Y Cyfarfod Llawn

Plenary

21/09/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar yr agenda. Dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant. 

Addysg Bellach

1. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi addysg bellach yn ystod y pandemig yng Nghymru? OQ56895

Llywydd, drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r sector drwy weithio mewn partneriaeth agos, cyd-gynhyrchu canllawiau hanfodol, addasiadau COVID i drefnau cymwysterau, a darparu dros £100 miliwn o gyllid ychwanegol i ymateb i effaith y coronafeirws ar staff a myfyrwyr.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae effaith y pandemig ar ddysgwyr yng Nghymru wedi bod yn ddigynsail. Mae disgyblion wedi wynebu trafferthion enfawr ac mae llawer wedi gweld tarfu ar eu cynlluniau mwyaf trwyadl a'u llwybrau gyrfaol heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Mewn astudiaeth ddiweddar ar y sector addysg bellach, canfu'r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol fod cyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau wedi eu taro yn anghymesur gan y pandemig. Ledled y DU, mae'r niferoedd sy'n dilyn cyrsiau galwedigaethol, fel peirianneg ac adeiladu, wedi gostwng, a gostyngodd nifer y bobl ifanc a ddechreuodd brentisiaethau newydd 46 y cant yn 2020 o'i gymharu â 2019.

Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog yn cytuno na ddylai neb gael ei adael ar ôl yn ein hadferiad, ac rwy'n falch o uchelgais Llywodraeth Cymru o ran prentisiaethau. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n amddiffyn y disgyblion sydd wedi bod trwy gymaint dros y 18 mis diwethaf. Pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod y rhai y tarfwyd ar eu cynlluniau addysgol yn cael eu cefnogi a'u bod nhw'n cael pob cyfle i ailgychwyn?

Llywydd, rwy'n diolch i Jayne Bryant am y cwestiwn pellach yna, ac, wrth gwrs, mae'n iawn bod y sefyllfa i fyfyrwyr sy'n dymuno astudio cyrsiau galwedigaethol neu i ddechrau prentisiaethau wedi bod yn arbennig o ansicr dros y 18 mis diwethaf oherwydd bod nifer o'r cyfleoedd y byddai'r bobl ifanc hynny wedi chwilio amdanyn nhw yn y gweithle wedi eu tarfu gan achosion o gau oherwydd y coronafeirws. O ganlyniad, rydym ni wedi gweld cyfran fwy o ddysgwyr yn dewis astudio cyrsiau Safon Uwch mewn lleoliadau Safon Uwch gan nad oes gennych chi'r un lefel o darfu posibl ar yr elfen alwedigaethol. Rydym ni'n disgwyl y bydd y ffenomena hynny yn parhau i ddechrau'r flwyddyn hon. Gan fod y sefyllfa yn ansicr iawn, a gydag adferiad cryf iawn yn yr economi, pan fydd mwy o gyfleoedd yn y gweithle yn dechrau dod i'r amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £5 miliwn arall i golegau addysg bellach i ganiatáu iddyn nhw recriwtio dysgwyr ychwanegol pe bai pobl yn newid eu meddyliau yn ystod tymor yr hydref ac yn dychwelyd i'r llwybr galwedigaethol a phrentisiaethau.

Rwy'n ategu yn gryf, Llywydd, yr hyn a ddywedodd Jayne Bryant am bwysigrwydd addysg alwedigaethol a llwyddiant y rhaglen brentisiaethau yng Nghymru, a bydd y ddwy yn cael eu cefnogi gan fesurau pellach dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Roedd yr argymhellion polisi ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru, a gyhoeddwyd gan Colegau Cymru ym mis Mawrth, yn cynnwys adeiladu ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r effaith ganlyniadol ar lwybrau dysgu 14 i 19 oed i ddarparu sail gyfreithiol i ddysgwyr 14 i 16 oed symud ymlaen i lwybrau galwedigaethol a thechnegol a ddarperir yn annibynnol gan sefydliadau addysg bellach, a'r cyllid angenrheidiol i gynorthwyo'r dysgwyr hyn. Mae'n flynyddoedd lawer bellach ers i'r Ceidwadwyr Cymreig alw yn gyntaf am greu dwy ffrwd addysg gyfartal, gan ddechrau yn 14 oed, un academaidd ac un alwedigaethol, un ochr yn ochr â'r llall, gan roi cyfle i ddisgyblion ddatblygu sgiliau pwysig cyn cychwyn ar eu dewis o lwybr gyrfa. Sut felly mae eich Llywodraeth chi yn ymateb i'r argymhelliad hwn gan Colegau Cymru, a pha ymgysylltu y mae'n ei wneud gyda'r sector addysg bellach ar hyn?

Llywydd, wel, yn sicr nid yw'r dymuniad i weld parch cydradd rhwng cymwysterau galwedigaethol ac academaidd wedi ei neilltuo i'r Blaid Geidwadol. Yr oedd yno ym 1945, yn niwygiadau'r Llywodraeth Lafur i addysg yn yr oes honno hefyd. Rwy'n cefnogi yn gryf y gred bod pobl ifanc sy'n dewis dilyn cyrsiau galwedigaethol, cyrsiau prentisiaeth, fel y dywedodd Jayne Bryant, y dylid ystyried eu bod nhw yn llwybrau yr un mor bwysig a'r un mor llwyddiannus i'r bobl ifanc hynny er mwyn llunio eu dyfodol. Ac o ran cynigion Colegau Cymru, wel wrth gwrs mae'r cwricwlwm newydd yn darparu, o 14 oed ymlaen, fynediad cyfartal at y ddau gwrs hynny, a byddwn ni yn parhau i weithio gyda'r sector. Roedd yn ddiddorol i mi weld y blaenoriaethau a awgrymodd Colegau Cymru i'r pwyllgor newydd yn y fan yma, ar gyfer ei raglen waith yn y maes hwn, gan edrych ar sgiliau technegol pellach a sgiliau technegol uwch yn y sector addysg bellach, i wneud yn siŵr ein bod ni'n paratoi pobl ifanc ar gyfer y prentisiaethau newydd a dysgu galwedigaethol newydd y dyfodol a fydd yn dod i'r amlwg yn y diwydiannau dros y blynyddoedd i ddod.

13:35
Gwasanaethau Brys yn Sir Benfro

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau brys yn sir Benfro? OQ56863

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Llywydd, mae'r gwasanaethau brys yn sir Benfro yn parhau i weithio yn gydweithredol i ddiwallu anghenion pobl leol yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus.

Prif Weinidog, yn 2014, yn rhinwedd eich swydd fel y Gweinidog iechyd ar y pryd, fe wnaethoch chi gau yr uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, ac fe wnaethoch chi wrthod honiadau bryd hynny y gallai effeithio ar gynaliadwyedd gwasanaethau eraill. Ac eto, efallai eich bod chi wedi gweld adroddiadau y bydd asesiadau brys pediatrig yn cael eu tynnu o ysbyty Llwynhelyg bellach tan o leiaf y flwyddyn nesaf. Mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid i blant y mae angen triniaeth frys arnyn nhw deithio i Glangwili, gan roi pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans lleol, sydd, ar ben hynny, yn wynebu gostyngiad posibl i gapasiti, o saith i lawr i bump, sydd, yn fy marn i, yn gwbl annerbyniol. Nawr, bydd y gostyngiad hwn yn cael effaith ddifrifol iawn ar bobl sir Benfro ac, yn wir, ar staff ambiwlans. Ac o gofio y bydd y fyddin yn cynorthwyo'r gwasanaeth ambiwlans, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i leihau'r cymorth hwn. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn y bydd tynnu gwasanaethau pediatrig o ysbyty Llwynhelyg yn cael effaith ddifrifol ar blant a phobl ifanc, yn ogystal ag ar gymorth ambiwlans? Ac a wnewch chi ymyrryd yn awr i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau pediatrig hyn ar gael yn ysbyty Llwynhelyg ac nad ydym yn gweld gostyngiad i wasanaethau ambiwlans hirdymor yn sir Benfro?

Wel, Llywydd, mae'r cwestiynau atodol yna yn gybolfa o ddyfalu wedi ei gyflwyno fel ffaith. [Torri ar draws.] Rwy'n gwbl ymwybodol o'r hyn y mae'r bwrdd iechyd wedi ei gyhoeddi, Mr Davies, ac ni wnaeth gyhoeddi yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud. Felly, rwy'n gwbl ymwybodol o'r hyn a gafodd ei gyhoeddi, ac rwy'n hapus i gywiro'r cofnod, o ystyried yr hyn yr ydych chi newydd ei awgrymu.

Gadewch i mi fynd at ddechrau eich cwestiwn. Mae yn llygad ei le, Llywydd, fy mod i yn wir, yn ôl yn 2014, wedi derbyn argymhelliad y colegau brenhinol, wedi derbyn argymhelliad y grŵp arbenigol a gafodd ei sefydlu i adolygu gwasanaethau yn Llwynhelyg, wedi derbyn eu hargymhelliad y dylid canolbwyntio gwasanaethau arbenigol yng Nglangwili, er diogelwch plant yn y rhan honno o sir Benfro. Rwy'n falch iawn yn wir fy mod i wedi derbyn yr argymhellion hynny, er gwaethaf ei wrthwynebiad ei hun iddyn nhw ar y pryd.

Yr hyn y mae'r bwrdd iechyd wedi ei ddweud, Llywydd, yw na fydd y trefniadau a roddwyd ar waith ar 24 Mawrth 2020 yn cael eu newid. Felly, mae'r Aelod yn awgrymu i bawb bod yna ryw newid newydd i'r gwasanaethau. Mae'r bwrdd iechyd yn dweud, ar 24 Mawrth 2020, ei fod wedi gwneud addasiadau oherwydd y coronafeirws; ni fydd yr addasiadau hynny yn newid. Yna, mae'n ailadrodd yr hyn a ddywedodd ar lawr y Siambr yr wythnos diwethaf—sibrydion di-sail bod yr adolygiad o'r roster yn mynd i leihau'r gwasanaeth ambiwlans sydd ar gael yn sir Benfro. Nid wyf i wedi gweld dim i gadarnhau hynny. Mae'r adolygiad o'r roster yn broses barhaus, mae'n ymarfer cenedlaethol nid lleol, ei fwriad yw gwneud yn siŵr bod criwiau lleol yn y lle iawn i ymateb i anghenion y poblogaethau hynny, a dyna fydd yr adolygiad yn parhau i'w wneud.

Gweinidog, roeddwn i eisiau gofyn cwestiwn ynghylch mynediad at ddeintyddion y GIG yn ardal Hywel Dda. Cynhaliodd Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda rai ymarferion siopa dirgel yn gynharach eleni, a chanfu fod rhai practisau wedi dweud wrthym ni fod ganddyn nhw restrau aros hir am ofal GIG—rhai hyd at dair blynedd o hyd. O'r 45 practis y gwnaethon nhw siarad â nhw, roedd llai na 50 y cant yn derbyn cleifion GIG newydd, a chadarnhaodd tri phractis ar unwaith y gellid gweld cleifion preifat newydd ar unwaith.

Rwyf i hefyd wedi cael trigolion yn cysylltu â mi ynglŷn â'r anawsterau o ran cael gafael ar ddeintydd GIG, gan gynnwys trigolion sy'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar ofal deintyddol brys. Mae'n achosi pryder sylweddol, fel y gwyddoch chi, rwy'n siŵr, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allwn i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ba gamau penodol y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd ar y cyd â'r bwrdd iechyd i wella mynediad at ddeintyddion GIG ym mwrdd iechyd Hywel Dda. Diolch yn fawr iawn.

13:40

Wel, diolch yn fawr iawn i Jane Dodds am y cwestiwn, Llywydd.   

Mae gwaith Llywodraeth Cymru ym maes deintyddiaeth yn parhau i ganolbwyntio ar gynorthwyo'r proffesiwn i adfer ar ôl effaith y coronafeirws, a oedd yn fwy ym maes deintyddiaeth na bron i unrhyw broffesiwn gofal sylfaenol arall, oherwydd natur deintyddiaeth: y gweithdrefnau cynhyrchu aerosol y mae'r deintyddion yn dibynnu arnyn nhw; lefel y cyfarpar diogelu personol y mae'n rhaid i staff deintyddol ei wisgo; yr effaith ar anghenion awyru, lle mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi symiau sylweddol o gyfalaf i gynorthwyo practisau deintyddol i allu gwella awyru ac, felly, i allu gweld mwy o gleifion. Mae'n dal i fod yn wir bod yn rhaid gadael mwy o amser rhwng pob claf, oherwydd bod yn rhaid glanhau practisau deintyddol, meddygfeydd, i wahanol safon er mwyn osgoi'r risg y bydd deintyddion yn dod i gysylltiad â'r coronafeirws neu y bydd yn cael ei drosglwyddo i gleifion.

O'r wythnos hon, Llywydd, rydym ni yn ôl i 30,000 o bobl yn cael eu gweld bob wythnos yn bersonol ledled Cymru, a 2,000 o bobl eraill yn cael cyngor neu ymgynghoriad drwy ddull rhithwir gan bractisau deintyddol. Nid yw'n ddigon. Ceir rhannau o Gymru lle mae pobl yn dal i orfod aros yn rhy hir, ond gan ein bod ni'n dal ar y daith allan o'r coronafeirws a bod yn rhaid cymryd y camau diogelu hynny, mae arnaf i ofn mai blaenoriaethu yn ôl angen clinigol yw'r ffordd y gall deintyddion gynnig apwyntiadau a mynediad at eu gwasanaethau o hyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.  

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, penderfynodd eich Llywodraeth gyflwyno pasiau COVID. Rydych chi a fi wedi trafod rhinweddau neu ddiffyg rhinweddau, yn ôl fel y digwydd, basbortau COVID, ar draws y Siambr hon. Yn amlwg, mae hwnna yn newid eithaf sylweddol o'r hyn y gwnaethoch chi, fel Prif Weinidog, ei ddweud wrthyf i yn ôl ym mis Gorffennaf am eich safbwynt personol. A wnewch chi esbonio i mi, felly, o gyflwyno'r pàs COVID, beth fydd wedi ei gynnwys o dan gategori clwb nos o dan y cyfyngiadau hyn?

Gallaf, mi allaf i wneud hynny yn hawdd iawn, Llywydd, ac rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Oherwydd bydd yr Aelod yn ymwybodol bod y broblem hon, yr wyf i'n gweld ei bod wedi ei hailadrodd fel pe bai yn broblem, eisoes wedi ei datrys. Yn ôl yn gynharach yn yr haf, roedd tafarndai ar agor, roedd clybiau nos ar gau. Felly, roedd diffiniad cyfreithiol ar gael ac yn gweithredu yng Nghymru gan fod gwahanol reoliadau yn berthnasol i'r ddau sector. Clybiau nos oedd rhan olaf yr economi gyda'r nos i gael ailagor, ac fe wnaeth y rheoliadau wahaniaethu rhwng y ddau, ac yn gwneud hynny, o gof—felly, ymddiheuriadau os wyf i'n cofio hyn ychydig yn anghywir—o ddechrau'r haf, pan oedd tafarndai yn cael agor, tan fis Awst, pan oedd clybiau nos yn cael agor, ac mae'r rheoliadau yn nodi'r diffiniadau cyfreithiol sy'n gwahaniaethu rhwng un lleoliad a'r llall. [Torri ar draws.]

Rwy'n falch eich bod chi'n gallu egluro hynny, oherwydd rwy'n clywed aelodau eich meinciau cefn yn grwgnach yn y fan yna. Nid oedd eich Gweinidog iechyd ar Radio Wales yn gallu ei egluro brynhawn Gwener, a dywedodd y byddai'r wybodaeth yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach, yn ei hymateb, rwy'n credu. Felly, er eglurder—ac rwyf i wedi cael llawer o berchnogion yn fy ardal i, sy'n cynnwys dinas Caerdydd, sydd ag economi gyda'r nos fawr, yn amlwg, nad oedden nhw'n siŵr a fyddai'r rheolau hyn yn berthnasol iddyn nhw—y diffiniad blaenorol a oedd yn bodoli o dan gyfyngiadau COVID yw'r diffiniad a fyddai'n cael ei ddefnyddio i nodi'r hyn sy'n cael ei ystyried yn glwb nos yn hytrach na thŷ tafarn o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

Un peth sy'n bwysig iawn yn fy marn i y mae angen i'ch Llywodraeth ei gyflwyno hefyd, Prif Weinidog, yw eich cynllun parodrwydd ar gyfer y gaeaf ar gyfer y GIG. Ar 15 Medi y llynedd, roedd hwnnw gennym ni fel Aelodau'r Cynulliad/Aelodau o'r Senedd, ac roeddem ni'n gallu ei ddadansoddi a gweld ei gadernid. Pryd byddwn ni'n gweld y cynllun parodrwydd ar gyfer y gaeaf yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru? Oherwydd yn y rhagolwg tair wythnos ar gyfer busnes yn y Senedd hon, nid oes unrhyw arwydd o bryd y bydd y cynllun hwnnw yn cael ei gyhoeddi.

13:45

Wel, Llywydd, mae yna gynllun yn bodoli, oherwydd yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn rheolaidd yw diweddaru'r cynllun COVID y gwnaethom ei gyhoeddi yn ystod y pandemig. Y fersiwn ddiweddaraf o'r cynllun yw'r un a nododd y lefelau rhybudd ac yna cynnwys lefel rybudd 0, y lefel rybudd yr ydym ni wedi bod arni ers y chwe wythnos diwethaf bellach. Ein bwriad yw cyhoeddi fersiwn arall o'r cynllun i adlewyrchu'r sefyllfa wrth i ni fynd i mewn i'r gaeaf, ond bydd yn rhan o'r gwaith o ddiweddaru yn rheolaidd y cynllun sydd wedi bod ar gael—mae ar gael i'r Aelod neu unrhyw un arall ei archwilio. Ac, fel y dywedais i, yn rhan o'r dull yr ydym ni wedi ei fabwysiadu drwy gydol diweddariadau rheolaidd y cynllun rheoli coronafeirws, bydd fersiwn arall dros yr wythnos neu ddwy nesaf.

Rwy'n ddiolchgar am yr eglurder hwnnw, Prif Weinidog. Felly, rwy'n cymryd na fydd cynllun penodol o ran parodrwydd ar gyfer y gaeaf, fel y mae'r Llywodraeth wedi ei gyflwyno gerbron y Senedd yn hanesyddol. Fel y dywedais i, roedd un ar 15 Medi y llynedd a gafodd ei gyflwyno i ni bori drosto a gallu edrych a chraffu ar ei gadernid. Heddiw, rydym ni eisoes wedi gweld uwch feddyg ymgynghorol yn adrannau damweiniau ac achosion brys Hywel Dda yn nodi'r pwysau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn y rhan honno o Gymru. Rwy'n derbyn bod y pwysau hyn yn bodoli ar draws y Deyrnas Unedig, a dyna pam rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cael cynllun parodrwydd ar gyfer y gaeaf. A hefyd, o ran yr awgrym bod y fyddin yn mynd i mewn i gynorthwyo'r gwasanaeth ambiwlans, mae'n ymddangos bod rhywfaint o anghytuno ynghylch a yw'n opsiwn neu a yw'n ymrwymiad gwirioneddol. Rwy'n sylwi bod prif weithredwr y gwasanaeth ambiwlans yn sôn ei fod yn ymrwymiad bod y fyddin yn dod i mewn i helpu'r gwasanaeth ambiwlans. Roedd llefarydd Llywodraeth Cymru neithiwr yn sôn amdano fel opsiwn yn unig sydd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. A wnewch chi gadarnhau mai'r ffaith yw y bydd gwasanaeth ambiwlans Cymru yn cael cymorth gan y fyddin, ac a wnewch chi gadarnhau pryd y gallai'r cymorth hwnnw fod ar gael i'r gwasanaeth ambiwlans yma yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Ar bob cyfrif, Llywydd. Rwy'n hapus i egluro i'r Aelodau y broses o allu sicrhau cymorth gan y lluoedd arfog. Ei henw yw'r broses MACA—cymorth milwrol i'r awdurdodau sifil—ac mae'r broses yn gweithio fel hyn: mae'n dibynnu ar gais, yn yr achos hwn, gan y bwrdd iechyd lleol, sy'n nodi natur y cymorth y byddai ei angen arno—mae'n ddrwg gen i, yn yr achos hwn, gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru—sy'n nodi natur y cymorth y byddai ei angen arni, y swyddi y mae'n credu y gallai personél y lluoedd arfog ei chynorthwyo â nhw, nifer y bobl y maen nhw'n credu y byddai eu hangen arnyn nhw. Daw'r cais hwnnw, yn gyntaf, i Lywodraeth Cymru. Mae'r cais hwnnw wedi dod i law bellach. Mae gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth naill ai i gymeradwyo 'r cais hwnnw neu ei anfon yn ôl ar gyfer gwaith pellach.

Drwy gydol y pandemig cyfan, bob tro rydym ni wedi cael cais o'r math hwnnw gan y gwasanaeth iechyd, rydym ni wedi ei gymeradwyo bob tro. Yna, mae'n rhaid i ni ei anfon ymlaen, gan mai'r Weinyddiaeth Amddiffyn sy'n gyfrifol am y penderfyniad ynghylch pa un a ddylid cymeradwyo'r cais hwnnw ai peidio. Yn ystod y pandemig, mae'r rhan fwyaf o geisiadau wedi eu cymeradwyo, ond nid pob un. Felly, nid yw'n ymarfer sêl bendith; mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn edrych arno ac yn penderfynu a yw'n gallu helpu ai peidio. A dyna fydd y cam y byddwn ni arno nesaf, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y cais gorau posibl i'r Weinyddiaeth Amddiffyn, a gan obeithio y byddan nhw'n gallu cynnig y cymorth y maen nhw wedi ei gynnig i ni ar raddau mawr iawn yn ystod y pandemig.

Diolch, Llywydd. Datgelodd Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf fod lefelau llygredd o nitrogen deuocsid yn nhrenau dau-fodd newydd Great Western Railway, ar gyfartaledd, bum gwaith yn uwch, ac, ar lefelau brig, 20 gwaith yn uwch na'r rhai a gofnodwyd ar stryd fwyaf llygredig Cymru, Ffordd Hafodyrynys ger Crymlyn—yr ystyriwyd ei bod hi mor wael ei bod yn cael ei dymchwel yr wythnos hon. Dim ond ar y rhan o'r rheilffordd o Paddington i Bryste Temple Meads lle mae'r trenau yn defnyddio eu moduron trydan yn bennaf y cafodd astudiaeth y Bwrdd Diogelwch a Safonau'r Rheilffyrdd ei chynnal, ac nid ar hyd yr adran yng Nghymru, lle defnyddir, o reidrwydd, diesel i raddau helaeth, ac mae'r lefelau llygredd dilynol yn debygol o fod hyd yn oed yn uwch. A wnaiff Llywodraeth Cymru ofyn i'r bwrdd ymestyn ei waith monitro i Gymru ar frys—y gogledd a'r de—fel y gallwn ni wybod beth yw'r sefyllfa bresennol o ran llygredd ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru?

Wel, roedd yn siom fawr, Llywydd, gweld adroddiadau'r Bwrdd Diogelwch a Safonau'r Rheilffyrdd, a bydd yn syniad da iawn yn wir pe baen nhw'n ymestyn ystod eu hymchwil i Gymru. Oherwydd, fel y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei ddweud, mae'n gwbl eglur, o'r hyn yr ydym ni wedi ei weld, mai'r pwynt lle mae'r lefelau nitrogen deuocsid hynny yn codi yw'r pwynt lle mae trenau yn newid o drydan i ddiesel. Ble yw'r man lle mae hynny yn digwydd amlaf? Wel, pan fydd trenau yn dod i mewn i Gymru. Gadewch i mi roi un gyfres o ffeithiau, Llywydd, i ddangos methiant gwarthus Llywodraeth y DU i roi sylw digonol i anghenion Cymru yn y maes hwn: yn Lloegr, mae 41 y cant o'r trac wedi'i drydaneiddio; yn yr Alban, mae 25 y cant o'r trac wedi'i drydaneiddio; yng Nghymru, mae 2 y cant o'r trac wedi'i drydaneiddio. Dyna record y Llywodraeth Geidwadol—[Torri ar draws.]—yn y ffordd y mae wedi trin Cymru, gyda'i haddewidion, Llywydd, fel y cofiwn mewn etholiad cyffredinol i drydaneiddio'r brif reilffordd yr holl ffordd i Abertawe. Ni fyddwn i'n gwneud sylwadau o safle eisteddog pe bawn i'n arweinydd yr wrthblaid; byddwn i'n cadw'n dawel, gan obeithio nad yw pobl yn ei atgoffa o'i record.

