Y Cyfarfod Llawn

Plenary

12/10/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae'r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae'r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o'r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda. Hoffwn atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peter Fox. 

Cefnogi Pobl sy'n Agored i Niwed

1. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed dros fisoedd y gaeaf? OQ57008

Llywydd, mae aelwydydd o dan bwysau ariannol digynsail o ganlyniad i'r pandemig, ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd, costau byw cynyddol a thoriadau niweidiol i daliadau lles a gefnogwyd gan Lywodraeth y DU. Rydym ni'n mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a all arwain at dlodi wrth helpu pobl i sicrhau'r incwm mwyaf a datblygu cadernid ariannol.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Hoffwn groesawu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo pobl agored i niwed, a hoffwn dalu teyrnged yn arbennig i'n helusennau a sefydliadau eraill yn y trydydd sector sy'n gwneud gwaith gwych i helpu ein cymunedau.

Fel y byddwch chi'n gwybod, Prif Weinidog, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £500 miliwn yn ddiweddar i helpu pobl drwy'r pandemig, yn ogystal â misoedd y gaeaf. Bydd yr arian hwn yn cael ei ddarparu i gynghorau yn Lloegr erbyn mis Hydref. Oherwydd hyn, bydd Cymru yn derbyn £25 miliwn yn ychwanegol. A wnewch chi gadarnhau sut bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo teuluoedd ledled Cymru a pha un a fydd cynghorau yn cael yr arian hwn yn uniongyrchol fel y gallan nhw sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf? Diolch.

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Peter Fox am bwysigrwydd sefydliadau gwirfoddol a thrydydd sector sydd wedi gwneud cymaint i helpu teuluoedd a chymunedau dros gyfnod y pandemig yn ddiweddar. Ond gadewch i ni fod yn glir: mae Llywodraeth y DU yn tynnu £300 miliwn o bocedi rhai o'r teuluoedd tlotaf yng Nghymru ac yn cynnig £25 miliwn yn gyfnewid am hynny. Nid yw'n fargen o gwbl i'r teuluoedd agored i niwed hynny a'r cymorth y bydd ei angen arnyn nhw dros y gaeaf hwn.

Nawr, rydym ni eisoes wedi darparu dros £25 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn ein cronfa cymorth dewisol, cronfa y cefnwyd arni gan y Blaid Geidwadol yn Lloegr, lle nad oes unrhyw hawl i gynllun mor genedlaethol wedi ei seilio ar reolau. Byddwn yn edrych i weld sut y gallwn ni ddefnyddio'r £25 miliwn i sicrhau'r effaith orau posibl, gan gynorthwyo'r ystod o sefydliadau sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, gan fod yn gwbl glir ynghylch y ffaith nad yw colli £300 miliwn a chael cynnig £25 miliwn i wneud iawn am hynny yn unrhyw fargen o gwbl.

Prif Weinidog, mae unigrwydd wedi bod yn broblem sylweddol i filoedd o bobl yn ystod y pandemig, ac wrth i ni ddechrau misoedd y gaeaf, gallai mwy o bobl deimlo eu bod wedi eu hynysu hyd yn oed yn fwy oddi wrth ffrindiau a theulu. Pan fydd pobl yn unig, gallan nhw fod mewn mwy o berygl o ynysu eu hunain oddi wrth wasanaethau hefyd, a gall hynny, yn ei dro, gael ei waethygu os oes rhwystrau eisoes i ddefnyddio'r gwasanaethau hynny, fel rhestrau aros hir. Rwy'n gwybod bod y Groes Goch wedi tynnu sylw at sut y gallai fod angen cymorth wedi ei deilwra ar bobl sy'n dioddef o unigrwydd pan fyddan nhw'n aros am driniaeth, cymorth nad yw'n ymwneud â'u salwch corfforol yn unig ond ag ymdopi â'r broses o aros, yn enwedig os yw hynny yn ymestyn yr amser cyn y gallan nhw ryngweithio â ffrindiau a theulu yn haws. Felly, Prif Weinidog, pa gymorth sydd ar waith, neu y gellid ei roi ar waith, os gwelwch yn dda, i helpu pobl ar restrau aros hir i ymdopi â'r ynysigrwydd y gallai hynny ei achosi iddyn nhw, yn ogystal â'r effaith ar eu hiechyd corfforol, wrth gwrs?

Llywydd, diolch i Delyth Jewell am y pwynt pwysig yna. Bydd hi'n gwybod bod rhai dadansoddwyr yn dweud y dylid ychwanegu unigrwydd at y pum cawr a nodwyd gan Beveridge ar ddechrau'r wladwriaeth les yn un o heriau polisi cymdeithasol mawr ein hoes. Rwy'n diolch iddi am yr hyn a ddywedodd am bwysigrwydd y Groes Goch. Bydd yn gwybod bod Llywodraeth Cymru, dros y gaeaf diwethaf, wedi ariannu cyfres o gamau gweithredu gan y Groes Goch ei hun i helpu i ddychwelyd pobl i'w cartrefi eu hunain ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau—weithiau ar ôl cyfnod byr yn ymweld ag adran damweiniau ac achosion brys; weithiau ar ôl aros yn yr ysbyty—am yr union reswm o wneud yn siŵr bod gan y bobl hynny sy'n unig ac yn ynysig berson arall ochr yn ochr â nhw pan oedden nhw'n dychwelyd i'w cartrefi eu hunain, ac yn cael eu helpu i ymgartrefu a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw bopeth yr oedd ei angen arnyn nhw. A gaf i gymeradwyo hefyd waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn y maes hwn? Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog Julie Morgan wedi bod yn gweithio yn agos gyda'r comisiynydd a'i swyddfa i roi gwasanaethau ar waith i fynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith hen bobl. Ac weithiau mae hyn yn gyfres syml iawn o drefniadau, yn y maes y cyfeiriodd Peter Fox ato, o'r sector gwirfoddol a'r trydydd sector—gall dim mwy na galwad ffôn syml i rywun nad yw'n clywed llais dynol arall o un diwrnod i'r llall, a chymryd diddordeb mewn sut mae'n teimlo a'r hyn y mae'n mynd drwyddo, wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl. A cheir llawer iawn o wirfoddolwyr erbyn hyn, ym mhob rhan o Gymru, sy'n cymryd rhan yn y mesurau syml ond effeithiol hynny a all wneud gwahaniaeth i unigrwydd.

13:35

Prif Weinidog, yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rwyf i wedi bod yn holi trigolion am eu profiadau o gysylltu â gofal sylfaenol. Mae'r adborth wedi amrywio o 'dda iawn' i bobl a oedd yn teimlo eu bod nhw wedi aros yn rhy hir. Rwy'n pryderu y gallai hyn effeithio ar bobl agored i niwed yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf. Felly, sut gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod gan ein meddygfeydd teulu y dechnoleg orau fel y gall pobl wneud apwyntiadau a chael gwasanaeth cyson ledled Pen-y-bont ar Ogwr?

Wel, diolch i Sarah Murphy am y pwynt yna. Gan fod gofal sylfaenol wedi dibynnu yn gwbl briodol ar ffyrdd technolegol o ddarparu cyngor a chanlyniadau triniaeth i bobl, mae'r angen i wneud yn siŵr bod y llwyfannau technolegol hynny yn effeithiol i bobl hyd yn oed yn bwysicach nag yr oedd o'r blaen. Yn rhan o'n trefniant mynediad gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, fe wnaethom ddarparu miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad newydd i gynorthwyo meddygfeydd teulu i wneud yn siŵr bod eu systemau ffôn, er enghraifft, yn addas ar gyfer y gymdeithas sydd ohoni. Rwy'n gwybod bod y darlun yn gymysg, yn y ffordd y mae'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi sôn. Yn y pen draw, fel y bydd yn gwybod, contractwyr preifat yw'r rhain sy'n gwneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer gwasanaethau teleffon. Fodd bynnag, rydym ni'n gweithio gyda nhw, ac rydym ni'n gweithio gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, gan gynnwys drwy gyllid ychwanegol, i geisio gwneud perfformiad y system gyfan cystal ag y mae ar gyfer y gorau. Ac rwy'n gwybod, o'r gwaith y mae hi wedi ei wneud yn ei hetholaeth ei hun, y gwnaeth hi ei rannu â mi, ei bod hi wedi dod o hyd i rai enghreifftiau da iawn lle mae pobl yn teimlo bod y gwasanaeth y maen nhw'n ei gael gan eu meddygfa eu hunain yn diwallu eu hanghenion yn dda iawn. Nawr mae angen i'r gweddill fod yn yr un sefyllfa.

Staff Gofal Cymdeithasol

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bargen deg i staff gofal cymdeithasol? OQ57009

Diolch i Carolyn Thomas, Llywydd, am y cwestiwn yna. Y llynedd, fe wnaethom ni gynnull y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, i edrych ar sut y gellir gwella telerau ac amodau'r gweithlu. Rydym ni wedi ymrwymo i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yn ystod y tymor Senedd hwn ac rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i fwrw ymlaen â hyn.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i greu gweithlu cryfach sy'n cael ei dalu yn well, ac yn arbennig y penderfyniad y dylid talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal ac y bydd hyn yn cael ei gyflawni yn ystod y Senedd bresennol. Mae trigolion sy'n gweithio yn y sector wedi cysylltu â mi gan ddweud eu bod yn caru eu swydd, ond yn ddealladwy, mae'r blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith. Eglurodd un etholwr yn benodol ei bod hi wedi gweithio, y llynedd, Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, Nos Galan a Dydd Calan heb gyflog ychwanegol. A wnewch chi roi sicrwydd i'r trigolion hyn bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn llwyr i wella amodau gwaith, yn ogystal â thâl, i'r rhai sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, fel y gallan nhw barhau i ddarparu'r gofal rhagorol y dibynnir arnyn nhw amdano ac y maen nhw wir yn mwynhau ei wneud? Diolch.

Llywydd, rwy'n credu bod Carolyn Thomas yn gwneud pwynt pwysig iawn. Rydym ni wedi ymrwymo i'r cyflog byw gwirioneddol yn y sector gofal cymdeithasol ac i'w ariannu. Ond mae'r her o recriwtio a chadw'r gweithlu medrus ym maes gofal cymdeithasol yn fwy na mater o gyflog yn unig. Mae yn dibynnu, yn bendant, ar gynnig telerau ac amodau gwaith addas i bobl sy'n gwneud y gwaith hanfodol bwysig hwn. Nawr, yn ôl yn 2017, deddfodd y Senedd i ymdrin â rhai o'r enghreifftiau mwyaf dybryd o le nad oedd telerau ac amodau yn cael eu bodloni, gan gynnwys—bydd rhai Aelodau yn gyfarwydd â hyn—yr hyn a elwir yn arfer 'clipio', ac fe wnaethom ni ddeddfu i wneud rheoliadau yn gysylltiedig â'r arfer o gontractau dim oriau yn y system. Ac, yn wir, dros y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu tâl salwch priodol i weithwyr gofal cymdeithasol gan ein bod ni'n gwybod nad oedd unrhyw beth hyd at 80 y cant o gyflogwyr yn darparu tâl salwch galwedigaethol yn y sector hwn.

Nawr, mae'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol yn edrych ar y pecyn ehangach o ddiwygiadau sydd eu hangen os yw pobl yn y sector hwn yn mynd i gael eu gwerthfawrogi a'u cadw yn briodol. Ac rydym ni'n gwybod bod rhai cyflogwyr mewn gweithlu amrywiol dros ben sy'n sicr yn gwneud y peth iawn dros eu gweithwyr, ac rydym ni'n gwybod bod rhai sy'n parhau, er enghraifft, i ofyn i'w gweithwyr dalu am gostau eu gwisgoedd eu hunain, i dalu am gostau eu gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd eu hunain. Ac mewn sector lle mae'n rhaid i ni weithio yn galetach i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gwneud y swyddi hynny yn ddeniadol i bobl, ceir arferion o hyd nad ydyn nhw'n cefnogi'r gofyniad sector cyfan hwnnw. Felly, ein huchelgais yw gweithio gyda'r cyflogwyr gorau yn y sector, ac mae llawer ohonyn nhw yn bodoli, ac yna perswadio gweddill y cyflogwyr ym maes gofal cymdeithasol bod yn rhaid iddyn nhw wneud mwy, ochr yn ochr â'r arian y bydd Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi mewn talu'r cyflog byw gwirioneddol, i wneud yn siŵr bod telerau ac amodau cyflogaeth pobl yn parhau i ddenu pobl i'r gwaith hanfodol hwn.

13:40

Prif Weinidog, un o'r pethau sydd wedi cael eu croesawu gan fy mhlaid i yw'r taliad ariannol ar gyfer gofal cymdeithasol—y taliad bonws—y mae llawer o bobl, wrth gwrs, yn ei gael yn eu pecynnau cyflog y mis hwn. Ond mae'n rhaid i'r taliadau bonws hynny gyrraedd pawb sy'n rhan o'r gweithlu gofal cymdeithasol hwnnw, sydd wedi bod yn gweithio ar y rheng flaen yn ystod y pandemig, ac mae hynny yn cynnwys gweithwyr eiriolaeth nad ydyn nhw'n cael eu cyflogi yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Yn anffodus, rwyf i wedi cael gwybod gan Dewis—mae Canolfan Byw Annibynnol Dewis, sydd â swyddfeydd yn fy etholaeth i, ym Mae Colwyn, yn darparu gwasanaethau eiriolaeth i bobl â phroblemau iechyd meddwl ac anableddau ledled Conwy a sir Ddinbych gyfan—nad yw ei heiriolwyr yn gymwys i gael y taliad bonws, ond bod pobl mewn awdurdodau lleol cyfagos sy'n eiriolwyr ond yn gweithio i'r awdurdod lleol yn derbyn y taliadau hyn. Nid yw hynny, yn fy marn i, yn ymddangos fel chwarae teg iawn. A gaf i ofyn, Prif Weinidog, a wnewch chi ymchwilio i hyn er mwyn i'r bobl hynny sydd wedi bod yn gwneud gwaith gwerthfawr, yn mynd i gartrefi pobl ar adegau anodd iawn yn ystod y pandemig, gael y cyfle i elwa ar y taliadau bonws hyn i gydnabod eu gwaith?

Wel, Llywydd, roedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn o allu darparu taliad o £500 yn gynnar yn y pandemig, a £735 yn ddiweddarach yn y pandemig—£735 gan ein bod ni wedi methu â pherswadio Llywodraeth y DU i ganiatáu i'r taliad hwnnw gael ei wneud heb iddo fod yn destun cyfraniadau treth ac yswiriant gwladol. Mae 64,000 o weithwyr yn y sector wedi elwa ar y taliadau hynny. Rwyf i, wrth gwrs, yn fodlon ymchwilio i unrhyw anghysondeb, a byddaf i'n nodi'r pwynt y mae'r Aelod wedi ei wneud yn benodol, wrth gymeradwyo'r pwynt a wnaeth yn wreiddiol am y gydnabyddiaeth y bwriadwyd i'r taliadau hynny ei rhoi i bobl sy'n gwneud y swyddi hyn i ni yma yng Nghymru.FootnoteLink

Pan godais y mater o lai o ddarpariaeth canolfannau gofal dydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer oedolion anabl a goblygiadau hyn i gleientiaid, eu teuluoedd a'u staff, fe wnaethoch chi gyfeirio'r mater at Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Wel, efallai ei fod yn gyd-ddigwyddiad, ond penderfynodd y weinyddiaeth Lafur yno gymryd cam yn ôl ac ymgynghori yn iawn ar y mater. Mae'r hen idiom Cymraeg 'taro'r post i'r pared glywed' yn dod i'r meddwl. Byddwch chi hefyd yn falch o glywed bod fy nghyd-Aelod Delyth Jewell a minnau wedi cyfarfod ag arweinydd y cyngor a'r aelod cabinet dros wasanaethau cymdeithasol ar y mater hwn ddoe. Yn ystod y cyfarfod hwnnw, fe wnaethon nhw bwysleisio bod recriwtio staff gofal cymdeithasol yn anodd ac y bydd yn parhau i fod felly tan fod cydraddoldeb rhwng eu cyflogau nhw a rhai staff y GIG. A wnewch chi gyflymu eich cynlluniau ar gyfer tâl tecach i weithwyr gofal cymdeithasol yng ngoleuni'r ffaith bod cyllidebau aelwydydd o dan bwysau a bod prisiau tanwydd y gaeaf yn cynyddu?

13:45

Rwy'n sicr yn cytuno y bydd pobl sy'n gweithio yn y sector yn teimlo effaith methiannau Llywodraeth y DU i reoli'r cynnydd i brisiau ynni, i brisiau bwyd, ac i fod â chynllun ymarferol ar gyfer y ffordd y mae'r Deyrnas Unedig wedi ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Arweiniodd Llywodraeth Cymru ymgyrch recriwtio lwyddiannus ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol ym mis Awst a mis Medi, ac rwyf i wedi gweld canlyniadau calonogol yr ymgyrch honno, digon calonogol i ni fod eisiau defnyddio'r ymgyrch eto ddiwedd y mis hwn a thua'r hydref a'r gaeaf i geisio gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflwyno'r manteision niferus y mae pobl sy'n gweithio yn y sector yn eu teimlo o'r gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud. Rydym ni eisiau cyflwyno cyflog byw gwirioneddol, ond byddwn yn aros am gyngor y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol o ran gwneud hynny, gan fod angen i ni fod yn hyderus y bydd yr arian y bydd pwrs y wlad yn ei ddarparu yn mynd yn uniongyrchol i becynnau cyflog y rhai y bwriedir iddyn nhw fod o fantais iddyn nhw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, roedd hi'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd ddydd Sul diwethaf, a chyn i mi symud ymlaen i ofyn fy nghwestiynau, rwy'n siŵr y gwnewch chi a phawb yn y Siambr hon ymuno â mi i anfon ein dymuniadau gorau i'n cyd-Aelod Andrew R.T. Davies wrth iddo gymryd ychydig o amser nawr i ganolbwyntio ar ei iechyd ei hun.

Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi darparu rhywfaint o gyllid ychwanegol i ail-flaenoriaethu iechyd meddwl yng ngoleuni pandemig COVID-19. Fodd bynnag, y gwir amdani o hyd yw bod rhai pobl wedi bod heb apwyntiadau wyneb yn wyneb ers sawl mis bellach, ac nid yw rhai wedi gallu cael gafael ar gymorth arbenigol. Rwy'n sylweddoli y bydd datganiad yn ddiweddarach heddiw ar gynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ond a wnewch chi ddweud wrthym ni pa gamau wedi eu targedu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd bellach i sicrhau y gall y rhai y mae angen cymorth a chefnogaeth arnyn nhw gael mynediad at wasanaethau lle bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru?

Diolch i Paul Davies am y cwestiwn yna, ac wrth gwrs rwyf i'n sicr yn cysylltu fy hun â'r hyn a ddywedodd o ran anfon ein dymuniadau gorau ar ran Llywodraeth Cymru a'r Blaid Lafur at arweinydd yr wrthblaid. Rwy'n gobeithio ei weld yn ôl yn ei le yn y Siambr cyn gynted ag y mae'n teimlo y gall wneud hynny.

Mae'r pwynt cyffredinol y mae Paul Davies yn ei godi yn un pwysig: roedd hi'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, fel y dywedodd, dros y penwythnos. Iechyd meddwl yw'r llinell gyllideb fwyaf o hyd yn y GIG cyfan yng Nghymru, ac yn gyffredinol mae ein byrddau iechyd yn gorwario'r swm o arian sy'n cael ei ddyrannu iddyn nhw at y diben hwnnw. Yr hyn y gwnaethom ni geisio ei wneud yn ystod y pandemig oedd cryfhau'r gwasanaethau dim atgyfeiriadau hynny, y gwasanaethau sylfaenol ac ataliol hynny y gall pobl eu cyrraedd heb orfod mynd drwy borthgeidwad yn y lle cyntaf, a chael cymorth pan fyddan nhw'n teimlo'r angen i wneud hynny gyntaf. Rydym ni'n canolbwyntio yn benodol ar hynny gyda phobl ifanc, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, yn ein buddsoddiad cynyddol mewn cwnsela mewn ysgolion, yn y gwaith yr ydym ni wedi ei wneud gyda'r gwasanaeth ieuenctid i wneud yn siŵr bod gweithwyr yno mor barod ag y gallan nhw fod i ymateb i anghenion pobl ifanc, ac yn ein hymrwymiad i'r dull ysgol gyfan.

Mae'r galw am wasanaethau iechyd meddwl wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y pandemig ac mae'n rhaid i'r gallu i ddarparu'r gwasanaethau hynny wyneb yn wyneb ystyried yr amodau clinigol y mae'r gwasanaeth yn gweithredu ynddyn nhw. Ond rwy'n credu bod pobl ymroddedig a phenderfynol iawn ledled Cymru sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn ceisio gwneud yn union yr hyn y mae Paul Davies wedi ei awgrymu.

Prif Weinidog, fel y byddwch chi'n ymwybodol, yn ogystal â chael trafferth yn cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl, ceir pobl ledled Cymru sy'n cael trafferth fawr yn cael gafael ar eu meddyg teulu hefyd, fel y soniwyd yn gynharach yn y sesiwn hon. Mae'r pandemig wedi amlygu'r ffaith nad oes digon o feddygon a staff ym maes gofal sylfaenol. Er fy mod i'n deall bod gweithgarwch recriwtio wedi digwydd, nid yw hynny'n fawr o gysur i'r cleifion hynny sy'n aros ddydd ar ôl dydd i drefnu apwyntiad i weld eu meddyg teulu. Rwy'n derbyn yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud yn gynharach, bod y darlun yn gymysg, ond mae llawer yn cael eu gadael yn aros am hyd at awr neu hyd yn oed yn hirach ar y ffôn i siarad â rhywun, a phan fyddan nhw'n cael ateb o'r diwedd, dywedir wrthyn nhw yn aml nad oes unrhyw apwyntiadau ar gael, ac i ffonio eto y diwrnod canlynol.

Rydym ni'n gwybod y bu gostyngiad i nifer y meddygon teulu; yn ôl data Llywodraeth Cymru ei hun, rhwng 2018 a 2020, bu gostyngiad i nifer y meddygon teulu fesul 10,000 o'r boblogaeth yn nhri o'n saith bwrdd iechyd—ym myrddau iechyd Betsi Cadwaladr, Powys ac Aneurin Bevan. Felly, Prif Weinidog, gyda'r niferoedd poblogaeth yn yr ardaloedd hynny yn tyfu dros yr un cyfnod, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o'r effaith y mae'r gostyngiad i nifer y meddygon teulu yn yr ardaloedd hynny wedi ei chael ar ofal cleifion?

13:50

Yr asesiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yw na all dyfodol gofal sylfaenol ddibynnu ar feddygon teulu yn unig. Mae natur y boblogaeth meddygon teulu yn newid. Mae'r mathau o gontractau y mae pobl sy'n cyrraedd y byd gofal sylfaenol yn dymuno manteisio arnyn nhw yn newid, ac mae'n rhaid i ni newid gyda nhw. Mae'n rhaid i ni newid gyda nhw yn bennaf drwy ehangu'r amrywiaeth o leisiau proffesiynol sy'n gallu darparu gwasanaethau gofal sylfaenol. Ni fydd canolbwyntio ar feddygon teulu yn unig yn rhoi i ni y dyfodol cynaliadwy ar gyfer gofal sylfaenol sydd ei angen arnom ni yma yng Nghymru.

Mae meddygon teulu yn parhau i fod yn hanfodol i'r tîm gofal sylfaenol hwnnw—ei arwain, yn gyfrifol am safonau clinigol, gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gweld y bobl hynny dim ond meddyg teulu sy'n gallu eu gweld. Ond ar yr un pryd, byddan nhw'n goruchwylio timau ehangach sy'n cynnwys ffisiotherapyddion, fferyllwyr, nyrsys practis uwch a gweithwyr parafeddygol proffesiynol, y mae pob un ohonyn nhw'n gallu darparu gwasanaeth sy'n effeithiol yn glinigol i bobl y mae angen cyswllt gofal sylfaenol arnyn nhw. Dyna'r ffordd y byddwn ni'n dod o hyd i ddyfodol ar gyfer gofal sylfaenol sy'n diwallu anghenion poblogaeth Cymru ac a all, drwy'r cymysgedd hwnnw o weithwyr proffesiynol a fydd ar y rheng flaen, wneud yn siŵr bod y math cywir o gymorth ar gael i'r claf yn llawer cyflymach na phe baem ni'n dibynnu yn syml ar y model sydd wedi ein gwasanaethu ni yn dda hyd yma, ond sy'n cyrraedd diwedd ei ddefnyddioldeb unigryw.

Prif Weinidog, mae problem ddifrifol yma i gleifion sy'n ceisio cael gafael ar eu meddygon teulu. Mae Mair Hopkin o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi dweud bod yr argyfwng mewn meddygfeydd teulu wedi rhagflaenu COVID mewn gwirionedd, gyda llawer o gleifion yn ei chael hi'n anodd cael apwyntiad cyn y pandemig, ac yn gorfod aros sawl wythnos am apwyntiad. Rydym ni wedi clywed gan Dr Phil White, cadeirydd pwyllgor ymarferwyr cyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain—mae wedi dweud y bu problemau yn datblygu cyn COVID, yn sgil colli mwy o feddygon teulu i ymddeoliad cynnar. Ac mae meddygon eu hunain wedi tynnu sylw at yr effaith y mae hyn yn ei chael ar y system gyfan—meddygon fel Dr Oelmann, meddyg teulu ym meddygfa Clark Avenue yng Nghwmbrân, sydd wedi ei gwneud yn eglur nad mater o feddygon teulu yn unig ydyw, ei fod drwy'r system gyfan. Mae ôl-groniadau ym maes gofal eilaidd, y gwasanaeth ambiwlans, gofal cymdeithasol. Mae'n iawn wrth ddweud bod popeth wedi ei gysylltu, ac na ellir ystyried dim ohono ar ei ben ei hun. Mae'n mynd o gwmpas mewn cylch ac yn mynd yn fwy ac yn fwy anodd i staff, ac yn wir i gleifion. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn barn Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol bod yr argyfwng mewn meddygfeydd teulu yn rhagflaenu COVID? Ac, o ystyried yr effaith y mae'r pandemig wedi ei chael, pa gamau brys wnaiff eich Llywodraeth chi eu cymryd i fynd i'r afael yn benodol â datblygu gofal sylfaenol yn y tymor seneddol hwn? O gofio mai un o nodau eich Llywodraeth chi a nodwyd yn adolygiad 'Cymru Iachach' oedd gwella profiad ac ansawdd y gofal i unigolion a theuluoedd, sut byddwch chi'n cyflawni hyn os bydd nifer y meddygon teulu yn parhau i ostwng, a'n poblogaeth yn parhau i dyfu?

Rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am y pwysau sydd ar y system, ac maen nhw ym mhob rhan o'r system. Mae llawer o feddygon teulu wedi dewis ymddeol yn gynnar oherwydd y newidiadau i'w trefniadau pensiwn a gyflwynwyd gan ei Lywodraeth ef yn San Steffan, a oedd yn golygu nad oedd yn synhwyrol yn ariannol iddyn nhw barhau yn y swyddi yr oedden nhw wedi eu gwneud. Rydym ni wedi annog Llywodraeth y DU droeon i gael gwared ar y cymhellion gwrthnysig sydd wedi arwain at rai pobl yn tynnu eu hunain o'r gweithlu yn gynharach nag y bydden nhw wedi ei wneud fel arall.

Mae dyfodol gwasanaethau meddygon teulu—meddygon teulu yn yr ystyr gul honno—wedi ei seilio ar ein gallu i recriwtio mwy o bobl i'r proffesiwn, ac i hyfforddi yma yng Nghymru. Bydd yn ymwybodol iawn o'r ffigurau iach iawn rydym ni wedi eu sicrhau yn ddiweddar o ran cyrraedd a rhagori ar y targedau roeddem ni wedi eu gosod ar gyfer meddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru. Rwy'n credu mewn ateb i gwestiwn yr wythnos diwethaf i mi esbonio sut y byddai nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant yn y gogledd yn cael ei chynyddu eto y flwyddyn nesaf. Nid meddygon teulu yn unig yw'r ateb cyfan i ofal sylfaenol, yn y ffordd yr wyf i wedi ei disgrifio eisoes, Llywydd, a'r hyn y byddwn ni'n ei wneud fel Llywodraeth yw buddsoddi yn y gronfa ehangach honno o weithwyr proffesiynol, gan newid natur gofal sylfaenol, sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r ffordd y mae pobl sy'n gweithio yn y maes yn ystyried eu dyfodol fel gweithwyr proffesiynol yma yng Nghymru, darparu meddygfeydd yr unfed ganrif ar hugain ar eu cyfer yn unol â'n hymrwymiad ymrwymo iddyn nhw yn ein maniffesto, a pharhau i ddathlu'r ymdrechion sy'n golygu bod miloedd ar filoedd o bobl, ddydd ar ôl dydd, yn cael eu trin yn llwyddiannus gan glinigwyr gofal sylfaenol yng Nghymru bob un dydd.

13:55

Diolch, Llywydd. I ddechrau, a gaf i ar ran fy mhlaid hefyd anfon ein negeseuon o gefnogaeth at Andrew R.T. Davies? Bydd llawer o bobl wedi cael eu calonogi a'u hysbrydoli ganddo yn siarad yn agored am yr heriau y mae'n eu hwynebu gyda'i les meddwl ac emosiynol ei hun, rhywbeth, wrth gwrs, y bydd llawer ohonom ni'n eu hwynebu ar wahanol adegau yn ein bywydau.

Prif Weinidog, mae ASau yn San Steffan heddiw wedi disgrifio ymateb y DU i'r pandemig fel un o'r methiannau iechyd cyhoeddus gwaethaf yn hanes y DU. Rwy'n cytuno â'r asesiad damniol hwnnw. Prif Weinidog, a ydych chi?

Nid wyf i wedi cael cyfle i ddarllen yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw. Rwyf i wedi gweld adroddiadau papur newydd arno. Mae'n amlwg yn adroddiad sy'n haeddu ystyriaeth briodol, ac rwy'n bwriadu gwneud hynny. Nid wyf i mewn sefyllfa i gymeradwyo na gwadu unrhyw ddyfarniadau y mae Aelodau Seneddol wedi eu gwneud nes y byddaf i wedi cael cyfle i astudio'r hyn a fu ganddyn nhw i'w ddweud yn fanylach nag yr wyf i wedi cael cyfle i'w wneud hyd yn hyn.

Prif Weinidog, ymysg canfyddiadau niferus yr adroddiad mae ei gasgliad bod penderfyniad Llywodraethau'r DU a Chymru i roi'r gorau i brofion cymunedol yn erbyn cyngor Sefydliad Iechyd y Byd ar 12 Mawrth 2020 yn gamgymeriad angheuol a arweiniodd at golli llawer o fywydau. Er gwaethaf y ffaith nad ydych chi wedi cael y cyfle i astudio'r adroddiad, a ydych chi'n cydnabod y feirniadaeth gyffredinol honno? A ydych chi'n derbyn y byddai wedi bod yn well yn ystod cyfnod cynnar hwnnw y pandemig i fod wedi dilyn eich polisi eich hun yng Nghymru, yn annibynnol ar San Steffan, yng nghyswllt hyn, fel y gwnaethoch chi yn wir ar gynifer o faterion eraill yn y camau diweddarach gyda chryn lwyddiant?

Diolch i Adam Price am hynna. Llywydd, gofynnwyd y cwestiwn i mi droeon, 'A oedd pethau y byddech chi wedi eu gwneud yn wahanol pe baech chi'n gwybod bryd hynny yr hyn rydych chi'n ei wybod nawr?' Rwy'n credu bod y cwestiwn hwnnw yn arbennig o berthnasol i gamau cynnar iawn hynny y coronafeirws, pan nad oeddem ni'n ymwybodol yn yr un ffordd o gynifer o bethau yr ydym ni wedi eu dysgu ers hynny, boed hynny'n brofion cymunedol neu yr enghraifft yr wyf i wedi ei rhoi amlaf, sef: pe baem ni wedi deall i ba raddau yr oedd y coronafeirws eisoes wedi ei sefydlu drwy'r Deyrnas Unedig, ac wedi deall pa mor gyflym y byddai'r feirws hwn yn lledaenu i rannau eraill ac i gymunedau eraill, byddem ni wedi gweithredu yn gynharach i gyflwyno rhai o'r mesurau a gyflwynwyd dim ond yn ail hanner mis Mawrth. Ond doedden ni ddim yn gwybod y pethau hynny bryd hynny. Roeddem ni'n dilyn y cyngor a gawsom ni ar y pryd. Wrth i'n gwybodaeth dyfu ac wrth i ni allu gwneud ein penderfyniadau annibynnol ein hunain oherwydd bod gennym ni'r sylfaen wybodaeth a ganiataodd i ni wneud hynny, fel y mae Adam Price yn ei ddweud, nid yw Llywodraeth Cymru wedi petruso cyn gwneud ein penderfyniadau ein hunain pan oeddem ni'n credu bod hynny er budd pennaf Cymru. Ond ar bob pwynt, rwy'n credu ei bod hi'n deg i bobl feddwl am: yr hyn yr oeddem ni'n ei wybod bryd hynny, yr hyn yr ydym ni'n ei wybod nawr, ac yng ngoleuni amgylchiadau ar y pryd, a wnaethom ni'r penderfyniadau gorau yr oeddem ni'n gallu eu gwneud?

14:00

Rwy'n deall, wrth gwrs, y pwynt am ôl-ddoethineb, ond mae'n debyg mai craidd y mater yma oedd bod gan Sefydliad Iechyd y Byd y craffter ar y pryd i bwysleisio pwysigrwydd profion cymunedol. Yn wir, rwy'n cofio ein plaid ni yn beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i brofion cymunedol ar y pryd, ar y sail honno, oherwydd bod y cyngor yno a gadarnhawyd yn y pen draw mewn gwirionedd o ran ei bwysigrwydd. Yn 147 tudalen cyfan yr adroddiad, am y DU yn ei chyfanrwydd i bob golwg, rwy'n credu mai dim ond naw gwaith y cyfeirir at Gymru, ac mae'r rhan fwyaf o'r cyfeiriadau hynny yn y troednodiadau. Onid yw hynny yn hyrwyddo'r ddadl i Gymru gael ei hymchwiliad ei hun, oherwydd hebddo, os byddwn ni'n dirprwyo i San Steffan, bydd profiadau'r teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth y gwnaethoch chi gyfarfod â nhw yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, yn cael eu hanghofio, a bydd y gwersi i Gymru a ddylai gael eu dysgu yn cael eu colli?

Wel, Llywydd, fel yr wyf i wedi ei ddweud, nid wyf i wedi cael cyfle iawn i astudio'r adroddiad, ond hyd yn oed o'r adroddiad papur newydd yr wyf i wedi ei weld, roedd yn ymddangos i mi ei fod yn cryfhau'r ddadl dros ymchwilio yn iawn i brofiad Cymru yng nghyd-destun ehangach y DU. Nid bwriad yr adroddiad hwn erioed, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, oedd bod am y profiad yng Nghymru, yr Alban, na Gogledd Iwerddon, ond mae yn nodi yn eglur iawn y penderfyniadau a gafodd eu gwneud ar lefel y DU, a heb ddeall hynny, ni allwch chi ddeall y ffordd y cafodd penderfyniadau eu gwneud yma yng Nghymru. Ond gadewch i mi ailadrodd, oherwydd gwn fod yr Aelod wedi fy nghlywed i'n dweud hyn o'r blaen, fy mod i wedi bod yn eglur iawn gyda Llywodraeth y DU bod yn rhaid craffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru, a'r rhai a wnaed gan gyrff perthnasol eraill yng Nghymru, o fewn ymchwiliad y DU gyfan mewn ffordd lawn a chynhwysfawr. Ni all ac ni ddylai Cymru fod yn ôl-ystyriaeth nac yn droednodyn mewn unrhyw ymchwiliad y DU gyfan. Nodais, fel y mae'n gwybod, yn fy llythyr at Michael Gove ar 10 Medi, gyfres o brofion y byddem ni'n eu defnyddio i roi'r hyder i ni, neu fel arall, fod profiad Cymru yn cael y sylw o fewn ymchwiliad ar lefel y DU y mae ei angen ac yn ei haeddu, fel bod y teuluoedd hynny yn cael yr atebion gorau posibl.

Nawr, mae nifer o brofion ar y gorwel i Lywodraeth y DU yn hyn o beth. Nid wyf i wedi cael ateb i'r llythyr hwnnw eto, a byddaf yn edrych yn ofalus iawn arno pan fydd yn cyrraedd. Rwy'n gobeithio cael cyfarfod wyneb yn wyneb â Phrif Weinidog y DU yn ystod y diwrnodau nesaf, ac rwy'n bwriadu defnyddio'r cyfle hwnnw i wneud y pwyntiau hyn yn uniongyrchol iddo. Mae wedi addo i deuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth y bydd arweinydd yr ymchwiliad—rwyf i'n gobeithio mai'r barnwr fydd hynny—i oruchwylio'r ymchwiliad, yn cael ei benodi cyn y Nadolig. Byddwn i'n disgwyl i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon fod yn rhan briodol yn y penodiad hwnnw—nid darllen amdano mewn datganiad i'r wasg. Felly, ceir nifer o ffyrdd y gall Llywodraeth y DU, dros yr wythnosau nesaf, ddangos y bydd hwn yn ymchwiliad sy'n nodi'r camau a gymerwyd ar lefel y DU, gan ddarparu'r cyd-destun priodol felly i ddeall yr hyn a ddigwyddodd yng Nghymru, ond sy'n canolbwyntio ar brofiad Cymru, a fydd yn rhoi hyder i'r bobl a fydd yn edrych arno fod gweithredoedd Llywodraeth Cymru ac eraill wedi bod yn destun craffu llawn a thrwyadl a bod yr atebion i'r cwestiynau sydd gan bobl yn cael sylw priodol yn y broses.

Triniaeth Canser

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am driniaeth canser yng ngogledd Cymru? OQ57026

Llywydd, mae gwasanaethau canser yn y gogledd yn parhau i adfer ar ôl y pandemig. Ym mis Gorffennaf eleni, er enghraifft, dechreuodd 374 o gleifion driniaeth canser ddiffiniol, ac mae hynny 114 yn fwy nag ym mis Gorffennaf y flwyddyn gynt.

Diolch, Prif Weinidog, ac mae'n ddrwg gen i y bu'n rhaid i mi godi hyn gyda chi heddiw, ond dyna faint fy mhryderon. Prif Weinidog, mae amseroedd aros gwasanaeth diagnostig a therapi y GIG ar gyfer mis Gorffennaf eleni yn dangos cynnydd o un ar ddeg gwaith i nifer y bobl sy'n aros dros wyth wythnos am un o saith prawf allweddol a ddefnyddir i wneud diagnosis o ganser, ac yn syfrdanol, nid yw traean o gleifion yn rhanbarth Betsi Cadwaladr yn dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn y mis o fewn 62 diwrnod i'r amheuaeth gyntaf o fod â chanser. Rwyf i wedi cael sioc fawr yn ddiweddar o glywed am rai o fy etholwyr i a chleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn darganfod eu bod nhw'n cael gwybod, ar rai achlysuron, am ddiagnosis canser ofnadwy sy'n newid bywydau, dros y ffôn yn hytrach na thrafodaeth bersonol wyneb yn wyneb, ac mae hyn wedi achosi llawer o bryder pellach i fy etholwyr i. Hyd yn oed yn fwy gofidus, rwy'n gwybod am un etholwr, yn dilyn diagnosis o ganser angheuol cam 4, na chafodd wybod hyd yn oed am yr opsiynau triniaeth a oedd ar gael ar adeg y diagnosis hwn, gan glywed yn hytrach y bydd atgyfeiriad yn cael ei wneud rywbryd yn y dyfodol i Wrecsam neu Lerpwl. Roedd hynny tan i mi gyfathrebu sawl gwaith ar ei ran.

14:05

Gallaf, wrth gwrs.

Ochr yn ochr ag oedi cyn gwneud diagnosis, ceir bwlch sy'n peri pryder rhwng diagnosis a chael y driniaeth honno. Felly, pa gamau, Prif Weinidog, wnewch chi eu cymryd i sicrhau eich bod chi'n cau'r bwlch hwnnw rhwng diagnosis ofnadwy o ganser a'r opsiynau triniaeth sydd ar gael i'r rhai y mae'n effeithio arnyn nhw? Diolch, Llywydd.

Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Fel y byddwch chi'n deall, nid wyf i byth mewn sefyllfa i wneud sylwadau am gyfarfodydd unigol rhwng clinigwyr a'u cleifion. Rwy'n credu bod dau bwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn eu gwneud yr hoffwn i roi sylw iddyn nhw. Mae hi'n iawn bod gwasanaethau diagnostig o dan bwysau aruthrol. Roeddem ni'n poeni ar lawr y Senedd yn ystod y pandemig am yr oedi cyn i bobl ddod ymlaen i roi gwybod i glinigwyr am eu cyflyrau. Diolch byth, rydym ni wedi cael rhywfaint o effaith ar hynny ac mae mwy o bobl yn dod yn eu blaenau, ond, wrth gwrs, pan fyddan nhw'n dod yn eu blaenau yn y niferoedd hynny, mae'n anochel ei fod yn rhoi systemau diagnostig dan bwysau. Bydd hi'n gwybod bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi cymeradwyo achos busnes yn ddiweddar i dreialu tair canolfan diagnosis cyflym—un ym mhob un o'i dri phrif ysbyty—a'u bod nhw wrthi bellach yn recriwtio'r nyrsys arbenigol a'r amser radioleg y bydd ei angen arnyn nhw i agor y canolfannau diagnostig hynny yn gynnar, fel y maen nhw'n ei obeithio, yn y flwyddyn newydd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny yn gwneud gwahaniaeth i rai o'r unigolion y mae Janet Finch-Saunders wedi sôn amdanyn nhw y prynhawn yma.

