Y Cyfarfod Llawn

Plenary

28/09/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn deg. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda chi. Hoffwn atgoffa'r Aelodau hefyd fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhianon Passmore.

Swyddi Sgiliau Uchel

1. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddiogelu swyddi sgiliau uchel yn Islwyn? OQ56941

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi ym margen prifddinas Caerdydd, yn rhoi pwerau newydd i awdurdodau lleol, yn cefnogi ein rhaglen brentisiaeth uchelgeisiol, ac yn gweithio yn uniongyrchol gyda busnesau yn Islwyn. Mae'r holl gamau hyn yn helpu i ddiogelu swyddi sgiliau uwch yn yr etholaeth.

Diolch, Prif Weinidog. Mae pobl Islwyn yn briodol falch o natur ragweithiol eu Llywodraeth Lafur yng Nghymru o ran symud yn bendant i gefnogi Hawker Siddeley Switchgear, gyda buddsoddiad o £0.5 miliwn i adleoli o fewn etholaeth Islwyn, o'u safle presennol ym Mhontllanfraith i hen ffatri cydosod seddi mewnol British Airways gerllaw yn y Coed Duon. Prif Weinidog, mae'r ymateb i gamau eich Llywodraeth i gefnogi cwmni sydd wedi ei angori yn Islwyn ers 80 mlynedd wedi bod yn aruthrol. Fe wnaethoch chi yn bersonol ymweld â Rhisga, yn Islwyn, yn ystod ymgyrch etholiadol y Senedd, fel y gwnaeth Gweinidog yr economi, a ymwelodd â mi hefyd yn Crosskeys. Cyflwynodd y ddau ohonoch chi'r neges y byddai Llywodraeth Lafur Cymru yn fy helpu i roi Islwyn yn gyntaf. Cadarnhaodd pobl Islwyn y berthynas honno drwy ail-ethol Llywodraeth Lafur Cymru. Prif Weinidog, pa neges sydd gennych chi i bobl Islwyn o ran sut y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i roi Islwyn yn gyntaf, yn cefnogi pobl cymoedd Gwent, wrth iddyn nhw geisio byw mewn cymuned sy'n cefnogi cyflogaeth fedrus iawn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae hi'n llygad ei lle i dynnu sylw at hanes maith iawn cwmni Hawker Siddeley Switchgear yn ei hetholaeth hi. Ac roedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn yn wir o allu cefnogi ei adleoliad, oherwydd bod yr adleoliad hwnnw yn diogelu dyfodol y swyddi hynny yn yr etholaeth am flynyddoedd i ddod. Nid yn unig y mae'n gwmni sydd ag enw diogel iawn am yr hyn y mae'n ei wneud eisoes, ond yn bwysig i ni wrth wneud penderfyniadau buddsoddi, mae ganddo ragolygon gwirioneddol yn y dyfodol ym maes twf gwyrdd, gan helpu i wneud seilwaith y DU yn addas ar gyfer cerbydau trydan, er enghraifft. Felly, mae Rhianon Passmore yn llygad ei lle, Llywydd—mae'r penderfyniad i wneud y buddsoddiad hwnnw yn fuddsoddiad yn ffyniant y rhan honno o Gymru yn y dyfodol, a'r nifer mawr o bobl sy'n dibynnu ar y gyflogaeth honno eisoes. Wrth gwrs, dim ond rhan o'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi i fusnesau yn Islwyn yn ystod y pandemig yw hynny—dros 300 o gynigion o gymorth i fusnesau yn yr etholaeth, buddsoddwyd £4.6 miliwn yn Islwyn yn unig, gan helpu'r busnesau hynny yr oedd ganddyn nhw ddyfodol llwyddiannus o'u blaenau cyn i'r pandemig ein taro ni i fod yno yn barod i barhau'r llwyddiant hwnnw nawr bod y pandemig, fel rydym yn gobeithio, yn dechrau dod i ben.

Prif Weinidog, rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi, a'r Aelod, i longyfarch Llywodraeth Geidwadol y DU sy'n diogelu miliynau o swyddi ledled y DU diolch i'r cynllun ffyrlo. Ond mae'n amlwg iawn ar hyn o bryd bod prinder sgiliau yn Islwyn, ac ar draws ein gwlad, gan gynnwys y problemau yr ydym ni i gyd yn eu dioddef ar hyn o bryd, wedi eu gwaethygu gan y ffaith bod diffyg gyrwyr lorïau medrus. Sut y mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu mynd i'r afael â hyn, Prif Weinidog?

13:35

Llywydd, wrth gwrs, bob tro y gofynnir y cwestiwn hwn i mi, rwyf i yn dweud bod Llywodraeth y DU wedi gweithredu ar raddfa sylweddol i helpu i ddiogelu'r economi rhag effaith y coronafeirws. Rwy'n ofni diwedd y cynllun ffyrlo ddydd Iau yr wythnos hon. Rwy'n credu, o dan yr holl amgylchiadau, ei bod hi'n rhy gynnar i fod wedi tynnu yn ôl yn llwyr o'r holl gymorth y mae gwahanol fusnesau a'r hunangyflogedig wedi ei gael o'r cynlluniau hynny. Byddai wedi bod yn well gennym ni, ac rydym ni wedi argymell i Lywodraeth y DU, ddull mwy wedi ei dargedu yn fwy, lle byddai'r sectorau hynny sy'n dal i fod bellaf i ffwrdd o allu gweithredu heb fod hynny ar sail COVID yn parhau i gael cymorth yn y dyfodol. Rwy'n credu mai amser a ddengys, Llywydd, p'un a fydd adferiad cymharol gyflym economi Cymru yn cael ei gynnal y tu hwnt i ddydd Iau a diwedd y cynllun hwnnw, ai peidio.

Cefais fy synnu braidd gan yr hyn yr oeddwn i'n meddwl y dywedodd yr Aelod yn rhan olaf ei chwestiwn. Dyma Lywodraeth y DU—mae'n anodd dychmygu Llywodraeth sydd wedi gwneud ymdrech fwy chwerthinllyd i ddatrys problem y gwnaethon nhw ei chreu eu hunain. Wrth gwrs ein bod ni'n brin o yrwyr cerbydau nwyddau trwm, gan fod eich Llywodraeth chi wedi ein tynnu ni allan o'r Undeb Ewropeaidd, lle'r oeddem ni'n cael ein cyflenwi yn flaenorol gan yrwyr—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod ei bod hi'n gyfleus i Aelodau'r Blaid Geidwadol wneud iawn am ddiffygion eu dadleuon dim ond drwy greu sŵn, ond yn wir i chi, nid yw hynny'n gwneud y tro. Pan oeddem ni mewn marchnad sengl ac yn yr undeb tollau, roedd pobl yn gallu symud yn rhydd ar draws cyfandir Ewrop ac i wneud swyddi yma yn y wlad hon. Nid yw'r bobl hynny ar gael i ni mwyach. Mae'r syniad y bydd pobl yn barod i alltudio eu hunain a dod yn ôl a gweithio yn y wlad hon am ychydig wythnosau, dim ond i Lywodraeth y DU ddweud wrthyn nhw y bydd yn cefnu arnyn nhw eto ar noswyl Nadolig, pan na fydd ganddyn nhw unrhyw ddefnydd amdanyn nhw mwyach, yn syml—. Wel, mae haerllugrwydd y peth yn syfrdanol, ond nid yw'n mynd i weithio.

Nawr, mae llawer y gellir ei wneud yn ddomestig i hyfforddi mwy o bobl. Mae wyth cant o unigolion, Llywydd, drwy raglen ReAct, wedi eu hailhyfforddi fel gyrwyr cerbydau nwyddau trwm ers 2015. Felly, rydym ni'n chwarae ein rhan yma yng Nghymru i feithrin capasiti domestig yn y maes hwnnw. Nid yw hynny yn mynd i fod yn ateb i'r problemau tymor byr, ond nid yw chwaith yn gynllun sy'n cam-fanteisio cymaint ar bobl eraill fel nad oes unrhyw obaith o gwbl y gall gyflawni'r hyn sydd ei angen.

Ym marn Plaid Cymru, mae gofal cymdeithasol yn waith medrus iawn, a dylid ei drin felly o ran cyflog ac amodau. Mae'n annheg ac yn anghyfiawn nad yw gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael y parch y maen nhw'n ei haeddu. Efallai y byddwch chi'n cofio, yr wythnos diwethaf, i mi godi'r newidiadau i'r ddarpariaeth gofal dydd i oedolion anabl ym mwrdeistref sirol Caerffili, o safbwynt y teuluoedd y maen nhw'n effeithio arnyn nhw. Mae angen i ni gofio hefyd fod cynlluniau'r cyngor Llafur wedi effeithio ar dîm ymroddedig o weithwyr hefyd. Fel y dywedodd un swyddog undeb mewn cyfarfod ddoe, 'Aeth y gweithwyr rheng flaen hyn y tu hwnt i'w dyletswyddau i weithio drwy gydol pandemig COVID, a'r diolch maen nhw'n ei gael bellach yw adleoliad a'r bygythiad o gael eu diswyddo os na fyddan nhw'n derbyn telerau ac amodau gwaeth'. Prif Weinidog, sut gallwn ni ddisgwyl i bobl gael eu denu i'r sector gofal cymdeithasol, ac, yr un mor bwysig, sut y disgwylir i bobl sydd â phrofiad aros yn y sector, lle maen nhw'n cael eu trin mor wael?

Wel, Llywydd, rwyf i mewn sefyllfa i ymateb i'r pwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn ei wneud. Fel y ceisiais i esbonio iddo yn ofalus yr wythnos diwethaf, mae'n well gofyn cwestiynau ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Fodd bynnag, polisi Llywodraeth Cymru o ran gofal cymdeithasol yw'r un y cyfeiriodd ato ar ddechrau ei gwestiwn. Rydym ni'n sicr o'r farn bod y gweithlu yn fedrus iawn, yn llawn cymhelliant, ac yn haeddu cydnabyddiaeth briodol. Dyna pam mae gennym ni weithlu cofrestredig yma yng Nghymru, i roi'r statws proffesiynol y maen nhw'n ei haeddu i bobl. Dyna pam y bydd y Llywodraeth hon yn ariannu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ystod y tymor Senedd hwn. Rwy'n gresynu yn fawr nad oedd Llywodraeth y DU yn barod i roi gweithwyr gofal cymdeithasol ar eu rhestr o alwedigaethau y gallai pobl ddod i'r Deyrnas Unedig i weithio ynddyn nhw, gan nad ydyn nhw'n eu hystyried yn weithwyr medrus iawn. Rwy'n credu bod hwnnw yn wahaniaeth sarhaus. Rwy'n credu bod pobl sy'n gwneud gwaith gofal cymdeithasol yn sicr yr un mor fedrus yn yr hyn y maen nhw'n ei wneud â rhai o'r bobl sy'n cael dod i'r Deyrnas Unedig gan fod Llywodraeth y DU yn eu hystyried yn wahanol. Pan fydd pobl yng Nghymru, polisi'r Llywodraeth hon yw eu trin gyda'r parch a gyda'r gydnabyddiaeth ariannol, cymaint ag y gallwn, y maen nhw'n eu haeddu.

13:40
Bargen Twf Canolbarth Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd bargen twf canolbarth Cymru? OQ56937

Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. Cymeradwyodd cyd-bwyllgor y rhanbarth yr achos busnes portffolio ar 21 Medi. Yn amodol ar gadarnhad gan gabinetau'r ddau awdurdod lleol, rydym yn disgwyl iddo gael ei gyflwyno i'r ddwy Lywodraeth ddechrau mis Hydref, ac os bydd popeth yn mynd yn dda, gallai cytundeb y fargen lawn gael ei gwblhau erbyn diwedd eleni.

Diolch, Prif Weinidog, am hynna. Ar draws y canolbarth a Brycheiniog a Sir Faesyfed, mae gennym ni'r nifer mwyaf o fusnesau bach a chanolig eu maint yn y wlad gyfan, sy'n glod gwirioneddol i'r bobl sy'n gweithio'n galed yn ein cymunedau gwledig, sef pwerdy economi Cymru. Mae llawer o berchnogion busnesau yr wyf i'n siarad â nhw ledled Cymru bob amser yn codi mater ardrethi busnes gyda mi. Wrth i'r gwyliau ardrethi busnes ddod i ben y flwyddyn nesaf, mae llawer o fusnesau wedi dweud wrthyf i y bydden nhw'n hoffi gweld ardrethi busnes yn cael eu hailystyried a bod angen chwarae teg arnom ni ar draws y Deyrnas Unedig. Er enghraifft, mae busnesau yn Lloegr yn derbyn rhyddhad ardrethi o 100 y cant ar gyfer y £12,000 cyntaf, o'i gymharu â dim ond y £6,000 cyntaf yng Nghymru. Mae hynny yn wahaniaeth o £6,000 a allai wneud gwahaniaeth enfawr, er mwyn i gyflogwyr allu rhoi mwy o arian i staff, i roi mwy o arian iddyn nhw. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ddilyn y cyhoeddiad a gafodd ei wneud yng nghynhadledd Llafur y DU yn awr a diddymu ardrethi busnes yng Nghymru ar gyfer busnesau bach fel y gall ein busnesau fynd ati i danio economi Cymru?

Llywydd, rwy'n credu bod yr Aelod wedi codi'r cwestiwn atodol anghywir, oherwydd, hyd y gwn i, nid yw ardrethi busnes yn un o gyfrifoldebau bargen twf canolbarth Cymru, sef y cwestiwn ar y papur trefn. Felly, rwy'n ei chael yn anodd deall perthnasedd yr hyn y mae newydd ei ofyn i mi am yr hyn yr oeddwn i'n credu y byddai ei gwestiwn yn ymwneud ag ef.

Yma yng Nghymru, wrth gwrs, mae gan fusnesau wyliau ardrethi am weddill y flwyddyn ariannol hon o hyd. Lle mae ei blaid ef wrth y llyw, yn Lloegr, nid yw hynny'n wir mwyach. Mae eu gwyliau ardrethi busnes nhw ar ben, ar ôl i'r Llywodraeth Geidwadol ei dynnu yn ôl. Rwy'n croesawu yn fawr iawn y cyhoeddiad a wnaed yng nghynhadledd fy mhlaid i, oherwydd pan fydd Llywodraeth Lafur yn gallu gweithredu'r polisi hwnnw ar gyfer Lloegr, yna bydd yr arian yn llifo i Gymru i ganiatáu i ni barhau i ddatblygu'r cynllun sydd gennym ni, sy'n cefnogi canran llawer uwch o fusnesau Cymru nag a gefnogir gan gynllun cyfatebol ei Lywodraeth ef yn Lloegr.

Mae hwnna'n asesiad cwbl deg gan y Prif Weinidog ar gylch gwaith y cwestiwn a'r cwestiwn atodol fel y'i gofynnwyd. Felly, diolch i chi am egluro hynna i bob un ohonom ni.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ar raglen Sunday Politics y BBC dros y penwythnos, dywedodd AS Cwm Cynon, Beth Winter, fod diffyg polisïau blaengar radical yn y Blaid Lafur. A ydych chi'n cytuno â hi?

Wel, yn ôl yr arfer, diolchaf i'r Aelod am ei ddiddordeb mawr yng ngweithrediad y Blaid Lafur. [Chwerthin.] Mae'n braf gwybod ei fod yn dilyn hynny yn ofalus dros y penwythnos. Gadewch i mi fod yn eglur yma, Llywydd, nid oes unrhyw ddiffyg polisïau radical yng Nghymru gan y Llywodraeth Lafur Cymru hon. Yn ystod y tymor hwn yn unig, byddwn ni, fel yr eglurais i mewn ateb cynharach, yn darparu cyllid ar gyfer y cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol ac yn rhoi'r sicrwydd o addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth i'n pobl ifanc. Byddwn yn creu'r parc cenedlaethol cyntaf yng Nghymru ers 57 mlynedd, byddwn yn bwrw ymlaen â'r goedwig genedlaethol, byddwn yn trawsnewid y flwyddyn ysgol a'r diwrnod ysgol, ac, os gallwn ni wneud hynny, byddwn yn gwneud rhywbeth yr un mor radical wrth ddiwygio'r dreth gyngor yma yng Nghymru. Nid oes unrhyw ddiffyg agenda ddiwygio a radical o gwbl i Lafur yng Nghymru.

13:45

Wel, yn amlwg, mae AS Cwm Cynon yn anghytuno â chi, Prif Weinidog, ac nid yw'n anodd gweld sut mae eich cydweithiwr wedi dod i'r casgliad nad oes gennych chi unrhyw bolisïau radical na blaengar. Yr wythnos diwethaf, parhaodd pobl yng Nghymru i aros am driniaethau GIG mewn wythnos pan gafodd y perfformiadau aros gwaethaf erioed eu cofnodi gan unedau damweiniau ac achosion brys ysbytai Cymru. Gydag amseroedd aros cynyddol ledled y wlad, ôl-groniadau yn y GIG a allai gymryd blynyddoedd i'w clirio, a bellach y fyddin yn cael ei sicrhau i gynorthwyo gwasanaethau ambiwlans sydd mewn trafferthion, mae ein GIG o dan bwysau difrifol, ac mae'n ymddangos nad oes unrhyw bolisïau radical, blaengar i fynd i'r afael â phwysau'r gaeaf eleni chwaith.

Yr wythnos diwethaf, pan gawsoch eich holi, fe wnaethoch chi ddweud mai'r cwbl oedd cynllun Llywodraeth Cymru ar bwysau'r gaeaf oedd diweddaru ei chynllun rhybudd COVID, ond mae hyn yn wahanol iawn i sylwadau a wnaed gan Dr Andrew Goodall, a ddywedodd wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac rwy'n dyfynnu,

ar ochr y gaeaf, dim ond i ddod â'r amrywiaeth o wahanol weithgareddau ynghyd a'r cyd-destun penodol ar hyn o bryd, byddwn yn sicrhau bod cynllun gaeaf eglur iawn sy'n weladwy, sy'n cysylltu'r holl bethau hyn gyda'i gilydd, yn ystod mis Hydref.

Felly, pa un sy'n wir, Prif Weinidog? A fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun penodol ar sut y bydd yn mynd i'r afael â phwysau'r gaeaf yn y GIG, neu a oedd y darpar Ysgrifennydd Parhaol yn iawn a chithau yn anghywir?

Llywydd, gadewch i mi geisio ymateb i'r pwynt difrifol yng nghwestiwn yr Aelod, oherwydd roedd rhywbeth o'r fath rhywle yna. Mae'r GIG yng Nghymru o dan bwysau enfawr—pwysau enfawr o ran popeth y mae'n ceisio ei wneud i ddarparu gwasanaeth i bobl yng Nghymru. Wrth adfer ar ôl y coronafeirws, nid yw gweithgarwch yn ôl i'r lefelau cyn y pandemig o hyd gan fod pobl yn dal i orfod gwisgo cyfarpar diogelu personol, mae pobl yn dal i orfod gweithio o dan amgylchiadau ffisegol lle nad oes ganddyn nhw fynediad at y mathau o gyfleusterau y byddai ganddyn nhw yn flaenorol, er mwyn eu cadw nhw'n ddiogel. Ar yr un pryd, rydym yn gofyn iddyn nhw gyflawni'r rhaglen frechu fwyaf erioed rhag y ffliw, rhaglen brechiadau atgyfnerthu, ac rydym ni'n gofyn iddyn nhw geisio dal i fyny ar rai o'r triniaethau a gafodd eu gohirio yn anochel yn ystod y pandemig. Mae hynny i gyd, rwy'n cytuno â'r Aelod, yn rhoi pwysau enfawr, a phwysau enfawr ar weithlu sydd wedi ymlâdd o'r profiadau torcalonnus y byddan nhw wedi gorfod gweithio gyda nhw dros y 18 mis diwethaf.

Wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda nhw. Bydd gennym ni gynllun rheoli coronafeirws wedi ei ddiweddaru, a bydd hwnnw yn rhan bwysig iawn o'r ffordd yr ydym ni'n wynebu'r gaeaf hwn. A bydd cynlluniau y tu hwnt i hynny ar gyfer yr agweddau eraill ar yr hyn y mae'n rhaid i'r GIG ei reoli. Er mwyn gwneud hynny, rydym ni wedi buddsoddi £1 biliwn yn fwy—£1 biliwn—£991 miliwn o refeniw a gwerth £40 miliwn o gyfalaf yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, yn ychwanegol at yr hyn a fyddai wedi bod ar gael fel arall i'r gwasanaeth iechyd. Ac os ydym ni o ddifrif yn y Siambr hon ynghylch gwneud popeth o fewn ein gallu i gydnabod yr her y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei hwynebu ac i weithio gyda'n gilydd lle mae hynny'n bosibl i ddod o hyd i atebion i hynny, yna byddwch chi'n gweld y bydd y Llywodraeth bob amser yn barod i gael y mathau hynny o sgyrsiau.

Nid wyf i'n eglur o hyd o'ch ateb, Prif Weinidog, a fyddwch chi'n cyflwyno cynllun i ymdrin â phwysau'r gaeaf, felly efallai yr hoffech chi ymateb ar ôl i mi eistedd i lawr. Y gwir amdani yw bod y Llywodraeth, ar ôl 22 mlynedd o reolaeth Llafur Cymru, wedi rhedeg allan o syniadau ar sut i reoli'r GIG, wedi rhedeg allan o syniadau ar sut i ysgogi arloesedd a hybu'r economi, ac wedi rhedeg allan o syniadau ar sut i gefnogi a meithrin ein system addysg.

Y prynhawn yma, ceir dau ddatganiad ar agenda'r Senedd, a dadl, i gyd yn canolbwyntio mewn rhyw ffordd ar San Steffan. Nid oes dim yn ymwneud â chynlluniau Llywodraeth Cymru i roi cymorth brys i'n GIG, ein busnesau na'n hysgolion. Wrth i'r sectorau hyn alw am arweinyddiaeth a chymorth, mae Llywodraeth Cymru yn hytrach yn troi ei sylw at wleidyddiaeth bleidiol ac ymladd gyda Llywodraeth y DU, brwydr sydd wedi cwympo mor isel yn y gwter yr wythnos hon nes bod dirprwy arweinydd y Blaid Lafur bellach yn troi at alw enwau. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gondemnio defnydd Angela Rayner o'r gair 'scum'? Yn hytrach na bod eich Llywodraeth yn canolbwyntio ei sylw ar San Steffan, a wnewch chi ddweud wrthym ni bellach pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynlluniau ar flaenoriaethau'r bobl, fel mynd i'r afael ag ôl-groniadau'r GIG, ysgogi arloesedd a chreu swyddi?

13:50

Blaenoriaethau'r bobl yng Nghymru yw'r blaenoriaethau y gwnaethon nhw bleidleisio amdanyn nhw ym mis Mai. Os bu erioed blaid a oedd wedi rhedeg allan o syniadau—. Nid yw'r Blaid Geidwadol yng Nghymru byth yn mynd i lwyddo i berswadio pobl os mai'r cwbl y maen nhw'n ei wneud yw beirniadu'r Llywodraeth y mae pobl Cymru wedi ei hethol dro ar ôl tro. Nid oedd y bobl yng Nghymru yn meddwl bod Llafur wedi rhedeg allan o syniadau, ac fe wnaethon nhw bleidleisio drosom ni mewn niferoedd mwy nag ar unrhyw adeg yn ystod holl gyfnod datganoli. Os ydych chi'n meddwl mai dyna'r ffordd i'w perswadio nhw i bleidleisio drosoch chi, gan ddweud yn gyson bod eu barn yn amheus, yna nid yw byth yn mynd i lwyddo. Nid wyf i chwaith, Llywydd, yn ystyried dadl ar ddiogelwch tomenni glo yn fater nad oes a wnelo ddim â Chymru. Os bu erioed bwnc y dylai'r Siambr hon fod yn ymddiddori yn uniongyrchol ynddo, cyn yr hydref a'r gaeaf hwn, yna diogelwch tomenni glo, gyda'n holl hanes—nid wyf i o'r farn bod hynny rywsut yn wastraff amser ar lawr y Senedd. Byddwn yn parhau, Llywydd, i gyflwyno syniadau sydd wedi eu gwreiddio yn y gefnogaeth y mae'r blaid hon a'r Llywodraeth hon wedi ei chael gan bobl yng Nghymru. Yr union reswm pam rydym ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi ac y mae ef unwaith eto yn y sefyllfa y mae ef yn ei gael ei hun ynddi, yw oherwydd bod pobl Cymru o'r farn mai'r Blaid Lafur yw'r blaid sy'n siarad mewn llais a gyda gwerthoedd y maen nhw'n eu hadnabod ac yn dymuno eu cefnogi.

Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ysgrifennu yr wythnos diwethaf at arweinwyr pleidiau'r Senedd yn rhannu'r gwaith modelu diweddaraf gan Brifysgol Abertawe a oedd yn dangos pwysau'r pandemig ar y GIG yn cyrraedd uchafbwynt ddechrau mis Tachwedd. Fe wnaethoch chi esbonio bod y modelu hwn wedi dylanwadu ar benderfyniad y Blaid Lafur i ganslo ei chynhadledd yng Nghymru a'r angen i bob un ohonom ni wneud beth bynnag y gallwn i ddiogelu'r GIG yn ystod y misoedd i ddod. Yr awgrym eglur, rwy'n credu, yw y dylai eraill ddilyn eich esiampl. Ai'r cyngor gwyddonol i chi, ac felly eich cyngor chi i eraill sy'n trefnu digwyddiadau ar raddfa fawr, yw y byddai'n well iddyn nhw gael eu canslo yn ystod y misoedd i ddod? A yw'n berthnasol i ddigwyddiadau dan do yn unig, neu a yw hefyd yn cynnwys gemau chwaraeon fel gemau rhyngwladol yr hydref? A fyddwch chi'n ysgrifennu at benaethiaid sefydliadau eraill sy'n cynnal digwyddiadau mawr yn ystod y misoedd i ddod gyda chyngor tebyg i'r hyn yr ydych chi wedi ei roi i'r pleidiau gwleidyddol?

Diolchaf i Adam Price am hynna. Mae'n iawn, wrth gwrs, Llywydd; rydym ni yn rhannu'r cyngor yr ydym ni'n ei gael ar y modelu a'r cyngor yr ydym ni'n ei gael gan y prif swyddog meddygol ac eraill wrth i ni gyrraedd cam gwneud penderfyniadau terfynol yr adolygiad tair wythnos. Rwy'n diolch i arweinydd Plaid Cymru am y ffaith na fu erioed un o'r sesiynau briffio hynny yn fy nghof i, nad yw ef neu uwch aelod arall o'i blaid wedi bod yn bresennol ynddi, ac mae hynny yn golygu bod arweinwyr y gwrthbleidiau mor wybodus ag yr ydym ni am gefndir y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud.

Mae'r modelu yn dangos, Llywydd, fel y dywedodd Adam Price, nad oes disgwyl i nifer y bobl sy'n mynd yn sâl gyda'r coronafeirws yng Nghymru gyrraedd uchafbwynt tan yn ystod mis Hydref. Rwy'n edrych ar y ffigurau hynny bob dydd, ac i mi, maen nhw'n dal i fod yn destun cryn bryder, ond mae ein cynghorwyr gwyddonol yn parhau i ddweud wrthym ni mai dyna y bydden nhw wedi ei ddisgwyl—bod hyn yn dal i fod yn gyson â'r hyn y byddai'r modelu wedi eu harwain i gredu y byddai'r sefyllfa, a gallwn ni obeithio y byddwn yn gweld y niferoedd hynny yn sefydlogi yn ystod mis Hydref, ac yn dechrau gostwng gobeithio.

Roedd fy mhlaid i o'r farn, ar sail cefndir y modelu hwnnw, nad oedd yn synhwyrol annog niferoedd mawr o bobl o bob cwr o Gymru i deithio gyda'i gilydd i leoliad lle mae pobl, yn anochel, yn treulio cyfnodau hir o amser o dan amodau cymharol orlawn dan do, a bod y risg yn un yr oedd yn well ei hosgoi. Rwy'n credu mai mater i unigolion a sefydliadau wedyn yw pwyso a mesur y sefyllfa drostyn nhw eu hunain. Bydd amseru yn dylanwadu ar y sefyllfa—pa un a ydyn nhw'n cynllunio digwyddiad ar yr adeg pan fydd y niferoedd yn dal i godi, yn hytrach na gobeithio pan fydd pethau wedi sefydlogi ac wedi dechrau gostwng, pa un a yw eu digwyddiad yn wir yn ddigwyddiad ar raddfa fawr gyda channoedd lawer o bobl yn bresennol, pa un a yw dan do neu yn yr awyr agored, i ba raddau y gall fod yn agored i fesurau lliniaru eraill fel awyru. Byddwn ni'n sicrhau ac rydym ni yn sicrhau bod yr holl gyngor hwnnw yr ydym ni'n ei weld ar gael i eraill, ac yna rwy'n credu y bydd penderfyniadau y bydd eraill yn eu gwneud, ond, fel y dywedais i, yn y cyd-destunau penodol y maen nhw eu hunain yn eu hwynebu.

13:55

Rhai cwestiynau ymarferol, os caf i, am y pàs COVID arfaethedig. Rydym ni'n gwybod bod profion llif ochrol yn llai dibynadwy na phrofion PCR, a phrofion hunan-weinyddu yw'r rhai mwyaf annibynadwy o'r cwbl ar hyn o bryd oherwydd y gellir eu ffugio. Mae'r dechnoleg yn bodoli i lanlwytho profion llif ochrol cartref yn uniongyrchol mewn ffordd na ellir eu ffugio. A ydych chi'n bwriadu defnyddio'r dechnoleg honno? O ystyried tystiolaeth gynyddol o imiwnedd y brechlyn yn gwanhau ar ôl chwe mis, a ydych chi'n rhagweld y bydd angen tystiolaeth o frechlyn atgyfnerthu ar ryw adeg i gadw eich statws pàs COVID? Ac ers iddi gael ei hadrodd ddoe, oherwydd amodau tywydd garw, y bu'n rhaid i gynhadledd Plaid Lafur y DU symud i broses ddethol ar hap ar gyfer profion pàs COVID, a fydd yr hyblygrwydd hwnnw hefyd yn cael ei roi i drefnwyr digwyddiadau yng Nghymru?

Diolch eto am y cwestiynau yna. Mae system pàs COVID yn gyfaddawd. Pe bae gennych chi ardystiad pasbort brechlyn, yna ni fyddai rhai o'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud am gyfyngiadau profion llif ochrol yn codi, ond fel y gwyddom ni, daw pasbortau brechlyn â chyfres o ystyriaethau eraill—maen nhw wedi eu codi yma gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ar sawl achlysur—yn ymwneud â moeseg y peth, ac a ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn pobl na fyddai'n gallu gwneud hynny.

Mae pàs COVID yn caniatáu i'r bobl hynny ddangos eu bod nhw wedi cymryd camau rhesymol i amddiffyn eu hunain, ond mae perygl yn gysylltiedig â hynny y gallai dyfais llif ochrol yn arbennig, ar hyn o bryd, fod yn agored i gael ei gamddefnyddio. Yn ein rheoliadau, y bydd y Senedd yn cael cyfle i'w trafod yr wythnos nesaf, byddwn yn ei gwneud yn drosedd benodol, yn drosedd gyfreithiol, i ffugio canlyniadau dyfais llif ochrol yn fwriadol, er mwyn ei gwneud yn eglur i bobl bod gwneud hynny yn golygu rhoi pobl eraill mewn perygl uniongyrchol. Rwy'n ymwybodol o'r dechnoleg y mae'r Aelod yn ei chodi. Rydym ni wedi cael rhai trafodaethau gyda Llywodraeth y DU amdani hefyd, ac os bydd yn bosibl, drwy dechnoleg, i symud dyfeisiau llif ochrol y tu hwnt i hunanardystio, yna rwy'n cytuno y byddai hynny yn sicr yn gam pwysig ymlaen.

O ran y rhaglen atgyfnerthu, rydym ni'n parhau i ddysgu llawer, rwy'n credu, am i ba raddau y ceir effaith wanhau o frechu, a bydd y rhaglen atgyfnerthu gyda ni am fisoedd lawer i ddod oherwydd ni fyddwch chi'n cael cynnig brechiad atgyfnerthu tan fod chwe mis wedi mynd heibio ers eich ail frechlyn. Rwy'n credu y bydd hynny yn rhoi cyfle i ni ddysgu ychydig mwy o'r dystiolaeth wirioneddol ynghylch a fyddech chi'n disgwyl i frechlyn atgyfnerthu fod yn rhan o unrhyw bàs COVID ai peidio.

Ni lwyddais i ysgrifennu'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod i lawr—[Torri ar draws.]

Rydw i wedi cael fy atgoffa ohono. Ydy, mae'n bwynt pwysig. Mewn digwyddiadau ar raddfa fawr—gadewch i ni ddefnyddio'r enghraifft amlwg o gêm rygbi ryngwladol yng Nghaerdydd—byddai effeithiau niweidiol i iechyd y cyhoedd o wirio pàs pawb yn drech na manteision y pàs ei hun, oherwydd byddai gennych chi resi hir o bobl yn treulio llawer o amser yn penelinio ochr yn ochr â'i gilydd. Rydym ni'n eglur yn y canllawiau y byddwn ni'n eu cyhoeddi y bydd yn bosibl, o dan yr amgylchiadau hynny, i drefnwyr digwyddiadau wirio pasys COVID pobl ar hap. Felly, gellid gofyn i unrhyw un ei ddangos, ond nid pawb. Dyna beth ddigwyddodd ddoe yng nghynhadledd y Blaid Lafur, pan ystyriwyd bod effeithiau niweidiol cael llawer iawn o bobl yn sefyll mewn rhes y tu allan mewn tywydd gwael iawn yn drech na manteision y pàs ei hun. Ond y ffaith y gallai fod yn chi, neu eich bod chi yn y rhes honno a'ch bod yn gweld pobl yn cael eu galw allan ac yn gorfod ei ddangos, ac yn gwybod efallai mai chi fydd y nesaf—nid wyf i'n credu bod yr effaith honno ar bobl yn un fach. Roeddech chi'n gallu gweld ei fod yn golygu rhywbeth arwyddocaol iddyn nhw.

Mae SAGE wedi dod i'r casgliad, hyd yn oed gyda chynllunio gofalus, efallai na fydd unrhyw fudd net i ardystiad imiwnedd COVID, ac yn wir mae papur gan un o'i is-bwyllgorau wedi dadlau bod gan dystysgrif ddomestig—sef yr hyn yr ydym ni'n sôn amdani, yn hytrach na thystysgrif deithio—y potensial i achosi niwed. Mae'r gell cyngor technegol, yn ei chrynodeb, yn cyfeirio at ddwy astudiaeth fawr yn y DU sy'n dod i'r casgliad y gallai ardystiad brechlyn ac ardystiad COVID fod yn wrthgynhyrchiol, gan leihau'r tebygolrwydd o frechu ymhlith grwpiau sydd â llai o bobl yn manteisio arno. A ydych chi'n derbyn bod cyfyngu ar allu pobl i gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau, yn seiliedig ar eu statws iechyd ardystiedig, yn gosod cynsail anghyfforddus iawn? Nid oes ond yn rhaid i ni feddwl yn ôl, onid oes, i'r epidemig AIDS i sylweddoli pam.

O dan yr amgylchiadau hyn, rwy'n credu ei bod hi'n rhesymol disgwyl i'r achos tystiolaethol fod yn eglur ac yn gwbl gadarn, ond yng ngeiriau un o aelodau amlycaf y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar gyfer Argyfyngau, mae'n gymysg iawn ar y gorau ar hyn o bryd. Er mwyn ein galluogi ni fel plaid i ddod i benderfyniad terfynol, penderfyniad cytbwys, a fyddech chi'n cytuno i ni gael asesiad diduedd o'r cynnig pàs COVID gan gadeirydd y gell cyngor technegol?

14:00

Llywydd, rwy'n gwbl fodlon i Aelodau sy'n dymuno cael sesiwn friffio arall ar hyn ei chael. Mae'n bwysig, i fod yn eglur, nad ydym ni'n cynnig ardystiad brechlyn. Gallwch chi gael pàs COVID heb dystysgrif brechlyn. Mae hwn yn fater anodd iawn, iawn. Mae'r dadleuon wedi eu cydbwyso'n ofalus iawn. Mae chwaer-blaid Plaid Cymru yn yr Alban yn mynnu ar ardystiad brechlyn, ardystiad llawn, ac nid ar chwarae bach y bydd y Llywodraeth honno wedi dod i'r casgliad hwnnw, bydd wedi gweld yr holl dystiolaeth SAGE a'r holl dystiolaeth arall sydd yno. Yn aml, nid yw'r dystiolaeth yn cyfeirio yn ddiamwys at un cyfeiriad ac yn dweud bod yr holl fanteision ar hyd y trywydd hwnnw, ac nad yw dim o'r manteision ar hyd y llall.