13:50

Amddiffynnodd y Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gymreig, David T.C. Davies, unwaith eto yr wythnos diwethaf y penderfyniad y ganslo trydaneiddio prif reilffordd de Cymru i Abertawe, gan ddadlau na fyddai wedi arwain at unrhyw fanteision i deithwyr. Nawr, byddai datgarboneiddio, ar wahân i'w effaith amgylcheddol gadarnhaol, wedi cael y fantais eithaf sylweddol i deithwyr o beidio â'u gwenwyno. Er nad yw seilwaith rheilffyrdd wedi ei ddatganoli, ac eithrio rheilffyrdd craidd y Cymoedd, mae ansawdd aer. Felly, i ba raddau y gall Llywodraeth Cymru gymell Llywodraeth y DU i wyrdroi ei thro pedol ar drydaneiddio a rhoi'r gorau i drin Cymru fel stwmp sigarét rheilffyrdd Prydain?

Wel, mae arnaf i ofn nad yw'r ferf 'cymell' yn disgrifio'r sefyllfa yr ydym ni ynddi, ond yr hyn yr ydym ni'n sicr mewn sefyllfa i'w wneud yw mynd ati i ddadlau'r achos pryd bynnag y cawn ni gyfle i wneud hynny. Ac nid yw ein dadl dros drydaneiddio yn dod i ben gyda phrif reilffordd de Cymru chwaith, Llywydd; mae angen trydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru hefyd, fel y gall gwasanaethau redeg rhwng gogledd Cymru, gogledd Lloegr ac yna ymlaen i Lundain. Rydym ni angen i seilwaith rheilffyrdd fod wedi ei ddatganoli, rydym ni angen setliad ariannu teg gydag ef, ac yna byddwn ni'n gallu blaenoriaethu a chyflawni datgarboneiddiad gwasanaethau rheilffyrdd, nid yn unig ar reilffyrdd craidd y Cymoedd, yr ydym ni eisoes yn ei wneud, ond ar y rhannau eraill hynny o'r system hefyd.

Mae esgeulustod cyfresol San Steffan o rwydwaith rheilffyrdd Cymru wedi gadael Cymru gyda'r trac hynaf ac yn y cyflwr gwaethaf yn y DU a'r trenau mwyaf araf a budr. Yr ateb amlwg yw i ni gymryd rheolaeth dros ein seilwaith ein hunain, ond, er bod San Steffan yn parhau i wrthsefyll, a allwn ni fforddio sefyll yn ein hunfan? Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi awgrymu yn ddiweddar y dylid creu bwrdd rheilffyrdd Cymru, sy'n cynnwys Llywodraethau'r DU a Chymru, a chwaraewyr allweddol eraill fel Trafnidiaeth Cymru a Network Rail, i ddatblygu cyfres o gynigion wedi'u blaenoriaethu ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd. Mae'r Athro Mark Barry, a sefydlodd metro de Cymru, wedi awgrymu cynllun buddsoddi 10 mlynedd y gallai'r bwrdd gytuno arno, gyda chyllid craidd gan Lywodraethau Cymru a'r DU. A yw'r Prif Weinidog yn gweld rhinwedd, o leiaf fel ateb dros dro, yn y syniad o fwrdd ar y cyd a chynllun Barry, a allai arwain o bosibl at gynnydd triphlyg i fuddsoddiad arfaethedig yn rheilffyrdd Cymru dros y degawd nesaf?

Wel, Llywydd, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, ac os ydyn nhw'n fodlon dod at y bwrdd ar ffurf trefniant ar y cyd, yna yn sicr byddan nhw'n gweld ein bod ni'n awyddus i ddod o hyd i ffordd o helpu i wneud i hynny ddigwydd. Rydym ni'n ei wneud mewn rhannau eraill o gyfrifoldebau Cymru. Nid yw cyfiawnder ieuenctid wedi ei ddatganoli i Gymru; mae gennym fwrdd cyfiawnder ieuenctid ar y cyd, wedi ei gadeirio ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a gan y bwrdd ei hun, ac mae wedi cyflawni rhai newidiadau rhyfeddol yma yng Nghymru. Nid yw'n amhosibl na allem ni wneud yr un peth o ran rheilffyrdd hefyd, ond mae angen partner parod arnom ni. Mae angen Llywodraeth y DU arnom ni sy'n barod i weithio gyda ni, yn hytrach na chredu mai'r ffordd o ymdrin â dyfodol y Deyrnas Unedig yw tynnu pwerau oddi wrth lefelau datganoledig bob amser, a meddwl bob amser mai nhw sy'n gwybod orau.

Gwyliau Gartref

3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith gwyliau gartref ar economi Cymru yn ystod tymor twristiaeth 2021? OQ56850

Diolchaf i Vikki Howells am y cwestiwn, Llywydd. Mae arwyddion cynnar yn cadarnhau yr hyn y bydd llawer o'r Aelodau wedi ei weld drostyn nhw eu hunain: bod hwn wedi bod yn haf bywiog i'r sector twristiaeth yng Nghymru, gyda nifer uchel o bobl o Gymru a ledled y Deyrnas Unedig yn dewis mwynhau popeth sydd gan Gymru i'w gynnig.

13:55

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac, yn ddi-os, mae Cymru wedi elwa'n economaidd ar y cynnydd i wyliau cartref eleni. Mae gennym ni wlad mor wych i'w harddangos, felly sut gall Llywodraeth Cymru annog pobl i barhau i fynd ar wyliau yng Nghymru wrth i'r farchnad dwristiaeth fyd-eang agor eto yn y dyfodol?

Wel, Llywydd, rwy'n teimlo'n hyderus—a dywedodd pobl hyn wrthyf i droeon dros yr haf pan wnes i gyfarfod â nhw ar wyliau yng Nghymru—y byddan nhw, ar ôl darganfod Cymru, yn awyddus i ddod yn ôl. Mewn ffordd, dyna'r hysbyseb orau, onid yw, pan fydd pobl yn dod yma, yn gweld popeth sydd gennym ni i'w gynnig ac yn sylweddoli yn union sut gyfle sydd i ddod a chael gwyliau da yng Nghymru. Nodau strategaeth dwristiaeth Cymru yw lledaenu twristiaeth yng Nghymru fel ein bod ni'n agor rhannau eraill o Gymru, gan gynnwys llawer o rannau o etholaeth yr Aelod ei hun, i bobl sy'n dod i ymweld â ni; ein bod ni'n ymestyn y tymor er mwyn i chi allu cynnig swyddi cynaliadwy i bobl yr ydym ni eisiau iddyn nhw weithio ym maes twristiaeth a lletygarwch; ac yna byddwn ni'n dod o hyd i ffyrdd newydd o wneud yn siŵr bod gan y bobl sydd yn dod i ymweld â Chymru ffyrdd da o wario eu harian a chyfrannu at yr economi leol. Mae'n ymddangos i mi fod y tri pheth hynny, Llywydd, yn cael eu crynhoi yn dda iawn yn y profiad gwifren wib yn etholaeth yr Aelod ei hun. Roeddwn i'n falch iawn o fod yno gyda hi yn gynharach eleni—teyrnged enfawr, os caf i ddweud am eiliad, i Tyrone O'Sullivan, a arweiniodd fenter glofa'r Tŵr ac sydd wedi gwneud cymaint i fod yn benderfynol y bydd etifeddiaeth hirdymor yn cael ei gadael ar y safle hwnnw, gan greu swyddi a ffyniant i bobl leol. Mae'n dod â phobl i'r ardal, mae'n ymestyn y tymor, mae'n rhoi rhywbeth cyffrous i bobl wario eu harian arno, ac rwy'n credu ei fod yn dangos enghraifft wych iawn i ni o sut y gallwn ni wneud yn union yr hyn a ofynnodd Vikki Howells yn ei chwestiwn atodol.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb blaenorol? Rwy'n cytuno ag ef. Rwy'n credu bod gan Gymru lawer i'w gynnig, a boed yn draethau gwych Gŵyr yn fy rhanbarth i neu wifren wib yng Nghwm Cynon, rwy'n credu po fwyaf o bobl sy'n dod i Gymru y mwyaf y maen nhw'n cael profiad ohoni ac yn ei mwynhau ac yn dymuno dod yn ôl. Ond ar yr adeg hon y llynedd roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau cyflwyno cyfyngiadau symud lleol ledled Cymru, ac, o ganlyniad, fe wnaeth busnesau twristiaeth ac economïau lleol yn yr ardaloedd hynny ddioddef yn ofnadwy, ac mae rhai busnesau yn ofni'n fawr na allen nhw oroesi cyfnod arall o gyfyngiadau symud. Felly, er i'r angen i ddiogelu iechyd y cyhoedd a bywydau pobl chwarae rhan yn y penderfyniad hwnnw y llynedd, diolch byth, eleni, oherwydd llwyddiant aruthrol y cynllun brechu ledled y DU, mae'r cysylltiad rhwng achosion a'r niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty wedi torri. Felly, o ystyried y llwyddiant hwn, yn ogystal â dechrau'r rhaglen atgyfnerthu sydd ar fin dechrau, a wnaiff y Prif Weinidog roi sicrwydd i'r busnesau twristiaeth hyn na fydd cyfyngiadau symud lleol yn dilyn yn ddiweddarach eleni?

Wel, mae arnaf i ofn, Llywydd, nad yw pethau mor syml ag y mae'r Aelod yn ei awgrymu. Mae'n dweud bod brechu wedi torri'r cysylltiad rhwng mynd yn sâl a mynd i'r ysbyty, ac nid yw hynny'n wir. Mae wedi diwygio'r cysylltiad, diolch byth, ac mae wedi lleihau yn sylweddol y risg y bydd pobl sy'n mynd yn sâl yn mynd i'r ysbyty yn y pen draw, ond yn sicr nid yw wedi ei dorri. Fe wnaethoch chi glywed cwestiynau arweinydd yr wrthblaid yn tynnu sylw yn gwbl briodol at y pwysau sydd ar y gwasanaeth iechyd heddiw—pwysau sy'n cael eu gwaethygu gan y ffaith bod gennym ni dros 500 o bobl o bob 100,000 o bobl yng Nghymru sydd yn sâl gyda'r coronafeirws bellach, 2,500 o achosion newydd ddoe, nifer cynyddol o bobl mewn gwelyau â'r coronafeirws, pwysau gwirioneddol yn ein maes gofal dwys acíwt, a hyn i gyd yn cael ei gynnal gan staff sydd wedi ymlâdd o'r profiad o ofalu amdanom ni i gyd yn ystod y 18 mis diwethaf.

Nid wyf i eisiau gweld cyfyngiadau symud yn dychwelyd yma yng Nghymru. Rwy'n gobeithio yn sicr na fydd angen offeryn di-awch cyfyngiadau symud, ond, yn y pen draw, pe bai amrywiolyn newydd o'r feirws, pe bai'r gwasanaeth iechyd mor ymroddedig i ymdrin â'r coronafeirws gan fod y niferoedd yn parhau i gynyddu, ni fydd y Llywodraeth Cymru hon yn troi ein cefn ar unrhyw fesurau sydd, yn y pen draw, yn angenrheidiol i ddiogelu iechyd pobl, a thrwy wneud hynny, diogelu'r economi hefyd.

14:00
Ariannu Awdurdodau Lleol

4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu awdurdodau lleol yng Nghymru? OQ56878

Diolchaf i Carolyn Thomas am hynny, Llywydd. Ynghyd â'n partneriaid yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ein blaenoriaeth o hyd yw cynorthwyo cynghorau i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus gwych y maen nhw'n eu darparu, mewn meysydd fel addysg, gwasanaethau cymdeithasol, cynllunio, tai a'r amgylchedd.

Diolch. Diolchaf i'r Prif Weinidog am y berthynas gadarnhaol iawn sydd wedi cael ei meithrin rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau, yn enwedig yn ystod y pandemig. Mae'r berthynas wedi sicrhau bod gwasanaethau lleol wedi parhau i gael eu darparu i gymunedau ledled Cymru gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Ond, fel cynghorydd yn sir y Fflint, rwyf i wedi gweld effaith 10 mlynedd o gyni cyllidol ar lywodraeth leol. Er gwaethaf hyn, wrth gwrs, mae'n rhaid i awdurdodau lleol barhau i ddarparu gwasanaethau o dan bwysau cynyddol, fel gofal iechyd cymdeithasol, cyflogau a chost gynyddol tanwydd, ac nid oes rhagor o arbedion i'w cael. Sut gallwch chi sicrhau bod y setliad llywodraeth leol yn adlewyrchu'r pwysau parhaus ar awdurdodau lleol? Diolch.

Wel, Llywydd, diolchaf i Carolyn Thomas am hynny. Ar ôl sôn am ymdrechion arwrol staff yn ein gwasanaeth iechyd yn ystod y pandemig, hoffwn i ddweud hefyd fod yr holl bobl hynny sy'n gweithio i'n hawdurdodau lleol—yr athrawon a'r staff cymorth yn ein hysgolion, y gweithwyr cymdeithasol a'r gweithwyr gofal sy'n gofalu am bobl yn eu cartrefi eu hunain, y bobl sydd wedi parhau i gasglu'r sbwriel ar ein strydoedd bob un dydd yn ystod y coronafeirws—maen nhw, hefyd, wedi bod ar y rheng flaen yn sicr. Ac yn ein trafodaethau gyda llywodraeth leol, rydym ni bob amser yn ceisio cydnabod y pwysau y mae cyni cyllidol wedi eu hachosi a'r elw ar y buddsoddiad y gallwn ni ei wneud.

Nawr, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod ni, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi gallu darparu setliadau ar gyfer llywodraeth leol—cynnydd o 4.3 y cant yn 2019-20, setliad cyffredinol o 3.8 y cant yn 2020-21—sydd wedi gwneud rhyw fymryn i gydnabod y blynyddoedd a aeth o'u blaenau, y blynyddoedd hir hynny o gyni. Bydd y Gweinidog yn cyfarfod â'r is-grŵp cyllid, y cyd-grŵp sydd gennym ni gyda CLlLC, Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr annibynnol, i ystyried yr holl wahanol bwysau y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu ac i weld sut gallwn ni ymateb iddyn nhw yn y rownd gyllideb. Bydd y cyfarfod hwnnw yn cael ei gynnal ar 18 Hydref, Llywydd, ac nid oes gen i unrhyw amheuaeth, ar ôl mynychu'r cyfarfodydd hynny fy hun, y bydd anghenion awdurdodau lleol ledled Cymru yn cael eu cyflwyno yn gadarn gan gynrychiolwyr llywodraeth leol Cymru.

Hoffwn i ddatgan buddiant fel aelod o Gyngor Sir Powys.

Prif Weinidog, yn fy etholaeth i, yn Ystradgynlais, maen nhw wrthi'n codi arian i geisio sicrhau'r caeau chwarae ar ôl i'r brydles ar gaeau chwarae'r Welfare Ground ddod i ben. Mae angen iddyn nhw ddod o hyd i £100,000 i sicrhau'r brydles. Mae angen i'r gymuned gael mynediad at fannau hamdden i wella iechyd meddwl a llesiant cyffredinol pobl, sy'n rhan allweddol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Oherwydd tanariannu awdurdodau lleol gwledig, nid oes gan gynghorau fel fy un i ym Mhowys unrhyw gyllid refeniw na chyfalaf dros ben ar gael i gynorthwyo prosiectau gwych fel hyn yn Ystradgynlais. Prif Weinidog, yn dilyn cynnydd Llywodraeth Cymru i'r gyllideb gan Lywodraeth y DU, a wnewch chi geisio darparu arian wedi'i neilltuo i gynorthwyo awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod asedau cymunedol gwych yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol i gadw ein cymunedau gyda'i gilydd? Diolch, Llywydd.

Llywydd, nid dyna fu dull Llywodraeth Cymru erioed oherwydd nid dyna'r fu'r dull y mae awdurdodau lleol erioed wedi ei awgrymu i ni. Rwy'n dychmygu y byddai ei gyd-aelodau ar Gyngor Sir Powys yn ddig pe bai Llywodraeth Cymru yn penderfynu sut y dylen nhw wario'r arian sydd ar gael iddyn nhw. Gallwch chi ddychmygu, pe baem ni'n dechrau neilltuo o'r fan hon benderfyniadau gwario ei awdurdod lleol—a bydden nhw'n iawn, oherwydd nid dyna'r ffordd y dylai'r system weithio. Y broblem y mae trigolion Powys yn ei hwynebu yw effaith 10 mlynedd o gyni gan ei blaid ef, a wnaeth leihau yr arian a oedd ar gael i awdurdodau lleol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yma yng Nghymru, mae awdurdodau lleol wedi eu gwarchod rhag y storm honno gan y penderfyniadau a wneir yma yn y Senedd hon. Pe baen nhw wedi cael eu hamlygu fel y mae eu cymheiriaid yn Lloegr wedi eu hamlygu i benderfyniadau Gweinidogion llywodraeth leol Ceidwadol, ni fydden nhw'n codi arian i ddiogelu ardaloedd chwarae, bydden nhw'n eu gwerthu yn y ffordd y mae ei blaid ef wedi ei wneud mewn mannau eraill.

14:05

Mae'n rhaid i minnau ddatgan buddiant hefyd: rwy'n gynghorydd cymuned ym Mhenyrheol, Trecenydd ac Energlyn.

Hoffwn i dynnu sylw at y ddarpariaeth lai o ofal dydd ar gyfer oedolion anabl ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. I rai, mae oriau wedi gostwng o 30 awr yr wythnos i ddim ond chwech, gostyngiad o 80 y cant i'r cymorth sydd wedi bod yn niweidiol iawn i oedolion anabl a'u teuluoedd. Mae grŵp Plaid Cymru ar y cyngor bellach wedi galw am foratoriwm ar y newidiadau hyn. Ychydig ddyddiau yn ôl, siaradais â thad sy'n gorfod ystyried rhoi ei fab mewn gofal preswyl gan na all ef a'i wraig ymdopi mwyach. Nid yn unig y byddai hyn yn peri pryder mawr i bawb dan sylw, ond byddai'n costio llawer mwy i'r awdurdod lleol yn y pen draw na phe baen nhw'n parhau i dyfu'r ddarpariaeth gofal dydd lawn-amser.

Prif Weinidog, a oes canllawiau y gall eich Llywodraeth eu cyflwyno i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod oedolion anabl a'u teuluoedd yn cael y cymorth a'r seibiant y maen nhw'n eu haeddu, sydd eu hangen arnyn nhw, ac sy'n iawn iddyn nhw? A oes unrhyw un yn y Llywodraeth yn monitro pa un a yw awdurdodau lleol yn cyflawni eu rhwymedigaeth statudol o ran pobl anabl ac a oes cyllid digonol ar waith iddyn nhw wneud hynny? Diolch.

Llywydd, rwyf i wedi dilyn y ddadl ddiweddar am wasanaethau gofal dydd yng Nghaerffili ac rwy'n eithaf sicr y bydd y rhai sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniadau anodd hynny wedi bod yn gwrando'n astud ar yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud heddiw ac ar safbwyntiau eu cymunedau lleol. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau ar yr holl faterion hyn ac yn monitro gwariant awdurdodau lleol drwy amrywiaeth gymhleth o lwybrau, gan gynnwys ym maes gwasanaethau cymdeithasol. Yn y pen draw, penderfyniadau lleol yw'r rhain sy'n cael eu gwneud gan y bobl hynny sydd agosaf at y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu, gan ystyried, fel y mae cyngor Caerffili yn ei wneud rwy'n siŵr, safbwyntiau eu trigolion lleol eu hunain.

Diogelwch Cymunedol yn Ogwr

5. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella diogelwch cymunedol yn Ogwr? OQ56855

Diolchaf i'r Aelod am hynny, Llywydd. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda'r heddlu ac asiantaethau eraill sy'n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol yn Ogwr. Yn ddiweddarach yr wythnos hon bydd fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, yn cadeirio bwrdd partneriaeth plismona Cymru, lle mae materion diogelwch cymunedol bob amser ar yr agenda.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ac un o'r pethau a roddodd y pleser mwyaf i mi dros ddegawd yn ôl oedd bod yn rhan o'r pwyllgor yn San Steffan a esgorodd ar swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. Roedd yn bwyllgor maith a llafurus, ond fe wnaethom ni eu cyflwyno, ac fe wnaethom ni eu cyflwyno gan ein bod ni'n gwybod am y swyddogaeth a fyddai ganddyn nhw o ran mynd i'r afael ag ymddygiad niwsans lefel isel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, o ran rhyddhau adnoddau'r heddlu i ganolbwyntio ar flaenoriaethau eraill, ac i ymgysylltu â'r gymuned, grwpiau ieuenctid a grwpiau eraill yn y gymuned hefyd. Felly, mae hefyd yn rhoi pleser mawr i mi, mae'n rhaid i mi ddweud, ddod i lawr yma i'r Senedd a gweld bod Llywodraethau Llafur Cymru olynol yn buddsoddi mewn swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu.

A wnewch chi roi'r sicrwydd i ni, y sicrwydd pendant y bydd Llafur Cymru yn y Senedd hon—fel ymrwymiad maniffesto i'w gyflawni—a hefyd wrth symud ymlaen, yn parhau i fuddsoddi mewn Swyddogion Cymorth Cymunedol yn rhan o gyrhaeddiad estynedig hwnnw y teulu plismona, a gwneud yn siŵr bod ein cymunedau mor ddiogel ag y gallan nhw fod, a'n bod ni'n ymestyn yn ddwfn i'r cymunedau hyn i ymgysylltu â nhw ar ddiogelwch cymunedol?

Llywydd, roeddwn i'n falch iawn ym mis Awst o allu mynd i Gastell-nedd gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu lleol a gyda Jane Hutt i gyhoeddi ein bod ni eisoes wedi dod o hyd i'r arian i gyflawni'r ymrwymiad maniffesto hwnnw. Felly, mae 100 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol yn cael eu recriwtio bellach. Bydd cost flynyddol o £3.7 miliwn ar eu cyfer. Bydd hynny yn mynd â chyfanswm y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i £22 miliwn bob blwyddyn a bydd hynny yn sicrhau gwasanaethau 600 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ledled Cymru. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn y mae Huw Irranca-Davies wedi ei ddweud, Llywydd: rwyf i wedi bod yn ddigon ffodus i siarad â chyfres eang o swyddogion heddlu a chymorth cymunedol, ac maen nhw wir yn bobl sy'n datrys problemau, allan yno ar y rheng flaen. Pa un a yw hynny yn ymgysylltu â phobl ifanc, pa un a yw'n ymdrin â thraffig y tu allan i ysgolion, pa un a yw'n ymateb i anghenion iechyd meddwl wrth i bobl eu gweld ar y strydoedd, maen nhw yno yn gweithio gyda'r cymunedau lleol hynny i ddatrys y problemau. Dyna pam mae'r Llywodraeth hon wedi dewis buddsoddi ynddyn nhw. Roedd yn gynnig a gafodd groeso cynnes iawn yn gynharach eleni, ac edrychaf ymlaen at weld y buddsoddiad hwnnw yn parhau.

14:10

Hoffwn i ddatgan buddiant gan fy mod i'n gynghorydd etholedig ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Prif Weinidog, adroddwyd ym mis Gorffennaf fod yr heddlu yn bwriadu defnyddio pwerau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Aberogwr drwy ddefnyddio gorchymyn gwasgaru. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa mor llwyddiannus fu'r mesur hwn, ac a yw wedi gweithio, a yw'n credu bod mannau eraill lle ceir problemau a all elwa ar hyn? Diolch yn fawr iawn.

Llywydd, rwy'n credu ei fod yn fwy o fater i'r heddlu a'u partneriaid ar lawr gwlad allu adrodd ar lwyddiant eu mentrau mewn unrhyw ardal, yn hytrach nag i mi. Yr hyn yr wyf i yn ei wybod yw bod cyfarfod wythnosol wedi ei gynnal, ers mis Mai eleni, dan arweiniad gwasanaethau heddlu lleol ond yn cynnwys yr holl bartneriaid golau glas. Yn sefyllfa Ogwr, mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, Heddlu Trafnidiaeth Prydain ac eraill yn adolygu'r holl dystiolaeth o weithgarwch dros y penwythnos blaenorol, maen nhw'n edrych ymlaen at ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal dros yr wythnos i ddod, ac maen nhw'n ceisio alinio eu hadnoddau i ymateb i'r anghenion cymunedol lleol hynny. Dyna pam y gall plismona cymdogaeth, lle mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yn chwarae cymaint o ran, yn gallu ymateb i broblemau pan fo angen rhoi adnoddau ar waith yn y ffordd y cyfeiriodd Altaf Hussain ati yng nghyd-destun Ogwr.

Cyflog Byw

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar unrhyw gynnydd o ran cyflwyno cyflog byw o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru? OQ56894

Llywydd, mae nifer y cyflogwyr yn y sector cyhoeddus sy'n talu'r cyflog byw yn parhau i gynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Mae Caerdydd wedi cael ei chydnabod fel dinas cyflog byw gyntaf y Deyrnas Unedig am fod yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol wedi eu hachredu fel cyflogwyr cyflog byw.