O ran sut y mae clinigwyr yn cyfathrebu eu diagnosis â phobl, nid wyf i'n credu ei bod hi'n bosibl, yn Siambr y Senedd, wneud rheolau cyffredinol ynghylch y ffordd orau o wneud hynny. Mae angen ei wneud mewn modd sensitif, wrth gwrs, ac mae angen ei wneud gyda budd pennaf y claf yn ganolog iddo. A bydd rhai cleifion, oni fydd, y mae'n well iddyn nhw gael sgwrs gyda'u clinigydd pan fyddan nhw yn eu cartrefi eu hunain, yn hytrach na gofyn iddyn nhw, yn sâl fel y maen nhw, i wneud teithiau anghyfleus i fannau eithaf pell i ffwrdd lle mae llawer o bobl sâl iawn eraill, i gael gwybod yr hyn y gall y clinigydd ei ddweud wrthyn nhw mewn sgwrs yn eu cartrefi eu hunain. Nawr, ni fydd hynny yn addas i bawb, rwy'n deall hynny yn llwyr, ond nid wyf i chwaith yn credu ei bod hi'n iawn dweud, mae'n debyg, y bydd yn well gan bawb wneud y daith honno i aros i weld rhywun i gael gwybod yr hyn y gallen nhw fod wedi cael ei wybod o dan amgylchiadau eraill. Mater i'r clinigydd, ar y cyd â'r claf, yw penderfynu ar y ffordd orau o wneud hynny. Ac mae'n rhaid i ni gael rhywfaint o ffydd yn ein clinigwyr eu bod nhw'n mynd ati i wneud hynny—maen nhw yn y busnes o drin pobl â chanser, wedi'r cyfan, dyna'r hyn y maen nhw wedi ymroi eu bywydau proffesiynol i'w wneud, a'u bod nhw'n gwneud hynny gan ystyried y sensitifrwydd hwnnw.

Rheilffordd Treherbert

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed ar reilffordd Treherbert yn y Rhondda fel rhan o fetro de Cymru? OQ57029

Diolch i Buffy Williams am hynna, Llywydd. Mae'r gwaith trydaneiddio a signalau sydd ei angen i ddarparu pedwar gwasanaeth yr awr ar drenau newydd, gwyrddach ar reilffordd Treherbert bellach wedi dechrau a disgwylir iddo gael ei gwblhau ganol 2023.

14:10

Diolch, Prif Weinidog. Bydd y metro yn gweddnewid y ffordd rydym ni'n teithio ar draws de Cymru, ac ni allwn i fod yn hapusach y bydd y Rhondda yn elwa ar y buddsoddiad o £0.25 biliwn. Rydym ni wedi cael problemau gwirioneddol ar reilffordd Treherbert yn y gorffennol, felly bydd gwasanaeth mwy modern, mwy gwyrdd a mwy dibynadwy yn y dyfodol o fudd gwirioneddol i drigolion Rhondda Fawr.

Un o'r unig ranbarthau yn y de sydd wedi ei eithrio o'r cynlluniau ar hyn o bryd yw Rhondda Fach. Mae trigolion y Maerdy naill ai yn wynebu taith bws o ddwy awr i Gaerdydd neu'r drafferth o brynu tocynnau lluosog, gan dalu mwy na'r angen am y bws a'r trên. Rydym ni wedi cael bysiau trên yn cysylltu'r Rhondda Fach a'r Rhondda Fawr yn y gorffennol. Pa gamau wnaiff Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod trigolion Rhondda Fach yn elwa ar fetro de Cymru?

Diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am effaith y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei ariannu ar drigolion Treherbert. Un o'r pethau, Llywydd, yr ydym ni'n sicr wedi ei ddysgu am y system metro yw ei bod hi wedi codi dyheadau llawer o gymunedau eraill sy'n dymuno bellach ran o'r buddsoddiad sydd eisoes yn digwydd. Cefais i gyfres o sgyrsiau gyda fy nghyd-Weinidog Ken Skates am y ffordd y gallem ni fanteisio ar y cyffro ynghylch y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ym metro de Cymru, metro gogledd Cymru, y cynlluniau metro o amgylch Abertawe, i dynnu cymunedau eraill i mewn i'r darlun hwnnw yn y dyfodol.

Rwy'n gwybod bod Trafnidiaeth Cymru yn gweithio ar syniadau i wella cysylltedd ar gyfer Rhondda Fach, i'r buddsoddiad sydd eisoes yn cael ei gynllunio a'i ddarparu ar gyfer pobl sy'n byw yn Nhreherbert. Rwy'n credu fy mod i'n gwybod bod—. Dywedwyd wrthyf pan wnes i ymweld â depo Ffynnon Taf beth bynnag, lle es i weld drosof fy hun rai o'r cerbydau newydd a fydd yn cael eu defnyddio yn y de, fod yr Aelod dros y Rhondda i fod i ymweld yno hefyd. Felly, rwy'n gwybod y bydd hi wedi gweld drosti ei hun y gwelliannau a ddaw yn sgil hynny.

Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod cynifer o gymunedau â phosibl yn gallu elwa ar yr hyn sy'n fuddsoddiad, wedi'r cyfan, o dros £700 miliwn. Nid wyf i'n hoffi defnyddio'r gair 'gweddnewid' yn rhy aml, Llywydd, gan fy mod i'n credu ei fod yn aml yn cael ei orddefnyddio. Ond, rwyf i wir yn credu y bydd y gwasanaethau, yn yr achos hwn, yn gweddnewid yr hyn sydd ar gael i bobl yn y cymunedau hynny.

Y Grid Ynni yn y Dyfodol

6. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran datblygu cynllun strategol ar gyfer y grid ynni yn y dyfodol hyd at 2050? OQ56989

Llywydd, mae angen cynllun hirdymor integredig ar gyfer y rhwydweithiau nwy a thrydan ar Gymru. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau o ran y newid yn yr hinsawdd. Cyhoeddwyd y tendr am bartner annibynnol i arwain y gwaith hwn ar 29 Medi, a disgwylir i gontractwr gael ei benodi ym mis Tachwedd.

Diolch, Llywydd. Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Gallaf i ddeall bod angen dull wedi ei gynllunio o ddatblygu rhwydweithiau grid, a mabwysiadu dull strategol. Gwelais y datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru fis diwethaf ynghylch mabwysiadu dull gweithredu ar y cyd, a Llywodraeth Cymru yn arwain o ran dwyn partïon perthnasol at ei gilydd i gael gafael ar dystiolaeth a'i chasglu, ac i ystyried senarios a chyngor. Yr hyn yr wyf i'n pryderu amdano, Prif Weinidog, yw bod yr holl bartïon yn cael eu dwyn ynghyd yn hyn o beth. Byddwch chi'n ymwybodol o'r hanes hirdymor yn fy etholaeth i o ran prosiect cysylltu canolbarth Cymru.

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig, pan fyddwch chi yn dwyn partïon at ei gilydd, yw eich bod chi'n cynnwys yr holl bartneriaid, gan gynnwys grwpiau twristiaeth, busnesau y gallai effeithio arnyn nhw, yr Ymgyrch dros Ddiogelu Cymru Wledig a nifer o bartïon eraill. Mae'n ymddangos, hyd yn hyn—ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi ddweud wrthyf fy mod i'n anghywir—mai'r unig bartïon sy'n cymryd rhan yw'r cwmnïau ynni adnewyddadwy eu hunain, dosbarthwyr rhwydwaith a'r Grid Cenedlaethol. A fydd cyfle i'r rhanddeiliaid eraill hyn yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw hefyd fod yn rhan o'r darn hwn o waith y mae eich Llywodraeth yn arwain arno?

Diolch i Russell George am hynna. Diolch iddo am y cwestiwn, sydd, yn fy marn i, yn un o'r cwestiynau pwysig iawn ar y papur trefn heddiw. Mae Cymru wedi dioddef o'r ffordd y mae'r system bresennol wedi datblygu. Bydd yn gwybod mai'r ffordd y mae datblygiadau grid yng Nghymru wedi digwydd yw ar sail cais. Gwneir ceisiadau gan gwmnïau grid nwy a thrydan i Ofgem. Mae'r ceisiadau hyn yn cystadlu â'i gilydd am fuddsoddiad, ac mae Ofgem wedi gweithredu ar y sail y byddan nhw'n cytuno i gysylltiadau grid uwch dim ond pan fydd y galw eisoes yno ac yn cael ei ddangos. Nawr, diben menter Llywodraeth Cymru yw dod â'r cwmnïau hynny, y chwe chwmni hynny, o amgylch y bwrdd gyda Llywodraeth Cymru a gydag Ofgem i gynllunio'r dyfodol. A bydd yn rhaid i hynny, rwy'n credu, berswadio Ofgem i ariannu cysylltiadau grid lle rhagwelir y bydd galw yn ogystal â'r galw a ddangoswyd eisoes.

Nawr, rwy'n derbyn y pwynt y mae Russell George wedi ei wneud ynghylch pwysigrwydd ystyried cyfres ehangach o fuddiannau ar y daith hon, ac rwy'n credu bod awydd gwirioneddol yng Nghymru ymysg cymunedau ac unigolion i fod yn rhan o'r ffordd yr ydym ni'n gwneud ein system ynni yn addas ar gyfer yr argyfwng newid yn yr hinsawdd sy'n ein hwynebu. Rwyf i wedi bod yn dilyn yn agos ddatblygiad Garn Fach sydd wedi ei gynnig ar gyfer etholaeth yr Aelod ei hun. Gwelais yn ddiweddar fod dros 400 o bobl wedi ymateb i'r broses cyn-ymgynghori a bod y gefnogaeth i gynigion Garn Fach yn fwy na'r rhai a oedd ag amheuon yn ei gylch o fwy na 2:1. Rwy'n credu bod hynny yn dweud wrthyf fod safbwyntiau yn newid yng Nghymru, a bod gan bobl ddealltwriaeth uwch heddiw o'r rhwymedigaeth sydd ar bob un ohonom ni i chwarae ein rhan o ran ymateb i'r her sydd eisoes ar garreg ein drws, a bod yn rhaid i ni allu gwneud hynny ym mhob rhan o Gymru, ac mae gwaith i'w wneud, fel y dywedodd yr Aelod, i wneud yn siŵr bod pob llais yn rhan o'r sgwrs honno, tra bod y sgwrs ei hun yn canolbwyntio yn gadarn ar wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ymdrin â'r anawsterau yr ydym ni'n gwybod y mae'r blaned hon eisoes yn eu dioddef.

14:15
Ôl-osod Cartrefi Rhent Cymdeithasol

7. Faint o gartrefi rhent cymdeithasol y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y byddant wedi cael eu hôl-osod erbyn diwedd 2022 fel rhan o'r rhaglen i leihau allyriadau carbon o holl dai Cymru? OQ57028

Llywydd, rydym ni wedi ymrwymo bron i £700 miliwn [Cywiriad: £70 miliwn]FootnoteLink i'n rhaglen ôl-osod wedi ei hoptimeiddio yn ystod y 18 mis diwethaf i archwilio'r ffordd orau o ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru. Erbyn diwedd 2022, rhagwelir y bydd y buddsoddiad hwn wedi lleihau allyriadau o tua 5,000 o gartrefi cymdeithasol.

Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i fanteisio ar y rhaglen Drysau Agored i ymweld â rhai o'r safleoedd adeiladu yn fy etholaeth i ac i weld y gwaith adeiladu gwych sy'n cael ei wneud. O gofio'r brys i greu'r swyddi sgiliau gwyrdd sydd eu hangen arnom ni i ôl-osod ein cartrefi sydd wedi eu hinswleiddio yn annigonol, yn enwedig rhag gwyntoedd oer toriadau'r Torïaid a methiant ein gwlad yn gyffredinol i gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i'n hatal rhag bod yn rhan o'r crafangu hwn am nwy prin, roedd yn syndod mawr i mi nad oedd gan lawer o'r adeiladwyr medrus y gwnes i gyfarfod â nhw brentis bob amser yn gweithio ochr yn ochr â nhw. Gan fy mod i'n gwybod bod gennych chi'r uchelgais i ôl-osod yr holl gartrefi rhent cymdeithasol hyn, roeddwn i'n meddwl tybed beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gyflymu datblygiad y rhaglen hon o ddatgarboneiddio ein holl gartrefi os nad oes gennym ni'r sgiliau sydd eu hangen arnom ni i wneud y gwaith.

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod Jenny Rathbone yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn. Yn union fel y mae gweithrediad y grid wedi cael ei adael i'r farchnad, felly hefyd y mae Llywodraeth bresennol y DU wedi llywio'r gwaith o ddiwallu anghenion ynni'r Deyrnas Unedig i raddau helaeth. Nid oedd yn wir hyd yn oed am Lywodraethau Ceidwadol blaenorol, a wnaeth, ar ddechrau'r degawd diwethaf, ddarparu'r tariffau bwydo i mewn sydd wedi arwain at dwf i ynni adnewyddadwy solar a gwynt yng Nghymru. Nawr, mae dull Llywodraeth Cymru yn wahanol iawn. Rydym ni'n edrych ar ddull gweithredu wedi ei gynllunio. Rydym ni'n disgwyl i Lywodraeth y DU wneud yn siŵr bod buddsoddiad gwirioneddol mewn technolegau morol, er enghraifft, fel y gallwn ni wneud yn siŵr nad ydym yn ddibynnol ar y ffaith bod prinder nwyddau ar gael yn y farchnad, gyda'r prisiau rydym ni'n eu gweld yn cael eu codi am nwy bellach.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn arall, Llywydd, am y gadwyn gyflenwi ac am y sgiliau sy'n gysylltiedig â hi. Pe bai fy nghyd-Weinidog Julie James wedi bod yn ateb y cwestiwn hwn, byddech chi wedi clywed ei hangerdd at y ffordd y gall y rhaglen ôl-osod greu'r swyddi sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Nawr, bu effaith ar y rhaglen brentisiaethau yng Nghymru yn ystod y pandemig. Mae wedi bod yn anoddach gallu darparu'r profiadau ymarferol hynny i bobl ifanc sy'n caniatáu iddyn nhw gael y cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw. Ond, ochr yn ochr â gweddill yr economi, mae adferiad cryf yn hynny i gyd, ac yn sicr byddwn yn gweithio yn agos gyda'r sector i wneud yn siŵr, wrth i ni symud i adeiladu tai ar gyfer y dyfodol nad oes angen eu hôl-osod—ac mae hynny yn bwysig iawn—ond hefyd i weithio i ôl-osod cartrefi gofal cymdeithasol, eiddo rhent preifat ac eiddo preifat hefyd, bod y gweithlu medrus a chymwys sydd wedi ei baratoi i wneud hynny ar gael i fanteisio ar y cyfleoedd hynny ac i'n helpu ni i gyd yn yr her o fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

14:20
Credyd Cynhwysol

8. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch atal y toriad mewn credyd cynhwysol, yn unol â'r hyn y gofynnwyd amdano gan arweinwyr y Llywodraethau datganoledig? OQ56987

Llywydd, mae Llywodraeth y DU wedi dewis anwybyddu'r holl dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei darparu o'r caledi ariannol difrifol a achoswyd drwy dorri'r taliad hwnnw o £20 yr wythnos. Yn syml, ni ellir cyfiawnhau cymryd arian oddi wrth y bobl dlotaf yng Nghymru ar yr union adeg y maen nhw'n wynebu argyfwng cost byw difrifol.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ac rwyf i'n wirioneddol yn poeni yn fawr iawn am yr hydref a'r gaeaf i fy etholwyr i, y mae rhai ohonyn nhw yn dibynnu ar gredyd cynhwysol i atodi eu cyflogau, y mae rhai ohonyn nhw yn ddi-waith, ond, i bob un ohonyn nhw, mae hyn yn gwneud y gwahaniaeth—mae'n fater o lwyddo neu fethu—rhwng mynd i ddyled a thlodi ac o bosibl digartrefedd.

Byddwn i'n annog y Prif Weinidog i barhau â'i drafodaethau gyda Llywodraeth y DU i geisio dod o hyd i gyllid ychwanegol i'w gyfrannu ledled y DU at y cymunedau difreintiedig hyn a theuluoedd agored i niwed i'w diogelu drwy'r hydref a'r gaeaf a'r gwanwyn, a fydd yn hir ac yn galed. Ond byddwn i hefyd yn gofyn i'r Prif Weinidog: beth arall allwn ni ei wneud yng Nghymru, nid yn unig o ran cymorth, y mae wedi sôn amdano o'r blaen, ond o ran cyngor ategol—cyngor ar ddyled, cyngor ar ddigartrefedd, cyngor a chymorth argyfwng ledled Cymru—fel y gallwn ni fod yno o leiaf pan fydd pobl, yn anochel, yn wynebu'r cyfnod enbyd hwn y gaeaf hwn?

Llywydd, diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna. Mae wedi disgrifio yn fyw y cyfyng-gyngor a fydd yn wynebu cynifer o deuluoedd yma yng Nghymru. Amcangyfrifodd Sefydliad Joseph Rowntree yn ddiweddar y bydd prisiau tanwydd yn unig yn arwain i'r teuluoedd hynny—. I deulu o ddau o blant sy'n byw ar £20,000 y flwyddyn, bydd prisiau tanwydd yn unig yn gorfodi gofyniad ychwanegol o £3 yr wythnos ar eu cyllidebau. Ac yna pan fyddwch chi'n ystyried yr holl bwysau cost eraill yr ydym ni'n gwybod sy'n bodoli yn yr economi, bydd hynny yn £8 yr wythnos. Mae hynny dros £700 y flwyddyn, ar adeg pan fyddan nhw'n colli £1,000 o'r incwm cymedrol iawn sydd ar gael iddyn nhw. Wrth gwrs, byddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU. Y toriad o £20 i gredyd cynhwysol yw'r toriad unigol mwyaf i les ers dros 70 mlynedd. Mae'n rhaid i chi fynd yn ôl i'r 1930au i ddod o hyd i Lywodraeth a oedd yn barod i lwytho'r baich o fynd i'r afael ag amgylchiadau ariannol y genedl ar ysgwyddau'r rhai lleiaf abl i'w hysgwyddo fel hyn.

Nawr, yn ogystal â'r pethau eraill rydym ni'n eu gwneud, rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies, Llywydd, am yr angen i wneud yn siŵr bod cynifer o bobl â phosibl yng Nghymru yn cael y cymorth sydd eisoes yno yn y system, ac mae llawer iawn gormod o deuluoedd yng Nghymru yn colli allan ar y cymorth sydd ar gael. Fe wnaethom ni gynnal ymgyrch manteisio ar fudd-daliadau lles yn ôl ym mis Mawrth eleni; mae wedi arwain at gannoedd o filoedd o bunnoedd ychwanegol yn cael eu hawlio mewn budd-daliadau gan deuluoedd Cymru, ac rydym ni'n mynd i ailadrodd yr ymgyrch manteisio ar fudd-daliadau honno ddiwedd y mis hwn a thrwy weddill misoedd y gaeaf. Yna, mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, fod y cyfleusterau ar gael i ymdrin â'r galw ychwanegol a fydd yn cael ei gynhyrchu, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod Llywodraeth Cymru yn mynd i ariannu 35 o gynghorwyr budd-daliadau lles cyfwerth ag amser llawn newydd ar gyfer cyngor Cymru fel bod y grym pobl ar gael, pan fydd yr ymgyrch yn arwain at fwy o bobl yn dod yn eu blaenau, i roi'r cyngor y bydd ei angen arnyn nhw. Bydd yr holl bobl hynny wedi eu recriwtio erbyn diwedd y mis hwn, a byddan nhw ar gael i wneud yn union yr hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies, Llywydd: i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud mwy i helpu pobl i gael y cymorth sydd ar gael o hyd, hyd yn oed wrth i'r llinyn cymorth pwysig iawn hwnnw gael ei gymryd oddi arnyn nhw.

14:25
Y Diwydiant Rasio Ceffylau

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diwydiant rasio ceffylau yng Nghymru? OQ56993

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwerth economaidd y tri thrac rasio yng Nghymru, o Fangor Is-y-coed yn y gogledd i Ffos Las yn y de-orllewin a Chas-gwent yn y de-ddwyrain, a'r llawer iawn o bobl sy'n gweithio yn y diwydiant hwn.

Prif Weinidog, roedd hi'n Wythnos Genedlaethol y Ceffylau Rasio ledled y DU yn ystod yr wythnos a ddechreuodd ar 13 Medi, sydd â'r bwriad o arddangos llawer o'r agweddau hynod ddiddorol ar rasio ceffylau, ac agor drysau llawer o'r hyfforddwyr ceffylau i ddangos y safonau uchel o gariad, gofal a sylw y mae ceffylau rasio yn eu derbyn. Yn yr Alban a Lloegr, mae sefydliadau penodol wedi eu sefydlu i hyrwyddo rasio ceffylau ac i dynnu sylw at y manteision sydd ganddo i'w heconomi a'u diwydiant twristiaeth. Yn yr Alban, mae Scottish Racing yn hyrwyddo ac yn cefnogi ei phum cae rasio, gan gynorthwyo datblygiad diwydiant rasio ceffylau cynaliadwy a'i lwyddiant yn fyd-eang. Mae'r sefydliad yn hyrwyddo pob sector o'r diwydiant ac yn chwarae rhan annatod yn y gwaith o sicrhau ffyniant a chynaliadwyedd hirdymor i'r gamp yn yr Alban. Yn anffodus, yng Nghymru, nid oes gennym ni sefydliad o'r fath, ac eto mae gennym ni rai o'r hyfforddwyr gorau ym Mhrydain. Mae Tim Vaughan, er enghraifft, sy'n gweithredu ac yn berchen ar stabl rasio ym Mro Morgannwg, wedi hyfforddi ceffylau sydd wedi ennill llawer o rasys mawreddog, gan gynnwys Grand National yr Alban, ac rwy'n credu bod Cymru yn haeddu'r un lefel o gynrychiolaeth â gwledydd eraill yn y DU. Rwy'n hyderus y byddai sefydliad o'r fath sy'n hyrwyddo rasio ceffylau yng Nghymru yn sicr o fudd i'n heconomi a'n diwydiant yma yng Nghymru. Rwyf i hefyd yn hyderus y byddai cefnogaeth drawsbleidiol i sefydliad o'r fath. Gyda hyn mewn golwg, a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i gyfarfod â mi a chynrychiolwyr angenrheidiol y diwydiant i archwilio'r posibilrwydd o sefydlu sefydliad penodol yng Nghymru? Diolch.

Wel, Llywydd, fe wnaf i feddwl yn ofalus am yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud y prynhawn yma. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £1 miliwn o gyllid i'r diwydiant o'r gronfa diogelu chwaraeon gwylwyr yn ystod y pandemig, ac rwyf i wedi mwynhau llawer o ddiwrnodau da yn mynd i rasio ceffylau fy hun, felly rwy'n cydnabod yr hyn y mae'n ei ddweud am ei atyniad i bobl, ac yn enwedig yr hyn a ddywedodd am safonau'r diwydiant yma yng Nghymru. Bydd yn deall bod yn rhaid i'r Llywodraeth roi ei hegni lle'r ydym ni'n credu y mae'r angen mwyaf brys. Rwyf i a fy Ngweinidogion wedi canolbwyntio yr wythnos hon, Llywydd, ar y diwydiant dur a'r angen dybryd i roi cymorth iddo, gyda'i filiau ynni uchel, i gynnal y diwydiant hwnnw, gyda'r miloedd ar filoedd o bobl sy'n dibynnu arno yma yng Nghymru. Felly, er y gwnaf i, wrth gwrs, feddwl yn ofalus am yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud, yn y pen draw, mae'n rhaid i'r Llywodraeth benderfynu ble y gellir buddsoddi ei hegni a'i buddsoddiadau yn fwyaf ffrwythlon, ac mae dewisiadau i'w gwneud yn hynny o beth.

Mae aelodau yn y Siambr, Prif Weinidog, yn awyddus iawn i gael gwybod a oeddech chi mewn gwirionedd yn marchogaeth y ceffylau a oedd yn cael eu rasio, neu a oeddech chi'n gwylio. [Chwerthin.] Fe wnawn ni feddwl amdano fel camp gwyliwr i chi, ond gallwch chi ein cywiro os oeddem ni'n anghywir.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Felly, eitem 2, y datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd i wneud y datganiad.

Diolch, Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w gweld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Gweinidog, a gaf i alw am ddatganiad brys gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar barodrwydd ein hysgolion i weithredu'r cwricwlwm newydd? Ochr yn ochr â'r effaith amlwg y mae'r pandemig wedi ei chael, mae llawer o ysgolion yn ei chael hi'n anodd iawn ar hyn o bryd yn sgil absenoldebau staff, ac mae'n anodd dod o hyd i athrawon cyflenwi ar hyn o bryd oherwydd faint o athrawon sy'n hunan-ynysu ac wedi eu heintio â COVID eu hunain. Ac mae'n amlwg y bydd hyn yn effeithio ar ganlyniadau'r arolygiadau Estyn presennol wrth geisio mesur parodrwydd ysgolion ar gyfer y cwricwlwm newydd. Mae cyfarfodydd ysgol wedi bod yn llawn trafodaethau ar COVID yn hytrach na gweithredu'r cwricwlwm newydd hwn. Mae gormod o bwysau ar benaethiaid a'u timau ac mae angen cymorth ychwanegol arnyn nhw, felly byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddod i'r Siambr i roi sylw i'r materion hyn.

14:30

Diolch, Laura. Rydym ni ymhell ar ein ffordd ar y daith i wireddu ein cwricwlwm newydd yn ein hysgolion a lleoliadau eraill ledled Cymru. Wrth gwrs, mae'r pandemig wedi effeithio ar baratoadau ar gyfer diwygio. Mae canlyniadau'r arolwg diweddar gan Gyngor y Gweithlu Addysg, a gwasanaeth ymchwil cymdeithasol y Llywodraeth, yn dangos yr heriau sydd yn amlwg yn ein hwynebu ni oherwydd y pandemig. Ond mae ymrwymiad cryf iawn o hyd i'r diwygiadau hyn ledled y sector cyfan, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gennym ni strwythur cenedlaethol clir iawn ar waith fel bod modd cefnogi'r gweithredu, ac, yn amlwg, mae angen ei ategu gan gefnogaeth ranbarthol a lleol gref.

Mae'r ddogfen 'Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu'r cwricwlwm', a gyhoeddwyd ar 22 Medi, yn nodi'r fframwaith hwnnw, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi cael cyfle i edrych ar hynny, ac mae'n cael ei gefnogi gan £7.24 miliwn o gyllid i ategu datblygiad y cwricwlwm yn y flwyddyn ariannol hon.

Trefnydd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cyflwyno newidiadau dros dro sylweddol i wasanaethau mamolaeth oherwydd prinder staff. Felly, mae geni yn y cartref wedi ei atal a bydd unedau wedi eu harwain gan fydwragedd yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Nevill Hall, Ysbyty Aneurin Bevan ac Ysbyty Ystrad Fawr ar gau dros dro, gan ganoli'r holl wasanaethau geni yn Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân. Mae'r bwrdd iechyd yn disgwyl y bydd y newidiadau hynny mewn grym tan 18 Hydref.

Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth os gwelwch yn dda i ddweud wrthym ni ba gymorth sy'n cael ei gynnig i'r bwrdd iechyd i sicrhau na fydd effaith fel hyn ar lefelau staffio eto, yn enwedig wrth i ni fynd i fisoedd y gaeaf pan fydd COVID-19 yn debygol, yn anffodus, o fod yn fwy cyffredin yn ein cymunedau ni. Ac a oes modd i'r datganiad hwnnw hefyd amlinellu pa gymorth y gallai'r Llywodraeth ei roi drwy'r bwrdd iechyd i famau beichiog a'u teuluoedd, a fydd yn gorfod gwneud newidiadau i'w cynlluniau ar adeg sydd eisoes yn bryderus? Rwy'n meddwl yn arbennig am famau sydd wedi dewis cael genedigaethau yn y cartref neu enedigaethau lleol oherwydd genedigaethau trawmatig yn y gorffennol. Gallai hyn fod â goblygiadau difrifol iawn iddyn nhw, felly byddwn i'n ddiolchgar o wybod pa gymorth y byddai modd ei gynnig ar frys iddyn nhw ac, wrth gwrs, i bob teulu y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw.

Diolch. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog a'i swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd ar y mater hwn. Fe wnaethoch chi sôn, gobeithio, mai dim ond tan 18 Hydref y bydden nhw ar waith, felly ni fydd amser i gael datganiad gan y Llywodraeth, ond rwy'n siŵr petai gan y Gweinidog unrhyw beth newydd y mae'n dymuno rhoi gwybod i'r Aelodau amdano, bydd yn gwneud datganiad ysgrifenedig.FootnoteLink

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, ar oblygiadau penderfyniad y Goruchaf Lys yr wythnos diwethaf i ddyfarnu bod dwy Ddeddf yn yr Alban y tu hwnt i gymhwysedd. Roedd y Deddfau hynny yn cynnwys nifer o ddarpariaethau yr ydym ni eisoes wedi eu deddfu yn y lle hwn, yn enwedig ar le hawliau plant mewn deddfwriaeth. Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n cysylltu'n uniongyrchol â deddfwriaeth sydd ar lyfr statud Cymru, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni gael datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol i ddeall, yn ôl barn Llywodraeth Cymru, beth yw'r sefyllfa o ran cyfraith Cymru o ganlyniad i'r dyfarniad hwn gan y Goruchaf Lys.

Ac, yn ail, a gaf i ddatganiad gan y Llywodraeth ar swyddogaeth bresennol cynigion cydsyniad deddfwriaethol? Rydym ni wedi arfer â chynigion cydsyniad deddfwriaethol yn y lle hwn, ond fel arfer mae tuedd iddyn nhw gyfeirio at faterion eithaf bach sydd naill ai'n effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol yma neu pan fo Llywodraeth Cymru yn ceisio deddfu deddfwriaeth ar fater cymharol fach yn rhan o broses y DU. Mae'n ymddangos i mi y bu cynnydd yn nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn y Senedd hon, a hefyd gynnydd nid yn unig yn nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol eu hunain, ond yn natur y cynigion cydsyniad deddfwriaethol hynny, lle mae gormod o ddeddfwriaeth, deddfwriaeth Cymru, yn cyrraedd y llyfr statud heb graffu priodol yn y lle hwn. Mae'n bwysig bod y Senedd hon yn cael cyfle i graffu ar yr holl ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar Gymru o fewn meysydd datganoledig cyn iddo gyrraedd y llyfr statud. Ac mae'n bwysig, yn fy marn i, ein bod ni fel Senedd yn gallu deall y prosesau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu rhoi ar waith i sicrhau nad yw deddfwriaeth Cymru yn cyrraedd y llyfr statud heb unrhyw graffu o gwbl.

Diolch. O ran eich pwynt cyntaf ynghylch penderfyniad y Goruchaf Lys, rwy'n gwybod bod y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn cael trafodaethau ar hyn o bryd i ddeall goblygiadau'r penderfyniad hwnnw.

O ran cynigion cydsyniad deddfwriaethol, rwy'n credu ein bod ni wedi gweld nifer sylweddol—rwy'n credu bod gennym ni tua 14 y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, rwy'n credu mai dim ond tua saith ohonyn nhw y gallem ni argymell bod y Senedd yn eu cymeradwyo. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU. Mae cymaint o ddeddfwriaeth yn dod drwodd ar hyn o bryd, ac yn amlwg ni all Llywodraeth Cymru ond prosesu, ac ni all y Senedd ond craffu ar hyn a hyn. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod Aelodau yn cael y cyfle hwnnw i graffu ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol wrth iddyn nhw ddod drwodd.

14:35

Trefnydd, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod gan ogledd Cymru enw da o'r radd flaenaf am gyflwyno digwyddiadau eithriadol a bod yn gyrchfan fyd-enwog. Ac yn dilyn pwynt y gwnes i ei godi gyda chi cyn yr haf, o ran cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU, rwy'n siŵr eich bod chi'n falch iawn o weld bod Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr fer i gael ei henwi'n Ddinas Diwylliant y DU 2025, ynghyd â saith ymgeisydd arall ledled y Deyrnas Unedig. A byddwch chi'n gwybod yn fwy na neb, Trefnydd, y diwylliant gwych sydd gan Wrecsam i'w gynnig, gan gynnwys Clwb Pêl-droed Wrecsam, a'r Cae Ras hanesyddol yno hefyd; dyfrbont Pontcysyllte, sydd wedi derbyn statws treftadaeth y byd UNESCO; canolfan gymunedol ddiwylliannol Tŷ Pawb; theatrau, eglwysi, a llawer mwy, y byddwch chi'n gwbl ymwybodol ohonyn nhw. Ac wrth gwrs, yn ogystal â dod â manteision enfawr i Wrecsam, byddai ennill Dinas Diwylliant y DU hefyd yn dod â manteision enfawr i ogledd Cymru yn gyfan gwbl, ac yn wir ein gwlad yn ehangach, gan greu swyddi, ysgogi buddsoddiad, sicrhau manteision hirdymor. Byddwn i'n croesawu datganiad gan Lywodraeth Cymru, yn amlinellu ei chefnogaeth i gais Wrecsam i sicrhau teitl Dinas Diwylliant y DU, a chlywed sut y byddai Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol i sicrhau bod gan Wrecsam y cyfle gorau posibl i ennill cais Dinas Diwylliant y DU 2025.

Diolch. Oeddwn, roeddwn i yn falch iawn o weld bod fy etholaeth i yn Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Dinas Diwylliant y DU. Rwy'n credu y bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud ym mis Mai y flwyddyn nesaf. Ac yn sicr, fel Llywodraeth Cymru, byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ystyried sut y gallwn ni gefnogi Wrecsam, ac rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, mewn trafodaethau ar hyn o bryd. Fe wnaethoch chi enwi llawer o leoedd yn yr etholaeth ac ychydig y tu allan, yn etholaeth De Clwyd—etholaeth Ken Skates—sydd â'r enw da gwych hwnnw, ond, yn hollol, dim llai na'r Cae Ras, rwy'n cytuno yn llwyr.

Trefnydd, dwi'n nodi'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd heddiw o ran diogelwch tomenni glo, gyda 33 yn fwy o domenni glo rŵan yn y categori risg uchaf, sef cyfanswm o 327. Wel, mae hyn eisoes wedi creu pryder mawr yn y cymunedau hynny sydd yn byw yng nghysgod tomenni glo, a hoffwn felly ofyn am ddatganiad pellach yn y Siambr hon gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn nodi pryd bydd lleoliad y tomenni hyn yn cael ei wneud yn wybyddus. Mae hyn yn gwestiwn sydd gan nifer o bobl sydd yn byw yn eu cysgod nhw. Hefyd, sut mae'r trafodaethau o ran ariannu'r gwaith yn mynd gyda Llywodraeth Prydain, ac a fydd yna ymgyrch benodol i godi ymwybyddiaeth o ran sut y gall y cyhoedd roi adroddiad os ydynt yn poeni am ddiogelwch tomen lo ac unrhyw newid, yn fwy na'r hyn a nodir yn y datganiad heddiw?

Diolch. Ac fel yr ydych chi'n ei ddweud, cafodd y datganiad ysgrifenedig ei gyhoeddi ddoe, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ddiogelwch tipiau glo gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae llawer iawn o waith wedi ei wneud ar y darn hwn o waith—gwaith partneriaeth rhwng yr Awdurdod Glo, Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Ac fel yr ydych chi'n ei ddweud, y mae wedi ei nodi bod gan ragor o dipiau glo risg uchel. Mae gan awdurdodau lleol y data o ran ble mae'r rhain, yn amlwg. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae yn peri pryder. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn peidio ag achosi hyd yn oed mwy o bryder i bobl. Byddwch chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno llinell gymorth—roedd yn amlwg yn fy mhortffolio i yn y tymor blaenorol. Mae'r trafodaethau ynghylch cyllid yn bwysig iawn, oherwydd bod hwn yn gyllid sylweddol. Ac yn amlwg, mae'n rhagflaenu datganoli—mae'n rhagflaenu 1999—felly, mae angen gwirioneddol i Lywodraeth y DU wella ei pherfformiad yn y maes hwn a sicrhau bod gennym ni'r arian sydd wir ei angen arnom i wneud y tipiau glo hyn yn ddiogel.

O ystyried dadfuddsoddi parhaus y diwydiant bancio yn ein strydoedd mawr, ac, mewn rhai amgylchiadau, nad oes gennym ni hyd yn oed fenthyciwr dewis olaf yn ein swyddfeydd post—yn sicr nid oes gan rai o fy nghymunedau i swyddfa bost erbyn hyn—roeddwn i'n meddwl tybed a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut y gallwn ni ddiogelu'r rhai sydd wedi eu hallgáu'n ddigidol, sy'n wirioneddol anghyfforddus â chymdeithas ddi-arian, ddi-bapur, i sicrhau bod ganddyn nhw le diogel o hyd i gadw eu cynilion ac y gallan nhw barhau i gael gafael ar arian parod heb orfod talu am y fraint.

14:40

Diolch. Rydym ni'n bryderus iawn, fel Llywodraeth, am leihau gwasanaethau bancio ledled Cymru. Rydym ni wedi gweld nifer cynyddol o fanciau yn cau ledled y wlad. Felly, rydym ni yn parhau i ddefnyddio ein dylanwad, ar Lywodraeth y DU ac ar y sector bancio, i sicrhau bod gwasanaethau bancio'r stryd fawr yn cael eu cynnal. Nid wyf i'n credu bod hwn yn berthnasol i'r rhai sydd wedi eu hallgáu'n ddigidol yn unig; mae pob un ohonom ni'n dibynnu ar wasanaethau bancio. Rwy'n credu bod angen i bob un ohonom ni siarad â rhywun, onid oes, o bryd i'w gilydd, ond rwy'n credu eich bod chi wedi tynnu sylw at grŵp penodol y mae angen cymorth ychwanegol arnyn nhw. Rydym ni wedi gweld, rwy'n credu, fwy o fanciau yn cau oherwydd y pandemig, lle rydym ni wedi gweld unwaith eto arian parod yn cael ei ddefnyddio'n llai a llai, sydd unwaith eto yn effeithio ar bobl sydd wedi eu hallgáu'n ddigidol. Ac rydym ni'n ymwybodol bod nifer cynyddol o bobl yn bell iawn o wasanaethau bancio confensiynol, ac nid ydym ni eisiau gadael neb ar ei hôl hi mewn gwirionedd. Rydym ni hefyd wedi gweld—rwy'n credu i mi sôn am hyn pan ofynnwyd i mi am wasanaethau bancio o'r blaen—rydym ni wedi gweld gostyngiad yn nifer y peiriannau codi arian parod y mae modd eu defnyddio am ddim, er fy mod i'n credu ein bod ni wedi gweld cynnydd yn y rhai sy'n codi tâl. Felly, rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi camau i greu banc cymunedol i Gymru, ac, ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda'r sector preifat i ddatblygu cynigion yn unol â'r broses gymeradwyo reoleiddiol, ac rwy'n credu mai dyna fyddai'r adeg fwyaf amserol i gael datganiad.

Yn ddiweddar, es i ar ymweliad â chamlas Tenant yn Aberdulais i gwrdd â chynrychiolwyr ei pherchnogion ac aelodau o Ymddiriedolaeth Camlesi Castell-nedd a Thenant i drafod ei dyfodol, yn dilyn gostyngiad yn lefelau'r dŵr. Mae llawer o drigolion yn pryderu am ddyfodol y gamlas, ei seilwaith hanesyddol a'i swyddogaeth o ran cynnal bywyd gwyllt. Er bod materion i'w datrys gyda CNC a chyrff cyhoeddus eraill, mae yn fy atgoffa o bwysigrwydd ein camlesi i'n hamgylchedd, twristiaeth a lles. A wnaiff y Llywodraeth drefnu dadl i ni ystyried pwysigrwydd strategol ein camlesi, os gwelwch yn dda?

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi’n gwneud pwynt pwysig iawn am y rhan y mae camlesi'n ei chwarae, yn sicr o ran bioamrywiaeth, a byddwch chi'n ymwybodol ei bod yn COP15 yr wythnos hon, sydd yn tynnu sylw yn wirioneddol at fioamrywiaeth. Rydym ni yn gwneud amrywiaeth o ddatganiadau, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gwneud un yn dilyn COP15, pan all gynnwys hynny.

