gofalwyr a'u rhieni o gynnydd a datblygiad darllen a dealltwriaeth ein dysgwyr ni. Mae hynny'n rhan o ethos y cwricwlwm newydd o greu cyfle—bod asesiadau'n rhan o'r broses o ddysgu, hynny yw. Felly, mae hynny'n elfen wahanol yn y ffordd rŷn ni'n edrych ar bethau yma yng Nghymru.
Roedd y cwestiwn olaf wnaeth yr Aelod ei ofyn ynglŷn â chynyddu'r gweithlu addysg. Mae hwn, wrth gwrs, yn flaenoriaeth i ni, fel rŷn ni wedi trafod ar y cyd ac yma yn y Siambr eisoes—o ran athrawon, ond hefyd o ran cynorthwywyr yn yr ystafell ddosbarth, i sicrhau bod gennym ni weithlu sy'n siarad Cymraeg ymhob rhan o'r gweithlu. Mae hynny'n bwysig. Rŷn ni'n gweithio ar gynllun drafft ar hyn o bryd; rŷn ni wrthi'n paratoi hynny ar gyfer ei rannu gyda'n rhanddeiliaid. Rŷn ni wedi cael trafodaethau gydag amryw o'r rheini, gan gynnwys Cyngor y Gweithlu Addysg ac eraill, ond mae angen trafodaethau pellach gyda rhanddeiliaid eraill, sy'n cynnwys y comisiynydd ac eraill. Mae hwn yn rhywbeth rŷn ni'n gorfod gwneud cynnnydd cynnar arno fe, ond gallwn ni wneud hynny yn unig drwy gydweithio gyda'r partneriaid eraill sydd gennym ni yn y system addysg.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Er fy mod yn croesawu'r camau a gymerwyd i wella cyfraddau llafaredd yn gyffredinol, mae gennyf bryderon am y rheini yn y system ofal yn ogystal â'r rhai sy'n darparu gofal. Gweinidog, gwyddom fod cyrhaeddiad addysgol ymhlith pobl ifanc mewn gofal yn llawer is na chyrhaeddiad eu cyfoedion. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyfraddau llafaredd ar gyfer y rhai yn y system ofal? A yw'r pandemig wedi cael unrhyw effaith ar gyfraddau llafaredd ymhlith pobl ifanc mewn gofal? Yn olaf, Gweinidog, cefais y pleser o gwrdd â Gofalwyr Ifanc Wrecsam, Conwy a sir Ddinbych yr wythnos diwethaf. Maen nhw'n cynnig cymorth gwych i ofalwyr ifanc yn Nyffryn Clwyd, ond mae angen y cymorth hwnnw ar ofalwyr ifanc yn yr ystafell ddosbarth hefyd. Felly, Gweinidog, sut y byddwch chi'n sicrhau nad yw gofalwyr ifanc yn syrthio y tu ôl i'w cyfoedion o ran darllen a llafaredd? Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Bydd gan nifer o'r ymyriadau yr wyf wedi'u disgrifio heddiw, yn enwedig y cynllun llyfrau, ddimensiwn sy'n sicrhau bod llyfrau'n cael eu derbyn gan bobl ifanc mewn gofal yn benodol. Mae rhai ymyriadau penodol ar gyfer rhai o'n teuluoedd mwyaf difreintiedig o gwmpas y blynyddoedd cynnar, ac mae rhai o'r llyfrau yr wyf wedi bod yn cyfeirio atynt yn llyfrau odli i blant sydd angen cymorth ychwanegol a chymorth ychwanegol i allu dysgu gartref. Rhan arall o'r rhaglen lyfrau yw'r clwb blwch llythyrau—llyfrau sydd o fudd yn arbennig i blant sy'n derbyn gofal. Felly, mae hynny'n sicr yn lens yr ydym wedi gweld y cynigion yr wyf yn eu gwneud heddiw drwyddo. Bydd yn gwybod bod darn o waith eisoes yr wyf yn gweithio arno, ynghyd â'r Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am ofal, mewn perthynas â'r hyn y gallwn ei wneud i gefnogi plant sy'n derbyn gofal yn eu cyrhaeddiad addysgol yn gyffredinol. Ond rwy'n rhannu ei bryder y bydd profiad y 18 mis diwethaf wedi cael effaith andwyol o ran llafaredd, yn arbennig, efallai, i'r rhai yn y blynyddoedd cynnar, y gwyddom fod cyfres benodol o heriau ar eu cyfer.
Diolch, Weinidog.
Gohiriwyd eitemau 6 a 7.
Felly, symudwn ymlaen i eitem 8, datganiad gan Weinidog yr Economi ar y gwarant i bobl ifanc. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein pobl ifanc yn dal yr allwedd i ddyfodol Cymru. Dyna pam rwy'n falch iawn o fod wedi lansio ein gwarant i bobl ifanc yn swyddogol yr wythnos hon. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol na fydd unrhyw genhedlaeth yn mynd ar goll yng Nghymru o ganlyniad i'r pandemig. Rydym yn sefydlu rhaglen uchelgeisiol a gynlluniwyd i ddarparu'r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 mlwydd oed yng Nghymru. Rwy'n credu mai dyma'r camau beiddgar mae'n rhaid i ni eu cymryd i helpu pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl. Rydym am roi'r cymorth sydd ei angen ar bobl ifanc ar gyfer dyfodol mwy disglair wrth adael yr ysgol, y coleg, y brifysgol, os ydynt yn ddi-waith neu os ydynt yn wynebu cael eu diswyddo. Cymru'n Gweithio yw'r porth unigol i bob un rhwng 16 a 24 mlwydd oed yng Nghymru gael mynediad i'r warant. Bydd hyn yn adeiladu ar y model sydd eisoes yn gryf ac yn llwyddiannus o ddarparu arweiniad gyrfaoedd a chyfeirio cymorth at yr holl raglenni a gwasanaethau sydd ar gael yn lleol. Mae dros 5,500 o bobl ifanc sy'n gymwys i gael y warant eisoes wedi defnyddio ein gwasanaethau Cymru'n Gweithio ers 2021.
Beth bynnag fo'r ansicrwydd sy'n ein hwynebu, gallwn fod yn sicr o un peth: mae methu â chamu ymlaen i gefnogi pobl ifanc heddiw yn gwarantu methiant economaidd yfory. Cefnogir y warant gan ddarpariaeth eang i sicrhau y gall pobl ifanc fanteisio ar gymorth effeithiol sy'n gweithio iddyn nhw. Eleni yn unig, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £390 miliwn yn y chweched dosbarth ac addysg bellach, gan ddarparu amrywiaeth o gyrsiau academaidd a galwedigaethol i filoedd o bobl ifanc; £16.4 miliwn mewn lwfansau cynhaliaeth addysgol; £5 miliwn ar gyfer lleoedd ychwanegol; a £33 miliwn ychwanegol i gefnogi pobl ifanc mewn addysg i wella o effaith y pandemig.
Rydym wedi darparu £152 miliwn ar gyfer prentisiaethau. Mae hyn yn cynnwys £18.7 miliwn ar gyfer cymhellion cyflogwyr sy'n annog recriwtio pobl ifanc. Er bod prentisiaethau'n rhaglen pob oedran, roedd tua 39 y cant o brentisiaid a ddechreuodd yn 2019-20 o dan 25 mlwydd oed. Rydym wedi darparu dros £1.2 biliwn mewn cymorth i fyfyrwyr addysg uwch ar gyfer 2021-22. Yn y flwyddyn flaenorol, roedd tua 60 y cant o fyfyrwyr addysg uwch Cymru rhwng 16 a 24 mlwydd oed, sy'n golygu bod ein pecyn arloesol o grantiau a benthyciadau cynhaliaeth yn galluogi myfyrwyr, waeth beth fo'u hoedran, incwm cartref neu deuluol, i gael mynediad i addysg uwch. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym hefyd wedi darparu £122 miliwn o gyllid ychwanegol i feithrin gallu a galluogi ein prifysgolion i gynyddu eu cyllid cyni a'u gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr sydd wedi’u heffeithio gan y pandemig. Rydym yn darparu £70 miliwn y flwyddyn i helpu pobl i gael gwaith drwy amrywiaeth o raglenni cyflogadwyedd, gan gynnwys ReAct, hyfforddeiaethau a rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol.
Ym mis Mehefin eleni, cyhoeddais ein bwriad i ddatblygu'r warant, a'r wythnos hon, rwyf wedi lansio cam 1, sy'n canolbwyntio ar wella cyflogadwyedd a darpariaeth sgiliau. Mae'r pecyn cynhwysfawr yn dwyn ynghyd raglenni sydd wedi'u cynllunio i ddarparu'r cymorth cywir ar yr adeg gywir, ar gyfer anghenion amrywiol pobl ifanc ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau newydd sy'n hawdd eu defnyddio i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i gyfleoedd yn haws. Mae'r cynnig gwarant i bobl ifanc rhwng 16 a 24 mlwydd oed yng Nghymru yn rhoi mynediad i un llwybr syml i'r warant drwy Cymru'n Gweithio, gyda chymorth a chyngor gan gynghorwyr yn cael eu darparu ar fforymau lluosog, gan gynnwys yn rhithiol, ar y stryd fawr, a gwell cyfleusterau allgymorth ledled Cymru; llwyfan chwilio am gwrs newydd sy'n hawdd ei ddefnyddio ar gyfer y rhai sydd am fynd i addysg bellach neu addysg uwch; hyfforddiant a chymhellion cyflog drwy'r rhaglen ReAct; lle ar un o'n rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol allgymorth; neu gyngor a chymorth hunangyflogaeth drwy Syniadau Mawr Cymru, sy'n rhan o Busnes Cymru; hyfforddeiaethau sy'n darparu profiad gwaith a hyfforddiant; cymorth i ddod o hyd i brentisiaeth; ac atgyfeiriad i un o'r rhaglenni a ariennir gan bartneriaid eraill, gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau neu awdurdodau lleol.
Mae Cymru'n Gweithio hefyd yn treialu gwasanaeth paru swyddi newydd i gynorthwyo pobl ifanc i sicrhau cyflogaeth ac i helpu cyflogwyr i lenwi swyddi gwag. Bydd ein camau nesaf wrth ddatblygu'r warant yn cynnwys rhaglen well ar gyfer pobl ifanc, gan eu helpu i bontio i hunangyflogaeth, gyda phecyn o gymorth a chyngor busnes ac ariannol. Byddwn yn cynyddu ein pwyslais ar waith teg a swyddi. Roedd pobl rhwng 16 a 24 mlwydd oed yn cyfrif am 16 y cant o holl ddiswyddiadau'r DU yn ystod 2020, felly rydym wedi bod yn datblygu dulliau newydd o gefnogi'r warant. Bydd llwybrau penodol i gefnogi recriwtio i sectorau twf, gan baratoi pobl ar gyfer swyddi yn y dyfodol, gyda dwy raglen gyflogadwyedd hyblyg newydd—ReAct a Twf Swyddi Cymru+. Rydym yn ehangu ein dull bwletin swyddi sydd, yr haf hwn, wedi hysbysebu 20,000 o swyddi i bobl ifanc, a byddwn yn estyn allan at gyflogwyr drwy ein hymgyrch 'Yn Gefn i Chi’, gan wahodd cyflogwyr i gysylltu â Busnes Cymru a chwarae eu rhan i sicrhau bod y warant yn llwyddiant. Rydym yn blaenoriaethu pobl ifanc a sgiliau sero-net o fewn y rhaglenni prentisiaeth.
Gydag un o bob saith o bobl yng Nghymru yn hunangyflogedig, mae angen i ni sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn deall yr opsiwn llwybr gyrfa hwn yn llawn. Felly, byddwn yn parhau i ysbrydoli a chefnogi entrepreneuriaid ifanc ledled Cymru, ac yn ysgogi eu huchelgeisiau i ddechrau eu busnesau eu hunain drwy Syniadau Mawr Cymru. Byddwn yn parhau â'n dull cydweithredol. Felly, bydd partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn dechrau digwyddiadau ymgysylltu i lunio darpariaeth warant yn eu hardal. Mae gwaith eisoes ar y gweill yn genedlaethol gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i geisio sicrhau bod rhaglenni fel Kickstart a Restart yn rhai sy'n ategu yn hytrach na chystadlu neu ddyblygu gyda darpariaeth a ddarparwn. Rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda ni i lunio ymateb cydgysylltiedig yng Nghymru ac, yn ein barn ni, i liniaru effaith toriadau arfaethedig i fudd-daliadau ac anghydraddoldebau lles a fydd yn cael eu creu drwy ddull presennol Llywodraeth y DU o ymdrin â chronfeydd adnewyddu cymunedol.
Byddwn yn parhau i wrando ar ein pobl ifanc drwy gyfres o grwpiau ffocws rhwng nawr a mis Rhagfyr, i ddeall sut maen nhw’n gweld y cymorth a'r cynnig sydd ar gael; yr hyn maen nhw am ei weld; a'r rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu. Yfory, byddaf yn lansio digwyddiad SkillsCymru, ac yn ei ddefnyddio fel cyfle pellach i ni wrando ac ymgysylltu â chynulleidfa o tua 5,000 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru ar yr agenda swyddi a sgiliau. Bydd hyn, wrth gwrs, yn bwydo drwodd i'r cam datblygu nesaf ar gyfer y warant yng Nghymru.
Fel yr wyf wedi dweud o'r blaen ar ddechrau'r datganiad hwn, mae pobl ifanc yn dal yr allwedd i lwyddiant Cymru yn y dyfodol, ac rwyf yn falch o arwain y gwaith ar warant y person ifanc. Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gynnydd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n falch o glywed bod rhywfaint o gynnydd wedi bod o ran cyflwyno gwarant y person ifanc, a bod mwy a mwy o bobl ifanc ledled Cymru bellach yn gallu manteisio ar gyfleoedd, boed hynny mewn gwaith, hyfforddiant neu hyd yn oed sefydlu eu busnes eu hunain.
