Y Cyfarfod Llawn

Plenary

19/10/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda. A dwi hefyd eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod, ac yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.

Cyn i ni gychwyn ar ein hagenda ffurfiol ni heddiw, dwi eisiau dweud, ar ein rhan ni oll, dwi'n siŵr ein bod ni i gyd wedi'n hysgwyd gan y newyddion am farwolaeth Syr David Amess, Aelod Seneddol. Mae ein democratiaeth yn dibynnu ar allu ein haelodau etholedig i wrando ar ac i siarad â'r bobl rŷn ni'n eu gwasanaethu. Mi ddylai pob aelod etholedig, yn ddieithriad, allu gwneud y gwaith hwn yn ddiogel a heb ofn. Er gwaetha'r gwahaniaeth barn, mae ein parch tuag at y broses ddemocrataidd yn ein huno ni, ynghyd â'n hymrwymiad i wasanaethu'r cyhoedd. Mae'n meddyliau ni oll fel Senedd yma gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr David Amess, ac mi wnawn ni nawr gymryd ennyd o dawelwch mewn parch iddo. 

Cynhaliwyd munud o dawelwch.

Teyrngedau i Syr David Amess AS

Diolch i bawb. Dwi nawr yn galw ar arweinwyr y pleidiau i gyfrannu ychydig eiriau o deyrnged i David Amess, gan ddechrau gyda'r Prif Weinidog, Mark Drakeford. 

Llywydd, diolch yn fawr. Cyffredinedd anfadwaith sydd fwyaf iasol yn aml. Dyma gynrychiolydd etholedig yn cyflawni'r ddyletswydd bob dydd fwyaf cyffredin, fel yr oedd wedi ei wneud ers bron i 38 mlynedd. Dydd Gwener cyffredin, eglwys a allai fod wedi bod yn unman, ciw o bobl yn chwilio am gymorth neu gyngor. Faint o gannoedd ar gannoedd o weithiau nad yw'r olygfa honno wedi ei hailadrodd gan gynifer ohonom ni yma yn y Senedd hon wrth i ni gyflawni ein cyfrifoldebau democrataidd?

Heddiw, anfonwn neges o dristwch ac o gydymdeimlad at ffrindiau a theulu Syr David Amess, ond, yn y loes a'r arswyd, anfonwn y neges hon hefyd: rydym ni'n parhau, yn ymwybodol o'n diogelwch ein hunain a diogelwch ein staff, wrth gwrs, ond byth yn barod i gefnu ar ein cyfrifoldeb dros ddiogelwch democratiaeth Cymru a'r pethau bob dydd hynny sy'n ei chadw hi'n iach ac yn ei chadw hi'n gyflawn, ac y mae ein hetholwyr yn disgwyl i ni helpu ei chynnal.

Diolch, Llywydd. Ar ran grŵp Senedd y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n anfon fy nghydymdeimlad o'r galon at deulu, ffrindiau a chydweithwyr Syr David Amess. Mae'r newyddion ofnadwy am ei farwolaeth wedi arwain at sioc, dicter a thristwch ymhlith cynifer ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'n amlwg bod Syr David yn uchel ei barch a bod pobl ar draws y rhaniad gwleidyddol yn hoff iawn ohono. Mae teyrngedau a negeseuon gan gymaint o bobl a gan wleidyddion o bob plaid wedi eu gwneud, sy'n dangos safon y dyn yr ydym ni wedi ei golli.

Cynrychiolodd Syr David bobl Southend West a, chyn hynny, Basildon yn ddiwyd am bron i 40 mlynedd, ac yn y cyfnod hwnnw helpodd i gynorthwyo miloedd o bobl a hyrwyddo cynifer o achosion pwysig. Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol o'i angerdd at les anifeiliaid. Fel noddwr Sefydliad Lles Anifeiliaid y Ceidwadwyr, cefnogodd ymgyrchoedd fel y gwaharddiad ar hela llwynogod, profi ar anifeiliaid a ffermio cŵn bach ymysg materion eraill. Fodd bynnag, efallai mai'r achos yr oedd yn fwyaf adnabyddus amdano oedd ennill statws dinas i Southend, ei dref gartref annwyl, yr wyf i ar ddeall bod Ei Mawrhydi y Frenhines wedi ei gymeradwyo erbyn hyn. Yn wir, roedd yn amlwg yn AS etholaethol ymroddedig, a weithiodd yn galed i gynrychioli a chynorthwyo ei etholwyr, sy'n gwneud y cyfan yn fwy creulon byth iddo gael ei gymryd oddi arnom ni wrth gyflawni ei ddyletswyddau etholaethol. Ond yn anad dim, roedd yn ŵr a thad annwyl iawn i'w wraig a'i blant, ac yn ffrind a chydweithiwr i gynifer.

Yn dilyn marwolaeth drasig Syr David, mae Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle, wedi galw am roi terfyn ar y casineb sy'n ysgogi ymosodiadau yn erbyn gwleidyddion. Mae'n iawn i ddweud os oes unrhyw beth cadarnhaol i fod o ganlyniad i'r drasiedi ofnadwy ddiweddaraf hon, yr angen i newid ansawdd y drafodaeth wleidyddol yw hynny. Mae'n rhaid i'r sgwrs fod yn fwy caredig ac wedi ei seilio ar barch. Gwleidyddion, ymgyrchwyr a'r cyfryngau, mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae o ran hyrwyddo dadl a thrafodaeth iach, yn seiliedig ar syniadau a pharch. Ac eto, yn rhy aml, defnyddir iaith ymfflamychol, caiff sylwadau ymosodol ac atgas eu postio ar-lein, ac mae erthyglau a naratifau'r cyfryngau yn demoneiddio ffigyrau cyhoeddus ac yn eu bychanu. Mae'n rhaid i ni gamu ymlaen a hyrwyddo ffordd o weithio sydd wedi ei seilio ar barch at ein gilydd fel bodau dynol. Mae'n rhaid i ni dynnu sylw at gasineb pan fyddwn ni'n ei weld ac ymrwymo i ddadwenwyno ein tirwedd wleidyddol.

Roedd yr ymosodiad ar Syr David yn ymosodiad ar ein democratiaeth, ac felly, Llywydd, y deyrnged fwyaf y gallwn ni i gyd ei rhoi i Syr David yw parhau â'n dyletswyddau a chynrychioli ein hetholwyr hyd eithaf ein gallu. Ond am y tro, serch hynny, mae ein meddyliau gyda theulu Syr David a phawb a oedd yn ei adnabod ac yn ei garu. Boed iddo orffwys mewn hedd. Diolch.

13:35

Diolch, Llywydd. Mae marwolaeth Syr David Amess wedi bwrw'r cwmwl tywyllaf dros ein democratiaeth, ond gallwn ei gofio gyda hoffter a chynhesrwydd, oherwydd, ym mhobman yr aeth, daeth David â goleuni. Ef oedd yr union symbol o'r hyn y dylai seneddwr fod—dyn o egwyddor ddofn ond gyda'r anwyldeb ehangaf, argyhoeddiad cryf ond â chalon garedig, a fu farw fel y bu fyw, yn gwrando ar y bobl. Prin yw'r bobl yr wyf i erioed wedi cyfarfod â nhw yr oedd y term 'gwir anrhydeddus gyfaill' yn fwy addas ar eu cyfer.

Fe wnes i ddod i adnabod Syr David yn ystod fy nghyfnod yn San Steffan. Roedd yn Geidwadwr diffuant, ond roedd hefyd yn ymgorffori annibyniaeth meddwl a oedd yn codi uwchlaw gwleidyddiaeth bleidiol. Fe wnaeth fy nghefnogi ar bwynt o egwyddor yn sgil rhyfel Irac, gan lofnodi fy nghynnig uchelgyhuddiad—gweithred o gydweithredu trawsbleidiol a chyfeillgarwch eclectig a oedd yn nodweddiadol o agwedd David at fywyd ac at wleidyddiaeth. Pryd bynnag y dychwelais i San Steffan yn y blynyddoedd diwethaf, byddai bob amser yno gyda'r wên fwyaf gwresog honno, gan ddweud gyda'r caredigrwydd dengar a oedd yn nodweddiadol ohono faint yr oedd Tŷ'r Cyffredin yn dlotach hebof i. Mae'n fythol dlotach heb ddyn fel fe.

Mae'r ffaith bod rhywun mor ymroddedig i'w filltir sgwâr wedi ei ladd yn yr union gymuned yr oedd yn ei charu ac yn ei gwasanaethu yn gwneud digwyddiadau trasig ddydd Gwener diwethaf gymaint yn fwy poenus ac ingol. Wrth i ni gofio Syr David a dathlu ei fywyd, gadewch i ni hefyd aros yn driw i'n gwerthoedd cyffredin, fel cynrychiolwyr y bobl, yn union fel y gwnaeth David bob dydd o'i fywyd nodedig. Nid oes teyrngedau mwy na'r rhai a roddwyd gan bobl Southend West, a roddodd eu hymddiriedaeth ynddo—y rhai iddo eu helpu, y rhai iddo eu hyrwyddo, a'r rhai yr ymladdodd eu brwydrau. Gadewch iddyn nhw fod yn ffynhonnell o gysur i lenwi'r bwlch. Ond nid oes dim mwy o golled na'r hyn a deimlir gan ei deulu. Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda nhw, ac, ar ran Plaid Cymru, anfonaf ein cydymdeimlad mwyaf diffuant ar yr adeg anhygoel o anodd hon.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch yn fawr am y cyfle i ddweud ychydig iawn o eiriau ar yr adeg hon. Er nad oeddwn i'n adnabod Syr David yn bersonol, mae'n amlwg i mi a phawb pa mor angerddol yr oedd dros yr hyn yr oedd yn ei wneud—dros dlodi tanwydd, lles anifeiliaid, cynrychioli ei etholwyr ac, yn wir, Southend. Cafodd Syr David ei ladd wrth gynnig cymorth i'w etholwyr—y swydd bwysicaf sydd gennym ni fel gwleidyddion. Un peth rwyf i wedi ei glywed yn fwy na dim byd arall dros y penwythnos yw bod Syr David bob amser yn gwrtais wrth gymryd rhan mewn dadl wleidyddol, hyd yn oed gyda'r rhai yr oedd yn anghytuno'n llwyr â nhw. Gallwn ni i gyd ddysgu bod yn garedig ac yn wresog, fel Syr David, hyd yn oed pan fyddwn ni'n anghytuno. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

13:40
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf, felly, ar ein hagenda ni yn ffurfiol yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Natasha Asghar. 

Coronafeirws a Theitho Rhyngwladol

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofynion coronafeirws ar gyfer teithwyr rhyngwladol o Gymru? OQ57043

Llywydd, mae'n anochel bod teithio rhyngwladol yn dod â'r risg o fewnforio heintiau coronafeirws newydd, yn enwedig amrywiolion newydd, i'r Deyrnas Unedig. Mae mesurau iechyd ar y ffin yn amddiffyniad pwysig rhag risgiau o'r fath. Mae Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo yn gyson ddull rhagofalus o ailagor teithio rhyngwladol.

Diolch, Prif Weinidog. Prif Weinidog, rwyf i wedi sefyll yma lawer gwaith, ac rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi ateb achosion unigol, ond mae nifer o etholwyr wedi gofyn i mi am fater yr hoffwn ei godi gyda chi heddiw, yma yn y Siambr. Nawr, mae teulu, fel y dywedais i, wedi cysylltu â mi gan eu bod yn cael anhawster wrth geisio cael pasbortau COVID ar gyfer teithio dramor. Yn gynharach eleni, roedden nhw'n destun cyfyngiadau symud ym Mhortiwgal ac, yn ystod y cyfnod hwn, cawson nhw gynnig brechiadau a'u cael ynghyd â'r cardiau priodol yn cofnodi'r ffaith hon. Maen nhw bellach yn canfod bod gwledydd y maen nhw'n dymuno teithio iddyn nhw ac ymweld â nhw yn mynnu cael pasbortau COVID swyddogol, a byddai methu â chyflwyno'r ddogfen ychwanegol honno yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw brofi a chael eu gosod dan gwarantin am bythefnos. Fe wnaethon nhw gysylltu â chanolfan pasbortau COVID GIG Cymru a dywedwyd wrthyn nhw nad oes system, fel y cyfryw, ar gyfer cyflwyno pasbortau COVID i unrhyw un nad ydyn nhw wedi eu brechu yma yng Nghymru. Wrth chwilio drwy dudalennau gwe Portiwgal, canfu fy etholwyr fod yr awdurdodau yno yn cyflwyno pasbortau COVID i drigolion am ddim, ond yn anffodus nid ydyn nhw'n drigolion Portiwgal. A wnewch chi roi gwybod sut y gall pobl yma yng Nghymru, o dan yr amgylchiadau hyn, gael pasbortau COVID i'w caniatáu i deithio dramor yn rhydd? Diolch.

Wel, Llywydd, fel y dywedodd yr Aelod, mae yn anodd rhoi cyngor ar achosion unigol wrth ateb cwestiynau. Y sefyllfa gyffredinol yw bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar y trefniadau cydnabod brechlynnau estynedig, a gyhoeddwyd pan gyflwynwyd y gyfres ddiweddaraf o newidiadau, gyda Llywodraeth y DU. Dylai hynny olygu y bydd pobl sydd wedi eu brechu mewn gwledydd eraill, lle mae eu trefn frechu yn bodloni'r safonau sydd wedi eu pennu gan ein rheoleiddiwr ein hunain, yn gallu cael tystysgrif brechlyn yma yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru. Ond mae hwnnw yn amddiffyniad pwysig—bod yn rhaid i frechlynnau sy'n cael eu gweinyddu mewn mannau eraill yn y byd fod yn frechlynnau sy'n cael eu cydnabod, y byddai ein system ni o'r farn eu bod yn rhoi diogelwch i'r unigolion hynny, a bod y drefn y darperir y brechlynnau hynny yn unol â hi yn un a fyddai'n gwrthsefyll craffu. Cyn belled ag y bo'r pethau hynny ar waith, cytunwyd ar ryddfrydoli sylweddol ledled y Deyrnas Unedig, gyda mwy o wledydd yn cael eu cydnabod at y dibenion hyn, ac felly gall ein system ein hunain gadarnhau mwy o ardystiadau brechlyn. Pa un a yw hynny yn berthnasol yn achos yr unigolyn y mae'r Aelod yn cyfeirio ato, byddai angen rhagor o fanylion arnaf er mwyn gallu penderfynu.

Cynorthwywyr Dysgu

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl cynorthwywyr dysgu mewn ysgolion? OQ57082

Diolch yn fawr am y cwestiwn, Llywydd. Roedd diwygiadau yn 2019 wedi codeiddio cyfres o safonau proffesiynol cenedlaethol ar gyfer cynorthwywyr dysgu. Roedd hyn yn ei gwneud yn orfodol iddynt gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Cyrff llywodraethwyr ac awdurdodau addysg lleol sy’n cyflawni cyfrifoldeb y cyflogwr ar gyfer y rhan werthfawr ac annatod hon o weithlu’r ysgol.

Diolch am yr ateb, Brif Weinidog. Wel, mae cymorthyddion dosbarth yn rhan hanfodol o weithlu addysg ein gwlad. Maen nhw'n partoi gwersi i'r disgyblion, yn cymryd grwpiau allan i ddysgu, yn rhoi sylw un-i-un i ddisgyblion ag anghenion dysgu, yn cymryd gwersi pan nad oes athro ar gael, ymhlith pethau eraill. Fel cyn-lywodraethwr am sawl blwyddyn, rôn i'n gweld gwerth eu cyfraniad i addysg y plant yn ddyddiol. Diolch amdanynt. Maen nhw'n gweithio mewn amgylchiadau anodd iawn ac yn cael cyflogau andros o isel am eu gwaith caled. Yn wir, yn wahanol i athrawon, dydyn nhw ddim yn derbyn cyflog yn ystod tymhorau'r gwyliau. Onid ydy o'n bryd i'r Llywodraeth sicrhau bod telerau gwaith a chyflogau ein cymorthyddion, ynghyd â chyfleoedd hyfforddi, yn cael eu gosod yn unffurf ar draws Cymru a bod ein cymorthyddion, felly, yn derbyn y gydnabyddiaeth angenrheidiol am eu gwaith? 

13:45

Diolch yn fawr i Mabon ap Gwynfor am y cwestiwn ychwanegol yna, a dwi'n cytuno â phopeth a ddywedodd e am y rhan hanfodol y mae pobl sy'n gweithio yn y maes hwn yn ei chyfrannu at addysg plant ledled Cymru. Ar ddiwedd y dydd, bwrdd y llywodraethwyr ac awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gyflogi'r bobl sy'n gweithio fel TAs. Ond mae grŵp gyda ni, o dan y fforwm ysgolion sydd gyda ni—so, is-grŵp sydd wedi cael ei sefydlu nôl yn y tymor diwethaf. Roedd y grŵp wedi cael ei gadeirio gan yr undeb Unison tan fis Chwefror y flwyddyn hon. Nawr, mae pennaeth un o'r ysgolion ym Mlaenau Gwent yn cadeirio'r grŵp. Maen nhw wedi edrych i mewn i nifer o'r pethau sy'n gallu codi safonau yn y maes, ac i gydnabod y cyfraniad mae'r bobl yn ei wneud. Maen nhw wedi cyhoeddi'r papur nôl ym mis Gorffennaf, a'r bwriad yw y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad i'r Senedd yn y mis nesaf. Yn Saesneg, achos mae'r adroddiad gyda fi fan hyn yn Saesneg, mae wedi canolbwyntio ar dri peth: 

safoni swyddogaethau, cysondeb wrth ddefnyddio, a symud i raddfeydd cyflog cyffredin ledled Cymru.

So, beth maen nhw'n siarad amdano, Llywydd, yw fframwaith cenedlaethol, lle mae'r cyfrifoldebau lleol yn dal i fod yna. 

Cyn i mi ddechrau, a gaf i ddatgan buddiant, gan fod fy ngwraig wedi ei chyflogi yn gynorthwyydd addysgu? Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i gynorthwywyr addysgu, yn ogystal â holl staff ysgolion, yn sir Fynwy a thu hwnt am bopeth y maen nhw wedi ei wneud i helpu plant a phobl ifanc gyda'u dysgu drwy gydol y pandemig. Prif Weinidog, mae llwyth gwaith cynorthwywyr addysgu wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y pandemig. Bu'n rhaid i lawer gamu i mewn i addysgu dosbarthiadau oherwydd absenoldebau athrawon a phrinder staff, yn ogystal â chynorthwyo plant gyda dysgu ar-lein, ac mae hyn ar ben eu dyletswyddau arferol yn yr ystafell ddosbarth. Gallai'r dyletswyddau ychwanegol hyn gael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant meddwl llawer o gynorthwywyr addysgu, ac mae'n bwysig bod cymorth digonol ar gael. Ac eto, canfu arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg mai dim ond 7.4 y cant o'r ymatebwyr oedd wedi defnyddio diwrnodau llesiant, a bod 8.8 y cant wedi defnyddio cyrsiau hyfforddi ar lesiant a ddarparwyd gan ysgolion. Prif Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi iechyd a llesiant cynorthwywyr addysgu, a beth arall all y Llywodraeth ac awdurdodau addysg lleol ei wneud i hyrwyddo'r defnydd o'r gwasanaethau sydd eisoes ar gael i staff? Ac rwy'n gwerthfawrogi yr ateb yr ydych chi newydd ei roi.

Diolch i Peter Fox am hynny, Llywydd, ac rwy'n cytuno ag ef am y cyfraniad y mae cynorthwywyr addysgu a chynorthwywyr addysgu lefel uwch yn ei wneud yn yr ystafell ddosbarth, a'r baich y mae ymateb i'r pandemig wedi ei roi arnyn nhw, ochr yn ochr â'r holl bobl eraill sy'n gweithio yn ein gwasanaeth addysg. Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i elusen yn y DU. Education Support yw ei enw, ac mae'n sefydliad sydd wedi ymrwymo i gynorthwyo iechyd a llesiant meddwl pobl yn yr ystafell ddosbarth. Ac rydym ni wedi bod yn eglur iawn erioed yn Llywodraeth Cymru ein bod ni, drwy hynny, yn golygu holl staff yr ystafell ddosbarth ac, yn wir, holl staff ysgolion yma yng Nghymru.

Mae'r rhaglenni cymorth a gynigir gan Education Support wedi cynnwys elfen newydd o hyblygrwydd er mwyn ymateb i'r pandemig, ac rydym ni'n awyddus dros ben yn wir i wneud yn siŵr bod y pecyn cymorth hwnnw yn cael ei hysbysebu yn dda i staff yma yng Nghymru fel y gallan nhw fanteisio arno. Yn y pecyn cymorth hwnnw, ceir rhywfaint o ddeunydd ychwanegol a phwrpasol y bwriedir yn benodol iddo adlewyrchu profiadau cynorthwywyr addysgu. Felly, rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Peter Fox, bod mwy y gellir ei wneud yn lleol ac yn genedlaethol i hysbysebu'r cymorth sydd ar gael, i wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod ei fod yno, i wybod bod ystyriaeth wedi ei rhoi i wneud yn siŵr ei fod yn berthnasol iddyn nhw ac y gallan nhw ei ddefnyddio, ac yna i wneud yn siŵr, wrth i'r adnodd hwnnw gael ei ddatblygu ymhellach, ein bod ni'n ystyried y profiadau y bydd pobl yn eu hadrodd ac wedi mynd drwyddyn nhw yn ddiweddar.

13:50
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fe'i gwnaed yn eglur gennych chi ddoe eich bod chi'n ceisio sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd ymchwiliad COVID y DU gyfan yn canolbwyntio yn ddigonol ar benderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru. Os ydych chi mor bryderus na fydd ymchwiliad y DU gyfan yn ymchwilio yn ddigonol i Lywodraeth Cymru, pam na wnewch chi ymrwymo i ymchwiliad annibynnol i Gymru?

Wel, am y rhesymau niferus yr wyf i wedi eu hegluro o'r blaen, Llywydd. Cefais i gyfle ddoe i gyfarfod â Phrif Weinidog y DU. Roedd yn gyfarfod eang, ond roedd gen i ddau fater yn arbennig yr oeddwn i eisiau gwneud yn siŵr fy mod i'n eu codi yn uniongyrchol gyda Phrif Weinidog y DU yn y cyfarfod hwnnw. Un oedd mater diogelwch tomenni glo a'i bwysigrwydd yma yng Nghymru, a'r llall oedd mynd ar drywydd y cyfarfod yr oeddwn i wedi ei gynnal gyda theuluoedd mewn profedigaeth yma yng Nghymru a chyfleu rhai o'r pwyntiau y gwnaethon nhw i mi i Brif Weinidog y DU. A'r hyn a ofynnais i Brif Weinidog y DU oedd, i Gymru fod yn rhan o ymchwiliad y DU y mae wedi ei gynnig ac yn y ffordd y mae wedi gofyn i ni gymryd rhan, roedd angen i mi allu rhoi sicrwydd i bobl eraill na fyddai Cymru, yn y term a ddefnyddir weithiau, yn droednodyn mewn ymchwiliad ar gyfer y DU, y byddai'r ymchwiliad yn rhoi pwyslais penodol ar brofiad Cymru, y byddai'n mynd i'r afael â'i ymchwiliadau mewn ffordd a oedd yn rhoi digon o gyfle i bobl yng Nghymru gymryd rhan uniongyrchol ynddo, ac, wrth adrodd, y byddai deunydd yn yr adroddiad yn canolbwyntio yn uniongyrchol ar y ffordd yr oedd penderfyniadau wedi eu gwneud yma yng Nghymru. Rhoddodd Prif Weinidog y DU atebion cadarnhaol i hynny i gyd, gan gydnabod y pwyntiau a wnaed ac ailddatgan ei ddymuniad y byddai dimensiwn Cymru, yn ei eiriau ef, o brofiad y coronafeirws, yn cael ei ymchwilio yn briodol ac yna'n cael ei adrodd o fewn y cyd-destun ehangach, na allwch chi wneud synnwyr priodol o'r hyn a ddigwyddodd yng Nghymru hebddo na rhoi'r atebion y bydd pobl, yn gwbl briodol, yn disgwyl i'r ymchwiliad eu darparu.

Ond, Prif Weinidog, nid oes dim rheswm pam na all Llywodraeth Cymru gymryd rhan mewn ymchwiliad y DU gyfan ac ymchwiliad Cymru. Mae'n rhaid i Lywodraeth agored a thryloyw fod yn atebol i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu, ac mae pobl Cymru yn haeddu atebion. Mae'n ymddangos mai, 'Cyfrifol, ond heb gael ei dwyn i gyfrif' yw mantra'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Nawr, mae sefydliadau fel y grŵp teuluoedd mewn profedigaeth, Medics 4 Mask Up Wales a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint i gyd wedi ymuno â galwadau am ymchwiliad i Gymru. Mae'n bryd i'ch Llywodraeth wneud y peth iawn ac ymrwymo i'r ymchwiliad hwnnw. Mae ymchwiliad i Gymru yn rhan angenrheidiol o helpu'r wlad i ddeall sut y gwnaed penderfyniadau a pha un a ddysgwyd gwersi yn wir. Felly, a ydych chi'n derbyn bod gwrthod ymchwiliad i Gymru nid yn unig yn sarhau'r ymgyrchwyr hynny sy'n brwydro yn ddiflino am atebion, ond hefyd yn tanseilio gallu Cymru i liniaru yn erbyn bygythiadau yn y dyfodol, os na allwn ni ddeall y broses o wneud penderfyniadau drwy gydol y pandemig?

Wel, Llywydd, gwrandewais i'n astud ar yr hyn a ddywedodd yr Aelod yn ei gyfraniad cyntaf ar lawr y Senedd y prynhawn yma. Nid wyf i'n credu bod defnyddio termau fel 'sarhau' yn gyson â'r hyn a ddywedodd yn gynharach am yr angen i gynnal trafodaethau cyhoeddus ar sail parch ac ymddiriedaeth tuag at ein gilydd. Nid wyf i'n dod i fy nghasgliadau ar sail dymuno sarhau neb; rwy'n dod i fy nghasgliadau gan fy mod i o'r farn y bydd yr atebion sydd eu hangen ar bobl yng Nghymru yn cael eu darparu yn well, byddan nhw'n cael gwell atebion, os oes pwyslais ar Gymru o fewn ymchwiliad y DU. Oherwydd nid wyf i'n credu y gallwch chi wneud synnwyr priodol o'r penderfyniadau niferus a wnaed yma yng Nghymru heb ddeall y berthynas rhwng y penderfyniadau hynny a'r cyd-destun ehangach y cawson nhw eu gwneud ynddo.

Mae ein safbwynt yn dal i fod fel y bu ers wythnosau lawer. Cyn belled â'n bod ni'n cael y sicrwydd yr ydym ni'n chwilio amdano gan Lywodraeth y DU y bydd y pwyslais hwnnw ar benderfyniadau yma yng Nghymru, y bydd pobl yng Nghymru yn cael atebion i'w cwestiynau yn ymchwiliad y DU, yna rwy'n credu y bydd hynny yn rhoi gwell atebion iddyn nhw. Os na chawn ni'r sicrwydd hwnnw, os nad ydym yn sicr y byddwn yn cael y pwyslais ar brofiad Cymru sydd ei angen arnom ni, yna bydd hynny yn gwneud i ni feddwl eto.

13:55

Os na wnewch chi ymrwymo i ymchwiliad penodol i Gymru, bydd pobl yn meddwl bod eich Llywodraeth yn osgoi craffu ac yn gwrthod gwneud ei hun yn atebol i'w phobl. Er y bydd ymchwiliad y DU gyfan yn ystyried penderfyniadau rhynglywodraethol, a hynny'n briodol, gallai ymchwiliad i Gymru ganolbwyntio yn llwyr ar y ffordd y mae eich Llywodraeth chi wedi ymdrin â'r pandemig. A gadewch i ni beidio ag anghofio mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am beidio â sicrhau profion i bobl cyn cael eu rhyddhau o'r ysbyty, gan ganiatáu i'r feirws fynd i mewn i leoliadau gofal Cymru. Yn wir, ar ôl i Loegr gyflwyno profion torfol mewn cartrefi gofal yn ystod y don gyntaf yn 2020, fe wnaethoch chi ddweud na allech chi weld unrhyw werth mewn cyflwyno profion ar draws cartrefi gofal Cymru. A gadewch i ni beidio ag anghofio mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am fethu â deall y sefyllfa o ran heintiau a ddaliwyd yn yr ysbyty. Yn wir, yn dilyn adroddiadau am gynnydd o 50 y cant mewn wythnos i heintiau a ddaliwyd yn yr ysbyty, dywedodd y Gweinidog iechyd ar y pryd nad oedd yn credu ei fod allan o reolaeth, ond ei fod yn risg wirioneddol. A gadewch i ni beidio ag anghofio mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am fethu ag anfon mwy na 13,000 o lythyrau gwarchod i'r cyfeiriadau cywir ym mis Ebrill a mis Mai y llynedd.

Felly, Prif Weinidog, mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Felly, pam na wnewch chi roi i deuluoedd y rhai hynny a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig yr atebion sydd eu hangen arnyn nhw a'r heddwch y maen nhw'n ei haeddu? A pham na wnewch chi dderbyn ymchwiliad y DU gyfan ac, yn wir, ymchwiliad i Gymru, fel y gellir craffu yn llawn ar y ffordd y mae eich Llywodraeth wedi ymdrin â'r pandemig a dwyn eich Gweinidogion i gyfrif? Mae pobl Cymru yn haeddu hynny.

Llywydd, rwyf i wedi ymrwymo yn llwyr i gael craffu priodol ar benderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru, ymchwiliad iddyn nhw ac atebolrwydd o ganlyniad i hynny. Nid wyf i wedi fy narbwyllo y bydd ymchwiliadau sy'n gorgyffwrdd ac yn cystadlu yn rhoi'r atebion gorau i bobl y mae angen yr atebion hynny arnyn nhw. Tra bod Prif Weinidog y DU—tra bod ei Brif Weinidog ef—yn parhau i gynnig y sicrwydd i mi y bydd profiadau yma yng Nghymru yn cael y sylw sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw'n ei haeddu ac yn gwneud hynny o fewn y cyd-destun ehangach y gall ymchwiliad y DU yn unig ymchwilio iddo, yna rwy'n fodlon parhau â'r cytundeb a wnes i gyda Phrif Weinidog y DU ar y dechrau. Ceir rhai profion pwysig i Lywodraeth y DU o hyd, ac maen nhw'n dod yn y tymor byr. Mae Prif Weinidog y DU wedi dweud wrth deuluoedd mewn profedigaeth y bydd yn penodi cadeirydd yr ymchwiliad hwnnw yr ochr hon i'r Nadolig. Rwy'n disgwyl i Brif Weinidogion gwledydd eraill y DU fod yn rhan o'r penodiad hwnnw. Os byddaf i'n darllen amdano mewn datganiad i'r wasg, neu os wyf i'n cael gwybod amdano hanner awr cyn ei gyhoeddi, yna mae'n anochel y bydd amheuaeth ynghylch y synnwyr o gyfranogiad gwirioneddol a chyfle gwirioneddol i graffu ar ddimensiwn Cymru fel y mae angen ei wneud yn yr ymchwiliad hwnnw.

Ddoe, rhoddodd Prif Weinidog y DU sicrwydd i mi y byddai Llywodraethau datganoledig yn cael eu cynnwys yn briodol ac yn rhan o'r penodiad hwnnw, o'r cylch gorchwyl, o arferion gwaith ymchwiliad y DU, ac edrychaf ymlaen at weld hynny yn cael ei gadarnhau yn ymarferol.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, heddiw, mae eich Llywodraeth wedi cyhoeddi cyd-gadeiryddion y comisiwn annibynnol a fydd yn bwrw ymlaen â'r sgwrs genedlaethol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Gyda'r Athro McAllister a Dr Williams, rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn bod gennym ni ddau unigolyn gwefreiddiol i arwain y gwaith hwn. Ymysg ei amcanion, bydd y comisiwn yn, ac rwy'n dyfynnu,

'Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru'.

A wnewch chi gadarnhau y bydd hynny yn cynnwys, am y tro cyntaf erioed yn achos corff sefydledig swyddogol, waith difrifol a sylweddol ar annibyniaeth i Gymru?

14:00

Llywydd, rwy'n diolch i Adam Price am yr hyn a ddywedodd am gyd-gadeiryddion y comisiwn annibynnol. Rwy'n credu ei fod yn iawn. Mae'n anodd meddwl am unrhyw ffigwr o Gymru sy'n ennyn mwy o barch—nid yn unig yng Nghymru, ond ar lwyfan y byd—na Dr Rowan Williams. Gyda'r Athro Laura McAllister, mae gennym ni un o'r arbenigwyr blaenllaw ar y pwnc a fydd yn ganolog i'r comisiwn.

Gallaf yn sicr gadarnhau, fel y dywedodd yr Athro McAllister heddiw, y bydd y comisiwn yn edrych ar y gyfres gyfan o wahanol fathau o ddyfodol cyfansoddiadol posibl i Gymru. Mae cylch gorchwyl y comisiwn yn sicr yn caniatáu i annibyniaeth gael ei hystyried yn un o'r opsiynau hyn. Mae'n caniatáu i unrhyw berson sydd â safbwynt ar y ffordd orau o lunio dyfodol cyfansoddiadol Cymru ddod i'r comisiwn i gyflwyno ei achos dros hynny. Byddai'n hurt—ac rwy'n credu mai dyna'r gair a ddefnyddiodd yr Athro McAllister—i ddiystyru annibyniaeth.

Ond, nid oes dim byd arall yn cael ei ddiystyru chwaith. Os caf i'r cyfle, byddaf i'n sicr yn rhoi fy nhystiolaeth i'r comisiwn mai datganoli sefydledig mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus yw'r cyfansoddiad gorau i Gymru. Ond, bydd Plaid Cymru—ac rwy'n croesawu yn fawr iawn yr hyn a ddywedodd llefarydd Plaid Cymru am ymgysylltu adeiladol a gwneud pob defnydd o'r cyfle y mae'n ei gyflwyno—yn gallu cyflwyno ei dadl dros wahanol ddyfodol cyfansoddiadol.

Rwy'n siŵr na fyddai ots gan y Prif Weinidog i mi ddweud y bydd llawer yn y mudiad annibyniaeth o'r farn bod y cadarnhad ymhlyg gan Lywodraeth Lafur Cymru y gellir ystyried annibyniaeth yn opsiwn blaengar, er nad dyna'r opsiwn yr ydych chi'n ei ffafrio, yn amlwg, yn garreg filltir bwysig. Rydym ni yn wir, ar ein hochr ni, yn edrych ymlaen at ymgysylltu yn adeiladol â'r comisiwn.

Pa bynnag gasgliad y bydd yr adroddiad yn dod iddo yn y pen draw—pa un a yw'n cefnogi y dewis o ddyfodol yr ydych chi'n ei ffafrio, Prif Weinidog, o ffederaliaeth radical, neu ein dyfodol amgen ni o annibyniaeth—onid yw man cychwyn y comisiwn yr un mor bwysig â'i fan terfyn, yn yr ystyr hwn? Oherwydd ei fod yn dynodi penderfyniad newydd cyffredin na ddylem ni aros i'n dyfodol cyfansoddiadol gael ei ddewis drosom ni yn ddiofyn gan benderfyniadau yn San Steffan neu, yn wir, datblygiadau mewn mannau eraill yn yr ynysoedd hyn, ond y dylem ni benderfynu drosom ni ein hunain; na ddylem ni fod ar yr ymylon nac yng nghysgodion trafodaethau rhywun arall, ond y dylem ni roi Cymru mewn safle blaenllaw yn ein dadl ein hunain.

Wel, Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno mai dyna'n union yw diben y comisiwn: i gymryd cyfrifoldeb am ein dyfodol ni ein hunain. Rwy'n credu bod hon yn adeg arbennig o bwysig i ni wneud hynny. Yn ystod y tymor Senedd hwn, wrth i ni i gyd eistedd yma, mae'n debygol iawn y bydd refferendwm arall ar annibyniaeth yn yr Alban.

Nid wyf i'n aml yn dyfynnu Iain Duncan Smith yma, Llywydd—[Chwerthin.]—ond fe wnaf i eithriad heddiw. Rwy'n credu iddo ddweud wrth gynhadledd y Blaid Geidwadol fod dyfodol Gogledd Iwerddon yn fwy ansicr heddiw nag ar unrhyw adeg yn y gorffennol, oherwydd effaith penderfyniad Brexit a'r ansicrwydd ynghylch protocol Gogledd Iwerddon. Mae'r Deyrnas Unedig mewn sefyllfa fregus, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni, fel Llywodraeth gyfrifol ac fel Senedd gyfrifol, yn dod o hyd i ffordd o fapio ein dyfodol ein hunain yn yr oes gythryblus yr ydym ni'n byw ynddi.

Llywydd, a gaf i ddweud fy mod i'n ddiolchgar iawn i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies, am wneud nifer o enwebiadau i rywun eistedd ar y comisiwn? Oherwydd fy mod i'n awyddus i'r comisiwn fod yn rhywbeth y dylai unrhyw un sydd â barn ar ddyfodol Cymru a'r ffordd orau o'i sicrhau, o gofio'r oes ansicr yr ydym yn byw ynddi, deimlo'n hyderus y gall fod yn bresennol a chyflwyno ei ddadl.

14:05

Mae comisiynau cyfansoddiadol—ac rydym ni wedi cael cryn dipyn, onid ydym ni, yng Nghymru—yn ôl eu natur, oherwydd eu bod yn gymysgedd o'r gwleidyddol a'r technegol, yn golygu eu bod nhw weithiau yn ei chael hi'n anodd ymgysylltu â'r cyhoedd yn ehangach. Felly, sut allwn ni sicrhau bod y comisiwn yn gweithredu fel llwyfan, Prif Weinidog, ar gyfer y sgwrs genedlaethol a dinesig ehangach honno? Sut allwn ni fynd y tu hwnt i'r dulliau traddodiadol o ymgysylltu—wyddoch chi, yr ymgynghoriad, yr arolygon barn, holiaduron, grwpiau ffocws ac ati? A allwn ni roi cynnig ar rywbeth newydd?

Ac a wnewch chi ystyried, Prif Weinidog, gwahodd y comisiwn i gyflwyno ei adroddiad interim i gynulliad dinasyddion Cymru—senedd y bobl, os mynnwch chi—a allai gyfarfod, efallai, Llywydd, hyd yn oed yn y Siambr hon, i drafod dyfodol ein cenedl, fel symbol o'r egwyddor ddemocrataidd fwyaf sylfaenol oll honno, mai'r bobl, yn y pen draw, bob un ohonyn nhw'n gyfartal, sy'n gorfod penderfynu ar ein dyfodol fel cenedl?

Wel, Llywydd, rwyf i'n sicr o blaid ymgysylltu â dinasyddion. Rwy'n credu bod Dr Rowan Williams ei hun, yn y cyfweliadau y mae wedi eu rhoi yn ystod y diwrnod diwethaf, wedi pwysleisio ei ddymuniad i wneud yn siŵr bod y comisiwn yn gweithio mewn ffordd sy'n wirioneddol hygyrch i ddinasyddion Cymru ac yn ymgysylltu â nhw. Ond, mater i'r comisiwn annibynnol fydd penderfynu ar ddull yr ymgysylltu hwnnw, a dim ond un ffordd o wneud hynny yw cynulliad dinasyddion.

Efallai fy mod i'n hen ffasiwn yma, Llywydd, ond roeddwn i'n meddwl erioed, pan fyddwn i'n dod yma fy mod i'n dod i gynulliad y bobl, ac mai dyna'r ydym ni. Pan fyddwn ni'n dod yma, rydym ni wedi ein hethol gan bobl i fod yma. Nid yw hynny'n golygu am funud bod gennym ni hawl unigryw i fynegi barn, ac mae llawer o ffyrdd eraill y gall bobl gymryd rhan. Ond rwyf i yn awyddus i'r comisiwn gael y rhyddid i benderfynu ar y ffordd orau o gyflawni uchelgais cyffredin, oherwydd roeddwn i'n cytuno yn fawr â'r hyn a ddywedodd Adam Price am yr uchelgais o ymgysylltu, ac yn fwy nag ymgysylltu, synnwyr o berchnogaeth dros ein dyfodol ein hunain yng Nghymru.

Cymorth Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws sectorau i ddarparu cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc? OQ57035

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae bwrdd partneriaeth cenedlaethol amlasiantaeth, byrddau partneriaeth rhanbarthol a threfniadau partneriaeth lleol ym mhob bwrdd iechyd i gyd yn helpu i sicrhau dull cydweithredol a thraws-sector o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc.

Mae elusen yn sir y Fflint sy'n darparu cymorth ac adferiad iechyd meddwl proffesiynol o ansawdd uchel yn y gymuned, gan gynnwys prosiect sy'n grymuso pobl ifanc i feithrin cadernid, magu hyder a rheoli emosiynau anodd, wedi dweud wrthyf fod arweinwyr ysgolion y maen nhw wedi siarad â nhw yn sir y Fflint yn wynebu cynnydd sylweddol i nifer y bobl ifanc yn eu gofal sy'n cyflwyno problemau a phryderon iechyd meddwl. Maen nhw'n dweud bod llawer o blant a phobl ifanc wedi eu heffeithio, eu trawmateiddio hyd yn oed, gan eu profiadau unigryw eu hunain o'r pandemig. Cafodd problemau yn cynnwys profedigaeth, ynysigrwydd, ofn salwch, marwolaeth, chwalu teuluoedd, tlodi, diweithdra, camddefnyddio sylweddau a thrais domestig i gyd eu gwaethygu oherwydd natur anochel cyfyngiadau symud olynol a'r mynediad llawer llai at rwydweithiau cymorth arferol, yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Maen nhw'n ychwanegu nad yw plant a phobl ifanc sy'n teimlo yn anniogel yn emosiynol neu mewn poen yn dysgu yn dda. Sut ydych chi, felly, yn ymateb i alwad yr elusen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod Estyn a chyrff rheoleiddio eraill yn addas at ddibenion ôl-bandemig, gyda phwyslais ar lesiant a lles disgyblion y mae'r pandemig wedi effeithio arnyn nhw, ac yn wir staff hefyd?

