Y Cyfarfod Llawn

Plenary

10/11/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.

Mesurau Lleihau Carbon

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau lleihau carbon yng Nghymru? OQ57136

Gwnaf. Mae 'Cymru Sero Net' yn cynnwys 123 o bolisïau i leihau allyriadau. Mae ein gwaith modelu yn dangos ein bod, drwy gyflawni'r cynllun hwn, ar y trywydd iawn i berfformio'n well na chyllideb garbon 2. Byddwn yn parhau i gydweithredu ag eraill a'u cefnogi i leihau carbon ymhellach fel ein bod ar y trywydd iawn tuag at Gymru lanach a mwy cyfartal.

Diolch, Weinidog. Mae 'Cymru Sero Net', wrth gwrs—y cynllun rydych yn sôn amdano—yn galw am leihau allyriadau a newid dulliau teithio gan y cyhoedd, busnesau, ffermwyr a'r sector cyhoeddus. Nawr, er bod y cynllun yn trafod newid tanwydd a gwefru trafnidiaeth, mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd defnydd tir a'r angen am waith adfer. Er bod y rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd wedi bod yn ddatblygiad i'w groesawu, rwy'n dal i bryderu bod y cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru—oddeutu £5.75 miliwn dros bum mlynedd—yn dangos diffyg uchelgais, gyda thargedau i adfer 6 i 800 hectar y flwyddyn yn unig. Mae fy mhryder yn dwysáu wrth gymharu'r ffigur hwn â Lloegr, lle mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi £640 miliwn i adfer 35,000 hectar erbyn 2025.

Weinidog, gan gydnabod eich bod wedi teithio i COP26 i gyfarfod â gwledydd a rhanbarthau eraill, a allwch gadarnhau i'r Senedd hon pa syniadau y daethoch â hwy yn ôl gyda chi i wella mesurau lleihau carbon yng Nghymru ac a fydd hyn yn cynnwys adolygiad o gyllid ac uchelgais y rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd fel y gellir gwneud ymdrechion pellach i gloi'r carbon hwn? Diolch.

Wel, rwyf am ddechrau, Janet, drwy ddweud fy mod yn gyson yn edmygu eich haerllugrwydd yn dweud wrth Lywodraeth Cymru nad ydynt yn gwario digon o arian yng ngoleuni addewid eich Llywodraeth na fyddem yn cael 'yr un geiniog yn llai' na'r hyn roeddem yn ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd, a gadael yr Undeb Ewropeaidd gan anwybyddu pob un ymrwymiad a wnaeth eich Llywodraeth a phob gwleidydd ynddi i Gymru, gan gynnwys y rheini ohonoch ar y meinciau hynny. Felly, rwyf am ddechrau drwy ddweud nad wyf am wrando ar unrhyw bregethau gennych chi ynglŷn â faint o arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar unrhyw beth hyd nes y byddwch yn gwneud iawn am yr arian sydd ar goll o gyllideb Cymru o ganlyniad i weithredoedd twyllodrus y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, mewn cydweithrediad â chithau ar y fainc honno.

Wedi dweud hynny, roedd COP26 yn ddigwyddiad diddorol iawn, yn enwedig o ystyried ein gallu i drafod gyda llywodraethau is-genedlaethol eraill o bob cwr o'r byd—is-lywodraethau gwladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig—yr hyn roeddent yn ei wneud ac i arddangos rhai o'r pethau roeddem ni yn eu gwneud. Felly, cefais drafodaethau arbennig o ddiddorol gyda’r bobl o Sao Paulo, sy’n fega-ddinas, ond er hynny, mae ganddi gryn dipyn o synergedd â Chymru, gan gynnwys yr angen am newid cyfiawn. Ac rwy'n falch iawn o ddweud bod Llywodraeth Sao Paulo yn cydnabod cyfraniad cynllun 'Cymru Sero Net' yn ei chynllun sero-net ei hun—ar y clawr blaen, yn wir.

Cawsom drafodaethau diddorol iawn hefyd gyda phobl Québec—Llywodraeth Québec—ynglŷn â'r ffordd y mae coedwigaeth wedi newid yn llwyr yng Nghanada, y ffordd y gallwch gynyddu gorchudd coed yn ogystal â'r diwydiant pren cynaliadwy ar yr un pryd, a chyfres o drafodaethau diddorol iawn ynglŷn ag ynni dŵr.

Cefais drafodaethau diddorol iawn gyda Llywodraeth yr Alban ynglŷn â'r ffordd y maent yn cyflawni rhaglenni cyfnewid gwres o ddŵr, sy'n rhywbeth rwy'n benderfynol o'i gyflwyno yng Nghymru. A chredaf mai'r peth mwyaf trawiadol oll oedd fy nhrafodaethau â phobl frodorol o sawl rhan o'r byd ynglŷn â'r trafferthion y maent yn eu hwynebu ac apeliadau'r llywodraethau hynny i fynd ymhellach yn gyflymach. Felly, os yw Janet Finch-Saunders o ddifrif yn bryderus am hyn, efallai y gall gyfleu'r neges honno i'w Llywodraeth a sicrhau eu bod yn rhoi eu harian ar eu gair.

Am wlad fach, mae Cymru bob amser wedi gwneud yn well na'r disgwyl ar y llwyfan byd-eang, o'n chwyldro diwydiannol arloesol i'n camau blaenllaw ar yr hinsawdd, a hon yw'r Senedd gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd. Pan fo Cymru'n siarad, mae'r byd yn gwrando. Ni fyddem yn y sefyllfa rydym ynddi heddiw heb ein Cymoedd. Roedd cyfoeth o lo yn y Rhondda, ond rwy'n credu'n wirioneddol fod cymaint yn fwy gennym i'w gynnig i leihau allyriadau fel rhan o'r trawsnewidiad gwyrdd. Mae gennym leoliadau gwych ar gyfer ynni adnewyddadwy, fel y safle ynni dŵr ym mharc gwledig Clydach. Mae gennym siop newydd sbon yn Nhreorci, Green Valley, sy'n gwerthu ffrwythau a llysiau lleol, a fydd, gobeithio, yn cael ei hefelychu ledled y Rhondda a ledled Cymru. A soniodd Gweinidog yr economi yr wythnos diwethaf am ddatgloi cyfleoedd swyddi i wneud Cymru'n arweinydd ym maes adfer diwydiannol, gan adfer ein tomenni glo. A yw'r Gweinidog yn credu y gallwn ddatgloi potensial ein Cymoedd i arwain y chwyldro gwyrdd, ac os felly, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig?

13:35

Diolch, Buffy. Rwy'n gwbl benderfynol na fydd y trawsnewidiad, yn y chwyldro diwydiannol nesaf sydd i ddod, yr un fath â'r hyn a ddigwyddodd yn y chwyldro diwydiannol blaenorol. Mae'n llygad ei lle yn dweud bod cyfoeth o lo yn arfer bod yn y Rhondda, ond yr hyn a ddigwyddodd gyda'r glo hwnnw oedd nad aeth budd y glo, a'r cyfoeth a ddaeth yn ei sgil, i bobl y Rhondda; fe aeth i nifer fach iawn o gyfalafwyr. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y trawsnewidiad gwyrdd yn cael effaith gyfan gwbl i'r gwrthwyneb, a'i fod yn drawsnewidiad cyfiawn sydd o fudd i bobl y Rhondda. Mae Cymru'n lwcus o gael cyfoeth o adnoddau naturiol ar gyfer y chwyldro gwyrdd newydd hefyd. Mae gennym ein moroedd hardd, ein mynyddoedd hyfryd, ein cymoedd godidog. Mae pob un yn cyfrannu at y cyfle i ni allu bod yn allforiwr net ym maes ynni adnewyddadwy. Ond rhaid i fuddion hynny ddod yn ôl i bobl y Cymoedd. Mae hefyd yn llygad ei lle yn tynnu sylw at ddyfeisgarwch a chreadigrwydd pobl y Cymoedd. Rwy’n llwyr gydnabod hynny, ac rydym yn gwbl benderfynol o sicrhau ein bod yn harneisio’r creadigrwydd hwnnw yn ein cynlluniau sgiliau a datblygu economaidd newydd.

I nodi ambell beth, rwy'n llwyr gydnabod yr enghreifftiau a gododd, ac mae'r economi yn y Cymoedd yn arbennig o ddiddorol mewn perthynas â'r rhaglenni atgyweirio ac adfer, ac rwyf wedi cael y fraint o ymweld â chryn dipyn ohonynt dros y blynyddoedd, ac maent bob amser wedi bod yn ysbrydoliaeth. Ond hoffwn sôn am ddwy ohonynt yn benodol. Yn gyntaf, rhaglen y Cymoedd Technoleg, a'r cymorth i fusnesau ochr yn ochr â hi. Mae'n dangos ein buddsoddiad yn y Cymoedd i gefnogi twf diwydiannau'r dyfodol. Mae'n hanfodol er mwyn creu'r economi gadarn a chynaliadwy rydym yn dymuno'i gweld yng Nghymoedd de Cymru. A'r un y soniodd amdani hefyd, parc rhanbarthol y Cymoedd, roedd archwilio'r cysyniad hwnnw'n flaenoriaeth allweddol i dasglu'r Cymoedd. Rydym wedi ymrwymo £8 miliwn ar gyfer 12 safle'r pyrth darganfod, a dau safle rhannu mannau gwaith hyd yn hyn. Bydd y pyrth darganfod yn safleoedd blaenllaw enghreifftiol sy'n arddangos y Cymoedd, yn ennyn mwy o ddiddordeb a gwybodaeth am dreftadaeth naturiol a diwylliannol y Cymoedd, yn cynyddu twristiaeth gynaliadwy, ac yn rhoi hwb economaidd.

Rwy'n meddwl o ddifrif mai un o'r gwersi o'r COP yw'r cynnydd mawr ledled y byd yn nifer y bobl sy'n dymuno gweld twristiaeth gynaliadwy, sy'n ystyriol o'r hinsawdd. Ac mae Cymru mewn sefyllfa dda iawn i ddarparu hynny, ac rydym mewn sefyllfa dda i fod ar y blaen yn y diwydiant hwnnw. Ac felly rwy'n fwy na pharod i gydnabod, gyda hi, y gwaith a wnaed eisoes, a dweud bod Llywodraeth Cymru'n barod i gefnogi'r cymunedau, y Cymoedd, wrth iddynt ddod ynghyd i fanteisio ar y chwyldro diwydiannol newydd.

A gaf fi ganmol, yn ddiffuant, yr arweinyddiaeth a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru a phob Gweinidog, nid yn unig yn awr, ond yn y cyfnod cyn y COP hefyd? Mae wedi bod yn wych gweld hynny. Mae gennym fwy i'w wneud—mwy o lawer—ond gobeithiwn y bydd yr un arweinyddiaeth yn dal i fod yno erbyn diwedd y COP, yn ystod yr ychydig ddyddiau olaf hyn, wrth wireddu a chadw at y cynigion i genedl-wladwriaethau bach a gwledydd sy'n datblygu i fynd i'r afael â lleihau carbon a lliniaru carbon, ond hefyd wrth gynyddu uchelgais. Ni all hyn fod yn ben draw i bethau—un set o drafodaethau.

Ond Weinidog, un o'r pethau y mae Llywodraeth Cymru'n eu gwneud yw'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Rydym yn croesawu hyn yn fawr, gan y gwyddom faint o waith sydd angen ei wneud i sicrhau bod rhai o'r cartrefi sydd eisoes yma ledled Cymru, ac yn enwedig yn fy ardal i, yn dda ac yn gynnes, ac yn effeithlon o ran eu defnydd o ynni. Ond er mwyn gwneud hynny, mae angen inni sicrhau hefyd, gyda'r cynlluniau blaenorol, fod gennym hyder ynddynt. Rydym wedi cael rhai anawsterau gyda rhai cynlluniau sydd wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn fy ardal fy hun, yng Nghaerau, ond gwn nad yno'n unig y mae'n digwydd; mae eraill yng Nghymru wedi wynebu anawsterau. Rydych wedi bod yn trafod gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Tybed a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynglŷn â chynnydd y trafodaethau hynny, gan fod angen inni sicrhau bod cartrefi'r preswylwyr hynny'n cael eu gwella ar ôl iddynt gael gosodiadau anfoddhaol.

Diolch, Huw. Rwy'n ymwybodol iawn o sefyllfa rhai o'ch etholwyr yng Nghaerau, ac rydych yn llygad eich lle, nid yno yn unig y mae'r broblem, ond mae'n enghraifft dda o gynllun nad oedd efallai wedi elwa o ddull wedi'i optimeiddio o ôl-osod. Felly, mae'n gynllun lle mae deunydd inswleiddio waliau allanol wedi'i osod ar eiddo pan nad dyna'r peth iawn i'w wneud ar gyfer yr eiddo dan sylw, ac maent bellach yn dioddef y canlyniadau.

Yn siomedig, gwn eich bod yn ymwybodol mai cynllun Llywodraeth y DU oedd yr un y gwnaeth eich etholwyr fanteisio arno. Fe'i cefnogwyd gan rywfaint o arian Llywodraeth Cymru er mwyn ei wneud yn bosibl. Yn anffodus, cafwyd cyfres o ddigwyddiadau anffodus, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod y gweithredwyr gwreiddiol wedi mynd yn fethdalwyr, nid oes unrhyw warantau a bondiau perfformiad ar waith, ac mae nifer o broblemau eraill yn codi. Yn siomedig, mae Llywodraeth y DU yn gwrthod derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ganlyniad eu cynllun, sy'n warthus yn fy marn i. Rydym yn ymwybodol iawn o sefyllfa'r preswylwyr yno, a charwn yn fawr allu eu helpu. Rwy'n aros am y cyngor ffurfiol ar y llu o faterion cyfreithiol sydd ynghlwm wrth hyn. Rwy'n disgwyl cael y cyngor hwnnw yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf, Huw, ac rwy'n fwy na pharod i'w drafod gyda chi cyn gynted ag y byddwn yn ei gael.

13:40

Mae cwestiwn 2 [OQ57139]  wedi'i dynnu yn ôl. Felly, cwestiwn 3 sydd nesaf—Paul Davies.

Seilwaith Gwyrdd

3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu seilwaith gwyrdd ar draws sir Benfro? OQ57134

Mae ein cynllun 'Cymru Sero Net', a lansiwyd yn ddiweddar, yn ein rhoi ar y trywydd iawn i gyflawni allyriadau carbon sero-net erbyn 2050. Rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol, teuluoedd, cymunedau a busnesau yn sir Benfro ar ystod eang o brosiectau i ddatblygu'r seilwaith gwyrdd i gyflawni hyn.

Weinidog, rwy'n ddiolchgar am eich ymateb. Un o nodau'r strategaeth gwefru cerbydau trydan ar gyfer Cymru yw hyrwyddo cynlluniau cynaliadwy o ansawdd da sy'n cynnwys seilwaith gwyrdd. Mae'r strategaeth honno'n cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn nodi lleoliadau lle gall cynhyrchu ynni adnewyddadwy, ynghyd â storio ynni, fod o gymorth i ddarparu ynni i'r rhwydwaith gwefru er budd pobl Cymru. Ac mae'r strategaeth yn iawn i ddweud y gall hyn fod o fudd i gymunedau gwledig, fflyd y sector cyhoeddus a'r system drafnidiaeth integredig lle bydd cyfleusterau gwefru a rennir neu sydd wedi'u cydleoli yn creu synergedd lle gellir diwallu gwahanol anghenion. Felly, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch gyda Chyngor Sir Penfro ynglŷn â hybiau gwefru gwledig a allai gael eu pweru gan brosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol, ac a allwch amlinellu pa brosiectau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yn sir Benfro ar hyn o bryd?

Ie, diolch, Paul. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae sir Benfro wedi cael cymorth gan wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru i ddatblygu cyfres o brosiectau ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni, sy'n cynnwys adolygiad o'r fflyd, grantiau cyfalaf i gefnogi newid i gerbydau allyriadau isel iawn, rhaglen waith ailosod, goleuadau stryd ac uwchraddiadau LED eraill ar gyfer gwaith stryd. Ac yn ystod y cyfnod hwnnw o bum mlynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £5.8 miliwn mewn grantiau a chyfres o fenthyciadau di-log i Gyngor Sir Penfro.

Drwy ein rhaglen ariannu cyfalaf, Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy, a thrwy'r cronfeydd COVID wrth gefn, rydym yn ariannu gwerth oddeutu £3.5 miliwn o brosiectau arloesol yn 2020-22. Maent yn cynnwys y rhwydwaith o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar draws Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a chyllid newydd i gynorthwyo cymunedau i ddatgarboneiddio. Dyfarnwyd £14.9 miliwn ychwanegol o arian Ewropeaidd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu diwydiant ynni'r môr yn sir Benfro, sy'n hanfodol, wrth gwrs, i bwyntiau gwefru cerbydau trydan gan fod arnoch angen yr ynni i'w pweru. Ac mae hynny'n rhan o fargen ddinesig bae Abertawe hefyd, a fydd yn sicrhau bod sir Benfro yn ganolog i arloesedd y DU ar lwyfan y byd ym maes ynni'r môr ac ynni alltraeth di-garbon.

Rydym hefyd wedi dyfarnu gwerth £325,000 o gyllid seilwaith gwyrdd a bioamrywiaeth Trawsnewid Trefi i Gyngor Sir Penfro i gyflawni cynllun yng nghastell Hwlffordd, yn y gerddi, sydd wedi'u tirlunio i gynyddu gwaith plannu a bioamrywiaeth. Mae ganddynt hefyd grant o £690,000 o'r gronfa trawsnewid cerbydau allyriadau isel iawn i hwyluso'r gwaith o ddarparu seilwaith gwefru pellach mewn o leiaf 12 lleoliad ar draws y sir er mwyn gwasanaethu lleoliadau trefol a thwristiaeth yn strwythur yr hybiau y cyfeiriodd Paul Davies atynt.

Felly, mae nifer o brosiectau ar y gweill yn sir Benfro. Mae gennym berthynas dda iawn gyda Chyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sydd wedi bod yn awyddus iawn i ddatblygu yn y maes hwn, ac rwy'n fwy na pharod i barhau ein sgwrs gyda hwy a'r Aelod ynglŷn â'r hyn y gellir ei wneud yn sir Benfro.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Natasha Asghar. 

Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod First Bus wedi cael gwared ar wasanaeth bws X10 rhwng Caerdydd ac Abertawe. Un o'r rhesymau a roddwyd gan First Bus dros ddiddymu'r gwasanaeth hwn yw, ac rwy'n dyfynnu,

'Mae'n cludo nifer anghymesur o gwsmeriaid sy'n cael consesiynau, yn hytrach na chwsmeriaid masnachol, sy'n ei gwneud yn amhosibl cynnal y costau.'

Mae'r henoed a phobl anabl a oedd yn gallu defnyddio pàs bws i deithio'n rhwydd rhwng Caerdydd ac Abertawe bellach wedi dioddef ergyd i'w hannibyniaeth a'u gallu i fyw eu bywyd yn llawn. Pa sylwadau a gyflwynwyd gennych i First Bus ynghylch diddymu'r gwasanaeth hwn? Ac a ydych yn cytuno y bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar eich polisi o annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na'u ceir i gymudo bob dydd? Diolch.

13:45

Yn ddiweddar, rwyf wedi cyfarfod â First Bus a chyda'r undebau llafur i drafod y pwysau amrywiol y mae'r diwydiant bysiau'n ei wynebu ar hyn o bryd. Mae arnaf ofn fod y mater penodol a godwyd gan Natasha Asghar yn ganlyniad uniongyrchol i'r ffaith bod y Llywodraeth Geidwadol wedi preifateiddio'r diwydiant bysiau yn ôl ynghanol yr 1980au, ac rydym yn dal i fyw gyda'r canlyniadau. Mae'r ffordd y mae'r cwmnïau'n cael eu cymell i gynnig llwybrau sy'n cynyddu eu refeniw i'r eithaf yn hytrach na buddsoddi mewn llwybrau sy'n angenrheidiol i'r gymdeithas yn parhau i fod yn broblem barhaol i ni. Dyma un o'r rhesymau pam ein bod yn datblygu ein strategaeth fysiau eleni, gyda deddfwriaeth yn dod gerbron y Senedd, gan fod angen inni reoleiddio'r diwydiant bysiau drwy fasnachfreinio. Ni allwn ganiatáu i weithredwyr masnachol ddewis a dethol y llwybrau y maent yn dymuno eu dewis yn unig. Felly, mae arnaf ofn mai dyma ganlyniad economeg y farchnad rydd y mae'r Ceidwadwyr yn mynnu ein bod yn ei dilyn. Mae hyn yn dangos nad yw'n cynorthwyo pobl i drosglwyddo o geir i drafnidiaeth gyhoeddus, a hyd nes y byddwn yn unioni hynny, ni fyddwn yn gallu ei wneud.

Diolch, Ddirprwy Weinidog, ond o'r cofnodion sydd gennyf, mae Llafur wedi bod mewn grym am y 22 mlynedd ddiwethaf yma yng Nghymru, felly gadewch inni ganolbwyntio ar hynny yn gyntaf.

Yr ail gwestiwn sydd gennyf yw: yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau i hyrwyddo cerbydau trydan yng Nghymru, a oedd ymhell ar ei hôl hi ac yn brin o fanylion. Gwn fy mod wedi dweud hyn wrthych eisoes. Ond o dan eich cynigion, rydych yn nodi eich bwriad i greu 80 pwynt gwefru trydan yn unig ar brif gefnffyrdd Cymru mewn pedair blynedd. Bydd cymunedau gwledig ledled Cymru yn cael eu gadael ar ôl, heb unrhyw gyhoeddiad o gyllid i gyd-fynd â'r cynigion ar gyfer hybiau cymunedol. Yn anffodus, nid oes unrhyw sôn ynglŷn â faint y bydd y cynllun hwn yn ei gostio. Heb fod mor bell â hynny yn ôl, fe ddywedoch chi fod angen 4,000 o bwyntiau gwefru cyflym erbyn 2030. Fodd bynnag, nid oes cyfeiriad at hyn yn y strategaeth. Felly, Ddirprwy Weinidog, a yw'r targed wedi'i anghofio? Ac a yw creu 80 pwynt gwefru yn unig mewn pedair blynedd ar brif ffyrdd Cymru mor uchelgeisiol â hynny mewn gwirionedd, yn enwedig gan fod angen oddeutu 20,000 arnom ledled y wlad?

Gadewch inni gofio bod pwerau dros fysiau—eu rheoleiddio—yn dal i fod ar lefel y DU. Felly, mae'r ffaith ein bod wedi bod mewn grym yng Nghymru yn amherthnasol, gan nad oes gennym bwerau i newid y ffordd y caiff y farchnad ei rheoleiddio. Credwn y gallwn, drwy fasnachfreinio, ateb rhywfaint o hynny, ond mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i bolisi Llywodraeth y DU yn yr 1980au sydd wedi'i gadw yn ei le. Felly, gadewch inni gofio hynny.

Ar y pwyntiau gwefru trydan, ar hyn o bryd, yn ôl cyfran, mae gennym fwy o bwyntiau gwefru nag sydd o geir trydan yn bodoli. Felly, credwn fod hyn yn iawn at ei gilydd ar gyfer nifer y ceir sydd gennym ar hyn o bryd. Yr her sydd gennym, i gadw'r gyfran honno yr un fath wrth i nifer y ceir trydan sy'n cael eu prynu gynyddu'n ddramatig, fel yr awgryma pob amcanestyniad, yw dal i fyny â hynny. Ond credwn, unwaith eto, mai tasg i'r sector preifat yw hon yn bennaf; nid yw'r Llywodraeth yn darparu gorsafoedd petrol, ac ni ddisgwylir iddi fod yn brif ddarparwr pwyntiau gwefru trydan. Lle ceir methiant yn y farchnad, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, mae angen inni sicrhau ein bod yn ysgogi buddsoddiad, fel y gwnaethom gyda band eang, sydd eto'n fethiant arall yn y farchnad—methiant arall i reoleiddio gan Lywodraeth y DU. Mae angen inni allu camu i'r adwy.

Rydym yn edrych yn benodol ar ddatblygu clybiau ceir trydan gan ddefnyddio ynni cymunedol i sicrhau nad oes yn rhaid i bobl fod yn berchen ar gar trydan, gan eu bod yn ddrytach na char ag injan tanio mewnol ar hyn o bryd, a bydd hynny'n creu lefel o hyblygrwydd fel y gall pobl ddod yn llai dibynnol ar geir.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Gwn eich bod yn aml yn hoffi defnyddio Llywodraeth ganolog y DU fel rheswm a chyfiawnhad dros lawer o bethau, ac ar sawl achlysur, gwn nad ydych yn hoffi ateb fy nghwestiynau, felly weithiau, rwy'n meddwl tybed a fyddech yn hapusach i ddychwelyd at ITV Wales a gweithio ar ateb y cwestiynau rwy'n eu gofyn i chi, yn hytrach na dargyfeirio'r ateb i rywle arall.

Fy nghwestiwn olaf yw hwn: mae nifer y teithwyr sy'n defnyddio Maes Awyr Caerdydd wedi gostwng i'r lefel isaf ers y 1950au. Cwympodd nifer y teithwyr o 1.6 miliwn i 48,000 yn unig, gyda phrif weithredwr y maes awyr yn dweud bod y cwymp yn ganlyniad i anogaeth Llywodraeth Cymru i bobl beidio â theithio dramor. Yr wythnos diwethaf, yn y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus, dywedodd swyddogion o Faes Awyr Caerdydd fod y doll teithwyr awyr yn dreth gosbol sy’n rhwystro gallu cwmnïau hedfan i ychwanegu at eu capasiti. Mae Maes Awyr Caerdydd wedi bod yn tangyflawni ers dod i berchnogaeth gyhoeddus yn 2013. Mater i Lywodraeth Cymru yw hwn, Ddirprwy Weinidog, ac ymddengys bod pethau'n mynd o ddrwg i waeth yn rheolaidd. Felly, Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu cyhoeddiad y Canghellor, Rishi Sunak, o Lywodraeth y DU, yn y gyllideb, y bydd y doll teithwyr awyr yn cael ei haneru ar gyfer teithiau awyr domestig? A ydych yn cytuno bod hwn yn gam cadarnhaol a fydd yn cynorthwyo adferiad Maes Awyr Caerdydd, neu a fyddai’n well gennych barhau i achub y maes awyr gyda miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr Cymru?

13:50

Wel, â phob parch, rwy'n ateb cwestiynau'r Aelod; ond nid yw'n hoffi'r atebion. Ni chredaf fod sybsideiddio ac annog teithiau awyr domestig yn cyd-fynd â'r her newid hinsawdd sy'n ein hwynebu ac y mae Prif Weinidog y DU yn ceisio honni ei fod yn dangos arweinyddiaeth ryngwladol wych mewn perthynas â hi; credaf fod hynny'n anghyson. Mae'r maes awyr yn gorff sy'n cael ei redeg yn fasnachol, ac mae ei reolwyr yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r ffordd orau o redeg eu maes awyr eu hunain. Felly y dylai fod. Rydym wedi buddsoddi yn y maes awyr i sicrhau bod gan Gymru faes awyr, ond bydd yr Aelod yn ymwybodol fod gennym bandemig, a bod gostyngiad rhyngwladol wedi bod mewn traffig awyr. Mae hynny wedi cael effaith sylweddol ar gyllid y maes awyr, a gwnaethom roi pecyn cymorth ar waith i'w cefnogi drwy hynny.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a gobeithio bod y Gweinidog yn well ar ôl ei hannwyd wythnos diwethaf.

Yn dilyn yr etholiad, fe gyhoeddodd y Llywodraeth gynllun er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi, a fydd yn cynnwys ardal beilot. Mae yna gymunedau ar hyd a lled y wlad yn teimlo effeithiau’r argyfwng eang a niweidiol yma. Fy mhryder i, ynghyd â chymunedau drwy Gymru benbaladr, ydy bod y peilot am fod yn llawer rhy gyfyng. Bydd yn cymryd llawer rhy hir i'w weithredu’n iawn, bydd yn cymryd hyd yn oed mwy o amser i’w effeithiau gael eu deall ac i unrhyw wersi fedru cael eu gweithredu a llywio polisi’r Llywodraeth. Tra bod y Llywodraeth yn oedi ar weithredu effeithiol go iawn, bydd cymunedau’n dioddef. Bydd tai yn aros allan o gyrraedd rhai sydd eu hangen, bydd prisiau’n codi, a chymunedau a’r iaith sy’n hollol greiddiol iddynt yn cael eu herydu. Gyda’r cynllun peilot yma mewn golwg, felly, a wnaiff y Gweinidog ymateb i’r pryder dilys fod cymunedau eraill, y rhai nad ydynt yn rhan o’r peilot, yn cael eu gadael ar ôl a’u hanwybyddu? Pa obaith gallwn ni ei gynnig i’r cymunedau yma sydd angen gweld camau brys yn cael eu cymryd ar fater ail gartrefi?

Fel y gŵyr yr Aelod yn iawn, rydym wedi bod yn trafod hyn yn y grŵp trawsbleidiol, ac ymhlith holl bleidiau'r Senedd, i geisio dod o hyd i ffordd drawsbleidiol ymlaen. Felly, mae braidd yn siomedig ei fod wedi gwleidyddoli'r mater fel y gwnaeth. Rydym yn cynnal y cynllun peilot, fel y gŵyr, er mwyn gallu sicrhau ein bod yn mynd mor gyflym â phosibl, o ystyried yr ystod o bethau cymhleth iawn y mae angen eu gwneud, gan fynd â'r cymunedau gyda ni. Bydd yn gwybod cystal â minnau fod hyn yn mynd yn groes i gyfres gyfan o hawliau dynol posibl, yn ogystal â phethau eraill, a bod arnom angen i'r bobl y mae hyn yn effeithio ar eu hawliau eiddo a buddsoddiadau eiddo gefnogi hyn a bod yn fodlon gyda'r hyn sy'n digwydd, neu fel arall ni all yr holl beth weithio. Gallwn dreialu hynny gyda'r cynllun peilot, dysgu'r gwersi ac yna ei gyflwyno ledled Cymru gyda chyn lleied o broblemau â phosibl, fel y gallwn wneud pethau cyn gynted â phosibl. Mae'n ymwybodol iawn o hynny, ac a dweud y gwir, rwy'n siomedig iawn gyda'i ymgais i wleidyddoli'r mater.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog, am yr ateb hwnnw i gwestiwn gwleidyddol mewn siambr wleidyddol.

Dwi am droi rŵan at fater pwerdai nwy. Er gwaethaf ymrwymiad ymddangosiadol Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio, fel sy’n cael ei ymgorffori yn eich strategaeth sero net, mae wedi dod i’m sylw i ein bod ni yma yng Nghymru, neu yn hytrach fod Llywodraeth Cymru, yn dal i alluogi caniatâd cynllunio ar gyfer gosodiadau nwy newydd. Mae pwerdy yn Wrecsam yn cael ei adeiladu a fydd yn weithredol 2,500 awr y flwyddyn, mae pwerdy arfaethedig ym Mangor wedi cael caniatâd cynllunio, yn ogystal â phwerdy 5 MW arfaethedig ym Mhorthmadog, ymhlith llawer iawn mwy ar draws Cymru. Siawns nad yw hyn yn mynd yn groes i strategaeth Llywodraeth Cymru ei hun i ddatgarboneiddio economi Cymru a chyrraedd sero net erbyn 2050. Os ydych chi felly o ddifri ynghylch mynd i’r afael â newid hinsawdd, pam eich bod chi’n caniatáu i weithfeydd nwy newydd gael eu hadeiladau yng Nghymru? A fyddwch chi yn cymryd y camau angenrheidiol i reoli a newid rheolau cynllunio er mwyn galluogi peidio â datblygu rhagor o’r rhain yn ddiangen? Diolch.

Diolch am eich cwestiwn. Mae hon yn broblem gymhleth iawn, oherwydd wrth inni drosglwyddo i ynni adnewyddadwy mor gyflym ag y gallwn, un o'r pethau y mae'n rhaid i ni eu gwneud hefyd yw cadw'r goleuadau ynghynn. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n eithaf dibynnol ar bwerdai nwy ac ynni o nwy i wneud hynny. Mae'n amlwg fod yn rhaid inni gael cynllun pontio ar waith, ac mae'n rhaid i'r cynllun pontio hwnnw weithio i bawb. Mae'n rhaid iddo gynnal ein diwydiannau a chadw ein goleuadau ynghynn. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw cynyddu faint o ynni adnewyddadwy rydym yn ei gynhyrchu, gan leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil o unrhyw fath ar yr un pryd. Rydym eisoes wedi cael gwared ar bwerdai glo o Gymru yn gynnar. Roedd yn wych ein bod wedi gwneud hynny ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gwneud hynny, ond yn amlwg, mae'n golygu bod gennym beth dibyniaeth ar nwy er mwyn cynhyrchu'r hyn a elwir yn gyflenwad sylfaen o ynni. Ynni yw hwnnw y gellir ei gynnau drwy wasgu switsh—yn llythrennol drwy wasgu switsh, pan fydd pawb yn gwasgu botwm y tegell am 9 o'r gloch y nos, er enghraifft. Felly, mae ymchwyddiadau ynni mawr yn digwydd yn y wlad. Gwyddom pryd y maent yn digwydd, ond ni ellir eu rhagweld yn ddigon da inni allu diffodd a chynnau ynni adnewyddadwy. Weithiau, nid yw'r haul yn tywynnu ac nid yw'r gwynt yn chwythu.

Un o'r rhaglenni mawr sydd ar waith gennym yng Nghymru, fel nifer o Lywodraethau ledled y byd, yw'r un i chwilio am gyflenwad sylfaen o ynni adnewyddadwy, sef ynni adnewyddadwy y gellir ei gynnau drwy wasgu switsh. Dyna pam fod gennym her y môr-lynnoedd llanw a nifer o heriau ynni'r môr yng Nghymru, gan ei bod yn ymddangos i bawb y gallai ynni'r môr, o bosibl, fod yn ateb i sicrhau cyflenwad sylfaen o ynni adnewyddadwy. Rwy’n mawr obeithio y gallwn sicrhau bod Cymru'n rhan o ddechrau diwydiant byd-eang mewn cyflenwad sylfaen o ynni adnewyddadwy. Ond tan hynny, mae'n ddyletswydd arnom i gadw'r goleuadau ynghynn a'n diwydiant a'n busnesau'n gweithio gyda'r cyflenwad ynni sydd ganddynt. Rwy’n derbyn, ac mae gennyf lawer o gydymdeimlad gyda phwyslais cwestiwn yr Aelod i mi, ond yn amlwg, rydym yn ceisio cynyddu un peth wrth leihau'r llall, ac mae’n rhaid inni sicrhau ein bod yn gwneud hynny'n gymesur.

13:55

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mi fuaswn i wrth fy modd yn gweld y transition plan yna, ac rwy'n croesawu'ch geiriau chi ar ynni y môr hefyd, achos dyna, wedi'r cyfan, yw'r ffordd ymlaen.

Dwi am droi yn olaf at fater taliadau tai dewisol—discretionary housing payments. Yn hyn o beth, dwi am ganolbwyntio ar ba mor effeithiol mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r ychwanegiad yma o dros £4 miliwn ar gyfer taliadau tai dewisol. Fel rydyn ni'n ei wybod, diben y taliadau yma ydy er mwyn helpu'r rhai sydd ar fudd-daliadau ac yn cael trafferth talu rhent, yn benodol yn dilyn toriadau ciaidd y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Does dim amheuaeth bod yna broblemau wedi bod efo sicrhau bod pobl yn gwneud cais am y taliadau yma, ac wrth ystyried yr argyfwng tai a digartrefedd sy'n ein hwynebu ni yma, gyda nifer cynyddol o bobl yn cael eu dal mewn llety dros dro, dwi'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno y byddai'n syfrdanol pe na bai'r arian yma i gyd yn cael ei ddyrannu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Ond mae wedi dod i fy sylw i fod yna broblemau o ran faint sydd, mewn gwirionedd, yn medru hawlio'r taliadau. Felly, hoffwn gael rhagor o fanylion gan y Gweinidog ar y mater, os gwelwch yn dda. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o aelwydydd digartref, ers mis Ebrill, sydd wedi eu galluogi i symud o lety dros dro i gartrefi parhaol drwy fanteisio ar y taliadau tai dewisol, gan gynnwys y £4 miliwn atodol a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru? Ac a yw Llywodraeth Cymru o'r farn bod angen canllawiau cryfach ar awdurdodau lleol ar sut i ddefnyddio'r £4 miliwn ychwanegol yma? Diolch.