Pan oedd Llywodraeth Cymru yn sefydlu gwarant i bobl ifanc cyn yr haf, roedd gwir awydd i weld lleisiau pobl ifanc wrth wraidd y cynllun. Gweinidog, rydych chi wedi dweud eich bod, dros yr haf, yn bwriadu sefydlu sgwrs genedlaethol gyda phobl ifanc am y warant i bobl ifanc, ac er bod y datganiad heddiw'n rhoi rhywfaint o wybodaeth i ni am y gweithgarwch ymgysylltu a ddigwyddodd dros yr haf, efallai y gallech ddweud mwy wrthym amdano. Er enghraifft, a allwch chi ddweud wrthym sut y cynhaliwyd y sgwrs honno gyda phobl ifanc? Faint o bobl wnaethoch chi ymgysylltu â nhw? Ac, yn hollbwysig, sut y gwnaethoch chi sicrhau bod lleisiau ym mhob rhan o Gymru yn cael eu clywed?
Nawr, Gweinidog, rydych chi wedi'i gwneud yn glir, yn ddiweddar, fod Cymru'n Gweithio wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith olrhain ers diwedd mis Medi, ac mae'n bwysig ein bod yn gweld yn union ble mae pethau'n mynd yn dda ac, efallai, lle mae angen gwneud gwelliannau. Felly, Gweinidog, a allech chi gadarnhau beth yn union mae Cymru'n Gweithio yn ei olrhain? A yw'n cwmpasu canlyniadau ym mhob maes, boed yn waith, yn hyfforddiant neu'n hunangyflogaeth? Ac os felly, pa fath o asesiad ydych chi wedi gallu ei wneud o'r data sydd gennych chi hyd yn hyn?
Mae'r datganiad heddiw hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynllun treialu paru swyddi y mae Cymru'n Gweithio wedi bod yn ymgymryd ag ef. Gwn o sgyrsiau blaenorol fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn awyddus i ddysgu o'r cynllun treialu, gyda'r bwriad o'i gyflwyno yn genedlaethol. Wrth gwrs, Cymru'n Gweithio sydd yn y sefyllfa orau i ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid ledled y wlad ar hyn, ac felly, Gweinidog, a allwn ni ennyn mwy o fanylion gennych chi ynghylch a yw'r cyflwyno hwnnw'n dal i ddigwydd, a pha fath o amserlenni yr ydych wedi'u clustnodi i gwblhau'r gwaith penodol hwn?
Nawr, mae'n hanfodol bod gwarant y person ifanc yn gweithio ochr yn ochr â chynlluniau eraill Llywodraeth Cymru, fel cynllun Twf Swyddi Cymru a chynllun ReAct, er enghraifft. Yn wir, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd gydnabod y gwaith pwysig iawn sy'n cael ei wneud gan Gyrfa Cymru, sydd hefyd yn helpu pobl ifanc i gynllunio eu gyrfa, paratoi ar gyfer swydd, neu wneud cais am brentisiaeth neu hyfforddiant. Er enghraifft, yn gynharach y mis hwn, lansiodd Gyrfa Cymru bartneriaeth gyda'r elusen symudedd cymdeithasol genedlaethol, Siaradwyr i Ysgolion, i helpu i ddarparu cyfleoedd profiad gwaith a sgyrsiau gyrfa sydd ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru rhwng 11 a 19 mlwydd oed, mewn ymgais i helpu pobl ifanc ddifreintiedig i ddal i fyny ar ôl COVID. Felly, mae'n bwysig iawn bod y warant i bobl ifanc yn gweithio ochr yn ochr â'r rhaglenni eraill hyn ac yn cyrraedd y bobl ifanc nad ydynt, efallai, wedi gallu cael gafael ar gymorth neu nad ydynt yn ymwybodol o'r cymorth mae'r rhaglenni eraill yn ei gynnig. Felly, Gweinidog, a allwch chi ddweud wrthym sut yr ydych yn bwriadu i’r warant i bobl ifanc weithio ochr yn ochr â phrosiectau a strategaethau eraill i gefnogi pobl ifanc yma yng Nghymru?
Gweinidog, mae'n gwbl hanfodol bod digon o arian yn ei le i sicrhau bod gan y warant i bobl ifanc yr adnoddau sydd eu hangen i gael yr effaith fwyaf, ac rwy'n falch bod y datganiad yn dweud ychydig mwy wrthym am y dyraniadau cyllidebol sy'n cael eu gwneud. Mae'n dda gweld cyllid ar gael ar gyfer y chweched dosbarth, darparwyr AB, prentisiaethau a'r sector AU, ond mae hefyd yn bwysig bod cyllid ar gael i ddatblygu cyfleoedd hunangyflogaeth hefyd. Felly, Gweinidog, mae'r datganiad yn nodi'n briodol, gydag un o bob saith o bobl yng Nghymru yn hunangyflogedig, fod angen i ni sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn deall yr opsiwn llwybr gyrfa hwn yn llawn. Felly, a allwch chi ddweud wrthym faint o arian sy'n cael ei ddyrannu i gefnogi entrepreneuriaeth?
Mae'r datganiad hefyd yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn estyn allan at gyflogwyr drwy'r ymgyrch 'Yn Gefn i Chi’, sy'n gwahodd cyflogwyr i gysylltu â Busnes Cymru a chwarae eu rhan yn y warant, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod cefnogaeth wirioneddol gan fusnesau ledled Cymru. Felly, Gweinidog, a allwch chi ddweud mwy wrthym am sut mae'r ymgyrch yn gweithio, sut rydych chi’n sicrhau bod busnesau ym mhob rhan o'r wlad yn ymwybodol o'r ymgyrch, a sut mae Busnes Cymru yn recriwtio busnesau ledled Cymru?
Nawr, Gweinidog, nod ymgyrch 'Bydd Bositif’ Llywodraeth Cymru, a lansiwyd fis diwethaf, yw annog Pobl ifanc Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol â'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol, ac mae'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda dylanwadau cymdeithasol a phartneriaid brand ar lwyfannau sy'n boblogaidd gyda phobl ifanc, i rannu negeseuon cadarnhaol am y cymorth sydd ar gael. Ac felly, Gweinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae'r ymgyrch 'Bydd Bositif’ yn mynd rhagddi a'r effaith y credwch ei bod yn ei chael ar bobl ifanc yng Nghymru heddiw?
Dirprwy Lywydd, rwy'n falch o weld y bydd partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn awr yn dechrau cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu i lunio darpariaeth warantedig yn eu hardal, a bod grwpiau ffocws yn cael eu sefydlu rhwng nawr a mis Rhagfyr i ddeall sut mae pobl ifanc yn gweld y cymorth a'r cynnig sydd ar gael. Mae pob un o'r rhain am i’r warant i bobl ifanc fod yn llwyddiant yng Nghymru, ac mae'n hanfodol bod lleisiau pobl ifanc ledled Cymru yn cael eu clywed yn uchel ac yn glir. Felly, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac rwy'n edrych ymlaen at gael diweddariadau pellach ar y warant dros y misoedd nesaf? Diolch.
Diolch am y gyfres o gwestiynau y gwnaf geisio mynd i'r afael â nhw o fewn yr amser. Ynglŷn â'ch pwynt am y sgwrs genedlaethol gyda phobl ifanc, rydym wrth gwrs wedi bod yn cael sgwrs gyda phobl ifanc, fel rhan o'r rhyngweithio rheolaidd sydd gennym, ynghylch sut y gallai ac y dylai'r warant weithio. Nid ydym wedi gwneud cymaint ag y byddwn wedi dymuno mewn sgwrs genedlaethol fwy strwythuredig. Nid ydym wedi gallu gwneud hynny gyda'r staff a'r adnoddau sydd gennym ar gael. Yr hyn yr ydym wedi'i wneud yw, rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau bod y cam hwn yn iawn, a rhoi pwyslais o'r newydd i Twf Swyddi Cymru+ yn arbennig, yr wyf yn wirioneddol gyffrous amdano, gan ei fod yn dwyn ynghyd y rhaglen lwyddiannus Twf Swyddi Cymru y gwyddom ei bod wedi helpu pobl ifanc i fynd i mewn ac i aros mewn cyflogaeth. Gwyddom fod cynlluniau tebyg wedi'u tynnu'n ôl mewn rhannau eraill o'r DU, ond hefyd gyda hyfforddeiaethau, ac mae hynny'n ymwneud â helpu i fynd i'r afael ag anghenion pobl nad oes ganddyn nhw'r holl gymwysterau y gallen nhw fod eu heisiau, neu, yn wir, fod eu hangen iddyn nhw fod yn barod am waith. Felly, rydym yn cyfuno'r ddau beth hynny; daw hynny o wrando ar bobl ifanc am yr hyn y gwnaethon nhw ei ddweud maen nhw ei eisiau yn arbennig. Ac mae hefyd o wrando ar bobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, lle maen nhw am fod mewn swydd, a dyna'r dewis maen nhw’n ei ffafrio i symud ymlaen. Felly, rydym wedi gorfod meddwl sut rydym yn darparu'r cymorth cywir iddynt. Ac mae hynny'n dod o'r dros 5,500 o bobl rydym ni wedi rhyngweithio â nhw ers mis Mai eleni.
Felly, bydd y gwaith pwyslais pellach y byddwn yn ei wneud yn adeiladu ar hynny dros y ddau fis nesaf, ac rwy’n disgwyl—ac mae hwn yn gynnig agored; ei fod yn adeiladu ar, os mynnwch chi, ein sgwrs flaenorol ag Aelodau eraill yn y pwyllgor craffu yr wythnos diwethaf ynghylch sut rydym ni’n darparu, yn rheolaidd, data a all roi rhai niferoedd i chi o'r hyn rydym yn ei wneud a phwy sy'n dod drwodd. Ond yr hyn rwyf am allu ei wneud, yn flynyddol o leiaf, yw rhoi mwy o grynodeb gyda mwy o wybodaeth amdano, ac nid ffigurau yn unig, ond am yr adborth rydym ni'n ei gael hefyd. Ac nid oherwydd y bydd pwyllgor yn ei fynnu gennym, ond rwy'n credu ein bod yn llawer gwell ein byd o allu nodi, yn rheolaidd, sut a phryd y byddwn ni'n darparu'r wybodaeth honno, a disgwyliaf yn llwyr o'r Siambr ac, yn wir, y pwyllgor yr ydych yn ei gadeirio, y gallaf i a'm swyddogion ddisgwyl cael cwestiynau am hynny a p’un a ydym yn gwneud y cynnydd yr ydym am ei wneud.
O ran Cymru'n Gweithio hyd yma, fel y dywedais, maen nhw wedi delio ag 20,000 o hysbysebion swyddi, maen nhw wedi cael mwy na 12,000 o ryngweithiadau â phobl ifanc unigol ers mis Mai eleni. A phan fyddwn yn gallu asesu eu llwyddiant wrth gyflwyno a goruchwylio rhyngweithiadau'r warant—rwy’n credu y byddwn yn cael hynny o'r wybodaeth reolaidd yr wyf wedi'i nodi yr wyf am allu ei darparu i Aelodau ac, yn wir, y cyhoedd yn ehangach.
Rwy’n nodi eich cwestiwn a'ch sylwadau am ryngweithio â rhannau eraill o'r Llywodraeth hefyd, ac felly, rwyf wedi cael sgyrsiau rheolaidd gyda Gweinidogion eraill yn y cyfnod cyn y warant, ac yn benodol, sgwrs rhwng fy swyddogion, ond hefyd yn uniongyrchol rhyngof i a Jeremy Miles fel y Gweinidog addysg. Oherwydd rydyn ni yn y sefyllfa ffodus bod tua 360,000 o bobl ifanc yn dal mewn addysg. Mae gennym tua 48,000 o bobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Felly, mae gennym sylfaen dda—mae'r mwyafrif helaeth o bobl ifanc mewn math o addysg, ond ein her ni yw sut yr ydym yn gwneud mwy i sicrhau bod y bobl hynny wedyn yn cael dechrau llwyddiannus yn eu bywyd gwaith, yn ystod neu ar ôl addysg, ac, yn wir, i'r bobl hynny nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn cael gwaith, addysg neu hyfforddiant. Ac mae'r 48,000 o bobl hynny'n ormod o lawer—mae'n 48,000 o bobl yn ormod o ran eu gallu i fynd i fyd gwaith, ac mae'n golygu iddyn nhw, eu teuluoedd ond hefyd i'r wlad.