Diolch i'r Aelod am y pwyntiau pellach hynny. Mae'r profiadau a adroddwyd ganddo, rwy'n credu, yn gyfarwydd iawn i unrhyw un sydd wedi cael sgyrsiau gyda phobl ifanc am eu profiad yn ystod y pandemig, a'r pryderon ynghylch eu dyfodol y mae wedi achosi iddyn nhw eu dioddef. Llywydd, roeddech chi'n ddigon caredig i drefnu nifer o gyfleoedd i mi a Gweinidogion eraill gyfarfod â chynrychiolwyr o'r Senedd Ieuenctid yn ddiweddar, ac roedd iechyd a llesiant meddwl pobl ifanc bob amser yn un o'r materion pennaf yr oedden nhw eisiau ei drafod yn y fforymau hynny. Rwy'n credu bod Estyn wedi addasu ei ffordd o weithio yn fawr iawn i ystyried yr effaith ymarferol y mae'r pandemig wedi ei chael ar y ffordd y mae'n rhaid i athrawon fynd ati i wneud eu gwaith, ond hefyd i ystyried yr effaith y mae'r profiadau hyn wedi ei chael ar bobl ifanc, eu gallu i ddysgu a'r ffordd y maen nhw'n dod â'r agweddau eraill hynny ar eu bywydau gyda nhw i'r ysgol ac i mewn i'r ystafell ddosbarth. Ac, yn yr wybodaeth yr wyf i wedi ei chael am y newidiadau y mae Estyn wedi eu gwneud i'w ffyrdd ei hun o weithio, a phwyslais yr arolygiadau a gwaith arall y mae'n ei wneud yn yr ysgolion, rwy'n credu y gall hyn roi cryn hyder i ni fod y pwyntiau priodol iawn y mae'r sefydliad yn sir y Fflint wedi eu codi yn cael eu hystyried o ddifrif yn y gwaith y mae'n ei wneud.

14:10

Brif Weinidog, cysylltodd gŵr ifanc â phroblemau iechyd meddwl cymhleth â mi yn ddiweddar a chanmolodd waith canolfan ddydd Ty Canna yn eich etholaeth chi yng Ngorllewin Caerdydd. I'r rhai yn y Siambr nad ydyn nhw'n gwybod, mae Ty Canna yn darparu gwasanaethau pontio i bobl sy'n trosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion. Ac mae'r gwaith hwn yn hollbwysig; fel y gwyddom, mae llawer gormod o bobl yn syrthio drwy'r rhwyd ar hyn o bryd. Y pryder sydd gan y gŵr ifanc hwn yw y bydd y gwaith da sy'n digwydd yng ngwasanaethau dydd Ty Canna yn cael ei golli os caiff y gwasanaethau eu symud oddi yno. Mae mewn lleoliad canolog cyfleus iawn ar hyn o bryd, ac mae adnoddau gwych yno. Mae'n cynnig preifatrwydd i'r rhai sydd ei angen. A wnewch chi sicrhau, os gwelwch yn dda, y bydd Llywodraeth Cymru yn trafod gyda phartneriaid allweddol i fynd i'r afael â'r pryderon hyn ac i wneud yn siŵr nad oes rhagor o bobl ifanc yn cael eu colli o'r system? Diolch yn fawr, Brif Weinidog.

Wel, diolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn. Dwi'n gyfarwydd â Ty Canna, wrth gwrs.

Yn fy nghof i, mae'n wasanaeth sy'n cael ei ariannu yn gyfan gwbl gan Gyngor Caerdydd ar y naill law a'r bwrdd iechyd lleol ar y llaw arall. Nid wyf i'n cofio unrhyw fuddsoddiad uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn y gwasanaeth, ond mae yn gwneud yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud: mae'n helpu gyda'r rhan anoddaf honno o'n gwasanaethau cyhoeddus pan fydd cyfrifoldeb am berson ifanc yn cael ei drosglwyddo i bobl sy'n rhedeg gwasanaethau i oedolion. Mae'n siŵr y bu gennym ni i gyd rwystredigaethau ar wahanol adegau ynglŷn â'r ffordd y mae'n ymddangos bod gwasanaethau yn cael eu synnu gan y ffaith bod person ifanc wedi troi'n 18 oed. Ac mae gan Dy Canna enw da iawn yn hynny o beth. Nid wyf i'n gyfarwydd â'r pwynt a godwyd gyda'r Aelod am leoliad y gwasanaeth. Wrth gwrs, byddaf i'n gwneud yn siŵr bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn unrhyw sgwrs yn gyffredinol.

Rwy'n credu, Llywydd, mai'r hyn y byddwn i'n ei ddweud yw mai ansawdd y gwasanaeth yn hytrach na'r lleoliad y'i darperir ohono yw'r peth pwysicaf yn y pen draw, a byddai angen i ni weld pa gynigion, os oes rhai o gwbl, sydd ar gael i gryfhau'r gwasanaeth ymhellach.

Hoffwn i ddiolch i'n Prif Weinidog am ei waith parhaus yng nghyswllt pobl ifanc ac iechyd meddwl, ac yn arbennig ei ymrwymiad i atal a mynediad cynnar at wasanaethau. Ac, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu cyfanswm o 1,359 o dderbyniadau i wasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sy'n cwmpasu Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. A fyddai'r Prif Weinidog cystal â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymrwymiadau maniffesto mewngymorth gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn rhan o'n dull ymyrraeth gynnar gan Lywodraeth Cymru?

Wel, diolch i Sarah Murphy am hynny, Llywydd. Mae'n rhoi cyfle i mi ailddatgan eto yr egwyddor o ddad-ddwysáu fel un o ysgogiadau sylfaenol y ffordd yr ydym ni'n darparu gwasanaethau i bobl ifanc. Dylem ni fod yn ceisio ymyrryd ar y pwynt isaf posibl er mwyn mynd i'r afael â'u hanghenion yn hytrach na chaniatáu i'r anghenion hynny gynyddu i bwynt lle mai dim ond derbyniad i gyfleuster iechyd meddwl sy'n ddigonol i ymateb iddyn nhw.

Roedd treial y gwasanaeth mewngymorth CAMHS yn gadarnhaol iawn; rwy'n gwybod bod gan y pwyllgor yn y Senedd ddiwethaf a edrychodd ar y gwerthusiad farn gadarnhaol ohono. Ac ar sail hynny y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar £5 miliwn o gyllid i ganiatáu i fyrddau iechyd lleol gyflwyno'r treialon gan yr awdurdodau lleol hynny lle cafodd ei ddefnyddio gyntaf, er mwyn iddo fod ar gael ym mhobman. Mae £4 miliwn o'r £5 miliwn hwnnw bellach wedi ei gytuno gyda'r byrddau iechyd lleol dros yr haf, ac maen nhw bellach wrthi'n recriwtio pobl i wneud hynny. Bydd prosiect mewngymorth CAMHS yn llwyddo os yw'n gwneud yr hyn a ddywedodd Sarah Murphy: os yw'n caniatáu i fwy o bobl ifanc gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn gynharach yn yr anghenion hynny, i leihau nifer y bobl, fel y nododd, y mae angen iddyn nhw gael eu derbyn i gyfleuster iechyd meddwl yn yr ardal bwrdd iechyd lleol y mae'n ei chynrychioli.

14:15
Buddsoddi ym Mlaenau'r Cymoedd

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi ym Mlaenau'r Cymoedd? OQ57077

Diolch i Alun Davies am hynny, Llywydd. Bydd Gweinidog yr Economi yn gwneud datganiad y prynhawn yma ar ein dull o gefnogi economi Cymru, gan gynnwys ffyrdd pellach y bydd buddsoddi ym Mlaenau'r Cymoedd yn manteisio yn llawn ar y cyfle strategol a grëwyd gan ddeuoli'r A465.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Mae pobl ym Mlaenau'r Cymoedd wedi gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn nyfodol eu pobl, eu cymunedau a'n heconomi. Yn fwy na deuoli'r A465, fel y mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio ato, rydym ni hefyd wedi gweld buddsoddiad yn y Cymoedd Technoleg, rydym ni wedi gweld buddsoddiad yn y rheilffordd. Yn aml iawn, caiff y buddsoddiadau hyn eu gwneud gan nad ydym ni wedi gweld dim o'r buddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae rheilffordd Glynebwy yn enghraifft dda o hynny. Pan fyddwn ni'n clywed am godi'r gwastad, yr hyn a welwn ni yw tric consuriwr; rydym ni'n gweld rhithlun, rydym ni'n gweld mwg a drychau. Yr unig gysondeb yr ydym ni wedi ei weld gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw torri addewidion. Mae angen buddsoddiad ar bobl Blaenau'r Cymoedd yn nyfodol ein cymunedau ac maen nhw'n haeddu hynny. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi fod angen i honno fod yn neges gyson ac yn rhan o'r rhaglen ehangach o fuddsoddiad yng Nghymru dan arweiniad Llywodraeth Cymru?

Diolch i Alun Davies am y pwyntiau yna. Rwyf i wedi cael cyfle, Llywydd, ers yr wythnos diwethaf, i ddarllen ei gyfraniad yn y ddadl fer yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu iddo ei esbonio yn gryno iawn pan ddisgrifiodd dull codi'r gwastad Llywodraeth y DU fel gwers

'ar sut i beidio â llunio polisi a sut i beidio â chynnwys pobl.' 

Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i wneud y buddsoddiadau hynny. Cafodd y Gweinidog gyfarfod ar 11 Hydref ag arweinwyr a phrif weithredwyr y pum awdurdod lleol sydd â buddiant daearyddol ym Mlaenau'r Cymoedd i siarad am fuddsoddiadau strategol—mor wahanol i'r gronfa codi'r gwastad fel y'i gelwir. Rydym ni'n dal i ddisgwyl canlyniadau rownd gyntaf y cyllid hwn, gyda phedwar mis yn weddill erbyn hyn o'r flwyddyn ariannol y bydd modd gwario'r arian hwnnw ynddi. Bydd yn rhoi £10 miliwn i ni, rydym ni'n credu, yng Nghymru, o'i gymharu â £375 miliwn y byddem ni wedi ei gael pe baem ni wedi parhau i fod aelodau o'r Undeb Ewropeaidd.

Eisteddais yn y Siambr hon a chlywais yr Aelodau ar y meinciau acw yn dweud wrth bobl yng Nghymru fod sicrwydd cwbl bendant na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd. Deg miliwn o bunnoedd yw'r hyn sydd gennym ni; byddem ni wedi cael £375 miliwn. Ac mae'r £10 miliwn hwnnw, Llywydd, mewn perygl gwirioneddol o gael ei wastraffu yn sgil penderfyniadau a fydd yn dameidiog, penderfyniadau a fydd—ac rydym ni'n gwybod hyn o'u hanes blaenorol—wedi eu hysgogi yn wleidyddol, yn hytrach nag ymateb i anghenion y bobl. [Torri ar draws.] O, ie, nid yw'r ffaith nad yw Robert Jenrick yn aelod o'r Cabinet yn Llywodraeth y DU mwyach yn golygu bod ei agwedd at wleidyddiaeth wedi mynd gydag ef. Rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn y ffordd y mae Alun Davies wedi ei awgrymu, yn ceisio gwneud ein buddsoddiadau mewn ffordd sy'n diwallu anghenion hirdymor a strategol y cymunedau lleol hynny, a byddwn yn parhau i wneud yn union hynny.

Gyda pharch, Prif Weinidog, mae 'pentan yn gweiddi parddu' yn dod i'r meddwl yn hynny o beth. Mae'n amlwg o ddadl fer Alun Davies yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, mai'r cwbl a wna'r Llywodraeth hon a Llywodraethau Llafur blaenorol Cymru yw esgus rhoi sylw i'r problemau economaidd dwfn yn y Cymoedd. Mae'n iawn sefydlu tasglu a pharthau menter y Cymoedd, ond i sicrhau newid gwirioneddol, mae angen cymorth a pholisi dilynol. Ac, yn bwysicaf oll, fel y nododd Alun Davies yn gwbl briodol yn y ddadl fer, mae angen i arian ei ddilyn. Pryd mae'r Llywodraeth hon yn mynd i ymrwymo eu hunain—ymrwymo yn wirioneddol—i fuddsoddi yn y Cymoedd, nid geiriau yn unig, yr ydych chi'n siarad amdano yn barhaus, a'i gefnogi gyda pholisïau a fydd yn wirioneddol yn adfywio ein cymunedau? Diolch byth bod y DU yn cydio yn y danadl ac yn gofyn yn wirioneddol i'n cymunedau beth sydd ei angen arnyn nhw ac yn buddsoddi ynddyn nhw.

14:20

Dros £1 biliwn ar ddeuoli'r A465, £200 miliwn i greu gwasanaethau rheilffordd rhwng Glynebwy a'r arfordir, £0.5 miliwn i wneud yn siŵr y gallai Tŵr Zip World agor i ddarparu swyddi a phrofiadau twristiaeth yn y rhan honno o Gymru—dim ond tair enghraifft o arian gwirioneddol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y rhan honno o Gymru. Os oes gan yr Aelod honiadau y mae'n dymuno eu gwneud ynghylch rhagfarn wleidyddol yn y ffordd y caiff arian ei wario gan Lywodraeth Cymru, dylai eu gwneud nhw, a dylai roi enghreifftiau i ni yn cefnogi'r hyn a ddywedodd. Fe wnaf i anfon adroddiad ymchwiliad Tŷ'r Cyffredin i ddefnydd Robert Jenrick o arian cyhoeddus mewn etholaethau Ceidwadol ati. Gadewch iddi gyflwyno tystiolaeth o hynny yng Nghymru, a byddwn yn barod i wrando arni.

Maglau

Roedd y maniffesto y safodd yr Aelod a minnau i gael ein hethol ar ei sail ym mis Mai yn cynnwys ymrwymiad i wahardd y defnydd o faglau yng Nghymru. Ein bwriad yw y dylid ei gynnwys yn y Bil amaethyddiaeth y bydd y Llywodraeth yn ei gyflwyno gerbron y Senedd yn ein rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn gyntaf.

Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Mae miloedd o anifeiliaid gwyllt a domestig yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yng Nghymru bob blwyddyn oherwydd y defnydd o faglau. Mae'r RSPCA yn adrodd bod y defnydd o faglau yn dal i fod yn gyffredin, gall cynifer â 51,000 o faglau llwynogod fod yn weithredol yng Nghymru ar unrhyw un adeg, ac mae diffyg cydymffurfio â'r cod. A gaf i annog y Prif Weinidog i gyflwyno'r darn hwn o ddeddfwriaeth fel mater o frys? Oherwydd po hiraf y byddwn ni'n aros, y mwyaf o anifeiliaid fydd naill ai'n cael eu lladd neu eu hanafu.

Diolch i Mike Hedges am hynny, Llywydd, a diolch iddo am hyrwyddo'n gyson y mater hwn a materion lles anifeiliaid yn fwy cyffredinol. Fe wnes i fanteisio ar y cyfle i edrych eto ar adroddiad y pwyllgor a gadeiriodd yn y Senedd ddiwethaf ar y defnydd o faglau yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2017. Gofynnodd i ni gasglu tystiolaeth yn flynyddol o gydymffurfiad â'r cod statudol ar arfer gorau ar ddefnyddio maglau yng Nghymru, ac os nad oedd gennym ni dystiolaeth bod y cod yn cael ei fodloni yn briodol, y dylem ni weithredu yn y ffordd yr ydym ni'n bwriadu ei wneud nawr. Rwyf i wedi trafod hyn gyda swyddogion wrth baratoi ar gyfer y cwestiwn heddiw, Llywydd, a'r cyngor a gefais oedd, er gwaethaf ymgais flynyddol i gasglu'r dystiolaeth honno, mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd wedi dod i law bod y cod yn cael ei fodloni yn briodol yn ymarferol. Dyna'r sail y byddwn ni'n cyflwyno deddfwriaeth arni, ac rwy'n falch o gadarnhau eto, yn y ffordd y gofynnodd yr Aelod, y bydd hyn yn rhan o flwyddyn gyntaf rhaglen ddeddfwriaethol y tymor Senedd hwn.

Prif Weinidog, byddai cynnig eich Llywodraeth i wahardd maglau yn cael effaith sylweddol ar ffermwyr, ciperiaid a rheolwyr tir. Mae rheoli ysglyfaethwyr gan ffermwyr a chiperiaid yn hanfodol i ddiogelu da byw a bioamrywiaeth. Mae rheoli ysglyfaethwyr yn fater cadwraeth pwysig. Mae llwynogod, ymysg ysglyfaethwyr eraill, yn ffactor yn nirywiad bioamrywiaeth, gan dargedu adar sy'n nythu ar y ddaear. Gallai'r gylfinir, er enghraifft, ddiflannu fel aderyn bridio yng Nghymru erbyn 2033. Mae maglu ysglyfaethwyr mewn modd wedi ei dargedu yn helpu i sicrhau bod poblogaethau sydd dan fygythiad fel y gylfinir yn cael eu diogelu. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru god arfer gorau ar y defnydd o faglau yn 2015, ac ymgysylltodd â'r diwydiant wrth ei ddatblygu. Mae'r cod yn ceisio lleihau'r risg i rywogaethau nad ydyn nhw'n dargedau a chyrraedd safonau lles anifeiliaid uchel drwy leihau yn fawr niferoedd rhywogaethau sy'n cael eu dal heb fod yn darged. Prif Weinidog, os bydd eich Llywodraeth yn gwahardd y defnydd o faglau, pa gamau bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i gadw niferoedd ysglyfaethwyr o dan reolaeth er mwyn diogelu busnesau a lliniaru colled bioamrywiaeth, a sicrhau bod unrhyw gynllun posibl yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth wyddonol a chadarn, ac nad yw wedi ei seilio ar nifer yr ymatebion ymgynghori yr ydych chi wedi eu derbyn? Diolch.

Rwy'n hapus i helpu'r Aelod, ond mae ganddo gymorth yn nes at law. Dywedodd ei arweinydd yn y Cyfarfod Llawn, yma ar lawr y Senedd:

'hoffwn weld gwaharddiad ar faglau...ni welaf unrhyw ddefnydd modern iddynt o gwbl.'

Neu mae'n debyg y gallwn i ddarparu'r erthygl iddo â'r pennawd 'Welsh Tories call for ban on "cruel" snares'. [Torri ar draws.] Ie, Torïaid Cymru—[Torri ar draws.] Welwch chi, fe allaf i ei helpu, Llywydd. Rwy'n fodlon ei helpu, ond mae ganddo gymorth ar y meinciau drws nesaf iddo. Erthygl gan Russell George oedd hon:

'Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau gwaharddiad llwyr ar faglau ac rydym ni'n llwyr gefnogi galwadau gan ymgyrchwyr lles anifeiliaid.'

Rwy'n credu y byddai'n well i'r Aelod dreulio ei amser yn ymgynghori â'i gyd-Aelodau, oherwydd mae'n amlwg bod ganddyn nhw yr atebion i'w gwestiynau y gallan nhw ei helpu â nhw.

14:25
Incwm Sylfaenol Cyffredinol

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r cynnydd a wnaed o ran cynlluniau'r Llywodraeth i dreialu incwm sylfaenol cyffredinol? OQ57074

Diolch i Jane Dodds am y cwestiwn, Llywydd. Yn amodol ar ddatrys y materion ymarferol sy'n weddill, gan gynnwys rhyngwyneb ein taliadau incwm sylfaenol â'r system fudd-daliadau, rydym yn bwriadu cyflwyno'r treial yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2022.

Diolch, Prif Weinidog. Hoffwn i ddiolch i chi am eich ateb a datgan ymhellach, yn sicr, fy nghefnogaeth i a chefnogaeth fy mhlaid i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer incwm sylfaenol cyffredinol. Er y byddai'n well gen i, wrth gwrs, ehangu cwmpas y treial y tu hwnt i'r rhai sy'n gadael gofal, fel yr wyf i wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w wneud, rwy'n dal yn awyddus iawn i gefnogi'r Llywodraeth fel y gallwn ni dreialu'r dull radical a thrawsnewidiol hwn o leihau tlodi yma yng Nghymru. Yr elfen hon o'r treial incwm sylfaenol cyffredinol yr wyf i'n pryderu fwyaf amdani, o gofio'r lefelau uchel o dlodi yma yng Nghymru.

Yng Nghymru, mae bron i draean o'n plant yn byw mewn tlodi, sy'n golygu mai Cymru, fel cyfran o'n poblogaeth, sydd â'r lefelau gwaethaf o dlodi plant yn y Deyrnas Unedig gyfan ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod gwerth nodi hefyd nad yw penderfyniad diweddar Llywodraeth Geidwadol San Steffan i dorri credyd cynhwysol yn helpu hyn, a fydd, wrth gwrs, yn niweidio'r lleiaf cefnog ymhlith ein poblogaeth. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, sut bydd eich Llywodraeth yn mesur llwyddiant y cynllun treialu incwm sylfaenol cyffredinol hwn, yn enwedig o ran sut y bydd yn lleihau tlodi plant? Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr i Jane Dodds, Llywydd. 

Rwyf i wedi bod yn gwneud llawer o ddarllen cyn cwestiynau yr wythnos hon. Darllenais i hefyd erthygl a gyhoeddwyd gan Jane Dodds ym mis Medi ar y manteision niferus a gyflwynir gan gefnogwyr incwm sylfaenol cyffredinol, ac roeddwn i'n cytuno â llawer iawn o'r hyn yr oedd ganddi i'w ddweud yno. Bydd ein treial yn cynnwys llawer o'r nodweddion a nodwyd ganddi yn ei herthygl. Bydd yn ddiamod, bydd yn darparu sefydlogrwydd ac urddas ariannol i'r bobl ifanc hynny, ac o ystyried y cwestiwn atodol, Llywydd, y mae Jane Dodds wedi ei ofyn, fe fydd yn cynnwys grŵp o bobl ifanc yr ydym ni'n gwybod o'r dadleuon niferus yr ydym ni wedi eu cael ar lawr y Senedd hon sydd ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas. Mae tlodi yn rhwystr gwirioneddol i'r bobl ifanc hynny allu gwneud penderfyniadau am eu dyfodol eu hunain, lle gallan nhw ddefnyddio eu doniau a dod o hyd i lwybr i'w dyfodol mewn ffordd y bydden nhw eu hunain yn dewis ei wneud, yn hytrach na gorfod gwneud penderfyniadau llaw i'r genau, wedi eu hysgogi gan dlodi, sy'n cyfyngu eu gorwelion i, 'Sut ydw i'n goroesi heddiw? Ble fyddaf i'n cysgu y penwythnos hwn? Sut byddaf i'n gallu bwyta yr wythnos nesaf?'

Byddwn yn gwneud yn siŵr bod gennym ni broses werthuso sy'n ddeinamig ac yn barhaus, sy'n gweithio gyda'r bobl ifanc hynny. Mae ein treial eisoes yn cael ei lunio drwy gyngor gan y fforwm pobl sy'n gadael gofal a gan Voices from Care yng Nghymru, a byddwn yn dysgu'r gwersi wrth i ni fynd ymlaen, a fydd yn rhoi gwybodaeth werthfawr i ni ar gyfer y dyfodol am sut y gallai'r cysyniad o incwm sylfaenol fod yn berthnasol i grwpiau eraill yn ehangach ar draws poblogaeth Cymru. Edrychaf ymlaen ato yn fawr ac rwy'n credu, beth bynnag fydd canlyniad terfynol y gwerthusiad, Llywydd, y bydd y treial yn gwneud daioni ym mywydau rhai o'r bobl ifanc yng Nghymru y mae angen y buddsoddiad hwnnw arnyn nhw fwyaf.

Porthladd Caergybi

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol porthladd Caergybi? OQ57079

Diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth. Mae Caergybi yn hanfodol i economi Ynys Môn a'r Deyrnas Unedig. Mae ei ddyfodol ynghlwm wrth y broses o ddatrys protocol Gogledd Iwerddon a sicrhau bod mwy o ynni yn cael ei gynhyrchu mewn ffordd adnewyddol. 

14:30

Diolch. Wn i ddim a weloch chi o, ond yr wythnos diwethaf, mi wnaeth gweinyddiaeth dramor Llywodraeth Iwerddon gyhoeddi map yn dathlu agor croesiad rhif 44 yn uniongyrchol o Iwerddon i gyfandir Ewrop. Yn gyntaf, buaswn i'n licio cadarnhad bod Llywodraeth Cymru yn pwyso'n drwm ar Lywodraeth Iwerddon i gofio pwysigrwydd ac i hybu croesiadau uniongyrchol o Iwerddon i Gymru. 

Ond y prysuraf o'r porthladdoedd Cymreig, wrth gwrs, ydy porthladd Caergybi. Ond, wrth i sgileffeithiau Brexit barhau i achosi heriau mawr yng Nghaergybi, mae yna gyfleon mawr newydd y gallwn ni fod yn mynd ar eu holau nhw, a'r mwyaf pwysig o'r rheini, am wn i, ydy cyfleon i ddatblygu Caergybi fel y porthladd i wasanaethu'r datblygiadau nesaf mewn ynni gwynt ym môr Iwerddon. Ac yn y cyd-destun hwnnw, a gaf i wahodd y Prif Weinidog i ymweld â phorthladd Caergybi i weld drosto fo'i hun beth yn union ydy'r buddsoddi sydd angen ei sicrhau yn y porthladd hwnnw mor fuan â phosib er mwyn gwneud yn siŵr, beth bynnag fo'r heriau dŷn ni'n eu hwynebu rŵan, bod y dyfodol yn gallu bod yn un disglair i borthladd Caergybi a'r gweithwyr yno?

Wel, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth, Llywydd. Fel mae'n troi mas, mae cyfarfod mawr gyda ni ar ddydd Gwener yr wythnos yma gyda Gweinidogion o'r Llywodraeth yn Iwerddon. Maen nhw'n dod draw atom ni'r flwyddyn yma; rŷn ni'n mynd yn ôl atyn nhw flwyddyn nesaf. Bydd Simon Coveney yn arwain y grŵp o Weinidogion sy'n dod atom ni, a bydd cyfleon gyda ni i ailsgwrsio gyda nhw am y diddordeb sydd gyda ni i gyd yn y môr, a phopeth rŷn ni'n gallu gwneud gyda'n gilydd i greu dyfodol i ni yma yng Nghymru, ac i bobl yn Iwerddon hefyd. 

Dwi'n ymwybodol, wrth gwrs, am yr heriau sy'n wynebu'r porthladd yng Nghaergybi. Dwi'n hollol hapus i ddod nôl unwaith eto i Gaergybi ac i siarad gyda'r bobl yna. Dwi'n cytuno, a dwi wedi darllen erthygl gyda'r Aelod yr wythnos yma hefyd, sy'n canolbwyntio ar y cyfleon sydd yna yng Nghaergybi yng nghyd-destun egni'r dyfodol—egni o'r gwynt—ac i ddefnyddio'r porthladd i helpu ni i greu'r economi gwyrdd yma yng Nghymru. A dwi'n hollol hapus, pan fydd y cyfle'n codi, i ddod ac i siarad ac i drafod y posibiliadau sydd ar gael. 

Cyfoeth Naturiol Cymru

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd Cyfoeth Naturiol Cymru? OQ57058

Diolch i'r Aelod, Llywydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd â swyddogaethau amrywiol ar ran Gweinidogion Cymru, ond fel corff hyd braich, mae'n gweithredu yn annibynnol arnyn nhw. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr i fonitro ei effeithiolrwydd o ran cyflawni yn unol â'i fandad, gan gynnwys ein hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu.

Prif Weinidog, un o'r swyddogaethau allweddol sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yma yn ein gwlad ni yw cynorthwyo'r Llywodraeth o ran rheoli'r perygl o lifogydd, a rhoi cyngor a gwneud gwaith dilynol ar unrhyw lifogydd sy'n digwydd ledled y wlad. Fel y byddwch chi'n ymwybodol, bu nifer o ddigwyddiadau llifogydd yn fy etholaeth i yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn Abergele, Pensarn, yn Rhuthun, yn Llanfair Talhaearn, ac mewn mannau eraill. Un o'r problemau cyffredin y mae'n ymddangos sy'n codi yn sgil llifogydd yw cyflymder Cyfoeth Naturiol Cymru yn cwblhau ei waith dilynol ac yna'n gweithredu unrhyw newid ar lawr gwlad o ran buddsoddiad cyfalaf. Bu problemau yn Llanfair TH dros y blynyddoedd, ym Mhensarn, o ran y gwaith dilynol ar ymchwiliadau, a nawr yn Rhuthun, lle mae gwaith ond ar fin cychwyn er gwaethaf y ffaith y bu llifogydd sylweddol yno yn gynharach yn y flwyddyn ym mis Ionawr.

Pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fonitro pa mor gyflym y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymateb i ddigwyddiadau o'r fath i sicrhau bod gwaith dilynol digonol, sy'n brydlon ac yn gallu rhoi'r lefel orau posibl o ddiogelwch i drigolion?

Diolch i Darren Millar am y cwestiwn pwysig yna, Llywydd, ac rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'n eu gwneud. Llwyddais i ymweld â Llanfair TH fy hun, ac roeddwn i yng nghwmni Sam Rowlands ar yr ymweliad hwnnw fel arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y pryd. Roedd gennym ni gynrychiolwyr, wrth gwrs, o Cyfoeth Naturiol Cymru yn bresennol. Roeddem ni'n gallu gweld y cynlluniau fel yr oedden nhw wedi eu gosod yn flaenorol, ac yna'r diwygiadau i'r cynlluniau hynny, a fydd yn cael eu hystyried o ganlyniad i'r gwahanol drywydd yr oedd y llifogydd wedi ei ddilyn yn y pentref hwnnw yn ystod y digwyddiad diwethaf.

Llywydd, rhoddodd Llywodraeth Cymru £9 miliwn o gyllid ychwanegol i Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac roedd hynny ar y sail y bydd ymarfer adolygu sylfaenol o ddibenion Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei gwblhau ar y naill law a'i flaenoriaethau ar y llaw arall. A bwriedir i'r adolygiad wneud yn siŵr bod yr arian a'r swyddogaethau yn cyd-fynd yn agos â ni i gyflawni'r cyfrifoldebau pwysicaf sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwyf i ar ddeall bod adroddiad drafft o'r adolygiad hwnnw wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a'n bod ni'n disgwyl i'r adroddiad llawn gyrraedd yma ym mis Tachwedd. Fe wnaf i ofyn i fy swyddogion edrych ar yr adroddiad hwnnw ar ei ffurf bresennol, i wneud yn siŵr ei fod yn rhoi sylw i'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud y prynhawn yma.

14:35
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Ac felly'r eitem nesaf y prynhawn yma yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw, Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad brys gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran y stori a gafodd ei hadrodd yn ddiweddar ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Gwnaeth adroddiadau a ddaeth i'r amlwg yn ystod y dyddiau diwethaf awgrymu bod barnwr wedi darganfod bod bwrdd iechyd Besti Cadwaladr yn ceisio dileu ei enw mewn adroddiad, a oedd yn cyfeirio at ofal gwael iawn, gofal esgeulus, am unigolyn yn Ysbyty Glan Clwyd. Dywedodd y barnwr fod diffyg sylweddol o ran diwallu anghenion y claf, eu cydnabod a'u nodi, ac eto roedd bwrdd iechyd Besti Cadwaladr yn ceisio cuddio ei hun o'r disgrifiad hwnnw o ddigwyddiadau. Yn amlwg, mae hyn yn annerbyniol. Mae'n awgrymu nad yw'r bwrdd iechyd eisiau bod yn dryloyw nac yn atebol am ei weithredoedd, ac, yn fy marn i, mae gwir angen i ni weld nawr newid diwylliant yn y sefydliad hwnnw. Roeddwn i'n obeithiol iawn bod rhywfaint o newid diwylliant wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae hyn yn awgrymu bod llawer o'r un hen broblemau ym mwrdd iechyd Besti Cadwaladr yn dal yno. A gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y mater penodol hwn, ac, yn ehangach, ar y cynnydd y mae'r bwrdd iechyd yn ei wneud, ar ôl iddo gael ei dynnu'n ôl o fesurau arbennig cyn yr etholiadau?

Diolch. Nid wyf i'n gyfarwydd â'r stori yr ydych chi'n cyfeirio ati, ond yr wyf i'n sicr yn credu bod newid diwylliant wedi bod—ac mae'n fwrdd iechyd yr wyf i'n ei adnabod yn dda iawn fy hun—oherwydd, fel yr ydych chi'n ei ddweud, monitro mesurau arbennig, ac ati. Ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau'n rheolaidd o ran sut y mae'r monitro hwnnw'n mynd rhagddo nawr. Os yw wedi cael unrhyw gysylltiad â'r bwrdd iechyd ynglŷn â'r stori yr ydych chi'n cyfeirio ati, rwy'n siŵr y byddai'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.FootnoteLink

Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Mae'r cyntaf ar ddefnyddio canabis meddyginiaethol. Yn y Senedd ddiwethaf, gwnaethom ni drafod darparu canabis meddyginiaethol, a chafodd lawer o gefnogaeth drawsbleidiol. Mae tystiolaeth y gallai rhai cynhyrchion canabis meddyginiaethol fod yn ddefnyddiol wrth drin epilepsi, sglerosis ymledol, symptomau sy'n gysylltiedig â chanser a thriniaethau canser, yn ogystal â phoen. Rwy'n gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ragnodi a defnyddio canabis meddyginiaethol yng Nghymru.

Yr ail ddatganiad yr wyf i'n gofyn amdano yw'r wybodaeth ddiweddaraf o ran y ddarpariaeth tai cydweithredol yng Nghymru. Er mai'r model tai cydweithredol yw un o'r dulliau mwy poblogaidd o ddarparu tai mewn llawer o leoedd yn y byd, fel Canada, Efrog Newydd a Sgandinafia, nid felly yng Nghymru na gweddill y Deyrnas Unedig. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch cynlluniau i gynyddu nifer yr unedau tai cydweithredol?

Diolch. O ran eich ail bwynt, ynghylch tai cydweithredol, rwy'n ymwybodol iawn, fel yr wyf i'n siŵr y bod yr Aelod hefyd, fod y Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am dai, yn awyddus iawn i ganolbwyntio ar dai cydweithredol. Rwy'n gwybod ei bod hi'n credu'n llwyr y dylai egwyddorion cydweithredol fod yn flaenoriaeth, ac mae'n rhaid canolbwyntio, o ran y sector tai, ar ymgorffori'r egwyddorion craidd hynny. Ac rwy'n gwybod ei bod hi'n cefnogi datblygu tai dan arweiniad y gymuned ymhellach, lle mae partner landlord cymdeithasol cofrestredig, drwy ein grant tai cymdeithasol. Rydym ni hefyd wedi ariannu Canolfan Cydweithredol Cymru i gynllunio'r ddarpariaeth y mae ei hangen ar grwpiau cymorth o ran ein hanghenion tai, ac, rwy'n credu, bod tua 50 o grwpiau cymunedol nawr sy'n ymwneud â Chymunedau'n Creu Cartrefi, a bydd y cymorth hwnnw'n parhau. Rwy'n gwybod ei bod hi wedi rhoi adnoddau ariannol eraill i mewn i hynny, ar y cyd â Sefydliad Nationwide.

O ran eich cwestiwn cyntaf, ynghylch canabis meddyginiaethol, fel y gwyddoch chi, mae'n cael ei reoleiddio o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, ac, felly, mae'n fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU. Ond, wrth gwrs, mae cael mynediad at feddyginiaeth a'i ariannu yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ac, felly, y gweinyddiaethau datganoledig sy'n gyfrifol am ariannu presgripsiynau'r GIG. Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer sefyllfaoedd pryd y gall tystiolaeth gefnogi'r defnydd o ganabis meddyginiaethol, ond rydym ni'n ymwybodol bod angen rhagor o ymchwil i gadarnhau effeithiolrwydd, oherwydd mae astudiaethau hyd yma wedi bod yn fach iawn ar y cyfan, neu fod ganddyn nhw ddiffygion yn eu methodoleg. Felly, rwy'n credu, hyd nes bydd treialon clinigol wedi'u cwblhau, y dylai rhagnodi fod yn unol â chanllawiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

14:40

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ganllawiau ffosffad CNC, sydd, trwy amryfusedd, wedi creu tagfeydd yn y system gynllunio, yn fy etholaeth i a ledled rhannau o Gymru? Mae llygredd dŵr yn fater y mae angen ymdrin ag ef, ac ni fyddai neb yn gwadu hynny, fodd bynnag, yr hyn a welsom gan CNC yw eu bod nhw wedi nodi problem, ond wedi methu â dod o hyd i ateb rhesymegol i ymdrin â'r broblem. Rwy'n gwybod mai eich ymateb chi fydd dweud bod gan y Gweinidog fwrdd polisi yn ystyried hynny. Ond, gyda phob dyledus barch, mae'r ddarpariaeth i ddod o hyd i ateb yn rhy araf o lawer. Ym Mhowys, mae gennym ni 3,700 o aelwydydd ar restr aros tai'r awdurdod lleol yn unig, ac rydym ni'n gweld datblygu cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy yn cael ei atal. Felly, a wnewch chi ofyn i'r Gweinidog wneud datganiad ar y mater hwn, ac amlinellu pa gynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma a beth yw'r camau nesaf ar gyfer symud y broses gynllunio eto er budd ein heconomi a'n trigolion? Diolch, Llywydd.

Wel, fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn ddigon cywir, mae hwn yn ddarn parhaus o waith ar hyn o bryd. Byddai'n anghywir achub y blaen ar unrhyw argymhellion sy'n dod i'r Gweinidog. Ond yn amlwg, wrth i'r broses honno fynd yn ei blaen, bydd hi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar yr adeg fwyaf priodol.

Trefnydd, a gaf i alw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud datganiad ynghylch polisi llifogydd Llywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda? Yn ystod gaeaf 2020-21, dioddefodd glannau'r cei yng Nghaerfyrddin lifogydd dair gwaith mewn llai na naw wythnos. Ar ôl i mi gwrdd â'r busnesau a pherchnogion eiddo ar y cei, mae'n glir eu bod yn parhau i boeni am lifogydd yn afon Tywi a glannau'r cei yn y dyfodol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud nad oes modd iddyn nhw helpu, gan fod polisi Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu adeiladau preswyl dros rhai busnes o ran amddiffyn rhag llifogydd. Mae hyn wedi cael ei ddisgrifio fel rhwystr llwyr o ran cael unrhyw amddiffyniad rhag llifogydd i ochr y cei a diogelu'r busnesau hyn. Felly, a wnaiff y Gweinidog Newid Hinsawdd wneud datganiad o ran polisi llifogydd Llywodraeth Cymru, ac a fydd yr anghydbwysedd yn erbyn busnes yn parhau? Diolch.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir iawn bob amser mai ein blaenoriaeth, o ran polisi llifogydd, rheoli llifogydd, ariannu llifogydd, yw diogelu cymaint o fywydau â phosibl a chymaint o gartrefi â phosibl, ac yna mae busnesau'n dod o fewn y meini prawf hynny. Ar ôl bod yn gyfrifol am lifogydd yn ystod tymor blaenorol y Llywodraeth, gwn i fod ein polisi llifogydd mor gyfredol ag y gall fod, ond mae'n cael ei ystyried yn barhaus. Yn amlwg, mae angen i ni weithio'n agos iawn gyda CNC, a byddwch chi'n ymwybodol o'r cynlluniau rheoli llifogydd sydd gennym ni yn Llywodraeth Cymru. Rydym ni wedi rhoi cyllid sylweddol—miliynau a miliynau o bunnau—yn ein cynllun llifogydd i ddiogelu cynifer o fywydau, cartrefi a busnesau â phosibl.

Gweinidog, mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar ariannu gofal cymdeithasol yn y dyfodol yn golygu mwy o arian i Gymru er mwyn sicrhau ein bod ni'n ymdrin â her cyllid cynaliadwy a thâl ac amodau staff. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, i'w gyhoeddi ar ôl y toriad, er mwyn i'r Llywodraeth amlinellu'r hyn y mae'n ei gynnig nawr i Gymru? Diolch.

Diolch. Wel, mae ariannu gofal cymdeithasol yn rhywbeth sydd ar frig y rhan fwyaf o agendâu llywodraethau, ac mae'n rhywbeth yr ydym ni'n sicr yn ei ystyried, fel Llywodraeth. Ni fyddwn i'n cytuno â chi ynghylch y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi ei ariannu. Nid ydym ni’n credu mai dyna'r ffordd gywir o'i wneud, ond mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ystyried yn ofalus iawn. Fel y gwyddoch chi, rydym ni nawr yn dod i'r adolygiad cynhwysfawr o wariant, a thymor y gyllideb a'r gyllideb ddrafft, felly rwy'n siŵr y bydd digon o gyfle i holi'r Gweinidog cyllid.

14:45

Diolch, Llywydd. Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, os gwelwch chi'n dda? Mae Ysgol Uwchradd Llanwern yng Nghasnewydd wedi ei gorfodi i anfon eu grŵp blwyddyn 9 cyfan adref oherwydd cafodd nifer o staff brawf cadarnhaol o COVID a bu'n rhaid iddyn nhw hunanynysu, ac mae prinder staff i gyflenwi. Yn anffodus, mae hyn yn fater sy'n ailadrodd yn fynych ledled Cymru erbyn hyn. Mae'r undebau, Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon a minnau wedi codi pryderon gyda'r Gweinidog yn flaenorol, a byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi gymeradwyo datganiad gan y Gweinidog i amlinellu pa gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i gefnogi ysgolion a disgyblion sy'n cael trafferth gydag absenoldebau staff fel hyn. Diolch i chi.

Diolch. Cyhoeddodd Weinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, ar ddydd Iau 14 Hydref, yn amlinellu'r mesurau diogelwch diweddaraf sydd ar waith ledled lleoliadau addysg yng Nghymru.

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Symud Economi Cymru Ymlaen

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar symud economi Cymru ymlaen. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Ddoe, cynhaliais uwchgynhadledd economaidd i amlinellu fy uchelgeisiau o ran symud ein heconomi ymlaen wrth i ni ymdrechu i weld Cymru sy'n fwy cadarn, teg, a gwyrdd. Roeddwn i'n falch o gael ymuno â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain, Cyngres Undebau Llafur Cymru, Ffederasiwn y Busnesau Bach, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddechrau sgwrs ynglŷn â sut y gallwn ni gydweithio i gael adferiad tîm Cymru y mae pob un ohonom ni'n helpu i'w ddatblygu. Mae'n rhaid i adferiad cadarn i Gymru sy'n addas ar gyfer y tymor hir fod wedi ei seilio ar egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd, gyda buddsoddiad yn niwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol. Ers fy mhenodiad ym mis Mai eleni, rwyf i wedi ymweld ag amrywiaeth o fusnesau ledled Cymru i gael ymdeimlad o'u gobeithion a'u pryderon wrth i ni wynebu'r hyn a fydd yn ddyddiau olaf y pandemig hwn, gobeithio.