Rwyf i wedi gwrando yn astud ar yr hyn y mae'r Aelodau yma wedi ei ddweud am ardystiad brechlyn gorfodol, ac rwy'n rhannu llawer o'r pryderon sydd gan bobl. Nid yw hynny yn golygu na allwn i gael fy mherswadio gan dystiolaeth iechyd y cyhoedd y gallai hwnnw fod yn gam angenrheidiol, hyd yn os yw'n un anffodus, yng Nghymru. Nid tystysgrif yw'r pàs COVID. Gallwch gael pàs COVID heb gael eich brechu o gwbl, ond mae'n rhaid i chi ddangos bod gennych chi dystiolaeth arall na fyddai eich presenoldeb mewn digwyddiad yn achosi risg i bobl eraill. Fel pob cyfaddawd, mae ganddo rai cryfderau ac mae ganddo rai anfanteision hefyd, ond yng Nghymru mae'r Llywodraeth wedi dod i'r casgliad, am y tro, bod hyn yn taro'r cydbwysedd gorau rhwng y dadleuon y mae Adam Price wedi tynnu sylw atyn nhw'n briodol y prynhawn yma, ond y manteision sy'n dod, fel y gwelais i yn eglur iawn fy hun yn ystod y diwrnodau diwethaf, o fod â system lle mae'n rhaid i chi ddangos eich bod chi wedi cymryd y camau angenrheidiol i wneud eich hun, ac felly eraill, yn ddiogel.

Cyfarpar Diogelu Personol

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y defnydd o gyfarpar diogelu personol mewn cartrefi gofal yn Arfon? OQ56933

Diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiwn, Llywydd. Bydd angen i staff cartrefi gofal barhau i wisgo cyfarpar diogelu personol i ddiogelu preswylwyr a’u hunain rhag y risg o COVID‑19. Mae hyn yn cynnwys staff yng nghartrefi gofal Arfon. Rydym yn dal i ddarparu cyfarpar diogelu personol am ddim i gartrefi gofal i ymdrin â’r pandemig. 

Dydy hi dal ddim yn glir beth ydy'r sefyllfa o ran gweithwyr gofal yn y gymuned a'r defnydd o un rhan o offer PPE, sef y gynnau neu gowns. Mae yna nifer wedi cysylltu efo fi yn sgil pryderon eu bod nhw'n cael eu trin yn eilradd i'w cydweithwyr mewn settings clinigol am nad ydyn nhw'n gorfod gwisgo gynnau/gowns. Dyma un neges ges i: 

Pan fyddwn ni'n ceisio cadw cleientiaid positif allan o'r ysbyty ac amddiffyn eraill yn y gymuned, gwrthodir darn hanfodol o gyfarpar diogelu personol i ni.

Fedrwch chi gadarnhau beth yn union ydy'r sefyllfa pam fod gweithwyr yn cael eu trin yn wahanol, ac a fyddwch chi'n ailystyried? Yng ngeiriau fy etholwr i eto, dyma ddywedodd hi wrthyf i: 

Mae gofal cymdeithasol eisoes mewn argyfwng. Mae recriwtio a chadw staff gofal ar ei lefel isaf erioed, a bydd hyn ond yn gwaethygu'r sefyllfa ymhellach gan y bydd staff yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu diogelu, ac yn chwilio am waith arall.

14:05

Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y pwyntiau ychwanegol yna. Maen nhw'n bwysig, a dwi wedi clywed fy hunain o'r bobl sy'n gweithio yn y maes eu bod nhw'n teimlo yr un peth. Ond, trwy gydol y pandemig, mae natur y cyfarpar diogelu personol sydd wedi cael ei ddarparu i ofal cymdeithasol wedi cael ei arwain gan y pwyllgor arbenigol sydd yn darparu cyngor i'r Llywodraeth yma yng Nghymru a phob Llywodraeth arall yn y Deyrnas Unedig. Maen nhw'n edrych ar bopeth sy'n dod o'r maes, pob adroddiad sydd ar gael, ac mae eu cyngor nhw yn mynd at y pedwar prif swyddog meddygol a'r pedwar prif swyddog nyrsio, ac maen nhw'n rhoi y cyngor yn ôl atom ni sydd yn dweud, 'Dyna'r cyfarpar diogelu personol sy'n addas i bobl sy'n gweithio mewn cyd-destun A, cyd-destun B, ac yn y blaen'. Popeth maen nhw'n ddweud wrthym ni, ni'n rhoi—ni'n ariannu a rŷm ni'n rhoi. Os bydd y cyngor yn newid—ac maen nhw'n cadw'r cyngor o dan eu llygaid nhw drwy'r amser—bydd safbwynt y Llywodraeth yma yng Nghymru yn newid hefyd. Ond nid lawr i fi yw e, dwi'n meddwl, i fynd yn erbyn y cyngor rŷm ni'n ei gael oddi wrth bobl sydd lot fwy cyfarwydd gyda'r maes na fi. Pan fyddan nhw'n dweud, 'Dyna beth sy'n addas i'r cyd-destun yna,' dyna beth rŷm ni'n ei wneud.

Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb i Siân Gwenllian yn y fan yna. Rwy'n sicr yn cydymdeimlo â'r sylwadau a wnaed drwy Siân Gwenllian gyda'r geiriau gan berchnogion cartrefi gofal a gweithwyr cartrefi gofal. Mae'n anodd, rwy'n credu, i lawer ohonom ni ddeall y gwahaniaeth sylweddol hwnnw o ran diogelwch ar gyfer swyddi a thasgau sy'n ymddangos yn eithaf tebyg, rhwng gweithiwr iechyd a gweithiwr cymorth gofal, ond yn amlwg rydych chi wedi ateb y cwestiwn a ofynnwyd i chi yn hynny o beth.

Ar bwynt ychydig yn ehangach, o ran cyfarpar diogelu personol a'i gyflenwad, fe wnaethoch chi sôn am y cyflenwad am ddim i gartrefi gofal, sydd i'w groesawu, wrth gwrs. Ond wrth gwrs drwy gydol y pandemig, swyddogaeth awdurdodau lleol a chynghorau sir fu sicrhau bod y cyflenwad yn cyrraedd carreg drws cartrefi gofal a gweithwyr gofal cartref hefyd, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno eu bod nhw wedi gwneud gwaith anhygoel drwy'r cyfnod hwnnw o ran logisteg a chael y cyfarpar hwnnw i'r lleoedd sydd ei angen. Yng ngoleuni hynny, pa gynlluniau sydd gennych chi i sicrhau bod y cyflenwad hwn yn gallu parhau ac nad oes unrhyw bethau annisgwyl yn codi, yn enwedig dros fisoedd y gaeaf, o ran y galw am y cyflenwad hwn, fel bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu diogelu yn briodol? Diolch.

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am hynna. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn a ddywedodd am y gwaith anhygoel y mae awdurdodau lleol ym mhob rhan o Gymru wedi ei wneud, gan orfod paratoi eu hunain yn sydyn i ddarparu gwasanaeth na fu'n rhaid iddyn nhw ei ddarparu erioed cyn hynny. Rwy'n credu weithiau nad yw aelodau'r cyhoedd yn sylweddoli yn llwyr mai perchennog neu reolwr y cartref gofal eu hunain oedd yn gyfrifol am ddod o hyd i gyfarpar diogelu personol a thalu amdano ar gyfer cartref gofal tan y pandemig. Rhyngom ni, rhwng Llywodraeth Cymru, rhwng yr adran cydwasanaethau, a rhwng awdurdodau lleol, fe wnaethom ni lwyddo i sefydlu cadwyn gyflenwi gymhleth iawn. Ceir cannoedd ar gannoedd o gartrefi gofal yng Nghymru, heb sôn am y lleoliadau gofal cartref y cyfeiriodd Siân Gwenllian atyn nhw, felly rwy'n rhannu barn yr Aelod yn llwyr am y gwaith anhygoel a gafodd ei wneud i roi hynny ar waith. Rydym ni wedi sicrhau, Llywydd, y byddwn ni'n parhau i ariannu cyfarpar diogelu personol drwy awdurdodau lleol i gartrefi gofal tan ddiwedd y flwyddyn ariannol hon; mae 450 miliwn o eitemau wedi eu cyflenwi eisoes i'r sector gofal yma yng Nghymru, ac ar hyn o bryd mae gennym ni gyflenwad 24 wythnos o gyfarpar diogelu personol, ar draws yr holl wahanol ystodau, ym mhob warws, wrth i ni gychwyn y gaeaf hwn. Bydd yr Aelod yn gwybod, yn nyddiau cynnar iawn y pandemig, fod rhai gwendidau yn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'r rhain wedi cael sylw gofalus iawn, a gyda 24 wythnos eisoes yn y warws, rwy'n credu y gallwn ni fod yn hyderus drwy'r gaeaf.

Bydd yr hyn sy'n digwydd y tu hwnt i ddiwedd mis Mawrth eleni yn dibynnu'n fawr iawn ar yr hyn y byddwn ni'n ei ddysgu o'r adolygiad cynhwysfawr o wariant ddiwedd mis Hydref, a pha un a fydd cyllid parhaus ar draws y Deyrnas Unedig i barhau i ddarparu'r cyflenwadau rydym ni'n gallu eu darparu ar hyn o bryd.

14:10
Datblygu Economaidd yn y Cymoedd

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fentrau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru yng nghymoedd de Cymru? OQ56899

Mae gweinidogion yn cymryd diddordeb uniongyrchol yn natblygiad economaidd cymoedd y de. Mae fy nghyd-Weinidog Dawn Bowden yn cydgysylltu camau gweithredu sy'n parhau i lifo o waith tasglu'r Cymoedd. Yr wythnos diwethaf, roedd Gweinidog yr economi a minnau yn etholaeth yr Aelod ar adegau gwahanol, yn mynd ar drywydd buddsoddiad mewn swyddi, sgiliau a dyfodol economaidd.

Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Roedd yn dda eich gweld chi'n ymweld â Ciner yng Nglynebwy ac yn edrych ar botensial y buddsoddiad hwnnw o £350 miliwn sy'n digwydd yn yr etholaeth, ac yn dda, wedyn, y diwrnod canlynol, gweld Vaughan Gething yn parhau â pherthynas agos â Thales, sy'n rhan o fuddsoddiad £100 miliwn y Cymoedd Technoleg yn economi Blaenau Gwent.

Gyda'i gilydd, wrth gwrs, yr hyn y mae hyn yn ei wneud yw dangos unwaith eto pam y cefnogodd pobl Blaenau Gwent Lywodraeth Cymru fis Mai diwethaf a pharhau i gefnogi'r rhaglen fuddsoddi y mae Llywodraeth Cymru yn ei harwain ym Mlaenau Gwent ac ar draws Blaenau'r Cymoedd.

A fyddai'n barod i gyfarfod â mi nawr i drafod sut y gallwn symud hyn i fyny i lefel arall i sicrhau y gall y manteision y byddwn ni'n eu gweld o gwblhau gwaith deuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd yn fy etholaeth i er mwyn sicrhau ein bod ni nawr yn cael y cynllun swyddi a'r budd economaidd a all arwain at ddadeni gwirioneddol yn y trefi ym Mlaenau'r Cymoedd?

Llywydd, rwy'n ddiolchgar iawn i Alun Davies am y cwestiwn atodol yna. Roeddwn i'n falch iawn o fod yng Nglynebwy yr wythnos diwethaf. Roeddwn i yno gan mai dyna'r diwrnod yr oedd Ciner, y cwmni sy'n bwriadu dod i fuddsoddi yng Nglynebwy, yn cyflwyno eu cais cynllunio ffurfiol. Cefais i gyfle i glywed ganddyn nhw am yr ymarfer cyn-ymgeisio roedden nhw wedi bod yn rhan ohono a'r gwahanol safbwyntiau yr oedden nhw wedi eu casglu yn rhan o hynny. Bydd y cais hwnnw yn symud at ei ystyriaeth ffurfiol bellach. Mae'n gyfle enfawr, os gellir ei wireddu, ac roeddwn i'n falch iawn o fod yno.

Rwyf i wedi clywed Alun Davies droeon yn gwneud y pwynt bod ffordd Blaenau'r Cymoedd yn llawer iawn mwy na ffordd; mae'n gatalydd ar gyfer cyfleoedd economaidd ar draws Blaenau'r Cymoedd a'r cymunedau yno. Mae'n rhaid i ni—rwy'n cytuno ag ef yn llwyr—wneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio'r gwerth £1 biliwn hwnnw o fuddsoddiad y mae Llywodraethau Llafur olynol wedi ei wneud i gwblhau gwaith deuoli'r ffordd—yr A465—a'n bod ni wedyn yn rhoi hwnnw ar waith i wneud yn siŵr ei fod y catalydd hwnnw ar gyfer dyfodol economaidd. Rwy'n hapus iawn yn wir i gyfarfod ag ef am sgwrs ynghylch sut y gallwn ni sicrhau bod hynny yn digwydd.

Prif Weinidog, rwy'n falch o'ch clywed chi'n sôn am ffyrdd yn eich ateb yn y fan yna i Alun Davies. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod 78 y cant o'r nwyddau sy'n cael eu symud yn y DU yn cael eu cludo ar ffyrdd, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno mai un o'r pethau allweddol i ddatblygu economaidd effeithlon yng Nghymoedd y de yw seilwaith trafnidiaeth da.

Byddwch chi'n cofio i Lywodraeth Geidwadol y DU ddiddymu'r tollau ar bontydd Hafren yn 2018. Felly, mae'r newyddion bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno tollau neu gynlluniau codi tâl ar y ffyrdd ar ffyrdd Cymru yn siom ofnadwy. Sut byddwch chi'n sicrhau na fydd unrhyw dollau neu gynlluniau codi tâl ar y ffyrdd yn cael effaith niweidiol ar ddatblygu economaidd, a pha sicrwydd allwch chi ei roi nad codi refeniw fydd unig nod y cynlluniau hyn?

Llywydd, gallwn i dreulio cryn amser, mewn gwirionedd, yn ceisio gwneud yn siŵr bod yr Aelod yn deall yr hyn sy'n cael ei gynnig mewn gwirionedd, ond rwy'n siŵr na fyddech chi eisiau i mi wneud hynny. Gadewch i mi geisio crynhoi mor fyr ag y gallaf: nid oes unrhyw gynigion ar gyfer codi tâl ar y ffyrdd mewn unrhyw ystyr gyffredinol. Mae'n rhwymedigaeth gyfreithiol arnom ni i sicrhau bod y rhannau hynny o'r rhwydwaith lle mae crynodiadau nitrogen deuocsid yn uwch na'r terfynau cyfreithiol—ein bod ni'n cymryd yr holl gamau angenrheidiol i'w lleihau.

Mae gennym ni gynllun—cynllun wedi ei ariannu—i wneud hynny, ond mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni ystyried ystod o fesurau eraill pe na bai'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn llwyddo. Ac mae'n ddyletswydd gyfreithiol arnom ni i ystyried y mesurau lliniaru posibl eraill hynny. Dyna pam y bu sôn am godi tâl ar y ffyrdd, oherwydd dyna un o'r pethau amgen y mae'n rhaid i ni eu hystyried er mwyn dangos ein bod ni'n cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol—nid oherwydd ein bod ni'n bwriadu gwneud hynny; nid oes unrhyw gynlluniau o'r fath. Rydym ni'n gobeithio y bydd yr hyn yr ydym ni eisoes yn ei wneud—y terfynau cyflymder 50 mya a mesurau lliniaru eraill—yn ddigon i ddod ag ansawdd aer o fewn terfynau'r gyfraith. Ond mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni, rhag ofn na fydd hynny'n llwyddo, weithio gyda chymunedau lleol drwy fesurau eraill a allai fod yn angenrheidiol, a dyna le mae tarddiad y stori hon.

14:15
Cefnogi Canol Trefi

5. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi canol trefi? OQ56935

Diolchaf i'r Aelod, Llywydd. Ein blaenoriaeth ar gyfer canol trefi yw cynorthwyo'r ailddyfeisio sydd ei angen i sicrhau eu dyfodol hirdymor. Mae hynny'n gofyn am gymysgedd newydd o ddibenion canol tref, gan gynnwys manwerthu, hamdden, diwylliant, gwasanaethau cyhoeddus, cyfleusterau gwaith a rennir a mannau byw, gan wneud y lleoedd hyn unwaith eto yn destun balchder a hunaniaeth ddinesig, hyder a llesiant.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Canol trefi, wrth gwrs, yw curiad calon ein cymunedau, ond mae rhai adroddiadau diweddar, fel adroddiad Archwilio Cymru, 'Adfywio Canol Trefi yng Nghymru', yn braslunio'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu. Rwy'n croesawu sylwadau cadarn Llywodraeth Cymru ar sut y bydd Gweinidogion yn mynd i'r afael â llawer o'r materion hyn drwy, er enghraifft, ganol trefi yn gyntaf a symleiddio prosesau ariannu. Fodd bynnag, nododd Archwilio Cymru hefyd faterion yn ymwneud â chapasiti ar lefel llywodraeth leol. Pan fo cymaint o bwysau eisoes ar yr haen hon, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau y gallan nhw gynorthwyo canol trefi yn eu hardaloedd?

Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd, ac rwy'n cytuno, wrth gwrs, bod awdurdodau lleol yn gwbl hanfodol i'r agenda adfywio canol trefi ledled Cymru. Ceir llawer iawn o enghreifftiau gwych o gamau gweithredu sy'n cael eu harwain gan ein hawdurdodau lleol sy'n rhoi bywyd newydd i'r lleoedd hynny.

Nawr, ar sail Cymru gyfan, y grŵp gweithredu gweinidogol ar ganol trefi sy'n gyfrifol am hyn. Fy nghyd-Weinidog Lee Waters sy'n ei gadeirio; cyfarfu ddoe. Ymhlith ei aelodau mae uwch wleidyddion o lywodraeth leol, uwch swyddogion o CLlLC, a phrif weithredwr Un Llais Cymru, gan wneud yn siŵr bod llais llywodraeth leol yn cael ei glywed yn eglur iawn yn y trafodaethau hynny. Bydd y grŵp bellach yn canolbwyntio ar argymhellion adroddiad Archwilio Cymru y cyfeiriodd Vikki Howells ato, a hefyd adroddiad diweddar yr Athro Karel Williams, a ddangosodd ddiddordeb arbennig, fel y bydd rhai Aelodau yma yn gwybod, mewn trefi fel Hwlffordd, a dod o hyd i ffordd o sicrhau dyfodol llewyrchus iddyn nhw hefyd. Bydd y ddau adroddiad hynny yn ffurfio'r agenda ar gyfer y grŵp gweithredu hwnnw, a bydd awdurdodau lleol, yn y ffordd yr awgrymodd Vikki Howells, yn rhan annatod o'r gwaith hwnnw.

Mynediad at Wasanaethau Meddygon Teulu

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau meddygon teulu yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ56936

Diolchaf i'r Aelod. Mae gwasanaethau gofal sylfaenol ledled Cymru yn wynebu galw cynyddol yn sgil afiechydon nad ydyn nhw'n gysylltiedig â COVID, darparu'r rhaglen brechiadau ffliw ac atgyfnerthu, yn ogystal â heriau'r pandemig parhaus. Mae meddygon teulu a'u cydweithwyr clinigol yn y gogledd yn gwneud ymdrechion enfawr i gadw eu poblogaethau yn ddiogel yn y cyfnod eithriadol sydd ohoni.

Diolch. Prif Weinidog, mae nifer cynyddol o etholwyr wedi codi pryderon am eu gallu i sicrhau apwyntiad wyneb yn wyneb â meddygon teulu lleol, gyda rhai yn cael eu hysbysu dro ar ôl tro fod pob apwyntiad yn eu meddygfa wedi eu llenwi yn rheolaidd—galwadau ffôn niferus yn ddyddiol ac eto'n methu â sicrhau unrhyw apwyntiadau. Wrth gwrs, mae'r defnydd o apwyntiadau ar-lein a dros y ffôn wedi bod yn rhan allweddol o'r ymateb i fynd i'r afael â'r galw a achoswyd gan COVID, ond ni all neu ni wnaiff pawb ystyried y dulliau hyn ar gyfer materion iechyd personol preifat a sensitif o'r fath. Y flwyddyn gynt, canfu Age Cymru fod naw o bob 10 o bobl 75 oed neu hŷn wedi ymgynghori â'u meddyg teulu yn ystod y cyfnod hwn. Felly, pan edrychwch chi ar y niferoedd sy'n derbyn yr ymgynghoriadau hyn bellach, mae'r mesurau hyn yn rhwystr. Mae gen i feddygon teulu yn codi eu pryderon gyda mi hefyd ynghylch y diffyg ambiwlansys pan fyddan nhw angen gwneud atgyfeiriadau. Felly, a wnewch chi ymrwymo heddiw i adolygu'r canllawiau a'r cymorth sydd ar gael i'n meddygon teulu er mwyn galluogi rhyngwyneb llawer haws a mwy rheolaidd gyda chleifion? A hefyd, gan fod sgrinio ceg y groth yn hollbwysig yn ein meddygfeydd teulu, a natur hanfodol sicrhau bod pawb sydd â cheg y groth yn cael sgriniadau critigol, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â Syr Keir Starmer—[Torri ar draws.]—ei bod hi'n drawsffobig dweud mai dim ond menywod sydd â cheg y groth?

14:20

Gallwch ddewis ateb un o'r ddau gwestiwn hynny; nid oes angen i chi ateb y ddau.

Diolch, Llywydd. Wel, mi wnaf i ateb y cwestiwn nad oedd yn ymgais i wneud pwynt gwleidyddol noeth yn unig, oherwydd fe wnaeth yr Aelod gyfres o bwyntiau pwysig yn rhan gyntaf ei chwestiwn. Edrychwch, mae atebion technolegol i ymgynghoriadau meddygon teulu yma i aros. Maen nhw'n rhan bwysig ac annatod erbyn hyn o'r ffordd y bydd gwasanaethau gofal sylfaenol yn cael eu darparu yn y dyfodol. Ond mae cyfran yr ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal wyneb yn wyneb yn cynyddu drwy'r amser; rwy'n credu ei bod hi yn ôl i tua hanner yr ymgynghoriadau yng Nghymru bellach sy'n ymgynghoriadau wyneb yn wyneb. Ac rwy'n credu mai'r ateb y mae'n rhaid i mi ei roi i'r Aelod yw bod yn rhaid i ni fod yn barod i ymddiried yng nghrebwyll clinigwyr. Nhw sydd yn y sefyllfa orau i wybod a ellir darparu gwasanaeth i rywun yr un mor effeithiol drwy sgwrs ffôn neu ymgynghoriad drwy gyswllt fideo, neu a oes angen i'r person gael ei weld wyneb yn wyneb. Nawr, mae angen y dechnoleg arnoch i ategu hynny, ac rwy'n gwybod bod rhai meddygfeydd teulu yn etholaeth yr Aelod ei hun lle bu buddsoddiad diweddar i wneud yn siŵr bod gwell gwasanaeth ffôn fel bod pobl yn gallu cysylltu dros y ffôn a chael yr ymgynghoriad sydd ei angen arnyn nhw. Ond pan fydd hynny ar waith yn iawn, rwy'n credu mai barn glinigol yw hi o ran pa un a ellir trin y claf yr un mor effeithiol drwy'r llwybr technolegol neu a oes angen i rywun gael apwyntiad wyneb yn wyneb—am resymau da iawn, yn aml.

Yswiriant Gwladol

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y codiadau arfaethedig mewn yswiriant gwladol ar y sector cyhoeddus yng Nghymru? OQ56934

Diolchaf i Joyce Watson, Llywydd. Bydd y cynnydd arfaethedig i yswiriant gwladol yn cael effaith niweidiol ar wasanaethau cyhoeddus Cymru mewn nifer o ffyrdd. Bydd cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, er enghraifft, yn cynyddu costau i'r holl wasanaethau cyhoeddus, tra bydd cyfraniadau cyflogeion yn cael eu hysgwyddo yn anghymesur gan weithwyr â chyflogau is sy'n gwneud cymaint i ddarparu'r gwasanaethau hyn yng Nghymru.

Diolch am hynna. Mae'n ddigon drwg bod hwn yn gynnydd treth gorfodol ar bobl sy'n gweithio yng Nghymru, ond mae'n rhaid iddo beidio â bod yn faich ariannol a gweinyddol ar ein gwasanaethau cyhoeddus hefyd. Felly, pa drafodaethau mae eich gweinyddiaeth chi wedi eu cael gyda Llywodraeth San Steffan i sicrhau bod cyflogwyr sector cyhoeddus Cymru yn cael eu digolledu a'u cynorthwyo yn llawn i dalu a gweinyddu'r taliadau treth newydd?

Diolchaf i Joyce Watson am yr hyn sy'n gwestiwn pwysig iawn. Ein hamcangyfrif cychwynnol yw y bydd y gost uniongyrchol i wasanaethau cyhoeddus Cymru o gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr rywle rhwng £80 miliwn a £90 miliwn y flwyddyn, ac nid yw hynny'n cynnwys unrhyw staff dan gontract a allai fod ganddyn nhw, fel y bydd yn gyffredin iawn ym maes gofal cymdeithasol. Mae arnaf i ofn, Llywydd, mai'r ateb i gwestiwn yr Aelod, mae'n debyg, yw 'Ni fyddwn ni byth yn gwybod', oherwydd bydd gennym ni anhryloywedd fformiwla Barnett wedi ei lapio mewn adolygiad cynhwysfawr o wariant, ac nid oes gen i unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd Llywodraeth y DU yn honni bod yr holl gostau hynny rywsut wedi eu bodloni gan y symiau y maen nhw'n eu deillio wedyn o'r ymarfer hwnnw. Bydd yn anodd iawn yn wir gweld a yw hynny'n wir mewn gwirionedd, neu ai dim ond y lledrithiau arferol yr ydym ni'n eu gweld o gwmpas adegau gwario. Yr hyn sydd yn sicr, Llywydd, yw hyn: o'r arian y mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yn cael ei fuddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd 12 y cant llawn ohono yn dod o gyfraniadau yswiriant gwladol pobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, y bobl sy'n gwneud y gwaith yw'r rhai y gofynnir iddyn nhw dalu am yr arian sy'n cael ei ddarparu. Dyna pam rydym ni wedi dweud o'r cychwyn nad yswiriant gwladol oedd y cyfrwng cywir i ddarparu'r cyllid angenrheidiol iawn ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol hynny.

14:25
Troseddau Gwledig

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu i leihau troseddau gwledig? OQ56909

Diolch i'r Aelod. Yn ogystal â chynyddu nifer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a ariennir gan Lywodraeth Cymru i 600, rydym hefyd yn buddsoddi mewn cydgysylltydd troseddau gwledig cenedlaethol newydd i Gymru. Bydd y swydd honno'n sefydlu rhaglen hyfforddi sy'n benodol i Gymru ar gyfer swyddogion yr heddlu ac yn gwella ymdrechion amlasiantaethol i fynd i'r afael â throseddau gwledig.

Diolch, Prif Weinidog. Mae troseddu yng nghefn gwlad yn achosi gofid difrifol i'n cymunedau gwledig, ac mae dwyn cerbydau amaethyddol, aflonyddu defaid a fandaleiddio ardaloedd nythu bywyd gwyllt i gyd wedi cael eu hadrodd yn ystod y misoedd diwethaf. Fel aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Cymru, mae'r rhain yn faterion yr wyf i'n ymwybodol iawn ohonyn nhw, ac, fel yr ydych chi'n sôn, rydym ni'n ffodus bod gan Rob Taylor, cydgysylltydd bywyd gwyllt a throseddu gwledig Cymru yn angerddol ac yn hynod benderfynol o leihau troseddu gwledig ledled Cymru drwy ddull cydlynol a chydweithredol rhwng heddluoedd Cymru. Ac er bod y swydd hon yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd y cyllid hwnnw yn dod i ben ymhen ychydig fisoedd. Felly, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i gymunedau gwledig Cymru y bydd y cydgysylltydd bywyd gwyllt a throseddau gwledig yn cael cyllid tymor hwy i sicrhau nad yw Rob, ei arbenigedd a'i frwdfrydedd, yn cael eu colli yn y frwydr yn erbyn troseddu gwledig? Diolch.

Diolch yn fawr. Diolch am yr hyn a ddywedodd Samuel Kurtz ynghylch y person a gafodd ei benodi i'r swydd, oherwydd rydych chi'n hollol iawn, mae e'n rhywun sydd â llawer iawn o brofiad ac angerdd enfawr am y gwaith. Fe wnaethom ni ddweud yn y dechrau y byddem ni'n gwneud hyn, Llywydd, ar sail cynllun treialu i weld a oedd yn cyflawni'r manteision sydd i'w cyflawni, yn ein barn ni. Byddwn ni'n gwerthuso'r cynllun treialu, wrth gwrs, ac yna bydd yn rhaid i ni wneud y penderfyniadau anodd sydd yno pan fyddwn ni'n dod i bennu ein cyllideb ein hunain yng ngoleuni'r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Os yw'r dystiolaeth yno o lwyddiant, a gwn y bydd yr Aelod wedi gweld—. Nid dibrisio'r holl bwyntiau pwysig a wnaeth ef ynghylch natur troseddu gwledig yw hyn, ond roedd yn galonogol gweld adroddiad Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr mai Cymru o bo rhan arall o'r DU a oedd wedi gweld y gostyngiad mwyaf mewn lladrad gwledig rhwng 2019 a 2020. Pan fydd yn digwydd, mae'n peri gofid mawr i bobl yn y ffordd y dywedodd yr Aelod. Mae'r cydgysylltydd troseddu gwledig cenedlaethol yn un o'r ffyrdd y gallwn ni geisio datblygu'r cyflawniad diweddar hwnnw ymhellach.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.

Diolch. Does gen i ddim newidiadau i'w cyhoeddi i'r busnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Diolch am y datganiad busnes. A gaf i alw am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda—y cyntaf gan y Gweinidog addysg ynghylch a oes tystysgrifau arholiad ar gael ai peidio gan CBAC? Mae etholwr wedi cysylltu â mi yr wythnos hon sy'n awyddus iawn i gychwyn ar radd nyrsio, ond mae wedi gorfod ei gohirio ddwywaith oherwydd nad yw'n gallu cael gafael ar gopïau o'i dystysgrifau arholiad gan CBAC. Maen nhw'n dweud nad ydyn nhw'n gallu eu cyhoeddi oherwydd COVID a'r pandemig, ond mae'n ymddangos yn beth rhyfeddol bod rhywun wedi gorfod gohirio pethau nawr am ddwy flynedd academaidd o ganlyniad i'r ffaith nad yw'r rhain ar gael, felly byddwn i'n ddiolchgar os gallai'r Gweinidog wneud datganiad ar hynny.

Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad ar dreftadaeth canol trefi? Sylwais i ar sylwadau'r Prif Weinidog yn gynharach, ac, wrth gwrs, mae angen i ni wneud ymdrech i adfywio canol ein trefi yma yng Nghymru, ond mae'n rhaid i hynny beidio â bod ar draul treftadaeth leol yn ein cymunedau, ac mae rhai enghreifftiau gwych o bobl yn fy etholaeth i ym Mae Colwyn gydag ap treftadaeth Dychmygwch Fae Colwyn, sy'n mynd yn fyw yr wythnos hon, ac yn Rhuthun gyda phrosiect adnewyddu cofeb Peers, sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Cloc y dref yn Rhuthun yw cofeb Peers, ar sgwâr San Pedr, i'r rhai sydd wedi bod yno, ac mae'n ganolbwynt i'r dref. Ond mae angen cyllid ar y mathau hyn o brosiectau, mae angen cymorth arnyn nhw, er mwyn parhau i gynnal yr agweddau pwysig hyn ar ein treftadaeth. Felly, efallai y gallwn ni gael datganiad ar y pethau hyn a sut y gallwn ni ategu adfywio ein canol trefi â threftadaeth yn y dyfodol.

Diolch. O ran eich cwestiwn cyntaf ynghylch pobl nad ydyn nhw'n derbyn tystysgrifau gan CBAC, fe wnaf i yn sicr ofyn i'r Gweinidog addysg os yw ef neu unrhyw un o'i swyddogion wedi cael trafodaethau ynghylch y mater hwn, ac, os oes unrhyw beth cadarnhaol y gall ei nodi yn dilyn y trafodaethau hynny, fe ofynnaf iddo ysgrifennu atoch chi.

Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch treftadaeth yng nghanol ein trefi. Roeddwn i'n falch iawn—gan wisgo fy het Gweinidog y gogledd—i ymweld â'r amgueddfa, sydd wedi'i hadnewyddu, yn Llandudno ddydd Iau diwethaf. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod canol ein trefi ni'n cadw'r dreftadaeth ryfeddol sydd gan gynifer ohonyn nhw.

14:30

Diolch, Drefnydd. Mi fyddwch chi'n ymwybodol o'r twf aruthrol yn achosion COVID yn ein hysgolion ni. Yn yr wythnos ddiwethaf, mae yna 9,500 o achosion wedi bod ymhlith pobl ifanc o dan 20 mlwydd oed—y rhan fwyaf ohonyn nhw yn ein hysgolion. Flwyddyn yn ôl, roedd yna reolau clir mewn lle yn yr ysgolion o ran gorchudd wyneb, awyru, pellter cymdeithasol, ac yn y blaen. Ac yn wir, mae gwyddonwyr independent SAGE yn argymell yn gryf y dylid ailgyflwyno mesurau o'r fath yn ein hysgolion heddiw. Mae plant i ffwrdd yn sâl heb ddysgu digidol o bell yn cael ei gynnig iddyn nhw, ac felly llawer yn colli allan ar eu haddysg, a nifer o athrawon yn methu mynd i'r ysgol, ac ysgolion yn cael trafferth cynnal dosbarthiadau. Ar yr un pryd, nid yw'r rheolau'n glir i rieni pwy sydd i fod i gael ei ynysu a phwy sy'n cael mynd i'r ysgol ai peidio os ydyn nhw mewn dosbarth efo rhywun positif. Mae'r drefn, yn wir, yn llanast. Yn wir, mae'n arwain rhai i feddwl tybed ai'r bwriad ydy cael imiwnedd gyrr ymhlith plant a disgyblion. Trefnydd, yng ngoleuni hyn, felly, a wnewch chi sicrhau bod y Gweinidogion addysg ac iechyd yn dod â datganiad brys o flaen y Senedd, yn cynnwys rheoliadau clir am sut y mae rheoli COVID yn ein sefydliadau addysgiadol, os gwelwch yn dda?

Diolch. Rwy'n anghytuno â'r Aelod bod y system yn llanastr. Rydym, yn amlwg, yn deall y pryderon sydd wedi'u codi o ran materion sy'n ymwneud â hunan-ynysu a chysylltiadau cartref yn ein hysgolion. Ein blaenoriaeth ni yn sicr yw sicrhau bod cynifer o bobl ifanc mewn addysg â phosibl, fel nad oes gennym ni'r materion y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw o ran dysgu yn y cartref. Rydym ni'n glir iawn beth yw ein sefyllfa bresennol, ac mae hyn wedi cael ei gyfleu i bob ysgol. Ymwelais i ag un ysgol fy hun, yn fy etholaeth i, ddydd Gwener, a gofynnais i'r pennaeth yno a oedd yn teimlo bod y canllawiau presennol yn glir, ac atebodd, 'ydyn'.

Mae etholwr sy'n byw gydag ME wedi cysylltu â mi, cyflwr a elwir fel arall yn syndrom blinder cronig, ac mae hi'n pryderu ynghylch penderfyniad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i ohirio cyhoeddi ei ganllawiau diwygiedig newydd ar gyfer trin ME. Ac mae grwpiau ymgyrchu ar gyfer pobl sy'n byw gydag ME yn credu bod yr oedi hwn wedi'i achosi gan nifer fach o gyrff proffesiynol yn gwthio'n ôl yn erbyn newidiadau yn y canllawiau diwygiedig. Ysgrifennais i at NICE, a ymatebodd gan ddweud eu bod yn cynnull cyfarfod bord gron y mis nesaf, i geisio cyrraedd cyfaddawd, ond nid yw rhai o'r grwpiau ymgyrchu yn fodlon ac maen nhw'n credu bod NICE yn torri ei brotocolau ei hun wrth ohirio cyhoeddi. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr hyn y gall Llywodraeth Cymru, os o gwbl, ei wneud sy'n briodol i roi pwysau ar NICE i gyhoeddi ei ganllawiau diwygiedig cyn gynted â phosibl, er budd pobl sy'n byw gyda syndrom blinder cronig?

A hoffwn i hefyd ofyn am ddatganiad ar bobl sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd. Mae gen i etholwyr sy'n byw ger afon sy'n achosi erydu yng nghefn eu heiddo. Gwnaethom ni gyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu heiddo. Byddai disgwyl i un preswylydd dalu £36,000 dim ond i atal erydu. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud nad oes ganddyn nhw bwerau i gyhoeddi unrhyw fath o gyllid ar gyfer materion erydu. Rydym ni'n teimlo bod grŵp o drigolion wedi'u dal yn y canol. Nid ydyn nhw'n wynebu llifogydd ar unwaith, ond mae'n rhaid iddyn nhw gymryd camau nawr i'w atal yn y dyfodol, ond nid oes cyllid ar gael iddyn nhw i gefnogi'r hyn a fyddai fel arall yn ddulliau atal perygl llifogydd hirdymor nid oes modd ei fforddio. Felly, a gawn ni ddatganiad am y bobl hynny sydd wedi'u dal yn y canol rhwng llifogydd uniongyrchol nawr a llifogydd posibl yn y dyfodol?