Diolch, Mabon. Un o'r pethau rydym yn ymdrin â hwy ar hyn o bryd yw nad yw'r llif o bobl ddigartref, o ganlyniad i'r pandemig a nifer o faterion economaidd eraill, wedi lleihau mewn unrhyw ffordd. Felly, mae ein hawdurdodau lleol yn dal i ymdrin â mwy na 1,000 o bobl ddigartref y mis ledled Cymru. Ar hyn o bryd, mae gennym ychydig dros 12,000 o bobl mewn llety dros dro, er bod llawer ohonynt yn dal i gael eu symud i lety parhaol. Nid yw'r ffigurau gennyf, ond fe edrychaf i weld. Ni chredaf ein bod yn cysylltu'r taliad disgresiwn at gostau tai â symud i dai parhaol yn benodol—gellir cael y taliad hwnnw i dalu rhent mewn tai dros dro, er enghraifft. Rwy'n fwy na pharod i rannu'r siart sy'n dangos faint o daliadau disgresiwn at gostau tai a wnaed, ac ym mha gyfran, gyda'r holl Aelodau.

Mae dau beth pwysig i'w dweud yma. Rydym yn monitro drwy'r amser yr hyn y gall awdurdodau lleol ei wneud gyda'r taliadau disgresiwn at gostau tai, ac a yw'r meini prawf cymhwysedd yn ddigonol at eu diben. Rydym wedi newid hynny ar sawl achlysur yn ystod y pandemig, fel y gŵyr, er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch i bobl. Y syniad, yn amlwg, yw cynorthwyo pobl i aros yn eu tai, boed yn dai dros dro neu barhaol. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod, ac yn wir, i rannu hynny gyda'r holl Aelodau, gyda grid sy'n dangos faint o daliadau a wnaed.

Yr anhawster, fel y nododd yn gywir, yw'r broblem gyda'r system les. Newid y mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi'i wneud o dan y radar yn eu ffordd gwbl ddidostur yw rhewi'r lwfans tai lleol ddwy flynedd yn ôl, fel bod gwerth budd-dal i rywun nad ydynt mewn tai cymdeithasol eisoes yn lleihau. Mae'r newidiadau bach hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr ym mywydau pobl, ac mae'r don enfawr sydd ar fin taro pobl ar incwm is y gaeaf hwn gyda'r cynnydd mewn taliadau yswiriant gwladol, diddymu'r £20 o gredyd cynhwysol a rhewi'r lwfans tai lleol yn gwbl warthus. Felly, rwy'n fwy na pharod i weithio gydag unrhyw wybodaeth sydd ganddo ynglŷn ag awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd talu'r arian. Cytunaf yn llwyr ag ef ein bod am i’r arian hwnnw gael ei dalu i'r bobl sydd ei angen ledled Cymru er mwyn ceisio lliniaru rhai o’r toriadau mwyaf didostur i mi eu gweld erioed yn y wladwriaeth les, gan unrhyw Lywodraeth yn ystod fy oes mewn gwirionedd. Mae'n eithaf syfrdanol, y diffyg cydymdeimlad echrydus hwn gan y Llywodraeth Geidwadol, ac rwy'n fwy na pharod i rannu lle mae'r taliadau gydag ef ac Aelodau eraill. Nid yw'r wybodaeth honno gennyf ar hyn o bryd, ond rwy'n fwy na pharod i'w rhannu gydag ef.

14:00
Effeithlonrwydd Ynni Cynaliadwy

4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer effeithlonrwydd ynni cynaliadwy yng Nghymru? OQ57133

Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi ein cynllun cyflawni ar gyfer Cymru gyfan, 'Cymru Sero Net'. Mae hwn yn nodi'r camau sy'n rhaid i bawb ohonom eu cymryd yn ystod tymor y Senedd ar ein taith tuag at sero net. Mae hyn yn cynnwys ein dull o weithredu ar effeithlonrwydd ynni, sy’n cysylltu buddsoddiad, arloesedd, ymgysylltiad â'r cyhoedd ac ysgogiad cadwyni cyflenwi.

Ar y daith tuag at ddatgarboneiddio, mae'r argyfwng prisiau ynni byd-eang wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cyfredol nwy fel cyflenwad wrth gefn pan fo'r cyfraniad ynni o ynni adnewyddadwy ysbeidiol gwynt a haul yn isel. Mae'r system fregus hon yn wynebu heriau pellach gan y bydd y rhan fwyaf o bwerdai niwclear y DU, sy'n cyflenwi tua 20 y cant o'n trydan ar hyn o bryd, yn cau erbyn diwedd y degawd. Fodd bynnag, mae cynigion safle ar gyfer adweithyddion niwclear modiwlaidd bach newydd yn cynnwys gogledd Cymru, ac mae Bil Ynni Niwclear y DU (Ariannu) hefyd yn cynnig potensial ar gyfer gorsaf ynni niwclear newydd yn Wylfa Newydd ar Ynys Môn, gyda chwmnïau fel Bechtel a Rolls Royce eisoes yn awyddus i sefydlu pŵer niwclear newydd yno.

Yn sgil fy nghyfarfod diweddar â phrif weithredwr Cymdeithas y Diwydiant Niwclear, sut rydych chi'n ymateb felly i'w dystiolaeth fod yr holl orsafoedd pŵer niwclear modern sydd wedi'u cynllunio neu sy'n cael eu hadeiladu yn y DU yn gallu addasu yn ôl y galw—addasu eu hallbwn pŵer wrth i'r galw am drydan amrywio drwy gydol y dydd—ac mewn rhwydweithiau lle cynhyrchir llawer iawn o ynni niwclear, fel Ffrainc, fod gorsafoedd pŵer niwclear yn addasu yn ôl y galw yn rheolaidd neu'n darparu cyflenwad wrth gefn, ac yng ngrid y DU yn y dyfodol sy'n cynnwys ynni adnewyddadwy a niwclear yn bennaf, y byddai niwclear yn gallu addasu yn ôl y galw neu ddarparu’r cyflenwad wrth gefn hwnnw?

Wel, rwy'n siŵr ei fod yn iawn. Nid wyf yn deall yn llwyr yr hyn y mae'n ei ofyn i mi, a bod yn onest. Cytunaf yn llwyr fod gan niwclear ran i'w chwarae os gallwn sicrhau’r mathau cywir o orsafoedd niwclear yng Nghymru. Fe fydd yn gwybod bod gennym glwstwr o wyddonwyr yn gweithio ar hynny yng ngogledd-orllewin Cymru a'n bod yn archwilio'r potensial ar gyfer Trawsfynydd. Mae problemau Wylfa yn dra hysbys—mae cael buddsoddwr ar gyfer safle niwclear ar y raddfa honno yn Ynys Môn yn llawn cymaint o gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU ag i ni, ac rydym yn gweithio gyda hwy ar hynny. Os gallwn gael y cymysgedd hwnnw’n iawn, rwy'n siŵr ei fod yn chwarae rhan yn hynny.

Yn y cyfamser, nid ydym yn dibynnu ar hynny yng Nghymru. Fel y dywedaf, rydym yn chwilio am gyflenwad sylfaen o ynni adnewyddadwy, sef yr hyn y mae’n siarad amdano. Os gallwn gael hynny o ynni adnewyddadwy morol heb ddim o'r anawsterau amlwg y mae'r diwydiant niwclear wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd, byddwn o blaid gwneud hynny. Ond nid oes gennyf unrhyw broblem gyda thrafod y potensial am ateb niwclear mewn rhai rhannau o Gymru os yw'r dechnoleg ar gael ac os gallwn sicrhau bod y prosiect yn un fforddiadwy.

Mae fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, wedi bod yn gweithio gyda chwmni sector cyhoeddus er mwyn manteisio ar rai o'r deunyddiau hyn, ac rwy'n fwy na pharod i—wel, rwyf wedi bod yn gweithio gyda fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi ar y mater, ac rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd wrth i'r datblygiadau hynny fynd rhagddynt.

Ynni Adnewyddadwy

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith bosibl datganoli rheolaeth dros Ystâd y Goron yng Nghymru ar ynni adnewyddadwy? OQ57138

Byddai datganoli rheolaeth dros Ystâd y Goron yn rhoi mwy o hyblygrwydd inni wrth ddewis pa mor bell a pha mor gyflym rydym am ddefnyddio ynni adnewyddadwy, yn enwedig yn nyfroedd Cymru. Rydym yn bwriadu i'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ystyried Ystâd y Goron yng nghyd-destun asesiad cynhwysfawr o'r pwerau sydd eu hangen ar Gymru.

Diolch yn fawr am eich ateb, Weinidog. Ar ymweliad ddoe â phorthladd Caerdydd, fe wnaethom ni drafod y posibiliadau anhygoel sydd gan Gymru ym maes ynni adnewyddadwy, ac aeth y sgwrs ymlaen ynglŷn â datganoli Ystâd y Goron i Gymru fel mae wedi digwydd i'r Alban yn barod. Fel gwnaeth y Prif Weinidog ddweud yn ddiweddar ac fel rŷch chi wedi awgrymu heddiw, roedd rheolwyr y porthladd hefyd yn credu, yn grediniol iawn, y byddai datganoli Ystâd y Goron yn beth da i Gymru ac yn creu potensial enfawr ym maes ynni adnewyddadwy. Y consýrn mawr gyda nhw a'r consýrn mawr gyda fi yw ein bod ni'n mynd i golli cyfle anhygoel fan hyn yng Nghymru a bod gwledydd eraill yn mynd i fynd ar flaen y gad gyda ni fan hyn. Felly, wrth gofio sylwadau'r Prif Weinidog, wrth gofio beth rŷch chi newydd ei ddweud ac o ystyried potensial amlwg datganoli Ystâd y Goron i Gymru, pam felly wnaethoch chi fel Llywodraeth, fel Llafur yma yn y Senedd, bleidleisio gyda'r blaid Dorïaidd yn erbyn mesur Plaid Cymru i ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru fis diwethaf?

14:05

Wel, yr ateb byr i’r cwestiwn hwnnw yw oherwydd eich bod wedi’i gyfuno â nifer o bethau eraill nad oeddem yn eu hoffi. Felly, i droi at faterion Ystâd y Goron, serch hynny, maent yn cael effaith sylweddol, fel y dywedodd yn gywir, ar waith ynni adnewyddadwy, yn enwedig mewn perthynas â phrydlesau gwely'r môr, ac mae ganddynt dirddaliadaeth strategol sylweddol yng Nghymru. Rwy’n cytuno’n llwyr bod amseriad prydlesu’r tir yn sicr yn pennu gallu prosiectau yng Nghymru i gystadlu ar sail deg.

Rwyf wedi cael cyfarfod da iawn ag Ystâd y Goron, fel y cafodd fy nghyd-Aelod, Lee Waters, i nodi ein blaenoriaethau ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Fe wnaethom ein dau fynegi ein barn yn hynod gadarn fod yn rhaid i Ystâd y Goron fod yn alluogwr yng Nghymru, a gwnaethom ofyn am sicrwydd nad yw eu huchelgais a'u hamserlenni wedi rhoi Cymru dan anfantais wrth ddatblygu ein diwydiant ynni adnewyddadwy morol ac alltraeth. Ond hefyd, ac yn bwysicach o lawer efallai, o ran ein cynlluniau trawsnewid cyfiawn, fe wnaethom gytuno bod angen i fuddion economaidd lleol fod yn ystyriaeth berthnasol wrth ddarparu hawliau a chontractau gwely'r môr.

Fel y byddwch yn gwybod rwy’n siŵr, mae fy nghyd-Aelod, Lee Waters, yn cynnal astudiaeth ddofn i ynni adnewyddadwy i edrych ar sut i gynnull cynghrair ar gyfer newid ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat i gyflymu'r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy, ac mae hynny'n cynnwys sicrhau bod Ystâd y Goron yn ymddwyn fel partner galluogi, er nad ydynt wedi’u datganoli i Gymru. Byddwn yn cyfarfod ag Ystâd y Goron eto yn dilyn yr astudiaeth ddofn i sicrhau ei hymgysylltiad â Chymru yn y dyfodol.

Ond yr ateb byr i gwestiwn yr Aelod, os yw'n awyddus i ni gytuno i'w gynigion, yw bod angen iddo sicrhau nad ydynt yn cynnwys pethau nad ydym yn cytuno â hwy.

Weinidog, cyn i mi ofyn fy nghwestiwn, bob tro y soniwch am y Dirprwy Weinidog yn cynnal astudiaeth ddofn—deep dive—rwy’n ei ddychmygu’n gorfforol yn plymio’n ddwfn o bryd i’w gilydd. [Chwerthin.] Ond diolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn ynghylch effaith bosibl datganoli rheolaeth ar Ystâd y Goron yng Nghymru ar ynni adnewyddadwy. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol, Weinidog, fod Ystâd y Goron, dros y 10 mlynedd diwethaf, wedi cyfrannu £3 biliwn i'r pwrs cyhoeddus, ac ar wahân i helpu a chefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, mae’r ffaith bod Ystâd y Goron wedi cadw rheolaeth dda ar yr asedau pwysig hyn wedi arwain at fanteision mawr i bobl Cymru, gan gynnwys gwaith parhaus ar ynni adnewyddadwy, y sonioch chi amdano eiliad yn ôl, cefnogi cannoedd o swyddi, lleihau allyriadau carbon a chynyddu’r potensial i drethdalwyr drwy'r cyfraniadau yn ôl i’r Trysorlys. Felly, Weinidog, a fyddech chi'n cytuno y dylem dreulio ein hamser a'n hegni yn creu cyfleoedd i weithio mewn ysbryd o undod gydag Ystâd y Goron, gan weithio gyda'n gilydd er budd pobl Cymru, yn hytrach na chreu rhaniadau a gwrthdaro? Diolch yn fawr iawn.

Cytunaf yn llwyr fod angen inni reoli ein perthynas ag Ystâd y Goron, sy'n un dda iawn, er mwyn sicrhau ein bod yn datgloi'r potensial ar gyfer ynni adnewyddadwy, fel rwyf newydd ei ddweud. Fodd bynnag, datganolodd Llywodraeth y DU Ystâd y Goron i’r Alban yn ôl yn 2016, mae ganddynt reolaeth ar Ystâd y Goron yn yr Alban, ac o ganlyniad, gallant wneud nifer o bethau, gan gynnwys cynnal cylchoedd ceisiadau ar gyfer ynni adnewyddadwy o dan eu rheolaeth eu hunain, rhywbeth na allwn ni ei wneud, ac mae hynny, o reidrwydd, yn anfantais.

Mae yna broblem hefyd yn ymwneud â'r cyllid, felly nid wyf yn anghytuno â Sam Rowlands pan ddywed bod angen inni gael perthynas dda ag Ystâd y Goron ac mae angen inni sicrhau ein bod yn gweithio'n hapus gyda hwy, o ystyried y sefyllfa bresennol, ond gorchwyl benodol Ystâd y Goron yw cynhyrchu elw i Drysorlys y DU yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd. Dros y 10 mlynedd diwethaf, roedd yr elw hwnnw'n £3 biliwn, a'r elw net yn £269.3 miliwn yn 2020-21, felly ni allaf esgus na fyddai'n llawer gwell gennyf pe bai cyfran o hwnnw'n dod yn uniongyrchol i Drysorlys Cymru yn hytrach na thrwy Lywodraeth y DU, sydd wedi llusgo'i thraed yn arw rhag  sicrhau ein bod yn cael fformiwla wedi'i Barnetteiddio'n gywir. Felly, er fy mod yn cytuno â byrdwn cyffredinol ei ddadl, ceir budd ariannol yn ddi-os, fel sy'n amlwg iawn yn yr Alban, o gael Ystâd y Goron wedi'i datganoli.

14:10

Cwestiwn 6 nesaf, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog ac i'w ofyn gan Delyth Jewell. 

Trafnidiaeth Gyhoeddus

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru? OQ57152

Gwnaf. Mae dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru yn addawol. Mae gwaith ar y gweill i drawsnewid rheilffyrdd craidd y Cymoedd, gan fwrw ymlaen ag argymhellion yr Arglwydd Burns o amgylch Casnewydd, ac rydym yn dechrau gweld y trenau newydd a fydd yn rhedeg ar draws y rhanbarth yn cael eu darparu.

Diolch, Weinidog. Ar hyn o bryd mae streic yn digwydd yn fy rhanbarth i, gyda staff Stagecoach sydd wedi'u lleoli yn y depos yng Nghwmbrân, Bryn-mawr a Choed-duon ar y llinell biced am y drydedd wythnos. Mae'n destun gofid fod y sefyllfa fel y mae hi, Weinidog, pan ystyriwch gyn lleied y mae'r gyrwyr yn gofyn amdano, sef codiad cyflog o £1 yn unig i £10.50 yr awr. Nid yw hynny ond £1 yn uwch na'r cyflog byw, fel y'i diffinnir gan y Living Wage Foundation, ac mewn gwirionedd mae'n llai nag y mae gyrwyr dan hyfforddiant yn ei gael dros y ffin yn Lloegr, yn ôl ymchwil gan Nation.Cymru. Nawr, Weinidog, rwy'n deall bod Stagecoach wedi tynnu allan o gyfarfod gydag Unite gyda dim ond 45 munud o rybudd ddydd Llun, ac mae'n debyg fod un o'u rheolwyr wedi disgrifio galwad yr undeb am godiad cyflog o £1 fel 'galwad ffantasïol am godiad cyflog fel rhan o agenda wleidyddol ehangach'. Rwy'n poeni am yr agwedd a'u hysgogodd i ddweud hynny. Felly, Weinidog, a wnewch chi roi eich cefnogaeth, os gwelwch yn dda, i'r streicwyr ac annog Stagecoach i eistedd wrth y bwrdd i negodi'n iawn fel y gellir taro bargen ac fel y gallant ailddechrau eu gwaith o ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus?

Ie. Yn naturiol, rydym mewn cysylltiad â Stagecoach a'r undebau llafur ynglŷn â hyn, ac rwy'n pryderu'n fawr nad yw'r anghydfod wedi cael ei ddatrys yn llwyddiannus eto. Rwy'n sicr yn annog hynny i ddigwydd cyn gynted â phosibl, oherwydd mae pobl bellach yn dechrau dioddef gan nad oes gwasanaethau yno ar eu cyfer pan fo'u hangen arnynt. Cyfarfûm ag Unite ddoe, ac roeddwn yn bryderus iawn ynglŷn â'u hawgrym mai rhan o'r cymhelliant oedd bod y cwmni eisiau i'w costau aros mor isel â phosibl fel y gallant gyflwyno tendrau ar y pris isaf posibl i ddiogelu llwybrau yn y dyfodol pan ddaw'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau i ben ym mis Gorffennaf. Mae angen inni sicrhau wrth inni symud at fasnachfreinio fod amodau gweithwyr yn cael eu diogelu ac nad yw'r awydd am elw masnachol cyflym yn cael ei roi o flaen hawliau ac anghenion gweithlu cymwysedig ar gyflogau da i wasanaethu teithwyr.

[Anghlywadwy.]—y Siambr hon, mae Aelodau o bob ochr wedi cytuno â'r angen i symud tuag at systemau trafnidiaeth aml-ddull i leihau ein dibyniaeth ar geir, i wneud gwasanaethau'n fwy hygyrch ac i gyflawni ein hymrwymiad newid hinsawdd. Wrth gwrs, mae ateb yr her hon yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd mwy gwledig yng Nghymru, megis fy etholaeth i ym Mynwy, lle ceir gorddibyniaeth ar fod yn berchen ar gar a gall argaeledd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus fod yn anghyson ar y gorau. A bod yn deg, mae eich strategaeth drafnidiaeth ddiweddar, 'Llwybr Newydd', yn cydnabod rhai o'r materion hyn drwy'r llwybr cyflawni trawsbynciol gwledig, a gwn fod cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol hefyd yn cael eu hystyried yn ffordd o deilwra gwasanaethau trafnidiaeth i anghenion lleol. Mae bwriad da i'r cynlluniau hyn, ond wrth gwrs os ydynt am gael eu gwireddu, mae angen gweithredu hirdymor go iawn. Felly, pa fesurau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu harchwilio i gynorthwyo cynghorau i gynllunio a darparu atebion trafnidiaeth lleol sy'n diwallu anghenion cymunedau lleol, yn enwedig cymunedau yn y Gymru wledig sy'n wynebu nifer o heriau ymarferol? Diolch.

Wel, rwy'n ymuno â'r Senedd heddiw o'r COP26 yn Glasgow, lle mae'n ddiwrnod trafnidiaeth heddiw, ac rydym wedi llofnodi datganiad gyda nifer o wledydd blaenllaw i weithio tuag at sicrhau bod yr holl geir a faniau newydd a werthir yn y byd yn rhai dim allyriadau erbyn 2040 a heb fod yn hwyrach na 2035 yn y prif farchnadoedd, a bydd hynny'n gyfraniad pwysig at gyflawni sero-net. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd Peter Fox am y gefnogaeth i newid i drafnidiaeth gynaliadwy, ond wrth gwrs pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau sy'n gweithredu hynny ac yn rhyddhau arian o gynlluniau ffyrdd i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gynaliadwy, fel yr M4 yng Nghasnewydd ac yn Llanbedr yng Ngwynedd, gwelwn wrthwynebiad cyson i'r camau angenrheidiol ar gyfer gweithredu'r egwyddor honno. Mae hynny'n rhywbeth y credaf fod angen i'r gwrthbleidiau ei ystyried. Mae'n ddigon hawdd cytuno â'r egwyddor, ond mae'n rhaid ichi gytuno â chanlyniadau'r egwyddor hefyd. 

Mae Peter Fox yn iawn i ddweud bod set wahanol o heriau'n perthyn i ardaloedd gwledig. Nid ydynt yn anorchfygol, ond mae angen dull gweithredu gwahanol arnynt. Rwy'n falch ei fod yn gweld bod cydnabyddiaeth i hynny yn 'Llwybr Newydd', a byddwn yn adeiladu arno yn y misoedd i ddod, ac rwy'n gobeithio cyhoeddi papur byr sy'n nodi'r hyn y credwn y gallwn ei ddysgu yng Nghymru o enghreifftiau rhyngwladol o ardaloedd gwledig. Mae hefyd yn iawn i nodi y bydd gallu awdurdodau lleol i gyflawni yn hanfodol i hyn ac rydym yn gwybod, oherwydd 10 mlynedd o gyni, fod straen gwirioneddol ar gapasiti awdurdodau lleol i allu gwneud hynny. Dyna un o'r rhesymau dros ffurfio ein cyd-bwyllgorau corfforaethol i ranbartholi'r sgiliau hynny a chydweithio a chydweithredu er mwyn rhoi'r cynlluniau hynny ar waith, ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn gweithio arno gydag awdurdodau lleol ar hyn o bryd, ac rwy'n awyddus iawn i gael sgyrsiau pellach gyda chyd-Aelodau o bob rhan o'r Senedd i sicrhau ein bod yn cael y manylion hyn yn iawn er mwyn inni allu cyflawni ar gyfer ein cymunedau.

14:15
Gwrthbwyso Carbon

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y fframwaith rheoleiddio cyfredol ar gyfer plannu coed at ddibenion gwrthbwyso carbon? OQ57149

Gwnaf. Mae’n rhaid i waith ar greu coetiroedd newydd yng Nghymru gydymffurfio â rheoliadau asesu effaith amgylcheddol. Y cod carbon coetiroedd yw'r safon gwrthbwyso gwirfoddol ar gyfer creu coetiroedd yn y DU ac mae'n rhoi sicrwydd ynghylch arbedion carbon coetiroedd a reolir yn gynaliadwy. Wrth gwrs, dylai cwmnïau flaenoriaethu lleihau allyriadau carbon bob amser cyn gwrthbwyso.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog. Fel rŷch chi'n gwybod, dwi wedi mynegi pryderon sawl gwaith yn y Siambr hon am ffermydd yn cael eu prynu gan gwmnïau y tu allan i Gymru ar gyfer gwrthbwyso allyriadau carbon, a bron bob wythnos nawr rŷn ni'n clywed am enghreifftiau o hyn yn digwydd. Ac o ganlyniad, rŷn ni'n colli ffermydd teuluol a cholli tir amaeth da, ac rŷn ni'n gweld coed yn disodli pobl, gydag effaith negyddol honno ar natur ein cymunedau gwledig. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, dwi wedi cael cyfle i gwrdd â thrigolion yng Nghwrt-y-cadno yng ngogledd sir Gaerfyrddin a Hermon yn sir Benfro, sy'n poeni'n fawr iawn am y datblygiadau arfaethedig hyn, ac rôn nhw'n teimlo'n hollol ddi-rym ac yn gofyn i fi godi'u pryderon nhw gyda chi fel Gweinidogion.

Nawr, pan godais i'r mater yma gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd y mis diwethaf, fe wnaeth hi gydnabod bod hon yn broblem, ac, fel y dywedoch chi, yr unig asesiad sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yw asesiad effaith amgylcheddol. Rwy'n bendant o'r farn bod yn rhaid inni ddefnyddio'r system gynllunio i reoli'r math hwn o ddatblygiadau er mwyn i drigolion lleol gael mwy o reolaeth ar ddyfodol eu cymunedau a siapo defnydd tir yn eu hardaloedd. Ydych chi'n cytuno?

Er fy mod yn cydnabod y pryderon yn llwyr, credaf ei bod yn bwysig iawn inni fynd i'r afael â'r broblem hon mewn ffordd gyfrifol, a'n bod yn gweithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion. Nid wyf yn cefnogi cwmnïau sy'n gwyrddgalchu drwy ddefnyddio plannu coed fel ffordd o gyfiawnhau dulliau sy'n llygru. Nawr, mae gennym ofyniad, os ydym am gyrraedd ein targed sero-net erbyn 2050—a gwn ei fod ef a'i blaid yn credu y dylem fod yn cyrraedd sero-net cyn hynny—i gynyddu ein gweithgareddau plannu coed yn ddramatig: cynnydd o bymtheg gwaith y coed a blennir erbyn diwedd y degawd hwn. Nawr, rydym eisiau i ffermwyr Cymru a thirfeddianwyr Cymru arwain y gwaith hwnnw. Nid ydym eisiau i fuddsoddwyr o'r tu allan i gymunedau wneud hynny, byddai'n well gennym pe bai hynny'n cael ei wneud o fewn ein cymunedau, ac er tegwch, cyn gynted ag y dechreuais fy ymarfer cychwynnol ar blannu coed ar ddechrau'r haf, sylwais fod hon yn broblem ar unwaith, ac rwyf wedi sefydlu grŵp sy'n gwneud gwaith da i edrych ar fodelau ariannu amgen er mwyn gallu cadw'r rheolaeth a'r berchnogaeth yn lleol, heb amharu ar batrymau perchnogaeth tir lleol, ond sicrhau'r cyllid fel y gellir cyrraedd y targedau plannu coed. Roeddwn yn falch iawn o weld bod Cefin Campbell wedi ymweld â phrosiect Stump Up for Trees yn y Fenni a bod y gwaith y maent yn ei wneud wedi creu argraff fawr arno. Credaf ei fod yn fodel rhagorol, oherwydd nid yw'n disodli cynhyrchu bwyd—mae'n plannu ar dir anghynhyrchiol—ac mae'n cael ei reoli a'i berchen yn lleol, ac rydym yn gweithio gyda hwy yn awr i weld a ellir ailadrodd y model hwnnw ar raddfa fwy ledled y wlad. Ond mae'n amlwg fod perygl, drwy bŵer cyfalafiaeth, fod pobl sy'n gallu talu mwy yn gallu cynnig mwy o arian na phobl leol am dir ar gyfer plannu nifer sylweddol o goed.

Rwyf wedi gofyn i swyddogion cynllunio edrych ar sut y gall y system gynllunio alluogi plannu coed, ac i weld a oes angen inni edrych ar fesurau pan fo newidiadau sylweddol mewn perchnogaeth tir. Rwyf ychydig yn betrus ynglŷn â'r ffaith mai diben yr ymarfer plannu coed oedd dileu rhwystrau, oherwydd mae ffermwyr yn cwyno ei bod yn rhy anodd plannu coed ar hyn o bryd, ac ni fyddwn yn dymuno ei gwneud yn anos fyth iddynt yn ddiarwybod. Felly, rwy'n credu bod angen taro'r cydbwysedd hwnnw, ond rwyf wedi bod yn gwrando ar ei bryderon ef a phryderon pobl eraill. Cefais gyfarfod da iawn yma yn Glasgow ddoe gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ar y mater, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio ar sail drawsbleidiol i weld sut y gallwn weithio gyda chymunedau i gyflawni ein targedau plannu coed, ond i wneud hynny mewn ffordd sy'n dod â'r cymunedau gyda ni.

14:20
Y System Drafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r system drafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OQ57145

Gwnaf. Mae'r mapiau a gyhoeddwyd gennym fis diwethaf yn dangos maint ein huchelgeisiau, gan gynnwys gorsafoedd, llwybrau a gwasanaethau newydd. Bydd teithwyr yn gweld gwelliannau i'w rhwydwaith o'r flwyddyn nesaf ymlaen ar ffurf trenau newydd, ac rydym yn gweithio'n galed gydag awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus newydd a llwybrau teithio llesol ar draws y de-orllewin.

Diolch, Dirprwy Weinidog. Pythefnos yn ôl, gan ddatgan bod yr argyfwng hinsawdd yn golygu bod yn rhaid inni newid y ffordd rŷn ni'n teithio, fe gyhoeddoch chi ddiweddariad ar gyfer cynllun metro bae Abertawe a gorllewin Cymru, a hynny gan nodi bod 17 y cant o allyriadau carbon Cymru yn dod o drafnidiaeth, a bod angen felly i gael pobl i newid i fathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth. Fel rhan o'r adroddiad a gyhoeddwyd, mae'r mapiau o gynlluniau arfaethedig i'w gweld, ac mae bylchau mawr yn y mapiau hynny o ran datblygiadau trafnidiaeth i wasanaethu cwm Tawe a chwm Afan yn enwedig. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro dros fetro yn ne-orllewin Cymru, a rŷn ni'n credu bod yn rhaid i gynllun metro gynnwys gwasanaethau rheilffordd neu reilffordd ysgafn i gysylltu cymunedau'r Cymoedd gorllewinol. Mae'r bylchau hyn yn y cynlluniau felly yn siomedig o ystyried y buddiannau economaidd, gwyrdd a chymdeithasol posibl, ac felly a wnaiff y Dirprwy Weinidog esbonio pam nad oes yna fwriad, o beth welaf i, hyd yn oed yn yr hirdymor, i ddatblygu a chryfhau cysylltiadau trafnidiaeth cwm Tawe ac Afan a helpu trigolion i gael mynediad hawdd i drafnidiaeth gyhoeddus yn unol â'r nod gwaelodol strategaeth drafnidiaeth y Llywodraeth? Diolch. 

Diolch. Rwy'n cytuno â'r dadansoddiad hwnnw. Rwy'n sicr yn rhannu ei hawydd i weld metro de-orllewin Cymru. Credaf mai'r gwir amdani yw mai metro bae Abertawe, fel rydym yn ei alw, yw'r lleiaf datblygedig o'r tri chynllun metro, a hynny'n rhannol am nad yw bargen ddinesig bae Abertawe wedi canolbwyntio ar drafnidiaeth yn y ffordd y mae'r bargeinion dinesig, y dinas-ranbarthau, eraill wedi'i wneud. Dechreuodd yr awdurdodau lleol wneud rhywfaint o waith, ac rydym bellach wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru wneud hwnnw'n fewnol i gyflymu pethau, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar wneud gwaith mapio a chynllunio hirdymor o ble y gellid datblygu'r metro, ac mae cynnydd yn cael ei wneud, a gallaf ei sicrhau fy mod wedi bod yn mynd ar drywydd hynny ers dechrau yn y swydd. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei gyflymu wrth inni weld y cyd-bwyllgorau corfforaethol yn cael eu grymuso o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Mae'n hanfodol eu bod yn gweithio gyda ni a Trafnidiaeth Cymru i wneud mwy i lenwi'r bylchau ar y map, oherwydd, os ydym am gyflawni uchelgais 'Llwybr Newydd' ac os ydym am gyflawni ein hamcanion newid hinsawdd, mae'n rhaid inni weld yn ne-orllewin Cymru yr hyn a welwn yng Nghaerdydd a'r Cymoedd yn awr ar ddatblygu'r metro, mewn trafnidiaeth gyhoeddus, bysiau a threnau, ac integreiddio â theithio llesol hefyd. Felly, mae llawer mwy y mae angen i ni ei wneud yn y de-orllewin.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant. 

Addysgu Hanesion a Phrofiadau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella addysgu hanesion a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm? OQ57154

Mae'n hanfodol fod addysg yn arfogi pobl ifanc i ddeall a pharchu eu hanesion a'u diwylliannau eu hunain a'i gilydd. Rydym yn ychwanegu addysg am amrywiaeth cymunedau at y cwricwlwm, ac rydym hefyd yn buddsoddi mewn dysgu proffesiynol i gefnogi addysgwyr a gweithio i sicrhau gweithlu mwy amrywiol.

Diolch, Weinidog. Mae'n rhaid i'r hanes a addysgwn gyfleu profiadau a safbwyntiau niferus y rhai sydd wedi galw Cymru yn gartref iddynt. Ni ellir anwybyddu digwyddiadau mawr ac arwyddocaol am eu bod yn anghyfforddus neu'n anodd. Mae terfysgoedd hil de Cymru 1919 wedi cael eu hanghofio i raddau helaeth. Dechreuodd terfysgoedd George Street yng Nghasnewydd ac roedd 5,000 o bobl yn rhan ohonynt cyn iddynt ledu i Gaerdydd a rhannau eraill o Gymru a'r DU. Cysylltodd Prosiect Hanes y Doc a Bigger Picture ag ysgolion cynradd lleol yng Nghasnewydd i nodi'r canmlwyddiant, ond mae'n rhaid gwneud mwy i sicrhau nad yw'r rhan hon o'n hanes yng Nghymru'n mynd yn angof. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod adegau arwyddocaol yn ein hanes fel terfysgoedd hil de Cymru yn cael eu cynnwys wrth addysgu hanes pobl dduon yng Nghymru?

Wel, rydym yn arwain y ffordd yng Nghymru fel y rhan gyntaf o'r DU i'w gwneud yn orfodol i addysgu hanesion a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yn y cwricwlwm, a bydd hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd addysgu profiadau'r gorffennol a'r presennol a chyfraniadau ein cymunedau lleiafrifol ethnig fel rhan o stori Cymru ar draws y cwricwlwm. Ac yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf, rydym i fod i gael sgwrs rhwydwaith genedlaethol, sy'n canolbwyntio ar amrywiaeth, ar gyfer datblygu adnoddau a deunyddiau ategol ar hanes Cymru a chyd-destun lleol. Ac fe fydd hi'n ymwybodol o'r gwaith rydym yn ei wneud i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu addysgu drwy annog unigolion o gymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig i ddod yn athrawon.

Fe fydd hi hefyd yn ymwybodol fod Estyn wedi cyhoeddi adroddiad thematig fis diwethaf ar addysgu hanes Cymru, gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig, ac rwy'n ystyried sut rydym yn ymateb i hynny. Ond un o'r pethau sy'n glir o adroddiad Estyn yw pa mor bwysig yw hi fod gan ein pobl ifanc ddealltwriaeth glir o hanes Cymru, gan gynnwys yr agweddau amrywiol niferus arno, gan gynnwys rôl Cymru yn y fasnach gaethweision a'r terfysgoedd hil. Mae'r rhain yn rhannau pwysig o hanes Cymru ac ni ddylid byth eu hanghofio.