O'r economi bob dydd a wnaeth ein cynnal drwy'r argyfwng i'r arloesi sy'n arwain y byd sy'n sbarduno ein gweithgynhyrchu uwch, rwyf i wedi gweld bod llawer i fod yn optimistaidd yn ei gylch. Serch hynny, mae heriau realiti Brexit, adferiad cyfnewidiol, ac absenoldeb cynllun yn y DU i ddisodli cyllid yr UE yn cyflwyno heriau mawr i fusnesau a gweithwyr ledled Cymru. Wrth i ni symud ymlaen gyda'n rhaglen lywodraethu, rwy'n benderfynol y byddwn ni'n cynnig cymaint o sicrwydd â phosibl i helpu busnesau i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae ein dull partneriaeth gymdeithasol ni wedi gofyn am sgyrsiau a chyfaddawdau anodd, sydd wedi eu hysgogi yn aml gan ddiffyg adnoddau a'r angen i symud yn gyflym gyda gwybodaeth rannol drwy'r pandemig ei hun. Eto i gyd, mae'r ddeialog hon wedi gwella'r broses o wneud penderfyniadau ac mae'n siŵr ei bod hi wedi helpu i achub bywydau a bywoliaethau.

Wrth i ni symud ein heconomi ymlaen, fe fydd, wrth gwrs, ragor o benderfyniadau anodd na fyddan nhw'n plesio ein partneriaid i gyd, ond mae'n rhaid i ni fod yn eglur y byddai dychwelyd at gyni ym mhopeth ond yr enw ar lefel y DU yn cyfyngu ar ein gallu i weithredu ac yn peri niwed economaidd a chymdeithasol gwirioneddol. Llywydd, mae'r rhain yn heriau sy'n gwneud deialog yn fwy angenrheidiol nag erioed. Byddwn ni i gyd yn elwa ar weithio fel partneriaid dibynadwy, gan rannu ein syniadau wrth i ni symud ymlaen ag ymdeimlad o bartneriaeth. Roeddwn i'n falch iawn o glywed yn ystod yr uwchgynhadledd ddoe, bartneriaid cymdeithasol yn ymrwymo i'r model tîm Cymru hwn i fod yn gyfraniad pwysig at ein hadferiad. Bydd ein cynlluniau yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r genhadaeth o gydnerthedd economaidd ac ailgodi a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni, gyda chamau gweithredu yn canolbwyntio ar ein cymunedau yn y rhaglen lywodraethu newydd.

Yn ddiweddar, fe wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am raglen Twf Swyddi Cymru+, a fydd yn helpu i greu cyfleoedd sy'n newid bywydau i'r rhai nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ac mae hon yn nodwedd bwysig o'n gwarant ni i bobl ifanc ac yn ychwanegu at gryfder y cynlluniau sy'n bodoli eisoes. Byddwn yn cynnig cyrsiau hyblyg o safon i weithwyr ar gyflog isel gyda chyfrifon dysgu personol sydd â'r bwriad o roi hwb i'w henillion posibl, a byddwn yn ychwanegu at ein henw da o ran prentisiaethau, drwy ddarparu 125,000 o leoedd ychwanegol yn y tymor Senedd hwn. Bydd ein strategaeth cyflogadwyedd a sgiliau sydd i ddod yn cryfhau ein henw da o ran lleihau'r rhaniad sgiliau, gan ganolbwyntio ar gymorth i'r rhai sydd wedi ymbellhau fwyaf o'r farchnad lafur. Byddaf i'n cefnogi twf cynrychiolwyr materion gwyrdd undebau hefyd i helpu i sicrhau bod ein trawsnewidiad i sero net yn deg i bobl sy'n gweithio. A byddwn yn parhau i ddatblygu ein dull rhywbeth-am-rywbeth ac yn cryfhau'r cyswllt economaidd. Os ydym ni o ddifrif ynglŷn â datblygu economi gryfach yng Nghymru, bydd yn rhaid i arian cyhoeddus Cymru gefnogi gwaith teg, gweithredu o ran newid hinsawdd a'r sgiliau a fydd yn datgloi dawn ledled Cymru.

Byddwn yn lansio'r gronfa i gefnogi cwmnïau lleol hefyd er mwyn cefnogi economïau lleol sy'n fwy deinamig. Bydd gen i fwy i'w ddweud eto fis nesaf ynghylch sut y bydd ein cynllun cyflawni ar gyfer yr economi sylfaenol yn helpu i greu cadwyni cyflenwi byrrach, lleihau allyriadau, a throi ein cynlluniau o ran tai, iechyd, trafnidiaeth ac ynni yn swyddi gwell yn nes at adref. Byddaf i'n gwneud mwy hefyd i gefnogi'r economi gydweithredol, sydd â chynaliadwyedd wrth ei hanfod yn ôl ei thraddodiad. Mae hynny'n cynnwys cefnogi rhagor o gynlluniau lle mae gweithwyr yn prynu cwmnïau er mwyn diogelu swyddi a chadw busnesau hyfyw yng Nghymru.

Llywydd, mae Cymru yn gartref balch i sectorau gweithgynhyrchu o'r radd flaenaf yn y byd, megis modurol, dur, ac awyrofod. Byddwn yn llunio partneriaeth â nhw i'w helpu i symud tuag at ddyfodol carbon isel sy'n cynnal swyddi. Mae'r dasg honno bellach yn fater o frys yn ein sector dur. Nid yw'r gallu i gyd gennym ni o fewn gafael y Llywodraeth hon, a dyma'r amser nawr i Lywodraeth y DU weithredu. Rwy'n awyddus i weld cynllun sy'n adeiladol lle bydd ein cefnogaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru yn ategu'r camau gweithredu gan Lywodraeth y DU, ond dim ond pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud yn San Steffan y bydd hynny'n bosibl. Mae fy neges i Lywodraeth y DU yn eglur: cyflwynwch eich bargen a gadewch i ni weithio ar gynllun ar y cyd i weld sector dur ffyniannus mewn economi ddiogel, carbon isel.

Bydd ein cynlluniau yn golygu ffyrdd newydd o weithio ar draws y Llywodraeth hefyd. Rwyf i'n gweithio yn agos gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, i ystyried sut y gall Cymru ennill y swyddi gwyrdd ychwanegol a ddaw yn sgil diogelu ein heconomi ar gyfer y dyfodol. Wrth i dechnolegau newydd wneud lleoliadau gwaith yn llai perthnasol a gyda buddsoddiad newydd mewn datgarboneiddio, mae Cymru mewn sefyllfa ragorol i ddatblygu arloesedd ag effaith fyd-eang. Yn y cyd-destun hwn, mae'r adolygiad o wariant sydd ar ddod yn gyfle pwysig i Lywodraeth y DU ddangos ei hymrwymiad a'i huchelgais i Gymru. Byddai'n argoeli yn dda pe gellid cael y cyllid llawn a addawyd i Gymru dro ar ôl tro yn lle'r cyllid oddi wrth yr UE, cefnogaeth i brosiectau ynni adnewyddadwy mawr a chynllun ar gyfer diwydiannau ynni dwys, cyllid i ymdrin â'n tomenni glo, caniatáu i Gymru fuddsoddi yn y dechnoleg, y swyddi a'r sgiliau y byddai hyn yn eu cynnig, a chyfran deg i Gymru o'r buddsoddiad ymchwil a datblygu a wneir ledled y DU. Fodd bynnag, yr argoel yw gallai'r adolygiad o wariant olygu penderfyniadau anoddach byth i ni wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Byddai hynny'n golygu ystyried y blaenoriaethau yn fanwl os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i wrthod rhoi caniatâd i Gymru wneud penderfyniadau ynghylch gwario'r arian o'n cronfeydd newydd yn lle rhai'r UE.

Fy ngobaith i yw, drwy gymryd camau beiddgar, y byddwn yn creu dyfodol lle bydd mwy o bobl ifanc yn teimlo nad oes angen iddyn nhw adael eu bro i lwyddo. Bydd cefnogi economïau lleol cryfach yn hanfodol i'r gwaith o fynd i'r afael â thlodi yn ogystal â chynnal y Gymraeg ymhlith pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru yn benodol. Ar yr un pryd, os bydd mwy o bobl yn gwneud y dewis cadarnhaol i ddod i weithio a byw yng Nghymru, gallwn ni fynd i'r afael â'r risgiau sy'n deillio o'r dirywiad yn ein poblogaeth sydd o oedran gwaith. Byddwn yn datblygu cynnig cydlynol a chymhellol ac yn archwilio cyfleoedd pellach i gadw graddedigion a chymorth i fusnesau newydd i annog twf mwy o gwmnïau sydd wedi eu gwreiddio yng Nghymru.

Rwyf wedi cyffroi ynglŷn â'r cyfle sydd gennym i saernïo'r economi Gymreig hon sy'n gryfach, tecach, a gwyrddach. Rwy'n edrych ymlaen at glywed syniadau a dealltwriaeth yr Aelodau o'r ffordd y gallwn ni wireddu hyn. Diolch, Llywydd.

14:50

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Rwy'n falch bod y Gweinidog wedi cadarnhau ei fod yn dechrau trafodaeth ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gydweithio i gael adferiad tîm Cymru. Er hynny, dylai hyn fod wedi bod yn brif amcan i'r Gweinidog ers ei benodi yn Weinidog yr Economi bron i chwe mis yn ôl erbyn hyn.

Nawr, wrth i ni symud i'r dyfodol, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i roi hwb gwirioneddol i hyn drwy gyflwyno'r newid y mae angen mawr amdano i gefnogi busnesau a chreu'r amodau ar gyfer twf ar ôl y pandemig. Mae hi'n gwbl hanfodol i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei gallu i wneud Cymru yn gyrchfan fwy deniadol i fusnesau, ac er mwyn gwneud hyn mae'n rhaid iddi fynd ati i helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi cynaliadwy, creu arferion caffael cyhoeddus rhwyddach, ac adolygu'r system gynllunio i'w gwneud yn fwy parod i ymateb i heriau'r dyfodol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cadarnhau heddiw fod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda chydweithwyr i ddiwygio arferion caffael a'r system gynllunio, ac efallai y gwnaiff roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y camau penodol a fydd yn cael eu cymryd bellach.

Nawr, rwyf i wedi pwyso ar y Gweinidog eisoes am yr angen i greu amgylchedd buddsoddi cryfach yng Nghymru, gan dynnu sylw at adroddiad mynegai ffyniant y DU yn 2021, sy'n dweud bod economi Cymru yn wan ac wedi ei thanseilio gan seilwaith annigonol ac amodau gwael ar gyfer menter. Mae datganiad heddiw yn cyfeirio at gefnogi busnesau sydd ar gychwyn a newydd o bob math, ac rwyf i, wrth gwrs, yn croesawu hynny. Er hynny, mae angen gwneud mwy i wella'r amgylchedd buddsoddi yng Nghymru yn wirioneddol, ac felly rwy'n gofyn i'r Gweinidog eto heddiw sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r cyflenwad cyfalaf, a sut yn benodol y bydd yn gwella'r cyllid sydd ar gael ac yn darparu cymorth menter i helpu busnesau newydd.

Nawr, yn y trafodaethau yr wyf i wedi eu cael gyda busnesau ledled Cymru a sefydliadau busnes, mae'r angen i wella seilwaith a buddsoddiad yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Dangosodd adroddiad cyn y pandemig gan y Ffederasiwn Busnesau Bach fod materion seilwaith wedi effeithio ar 63 y cant o fusnesau bach yng Nghymru. Felly, mae hi'n destun siom nad oes unrhyw gyfeiriad nac ymrwymiad i wella seilwaith nac unrhyw fanylion yn ymwneud â buddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru yn y datganiad heddiw. Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru wedi methu â darparu cynllun hirdymor hyd yn hyn o ran gwaith seilwaith arfaethedig, felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni beth yn union y mae'r comisiwn yn ei wneud a phryd y byddwn yn gweld cynlluniau ganddyn nhw o ran gwaith seilwaith dros y blynyddoedd nesaf, a fydd, yn ddiamau, yn cael effaith enfawr ar ein heconomi wrth symud ymlaen.

Nawr, agwedd allweddol arall ar symud economi Cymru ymlaen yw sicrhau y bydd mynd i'r afael â'r prinder sgiliau yng Nghymru yn digwydd mewn modd priodol. Mae angen i ni weld mwy o eglurder ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â bylchau sgiliau yng Nghymru, ac mae angen i ni wybod pa drafodaethau sy'n digwydd gyda busnesau a darparwyr addysg. Yn wir, fel mae datganiad heddiw yn ei gydnabod, mae Cymru yn parhau i hyrwyddo economi fwy gwyrdd ac yn sicrhau bod y trawsnewid i sero net yn deg i bobl sy'n gweithio. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu cadarnhau a yw archwiliad a chynllun sgiliau sero net yn yr arfaeth, a phryd y caiff hwnnw ei gyhoeddi. Yn wir, efallai y gall ddweud mwy wrthym ni hefyd am rai o'r camau tymor byr y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ystod y misoedd nesaf i fynd i'r afael â phrinder sgiliau yma yng Nghymru.

Nawr, ynghyd â mynd i'r afael â phrinder sgiliau, mae angen amlwg i greu gwell cysylltiadau rhwng busnesau a diwydiannau a darparwyr addysg a hyfforddiant, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gweithio i ddod â'r rhanddeiliaid at ei gilydd. Rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn cydnabod yr angen i annog arloesedd a buddsoddi mewn ymchwil a datblygu yng Nghymru. Fe wnaeth adolygiad Reid, yn ddefnyddiol iawn, ddarparu'r ymrwymiadau gwariant pe byddai gan Lywodraeth Cymru reolaeth uniongyrchol ar arian newydd oddi wrth yr UE, neu beidio, ac felly nid oes unrhyw esgus dros ddiffyg cyfathrebu gan Lywodraeth Cymru o ran ei blaenoriaethau ymchwil ac arloesi. Yn wir, o ystyried bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi derbyn y galwadau yn adolygiadau Diamond a Reid, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu pob un o'r argymhellion yn yr adolygiadau penodol hynny sy'n weddill.

Llywydd, mae'r Gweinidog eisoes wedi cadarnhau gwarant i bobl ifanc, ac mae datganiad heddiw yn cadarnhau hefyd y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig mwy o gyrsiau hyblyg o safon i weithwyr ar gyflog isel, gyda chyfrifon addysg bersonol wedi eu cynllunio i roi hwb i'w potensial i ennill cyflog. Er hynny, rwyf i wedi siarad â nifer di-rif o sefydliadau busnes, darparwyr addysg bellach ac, yn wir, sefydliadau'r trydydd sector ac mae pob un wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n gwybod fawr ddim am y cynllun, nad ydyn nhw wedi cyfrannu ato o gwbl ac nad oes ganddyn nhw syniad sut mae'r warant yn cael ei datblygu na'i mesur. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog gadarnhau heddiw sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â busnesau ynglŷn â'r agenda hon, a sut y bydd yn sicrhau bod y cynllun yn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl.

Mae symud economi Cymru ymlaen yn gofyn arweiniad ac ymrwymiad difrifol i greu'r amodau i fusnesau dyfu a datblygu drwy wneud Cymru yn gyrchfan ddeniadol i gynnal busnes. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog y bydd cefnogi economïau lleol cryfach yn hanfodol i'r gwaith o fynd i'r afael â thlodi, yn ogystal â chynnal y Gymraeg ymhlith pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru. Ac efallai y cawn ni glywed ychydig mwy ganddo am y gwaith sy'n cael ei wneud yn benodol i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc mewn cymunedau gwledig a thrwy gyfrwng y Gymraeg.

Felly, Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a dweud y byddwn ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn gwneud yr hyn a allwn i ymgysylltu'n adeiladol ar yr agenda hon i gefnogi a datblygu ein heconomi gorau y gallwn ni i'r dyfodol? Diolch i chi.  

14:55

Rwy'n diolch i'r Aelod am ei gyfres o gwestiynau, ac rwyf i am geisio trafod cynifer ohonyn nhw ag y gallaf yn yr amser sydd ar gael. Gallaf i ddweud fy mod i wedi bod â chyswllt rheolaidd â grwpiau busnes, busnesau, llywodraeth leol, ac undebau llafur ers i mi gael fy mhenodi. Felly, dyma'r cam nesaf yn y drafodaeth sy'n cael ei chynnal gyda nhw. Rwy'n credu ei bod hi'n fwriadol anghywir i awgrymu nad wyf i wedi bod yn trafod gyda nhw hyd yn hyn. Braidd y bu'n gyfrinach o gwbl fy mod i wedi bod â'r cyswllt rheolaidd hwnnw â nhw.

O ran eich pwynt ynglŷn â'r adolygiad caffael, rydym ni wedi gwneud cynnydd mewn gwirionedd o ran gwariant caffael yn ystod datganoli, gan gynnwys yn ystod y tymor diwethaf, a'r her bellach yw ystyried pa mor bell yr ydym ni wedi mynd ac ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud, oherwydd nid yw'r Llywodraeth yn llaesu dwylo o ran ein huchelgais i weld hyd yn oed mwy o fudd i gwmnïau lleol yn sgil y ffordd yr ydym ni'n caffael nwyddau a gwasanaethau yma yng Nghymru.

Mae'n un o'r ysgogiadau y mae gennym ni reolaeth arno, ac, fel y gwyddoch chi, y Gweinidog arweiniol o ran caffael yw'r Gweinidog cyllid, Rebecca Evans, ond mae'n faes y mae gan lawer ohonom ni fuddiant uniongyrchol ynddo o'n gwahanol safbwyntiau portffolio. Felly, gallwch chi ddisgwyl clywed mwy am yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud o ran rhoi gwerth ar gaffael yng Nghymru—nid yn unig o ran y gwariant a'r swm o arian o ran contractau caffael, ond y gwerth ehangach y mae'r broses gaffael honno yn ei gyflawni. Ac mewn gwirionedd, yn hyn o beth, yn ogystal â chanfod bod cytundeb ar draws y Llywodraeth o ran mabwysiadu'r dull hwnnw, rydym yn gweld bod cytundeb mewn gwirionedd o fewn grwpiau busnes hefyd.

A phan oeddech chi'n siarad am seilwaith a chael gafael ar gyllid, wrth gwrs yng nghwestiynau'r Prif Weinidog fe wnaethom ni dynnu sylw eto at rai o'r heriau o ran yr hyn yr ydym ni'n ei ystyried yn seilwaith modern mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, gan gynnwys y meysydd hynny nad ydyn nhw wedi eu datganoli; felly, o ran seilwaith y rheilffyrdd, lle mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi oherwydd nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud, ac o ran band eang, nad yw'n gyfrifoldeb datganoledig, y seilwaith hwnnw, ond mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi oherwydd diffyg cyflymder a pharodrwydd gan Lywodraeth y DU i wneud hynny. Felly, mae yna feysydd eisoes lle rydym ni'n buddsoddi mewn meysydd nad ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw'n uniongyrchol ond rydym ni'n cydnabod yr angen i wneud hynny er mwyn cynyddu gallu pobl i weithio a symud o gwmpas. Ac mewn gwirionedd, mae hynny'n cyflymu, oherwydd, pan ydym ni'n sôn am y gallu i weithio mewn ffordd wahanol—yn arbennig felly, gweithio o bell—mewn gwirionedd mae ein seilwaith band eang yn gwbl hanfodol i wneud hynny, a byddai hwnnw'n faes lle gellid cael sgwrs gynhyrchiol, unwaith eto, rhwng y Llywodraeth hon a Llywodraeth y DU pe byddai parodrwydd gwirioneddol i ymrwymo i gynllun sy'n cynyddu buddsoddiad.

Roedd gen i ddiddordeb yn eich pwynt ynglŷn â chael gafael ar gyllid, oherwydd, mewn gwirionedd, mae gennym ni rywfaint o gyllid yr ydym ni'n ei ddarparu eisoes ac sydd ar gael. Ceir ffynonellau traddodiadol, ond wrth gwrs mae'r banc datblygu wedi bod yn ased sylweddol yn ystod y pandemig a thu hwnt i hynny, wrth fuddsoddi mewn busnesau yng Nghymru i roi cyfle iddyn nhw dyfu ac ehangu ymhellach. Ond, yn fwy na hynny, ym Manc Busnes Prydain, sydd â'i gylch gwaith yn ymestyn ledled Prydain, mewn gwirionedd pan edrychwch chi ar ei ddewisiadau buddsoddi hyd yn hyn, mae tuedd iddo ffafrio rhannau penodol o'r DU, a mater yw hwn o wahaniaethu rhwng rhanbarthau yn Lloegr ei hunan, heb sôn am weddill y DU. Yn ddiweddar, mae wedi cyhoeddi y bydd yn cael cronfeydd buddsoddi ecwiti i edrych ar gyfryngau mewn rhai rhannau o'r DU, gan gynnwys de-orllewin Lloegr. Hyd yn hyn, nid yw wedi edrych ar gronfa fuddsoddi benodol i flaenoriaethu a chynyddu'r buddsoddiadau ecwiti y mae'n fodlon eu gwneud mewn busnesau yng Nghymru. Mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn i gael sgwrs gyda'r banc yn ei gylch, oherwydd yn fy marn i, os nad ydych chi'n fodlon dweud y byddwch chi'n buddsoddi mewn gwahanol rannau o'r DU, gan gynnwys Cymru, ni ddylai fod yn syndod i chi os nad yw busnesau yma yn gallu cael gafael ar y cyfalaf sydd ar gael lle ceir cysylltiadau mwy arferol a dibynadwy mewn gwahanol rannau o fusnes yn y DU.

Ac o ran y prinder sgiliau, unwaith eto, pwynt yw hwn sy'n dilyn ymlaen o Fanc Datblygu Cymru. Mae'n bwynt yr wyf i wedi ei wneud droeon, a byddaf i'n parhau i'w wneud nes y cawn ni rywfaint o gydnabyddiaeth o wirionedd y sefyllfa. Mae sgiliau yn hanfodol i ddyfodol economi Cymru. Mae angen i ni fuddsoddi mewn pobl, yn ogystal â lleoedd, i ddefnyddio'r doniau sydd gennym ni a denu a chadw doniau yma yng Nghymru. Ond, mewn gwirionedd, pan edrychwch chi ar brentisiaethau, y mae pob plaid yn y lle hwn yn eu cefnogi ac yn awyddus i weld mwy ohonyn nhw, mae traean o'r prentisiaethau yr ydym ni'n eu darparu yn cael eu hariannu gan gronfeydd strwythurol blaenorol gan Ewrop. A heb gynllun—ac nid oes cynllun yn bodoli ar hyn o bryd—ar gyfer yr hyn a fyddai'n digwydd i'r cronfeydd blaenorol hynny, nid pwynt o ansicrwydd yn unig yr ydym yn ei wynebu, ond y blynyddoedd treialu, gyda'r £10 miliwn nad yw wedi ei ariannu hyd yn hyn ac nad yw wedi mynd tuag at unrhyw brosiect treialu unigol, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, maen nhw'n hepgor prosiectau sydd o bwys rhanbarthol neu genedlaethol.

Felly, mewn gwirionedd, mae'n ffordd o ddatgymalu'r gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu a bydd yn tynnu arian oddi ar fuddsoddi mewn sgiliau. Byddai'n drychineb, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU. Os ydych chi'n meddwl am faint o wariant yr ydym ni'n sôn amdano, os caiff yr arian treialu ei ddarparu o'r diwedd ac os gallwn ni, er mawr ryfeddod, wario'r cyfan yn ystod y flwyddyn hon, bydd y diffyg yn dal i fod yn eithriadol. I roi enghraifft i chi o'i faint mewn gwirionedd, mae'r arian na fyddwn yn ei gael yn ystod yr un flwyddyn hon yn cyfateb i fwy na dwbl maint cyllideb flynyddol Cyngor Sir Fynwy. Dyna'r arian na fydd Cymru yn ei gael eleni, ac, os nad oes cynllun ar gyfer y dyfodol, dyna fydd y diffyg y flwyddyn nesaf, ar gyfer yr arian a ddylai fod yn dod i Gymru. Ac mae hi wir yn syndod gweld gwleidyddion Ceidwadol yn siarad yn y fan hon ac yn dweud, 'Diolch i'r nefoedd am Lywodraeth y DU', nad yw'n darparu'r cyllid hwn i Gymru. Mae angen i chi benderfynu a ydych chi o blaid eich etholwyr chi, eu swyddi nhw, a'r busnesau sy'n dibynnu ar yr arian hwnnw, neu a ydych chi yma i gefnogi Llywodraeth y DU sy'n tynnu cannoedd o filiynau o bunnoedd allan o Gymru ar hyn o bryd.

Ac o ran ein cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, wrth gwrs bod hyn, unwaith eto, yn rhan o'r her i ni. Felly, bydd hon yn ffordd y byddwn yn gallu ystyried y dull o ddwyn pobl yn nes at y farchnad lafur ac i waith unwaith eto. Gadawodd yr Adran Gwaith a Phensiynau rywfaint o hyn yn wagle yn y gorffennol ac maen nhw wedi dychwelyd erbyn hyn i lenwi mwy o'r gwagle cyflogadwyedd gyda'r rhaglenni y maen nhw'n eu cynnal. Ond mae'r rhan fwyaf o'r rhaglenni hynny ar gyfer pobl sydd eisoes yn agos at y farchnad lafur ei hun—felly pobl sydd eisoes, yn y bôn, yn barod i weithio. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw cael gwaith i'r bobl hynny, ond hefyd i'r bobl nad ydyn nhw'n gweithio, heb waith a heb fod yn agos at fod mewn gwaith. A dyna'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w wneud a'i flaenoriaethu, fel y nodais yn fy natganiad i. Oherwydd, os na chawn ni fwy o'r bobl hynny'n ôl yn y gwaith, yna, mewn gwirionedd, yn nyfodol economi Cymru, bydd gennym ni faen melin am ein gwddf o ran ein gallu i gynyddu incwm y wlad gyfan yn wirioneddol. Felly, mae honno'n her fawr iawn. Ni fyddwch chi'n gweld cymaint o elw y pen ag y byddech chi gyda'r rhaglenni hynny sy'n ymwneud â phobl sy'n barod am waith, ond byddwch chi yn gweld effaith wirioneddol ar ddyfodol yr economi. Gallwch chi ddisgwyl clywed mwy am hynny pan fydd sôn am ddyfodol ynni adnewyddadwy, a mwy am yr hyn y byddwn ni'n ei wneud i fanteisio ar y potensial gwyrdd yng Nghymru, pan fydd Julie James yn nodi'r ail gynllun cyflawni carbon isel cyn diwedd y mis hwn.

Ac, o ran adolygiad Reid, unwaith eto, nid wyf i am ailadrodd yr holl bwyntiau a wnes i o'r blaen ynghylch cyllid, ond, wrth gwrs, mae addysg uwch wedi ei heithrio o'r cynlluniau treialu presennol ar gyfer y cronfeydd a fydd yn disodli cronfeydd Ewropeaidd. A siaradais i â rhwydwaith arloesi Cymru o brifysgolion Cymru, gan ystyried arloesedd, ynghyd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru, ac maen nhw'n wirioneddol bryderus ynghylch y ffaith nad oes yna gynllun o ran sut y gellir parhau i ariannu'r rhain i wneud y gwaith maen nhw'n ei wneud—nid dim ond y gwerth academaidd o gaffael gwybodaeth, ond y gallu i'w gymhwyso ac ysgogi twf economaidd pellach. Ac maen nhw'n cydnabod y bydd yn rhaid cwtogi ar y pennawd yn adolygiad Reid os na chawn ni'r sicrwydd hwnnw ynglŷn â chyllid. Ond, yn sicr, rydym ni'n dymuno gallu bwrw ymlaen â hynny a chyflawni'r ymrwymiadau yr ydym ni wedi eu gwneud os cawn ni sicrwydd o gyllid.

Ac o ran y warant i bobl ifanc, bydd gen i ddatganiad arall i'w wneud cyn diwedd y flwyddyn galendr hon, ond rydym ni eisoes wedi bwrw ymlaen, fel dywedais i yn fy natganiad, â Twf Swyddi Cymru+—mae honno'n rhan allweddol o helpu pobl nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn ôl i'r gwaith, gan adeiladu ar gynlluniau llwyddiannus. Ac mae'r gwaith rydym ni wedi ei wneud eisoes gyda phobl ifanc yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yn awyddus i ddod o hyd i waith. Felly, mae mwy o'n cefnogaeth yn cael ei symud i weld beth allwn ni ei wneud i helpu'r bobl hynny i ymuno â'r farchnad lafur unwaith eto, neu ymuno â'r farchnad lafur am y tro cyntaf, a dod o hyd i waith ystyrlon sy'n talu'n dda. Wedi'r cyfan, dyna'r hyn y mae pob un ohonom ni yn y Siambr yn dymuno ei weld i'n pobl ifanc ni a thu hwnt.

15:05

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad.

Yn gyntaf, hoffwn groesawu'r datganiad. Rwyf i wedi dweud droeon yn y Siambr fod angen i ni gael gweledigaeth a strategaeth hirdymor i economi Cymru, ac rwy'n arbennig o falch o weld y pwyslais ar beidio â cholli doniau.

Byddwn i'n dweud, er hynny, nad wyf i'n teimlo mai dechrau'r drafodaeth yw hyn. Mae'r drafodaeth ar golli doniau wedi bod yn digwydd am ddegawd neu fwy neu felly mae'n teimlo. Er enghraifft, roedd 'A Strategy for Rural Wales', a ysgrifennwyd gan Gyngor Cymru 50 mlynedd yn ôl ym 1971, yn trafod yr angen i fynd i'r afael ag allfudo pobl ifanc o gefn gwlad Cymru. Yn 2017, cododd Adam Price ei bryderon ef ynghylch y golled doniau sydd wedi ei gweld yng Nghymru, gan nodi bod Cymru yn y degfed safle o 12 rhanbarth y DU o ran y gyfradd o golli graddedigion, ac rwy'n cofio fy rhagflaenydd i Bethan Sayed yn gofyn sawl cwestiwn ynghylch hynny. Rwy'n gobeithio y gwnaiff y Gweinidog faddau i mi am ddweud ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru ar ei hôl hi yn hyn o beth.

Hoffwn i ofyn i'r Gweinidog i ba raddau y mae wedi ystyried y mater hwn eisoes ac a yw wedi ystyried yr enghraifft a roddwyd gan yr Alban neu beidio. Ac a fyddai ef yn cefnogi gwneud newidiadau i'r system cyllid myfyrwyr i greu cymhellion i ddawn aros yng Nghymru? Mae'n rhaid i mi ddweud hefyd fy mod i bob amser yn pryderu wrth weld terminoleg lac mewn datganiadau. Er enghraifft,

'archwilio sut rydym yn cadw ein graddedigion a'n doniau...drwy feithrin cysylltiadau cryf â phrifysgolion, a rhwng prifysgolion a busnesau'.

Mae'n beth canmoladwy iawn, ond nid oes unrhyw ymrwymiad gwirioneddol yma gan Lywodraeth Cymru. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld rhywfaint o gnawd ar yr esgyrn cyn bo hir. Ymrwymodd fy mhlaid i, yn y maes hwn, yn ein maniffesto yn yr etholiad diwethaf i sefydlu prosiect treialu i brofi dichonoldeb olrhain a chadw mewn cysylltiad â phobl ifanc sy'n gadael Cymru ar gyfer eu haddysg uwch neu gyflogaeth gychwynnol i sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd cyfredol gartref a chreu cronfa ddata o dalent alltud. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i weithredu'r polisi hwn?

Mae pwynt 7 yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at symud economi Cymru ymlaen yn cynnwys

'sicrhau bod gennym gwmnïau...yng Nghymru sy'n gallu darparu cyfleoedd yn y dyfodol'.

Rwy'n falch bod y Llywodraeth yn cydnabod, os ydyn nhw wir yn dymuno darparu cyfleoedd i bawb yng Nghymru yn y dyfodol, y byddai angen iddyn nhw sicrhau mai'r cwmnïau sy'n darparu'r cyfleoedd hyn yw'r rhai y mae eu strwythur yn gwobrwyo gweithwyr a'r gymuned leol yn well nag y byddai strwythurau cwmnïau yn draddodiadol. Ni fydd y system bresennol o drachwant, mantais a gorelwa gan yr ychydig yn dileu tlodi yng Nghymru nac yn symud yr economi ymlaen. Os na newidiwn ni ddim, ni fyddwn yn symud dim; byddwn ni'n aros yn yr unfan.

Mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i ymagwedd tîm Cymru, sy'n cael ei hadeiladu gan bob un ohonom ni, a dylai'r Llywodraeth ystyried canolbwyntio ar gwmnïau cydweithredol a pherchnogaeth gweithwyr. Fel y dywedais i, rwy'n falch bod y Gweinidog yn cydnabod hyn. Ceir cydnabyddiaeth gyffredinol fod gan fodelau cydweithredol swyddogaeth hollbwysig, nid yn unig wrth fynd i'r afael â thlodi ond wrth gynnal twf economaidd. A fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried gweithio ar Fil datblygiad economaidd i Gymru, gyda mentrau cydweithredol a busnesau bach a chanolig wrth ei hanfod, yng ngoleuni hyn i gyd?

Yn olaf, Llywydd, rydym yn croesawu pwynt 8 yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at symud economi Cymru ymlaen, drwy dynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael drwy weithio o bell a chymudo hyblyg. Dylai Cymru ymdrechu i feithrin twf economaidd cynhwysol, a dylai Llywodraeth Cymru gefnogi cyflogwyr i barhau i gynnig trefniadau gweithio o bell a hyblyg, gan mai dyma un ffordd o fynd i'r afael â'r bwlch cyflogaeth i bobl anabl. Yn 2020, dim ond 53.7 y cant oedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl anabl, o'i gymharu ag 82 y cant ar gyfer pobl nad ydyn nhw'n anabl. Mae hyn yn niweidiol iawn, nid yn unig i unigolion, ond mae'n niweidiol i'r gymdeithas hefyd. Pan fydd economi yn un gynhwysol, ceir mwy o gynhyrchiant a thrafodaeth fwy amrywiol o ran syniadau ac arloesedd.

Am flynyddoedd cyn y pandemig, roedd ymgyrchwyr anabledd wedi bod yn pwyso ac yn dadlau dros fwy o hyblygrwydd a gweithio o bell, ac yn aml iawn, cawson nhw eu hatal. Ac eto, mae'r cyfnod clo wedi dangos y gellir gwneud y newidiadau hyn, ac yn gyflym iawn hefyd. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog am amlinelliad o sut yn union y bydd yn ceisio helpu i annog gweithio o bell a hyblyg yn barhaus? Ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld ymrwymiad i wythnos waith bedwar diwrnod, er enghraifft, yn y dyfodol agos. Fel y dywedais i eisoes, rwy'n falch o'r Gweinidog a'i ymgysylltiad â hyn, ond mae gennym ni daith hir eto os ydym ni'n awyddus i ddwyn economi Cymru hyd at lefel fwy cynaliadwy a theg.

15:10

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiynau. Rwyf i am ddechrau gyda'r pwynt y mae'n ei wneud ynglŷn â thalent a sut rydym am gynnig dyfodol gwirioneddol i bobl ifanc yng Nghymru, a'r pwynt cysylltiedig hefyd ynglŷn â'r rhai ar wasgar—y bobl hynny sydd wedi symud naill ai i fynd i brifysgol neu oherwydd cyfleoedd gwaith eraill, a'r cyfleoedd i'r bobl hynny fod yn rhan o ddyfodol Cymru yng Nghymru hefyd. Mae'n rhan o'r her yr ydym yn gwybod sydd gennym ni, ac mae'n arbennig o amlwg ar hyn o bryd oherwydd yr her ddemograffig sydd gennym ni. Mae'n bosibl y bydd gennym ni lai na chwech o bob 10 o bobl o oedran gweithio ym mhoblogaeth gyfan Cymru erbyn i ni gyrraedd y 2040au, ac mae honno'n her enfawr i ni.

Yn y gorffennol, byddai'r llwyddiant mawr sy'n ymhlyg yn y ffaith bod mwy ohonom ni'n disgwyl byw yn hŷn wedi bod yn her i mi ei hystyried yn y swydd sydd gan Eluned Morgan erbyn hyn—o ran yr heriau ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol, wrth i fwy ohonom ni ddisgwyl byw yn hirach. Ac fe wnaeth hynny yn wirioneddol ysgogi'r adolygiad seneddol a gawsom ni ar ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol ar ddechrau tymor diwethaf y Senedd. Ond mae hon, wrth gwrs, yn her economaidd sylweddol iawn i ni hefyd. Mae'n ymwneud â sut y byddwn yn sicrhau dyfodol i bobl sydd yma eisoes yn ogystal â dymuno buddsoddi yn eu dyfodol cyfan yma yng Nghymru rywbryd hefyd.

Felly, mae graddedigion yn rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei ystyried, ac, ydym, rydym ni'n edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban. Rwyf i wedi cael trafodaethau eisoes gyda'r Gweinidog addysg am y potensial i greu cymhellion i raddedigion aros yma, y bobl sy'n graddio o brifysgol yng Nghymru—. Ac mae gennym ni ormodedd o raddedigion yr ydym ni'n eu cynhyrchu yng Nghymru; rydym ni'n allforiwr net o raddedigion. I rai o'r bobl hynny sydd wedi byw ac astudio yng Nghymru, am o leiaf dair blynedd neu fwy fel arfer, i ddymuno iddyn nhw aros—. Rydym ni wedi trafod ychydig o ran graddedigion meddygol a gofal iechyd. Mewn gwirionedd, mae angen i ni gael trafodaeth ehangach ynglŷn â'r mathau o gymhellion y gallem ni eu cyflwyno mewn ffordd gynaliadwy yma yng Nghymru i annog pobl i aros, ond i ddenu pobl o'r tu allan i Gymru hefyd i fod yn rhan o'n stori ni hefyd. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle cyffrous iawn—i fod ag ymrwymiad ehangach a strategol i wneud hynny, yn ogystal â helpu pobl i ddechrau eu busnesau eu hunain.

Nawr, ni fyddwn i'n dweud ei bod hi'n deg nodweddu hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru newydd ei amgyffred. Rydym ni wedi bod ag amrywiaeth o wahanol ymyriadau i helpu i gadw pobl mewn cyflogaeth, addysg a hyfforddiant yn y gorffennol. Mae hyn yn cydnabod pa mor ddifrifol yw'r cam erbyn hyn, yn sgil yr her ddemograffig sydd gennym ni ac, wrth gwrs, yr adferiad y mae angen i ni ei weld wrth i ni, gobeithio, ddod i ddiwedd y pandemig hwn yn ystod y misoedd nesaf.

Fodd bynnag, bydd mwy o waith i ni ei wneud gyda'n partneriaid, pan gawn ni ganlyniad yr adolygiad o wariant. Felly, mwy o sicrwydd ar amrywiaeth o feysydd gwario, nid dim ond yr arian yn lle'r hyn a arferai ddod o'r Undeb Ewropeaidd, ond y gallu i gael sgwrs gyda'n partneriaid hefyd. Felly, bydd grwpiau busnes, busnesau, llywodraeth leol, ac undebau llafur yn dod yn eu holau gyda'r Llywodraeth, byddwn yn siarad dros y cyfnod nesaf hwn, ac yn edrych wedyn i gytuno ar fwy o fanylion yn ein cynllun ar gyfer y dyfodol. Felly, gallwch chi ddisgwyl clywed mwy ar ôl y digwyddiad hwnnw, ond yn fwy wrth i ni ddysgu am yr hyn a fydd yn llwyddo. Felly, oes, mae rhagor o ymyriadau polisi i'w cwblhau—rydych chi'n iawn i dynnu sylw at hynny o'r datganiad—ond ni fyddwn i â golwg besimistaidd ar hyn gan feddwl oherwydd nad oes dogfen fanwl o 100 tudalen yn barod ar hyn o bryd, fod hynny'n golygu nad oes yna ddim a all ddigwydd neu na fydd yna ddim yn digwydd. Rwy'n fwy na pharod i siarad ag ef am hynny ac, yn wir, â llefarydd y Ceidwadwyr wrth i ni weithio drwy hyn yn y misoedd nesaf.

O ran y pwynt ynglŷn â chwmnïau cydweithredol, wrth gwrs, fe fydd dadl yfory. Rwy'n gwybod bod yna Aelod ychydig y tu ôl i mi ac i'r dde sy'n awyddus i bledio'r achos dros ddeddfwriaeth, ond mae'n rhan o'r hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei gydnabod am y cyfle sydd yno i gynyddu maint yr economi gydweithredol. Mae gennym ni ymrwymiad yn ein maniffesto i ddyblu maint yr economi gydweithredol o fewn y tymor Senedd hwn, ac rwyf i o ddifrif yn fy mwriad i wneud hynny.

Ac o ran cyflogaeth i'r anabl ac nid cyflogaeth i'r anabl yn unig, ond yn fwy felly'r cyfleoedd i weithio o bell, dyma rywbeth yr ydym ni i gyd wedi ei weld yn cynyddu ar ei ganfed yn ystod y pandemig ac mae hwn yn gyfle arall i Gymru. Roedd gennym ni ymrwymiad eisoes ar ddiwedd y tymor Senedd diwethaf i gynyddu nifer y bobl sy'n gallu gweithio o bell. Mae'r pandemig wedi cyflymu'r duedd honno yn wirioneddol wrth i fwy o bobl, o anghenraid, ymgyfarwyddo â gweithio mewn lleoliad arall, gan fod mwy o bobl wedi newid eu barn eto ar y cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd y tu allan i'r gwaith, a sut y maen nhw eisiau byw a gweithio, o ran cymudo, neu beidio â chymudo, ond yr hyn y mae hynny'n ei olygu wedyn hefyd o ran natur newidiol y byd gwaith. A dyma fan lle mae'r canolfannau yr ydym ni'n eu datblygu yn rhan o'r ateb, ond mae'r busnesau eu hunain, yn aml drwy gydweithio ag undebau llafur sy'n dymuno gweld setliad yn hyn o beth hefyd, yn cydnabod y gallan nhw gael mwy o enillion cynhyrchiant i'w gweithlu drwy weithio mewn ffordd wahanol. Ond hefyd, i rai pobl, fe all hyn wella eu perthynas â'r byd gwaith hefyd.