Diolch, Llywydd. Trefnydd, a gawn ni ddatganiad, ac rwy'n credu mai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sydd yn y sefyllfa orau i siarad amdano, ar yr angen dybryd i wneud aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn drosedd benodol yng Nghymru a Lloegr? Fe wnes i gyfeirio ato yn fy nghwestiwn amserol diweddar i'r Gweinidog ar ddiogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus. Ond, ers hynny, mae'n amlwg mai Prif Weinidog y DU ei hun yw'r rhwystr i ddiwygio. Yn ogystal â rhwystro cyfraith newydd ar aflonyddu, ymyrrodd Prif Weinidog y DU yn bersonol i geisio chwalu'r ymgais i wneud casineb at fenywod yn drosedd casineb. Daeth i'r amlwg y penwythnos hwn, fodd bynnag, fod Arglwyddi ac ASau Torïaidd yn bwriadu herio Johnson a bwrw ymlaen ag ymdrechion i newid y gyfraith honno. Rwy'n gwybod ei fod y tu hwnt i bwerau deddfwriaethol y sefydliad hwn, wrth gwrs, ond, yn union fel y mae diystyriaeth Boris Johnson o gasineb yn erbyn menywod ac aflonyddu ar sail rhywedd yn anfon neges gyhoeddus beryglus, dylai Llywodraeth Cymru wrthwynebu hynny a gwneud yr hyn y gall ei wneud i wireddu newid yn y gyfraith i amddiffyn menywod a merched Cymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch. Rwy'n credu, tra fy mod i wedi bod ar fy nhraed, fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar droseddau casineb. Ond rydym ni wedi bod yn glir iawn nad yw'r drefn troseddau casineb bresennol sydd gennym ni yn addas i'r diben. Mae'n methu ag ymdrin â chasineb yn erbyn menywod, ac rwy'n credu bod hynny yn enghraifft bwysig lwyr o'r hyn sydd o'i le ar y gyfundrefn. Yn gynharach eleni, efallai eich bod chi'n ymwybodol, cytunodd Llywodraeth y DU i gynllun treialu, lle byddai'r heddlu'n cofnodi troseddau trais a gafodd eu hysgogi gan ryw neu rywedd unigolyn. Rwy'n credu bod angen i ni weld ychydig o gynnydd ar frys ar hyn. Rwy'n gwybod y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried yr argymhellion a ddaw gan Gomisiwn y Gyfraith ar hyn, felly byddwn i'n annog Comisiwn y Gyfraith, yn gyntaf, i hwyluso'r adroddiad i Lywodraeth y DU, ac yna yn sicr byddwn i'n disgwyl i Lywodraeth y DU gyflwyno rhywfaint o gamau gweithredu ar yr argymhellion, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ysgrifennu at Weinidogion y DU sawl gwaith i dynnu sylw at hyn.

14:45
3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Cynnydd ar y Cynllun Cyflawni ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’

Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: cynnydd ar y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydym ni wedi cwblhau 12 mis o ran ein cynllun cyflawni newydd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ac rwy'n dymuno rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd ni. Fe ddiwygiwyd y cynllun cyflawni oherwydd y pandemig, wrth sylweddoli'r angen i'w addasu ar gyfer lefelau o anghenion sy'n esblygu. Mae'r cynllun yn un uchelgeisiol, ac yn sefydlu'r angen hanfodol am waith amlasiantaethol ar draws y Llywodraeth i gyflawni'r camau y cytunwyd arnyn nhw. I roi sicrwydd i ni a'n partneriaid ni am y cynnydd, rydym ni wedi comisiynu gwerthusiad o'n strategaeth 10 mlynedd. Fe fydd hwnnw'n rhoi asesiad annibynnol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o'n cynnydd ni ac fe fydd yn llywio'r camau nesaf.

Mae'r pandemig wedi gwneud i ni ganolbwyntio mwy ar yr angen i gyflymu'r gweithgarwch o ran rhai camau gweithredu yn y cynllun cyflawni. Rydym ni wedi cryfhau'r gefnogaeth i faterion iechyd meddwl lefel isel fel ymateb i'r cyfraddau uwch o bryder a welsom ni. Rydym ni wedi ehangu ein llinell gymorth CALL ni, sy'n cefnogi dros 100 o bobl y dydd, gan roi cyngor, cymorth neu ddim ond cynnig clust i wrando, yn aml. Am y tro cyntaf yng Nghymru, rydym ni wedi cyflwyno therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein. Mae'r cymorth digidol hwn yn cael ei oruchwylio gan glinigwyr ac mae wedi cael dros 12,000 o bobl yn cofrestru ar ei gyfer yn ei 12 mis cyntaf. Nid oes angen atgyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol, ac felly fe ellir cael gafael arno pan fydd angen amdano, gan gynnig cymorth amserol, gan dynnu pwysau oddi ar wasanaethau mwy arbenigol.

Mae byrddau iechyd yn adrodd am gyfradd uwch o ddwyster a chymhlethdod o ran anghenion cleifion a mwy o alw am gymorth anghlinigol ar gyfer materion iechyd meddwl lefel is. Mae'r bwrdd cyflawni a goruchwylio gweinidogol, yr wyf i'n ei gadeirio, yn hanfodol ar gyfer deall y dystiolaeth a'r wybodaeth weithredol ddiweddaraf i sicrhau bod gwasanaethau yn gallu diwallu anghenion iechyd meddwl newidiol. Rydym ni'n trawsnewid yr ymateb i ofal argyfwng ac rydym ni ar y trywydd iawn i sefydlu safleoedd cyswllt unigol i ymateb i'r argyfwng iechyd meddwl ym mhob ardal bwrdd iechyd erbyn mis Ebrill 2022. Fe all unrhyw un eu defnyddio nhw, beth bynnag yw eu hoedran a'u hamgylchiadau, a bydd y rhain yn galluogi unigolion i gael gafael ar unwaith ar arwyddbyst, a gweithiwr iechyd meddwl hyfforddedig neu atgyfeiriad at wasanaethau arbenigol. Rydym ni wedi gwella trawsgludiad iechyd meddwl hefyd yn rhan o'r llwybr gofal argyfwng, gyda chynllun treialu yn cael ei redeg gan St John Cymru. Mae'r cymorth hwn wedi darparu cludiant i dros 400 o bobl eisoes, gydag amser ymateb cyfartalog o un awr. Mae ganddo'r potensial i leihau'r pwysau ar yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a staff y gymuned iechyd meddwl wrth ddarparu cludiant priodol a charedig i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Rydym ni wedi sefydlu'r uned mamau a babanod amenedigol arbenigol yn Nhonnau, ac mae honno'n gwneud gwahaniaeth sylweddol eisoes i famau newydd sydd ag angen cymorth fel hyn ac sy'n gallu cael gafael ar hwnnw'n nes i'w cartrefi erbyn hyn. Mae mwy i'w wneud eto, ac rwy'n benderfynol o weld cynnydd yng nghyfradd y byrddau iechyd sy'n cyrraedd safonau Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol ac ar gyfer cleifion mewnol. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni ddarpariaeth arbenigol ar gyfer mamau a babanod sy'n hygyrch i famau yn y gogledd, ac rwy'n benderfynol o weld hynny'n digwydd cyn gynted â phosibl.

Mae'r cynllun cyflawni yn cynnwys camau gweithredu hefyd ynglŷn ag atal hunanladdiad, ac rydym ni'n gweithio gyda'r heddlu, y GIG ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sefydlu system wyliadwriaeth amser real i Gymru. Iechyd Cyhoeddus Cymru a fydd yn cynnal honno, ac fe fydd y dull hwn yn hanfodol i'n hymdrechion ni o ran atal hunanladdiad ond i sicrhau ymateb amserol a phriodol hefyd i'r rhai sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad yng Nghymru.

Ategwyd yr holl welliannau hyn gan gynnydd mewn buddsoddiad o bron i £128 miliwn dros y pum mlynedd diwethaf i'r gyllideb a neilltuwyd ar gyfer iechyd meddwl. Dim ond eleni, rydym ni wedi darparu £42 miliwn ychwanegol, ac mae ein rhaglen lywodraethu ni'n parhau â'n hymrwymiad ni i flaenoriaethu buddsoddiad mewn iechyd meddwl.

Fe wyddom ni mai'r gweithlu yw swm a sylwedd ein gwasanaethau ni yn y GIG, ac mae pwysau ar y gweithlu yn her wirioneddol o ran symud ymlaen. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru ar y trywydd iawn i ymgynghori ar strategaeth hirdymor ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl erbyn diwedd eleni, yn ogystal â sicrhau atebion mwy uniongyrchol i ymateb i'r galw.

Mae gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol yn hanfodol bwysig i'r rhai sydd ag angen y gyfradd uwch honno o gymorth. Mae ein cynllun cyflawni ni'n tynnu sylw at y camau yr ydym ni'n eu cymryd i ddatblygu strategaeth ddiogel i gleifion mewnol a chymorth pellach ar gyfer ymyrraeth gynnar mewn gwasanaethau seicosis. Er hynny, dim ond un rhan yn unig o'r her yw darpariaeth arbenigol i gynnig y cymorth priodol ar yr adeg iawn yn y lle iawn. Drwy fabwysiadu dull o ymyrraeth ac atal yn gynnar, fe allwn ni ymateb i'r her hon a lleihau'r galw am wasanaethau arbenigol.

Mae pob cyd-Aelod yn y Cabinet wedi cytuno y bydd effeithiau ar iechyd meddwl yn cael eu hystyried a byd cefnogaeth ar draws y Llywodraeth. Mae ein dull system gyfan ni'n enghraifft ymarferol dda o hyn, lle rwy'n gweithio yn agos gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i ysgogi cynnydd. Mae'r gwaith hwn, ynghyd â gweithredu ein fframwaith NEST ni drwy gyfrwng byrddau partneriaeth rhanbarthol, yn sail i'n dull ataliol tymor hwy.

O ran cyflogaeth, rydym ni'n parhau i weithredu ar sail ystyried cyflogadwyedd fel elfen ddiogelu allweddol ar gyfer iechyd meddwl. Fe fyddwn ni'n parhau i roi cyngor a chymorth i gyflogwyr drwy'r rhaglen Cymru Iach ar Waith ac rydym ni wedi ehangu ein rhaglenni cyflogadwyedd iechyd mewn gwaith a'r tu allan i'r gwaith fel roedd y pandemig yn datblygu. Fe fydd y rhain yn dod yn bwysicach wrth i gymorth megis ffyrlo ddod i ben.

O ran tai, rydym ni wedi sicrhau bod iechyd meddwl yn cael ei integreiddio yn rhan o raglenni allweddol, gan gynnwys y cynllun ailgartrefu cyflym drwy ddigartrefedd. Mae tlodi a chaledi ariannol yn sbardun i anhwylder meddyliol, ac rydym ni'n integreiddio ein dull ni o ymdrin â darpariaeth iechyd meddwl a chymorth gyda dyledion. Yn ystod blwyddyn gyntaf y gronfa gynghori sengl fe sicrhawyd bron i £44 miliwn o fudd-daliadau lles ychwanegol, ac mae hyn yn cynnwys cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl.

O ran deddfwriaeth, rydym ni wedi trafod yn eang y manteision posibl i Gymru yn sgil diwygiadau arfaethedig i Ddeddf Iechyd Meddwl y DU 1983 gyda phartneriaid a rhanddeiliaid. Fe fyddaf i'n ysgrifennu at Ysgrifennydd Iechyd Gwladol y DU i ystyried a ddylid ymestyn y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd i ddiwygio'r Ddeddf i Gymru, ac eithrio'r cynigion hynny lle mae gennym fesurau diogelu cyfredol neu fwy cadarn ar waith eisoes—er enghraifft, ar gyfer cynllunio gofal a thriniaeth yng Nghymru. Fe fyddai hi'n rhaid gwneud hyn, wrth gwrs, mewn ffordd a fyddai'n parchu'r setliad datganoli a chonfensiwn Sewel. Fe fyddai amodol ar y Senedd yn pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori yn fuan hefyd ar reoliadau newydd i Gymru ar gyfer cefnogi'r gwaith o weithredu'r mesurau i ddiogelu rhyddid, a fydd yn disodli'r mesurau cyfredol i ddiogelu rhag colli rhyddid. Fe fydd y mesurau diogelu pwysig hyn yn cynnig system fwy effeithiol, gan roi'r unigolyn sy'n cael ei amddifadu o'i ryddid wrth galon y broses o wneud penderfyniadau, ac fe fydd yn integreiddio'r mesurau i ddiogelu rhyddid yn well i gynllunio gofal, cymorth a thriniaeth bob dydd.

Rwyf i wedi rhoi cipolwg i chi ar gyflawni yn y fan hon heddiw. Yn gyffredinol, o ystyried yr her sylweddol barhaus i wasanaethau, rydym ni'n gwneud cynnydd mawr o ran ein cynllun cyflawni ni, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Ac er fy mod i'n cael fy nghalonogi gan y cynnydd hwn, nid wyf i'n bychanu'r her barhaus sydd o'n blaenau ni. Eto i gyd, rwyf i wedi ymrwymo i sbarduno camau gweithredu ar draws y Llywodraeth a chyda rhanddeiliaid i wella iechyd meddwl a llesiant y genedl yn rhan o'n dull ehangach ni i gael adferiad wedi'r cyfnod anodd iawn hwn. Diolch yn fawr. 

14:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad chi. Fe hoffwn i sôn am Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd a'r arwyddocâd sydd gan y diwrnod hwnnw i godi proffil y bobl hynny sy'n dioddef oherwydd cyflyrau iechyd meddwl. Ac rwyf i am ddymuno'r gorau ar goedd i'm cyfaill a'm cydweithiwr Andrew R.T. Davies, sydd gobeithio, yn brysio i wella, a'm cydweithiwr dewr Sam Kurtz hefyd, a fynegodd yn ddidwyll iawn yr wythnos diwethaf ei anawsterau ei hun gyda'i iechyd meddwl yn ystod y cyfnod clo. Rwy'n gobeithio, wrth godi anawsterau personol, y bydd hyn yn annog y bobl hynny sy'n dioddef yn dawel i geisio'r cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.

Gweinidog, fe adnewyddwyd y cynllun cyflawni iechyd meddwl, a pheth da yw i'r Llywodraeth ganolbwyntio ar weithio trawsadrannol, sy'n beth da i fynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl. Fe fydd hi'n rhaid i adrannau'r Llywodraeth i gyd ddod i'r adwy i ymdrin â hyn. Roeddech chi'n sôn eich bod chi wedi comisiynu gwerthusiad o'r strategaeth 10 mlynedd. A wnewch chi amlinellu pa fethodoleg a chraffu a ddefnyddir i sicrhau y gall y Senedd hon graffu ar y gwerthusiad pan gaiff hwnnw ei gyflwyno? Roeddech chi'n sôn hefyd fod angen cyflymu'r cynllun cyflawni, ac rwyf i'n cytuno yn llwyr â chi yn hynny o beth. Nid oes gennym ni amser i'w golli, ac mae gweithlu'r GIG yng Nghymru yn rhan allweddol o'r gwaith o sicrhau bod y cynllun cyflawni hwnnw'n cael ei gyflawni, a'i gyflawni ar garlam. Felly, Gweinidog, mae prinder recriwtio yn y gweithlu iechyd meddwl yn her. O ran cynlluniau'r gweithlu, yr wythnos diwethaf, roeddech chi'n dweud bod AaGIC yn gwneud cynnydd da o ran cynlluniau gweithlu tymor hwy. Felly, pryd ydych chi'n disgwyl i'r cynlluniau hyn gael eu cyhoeddi, a phan gaiff mwy o staff eu recriwtio, ym mha le y byddwch chi'n lleoli'r gweithwyr proffesiynol hyn?

Roeddech chi'n sôn hefyd am y bwrdd cyflawni a goruchwylio yr ydych chi'n ei gadeirio ac rwyf i o'r farn fod hwn yn gam i'r cyfeiriad iawn, fel roeddech chi'n dweud, at sicrhau y gall gwasanaethau newid a diwallu'r anghenion o ran iechyd meddwl a ddaw i'r amlwg. Un peth a hepgorodd y datganiad yn fy marn i oedd safbwynt ar gymorth gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed i bobl ifanc. Fel rwyf i wedi dweud o'r blaen, mae nifer y bobl ifanc yn y ddalfa wedi cynyddu 666 y cant mewn pobl dan 16 oed sy'n cael eu dal ers mis Mawrth, ac fe ddiffiniwyd dwy ran o dair o'r rhain yn fenywaidd. Mae hwnnw'n ystadegyn brawychus, ac rwyf i'n credu y dylid ystyried hyn ar unwaith i geisio datrys y broblem hon. Mewn CAMHS, mae pedwar o bob saith o bobl yn adrodd mai llai na 50 y cant sydd wedi eu hasesu ar lefelau gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod. Felly, a wnewch chi amlinellu pa ymdrechion a wnewch chi a'r bwrdd goruchwylio i ymchwilio ymhellach i'r ffigurau hyn a sicrhau bod y merched ifanc sydd wedi pasio ymyrraeth gynnar yn cael y gofal argyfwng hwnnw sydd ei angen arnyn nhw?

Gyda hynny mewn golwg, mae canolfannau gofal argyfwng 24/7 yn hanfodol bwysig i sicrhau bod pobl yn cael y gofal ac yn yr amser priodol, fel roeddech chi'n dweud. Mae gofal brys yn hanfodol i helpu i achub bywydau pobl, a hefyd maen nhw'n lleihau'r pwysau ar wasanaethau ehangach, tybed pa gymorth arall y gellir ei roi i ddarparu'r canolfannau gofal argyfwng 24/7 hynny.

Roeddech chi'n sôn am yr uned gofal mamau a babanod amenedigol yn Nhonnau, ac rwy'n croesawu hynny. Eto i gyd, rydych chi wedi dweud fod yna fylchau yn y gogledd. Felly, a wnewch chi amlinellu pa gynnydd a wnaethoch chi o ran llenwi'r bylchau, ac nid yn y gogledd yn unig, ond ar draws y canolbarth a'r gorllewin hefyd, fel bod y ddarpariaeth honno gennym ni ledled Cymru?

Gweinidog, roeddech chi'n sôn hefyd am y gwaith gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr angen i ddiweddaru'r Ddeddf Iechyd Meddwl, ac rwy'n croesawu'r gwaith traws-lywodraethol hwn ac o'r farn ei fod yn rhywbeth adeiladol iawn. Serch hynny, a ydych chi'n credu efallai y dylem ni ystyried cael Deddf iechyd meddwl wedi'i diweddaru yma yng Nghymru, a luniwyd yng Nghymru, a benderfynwyd gan y rhai sy'n llunio polisi yng Nghymru, i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl rhagorol gennym ni yma yng Nghymru? Fe wnaethoch chi grybwyll y rheoliadau diogelu rhyddid, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y manylion hynny'n cael eu cyflwyno a chael trafodaethau ehangach gyda chi ynglŷn â hynny.

Ac yn olaf, Gweinidog, a wnewch chi amlinellu eich prif flaenoriaethau chi nawr i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru? Rwyf i o'r farn y byddai hi'n ardderchog i mi gael barnu neu arfarnu'r pump neu chwe phrif fesur a'r hyn yr ydych chi'n wir yn dymuno ei gyflawni yn ystod y tymor Seneddol cyntaf hwn. Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad.

14:55

Diolch yn fawr iawn i chi, James Evans. Roedd gennych chi gant a mil o gwestiynau a phwyntiau, ond, cyn i mi ddechrau ymateb i chi, a gaf innau fynegi fy nymuniadau gorau ar goedd i Andrew R.T. Davies am adferiad buan a dweud pa mor llesol i bawb yn fy marn i yw ei fod ef wedi dangos dewrder fel hyn wrth siarad, fel yn wir y gwnaeth Sam Kurtz yr wythnos diwethaf? Wrth wneud fel hyn, mae hynny'n helpu pawb. Felly, rwy'n anfon fy nymuniadau gorau iddo am adferiad buan.

Os caf i ddechrau gyda'r pwyntiau a wnaeth James Evans am ein gwerthusiad ni o'r cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', mae hynny wedi dechrau eisoes, ac rydym ni wedi llunio cytundeb gyda phobl i gynnal y gwerthusiad hwnnw i ni mewn ffordd mor drylwyr ag y gallwn ni. Efallai y ceir ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac ati, ac fe ddisgwylir i'r gwaith hwnnw ei hun gael ei gwblhau erbyn y flwyddyn nesaf—erbyn mis Medi 2022. Ac rwy'n credu wedyn y bydd yn rhaid i ni edrych ar yr hyn a ddysgwn ni o'r gwerthusiad hwnnw, oherwydd, yn amlwg, fe fydd yn rhaid i ni gael cynlluniau newydd wrth symud ymlaen. Ac rwy'n credu, bryd hynny, y byddem ni'n dymuno ymgysylltu â phwyllgorau perthnasol a chyda'r Senedd i sicrhau ein bod ni'n gwrando ar farn pawb yn hyn o beth hefyd. Ond mae hi'n hanfodol bwysig fod y cynllun a fabwysiadwn yn un a fydd yn gweithio i'r bobl a fydd yn cael y gwasanaethau.

Roeddech chi'n sôn am y pwysau ar y gweithlu. Mae'r pwysau ar y gweithlu yn sylweddol iawn wir a dyma rywbeth yr wyf i'n canolbwyntio llawer o'm hamser a'm hymdrech arno. Fe fydd y cynllun yr ymgynghorir ag ef gan AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru yn nodi mewn ffordd gynhwysfawr iawn, rwy'n gobeithio, y mannau hynny lle mae angen i ni fod â'r staff gwahanol. Fe wyddom ein bod ni wedi gweld rhywfaint o lwyddiant o ran denu seiciatryddion i ddod i weithio yng Nghymru, ond mae yna brinder mewn arbenigeddau eraill hefyd. Felly, fe ddylai'r darn cynhwysfawr hwnnw o waith sy'n cael ei wneud gan AaGIC roi'r darlun llawn hwnnw inni. Fe ddylai hynny gael ei gwblhau erbyn diwedd eleni, ac yna fe fyddwn ni'n ymgynghori. Ond nid ydym ni'n gorffwys ar ein bri yn y cyfamser. Mae AaGIC yn edrych ar ba gamau uniongyrchol y gallwn ni eu cymryd i lenwi swyddi gwag mewn ardaloedd lle mae prinder. Ac rwyf i wedi gofyn i swyddogion ystyried a allwn ni dreialu math o gymorth seicolegol—yn hytrach na chael seicolegwyr clinigol cwbl gymwysedig, y gallwn ni edrych ar ymyrraeth gynharach gyda chymorth seicoleg—sy'n cael ei defnyddio'n effeithiol iawn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Fe fyddaf i'n cwrdd â nhw cyn bo hir i drafod yr hyn maen nhw'n ei wneud.

O ran CAMHS, maen nhw'n parhau i fod yn brif flaenoriaeth i mi, yn union fel mae gweithredu'r diwygiadau system gyfan o 'Cadernid Meddwl' yn ganolog i'r hyn yr wyf yn ceisio ei wneud. Dyna pam yr wyf i wedi mynd i mewn i'r Llywodraeth, ac rwyf i wedi ymrwymo yn llwyr i gyflawni hynny. Rydym ni wedi gweld amrywiadau yn yr amser aros cyfartalog y bydd plant a phobl ifanc yn cael cymorth CAMHS arbenigol yn ystod y pandemig. Mae data dros y 12 mis diwethaf yn dangos mai 4.4 wythnos yw'r amser aros cyfartalog i gael apwyntiad cyntaf ar gyfer CAMHS arbenigol, ac mae hynny'n amrywio o dair i chwe wythnos. Mae'r data amseroedd aros diweddaraf ar gyfer darpariaethau iechyd meddwl sylfaenol i bobl ifanc dan 18 oed yn dangos bod 83 y cant o bobl ifanc wedi derbyn eu hasesiadau gwasanaeth iechyd meddwl sylfaenol lleol nhw o fewn wyth wythnos i'w hatgyfeirio. Fe welsom ni gynnydd sydyn yn yr atgyfeiriadau, ond diolch byth mae hynny bellach yn dangos arwyddion o arafu. Serch hynny, nid ydym ni'n hunanfodlon, ac mae sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu trin mewn ffordd amserol yn brif flaenoriaeth i mi. Rwy'n cyfarfod â'r is-gadeiryddion yn rheolaidd, mae swyddogion yn cael trafodaethau rheolaidd, parhaus fel hyn gyda byrddau iechyd i ysgogi perfformiad, a phan oedd gennyf bryderon penodol am berfformiad bwrdd iechyd, roeddwn yn cael cyfarfod arbennig yno i drafod eu perfformiad nhw a cheisio sicrwydd eu bod nhw'n mynd i'r afael â'r mater hwnnw gyda'r brys haeddiannol.

Rwy'n nodi eich croeso chi i'r ddarpariaeth gofal argyfwng 24 awr. Rwy'n credu ein bod ni ar y trywydd iawn i gyflawni hynny. Mae hwn yn ymrwymiad mawr, yn newid mawr, ond rwy'n ffyddiog y byddwn ni'n cyrraedd yno erbyn diwedd eleni, ac fe fyddwn ni mewn sefyllfa bryd hynny lle bydd pobl yn gallu ffonio 111 ar gyfer gofal iechyd meddwl yng Nghymru. Ond ar lefel is na hynny, rydym ni'n cynnal ymarfer hefyd lle mae'r uned gyflawni wedi bod yn ymweld â'r holl fyrddau iechyd i drafod y gwasanaethau argyfwng sy'n gweithredu ar gyfer plant a phobl ifanc yn benodol, ond yn gyffredinol hefyd. Fe fyddan nhw'n gwneud argymhellion ynghylch beth arall y mae angen i ni ei wneud i wella'r cymorth argyfwng y tu hwnt i'r llinell ffôn honno. Felly, mae hon yn flaenoriaeth fawr i mi.

Diolch i chi am eich croeso i'r cydweithio ar y Ddeddf Iechyd Meddwl. Yn amlwg, mae hi'n bwysig, lle gallwn ni weithio gyda Llywodraeth y DU mewn ffordd adeiladol, ein bod ni'n gwneud felly. Roeddech chi'n gofyn a ddylem ni fod â chyfraith newydd i Gymru o ran iechyd meddwl. Fy ateb gonest ac ystyriol i yw nad honno yw'r her sy'n ein hwynebu ni ar hyn o bryd. Rydym ni'n gwybod pa bethau sydd angen iddyn nhw ddigwydd. Mae gennym ni Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a luniwyd yng Nghymru gan Aelod Ceidwadol, Jonathan Morgan, a ddygodd hynny drwy'r Senedd hon. Ein her ni yw sicrhau ein bod ni'n gweld cyflawniadau ledled y system gyfan. Felly, nid wyf i o'r farn mai ymwneud â deddfwriaeth y mae hynny fel y cyfryw, ond rydym ni'n hapus iawn i adeiladu ar y cyfleoedd deddfwriaethol sy'n codi lle maen nhw'n ymgyflwyno.

Yn olaf, o ran fy mlaenoriaethau i, fy mlaenoriaeth i yw sicrhau bod pawb yng Nghymru, ond plant a phobl ifanc yn arbennig felly, yn gallu cael gafael ar gymorth iechyd meddwl amserol pan fydd ei angen arnyn nhw, a symud y system gyfan yng Nghymru, ar yr un pryd â hynny, tuag at un o atal ac ymyrryd yn gynnar, fel nad oes angen am y gwasanaethau arbenigol hynny ar gymaint o bobl yn y lle cyntaf. Felly, dyna sy'n ysgogi fy ngwaith i a'r hyn sy'n mynd â'm hamser i. Diolch i chi.

15:00

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mi wnaf i, os caf i, anfon fy nymuniadau gorau i Andrew R.T. Davies. Dwi eisiau gyrru dymuniadau gorau i bawb, wrth gwrs, sydd yn wynebu heriau tebyg lle bynnag y bôn nhw. Wrth gwrs, y gwir amdani ydy ein bod ni mewn sefyllfa freintiedig i allu gwneud llawer mwy na dymuno'n dda i bobl mewn geiriau. Mae Llywodraeth yn gallu gweithredu, rydym ni i gyd yn gallu dal y Llywodraeth i gyfrif, a bod yn benderfynol i beidio â bodloni tan ein bod ni'n gwybod bod gennym ni'r gwasanaethau yn eu lle y mae pobl Cymru eu hangen. Achos rydym ni yn wynebu argyfwng. Ac efallai mai'r peth sydd fwyaf rhwystredig ydy arafwch y cynnydd, er gwaethaf mor amlwg ydy'r argyfwng hwnnw. Lleiafrif sydd yn cael triniaeth o gwbl am iechyd meddwl, ac o'r rheini sydd yn cael triniaeth, mae llawer, wrth gwrs, yn gorfod aros yn rhy hir.

Dwi yn croesawu, yn sicr, y ffaith bod adroddiad wedi cael ei gomisiynu gan y Dirprwy Weinidog i ddysgu mwy am lle mae'r cynnydd yn digwydd, lle dydy'r cynnydd ddim yn ddigwydd. Mi wnaf innau ychwanegu cwestiwn yn gofyn am eglurder, ychydig bach mwy, am y gwaith hwnnw. Pwy fydd yn gwneud hwnnw? Mae'n bwysig, dwi'n meddwl, gwybod bod yna olwg annibynnol yn mynd i fod yn cael ei gymryd ar hyn. Mi ddywedodd y Dirprwy Weinidog yn ei hateb eiliad yn ôl y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn—dwi'n meddwl mis Medi y flwyddyn nesaf ddywedoch chi. Fydd yr adrodd yn ôl yn digwydd erbyn mis Medi, ynteu gorffen y gwaith casglu fydd yn digwydd erbyn hynny? Achos eisiau annog pethau i symud ymlaen mor gyflym â phosibl ydw i. A hefyd, oherwydd y broblem rydym ni'n gwybod sydd gennym ni efo gwasanaethau gofal iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, allaf i gael sicrwydd y bydd yr asesiad yn cynnwys beth sy'n digwydd o ran cynnydd ym maes cefnogaeth i blant a phobl ifanc, yn benodol? 

Rydym ni wedi cael rhestr gan y Dirprwy Weinidog heddiw o wahanol ffyrdd, yn cynnwys ambell i fenter newydd, mae pobl yn gallu cael mynediad at gefnogaeth. Dydy'r rheini ddim yn gweithio i bobl os dydyn nhw ddim yn gwybod amdanyn nhw, wrth gwrs, a dwi'n meddwl bod yna lawer o bobl sydd yn teimlo nad ydyn nhw'n gwybod lle i fynd i chwilio am gefnogaeth. Felly, tybed all y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni pa waith sydd yn cael ei wneud i sicrhau bod yna gryfhau yn digwydd ar y signposting yna, sydd mor hanfodol er mwyn i bobl sydd â problem fechan, o bosib, rŵan, gael yr help amserol sydd ei angen arnyn nhw er mwyn atal, gobeithio, hynny rhag troi yn broblem fwy dwys a allai olygu angen triniaeth seiciatrig uwch. 

Yn olaf, dwi'n troi at ddata a thryloywder. Mae Mind Cymru wedi codi pryderon dros y blynyddoedd, mae'n rhaid dweud, ynglŷn â'r broses o gasglu'r data sydd ei angen i fesur cynnydd yn strategaeth y Llywodraeth, achos dydy'r set ddata graidd iechyd meddwl rydyn ni wedi bod yn ei ddisgwyl yn hir iawn amdani yn dal ddim yn weithredol. A dwi'n dweud ein bod ni'n disgwyl yn hir—dwi'n meddwl fy mod i'n iawn i ddweud bod y set ddata i fod yn barod yn wreiddiol erbyn mis Rhagfyr 2014. Wnaeth yr amserlen honno ddim cael ei chyrraedd. Mae wedi llithro eto, a dwi'n meddwl mai'r dyddiad sydd gennym ni bellach ydy y bydd o'n weithredol erbyn 2022. Felly, pa bryd? Dechrau 2022? Rydyn ni'n cael sicrwydd bod hyn yn mynd i gael ei weithredu y flwyddyn nesaf. Ydy'r Gweinidog yn derbyn mewn difrif nad oes posib mesur llwyddiant na chynnydd ar y strategaeth heb fod y mesuryddion a'r data craidd yn eu lle gennym ni? 

15:05

Diolch am y cwestiynau yna, Rhun. Rwy'n llwyr gytuno ein bod ni mewn sefyllfa yn y Siambr hon lle y gallwn ni weithredu ac nid dim ond siarad am bethau, a dyna'n union yr wyf i'n awyddus i'w wneud. A gaf i gywiro camgymeriad a wneuthum i am ddyddiad cwblhau'r gwerthusiad o'r cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'? Mis Ebrill 2022 fydd hynny, mewn gwirionedd. Roeddwn i'n cael trafferth i gael gafael ar fy mhapurau gynnau. Felly, yn gynharach nag y dywedais i. Ni allaf i weld unrhyw reswm pam na fydd yn barod bryd hynny, ac ni allaf weld unrhyw anhawster i sicrhau bod hwnnw ar gael. Yn sicr, gyda gwerthusiadau eraill a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, fe gyhoeddwyd y rhain a'u rhoi nhw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, fe ddylwn i egluro mai gwerthusiad o'r cynllun cyflawni cyfan yw hwn, yr wyf i wedi ceisio rhoi rhagflas ohono i chi heddiw, ac nid yw'n cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl uniongyrchol yn unig—mae'n cynnwys tai, cyngor ar fudd-daliadau, yr holl bethau hyn. Ni fyddwn i'n dymuno i chi feddwl mai dyma'r unig beth yr ydym ni'n ei wneud i dracio yr hyn sy'n digwydd mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Fel y dywedais i yn y datganiad, rwy'n cadeirio bwrdd cyflawni a goruchwylio gweinidogol, a sefydlwyd mewn gwirionedd gan fy rhagflaenydd i, Eluned Morgan, oherwydd roeddem ni'n cydnabod bod angen cael goruchwyliaeth gryfach o'r system iechyd meddwl gyfan ni yng Nghymru. Mae hwnnw'n cyfarfod bob deufis, a chaiff ei gadeirio gennyf fi, ac mae gennyf adroddiad ar hynny ynglŷn â phob ffrwd waith unigol sy'n cael ei datblygu ar iechyd meddwl yng Nghymru. Mae'n rhaid i bob ffrwd waith unigol adrodd am yr hyn y mae'n ei wneud. Mae'n rhaid tynnu sylw at unrhyw risgiau, ac mae'n rhaid gwerthuso'r gwaith. Corff cymharol newydd yw hwn, ond rwy'n teimlo ei fod yn un sy'n magu stêm ac fe fydd yn helpu i roi'r sicrwydd hwnnw i ni, hefyd, wrth gwrs, fel mae'r gwerthusiad cyfunol o'r cynllun cyflawni yn ei wneud.

Roeddech chi'n cyfeirio hefyd at CAMHS yn eich sylwadau. A gaf i eich sicrhau chi hefyd, yn ogystal â'r bwrdd cyflawni a goruchwylio gweinidogol, fod gennym ni'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar y dull system gyfan hefyd, a chaiff hwnnw ei gadeirio ar y cyd gan Jeremy Miles a minnau? Arferai hwnnw fod yn grŵp gorchwyl a gorffen ar y dull ysgol gyfan, ond yn dilyn 'Cadernid meddwl. Ddwy flynedd yn ddiweddarach', roeddem ni'n cydnabod, er bod llawer o ganolbwyntio ar y dull ysgol gyfan, fod angen i ni sicrhau nad oeddem ni'n arafu o ran y gwasanaethau mwy arbenigol. Felly, fe addaswyd y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw i gwmpasu'r system gyfan a fyddai'n effeithio ar blentyn, o'r ysgol hyd at y gwasanaethau haen 4. Rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i chi fod yna nifer o systemau ar waith i graffu ar berfformiad yn y maes hwn a'i sbarduno ymlaen.

Roeddech chi'n sôn am y set ddata graidd, ac rwy'n cydnabod yn llwyr ei bod hi'n hanfodol i ni fod â data os ydym ni'n dymuno gwella gwasanaethau. Cyn i mi ddod yn Weinidog, roeddwn i fy hun yn galw yn gyson am y set ddata graidd. Nid wyf i'n cydnabod y dyddiad y dylid bod wedi ei gyflawni erbyn 2014, er fy mod i'n cydnabod nad ydym ni wedi gwneud cymaint o gynnydd ag y byddem ni wedi ei ddymuno, ac mae hynny'n rhannol oherwydd y pandemig. Ond dim ond i gadarnhau i'r Aelod, fe gafodd y gwaith hwn ei ail-lansio ym mis Medi fel bwrdd canlyniadau a mesurau iechyd meddwl, ac fe rannwyd y gwaith hwn yn ddau gam, sy'n datblygu fframwaith canlyniadau iechyd meddwl integredig a chynllun cyfathrebu. Fe ddylid cwblhau'r gwaith hwnnw erbyn mis Mawrth 2022, ac yna fe fydd yna gyfnod o roi hynny ar waith. Ond i sicrhau'r Aelod hefyd fy mod i'n cydnabod ei safbwynt ef yn llwyr o ran yr angen am ddata cadarn ac fe fydd bwrw ymlaen â hynny'n flaenoriaeth i mi.

15:10

Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad pwysig hwn heddiw. Yn Aelod unigol o'r Senedd ac yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar iechyd meddwl hefyd, fe hoffwn i fynegi fy nymuniadau gorau i Andrew R.T. Davies a dweud pa mor drawiadol oedd ei ddiffuantrwydd ef, a diffuantrwydd Sam Kurtz yn wir, yr wythnos diwethaf. Fe ddywedodd C.S. Lewis un tro ein bod ni'n darllen er mwyn gwybod nad ydym ni ar ein pennau ein hunain, ac mae llawer o bobl a fydd wedi darllen sylwadau Andrew R.T. Davies yr wythnos diwethaf wedi cael cysur o wybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.

Gweinidog, fe aethom ni i mewn i'r pandemig COVID hwn gydag angen cynyddol i fynd i'r afael â salwch meddwl ac emosiynol ledled ein poblogaeth ni ac atal hynny, ac rydym ni'n codi o'r pandemig gyda'r angen hwnnw yn fwy dybryd a dwys, hyd yn oed, yn arbennig o ran plant a phobl ifanc, fel y gwnaethoch chi nodi heddiw. Yn wir, mae Barnardo's yn cynhyrchu arolwg ymarferwyr bob chwarter ledled y DU, ac ers mis Ebrill y llynedd, mae ymatebwyr wedi nodi'r cynnydd cyson mewn materion iechyd meddwl a llesiant ymhlith plant, pobl ifanc a theuluoedd fel y mater pwysicaf un. Ac wrth gwrs, yn y gweithle, fe wyddom ni fod presenoliaeth bellach yn costio mwy i fusnesau nag absenoliaeth. Mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg hefyd sy'n cysylltu tuedd y corff i fod yn agored i gael canser ag effaith gyfunol ynysu cymdeithasol a chyfraddau uwch parhaus o cortisol sy'n dod yn sgil llawer o salwch meddwl yn ogystal â straen. Ac mae hyn yn amlygu ymhellach—

15:15

Mae'n amlygu ymhellach yr angen i ni fynd i'r afael â salwch meddwl. Nawr, un cwestiwn yn benodol, o ran gweithio ar draws y Llywodraeth, ac rydych chi wedi cyfeirio at hyn heddiw, a wnewch chi ymhelaethu ar sut yr ydych chi'n gweithio gyda'r adrannau addysg ac economi yn arbennig i fynd i'r afael â salwch meddwl? Ac a wnewch chi nodi hefyd sut yr ydych chi'n hybu'r adnodd therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein sydd wedi bod mor boblogaidd hyd yma ac a fydd o werth amhrisiadwy i lawer iawn o bobl?

Diolch, Ken. A diolch hefyd am y gwaith yr ydych chi'n ei wneud wrth gadeirio'r grŵp trawsbleidiol, yr wyf i'n ei werthfawrogi yn fawr iawn hefyd. Fel y gwnaethoch chi dynnu sylw ato, mae'r ffaith bod y gwaith o ran iechyd meddwl yn digwydd ar draws y Llywodraeth yn gwbl hanfodol, ac mae llawer iawn o waith yn digwydd ar draws y Llywodraeth yn y maes hwn. Rwy'n gweithio yn agos gyda'r Gweinidog addysg i ddarparu'r dull system gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl plant ac rwy'n teimlo ein bod ni'n gweld cynnydd da yn y maes hwn ac fe fyddwn ni'n clywed mwy am hynny cyn bo hir.

Mae gennym ni nifer o brosiectau cyflogaeth hefyd a gynlluniwyd i gefnogi pobl sydd mewn perygl o adael cyflogaeth oherwydd bod ganddyn nhw broblemau iechyd meddwl, ac mae gennym ni raglen cymorth cymheiriaid hefyd a gynlluniwyd i sicrhau bod rhai o'r bobl sydd bellaf o'r gweithle yn gallu dychwelyd i gyflogaeth. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n gorffwys yn y fan honno, ac rwy'n falch iawn o ddweud fy mod i wedi cael trafodaethau cadarnhaol iawn gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth am yr angen i gydweithio ynglŷn ag iechyd meddwl. Rwy'n gweld iechyd meddwl yn fusnes i bawb yn y Llywodraeth. Rydym ni'n mabwysiadu dull gwahanol o ymdrin â'r gyllideb eleni, ac y byddwn ni'n cael trafodaethau thematig ac mae un o'r rhain wedi bod yn ymwneud â'r angen i ddiogelu cyllid ym maes iechyd meddwl a sicrhau nad yw penderfyniadau a wneir mewn adrannau eraill yn achosi anfantais i bobl â phroblemau iechyd meddwl. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n gwneud cynnydd da. Roeddwn i'n cyfeirio hefyd at y materion o ran tai, ond mae llawer mwy y gallwn ni ei wneud ac rwyf i o'r farn ein bod ni'n eiddgar i gyd i wynebu'r her honno.