Diolch. Fel Llywodraeth, roeddem ni'n siomedig iawn na chafodd canllawiau NICE eu cyhoeddi. Nid yw'n ddyfarniad ar y cynnwys na'r driniaeth arfaethedig, mae'n ymwneud â'r modd y cafodd y cyhoeddiad wedyn ei ohirio. Rwy'n gwybod bod swyddogion y Gweinidog iechyd wedi cysylltu â NICE i godi pryderon Llywodraeth Cymru, a cheisio darganfod beth fydd eu camau nesaf i oresgyn y mater. Mae trafodaeth ford gron wedi'i chadeirio'n annibynnol i'w chynnal gyda NICE a rhanddeiliaid allweddol ym mis Hydref, ac rydym ni'n sicr yn edrych ymlaen at gael consensws, ac rwy'n credu mai'r amser hynny fyddai'r amser mwyaf priodol i'r Gweinidog iechyd wneud datganiad, pe bai hi'n teimlo mai dyma'r cyfeiriad cywir i fynd iddo.

O ran eich ail gwestiwn, byddwn i'n eich cynghori i ysgrifennu'n uniongyrchol at y Gweinidog Newid Hinsawdd, oherwydd efallai y bydd yn gallu cynghori'ch etholwyr ynghylch unrhyw gyllid penodol a allai fod ar gael.

14:35

A gaf i alw am ddadl yn y Siambr hon ar fater yr hyn y mae modd ei wneud i ddarparu teithio mwy diogel ar gyfer marchogion ceffylau yng Nghymru? Mae perchnogaeth ceffylau yng Nghymru werth dros £0.5 biliwn i economi Cymru, ac mae'n rhan hanfodol o iechyd a lles llawer o bobl. I berchnogion ceffylau, mae marchogaeth ac ymarfer eu ceffylau yn rhan annatod o'u bywydau, ac yn rhywbeth y mae angen ei amddiffyn yn fwy. Mae marchogaeth ceffylau ar y ffyrdd wedi dod yn fwyfwy peryglus. Mae Cymdeithas Ceffylau Prydain wedi adrodd, drwy eu hymgyrch Dead Slow, fod 1,010 o achosion yn ymwneud â cheffylau wedi bod eleni; 46 o geffylau wedi'u lladd; a 118 o geffylau wedi'u hanafu yn y DU. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig newidiadau i'r cod priffyrdd, nid yw hyn yn newid y ffaith bod 80 y cant o achosion yn digwydd oherwydd bod gyrwyr yn teithio'n rhy agos at geffylau.

Bydd y ddadl hefyd yn amserol iawn, oherwydd, fel y mae rhai Aelodau'n gwybod, ddydd Sul, 19 Medi, cynhaliodd marchogion ceffylau ledled Cymru brotest i alw am gynlluniau teithio llesol i'w cynnwys nhw. Maen nhw'n dadlau bod llawer o lwybrau ceffylau wedi'u hisraddio i lwybrau troed, sydd wedi dileu llwybrau hanfodol i geffylau a'u marchogion, gan eu gorfodi i ddefnyddio ffyrdd i deithio arnyn nhw. Byddwn i'n gofyn am y ddadl hon fel mater brys. Byddai'n caniatáu i Aelodau gyflwyno profiadau marchogion ceffylau o bob rhan o'u rhanbarthau a thrafod cynigion y byddai modd eu rhoi ar waith i helpu i ddiogelu ceffylau a marchogion. Dylai'r ddadl hefyd drafod cynnwys marchogion yng nghynlluniau teithio llesol Llywodraeth Cymru. Diolch.

Diolch. Roeddwn i'n ymwybodol o'r ymgyrch a ddigwyddodd ar 19 Medi, a gwn i fod nifer o gyd-Aelodau wedi bod yn bresennol mewn digwyddiadau yn eu hetholaethau ynghylch y mater. Fel y dywedwch chi, ar hyn o bryd, fel Llywodraeth, rydym ni'n edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud o amgylch y cod priffyrdd, er enghraifft, a mathau eraill o deithio llesol. Felly, nid wyf i'n credu y byddai datganiad yn briodol ar hyn o bryd.

Drefnydd, mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel mewn mannau cyhoeddus, boed hynny ar drafnidiaeth gyhoeddus, wrth gerdded ar y stryd, neu mewn unrhyw fan arall. Ond, yn anffodus, dro ar ôl tro, rydym ni'n clywed am achosion o drais gwrywaidd yn erbyn menywod yn y mannau hyn. Rydym ni oll, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r hyn ddigwyddodd yn Llundain i Sabina Nessa, athrawes 28 oed a gafodd ei llofruddio tra'n cerdded o'i chartref, am tua hanner awr wedi wyth y nos, i'w thafarn leol, taith o ryw ychydig o bum munud.

Mae trais gwrywaidd yn erbyn menywod yn broblem yma yng Nghymru, fel y mae dros y Deyrnas Gyfunol wrth gwrs, ac mae'n rhaid rhoi diwedd arno. Ei atal, yn hytrach na'i reoli. A wnaiff y Llywodraeth, felly, ddatganiad i'n diweddaru ni ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud i gryfhau'r strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan amlinellu'r camau i gryfhau diogelwch menywod ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn mannau cyhoeddus ac ar-lein fel rhan o'r strategaeth, ac amserlen ynghylch cyflawni hyn? Diolch.

Diolch. Bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud datganiad y prynhawn yma—datganiad ysgrifenedig.

Alun Davies. Mae'n ddrwg gennyf i, Alun, nid oedd yn fater o fod yn amharod i'ch galw chi, ond methais ddod o hyd i'r enw ar fy rhestr. [Chwerthin.]

Rwy'n siŵr nad oedd. Nid y tro hwn, na. [Chwerthin.] Gweinidog, gofynnais i yr wythnos diwethaf, am ddatganiad ar argyfyngau sifil posibl. Ers datganiad busnes yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld rhagor o anhrefn ledled Cymru, ac mae etholwyr wedi bod yn dweud wrthyf i nad yw pobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau brys, pobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau gofalu, yn gallu cyrraedd eu mannau gwaith oherwydd y problemau o ran cael tanwydd. Mae hyn wedi bod yn drychineb llwyr ac mae wedi'i achosi gan—. Rydym ni'n gwybod bod methiannau polisi wedi bod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mae'r methiant i gydnabod, a chynllunio ar gyfer Brexit, wrth gwrs, wrth wraidd hyn. Roedd cynllunio argyfyngau sifil Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar gyfer nifer o wahanol achosion, gan gynnwys y materion hyn, fel rhan o gynllunio Brexit heb gytundeb. Hoffwn i gael datganiad, os yw'n bosibl, ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru helpu pobl ledled y wlad sy'n wynebu'r anhrefn y maen nhw yn ei hwynebu ar hyn o bryd.

Hoffwn i hefyd ofyn am ddatganiad ar gymorth busnes ar ôl i'r ffyrlo ddod i ben, a sut y gallwn ni gefnogi pobl mewn gwaith, wrth i ni weld cefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn dod i ben ar hyn o bryd. Mae nifer o fusnesau sydd wedi cysylltu â mi, ym Mlaenau Gwent, sy'n pryderu'n fawr am eu gallu i gynnal cyflogaeth, ac mae'n bwysig ein bod ni'n gallu cefnogi a chynnal busnesau, wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gerdded i ffwrdd o'u cyfrifoldebau a'r busnesau hynny.

14:40

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n sicr yn gywir yn y ffaith nad oedd gan Lywodraeth y DU y cynllunio hirdymor hwnnw y dylem ni fod wedi'i gael, ac yn sicr, rydym ni wedi gweld golygfeydd anhrefnus dros y penwythnos. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn dweud nad oes prinder tanwydd yn y DU, ac rydym ni'n parhau i annog pobl i brynu tanwydd fel y bydden nhw fel arfer. Mae rhan argyfyngau sifil posibl Llywodraeth Cymru yn trafod ar hyn o bryd. Rwy'n ymwybodol o gyfarfodydd y bore yma, ac yn sicr, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog gyflwyno datganiad i'r Aelodau ar yr adeg fwyaf priodol.

Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod bod dod â'r ffyrlo i ben ddydd Iau, unwaith eto, yn rhy fuan. Byddai'n well gennym ni ei weld yn parhau, oherwydd mae'n amlwg ein bod ni yn dal i fod yng nghanol pandemig COVID. Yn amlwg, fel Llywodraeth, prin yw'r cyllid sydd gennym ni a phrin yw'r dulliau o ran hyn. Felly, gwn i fod Gweinidog yr Economi yn parhau i gael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr hyn y gallwn ni ei wneud i gefnogi ein busnesau.

Gweinidog, ychydig wythnosau'n ôl, gofynnais i am ymchwiliad i sut y bu farw saith claf yn ysbyty Maesteg o achosion o COVID yr hydref diwethaf a effeithiodd ar bob claf yn yr ysbyty. Rwy'n deall y byddai cleifion a gafodd eu trosglwyddo i Faesteg o ysbytai eraill wedi profi'n negyddol am COVID cyn eu derbyn. Felly, mae hyn yn golygu y gallai rhywun a ddaeth i mewn i'r ysbyty o gartref gofal neu o'r gymuned fod wedi dod ag ef i mewn. Pam na chawson nhw eu profi? Erbyn hydref diwethaf, roedd peryglon anfon pobl i amgylcheddau caeedig fel cartrefi gofal neu ysbytai yn hysbys iawn, felly dylai profion fod wedi cael eu cynnal. Hoffwn i gael datganiad gan y Gweinidog iechyd yn nodi sut y mae rheoli heintiau yn cael ei reoli erbyn hyn fel ein bod ni'n osgoi canlyniadau trychinebus o'r fath wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn.

Wel, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi datganiad llafar bob tair wythnos yn y Siambr ynghylch pandemig COVID-19, ac efallai mai dyma'r amser mwyaf priodol i chi ei holi hi bryd hynny.

A gaf i ofyn am ddatganiad ar yr adolygiad o gludiant i ddysgwyr, os gwelwch yn dda, Trefnydd? Yn ôl gwefan Llywodraeth Cymru ei hun, nodwyd bod yr adolygiad i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth eleni. Fodd bynnag, mae cydweithwyr mewn llywodraeth leol wedi dweud wrthyf i eu bod wedi cael gwybod bod yr adolygiad yn cael ei ohirio ac y bydd yn cael ei gyflawni ym mywyd y Llywodraeth hon. Yn y cyfamser, yn fy rhanbarth i, yn benodol yng nghwm Llynfi, yng Nghaerau, cymuned sy'n gyson yn sgorio'n uchel ar y mynegai amddifadedd, ac yn aml ymhlith y pum uchaf yng Nghymru, mae disgyblion sy'n wynebu taith gerdded o 45 munud i awr i gyrraedd yr ysgol, ac mae senarios fel hyn yn cael eu hailadrodd mewn mannau eraill yn Abertawe a Phort Talbot. A yw Llywodraeth Cymru o'r farn mai cael gwared ar gludiant ysgol i rai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yw'r ffordd gywir ymlaen?

Diolch. Wel, roedd yr adolygiad y gwnaethoch chi gyfeirio ato, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, roeddem ni'n disgwyl ei gael ddechrau'r flwyddyn hon. Rwy'n credu i ni ei gael tua mis Mawrth, ac yn amlwg yn y weinyddiaeth flaenorol, yna daeth ein hamser ni i ben. Ac rwy'n credu mai'r casgliad y daeth yr adolygiad cychwynnol hwnnw iddo oedd ei fod yn gymhleth iawn—. Cawsom ni drafodaethau manwl iawn gyda rhanddeiliaid, ac ymgysylltu â nhw, yn amlwg, ac rwy'n credu mai'r hyn a ddaeth i'r amlwg oedd bod llawer o anghenion cymhleth, yn amlwg, i'r bobl sydd angen y cludiant hwnnw o'r cartref i'r ysgol. Ac nid y Mesur yn unig yr oedd angen ei adolygu, ond holl gwmpas y ddeddfwriaeth, rwy'n credu. Felly, mae'n amlwg y bydd y Llywodraeth hon yn bwrw ymlaen â hyn, a gwnaethoch chi gyfeirio ato yn eich sylwadau agoriadol.

Yr wythnos diwethaf, cawsom ni wybod, o ganlyniad i'r penderfyniad trychinebus i beidio â bwrw ymlaen â thrydaneiddio'r brif reilffordd hyd at Abertawe, fod gennym ni yn awr fwy o lygredd ar y trenau bi-mode hyn a gafodd eu gwthio arnom ni nag sydd ganddyn nhw ar y strydoedd llygredig gwaethaf yng nghanol Llundain. Mae hwn yn fater difrifol iawn i fy etholwyr, gan mai Gorsaf Caerdydd Canolog yw'r lle y mae'r trydaneiddio'n dod i ben, felly nhw yw'r rhai sy'n dioddef fwyaf o'r llygredd diesel hwn. Ac ar ben hynny, yr wythnos hon, gwnaethom ni ddysgu bod penderfyniad a gafodd ei wneud gan Lywodraeth y DU yn ôl yn 2017—. Cawsom ni'r cil-dwrn eu bod yn mynd i gynhyrchu gwelliannau i'r rheilffyrdd mewn ffyrdd eraill, ond nid ydyn nhw hyd yn oed wedi cwblhau'r achos busnes amlinellol, ac mae hynny bron bum mlynedd yn ddiweddarach. Sut ydym ni'n mynd i allu bwrw ymlaen ag argymhellion rhagorol comisiwn Burns ar gyfer metro de-ddwyrain Cymru os nad oes gennym ni unrhyw syniad beth y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig? Felly, tybed a gawn ni ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth betrusgar y DU yn effeithio ar ein cynlluniau ar gyfer metro de-ddwyrain Cymru, o gofio mai asgwrn cefn y busnes cyfan yw'r ffordd yr ydym ni'n defnyddio'r llinellau lliniaru rhwng Casnewydd a Chaerdydd, a thu hwnt.

14:45

Diolch. Rwy'n sicr yn rannu eich siom o weld mai'r lefelau nitrogen deuocsid hynny ar y trenau oedd yr uchaf ar GWR. Rwy'n credu ei bod yn ganlyniad cwbl uniongyrchol i Lywodraeth y DU yn rhoi'r gorau i drydaneiddio ychydig cyn Caerdydd, yn hytrach na thrydaneiddio'r holl linell. Roeddwn i'n edrych ar rai ffigurau ynghylch trydaneiddio, ac os oes unrhyw enghraifft arall bod Llywodraeth y DU wedi siomi Cymru'n llwyr: Yn Lloegr, mae 41 y cant o'r trac wedi'i drydaneiddio; yn Yr Alban, mae 25 y cant o'r trac wedi'i drydaneiddio; ac yng Nghymru, dim ond 2 y cant o'r trac sydd wedi'i drydaneiddio ar hyn o bryd.

Felly, mae Llywodraeth Cymru wir yn gwneud ei rhan ar ein seilwaith, ond mae gwir angen i Lywodraeth y DU gynyddu a chwblhau trydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe fel man cychwyn, ac yna ymrwymo i raglen dreigl o drydaneiddio ledled Cymru, ac mae hynny'n cynnwys arfordir y gogledd, fel y gallwn ni gael y gwasanaethau trydan hynny. Rwy'n credu mai'r ffordd orau, mewn gwirionedd, fyddai iddyn nhw ddatganoli seilwaith rheilffyrdd i ni, ond, wrth gwrs, gyda setliad ariannu teg fel y gallwn ni flaenoriaethu a chyflawni datgarboneiddio ein gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.

Fel llefarydd ar newid hinsawdd, yr wyf i'n gefnogwr brwd o'r sector ynni adnewyddadwy. Yn wir, mae fy etholaeth yn gartref i lawer o dyrbinau gwynt alltraeth sy'n hawdd eu gweld—un o'r rhai mwyaf—felly rwy'n chwilio am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ac ynni ynghylch fferm wynt alltraeth Awel y Môr. Bydd y cynnig hwn yn gweld 91 o dyrbinau enfawr newydd oddi ar yr arfordir os caiff caniatâd ei roi. Y bwriad yw i'r tyrbinau hyn gael eu cynllunio ar gyfer 10.6 cilometr oddi ar arfordir Llandudno, gydag uchder o 332m i'w copa; dyna yw maint Tŵr Eiffel. Mae'r cynlluniau hyn yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd gydag ychydig iawn o gyfranogiad gan randdeiliaid, felly a gaf i ofyn am ddatganiad ar y canlynol: a yw Awel y Môr eisoes wedi cael caniatâd ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru, fel sydd wedi'i awgrymu? Pa fesurau sydd ar waith i ddiogelu bioamrywiaeth, yn enwedig o ystyried pryderon ynghylch effeithiau morol negyddol cynllun blaenorol Gwynt y Môr o ran dirywiad rhywogaethau, gydag aflonyddu ar adar a bywyd morol? Pa amddiffyniadau gallai Llywodraeth Cymru eu hystyried ar gyfer cymunedau glan môr lle mai'r gorwel arfordirol yw'r prif atyniad i dwristiaid, fel y gallwn ni helpu i ddiogelu ein diwydiant twristiaeth gwerthfawr? A hefyd, sut y gall ein preswylwyr fod â hyder llwyr mewn proses gynllunio sydd, mae'n debyg, yn esgus cefnogi ar hyn o bryd yn hytrach na chynnal digwyddiadau ymgynghori ystyrlon a hygyrch i'r rhai sydd eisiau cyfrannu eu syniadau. Diolch.

Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi egluro eich bod yn cefnogi ynni adnewyddadwy, oherwydd yn sicr nid oedd gweddill eich cwestiwn yn rhoi'r argraff i mi eich bod chi o gwbl. Yn amlwg, mae ynni adnewyddadwy yn rhan o'n datrysiad o ran lliniaru newid yn yr hinsawdd, yr wyf yn credu eich bod chi'n rhannu'n huchelgais yn ei gylch.

Nid wyf i eisiau gofyn i'r Gweinidog wneud datganiad penodol ynghylch y prosiect yr ydych chi'n cyfeirio ato, oherwydd nid wyf i'n credu y byddai hynny'n briodol, ond, yn amlwg, ar adegau penodol yn ystod busnes y Llywodraeth, rydym ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau o ran ein cynlluniau ar gyfer ynni adnewyddadwy. Ac rydych chi'n hollol gywir—mae'r gogledd yn lleoliad gwbl wych, ac yn sicr, pan oeddwn i'n Weinidog ynni, yr oedd gennym ni lawer, iawn o ddatblygwyr a chwmnïau a oedd eisiau dod i gipio'r potensial mawr sydd yn y gogledd.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Mae un ohonyn nhw mewn gwirionedd yn adleisio'r pwynt a gafodd ei wneud yn gynharach—byddai'n wych cael datganiad ar amseriad canlyniad yr ymgynghoriad estynedig ar gludiant i'r ysgol. Mae wedi'i ymestyn i edrych ar y mater hwn ynghylch yr agweddau teithio am ddim a'r pellter. Yn draddodiadol, darparodd Pen-y-bont ar Ogwr cludiant fwy hael na'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru, ond cafodd ddegawd o gyllid cyni. Sylwais i, pan gafodd hyn ei drafod yn siambr y cyngor, na chafodd unrhyw ddewis arall ei gyflwyno gan unrhyw wleidydd yn y siambr i symud i'r lleiafswm statudol. Fodd bynnag, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ganlyniad ymgynghoriad Llywodraeth Cymru i weld a yw'n cyflwyno unrhyw gynigion newydd yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod fy etholwyr i'n edrych ymlaen at hynny hefyd.

Yn ail, a gawn ni ddatganiad ar fater profion a hyfforddiant dosbarth 1 Cerbydau Nwyddau Trwm? Mae gennyf i etholwyr sy'n barod i gymryd y cam olaf, i lamu at y cam olaf hwnnw i yrru lorïau cymalog, ond gall y gost fod hyd at £2,000, ynghyd â'r ffi prawf ar ben hynny hefyd. Tybed a oes cefnogaeth gan Lywodraeth y DU neu gefnogaeth Llywodraeth Cymru, neu a oes cwmnïau yng Nghymru y gall Llywodraeth Cymru siarad â nhw, fel yr wyf i'n ymwybodol ohonyn nhw yn Lloegr, a fydd mewn gwirionedd yn noddi ymgeiswyr nawr i fynd drwy hyn i lenwi rhywfaint o'r ôl-groniad hwnnw yn absenoldeb cludwyr sydd gennym ni ar hyn o bryd.

14:50

Diolch. Byddwch chi wedi clywed fy ateb i Luke Fletcher ynghylch yr adolygiad o'r Mesur cludiant i ddysgwyr, a gwnes i sôn bod angen i ni edrych ar y materion ehangach a godwyd yn yr adolygiad hwnnw ar ddiwedd tymor blaenorol y llywodraeth, ac a oes angen i ni ystyried cwmpas y ddeddfwriaeth yn ehangach er mwyn sicrhau bod gennym ni'r gwasanaethau effeithiol hynny.

O ran cymorth i yrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm gael eu hyfforddi i lefel dosbarth 1, mae rhaglen ReAct, y byddwch chi'n ymwybodol iawn ohoni, ac yn sicr mae grant hyd at £1,500 ar gael a fydd yn cynnwys pob agwedd ar hyfforddiant, profi a thrwyddedu. Felly, mae'r cyllid hwnnw, sydd wedi bod ar gael nawr am ryw chwe blynedd, rwy'n meddwl. Hefyd, mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnal rhaglen dreialu ledled y DU, ac mae hynny'n cynnwys sir y Fflint a'r de-orllewin, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol a chwmnïau trafnidiaeth lleol. Mae hynny'n ateb ail ran eich cwestiwn ynghylch gweithio gyda phobl ddi-waith, yn enwedig pobl ddi-waith sy'n bwriadu bod yn yrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm.

Hoffwn i alw am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ar wasanaethau meddygon teulu yng Nghymru. Er bod pandemig COVID wedi taflu goleuni ar y rhain, mae rhybuddion i Lywodraeth Cymru ynghylch argyfwng meddygon teulu yng Nghymru wedi rhagflaenu hyn ers tro byd. Yn 2012, ail-lansiodd BMA Cymru a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ymgyrchoedd yn rhybuddio bod Cymru'n wynebu argyfwng meddygon teulu, bod 90 y cant o gysylltiadau cleifion â meddyg teulu ac eto roedd cyllid fel cyfran o gacen y GIG wedi gostwng, a'u bod wedi ail-lansio eu hymgyrchoedd oherwydd nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwrando.

Mewn sesiwn friffio gan BMA Cymru yn 2014 yn y Cynulliad, dywedodd cadeirydd pwyllgor meddygol lleol y gogledd fod ymarfer cyffredinol yn y gogledd mewn argyfwng, nad oedd sawl practis wedi gallu llenwi swyddi gwag, ac roedd llawer o feddygon teulu yn ystyried ymddeol o ddifrif oherwydd y llwyth gwaith sy'n ehangu ar hyn o bryd. Neidiwch ymlaen a, ddydd Iau diwethaf, dywedodd cyngor iechyd cymuned y gogledd fod pobl yn wynebu argyfwng yn gallu manteisio ar wasanaethau meddygon teulu. Dywedodd cadeirydd pwyllgor meddygon teulu Cymru yn y BMA, sy'n cynrychioli meddygon, fod problemau'n datblygu cyn COVID, a mwy o feddygon teulu yn cael eu colli ar ôl ymddeol yn gynnar. Rwy'n galw am ddatganiad brys yn unol â hynny.

Rydw i wir ym dymuno y byddai Aelodau efallai ychydig yn fwy pwyllog pan fyddan nhw'n defnyddio'r gair 'argyfwng'. Er ein bod ni, wrth gwrs, wedi gweld galw ar ein meddygon teulu i wneud gymaint mwy o waith, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19—ac rydym ni'n hynod ddiolchgar am gyflwyniad anhygoel y rhaglen frechu COVID-19—fel y byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn ei ddweud, rydym ni yn awr yn gofyn iddyn nhw wneud rhaglen brechu ffliw'r gaeaf, ac rydym ni'n gofyn iddyn nhw wneud rhaglen frechu atgyfnerthu COVID hefyd. Felly, mae ein meddygon teulu ni allan yno'n gweithio gyda'n poblogaethau a'n cleifion i sicrhau eu bod nhw'n cael yr amddiffyniad hwnnw.

Wrth gwrs, rydym ni'n gweld meddygon teulu'n ymddeol, yn union fel yr ydym ni yn gweld hynny mewn unrhyw sector arall ledled Cymru, ac mae'n bwysig iawn bod y cynllunio hwnnw, nad ydym ni efallai wedi gweld gymaint ohono yn y gwasanaeth iechyd. Ond, wrth gwrs, mae meddygon teulu'n hunangyflogedig, ac rwy'n ymwybodol o fy nhrafodaethau fy hun, gan weithio gyda meddygon teulu, mae'n bwysig iawn bod ganddyn nhw'r cynllunio hwnnw o fewn eu meddygfeydd eu hunain i sicrhau nad oes y bwlch hwnnw.

Mae hefyd yn bwysig iawn ein bod ni'n parhau i weithio'n galed iawn gyda'n byrddau iechyd, oherwydd maen nhw'n gyfrifol am sicrhau bod eu poblogaethau'n cael y cyfle i fanteisio ar wasanaethau meddygon teulu.

Diolch, Llywydd. Mae'r cartref, hosbisau plant yng Nghymru yn darparu gwasanaeth cwbl amhrisiadwy i'r plant y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw a'u teuluoedd. Mae'r mwyafrif helaeth o'r cyllid y mae hosbisau plant yn dibynnu arno yn dod drwy roddion. Yn y gwanwyn, rhoddodd Llywodraeth Cymru newyddion calonogol eu bod yn gweithio gyda'r bwrdd gofal diwedd oes i adolygu cyllid ar gyfer hosbisau. A gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd yr adolygiad hwnnw, a sut y bydd hosbisau plant yn arbennig, a'r plant sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau eu hunain, yn cael eu hystyried ynddo?

14:55

Diolch i chi. Cewch, mae'r adolygiad hwnnw i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd y mis nesaf, h.y. mis Hydref 2021. Fe wn i y bydd argymhellion yn cael eu cyflwyno i'r Gweinidog iechyd, ac yn sicr fe fyddaf yn gofyn iddi hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd yr adolygiad hwnnw wedi cael ei gwblhau.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cysylltiadau Rhynglywodraethol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y cysylltiadau rhynglywodraethol, a dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad. 

Llywydd, diolch yn fawr. Heddiw, rwy'n cyhoeddi adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar berthnasau rhynglywodraethol am y flwyddyn 2020-21. Mae'r adroddiad yn rhan o ymroddiad y Llywodraeth i rannu gwybodaeth gyda'r Senedd ynglŷn â'r berthynas rynglywodraethol. Fe wnaf i barhau i adrodd ar ein perthynas a'n cydweithio gyda Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â'n partneriaid yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Yn ddiweddar, cytunais gyda Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i adnewyddu ein cytundeb ar y berthynas ryngsefydliadol yn y chweched Senedd, ac mae swyddogion yn gweithio ar hyn. 

Llywydd, ni fydd neb yn synnu wrth glywed bod gwahaniaethau mawr rhwng agwedd Llywodraeth Cymru ac agwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Serch hynny, mae'r berthynas yn un hanfodol bwysig. Pan gaiff honno ei nodweddu gan barch, hyblygrwydd, a phwyslais ar y mannau y gellir dod o hyd i gytundeb, fe all y berthynas fod yn fanteisiol iawn i Gymru a'r DU gyfan. Pan fydd honno'n pallu, mae'r canlyniadau, yn anochel, yn siomedig iawn. 

Mae cyfnod yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y ddwy her, COVID-19 a'r cyfnod pontio Ewropeaidd. Roedd y ddwy her yn tanlinellu'r angen am strwythurau cryf ac amseru dibynadwy o ran cyfathrebu rhwng Llywodraethau. Roedd y graddau y cyflawnwyd hyn yn ymarferol yn amrywio, gyda rhai canlyniadau cadarnhaol mewn rhai agweddau ar COVID-19 ond stori fwy cyson ddilewyrch o ran trefniadau pontio Ewropeaidd.

Mae'r pandemig wedi amlygu'r ffordd y mae cyfrifoldebau datganoledig a'r rhai a gadwyd yn ôl yn cydgysylltu â'i gilydd. Fel Llywodraeth Cymru ac fel Senedd, fe fu'n rhaid i ni wneud penderfyniadau, ac rydym ni'n parhau i wneud hynny'n unol â'r hyn, yn ein barn ni, sydd fwyaf buddiol i Gymru. Ond rydym ni wedi ymdrin â'r penderfyniadau hynny yng nghyd-destun y cysylltiadau gwyddonol, economaidd, a chymdeithasol a rennir rhwng Cymru a gweddill y DU. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus ni hefyd, wrth gwrs, wedi cydweithredu yn yr un modd mewn llawer iawn o agweddau ymarferol.

Pryd bynnag y ceir parodrwydd o'r ddwy ochr i wneud hynny, bwriad Llywodraeth Cymru yw parhau i gydweithio â Llywodraeth y DU o ran cam nesaf yr ymateb a'r adferiad wedi COVID, gan gynnwys y goblygiadau gweithredol ac ariannol. Yn gynharach yn ystod yr haf, fe gynhaliwyd uwchgynhadledd COVID a oedd yn dangos gwerth cydweithio mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin, ac mae gennym ni yng Nghymru ddiddordeb arbennig o ran sicrhau bod ein hagenda werdd ni'n ganolog i'n hymagwedd ni tuag at adferiad.

Yn y cyd-destun hwnnw, mae adolygiad cynhwysfawr o wariant y DU yn hanfodol i'n perthynas ni â Llywodraeth y DU. Mae angen i ni gael partneriaeth wirioneddol ac ymagwedd gytunedig at adferiad a ysgogir gan fuddsoddiad a fydd o fantais i Gymru. Pan fo'n synhwyrol i ni weithio ar sail pedair gwlad, fe ddylem ni wneud hynny, ac mae hi'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn sefydlu strwythurau digonol i ganiatáu i hynny ddigwydd. 

Nawr, fel enghraifft ymarferol iawn o undod rhynglywodraethol, rydym ni wedi galw ar Lywodraeth y DU i weithio ar unwaith gyda ni i ddatblygu strategaeth ar y cyd a rhaglen ariannu ar gyfer adfer safleoedd tomenni glo yn y tymor hir. Fe fydd y Senedd yn trafod y mater hwn y prynhawn yma. Fe grëwyd y tomenni glo ymhell cyn i ddatganoli gael ei ragweld hyd yn oed. Peth hurt yw dadlau, fel y gwna Llywodraeth y DU, mai ein cyfrifoldeb ni yma yng Nghymru yw ymdrin ar ein pennau ein hunain â'r mater clasurol hwn o etifeddiaeth neu fod gennym yr adnoddau i wneud hynny. Llywydd, yn hytrach na gwneud y mater hynod sensitif hwn yn bwnc dadleuol, fe ddylai hon fod yn enghraifft ddiffiniol o sut y gall Llywodraeth y DU weithio gyda ni i ddatblygu manteision effeithiol o weithio'n rhynglywodraethol, ac yn arbennig felly yng nghyd-destun y DU sy'n llywyddu COP26.

Fel dywedais i'n gynharach, Llywydd, mae cydweithio yn ystod y pandemig wedi arwain at rai enghreifftiau cadarnhaol o weithio rhynglywodraethol. Eleni, fe gawsom ni gyfarfodydd rheolaidd rhwng Llywodraethau datganoledig a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn ar y pryd, yn cwmpasu COVID-19 a materion arall. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â hyn yn dilyn yr ad-drefnu diweddar, lle bydd Michael Gove, fel rwy'n deall, yn cadw ei gyfrifoldeb am gysylltiadau rhynglywodraethol. Mae'r rhaglen frechu yn enghraifft arall o sut y gellir gwneud gwaith da, gyda chytundeb o ran caffael canolog, a rennir ar sail poblogaeth ledled y DU, ond gyda'r ddarpariaeth yn cael ei rheoli gan bob gwlad yn unigol. Y tu hwnt i COVID, Llywydd, rydym ni wedi gweithio ar y cyd ar fframweithiau cyffredin, a ddyfeisiwyd o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, gyda chytundeb dros dro rhwng y Llywodraethau, i'w ddilyn, gobeithio, gan gytundeb terfynol yn ddiweddarach eleni.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fwynhau perthynas gref â'r Llywodraethau datganoledig eraill, a chydag aelodau'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, yn arbennig felly. Rwy'n edrych ymlaen at groesawu'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig i Gymru, yn ddiweddarach yr hydref hwn, ar gyfer ei unfed uwchgynhadledd ar bymtheg ar hugain, ac fe fyddaf i'n dychwelyd i'r Senedd yn ddiweddarach gyda rhagor o wybodaeth i'r Aelodau am gyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, fe euthum i gyfarfod blynyddol Cymdeithas Prydain ac Iwerddon. Bu cyfle yn y fan honno i rannu llwyfan gyda Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon, Paul Givan, ac i gyfarfod â chynrychiolwyr y pleidiau eraill sydd yn y Weithrediaeth yno. Ym mis Tachwedd, fe fydd Gweinidogion Cymru yn cymryd rhan yn nhrafodaethau COP26 yn Glasgow, gan weithio gyda Llywodraeth yr Alban i sicrhau'r cyfraniad mwyaf y gallwn ni ei wneud wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd yn gyfochrog â Llywodraethau rhanbarthol eraill.

Mae'r berthynas hon â gwledydd eraill y DU yn elfen bwysig iawn o'n hymdrechion rhynglywodraethol sy'n ein galluogi ni i weithio'n agos gydag eraill a hyrwyddo buddiannau Cymru. Yr hyn sydd ei angen arnom ni, er hynny, yw i'r enghreifftiau cadarnhaol hyn ddod yn gyffredin mewn cysylltiadau rhynglywodraethol. Mae undeb gwirfoddol o bedair gwlad yn llawer mwy tebygol o barhau i'r dyfodol gyda phatrwm o ymgysylltu rheolaidd a dibynadwy, gyda pharch, â pheirianwaith rhynglywodraethol ar sail rheolau eglur a chadarn. Yr hyn sydd gennym ni'n ymarferol yw cydweithredu tameidiog, ad hoc ac ysbeidiol. Ar y gorau, fe all hynny gyflawni canlyniadau defnyddiol, ond yn llawer rhy aml ceir rhwystredigaeth a mudandod yn ei sgil pan oedd angen deialog a chyflawniad.

Rwy'n gresynu bod ein cysylltiadau dwyochrog ni â Llywodraeth y DU yn llipa ac yn anodd, yn rhy aml o lawer. Mae eu hundebwriaeth cyhyrol, eu gelyniaeth tuag at ddatganoli, a'u hunochroldeb ymosodol nhw'n gwbl wrthgynhyrchiol ac yn groes i'n teimladau ni yma yng Nghymru. Mae hi'n anodd iawn cysoni'r mynegiadau cadarnhaol a wneir ar adegau, gan rai o Weinidogion y DU, â'r achosion hynny o ymosod ar feysydd datganoledig, er enghraifft drwy eu rhaglen ddeddfwriaethol a'u cynlluniau gwariant, gan ddal arian a ddylai ddod i Gymru yn ei ôl, a chymryd cyfrifoldebau yn ôl sydd, yn eglur iawn, wedi cael eu datganoli.

Llywydd, nid oes raid iddi hi fod fel hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i weld Cymru gadarn mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus. Mae ein dogfen ni 'Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU', a gyhoeddwyd yn ei ail argraffiad ym mis Mehefin eleni, yn amlinellu dyfodol cadarnhaol o'r fath. Mae'n rhagweld undeb sy'n parhau, gan ddefnyddio datganoli fel cadernid a chydweithio mewn ffyrdd a fyddai'n perswadio dinasyddion ym mhob un o'r pedair gwlad i ddymuno perthyn iddo. Ar gyfer bwrw ymlaen â'r gwaith hwn yma yng Nghymru, fe fyddwn ni, yn fuan, yn cyhoeddi rhai manylion am ein comisiwn cyfansoddiadol newydd ni ein hunain. Fe fydd y ddogfen 'Diwygio ein Hundeb' ar gael iddo wrth iddo ddechrau ar ei drafodaethau, ac rwy'n gobeithio, wrth gwrs, y bydd rhai eraill yn cyflwyno syniadau creadigol ac ymarferol hefyd.

Llywydd, roeddwn i wedi gobeithio gallu nodi i'r Senedd benllanw'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol heddiw, a gomisiynwyd mor bell yn ôl â 2018. Yn gynharach eleni, fe amlygwyd y gyfradd gynyddol o gytundeb sydd rhwng y Llywodraethau yn y cyhoeddiad o becyn drafft o ddiwygiadau, gydag ychydig iawn o feysydd ar ôl i'w cytuno. Nid yw hynny'n golygu y bydd pob Llywodraeth yn cael popeth yr oedd hi'n ei ddymuno, oherwydd, yn anochel ac yn gwbl briodol, mae hon wedi bod yn broses o negodi a chyfaddawdu. Ond, fe wnaethpwyd cynnydd ac rwy'n ceisio parhau i fod yn obeithiol y bydd yr adolygiad yn barod i'w gwblhau o'r diwedd. Roedd y manylion terfynol yn cael eu trafod pan ddigwyddodd yr ad-drefnu yn Llywodraeth y DU, ac fe geir ansicrwydd nawr o ran a fydd yna oblygiadau i gwblhau'r adolygiad mewn modd sy'n foddhaol.