Cefais fy nharo yn fawr gan sgwrs a gefais i ag undeb llafur sy'n trefnu yn y sector preifat, a dywedodd un o'u huwch drefnwyr wrthyf i eu bod nhw wedi gweld gostyngiad sylweddol yn yr honiadau o fwlio ac aflonyddu ar bobl drwy gyfnod y pandemig. Wrth i bobl ddychwelyd i weithio mewn dull mwy arferol ond gyda model hybrid yn parhau i fod ar waith, mae hynny'n gwella eu bywyd yn y gwaith yn ogystal â'r tu allan iddo i lawer o bobl, yn ogystal â'r ffordd y mae pobl yn ymddwyn tuag at ei gilydd. Felly, ceir cyfleoedd gwirioneddol yn ogystal â heriau wrth wneud hyn, ond rwyf i'n obeithiol y gall y cyfnod hwn o newid fod yn un adeiladol iawn i Gymru os gall pob un ohonom ni gytuno ar yr hyn yr ydym ni am ei wneud i achub ar y cyfle.

15:15

Mae gen i nifer o siaradwyr sy'n dymuno cymryd rhan eto, felly a wnewch chi i gyd geisio bod yn gryno a chithau, Gweinidog, roi atebion cryno hefyd? Mike Hedges.

Diolch. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn ac yn edrych ymlaen at ddatganiadau a thrafodaethau economaidd pellach. Rwy'n croesawu'n fawr iawn fynd ar drywydd polisi economaidd blaengar sy'n canolbwyntio ar swyddi gwell, gan leihau'r rhaniad sgiliau a mynd i'r afael â thlodi. Yr arf gorau o ran datblygiad economaidd yw addysg. Mae angen polisi arnom sy'n cynhyrchu mwy o gwmnïau fel Yswiriant Admiral a llai o fewnfuddsoddiadau LG. Rwy'n croesawu'r fenter i gefnogi cwmnïau lleol. Yn rhy aml rydym ni wedi gweld ffatrïoedd cangen yma am gyfnod byr cyn iddyn nhw adael.

Mae llawer y gallwn ni ei ddysgu o UDA, Lloegr ac Ewrop o ran gweithio gyda phrifysgolion i ddatblygu'r economi. Mae'n rhaid i ni fod ag economi o sgiliau uchel, cyflog uchel gyda chyfleoedd i bawb. Mae gormod o fyfyrwyr o Gymru yn gadael Cymru ar ôl graddio, yn aml heb ddychwelyd wedyn. Dros y 10 mlynedd diwethaf rydym ni wedi hyrwyddo sectorau TGCh, gwyddorau bywyd, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi i hyrwyddo a datblygu'r sectorau economaidd hyn, sydd yn sectorau cyflog uchel? A beth sy'n cael ei wneud i ddatblygu mwy o barciau gwyddoniaeth dan arweiniad prifysgolion, fel M-SParc ar Ynys Môn?

Rwy'n credu y cafwyd dau gwestiwn ar ddiwedd hynny, ac o ran y cyntaf, o ran y sector gwyddorau bywyd, mae hwn yn gyfle allweddol i ni. Nawr, mae'r Gweinidog iechyd, Eluned Morgan, a minnau wedi cael trafodaethau ynglŷn â hyn yn ystod y tymor blaenorol, yn ein swyddi gwahanol, ac yn ystod y tymor hwn eto hefyd, gan ein bod ni'n cydnabod bod hwn yn faes lle mae Cymru yn gwneud yn well na'r disgwyl, ac mae yna swyddi da, swyddi â chyflogau uchel. Rydym ni eisoes wedi gweld mwy o'r rhain yn dod i Gymru ar gyfer y dyfodol. Rydym ni o'r farn y gallwn ni gael mwy ohonyn nhw. Wrth gwrs, mae hyn yn gysylltiedig â gwariant ar arloesedd ledled y DU, ac rydym ni'n ymdrin â Gweinidog arloesi newydd, gan nad yw'r Arglwydd Bethell yn y Llywodraeth mwyach. Arglwydd Kamall sydd â gofal am hyn o safbwynt y DU erbyn hyn, ac rwyf i o'r farn bod yna gyfleoedd gwirioneddol i Gymru y mae Eluned Morgan a minnau yn awyddus i fanteisio arnyn nhw.

Ac o ran parciau gwyddoniaeth dan arweiniad prifysgolion, ni fyddwn i mor bendant mai un model addas sydd, ond rwyf i yn credu, o ystyried y rhan honno o fy nghyfrifoldeb yn Weinidog gwyddoniaeth y Llywodraeth, yn y drafodaeth a gefais i neithiwr gyda Rhwydwaith Arloesi Cymru, mae cyfle gwirioneddol yma i fod ar ein hennill o weld cydweithredu rhwng y byd academaidd a busnesau, a chymhwyso'r wybodaeth a gafwyd, boed hynny'n brosiect unigol neu yn wir drwy glystyru'r grwpiau hynny gyda'i gilydd. Felly, rwy'n chwilio am gyfleoedd i wireddu hynny, ac rwy'n credu y byddwn ni'n gweld mwy o'r rhain yn y dyfodol, ac mae angen gwirioneddol am hynny os ydym yn dymuno cael yr economi sgiliau uchel, cyflog uchel y mae pob un ohonom ni'n awyddus i'w gweld.

15:20

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Mae tri mater yr hoffwn i eu codi yn fyr gyda chi. Yn gyntaf, cynhyrchiant. Cynhyrchiant yw'r her fwyaf sy'n wynebu economi Cymru. Nid ydych chi wedi trafod hynny yn y datganiad, a hoffwn i ddeall beth fydd dull gweithredu'r Llywodraeth hon o ran cynhyrchiant.

Yn ail, fe wnaethoch chi gloi eich datganiad drwy ddweud eich bod yn awyddus i weld economi sy'n fwy cryf, gwyrdd a theg yng Nghymru. Beth mae hynny'n ei olygu? Oherwydd rwy'n credu mai un o'r problemau gwirioneddol sydd gen i ynglŷn â llawer o ddatganiadau'r Llywodraeth yw nad yw'r amcanion, na'r targedau, na'r eglurder gennym i ddeall beth mae hynny'n ei olygu i bobl ym Mlaenau Gwent. Sut byddwn ni'n gwybod ei bod yn economi fwy cryf, yn economi fwy gwyrdd, yn economi fwy teg?

Ac yn olaf, Gweinidog, roedd y pwynt y ceisiais ei wneud yn fy nadl fer i yr wythnos diwethaf yn ymwneud â chyflawni. Mae gan Lywodraeth Cymru strategaethau effeithiol iawn ar waith ond yn aml nid yw'r rhain yn cael eu cyflawni yn y ffordd y byddem ni'n disgwyl ac yn gobeithio ei gweld yn cael eu cyflawni. Ac wrth i mi edrych yn ôl dros fy amser i yn y lle hwn, cyflawni fu'r man gwan yn ymagwedd Llywodraeth Cymru. Felly, sut ydych chi'n bwriadu sicrhau bod gennych chi'r dulliau cyflawni ar waith fel bod gennym ni fwy na strategaeth, fel ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl?

Diolch i chi am y cwestiynau yna. Mewn gwirionedd, mae'r her o ran cynhyrchiant yn fater i bob economi fodern, ac mae'n rhan o'r rheswm pam mae buddsoddi mewn talent mor bwysig. Oherwydd heb i chi allu newid systemau gweithio, neu oni bai y gallwch chi gynyddu gallu unigolion i wneud eu gwaith yn well neu'n gynt, bydd yr her o ran cynhyrchiant yn parhau i bob un ohonom ni ym mhob sector, bron â bod. Felly, dyna pam mae angen i ni gael rhywfaint o sefydlogrwydd wrth fuddsoddi mewn sgiliau, ymchwil a datblygu, ac arloesi. Os na allwn ni gynhyrchu mwy yn y meysydd hynny, yna, mewn gwirionedd, byddwn ni'n ei chael hi'n wirioneddol galed i weld gwelliant o ran cynhyrchiant.

Yn ystod datganoli, rydym ni wedi gweld cynnydd o ran cynhyrchiant, ond ein her ni yw pa un a yw hyn wedi bod yn ddigon cyflym a pha un a yw hyn yn cymharu â gweddill y DU, yn enwedig â rhanbarth de-ddwyrain Lloegr, heb sôn am y gallu i ddal i fyny a chyrraedd pwynt lle gwelwn ni'r her sydd gennym ni nid yn unig o ran cynhyrchiant, a beth mae hynny'n ei olygu i gyflogau a ffyniant i deuluoedd unigol, ond o ran cymunedau hefyd. Ac mae'n debyg bod hynny'n cyffwrdd â'ch pwynt chi ynglŷn â'r hyn y mae economi sy'n fwy cryf, gwyrdd, a theg yn ei olygu.

Wel, y perygl yw ein bod ni bob amser—. Y ffordd yr ydym ni'n ymgyrchu, a'r ffordd y mae'n rhaid i ni weithredu yn y Llywodraeth wedyn, rydych chi'n gweld llawer mwy o'r arlliw a'r manylder yn dod i'r amlwg wrth weithredu. Byddwn i'n dweud y bydd economi gryfach yn un fwy cadarn hefyd, lle rydym ni'n gwneud mwy na gwella'r cyfraddau ar gyfer talu cyflogau, ond lle mae tegwch yn rhan o'r cyflogau hefyd, a ble caiff y cyflogau hynny eu talu, ac i bwy, hefyd, i sicrhau na welwn ni rai o'r anghydraddoldebau strwythurol sydd gennym ni eisoes.

Mae angen i ni hefyd, o ran tegwch, ystyried dynion a menywod yn y gweithle. A'r her wahanol sydd gennym ni yw'r heriau croestoriadol sy'n ein hwynebu ni. Mae rhywun sy'n edrych fel fi yn y wlad hon yn debygol o ennill llawer llai na rhywun sy'n edrych fel yr Aelod, ac nid yw hynny oherwydd bod gan rywun sy'n edrych fel fi lai o dalent. Felly, mae angen i ni gydnabod hynny yn y ffordd y mae ein heconomi ni'n gweithio yn fwy eang ac yn fwy cyffredinol.

Ac o feddwl am eich dadl fer chi a'ch pwyslais ar gyflawni a sicrhau bod rhywbeth yn digwydd, os na allwn ni weld cam sylweddol ymlaen yn ystod y tymor hwn a thu hwnt yn ardal Blaenau'r Cymoedd, ni fyddwn yn gwireddu ein huchelgeisiau ar gyfer dyfodol y wlad: yr economi gryfach, wyrddach a thecach honno yr ydym ni yn awyddus i'w gweld.

Felly, o ran y trafodaethau yr wyf i wedi eu cael eisoes gyda phartneriaid rhanbarthol: y cyd-bwyllgorau corfforaethol newydd, y strwythurau rhanbarthol newydd y mae pawb wedi ymrwymo iddyn nhw, beth fyddan nhw'n ei gyflawni? A fyddwn ni'n gweld gwybodaeth yn cael ei rhannu am le mae dewisiadau y bydd yr ardaloedd rhanbarthol hynny'n eu gwneud nhw drostyn nhw eu hunain, heb Lywodraeth Cymru, ardaloedd lle mae partneriaethau gwirioneddol a dealltwriaeth glir o bwy sy'n gyfrifol am beth a phwy fydd yn bwrw ymlaen ac yn cyflawni hynny? Ac mae'n siŵr y bydd yr Aelod yn dod yn ei ôl ac yn dweud, 'Wel, beth sy'n digwydd yn fy nghymuned i? Beth sy'n digwydd yn ardal Blaenau'r Cymoedd? A ydw i'n gweld fy nghymuned i'n mynd yn fwy ffyniannus mewn gwirionedd? A yw amodau economaidd-gymdeithasol y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli yn gwella ai peidio?' Dyna'r prawf yr wyf i'n gwybod y bydd yr Aelod yn ei roi, ac rwy'n edrych ymlaen at gael y drafodaeth honno gydag ef.

Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am eich datganiad. Teitl y datganiad penodol hwn oedd 'Symud Economi Cymru Ymlaen', ac mae hi'n braf iawn clywed un o Weinidogion Llywodraeth Lafur Cymru sy'n dymuno symud yr economi ymlaen. Ond mae hyn yn dod oddi wrth Weinidog y mae ei blaid wedi bod yn y Llywodraeth yma yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf a mwy. Gweithwyr Cymru sydd â'r cyflogau wythnosol isaf ym Mhrydain Fawr, tra bod busnesau yng Nghymru yn talu'r gyfradd uchaf o ardrethi busnes ym Mhrydain Fawr, ac, ar ben y cwbl, mae penderfyniadau allweddol o ran seilwaith i sbarduno ein heconomi ymlaen ar ôl COVID wedi eu rhewi gan y Dirprwy Weinidog drwy ei foratoriwm ar adeiladu ffyrdd. Serch hynny, os ydym ni am symud yr economi ymlaen, efallai fod hynny i gyd yn y gorffennol.

Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi sôn am brentisiaethau. Rwy'n credu bod hwnnw'n gam cadarnhaol iawn. Wyddoch chi, rwy'n credu bod y gronfa i gefnogi cwmnïau lleol, yn rhywbeth cadarnhaol. Roedd rhai pethau cadarnhaol yn eich datganiad—

Gwnaf, fe ddof i at hynny nawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu y gallech chi fod wedi mynd ymhellach. Felly, Gweinidog, a wnewch chi geisio buddsoddi mewn seilwaith nawr i ddenu busnesau mawr? A wnewch chi eu cefnogi drwy dorri ardrethi busnes a grymuso pobl ifanc drwy greu mwy o swyddi medrus, datblygu mwy o gartrefi, buddsoddi mwy o arian mewn addysg a hyfforddiant a chodi gwastad y wlad gyfan y tu hwnt i Gaerdydd?

15:25

Oherwydd dyna sut mae codi gwastad yr economi, Gweinidog. A ydych chi'n cytuno?

Wel, mae'n gyfres ddiddorol o sylwadau. Nid wyf i'n siŵr a yw wedi gwrando ar y datganiad na'r atebion blaenorol yr wyf i wedi eu rhoi pan wyf i wedi sôn am fuddsoddi mewn sgiliau ac wedi trafod buddsoddi mewn pobl ifanc. Rydym ni wedi trafod y ffaith bod economi Cymru wedi gwella yn ystod datganoli, ac rwy'n falch iawn o fod yn dilyn Ken Skates yn y swydd hon: rhywun a wnaeth wahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol yr economi i Gymru; rhywun na allech chi ei gyhuddo o beidio â bod yn awyddus i ddwyn economi Cymru ymlaen. Rwy'n credu ein bod ni'n edrych tua'r cyfeiriad cywir. O na fyddai gennym ni Lywodraeth y DU o'n plaid ni a fyddai'n barod i weithio gyda'r Llywodraeth Cymru hon i fuddsoddi mewn busnesau yng Nghymru ac yn y dyfodol, nad oedd yn tynnu oddi wrth Gymru, mewn un flwyddyn galendr, fwy na dwbl maint cyllideb Cyngor Sir Fynwy, gallem ni wneud mwy eto. Ac rwyf i o'r farn bod pobl Cymru yn cytuno â ni. Wedi'r cyfan, eu dewis nhw fu ethol Llywodraethau dan arweiniad Llafur Cymru am y ddau ddegawd diwethaf.

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, ac i'r Gweinidogion blaenorol am eu hymrwymiad nhw i ddwyn economi Cymru ymlaen hefyd. Fy nghymuned i, fel y gŵyr y Gweinidog, yw cadarnle gweithgynhyrchu Cymru, ac mae'n her i bob un ohonom ni sy'n llunio polisïau, a Gweinidogion ym mhob Llywodraeth yn arbennig, i sicrhau bod technoleg adnewyddadwy y dyfodol yn cael ei chynllunio a'i datblygu mewn cymunedau fel fy un i, ac yna yn cael ei chynhyrchu a'i gwasanaethu wedyn mewn cymunedau fel fy un i. Ac rwy'n siŵr y bydd llawer o'r Aelodau yn ymwybodol o'r tri pholisi beiddgar a nodais i cyn yr etholiadau: prawf incwm sylfaenol cyffredinol, wythnos waith bedwar diwrnod a bargen newydd werdd, a phwysigrwydd bargen newydd werdd, oherwydd ei bod yn cyflawni'r tri nod ehangach yr ydym ni i gyd wedi ein hethol i'w cyrraedd, sef creu swyddi, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac, yn bwysicaf oll, osgoi'r materion trychinebus sydd gennym ni o ran newid yn yr hinsawdd. Felly, Gweinidog, a ydych chi'n cefnogi fy ngalwad i am fargen newydd werdd, ac a wnewch chi nodi'n fanylach sut y byddwch chi'n sicrhau bod fy nghymuned i yn Alun a Glannau Dyfrdwy yn elwa ar y don nesaf o greu swyddi wrth i ni ddwyn economi Cymru ymlaen?

Wel, rwy'n credu mai hwnnw yw'r diffiniad o'r hyn yr ydym ni'n ei galw yn 'fargen newydd werdd'. Pan fyddwch chi'n clywed Julie James yn trafod yr ail gynllun cyflawni carbon isel, rydym yn clywed llawer am arwain at economi newydd werdd i sicrhau ein bod ni'n gwella ein heffaith—ein heffaith amgylcheddol—ar ein gweithgarwch heddiw, a gwneud yn siŵr y gallwn ni fanteisio ar y diwydiannau hynny sydd yma eisoes. Rydym ni wedi cael cyflwyniadau yn ddiweddar, ac roedd llawer o'r Aelodau yn bresennol ynddyn nhw, ar gyflwyno ynni ar y môr, ond mae cyfleoedd mawr, nid yn unig wrth greu y rhain, ond yn y gadwyn gyflenwi sy'n dod gyda hynny, a dylai fod swyddi ar draws y sector cyfan.

Y seilwaith hydrogen a ddylai gael ei ddatblygu ar draws gogledd-orllewin Lloegr a thrwy ogledd Cymru, a'r cyfleoedd ar gyfer diwydiannau pellach hefyd. Ac yn eich etholaeth chi, a byddwch chi'n gwybod hyn, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru ac Airbus a'u hawydd nhw i weld tanwyddau'r dyfodol, i ddatgarboneiddio'r ffordd y mae'r diwydiant awyr yn gweithio. Mae gennym ni gyfleoedd enfawr a risgiau os na fyddwn yn barod i gymryd y cam hwnnw ymlaen.

Ac, wrth gwrs, bydd ein diwydiannau traddodiadol yn parhau i fod yn bwysig hefyd, gan gynnwys dur Shotton, wrth gwrs, lle cefais gyfle i ymweld â'r Aelod, a'r cyfle i sicrhau bod y diwydiannau gwerth uchel hynny yn gallu datgarboneiddio, ond mewn ffordd lle mae'r newid yn un cyfiawn heb unrhyw golled o ran swyddi.

Diolch, Gweinidog, am y datganiad heddiw. Yng nghyd-destun y pum mlynedd diwethaf, Brexit, toriadau cyni ac, wrth gwrs, y pandemig, mae angen cynllun uchelgeisiol arnom i ddwyn economi Cymru ymlaen. Mae'n rhaid i hyn ddechrau gyda busnesau lleol fel Flowtech yn y Rhondda, busnes y bu'r Gweinidog a minnau yn ymweld ag ef ddoe, a fydd yn ehangu o ganlyniad i gontract economaidd Llywodraeth Cymru, ac, ochr yn ochr â miloedd o fusnesau eraill yn y Rhondda, bydd yn cyfrannu at ymdrech ehangach tîm Cymru i greu dyfodol economaidd sy'n fwy cryf, teg a gwyrdd.

Cyn i mi gael fy ethol i'r lle hwn, bues i'n gweithio ym maes addysg ac yn rhedeg elusen i gefnogi pobl ifanc y Rhondda. Y neges yr wyf i wedi ei chlywed gan ein pobl ifanc ers llawer gormod o amser fu, 'I lwyddo, mae'n rhaid gadael.' Beth all y Gweinidog ei ddweud wrth y bobl ifanc hynny yn y Rhondda sy'n dymuno gwneud eu bywoliaeth yng Nghymru, ond sy'n teimlo nad yw hyn yn bosibl?

Wel, ein gwaith ni yw sicrhau bod gan y bobl hynny ddyfodol lle na fydd angen iddyn nhw adael er mwyn llwyddo. Ac, mewn gwirionedd, pan aethom ni i ymweld â Flowtech ddoe, fe welsom ni fod llawer o bobl o fewn pellter cerdded i'r cyflogwr hwnnw hefyd, felly roedd yn fusnes gwirioneddol leol wedi ei ymsefydlu yn wirioneddol yn y gymuned honno. Ac, wrth gwrs, fel y dywedodd yr Aelod dros y Rhondda, yn ogystal â chontract economaidd yn awr, maen nhw'n treialu cam nesaf contract economaidd gwell i edrych ar yr ymrwymiad y byddan nhw'n ei wneud i'w gweithlu a'u heffaith ar eu cymuned leol. Ac rwyf i yn credu, drwy'r warant i bobl ifanc a'r ymyriadau sydd gennym ni, ond hefyd ymdeimlad gwirioneddol o optimistiaeth o ran ein dyfodol economaidd, y byddwn yn gallu dweud yn uniongyrchol wrth bobl, 'Mae dyfodol yma i chi yn eich cynefin. Mae'n ddyfodol disglair a chadarnhaol, ac yn wir nid oes angen i chi adael Cymru i lwyddo.' Nawr, rwy'n credu bod honno yn neges y gallai pawb yn y Siambr hon ei chefnogi.

15:30

Diolch am y datganiad. Gweinidog, etholodd pobl dda Islwyn a Chymru Lywodraeth Lafur Cymru yn ôl ym mis Mai oherwydd eu hawydd democrataidd i ymddiried yn Llywodraeth Lafur Cymru i dyfu economi Cymru yn ôl yn decach, yn gryfach ac yn wyrddach. Rwyf hefyd yn croesawu gwarant pobl ifanc Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi'r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb dan 25 oed yng Nghymru. Rwyf hefyd yn croesawu'r cynllun treialu incwm sylfaenol cyffredinol arloesol a radical ar gyfer ein pobl ifanc sy'n derbyn gofal. Mae'n hanfodol ein bod yn buddsoddi yn ein hieuenctid ac rydym yn adeiladu llwybr i genedlaethau'r dyfodol ddysgu, byw a ffynnu yn y cymunedau y maen nhw'n byw ynddyn nhw. Fodd bynnag, er gwaethaf angerdd, optimistiaeth ein pobl ifanc nawr, y ddemocratiaeth fywiog sy'n cydio nawr, a'n Senedd Ieuenctid unigryw ac arloesol, rydym hefyd yn parhau i wynebu heriau gwirioneddol anodd—

Gweinidog, mae'r weledigaeth ar gyfer economi Cymru wedi'i nodi'n glir gennych o dan ymbarél 'tîm Cymru'. Felly, Gweinidog, wrth inni nesáu at strategaeth ddi-garbon y DU a'i hystyried wrth agosáu at COP26, beth yw'r heriau, a beth yw'r rhwystrau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu er mwyn parhau i greu dyfodol tecach, cryfach a gwyrddach i'r holl bobl sy'n ystyried Islwyn yn gartref?

Rwy'n credu ei fod yn berthnasol i bobl yn Islwyn ac ym mhob etholaeth a rhanbarth ledled Cymru; ein gallu i fuddsoddi mewn diwydiannau yn y dyfodol gyda'r lefel o sicrwydd y bydd ei angen arnom. Mae angen i Lywodraeth y DU gydweddu â'r sefydlogrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu drwy gynnig lefel o gysondeb hefyd, oherwydd, mewn gwirionedd, os oes gennym ymagwedd ychydig yn anhrefnus at y dyfodol, gyda'r holl wrth-friffio sy'n digwydd, mae'n gwneud ein holl swyddi'n llawer anoddach. Mae busnesau'n dweud, pan nad ydyn nhw o flaen camera, ond mewn gwirionedd, eu bod wirioneddol eisiau cael amgylchedd mwy cynaliadwy i ddeall a fydd yr addewidion sy'n debygol o gael eu gwneud yn y cyfnod cyn COP26 gan Lywodraeth y DU yn cael eu gwireddu, os ydym mewn gwirionedd yn mynd i gael cyfle i fuddsoddi yn y sgiliau hynny yn y dyfodol, diwydiannau yn y dyfodol, oherwydd mae'r Llywodraeth hon yn barod i wneud hynny. Ac rwy'n credu y bydd pob Aelod yn y Siambr hon, pan fydd Julie James yn nodi'r ail gynllun cyflawni carbon isel hwnnw, yn gweld maint yr uchelgais sydd gan y Llywodraeth hon, ond hefyd, pa mor anodd fydd rhai o'r dewisiadau hynny. Bydd angen i ni newid y ffordd yr ydym yn byw a'r ffordd yr ydym yn gweithio i gyflawni ein huchelgeisiau, ond rwy'n credu yng Nghymru fod gennym gyfraniad gwirioneddol i'w wneud, nid yn unig i ni ein hunain, ond ein heffaith ar y byd ehangach hefyd. Llawer o ddiolch.

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Diogelu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer y Gaeaf 2021-22

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol: cynllun diogelu iechyd a gofal cymdeithasol 2021-22. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Bob blwyddyn, mae'r GIG yn datblygu cynllun ar gyfer sut y bydd yn ymdopi â'r galwadau cynyddol dros y gaeaf, ac nid yw eleni'n eithriad. Mae'r paratoadau eisoes wedi bod yn digwydd ers misoedd lawer. Rydym yn gwneud y datganiad hwn heddiw er mwyn rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd drafod ein cynlluniau cyn cyhoeddi'r adroddiad yn ffurfiol ddydd Iau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i Aelodau nodi, yn gyffredinol, fod cynllun y gaeaf yn gyfarwyddyd i'r GIG ac fel arfer mae'n ddogfen fewnol, er ein bod yn deall y diddordeb gwleidyddol yn y cynllun eleni wrth i ni weld heriau i'n gwasanaethau iechyd a gofal eleni, nad ydym ni erioed wedi gweld eu tebyg yn hanes y GIG.

Rydym yn mynd i'r gaeaf hwn gyda chyfraddau uchel iawn o COVID o hyd, pan ydym yn disgwyl pwysau ychwanegol sylweddol o ffliw'r gaeaf, ac rydym yn ceisio gwneud cynnydd wrth fynd i'r afael â'r ôl-groniad o driniaethau sydd wedi datblygu yn ystod y pandemig. Bydd hyn yn digwydd ar adeg pan fo'r GIG a gweithwyr gofal wedi blino'n lân, pan fo'r llif drwy ein hysbytai wedi'i gyfyngu oherwydd heriau o ran rhyddhau cleifion pan fyddan nhw'n barod i adael, a chynnydd yn y galwadau ar ein meddygfeydd meddygon teulu a phwysau enfawr ar ein gwasanaethau ambiwlans.

Dyna'r cefndir wrth i ni gyhoeddi cynllun y gaeaf hwn. Wrth wraidd cynllun y gaeaf mae penderfyniad i gydweithio â'r GIG, llywodraeth leol ac, yn ddelfrydol, y cyhoedd, wrth ofyn i bob un ohonom chwarae ein rhan i leihau cymaint o'r pwysau sydd ar y system â phosibl. Bydd rhaglen gynhwysfawr i gyfeirio'r cyhoedd at y lle priodol ar gyfer gofal, na fydd bob amser yn feddyg teulu mewn gofal sylfaenol neu'n adran ddamweiniau ac achosion brys mewn gofal eilaidd. Nid yw COVID ar ben, a rhan ganolog o'n cynllun yw sicrhau ein bod yn brechu ac yn parhau â'n rhaglen profi, olrhain a diogelu drwy fisoedd y gaeaf. Byddwn yn adolygu ein rhaglen Adferiad ar gyfer COVID hir, fel yr addawyd, er mwyn cael yr wybodaeth a'r data diweddaraf.

Bydd iechyd meddwl yn ganolog i'r gefnogaeth y byddwn ni'n ei darparu dros fisoedd y gaeaf. Bydd yn parhau i fod yn wasanaeth hanfodol, waeth beth yw'r pwysau dŷn ni'n debygol o'u hwynebu. O ran gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau meddygon teulu, bydd pwyslais gwirioneddol ar salwch anadlol, gan sicrhau bod cleifion yn gallu cael mynediad at ofal sylfaenol pan fydd ei angen arnyn nhw. Mae'n bwysig nodi y gallai hyn fod trwy apwyntiad rhithwir, er y bydd apwyntiadau wyneb yn wyneb ar gael os bydd angen. Byddwn yn gofyn i'r fferyllfeydd cymunedol gamu i'r adwy unwaith eto, fel y mae'n nhw wedi parhau i'w wneud drwy gydol y pandemig.

O ran gofal wedi ei gynllunio, byddwn ni'n onest â'r cyhoedd, ac yn egluro y bydd yn anodd gweithio trwy'r niferoedd uchel ar ein rhestrau aros dros y gaeaf. Efallai y bydd angen i ni hyd yn oed addasu'r system a lleihau'r niferoedd sy'n cael triniaeth a oedd wedi ei chynllunio os bydd y pwysau ar y system yn dal i gynyddu. Ond byddwn ni'n sicrhau bod byrddau iechyd yn cadw mewn cysylltiad â phobl sy'n aros, ac yn cynnig y gefnogaeth a'r cymorth lleddfu poen y gall fod ei angen arnyn nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn. Yn y cyfamser, byddwn ni'n gweithio ymhellach ar sut dŷn ni'n bwriadu bwrw ymlaen â diwygiadau er mwyn gallu gwneud cynnydd sylweddol o ran y rhestrau aros. Byddwn yn rhoi rhagor o fanylion am y rhain yn ein huwchgynhadledd ar ofal ym mis Tachwedd.

Bydd y Senedd yn ymwybodol bod y pwysau ar ein system gofal brys ac argyfwng yn enfawr. Mae gyda ni gynllun clir iawn ar sut i fynd i'r afael â'r mater hwn, gan gynnwys cyflwyno'r gwasanaeth 111 yn genedlaethol, defnyddio cymorth y fyddin, mwy o bwyslais ar drosglwyddo cleifion ambiwlans yn brydlon, a'r system o flaenoriaethu cleifion mewn adrannau achosion brys. Un o'r meysydd y byddwn ni wir yn canolbwyntio arnynt yw pwysigrwydd rhoi cefnogaeth a chymorth i'n gwasanaethau gofal. Byddwn yn manylu rhagor am hyn yn nes ymlaen yn ystod yr wythnos yma, ond allaf i ddim pwysleisio ddigon pa mor bwysig yw hi i gefnogi ein gwasanaethau gofal a'n gweithwyr gofal dros y cyfnod heriol hwn. Os ydym ni am ryddhau pobl o'r ysbyty, mae angen inni wybod y byddan nhw'n cael eu cefnogi yn y gymuned, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n hawdurdodau lleol i gyflawni hyn.

Yn olaf, allwn ni ddim gwneud dim o hyn heb ein gweithlu iechyd a gofal anhygoel. Byddwn yn sefyll gyda nhw ac yn eu cefnogi wrth iddynt ddechrau ar yr amser anoddaf yn eu hanes. Bydd y gwasanaeth iechyd yn cael ei wthio i'r eithaf y gaeaf hwn, a dŷn ni'n gofyn i'r cyhoedd ddefnyddio'r gwasanaethau hyn yn ddarbodus, a gwneud eu rhan nhw er mwyn inni allu symud drwy'r gaeaf gyda'n gilydd. Diolch.

15:35

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i ddiolch ichi am eich diweddariad a gawsom heddiw ynghylch y cynllun iechyd a gofal ar gyfer y gaeaf? Ond dyna ydyw, wrth gwrs, heddiw—diweddariad ac nid y cynllun ei hun. Rwy'n credu y bydd Aelodau ar draws y Siambr hon, a'r cyhoedd yng Nghymru, yn siomedig eu bod nhw wedi gorfod gweld oedi pellach ychydig cyn i ni fynd at doriad y Senedd. Ac rwy'n nodi yn eich sylwadau agoriadol heddiw, Gweinidog, i chi ddweud mai datganiad yw hwn er mwyn rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd drafod y cynlluniau cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi'n ffurfiol ddydd Iau. Ond os nad ydyn nhw'n cael eu cyhoeddi'n gyhoeddus, yna mae'n anodd iawn i ni graffu ar y cynlluniau hynny, wrth gwrs. Rwyf am  ddiolch i chi, Gweinidog, am eich galwad y bore yma; rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y briff technegol a roddoch i mi ac Aelodau eraill y Siambr hon y bore yma, gan eich swyddogion. Gwerthfawrogwyd hynny'n fawr.

Rhaid imi ddweud, serch hynny, nad wyf yn derbyn eich pwyntiau o fewn eich datganiad ei bod fel arfer yn ddogfen fewnol i'r GIG—ac rwy'n barod i gael fy nghywiro os yw hynny'n anghywir. Ond os yw hynny'n wir, yna byddwn i'n dweud: beth a wnaeth eich rhagflaenydd ei gyhoeddi ar 15 Medi 2020 yn ei gynllun diogelu'r gaeaf? Roedd hyn yn cynnwys fframwaith ar wasanaethau hanfodol a rheolaidd, gofal brys ac argyfwng, y rhaglen frechu, gofal sylfaenol a chymunedol, gofal cymdeithasol, cartrefi gofal—gallwn fynd ymlaen. Ond soniodd hefyd am ddyraniadau gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r GIG dros y gaeaf. Soniodd hefyd o ran ei ddiben am gynllun trosfwaol Llywodraeth Cymru, sy'n disgrifio'r cyd-destun a'r blaenoriaethau eang ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol tan fis Mawrth 2021. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog am esboniad ar nifer o faterion yn y fan yna? Pam na chyhoeddwyd y cynllun yn gynharach ym mis Medi? Pam y cawsom oedi pellach cyn y caiff y cyhoedd weld y cynllun hwn? Ac efallai y gwnewch chi hefyd egluro pam yr ydych yn dweud bod y cynllun hwn fel arfer yn ddogfen fewnol, o ystyried yr hyn yr wyf newydd ei ddweud.

Mae wedi cymryd amser hir i Lywodraeth Cymru ddod â'i dogfen fframwaith at ei gilydd, ac mae'n ymddangos, dros y mis diwethaf, nad yw'r cyfathrebu rhwng Gweinidogion a GIG Cymru wedi bod yn gwbl glir. Rhoddaf rai enghreifftiau yn hynny o beth: mewn ymateb i arweinydd yr wrthblaid ym mis Medi ynghylch cyhoeddi cynlluniau pwysau'r gaeaf, fe wnaeth y Prif Weinidog osgoi hyn yn llwyr, gan gyfeirio at ddiweddaru'r cynllun rheoli coronafeirws yn rheolaidd. Ond, ddeuddydd yn gynharach, ac ar ôl i chi sôn wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol eich bod wedi bod yn paratoi ar gyfer y gaeaf yn gynharach nag erioed o'r blaen, sicrhaodd y prif weithredwr y pwyllgor y bydd cynllun gaeaf clir iawn i'w weld ac y bydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod mis Hydref. Gweinidog, a wnewch chi roi rhywfaint o sicrwydd i'r Senedd heddiw eich bod chi a Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu'n glir â GIG Cymru ac awdurdodau lleol ynghylch eich nodau cyffredinol ar gyfer lliniaru pwysau'r gaeaf? Byddwn i'n dweud, Gweinidog, ei bod yn gwbl hanfodol, ar yr adeg hon o bwysau eithafol ar GIG Cymru, fod gennym gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru. Mae gennym amseroedd aros damweiniau ac achosion brys sy'n torri record, nifer y bobl ar restrau aros yn torri record, ac mae un o bob pedwar o bobl yn aros am fwy na 12 mis am driniaeth. Felly, mae'n hanfodol bod gennym gynllun clir gan Lywodraeth Cymru.

Gan droi at eich datganiad ei hun, rydych yn sôn mai rhan ganolog o'r cynllun fydd brechu, a dywedodd eich datganiad ym mis Medi eich bod wedi dechrau'r rhaglen atgyfnerthu rhag COVID. Nid ydym eto wedi gweld unrhyw ffigurau ynghylch y bobl sy'n manteisio ar y rhaglen i ddangos pa mor llwyddiannus, neu beidio, yw'r rhaglen hon hyd yma. Nid yw eich dogfen 'y cynnydd yn erbyn y strategaeth', a gyhoeddwyd o fewn yr awr ddiwethaf, ychwaith yn rhoi unrhyw arwydd o faint sydd wedi manteisio ar y brechiad atgyfnerthu. Rwyf wedi cael rhai adroddiadau gan gyd-Aelodau fod rhai mewn rhannau eraill o Gymru heb gael gwybodaeth—y rhai sydd dros 50 oed—ynghylch pryd y byddan nhw'n cael y brechiad atgyfnerthu. Rwyf hefyd wedi cael adroddiadau am bobl yn aros hyd at awr y tu allan i ganolfannau brechu er mwyn cael eu brechiad atgyfnerthu a hwythau wedi cael amser penodol ar ei gyfer. Rwy'n arbennig o bryderus ynghylch hynny, o gofio mai grŵp oedran hŷn yw hwn, ac o gofio ein bod yn dechrau cyfnod o dywydd mwy difrifol—hefyd os bydd rhaid i bobl aros y tu allan er mwyn cael eu brechiad atgyfnerthu. Felly, efallai y gwnewch chi ddarparu rhywfaint o wybodaeth yn hynny o beth.

A wnewch chi hefyd ddarparu amserlen o ran y ffigurau ynghylch faint sy'n manteisio ar y brechiad atgyfnerthu sydd ar gael i'r cyhoedd? A beth yn union ydych chi'n ei olygu wrth ddweud y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael cynnig y brechiad atgyfnerthu erbyn 31 Rhagfyr yn eich datganiad brechu COVID heddiw? Gallai hynny fod yn 51 y cant. Efallai y gwnewch chi roi ychydig mwy o fanylion yn hynny o beth. Sonioch chi hefyd am ofal wedi'i gynllunio— 

15:40

Gofynnaf fy nghwestiwn olaf felly, Dirprwy Lywydd. Sonioch hefyd am ofal wedi'i gynllunio, ac rwy'n nodi eich bod yn gadael cynllun ffurfiol tan yr uwchgynhadledd gofal wedi'i gynllunio ym mis Tachwedd. Yn y cyfamser, mae Lloegr a'r Alban wedi bod yn gwneud eu gorau glas i leihau'r amseroedd aros hynny gyda chanolfannau diagnosis cymunedol, ac rydym wedi clywed am ganolfannau llawfeddygol a'r defnydd o ofal iechyd annibynnol i gefnogi rhestrau aros y GIG. Felly, a gaf i ofyn ichi am ychydig mwy o wybodaeth yn hynny o beth? Oherwydd y byddwch yn ymwybodol fy mod wedi bod yn gofyn i chi am tua phedwar mis ynghylch canolfannau llawfeddygol, Gweinidog iechyd.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod dealltwriaeth bod cynllun wedi bod erioed i ni gyhoeddi'r adroddiad hwn mewn digwyddiad dysgu yn y gaeaf, a fydd yn cael ei gynnal ddydd Iau, fel ein bod yn ymgysylltu â'r GIG yn uniongyrchol. Yr unig ffordd y bydd y cynllun hwn yn cael ei weithredu yw os caiff ei ddefnyddio a'i gymryd o ddifrif gan y GIG a chan ein gweithlu gofal. Felly, mae'n bwysig ein bod yn siarad â'r gynulleidfa gywir, a dyna beth yw'r cynllun hwn. Mae'n gyfarwyddyd iddyn nhw, a dyna pam yr oeddem ni o hyd yn bwriadu gwneud hynny ddydd Iau.

Fodd bynnag, rydym eisoes wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith mewn cysylltiad â pharatoi ar gyfer y gaeaf. Rydym wedi bod yn ei wneud ers amser maith, mae gennym fframwaith cynllunio'r GIG sy'n nodi disgwyliadau ar gyfer byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ers amser maith. Mae cyfarfodydd wythnosol yn digwydd rhyngom ni, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i ddarparu fforwm ar gyfer cymryd camau pellach o ran paratoi ar gyfer y gaeaf. Mae gennym strwythur cynllunio ac ymateb COVID, wrth gwrs, sydd i gyd wedi cyfrannu at y cynllun hwn. Felly, nid yw fel pe baem yn dechrau o ddim byd yma, rydym yn adeiladu ar yr hyn a oedd yno'n barod. Ac wrth gwrs, mae'r fframwaith dewisiadau lleol yn rhywbeth y mae byrddau iechyd eisoes yn ymwybodol ohono, ac rydym yn sicrhau bod hynny'n cael ei ddiweddaru mewn cysylltiad â phwysau COVID, ac maen nhw'n deall lle bydd cyfleoedd i fod yn hyblyg wrth i ni ddechrau'r gaeaf.

Rydych yn gofyn am sefyllfa gofal wedi'i gynllunio, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig bod pobl yn deall ein bod eisoes wedi rhoi cryn dipyn o arian i'r system, mae £250 miliwn eisoes wedi'i gyhoeddi, a bod cyfathrebu, fel y dywedais i, eisoes wedi bod yn digwydd.

O ran y cynlluniau brechu, gallaf sicrhau'r Aelod fod tua 30 y cant o bobl rhwng 12 a 15 oed bellach wedi cael eu dos cyntaf, a byddwn ni'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y nifer sy'n manteisio ar y brechiad atgyfnerthu ddydd Iau yr wythnos hon, felly gobeithio y gwnewch chi fod ychydig yn amyneddgar ac aros inni wirio'r ystadegau hynny cyn inni gyhoeddi'r rheini. Nodwyd yn y cynllun brechu hwnnw y byddai pobl dros 50 oed yn cael cynnig eu dosau atgyfnerthu cyn y flwyddyn newydd. Nawr, roedd grŵp arall o bobl, fel y sonioch chi, a fyddai'n cael cynnig y brechiad atgyfnerthu cyn hynny, a oedd yn cynnwys pobl fel gweithwyr gofal, pobl mewn cartrefi gofal, gweithwyr y GIG, ac felly rydym ar y trywydd iawn i gyflawni yn unol â'r cynllun brechu hwnnw a nodais yr wythnos diwethaf.

Ac yna, yn olaf ar ofal wedi'i gynllunio y gwnaethoch chi ofyn amdano, fel y dywedais i, rydym eisoes wedi cyhoeddi £250 miliwn. Mae'r byrddau iechyd wedi dod yn ôl atom yn awr ac wedi awgrymu sut yr hoffen nhw wario'r arian hwnnw, felly rydym yn gwneud yn siŵr nawr bod popeth mewn trefn er mwyn sicrhau bod gennym ddull cydgysylltiedig a, gobeithio, y byddwn ni'n gallu rhoi mwy o wybodaeth am sut yn union y bydd hynny'n cael ei wario yn yr uwchgynhadledd gofal wedi'i gynllunio honno yn ddiweddarach.