Felly, rydym yn disgwyl y byddwn yn gallu gweithio ochr yn ochr ag ymyriadau eraill. Nid yw'n ymwneud â'r ewyllys da a'r berthynas dda rhwng Gweinidogion a swyddogion o fewn y Llywodraeth yn unig, fel yr wyf wedi'i ddisgrifio, ond mae’n ymwneud â sicrhau y gallwn gyfeirio pobl at ymyriadau eraill—yr ymyriadau sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol, ac, yn hollbwysig, ymyriadau sy'n cael eu rhedeg gan Lywodraeth y DU hefyd. Oherwydd, os ydym am allu gwneud hyn mor llwyddiannus ag y byddai pob un ohonom yn y Siambr hon yn ei hoffi hefyd, beth bynnag fo'n plaid, yna mae angen i ni ddeall yn glir beth mae Llywodraeth y DU yn ei ariannu a'i gefnogi yn y maes hwn, fel nad ydym yn dyblygu nac yn cystadlu dros yr un bobl. Dyna pam mae'r adolygiad cyflogadwyedd yr wyf wedi sôn amdano o'r blaen mor ofnadwy o bwysig; dylai olygu bod amser i ni ddeall ble'r ydym ni, amser i ni ddeall beth mae Llywodraeth y DU yn ei wneud a sut yr ydym yn cynllunio ymyriadau ochr yn ochr â'n gilydd. Ac nid yw hwn yn bwynt partisanaidd a gwleidyddol-bleidiol oherwydd, mewn gwirionedd, yn y gorffennol diweddaraf, rydym wedi gallu cael ymyriadau yng Nghymru sydd wedi'u trefnu mewn ffordd lle nad ydyn nhw'n dyblygu'n fwriadol ac nad ydyn nhw'n cystadlu â'r Adran Gwaith a Phensiynau. Fy uchelgais yw i hynny ddigwydd eto yn y rownd nesaf hon. Mae rhywfaint o'r hyn mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ei wneud wedi newid ychydig, felly mae angen i ni ystyried hynny yn y ffordd yr ydym yn rhedeg ein gwasanaethau ein hunain.
O ran opsiynau hunangyflogaeth, rwy'n mynd i wneud cyhoeddiad pellach am hyn yn yr wythnosau nesaf, felly ni wnaf roi’r ateb penodol hwnnw, ond un o'r pethau rydym ni’n edrych arno yw cynllun blaenorol lle darparwyd grantiau i bobl ifanc ddechrau busnesau hunangyflogedig. Roedd grant, ac rwy'n ystyried a allwn ni ddarparu'r un math o grant cychwyn, ynghyd â'r cyngor a'r cymorth y byddem ni am eu darparu i unrhyw entrepreneur ar unrhyw adeg yn eu gyrfa i ddechrau. Ac eto, y peth defnyddiol yw ein bod wedi adeiladu brandiau mwy y mae pobl wir yn eu cydnabod. Mae Busnes Cymru yn gartref i lawer o'r rhain, ond Syniadau Mawr Cymru, fel rhan o Busnes Cymru, a ddylai fod y lle iawn. Ac mewn gwirionedd, rhan o'r gwerth yn yr hyn yr ydym yn ei wneud yw mai'r brif fynedfa yw Cymru'n Gweithio, a gallan nhw gyfeirio pobl at ble maen nhw am fod. O safbwynt busnes, gallan nhw fynd i unrhyw ran o Busnes Cymru, ond Busnes Cymru a'r Porth Sgiliau ar gyfer Busnes yw'r prif rannau y bydden nhw'n edrych arnynt. A hefyd, i'r bobl hynny sydd ag opsiynau hunangyflogedig, gallan nhw fynd yn uniongyrchol at Syniadau Mawr Cymru, neu gallan nhw ddod o hyd i fan mynediad gyda chyngor ac arweiniad i'w cefnogi, ac i ddeall eu hanghenion penodol drwy'r porth y bydd Cymru'n Gweithio yn ei redeg i ni. Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn deall ei fod yn borth sgiliau iddyn nhw gael mynediad ato, er mwyn deall sut y gallan nhw gefnogi'r warant. Mae gennym eisoes nifer o fusnesau sydd wedi holi'n uniongyrchol, ond bydd yr ymgyrch 'Yn Gefn i Chi’ y byddwn yn ei lansio'n ffurfiol ac yn ei ddechrau cyn diwedd mis Ionawr yn y flwyddyn newydd yn gyfle arall i atgoffa busnesau am sut rydyn ni eisiau iddyn nhw ymgynnull ynghyd â galwad am weithredu i gefnogi'r warant hefyd.
Fodd bynnag, rwy'n credu bod y cwestiynau am asesu effaith yr ymgyrch 'Bydd Bositif’, mae ychydig yn rhy gynnar i asesu effaith hynny, ond rwy'n glir, ym mhob un o'r ymyriadau a'r ymgyrchoedd rydym wedi'u cynnal, y bydd angen i ni allu deall, o fewn y Llywodraeth, gyda Cymru'n Gweithio a phartneriaid eraill, pa mor llwyddiannus maen nhw wedi bod, ac yna i ddeall a oes angen i ni wneud mwy o'r hyn yr ydym ni eisoes wedi'i wneud, neu os oes angen i ni geisio teilwra ein cynnig ymhellach. Ac eto, gobeithio y bydd hynny'n rhan o'r wybodaeth y byddwch yn gallu ei gweld. Gwn na fydd heddiw'n ddiwedd y cwestiynau, ond edrychaf ymlaen at ymgysylltu â chi yn y Siambr, ac, yn wir, fel y dywedais i, yn y pwyllgor.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw.
Fel rwyf wedi’i ddweud o'r blaen, mae’r warant i bobl ifanc yn gynllun i'w groesawu. Cynigiodd Plaid Cymru gynnig tebyg iawn yn ystod yr etholiad, felly rydym wedi bod yn awyddus i wybod rhagor o fanylion i sicrhau ei fod yn cynnal hawliau pobl ifanc ac yn hybu twf cynaliadwy yn economi Cymru. Mae'n dda clywed hefyd y bydd pobl ifanc yn gallu cyfrannu at hyn yn uniongyrchol. Ni allaf ei ddweud mwyach, ni allaf ddweud, 'Gwnewch ef gyda ni', oherwydd, ers yn ddiweddar, nid wyf yn cael fy ystyried yn 25 ac iau mwyach. Mae'n ddrwg gennyf, Dirprwy Lywydd, doeddwn i ddim yn gallu helpu cynnwys hynny. Ond mae'n dda bod Llywodraeth Cymru yn cadw at yr egwyddor ei bod yn ymwneud â gwneud hyn gyda phobl ifanc ac nid i bobl ifanc.
Er ei bod yn ymddangos bod y datganiad heddiw yn cwmpasu amrywiaeth o gyllid a buddsoddiad yn y warant, mae gennyf ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog am fanylion y ddarpariaeth. Yn gyntaf, mae'r pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar weithwyr ifanc yng Nghymru. Yn 2020, roedd pobl dan 25 mlwydd oed yn cynnwys traean o hawlwyr credyd cynhwysol newydd yn y DU, a chafodd 47 y cant o'r swyddi sydd wedi’u llenwi gan bobl dan 25 mlwydd oed eu rhoi ar ffyrlo rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2020, o'i gymharu â chyfartaledd o 32 y cant o swyddi cyffredinol. Mae'r ffigurau hyn yn cadarnhau bod pobl iau ledled y DU mewn gwaith mwy ansicr na'r boblogaeth gyffredinol. Dylai Llywodraeth Cymru ymdrechu i newid hyn drwy’r warant i bobl ifanc. Sut yn union mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod cynigion cyflogaeth o fewn y warant yn cynnwys cyflog teg sy'n cyfateb i lefelau a welwyd cyn y pandemig ac sy'n cyfrif am y cynnydd mewn chwyddiant? Ac er bod y datganiad, wrth gwrs, yn awgrymu bod y Llywodraeth yn cynyddu ei phwyslais ar waith teg a swyddi, sut fyddan nhw’n gweithio gyda busnesau, undebau llafur a chyrff eraill ledled Cymru i sicrhau bod y warant i bobl ifanc yn cyflawni gwaith teg o ansawdd uchel ac ymwybyddiaeth o hawliau cyflogaeth ymhlith pobl ifanc?
Dylai gwarant i bobl ifanc ddarparu cyfleoedd economaidd i bobl ifanc ledled Cymru, tra hefyd yn gwasanaethu cymunedau lleol a busnesau bach. Yn 2019, roedd mentrau bach a chanolig yn cyfrif am 99.4 y cant o gyfanswm y busnesau yng Nghymru. Pe bai Llywodraeth Cymru yn cyflawni’r warant i bobl ifanc drwy'r model 'meddwl yn fach yn gyntaf', lle mae busnesau bach lleol yn darparu'r swyddi, y prentisiaethau a'r cyfleoedd hyfforddi i bobl ifanc, yna gall y cyfoeth a'r manteision cymdeithasol ac economaidd ehangach a gynhyrchir gan gyflogaeth ieuenctid uwch a gwelliannau mewn cyfalaf a gwybodaeth ddynol aros yng Nghymru er budd cymunedau lleol, yn hytrach na chael eu tynnu mewn mannau eraill. Mae BBaChau a busnesau lleol yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin economi yng Nghymru sy'n gweithio i bawb, a dyna pam y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu'r mathau hyn o fusnesau wrth baru pobl ifanc i gyfleoedd drwy'r cynllun. A fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried gweithredu model 'meddwl yn fach yn gyntaf' o fewn y warant i bobl ifanc a blaenoriaethu estyn allan i BBaChau?
Roeddwn hefyd yn meddwl tybed a allai'r Gweinidog roi rhywfaint o eglurder ynghylch sut y bydd hyfforddiant a gwasanaethau paru swyddi yn y cynllun yn gweithio i dargedu bylchau mewn sgiliau a phrinder llafur a sut y bydd hyn yn cyd-fynd â hyrwyddo economi wyrddach a chyrraedd targedau sero-net. Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi nodi bod prinder sgiliau cronig dros y misoedd diwethaf wedi amharu ar adferiad economaidd Cymru. Mae prinder llafur a bylchau sgiliau yn gyffredin drwy economi Cymru, ond maen nhw’n arbennig o amlwg mewn sectorau fel adeiladu a lletygarwch. Adroddodd y Ffederasiwn Busnesau Bach fod 50 y cant o fusnesau adeiladu wedi bod yn ei chael hi'n anodd recriwtio staff mewn crefftau fel gwaith coed a gosod brics, tra bod adroddiad gwybodaeth y Bwrdd Hyfforddi Diwydiant Adeiladu yn amcangyfrif y byddai angen 9,250 o weithwyr ychwanegol yng Nghymru rhwng 2020 a 2025 heb feddwl am ystyriaethau sero-net. Yn y cyfamser, ers 2016, rydym wedi gweld y gweithlu adeiladu sydd ar gael yn gostwng. Sut fydd y llwybrau a'r rhaglenni o fewn y warant, fel ReAct+ a Thwf Swyddi Cymru+, yn targedu cyngor a hyfforddiant tuag at sectorau sy'n profi'r prinder hwn gan hefyd gydbwyso amrywiaeth o gyfleoedd i bawb, a sut y bydd hyfforddiant sgiliau sero-net a phrentisiaethau yn cael eu blaenoriaethu o fewn y warant i sicrhau bod y cyfleoedd a ddarperir yn cyd-fynd â Deddf cenedlaethau'r dyfodol?
Ac yn olaf, ac, yn anffodus, fel y gwnes i ei amlygu gyda'r Gweinidog yr wythnos diwethaf, rhwng 2020 a 2021, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi gwaethygu yng Nghymru. Yn ôl ffigurau o'r cyfnod hwn gan Chwarae Teg, cynyddodd bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru 0.7 y cant i gyfanswm bwlch o 12.3 y cant. Mae hyn wedi arwain at ddim un ardal awdurdod lleol yng Nghymru erbyn hyn lle mae merched yn ennill mwy na dynion. I bwysleisio, mae merched bellach yn ennill llai na dynion ym mhobman yng Nghymru. Dros yr un cyfnod, cynyddodd cyflog fesul awr dynion o 49c, tra bod cyflog merched wedi cynyddu 34c yn unig. Mae'r ffigurau hyn yn dangos nad yw'r cynnydd tuag at gydraddoldeb economaidd rhwng y rhywiau yn cael ei warantu ac mae angen ymyrraeth gan y Llywodraeth i sicrhau bod merched yn cael cyfran deg yn economi Cymru. Gyda hyn mewn golwg, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau sy'n ymwneud â’r warant i bobl ifanc i sicrhau bod merched ifanc yn cael cynnig cyfleoedd gyda chyflog cyfartal, a sut y bydd hyfforddiant ac addysg yn y warant yn cefnogi merched i fynd i sectorau sy'n talu'n uchel lle nad ydyn nhw'n cael eu cynrychioli ar hyn o bryd?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau, ac rwyf am ei sicrhau y bydd yn ifanc yn y lle hwn, yn gymharol, am beth amser i ddod. O ran eich man cychwyn a'ch pwynt terfyn am waith teg, yn y bôn, a beth yw ein disgwyliadau o ran gwaith teg, byddwch yn gweld pethau nad ydyn nhw'n rhan o'r warant yn unig. Byddwch yn gweld y ddeddfwriaeth y byddwn ni'n ei chyflwyno ar bartneriaeth gymdeithasol a chaffael, a byddwn ni'n siarad mwy am waith teg o fewn y darn hwnnw o ddeddfwriaeth, felly bydd cyfle i graffu ar yr hyn mae hynny'n ei olygu, ond casglu at ei gilydd yn fwy cyffredinol o'r hyn mae pob un ohonom yn ei ddisgwyl gan yr undeb llafur ac o'r ochr fusnes hefyd. Yn y grwpiau busnes yr wyf wedi siarad â nhw—. Cefais gyfarfod ag amrywiaeth o grwpiau busnes y bore yma a chefais gyfarfod ag amrywiaeth o grwpiau undebau llafur amser cinio hefyd. Felly, mae ymgysylltu uniongyrchol a rheolaidd, ac rydym yn canfod nad oes unrhyw hwb gan y grwpiau busnes hynny ynghylch dymuno cael agenda ynghylch gwaith teg; maen nhw am gael dealltwriaeth o'r hyn mae hynny'n ei olygu, a'r hyn mae'n ei olygu iddyn nhw a'r busnesau maen nhw’n yn eu rhedeg. Ni ddylai fod yn syndod nad yw grwpiau busnes yn ceisio cyflwyno achos i ni y dylen nhw allu talu cyn lleied â phosibl i bobl a pheidio â phoeni p’un a yw eu gweithleoedd yn deg ai peidio. Mae gennym fwy o ysgogiadau, wrth gwrs, gyda'r busnesau hynny sy'n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru a mwy o ysgogiadau gyda'r bobl hynny lle maen nhw’n ymgymryd â chaffael o'r pwrs cyhoeddus hefyd. Felly, mae enghreifftiau y gallwn ni eu gosod ynglŷn â'r ffordd yr ydym yn cynnal ein busnes ein hunain, yn ogystal â lle mae gennym ddylanwad mwy uniongyrchol. Ac mae'r pwyntiau am anghydraddoldebau rhwng y rhywiau yn y gweithlu yn rhai yr wyf i'n eu deall yn dda iawn, nid dim ond ar ôl cynnal achosion cyflog cyfartal am beth amser cyn dod i'r lle hwn, ond, mewn gwirionedd, pan welwch chi wybodaeth y gweithlu, mae'n glir iawn. Ac nid yw'n llawer o syndod bod y pandemig, mewn gwirionedd, wedi gwneud pethau'n waeth o ran disgwyliadau a sut mae pobl wedi rhannu cyfrifoldebau o fewn teuluoedd mewn ffordd sy'n aml—nid yn fy nheulu i, ond yn aml—yn golygu bod merched wedi cael cyfran hyd yn oed yn fwy anghymesur o gyfrifoldebau gofalu hefyd. Ac mae hynny'n cael effaith ar y canlyniadau ehangach sy'n ymwneud â gwaith a dilyniant yn benodol.