Mae'r rhaglen ddiwygio ddrafft yn welliant sylweddol ac mae hi'n cynnwys strwythurau newydd i hwyluso deialog well. Er gwaethaf y berthynas sy'n heriol ar y cyfan â Llywodraeth y DU, mae'r rhain yn gamau pwysig y mae'r adolygiad yn eu nodi: fe fydd yn sefydlu peirianwaith rhynglywodraethol newydd ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd ar bob lefel o Lywodraeth; fe fyddai'n gweld mwy o barch a chyfranogiad sy'n gyfartal; am y tro cyntaf, fe fyddai'n creu ysgrifenyddiaeth ddiduedd; ac mae'n nodi mecanwaith gwell i osgoi a datrys anghydfodau, gyda'r gallu i gynnwys mewnbwn annibynnol i anghydfodau a chyda mwy o dryloywder o ran eu datrys nhw.

Y prynhawn yma, Llywydd, fe hoffwn i orffen ar y nodyn cadarnhaol yna. Mae cyd-destun cysylltiadau rhynglywodraethol yn anodd, ond fe ellir gwneud cynnydd. Rwy'n gobeithio y byddaf i'n gallu adrodd y flwyddyn nesaf fod materion mor ddwys â dyfodol y Deyrnas Unedig yn cael eu hystyried gyda'r difrifoldeb y maen nhw'n eu haeddu ar frys.

15:05

Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad chi. Fel rydych chi'n dweud, ni ddylai hi fod yn syndod i neb yn y Siambr hon, oherwydd y gwahaniaethau gwleidyddol sydd rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Geidwadol y DU, fod yna densiynau, ar brydiau; mae hynny'n ddealladwy mewn democratiaeth sy'n ethol Llywodraethau o wahanol liwiau yng Nghymru ac ar lefel y DU. Felly, rwyf i braidd yn siomedig, gan edrych ar rai o'r ymadroddion a'r geiriau yn eich datganiad chi heddiw, oherwydd nid ydyn nhw'n cyd-fynd yn llwyr â'r ddogfen y gwnaethoch chi ei chyhoeddi, roeddwn i o'r farn ei bod hi'n tynnu sylw at lawer o ymgysylltu cadarnhaol a oedd yn digwydd ar bob math o lefelau rhwng Gweinidogion a swyddogion yn Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac, yn wir, y gwledydd datganoledig eraill ledled y Deyrnas Unedig gyfan.

Mae'r ddogfen yn sôn am y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch, mae hi'n sôn am y gwaith da ynglŷn â'r rhaglen frechu, y cydweithio ynghylch y pandemig, y cyfarfodydd wythnosol sy'n digwydd rhwng llawer o adrannau'r Llywodraeth yma ac adrannau'r Llywodraeth ar lefel y DU, y ffaith bod Gweinidogion Cymru wedi cymryd rhan mewn cyfarfodydd COBRA, yr ymgysylltiad a fu ar y fframweithiau cyffredin, a'r gwaith da, cadarnhaol a wnaethpwyd hefyd o ran cynnwys Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau mewn cytundebau masnach newydd. Felly, roeddwn i'n credu ei bod hi braidd yn siomedig clywed y Prif Weinidog yn gwneud sylwadau ar lawer o agweddau negyddol yn yr adroddiad, sydd, ar y cyfan—ac fe fyddwn yn annog unrhyw un i'w ddarllen—yn mynd yn groes i'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud yn y ddogfen lawnach.

Mae hi'n bwysig fod gennym ni berthynas waith dda, er mwyn pobl Cymru, rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a dyna pam yr wyf yn falch fod Llywodraeth y DU wedi comisiynu'r adolygiad rhynglywodraethol a bod llawer iawn o gynnydd a chytundeb wedi bod rhwng y gwledydd datganoledig a Llywodraeth y DU ynglŷn â fframwaith ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol. Roeddech chi'n amlinellu, yn gadarnhaol iawn, yn fy marn i, rhai agweddau ar hwnnw y cytunwyd arnyn nhw eisoes, ac rydym ni'n edrych ymlaen yn fawr at weld y canlyniad terfynol. Wrth gwrs, mae'r oedi wrth gyhoeddi'r ddogfen honno a chwblhau'r ddogfen honno i raddau helaeth o ganlyniad i'r pandemig, sydd wedi mynd â sylw pawb i raddau helaeth, wrth gwrs, ac yn ddealladwy felly. Ond rwy'n credu y bydd llawer o'r heriau a welsom yn y gorffennol, o ganlyniad i ddwy blaid wleidyddol wahanol yn y Llywodraethau ar ddau ben yr M4, yn cael eu goresgyn o ganlyniad i'r fframweithiau a fydd, rwy'n gobeithio, yn cael eu rhoi ar waith.

Roeddwn i'n nodi bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio at domenni glo, ac mae hi'n rhaid i mi ddweud, Prif Weinidog, fy mod i a'm cyd-Aelodau ar feinciau Ceidwadwyr Cymru yn cytuno yn llwyr fod angen dull cydweithredol, ar y cyd o fynd i'r afael â phryderon ynglŷn â thomenni glo yma yng Nghymru, o gofio mai gwaddol y cyfnod cyn datganoli ydyn nhw. Mae hynny'n gwbl briodol ac nid wyf i'n cydnabod yr amharodrwydd yr ydych chi'n ei awgrymu o ran ymgysylltiad Llywodraeth y DU yn y mater penodol hwnnw.

Roeddech chi'n cyfeirio hefyd, wrth gwrs, at yr angen i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid. Fe hoffwn i eich atgoffa chi a phawb arall yn y Siambr hon heddiw fod Cymru wedi cael £8.6 biliwn yn ychwanegol gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i'r pandemig. Rhandal aelodaeth yw hwnnw, os hoffech chi, ac yn deillio o'r ffaith fod Cymru yn rhan bwysig o'r Deyrnas Unedig—rhan gyfansoddol o'r Deyrnas Unedig. Nid wyf i'n ymddiheuro am y ffaith fy mod i'n credu bod Llywodraeth y DU wedi gwneud gwaith da iawn o ran sicrhau bod yr arian hwnnw ar gael i Gymru pan oedd ei angen ar gyfer gallu cynllunio ymateb effeithiol. Felly, rwy'n credu bod angen i Weinidogion Llywodraeth Cymru, ar adegau, fod yn fwy croendew o ran yr anghytundeb achlysurol, sy'n gwbl ragweladwy oherwydd y ffaith bod gwahaniaethau gwleidyddol yn bodoli rhwng dwy blaid wleidyddol.

A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog: a ydych chi'n derbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am suro'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar adegau, yn enwedig o ystyried y tarfu a'r ffordd aflonyddgar yr oedd eich plaid chi'n ymddwyn wrth geisio atal y DU rhag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd? Rwy'n credu bod y broses honno—a wnaeth suro'r berthynas, roedd hi'n peri rhwyg, ac yn ddiangen iawn ar adegau yn fy marn i, o gofio ei bod hi'n rhaid i bawb fwrw ymlaen a chyflawni canlyniad y refferendwm hwnnw. Roedd yna bobl yn y Blaid Lafur yma yng Nghymru, ac yn wir yn Lloegr, sy'n parhau i fod yn awyddus i ddychwelyd a gwrthdroi penderfyniad pobl Prydain a phobl Cymru, cofiwch chi, oherwydd fe bleidleisiodd y mwyafrif o bobl yma yng Nghymru dros ymadael â'r UE. Ond fe wnaeth hynny suro'r berthynas mewn gwirionedd. Nid oedd angen iddi hi fod felly bob amser, yn fy marn i, ond wrth gwrs, fe fyddwn i'n gobeithio y byddech chi'n derbyn rhywfaint o gyfrifoldeb ar ran eich plaid chi am suro'r gydberthynas honno bryd hynny.

Nawr, mae'r pethau hynny, wrth gwrs, y tu ôl i ni, rwy'n gobeithio, ac fe allwn ni fwrw ymlaen a sicrhau bod y berthynas yn cael ei hadfer yn y dyfodol. A chyda'ch caniatâd caredig chi, Llywydd, os caf i—

15:10

Roeddwn i'n falch iawn, Prif Weinidog, o glywed eich cyfeiriadau chi at ymgysylltu ag Iwerddon drwy'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ac yn wir y gwaith arall yr ydych chi wedi bod yn ei wneud. Yn amlwg, rwy'n ymfalchïo fy mod i'n ddinesydd Gwyddelig yn ogystal â bod yn ddinesydd Prydeinig, ac rwyf i o'r farn fod y cydberthnasau hynny'n eithriadol o bwysig i Gymru, o gofio bod gennym ni gyd-genedl Geltaidd sy'n frwdfrydig i ymgysylltu yn gadarnhaol â ni, ac rwy'n credu y bydd cydweithio â Gweriniaeth Iwerddon yn eithriadol o bwysig i'r dyfodol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at wneud datganiadau pellach ynglŷn â'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, ac yn edrych ymlaen, rwy'n gobeithio, at weithredu canlyniad yr adolygiad rhynglywodraethol fel y gall y cydberthnasau hyn ffynnu yn y dyfodol.

Rwy'n diolch i Darren Millar am hynna. Fy asesiad personol i o'r datganiad a wneuthum yw fy mod i wedi gwneud fy ngorau glas i geisio bod yn haelfrydig drwy'r cyfan oll. Fe ddileais i'r sylwadau at y gronfa ffyniant gyffredin, at effaith wenwynig Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, at yr ymdrechion i berswadio'r Trysorlys i weithredu'r rheolau y dylai hi fod yn rhwym wrthyn nhw, oherwydd roeddwn i'n dymuno—rwy'n mynd i wneud hynny gymaint ag y gallaf i—pwysleisio'r angen am berthynas gadarnhaol rhwng pob Llywodraeth ledled y Deyrnas Unedig. A dyna'r hyn yr oeddwn i'n ceisio ei wneud.

Pan fydd yr adroddiad o gysylltiadau rhynglywodraethol yn adrodd, rwy'n gobeithio y bydd yn gwneud yr hyn a fynegodd Darren Millar: rwy'n gobeithio y bydd yn nodi cyfres o strwythurau a fydd yn rhoi cadernid peirianwaith rhynglywodraethol i ni a fydd yn osgoi rhywfaint o natur dros dro'r cysylltiadau rhwng y pedair gwlad yn ddiweddar. Ond un rhan yn unig o gysylltiadau rhynglywodraethol yw strwythurau; mae diwylliant yn un arall, ac fe fydd yn rhaid i ni weld ym mha ysbryd yr ymdrinnir â hynny.

Rwy'n nodi'r hyn a ddywedodd yr Aelod am domenni glo gyda diddordeb mawr, ac rydym ni wedi gweld rhywfaint o ddulliau gweithredu ar y cyd yn hyn o beth. Mae'r grŵp tomenni glo a sefydlwyd yn sgil y llifogydd yn 2019 wedi cael ei gadeirio ar y cyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol a minnau. A dyma'r anhawster, Llywydd: mae'r Awdurdod Glo, sy'n gorff sydd heb ei ddatganoli o gwbl, yn gyfan gwbl yng nghyfrifoldeb Llywodraeth y DU, wedi gwneud gwaith rhagorol. Mae gennym ni ymdeimlad llawer gwell o'r mannau lle mae gennym wendidau gyda thomenni glo, ac mae gennym ni ymdeimlad llawer gwell o'r hyn y bydd hi'n ei gostio i gywiro'r rheini. Mae'r Awdurdod Glo wedi bod—mae'n parhau i weithio ar hyn, fe wn i, ond mae wedi bod yn cynnig rhaglen o fuddsoddiad gwerth £600 miliwn dros gyfnod o 10 mlynedd i gywiro'r pethau a adawyd pan ddaeth y sefydliad hwn i fod. Ac er gwaethaf y ffaith nad oes yna ffrwd ariannu o gwbl yng Nghymru at y diben hwnnw, mae'r Trysorlys yn ysgrifennu llythyrau hynod drahaus atom ni, sy'n dweud, o'u rhan nhw, na fydd yna geiniog goch yn dod, a'i bod hi'n rhaid i ni ddod o hyd i £600 miliwn ein hunain o gyllidebau sy'n dod atom ni ar gyfer adeiladu ysbytai, adeiladu ffyrdd, adeiladu ysgolion a gwneud yr holl bethau eraill yr ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw. A dyna pam y cyfeiriais i at hwn fel maes lle, pe bu cyfle erioed i Lywodraeth y DU allu dangos i bobl yng Nghymru'r rhandal a ddaw o fod yn aelod o Deyrnas Unedig, mae'n sicr mai cydweithio â ni ar y mater hwn fyddai hwnnw.

Welwch chi—y ddau bwynt olaf, Llywydd—mae'r ffordd a ddefnyddiodd yr Aelod o sôn am yr arian a ddaeth i Gymru yn ystod y pandemig, yn fy marn i, yn amlygu'r gagendor sy'n ein gwahanu ni. Nid drwy haelioni rhyw Lywodraeth yn y DU y cafodd Cymru'r arian hwnnw; nid gwlad sy'n un o gleientiaid Llywodraeth y DU ydym ni. Fe ddaw'r arian i Gymru oherwydd bod dinasyddion Cymru yn talu i mewn i'r gronfa yr ydym ni'n tynnu allan ohoni hi wedyn. Yr holl ymdeimlad yna o—wyddoch chi, absenoldeb unrhyw ymdeimlad o gydraddoldeb yn y berthynas sydd, yn fy marn i, yn gwahaniaethu'r ffordd yr ydym ni'n meddwl amdani ar ein hochr ni a'r ffordd y mae'r Blaid Geidwadol yn cysyniadu pethau.

Ond gadewch i mi orffen, fel y gwnaeth Darren Millar, gyda nodyn cadarnhaol: mae'n gwybod bod cytundeb newydd gennym ni gyda Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon i gryfhau'r berthynas sydd rhyngom ni. Fe ddisgwyliwn i ddirprwyaeth o nifer o Weinidogion o'r Llywodraeth honno ddod i Gymru ym mis Hydref, i dreulio diwrnod cyfan yma yng Nghymru, yn cwrdd ag eraill, yn edrych ar brosiectau sydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr ac yn cryfhau ein gallu ni i weithio ar faterion hanfodol, fel y defnydd ar y cyd o'r môr Celtaidd a'r posibiliadau morol y mae hynny'n eu cynnig i ni, ac rwy'n edrych ymlaen at allu adrodd i'r Aelodau am y gwaith hwnnw.

15:15

Fel y buasech chi yn ei ddisgwyl, rwy'n credu efallai roeddech chi'n ordeg ac yn orhael yn eich darlunio o'r sefyllfa mor bell ag y mae agwedd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol atom ni. Mae'n wir amdanoch chi, fel amdanom ni i gyd, dwi'n credu, bod eich cryfder pennaf, sef eich ffordd resymol, bwyllog, yn ceisio dwyn perswâd ar bobl, weithiau'n gallu troi yn wendid pan ŷch chi'n wynebu, hynny yw, Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol sydd ag agwedd mor afresymol, mor haerllug i'r syniadau digon rhesymol ŷch chi wedi'u cyflwyno eto'r prynhawn yma. A beth i wneud yn y sefyllfa yma ydy'r cwestiwn, a dweud y gwir.

Dwi'n ddigon cyfarwydd, yn anffodus, gyda San Steffan. Rôn i yno eto yn ddiweddar a dyw'r lle ddim wedi newid dim: yr eglwys gadeiriol yma ar lannau'r Tafwys, onid e, yn glafoerio gydag agweddau haerllug. Peidiwch â meddwl am eiliad eu bod nhw'n credu ym mhotensial rhyw bartneriaeth gydradd gyda ni fan hyn yng Nghymru a'r Alban a Gogledd Iwerddon. Teyrn a thaeog, onid e? Dyna'u hagwedd nhw, ac maen nhw, wrth gwrs, yn credu yn sofraniaeth San Steffan a San Steffan yn unig. 'Beth ŷn ni'n ei wneud yn y sefyllfa yma?' ydy'r cwestiwn, a buaswn i yn ymbil arnoch chi—. Ac mae enghraifft eto'r prynhawn yma, yr LCMs; maen nhw'n dod atom ni—mae flotilla ohonyn nhw'n dod atom ni nawr. Wrth gwrs, maen nhw'n gwybod eu bod nhw'n methu dymchwel y Senedd yma yn gyfan oll, ond beth maen nhw'n ei wneud, wrth gwrs, ydy ceisio'n tanseilio ni, fesul cam wrth gam—y Bil sybsidi yr wythnos diwethaf, Bil y farchnad fewnol; tynnu oddi ar ein seiliau ariannol dro ar ôl tro ar ôl tro. Wel, does bosib bod yn rhaid inni sefyll gyda'n gilydd a gwrthod hyn.

Gaf i awgrymu cwpwl o bethau? Mae'r adroddiad yn ddefnyddiol a dwi dal yn ddigon o economegydd i gredu mewn gwerth data. So, beth am ddangos tryloywder, er enghraifft? Beth am ddangos yn yr adroddiadau yma y nifer o weithiau, Brif Weinidog, rydych chi wedi gofyn am gyfarfodydd i drafod materion o bwys lle maen nhw wedi gwrthod neu anwybyddu'r cynigion hynny. Faint o weithiau ydych chi wedi cael gwahoddiadau yn hwyr iawn i gyfarfodydd mewn meysydd datganoledig, a'r agenda ddim wedi cael ei rhannu gyda chi na'r papurau cefndir, felly'n eich atal chi wedyn rhag cyfrannu yn rhesymol i'r drafodaeth? Gad inni weld gwir natur y berthynas yna; cael rhyw fath o log, os mynnwch chi, o natur yr ymagwedd haerllug sydd gan y Llywodraeth lawr yn San Steffan i ni fan hyn yng Nghymru ar hyn o bryd.

Gaf i hefyd ofyn i chi: a fuasech chi'n fodlon adeiladu, a dweud y gwir, ar yr hyn sydd yn sail i'r adroddiad yma—hynny yw, dangos tryloywder ynglŷn â'r berthynas—ond agor hynny mas i'r cyhoedd yng Nghymru? Felly, nid yn unig adroddiad i'r Senedd fel sydd gyda ni fan hyn, ond ymgysylltu gyda phobl Cymru, a dweud y gwir, a ddylai wybod y ffeithiau ynglŷn â'r agwedd sydd yn cael ei dangos gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ac efallai drwy'r comisiwn cyfansoddiadol a'r sgwrs genedlaethol dŷch chi wedi cyfeirio ati.

Yn olaf, onid yr unig ffordd dŷn ni yn mynd i ddangos herfeidd-dra, a dweud y gwir—gwrthwynebiad i'r math yma o agwedd—yw ein bod ni'n cydweithio? Cydweithio fan hyn yng Nghymru ar draws pleidiau, hyd yn oed lle, wrth gwrs, rŷn ni'n anghytuno ynglŷn â'r ateb yn y pen draw o ran dyfodol cyfansoddiadol i Gymru—mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, yn dilyn beth ddywedodd y mudiadau annibyniaeth ddoe eu bod nhw'n rhan o'r sgwrs genedlaethol a bod hynny yn cael ei adlewyrchu yn y cylch gorchwyl ar ei chyfer hi—ond hefyd bod yna gydweithio ar draws y gwledydd Celtaidd. Ein bod ni, os mynnwch chi, yn creu, os oes gyda nhw eu hunolyddiaeth gyhyrog, wel gad inni gael ein cydweithio cyhyrog ar draws y gwledydd Celtaidd—ie, ar draws pleidiau, gan gynnwys, wrth gwrs, Llywodraeth yr Alban, sydd hefyd â phersbectif gwahanol ynglŷn â dyfodol yr ynysoedd hyn. Ond, yn hyn o beth, dŷn ni yn unedig yn gwrthwynebu y geidwadaeth yma o San Steffan sydd yn gwadu'n hawl ni fan hyn yng Nghymru ac yn y gwledydd eraill i ddewis ein cwys ein hunain.

15:20

Wel, diolch yn fawr, Llywydd, i Adam Price. Pan oeddwn i'n ymateb i Darren Millar, roeddwn i'n disgwyl i Darren ddweud ein bod ni'n rhy gas i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac roeddwn i'n disgwyl i Mr Price ddweud fy mod i'n rhy gyfeillgar. Mae nifer o bwyntiau pwysig mae Adam Price wedi'u codi, ac mae nifer o enghreifftiau ble gallaf i dynnu sylw at enghreifftiau lle mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb fod yn rhesymol gyda ni o gwbl. Gaf i gyfeirio at jest un—mae'n rhywbeth bach ond mae yn dangos y cyd-destun. Ni sy'n gyfrifol am gyfarfod nesaf y British-Irish Council. Y pwnc sydd i'w drafod yn y cyngor yw ieithoedd lleiafrifol, so ni'n arwain yng Nghymru ar y gwaith sy'n mynd ymlaen ac mae'r gwaith yn bwysig. Mae'n bwysig yn yr Iwerddon, yn yr ynys i gyd. Roedden ni eisiau gwahodd pobl o Gernyw i ddod i'r cyngor, nid i siarad, achos dydyn nhw ddim yn aelodau'r cyngor ond jest i wrando ar y drafodaeth a phan fyddai pethau gyda nhw i'w ddweud tu fas i'r cyngor bydden nhw'n gallu ei wneud e. Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig jest ddim yn fodlon i'w wneud e o gwbl. So, syniad bach oedd e, syniad sy'n berthnasol i ni yng Nghymru achos rydym ni'n gyfrifol am y pwnc yn y cyngor, yn rhesymol, fel oedd Adam Price yn ei ddweud, ond dim byd. Ddim yn fodlon i'w wneud e o gwbl, a ni sy'n cynllunio’r cyfarfod, ni sy'n gyfrifol am y cyngor ond doedden nhw ddim yn fodlon i gytuno ar y syniad bach yna. So, dwi'n ei defnyddio hi fel enghraifft o'r meddylfryd rwyt ti'n ei ffeindio pan wyt ti'n trio gwneud pethau rhesymol, fel oedd Adam Price yn ei ddweud.

Ar ochr yr LCMs, un o'r pethau sy'n hollol bwysig am y flwyddyn nesaf yw confensiwn Sewel. Nawr, rydym ni wedi setio mas yn ein dogfen ni ffyrdd i gryfhau'r confensiwn, ac rydym ni wedi gweithio gyda phobl eraill ar y syniadau yna hefyd. Os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn meddwl nad yw Sewel yn golygu dim byd, wel, bydd hwnna'n mynd i greu mwy a mwy o broblemau.

Llywydd, roedd Adam Price yn awgrymu nifer o bosibiliadau i gryfhau'r adroddiad ac i ddefnyddio'r adroddiad am fwy o bwrpasau, a diolch am y syniadau. Wrth gwrs, rydym ni'n fodlon eu hystyried nhw. Pan ydych chi yn gweithio gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon, rydych chi yn dod i weithio gyda phobl o gefndir gwleidyddol hollol, hollol wahanol, ac mae hwnna'n grêt onid yw e, achos rydych chi'n dysgu pethau ac rydych chi'n ffeindio ffyrdd i gydweithio gyda phobl sy'n dod o gefndir gwahanol ac mae gwneud hwnna ar ochr pobl sy'n byw yn yr Alban, yn Iwerddon ac yng Nghymru yn rhywbeth dwi'n awyddus i gryfhau dros y flwyddyn sydd i ddod.

15:25

Prif Weinidog, diolch am y datganiad ond hefyd am yr adroddiad hwn, y byddwn i'n ei argymell yn fawr i unrhyw un sy'n ymhél â'r trefniadau cyfansoddiadol presennol ar hyn o bryd ac ystyr hynny i Gymru a'r DU. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, fel nododd Darren, fod rhai tameidiau da yma, ond mae'n rhaid i mi ddweud fod yma ddarlun cymysg hefyd, ac fe wnaiff, wrth ddarllen yr adroddiad hwn, mewn gwirionedd, ddangos bod rhai—ychydig fel y tywydd presennol, fe geir llawer o stormydd yma ac yna fe ddaw ambell i lygedyn o heulwen drwy'r stormydd hynny. Nid oes gennyf i amser i fynd drwyddyn nhw heddiw, rwy'n awyddus i ganolbwyntio ar un mater yn arbennig, ond rwy'n sylwi bod Llywodraeth Cymru, o fewn yr adroddiad hwn, yn nodi unwaith eto ei gweledigaeth o Gymru gadarn o fewn DU lwyddiannus—yr angen i ailosod cysylltiadau rhynglywodraethol yn seiliedig ar weledigaeth o DU ddiwygiedig a chadarnach lle mae'r holl Lywodraethau yn gweithio gyda'i gilydd er lles pob un.

Sy'n ein cyfeirio ni, yn absenoldeb gallu mynd drwy hwn i gyd, rwyf i wedi mwynhau ei ddarllen yn fawr, ac fe wn i y bydd gan y pwyllgor ddiddordeb yn ei ddarllen, at fater yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, a allai fod yn un llygedyn o heulwen yn y storm, ond nid oedd datganiad y Prif Weinidog yn egluro hynny i mi. Roedd hi'n ymddangos bod y Cwnsler Cyffredinol, pan oedd o flaen y pwyllgor y diwrnod o'r blaen, yn glynu wrth rywfaint o obaith y gallem ni fod yn gwneud gwir gynnydd ac efallai y bydd yna rywbeth i fod yn hapus yn ei gylch. Ond pa obaith sydd ganddo ef y gallai'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, a allai fod yn ailosodiad mor fawr â hynny yn y berthynas rhwng gwledydd y DU, fod yn gyfle i fynd y tu hwnt i gymylau'r ddrycin a gweld wybren sydd ychydig yn fwy clir, neu a ddylem ni gymedroli ein disgwyliadau ni?

15:30

Llywydd, rwy'n diolch i Huw Irranca-Davies. Roeddwn i'n ceisio dweud yn fy natganiad agoriadol fy mod i'n dymuno bod yn optimistaidd ynglŷn â'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, oherwydd fe gafodd llawer iawn o waith ei wneud ar hwnnw, gan swyddogion yn arbennig felly. Ac mae rhai o'r datblygiadau mwyaf gyda chysylltiadau rhynglywodraethol wedi bod mewn meysydd y mae Llywodraeth Cymru, a'n swyddogion ni, wedi bod yn gyfrifol amdanyn nhw. Felly, mae'r ffaith ei fod yn cynnwys elfen annibynnol o ran datrys anghydfodau yn gam mawr ymlaen—nid ydym ni erioed wedi gweld hynny o'r blaen. Llywodraeth y DU yn unig oedd y barnwr, y rheithgor, y dedfrydwr, a'r Llys Apêl i gyd ar yr un pryd, ac nid dyna fydd yr achos erbyn hyn. Pan wnaethom ni geisio, gyda Llywodraeth yr Alban, Llywydd—efallai eich bod chi'n cofio—codi anghydfod ynghylch y £1 biliwn a aeth i Ogledd Iwerddon, heb unrhyw symiau cyffelyb i Gymru, na'r Alban, nac yn wir i Loegr, fe ddywedodd Llywodraeth y DU wrthym ni, yn eu barn hwy, nad oedd yna anghydfod. Felly, fe wnaethom ni ysgrifennu, gan ddweud, gan ddatgan anghydfod, ac fe wnaethon nhw ysgrifennu yn ôl a dweud, 'Yn ein barn ni, nid oes yna anghydfod, ac ni fyddwn ni, felly, yn mynd â'r mater ymhellach.' Wel, ni fydd hynny'n bosibl os daw'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol i ben. Pam ydw i'n petruso? Oherwydd ein bod ni—. Fe ddywedwyd wrthyf i, dros sawl mis erbyn hyn, ein bod ni ar fin ei arwyddo. Fe ddylem ni fod wedi ei arwyddo cyn toriad yr haf; ni ddigwyddodd hynny. Fe ddylem ni fod wedi ei arwyddo cyn i ni ddod yn ein holau; ni ddigwyddodd hynny. Fe ddylem ni fod wedi ei arwyddo ychydig cyn yr ad-drefnu, ond ni ddigwyddodd hynny. Felly, rwy'n dymuno bod yn optimistaidd, oherwydd fy mod yn credu bod llawer iawn o waith wedi cael ei wneud, ac mae hwnnw'n rhoi llwyfan newydd i ni a chyfle newydd i ni allu ailosod y cysylltiadau hynny, ond hyd nes y bydd hyn wedi ei gyflawni, ni fyddaf i'n gorfoleddu mewn unrhyw ffordd.

Fe hoffwn i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad ef. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ni dynnu sylw at feysydd lle mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi bod yn cydweithio, a hynny wedi bod o fudd i Gymru. Rydym ni wedi gweld cyflwyno'r brechlynnau, sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol o ran cadw trigolion Cymru yn ddiogel. Fel rwyf i wedi sôn yn gynharach, am gytundebau o ran twf, maen nhw wedi bod yn llwyddiant mawr o ran tyfu economi Cymru ac mewn gwirionedd mae'r ddwy Lywodraeth yn cydweithio a'r arian ychwanegol a anfonwyd i Gymru i gefnogi busnesau, ac mae'r gwaith a wnaethoch chi ar y cyd â Llywodraeth y DU wedi bod o fudd gwirioneddol i fusnesau yn hynny o beth.

Ond rwy'n credu mai bod â pharch yw ystyr llawer o'r hyn yr ydych chi wedi sôn amdano yn y cyswllt hwn, Prif Weinidog. Ac rwy'n credu y gellir bod â pharch, yn fy marn i, ar ddau ben yr M4—o un i'r llall. Ac mae parch yn allweddol i gysylltiadau da a'r gwaith a wnawn ni yn y lle hwn, ac mae'n mynd at hanfod yr hyn yr ydym ni i gyd yn ei gredu. Ond nid yw'r sylwadau a wnaeth dirprwy arweinydd y Blaid Lafur dros y dyddiau diwethaf wedi bod yn adeiladol o gwbl o ran unrhyw berthynas rhwng eich plaid chi a'm plaid innau, ac mae hyn wedi achosi llawer o helynt a dolur.

Prif Weinidog, fe wn i eich bod chi'n unigolyn parchus ac anrhydeddus iawn, ac, yn arweinydd Llywodraeth Cymru, nid yw'r sylwadau a wnaeth eich dirprwy arweinydd chi yn San Steffan yn helpu cysylltiadau rhynglywodraethol mewn unrhyw ffordd. Felly, yn fy marn i, Prif Weinidog, pe byddech chi'n condemnio'r sylwadau hyn, rwy'n credu y byddai hynny'n dwyn ein pleidiau ni'n nes at ei gilydd ac o gymorth gwirioneddol gyda chysylltiadau rhwng y llywodraethau, oherwydd nid yw galw pobl yn 'wehilion' yn beth neis ac nid gwleidyddiaeth garedig na thyner mo hynny.

Llywydd, rwyf i wedi clywed popeth sydd gan yr Aelod i'w ddweud.

Mae gan fy etholwyr i, fel llawer o bobl yn y gogledd-ddwyrain, gysylltiadau agosach â Chaer, Lerpwl, a Manceinion na'r rhai sydd ganddyn nhw â Chaerdydd. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda meiri metro yng ngogledd-orllewin Lloegr i gyflawni nodau cyffredin a hyrwyddo cydwasanaethau? Mae materion trawsffiniol yn peri pryder arbennig yn Nyffryn Clwyd, felly sut mae Llywodraeth Cymru am weithio gyda Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol Lloegr i fynd i'r afael â mwy o weithio trawsffiniol, ym maes iechyd a gofal yn arbennig felly? Yn olaf, Prif Weinidog, pa effaith y mae Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy yn ei chael ar fargen twf y gogledd, a sut mae Llywodraeth Cymru am weithio i atgyfnerthu cydweithio agosach rhwng awdurdodau lleol, fel Cyngor Sir Ddinbych, Llywodraethau Cymru a'r DU i wella ffyniant economaidd y rhanbarth cyfan ar y naill ochr a'r llall i Glawdd Offa? Diolch yn fawr iawn i chi.

Rwy'n diolch i'r Aelod, oherwydd mae'r rhain yn bwyntiau gwirioneddol bwysig yn fy marn i. Ac rwy'n credu, wrth i ni gynllunio trefniadau rhynglywodraethol ar gyfer y dyfodol, yna fe fydd ffyrdd o allu denu lleisiau rhanbarthol yn Lloegr yn bwysig iawn yn hynny i gyd. Nawr, yn y dyddiau diwethaf, fe gefais i gyfleoedd i gwrdd â meiri metro o sawl rhan o Loegr, ac mae hynny'n cynnwys y gogledd-orllewin hefyd, ac mae Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy yn rhan bwysig iawn o'r dirwedd ar gyfer economi gogledd-ddwyrain Cymru.

Un o'r anawsterau o ddod o hyd i ffordd o weithredu—rwy'n chwilio am y gair cywir, am eiliad, Llywydd—mewn ffordd drylwyr gyda meiri metro yw eu bod nhw i gyd yn wahanol—mae gan bob un ohonyn nhw bwerau sy'n amrywio, mae gan bob un ohonyn nhw gyfrifoldebau sy'n amrywio; nid oes unrhyw batrwm. Felly, ni allwch chi fod ag un dull o weithredu sy'n hawdd ei ddwyn o un gyfres o gysylltiadau i un arall. Ond rwy'n credu bod y pwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn ei wneud yn un pwysig, ac, wrth i gyfundrefn o feiri metro a datganoli aeddfedu yn Lloegr, yna, fe fydd y cydberthnasau hynny ar hyd ein ffin ni, yn y gogledd-ddwyrain gyda Lerpwl a Manceinion, ond gyda de-orllewin Lloegr hefyd, yn bwysig iawn i Gymru.

15:35

Diolch i'r Prif Weinidog. Felly, mae'r eitem yna ar ben. Ac fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr nawr, tra ein bod ni'n ail-drefnu'r Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:36. 

15:45

Ailymgynullodd y Senedd am 15:48, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Codi’r Gwastad

Diolch, a chroeso nôl. Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan Weinidog yr Economi, y gronfa codi’r gwastad a chronfa ffyniant gyffredin y Deyrnas Unedig. Galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ym mis Mehefin, cytunodd y Senedd hon yn llwyr fod ymagwedd Llywodraeth y DU at gronfeydd olynol yr Undeb Ewropeaidd yn ymosodiad ar ddatganoli yng Nghymru. Mae'n amlwg bod y cynlluniau pell ac wedi'u diffinio'n wael hyn ar hyn o bryd yn eithrio'r Senedd hon yn systematig ar faterion y caiff ei Haelodau eu hethol i wneud penderfyniadau arnynt. Rydym bellach yn wynebu gostyngiad enfawr yn y cyllid eleni er gwaethaf addewidion mynych na fyddai Cymru yn waeth ei byd yn ariannol ar ôl Brexit.

Disgwylir tua £10 miliwn, neu gyfartaledd o £450,000 ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru, eleni o'r gronfa adnewyddu cymunedol. Mae rhai ardaloedd, gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a sir y Fflint, wedi'u heithrio o'r rhestr ariannu blaenoriaeth tra bod ardaloedd mwy llewyrchus yn Lloegr yn cael eu cynnwys. Dirprwy Lywydd, ni all Llywodraeth y DU gynnal y myth y bydd pob rhan o Gymru yn elwa ac nad ydym yn waeth ein byd.

Mae Llywodraeth y DU yn parhau i dynnu sylw at y cyllid sydd ar gael o raglenni'r UE 2014-20, ond mae'n amlwg y byddai rhaglenni newydd yr UE eisoes wedi dechrau erbyn hyn. Ac mae dileu'r gorgyffwrdd hwn yn bwysig. Mae'n cynrychioli colled flynyddol gyfartalog o £375 miliwn i Gymru ar yr un pryd â gwneud y gallu i gynllunio'n amhosibl. Mae partneriaid cyflawni eisoes yn ceisio datgymalu'r seilwaith sydd ei angen i ddarparu ymyriadau tymor hirach oherwydd bod angen iddyn nhw wybod yn awr y bydd cyllid yno o hyd y tu hwnt i 2023.

A thrwy sicrhau bod yr arian hwn ar gael i geisiadau awdurdodau lleol sy'n cystadlu â'i gilydd yn unig, mae Llywodraeth y DU hefyd yn creu bylchau ariannu sector yn fwriadol, gan gynnwys ymhlith addysg uwch ac addysg bellach, y trydydd sector a busnes. Mae'r sectorau hyn wedi manteisio i'r eithaf ar gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol i helpu i leihau gwahaniaethau mewn ymchwil ac arloesi, i gefnogi pobl sy'n agored i niwed mewn cymdeithas, ac i helpu i hybu cystadleurwydd.

Mae gennym bryderon gwirioneddol hefyd am fygythiad cynlluniau Llywodraeth y DU ar raddfa cynlluniau a ariennir gan yr UE yn y dyfodol, gan gynnwys yr hyn mae hynny'n ei olygu i Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru, a phrentisiaethau. Nid yw'r gronfa codi'r gwastad yn gwireddu ei henw ar hyn o bryd, a disgwylir i bob awdurdod lleol yng Nghymru dderbyn tua £1.3 miliwn eleni. Mae'n amlwg bod y cronfeydd hyn gan y DU yn gyfystyr â gostyngiad i Gymru.