15:45

Diolch yn fawr. Mae hon yn drafodaeth ddiddorol, cyfle cyntaf i sgrwtineiddio cynllun y gaeaf. Yn anffodus, does gennym ni ddim cynllun gaeaf i'w sgrwtineiddio eto. Dwi'n gwerthfawrogi'r briefing byr gawson ni yn gynharach heddiw fel aelodau o'r pwyllgor iechyd ar rai o'r egwyddorion sydd y tu ôl i'r cynllun a gawn ni ddydd Iau. Dwi'n gwerthfawrogi cael rhyw ragflas gan y Gweinidog heddiw am rai o'r egwyddorion hynny, ond mewn ffordd, gosod mwy o gwestiynau mae'r sesiwn yma. Mae yna sôn am fynediad i bobl i ofal sylfaenol, mae yna sôn am wneud iechyd meddwl yn ganolog i wasanaethau ond y cwestiynau rydyn ni eisiau atebion iddyn nhw ydy sut, a dyna, wrth gwrs, fyddwn ni'n gobeithio ei gael yn yr adroddiad ei hun ddydd Iau.

Mae yna nifer o elfennau ac egwyddorion dwi'n eu croesawu—rhai ohonyn nhw y bues i'n eu hamlinellu fel blaenoriaethau buaswn i'n licio eu gweld yn y sesiwn bythefnos yn ôl erbyn hyn, yn gofyn am well 'signpost-o' pobl i'r lle iawn i gael gofal, er enghraifft, ac mae'r Gweinidog wedi dweud bod hynny'n mynd i fod yn flaenoriaeth. Dwi'n gwybod bod y BMA yn tynnu sylw heddiw at waith ymchwil sy'n awgrymu mai dim ond rhyw 10 y cant oedd yn ymwybodol o raglen Choose Well y Llywodraeth o 2018, felly mae angen, wrth gwrs, rhoi llawer mwy o fuddsoddiad i mewn i'r math yna o waith. Ac eto, dwi'n edrych ymlaen at gael mwy o fanylion ar hynny ddydd Iau gobeithio. Ac mi fyddwn i'n apelio ar y Gweinidog i sicrhau bod yna amser yn cael ei wneud yn amser y Llywodraeth ar ôl yr hanner tymor inni gael sgrwtineiddio a gofyn cwestiynau yn sgil cyhoeddi'r adroddiad ei hun. 

Mae yna gwestiynau dwi'n gallu eu gofyn heddiw yma yn sicr o gwmpas y ffaith, fel y gwnaeth y Gweinidog ei ddweud wrthym ni, mai COVID a'r pandemig ydy cyd-destun y gaeaf yma o hyd. Roeddwn i yn feirniadol yr wythnos ddiwethaf o glywed y Gweinidog yn dweud ein bod ni mewn cyfnod sefydlog, ein bod ni mewn cyfnod stable o ran y pandemig. Mae yna beryg, wrth gwrs, bod 'stable' yn cael ei weld fel rhywbeth cadarnhaol, ond mae'r ffigurau'n frawychus o uchel yng Nghymru, wrth gwrs, fel y mae'r Gweinidog yn gwybod. Mae'n rhaid dod â'r ffigurau yna i lawr. Ymhlith plant ysgol, mae yna bryder mawr yn cael ei leisio efo fi gan bobl o bob rhan o Gymru. Mi fyddwn i'n licio gwybod gan y Gweinidog y prynhawn yma beth ydy'r camau brys sy'n cael eu cymryd rŵan i drio dod ag achosion i lawr mewn ysgolion. 

Yn dilyn ymlaen o'r cwestiwn gan lefarydd y Ceidwadwyr, dwi'n meddwl bod angen mwy o awgrym o beth ydy'r strategaeth fydd yn dangos brys efo'r rhaglen booster. Mi glywson ni funud yn ôl y Gweinidog yn dweud y byddwn ni'n cael rhagor o ffigurau ddydd Iau; a fyddwn ni'n cael diweddariad ar newid strategaeth, ar newid gêr, o bosib? Achos efallai ein bod ni'n dioddef yn fan hyn o fod wedi cael rhaglen frechu gynnar a llwyddiannus, sef bod y cyfnod o leihau effeithlonrwydd y brechiad, o bosib, yn ein taro ni ynghynt na rhai gwledydd eraill ar draws Ewrop. Wel, mae hynny'n golygu bod angen rhuthro ymlaen efo'r rhaglen booster yn gyflymach. Felly, mi fyddai gwybodaeth ar hynny yn ddefnyddiol. A hefyd yn yr oriau diwethaf rydyn ni'n clywed am, o bosib, amrywiolyn newydd yn gysylltiedig â'r amrywiolyn delta gwreiddiol, a bod hynny o bosib yn gyfrifol am gymaint â 6 y cant o achosion newydd rŵan. Mi fyddai diweddariad gan y Gweinidog ar beth allai goblygiadau hynny fod a beth sy'n cael ei wneud i fonitro hynny yng Nghymru yn ddefnyddiol hefyd. 

Dwi am ddefnyddio'r cyfle yma hefyd i ofyn un cwestiwn penodol ynglŷn â phroblem y gallem ni ei gael dros y gaeaf efo rhoi diagnosis i bobl, sef y prinder mawr o gyflenwad o boteli i gymryd gwaed. Mae hyn yn achosi problemau difrifol ar draws y gwasanaeth iechyd, efo meddygon yn gorfod gwneud dewisiadau anodd iawn, iawn, iawn ar bwy—pa gleifion—ddylai gael profion gwaed oherwydd y diffyg sydd ganddyn nhw yn y vials yma. Pa bryd mae'r broblem yma yn mynd i gael ei datrys, achos mae hi'n mynd ers wythnosau erbyn hyn, ac mae yna bryderon go iawn, fel rydw i'n dweud, ar draws y gwasanaethau iechyd, bod hyn yn dal diagnosis a thriniaeth yn ei ôl?

Ac yn olaf, yn fyr iawn, mi glywson ni'r Prif Weinidog heddiw yma'n dweud ei fod o wedi cael ei fodloni gan y Prif Weinidog ddoe efo'i addewidion o ynglŷn â rhoi llais i Gymru o fewn ymchwiliad COVID drwy'r Deyrnas Unedig. Mae'r ymgyrchwyr yn flin. Mae'r ymgyrchwyr yn siomedig efo ymateb y Prif Weinidog, yn dilyn ei sgwrs efo Prif Weinidog Prydain ddoe. Dydyn ni ddim wedi gweld dim byd ar ddu a gwyn, pam ddylwn ni drystio Boris Johnson ar hyn pan ydy o wedi bod yn tanseilio Cymru mewn cymaint o ffyrdd eraill yn ddiweddar? 

15:50

Wel, diolch yn fawr, Rhun. Un o'r rhesymau pam roeddwn i'n awyddus i wneud yn siŵr bod yna gyfle i roi briefing i rai ohonoch chi'r bore yma oedd i wneud yn siŵr eich bod chi'n gweld, neu'n cael rhyw fath o syniad, cyn hanner tymor achos rŷn ni'n ymwybodol bydd pob un i ffwrdd a doedden ni ddim eisiau ei adael e'n rhy hir cyn ein bod ni'n cael cyfle i rannu ein syniadau gyda chi. Wrth gwrs, bydd yna fwy o fanylion yn yr adroddiad. 

Mae yna raglen o ran rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd am ble y gallan nhw fynd am fwy o help eisoes wedi dechrau, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cario ymlaen gyda hwnna dros y gaeaf. Felly, mae'r rhaglen yna eisoes wedi dechrau. Ac rydych chi'n eithaf iawn mai COVID yw'r cyd-destun ar gyfer paratoi am y gaeaf yma, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n tanlinellu mai dyma un o'r gaeafau mwyaf anodd yn hanes yr NHS. Pan ydych chi'n dweud ei fod yn gyfnod sefydlog, wel mae pob peth yn relative onid yw e? Ac felly dwi'n meddwl mai beth rydyn ni'n sôn am yn fan hyn yw amser pan nad oes yna amrywiolyn rydyn ni'n poeni amdano ar hyn o bryd. Ac felly dyna ran o'r rheswm pam rydyn ni'n sôn ein bod ni mewn cyfnod sefydlog, lle rydyn ni'n ymwybodol bod y rhan fwyaf o'r boblogaeth wedi cael rhyw fath o amddiffyniad oherwydd eu bod wedi cymryd y cyfle i gael y brechlyn. 

O ran ein hysgolion ni, rydyn ni yn ymwybodol bod y niferoedd yn uchel dros ben yn ein hysgolion ni, ond rydyn ni hefyd yn ymwybodol nad ydyn ni ddim eisiau i'n plant ni i golli mwy o amser ysgol, a dyna pam fydd y peiriannau ar gyfer monitro'r awyr yn ein hysgolion ni yn cael eu dosbarthu yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Ac o ran newid y strategaeth, wel, dim ond wythnos ddiwethaf wnes i gyhoeddi'r strategaeth newydd ar y brechlyn dros y gaeaf, felly na, dydyn ni ddim yn mynd i roi rhaglen newydd eto ar ôl inni gyhoeddi un yr wythnos diwethaf, ond wrth gwrs, rŷn ni wastad yn wyliadwrus o ran edrych mas am amrywiolion newydd. Dyna pam rŷn ni mor bryderus ynglŷn â'r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymryd cymaint o'r amddiffynfeydd o ran cadw pethau allan o Brydain i ffwrdd. Mae hwnna yn ein poeni ni, ond wrth gwrs mae hwnna'n anodd i ni achos bod y ffin mor agored a bod y rhan fwyaf o bobl sy'n teithio dramor yn teithio trwy Loegr.

O ran y problemau o ran prinder offer cymryd gwaed, mae hynny wedi bod yn broblem, fel ŷch chi'n dweud, ers wythnosau lawer; mae'n broblem ryngwladol. Rŷn ni'n gwybod pan ddaw'r vials yma yn ôl mewn, bydd pwysau aruthrol ar GPs unwaith eto i orfod ailddechrau gwneud y gwaith maen nhw fel arfer yn ei wneud. Felly, rŷn ni yn poeni am hynny, ond wrth gwrs, mae gwaith yn cael ei wneud ar draws y byd i geisio cynhyrchu mwy o'r vials yma.

Ac o ran ymchwiliad COVID annibynnol: wel, rôn i ar yr alwad gyda'r Prif Weinidog ddoe pan glywais i Boris Johnson yn ei gwneud hi'n glir y byddai fe yn fodlon siarad gyda Chymru ynglŷn â beth fydd hyd a lled y ffordd dŷn ni'n pwyso a mesur yr ymchwiliad COVID yma, ac mi fyddai fe'n cymryd y sefyllfa yng Nghymru i mewn i ystyriaeth.

15:55

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n croesawu eich sylwadau ynghylch sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio at y ffynhonnell briodol o gymorth a chyngor meddygol, ac mae'n amlwg bod gan fferyllfeydd cymunedol ran allweddol i'w chwarae, fel y gwyddoch chi. Ond sut y gallwn ni sicrhau bod pobl yn gwybod eu bod yno a bod gan bobl wybodaeth dda am y cynllun anhwylderau cyffredin a sut y gellir ei ddefnyddio? Hefyd, gallai pwysau ychwanegol yn fy etholaeth i gael ei achosi yn sgil cau'r uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Cynon dros dro, ac er fy mod yn gwerthfawrogi sylwadau Cwm Taf Morgannwg y gwneir hyn i wneud y gwasanaeth yn gynaliadwy tra bod staff yn cael eu huwchsgilio i redeg yr uned, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau y bydd darpariaeth gyson ar waith cyn gynted ag sy'n bosib?

Ac yn olaf, rwy'n dechrau cael mwy o waith achos gan bobl yr effeithir arnyn nhw gan oedi wrth drosglwyddo gofal, a hynny er gwaethaf y gwaith rhagorol sydd eisoes wedi'i wneud gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a gwn fod Gweinidogion Cymru wedi cefnogi ymatebion arloesol, er enghraifft y cynllun Cadw'n Iach Gartref a ariennir gan y gronfa gofal canolraddol. Rwy'n nodi eich sylwadau y bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhyddhau yr wythnos hon, ond sut y byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid eraill i fabwysiadu'r dull cyfannol hwnnw er mwyn sicrhau, er enghraifft, fod cartrefi'n addas ar gyfer bobl sy'n cael eu rhyddhau?

Diolch yn fawr iawn, Vikki, ac rydych chi yn llygad eich lle wrth ddweud ei bod yn bwysig iawn ein bod yn lleihau'r pwysau ar y lleoedd y mae pobl yn draddodiadol yn mynd am gymorth, a dyna pam y mae gennym ymgyrch weithgar iawn, 'Helpwch Ni i'ch Helpu Chi', sy'n parhau ar hyn o bryd, ac wrth gwrs, bydd hynny'n gallu helpu pobl a phwyntio pobl i gyfeiriad fferyllfeydd cymunedol a mannau eraill lle gallan nhw fynd am gymorth. Hefyd wrth gwrs, byddwn ni'n annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaeth 111 i gael cyngor dros y ffôn ac ar-lein sydd ar gael iddyn nhw, ac sydd hefyd yn llwyddo i dynnu pwysau oddi ar bobl.

Yn amlwg rwy'n cadw llygad ar y sefyllfa yng Nghwm Cynon mewn cysylltiad â'r ganolfan iechyd yno. Un o'r rhesymau, wrth gwrs, y byddwch yn ymwybodol ohono, yw prinder staff; mae COVID yn effeithio ar bawb, ac mae'n effeithio ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Ac felly er mwyn sicrhau eu bod yn gynaliadwy, a gallwn roi gwasanaeth cynaliadwy, yn y tymor hirach, mae'n rhaid i ni atgyfnerthu fel y gall staff gydweithio ar adegau. Rwyf wedi cael sicrwydd y bydd y sefyllfa yno'n cael ei newid yn y flwyddyn newydd, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn rhoi diwedd ar y sïon y ddeallaf eu bod yn mynd o amgylch y gymuned y bydd ar gau'n barhaol. Gallaf eich sicrhau nad yw hynny'n wir ac mae'n bwysig bod pobl yn deall bod hyn yn rhan o'r gwaith y bydd yn rhaid inni ei wneud i fynd drwy'r gaeaf hwn gyda'n gilydd.

Ac o ran yr oedi wrth drosglwyddo gofal, rwy'n treulio llawer iawn o amser gyda fy nghyd-Aelod Julie Morgan ar fater gofal ar hyn o bryd. Rydym ni'n cael cyfarfodydd wythnosol, rwy'n falch o ddweud, gydag Andrew Morgan, sy'n arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, ac sy'n cymryd diddordeb mawr, ac yn ceisio tanlinellu'r ffaith na allwn ni, mewn gwirionedd, ddatrys y broblem o ran ein hysbytai nes ein bod yn mynd i'r afael â phroblemau ein gwasanaethau gofal. Felly, mae cael pobl o gwmpas y bwrdd gyda'i gilydd o'n hawdurdodau lleol a'n byrddau iechyd yn wythnosol i feddwl am unrhyw syniadau arloesol ynghylch sut y gallwn fynd drwy'r gaeaf hwn, wedi bod yn ymarfer pwysig, ac rydym yn dal i gymryd camau gweithredu yn wythnosol ar hynny. Fel y dywedais i, bydd rhagor o wybodaeth am hynny pan fyddwn ni'n cyhoeddi'r adroddiad yn iawn ddydd Iau.

16:00

Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog, ac am ddarparu swyddogion i friffio aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyn y datganiad hwn. Rwy'n edrych ymlaen at graffu'n fanwl ar eich cynlluniau, ond, cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, byddwn i'n ddiolchgar pe baech yn ateb un neu ddau o gwestiynau yn ymwneud ag ochr gofal y paratoadau. Mae Fforwm Gofal Cymru wedi rhybuddio bod y sector yn wynebu ei argyfwng gwaethaf mewn cof. Gyda hyn mewn golwg, ac o ystyried yr effaith y mae materion ym maes gofal cymdeithasol yn ei chael ar gapasiti ysbytai, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau digon o gapasiti mewn gofal cymdeithasol dros y misoedd nesaf?

Mae staff sy'n gweithio yn y sector gofal yr un mor agored i salwch â phawb arall. Sut, felly, y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r miloedd o weithwyr cartrefi gofal nad ydyn nhw wedi'u brechu'n llawn yn erbyn COVID-19? Ac yn olaf, Gweinidog, mae'r holl arbenigwyr yn rhybuddio y bydd y gaeaf hwn yn gweld un o'r tymhorau ffliw gwaethaf mewn cof. Pam, felly, y mae'n rhaid i weithwyr cartrefi gofal, yn wahanol i'w cydweithwyr yn y GIG, geisio pigiad ffliw gan eu fferyllfa gymunedol? Mewn rhai ardaloedd rydym ni'n gweld amseroedd aros hir am frechlynnau ffliw. Siawns na ddylai'r rhai sy'n gweithio mewn gofal gael blaenoriaeth. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn, Gareth. A gaf i eich sicrhau ein bod yn siarad yn rheolaidd iawn â chynrychiolwyr o'r sector gofal annibynnol hefyd? Rydym yn ymwybodol iawn o'r math o bwysau y maen nhw'n gweithio oddi tano ar hyn o bryd.

Rwy'n credu ei bod yn werth tanlinellu yma unwaith eto y ffaith, mewn gwirionedd, mai rhan o'r rheswm dros y pwysau yr ydym yn ei ddioddef ar hyn o bryd yw oherwydd bod cynifer o'n gweithwyr gofal cymdeithasol yn ddinasyddion yr UE ac maen nhw wedi mynd adref. Felly, er enghraifft—. Nid yw'r rhifau'n swnio'n dda iawn os cymerwch chi nhw fel canran—roedd tua 6 neu 7 y cant ohonyn nhw'n ddinasyddion Ewropeaidd—ond mewn gwirionedd mae hynny'n cyfateb i tua 2,000 i 3,000 o weithwyr gofal, sydd, os ydych chi'n meddwl am hynny, yn nifer enfawr o bobl sydd bellach ar goll o'n system. Felly, rwy'n credu na allwn ni ddianc rhag y ffaith bod Brexit, mewn gwirionedd, wedi bod yn rhan fawr o'r broblem yma.

Nawr, pan soniwch chi am weithwyr gofal nad ydyn nhw'n cael eu brechu, rwy'n falch iawn o ddweud mai ychydig iawn o weithwyr gofal sydd yng Nghymru, mewn gwirionedd, nad ydyn nhw wedi cael eu brechu, ac mae'r niferoedd yn eithriadol o uchel yng Nghymru. Os oes pobl nad ydyn nhw wedi cael eu brechu, mae fel arfer oherwydd bod llif drwy'r system mewn gwirionedd—maen nhw naill ai newydd ddod i mewn, neu maen nhw ar fin gadael, felly maen nhw wedi cael eu pigiad cyntaf ac yna maen nhw wedi gadael. Felly, mae trosiant eithaf mawr, fel y gwyddoch chi, yn y system ofal, ac mae hynny'n mynd rhan o'r ffordd i esbonio'r nifer bychan iawn o weithwyr gofal nad ydyn nhw wedi cael eu brechu, a dyna pam nad ydym ni wedi gorfod mynd i lawr y llwybr y maen nhw wedi'i ddilyn yn Lloegr, gan roi hyd yn oed mwy o bwysau ar eu gwasanaethau gofal.

O ran y ffliw, wrth gwrs y bobl hynny sy'n agored i niwed sy'n gweithio yn y sectorau gofal hynny, byddan nhw yn gymwys i gael y pigiad ffliw hwnnw hefyd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf eisiau croesawu eich datganiad, ac wrth gwrs y briff y bûm i ynddo y bore yma gyda Dr Andrew Goodall. Rwy'n arbennig o falch o weld bod hwn yn gynllun ar y cyd. Nid yw'n ymwneud ag iechyd yn unig; mae'n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol a gweithio gyda phartneriaid i helpu i ddarparu gwasanaeth sydd angen cymorth yn y pen draw gan fyrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol a darparwyr gofal. Fe wyddoch chi, Gweinidog, fod Hywel Dda wedi lansio cynllun pontio, lle maen nhw'n gweithio i wneud y daith honno o'r ysbyty i'r cartref neu pa leoliad bynnag yn rhwyddach; mae mawr ei angen, ac mae'n cynnig cyfle mewn dwy ffordd: (1) i gael pobl allan o leoliad gofal, ond hefyd cyfle arall i ddod â phobl i mewn i'r lleoliad gofal, a hefyd yn cynnig—

16:05

—cyfle i gamu ymlaen yn eu gyrfa. Felly, fy nghwestiwn i yw hyn, Gweinidog: a wnewch chi edrych ar ganlyniadau'r cynllun pontio hwnnw a gweld a ellir ei ailadrodd ledled Cymru?

Diolch yn fawr iawn, Joyce, a'r un peth yr wyf wedi'i ddysgu ers cael fy mhenodi i'r swyddogaeth hon yw'r gydberthynas absoliwt rhwng iechyd a gofal. Ac mae'n bwysig iawn ein bod yn deall mai rhan o'r rheswm dros y ffaith bod gennym ambiwlansys yn sefyll mewn rhes ger ein drws ffrynt yw oherwydd na allwn ni gael pobl allan drwy'r drws cefn oherwydd gwendid yn ein system ofal, a dyna pam yr ydym ni wedi cael ymgyrch recriwtio enfawr i geisio cael mwy o bobl i ymddiddori mewn swyddogaeth bwysig iawn, swyddogaeth gyfrifol iawn a swyddogaeth sy'n rhoi boddhad mawr. A byddwn ni'n lansio ymgyrch recriwtio arall yn weddol fuan hefyd.

O ran y cynllun pontio yn Hywel Dda, roeddwn yn falch iawn o weld hynny'n cael ei ddatblygu, ac mae gan Abertawe hefyd gynllun gweithredu arloesol iawn mewn cysylltiad â'r math hwnnw o bontio y mae angen ei wneud, a mynd â phobl o'r ysbyty i'r cartref. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn tanlinellu'r ffaith mai'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ofal, a'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn anrhydeddu ein hymrwymiad a wnaethom yn y maniffesto a thalu'r cyflog byw i'r gweithwyr hynny yn y sector gofal. Rydym ni'n gweithio'n galed iawn gyda'r undebau llafur ar hyn o bryd i weld sut yn union y gallwn ni wneud hynny. Felly, bydd hynny'n rhan o'r gwaith y byddwn ni'n canolbwyntio arno mewn gwirionedd, pan fydd gennym syniad gwell o lawer o sut mae'r gyllideb gan Lywodraeth y DU yn edrych hefyd.

Diolch, Weinidog. Byddwn yn awr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny yn brydlon, os gwelwch yn dda. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i drafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:07.

16:15

Ailymgynullodd y Senedd am 16:17, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

5. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Cyfansoddiadol

Dyma ni'n cyrraedd y datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar y comisiwn cyfansoddiadol. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Mick Antoniw.

Diolch, Llywydd. Llywydd, cyn toriad yr haf, fe wnes i ddatganiad i'r Aelodau a oedd yn sôn am y cynlluniau ar gyfer comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Heddiw, rwy'n gallu rhannu gyda chi'r gwaith yr ydym wedi'i wneud ers hynny, ac yn benodol y gwaith o wneud penodiadau i'r comisiwn annibynnol a chyhoeddi'r amcanion eang.

Llywydd, cyn toriad yr haf, gwnes i ddatganiad i'r Aelodau yn nodi'n fanylach y cynlluniau ar gyfer comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. A heddiw, gallaf barhau i rannu gyda chi'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud ers hynny, ac yn arbennig o ran penodiadau i'r comisiwn annibynnol a chyhoeddi'r amcanion cyffredinol.

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod ein hundeb o bedair gwlad dan bwysau fel erioed o'r blaen a bod angen diwygio ar frys erbyn hyn. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi ymdrechu'n gyson i ymgysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn adeiladol. O'n rhan ni, fel y gŵyr yr Aelodau, rydym wedi ceisio ysgogi trafodaeth dro ar ôl tro am ddyfodol hyfyw i'r Deyrnas Unedig.

Yn 2017, fe wnaethom gyhoeddi 'Brexit a Datganoli', a oedd yn nodi ein cynigion ar gyfer ymateb cadarnhaol a chreadigol i oblygiadau cyfansoddiadol ymadael â'r UE. Ac yn 2019, nododd 'Diwygio ein Hundeb' ein 20 cynnig ar gyfer llywodraethu'r DU yn y dyfodol, a chyhoeddwyd fersiwn wedi'i diweddaru gennym yn gynharach eleni. Fodd bynnag, ymddengys mai eu hunig ymateb yw ceisio mynnu rhyw fath o unoliaeth gyhyrol, ceisio mwy o reolaeth o’r canol, tresmasu ar faterion cymhwysedd datganoledig a dangos ei pharch at ein Senedd drwy dorri confensiwn Sewel a thanseilio'r setliad datganoli a democratiaeth Gymreig.

Nid yw'r materion hyn yn ymwneud â rhyw ddadl gyfansoddiadol ddi-baid rhwng pleidiau gwleidyddol neu Lywodraethau, ond maen nhw’n mynd at wraidd ein democratiaeth, ac yn ein barn ni, mae'r achos dros ddiwygio cyfansoddiadol wedi'i wreiddio yn y broses o rymuso pobl Cymru, gan alluogi penderfyniadau sy'n effeithio ar les ein cymunedau a'n cenedl i gael eu gwneud mor agos at bobl â phosibl. Sefydlu'r comisiwn annibynnol yw'r cam nesaf yn y ddadl honno. Mae'r amser yn iawn ar gyfer sgwrs genedlaethol ddifrifol yng Nghymru am yr opsiynau ar gyfer ein dyfodol.

Llywydd, amcan cyffredinol cyntaf y comisiwn annibynnol fydd ystyried a datblygu opsiynau cadarn ar gyfer diwygio strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn sylfaenol. Rydym yn dymuno i'r comisiwn annibynnol gychwyn sgwrs â phobl Cymru ynghylch beth allai'r opsiynau hynny fod.

Mae ein hundeb dan fwy o fygythiad heddiw nag ar unrhyw adeg, ac ni ellir anwybyddu hyn: o Lywodraeth bresennol y DU a'i hymdrechion mynych i danseilio datganoli, i alwadau o'r newydd am ddatganoli yn Lloegr, i'r pwysau am ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban, a'r trafodaethau parhaus am ddyfodol cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon. Felly, ail amcan cyffredinol y comisiwn annibynnol fydd ystyried a datblygu'r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Nawr, nid ydym o dan unrhyw gamargraff ynghylch maint y dasg sy'n wynebu'r comisiwn annibynnol. Mae hon yn sgwrs sy'n fwy na gwahaniaethau gwleidyddol pleidiol. Er mwyn bod yn ystyriaeth ystyrlon o farn Cymru gyfan, mae angen i'r comisiwn fod yn annibynnol ar y Llywodraeth a gallu ystyried y sbectrwm barn a phrofiadau. Bydd y comisiwn yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac yn gallu cael gafael ar adnoddau Llywodraeth Cymru i wneud eu gwaith, ond bydd cadeiryddion ac aelodau'r comisiwn yn pennu eu cyfeiriad eu hunain.

Rwy'n falch iawn o ddweud wrth y Senedd yn ffurfiol am y cyhoeddiad a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw, ein bod wedi sicrhau dau berson o'r safon uchaf i arwain y gwaith hwn fel cyd-gadeiryddion y comisiwn: Dr Rowan Williams a'r Athro Laura McAllister. Mae Laura McAllister yn academydd o Gymru, yn gyn bêl-droedwraig rhyngwladol ac yn uwch weinyddwr chwaraeon. Ar hyn o bryd mae'n athro polisi cyhoeddus a llywodraethu Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi'n adnabyddus fel dadansoddwr a sylwebydd gwleidyddol, ac mae hi wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Senedd ar nifer o brosiectau i'w diwygio i'n sefydliadau.

Mae Dr Rowan Williams, cyn Archesgob Caergaint, yn academydd a diwinydd nodedig sydd ag ymrwymiad cryf i gyfiawnder cymdeithasol. Mae eu cefndiroedd a'u profiadau yn creu cyfuniad pwerus, sy’n gallu dod â chonsensws gan hefyd herio pawb sy'n gysylltiedig i feddwl yn greadigol am ein dyfodol cyfansoddiadol. Rydym wedi cael nifer o gyfarfodydd cynhyrchiol iawn gyda'r cyd-gadeiryddion am y comisiwn annibynnol, ac rwyf yn edrych ymlaen at weld yr arweiniad y byddan nhw'n ei roi i'r gwaith hwn.

Hoffwn ddiolch i bob plaid yn yr ystafell hon am eu hymgysylltiad cadarnhaol a'u cefnogaeth adeiladol wrth sefydlu'r comisiwn annibynnol. Rwyf yn ddiolchgar am yr amynedd a'r ymroddiad a ddangoswyd gan bawb sy'n gysylltiedig. Rwy'n fodlon bod yr amcanion cyffredinol yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng cyfarwyddo gwaith y comisiwn annibynnol, a rhoi'r rhyddid iddyn nhw ddatblygu argymhellion yn annibynnol ar y Llywodraeth, a'u gallu i ymgysylltu'n rhydd ac yn agored â phawb sydd â diddordeb.

Mae disgwyl i'r comisiwn ddechrau ar y gwaith fis nesaf. Rydym yn gwneud cynnydd da o ran penodi aelodau i'r comisiwn annibynnol, ac rwy’n bwriadu cyhoeddi gweddill yr aelodau yn ddiweddarach y mis hwn neu'n gynnar yn y mis canlynol. Bydd y comisiwn annibynnol hefyd yn gallu comisiynu ymchwil, dadansoddi a barn arbenigol drwy banel o arbenigwyr a sefydlwyd at y diben hwn. Byddaf yn gwneud datganiadau pellach i'r Senedd ar gynnydd y comisiwn annibynnol o ran ymgysylltu, ac ar sefydlu'r panel arbenigol.

Rydym yn rhagweld adroddiad interim gan y comisiwn annibynnol erbyn diwedd 2022. Dylai'r comisiwn annibynnol lunio'r adroddiad llawn gydag argymhellion erbyn diwedd 2023. Bydd yr amcanion cyffredinol ar gael ar wefan y comisiwn annibynnol.

Mae hon yn fenter hanfodol bwysig. Mae'n ymwneud â dyfodol Cymru a llesiant a ffyniant pobl Cymru a chenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd am ei weld yn llwyddo, ac rwy’n edrych ymlaen at gyfnod o waith ac ymgysylltiad trawsbleidiol adeiladol ledled Cymru i gyflwyno adroddiad cryf gydag argymhellion beiddgar. Byddaf yn diweddaru'r Senedd eto ar ôl i aelodau annibynnol y comisiwn gael eu penodi, ac ar ôl cyfarfod cyntaf y comisiwn annibynnol. Diolch, Llywydd.

16:25

A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, Gweinidog? Mae'n siomedig ei fod wedi'i hyrwyddo yn y cyfryngau am gyfnod mor hir cyn iddo gael ei wneud i Aelodau'r Senedd, ond mae'n debyg mai dyna'n union yr ydym ni'n dod i arfer ag ef yma o dan Lywodraeth bresennol Cymru.

Rwy’n credu ein bod wedi cofnodi'r ffaith y byddwn ni'n cymryd rhan yn y comisiwn hwn. Rydym wedi gwneud hynny'n eithaf clir. Rydym ni'n credu ei bod yn bwysig cael llais unoliaeth wrth y bwrdd, a llais y canol-dde wrth y bwrdd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn synnu'n fawr o weld bod annibyniaeth yn un o'r pethau yr ydych chi wedi rhoi'r dasg i'r comisiwn hwn ei ystyried, oherwydd fe wyddom ni i gyd, ac mae wedi’i bwysleisio gan eich Prif Weinidog eich hun, fod annibyniaeth ar y papur pleidleisio yn etholiadau diweddar y Senedd, oherwydd yr oedd yn flaenllaw ac wrth wraidd ymgyrch Plaid Cymru, ac fe'i gwrthodwyd yn llethol. Yn wir, aeth cyfran Plaid Cymru o'r bleidlais i lawr. Felly, mae y tu hwnt i mi pam ar y ddaear y dylid rhoi'r dasg i'r comisiwn edrych ar annibyniaeth ac ystyried annibyniaeth, yn enwedig pan fo Llywodraeth Cymru'n cwyno gyson am beidio â chael digon o adnoddau i allu gwneud y gwaith go iawn y mae pobl eisiau i chi fwrw ymlaen ag ef, sef datrys yr ôl-groniad yn ein GIG, mynd i'r afael â'r problemau yn ein heconomi, a darparu'r addysg dal i fyny mae ar bobl ifanc ledled Cymru ei hangen yn ddirfawr.

O ran penodi'r cyd-gadeiryddion, rwyf yn croesawu'n fawr benodiad Rowan Williams. Rwy'n credu bod hynny'n benodiad cadarn iawn. Ond bydd rhai pobl, wrth gwrs, yn cwestiynu penodiad Laura McAllister. Byddan nhw'n cwestiynu ei phenodiad oherwydd, wrth gwrs, mae'n gyn-ymgeisydd Plaid Cymru mewn dau etholiad seneddol. Byddan nhw'n cwestiynu a oes ganddi farn eisoes ar y materion hyn, ac a yw'n gwbl annibynnol yn y ffordd y gall drefnu busnes y comisiwn penodol hwn. Felly, gofynnaf i chi, Gweinidog: pam y gwnaethoch chi benderfynu mai Laura McAllister oedd y cyd-gadeirydd priodol i’w phenodi ochr yn ochr â Rowan Williams, o ystyried ei hanes fel ymgeisydd Plaid Cymru? Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn difrifol mae pobl yn dechrau ei ofyn.

Rwy'n credu ei bod hefyd yn siomedig, mewn gwirionedd, na fu ymgysylltiad priodol â Llywodraeth y DU ynghylch sefydlu'r comisiwn hwn, oherwydd fe wyddom ni i gyd nad yw cael adroddiad unochrog a gynhyrchwyd gan y comisiwn penodol hwn, sy'n canolbwyntio ar Gymru yn unig, yn mynd i ddelio â mater ehangach diwygio cyfansoddiadol ledled y DU, oherwydd mai dim ond mewn partneriaeth â Llywodraethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig y gellir cynnal hynny. Felly, pam ydych chi'n teimlo ei bod yn flaenoriaeth bwrw ymlaen â'r gwaith hwn? Beth am gael sgyrsiau pellach gyda Llywodraeth y DU i allu penderfynu ar ffordd ymlaen ar sail pedair gwlad?

Rwyf wedi nodi bod yr amserlen ar gyfer gwaith y comisiwn hwn yn ymddangos yn hir iawn. Pam mae'n ddwy flynedd? Pam, yn eich barn chi, mae angen dwy flynedd ar y comisiwn i ddod i'w gasgliadau terfynol? Beth yw goblygiadau hynny o ran y costau sy'n gysylltiedig â'r comisiwn hwn? A allwch chi ddweud wrthym ni beth yw'r costau yr ydych chi wedi cyllidebu ar eu cyfer o fewn eich adnoddau cyfyngedig fel Llywodraeth Cymru? A fydd yr aelodau annibynnol yn cael eu talu? A fydd y cyd-gadeiryddion yn cael eu talu? Os felly, beth yw eu tâl? Rwy'n credu bod y rhain yn gwestiynau pwysig y mae angen i ni eu gwybod a dylid rhannu hynny yn gyhoeddus.

Rydych chi, yn amlwg, wedi dweud ychydig wrthym ni am y cylch gorchwyl, ac rwy'n nodi bod datganiad a gyhoeddwyd y prynhawn yma tra'r oeddem ni yn y Siambr. Mae'n beth da fy mod i’n gwirio fy negeseuon e-bost, Llywydd, neu fel arall ni fyddwn wedi gallu ei weld. Gallaf weld mai dau amcan cyffredinol syml yw'r cylch gorchwyl. Yn wir, maen nhw mor eang fel na fyddai'n fy synnu pe bai'r comisiwn hwn yn cymryd 20 mlynedd i lunio ei argymhellion. Byddwn i'n gofyn a oes unrhyw fanylion pellach y gallwch chi eu rhoi i ni o ran y cylch gorchwyl neu ai dyna ni’n syml, y ddau amcan cyffredinol hynny:

'Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni;'

ac

'Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar'.

Beth mae hynny’n ei olygu? Beth mae 'prif opsiwn blaengar' yn ei olygu 'i gryfhau democratiaeth Cymru'? Ydy hynny'n golygu, o gofio bod pob peth ar y bwrdd, y byddwch chi'n ystyried diddymu'r Senedd? Nid yw hynny'n rhywbeth y byddem ni yn ei gefnogi, ond, yn amlwg, mae hynny'n opsiwn y gellid ei ystyried fel rhan o'r sylw am fod â phopeth ar y bwrdd, yr wyf wedi'i glywed gan un o'r cyd-gadeiryddion hyd yn hyn.

Rydych chi wedi cyfeirio at y panel o arbenigwyr ac rydych chi wedi dweud y byddwch chi'n dweud mwy wrthym ni am bwy yw'r arbenigwyr hynny. A gaf i ofyn i chi pa ystyriaeth sy'n cael ei rhoi i'w safbwyntiau sydd eisoes wedi'u datgan ymlaen llaw pan fyddwch chi mewn gwirionedd yn gwneud penodiadau i'r panel hwnnw o arbenigwyr, ac yn wir yr aelodau annibynnol eraill yr ydych i'w penodi eto?

Gallaf weld bod fy amser ar ben. Mae gennyf gwpl o gwestiynau eraill os caf i, Llywydd; mae'n fater pwysig. Un o'r heriau sydd gennym ni yma yng Nghymru yw bod yn rhaid i ni fynd â'r cyhoedd gyda ni ar unrhyw daith wrth symud ymlaen. Mae'r cyhoedd wedi'u darbwyllo o'r awydd i gael Senedd sy'n gryf, sydd â phwerau deddfu yng Nghymru, ac ymgyrchodd llawer ohonom mewn refferenda ar gyfer hynny. Yn wir, yn y refferendwm diwethaf, ymgyrchais yn drwm dros Senedd rymus gyda phwerau deddfu. Ond os ydych chi'n sôn am fynd â phethau ymhellach o ran y llwybr annibyniaeth hwn, yna mae arnaf ofn y gallaf weld y gefnogaeth hon i'n Senedd yn ei heffeithio’n andwyol. Ydy Llywodraeth Cymru wedi ystyried hynny? Oherwydd rydw i’n ofni ei fod yn rhywbeth a allai danseilio'r Senedd hon a'r gefnogaeth iddi o ddifrif.

16:30

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad? Rydych chi wedi codi materion sy'n bwysig o ran eich safbwynt gwleidyddol. A gaf i ddiolch hefyd i'ch plaid am yr ymgysylltiad rwyf wedi'i gael hyd yn hyn? Ac, wrth gwrs, bydd mwy o ymgysylltu, oherwydd ymhen sawl wythnos, byddwn ni'n gallu cyhoeddi, gobeithio, y comisiwn llawn, ac yna bydd gennych chi ddarlun llawn o'r comisiwn bryd hynny. Rwyf yn falch y bydd Ceidwadwyr Cymru yn cymryd rhan yn y broses hon, ac rwy'n credu ei bod yn broses bwysig. P'un ai eich barn chi yw eich bod yn credu ei fod yn angenrheidiol ai peidio, serch hynny, mae gennym ymrwymiad maniffesto ar gyfer y comisiwn hwn, a bydd y comisiwn hwnnw'n mynd rhagddo.

O ran annibyniaeth, nid yw hwn yn gomisiwn sy'n ymwneud ag annibyniaeth, nid yw'n ymwneud ag unoliaeth, nid yw'n ymwneud â ffederaliaeth. Mae'n ymwneud ag archwilio'r opsiynau a fydd yn gwella llywodraethu Cymru, dyfodol Cymru, ei rôl o fewn y DU, a'r holl heriau y gwyddom sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Nid yw'n syndod i chi—rwyf wedi'i ddweud droeon yn y Siambr hon—pan oeddwn i'n aelod o'r fforwm rhyngseneddol, a oedd yn drawsbleidiol ar draws holl Seneddau'r DU, dau dŷ San Steffan, roedd cydnabyddiaeth gyffredin ar draws y pleidiau nad yw'r trefniadau cyfansoddiadol presennol yn addas i'r diben. Rwyf wedi dweud droeon fod rhan o'r hyn yr oedd y papur 'Diwygio ein Hundeb' yn ei olygu'n gynharach yn cynnig atebion i hynny, ac ymgysylltu. Felly, pan fydd yr Aelod yn gofyn i ba raddau yr ydym ni'n ymgysylltu â Llywodraeth y DU, wel, yn anffodus, rydym ni wedi cyflwyno ein cynigion droeon. Rydym ni wedi cyflwyno'r gwahanol argymhellion, ac mae'n cymryd dau i gydweithio. Yn anffodus, ein hochr ni yn unig sy'n cyfrannu. Dyna pam y mae'n rhaid i ni symud i'r cam hwn yn awr, a dyna pam y cawsom ni y mandad yn ystod yr etholiad i gael y comisiwn annibynnol hwn.

O ran Laura McAllister, mae hi'n rhywun sydd, yn fy marn i, ag enw da a hygrededd sy'n rhedeg ar draws pleidiau gwleidyddol. Rwy'n credu ei bod yn gyd-gadeirydd delfrydol, yn gweithio ochr yn ochr â Dr Rowan Williams. Ac, wrth gwrs, ar y comisiwn hwn, nid ydym yn sôn am bobl sydd yno i gynrychioli safbwynt plaid wleidyddol; maen nhw yno am eu sgiliau a'u gallu. Tybed a fyddech chi’n dweud yr un peth am gyfarwyddwr cyffredinol y BBC, a oedd yn gyn-ymgeisydd Ceidwadol. Mae'r pwyntiau hynny'n cael eu gwneud gennych chi, mae ganddyn nhw hawl i gael ateb, ond rwy'n credu bod y dystiolaeth yn yr hyn mae Laura McAllister yn ei wneud, yr hyn mae'r comisiwn yn ei wneud. Dydw i ddim yn credu y gall fod unrhyw un wedi gwrando ar Radio Wales y bore yma a chlywed ei disgrifiad o sut mae'n gweld y comisiwn yn mynd o gwmpas ei waith, ac archwilio'r holl faterion ac opsiynau i Gymru, nad yw wedi creu argraff arno. Yn wir, rwy'n siŵr ei bod hi wedi creu argraff ar bob un ohonoch chi. Rwy’n gwerthfawrogi eu bod nhw’n bwyntiau mae'n rhaid i chi eu gwneud.