Diolch, Brif Weinidog. Mae hwn, wrth gwrs, wedi dangos y buddion economaidd sy'n dod i ardaloedd lleol pan fydd y sector cyhoeddus ac awdurdodau lleol yn enwedig, efallai, yn achredu fel cyflogwyr cyflog byw, achos maen nhw yn sefydliadau angori, allweddol yn y cymunedau hynny. Mewn datganiad yn 2019, fe wnaethoch chi ddweud y byddech chi'n ysgrifennu at bob corff cyhoeddus yng Nghymru yn gofyn iddyn nhw gyflawni achrediad cyflog byw. Allwch chi ddweud wrthym ni, felly, os yw pob awdurdod lleol yn benodol wedi ymateb yn bositif i'r cais yna ac yn symud i'r cyfeiriad yna yn rhagweithiol? Os nad ydyn nhw, yna beth ŷch chi fel Llywodraeth yn ei wneud i'w hannog nhw i weithredu ar hynny? Ac yn olaf, erbyn pryd ŷch chi fel Llywodraeth yn rhagweld y bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn dod yn gyflogwr cyflog byw achrededig?

Llywydd, diolch yn fawr i Llyr Huws Gruffydd am y cwestiwn. Mae'r wybodaeth sydd gyda fi yn dangos bod 14 o'r awdurdodau lleol yng Nghymru yn talu'r cyflog byw. Mae'r nifer wedi cynyddu dros y blynyddoedd a dwi'n edrych at bob corff cyhoeddus yng Nghymru i gynllunio i dalu cyflog byw. Dwi'n cydnabod y ffaith dydy'r awdurdodau lleol i gyd ddim yn yr un lle. Dydy pob awdurdod lleol dan arweiniad Plaid Cymru ddim yn talu'r cyflog byw eto. Mae hwnna yn adlewyrchu'r ffaith nad yw awdurdodau lleol ddim yn dechrau o'r un pwynt. Y pwynt dwi'n ei wneud iddyn nhw bob tro yw, dwi'n fodlon i gydnabod hynny, ond dwi ddim yn fodlon i'w dderbyn pan fyddan nhw'n dweud does dim cynllun gyda nhw, dydyn nhw ddim wedi dechrau ar y daith.

Dwi'n trial mynd bob blwyddyn i'r digwyddiad blynyddol sy'n dathlu y cyflog byw. Mae hwn yn mynd i ddigwydd ar 15 Tachwedd, ac yn y digwyddiad yna rŷn ni'n cael yr adroddiad swyddogol am beth sydd wedi digwydd dros y flwyddyn sydd wedi mynd, a sut mae cyrff ledled Cymru yn paratoi ac yn cynllunio am beth y gallan nhw ei wneud yn y flwyddyn sydd i ddod.

14:15
Achosion COVID-19 yn Etholaeth Caerffili

7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn achosion COVID-19 yn etholaeth Caerffili? OQ56893

Llywydd, brechlynnau yw ein hamddiffyniad cryfaf yn erbyn y coronafeirws o hyd. Mae rhaglen atgyfnerthu'r hydref eisoes wedi dechrau yng Nghaerffili. Bydd llythyrau yn gwahodd pobl ifanc 12 i 15 oed i gael eu brechu yn dechrau cyrraedd yr wythnos hon. Yn ogystal â brechu, mae'n rhaid i ni i gyd ddyblu ein hymdrechion i wneud y pethau syml hynny sy'n parhau i'n cadw ni i gyd yn ddiogel.

Un peth sy'n effeithio ar etholaeth Caerffili yw cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer teithio rhyngwladol. Rydym ni wedi clywed eu bod nhw'n mynd i gefnu ar agwedd oren y rhestr bellach a chydgrynhoi'r rhestr werdd. Rwy'n credu bod hynny o 4 Hydref ymlaen. Ond mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dweud na fyddan nhw'n gofyn am brawf PCR ar ôl dychwelyd mwyach gan deithwyr sy'n dychwelyd i Loegr yn ddiweddarach ym mis Hydref, ac rwy'n credu eu bod nhw wedi nodi hynny ar gyfer diwedd y gwyliau hanner tymor. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog—? Mae gen i bryderon ynghylch hynny a'r effaith ar y data y mae'r Llywodraeth yn gallu eu casglu. Ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog pryd bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad i bobl yng Nghymru? Oherwydd rwyf i wedi cael llawer o etholwyr yn cysylltu â mi i ofyn y cwestiwn hwnnw. Ac os yw'n bosibl, a all roi syniad o'i safbwynt ynghylch hynny heddiw?

Diolchaf i Hefin David am hynny, Llywydd. Mae dull Llywodraeth y DU o ymdrin â theithio rhyngwladol yn ystod y pandemig wedi bod ymysg y rhannau mwyaf anhrefnus o'i hymateb. Mae'n anodd dros ben ddilyn y ffordd y mae'n meddwl yn y maes hwn. Fe wnaethom ni, fel Llywodraeth Cymru, ynghyd ag eraill, ei hannog yn gyson i fabwysiadu dull mwy rhagofalus o amddiffyn ffiniau'r Deyrnas Unedig yn erbyn ailgyflwyno'r coronafeirws i'r DU ac, yn arbennig, cyflwyno amrywiolion newydd a allai fod yn ymddangos mewn mannau eraill yn y byd.

Ddiwedd yr wythnos diwethaf, penderfynodd Llywodraeth y DU gyfuno'r rhestrau gwyrdd ac oren yn un. Nid wyf i'n credu bod gennym ni wrthwynebiad penodol i hynny. Fe wnaethon nhw leihau'r rhestr goch o wledydd, sydd, yn fy marn i, yn peri mwy o bryder. Eto, byddem ni wedi mabwysiadu dull mwy rhagofalus o gadw nifer y gwledydd ar y rhestr goch. Ond y peth a oedd yn peri'r pryder mwyaf oedd eu penderfyniad i symud i ffwrdd o brofion PCR ar ddiwrnod dau ar ôl i rywun ddychwelyd o dramor, oherwydd dyna oedd yr amddiffyniad cryfaf yn erbyn ailgyflwyno feirysau o fannau eraill yn y byd.

Yng Nghymru, rydym ni'n dilyn cyfran uwch o brofion ar sail genomig nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, a'r gwaith dilyn hwnnw sy'n caniatáu i'r gwyddonwyr medrus iawn sy'n ei wneud nodi amrywiadau newydd yn y coronafeirws. Heb brawf PCR, mae'n anodd iawn gweld sut y bydd Llywodraeth y DU yn gallu gwneud hynny. Felly, mae gennym ni ein penderfyniad ein hunain i'w wneud. Mae'n benderfyniad anodd iawn mewn ystyr ymarferol gan fod cynifer o deithwyr o Gymru yn dychwelyd i Gymru drwy borthladd neu faes awyr yn Lloegr, ac nid yw hysbysebu iddyn nhw fod system ar wahân ar gyfer Cymru, a'i chyfleu iddyn nhw bryd hynny, yn rhywbeth y mae porthladdoedd Lloegr wedi bod yn awyddus i'w wneud. Serch hynny, rydym ni'n parhau i ystyried y mater, a'i drafod gyda'r rhai y byddai'n rhaid i ni ddibynnu arnyn nhw, a byddwn yn gwneud penderfyniad ar y mater yn fuan.

Dylai'r ateb gwirioneddol fod wedi cynnwys cadw profion PCR ar ddiwrnod dau ledled y Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu bod y methiant i wneud hynny yn gam i ffwrdd oddi wrth y ddyletswydd sydd gan Lywodraeth y DU i iechyd pobl yn y wlad hon.    

Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o bwysigrwydd hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl ym mhob lleoliad addysgol ac ar draws lleoliadau addysgol? OQ56871

Mae llawer o ymyriadau ar gael i ysgolion i ddiwallu anghenion llesiant dysgwyr. Rydym ni'n annog ysgolion i ddefnyddio'r ymyriadau hynny sy'n diwallu anghenion eu staff a'u myfyrwyr eu hunain orau. Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adolygiad trwyadl o raglenni cymorth cyntaf iechyd meddwl yn 2016.

14:20

Diolch, Prif Weinidog. Mae pwysigrwydd iechyd meddwl, wrth gwrs, wedi codi ei broffil yn sylweddol yn ystod y pandemig hwn. Oherwydd ei bwysigrwydd, yr wyf i wrth fy modd fy mod wedi cael fy ngwneud yn llysgennad i ymgyrch y DU Where's Your Head At?, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae'r ymgyrch hon wedi arwain at Fil sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd, i sicrhau bod hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl yn cael ei ymgorffori o fewn hyfforddiant cymorth cyntaf, gan gydnabod bod cymorth cyntaf meddyliol a chorfforol yr un mor bwysig. Rwy'n gobeithio y gallwn ni efelychu hyn yng Nghymru, Prif Weinidog, a, hyd yn oed, yn well, drwy sicrhau bod hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl yn rhan annatod o'r holl hyfforddiant cymorth cyntaf o fewn busnesau, ond hefyd o fewn ein cymunedau. Rwy'n falch iawn y bydd cymorth cyntaf sy'n achub bywydau yn rhan o'r cwricwlwm newydd mewn ysgolion, ond a ydych chi'n cytuno â mi y dylem ni sicrhau bod hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl yn rhan annatod o'r sgiliau achub bywyd hyn sy'n mynd i fynd drwy ein lleoliadau addysgol, a hefyd y dylai llysgenhadon iechyd meddwl, gyda hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl cynhwysfawr, fod ym mhob ysgol? Ac efallai y dylai cael ei ymgorffori yn hyfforddiant athrawon ei hun, fel bod gan ein plant a'n pobl ifanc ni rywun i droi ato a all eu cyfeirio'n gywir neu hyd yn oed i ofyn y geiriau syml, sy'n achub bywydau, 'Ydych chi'n iawn?'

Diolch i Laura Anne Jones am hynny a rwy'n ei llongyfarch, wrth gwrs, ar ei phenodiad yn llysgennad yn y maes pwysig iawn hwn. Bydd yn ymwybodol iawn, rwy'n gwybod, o'r dull system gyfan yr ydym ni wedi bod yn ei ddatblygu mewn ysgolion yng Nghymru, a'r cyfraniad y bydd y cwricwlwm diwygiedig yn ei wneud i ddiogelu iechyd meddwl pobl ifanc. Rwy'n gwybod y bydd fy nghyd-Aelod yn y Cabinet, Lynne Neagle, sydd â diddordeb mor angerddol yn hyn oll, yn croesawu diddordeb yr Aelod yn yr ardal ac y byddai, yr wyf i'n siŵr, yn falch iawn o'i chyfarfod i siarad am rai o'r materion sydd wedi'u codi heddiw, ac i sicrhau ein bod ni ar gael i ysgolion a phobl ifanc yr amrywiaeth fwyaf helaeth o adnoddau y gallan nhw eu defnyddio i sicrhau bod iechyd a lles—lles corfforol ac emosiynol—yn cael eu diogelu fel bod plant, yr ydym ni'n gobeithio, yn goresgyn y profiadau anodd iawn y maen nhw wedi gorfod byw drwyddyn nhw yn ystod y 18 mis diwethaf.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Nid oes gennyf i unrhyw newidiadau i'w cyhoeddi i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Roedd y digwyddiadau y gwnaethom ni eu gweld yn datblygu yn Afghanistan dros yr haf wedi gadael pawb wedi'u dychryn a'u harswydo, a dweud y gwir, gyda'r golygfeydd a ddatblygodd. Un o'r grwpiau o bobl yng Nghymru a gafodd eu heffeithio arnyn nhw'n arbennig gan y golygfeydd hynny oedd cyn-filwyr yn y wlad hon, y mae llawer ohonyn nhw wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn Afghanistan. A gaf i alw am ddatganiad ar gymorth i'r cyn-filwyr hynny? Rwy'n sylweddoli y bu rhywfaint o drafod ar hyn yn y Senedd yn ddiweddar, ond rwy'n credu bod angen datganiad arall arnom ni ar hyn, oherwydd un o'r pethau a gafodd ei godi gyda mi gan gyn-filwyr yw'r angen am linell argyfwng 24/7 i'r rhai sy'n cael eu hunain mewn trafferthion pan na fydd gwasanaeth presennol GIG Cymru i Gyn-filwyr, sydd ar gael yn ystod oriau gwaith arferol, ar gael. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen ei ystyried. Byddai'n wych os byddai modd ymestyn y gwasanaeth yng Nghymru fel bod gwasanaeth ffôn ar gael i'r cyn-filwyr hynny mewn angen sy'n eu cysylltu'n syth â'n gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr, yr wyf i ac eraill yn falch iawn ohono.

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn; ni ddylai'r gwerthfawrogiad sydd gennym ni am ein cyn-filwyr byth gael ei anghofio. Byddwch chi'n ymwybodol o'r gefnogaeth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'n cyn-filwyr. Mae'r cwestiwn penodol yr oeddech chi'n ei ofyn ynghylch llinell gymorth 24/7 yn rhywbeth rwy'n gwybod y mae'r Dirprwy Weinidog, sydd yn y Siambr ac wedi clywed eich cwestiwn, yn ei ystyried.

Hoffwn i gael datganiad yn esbonio penderfyniad Llywodraeth Cymru i barhau i fynychu Ffair Arfau Ryngwladol Offer Amddiffyn a Diogelwch. Dywedodd y Prif Weinidog yn 2019 y byddai'n adolygu presenoldeb y Llywodraeth yn y digwyddiad hwn, ar ôl i Leanne Wood alw ei chyfranogiad yn 'wrthun', ond adroddodd y BBC yr wythnos hon y byddai Llywodraeth Cymru yn bresennol yn y digwyddiad eleni. Trefnydd, mae diffyg tryloywder braidd yn bryderus yma. Mae gan bobl yng Nghymru sy'n gwrthwynebu gwario eu harian treth ar hyrwyddo arfau sy'n lladd sifiliaid yr hawl i gael esboniad gan y Llywodraeth ynghylch pam y penderfynodd barhau i noddi'r fasnach arfau. A wnaeth y Prif Weinidog weithredu ar ei addewid i adolygu presenoldeb ei Lywodraeth yn y digwyddiad hwn? Os na, pam ddim? Ond os gwnaeth e' hynny, a wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad hwn fel y gall y Senedd a'r cyhoedd ddeall ar ba sail y penderfynon nhw fod noddi ffair arfau yn ddefnydd priodol o arian cyhoeddus? Ac yn olaf, Trefnydd, a wnawn nhw roi esboniad o sut y bydd bod yn bresennol mewn ffair arfau, lle y caiff cytundebau eu gwneud a fydd yn arwain at farwolaethau sifil mewn mannau fel Yemen, yn gyson â'u nod datganedig o sefydlu ein henw da fel cenedl noddfa sydd wedi ymrwymo i hawliau dynol a hybu heddwch?

14:25

Mae'r Aelod yn anghywir. Ni wnaeth Llywodraeth Cymru noddi'r ffair fasnach y gwnaethoch chi gyfeirio ati.FootnoteLink

Roeddwn i eisiau codi'r mater difrifol iawn a ddigwyddodd ym mharc Bute tua 10 diwrnod yn ôl, lle bu ymosodiad bwriadol ar dros 50 o goed a seilwaith arall yn y parc. Dyma un o'n parciau mwyaf eiconig ledled Ewrop, ac rwy'n poeni'n fawr y gallai rhywun fod wedi gwneud y fath beth, o gofio ei fod yn amlwg wedi'i drefnu'n dda ymlaen llaw. Mae'n ymddangos ei fod yn ymdrech i geisio denu sylw gan rywun sydd eisiau dinistrio cymdeithas yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a'r angen i blannu miliwn o goed. Felly, tybed pa sgyrsiau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ar y mater difrifol iawn hwn, oherwydd, hyd yma, nid oes neb wedi'i ddal. Rwy'n pryderu'n fawr ynghylch yr hyn a allai ddigwydd nesaf.

Diolch. Yn sicr, roedd yn ymddangos yn weithred ddi-synnwyr iawn o fandaliaeth ac rwy'n credu ei bod wedi dychryn ac wedi achosi tristwch mawr i lawer o'r cymunedau lleol yn yr ardal. Fel y dywedwch chi, mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd, mae angen i ni fod yn plannu mwy o goed. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid Cyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru; maen nhw wedi ychwanegu eu llais i annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth ynghylch hyn i gamu ymlaen neu i gysylltu â Crimestoppers.

Trefnydd, yn dilyn cwestiwn i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog perthnasol—datganiad wedi'i ddiweddaru—ar y cyngor ar gyfer anfon plant a phobl ifanc i'r ysgol neu leoliadau addysgol eraill pan fydd aelod o'u haelwyd wedi profi'n bositif am COVID? Yn amlwg, mae hyn yn achosi cryn ofid i lawer o benaethiaid, rhieni a phobl ifanc, gan fod plant a phobl ifanc yn dal i gael eu cynghori i fynd i'r ysgol ar ôl i aelod o'u haelwyd brofi'n bositif. Mae hyn, wrth gwrs, yn peri pryder ac yn cynyddu oherwydd bod nifer y bobl sy'n profi'n bositif am COVID yn cynyddu.

Yn amlwg, ein blaenoriaeth yw cadw ein plant yn yr ysgol gymaint â phosibl eleni, ond mae awgrym wedi bod, efallai y dylai plant a phobl ifanc aros i ffwrdd o'r ysgol a'r coleg tan fod eu profion PCR yn dod nôl yn negyddol. O fy mhrofiad personol fy hun yn ddiweddar, rwy'n ymwybodol bod y canlyniadau'n dod nôl nawr o fewn 24 awr, yn fras. Y pryder, wrth gwrs, yw y bydd mwy o blant a phobl ifanc yn mynd o'r ysgol yn y pen draw os na fyddwn ni'n rheoli hyn yn gywir. Felly, er mwyn tawelu meddyliau penaethiaid pryderus, rhieni a phobl ifanc fel ei gilydd, a gawn ni'r canllawiau presennol ac a gawn ni ein sicrhau ei fod er lles ein plant a'n pobl ifanc? A gawn ni datganiad ar hynny, os gwelwch yn dda? Diolch.

Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol bod y Gweinidog addysg yn gweithio'n agos iawn gyda'n hysgolion a'n penaethiaid. Mae Llywodraeth Cymru, pan fyddwn ni'n cyflwyno unrhyw bolisi neu ganllawiau, yn dilyn y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf. Os bydd hynny'n newid, bydd y Gweinidog addysg yn amlwg yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

Trefnydd, gyda'r gaeaf yn prysur agosáu, mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi yn mynegi pryder ynghylch y nifer o fasleoedd mewn afonydd wrth ymyl cymunedau a gafodd eu dinistrio gan lifogydd ym mis Chwefror 2020, gan gynnwys Teras Clydach yn Ynysybwl a Stryd Rhydychen yn Nantgarw. Er bod rhywfaint o waith wedi'i wneud mewn rhai ardaloedd, oherwydd effaith y llifogydd ar lannau'r afon, mae nifer y basleoedd yn parhau i fod yn helaeth. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud wrth drigolion nad oes ganddyn nhw'r arian i wneud mwy o waith yn y meysydd hyn. Ac felly a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn benodol ynghylch carthu a lleihau basleoedd mewn afonydd wrth ymyl cymunedau sydd mewn perygl, ac ar y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru ers ei chyhoeddi ym mis Hydref 2020?

14:30

Diolch. Wel, yn anffodus, dioddefodd yr ardal yr ydych chi'n cyfeirio ati lifogydd difrifol ym mis Chwefror 2020, ychydig cyn pandemig COVID-19, ac rwy'n ymwybodol o lawer iawn o waith sydd wedi'i wneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdod lleol. Fe wnaf i yn sicr ofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch y cwestiwn penodol y gwnaethoch chi ei ofyn.

Trefnydd, ddydd Gwener, byddaf i'n bresennol yn nathliad pen-blwydd Tata Steel yn 125 oed yn fy etholaeth i. Mae fy nghymuned wedi'i hadeiladu ar ddur, fel y gwyddoch chi'n iawn, ac rwy'n hynod falch o hynny. Nawr, mae dyfodol cynhyrchu dur yn garbon isel, dur wedi'i gynhyrchu'n lleol, a dylai Shotton Steel fod ar flaen y gad yn y broses honno. A gawn ni ddatganiad, gan Lywodraeth Cymru, Trefnydd, am bwysigrwydd y diwydiant dur i bob rhan o Gymru, gan gynnwys Shotton Steel, ac efallai dymuno pen-blwydd hapus iawn iddyn nhw a dyfodol llwyddiannus?

Wel, yn sicr, rwy'n hapus iawn i ddymuno pen-blwydd hapus iddyn nhw. Fel y gwyddoch chi, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo'n llwyr i sector dur cadarn a chynaliadwy iawn, ac mae'n debyg y byddwch chi'n ymwybodol bod Gweinidog yr Economi, yn ei gysylltiad cyntaf yn y portffolio, wedi mynychu cyfarfod gyda'r Cyngor Dur, a gwn i ei fod ef wedi ymweld â Shotton yn ddiweddar gyda chi.

Gwnaeth Gweinidog yr Economi ddatganiad ym mis Gorffennaf ar bwysigrwydd diwydiant wedi'i ddatgarboneiddio a'n cefnogaeth ni i ddyfodol dur, y gwnaethoch chi gyfeirio ato, a gwn i y bydd e'n mynd i Tata Port Talbot yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Roedd y terfysgoedd ym Mayhill yn Abertawe ym mis Mai yn frawychus. Gwn i pa mor galed y mae'r heddlu wedi gweithio i nodi ac arestio'r rhai sy'n gyfrifol. A gaf i ofyn am ddatganiad sy'n nodi'r hyn y cafodd ei ddysgu o'r digwyddiadau hynny, ac a allai fod angen unrhyw gymorth cymunedol arall?

Diolch. Rydych chi yn llygad eich lle, yr oedden nhw'n sicr yn olygfeydd brawychus, a gwn i fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi gweithio'n agos iawn gyda'r heddlu i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu, ac wedi gweithio'n benodol ar cydlyniant cymunedol. Os oes gan y Gweinidog unrhyw wybodaeth ddiweddar i'w rhoi i ni yn dilyn yr un blaenorol, yn sicr, fe wnaf ofyn iddi wneud hynny.

Trefnydd, a wnaiff y Gweinidog cyllid ddatganiad yn diweddaru Aelodau ar pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon y busnesau hynny sydd wedi methu â chael gafael ar gymorth ariannol digonol yn ystod y pandemig, ac sydd bellach yn wynebu anawsterau, yn arbennig y rhai sydd wedi cwympo drwy'r craciau? Mae un o'r busnesau hynny yn berchennog siop yng Nghaerfyrddin, a gymerodd y cyfle i wneud rhywfaint bach o waith atgyweirio ac ailaddurno pan symudodd ei thenant mas yn 2019. Yn union fel oedd hi ar fin hysbysebu'r eiddo i'w rentu eto, dechreuodd y cyfnod clo cyntaf, ac ni lwyddodd hi, wrth gwrs, i ffeindio rhywun i rentu'r siop. Mae hi bellach yn wynebu bil trethi busnes am filoedd o bunnoedd. Yn amlwg mae busnesau eraill wedi cael rhyddhad ar drethi dros y cyfnod hwnnw, ond achos roedd ei heiddo'n wag, fe ffaelodd hi gael yr un cymorth. 

Felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud asesiad o faint o fusnesau sydd mewn sefyllfa debyg, ac a fydd hi'n ystyried darparu cymorth ariannol yn yr achosion arbennig hynny? Diolch yn fawr. 

Diolch. Fel y gwyddoch chi, rhoddodd Llywodraeth Cymru'r pecyn cymorth mwyaf hael i'n busnesau yn ystod pandemig COVID-19. Roedd gennym ni'r gronfa cadernid economaidd unigryw. Yn amlwg, ni allaf i wneud sylw ar achos unigol, a byddwn i'n eich cynghori chi, os ydych chi'n teimlo—. Er, yn amlwg, na allem ni helpu pob busnes, roeddem ni'n awyddus iawn nad oedd busnesau'n disgyn drwy fylchau amrywiol y gwahanol gronfeydd, a byddwn i'n eich annog chi i ysgrifennu at y Gweinidog yn uniongyrchol ynghylch eich achos penodol.

Trefnydd, yn anarferol rwy'n cael fy hun yn rhannu tir cyffredin â'r Ceidwadwyr—[Aelodau'r Senedd: 'O']—pan oeddwn i'n siomedig o glywed y byddai'r Llywodraeth yn parhau i fwrw ymlaen â phasys COVID y GIG yng Nghymru, neu basbortau COVID. Gweinidog, cafodd Senedd yr Alban gyfle i drafod rhinweddau'r penderfyniad hwn cyn iddyn nhw gyflwyno mesurau tebyg. A fydd amser yn cael ei roi i'r Senedd drin a thrafod y mater hwn? Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Felly, rydym ni'n cwblhau yr amserlen ar gyfer cyflwyno rheoliadau i wneud y pas COVID yn orfodol i'w ddefnyddio mewn rhai lleoliadau yng Nghymru o 11 Hydref ymlaen. Felly, yn sicr bydd cyfle.