14:25

Weinidog, mewn egwyddor, nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad o gwbl i blant yng Nghymru ddysgu am hanes pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yn ysgolion Cymru. Llofnododd bron i 35,000 o bobl ddeiseb yn galw am wneud hyn yn orfodol, gan gydnabod gwaddol trefedigaethedd a chaethwasiaeth mewn cymunedau ledled Cymru. Fodd bynnag, mae gennyf un pryder. Mae perygl y gallai canolbwyntio ar drefedigaethedd a chaethwasiaeth waethygu tensiynau hiliol yn yr ystafell ddosbarth ac na fydd digon o sylw yn cael ei roi i'r cyfraniad cadarnhaol a wneir gan bobl groenliw i'n hanes, pobl fel—Mary Seacole a Mary Prince yn bennaf. Felly, sut y byddwch yn sicrhau y bydd addysgu hanes lleiafrifol ethnig mewn ysgolion ledled Cymru yn cael yr effaith a ddymunir o ran gwella cydlyniant a dealltwriaeth rhwng cymunedau yng Nghymru yn hytrach na lledu'r bwlch rhyngddynt? Ac un is-gwestiwn: pa ddangosyddion perfformiad allweddol y byddwch yn eu rhoi ar waith—gwn eich bod wedi sôn y bydd digon o ddeunyddiau a chymorth ar gael i athrawon, ond pa ddangosyddion perfformiad allweddol y byddwch yn eu rhoi ar waith i fonitro hyn a sicrhau ei fod yn cael yr effaith a ddymunir? Diolch.

Wel, credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig. Ymwelais ag Ysgol Gynradd Mount Stuart i lawr y ffordd o'r fan hon i lansio gwobr Betty Campbell i athrawon a oedd wedi dangos ymrwymiad penodol i amrywiaeth yn y cwricwlwm ac yn yr ystafell ddosbarth, a bûm yn siarad â'r bobl ifanc yno am eu modelau rôl yn eu cymunedau. Roeddent wedi gwneud prosiect lle roeddent yn dathlu cyfraniadau cadarnhaol cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig i'w cymuned ac i Gymru, ac i'r byd yn wir. Felly, credaf fod angen i'r amrywiaeth fod yn wirioneddol amrywiol—mae angen iddi adlewyrchu'r holl brofiad mewn hanes ond yn y Gymru fodern sydd ohoni hefyd, ac rwy'n hyderus, wrth ddysgu'r gwersi y mae'r Athro Charlotte Williams a'i grŵp wedi ein helpu gyda hwy, a'r gwaith y mae Estyn yn ein helpu gydag ef, y byddwn yn gallu darparu cwricwlwm cyfoethog sy'n sicrhau bod ein holl blant ym mhob rhan o Gymru yn deall amrywiaeth lawn hanes Cymru a'r Gymru fodern.

Diolch yn fawr i chi, Weinidog, am eich atebion hyd yn hyn. Fel rŷch chi'n gwybod, mae 20 y cant o bobl Caerdydd yn dod o gefndiroedd BAME, ac, fel rŷch chi wedi sôn yn barod, mae'n hollbwysig bod plant y cymunedau yma yn cael eu gweld, eu bod nhw'n cael eu cynrychioli yn y cwricwlwm ac o fewn y sector addysg. Mae hynny'n dangos pwysigrwydd pethau fel gwobr Betty Campbell. Ar 13 Rhagfyr, dwi'n noddi digwyddiad yma yn y Senedd, pan fydd yr awdur du o Gaerdydd Jessica Dunrod, gyda'r Mudiad Meithrin, yn arddangos llyfrau gan awduron du, gyda chymeriadau o wahanol gefndiroedd ynddyn nhw, sydd wedi cael eu cyfieithu i'r Gymraeg. A wnewch chi bob ymdrech i ddod i'r digwyddiad yna, Weinidog, ond, yn bwysicach na hynny, a wnewch chi bob ymdrech i hyrwyddo deunyddiau sy'n gynhwysol yn y byd addysg? Diolch yn fawr.  

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rŷn ni yn buddsoddi'n sylweddol iawn er mwyn sicrhau cefnogaeth i awduron a phobl sy'n darparu adnoddau er mwyn sicrhau bod gan ein hathrawon ni'r deunyddiau sydd eu hangen er mwyn delifro'r cwricwlwm yn y ffordd gynhwysol mae'r Aelod yn sôn amdano fe. Os ydw i'n rhydd ar y diwrnod hwnnw, byddaf i'n hapus iawn i ddod i'r achlysur. Os wyf i ddim yn digwydd bod yn rhydd, buaswn i'n hapus iawn trefnu achlysur arall i gwrdd gyda hi. 

Targed Sero-net

2. Sut mae polisïau addysg y Gweinidog yn cyfrannu at darged sero-net Llywodraeth Cymru? OQ57157

14:30

Mae ein plant a'n pobl ifanc ymhlith y rhai sy'n dadlau'n fwyaf angerddol dros ddull uchelgeisiol o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac felly, mae gan y sector addysg rôl sylfaenol i'w chwarae yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng hinsawdd. Dyna pam fy mod wedi mandadu gofynion carbon sero-net o dan faner newydd cymunedau dysgu cynaliadwy yn ein rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain o 1 Ionawr y flwyddyn nesaf.

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi cynaliadwyedd ar y blaen mewn polisïau addysg a'u hymrwymiad i gynnwys disgyblion wrth gynllunio eu hamgylchedd dysgu. Cefais y fraint o weld yn uniongyrchol pa mor frwd yw disgyblion wrth gymryd rhan mewn prosiectau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eu hamgylchedd dysgu pan ymwelais ag Ysgol Gynradd Stebonheath yn Llanelli sawl blwyddyn yn ôl. Hi oedd yr ysgol gyntaf i elwa o brosiect GlawLif gan Dŵr Cymru i leihau llifogydd yn eu maes chwarae. Defnyddiwyd nifer o nodweddion cynaliadwy yn y cynllun i helpu i leddfu'r broblem ac roedd y plant yn rhan fawr o'r broses gynllunio. Cynhaliwyd gweithdai fel y gallent gyflwyno a thrafod eu syniadau gyda'r peirianwyr. Roedd yn enghraifft wych o sut y mae ymgysylltu â disgyblion yn arwain at ganlyniad cadarnhaol o ran yr amgylchedd dysgu yn ogystal â'r plant.

Yn eich datganiad yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch gyhoeddi y byddech yn sicrhau bod cronfa her ysgolion cynaliadwy ar gael i ysgolion cynradd. A allwch ddweud wrthym pa bryd y gallwn ddisgwyl mwy o fanylion am y prosiect penodol hwnnw?

Wel, diolch i Joyce Watson am y cwestiwn hwnnw. Fel y gŵyr, o 1 Ionawr y flwyddyn nesaf, bydd angen i bob prosiect adeiladu, adnewyddu ac ehangu mawr newydd sy'n gofyn am gyllid drwy'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy, fel y bydd bryd hynny, ddangos gofynion carbon sero-net, ond bydd angen iddo hefyd gynnwys cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer bioamrywiaeth, ar gyfer teithio llesol ac ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Ond fel y dywed, ochr yn ochr â hynny, rwyf am fanteisio ar yr union fath o enghraifft roeddech yn ei rhoi yno. Ymwelais ag Ysgol Gynradd Nottage yn etholaeth Sarah Murphy ychydig wythnosau yn ôl a gwelais sut roedd cael pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses o gynllunio eu hamgylchedd dysgu yn fuddiol o ran y cynllun, ond hefyd o ran y cwricwlwm. Ac mae'n darparu cyfle ac adnodd addysgu cyfoethog iawn er mwyn galluogi ein holl bobl ifanc i ddod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus fel rydym yn dymuno iddynt fod.

Byddaf yn cyflwyno rhagor o wybodaeth, fel y dywed, mewn perthynas â'r gronfa her ysgolion cynaliadwy yn fuan a bydd hynny'n darparu mwy o wybodaeth o'r math y mae'n chwilio amdano, rwy'n credu, ond mae'n gyfle cyffrous iawn i awdurdodau lleol weithio gyda'u hysgolion a chyda'u pobl ifanc i chwilio am fodelau arloesol, defnyddio deunyddiau cynaliadwy a chynnwys disgyblion a staff wrth gynllunio'r amgylcheddau hynny.

A gaf fi ofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas â chludiant o'r cartref i'r ysgol? Yn amlwg, un ffordd o gyrraedd sefyllfa sero-net yw hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus fel ffordd o gael pobl i'r ysgol ac oddi yno, ond mae'n amlwg fod gormod o bobl yn defnyddio eu ceir i gludo plant i ac o'r ysgol ar hyn o bryd. Ac eto, nid yw'n ymddangos bod y trefniadau cludiant presennol o'r cartref i'r ysgol yn darparu cludiant ar fysiau i ddigon o bobl. A oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i adolygu ei pholisi ar gludiant o'r cartref i'r ysgol gyda'r bwriad o wneud mwy o ddisgyblion yn gymwys i gael cludiant am ddim ar fysiau?

Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn am y cyfraniad y mae cludiant i'r ysgol yn ei wneud i'n huchelgeisiau ehangach i ddod yn Gymru sero-net. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud eiliad yn ôl y bydd angen cynlluniau teithio llesol uchelgeisiol ar gyfer ail-lansio, os mynnwch, y rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy ac rydym yn gweithio gyda'r bwrdd teithio llesol i sefydlu gofyniad sylfaenol ar gyfer y prosiectau hynny. Ond mae cwestiwn yr Aelod yn fwy cyffredinol na hynny wrth gwrs, ac rwy'n cydnabod yr her y mae'n ei nodi. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i annog atebion teithio llesol, ond hefyd i sicrhau, lle nad yw hynny'n bosibl—ac mae'n amlwg nad yw'n bosibl ym mhobman i'r graddau y byddem yn dymuno—ein bod yn edrych ar y dulliau eraill o deithio. Mae adolygiad ar y gweill ar hyn o bryd yn yr adran newid hinsawdd o gludiant o'r cartref i'r ysgol, ac rwy'n siŵr y bydd cydweithwyr yn yr adran honno'n cyflwyno datganiad maes o law ar yr union bwynt hwnnw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Bron nad yw i'w weld yn hen newyddion bellach, mae cymaint o amser ers imi gael cyfle i'ch holi mewn cwestiynau gan y llefarwyr yn y Siambr, ond mae'n peri pryder mawr i ddarparwyr addysg a minnau y bydd y cwricwlwm newydd yn gweld gwahanu'n digwydd yn y TGAU, y gwyddorau gwahanol, a gwahanu Saesneg a Saesneg—. Mae'n ddrwg gennyf, bydd yn arwain at gyfuno'r gwyddorau, a Saesneg a llenyddiaeth Saesneg hefyd. Yn y Siambr hon, rydym bob amser wedi deall pa mor bwysig yw gwyddoniaeth a phwysigrwydd annog pobl i ddilyn pynciau gwyddonol, yn ogystal â thynnu sylw wrth gwrs at ba mor bwysig yw hi i bobl ddilyn pynciau gwyddonol ar gyfer ein heconomi yn y dyfodol, ar gyfer swyddi yn y dyfodol.

Felly, roedd clywed y cyhoeddiad hwn yn peri penbleth i mi, ac mae'n mynd yn groes i un o bedwar diben y cwricwlwm newydd. Mae cyfuno pynciau yn diystyru'r gorau o'r hyn a gredwyd ac a ddywedwyd dros ganrifoedd. Nid cemeg yw bioleg, ac nid llenyddiaeth Saesneg yw Saesneg. Weinidog, bydd Lloegr yn cadw pynciau ar wahân, gan werthfawrogi eu gwerth a'u pwysigrwydd. Felly, Weinidog, oni welwch y bydd hyn yn anochel yn achosi draen dawn gan y bydd myfyrwyr sydd am astudio meddygaeth yn Rhydychen neu Gaergrawnt angen cymwysterau TGAU gwyddoniaeth driphlyg i wneud y mwyaf o'u gobaith o lwyddo? Ai dyma rydym am ei weld yn digwydd mewn gwirionedd? Mae'n ddigon anodd recriwtio i'r sector addysg heb i staff deimlo bod eu pwnc yn cael ei ddiddymu neu ei gyfuno.

Byddwn wrth fy modd yn clywed eich sylwadau, Weinidog, ar ba effaith y credwch chi y bydd y cam hwn yn ei chael ar blant Cymru—cam nad yw wedi ei gefnogi gan y rhan fwyaf o'r sector addysg, gan gynnwys yr undeb, Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru, a nododd mai dim ond 30 y cant o'r rhai a oedd yn rhan o'r ymarfer ymgynghori gwreiddiol oedd yn credu bod hwn yn syniad clodwiw neu ymarferol, ond rywsut fe gafodd ei gynnwys yn yr adroddiad terfynol. Felly, Weinidog, pam y mae'r undebau, athrawon ym Mhrifysgol Abertawe a'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol yn anghywir ynghylch effaith drychinebus y penderfyniad hwn, ond eich bod chi a Cymwysterau Cymru yn iawn?

14:35

Wel, rwy'n credu ei bod yn bwysig edrych ar y pwnc hwn gyda rhywfaint o gymedroldeb yn rhai o'r disgrifiadau a roddwn, oherwydd mae'n faes pwysig iawn i'n dysgwyr. Os yw'r Aelod wedi cael cyfle i edrych ar adroddiad Cymwysterau Cymru, 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol', bydd wedi gweld dadl Cymwysterau Cymru dros y diwygiadau y maent yn eu hargymell yn y ddau faes, a oedd, fel y mae'n cydnabod, yn destun ymgynghoriad blaenorol. O ran yr argymhelliad, er enghraifft, i ddod â llenyddiaeth Saesneg ac iaith Saesneg at ei gilydd, os edrychwch ar niferoedd cyfredol mewn perthynas â llenyddiaeth Saesneg, gallai'r argymhelliad alluogi mwy o ddysgwyr i gyfranogi o lenyddiaeth Saesneg am fwy o amser yn y cwricwlwm, a dyna yw ei fwriad. Felly, y ddadl a wneir gan Cymwysterau Cymru yw y bydd hynny'n cynnig cyfle i fwy o ddisgyblion nag sy'n ei gael ar hyn o bryd i astudio llenyddiaeth Saesneg.

O ran gwyddoniaeth a thechnoleg, gwn ei bod yn cefnogi'r egwyddor yn y cwricwlwm o sicrhau bod ein dysgwyr yn cael ystod eang o brofiadau. A'r bwriad, sydd eto wedi'i nodi yn adroddiad Cymwysterau Cymru, yw darparu cyfle i ddysgwyr astudio ar lefel TGAU i fod yn gymwys mewn ystod ehangach o gymwysterau. Ac yn wir, bydd yn gwybod mai'r argymhelliad mewn perthynas â chymhwyster gwyddoniaeth yw iddo fod, i bob pwrpas, yn werth dau TGAU, ac i'w gwneud hi'n bosibl ffurfio'r cysylltiadau yn y ffordd y deallwn sy'n bwysig rhwng y gwahanol wyddorau. Mae'n debyg y bydd hi hefyd yn gwybod, ar hyn o bryd, mai ar gyfer y cymhwyster TGAU gwyddoniaeth ddwbl sy'n bodoli'n barod y ceir y mwyaf o geisiadau gwyddoniaeth TGAU ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'n amlwg y ceir amrywiaeth barn ar hyn, felly hoffwn ei hannog hi ac eraill i gyfrannu at yr ymgynghoriad sydd ar y gweill; mae'n bwysig ein bod yn clywed y safbwyntiau hynny hefyd.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl y siaradais â hwy yn dweud y gwrthwyneb yn llwyr.

Mae adroddiad newydd damniol neithiwr, a ryddhawyd gan Gymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru—undeb arall, Weinidog—wedi tynnu sylw at effaith tangyllido cronig ysgolion Cymru. Mae 'A Failure to Invest: the state of Welsh school funding in 2021' yn rhoi enghreifftiau sy'n peri gofid o'r ffyrdd y mae athrawon wedi cael eu gorfodi i dorri gwariant i fantoli cyllidebau yn wyneb toriadau Llafur. Dywedodd mwy na thri chwarter yr arweinwyr ysgolion nad oes ganddynt ddigon o arian cyfalaf i gynnal eu hadeiladau; dywedodd bron i 92 y cant fod y cyllid ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn eu hysgol yn annigonol; a dywedodd 94 y cant nad yw'r cyllid anghenion dysgu ychwanegol a gânt yn ddigonol i ddiwallu anghenion y ddeddfwriaeth ADY newydd a gyflwynwyd gan y Llywodraeth hon. Dywedodd bron i bedwar o bob pump o arweinwyr ysgolion y bydd y toriadau y cânt eu gorfodi i'w gwneud yn effeithio'n negyddol neu'n negyddol iawn ar ansawdd y ddarpariaeth ysgol ar gyfer disgyblion Cymru. Mae'r adroddiad hwn, sy'n amlwg yn ddamniol, gan yr undeb yn gofyn llawer o gwestiynau, Weinidog. Y gwir amdani yw bod disgyblion Cymru yn cael £1,000 yn llai na disgyblion Lloegr. Felly, pa bryd y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyllid i ddisgyblion Cymru sydd yr un fath â disgyblion Lloegr, a pha bryd y byddwch yn buddsoddi yn nyfodol ein plant ac efallai hyd yn oed yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol i sicrhau bod y disgyblion a'r ysgolion yn cael yr arian y maent yn ei haeddu?

14:40

Bydd yr Aelod yn gwybod mai darlun rhannol iawn y mae'n ei roi o sefyllfa cyllid i ysgolion yng Nghymru. Fe fydd yn gwybod, ar nifer fawr o fesurau, fod swm y cyllid a fuddsoddir yn system addysg Cymru yn sylweddol uwch na'r hyn a fuddsoddir mewn ysgolion yn Lloegr, y mae hi ei hun yn ei ddewis fel cymharydd ar gyfer y cwestiwn. Rwy'n ymwybodol o'r adroddiad a gwn am ei gynnwys, ac rwyf wedi trafod y materion hyn gyda Chymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon sawl gwaith. Defnyddiodd gyllid ADY fel enghraifft—i ddewis un o'r enghreifftiau a roddodd. Rydym yn cydnabod yn llwyr fod cost ynghlwm wrth drosglwyddo o'r system sydd gennym ar hyn o bryd i'r ddeddfwriaeth newydd. Rydym wedi darparu cyllid sylweddol i'r system ar gyfer costau trosglwyddo. Mae pwysau eraill wedi codi o ganlyniad i ymateb i COVID wrth newid i'r system newydd hefyd, ac rydym wedi darparu cyllid sylweddol i alluogi hynny i ddigwydd. Cefais drafodaethau gydag awdurdodau lleol, ac rwyf wedi dweud, os oes ganddynt dystiolaeth o gostau ychwanegol sylweddol yn hirdymor, fy mod yn agored iawn i dderbyn y dystiolaeth mewn perthynas â hynny.

Diolch, Weinidog. Hefyd, mae ffigurau'r bwlch cyrhaeddiad a ryddhawyd yn ddiweddar yn cynnig darlun pryderus iawn. Fe'u gwaethygwyd gan yr anghydraddoldeb rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yng nghymdeithas Cymru. Mae canlyniadau TGAU uchaf yn dangos bwlch o 11.5 y cant yn 2021. Weinidog, sut y bwriadwch fynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau bod pobl ifanc Cymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, beth bynnag fo'u cefndir, gan ei bod yn ymddangos bod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn gwneud cam â'r tlotaf yn ein cymunedau? Roedd yn ddrwg cyn y pandemig, Weinidog, ond mae'n waeth bellach, gan ei bod yn ymddangos bod y newid i raddau a aseswyd gan ganolfannau wedi gwaethygu'r sefyllfa. Oni chytunwch ei bod hi'n bwysicach nag erioed bellach eich bod yn dychwelyd at arholiadau? Gwn eich bod wedi dweud yn awr mai dyna rydych am ei wneud. Ond yn y Siambr hon, a allwch ddweud yn awr mai dyna yw eich bwriad, sef dychwelyd at arholiadau? A beth rydych yn ei wneud, Weinidog, i sicrhau bod y plant sydd adre o'r ysgol oherwydd COVID neu oherwydd rheoliadau sy'n gysylltiedig â COVID yn cael yr addysg y maent ei hangen ac yn ei haeddu—oherwydd mae plant yn treulio cryn dipyn o amser o'r ysgol ar hyn o bryd—er mwyn sicrhau nad yw'r bwlch hwn yn tyfu yn y dyfodol?

Rwy'n deall diddordeb yr Aelod mewn cau'r bwlch cyrhaeddiad ac fe fydd yn gwybod yn iawn, o'r trafodaethau blaenorol a gawsom yn y Siambr hon, ei bod yn flaenoriaeth bwysig iawn i mi ac i'r Llywodraeth hon yn gyffredinol. Rwy'n rhannu ei phryder mewn perthynas â'r canlyniadau a welsom yr haf hwn, a oedd mewn gwirionedd yn dangos bod y bwlch cyrhaeddiad wedi tyfu. Roedd hynny'n rhywbeth roeddem yn ofni y gallai ddigwydd ac fel y gwn ei bod hi'n gwybod, mae'r rhaglen fuddsoddi adnewyddu a diwygio rydym wedi'i darparu i ysgolion a'r system addysg er mwyn ymateb i heriau'r flwyddyn ddiwethaf wedi'i phwysoli'n sylweddol tuag at gefnogi dysgwyr, dysgwyr difreintiedig neu'r rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt er mwyn parhau â'u dysgu. Yn ystod y pandemig, rydym wedi darparu bron i £180 miliwn mewn perthynas â'r rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau. Mae hynny ei hun wedi'i bwysoli tuag at ddarparu cymorth mwy dwys i'n dysgwyr mwy difreintiedig ac mae hynny wedi caniatáu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ychwanegol, ar gyfer mentora ac yn y blaen. Ond mae angen gwneud mwy ac mae'r cyllid yn y system wedi'i gynllunio i gyflawni hynny.

Mae cwestiwn y bwlch cyrhaeddiad yn gyfres ehangach o heriau nag y gellir eu cyflawni a mynd i'r afael â hwy o fewn amgylchedd yr ysgol yn unig. Mae llawer o'n hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu wedi'u cynllunio ar gyfer cau'r bwlch cyrhaeddiad, felly boed yn ymwneud ag ymestyn cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim, diwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol, neu ysgolion bro, mae'r holl ymyriadau hyn wedi'u cynllunio i gyfrannu at hynny, ac edrychaf ymlaen at weithio ymhellach gyda'r Aelod ar y rheini os yw'n hapus i wneud hynny.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A fyddai’r Gweinidog yn cytuno â fi mai un o’r pethau pwysicaf sydd angen digwydd er mwyn sicrhau bod mwy o blant yn elwa ar addysg Gymraeg yw sicrhau bod athrawon dwyieithog cymwys ar gael i’w dysgu nhw? Nawr, tra ein bod ni’n cydnabod bod rhywfaint o gynnydd wedi bod ers cyfnod y pandemig o ran y nifer sy'n dewis hyfforddi fel athrawon, ar y cyfan mae'r sefyllfa o ran niferoedd yr athrawon Cymraeg yn parhau i fod yn un argyfyngus. Wrth ystyried pwysigrwydd sicrhau cyflenwad digonol o athrawon i'r strategaeth 2050, gyda'r nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae'r prinder o dros 300 o athrawon cyfrwng Cymraeg yn y sector cynradd a 500 yn y sector uwchradd yn destun pryder mawr. Ac, mor bell ag yr wyf i'n gallu gweld, does yna ddim strategaeth i fynd i'r afael â hyn. Nawr, rŷch chi a'r Gweinidog addysg blaenorol wedi cyfeirio sawl gwaith at gynllun 10 mlynedd. Felly, a oes modd cael diweddariad ac amserlen i'r cynllun hwn? A'r cwestiwn amlwg i ofyn, wrth gwrs, yw beth yn benodol rŷch chi fel Llywodraeth yn bwriadu gwneud er mwyn denu siaradwyr dwyieithog i'r proffesiwn, neu i ddarparu hyfforddiant iaith digonol i siaradwyr di-Gymraeg er mwyn rhoi'r sgiliau a'r hyder iddyn nhw gyfrannu i'r sector addysg Gymraeg.

14:45

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn, ac os ydy'r cyfrifoldebau yma yn gyfrifoldebau parhaol newydd, rwy'n ei groesawu fe iddyn nhw hefyd. Mae'r cwestiwn hwn yn un dilys iawn. Er mwyn inni allu ymestyn mynediad pobl i addysg Gymraeg ym mhob rhan o Gymru, mae'n rhaid sicrhau ein bod ni'n cyrraedd ac yn mynd yn bellach na'r targedau sydd gyda ni ar hyn o bryd o ran recriwtio, a dŷn ni ddim eto wedi gwneud hynny.

Roedd y rhaglen waith gwnes i ei chyhoeddi rai wythnosau yn ôl yn sôn am y cynllun sydd gennym ni ar gyfer strategaeth newydd. Dyw'r atebion ddim yn atebion syml; mae pawb, wrth gwrs, yn cydnabod hynny. Ac mae'n rhaid sicrhau ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth gyda'n rhanddeiliaid ehangach er mwyn gwneud cynnydd yn y maes hwn. Felly, rydym ni ar fin cyhoeddi dogfen ddrafft i drafod gyda'n rhanddeiliaid ni. Rydym ni wedi bod yn trafod eisoes gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gyda'r comisiynydd, ond mae eraill hefyd y bydd angen iddyn nhw fod yn rhan o'r sgwrs honno. 

Mae amryw o bethau y gellid eu gwneud er mwyn annog pobl i hyfforddi fel athrawon—ei gwneud hi'n haws iddyn nhw wneud hynny, rhoi anogaeth ariannol i bobl wneud hynny. Felly, mae mwy nag un ffordd o fynd i'r afael â hyn. Ond rwy'n credu bod angen edrych ar y gweithlu ehangach hefyd. Rwyf wedi cael trafodaethau diweddar ynglŷn â'r prinder cynorthwywyr dosbarth sy'n gallu siarad Cymraeg, ac mae'n rhaid inni hefyd wneud cynnydd yn y maes hwnnw, a gweld y gweithlu cyfan, fel petai. 

Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y strategaeth ddrafft honno. Jest i ddilyn ymlaen, rwyf wedi bod yn cyfeirio'n benodol at y sector statudol. Mae amcanion Cymraeg 2050, wrth gwrs, yn cydnabod rôl bwysig y sector ôl-16 ac addysg uwch i wireddu'r weledigaeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Ac mae dyletswydd gyda chi fel Llywodraeth i sicrhau bod gan ddysgwyr a myfyrwyr gyfleoedd i barhau â'u haddysg yn y Gymraeg ar ôl iddyn nhw adael ysgol. Felly, beth yw cynlluniau'r Llywodraeth i sicrhau bod mwy o gyfleoedd ar gael ac, yn benodol, fod mwy o staff ar gael i addysgu'n pobl ifanc ni mewn sefydliadau colegau addysg bellach ac addysg uwch, ac yn benodol hefyd i ddilyn prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, achos y dysgwyr sydd yn mynd i addysg bellach a dilyn prentisiaethau yw'r rhai sy'n fwyaf tebygol o aros yn eu hardaloedd ac i allu darparu gwasanaethau pwysig yn eu cymunedau lleol? 

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw hefyd. Rydym ni wedi bod yn trafod hyn gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac wedi darparu mwy o gyllideb iddyn nhw eleni er mwyn gwneud mwy o waith gyda ni yn y maes hwn. Ond mae'n iawn i sôn mai un o'r sialensau yn y maes hwn hefyd yw'r gweithlu sydd yn gallu darparu addysg yn y Gymraeg, a hefyd argaeledd cymwysterau yn  Gymraeg. Rydym ni wedi bod yn trafod rheini gyda Cymwysterau Cymru hefyd. Bydd gan y comisiwn newydd, a fydd yn dod yn sgil y ddeddfwriaeth rydym ni'n gobeithio'i phasio yma yn y Senedd, ddyletswydd benodol i sicrhau ffyniant addysg ôl-16 yn y Gymraeg, ac, felly, rwy'n credu bod hynny'n gyfle pwysig inni allu ymestyn y ddarpariaeth. Un o'r pethau sydd angen edrych yn fwy arno, rwy'n credu, yw'r berthynas rhwng addysg ôl-16 ac ysgolion, yn enwedig yng nghyd-destun rhan ddiwetha'r cwestiwn, sef darpariaeth prentisiaethau ac addysg ôl-16 yn y Gymraeg, fel ein bod ni'n cynefino pobl yn ystod eu cyfnod ysgol â'r opsiynau sydd gyda nhw er mwyn gwneud cymwysterau galwedigaethol yn y Gymraeg wedi gadael ysgol. 

14:50

Iawn, diolch yn fawr iawn. Mae'r cwestiwn olaf yn debyg iawn i'r cwestiwn gan Laura Anne Jones, ond dwi'n mynd i ddod ato fe o ongl ychydig bach yn wahanol, sef y bwlch cyrhaeddiad yn y data a gyhoeddwyd gan Cymwysterau Cymru yr wythnos hon, a oedd yn dangos bod llai o raddau uchel A* ac A mewn arholiadau gan blant sydd yn derbyn prydau bwyd am ddim o gymharu â'r dysgwyr hynny sydd yn fwy breintiedig. Nawr, rŷch chi wedi esbonio sut rŷch chi'n bwriadu mynd i'r afael â hyn, sef y cwestiwn gwreiddiol oedd gyda fi, ond wrth edrych yn ôl ar y cyfnod yn ystod y pandemig, mae'n amlwg bod yna ddiffyg cefnogaeth wedi bod i'r dysgwyr yma, oherwydd bod y bwlch wedi mynd yn fwy. Felly, ydych chi yn gallu dweud wrthym ni beth yw'r gwersi rŷch chi wedi eu dysgu, fel Llywodraeth, o edrych yn ôl ar y cyfnod hwnnw? Ac, yn bwysicach, ydych chi'n gallu cadarnhau fel mae cyfleoedd i'r dysgwyr hynny ddal i fyny gyda'r cyfleoedd sydd wedi cael eu colli? A beth ŷch chi'n teimlo ydy'r prif resymau bod y bwlch yna wedi mynd yn fwy?

Wel, rwy'n credu bod pobl o gefndiroedd sy'n fwy difreintiedig wedi cario baich COVID mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys ym mywyd ysgol, ond yn llawer ehangach na hynny yn ein cymdeithas ni ac yn ein heconomi ni. Roeddem ni'n rhagdybio y byddai hynny'n risg, o beth roeddem ni'n gweld yn datblygu yn ystod COVID, ac felly dyna pam y gwnaethom ni ddarparu ymyraethau a ffynonellau ariannu a oedd yn rhoi pwyslais penodol ar gefnogi dysgwyr yn y cohorts hynny. Dwi ddim yn credu bod unrhyw swm o arian neu fuddsoddiad yn gallu gwneud y gwahaniaeth y mae angen i ni ei wneud fel ymateb i hynny, ond mae'n rhaid cario ymlaen gyda'r ymyraethau sydd gyda ni. Rŷm ni hefyd yn mynd i fod yn sicrhau ein bod ni'n cadw golwg ar lwybr addysgiadol pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan COVID fel ein bod ni'n deall, ar gyfer polisïau yn y dyfodol, dros y blynyddoedd nesaf, achos mae hon yn sialens fydd gyd ni nawr am flynyddoedd, beth gallwn ni ei wneud.

Roedd yr Aelod yn sôn am beth gallwn ni ei wneud i sicrhau bod pobl yn dal i fyny. Dwi'n ceisio peidio sôn am 'ddal i fyny', achos dwi ddim yn credu bod hynny'n ffordd sydd yn debygol o ysgogi ymrwymiad ac ymroddiad gan ein dysgwyr ni, ond o ran yr holl ymyraethau sydd gyda ni, o ran y three Rs, a'r renew and reform, dyna eu bwriad nhw—sicrhau bod capasiti pellach yn ein hysgolion ni ac yn ein colegau ni, i gael ei ddefnyddio'n bwrpasol i gefnogi un wrth un, neu i ddarparu mewn grwpiau bychan y math o gefnogaeth bellach sydd ei hangen ar y bobl sydd wedi colli allan fwyaf.

Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

3. Sut bydd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain o fudd i ddisgyblion Dyffryn Clwyd? OQ57141

Mae rhanbarth Dyffryn Clwyd wedi elwa ar gyfanswm o £80 miliwn o fuddsoddiad yn ystod y don gyntaf o gyllid rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain. Bwriedir buddsoddi £46 miliwn arall yn yr ail don o gyllid, a ddechreuodd yn 2019.

Rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Fodd bynnag, mae budd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn dibynnu'n fawr ar ble rydych yn byw—loteri cod post yn y bôn. Mae disgyblion yn y Rhyl wedi elwa o adeiladu dwy ysgol fodern ragorol, Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Gatholig Crist y Gair, yn yr un dref, ac nid yw tref gyfagos Prestatyn wedi cael yr un lefel o fuddsoddiad. Ac er ei bod yn darparu addysg ragorol i blant, mae'r ysgol yn dibynnu ar adeiladau dros dro a godwyd dros 50 mlynedd yn ôl, nad oeddent yn addas ar gyfer y ganrif ddiwethaf, heb sôn am y ganrif hon. Felly, Weinidog, pa bryd y bydd disgyblion Prestatyn, ac Ysgol Uwchradd Dinbych hefyd, yn gweld adeiladau ysgol modern gyda seilwaith sy'n addas i ateb heriau gweithleoedd y dyfodol?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel y gŵyr, mae'n debyg, caiff cynigion ar gyfer ariannu'r rhaglen hon eu cyflwyno gan awdurdodau lleol, ac felly mater i awdurdodau lleol yw gwneud cynigion mewn perthynas ag ysgolion penodol. Nid ein lle ni fel Llywodraeth yw dynodi'r ysgolion unigol. Cânt eu cyflwyno gan ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol ar gyfer buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn cymhwyso'r un meini prawf ym mha ardal bynnag o Gymru y caiff cynnig ei gyflwyno.

Addysg Gymraeg yn Nwyrain De Cymru

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol addysg Gymraeg yn Nwyrain De Cymru? OQ57151

Mae'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn Nwyrain De Cymru yn parhau i fod yn uchel. Mae dros £26 miliwn o gyllid cyfalaf yn cael ei fuddsoddi yn y rhanbarth, gyda phump o ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd, yn ogystal â darpariaeth gofal plant. Mae pecyn arall o £30 miliwn o gyfalaf a £2.2 miliwn o gyllid grant i gefnogi cynlluniau trochi yn y Gymraeg ar gael ar draws Cymru.

14:55

Diolch, Weinidog. Mae Plaid Cymru yn croesawu, wrth gwrs, y ffaith y bydd ysgol gynradd Gymraeg newydd yn agor ym Merthyr fis Medi nesaf. Rydyn ni hefyd yn cefnogi'r cynlluniau sydd ar y gweill i agor ysgol gynradd Gymraeg yn Nhredegar yn 2023. Hoffwn ddiolch i Rhieni dros Addysg Gymraeg a'r awdurdodau lleol am eu gwaith yn symud hyn ymlaen ac, wrth gwrs, i'r Llywodraeth am ddarparu'r adnoddau.

Mae llawer o gymunedau eraill sydd angen ysgol gynradd, Weinidog, ond cwestiwn ynglŷn ag ysgol uwchradd sydd gen i heddiw. Mae'n destun tristwch ac annhegwch cymdeithasol a ieithyddol nad oes unrhyw ddarpariaeth uwchradd addysg Gymraeg yn siroedd Merthyr, Blaenau Gwent a Mynwy. Mae hyn yn golygu dim darpariaeth ysgol uwchradd Gymraeg yn 50 y cant o'r siroedd sydd yn fy rhanbarth i. I ble mae'r plant fydd yn derbyn yr addysg gynradd Gymraeg fod i fynd wedyn, Weinidog, i ddatblygu'u sgiliau iaith ymhellach ac i allu parhau i fwynhau ei siarad? A wnewch chi heddiw wneud ymrwymiad y byddwch yn gwneud popeth o fewn eich pŵer i sicrhau y bydd cynlluniau wedi'u cytuno ar addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn siroedd Merthyr, Blaenau Gwent a Mynwy yn ystod eich tymor fel Gweinidog addysg, os gwelwch yn dda?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel gwnes i ddweud wrth ateb Gareth Davies yn fwy diweddar, rŷn ni'n ddibynnol ar gynigion sy'n dod o awdurdodau lleol yn y maes penodol hwn, fel rwy'n gwybod bod yr Aelod yn deall. Ond rŷn ni hefyd yn disgwyl gweld cynlluniau strategol uchelgeisiol gan bob awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae pob un o'r awdurdodau lleol yn ei rhanbarth hi wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori ar eu cynlluniau nhw. O fewn y cynlluniau hynny, rwy'n gwybod bod ystyriaeth i ysgol uwchradd addysg Gymraeg ar y cyd, ac felly byddwn i'n cefnogi gweld hynny'n digwydd, wrth gwrs, er mwyn darparu ar draws y rhanbarth y ddarpariaeth addysg Gymraeg uwchradd sydd ei hangen ar bobl ifanc yn y rhan honno o Gymru.