Felly, mae her sy'n un gymdeithasol yn erbyn y Llywodraeth yn arwain, a byddwch yn clywed mwy nid yn unig gennyf i, ond byddwch yn clywed yn benodol gan nid yn unig y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd yn yr ystafell, ac rwyf wedi nodi hynny, ond gan Weinidogion ar draws y Llywodraeth. Dyna pam yr oedd y gwaith yr oeddwn i'n sôn amdano yr wythnos diwethaf ar sut yr ydym yn gwneud yr hyn y gwnaethoch chi ei awgrymu, o ran sut yr ydym yn darparu sgiliau a chyfleoedd mewn gyrfaoedd sydd yn draddodiadol wedi cael eu hystyried ar gyfer un rhyw neu'r llall ond i'w gwneud yn glir eu bod ar gyfer pobl, a phobl â sgiliau, ac efallai annog pobl i ystyried y rheini fel gyrfaoedd mewn ffyrdd nad ydyn nhw bob amser wedi digwydd yn y gorffennol.
Felly, mae buddsoddi mewn sgiliau yn ffordd allweddol o wybod y gallwn gynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant busnesau a gweithwyr unigol, a dylai hynny arwain at gyflogau uwch—ac rydym wedi gweld cwrs eithaf cyson dros gyfnod o amser. A byddech yn disgwyl i'r warant gyfrannu at hynny. Mae hynny'n ymwneud â'r bobl hynny sydd eisoes mewn gwaith a phobl sydd â sgiliau o’r dechrau, ond, yn hollbwysig, i bobl sydd ymhellach i ffwrdd o'r farchnad lafur hefyd. Felly, un o'n heriau mawr yw, o gofio bod ymyriadau'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ymwneud yn bennaf â phobl sy'n agos at y farchnad lafur, yn barod am swyddi neu'n agos atynt, ein bod bron yn sicr yn mynd i orfod canolbwyntio mwy o'n hymyriadau ar bobl sydd angen mwy o gymorth i gyrraedd y farchnad lafur ac i fod yn barod am waith. Ond bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth, oherwydd mewn gwirionedd un o'n heriau a'n gwahaniaethau allweddol gyda gweddill y DU yw bod gennym grŵp uwch na'r cyfartaledd o bobl nad ydyn nhw'n economaidd weithgar o hyd. Felly, mewn gwirionedd, bydd yr ymyriadau hynny'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran beth fydd ffurf gyffredinol yr economi.
Nawr, busnesau bach—. Roedd gen i ddiddordeb yn yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am ddull 'meddwl yn fach yn gyntaf', a'm man cychwyn fyddai ein bod am i bob cyflogwr da ymgysylltu â'r warant a chymryd rhan ynddi. Ond byddai gennyf ddiddordeb mewn sgwrs fwy penodol ac ymarferol efallai gyda chi ynghylch sut y gallai dull 'meddwl yn fach yn gyntaf' edrych a p’un a yw hynny'n ymwneud â'r Llywodraeth mewn gwirionedd yn ffafrio cyflogwyr llai neu a yw'n ymwneud â ni'n annog cyflogwyr llai i gymryd rhan uniongyrchol. Oherwydd pe baem yn dweud ein bod yn mynd i ddarparu manteision neu gymhellion anghymesur, gallaf weld y byddai hynny'n heriol, ond os yw'n ymwneud â sut yr ydym yn cael gweithio ochr yn ochr â busnesau bach i ailystyried eu cyfleoedd i roi cyfleoedd i bobl yn eu gweithle, i roi cyfle i bobl ifanc, i feddwl am fuddsoddi yn eu sgiliau, yna rwy'n credu bod hynny'n sgwrs wirioneddol ffrwythlon y byddai gennyf ddiddordeb mewn ei chael gyda'r Aelod, oherwydd ein huchelgais gyffredinol yw cadw talent a gwerth yng Nghymru, ac mae'n rhaid i fusnesau bach, wrth gwrs, fod yn rhan o hynny.
Ac i orffen ar eich pwynt am sgiliau gwyrdd a dewisiadau buddsoddi, rwyf yn disgwyl i'r warant fod yn rhan o hyn. Rwyf eisoes wedi nodi, gyda'r dewisiadau buddsoddi a wnawn o fewn y Llywodraeth, y byddwn yn ceisio hyrwyddo busnesau i feddwl eto am sgiliau eu gweithlu, ynghylch sut mae'r sgiliau hynny'n eu paratoi i fanteisio ar y cyfleoedd i wyrdroi ein heconomi—yr angen amdano, yn ogystal â'r cyfle i weld lle i weithredu ynddo. Felly, mae'n ymwneud yn rhannol â pham yr ydym yn edrych ar gynrychiolwyr undebau llafur gwyrdd, oherwydd yn aml daw'r syniadau gorau mewn gweithle am sut i ddatgarboneiddio gan bobl sy'n ymgymryd â'r gwaith hwnnw'n rheolaidd. A phan fyddaf wedi ymweld â busnesau, nid yw'r holl syniadau gorau'n dod gan y bobl sy'n eistedd mewn swyddfa reoli yn unig; maen nhw’n cydnabod bod gan bobl ar lawr y siop, ym mha bynnag fusnes ydyw, y syniadau gorau a mwyaf ymarferol yn aml am sut i arbed arian a sut i leihau ôl troed y busnes hwnnw ar y byd a'r gymuned ehangach. A bydd hefyd yn cael effaith yn y ffordd yr ydym yn cefnogi busnesau gyda'r ffordd rwyf yn disgwyl darparu cymorth busnes yn y dyfodol. A disgwyliaf gael pecyn i allu symud ymlaen ag ef, a byddwch yn gweld yn hwnnw gymhellion clir i fuddsoddi mewn sgiliau yn y dyfodol, ac yn enwedig o ran sut mae busnesau'n datgarboneiddio. Ac rwy'n sicr yn disgwyl y bydd prentisiaid y dyfodol yn rhan o helpu i gyflawni'r ffordd newydd honno o weithio, yn ogystal â buddsoddi mewn pobl sydd eisoes ym myd gwaith wrth i ni siarad.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Fel y gwyddom ni i gyd, mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd i bobl ifanc, gan fod cyfleoedd wedi lleihau neu hyd yn oed wedi'u colli'n gyfan gwbl. Yn ogystal â hynny, mae ein heconomi wedi bod ar dir anwastad ers llawer o'r degawd diwethaf, gyda phobl iau yn aml yn cario'r faich, felly rwyf yn croesawu'r fenter hon fel cyfle i ddod ag anghenion pobl ifanc ynghyd ag anghenion busnesau bach. Roeddwn am adleisio cyfraniad Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru bod yn rhaid i'r warant i bobl ifanc 'feddwl yn fach yn gyntaf', a rhaid iddo weithio law yn llaw â busnesau bach i fanteisio i'r eithaf ar y cynllun hwn er budd pobl ifanc, busnesau bach a'n heconomi. Nid yn unig mae busnesau bach yn ffurfio'r gyfran fwyaf o fusnesau yng Nghymru—yn enwedig felly mewn ardaloedd gwledig—ond maen nhw'n rhan o'r cymunedau lleol, yn darparu ystod o wasanaethau hanfodol, ac mae ganddyn nhw amrywiaeth fawr o sgiliau.
Efallai eich bod yn cofio, Gweinidog, i mi ysgrifennu atoch ar ran pobol yn fy rhanbarth ychydig wythnosau'n ôl, gan ofyn am help i dyfu eu busnes teuluol bach. Fe wnaethon nhw ddweud eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd llywio'r opsiynau sydd ar gael iddyn nhw a'u bod yn awyddus i ddod o hyd i brentis. Felly, rwyf yn gobeithio y bydd yr egwyddor o symlrwydd i'r bobl ifanc hyn sy'n ymgysylltu â'r warant hefyd yn berthnasol i fusnesau bach sy'n ceisio chwarae eu rhan wrth gefnogi pobl ifanc a'n heconomi.
Byddwn hefyd yn croesawu eglurder ynghylch sut y caiff cynnig ystyrlon ei fesur neu ei nodweddu ar gyfer pobl ifanc ac i fusnesau, ac, os caf i, Gweinidog, ofyn sut mae cynnig ystyrlon yn edrych ledled Cymru, oherwydd bydd cynnig ystyrlon yn edrych yn wahanol iawn yng Nghasnewydd neu Gaerdydd nag yn Aberhonddu neu Fachynlleth, yn enwedig o ystyried cyfansoddiad busnesau, trafnidiaeth a mynediad i sefydliadau addysg bellach ac uwch.
Ac yn olaf, mae cynlluniau ledled Ewrop sy'n priodi cyfleoedd i bobl ifanc sydd â datblygu economaidd mewn cymunedau sy'n dibynnu ar dwristiaeth. Mae hyn yn helpu i drosglwyddo'r economïau lleol hynny i sylfaen fwy cynaliadwy ac yn cefnogi pobl ifanc yn yr ardal leol. Tybed a allech chi amlinellu sut y gallai'r warant hon helpu cymunedau i gyflawni'r canlyniad hwnnw. Diolch—diolch yn fawr iawn.
Diolch, ac rwyf yn cydnabod bod y degawd diwethaf wedi bod yn fwy heriol nag y byddem ni eisiau, gan ddod allan o'r gwymp ariannol fyd-eang, ac yna'r mesurau y dewisodd y DU eu cymryd ar y pryd. Ac, a bod yn deg, rwy'n gwybod nad oedd yr Aelod yn gefnogwr brwd i'r llymder a gyflwynwyd a'r heriau, yr heriau gwirioneddol, a ddarparodd hynny, ond, hyd yn oed yn ystod y cyfnod hwnnw, yng Nghymru, rydym wedi cau nifer o fylchau gyda'r DU ar gyflogaeth ac ar gynhyrchiant hefyd. Y rheswm am hynny yw ein bod wedi gallu buddsoddi mewn sgiliau yma, a dyna pam mae mater hen gronfeydd Ewropeaidd yn bwynt mor allweddol i ni, oherwydd rydym wedi defnyddio llawer o'r gyllideb honno i fuddsoddi yn sgiliau'r gweithlu presennol a'r dyfodol. A bydd methu â chydlynu hynny'n genedlaethol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud ochr yn ochr â busnesau ac, yn wir, i'r gweithlu.
Nid wyf yn credu bod hynny'n mynd i mewn i'ch pwynt am y becws na wnaethoch chi ei enwi, ond rwy'n derbyn eich pwynt am sut yr ydym yn ei wneud yn syml i bobl: syml i'r bobl sy'n rhedeg busnes, yn syml i'r bobl sydd am gael opsiynau i ymuno â'r busnes hwnnw, ac eto sut yr ydym yn eu helpu. Ac mae'n gwbl bosibl i fusnesau bach gyflogi prentisiaid. Mae nifer yn gwneud hynny'n barod, ac yn gwneud hynny'n llwyddiannus. Ac felly hoffwn weld mwy o hynny i'w wneud yn haws, ond i wneud yn siŵr bod y cyfleoedd yn rhai go iawn, boed hynny mewn busnesau bach, canolig neu fawr. Ac rwy'n credu bod hynny'n mynd i'r pwynt a wnaed gan Luke Fletcher yn ogystal â galwad yr FSB. A pham ar y ddaear na fyddai'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn galw ar fusnesau bach i gymryd mwy o ran? Yr her sydd gennyf yw sicrhau bod cynnig teg, un sy'n ennyn diddordeb busnesau o bob math sy'n gallu ac yn awyddus i chwarae eu rhan i sicrhau bod y warant yn llwyddiant.