14:35

Gweinidog, a gawn ni wneud amser i'r Llywodraeth gyflwyno dadl ar argyfyngau sifil a pharatoi ar gyfer argyfwng? Yn ystod y misoedd diwethaf, mae trychineb Brexit wedi effeithio ar lawer o bobl. Mae'r gymuned ffermio wedi bod yn dweud wrthym ni am y brad y maen nhw'n ei deimlo. Mae'r diwydiant pysgota wedi dweud wrthym ni am y brad y maen nhw'n ei deimlo. Rydym ni wedi gweld miloedd a miloedd o lorïau yn methu croesi'r Sianel. Rydym ni wedi gweld cychod yn osgoi galw ym mhorthladdoedd Prydain. Rydym ni wedi gweld cwmnïau a busnesau yn adleoli lle bynnag y bo modd, ac yn colli busnes o ganlyniad uniongyrchol i Brexit. Ac yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym ni wedi gweld silffoedd bwyd gwag yn ein harchfarchnadoedd.

Mae perygl gwirioneddol, yn enwedig gyda'r materion ar hyn o bryd ynghylch prisiau nwy, yn sgil dileu Prydain o rwydweithiau nwy Ewrop, sy'n golygu ein bod ni'n mynd i weld tlodi tanwydd a thlodi bwyd yn y wlad hon ar raddfa o'r fath, am y tro cyntaf ers degawdau. Ac mae hyn yn ganlyniad i Brexit ac anallu Llywodraeth Geidwadol y DU. A gawn ni dadl yn y lle hwn ynghylch sut y gall ein Llywodraeth sicrhau diogelwch a lles pobl yn y wlad hon, oherwydd mae'n amlwg nad yw'r Llywodraeth yn Llundain yn poeni mewn gwirionedd am yr hyn sy'n digwydd i bobl y wlad hon?

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod ynghylch y saga yr ydym ni'n sicr wedi'i gweld yn datblygu. Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni wedi'i weld gan Lywodraeth y DU yw ddiffyg cynllunio hirdymor llwyr; maen nhw'n dda iawn am sloganau tymor byr, ond nid ydyn nhw'n dda am gynllunio tymor hir, a dyna y mae angen i ni ei weld. Byddwch chi'n ymwybodol o'r mater carbon deuocsid ar hyn o bryd, gyda'n lladd-dai'n pryderi na allan nhw brosesu—[Torri ar draws.] Wel, maen nhw wedi rhoi gormod o bwyslais ar farchnadoedd, onid ydyn nhw? Ac rydym ni'n ei weld nawr gyda charbon deuocsid, rydym ni'n gweld argyfwng costau byw, rydym ni'n gweld prisiau ynni'n codi, rydym ni'n gweld prisiau bwyd yn codi, rydym ni'n gweld ein cyfraniadau yswiriant gwladol yn codi, ac rydym ni'n gweld toriad—[Torri ar draws.] Efallai nad ydych chi'n gweld hynny'n ddifrifol, Andrew R.T. Davies, ond mae pobl yn cael £20 wedi'i dorri o'u credyd cynhwysol. Mae gennym ni argyfwng costau byw, ac mae'n hen bryd i Lywodraeth y DU ddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn gweld Llywodraeth Cymru yn sefyll drostyn nhw, a byddaf i'n hapus iawn i gyflwyno datganiad.

Trefnydd ychydig wythnosau'n ôl, gwnes i gyfarfod â phennaeth Coleg Gwent, ac fe wnaeth e' rannu stori eithaf dirdynnol gyda mi—wel, nid stori, ffaith—bod un o'i fyfyrwyr marchogaeth wedi cael damwain wael, a bod, o bosibl, anafiadau i'r asgwrn cefn ganddi, ac, o ganlyniad, dywedodd y gwasanaethau brys na ddylai hi gael ei symud tan iddyn nhw gyrraedd yno. Ar ôl ffonio bob 20 munud, am gyfnod sylweddol, roedd hi'n naw awr cyn i'r wraig ifanc honno gael ei chludo a'i symud i'r ysbyty fel argyfwng. Ond mae angen trafod goblygiadau hynny, yn fy marn i, oherwydd, o ganlyniad i hynny, mae'r pennaeth yn teimlo bod yn rhaid iddo nawr dynnu nôl o ddarparu cyrsiau yng Ngholeg Gwent—y cyrsiau hynny a allai fod â risgiau, fel cyngor chwaraeon neu farchogaeth. A gwn i fod penaethiaid mewn ysgolion yn teimlo'r un fath ynghylch pethau fel Gwobr Dug Caeredin. A meddwl oeddwn i tybed a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog addysg ar sut y mae'n credu y mae modd disgwyl i benaethiaid colegau, ac yn wir penaethiaid, reoli'r sefyllfa anodd hon wrth symud ymlaen, gan fod llawer yn bryderus iawn na allan nhw barhau â'r cyrsiau hyn, oherwydd y gallu i gydymffurfio â'u hasesiadau risg eu hunain, ac oherwydd yr amser ymateb brys afresymol hwnnw. Mae'n bryder difrifol iawn, a allai effeithio ar filoedd lawer o bobl ifanc, ledled Cymru, o ganlyniad uniongyrchol i rai o'r materion sy'n deillio o'r pwysau o fewn y gwasanaeth iechyd.

Er fy mod i'n flin iawn wrth gwrs o glywed bod yn rhaid i rywun aros naw awr—rwy'n tybio mai am ambiwlans ydoedd; rwy'n tybio mai dyna'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud—ond byddwch chi'n derbyn bod ein gwasanaeth ambiwlans, ac rwy'n credu y dylem ni dalu teyrnged enfawr i'n staff ambiwlans, yn ymdrin â phwysau digynsail. Rhaid i chi gofio, bob tro y byddan nhw'n ymateb i alwad y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud mewn ffordd sy'n ddiogel rhag COVID. Mae hyd yn oed gwisgo cyfarpar diogelu personol yn cymryd amser, ac mae'n rhaid ychwanegu hynny'n amlwg at yr amser ymateb. Cyn pandemig COVID-19, roedden nhw'n cyrraedd eu targedau drwy'r amser.

Nid wyf i'n credu y byddai'n ddefnydd da o amser y Llywodraeth ar gyfer datganiad. Os oes pryder, rwy'n siŵr bod y Gweinidog addysg yn ymwybodol ohono. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod pobl yn cofio ffonio am ambiwlans dim ond pan fo wir angen, ac nid wyf i'n dweud nad oedd hynny'n wir yn yr achos y gwnaethoch chi gyfeirio ato, ond rwy'n credu ei fod yn gyfle i ni gofio'r sefyllfa anodd iawn y mae ein gwasanaeth ambiwlans a'n GIG ynddi ar hyn o bryd.

14:40
3. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Polisi Ffermio i’r Dyfodol a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Ac i roi amser iddi newid y ffeil, gwnaf arafu, ond gwnaf gyhoeddi bod y datganiad nesaf gan y Gweinidog materion gwledig a'r gogledd ar bolisi ffermio i'r dyfodol a'r cynllun ffermio cynaliadwy. Felly'r datganiad hynny, Weinidog, Lesley Griffiths. 

Diolch, Llywydd. Fel y mae ein rhaglen lywodraethu ni'n ei nodi, mae mynd i'r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Fe fyddwn ni'n llunio system newydd o gymorth i ffermwyr ar gyfer gwneud yn fawr o rym amddiffynnol natur drwy gyfrwng ffermio ac mae'r Bil amaethyddiaeth yn allweddol i gyflawni'r uchelgeisiau hyn. Yn y dyfodol, fe fydd cymorth i ffermwyr yn gwobrwyo ffermwyr gweithgar sy'n cymryd camau i ymateb i'r heriau o ran ein hymateb ni i gyd i'r argyfwng hinsawdd a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, gan eu cefnogi nhw i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae Papur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru) yn nodi ein cynigion ni i gefnogi ffermwyr i fabwysiadu dulliau sy'n gynaliadwy. Fe fydd hyn yn sicrhau dyfodol hirdymor i ffermio sy'n cydnabod ei bwysigrwydd i'r gymdeithas yng Nghymru. Fe ddaeth ymgynghoriad y Papur Gwyn i ben ym mis Mawrth, ac mae hi'n bleser gennyf i gyhoeddi heddiw ddadansoddiad annibynnol o'r ymatebion ac ymateb Llywodraeth Cymru ei hun. Rwy'n ddiolchgar i bawb am roi o'u hamser i ymateb i hwn.

Ar y 6 o fis Gorffennaf, roedd y Cwnsler Cyffredinol yn nodi ein rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol ni. Roedd honno'n cadarnhau y byddwn ni'n cyflwyno Bil amaethyddiaeth newydd ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd. Fe fydd hwn yn ddarn uchelgeisiol o ddeddfwriaeth sy'n diwygio degawdau o gymorth i ffermwyr gan yr UE ac yn cynrychioli newid sylweddol i'r sector. Rwyf i wedi penderfynu canolbwyntio'r Bil ar y meysydd allweddol y mae eu hangen nhw ar gyfer cefnogi ffermwyr yn y blynyddoedd i ddod, ac, yn hollbwysig, i sefydlu system newydd o gymorth i ffermwyr sy'n seiliedig ar egwyddorion rheoli tir mewn dulliau sy'n gynaliadwy. Yn ogystal â hynny, fe fydd y Bil yn disodli'r pwerau sydd â chyfyngiad amser iddyn nhw yn Neddf Amaethyddiaeth y DU 2020. Dyma'r cam cyntaf yn niwygiad amaethyddiaeth, a fydd yn sicrhau bod ffermydd Cymru yn rhai cynaliadwy.

Ein bwriad parhaus ni yw lleihau'r baich sydd ar ffermwyr o ran rheoleiddio. Rydym ni'n awyddus i'w gwneud hi'n haws i ffermwyr ddeall yr hyn y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud i gydymffurfio â'r gyfraith drwy gyflwyniad cenedlaethol o safonau sy'n ofynnol. Rydym ni o'r farn hefyd y dylai gorfodaeth fod yn gymesur â difrifoldeb y drosedd, ac y dylid ymatal rhag gwneud ffermwyr yn droseddwyr am droseddau sy'n llai difrifol. Er hynny, rydym ni'n cydnabod bod y cynigion hyn yn rhai cymhleth ac fe ddylid eu hystyried nhw'n ofalus. Yn y cam nesaf o ddiwygio, fe fyddwn ni'n gweithio yn agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod safonau gofynnol cenedlaethol yn cael eu gweithredu yn ddigon cynnar i gyflwyno'r cynllun arfaethedig.

I roi eglurder i ffermwyr Cymru, rwyf i am gyhoeddi cynllun cyflawni sy'n amlinellu'r cerrig milltir allweddol yn y broses hon o ddiwygio y dylid eu cyrraedd yn ystod y tymor Seneddol hwn. Pan gyflwynir deddfwriaeth y flwyddyn nesaf, fe fyddaf i'n cyhoeddi amlinelliad o'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Nid hwn fydd y cynllun terfynol, ond fe fydd yn cynnwys manylion am y strwythur y gofynnir i ffermwyr ymgymryd ag ef. Fe gaiff y camau gweithredu yn y cynllun eu dadansoddi yn eang iawn i amcangyfrif cost economaidd eu cyflawni i fusnes y fferm a'r manteision amgylcheddol a ddaw yn eu sgil. Fe fydd hynny'n ein galluogi ni i gynnal sgyrsiau manwl gyda ffermwyr ynglŷn â'r cynigion ac yn rhoi prawf ar ein ffordd ni o feddwl.

Rwyf i wedi bod yn eglur bob amser y byddwn ni'n parhau i weithio yn agos gyda'n ffermwyr ni i sicrhau bod eu lleisiau nhw'n cael eu clywed wrth i gymorth gael ei gynllunio yn y dyfodol. Rwyf i'n falch o allu cyhoeddi adroddiad heddiw ar gam cyntaf y cyd-ddylunio a'r ymrwymiad i adeiladu ar y gwaith hwn mewn ail gam yn ystod y flwyddyn nesaf. Fe fydd hyn yn rhan o broses barhaus o ymgysylltu â ffermwyr a rhanddeiliaid, a fydd yn ein harwain ni at ymgynghoriad terfynol ar y cynllun ffermio cynaliadwy ac i'r cyfnod pontio â'r cynllun newydd yng ngwanwyn 2023. Drwy gydol 2024, fe fyddwn ni'n ymgysylltu â ffermwyr drwy raglen allgymorth, ac fe fydd hyn yn sicrhau ein bod ni'n barod i gychwyn y cynllun ym mis Ionawr 2025.

Mae'r sector ffermio wedi wynebu sawl her dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym ni'n gadarn yn ein bwriad ni i gefnogi ffermwyr wrth addasu i newidiadau yn y dyfodol. Y flwyddyn nesaf, rwyf i am lansio ystod o ymyriadau a fydd yn helpu i fraenaru'r tir ar gyfer y cynllun newydd a threialu'r broses a ddefnyddir i'w chyflawni hi.

Mae yna newid sylweddol a phwysig ar y ffordd a fydd yn golygu dyfodol sefydlog a chynaliadwy i'r diwydiant a chymunedau cefn gwlad Cymru. Yn y cyfamser, yn amodol ar ddarpariaeth ddigonol o arian gan Lywodraeth y DU, ein bwriad ni yw parhau â'r cynllun taliad sylfaenol tan 2023 i roi cymorth i ffermwyr wrth i ni weithio gyda'n gilydd i drosglwyddo i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ochr yn ochr â hyn, fe fyddaf i'n ymestyn contractau tir comin ac organig Glastir am ddwy flynedd, hyd at fis Rhagfyr 2023. Yn gyfochrog â chefnogi ein ffermwyr ni, fe fydd yr estyniad hwn yn ein helpu ni i wella ein dealltwriaeth ni o effaith camau gweithredu ac ymyriadau Glastir ymhellach, ac yn cyfrannu at ddatblygiad cynllun ffermio cynaliadwy i'r dyfodol. Mae hynny'n golygu ymrwymiad cyllidebol i ffermwyr Cymru o £66 miliwn dros ddwy flynedd. Rwyf i'n cyhoeddi ymrwymiad pellach hefyd o £7 miliwn i ymestyn rhaglen Cyswllt Ffermio hyd at fis Mawrth 2023.

Rwy'n galw ar y Senedd gyfan i gefnogi ein cynigion uchelgeisiol ni a chydseinio y dylai Llywodraeth y DU ddarparu cyllid newydd lawn i'n ffermwyr ni sydd wedi ymadael â'r Undeb Ewropeaidd erbyn hyn. Mae angen parhau â'r ymdrech ar y cyd gan ffermwyr a'r Llywodraeth i ymateb i'r heriau a gyflwynir gan argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'r blaengynllun a'r cyhoeddiadau ariannu a gyflwynais i heddiw yn arddangos fy ymrwymiad i a'r Llywodraeth hon i'r gwaith arbennig hwn. Diolch.

14:45

Fe hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am gael gweld datganiad heddiw ymlaen llaw, ac mae'n un amserol iawn hefyd, Llywydd, gan fy mod i wedi gofyn i'r Gweinidog am eglurder ynghylch dyfodol cyllid Glastir ddydd Mercher diwethaf, ac er na chynigiwyd unrhyw ymrwymiad bryd hynny, mae'r gymuned ffermio a minnau'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw yn fawr. Serch hynny, fe fydd yna rai sy'n crafu eu pennau o hyd oherwydd, ar ôl cael gwybod am ddiweddariad a fyddai'n dod ym mis Gorffennaf, maen nhw wedi gorfod aros yn nerfus drwy'r misoedd diwethaf am y diweddariad heddiw. Ond, unwaith eto, rwy'n ymuno â'r undebau ffermio i groesawu ymrwymiad heddiw.

Yn gyntaf i gyd, a gaf i ofyn am eglurhad ynglŷn â'r pwyntiau ynghylch y safonau gofynnol cenedlaethol? Fe soniodd y Gweinidog am ei bwriad hi i sicrhau bod y rhain yn cael eu gweithredu o flaen y cynllun newydd arfaethedig. Mae'n rhaid cyflwyno'r safonau newydd hyn mewn da bryd, gan y bydd angen cyfnod ar ffermwyr i weithredu newidiadau yn eu harferion nhw ac uwchraddio seilwaith, yn ogystal â rhai sydd ag angen buddsoddiad o gyfalaf. Os rhoddir rhybudd byr cyn cyflwyno'r safonau gofynnol newydd, a wnaiff y Gweinidog ganiatáu cyfnod pontio i sicrhau nad yw ffermwyr sy'n awyddus i weithredu yn briodol yn cael eu cosbi oherwydd cyfyngiadau amser?

Ni ddylid anwybyddu pwysigrwydd amaethyddiaeth wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ac er bod cynlluniau amaeth-amgylcheddol Glastir yn sicrhau newidiadau adeiladol ar ffermydd ledled Cymru, fe allwn ni leihau ein hôl troed carbon ymhellach drwy gynyddu ein cyfradd ni o hunangynhaliaeth. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gynhyrchu bwyd a diogelwch bwyd yn rhan o gynlluniau i'r dyfodol yn yr ymdrech i leihau nifer y mewnforion sy'n niweidiol i'r amgylchedd wrth gefnogi ein diwydiant domestig ni? Ac a oes yna nod canrannol o hunangynhaliaeth yr ydym ni'n bwriadu ei daro?

Yn olaf, Llywydd, rwy'n nodi hefyd o ddatganiad y Gweinidog y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cael ei lansio ym mis Ionawr 2025. Mae estyniad y Cynllun Taliad Sylfaenol a Glastir tan 2023, sy'n golygu y ceir diffyg eglurder o ran y cymorth a roddir i ffermwyr yn 2024, y flwyddyn rhwng diwedd un cynllun a dechrau cynllun newydd. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru am ei gynnig yn y cyfnod pontio hwn i sicrhau y gellir osgoi'r arian yn dod i ben yn sydyn? A chyda'r Alban yn addo cyflawni eu cynllun newydd nhw'n llawn erbyn 2023, a chymhorthdal newydd Lloegr ar y gweill eisoes, beth yw'r rheswm am yr oedi hwn cyn cyflwyno'r cynllun yma yng Nghymru? Diolch, Llywydd.

Diolch, a diolch i chi am eich geiriau adeiladol o ran y datganiad, ac mae'n ddrwg gennyf i na allwn i fod wedi dweud wrthych chi'r wythnos diwethaf, ond rwy'n siŵr eich bod chi'n deall, yn amlwg, fod yn rhaid i bethau fagu stêm cyn datganiad heddiw. Ond rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu rhoi cyllid mor sylweddol i gontractau Glastir, ac fe wn i pa mor gynnes yw'r croeso a fu gan lawer o'r ffermwyr yr wyf i wedi siarad â nhw a chan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ac, fel y dywedais i yn fy natganiad, mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau â'r gwaith hwnnw o fonitro a gwerthuso fel ein bod ni'n gwybod am y manteision a roddodd y cynlluniau i ni.

O ran cynhyrchu bwyd, rwyf i wedi bod yn eglur iawn, iawn. Rydym ni wedi cael tri ymgynghoriad erbyn hyn cyn y datganiad hwn heddiw, yn ffurfio bwa dros ddwy Lywodraeth, yn amlwg. Fe welsom ni'r ddogfen 'Brexit a'n tir' nôl yn 2018, ac yna fe gawsom ni ymgynghoriad pellach yn 2019, ac yna, yn amlwg, cawsom y Papur Gwyn ym mis Rhagfyr, a ddaeth i ben ym mis Mawrth. Os edrychwch chi ar yr ymatebion, mae bwyd yn sicr yn bwnc a gaiff ei ystyried. Mae cynhyrchu bwyd cynaliadwy mor bwysig, a ni oedd yr unig ran o'r DU a oedd yn cynnwys y gair 'bwyd', rwy'n credu—ac fe wnaeth yr Alban hefyd, efallai, ond yn sicr nid oedd unrhyw sôn gan Loegr am fwyd yn eu hymgynghoriad cyntaf nhw. Rwyf i wedi bod yn eglur iawn bob amser fod cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn rhywbeth y dylid rhoi cefnogaeth fawr iawn iddo. Ac os edrychwch chi ar y gefnogaeth a roddodd y sector amaethyddol i ni, nid aeth neb yn newynog yn ystod pandemig COVID-19 yng Nghymru, ac rwy'n awyddus i roi teyrnged wirioneddol i'r gwaith a wnaeth y sector. Ac mae hi'n gwbl briodol fod cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn cael ei wobrwyo yn y ffordd y gwnaethom ni ei nodi yn y cynllun ffermio cynaliadwy.

O ran y safonau gofynnol cenedlaethol, fel y gwyddoch chi, roedd hynny'n rhan o'r Papur Gwyn, ac roeddwn i'n falch iawn o weld ymatebwyr yn cefnogi cynigion ar gyfer symleiddio'r gofynion rheoliadol presennol. Un o'r pethau a glywais i'n aml dros y pum mlynedd diwethaf yw'r pryder nad yw pobl yn deall yr hyn y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud i gydymffurfio â'r gyfraith. Ac, unwaith eto, roeddwn i'n crybwyll ei bod hi'n bwysig iawn nad yw pobl yn cael eu gwneud yn droseddwyr yn y ffordd sydd wedi digwydd o bryd i'w gilydd, yn anffodus. Mae'n rhaid i bawb gydymffurfio â'r gyfraith, ac mae hi'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn ei deall hi, ac ymwneud â rheoleiddio amaethyddiaeth y mae hynny hefyd. Maen nhw'n ceisio diogelu ein hamgylchedd ni, ac mae hi'n bwysig iawn eu bod nhw'n gwneud hynny. Felly, fel y dywedais i, fe fyddwn ni'n edrych, ac rydym ni yn edrych, ar sut y gallwn ni gyflwyno hyn. Darn cymhleth iawn o waith yw hwn ac rwy'n awyddus i'w wneud yn iawn, ac rwy'n falch iawn fod y sector yn dymuno gweithio gyda mi ynglŷn â hyn, a'm bwriad i o hyd yw y caiff ei weithredu mewn da bryd i gyflwyno'r cynllun arfaethedig.

Rydych chi'n gofyn am y Cynllun Taliad Sylfaenol, ac, yn amlwg, rwyf i wedi ymrwymo heddiw i'w ymestyn hyd ddiwedd 2023. Mae hyn i gyd yn gwbl ddibynnol ar Lywodraeth y DU yn rhoi'r cyllid i ni ac nid yn ein hamddifadu ni o £137 miliwn, fel y gwnaethon nhw eleni. Felly, unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i helpu yn hynny o beth, fe fyddwn i'n ddiolchgar iawn am hynny. Nid wyf i'n awyddus i fynd at ymyl y dibyn. Dros y pum mlynedd diwethaf, fe ddywedais i'n barhaus, 'Nid ydym ni'n awyddus i fynd at ymyl y dibyn', yn y ffordd y gwnaethon nhw yn Seland Newydd, er enghraifft, pan wnaethon nhw roi'r gorau i'w taliadau uniongyrchol nhw. Felly, mae hi'n bwysig iawn fod y cyfnod pontio hwnnw—. Ac efallai y bydd yna feirniadaeth ei bod hi wedi cymryd cryn amser i ni wneud hynny, ond mae hwn yn ddarn trawsnewidiol iawn o waith yr ydym ni'n ei wneud, ac mae hi'n gwbl briodol ei bod hi'n cymryd nifer o flynyddoedd i wneud hynny'n iawn.

14:50

Wel, mae Plaid Cymru hefyd yn croesawu'r datganiad hwn a'r cyfle i drafod a chraffu ar y cynigion ar gyfer diwygio ffermio yng Nghymru, a fydd, mae'n siŵr, yn cael yr effaith hirdymor fwyaf ar y sector amaethyddol ers cenhedlaeth. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi y cynlluniau sy'n darparu sefydlogrwydd economaidd a hefyd gynaliadwyedd amgylcheddol i ffermwyr. Ond heb gynigion manwl ar faint y bydd ffermwyr yn cael eu talu am gynlluniau ffermio cynaliadwy, a heb unrhyw asesiadau effaith manwl, mae efallai'n rhy fuan i ddweud pa effaith y bydd y cynlluniau hyn yn eu cael. Ond, rhaid inni weithio gyda'n gilydd, fel ŷch chi wedi dweud, ar draws y sector a gyda ffermwyr i'w helpu i gyrraedd eu nod o fod yn net sero carbon.

Felly, yn debyg iawn i'r cwestiwn mae Sam Kurtz wedi'i ofyn, mae'r datganiad yn cadarnhau bod y Llywodraeth yn bwriadu dod â thaliadau sylfaenol i ben yn 2023 a dechrau cynllun newydd yn 2025. Felly, mae yna rywfaint bach o ansicrwydd ynglŷn â sut mae ffermwyr yn mynd i gynnal eu bywoliaeth yn ystod 2024. Ac fe gyfeirioch chi at y ffaith bod hyn yn ddibynnol, i raddau helaeth, ar gael arian gan Lywodraeth San Steffan. Felly, dwi am ofyn eto i chi ynglŷn â sicrwydd a pha gynlluniau wrth gefn sydd gyda chi i gynnal ffermwyr yn ystod y flwyddyn arbennig honno, cyn bod y cynllun newydd yn dechrau.