Rydych chi’n gwneud pwynt am y ddwy flynedd; wel, gallai fod yn fyrrach. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig, wrth gwrs, yw mai un o swyddogaethau'r comisiwn, yn amlwg, yw dylanwadu ar yr hyn a allai ddigwydd mewn etholiadau cyffredinol yn y dyfodol, i gyflwyno safbwynt o Gymru, ein bod ni ein hunain yn manteisio ar y fenter o ran sut y credwn y gallai'r diwygiadau i'r DU ddigwydd, a hefyd beth allai'r opsiynau fod i Gymru o ran pethau a allai ddigwydd sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, boed o fewn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.

O ran y gost a'r tâl, bydd pecyn cydnabyddiaeth sy'n debyg i'r holl gomisiynau eraill sy’n cael eu sefydlu. Pan fyddwch chi’n gofyn i bobl gymryd cyfnodau hir o amser a gwaith sylweddol allan o'u bywydau gwaith, mae hynny'n arferol. Ysgrifennaf atoch ar wahân am y rheini. Bydd y rheini, wrth gwrs, yn cael eu cyhoeddi. Nid oes gennyf yr union fanylion sydd yno. Wrth gwrs, mae aelodau o'r comisiwn sy'n dal i ymgysylltu gyda'r bwriad o ddod ar y comisiwn.

O ran y cylch gorchwyl neu'r amcanion cyffredinol, mae'n ymddangos i mi fod y ddau amcan cyffredinol yn glir. Y perygl yw, mae ceisio ei ddatrys gyda chyfres gyfan o faterion yn ymwneud â hyn a’r llall, beth allai hyn fod a beth allai'r gwerth hwn fod ac yn y blaen, yn mynd yn eithaf anodd. Felly, rwyf mewn gwirionedd yn eithaf cadarnhaol ynghylch symlrwydd y ddau amcan cyffredinol, ond hefyd, pan fydd y comisiwn llawn ar waith, rwy'n credu y byddaf mewn sefyllfa i ddatblygu beth fydd ei gynllun strategol o ran ymgysylltu, a sut y bydd yn ymgysylltu â phobl Cymru a sut mae'n ymwneud ag ehangder safbwyntiau gwahanol sy'n bodoli.

O ran y panel o arbenigwyr, bydd yr hyn yr ydym ni'n edrych arno yn dibynnu'n rhannol ar y rhaglen strategol, ond hefyd bydd yn banel na fydd yno ar gyfer safbwyntiau gwleidyddol, ond am y sgiliau a'r arbenigedd sydd ganddyn nhw. Felly, mae'n ddigon posibl y bydd angen arbenigedd mewn perthynas â busnes, mewn perthynas â chyllid, mewn perthynas â llywodraethu, mewn perthynas ag enghreifftiau rhyngwladol ac yn y blaen. A byddaf yn adrodd ar hynny mewn datganiad pellach hefyd.

A gaf i ddweud, o ran yr heriau sydd o'n blaenau, fod hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â chroesawu'r newid sydd yno? Mae newid yn dod, mae newid yn mynd i ddigwydd, does dim byd yn aros am byth. Fe wyddom ni am y camweithredu sy'n bodoli ar hyn o bryd. Roedd yna wleidydd a ddywedodd:

'Rwy'n...credu ei bod yn dda i wlad a'i phobl gael ei thynged yn ei dwylo ei hun ac i'w penderfyniadau eu hunain fod o bwys. Pan fyddaf yn edrych o amgylch Ewrop, ar y cyfan, y gwledydd llai, sy'n...ymddangos bod ganddyn nhw benderfyniadau o ansawdd uwch.... Mae bod yn gyfrifol am eich polisïau eich hun yn arwain at ganlyniadau gwell.'

Roedd hwnnw'n ddyfyniad gan yr Arglwydd Frost, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl berthnasol i'r comisiwn rydym ni’n ei sefydlu.

Rwy'n credu, mewn gwirionedd, mai’r hyn yr ydym ni ei eisiau yw rhyw fath o godi'r gwastad. Rwy'n credu mai dyna'r hyn yr ydym ni'n chwilio amdano a'r hyn yr ydym ni'n anelu ato. Rydym ni'n edrych ar sut y gallem ni gymryd rheolaeth yn ôl. Mae'r holl sloganau a datganiadau hynny a wnaed beth amser yn ôl yn rhywbeth sy'n uniongyrchol berthnasol, ac, wrth gwrs, dyna'n union yr oedd yr Arglwydd Frost yn ei ddweud. Rwy'n credu mai'r allwedd yw mai diben y comisiwn yw cofleidio pawb ledled Cymru a meithrin consensws.

Efallai y dylwn i orffen gyda'r sylwadau cadarnhaol a wnaethoch chi yn gynnar. Rwy'n edrych ymlaen ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yn ymgysylltu'n gadarnhaol. Rwy'n gwybod bod gennym ni wahaniaethau, ond wrth i ni symud ymlaen gyda'n gilydd, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn ceisio meithrin consensws ynghylch ble y bydd newid yn gweithio, yn y pen draw, er budd pobl a chymunedau Cymru.

16:35

Dywedodd uwch ddarlithydd gwleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd—nid yr Athro Laura McAllister, prysuraf i ychwanegu—wrthyf ar adeg sefydlu'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru fod sefydlu comisiynau yn prysur ddod yn gamp genedlaethol yng Nghymru. Clywais yn gynharach y prynhawn yma ebychiadau o 'gwastraff amser' o feinciau'r gwrthbleidiau—y meinciau gyferbyn â mi. Wel, gadewch i ni gael taith o amgylch hanes datganoli. Heddiw, fe wnaeth y Prif Weinidog ddyfynnu Iain Duncan Smith, mae'r Cwnsler Cyffredinol newydd ddyfynnu Dominic Cummings; wel, fe wnaf i un yn well na chi, a dyfynnu Syr Winston Churchill i chi: 'Mae'r rhai sy'n methu â dysgu o hanes wedi'u tynghedu i'w ailadrodd.' Felly, gadewch i ni fynd ar daith o amgylch hanes datganoli yng Nghymru.

Nid gwastraff amser oedd comisiynau'r gorffennol. Maent wedi arwain at gryfhau'r lle hwn a gwella bywydau pobl Cymru. Rwy'n siŵr bod Rowan Williams yn gyfarwydd iawn â phregethu gyda thri phen; gaf i'ch atgoffa chi heddiw am dri chomisiwn blaenorol?

I ddechrau, comisiwn yr Arglwydd Richard, 'Trefn Llywodraethu Gwell', a hyn yn arwain at Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Fe wnaeth hwn roi pŵer inni basio deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd penodedig. Roedd y Ddeddf hefyd yn gwahanu'r Cynulliad o'r Llywodraeth—hyn yn arbennig i ni fel democratiaeth yng Nghymru ac yn dilyn arferiad democratiaeth ledled y byd.

Yna Confensiwn Cymru Gyfan, a hyn yn arwain at bwerau llawn ym meysydd datganoledig wedi refferendwm 2011, a fi, fel Darren Millar, yn ymgyrchu yn hwnnw—dim gyda'n gilydd, wrth reswm. Ond roedd yna deimlad cyffrous fanna, Darren, bryd hynny—y pleidiau'n cydweithio gyda'i gilydd i sicrhau'r hyn oedd yn dda i bobl Cymru. Roedd yr holl bleidiau yn rhoi'r genedl yn gyntaf i gael gwared ar yr LCOs llafurus. Fisoedd yn ddiweddarach, wrth gwrs, Gwnsler Cyffredinol, roeddech chi'n cael eich ethol i'r lle hwn mewn cyfnod mor gyffrous a hyderus i ni fel sefydliad.

Ac yna comisiwn Silk—ŷch chi'n cofio comisiwn Silk, draw fanna? Chi, Lywodraeth Dorïaidd wnaeth gomisiynu hynny, a hynny'n arwain at Ddeddf Cymru 2014, a'r model pwerau cadw nôl, y reserved-powers model, a hynny'n meddwl ein bod ni'n gallu pasio cyfreithiau mewn unrhyw faes oedd ddim wedi cael ei gadw'n ôl gan Senedd y Deyrnas Unedig. Ac yn ail ran comisiwn Silk, y rhan fwyaf o'r argymhellion hynny'n cael eu derbyn gan y Llywodraeth Dorïaidd, a hynny'n arwain at gytundeb Gŵyl Ddewi 2015.

Ie, nid gwastraff amser yw comisiynau o gwbl, ond ffordd i adeiladu'r genedl. Oherwydd fel mae Darren Millar wedi dweud, mae Cymru wedi bod ar daith, ac mae'r daith yn parhau, er gwaethaf ymdrechion rhai pobl. Mae Brexit, mae COVID-19, yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban, yr hyn sy'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon wedi arwain sawl person yng Nghymru i ailasesu'r sefyllfa, ailystyried dyfodol cyfansoddiadol ein gwlad ni. Ac yn wahanol i'r holl gomisiynau blaenorol, y tro yma bydd annibyniaeth yn cael ei thrafod yn swyddogol. Mae hwn yn gam enfawr ymlaen ar ein taith ni. Hon fydd y sgwrs genedlaethol fwyaf yn hanes Cymru fel gwlad ddatganoledig. Dwi'n croesawu'n fawr iawn apwyntiad Laura McAllister a'r Parch Ddr Rowan Williams i'w rolau a dwi'n dymuno'n dda iddynt fel cyd-gadeiryddion.

Byddwch yn cofio'r hen ymadrodd, 'Yr eglwys Anglicanaidd yw'r Blaid Geidwadol wrth weddi.' Wel, efallai y bydd penodi cyn Archesgob Caergaint yn sicrhau y byddwch chi draw yn y fan honno'n gwrando o'r diwedd.

Mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen at weithio yn adeiladol gyda'r comisiwn. Dywedodd y Prif Weinidog heddiw y bydd e'n defnyddio pob cyfle posib i wthio ffederaliaeth radical. Wel, dwi'n dweud nawr y byddwn ni fan hyn yn defnyddio pob cyfle posib i wthio annibyniaeth, oherwydd yng ngeiriau'r hen ddywediad, 'There never lived a nation that ruled another well.' Mae'n wir ledled y byd ac mae'n wir fan hyn yng Nghymru. Rwy'n ymwybodol eich bod chi, Gwnsler Cyffredinol, wedi bod yn ymgyrchu dros ddatganoli ers y 1970au, cyn i rai ohonom ni gael ein geni hyd yn oed. Rydych chi wedi profi siom 1979, rydych chi wedi profi siom Llywodraeth hir Margaret Thatcher, ond rydych chi hefyd wedi gweld sut mae pethau'n gallu newid—dyw'r status quo ddim yn bodoli am byth. Rydych chi wedi gweld gorfoledd Cymru yn pleidleisio am y lle hwn ym 1997.

Dwi'n dod at fy nghwestiynau—sori, Llywydd. Siom i fi felly oedd clywed sylwadau Syr Keir Starmer mai dim ond o bosib y bydd Cymru'n cael pwerau ychwanegol o dan Lywodraeth Lafur yn San Steffan. Dywedodd e nad oedd datganoli yn flaenoriaeth iddo fe, nid oedd yn flaenoriaeth bwysig. Yn amlwg, ni wnaeth Syr Keir Starmer ddarllen eich maniffesto chi oedd yn sôn am ffederaliaeth radical. Mae hefyd wedi comisiynu, onid yw e, comisiwn i edrych ar yr undeb o dan gadeiryddiaeth Gordon Brown. Sut fydd y ddau gomisiwn yna yn cydweithio â'i gilydd, yn enwedig wrth ystyried bod annibyniaeth yn cael ei hystyried dan gomisiwn McAllister-Williams? A fydd Llywodraeth Lafur, os ddaw yn San Steffan, yn gwrando ar argymhellion y comisiwn yma? Gan nad yw sylwadau Starmer yn fy llenwi â hyder, a gan nad yw Llywodraeth Boris Johnson yn fy llenwi i â hyder, beth yw'r plan B os bydd y comisiwn yma hefyd yn cael ei anwybyddu, fel comisiwn Thomas, comisiwn oedd yn llawn rheswm, oedd yn llawn doethineb, oedd yn llawn dadleuon cryf yn cael ei anwybyddu'n llwyr gan San Steffan? Beth yw'r plan B, Gwnsler Cyffredinol? Diolch yn fawr. 

16:45

Os caf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad a'r crynodeb, rwy’n credu, o hanes datganoli—yn sicr fy atgof i o ddechrau'r 1970au, pan fo'n rhaid i mi ddweud roedd rhai ohonom nad oeddem yn siŵr y byddai byth yn digwydd, ond y wers yr ydych yn ei dysgu yw bod pethau'n newid a bod yn rhaid i chi baratoi ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu mai Benjamin Franklin a ddywedodd eich bod, drwy fethu â pharatoi, yn paratoi i fethu. Ac fe ddywedodd hefyd, pan fyddwch chi wedi gorffen newid, eich bod wedi gorffen. Ac rydym mewn proses o newid, a dyna pam rwy'n credu bod yn rhaid i ni groesawu'r newid hwnnw.

Rwy'n ddiolchgar am eich cyfeiriad at y dyfyniad a briodolwyd i mi gan Dominic Cummings; yr Arglwydd Frost oedd e mewn gwirionedd. Roeddwn i'n meddwl bod yr Arglwydd Frost yn fwy perthnasol ar y sail ei fod ar hyn o bryd yn arwain y trafodaethau ar yr ymadawiad â'r UE, felly efallai fod ei sylwadau'n werth eu hystyried yn ofalus iawn.

A gaf i ddweud eto fy mod yn credu ei bod efallai'n gamgymeriad canolbwyntio ar opsiynau unigol penodol, boed yn annibyniaeth, boed yn ffederaliaeth, ffederaliaeth radical, unoliaeth ac yn y blaen? Rwy'n credu mai'r man cychwyn o ran y neges mae'n rhaid iddi ddod drosodd yw ein bod eisiau gweld newid a fydd o fudd i bobl Cymru, a fydd yn dod â phenderfyniadau'n nes at bobl, i roi mwy o reolaeth i bobl dros y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Felly, mae sybsidiaredd i mi yn un sylfaenol.

Fe wnaethoch chi sôn, wrth gwrs, am y cyfweliad gyda Keir Starmer ac wrth gwrs comisiwn Llafur y DU sydd yno. Rwy'n credu mai'r hyn y mae'r sylwadau hynny a'r comisiwn hwnnw'n ei ddangos, wrth gwrs, yw nad yw'n ymwneud â'r sefyllfa yng Nghymru yn unig, neu'r Alban, neu Ogledd Iwerddon, mae galwadau clir am ddatganoli pŵer, er mwyn grymuso pobl a chymunedau'n well mewn perthynas â'r datganoli hwnnw sydd eisoes wedi digwydd yn Lloegr. Efallai fod y ddadl yno 10 mlynedd ar ei hôl hi, ond mae'n sicr yn cyflymu ac mae'n sicr yn berthnasol, yn fy marn i, i'r ddadl sy'n dod ar gyfer y dyfodol. Fy marn i yw, mewn perthynas â chomisiwn Plaid Lafur y DU ac unrhyw gomisiynau eraill sydd yno, y byddwn i'n gobeithio y byddai'r comisiwn hwn, sy'n gomisiwn a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, ar sail ymrwymiad maniffesto ond sy'n annibynnol ar y Llywodraeth ac sydd â mandad i ystyried pob opsiwn, am ymgysylltu ag unrhyw broses sy'n digwydd sy'n berthnasol i bobl Cymru ac sy'n berthnasol i'r dasg sydd ganddyn nhw.

Ac o ran a fydd Llywodraeth y DU yn gwrando, mae Llywodraethau’n mynd, mae Llywodraethau'n dod, mae newidiadau i wleidyddiaeth. Rwy’n credu, os gall y comisiwn gael y math o ymgysylltu yr ydym ni eisiau ei weld yn ei gael, os yw'n gallu creu'r math hwnnw o gonsensws ymhlith pobl Cymru a, gobeithio, yn drawsbleidiol hefyd ar yr angen am newid, yna byddwn ni'n llwyddo. Felly, rydym ni naill ai'n dadlau ein hachos, rydym ni naill ai'n ymgyrchu dros y mathau o newidiadau y credwn y dylid eu gwneud a'r mathau o werthoedd sydd gennym, fel arall beth yw diben y lle hwn? Mae newid yn rhywbeth sy'n digwydd bob amser. Mae'n digwydd bob amser, ac mae'n cael ei ddyfynnu'n fawr fod datganoli'n broses nid yn ddigwyddiad, wel, mae hanes yn newid yn barhaus. Mae'r byd rydym ni’n byw ynddo yn newid, a rhaid i mi ddweud bod y byd yr oeddwn i'n byw ynddo pan ddechreuais i edrych ar ddatganoli ar ôl Kilbrandon ym 1974 wedi newid yn aruthrol. Dydych chi ddim yn gweld Tipp-Ex a phapur carbon yn swyddfeydd pobl fel roeddech chi’n ei weld unwaith. Mae'r chwyldro technolegol wedi newid cymaint, fel mae'r byd wedi'i wneud yn fyd-eang.

Felly, rwy’n gweld y comisiwn ac rwy’n gweld, gobeithio, yn gryno i'r pwyntiau a godwyd gennych: rydym ni'n byw mewn byd byd-eang, rhaid i Gymru wneud ei llais ei hun a'i ffordd ei hun a'i hunaniaeth ei hun yno. Mae'n rhaid iddi weithio gyda'r cymdogion o'i chwmpas, mae'n rhaid iddi ddatblygu'r rhyngddibyniaethau, ac mae hynny'n mynd yn sylfaenol i'n democratiaeth. Ond, y tu hwnt i bopeth, nid yw hyn yn ymwneud â ni fel gwleidyddion, pa blaid bynnag yr ydym, yn dweud ein bod yn gwybod beth sydd orau i bobl Cymru, mae'n golygu dweud mewn gwirionedd fod heriau o'n blaenau, a'r ffordd orau ymlaen o benderfynu beth y dylen nhw fod yw drwy ymgysylltu â phobl Cymru, y bobl sy'n ein hethol. Ac rwy'n credu mai dyna pam mae'r comisiwn mor hanfodol bwysig. Diolch, Llywydd.

Huw Irranca-Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch, Gweinidog. Mae materion cyfansoddiadol yn ganolog i gylch gwaith y pwyllgor. Ar ôl holi’r Cwnsler Cyffredinol am ychydig ynghylch ei gynlluniau i sefydlu comisiwn cyfansoddiadol ym mis Medi, mae’r cyhoeddiad heddiw o gryn ddiddordeb i ni. Yn benodol, bydd yn ddiddorol ystyried y cysylltiad rhwng ei gynlluniau a’r ail argraffiad o 'Diwygio ein Hundeb' a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin eleni.  

Tynnodd adroddiad etifeddiaeth ein pwyllgor blaenorol sylw at lawer o faterion a fydd yn berthnasol i waith y comisiwn. Tynnodd sylw at weithrediad ac effeithiolrwydd confensiwn Sewel ac yn wir y tensiynau sydd wedi bodoli rhwng Llywodraethau a'r angen i bob Llywodraeth a Senedd ddod o hyd i ddealltwriaeth gyffredin o gymhwyso'r confensiwn hwnnw. Awgrymodd ein pwyllgor blaenorol hefyd ein bod yn monitro'r defnydd o gytundebau rhynglywodraethol, yn ogystal ag effeithiolrwydd y ffordd mae Llywodraethau Cymru a'r DU yn cydweithio. Ac ar y pwynt olaf hwnnw, edrychwn ymlaen at ganlyniad yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol hirddisgwyliedig. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrth ein pwyllgor fod Llywodraeth Cymru bellach yn fwy optimistaidd nag y bu yn y gorffennol, a bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud.

Cyhoeddodd ein pwyllgor blaenorol rybudd hefyd fod y defnydd o femoranda cydsyniad deddfwriaethol sy'n caniatáu i Lywodraeth y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig yn dod yn fwyfwy afreolaidd yn gyfansoddiadol os yw newidiadau a wneir i lyfr statud Cymru yn sylweddol ac yn arwyddocaol, ac rydym eisoes yn pryderu. Llai na chwe mis i mewn i Senedd newydd, ac eisoes, mae memoranda cydsyniad ar gyfer 14 o Filiau'r DU wedi'u gosod, gyda'r addewid o fwy i ddod. Felly, rydym yn cymryd diddordeb mawr yn y rheswm pam mae Llywodraeth Cymru yn ymddangos yn fodlon caniatáu, neu yn wir, cefnogi Llywodraeth y DU i ddeddfu mor helaeth o fewn meysydd datganoledig.

Dywed ein nodiadau pwyllgor wrth basio adferiad safbwynt Llywodraeth Cymru mai Cymru gref o fewn undeb sefydlog yw'r dewis gorau i ddinasyddion Cymru yn eich barn chi. Nodwn hefyd gyda diddordeb yn y datganiad mai amcan cyntaf y comisiwn annibynnol fydd ystyried a datblygu opsiynau cadarn ar gyfer datganoli yng Nghymru yng nghyd-destun Teyrnas Unedig barhaus o bedair gwlad, a nodwn hefyd gyda diddordeb cynyddol efallai mai ail amcan allweddol y comisiwn annibynnol fydd ystyried a datblygu atebion cadarn, opsiynau ar gyfer Cymru, os bydd y Deyrnas Unedig yn dechrau diddymu o'r model pedair gwlad. Mewn geiriau eraill, rydych chi’n dweud yn eich datganiad beth allai lle cyfansoddiadol Cymru fod mewn Teyrnas Unedig y mae un o'i rhannau cyfansoddol wedi dewis ei gadael.

Felly, gan hynny, rydym yn edrych ymlaen, er mwyn datblygu consensws, i ymgysylltu’n adeiladol â’r comisiwn a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein trefniadau cyfansoddiadol yn addas i’r diben. Diolch yn fawr, Llywydd.

16:50

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau a'i sylwadau meddylgar. Os gallaf ddechrau drwy ddweud pa mor bwysig yr wyf i'n cydnabod yw rôl y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, ac mewn gwirionedd, rwy’n credu fy mod yn mynd ag un o'ch papurau adref, sy'n feirniadaeth o un o'n memoranda cydsyniad deddfwriaethol, felly rwyf am feddwl am hynny'n ofalus iawn, iawn, ond mae'n swyddogaeth bwysig iawn sydd gan y pwyllgor mewn Senedd heb ail Siambr.

Yn gyntaf, o ran 'Diwygio ein Hundeb', mae'n ymwneud yn ôl ychydig, onid ydy, â chwestiwn a godwyd yn gynharach o ran ymgysylltu â Llywodraeth y DU, a hynny yw, cafodd rhifyn cyntaf 'Diwygio ein Hundeb' i Lywodraeth y DU, yn ei hanfod, ei ysgubo ymaith, a chafodd yr ail fersiwn, yn fwy diweddar, ei ysgubo ymaith. Ac roedd hynny'n siomedig iawn, iawn, oherwydd holl bwynt y papurau hynny oedd ysgogi dadl, oedd ymgysylltu, ac mae'n anodd iawn pan fydd un blaid, fel estrys, yn cuddio ei phen yn y tywod ac yn dweud na fydd yn ymgysylltu.

Nawr, fe wnaf i ddweud o ran yr ochr fwy cadarnhaol, ac mae hwn yn fater yr ydym ni wedi'i drafod o'r blaen, gyda'r cytundeb rhynglywodraethol—mae rhywfaint o gynnydd ar hynny. Mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn fecanwaith ar gyfer gwella'r mecanwaith ymgysylltu rhwng Llywodraethau'r pedair gwlad, er nad yw'n ddatrysiad i'r hyn sydd, yn fy marn i, yn faterion cyfansoddiadol tymor hirach, sydd hefyd yn gydnabyddiaeth, yn fy marn i, o sofraniaeth, a'r ffaith y dylai sofraniaeth y pedair gwlad ddod yn natur gyfansoddiadol ddiymwad erbyn hyn; hynny yw ei fod bellach yn cael ei rannu ac na ddylid gallu ei newid.

Rydych chi’n iawn hefyd o ran effaith deddfwriaeth gan Lywodraeth y DU, a pha effaith a allai hynny ei gael o ran datganoli cyfrifoldebau, dim ond sôn am y Bil cymhorthdal, Deddf y farchnad fewnol, wrth gwrs, a'r ffordd mae hynny'n cael ei ddefnyddio o ran trin cyllid. Rydym wedi cael y ddadl hon droeon o'r blaen, ac wrth gwrs, fel y gwyddoch chi, mae gennym her gyfreithiol i Ddeddf y farchnad fewnol bellach, sy'n cael ei chlywed ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.

A gaf i efallai grynhoi wrth ddweud fy mod yn credu bod yr holl bwyntiau rydych chi’n eu gwneud yn ddilys? Rwy’n credu wrth fwrw ymlaen ac ystyried y materion, gan edrych ar y materion y bydd yn rhaid i'r comisiwn eu hystyried, y byddai'n anghyfrifol i ni beidio â bod â'r comisiwn hwn, a pheidio â bod yn rhan o'r broses hon yng ngoleuni'r holl heriau y gwyddom ni sydd o'n blaenau. Nid yw'n briodol, yn fy marn i, i ragdybio beth fydd y canlyniad, oherwydd rwy'n credu bod pawb sy'n mynd i fod ar y comisiwn, gan gynnwys y cyd-gadeiryddion—mae'r sefyllfa wedi bod yn glir iawn o'r dechrau, nid ydynt yn gynrychiolwyr unrhyw safbwynt wleidyddol benodol ond maen nhw yno ar gyfer eu sgiliau, i gyflawni swyddogaethau'r comisiwn i ymgysylltu â phobl Cymru.

16:55

Gweinidog, pan wnes i ddeffro y bore yma a chanfod bod y comisiwn hwn yn mynd i edrych ar annibyniaeth, roeddwn i wedi fy syfrdanu'n llwyr, ond nid oeddwn yn synnu. Wyddoch chi, gwnaeth i mi feddwl bod y comisiwn hwn yn debygol o fod yn llawn o gydymdeimladwyr annibyniaeth? Mae un o'r cyd-gadeiryddion sy'n arwain y comisiwn yn gyn-ymgeisydd Plaid Cymru, ac nid wyf yn hollol siŵr bod hynny'n anfon y neges gywir, na fydd y comisiwn hwn yn rhagfarnllyd tuag at ganlyniad penodol. Unwaith eto, mae'r lleiafrif rhagfarnllyd, llafar yn YesCymru yn cael eu cefnogi gan y Llywodraeth hon a Plaid, ac maen nhw'n ceisio cael Cymru annibynnol drwy'r drws cefn. Mae'n profi, onid yw, os ydych chi'n pleidleisio Llafur, rydych chi'n cael annibyniaeth.

Felly, Gweinidog, a allwch chi fy sicrhau i a phobl Cymru y bydd y comisiwn hwn yn edrych o ddifrif ar y Llywodraeth hon a'r ffordd y mae'n rheoli meysydd datganoledig megis iechyd, addysg a'r economi, sy'n dirywio o dan eich gwyliadwriaeth, a gwneud argymhellion o ddifrif ar sut y gallwn ni wella'r Senedd er gwell gyda'r pwerau sydd gennym ar hyn o bryd, a pheidio â dal i achosi anhrefn cyfansoddiadol a chwarae gemau gyda bywydau pobl Cymru gyda'r agenda annibyniaeth hon, sy'n cael ei gyrru gan Blaid Cymru sydd am ffurfio cytundeb clymblaid gyda chi eich hun? Diolch, Llywydd.

A gaf i longyfarch yr Aelod yn gyntaf ar ddeffro y bore yma? A'r peth cyntaf a wnaeth oedd ymarfer rhywfaint o feddwl. Gobeithio nad yw hyn yn ddigwyddiad untro.

A gaf i ddiolch iddo hefyd am y sylwadau oherwydd rwy'n credu, o fewn y safbwyntiau mae ef wedi'u mynegi—rwy'n deall pam mae'n eu gwneud—yn amlwg mae'n bwysig dangos ewyllys da i'r penarglwyddi yn Rhif 10 Downing Street, ac rwyf yn siŵr bod hynny'n ymddangos yn rhai o'r sylwadau a wnaed?

Rwyf yn gweld bod y materion a godir mewn perthynas ag anhrefn cyfansoddiadol yn anffodus iawn yn dod o blaid sydd wedi bod yn ein harwain am y tair neu bedair blynedd diwethaf mewn anhrefn gyfansoddiadol absoliwt, fel y gwelsom ni o'r ffactorau economaidd, o'r materion o ran y sefyllfa gyda'n porthladdoedd, yr economi, y petrol, y llinellau cyflenwi ac yn y blaen. Felly, nid wyf yn credu eich bod mewn sefyllfa i ddadlau ar hynny.

Yr hyn a wnaf fi ei ddweud yw: pan fyddwn ni'n mynd y tu hwnt i'r rhethreg wleidyddol ynghylch y math hwn o beth, rwyf yn siŵr bod gennych chi'r uchelgais, fel sydd gennym ni, i gydnabod, yn gyntaf, fod mandad i'r comisiwn hwn, yn ail, fod gan y comisiwn gylch gorchwyl eang, y byddwch yn gallu cyfrannu ato—byddwch yn gallu rhoi eich barn ar hynny—a'n bod yn ymgysylltu'n gadarnhaol ac yn gwrtais yn y ddadl benodol honno. Felly, ar ôl mynd i lawr y llwybr o ymateb i rai o'r sylwadau gwleidyddol efallai, rwyf i'n cydnabod y bydd cyfle i bob un ohonom ymgysylltu, oherwydd rwyf yn siŵr bod gan bob un ohonom ni un amcan clir, sef cynrychioli pobl Cymru a buddiannau pobl Cymru orau, beth bynnag fo'n gwahaniaethau penodol.

Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Cwnsler Cyffredinol. Ond fy nghwestiwn mwyaf a mwyaf perthnasol i chi yw: pam nawr? Mae ein cenedl yn wynebu argyfyngau lluosog, heriau enfawr, ac eto dyma ni unwaith eto'n neilltuo amser i'r cyfansoddiad. Y bore yma, cyhoeddodd WalesOnline ganlyniadau'r 10 mater mwyaf sy'n wynebu Cymru, fel y pleidleisiodd pobl Cymru, eich meistri cyflog. Nid oedd y cyfansoddiad yn un ohonyn nhw. Sut ydych chi'n ateb y rhai sy'n dweud, 'Mae hyn yn dangos bod eich Llywodraeth wedi colli cysylltiad'? Cyn y datganiad hwn, gallem ni fod wedi cael ein camgymryd am feddwl eich bod yn cyfeirio at gomisiwn cyfansoddiadol Keir Starmer. Pa berthynas fydd gan eich comisiwn â'r un a sefydlwyd gan Blaid Lafur y DU i geisio lleihau ei difodiant etholiadol yn yr Alban?

Yn olaf, Cwnsler Cyffredinol, a fydd Llywodraeth Cymru yn neilltuo cymaint o amser i drwsio ein system gofal doredig ag y mae'n boddio ymylon Plaid sydd yn hiraethu am Gymru annibynnol—annibyniaeth sydd wedi'i gwrthod yn gadarn gan bobl Cymru? Diolch yn fawr.

17:00

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Mae e'n dweud, 'Pam nawr?' Wel, os nad nawr, pryd? Oherwydd pan fyddwch chi'n wynebu newid, pan fyddwch chi'n wynebu camweithredu, pan fyddwch chi'n wynebu'r diffyg eglurder yn y broses o wneud penderfyniadau, y diffyg eglurder yn y trefniadau ariannol, a bod y sefyllfa honno'n effeithio ar fywydau pobl Cymru, pan fydd hefyd yn effeithio ar y mandad democrataidd sydd gan y Llywodraeth ac yn amharu ar hynny, yna mae angen ymdrin â rhywbeth sydd wedi bod yn broses o gamweithredu ers tro, sydd, ac yn drawsbleidiol—mae hyd yn oed pobl fel Syr Bernard Jenkin yn cydnabod yr angen am newid cyfansoddiadol. 

O ran yr holl faterion eraill, wel, byddwn i wedi meddwl y gallai'r Aelod dreulio ei amser yn well pe bai'n cyfeirio at y £500 miliwn a gafodd ei wastraffu gan Lywodraeth y DU ar breifateiddio'r gwasanaeth prawf yn aflwyddiannus, neu efallai y £3 biliwn a gafodd ei wastraffu ar ad-drefnu'r GIG, neu'r £240 miliwn a gafodd ei wastraffu ar leoedd ysgol am ddim yn Lloegr, lleoedd nad oedd eu hangen, neu efallai'r £2 biliwn i gwmnïau sydd â chysylltiadau â'r blaid Geidwadol, neu Lywodraeth y DU sy'n gwario £400,000 ar yrwyr i yrru bocsys coch o amgylch Llundain ar gyfer Gweinidogion, efallai'r £156 miliwn ar gontract ar gyfer cyfarpar diogelu personol aneffeithiol, neu efallai, fel y gwnaeth dadansoddiad y New York Times ei ddarganfod, bod £11 biliwn allan o gontractau £22 biliwn Llywodraeth y DU, wedi mynd i gwmnïau y mae'n dweud iddyn nhw gael eu cynnal gan ffrindiau a chymdeithion gwleidyddion yn y blaid Geidwadol, heb unrhyw brofiad blaenorol. Nawr, os ydych chi wir eisiau siarad am faterion yr economi a defnyddio arian cyhoeddus, dyna'r materion rwy'n credu y dylech chi wir fod yn ymdrin â nhw.

Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw amddiffyn a datblygu democratiaeth Cymru, ond democratiaeth gydag amcan clir iawn sy'n eich galluogi i gymryd rhan, fel y mae pob un blaid yn y Senedd hon, ac, yn wir, unrhyw grŵp a sefydliad dinesig ledled Cymru. Byddwn i'n gobeithio y byddech chi wir yn croesawu'r hyn sy'n cael ei wneud, ei fod yn rhywbeth cadarnhaol ac mae'n rhywbeth sy'n ystyried dyfodol Cymru, rhywbeth y mae gan bob un ohonom ni ddiddordeb uniongyrchol ynddo, yn hytrach na gwneud yr hyn sydd, yn fy marn i, yn bwyntiau nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn berthnasol i'r materion ac ysbryd y ddadl yr ydym ni wedi'i chael hyd yn hyn.  

6. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip: Blaenoriaethau sgiliau Cymru Greadigol ar gyfer y diwydiannau creadigol

Yr eitem nesaf felly yw eitem 6, a hwn yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip ar y blaenoriaethau sgiliau Cymru Greadigol ar gyfer y diwydiannau creadigol. Galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad. Dawn Bowden. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae pwysigrwydd y diwydiannau creadigol i ddiwylliant ac economi Cymru yn sylweddol ac, oherwydd hynny, mae'n rhaid eu meithrin a'u cefnogi. Cyn y pandemig, roedd gan y sector drosiant o £2.2 biliwn ac roedd yn cyflogi 56,000 o bobl. Nododd adroddiad diweddar yn y DU hefyd y potensial i'r sector wella'n gyflymach nag economi'r DU yn gyffredinol.

Effeithiodd y pandemig ar ein diwydiannau creadigol mewn gwahanol ffyrdd. Er bod y sector cerddoriaeth wedi cael ergyd drom gyda lleoliadau'n cael eu cau am gyfnodau estynedig, roedd sectorau eraill mewn gwell sefyllfa i addasu. Yn dilyn cyfnod segur cychwynnol, gweithiodd y diwydiant sgrin gyda'i gilydd i ddod o hyd i atebion i ailgychwyn cynhyrchu ac, ym mis Mehefin 2020, roedd Cymru'n gartref i'r ddrama deledu gyntaf o'r radd flaenaf i ailddechrau cynhyrchu yn y DU.

Mae'r awydd am gynnwys ar gyfer y sgrin wedi codi'n aruthrol ac nid yw'n dangos unrhyw arwydd o arafu. Mae hyn, ynghyd â nifer y cynyrchiadau sy'n ceisio ffilmio yng Nghymru, wedi gweld y cyfnod prysuraf o weithgarwch erioed, gyda dros 24 o gynyrchiadau'n ffilmio ledled Cymru rhwng mis Mai a mis Hydref. Mae'r cynnydd hwn mewn gweithgarwch cynhyrchu wedi gweld galw digynsail am weithlu medrus. Er bod hyn yn newyddion cadarnhaol iawn, mae wedi amlygu'r angen am weithredu i helpu i ymdrin â phrinder sgiliau enbyd a sicrhau bod gan ein gweithlu'r sgiliau cywir ar gyfer y dyfodol. Os yw Cymru eisiau cynnal ei safle fel canolfan gynhyrchu ddeniadol yn y DU, mae'n rhaid mynd i'r afael ag anghenion y sector sgrin yn gyflym ac mewn modd cydlynol.

17:05

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Pan wnaethom ni lansio Cymru Greadigol, cafodd cymorth sgiliau a thalent ei nodi'n flaenoriaeth allweddol, ac mae ein camau gweithredu hyd yma wedi cefnogi newid cadarnhaol. O fewn 18 mis o'i lansio, mae Cymru Greadigol wedi gweithio gyda'n holl bartneriaid yng Nghymru, ac ar lefel y DU, i gefnogi 12 prosiect sgiliau ledled y sectorau creadigol, pob un yn ymdrin ag un neu fwy o'n meysydd blaenoriaeth. Er bod camau gweithredu wedi'u cymryd ar draws pob sector, oherwydd y cynnydd yn y galw o ran cynhyrchu a'r angen dilynol am griwiau, mae'n anochel bod gweithgarwch wedi canolbwyntio'n drwm ar sgiliau sy'n gysylltiedig â'r sgrin.

Nawr, mae amrywiaeth a chynhwysiant, wrth gwrs, yn ganolbwynt allweddol i'n holl ymyriadau, ac rydym ni wedi ymrwymo i ymdrin â'r diffyg amrywiaeth mewn criwiau a'r gadwyn gyflenwi, a chefais i'r pleser yn ddiweddar o lansio Cyswllt Diwylliant Cymru, cynllun treialu 12 mis sy'n ceisio cynyddu cyfleoedd i gymunedau amrywiol ym maes ffilm a theledu yng Nghymru. Bydd y rhaglen yn datblygu rhwydwaith a chronfa ddata bwrpasol ar gyfer cymunedau ethnig amrywiol sy'n gweithio mewn ffilm, teledu ac ar draws sawl platfform. Bydd y cynllun treialu yn helpu pobl sydd eisiau newid gyrfa, a bydd yn cynorthwyo pobl ifanc a phobl nad ydyn nhw'n ymwybodol o'r cyfleoedd yn y sector. Daeth Cymru Greadigol â'r pedwar darlledwr daearol at ei gilydd i gefnogi'r prosiect hwn, a fydd gyda'i gilydd yn arwain at newid mewn arferion recriwtio o fewn y sector sgrin yng Nghymru.

Er mwyn deall anghenion sgiliau'r sector sgrin yn gyfredol ac yn y dyfodol yn well yma, mae Cymru Greadigol wedi ffurfio partneriaeth â Phrifysgol De Cymru i gynnal arolwg sgrin Cymru 2021, sef mapio'r sector sgrin, ei weithlu a'i ddarpariaeth hyfforddi ar draws Cymru gyfan. Bydd canlyniadau ac argymhellion yr arolwg yn cael eu cyflwyno yn ystod y misoedd nesaf a byddan nhw'n darparu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gweithgarwch sgiliau sgrin yn y dyfodol. Byddwn ni'n sicrhau bod llais y diwydiant—a'r gweithlu, gyda chyfraniad undebau llafur—yn parhau i fod yn rhan greiddiol o unrhyw drafodaethau sgiliau yn y dyfodol. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda Phrifysgol De Cymru i fapio'r sector cerddoriaeth yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi'r sail i ni ddatblygu cynllun sgiliau ar gyfer y sector hwn yn y dyfodol hefyd.

Dysgu ymarferol o brofiad yw'r math mwyaf effeithlon o hyfforddiant o fewn y sector sgrin, felly mae cynnal lefel y cynyrchiadau sy'n ffilmio yng Nghymru yn hanfodol i gynyddu cyfleoedd hyfforddi o flwyddyn i flwyddyn. Ac mae Cymru Greadigol yn parhau i weithio gyda chynyrchiadau wedi'u hariannu i warantu ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd i hyfforddeion ar ffurf lleoliadau â thâl. Caiff y lleoliadau hyn eu monitro i helpu i sicrhau llwybrau gyrfaoedd i bob hyfforddai yn y dyfodol, ac, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae mwy na 120 o hyfforddeion wedi elwa ar leoliadau gwaith am dâl ar gynyrchiadau wedi'u cefnogi gan Cymru Greadigol. Mae'r rhain yn cynnwys y ddrama Netflix Havoc, gyda Tom Hardy a Forest Whitaker, cyfres tri His Dark Materials ar gyfer BBC One, a'r cynhyrchiad Lucasfilm newydd, Willow, a fydd yn darlledu ar Disney+.

Gan edrych ymlaen, bydd sefydlu corff sgiliau creadigol, fel un o brif ymrwymiadau rhaglen llywodraethu Llywodraeth Cymru, yn dwysáu ein pwyslais ar ddatblygu sgiliau a thalent ledled ein holl is-sectorau creadigol. Wedi'i gyflwyno'n fewnol drwy Cymru Greadigol, gyda swyddogaeth sgiliau a thalent well, bydd y dull hwn yn sicrhau bod yr holl adnoddau yn y dyfodol yn cael eu cydgysylltu a'u bod yn gallu cefnogi mentrau talent a sgiliau creadigol yng Nghymru yn uniongyrchol. 

Bydd y corff sgiliau yn parhau â'r dull partneriaeth a sefydlwyd eisoes drwy grŵp rhanddeiliaid sgiliau ffilm a theledu Cymru Greadigol. Mae'r grŵp, sydd nawr ag aelodaeth o dros 50, yn gweithredu fel seinfwrdd, gan ddod â phartneriaid at ei gilydd i hwyluso gwaith rhwydweithio a chydweithio. Felly, bydd gwaith y corff sgiliau yn cael ei oruchwylio gan grŵp llywio sgiliau craidd, a fydd yn adrodd yn ôl i fwrdd anweithredol Cymru Greadigol. Dirprwy Lywydd, rydym ni ar hyn o bryd yn gweithio ar y trefniadau manwl ar gyfer y corff sgiliau creadigol, a byddaf i'n darparu'r newyddion diweddaraf eto maes o law.