A dim ond dweud—fe ddylwn i fod wedi dweud mewn ymateb i Rhun hefyd—ein bod ni'n cynyddu ein gweithgarwch ni i hybu'r cymorth haen 0 sydd ar gael. Mae'r llinell gymorth C.A.L.L. a SilverCloud ar y cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn llawer mwy i'r amlwg. Fe wn i fod fy rhagflaenydd i, Eluned Morgan, wedi gofyn i fyrddau iechyd sicrhau eu bod nhw'n llawer mwy amlwg o ran hysbysebu sut y gall pawb gael gafael ar eu gwasanaethau nhw. Ond, wrth gwrs, mae mwy y gallwn ni ei wneud bob amser. Ond rwyf i'n canolbwyntio ar geisio gwella ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael ac mae llawer o gefnogaeth ar gael yno, yn enwedig ar yr haen 0 honno, yr ydym ni wedi buddsoddi llawer iawn ynddi hi.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i godi un neu ddau o gwestiynau ynglŷn â chynnydd o ran y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ac archwilio'r materion allweddol ar gyfer y cynllun nesaf. Rwyf i am gydnabod cyfraniad at y gwaith hwn hefyd gan y rhai sydd wedi byw trwy gyfnodau o salwch meddwl, am eu hegni a'u hymrwymiad nhw wrth ddarparu eu cyngor. Fy nghwestiynau i yw: er fy mod i'n croesawu'r diweddariad y prynhawn yma, a wnaiff y Gweinidog amlinellu sut yn union y mae'r rhai sydd wedi byw trwy gyfnodau o salwch meddwl wedi cyfrannu at y strategaeth iechyd meddwl ac unrhyw werthusiad o'r cynllun cyflawni? Fy ail gwestiwn i yw: rydych chi'n dweud yn eich datganiad y gallwn ni, drwy fabwysiadu dull ymyrryd ac atal cynnar, ymateb i'r her a lleihau'r galw ar wasanaethau arbenigol, a wnaiff y Gweinidog ystyried yr angen am wasanaethau damweiniau ac achosion brys iechyd meddwl i ddarparu'r ymyrraeth gynnar honno? Fy nhrydydd cwestiwn a fy un olaf i yw: fe hoffwn i groesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud ar strategaeth hirdymor y gweithlu iechyd meddwl; a wnaiff y Gweinidog gadarnhau yn benodol pa fylchau o ran staffio y mae angen mynd i'r afael â nhw ac a oes gan y byrddau iechyd yr adnoddau ar gyfer recriwtio? Diolch i chi.

Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain, am y cwestiynau yna. Rydych chi yn llygad eich lle: mae profiad bywyd unigolion yn gwbl hanfodol, ac os ydym ni am gael polisïau effeithiol, mae'n rhaid i ni eu llunio nhw ar y cyd â phobl sydd â phrofiad bywyd. Mae gennym fewnbwn eisoes gan bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn gyffredinol, mewn gwirionedd, yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud. Mae'r grŵp rhanddeiliaid ieuenctid gennym ni sy'n llywio'r gwaith ym myd addysg. Rydym ni'n ymgynghori hefyd gyda Cymru Ifanc ynghylch iechyd meddwl, ac fe fyddaf i'n mynd i'w gweithdy nhw ar iechyd meddwl ymhen ychydig wythnosau.

Ond, mae gennym ni bobl hefyd sydd â phrofiad bywyd sy'n ymwneud â'r cyngor partneriaeth, sy'n bwrw ymlaen â llawer o'r gwaith hwn ar draws y Llywodraeth hefyd. Ond, rwyf i bob amser yn agored i ystyried unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud i gael profiad bywyd pobl, ac un o'r meysydd y mae gennyf i ddiddordeb arbennig ynddo yw maes atal hunanladdiad, ac rwy'n credu bod gan bobl sydd â phrofiad bywyd swyddogaeth aruthrol yn y maes hwn.

Roeddech chi'n sôn am adran damweiniau ac achosion brys iechyd meddwl. Yn fy marn i, mewn gwirionedd, nid ydym ni'n dymuno gweld pobl yn y fath gyflwr o argyfwng. Y lle olaf y byddem ni'n dymuno gweld pobl sydd mewn ing mawr yw mewn adran damweiniau ac achosion brys, mewn gwirionedd. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw atal y problemau hynny rhag gwaethygu.

Fe wyddom ni o'r gwaith a gomisiynwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru ar fynediad brys i wasanaethau'r GIG nad salwch meddwl yw llawer o'r problemau y mae pobl yn eu hymgyflwyno mewn argyfwng. Problemau dyled, tai, perthnasoedd ydyn nhw—y problemau bob dydd hynny sydd gan bawb ohonom ni ond sydd wedi mynd allan o reolaeth. Felly, ein dull ni o weithredu yw ceisio atal y problemau hynny a chefnogi pobl yn gynharach, ond gyda darpariaeth argyfwng ar gael pe byddai gwir angen hynny ar bobl.

Fel y dywedais i mewn ymateb i James Evans, y gwaith manwl ar y bylchau yn y gweithlu ledled Cymru—. Mae hwn yn fater cymhleth oherwydd, yn amlwg, mae pob bwrdd iechyd yn wahanol. Mae ganddyn nhw boblogaethau gwahanol. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru, a phan fyddan nhw wedi cwblhau'r gwaith hwn ac wedi llunio'r cynllun, yna fe fydd yn rhaid i ni edrych ar yr adnoddau. Ond, o'm rhan i, yn Weinidog, mae diogelu gweithlu yn her allweddol o ran cyflawni'r diwygiadau yr ydym ni'n awyddus i'w gweld. Felly, fe fyddaf i'n sicr yn gwneud popeth sydd yn fy ngallu i'ch sicrhau chi y byddwn ni'n dod o hyd i'r adnoddau y mae angen i ni eu cael. 

15:20

Weinidog, 10 mlynedd yn ôl, profodd etholwr i fi ddirywiad yn ei iechyd meddwl, a olygodd ei fod o'n gorfod mynd am ofal arbenigol. Presgreibiwyd cyffuriau gwrthiselder a gwrthseicotig iddo, ac mae o wedi bod yn eu defnyddio nhw ers hynny. Ond, er hynny, dydy o ddim wedi cael adolygiad o'r feddyginiaeth yma ers y cyfnod cyntaf—dros 10 mlynedd. Aeth o am adolygiad i'r ysbyty lleol, ond dywedwyd wrtho y byddai'n rhaid iddo gael referral oddi wrth y meddyg teulu. Dywedodd y meddyg teulu yn ei dro ei fod o'n methu â'i helpu fo achos ei fod o'n methu â presgreibio neu addasu meddyginiaeth o'r fath. Roedd y claf mewn cylch seithug.

A wnewch chi, Weinidog, felly sicrhau y byddwch chi'n rhoi canllawiau clir ynghylch pa mor aml y dylid adolygu meddyginiaeth wrthseicotig, a phwy all ei hadolygu, a bod cleifion sydd mewn sefyllfa fregus iawn yn derbyn dealltwriaeth glir a syml o natur y feddyginiaeth, pa mor aml y caiff ei hadolygu, a phwy fydd yn gwneud yr adolygu, gan osgoi sefyllfa ble mae claf yn cael ei wthio o un rhan o'r gwasanaeth i'r llall, heb fod neb yn cymryd cyfrifoldeb, a chleifion yn mynd ar goll yn y system?  

Diolch yn fawr i chi am y cwestiwn yna, ac mae hi'n ddrwg iawn gennyf i glywed bod eich etholwr chi wedi cael profiad o'r fath. Yn amlwg, dyma rywbeth na ddylai fod wedi digwydd, a phe byddech chi'n ysgrifennu ataf i gyda manylion yr etholwr, fe fyddaf i'n sicr o geisio mynd ar drywydd hynny gyda'r bwrdd iechyd. Ond, rwy'n hapus iawn hefyd i edrych ar y mater ehangach y gwnaethoch chi ei godi ynghylch yr angen i gael arweiniad ar amseru, ac ati, ar gyfer adolygiadau o feddyginiaethau. Fe ddylai pawb gael adolygiadau cyson o'u meddyginiaethau nhw, boed hynny ar gyfer eu hiechyd corfforol neu feddyliol nhw, ac mae hwnnw'n ddiffyg difrifol os nad yw hynny wedi digwydd.

Ond, yr hyn yr hoffwn ei ddweud hefyd yw, yr hyn y gwnaethoch chi ei ddisgrifio—y math hwnnw o gylch seithug o wasanaethau—yw'r hyn yr ydym ni, yn y Llywodraeth, wedi ymrwymo i'w ddirwyn i ben. Yn ein rhaglen lywodraethu ni, ni fydd yna ddrws anghywir i bobl â phroblemau iechyd meddwl. Mae hynny'n berthnasol i oedolion a phlant, a dyna'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w weld. Ond, pe byddech chi'n ysgrifennu ataf i, fe fyddwn i'n hapus iawn i fynd ar drywydd sefyllfa eich etholwr chi.

15:25

Er fy mod i'n croesawu'r datganiad hwn, rwy'n nodi nad yw'r pethau hyn yn bodoli mewn rhyw wagle. Os cyflawnir yr uchelgais a'r camau gweithredu yn hyn o beth, fe fyddan nhw'n cael effaith wirioneddol, ddiriaethol ar ein hetholwyr ni, yn enwedig y rhai a oedd yn bresennol ym mwrdd crwn iechyd meddwl Pen-y-bont ar Ogwr a drefnwyd gan fy nghyfaill da, Sarah Murphy, y gwnaethom ni ei lywyddu ar y cyd yr wythnos diwethaf. Fe godwyd llawer o'r materion yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw, yn rhyfedd iawn, yn yr adroddiad hwn: atgyfeiriadau; cyfeirio; a pharhad cyllid, yn rhyfedd iawn, ar gyfer rhai o'r sefydliadau cymorth ehangach sydd ar lawr gwlad. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog: pa lefel o ffydd sydd gennych chi y bydd ein hetholwyr ni yn ardal iechyd Cwm Taf yn cael mynediad at ymyrraeth gynnar yn gyflym ac yn amserol, sy'n rhywbeth allweddol, ond at wasanaethau acíwt hefyd? Beth all hi ei wneud i fonitro cynnydd yn y byrddau iechyd unigol, a rhannu'r data hynny gyda ni? Ac a wnaiff hi, fel dywedodd Aelodau eraill o'r Senedd, ymgysylltu yn uniongyrchol â phobl sydd â phrofiad bywyd gwirioneddol—gwrandewch ar eu profiad nhw ynghylch a yw pethau yn wir yn gwella ar y cyflymder y mae hi'n dymuno ei weld hefyd, ac y mae ein hetholwyr ni'n dymuno ei weld, yn sicr?

Diolch yn fawr iawn, Huw, ac a gaf i ddiolch i chi a Sarah am y bwrdd crwn y gwnaethoch chi ei drefnu? Rwyf i o'r farn fod pethau fel hyn yn gyfle arbennig o werthfawr i wrando ar brofiad bywyd felly ar lefel leol, ac rwy'n eich canmol chi'n fawr am wneud fel hyn.

Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod yr hyn a ddywedwn ni yn y Siambr hon yn cael ei wireddu. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi rhoi rhagflas o rai o'r dulliau sydd o fewn y Llywodraeth, o ran y bwrdd cyflawni a goruchwylio gweinidogol a'r cyrff eraill sydd gennym ni. Yn ogystal â hynny, rwy'n cyfarfod ag is-gadeiryddion yn rheolaidd. Rwyf i wedi dweud wrth y byrddau partneriaeth rhanbarthol fy mod i am ddod o gwmpas i ymweld â phob un ohonyn nhw i drafod sut y maen nhw'n datblygu ein fframwaith NEST ni, sef ein dull ymyrraeth gynnar allweddol ar gyfer plant a phobl ifanc. Ond rwyf i'n bwriadu gwneud mwy yn y maes hwn trwy'r amser, ac fe fyddaf i'n sicr yn cadw'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud mewn cof hefyd o ran profiad bywyd i sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth sydd yn ein gallu i sicrhau bod lleisiau'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu clywed yn llawn wrth ddatblygu ein polisïau ni.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn a'r cynllun cyflawni oherwydd fe all iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un, heb ystyried ei dras, ei oedran na'i grefydd, ac mae hi'n hanfodol ein bod ni'n mynd i'r afael â hyn ar fyrder a chyda rhywfaint o frys. Mae hi'n galonogol iawn i mi, mewn gwirionedd, fod y Llywodraeth hon wedi eich penodi chi, Lynne, yn Weinidog Iechyd Meddwl, oherwydd fe wn i eich bod chi wedi ymgyrchu amdano ers talwm, ac rydych chi'n gwrando ar bobl ar draws y Siambr ac rydych chi'n gweithredu yn hyn o beth. Felly, rwyf yn croesawu hynna, ac rwy'n croesawu eich pwyslais chi ar ataliaeth hefyd. Rwyf i o'r farn mai dyna'r peth cwbl briodol i'w wneud.

Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn hefyd, Dirprwy Lywydd, i roi canmoliaeth i bawb a siaradodd yn y ddadl iechyd meddwl ddiwethaf yr wythnos diwethaf. Gartref yn sâl yr oeddwn i'n gwrando ar honno, yn anffodus, ac ni allwn i roi fy araith, ond roeddwn i'n ei hystyried hi'n rhywbeth gwirioneddol dda ac yn ddadl rymus iawn, mewn gwirionedd, ac rwy'n credu y bydd hi'n gwneud rhyw gymaint o wahaniaeth wrth symud ymlaen. A'r elfen honno o fod yn agored a diffuant a fydd yn gwneud yn gwbl siŵr na fydd iechyd meddwl bellach yn bwnc sy'n cael ei osgoi, onid e, Gweinidog, ac yn dangos y gall materion iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un.

Roeddwn i am ddweud wrth yr Aelodau yn fy araith i'r wythnos diwethaf—yr oeddwn i am ofyn iddyn nhw godi eu dwylo—

A gaf i atgoffa Aelodau nad araith mo hon? Mae gennych chi gwestiwn i'w ofyn. Rydych chi'n mynd dros eich amser.

—a yw salwch meddwl wedi effeithio arnyn nhw neu os ydyn nhw'n adnabod unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan salwch meddwl ac wedi cael sioc o ddeall pwy sydd wedi dioddef hynny, oherwydd mae hi'n bwysig bod eich cynllun chi'n gallu dangos y gall hyn effeithio ar unrhyw un, yn unrhyw le, fel gydag Andrew R.T. Davies, ac yn sicrhau bod cymorth ar gael i bawb, ym mhobman.

I'r perwyl hwn, Gweinidog, fe hoffwn i chi ystyried Bil sy'n mynd drwy Senedd bresennol y DU ar hyn o bryd. Mae hwnnw'n sicrhau bod cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol, a sicrhau bod hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl yn rhan o'r holl hyfforddiant cymorth cyntaf yn ein busnesau ni ledled y DU. Felly, a wnewch chi sicrhau bod hynny'n ymestyn i Gymru, a'i fod yn digwydd yng Nghymru? Ac yna fe hoffwn i ddweud hefyd o ran eich gwaith mewn ysbytai, os caf i, yn gyflym—

—bod llecyn diogel ar gyfer cleifion cymorth cyntaf iechyd meddwl y glasoed mewn ysbytai. Diolch i chi.

Diolch, Laura, am y pwyntiau yna, a diolch i chi am eich geiriau caredig, ac rwy'n awyddus iawn i weithio yn drawsbleidiol i gyflawni'r agenda hon, ac rwy'n sicr yn adleisio eich pwyntiau cadarn chi ynglŷn â'r cyfraniad a wnaeth didwylledd pob un.

Rwy'n credu y dylem ni fod â chydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol, a dyna'r hyn yr wyf i wedi galw amdano ers amser maith yn y Senedd hon, a dyna'n union yr wyf yn ceisio ei ysgogi. Rwy'n ymwybodol o'ch diddordeb chi mewn cymorth cyntaf ym maes iechyd meddwl. Rwy'n credu bod hwnnw'n un o blith amrywiaeth o ddulliau y gellir eu defnyddio nhw i gefnogi pobl, ond, yn y cyd-destun hwn o addysg, fe fyddwn i'n dweud bod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn llawer mwy sylfaenol a radical na hynny mewn gwirionedd, ac fe'i cynlluniwyd i atal pobl rhag bod ag angen am y cymorth cyntaf hwnnw o ran iechyd meddwl. Ystyr hyn yw ymgorffori atal ac ymyrryd yn gynnar yn llawer cynharach, mewn gwirionedd. Ond rwy'n hapus iawn i edrych ar y ddeddfwriaeth yr ydych chi'n cyfeirio ati hi, ond cofiwch, da chi, fod ymyrraeth gynnar ac atal yn gwbl greiddiol i'r hyn yr ydym ni'n ei wneud.

15:30
4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi lles meddwl mewn addysg

Yr eitem nesaf yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg— cefnogi lles meddwl mewn addysg. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae cefnogi lles emosiynol a meddyliol dysgwyr yn hanfodol os ydyn ni eisiau helpu pob person ifanc i gyflawni ei botensial.

Rydyn ni yma yng Nghymru yn gweithredu'n gyflym. Eleni yn unig rydym wedi darparu lefelau cyllid uwch nag erioed i gefnogi dysgwyr. O ganlyniad, mae 24,000 yn rhagor o sesiynau cwnsela wedi helpu 6,000 yn rhagor o blant a phobl ifanc. Rydyn ni wedi darparu cyllid i gyflwyno trefniadau lles cyffredinol a threfniadau sydd wedi'u targedu i bron 30,000 o blant a phobl ifanc. Rydym wedi helpu hyfforddi dros 4,000 o staff ysgolion, ac rydym wrthi yn cyflwyno ein cynlluniau peilot mewn ysgolion ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i blant a'r glasoed yn genedlaethol, gyda mwy na 100 o ymarferwyr iechyd meddwl cyfwerth ag amser llawn yn cynnig cefnogaeth yn uniongyrchol mewn ysgolion. 

Ond mae mwy eto i'w wneud. Mae cefnogi ysgolion i ddatblygu dull o fynd i'r afael â chwestiwn iechyd meddwl a lles ar lefel ysgol gyfan yn allweddol i'n strategaeth. Dyna sut y bydd modd gwneud y newidiadau sylfaenol y mae pob un ohonom ni am eu gweld ar draws ein system addysg. Cyhoeddwyd y fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ym mis Mawrth, ac rydym wedi ei wneud yn ganllaw statudol. 

Mae hwn yn ddarn hirdymor o waith ac rwyf am sicrhau bod ein gwaith mewn ysgolion yn cael ei ailadrodd ar draws gwasanaethau cyhoeddus eraill ac ar draws cymunedau. Dyna pam rydym ni wedi sicrhau cysylltiadau cryf rhwng ein fframwaith dull ysgol gyfan a fframwaith NEST/NYTH Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc, sy'n ategu ein fframwaith ysgol gyfan drwy gryfhau ymateb ein partneriaid a'r system gyfan i les ein plant a'n pobl ifanc.

Rwyf hefyd eisiau sicrhau bod ein gwaith llwyddiannus mewn ysgolion yn cael ei ymestyn ar draws y system addysg gyfan. Rwyf felly wedi nodi bod addysg bellach yn flaenoriaeth ar gyfer gweithredu pellach. Gwnaed buddsoddiad i gefnogi iechyd meddwl a lles staff a dysgwyr yn y sector addysg bellach, gyda bron i £7 miliwn wedi'i ddyrannu i gefnogi amrywiaeth o fentrau wedi'u teilwra. Mae rhan o'r buddsoddiad hwn hefyd wedi'i neilltuo ar gyfer y sectorau dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion. Mae cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau cenedlaethol, cydweithredol a sefydliadol, sy'n cynnwys hyfforddiant staff, mentora cyfoedion a chyflogi hyfforddwyr bugeiliol a swyddogion lles, yn ogystal â darparu cwnsela.

Mae addysg uwch hefyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Rydym i gyd yn gwybod am yr heriau mae myfyrwyr wedi'u hwynebu ers dechrau'r pandemig. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi dyrannu £50 miliwn ychwanegol drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i helpu prifysgolion i fynd i'r afael â chaledi myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys £10 miliwn i roi mwy o gymorth i fyfyrwyr sy'n wynebu anawsterau ariannol, emosiynol neu iechyd meddwl. Mae cymorth i fyfyrwyr mewn addysg uwch wedi'i deilwra i'w hanghenion, gan adlewyrchu eu statws fel oedolion annibynnol a chydnabod y pwysau penodol maen nhw’n eu hwynebu o ran byw'n annibynnol, rheoli eu harian eu hunain ac ymdopi â her astudio annibynnol.

Rwyf am i uchelgais fod wrth wraidd ein gwaith ac, wrth feddwl am les meddyliol, corfforol a chymdeithasol ein pobl ifanc, mae'n iawn felly ein bod yn ystyried sut a phryd y byddwn yn dysgu. Felly, rydym wedi ymrwymo, yn y rhaglen ar gyfer y llywodraeth, i archwilio diwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol. Dydyn ni ddim wedi cael sgwrs ddifrifol am y ffordd rydyn ni'n strwythuro amser ysgol yng Nghymru ers degawdau. Mae hynny'n llawer rhy hir.

Byddai mynd yn ôl i'r arfer heb ei drafod yn gyntaf yng nghyd-destun lles staff a dysgwyr, gan fynd i'r afael ag effaith anfantais ar gyrhaeddiad a diwygio'r cwricwlwm, yn gyfle wedi’i wastraffu. Rwy'n arwain gwaith ar rythm y diwrnod a'r flwyddyn ysgol, a bydd sgyrsiau gyda dysgwyr, gyda staff ysgolion, teuluoedd, cyflogwyr, undebau a chymunedau ledled y wlad dros yr wythnosau nesaf yn sail i'n gwaith ehangach. Gan ddechrau drwy siarad â phobl ifanc eu hunain, gweithlu'r ysgol a chynrychiolwyr busnes, ac yna ymgysylltiad cenedlaethol ehangach yn y cyfnod cyn y Nadolig, byddaf yn siarad yn uniongyrchol â'r rhai a all elwa fwyaf o ddiwygio ac a all ein helpu i lunio ein cynigion orau.

Ar yr un pryd, rydym yn adolygu tystiolaeth y DU a thystiolaeth ryngwladol i nodi ffyrdd newydd o roi cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau newydd. Gall y cyfleoedd hyn arwain at well lles emosiynol ac iechyd meddwl, mwy o gyfranogiad mewn gweithgareddau corfforol, arferion bwyta iachach, gwell sgiliau cymdeithasol, yn ogystal â lefelau uwch o hyder, parodrwydd ar gyfer yr ysgol—

15:35

Mae'n ddrwg gennyf, Gweinidog. A gaf i atgoffa'r Aelodau, os gwelwch yn dda, i adael i'r Gweinidog siarad a pheidio â chael sgyrsiau preifat yn y Siambr, fel y gall eraill wrando? Mae'n ddrwg gennyf, Gweinidog.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rhan bwysig o hyn yw alinio sut rydym yn cael mynediad at ddysgu gyda phatrymau byw modern. Mae'r gwaith bellach yn dechrau o ddifrif a byddaf yn cyhoeddi rhagor o fanylion dros yr wythnosau nesaf.

I gloi, Dirprwy Lywydd, mae gennym ni yng Nghymru hanes balch o gefnogi iechyd a lles meddwl. A thrwy weithio ar draws y sector, gyda phartneriaid allweddol, byddwn yn parhau ar ein taith i gefnogi newid diwylliant ar draws ein system addysg, lle mae lles meddwl yn cael ei roi ar flaen ac wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn, Gweinidog. Mae plant ledled Cymru wedi cael cyfnod anodd iawn dros y pandemig hwn, ac mae'r cyfnod wedi amlygu pa mor agored i niwed yw iechyd a lles meddwl ein plant drwy gynnwrf a newid sylweddol yn eu bywydau. Mae sicrhau bod pob mesur yno i'w cefnogi yn hollbwysig wrth i ni symud ymlaen, ac felly rwy'n croesawu unrhyw beth y gallech chi ei gyflwyno ar hyn o bryd yn hynny o beth. A diolch ichi am y gwaith yr ydych wedi'i wneud gyda Lynne Neagle arno.

Mae angen yr holl gymorth posibl ar ein plant. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich datganiad, fe wnaethoch chi amlinellu 100 o ymarferwyr iechyd meddwl penodol. Ydych chi’n credu y bydd hynny'n ddigon i gwmpasu pob ysgol, ac ydy'r nifer hwn yn ddigon sylweddol i gwmpasu'r holl ardaloedd daearyddol? Felly, hoffwn gael ychydig mwy o wybodaeth am hynny, os gwelwch yn dda.

Wrth gwrs, rydym yn croesawu'r sesiynau cwnsela ychwanegol a hyfforddiant staff. Ond mae'n ddigon hawdd cael y ddarpariaeth ar waith a chael y ddarpariaeth ar gael i gyfeirio ati, ond mae angen i bobl gyfeirio'r plant hynny i'r cyfeiriad cywir yn y lle cyntaf. Felly, popeth yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen—ac rydych chi wedi’i glywed droeon hefyd, Lynne—yw bod angen i ni gael llysgenhadon iechyd meddwl pwrpasol ledled grwpiau blwyddyn myfyrwyr a staff addysgu ym mhob un o'n hysgolion a'n darparwyr addysg, fel bod rhywun yno y gallwch fynd ato, a all eich cyfeirio i'r cyfeiriad cywir at y ddarpariaeth yr ydych yn ei darparu ac sy'n gallu chwilio am arwyddion y rhai sy'n yn ei chael hi'n anodd ac yn gofyn y cwestiwn hwnnw sy'n achub bywydau, 'Ydych chi'n iawn?'

A hefyd rwyf yn croesawu'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud, bod rhywfaint o hyfforddiant staff wedi bod, fel y dywedais yn awr. Ond oherwydd faint o amser mae ein hathrawon yn ei dreulio gyda'n plant, sydd weithiau'n llawer mwy na rhieni, onid ydych yn cytuno â mi ei bod yn hen bryd i hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl fod yn rhan annatod o hyfforddiant yr holl athrawon, wrth symud ymlaen?

Mae llawer o waith da yn digwydd yn ein hysgolion yn barod hefyd, fel y gwyddom ni. Mae'n bwysig bod pob amgylchedd dysgu yn parhau i siarad am iechyd meddwl, fel yma yn y Siambr hon, i sicrhau nad yw bellach yn bwnc tabŵ ac nad oes arnynt ofn cyfaddef i unrhyw broblemau iechyd meddwl na chredu eu bod yn wan oherwydd eu bod yn gwneud hynny, oherwydd mae'n dangos cryfder mawr i gyfaddef hyn ac i gael y cymorth hwnnw, a dyna'r neges mae angen i ni barhau i'w chyfleu.

Rydym yn awr yn fwy ymwybodol nag erioed o'r achosion—yn enwedig ar ôl y pandemig hwn—o faterion iechyd meddwl, ond rydym hefyd yn fwy ymwybodol nag erioed o'r hyn y gallwn ei wneud i ddiogelu ein hiechyd meddwl. A fyddech yn cytuno â mi, Gweinidog, fod gweithgarwch corfforol a chymdeithasu bellach wedi'u cydnabod fel rhannau sylweddol a phwysig o fywyd yr ysgol, yn fwy felly nag erioed o'r blaen? Ac a fyddech yn cytuno â mi mai dyma'r amser i dderbyn pwysigrwydd gweithgarwch corfforol yn y cwricwlwm, buddsoddi ynddo a sicrhau bod ei bwysigrwydd yn cael ei gydnabod yn amserlen yr ysgol—felly, byddwn yn croesawu eich barn ar hynny—ac i sicrhau bod gan bob ysgol gyfleusterau pob tywydd, fel y gall gweithgarwch corfforol barhau, hyd yn oed yn ystod misoedd y gaeaf?

Rwy'n nodi hefyd yr hyn a ddywedwch, eich bod yn gobeithio y bydd cyfle i blant ddatblygu arferion bwyta'n iachach, ac rwyf yn llwyr gefnogi hynny. Ond rwy'n gobeithio, ochr yn ochr â hynny, y bydd opsiynau bwyta'n iachach mewn prydau ysgol ar gael yn ein hysgolion—a barnu o opsiynau fy mab, nid yw mor dda â hynny. Felly, mae'n rhywbeth y mae angen i ni edrych arno'n bendant, os ydym o ddifrif am y rhan honno o les ein plant.

Hefyd, fe wnaethoch chi ddweud eich bod am edrych ar strwythur yr ysgol yng Nghymru. Mae hyn wedi'i drafod yn anffurfiol ers blynyddoedd, fel y gwyddom ni, ond rwyf yn eich canmol am ddweud yn awr eich bod yn mynd i ymchwilio iddo, a gyda'r fath barch ato. Ond oherwydd, fel y gwyddom ni, byddai hyn yn newid mor sylweddol, pe baech yn dechrau newid oriau'r ysgol a phopeth arall, mae'n rhaid cael ymagwedd gyfannol at hyn. Gan fod yr effaith ganlyniadol o newid oriau ysgol yn enfawr, nid yn unig ar gyfer materion cludiant i'r ysgol, ond oriau gwaith rhieni, ar gyfer darpariaeth y blynyddoedd cynnar, oherwydd mae'n rhaid i'r cyfan gyd-fynd â'i gilydd i newid darpariaeth yr ysgol. Ond rwyf yn croesawu—. Unrhyw fath o estyniad i weithgareddau ar ôl ysgol, wrth gwrs, byddwn i'n eu croesawu. Ond hoffwn wybod eich syniadau cychwynnol—gwn eich bod yn ymchwilio iddo, ond eich syniadau cychwynnol—ar sut yr ydych yn gweld y diwrnod ysgol yn datblygu. Diolch.

15:40

Diolch i Laura Anne Jones am yr ystod eang honno o gwestiynau. Fe wnaf i geisio gwneud cyfiawnder ag ehangder a dyfnder y cwestiynau y gwnaeth hi ymdrin â nhw yn ei chyfraniad. O ran, yn gyntaf, y cwestiwn o recriwtio dros 100 o staff cyfwerth ag amser llawn i gefnogi gwaith cynlluniau treialu mewngymorth CAMHS ac ymyriadau eraill, rwy'n credu ei bod yn her cyrraedd y targed hwnnw ynddo'i hun, mewn gwirionedd. Mae'n nifer sylweddol o weithwyr proffesiynol ychwanegol i recriwtio i'r system mewn cyfnod cymharol fyr. Rwy'n credu mai'r profiad ar lawr gwlad yw bod y byrddau iechyd mewn gwahanol leoedd ar y daith, yn dibynnu ar eu cyfranogiad yn rhywfaint o waith y cynlluniau treialu hyd yma. Ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, y bydd hynny'n gyfraniad sylweddol i'n hagenda yn y lle hwn.

Rwy'n credu iddi wneud pwynt pwysig iawn o ran gwasanaethau cwnsela a'r amrywiaeth o fanteision y gallan nhw eu cynnig, ond hefyd rhai o'r heriau o ran cyflawni'r gweithredu ar y raddfa fwy honno. Soniais am rai o'r niferoedd yn fy natganiad, y bwriedir i'r cyllid eu cynnwys. Ochr yn ochr â hynny, gwn y bydd yn dawel ei meddwl o wybod bod adolygiad o'r gwasanaeth cwnsela'n digwydd hefyd, fel y gallwn ddysgu o hynny, a bydd hynny'n cael ei ddilyn yn fuan gan gyfres o ymgynghoriadau unigol gyda rhanddeiliaid ar draws y system, ac rwy'n credu hefyd y bydd sicrhau ein bod yn cipio profiadau ar draws y system yn bwysig. Bydd rhywfaint o'r cyllid ychwanegol sydd ar gael yn ymwneud â darparu hyfforddiant ychwanegol i gwnselwyr, llunio cysylltiadau â darparwyr gwasanaethau cydategol, lle maen nhw’n berthnasol, yn ogystal â mynd i'r afael â rhai o'r rhestrau aros, oherwydd, fel y bydd hi'n gwybod, mae galw sylweddol yn y system ar hyn o bryd. Felly, mae rhyw fath o ddull cyfannol yn cael ei ddefnyddio at hynny, darparu gwasanaethau cwnsela.

Manteisiodd yr Aelod ar y cyfle yr oedd eisoes wedi'i gael gyda fy nghyd-Weinidog y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles i godi'r pwynt mae hi'n ei wneud yn aml am gymorth cyntaf iechyd meddwl. Nid wyf yn credu bod gennyf fawr ddim i'w ychwanegu at sylwadau fy nghyd-Aelod yma. Yr hyn nad ydym ni am ei wneud yw dilyn llwybr sy'n mynd â ni at ganlyniad llai uchelgeisiol nag y credaf fod y fframwaith yn mynd â ni tuag ato. Ac mewn gwirionedd, rydym ni'n rhannu'r uchelgais hon yn y Llywodraeth i sicrhau bod gennym y dull mwyaf uchelgeisiol o ymdrin ag iechyd meddwl mewn cyd-destun ysgol gyfan drwy bopeth a wnawn. Rydym yn ymwybodol bod amrywiaeth o adnoddau ac ymyriadau ar gael i arweinwyr ysgolion wrth wneud rhai o'r dyfarniadau a wnânt wrth weithredu'r dull ysgol gyfan. Ac felly, er mwyn eu helpu i lywio'r hyn a all fod yn ofod eithaf gorlawn, rwy'n credu, os ydych yn llunio barn am yr ymyriadau gorau, yr adnoddau gorau i'w defnyddio, rydym wedi comisiynu Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu pecyn cymorth o ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a fydd yn cefnogi ysgolion i ddewis pa rai o'r ymyriadau lles sy'n cefnogi'r unigolyn orau—wyddoch chi, y cyfuniad o anghenion sydd ganddyn nhw ymhlith eu carfan. Cafodd y gwaith hwnnw ei oedi yn ystod cyfnod COVID, ond mae hynny wedi'i ailgychwyn yn awr, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n arf defnyddiol i ysgolion wrth fynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau hyn.

Rwy'n croesawu ei chefnogaeth i'n pwyslais ar weithgarwch corfforol yn y cwricwlwm newydd, ac yn wir wrth annog hynny yn y ddarpariaeth bresennol. Bydd yn gwybod ein bod wedi darparu £20 miliwn ychwanegol yn ddiweddar mewn cyllid i gefnogi'r gallu i gael gafael ar weithgareddau chwarae a chwaraeon, creadigol a mynegiannol, gan adeiladu ar yr Haf o Hwyl, drwy'r rhaglen adnewyddu a diwygio, a gwn ei bod hi'n rhannu fy angerdd am sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfleoedd i gefnogi eu lles yn gyffredinol drwy weithgareddau corfforol.

Caeodd gyda rhai cwestiynau am ddiwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol. Fel y dywedais i, bydd y sgyrsiau gyda dysgwyr—byddwn ni'n dechrau gyda dysgwyr ac yna'r rhanddeiliaid eraill yr ydym yn gweithio gyda nhw drwy'r system—yn cael eu cynnal cyn diwedd eleni gyda'r bwriad o ymgynghori yn 2022. O'm safbwynt i, yr hyn yr wyf i am ei weld o ran y diwrnod ysgol yw darparu amrywiaeth o gyfleoedd i'n dysgwyr, gan adeiladu ar y pethau yr ydym wedi gweld sydd wedi gweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a rhai o'n hymatebion eraill i'r pwysau mae COVID wedi'u rhoi ar ein pobl ifanc. Nawr, bydd rhywfaint o hynny'n ymwneud â dysgu, ond bydd rhywfaint ohono yn y ffordd yr oedd, rwy’n credu, yn gobeithio, o amgylch profiadau chwarae a diwylliannol, i gael set gyfoethocach o brofiadau i'n pobl ifanc. Mae llawer o enghreifftiau rhyngwladol y gallwn ni eu defnyddio. Mae rhai enghreifftiau o fewn y DU—rhannau eraill o'r DU—yn yr Alban ac yn Lloegr yn benodol, y byddwn ni'n eu defnyddio. Rydym eisoes yn cynnal gwerthusiad o rai o'r pethau hynny. Yn amlwg, bydd hynny'n rhan o'r sgwrs gyhoeddus ehangach sy'n dilyn.

15:45

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am y datganiad hefyd, Weinidog. Roeddwn i eisiau gofyn i chi am eco-bryder neu bryder yn ymwneud â'r argyfwng newid hinsawdd, sy'n effeithio ar niferoedd cynyddol o bobl ifanc. Fel byddwch chi'n ei wybod, mae hwn yn fater dwi wedi bod yn ceisio perswadio'r Llywodraeth i weithredu arno ers dechrau'r Senedd yma.

Mae academyddion ym Mhrifysgol Caerfaddon wedi cynnal ymchwiliad mewn i'r maes, ac mae hwnna wedi ffeindio bod 60 y cant o bobl ifanc naill ai yn pryderu yn fawr neu yn pryderu yn enbyd am newid hinsawdd. Ac mae'r academyddion wedi pwysleisio bod eco-bryder yn ofn sydd yn gwbl resymegol a dealladwy. Felly, nid darbwyllo’r bobl ifanc sydd angen digwydd yma, ond eu cefnogi mewn ffordd. Allaf i ofyn ichi, plis, pa newidiadau yn y cwricwlwm y byddech chi'n fodlon ystyried eu cyflwyno er mwyn delio â'r ffenomenon yma o bryder newid hinsawdd, a hefyd i ddelio â'r tystiolaeth sydd wrth wraidd y pryder? Dwi'n meddwl bod angen cyfiawnhau y pryder hwn; mae angen dangos ein bod ni oll yn gwrando ar bobl ifanc am sut maen nhw'n teimlo, yn gwrando arnyn nhw hefyd ynglŷn â beth yw eu syniadau nhw, a gwneud iddyn nhw deimlo'n llai ynysig yn yr holl sefyllfa.

Wrth gwrs, mae angen ffocysu ar y fframio, ar sut mae'r bobl ifanc yn dysgu am newid hinsawdd—nid dim ond am y trychinebau, ond hefyd y gweithrediad sydd gennym ni oll, neu'r agency sydd gyda ni. Buaswn i yn hoffi gweld mwy o gymorth hefyd ar gyfer athrawon, ac efallai mwy o hyfforddiant ar sut i ymdopi â'r pryder hwn sydd yn cael ei brofi gan fwy a mwy o blant.

Mae hwn yn faes, Weinidog, lle dwi wir yn meddwl y byddem ni'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau nifer fawr iawn o blant trwy wrando ar yr hyn maen nhw yn ei ddweud wrthym ni. Buaswn i wir yn hoffi gweld symudiad gan y Llywodraeth ar hyn. Buaswn i'n hapus iawn, a brwdfrydig, yn wir, i weithio gyda'r Llywodraeth yn y maes, a buaswn i wir yn awyddus i glywed eich barn chi ar beth gall gael ei wneud tu mewn i ysgolion i ddelio â'r eco-bryder yma.

Ac yn olaf, Weinidog, yn ystyried bod newid hinsawdd yn un—wel, mae hi'n un sialens enfawr, nag yw hi, o fewn nifer o sialensau sydd yn wynebu'r genhedlaeth nesaf, sut ydy'r Llywodraeth yn bwriadu helpu plant i ddod dros straen y pandemig? Dwi'n gwybod i hyn gael ei grybwyll gan Laura Jones ychydig funudau yn ôl. Mae plant wedi colli amser gyda ffrindiau, maen nhw wedi gweld rhieni a pherthnasau yn dioddef, rhai wedi colli teulu. Fel gyda newid hinsawdd, dŷn ni'n gallu gweld yr effaith mae'r pandemig yn ei gael ar gymunedau cyfan, ac mae angen i'r bobl ifanc hyn allu prosesu sut maen nhw'n teimlo, i ddysgu am rannu profiadau a gallu dod trwy'r sefyllfa sydd yn sefyllfa mor anodd. So, sut ydy'r Llywodraeth yn mynd ati i wneud yn siŵr bod cymorth ar gael tu mewn i ysgolion i helpu gyda hyn, plis?

Diolch i Delyth Jewell am y cwestiynau ar ddau faes pwysig iawn. O ran y cwestiwn cyntaf, o ran eco-bryder, rwyf wedi cydnabod eisoes yn y trafodaethau rŷn ni wedi eu cael mor bwysig yw cymryd ystyriaeth o hyn, ac mae e'n rhan greiddiol o'r gwaith rŷn ni'n ei wneud eisoes, wrth gwrs, yn ein hysgolion, er mwyn sicrhau bod eco-bryder, fel ystod ehangach o bryderon, yn rhan o'r ddealltwriaeth o anghenion ein disgyblion ni.

O ran beth yw'r rôl i hynny yn ein cwricwlwm, wel, mae'r cwricwlwm, wrth gwrs, yn darparu ystod eang o newidiadau sy'n mynd i gynorthwyo athrawon i allu cefnogi'n dysgwyr ni i fynd i'r afael â chwestiynau i wneud gyda newid hinsawdd yn gyffredinol, gydag eco-bryder fel rhan o hwnnw. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi bod dealltwriaeth ehangach, nid yn unig o'r sialens, ond yr hyn gellid ei wneud fel unigolion, yn rhan bwysig o ymateb i'r cwestiwn yna o eco-bryder a'r cwestiynau llesiant ac iechyd meddwl sydd yn dod o hynny. Ond fe fyddwn i'n dadlau'n sicr iawn fod hynny'n greiddiol i'r cwricwlwm fel mae wedi'i ddylunio eisoes. Mae'n thema gyson drwy'r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd, ac yn benodol yn y cyd-destun iechyd a llesiant fel maes o brofiad. Rŷn ni wrthi'n darparu adnoddau, wrth gwrs, ar gyfer y cwricwlwm newydd, a chefnogi'r sector i gomisiynu a datblygu adnoddau, a phwyslais ar adnoddau yng nghyd-destun newid hinsawdd yn rhan o hynny. Felly, fe wnaf i sicrhau ein bod ni'n darparu cefnogaeth i sicrhau adnoddau ym maes eco-bryder fel rhan ehangach o hwnnw.

Roedd yr ail set o gwestiynau yn ymwneud â pha gefnogaeth rŷn ni'n ei darparu i ddelio ag impact y pandemig ar iechyd meddwl a llesiant ein pobl ifanc ni. Byddwn i'n ei chyfeirio hi at y gwaith roedd y Dirprwy Weinidog yn sôn amdano yn ei datganiad hi—ac rwyf wedi cyfeirio ato fe—o ran y fframwaith ysgol gyfan. Mae'n newid y diwylliant o fewn ysgol fel bod pob rhan o gymuned yr ysgol yn gweld pwysigrwydd yr agenda hon ac yn cael y sgiliau i allu darparu cefnogaeth i'n dysgwyr ni, ond i'r gweithlu addysg hefyd yn ehangach. Mae hynny'n ymateb sylfaenol i'r hyn sydd wedi digwydd dros y cyfnod diwethaf. Wrth gwrs, mae seiliau'r peth yn dod cyn cyfnod COVID, ond rwy'n credu ein bod ni gyd wedi dysgu pa mor bwysig mae hyn wedi bod yn ystod y flwyddyn i 18 mis diwethaf.