I symud ymlaen at bwynt arall, yn ymateb eich Llywodraeth chi i'r crynodeb o'r ymgynghoriad, ŷch chi'n dweud bod yna gyfnod pontio dros nifer o flynyddoedd i alluogi ffermwyr i drosglwyddo o daliadau sylfaenol i gynllun ffermio cynaliadwy. Yn naturiol, mae angen cyfnod pontio teg er mwyn sicrhau sefydlogrwydd, ac, yn Lloegr, dwi'n deall bod hynny'n gyfnod o ryw saith mlynedd. A wnaiff y Gweinidog amlinellu, felly, ba mor hir mae hi'n rhagweld y bydd y cyfnod pontio yng Nghymru? Am faint mae'r taliadau sylfaenol yn mynd i barhau, a dros faint o gyfnod bydd y taliadau'n cael eu lleihau er mwyn symud tuag at gynlluniau mwy amgylcheddol? Ac a wnaiff hi gyhoeddi'r dadansoddiad a'r rhaniad ar gyfer y cyfnod pontio hwn cyn cyhoeddi'r Bil amaeth y flwyddyn nesaf?

Fel mae'r datganiad yn ei nodi, mae'r ymrwymiad i ariannu'r Cynllun Taliad Sylfaenol yn llawn hyd at fis Rhagfyr 2023 yn amodol ar gyllid gan Lywodraeth y DU. Peidied neb ag anghofio bod Llywodraeth y DU wedi ein siomi ni o'r blaen, gan dorri bron i £130 miliwn o gyllid y llynedd i amaethyddiaeth. Felly, yng nghyd-destun y toriad hwnnw a'r ansicrwydd hwnnw, a yw'r Gweinidog wedi cynnal unrhyw drafodaethau rhagarweiniol gyda Gweinidogion neu swyddogion yn San Steffan i gael yr ymrwymiad hwn a fyddai'n rhoi mwy o sefydlogrwydd i'n ffermwyr ni? Ac, yn bwysicach na hynny, os nad yw Llywodraeth y DU yn cadw at y fargen honno, fel y gwelsom ni yn y gorffennol yn ymarferol, pa gynlluniau wrth gefn sydd gan Lywodraeth Cymru i'w rhoi nhw ar waith i sicrhau nad yw ffermwyr Cymru ar eu colled?

O ran asesiadau effaith hefyd—roeddech chi'n sôn am y rhain yn y datganiad—rydym ni'n amlwg yn awyddus i weld asesiadau effaith manwl yn cael eu cynnal i ystyried effeithiau ehangach y cynigion hyn ar y sector. Nawr, pan gyhoeddwyd y Papur Gwyn y llynedd, fe ddywedodd y Gweinidog fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gosod cytundeb i ymgysylltu â chonsortiwm annibynnol i archwilio effeithiau'r cynigion ar economi amaethyddol Cymru, ac rwy'n dyfynnu:

'Nid wyf i'n disgwyl i adroddiad terfynol fod ar gael ynglŷn â hyn cyn yr hydref y flwyddyn nesaf.'

Rydym ni nawr yn nyddiau cyntaf yr hydref hwnnw, felly a wnewch chi gadarnhau, Gweinidog, a yw'r adroddiad dadansoddi annibynnol hwnnw ar ddod, neu a gafodd ei ohirio?

Ac mae fy mhwynt olaf i'n ymwneud â chreu coetiroedd. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau'r diffiniad o 'ffermio gweithredol', ac mai dim ond ffermwyr gweithredol a ddylai gael arian cyhoeddus ar gyfer creu coetiroedd ar ddaear Cymru? Ac a oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i ddiwygio a diweddaru'r diffiniad presennol o 'ffermwr gweithredol', a allai fod yn galluogi cwmnïau cydweithredol mawr o'r tu allan i Gymru i ddefnyddio arian cyhoeddus i wyrddgalchu eu gweithgareddau gwrthbwyso carbon? Diolch yn fawr.

14:55

Diolch, Cefin Campbell, ac am eich geiriau o groeso i'r datganiad. Fe ddywedais i y byddem ni'n parhau â'r Cynllun Taliad Sylfaenol tan ddiwedd 2023. Nid oeddwn i'n dweud mai dyna fyddai'r diwedd; yr hyn yr oeddwn i'n ceisio ei fynegi oedd rhywfaint o sefydlogrwydd i'n sector ffermio ni, oherwydd, cyn heddiw, nid oeddwn i wedi cyhoeddi y byddai hwnnw'n parhau yn 2023. Felly, sôn am 2024 yr ydych chi—fel y dywedais i, mae hyn i gyd yn ddibynnol ar gyllid. Ni allwch chi edrych yn rhy bell ymlaen. Rydych chi'n gofyn am gynlluniau wrth gefn, er enghraifft. Fel rydych chi'n dweud, roeddem ni £137 miliwn yn brin eleni. Felly, rwyf i yn cael trafodaethau, rwy'n cyfarfod â George Eustice, Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn rheolaidd ac mae hynny ar yr agenda bob amser. Efallai eich bod chi wedi fy nghlywed i'n dweud—fe wn i y bydd eich cyd-Aelodau chi a oedd yn bresennol yn ystod tymor blaenorol y Llywodraeth wedi fy nghlywed i'n dweud droeon—rydym ni'n gofyn i un o Weinidogion y Trysorlys ddod i'n cyfarfod DEFRA IMG ni ac nid ydym ni erioed wedi gweld hynny'n digwydd. Nid yw'n hynny'n wir am gyfarfodydd gweinidogol pedairochrog eraill, ond yn anffodus mae hynny'n wir am un DEFRA, felly casglwch chi'r hyn a fynnwch chi o hynny. Ond fe wn i, er tegwch, fod Ysgrifennydd Gwladol DEFRA yn cytuno â mi o ran sicrhau cyllid, ac rwyf innau'n ceisio ei helpu ef wedyn i lobïo'r Trysorlys. Fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny. Yn amlwg, mae fy nghyd-Aelod i, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn cael trafodaethau gyda'r Trysorlys am lawer o wahanol bynciau, ond mae hon yn flaenoriaeth bendant i ni.

Fe wnaethom ni ddweud y byddem ni'n neilltuo'r cyllid a gawsom ni ar gyfer amaethyddiaeth, ond os ydych chi'n neilltuo dim oll, nid oes llawer iawn o werth yn hynny, oes yna? Felly, nid oes gan Lywodraeth Cymru mo'r arian yr ydym ni'n sôn amdano—y £137 miliwn—ar gael yn rhwydd i'w ddefnyddio yn ein cyllideb. Fe fyddai'n rhaid i mi gyflwyno achos drosto, yn union fel mae fy nghyd-Aelodau yn cyflwyno achosion dros gyllid wrth fwrdd y Cabinet. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod Llywodraeth y DU yn cadw at eu gair nhw na fyddem ni'n colli'r un geiniog pe baem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwyf i o'r farn y dylem ni ymuno â'n gilydd yma yn y Senedd i sicrhau eu bod nhw'n cyflawni hynny yn ei gyfanrwydd.

Roeddech chi'n gofyn am yr asesiadau manwl o effaith, ac mae'r adroddiad, yn anffodus, ychydig yn hwyr. Rwy'n disgwyl ei gael nawr yn y flwyddyn newydd. Rydych chi'n sylweddoli, rwy'n siŵr, bod COVID wedi rhwystro cryn dipyn ar y gwaith yr ydym ni wedi gallu ei wneud gyda'n rhanddeiliaid ni. Mae'n fy nharo i'n fawr ein bod ni wedi llwyddo i weithio gyda 2,000 o ffermwyr a rhanddeiliaid dros y 18 mis diwethaf, oherwydd, yn amlwg, nid oeddem ni'n gallu gwneud cymaint ag yr oeddem ni'n awyddus i'w wneud ar y dechrau. Felly, yn anffodus, fe gafodd yr adroddiad ei ohirio am ychydig, ond rwy'n disgwyl ei gael yn y flwyddyn newydd 2022.

Roeddech chi'n gofyn hefyd am y canlyniadau amgylcheddol a nwyddau cyhoeddus, ac, yn amlwg, yn y cynllun ffermio cynaliadwy, dyma yr ydym ni'n chwilio amdano fel ateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y sector amaethyddol yn sicr yn ystyried ei hun yn rhan o'r datrysiad, ac mae nhw mor gadarnhaol a hynny bob amser yn gwneud argraff fawr arnaf i o ran sut y gallan nhw ein helpu ni i gyflawni hynny. Pan edrychwch chi ar yr hyn nad ydyn nhw'n cael arian ar ei gyfer ar hyn o bryd, yr hyn nad ydyn nhw'n cael eu gwobrwyo amdano am y tro, fe welwch chi'r ansawdd pridd ardderchog a'r ansawdd dŵr a'r storio carbon y mae'r rhan fwyaf o ffermwyr yn ei ddarparu. Ar hyn o bryd, nid ydyn nhw'n cael eu gwobrwyo am hynny, a chyda'r cynllun ffermio cynaliadwy, fe fyddan nhw.

O ran y ffermwr gweithredol, rwyf wedi bod yn awyddus iawn i ddefnyddio'r gair hwnnw 'gweithredol'; mae hynny'n bwysig iawn, ein ffermwyr gweithgar ni sydd i'w gwobrwyo ag arian cyhoeddus, ac rwy'n rhoi ystyriaeth fawr i ddiffiniad hynny, yn sicr. Pan ydych chi'n sôn am goetir, rwy'n dyfalu eich bod yn cyfeirio at y ffaith ein bod ni, yn anffodus, wedi gweld rhywfaint o dir ffermio yn cael ei werthu i gwmnïau rhyngwladol, er enghraifft, ar gyfer gwrthbwyso carbon. Ni allwn ni ddweud wrth bobl i bwy y dylen nhw werthu eu ffermydd, ac fe gefais i sgwrs ddiddorol iawn gyda'r ffermwr ynghylch pam y cafodd y tir ffermio hwnnw ei werthu. Felly, rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cefnogi ein ffermwyr gweithgar, ac yn sicr fe fydd y cynllun hwn yn ceisio gwneud felly.

15:00

Rwyf i wir yn croesawu'r datganiad hwn heddiw. Ambell waith, rydym ni'n cael datganiadau yn y lle hwn nad ydyn nhw'n ein harwain ni lawer ymhellach. Mae'r datganiad hwn yn wir yn gwneud hynny, ac yn gwneud hynny mewn dwy ffordd: (1) o ran rhoi, rwy'n credu, sicrwydd da iawn o'r drafodaeth barhaus a fydd yna gyda ffermwyr a rheolwyr tir ynglŷn â'r dyfodol yn hyn o beth, ond o ran dyfodol cyllid hefyd, yn amodol ar Lywodraeth y DU—ac fe fyddem ni'n gofyn i gydweithwyr helpu yn hyn o beth—gan ddod ymlaen a gwarantu'r cyllid sydd ei angen arnom ni i weithredu'r newid hwn. Ond mae hon yn daith i ddyfodol gwahanol iawn hefyd. Os oes yna unrhyw beth y gallwn ni ei amgyffred o'r cyfle hwn nawr, cyfle yw hwn i gael dull gwahanol o reoli tir. Mae ffermwyr, yn wir, yn stiwardiaid ar ein hamgylchedd naturiol ni yn y mwyafrif o dirwedd a thopograffeg Cymru. Fe allwn ni wneud hynny'n glir nawr yn y ffordd yr ydym ni'n cydnabod a gwobrwyo, mewn gwirionedd.

Felly, a gaf i sôn am un neu ddau o bethau? Rwy'n croesawu, unwaith eto, ailadrodd y byddwn ni'n gweld cyflwyniad y Bil amaethyddiaeth hwn. O ran lleihau'r baich rheoleiddio ar deuluoedd, dau awgrym wrth symud ymlaen—gallwch chi eu derbyn neu beidio. Un ohonyn nhw yw, i'r ffermwyr hynny sy'n dda ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud, nid yn unig o ran cynhyrchu bwyd—cynhyrchu bwyd cynaliadwy—ond wrth fod yn stiwardiaid amgylcheddol da hefyd, fe ddylem ni eu gwobrwyo nhw am hynny gyda chydnabyddiaeth sy'n deilwng. Fe ddylem ni allu dweud y bydd cyffyrddiad ysgafnach gyda'r rhai sy'n ymuno, gadewch i ni ddweud, â chydweithio gofodol mwy ar draws y dirwedd ar gyfer diogelu'r amgylchedd a bioamrywiaeth a'r ecosystemau—rhyddhau ychydig arnyn nhw, gan gydnabod eu henw da nhw. A bod yn fwy llawdrwm ar y rhai sy'n anfodlon cydweithredu. Fe fyddai hynny'n rhyddhau rhai o'ch adnoddau chi wrth wneud felly, ac mae hynny'n cydnabod yr enw da sydd gan y ffermwyr.

Hefyd, o ran arolygu a rheoleiddio a'r baich rheoleiddio hwnnw sydd â chyffyrddiad ysgafnach, gadewch i ni edrych ar rywbeth sy'n stop un siop ar gyfer popeth o ran arolygu a chyngor a fyddai'n ei gwneud hi'n haws i ffermwyr wybod ble i fynd i gael cyngor da a chael gwybod bod yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn gymwys ac na fydd yna neb arall yn dweud yn wahanol wrthyn nhw.

O ran y cyllid pontio, rydym ni wedi gwneud y pwyntiau eisoes, ac rwyf i am ailadrodd pwynt Cefin yn gyfan gwbl ynglŷn â diffiniad o ffermwyr gweithredol; rydym ni'n gweld llawer gormod o landlordiaid absennol nawr yn dod i mewn ac yn elwa ar wrthbwyso carbon drwy feddiannu coetir ac yn y blaen. Ond roedd hi'n dda iawn, Gweinidog, eich gweld chi'n ddiweddar gyda llywydd NFU Cymru John Davies yn lansio adroddiad 'Tyfu Gyda'n Gilydd' NFU Cymru, ac mae hynny'n dangos yn eglur bod ffermwyr yn derbyn y ceir cyfle gwirioneddol ar y ffermydd i wneud yn ôl eu hen arferion nhw, mewn coed, gwrychoedd, ac mewn mannau eraill, sydd i'r gwrthwyneb i'r hyn a welsom ni yng nghamgyfeirio'r polisi amaethyddol cyffredin yn hynny o beth, lle cafodd gwrychoedd eu tynnu allan, coed eu tynnu allan ac yn y blaen. Fe geir cyfle gwirioneddol yn y fan hon i wneud hyn ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd cynaliadwy a chynhyrchiol hefyd.

Felly, a gaf i, yn olaf, ailadrodd fy ngwahoddiad? Pan oedd y Gweinidog yn dweud y bydd hyn yn caniatáu i ni—y bydd y cyfnod hwn nawr yn caniatáu i ni—gael sgyrsiau manwl gyda ffermwyr ynglŷn â'r cynigion a phrofi ein syniadau ni, yn wirioneddol, ni fydd yna well lle i ddod—ac rwy'n dweud hyn o ddifrif calon—nag at rai o'm ffermwyr i yn Ogwr, oherwydd maen nhw'n deall eu gwaith, ac yn ei wneud yn dda iawn, ac fe fydd yna groeso mawr yno, gyda chwpanaid o de a chacen flasus.

15:05

Mae Huw Irranca-Davies yn dal ati i gynnig ei gwpanaid o de a'i gacen i mi bob wythnos. Byddwn, fe fyddwn i'n hapus iawn i ddod i ymweld, yn sicr. Fe gefais i rai ymweliadau ardderchog â ffermydd dros yr haf ac, fel rydych chi'n dweud, mae pawb yn awyddus iawn i ddangos y gwaith arloesol y maen nhw'n ei wneud o ran gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, yn arbennig, yn ogystal â lliniaru effeithiau'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae hon yn sgwrs sy'n parhau. Ni allwn ni wneud hyn ar ein pennau ein hunain—ni all y Llywodraeth wneud hynny ar ei phen ei hun; ni all neb wneud hyn ar ei ben ei hun. Mae hi'n bwysig iawn, wrth i ni edrych ar y diwygiadau amaethyddol hyn, sy'n angenrheidiol. Mae'n rhaid i chi chwilio am gyfleoedd yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac efallai fod hwn yn un—i gael y polisi amaethyddol pwrpasol hwnnw i Gymru—oherwydd fe fydd y ffermwyr eu hunain yn dweud wrthych chi nad yw'r polisi amaethyddol cyffredin wedi eu gwneud nhw mor gystadleuol ag y bydden nhw'n ei ddymuno. Felly, mae hwn yn gyfle.

Fe fyddwn i'n falch iawn o ystyried eich awgrymiadau chi. Rwy'n hapus i wrando ar awgrymiadau unrhyw un. Ac rwy'n credu bod y siop un stop honno ar gyfer popeth gyda ni eisoes oherwydd Cyswllt Ffermio, a dyna un o'r rhesymau yr oeddwn i'n awyddus iawn i roi rhywfaint o gyllid sylweddol eto heddiw—£7 miliwn—at ymestyn hynny. Mae ffermwyr Lloegr yn edrych ar Cyswllt Ffermio gyda chenfigen, ac rwy'n gwybod bod ein ffermwyr a'n coedwigwyr ni yng Nghymru yn llawn werthfawrogi'r gefnogaeth y mae Cyswllt Ffermio yn ei rhoi. Felly, rwy'n credu bod hynny gennym ni, ac fe all ffermwyr fynd yno os oes angen cyngor arnyn nhw ynglŷn â'r pethau hyn.

Roeddwn i'n falch iawn o lansio'r strategaeth goed ar fferm Pentre John ddydd Iau diwethaf a phlannu coeden hardd iawn. Ac rwy'n deall y bydd pob Aelod o'r Senedd yn cael cynnig coeden i'w phlannu yn ei etholaeth, felly—hysbysebu ychydig yw hyn—rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn manteisio ar y cyfle i chwilio am eu hesgidiau glaw a'u rhawiau ac yn mynd i blannu coed yn eu hetholaethau eu hunain. 

Gweinidog, rwyf i wedi darllen eich datganiad chi gyda diddordeb ac rwyf i'n croesawu'r ymrwymiadau sydd gennych chi ynddo i weithio gyda ffermwyr yn fawr iawn, ac yn arbennig, fel y crybwyllodd rhai o amgylch y Siambr hon, gyda ffermwyr gweithgar. Roeddech chi a minnau'n arfer cyfarfod cyn i mi ddod i'r lle hwn erioed, ac roedd hynny'n rhywbeth yr oeddwn i'n arfer ei bwysleisio bob amser gyda chi, y dylai'r cymorth hwn fynd i ffermwyr gweithgar. Rwy'n falch o'r £7 miliwn yr ydych chi wedi ei ymrwymo i Cyswllt Ffermio hefyd. Yn aelod gynt o'r rhaglen arweinyddiaeth wledig, rwy'n credu ei bod hi'n gwneud gwaith anhygoel o uwchsgilio ffermwyr ledled y wlad a rhannu arfer gorau ymhlith y sector, sydd i'w groesawu yn fawr, ac rwy'n falch o weld yr ymrwymiad hwnnw.

Hefyd, rwy'n clywed yn eich datganiad chi am gyflwyno cynllun Glastir Uwch, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth adeiladol dros ben. Mae i hwnnw fanteision aruthrol i'n ffermwyr ni a'n heconomi wledig ni, ac mae'r ffordd y mae'r arian hwnnw cael ei ad-drefnu i gefnogi busnesau lleol wedi bod yn ardderchog, mewn gwirionedd. Ond, ynglŷn â hynny, a wnewch chi gadarnhau—roeddech chi'n sôn am y cynlluniau sy'n cael eu cyflwyno—y bydd y cynlluniau Glastir newydd yn agored i bobl newydd ddod i mewn—rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, y gall pobl newydd ddod i mewn i gynllun Glastir i helpu i wella'r amgylchedd—a hefyd a fydd y gwaith cyfalaf yn rhan o gynllun newydd Glastir Uwch? Oherwydd, yn fy marn i, mae hwnnw wedi gwneud gwaith rhagorol o lunio coridorau glan y nant, plannu gwrychoedd, a gwella strwythurau hanesyddol ac ati, sydd wir yn helpu i roi hwb i Gymru. Felly, fe hoffwn i glywed a fydd hynny'n cael ei gynnwys.

A hefyd, yn olaf, ynglŷn â hynny, a fydd yna unrhyw amrywiadau i gontractau cyfredol? Oherwydd fel y gwyddoch chi, Gweinidog, mae ffermwyr wedi cael eu cloi yn eu contractau presennol, ac os ydyn nhw'n dymuno ymestyn y rhain, fe fydd yn rhaid iddyn nhw aros gyda'r sefyllfa bresennol. Rwyf i o'r farn y byddai hi'n fuddiol iawn i'n ffermwyr ni pe gallem ni weld rhai amrywiadau yn y contractau i'w galluogi nhw i arallgyfeirio rhyw gymaint, i helpu eu fferm nhw a'r amgylchedd hefyd. Felly, diolch yn fawr iawn, Llywydd, diolch.  

Diolch yn fawr iawn, ac rydych chi wedi fy nghlywed i'n mynegi fy marn i am y gair 'gweithgar'. Roeddwn i'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gael hynny yn y datganiad, a'i bod hi'n bwysig iawn mai ein ffermwyr gweithgar ni sy'n cael eu gwobrwyo am eu gwaith.

Nid wyf i'n anghytuno ag unrhyw beth yr oeddech chi'n ei ddweud am Cyswllt Ffermio. Y rheswm yr wyf i wedi cyflwyno'r cyllid hwnnw yw oherwydd fe wn i faint o werthfawrogiad sydd i'r ffaith fod gennym ni'r gyrchfan hon lle gall pobl fynd iddi am gymorth, a pheth anghyffredin iawn yw fy mod yn cwrdd â ffermwr nad yw wedi cael rhyw gymaint o gysylltiad â Cyswllt Ffermio yn ystod ei yrfa.

O ran Glastir, fel y dywedais i, rydym ni'n ymestyn y rhain. Hynny yw, yn rhoi sicrwydd i ddeiliaid contract. Fe fyddaf i'n rhoi ystyriaeth i agor ffenestri eraill eto os gallwn i, ond, ar hyn o bryd, mae'r cyhoeddiad y gwnes i heddiw yn ymwneud ag ymestyn contractau Glastir, oherwydd mae angen iddyn nhw allu cynllunio ar gyfer tynnu'n ôl o'r contractau hynny ac, yn amlwg, roedden nhw am ddod i ben ddiwedd eleni, felly roeddwn i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn i ni allu rhoi'r sicrwydd hwnnw.

15:10

A gaf innau hefyd ymuno â'r cynrychiolwyr eraill i ddiolch yn fawr iawn i chi am y datganiad? Ac mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn croesawu'r manylion yr ydych chi wedi eu nodi—yn arbennig o falch o glywed am y fframwaith rheoleiddio sy'n fwy cymesur i ffermwyr a'ch bod chi am gychwyn hefyd ar raglen ymgysylltu ac ymgynghori. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Fodd bynnag, mae'n rhaid mai hwn yw un o'r cyfnodau mwyaf ansicr i'n ffermwyr ni a'r rhai sydd â rhan yn amaethyddiaeth Cymru. Gyda'r cytundebau Brexit newydd a bygythiol, o bosibl, o'u blaenau nhw, a pholisi amaethyddol newydd yn ogystal â COVID, mae ffermwyr yn wynebu cryn bwysau ac ansicrwydd. Mae hynny ar ben llawer o ansicrwydd yn y tymor hwy o ran effaith yr hinsawdd, natur, ac argyfyngau bioamrywiaeth ar y gymdeithas, ac mae'n rhaid i ni roi teyrnged i'r ffermwyr hynny sy'n ymddwyn yn weithredol wrth fynd i'r afael â'r materion hyn.

Mae llawer o'r hyn yr oeddwn i am ei ddweud wedi cael ei gwmpasu eisoes ac rwy'n edrych ymlaen at y manylion, sy'n ymwneud â chynnig sefydlogrwydd i gyflawni'r canlyniadau amgylcheddol a buddsoddi yn y mesurau newydd o ran technoleg a chynhyrchiant i gyflawni ein canlyniadau ni o ran diogelwch bwyd a'r amgylchedd.