Weinidog, mae'r cwricwlwm newydd yn gosod disgwyliad ar athrawon i allu addysgu rhywfaint drwy gyfrwng y Gymraeg. Er budd y disgybl, mae angen athrawon o safon uchel yma yng Nghymru gydag ystod eang o brofiadau a chefndiroedd yn addysgu yn ein hysgolion. Mewn ardaloedd megis de-ddwyrain Cymru, lle mae staff yn aml yn cael eu recriwtio neu hyd yn oed yn cymudo o dros y ffin yn Lloegr, gallai'r angen am sgiliau Cymraeg fod yn rhwystr i recriwtio. A allwch amlinellu pa gefnogaeth y bydd y Llywodraeth hon yn ei darparu i unrhyw athro sydd am addysgu yng Nghymru i ddysgu'r sgiliau iaith angenrheidiol er mwyn sicrhau nad oes rhwystr i ymgeiswyr wneud cais?

Wel, nid yw pob un athro yn gorfod bod yn gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf newydd gael sgwrs gyda Cefin Campbell am y galw o ran recriwtio mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg. Ond mae hefyd angen darparu cefnogaeth, fel rŷn ni drwy waith y ganolfan ddysgu ac ati, i oedolion allu dysgu Cymraeg ar gyfer ymestyn defnydd y Gymraeg yn ein cymunedau ni'n gyffredinol. Felly, mae amryw o ymyraethau o'r math yna ar gael.

Mae'n rhaid hefyd sicrhau, rwy'n credu, ein bod ni'n cefnogi, fel rhan o'r strategaeth roeddwn i'n sôn amdani'n gynharach, nid yn unig y cwestiwn o recriwtio, ond ein gallu i gefnogi pobl i ddysgu'r Gymraeg, a hefyd gefnogi arweinwyr ysgol er mwyn iddyn nhw allu cynllunio’n fwy strategol, efallai, a chael y sgiliau a'r gefnogaeth i wneud hynny er mwyn darparu addysg Gymraeg ehangach yn ein hysgolion ni.

Diogelu Cymunedau Cymraeg

Mae Brexit a COVID-19 wedi dwysáu'r heriau i seilwaith economaidd-gymdeithasol cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae mynd i'r afael â'r heriau hyn yn ganolog i gyflawniad Cymraeg 2050. Mae ein rhaglen waith yn canolbwyntio ar gyfyngu ar effaith a sicrhau cynaliadwyedd a ffyniant ein cymunedau Cymraeg, a byddaf yn cyhoeddi ein cynlluniau'n fuan.

Diolch. Y mis diwethaf, fe ddywedoch chi wrth y Senedd na ddylai cyrraedd targedau creu coetiroedd effeithio ar gymunedau, na newid y math o dirfeddiannwr yn wir. Fe ddywedoch chi hefyd y byddech yn gweithredu pe bai tystiolaeth o broblem yn datblygu. Nawr, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn derbyn adroddiadau bron yn wythnosol am ffermydd cyfan, parseli o dir, yn cael eu prynu gan unigolion a busnesau o'r tu allan i Gymru at ddibenion plannu coed. Un buddsoddiad o'r fath yw fferm fawr yma yng Nghymru sydd bellach ym meddiant British Aerospace. I rywun sy'n credu mewn marchnad rydd, credaf nad yw'n iawn ein bod yn gweld ein ffermydd a'n tir amaethyddol yn ein cymunedau Cymraeg cryf yn cael eu prynu mewn buddsoddiadau enfawr i gwmnïau a phobl dros y ffin. Mae NFU Cymru wedi cyfrifo y byddai 180,000 hectar ychwanegol o goed yn galw am goedwigo 3,750 o ffermydd teuluol yng Nghymru. Felly, a ydych yn rhannu fy mhryderon, Weinidog, ac a wnewch chi weithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i sefydlu comisiwn pontio teg i sicrhau nad yw baich datgarboneiddio yn disgyn yn anghyfartal ar ein cymunedau gwledig ac yn parhau i effeithio’n negyddol ar y Gymraeg sydd wedi ffynnu yn y gorffennol yn y Gymru wledig? Diolch. 

15:00

Diolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn. Gallaf roi sicrwydd iddi, efallai, fy mod eisoes yn cael trafodaethau gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r mater hwn. Mae wedi cael ei godi a’i drafod yn y Siambr hon sawl gwaith, gan gynnwys gan Cefin Campbell yn gynharach heddiw. Rwyf am adleisio'r pwynt a wnaeth y Dirprwy Weinidog mewn perthynas â'r pwynt a godwyd gan Cefin Campbell: byddwn yn cydweithio'n agos iawn mewn perthynas â'r pwynt penodol hwnnw.

Weinidog, mae cwm Tawe yn ardal o bwysigrwydd ieithyddol. Yn gynt eleni, mewn ymateb i bryderon gan ymgyrchwyr ac arbenigwyr iaith, fe wnaethoch chi gydnabod bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot heb ystyried yn iawn effaith eu cynlluniau i godi ysgol enfawr cyfrwng Saesneg newydd yng nghanol y cwm ym Mhontardawe ar y Gymraeg drwy gomisiynu adroddiad ac oedi y broses gyllido ar gyfer y cynllun. Mae casgliad yr adroddiad yn ddiamwys, er nad yw wedi'i gyhoeddi'n llawn, a dwi'n dyfynnu:

'dylid ei danlinellu'n glir, o ran yr egwyddorion a'r prosesau cynllunio iaith a nodwyd...na fydd unrhyw gamau lliniaru yng nghyd-destun dyfodol yr iaith Gymraeg yng Nghwm Tawe yn gwneud yn iawn am barhau gyda'r cynnig hwn fel y mae'.

Mae hefyd yn nodi:

'Mewn cymunedau dwyieithog, gwelwyd fwyfwy bod ieithoedd yn dod yn fater o ddewis. Er mwyn cefnogi dwyieithrwydd yn y cymunedau hyn, rhaid i ddwyieithrwydd fod yn ddewis hawdd. Mae’r cynnig hwn yn dileu’r dewis hawdd hwnnw.'

Ydych chi'n cytuno bod angen i'r Llywodraeth ymyrryd pan fo'n bosib er mwyn gwarchod cymunedau Cymraeg a pheidio â chaniatáu i awdurdodau lleol gael rhwydd hynt i weithredu cynlluniau a fydd yn bygwth dyfodol y Gymraeg ac yn atal dwyieithrwydd? Diolch.

Mae'r Aelod a minnau wedi trafod y materion hyn droeon, yn cynnwys cyn yr etholiad diwethaf, wrth gwrs. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn gwybod bod cyfyngiad ar yr hyn y gallaf ei ddweud am y penderfyniad penodol hwnnw, oherwydd fy mod i'n Aelod lleol ynghyd â bod yn Weinidog. Ond, wrth gwrs, pan yw'r Llywodraeth yn dodi gofynion o ran sicrhau ffyniant y Gymraeg mewn cymunedau, mae disgwyl i awdurdodau lleol gydweithio gyda'r Llywodraeth er mwyn sicrhau hynny.

Manteision Addysgol Prentisiaethau

6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch hyrwyddo manteision addysgol prentisiaethau yng Ngogledd Cymru? OQ57147

Mae Gweinidog yr Economi a minnau wedi ymrwymo i hyrwyddo prentisiaethau yng ngogledd Cymru. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar hyrwyddo sectorau twf, megis y rheini yn yr economi werdd, ac yn annog mwy o gyflogwyr i recriwtio pobl ifanc drwy ein cynllun cymell prentisiaethau.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Fel y byddech chithau'n ei gydnabod hefyd, rwy'n siŵr, mae gan brentisiaethau fudd enfawr i'w gynnig ac yn aml gallant fod yn ddechrau i lwybrau gyrfa hynod lwyddiannus i lawer o bobl ledled fy rhanbarth yng ngogledd Cymru, ac yn wir, ledled Cymru yn gyffredinol, gan ddatblygu sgiliau a rhoi mwy o ddilyniant i bobl yn aml na'r bobl sy'n dewis llwybr amgen drwy'r brifysgol. Yn wir, roeddwn yn un o'r rheini a ddewisodd beidio â mynd i brifysgol ar ôl y chweched dosbarth, er gwaethaf yr anogaeth gref gan fy ysgol.

Yn dilyn y pandemig, mae prinder sgiliau enfawr mewn llawer o ddiwydiannau erbyn hyn, gan gynnwys sectorau fel y sector lletygarwch a thwristiaeth, a gafodd eu taro’n wael yn ystod y pandemig. Yn wir, nodais eiriau Arwyn Watkins, llywydd Cymdeithas Goginio Cymru, yn ddiweddar yn tynnu sylw at yr her. 'Ers mwy na degawd,' meddai, 'mae'r sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru wedi bod yn galw am barch cydradd rhwng prentisiaethau a graddau, ond mae ein geiriau wedi syrthio ar glustiau byddar.' Felly, Weinidog, pa waith y byddwch yn ei wneud ar y cyd â Gweinidog yr Economi i sicrhau bod myfyrwyr mewn ysgolion yn ymwybodol o'r cyfleoedd a'r manteision enfawr a ddaw yn sgil prentisiaethau?

15:05

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd i'r Senedd yr wythnos diwethaf, yn fy marn i, yw'r ddeddfwriaeth sy'n sicrhau parch cydradd, ac mae'n cynnwys yr ysgogiadau sy'n ofynnol er mwyn gwireddu'r flaenoriaeth y mae Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr hon wedi'i roi i fater parch cydradd ers amser maith. Credaf mai un o'r cyfleoedd diddorol sy'n codi yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth honno yw'r ffaith bod cwmpas gwaith y comisiwn newydd yn cynnwys y chweched dosbarth. Credaf y bydd hynny'n newid y berthynas rhwng ysgolion a darparwyr addysg ôl-16 mewn ffordd sy'n gwireddu'r ymdeimlad o gontinwwm dysgu. Credaf y bydd yn darparu cyfleoedd, yn union fel y dywedais mewn ymateb i Cefin Campbell yn gynharach, i ddysgwyr ar bob rhan o'u taith gofio'r pwys cyfartal y dylent ei roi i lwybrau galwedigaethol ôl-16. Fe fydd hefyd yn ymwybodol fod rhai o'r cynigion yn ymgynghoriad 'Cymwys ar gyfer y dyfodol', a gyhoeddwyd gan Cymwysterau Cymru ychydig wythnosau yn ôl, yn ymwneud â darparu ystod o gymwysterau TGAU ag iddynt ffocws mwy galwedigaethol. Mae un ohonynt, er enghraifft, ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu. Felly, credaf fod nifer o ffyrdd y gallwn symud yr agenda hon yn ei blaen, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth honno os yw'n barod i wneud hynny.

Diolch i Mr Rowlands am godi'r cwestiwn pwysig hwn heddiw. Weinidog, dysgais bethau wrth fy ngwaith yn fy mhrentisiaeth beirianneg nad oeddent yn cael eu dysgu yn yr ysgol na'r coleg, nac yn fy ngradd ran-amser pan astudiais ym Mhrifysgol Glyndŵr. Mae'r rhain yn sgiliau sydd o fudd i unrhyw un am weddill eu hoes. Ac yng ngeiriau Michael Halliday, fy nghydweithiwr y cwblheais fy mhrentisiaeth ochr yn ochr ag ef, 'Prentisiaeth yw'r sail a'r sylfaen i adeiladu arni nad ydych yn ei chael drwy'r llwybr traddodiadol.' Bellach, mae Mike Halliday yn bennaeth DRB Group yng Nglannau Dyfrdwy ac yntau ond yn 26 oed—enghraifft wych o'r hyn y gall prentisiaeth o safon ei gynnig.

Weinidog, gwyddom fod angen inni beiriannu a gweithgynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion a thechnoleg gynaliadwy yng Nghymru. I wneud hyn, mae arnom angen i bobl ddod yn beirianwyr a gweithgynhyrchwyr medrus drwy lwybr prentisiaethau ar ôl iddynt adael yr ysgol. A wnewch chi ymrwymo i weithio'n agos gyda Gweinidog yr Economi, darparwyr addysg, darparwyr prentisiaethau, cyflogwyr, ac yn bwysig, undebau llafur i sicrhau bod hyn yn digwydd?

Diolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn, ac am ei ymrwymiad, o'r eiliad y cafodd ei ethol, i'r agenda hon. Gwn pa mor angerddol y mae'n teimlo ynglŷn â hyn, yn anad dim am fod ganddo brofiad uniongyrchol ohono. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad clir i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oedran yn nhymor y Senedd hon. Cânt eu darparu yn unol â blaenoriaethau'r economi yn yr union ffordd y mae'n ei disgrifio. Dim ond drwy weithio mewn partneriaeth â darparwyr addysg bellach, cyflogwyr, ac yn bwysig, undebau llafur, y gallwn wneud cynnydd yn y maes hwn, fel y mae'n dweud.

Cymwysterau TGAU a Safon Uwch

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gymwysterau TGAU a lefel A y flwyddyn nesaf? OQ57161

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu cynnal cyfres arholiadau yn ystod haf 2022, gyda chyfyngiadau ar gynnwys cyrsiau ac addasiadau eraill i adlewyrchu'r amharu a fu ar y dysgu. Rydym ni hefyd wedi gosod cyfres o adnoddau yn eu lle, gyda CBAC, i gefnogi'r dysgu a helpu pobl ifanc i baratoi. 

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Mae’r Llywodraeth yn paratoi am nifer o senarios COVID wrth edrych tuag at haf nesaf, a dwi’n deall pam hynny. Ond, wrth gwrs, mae o’n creu ansicrwydd mawr i ddisgyblion TGAU a lefel A. O ran lefel A yn benodol, dwi’n datgan bod gennyf ddiddordeb arbennig yn hyn—nid yn unig mae gen i fab fy hun sydd yn sefyll ei lefel A eleni, ond dyma’r oed, digwydd bod, bues i’n dysgu rygbi iddyn nhw am flynyddoedd, felly dwi eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw i gyd yn gallu cyrraedd eu potensial. O ystyried nad ydyn nhw ddim wedi sefyll arholiadau AS allanol y llynedd oherwydd COVID, ddim wedi sefyll arholiadau TGAU y flwyddyn cynt oherwydd COVID, maen nhw yn bryderus iawn am y broses asesu o’u blaenau nhw. Ac o feddwl bod sefyll arholiad allanol byth yn beth braf iawn, hyd yn oed os ydych chi wedi cael blynyddoedd o ymarfer, mae’n waeth fyth sefyll arholiad fydd yn dylanwadu ar eich dewisiadau mewn bywyd pan dydych chi erioed wedi cael y profiad yna. Felly, i ba raddau fydd hynny’n cael ei ystyried wrth asesu? Achos tra bydd rhai yn naturals, o bosib, mi fydd rhai sydd heb sefyll arholiad mewn peryg o golli allan.

15:10

Dwi wedi cael sgyrsiau gyda dysgwyr yn ddiweddar, yn cynnwys gyda phanel o ddysgwyr a wnaeth y comisiynydd plant ddwyn ynghyd, er mwyn trafod y cwestiwn hwn. Felly, ces i gyfle i drafod yn uniongyrchol rhai o'r gofidiau a'r amheuon sydd gan unigolion a disgyblion, fel y byddwn i'n disgwyl ac fel mae'r Aelod yn sôn. Un o'r pethau pwysig, dwi'n credu, yw sylweddoli pa mor wahanol fydd arholiadau'n edrych o ran eu cynnwys yn sgil y gwaith mae Cymwysterau Cymru a'r cyd-bwyllgor wedi bod yn ei wneud. Hynny yw, maen nhw'n llawer llai o ran eu cwmpas oherwydd bod pobl wedi colli cyfle i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth. Gyda llaw, dyw hynny ddim wedi digwydd, er enghraifft, yn Lloegr, felly mae'r math o ymyraethau rŷn ni wedi'u gwneud yma yng Nghymru yn llawer mwy pwrpasol, dwi'n credu, o ran yr arholiad ei hunan. Ond hefyd, yn rhannol gyda'r ffynhonnell o arian rwyf wedi bod yn sôn amdano eisoes—ac rwyf ar fin datgan cronfa arall er mwyn cefnogi dysgwyr lefel A, TGAU, AS i gael cyfle i gael llawer mwy o gefnogaeth uniongyrchol ar gyfer paratoi, ond hefyd ar gyfer rhoi sicrwydd a hyder i bobl eu bod nhw ar y llwybr cywir. Felly, bydd mwy o ddarpariaeth yn dod yn sgil hynny hefyd. Ond rwy'n credu y bydd rhaid edrych ar y ddwy elfen: newidiadau i'r arholiadau—fyddan nhw ddim yn edrych, o ran cynnwys, o ran cwmpas, fel roedd yr arholiadau cyn hynny—ond hefyd y gefnogaeth i sicrhau bod gan ein dysgwyr ni yr hyder i'w sefyll nhw.

Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? OQ57137

Mae rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain wedi buddsoddi £1 biliwn yn ein hystâd addysgol hyd yn hyn. Fel y cyhoeddais yn ddiweddar, byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn, gan ddiwallu'r galw lleol am addysg a hefyd i gefnogi ein hymrwymiadau mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd a sicrhau ein bod yn darparu cymunedau dysgu cynaliadwy.

Weinidog, roedd yn bleser ymuno â chi yn agoriad swyddogol yr ysgol newydd gwerth £10.2 miliwn, Ysgol Gynradd Hirwaun, ddydd Iau diwethaf, y rhoddodd Llywodraeth Cymru 65 y cant o'r cyllid tuag ati. Dyma’r ysgol ddiweddaraf mewn cyfres o ysgolion newydd i gwm Cynon, pob un wedi’i hariannu ar y cyd gan gyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru, gan fuddsoddi o ddifrif mewn pobl ifanc yn lleol. Mae ysgol Hirwaun hefyd yn cynnwys cyfleuster Dechrau'n Deg ar gyfer y  blynyddoedd cynnar, felly pa drafodaethau y mae eich adran wedi'u cael ynglŷn â sut y gellir ymgorffori cyfleusterau tebyg mewn prosiectau ysgolion yn y dyfodol a adeiladir drwy gyllid cymunedau dysgu cynaliadwy?

[Anghlywadwy.]—fel y gwn fod yr Aelod, gan y cyfleoedd sydd wedi codi yn yr ysgol honno drwy gydleoli'r ddarpariaeth Dechrau'n Deg gyda'r ysgol ei hun. A chlywsom, rwy’n meddwl, gan ystod o staff pa mor llwyddiannus y bu hynny wrth gefnogi plant ar eu taith ddysgu.

Cyflwynir rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain, a'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy fel y caiff ei galw o'r flwyddyn nesaf ymlaen, mewn partneriaeth â ffrydiau cyllido eraill Llywodraeth Cymru, megis y grant gofal plant, y grant hybiau cymunedol ac eraill. Felly, golyga hynny fod y ddarpariaeth gofal plant wedi'i hymgorffori i raddau helaeth yn y broses o werthuso cynigion, wrth iddynt gael eu cyflwyno, a chânt eu hadolygu gan swyddogion polisi'r blynyddoedd cynnar yn Llywodraeth Cymru i sicrhau y gellir gwneud y defnydd gorau o'r cyfleusterau yn y ffordd y mae hi'n awgrymu. Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol i ariannu cynlluniau cyfalaf Dechrau'n Deg i gefnogi darpariaeth barhaus y rhaglen flaenllaw, ac rydym yn edrych am bob cyfle ymarferol i alinio'r amcanion hynny lle bynnag y gallwn.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf fyddai wedi bod eitem 3, ond does yna ddim cwestiynau amserol wedi'u derbyn heddiw.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n bleser gennyf sefyll yma yn y Senedd heddiw i siarad am garreg filltir bwysig i Flaenau Gwent.

Ym 1971, yng nghartref Joyce Morgan o Six Bells, sefydlwyd band tref Abertyleri. Nawr, 50 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r band yn dathlu eu hanner canmlwyddiant gyda chyngerdd arbennig ddydd Sadwrn yn y Met yng nghanol y dref yn Abertyleri, gyda'r artist gwadd Dan Thomas, sef prif chwaraewr ewffoniwm y band enwog yn rhyngwladol, y Black Dyke Band. Byddaf yno, ac ni allaf aros i glywed y band yn chwarae'n fyw unwaith eto.

Dros y pum degawd diwethaf, mae llawer wedi newid i bobl Blaenau Gwent, ond mae band tref Abertyleri wedi bod yn rhywbeth cyson, cyfarwydd a chysurus drwy gydol y blynyddoedd hynny. Maent wedi bod yn fodd i gerddorion o bob rhan o'r fwrdeistref sirol a thu hwnt fynegi eu hunain. Maent wedi derbyn dysgwyr cwbl newydd, a chyda gwaith caled, ymarfer ac ymroddiad, wedi eu troi'n chwaraewyr gwych.

Yn y cyngerdd ddydd Sadwrn, bydd cyfansoddiad arbennig yn cael ei berfformio am y tro cyntaf, i ddathlu treftadaeth lofaol y cwm, yn ogystal â chofio'r trychineb yng nglofa Six Bells ym 1960 a laddodd 45 o lowyr. Mae'r cyngerdd hwn yn cynrychioli'r hyn y mae sefydliadau fel band tref Abertyleri yn ei wneud orau: dônt â chymunedau ynghyd, gan gadw ein traddodiadau'n fyw wrth gofio ein treftadaeth, ac maent hefyd yn cadw un llygad ar y dyfodol. Gyda hynny mewn golwg, hoffwn ddymuno'r gorau iddynt ar gyfer y cyngerdd y penwythnos hwn, a phob dymuniad da iddynt am yr 50 mlynedd nesaf. Diolch yn fawr.

15:15

Lywydd, eleni, mae Seren Books yn fy etholaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dathlu deugain mlynedd. Seren yw prif gyhoeddwr llenyddol annibynnol Cymru, sy'n arbenigo mewn llenyddiaeth o bob rhan o'n gwlad. Gyda chyhoeddiadau'n amrywio o farddoniaeth i ffuglen a llyfrau ffeithiol, rwy'n falch o'r gweithiau arobryn y mae'r tîm wedi'u rhoi i ni a'r llwyfan rhyngwladol. I'w dyfynnu yn eu geiriau eu hunain:

'Ein nod yw nid yn unig adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yn y diwylliant...ond gyrru'r diwylliant hwnnw yn ei flaen, ymgysylltu â'r byd, a chyflwyno llenyddiaeth, celf a gwleidyddiaeth Cymru i gynulleidfa ehangach.'

Ar gyfer y dathliad arbennig hwn, hoffwn dalu teyrngedau arbennig i Cary Archard, sylfaenydd Seren, y gweithiwr cyntaf, Mick Felton, sy'n dal i fod yn rheolwr, golygydd llyfrau ffeithiol a golygydd ffuglen, ac yn olaf, golygydd barddoniaeth Seren, Amy Wack, sy'n rhoi'r gorau i'r swydd y mis hwn ar ôl dros 30 mlynedd. Ymroddiad eich tîm i grefft llenyddiaeth sy'n gyfrifol am lwyddiant Seren. A gadewch imi sôn hefyd am ein llenorion ein hunain o Ben-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl y cyhoeddwyd eu gwaith gan Seren: Rhian Edwards, y mae ei chasgliadau'n cynnwys Clueless Dogs a The Estate Agent's Daughter; Robert Minhinnick, bardd, nofelydd, awdur ysgrifau ac ymgyrchydd amgylcheddol lleol, a Kristian Evans, awdur, sydd wedi golygu casgliad o gerddi, gyda Zoë, o’r enw 100 Poems to Save the Earth, sy'n addas iawn yn ystod COP26 yn fy marn i.

Felly, wrth inni ddathlu 40 mlynedd, gwn y gallwn edrych ymlaen at weld llawer mwy o unigolion talentog ac ymroddedig a'u gwaith yn cael ei gyflwyno i ni drwy Seren Books.

Am 5.13 p.m. ddydd Iau 8 Tachwedd 2001, byddai llawer o bobl ledled Cymru wedi bod yn cael eu te. Fodd bynnag, ym Mhort Talbot, roedd yn foment a syfrdanodd y gwaith dur a'r cymunedau cyfagos, wrth i ffrwydrad ddigwydd yn Ffwrnais Chwyth Rhif 5. Roedd y ffrwydrad mor bwerus, fe gododd y ffwrnais, a oedd yn pwyso oddeutu 5,000 tunnell, dros 0.75 metr i'r awyr, cyn cwympo yn ôl i'w le. Y noson honno, lladdwyd tri o weithwyr dur, anafwyd 12 o weithwyr yn ddifrifol a chafodd nifer o rai eraill fân anafiadau. Aeth y tri dyn a fu farw—Andrew Hutin, 20 oed, Stephen Galsworthy, 25 oed a Len Radford, 53 oed—fel pob un o’r gweithwyr dur, i'r gwaith y diwrnod hwnnw gan ddisgwyl mynd adref ar ddiwedd eu shifftiau, ond golygodd y digwyddiad trasig hwn nad aethant byth adref. Mae eu marwolaethau'n ein hatgoffa o'r peryglon y mae gweithwyr dur yn eu hwynebu bob dydd.

Nododd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

'er bod canlyniad y ffrwydrad yn ddigynsail yn y diwydiant cynhyrchu dur'—

roedd—

'yn ganlyniad i nifer o fethiannau rheoli diogelwch... dros gyfnod estynedig.'

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, rhaid inni beidio ag anghofio'r tri gweithiwr dur na'r hyn a achosodd eu marwolaethau. Mae'n ddyletswydd arnom fel gwleidyddion i wneud popeth a allwn i sicrhau nad slogan yn unig yw diogelwch yn y gwaith, ond hawl a disgwyliad gan bob gweithiwr, boed hynny mewn gwaith dur, ffatri neu unrhyw leoliad arall. Bydd y digwyddiad trasig hwn yn byw nid yn unig gyda gweithwyr dur a phobl Port Talbot, ond mae'n rhaid iddo fyw gyda phob un ohonom ninnau. Heddiw, rydym yn cydymdeimlo â theuluoedd a ffrindiau Andrew, Stephen a Len, ac rwy’n galw ar bob un ohonoch i beidio ag anghofio amdanynt.

Diolch yn fawr i chi i gyd. Byddwn ni nawr yn cymryd egwyl fer ar gyfer paratoi newidiadau yn y Siambr, a byddwn ni'n canu'r gloch dwy funud cyn inni ailgychwyn.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:19.

15:25

Ailymgynullodd y Senedd am 15:28, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Sbeicio

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 3 yn enw Siân Gwenllian, a gwelliant 3 yn enw Lesley Griffiths. 

Croeso nôl. Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: sbeicio. Galwaf ar Tom Giffard i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM7824 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi â phryder y cynnydd gofidus yn yr achosion o sbeicio mewn lleoliadau ledled Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i weithio gyda rhanddeiliaid i:

a) darparu caeadau ar gyfer poteli a gorchuddion diodydd yn rhad ac am ddim mewn lleoliadau;

b) gwella diogelwch, gan gynnwys archwiliadau ar bocedi, bagiau, siacedi a chotiau;

c) hyfforddi staff ar sut i adnabod a delio ag achosion o sbeicio;

d) gwella teledu cylch cyfyng mewn lleoliadau i gynorthwyo gyda thystiolaeth i sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol yn cael eu herlyn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon yn y Senedd heddiw am y pryder cynyddol ynghylch y cynnydd syfrdanol mewn sbeicio diodydd mewn clybiau nos yng Nghymru a ledled y DU. Rwy'n siŵr fod llawer ohonom yn y Siambr hon wedi clywed straeon erchyll, naill ai yn ein mewnflychau fel Aelodau o'r Senedd neu gan ein ffrindiau a'n teuluoedd, ac mae hwn yn fater sy'n effeithio ar bob rhan o Gymru. Mae'n flin gennyf ddweud bod llawer o fenywod wedi dweud wrthyf eu bod bellach yn rhy ofnus i fynd allan i fwynhau eu hunain yn ein clybiau am eu bod yn poeni am eu diogelwch eu hunain. Ac i wneud pethau'n waeth, nid sôn am sbeicio diodydd yn unig a wnawn mwyach. Dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, cafwyd llu o adroddiadau o fenywod yn cael eu sbeicio gan bigiadau yn ein clybiau nos hefyd. Mae'n rhaid i rywbeth newid. A newid yn gyflym.

Bydd rhai yn gofyn pam fy mod i, fel dyn, yn agor y ddadl hon heddiw, ar fater sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod. A thra nad wyf am siarad heddiw i fychanu neu 'ddynsbonio' unrhyw un o'r materion o dan sylw yma neu'r straeon y mae ein menywod yn eu hadrodd, mae'r rheswm roeddwn am siarad heddiw'n glir: er mwyn i ni, fel dynion, sefyll ochr yn ochr â'n chwiorydd, partneriaid, cydweithwyr a ffrindiau, a hyd yn oed menywod nad ydym yn eu hadnabod, i gyfleu'r neges i ddynion eraill fod yr ymddygiad hwn yn gwbl wrthun, yn annerbyniol ac nad oes lle iddo yn ein cymdeithas. Dylai pawb allu mynd allan a chael amser da gyda ffrindiau neu deulu yn ein clybiau nos heb ofni cael eu sbeicio gan yr unigolion ffiaidd ac atgas hyn. Ond mae arnaf ofn ei bod yn broblem sydd ar gynnydd. Yn 2019, cafwyd 1,020 o achosion o sbeicio diodydd yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, ym mis Medi a mis Hydref eleni yn unig, cadarnhawyd 198 o achosion o sbeicio diodydd, ynghyd â 24 achos o sbeicio drwy bigiad. Ac mae achosion sy'n ymwneud â phobl dan 18 oed wedi mwy na dyblu, o 32 yn 2015 i 71 yn 2018. A rhwng mis Ionawr a mis Medi 2019, cafodd 68 o achosion eu cofnodi. Ond cyfyngedig yw gwerth y data hwnnw hyd yn oed, gan ein bod hefyd yn gwybod nad yw'r heddlu'n cael gwybod am y rhan fwyaf o'r digwyddiadau. Dangosodd astudiaeth gan StopTopps nad oedd oddeutu 98 y cant o ddioddefwyr—98 y cant—wedi rhoi gwybod i'r heddlu am y digwyddiadau hyn, ac roedd llawer yn teimlo na fyddai pobl yn eu credu.

Yn ogystal, nid yw'r rheini sy'n cael eu sbeicio bob amser yn sylweddoli eu bod wedi cael eu sbeicio, neu maent yn ei anwybyddu fel rhywbeth nad yw o bwys, neu'n anffodus, efallai nad ydynt yn sylweddoli ei bod yn drosedd yn y lle cyntaf. Dyna reswm arall pam ein bod yn cyflwyno'r ddadl hon heddiw—i godi ymwybyddiaeth o'r broblem ac i annog pobl sy'n cael eu sbeicio i roi gwybod i'r heddlu, nid yn unig am ei bod yn drosedd, ond am y byddai'n rhoi syniad cliriach i ni o faint y broblem, ac i'r heddlu nodi mannau problemus posibl ar gyfer y math hwn o weithgarwch i allu mynd i'r afael ag ef ac i allu dal y troseddwyr sy'n gwneud hyn fel na allant niweidio unrhyw un arall yn y dyfodol.

Mae'r achosion cynyddol o sbeicio wedi ysgogi nifer o bobl i gymryd camau i fynd i'r afael â'r mater hwn. Y mwyaf nodedig, efallai, yw boicot diweddar Girls Night In a ddigwyddodd dros bythefnos yn ôl. Fe wnaethant drefnu boicot cydgysylltiedig o sefydliadau bywyd nos ledled y DU i annog y diwydiant bywyd nos i fod o ddifrif ynglŷn â'r mater, yn ogystal â diogelwch menywod ifanc. Credaf ei bod yn bwysig, serch hynny, nad ydym yn paentio'r diwydiant bywyd nos cyfan gyda'r un brwsh. Mae rhai lleoliadau wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol i hyn, a dylid eu canmol am hynny—clybiau nos fel Sin City yn Abertawe yn fy rhanbarth, lle mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod wedi treulio rhywfaint o amser dros y blynyddoedd. Mae'n un o'r lleoliadau hynny. Maent wedi gweithredu'n rhagweithiol, gan archebu 12,500 o StopTopps—math o gaead gwrth-sbeicio—yn ogystal â'u polisi hirsefydlog i gyfnewid unrhyw ddiodydd yn y lleoliad y mae pobl yn amau ​​eu bod wedi'u sbeicio.

Ond gwn nad dyna fydd y profiad ym mhob clwb nos ym mhob tref a phob dinas yng Nghymru, a dylai'r rheini a all wneud mwy wneud hynny. Fodd bynnag, gŵyr pob un ohonom na all hyn fod yn gyfrifoldeb i berchnogion y busnesau hynny'n unig. Er bod rhai yn y diwydiant bywyd nos wedi cymryd camau, ni all y cyfrifoldeb fod ar y clybiau nos yn gyfan gwbl yma, yn enwedig mewn diwydiant sydd wedi dioddef trafferthion ariannol aruthrol dros y 18 mis diwethaf oherwydd cyfyngiadau COVID.

Ond mae mwy y gall y Llywodraeth ei wneud bob amser yn y maes hwn, a dyna pam rwy'n croesawu, er enghraifft, y buddsoddiad o £30 miliwn ledled y DU i helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn. Mae hynny'n cynnwys £5 miliwn i gronfa diogelwch menywod yn y nos, yn ychwanegol at y £25 miliwn a roddwyd i'r gronfa strydoedd mwy diogel. Mae'r buddsoddiad ariannol hwn gan Lywodraeth y DU yn hanfodol i gefnogi cynlluniau fel Ask for Angela, sef system sy'n helpu pobl i deimlo'n ddiogel rhag ymosodiad rhywiol drwy ddefnyddio allweddair i nodi pan fyddant mewn perygl neu mewn sefyllfa anghyfforddus.

Rydym hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ystod o syniadau ymarferol yn ein cynnig heddiw i sicrhau diogelwch menywod mewn clybiau nos. Bydd gwella teledu cylch cyfyng mewn lleoliadau, er enghraifft, yn helpu i roi mwy o dystiolaeth wrth erlyn y troseddau hyn, a gall roi hyder i bobl roi gwybod amdanynt, yn enwedig y rheini y soniais amdanynt yn gynharach a oedd yn ofni na fyddai pobl yn eu credu. A byddai darparu mwy o gaeadau poteli a gorchuddion diodydd mewn lleoliadau hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r broblem hon, ac yn gwneud sbeicio diodydd bron yn amhosibl. A gall helpu staff i nodi'r arwyddion yn gynharach fod rhywun wedi cael eu sbeicio eu helpu i drin y materion hyn pan fyddant yn codi.

Dyna pam fod gwelliannau Llywodraeth Cymru heddiw yn siomedig, gan fod angen i Lywodraeth Cymru gamu i mewn a gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau diogelwch y rheini sy'n mynd allan gyda'r nos. Yn hytrach na lleihau eu cyfrifoldeb, dylai Llywodraeth Cymru fod yn cefnogi ein cynnig, sy'n gam pwysig i fynd i'r afael â sbeicio a gwneud lleoliadau'n amgylchedd mwy diogel i bawb ei fwynhau. Ac mae'r sefyllfa bresennol yn galw am weithredu, gan nad diodydd yn unig sy'n cael eu sbeicio bellach, ac mae tuedd frawychus o chwistrellu pobl â nodwyddau. Mae wedi ychwanegu elfen greulon arall o berygl at yr hyn sydd eisoes yn fater hynod bwysig.