Ac o ran y cynllun adnewyddu a diwygio, mae arian penodol wedi'i ddyrannu o fewn hynny er mwyn sicrhau gweithio ar lefel un wrth un, efallai, gyda rhai disgyblion sydd angen hynny, i ddarparu cefnogaeth benodol wedi'i theilwra i'w hanghenion personol nhw. Mae hwnna'n rhan o'r cynllun ehangach; mae lot o enghreifftiau eraill, wrth gwrs, yn y cynllun hwnnw, a byddwn i'n cyfeirio'r Aelod at y ddogfen honno.

15:50

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw; mae gennyf ychydig o gwestiynau'n codi. Mae'n amlwg bod dull ysgol gyfan yn un sy'n sicrhau bod polisi wedi'i wreiddio ar draws bywyd yr ysgol, ac yn wir os yw wedi'i wneud yn dda, yna gall hynny fod yn wir. Fodd bynnag, mae perygl y gall dull ysgol gyfan, os nad yw wedi'i gynllunio'n dda a'i ddadansoddi'n ddigonol, roi mesurau ychwanegol ar athrawon gwirioneddol i ddarparu cymorth lles meddwl, yn ogystal â'u cwricwlwm presennol, heb neilltuo amser ychwanegol na hyfforddiant ychwanegol. Pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael neu a ydych yn bwriadu eu cael gydag athrawon a'u hundebau llafur i sicrhau y gellir darparu digon o amser a hyfforddiant i ddarparu cymorth lles ystyrlon?

Ac, yn ail, un o'r prif straen ar ein dysgwyr, nad yw efallai'n cael ei drafod mor eang ag y dylai fod, yw'r effaith mae straen athrawon yn ei chael arnynt. Mae'r addysgu'n cael ei gydnabod yn eang fel galwedigaeth sy'n achosi straen mawr; byddai'n naïf i ni feddwl nad yw athrawon yn cyfleu'r straen hwn i'w myfyrwyr ar adegau. Gall hyn fod o ran absenoldeb athrawon o ganlyniad i faterion iechyd meddwl, gwneud parhad ac ansawdd y dysgu yn anodd, neu fyfyrwyr yn sylwi ar straen athrawon yn ystod gwersi ac yn profi straen eu hunain o ganlyniad. Felly, pa waith sy'n cael ei wneud i gefnogi athrawon gyda'u problemau iechyd meddwl eu hunain, ac a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod angen gwneud mwy yn y maes hwn?

Diolch i'r Aelod am y ddau gwestiwn pwysig hynny. Rwy'n credu bod darparu digon o gapasiti yn y system i allu darparu hyfforddiant a datblygu'r amgylchedd dysgu proffesiynol sydd ei angen yn amlwg yn hanfodol. Rhan o'r buddsoddiad yr ydym ni wedi'i wneud, wrth gwrs, dros y cyfnod diweddar yw gwella'r capasiti yn ein hysgolion i allu ymateb i rai o brif heriau COVID, ac mae hynny'n cynnwys cwestiynau am les, o safbwynt ein dysgwyr, ond hefyd o safbwynt yr addysgu a'r gweithlu addysg ehangach arall hefyd. Mae lles athrawon yn ddimensiwn hanfodol i hynny, yn y ffordd mae ei chwestiwn yn nodi.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi ariannu Cymorth Addysg, sydd, rwy'n siŵr y bydd hi'n ymwybodol, yn sefydliad elusennol sydd ag arbenigedd mewn darparu cymorth ar gyfer lles ar draws y proffesiwn addysg i ddarparu cymorth uniongyrchol i unigolion mewn ysgolion, ond hefyd i roi arweiniad a chyngor i athrawon, arweinwyr ysgolion a rheolwyr i roi'r offer iddynt wedyn i gefnogi eu staff. Mae rhywfaint o hynny, fel y dywedais i, yn ymwneud â chefnogaeth i unigolion, yn arbennig, efallai, yr ymarferwyr hynny sy'n gweithio mewn cyd-destunau heriol iawn. Mae rhywfaint ohono'n gymorth i'r ysgol ar sail systemig, gan eu helpu i greu gweithle sy'n iach yn feddyliol sydd o fudd i bob rhan o gymuned yr ysgol, ac mae rhywfaint o hynny wedi bod yn ymwneud â gweithdai llesiant sydd wedi'u trefnu ar gyfer diwrnodau HMS ac amrywiaeth o ymyriadau eraill. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi lefel sylweddol o gefnogaeth i'r gweithlu addysgu o ran sut maen nhw'n datblygu'r dull ysgol gyfan ledled Cymru.

15:55

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i hefyd gofnodi, ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ein dymuniadau gorau i Andrew R.T. Davies yn ei adferiad a diolch iddo am ei ddatganiadau beiddgar a chlir iawn o ran ei iechyd meddwl?

Gweinidog, hoffwn ddiolch i chi am gyflwyno'r ddadl a'r mater pwysig iawn hwn. Mae lles meddwl ein plant a'n pobl ifanc mor bwysig, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn parhau â'r dull ysgol gyfan hwn o ymdrin â lles meddyliol, sy'n rhan annatod o'r cwricwlwm newydd, fel y datblygwyd gan eich rhagflaenydd, o blaid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams. Felly, diolch yn fawr iawn am broffilio hyn y prynhawn yma.

Hoffwn dynnu sylw at y mater sy'n ymwneud â gwaith trawsbynciol, oherwydd mae 60 y cant o blant a phobl ifanc sy'n ceisio cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl arbenigol drwy CAMHS yn aros pedair wythnos neu fwy am eu hapwyntiad cyntaf a hynny ym mis Gorffennaf 2021. Bu cynnydd o tua 350 y cant i wasanaethau CAMHS ar ffigurau'r flwyddyn flaenorol. Felly, mae fy nghwestiwn a'r mater yn ymwneud mewn gwirionedd â sut y gallwn ni weithio ar draws iechyd ac addysg i sicrhau bod angen i barhau i gefnogi gwasanaethau CAMHS, ond hefyd sicrhau nad yw plant yn syrthio drwy'r craciau, drwy sicrhau bod gennym ddulliau ysgol gyfan digonol mewn ysgolion. Ac, yn ail, tybed a gaf i ofyn i chi a ydych chi wedi ystyried creu rhwydwaith o gymorth iechyd meddwl dros gyfnod o 24 awr, saith diwrnod yr wythnos i'n plant a'n pobl ifanc. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i Jane Dodds am y set honno o gwestiynau ac rwy'n ymuno â hi i dalu teyrnged i'm rhagflaenydd ac am ei hymrwymiad i ddiwygio'r cwricwlwm ac i agenda iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a oedd yn flaenoriaeth ymroddedig iawn a sylweddol iawn iddi. Gobeithio y byddwch wedi clywed yn y cyfraniadau mae Lynne Neagle a minnau wedi'u gwneud yn y Siambr heddiw pa mor gydgysylltiedig yr ydym ni o fewn y Llywodraeth o ran yr ymyriadau y gellir eu gwneud o safbwynt iechyd ac o safbwynt addysg i geisio sicrhau bod y dull cydgysylltiedig hwnnw y mae'n ei nodi mor bwysig, ac yn dod hyd yn oed yn fwy felly, y realiti ar lawr gwlad. Rydym yn cadeirio'r grŵp gorchwyl a gorffen ar y cyd, fel yr oedd Lynne Neagle yn ei amlinellu'n gynharach, ac mae nifer o'r ymyriadau yn y gofod hwn yn deillio o weithio agos iawn rhwng yr adran iechyd a'r adran addysg, oherwydd rydym yn cydnabod mai hanfod y gwaith hwn yw sicrhau nad yw plant yn syrthio rhwng y craciau, os mynnwch chi, a bod gwasanaeth di-dor sy'n cefnogi plant a phobl ifanc yn eu holl anghenion iechyd a lles meddwl. Rwy'n hyderus mai cyflawni'r gwaith yr ydym yn ei wneud o safbwynt y Llywodraeth yw'r ffordd orau o gyrraedd y canlyniad hwnnw, ond mae heriau sylweddol yn y system o ran cyflawni hynny yn y ffordd y gwn ei bod yn ymwybodol, ac rwy'n gobeithio bod rhai o'r pethau yr ydym ni wedi'u hamlinellu heddiw yn y ddau ddatganiad a glywsoch chi hyd yn hyn, a'r rhai a fydd yn dilyn, yn dangos pa mor ymroddedig yw'r Llywodraeth i sicrhau bod pawb yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer eu hiechyd meddwl.

Diolch, Gweinidog. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:59.

16:05

Ailymgynullodd y Senedd am 16:08, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

5. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Natur, bioamrywiaeth a lleoedd lleol ar gyfer natur

Yr eitem nawr, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar natur, bioamrywiaeth a lleoedd lleol ar gyfer natur. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud ei datganiad—Julie James.

Diolch, Llywydd. Mae'r amgylchedd naturiol yng Nghymru yn sail i'n llesiant. Mae gallu mynd i fyd natur a gweithredu gydag eraill i ofalu am natur o fudd i'n hiechyd meddwl. Mae'r cysylltiad sydd gennym yng Nghymru â'n tir a'n dyfroedd yn rhedeg yn ddwfn yn ein diwylliant. Mae'n ein gwneud ni pwy ydym ni. Er ein bod yn dibynnu ar natur am y cyfleoedd economaidd y mae'n eu darparu a'r amddiffyniad rhag llygredd a pheryglon naturiol, nid yw ein perthynas yn gwbl weithredol. Ni allwn grynhoi gwerth llawn natur ar fantolen ac ni allwn fforddio gadael i'r farchnad rydd benderfynu ar ei ffawd. Mae'r miloedd lawer o bobl ledled Cymru sydd eisoes yn cymryd camau i atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn natur yn cael eu hysbrydoli gan awydd i drosglwyddo ein treftadaeth naturiol i gyflwr y gallwn fod yn falch ohono.

Mae datblygu perthynas fwy cynaliadwy â byd natur yn dechrau yn ein cymunedau lleol. Nod y Llywodraeth hon yw cryfhau'r cysylltiadau rhwng cymunedau a natur drwy gynyddu'r cyfleoedd i bobl fod yn rhan o weithredu ar y cyd i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Adlewyrchir y dull gweithredu hwn yn yr ystod eang o fentrau newydd yr ydym wedi'u datblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys ein coedwig genedlaethol, y cynllun ffermio cynaliadwy, ein gofynion sy'n arwain y byd i weithredu draenio cynaliadwy, y flaenoriaeth yr ydym ni'n ei rhoi i gynlluniau rheoli llifogydd sy'n seiliedig ar natur, ac eraill. Rydym hefyd wedi ymrwymo yn ystod y tymor hwn i ddatblygu mentrau pellach, gan gynnwys cynllun adfer cynefinoedd arfordirol, parc cenedlaethol newydd, a chefnogi dynodi dyfroedd ymdrochi mewndirol i adeiladu ar y safonau dŵr ymdrochi uchel a gyflawnwyd ar hyd arfordir Cymru. Rwyf i'n credu bod cyfleoedd i ddefnyddio'r dull yr ydym ni wedi'i ddefnyddio o ran safleoedd tai enghreifftiol i ddatblygu safleoedd adfer natur enghreifftiol, yn enwedig ar draws yr ardaloedd adnoddau natur cenedlaethol a nodwyd yn 'Cymru'r Dyfodol'. Nid yw'r camau hyn yn ymwneud â chynnal a gwella ein tirweddau, afonydd a moroedd yn unig, ond mae'n ymwneud â chysylltu cymunedau'n agosach atynt.

Hoffwn dynnu sylw at ddau gynllun arbennig o bwysig yr ydym ni wedi'u datblygu gyda phartneriaid, a byddwn i'n annog pob Aelod o'r Senedd i gymryd diddordeb mawr mewn gweithgareddau sydd ar droed yn eu hardaloedd lleol ac i annog cymunedau i gymryd rhan a llunio'r gweithgareddau hynny yn y blynyddoedd i ddod. Lansiwyd y fenter Rhwydweithiau Natur yn gynharach eleni, a heddiw rwyf wedi cyhoeddi'r 29 prosiect cyntaf i gael cyllid, gan fod o fudd i fwy na 100 o gynefinoedd a rhywogaethau o arwyddocâd rhyngwladol. Mae'r prosiectau hyn yn cydnabod natur fel cyfres o rwydweithiau ar dir ac ar y môr y mae angen i ni eu cysylltu a'u tyfu i'w gwneud yn fwy cydnerth. Mae'r prosiectau yr ydym ni'n eu hariannu yn cynnwys cysylltu coetiroedd tameidiog i alluogi rhywogaethau i sefydlu cynefin dros ardaloedd mwy, lleihau llygredd ffosffad mewn afonydd i ddiogelu natur ymhell i lawr yr afon, a gwella cyflwr cynefinoedd i alluogi rhai o'n rhywogaethau mwyaf eiconig i gael mwy o ryddid i grwydro—y gylfinir, gloÿnnod byw britheg a maelgwn, er enghraifft. Yn hollbwysig, mae prosiectau'n harneisio egni cymunedau lleol—cefnogi gwyddoniaeth dinasyddion, cynnwys ysgolion, a darparu sgiliau a chyfleoedd hyfforddi. Yn yr ystyr hwn, mae Rhwydweithiau Natur yn rhwydweithiau ecolegol a hefyd yn rhwydweithiau o bobl sydd eu hangen i sicrhau ein bod yn gallu cynnal y camau gweithredu hyn ar natur i'r dyfodol.

Yr ail fenter yr hoffwn i dynnu sylw ati yw'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a lansiwyd ar ddechrau 2020 gyda'r nod o gefnogi cymunedau i greu natur ar eu stepen drws, gan weithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol mawr a bach. Er bod Rhwydweithiau Natur yn cyflawni ar raddfa tirwedd, mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cefnogi mesurau cymedrol a all wneud gwahaniaeth mawr ar lefel gymunedol, gan wella mynediad at natur drwy greu a gwella mannau gwyrdd sydd agosaf at le mae pobl yn byw ac yn gweithio, o dyfu bwyd cymunedol i arferion torri gwair sy'n ystyriol o natur. Er gwaethaf effaith y pandemig, roedd ymateb y cyhoedd i'r fenter hon yn aruthrol, a dyblodd maint y cynllun a mwy mewn ymateb i'r galw. Nid yn unig yr ydym ni'n bwriadu cynnal y lefel eithriadol o uchel hon o gyfranogiad y cyhoedd, ond rydym ni eisiau ei chynyddu hyd yn oed ymhellach, a byddwn i'n croesawu cyfraniadau gan Aelodau yma heddiw ynghylch cyfleoedd y maen nhw'n eu gweld i gyflawni hynny.

Yn anffodus, mae ein gallu i gefnogi gweithredu hirdymor ar natur wedi'i danseilio gan gamreoli cyllid cyhoeddus gan Lywodraeth y DU. Drwy fethu â darparu cyllid amlflwydd, a methu â rhoi cyllid yn lle'r cyllid a gawsom yn y gorffennol gan yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU wedi gweithio yn erbyn adfer natur yng Nghymru. Gobeithio y bydd pob Aelod yn y Siambr heddiw yn ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu setliad ariannu amlflwydd i Lywodraeth Cymru yn yr adolygiad nesaf o wariant, i'n galluogi ni i ddarparu cyllid amlflwydd i'n partneriaid a'n cymunedau, fel y gellir cynyddu effaith y camau y mae cymunedau Cymru yn eu cymryd ar natur hyd yn oed yn fwy. O'i rhan hi, mae Llywodraeth Cymru yn barod i lansio cynlluniau amlflwydd, gan gynnwys Rhwydweithiau Natur a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a all roi mwy o sicrwydd a llinell derfyn hirach ar gyfer cynllunio i'r rhai yr ydym yn eu hariannu, gan ganolbwyntio ar y blaenoriaethau hirdymor yr ydym yn eu datblygu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a thrwy ein hymgysylltiad â'r trydydd sector.

Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau hefyd yn ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu ei haddewid i sicrhau na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac i ddarparu cyllid newydd llawn yn lle cyllid ar gyfer datblygu gwledig yr UE a rhaglenni LIFE yr UE. Eleni yn unig, mae Cymru ar ei cholled o ddegau o filiynau o bunnau o fuddsoddiad mewn natur ac yng nghefn gwlad Cymru. Yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a natur, ac ar drothwy uwchgynadleddau byd-eang ar yr hinsawdd a natur, gan gynnwys COP26 yn Glasgow, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod pa mor frys yw'r sefyllfa a gwrthdroi ei phenderfyniad i amddifadu Cymru o'r buddsoddiadau hollbwysig hyn yn llesiant ein cymunedau. Mae'r wythnos hon yn nodi dechrau COP15, y confensiwn byd-eang ar amrywiaeth biolegol, sy'n bwriadu cytuno ar gyfres newydd o nodau ar gyfer adfer natur dros y degawd nesaf. Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r targed 30x30, a gynigir i'w drafod yn COP15, i ddiogelu 30 y cant o'n tir a'n moroedd erbyn 2030.

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau Cymru a'r Senedd i ddatblygu ein dull o gyflawni'r nod hwn. Bydd hyn yn gofyn am weithredu strategol, rheoleiddiol a deddfwriaethol, a dim ond Llywodraeth Cymru, gan weithio'n agos gyda'r Senedd, sy'n gallu cyflawni hyn. Bydd cyflawni'r nod hwn hefyd yn gofyn am weithredu ar y cyd ym mhob cymuned yng Nghymru, lle gall mentrau fel Rhwydweithiau Natur a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur greu cyfleoedd i bobl gydweithio i ddiogelu a gwella ein treftadaeth naturiol, ac yn sgil hynny, ein hiechyd meddwl a'n llesiant ehangach. Diolch.

16:10

Diolch ichi, Gweinidog, am y datganiad amserol hwn a'r llond arch Noa o weithgareddau a gyhoeddwyd gennych yn gynharach. Rwy'n credu y byddai'n ddiddorol i ni i gyd wybod mwy am y 29 prosiect, ond rwyf yn croesawu'r ffaith bod bron i 70 rhywogaeth a 50 math o gynefinoedd i'w gwarchod nawr. Gofynnaf i chi a ydych chi'n cytuno â mi y byddai'r 29 prosiect hyd yn oed yn fwy cyffrous pe gallem ddeall mwy am sut y byddan nhw'n cyfrannu at gyrraedd targed penodol a bennwyd gennym ni. Bedair wythnos ar ddeg ar ôl datgan argyfwng natur, ni fu unrhyw gamau hyd yma i weithredu ar alwadau'r Senedd hon i gyflwyno gofyniad wedi'i rwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. Felly, a wnewch chi gytuno, Gweinidog, i gyflwyno rhywfaint o ddeddfwriaeth a rhoi'r targedau hynny mewn cyfraith? Mae'n amlwg ein bod i gyd yn cefnogi diogelu 30 y cant o'n tir a'n moroedd erbyn 2030. 

Nawr, rwy'n ymwybodol eich bod wedi dechrau rhoi grŵp cynghori technegol at ei gilydd i helpu i ddatblygu strategaethau allweddol. Erbyn pryd ydych chi'n bwriadu cael cynlluniau drafft yn barod i ni eu dadansoddi? Ac un cynllun, wrth gwrs, a gyhoeddwyd eisoes yw 'Tyfu Gyda'n Gilydd: Strategaeth ar gyfer cynyddu gorchudd coed yng Nghymru' NFU Cymru. Felly, ochr yn ochr â'n hatgoffa ni o'u nod uchelgeisiol o gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net ar gyfer amaethyddiaeth erbyn 2040, mae'n amlygu i bawb, cymaint y mae ein ffermwyr yn rhan o'r ateb. Gyda dros 80 y cant o'r tir yng Nghymru yn cael ei reoli gan ein ffermwyr, ffermio sy'n cynnig y cyfle mwyaf o ran y tir sydd ar gael ar gyfer plannu coed newydd. Fodd bynnag, a wnewch chi ymrwymo i weithio i sicrhau y bydd cynlluniau ar gyfer creu coetiroedd yn y dyfodol hefyd yn gwobrwyo ffermwyr i ddarparu ystod eang o fanteision cyhoeddus o'r tir, er enghraifft trwy blannu gwrychoedd, lleiniau cysgodi, coridorau nentydd, a diogelu a gwella dalfeydd carbon pwysig eraill, fel priddoedd, mawndiroedd a glaswelltir?

Hyd yma, rydym wedi gwastraffu'r cyfle i Gymru fod yn arweinydd byd-eang ar lywodraethu amgylcheddol, gyda'r Alban a'r DU bellach yn ein goddiweddyd o ran diogelu'r amgylchedd. Felly, er fy mod yn gwybod eich bod wedi ymrwymo i gyflwyno trefniadau llywodraethu addas i Gymru, pam aros i'r Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol wneud datganiad ar raglen ddeddfwriaethol y flwyddyn nesaf? Pe bai deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno y tymor hwn, rwy'n siŵr y byddech yn dod o hyd i fomentwm a chefnogaeth sylweddol o bob cwr o'r Siambr hon.

Rwy'n croesawu'r ymateb aruthrol i'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a gallaf ymateb i'ch cais drwy awgrymu y gellid datblygu'r cynllun fel ei fod yn helpu cynghorau tref a chymuned ledled Cymru i dyfu dros eu cymuned drwy gymryd rhan yn Cymru yn ei Blodau 2022. Gall ysgolion gael mynediad rhwydd i hyn i weld yr ardaloedd o amgylch ein heglwysi a'n capeli, yn aml yn fynwentydd, yn dod yn fwy fyth o warchodfeydd natur ac yn lleoedd i orffwys a chofio.

Yn olaf, er fy mod yn awyddus i gydweithredu â chi, rwy'n drist eich bod wedi penderfynu honni bod Llywodraeth y DU wedi gweithio yn erbyn adfer natur yng Nghymru. Fe wyddoch chi yn iawn, Gweinidog, fod Llywodraeth y DU yn rhoi Cymru wrth wraidd yr ymgyrch i ddarparu sero net ac ailgodi'n wyrddach. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £90 miliwn i brosiectau arloesol ar gyfer Cymru, a'r mis diwethaf mae'n rhaid eich bod chi, yn arbennig, wedi bod yn falch iawn o weld bod Llywodraethau'r DU a Chymru wedi cymeradwyo £58.7 miliwn i helpu i sefydlu dinas-ranbarth Bae Abertawe fel arweinydd ym maes twf carbon isel a'r economi werdd. Felly, a yw eich ymosodiad ar Lywodraeth y DU yn arwydd eich bod nawr yn tynnu'n ôl rhag cydweithredu ar gynlluniau rhagorol, fel y rhaglen carbon isel, neu a ydym ni i gyd yn mynd i barhau i gydweithio dros Gymru, wrth symud ymlaen? Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithredu'r dull strategol ar y cyd hwn. Maen nhw yn barod; ydych chi, Gweinidog? Diolch. 

16:15

Fe wnaf i ddechrau lle y gorffennodd Janet a dweud ein bod ni, wrth gwrs, yn barod i gydweithio â Llywodraeth y DU os mai dim ond nhw oedd yn barod i weithio gyda ni. Soniodd Janet am rai o'r buddsoddiadau y mae'n dweud eu bod wedi'u gwneud ond, wrth gwrs, maen nhw i gyd yn fuddsoddiadau hanesyddol. Yr hyn nad ydyn nhw wedi'i wneud yw rhoi cyllid yn lle'r cyllid yr ydym wedi'i golli o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n gwybod hynny cystal â mi hefyd. Byddai'n helpu Cymru'n fawr pe bai'n gallu sicrhau bod y Llywodraeth y mae'n ei chefnogi yn glynu wrth ei haddewid na ddylai Cymru fod ceiniog ar ei cholled o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n gwybod yn iawn nad yw hynny'n wir ar hyn o bryd.

O ran y pethau eraill y mae hi wedi'u gofyn imi, y targedau rhwymol yr wyf wedi'u trafod droeon eisoes yn y Senedd hon. Wrth gwrs, byddwn ni'n edrych ar dargedau rhwymol. Byddwn ni'n edrych ar hynny yng ngoleuni COP15 a COP26, yng ngoleuni lle mae'r gymuned fyd-eang, ac i sicrhau eu bod yn ymestyn ac yn gyraeddadwy. Felly, byddwn i'n hapus iawn i weithio gydag Aelodau'r Senedd i ddod i gytundeb ynghylch beth ddylai'r targedau hynny fod, a byddwn yn hapus iawn i ymrwymo i'r targedau hynny, oherwydd dyna'n union yr ydym yn ei ddymuno. Rydym eisiau targedau sy'n ymestyn ac yn rhwymol. Ond mae angen i ni sicrhau ein bod yn eu gosod yn y cyd-destun cywir ac ar y lefel gywir o ymestyn. Felly, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.

O ran cynlluniau sy'n cael eu cyflwyno, rwyf wedi cael cyfarfodydd da iawn gyda'r undebau ffermwyr fy hun. Maen nhw wedi bod yn falch iawn o weithio gyda ni. Bydd ein cynllun yn cael ei osod yng nghyd-destun ein cynllun sero-net. Fel y gwyddoch chi, mae gennym ddyletswydd statudol i lunio cynllun o'r fath. Dylai'r cynllun gael ei lunio erbyn mis Rhagfyr, ond byddwn yn ei lunio cyn i ni fynd i COP26, fel y gallwn ei ddefnyddio fel llwyfan ar gyfer ein canolfan yno. Felly, byddwn ni'n cyhoeddi hynny yn yr wythnos ychydig cyn i COP26 ddechrau, felly rwy'n siŵr y bydd hi'n edrych ymlaen at hynny.

O ran Cymru yn ei Blodau, wrth gwrs rydym ni'n hapus iawn i gefnogi pob un o'r mathau hynny o fentrau. Rwy'n cymeradwyo nifer y grwpiau cymunedol ledled Cymru sydd â diddordeb yn yr amgylchedd naturiol, drwy harddu'r trefi lle maen nhw'n byw, ond mewn gwirionedd, yn bwysicach o lawer, eu gwneud yn barod ar gyfer pryfed peillio a rhywogaethau eraill sydd fel arall yn ei chael hi'n anodd. Rwy'n falch iawn o ddweud bod Llywodraeth Cymru ei hun wedi gallu gosod nifer o flychau ystlumod, blychau gwenyn, a mathau eraill o bethau ar ei hystadau ac adeiladau'r Llywodraeth, felly rydym yn gweithredu'r un peth ag yr ydym yn gofyn i'n cymunedau ei wneud yn yr ysbryd hwnnw o 'dîm Cymru'.

16:20

A gaf i ddechrau drwy ddweud bod croeso i'r ymrwymiad i 30x30? Mae'n cael ei groesawu'n fawr, Gweinidog. Byddai'n ddefnyddiol cael mwy o fanylion. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu cynnydd tuag at yr ymrwymiad hwn, os gwelwch yn dda, a pha gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer diogelu, adfer a chreu cynefinoedd, ac wrth gwrs yr angen tymor hirach am y gwaith monitro a chynnal a chadw sydd ei angen i gadw'r safleoedd hyn mewn cyflwr ecolegol da? Hefyd, ar y pwynt hwn, bydd sicrhau bod y gweithlu yno i gyflawni'r uchelgeisiau hyn yn hollbwysig, fel y gwn eich bod wedi'i nodi, felly byddwn i'n croesawu mwy o fanylion am y pwynt hwnnw, neu pryd y gallem ni ddisgwyl mwy o fanylion amdano.

O ran y mater ehangach o dargedau sy'n ymwneud â cholli bioamrywiaeth, rwy'n cydnabod bod y dadleuon ynghylch targedau wedi'u hailadrodd droeon. Y rheswm am hynny yw ein bod wedi treulio llawer o amser yn sôn am dargedau bioamrywiaeth dros y misoedd diwethaf, ond mae'r Llywodraeth wedi bod yn petruso rhag ymrwymo, neu'n wir i ddatgelu unrhyw beth ynghylch y pwynt hwn. Mae Cymru, fel gweddill y byd, wedi methu â chymryd camau digonol i atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth a diogelu bywyd gwyllt. Rwy'n cydnabod, Gweinidog, fod hyn newydd gael ei drafod eto gan Janet, ac rwy'n nodi yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud mewn ymateb hefyd. Roeddwn yn dymuno ychwanegu fy llais at y pwyntiau hyn dim ond i atgoffa'r Siambr eu bod yn rhywogaethau sy'n dirywio yng Nghymru ar hyn o bryd neu sydd mewn perygl o ddiflannu, ac mae rhai rhywogaethau eisoes wedi mynd. Felly, y mwyaf cyflym, mae'n debyg, y gallwn ni weithredu ar hyn gorau oll. Dydw i ddim yn siŵr mai dyna'r ffordd ramadegol orau o'i fynegi ond rwy'n gobeithio bod hynny'n gwneud synnwyr.

Gyda COP15 yn agor yr wythnos hon, mae dros 1,000 o fusnesau wedi cefnogi galwad fyd-eang i Lywodraethau roi polisïau ar waith i wrthdroi colli natur y degawd hwn. Mae prif swyddogion gweithredol cwmnïau, gan gynnwys Unilever a H&M wedi gofyn am dargedau uchelgeisiol, gan ddweud eu bod yn angenrheidiol i sbarduno buddsoddiad a thrawsnewid modelau busnes. A wnewch chi nodi, Gweinidog, yn sgil hyn, pa fath o gamau y gallwn ni eu disgwyl gan Lywodraeth Cymru, ac a wnewch chi amlinellu pryd y bydd modd gweld y llinell amser ar gyfer targedau a chwmpas tebygol y targedau hynny? Rwy'n nodi eto yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud mewn ymateb i Janet Finch-Saunders ar y pwynt hwn. Mae'r adolygiad Dasgupta diweddar wedi ailbwysleisio bod bioamrywiaeth yn rhan annatod o iechyd ecosystemau a gallu ecosystemau i ddarparu manteision hanfodol i gymdeithas. Mae colli bioamrywiaeth yn effeithio ar ein system cynnal bywyd. Mae'n galw am sicrhau bod cyllidebau'r Llywodraeth yn cyd-fynd ag anghenion natur, a bod cyllidebau adrannol ar draws sectorau yn sicrhau eu bod yn cyflawni dros natur. Felly, os yw'n bosibl cael mwy o fanylion am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i wireddu'r angen hwn, byddai hefyd yn ddefnyddiol iawn. A wnewch chi amlinellu, yn yr achos hwn, yn olaf, Gweinidog, pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i weld natur yn cael ei blaenoriaethu mewn termau ariannol ac i wneud cyllidebau Llywodraeth Cymru yn gydnaws ag anghenion natur? Diolch.

Ie, diolch, Delyth. Roeddech chi'n ceisio fy nhemtio, fe wn i, dim ond yn ddiweddar iawn, i gytuno i'r targed 30x30, felly gwyddwn i y byddech chi'n falch iawn ein bod yn ymrwymo iddo heddiw. Mae'n ddrwg iawn gennyf na allwn i ei wneud pan oeddech yn gofyn i mi ei wneud ychydig yn gynharach.

Wrth gwrs, yr hyn y byddwn ni yn ei wneud bryd hynny, mae'n un o'r targedau a gynigiwyd ar gyfer y fframwaith bioamrywiaeth ar ôl 2020—dyna'r broses COP15, a dim ond i atgoffa pawb, gwn eich bod chi eisoes yn gwybod, Delyth, mai dyna'r broses a oedd yn mynd i ddigwydd yn Tsieina ac a gafodd ei gohirio oherwydd pandemig COVID ac mae'n cael ei gwneud drwy ddulliau rhithwir ac yn gydweithredol ledled y byd erbyn hyn. Felly, mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio gyda chymheiriaid eraill yn y DU, drwy Grŵp Bioamrywiaeth y Pedair Gwlad, i ddatblygu cyfres gyffredin o egwyddorion. Byddwn ni'n ceisio dynodi dynodiadau tirwedd ehangach hyd at y 30 y cant hwnnw. Nid yw'r 30 y cant yn derfyn uchaf, rwyf eisiau—. Nid dyna derfyn ein huchelgais, ond mae'n amlwg yn lle i ddechrau. Rydym hefyd eisiau bod yn siŵr iawn y byddwn yn effeithiol o ran gwella gan ddod â'r tiroedd yr ydym ni eisoes wedi gweithio arnyn nhw yn ôl i gyflwr cadwraeth da. A, Delyth, gwn eich bod yn gyfarwydd iawn â'm sylwadau amrywiol ar wastadeddau Gwent, er enghraifft, ac yn sicrhau bod holl wastadeddau Gwent yn dod yn ôl i gyflwr cadwraeth da. Felly, byddwn ni'n gweithio i edrych ar safleoedd a allai ddod yn brosiectau enghreifftiol, ar gyfer dod â'r gwaith gwyddonol gwirioneddol i sicrhau bod y tir yn ôl i gyflwr cadwraeth natur da, ond efallai'n edrych ar wahanol gyllid, ymgysylltu â'r gymuned, modelau yn debyg i fenter gymdeithasol hefyd, i sicrhau bod gennym fodel cynaliadwy wrth symud ymlaen y gallwn ei gyflwyno ledled Cymru. Felly, byddwn yn ceisio gweithio gyda phob arweinydd cymunedol, gan gynnwys Aelodau'r Senedd ac eraill ledled Cymru, i sicrhau ein bod yn ymgysylltu ac yn defnyddio, os mynnwch chi, bŵer ein cymunedau yn y grwpiau sydd eisoes ar gael. Rwyf wedi cwrdd â nifer fawr ohonyn nhw yn barod ac maen nhw'n ysbrydoli ac rydym yn sicr eisiau gweithio ochr yn ochr â hynny.

Rydym hefyd yn rhan o broses ymgysylltu Caeredin â dinasoedd is-genedlaethol Llywodraethau, gwledydd bach ac awdurdodau lleol wrth gyflawni'r fframwaith ôl-2020, fel y'i gelwir, dros y degawd nesaf. Pan fyddwn ni wedi cyflawni'r darn hwnnw o waith, yna dyna'r amser i edrych ar y targedau. Felly, rwyf eisiau sicrhau eu bod yn ymestyn targedau. Yng ngoleuni'r gyfres fyd-eang honno o dargedau, rydym eisiau deall i le mae'r byd yn mynd fel y gallwn wthio'r ffiniau. Nid wyf eisiau gosod targedau nawr sydd wedyn yn troi allan i fod yn llai ymestynnol nag y gallen nhw fod, neu yn wir, gymaint mwy ymestynnol fel na allwn ni eu bodloni a bod pobl yn rhoi'r gorau iddi. Mae hyn yn ymwneud â defnyddio natur frys y sefyllfa ond heb fod yn gyngor anobaith, yn enwedig i'n pobl ifanc. Mae pobl yn cyfeirio drwy'r amser at y pryder gwirioneddol y mae pobl ifanc yn ei deimlo ynghylch maint y broblem sy'n ein hwynebu. Felly, mae hyn yn ymwneud â rhannu'n ddarnau tameidiog, ymestynnol ond cyraeddadwy i sicrhau bod pobl yn deall y gallan nhw chwarae eu rhan a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd. Felly, mae'n bwysig cael y targedau'n iawn. Felly, egwyddor y targedau—derbyniwyd nhw'n llwyr. Y darn o waith yr ydym ni yn ei wneud nawr ochr yn ochr â'r gwahanol brosesau eraill sy'n digwydd yn y byd yw sicrhau ein bod yn cael lefel y targed hwnnw'n iawn. Rwy'n hapus iawn i weithio gyda phobl ar draws y Senedd, a bydd ei phwyllgorau'n allweddol iawn i'n helpu i gyrraedd y lefel gywir o dargedau.

O ran sut yr ydym ni'n mynd i fwrw ymlaen â'r gweddill, wel, mae gennym ni nifer o bethau'n digwydd ym mhob maes, mewn gwirionedd. Felly, rydym yn ceisio cefnogi prosiectau enghreifftiol; rydym yn gobeithio cefnogi ein grwpiau gwyddonol; rydym yn ceisio casglu cyngor yr ydym yn ei gael gan wyddonwyr amrywiol mewn ffordd dreuliadwy ar gyfer ffurfio polisi, yn union fel y gwnaethom yn ystod COVID, fe ddysgom ni lawer yn ystod pandemig COVID am weithio gyda'n gwyddonwyr, ein peirianwyr a'n pobl ymarferol. Felly, mae'n ymwneud â defnyddio'r mathau cywir o bobl i ddod i grwpiau herio er mwyn i'r Llywodraeth sicrhau ei bod yn rhoi cyngor i ni ond hefyd yn ein herio ni wrth lunio polisïau, ac eto, byddaf yn ceisio cydweithredu â'r Senedd a'i phwyllgorau a chithau i ddod â'r grwpiau hynny o bobl ymlaen a sicrhau eu bod yn addas i'r diben.

A'r unig beth olaf yr oeddwn eisiau ei ddweud oedd bod gennym ni hefyd ddiddordeb mawr mewn deall yr hyn sydd eisoes ar gael yn y cymunedau a sicrhau y gallwn ni eu cefnogi mewn ffordd briodol, nid yn unig gyda chyllid, ond drwy gysylltiadau a llwyfannau polisi.

16:25

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn, ac rwyf hefyd yn cytuno ei fod yn amserol iawn. Cytunaf â'r Gweinidog fod angen inni ddatblygu perthynas fwy cynaliadwy â'r byd naturiol a bod y berthynas yn dechrau yn ein cymunedau lleol. Mae angen i bob un o'n cymunedau fod yn rhan o weithredu ar y cyd i ymateb i'r newid hinsawdd ac argyfwng natur. Ni allwn ei adael i rywun arall; gall y rhai ohonom ni sydd â gerddi, blannu coed a chaniatáu i rannau o'n gerddi dyfu'n wyllt. Mae'r rhain yn gamau y gall pob un ohonom ni eu cymryd, neu gall bron pob un ohonom ni eu cymryd, nawr.

Rwy'n croesawu hefyd menter y rhwydwaith natur, gyda'r 29 prosiect cyntaf o fudd i fwy na 100 o gynefinoedd a rhywogaethau o arwyddocâd rhyngwladol. Mae'n ddechrau da. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y dylai pob un ohonom ni sy'n gallu, blannu coed yn ein gerddi, a dylem adael rhywfaint o'n gerddi ni i dyfu'n wyllt? Fy mhrif bryder yw colli prif ysglyfaethwyr fel tylluanod a llwynogod, a fyddai, pe bai'n parhau, yn aflunio'r ecosystem. A yw'r Gweinidog yn rhannu fy mhryder, ac, os felly, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r prif ysglyfaethwyr hyn? Oherwydd os nad oes gennych brif ysglyfaethwyr, mae gennych anifeiliaid yn is i lawr y gadwyn, fel llygod mawr, a fydd yn tyfu ac yn tyfu ac yn tyfu.

16:30

Diolch yn fawr iawn, Mike. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Un o'r pethau yr ydym ni'n bwriadu ei wneud cyn COP yw edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud i gynorthwyo pobl i blannu coed, gan bwysleisio y goeden gywir yn y lle cywir. Felly, i bobl sy'n ddigon ffodus i fod â gerddi sy'n gallu cefnogi coed mawr, gallwn ni sicrhau y gallan nhw wneud hynny a chael cymorth i blannu'r coed hynny fel eu bod yn ffynnu ac yn tyfu. Gallwn hefyd sicrhau bod pobl yn cael gyngor ynghylch beth yw'r math cywir o goeden.

Rydym hefyd—rwy'n dweud hyn wrth fynd heibio—wedi dechrau darn o waith gyda'r diwydiant yswiriant, oherwydd mae gan lawer o bobl yswiriant adeiladau sy'n dweud na ddylen nhw fod â choed o fewn nifer penodol o fetrau o'u tŷ. Nid ydym ni eisiau annog pobl i dorri coed i lawr heb ddeall yn iawn beth mae'r systemau gwreiddiau yn eu gwneud ac ati. Felly, mae'n ymwneud â'r goeden gywir yn y lle cywir at y diben cywir. Felly, byddwn ni'n sicr yn gwneud hynny.

Byddwn hefyd yn cael golwg ar—. Wel, rydym eisoes yn cael golwg ar dir cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau y bydd gan y bobl hynny nad oes ganddyn nhw erddi, y gallu hefyd i fynd i fan lle gallwn ni blannu perllannau cymunedol a mathau eraill o goed a phlanhigfeydd eraill. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y model ar y cyfandir, 'coedwig fach' fel y'i gelwir—coedwig berffaith, bioamrywiol o faint cwrt tennis. Felly, mae gennyf ddiddordeb mawr, yn enwedig ar gyfer ardaloedd trefol, yn yr hyn y gallwn ni ei wneud ar gyfer hynny ac rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid, gan chwilio am safleoedd addas ar gyfer y mathau hynny o fentrau.

O ran y prif ysglyfaethwyr, rydym yn sicr yn pryderu'n fawr bod prif ysglyfaethwyr, yn enwedig adar ysglyfaethus, yn cael eu diogelu ar draws tiroedd Cymru. Felly, mae angen inni weithio gyda'n cymunedau ffermio a chymunedau eraill i sicrhau eu bod yn deall beth yw'r peth iawn i'w wneud i sicrhau bod adar ysglyfaethus yn cael eu diogelu ac yn ffynnu, ac nad ydym yn targedu adar ysglyfaethus ar gam mewn cymunedau ffermio. Rydym wedi gweithio'n galed iawn eisoes ar brosiectau gwirioneddol wych fel—gwn eich bod yn gyfarwydd iawn ag ef, Mike—prosiect y barcud coch, cyflwyno'r barcud coch, sydd wedi bod yn enghraifft wirioneddol o'r hyn y gellir ei wneud pan fydd pobl yn gweithio gyda'i gilydd.