Mae gennyf i ddau fater, gyda'ch caniatâd. A wnewch chi gadarnhau, os gwelwch chi'n dda, a yw'r Llywodraeth yn bwriadu anrhydeddu ei hymrwymiad hi i gyd-ariannu domestig ar gyfer y Cynllun Datblygu Gwledig domestig, sydd tua £40 miliwn y flwyddyn, sy'n cynrychioli colled sylweddol arall o gyllid ymysg ardaloedd gwledig fel yr un yr wyf i'n ei chynrychioli hi? A Gweinidog, rydych chi'n ymwybodol hefyd y gall llawer o ffermwyr a'u teuluoedd nhw fod yn dioddef yn feddyliol. A wnewch chi roi gwybodaeth i ni am unrhyw gymorth ehangach a allai fod ar gael i ffermwyr a'r rhai sy'n gweithio ym myd amaeth ac yn fwy cyffredinol mewn cymunedau gwledig yn hyn o beth? Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i chi, a diolch i chi hefyd am eich geiriau chi o gefnogaeth. Mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i weithio'n agos iawn gyda'n ffermwyr ni. Yr hyn yr wyf i'n awyddus i'w sicrhau yw bod yr hyn yr ydym ni'n ei gynnig yn rhywbeth ymarferol. Felly, mae hi'n bwysig bod pob math o fferm yn gallu cael cyfiawnder o dan y cynllun newydd, ac felly rwyf i o'r farn fod hwn yn faes pwysig iawn yn ein dadansoddiadau economaidd ni hefyd. O ran eich dau gwestiwn penodol chi, ni allaf i ymrwymo i gadw at yr un cyllid, y rhan ddomestig o gyllid y rhaglen datblygu gwledig, hyd nes y bydd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant wedi cael ei orffen. Nid wyf i'n gwybod beth fydd fy nghyllideb i, ac felly, ar hyn o bryd, er fy mod i'n edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i adeiladu ar y rhaglen datblygu gwledig, ni allaf i ymrwymo fel hyn cyn cyflawniad yr adolygiad cynhwysfawr o wariant.

Rwy'n cytuno â chi'n llwyr o ran iechyd meddwl ein ffermwyr ni, ac roeddwn i'n siarad mewn fforwm yr wythnos diwethaf lle'r oeddwn i'n dweud, pan ddaeth y portffolio i'm rhan i am y tro cyntaf, ei bod hi'n amlwg iawn bod llawer o ffermwyr yn teimlo'n ynysig; yr unig dro'r oedden nhw'n gweld rhywun arall oedd wrth fynd i'r farchnad, er enghraifft. Felly, un o'r pethau yr wyf i wedi bod yn eu gwneud yw gweithio gyda rhai elusennau yn y sector amaethyddol, ac yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19, oherwydd, fel y gallech chi ei ddychmygu, roedden nhw'n cael llawer mwy o alwadau nag o'r blaen yn ystod y pandemig, i sicrhau bod cymorth ar gael yn hyn o beth. Felly, rwyf i wedi rhoi cyllid sylweddol ac arbennig i Sefydliad DPJ, yr wyf i'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol ohono, i'w helpu nhw i fynd allan i hyfforddi pobl eraill, oherwydd rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn bod yr arfer gorau hwnnw'n cael ei ymestyn ledled Cymru. Ac felly maen nhw wedi gallu hyfforddi pobl—efallai rhywun sy'n gweithio mewn marchnad ffermwyr, lle gallan nhw fynd i siarad â ffermwyr unigol, os gallan nhw gynnal y sgwrs honno gyda nhw, oherwydd, unwaith eto, rwy'n credu mai un o'r pethau a ddeallais i oedd nad ydyn nhw'n rhy hoff o ofyn am gymorth bob amser, mewn ffordd sy'n—. Nid ydym ni'n awyddus i weld hynny; rydym ni'n awyddus i bobl allu gofyn am gymorth a chael eu cyfeirio at y man orau i'w gael. Felly, fe wnes i gyfarfod â'm cyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog, Lynne Neagle, yr wythnos diwethaf i drafod sut rydym ni am barhau i'w hariannu nhw. Roedd hi wedi bod ar ymweliad buddiol iawn y dydd Gwener cynt â Sefydliad DPJ i glywed am y gwaith rhagorol y maen nhw'n ei wneud.

Diolch i chi am eich datganiad. Rwy'n sylweddoli bod rhai o'r pethau yr oeddwn i eisiau eu codi wedi cael eu cwmpasu eisoes, ond rwy'n awyddus i bwysleisio bod maint yr aflonyddwch y mae'r sector ffermio yn ei ddioddef wedi dod i'r amlwg yr wythnos hon, o ganlyniad i Brexit a'r argyfwng hinsawdd fel ei gilydd. Felly, rydym ni wedi gosod nodau anodd iawn i ni ein hunain ar gyfer lleihau ein hallyriadau hyd at bron i ddwy ran o dair erbyn 2030, ac mae hynny'n cynnwys yr allyriadau carbon sylweddol iawn sy'n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd a bwyta bwyd. Felly, rwyf i braidd yn bryderus y gallem ni fod yn gohirio newid tan ar ôl i'r cynllun talu sylfaenol ddod i ben yn 2023, ac rwyf i'n awyddus i'ch holi chi ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud nawr i gynorthwyo ffermwyr i ddod i delerau â'r normal newydd. Oherwydd fe gefais i sgwrs ddiddorol iawn gyda Glyn Roberts dros yr haf, sy'n gwneud gwaith rhagorol ar newid y brîd o fuchesi cig eidion sydd ganddo ef, i sicrhau ei fod yn lleihau'r allyriadau carbon y mae'n eu defnyddio gyda'r porthiant y mae'n rhaid iddo ef ei roi iddyn nhw, ond drwy leihau maint o allyriadau y maen nhw'n eu cynhyrchu hefyd. Gan mai ef yw pennaeth Undeb Amaethwyr Cymru, mae'n gallu cael cyngor da iawn, yn amlwg, ac roeddwn i'n meddwl tybed pa mor weithgar y mae eich swyddogion chi wrth gynghori pob ffermwr sy'n gweithio ynghylch sut y gellir dechrau gwneud newidiadau nawr, ar sut y gallen nhw leihau eu hallyriadau carbon, a deall faint o darfu sydd ar y rhwydweithiau byd-eang mewn union bryd blaenorol yr oeddem ni i gyd yn tybio y bydden nhw'n parhau am byth, a sut y gallwn ni gryfhau ein rhwydweithiau bwyd lleol i atgyfnerthu diogelwch bwyd.

15:15

Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn. Rydym ni wedi gweld, onid ydym ni, pa mor gydgysylltiedig yw ein cadwyn bwyd-amaeth ni dros y—? Wel, fe welsom ni hyn yn y gorffennol, ond yn sicr rwy'n credu ei fod wedi dod yn amlwg iawn dros yr wythnosau diwethaf hyn. Felly, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'r sector amaethyddol ers sawl blwyddyn yn ymwneud â'r materion yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, a thua tair blynedd yn ôl, neu bedair blynedd yn ôl, efallai, fe ddefnyddiwyd rhywfaint o arian Ewropeaidd a oedd ar gael i bob fferm laeth i sicrhau y gallen nhw gael gafael ar gymorth, fel yr oeddech chi'n cyfeirio ato, a chael cynllun pwrpasol o ran sut y gallen nhw drawsnewid yn y ffordd yr ydym ni'n cyfeirio ati hi. Ac yna, fe wnaethom ni hynny gyda chig coch hefyd. Fe wnaethom ni hynny gyda dau o'r sectorau, ac felly mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Fe allaf i eich sicrhau chi bod fy swyddogion i'n ymgysylltu â ffermwyr. Felly, roeddwn i'n sôn ein bod ni wedi siarad â 2,000 o ffermwyr dros y 18 mis diwethaf ynghylch cyd-ddylunio'r cynllun hwn, felly mae swyddogion yn manteisio ar y cyfle, wrth gwrs, i drafod pob agwedd ar ffermio gyda nhw. Fe soniais i am Cyswllt Ffermio, ac mae hwnnw'n sefydliad y gall ffermwyr fynd ato os ydyn nhw'n dymuno cymorth ynghylch sut y gallan nhw drawsnewid neu bontio. Rydym ni wedi cynnig cynlluniau hefyd i wneud ein ffermydd ni'n fwy cystadleuol a phrynu offer a fydd yn eu helpu nhw o ran argyfyngau hinsawdd a natur. Felly, nid ydym ni'n aros yn yr unfan. Fel y dywedais i, darn cymhleth, trawsnewidiol iawn o waith yw hwn a fydd yn cymryd sawl blwyddyn. Fe fyddwn i wrth fy modd i'w gwblhau mewn blwyddyn, ond mae'n rhaid i ni wneud pethau'n iawn, ac mae hi'n iawn i ni gael cyfnod pontio fel hyn.

Diolch, Llywydd. Rydym ni i gyd yn gwybod beth yw'r nod, ac un syml iawn ydyw: gweld Cymru'n genedl allyriadau sero-net erbyn 2050. Dyna hanfod hyn i gyd, ac mae'r polisïau yn hanfodol i gyflawni hynny oherwydd fe wyddom ni fod ffermwyr yn gofalu am 80 y cant o'r tir sydd gennym ni. Mae hi mor syml â hynny.

Felly, mae talu iddyn nhw am helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a gofalu am fywyd gwyllt yn hytrach na chanolbwyntio ar faint o dir sydd ganddyn nhw'n beth synhwyrol iawn i ni ei wneud, yn enwedig pan edrychwn ni ar Gymru, ac edrych ar y ffaith mai ffermydd bychain yw'r rhan fwyaf o'r ffermydd sydd yng Nghymru. Felly, i mi, mae hwnnw'n newid naturiol. Ond mae angen i ni ofalu hefyd am y dreftadaeth gymdeithasol unigryw sydd ynghlwm â'r ffermydd bychain hynny, ac, wrth gwrs, mai'r Gymraeg yw iaith y bobl sy'n byw yno, a sicrhau hefyd nad ydym ni'n achosi trafferthion yn y fath ffordd y mae llawer o bobl wedi ei disgrifio hi yma heddiw. Felly, wrth gwrs, rwy'n croesawu'r ffaith, ynghyd ag eraill, eich bod chi am gadw at y cynllun taliad sylfaenol tan 2023.

Rydym ni wedi sôn llawer am ffermio, ac fe wnaethoch chi sôn yn gryno iawn am allyriadau nwyon tŷ gwydr, a'u defnydd nhw'n ehangach o ran lleihau agrocemegau a phrosesu, a thrafnidiaeth ac oergelloedd. Felly, o dan y cynlluniau hyn—ac, unwaith eto, gan fynd yn ôl at y nod, sef dim allyriadau o gwbl—a yw'r pethau hynny'n cael eu hystyried yn y cynllun hwn, a phryd y gwelwn ni fwy ynghylch y rhain?

15:20

Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. Rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle: nid ymwneud â chynhyrchu bwyd yn unig y mae hyn. Mae hyn yn ymwneud ag adeiledd cymdeithasol. Pan euthum i allan i Seland Newydd i weld sut yr oedden nhw wedi ymdopi ar ôl iddyn nhw gyrraedd ymyl y dibyn yn y fath fodd na wnawn ni, yn gwbl sicr, pryd y gwnaethon nhw roi'r gorau i'w cefnogaeth uniongyrchol nhw i ffermwyr nôl ym 1983, dyna pryd yr oedd hi, rwy'n credu, dyma'r peth mwyaf yr oedden nhw'n sôn amdano wrthyf i, sef eu bod nhw wedi colli nifer fawr iawn o ffermydd bychain. Nid oes yna unrhyw ffermydd bychain yn Seland Newydd nawr, maen nhw'n aruthrol o fawr, gan golli'r ymdeimlad hwnnw o fod yn byw mewn cymunedau. Ac, wrth gwrs, mae'r Gymraeg hefyd yn ffactor i ni, ac mae'r sector amaethyddol yn defnyddio'r Gymraeg yn fwy nag unrhyw sector arall yng Nghymru. Felly, mae hi'n bwysig iawn pan fyddwn ni'n cyflwyno'r cynllun hwn ein bod ni'n ystyried yr holl bethau hyn.

Rydym ni'n ystyried sut y gallwn ni eu cefnogi nhw wrth daro'r nod hwnnw o ddim allyriadau o gwbl, fel rydych chi'n dweud, ac fe soniais i mewn ateb blaenorol am yr offer yr oeddem ni wedi ei gynnig i'w helpu nhw gydag arloesedd a deallusrwydd artiffisial. Felly, cynlluniau sydd wedi bod ar waith gennym ni yw'r rhain. Rydym ni wedi gweld nifer o gynlluniau grant busnes fferm, ac ati, ac maen nhw wedi cael cymorth wrth benderfynu beth yw'r offer gorau i'w ddefnyddio ar eu ffermydd nhw. Nid yw hynny o reidrwydd yn rhan o hyn; mae hynny'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn ei wneud i geisio helpu ein ffermwyr ni i leihau eu hallyriadau carbon nhw yn y cyfamser.

Diolch i'r Trefnydd—. Y Gweinidog materion gwledig ddylwn i fod wedi dweud fanna. Mae gyda ni egwyl nawr wrth i ni baratoi am rai newidiadau yn y Siambr. Felly, fe gymrwn ni egwyl fer a byddwn ni'n ailgychwyn cyn hir.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:21.

15:30

Ailymgynullodd y Senedd am 15:32, gyda Joyce Watson yn y Gadair.

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau optometreg ar gyfer y dyfodol

Rydyn ni'n symud yn awr at eitem 4, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaeth optometreg ar gyfer y dyfodol. Eluned Morgan.

Diolch yn fawr. Mae 'Gwasanaethau Optometreg ar gyfer y dyfodol yng Nghymru', a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, yn uchelgeisiol ac mae'n drawsnewidiol, gan newid y ffordd mae gwasanaethau iechyd llygaid yn cael eu darparu. Wedi’i alinio â 'Cymru Iachach', ac wedi'i ategu gan egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus, mae'r dull yn cefnogi ein nodau cyffredinol, sef: gwella mynediad i ddinasyddion; symud gwasanaethau o ofal eilaidd i ofal sylfaenol er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn apwyntiadau cleifion ac oedi mewn apwyntiadau dilynol mewn ysbytai; lleihau'r galw ar ysbytai a meddygon teulu; a diwygio contractau gwasanaeth offthalmig cyffredinol.

Fel y gŵyr yr Aelodau, mae amseroedd aros yn sylweddol. Mae nifer y cleifion sy'n aros am eu hapwyntiad iechyd llygaid cyntaf yn yr ysbyty, ac apwyntiadau dilynol, yn parhau i godi. Mae'r galw cynyddol hwn yn parhau i fod yn her nid yn unig ledled Cymru, ond ar draws y Deyrnas Unedig ac Ewrop hefyd. Mae deg y cant o apwyntiadau cleifion allanol ar gyfer clinigau llygaid ac mae llawdriniaeth cataract yn cyfrif am tua 6 y cant o'r holl lawdriniaethau yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r capasiti presennol i ddarparu gwasanaethau llygaid arbenigol mewn ysbytai yn gyfyngedig iawn oherwydd cyfyngiadau ar bersonél. Nododd cyfrifiad Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr 2018 fod angen 230 o swyddi meddygon ymgynghorol ychwanegol ledled y DU i ateb y galw cynyddol am wasanaethau. Felly, yn anffodus, mae nifer sylweddol o swyddi heb eu llenwi o hyd. Mae arnaf ofn mai’r nifer o feddygon sy’n cwblhau hyfforddiant bob blwyddyn ar gyfartaledd yw 74 ledled y DU. Felly, mae diffyg sylweddol o feddygon hyfforddedig i lenwi swyddi ysbyty presennol ac ar gyfer y dyfodol. Yng Nghymru, diolch byth, rydym wedi cael nifer cynyddol o bobl mewn gofal sylfaenol i ychwanegu at y gweithlu optometreg. Felly, erbyn 31 Rhagfyr 2018, roedd 875 o ymarferwyr yn gallu darparu profion golwg y GIG, ac mae hynny 34 yn fwy nag yn y flwyddyn flaenorol a chynnydd o 19 y cant ers mis Rhagfyr 2008.

Mae uwchsgilio pellach i alluogi optometryddion i weithio ar frig eu trwydded yn eu practisau, gyda'r offer priodol, yn golygu bod optometryddion mewn sefyllfa ddelfrydol i gefnogi ysbytai i fynd i'r afael â'r galw a thrawsnewid llwybrau cleifion. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae nifer cynyddol o optometryddion wedi ennill cymwysterau uwch ychwanegol mewn retina meddygol, glawcoma a rhagnodi annibynnol. Gall optometryddion sydd â'r cymwysterau uwch hyn roi diagnosis, rheoli a thrin mwy o gleifion mewn gofal sylfaenol, gan wella mynediad cleifion at ofal yn nes at adref. Bydd y dull hwn yn lleihau'r galw am farn ac ymyriad ysbyty yn sylweddol, a gwyddom fod hynny eisoes yn lleihau'r galw ar feddygon teulu.

Y llynedd, cyhoeddodd y Gweinidog iechyd ar y pryd £4.8 miliwn o gyllid i ddatblygu a gweithredu cofnod cleifion electronig cenedlaethol a system atgyfeirio electronig ar draws gofal iechyd llygaid sylfaenol ac eilaidd. I gefnogi'r digideiddio hwn, derbyniodd byrddau iechyd £3.5 miliwn o gyllid ychwanegol i gael offer newydd yn lle offer a oedd wedi dod i ddiwedd ei oes. Bydd cyflwyno'r systemau digidol newydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â phroblemau galw mewn ysbytai, drwy rannu gofal a monitro cleifion sefydlog o fewn gofal sylfaenol, gan ddarparu gwell profiad a chanlyniadau gwell i ddinasyddion. Mae'r gronfa digideiddio a'r newid pwyslais yn ategu llwybrau cleifion, gan weithredu a darparu gwasanaethau'n ddi-dor ar draws taith y claf rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Mae hwn yn gam sylweddol, sy'n galluogi practisau optometreg i fod y man galw cyntaf mewn gofal sylfaenol i gleifion â phroblem llygaid.
 

Fe wnaeth y pandemig darfu ar wasanaethau iechyd, a hynny ar draws y system gyfan. Ond cafwyd cyfle hefyd, yn sgil y pandemig, i ailgynllunio'r ffordd rŷn ni'n darparu gwasanaethau, a sicrhau bod gyda ni fodelau sy'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Felly, gyda phobl yn dechrau teimlo'n fwy hyderus ynglŷn â chael gofal mewn lleoliadau ar wahân i'r ysbyty, mae angen i ni nawr, yn fwy nag erioed, fabwysiadu model rhannu gofal wrth ddarparu gofal iechyd llygaid. Mae'r adnoddau sydd gan wasanaeth iechyd Cymru yn gyfyngedig, felly mae angen manteisio ar y cyfleoedd i drawsnewid gwasanaethau, yn y ffordd sydd wedi ei chyflwyno yn y ddogfen 'Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol'.

Rhaid i'r gwasanaeth iechyd fanteisio ar ymarferwyr anfeddygol ond profiadol, drwy symud mwy o wasanaethau i ofal sylfaenol. Mae'r ddogfen 'Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol' yn seiliedig ar waith ac ymgynghori helaeth. Cafodd y ddogfen ei chymeradwyo gan randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Optometreg Cymru a Choleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr, ac mae gwaith ar y gweill nawr i ystyried ymhellach y costau posibl o ddatblygu'r dull y cytunwyd arno ar gyfer y dyfodol.

Er mwyn helpu i symud y ddarpariaeth gwasanaethau i ofal sylfaenol, fe fydd yn rhaid diwygio'r contract optometreg, a chynyddu nifer yr optometryddion sydd â chymwysterau ychwanegol. I gyflawni'r canlyniad gorau wrth fuddsoddi, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod â rhanddeiliaid i sicrhau bod gwasanaethau optometreg yn cael eu hariannu'n briodol. Byddwn ni fel cymdeithas yn elwa drwy feithrin gweithlu sydd â'r sgiliau priodol, sy'n sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar wasanaethau yn haws, ac yn cael canlyniadau gwell.

Yn wahanol i'r proffesiynau eraill, fel gwasanaethau meddygol cyffredinol, fferylliaeth a deintyddiaeth, does gan optometreg ddim contract. Mae cyfle unigryw gyda ni, felly, i benderfynu ar y dull gorau ar gyfer y dyfodol. Rŷn ni wedi ystyried ein ffordd o weithredu yn y gorffennol, i sicrhau bod newidiadau deddfwriaethol yn cael eu gwneud i gael y canlyniadau gorau i gleifion ac i weithwyr iechyd proffesiynol, a dŷn ni wedi dysgu gwersi o hyn. Os bydd y maes optometreg yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, mewn partneriaeth newydd, strategol a chydweithredol, a fydd yn adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd wedi cael eu gosod yn barod, bydd gofal iechyd llygaid yn sicr o wella yn y dyfodol.

Wrth gwrs, fe fydd angen monitro trefniadau'r cytundeb newydd yn ofalus. Byddwn ni'n sefydlu pwyllgor cenedlaethol newydd ar gyfer gwasanaethau gofal llygaid i Gymru, pwyllgor sydd â chylch gorchwyl clir a fydd yn cynnwys rheoli perfformiad yn erbyn rhwymedigaethau'r contract a chanlyniadau i gleifion y gellir eu cyflawni. Yn gyffredinol, os ydym ni am lwyddo, rhaid inni weld newid mewn ymddygiad gan y cyhoedd. Rhaid cytuno i fynd ati bob amser wrth ystyried beth rydym yn ei wneud o ran amgylchiadau'r claf. Nid yw cleifion bob amser yn deall y gwahaniaeth rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd, ond maen nhw yn deall bod angen gofal iechyd llygaid da. 

Mae'r dulliau gweithio a'r llwybrau clinigol newydd yn cael eu disgrifio yn y ddogfen 'Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol'. Gyda chontract gwasanaethau offthalmeg cyffredinol newydd Cymru yn sylfaen iddo, mae'r dull arloesol hwn ar gyfer y dyfodol yn sicrhau mai gwasanaeth gofal llygaid Cymru fydd y gwasanaeth mwyaf blaengar yn y Deyrnas Unedig i gyd. Diolch. 

15:40

Diolch, Llywydd dros dro. Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad ac am y wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaethau optometreg ar gyfer y dyfodol? Mae’r wythnos hon, Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid yn pwysleisio pwysigrwydd profion llygaid rheolaidd i bawb, wrth gwrs. Felly, rwy'n siŵr y byddwn ni i gyd yn synnu bod gostyngiad o 180,000 yn y profion llygaid sydd wedi'u cynnal ledled Cymru yn 2020 yn unig, heb sôn am y ffigurau hynny ar gyfer eleni. Amcangyfrifir hefyd y bydd colled o £2.5 biliwn, felly maen nhw’n ei ddweud, o ran colled i economi'r DU oherwydd colli golwg.

Ers i bolisi'r Llywodraeth gael ei amlinellu ym mis Mawrth, rydym yn ymwybodol nad yw Llywodraeth Cymru wedi diystyru cyfnod arall o gyfyngiadau symud, ac rydym, wrth gwrs, yn ymwybodol iawn o bwysau'r gaeaf. Mae hyn yn golygu bod apwyntiadau llygaid sy'n cael eu colli yn debygol o gynyddu hyd yn oed ymhellach. Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â'r dadansoddiad hwnnw. Felly, a gaf i ofyn pa baratoadau ar unwaith yr ydych chi, felly, Gweinidog, yn eu gwneud i sicrhau bod optegwyr ac optometryddion y GIG drwy gydol y gaeaf—? Pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r cyhoedd yng Nghymru y byddant yn gallu cael prawf llygaid am weddill 2021?

Rwyf hefyd yn pryderu bod y dull gweithredu ar gyfer y dyfodol yn brin o dargedau a heb amserlen glir. Rydych chi hyd yn oed wedi sôn yn eich datganiad heddiw, Gweinidog, fod gwaith ar y gweill i ystyried costau posibl y dull gweithredu ar gyfer y dyfodol, ond nid ydych yn sôn erbyn pryd yr ydych chi’n disgwyl hyn. Cafwyd rhai enghreifftiau da iawn o optometryddion, fel y dywedwch chi, sydd wedi sefydlu gwasanaethau i roi diagnosis, i reoli, i drin cleifion yn y gymuned a fyddai fel arfer wedi cael eu cyfeirio at ofal eilaidd. Felly, mae hyn i gyd yn newyddion da ac yn cael ei groesawu'n fawr. A gaf i ofyn pa ymdrechion rydych chi’n eu gwneud i sicrhau bod gwaith y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn golygu bod mentrau rhagorol, fel yr hyn rwyf i wedi'i amlinellu, a’r hyn yr ydych chi wedi'i amlinellu yn eich datganiad, yr un mor hygyrch ledled Cymru?

Mae adroddiad Specsavers hefyd yn cyfeirio at lai o apwyntiadau offthalmoleg yn ystod 2020 hefyd. Mae ystadegau diweddaraf y mesur gofal llygaid yn dangos bod llai na hanner y cleifion o Gymru oedd mewn perygl uniongyrchol o golli eu golwg neu niwed na ellir ei wrthdroi yn aros o fewn eu dyddiad targed am apwyntiad. Felly, fy nghwestiwn olaf yw: pa gamau ydych chi’n eu cymryd i sicrhau y bydd cleifion sydd mewn perygl uniongyrchol o golli eu golwg a'r rhai sydd â risgiau llai difrifol yn gallu cael eu gweld yn brydlon? A fydd y data ar gyfer y rhai yng nghategorïau R2 ac R3 hefyd yn cael eu cyhoeddi, ac, os felly, pryd? Diolch. 
 