Er gwaethaf y gwrthddywediad hwn a'r risgiau brys rydym ni’n eu hwynebu yn awr, ni fu unrhyw arwyddion o welliant ers i ni drafod y cronfeydd hyn ddiwethaf ym mis Mehefin. Dim ond chwe mis sy'n weddill o'r flwyddyn ariannol hon, ac nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi unrhyw geisiadau llwyddiannus ar gyfer cronfeydd adnewyddu'r gymuned a'r cronfeydd codi'r gwastad. Mae hynny er gwaethaf yr addewidion a wnaed yn flaenorol i gyhoeddi ceisiadau ym mis Gorffennaf. Ac mae partneriaid yn iawn i ofyn sut mae prosiectau i fod i gyflawni erbyn mis Mawrth yn ôl y gofyn. Mae hwn yn oedi sy'n gadael cymunedau yn y tywyllwch ac yn peryglu'r hyn y gellir ei gyflawni i bobl a busnesau yma yng Nghymru.

Nid ydym ychwaith wedi ymgysylltu'n wirioneddol â'r ymarfer asesu ceisiadau, a gyda'n mewnbwn arfaethedig yn cael ei gyfyngu i delerau cwbl annerbyniol. Mae hon yn broses anhryloyw a phell nad yw'n cynrychioli datganoli i gymunedau lleol. Mae Llywodraeth y DU wedi gorfodi cynghorau i gystadlu a gweithredu fel gweinyddwyr, a chynigion yn cael eu hasesu yn Whitehall a phenderfyniadau ariannu’n cael eu gwneud gan Weinidogion y DU yn San Steffan.

Ac mae cynlluniau ar gyfer y gronfa ffyniant a rennir yr un mor bryderus. Ddeunaw mis ar ôl Brexit, gallwn barhau i ddisgwyl dim mwy na fframwaith gwariant lefel uchel yn adolygiad gwariant y mis nesaf. Ac eto, nid ydym yn glir o hyd ynghylch pa rôl fydd gan Lywodraethau datganoledig. Rydym hefyd yn ansicr a fydd y gronfa ffyniant a rennir hyd yn oed ar agor ar gyfer busnes y flwyddyn nesaf oherwydd yr oedi parhaus. Ni ellir disgrifio dull Llywodraeth y DU o ariannu ar ôl Brexit mewn unrhyw ffordd fel gwaith partneriaeth derbyniol, heb sôn am gysylltiadau rhynglywodraethol effeithiol.

Mae hyn yn siomedig, o ystyried ymrwymiadau'r Prif Weinidog yn dilyn yr uwchgynhadledd ym mis Mehefin a fynychais gyda'r Prif Weinidog ynghylch cysylltiadau rhynglywodraethol mwy effeithiol ledled y DU, a pharodrwydd y Llywodraeth hon a'n Prif Weinidog i gydweithio'n effeithiol wrth wneud hynny.

Mae camau digyswllt ac anhrefnus Llywodraeth y DU hefyd wedi methu â chreu argraff ar grwpiau seneddol trawsbleidiol y DU, y Sefydliad Llywodraethu a Seneddau a Llywodraethau datganoledig. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol adroddiad ar y rhaglen codi'r gwastad, ac rwy’n dyfynnu:

'Mae'r cyllid sydd ar gael i gyflawni codi'r gwastad yn wahanol ac nid oes ganddo unrhyw ddiben na phwyslais strategol cydlynol cyffredinol';

'mae absenoldeb ymddangosiadol unrhyw ymgysylltiad strategol ystyrlon â'r gweinyddiaethau datganoledig ynghylch yr agenda codi'r gwastad, yn ymhelaethu ar y diffyg eglurder a phwyslais o amgylch y polisi mawr hwn.'

Ac ar y gronfa ffyniant a rennir, dywedodd y Sefydliad Llywodraethu ym mis Gorffennaf:

'bydd llywodraeth y DU yn gwario ar swyddogaethau polisi sydd wedi'u datganoli'n bennaf. Rydym wedi amlinellu'r risg y bydd hyn yn arwain at ddyblygu swyddogaethau a darnio'r gwasanaethau yn ddi-fudd.'

Mae'r Uchel Lys hefyd wedi cytuno i glywed her gyfreithiol a gyflwynwyd gan y Good Law Project am Lywodraeth y DU yn defnyddio'r gronfa codi'r gwastad er budd gwleidyddol, yn hytrach nag angen.

Codwyd pryderon cynyddol am y problemau sy'n dod i'r amlwg a'r bylchau cyllido sy'n wynebu sectorau hefyd gyda mi gan bartneriaid yng Nghymru, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a Phrifysgolion Cymru. Er gwaethaf rhybuddion o'r fath a chyngor gonest, mae Llywodraeth y DU wedi methu â gwrando, penderfyniad a fydd yn costio cyfleoedd gwaith i Gymru ac yn tanseilio prosiectau y mae mawr eu hangen.

Dirprwy Lywydd, nid yw'n glir eto beth fydd effaith y dull hwn, ond yr oeddwn yn fodlon cefnogi gwelliannau Plaid Cymru yn ystod y ddadl ym mis Mehefin. Gallaf gadarnhau unwaith eto heddiw y byddwn yn cynnal asesiad effaith pan fo'n ymarferol, fel y cytunwyd bryd hynny. Dylai Gweinidogion y DU nodi'r sefyllfa fwyafrifol glir yn y Senedd hon. Yn wir, cynigiwyd maniffesto i bobl Cymru a oedd yn cymeradwyo cynlluniau Llywodraeth y DU yn etholiadau'r Senedd eleni, ond ni chafodd hynny gefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru, fel y gwyddom. Mae mwyafrif clir o ran dull 'wedi’i wneud yng Nghymru' sy'n parchu datganoli.

Mae ein fframwaith ein hunain ar gyfer buddsoddi arian newydd yr UE yn adeiladu ar flynyddoedd o ymgysylltu â phartneriaid. Mae'n seiliedig ar dystiolaeth a chytundeb, gyda blaenoriaethau clir i Gymru, a dyma sut mae dull tîm Cymru yn edrych. Mae ein cynlluniau'n dod â phŵer a chyllid yn nes at gymunedau drwy drosglwyddo cyllid a chyfrifoldebau i'r cyd-bwyllgorau corfforaethol newydd. Mae'r fframwaith hefyd yn cydnabod mai rhai ymyriadau, fel prentisiaethau a chymorth busnes, yw'r rhai mwyaf cost-effeithiol a hygyrch ar lefel genedlaethol. Rydym hefyd wedi comisiynu cyngor pellach gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i helpu i gynllunio'r strwythurau llywodraethu aml-lefel gorau ar gyfer datblygu economaidd yng Nghymru. Ac eto, dyma sut mae dull partneriaeth go iawn yn edrych.

Dirprwy Lywydd, rwyf wedi egluro mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol newydd Michael Gove ein bod yn agored i drafodaethau ystyrlon ar y ffordd orau o gydweithio i sicrhau bod y cronfeydd hyn yn llwyddiant. Mae gan Lywodraeth y DU gyfle i ddangos ei bod wedi gwrando ac i ddod â chyfnod i ben lle mae'n dweud wrth Gymru, 'Fe gewch chi'r hyn rydych chi’n ei gael.' Ni allai unrhyw Lywodraeth yng Nghymru dderbyn y dull hwnnw gan unrhyw Lywodraeth yn y DU, ac ni ddylai wneud hynny.

15:55

Diolch, Dirprwy Lywydd. Efallai y byddai'n syndod i'r Gweinidog fy mod yn dechrau ar nodyn o gytundeb ag ef ynghylch y diffyg cyflymder wrth ymateb i geisiadau sydd wedi'u cyflwyno i'r gronfa adnewyddu cymunedol. Mae angen i ni weld llawer mwy o gynnydd.

Nawr, mae'r datganiad heddiw yn galw am ragor o wybodaeth a manylion gan Lywodraeth y DU, ac, er tegwch, os yw'r arian i gael ei ddarparu'n effeithiol, yna mae'n amlwg bod cydweithio'n hanfodol. Er fy mod yn sylweddoli bod Ysgrifennydd Gwladol tai, cymunedau a llywodraeth leol newydd wedi'i benodi i oruchwylio'r cyllid hwn, mae cymunedau lleol ledled Cymru yn dal i aros am wybodaeth hanfodol am eu ceisiadau, ac mae'n hanfodol bod y wybodaeth honno ar gael. Nawr, mae'r Gweinidog wedi ei gwneud yn glir heddiw ei fod wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol newydd i ddweud ei fod yn agored i ymgysylltu ystyrlon. Fodd bynnag, o ystyried naws ei ddatganiad, efallai y gall gadarnhau a yw wedi gofyn am gyfarfod brys fel y gall wneud y pwyntiau hyn yn uniongyrchol i'r Ysgrifennydd Gwladol.

Dirprwy Lywydd, mae pob un ohonom am weld y cyllid hwn yn cyrraedd cymunedau yng Nghymru ac yn gwneud gwahaniaeth mawr. Wrth ei wraidd, mae'r gronfa adnewyddu cymunedol yn grymuso cymunedau lleol drwy roi rôl uniongyrchol i awdurdodau lleol wrth gyflawni'r buddsoddiad hwnnw. Rydym newydd weld pa mor gadarn y mae ein hawdurdodau lleol wedi bod yn ystod y pandemig, ac rwy'n credu eu bod mewn sefyllfa berffaith i gyflawni'r buddsoddiad hwn. Mae datganoli'r arian hwn i awdurdodau lleol yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei gefnogi. Ac eto, mae'r datganiad heddiw'n dangos eto fod Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r agenda codi'r gwastad i barhau gyda gwrthdaro cyfansoddiadol â chymheiriaid yn San Steffan. Ac felly, hoffwn atgoffa'r Gweinidog bod dwy Lywodraeth yn gwasanaethu pobl Cymru, nid un, ac ni fu erioed yn rhan o'r setliad datganoli y dylai llywodraeth leol yng Nghymru ddod yn faes na ddylai Llywodraeth y DU fentro iddo. Yn wir, yn hytrach na'r rhethreg 'beio San Steffan' arferol, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym pa gamau ymgysylltu a chefnogi mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnig i awdurdodau lleol i'w cefnogi drwy'r broses hon.

Nawr, mae'r Gweinidog wedi dweud dro ar ôl tro, os yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynghylch ffyniant yma yng Nghymru yn y dyfodol, fod yn rhaid iddi roi cyfran deg o wariant y DU i Gymru, ac ailadroddodd y sylwadau hynny eto heddiw. Wel, mae Llywodraeth y DU wedi ei gwneud yn glir iawn na fydd Cymru ar ei cholled drwy'r gronfa ffyniant a rennir, a bydd proffil y gwariant yn cael ei nodi yn adolygiad nesaf gwariant y DU, a ddisgwylir yr hydref hwn. Yn y cyfamser, mae cyfleoedd yma i Lywodraeth Cymru gefnogi Llywodraeth y DU drwy annog y defnydd parhaus o brofiad, ac yn wir arbenigedd, sydd wedi'i adeiladu yn ystod degawdau o ddarparu arian yr UE yma yng Nghymru. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud wrthym beth mae ef a'i swyddogion yn ei wneud i hybu'r arbenigedd hwnnw a sicrhau ei fod yn cael ei gadw o dan y ffrydiau ariannu newydd hyn.

Nawr, rwy'n credu ei bod yn deg dweud y bydd y gronfa adnewyddu cymunedol a'r gronfa ffyniant a rennir ehangach yn cael ei barnu ar eu canlyniadau, ac mae'n ddyddiau cynnar iawn i ffurfio unrhyw asesiad difrifol, ond mae'n rhaid i ni edrych ar ble mae cyfleoedd i ymgysylltu'n adeiladol ar yr agenda hon, yn hytrach na threulio amser ac ymdrech yn sgorio pwyntiau yn wleidyddol. Gallai Llywodraeth Cymru fod yn defnyddio ei hamser i ddweud wrthym beth yw ei chynlluniau ei hun ar gyfer cefnogi adnewyddu cymunedol a sicrhau ffyniant economaidd, ond yn hytrach rydym yn cael pregeth arall yn erbyn San Steffan. Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn iawn i ddweud na ddylai hyn atal Llywodraeth Cymru rhag amlinellu ei strategaeth datblygu economaidd ar gyfer y dyfodol yn fanwl, gan gynnwys lle mae cymorth busnes yn rhan ohono ac yn cyd-fynd â'i gweledigaeth, ei gwerthoedd a'i hegwyddorion. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn manteisio ar y cyfle heddiw i ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ailadeiladu economi Cymru, yr hyn sy'n cael ei wneud i sbarduno arloesedd, creu swyddi a sbarduno newid economaidd parhaol.

Mae'r datganiad heddiw hefyd yn cyfeirio at alwadau'r Ffederasiwn Busnesau Bach, ac un o'r rheini yw i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r cyfle hwn i amlinellu ei gweledigaeth drwy Fil datblygu economaidd. Fel maen nhw’n ei awgrymu, byddai hyn hefyd yn gosod y paramedrau a'r egwyddorion sy'n sail i'w holl sefydliadau, cylchoedd gwaith a nodau, a'i dull o ymdrin â chymorth busnes a'i nodau. Wrth gwrs, mae'n hanfodol bod Busnes Cymru yn cael ei ddiogelu o dan y gronfa ffyniant a rennir, o leiaf ar ei lefelau presennol, a bod sefydlogrwydd ariannu tymor hirach i Fanc Datblygu Cymru. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog gadarnhau a fydd yn cyflwyno Bil datblygu economaidd, pa drafodaethau mewnol sy'n cael eu cynnal i drafod dyfodol Busnes Cymru, a pha gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi Banc Datblygu Cymru yn y tymor hirach.

Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, rwy'n derbyn bod rhai pryderon cyfiawn yn natganiad y Gweinidog heddiw, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn pwyso am ymgysylltu ystyrlon fel y gellir darparu'r arian hwn mor effeithiol â phosibl i ni yma yng Nghymru.
 

16:00

Diolch am y gyfres o gwestiynau. Rwy'n falch o nodi ei fod yn cydnabod y pryder ymarferol iawn, waeth beth fo'r fframwaith polisi, fod y diffyg gwneud penderfyniadau yn anfantais wirioneddol i awdurdodau lleol o unrhyw arweinyddiaeth wleidyddol yma yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y gellir gwneud penderfyniadau, ond, fel y dywedais i, mae hynny eisoes yn peryglu'r gallu i wario'r arian hwnnw mewn pryd ac yn effeithiol yn unrhyw ran o Gymru.

Rwyf hefyd wedi gofyn am gyfarfod â Michael Gove cyn yr adolygiad o wariant. Hoffwn gael y cyfarfod brys y cyfeiriodd ato. Nid wyf yn siŵr a oes gan Michael Gove bobl yn gwrando, ond mae'n ddefnyddiol clywed bod cefnogaeth gan feinciau'r Ceidwadwyr iddo gwrdd â mi i drafod y materion hyn eu hunain. Rwy'n credu bod eiliad o gyfle i gael sgwrs am yr hyn y gellir ei wneud mewn gwirionedd, oherwydd mae llawer o'r hyn a ddywedodd yr Aelod sy’n bwysig iddo yn cael ei beryglu'n uniongyrchol gan y dull presennol.

Os meddyliwch chi am yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am awdurdodau lleol, mewn gwirionedd, fe wnaethom ni gynllunio fframwaith newydd ar gyfer buddsoddi economaidd gydag awdurdodau lleol fel un o'n partneriaid allweddol. Rydym wedi adeiladu ar y cydberthnasau hynny ac rydym wedi gweithio gyda nhw i gynllunio fframwaith newydd, ac mae awdurdodau lleol yn rhedeg y cyd-bwyllgorau corfforaethol hynny. Byddai ganddyn nhw lais sylweddol yn y ffordd y byddai arian yn cael ei wario yn y dyfodol a bydden nhw'n cynllunio blaenoriaethau lleol gyda ni fel partneriaid. Yn wir, mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn bwriadu ymgymryd â chyfrifoldebau'n gynt yn hytrach nag yn hwyrach, ac, mewn sawl ffordd, mae rhai cysondebau yno gyda'r bargeinion twf y mae Llywodraeth y DU wedi'u hariannu ar y cyd â ni. Mae'n dysgu gwersi o gylchoedd blaenorol o gyllid yr Undeb Ewropeaidd i geisio sicrhau bod gennym ymyriadau mwy strategol a mwy ohonyn nhw i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Nid yw rhannu'r dull hwnnw o weithredu mewn proses ymgeisio awdurdod lleol yn unig yn gwarantu y bydd ardaloedd mewn angen yn llwyddiannus mewn proses ymgeisio gystadleuol—dyna un her. Ar hyn o bryd, gwyddom ein bod yn colli swm sylweddol o arian—mwy na £300 miliwn yn llai na’r hyn a gawn os bydd y symiau bach o arian yn y cronfeydd treialu yn cael eu darparu mewn gwirionedd yn ystod eleni. Mae hynny'n fater o ffaith; nid oes modd ei osgoi ac ni ellir ei wadu, ni waeth faint mae'r Aelod yn ysgwyd ei ben.

O ran yr heriau o geisio darparu gwersi o 20 mlynedd o wneud dewisiadau yma yng Nghymru, mae hynny'n tanlinellu'r pwynt mewn gwirionedd: bydd 20 mlynedd o Weinidogion yn y lle hwn yn gwneud dewisiadau a bod yn atebol i'r sefydliad hwn am y dewisiadau hynny yn dod i ben os bydd y dull presennol yr oedd yr Ysgrifennydd Gwladol blaenorol yn ei ddilyn yn parhau, oherwydd nid oes gennym rôl ystyrlon yn y ffordd mae'r cronfeydd yn cael eu cynllunio. Un o'r ychydig ddewisiadau a wnaed oedd torri cwys Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn fwriadol, felly, mewn gwirionedd, nid oes cyfle i rannu'r hyn sydd wedi digwydd, oherwydd nid oes gan Lywodraeth y DU ddiddordeb mewn gwrando, neu o leiaf nid oedd ganddyn nhw gyda'r Ysgrifennydd Gwladol blaenorol.

Byddwn i'n dweud, pan fydd yr Aelod yn sôn am Busnes Cymru a'i werth, fod rhan sylweddol o gyllid Busnes Cymru yn dod o'r cronfeydd hyn. Gyda'r ffordd mae'r dull presennol wedi'i gynllunio, ni fydd yr arian hwnnw yno. Gallaf ddweud wrthych chi nad oes arian sbâr i lawr cefn y soffa weinidogol, bod yn rhaid i fy nghyfaill da a fy nghydweithiwr Rebecca Evans ddod o hyd i'r arian hwnnw yn y maes hwnnw, neu'r traean o arian a fyddai'n diflannu o brentisiaethau na ellir eu gwario o dan y dull presennol, neu, yn wir, yr arian ar gyfer cefnogi swyddi ym mhob un etholaeth ledled Cymru gyda'r banc datblygu hefyd.

Mae'r dull presennol, fel y mae, yn sylweddol ddiffygiol a bydd yn costio swyddi a chyfleoedd ym mhob cymuned yng Nghymru. Gobeithio y bydd Michael Gove yn manteisio ar y cyfle i siarad â ni ac i weithio gyda ni ac i edrych ar sut y byddwn yn cael fframwaith y gall Cymru weithio'n iawn ynddo ac na fydd yn peryglu'r gwaith yr ydym ni wedi'i wneud, gan ddysgu'r gwersi o fwy nag 20 mlynedd o wneud dewisiadau yma yng Nghymru, ac i ni a phawb weithio'n effeithiol gyda phartneriaid yma yng Nghymru i greu swyddi a chyfleoedd fel y dymunwn wneud hynny.
 

16:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel yr eglurodd Plaid Cymru yn y ddadl ar y pwnc hwn cyn y toriad, hyd yma mae agenda codi'r gwastad San Steffan wedi golygu mwy o bwerau i San Steffan, mwy o arian ar gyfer seddi Torïaidd, a llai o ddemocratiaeth, cyllid a chynrychiolaeth i Gymru. Rydym ni’n haeddu gwell na hyn, ac yr oedd ein gwelliannau ni, wrth gwrs, yn adlewyrchu hynny. Yn ystod y ddadl honno ceisiwyd gwneud pwyntiau penodol ynghylch y broses y tu ôl i'r meini prawf dethol ar gyfer y cronfeydd hyn, ac fe wnaethom ni alw am asesiadau manwl o'r effaith y bydd yr arian hwn yn ei chael ar Gymru. Roeddem ni, wrth gwrs, yn falch bod y Llywodraeth wedi cefnogi'r gwelliannau hynny ar y pryd.

Os na fydd y cronfeydd hyn yn cael eu disodli'n llawn a'u gweithredu gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau datganoledig, yna bydd Cymru'n cael cam difrifol ac yn waeth ei byd. Yn hytrach na phrofi cryfder yr undeb, roedd ymateb pandemig y DU mewn gwirionedd yn un cymhorthdal enfawr i dde Lloegr. Mae'r Ganolfan Polisi Blaengar wedi cyfrifo bod Llywodraeth y DU wedi gwario £1,000 yn fwy fesul preswylydd yn Llundain nag yng Nghymru, a £6.9 biliwn yn fwy ar Lundain na phe bai gwariant brys wedi'i ddyrannu i bob gwlad a rhanbarth yn gyfartal. Ni all Llywodraeth Cymru adael i'r un peth ddigwydd gyda'r cronfeydd hyn. Mae'n rhaid i Gymru gael ei chyfran deg o San Steffan.

Gan droi at eich datganiad, Gweinidog, mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi nodi bod ansicrwydd o hyd ynghylch sut y bydd cyllidebau'n edrych yn 2022-23, sy'n golygu bod y gallu i gynllunio ar gyfer y tymor hir yn cael ei lesteirio. Ydy'r Gweinidog yn cytuno, fel mater o frys, y dylai Llywodraeth y DU nodi ei chynllun manwl ar gyfer ariannu a dyluniad yr arian hwn fel bod eglurder a sicrwydd i'r holl randdeiliaid gynllunio ar gyfer y blynyddoedd i ddod?

O ran amserlen ar gyfer cyhoeddi asesiad o effaith, mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig a gyflwynwyd dros yr haf yn gofyn pryd y bydd y Llywodraeth yn gosod gerbron y Senedd asesiad o effaith yn dangos effaith y trefniadau ariannu hyn ar ddosbarthu cyllid ledled Cymru, fe wnaethoch ateb yn dweud

'o ystyried yr oedi a'r ansicrwydd parhaus ynghylch y cyllid hwn, nid yw'n ymarferol ar hyn o bryd pennu amserlen gadarn ar ba bryd y gellir cynnal asesiad effeithiol o effaith y trefniadau ariannu hyn.'

Wrth gwrs, ailadroddwyd y sefyllfa hon yn y datganiad heddiw. Ond a yw'r Gweinidog yn cytuno bod oedi pellach ar ochr San Steffan o bethau yn sarhad arall eto ar allu ein Senedd yng Nghymru i weithredu atebion polisi ac ariannu sy'n gweithio i Gymru?

Cododd fy nghyd-Aelod Rhys ab Owen hefyd gyda Gweinidog y cyfansoddiad yr wythnos diwethaf yr adran codi'r gwastad newydd yn Whitehall. Fel y nododd, mae Llywodraeth y DU wedi dweud o'r blaen, pan fyddan nhw o'r farn ei bod yn briodol, y byddan nhw yn gofyn am gyngor gan Lywodraeth Cymru ar brosiectau yng Nghymru. Ydy'r Gweinidog wedi cael unrhyw drafodaethau cynnar gyda'r Ysgrifennydd Gwladol am godi'r gwastad ynghylch sut y bydd eu dwy adran yn cydweithio? Pa mor hyderus yw'r Gweinidog y bydd yr adran newydd hon yn Whitehall yn ymgysylltu'n wirioneddol â Gweinidogion Cymru?

Ac yn olaf, dros y toriad, cododd Prifysgol Caerdydd bryderon y gallai torri addewidion gan Lywodraeth y DU ar gyllid yn y dyfodol effeithio'n drwm ar sylfaen ymchwil ac arloesi Cymru. Roedd sylfaen ymchwil Cymru yn hanfodol wrth gefnogi ymateb cychwynnol y genedl i COVID-19 a byddai'n hanfodol mewn paratoadau ar gyfer pandemigau yn y dyfodol, pwynt a gydnabyddir, wrth gwrs, gan brif swyddog meddygol Cymru. Er bod gan San Steffan rôl glir i'w chwarae, mae hefyd yn hanfodol bod Cymru'n gwneud gwell defnydd o'i sylfaen ymchwil i fynd i'r afael â'r difrod a achoswyd gan COVID-19, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, i wneud y defnydd gorau o'n harbenigedd a'n seilwaith. Mae prifysgolion Cymru, wrth gwrs, yn hanfodol i'r economi, gan greu dros £5 biliwn a bron i 50,000 o swyddi. Mae effeithiau economaidd pandemig COVID-19 ac agenda ôl-UE yn golygu bod angen i ni symud ymlaen yn awr ar yr argymhellion yn adolygiadau Diamond a Reid, yn gynt yn hytrach nag yn ddiweddarach, yn benodol: i gynnal cyllid ymchwil sy'n gysylltiedig ag ansawdd; i gadw ymreolaeth academaidd; i gynyddu arloesedd ac ymgysylltiad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i £25 miliwn—fel y mae ar hyn o bryd, mae'n £15 miliwn; i greu cronfa dyfodol Cymru gwerth £30 miliwn, gan wobrwyo sefydliadau sy'n denu buddsoddiad i Gymru; a sefydlu cronfa fuddsoddi Dewi Sant gwerth £35 miliwn, gan gynnwys arloesedd, cystadlaethau a chanolfannau.

Roedd Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Senedd ddiwethaf yn cefnogi gweithredu'r argymhellion hyn fel mater o frys yn ei adroddiad etifeddiaeth. Ydy'r Gweinidog yn derbyn bod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiadau rhagorol yn y mater hwn y gallan nhw eu datrys heb fod angen cymorth gan San Steffan, a pha gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yr argymhellion sydd wedi’u derbyn eisoes yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosibl?
 

16:10

Diolch am y cwestiynau. Fe wnaf ymdrin â'ch pwynt olaf yn gyntaf, a hynny yw fy mod yn ofni ei fod yn bwysig beth sy'n digwydd dros y mis nesaf gyda'r adolygiad o wariant, am ein gallu i fwrw ymlaen â'r ymrwymiadau rydyn ni wedi'u gwneud. Mae ein hymrwymiad i gael strategaeth wyddoniaeth flaengar ac i fanteisio i'r eithaf ar ein cyfleoedd ym maes ymchwil, datblygu ac arloesi yn dal i fod yno. Ond mae angen i ni ddeall yr offer y bydd gennym ni i wneud hynny. Felly, mae'n ymwneud yn rhannol â'r gronfa lefelu; mae hefyd yn ymwneud â'r hyn sy'n mynd i ddigwydd yn yr adolygiad o wariant a'r gyllideb. Bydd craffu ar bwyllgorau pan gyflwynir ein cyllideb ein hunain, ac rwy'n siŵr bod y Gweinidog cyllid wedi bod yn gwrando gyda diddordeb am fwy fyth o geisiadau am arian, sydd bob amser i’w ddisgwyl pan fyddwch yn Weinidog yn y Llywodraeth. Ond y pwynt difrifol yw bod gennym ymrwymiad y byddwn yn ceisio'i gyflawni, cyn belled ag y gallwn, gyda'r adnoddau sydd gennym, a byddwn yn nodi sut y gallwn wneud hynny pan fydd gennym ddarlun cliriach am adnoddau.

Ar hyn o bryd, rydym ar y trywydd i gael llai o lais dros lai o arian. Nid yw hynny'n sefyllfa wych i fod ynddi, ac nid wyf yn deall sut y gallai unrhyw un a etholwyd i'r lle hwn ddathlu'r ffaith bod dull bwriadol o ddileu pwerau ac adnoddau oddi wrth y sefydliad hwn. Os yw pobl am gael ymagwedd wahanol gan Lywodraeth Cymru, wel, dyna beth mae pobl yn ei benderfynu pan fyddwn yn cael etholiadau. Rydym wedi cael etholiadau gyda maniffestos, mae pobl wedi pleidleisio, mae gennym agenda yr ydym yn dymuno bwrw ymlaen â hi, oherwydd dyna'r cyfrifoldeb mae pobl Cymru wedi dewis ei roi i ni. Ni allaf asesu'r cronfeydd newydd. Rwyf wedi ymrwymo i asesu'r cronfeydd newydd pan fyddwn mewn sefyllfa i wneud hynny, ond, fel y gwnaeth llefarydd y Ceidwadwyr gydnabod, nid oes yr un o'r cronfeydd newydd wedi'i ddyrannu eto, hyd yn oed yn y cyfnod prawf. Felly, ni allwn hyd yn oed asesu effaith y cyfnod prawf, oherwydd nid yw'r penderfyniadau wedi'u gwneud, heb sôn am unrhyw benderfyniadau gwario sy'n cael eu gwneud. Pan fydd gennym fframwaith, pan fydd gennym fwy o benderfyniadau am yr hyn mae hynny'n ei olygu, byddwn yn cyflawni'r ymrwymiad yr ydym ni wedi'i wneud i ddarparu asesiad o'r hyn y credwn y bydd hynny'n ei wneud, yn ogystal â'r hyn a wneir wedyn pan wneir dewisiadau am y gwariant ehangach hwnnw.

Rwy'n credu bod pwynt cyfle o hyd, fel y dywedais i, i'r Ysgrifennydd Gwladol newydd, ac mae hynny'n rhannol yn dod yn ôl at y pwyntiau yr oeddech chi'n eu gwneud am yr hyn yr ydym yn ei ddeall am y gweithredu, y dyluniad a'r cynllun fel y mae. Y realiti yw nad oes un. Y pwyntiau allweddol a wnaed oedd y byddai penderfyniadau'n cael eu gwneud gan Weinidogion y DU. Gwnaed penderfyniadau ynghylch peidio â gwrando ar Lywodraeth Cymru a pheidio â gweithio gyda hi, mewn ffordd a oedd yn eithaf syfrdanol, wrth anwybyddu'r cyfle i weithio gyda ni mewn ffordd a allai ac a ddylai fod yn adeiladol. Wedi'r cyfan, oherwydd y risgiau dan sylw, pwy ar y ddaear sydd am fod yn gyfrifol am wneud dewisiadau a allai weld y rhaglen brentisiaeth yn cael ei lleihau o ganlyniad uniongyrchol i'r dewisiadau a wneir mewn swyddfa weinidogol yn Whitehall? Nid wyf yn credu mai dyna y byddai Aelodau Ceidwadol yn y lle hwn nac unrhyw un arall yn falch o sefyll i fyny a dweud eu bod wedi’i gyflawni. Ond mae'r ffaith nad oes cynllun mewn gwirionedd, nid yn unig i Gymru ond i'r DU—. Felly, pe baech yn siarad â chynrychiolwyr o Loegr, bydden nhw'n dweud wrthych chi nad ydyn nhw'n deall sut mae hyn yn mynd i weithio, oherwydd nid oes cynllun ar hyn o bryd. Y cyfle i Michael Gove yw gweithio gyda ni ar sut y gallai fframwaith yn y DU edrych, yn yr un ffordd yn union lle'r ydych wedi cael fframweithiau ar draws yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol, ond i fod yn glir iawn ynghylch y dewisiadau sy'n cael eu gwneud yma yng Nghymru ynghylch yr hyn a wnawn gyda'r arian a bod yn glir am y symiau o arian sydd ar gael, fel y gall Gweinidogion yma gael eu dwyn yn briodol o hyd i gyfrif am ddewisiadau y dylem ni fod yn eu gwneud gyda'r pwerau mae'r cyhoedd yng Nghymru yn disgwyl i ni eu cael ac i'w harfer.

Yn y llythyr, yn fy nghais i gwrdd â Michael Gove—dylwn ddweud, efallai, i gydbwyso rhywfaint o feirniadaeth Llywodraeth y DU a Gweinidogion Ceidwadol, nad fi yw cefnogwr mwyaf Michael Gove, ac mae'n debyg na fyddwn i'n mynd allan i ddawnsio gydag ef, ond pan ddaw'n fater o'r ffordd mae wedi gweithredu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig yn y pandemig, mae ganddo gyfrifoldebau undeb y mae'n eu cadw, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n golygu, efallai'n fwy na Gweinidogion eraill yn Llywodraeth y DU, ei fod yn deall realiti gweithio gyda Llywodraethau datganoledig, ac, mewn gwirionedd, pan fyddwch chi'n gweithio gyda Llywodraethau datganoledig, y byddwch yn cael mwy o waith yn gyflymach. Dylwn ddweud, mewn cyfarfodydd y mae wedi'u cynnal, maen nhw bob amser wedi cael eu rhedeg a'u cynnal yn broffesiynol. Byddwn i'n gobeithio bod dull gweithredu ‘bwrw ati’ yn un y bydd yn ei gymryd, i fod eisiau gwneud pethau—ar gyfer ei amcanion ei hun, rwy’n deall, hefyd—ond, yn yr un modd, i wneud hynny mewn ffordd a fyddai, o fy safbwynt i, yn cryfhau'r achos dros yr undeb ac yn sicrhau ein bod yn ymgymryd â'n cyfrifoldebau ac yn cael ein dwyn i gyfrif yn briodol lle y dylem fod, o fewn y Senedd genedlaethol hon.

Rwyf yn ddiolchgar i chi, Gweinidog, am y datganiad. Mae proses yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi peri siom dwfn a dwys i mi. Pan gefais fy ethol i'r lle hwn am y tro cyntaf, a phan ymunais â Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf, roedd gennym berthynas dda a chalonnog â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Nid oeddem yn cytuno ar bopeth, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl gyda safbwyntiau gwleidyddol gwahanol, ond roedd Gweinidogion y DU bob amser yn gofyn am gytundeb, yn ein cynnwys mewn sgyrsiau, ac yn sicrhau bod holl Lywodraethau'r Deyrnas Unedig yn teimlo bod ganddyn nhw'r lle a'r cyfle i ddadlau a thrafod polisi cyn cytuno ar safbwynt y DU—a chytuno, yn hytrach na gorfodi. Fel Aelod o'r Senedd hon heddiw, pan fyddaf i'n ceisio croesholi Gweinidogion y DU, rwyf i’n eu cael nhw’n ochelgar, rwyf i'n eu cael nhw'n osgoi craffu, a phan fyddan nhw o flaen y pwyllgor, rwy'n gweld eu bod yn osgoi ateb cwestiynau. Ac mae hwnnw'n lle gwael iawn, iawn i fod ynddo.

Byddwn yn ddiolchgar, Gweinidog, pe gallech chi—eich hun, fel Gweinidog, a Llywodraeth Cymru yn ehangach; rwyf yn falch bod y Gweinidog cyllid yn ei lle ar gyfer hyn—gyhoeddi ffigurau am ba arian sy'n cael ei ddarparu i Gymru drwy'r gwahanol gynlluniau hyn a chymharu hynny â'r arian sydd wedi bod ar gael dros y degawd diwethaf, fel y gallwn ni ddwyn Gweinidogion y DU i gyfrif a sicrhau eu bod yn dysgu gwersi cylchoedd blaenorol. Roedd arweinydd dros dro'r wrthblaid Paul Davies yn llygad ei le yn yr hyn a ddywedodd am yr arbenigedd sy'n bodoli yn y lle hwn ac yn Llywodraeth Cymru. O'r hyn y gallaf ei weld, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn defnyddio'r cronfeydd hyn fel ffordd o gyflawni amcan gwleidyddol, yn hytrach na datblygiad economaidd a chymdeithasol, ac o'r hyn y gallaf ei weld—

16:15

Ac fe wnaf orffen gyda hyn, os byddwch chi'n garedig. Yr hyn y gallaf i ei weld yw eu bod yn ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol, ac nad ydyn nhw'n dysgu gwersi'r gorffennol.

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwyf yn cofio bod yn Aelod newydd i'r sefydliad hwn, ac yn fuan ar ôl i'r Aelod gael ei benodi i'r Llywodraeth, yn sôn yn union am y profiad hwnnw—o weithio yng Nghyngor y Gweinidogion, a chael llinell gytûn yn y DU, lle'r oedd Gweinidogion yr Alban a Gweinidogion Cymru o wahanol berswâd gwleidyddol i Weinidogion y DU yn dal i gael trafodaeth adeiladol a phwrpasol cyn mynd i mewn i siarad fel aelod-wladwriaeth o'r DU i wledydd yr Undeb Ewropeaidd ar y pryd. Ac nid oes rheswm pam na allwn ni gael y sgyrsiau hynny. Yn wir, yn ystod y pandemig, lle'r ydym wedi cael ein canlyniadau gorau, rwy'n credu, o ran gwaith ledled y DU, mai'r rheswm am hynny yw bod rhai Gweinidogion y DU wedi bod yn agored a pharod i siarad â chymheiriaid mewn Llywodraethau yma, yn Belfast ac yng Nghaeredin hefyd. Gallaf ddweud ein bod yn manteisio ar gyfleoedd i fynd i ddewis ymddangosiadau pwyllgorau, ac mae Gweinidogion Cymru yn ceisio bod yn onest ac yn adeiladol yn y ffordd yr ydym yn ateb cwestiynau yn y pwyllgorau hynny. Yn sicr, nid wyf wedi clywed dim o'r feirniadaeth rydych chi’n ei wneud gan Weinidogion y DU o ran pwyllgorau dethol a sut maen nhw’n gweld Gweinidogion Cymru pan fyddwn yn ymddangos ger eu bron.