Ers mis Medi—mis Medi—cafwyd adroddiadau am 218 digwyddiad o'r fath yn y DU, a gwyddom y bydd llawer mwy heb eu cofnodi. A dylem roi ystyriaeth lawer mwy difrifol i sbeicio pobl drwy bigiad. Mae'n rhan o gynnydd mewn camdriniaeth wedi'i thargedu tuag at fenywod yn bennaf. Mae ymhlith y troseddau mwyaf difrifol y gallai unrhyw un eu cyflawni. Nid oes ddwywaith amdani—mae gweithred o'r fath yn cael ei chyflawni oherwydd bwriad i dreisio menywod, ac mae'n rhaid ei thrin gyda'r difrifoldeb y mae'r ensyniadau hynny'n eu haeddu. Ond y cwestiwn allweddol yw hwn: beth fydd yn newid ar ôl i sylw'r cyfryngau i'r stori dawelu? Beth fydd yn newid ar ôl i'r cynnig hwn gael ei drafod ac ar ôl inni bleidleisio arno heddiw? A fyddwn yn gadael y Siambr hon wedi gwneud popeth a allwn i ddiogelu ac amddiffyn menywod? A dyna pam rwy'n galw ar bawb i gefnogi ein cynnig heddiw.

15:30

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Sioned Williams i gynnig gwelliannau 1 a 3, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.

15:35

Gwelliant 1—Siân Gwenllian

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi â phryder y cynnydd gofidus mewn achosion o sbeicio mewn lleoliadau ledled Cymru ac yn cydnabod bod hyn yn rhan o broblem ehangach o ymosodiadau rhywiol ac aflonyddu tuag at fenywod sydd wedi'u gwreiddio mewn rhywiaeth a chasineb at fenywod.  

Gwelliant 3—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi mentrau sy'n herio agweddau diwylliannol sy'n caniatáu i ymosodiadau rhywiol ac aflonyddu ddigwydd; 

b) llunio strategaeth gynhwysfawr ar atal ymosodiadau rhywiol ac aflonyddu yn economi nos Cymru; 

c) gofyn am eglurder gan Lywodraeth y DU ar ei chynlluniau i ddosbarthu casineb at fenywod yn drosedd casineb, a fyddai'n annog pobl i roi gwybod am achosion o sbeicio ac yn galluogi categoreiddio troseddau'n well er mwyn deall maint y broblem. 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:

a) gwella mecanweithiau a phrosesau adrodd ynghylch ymosodiadau ac aflonyddu rhywiol; 

b) gwella'r gefnogaeth i ddioddefwyr sbeicio a mathau eraill o ymosodiadau ac aflonyddu rhywiol. 

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 3.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch hefyd o siarad yn y ddadl bwysig hon, oherwydd mae hwn yn fater sydd, yn llythrennol, yn fy nghadw'n effro yn y nos oherwydd bod gennyf ferch 19 oed. Mae'n dweud wrthyf, bob tro y bydd yn mynd allan i far neu glwb, neu i barti yn nhŷ myfyriwr arall, ei bod yn ymwybodol, yn anffodus, fod yn rhaid iddi geisio diogelu ei hun a'i ffrindiau rhag iddynt gael eu sbeicio naill ai drwy ddiodydd neu drwy gael eu chwistrellu, pethau a allai arwain at drais rhywiol yn y pen draw. Rwy'n gorwedd yn effro yn aros am y neges destun i ddweud ei bod gartref yn ddiogel. 

Mam i fenyw ifanc neu beidio, rhaid bod y mater hwn yn destun pryder i ni i gyd, a rhaid i ni, gynrychiolwyr y gymdeithas Gymreig, wneud mwy i fynd i'r afael â phroblem casineb at fenywod, aflonyddu rhywiol a thrais rhywiol sy'n ganolog i'r ddadl heddiw a gwelliannau Plaid Cymru i'r cynnig. Nid yw hon yn broblem newydd, ac er nad yw'n drosedd a gyflawnir yn erbyn menywod yn unig, mae'r mwyafrif llethol o ddioddefwyr sbeicio yn fenywod, ac rwy'n siŵr fod pob menyw yn y Siambr hon a thu hwnt, ar ryw adeg neu'i gilydd, wedi teimlo'r un pryder yng nghefn eu meddyliau wrth iddynt fwynhau noson allan. Ond mae'r broblem yn gwaethygu, ac nid ydym ni fel cymdeithas yn mynd i'r afael ag achos y broblem hon. Ac nid yw'r system cyfiawnder troseddol yn gwasanaethu nac yn gwrando ar fenywod sy'n ddioddefwyr sbeicio ac ymosodiadau a thrais rhywiol. Nid oes ond angen inni edrych ar yr ystadegau cywilyddus ar y gostyngiad yn nifer yr erlyniadau a'r euogfarnau trais rhywiol a domestig i weld bod hyn yn wir. 

Yn ystod y ddau fis diwethaf, fel y dywedodd Tom Giffard, cadarnhaodd heddluoedd y DU 198 o adroddiadau o sbeicio diodydd, a 56 o ddigwyddiadau gyda dioddefwyr yn dweud eu bod yn ofni eu bod wedi cael eu sbeicio drwy bigiad. A dim ond crafu'r wyneb yw hynny, oherwydd canfu ymchwil a gyflawnwyd gan Stamp Out Spiking UK nad oedd 98 y cant o ddioddefwyr sbeicio yn rhoi gwybod amdano, gan nad oeddent yn credu yn y broses gyfiawnder neu am eu bod yn meddwl na fyddai'r heddlu'n eu credu. Nid ydym yn gwybod i ba raddau y mae'r drosedd hon yn digwydd, felly sut y gallwn fynd i'r afael â hi'n iawn? Ac oherwydd ein bod yn gwybod bod cynifer o achosion yn mynd heb eu cofnodi, gwyddom felly nad ydym yn gwrando ar y rhai sy'n dioddef canlyniadau hunllefus y drosedd hon nac yn eu cefnogi. 

Er y gall cyflwyno cynigion fel gorchuddion diodydd a chaeadau poteli, gwell diogelwch a theledu cylch cyfyng ganiatáu i bobl deimlo'n fwy diogel rhag sbeicio wrth fynd allan i rai lleoliadau, megis clybiau a bariau, nid yw hynny'n wir, wrth gwrs, mewn partïon yn nhai pobl, ac ni fydd y mesurau hyn yn newid yr agweddau diwylliannol sy'n gyrru trais rhywiol yn y lle cyntaf. Oherwydd os ydym o ddifrif ynglŷn ag atal sbeicio, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â gwraidd y broblem sy'n arwain at y drosedd hon. A gadewch i ni fod yn glir: gellir gweld patrymau ymddygiad sy'n codi o gasineb at fenywod a all arwain at sbeicio mewn nifer enfawr o leoliadau eraill ledled ein cymdeithas. Ceir lefel uchel o drais ac aflonyddu rhywiol, epidemig mewn gwirionedd, yn ôl Cymorth i Fenywod Cymru, y tu hwnt i sbeicio ac economi'r nos. Mae'n rhaid ystyried bod yr agweddau sy'n gyrru aflonyddu rhywiol a thrais a cham-drin yn gwbl annerbyniol ym mhob lleoliad, gan gynnwys y cartref, mewn ysgolion a cholegau ac yn y gweithle. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae'n rhaid inni fuddsoddi ac ariannu mentrau'n gynaliadwy gyda'r nod o atal trais yn erbyn menywod, a chefnogi'r holl oroeswyr yn yr un modd ar hyd a lled Cymru. 

Mae addysg, wrth gwrs, yn allweddol i atal, a soniodd Tom Giffard am ymgyrch Big Night In mewn colegau a phrifysgolion, sydd wedi codi ymwybyddiaeth o ffenomenon sbeicio ac sydd wedi gwneud cyfres o ofynion ymarferol yn deillio o brofiad menywod eu hunain, gan gynnwys pwyslais ar hyfforddiant i staff bariau a chlybiau, yn ogystal ag i bob glasfyfyriwr, ar sut i ymateb i ddigwyddiadau o'r fath. Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i weithio gyda sefydliadau partner i weithredu'r gofynion hyn, a helpu i edrych ar atal, lles dioddefwyr a chymorth drwy ddarparu strategaeth gynhwysfawr a phenodol ar hyn ar gyfer economi'r nos yng Nghymru. 

Ac mae'n amlwg fod angen i Lywodraeth Cymru bwyso am wella'r mecanweithiau adrodd, y prosesau a'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â sbeicio, ymosodiadau rhywiol ac aflonyddu, er mwyn sicrhau bod menywod yng Nghymru yn teimlo y gallant roi gwybod am y troseddau hyn a gweld cyfiawnder yn cael ei weinyddu. Ar hyn o bryd, nid yw'r weithred o sbeicio ynddi ei hun wedi'i chategoreiddio'n benodol yn y gyfraith; fe'i rhestrir yn hytrach fel trosedd o dan ddeddfwriaethau eraill, sydd hefyd yn cynnwys llawer o fathau eraill o droseddau. Mae hyn yn amharu ar gasglu data, ac mae'n golygu nad oes gennym ddarlun cywir o'r broblem. Mae hefyd yn hepgor yr elfen ryweddol na ellir gwadu ei bod yn bresennol yn y rhan fwyaf o achosion o sbeicio. Dylai Llywodraeth Cymru alw ar y Swyddfa Gartref i adolygu'r ffordd y caiff sbeicio ei ddosbarthu a'i gofnodi er mwyn caniatáu i'r sector bywyd nos ac awdurdodau perthnasol gael meincnod i allu archwilio gwahaniaethau rhanbarthol a meddwl am atebion ar sail dealltwriaeth well.

Yn y cyfamser, dylid annog a chefnogi heddluoedd yng Nghymru i nodi pan fydd troseddau'n cael eu hysgogi gan gasineb tuag at ryw neu rywedd, fel y gellir gwella'r data ar gyfer Cymru'n unig. A dylai Llywodraeth Cymru hefyd ofyn am eglurder gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'u cynlluniau i wneud casineb at fenywod yn drosedd gasineb, newid a argymhellwyd gan arolwg cyfredol Comisiwn y Gyfraith. Mae troseddau fel sbeicio yn digwydd i fenywod am mai menywod ydynt. Hyd nes y bydd cymdeithas yn deall hyn, hyd nes y caiff hyn ei ymgorffori yn y gyfraith a'i gydnabod gan yr heddlu a chan y llysoedd, ni fydd menywod sy'n cael eu sbeicio byth yn cael eu credu, eu diogelu a'u cefnogi'n llwyr, a hyd nes y bydd hynny'n digwydd, bydd y troseddau hyn yn parhau. Mae'n rhaid inni greu'r Gymru rydym eisiau ei gweld; mae'n rhaid i ni feithrin cenedl lle mae'r rhywiau'n gyfartal—

15:40

—rydym eisiau i'n merched dyfu i fyny ynddi heb ofn. Geilw hyn am fyw na lliniaru risgiau; rhaid anelu at bolisi i ddileu'r risgiau hynny'n gyfan gwbl. Diolch.

Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, i gynnig yn ffurfiol welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.  

Gwelliant 2—Lesley Griffiths

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le::

Yn credu bod y weithred o sbeicio yn drosedd lechwraidd sy'n tynnu urddas, hawliau a rhyddid person ac yn datgan yn glir mai hawl sylfaenol menywod yw teimlo'n ddiogel a byw'n rhydd.

Yn datgan yn glir nad yw'r cyfrifoldeb ar ddioddefwyr troseddau o'r fath ond ar y cyflawnwyr a'r rhai sy'n gwybod am unigolion sy'n cyflawni'r troseddau hyn ac nad ydynt yn adrodd am y cyflawnwyr pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

Yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'i gwaith ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r ffocws o'r newydd ar ddwyn cyflawnwyr i gyfrif.

Yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol, yn enwedig y rhai yn economi'r nos, i adolygu a gweithredu'r holl opsiynau diogelwch posibl ar frys.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Gadewch inni fod yn glir: dynion yn unig sy'n sbeicio. Dim ond dynion sy'n treisio ac yn cam-drin menywod ar ôl eu gwneud yn anymwybodol; problem dynion ydyw, nid problem menywod. Ac eto, rydym bellach mewn sefyllfa lle mae pobl yn dweud wrth fenywod sut y gallant gadw eu hunain yn ddiogel, lle mae clybiau nos a bariau a heddlu a grwpiau cymorth yn cynnig mesurau i helpu menywod i gadw eu hunain yn ddiogel. Nawr, mae'n bosibl fod angen mesurau a chyngor o'r fath ar hyn o bryd, oherwydd y perygl. Ond gadewch inni fod yn gwbl glir: dynion sy'n creu'r perygl, nid menywod, ac mae angen i ddynion herio'r diwylliant sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd, lle mae rhai dynion yn credu ei bod yn dderbyniol i edrych ar fenywod nid yn unig fel nwyddau, ond fel pethau i gamfanteisio arnynt a'u cam-drin. Un symptom eithafol yn unig o'r agweddau hyn yw'r twf arswydus mewn sbeicio sy'n gysylltiedig â thrais a cham-drin rhywiol ac mae angen i ni ei herio.  

Canfu ymchwiliad gan y BBC yn 2019 dros 2,500 o adroddiadau i'r heddlu ynghylch sbeicio diodydd yng Nghymru a Lloegr dros y pedair blynedd flaenorol—dros 2,500. Mae'r heddlu ledled y DU yn cael nifer gynyddol o adroddiadau am achosion o sbeicio, gyda llawer ohonynt yn cynnwys cyfeiriad at rywbeth miniog, ac mae undebau myfyrwyr ledled y wlad bellach yn adrodd yn rheolaidd am achosion tybiedig o ymyrryd â diodydd. Mae un newyddiadurwr benywaidd yn ysgrifennu:

'Bron nad yw llaw dieithryn yn gwthio i fyny eich sgert ar noson allan wedi dod yn ddigwyddiad arferol i fenywod ifanc. Mae aflonyddu ar y stryd—nid chwibanu a gweiddi ond dynion yn gwneud awgrymiadau anweddus a menywod yn cael eu dilyn gan ddynion a allai droi'n ymosodol os cânt eu gwrthod—wedi ei normaleiddio.'

Mae hi'n parhau:

'Mae menywod ifanc wedi cael llond bol ar glywed y dylent aros gyda'i gilydd, neu y dylent gadw llygad ar eu diodydd, er mai'r broblem yw trais dynion, nid pa mor ofalus yw menywod.'

Nawr, mae rhai mentrau gwych wedi bod yn herio hyn yn ddiweddar, gan gynnwys Big Night In a drefnwyd gan undebau'r myfyrwyr yn ystod wythnos y glas i foicotio clybiau nos er mwyn codi ymwybyddiaeth nid yn unig o'r risgiau ond hefyd yr angen i ddynion wneud safiad. Ac yn wir, ymunodd tîm rygbi'r dynion ym Mhrifysgol Abertawe â'r boicot, gydag un o aelodau'r tîm yn dweud:

'Cafodd stigma gwrywdod tocsig ei gysylltu â bechgyn rygbi...roeddem eisiau bod yn un o'r clybiau cyntaf i wneud rhywbeth yn ei gylch, oherwydd mae pawb yn adnabod rhywun sydd wedi dioddef hyn ac rydym eisiau newid hynny.'

Fe wnaeth Cymorth i Fenywod Cymru fy nghyfeirio at ymgyrch That Guy, a gynhelir gan Heddlu'r Alban, gyda 'Better Ways to be a Man' yn is-deitl iddi gyda llaw, ac mae wedi denu cymeradwyaeth bersonol gan ffigurau adnabyddus fel Mark Bonnar, sy'n actio yn Line of Duty, a Greg McHugh, un o actorion The A Word, a sêr chwaraeon yr Alban ac eraill yn sôn am eu rolau fel gwŷr a thadau i ferched, ac am bwysigrwydd siarad â'ch ffrindiau, a dweud, 'Peidiwch â bod yn ddyn fel'na' fel y mae'r ymgyrch yn dweud, ond hefyd, 'Peidiwch â gadael i'ch meibion fod yn ddynion fel'na chwaith.' Ac mae sefydliadu ieuenctid wedi defnyddio'r ymgyrch fel ffordd o ddechrau sgwrs gyda dynion ifanc ynghylch yr ymdeimlad o hawl rhywiol mewn dynion ac ymddygiad amhriodol a lle y gall hyn arwain. Fel y dywed Mark Bonnar:

'Mae'n rhaid inni archwilio ein hymddygiad fel dynion a herio ymddygiad ein cyfoedion.'  

Felly, i gloi, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa waith rydym yn ei wneud yn Llywodraeth Cymru gyda phartneriaethau diogelwch cymunedol a'r heddlu yng Nghymru, ond gydag eraill hefyd, gan gynnwys awdurdodau lleol, gwasanaethau ieuenctid, sefydliadau'r trydydd sector, yn ogystal â chlybiau nos a bariau a lleoliadau adloniant, a chyda sefydliadau fel Cymorth i Fenywod Cymru, nid yn unig i godi ymwybyddiaeth o'r broblem a deall maint y broblem, ond er mwyn mynd i'r afael â mater sylfaenol gwrywdod gwenwynig, yr ymdeimlad o hawl rhywiol mewn dynion a chasineb at fenywod? Mae angen inni fynd at wraidd y broblem, nid y symptomau'n unig.

15:45

Mae hon yn drafodaeth hynod bwysig ac amserol sydd angen ei chynnal ar frys, a diolch i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, am ei chynnig. Fel arweinydd cymunedol, menyw a mam, mae sbeicio'n ffenomenon fodern sy'n greiddiol i bryderon am ddiogelu lles ein hanwyliaid a menywod ifanc eraill pan fyddant allan yn mwynhau ein lleoliadau lletygarwch. Gyda'r nod o analluogi rhywun ddigon i ddwyn oddi arnynt neu ymosod arnynt, a drysu dioddefwyr i'r pwynt lle maent yn cyfogi, yn cael rhithwelediadau ac amnesia, mae hon yn weithred ddieflig a llwfr gan leiafrif o unigolion sydd bellach yn bygwth diogelwch ein pobl ifanc a hyfywedd ein gweithredwyr diwydiant nos rhagorol.

Mae ymchwil gan StopTopps a gynhaliwyd yn gynharach eleni yn dangos bod 38 y cant o'r ymatebwyr wedi dioddef sbeicio o leiaf unwaith, ac ni wnaeth 98 y cant ohonynt roi gwybod i'r heddlu am y drosedd. Gwyddom hefyd fod adroddiadau ac euogfarnau am sbeicio yn isel ar y cyfan, yn aml oherwydd pryderon y dioddefwyr na fyddant yn cael eu credu, neu na fydd yr heddlu'n gweithredu. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn 22 adroddiad ynghylch sbeicio hyd yma eleni, ond un arestiad yn unig a ddeilliodd o hynny. Yn 2020, cafwyd 18 adroddiad; dim arestiad. Mae'r diffyg cysylltiad hwn rhwng y niferoedd sy'n adrodd am y digwyddiadau a nifer yr arestiadau yn peri pryder ac yn galw am sylw.

Mae gan yr heddlu bwerau sylweddol i weithredu lle maent yn credu bod problem. Gallant alw am adolygu trwydded safle a gallant weithio gyda'r rheolwyr a'r awdurdod trwyddedu. Felly, tybed—i adleisio'r hyn rydych chi wedi'i ddweud, Huw—a all Llywodraeth Cymru amlinellu pa sgyrsiau y mae ein Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod ein heddluoedd yn cael hyfforddiant priodol i ddeall a defnyddio'r pwerau hyn.

Gweithgaredd brawychus arall, a grybwyllwyd gan Tom Giffard, yw'r pigiadau a ddefnyddir ar eraill. Dywedodd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu fod 24 adroddiad o sbeicio drwy chwistrellu wedi'u gwneud ym mis Medi a mis Hydref yn unig, gan gyflwyno elfen newydd o berygl i'n pobl ifanc. Er bod y data'n awgrymu bod sbeicio diodydd yn llawer mwy cyffredin na sbeicio drwy chwistrellu, mae pryderon am sbeicio yn cyfuno â phryderon am ledaeniad hepatitis B ac C, gan golygu bod llawer o fenywod ifanc bellach yn gorfod gwisgo siacedi denim fel ffordd o atal neu arafu effeithiau pigiad. Ond mae'n parhau i fod yn anodd asesu a yw sbeicio drwy nodwydd yn dod yn duedd genedlaethol oherwydd y diffyg data ymarferol sydd ar gael. Felly, unwaith eto, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad cyflym wedi'i arwain gan randdeiliaid i ganfod gwir nifer yr achosion o sbeicio drwy nodwydd sydd wedi digwydd yng Nghymru, ac archwilio ffyrdd y gall lleoliadau gymryd camau mwy ataliol. Mae angen cadarnhad hefyd y bydd trafodaethau o'r fath yn cael eu defnyddio yn awr i ddiweddaru 'Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-2022'. Er i hwn gael ei ddiweddaru ym mis Ionawr, mae'n syndod nad oes sôn am sbeicio, na'r pigiadau hyn yn wir.

Hoffwn gloi drwy dalu teyrnged i'r gwaith rhagweithiol a wnaed gan gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a rhai sy'n barod i gyflwyno mwy o archwiliadau wrth adael pobl i mewn i leoliad. Mae angen rhoi mwy o gamau ar waith, gan gynnwys gwella teledu cylch cyfyng i gynorthwyo gyda chasglu tystiolaeth a chymorth i hyfforddi staff ar sut i adnabod ac ymdrin ag achosion o sbeicio. Bydd hyn hefyd yn helpu gyda digwyddiadau cysylltiedig eraill, ac mae'n rhaid i mi sôn yma heddiw am y cynnydd mewn troseddau cyllyll, ac rwy'n gweithio gyda rhanddeiliaid ar hyn o bryd i fynd i'r afael â hynny yn fy etholaeth. Gyda Heddlu Gogledd Cymru yn cofnodi 277 o droseddau'n ymwneud â chyllyll neu arfau miniog yn 2019-20, mae angen mynd i'r afael â hyn hefyd. Rwy'n ymdrin ag etholwr a aeth allan yn ddiniwed un noson ac a ddaeth yn ôl gyda 62 o bwythau. Ei gwestiwn i mi yw, 'Beth ddaeth dros ben rhywun i gario cyllell rasel hir? Beth ddaeth dros ben y person hwnnw i ymosod ar rywun yn sydyn a'u clwyfo i'r graddau fod angen 62 o bwythau arnynt?' Felly, rydym angen i Lywodraeth Cymru ddilyn arweiniad ein Hysgrifennydd Cartref, y Gwir Anrhydeddus Priti Patel AS, a gweithio'n rhagweithiol gyda rhanddeiliaid i fynd i'r afael â'r problemau hyn er mwyn gwneud ein lleoliadau'n ddiogel i bobl eu mwynhau. Mae'r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Swyddfa Gartref, Rachel Maclean AS, hefyd wedi cyfarfod ag Awdurdod y Diwydiant Diogelwch i sicrhau bod cymwysterau goruchwylwyr drysau a swyddogion diogelwch yn cynnwys elfen benodol sy'n ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched. Rwy'n erfyn ar y Gweinidog a'r Siambr heddiw i sefydlu consensws trawsbleidiol fel y gellir cyflwyno newid effeithiol, a hynny'n gyflym. Diolch.

15:50

Wrth i fenywod ifanc dyfu i fyny, cawn ein dysgu i fod yn ofalus, i osgoi rhai sefyllfaoedd, pobl, gwisgoedd, i gyfyngu ar y pethau a wnawn a'r gofod a ddefnyddiwn, i beidio â cherdded adref ar ein pen ein hunain, i beidio ag yfed gormod, i beidio ag ymddwyn mewn ffordd a fyddai'n denu sylw diangen, a phan fyddwch allan gyda ffrindiau, cadwch eich llaw dros eich diod, a pheidiwch â gadael diod ar y bwrdd os ydych yn mynd i'r toiled neu at y llawr dawnsio, nid am ein bod yn poeni y bydd rhywun yn dwyn y ddiod, ond am ein bod yn poeni y bydd rhywun yn ei sbeicio, yn rhoi rhywbeth ynddi a fydd yn troi'r noson yn hunllef. Oherwydd dyna sy'n cael ei ddysgu i ni. Cawn ein hyfforddi i ragweld perygl, i lywio ofn, i fyw ein bywydau mewn ffyrdd sy'n cael eu fframio gan y perygl posibl hwnnw, a dyma lle y ceir rhaniad cymdeithasol anochel ym mhrofiadau pobl, oherwydd bydd yr holl bethau y soniais amdanynt yn rhyfeddol o gyfarwydd, yn ystrydebol hyd yn oed, i'r holl fenywod sy'n gwrando, ond i ddynion, byddai gwneud rhywbeth fel hyn yn brofiad dieithr yn naturiol, oherwydd fel cymdeithas rydym yn rhoi'r cyfrifoldeb ar fenywod i gadw eu hunain yn ddiogel, nid ar ddynion i roi'r gorau i ymosod ar fenywod.

Credaf fod llawer o'r syniadau a gyflwynwyd yn y cynnig—yn syniadau Cymdeithas Diwydiannau'r Nos ynglŷn â darparu caeadau ar gyfer poteli a gorchuddion diodydd yn rhad ac am ddim i gwsmeriaid mewn tafarndai a bariau—ond cuddio'r broblem y mae gweithredu o'r fath ar ei ben ei hun yn ei wneud. Yn yr un modd, byddwn yn croesawu camau pellach i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o beryglon sbeicio diodydd ac edrych ar fwy o gyllid ar gyfer hyfforddiant ar y perygl i swyddogion diogelwch a staff bar. Ond yn y pen draw, Ddirprwy Lywydd, rydym yn dal i sôn am reoli'r broblem yn hytrach na'i dileu.

Mae'n annhebygol iawn y bydd goroeswyr sbeicio yn cael cyfiawnder. Mae'n rhaid cynnal profion tocsicoleg o fewn 12 i 72 awr, ond yn aml mae'n anodd canfod y cyffuriau a ddefnyddir—nid oes unrhyw arogl, na blas, na lliw yn perthyn iddynt. Erbyn i'r goroeswr adrodd beth sydd wedi digwydd, maent yn aml wedi diflannu o'r corff. Yn fwy na hynny, mae goroeswyr sbeicio wedi siarad am y gymnasteg meddyliol y mae'n rhaid iddynt ei ddioddef, wrth fynd yn ôl ac ymlaen rhwng gwasanaethau heddlu ac ysbyty i gael y profion. Yn rhy aml, mae goroeswyr yn teimlo eu bod wedi'u diystyru gan yr heddlu neu'n teimlo na chânt eu credu—rhywbeth a glywsom eisoes yn y ddadl heno. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag ysbytai a heddluoedd i sicrhau y ceir ymarfer safonol o ran y ffordd yr adroddir am ddigwyddiadau fel hyn a sut y cânt eu trin. Mae'n rhaid cefnogi goroeswyr yn well.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n gwrthod derbyn y dylai llywio perygl fod yn rhan annatod o fywyd i fenywod. Nid oes unrhyw beth cynhenid am drais gwrywaidd yn erbyn menywod, am fygythiadau i ddiogelwch menywod. Rydym wedi ein cyflyru i dderbyn bod y risg yno ac i weithredu yn unol â hynny. Felly am y tro, wrth gwrs y dylem godi ymwybyddiaeth, dylem ddarparu cymorth ac ystyried darparu caeadau ar gyfer poteli a gorchuddion diodydd a dulliau eraill o helpu menywod i deimlo'n ddiogel, ond ni fydd menywod yn ddiogel mewn gwirionedd nes inni fynd at wraidd y mater a rhoi sylw i pam fod rhai dynion yn tyfu i fyny i sbeicio diodydd menywod, i ddilyn menywod adref, i aflonyddu arnynt ar y strydoedd, i chwibanu a gweiddi arnynt, i gam-drin menywod ar-lein, i ymosod ar fenywod, i'w tawelu. Ni all gorchuddio diod ddileu'r broblem, problem sydd mor gyffredin fel ein bod wedi rhoi'r gorau i gydnabod na ddylai fod yn normal hyd yn oed, problem sy'n golygu fod yna ddisgwyliad na sonnir amdano, pan fydd menywod yn mynd allan gyda'r nos, y byddwn yn anfon neges destun at ein ffrindiau benywaidd pan fyddwn yn y tacsi, pan fyddwn wedi cyrraedd adref; y profiadau a rennir nad oes yr un ohonom eisiau eu cael, ond eto sy'n dal i'n cysylltu. Ni ddylai polisi a gwleidyddiaeth orfod meddwl am leihau risg hollbresennol. Ni ddylai'r risg fod yn normal.

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig a pherthnasol hon y prynhawn yma. Rwy'n falch fod sbeicio wedi cael sylw yn y cyfryngau prif ffrwd o'r diwedd gan fod y malltod wedi bodoli ers blynyddoedd lawer, ond diolch byth mae ymwybyddiaeth ohono wedi codi yn ystod y misoedd diwethaf. Felly, rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Aelod a fy mhlaid am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ond rwy'n anghytuno â gwelliant Plaid Cymru i'r cynnig. Er ei bod yn wir fod y rhan fwyaf o ymosodiadau sbeicio yn erbyn menywod, mae un o bob pedwar o'r ymosodiadau hynny yn erbyn dynion a dyna sut yr ymosododd treisiwr gwaethaf Prydain o ran nifer ei droseddau, Reynhard Sinaga, ar ei ddioddefwyr. Diolch byth, mae Sinaga yn y carchar, wedi'i ddedfrydu i 40 mlynedd am gyflawni 159 o ymosodiadau rhywiol.

Yn anffodus, mae llawer gormod o ymosodiadau, yn erbyn dynion neu fenywod, naill ai heb eu cofnodi neu heb arwain at unrhyw erlyniadau o gwbl. Yn fy ardal heddlu yng ngogledd Cymru, dim ond 18 o adroddiadau a gafwyd y llynedd ac ni chafodd neb eu harestio. Mae'n rhaid inni gyfleu'r neges i ddioddefwyr y drosedd lechwraidd hon ei bod yn iawn iddynt roi gwybod am achosion o sbeicio, mae'n drosedd, ac ni ddylech fod â chywilydd ei hadrodd. Rwy'n cydymdeimlo â safbwynt Llywodraeth Cymru y dylai'r ffocws fod ar ddwyn troseddwyr i gyfrif, ond mae'r bobl sy'n cyflawni'r troseddau hyn yn unigolion gwyrdröedig sy'n dda iawn am osgoi sylw'r system cyfiawnder troseddol.

Rwy'n ddiolchgar fod yr Ysgrifennydd Cartref o ddifrif ynglŷn â'r mater ac rwy'n edrych ymlaen at weld cynnydd yn nifer yr erlyniadau. Fodd bynnag, mae gennym ddyletswydd hefyd i godi ymwybyddiaeth o'r drosedd. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn ymladd malltod sbeicio, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda gweithredwyr economi'r nos ar fesurau i ddiogelu cwsmeriaid ac i godi ymwybyddiaeth o sbeicio.

Yn anffodus, ceir llawer o gamwybodaeth ynghylch y mater hwn. Rydym i gyd wedi gweld y ffeithluniau ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ein rhybuddio i gadw llygad am bethau fel newid lliw neu rew'n suddo. Er y gallai fod yn wir mewn rhai amgylchiadau, mae'n aml yn amhosibl dweud a yw diod wedi'i sbeicio â chemegau, neu alcohol ychwanegol yn wir. Yr unig ffordd o sicrhau nad yw eich diod wedi'i sbeicio yw drwy beidio â'i adael o'ch golwg o gwbl, ond rydym i gyd yn gwybod nad yw hynny'n ymarferol. Felly, mae angen inni weithio gyda'r diwydiant i edrych ar atebion eraill ar gyfer diogelwch diodydd. Mae eraill wedi sôn am gaeadau a dulliau tebyg. Cafwyd treialon gyda loceri diodydd hefyd, sef ffordd o ddiogelu eich diod pan ewch i'r ystafell ymolchi neu at y llawr dawnsio—yr ail fyddai fy newis i ar noson allan.

A pha gamau bynnag a gymerwn, y pwysicaf fydd codi ymwybyddiaeth, ac mae gan bob un ohonom ddyletswydd i sicrhau ein bod yn wyliadwrus, er mwyn ei gwneud yn amhosibl i'r creaduriaid ffiaidd sy'n ceisio drygio eraill er mwyn gallu cyflawni eu troseddau erchyll. Gadewch inni weithredu ac atal unrhyw fenywod a dynion ifanc eraill rhag dod yn ddioddefwyr. Diolch yn fawr iawn.

15:55

Nid yw sbeicio diodydd yn beth newydd. Cafodd fy niod i ei sbeicio ym 1982. Roedd hynny 39 mlynedd yn ôl ac mae'n brofiad brawychus iawn, ac yn un sy'n aros gyda chi am byth. Yn achos fy niod i, roeddwn yn nhafarn ffrind i mi. Roeddwn yn drwyddedai fy hun. Camais allan drwy'r drws a cherdded tua 800 llath, mae'n debyg, o fy nghartref fy hun. Roeddwn yn byw mewn pentref bychan yng Nghymru. Nid oeddwn mewn clwb nos. Nid oedd unrhyw flas arno ac nid oeddwn yn gwybod beth oedd wedi digwydd. Ond roeddwn yn lwcus am fod gennyf ffrindiau gyda mi ac roeddent yn gwybod bod rhywbeth o'i le, ac fe wnaethant yn siŵr fy mod yn cyrraedd adref. Roeddwn yn meddwl fy mod yn sâl. Roeddent hwy'n meddwl fy mod yn sâl. Cyrhaeddais adref, rhoddodd fy ffrind wybod i fy ngŵr, euthum i'r gwely ac fe ddeffrois yn y diwedd y diwrnod canlynol. Ond yr hyn rwy'n ei gofio yw na allwn weld unrhyw liw. Roedd fy ngolwg wedi'i gyfyngu i ddu a gwyn yn unig. Aeth oriau lawer heibio cyn y gallwn weld sbectrwm llawn yr hyn a oedd o fy nghwmpas, ond roeddwn i'n dal heb wybod fy mod wedi cael fy sbeicio. Ddyddiau lawer yn ddiweddarach, wrth ail-fyw ac ailadrodd fy mhrofiad wrth fy nghwsmeriaid, roedd un ohonynt wedi clywed am sbeicio diodydd, ac awgrymodd ei bod hi'n debygol mai dyna oedd wedi digwydd.

Yr hyn a wn yw bod dieithryn yn y dafarn honno ar y noson arbennig honno, dieithryn gwrywaidd, ac ni ddaeth byth yn ôl i'r pentref. Nid oes gennyf amheuaeth nad ef a sbeiciodd y ddiod. Rwy'n gwybod hynny, oherwydd mai dim ond pedwar neu bump o bobl oedd yn y dafarn. Roeddent i gyd yn ffrindiau i mi, ac fel y dywedais, fe wnaeth dau ohonynt yn siŵr fy mod yn cyrraedd adref. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn cyfleu'r neges hon. Mae'n bwysig hefyd nad ydym yn canolbwyntio ar glybiau nos yn unig, ond ein bod yn gwneud pobl yn ymwybodol y gall diodydd gael eu sbeicio yn unrhyw le ar unrhyw adeg.

Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn cytuno bod cadw llygad ar eich diodydd, cael eich ffrindiau i gadw llygad ar eich diodydd yn bwysig, ond rwy'n cytuno hefyd fod rhoi'r cyfrifoldeb ar yr unigolyn a'u beio hwy yn anghywir. Y troseddwr sydd ar fai, nid y dioddefwr. Rydym wedi clywed am feio dioddefwyr ac ymddygiad menywod dro ar ôl tro, a chyfeiriwyd at hynny yma. Rydym wedi clywed pobl yn dweud, ar ôl i fenywod gael eu treisio neu ddioddef ymosodiad rhywiol, eu bod yn gofyn amdani—wedi'r cyfan, roedd ei ffrog yn rhy fyr, roedd ei thop yn dangos gormod. Mae hynny'n esgusodi'r troseddwr. Yn yr achos hwn, mae'n amlwg mai un person yn unig sydd ar fai.