Ac rwy'n credu, gan ymdrin yn fras â'ch pwynt am yr hyn sy'n gynnig ystyrlon i gymunedau, yr hyn sy'n gynnig ystyrlon mewn gwahanol rannau o Gymru—ac fe wnaethoch chi grybwyll rhai o'r heriau yn y Gymru wledig a allai fod yn wahanol i sectorau trefol yng Nghymru, ac eto gwyddom fod rhwystrau sylweddol i bobl mewn gwahanol rannau o ddinas Caerdydd, Abertawe neu Gasnewydd i gael cyfleoedd, ac felly rydym yn edrych nid yn unig ar y rheini ac nid yn unig am heriau yn yr iaith, ond sut rydym yn deall y rhwystrau unigol i ymgysylltu â phobl ifanc unigol. A dyna pam mae'r gefnogaeth a'r cam cyngor mor bwysig iawn, i ddeall, i'r person hwnnw yn y rhan o Gymru maen nhw'n byw ynddi, beth yw'r rhwystrau sy'n eu hwynebu iddyn nhw allu mynd i mewn i waith. Ai gofal plant? Ai'r gallu i gyrraedd man lle mae addysg, hyfforddiant neu waith ar gael? Ai, mewn gwirionedd, bod angen i ni wneud mwy i ddeall yr hyn mae angen i ni ei wneud i wella eu sylfaen sgiliau cyn y gallan nhw fynd i fyd gwaith yn ymarferol?
Felly, mae'r cyfnod cymorth yn bwysig iawn er mwyn gallu gwneud hynny, ac mae'n ddigon posibl y bydd hynny'n edrych yn wahanol os ydych chi'n byw ym Machynlleth o'i gymharu ag os ydych chi'n byw yn Johnstown, o'i gymharu ag os ydych chi'n byw yn y Barri. Bydd gan bob un o'r lleoedd hynny gyd-destun ychydig yn wahanol iddyn nhw; dyna pam rwyf mor hynod o awyddus ein bod yn cael y cyngor a'r cam cyfarwyddyd yn iawn. Os gwnawn hynny'n iawn, rwy'n hyderus y bydd gennym fusnesau sydd eisiau ymgysylltu, bydd gennym ddarparwyr addysg a hyfforddiant sy'n barod ac sydd eisiau ymgysylltu, ac i wneud mwy yn y gofod hwn, ac rwy'n credu y byddwn yn gwneud y peth iawn i bobl ledled y wlad.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae wedi cael ei ddweud droeon o weithiau heddiw, mai pobl ifanc ledled Cymru, yn wir ar draws y DU, yw un o'r grwpiau a gafodd eu taro galetaf o ganlyniad i bandemig COVID-19, ac roedd tair rhan o bump o'r swyddi a gollwyd o ganlyniad i'r pandemig yn swyddi i'r rhai dan 25 mlwydd oed. Felly, yn amlwg, fel pawb arall yma heddiw, rwy'n croesawu lansio gwarant y person ifanc, ac wrth gwrs ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd pob person ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed yn cael cynnig lle mewn cyflogaeth.
Ond mae gan Lywodraeth Cymru hanes amlwg o ran helpu pobl ifanc i fyd gwaith, ar ôl helpu dros 19,000 o bobl ifanc eisoes drwy raglen Twf Swyddi Cymru yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Agwedd bwysig ar y warant yw helpu i sicrhau prentisiaethau a hyfforddeiaethau i'r unigolion hynny y byddai'n well ganddyn nhw ddilyn y llwybr hwnnw. Rwy'n credu bod y rhaglen newydd yn gyfle gwych i adeiladu ar hynny, sydd â'r potensial i ddarparu cyfle gwirioneddol i ehangu cyfleoedd hyfforddi i bobl ifanc yn fy rhanbarth.
Ond rwyf eisiau gofyn am yr anghydbwysedd sydd eisoes yn bodoli yn y swyddi yn y diwydiant adeiladu. Eisoes fe wyddom eu bod yn cael eu dominyddu'n bennaf gan ddynion, bod merched yn cael eu tangynrychioli, a phobl eraill hefyd. Felly, fy nghwestiwn i chi yw hyn: pan edrychwn ar gynnwys pobl yn y warant swyddi, a allem hefyd ystyried darparu cyfle ehangach drwy'r prentisiaethau modern, yn enwedig yn y diwydiant adeiladu hwnnw, a chefnogi'r rhai sy'n darparu'r hyfforddiant a hefyd y cyfle i'w symud ymlaen i'w wneud yn fwy cyfartal, a gwneud eu gweithlu a'u hyfforddeiaethau yn fwy amrywiol?
Diolch i Joyce Watson am dynnu sylw eto at y pwynt mai'r bobl ieuengaf oedd un o'r grwpiau a gafodd eu taro galetaf gan y pandemig, a cholli cyfleoedd gwaith yn y gwaith yr oedden nhw eisoes ynddo a'r effaith uniongyrchol. Yn yr un modd, rwyf innau hefyd yn falch iawn o'r hyn mae Llywodraethau Llafur blaenorol Cymru wedi'i wneud gyda Twf Swyddi Cymru, a'r dros 19,000 o gyfleoedd gwaith yr ydym ni wedi helpu i'w creu a'u cynnal sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Fe welwch fod y gyfradd diweithdra ymysg pobl ifanc yng Nghymru yn cymharu'n ffafriol â rhannau eraill o'r DU, ac yn hollbwysig â gwledydd eraill yn Ewrop nad oedd ganddyn nhw ymyriad mor fwriadol i geisio amddiffyn pobl ifanc rhag y cwymp o'r argyfwng ariannol, i ddechrau, a'r difrod parhaus a wnaed drwy gyni.
Dylwn i gydnabod hefyd, wrth gwrs, fod Joyce Watson wedi bod yn eiriolwr cyson dros Ferched mewn Adeiladu, ac wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau yn y Senedd ar yr union bwnc hwn. Rwyf yn croesawu ei bod yn parhau i hyrwyddo'r mater oherwydd mae'n iawn iddi dynnu sylw at y ffaith, oni bai eich bod yn mynd i wneud rhywbeth am sut mae'r diwydiant yn cael ei weld, na fyddwch yn sicrhau bod mwy o ferched yn mynd i mewn i'r diwydiant. Ac mae hynny'n ymwneud â merched sydd am fynd i mewn i'r diwydiant eu hunain, ond hefyd yn hanfodol y bobl sy'n gwneud y dewisiadau cyflogi hefyd, i gydnabod bod llawer o ferched a allai ac a ddylai gael gyrfa o fewn y sector, oherwydd rwy'n credu bod rhai tybiaethau o hyd ynghylch y math o berson mae angen i chi fod er mwyn bod yn llwyddiannus o fewn gwaith adeiladu. Rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr y diwydiant adeiladu, rwyf i a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cadeirio fforwm ar y cyd â'r diwydiant adeiladu, a byddaf am sicrhau ein bod yn rhagweithiol ynglŷn â'n disgwyliadau a'n cynnig. Rwy'n siŵr y caf wahoddiad gan Joyce Watson i fynychu digwyddiad yn y dyfodol i siarad am hyn yn fanylach, a byddwn yn hapus iawn i wneud hynny, oherwydd mae angen i ni fynd i'r afael â'r amrywiaeth, nid yn unig o safbwynt y ffordd mae Aelodau Llafur yn teimlo, ond y ffordd mae eraill hefyd yn teimlo am gydraddoldeb a chyfle, ond mae gwir wastraff talent nad ydym yn manteisio'n briodol arno ac sy'n cael ei golli i'r diwydiant hwnnw os nad yw'n edrych yn gliriach ar bwy y gallai ac y dylai ei gael, ac ar y ffordd y rhoddir prentisiaethau a sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth a dilyniant. Felly, rwy'n edrych ymlaen at nid yn unig fwy o gwestiynau, ond at sgwrs fanylach gyda'r Aelod ar hynny.
Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Rwyf yn sicr yn croesawu'r amcanion cyffredinol o geisio cael cynifer o bobl ifanc i ymwneud â gwaith, gyda hunangyflogaeth, gyda hyfforddiant neu addysg. Felly, rwyf yn sicr yn croesawu hynny. Rwyf hefyd yn croesawu'r cyfeiriad penodol at geisio cymorth i bobl ifanc i entrepreneuriaeth hefyd. Mae'n wych bod cynifer o bobl ifanc yn dymuno sefydlu eu busnesau eu hunain, a dylai'r cymorth hwnnw fod o fewn y warant hon i'w galluogi i wneud hynny gystal â phosibl.
Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn am natur traws-weithio llawer o'r gwaith hwn gydag adrannau eraill y Llywodraeth, ac mae'n wir, wrth gwrs, fod ysgolion yn chwarae rhan bwysig nid yn unig o ran cyrhaeddiad addysgol amlwg disgyblion, ond hefyd rôl bwysig o ran annog pobl ifanc i ddilyn y llwybr mwyaf priodol iddyn nhw, boed hynny'n waith, hyfforddiant pellach neu, yn wir, i hunangyflogaeth. Synnais yn eich datganiad i beidio â gweld cyfeiriad penodol at y rôl y bydd ysgolion yn ei chwarae wrth gyflawni, neu helpu i gyflawni, y warant hon i bobl ifanc. Felly, efallai y gallech chi amlinellu sut y byddech yn gweld y berthynas honno'n datblygu gydag ysgolion i annog pobl ifanc i ddilyn y llwybr sydd fwyaf priodol iddyn nhw. Diolch.
Rwy'n cofio llawer o ddadleuon ynghylch rôl yr ysgol, ac erbyn i bobl gyrraedd oedran gadael ysgol, y ffaith bod llawer o'ch patrymau bywyd eisoes wedi'u gosod: eich disgwyliadau ynghylch pwy ydych chi, er gwell neu er gwaeth, ond yn hollbwysig hefyd, y ffordd rydych chi'n gweld eich hun a p'un a ydych chi'n credu bod gyrfa yn opsiwn realistig i chi. Nid yw llawer o bobl o reidrwydd wedi diystyru gyrfaoedd a chyfleoedd yn ymwybodol, ond mae'n ymwneud yn rhannol â'r hyn sy'n digwydd yn yr ysgol ond hefyd y tu allan i'r ysgol hefyd—y pwynt am ddyhead a disgwyliad ohonoch chi eich hun, i'ch cymuned hefyd. Dyna pam yr wyf i'n credu ei bod yn bwysig bod y rhaglen profiad gwaith yr ydym eisoes wedi'i chynnal—ac, mewn gwirionedd, mae eich cyd-Aelod Paul Davies wedi cyfeirio at hyn—ynghylch ceisio cael cyfleoedd gan fusnesau a siaradwyr i ysgolion yn fwriadol i dynnu sylw at yr amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael.
Ond mae hefyd yn mynd wedyn at gwestiwn a phwynt Joyce Watson am sut rydych chi'n gweld gyrfaoedd ac nid diystyru eich hun, ond y busnesau eu hunain yn ei gwneud yn glir bod gyrfaoedd i bawb yn eu sector. Ac mae'n bwysig i fwy o'r realiti hwnnw o ddewis, nid yn unig y posibilrwydd damcaniaethol ohono, ond realiti dewis gwirioneddol i chi ei wneud o'r math o yrfaoedd, ond i ddeall yr hyn mae angen i chi ei wneud i'w gyflawni. Dyna pam mae'r pwynt am hyfforddeiaethau a chymwysterau amgen mor hynod o bwysig, oherwydd mae rhai pobl yn gadael yr ysgol heb gymwysterau academaidd gwych. Ond mewn gwirionedd, gall y bobl hynny barhau i gael gyrfaoedd llwyddiannus iawn mewn rhannau eraill o'r economi, a dyna pam, unwaith eto, fod y cyngor, y canllawiau a'r elfen gymorth o'r warant mor bwysig iawn.
Ac, wrth gwrs, mae hynny'n golygu gweithio gydag ysgolion, gweithio gyda'r cyngor y gwyddom y maen nhw'n ei ddarparu i bobl ifanc, ond fel y dywedais i, gwneud yn siŵr bod amrywiaeth o ddewisiadau a chyfleoedd sy'n wirioneddol i'r holl bobl hynny am y mathau o sgiliau sydd ganddyn nhw, yn hytrach na dweud wrth bobl beth na allan nhw ei wneud, edrych ar yr hyn y gallan nhw ei wneud, a ble mae hynny'n caniatáu iddyn nhw fod yn llwyddiannus mewn bywyd. Ac, wrth gwrs, mae byd gwaith yn rhan bwysig o hynny.
Gweinidog, rwyf yn croesawu'n fawr y datganiad heddiw, yn enwedig y warant ei hun. Wedi'r cyfan, Llywodraeth Lafur Cymru a gefnogodd fy llwybr drwy fy mhrentisiaeth mewn menter fach a chanolig leol yng Nglannau Dyfrdwy. A byddwch chi'n ymwybodol iawn bod Airbus UK yn fy etholaeth i yn gyflogwr enfawr i brentisiaid a hyfforddeion graddedig, ac mae ymrwymiad Airbus a'i hyblygrwydd dros y pandemig wedi gwneud argraff arbennig arnaf, sydd wedi parhau i gynnig profiad gwaith i fyfyrwyr o Gymru rhwng 14 a 19 oed. Rwy'n credu bod dros 3,500 o fyfyrwyr bellach wedi cwblhau'r rhaglen honno ar-lein—cyflawniad gwych.
Nawr, byddwch yn gwybod cystal â mi, Gweinidog, mae'r cwmni wedi datgan yn gyhoeddus mai eu huchelgais byd-eang yw arwain y gwaith o ddatgarboneiddio'r sector awyrofod, gydag ymrwymiad i weithgynhyrchu awyren jet masnachol di-allyriadau cyntaf y byd erbyn 2035. Nawr, mae hynny'n gam pwysig iawn yno. Gall Cymru arwain y ffordd, ond bydd angen cenedlaethau'r dyfodol arnom i helpu i gyflawni hynny. Gweinidog, a allwch chi amlinellu sut y gallwch gefnogi cyflogwyr fel Airbus a chyflogwyr tebyg yn y sector hwn fel rhan o'r warant hon, gan sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf y sgiliau sydd eu hangen i ddylunio, datblygu a chynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion carbon niwtral?