Mae gennyf ddiddordeb mawr hefyd—ac nid wyf yn siarad ar ran y Llywodraeth yma, dim ond ar ran fi fy hun—mewn gwaith ailgyflwyno prif ysglyfaethwyr ledled y byd. Mae unrhyw un sydd wedi gweld y prosiect yn Yellowstone i ailgyflwyno'r bleiddiaid yn gwybod beth y gall y prif ysglyfaethwr ei wneud i adfer y dirwedd. Mewn rhannau eraill o'r DU, yn yr Alban, mae afancod wedi'u hailgyflwyno i rai tirweddau. Felly, byddwn ni'n sicr yn ceisio gweithio gyda'n tirfeddianwyr a'n gwyddonwyr a'n pobl natur i ddeall (a) sut i ddiogelu'r prif ysglyfaethwyr sydd gennym o hyd, a (b) lle, os yw'n bosibl, cyflwyno prif ysglyfaethwyr mewn mannau eraill yng Nghymru.      

Fel y gŵyr y Gweinidog yn dda, nodwyd bod gan ecosystemau carbon glas botensial enfawr i storio carbon, ac arddangos cyfraddau claddu carbon hyd at 30 gwaith yn uwch na choedwigoedd, sydd, gyda llaw, yn cael cryn sylw anghymesur am eu gallu i storio carbon. Fel y gwyddom ni, mae gan Gymru arfordir hir iawn; mae ganddi fwy na 3 miliwn hectar o gynefin carbon glas, fel morfeydd heli arfordirol a gwelyau morwellt. Gallai eu hehangu nhw ac adfer safleoedd a feddiannwyd gan ffermydd a diwydiant, gynyddu'n aruthrol faint o garbon sy'n cael ei storio a helpu i gyrraedd ein targed carbon yn 2050.

Heb amheuaeth fe fydd y Gweinidog yn gwybod am y cynllun treialu morwellt yn Dale, sir Benfro, lle dangoswyd bod plannu gwelyau morwellt yn cynnig llawer o fanteision yn ogystal â storio carbon, fel cynyddu bioamrywiaeth a helpu i gynnig seilwaith naturiol a chydnerth yn erbyn ymchwydd stormydd. Yn eich araith yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi ddweud bod llawer o arian ar gael ar gyfer prosiectau plannu coed yng Nghymru. Heddiw, rydych wedi sôn am eich ymrwymiad i adfywio cynefinoedd arfordirol, a soniodd y Prif Weinidog heddiw hefyd am bwysigrwydd buddsoddi mewn technolegau morol. Gyda hyn mewn golwg, ac o ystyried y potensial i forwellt amsugno cymaint mwy o garbon na choed, a all y Gweinidog ymrwymo i flaenoriaethu ecosystemau carbon glas yn ariannol? Diolch.

Diolch, Joel. Rwy'n cydnabod yn llwyr bwysigrwydd y rhan y gall yr amgylchedd morol ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r hinsawdd, ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i sefydlu cynllun wedi'i dargedu ar gyfer adfer cynefinoedd arfordirol morwellt a morfa heli yn nhymor y Senedd hon. Byddwn yn gweithio'n galed i sefydlu prosiect rheoli pysgodfeydd cynaliadwy ar draws portffolios, gan weithio gyda'm cyd-Aelod Lesley Griffiths, gyda dull ecosystem o weithredu, fel y dangoswyd gan y—[Anghlywadwy.]—ddeddfwriaeth newydd, y credaf eich bod yn gyfarwydd â hi, ac a fydd yn dod i rym cyn bo hir. Mae'n amlwg bod angen i ni wneud hyn mewn cydweithrediad â nifer fawr o weithgareddau eraill o amgylch yr arfordir. Mae grŵp gweithredu a chynghori morol Cymru, sy'n fy nghynghori i, yn dechrau datblygu cynllun adfer glas ar gyfer tymor y Senedd nesaf, sy'n canolbwyntio ar weithredu ar gyfer ecosystemau morol cydnerth a'r twf y gallant ei gyflawni, yn union fel y dywedwch, drwy atebion sy'n seiliedig ar natur a datblygiadau yn y gymuned. Felly, rwy'n hapus iawn i gadarnhau ein bod yn wir yn edrych yn union ar hynny. Rydych chi'n llygad eich lle: mae adfer morwellt a morfa heli yn chwarae rhan enfawr yn y gwaith o ddal a rheoli carbon.

Dim ond i ddweud ychydig am y pwynt am goed a wnaethoch chi, mae siarad am goed ychydig bach fel y Gronfa Bywyd Gwyllt y Byd yn sôn am bandas—y darn eiconig ohono. Nid dyma'r darn pwysicaf o reidrwydd; dyma'r darn mwyaf trawiadol. Felly, rydym ni'n gwbl ymwybodol bod dolydd glaswellt hir, cynefinoedd arfordirol, morfeydd heli, gwastadeddau Gwent, gorgorsydd, mawndiroedd—mae rhestr hir ofnadwy o fathau o dirwedd sy'n dal a storio carbon hefyd. Felly, rwyf eisiau sicrhau pawb, er mai coed yw'r darn eiconig ar y blaen, rydym yn gwbl ymwybodol nad nhw yw'r unig ateb, na hyd yn oed yr ateb mwyaf, mae'n debyg, ond nhw yw'r mwyaf eiconig.

16:35

Gweinidog, fe wnaethoch chi gyfeirio at ba mor fuddiol yw natur i iechyd meddwl yn ystod eich datganiad, ond rydym hefyd wedi gweld ac fe wnaethoch chi gyfeirio at bryder, ac rydym wedi gweld effaith negyddol yr argyfwng hinsawdd a natur ar iechyd meddwl pobl sy'n byw mewn cymunedau sydd eisoes wedi dioddef effaith y newidiadau hyn ac sy'n ofni dioddef yr un effaith eto. Gwn fod Delyth Jewell wedi codi hyn gyda'r Gweinidog addysg yn gynharach, ond hoffwn weld y pwyslais hwnnw ar y cymorth sydd ar gael a tybed a oes unrhyw gyllid ar gael i gefnogi iechyd meddwl pobl mewn cymunedau sydd mewn perygl fel rhan o gynigion.

Roeddwn hefyd yn falch o glywed yn y datganiad eich bod yn blaenoriaethu cynlluniau rheoli llifogydd sy'n seiliedig ar natur mewn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Fel yr ardal a gafodd ei tharo waethaf gan lifogydd yn 2020, pa gynlluniau penodol sydd gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i liniaru llifogydd a pheryglon eraill sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn Rhondda Cynon Taf? A sut gellir grymuso cymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf i fod yn rhan o gyflawni cynlluniau o'r fath? Mae llawer o'r camau gweithredu a'r ymateb i adferiad yn dilyn y llifogydd hyd yma wedi'u harwain gan sefydliadau neu awdurdodau yn hytrach na chael eu harwain gan y gymuned, gydag ychydig iawn o gyfathrebu â phreswylwyr neu ychydig iawn o gyfleoedd iddyn nhw fod yn rhan o weithredu ar y cyd. Pryd byddan nhw'n gweld hyn yn newid o'ch datganiad heddiw?

Diolch, Heledd. Mae'r rheina'n bwyntiau pwysig iawn. O ran y pwynt iechyd meddwl, byddaf yn sicr yn gweithio gyda fy nghyd-Aelodau Jeremy Miles a Lynne Neagle ar draws y Llywodraeth i sicrhau, gan fod gennym gynlluniau adfer natur yn y gymuned, ein bod yn sicrhau bod pobl yn cael eu cysylltu'n ôl â natur. Gwyddom fod y cysylltiad yn ôl â natur yn helpu gydag iechyd meddwl mewn gwirionedd, ac, fel y gwyddoch chi, mae cynllun ar draws y Llywodraeth i edrych ar y math hwnnw o bresgripsiynu cymdeithasol yn ogystal â sicrhau y gall pobl sydd wedi colli eu cysylltiad â natur ei ailddarganfod. Felly, rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd wrth i ni fwrw ymlaen â rhai o'r materion hynny, ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau'n hapus iawn i wneud hynny hefyd.

O ran rheoli llifogydd yn naturiol, rydym yn buddsoddi tua £3 miliwn dros dair blynedd mewn gwaith rheoli llifogydd fel rhan o'r rhaglen dreialu. Amcangyfrifwn y bydd y rhaglen yn helpu i leihau perygl llifogydd i tua 1,000 o eiddo, ac mae hefyd yn amlwg yn darparu manteision ehangach, fel creu a gwella cynefinoedd a gwella amwynderau cyhoeddus. Mae'r rhaglen yn cael ei hariannu 100 y cant ar hyn o bryd ac mae'n darparu cynllun dysgu rhagorol a fydd yn gwella ein darpariaeth ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol ledled Cymru yn y dyfodol. Ar hyn o bryd rydym wedi darparu cyllid ar gyfer 15 o brosiectau, sy'n cael eu darparu gan 10 awdurdod rheoli risg gwahanol ledled Cymru. Maen nhw'n gweithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr a rhanddeiliaid allweddol, megis Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a Coed Cadw, i sicrhau'r manteision cydfuddiannol hynny. Pan fydd y cynlluniau treialu wedi'u cwblhau, byddwn ni'n gallu dysgu o hynny ac ymgysylltu â'n cymunedau ynghylch lle y dylai'r gyfres nesaf o'r prosiectau fod, gan fy mod yn sicr yn derbyn eich pwynt bod angen i'r cymunedau ymgysylltu'n llawn â'r prosiect yn eu hardal.

Rwy'n ddiolchgar ichi, Gweinidog, am y datganiad y prynhawn yma. Rwy'n credu ei fod yn cynnwys llawer o bethau y mae gennym yr hawl i edrych ymlaen atyn nhw. Hefyd, rwy'n ddiolchgar iawn ac yn falch o glywed eich ateb i Delyth Jewell yn gynharach yn y sesiwn hon, lle gwnaethoch chi amlinellu'r broses y byddwch yn bwriadu ei defnyddio i ddatblygu targedau; rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol o ran hybu'r rhaglen hon. Ond mae dau beth yr hoffwn i eu codi gyda chi y prynhawn yma: yn gyntaf oll, fy mhryder bod rhywfaint o ddiffyg cydlyniant mewn llawer o'r cynlluniau a'r prosiectau a'r rhaglenni y mae Llywodraeth Cymru yn eu llunio. Mae llawer o bethau da yn digwydd, ac mae llawer o gynlluniau da yn cael eu cyhoeddi, ond rwy'n poeni nad oes y cydlyniant rhwng cynlluniau a fyddai'n sicrhau eu bod mewn gwirionedd yn cyflawni'r uchelgeisiau y gallent fod yn eu cyflawni.

Yr ail beth yw dynodiadau. Adolygodd Llywodraeth Cymru holl egwyddor dynodiadau rai blynyddoedd yn ôl; teimlais fod yr adroddiad yn adroddiad eithaf siomedig. A gwyddom nad yw dynodiadau ar eu pen eu hunain yn arwain at ddiogelu bioamrywiaeth, neu'n sicr mae ganddyn nhw hanes cymysg iawn wrth wneud hynny. Onid yw'n bryd inni adolygu eto'r dynodiadau a ddefnyddiwn i ddiogelu tir, natur a thirweddau yng Nghymru, i gael y math o gydlyniant o ddynodiadau a all atal colli bioamrywiaeth ac adfer cynefinoedd? Oherwydd, ar hyn o bryd, yr un peth y gallwn ni fod yn glir yn ei gylch yw nad yw'r ystod o ddulliau cyfreithiol sydd ar gael i ni yn cyflawni o ran colli bioamrywiaeth ledled y wlad.

16:40

Diolch, Alun. Ydw, rwy'n cymryd eich pwynt yn y fan yna, ac, mewn gwirionedd, yn ddigon diddorol, rwy'n cael ychydig o déjà vu yn y fan yma, oherwydd rwy'n cofio gofyn y cwestiwn hwn ichi pan oeddech chi yn Weinidog ac yr oeddwn i yn aelod o'r meinciau cefn, felly rydym wedi bod yn gweithio ar hyn ers peth amser. Felly, yr hyn yr ydym wedi'i ofyn yn awr—rwyf wedi gofyn i swyddogion archwilio'r hyn y gellir ei wneud i wella ymhellach y ffordd y mae awdurdodau ein parciau cenedlaethol yn arbennig yn rheoli'r ardaloedd gwarchodedig o fewn eu ffiniau. Mae nifer o ysgogiadau ar gael i ni i wneud hynny, a gwn y bydd y parciau cenedlaethol yn awyddus iawn i gamu ymlaen i wneud hynny hefyd. Felly, byddwn ni'n cynnal cyfres o gyfarfodydd yn enwedig gyda'r parciau cenedlaethol, ond hefyd yn edrych ar ein hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a'n hardaloedd gwarchodedig eraill, i weld beth y gallwn ni ei wneud i wella'r ffordd y caiff ein tirweddau dynodedig eu gwarchod. Ac, fel y dywedais i, nid yw hyn yn ymwneud â diogelu'r dirwedd yn unig, nid yw hyn yn ymwneud â pheidio â gwneud unrhyw ddifrod pellach; mae hyn yn ymwneud ag atal y difrod ac yna ei droi o gwmpas a dod â'r ardaloedd hynny'n ôl i gyflwr cadwraeth da, ac felly yn ôl i fwy o fioamrywiaeth.

Cawsom adroddiad pryderus iawn dros y penwythnos am golli bioamrywiaeth—dylem ni i gyd fod yn bryderus iawn ynghylch hyn. Felly, mae angen inni edrych o ddifrif, nid yn unig ar beidio â gwneud unrhyw niwed pellach ond gwella ac adfer ein holl dirweddau dynodedig ledled Cymru. A byddwn i'n hapus iawn, Alun, i weithio gyda chi, Aelodau eraill y Senedd a'n pwyllgorau i sicrhau ein bod yn cael y gorau posib o'r hyn sydd gennym eisoes, ac, yn wir, edrych i weld a ddylem ni fod yn dynodi tirweddau eraill ledled Cymru.

Yn eich datganiad, rydych yn gyfeirio at wella

'wella cyflwr cynefinoedd i alluogi rhai o'n rhywogaethau mwyaf eiconig i gael mwy o ryddid i grwydro',

ac roeddwn i'n ddiolchgar mai un o'r rhywogaethau a enwyd gennych chi oedd y gylfinir. Yn dilyn eich ymateb cadarnhaol a groesewir yn fawr i gynllun gweithredu Gylfinir Cymru ar gyfer adfer y gylfinir, a ydych yn cydnabod bod hyn yn ymwneud â llawer mwy na rhyddid i grwydro, sef bydd y gylfinir yn diflannu fel poblogaeth fridio yng Nghymru mewn dim ond 12 mlynedd, os na wnawn ni rywbeth ar frys, ond, os gwnawn ni rywbeth, bydd manteision lluosog ac amlrywogaeth yn cyfrannu'n gadarnhaol at gynaliadwyedd dros 80 o rywogaethau eraill, ac mae angen inni groesawu'r boblogaeth ffermio ledled Cymru sydd wedi ymuno â'r agenda hon, a gweithio gyda nhw ac asiantaethau eraill i wneud y goroesiad hwn yn flaenoriaeth i bawb?

Diolch, Mark. Roeddwn i'n falch iawn eich bod wedi hwyluso'r cyflwyniad i'r grŵp gylfinir i mi. Cawsom gyfarfod rhagorol, ac yr oeddem yn canu o'r un llyfr emynau o ran yr hyn y mae angen ei wneud.

Fel y clywsoch chi yn fy natganiad, rwy'n chwilio am gynlluniau enghreifftiol ledled Cymru, lle mae grwpiau eisoes wedi dod ynghyd â chynllun da iawn ar gyfer yr hyn y maen nhw eisiau ei wneud. Pan wnes i gyfarfod â'r grŵp gylfinir, gofynnais iddyn nhw gael golwg arall ar eu cynllun a gweld a ellid ei ddwyn ymlaen, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed yn ôl ganddyn nhw. Ac, fel y dywedais i, rwy'n ddiolchgar iawn i chi am weithredu'r cyflwyniad ac, yn wir, am fod yn hyrwyddwr y rhywogaeth.

Rwy'n cytuno ei bod yn hawdd cael eich parlysu gan faint yr her sy'n ein hwynebu, gan mai'r DU bellach sydd â'r adnoddau natur prinnaf yn Ewrop. Nid yw arfer da bob amser yn teithio'n dda, ac felly roeddwn i'n tybio sut yr ydym ni'n mynd i rannu'r arfer da sy'n digwydd mewn gwahanol rannau o'n cymuned. Er enghraifft, nid wyf yn credu bod Rhwydweithiau Natur a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn enwau cyfarwydd, ac mae angen iddyn nhw fod yn gyfarwydd iawn, ac mae angen i ni ymgysylltu â'r holl gyrff a ariennir yn gyhoeddus i fod yn rhan o'r gwaith hwn o achub y blaned.

O ran manteision iechyd meddwl, yr wythnos diwethaf es i i ddiwrnod agored Adferiad Recovery, a gwelais y gwaith gwych sy'n digwydd, gyda phobl yn defnyddio garddio fel ffordd o ymdrin â'u dibyniaeth, ac mae'n ffordd bwerus iawn o helpu pobl ag argyfyngau iechyd meddwl. Y mis nesaf, byddaf yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan blannu coed ffrwythau mewn ardaloedd cynnyrch ehangach sydd wedi eu hamddifadu yn fy nghymuned fel rhan o Blossom Watch, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am y gwaith y maen nhw'n ei wneud.

Ond rwyf hefyd am dynnu sylw at y gwaith sy'n cael ei wneud gan awdurdod lleol Brent, y dysgais amdano neithiwr mewn cyfarfod, y gwn fod eich Dirprwy Weinidog hefyd yn ymwneud ag e, lle y maen nhw'n defnyddio—. Mae'r ffaith bod gennym doriadau yng ngwariant awdurdodau lleol yn golygu eu bod yn torri llai o laswellt, ond maen nhw'n defnyddio hynny fel cyfle i blannu mwy o flodau a phlanhigion peillio, ac mae ganddyn nhw goridor gwenyn hyd yn oed. Mae ganddyn nhw hefyd gylchlythyr misol o fforwm Brent, sy'n sicrhau bod pawb yn y fforwm yn gwybod beth y mae pawb arall yn ei wneud. Tybed a oes unrhyw fath o ffordd electronig y gallem ni ei defnyddio i ledaenu arfer da yn weddol reolaidd.

16:45

Diolch yn fawr am hynna, Jenny; roedd Lee Waters yn rhan o hynny hefyd. Rydym yn sicr yn mynd i geisio dysgu unrhyw wersi y gallwn ni eu dysgu o hynny. Rydym ni eisiau i'n rhaglenni newydd ni fod yn enwau cyfarwydd. Cawsom ein calonogi'n fawr gan nifer y grwpiau cymunedol sydd eisoes wedi dod at ei gilydd i wneud hyn. Felly, mae gennym eisoes y 29 prosiect ledled Cymru. Pan fydd y cyllid yn cael ei gyflwyno, bydd pobl yn dod yn ymwybodol o'r cynlluniau oherwydd eu bod yn gynlluniau gwych; rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'r Senedd yn chwarae eu rhan i'w rhoi nhw ar waith hefyd. Ond rydych yn llygad eich lle: yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw cymryd yr hyn a ddysgwn ni o'r holl brosiectau hyn ac yna helpu'r gyfres nesaf o grwpiau cymunedol i ddod at ei gilydd i gael gafael ar y cyllid ar gyfer hyn, ac yn wir, fel y dywedais i mewn ymateb, rwy'n credu i Delyth, nid yn unig y cyllid, ond y ffyrdd o'i drefnu, y ffyrdd o ymgysylltu, y ffyrdd y gallwch fanteisio ar wahanol fathau o gyllid.

Roeddwn yn bresennol mewn gweithgor ar wastadeddau Gwent, dan gadeiryddiaeth ein cydweithiwr John Griffiths, yn ddiweddar iawn, ac roedd yn ddiddorol iawn gweld y sefydliadau gwahanol iawn a oedd wedi dod ynghyd yno gydag ef yn y gadair; gwahanol gynghreiriau o bobl yn dod at ei gilydd mewn arfer da i ennyn brwdfrydedd pobl i fynd allan a gwneud y gwaith corfforol mewn gwirionedd, ond mewn gwirionedd ar gyfer y rhai nad oedden nhw eisiau gwneud y rhan honno, gwneud cyfres gyfan o bethau eraill yn ymwneud â chyfathrebu a chyhoeddusrwydd, cynllunio a'r gweddill sy'n ymwneud â hynny. Felly, rwy'n credu bod llawer y gallwn ni ei ddysgu oddi wrth ein gilydd i wneud hynny. Mae nifer o gynlluniau rhagorol iawn ledled Cymru yn annog pobl nid yn unig i arddio eu gerddi eu hunain, ond i fynd allan i helpu eraill yn eu cymuned sy'n methu â gwneud hynny, ac rwy'n awyddus iawn i rannu arfer da ar y sail honno hefyd.

Ac yn olaf ond nid lleiaf, mae'r holl fater sy'n ymwneud â phlannu perllannau cymunedol a choed ffrwythau o ddiddordeb gwirioneddol i ni, a byddwn ni'n gweithio'n galed ar hyn—y math o le ar gyfer y goeden gywir yn y lle cywir—i sicrhau y gallwn ni fod â choed ffrwythau wedi'u cynnwys yn nifer y coed yr ydym yn eu plannu ledled Cymru.

Diolch yn fawr am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Rwy'n hoffi'n arbennig y lleoedd natur lleol a chysylltu pobl mewn cymunedau trefol, y mae'r rhan fwyaf o'n poblogaeth yn byw ynddyn nhw wrth gwrs, gyda natur, hyd y gallwn ni. Yng Nghasnewydd, mae cymuned ym Maendy, sydd dim ond dros yr afon o ganol y ddinas, a oedd heb ac sydd heb lawer o le gwyrdd o hyd, ond mae ganddyn nhw sefydliad, Maindee Unlimited, a changen o'r enw Gwyrddu Maendy, sy'n gwneud llawer o waith da iawn i greu gerddi a pherllannau at ddefnydd y gymuned, gan weithio gydag ysgolion i greu coridorau ar gyfer natur ger yr ysgol. Mae ganddyn nhw brosiect gyferbyn â llyfrgell Maendy, lle maen nhw wedi'u lleoli, i ddatblygu darn o dir a oedd unwaith, yn y bôn, yn doiled cyhoeddus gydag ychydig o dir o'i amgylch, o'r enw y triongl, i ddatblygu hwnnw ac, unwaith eto, i'w wyrddio ac i greu caffi cymunedol. Felly, maen nhw'n gwneud llawer o waith da iawn. A tybed, Gweinidog, pe bai grwpiau fel hynny, gyda hanes o gyflawni, yn elwa'n arbennig ar y cynlluniau a'r cyllid sydd ar gael, pan fyddan nhw'n cynrychioli ardaloedd sy'n brin iawn o fannau gwyrdd, ac mae Maendy hefyd yn amrywiol iawn yn ethnig. Mae ganddo lawer o broblemau cymdeithasol ac economaidd, ond mae gwella ansawdd bywyd drwy'r cynlluniau hyn yn gwbl hanfodol ac maen nhw'n gwneud camau pob person lleol yn sioncach o lawer.

Dim ond un mater arall, Gweinidog, tybed a oes unrhyw waith y gallech chi ei wneud gyda Network Rail lle mae ganddyn nhw—unwaith eto, mewn ardaloedd trefol lle mae llawer o bobl yn byw—bontydd rheilffyrdd hyll iawn, mae'n deimlad anghynnes cerdded oddi tanyn nhw gan fod dŵr yn diferu yno, nid ydyn nhw wedi'u goleuo'n dda iawn, maen nhw'n ddi-liw ac yn annymunol—

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

16:50

Rwyf wedi ceisio gweithio gyda Network Rail er mwyn ceisio bywiogi rhywfaint ar yr ardal hon, gydag efallai artistiaid graffiti ac ati, ond maen nhw'n dweud oherwydd eu meini prawf, oni bai bod problem strwythurol, nad oes ganddyn nhw gyllid ar gyfer y mathau hynny o gynlluniau. Tybed a oes unrhyw beth y gallech chi ei wneud i weithio gyda nhw i fynd i'r afael â'r problemau a'r cyfyngiadau hynny.

Diolch, John. Wel, o ran yr un olaf yna, rwy'n hapus iawn i ddweud ein bod wedi cael llawer iawn o lwyddiant, gan wisgo fy het arall, yn Abertawe. Rydym wedi gwneud hynny'n union: rydym wedi cael gwaith artistiaid graffiti a goleuadau wedi'u gosod yn un o'r bwâu rheilffyrdd mawr sy'n cysylltu dwy ran o ganol Abertawe gyda'i gilydd, ac rwy'n fwy na pharod i'ch gwahodd i ddod i lawr a chael golwg arno a chael sgwrs gyda'r bobl o orsaf Abertawe a Network Rail a'n helpodd ni i wneud hynny. Felly, mae'n sicr yn bosibl, ac rwy'n fwy na pharod i siarad â nhw ar lefel strategol amdano hefyd. Mae llawer o bethau gwyrdd y gellir eu gwneud gyda'r bwâu hefyd, mewn gwirionedd, nid dim ond eu bywiogi, ac mae gan Network Rail lawer iawn o dir ar hyd ochrau ei gledrau, wrth gwrs, y gellir ei ddefnyddio ar gyfer coridorau natur a phryfed peillio. Felly, rwy'n awyddus iawn i wneud hynny.

Bydd y 29 o brosiectau yr ydym newydd ddyfarnu cyllid ar eu cyfer yn cael eu defnyddio fel cynlluniau treialu, felly bydd cylchoedd ariannu eraill. Fel y dywedais i mewn ymateb i Janet Finch-Saunders, un o'r problemau mwyaf sydd gennym ni yw nad oes gennym gyllidebau amlflwydd ein hunain. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y cyd-Aelodau Ceidwadol sy'n gwrando ar hyn heddiw yn annog Llywodraeth y DU i roi mwy na setliad blwyddyn inni, fel y gallwn ni roi cyllid amlflwydd i mewn i gynorthwyo grwpiau fel yr un y sonioch chi amdano ym Maendy ac, yn wir, grŵp gwastadeddau Gwent, a fyddai'n elwa'n aruthrol ar rywfaint o gyllid amlflwydd, oherwydd rydym yn gwybod nad yw natur yn rhywbeth untro, mae'n ymwneud â'i hadennill, ei hadfer, ond yna, wrth gwrs, ei chynnal. Felly, mae angen i'r cyllid fod yn amlflwydd er mwyn gallu gwneud hynny.

A, John, rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi ac eraill ar draws y Senedd i helpu'r gwahanol grwpiau cymunedol sy'n dod at ei gilydd i wyrddu ein hardaloedd trefol, ac yn wir, mewn gwirionedd, i roi mynediad yn ein hardaloedd gwledig i'r cyllid sydd ar gael, ac, fel y dywedais, i ddod at ein gilydd mewn ffyrdd gwahanol ac arloesol o weithio i sicrhau y gallwn ni wella ein holl leoedd naturiol lleol.

Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad am gyllid heddiw. Ledled y DU, rydym wedi gweld gostyngiad o 44 y cant mewn 770 o rywogaethau o ganlyniad i golli cynefinoedd a heriau amgylcheddol. Mae'r gronfa rhwydweithiau natur yn dangos yn gwbl glir bod Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â'r argyfwng bioamrywiaeth a natur sy'n ein hwynebu. Mae angen trin yr argyfwng hinsawdd a natur gyda'r un brys. Rwy'n dweud hynny oherwydd, yn aml iawn, mae pobl yn sôn am leihau allyriadau carbon, ond yn anghofio'r argyfwng natur y mae angen ei drin yn yr un ffordd.

Mae'r prosiectau hyn, sy'n cynnwys £1.5 miliwn ar gyfer Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yn hanfodol er mwyn diogelu ein bioamrywiaeth yn ogystal â rhannu gwybodaeth am sut a pham y mae angen i ni ddiogelu ein dyfodol. Mae'r datganiad hefyd yn cydnabod grym cymunedau, sy'n hollbwysig, ac ers cael fy ethol, rwyf wedi cyfarfod â nifer o sefydliadau gwirfoddol ac wedi gweld y gwaith anhygoel y mae gwirfoddolwyr lleol yn ei wneud. Ond wrth wraidd hyn mae'n rhaid cael arweinydd cryf, ynghyd â chymorth cyllid craidd i helpu prosiectau cymunedol i ffynnu, a bydd y gronfa rhwydweithiau natur yn sicr yn darparu hyn.

Yn ddiweddar ymwelais â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i glywed gan ymchwilwyr am y gwaith gwyddonol anhygoel y maen nhw'n ei wneud, gan achub pryfed peillio drwy ddefnyddio tystiolaeth DNA. Enghraifft arall o sut y mae ymchwil yng Nghymru—

—yn arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth. Ond roeddwn yn bryderus o glywed y byddai dau o'r tri gwyddonydd y cyfarfûm â nhw yn gweld eu cyllid yn cael ei dorri, un ym mis Mawrth ac un ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf, oherwydd daw o gronfa amaethyddol Ewrop, sy'n dod i ben. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod yr arian a gyhoeddwyd heddiw yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru, sy'n wych, ond hefyd pryder ynghylch yr heriau y mae Brexit yn eu hachosi o ran cyllid Ewropeaidd a chynaliadwyedd yr ymchwil wyddonol bwysig iawn hon i fioamrywiaeth a'r ymchwil DNA? Diolch.

16:55

Diolch, Carolyn. Diolch yn fawr iawn. Rwyf i hefyd wedi ymweld â'r gerddi botaneg yn gymharol ddiweddar ac wedi gweld y prosiect gwirioneddol ragorol yr ydych chi'n sôn amdano. Mae'n fater o bryder mawr i ni nad yw Llywodraeth y DU wedi cadw ei haddewid i sicrhau nad yw Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae prosiectau ymchwil fel yr hyn yr ydych chi newydd ei grybwyll yn sicr yn y rheng flaen o ran colli'r math hwnnw o gyllid, ac rydym ni'n gweithio'n galed iawn gyda nhw ac eraill i sicrhau bod modd gwneud yr hyn y gallwn ni ei wneud i wneud iawn am o leiaf rhan o hynny. Ond ni allaf i annog Aelodau yma ddigon, yn enwedig yr Aelodau Ceidwadol, i annog eu Llywodraeth i wneud mwy yn y lle hwn, oherwydd bod angen gwirioneddol iddyn nhw sicrhau nad yw Cymru yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac, fel yr ydym ni'n sefyll heddiw, rydym ni'n sicr yn edrych fel ein bod ni yn llawer gwaeth ein byd.

Fe wnes i ryfeddu'n fawr ar y banc hadau cenedlaethol a'r prosiect DNA i lawr yn y gerddi botaneg. Prosiectau fel hynny yw'r mathau o gyngor gwyddonol sydd ei angen arnom i allu cynorthwyo ein hawdurdodau lleol a'n tirfeddianwyr eraill ledled Cymru i ddeall beth y mae angen ei wneud i adfer ein bioamrywiaeth. Y banc hadau yno—rwy'n gwybod yr oeddech chi yno i edrych ar hyn hefyd, Carolyn, o leiaf yn rhannol. Un o'r pethau rwy'n credu y gwnaeth Jenny ei grybwyll oedd y mater ynghylch torri ymylon glaswellt, ac yn y blaen. Yn ogystal ag eisiau cynghorau i ystyried o ddifrif beidio â thorri'r ymylon glaswellt, rydym ni hefyd yn dymuno eu bod yn ystyried o ddifrif blannu rhywogaethau blodau gwyllt brodorol ar hyd yr ymylon hynny fel bod gennym ni goridorau pryfed peillio ar hyd ein llwybrau prifwythiennol. Mae'n bwysig iawn eu bod yn rhywogaethau hadau brodorol yn ogystal â phryfed peillio blodau gwyllt yn unig, am resymau amlwg, oherwydd ein bod ni'n awyddus i wella bioamrywiaeth naturiol ein rhywogaethau brodorol. Roeddwn i'n ymwybodol eich bod chi'n ymweld, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy gennych chi am eich taith i lawr i'r gerddi botaneg maes o law, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni ei ddefnyddio i lywio ein polisi ni wrth symud ymlaen.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf i am ofyn cwestiwn—un cwestiwn—ac mae'n ymwneud â monitro. Yr unig reswm yr ydym ni i gyd yn gwybod bod natur wedi dirywio yw oherwydd yr astudiaethau hydredol sydd wedi digwydd sy'n dweud hynny wrthym ni. Ac rwyf i'n croesawu, yn amlwg, yr holl brosiectau newydd; maen nhw i'w croesawu. Ond, mae'n rhaid i ni beidio â cholli golwg ar yr hyn sydd gennym ni eisoes. Felly, mae fy nghwestiwn i chi yn glir iawn ac yn syml iawn: a oes arian ar gael, ac a fydd yr arian hwnnw yn cael ei fuddsoddi i barhau â'r astudiaethau hydredol hynny sy'n dweud wrthym ni ble'r ydym ni arni nawr, fel ein bod ni'n gwybod ein bod ni'n mynd i gyrraedd lle'r ydym ni eisiau bod?

Diolch, Joyce. Diolch yn fawr am hynny. Rwy'n falch iawn o gael y cwestiwn yna. Cefais i'r fraint yn ddiweddar o lansio adroddiad Elsevier gyda'r Prif Weinidog ar berfformiad ymchwil Cymru ar nodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, ac yr oedd yn gyfarfod diddorol iawn. Rwyf i wedi gweld y map gorchudd tir ar gyfer Cymru o ganlyniad i gwrdd â'r gwyddonwyr a oedd yn bresennol yn y lansiad, ac mae ar gael i'r Aelodau—a gallwn ni sicrhau y caiff ei roi yn y Llyfrgell neu ei ddosbarthu—sy'n gwneud yn union fel yr ydych chi newydd ei awgrymu: mae'n dangos map byw o Gymru dros amser. Felly, mae'n dangos i ni y dirwedd yn newid, ble mae'r canopi, ble mae'r gwrychoedd a'r mannau gwyrdd, a sut mae'r blerdwf trefol yn newid natur y dirwedd yng Nghymru. Felly, rydych chi'n hollol gywir: mae angen i ni wybod yr hyn sydd gennym ni nawr er mwyn gallu diogelu'r hyn sydd gennym nawr a'i wella. Rydym ni hefyd yn gallu gweld o'r map hwn—ac mae arnaf i ofn ei fod yn eithaf amlwg—faint sydd wedi ei golli yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac felly mae'n agoriad llygad da. Felly, rwy'n argymell adroddiad Elsevier a'r mapiau i'r Aelodau, ac rwy'n ddiolchgar iawn, Joyce, i chi am roi'r cyfle i mi dynnu sylw ato.

6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19

Eitem 6 nesaf, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am sefyllfa COVID a'n cynlluniau i gadw Cymru'n ddiogel yn ystod hydref a gaeaf anodd o'n blaenau.

Nawr, cyn i mi roi fy niweddariad, hoffwn i gydnabod Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd a diolch i'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles am ei diweddariad ar gynnydd ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn gynharach heddiw. Mae iechyd meddwl yn agenda mor bwysig, ac yn fwy felly ar hyn o bryd nag erioed yn ystod y 18 mis diwethaf. Yn yr hyn a fu'n adeg ddigynsail, rwy'n gwybod mor ddwfn y mae cynifer o bobl wedi teimlo effaith y pandemig. A hoffwn i hefyd estyn fy nghyfarchion i arweinydd y blaid Dorïaidd, a fy mharch tuag ato am sôn yn y ffordd y gwnaeth ef ynghylch ei sefyllfa. Rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i wella iechyd a lles yng Nghymru ac mae'n gwbl briodol i Gymru gael Dirprwy Weinidog iechyd a lles penodol yn ysgogi'r mentrau hyn.

Ddydd Gwener, cyhoeddodd y Prif Weinidog ganlyniad yr adolygiad 21 diwrnod, ac er ein bod ni'n parhau i fod ar lefel rhybudd 0, mae amddiffyniadau pwysig sydd wedi eu cynnal a'u cryfhau i'n cadw ni'n ddiogel. Mae'r coronafeirws yn dal i fod gyda ni; ers fy niweddariad diwethaf, roedd achosion wedi cynyddu. Mae gennym ni gyfraddau uchel iawn o'r coronafeirws yn ein cymunedau o hyd, ond rwy'n falch o ddweud bod y niferoedd wedi amrywio o amgylch tua 500 o achosion fesul 100,000 o bobl yn ystod yr wythnos diwethaf ac rydym ni wedi gweld tueddiadau amrywiol tebyg o ran derbyniadau i'r ysbyty, er bod niferoedd amlwg yn is na'r mis diwethaf. Felly, rydym ni o'r farn bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn sefydlog, er ein bod ni'n ymwybodol iawn y gallai hyn newid yn gyflym.

Mae'r GIG yn dal i fod dan bwysau dwys. Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal yn dal i wynebu pwysau adnoddau ac mae angen i bawb chwarae eu rhan o hyd a dilyn y canllawiau sydd ar waith i alluogi Cymru i aros ar agor o dan y lefel isaf o gyfyngiadau. Mae nifer uchel iawn o heintiau ymhlith pobl iau ac rydym ni'n monitro'r cysylltiadau rhwng ysgolion a throsglwyddo cymunedol. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni gyhoeddi cyngor ac arweiniad cryfach i ddysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau. Pan fydd aelod o'r cartref yn profi'n bositif am COVID-19, yn ogystal â'r cyngor presennol i gael prawf PCR ar ddiwrnodau dau ac wyth, yn y dyfodol, dylen nhw gynnal profion llif unffordd dyddiol am saith diwrnod. Drwy ddod o hyd i achosion positif a'u cadw ar wahân, gallwn ni helpu i roi'r gorau i drosglwyddo ymhellach.

Rydym ni hefyd wedi dechrau'r rhaglen frechu ar gyfer pobl ifanc 12 i 15 oed. Mae ein rhaglen frechu anhygoel wedi helpu i wanhau'r cysylltiad rhwng haint a salwch difrifol. Brechu yw'r amddiffyniad gorau sydd gennym ni yn erbyn y coronafeirws. Mae ein strategaeth frechu newydd a gafodd ei chyhoeddi heddiw yn nodi sut y bydd y rhaglen frechu yn parhau i gyflawni'n effeithiol ac yn gyflym yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar ddarparu brechlyn atgyfnerthu i'r bobl fwyaf agored i niwed, brechu plant a phobl ifanc a'n hegwyddor o adael neb ar ôl, gan gynnwys y bobl hynny sy'n feichiog. Dros yr haf, fe wnaethom ni weithio gyda byrddau iechyd i gynllunio'r cam nesaf hwn. Mae hyn wedi eu galluogi i symud yn gyflym pan gafodd cadarnhad o'r brechlyn atgyfnerthu a brechu plant ei gyhoeddi yn ddiweddar. Mae'r cyfnod newydd hwn yn rhoi gobaith i ni.

Yr wythnos hon, rydym yn cyflwyno'r pàs COVID. Gyda'r cynnydd yn y niferoedd y gwnaethom ei weld fis diwethaf, rydym ni'n parhau i edrych ar fesurau i liniaru lledaeniad COVID drwy ein cymunedau. Nid oes yr un ohonom ni eisiau gweld busnesau'n gorfod cau eto. Wrth gwrs, byddwn ni'n adolygu'r mesurau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gymesur.

Ddydd Gwener, cyhoeddwyd diweddariad o’n cynllun rheoli coronafeirws, sy'n nodi'r prif ffyrdd y byddwn yn cadw Cymru'n ddiogel. Yn y bôn, y rhain yw: brechu, profi, olrhain a diogelu, a pharhau â'r mesurau sylfaenol sy'n dal yn bwysig, pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i amddiffyn ein hunain. Dyw ein cyngor ar brofi ddim wedi newid. Rydyn ni’n dal i ofyn ichi gymryd prawf PCR os ydych yn datblygu symptomau COVID-19, ac i hunanynysu os yw eich canlyniad yn bositif. Rydyn ni’n cadw golwg fanwl ar y niferoedd digynsail o bobl sy'n dod i gael eu profi yng Nghymru. Os bydd y lefel hon yn parhau, efallai y bydd angen inni wneud dewisiadau. Ond ar gyfer y cyfnod adolygu hwn, mae ein cyngor yn aros yr un peth. Profi yw'r ffordd orau o dorri'r gadwyn drosglwyddo.

Mae'r mesurau sylfaenol rydyn ni i gyd wedi bod yn eu dilyn trwy gydol y pandemig yn dal yn bwysig: golchi eich dwylo, cadw eich pellter, a gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do. Mae'r rhain yn fesurau hanfodol a fydd yn ein cadw'n fwy diogel. Mae'r cynllun rheoli hefyd yn nodi dwy senario gynllunio ar gyfer y pandemig dros y gaeaf. Yn y senario gyntaf, COVID sefydlog, mae Cymru yn parhau i fod ar lefel rhybudd 0, gyda phob busnes yn gallu agor. Rŷn ni’n disgwyl mai dyma fydd y senario at y dyfodol, wrth inni ddod i arfer â byw gyda'r coronafeirws a symud allan o'r pandemig yn raddol. O dan y senario hon, os bydd cyfraddau achosion yn gostwng, byddai modd llacio’r mesurau. Ond, os byddan nhw’n codi, byddai modd cryfhau'r mesurau presennol.