Yn olaf, byddwn ni'n sicrhau bod gweithgarwch sgiliau creadigol yn y dyfodol yn cefnogi ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gyflawni'r warant i bobl ifanc a 125,000 o brentisiaethau o bob oed. Mae Cymru Greadigol eisoes yn gweithio gyda chydweithwyr mewn sgiliau, addysg uwch a dysgu gydol oes ar gyflwyno CRIW, model prentisiaeth gynhyrchu newydd sydd newydd ei lansio yn y gogledd, yn dilyn dwy flynedd lwyddiannus iawn yn y de, ac rydym ni'n ystyried sut y mae modd efelychu'r model prentisiaeth hwn mewn sectorau creadigol eraill.

Mae ein hymyriadau hefyd wedi'u cydgysylltu a'u cynllunio ar gyfer y tymor hir. Mae cynnwys ffilm a chyfryngau digidol o fewn y cwricwlwm newydd o 2025 yn enghraifft allweddol o hyn. Mae'n gam mawr ymlaen o ran gwneud anghenion sector sy'n tyfu yn gydnaws â'r hyn sy'n cael ei addysgu yn ein hysgolion. Mae'r pwyslais hwn ar y tymor hir hefyd yn hanfodol i'n huchelgais i helpu pobl ifanc i ddatblygu gyrfaoedd cyffrous yng Nghymru, fel y nododd fy nghyd-Aelod Vaughan Gething yn uwchgynhadledd yr economi ddoe.

Rwy'n angerddol ynghylch sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn ystyried y diwydiannau creadigol yn ddewis gyrfa hygyrch a gwerthfawr, gan roi cyfleoedd gwaith gwych i'n pobl ifanc yng Nghymru mewn sector sy'n darparu cynnwys gwerthfawr, gan wasanaethu pob cynulleidfa, ac sy'n allweddol o ran cefnogi ein twf economaidd yn y dyfodol. Diolch yn fawr.

17:10

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad ac yr wyf i wir yn croesawu rhai o'r mesurau ymarferol yr ydych chi wedi'u nodi y byddwch chi'n eu cymryd i wella'r sector creadigol yma yng Nghymru.

Rydych chi'n iawn wrth ddweud bod y diwydiant creadigol yma yng Nghymru wedi dioddef yn ystod y 18 mis diwethaf, ac er yr effeithiwyd yn arbennig ar ddiwydiannau fel cerddoriaeth fyw a sioeau ledled y DU, mae'n bwysig nodi, yng Nghymru, eu bod yn aml wedi gorfod ymdopi â chyfyngiadau COVID sydd wedi effeithio ar y sector hwn am gyfnod llawer hirach nag mewn rhai rhannau eraill o'r DU. Ac i ychwanegu at y gymysgedd nawr, bydd yn rhaid i rai o'r diwydiannau hyn hefyd ymdopi â phasys COVID hefyd—i gyd wrth i'r Prif Weinidog gadw'r posibilrwydd o gyfyngiadau symud yn y dyfodol ar y bwrdd. Felly, nid yn unig yw'r diwydiannau hyn wedi ei chael hi'n anoddach yma yng Nghymru yn ystod y 18 mis diwethaf, nid oes ganddyn nhw chwaith y sefydlogrwydd na'r sicrwydd i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Felly, dechreuaf drwy ofyn yn union beth a wnewch chi o effaith y cyfyngiadau pandemig yng Nghymru yn benodol a sut y mae'n cymharu â chenhedloedd eraill y DU.

Nid yw'ch datganiad yn cyfeirio rhyw lawer chwaith at y diwydiant cerddoriaeth fyw. Er eich bod chi'n sôn am y problemau y mae'r diwydiant wedi'u hwynebu, ychydig iawn o weithredu sydd wedi bod i helpu'r sector cerddoriaeth fyw yn benodol. Rydym ni'n ymwybodol y bu diffyg cefnogaeth dymor hir i'r sector cerddoriaeth ac yn arbennig diffyg ymdrin â'r gwahaniaethau enfawr yn y sector hwnnw rhwng ardaloedd gwledig a threfol, ac ychydig iawn y mae'r datganiad hwn yn ei wneud i ymdrin â hynny hefyd.

Ac er fy mod i'n croesawu rhywfaint o'r camau gweithredu yn y datganiad heddiw i ymdrin â'r prinder sgiliau yn y diwydiannau creadigol, yr wyf i, yn anffodus, yn gwrthod eich awgrym, Dirprwy Weinidog, fod y galw am weithlu medrus,  ac rwy'n dyfynnu, yn 'ddigynsail'. Mae'r prinder sgiliau yn y diwydiant creadigol wedi bod yn broblem ers tro ac mae angen ymdrin ag ef. Soniodd Clwstwr, yn eu hadroddiad 'Gwaith Sgrin 2020', yn helaeth ynghylch y prinder sgiliau yn y sector hwn a rhybuddiodd Llywodraeth Cymru ei bod yn broblem, a galwodd arni i ymdrin â hi. Felly, roedd y Llywodraeth yn amlwg wedi'i rhybuddio ymlaen llaw ar y mater hwn, ac rwy'n credu y byddai'n anghywir dweud bod y sefyllfa bresennol yn ddigynsail. Dywedodd yr adroddiad hwnnw, ac rwy'n  dyfynnu:

'Rwy'n credu'n gyffredinol, mae llawer o gwmnïau allan yno, oni bai eu bod wedi ymwneud yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru o dan yr argraff nad oes strategaeth nac unrhyw feddwl cydgysylltiedig o ran datblygu sgiliau'.

Dirprwy Weinidog, mae dyfyniad o'r fath yn gyhuddiad damniol, onid ydych chi'n credu, o ddull gweithredu'r Llywodraeth tan nawr, ac felly rwy'n gofyn: pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd i wella ffydd gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn strategaeth eich Llywodraeth yn y maes hwn?

Mae mesurau Llywodraeth Cymru i gefnogi rhagor o ddysgu ymarferol o fewn y diwydiannau creadigol hefyd i'w croesawu, gan ein bod ni'n gwybod nad yw llawer o'r swyddi a'r sgiliau sydd eu hangen yn dod o ystafelloedd dosbarth a gwerslyfrau, ond yn hytrach o ddysgu ymarferol yn y gwaith. Felly, rwy'n falch o weld y mesurau eraill y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd heddiw yn y maes hwn. Ond mae'n werth nodi hefyd fod cyflwyno'r cyrsiau lefel T yn Lloegr mewn meysydd fel cynhyrchu digidol, dylunio a datblygu, crefft a dylunio a darlledu a chynhyrchu wedi golygu bod y cyrsiau lefelau T hyn yn cynhyrchu gweithlu medrus iawn ar gyfer y dyfodol gyda sgiliau arbenigol mewn meysydd creadigol perthnasol. Felly, pa wersi ydych chi wedi'u dysgu o'r cynllun hwn yn Lloegr, a pha drafodaethau, os o gwbl, sy'n parhau i sicrhau parch cydradd rhwng unrhyw gymwysterau Cymreig a'r lefelau T hynny yn Lloegr?

Mae angen i ni hefyd annog fwy o ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa yn y diwydiannau creadigol ymhlith pobl ifanc fel nod cyraeddadwy yng Nghymru. Felly, mae angen strategaeth i ymgysylltu â phobl ifanc ynghylch gyrfaoedd mewn diwydiannau creadigol. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn fwy rhagweithiol wrth siarad â rhanddeiliaid y diwydiant creadigol wrth sefydlu nodau mwy uchelgeisiol wedi'u targedu ar gyfer y strategaeth hon. Felly, a gaf i ofyn i chi, Dirprwy Weinidog: sut mae'r sectorau'n gweithio gydag ysgolion a cholegau i annog pobl ifanc i archwilio'r diwydiannau creadigol o ddifrif fel dewis gyrfa yn y dyfodol? A sut y gallwn ni wella cydweithio rhwng y sector hwn ac addysg uwch ac addysg bellach fel bod Cymru ar flaen y gad o ran sgiliau a datblygiadau newydd yn y sector hwnnw?

Gwnaethoch chi sôn hefyd, Dirprwy Weinidog, fod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn gweithio ar drefniadau manwl ar gyfer y corff sgiliau creadigol hwnnw y gwnaethoch chi sôn amdano, ond, yn anffodus, ni wnaethoch chi roi amserlen nac ymrwymiad ar gyfer hyn. Felly, a gaf i ofyn i chi am arwydd pendant ynghylch pryd y caiff hynny ei sefydlu?

Yn olaf, rwy'n nodi i chi sôn am y datganiad a gafodd ei amlinellu gan Weinidog yr Economi ddoe a'i gyflwyno i'r Senedd heddiw. Darllenais i'r adroddiad hwnnw, a theimlais ei fod yn siomedig iawn o safbwynt y diwydiannau creadigol. Fel y gwyddoch chi, mae'r celfyddydau a chwaraeon wedi'u hychwanegu at friff yr economi, yn rhannol o leiaf i gydnabod y cyfraniad hanfodol y maen nhw'n eu gwneud i'r economi yng Nghymru. Rydych chi wedi cael eich gwneud yn Ddirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am y meysydd hyn, ac eto nid oedd sôn unwaith am y diwydiannau celfyddydol a chreadigol yn y datganiad hwnnw. Felly, a ydych chi'n cytuno bod hynny wir yn gyfle wedi'i golli i ddarparu sector bywiog yn y dyfodol, ac y dylai'r diwydiannau creadigol gymryd rhan amlycach ym mlaenoriaethau strategol y Llywodraeth hon?

17:15

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y sylwadau a'r cwestiynau yna? Rwy'n credu bod sawl peth i ymdrin â nhw yna. Rwy'n credu, os dechreuwn ni gyda chyfyngiadau COVID a mater pasys COVID a'r cymorth y gwnaeth Llywodraeth Cymru ei roi i'r sector diwylliannol, rwy'n credu bod angen i ni gydnabod y cafodd £93 miliwn ei ryddhau i'r sector diwylliannol drwy'r gronfa adferiad diwylliannol, a bod hynny wedi helpu nifer di-rif o sefydliadau ac unigolion, gan gynnwys gweithwyr llawrydd—cymorth nad oedd ar gael yn Lloegr. Felly, rwy'n credu y dylem ni gydnabod hynny hefyd.

Oedd, roedd cyfyngiadau COVID yn wahanol yma yng Nghymru, ond dyna natur datganoli. Rydym wedi sôn droeon am hynny, o ran y gwahanol ddulliau sy'n cael eu defnyddio i ymdrin â COVID, a sut y byddem ni'n amddiffyn ein dinasyddion rhag COVID ym mhob un o'r pedair gwlad. Felly, nid wyf i'n credu bod angen i ni dreulio gormod o amser yn trafod hynny.

Lle y byddwn i'n anghytuno â chi yw nad ydym ni wedi cefnogi'r diwydiant cerddoriaeth yn ddigonol. Byddem ni bob amser wedi dymuno gwneud mwy; wrth gwrs, byddem ni bob amser wedi dymuno gwneud mwy. Ond, roedd cyfyngiadau COVID yn effeithio ar y diwydiant cerddoriaeth yn fwy i raddau, nag ar rai o'r diwydiannau eraill oherwydd natur chwarae offerynnau cerdd a chanu ac yn y blaen. Felly, unwaith eto, mae hynny'n gyfyngiad o fewn y diwydiant hwnnw sydd wedi'i grybwyll dro ar ôl tro. Rydym ni wedi ymgysylltu'n agos iawn â'r diwydiant cerddoriaeth drwy gydol y broses honno, gan weithio'n agos gyda'r diwydiant cerddoriaeth a lleoliadau fel eu bod yn deall y broses.

Ond, rwy'n credu ei bod yn werth tynnu sylw at y ffaith bod nifer o fentrau o ran sgiliau wedi bod ar gyfer diwydiant cerddoriaeth. Gwnaethom ni sefydlu £60,000 o gyllid ar gyfer y prosiect cerddoriaeth Bannau. Cawsom y Sesiynau Mêl, a oedd yn gyfres o sesiynau cefnogi'r diwydiant ar gyfer crewyr ifanc sy'n gweithio ym maes cerddoriaeth o dras du ledled Cymru. Cawsom ni Crwth, cylchgrawn newydd y diwydiant cerddoriaeth wedi'i gynllunio gan grewyr y diwydiant cerddoriaeth ifanc o bob cwr o Gymru. Cawsom ni'r hysbysfwrdd, sy'n rhoi cyhoeddusrwydd i gyfleoedd ledled Cymru ar gyfer personél ifanc y diwydiant cerddoriaeth. Mae gennym ni'r Future Disrupter, sy'n rhoi sylw i bersonél y diwydiant sy'n datblygu yng Nghymru. Mae Bannau hefyd wedi cytuno ar bartneriaethau newydd gyda Choleg Gŵyr, Coleg y Cymoedd a Phrifysgol De Cymru, ac wedi recriwtio dau leoliad Kickstart newydd, a fydd yn ymuno â'r Bannau am chwe mis i ddysgu am y diwydiant a helpu i ddarparu adnoddau ychwanegol. Felly, mae'n amlwg ein bod ni wedi gwneud gwaith ym mhob un o'r sectorau.

Ond, gwnaethoch chi  hefyd ofyn am y galw am sgiliau. Ydy, mae'r galw am sgiliau wedi bod yn hysbys ers tro, ond mae wedi cyflymu yn ystod y 18 mis diwethaf. Yr hyn yr ydym ni wedi'i weld yw bod gennym ni ddiwydiant sgiliau creadigol yng Nghymru—canolfan sgiliau creadigol, canolfan gynhyrchu—sef y drydedd fwyaf yn y DU y tu allan i Fanceinion a Llundain. Felly, mae'n amlwg iawn i mi fod hynny, ynddo'i hun, yn dangos bod y diwydiant sgiliau creadigol a'r diwydiant cynhyrchu, yn arbennig, yn hyderus iawn yng Nghymru—y ffaith ei fod wedi gwneud Cymru, fel y dywedais i, y ganolfan greadigol fwyaf ond dwy.

Felly, mae'n rhaid i ni ddatblygu ein sgiliau ein hunain, a dyna'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud gyda'r bwrdd sgiliau creadigol. Rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r diwydiannau creadigol i sefydlu a nodi'r lefelau priodol o sgiliau sydd eu hangen i allu cefnogi'r cynyrchiadau a ddaw i Gymru. Byddwn ni'n parhau i wneud hynny.

O ran strategaethau i ymgysylltu ag ysgolion, wel, wrth gwrs, gwnes i amlinellu eisoes yn fy natganiad ein bod ni wedi cyflwyno hyn yn y cwricwlwm cenedlaethol. Rydym ni'n gweithio'n agos iawn eto gyda'n holl ysgolion a cholegau i gysylltu â sefydliadau creadigol sy'n gwneud llawer o waith mewn ysgolion ac sy'n treulio llawer o amser yn siarad â disgyblion mewn ysgolion, ac un o'r pethau yr ydym ni eisiau eu datblygu yw siarad â nhw am sut y gallan nhw ystyried sgiliau creadigol fel dewis gyrfa posibl iddyn nhw. Soniais i eisoes yn fy natganiad yn ogystal, am yr arolwg sgiliau yr ydym ni'n ei gynnal, yn y diwydiant cerddoriaeth ac yn y diwydiannau creadigol i nodi'r sgiliau datblygu sydd eu hangen arnom ni hefyd.

Felly, rwy'n credu, o ran yr economi, eich bod chi'n hollol gywir i dynnu sylw at y ffaith, o ran y tymor llywodraethu hwn, fod y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon yn rhan o adran yr economi, yn ddatblygiad i'w groesawu'n fawr. Mae'n dangos yn glir iawn lle mae Llywodraeth Cymru yn gweld y celfyddydau, chwaraeon a diwylliant yn rhan o friff yr economi. Rydym ni'n ei weld yn rhan greiddiol o'r hyn y mae angen i ni ei wneud i ddatblygu ein hadferiad economaidd. A beth bynnag y gwnaeth Gweinidog yr Economi ei grybwyll ddoe, fe'i gwnaeth yn glir iawn bod sgiliau a phrentisiaethau yn rhan greiddiol o hynny, ac mae'r cynnig sgiliau yr wyf i wedi sôn amdano heddiw, a sut y mae hynny'n cysylltu â'r cynnig prentisiaeth, yn rhan fawr o'r ymrwymiad maniffesto hwnnw. Roedd yn y rhaglen lywodraethu y cyfeiriodd Gweinidog yr Economi ati ddoe.

17:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi’n falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn pwysleisio pwysigrwydd y diwydiannau creadigol, a’i hymrwymiad o ran sicrhau cefnogaeth i fwy o bobl yng Nghymru weithio yn y sectorau cysylltiedig.

Dwi hefyd yn croesawu yn fawr y datganiad penodol o ran amrywiaeth, a sicrhau bod mwy o gyfleoedd i bobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol weithio yn sector ffilm a theledu yn benodol. Os ydym eisiau sicrhau bod y cynnwys yn adlewyrchu Cymru yn ei holl gyfanrwydd, yna mae’n angenrheidiol bod y gweithlu hefyd. Hoffwn ofyn felly sut y bydd hyn hefyd yn cael ei gefnogi o ran y diwydiannau creadigol eraill tu hwnt i deledu a ffilm, ac ai bwriad y peilot yw helpu i siapio cynllun mwy hirdymor o ran hyn.

O ystyried y diwydiannau creadigol yn eu cyfanrwydd, hoffwn hefyd godi’r cwestiwn o ran rhywedd a sicrhau bod y gweithlu yn gynrychioladol o’n cymdeithas o ran hynny hefyd. Os edrychwn, er enghraifft, ar y diwydiant gemau, mae ymchwil o Brifysgol Sheffield yn awgrymu bod 70 y cant o weithwyr yn y diwydiant gemau yn y Deyrnas Unedig yn ddynion. O gyplysu hyn â'r ffaith mai dim ond 12 y cant o fyfyrwyr mewn prifysgolion Cymru oedd yn astudio peirianneg a thechnoleg oedd yn ferched yn 2016, nid yw hyn yn debygol o newid heb strategaeth benodol. Oes gan Lywodraeth Cymru, drwy Cymru Greadigol, gynllun i sicrhau bod gweithlu’r diwydiannau creadigol yn llwyr gynrychioladol, gyda chyfleoedd ac anogaeth cyfartal i ddynion a merched?

Rhaid cofio hefyd, wrth gwrs, fod canran uchel iawn o’r bobl sydd yn gweithio yn y diwydiannau creadigol, ac yn benodol ffilm a theledu, yn llawrydd. Fel y dengys ymchwil, roedd 94 y cant o bobl lawrydd wedi colli gwaith yn sgil COVID, a gyda diwedd ffyrlo a diwedd yr ail gronfa adferiad diwylliannol, os edrychwn ar y diwydiannau creadigol yn eu cyfanrwydd, mae hi’n sefyllfa fregus dros ben i nifer ohonynt.

Gwn nad yw Cymru Greadigol yn ymwneud â theatrau ond, o ran Llywodraeth Cymru, mae angen edrych ar y sector creadigol a diwylliannol yn ei gyfanrwydd o ran sgiliau a swyddi a chefnogaeth, a hoffwn gymryd y cyfle felly i ofyn i’r Dirprwy Weinidog os oes bwriad i ddatblygu trydedd gronfa adferiad diwylliannol i gefnogi’r canolfannau celfyddydol sydd yn wynebu dyfodol ansicr dros ben.

Un o’r sgiliau sydd ddim yn cael eu crybwyll yn natganiad heddiw yw’r iaith Gymraeg, sydd, wrth gwrs, yn perthyn i bawb yng Nghymru. Sut bydd Cymru Greadigol yn sicrhau cyfleoedd i bobl weithio yn y diwydiannau hyn drwy’r Gymraeg, ac mewn cymunedau ledled Cymru? Ble mae’r Gymraeg yn y cynlluniau hyn a’r gefnogaeth i’r di-Gymraeg a dysgwyr hefyd i ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg er mwyn eu defnyddio yn y diwydiannau creadigol?

Rydych hefyd yn pwysleisio yn eich datganiad y cynnydd mewn cynhyrchu o fewn y sector sgrin, sydd yn dda i’w glywed, ac fel sydd eisoes wedi’i nodi, o ran ail adroddiad Clwstwr ar y diwydiannau creadigol, de Cymru yw’r clwstwr cyfryngau sydd wedi bod yn perfformio orau y tu allan i Lundain. Ond serch hynny, o ran rhanbarth prifddinas Caerdydd, mae hyn yn dal yn is o ran cynhyrchiant na’r cyfartaledd ar draws y Deyrnas Unedig. Pa gynlluniau, felly, sydd gan Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cynhyrchiant yn cynyddu dros y blynyddoedd nesaf, gan gynyddu'r nifer o swyddi ar gael ynghyd â helpu i ddatblygu economi Cymru?

Fel y soniodd Tom Giffard, yn olaf, o ran adroddiad 'Cyfrifiad Sgrin 2020' Clwstwr, fe nodwyd mai nid diffyg talent sydd yn dal y diwydiant sgrin yn ôl ond yn hytrach y diffyg strategaeth sgiliau clir a fyddai'n sicrhau ffrwd o dalent o Gymru. Tra bod y camau a amlinellir yn y datganiad yn gam ymlaen o ran y sector ffilm a theledu, a cherddoriaeth, oes bwriad creu strategaeth sgiliau ar gyfer yr holl ddiwydiannau creadigol, ac os felly, beth yw'r amserlen?

Mae cefnogaeth gan y Llywodraeth i'r diwydiannau creadigol, fel a amlinellir heddiw, heb os i'w chefnogi, ond rhaid hefyd cael strategaeth ac uchelgais os ydym am fanteisio yn llawn ar botensial y diwydiant hwn o ran ein heconomi, a sicrhau bod pawb yng Nghymru, o bob cefndir, pob rhyw, a lle bynnag y maent yn byw, yn cael y cyfle i fanteisio yn llawn ar y cyfleoedd a gynigir.

17:25

A gaf i ddiolch i Heledd Fychan am y sylwadau a'r cwestiynau yna? Ac rwy'n credu ei bod hi a fi'n cytuno'n llwyr. Gwnaethom ni nodi'r rhaglen lywodraethu, ac yr oedd ein rhaglen lywodraethu ni'n glir iawn bod cynhwysiant, amrywiaeth, cydraddoldeb—boed hynny'n rhywedd, boed hynny'n ein cymunedau BAME, boed hynny'n bobl ag anableddau, beth bynnag yw hynny, mae ein hagenda cynhwysiant yn cynnwys pob un ohonyn nhw, ac felly rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr. Nid yw'n hagenda amrywiaeth yn ymwneud â chymunedau BAME yn unig; mae'n ymwneud â phob maes lle mae angen i ni wneud mwy o waith.

A'r pwynt yr ydych chi'n ei wneud ynghylch y diwydiant gemau hapchwarae, gwelwn ni lawer o feysydd lle mae dynion yn dal i'w gweld yn cael lle blaenllaw. Mae'n ymddangos yn rhywbeth yr ydym ni'n ei chael yn anodd, sef cael menywod i gymryd rhan mewn rhai meysydd, ac mae hynny'n cynnwys meysydd chwaraeon hefyd. Byddwch chi'n gwybod fy mod i'n gefnogwr pêl-droed brwd, a byddwn i wedi rhoi unrhyw beth pan oeddwn yn blentyn i fod wedi gallu cael chwarae pêl-droed, ond, yn anffodus, cefais fynd i wylio ar y terasau yn unig, oherwydd dynion oedd yn chwarae pêl-droed. Nawr, mae hynny wedi newid. Mae hynny wedi newid gymaint nawr. Hynny yw, mewn gwirionedd, merched yw'r nifer sy'n tyfu gyflymaf o ran y bobl sy'n ymwneud â phêl-droed yng Nghymru—menywod a merched. Felly, mae'n bosibl ei wneud, ac mae'n rhaid gwneud hynny, ac mae hynny'n sicr yn rhan o'n hamcan. Oherwydd, fel y dywedwch chi'n gwbl briodol, mae'n rhaid i'r amrywiaeth sydd gennym ni ym mhob un o'n sectorau, ym mhob un o'n sectorau diwylliannol ac ym mhob math o fywyd, adlewyrchu cymdeithas yng Nghymru ac nid dim ond y nodweddion amlycaf yn y diwydiannau penodol hynny.

Byddwn i'n dweud, o ran gweithwyr llawrydd, drwy broses COVID roeddem ni wedi nodi bod gweithwyr llawrydd yn faes a oedd wedi syrthio drwy'r rhwyd ar y cychwyn. Gwnaethom ni wneud yn iawn am hynny, gwnaethom ni sicrhau bod gweithwyr llawrydd yn cael eu cefnogi mewn ffordd nad oedden nhw'n cael eu cefnogi mewn rhannau eraill o'r DU. Ac rydym ni wedi gweld mentrau sgiliau gyda gweithwyr llawrydd hefyd. Mae gennym ni gynllun o'r enw Step Across, sy'n brosiect sgiliau trosglwyddadwy, sydd wedi'i gynllunio i baru gweithwyr llawrydd o theatrau a digwyddiadau â rolau yn y sector sgrin. Felly, rydym ni wedi ceisio gwneud gwaith gyda'r rheini. Mae gennym ni gynllun o'r enw Camu Fyny 2021, sy'n bartneriaeth â chorff ledled y DU, a dweud y gwir, ScreenSkills, i ddarparu cyfleoedd i weithwyr llawrydd sy'n barod i symud ymlaen i swydd neu swyddogaeth newydd. Mae gennym ni'r dychwelyd at weithio ar gyfer gweithwyr creadigol, a oedd yn gynllun hyfforddi dan arweiniad undebau. Cafodd ei arwain gan yr Undeb Darlledu, Adloniant, Cyfathrebu a Theatrau, a dweud y gwir, lle maen nhw'n darparu hyfforddiant i dros 200 o weithwyr llawrydd o sectorau cerddoriaeth, digidol a sgrin ledled Cymru, yr oedd llawer ohonyn nhw heb waith yn ystod y cyfyngiadau symud. Felly, na, ni chawsant eu hanghofio: maen nhw ymhell o gael eu hanghofio. Yn wir, mae gennym ni nawr yr addewid i weithwyr llawrydd y byddwch chi'n ymwybodol ohono hefyd.

O ran ble yr awn ni gyda chefnogaeth barhaus yn y sectorau creadigol, y gronfa adferiad COVID 3, mae hon yn rhywbeth yr wyf i'n parhau i gael sgyrsiau gyda fy nghyd-Aelod Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, amdani, o ran lefel gyffredinol y cymorth y gallwn barhau i'w gynnig i bob busnes yng ngoleuni'r sefyllfa barhaus o ran pandemig COVID. Felly, nid wyf i mewn sefyllfa i ddweud wrthych chi beth yw hynny heddiw, ond gallaf i eich sicrhau chi fod gennym ni drafodaeth barhaus ynghylch hynny.

Ac rwy'n cymryd eich pwynt chi o ran y Gymraeg. Unwaith eto, mae ymrwymiadau i'r Gymraeg a'i gofynion yn rhedeg drwy ein maniffesto ac maen nhw wedi'u nodi ym mhopeth yr ydym ni eisiau'i wneud. Rwy'n derbyn y sylwadau yr ydych wedi'u gwneud o ran gwneud hynny'n fwy eglur, efallai, yn rhai o'n cynlluniau nag y maen nhw fel arall, ond mae ganddyn nhw fwriadau da ac yn sicr byddan nhw yno. Rwy'n credu bod hynny'n cynnwys y rhan fwyaf o'r pethau yr oeddech chi wedi'u codi, Heledd. Diolch.

17:30

Diolch, Llywydd. Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad, ac rwy'n croesawu hynny. Rwy'n sylwi eich bod chi wedi dweud yn deg fod y pandemig yn effeithio ar ein diwydiannau creadigol mewn gwahanol ffyrdd, gyda'r gwahanol sectorau cerddoriaeth yn cael ergyd drom iawn gyda lleoliadau wedi cau am gyfnodau estynedig, ymarferion cerddoriaeth wedi cau, corau, bandiau a cherddorfeydd yn segur, a rhai nad ydyn nhw gyda ni nawr oherwydd y pandemig ofnadwy hwn. Fel y mae Aelodau'n ymwybodol, rwy'n credu na allwn ni fel cenedl, fel gwlad, wahanu ein hunaniaeth o'n gorffennol diwylliannol, ein hetifeddiaeth ddiwylliannol a'r dyfodol diwylliannol bywiog hwnnw sy'n gysylltiedig yn gynhenid â'n cynnyrch domestig gros. Mae cerddoriaeth, ein system addysg gerddoriaeth a pherfformwyr cerddoriaeth o fewn ac ar draws amrywiaeth cymdeithas Cymru yn allweddol i'r hunaniaeth honno, ein henaid a'n lles. Felly, yr wyf i'n gwerthfawrogi'n fawr, Dirprwy Weinidog, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda Phrifysgol De Cymru i fapio sectorau cerddoriaeth Cymru a chreu'r corff sgiliau creadigol, a'r eglurder pellach hynny, rwy'n ymwybodol, y bydd y Dirprwy Weinidog yn dod ag ef i'r lle hwn. Rwy'n teimlo bod y ffenics hwnnw, y ddraig—

—yn codi. Yn allweddol i hynny bydd addysg gerddoriaeth fywiog gyda seilwaith canolfannau dysgu ledled Cymru. Gweinidog, pryd y caiff cysyniad y gwasanaeth cerddoriaeth genedlaethol ei wireddu, yn unol â'n maniffesto ni? Pryd y bydd strategaeth gerddoriaeth genedlaethol yng Nghymru—rhan o'r strategaeth ddiwylliannol honno—yn cael ei mynegi o fewn Cymru Greadigol, a sut y byddwch chi'n defnyddio'r corff sgiliau creadigol i ddatblygu'r llwybr hwnnw o'r ystafell ddosbarth i'r lleoliadau cerddoriaeth hynny yng Nghymru, fel bod ein plant ni heddiw yn cyflawni eu potensial yn seiliedig ar allu i chwarae nid ar allu i dalu?

Diolch, Rhianon. Rydych chi wedi bod yn eiriolwr mor anhygoel dros y gwasanaethau cerddoriaeth drwy gydol eich amser yn y lle hwn, ac rwy'n diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus i'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio sefydlu gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol. Gallaf i eich sicrhau chi bod y trafodaethau hynny wedi datblygu'n dda. Rwy'n cyfarfod â fy nghyd-Aelod y Gweinidog addysg yn rheolaidd. Dim ond yr wythnos diwethaf y gwnaethom ni gyfarfod i drafod y fersiynau diweddaraf o'n dewisiadau ynghylch sut y gallai'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol edrych. Oherwydd yr ydych chi'n hollol gywir; gwnaethom ni osod ein maniffesto'n glir iawn—y ffaith na ddylai'r cyfle i fanteisio ar gerddoriaeth, boed hynny drwy chwarae offeryn, boed hynny mewn côr, boed yn gerddorfa neu'n fand, gael ei gyfyngu gan allu rhywun i dalu. Mae hynny'n flaenllaw iawn yn y trafodaethau sydd gennym ni o ran creu gwasanaeth addysg gerddoriaeth. Ar hyn o bryd, ni allaf i ddweud wrthych chi'n union pryd y bydd hynny'n cael ei gytuno a'i gymeradwyo, ond gallaf i ddweud wrthych chi ei fod wedi datblygu'n dda. Ac o gofio ein bod ni dal i fod yn chwe mis cyntaf tymor o bum mlynedd, rwy'n falch ein bod ni wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at hynny.

Yn yr un modd, gyda'r strategaeth ddiwylliannol—fe wn i eich bod chi wedi codi hyn o'r blaen, fel y gwnaeth Heledd Fychan—yr ydym ni wedi ymrwymo i strategaeth ddiwylliannol, a fydd yn cynnwys cerddoriaeth, yn cynnwys y diwydiannau creadigol ac yn cynnwys popeth sydd yn y briff diwylliannol. Bydd hynny'n dechrau ar ei waith o ddifrif yn y flwyddyn newydd, a byddwn ni'n chwilio am ddatblygu hynny a'i gyflwyno i'r Senedd hon. O fy safbwynt i, bydd yn fwy na dogfen gydag ychydig o linellau ynghylch beth allai ein huchelgeisiau fod. Bydd yn ddogfen y mae'n rhaid iddi fod yn ddogfen fyw, nid yn unig ar gyfer nawr ac nid yn unig ar gyfer y tymor hwn, ond sy'n mynd â ni ymlaen fel ei bod yn dod yn rhan fawr o'n bywyd yng Nghymru. Oherwydd, yng Nghymru, mae ein bywyd yn seiliedig ar ein diwylliant, a bydd hynny'n cael ei adlewyrchu mewn unrhyw strategaeth ddiwylliannol.

Diolch, Ddirprwy Weinidog.

Symud ymlaen. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 7 ac 8—rheoliadau cytundebau treftadaeth (Cymru) 2021—eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân.

Does neb yn gwrthwynebu. Diolch yn fawr iawn.

17:35
7. & 8. Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021, Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021

Gan nad oes unrhyw wrthwynebiad, galwaf ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden.

Cynnig NDM7809 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Hydref 2021.

Cynnig NDM7808 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Medi 2021.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd y rheoliadau i'w hystyried gan Aelodau'r Senedd heddiw, os cânt eu cymeradwyo, yn caniatáu i gytundebau partneriaeth treftadaeth yng Nghymru ddod i rym yn llawn. Diwygiodd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol i greu cytundebau partneriaeth treftadaeth. Mae cytundeb partneriaeth treftadaeth yn drefniant gwirfoddol ar gyfer gwarchod a rheoli un neu fwy o henebion cofrestredig neu adeiladau rhestredig yn y tymor hir. Caiff ei drafod rhwng perchennog yr asedau dynodedig, yr awdurdod cydsynio a phartïon eraill â diddordeb. Bydd yn darparu fframwaith ar gyfer gweithio mewn partneriaeth go iawn ar gyfer rheoli ein hamgylchedd hanesyddol unigryw yn gynaliadwy. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn meithrin hyder y partïon, yn annog arferion cadwraeth da ac yn lleihau'r risg o newidiadau niweidiol i asedau hanesyddol drwy waith anawdurdodedig.

Bydd angen buddsoddi amser ac adnoddau wrth ddatblygu cytundebau partneriaeth treftadaeth, ond byddant yn sicrhau llawer o fanteision. Mae'r cytundebau'n galluogi mwy o hyblygrwydd i berchnogion wrth reoli eu hasedau hanesyddol. Byddant yn rhoi caniatâd ar gyfer rhaglen o waith y cytunwyd arno, gan ddileu'r angen am geisiadau unigol ailadroddus a llafurus am waith tebyg. Yna bydd gan bartneriaid eglurder ynghylch pa waith sydd angen ac nid oes angen caniatâd arnynt. Bydd dull mwy cyson a chydlynol o warchod a rheoli'r henebion cofrestredig neu'r adeiladau rhestredig sydd wedi'u cynnwys yn y cytundeb.

Er mwyn bod yn effeithiol, bydd angen i gytundebau partneriaeth ddarparu ar gyfer nid yn unig amrywiaeth eang o safleoedd a gofynion cadwraeth, ond hefyd wahanol gyfluniadau o berchnogaeth, rheolaeth a chyfranogiad ehangach gan y gymuned. Er bod deddfwriaeth sylfaenol yn diffinio'n briodol elfennau sy'n hanfodol i unrhyw gytundeb, mae'r rheoliadau sy'n cael ein sylw heddiw yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion atodol. Cyn trafod y rheoliadau, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am dynnu fy sylw at groesgyfeiriad anghywir mewn drafft cynharach. Mae'r croesgyfeiriad hwnnw wedi'i gywiro ers hynny ac mae'r rheoliadau wedi'u hailosod gerbron y Senedd.

Er bod y rheoliadau henebion ac adeiladau rhestredig a gofrestrwyd yn wahanol o ran manylion oherwydd deddfwriaeth gwreiddiol sylfaenol, maen nhw'n cwmpasu'r un tir, gan gynnwys trefniadau ar gyfer ymgynghori a chyhoeddusrwydd a dulliau ar gyfer terfynu'r cytundebau drwy Orchymyn. Mae strwythurau addas ar gyfer ymgynghori a chyhoeddusrwydd yn bwysig, gan y bydd y cytundebau'n para am nifer o flynyddoedd. Yn y ddwy set o reoliadau, y nod oedd creu ymgynghori swyddogaethol a gofynion cyhoeddusrwydd a fyddai'n gymesur â'r gwaith y gellir ei gynnwys yn y cytundebau. Dylai gwaith partneriaeth adeiladol fod wrth wraidd pob cytundeb partneriaeth, ond rhaid i'r rheoliadau ddarparu ar gyfer y ffaith y gallen nhw, am ba reswm bynnag, chwalu ar brydiau.

Mae'r rheoliadau'n darparu y caiff yr awdurdodau cydsynio derfynu cytundeb partneriaeth treftadaeth neu ddarpariaethau unigol drwy Orchymyn, a disgwylir mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddai terfynu drwy Orchymyn yn digwydd. Felly, dychmygwch, er enghraifft, sefyllfa lle mae darganfyddiad archeolegol sylweddol a ddatgelwyd yn ystod y cloddio yn golygu bod atal gwaith a ganiatawyd yn erbyn dymuniadau perchennog ac mae'n amhosibl ailnegodi'r cytundeb. Yn ogystal, mae'r rheoliadau'n gwneud darpariaeth resymol i dalu iawndal i unrhyw bartïon sy'n dioddef colled neu ddifrod o ganlyniad uniongyrchol i gytundeb neu ddarpariaeth sy'n cael ei therfynu drwy Orchymyn.

Bydd cytundebau partneriaeth treftadaeth yn rhoi dulliau newydd i Gymru reoli ein hamgylchedd hanesyddol gwerthfawr yn effeithiol yn y tymor hir. Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y rheoliadau hyn heddiw, ac o gofio'r budd clir a ddaw yn sgil y rheoliadau, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig hwn.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Nid oes unrhyw siaradwyr ar gyfer yr eitem hon. A ydych am ddweud unrhyw beth arall? Ocê. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?

Na.

Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Nesaf, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?

Na.

Ac felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 hefyd.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

17:40
9. Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021

Yr eitem nesaf yw eitem 9, Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Rebecca Evans. 

Cynnig NDM7807 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Medi 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n cynnig y cynnig. Bydd awdurdodau lleol sy'n brif gynghorau yn gallu arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol o ddechrau mis Tachwedd. Pan fyddan nhw'n arfer y pŵer hwnnw at ddiben masnachol, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn ystyried yn llawn yr hyn y maen nhw'n ceisio'i gyflawni, pam a sut y maen nhw'n mynd i gyflawni hyn, y goblygiadau ariannol tebygol a'r manteision i'w cymunedau. Bydd hyn yn cefnogi penderfyniadau tryloyw a chadarn, gan alluogi gwneud penderfyniadau i gydnabod y canlyniadau neu'r risgiau posibl ac ar ôl ystyried yn ofalus.

Bydd yn taro cydbwysedd rhwng arloesi a chadw arian cyhoeddus yn briodol. Mae'n hanfodol bod awdurdodau'n ddoeth ynghylch gwneud eu hunain yn agored i risg fasnachol. Mae'r rheoliadau hyn felly'n cymryd ymagwedd gymesur, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chymeradwyo achos busnes cyn iddyn nhw arfer y pŵer cyffredinol at ddiben masnachol a'i gyhoeddi. Mae'r rheoliadau'n nodi'r gofynion ar gyfer yr achos busnes hwn, gan gynnwys y nodau a'r amcanion, y costau a'r manteision a ragwelir a dadansoddiad o unrhyw risgiau dan sylw. Credwn y bydd y broses o baratoi a chymeradwyo achos busnes yn helpu i sicrhau bod awdurdodau'n gwneud penderfyniadau cwbl wybodus sy'n agored iawn i graffu democrataidd ymlaen llaw. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.

Iawn. Doeddwn i ddim yn credu y byddai.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2021

Eitem 10, Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2021. Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths. 

Cynnig NDM7806 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Medi 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyflwyno Rheoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) (Rhif 3) 2021. Rwy'n cynnig y cynnig. 

Gwneir y rheoliadau hyn gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol a wnaed o dan bwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Fe'u gosodwyd gerbron y Senedd ar 28 Medi, a daethant i rym ar 29 Medi. Newidiodd y Rheoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2021 gwreiddiol, a gymeradwywyd gan y Senedd yn gynharach eleni, y dyddiad y mae gofynion trosiannol hysbysiad ymlaen llaw i'w mewnforio i Gymru o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid yn gymwys o 1 Ebrill 2021 i 31 Gorffennaf 2021. Gohiriwyd y gofynion eto gan Reoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2021, gan eu gohirio o 31 Gorffennaf i 1 Hydref 2021, newid a gymeradwywyd gan y Senedd ar 21 Medi 2021. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 5 ymhellach i Reoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Cymru) 2011 i newid y dyddiad y mae gofynion trosiannol hysbysu ymlaen llaw ar gyfer mewnforio i Gymru gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid yn gymwys o 1 Hydref 2021 i 1 Ionawr 2022.

Gan fod y gweinyddiaethau eraill wedi cytuno i ymestyn y cyfnod trosiannol o'r blaen, gwnaed newidiadau pellach hefyd i gyfraith yr UE a ddargedwir yng Nghymru a Lloegr gan Lywodraeth y DU, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru. Oherwydd diffyg argaeledd Senedd yr Alban ar gam hollbwysig o'r broses, gwnaeth Llywodraeth yr Alban ddiwygiadau tebyg i'r un perwyl drwy ddeddfwriaeth ar wahân. Er mwyn cyd-fynd â'r newidiadau i ddeddfwriaeth yn Lloegr, mae'r rheoliadau hyn hefyd yn dileu'r gofyniad i gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a sgil-gynhyrchion anifeiliaid gael eu hategu gan y dystysgrif iechyd briodol ar gyfer mewnforion trydydd gwledydd cyn diwedd y cyfnod llwyfannu trosiannol. Diwygiodd Llywodraeth yr Alban eu rheoliadau cyfatebol i ohirio'r gofyniad hwn tan 1 Ionawr 2022. Bydd fy swyddogion yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac yn gweithio gyda Llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau trefn fewnforio gyson ledled Prydain Fawr. Diolch.

17:45

Diolch. Unwaith eto, nid oes unrhyw siaradwr ar gyfer yr eitem hon. Minister, ydych chi am ddweud unrhyw beth arall?

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Dadl: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar gael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig, Jane Hutt.