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n credu ei fod yn enghraifft ymarferol iawn o ble rydym eisoes yn ymwneud â chefnogi cyflogwr mawr, ond o edrych ar sector sy'n darparu swyddi sy'n talu'n dda iawn. Mae'r buddsoddiad yr ydym wedi'i wneud yn fwy o sgiliau yn gyffredinol, ac rwy'n falch o glywed yr Aelod yn cyfeirio at y ffaith mai cyllid Llafur Cymru a'i helpodd i gyflawni ei brentisiaeth ei hun, a'i lwybr ei hun drwodd i fod yn beiriannydd, ac mae mwy o'r bobl hynny mewn safleoedd fel Airbus ledled y wlad. Nawr, yn ogystal â'r genhedlaeth newydd—rwyf wedi cwrdd â phrentisiaid newydd pan rwyf wedi bod ar ymweliad â'r safle ym Mrychdyn—mae hefyd yn ymwneud â'r buddsoddiad yn y gweithlu sydd yno eisoes, ac mae'n rhaid i hynny fod yn bartneriaeth rhwng y Llywodraeth a'r sectorau, ac weithiau gyda busnesau unigol.
Felly, rydym wedi buddsoddi yn y gorffennol mewn rhaglen sgiliau. Mae sgyrsiau rhwng y Llywodraeth a'r cwmni am yr hyn y gallem ni allu ei wneud yn y dyfodol, oherwydd rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod hwn yn sector sydd ar hyn o bryd yn cyfrannu at ein heriau gyda'r amgylchedd. Gwyddom y bydd angen i ni fynd drwy o leiaf ychydig gamau i gyrraedd sero-net go iawn. Mae'r pwynt ynghylch bod â thanwyddau hedfan mwy cynaliadwy, ac mae Airbus ac eraill yn buddsoddi yn hynny, a fydd yn arwain at ddatgarboneiddio sylweddol. Mae cam arall y tu hwnt, ac mae hynny'n ymwneud â'r tanwydd sy'n cael ei ddefnyddio a hefyd am y gweithgynhyrchu a pha mor ysgafn yw'r awyren ei hunan. Mae Airbus eisoes yn cymryd camau ymlaen ar hynny ac yn hollbwysig mae angen mwy o ymchwil, datblygu ac arloesi, a'r ffordd y gallwn ariannu a chefnogi a fydd yn hanfodol i'r sector—y sector hwn, ond llawer o rai eraill hefyd. Rwy'n credu ei fod yn enghraifft dda o faes llwyddiannus, gwerth uchel o'r economi yr ydym am ei weld yn parhau i fod yn llwyddiannus, a bydd ein gwaith ochr yn ochr â'r cwmni a'r sector yn hanfodol wrth wneud hynny.
Ac, yn olaf, James Evans.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am eich datganiad a rhoi clod lle mae'n ddyledus. Rwy'n croesawu'r warant i bobl ifanc hon gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu ei bod yn dda iawn ein bod ni'n mynd i gynnig gwaith, addysg a hyfforddiant i bobl dan 25 oed, a chyfleoedd i'r bobl hynny ddod yn hunangyflogedig.
Fodd bynnag, mae gennyf i gwpl o gwestiynau, a gobeithio y gallwch chi eu hateb. Gofynnodd fy nghyd-Aelod Paul Davies i chi am y cymorth a oedd yn mynd i gael ei ddarparu i bobl ifanc i sefydlu eu busnesau eu hunain, ac mae hynny'n rhwystr mawr i lawer o bobl pan fyddan nhw eisiau dechrau eu busnesau eu hunain—cyfle i fanteisio ar gyllid. Nid oeddwn i'n credu eich bod chi wedi ateb y cwestiwn hwnnw gan Paul Davies, ac os wnewch chi amlinellu pa gymorth fydd ar gael, byddwn i'n ddiolchgar iawn.
Yn olaf, o ran prentisiaethau ac addysg bellach, mae'r partneriaethau dysgu a sgiliau rhanbarthol yn mynd i chwarae rhan allweddol yn eich helpu chi i ddatblygu'r polisi hwn wrth symud ymlaen, felly a wnewch chi amlinellu, Gweinidog, pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda'r partneriaethau dysgu a sgiliau rhanbarthol a sut y byddan nhw'n gweithio gyda chi i ddatblygu'r cynllun hwn? Diolch.
Gwnaf, rwy'n hapus i wneud hynny. Gwnes i ymdrin â chwestiwn Paul Davies mewn gwirionedd, gan i mi nodi y byddai gennyf i gyhoeddiad arall i'w wneud ar fanylion y cymorth hwnnw, ond nodais i hefyd fy mod i'n edrych ar arfer blaenorol a oedd wedi cael rhywfaint o lwyddiant ar nifer o grantiau cychwyn, yn ogystal â'r cymorth busnes a gaiff ei ddarparu hefyd. Nid yr arian yn unig ydyw; ond y gefnogaeth a'r arweiniad y mae pobl yn eu cael wrth iddyn nhw geisio sefydlu eu busnes eu hunain, yn enwedig pobl sy'n sefydlu busnes am y tro cyntaf. Un o'r ffactorau allweddol yn rhai o'r heriau o fewn y farchnad lafur ar hyn o bryd yw ein bod ni wedi gweld llawer o fusnesau bach yn rhoi'r gorau i fasnachu ledled y DU. Nid dim ond her yma yng Nghymru ydyw. Gwyddom ni fod hynny'n rhan allweddol o dyfu a chael economi lwyddiannus: twf busnes newydd a nifer y bobl sy'n cynnal busnesau bach llwyddiannus. Bydd gennyf i fwy i'w ddweud, ond nid wyf i eisiau ceisio rhagfarnu cyhoeddiad a fydd yn dod yn yr wythnosau i ddod.
Fodd bynnag, o ran partneriaethau sgiliau rhanbarthol, maen nhw eisoes yn mynd i arwain gweithgareddau ymgysylltu. Gwnes i ymdrin â hyn yn rhan o'r datganiad. Maen nhw'n mynd i weithio gyda'r busnesau a'r rhanddeiliaid, felly busnesau a darparwyr cymwysterau, sgiliau, addysg a hyfforddiant. Maen nhw'n mynd i gynnal o leiaf dau ddigwyddiad ym mhob un o'r rhanbarthau, ac maen nhw'n mynd i gasglu ynghyd a gweithio gyda fy swyddogion i ddeall pa adborth busnes sydd, pa adborth gan ddarparwyr sydd, a byddwn ni'n ceisio sicrhau bod hynny'n cyd-fynd â'r ymgysylltiad uniongyrchol sydd gennym ni â phobl ifanc hefyd, i geisio sicrhau ein bod ni'n deall yr hyn sydd ei angen o fewn y rhanbarth penodol hwnnw ar gyfer yr heriau sgiliau sydd ganddyn nhw, a'r ffordd orau o gwrdd â hynny. Ond wrth gwrs mae hyn yn dod yn ôl at ein gallu i wneud hynny; rydym ni'n dal i ddibynnu ar ein dealltwriaeth o ble mae'r cyllid. Os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gael ei heithrio rhag ariannu hynny yn y ffordd yr ydym ni wedi'i wneud yn gyson ers 20 mlynedd, yna'r lleiaf y byddem ni'n ei ddisgwyl yw bod yr addewidion maniffesto sydd wedi'u gwneud, ar beidio â bod ar ein colled o ran unrhyw ran o'r cyllid hwnnw, wir yn cael eu cyflawni. Mae arnaf i ofn, ar hyn o bryd, nad yw setliad y gyllideb gan Lywodraeth y DU yn rhoi hyder i ni y bydd hynny'n digwydd. Felly, mae her wirioneddol yma, yn y symiau o arian ond yna sut y caiff yr arian ei ddefnyddio. Ac ar sut y byddem ni eisiau i'r arian gael ei ddefnyddio, mae gennym ni ffordd dda o weithio gyda phartneriaid, ac rwy'n falch o'ch gweld yn tynnu sylw at y rhan sydd gan bartneriaethau sgiliau rhanbarthol, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n ffordd bwysig iawn y gallwn ni wneud busnes yn gywir yma yng Nghymru.
Diolch, Weinidog.
Yr eitem olaf heddiw yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar ddiweddariad ar y comisiwn cyfansoddiadol. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mis diwethaf, gwnes i gyhoeddi penodiad dau gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Rwy'n hapus iawn i allu dod yn ôl i'r Senedd i gyhoeddi penodiad y comisiynwyr.
Mae pob comisiynydd yn cynnig cryfderau, gwybodaeth, profiad a safbwyntiau gwahanol. Maen nhw'n dod o bob cwr o Gymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae pob un wedi'i ddewis am y cyfraniad y gall ei wneud. Maen nhw'n gallu trin cyfraith ac ymarfer cyfansoddiadol a hefyd effaith ymarferol diwygiadau. Mae ganddyn nhw brofiad go iawn o gwestiynau fel, 'Sut fydd y diwygiadau hyn yn effeithio ar bobl?', 'Beth fydd yr effaith ymarferol?', 'Beth allwn ni ei ddysgu o brofiad gwledydd eraill, mewn cyfnodau eraill a llefydd eraill?'
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Gyda'i gilydd, maen nhw'n cynrychioli'r manylrwydd academaidd traddodiadol a'r safbwyntiau gwahanol newydd y bydd eu hangen ar y comisiwn i feddwl yn greadigol ac yn radical ynghylch dyfodol Cymru. Rwy'n croesawu'r ymgysylltiad adeiladol y gallwn ni ei gael gyda phleidiau eraill yn y Senedd, wrth i ni geisio datblygu aelodaeth y comisiwn, ac rwy'n falch bod yr aelodaeth yn cynnwys amrywiaeth o safbwyntiau gwleidyddol.
Mae'n bwysig bod y comisiwn yn gallu adlewyrchu dinasyddion Cymru yn briodol yn eu holl amrywiaeth. Rwyf i wrth fy modd yn gallu cyhoeddi penodiad comisiynwyr gyda chynifer o brofiadau, ac o gynifer o gefndiroedd a chymunedau. Rwy'n ffyddiog bod gennym ni gomisiwn ar waith a all ddatblygu map ffordd ar gyfer Cymru well—Cymru fwy cyfiawn a Chymru fwy cynaliadwy.
Heb oedi ymhellach, ac nid mewn unrhyw drefn benodol, dyma'r naw comisiynydd a fydd yn ymuno â Dr Rowan Williams a'r Athro Laura McAllister ar y comisiwn annibynnol. Mae Dr Anwen Elias yn ddarllenydd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gwleidyddiaeth diriogaethol a chyfansoddiadol gymharol, pleidiau gwleidyddol a democratiaeth gydgynghorol. Mae hi'n gyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru.
Mae Lauren McEvatt yn gyn-gynghorydd arbennig Ceidwadol Llywodraeth y DU i Swyddfa Cymru o weinyddiaeth y glymblaid, lle bu'n gweithio ar gomisiwn Silk a Deddf Cymru 2014. Ers hynny, mae hi wedi gweithio i sawl Llywodraeth ledled dwyrain Affrica a'r Caribî ar ddiwygio cyfansoddiadol, masnach a buddsoddi.
Roedd Kirsty Williams, nad oes angen ei chyflwyno yn y lle hwn, yn Aelod o'r Senedd tan fis Ebrill diwethaf a'r Gweinidog Addysg yn ystod y pumed Senedd. Daeth yn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ym mis Rhagfyr 2008 ac ar y pryd, hi oedd arweinydd benywaidd cyntaf unrhyw un o bedair prif blaid wleidyddol Cymru.
Albert Owen yw cyn AS Llafur Ynys Môn rhwng 2001 a 2019. Yn ystod ei gyfnod yn Senedd San Steffan, bu'n aelod o'r Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, y Pwyllgor Materion Cymreig a'r Pwyllgor Datblygu Rhyngwladol.
Shavanah Taj yw ysgrifennydd cyffredinol du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig cyntaf TUC Cymru. Mae Shavanah yn ymgyrchydd brwd ac yn aml mae modd dod o hyd iddi hi'n cyfrannu areithiau mewn dadleuon bord gron a gorymdeithiau protest ar faterion megis gwrth-hiliaeth, pontio teg, newid hinsawdd, hawliau dynol, hawliau menywod, cyflog teg a gwaith teg.
Bu Philip Rycroft yn was sifil am 30 mlynedd. Gweithiodd ar lefel uwch i'r Llywodraeth ddatganoledig yn yr Alban cyn symud i Swyddfa'r Cabinet yn Llundain lle bu'n arwain gwaith y gwasanaeth sifil i Lywodraeth y DU ar gyfansoddiad a datganoli. Ei swydd ddiwethaf oedd Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Mae Michael Marmot yn Athro epidemioleg ac iechyd y cyhoedd yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac yn gyfarwyddwr Sefydliad Ecwiti Iechyd UCL. Mae'r Athro Marmot wedi arwain grwpiau ymchwil ar anghydraddoldebau iechyd ers dros 40 mlynedd. Cadeiriodd gomisiwn Sefydliad Iechyd y Byd ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd, nifer o gomisiynau rhanbarthol Sefydliad Iechyd y Byd, ac adolygiadau ar ymdrin ag anghydraddoldeb iechyd i Lywodraethau yn y DU.
Mae Miguela Gonzalez yn ymarferydd amrywiaeth a chynhwysiant ac yn gyn-newyddiadurwr. Bu'n gweithio i'r BBC am 15 mlynedd, yn fwyaf diweddar fel arweinydd amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer y cenhedloedd. Ar hyn o bryd mae'n gweithio i gwmni gwyddor bywyd Abcam, lle mae hi'n gweithio i ddatblygu diwylliant agored a chynhwysol. Mae Miguela wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu prosiect Cyswllt Diwylliant Cymru ac mae hi hefyd wedi bod yn ddarlithydd gwadd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd.