Mae'r ail senario, COVID brys, wedi'i chynllunio i ddelio â newidiadau sydyn i'r sefyllfa, fyddai’n gallu achosi cynnydd ym mhwysau’r pandemig ac yn rhoi pwysau llethol ar ein gwasanaeth iechyd. O dan y senario yma, byddai'r system lefelau rhybudd a'r cyfyngiadau yn cael eu defnyddio mewn ffordd gymesur, ond fel dewis olaf, i ddiogelu iechyd pobl, rheoli lledaeniad heintiau a diogelu'r gwasanaeth iechyd. Dirprwy Lywydd, mae gwaith modelu yn awgrymu ei bod yn ymddangos ein bod wedi pasio'r uchafbwynt hwn, ond allwn ni ddim fforddio llaesu dwylo ar yr adeg dyngedfennol hon. Yn y misoedd nesaf bydd bygythiadau eraill o heintiau anadlol eraill, fel RSV a’r fliw tymhorol, yn dod. Rŷn ni’n parhau i ganolbwyntio ar frechu yn erbyn yr heintiau hyn hefyd.

Mae angen inni ofalu am ein hiechyd dros gyfnod y gaeaf hwn. Mae'n bwysig ein bod yn cymryd camau bach, sydd o fewn ein cyrraedd, i gadw’n iach ac osgoi mynd yn sâl. Mae hyn yn cynnwys cadw’n actif yn gorfforol, bwyta deiet cytbwys, cyfyngu ar faint o alcohol rŷn ni’n ei yfed, rhoi'r gorau i ysmygu, ac wrth gwrs gofalu am ein hiechyd meddwl. Byddwn yn gweithio gyda chanolfannau brechu, meddygfeydd a fferyllfeydd dros y gaeaf i godi ymwybyddiaeth o'r negeseuon hyn a chyfeirio pobl at y cymorth sydd ar gael ledled Cymru.

Hoffwn i orffen ar nodyn cadarnhaol. Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol i'r rheolau dros y tair wythnos nesaf, y tu hwnt i'r rhai yr oedden ni eisoes wedi'u cyhoeddi. Mae pawb wedi gweithio mor galed i amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid, ac mae'n gweithio. Rŷn ni’n newid cwrs y pandemig hwn gyda'n gilydd. Dydyn ni ddim allan o'r pandemig hwn eto—gall y sefyllfa newid yn gyflym—ond gyda'n gilydd, gallwn barhau â'r mesurau sydd ar waith i'n cadw ar y trywydd iawn, ac i ddiogelu ein gwasanaeth iechyd a diogelu ein gilydd. Diolch.

17:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ac a gaf i hefyd ategu sylwadau'r Gweinidog o ran iechyd meddwl a'r agenda bwysig yn hynny o beth hefyd?

Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn am eich cynllun gaeaf. Rwyf i wedi sôn droeon o'r blaen fod angen i ni gynnwys canolfannau diagnosis, a tybed a wnewch chi gadarnhau a fydd hynny'n cael ei gynnwys yn eich cynllun yr wythnos nesaf. Tybed pa ymdrechion yr ydych chi'n eu gwneud hefyd i sicrhau bod buddsoddi a rhannu adnoddau yn cael eu darparu i ofal sylfaenol i ryddhau pwysau ar feddygon teulu ac, yn y pen draw, gwasanaethau brys. Sut ydych chi hefyd yn mynd i ymdrin ag adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar wasanaethau ambiwlans?

Byddaf i'n codi un maes nad yw'n cael ei grybwyll yn eich datganiad, sy'n absennol o'r datganiad heddiw, a hynny yw'r ymateb i'r Siambr hon ynghylch adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd y DU ar ymdrin â phandemig COVID-19. Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud bron yn gyfan gwbl ag ymateb Llywodraeth y DU, gan sôn am Gymru dim ond naw gwaith, ond mae'n dangos, yn fy marn i, frys yr angen am ymchwiliad sy'n benodol i Gymru. Drwy gydol y pandemig, mae'r Prif Weinidog wedi dweud dro ar ôl tro fod Cymru yn gwneud pethau'n wahanol. Fe wnaethoch chi eich hun sôn am yr un peth heddiw o ran yr union adroddiad yr wyf i newydd ei grybwyll. Felly, rwy'n gofyn: a wnewch chi sylw heddiw i'r Siambr am ymchwiliad sy'n benodol i Gymru yng nghyd-destun yr hyn yr wyf i newydd ei ddweud a'r adroddiad hwn heddiw?

Mae penderfyniadau eich Llywodraeth, da neu ddrwg, wedi penderfynu ar ganlyniad y pandemig. O ran fy nghwestiwn nesaf, fe wnaf i godi ychydig o bwyntiau yma. Cymru sydd â'r gyfradd marwolaethau uchaf ledled y DU o ran COVID-19 o ran y boblogaeth. Dywedodd y Prif Weinidog mewn gwirionedd nad oedd yn gweld unrhyw werth mewn profi cartrefi gofal bythefnos lawn ar ôl i Lywodraeth y DU ehangu ei threfn brofi yn sylweddol. Dywedodd y Gweinidog iechyd ar y pryd:

'Nid wyf i'n deall y rhesymeg o ran sut...mae'n achub mwy o fywydau ar gyfer y ffordd y mae'r polisi profi wedi ei newid yn Lloegr'.

Yna, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd gorchuddion wyneb yn ateb i bob problem, bron i ddeufis ar ôl i Lywodraeth y DU gyflwyno masgiau wyneb gorfodol. Ac yn olaf, cafodd y Gweinidog iechyd blaenorol y cyfrifoldeb o leihau heintiau a oedd wedi eu dal mewn ysbytai rhag mynd drwy ein hysbytai y gaeaf diwethaf, gan ddweud bod gwersi wedi eu dysgu drwyddi draw, ac yn y pen draw, daeth bron i chwarter y marwolaethau o COVID o heintiau a gafodd eu dal mewn ysbytai. Mae'r materion hyn yma o ganlyniad i Gymru yn gwneud pethau'n wahanol. Bydd pethau da, bydd pethau drwg o ran Cymru yn gwneud pethau'n wahanol. Ond o'r meysydd yr wyf i wedi sôn yn benodol amdanyn nhw, yr wyf i wedi eu codi, a ydych chi' n credu y bydden nhw'n cael sylw digonol mewn ymchwiliad cyhoeddus ledled y DU?

Hefyd, rwy'n credu bod angen i'ch Llywodraeth ddysgu gwersi o'r pandemig, fel yn wir y mae angen i bob Llywodraeth ledled y DU ei wneud, wrth gwrs. Ond cododd pwyllgor San Steffan bwynt perthnasol ond dilys iawn, yn fy marn i, i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n dyfynnu yma:

'Mae'r ffaith bod dull y DU yn adlewyrchu consensws rhwng cynghorwyr gwyddonol swyddogol a'r Llywodraeth yn dangos rhywfaint o feddwl fel grŵp a oedd yn bresennol ar y pryd a oedd yn golygu nad oeddem ni mor agored i ddulliau a gafodd eu defnyddio mewn mannau eraill fel y dylem ni fod wedi ei wneud.'

Felly, nid yn agored i farn arall. Rydym ni wedi clywed eto heddiw gennych chi a'r Prif Weinidog fod Cymru yn dilyn y wyddoniaeth. A oedd y Llywodraeth yn anghywir i fabwysiadu'r dull hwn? A'r cwestiwn olaf—[Torri ar draws.] Wel, mae hynny'n gwestiwn sy'n gwestiwn dilys i'w ofyn. Mae hwn yn gwestiwn wedi ei gyflwyno gan ymchwiliad traws—[Torri ar draws.] Rwy'n gallu gweld y Gweinidog yn chwerthin. Mae'n ddrwg gen i, ond roedd hwn yn gwestiwn a gafodd ei godi gan ymchwiliad o bob plaid yn San Steffan. Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn dilys i'w ofyn. Nid wyf i'n gwneud awgrym; rwy'n gofyn y cwestiwn hwnnw yr wyf i'n credu bod angen ymdrin ag ef heddiw.

Yn olaf, Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn hefyd am basbortau COVID. Mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol wedi cysylltu â mi, ac maen nhw wedi codi pwyntiau eithaf pwysig ynglŷn â phasys COVID. Mae pobl ag anableddau fel awtistiaeth mewn perygl o fod yn destun gwahaniaethu yw'r honiad y maen nhw'n ei wneud, oherwydd nad ydyn nhw'n gallu cael eu brechu neu eu profi oherwydd newidiadau mewn ymddygiad neu anawsterau synhwyraidd, a gall hyn achosi, wrth gwrs, fel y byddwch chi'n ei ddeall, straen os yw pobl yn y grwpiau hynny yn credu eu bod yn cael eu heithrio. Mae trefn arferol, wrth gwrs, yn bwysig iawn i bobl yn arbennig yn y grŵp hwnnw hefyd. Felly, a fydd eithriadau i bobl nad ydyn nhw'n gallu cael eu brechu neu eu profi am resymau meddygol, fel sy'n wir yn yr Alban, ac os na fydd, sut ydych chi'n bwriadu darparu ar gyfer y grwpiau penodol hyn o bobl, Gweinidog?

17:10

Diolch yn fawr iawn. Diolch i chi am y cwestiynau yna. O ran cynllun y gaeaf, mae arnaf i ofn y bydd yn rhaid i chi aros i hynny gael ei gyhoeddi. Felly, cynnig da yn ceisio cael rhywfaint o wybodaeth gennym ni, ond byddwn ni'n rhoi gwybod i chi pan fyddwn ni'n barod i gyhoeddi hynny. Dim ond ychydig o ddyddiau eto sydd gennych chi i aros. Mae pwysau sylweddol ar feddygon teulu ar hyn o bryd. Mae hynny yn sicr. Dyna pam mae gennym ni raglen enfawr o gyhoeddusrwydd ar waith ar hyn o bryd, i geisio rhoi gwybod i'r cyhoedd am ble y gallan nhw fynd i gael cymorth. Mae dewisiadau eraill yn lle meddygon teulu, a gwnaethoch chi glywed y Prif Weinidog y bore yma—[Torri ar draws.]

Gwnaethoch chi glywed y Prif Weinidog y bore yma yn sôn am y ffaith bod angen i ni, mewn gwirionedd, ddiddyfnu ein hunain oddi ar y dybiaeth hon y byddwch chi bob amser yn gweld meddyg teulu. Mae yna bobl sydd cystal, yr un mor gymwys, sy'n gallu ein cefnogi gyda'n hanghenion iechyd sy'n ddewisiadau eraill i feddygon teulu, ac mae angen i ni ddeall hynny.

Fe wnaethoch chi sôn yn fyr iawn am wasanaethau ambiwlans. Mae'n amhosibl i mi fynd drwy'r holl bwyntiau yr oeddech chi wedi eu gwneud, ond rydych chi'n ymwybodol bod gennym ni raglen waith gyfan yr ydym ni'n ei chynnal o ran ambiwlansys, gan geisio gwella'r sefyllfa o ran ambiwlansys. Rydym ni wedi gwario £25 miliwn yn ychwanegol o ran cyllid rheolaidd, mae nifer enfawr o weithwyr ambiwlans wedi eu recriwtio, mae canolfannau gofal sylfaenol brys wedi eu creu—felly, mae llawer o bethau'n mynd rhagddynt i geisio tynnu'r pwysau oddi ar ein gwasanaethau ambiwlans. 

Gan droi at adroddiad y DU, ydych, rydych chi'n llygad eich lle, mae'n adroddiad sy'n ystyried y sefyllfa yn y DU, ond onid yw'n ddiddorol eich bod chi'n dod yn syth i mewn yma a cheisio taflu'r problemau atom ni yma yng Nghymru? Y ffaith yw eu bod yn amlinellu sefyllfa fel y ffaith y dylen nhw fod wedi mabwysiadu dull mwy gofalus. Wel, rwyf i'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn deall ein bod ni wedi defnyddio dull mwy gofalus nag sydd ganddyn nhw yn y DU. Y peth arall, wrth gwrs, yw ein bod ni yn cael trafodaethau yn ein Cabinet sy'n gadarn yn fy marn i ond sy'n barchus, ac nid ydym ni'n meddwl fel grŵp. Rhan o'r mater yn y DU yw bod cymaint o bwyslais wedi bod a chymaint o ganolbwyntio ar geisio cadw'r economi i fynd sydd weithiau wedi colli golwg ar bwysigrwydd iechyd y cyhoedd. Mae cael y cydbwysedd hwnnw yn iawn, yn fy marn i, wedi bod yn rhywbeth yr ydym ni wedi ceisio ei gael yn iawn yn y sefyllfa yng Nghymru.

Y peth arall y maen nhw'n sôn amdano yn yr adroddiad hwn yw'r ffaith bod popeth, mewn gwirionedd, yn rhy ganolog. Mae ond angen i chi edrych ar y system brofi, olrhain a diogelu; y symiau hurt o arian y gwnaethon nhw eu gwario ar y system honno yn Lloegr, ar gwmnïau preifat sydd wedi bod yn gwbl aneffeithiol pan fyddwch chi'n eu cymharu nhw â ni yn gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol i lywio system sydd wedi bod yn hynod effeithiol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn deall mewn gwirionedd nad ydym ni, fel Cymru, yn yr un sefyllfa. A byddwch chi'n ymwybodol hefyd fod y Prif Weinidog wedi gofyn i Michael Gove mewn llythyr nodi, 'Dyma'r pethau yr hoffem ni eich gweld chi'n ymdrin â nhw os bydd ymchwiliad cyhoeddus i'r DU—rydym ni eisiau i'r pethau hyn gael eu nodi.' Nawr, rydym ni'n dal i aros am ateb i'r llythyr hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn gwbl glir, os oes parch tuag at edrych ar y math o fanylion y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn dymuno eu gweld, ac y byddwn ni yn dymuno ei weld, yna rwy'n credu y byddwn ni'n gallu mynd gyda'r DU. Os nad yw hynny'n digwydd, yna wrth gwrs, nid ydym ni eisiau bod yn droednodyn yn ymchwiliad cyhoeddus y DU. Rwy'n credu bod hynny yn ddigon ar hynny. Diolch.

17:15

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

Mae heddiw'n ddiwrnod eithaf sobreiddiol, onid yw, gyda chyhoeddi'r adroddiad hwnnw gan Aelodau Senedd y DU yn dweud mai ymateb Llywodraeth y DU i'r pandemig oedd un o'r methiannau iechyd cyhoeddus 'gwaethaf erioed'. Mae'r rheini yn eiriau eithaf cryf. Prin fod cyfeiriad at Gymru yn yr adroddiad hwnnw—byddaf i'n dychwelyd at hynny mewn eiliad—ond mae llawer o'r cwestiynau ynghylch yr ymateb i'r pandemig yr un mor berthnasol i Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, gan gynnwys yr hyn a ddigwyddodd yn y dyddiau cynnar iawn hynny, ac mae cwestiynau wedi eu gofyn yn gyhoeddus heddiw ynghylch hynny, yma yn y Senedd gan fy nghyd-Aelod Adam Price, a hefyd gan newyddiadurwyr yn y gynhadledd i'r wasg yn gynharach.

Rydym ni wedi clywed rhai ymatebion gwrthgyferbyniol ynghylch cyflymder yr ymateb yma yng Nghymru; y Prif Weinidog, yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, yn dweud, 'Nid oeddem ni'n gwybod pa mor ddifrifol oedd hyn,' er fy mod i'n credu ein bod ni wedi gwybod, neu'r Gweinidog iechyd yn dweud, 'Roeddem ni yn gwybod, ond roedd yn anodd iawn i Gymru weithredu heb fod Lloegr yn gweithredu hefyd.' Nawr, nid wyf i'n siŵr sut yr ydych chi'n cysoni'r ddau ymateb hynny, ond y gwir amdani yw, nid yw'r cwestiynau hyn wedi eu gofyn yn fanwl. Mae Aelodau Seneddol yn San Steffan wedi rhoi cynnig arni, fel y dywedais i, yn yr adroddiad hwn, sy'n sôn am Gymru naw gwaith, rwy'n credu, mewn 147 o dudalennau. Ond mae'r rhain yn gwestiynau y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn disgwyl iddyn nhw gael eu hystyried yn fanwl, a'r unig ffordd o wneud hynny, fel sydd wedi ei brofi eto, yn fy marn i, gan yr adroddiad hwn heddiw—. Y ffordd i wneud hynny'n fanwl ar y cwestiynau hyn am yr ymateb cychwynnol, a chymaint o'r cwestiynau ynghylch yr ymateb yn ystod y 18 mis diwethaf, yw cael ymchwiliad sy'n benodol i Gymru.

Nawr, rwyf i wedi cyfarfod, droeon erbyn hyn, gan gynnwys unwaith yn bersonol â chynrychiolwyr o ymgyrch Teuluoedd mewn Profedigaeth dros Gyfiawnder Covid-19. Rwy'n falch bod y Prif Weinidog hefyd wedi cwrdd â nhw hefyd erbyn hyn. A'u dadl ganolog yw hyn. Mae'n syml iawn, iawn: mae'n rhaid craffu ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru yng Nghymru. Mae'n egwyddor hawdd iawn, iawn i mi ei deall. Os gallaf i ei deall, rwy'n credu y gall y rhan fwyaf o bobl ei deall. Mae angen craffu ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru yng Nghymru. Nawr, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym ni yn awr a fu ymateb erbyn hyn, neu hyd yn oed gydnabyddiaeth i'r llythyr a ysgrifennodd y Prif Weinidog at Lywodraeth y DU yn gofyn am sicrwydd ynghylch pa ran y byddai i Gymru mewn ymchwiliad yn y DU ac y bydd yn cynnwys digon o bwyslais ar Gymru. Ac a gaf i ofyn, faint o amser y mae Llywodraeth Cymru yn barod i aros am ymateb cyn penderfynu, 'Wyddoch chi beth; bydd yn rhaid i ni wneud hyn ein hunain a sefydlu ymchwiliad i Gymru'? Dyma'r unig ateb.

Hoffwn i ganolbwyntio, yn ail, ar un gair yr ydym ni wedi ei glywed ychydig o weithiau gan y Gweinidog heddiw: 'sefydlog'—mae'r sefyllfa yng Nghymru yn sefydlog ar hyn o bryd. A gaf i awgrymu, mewn gwirionedd, fod angen tri chategori arnom ni, nid dim ond 'COVID-sefydlog' a 'COVID-brys' wrth fynd i mewn i'r gaeaf hwn? Mae hyn yn fater brys. Mae hyn yn fater brys heddiw. Efallai fod angen 'COVID-argyfwng' arnom ni os bydd pethau'n gwaethygu hyd yn oed, ond rydym ni mewn sefyllfa frys. A gadewch i mi atgoffa pobl sut beth yw 'sefydlog'. Cymru ar hyn o bryd: dros 500 o achosion fesul 100,000 o bobl dros gyfnod o saith diwrnod—mae hynny'n waeth nag unrhyw genedl arall yn y DU; mae tair gwaith yn fwy, bron, na'r ffigur ar gyfer Iwerddon, bron i chwe gwaith yn fwy na'r gyfradd achosion ar gyfer yr Iseldiroedd, bron i 12 gwaith yn fwy na'r gyfradd achosion ar gyfer Ffrainc ac 20 gwaith yn fwy na'r gyfradd achosion ar gyfer Sbaen. Mae'r gyfradd achosion ar gyfer pobl dan 25 oed yng Nghymru ddwywaith yn fwy na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru, sef bron i 1,000. Mae gan saith sir yng Nghymru, gan gynnwys yr un yr wyf i'n ei chynrychioli, gyfraddau achos o dros 1,000. Os nad yw hynny'n fater brys, wn i ddim beth sydd.

Felly, efallai y caf i ofyn y cwestiynau hyn wrth gloi. Pryd mae strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru yn rhagweld y byddwn ni'n gostwng i'r lefelau yn Ffrainc, yn Sbaen, yn yr Eidal ac mewn unrhyw wlad arall yng ngorllewin Ewrop y gallech chi sôn amdani? A yw cyrraedd yno cyn gynted â phosibl yn rhan o'r strategaeth hyd yn oed? Neu ai sefydlog, yn raddol, yw'r ffordd y bydd pethau'n cael eu trin o hyn ymlaen? Er enghraifft, fe wnaethom ni awgrymu yr wythnos diwethaf y gallem ni gryfhau system pasys COVID, efallai, fel modd cyflymu pethau. Pa dystiolaeth y gall y Gweinidog dynnu sylw ati i ddangos neu hyd yn oed awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud popeth o fewn ei gallu i leihau'r cyfraddau achos hynny i lefelau ein partneriaid yng ngorllewin Ewrop, oherwydd— 

17:20

—mae gweld y feirws yn mynd yn rhemp yn ysgolion Cymru ar hyn o bryd, a chlywed gan y rhieni sydd wedi ofni a gan yr athrawon sy'n ofni lefelau parhaus y feirws ymhlith pobl ifanc a phlant yn arbennig yn rhywbeth y mae angen gwirioneddol i ni barhau i ganolbwyntio arno?

Diolch yn fawr. Nid wyf i'n siŵr pa gynhadledd i'r wasg yr oeddech chi'n gwrando arni, ond gallaf i eich sicrhau fy mod i'n glir iawn, fe'i gwnes i hi'n glir ei bod yn glefyd nad oeddem ni erioed wedi ei weld o'r blaen, nid oedd yr un ohonom ni'n gwybod pa effaith yr oedd yn mynd i'w chael, nid oedd yr un ohonom ni'n gwybod sut yr oedd yn mynd i ledaenu ac nid oedd yr un ohonom ni'n gwybod y gallech chi ledaenu'r broblem hon heb ddangos unrhyw symptomau. 

Rydym ni wedi trafod hyn o'r blaen o ran ymchwiliad i Gymru. Rydych chi'n gwybod ein safbwynt ni. Ein safbwynt ni yw yr hoffem ni gael golwg glir a chynhwysfawr iawn ar yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru, ond ein bod ni eisiau gweld hynny yng nghyd-destun Llywodraeth y DU a'r hyn a ddigwyddodd yno. A'r rheswm am hynny yw, fel y gwelwyd heddiw yn sgil cyhoeddi'r adroddiad hwn, fod llawer iawn o orgyffwrdd rhwng yr hyn a oedd yn digwydd yn y DU a'r hyn a oedd yn digwydd yng Nghymru. Nawr, yr wythnos diwethaf, fe wnaeth y Prif Weinidog gwrdd â phobl a gollodd anwyliaid i'r coronafeirws. Roedd, rwy'n siŵr, yn gyfarfod sensitif ac anodd iawn a rhoddodd rywfaint o sicrwydd iddyn nhw yno, os nad yw Llywodraeth y DU yn gwrando ar Lywodraeth Cymru, yna, wrth gwrs, y bydd yn ailystyried y sefyllfa o ran ymchwiliad i Gymru. Ond nid dyna lle'r ydym ni. Byddai'n llai anghwrtais os byddem ni'n cael ateb i gwestiwn a llythyr at ein Prif Weinidog, ac yn amlwg, byddai hynny'n rhywbeth a fyddai'n ddefnyddiol iawn. Felly, os oes gennych chi unrhyw ffrindiau yn Llywodraeth y DU, gofynnwch iddyn nhw ei gyflymu, os na fyddai ots gennych chi.

Rydych chi'n siarad â mi am frys; gadewch i mi ddweud wrthych chi am frys. Mae'r cyfraddau ymhlith pobl ifanc—rydych chi'n hollol gywir—yn eithriadol o uchel. Yr wythnos diwethaf, roeddech chi eisiau gohirio ac oedi oherwydd pàs COVID, oherwydd eich bod chi eisiau ei gryfhau. Nid yw hynny'n fater brys, mae hynny'n cymryd eich amser. Roeddem ni eisiau symud a diolch byth ein bod ni wedi gallu gwneud. Gadewch i mi fod yn glir, mae'r cyfraddau yn dechrau gostwng, ond mae'r cyfrifoldeb yma hefyd ar y cyhoedd i'n helpu ni. Maen nhw'n gwybod yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud i gadw eu hunain yn ddiogel. Rydym ni i gyd yn gwybod beth yw ein cyfrifoldebau ein hunain yma, ond brechu yw un o'n dulliau allweddol o gadw pobl yn ddiogel, dyna pam mae gennym ni'r brechlyn atgyfnerthu sy'n cael ei roi ar hyn o bryd. Mae gennym ni'r bobl ifanc 12 i 15 oed yn cael eu brechu. Ac wrth gwrs, felly, mae gennym ni system profi, olrhain a diogelu gynhwysfawr iawn ar waith i geisio cwtogi ar ledaeniad y feirws. Felly, mae gennym ni lawer o ddulliau sydd ar gael i ni yr ydym ni'n eu defnyddio'n eang iawn i geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa.

17:25

Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad. Rwy'n ailadrodd yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud yn eich paragraff gobennol: mae pawb wedi gweithio'n galed i amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid, ac mae'n gweithio. Rydym ni'n newid hynt y pandemig hwn gyda'n gilydd. Mae'n bwysig dweud hyn oherwydd bydd y nodyn atgoffa hwnnw i bobl am faint y maen nhw wedi ei wneud gyda'i gilydd a faint y mae'n rhaid i ni ei wneud o hyd i fynd drwy'r hydref a'r gaeaf hwn a'r gwanwyn nesaf hefyd—.

Byddaf i'n mynd i leoliad yr wythnos hon am y tro cyntaf ers y pandemig. Byddaf i'n gwylio sioe. Ni fyddaf i'n dweud pa sioe oherwydd bydd fy nghefnogwyr i gyd yn dod yno ac yn fy heidio, mi wn i. Ond, maen nhw'n gofyn i mi wneud prawf llif unffordd. Nid yw'n broblem o gwbl. Os oes angen iddyn nhw weld fy nhystysgrif brechlyn dwbl, nid yw hynny'n broblem chwaith. Os yw hynny'n cadw'r lleoliad hwnnw ar agor drwy'r gaeaf a thrwy'r gwanwyn, ac yn cadw'r staff ac aelodau eraill y gynulleidfa yn ddiogel, yna wyddoch chi, mae hynny'n waith da. Mae hynny'n rhan o fy nghyfrifoldeb i hefyd.

Ond, a gaf i ofyn i'r Gweinidog beth y mae'n ei wneud ledled y Llywodraeth ar hyn o bryd o ran dadansoddi cymdeithasol ac ymddygiadol? Nid y pethau technegol, nid y mesurau uniongyrchol, nid y rheoliadau ac yn y blaen, ond y dadansoddi hwnnw o'r hyn a fydd yn helpu pobl i wneud y peth iawn, ac i barhau i wneud y peth iawn. Mae canfyddiad o fygythiad wedi newid, ac mae hynny'n rhannol oherwydd llwyddiant cyflwyno'r brechlyn. Mae normau cymdeithasol yn symud rhywfaint. Ond, mae ffyrdd y mae modd gwneud hyn oherwydd ein bod ni wedi gwneud hynny cystal eisoes. Mae'r negeseuon, yr arweinyddiaeth, y cosbau weithiau—

Felly, rwy'n gofyn i'r Gweinidog pa waith y mae'n ei wneud ar wyddoniaeth gymdeithasol ac ymddygiadol i sicrhau y gallwn ni fynd drwy hyn i gyd gyda'n gilydd yn ddiogel.

Diolch yn fawr, Huw. Diolch i chi am gydnabod, oherwydd y pasys COVID, ein bod ni, gobeithio, yn gallu cadw rhai o'r lleoliadau hynny ar agor a allai fod wedi wynebu cau fel arall. Yn sicr, yr hyn yr ydym ni'n falch iawn o'i weld yw bod cryn dipyn o wyddoniaeth gymdeithasol ac ymddygiadol wedi bod yn gysylltiedig â'n dull gweithredu cyfan yma. Mae gennym ni ymchwil gynhwysfawr sydd wedi ei wneud i'r hyn sy'n ysgogi pobl i ymddwyn mewn ffordd wahanol.

Mae gennym ni ymgyrch weithredol iawn sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers sawl wythnos bellach, 'Helpwch Ni i'ch Helpu Chi', sy'n ceisio helpu pobl i'w cyfeirio i'r lleoedd iawn ar gyfer cymorth, yn enwedig os ydyn nhw'n sâl, ond hefyd i wneud yn siŵr eu bod yn gofalu amdanyn nhw eu hunain y gaeaf hwn. Gallwn ni i gyd fwyta'n well. Gallwn ni i gyd fod yn fwy heini. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n deall ein cyfrifoldebau yn hyn hefyd. Hefyd, mae gennym ni ymgyrch 'Cadwch Gymru'n ddiogel y gaeaf hwn'. Felly, mae'n bwysig iawn bod pobl yn ymgysylltu â hynny. Pan fydd pobl yn cael eu brechiadau atgyfnerthu, rwy'n gobeithio y byddan nhw hefyd yn cael rhywfaint o gyngor o ran iechyd y cyhoedd a sut i amddiffyn eu hunain y gaeaf hwn.

Gweinidog, gwnaethoch chi sôn yn eich datganiad fod y GIG yn dal i fod dan bwysau dwys. Mae llawer o drigolion cwm Cynon wedi cysylltu â mi i godi pryderon bod yr adran damweiniau ac achosion brys sy'n lleol iddyn nhw yn Ysbyty'r Tywysog Charles wedi bod dan bwysau eithafol yn ystod y pandemig. Hyd yn oed yn awr wrth i ni siarad, mae amser cyfartalog o wyth awr a 15 munud i bobl gael eu gweld yno, a 70 o gleifion yn aros i gael eu gweld.

Mae'r sefyllfa wedi gwaethygu ers cau'r uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Cynon ers 8 Medi, a hynny oherwydd prinder staff. Heddiw, cefais adroddiad y bydd y cau dros dro hwn yn barhaol bellach. A yw'r Gweinidog yn gallu cadarnhau'r adroddiad hwn? Ac, os yw'n wir bod yr uned mân anafiadau yn cael ei chau'n barhaol, beth yw barn y Gweinidog ar fwrdd iechyd yn israddio gwasanaethau lleol yn barhaol yn ystod pandemig, ac yn ychwanegu at y pwysau ar wasanaethau eraill fel yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Charles?

Diolch yn fawr, Heledd. A gaf i egluro bod ein gwasanaethau GIG o dan bwysau dwys ar hyn o bryd? Nid oherwydd nad ydyn nhw'n gweithio'n galed. Maen nhw'n gweithio'n eithriadol o galed, fel y maen nhw wedi ei wneud ers 18 mis. A bod yn onest, mae'r bobl hyn eisoes wedi blino'n lân. Mae llawer ohonyn nhw i ffwrdd o'r gwaith yn sâl. Mae gan lawer ohonyn nhw COVID. Felly, mae'n rhaid i chi ddeall, bob tro y bydd hynny'n digwydd, fod mwy o bwysau ar y bobl sy'n weddill. Felly, byddwn i'n gofyn i'r cyhoedd yng Nghymru weithredu'n synhwyrol a bod yn sensitif i'r ffaith bod y bobl ar ein rheng flaen bellach yn wynebu gaeaf anodd iawn, iawn.

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddeall bod hynny'n golygu ein bod ni, weithiau, yn mynd i weld yr angen i grynhoi'r gwasanaethau hynny mewn rhai ardaloedd oherwydd y pwysau staff sy'n digwydd. Felly, rwyf i yn teimlo ei bod hi'n bwysig bod pobl yn deall, fel yr ydym ni wedi ei weld yr wythnos hon yn y de, fod unedau mamolaeth wir yn gorfod crynhoi eu hymdrechion yn fawr oherwydd y sefyllfa staffio honno. Felly, byddwn i'n gofyn i bobl, yn ystod y cyfnod hwn, fod yn oddefgar ynghylch y pwysau difrifol sydd ar ein systemau ar hyn o bryd.

17:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Weinidog, dwi’n meddwl eich bod chi a’r Llywodraeth yn bod braidd yn annheg yn dweud nad oedd neb yn gwybod beth oedd yn mynd i ddod dechrau’r flwyddyn ddiwethaf a'i fod o'n hawdd gwneud penderfyniadau ag edrych yn ôl—hindsight, fel roedd y Prif Weinidog wedi sôn heddiw. Dwi'n meddwl ein bod ni i gyd wedi gweld y lluniau'n dod o'r Eidal ar ddechrau'r flwyddyn, ac, yn wir, o Tsieina, ac roedd pawb efo syniad reit dda beth oedd o'n blaenau ni. Ond, yn fwy na hynny, diolch i'r Dr Moosa Qureshi, rydyn ni’n gwybod bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi cynnal ymarferiad trylwyr i baratoi am bandemig coronafeirws, a hynny bum mlynedd yn ôl, o’r enw Exercise Alice. Mae’n debyg bod yr ymarferiad yma wedi ein rhybuddio ni o'r angen am stociau PPE a’r angen am system olrhain cysylltiadau drylwyr, ymhlith nifer o bethau eraill. Ac os ydy’r adroddiad yn y Guardian i’w gredu, roedd Llywodraeth Cymru yn dystion i’r ymarferiad yma ac wedi derbyn yr argymhellion. Pam na wnaeth y Llywodraeth weithredu ar yr argymhellion, Weinidog?

Diolch yn fawr. Rwy'n credu ei bod yn annheg dweud ein bod ni'n gwybod llawer am COVID pan gyrhaeddodd. Yr union ffaith nad oeddem ni'n gwybod am gryn dipyn y gallai pobl gario COVID a'u bod yn asymptomatig—roedd hynny yn rhywbeth y gwnaethom ni ei ddysgu yn llawer diweddarach, ar ôl iddo gyrraedd, i roi dim ond un enghraifft o bethau yr ydym ni wedi eu dysgu. Os byddwch chi'n darllen yr adroddiad sydd wedi dod o Dŷ'r Cyffredin heddiw, un o'r pethau mae yn ei ddweud yw bod cynllunio pandemig y DU wedi ei seilio'n rhy gul ac anhyblyg ar fodel ffliw a'i fod wedi methu â dysgu'r gwersi gan SARS, MERS ac Ebola. Nid yw'n sôn am yr adroddiad yr ydych chi'n sôn amdano. Felly, rwy'n credu y bydd yn ddiddorol gweld pam na wnaeth y pwyllgor hwn nodi'r adroddiad yr ydych chi'n sôn amdano. Felly, mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddaf i'n mynd i ymchwilio iddo ar ôl y cwestiwn hwn.

7. Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021

Eitem 7, Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig. Julie James.

Cynnig NDM7796 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Medi 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn gyffredinol, nid yw pobl sy'n destun rheolaeth fewnfudo yn gymwys i gael tai cymdeithasol wedi eu dyrannu iddyn nhw, nac i gael cymorth digartrefedd. Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014, a elwir yn 'rheoliadau 2014', yn rhagnodi dosbarthiadau o bersonau sydd, er eu bod nhw'n destun rheolaeth fewnfudo, yn cael eu hystyried yn gymwys i gael llety tai a chymorth tai. Maen nhw hefyd yn rhagnodi dosbarthiadau o bersonau a fyddai, er nad ydyn nhw'n destun rheolaeth mewnfudo, yn anghymwys serch hynny; er enghraifft, os nad oedden nhw'n preswylio yma'n arferol a'u bod nhw wedi dychwelyd yn ddiweddar.

Bydd Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021—y rheoliadau hyn—yn darparu dau ddosbarth newydd o bobl sy'n destun rheolaeth fewnfudo sy'n gymwys i gael tai wedi eu dyrannu iddyn nhw a chyfle i gael cymorth tai. Pobl yw'r rhain sydd â fisa Dinesydd Prydeinig (Tramor) Hong Kong, neu Ddinesydd Prydeinig Tramor, sydd wedi mynd yn anghenus a bod newid wedi bod i'w statws mewnfudo gan eu galluogi i fanteisio ar arian cyhoeddus, a phobl sy'n dod i mewn i'r DU o Affganistan o dan rai cynlluniau neu bolisïau'r Swyddfa Gartref sydd wedi gadael Affganistan yn ddiweddar oherwydd cwymp Llywodraeth Affganistan. Fodd bynnag, ni fyddai'r rhai hynny sy'n destun ymgymeriad cynnal a chadw neu nawdd yn gymwys. Bydd y rheoliadau hyn hefyd yn darparu bod y rhai hynny sy'n cyrraedd o Affganistan ac nad ydyn nhw'n destun rheolaeth fewnfudo, ond a fyddai'n cael eu heithrio oherwydd ddiffyg preswylfa arferol, yn gymwys yn lle hynny i gael cymorth. Er hwylustod, rydym ni'n disgrifio'r rhai sy'n cyrraedd neu'n dychwelyd o Affganistan ac sydd wedi eu cynnwys o dan y rheoliadau hyn fel carfan o bobl sy'n dyfod/dychwelyd o Affganistan.

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi creu llwybr newydd i bobl o Hong Kong ddod i'r DU oherwydd deddfwriaeth diogelwch cenedlaethol Llywodraeth Tsieina a'r effaith y bydd yn ei chael ar hawliau a rhyddid pobl Hong Kong. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol iawn o'r effaith a'r niwed sydd wedi dod yn sgil gorchfygu Llywodraeth Affganistan gan gyfundrefn y Taliban a sut mae hyn hefyd yn effeithio ar hawliau a rhyddid pobl Affganistan, yn enwedig y bobl hynny yn Affganistan a gefnogodd waith y DU yn eu gwlad, yn ogystal â menywod a merched, sydd wedi arwain at greu llwybr mewnfudo ar gyfer rhai o garfan o bobl sy'n dyfod/dychwelyd o Affganistan. Bydd y rheoliadau hyn yn sicrhau y bydd y garfan yn gymwys i gael cymorth o'r diwrnod cyntaf, yn hytrach na gorfod bod yn preswylio yma yn arferol.

Er bod y cysylltiadau sy'n bodoli rhwng Hong Kong ac Affganistan â'r DU, a Chymru, drwy estyniad, yn wahanol iawn, maen nhw'n ddwfn ac yn hirsefydlog serch hynny. Mae'r cysylltiadau hynny yn golygu bod gennym ni ymrwymiad i bobl Hong Kong ac Affganistan, a dyma pam yr ydym ni'n dymuno cefnogi'r rhai sy'n dod yma ac y mae angen cymorth arnyn nhw. Mae llawer o ddeiliaid fisa Dinesydd Prydeinig Tramor a charfan o bobl sy'n dyfod/dychwelyd o Affganistan eisoes yn y wlad, felly rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn deall yr angen i ni ddiwygio rheoliadau 2014 rhag ofn y bydd angen tai neu gymorth tai ar y rhai sydd wedi gwneud Cymru yn gartref newydd iddyn nhw.

Os bydd yr Aelodau yn cefnogi'r cynnig, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru, gan weithio gyda'u partneriaid, yn gallu darparu'r cymorth a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl o Hong Kong a charfan o bobl sy'n dyfod/dychwelyd o Affganistan ymgartrefu yng Nghymru. Diolch.

17:35

Nid oes unrhyw siaradwyr ar gyfer yr eitem hon. Gweinidog, a ydych am ddweud unrhyw beth arall? Na. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21

Eitem 8, dadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig. Jane Hutt.

Cynnig NDM7797 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i drafod adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2020-21 heddiw. Ac mae cyhoeddi adroddiad blynyddol yr Athro Sally Holland yn gyfle pwysig i ni ganolbwyntio ar hawliau plant ar y cyd. Mae'n amser pwyso a mesur cynnydd ac ystyried galwadau'r comisiynydd i ni wneud mwy. Ac ni fu erioed blwyddyn arall fel y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig i blant a phobl ifanc. Mae effaith y pandemig yn parhau i effeithio ar eu bywydau a bywydau eu teuluoedd. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r comisiynydd plant am ei rhan annibynnol mewn hyrwyddo hawliau plant yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae'r comisiynydd a'i thîm wedi blaenoriaethu anghenion pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn gyson, gan sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a bod eu hawliau'n cael eu parchu. Mae hyn wedi bod yn amlwg yn yr ymgysylltu y mae'r comisiynydd plant wedi ei wneud gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig. Mae'r comisiynydd wedi parhau i ganolbwyntio'n ddi-baid ar blant a phobl ifanc yn ystod yr argyfwng hwn, ac mae hi wedi gweithio'n adeiladol gyda Gweinidogion a swyddogion drwy gydol y cyfan. Ac mae hyn wedi ein galluogi ni i weithio trwy faterion anodd, gan sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu hystyried a bod eu hawliau'n cael eu diogelu. A hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r comisiynydd plant a'i thîm am eu gwaith ar arolygon 'Coronafeirws a Fi' ymhlith plant a phobl ifanc.

Arweiniodd y comisiynydd, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y Senedd Ieuenctid a Phlant yng Nghymru, brosiect i glywed yn uniongyrchol sut roedd y pandemig yn effeithio ar agweddau iechyd, addysg a chymdeithasol ar fywydau pobl ifanc. Daeth bron i 44,000 o ymatebion i law ym mis Mai 2020 a mis Ionawr 2021, gan sicrhau bod lleisiau plant wedi eu clywed yn ystod y pandemig. Defnyddiodd y comisiynydd yr arolygon fel cyfle i wrando ar farn plant o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phlant anabl. Amlygodd canfyddiadau'r arolwg sawl maes lle nad oedd cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig arfer eu hawliau yn gyfartal a'u cyfoedion gwyn yng Nghymru neu Brydain, ac roedd hyn yn cynnwys eu gallu i wneud ymarfer corff a chwarae, cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, ansicrwydd bwyd, a phryderon ynghylch goblygiadau ar eu dysgu. Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos i ni'r rhan y mae hiliaeth, gwahaniaethu ac anfantais yn ei chwarae ym mhrofiadau'r bobl ifanc hyn, ac yn rhoi pwyslais i ni ar yr angen i ni gymryd camau yn y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Cafodd canlyniadau'r holl arolygon eu defnyddio gan bob rhan o'r Llywodraeth, gan gynnwys pan oedd angen gwneud dewisiadau anodd ynghylch cyfyngiadau ar fywydau pob dydd plant.