Cynnig NDM7805 Lesley Griffiths, Siân Gwenllian, Darren Millar, Jane Dodds

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi'n llwyr

a) y frwydr fyd-eang i gael gwared ar hiliaeth ac ideoleg hiliol ac yn ymdrechu at sicrhu Cymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol.

b) egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD).

2. Yn galw am ddiweddariad gan Gomisiwn y Senedd ar waith datblygu datganiad trawsbleidiol i Gymru sy'n ymgorffori egwyddorion CERD.

3. Yn croesawu dadorchuddio cerflun o Betty Campbell MBE yn Sgwâr Canolog Caerdydd i’w choffáu yn un o Ferched Mawreddog Cymru.

4. Yn croesawu'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Cymru Wrth-Hiliol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb strwythurol a systemig, ac i hybu cyfleoedd i bobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o fod yn sefyll yma eto i'ch annerch yn y drydedd ddadl flynyddol yn y Senedd hon, gyda chynnig ar hil a chydraddoldeb hiliol sydd â chefnogaeth lawn ar draws y Siambr hon. Ac mae'n glod i ni ein bod wedi adeiladu ar waith pob blwyddyn i geisio canlyniadau cyfartal i'n cymunedau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Wrth wneud hynny, rydym ni’n cydnabod bod hiliaeth yn bodoli a bod angen inni fynd i'r afael â hi ar lefel systemig a sefydliadol.

Felly, gadewch imi ddechrau gyda rhai enghreifftiau o gynnydd go iawn: y mis diwethaf, dadorchuddiwyd heneb i anrhydeddu Betty Campbell MBE, pennaeth ysgol du cyntaf Cymru ac ymgyrchydd hanes pobl dduon. Ar y panel o fewn yr heneb mae geiriau Betty Campbell:

'Roedden ni’n esiampl dda i weddill y byd o sut y gallwn gyd-fyw beth bynnag yw eich gwreiddiau neu liw eich croen.'

Roedd yn ddiwrnod arloesol i Gaerdydd ac i Gymru, ac yn foment falch iawn i mi wrth sefyll gyda'i theulu, Monumental Welsh Women, noddwyr, cyllidwyr, ac arweinwyr dinesig a chymunedol, ac fe wnaethom ni anrhydeddu'r athro ac ymgyrchydd cymunedol arloesol a weithiodd yn ddiflino dros gydraddoldeb hiliol ac addysg amlddiwylliannol. Rhoddodd Betty Campbell hanes pobl dduon ar y cwricwlwm yn Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Nhre-biwt, Caerdydd, a dysgodd ei disgyblion yno am effaith caethwasiaeth a chyfraniadau pobl dduon i hanes Cymru. Arweiniodd yr ymgyrch i efelychu hyn ym mhob un o'n hysgolion.

Felly, gadewch imi rannu ail enghraifft o gynnydd go iawn a phendant: y llynedd, cadeiriodd yr Athro Charlotte Williams OBE y gweithgor cymunedau, cyfraniadau a chynefin pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm newydd, ac roedd hwn yn adolygiad annibynnol ar gais y Gweinidog Addysg i gynghori ar addysgu hanes pobl dduon a'i wella ar draws pob rhan o gwricwlwm ysgolion, a ni yw'r genedl gyntaf yn y DU i wneud addysgu hanes pobl dduon yn orfodol, ac rydym yn gwneud hyn gan gredu y bydd holl genedlaethau'r dyfodol yn dysgu’r gwir hanes ynghylch sut y cafodd y genedl hon ei hadeiladu. Mae ein system addysg wedi ehangu dealltwriaeth ein plant o'r diwylliannau niferus sydd wedi creu Cymru’r gorffennol a’r presennol, gan eu hysbrydoli i ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus yng Nghymru’r dyfodol.

Mae fy enghraifft olaf o gynnydd go iawn yn cydnabod na allwn ailysgrifennu ein gorffennol, ond gallwn gydnabod a dysgu oddi wrtho. Yn sgil lladd George Floyd yn yr Unol Daleithiau, poblogrwydd cynyddol mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, a’r cynnydd mewn ymwybyddiaeth o wahaniaethau ar sail hil, gofynnodd y Prif Weinidog i Gaynor Legall arwain grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol i gynnal archwiliad o henebion, adeiladau ac enwau strydoedd hanesyddol Cymru sydd â chysylltiadau â’r fasnach gaethweision a'r ymerodraeth Brydeinig. Ac rydym ni nawr yn ystyried sut i symud ymlaen wrth i ni geisio anrhydeddu a dathlu cymunedau amrywiol.

Ond heddiw, yn anffodus, mae hiliaeth yn dal i fod o'n cwmpas; mae ar ein strydoedd, yn y gwasanaethau rydym ni’n eu darparu, yn ein gweithleoedd, a 2020 oedd y flwyddyn y gwnaethom ni i gyd wynebu hiliaeth fel erioed o'r blaen. Fel cenedl, dechreuodd pob un ohonom ni gael sgyrsiau heriol am effaith hiliaeth. Fe wnaeth COVID-19 amlygu effaith canlyniadau anghyfartal ar ein cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig fel erioed o'r blaen. Roedd yn alwad i weithredu er mwyn symud o'r dull cydraddoldeb hiliol i rywbeth mwy gweithredol a phendant, i gael gweledigaeth ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Ac ers mis Rhagfyr 2019, rwyf wedi bod yn trafod gyda fforwm hil Cymru y gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Ym mis Mawrth eleni, gwnaethom ni lansio ymgynghoriad y cynllun drafft ar gyfer Cymru wrth-hiliol; roedd hwnnw’n un o fy natganiadau olaf cyn yr etholiad ym mis Mai, a chafodd ei groesawu. Mae'r cynllun yn uchelgeisiol; mae'n nodi cyfres o nodau a chamau gweithredu ar draws holl gyfrifoldebau gweinidogol pob pwyllgor, ac mae gan bob Gweinidog rôl a chyfrifoldeb. Mae'n adlewyrchu ein gweledigaeth uchelgeisiol a radical ar gyfer Cymru lle nad oes dim goddefgarwch tuag at unrhyw fath o hiliaeth, gyda'r un nod o weld newidiadau mesuradwy a sylweddol i fywydau pobl o leiafrifoedd ethnig. Mae angen inni wneud hyn ym mhob rhan o fywyd, ac rwy’n glir mai dyma hanfod y gwaith hwn—gwneud gwahaniaeth mesuradwy mewn ffordd gyson a phenderfynol, fel nad yw ein haddewidion yn disgyn drwy beth sydd bob amser ac yn aml yn cael ei alw y 'bwlch gweithredu'.

Mae'r cynllun yn wahanol hefyd gan mai profiadau bywyd pobl o leiafrifoedd ethnig sydd wrth ei wraidd. Rydym ni wedi datblygu'r gwaith hwn mewn ffordd wahanol—rydym ni wedi ei gyd-gynllunio gyda'r bobl y mae'n effeithio arnynt, a bydd hyn yn parhau nes ei weithredu. Mae'n hanfodol cynnal yr ymddiriedaeth a'r ewyllys da a gafwyd drwy ddatblygu'r gwaith hwn, a bod hyn yn symud baich hiliaeth o'r dioddefwyr i bawb mewn cymdeithas. Mae angen i'r rhai ohonom mewn sectorau gwahanol, cynrychiolwyr etholedig, arwain, am fod gennym y pŵer a'r awdurdod i wneud y newidiadau systemig a sefydliadol sydd eu hangen ar gyfer dull gwrth-hiliol. Fel Llywodraeth, mae cyfrifoldeb arnom i sbarduno'r newid hwn.

Ac rwy'n arbennig o falch bod y cynllun yn seiliedig ar brofiad bywyd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Mae tua 2,000 o bobl ar draws Cymru wedi rhannu eu barn a'u profiad bywyd, sydd wedi bod yn bwerus ac, ar adegau, yn boenus i'r rhai dan sylw. Mae'n ddyletswydd arnom ni i beidio â gofyn i bobl o leiafrifoedd ethnig barhau i ailadrodd eu profiadau poenus, ond i weithredu ar beth rydym ni’n ei glywed, ac ni fyddai'r cynllun hwn wedi bod yn bosibl heb eu cyfraniadau hwy. Ond rwy'n ddiolchgar hefyd i gyd-gadeiryddion y grŵp llywio, yr Athro Emmanuel Ogbonna o Brifysgol Caerdydd a'r Ysgrifennydd Parhaol, y Fonesig Shan Morgan, a roddodd arweinyddiaeth heriol, feddylgar a chefnogol. Hoffwn ddiolch, hefyd, i'r 17 o fentoriaid cymuned pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a weithiodd ochr yn ochr â swyddogion Llywodraeth Cymru, gan ddod â beth galwais i’n brofiad bywyd i goridorau Llywodraeth Cymru mewn ffordd ddychmygus a cholegol.

Rydym ni’n aml yn dweud y bydd gwneud yr un peth yn arwain at yr un peth. Rydym ni wedi ceisio gwneud pethau'n wahanol, ac mae wedi talu ar ei ganfed. Daeth ein sesiwn drylwyr ar bob maes polisi â phrofiadau academaidd a phrofiadau bywyd ynghyd i lywio ein gweithredoedd yn y dyfodol. Mewn un sesiwn drylwyr, roedd hi’n sioc clywed un aelod o Diverse Cymru yn dweud wrthym, ac rwy’n dyfynnu,

'Weithiau bydd car yn mynd heibio i chi. Maen nhw'n dweud "terrorist", neu "go back home" a phethau tebyg. Felly rydych chi'n dod i’r arfer â hynny. Am weddill eich oes rydych chi'n byw yma, rydych chi'n dod i’r arfer â hiliaeth.'

Daeth yr ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol i ben ar 15 Gorffennaf. Cawsom ni nifer sylweddol o ymatebion, gyda mwy na 330 o unigolion a sefydliadau yn cyflwyno eu barn mewn amrywiaeth o fformatau. Rydym ni’n gweithio’n gyflym i ymateb i'r broses ymgynghori honno, ac mae'n amlwg bod angen i ni ganolbwyntio ar y prif feysydd newid a nodwyd, a galw am ffocws ar ganlyniadau clir a mesuradwy.

Dirprwy Lywydd, ym mis Awst roeddem ni i gyd yn bryderus iawn wrth inni weld yr argyfwng dyngarol oedd yn datblygu yn Affganistan, gan fod miloedd o bobl yn ffoi o'r Taliban, ac rwy'n falch o'r camau yng Nghymru sy'n dangos bod Cymru wir yn genedl noddfa, y camau y gwnaethom ni eu cymryd i groesawu mwy na 50 o deuluoedd. Rwy'n ddiolchgar bod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi addo ei gefnogaeth i bolisi adleoli a chymorth Affgan, cynllun adsefydlu dinasyddion Affgan. Rydym ni yng Nghymru wedi dangos beth mae cydweithredu ac ymdrech ar y cyd yn gallu ei wneud i roi ymateb tosturiol i bobl sy'n ceisio noddfa.

Mae ymfudwyr wedi bod yn rhan annatod o'n gwlad ers amser maith, ac roeddwn i’n arbennig o falch o fod yn bresennol yn lansiad Black History Cymru 365, a drefnodd Race Council Cymru, a oedd yn cynnwys agoriad arddangosfa 'Windrush Cymru—Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes' yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni arddangosfa yma yn yr Oriel. Mae'n bwysig i Lywodraeth Cymru gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniadau cenhedlaeth Windrush a'u disgynyddion i'n gwlad dros y 73 o flynyddoedd diwethaf, a hefyd yr holl gymunedau mudol eraill a ddaeth cyn ac wedi hynny. Hefyd, gwnes i gyflwyniad yn seremoni wobrwyo menywod Cymru lleiafrifoedd ethnig y mis diwethaf, ac roedd cymaint o sgiliau a doniau menywod o leiafrifoedd ethnig wedi fy ysbrydoli. Mae gennym ni grŵp aruthrol o arweinwyr o bob sector, ar hyn o bryd a rhai sy'n dod i'r amlwg.

Yn olaf, byddwn i’n dweud bod ymladd hiliaeth yn galw am weithredu, nid geiriau. Heddiw, rwy’n galw ar bob arweinydd i gymryd rhan weithredol wrth ddod â phob anghydraddoldeb hiliol i ben a gyrru hiliaeth o wledydd, cymdeithasau, strwythurau a systemau. Mae’n rhaid inni gymryd camau ymarferol uniongyrchol i ysgogi newid. Ymunwch â ni yn y weledigaeth y gallwn ni fod yn genedl wrth-hiliol. Nawr yw’r amser i weithredu, fel y gallwn ni wneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru—ein pobl ni yng Nghymru. Diolch yn fawr.

17:50

Rwy'n falch o gael cyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma. Yn falch oherwydd fy mod i'n rhywun a ddaeth i'r wlad hon yn fewnfudwr yn chwilio am gyfle a chartref, felly rwy'n gwybod cymaint y mae'r wlad hon wedi gwella. Yn falch oherwydd bod y wlad yr wyf i'n byw ynddi bellach mor wahanol o ran ei hagweddau o'i chymharu â'r un y des i iddi. Yn falch oherwydd fy mod i wedi cael y cyfle i wasanaethu yn y Senedd hon yng Nghymru.

Dirprwy Lywydd, rwy'n dod o Kashmir, Kashmir dan reolaeth India, a gafodd ei gwerthu ym 1846 gan y British East India Company am 7.5 miliwn rupee Nanakshahi, sy'n cyfateb i £75,000, yn rhan o Gytuniad Amritsar. Yn rhan o'r fargen oedd y diriogaeth a'i phobl, am gyfradd sefydlog o ddau rupee, 1c y pen, ar wahân i rwymiadau blynyddol eraill ar Gulab Singh. Roedd rhwymiadau eraill yma hefyd. Roedd fy nghyndeidiau, i bob pwrpas, wedi eu gwerthu gan Brydain i gaethwasiaeth, sy'n parhau. Mae'r profiadau y mae aelodau o'r teulu wedi eu rhannu a'u trosglwyddo drwy'r cenedlaethau yn eistedd yn drwm yn fy nghalon. Mae'n gwneud i mi feddwl am y byd o'n cwmpas, sut rydym yn trin ein gilydd, sut rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cynhwysiant, a sut rydym yn hyrwyddo cyfle i bawb.

Mae llawer o bobl yn cyrraedd y DU â straeon tebyg, pobl y daeth eu hynafiaid yma i gael bywyd gwell. Rydym ni wedi dod yn ynys o wahanol ddiwylliannau lle mae pobl sydd wedi ymgartrefu yma yn cyfrannu at ein ffordd Gymreig a Phrydeinig o fyw. Mae hyn yn rhywbeth i'w ddathlu nid ei ofni. Roeddwn i'n ffodus. Roedd gen i sgil a chefais gyfle i lwyddo, i hyfforddi i fod yn feddyg a dilyn bywyd gwaith fel llawfeddyg ymgynghorol yma yn y GIG. Yn wir, mae gennym ni lawer i ddiolch i'n cymunedau o fewnfudwyr amdano. Hebddyn nhw byddai gennym ni argyfwng staffio llawer mwy yn y GIG.

Mae'r cynnig heddiw yn sôn am gydraddoldeb. Nid wyf i wedi fy argyhoeddi ein bod ni'n deall beth yw ystyr cydraddoldeb i bobl o liw, a sut i gyflawni cydraddoldeb. I mi, mae cydraddoldeb yn ymwneud â chyfleoedd. Po fwyaf o gyfleoedd y gallwn ni eu cynnig i bobl o gefndiroedd amrywiol lwyddo mewn bywyd, y mwyaf y gwnawn ni fynd i'r afael â heriau a chanlyniadau anghydraddoldeb. Mae hefyd yn ymwneud â hyrwyddo gwybodaeth a chyd-ddealltwriaeth rhwng gwahanol grwpiau hiliol, gwella addysg, a chodi ymwybyddiaeth o wahanol grwpiau hiliol i hyrwyddo cysylltiadau da, gan weithio i ddileu gwahaniaethu ar sail hil, a hyrwyddo gwerthoedd cynwysoldeb ac integreiddio diwylliannol.

Rwyf i'n credu hefyd fod angen i ni rymuso pobl. Dylem ni geisio datblygu gallu a sgiliau aelodau'r cymunedau lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol mewn ffordd sy'n eu galluogi i nodi a helpu i ddiwallu eu hanghenion yn well, a chymryd rhan lawnach mewn cymdeithas. Mae'n ddigon hawdd i'r rhai sydd mewn awdurdod fabwysiadu dull tadol. Gall gymryd yn ganiataol fod angen gwneud pethau dros bobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, er â'r bwriad gorau, arwain at ddatrymuso pobl. Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o rymuso pobl drwy addysg a chyfleoedd, ac edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog ynghylch sut y cyflawnir hyn. Diolch yn fawr iawn.

17:55

Mae'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol hwn gan Lywodraeth Cymru wedi dod ar adeg hollbwysig, ac rwy'n falch iawn o glywed ein Gweinidog yn dweud heddiw ei fod yn ymwneud â chreu Cymru wrth-hiliol yn y pen draw. Hoffwn i ddweud fel Aelod newydd o'r Senedd, gan nad wyf i wedi gallu cyfrannu at y dadleuon blaenorol, yn sgil llofruddiaeth greulon George Floyd a gafodd ergyd ledled y byd, fy mod i mor hynod falch o fy nghymuned i.  Fe wnaethom ni gynnal protestiadau yng Nghaeau Newbridge ym Mhen-y-bont ar Ogwr a hefyd ym Mae Rest ym Mhorthcawl, ac roedden nhw wedi eu trefnu yn bennaf gan bobl ifanc—fel y dywedais i, yn hynod falch—a oedd yn dymuno mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hiliol dwfn yn ein cymdeithas.

Felly, nid oes gwadu pam mae angen y cynllun cydraddoldeb hiliol. Dangosodd astudiaeth a gynhaliwyd yn 2019 fod 70 y cant o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig wedi cael profiad o aflonyddu hiliol yn y gweithle, ac, yn fwy na hynny, roedd 40 y cant o'r gweithwyr hynny wedi adrodd eu hachosion i'w cyflogwyr ac nad oedden nhw wedi eu hystyried o ddifrif neu cawson nhw eu hanwybyddu. Mewn ysgolion, canfu adroddiad blynyddol Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth fod 77 y cant o ddisgyblion yng Nghymru wedi gweld troseddau ar sail hil, ac adleisir hyn yn adroddiad 'Dangoswch Inni ei bod O Bwys i Chi' Cynghrair Hil Cymru, a oedd yn cynnwys llawer o dystebau gan bobl a oedd wedi cael profiad o hiliaeth. Roedd hefyd erthygl ddiweddar yn Voice.Wales gan fyfyriwr, Ben, a gafodd ei ddyfynnu yn dweud nad oedd erioed wedi rhoi gwybod am ddigwyddiadau hiliaeth yn yr ysgol gan nad oedd yn credu y byddai neb yn ei gredu nac yn ei gymryd o ddifrif, a dywedodd,

'Erbyn i mi fod yn 15 oed roeddwn i'n hunanladdol ac yn dreisgar'

oherwydd ei fod wedi ei drin â'r fath ddirmyg yn yr ysgol am ddim rheswm heblaw lliw ei groen. Mae'n tynnu sylw at y ffaith na allwn ni roi pwysau ar yr unigolyn i weithredu, pan na all y sylfeini, y system a'r polisïau presennol eu diogelu. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein cymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn teimlo'n hyderus i fynd i'r gwaith, addysg neu unrhyw ran arall o gymdeithas, yn rhydd rhag aflonyddu hiliol, ac os bydd hiliaeth yn digwydd, ym mha ffurf bynnag, y caiff ei thrin â'r difrifoldeb y mae'n ei haeddu.

Yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a Phorthcawl, rwy'n falch bod yr awdurdod lleol wedi ymrwymo i fynd ati i roi terfyn ar wahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal, a meithrin cysylltiadau cadarnhaol rhwng cymunedau. A dyna pam yr wyf i'n falch iawn o weld heddiw fod y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi ymgynghori ag ystod amrywiol o gymunedau wrth lunio'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, gan gynnwys EYST, aelodau fforwm hil Cymru, TUC Cymru, ac eraill sydd wedi ei gwneud yn glir bod angen mwy na pheidio â bod yn hiliol. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar fod yn wrth-hiliol. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y lleisiau hynny yn cael eu codi yn ein cymunedau a bod eu profiadau'n cael eu clywed, felly unwaith eto hoffwn i ychwanegu dau lais at hynny heddiw. Mae trefnwyr Mae Bywydau Du o Bwys Pen-y-bont ar Ogwr, Anna ac Olivia, wedi bod yn gweithio mor galed i wneud newid cadarnhaol yn ein cymuned, ac maen nhw wedi dweud, 'Mae'n rhaid i ni sicrhau bod polisi yn galluogi gweithwyr proffesiynol i amddiffyn unigolion rhag gwahaniaethu ar sail hil a pharhau i wrando ar y rhai sy'n wynebu anghydraddoldebau mewn ysgolion ac yn y gwaith.' Bellach, mae arnom ni ddyled i'r bobl hynny sydd wedi rhoi cymaint o amser ac ymrwymiad i rannu eu profiadau bywyd y cyfle i weld hyn yn cael ei adlewyrchu mewn polisi a Llywodraeth Cymru.

18:00

Rwy'n falch iawn fod Plaid Cymru yn cydgyflwyno'r cynnig pwysig hwn heddiw. Wrth i ni drafod y cynnig, rydym hefyd wrth gwrs yn nodi Mis Hanes Pobl Dduon, mis sy'n dathlu ffigyrau du pwysig yn ein hanes, yn ogystal â nodi mor greiddiol yw profiad a thystiolaeth pobl ddu i'n diwylliant, hanes sy'n bwysig drwy'r flwyddyn, wrth reswm.

Mae hanes pobl dduon yn rhan annatod o hanes Cymru. Mae agweddau i'w dathlu, er enghraifft cyfieithu naratifau caethweision John Marrant, Moses Roper a Josiah Henson i'r Gymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a daniodd angerdd diddymu radicalaidd y Cymry; y cysylltiadau â Paul Robeson, a wnaeth ddadlau ei fod yn dyst i undod pobl sy'n gweithio o bob hil yng Nghymru; a'r myrdd o enghreifftiau o gyfraniadau pobl dduon i'n hanes a'n diwylliant cyfoes. Mae hanes hiliaeth hefyd, wrth gwrs: terfysgoedd 1919 a ddinistriodd Gaerdydd; poblogrwydd minstrels wynebau duon mewn carnifalau yng Nghymru ac ar deledu Prydeinig, ymhell ar ôl i'r arferion hiliol hynny ddod i ben yn yr Unol Daleithiau; a'r enghreifftiau cyfoes o hiliaeth yn ein cymdeithas ni. Fel y dywedodd yr artist a anwyd yn Iraq ond sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, Rabab Ghazoul, mae gan Gymru, a hithau'n wladfa fewnol ac yn cyfrannu at wladychiaeth,

'y gallu i ddangos empathi radical a chyfrifoldeb radical.'

Mae'r ffaith yr oedd wythnos diwethaf yn wythnos genedlaethol dros ymwybyddiaeth o droseddau casineb yn arwain y ffordd ar y cyfrifoldeb hwnnw.

Rwy'n gobeithio ein bod ni oll yn cydsefyll gyda dioddefwyr hiliaeth, ond mae lle inni fod yn gwneud llawer mwy i daclo troseddau casineb. Yn ôl ffigurau'r Llywodraeth ei hun yn 2020-21, bu cynnydd o 16 y cant mewn troseddau casineb o'r flwyddyn flaenorol, ac roedd 66 y cant o'r troseddau casineb hyn yn droseddau casineb hiliol. Mae hyn yn gyson â thueddiad cyffredinol o gynnydd, flwyddyn i flwyddyn, mewn troseddau casineb yng Nghymru, â'r nifer wedi mwy na dyblu ers 2012-13.

Fel yr ydym wedi ei glywed heddiw, rydym ni wedi cael y ddadl hon yn y Siambr dair blynedd yn olynol, pan fu'r cynnig wedi ei eirio yn debyg iawn, ond eto mae troseddau casineb hiliol yn dal i gynyddu. Sut mae'r Llywodraeth yn gyfrifol am hyn? Rydym ni, wrth gwrs, yn croesawu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, ond beth sy'n mynd o'i le yma? Mae angen i ni ei wynebu.

Yng Nghymru a Lloegr, mae'r heddlu naw gwaith yn fwy tebygol o ddefnyddio eu grymoedd stop and search a bron wyth gwaith yn fwy tebygol o ddefnyddio tasers ar bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig nag ar bobl wyn. Mae canran y bobl ddu yng ngharchardai Cymru yn uwch na'r ganran yn y boblogaeth Gymreig. Ac yn ôl arolwg Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, mae canran uwch o bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn teimlo diffyg hyder yng ngallu'r heddlu i ddelio gyda chwynion yn deg. Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi dadlau y byddai datganoli grymoedd dros gyfiawnder a heddlua yn ein harfogi ni yma yng Nghymru i wneud y gwelliannau sydd eu hangen. Beth yw ateb y Llywodraeth?

Nawr, hoffwn fanylu ar un o isgymalau'r cynnig gan ei fod yn crisialu, dwi'n meddwl, ysbryd y cynnig yn ehangach. Mae cymal cyntaf y cynnig yn cefnogi,

'y frwydr fyd-eang i gael gwared ar hiliaeth ac ideoleg hiliol ac yn ymdrechu at sicrhau Cymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol'.

Fel cenedl fodern a gyfrannodd at fodolaeth yr ymerodraeth Brydeinig—a chlywsom dystiolaeth bwerus Altaf Hussain yn hyn o beth—nid yw'n syndod bod agweddau hiliol systemig yn parhau yn ein cymdeithas, ond mae'n werth nodi hefyd fod agweddau a ffynhonellau gwrth-hiliol o fewn cymdeithas a diwylliant Cymru, gweithiau Leonora Brito, Charlotte Williams, Hazel Carby, Glenn Jordan ac eraill, er enghraifft, yn cynnig adnoddau ar gyfer herio a thanseilio hiliaeth. Mae'r cymal yma hefyd yn cydnabod y cysylltiad sy'n bodoli rhwng hiliaeth strwythurol a systemig ar un llaw ac ideoleg hiliol ar y llaw arall. Mae ideoleg hiliol yn gallu bod yn amlwg ar adegau, ond gall fod yn fwy cynnil ar adegau eraill, wrth i wleidyddion, newyddiadurwyr ac eraill sydd â dylanwad ddefnyddio dog whistles, gan guddio eu gwir gymhelliant hiliol a gwthio ffiniau'r drafodaeth tuag at gasineb adweithiol.

Mae gennym oll gyfrifoldeb moesol i fod yn rhagweithiol yn ein gwrth-hiliaeth. Rhaid gweithredu'n fwy effeithiol i sicrhau nad oes gofod yn ein gwleidyddiaeth, yn ein cyfryngau, yn ein gweithleoedd nac yn ein sefydliadau ar gyfer ideoleg sy'n esgor ar hiliaeth ac anghydraddoldeb. Sut allwn ni sicrhau bod ein sefydliadau cenedlaethol yn adlewyrchu'r Gymru fodern yn ei holl amrywiaeth? Wel, wrth i ni fynd ati i ddiwygio'r Senedd er mwyn gwasanaethu pobl Cymru yn well, dylid ystyried o ddifrif, er enghraifft, y galwadau am gwotâu a mesurau eraill er mwyn cynyddu cynrychiolaeth grwpiau o bobl ddu ac o leiafrifoedd ethnig—

18:05

—sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd.

Ar ein taith tuag at statws cenedlaethol llawn, mae'n hanfodol ein bod ni'n wynebu'r hiliaeth yn ein gorffennol—ein bod ni'n pasio deddfwriaeth ac yn datblygu arferion diwylliannol, sefydliadol ac addysgol sy'n mynd i'r afael â hiliaeth yn y presennol, a'n bod yn clywed ac yn gwrando ar leisiau hanesyddol a chyfoes pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig wrth i ni ymdrechu i feithrin traddodiadau gwrth-hiliaeth yn ein diwylliant, fel yr ymgorfforwyd mewn ffordd mor rymus yn y cerflun o Betty Campbell a gafodd ei ddadorchuddio fis diwethaf. Diolch.

Mae i'w groesawu'n fawr fod cefnogaeth drawsbleidiol yn Siambr y Senedd hon i anfon neges glir iawn o'n penderfyniad ar y cyd i ddileu hiliaeth ac i adeiladu Cymru wrth-hiliol ochr yn ochr â chenedl noddfa.

Cefais fy nharo yn ddiweddar, fel y cafodd llawer o bobl eraill, gan y dadorchuddio hwnnw yng nghanol Caerdydd o'r cerflun o Betty Campbell, a'r diwrnod canlynol, ar dudalen flaen papur newydd cenedlaethol Cymru roedd llun syml o'r cerflun gyda'r geiriau, 'You don't have to settle for the boundaries people set for you'. Ond, fel y mae eraill wedi ei nodi, weithiau mae'r ffiniau hynny yn ymddangos yn rhy anodd eu torri pan fyddan nhw o'ch cwmpas chi i gyd. Dyma eiriau wyres Betty, Michelle Campbell-Davies, sy'n dweud, 'Ni allwch fod os na allwch weld'.

Betty Campbell oedd y pennaeth du cyntaf ar ysgol yng Nghymru ac roedd yn gynghorydd nodedig dros ei chymuned yn Nhre-biwt. Ac mae'r cerflun gwych hwn gan y cerflunydd Eve Shepherd yn nodi adeg bwysig yn y sgwrs yng Nghymru ynghylch cydraddoldeb hiliol. Ond mae'n tynnu sylw at faint ymhellach sydd i fynd. Nid oes ond rhaid i ni edrych arnom ni ein hunain ar draws y Siambr hon i sylweddoli bod gwaith i'w wneud o hyd. Ac felly roedd yn wych gweld, yn agoriad brenhinol swyddogol y Senedd, fod sôn am ein cydweithiwr, Natasha Asghar, y fenyw gyntaf i fod yn Aelod y Senedd o gefndir du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig i gael ei hethol i'r lle hwn. Ond ni ddylai hyn fod yn nodedig mewn Cymru amrywiol. Bydd y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol hwn ar gyfer Cymru wrth-hiliol yn gweithio i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb strwythurol a systemig a'i atal, a hyrwyddo cyfleoedd i bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Ac felly gadewch i ni fanteisio ar y cyfle hwn, bob un ohonom ni yma gyda'n gilydd heddiw, ar draws y Siambr hon, ar hyn. Pawb dros un, ac un dros bawb. Diolch.

18:10

Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog yn gyntaf am gyflwyno'r ddadl hynod bwysig hon. Ac rwy'n falch o fod yn gyd-lofnodwr y cynnig sy'n croesawu cyflwyno'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol er mwyn i ni allu creu Cymru wrth-hiliol. Er ei bod yn ymddangos yn y cyfryngau ar adegau ein bod yn fwy rhanedig nag erioed, mae'n galonogol clywed cynifer o gyfraniadau ar draws y Siambr y prynhawn yma, a'n bod ni i gyd gyda'n gilydd yn cefnogi'r cynllun gweithredu hwn.

Yn benodol, hoffwn i dynnu sylw'n fyr iawn at rai o'r meysydd yr wyf i'n teimlo y dylem ni fel gwleidyddion yma, ac fel aelodau o'n priod bleidiau, fod yn gwneud mwy er mwyn creu Cymru wrth-hiliol. Yn gyntaf, hoffwn i dynnu sylw at effaith pandemig y coronafeirws ar gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Cafwyd astudiaethau di-rif ac adroddiadau newyddion dros y 18 mis diwethaf sy'n awgrymu bod y pandemig wedi effeithio yn anghymesur ar bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn enwedig ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Er enghraifft, ledled y Deyrnas Unedig, mae 21 y cant o'r gweithlu gofal iechyd yn ddu, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, ac, yn rhyfeddol, roedd 63 y cant o weithwyr gofal iechyd a fu farw yn ddu, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig eu hunain. Mae hynny'n eithaf cywilyddus. Mae hyn yn dangos yn gwbl glir annhegwch sylweddol o ran diogelwch staff gofal iechyd, a dylem ni i gyd fod yn ymwybodol o hyn fel enghraifft drist o'r anghyfiawnderau sy'n dal i fodoli yn y gymdeithas heddiw.

Yn ail, rwy'n credu bod gwerth tynnu sylw at ymrwymiad y Llywodraeth i iaith a rhoi'r gorau i ddefnyddio'r ymadrodd 'BAME'. Er fy mod i'n cydnabod, o fewn fy mhlaid fy hun, fod gennym gryn ffordd i fynd i sicrhau bod pawb, ar bob lefel yn strwythur y blaid, yn deall goblygiadau'r ymadrodd hwn, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i ddefnyddio'r iaith gywir yn ein priod bleidiau i ddangos arweiniad ar y mater hwn.

Yn olaf, hoffwn i dynnu sylw, fel y nodwyd eisoes, at fater cynrychiolaeth yn y Senedd. Heb wneud y mater yn bêl-droed wleidyddol, rwy'n credu ei bod mor bwysig tynnu sylw at y swyddogaeth sydd gennym ni, unwaith eto, fel gwleidyddion ac fel aelodau o'n priod bleidiau, i fynd i'r afael â chynrychiolaeth decach. Mae'n rhaid i ni i gyd wneud mwy i sicrhau ein bod yn unioni'r anghydbwysedd yma yn y Siambr hon. Felly, gadewch i ni i gyd gymryd sylw o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud dim addewidion newydd, ond i gyflawni, cyflawni a chyflawni, a mynd â'r neges hon yn ôl i'n pleidiau gwleidyddol a sicrhau ein bod yn gwneud yr un peth i gynyddu cynrychiolaeth pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yma.

Felly, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ddod â hyn i'r Siambr, am gomisiynu'r adroddiad hwn, sy'n uchelgeisiol o ran ei gwmpas, ac edrychaf ymlaen at gefnogi'r Llywodraeth i geisio creu'r Gymru wrth-hiliol yr ydym ni i gyd yn ei dymuno. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i bawb am gyfrannu at y ddadl bwysig a sylweddol hon ar hil. Mae'r siaradwyr yn y ddadl y prynhawn yma ac, yn wir, ein cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn dweud wrthym fod angen i ni weithredu yn awr i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru sy'n wrth-hiliol, lle mae pawb yn cael eu trin yn ddinesydd cyfartal.

Hoffwn i ddechrau, wrth gydnabod y cyfraniadau, drwy ddiolch i chi, Altaf Hussain, am eich geiriau pwerus iawn ac am rannu â ni gyfrif o'ch bywyd, eich treftadaeth, eich hynafiaid, wedi eu gwerthu i gaethwasiaeth, a'ch bywyd yn awr yma a'ch cyfraniad enfawr. Ac rwy'n credu, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, mae'n ymwneud â sut yr ydym ni'n trin ein gilydd, mae'n ddealltwriaeth o sut yr ydym ni'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, rhagfarn a gwahaniaethu—mae'n ymwneud â sut yr ydym ni'n trin ein gilydd, sut yr ydym ni'n hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth, fel yr ydych chi'n ei ddweud, a sut y gallwn ni ddysgu sut i hyrwyddo'r cysylltiadau da hynny ac integreiddio.

A hoffwn i ddweud nad oedd gweledigaeth y genedl noddfa—ac rydym ni mor falch—mewn gwirionedd, siaradodd y Llywydd am ein cenedl noddfa pan siaradodd ddydd Iau diwethaf, ac roeddem yn falch o hynny, onid oeddem ni, yn y seremoni hollbwysig honno, i agor ein chweched Senedd. Nid yw'r genedl noddfa yn ymwneud dim ond â gwneud Cymru yn groesawgar i ymfudwyr, ond hefyd â manteisio gorau y gallwn ni ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil mudo i helpu ein heconomi a'n cymunedau i ffynnu, a'n bod yn rhoi'r croeso cynnes hwnnw i'r rhai sy'n cyrraedd ac yn darparu'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw, er mwyn iddyn nhw, mi wn, wneud eu cyfraniadau—yn wir, fel y mae cynifer wedi gwneud, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, Altaf Hussain. Felly diolch am eich cyfraniad y prynhawn yma. A diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyd-gyflwyno. Mae Darren a minnau wedi ymweld â hyn, y cynigion hyn, bob blwyddyn yn y swydd hon. Diolch hefyd i Blaid Cymru am gyd-gyflwyno, a diolch i Jane Dodds. Mae'n gymaint o ddatganiad, onid yw, pan fyddwn ni i gyd yn dod at ein gilydd ac yn uno fel hyn.

Roedd yn bwysig iawn clywed gan Sarah Murphy am y bobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n credu fy mod i wedi cwrdd â rhai ohonyn nhw, a daethon nhw at ei gilydd, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, drwy Mae Bywydau Du o Bwys; daethon nhw at ei gilydd a chyfarfod a thrafod y materion, daethon nhw allan ar y strydoedd, i'r gymuned. Ac i ddweud, dyma pam mae'r system addysg, ein cefnogaeth i addysg, mor hanfodol o ran y cwricwlwm newydd, oherwydd, i'r bobl ifanc, bydd yn grymuso athrawon a'n holl ysgolion i gynllunio gwersi a fydd yn eu hysbrydoli, fel y dywedais i, i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a'r byd. Mae'n rhaid i ni ddiolch i'r Athro Charlotte Williams am alluogi hynny i ddigwydd, ac yn wir y cyn-Weinidog Addysg, Kirsty Williams, am fwrw ymlaen â hyn, a Jeremy Miles erbyn hyn. Roedd yn falch iawn ar 1 Hydref, ar ddiwrnod cyntaf Mis Hanes Pobl Dduon, sydd bellach yn Hanes Pobl Dduon 365, wrth ddweud, 'Mae bellach yn orfodol yng Nghymru, a ni yw'r cyntaf yn y DU.' Ond diolch am rannu, unwaith eto, y bobl ifanc—Anna ac Olivia o Ben-y-bont ar Ogwr—eu profiadau a'r dylanwad maen nhw'n ei gael bellach ar eu cyfoedion a chymunedau Pen-y-bont ar Ogwr.

Diolch i Sioned Williams hefyd am gyd-gyflwyno'r ddadl hon. Ac fel y gwnaethoch ei ddweud mor rymus, mae hyn yn ymwneud, mewn gwirionedd, ag a ydym yn mynd i wneud rhywbeth gwahanol y tro hwn, a fydd yn newid, drwy gynnig y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol hwn ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Ac mae'n ddiddorol, fel y gwnaethom ni ei ddweud—yn ystod y flwyddyn, digwyddodd llawer o bethau, a thynnais sylw atyn nhw, ond un peth y gwnaethom ni ei wneud oedd rhoi arian i hanes pobl dduon, felly nid Mis Hanes Pobl Dduon yn unig ydyw, mae'n Hanes Pobl Dduon 365 diwrnod y flwyddyn. Ac eleni, buom yn dathlu'n lleol yr hyn y gwnaethom ni ei alw'n arwyr ac arwresau, gan ddiolch i'r rhai hynny sy'n gweithio'n ddiflino yn eu cymunedau, a'r cyfoeth a'r cryfder a'r cyfraniadau y mae pobl a chymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn eu cyflwyno i Gymru fu ein hanes ni erioed ers i mi ymwneud â gwleidyddiaeth.

Mae'n bwysig i ni edrych ar iaith, fel y dywedodd Jane Dodds. Ac rwy'n credu ein bod ni wedi myfyrio, fel y mae Rhianon Passmore wedi ei wneud, ar yr arweinydd cymunedol a'r ymgyrchydd arloesol, Betty Campbell. Ond roedd cael ei phlant a'i hwyrion yn siarad yn y seremoni dadorchuddio ei cherflun mor bwerus, ac rydych chi wedi adleisio geiriau ei hwyres, Rhianon, y prynhawn yma. Ni wnaeth hiliaeth, rhagfarn ac anoddefgarwch atal Betty—fe roddodd yr awch iddi fwrw ymlaen a chyflawni, ac roedd yn rhywun a wnaeth newid a oresgynnodd gynifer o rwystrau, fel y gallwn ni gydnabod bod yn rhaid i ni gyflawni bellach o ran ei hetifeddiaeth.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Sioned Williams, am dynnu sylw at yr ystadegau troseddau casineb cenedlaethol, a oedd yn peri pryder mawr yr wythnos diwethaf. Ond mewn gwirionedd, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'n debyg ein bod ni wedi gwneud mwy o waith i gynyddu ymwybyddiaeth a hyder dioddefwyr i ddod ymlaen a rhoi gwybod am droseddau casineb. Rydym ni wedi bod yn pryderu'n fawr am y cynnydd hwn mewn troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru eleni, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Ond mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn dod ymlaen ac efallai y bydd gwell ymwybyddiaeth, gobeithio, a chofnodi troseddau casineb yn well gan heddluoedd. Ac rydym yn ymwreiddio camau gweithredu i ddileu casineb a rhagfarn yng nghynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Cymru.

Mae gennym ni lawer o themâu yn y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ac un ohonyn nhw yw cyfiawnder troseddol. Nid yw wedi ei ddatganoli, ond dywedodd y rhai hynny a oedd yn amlwg â phrofiad byw a gyd-luniodd y strategaeth hon â ni, ac a oedd yn dymuno dylanwadu arni, 'Mae'n rhaid i chi gynnwys cyfiawnder troseddol yn y cynllun gweithredu hwn.' Ac mae gan ein cynllun y nod cyfunol y bydd pawb sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol yn cael triniaeth gyfartal a chanlyniadau cyfartal ni waeth beth fo'u hethnigrwydd, ochr yn ochr ag addysg, cyflogadwyedd, sgiliau a diwylliant—cafodd ei gyfleu yn eich datganiad y prynhawn yma, y dylanwad y mae eisoes yn ei gael—y Gymraeg, treftadaeth, chwaraeon, cynrychiolaeth ymhlith arweinwyr, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae pob rhan o Lywodraeth Cymru bellach yn gwneud y newid hwnnw.

Felly, mae gennym ni gyfrifoldeb yn awr. Rydym ni wedi dod at ein gilydd heddiw, a byddwn ni drwy gydol y flwyddyn hon, mi wn, yn cydnabod—. A byddwch yn ein dwyn i gyfrif o ran sicrhau ein bod yn cyflawni'r cynllun hwn mewn ffordd nad yw wedi ei gweld o'r blaen. Rwy'n falch iawn ei fod yn gynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Bydd yn rhaid i bob un ohonom ni ddysgu a newid a chyflawni i wneud hon yn ddogfen fyw sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac y gallwn wedyn weld y gwahaniaeth mesuradwy hwnnw i fywydau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn cymunedau yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.

18:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:22.