Diolch yn fawr, Russell. Mae'n wir, wrth gwrs, y bu gostyngiad yn ddi-os o ran nifer y profion llygaid a gynhaliwyd. Nid yw hynny'n syndod yng ngoleuni'r ffaith bod llawer o gymdeithas wedi cau am lawer o fisoedd o'r flwyddyn. Yr hyn yr wyf i'n ymwybodol iawn ohono yw bod pwysau enfawr ar ein gwasanaethau GIG ar hyn o bryd ac yn enwedig yn ein hysbytai. Felly, yr hyn mae'r dull hwn yn ceisio'i wneud yw sicrhau y gallwn ddargyfeirio pobl i ffwrdd oddi wrth ysbytai. Mae gennym bobl sy'n fedrus iawn, yn ein cymunedau, sy'n gallu darparu'r gwasanaeth a oedd yn cael ei ddarparu’n flaenorol mewn ysbytai, a chredwn y gallwn ddargyfeirio tua 30,000 o bobl, traean o'r bobl a fyddai fel arall wedi cael eu cyfeirio at ysbytai, drwy'r dull hwn. Felly, rydym yn hapus mai dyma’r achos. Bydd y ffaith ein bod wedi hyfforddi mwy o bobl ac y bydd AaGIC yn edrych ar sut y byddwn yn hyfforddi hyd yn oed yn fwy yn y gofod hwn yn ein helpu i fodloni’r hyn rydych chi’n awyddus iawn i'w weld, sy'n sicrhau bod yr apwyntiadau hynny sydd wedi'u colli yn cael eu hadfer oherwydd ein bod yn gallu gwneud hynny. Felly, rwy'n falch iawn y bydd hynny'n digwydd.

O ran y byrddau partneriaeth rhanbarthol, rwy'n credu bod y lle yma, rwy'n credu bod yna broblemau gwirioneddol o ran cataractau—byddwch yn ymwybodol bod rhestrau aros hir iawn ar gyfer cataractau. Ac un o'r pethau yr ydym yn edrych arno yw datblygu canolfannau cataractau rhanbarthol fel y gallwn gael llawer iawn o bobl drwy'r canolfannau cataract hyn mewn cyfnod byr. Rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd gydweithio a llunio cynigion yn y gofod hwn, felly gobeithio y byddwn yn gallu rhoi newyddion pellach am hynny ar ôl i'r rheini gael eu profi a gwneud yn siŵr eu bod yn y lle iawn yn sicr.

O ran materion llygaid brys, rwy'n credu eich bod yn gwbl iawn, mae llawer o gyflyrau lle mae pobl yn colli eu golwg, os nad ydych yn delio â nhw ar unwaith. A dyna pam mae proses glir iawn ar gyfer penderfynu pwy sy'n mynd gyntaf o ran pobl sy'n cael eu gweld mewn perthynas ag unrhyw broblemau gyda llygaid. Mae'n benderfyniad clinigol, mae'n seiliedig ar fodel clinigol ac mae'n sicrhau bod y rhai sy'n debygol o golli eu golwg, os nad ydyn nhw'n cael y sylw sydd ei angen arnynt, yn cael eu rhoi ar flaen y ciw. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny’n tawelu eich meddwl.  
 

15:45

Diolch yn fawr, Llywydd dros dro. A diolch i chi, Gweinidog.

Rwy’n croesawu’r diweddariad hwn ar ddyfodol optometreg yng Nghymru. Prin yw’r bethau sy’n fwy gwerthfawr na golwg ac ni ddylem byth fychanu'r gwahaniaeth y gall gwasanaeth sy'n cael ei redeg yn dda ei gael ar fywydau pobl. Rwy'n falch o glywed o’r datganiad bod gwaith yn cael ei wneud i uwchsgilio optometryddion i'w galluogi i weithio ar frig eu trwydded yn eu practisau. Rhaid cefnogi unrhyw fenter fel hon a fydd yn helpu'r GIG i fynd i'r afael â'r rhestrau aros hir.

Rhaid i mi hefyd dalu teyrnged i'r camau a wnaed ers datblygu menter gofal llygaid yng Nghymru yn 2002. Gwnaed hyn ar y cyd â'r proffesiwn offthalmig i newid ac arwain ar ddiwygio gofal llygaid. Mae ymarferwyr yn parhau i weithio ar lefel uchel i ddarparu lefel ardderchog o ofal er budd eu cleifion yng Nghymru, hyd yn oed drwy gydol y pandemig.

Gan droi at effaith y pandemig, fel llawer o wasanaethau eraill, mae'r pandemig wedi effeithio'n fawr ar ofal llygaid. Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, nododd ymchwilwyr Coleg Prifysgol Llundain ostyngiad o 70 y cant mewn atgyfeiriadau newydd a chyfradd uchel o apwyntiadau a gollwyd. Mae ymchwilwyr ac elusen genedlaethol colli golwg, y Gymdeithas Macwlaidd, wedi codi pryderon am yr effaith hirdymor y bydd hyn yn ei chael, gan y rhagwelir y bydd wedi arwain at gannoedd o achosion ychwanegol o nam difrifol ar eu golwg yn y cyfnod clo cyntaf yn unig. Yng Nghymru, er enghraifft, gyda chyfran uwch o bobl dros 65 mlwydd oed o gymharu â chyfartaledd y DU, gallai problemau fel glawcoma ddod yn llawer mwy cyffredin.

Mae'r datganiad yn sôn am y cyfle mae'r pandemig yn ei roi i ailgynllunio gwasanaethau optometreg yng Nghymru. Rhaid i ni ddychwelyd at wasanaeth sy'n ymateb i symptomau colli golwg mewn modd amserol, oherwydd gellir trin llawer o gyflyrau os byddant yn cael eu dal mewn pryd. Er bod y cyfrifoldeb ar y claf i roi gwybod am symptomau colli golwg, rydyn ni hefyd angen gwasanaeth cadarn sy'n gallu ymateb i anghenion claf mewn modd amserol unwaith y bydd y symptomau'n cael eu hadrodd. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall optometreg yng Nghymru fod yn gymysg, yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Dylai gofal llygaid da yn GIG Cymru fod yn gyson ac ni ddylai fod yn ddibynnol ar ble rydych chi'n byw.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu gostyngiad cyson hefyd mewn gwasanaethau adsefydlu golwg ledled y wlad. Mae hyn yn golygu nad yw cymorth adsefydlu golwg digonol yn cael ei roi i lawer o bobl ddall a rhannol ddall pan fydd ei angen arnynt. Mae hyn yn allweddol, oherwydd mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod canlyniadau llawer gwell i gyfranogwyr a oedd wedi cael adsefydlu gweledol o gymharu â'r rhai ar restrau aros. Felly, hoffwn weld y Llywodraeth yn mynd ymhellach ac yn ateb y tri chwestiwn canlynol. Yn gyntaf, a fydd y loteri cod post o adsefydlu golwg yn cael ei dileu yng Nghymru? Yn ail, a wnewch chi ystyried ychwanegu adsefydlu golwg at y rhestr o gymwysterau sy'n gymwys ar gyfer yr ardoll brentisiaethau? Ac yn olaf, yn drydydd, a wnewch chi flaenoriaethu gwasanaethau ataliol, gan gynnwys adsefydlu ar y golwg, ochr yn ochr â gwasanaethau a asesir yn seiliedig ar anghenion, yn hytrach nag ar ôl hynny, unwaith y byddwn yn gyfan gwbl allan o'r pandemig? Diolch.
 

15:50

Diolch yn fawr iawn, Peredur, ac rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle i dynnu sylw at y ffaith bod llawer o apwyntiadau wedi'u colli yn ystod y pandemig, a gallai hynny fod yn cronni materion ar gyfer y dyfodol. Un o'r pethau yr hoffem ni ei wneud, drwy symud y gofal hwn o ofal eilaidd i ofal sylfaenol—mae'n golygu y gall pobl gael y cymorth hwnnw'n nes at adref, a gwn fod hynny'n rhywbeth mae gennych chi ddiddordeb ynddo, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl gywir.

Rwy'n credu pan ddaw'n fater o bethau fel cataractau, rwy'n credu, mewn gwirionedd, y gellir gwneud achos i bobl sy'n teithio ychydig ymhellach i gael cymorth arbenigol—rwy'n credu y bydd rhai newidiadau y bydd yn rhaid i ni eu gwneud os ydym o ddifrif ynghylch ennill tir yn y rhestrau aros hir iawn hynny. Gwn fod hynny'n rhywbeth y maen nhw’n ei wneud yng Nghiwba yn effeithiol iawn. Nid wyf yn dweud ein bod yn mynd i fodelu popeth ar system iechyd Ciwba, ond roeddwn yn meddwl ei bod yn ddiddorol iawn ei bod yn bosibl gwneud llawer iawn gyda phobl arbenigol iawn i ffwrdd, yn aml o reidrwydd, o ganolfannau ysbytai. Felly, rwy'n credu ei fod yn sicr yn fodel sy'n werth ymchwilio ymhellach iddo.

Rydych chi’n llygad eich lle i dynnu sylw hefyd at y ffaith bod y sefyllfa'n debygol o fynd yn anoddach yn y dyfodol, yn rhannol oherwydd bod gennym boblogaeth sy'n heneiddio. Felly, yn sicr, y ffigurau yr wyf i wedi'u gweld o ran y galw am wasanaethau yn yr 20 mlynedd nesaf—rydym yn debygol o weld: cynnydd o 16 y cant o ran nifer y bobl sy'n cael problemau gyda glawcoma; cynnydd o 47 y cant o ran dirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig ag oedran; 50 y cant gyda phroblemau gyda chataractau; a chynnydd o 80 y cant yn y galw o ran retinopathi diabetig. Felly, mae'n rhaid i ni wneud y newidiadau hyn oherwydd ni fyddwn yn gallu dal i fyny gyda'r galw hwnnw oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth yn wahanol, ac mae hyn i gyd yn rhan o—. Yr hyn rydym yn ceisio'i wneud yw trawsnewid gwasanaethau. Ni allwn fynd yn ôl at y ffordd yr ydym bob amser wedi'i wneud oherwydd ni fyddwn yn gallu dal i fyny â'r galw. Felly, rwy'n falch iawn o weld hynny.

O ran loteri cod post, yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud drwy ddod â'r cymorth hwn i gymunedau pobl fel y gallant ei gael yn eu siopau optegwyr lleol, ac yna byddant yn cael eu cyfeirio—. Fe wnes i gyfarfod â dyn yn Abertawe yn ddiweddar, pan ymwelais â'r ysbyty yno, a oedd wedi cael ei gyfeirio'n uniongyrchol gan ei optegydd i'r bwrdd iechyd ei hun. Felly, mae ffyrdd o wneud hyn a fyddai'n gwneud bywyd yn haws i'r bobl hynny sy'n byw mewn cymunedau felly rydym yn dileu'r loteri cod post hwnnw sydd weithiau'n wir ar hyn o bryd.

O ran y cymhwyster a'r brentisiaeth, rwy'n credu bod yr ardoll prentisiaethau yn rhywbeth sy'n cael ei bennu gan nifer y bobl sy'n cymryd rhan, felly mae hynny efallai'n anoddach i ni ei drefnu, ac mae'n rhywbeth sy’n cael ei drefnu gan Lywodraeth y DU, felly mae angen i ni gadw hynny mewn cof. Ond, yn sicr, rwy'n credu bod lle i ni weld beth arall y gallwn ni ei wneud, gan fynd drwy'r llwybr prentisiaeth hwnnw. Felly, fe wnaf i weld a allwn ni edrych a oes unrhyw le i ni wneud mwy yn y maes hwnnw.

Ac mae arnaf ofn na wnes i ddal eich trydydd pwynt, felly fe wnaf ddod yn ôl at hwnnw ar adeg arall. Os ydych chi'n hapus i ysgrifennu ataf, byddwn i'n ddiolchgar.
 

Diolch am eich datganiad. Mae hwn yn ofal iechyd darbodus ar waith. Da iawn chi. Wyddoch chi, o ystyried yr holl broblemau sy'n ein hwynebu yn y gwasanaeth iechyd, ei bod yn bwysig iawn ein bod yn symud gwasanaethau i ofal sylfaenol, lle mae'n ddiogel gwneud hynny. Ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn cael ei groesawu'n fawr gan bobl sydd bellach yn gallu cael gwasanaeth rhagorol yn eu cymunedau lleol.

Ymwelais â gwasanaeth optometreg rhagorol iawn ym Mhentwyn gyda'ch rhagflaenydd, Vaughan Gething, a oedd wedi treialu’r system atgyfeirio electronig a'r delweddu digidol sydd wedi’u galluogi i rannu'r delweddau hyn o'r llygad gyda'r offthalmolegydd, lle'r oedd brys i gael barn arbenigol. A thybed a allwch chi ddweud wrthyf—roedd £4.8 miliwn i ddatblygu'r cofnod cleifion electronig a £3.5 miliwn i ddisodli offer—ydy hynny'n golygu y gall pob optometrydd sydd â chymwysterau uwch fod yn sicr o gael y lefel honno o offer, i'w galluogi i wthio'n gyflym drwy unrhyw bryderon difrifol maen nhw’n eu canfod yn eu harchwiliadau? Achos mae hynny'n ymddangos i mi'n bwysig iawn mewn perthynas â'ch ateb i Russell George ynghylch sicrhau nad yw pobl yn colli eu golwg oherwydd ein bod yn cicio ein sodlau.

Ac, yn ail, tybed a allwn ofyn i chi am sut yr ydym yn delio â chataractau, oherwydd mae ffrind i mi yn rhedeg elusen lwyddiannus iawn o'r enw Second Sight sy'n delio â miloedd o lawdriniaethau cataract yn Bihar, sef y rhan dlotaf o India, gan ddefnyddio offthalmolegwyr o bob cwr o'r byd. Yn Bihar, gallant wneud 1,000 o gataractau y dydd, sy'n amlwg yn drawsnewidiol. A oes gennym yr un uchelgais yng Nghymru i gael y math hwn o linellau cynhyrchu ar gyfer cataractau? Oherwydd, oes, mae llawer ohonynt, ond mae'n llawdriniaeth eithaf syml i'w gwneud, ac, felly, mae angen i ni gael gwared ar y broblem, ac rwy'n siŵr y bydd pobl yn barod i deithio.
 

15:55

Diolch yn fawr, Jenny. Rwy'n falch eich bod yn cytuno â'n symudiad i ofal sylfaenol, ac rydych chi’n llygad eich lle, mae hyn yn ymwneud â 'Cymru Iachach', cyflawni'r hyn a nodwyd, ac mae'n ymwneud â thrawsnewid ein gwasanaethau.

Yr hyn rydym yn ei wneud nawr o ran yr optometryddion hynny sydd â'r cymwysterau uwch hynny yr ydym yn eu hannog yn gyson i weithio ar frig eu trwydded, yw ein bod yn gweithio nawr gyda'r bwrdd gofal cynlluniedig offthalmig cenedlaethol i gwmpasu'r gofynion nid yn unig o ran yr ystad sydd ei hangen, ond hefyd yr offer a'r staff. Felly, os ydym am fodloni'r gofynion a nodais yn gynharach, sut mae hynny'n edrych, beth fydd angen i ni ei roi ar waith? Felly, y £4.8 miliwn hwnnw y gwnaethoch chi sôn amdano ar gyfer y cofnod cleifion electronig gofal llygaid cenedlaethol, dyna'r arian sydd eisoes wedi mynd i mewn. Mae'n rhaid i ni nawr gyfrifo faint yn fwy y mae angen i ni ei roi i mewn er mwyn sicrhau bod pawb sy'n mynd drwy'r broses hon yn gallu cael mynediad. Felly, mae hynny bellach yn cael ei lunio gan y bartneriaeth sydd wedi'i chreu, fel y gallwn gyflawni'n union yr hyn rydych chi’n sôn amdano.

Ac rwy’n cytuno gyda chi: fe wnes i roi'r enghraifft o Giwba; fe wnaethoch chi roi enghraifft yr ydych yn gyfarwydd â hi, ac rwyf yn cytuno'n llwyr â chi. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydym yn diddynoli pobl pan fyddwn yn gwneud hyn, ond rwy'n credu bod cwmpas, pan fyddwn yn y math o sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd, lle mae pobl, a dweud y gwir, angen ansawdd bywyd maen nhw’n ei golli bob dydd, rwy'n credu eich bod yn iawn; rwy'n credu bod achos i'w wneud dros ofyn i bobl fynd i ganolfannau arbenigol—nid yw hyn fel ar gyfer apwyntiadau cyffredin, ond mae ar gyfer canolfannau arbenigol ar gyfer llawdriniaethau cataract—a dyna'r hyn yr ydym yn gweithio arno ar hyn o bryd. Felly, rwyf yn gobeithio gallu dod â rhagor o newyddion i chi am hynny yn ystod y misoedd nesaf.
 

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Gweinidog, rwyf yn dod yn fwyfwy pryderus yn ddiweddar i weld nifer o etholwyr yn dod ataf, yn fy swyddfa, lle maen nhw’n dioddef o ddirywiad macwlaidd gwlyb ac fel arfer yn cael diferion bob mis. Yn amlwg, yn ystod pandemig COVID, cafodd rhai o'r rhain eu lleihau i bob chwe wythnos. Fodd bynnag, mae gennyf etholwyr yn awr yn dod i'm gweld lle nad ydynt yn gallu cael y pigiadau hyn—mae wedi cymryd tri mis i'w cael. Ac, mewn gwirionedd, mae'r arbenigwyr, neu'r ymgynghorwyr, yn dweud, 'Ewch i weld eich Aelod o'r Senedd, oherwydd dylech fod yn cael y diferion hyn bob mis; nid yw tri mis yn ddigon, ac mae perygl i'ch golwg.' Gweinidog, gyda hynny mewn golwg—gallaf ysgrifennu atoch y tu allan i'r Cyfarfod Llawn heddiw, ond gyda hynny mewn golwg—a fyddech yn anfon canllawiau i'n byrddau iechyd bod hyn yn hanfodol bwysig, ac os oes angen y pigiadau hyn bob mis, yna dylai'r cleifion hynny eu derbyn bob mis? Diolch.
 

16:00

Diolch yn fawr, Janet, ac fe wnes i gyfarfod ag etholwr yn ddiweddar hefyd a oedd â sefyllfa debyg. Wrth gwrs, roedd enghreifftiau lle mai’r hyn a oedd yn digwydd o'r blaen oedd bod y bobl hynny'n cael eu hanfon i ofal eilaidd. Yr hyn rydyn ni wedi bod yn ceisio'i wneud yw symud rhywfaint o'r cymorth hwn allan i feysydd eraill. Felly, er enghraifft, gwn fod achos yng Nghrymych, er enghraifft, lle y bu iddyn nhw geisio datblygu cyfle i bobl gael y cymorth hwnnw mewn canolfan mewn ardal wledig iawn. Felly, mae cyfleoedd i wneud hyn mewn ffordd wahanol.

Fel y ceisiais egluro'n gynharach, yr hyn rydyn ni’n ei wneud yma mewn perthynas â llygaid yw ein bod yn blaenoriaethu ar sail angen clinigol, ac yn sicr gwn fod ymgais wedi bod i weld a yw'n bosibl rhoi'r pigiadau hynny mewn ffordd nad oes angen ei rhoi mor aml ag yr oeddent o'r blaen. Rhaid i hynny fod yn benderfyniad clinigol; ni all fod yn benderfyniad gwleidyddol. Ac felly rwy'n sicr yn hapus i ymchwilio iddo i sicrhau, os yw'r penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud, eu bod yn cael eu gwneud yn gwbl glinigol, yn hytrach nag am unrhyw reswm arall.
 

5. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Codau cyfraith Cymru: Rhaglen i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch

Rydyn ni nawr yn symud ymlaen at eitem 5, y datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad—codau cyfraith Cymru: rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Mick Antoniw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae cyfreithiau Hywel Dda i'w gweld mewn tri chasgliad o lawysgrifau sy'n disgrifio system gyfreithiol frodorol ac unigryw Cymru. Mae ysgolheigion yn gytûn mai Llyfr Iorwerth, sy'n dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg, yw'r casgliad mwyaf datblygedig. Cafodd ei enwi ar ôl gŵr cyfraith dysgedig, Iorwerth ap Madog, a luniodd y llyfr prawf, sy'n cynnwys yr holl destunau craidd yr oedd angen eu gwybod er mwyn bod yn ynad. Mae Llyfr Iorwerth hefyd yn cynnwys cyfreithiau llys a chyfraith fwy cyffredinol y tir.

Mae cofnodi cyfreithiau gwlad yn hanfodol i amddiffyn a rhoi sicrwydd i ddinasyddion a'u hamgylchedd, i osgoi penderfyniadau mympwyol ac i sicrhau bod pobl yn gwybod eu hawliau a'u rhwymedigaethau. Mae'n amlwg bod ein hynafiaid wedi deall hyn yn well na ni. Fel dywed yn Llyfr Iorwerth:

'archwiliwyd yr hen gyfreithiau, gadawyd rhai ohonynt i barhau, diwygiwyd eraill, dilëwyd eraill yn gyfan gwbl, a gosodwyd rhai eraill o'r newydd'.

Llywydd, mae hon yn broses yr ydym wedi'i chychwyn yma yng Nghymru, ac rwy'n falch o fod heddiw wedi gosod y rhaglen gyntaf i wella hygyrchedd cyfraith fodern Cymru, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Mae'r rhaglen hon yn ymrwymo'r Llywodraeth i gyflwyno Biliau cydgrynhoi a chymryd nifer o gamau eraill i sicrhau bod y gyfraith ar gael yn haws ac yn ddealladwy.

Mae gwaith o'r math hwn yn arfer cyffredin mewn llawer o awdurdodaethau ar draws byd y gyfraith gyffredin. Ar ôl etifeddu cyfraith Lloegr, bu'n arfer arferol yn y rhan fwyaf o wledydd y Gymanwlad i sicrhau bod eu deddfwriaeth wedi'i threfnu'n dda. Gwneir hyn drwy beidio â chaniatáu i Ddeddfau Seneddol ymledu, fel maen nhw wedi yn y DU, a thrwy gadw strwythur i'r llyfr statud—rhywbeth yr ydym yn ddiffygiol yn ei wneud. Mae Llyfr Iorwerth yn rhoi disgrifiad manwl o'r weithdrefn ar gyfer hawlio tir, ac mae'n cynnwys datganiadau ymarferol o'r rheolau ar gyfer iawndal am dresmasu gwartheg ac aredig nad yw’n gydweithredol, y ddau fater pwysig yn yr Oesoedd Canol.
 

Nawr, ni fydd ein gwaith o gydgrynhoi cyfraith cynllunio yn cynnwys tresmasu gwartheg ac aredig, ond bydd yn darparu datganiad cynhwysfawr ar ddefnyddio tir, gyda chymorth cynigion Comisiwn y Gyfraith i symleiddio a moderneiddio'r gyfraith yn y maes hwn. Mae'r system gynllunio yn hanfodol i lunio datblygu a lleoedd cynaliadwy, gan helpu twf economaidd, ac adlewyrchu ystyriaethau cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ar yr un pryd. Mae system gynllunio effeithiol ac effeithlon yn hanfodol i gymdeithas sifil, ac mae angen symleiddio ac atgyfnerthu’r gyfraith er mwyn cyflawni hyn yn llawn.

Bydd cydgrynhoi sawl Deddf sy'n bodoli eisoes yn un Ddeddf sydd wedi'i drafftio'n dda ac yn ddwyieithog yn un o'n dulliau mwyaf effeithiol o wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi y byddwn yn cydgrynhoi'r gyfraith ar yr amgylchedd hanesyddol, a gallaf yn awr roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein cynnydd. Byddaf yn cyflwyno'r Bil hwn yn 2022, gyda'r bwriad o ddisodli'r gyfraith bresennol sy'n ddegawdau oed ac sydd wedi'i diwygio dro ar ôl tro ac yn wahanol mewn perthynas â Chymru, Lloegr a'r Alban. Mae hyn wedi gadael cwlwm dryslyd mae hyd yn oed gweithwyr cyfreithiol proffesiynol yn eu cael yn gymhleth, a dim ond yn Saesneg mae'r rhan fwyaf ohono ar gael. Mae'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud ar y Bil drafft yn dangos y manteision a ddaw yn sgil cydgrynhoi. Mae deddfwriaeth ar gyfer adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig wedi'i dwyn ynghyd a'i hailddatgan i'w gwneud yn fwy rhesymegol, yn haws ei darllen ac yn fwy cyson yn fewnol ar draws y gwahanol ddarpariaethau. Yn y dyfodol, bydd defnyddwyr yn gallu troi at un darn o ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer y gyfraith ar reoli a diogelu'r amgylchedd hanesyddol, a bydd y gyfraith honno'n cael ei gwneud i Gymru yn unig a bydd yn gwbl ddwyieithog.