Hoffwn i ddiolch hefyd i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol am ei gwaith helaeth gyda'r comisiynydd plant. Mae'r Dirprwy Weinidog yn cyfarfod yn rheolaidd â'r comisiynydd, a'r Prif Weinidog ac aelodau eraill o'r Cabinet yn yr un modd, ac mae'r ymgysylltu parhaus hwn wedi ein helpu ni i barhau i ganolbwyntio'n glir ar hawliau plant a phobl ifanc yn ein gwaith, yn enwedig yn ystod y pandemig.

Cyhoeddodd y comisiynydd ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2020-21 yr wythnos diwethaf gyda nifer o alwadau i weithredu, gan gynnwys mewn cysylltiad ag iechyd meddwl, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni ddefnyddio ein hamser ni heddiw i archwilio'r meysydd hynny lle mae'r comisiynydd wedi galw arnom ni i wneud mwy yn ein gwaith. Mae'r adroddiad yn amlinellu cyflawniadau ei swyddfa yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf a'u gweithgarwch parhaus i ymateb i'r pandemig, ac mae hyn yn cynnwys ei hadolygiad ffurfiol cyntaf o'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn arfer ei swyddogaethau. Defnyddiodd ei phwerau ffurfiol mewn cysylltiad ag addysg ddewisol yn y cartref a diogelu mewn ysgolion annibynnol. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'w hadolygiad ym mis Mawrth eleni.

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn cynnwys 18 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys argymhellion sy'n ymwneud â phlant â phrofiad o ofal, addysg, iechyd plant, y glasbrint cyfiawnder ieuenctid a'r strategaeth gofalwyr di-dâl. A bydd y ddadl hon heddiw yn rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd fynegi eu barn ar adroddiad y comisiynydd a rhoi sylwadau ar y meysydd y mae'r comisiynydd wedi eu codi. Hoffwn i groesawu ehangder a dyfnder yr argymhellion. Fodd bynnag, ni fyddaf i'n trafod manylion ein hymateb iddyn nhw heddiw. Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad blynyddol y comisiynydd erbyn 30 Tachwedd.

Cyn i'r Aelodau drafod yr adroddiad hwn, mae'n bwysig nodi bod pandemig y coronafeirws yn parhau i effeithio ar rai o'r argymhellion y mae'r comisiynydd wedi eu cyflwyno, ac mae rhai meysydd lle nad ydym ni wedi gweld y cynnydd y byddem ni wedi ei ddymuno oherwydd yr angen i oedi neu ailflaenoriaethu llwythi gwaith. Er gwaethaf hyn, mae ein bwriadau yn parhau i fod yn benderfynol. Rydym ni'n falch o'n hanes yng Nghymru, gyda Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn parhau i fod yn sail i'n polisi ar gyfer plant. Mae'n ganolog i'n dull gweithredu i wella canlyniadau plant, drwy eu helpu a'u cefnogi i gyflawni eu potensial llawn.

Dirprwy Lywydd, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod bod cyfnod yr Athro Sally Holland fel comisiynydd yn dod i ben ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, felly hwn fydd ei hadroddiad blynyddol olaf. Hoffwn i felly ddiolch i'r comisiynydd am bopeth y mae hi wedi ei wneud i gynorthwyo plant a phobl ifanc drwy gydol ei chyfnod o saith mlynedd yn y swydd. Mae hi wedi bod yn eiriolwr diflino ar ran plant a phobl ifanc ac yn hyrwyddwr eu hawliau a'u lles. Ar hyn o bryd rydym ni'n mynd drwy'r broses i benodi olynydd Sally ar sail drawsbleidiol, a nod y Prif Weinidog fydd gwneud cyhoeddiad yn y flwyddyn newydd.

I gloi, rwy'n edrych ymlaen at y ddadl bwysig hon, wrth i ni ganolbwyntio ar adroddiad annibynnol y comisiynydd plant a'n cynnydd o ran cefnogi hawliau plant ledled Cymru. Mae rôl annibynnol y comisiynydd yn hanfodol, a byddwn ni'n parhau i weithio gyda'i swyddfa er budd pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Diolch.

17:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon yn y Cyfarfod Llawn am y tro cyntaf yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rwy'n gobeithio datblygu gwaith y pwyllgor a'r Cadeirydd blaenorol, a ddangosodd, drwy gydol eu cyfnod pum mlynedd, werth craffu effeithiol gan y pwyllgor wrth gyflwyno newidiadau pwysig i wella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Fel pwyllgor, nid ydym ni wedi cael cyfle eto i graffu ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant. Byddwn ni'n cynnal y sesiwn honno ar 18 Tachwedd.

Gan mai hwn yw adroddiad blynyddol olaf y comisiynydd presennol, hoffwn i ddiolch iddi hi a'i thîm am eu holl waith yn ystod y chwe blynedd a hanner diwethaf i eirioli dros hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Hoffwn i hefyd adleisio geiriau'r comisiynydd plant, yn ei rhagair i'r adroddiad, i ddiolch i'r holl weithwyr rheng flaen hynny sydd wedi cefnogi, meithrin, addysgu a gofalu am blant a phobl ifanc drwy gydol y pandemig hwn, ac, wrth gwrs, i dalu teyrnged i'r bron i 700,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd wedi dangos cadernid ymhell y tu hwnt i'w hoedran yn ystod y 18 mis diwethaf.

Rydym ni i gyd yn ymwybodol bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn sail i'r holl waith y mae'r comisiynydd yn ei wneud. Mae'r hawl i blant fynegi eu barn ar bethau sy'n effeithio arnyn nhw, a bod eu barn yn cael ei hystyried pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud, wedi ei deall yn dda. Ac, fel y soniodd y Gweinidog, mae'r arolygon 'Coronafeirws a Fi' y mae'r comisiynydd wedi eu cynnal yn ystod y pandemig, yn enghraifft brin iawn o hyn yn ymarferol, wrth i 44,000 o blant a phobl ifanc gyfrannu atyn nhw dros y cyfnod adrodd. A byddwn ni'n sicr yn ystyried rhai o'r canfyddiadau hyn wrth i ni geisio dyfeisio a mireinio ein cynllun strategol fel pwyllgor.

Mae hefyd yn galonogol iawn gweld y comisiynydd yn dweud bod ei swyddfa, er gwaethaf y pandemig, wedi gallu cyflawni'r holl amcanion a fu cyn y pandemig, gan hefyd wneud gwaith ychwanegol a gododd oherwydd y pandemig. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi nifer o argymhellion ar draws amrywiaeth eang o feysydd polisi. Rwy'n siŵr, fel pwyllgor, y bydd rhai o'r rhain yn feysydd y byddwn ni'n eu harchwilio'n fanylach yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

Heddiw, hoffwn i ofyn am ragor o fanylion gan Lywodraeth Cymru am sut y mae'n bwriadu ymateb i'r argymhellion hynny sy'n ymwneud â phlant mewn gofal. Rwy'n tynnu sylw at y rhain gan eu bod yn ymwneud ag ymrwymiadau clir y rhaglen lywodraethu. Mae'r rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal. Mae'r comisiynydd yn galw am gyflwyno map ffordd erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf i nodi'r amserlen a'r camau gweithredu ar gyfer cyflawni hyn. A wnaiff y Gweinidog nodi a fydd map ffordd o'r fath yn cael ei gyhoeddi o fewn yr amserlen, ac os na fydd, pam? Yn yr adroddiad blynyddol, mae'r comisiynydd yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno yn brydlon hawliau a pholisi statudol i'r rhai sy'n gadael gofal fel pecyn cydlynol. Rwy'n croesawu ymrwymiad y Dirprwy Weinidog yn ein pwyllgor yr wythnos diwethaf fod y Llywodraeth yn bwriadu deddfu yn nhymor y Senedd hon i sicrhau bod gan bob person sy'n gadael gofal hawl i gynghorydd personol hyd at 25 oed. A wnaiff y Gweinidog amlinellu heddiw pa elfennau eraill o'r pecyn cymorth y maen nhw'n bwriadu eu darparu i'r rhai sy'n gadael gofal?

Unwaith eto, hoffwn i ddiolch i'r comisiynydd a'i thîm am eu holl waith caled, sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad blynyddol. Mae rôl y comisiynydd fel hyrwyddwr annibynnol, sy'n eirioli dros hawliau a lles plant, wedi bod yn hollbwysig. Rwy'n edrych ymlaen at archwilio'r adroddiad yn fanylach gyda'r comisiynydd ac aelodau'r pwyllgor ar 18 Tachwedd. Diolch yn fawr.

17:45

Yn gyntaf, hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i'r comisiynydd plant am ei holl waith caled a'i hymroddiad drwy gydol ei chyfnod yn y swydd. Hoffwn i ddiolch iddi hi a'i staff hefyd am baratoi'r adroddiad hwn. Yn anffodus, fel llawer o rannau eraill o gymdeithas, mae plant, yn enwedig plant sy'n agored i niwed y mae eu hamodau wedi eu gwaethygu o bosibl oherwydd y newidiadau sylweddol y maen nhw wedi eu hwynebu yn ystod pandemig COVID, wedi dioddef yn anghymesur, ac yn sicr caiff ei chydnabod bod y comisiynydd plant wedi ceisio yn wirioneddol i ymdrin â llawer o'r materion y maen nhw a'u teuluoedd wedi eu hwynebu. Yn wir, rwyf i wedi darllen adroddiad y comisiynydd â diddordeb mawr, ac mae'n braf iawn gweld y gofal a'r sylw y mae hi wedi bod yn eu rhoi i gynifer o agweddau ar les plant.

A siarad yn bersonol, roeddwn i hefyd yn falch o weld sôn am y digwyddiad bord gron a gafodd ei gynnal yn gynharach eleni ac a roddodd lwyfan i bobl fyddar iau i leisio eu pryderon. Fel y gŵyr yr Aelodau efallai, rwyf i wedi siarad yn gyhoeddus am yr anawsterau clyw yr oeddwn i'n eu hwynebu wrth dyfu i fyny a'r effaith y mae wedi ei chael ar fy nysgu. Fel y gallwch chi ei weld o'r hyn rwy'n ei wisgo o amgylch fy ngwddf, mae'n dal yn rhywbeth sy'n cael effaith arnaf i, ac o ganlyniad rwy'n awyddus iawn i weld gwelliannau yn cael eu cyflawni yn y maes hwn. Felly, rwy'n deall, ers blynyddoedd lawer, fod y gymuned fyddar wedi rhannu eu rhwystredigaethau â swyddfa'r comisiynydd nad yw anghenion y gymuned yn cael sylw, ac er bod yr adroddiad yn tynnu sylw at rywfaint o ymgysylltu, serch hynny, ni wnaeth unrhyw argymhellion penodol ar gyfer plant byddar. Rwy'n credu bod hyn yn drueni, o ystyried faint o waith ac ymdrech a roddodd y gymuned fyddar ynddo i gael Llywodraeth Cymru i wneud darpariaeth ddigonol ar gyfer eu hanghenion.

Felly, gyda hynny mewn golwg, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ailbwysleisio'r angen am siarter genedlaethol yng Nghymru i helpu i ddarparu gwasanaethau ac adnoddau, gan gynnwys addysg, ar gyfer plant a phobl ifanc fyddar a'u teuluoedd. Byddai siarter o'r fath yn galluogi awdurdodau lleol i gynllunio ac adnoddu cymorth o fewn fframwaith sydd wedi ei gydnabod yn genedlaethol ac yn helpu i sicrhau cysondeb darpariaeth ledled Cymru. Yn yr un modd, mae angen i ni gydnabod yn ffurfiol yng Nghymru mai Iaith Arwyddion Prydain yw iaith gyntaf pobl fyddar, ac mae angen i ni ymdrin ar frys â'r pryderon y maen nhw wedi eu codi ynghylch safon ac ansawdd Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol arbenigol.

Tua diwedd y pumed Senedd, cynigiodd fy nghyd-Aelod Mark Isherwood Fil sy'n ceisio sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw lais wrth gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau, gyda chamau gweithredu'n cynnwys sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol Iaith Arwyddion Prydain, er enghraifft. Cafodd y Bil gefnogaeth drawsbleidiol, ac rwy'n gwybod ei bod yn un yr oedd llawer o bobl fyddar yn disgwyl yn eiddgar iddo gael ei gyflwyno, ond, yn anffodus, nid yw'r Llywodraeth wedi ei gyflwyno eto. Ar ran pawb sy'n dioddef o golli clyw a'u teuluoedd a'u cefnogwyr, a gaf i nawr alw ar y Llywodraeth hon i ymrwymo i gyflwyno Bil Iaith Arwyddion Prydain i Gymru yn ystod tymor hwn y Senedd? Mae diffyg cyfleoedd i dderbyn addysg, gwasanaethau iechyd, cyflogaeth a gwasanaethau cyhoeddus eraill i lawer o bobl fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a chaiff ei hadrodd yn eang fod canran fawr o bobl fyddar yn ei chael hi'n anodd cyflawni cyrhaeddiad addysgol uwch, a all effeithio arnyn nhw drwy gydol eu bywydau. O ystyried effaith yr hyn y gall cymorth priodol a chywir ei gyflawni i helpu plant byddar i fyw bywyd llawn ac egnïol, rwy'n credu ei bod yn hanfodol i ni roi hyn ar waith—y ddeddfwriaeth hon.

Yn olaf, hoffwn i hefyd ymdrin â'r mater sydd wedi ei grybwyll yn adroddiad y comisiynydd ar faint o amser y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymryd i gyflwyno hawliau a pholisïau statudol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal fel pecyn cydlynol. Cytunodd y Llywodraeth ag argymhellion yr adroddiad 'Uchelgeisiau Cudd' yn 2017, sydd bron i bum mlynedd yn ôl, ac eto nid ydyn nhw wedi gweithredu'r diwygiadau hynny i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a gafodd eu cynnig o hyd. Yn yr un modd, gofynnodd ei chyd-grŵp gwasanaethau cymdeithasol a thai i'r Llywodraeth hefyd ddatblygu safonau cenedlaethol i fynd i'r afael â phryderon ynghylch ansawdd, digonolrwydd ac addasrwydd llety lled annibynnol ar gyfer pobl ifanc â phrofiad o ofal hyd at 25 oed, ond mae'n ymddangos bod y cynnydd ar y cynigion hyn wedi dod i ben.

Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn ei hadroddiad fod bwlch gweithredu rhwng y dyheadau sydd wedi eu nodi gan Lywodraeth Cymru mewn polisi a deddfwriaeth a'i hymrwymiad i weithredu a darparu adnoddau ar lawr gwlad. Ac mae'n ymddangos mai'r un stori sydd yma hefyd. Mae'r Gweinidog, rwy'n siŵr, yn ymwybodol iawn o ba mor amharchus yw hyn nid yn unig i bawb sydd wedi rhoi cymaint o amser ac ymdrech ar gais y Llywodraeth hon, ond i'r holl blant a phobl ifanc hynny sy'n cael cam hefyd o ran derbyn y gofal priodol sydd ei angen arnyn nhw. Mae'r Llywodraeth hon wedi cytuno i'r argymhellion y maen nhw wedi gofyn amdanyn nhw, ac eto nid ydych chi wedi gwneud fawr ddim o ran eu gweithredu. Rwy'n credu y dylai'r mater o ofalu am iechyd a lles ein plant a'n pobl ifanc oresgyn llinellau plaid wleidyddol, ond mae'r ffaith bod dal angen i'r comisiynydd alw am weithredu'r ddeddfwriaeth hon yn ffiaidd. A wnaiff y Gweinidog egluro i'r holl bobl ifanc hynny a fyddai wedi elwa ar weithredu'r ddeddfwriaeth hon sydd wedi ei hargymell pam mae'r Llywodraeth hon wedi methu yn barhaus â'i gweithredu? Rwyf i hefyd yn meddwl tybed a fyddai'r Gweinidog yn ddigon dewr mewn gwirionedd i ymddiheuro am hyn ac ailymrwymo i weithredu'r argymhellion y cytunwyd arnyn nhw mor bell yn ôl. Diolch.

17:50

Diolch am y cyfle i drafod yr adroddiad yma. Hoffwn i ganolbwyntio ar agweddau penodol o'r adroddiad, rhai sydd angen sylw buan a rhai sydd heb gael sylw hyd yma y prynhawn yma. A hoffwn i gymryd y cyfle i holi'r Gweinidog am ei sylwadau, gan dderbyn, wrth gwrs, nad ydy'r ymateb llawn swyddogol ar gael eto.

Trof yn gyntaf at blant sy'n cael eu hatal neu eu diarddel o'r ysgol. Sut yn y byd ei bod hi'n bosib fod angen diarddel plentyn tair oed, plentyn pump oed a phlentyn saith oed o'r ysgol? Sut bod angen diarddel 768 o blant tair i saith oed dros gyfnod o flwyddyn? Mae'r ffigurau yma gan y comisiynydd plant yn frawychus, ac mae'n amlwg nad yr un broses o ddiarddel a ddylai fod ar waith ar gyfer plant ifanc o'i chymharu â'r broses ar gyfer pobl ifanc hyd at 16 oed—er bod angen codi cwestiynau am y broses efo plant hŷn hefyd, gyda llaw. Ond, o ran y plant ieuengaf, mae'r comisiynydd wedi canfod bod un plentyn wedi cael ei ddiarddel 18 o weithiau mewn blwyddyn. Nid sôn am ystadegyn ydyn ni yn y fan yma, ond sôn am blentyn, ac mae'n hollol amlwg dydy diarddel plentyn dro ar ôl tro ddim yn mynd at wraidd y broblem nac yn ymateb i'w anghenion. Mae'r plant yma angen eu cefnogi, nid eu troi ymaith, ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth roi polisi ar waith i atal diarddel plant dan wyth oed, ac mae angen adolygu'r canllawiau diarddel ar gyfer plant hŷn hefyd. Hoffwn i glywed y prynhawn yma fod hyn yn gonsýrn a bod yna waith ar droed i newid y sefyllfa.

Maes arall sy'n peri pryder yn sgil adroddiad blynyddol y comisiynydd plant ydy diwygio gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Mae'r comisiynydd yn dweud yn glir iawn na fu digon o gynnydd. Ac yn allweddol, araf iawn a fu'r cynnydd tuag at y glasbrint cyfiawnder ieuenctid. Yn ystod y pandemig, fe dynnodd y comisiynydd sylw at blant a oedd yn cael eu cadw yn y ddalfa ac oedd yn colli eu hawliau. Felly, a gawn ni wybod beth ydy'r amserlen ar gyfer cyflwyno'r glasbrint yn llawn ac, yn y cyfamser, faint o bryder ydy hi i'r Gweinidog nad oes yna bwyslais ar ddulliau amgen yn hytrach nag anfon plant i'r ddalfa? Does yna ddim digon o gyfleon ar gyfer gwasanaethau adferol. Fe dynnodd y comisiynydd sylw hefyd at y broblem o blant o Gymru yn cael eu gosod yn y ddalfa yn Lloegr a byddai'n dda clywed pa gynnydd sydd wedi ei wneud efo'r broblem benodol yna.

Troi at faes arall, sef cofrestru staff mewn ysgolion annibynnol efo Cyngor y Gweithlu Addysg, neu yn wir y diffyg cynnydd tuag at orfodi hyn er mwyn diogelu disgyblion, yn enwedig i ddiogelu merched rhag aflonyddu rhywiol. Mae'n fater o gonsýrn i'r comisiynydd ers tro, ac rwy'n rhannu'r consýrn. Mae Plaid Cymru wedi bod yn rhannu’r consýrn yma bod y Llywodraeth mor araf yn datrys y problemau cofrestru, felly byddai’n dda gwybod bod y Llywodraeth o’r diwedd yn mynd i weithredu deuddegfed argymhelliad adroddiad blynyddol y comisiynydd plant, a hynny er mwyn diogelu disgyblion ysgol yng Nghymru.

A dwi'n troi yn olaf at fater arall o bryder, sef plant sydd yn cael eu dysgu gartref. Mae'r comisiynydd wedi dadlau nad ydy'r ddeddfwriaeth eilradd y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei chyflwyno ar addysg gartref ddewisol, nad ydy'r ddeddfwriaeth eilradd yma'n ddigonol, a dydy o ddim ychwaith yn mynd yn ddigon pell o safbwynt diogelu hawliau plant. Hoffwn i wybod beth ydy'r rhesymeg y tu ôl i beidio â dilyn cyngor y comisiynydd i ddod â deddfwriaeth gynradd ymlaen ar y pwnc yma. Dwi'n gwybod bod yna brinder amser o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol, ond tybed oes yna resymau eraill dros fod mor amharod i weithredu'n gadarn yn y maes yma. Felly, hoffwn i glywed sylwadau'r Gweinidog ar y meysydd yma os gwelwch chi'n dda. A gaf i ddiolch yn fawr iawn i'r comisiynydd am ei gwaith diflino, yn dal ati i bwyso am y newidiadau sydd eu hangen? Y tristwch ydy ein bod ni'n dal wrthi yn eu trafod nhw, a'n bod ni'n dal angen gweld gweithredu.

17:55

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a hefyd dwi eisiau dweud diolch yn fawr iawn i Sally Holland hefyd.

Diolch am eich holl waith, nid yn unig drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd, ond ers cael eich penodi yn 2015.

Hoffwn ganolbwyntio ar un mater bach, ac eto, rwy'n gofyn i'r Gweinidog edrych ar fap ffordd ynglŷn â'r mater penodol hwn, a phlant mewn gofal yw hynny. Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi cynyddu 38 y cant dros y degawd diwethaf i dros 6,000 o blant yn derbyn gofal yng Nghymru o fis Mawrth ddwy flynedd yn ôl, a disgwyliwn y bydd y ffigurau'n fwy diweddar yn dangos cynnydd ychwanegol. Galwodd y comisiynydd plant yn gyntaf ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar ofal preswyl yn 2016, ac er i'r argymhelliad hwn gael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn 2017 a 2018, mae'r cynnydd o ran cymryd camau i ddiddymu elw mewn gwasanaethau gofal preswyl i blant wedi bod yn araf iawn. Fodd bynnag, rwy'n teimlo'n obeithiol y bydd gwaith ar y maes cymhleth hwn yn mynd rhagddo, yn enwedig ar ôl i'm cynnig deddfwriaethol ar yr union fater hwn fynd drwy'r Senedd cyn toriad yr haf.

Yng ngwanwyn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Bapur Gwyn ar 'Ail-gydbwyso gofal a chymorth', sy'n cynnig datblygu fframwaith gofal cymdeithasol cenedlaethol i osod arferion comisiynu teg i ddarparwyr. Mae hyn ynghyd ag addewid cryf gan Lafur Cymru i ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal yn ystod tymor y Senedd hwn. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru yn awr gyflwyno'r map ffordd hwn erbyn 1 Ebrill 2022, a fydd yn nodi'r amserlenni a'r camau gweithredu y byddan nhw yn eu dechrau i gael gwared yn ddiogel ar wneud elw o ddarpariaeth gofal cymdeithasol plant. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog: pryd y cawn ni y map ffordd hwnnw i wireddu'r uchelgais hwn? Rwyf yn deall yn llwyr gymhlethdod y materion hyn ac nid wyf eisiau amharu ar y broses, ond mae angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynigion ffurfiol. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Noswaith dda, pawb. Hoffwn ddiolch i'r comisiynydd plant a'i staff am eu gwaith parhaus i ddiogelu hawliau plant Cymru, ac am yr ymroddiad y maen nhw wedi'i ddangos drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, mae gennyf broblem gyda'r safbwynt a gymerwyd dros ddarparwyr gofal annibynnol. Mae'r sector preifat yn darparu wyth o bob 10 lleoliad ar gyfer plant mewn gofal. O ystyried y twll du enfawr sy'n bodoli o ran cyllid ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ni allwn ddisgwyl i'r sector cyhoeddus gamu i mewn. Roedd awdurdodau lleol eisoes yn cael trafferthion gyda phwysau cost cyn y pandemig. Mae gwasanaethau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn cael eu tanariannu'n druenus a bydd diffygion ariannol yn llawer gwaeth wrth i ni ddod allan o'r pandemig.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi datgan bod awdurdodau lleol yn pryderu am y galw a roddir ar wasanaethau wrth i ni ddod allan o'r cyfnod clo. Mae ôl-groniad o achosion llys o hyd sy'n ychwanegu at yr heriau a wynebir wrth wneud lleoliadau priodol a chynaliadwy ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal. Heb ddarparwyr preifat, byddai'r sefyllfa'n llawer gwaeth. Er bod y sector preifat yn darparu 80 y cant o leoliadau, yr oeddem yn dal wedi gweld dros 365 o blant y tu allan i Gymru y llynedd, yn anffodus. Nid gyda'r darparwyr gofal y mae'r broblem, mae gyda'r system. Wedi'r cyfan, mae ein GIG a'n system ofal yn seiliedig ar yr egwyddor o sectorau cyhoeddus a phreifat yn gweithio law yn llaw â'i gilydd. Heb y sector preifat, ni fyddai gennym feddygon teulu, dim deintyddion, dim optegwyr, dim meddyginiaethau, a nifer fawr o blant a phobl ifanc heb unrhyw ofal.

Diffyg cyllid ac, yn bwysicach na hynny, y galw yw'r prif faterion sy'n wynebu gofal plant. Yr wythnos diwethaf, amlinellodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ffaith amlwg: mae nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi cynyddu dwy ran o dair ers 2004. Canfu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fod gan Gymru yn gyson nifer uwch o blant sy'n derbyn gofal na gweddill y DU, ac mae'r bwlch yn parhau i ehangu. Mae hefyd wedi canfod bod amrywiad lleol yn nifer y plant sy'n derbyn gofal, gyda'r niferoedd mewn rhai ardaloedd cyngor yn parhau i fod yn sefydlog neu'n gostwng. Canfuwyd bod rhywfaint o'r amrywiad yn deillio o wahanol arferion a pholisïau gwaith cymdeithasol ar draws cynghorau. Canfu'r ganolfan hefyd fod barnwyr Cymru yn fwy tebygol na'u cymheiriaid yn y DU o wneud gorchmynion sy'n caniatáu i gynghorau gymryd plant i ofal, ac rwy'n gofyn i Sally Holland a'i thîm ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r gwahaniaeth hwn.

Pam mae plant yng Nghymru yn fwy tebygol o orfod derbyn gofal yn y pen draw? Rydym i gyd yn gwybod fod plant mewn gofal yn fwy tebygol o ddioddef canlyniadau gwaeth. Er ei bod yn iawn i ni wneud popeth o fewn ein gallu i wella cyfleoedd bywyd y rhai sy'n gadael gofal, y camau gorau y gallwn ni eu cymryd yw atal plant rhag mynd i ofal yn y lle cyntaf a chofio mai atal ddylai fod ein prif pwyslais. Diolch yn fawr iawn.

18:00

Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd plant yn nodi bod grwpiau o blant yn wynebu anghydraddoldeb ar hyn o bryd oherwydd amrywiaeth o ffactorau, ond hoffwn ganolbwyntio ar effaith tlodi. Rwy'n croesawu yr adroddiad hwn, ac anogaf Lywodraeth Cymru i ystyried ei hargymhellion gyda'r ymdeimlad o frys a awgrymir, yn enwedig o ran ehangu cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim. O ystyried penderfyniad creulon San Steffan i dorri credyd cynhwysol yr wythnos diwethaf gan £20, a'r diffyg diddordeb, mae'n ymddangos, wrth fynd i'r afael â thlodi tanwydd mewn gwirionedd, rydym yn gwybod y bydd plant Cymru yn dioddef y gaeaf hwn heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i lywodraethu er budd pobl Cymru, ac felly byddai methu ag amddiffyn y tlotaf a'r mwyaf agored i niwed rhag cyni y Torïaid yn ymwrthod yn llwyr â'r cyfrifoldeb sylfaenol hwn. Mae angen hefyd i Lywodraeth Cymru weithredu'r egwyddorion y mae'n honni ei bod yn eu cynrychioli—mae angen mabwysiadu'r egwyddor o gyffredinolrwydd, er enghraifft, a oedd yn hanfodol i sefydlu'r GIG a'r wladwriaeth les, os ydym ni am roi terfyn ar dlodi plant a'r anfanteision y mae'n eu hachosi, a amlinellir gan yr adroddiad hwn.

O ran mynd i'r afael â thlodi plant, dywed yr adroddiad fod y comisiynydd wedi argymell bod y Llywodraeth yn cyhoeddi cynllun cyflawni, ond bod y Llywodraeth wedi gwrthod hyn. Mae'r adroddiad yn nodi bod y Llywodraeth wedi cynnal eu hadolygiad mewnol eu hunain o dlodi plant a chanfu nad oedd pawb yn cael eu hawliau llawn. Mae ymwybyddiaeth isel o hawliau, a waethygir gan rwystrau llythrennedd ac iaith, ac mae'r rhaglenni sydd wedi'u cyfyngu gan god post/ardal yn eithrio rhai pobl mewn angen. Byddai cyflwyno polisïau cyffredinol fel prydau ysgol am ddim i bob plentyn yn ysgolion y wladwriaeth yn gwneud llawer i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae'r enghraifft a roddwyd yn yr adroddiad o deulu a aeth heb unrhyw daliadau am brydau ysgol am ddim yn ystod y cyfyngiadau symud am chwe mis oherwydd mater trawsffiniol awdurdodau lleol a newidiadau i bolisi awdurdodau lleol yn dangos yn glir pam y byddai gweithredu system prydau ysgol am ddim cyffredinol yn sicrhau na fyddai unrhyw deuluoedd o Gymru yn cael eu hunain mewn angen fel hyn. Felly, rhaid gofyn y cwestiwn pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud hynny hyd yma, o ystyried ei hymrwymiad tybiedig i egwyddorion sosialaidd, y galwadau eang gan ymgyrchwyr gwrth-dlodi a hawliau plant i wneud hynny, a'r corff mawr a rhyngwladol o dystiolaeth sy'n cyfeirio at effaith drawsnewidiol prydau ysgol am ddim i bawb. Nid oes amheuaeth bod angen i'r Llywodraeth gymryd camau brys ar dlodi plant. Ni fydd mwy o'r un peth yn ddigon. Mae angen gweithredu beiddgar os ydym ni am roi terfyn ar y staen foesol hon ar ein cymdeithas. Ni allai argymhelliad adroddiad y comisiynydd plant y dylid mynd i'r afael ar frys â chymhwysedd prydau ysgol am ddim fod yn gliriach.

Wrth i'r gaeaf agosáu a'r pwysau ar deuluoedd Cymru â phlant yn cael eu hamlygu mewn adroddiad ar ôl adroddiad, ac yn y Siambr hon dro ar ôl tro, mae angen i'r Llywodraeth osod targed statudol i leihau tlodi plant a gweithredu'n ddi-oedi i ymestyn cymhwysedd prydau ysgol am ddim, ac mae'n rhaid i hyn ddigwydd yn awr, wrth i deuluoedd Cymru sydd â phlant wynebu gaeaf caled ac anodd, mae eu costau byw yn codi wrth i'w hincwm gael ei dorri mor greulon. A all y Gweinidog roi sicrwydd i ni y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar hyn o'r diwedd? Diolch. 

18:05

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau heddiw sydd wedi cyfrannu at y ddadl ar adroddiad blynyddol y Comisiynydd Plant. Hefyd, roedd yn bwysig iawn clywed gan Jayne Bryant, cadeirydd newydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y bydd ei phwyllgor yn ystyried hyn ac yn ystyried yr argymhellion a'r adroddiad hefyd. Mae hyn i gyd yn mynd i helpu i'n hysbysu a'n harwain wrth i ni symud ymlaen. Hefyd, diolch i Jayne Bryant am gydnabod unwaith eto lais a swyddogaeth annibynnol, gref bwysig y comisiynydd plant ac, yn wir, y gydnabyddiaeth bod y comisiynydd plant a Chadeirydd pwyllgor y gweithwyr allweddol hynny yn y rheng flaen yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc, a chadernid, fel y mae'r comisiynydd plant wedi tynnu sylw ato yn yr adroddiad, ein plant a'n pobl ifanc drwy'r cyfnod mwyaf heriol hwn i'n cenhedlaeth ni ac i'w cenedlaethau nhw y mae gennym gymaint o gyfrifoldeb dros wrando arnyn nhw, dysgu ganddyn nhw a'u cefnogi.

Felly, mae'n gwbl glir bod arolygon Coronafeirws a Fi yn bwysig iawn. Rwy'n diolch i Joel James am ei gydnabyddiaeth hefyd o swyddogaeth bwysig y comisiynydd plant, ac am gydnabod un maes penodol. Mae'n bwysig eich bod yn tynnu sylw at y bwrdd crwn a gynhaliwyd a chydnabod anghenion plant byddar. Er bod y ddadl hon yn ymwneud â'r adroddiad, byddaf yn sicr yn ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwaith a'n hymateb i siarter y BSL, a'r ymchwil sy'n cael ei wneud, wrth gwrs, ar ôl ymateb i ddadl Mark Isherwood yn y Senedd ddiwethaf. Rwy'n hapus iawn i ymateb ar wahân a diweddaru cydweithwyr ac Aelodau ar y mater hwnnw. 

Mae'r Aelodau wedi cyfeirio at argymhellion a meysydd pwysig lle disgwylir i Lywodraeth Cymru ymateb yn briodol ac yn llawn i'r argymhellion hynny, y byddwn yn eu gwneud maes o law, fel y dywedais i, erbyn diwedd mis Tachwedd. Ac rwy'n credu bod yr argymhelliad o ran hawliau statudol i'r rhai sy'n gadael gofal yn allweddol iawn i hyn, gan fod yr ail argymhelliad yn ein galw i

'fynd ati'n gyflym i gyflwyno hawliau statudol a pholisïau ar gyfer ymadawyr gofal, ar ffurf pecyn cydlynus.'

Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn gweithio arno'n agos iawn. Er mwyn tawelu meddyliau cydweithwyr yma heddiw ac Aelodau'r Senedd, rydym wedi ymrwymo i ddeddfu yn nhymor y Senedd hwn i sicrhau bod gan bob un sy'n gadael gofal hawl i gynghorydd personol hyd at 25 oed. A gallwn ni wneud y newid hwn drwy reoliadau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac mae amserlennu a blaenoriaethu is-ddeddfwriaeth yn cael ei ystyried ar hyn o bryd ar gyfer y tymor hwn, ac rydym yn rhagweld y bydd hyn yn cael ei ddatblygu yn 2022-23. Felly, mae hwn yn gyfle pwysig i dawelu meddyliau pobl. Wrth gwrs, rydym ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal i fod yn oedolion ac i fod yn annibynnol, ac rydym yn awyddus i adeiladu ar y gwaith a wnaed yn ystod tymor diwethaf y Senedd a'r canlyniadau a gyflawnwyd. Mae hyn yn ymwneud â chyflawni'r ymrwymiad hwn i roi'r hawl statudol honno i'r rhai sy'n gadael gofal gael mynediad at gynghorydd personol hyd at 25 oed.

Ac, wrth gwrs, mae materion allweddol a godwyd gan yr Aelodau heddiw. Cododd Siân Gwenllian y mater pwysig o ran yr argymhellion ynghylch gwaharddiadau ar gyfer ein plant ieuengaf yn y cyfnod sylfaen. Yn 2019, wrth gwrs, byddwch yn cofio i ni gyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru, a gyhoeddwyd yn ôl yn 2015, ar waharddiadau o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Mae hwn yn nodi'r cymorth y mae'n rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol ei roi ar waith ar gyfer pob plentyn sydd wedi'i wahardd o'r ysgol ac o unedau cyfeirio disgyblion, ac mae'n hanfodol ein bod yn cael cymorth ac ymyrraeth gynnar nad yw'n gadael unrhyw blentyn ifanc wedi'i wahardd o addysg. Rwyf yn gwbl glir mai dim ond fel dewis olaf y dylid defnyddio gwaharddiad. Mae hyn yn ymwneud â thanategu'r ymrwymiad bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael addysg fel y gallan nhw ffynnu a llewyrchu mewn cymdeithas, ac felly yr ymyrraeth gynnar a'r gefnogaeth gynnar hanfodol a phwysig hynny sy'n hollbwysig, ac rwy'n diolch i Siân Gwenllian am godi'r pwynt hwnnw.

Ond hefyd, mae'n bwysig cydnabod y materion sy'n ymwneud â'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid, ac rwy'n falch bod gennyf gyfrifoldebau, ond wrth gwrs mae cyfrifoldebau llawer o'r argymhellion hyn ar draws Llywodraeth Cymru ac yn cael eu rhannu ar y cyd o ran ein cyfrifoldebau. O ran symud ymlaen gyda'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid, mae gennym gynlluniau gweithredu wedi'u diweddaru, amserlenni cyflawni prosiectau wedi'u hadnewyddu, ac fe'u cyhoeddwyd mewn ymgynghoriad â'n partneriaid ym mis Mawrth eleni, ond hefyd £500,000 ychwanegol i'r rhaglen glasbrint hefyd—partneriaeth gref wrth symud ymlaen. A gyda'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, a minnau, y cytunwyd i weithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i gyflawni canlyniad a fydd yn gweld plant yn y systemau lles a chyfiawnder yng Nghymru wedi'u cydleoli yn yr un adeilad a safle. Mae gennym raglen ar y cyd. Mae'r prosiect yn y ddalfa hefyd yn rhaglen ar y cyd. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn symud ymlaen, a gallaf hyd yn oed ymateb yn gadarnhaol heddiw o ran yr argymhellion hynny.

Wrth gwrs, mae llawer yma; Ni allaf eu hateb i gyd, ond byddwn i'n gwneud hynny pan fydd gennym ein hadroddiad terfynol. Wrth gwrs, mae cydnabod y materion sy'n ymwneud ag ysgolion annibynnol, diogelu a lles pobl ifanc yn hollbwysig, ac mae angen i ni edrych ar hyn o ran pwysigrwydd cofrestru staff sy'n gweithio yn y sector ysgolion annibynnol gyda Cyngor Gweithlu Addysg, a fyddai'n ategu'r darpariaethau diogelu sydd eisoes ar waith. Wrth gwrs, addysg yn y cartref eto—argymhelliad arall gan y comisiynydd plant. A, Dirprwy Lywydd, fe wnaf ddweud bod hwn eto'n faes lle'r ydym yn gwneud cynnydd yn y maes hwn. Wrth gwrs, bu effaith COVID-19, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, ond mae'r gwaith, er bod yn rhaid ei oedi yn 2020, wedi'i ailgychwyn.

Nawr, rwyf eisiau canolbwyntio o'r diwedd ar y ddau bwynt terfynol allweddol a wnaed gan Yr Aelodau. Rhoddodd Jane Dodds gefnogaeth bwerus iawn—fel y gwnaeth hi yn flaenorol—i'r argymhelliad o ran dileu gwneud elw o ofal plant sy'n derbyn gofal. Mae'n un o'r blaenoriaethau uchaf i'r Llywodraeth hon. Ac fe ddywedaf hynny wrth Gareth Davies—mae hynny o'r flaenoriaeth uchaf, ac rydym yn bwriadu dileu'r holl elw preifat o ofal plant o ran cartrefi gofal plant.

Yn olaf, Sioned Williams, ie, wrth gwrs, rydym ni'n gweld y gwaith yr ydym ni'n ei wneud o ran prydau ysgol am ddim nid yn unig fel piler canolog i'n dull o fynd i'r afael â thlodi, ond hefyd yr adolygiad cymhwysedd. Rwy'n credu ei bod yn dda bod y comisiynydd plant, hefyd, yn cydnabod pwysigrwydd ein brecwast ysgol am ddim, lle'r oeddem yn arwain y ffordd drwy gyflwyno'r brecwast am ddim hwn mewn ysgolion cynradd yn 2004. Ond yn amlwg, bydd y pwyntiau pwysig a wnaed yn y ddadl hon heddiw, sy'n cwmpasu ystod eang o feysydd sy'n effeithio ar ein plant a'n pobl ifanc, yn hanfodol wrth i ni symud ymlaen i ymateb yn llawn i adroddiad y comisiynydd plant. A gaf i ddweud i gloi, mae gennym draddodiad balch iawn o roi hawliau plant wrth wraidd ein penderfyniadau? Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd plant yn un o'r ffyrdd yr ydym ni'n cael ein dwyn i gyfrif, a dyna sydd wedi digwydd y prynhawn yma, sy'n bwysig o ran sut yr ydym ni'n cefnogi hawliau plant fel hawliau i blant a phobl ifanc. Rwyf eisiau sôn am y ffaith y bydd fy nghyd-Aelod Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, yn cyhoeddi cynllun hawliau plant diwygiedig Llywodraeth Cymru cyn diwedd y flwyddyn a bydd yn nodi'r trefniadau sydd gennym ar waith ar gyfer rhoi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn pan fydd Gweinidogion yn arfer unrhyw un o'u swyddogaethau.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y byddwch chi i gyd eto'n ymuno â mi i ddiolch i'r comisiynydd, Sally Holland, am bopeth y mae hi wedi'i wneud i sicrhau bod pob plentyn yn gwybod am eu hawliau, sut i gael gafael ar yr hawliau hynny a sut i herio pan nad ydyn nhw yn derbyn yr hawliau hynny. Mae hi wedi gwneud hyn yn gyson yn ystod ei thymor yn y swydd a dymunwn yn dda iddi wrth iddi ddod i ddiwedd ei thymor. Diolch i chi, i gyd, am yr holl swyddogaethau yr ydych chi wedi'u chwarae heddiw yn y ddadl heddiw. Bydd ein hymateb ym mis Tachwedd yn dangos pa mor ddifrifol yr ydym yn cymryd ein hymrwymiad i hawliau plant. Rydym yn parchu argymhellion ac adroddiad ein comisiynydd plant. Diolch yn fawr.

18:15

Diolch, Weinidog. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol a Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:16.