Yn olaf, Leanne Wood, cyn Aelod o'r Senedd dros y Rhondda a chyn Arweinydd Plaid Cymru. Yn arweinydd benywaidd cyntaf ei phlaid, mae hi'n dod â gwledd o brofiad gwleidyddol ac mae ganddi hi ymrwymiad hirsefydlog i faterion cyfiawnder cymdeithasol.
Bydd y comisiynwyr yn cael eu cefnogi gan banel arbenigol, a fydd yn dechrau cael eu penodi yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd aelodau'r panel yn dod ag arbenigedd mewn llywodraethu, y gyfraith, cyfansoddiad, economeg, cyllid a mwy o feysydd gwybodaeth sy'n hanfodol i gwestiynau am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Bydd y comisiwn yn cynnal ei gyfarfod cyntaf ar 25 Tachwedd, pan fydd y Prif Weinidog a minnau'n bresennol i groesawu'r comisiynwyr ac i nodi'r amcanion. Ar ôl hynny, bydd y comisiwn yn rhydd i gyflawni ei gylch gwaith yn annibynnol ar gyfarwyddyd y Llywodraeth. Rwy'n annog bob un ohonom ni i fanteisio ar y cyfle i ymgysylltu â'r comisiwn ac i ymuno yn y sgwrs genedlaethol. Diolch, Llywydd.
Diolch, Gweinidog, am rybudd ymlaen llaw o'ch datganiad. Fel y gwyddoch chi, nid yw Ceidwadwyr Cymru yn credu y dylai bwrw ymlaen â'r comisiwn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym ni'n credu bod gennych chi bethau pwysicach o lawer i'w hystyried, a dweud y gwir, o ran cael ein heconomi'n ôl ar y trywydd cywir, cael ein gwasanaeth iechyd yn ôl ar y trywydd cywir, a chael ein system addysg yn ôl ar y trywydd cywir ar ôl y pandemig. Ond nid ydych chi wedi gwrando ar y cyngor hwnnw. Rydych chi wedi mynd ymlaen ac wedi sefydlu eich comisiwn beth bynnag, sy'n siomedig yn fy marn i. Er hynny, rydym ni bob amser wedi dweud y byddem ni'n cymryd rhan yn hyn, a'i bod yn bwysig cael llais canol-dde o amgylch y bwrdd. Dyna pam yr ydym ni wedi enwebu Lauren McEvatt, a fydd, rwy'n siŵr, yn gwneud cyfraniad cadarnhaol iawn i'r trafodaethau hynny.
Rhaid i mi ddweud, ar ôl gwrando ar y geiriau yr ydych chi wedi'u traethu yn y gorffennol a'u cymharu â'r hyn yr ydych chi wedi'i gyflawni heddiw o ran cyfansoddiad y comisiwn, fy mod braidd yn siomedig. Gwnaethoch chi ddweud nôl ym mis Gorffennaf fod yn rhaid i aelodau'r comisiwn hwn gynrychioli pob oedran a chael eu tynnu o'r amrywiaeth ehangaf bosibl o sectorau mewn cymdeithas ddinesig—sefydliadau cyhoeddus, preifat, trydydd sector, y sector dinesig a sefydliadau ar lawr gwlad a phartneriaid cymdeithasol. Nid wyf i'n gweld llawer o'r sector preifat ar y rhestr hon. Nid wyf i'n gweld llawer o'r trydydd sector ar y rhestr hon. Nid wyf i'n gweld unrhyw sefydliadau ar lawr gwlad ar y rhestr hon chwaith. Rwy'n credu, felly, nad yw'n mynd i fod yn gwbl gynrychioliadol o ran y gwaith y mae'n ei wneud.
Rydym ni hefyd, wrth gwrs, wedi cwestiynu doethineb un o'r cyd-gadeiryddion sy'n cael ei benodi, gyda'r unigolyn penodol hwnnw'n gyn-ymgeisydd seneddol Plaid Cymru. Ond, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth yr ydych chi wedi penderfynu ei benodi. Rydych chi wedi gwneud y penderfyniadau hyn heb unrhyw ymgynghori â fy mhlaid i na phleidiau gwleidyddol eraill yn y Siambr hon, ac eithrio gwahodd un enwebiad o amgylch y bwrdd. Felly, nid wyf i'n credu, mewn gwirionedd, fod cyfansoddiad y comisiwn penodol hwn yn ddigon eang, fel yr oeddech chi wedi bwriadu iddo fod yn wreiddiol.
Gwnes i ofyn rai cwestiynau i chi hefyd pan wnaethoch chi ddatganiad y mis diwethaf o ran y comisiwn. Gofynnais i faint yr oedd y comisiwn hwn yn mynd i gostio. Ni wnaethoch chi ateb y cwestiwn hwnnw. Gwnaethoch chi ddweud y byddech chi'n dod yn ôl ac yn ei ateb. Rydych wedi cael cyfle i roi mwy o gnawd ar yr esgyrn heddiw, o ran cost bosibl y comisiwn hwn. Mae gennym ni gyllideb Llywodraeth Cymru yn codi ymhen ychydig wythnosau. Felly, fe fyddwn i wedi tybio y byddech chi wedi gwneud rhywfaint o waith cartref, wedi cael y cyfrifiannell allan, ac wedi penderfynu mewn gwirionedd faint y mae'r peth hwn yn mynd i gostio yn ystod y ddwy flynedd nesaf, oherwydd dyna, wrth gwrs, yw'r cyfnod yr ydych chi wedi'i roi iddo. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni heddiw: beth yw'r lwfansau a fydd yn cael eu talu i'r cyd-gadeiryddion? Beth yw'r lwfansau a fydd yn cael eu talu i aelodau'r comisiwn? A ydyn nhw'n cael eu talu swm penodol, neu a yw ar sail fesul cyfarfod? Sut mae'r peth hwn yn mynd i weithio mewn gwirionedd? Rwy'n credu bod gan bobl ddiddordeb. Mae gan y cyhoedd ddiddordeb yn hynny.
Rwy'n credu hefyd fod gennym ni ddiddordeb mawr mewn pwy fydd y panel arbenigol o gynghorwyr. Rydych chi wedi dweud eich bod chi'n mynd i amlinellu enwau'r panel arbenigol maes o law, ac yr wyf i'n falch o glywed hynny. Ond, a gaf i awgrymu, o ystyried diffyg ehangder ac amrywiaeth y comisiwn ei hun, efallai y gallwch chi gynnwys hynny yn y panel arbenigol, wrth symud ymlaen, fel y gallwn ni sicrhau bod yr amrywiaeth y mae pawb eisiau ei weld yn cyfrannu at y broses hon?
Yn olaf, rwyf i eisiau gwneud y pwynt hwn, os caf i. Rydych chi a minnau'n amlwg yn cydnabod bod materion cyfansoddiadol, o ran dyfodol y DU, yn faterion i'r Deyrnas Unedig gyfan, nid un rhan gyfansoddol yn unig, fel yw Cymru. Felly, mae'n bosibl y bydd cael y sgwrs hon ar ei phen ei hun, heb gael trafodaethau ehangach ar sail y DU, yn eithaf ofer. Felly, a gaf i ofyn: pa drafodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chael gyda Llywodraeth y DU, gyda Llywodraeth yr Alban, gyda Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ynghylch y ffordd y bydd y comisiwn hwn yn ymgymryd â'i waith a sut y gall gyfrannu at ddarn ehangach o waith, a fydd, yn amlwg, angen ei wneud ledled y DU os bydd unrhyw obaith y bydd hyn yn ymarfer ystyrlon? Diolch.
A gaf i ddiolch i chi am y pwyntiau yna? Maen nhw i gyd yn bwyntiau dilys ac yn codi materion pwysig—materion yr ydym ni wedi bod yn rhoi llawer o ystyriaeth iddyn nhw yn ystod y misoedd diwethaf, ac sydd wedi bod yn destun cryn drafodaeth.
Yn gyntaf ar y cyfansoddiad, mae'r cyfansoddiad wrth wraidd bron popeth sy'n digwydd ar hyn o bryd: Brexit, y cytundeb masnach a chydweithredu, Gogledd Iwerddon, erthygl 16, digwyddiadau yn yr Alban, yr effaith o ran Gogledd Iwerddon, cysylltiadau â Gweriniaeth Iwerddon, ac ati. Rwy'n credu mai'r broblem ynghylch y cyfansoddiad, rwy'n tybio, yw defnyddio'r gair 'cyfansoddiad', yn hytrach na defnyddio'r holl sefydliadau ac ysgogiadau pŵer a llywodraethu sy'n effeithio cymaint ar fywydau pobl. Mae'n rhywbeth sy'n hanfodol bwysig. Rwyf i, wrth gwrs, yn deall eich barn chi, er nad safbwynt Llywodraeth y DU ydyw, wrth gwrs, sy'n ymgysylltu, yn gyfansoddiadol, o ddydd i ddydd. Mae gennych chi lu o Weinidogion y mae ymdrin â materion sy'n ymwneud â'r cyfansoddiad yn brif swyddogaeth iddyn nhw.
O ran ei ehangder a'i amrywiaeth, rwy'n credu bod gennym ni gomisiwn eang iawn ac amrywiol iawn gydag amrywiaeth sylweddol ac eang o sgiliau. Yn sicr mae'n wir—. Mae llawer o ystyried wedi bod, ac mae llawer o enwau wedi'u hystyried, a sgiliau, a'r ffaith a fyddai pobl ar gael, a fyddai pobl yn gallu cyfrannu, ac ati, a sut y byddai hynny'n rhyngweithio â'r broses ymgysylltu, ac ati. Ond yr hyn sydd gennym ni yn fy marn i yw comisiwn sy'n eang iawn, yn fedrus iawn, ac rwy'n credu bod ganddo'r holl sgiliau y bydd eu hangen. Mae'n wir, wrth gwrs, ei bod yn anodd iawn, iawn, gydag 11 o bobl—naw unigolyn a dau gyd-gadeirydd—i gynnwys yr holl fathau o sgiliau ac amrywiaeth yr ydych chi eisiau'u cael. Yn y pen draw mae gennych chi gomisiwn sy'n mynd yn rhy fawr ac yn rhy fiwrocrataidd.
Mae hynny'n arwain mewn gwirionedd at y pwynt arall y gwnaethoch chi ei godi, sef mater y panel arbenigol, rwy'n credu. Wrth gwrs, mae gwaith sy'n mynd rhagddo o ran hynny ac, wrth gwrs, mae'n rhaid ymgysylltu ynghylch hynny â'r cyd-gadeiryddion ac, yn wir, ag aelodau'r comisiwn nawr, a hefyd sicrhau'r hyblygrwydd. Felly, rydych chi'n iawn; o ran busnes, o ran cyllid, a'r sgiliau hynny, yr ydym ni wedi meddwl yn ofalus iawn am hyn, a gwn i fod y cyd-gadeiryddion ac aelodau'r comisiwn yn dechrau meddwl yn ofalus iawn am y rheini hefyd. Ond rwy'n credu mai'r hyblygrwydd a fydd yn y system yw'r gallu i ddod ag arbenigwyr i mewn yn ôl yr angen mewn meysydd penodol. Er enghraifft, bydd y rhaglen waith sydd gan y comisiwn, i ryw raddau, yn pennu rhai o'r arbenigwyr penodol iawn y mae angen eu cynnwys. Felly, rwy'n credu y bydd cael y math yna o hyblygrwydd ynddo a'r ffordd y mae'n gweithio yn bwysig. Ond, fel yr wyf yn dweud, mae llawer mwy o feddwl yn mynd i mewn i hynny.
Mae hynny wedyn hefyd yn arwain at y mater ynghylch yr holl sectorau eraill ac ati, a'r broses ymgysylltu. Rwy'n credu, os gwnewch chi gymryd y tri hynny gyda'i gilydd, mae gennych chi rywbeth sydd nid yn unig, rwy'n credu, yn uchel iawn ei broffil, yn fedrus iawn, ond sydd â'r gallu, rwy'n credu, i gyrraedd pob twll a chornel o'n cymdeithas a'n cymunedau a'n sefydliadau, a chael yr ymgysylltiad hwnnw. Ac, mewn sawl ffordd, y broses ymgysylltu yw'r darn pwysicaf bron—sicrhau bod hynny'n gweithio. Rwyf i wedi dweud hynny droeon hefyd.
O ran y gost a'r gyllideb, dim ond i ddweud yn gyntaf oll, mae'r telerau o ran cyflogi aelodau'r comisiwn mewn gwirionedd yn eithaf safonol ledled y DU mewn comisiynau o'r math penodol hwn. Mae'r costau a'r cyllidebu llawn ac ati yn dal i gael eu cyfrifo, ac, wrth gwrs, bydd datganiad cyllideb, felly bydd cyfle adeg hynny. Byddaf i'n ysgrifennu gyda manylion eraill, ond nid oes gennyf i'r manylion llawn hynny ar hyn o bryd.
O ran y DU gyfan, gadewch i ni wneud un peth yn glir: comisiwn Cymru yw hwn, ac wrth gwrs bydd yn rhaid iddo ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Bydd yn rhaid iddo ymgysylltu â chomisiynau sy'n digwydd ym mhobman, ond rwyf i wedi amlinellu o'r blaen yr anhawster sylweddol yr ydym ni wedi'i gael yn ymgysylltu o gwbl â Llywodraeth y DU ar faterion diwygio cyfansoddiadol sylfaenol. Mae gennym ni anhawster gyda Llywodraeth y DU gan ei bod hi'n ei chael hi'n anodd iawn hyd yn oed i ddefnyddio'r term 'Llywodraeth ddatganoledig', ac rwy'n credu bod hynny'n dweud rhywbeth wrthych chi, o bosib.