Rwy’n credu, serch hynny, bod rhyw bwynt a phwrpas i'r hyn mae'r Aelod yn ei ddweud, ac rwy’n credu y byddai'n ddefnyddiol ceisio cymharu a gwrthgyferbynnu, pan gawn ddewisiadau ynghylch sut y bydd arian yn cael ei wario, sut mae'n cymharu â'r ffordd yr oedden nhw yn gwario arian o'r blaen, a'r ffeithiau a'r ffigurau ar yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud a'i gyflawni gyda chylchoedd arian blaenorol yr Undeb Ewropeaidd. Oherwydd mae pwynt am y canlyniadau yr ydym ni'n eu cyflawni a'r gwersi rydym wedi'u dysgu o beidio â bod â dull sy'n lledaenu'r arian mor denau â phosibl, ond sy'n fwy strategol a phwrpasol yn yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud â hynny i wneud gwahaniaeth strategol i ddyfodol economi Cymru, a mwy na hynny. Felly, byddwn i'n hapus iawn i weld sut y gallwn ni fodloni prif bwynt yr Aelod yn y fan yna yn y dyfodol.

A gaf i atgoffa'r Aelodau i gadw at eich terfyn amser fel y gallwn ni gael cynifer o bobl i siarad ag sydd wedi gwneud cais i siarad? Sam Rowlands.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw ar y cronfeydd pwysig hyn. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, yn ôl ym mis Mehefin, cawsom ddadl y Llywodraeth ar y pwnc hwn, ac fel y byddech yn ei ddisgwyl, canolbwyntiais fy sylw a fy amser yn y ddadl honno ar rôl awdurdodau lleol a sut y gallan nhw chwarae eu rhan wrth dynnu'r arian pwysig hwn i'n cymunedau. Ac fel y gwelsom ni, er gwaethaf yr asesiad mwy llym yr ydych chi’n ei roi ar hyn efallai, mae'r mwyafrif llethol o gynghorau wedi cyflwyno ceisiadau drwy'r gronfa codi'r gwastad, ac mae'r gronfa adnewyddu cymunedol wedi gweld ceisiadau yn y cannoedd am yr arian hwnnw, sy'n dangos ymgysylltiad cymunedau lleol ac awdurdodau lleol yn y broses hon. Mae llawer o awdurdodau lleol hefyd wedi croesawu'r cyfle i wneud cais am y cyllid hwn yn uniongyrchol.

Un o'r pethau y gwnaethoch chi sôn amdano mewn ymateb blaenorol oedd cyflwyno cyd-bwyllgorau corfforedig fel rhan o strwythur cyflawni'r dyfodol yma yng Nghymru, ond mae hyn, wrth gwrs, yn bygwth y risg y bydd sgiliau a chapasiti'n cael eu cymryd oddi wrth awdurdodau lleol i'r strwythurau mwy rhanbarthol hyn—

Ac un o'r elfennau mae Llywodraeth y DU wedi'i ddarparu yw cyllid ar gyfer y capasiti hwn o £125,000 i'r awdurdodau lleol hyn er mwyn galluogi'r capasiti hwnnw, fel y gall awdurdodau lleol dynnu'r cyllid hwn i lawr. Pa fath o gymorth y byddech chi'n bwriadu ei ddarparu i awdurdodau lleol i ehangu'r capasiti hwn er mwyn sicrhau bod cymunedau yn manteisio i'r eithaf ar y cyllid hwn? Diolch.

16:20

Rydym wedi cael sgwrs adeiladol ac aeddfed gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gyda'r mathau o arweinyddiaeth wleidyddol y mae'n ei chynrychioli, ac, mewn gwirionedd, un o brif ofynion llywodraeth leol yw'r ffaith eu bod yn cael eu digalonni'n sylweddol gyda'r amserlen i gyflwyno ceisiadau, ac, mewn gwirionedd, nid oedd yr arian y gwnaethoch gyfeirio ato yn gwneud llawer o wahaniaeth mewn gwirionedd, roedd hi'n amser. Ond mae hefyd yn golygu meithrin gallu i fynd i broses ymgeisio gystadleuol yn hytrach nag edrych ar ddull sy'n seiliedig ar anghenion, a phan fyddwch yn edrych ar yr hyn mae hynny'n ei olygu wedyn, rydych yn ysgrifennu'r cais gorau, rydych yn fwy tebygol o gael arian. Nid yw hynny'n golygu bod pobl ag anghenion gwirioneddol yn mynd i gael mynediad i'r arian hwnnw, ac mae hynny'n ddiffyg mawr yn y ffordd mae'r broses yn cael ei chynllunio ar hyn o bryd.

A dylwn ddweud nad arian newydd yw hyn; mae hyn yn llawer llai o arian nag a fyddai wedi bod ar gael fel arall, ac ni allwch chi wadu'r realiti y bydd mwy na £300 miliwn yn llai yn dod i Gymru eleni, hyd yn oed os yw'r cronfeydd sy'n cael eu treialu yn talu allan rywbryd yn ystod eleni a hyd yn oed os gall awdurdodau lleol wario'r arian cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Pe baech yn dal i arwain awdurdod lleol, rwy'n credu y byddech chi'n hynod o rwystredig am nad oes penderfyniad wedi’i wneud, a byddech chi'n poeni am fwy nag arian ychwanegol ar gyfer gallu eich awdurdod lleol i wneud hyn, ond hefyd gallu adran y DU i reoli perthynas uniongyrchol â phob awdurdod lleol yn y DU. Mae'n fenter sy'n llawn anhawster, ac nid dyma'r ffordd gywir o weithredu, oherwydd rydych chi'n ceisio ail-greu perthynas gwbl newydd tra'n chwalu'r rhai sydd wedi gweithio, wedi darparu arian a dysgu gwersi mewn mwy na dau ddegawd. Felly, byddwn yn parhau i siarad ag awdurdodau lleol, ond mae angen cynllun o ryw fath arnom gan Lywodraeth y DU y mae pawb yn ei ddeall ac yn deall y rheolau. Mae'n well cael cynllun yr ydym yn anghytuno ag ef na dim cynllun o gwbl, sef lle'r ydym ni yn ein cael ein hunain ynddo ar hyn o bryd.

Gweinidog, gwn i chi gyfarfod â'r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol yn ddiweddar i drafod eu pryderon am y cronfeydd ffyniant a rennir a'r cronfeydd codi'r gwastad, arian sydd mor bwysig i ddyfodol economaidd etholaethau fel fy un i, Cwm Cynon. Mae'r ICA wedi dadlau ers tro bod yn rhaid i unrhyw gyllid o'r cynlluniau fod yn hirdymor ac yn gynaliadwy os yw am sicrhau newid trawsnewidiol. A fyddech chi'n cytuno â mi fod hon yn neges glir mae angen i'r Senedd hon ei hanfon a bod angen i Weinidogion y DU wrando arni? At hynny, Gweinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod yn arwydd pryderus iawn bod llywodraeth leol wedi'i dileu o deitl adran Llywodraeth y DU sydd bellach yn gyfrifol am godi'r gwastad?

Mae'n rhyfedd pa mor hir yw teitl adrannol, ac nid yw adran LUHC Michael Gove yn un yr wyf yn credu y caiff ei barnu ar ei theitl, ond yr hyn mae'n barod i'w wneud mewn gwirionedd. Gwn fod llywodraeth leol yng Nghymru wedi teimlo ei bod wedi'i heithrio o'r broses o hyd yn oed yr ymgysylltu a ddigwyddodd hyd at y pwynt hwn mewn amser, ac nad yw ynddo'i hun yn ddefnyddiol o gwbl. Nid oedd y ceisiadau am gyfarfodydd gyda Luke Hall pan oedd yn Weinidog ar y pryd cyn cael ei dynnu allan yn ad-drefniad diwethaf y DU yn rhai y byddai unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn dweud eu bod yn gweithio'n dda, a hefyd y ffordd y rhoddwyd tystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, sydd, wrth gwrs, yn cael ei arwain gan Aelod Seneddol Ceidwadol, gyda mwyafrif o ASau Ceidwadol—maen nhw wedi cydnabod cryn anghydweld yn y dull blaenorol. Felly, rwyf yn pryderu am y ffordd mae'r penawdau am awdurdodau lleol yn cael gwell bargen gan eu bod yn mynd i ymgysylltu'n uniongyrchol ar y pwynt hwn yn ceisio cuddio'r ffaith bod llai o arian, llai o gapasiti a llai o lais ynghylch beth i'w wneud.

Rwyf yn cymryd o ddifrif y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol a'r hyn maen nhw wedi gorfod ei ddweud wrthyf. Mae eu gwaith gyda chymheiriaid yng Nghymru a Lloegr yn rhywbeth yr wyf am barhau i ymgysylltu ag ef a gwrando arno i geisio sicrhau y gallwn ni gael fframwaith a fydd yn gweithio i Gymru ac, yn wir, rhannau eraill o'r DU i sicrhau ein bod mewn gwirionedd yn gweld budd sylweddol yn lledaenu i gymunedau sydd wir ei angen.

Weinidog, fyddech chi'n cytuno bod hwn yn fath arall o chumocracy sydd yn nodwedd o'r Llywodraeth Geidwadol yma efo nhw'n trio ceisio cadw cyfoeth ymhlith eu cyfeillion breintiedig nhw tra'n gwadu ardaloedd tlotaf y Deyrnas Gyfunol o arian sydd yn angenrheidiol? Sut arall mae esbonio sut mae Gwynedd ar waelod haen 3 ac ardal fel ardal y Canghellor yn cael yr haen uchaf o bres? Fel cynghorydd sir cynt, roeddwn i'n rhan o'r broses leol o geisio canfod projectau ar gyfer yr arian yma ac roedd e'n anghredadwy y fath o lanast oedd yno er mwyn trio ffeindio'r gwahanol brojectau er mwyn cyfiawnhau hyn. Mae'r levelling-up fund yn edrych i wario pres ar gynlluniau fydd yn cynorthwyo Aelodau Seneddol Torïaidd i gael eu hail-ethol ac ennill cyflogau bras tra, ar y llaw arall, mae'r Llywodraeth giaidd yma yn Llundain yn cwtogi pres credyd cynhwysol i'r bobl fwyaf bregus. Nid lefelu i fyny mae San Steffan yn ei wneud, ond yn hytrach pwnsio i lawr. Ydych chi, Weinidog, yn cytuno efo'r dadansoddiad yma?

16:25

Rwy'n credu bod diffygion sylweddol yn y ffordd mae'r broses bresennol wedi gweithio, ac yn sicr nid yw'n broses mae'r Llywodraeth hon yn ei chefnogi o gwbl. Ac rwy'n cydnabod yr hyn mae'r Aelod yn ei ddweud am ble mae Gwynedd, a hefyd rwy'n gweld Aelod yn cynrychioli sir Pen-y-bont ar Ogwr a fydd hefyd yn gwybod am eithrio ardaloedd o Gymru sydd, yn wrthrychol, yn llai cefnog na rhannau o Loegr sydd wedi'u rhoi mewn meysydd blaenoriaeth. Nawr, nid yw hynny'n gyfystyr â chodi'r gwastad. O ran unrhyw ddadansoddiad, ni allwch ddweud bod hynny'n ddull codi'r gwastad.

Ac i mi, yr her yw p'un a gawn ni rywfaint o undod yn y lle hwn, nid yn unig i gefnogi'r Llywodraeth ond i gefnogi'r wlad ac i gydnabod bod hyn, mewn gwirionedd, yn ymwneud â Chymru a p'un a fyddwn yn cael ein trin yn deg ac yn briodol. A byddwn yn dweud wrth Aelodau Ceidwadol, mae rhywbeth yma am y mandad sydd gennych yn y lle hwn gan bobl a p'un a ydych yn barod i sefyll dros Gymru ar rywbeth lle nad yw'r dull presennol, yn dryloyw, yn gweithio i Gymru, neu a fyddwch yn mynd i mewn i fatio i weinidogion yn Whitehall. A byddwn i'n gofyn i chi feddwl eto am y dull yr ydych chi'n ei gymryd ac i fabwysiadu ymagwedd adeiladol gyda ni i geisio creu'r fargen orau bosibl i Gymru yn hytrach na'r toriad sylweddol mewn cyllid yr ydym eisoes yn ei gael yn ystod eleni.

Dirprwy Lywydd, rwy'n datgan fy niddordeb fel cyn gadeirydd grŵp llywio'r buddsoddiad rhanbarthol i Gymru ac fel cadeirydd presennol y fforwm strategol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, y ddau heb dâl. Mae hynny wedi cymryd munud, Gadeirydd, i ddweud hynny.

A gaf i ddweud, roeddwn i'n teimlo'n galonogol mewn gwirionedd o glywed sylwadau Paul Davies am yr 20 mlynedd o brofiad o gyflawni buddsoddiad? Ond, wrth gwrs, mae'r buddsoddiad hwnnw'n cael ei ddarparu nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond hefyd gan y partneriaid hynny a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, gyda'u profiad Ewropeaidd o gydlynu taliadau hefyd, a'r un partneriaid sydd wedi codi'r materion sy'n ymwneud â diffyg cynllunio strategol yn y broses ymgeisio gystadleuol hon, bylchau cyllid y sector, dyblygu, parhad y gwasanaeth, datgymalu gwasanaethau sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Y bobl hynny sydd ag 20 mlynedd o brofiad o gyflawni ar lawr gwlad sy'n dweud, 'Mae gennym rai materion ar droed.' Yr un partneriaid, Gweinidog, a Paul ac eraill, sydd yr un mor barod i helpu Llywodraeth y DU, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, i sefydlu'r cyllid hwnnw, a ddarperir drwy gyd-destun polisi Cymru, a gyflwynir drwy, mewn gwirionedd, gydweithredu a chydlynu ar lawr gwlad i ddiwallu'r anghenion, yn hytrach na phroses ymgeisio gystadleuol, ac maen nhw'n barod i helpu, maen nhw wirioneddol yn barod.

Rwyf yn barod fel cyn-gadeirydd ac yn awr fel cadeirydd y fforwm wrth symud ymlaen i gyfarfod â Michael Gove ac i siarad ag ef a dweud, 'Gallwn eich cynorthwyo yn hyn.' Nid yw'n ymwneud â'i labelu—

Diolch. Rwy'n ymddiheuro, Dirprwy Lywydd. Nid yw'n ymwneud â'i labelu naill ai'n 'DU' neu 'Cymru'; mae'n ymwneud â chyflawni dros y bobl yr ydym ni wedi ein hanfon yma i'w cynrychioli, ac mae ffordd well o wneud hynny na hyn. Gallwn ni helpu. Fyddech chi cystal â mynd â'r neges honno ymlaen?

Dyna'r neges yr ydym ni wedi ceisio'i chynnig droeon ac, hyd yma, nid ydym wedi cael atebion prydlon nac amserol gan y tîm gweinidogol blaenorol. Ac rwy'n gobeithio, gydag Ysgrifennydd Gwladol newydd, y bydd cyfle i ailosod yr hyn y gallwn ei wneud. Ac mae'r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud am bartneriaid eraill wedi'i roi'n dda ac, ar lawer ystyr, mae'r partneriaid hynny'n ceisio dweud, 'Edrychwch, nid ydym am gymryd rhan mewn anghytundebau rhwng y ddwy Lywodraeth, ond rydym am wybod beth yw'r rheolau ac rydym am wybod na fyddwn yn cael ein heithrio.'

Er enghraifft, addysg uwch ac addysg bellach, yn ystod chwe blynedd olaf rhaglenni Ewropeaidd, fe wnaethon nhw wario £405 miliwn. Ar hyn o bryd, gyda'r dyluniad presennol, ni fydden nhw'n cael unrhyw beth. Ar gyfer y sector preifat, £272 miliwn yn ystod y chwe blynedd diwethaf, a £113 miliwn i'r trydydd sector. Ar hyn o bryd, nid oes llwybr iddyn nhw gael unrhyw fynediad o dan ddyluniad presennol y rhaglen, ac nid yw hynny'n gwneud synnwyr, yn ogystal â'r pwyntiau a wnes i'n gynharach ynghylch tanseilio prentisiaethau, Busnes Cymru a'r banc datblygu. Felly, mae cyfle i ailosod a meddwl am ateb llawer gwell a sicrhau canlyniadau llawer gwell i'r bobl yr ydym yma i'w cynrychioli.

Wel, mae 'Dim ceiniog yn waeth ei byd' yn adleisio braidd yn wag o amgylch y Siambr ddatganoledig hon. Ddeufis wedi i Lywodraeth y DU ddweud y byddai prosiectau oedd wedi'u cymeradwyo yn cael eu cyhoeddi, bu distawrwydd. Ac, fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn gywir, Gweinidog, mae ardal awdurdod lleol Caerffili wedi'i heithrio o'r rhestr ariannu â blaenoriaeth, o blaid—o blaid—ardaloedd cyfoethocach yn Lloegr, er bod gan gymunedau Islwyn rai ardaloedd dwfn o amddifadedd—Amcan 1, Amcan 2, Amcan 3. Gallwn fynd ymlaen ar fynegai Cymru o amddifadedd lluosog. Unwaith eto, er gwaethaf datganoli, ar y tu allan i Brydain Dorïaidd yn edrych i mewn. Gweinidog, hyd yn hyn, y cyfan y gallaf ei weld sydd wedi'i gyflawni yw ailfrandio'r Torïaid, ailenwi Gweinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol y DU i'r Adran Codi'r Gwastad, Tai a Chymunedau cwbl chwerthinllyd, a diswyddo'r Gweinidog Arweiniol Robert Jenrick, gyda Michael Gove yn cymryd ei le—dewis diddorol.

Gweinidog, pa sylwadau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i Weinidog newydd y DU i gynnwys cymunedau Islwyn ac i beidio â'u heithrio yn rhestr ariannu blaenoriaethau Llywodraeth y DU? Ac a wnaiff y Gweinidog hefyd wahodd Michael Gove—yn ei ddillad newydd, ac nid yn anweledig os oes modd—i ddod i Islwyn a gweld drosto'i hun yr angen gwirioneddol sy'n gyffredin yn fy nghymuned ac y mae ganddo bellach yn Whitehall y pŵer i roi terfyn arno?

16:30

Nid wyf i'n credu ei bod o unrhyw fudd clywed Janet Finch-Saunders yn dweud, 'Os gwelwch chi amddifadedd, fe welwch chi Lafur'. Rwy'n credu y bydd llawer o bobl sy'n byw mewn cymunedau llai cefnog yn gweld hynny'n sarhaus. Mae pobl yn gwneud dewisiadau ynghylch sut i bleidleisio ac rydym ni yma i'w cynrychioli nhw.

Rwyf i yn credu, serch hynny, pan fo'n fater o'r heriau y mae Michael Gove bellach yn eu hwynebu, fel y dywedais i, rwy'n credu bod yma gyfle nawr. Ni chollais i ddeigryn ar ddiwedd gyrfa wleidyddol Robert Jenrick; mae wedi gwneud dewisiadau nad wyf i'n credu y gellir eu hamddiffyn, yn y ffordd y mae rhai ardaloedd wedi cael mantais. Ac mewn gwirionedd, mae'n fuddiol i Aelodau Ceidwadol gyflwyno dadleuon o blaid hynny hefyd. Nid wyf i'n credu y gallai cynrychiolwyr rhanbarthol na chynrychiolwyr etholaethau sefyll o'r neilltu a dweud eu bod nhw'n hapus i weld Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, sir y Fflint, Gwynedd ac ardaloedd eraill a Bro Morgannwg yn cael eu heithrio er budd rhannau llawer gwell eu byd yng ngweddill y DU, gan gynnwys yn Lloegr. Nawr, mae Ceidwadwyr yn cynrychioli rhai o'r ardaloedd hynny hefyd, felly nid yw hyn yn ymwneud â Llafur yn erbyn y Torïaid yn unig; mae'n ymwneud â beth yw'r peth iawn i'w wneud ar gyfer pobl, a dyna'r sgwrs yr wyf i'n dymuno ei chael gyda Michael Gove, a bydd yn effeithio'n uniongyrchol ar yr holl feysydd yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw, ond, yn fwy na hynny, y wlad gyfan. Ac mewn gwirionedd, fel rhywun sy'n credu y gallai ac y dylai'r undeb gael dyfodol, rwy'n credu y byddai'n ein helpu i gyflwyno dadleuon o blaid undeb diwygiedig a gwell lle mae Cymru'n rhan allweddol ac annatod ohono. Mae peidio â gwneud hynny, mae arnaf ofn, yn gwneud yr achos hwnnw'n galetach byth.

Fe wnaf i fy ngorau. Diolch. Yr unig reswm y parhaodd Cymru i fod yn gymwys ar gyfer cyllid strwythurol Ewropeaidd, er gwaethaf biliynau mewn rowndiau dilynol, oedd oherwydd iddi fethu â chau'r bwlch ffyniant yr oedd wedi bwriadu ei wneud, yn wahanol i wledydd eraill a ymunodd â'r prosiect ar yr un pryd, fel Gwlad Pwyl, a wnaeth hynny wrth gwrs, ac eithrio ei hun. Rydych chi'n dweud bod sir y Fflint wedi eithrio ei hun o'r rhestr blaenoriaeth cyllid. A ydych chi felly, yn cydnabod bod y rhaglen cronfeydd strwythurol yng Nghymru yn canolbwyntio ar orllewin Cymru a'r Cymoedd ac yn blaenoriaethu 15 sir, ond roedd sir y Fflint a Wrecsam y tu allan iddyn nhw? Ac yn olaf, sut ydych chi'n ymateb i'r elusennau a'r sefydliadau buddiannau cymunedol yn sir y Fflint a ddywedodd wrthyf i yr haf hwn eu bod nhw wedi cysylltu â swyddogion Llywodraeth Cymru yn gofyn a ellid ychwanegu sir y Fflint at restr cronfa codi'r gwastad—gwnaeth eich swyddogion ymholiadau a dod yn ôl yn cadarnhau y gellid ac, wrth gwrs, maen nhw wedi eu cynnwys yn y ceisiadau erbyn hyn?

Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn gweld, os byddwch chi'n cymharu sir y Fflint ag ardaloedd o Loegr sydd wedi eu cynnwys, fe welwch chi fod gwahaniaeth sylweddol mewn cyfoeth a chyfle, ac nid yw'n gwneud synnwyr nad yw sir y Fflint wedi ei chynnwys yn yr ardaloedd blaenoriaeth pan fo ardaloedd mwy cyfoethog a llewyrchus yn Lloegr wedi eu cynnwys. Os yw'n dymuno cyflwyno achos amgen a dathlu'r ffaith bod sir y Fflint wedi ei heithrio, mater iddo ef yw hynny.

Hoffwn i dynnu sylw hefyd at y ffaith, o ran y canlyniadau yr ydym ni wedi eu cyflawni gyda chronfeydd Ewropeaidd, fod canlyniadau sylweddol o ran y swyddi, canlyniadau swyddi sydd wedi eu hachub a'u creu, ac rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud a'r gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu—pwynt a wnaeth ei gyd-Aelod Paul Davies. Mae llawer o wersi yr ydym ni wedi eu dysgu yn cael eu hanwybyddu yn y dull gweithredu presennol. Ac mae'n ymwneud â dysgu gwersi yma, y dewisiadau yr ydym ni'n eu gwneud yn y Llywodraeth hon, mae'n ymwneud â dysgu gwersi yn y dull blaenorol o ymdrin â chyni a'r niwed yr achosodd hynny o ran ein dyfodol economaidd hefyd, a cheisio gwneud y peth iawn nawr ar gyfer y bobl yr ydym ni yma i'w cynrychioli. A byddwn i'n croesawu dull gweithredu adeiladol gan Lywodraeth y DU ac yn wir gan Aelodau Ceidwadol yn y sefydliad hwn hefyd. Edrychaf ymlaen, wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, at adrodd yn ôl ar y materion hynny wrth i ni wneud, gobeithio, rywfaint o gynnydd er budd pobl Cymru.

5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd

Yr eitem nesaf, eitem 5—cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig. Julie James.

Cynnig NDM7781 Julie James

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai’r darpariaethau ym Mil yr Amgylchedd, i’r graddau y maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig. Diolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am ystyried y memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Mae'n ddrwg gen i nad oedd y chwe wythnos lawn a neilltuir fel arfer ar gyfer craffu yn bosibl; fodd bynnag, roeddwn i'n falch o drafod newidiadau amserlennu i'r Bil, gan ganiatáu mwy o amser craffu a'r cyfle i roi tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i'r pwyllgor.

Roedd yn ofynnol i'r gwelliannau i Fil yr Amgylchedd gan Lywodraeth y DU gael memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol a osodwyd ar 3 Medi. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y memorandwm atodol. O ganlyniad, rwy'n cynghori'r Senedd y dylai ystyried cydsyniad gynnwys cymal 144, sy'n diwygio Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r gwelliant, y cyfeiriwyd ato ym memorandwm 1, yn sicrhau y gall y Senedd ddileu'r pwerau cydredol plws heb fod angen cydsyniad Gweinidog y Goron.

Yng ngoleuni adroddiad y pwyllgor, gofynnais i swyddogion edrych ar y mater hwn eto. Mae'r ddarpariaeth yn dod o fewn Rheol Sefydlog 29.1(ii) gan ei bod yn addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Cytunais â'r pwyllgor fod angen cydsyniad ac y dylid ei ystyried heddiw. Gofynnodd y pwyllgor hefyd i mi ystyried diwygiadau i Atodlenni 4, 5, 6, 7 ac 11 i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau cenedlaethol perthnasol ymgynghori cyn gwneud rheoliadau. Dywedodd Memorandwm 1 mai Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cenedlaethol perthnasol mewn cysylltiad â Chymru, ac amlinellodd yr angen am gydsyniad y Senedd i'r pwerau o fewn yr Atodlenni hyn. Rwyf i'n ystyried bod y gwelliannau a ychwanegwyd at y darpariaethau hyn wedi eu cynnwys yn y gofyniad cyffredinol am gydsyniad a amlinellir ym memorandwm 1.

Mae'r Bil wedi cymryd cryn amser ar ei hynt drwy'r Senedd ers ei gyflwyno'n wreiddiol ym mis Ionawr 2020. Mae'r ddwy Senedd wedi gweld Brexit a COVID yn effeithio'n ddifrifol ar eu rhaglenni deddfwriaethol. Er gwaethaf yr oedi, mae'r Bil yn parhau i fod yn llwybr ymarferol i fwrw ymlaen ag ymrwymiadau polisïau a rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru. Ceisir pwerau datganoledig mewn cysylltiad â gwastraff ac effeithlonrwydd adnoddau, ansawdd aer, dŵr a rheoleiddio cemegau. Rydym ni hefyd o'r farn bod angen cydsyniad ar gyfer cymal 21, sef 19 yn flaenorol, 'Datganiadau am Filiau sy'n cynnwys cyfraith amgylcheddol newydd', a chymal 119, 109 yn flaenorol, ar nwyddau risg coedwigoedd. Bydd yr Aelodau yn nodi ein bod ni wedi cytuno ar ddull gweithredu gyda Llywodraeth y DU ar y materion hyn.

Yn gyffredinol, dylai deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig gael ei deddfu gan y Senedd. Yn yr achos hwn, fodd bynnag, mae'n synhwyrol ac yn fanteisiol ceisio darpariaethau ym Mil y DU gyda chydsyniad y Senedd. Rydym ni wedi ceisio pwerau yn y Bil mewn meysydd lle mae gwerth mewn mabwysiadu dulliau cydweithredol o gyflawni ar draws gweinyddiaethau'r DU. Bydd Rhan 3 o'r Bil yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol i gyflawni'r ymrwymiadau yn 'Mwy Nag Ailgylchu' i ddarparu cynllun cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig ar gyfer gwastraff pecynnu a chynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd. O ystyried y bydd busnesau sy'n rhwym wrth y cynlluniau yn gweithredu ar draws y gwledydd, mae angen cysondeb. Dim ond os ydym yn cymryd pwerau yn y Bil hwn y gellir cyflawni'r amserlen ar gyfer cyflwyno'r cynlluniau hyn. Er mwyn darparu hyblygrwydd wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer deunyddiau eraill yn y dyfodol, rydym yn ceisio'r dewis o ddeddfu ar sail Cymru yn unig, gan gyflwyno rheoliadau drych neu wrth ganiatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol ddeddfu ar ein rhan ar gyfer cynlluniau ledled y DU. Ein rhagosodiad fydd deddfu yn y Senedd pryd bynnag y bo modd.

Mae Rhan 3 hefyd yn rhoi'r gallu i Lywodraeth Cymru gyflwyno taliadau am eitemau plastig untro. Bydd hyn yn helpu i gyflawni ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddiddymu'r defnydd o blastigau untro sy'n aml yn cael eu taflu fel sbwriel. Mae cymal 69, 67 yn flaenorol, yn caniatáu i Weinidogion Cymru ragnodi amodau mewn cysylltiad â gorfodi sbwriel. Bydd y diwygiad i'r ddarpariaeth hon, sydd wedi ei gynnwys yn y memorandwm cydsyniad atodol, yn ei gwneud yn ofynnol i ganllawiau gael eu gosod gerbron y Senedd. Mae cymryd y pwerau hyn ar yr un pryd â Lloegr yn lliniaru'r risg o gael safon is yng Nghymru.

Bydd pwerau i ddatblygu system ddigidol i dracio gwastraff ledled y DU yn galluogi tracio gwastraff ar draws ffiniau a chasglu data i fynd i'r afael â throseddau gwastraff. Bydd yn helpu i ddatblygu rheolaethau cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig ar gyfer deunyddiau eraill. Mae'r pwerau i fynd i'r afael â throseddau gwastraff yn cynnwys cryfhau pwerau Cyfoeth Naturiol Cymru i atal gweithgarwch anghyfreithlon a gollwng gwastraff heb awdurdod.

Mae Rhan 4 yn egluro cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru dros lunio cynlluniau aer glân ar gyfer Cymru. Mae'r ddarpariaeth i Gymru yn unig yn y Bil yn ceisio gwella ein cyfundrefn rheoli mwg, gan gyfrannu at leihau allyriadau yn yr atmosffer.

Mae'r pwerau yn Rhan 5 yn diweddaru'r broses reoleiddio ar gyfer cynlluniau rheoli adnoddau dŵr. Bydd y cynlluniau hyn yn ein galluogi i barhau i gynllunio ar gyfer y dyfodol a rheoleiddio ansawdd ein dŵr yfed a'n cyrff dŵr. Mae'r pŵer cydredol plws o dan gymal 90, cymal 83 yn flaenorol, yn ymwneud ag ardaloedd basnau afonydd, gan gynnwys afonydd Hafren, Gwy a Dyfrdwy, sy'n drawsffiniol a lle mae angen gweithredu'n gyson â DEFRA er mwyn sicrhau dull cyffredin.

Mae angen cymal 143, 133 yn flaenorol, ac Atodlen 21 o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE. Mae rheoleiddio cemegau yn cynnwys cyfuniad o ddarpariaethau ledled y DU a domestig. Roedd gan Weinidogion Cymru bwerau o dan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 i ddiwygio'r rheoliadau hyn, sydd wedi eu colli o ganlyniad i ymadael â'r UE. Mae'r darpariaethau yn galluogi Gweinidogion i ddiweddaru cyfundrefn REACH y DU-GB, gan gynnwys adlewyrchu newidiadau yr UE i REACH os oes angen. Maen nhw hefyd yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol, pan fo'n briodol, ddeddfu ar ran Gweinidogion Cymru gyda'u caniatâd, gan ddarparu ar gyfer system reoleiddio unedig. Ein dull o ddeddfu yw sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru drwy ystyried y capasiti sydd gennym i gyflwyno ein deddfwriaeth a'n cyfleoedd ein hunain sydd ar gael yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU.

Rwyf i'n ystyried bod y darpariaethau hyn yn dod o fewn y cymhwysedd deddfwriaethol, ac felly rwy'n argymell bod y Senedd yn rhoi cydsyniad. Diolch.

16:40

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, fel y dywedoch chi. Cyn i fi droi at y cynnig sydd o'n blaenau ni, mi hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ymateb i adroddiad y pwyllgor cyn y ddadl. Wedi dweud hynny, mi fydd yr Aelodau yn gweld bod diffyg eglurder yn dal i fod ynghylch sawl mater allweddol, ac mae gen i ofn nad yw'r ymateb yn symud pethau ymlaen mewn ffordd y bydden ni wedi gobeithio ei weld. 

Fel pwyllgor, rŷm ni wedi bod yn glir mai'r ffordd fwyaf priodol i ddeddfu dros Gymru ar faterion amgylcheddol, wrth gwrs, yw trwy Fil a wneir gan Senedd Cymru. Rŷm ni'n deall bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu dod â Bil o'r fath i'r Senedd, ond rŷm ni hefyd yn gwybod y gallai hynny fod rai blynyddoedd i ffwrdd. Felly, rŷm ni mewn sefyllfa nawr o orfod dewis rhwng Bil y Deyrnas Unedig neu'r posibilrwydd neu'r tebygolrwydd o oedi am ddwy, tair, efallai mwy o flynyddoedd tra'n bod ni'n aros am Fil Cymreig. Pa ryfedd felly y bydd rhai Aelodau o bosib yn teimlo mai cydsynio i'r darpariaethau ym Mil y Deyrnas Unedig yw'r unig ddewis go iawn sydd ganddyn nhw os ydyn nhw am weld polisïau amgylcheddol pwysig ar y llyfr statud? 

Nawr, yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf fe ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol ei bod hi'n amharchus, ac mi wnaf i ddyfynnu, i gyhoeddi

'deddfwriaeth sy'n amlwg yn mynd i effeithio arnom ond lle nad oes gennym unrhyw ymgysylltiad priodol ar y ddeddfwriaeth honno, ar y materion hynny a allai effeithio arnom, a chaiff y ddeddfwriaeth honno ei chyflwyno i ni ar y funud olaf fwy neu lai, fel pe bai'n fait accompli.'

Nawr, roedd y Cwnsler Cyffredinol, wrth gwrs, yn siarad am y ffordd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn aml iawn yn trin Llywodraeth Cymru, ond mi allai'n hawdd fod wedi bod yn siarad am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r broses LCM yn y Senedd hon. Fel pwyllgor, rŷm ni'n pryderu bod patrwm yn dod i'r amlwg fan hyn: mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am ddeddfwriaeth, ond mae'n araf iawn i gyflwyno ei chynigion ei hun, os, yn wir, o gwbl. 

Gadewch i ni ystyried mater llywodraethiant amgylcheddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwybodol o'r posibilrwydd y bydd yna fylchau mewn llywodraethiant amgylcheddol yng Nghymru ers canlyniad y refferendwm yn 2016. Cyn hir, Cymru fydd yr unig genedl yn y Deyrnas Unedig heb ddeddfwriaeth ar waith ar gyfer system llywodraethiant amgylcheddol bwrpasol. Does dim Bil llywodraethiant amgylcheddol ym mlwyddyn gyntaf rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth yma, ac felly mae hynny bum mlynedd ar ôl y refferendwm. 

Maes polisi arall yn y Bil sy'n destun yr LCM heddiw, wrth gwrs, yw aer glan, fel glywon ni gan y Gweinidog yn gynharach—pwnc sydd â chefnogaeth drawsbleidiol yn y Siambr hon. Nawr, fe gynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar Bapur Gwyn ar y pwnc yma cyn yr etholiad, ond hyd yn oed eto does dim Bil ym mlwyddyn gyntaf eu rhaglen ddeddfwriaethol. Gweinidog, ble mae'r Biliau Cymreig pwysig yma? Fe wnaeth y pwyllgor argymell y dylech chi ymrwymo i gyflwyno'r Biliau yma. os nad yn y flwyddyn gyntaf, yna yn ail flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol. Rŷch chi wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw mewn egwyddor yn unig, felly does dim ymrwymiad i wneud hynny a dydyn ni felly dal ddim pellach ymlaen, mewn gwirionedd. 

Nawr, mae'r pwyllgor yn poeni y gallai'r rheswm dros hyn fod yn ddiffyg capasiti oddi fewn i adran gyfreithiol Llywodraeth Cymru, ac rŷm ni yn deall, wrth gwrs, ac yn gwerthfawrogi'r angen i gydbwyso blaenoriaethau a rheoli adnoddau. Mae'n rhaid cydnabod bod hyn wedi bod yn anodd dros y blynyddoedd diwethaf, yn gyntaf yn sgil Brexit ac, wrth gwrs, yn fwy diweddar oherwydd COVID. Ond dydy hynny ddim yn newid y ffaith ein bod ni fel pwyllgor yn pryderu y gallai diffyg capasiti fod yn creu oedi cyn cyflwyno deddfwriaeth amgylcheddol allweddol. Ond mi fyddem ni hyd yn oed yn fwy pryderus pe bai Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i brinder staffio, yn dewis defnyddio Biliau San Steffan yn hytrach na Biliau Cymreig i ddeddfu mewn meysydd datganoledig. 

Ar y mater hwn, mae'r Gweinidog yn dweud wrthym ni fod adnoddau yn cael eu hadolygu yn rheolaidd er mwyn lliniaru risgiau. 'Does dim byd i'w weld fan hyn', medden nhw, 'a does dim problemau gyda diffyg capasiti.' Ond mewn ymateb i argymhelliad diweddarach, mae'r Gweinidog yn dweud bod gwaith arall yn cael ei ohirio oherwydd cyfyngiadau adnoddau. Unwaith eto, dydyn ni ddim pellach ymlaen.