Rwy'n cytuno bod yn rhaid inni fynd i'r afael â chasineb at fenywod, oherwydd mae llawer o bethau'n deillio o'r iaith a'r ymddygiad gwreig-gasaol rydym ni i gyd yn ei weld. Yn bendant, dylid ei chynnwys fel trosedd gasineb yn y ddeddfwriaeth i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod. Os ydych yn cam-drin menyw yn eiriol am ddim rheswm heblaw'r ffaith mai menyw yw hi ac yn defnyddio iaith atgas, nid oes amheuaeth nad yw'n drosedd gasineb. Mae arnaf ofn fod Boris Johnson, pan ddywedodd fod menywod sy'n dewis gwisgo burkas yn edrych fel blychau llythyrau, wedi defnyddio iaith wreig-gasaol. Mae'n rhaid i'r iaith a ddefnyddiwn—mae'n rhaid i ni fel gweision cyhoeddus wylio rhag ailadrodd y safbwyntiau a'r geiriau hynny mewn mannau eraill. 

Ni allwn fod yn gliriach ynglŷn â'r digwyddiad hwn. Rwy'n gwybod sut beth yw hyn. Gallaf ailadrodd y stori honno heddiw a gallaf gofio'r effeithiau, ond gwn fy mod yn lwcus, a gwn fod yna bobl eraill nad ydynt yn lwcus. Ond nid amdanaf fi y mae hyn. Felly, gofynnaf i bob heddlu ledled Cymru fod o ddifrif ynglŷn â hyn. Gofynnaf i bob dyn ymuno yn y gweithgareddau, yn enwedig y mis hwn, mis Tachwedd, gyda'r diwrnod rhyngwladol i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod ar 25 Tachwedd, a gwneud safiad, fel rwy'n siŵr y bydd llawer o ddynion yma yn ei wneud. Gofynnaf i Lywodraeth Cymru weithio ar draws pob cymuned i ymgysylltu â'r holl sefydliadau gwirfoddol, sector cyhoeddus a sefydliadau ieuenctid i addysgu yn ogystal â mynnu camau i roi diwedd ar y drosedd hon. Diolch.

16:00

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau am yr holl bwyntiau dilys a phwysig y maent wedi'u codi hyd yma yn y ddadl hon, a thalu teyrnged i fy nghyd-Aelod, Joyce, am siarad am ei phrofiad personol. 

Mae sbeicio diodydd mewn tafarndai a chlybiau nos wedi bod yn broblem ers peth amser. Er y gallai unrhyw un gael eu heffeithio, fel y clywsom eisoes, menywod sy'n dioddef hyn yn bennaf. Mae'n broblem mor ddrwg fel bod pobl ifanc fwyfwy, yn enwedig menywod, yn ofni mynd allan. Yn Abertawe, er enghraifft, mae eisoes wedi ysgogi ymateb trefnedig gan fyfyrwyr prifysgol, pan gynhaliwyd Big Night In ar 24 Hydref eleni, fel y nodwyd eisoes gan Aelodau eraill yn y Siambr hon, i annog myfyrwyr i beidio â mynd allan i glybiau nos ar ddiwrnod prysuraf yr wythnos yn y gobaith o godi ymwybyddiaeth a gorfodi clybiau nos i fynd i'r afael â'r broblem. 

Yn anffodus, y brif broblem gyda sbeicio yw'r anhawster, fel y clywsoch eisoes, i ddal ac erlyn y bobl a gyflawnodd y drosedd. Defnyddir sawl dull i sbeicio diodydd, ond y mwyaf cyffredin yw ychwanegu alcohol at ddiodydd nad ydynt yn rhai alcoholaidd neu ychwanegu alcohol ychwanegol at ddiodydd sydd eisoes yn rhai alcoholaidd. Prin iawn yw'r erlyniadau o ystyried nifer yr achosion, a hynny'n bennaf am nad oes llawer o dystiolaeth i brofi bod sbeicio wedi digwydd. Mae angen profion gwaed o fewn cyfnod byr wedi i'r sbeicio ddigwydd i allu darparu tystiolaeth, ac mae llawer o bobl yn teimlo nad yw'r heddlu a gweithwyr iechyd proffesiynol yn rhoi ystyriaeth ddigon difrifol i'r hyn a ddywedant am sbeicio honedig—yn y bôn eu bod wedi yfed gormod, neu na allant ddal eu diod.

Mae maint y broblem yn destun pryder fel y datgelodd arolwg a gynhaliwyd gan yr Ymddiriedolaeth Addysg Alcohol. Canfu'r arolwg o 750 o bobl fod 35 y cant o ddiodydd wedi cael eu sbeicio mewn partïon preifat, a 28 y cant mewn clybiau nos, 13 y cant mewn bariau, a 7 y cant mewn gwyliau. Dywedodd cynifer ag un o bob saith menyw rhwng 16 a 25 oed eu bod wedi'u targedu, er bod 92 y cant o'r dioddefwyr wedi dewis peidio â rhoi gwybod i'r heddlu am eu profiadau. O'r rhai a wnaeth, datgelodd yr arolwg nad oedd dim wedi digwydd o ganlyniad. Mae'r diffyg erlyniadau troseddol am sbeicio diodydd wedi gwneud y troseddwyr mor hyderus nes eu bod bellach wedi dechrau chwistrellu pobl. Mae'n ymddangos bod yr ymddygiad hynod ofidus hwn yn dod yn fwy cyffredin, ac oherwydd bod y nodwyddau'n cael eu hailddefnyddio dro ar ôl tro, mae hefyd yn cynyddu'r risg y bydd dioddefwyr yn dal clefydau fel HIV a hepatitis.

Er y gall sbeicio diod arwain at ddedfryd o hyd at 10 mlynedd o garchar, y broblem yw gallu'r heddlu i ddal pobl yn sbeicio mewn modd dibynadwy ac i erlyn yn unol â hynny. Mae hyn yn parhau i fod yn anodd eithriadol, a hyd nes y rhoddir system briodol ar waith, credaf y bydd dynion a menywod yn parhau i ddioddef yn sgil y drosedd ffiaidd hon. Ar hyn o bryd, mae sbeicio diodydd ar flaen meddyliau pobl oherwydd sylw diweddar ar y cyfryngau. Yn naturiol, bydd pobl yn dod yn fwy gwyliadwrus yn y tymor byr; fodd bynnag, dim ond gwthio'r bobl sy'n sbeicio diodydd i'r cysgodion y mae hyn yn ei wneud. Gydag amser, a'r cyfryngau'n colli diddordeb yn y broblem, byddant yn dychwelyd. Mae sbeicio diodydd wedi bod yn broblem ers amser maith, ac mae angen rhoi ateb hirdymor ar waith. Rhaid inni ofyn i ni'n hunain pa raglenni sydd ar waith i addysgu rhai yn eu harddegau a phobl ifanc am y perygl, ond hefyd i dynnu sylw at agweddau ac ymddygiad amhriodol tuag at fenywod. 

Beth y mae clybiau nos a thafarndai wedi'i wneud i helpu i gael gwared ar y broblem? Mae diodydd â chaeadau yn ateb tymor byr amlwg, ond hyd nes y bydd yn orfodol, dim ond ateb tymor byr fydd hynny i leddfu'r pryder presennol. Mae angen gosod systemau teledu cylch cyfyng gwell yn ein clybiau nos a'n tafarndai, gwella mynediad at gyfleusterau profi, a gwella ffyrdd o gasglu tystiolaeth i nodi patrymau ymddygiad ailadroddus. Oni bai bod ewyllys wleidyddol i wneud newidiadau hirdymor, bydd hyn yn parhau i fod yn risg barhaus i'n pobl ifanc am beth amser, a dyma pam y mae angen inni gefnogi'r ddadl hon a rhoi camau cadarn ar waith i fynd i'r afael â'r broblem. Diolch.

16:05

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch hefyd i Darren Millar am godi'r pwnc pwysig yma.

Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am eu gwelliannau, a byddwn yn eu cefnogi. Credaf fod y gwelliannau i gyd yn cryfhau diben y cynnig hwn heddiw, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i dynnu sylw at y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. A gaf fi ddiolch i Tom Giffard am ei araith agoriadol rymus? Gosododd y naws ar gyfer y ddadl gyfan heddiw, rhaid imi ddweud. Credaf y gallwn symud ymlaen ar sail drawsbleidiol, ond gan ein dwyn ni i gyfrif wrth gwrs fel Llywodraeth Cymru, a bwrw ymlaen â hyn.

Rydym wedi clywed negeseuon cryf a phwerus iawn heddiw, gan ddynion, gan Aelodau o'r Senedd—ein Haelodau gwrywaidd o'r Senedd yn ogystal â'n Haelodau benywaidd o'r Senedd, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr—yn siarad heddiw, yn codi llais heddiw, a dangos sut rydych yn mynd i fwrw ymlaen â hyn yn eich bywydau eich hunain a chyda'ch cyfrifoldebau eich hun: cyfrifoldebau gwleidyddol, cyhoeddus a mwy cyffredinol. Oherwydd gadewch i bawb ohonom gydnabod eto fod y weithred o sbeicio yn drosedd lechwraidd. Mae'n cael gwared ar urddas, hawliau a rhyddid unigolyn. Fel y dywedodd yr Aelodau heddiw, mae'n enghraifft wych o'r camddefnydd o bŵer a rheolaeth sy'n nodweddu trais yn erbyn menywod a merched. Mae gweithredoedd fel sbeicio yn rhan o batrwm o ymddygiad, cam-drin a thrais sy'n difetha gormod o fywydau a chyfleoedd menywod.

A gaf fi ddiolch yn arbennig, hefyd, i Joyce Watson am rannu ei phrofiad personol? Pan glywn am brofiadau pwerus gan gynrychiolwyr etholedig yn y Siambr hon, yn y Senedd hon, gwyddom beth y mae'n ei olygu i rannu hynny'n bersonol. Mae'n ddewr iawn, a gwn fod pob un ohonom, fel y dywedwyd eisoes, yn diolch ichi am hynny, Joyce, oherwydd rydych yn cynrychioli'r bobl sy'n dioddef yn sgil y drosedd lechwraidd hon. Felly, diolch i Joyce Watson.

Rwyf hefyd am wneud dau bwynt i ddechrau. Credaf y byddwn i gyd yn rhannu'r negeseuon hollbwysig hyn. Yn bennaf oll, gadewch inni fod yn glir nad yw'n fater o ddisgwyl i fenywod addasu eu hymddygiad—gwnaeth Delyth Jewell y pwynt hwn—mae'n fater o ddisgwyl i'r rhai sy'n cam-drin newid eu hymddygiad hwy, ac nid y menywod a ddylai ysgwyddo cyfrifoldeb am y troseddau hyn, cyfrifoldeb y dynion llechwraidd sy'n eu cyflawni ydyw.

Mae'r ail neges heddiw i'r rhai sy'n adnabod y tramgwyddwyr—ac mae hon yn neges gyhoeddus; gobeithio y gellir rhannu'r ddadl hon yn ehangach: os ydych yn gwybod am rywun sy'n cyflawni'r troseddau hyn, neu'n eu gweld yn eu cyflawni, mae gennych ddyletswydd foesol i roi gwybod amdanynt cyn gynted ag y bydd yn ddiogel ichi wneud hynny. Felly, mae gennym neges gref yn ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: peidiwch â chadw'n dawel. Mae'n neges bwerus ac mae angen inni sicrhau ei bod yn cael ei chlywed heddiw. Mae gennym ddyletswydd yn ein cymunedau i dynnu sylw at ymddygiad amhriodol a chynnig cymorth lle mae'n ddiogel i wneud hynny. Gwnaeth Huw Irranca-Davies y pwynt ynglŷn â rôl dynion i gael eu grymuso i ymgysylltu â dynion a bechgyn eraill er mwyn tynnu sylw at ymddygiad camdriniol a rhywiaethol ymhlith eu ffrindiau, eu cydweithwyr a'u cymunedau i hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb a pharch. Felly, mae hyn yn ymwneud â phryder gwirioneddol menywod a merched ifanc mewn perthynas â'u diogelwch, yn enwedig yn lleoliadau'r economi nos. Dylai menywod allu mwynhau noson allan a bod yn ddiogel, dylai menywod allu cael diod a bod yn ddiogel. Yn syml, dylai menywod allu mwynhau eu bywydau a bod yn ddiogel.

Ddirprwy Lywydd, credaf ei bod yn hollbwysig ein bod yn mynd i graidd y mater—yr hyn sy'n ei achosi, fel y dywedodd Sioned Williams. Dyma pam y mae'r strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mor bwysig; dyna lle mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â hyn ac rwy'n falch iawn o gael cyfle i adrodd ble rydym arni ar y pwynt hwn. Rydym yn cryfhau ac yn ehangu ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; rydym yn ei chryfhau ac yn ei hehangu i gynnwys ffocws ar drais ac aflonyddu yn erbyn menywod a merched mewn mannau cyhoeddus yn ogystal ag yn y cartref. A dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, gwyddom fod y mannau cyhoeddus, y gymuned, y stryd, gan gynnwys trafnidiaeth hefyd—ac mae'n amlwg fod angen inni edrych ar hyn yn fanwl iawn mewn perthynas â'r economi nos.

Rydym wedi bod yn canolbwyntio i raddau helaeth ar gam-drin domestig a thrais yn y cartref ac wrth gwrs bydd hynny'n parhau, ond rhaid inni gryfhau ac ehangu ein strategaeth yn awr—ac rydym yn gwneud hynny—i gynnwys mannau cyhoeddus i fenywod hefyd. Mae'n strategaeth sydd wedi'i diweddaru a byddaf yn ei lansio cyn bo hir. Fe'i datblygwyd ochr yn ochr â grŵp o sefydliadau partner allweddol, gan gynnwys y rheini yn y sector arbenigol sy'n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig. Ei nod yw cynyddu cydweithio â'r heddlu a phartneriaid ym maes cyfiawnder troseddol, fel y galwyd amdano heddiw, gan gynnwys goroeswyr sydd hefyd yn ymwneud â phob agwedd ar ddatblygu'r strategaeth a'r ddarpariaeth. Mae'n rhaid inni sicrhau ei bod wedi'i chydlynu a'i bod yn effeithiol ac yn cynnwys pob asiantaeth.

Ond mae mynd i'r afael â thrais gwrywaidd, anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chasineb at fenywod yn galw am weithredu ar ddau ben y sbectrwm wrth gwrs. Rhaid inni gefnogi goroeswyr, rhaid inni ddwyn cyflawnwyr i gyfrif, ond rhaid inni greu newid ymddygiad gwirioneddol. A dyma sut yr awn i'r afael â'r ymagweddau negyddol llechwraidd a hollbresennol tuag at fenywod sydd i'w gweld mewn gweithredoedd fel sbeicio. Mae gweithio gyda phlant a phobl ifanc a thynnu sylw at bwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach yn mynd i gael sylw mawr yn ein cwricwlwm newydd, ond credaf y bydd y strategaeth ddiwygiedig yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn amlwg iawn.

Rwyf am dreulio eiliad ar ymateb yr heddlu, oherwydd dyma lle mae rôl allweddol yr heddlu yn hollbwysig. Ddoe, cyfarfûm â'r prif gwnstabl arweiniol, Pam Kelly, a'r dirprwy gomisiynydd heddlu a throseddu, Eleri Thomas, i drafod sbeicio, i ofyn i holl heddluoedd Cymru adrodd ar y mater, a rhoddasant eu hymrwymiad i mi, fe'm sicrhawyd bod y pedwar heddlu o ddifrif ynglŷn â'r mater, a chefais adroddiadau ar bob agwedd ar y gwaith hwnnw. Yn wir, mae bwrdd partneriaeth plismona a throseddu Cymru, a gadeirir gennyf fi, yn gyfle pwysig a gwerthfawr iawn. Mae ar agenda ein cyfarfod nesaf, y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ei fynychu hefyd, felly ceir cryn dipyn o gydweithio yn ogystal.

Felly, mae'n hanfodol ein bod yn symud ymlaen yn yr ymateb hwn, ac rwyf am ddweud hefyd, yn fyr iawn, o ran casineb at fenywod fel trosedd casineb, rydym wedi bod yn glir nad yw'r drefn troseddau casineb bresennol yn addas i'r diben. Nid yw'n ymdrin â chasineb at fenywod fel arddangosiad clir o drosedd casineb, ac arhoswn am ganlyniad adolygiad Comisiwn y Gyfraith, a gofynnwn i Lywodraeth y DU gyflymu deddfwriaeth i ymateb i hynny.

Felly, i orffen, a gaf fi ddweud bod Joyce Watson wedi tynnu sylw at y Rhuban Gwyn? Mae'r ddadl yn un amserol. Cynhelir Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd. Mae'r 16 diwrnod o weithgarwch sy'n dilyn yn galw ar bob dyn i wneud safiad yn erbyn trais ar sail rhyw a rhywedd ar bob ffurf ac i roi diwedd ar drais gan ddynion yn erbyn menywod. Lysgenhadon y Rhuban Gwyn—gobeithio y bydd ein holl Aelodau gwrywaidd yn y Senedd yn ymroi i hyn. Mae Jack Sargeant wedi arwain y ffordd yn bendant iawn. Ystyriwch ddod yn llysgennad Rhuban Gwyn ac addo peidio byth â chyflawni, esgusodi neu gadw'n dawel am drais gan ddynion yn erbyn menywod, oherwydd gyda'n gilydd, credaf y gallwn uno i roi diwedd ar drais ar y strydoedd a thrais yn y cartref. Rhaid inni uno er mwyn newid, a rhaid inni uno er mwyn galluogi pawb i fyw heb ofn. Diolch yn fawr.

16:15

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Weinidog, am eich ymateb i'r ddadl a glywsoch heddiw. Wrth gloi'r ddadl hon mae wedi bod yn galonogol gweld yr holl Aelodau, o bob rhan o'r Siambr, yn cefnogi prif fyrdwn ein cynnig Ceidwadol heddiw i fynd i'r afael â sbeicio. Ac rwy'n falch fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno'r ddadl hynod bwysig hon i galon democratiaeth yng Nghymru yma yn y Senedd, gan gyflwyno mesurau a syniadau real a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r sefyllfa bryderus hon.

Yn y fan hon, hoffwn ddiolch hefyd i Joyce Watson ac ymuno ag eraill i ddiolch i chi am rannu eich hanes pwerus am brofiad a gawsoch, sy'n sicr yn rhoi ffocws i bwysigrwydd y drafodaeth hon yma a'r angen inni siarad am y mater fel Aelodau, ac i'r cyhoedd glywed.

Mae llawer o'r Aelodau wedi dangos eu bod yn poeni, yn gwbl briodol, ynglŷn â'r cynnydd yn nifer yr achosion y rhoddir gwybod amdanynt, ac mae'n hanfodol fod gan y rhai sydd wedi dioddef yn sgil sbeicio hyder i roi gwybod i'r awdurdodau perthnasol. Rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'r hyn a nododd Joel James, sef bod nifer yr euogfarnau yn isel tu hwnt er gwaethaf y cynnydd sydyn mewn adroddiadau o sbeicio. Er enghraifft, hyd yma yn 2021, yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru, cafwyd 22 o adroddiadau o sbeicio, a arweiniodd at arestio un person yn unig. Nid yw hynny'n ddigon da, ac mae angen ei wella. Mae hefyd yn destun pryder mawr nad yw llawer o'r bobl sy'n cael eu sbeicio yn rhoi gwybod amdano, a gellir cysylltu hyn â'r diffyg cysylltiad pur rhwng nifer yr adroddiadau a nifer y rhai sy'n cael eu harestio. Wrth agor y ddadl, tynnodd Tom Giffard sylw at yr ymchwil gan StopTopps, fel y gwnaeth Sioned Williams ac Aelodau eraill yma heno. Mae eu hymchwil a gynhaliwyd eleni wedi datgelu bod 38 y cant o bobl wedi dioddef yn sgil sbeicio eu diodydd o leiaf unwaith, gyda 98 y cant o ddioddefwyr—ie, 98 y cant o ddioddefwyr—heb roi gwybod i'r heddlu am y drosedd. Felly, roedd clywed hynny yn y ddadl heddiw yn peri pryder mawr. Ac yn ogystal, fel y nododd Mr Giffard yn ei agoriad hefyd, dywedodd tua 70 y cant o'r ymatebwyr yn yr un arolwg eu bod yn poeni ynglŷn â chael eu diodydd wedi'u sbeicio.

Credaf fod Sioned Williams wedi tynnu sylw at bwynt pwysig ynghylch y ddeddfwriaeth a'r cyfreithiau sydd ar gael i orfodi rhai o'r materion hyn. Wrth gwrs, mae'n werth nodi, o dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003, pan fydd diod yn cael ei sbeicio, a bod cymhelliant rhywiol, gallai arwain at ddedfryd o 10 mlynedd o garchar. Felly, mae'n amlwg fod gan yr heddlu nifer o ddulliau y gallant eu defnyddio, a bod ganddynt bŵer i ddod â'r rhai sy'n cyflawni'r troseddau erchyll hyn o flaen eu gwell, ac mae angen iddynt wneud cymaint o ddefnydd ohonynt â phosibl. Oherwydd os na chânt eu defnyddio, yn amlwg, ni fydd pobl yn rhoi gwybod am ddigwyddiadau yn y ffordd y dylent.

Ar wahân i weithredu gan yr heddlu, nododd yr Aelodau rai o'r mesurau ymarferol a argymhellwyd yma heddiw i leddfu problem sbeicio. A nododd Gareth Davies yn rymus fod angen inni weithredu'n gyflym, a gweithio gyda rhanddeiliaid i ddarparu caeadau ar gyfer poteli a gorchuddion diodydd yn rhad ac am ddim mewn lleoliadau, gwella diogelwch, hyfforddi staff mewn lleoliadau hefyd, a sicrhau bod gan leoliadau ddigon o ffyrdd o hwyluso erlyniad. Serch hynny, mae'n amlwg yn dda gweld y gwaith y mae lleoliadau eisoes yn ei wneud i geisio rhoi camau ar waith i atal sbeicio diodydd rhag digwydd. Roeddwn yn falch o glywed hefyd, o ddadl San Steffan yn gynharach yr wythnos hon, fod mesurau'n cael eu rhoi ar waith, a chlywyd geiriau'r Ysgrifennydd Cartref y prynhawn yma hefyd.

Rhaid imi ddweud fy mod yn siomedig ar y cychwyn pan ddarllenais eiriad y gwelliant gan y Llywodraeth i ddileu popeth, o ystyried y mesurau ymarferol roeddem ni fel Ceidwadwyr yn ceisio eu cyflwyno heddiw, a gofynnir i ni'n aml ar y meinciau hyn i gyflwyno camau gweithredu a gweithgareddau. Ond Weinidog, rwy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi eich geiriau i dynnu sylw at eich cefnogaeth i fyrdwn yr hyn y ceisiwn ei wneud yma heddiw, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu dechrau'r cyfeiriad teithio hwn, fel grŵp ar y meinciau hyn y prynhawn yma.

Credaf i Janet Finch-Saunders sôn am bwynt pwysig o ddechrau 2020 lle holwyd y Gweinidog cyllid ynglŷn â'r cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau yn y dyfodol, a'r ffaith nad oes sôn ynddo am sbeicio, a chredaf fod angen adolygu hwnnw, a'i adolygu ar gryn dipyn o frys.

Rwyf am ddod â fy nghyfraniad i ben yn y man, Ddirprwy Lywydd, ond ar y pwynt yma, rwyf am dynnu sylw—rwyf innau hefyd yn dad i dair merch ifanc, ac fel y soniodd Sioned Williams, yn anffodus, mae hynny'n rhywbeth sydd ar flaen fy meddwl, yn hytrach nag yng nghefn fy meddwl, o bryd i'w gilydd, ac yn bersonol rwy'n bryderus iawn ynglŷn â sbeicio ac mae'n fater sy'n agos at fy nghalon. Un diwrnod yn y dyfodol, rwy'n siŵr mai fy merched i fydd yn mynychu bar neu glwb nos, ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn sicrhau ein bod yn creu amgylchedd diogel i bobl—i bawb—allu mwynhau eu hunain heb ofn a heb boeni. Mae llawer o'r Aelodau wedi tynnu sylw at hynny heddiw, a diolch i Delyth Jewell am eich cyfraniad chi a Huw Irranca hefyd am dynnu sylw at y ffaith bod yna faterion cymdeithasol a diwylliannol y mae angen mynd i'r afael â hwy heddiw, ochr yn ochr â chamau ymarferol y gellid eu gweithredu'n gyflym—yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach—wrth inni aros i'r materion cymdeithasol a diwylliannol hynny gael sylw hefyd.

Credaf fod Gareth Davies wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod bod y rhan fwyaf o ddioddefwyr yn fenywod, ond bod yna ddynion hefyd ymhlith y dioddefwyr, ac mae angen inni sicrhau eu bod yn teimlo y gallant roi gwybod, ac nad yw'n cael ei ystyried fel mater i fenywod yn unig. Ond wrth gwrs, mae'n ymddangos mai lleiafrif bach o ddynion pathetig yw'r mwyafrif llethol o gyflawnwyr—yr holl gyflawnwyr—a byddem i gyd yn cydnabod hynny, ac yn sicr dylent wynebu grym llawn y gyfraith sy'n bodoli.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am y cyfraniad adeiladol i'r ddadl heddiw, ac mae'n galonogol iawn fod pob ochr i'r sbectrwm gwleidyddol yn brwydro dros yr un canlyniad. Rwy'n falch fod Gweinidog y Llywodraeth wedi gweld ein bod yn cyflwyno awgrymiadau ac atebion addas o feinciau'r gwrthbleidiau, ac fel y gwelwyd heddiw, rydym yn darparu atebion synhwyrol ac ymarferol i broblem sy'n peri llawer iawn o bryder. Mae hwn yn argyfwng cenedlaethol ac mae gennym ni fel gwleidyddion ddyletswydd i gadw ein cenedl a'n pobl yn ddiogel. Mae sbeicio'n ofnadwy, mae angen ei atal, ac fel y dywedais, mae angen i gyflawnwyr deimlo grym llawn y gyfraith. Mae ein cynnig yn awgrymu llawer o fesurau a all sicrhau bod hyn yn digwydd, a hoffwn annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn.

16:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu

Cynnig NDM7825 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid diwydiant i ddatblygu polisi pysgodfeydd a dyframaethu ymhellach, wedi'i ategu gan strategaeth sydd â chynaliadwyedd, buddsoddi ac ymgysylltu â'r diwydiant wrth ei wraidd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Pwrpas y ddadl hon yw codi ymwybyddiaeth o ddiwydiant pwysig a fu unwaith yn llewyrchus iawn yng Nghymru, sydd, yn anffodus, wedi bod yn dirywio ers blynyddoedd lawer. Ond, o gael cefnogaeth bwrpasol gan y Llywodraeth, gallai gyfrannu tuag at adfywio ein cymunedau arfordirol ni yn economaidd a chymdeithasol. Mae gennym ni farddoniaeth, caneuon gwerin a siantis môr bendigedig yng Nghymru sy'n mynd yn ôl yn bell iawn, iawn, sydd yn dyst i'r traddodiad morwrol, balch hwn.

Fodd bynnag, gadewch i mi gyflwyno darlun i chi o sefyllfa'r sector erbyn hyn. Yn 2012, cafodd 26,000 tunnell o bysgod eu glanio gan longau o'r Deyrnas Gyfunol ym mhorthladdoedd Cymru. Yn 2016, roedd hyn wedi gostwng i 15,000 o dunelli, ac erbyn 2020, i lawr i 9,600 tunnell, gyda llongau o Wlad Belg yn cyfrif am draean o'r pysgod a ddaliwyd. Yn y flwyddyn honno, dim ond rhyw 4,000—ychydig bach yn fwy na hynny—o dunelli oedd wedi eu dal gan longau o Gymru—llai na hanner y daliad yn y flwyddyn honno. Felly, gellid dod i'r casgliad, yn seiliedig ar y ffigurau hyn, fod ein gweithgaredd pysgota masnachol yn dirywio i'r fath raddau fel ei fod mewn perygl o ddiflannu i ebargofiant. Dyma pam mae angen strategaeth arnom i gefnogi a chreu sector bywiog, cynaliadwy a hyfyw yng Nghymru yn ystod tymor y Senedd hwn.

Lywydd, Deddf Pysgodfeydd y DU 2020 sy'n darparu'r fframwaith ar gyfer polisi pysgota'r DU ar ôl Brexit. Mae'r Ddeddf yn ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd i gynnwys holl ddyfroedd Cymru, a elwir yn barth Cymru. Felly, yn amlwg, mae hwn yn gyfle euraidd i adfywio'r diwydiant a datblygu strategaeth i'w symud ymlaen. Nawr, ymgynghorodd Llywodraeth flaenorol Cymru ar bolisïau morol a physgodfeydd ar ôl Brexit, ymgynghoriad a elwir yn 'Brexit a'n Moroedd' yn 2019. Mewn datganiad ysgrifenedig i fynd gyda'r crynodeb o'r ymatebion, dywedodd y Gweinidog hyn:

'Rhaid inni ddatblygu polisi cynaliadwy sy’n seiliedig ar ecosystemau ac yn cyd-fynd â phob polisi morol arall.'

Felly, yn amlwg, yn y Senedd flaenorol, roedd ymrwymiad cryf i ddatblygu polisi pysgodfeydd cynaliadwy.

Yn anffodus, o fewn rhaglen lywodraethu'r chweched Senedd hon, does dim unrhyw sôn am bysgodfeydd a dyframaeth o gwbl, fel petai nhw ddim yn bodoli o gwbl. Gallwn ni ond dod i'r casgliad, felly, nad yw'r sector hon yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae strategaeth pysgodfeydd Cymru 2008 a chynllun gweithredu strategol ar gyfer y sector 2013 bellach wedi hen ddyddio.

Efallai y bydd Llywodraeth Cymru am dynnu'n sylw at 'Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru' fel arwydd o gynnydd yn y maes hwn. Iawn, mae'r cynllun yn cynnwys dwy adran benodol ar ddyframaeth a physgodfeydd. Fodd bynnag, dŷn nhw ddim yn strategaethau digon gwahanol gyda digon o ffocws i ysgogi cynnydd sylweddol yn y sector. A dyw'r sector ei hun, yn ddiddorol iawn, yn sicr ddim yn ystyried bod hwn cystal â chael cynllun gweithredu cynhwysfawr.

Mae'n werth nodi bod pwyllgor yr amgylchedd yn y Senedd flaenorol wedi cynhyrchu adroddiad ar effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru yn 2018. Galwodd yr argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth uchelgeisiol, gyda ffocws ar dyfu pysgodfeydd yng Nghymru. Er i Lywodraeth Cymru dderbyn yr argymhelliad ar y pryd, y gwir amdani yw taw ychydig iawn sydd wedi'i wneud i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw ers hynny. Efallai'n wir y byddai Llywodraeth Cymru eto'n tynnu ein sylw ni at ymgynghoriad 2018, 'Brexit a'n Moroedd', fel dwi wedi'i grybwyll yn barod. Fodd bynnag, er bod rhanddeiliaid wedi buddsoddi cryn dipyn o amser yn ymateb i'r ymgynghoriad, unwaith eto, ychydig sydd wedi digwydd ers hynny.

Nawr, is-adran y môr a physgodfeydd Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am reoli pysgodfeydd morol yn nyfroedd Cymru. Mabwysiadwyd y model cyflawni canolog hwn dros 10 mlynedd yn ôl. Rhagwelwyd y byddai'r model cyflawni cyfunol newydd yn rhoi cyfle i ddefnyddio adnoddau'n well, yn darparu dull cydlynol o reoli pysgodfeydd Cymru ac yn gwella cyfranogiad y diwydiant pysgota yn y broses o wneud penderfyniadau.

Yn anffodus, er gwaethaf yr ymdrechion gorau, ni wireddwyd manteision canfyddedig y model canolog hwn, er bod cyllidebau ac adnoddau dynol o fewn yr is-adran wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y degawd diwethaf. Mae'r adran wedi bod heb strategaeth gyfredol na chynllun mesuradwy i reoli pysgodfeydd yn gydlynol ers 2014. Ac i waethygu'r sefyllfa, ar hyn o bryd nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fecanwaith ymgysylltu'n ffurfiol â rhanddeiliaid gyda'r sector.

Rhaid dweud felly fod yr effeithiau ar y diwydiant pysgota o adael yr Undeb Ewropeaidd, ynghyd ag arafwch wrth ddarparu gwell rheolaeth ar bysgodfeydd, yn gwneud dyfodol pysgota môr yng Nghymru yn hynod o ansicr, sydd yn bryder mawr, wrth gwrs.

Felly, pa fath o uchelgais sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer creu sector bywiog, cynaliadwy a gwydn yn economaidd ar gyfer y dyfodol o ystyried y dirywiad amlwg yn nifer y pysgod sy’n cael eu glanio ym mhorthladdoedd Cymru dros y pum mlynedd diwethaf?

Y gwir amdani yw bod tanfuddsoddiad cronig wedi bod yn y sector dros nifer o flynyddoedd. Ar wahân i fuddsoddiad mewn seilwaith yn nociau pysgod Aberdaugleddau saith mlynedd yn ôl, mae lefel y gefnogaeth ariannol wedi bod yn ofnadwy o isel. Hefyd, mae pryder bod y fflyd o longau sy'n heneiddio o flwyddyn i flwyddyn yn gwegian oherwydd diffyg buddsoddiad.

Gadewch i mi droi yn awr at ddyframaethu. Wrth i'r galw am fwyd môr gynyddu, mae technoleg wedi'i gwneud hi'n bosibl tyfu bwyd mewn dyfroedd morol arfordirol a'r cefnfor agored. Mae dyframaethu'n ddull a ddefnyddir i gynhyrchu bwyd a chynhyrchion masnachol eraill, adfer cynefinoedd ac ailgyflenwi stociau gwyllt, ac ailboblogi rhywogaethau sydd dan fygythiad ac mewn perygl.

Mae'r Gweinidog eisoes wedi nodi cyn toriad yr haf ei bod wedi ymrwymo i gyflawni'r targedau strategol ar gyfer dyframaethu a osodwyd ar gyfer 2013 i 2020. Er enghraifft, pysgod cregyn—y targed oedd dyblu cynhyrchiant o 8,000 tunnell i 16,000 tunnell, ond mae'n amlwg ein bod ymhell islaw'r llinell sylfaen honno hyd yn oed cyn COVID a chyn Brexit.

Yn ddiweddar, rôn i’n rhan o ddirprwyaeth Plaid Cymru a fu ar ymweliad â'r cyfleuster dyframaeth arloesol ym Mhenmon, Ynys Môn, gyda'r Aelod o Ynys Môn, a gweld y cyfleoedd y gall y sector eu cynnig i Gymru. Dyma’r sector bwyd sy’n tyfu gyflymaf ar draws y byd. Mae'r staff yn Mowi Ltd ym Mhenmon wedi torri tir newydd gan ddefnyddio technegau arloesol ar gyfer cynhyrchu rhywogaethau pysgod glanach, gan roi'r ffermydd hyn ar flaen y gad yn Ewrop.

Lywydd, mae gan Gymru—o, mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd—mae gan Gymru'r sylfaen wybodaeth a'r cyfalaf naturiol posibl i ddatblygu'r sector dyframaethu ymhellach, ond mae angen i Lywodraeth Cymru ailalinio a chanolbwyntio polisi ac adnoddau ar y sector mewn ffordd fwy cydgysylltiedig ac integredig. Gall y sector dyframaethu gefnogi'r gwaith o greu swyddi, arloesi, cyfrannu at wasanaethau ecosystemau ar sail natur a hawlio'i le yng nghenhadaeth Cymru i ddod yn wlad sy'n cynhyrchu bwyd cynaliadwy.

Felly, gyda rhagolygon cyffrous ar gyfer sector sy'n tyfu’n gyflym, mae angen inni wybod beth yw strategaeth y Llywodraeth yn y dyfodol i gefnogi dyframaeth a physgota môr yng Nghymru, ac, yn wir, beth yw ei strategaeth ar gyfer manteisio ar y potensial i dyfu’r diwydiant yma yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Diolch.