Ond, edrychwch, mater i'r comisiwn fydd hyn. Unwaith y bydd y comisiwn wedi'i lansio'n ffurfiol nawr ar y pumed ar hugain, bydd yn datblygu ei gynllun gweithredu ei hun, ei broses ymgysylltu ei hun. Ac rwyf i wedi dweud droeon yn y Senedd hon y byddwn i'n disgwyl iddo ymgysylltu a defnyddio pob cyfle sydd o ran cyflawni ei waith, ymgysylltu er budd Cymru, a chyflwyno safbwyntiau a gweithio tuag at lunio adroddiad interim yn y pen draw ac yna adroddiad llawn.
Hoffwn i ddiolch i chi, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, am eich datganiad heddiw.
Nid oes amheuaeth nad yw datganoli yng Nghymru wedi bod yn daith; mae hi wedi bod yn un hir. Os meddyliwch chi amdani am eiliad, gan wisgo eich hetiau amgylcheddol, fel taith reilffordd o Lundain—a bydd y Llywydd yn falch o hyn—i Aberystwyth. Nawr, ychydig iawn sydd eisiau i ni aros yn Paddington. Mae llai fyth eisiau rheolaeth uniongyrchol gan lywodraethwr tebyg i John Redwood mewn swyddfa yn Whitehall, er bod ambell un acw ar feinciau'r Ceidwadwyr eisiau mynd yn ôl i oes y trenau stêm a throi datganoli yn ei ôl. Mae'r rhan fwyaf ohonom ni yma, ac yng Nghymru, eisiau mynd yn ein blaenau ar frys, tân arni, ar y daith ddatganoli—gobeithio, Llywydd, ymlaen i Aberystwyth mewn trên trydan, drwy gefn gwlad Cymru, gan osgoi etholaethau rhai Aelodau Seneddol Torïaidd gwrth-Senedd yn Swydd Amwythig ar y ffordd.
Yn wahanol i Darren Millar, rwy'n croesawu penodiad y comisiynwyr. Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, ni allwn ni gynnwys pawb, ac rydym ni i gyd yn gwybod pwy fyddai'r cyntaf i gwyno pe bai gormod o gomisiynwyr yn cael eu penodi.
Mae hwn yn gasgliad trawiadol iawn o gomisiynwyr, gyda phrofiad helaeth ac eang. Rwy'n falch iawn mai hwn yw'r comisiwn mwyaf amrywiol rŷn ni wedi'i weld hyd yn hyn yng Nghymru, ac mae'n galonogol gweld mwy o fenywod na dynion yn aelodaeth y comisiwn. Os caf i enwi rhai aelodau yn benodol: Dr Anwen Elias—mae hi'n dod â phrofiad helaeth ac academaidd ychwanegol i'r comisiwn. Mae hi wedi ysgrifennu'n ddiweddar yn The Welsh Agenda, gyda'i chydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, am yr her o gynnwys pobl tu hwnt i'r wynebau arferol yn ein sgwrs genedlaethol i sicrhau bod y comisiwn mor gynhwysol â phosib. Rwy'n mawr obeithio y bydd modd defnyddio rhai o'r ffyrdd arloesol mae Dr Anwen Elias a'i chydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi'u treialu dros yr haf. Ond, wrth gwrs—
—Cwnsler Cyffredinol, mae democratiaeth fwy cydgynghorol yn costio arian. Felly, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ymrwymo i sicrhau bod gan y comisiwn ddigon o adnoddau i alluogi'r sgwrs ehangach yr ydym ni eisiau iddi ddigwydd, i ddigwydd?
Mae croeso i Lauren McEvatt, enwebai'r Ceidwadwyr, ac, yn amlwg, Ceidwadwr adeiladol. Mae gennym ni rai ohonyn nhw ar ôl o hyd. Ac mae ganddi gryn brofiad o gomisiwn Silk. Er gwaethaf y dwndwr acw gan Darren Millar ac eraill, rwy'n falch—[Torri ar draws.]—rwy'n falch bod y Ceidwadwyr yn cymryd rhan yn y comisiwn hwn.
Mae penodiad Shavanah Taj, ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru, i'w groesawu'n arbennig fel llais gweithwyr yng Nghymru. Ac mae hyn yn addas, onid yw, oherwydd yr oedd creu TUC Cymru yn 1974 yn gam pwysig ar daith ddatganoli. Roedd TUC Cymru ar y blaen pan ddaeth i ddatganoli, a chymerodd ychydig o amser i eraill ddal i fyny.
Rwyf i hefyd yn croesawu penodiadau Albert Owen a Kirsty Williams, ond yn arbennig felly fy rhagflaenydd yng Nghanol De Cymru Leanne Wood. Meddyliwch pa mor bell yr ydym ni wedi dod ar y daith hon. Pan gafodd Kirsty Williams a chi, Llywydd, a'r Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol hefyd eich ethol, yma am y tro cyntaf, yn 1999, corff corfforaethol oedd hwn. Pan gafodd Leanne ei hethol am y tro cyntaf, yn 2003, cafodd ei hethol i gorff nad oedd yn Senedd ddeddfwriaethol sylfaenol, a heb unrhyw bwerau i godi trethi. Roedd Leanne Wood wedi pwyso'n gyson am welliannau o fewn ein setliad datganoli. O'i phapur, 'Gwneud ein Cymunedau'n fwy Diogel' yn 2008, yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol, i'r 'Cynllun Gwyrdd i'r Cymoedd', yn argymell i Gymru gael pwerau dros Ystad y Goron, ac yna 'Y newid sydd ei angen', pryd y cyflwynodd hi agenda radical ar gyfer sicrhau bod penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn cael eu penderfynu yma yng Nghymru yn nwylo pobl Cymru. Fel y dywedodd hi heddiw, gyda'r Alban yn debygol o benderfynu ar ei dyfodol ei hun yn ystod y blynyddoedd nesaf, mae hwn yn gyfle i bobl Cymru gael y sgwrs fwyaf am ein dyfodol fel cenedl nag a gawsom ni erioed. Ac mae Leanne Wood yn gywir yn y fan yna, ac mae'r sgwrs honno'n hanfodol bwysig. Rydym ni'n byw mewn oes cyfryngau cymdeithasol sy'n polareiddio safbwyntiau ac yn pwysleisio drwgdeimlad cilyddol. Dyna pam y mae sgwrs mor bwysig, fel ein bod ni'n gwrando'n astud ar eraill, yn enwedig ar rai sydd â safbwyntiau gwahanol.
Cwnsler Cyffredinol, gan sôn eto am y panel arbenigwyr, sut fyddan nhw'n cael eu hapwyntio, a phryd rŷch chi'n meddwl y byddan nhw'n cael eu hapwyntio? A dwi'n sylwi y bydd yr ysgrifenyddiaeth ar wahân i'r gwasanaeth sifil, ond a fyddai modd sicrhau bod yr ysgrifenyddiaeth yn cael cefnogaeth adnoddau y gwasanaeth sifil pan fyddan nhw ei hangen?
Rwy'n edrych ymlaen at weld y comisiwn hwn yn ymgysylltu'n adeiladol â phobl ledled Cymru. Mae'n bwysig sicrhau bod dyfodol Cymru yn nwylo'r Cymry. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn dal i gredu y gall Cymru fod yn genedl annibynnol ac y bydd hi un diwrnod. Nid yw'n fater o os ond pan fyddwn ni'n dod yn annibynnol, ond, am y tro, gadewch i'n taith barhau. Ac ar y daith honno, gadewch i ni fod yn barod i wrando ar wirioneddau anghyfforddus, ond, yn bwysicach, gweithredu arnyn nhw. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gyfraniadau? Rydym ni wir wedi bod ar daith ddatganoli sy'n parhau, ac mae cymdeithas yn newid yn barhaus. Mae cyfansoddiadau'n newid yn barhaus. Nid oes dim yn aros yn sefydlog. Gwnaethoch chi ofyn nifer o gwestiynau eithaf pwysig. O ran maint y panel arbenigol, ac ati, rwy'n credu y byddaf i, mae'n debyg, yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig maes o law pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael ar hynny. Yn amlwg, mae'n bwysig iawn bod aelodau'r comisiwn a'r cyd-gadeiryddion yn cyfrannu at ddylunio hynny, oherwydd mae'n rhannol ddibynnol ar fframwaith y broses ymgysylltu—y cynllun strategol y byddan nhw'n ei ddatblygu o ran sut y byddan nhw'n cyflawni eu gwaith. Ond mae'n gyfle ychwanegol o ran sgiliau ac amrywiaeth ychwanegol i gyfrannu at hynny. Ond y comisiwn yw'r corff a fydd yn gwneud y penderfyniadau allweddol.
A gaf i ddweud, rwy'n falch iawn bod Shavanah Taj TUC Cymru wedi ymuno â'r comisiwn, oherwydd gan gynrychioli rhywbeth fel 0.5 miliwn o aelodau undebau llafur yng Nghymru, mae eu mewnbwn yn wirioneddol arwyddocaol, ac maen nhw, wrth gwrs, yn cael eu comisiwn eu hunain? Felly, mae rhyng-gysylltiad naturiol yna.
Rwy'n cytuno â chi hefyd, o ran yr ystyriaethau ynghylch cyllid, fod yn rhaid iddo allu gwneud ei waith yn iawn i ymgysylltu, neu fel arall nid oes diben sefydlu'r comisiwn.
Rwy'n cytuno'n llwyr â rhai o'r sylwadau yr oedden nhw, yn fy marn i yn arwain at rai o'r sylwadau y mae un o'r cyd-gadeiryddion, Laura McAllister, wedi'u gwneud yn gyhoeddus yn ddiweddar, sef bod hyn yn ein rhoi ni ar y droed flaen. Mae'n ein galluogi i fod yn y sefyllfa, pan wyddom ni fod newid yn digwydd—gallwn ni weld bod newid o'n cwmpas ni, nid yn San Steffan yn unig, efallai'n fyd-eang ac yn sicr ar y llwyfan Ewropeaidd hefyd—am unwaith, yr hyn sy'n bwysig ynghylch hyn yw ein bod ni, o Gymru, yn gallu cyflwyno ein safbwynt ni ac nad ydym yn adweithiol yn unig i ddigwyddiadau a phenderfyniadau sy'n cael eu gwneud mewn mannau eraill. Ac mae'n ymddangos i mi fod hynny'n arwydd o aeddfedrwydd y wleidyddiaeth a'r ddemocratiaeth sy'n datblygu yng Nghymru
A gaf i orffen ar bwynt o undod ac ati mae'n debyg, gyda dau ddyfyniad penodol? Un oedd,
'Amrywiaeth yw'r un peth gwirioneddol sy'n gyffredin i bob un ohonom'.
Wrth gwrs, Winston Churchill oedd hwnna. A'r llall yw,
'Pan fydd pob un yn cael ei gynnwys, bydd pob un yn ennill',
a dyna i chi Jesse Jackson. Diolch, Llywydd.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol, am y datganiad yr ydych chi wedi'i wneud heno. Ond, gyda'r parch mwyaf, a oedd unrhyw bwynt gwirioneddol i'r datganiad hwn y prynhawn yma? A ydych chi wir yn credu bod y comisiwn hwn yn ddefnydd da o amser ac adnoddau Llywodraeth Cymru, o ystyried cyflwr ein GIG a'n system gofal cymdeithasol?
Er bod gennyf i bryderon gwirioneddol ynghylch cyfansoddiad y comisiwn hwn yn wleidyddol—sef, sôn am swyddi unochrog a swyddi i'r bechgyn—rwyf i'n pryderu mwy am yr hyn y byddai'n ei gostio i drethdalwyr Cymru, fel y gofynnodd fy nghyd-Aelod Darren Millar i chi'n gynharach yn y drafodaeth. Cwnsler Cyffredinol, a wnewch chi roi dadansoddiad o gostau cynnal y comisiwn hwn, o ran gwariant ariannol yn ogystal â'r gost o ddargyfeirio staff Llywodraeth Cymru o ddyletswyddau hanfodol eraill? Diolch.
Wel, diolch am eich sylwadau. Rwyf i bob amser yn poeni pan fydd rhywun yn dechrau ei araith â 'gyda'r parch mwyaf', sydd wedyn yn golygu ei fod yn mynd i fwrw ymlaen heb unrhyw barch o gwbl. Rwyf i hefyd yn poeni braidd pan fydd yr unigolyn wedyn yn sôn am gomisiwn sy'n saith menyw i bedwar dyn, fel 'swyddi i'r bechgyn', a tybed pan wnaethoch chi ysgrifennu'r araith a wnaethoch chi gyffwrdd â hyn—nid mor ysgafn eich troed â'r hyn yr hoffech i fod. Rwyf i eisoes wedi ateb y cwestiwn am y gost. A dweud y gwir, nid wyf i'n gweld llawer iawn o bwynt mynd dros hen dir y comisiwn; rydym ni wedi hen drafod hynny. Mae gennym ni fandad etholiadol i'r comisiwn hwn fynd yn ei flaen, ac rwy'n credu ei fod yn gomisiwn hynod amserol sy'n cael ei sefydlu ar hyn o bryd yn nyfodol cyfansoddiadol y DU, Ewrop, a'r sefyllfa fyd-eang yn y byd. Diolch.
A dyna ddiwedd ar y ceisiadau i siarad ar y datganiad yna, felly dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am y prynhawn, heddiw. Diolch yn fawr.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:12.