O ystyried y dewis sydd ger ein bron, rŷm ni fel pwyllgor wedi argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau ym Mil y Deyrnas Unedig. Ond—ac mae e'n 'ond' arwyddocaol a phwysig—rŷm ni wedi bod yn glir y dylai hynny fod yn amodol ar ymateb boddhaol gan Lywodraeth Cymru i argymhellion penodol yn ein hadroddiad ni fel pwyllgor o'r Senedd hon. Felly gadewch i mi amlinellu yn gryno ein meddylfryd ni y tu ôl i rai o'r argymhellion hynny.

Yn gyntaf, argymhellion 1 a 2, sy'n ymwneud â'r pwerau cydredol plws mewn sawl rhan o Fil y DU. Nawr, byddai'r pwerau hyn yn galluogi Ysgrifennydd Gwladol y DU i wneud rheoliadau amgylcheddol pwysig i Gymru ar ran Gweinidogion Cymru, er eu bod wedi eu cydsynio. Effaith hyn, wrth gwrs, fyddai osgoi'r broses o graffu ar y rheoliadau hynny gan y Senedd. Yn hytrach, Senedd y DU fyddai'n gwneud y gwaith craffu.

Rydym ni wedi bod yn glir yn ein hadroddiad nad ydym yn gwrthwynebu dull gweithredu ledled y DU o ran gwneud rheoliadau, pan fo hynny'n briodol, ond mae'n rhaid iddo fod yn union hynny. Mae'n rhaid iddo gynnwys holl ddeddfwrfeydd y DU, nid Senedd y DU yn unig. Nawr, rydym yn ceisio mynd i'r afael â hynny, ond yr hyn sydd gennym ni wrth gwrs yw bod y Gweinidog yn gwrthod argymhelliad 1. Ni fydd, neu efallai na all, sicrhau gwelliannau i'r Bil. Mae hi'n dweud wrthym yn hytrach na gweithdrefn ffurfiol y bydd y Senedd yn cael cyfle i fynegi barn, a hynny dim ond pan fo amser yn caniatáu. Wel, nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell, ac ni fydd yn rhoi unrhyw sicrwydd i aelodau ein pwyllgor, nac yn wir Aelodau'r Senedd ehangach, ac ydw, rwy'n gwybod eich bod chi'n mynd i fy ngalw i drefn oherwydd bod amser yn brin.

Felly, edrychwch, mae hwn yn Fil sylweddol ac eang ei gwmpas, sy'n cwmpasu maes polisi datganoledig allweddol. Bydd yn effeithio ar ein holl etholwyr. Ond mae arnaf ofn ei bod yn dod yn amlwg bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r broses memorandwm cydsyniad deddfwriaethol fel rhyw fath o ddull o frocera cytundeb rhwng trafodaethau rhynglywodraethol, yn hytrach nag ymwneud â chytundebau rhwng y deddfwrfeydd. Ni all fod yn iawn y bydd yr Aelod Seneddol dros Orkney a Shetland yn gallu craffu ar bolisi amgylcheddol ar gyfer Cymru, sydd i fod wedi ei ddatganoli, pan na all Aelodau Senedd dros Fynwy, Ceredigion ac Aberconwy wneud hynny.

16:45

Mae gan Gadeiryddion ddyletswydd a hawl i sicrhau bod yr Aelodau yn gwbl ymwybodol o'r casgliadau yn eu hadroddiadau, ond gofynnaf i bob Cadeirydd sicrhau eu bod yn gwneud hynny mewn modd amserol.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Fe wnaf fy ngorau, Dirprwy Lywydd. A gaf i ragflaenu fy sylwadau drwy ddiolch i aelodau fy mhwyllgor am eu gwaith craffu, a'n tîm clercio hefyd, a nodi, cyn fy sylwadau, pan fydd ein pwyllgor yn gwneud ei waith yn dda y bydd weithiau yn herio'r Llywodraeth hefyd?

Fel y dywedodd y Gweinidog wrthym, mae gan y Bil hanes hir, a chyhoeddodd ein pwyllgor blaenorol ddau adroddiad ar y Bil yn y pumed Senedd. Fe wnaethom ni adrodd ar y memorandwm hwn a'r memorandwm atodol ddydd Iau diwethaf. Fe wnaethom ni bedwar argymhelliad, ar ôl clywed tystiolaeth gan y Gweinidog, ac rwyf i'n wirioneddol ddiolchgar iddi am ei hymgysylltiad agored â ni ym mis Gorffennaf, ac rydym ni wedi bod yn cael gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog ym mis Awst.

Nawr, yng ngoleuni hanes hir y Bil hwn—Bil y DU—rydym ni wedi ein siomi oherwydd y diffyg gwybodaeth sydd yn y memorandwm. Ar ddechrau'r chweched Senedd, gydag Aelodau newydd wedi eu hethol, dylai'r memorandwm cyntaf fod wedi gwneud gwaith gwell o gyflwyno dadleuon o blaid rhoi cydsyniad gan y Senedd. Felly, yn ein barn ni, mae'n destun gofid nad yw Llywodraeth Cymru yn teimlo ei bod hi mewn sefyllfa i ddilyn yr egwyddor a amlinellwyd yn ei memorandwm cyntaf, y dylai deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig gael ei deddfu gan y Senedd. Fe wnaf i ymhelaethu ar hyn yn fyr.

Er ei fod yn faes datganoledig, y maes polisi hwn, cyflwynodd y Gweinidog nifer o resymau dros gyfiawnhau'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn deddfu ar bolisi amgylcheddol yng Nghymru. Er bod y rhain yn cynnwys manteision cydlynu â'r DU, mae'n syndod bod y Gweinidog hefyd wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu,

Pe byddem ni dim ond yn defnyddio deddfwriaeth y Senedd, ni fyddem yn cyflawni popeth.

Nawr, er y gallai fod yn 'synhwyrol' ac yn 'fanteisiol', yng ngeiriau'r Gweinidog, i Lywodraeth Cymru gynnwys darpariaethau mewn Bil Llywodraeth y DU fel y nodir yn y memorandwm cyntaf, nid yw'n dilyn ei fod er budd gorau cyfrifoldeb y Senedd i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a deddfu dros Gymru. Tynnodd y Gweinidog sylw at y gwaith sylweddol sydd wedi ei wneud i sicrhau bod y Bil yn diogelu buddiannau Cymru yn llwyr ac yn adlewyrchu anghenion Cymru, ac rydym yn derbyn y pwynt hwnnw. Ond swyddogaeth y Senedd yw diogelu anghenion a buddiannau Cymru yn llwyr drwy ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig, yn hytrach na Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU.

Felly, mae awgrym y Gweinidog bod angen i Lywodraeth Cymru ddibynnu ar Lywodraeth y DU a Senedd y DU i gael ei rhaglen ddeddfwriaethol, felly yn eithaf anesmwythol. Mae'r safbwynt hwn yn atal gallu'r Senedd a'i Haelodau etholedig rhag llunio a dylanwadu'n uniongyrchol ar ddeddfwriaeth a fydd yn dod yn gyfraith yng Nghymru. At hynny, mae hefyd yn dibynnu ar fod â chysylltiadau rhynglywodraethol da, ac rydym ni wedi sôn am hyn y prynhawn yma, â Llywodraethau a Gweinidogion olynol y DU, ac nid oes sicrwydd o ganlyniad llwyddiannus yn sgil hynny.

Felly, fe wnaethom ni argymell y dylai Bil amgylcheddol Cymru yn y dyfodol fynd i'r afael â materion datganoledig sydd wedi eu cynnwys ym Mil Amgylchedd Llywodraeth y DU, yn dilyn ymgynghoriad priodol â rhanddeiliaid. Rwy'n croesawu ymateb y Gweinidog wrth dderbyn yr argymhelliad hwn, er mewn egwyddor, ac rydym yn edrych ymlaen at graffu ar Fil amgylchedd Cymru yn y dyfodol.

Hoffwn i sôn yn awr am ddefnyddio'r Bil i roi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau. Yn benodol, mae'r Bil yn cynnwys pwerau cydredol plws i wneud rheoliadau pan fyddai trefniadau trawsffiniol o fudd mewn cysylltiad â rhwymedigaethau cyfrifoldeb cynhyrchwyr, effeithlonrwydd adnoddau, cynlluniau ernes a deddfwriaeth cemegau, a adwaenir yn gyffredin ar lafar fel REACH. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod pwerau cydredol plws sydd wedi eu cynnwys yn y Bil yn cyd-fynd â chanllawiau Llywodraeth Cymru ei hun, yn ein barn ni. Galwodd ein hail argymhelliad, felly, ar Lywodraeth Cymru i geisio gwelliant i'r Bil i ddileu'r pwerau hyn. Felly, mae'n destun siom bod y Gweinidog wedi gwrthod hynny. Yn unol â'n trydydd argymhelliad, mae ymateb y Gweinidog yn egluro'r rhesymau pam nad ydyn nhw wedi eu dileu. Fodd bynnag, mae'n dal yn aneglur pam y mae'r broses o gynnwys pwerau cydredol plws yn y Bil yn parhau i fynd rhagddi yn erbyn, fel y mae'n ymddangos, ganllawiau Llywodraeth Cymru ei hun.

Gan droi yn awr at bwerau eraill a roddir i Weinidogion Cymru drwy'r Bil i wneud rheoliadau, ar y cyfan, maen nhw naill ai yn destun amserlen ychydig yn amwys ar gyfer eu defnyddio neu heb amserlen o gwbl yn gysylltiedig â nhw. Mae'n ymddangos bod dadleuon y Gweinidog dros gymryd y pwerau hyn wedi eu seilio ar gyflymder a diffyg adnoddau. Nid ydym o'r farn bod y rhain yn rhesymau dilys fel arfer. Rydym yn ystyried bod hyn yn lleihau swyddogaeth y Senedd fel deddfwrfa sy'n gyfrifol am bwerau ac yn goruchwylio pwerau sydd i'w dirprwyo i Weinidogion Cymru mewn meysydd datganoledig.

Nid oedd gennym ni amser i archwilio goblygiadau'r ail femorandwm yn llawn, ond gofynnodd ein pedwerydd argymhelliad sef ein hargymhelliad olaf, i'r Gweinidog gadarnhau bod darpariaethau ychwanegol y mae angen cydsyniad arnyn nhw ac nad oedden nhw wedi eu nodi yn yr ail femorandwm. Rydym yn nodi ei hymateb ar y pwyntiau hynny ac yn diolch iddi am hynny.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw'r Senedd at fater pwysig. Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod y rhan fwyaf o'r meysydd a gwmpesir yn y Bil bellach yn ddarostyngedig i ddarpariaethau yn y cytundeb masnach a chydweithredu rhwng y DU a'r UE. Mae ansicrwydd Llywodraeth Cymru ynghylch gofynion y cytundeb masnach a chydweithredu—rwyf i bron â gorffen, Dirprwy Lywydd—ynghyd â'r diffyg eglurder ynghylch sut a phryd y bydd pwerau a ddarperir gan y Bil yn cael eu harfer, yn golygu nad yw'r dull Llywodraeth Cymru o gyflawni ei rhwymedigaethau yn glir. Mae hyn yn cynnwys i ba raddau y mae'n bwriadu dibynnu ar fesurau ledled y DU a allai gyflwyno polisi gwahanol neu ymwahanu oddi wrth yr UE.

Po fwyaf yw'r ddibyniaeth ar ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU i weithredu rhwymedigaethau'r DU-UE yng Nghymru, yr anoddaf bydd hi—gallwch chi weld y thema—i'r Senedd graffu'n effeithiol ar gydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru â'r rhwymedigaethau hyn. Mae'n effeithio ar ein gallu i graffu i weld a yw Llywodraeth Cymru yn gweithredu er budd gorau Cymru. Mae'n ddigon posibl mai thema yw hon, Dirprwy Lywydd, y byddwn yn dychwelyd ati yn y dyfodol, ond rwy'n wirioneddol ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hymgysylltiad â ni ac i'r Aelodau am eu gwaith craffu ar hyn, gan fod rhai materion pwysig o fewn hyn.

16:50

Gweinidog, mae Bil Amgylchedd Llywodraeth y DU yn sicr yn ceisio mynd i'r afael â'r ddwy her o newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, a hynny i gyd wrth geisio diogelu a gwella'r amgylchedd naturiol a'i rywogaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Drwy sefydlu'r swyddfa diogelu'r amgylchedd, a fydd â swyddogaethau craffu, cynghori a gorfodi mewn cysylltiad â diogelu'r amgylchedd a'r amgylchedd naturiol, sy'n cwmpasu materion a gedwir yn ôl ledled Lloegr a'r DU gyfan, mae Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn ceisio pennu'r meincnod ar gyfer rhagoriaeth mewn rheoleiddio amgylcheddol.

I'r gwrthwyneb, fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gyson wedi gohirio gosod trefniadau hirdymor ar gyfer llywodraethu amgylcheddol, gan wastraffu'r cyfle hwn i Gymru fod yn arweinydd byd-eang mewn amddiffyniadau gwyrdd. Yn ystod y pumed Senedd, fe wnes i herio dro ar ôl tro Weinidog yr amgylchedd ar y pryd i gyflwyno cynlluniau sylweddol. Ac eto, dyma ni, yn y chweched Senedd bellach, ac mae'r amserlen ar gyfer sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol olynol i Gymru yn dal i fod yn aneglur iawn. Felly, gyda'r asesydd dros dro ar gyfer diogelu'r amgylchedd i Gymru yn ei swydd bellach, mae'r swyddogaeth hon yn wahanol iawn i'r swyddogaeth o oruchwylio a gorfodi cyfraith amgylcheddol yn ffurfiol. Er gwaethaf galwadau gan y sector amgylcheddol a'r pwyllgor newid hinsawdd blaenorol, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â blaenoriaethu Bil llywodraethu amgylcheddol y Senedd ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen ddeddfwriaethol hon. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ymrwymiad pendant y bydd Bil llywodraethu amgylcheddol y Senedd yn cael ei gyflwyno ar ddechrau ail flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol? A wnewch chi hefyd gadarnhau pa waith sydd ar y gweill ar hyn o bryd i ymgynghori ar gynigion deddfwriaethol mor fanwl?

Mae'r Bil hwn hefyd yn gwneud llawer i atgyfnerthu ein rhyfel ar wastraff. Mae Cymalau 49 a 50 ac Atodlenni 4 a 5 yn diwygio cynlluniau cyfrifoldeb cynhyrchwyr gyda'r nod o wneud cynhyrchwyr yn fwy cyfrifol am gost net lawn rheoli eu cynhyrchion ar ddiwedd eu hoes. Mae cymal 52 ac Atodlen 9 yn rhoi taliadau ar eitemau plastig untro a gyflenwir mewn cysylltiad â nwyddau neu wasanaethau i annog y trosglwyddo yn ôl i ddeunyddiau y gellir eu hailddefnyddio. Nawr, er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddeddfu i wahardd defnyddio plastigau untro sydd fwyaf cyffredin yn cael eu taflu, mae'r amserlenni cyflawni ar gyfer cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig ar gyfer deunyddiau pecynnu a chynllun dychwelyd ernes eisoes wedi eu gwthio yn ôl i 2023 a diwedd 2024 yn y drefn honno. Felly, Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau i'r Senedd pryd y bydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i wneud penderfyniad pendant ar y dewis a ffefrir ganddi o ran codi tâl ar eitemau untro? A wnewch chi hefyd gadarnhau pa drafodaethau yr ydych chi'n eu cynnal gyda Llywodraeth y DU i gytuno ar ffordd ymlaen a fyddai'n galluogi gwaharddiad ar blastigau untro sy'n cyflawni uchelgeisiau'r cyhoedd, fel cynnwys weips gwlyb a gwellt at ddefnydd anfeddygol?

Nawr, gan y bydd y Bil hwn yn dileu'r gofyniad i'r strategaeth ansawdd aer genedlaethol gwmpasu Prydain Fawr i gyd, mae'n destun siom mawr nad ystyriodd Llywodraeth Cymru flaenoriaethu cyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru yn ystod blwyddyn gyntaf ei rhaglen ddeddfwriaethol. Rydym ni wedi cael addewidion droeon ynghylch hyn mewn tymhorau blaenorol, felly mae'n destun siom mawr. Nawr, fel y dywedais i o'r blaen, mae'r £3.4 miliwn o gyllid refeniw a'r £17 miliwn o gyllid cyfalaf a ddyrannwyd ar gyfer camau gweithredu ansawdd aer yn 2021-22 hefyd yn llai nag oedden nhw yn y flwyddyn flaenorol. Felly, pa gamau, unwaith eto, Gweinidog, sy'n cael eu cymryd i ddiogelu rhag y duedd hon wrth symud ymlaen?

O ran targedau bioamrywiaeth, er fy mod i'n nodi yn eich ymateb i adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith eich bod yn derbyn yr angen hwnnw mewn egwyddor, mae deall eich bod yn gohirio'r gwaith hwn tan ar ôl COP15 ym mis Mai 2022 yn destun pryder mawr. Pa drafodaethau rhanddeiliaid ydych chi eisoes wedi eu cynnal, ac a wnewch chi ymrwymo i sefydlu tasglu i fwrw ymlaen â'r mater hwn o fewn amserlen sy'n fwy addas i'r argyfwng natur?

Yn olaf, wrth droi at Ran 5, sy'n gwneud darpariaeth newydd mewn cysylltiad ag ansawdd dŵr, rheoleiddio cwmnïau dŵr a charthffosiaeth, a wnewch chi ymrwymo i ymgynghori â rhanddeiliaid cyn gwneud rheoliadau gan ddefnyddio'r pwerau o dan Ran 5? Mae'r Bil amgylchedd hwn yn ymrwymiad beiddgar gan Lywodraeth Geidwadol uchelgeisiol, ac yn un sy'n ceisio glanhau aer y wlad, adfer cynefinoedd naturiol, cynyddu bioamrywiaeth a mynd i'r afael â gwastraff. Am y rheswm hwn heddiw, caiff y memorandwm hwn ein cefnogaeth lwyr. Diolch.

16:55

Byddai'n dda gen i pe bawn i'n rhannu'r brwdfrydedd yna, ond dydw i ddim. Rwy'n gwybod bod y tywydd yn ddiflas y tu allan ac nid wyf i eisiau dod â'r diflastod i'r lle hwn, ond beth bynnag, fel aelod o bwyllgorau amgylchedd Seneddau olynol, rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith craffu a fu ar y Bil ac mae wedi cael ei ohirio'n sylweddol. Nid wyf i'n dymuno ailadrodd y pwyntiau y mae Llyr a Huw Irranca wedi eu gwneud, ond rwyf i yn dymuno ailadrodd yr hyn y gwnaethom ei ysgrifennu yn ein hadroddiad ar y memorandwm—ac mae wedi ei ailadrodd eisoes:

'y ffordd fwyaf priodol o ddeddfu ar gyfer Gymru ar faterion amgylcheddol yw trwy Fil Senedd, a wnaed gan Senedd Cymru a'i aelodau etholedig, y mae Llywodraeth Cymru yn atebol iddyn nhw.'

Rwy'n credu'n gryf mai dyna'r llwybr y dylem ni ei ddilyn, a dyna'r hyn y cawsom ni ein hethol i'w wneud yma. Rwyf i, ar y llaw arall, yn gwerthfawrogi pa mor hwylus yw defnyddio'r Bil i wneud darpariaethau i Gymru, ond rwy'n edrych ymlaen at weld y Gweinidog yn cyflwyno polisi amgylcheddol a wnaed yng Nghymru, ac i wneud hynny yn hynod o fuan.

Wrth wneud hynny, byddwn i'n annog y Gweinidog i ystyried yr hyn y gellir ei wneud o ran diogelu a gwella carbon glas. Nid oes unrhyw sôn, neu mae ychydig iawn o sôn, neu rwyf i wedi ei fethu, am foroedd Cymru, ac eto maen nhw'n fwy na thraean yn fwy na thiroedd Cymru, ac maen nhw eisoes yn storio gwerth bron i 10 mlynedd o allyriadau carbon Cymru. Felly, maen nhw'n gwbl allweddol er mwyn i ni gyflawni ein huchelgeisiau o nodau newid hinsawdd llawn. Byddai strategaeth carbon glas yn dwyn ynghyd ein hecosystemau morol a'r angen i ddatgarboneiddio gweithgareddau a diwydiannau morol. Felly, lle ceir darpariaethau yn y Bil hwn, neu'r Bil pysgodfeydd, neu ddulliau anneddfwriaethol yn hynny o beth, fel ardaloedd morol gwarchodedig, rwyf i yn gobeithio gweld y Llywodraeth hon yn canolbwyntio o ddifri ar garbon glas wrth symud ymlaen.

17:00

Mae Cymru a'r Senedd hon wedi cyhoeddi argyfyngau hinsawdd a natur, ond mae'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i ategu'r brys a'r argyfyngau—mae'r llywodraethu amgylcheddol, targedau adfer natur, targedau aer glân—i gyd ar goll, Dirprwy Lywydd. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar y materion hyn, ac rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu mai'r Senedd hon yw'r corff priodol ac angenrheidiol i basio deddfwriaeth ar y materion hyn. Yn hytrach, fel yr ydym ni wedi ei glywed, rydym ni ynghlwm wrth Fil Amgylchedd y DU, sydd wedi bod yn destun cymaint o oedi. Mae'n golygu hefyd fod atebolrwydd ynghylch y penderfyniadau yn cael ei ddileu o'r Senedd hon ac oddi wrth bobl Cymru. A nawr bod Bil y DU yn agosáu at ei gamau olaf, mae amser yn brin. Mae bron wedi mynd yn rhy hwyr i Lywodraeth Cymru drafod gwelliannau.

Hoffwn i ychwanegu fy llais at y rhai sydd eisoes yn gofyn y cwestiwn ynghylch pryd y bydd Bil llywodraethu amgylcheddol y Senedd yn cael ei gyflwyno. Ar hyn o bryd, mae gennym ni asesydd dros dro sy'n goruchwylio'r drefn lywodraethu. Nid yw'n ddigon i lenwi'r bylchau mewn llywodraethu sydd wedi eu creu ers i ni adael yr UE. Ar ôl i Fil y DU gael ei basio, y Bil hwn y mae Llywodraeth Cymru eisiau i ni lynu wrtho, Cymru fydd yr unig wlad yn y DU heb ddeddfwriaeth ar gyfer system llywodraethu amgylcheddol benodol.

O ran ansawdd aer, rwyf i wedi egluro fy rhwystredigaethau ar sawl achlysur ynghylch y ffaith nad yw Deddf aer glân wedi ei blaenoriaethu ar gyfer blwyddyn gyntaf y Llywodraeth hon. Mae llygredd yn tagu ein ffyrdd, mae'n tagu ysgyfaint ein plant. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod ansawdd aer yn cyfrannu at 6 y cant o farwolaethau yng Nghymru. Mae angen amserlen gadarn arnom ni ar gyfer ein deddfwriaeth ein hunain, ac unwaith eto, mae angen i ni fod ar frys. Byddwn i'n galw ar y Gweinidog i ymrwymo i gyflwyno Bil aer glân yn 2022.

O ran targedau natur a bioamrywiaeth, pasiodd y Senedd hon gynnig nodedig, Dirprwy Lywydd, rai misoedd yn ôl pan wnaethom ni gyhoeddi argyfwng natur, ac rydym yn cydnabod y gellir mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth ac y mae'n rhaid i ni wneud, a hynny yn fater o flaenoriaeth. Cyfeiriwyd eisoes at y ffaith bod y Gweinidog wedi dweud ei bod yn ystyried cyflwyno targedau bioamrywiaeth, ond mae hynny'n llai na'r hyn y mae'r Senedd wedi galw amdano. Ni yng Nghymru yw un o'r gwledydd y mae ei natur wedi ei dirywio fwyaf yn y byd. Ni allwn aros am amser cyfleus i weithredu. Byddwn i'n cwestiynu hefyd pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi ceisio diwygio Bil y DU i roi pwerau i Weinidogion Cymru sy'n ymwneud â nwyddau coedwigaeth, ac mae hyn wedi ei godi gan y pwyllgor newid hinsawdd. Mae cyfle arall, mae arnaf ofn, wedi ei golli.

Ond, yn bennaf, Dirprwy Lywydd, rydym ni ym Mhlaid Cymru yn pryderu'n fawr ynghylch y defnydd o bwerau cydredol plws yn y memorandwm hwn. Ni ddylid gwthio Gweinidogion Cymru i'r cyrion; ni ddylid mygu llais y Senedd hon. Rydym ni'n credu y byddai pasio memorandwm o'r math hwn yn gosod cynsail a fyddai'n peri pryder, yn enwedig ar adeg pan fo San Steffan yn benderfynol o amharu ar bwerau'r Senedd hon. Ni fyddwn ni yn pleidleisio o blaid y memorandwm hwn heddiw, nac yn wir o blaid unrhyw femorandwm o'r fath.

17:05

Clywais fod y dorf wedi codi i gymeradwyo'r Prif Weinidog yn Brighton ddoe. Yn amlwg, nid oeddwn i yno i weld hyn fy hun, ond dywedodd hyn—disgrifiodd bwysigrwydd cadw pŵer er mwyn gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau. Ac eto, heddiw, mae gennym ni Lywodraeth Cymru yn ildio grym i'r Blaid Geidwadol yn San Steffan. Dyma a ddywedodd y Prif Weinidog:

'Mae popeth y mae Llafur wedi ei gyflawni yng Nghymru... wedi ei gyflawni yn nannedd un o'r llywodraethau mwyaf ofnadwy y DU a welsom erioed. Yn ddi-glem i'w chraidd ac yn elyniaethus yn awtomatig tuag at unrhyw un nad yw'n rhannu ei reddfau adweithiol angerddol gartref neu dramor.'

Felly, rydych chi wedi ei glywed gan ein Prif Weinidog—ofnadwy, di-glem, gelyniaethus, adweithiol—ac eto, heddiw, mae'n ddigon da, yng ngolwg Llywodraeth Cymru, i basio deddfwriaeth mewn maes hollbwysig er lles pobl Cymru heddiw ac yn y dyfodol. Pwerau dros ein hamgylchedd, maes datganoledig am dros 20 mlynedd, wedi eu trosglwyddo yn ôl i Lywodraeth ofnadwy, ddi-glem, elyniaethus ac adweithiol Boris Johnson.

Ar fater o egwyddor sylfaenol, Dirprwy Lywydd—ar egwyddor sylfaenol gyfansoddiadol—Senedd Cymru a ddylai deddfu mewn meysydd datganoledig. Mae mor syml â hynny. Mae meysydd fel yr argyfwng hinsawdd yn llawer rhy bwysig eu gadael i Lywodraeth Boris Johnson. Roedd e'n anffodus iawn, fel mae Huw Irranca-Davies wedi'i ddweud, cyn lleied o wybodaeth oedd yn y memoranda am pam ddylai hyn ddigwydd. Mae angen egwyddorion pendant, clir a chyson cyn inni ganiatáu memoranda fel hyn. Dyw diffyg amser a dyw diffyg capasiti ddim yn ddigon da. Bydd y cydsyniad yma yn golygu bod y Bil yn uniaith Saesneg, nad yw'r Bil yn hygyrch i bobl Cymru, a'i fod e'n cyfyngu ar ein pŵer ni i ddeddfu yn y maes yma yn y dyfodol—rhoi pŵer i ffwrdd, a Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny. Rwy'n gweld—a dŷn ni wedi clywed heddiw y Gweinidog yn dweud—eu bod nhw wedi gwneud llawer o waith i sicrhau buddiannau Cymru yn y Bil, ond fel dywedodd Huw Irranca-Davies, nid rôl Llywodraeth Cymru yw hynny, ein rôl ni—ein rôl ni yn Senedd Cymru—yw craffu a chynnig gwelliannau ar Filiau sy'n ymwneud â meysydd datganoledig. Rôl Llywodraeth Cymru, Dirprwy Lywydd, yw drafftio Biliau ar yr amgylchedd—Deddf aer glân, Deddf bioamrywiaeth, Deddf llywodraethiant amgylcheddol. Pam, ar ôl degawd o gael pwerau deddfu llawn, yr ydym yn gofyn i Lywodraeth sydd â record mor wael yn amgylcheddol i wneud hyn ar ein rhan?

Dim ond yn 2015, ysgrifennodd Boris Johnson yn The Daily Telegraph—ac fe'i talwyd yn hael amdano—nad yw tywydd cynnes yn y gaeaf yn ddim byd i wneud â chynhesu byd-eang. Ac rydym ni hefyd yn cofio, onid ydym, ei ddyfyniad am groen pwdin reis a thyrbinau gwynt?

Rŷn ni fan hyn yn Aelodau o Senedd Cymru mewn cyfnod ble mae Llywodraeth San Steffan yn tanseilio ein setliad datganoledig—mae hynny yn ffaith. Gwrandewch ar y rhifau: yn y pedwerydd Senedd, wyth Bil San Steffan angen cydsyniad; nawr, yn y chweched Senedd, yn barod 13 o Filiau. Mae'n digwydd. Dim cyd-ddigwyddiad yw hyn, ond cynllun pendant gan Lywodraeth Boris Johnson i dynnu y pwerau i ffwrdd ohonom ni yn dawel bach ond yn gyson ar hyd yr amser.

Rwy'n troi at aelodau meinciau cefn Llafur ac yn eich annog i bleidleisio yn erbyn hyn. Rhybuddiodd Alun Davies ni eto yr wythnos diwethaf fod datganoli wedi marw—mae'r broses ar ben, mae angen i ni frwydro drosto. Dywedodd y Prif Weinidog ddoe hefyd,

'ni all gwasgu consesiynau ymylol ac amharod oddi wrth y cyfoethog, y pwerus a'r breintiedig fod yn derfyn ar uchelgais y blaid wych hon.'

Wel, a gaf i ychwanegu at yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog? 'Ni all ildio grym a gwasgu consesiynau o San Steffan fod yn derfyn ar uchelgais y wlad wych hon. Dyna pam na allai'r Gweinidog gael consesiynau; oherwydd nid oes angen i mi eu rhoi i ni.' Mae ein hamgylchedd yn fregus; mae angen ei feithrin, mae angen ei warchod. Disgrifiodd yr Ysgrifennydd ar y pryd, Alun Michael, ddatganoli hefyd fel blodyn bregus. Mae angen ei feithrin, mae angen ei ddatblygu nid ei docio a'i dorri. Mae datganoli yng Nghymru, unwaith eto, yn wynebu ansicrwydd; mae angen ei feithrin, nid oes angen ei docio.

Rwyf am orffen gyda hyn: yn hytrach na chydsynio i'r cynnig hwn, mae'n rhaid i ni sefyll dros ein Senedd, ei phwerau a thros Gymru—Senedd sy'n cyflwyno deddfwriaeth amgylcheddol radical, feddylgar y bu craffu arni. Dyna ein swyddogaeth ni, dyna ein dyletswydd ni, dyna ein braint ni fel Aelodau'r Senedd. Diolch yn fawr.

17:10

Diolch, Dirprwy Lywydd. I ddechrau, hoffwn i ddiolch i'r Aelodau am eu sylwadau a'u harsylwadau eang eu cwmpas ar y memorandwm heddiw. Fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, mae'r Bil hwn yn caniatáu i ni ddatblygu ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol, lle mae amcanion amgylcheddol yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol newydd.

I fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau sydd wedi eu codi heddiw, ac yn arbennig yr y gwnaeth Llyr ei godi yn rhinwedd ei swydd yn Gadeirydd y pwyllgor, roeddwn i'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am roi'r cyfle i mi ddod i roi tystiolaeth yn bersonol ac am y gyfres o gwestiynau a ofynnwyd. Fe wnaethom weithio'n galed iawn i gael yr ymateb yn ôl i'r pwyllgor cyn gynted â phosibl. O ran argymhelliad 2 yn benodol, a nodwyd ganddo, i fod yn glir iawn, rydym yn sefydlu'r ymrwymiad i ysgrifennu at y pwyllgor polisi perthnasol i roi gwybod iddo am ein bwriad i gydsynio, ac rydym yn gwbl benderfynol o sicrhau y bydd y Senedd yn cael mynegi barn cyn i'r Gweinidog roi cydsyniad. Felly, nid oes unrhyw fwriad yma i ddileu gallu'r Senedd i graffu ar ddeddfwriaeth. Rwy'n derbyn yn llwyr fod gan y Senedd y swyddogaeth honno, yn gywir ac yn briodol, a'i bod yn cyflawni'r swyddogaeth honno yn dda a'n bod ni eisiau iddi wneud hynny, er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth y gorau y gall fod i bobl Cymru. Rwy'n credu bod nifer o bobl wedi gwneud y pwynt hwnnw, ac roeddwn i'n awyddus i fynegi fy nghytundeb chwyrn ag ef.

Ac yna dim ond i ddweud, wrth gwrs, ein bod ni hefyd yn cytuno, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, y dylai deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig gael ei deddfu gan y Senedd wrth gwrs. Ond, weithiau, mae'n synhwyrol ac yn fanteisiol ceisio darpariaethau mewn Bil y DU gyda chydsyniad y Senedd, a dyna pam yr ydym ni yma heddiw. Yn benodol, rydym ni eisiau pwysleisio'r angen am gydlynu ledled y DU ar gyfer rhai o'r cynlluniau sy'n cael eu cynnwys yn rhan o'r Bil hwn, yn enwedig y cynllun cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig a'r cynllun dychwelyd ernes. Fel y bydd yr Aelodau yn ei wybod, mae gennym ni ffin hydraidd iawn yng Nghymru, ac mae llawer iawn o bobl yn croesi'r ffin honno yn ddyddiol, i'r ddau gyfeiriad, sawl gwaith. Rydym ni eisiau iddyn nhw allu dwyn i gyfrif y cynhyrchwyr sy'n cynhyrchu eu nwyddau yng Nghymru ac yn eu gwerthu yn Lloegr ac sy'n cynhyrchu eu nwyddau yn Lloegr ac yn eu gwerthu yng Nghymru. Rydym ni hefyd eisiau i bobl allu dychwelyd eu poteli a brynwyd yng Nghymru yn Lloegr, ac i'r gwrthwyneb. Mae'n eithriadol o bwysig bod gennym ni y lefel honno o gydgysylltu er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu gwneud y peth iawn. 

Bydd aelodau'r Senedd hon wedi fy nghlywed i'n dweud yn aml iawn mai platfform y Llywodraeth yw sicrhau mai gwneud y peth iawn i bob dinesydd yng Nghymru, o ran yr argyfyngau hinsawdd a natur, yw'r hyn yr ydym ni i fod i'w wneud, a'r hyn y mae'r cydgysylltu hwn yn ei ganiatáu yw i bobl wneud y peth iawn pan fyddan nhw'n byw yn agos at y ffin, ac mae hynny'n gyfran fawr iawn o boblogaeth Cymru. Felly, rwy'n credu bod hynny yn rheswm da iawn dros ddefnyddio Bil y DU yn yr achos hwn, i sicrhau bod cydgysylltu ar draws y darn. 

O ran y pethau eraill yr oedd pobl yn bryderus iawn yn eu cylch, rwy'n derbyn y pryder. Rydym ni, wrth gwrs, wedi cymryd camau i ddileu'r defnydd cydredol o bwerau, lle bynnag y bo hynny yn bosibl, ac wrth gyflwyno deddfwriaeth Cymru. A gallaf sicrhau'r Aelodau fod gan y Llywodraeth bob bwriad i wneud hynny. Felly, o ystyried yr angen am gydgysylltu, o ystyried yr angen i sicrhau bod Cymru yn aros yn unol â'r arfer amgylcheddol gorau oll, ac o gofio'r angen i'r Senedd roi ei chydsyniad a'r craffu da iawn y mae'r ddau bwyllgor eisoes wedi ei wneud ar y Bil a'r cyfraniadau hynod ragorol a wnaeth eu Cadeiryddion heddiw, byddwn i'n argymell bod y Senedd yn cytuno ar y memorandwm yn yr achos hwn. Diolch yn fawr. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl: Defnyddio Adolygiad Llywodraeth y DU o Wariant i fynd i’r afael â diogelwch tomenni glo yng Nghymru

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar. 

Eitem 6, dadl y Llywodraeth ar ddefnyddio adolygiad o wariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â diogelwch tipiau glo yng Nghymru. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans. 