16:30

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Arfon am gyflwyno'r cynnig hwn y prynhawn yma ar ran grŵp Plaid Cymru. Yr wythnos diwethaf, codais yma i hyrwyddo'r angen am gydweithredu, partneriaeth a gwaith tîm wrth fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r wlad hon. Ac yn wir, heddiw, rwyf fi a fy nghyd-Aelodau ymhlith y Ceidwadwyr Cymreig yma yn arddel yr un ymagwedd gydweithredol. Dyna pam y byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma.

Rwy’n falch hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod gwerth cynnig gan wrthblaid, ac rwy'n gobeithio y bydd y ddadl y prynhawn yma'n rhoi cipolwg o leiaf ar yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio ar y cyd.

Nawr, fel y crybwyllodd yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn gwbl gywir yn ei araith agoriadol, mae Cymru'n meddu ar gyfoeth o adnoddau, potensial a chyfleoedd, a gellir targedu a defnyddio pob un ohonynt i gefnogi a thyfu ein diwydiant dyframaethu a physgodfeydd. Rwyf hefyd yn falch fod yr Aelod wedi tynnu sylw at y cyfleoedd newydd i bysgodfeydd Cymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd; fodd bynnag, er mwyn gallu teimlo'r manteision hynny, mae'n gwbl briodol fod Llywodraeth Cymru'n gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid allweddol y diwydiant, o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat, i ddatblygu strategaeth pysgodfeydd a dyframaethu sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, buddsoddiad a diwydiant.

Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cofio fy nghwestiwn cyntaf un iddi ar faterion gwledig, mewn perthynas â datganiad a wnaeth mewn digwyddiad yng Nghaerdydd fel rhan o'r Wythnos Bwyd Môr yn 2016. Yn y digwyddiad hwnnw, cyhoeddodd fwriad Llywodraeth Cymru i ddyblu cynhyrchiant dyframaethu morol erbyn 2020. Ers hynny, nid yw cynllun morol 2019 Llywodraeth Cymru na'r adroddiad dilynol yn 2020 wedi crybwyll na mynd i’r afael â’r nod hwn, ac, yn ei hateb i mi, nododd y materion sydd ynghlwm wrth gyrraedd ein targed allforio bwyd môr. Er fy mod yn dal i bryderu cryn dipyn ynglŷn â hyn, ac yn deall y materion a gododd y Gweinidog mewn perthynas â'r materion allforio ar ddechrau'r flwyddyn, rwy'n hyderus y bydd y cynnig hwn heddiw'n sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ei hymdrechion i ymroi i sicrhau bod y targed hwn yn cael ei gyrraedd.

Ond gadewch inni beidio ag anghofio y bydd manteision diwydiant pysgodfeydd a dyframaethu cryf a chynaliadwy yn cyrraedd pob cornel o Gymru. Yn fy etholaeth i, er enghraifft, mae'r cwmni wystrys yr Iwerydd yn Angle yn arwain y ffordd drwy ddatblygu dulliau adfer ar gyfer wystrys brodorol sir Benfro. Yn hytrach na dim ond eu tynnu o'r môr, mae Atlantic Edge Oyster, dan arweiniad Dr Andy Woolmer a chyda chymorth Ben Cutting, yn gweithio i adfer niferoedd wystrys oddi ar arfordir sir Benfro, ac yn ogystal â chael gwared ar ormodedd o faethynnau o'n dyfroedd, mae hyn hefyd yn darparu cynefin gwell ar gyfer ecosystem iachach i fywyd morol arall. Mae'r wystrys hefyd yn cael eu gwerthu mewn bwytai ledled Cymru, sydd unwaith eto'n dangos eu budd i'n heconomi.

Yn wir, ni ddylem ychwaith fychanu'r rhan y gall dyframaethu ei chwarae yn helpu i gyflawni ystod eang o nodau a thargedau cynaliadwyedd. Mae ymchwilwyr ym mhrifysgol Queen's, Belfast yn datblygu treial tair blynedd i geisio gwerthuso'r defnydd o wymon y DU i helpu i leihau allyriadau methan mewn gwartheg. Fodd bynnag, yn ogystal â lleihau allyriadau methan—ac rydym wedi clywed llawer am hyn yn sgil y COP26 dros y pythefnos diwethaf—yn ôl adroddiadau cynnar gall bwyta'r gwymon wella iechyd gwartheg a gwella ansawdd y cig a'r llaeth y maent yn ei gynhyrchu. Mae'n brosiect arloesol arall heb gyfyngiad ar ei ddefnydd yn y gadwyn gyflenwi, ac mae'n dod ag ystyr newydd iawn i'r ymadrodd surf and turf.

Ac rwyf wedi gweld manteision prosiectau tebyg yn uniongyrchol, wrth imi ymuno â fy nghyd-Aelod yr Aelod dros Breseli Sir Benfro ar ymweliad â Câr-y-Môr, fferm wymon a physgod cregyn fasnachol gyntaf Cymru. Mae'r prosiect ffermio heb ychwanegion hwn yn defnyddio mwynau naturiol a maethynnau'r môr Celtaidd, gan gael gwared ar yr angen am wrtaith a phlaladdwyr, ac mae hefyd yn gwella ein hamgylchedd arfordirol, yn hybu bioamrywiaeth ddyfrol ac yn ysgogi twf swyddi, gan gynnig llwybr uniongyrchol i bobl ifanc i mewn i sector dyframaeth gwirioneddol integredig yng Nghymru. Er bod gan lawer o'r gwymon sy'n cael ei dyfu gyrchfan a gwerth masnachol penodol, nid yw peth o'r gwymon sy'n cael ei dyfu yn addas ar gyfer y farchnad fanwerthu, ond mae'n gwbl addas fel ychwanegyn mewn bwyd gwartheg. Nid oes yn rhaid inni edrych ymhellach na'n dyfroedd naturiol am syniadau addawol a phrosiectau arloesol. Fodd bynnag, mae angen cymorth Llywodraeth Cymru arnynt, yn hytrach na'u bod yn ôl-ystyriaeth mewn polisïau.

Rwy’n cymeradwyo Plaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Dylem roi ein cefnogaeth lawn i'n diwydiant pysgota a dyframaethu, a dylem fod yn datblygu polisi ag iddo fanteision pellgyrhaeddol, diamheuol i ystod gyfan o sectorau eraill, yn economaidd ac yn amgylcheddol. Diolch yn fawr.

16:35

Mi oedden ni ar bwrpas yn rhoi sgôp eithaf eang i'r cynnig yma heddiw achos rydyn ni'n credu bod yna sgôp eang i ddod â budd i Gymru drwy gael strategaeth glir ac uchelgeisiol, wedi ei chefnogi'n ariannol yn iawn, er mwyn datblygu pysgodfeydd a'r diwydiant pysgod a physgota yn gyffredinol. Ac mi allai'r budd ddod ar sawl ffurf—budd economaidd yn sicr yn gyntaf o ran cynhyrchu incwm, dod â buddsoddiad i mewn a chreu swyddi ac ati. Roedd Cefin yn sôn yn benodol am botensial aquaculture. Mae'r potensial i ddatblygu ffermio pysgod ar y tir yn enfawr. Mae'r arbenigedd sydd y tu ôl i ddatblygiadau y clywsom ni'n cael eu crybwyll ym Mhenmon yn Ynys Môn yn arbenigedd a allai arwain at ddatblygiadau eraill—ffermio pysgod i'w bwyta. Ffermio pysgod glanhau maen nhw ym Mhenmon ar hyn o bryd, sy'n rhan o'r broses o bysgota eog yn gynaliadwy, ond mi allai'r un arbenigedd ddatblygu mewn ffermio pysgod i'w bwyta hefyd.

Mi fues i mewn darlith y noson o'r blaen ar botensial ffermio'r cimwch pigog—dwi wedi dysgu lot am y cimwch pigog yr wythnos yma. Mae'r gwaith yn digwydd yng Nghymru rŵan i ddatblygu'r arbenigedd i ffermio hwnnw'n fasnachol, ond mae'r datblygwyr yn bwriadu mynd â'r arbenigedd yna efo nhw i Ffrainc neu'r Eidal, oherwydd diffyg hyder y buasen nhw'n cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru. Ydy'r Gweinidog wir yn barod i adael i'r arbenigedd yna adael Cymru, ynteu ydy hi eisiau gweld hwn yn rhywbeth y gallwn ni fuddsoddi ynddo fo? I roi syniad ichi, maen nhw wedi cyhoeddi eleni fuddsoddiad allai arwain at ddiwydiant newydd gwerth $160 miliwn yn Awstralia—$160 miliwn yn flynyddol—i ffermio cimwch. Ydyn ni eisiau hynny yn fan hyn ynteu a ydyn ni am adael i hynny lithro o'n dwylo ni? A gyda llaw, gaf i estyn gwahoddiad i'r Gweinidog i ddod i Benmon i weld y gwaith rhagorol sy'n digwydd yno?

Mae yna fudd cymunedol hefyd, nid dim ond drwy greu hyfywedd cymunedol mewn ardaloedd arfordirol trwy greu swyddi mewn datblygiadau fel yna, neu wneud y diwydiant sydd yna'n barod yn fwy cynaliadwy a'i helpu fo i dyfu, ond mae yna fodd yma i atgyfnerthu ein treftadaeth forwrol ni, sydd o bosibl ddim mor ddwfn ag y mae o mewn ardaloedd o Gernyw neu'r Alban, ond mae o yno, mae o'n bwysig, yn cynnwys mewn rhannau o fy etholaeth i. Mae hyn yn rhan o'r apêl a beth dwi, Cefin ac eraill wedi bod yn galw amdano fo drwy ofyn am gefnogaeth y Llywodraeth i raglen catch and release ar gyfer tiwna bluefin yn ddiweddar, rhywbeth sy'n mynd i fod yn digwydd yn nyfroedd gweddill yr ynysoedd yma, ond nid Cymru. Ac rydyn ni'n colli cyfle yn y fan honno, a dwi ddim yn deall yn iawn pam mae'r Llywodraeth yn methu â chroesawu hynny fel rhywbeth fyddai'n gam amgylcheddol gwerthfawr ac yn rhywbeth allai ddod â budd i'n cymunedau arfordirol ni. 

I gloi, rydyn ni angen strategaeth, fel rydyn ni wedi ei glywed. Mae fy etholwyr i, er enghraifft yn y sector cregyn gleision, wedi bod yn sgrechian am strategaeth ers blynyddoedd, yn chwilio am fuddsoddiad a chefnogaeth ar gyfer prosesu'r cregyn gleision, er enghraifft. Mi oedd yr alwad honno am strategaeth yn gryf cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac wrth gwrs mae o'n fwy pwysig byth rŵan ar ôl i'w diwydiant nhw, eu sector nhw, gael ei chwalu yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ond mi gafodd, fel rydyn ni wedi clywed, strategaeth ei lansio nôl yn niwedd 2016. Mi oedd yna addewid am ychydig, ond mi ddaeth hynny i stop. Roedd yna dargedu wedi digwydd, â thargedau'n cael eu gosod ar gyfer tŵf sylweddol yn y sector, ond heb gael strategaeth sydd yn weithredol, heb greu capasiti, mae gen i ofn, yn adran pysgodfeydd Llywodraeth Cymru, heb eglurder ar gyllid—a dwi'n meddwl mai gwael iawn oedd ein profiad ni o ran sut roedd cyllid Ewropeaidd yn cael ei wario yma, er enghraifft—a heb engagement byw a brwdfrydig y Gweinidog ei hun, fydd gennym ni ddim sector ar ôl i'w dyfu, dwi'n ofni.

16:40

Rwy'n croesawu'r cynnig pwysig i’w drafod heddiw gan Siân Gwenllian, gan fod ein cymunedau arfordirol yn darparu cyfleoedd hanfodol ar gyfer hyfforddiant, cyflogaeth ac adfer cynefinoedd morol. A chan fod Rhun wedi sôn am gregyn gleision, rwyf am ganmol cregyn gleision Conwy, y gorau yn y byd—busnes a sefydlwyd dros 100 mlynedd yn ôl. Mae 'Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru', sy'n gynllun 20 mlynedd, yn nodi amcan sector-benodol ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu, sef cefnogi a diogelu sector pysgota cynaliadwy, amrywiol a phroffidiol, gan gynnwys hyrwyddo pysgodfeydd cynaliadwy a sicrhau'r gwerth economaidd mwyaf i bysgod sy'n cael eu dal fel cyflenwad o brotein cynaliadwy.

Ond er bod ymrwymiad i ddiogelu ein pysgodfeydd yn ganmoladwy, mae'r diffyg camau wedi'u targedu a roddwyd ar waith drwy ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru yn syfrdanol. Yn y bumed Senedd, bu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn gwthio'n gyson am Fil pysgodfeydd Cymru, Bil yr ymrwymodd y Gweinidog i'w gyflwyno yn y chweched Senedd. Fodd bynnag, nid yw wedi'i gynnwys yn y rhaglen lywodraethu. Yn yr un modd, wrth ymateb i ddadl fer ar ddyfodol pysgota morol ar 24 Chwefror, dywedodd y Gweinidog y bydd polisi Cymru yn y dyfodol

'wedi'i gynllunio gyda rhanddeiliaid i adlewyrchu anghenion sector pysgodfeydd modern Cymru',

a phwysleisiodd y bydd cydgynhyrchu gyda rhanddeiliaid yn egwyddor graidd. Fodd bynnag, yn dilyn fy nghwestiynau yng nghyfarfod y pwyllgor ar 11 Mawrth, dywedodd Cymdeithas Pysgotwyr Cymru wrth y pwyllgor nad oedd wedi cael unrhyw drafodaethau manwl bryd hynny gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â pholisi pysgodfeydd Cymru yn y dyfodol. Clywodd y pwyllgor hefyd fod grŵp cynghori Cymru ar y môr a physgodfeydd Llywodraeth Cymru yn profi heriau a'i fod yn cael ei adolygu ar y pryd. Felly, wrth i'r Gweinidog ymateb i'ch dadl heddiw, Blaid Cymru, byddwn yn falch iawn o gael diweddariad er mwyn creu amserlen ar gyfer Bil o'r fath, a diweddariad i'r Senedd ynglŷn ag a wnaed unrhyw gynnydd gyda'r rhanddeiliaid bellach.

Mae ein pysgodfeydd a'n gweithfeydd dyframaeth yn elfennau hanfodol o strategaeth bwyd Cymru. O grancod gogledd Cymru i gregyn gleision Conwy, unwaith eto, mae cynhyrchwyr bach a chynaliadwy'n darparu ffynonellau hanfodol o brotein ac omega 3 i farchnadoedd ledled ein gwlad. Ond os ydym am gael cymunedau arfordirol cynaliadwy, mae angen integreiddio'r sector bwyd môr yn llawn mewn strategaeth bwyd a diod newydd, gyda phob sector wedi'i alinio. Ni allwn ganiatáu i'r rhaniad rhwng bwyd-amaeth a bwyd môr ein hatal rhag mabwysiadu strategaeth fwyd gyffredinol.

Mae angen rhoi hyn ar waith ochr yn ochr â gwaith gyda rhanddeiliaid i gyflawni strategaeth bysgota newydd ar gyfer Cymru sy'n seiliedig ar yr egwyddor o gymaint â phosibl o gynnyrch cynaliadwy, ac un sy'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i gynnal cynaliadwyedd pysgod ar gyfer pob stoc. Gyda fflyd o dros 400 o gychod trwyddedig, sy'n cyflogi 1,193 o bysgotwyr llawnamser a rhan-amser, mae diwydiant bwyd môr Cymru yn bwysig i'n heconomi leol. Rwy'n croesawu'n gynnes y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu cronfa bwyd môr gwerth £100 miliwn ar gyfer y DU, sydd wedi helpu i adfywio’r sector pysgodfeydd a bwyd môr, gan fanteisio ar gwota pysgota ychwanegol y DU a dod â thwf economaidd i gymunedau arfordirol. Ond mae angen rhoi camau ar waith yn awr yn y strategaeth bysgota newydd i gydnabod y datblygiadau technolegol a wnaed a'r gwariant ariannol sy'n gysylltiedig ag uwchraddio offer mewn ffordd sy'n hyrwyddo rhinweddau gwyrdd—neu las—y diwydiant. Sbwriel pysgota yw 21 y cant o'r sbwriel a geir ar draethau Cymru, ac felly mae angen cymryd camau i fynd i'r afael â hyn. Dylai hyn gynnwys arian i gefnogi'r defnydd o botiau sy'n cynnwys diangdyllau i leihau pysgota anfwriadol o ganlyniad i offer a adawyd ar ôl neu a gollwyd.

Mae ardal cynllun morol cenedlaethol Cymru yn cynnwys oddeutu 32,000 km sgwâr o fôr a 2,120 km o arfordir. Mae hyn yn fwy o lawer na'n tirfas ac yn rhoi digon o gyfle i hybu swyddi morol a phrentisiaethau newydd, gan gynnwys ym maes dal carbon ac adfer cynefinoedd. Felly, rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau pa gamau y bydd yn eu cymryd ar unwaith i gefnogi ein pysgodfeydd a'n gweithfeydd dyframaeth, fel na fyddwn yn lladd uchelgais ein perchnogion busnesau bach ac yn tanseilio hirhoedledd ein cymunedau arfordirol. Diolch yn fawr, Blaid Cymru, am gyflwyno'r ddadl hon.

16:45

Diolch yn fawr iawn, Janet. Mae'r diwydiant pysgota yn un andros o bwysig i'n cymunedau ni yng Nghymru, ac i gymunedau Dwyfor Meirionnydd. Mae gan y sector botensial aruthrol ac mae'n syndod cyson i mi nad ydy'r Llywodraeth yn gwneud mwy i fuddsoddi yn y sector a sicrhau ei hyfywedd. Ces i'r fraint o fynd i bysgota cimychiaid a chrancod efo Sion Williams allan o Borth Colmon dros yr haf, a gweld y cyfraniad rhyfeddol roedd ei waith o yn ei wneud i'r economi leol, ond yn fwy na hynny, i'r gymuned leol, wrth iddo ddarparu bwyd rhagorol o ansawdd, yn iach ac yn llawn protein i gyflenwyr lleol.

Rŵan, mae'r ddadl y prynhawn yma yn galw am ddatblygu polisi pysgodfeydd a dyframaethu ymhellach. Os oes yna un ystadegyn sy'n dangos y gwendid syfrdanol yn y system bresennol a pham bod taer angen polisi llawer cliriach a chryfach, yna mi wnaf i sôn wrthych chi am yr ystadegyn hwnnw. Mi ddaru Cefin ynghynt sôn am faint o bysgod sy'n cael eu glanio ym mhorthladdoedd Cymru, ond o ran y pysgod sy'n cael eu glanio o foroedd Cymru, wyddoch chi fod yna 83,000 tunnell o fwyd yn cael ei lanio o foroedd Cymru—83,000—ac o'r 83,000 yna, fel dywedodd Cefin reit ar ddechrau'r drafodaeth, mae tua 4,000 neu weithiau 8,000 tunnell yn cael ei lanio gan bysgotwyr Cymru? Hynny ydy, mae llai na 10 y cant o gynnyrch moroedd Cymru yn rhoi budd economaidd uniongyrchol i gymunedau Cymru. Dyna ydy'r diffiniad o economi echdynnol. Pa ddiwydiant arall fyddai'r Llywodraeth yn caniatáu i hyn ddigwydd iddo?

Ond mae hefyd yn dangos y potensial aruthrol sydd yna i ddatblygu sector cynhenid, llewyrchus all chwarae rhan ganolog mewn adfywio cymunedau glan morol, gan roi swyddi o ansawdd sydd yn darparu cynnyrch iach a chynaliadwy. Wrth siarad efo pysgotwyr ar hyd a lled Cymru, eu pryder ydy nad oes yna symud ymlaen wedi bod yn y sector ers dros 10 mlynedd. Yr un ydy'r heriau a'r problemau sydd yn wynebu'r sector heddiw a oedd yn ei wynebu 10 mlynedd a rhagor yn ôl.

Ystyriwch reoleiddio pysgodfeydd. Mae yna ddiffyg aruthrol yn y maes yma. Mae pysgotwyr yn cymryd camau rhagweithiol i gasglu data a gwella eu harferion drwy gydweithio efo cyrff cyhoeddus, efo prifysgolion, er mwyn datblygu'r sector, ond dydy hyn ddim yn cael ei adlewyrchu yn unrhyw un o raglenni'r Llywodraeth. Mae'r diwydiant yn galw allan am bolisïau a systemau rheoleiddio cadarn, er mwyn eu galluogi i ddatblygu adnodd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a chryfhau'r brand Cymreig ac, yn ei dro, cryfhau gwerth y brand hwnnw. Er enghraifft, does yna ddim un rheolaeth gynaeafu ar hyn o bryd. Mi ddylai'r Gweinidog ddod allan efo fi at Sion Williams a mynd o Borth Colmon ar y cwch er mwyn gweld yr arfer da y mae Sion yn ei ddatblygu yno. Roedd unrhyw gimwch oedd o'n ei ddal a oedd yn llawn wyau yn cael ei roi yn ôl yn syth i'r môr. Mae disgwyliad o ran rhoi cimychiaid o dan ryw faint arbennig yn ôl i'r môr, ond does yna ddim cyfyngiad ar faint o gimychiaid mae hawl i'w cymryd o'r môr. Rŵan, chwarae teg i Sion am fod yn bysgotwr cydwybodol, ond eto does dim disgwyliad iddo wneud hyn.

Mae cregyn bylchog nid yn unig yn andros o flasus, ond hefyd yn doreithiog ym mae Ceredigion, ac yn cyfrannu'n sylweddol at y cynnyrch sy'n cael ei lanio gan bysgotwyr Cymru. Tra bod yn rhaid i'r sawl sydd â hawl pysgota cregyn bylchog gael trwydded i wneud hynny, gallai'r pysgotwr ddefnyddio un cwch neu 100 o gychod. Unwaith eto, does yna ddim rheolaeth ar y cyniwair.

Bydd rhai yn cyfeirio at yr ap Catch newydd sydd yn cael ei ddefnyddio i recordio a monitro data pysgod a laniwyd, ac mae hwnnw yn ddatblygiad cyffrous, ond dydy o ddim yn dangos y darlun cyfan, chwaith. Dydy o ddim yn dangos pa bysgod a luchiwyd yn ôl i'r môr, er enghraifft, a fyddai'n galluogi'r awdurdodau i gael darlun cliriach o iechyd ein moroedd a pha gamau sydd angen eu cymryd i sicrhau rheolaeth er lles dyfodol y diwydiant. Mae diffyg rheolaeth, felly, ar gyniwair cynnyrch y môr yn un enghraifft o'r gwendidau sylfaenol sydd yn y system.

Yn elfennol, mae'r drefn bresennol yn methu ein pysgotwyr a'n moroedd. Fel y saif pethau, mae'r cyfan yn cael ei reoli yn uniongyrchol gan y Llywodraeth, ac mae'n berffaith amlwg erbyn hyn nad ydy hynny'n ddigonol, na chwaith yn bosibl i'w weithredu'n llawn. Yn wahanol i'r sector cig coch, lle mae gennych chi Hybu Cig Cymru yn gwneud gwaith ardderchog, neu wrth drafod adnoddau naturiol megis y tir a'r dŵr, mae gennym ni Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddio, does yna ddim un corff allanol yn goruchwylio'r sector pysgodfeydd a dyframaethu. Dyma dwi'n ei glywed yn gyson gan y sector yma, a dyma pam ein bod ni wedi rhoi'r cynnig yma ymlaen heddiw.

Ac yn olaf, jest i'ch hysbysu chi y byddaf i'n sefydlu grŵp trawsbleidiol newydd ar bysgodfeydd a dyframaethu ymhen rhai misoedd, a dyma wahoddiad, felly, i unrhyw Aelod ymuno â'r grŵp yn y flwyddyn newydd, pan fydd o'n cael ei sefydlu. Diolch.

16:50
16:55

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y mater pwysig hwn, a diolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau, a bydd y Llywodraeth yn cefnogi’r cynnig gwreiddiol.

Mae pob un ohonom yn dymuno gweld diwydiannau pysgota a dyframaethu yng Nghymru sy'n gynaliadwy ac sy'n ystyriol o'r amgylchedd, yn ogystal â bod yn economaidd hyfyw a ffyniannus. Hoffwn dynnu eich sylw at 'Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru'. Dyma'r cynllun cyntaf o'i fath, ac mae eisoes yn gosod nod polisi strategol lefel uchel ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu. Mae twf cynaliadwy dyframaeth yng Nghymru yn elfen allweddol o'r cynllun ac rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, o fuddion amgylcheddol dyframaethu ar lefel droffig isel, fel cynhyrchu pysgod cregyn a gwymon.

Rwyf wedi ymrwymo i ddatblygu'r nodau hyn ymhellach i greu dull gweithredu strategol ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu, yn unol â'r cynnig heddiw. Gwn fod awydd ymhlith rhanddeiliaid i weld strategaeth pysgodfeydd a dyframaethu newydd, ac rwy'n llwyr gydnabod ac yn deall yr awydd hwnnw. Fodd bynnag, mae sawl mater y mae'n rhaid inni eu hystyried wrth ddatblygu ein dull gweithredu strategol. Mae hyn yn cynnwys ein dyletswydd statudol i gynhyrchu datganiad pysgodfeydd ar y cyd a chynlluniau rheoli pysgodfeydd cysylltiedig gyda gweinyddiaethau pysgodfeydd eraill.

Mae pysgodfeydd a dyframaethu hefyd yn chwarae eu rhan mewn nifer o'n polisïau, ein strategaethau ac ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu, gan gynnwys yr adferiad morol glas ehangach, ein strategaethau bwyd a diod, darparu adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac wrth gwrs, yr agenda carbon glas, a'n hymrwymiadau yn Cymru Sero Net. Mae'n bwysig ein bod yn dwyn yr holl elfennau hyn ynghyd wrth ddatblygu ein dull strategol ar gyfer y sector pysgodfeydd.

Rwy'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i barhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu'r dull gweithredu a ddefnyddiwn, a bydd cynaliadwyedd, buddsoddiad ac ymgysylltu â'r diwydiant yn gwbl ganolog i hyn. Ac yn wir, cyfarfûm â rhai ohonynt yr wythnos diwethaf, ac rydym wedi ymrwymo i gyd-reoli ein pysgodfeydd a chydgynhyrchu ein polisïau, a byddaf yn cyfarfod ac yn trafod y dull gweithredu eto gyda rhanddeiliaid y mis nesaf.

O ran ein dull gweithredu mwy hirdymor yn y mater hwn, rydym yn adolygu'r prif grŵp cynghori ar bysgodfeydd i sicrhau ei fod wedi'i gynllunio yn y ffordd orau i'n galluogi i gael dull ystyrlon o ymgysylltu a chyd-reoli. Rwy'n rhagweld y byddaf yn gallu trafod hyn ymhellach gyda'n rhanddeiliaid y mis nesaf.

Rwy'n cydnabod bod y byd wedi newid yn sylweddol ers cynhyrchu 'Cynllun Gweithredu Strategol y Môr a Physgodfeydd Cymru' yn 2013, ac mae angen diweddaru agweddau ar y strategaeth honno. Ond mae'n rhaid imi ddweud yn glir nad wyf yn credu mai'r hyn sydd angen ei wneud yw cynhyrchu dogfen sy'n gorwedd ar silff. Mae'n bwysicach o lawer ein bod yn nodi blaenoriaethau strategol clir a rennir ar gyfer y sector, ac y gallwn weithio ar y cyd i'w cyflawni.

Mae'n bwysig fod fy nghyd-Aelodau'n cydnabod, serch hynny, nad ydym yn aros am strategaeth i gyflawni'r gwaith sy'n ofynnol. Rydym eisoes yn bwrw ymlaen â gwaith ar feysydd a fydd yn allweddol i lywio ein dull o weithredu. Gwyddom, er enghraifft, y bydd pysgodfeydd cynaliadwy yn gonglfaen i'n polisi pysgodfeydd, wedi'u rheoli mewn ffordd addasol gyda phenderfyniadau'n cael eu gwneud ar sail tystiolaeth a'r wyddoniaeth orau sydd ar gael. A dyma pam rwyf wedi blaenoriaethu'r gwaith o ddrafftio Gorchymyn cregyn moch, sydd i fod i ddod i rym cyn diwedd y flwyddyn. Mae hon yn ddeddfwriaeth allweddol a fydd yn darparu templed ar gyfer rheoli rhywogaethau eraill nad ydynt dan gwota.

Mae'r cynnydd rwyf eisoes wedi'i sicrhau yn y gyfran o gwota'r DU yn allweddol i dwf ein diwydiant pysgota. Byddwn yn ystyried y ffordd orau o ddyrannu'r cwota ychwanegol yn y dyfodol. Byddwn yn mynd ar drywydd terfynau dal cynaliadwy yn nhrafodaethau'r gwladwriaethau arfordirol sydd ar y ffordd gyda'r Undeb Ewropeaidd. Gan weithredu o fewn y system reoli cwotâu ddomestig, byddwn yn sicrhau bod gan bysgotwyr Cymru allu i wireddu eu dyheadau datblygiadol yn unol â'r cwota.

Rydym hefyd yn ymwybodol o bwysigrwydd y diogelwch a ddarperir gan Orchmynion pysgodfeydd i lawer o'n busnesau dyframaethu mwy o faint, a dyna pam ein bod yn blaenoriaethu'r gwaith hwn, gan ddechrau gyda'r Gorchymyn yn nwyrain afon Menai.

Bydd angen i gynllun clir ar gyfer buddsoddi yn ein sector bwyd môr fod yn sail i unrhyw strategaeth, a bydd y cymorth a ddarparwn drwy'r hyn a ddaw yn lle cynllun cronfa’r môr a physgodfeydd Ewrop yn hanfodol i'r buddsoddiad hwn. Byddwn yn cynllunio ac yn datblygu cynllun cyllido a fydd yn ein cynorthwyo i gyflawni ein nodau strategol, ac unwaith eto, hoffwn glywed barn rhanddeiliaid ar eu cynllun wrth i ni ei drafod dros yr wythnosau nesaf.

I dawelu meddwl Janet Finch-Saunders, ni fyddai'r Bil pysgodfeydd yn ymddangos yn y rhaglen lywodraethu. Bydd yn ymddangos yn y rhaglen ddeddfwriaethol, ac fel y gwyddoch, tymor pum mlynedd yw hwn, gydag un flwyddyn o'r rhaglen ddeddfwriaethol eisoes wedi'i chytuno.

I grynhoi felly, mae'r Llywodraeth yn fwy na pharod i gefnogi'r cynnig heddiw ac i ailgadarnhau ein hymrwymiad i ddarparu dull strategol ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu, mewn cydweithrediad â'n rhanddeiliaid. Diolch.

17:00

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yn syml iawn, wrth i fi grynhoi, mae'r cynnig sydd gerbron y prynhawn yma yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid yn y diwydiant i ddatblygu polisi ar gyfer pysgodfeydd a dyframaeth, a hynny wedi'i atgyfnerthu gan strategaeth sydd â chynaliadwyedd, buddsoddiad ac ymgysylltu â'r diwydiant yn ganolog iddo. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r drafodaeth hynod o ddiddorol a defnyddiol hon, a hynny ar draws y sbectrwm gwleidyddol? Mae'n dda i weld bod pawb yn ymrwymo i gefnogi'r cynnig arbennig hwn.

Mae Sam, wrth gwrs, ar ran y Ceidwadwyr, wedi cyfeirio at nifer o enghreifftiau yn ei ardal e yn sir Benfro o ran yr oyster farming a'r seaweed harvesting roedd e'n cyfeirio atyn nhw, sydd yn dod â photensial newydd i'r diwydiant pysgota môr, ac mae hyn yn rhywbeth mae ymchwil yn dangos mae angen inni wneud mwy ohono, gan fod y potensial yna yn aruthrol.

Taflodd Sam abwyd ataf—esgusodwch y gair mwys—ac rwy'n hapus i'w gymryd, ynglŷn â chyfleoedd yn sgil Brexit. Mae arnaf ofn nad wyf yn cytuno'n llwyr â'i ddadansoddiad, oherwydd yr hyn a welaf ar draws ardaloedd arfordirol y DU a'r diwydiant pysgota yw llanast llwyr ar hyn o bryd. Rwy'n edrych ymlaen at weld strategaeth glir, fel yr amlinellodd y Gweinidog, gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â defnyddio ffordd ymlaen i'r diwydiant o'r llanast hwnnw.

Roedd Rhun yn cefnogi, wrth gwrs, o safbwynt y buddiannau economaidd a chreu swyddi—bod potensial mawr i ddyframaeth, bod gyda ni arbenigedd yng Nghymru sydd yn destun edmygedd ar draws Ewrop gyfan, bod gyda ni bryderon bod yr arbenigedd yna a'r gallu sydd gyda ni yng Nghymru yn mynd i gael ei golli, ac, fel y clywon ni, bod Rhun yn sôn am y posibilrwydd bod llawer o'r potensial yn mynd i gael ei drosglwyddo i Ffrainc neu i'r Eidal. Fe fyddai'n golled aruthrol inni yma yng Nghymru. A rhywbeth rydw i wedi gofyn i'r Gweinidog amdano hefyd: colli cyfle mawr o ran y cynllun catch and release yma o gwmpas y bluefin tuna a thrwyddedu llongau i fanteisio yn economaidd o bysgota am y tiwna hardd yma.

Diolch, Janet, am hyrwyddo cregyn gleision Conwy. Bydd yn rhaid i mi eu blasu ryw ddiwrnod. Rydych yn llygad eich lle yn tynnu sylw at ddiffyg gweithgarwch wedi'i dargedu, ac mae'n syfrdanol nad yw hyn wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Roeddech yn gofyn ac yn erfyn ar y Gweinidog i gynnwys y diwydiant wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac mae'r Gweinidog wedi ymateb yn gadarnhaol i hynny, gan ddweud ei bod yn gwneud hynny yn awr. A phwynt arall a wnaed yn dda gan Janet yw'r angen i integreiddio bwyd dyframaeth yn y strategaeth bwyd a diod, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Bydd y buddsoddiad yn y diwydiant hwn yn diogelu cymunedau arfordirol wrth symud ymlaen.

Diolch i Mabon, hefyd, yn synnu, fel nifer ohonom ni, gyda'r diffyg strategaeth, a'r cyfeiriad yn arbennig at yr economi echdynnol yma: unwaith eto, cyfoeth Cymru yn cael ei golli i wledydd y tu hwnt i Gymru. Dim ond rhyw 10 y cant, fel roedd e'n sôn amdano, o bysgotwyr Cymru sydd yn elwa o'r daliadau sydd yn cael eu gwneud ym moroedd Cymru. Mi wnaeth Mabon hefyd gyfeirio at y diffyg rheoleiddio yn y maes, a’r angen i sefydlu corff rheoleiddio, nid yn unig o ran yr elfen yna, ond i hyrwyddo hefyd, tebyg i gorff fel Hybu Cig Cymru.

I gloi, diolch i’r Gweinidog am gefnogi’r cynnig, ac rwy'n cefnogi hefyd ei hymrwymiad hi nawr i ddatblygu strategaeth. Fe wnaeth hi gadarnhau ei bod hi’n siarad â phobl amlwg yn y diwydiant—cyfranddalwyr, ac yn y blaen—ac yn datblygu rhaglen ddeddfwriaethol, ac mae hynny i’w groesawu, i fynd i’r afael â’r sector arbennig yma.

Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, dwi jest am nodi hyn: mae’r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr ymhell ar y blaen o’i gymharu â Chymru o ran datblygu diwydiant pysgota môr a dyframaeth. Mae’n bryd i ni ddal i fyny gyda’r gwledydd yma a manteisio ar y cyfleoedd mawr sydd gyda ni i elwa yn economaidd o’r môr sydd o’n cwmpas ni yng Nghymru. Felly, os ydy Llywodraeth Cymru eisiau sector ffyniannus yn y dyfodol, yr hyn sydd ei angen yw strategaeth gadarn, ac mi fyddai hyn yn rhoi hwb aruthrol i’r economi o gwmpas arfordir Cymru. Felly, rwy’n erfyn ar y Gweinidog i barhau gyda'r trafodaethau ac rwy’n edrych ymlaen iddi ddod â’r ddeddfwriaeth gerbron y Senedd hon i sicrhau bod y diwydiant yn cael y gefnogaeth haeddiannol. Diolch yn fawr iawn.

17:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:07.

17:10

Ailymgynullodd y Senedd am 17:11, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

7. Cyfnod Pleidleisio

Byddwn yn pleidleisio ar gynnig y Blaid Geidwadol ar sbeicio. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Felly, dyma bleidleisio ar y cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal a 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Eitem 5. Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Sbeicio - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr i bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. [Torri ar draws.] Nid ydym wedi agor y bleidlais eto. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 44, tri yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir y gwelliant.

Eitem 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1 (cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian): O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 24, roedd 23 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir y gwelliant.

Eitem 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 2 (cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths): O blaid: 24, Yn erbyn: 0, Ymatal: 23

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 34, roedd 13 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 3.

Eitem 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 3 (cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian): O blaid: 34, Yn erbyn: 0, Ymatal: 13

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7824 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi â phryder y cynnydd gofidus yn yr achosion o sbeicio mewn lleoliadau ledled Cymru.

2. Yn credu bod y weithred o sbeicio yn drosedd lechwraidd sy'n tynnu urddas, hawliau a rhyddid person ac yn datgan yn glir mai hawl sylfaenol menywod yw teimlo'n ddiogel a byw'n rhydd.

3. Yn datgan yn glir nad yw'r cyfrifoldeb ar ddioddefwyr troseddau o'r fath ond ar y cyflawnwyr a'r rhai sy'n gwybod am unigolion sy'n cyflawni'r troseddau hyn ac nad ydynt yn adrodd am y cyflawnwyr pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

4. Yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'i gwaith ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r ffocws o'r newydd ar ddwyn cyflawnwyr i gyfrif.

5. Yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol, yn enwedig y rhai yn economi'r nos, i adolygu a gweithredu'r holl opsiynau diogelwch posibl ar frys.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi mentrau sy'n herio agweddau diwylliannol sy'n caniatáu i ymosodiadau rhywiol ac aflonyddu ddigwydd;

b) llunio strategaeth gynhwysfawr ar atal ymosodiadau rhywiol ac aflonyddu yn economi nos Cymru;

c) gofyn am eglurder gan Lywodraeth y DU ar ei chynlluniau i ddosbarthu casineb at fenywod yn drosedd casineb, a fyddai'n annog pobl i roi gwybod am achosion o sbeicio ac yn galluogi categoreiddio troseddau'n well er mwyn deall maint y broblem.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:

a) gwella mecanweithiau a phrosesau adrodd ynghylch ymosodiadau ac aflonyddu rhywiol;

b) gwella'r gefnogaeth i ddioddefwyr sbeicio a mathau eraill o ymosodiadau ac aflonyddu rhywiol.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 34, roedd 13 yn ymatal a neb yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.

Eitem 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 34, Yn erbyn: 0, Ymatal: 13

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

8. Dadl Fer: Canolbwyntio ar ymladd llifogydd: Archwilio opsiynau i gryfhau'r dull o leihau'r perygl o lifogydd a'r ymateb i lifogydd

Symudaf yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i siarad am y pwnc a ddewisiwyd ganddi.

A gaf fi atgoffa'r Aelodau, os ydynt yn gadael, i wneud hynny'n dawel?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Laura Jones, Samuel Kurtz a James Evans.

Mae 'Ymgodi o'r Gaeaf', cerdd deimladwy a gyhoeddwyd y mis hwn gan Taylor Edmonds a phobl a phlant dyffryn Conwy, yn ein hatgoffa'n rymus o'r dioddefaint a achosir gan lifogydd mawr. Mae'n dweud:

'Yn ein tref gorlifdir / mae yna bethau y bu'n rhaid i ni eu derbyn: / byddwn yn cael ein llusgo o'n gwelyau / am dri o'r gloch y bore i lenwi bagiau tywod. Byddwn yn creu atalgloddiau, / cylch o wynebau gwlyb dan olau tortsh. / Bydd bechgyn yn gwylio ar gornel pob ystâd, / yn tecstio'r newyddion diweddaraf wrth i gaeau droi'n ddŵr agored, mae'r tonnau'n codi. Byddwn yn cael ein hynysu; / mae ein ffyrdd yn tyfu cerrynt, traciau trên wedi'u datod, / yn hongian o goed fel pontydd rhaffau. / Deuwn at ein gilydd, fel y gwnaethom o'r blaen. / Llond dyffryn o bobl yn adeiladu amddiffynfeydd, / yn ysgrifennu llythyron, yn gofalu am gymdogion, / yn galw ar arweinwyr i weithredu.'

Felly, rwy'n credu y byddech chi'n cytuno bod y rheini'n eiriau hyfryd, ond yn drist iawn o ran eu hystyr, gan blant Ysgol Bro Gwydir, Llanrwst, sy'n galw arnom i weithredu fel nad yw popeth yn cael ei golli.

Nawr, am flynyddoedd ers imi ddod yn Aelod yn y lle hwn, rwyf wedi gwneud fy ngorau i hyrwyddo'r achos dros leihau'r perygl o lifogydd yn nyffryn Conwy. Ond rwyf wedi gweld Aelodau eraill hefyd, yn eu hetholaethau, yn anobeithio'n fawr wrth weld eu cymunedau dan lawer o ddŵr. Cynhaliais ddau gyfarfod cyhoeddus yn lleol, cyhoeddi pedwar adroddiad a sicrhau newid cadarnhaol, megis gwaith brys yn Y Berllan, Perthi a chwlfertau ychwanegol o dan reilffordd dyffryn Conwy. Fodd bynnag, pethau bach yn unig yw'r rheini y gall gwleidydd etholedig eu gwneud. Nid oes gan ein cymuned gynllun clir, oherwydd mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod hwyluso ymchwiliadau annibynnol i ddigwyddiadau llifogydd sylweddol. Ac mae hynny'n wir am ardaloedd heblaw Aberconwy.

Mae 5,743 o bobl wedi llofnodi deiseb yn annog Llywodraeth Cymru i gychwyn ymchwiliad llawn, annibynnol, agored a chyhoeddus i lifogydd 2020 i gartrefi a busnesau ar draws Rhondda Cynon Taf. Rwy'n cytuno ac yn credu y dylai fod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hwyluso ymchwiliadau annibynnol o'r fath.

Mae'n anghyfiawn, ac mewn gwirionedd nid yw'n effeithiol i ddibynnu'n unig ar adroddiadau ymchwiliadau llifogydd adran 19. Bu'n rhaid i drigolion Pentre yn fy etholaeth aros tan fis Gorffennaf 2021 i weld adroddiad mewn perthynas â digwyddiadau stormydd a ddigwyddodd ym mis Chwefror 2020—17 mis. Yn yr un modd, bu'n rhaid i drigolion Llanrwst aros wyth mis i weld adroddiad llifogydd adran 19, ac mae dogfennau statudol o'r fath yn darparu argymhellion allweddol. Dylid mynd i'r afael ag oedi yn y broses o lunio a chyhoeddi drwy osod terfynau amser statudol i roi diwedd ar y sefyllfa bresennol sy'n rhoi amser diderfyn i awdurdodau lleol. Yr wythnos diwethaf, dywedodd Sophie Howe, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol:

'Gyda llifogydd yn digwydd yn fwy ac yn amlach, mae angen cynllun arnom i sicrhau nad yw’r baich ariannol yn disgyn ar y rhai lleiaf galluog i dalu—a dull cytunedig ledled Cymru o sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gallu ymateb yn y ffordd iawn.

'Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn dweud bod yn rhaid yn ôl y gyfraith, i’r ffordd rydyn ni’n cyrraedd sero net wella llesiant yn ei gyfanrwydd, i bawb. 

'Rhaid i gyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau weithredu nawr i atal y rhai sy’n cael eu heffeithio gan effeithiau dinistriol newid yn yr hinsawdd [rhag bod] dan anfantais am genedlaethau.'

Cytunaf yn llwyr â'r teimladau hynny, a galwaf ar yr Aelodau newydd yn benodol, ond ar bob Aelod yn y Senedd, i weithio'n drawsbleidiol ar y mater.

Amcangyfrifir bod 245,000 eiddo yng Nghymru yn wynebu risg o lifogydd. Yn ôl Climate Central, rhagwelir y bydd cymunedau ledled Cymru yn is na'r lefel lifogydd flynyddol erbyn diwedd y degawd hwn. Mae Queensferry, Y Fflint, Prestatyn, Y Rhyl, Bae Cinmel, Llandrillo-yn-Rhos, Llandudno, Llanfairfechan, Bangor, Biwmares, Caergybi, Pwllheli, Porthmadog, Abermaw, Aberdyfi, Aberystwyth, Aberaeron, Abergwaun, Penfro, Llanelli, Abertawe, Port Talbot, Caerdydd, gan gynnwys y Senedd hon, Casnewydd, a Chas-gwent oll yn wynebu risg o lifogydd.

Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu strategaeth genedlaethol ar lifogydd ac erydu arfordirol, ac ar CNC i adrodd i Weinidogion Cymru ar y cynnydd a wneir ar weithredu'r strategaeth. Yn ôl y fersiwn ddiweddaraf, CNC sydd i reoli llifogydd o brif afonydd, eu cronfeydd dŵr a'r môr. Felly, gofynnwch i chi'ch hun: a yw hi o fudd i Gymru fod sefydliad sydd â chyfrifoldebau mor amrywiol, megis rheoleiddio diwydiannau, ymateb i 9,000 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn, a rheoli 7 y cant o arwynebedd tir Cymru, hefyd â rhan mor bwysig i'w chwarae yn rheoli llifogydd? Nid wyf yn credu hynny, ac rwy'n ailadrodd fy ngalwadau am asiantaeth lifogydd genedlaethol annibynnol. Pan siaradwch â CNC ac uwch-reolwyr, maent yn dweud eu hunain, er mwyn bod yn asiantaeth lifogydd effeithiol, y byddai'n cymryd o leiaf 70 o weithwyr eraill, ac roedd hynny ddwy flynedd yn ôl. Felly, byddai hwn yn un corff sy'n ymrwymedig i fynd i'r afael â digwyddiadau llifogydd ledled Cymru. Rwy'n credu'n wirioneddol fod staff CNC yn gwneud eu gorau, ond cânt eu llethu. 

Rwyf eisoes wedi dweud bod angen hyd at oddeutu 70 o staff ychwanegol i gynnal y gwasanaeth cyfan ar y lefelau a ddisgrifiwyd gan y camau gweithredu a'r gwelliannau yn adroddiad 'Llifogydd Chwefror 2020 yng Nghymru'. Fodd bynnag, nodir yn adroddiad yr Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd ar lifogydd yng Nghymru mai dim ond i gyflogi 36 o bobl cyfwerth ag amser llawn y defnyddiwyd y £1.25 miliwn ychwanegol a gafodd CNC mewn cyllid refeniw ar gyfer 2020-21, sef hanner yr hyn sydd ei angen.

Ceir enghreifftiau sy'n dangos nad yw CNC bob amser o gwmpas ei bethau. Yr wythnos diwethaf, nododd is-gadeirydd Cyngor Cymuned Magwyr a Gwndy, y Cynghorydd John Crook, er iddynt ofyn i CNC am gopi o amserlen gynnal a chadw gyda dyddiadau ar gyfer clirio'r ffos, mai'r cyfan a ddarparwyd ar eu cyfer oedd nodyn yn dweud beth y dylid ei wneud yn fras. A yw hynny'n ddigon da i gymuned a welodd lifogydd difrifol ar noswyl Nadolig y llynedd? Yn ôl adroddiad adran 19 Pentre,

'roedd digon o le yn y gilfach i ymdopi â'r storm, ond cyfyngwyd ar y lle hwnnw'n sylweddol gan rwystrau a oedd yn y pen draw yn brif achos y llifogydd ym Mhentre yn ystod Storm Dennis.'

Caiff yr ased a'r llethr helaeth uwchben y gymuned eu rheoli gan CNC. Faint yn rhagor o gamgymeriadau sydd angen eu cysylltu â CNC cyn y cymerir y camau pendant rwy'n eu hargymell?

Ymrwymodd eich cyllideb yn 2021 £64.7 miliwn i ddiogelu cymunedau rhag llifogydd ac erydu arfordirol, sy'n cynnwys adnoddau gwerth £27.2 miliwn a £37.5 miliwn o gyfalaf—dyrannwyd y rhan fwyaf, mewn gwirionedd, i CNC. Felly, rwy'n dal i bryderu a yw CNC yn gwneud y defnydd gorau posibl o'r miliynau a gânt. Y llynedd, tynnais sylw at y ffaith warthus, er bod CNC wedi nodi bod angen £150,000 i drwsio arglawdd Tan Lan yn Llanrwst, fod ffermwyr wedi llwyddo i'w wneud am £15,000. Felly, mae gwir angen gofyn a yw buddsoddiad CNC i ddiogelu cymunedau yn costio mwy nag y mae angen iddo mewn gwirionedd.

Pan fyddwn yn siŵr fod prosiectau amddiffyn rhag llifogydd yn cael eu cyflawni yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol, gallwn fod yn hyderus, am bob cynnydd o £1 yn y gwariant cynnal a chadw, fod bron i £7 yn cael eu harbed mewn gwariant cyfalaf ar amddiffynfeydd. Yn bwysig iawn, tynnodd adroddiad ar y cyd gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain a Flood Re sylw at y ffaith y gallai cynnydd o 50 y cant yn y gwariant cynnal a chadw presennol ychwanegu wyth mlynedd ar gyfartaledd at hyd oes amddiffynfeydd. Felly, mae'n ymddangos yn rhywbeth hynod o synhwyrol i'w wneud.

Yn ôl y strategaeth genedlaethol, nid oes gan berchnogion tir, partneriaid a rhanddeiliaid unrhyw ddyletswyddau eraill, ac eithrio rôl i'w chwarae fel perchnogion tir glannau afonydd neu berchnogion asedau. Yn ogystal â bod llawer o unigolion yn anymwybodol o'u cyfrifoldebau, ceir rhannau o gyrsiau dŵr cyffredin lle na wyddys pwy yw perchennog y tir, sy'n golygu nad oes unrhyw gamau'n cael eu cymryd i gynnal y glannau. Mae'r sefyllfa'n beryglus iawn mewn gwirionedd, felly byddwn yn falch pe baech yn ystyried—ac mae hwn yn wrthwynebiad adeiladol—ymgyrch barhaus i wella ymwybyddiaeth perchnogion glannau afonydd o'u cyfrifoldebau. Rhowch system ar waith sy'n nodi ac yn cynorthwyo perchnogion glannau afonydd nad ydynt yn cyflawni eu dyletswyddau, ac yn aml, pan ddônt yn ymwybodol o'r dyletswyddau hyn, byddant yn barod iawn i wneud hynny.

Fel y byddwch yn cytuno, rhaid ystyried perygl llifogydd cyn gynted â phosibl, nid yn unig er mwyn osgoi datblygiad amhriodol, ond hefyd i'w gwneud hi'n bosibl rheoli dŵr yn gynaliadwy. Felly, dylem weithredu ar alwadau Cymdeithas Yswirwyr Prydain i ddiwygio rheoliadau adeiladu mewn ymdrech i sicrhau bod lefel briodol o gydnerthedd yn erbyn llifogydd yn cael ei adeiladu i mewn i eiddo masnachol a domestig fel y safon. Yn ôl y dystiolaeth ar gyfer trydydd adroddiad Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd y DU—CCRA3—mae'r risgiau yng Nghymru sy'n sgorio'n uchel o ran eu maint yn y dyfodol a lle mae angen mwy o weithredu yn awr yn cynnwys llifogydd mwy difrifol a mynych i gartrefi, cymunedau a busnesau. Ceir corws cyfunol sy'n galw am weithredu mwy radical i ymladd llifogydd. Gwyddom ein bod yn cael llawer mwy o law mewn ychydig oriau yn awr nag y byddem yn arfer ei gael dros sawl diwrnod. Rwy'n gobeithio y gwnaiff y Senedd gyfan gydweithio yn awr i gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen; fodd bynnag, yn eich dwylo chi y mae'r dulliau, y pŵer a'r adnoddau, Weinidog, felly gofynnaf i chi weithio gyda ni ar draws y Siambr hon a gwneud y newidiadau sydd eu hangen yn awr. Diolch.

17:25

Diolch am roi munud o'ch amser i mi, Janet. Mae hwn yn bwnc pwysig, a diolch am ddod ag ef yma i'w drafod heno. Rwyf innau hefyd, fel nifer o bobl ar draws y Siambr a thu hwnt, yn rhannu eich pryderon ynglŷn â CNC. Ond i ddechrau'n gadarnhaol, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r cyhoeddiad am gynllun amddiffyn rhag llifogydd gwerth £10 miliwn y mae mawr ei angen yn Llyswyry yng Nghasnewydd yn fy rhanbarth i. Fodd bynnag, dros y ddau aeaf diwethaf, mae sawl ardal yn fy rhanbarth yn Nwyrain De Cymru heb gael cymorth. Mae llifogydd wedi effeithio'n sylweddol ar fy sir i, sef sir Fynwy, ac mae problemau llifogydd rheolaidd yno. Cafodd nifer o drigolion a ddioddefodd lifogydd ym mis Chwefror yn 2020, yn ystod storm Dennis, lifogydd eto fis Rhagfyr diwethaf. Mae un dafarn leol ym Mrynbuga, yr Olway, wedi dioddef llifogydd difrifol 20 gwaith yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, ac i wneud pethau'n waeth, nid ydynt erioed wedi cael unrhyw gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru na chefnogaeth gan CNC. Codi arian yn lleol yw'r hyn a'u helpodd i godi'n ôl ar eu traed y tro diwethaf.

Mae angen inni weld gweithredu gan Lywodraeth Cymru a CNC i atal rhagor o achosion o lifogydd rheolaidd sy'n dinistrio busnesau, cartrefi a bywoliaeth pobl. Mae'n hanfodol ein bod yn gweld buddsoddiad mwy difrifol mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd lle a phan fo'i angen i osgoi'r dinistr y mae llifogydd yn ei achosi, yn hytrach na'i adael a disgwyl canlyniadau gwahanol. Fel y dywedodd un o'ch Aelodau Llafur, Weinidog, rhaid i fuddsoddi yn ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon.

Rwy'n hynod ddiolchgar i'r Aelod dros Aberconwy am roi munud o'i hamser i mi heno. Mae llawer o drefi ledled Cymru wedi'u hadeiladu ger afonydd sy'n ymladd brwydr reolaidd yn erbyn y digwyddiadau glaw eithafol cynyddol sy'n digwydd ymhellach i fyny'r afon. Mae tref hynafol Caerfyrddin yn fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, yn un dref felly, sy'n dioddef yn rheolaidd yn sgil digwyddiadau o'r fath, yn enwedig ar gei'r dref, lle torrodd y Tywi ei glannau, gan orlifo dros ffyrdd a bygwth eiddo busnes dair gwaith dros gyfnod o naw wythnos yn ystod gaeaf 2020-21. Ar ôl mynychu cyfarfodydd gyda'r AS lleol a grŵp gweithredu a sefydlwyd gyda chynrychiolwyr busnesau lleol, siom enfawr i mi oedd clywed ei bod yn ymddangos bod CNC a Llywodraeth Cymru yn taflu'r baich o ddatblygu cynllun atal llifogydd ar gyfer yr ardal. Mae CNC bellach yn honni mai polisi Llywodraeth Cymru yw diogelu cartrefi cyn busnesau, ac, yn anffodus, gan mai siopau, swyddfeydd a bwytai sydd yn y rhan hon o Gaerfyrddin, mae'n ymddangos na chymerir camau ar unwaith i fynd i'r afael â'r broblem.

Nid Caerfyrddin yw'r unig le yr effeithiwyd arno gan ddiffyg gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n iawn ein bod yn diogelu cartrefi pobl, ond mae busnesau'n hanfodol i ffyniant economaidd yr ardal ac ni ddylai'r Llywodraeth eu hanghofio. Weinidog, rwy'n gobeithio bod dadl yr Aelod dros Aberconwy heddiw wedi cadarnhau difrifoldeb y mater unwaith eto ac efallai y bydd yn arwain at weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu i archwilio mesurau atal llifogydd megis carthu a rhwystrau llifogydd y gellir eu codi dros dro i ddiogelu trefi fel Caerfyrddin rhag llifogydd dinistriol yn y dyfodol. Diolch.

O, gallaf fynd drwy 30 eiliad heb unrhyw broblem. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n hyfryd gweld un Aelod o Blaid Cymru yma, ond mae'n drueni bod Llafur wedi esgeuluso hyn, fel y maent wedi ei esgeuluso ers blynyddoedd lawer. Mae llawer o drefi yn fy etholaeth, fel Llanfair-ym-Muallt, Pen-y-bont, Ystradgynlais, Aberhonddu, Crucywel—gallwn fynd ymlaen fel Janet Finch-Saunders, ond ni wnaf—yn dioddef problemau llifogydd yn flynyddol. Mae llawer o bobl yn y trefi hynny wedi dweud wrthyf fod carthu'n arfer cael ei wneud flynyddoedd yn ôl i leihau'r basleoedd yn ein hafonydd, ac ni welsom erioed lefelau llifogydd fel y rhai a welwn heddiw. Mae CNC yn dweud eu bod dan bwysau, eu bod yn or-fiwrocrataidd ac na ellir rhoi pethau drwy'r system, felly rwy'n gobeithio y gwnaiff y Gweinidog edrych ar garthu ein hafonydd i sicrhau bod ein trefi'n ddiogel ac nad ydym yn peri i bobl adael eu cartrefi, a bwrw ati i ymdrin â'r problemau y mae pobl yn eu hwynebu. Diolch.

17:30

Munud. Da iawn. [Chwerthin.]

Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru i ymateb i'r ddadl. Lesley Griffiths. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Janet Finch-Saunders, am gyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n falch iawn o gael cyfle i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwneud llawer mwy i ymladd llifogydd yn ein cymunedau nag erioed o'r blaen. Rwy'n credu bod y 18 mis blaenorol wedi dangos y realiti amlwg sy'n ein hwynebu yng Nghymru, sef bod yr argyfwng hinsawdd wedi cyrraedd. Mae digwyddiadau tywydd garw yn digwydd yn amlach, ac mae angen inni addasu. A dyna'r rheswm pam y mae'r Llywodraeth hon wedi creu gweinyddiaeth newid hinsawdd newydd, i roi pŵer inni wneud mwy a gwneud newidiadau sylweddol. 

Mae hwn yn gyfnod anodd i'n cymunedau yng Nghymru, a'r cyfan yn erbyn cefndir y pandemig iechyd cyhoeddus byd-eang, ond mae gwytnwch ein cymunedau yn rhyfeddol. Mae ein gwasanaethau brys a'n hawdurdodau rheoli risg wedi gweithio'n ddiflino yn dilyn llifogydd, gan atgyweirio seilwaith sydd wedi'i ddifrodi a gwneud eu gorau glas i gadw ein cymunedau'n ddiogel. Mae ymateb Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyflym ac yn sylweddol. Ers mis Chwefror 2020, rydym wedi darparu bron i £9 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i ariannu gwaith atgyweirio ar ein seilwaith llifogydd a draenio, gan gryfhau gwytnwch ein cymunedau. Darparodd Llywodraeth Cymru 100 y cant o'r costau yr aethpwyd iddynt wrth inni geisio rhoi sicrwydd i drigolion a ddioddefodd yn sgil y digwyddiadau hyn. At hynny, mae ein buddsoddiad parhaus wedi profi ei werth, gyda chynlluniau a gwblhawyd yn ddiweddar yn gweithio'n dda ac yn cadw pobl yn ddiogel er gwaethaf glawiad a lefelau afonydd uwch nag erioed. Dros y 18 mis diwethaf, mae ein hawdurdodau rheoli risg wedi gweithio gyda'i gilydd i gynnal eu hymchwiliadau a chyflawni gwelliannau i'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt. Blaenoriaeth y Llywodraeth hon bob amser fydd ein cymunedau, ond mae cynlluniau llifogydd mewn sefyllfa ddelfrydol i sicrhau manteision economaidd ac amgylcheddol lluosog. Mae trafnidiaeth a chyfleustodau yn debygol o fod o fudd i waith o'r fath, a'i gefnogi; wrth inni gynllunio ar gyfer y dyfodol, gallwn alinio ein rhaglenni ariannu er mwyn cael gwell gwerth am ein buddsoddiad cyfunol. 

O ran cyfathrebu, y rhanddeiliaid pwysicaf o hyd yw'r cymunedau rydym yn ceisio eu helpu. Ceir mannau anodd eu diogelu a sgyrsiau anodd, ond byddwn yn parhau i weithio gyda'n cymunedau i gynllunio ar gyfer eu dyfodol, yn enwedig yn yr ardaloedd sy'n wynebu risgiau sylweddol. Byddwn yn parhau i'w cefnogi wrth iddynt addasu. Bydd angen mwy o waith amddiffyn ar rai; efallai y bydd angen i eraill symud yn ôl i leoliad mwy diogel. Gwneir y penderfyniadau hyn drwy fonitro tystiolaeth sy'n esblygu a gweithio gyda'n hawdurdodau lleol, partneriaid cyflawni, ond yn bwysicaf oll, y bobl sy'n byw ac yn gweithio yno. 

Yn dilyn etholiad mis Mai, gwnaethom gyhoeddi ein rhaglen lywodraethu, ac rydym wedi ymrwymo i darged uchelgeisiol i ariannu gwaith amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer dros 45,000 o gartrefi. Byddwn hefyd yn cyflawni atebion ar sail natur i reoli llifogydd ym mhob prif dalgylch afon, gan ymestyn cynefinoedd gwlypdir a choetir yn y broses. At hynny, rydym yn cefnogi'r gwaith o adfer cynefinoedd glaswellt y môr a morfa heli ar hyd ein harfordir, sy'n darparu diogelwch ychwanegol i'r arfordir, ochr yn ochr â nifer o fanteision bioamrywiaeth. Mae'r ymrwymiadau hyn yn arwydd o'n bwriad i gyflawni. Rydym yn eu cefnogi gyda'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad, gan ganiatáu inni weithredu mwy o gynlluniau a defnyddio mwy o adnoddau. Eleni yn unig, byddwn yn buddsoddi dros £65 miliwn ledled Cymru i gefnogi'r rhai sy'n wynebu risg o lifogydd ac erydu arfordirol, ac mae hyn yn cynnwys buddsoddiad cyfalaf o £36 miliwn yn uniongyrchol mewn asedau rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd. Bydd ein rhaglen rheoli risg arfordirol yn gweld cynlluniau sylweddol yn dechrau eleni i leihau risgiau i'n cymunedau yn y presennol a'r dyfodol, gan gynnwys cynlluniau yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberaeron, Aberdyfi a Bae Penrhyn yng Nghonwy. Dyma neges glir gan y Llywodraeth hon na fyddwn yn derbyn llifogydd i gartrefi fel y normal newydd. Byddwn yn cynllunio'n ofalus ac yn buddsoddi yn y lleoedd cywir i leihau risg, cryfhau ein cymunedau a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd. 

Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi strategaeth genedlaethol newydd uchelgeisiol ar gyfer llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Mae'r strategaeth yn gwella'r ffordd rydym yn gweithio gyda'n gilydd i leihau risg, gan ddarparu'r cyfeiriad angenrheidiol drwy amcanion a mesurau clir. Mae'n canolbwyntio ar gyflawni gwelliannau—gwell cyfathrebu, atebion mwy naturiol a dulliau o weithredu ar sail dalgylchoedd, eglurder ynghylch cyfrifoldebau a chydweithredu cyffredinol, ffyrdd gwell o fapio risg ac asedau, atal risg yn y dyfodol drwy gryfhau polisi cynllunio, prosesau cryfach a chyflymu cynlluniau llifogydd.

Mae'r strategaeth yn ymwneud â mwy na dyheadau yn unig; mae wedi gosod nifer o fesurau ar gyfer barnu ei llwyddiant. Mae llawer eisoes wedi'u cyflawni: rydym wedi cyhoeddi cynllun llifogydd Cymru; rydym yn cynnal arolygon arfordirol i lywio penderfyniadau rheoli traethlin yn y dyfodol; rydym wedi lansio ein rhaglen rheoli llifogydd yn naturiol a ariennir yn llawn. Nid siarad yn unig am newid y mae'r Llywodraeth Cymru hon; mae'n ei gyflawni. Un o'r cerrig milltir mwyaf arwyddocaol yn ein strategaeth yw lansio'r diweddariad o'n canllawiau cynllunio ar gyfer perygl llifogydd ac arfordiroedd. Datblygwyd nodyn cyngor technegol newydd 15 ochr yn ochr â'r strategaeth genedlaethol, gan ategu a chryfhau ein polisi llifogydd. Mae'r ddau yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r risg a achosir gan newid yn yr hinsawdd.

Wrth i'n hinsawdd newid, mae patrymau llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru yn newid ac yn gwaethygu; mae digwyddiadau eithafol yn digwydd yn amlach. Mae ein strategaeth yn cydnabod bod llifogydd yn ymwneud â mwy nag afonydd a moroedd yn unig. Rydym yn rhoi pwyslais o'r newydd ar y risgiau sy'n gysylltiedig â llifogydd dŵr wyneb ac erydu arfordirol. Ac yn awr, am y tro cyntaf, mae cwmpas TAN 15 wedi'i ehangu i gynnwys y risg sy'n gysylltiedig â dŵr wyneb, cyrsiau dŵr llai, draenio ac erydu arfordirol. Bydd datblygiadau newydd yng Nghymru yn fwy diogel o ganlyniad. Ceir map llifogydd newydd i gyd-fynd â TAN 15 ar gyfer cynlluniau sy'n ymgorffori newid hinsawdd. Mae'r TAN 15 newydd, fel ein rhaglen lywodraethu, yn canolbwyntio ar y dyfodol. Pan fyddwn yn dewis lle i leoli cartrefi neu ysgolion neu ysbytai newydd, nid yw ardal sy'n agored i lifogydd, boed hynny heddiw neu ymhen 25 mlynedd, yn ddewis synhwyrol neu gynaliadwy.

Mae CNC wedi cyhoeddi gwasanaeth newydd 'gwirio eich perygl llifogydd', ac erbyn hyn mae gan ddeiliaid tai ffordd gyflym a hawdd o wirio'r risg i'w cartref o afonydd, y môr neu ddŵr wyneb. Mae'r gwasanaeth yn rhan o'n pecyn map llifogydd newydd i Gymru, a fydd hefyd yn dangos lle mae ein buddsoddiad o fudd i gymunedau ac yn lleihau perygl llifogydd ac arfordiroedd i bobl. Mae ein strategaeth yn cynnwys mesur allweddol sy'n cysylltu cynhyrchion map llifogydd Cymru â rheoli asedau fel y gall y cyhoedd weld sut y mae ein gwaith a'n buddsoddiad yn gwneud gwahaniaeth iddynt hwy.

Ond mae'n bwysig nodi bod natur ein hasedau rheoli perygl llifogydd yn newid. Y llynedd, pan oeddwn yn gyfrifol am lifogydd, cyhoeddais raglen newydd ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol er mwyn helpu i annog ein hawdurdodau rheoli risg i archwilio a datblygu prosiectau rheoli llifogydd yn naturiol, ac rydym wedi ariannu'r rhaglen gyda chymorth grant 100 y cant. Eisoes, mae'r rhaglen yn cynnwys 15 prosiect ar draws 10 awdurdod rheoli risg gwahanol, a dros gyfnod y rhaglen, byddwn yn buddsoddi dros £3 miliwn i leihau perygl llifogydd i dros 1,100 eiddo. Mae nifer o'r prosiectau hyn eisoes wedi'u cwblhau drwy waith ar y safle, ac maent yn gweithio i leihau perygl llifogydd i gymunedau yr effeithir arnynt. Dechrau'n unig yw'r rhaglen beilot hon; bydd yn ein helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o reoli llifogydd yn naturiol yng Nghymru a'r ffordd orau o gyflawni'r prosiectau hynny. Mae'n darparu enghreifftiau rhagorol o weithio mewn partneriaeth â'n cymunedau, gyda'n perchnogion tir a sefydliadau eraill. Ac mae hefyd yn dangos sut y mae prosiectau o'r fath nid yn unig yn lleihau perygl llifogydd ond yn darparu manteision amgylcheddol a chymdeithasol ehangach yn ogystal.

Roedd yn ddiddorol gweld cynllun llifogydd chwe phwynt trawsnewidiol y Torïaid ar gyfer Cymru yn gynharach eleni, ac rwy'n falch o'ch sicrhau bod y Llywodraeth eisoes wedi nodi'r hyn sydd yn eich cynllun llifogydd, y ffordd y maent eisoes yn cyflawni'r materion hynny, ac yn cyflwyno ffyrdd mwy cadarn o reoli a lleihau risg. Mae gan CNC ddyletswydd gyffredinol eisoes i oruchwylio'r gwaith o reoli perygl llifogydd ac mae'n gwneud gwaith rhagorol yn ymateb i ddigwyddiadau llifogydd, ochr yn ochr â'n hawdurdodau lleol a'n gwasanaethau brys wrth gwrs. Maent wedi cydnabod lle mae angen gwelliannau ac eisoes wedi cynyddu eu gwaith ar ragolygon, mapio, systemau rhybuddio am lifogydd ac ymateb i ddigwyddiadau llifogydd, yn dilyn y mesurau yn ein strategaeth a'r gwersi a ddysgwyd gennym yn 2020.

Mae gennym ein polisi llain las ein hunain yn TAN 15; fe fyddwch yn gwybod sut y caiff ei gryfhau i gydnabod risg gynyddol newid hinsawdd yn llawn. Rwyf wedi dangos heno sut y mae ein rhaglen fuddsoddi arfaethedig ar y lefelau uchaf erioed a sut y darparwyd cyllid brys ar unwaith yn dilyn digwyddiadau mawr mis Chwefror 2020.

Er ei fod yn fater a gadwyd yn ôl i raddau helaeth, mae yswiriant llifogydd yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi dylanwadu'n fawr ar y gwaith o'i siapio, gan gynnwys cyflwyno Flood Re. Rydym yn parhau i weithio gyda'r diwydiant i hyrwyddo'r cynllun hwn yn well a sicrhau bod trigolion yn gwybod sut y gellir gwneud defnydd ohono, hyd yn oed os yw wedi'i wrthod yn y gorffennol. Byddem yn croesawu mwy o gymorth i fusnesau, ond yn y pen draw, Llywodraeth y DU a wnaeth y penderfyniad i beidio â'u cynnwys yn Flood Re.

Nid ydym yn teimlo bod angen yr ymchwiliad annibynnol ar wahân y cyfeiriodd Janet Finch-Saunders ato i lifogydd 2020 yn Rhondda Cynon Taf, gan y byddai'n dargyfeirio amser swyddogion llifogydd oddi wrth y gwaith o gyflawni. Rhoddodd adroddiadau'r ymchwiliadau, ochr yn ochr ag adolygiad CNC o'r llifogydd, drosolwg cynhwysfawr ar y digwyddiadau llifogydd. Mae ein strategaeth newydd, ein canllawiau cynllunio a'n rhaglenni llifogydd ac arfordiroedd yn sicrhau newid ac yn gosod y cyfeiriad ar gyfer ffyrdd o weithio yn y dyfodol. Mae mwy i ddod, ond mae'r pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol yn archwilio ffyrdd o wella'r ddeddfwriaeth rydym yn gweithio o'i mewn, ac yn chwilio am ffyrdd newydd o gefnogi ein gwaith a chynyddu adnoddau. 

Yn anffodus, wrth i'r hinsawdd newid, rhaid i bawb ohonom addasu, ac mae'r Llywodraeth hon yn edrych tua'r dyfodol, gan annog ffyrdd newydd o weithio, tra'n sicrhau bod ein seilwaith hanfodol yn cadw ein cymunedau'n ddiogel. Diolch.

17:40

Daeth y cyfarfod i ben am 17:41.