Cynnig NDM7782 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau o ran cymeradwyo rhaglen gyllid ar gyfer adfer ac adennill tomenni glo yng Nghymru a'u haddasu at ddibenion gwahanol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein hinsawdd yn newid. Adroddodd y Swyddfa Dywydd ym mis Gorffennaf eleni y dylem ni ddisgwyl patrwm o dywydd gwlypach, stormydd amlach a glaw trymach. Nid oes amheuaeth ein bod ni'n gweld newid hinsawdd dinistriol yn datblygu o'n blaenau. Mae'r asesiad diweddaraf o effaith newid hinsawdd yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu i ni yma yng Nghymru. Mae'n nodi, ymysg effeithiau ehangach, y risg gynyddol o gwympiadau tir, tirlithriadau ac ymsuddiant yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â gweithgareddau glofaol hanesyddol, ac nid rhagolygon damcaniaethol yn unig yw'r rhain. Ym mis Chwefror 2020, o ganlyniad i stormydd dinistriol, gwelsom ni i gyd effaith y tirlithriad yn Nhylorstown, sy'n ein hatgoffa'n llwyr o etifeddiaeth hanes diwydiannol Cymru. Amlygodd y tirlithriad hwn fod risgiau o hyd yn gysylltiedig â'n gorffennol glofaol balch. Ym mis Chwefror eleni, gwelsom dirlithriad ym Mhentre yn bygwth tarfu sylweddol. Mae angen i ni sicrhau nad yw etifeddiaeth cloddio glo yn parhau i beri perygl i ddiogelwch y cyhoedd gan hefyd baratoi ar gyfer heriau newid hinsawdd, a allai achosi tywydd mwy eithafol. Ac wrth gwrs, ymhen ychydig wythnosau yn unig, byddwn ni'n cofio canlyniadau dinistriol llithriad y domen a laddodd 144 o bobl, 116 ohonyn nhw'n blant, ar 21 Hydref 1966 yn Aberfan.

Etifeddiaeth ein gorffennol glofaol, y rhannwyd ei fuddion ledled y DU gyfan, yw'r dros 2,100 o domenni glo segur ledled Cymru. Pan grëwyd y tomenni hyn, nid oedd effaith lawn allyriadau carbon o lo, olew a nwy o ran ysgogi newid hinsawdd yn hysbys eto. Nid oedd systemau draenio tipiau wedi'u cynllunio i ymdopi â faint o law a ragwelir erbyn hyn, ac oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn awr, mae ein cymunedau'n wynebu mwy o ansicrwydd yn y dyfodol. Trwy fynd i'r afael â'r materion hyn, gallwn ni osgoi cynnydd diangen mewn allyriadau carbon.

Mae etifeddiaeth cloddio am lo yn effeithio yn anghymesur ar Gymru. Mae tua 40 y cant o domenni glo segur Prydain yma yng Nghymru. O'r tomenni risg uwch, mae mwy na 90 y cant wedi'u lleoli yng nghymoedd y de. Nid oes unrhyw amheuaeth nad yw'r setliad datganoli presennol a fformiwla Barnett yn methu â chydnabod hyn nac yn adlewyrchu anghenion Cymru yn ddigonol yn hyn o beth. Mae sicrhau diogelwch tomenni yn gofyn am waith cynnal a chadw parhaus gan Lywodraeth Cymru. Mae'r costau adfer sy'n cael eu gwaethygu erbyn hyn gan newid hinsawdd ar raddfa sy'n llawer uwch nag unrhyw beth a ragwelwyd pan ddechreuodd datganoli yn 1999. Nid ydyn nhw yn cael eu hadlewyrchu yn ein trefniadau ariannu presennol. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gytuno i ariannu'r costau hyn, neu mae'n golchi ei dwylo o'i gorffennol glofaol a'i chyfrifoldeb i ymdrin â'r rhwymedigaethau a adawyd ar ôl.

Yn wrthnysig, rydym yn cael ein gadael deirgwaith yn waeth ein byd, oherwydd hyd yma mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod gwario ar domenni glo, ac, wrth gwrs, mae'n dal yn ôl y £375 miliwn o gyllid rhanbarthol a ddylai ddod i Lywodraeth Cymru. Felly, mae Llywodraeth y DU yn barod, fel y mae'r Senedd wedi clywed yn y datganiad blaenorol y prynhawn yma, i ddarparu cymorth ariannol drwy ei chronfeydd codi'r gwastad neu ar gyfer meysydd sy'n amlwg wedi'u datganoli, cyflwyno deddfwriaeth newydd i wneud hyn a pheryglu dyblygu a gwerth gwael am arian a hynny wrth dorri ei haddewid o ran ei rhwymedigaethau i ddarparu'r cymorth angenrheidiol i fynd i'r afael â phroblemau fel diogelwch tomenni glo sy'n rhagflaenu datganoli.

Rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r her hon. Rydym ni eisoes yn cyflawni ein cyfrifoldebau dros ddiogelwch tomenni glo. Ar ôl llithriad Tylorstown, sefydlodd y Prif Weinidog dasglu diogelwch tomenni glo ar unwaith, sy'n bwrw ymlaen â rhaglen sylweddol o waith diwygio gweithredol a deddfwriaethol. Gan weithio gyda phartneriaid yn yr Awdurdod Glo, awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru, mae archwiliadau rheolaidd bellach ar y gweill ac mae gwaith cynnal a chadw wedi dechrau. Gan weithio gyda ffora cydnerthedd lleol, mae mesurau ymateb brys bellach ar waith. Fel Llywodraeth, rydym ni hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth diogelwch tomenni glo newydd yn ystod y Senedd hon. Y llynedd, gofynnwyd i Gomisiwn y Gyfraith gynnal adolygiad o fframwaith deddfwriaethol ar gyfer diogelwch tomenni glo yng Nghymru. Bydd yr adolygiad hwn yn darparu tystiolaeth hanfodol ar gyfer datblygu deddfwriaeth newydd i Gymru ar domenni glo, yr ydym wedi ymrwymo i'w chyflawni yn ystod y Senedd hon.

Fodd bynnag, nid yw hon yn her y gallwn ni fynd i'r afael â hi ar ein pennau ein hunain, ac ni ddylem ni orfod gwneud hynny ychwaith. Roeddwn i'n falch o weld y Prif Weinidog yn tynnu sylw at yr angen i weithredu ar lo yn ei araith y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd y mis hwn. Rwyf hefyd yn falch o nodi bod y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn darparu cymorth gwerth £44 miliwn i helpu gwledydd datblygol y byd i reoli diwydiannau echdynnol fel glo yn gyfrifol ac yn atebol.

Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn: mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i Deyrnas Unedig sy'n gweithio ar gyfer ei holl rannau cyfansoddol. Os yw Llywodraeth y DU yn rhannu ein hymrwymiad i'r undeb, yna dyma'r her a dyma'r amser iddyn nhw gymryd eu cyfran o'r cyfrifoldeb am etifeddiaeth hanesyddol cloddio am lo yn y DU.

Nid tasg fach yw hon—o na fyddai'n dasg fach. Gall y gost o adfer un domen yn unig, lle mae angen gwaith helaeth, fod yn £40 miliwn, ac mae gennym dros 2,100 o domenni yng Nghymru. Rydym ni'n dechrau gyda'r safleoedd mwyaf heriol, wrth gwrs. Fodd bynnag, rydym yn amcangyfrif y bydd angen o leiaf £600 miliwn arnom dros y degawd a hanner nesaf. Mae angen i Lywodraeth y DU ein hariannu i fuddsoddi yn awr, tra bod amser o hyd, er mwyn osgoi llawer mwy o gost ac effaith ar bobl a chymunedau. 

Rwyf eisiau dweud nad yw'n ddrwg i gyd. Mae cyfleoedd mawr hefyd. Fe'm calonogwyd i gan fy nghyfarfod diweddar â Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys, a ddywedodd wrthyf ei fod yn rhannu angerdd Llywodraeth Cymru dros fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae'r Prif Ysgrifennydd yn arwain adolygiad o wariant tair blynedd cynhwysfawr Llywodraeth y DU lle mae mynd i'r afael â newid hinsawdd a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol wedi'u hamlygu fel blaenoriaeth uchel. Os gallwn gytuno ar ffordd ymlaen i fynd i'r afael â'r her gyffredin hon a rheoli'r risg gynhenid, mae cyfle i ni ddangos ein hymrwymiad ar y cyd wrth i ni edrych ymlaen at gynnal COP26 yn y DU. Ac ni fu erioed yn bwysicach i ni gydweithio ar draws y DU ac ar draws y byd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur a'i ganlyniadau. 

Mae tomenni glo, yn ôl eu natur, yn eithaf llythrennol yn storfeydd sylweddol o garbon ffosil. Maen nhw'n rhan allweddol o'n treftadaeth ddaearegol. Mae llawer ohonyn nhw yn gynefinoedd i blanhigion ac anifeiliaid. Wedi'u hadfer a'u gwneud yn ddiogel, mae ganddyn nhw y potensial i fod yn rhan o rwydwaith cenedlaethol ar gyfer natur a choedwig genedlaethol Cymru. Bydd y buddsoddiad y mae ei angen yn dod â manteision economaidd, sgiliau newydd a mwy o gyflogaeth i gymunedau ein Cymoedd. Bydd yn gwella'r amgylchedd i bobl sy'n byw yno ac yn rhoi cyfran o gyfoeth cenedlaethol yn ôl i'r rhai hynny y gwnaeth eu rhagflaenwyr helpu i'w greu. 

Mae'r ffeithiau'n glir. Mae newid hinsawdd, sy'n arwain at achosion o law trwm, yn bygwth ansefydlogi tomenni glo. Mae etifeddiaeth ddiwydiannol cloddio am lo yn cael effaith anghymesur arnom ni yma yng Nghymru. Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn dangos y ffordd, gyda'r cyllid ysgogi y mae'n ei ddarparu i hen ardaloedd cloddio ar draws yr Unol Daleithiau. Mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r her, ond nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud hynny hyd yma. Dyna pam yr wyf yn galw ar yr Aelodau i wrthwynebu gwelliant y Ceidwadwyr a chefnogi'r cynnig. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU gyflawni ei haddewidion a chyflawni ei chyfrifoldebau'n llawn, drwy weithio gyda ni a chytuno ar raglen ariannu i fynd i'r afael â her adfer, adennill ac ail-lunio safleoedd tomenni glo yn y tymor hir, ac rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Senedd. 

17:20

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu 'Lywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau' a rhoi 'Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyflawni eu cyfrifoldebau' yn ei le.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf yn sefyll i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Ac, fel y dywedwyd, dim ond ar ôl trychineb dychrynllyd Aberfan yn 1966 y deddfwyd Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969. Hanner canrif yn ddiweddarach, dim ond ar ôl storm Dennis ym mis Chwefror 2020 a llithriad tomen lo yn Nhylorstown y gwahoddwyd Comisiwn y Gyfraith yn ffurfiol yn awr i gynnal adolygiad annibynnol o'r ddeddfwriaeth berthnasol a darparu argymhellion ar gyfer Bil yn y dyfodol. Mae'r ffaith ei bod yn cymryd trychinebau i ni sylweddoli nad yw'r ddeddfwriaeth yn ddigon cadarn nac yn addas at ei diben yn bwynt y dylem ni i gyd fod yn adlewyrchu arno yma heddiw. Mae ein cymunedau ni yn haeddu Senedd Cymru nad yw'n adweithiol ond yn rhagweithiol yn ei dull o ymdrin â materion mor bwysig. Maen nhw'n haeddu Senedd Cymru sy'n gwneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu ein cymunedau a'u pobl. Ond maen nhw hefyd yn haeddu Llywodraeth Cymru sy'n onest am ei chyfrifoldebau ei hun. 

Dirprwy Lywydd, cynghorwyd y Prif Weinidog yn ysgrifenedig gan y Gwir Anrhydeddus Stephen Barclay AS ar 5 Gorffennaf 2021, fod

'rheoli tomenni glo yng Nghymru yn fater datganoledig ac felly nid yw'n un y byddai Llywodraeth y DU yn disgwyl darparu cyllid ychwanegol ar ei gyfer.'

Yn wir, mae'r Prif Weinidog yn gwybod yn iawn bod rheoli tomenni glo wedi'i ddatganoli, oherwydd mae hyd yn oed wedi'i gynnwys yn ei raglen lywodraethu, sy'n gwneud addewid sydd i'w groesawu i gyflwyno deddfwriaeth i fynd i'r afael ag etifeddiaeth canrifoedd o gloddio a sicrhau diogelwch tomenni glo. Felly, rwy'n gofyn i'r sefyllfa gael ei hegluro i adlewyrchu hynny. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am reoli unrhyw gostau hirdymor sy'n gysylltiedig â sicrhau diogelwch ein tomenni glo yng Nghymru. Rwy'n sylweddoli y gallai'r problemau etifeddol sy'n ymwneud â thomenni glo yr ydym yn eu hwynebu gostio tua £0.5 biliwn dros gyfnod o 10 mlynedd. Fodd bynnag, nid oes rheswm pam na ellir ariannu hynny. Er enghraifft, ar gyfer 2021-22, mae setliad adolygu o wariant cyffredinol Llywodraeth Cymru yn darparu £123 y pen am bob £100 o gyllid cyfatebol yn Lloegr. Felly, rwy'n diflasu braidd erbyn hyn yn fy nhrydydd tymor i gael gwybod yn gyson mai Llywodraeth y DU sy'n penderfynu. Yn wir, bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn tua £1 biliwn yn fwy yn 2021 na'r hyn y cytunwyd arno fel cyllid teg i Gymru o'i gymharu â Lloegr, felly gallwch fforddio gymryd cyfrifoldeb am yr hyn sy'n fater datganoledig.

Fel y gwyddoch chi, mae Llywodraeth y DU yn barod i gydweithredu i sicrhau bod deiliaid tai a busnesau yn gwybod bod y risg yn cael ei chymryd o ddifrif. Ni ddylai hyn fod yn bêl-droed wleidyddol. Ym mis Rhagfyr 2020, derbyniodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys gais Llywodraeth Cymru am £31 miliwn i helpu gyda'r effeithiau nas rhagwelwyd—[Torri ar draws.]—Fe wnaf dderbyn ymyriad os dymunwch chi—[Torri ar draws.]—iawn—gydag effeithiau annisgwyl storm Dennis, a oedd yn cynnwys £9 miliwn i atgyweirio tomenni glo bregus ledled Cymru.

Mae Llywodraeth y DU yn parhau i sicrhau bod arbenigedd yr Awdurdod Glo ar gael i gefnogi'r gwaith o sicrhau bod tomenni yn ddiogel, ac wrth gwrs, ym mis Chwefror 2020, sefydlwyd tasglu a gadeiriwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Phrif Weinidog Cymru i drafod a chydlynu'r gwaith. Gallem ni weld glaw trwm yng Nghymru y gaeaf hwn, ac o'r herwydd, byddwn i'n falch o gael y wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu cymunedau rhag y tomenni a ystyrir yn risg uchel. Nawr, gwnaed £180,000 ar gael y llynedd ar gyfer treialu offer synhwyro, sy'n golygu bod gan leoliadau fel tomen y National, Wattstown, systemau monitro telemetrig amser real, sy'n cadw llygad ar symudiad yn y ddaear a lefelau dŵr. Nod hwnnw oedd cynnwys mwy o domenni yn y treialon. A yw hyn wedi'i gyflawni? A fydd rhagor o systemau monitro telemetrig amser real yn cael eu cyflwyno? Y gaeaf diwethaf, archwiliodd yr Awdurdod Glo ac awdurdodau lleol bron i 300 o domenni risg uchel, gan nodi gwaith cynnal a chadw pwysig a brys iawn. Felly, fy nghwestiwn: faint o'r tomenni glo yr oedd angen i waith ddechrau o fewn chwech i 12 mis sydd wedi gweld y targed hwnnw'n cael ei gyflawni?

17:25

Iawn. Rwy'n deall mai un domen lo yw'r ateb hwnnw. Felly, rydym ni'n cytuno bod diogelwch ein cymunedau yn hollbwysig, felly er na allaf gefnogi'r cynnig gwreiddiol, gallaf eich sicrhau chi ac unrhyw un sy'n eistedd yn y Senedd hon, fod Ceidwadwyr Cymru eisiau gweld pob lefel o Lywodraeth yn parhau i gydweithredu i amddiffyn Cymru rhag unrhyw drychinebau posibl pellach. Diolch.

Mae ein tirweddau'n gwisgo creithiau gorffennol Cymru. Pennau pyllau, traphontydd yn dadfeilio, pontydd sy'n arwain at unman, a thomenni glo sy'n staenio ochrau ein mynyddoedd, tomenni o gyfnod o huddygl a thwrw, o danau gwyllt dan ddaear, a bywydau wedi'u claddu yn y pridd. Talodd ein Cymoedd yn hir ac yn galed am ysbail cloddio am lo, ac mae'n wallgof meddwl, Dirprwy Lywydd, na chafodd deddfwriaeth yn ymwneud â diogelwch tomenni ei chyflwyno hyd yn oed tan ar ôl trychineb Aberfan. A hyd yn oed ar ôl y digwyddiad dinistriol a chywilyddus hwnnw—adeg a ddylai fod wedi achosi ymddiswyddiadau, newid sylfaenol a symud ar raddfa fawr y gwastraff a'r sbwriel hwn—ni chafodd y tomenni eu tynnu o'r mynyddoedd eraill yn ein Cymoedd. Pe byddai'r tomenni hynny wedi bod yn Surrey neu yn Swydd Bedford, rwy'n amau a fydden nhw wedi cael eu gadael i anharddu'r gorwel. Ond yng Nghymru, yn Bedwas, Penalltau, Penydarren, Bedlinog, mae cymunedau'n gorwedd yng nghysgod yr erchylltra hyn, gan deimlo'n bryderus bob tro y mae'n bwrw glaw, oherwydd po fwyaf o law a gawn ni yn awr mae'n golygu y gallai'r tomenni hynny fynd yn fwy ansefydlog fyth. Yn 2020, damwain hapus oedd hi nad oedd neb yn byw ar lwybr tirlithriad Tylorstown. A ydym ni eisiau aros i weld a fydd tynged yn parhau i fod ar ein hochr ni?

Dirprwy Lywydd, roedd cloddio dwfn yn golygu bod perygl bob amser yn bresennol. Y mwyaf y gallen nhw ei wneud oedd lleihau'r perygl hwnnw, ond daeth y diffyg pan roddwyd yr un meddylfryd yn gyfrifol am ddiogelwch uwchben y ddaear, gan drin ein trefi fel tomen sbwriel. Soniais am ddeddfwriaeth; wel, mae'r gyfraith sydd gennym ni yn gwbl ddiffygiol. Nid oes braidd dim rheolaeth, dim cysondeb ag asesiadau risg, dim rhwymedigaeth i archwilio'r tomenni na'u cadw'n ddiogel, a dim ffordd o orfodi tirfeddianwyr i weithredu os oes perygl. Ystyrir bod saith deg o domenni yng Nghaerffili yn rhai risg uchel; mae gan 59 ym Merthyr ac 16 ym Mlaenau Gwent yr enw drwg hwnnw, ac mae'r bobl hynny yn San Steffan yn dal i ddadlau am y gost. Pwy fydd yn talu i wneud y tomenni hyn yn ddiogel? A ddylai wir fod yn gyfrifoldeb i'r awdurdodau lleol o gymunedau a chafodd eu hysbeilio am eu glo ac na welodd dim o'r elw yn cael ei fuddsoddi'n ôl? Rhwygwyd y cyfoeth o'r ddaear o dan eu traed. Sut y gall San Steffan osgoi'r cywilydd hwnnw? Ni ddylai fod wedi cymryd y ddamwain a fu bron a digwydd yn Nhylorstown i orfodi'r Llywodraeth, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i sylweddoli eu bod yn berygl marwol, nid yn ein llwybr ni, ond yn hongian dros ein pennau. Am ba hyd y bydd pobl Bedwas, Penyard, Nant-yr-Odyn, Hengoed yn gorfod byw gyda'r teimlad anesmwyth hwnnw yn hongian drostyn nhw? Pa mor hir y bydd yr anghyfiawnder hwn yn hongian yn yr aer?

17:30

Byddai unrhyw un a edrychodd ar eiriad y cynnig heddiw yn meddwl tybed beth oedd hanfod yr holl ffwdan, oherwydd nid yw'n ymddangos bod llawer o wahaniaeth rhwng y gwelliant a chynnig y Llywodraeth, ond, os gwrandewch chi ar eiriau'r Gweinidog, yr hyn y mae hi'n sôn amdano yw Llywodraeth y mae angen iddi fyw o fewn ei modd, ac mae angen i Lywodraeth Cymru fyw o fewn ei modd yn hyn. Yn hanesyddol, pan fo gennym ni faterion a oedd yn treiddio o'r cyfnod cyn datganoli, rwy'n credu ei bod yn iawn i Lywodraeth y DU gymryd ei swyddogaeth o ddifrif wrth ddatrys y materion hynny. Mae hwn yn fater, fel y mae Delyth eisoes wedi'i ddweud, mae hyn yn rhywbeth a oedd yn bodoli ymhell cyn i ddatganoli ddod i'r amlwg, ac, er mwyn mynd i'r afael â'r tomenni hynny yn fy etholaeth i ac adfer y tomenni hynny, mae angen swm sylweddol o arian cyhoeddus, sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi'i amcangyfrif.

Rwyf yn cymryd o ddifrif y materion ym Medwas, er enghraifft. Rwyf wedi cyfarfod â'r awdurdod lleol a gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i siarad am nifer y tomenni yn fy etholaeth i. Felly, mae gennym dros 20 o domenni sy'n eiddo i awdurdodau lleol yn etholaeth Caerffili, ac mae dros 20 o domenni preifat, ac, yn eu statws presennol, nid yw mor frawychus ag y mae'n swnio, y rhif hwnnw, oherwydd mae rhai wedi'u saernïo a'u tirlunio, eu hadfer—mae parc gwledig Penallta wedi'i leoli ar un—ac mae rhai sydd heb eu hadfer. Mae'r tomenni sy'n eiddo i'r awdurdod lleol yn rhan o drefn archwilio a chynnal a chadw sy'n seiliedig ar risg, sy'n fwy na bodloni cyfrifoldeb statudol bwrdeistref sirol Caerffili. Felly, er enghraifft, heddiw, mae Bedwas yn cael ei arolygu'n fisol, ac, heddiw, byddwn i'n dychmygu, a'r tywydd fel y mae, y bydd cyngor Caerffili yn archwilio tomen Bedwas heddiw. Rwyf wedi siarad â llawer o bobl ym Medwas, a'r ymateb cyffredinol yw: 'Mae angen i ni adael y domen honno fel y mae hi. Dydyn ni ddim eisiau ei chyffwrdd.' Dyna'r math o ymateb yr ydym yn ei gael yn y gymuned. Maen nhw'n gwybod y byddai ei hadfer yn costio swm enfawr o arian, sydd ar hyn o bryd y tu hwnt i fodd Llywodraeth Cymru ac rwy'n credu bod angen i Lywodraeth y DU ei ddarparu. Mae'r trefnau archwilio hynny'n parhau.

Nid oes unrhyw bryderon ynghylch diogelwch ag unrhyw un o domenni yr awdurdod lleol—tomenni cyngor Caerffili—ar hyn o bryd, hyd yn oed os ydyn nhw yn y categori risg uwch hwnnw, ac, fel y dywedais i, cânt eu harolygu'n fisol. Ond mae cynnal a chadw'r tomenni preifat yn bryder, oherwydd, o dan Ddeddf tomenni 1969, cyfrifoldeb y tirfeddiannwr ydyw. Wrth drafod hyn gyda chyngor Caerffili, dysgais y gallan nhw gamu i mewn o dan eu pwerau brys pan fo ganddyn nhw y pryderon hynny, ond mae hwnnw'n faes amwys o ran yr hyn y gallan nhw ei wneud a sut y gallen nhw gamu i mewn. Felly, yn sicr mae angen eglurder arnom ni yn y fan yna.

Ond, yn y bôn, fy nadl i fyddai bod hwn yn fater o'r cyfnod cyn datganoli, ac, yn yr un modd â gwaed halogedig, er enghraifft, mae angen i Lywodraeth y DU gymryd y camau sy'n dal yn gyfrifoldeb iddi hi, ac maen nhw'n ddiffygiol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, wrth wrando ar y Gweinidog, rwy'n credu bod rhai o'r sgyrsiau y mae hi wedi dweud ei bod wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU wedi fy nghalonogi. Rwy'n mawr obeithio eu bod yn dwyn ffrwyth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd llawer iawn o gamau ac mae cyngor Caerffili yn gwneud llawer iawn o waith, ond, heb y mewnbwn sylweddol hwnnw gan Lywodraeth y DU, ni fydd hynny'n ddigonol yn y tymor hirach. Felly, edrychwn ymlaen at glywed mwy gan y Gweinidog am y cynnydd y mae hi'n ei wneud yn y trafodaethau hynny.  

17:35

Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Cyllid. 

Yn y Senedd flaenorol, dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Cyllid ei bod yn ceisio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo yng Nghymru. Mewn ymateb i'r cais hwnnw, dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd fod Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu'n ddigonol i reoli costau yn y dyfodol fel rhan o'i gwaith cynllunio cyllideb arferol. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod hwn yn faes lle mae Cymru wedi cael ei heffeithio'n anghymesur, a nifer yr achosion sy'n ymwneud â thomenni glo yn digwydd ar gyfradd frawychus. Mae gan Gymru gyfran sylweddol uwch o domenni glo o'i chymharu â gweddill y DU. Oherwydd maint y buddsoddiad hirdymor sydd ei angen, rydym ni'n credu mai fformiwla Barnett yw'r dull cywir ar gyfer ymdrin ag ariannu'r mater etifeddiaeth hwn.

Rwy'n falch bod y Gweinidog yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am sicrwydd cynnar a mwy o dryloywder o ran cyhoeddiadau am wariant er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i gynllunio'n fwy effeithiol ar gyfer y dyfodol yn y maes hwn. Bydd adolygiad gwariant Llywodraeth y DU a chyllideb yr hydref yn dod i ben ar 27 Hydref, ac er ein bod yn cefnogi ymdrechion y Gweinidog, mae hefyd yn hanfodol bod gan y pwyllgor ddealltwriaeth glir o'r cyllid sydd ar gael fel y gallwn ymgymryd â gwaith craffu ariannol o ansawdd. Byddem hefyd yn ailadrodd argymhelliad blaenorol bod Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo tryloywder cyllid drwy gyhoeddi ei chyfrifiadau ar symiau canlyniadol o gyhoeddiadau gwariant y DU.

Fel y gŵyr yr Aelodau, mae gan y mater hwn bwysigrwydd hanesyddol penodol yng Nghymru. O ystyried ein treftadaeth a'n daearyddiaeth unigryw, mae angen mynd i'r afael â hyn fel mater o frys. Felly, rydym yn cefnogi ymdrechion y Gweinidog. Fodd bynnag, ni ddylai fod ar draul tryloywder a chraffu priodol. Diolch yn fawr.

Am dros ganrif, roedd glo Cymru'n pweru'r byd. O Drehafod hyd at Faerdy, Trebanog draw i Dreherbert, gweithiodd dynion a menywod eu bysedd at yr asgwrn i wneud y wlad hon yn gyfoethog. Rydym yn falch o'r cyfraniad a wnaeth ein cyndadau yn y Rhondda, ochr yn ochr â'n cymdogion, fel rhan o ardal ehangach meysydd glo de Cymru. Mae hyn yn gwbl groes i Lywodraethau Torïaidd olynol y DU, sydd dro ar ôl tro wedi gwneud penderfyniadau gwleidyddol ymwybodol, bwriadol sydd wedi—ac sy'n dal i—effeithio'n sylweddol ar fywydau fy etholwyr yn Rhondda.

Y llynedd, gwelsom olygfeydd brawychus yn Nhylorstown a Wattstown, gyda thirlithriadau mewn hen domenni glo. Mae'n amlwg nad yw'r amddiffynfeydd a roddwyd ar waith cyn newid hinsawdd yn mynd i fod yn ddigon da ar gyfer y dyfodol. Heb ymyrraeth ystyrlon, byddwn yn gweld hyn yn digwydd i domenni glo eraill ledled Cymru, gan roi ein cymunedau mewn perygl. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i arian dros y tymor byr hwn i unioni'r broblem hon, ac mae cynlluniau uchelgeisiol ar waith i fod â Deddf diogelwch tomenni glo i Gymru ar y llyfr statud. Ond mae angen rhaglen liniaru, adfer ac addasu at ddibenion gwahanol hirdymor arnom wedi'i chydweithredu gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Dylai hyn, mae'n siŵr, fod yn her a rennir. Mae pedwar deg y cant o holl domenni glo'r DU wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae'n rhwystredig ein bod wedi gorfod ymladd y Llywodraeth Dorïaidd bob cam o'r ffordd i gael yr arian yr ydym ei angen ac yn ei haeddu, ond nid yw'n syndod. Nid oes ond angen i ni wrando ar y datganiadau a wnaed gan y Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi yn gynharach heddiw i wybod bod Cymru'n rhy aml yn ôl-ystyriaeth i'r Llywodraeth Dorïaidd. Mae'r adolygiad o wariant yn rhoi cyfle i Lywodraeth y DU unioni hyn. Rwy'n annog fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr heddiw i gefnogi'r cynnig gwreiddiol i sicrhau ein bod o'r diwedd yn gweld camau cadarnhaol, nid geiriau yn unig, gan Lywodraeth y DU.

17:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n fy nigalonni i glywed y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud, wythnos ar ôl wythnos, eu bod yn credu bod Cymru rywsut yn cael ei gorariannu, neu hyd yn oed yn cael ei hariannu'n ddigonol, a byddwn i'n gofyn i Geidwadwyr Cymru wneud eu hymchwil eu hunain ac ystyried rhai o'r ffeithiau, y ffigurau, y cyfrifoldebau. Edrychwch ar danariannu hanesyddol y rheilffyrdd yng Nghymru, er enghraifft. Gofynnwch i chi'ch hun a allwch chi fod yn fodlon â hynny. Edrychwch ar y ffordd y mae HS2 yn cael ei gategoreiddio gan Lywodraeth y DU fel cynllun Cymru a Lloegr, er bod ffigurau Llywodraeth y DU ei hun yn dangos y bydd yn niweidiol i Gymru, ac yn enwedig y de-orllewin, a gofynnwch i chi'ch hun a ydych chi'n fodlon â hynny. Ac ystyriwch a ydych chi'n fodlon na ddylai'r pwyntiau rheoli ffiniau newydd ddenu unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, er eu bod yn newydd a heb eu hariannu o ganlyniad i Brexit. Ystyriwch a ydych chi'n credu y dylai porthladdoedd rhydd yng Nghymru ddenu dim ond £8 miliwn o gyllid, o'i gymharu â phob porthladd rhydd yn Lloegr sy'n cael £25 miliwn. Os ydych chi'n hapus ac yn fodlon ar hynny i gyd, eglurwch chi hynny i'ch etholwyr. Ond os ydych chi, ar ôl ystyried y ffeithiau a'r cyllid a'r cyfrifoldebau, mor ddig ag yr ydym ni ar y meinciau hyn, yna gwnewch rywbeth am hyn a gweithiwch gyda ni i ddylanwadu ar eich cydweithwyr yn San Steffan i wneud hyn yn iawn.

Ni chafodd fformiwla Barnett erioed ei gynllunio ar gyfer hyn; mae £600 miliwn dros 10 i 15 mlynedd yn swm enfawr o gyllid, ac o ble y bydd yn dod? Bydd yn dod o ysgolion, bydd yn dod o ysbytai, bydd yn dod o gynnal a chadw ffyrdd a bydd yn dod o dai cymdeithasol. Nid yw'n dod o'r unlle.

Rwyf eisiau cofnodi a rhoi ychydig o eglurder ynghylch y £31 miliwn a ddisgrifiwyd hefyd. Felly, roedd hwnnw'n swm o arian a negodwyd gennyf i gyda Llywodraeth y DU ar gyfer sefyllfa pe byddai Llywodraeth y DU o'r farn na allem ni fforddio gwario hwnnw ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, yna byddai'n darparu'r cyllid ychwanegol. Roedd yn fath o warant, ac roedd yn ddefnyddiol iawn gan ei fod yn caniatáu i ni gael y sicrwydd hwnnw a'r hyder hwnnw i symud ymlaen a gwneud cynlluniau a buddsoddiadau yn syth ar ôl hynny. Fodd bynnag, bydd cyd-Aelodau yn ymwybodol y bu gan Lywodraeth Cymru gyllid sylweddol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol o ganlyniad i gyhoeddiadau hwyr am symiau canlyniadol COVID gan Lywodraeth y DU a hefyd ein rheolaeth well o gyllid yma yng Nghymru o ran profi, olrhain, diogelu a chyfarpar diogelu personol, er enghraifft. Ac, o'r herwydd, cymerodd Llywodraeth y DU y £31 miliwn hwnnw o'r gronfa COVID, gan felly beidio â darparu'r cyllid ychwanegol hwnnw. Felly, rwy'n credu ei bod yn werth cael y ffeithiau am hynny.

Yr hyn nad wyf eisiau ei wneud heddiw yn y trafodaethau hyn yr ydym ni wedi bod yn eu cael am domenni glo yw achosi braw, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n bwysig iawn yn fy marn i, oherwydd rydym ni wedi bod yn cael dealltwriaeth dda iawn a gwell o'n tomenni glo ledled Cymru, ac erbyn hyn mae gennym ddarlun llawer, llawer gwell o'r nifer a'u statws presennol, ac mae'n amlwg ein bod wedi sefydlu trefn archwilio a chynnal a chadw gadarn drwy weithio gyda'r Awdurdod Glo—Awdurdod Glo'r DU—ac awdurdodau lleol. Mae'r rhaglen arolygu yn sicrhau bod y tomenni hynny'n cael eu harchwilio'n rheolaidd a bod unrhyw waith cynnal a chadw yn cael ei nodi a'i wneud o fewn amserlenni penodol i liniaru cymaint o risgiau â phosibl. A bydd y cylch nesaf o arolygiadau gaeaf ar y tomenni risg uwch yn dechrau'r wythnos nesaf a bydd yn cael ei gynnal ar y cyd gan yr Awdurdod Glo ac awdurdodau lleol. Felly, rwyf eisiau rhoi'r sicrwydd hwnnw i gymunedau a allai fod wedi'u hanesmwytho gan y sylw sydd ar domenni glo ar hyn o bryd. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn treialu treialon technolegol newydd ar domenni dethol, gan dreialu, er enghraifft, offer synhwyro sy'n cael ei roi ar y tomenni i fonitro symudiad, yn ogystal â delweddau lloeren i fesur lefelau lleithder pridd o bell islaw'r ddaear. Ac os oes unrhyw un yn pryderu am domen yn eu hardal, gan gynnwys y systemau draenio, yna mae llinell gymorth rhadffôn y gallant ei ffonio, a chyfeiriad e-bost, ar wefan Llywodraeth Cymru. Ac yn dilyn y stormydd a'r tirlithriadau yn ôl yn Nhylorstown a Wattstown, gwnaethom roi llythyr o gysur i awdurdodau lleol fel y gallent fwrw ymlaen ac ymgymryd â'r gwaith diogelwch uniongyrchol hwnnw heb orfod poeni o ble y byddai'r arian yn dod, ac rwy'n credu bod awdurdodau lleol hefyd yn croesawu hynny.

Felly, gadewch i ni adlewyrchu yn olaf fod y cymunedau hyn wedi gwneud aberth sylweddol o ran y diwydiant glo, yn enwedig drwy'r tomenni glo ond hefyd mewn cymaint o ffyrdd eraill o ran yr effeithiau ar iechyd y mae'r cymunedau hyn yn dal i'w teimlo, ac rwy'n credu ei bod yn bryd cydnabod bod hyn yn rhagflaenu datganoli ac mae'n bryd, mewn gwirionedd, dangos ein hymrwymiad ar y cyd, gyda Llywodraeth y DU, i'r cymunedau hyn.

Cefais fy nghalonogi mewn gwirionedd gan sylwadau Darren Millar heddiw yn natganiad y Prif Weinidog ar gysylltiadau rhynglywodraethol. Dywedodd,

'Rwyf i a fy nghyd-Aelodau ar feinciau Ceidwadwyr Cymru yn cytuno'n llwyr fod angen dull cydweithredol ar y cyd i fynd i'r afael â'r pryderon... o gofio eu bod yn... etifeddiaeth o'r cyfnod cyn datganoli.'

Felly, roedd Darren Millar yn cydnabod bod hwn yn fater cyn datganoli, ac roedd Darren Millar yn cydnabod bod gan Lywodraeth y DU ran i'w chwarae yn hyn hefyd. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle yn awr i bob un ohonom ni, yn drawsbleidiol, anfon neges gref iawn at Lywodraeth y DU. Siawns nad yw hyn yn rhywbeth y byddai pobl Cymru, ac yn enwedig yn y cymunedau glofaol hynny, yn disgwyl i ni ei wneud ac yn haeddu i ni ei wneud ar sail drawsbleidiol. Diolch.

17:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:46.

17:50

Ailymgynullodd y Senedd am 17:53, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

7. Cyfnod Pleidleisio

Croeso. Gadewch i ni symud ymlaen i'r pleidleisiau felly, a galwn yn awr am bleidlais ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 12 yn erbyn, felly derbynnir y cynnig.

Eitem 5 - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd: O blaid: 41, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Yr eitem nesaf yw pleidlais ar y ddadl ar ddefnyddio adolygiad gwariant Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo yng Nghymru, a byddwn yn pleidleisio yn gyntaf ar y gwelliant. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 39 yn erbyn, felly ni dderbynnir ar welliant 1.

Eitem 6 - Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 1 (cyflwynwyd yn enw Darren Millar): O blaid: 14, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau y bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, felly derbynnir y cynnig.

17:55

Eitem 6 - Dadl y Llywodraeth - Cynnig: O blaid: 39, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Ac mae hynny'n dod â ni i ddiwedd y busnes am y dydd. Diolch yn fawr iawn. Siwrnai ddiogel adref.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:55.