Mae'r rhaglen hefyd yn nodi meysydd eraill o'r gyfraith lle byddwn yn asesu gwerth a photensial cydgrynhoi, gyda'r bwriad o gyflwyno dau Fil arall cyn diwedd tymor y Senedd hon. Ochr yn ochr â'r prosiectau deddfwriaethol yn y rhaglen hon, rydym hefyd yn ceisio ehangu a datblygu ein gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales, sy'n darparu deunydd esboniadol a chanllawiau am gyfraith Cymru. Gallaf gadarnhau hefyd ein bod yn dechrau'r dasg hir-ddisgwyliedig o sicrhau bod testun Cymraeg ein deddfwriaeth ar gael ar ffurf gyfoes.

Mae trefniadau bellach ar waith i weithio ochr yn ochr â'r tîm rhagorol y tu ôl i wefan legislation.gov.uk ac, ymhen amser, byddwn yn gyfrifol am ddiweddaru holl ddeddfwriaeth Cymru ar y wefan hon. Rydym hefyd yn gweithio i wella ymarferoldeb legislation.gov.uk i alluogi defnyddwyr i chwilio cyfraith Cymru yn ôl pwnc.

Mae lleoli a threfnu'r gyfraith yn ôl pwnc wrth wraidd ein gwaith i ddatblygu codau cyfraith Cymru. Bydd cydgrynhoi a strwythuro'r gyfraith fel hyn, ynghyd â chyngor ac arweiniad, yn ei gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i'r gyfraith a bod â hyder o ran cywirdeb y deunyddiau sy’n cael eu hadfer.

Rydym yn cynhyrchu deddfwriaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, wrth gwrs, ac mae gan y ddau destun statws cyfartal yn y gyfraith. Mae gwneud deddfwriaeth sy'n glir ac yn gywir mewn dwy iaith yn gofyn i ni ddysgu oddi wrth eraill ledled y byd, ond hefyd i arloesi ein hunain, ac rydym wedi datblygu cryn arbenigedd dros yr 20 mlynedd diwethaf. Bydd yr arbenigedd hwnnw'n ein rhoi mewn sefyllfa dda wrth i ni geisio gwella hygyrchedd y testun deddfwriaethol yn y ddwy iaith, gan ddefnyddio cystrawen syml i gyfleu'r hyn a all fod yn gysyniadau cymhleth. Yn yr un modd, wrth i dechnoleg iaith newydd wella, ein nod yw awtomeiddio a chyflymu rhannau o'r broses gyfieithu, gan alluogi drafftwyr a chyfieithwyr i gydweithio'n agosach i wella'r ddau destun a'u gwneud yn haws i'w dilyn. Rydym hefyd yn cwblhau prosiect hirdymor i safoni cannoedd o dermau a'u cyhoeddi ar borth BydTermCymru.

Mae datblygu deddfwriaeth yn dal i fod yn ymgymeriad cymharol newydd i'r Senedd a Llywodraeth Cymru, ac rydym yn parhau i ddysgu oddi wrth eraill. Ond, wrth i ni edrych ymlaen dros y pum mlynedd nesaf, gallwn hefyd edrych yn ôl ar ein gorffennol ein hunain, gan gofio ein bod, yn ogystal â dilyn arfer da o fannau eraill, yn dilyn dulliau llwyddiannus ein cyndeidiau wrth ddatblygu codau cyfraith Cymru. Felly, rwy'n diolch i'r Aelodau am eu cefnogaeth i'r nod hwn. Gwn y bydd yn parhau. Diolch, Llywydd.
 

16:10

Diolch i chi, Gweinidog. Symudwn yn awr at Mark Isherwood i siarad ar ran y Ceidwadwyr.

Diolch. Ym mis Mawrth, cyhoeddodd eich rhagflaenydd fel Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ysgrifenedig lle dywedodd ei fod am sicrhau y byddai mwy o waith i ddarparu cyfraith fwy hygyrch yn cael ei wneud ar adeg 'normal'. Cyfeiriodd hefyd at basio Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 a dywedodd, rwy’n dyfynnu,

'mater i'r Llywodraeth nesaf fydd cyflwyno'r rhaglen weithgarwch ffurfiol gyntaf i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch o dan y Ddeddf honno',

bod gwaith eisoes ar y gweill ar ddau Fil cydgrynhoi a bod gan Lywodraeth Cymru dri phrosiect arall ar y gweill yn unol â'r bwriadau a nodwyd yn ymgynghoriad 'Dyfodol Cyfraith Cymru' yn 2019. Fodd bynnag, ychwanegodd, rwy’n dyfynnu,

'effeithiwyd ar gynnydd gyda'r prosiectau hyn gan arall-gyfeirio adnoddau i ymateb i'r pandemig'.

O gofio bod y pandemig yn dal gyda ni, pam ydych  chi wedi dod i'r casgliad bod yr adeg 'normal' y cyfeiriwyd ati gan eich rhagflaenydd sydd ei hangen i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn wedi cyrraedd a bod yr adnoddau bellach ar gael ar gyfer hyn?

Roedd Deddf Deddfwriaeth (Cymru) yn ymwneud â chasglu cyfraith i wahanol gabinetau ffeilio pwnc, gyda phrif statud a phopeth arall yn cyfeirio at y statud hwnnw—gwaith enfawr a gynlluniwyd i helpu'r cyhoedd i ddod o hyd i gyfraith a'i defnyddio eu hunain. Rydych chi’n dyfynnu o Lyfr Iorwerth o'r drydedd ganrif ar ddeg, testun o god Gwynedd neu Venedotia o gyfraith Cymru'r oesoedd canol, lle'r oedd teyrnas Gwynedd, neu Venedotia, yn wladwriaeth olynol ymerodraeth Rufeinig a ddaeth i'r amlwg ym Mhrydain is-Rufeinig yn y bumed ganrif. Wel, fel y dywedodd Leo Tolstoy hefyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae ysgrifennu cyfreithiau yn hawdd, ond mae llywodraethu'n anodd. Ac fel y dywedodd y Fonesig Hilary Mantel yn y ganrif hon:

'Pan fyddwch chi'n ysgrifennu cyfreithiau rydych chi'n profi geiriau i ddod o hyd i'w pŵer mwyaf. Fel hud a lledrith, mae'n rhaid iddynt wneud i bethau ddigwydd yn y byd go iawn, ac fel hud a lledrith, dim ond os yw pobl yn credu ynddynt maen nhw’n gweithio.'

Wel, pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud is-ddeddfwriaeth, ni fydd ASau yn gwybod ei fod yn digwydd y rhan fwyaf o'r amser, oherwydd byddant yn cael eu gwneud drwy weithdrefn negyddol, yn hytrach na'r weithdrefn gadarnhaol ac felly'n dod i'r Cyfarfod Llawn. Er bod angen is-ddeddfwriaeth y weithdrefn negyddol i lenwi bylchau gweithdrefnol mewn deddfwriaeth sylfaenol, ni fydd ASau o reidrwydd yn gwybod bod hyn yn digwydd oni bai eu bod ar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Senedd Cymru sy'n gwneud y gyfraith, a'i gadael i'r pwyllgor rwgnach yn ei gylch ar ôl i Lywodraeth Cymru ei gwneud drwy weithdrefn negyddol, yn foddhaol. Pa sicrwydd allwch chi ei roi felly ynghylch y mater a godwyd gan ein cyn-gydweithiwr rhagorol Suzy Davies AS yn ystod dadl Cyfnod 4 ar il Deddfwriaeth (Cymru), pan ddywedodd,

'Rwy'n gobeithio, Cwnsler Cyffredinol, y byddwch hefyd yn ystyried bod hygyrchedd yn cynnwys hygyrchedd i ACau'—

ASau bellach—

'ac ystyried ffyrdd gwell o gyflwyno is-ddeddfwriaeth y weithdrefn negyddol i sylw Aelodau'r Cynulliad'—

Aelodau'r Senedd—

'o gofio yr ystyrir ein bod yn cydsynio i hynny, felly mae bob amser yn dda o leiaf i allu gwybod ei fod yn bodoli.'

Beth yw cyfanswm cost ariannol y rhaglen hygyrchedd hon dros y cyfnod o bum mlynedd? Pa alw gan y cyhoedd a fu neu sydd wedi’i fesur ar gyfer gwneud gwefan Legislation.gov.uk yn fwy hygyrch, neu a yw hyn yn rhywbeth a fydd o fudd i'r sector cyfreithiol am fwy o gost i'r pwrs cyhoeddus?

Ac i gloi, mae'r pandemig wedi taflu goleuni ar bwerau datganoledig, gyda llawer o bobl yng Nghymru yn dal i ddrysu ynghylch pa set o reoliadau COVID oedd yn berthnasol iddyn nhw. Gyda llai na hanner yr etholwyr yn pleidleisio dros unrhyw un yn etholiad cyffredinol mis Mai—etholiad cyffredinol Cymru—mae'n amlwg bod y diffyg democrataidd yng Nghymru yn dal yn fyw ac yn iach, a llawer dal ddim yn deall ble mae'r penderfyniadau'n cael eu gwneud, pwy sy'n gyfrifol a faint o bŵer sydd gan Lywodraeth Cymru dros eu bywydau. Felly, sut y bydd hygyrchedd cyfraith Cymru yn cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o bwerau datganoledig a deddfwriaeth ddatganoledig fel y gallant gael gafael ar y wybodaeth gywir o'r lle iawn ar yr adeg gywir?
 

A gaf i ddiolch i'r Aelod am nifer o gwestiynau pwysig iawn, am ei sylwadau a hefyd, fel yr ydym wedi dod i'w ddisgwyl, am wers hanes ddiddorol ar gyfraith Cymru ac yn enwedig y cyfeiriadau at gyfraith Rufeinig, sydd, wrth gwrs, yn fwy o sylfaen i system gyfreithiol yr Alban yn hytrach na'r system Gymreig a Saesneg? Wel, yn sicr hyd yn hyn.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at fater cyfraith fwy derbyniol mewn amseroedd arferol a'r adnoddau a'r rhaglen y gallwn eu disgwyl. Mae'n deg dweud bod y rhaglen ar gyfer cydgrynhoi, y gwaith ar godio, y gwaith ar ddatblygu'r adnoddau sy'n ymwneud â datblygu hygyrchedd i gyfraith Cymru yn un anodd, oherwydd bod y galwadau ar arbenigedd a sgiliau cyfreithwyr Cymru, gwasanaethau cyfreithiol Cymru, wedi'u clymu mewn sawl ffordd. Un o'r ffyrdd hynny wrth gwrs yw'r rhaglen ddeddfwriaethol. Yn amlwg, mae llawer o waith yn mynd rhagddo o hyd o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd; nid yw hynny wedi diflannu, ac wrth gwrs mae llawer o ddeddfwriaeth o hyd ac rwy'n amau y bydd mwy o ran sefyllfa COVID.

Rwy'n credu ei bod hefyd yn deg cyfeirio at y ffaith bod llawer o'r galwadau sy'n ymwneud â gwasanaeth cyfreithiol, wrth gwrs, yn rhai y mae Llywodraeth y DU yn eu pennu. Mae gennym ni 32 eitem o ddeddfwriaeth; gyda llawer ohonyn nhw, pan fyddan nhw'n cael eu cyhoeddi, nid ydym yn cael y manylion tan y funud olaf un, ac eto mae'n rhaid i ni ymateb, mae'n rhaid i ni ystyried y goblygiadau i'r Senedd, yr effaith ar uniondeb datganoli, y berthynas â'r gwahanol gyfrifoldebau sydd gennym ni, ac wrth gwrs mae'n rhaid i ni wedyn gymryd rhan yn y broses cydsyniad deddfwriaethol. Mae'r galwadau hynny yn enfawr a bu'n rhai i ni addasu, rwy'n credu, o ran y rhaglen sydd gennym ni.

Felly, rwyf i wedi nodi rhywfaint o'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo o ran hygyrchedd, hygyrchedd technegol cyfraith Cymru, gwybod beth ydyw, ble y mae, hygyrchedd hynny. Mae'n rhaid i ni hefyd ystyried hygyrchedd y gyfraith a'r ffaith nad yw'n ymwneud dim ond ag ymarferwyr, swyddogion a chyfreithwyr sy'n dymuno cael mynediad i'r gyfraith a gwybod beth ydyw; mae'n ymwneud â phobl Cymru mewn gwirionedd. Ac wrth gwrs,  rwy'n credu mai'r pwynt yr oeddech chi'n ei gyrraedd oedd y pwynt yr wyf i wedi ei wneud yn rheolaidd, sef, mewn gwirionedd, effaith toriadau mewn cymorth cyfreithiol a chyfyngiadau ar gymorth cyfreithiol gan Lywodraeth y DU sydd wedi eithrio mynediad i'r gyfraith i gynifer o bobl, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cryn dipyn o gymorth a chyllid o ran gwasanaethau cynghori. Nid yw'n gyfnewid digonol am system cymorth cyfreithiol briodol, ond mae yn cyfrannu mewn rhyw ffordd benodol.

Fe wnaethoch chi godi'r mater o'r gost. Bydd y gost yn dibynnu ar faint o waith sy'n gysylltiedig, yn gyntaf o ran y gwaith sydd wedi mynd rhagddo, er enghraifft, gyda'r comisiwn, gyda'r gwaith pellach a allai fod yn parhau, y gwaith y mae'r comisiwn yn ei wneud o ran diogelwch y domen glo, er enghraifft, ac wrth gwrs nifer o feysydd y byddwn yn amlwg yn dymuno eu harchwilio ymhellach. Yn gyntaf, o ran rhywfaint o waith deddfwriaeth ynglyn â chael gwared ar bethau darfodedig—Bil cydgrynhoi i ddileu darpariaethau darfodedig; hynny yw glanhau, i ryw raddau, lyfr statud Cymru. Ond bydd meysydd eraill y byddwn yn edrych arnyn nhw ac y byddwn yn eu harchwilio yn ymwneud â maes iechyd y cyhoedd, tai, rheoliadau adeiladu, rhandiroedd, sylweddau peryglus ac, wrth gwrs, rydym ni eisoes wedi cyfeirio at y mater o gynllunio. Felly, mae'n broses barhaus.

Pan gafodd Deddf Deddfwriaeth (Cymru) ei phasio, wrth gwrs, nid gosod y rhaglen hon yn unig ydoedd, ond hefyd adroddiadau blynyddol, fel y bydd yr Aelodau yn cael cyfle yn flynyddol i graffu ar gynnydd y broses o ddiwygio, codio, cydgrynhoi a'r gwaith sy'n digwydd o ran hygyrchedd cyfraith Cymru.

Rwy'n gobeithio fy mod i wedi ateb yr holl bwyntiau hynny. Un sylw terfynol, am wn i, o ran y materion y gwnaethoch eu codi ynghylch mynediad. Wrth gwrs, fe welwch fod fy natganiad a'r adroddiad sydd wedi eu cyflwyno yn cyfeirio yn eithaf manwl at y gwaith sy'n cael ei wneud i edrych ar sut y gellir ategu'r broses hon drwy ddefnyddio technoleg, defnyddio deallusrwydd artiffisial, datblygu, er enghraifft, gwefan Cyfraith Cymru, ac o fewn hynny i gyd, un o'r egwyddorion sylfaenol yw ein bod ni'n awyddus i'r gyfraith a'r gwaith yr ydym yn ei wneud fod mor glir, mor syml, mor ddealladwy a chyson ag sy'n bosibl.

16:20

Diolch yn fawr iawn i chi, Llywydd dros dro. Cwnsler Cyffredinol, rwy'n croesawu'r datganiad yma yn fawr iawn. Hefyd, rwy'n croesawu'r sôn am gyfreithiau Hywel sydd ar gychwyn eich datganiad. Mae'n bwysig ein bod ni'n chwalu'r myth fan hyn yn y Senedd nad oes yna hanes cyfoethog a threftadaeth gyfoethog gyfreithiol yma yng Nghymru. Yn ôl llinyn mesur yr oes, roedd gan gyfreithiau Hywel Dda statws llawer gwell na chyfreithiau mewn systemau cyfreithiol gwahanol, ac roedden nhw'n rhoi statws llawer uwch i fenywod na nifer o systemau cyfreithiol gwahanol y cyfnod.

Mae hygyrchedd cyfraith Cymru yn broblem—mae'n broblem i'r cyhoedd ac mae hefyd yn broblem i ymarferwyr. Mae datblygu gwefannau fel Cyfraith Cymru yn hollbwysig, ond mae'r gwaith ar legislation.co.uk, os rhywbeth, yn bwysicach fyth. Oherwydd mae hynny, yn groes efallai i beth ddywedodd Mark Isherwood wrth gyfeirio ato, yn cael defnydd helaeth gan y cyhoedd, yn enwedig, fel rydych chi wedi cyfeirio ati, Cwnsler Cyffredinol, yn dilyn toriadau llym gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan i gymorth cyfreithiol. Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda chwmnïau megis Westlaw a Lawtel, sy'n darparu lot o wybodaeth i ymarferwyr cyfreithiol? Y rheini y mae ymarferwyr cyfreithiol yn eu defnyddio yn gyson.

Mae codeiddio yn hollbwysig, a rŷn ni mewn sefyllfa ffodus yng Nghymru fod yna nifer cymharol fach o ddeddfwriaeth gyda ni, ac felly bod modd i ni wneud hyn, a bod modd i ni wneud hyn yn gynnar yn ein hanes yn ailddatblygu cyfreithiau Cymru. Byddai'n dipyn anoddach, wrth gwrs, i ddeddfwrfeydd eraill wneud hynny. Dwi'n falch o glywed fod yna adroddiad blynyddol yn mynd i fod ar ddatblygiad y gwaith, ond beth yw eich nod chi ynglŷn â chodeiddio a hygyrchedd y gyfraith erbyn diwedd y tymor yma?

Fodd bynnag, nid yw'r cyhoeddiad hwn yn egluro llawer o'r materion, gan gynnwys cyfreithiau sy'n berthnasol i Loegr yn unig ond eto yn ffurfio cyfraith Cymru a Lloegr. Mae'n anodd iawn nodi a yw'r cyfreithiau a basiwyd gan Senedd y DU yn berthnasol i Loegr, yn berthnasol i Gymru a Lloegr, neu i Gymru yn unig. Er enghraifft, nid yw Deddfau a basiwyd gan Senedd y DU sy'n berthnasol i Loegr yn unig yn cynnwys y gair 'Lloegr' yn eu teitl byr. Yn aml, mae angen i chi chwilio'n ddwfn yn y Ddeddf ei hun i ddod o hyd i'r ateb. Pa drafodaethau, felly, ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU i egluro'r anhawster hwn?

Mae'n cymhlethu'r sefyllfa ymhellach fod cyfreithiau a wneir yn y Senedd yma, a chyfreithiau a wneir yn Senedd San Steffan, yn ymestyn i Gymru a Lloegr, er efallai bod y cyfreithiau ddim ond yn ymwneud â Lloegr. Maent yn rhan o'r un system gyfreithiol, er efallai eu bod nhw ddim ond yn gymwys i Gymru neu ddim ond yn gymwys i Loegr. Onid yr ateb amlwg i'r broblem gymhleth yma fyddai creu cyfraith Cymru pan fydd y gyfraith yn gymwys i Gymru, a chyfraith Lloegr pan fydd y gyfraith yn gymwys i Loegr yn unig? Byddai hynny'n dangos yn glir i bawb, yn ymarferwyr, y cyhoedd ac yn wleidyddion, y gwahaniaethau rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr.

Ac os nad yw'r sefyllfa yn anodd, yn ddigon cymhleth, onid ydych chi fel Llywodraeth Cymru yn ychwanegu at y cymhlethdod ac yn mynd yn groes i'ch dyletswydd o dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 drwy gydsynio mor aml i Lywodraeth San Steffan basio deddfwriaeth o fewn meysydd datganoledig? Ni fydd cyfreithiau a basiwyd gan Lywodraeth San Steffan o fewn meysydd datganoledig yn ddwyieithog, ni allan nhw fod yn rhan o'ch cynlluniau codio ac ni fydd y Senedd yn craffu arnyn nhw yma. Gallai hefyd rwystro Senedd yn y dyfodol rhag pasio cyfreithiau o fewn y meysydd hynny. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod gennych chi'r capasiti yn Llywodraeth Cymru fel bod Biliau mewn meysydd datganoledig yn cael eu pasio yng Nghymru?

A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi'r cynllun hwn dros y ffin yn Lloegr hefyd? Mae'n bwysig bod ymarferwyr ledled Cymru a Lloegr yn gwybod am y gwaith sy'n digwydd yma. A ydych chi wedi bod mewn cysylltiad â Chymdeithas y Gyfraith, â Bwrdd Safonau'r Bar ac â Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol i drafod a hyrwyddo'r cynllun hwn? Hefyd, pa swyddogaeth fydd gan Gyngor Cyfraith Cymru a fydd yn cael ei sefydlu'n fuan o ran hyn?

Yn olaf, o ran cynllunio—ac mae'n Llywodraeth ddewr sydd yn mynd i'r afael â chynllunio, felly rwyf i'n eich canmol am wneud hynny ac yn sicr mae angen mynd i'r afael ag ef—sut y byddwch chi'n sicrhau bod diwygio'r gyfraith gynllunio yn adfer cydbwysedd i'r system gynllunio leol lle mae'r cyhoedd yn teimlo eu bod yn cael eu gwthio i'r ymylon, megis yn y fferm enghreifftiol ym Mro Morgannwg, a hefyd lle mae cynghorwyr yn cael eu gorfodi i dderbyn cynlluniau nad ydyn nhw'n cytuno â nhw, fel Cyngor Caerdydd a baner yr undeb yng nghanol y ddinas? A fydd diwygio'r gyfraith gynllunio yn rhoi mwy o bwerau i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac yn rhoi pwerau gorfodi fel bod adrannau cynllunio yn rhoi sylw i'r Ddeddf honno, ond hefyd Deddf Cydraddoldeb 2010 a diogelu plant?

Fel rŷch chi wedi dweud droeon, Cwnsler Cyffredinol, nid yw sofraniaeth Cymru bellach yn nwylo dynion fel Hywel Dda, ond yn hytrach fan hyn gyda phobl Cymru. Wedi dweud hynny, mae ysbryd Hywel Dda ac ysbryd Iorwerth ap Madog ar gerdded yn ein Senedd ni heddiw. Croesawaf hynny a mawr obeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau yn yr ysbryd hwnnw ac yn datblygu ac yn amddiffyn cyfraith Cymru yn wyneb gwrthwynebiad mawr San Steffan. Diolch yn fawr.

16:25

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

A gaf i ddiolch i'r Aelod, fel erioed, am gyfres o sylwadau a chwestiynau pellgyrhaeddol ac eang iawn? Rwy'n amau pe bawn i'n ateb pob un ohonyn nhw yn fanwl, byddwn i'n denu dicter y Llywydd, ond fe wnaf i fy ngorau o fewn yr amser sydd ar gael i mi. [Chwerthin.]

A gaf i ddweud yn gyntaf o ran cynllunio—ac, wrth gwrs eich bod chi'n iawn, mae'n faes hynod gymhleth—fod y gwaith arno ar y gweill? Rwyf i ar ddeall y bydd y fersiwn Saesneg a'r fersiwn Gymraeg ill dau yn unigol yn cynnwys rhywbeth fel 400 tudalen o ddeddfwriaeth, a phopeth a fydd yn deillio hynny. Felly, mae cymorth Comisiwn y Gyfraith o fewn y broses honno yn hynod werthfawr.

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni hefyd wahaniaethu rhwng y mater o gydgrynhoi yn hytrach na diwygio, ac rydych chi'n llygad eich lle am y meysydd, y problemau a'r materion sy'n cael eu codi gyda ni fel Aelodau'r Senedd yn y capasiti honno o ran diwygio. Ond mae hefyd yn bwysig deall nad yw'r broses cydgrynhoi yn un yr ydym ni, i bob pwrpas, yn dymuno ei gweld—. Hynny yw, nid ydym ni eisiau clymu holl gapasiti y Senedd fwy neu lai yn nhermau deddfwriaeth a chraffu i ddiwygio'r gyfraith gynllunio gyfan mewn gwirionedd, oni bai bod hynny'n dod yn rhan benodol o'r rhaglen ddeddfwriaethol. Yn hytrach rydym ni eisiau cymryd yr hyn sydd yno a'i roi at ei gilydd a'i gydgrynhoi yn ddarn mor syml â phosibl o ddeddfwriaeth y gellir wedyn ei godio o dan bennawd cynllunio, fel y bydd dinasyddion yng Nghymru yn gwybod ble mae'r gyfraith mewn un lle, a byddai ar gael yn gyfartal yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Felly, mae honno'n broses bwysig wahanol i'r un lle byddai diwygio a'r holl ddadleuon dros y math o ddiwygio, ac yn y blaen. Pe baem yn mynd ar hyd y trywydd penodol hwn, rwy'n credu y byddai cydgrynhoi fel prosiect yn dirwyn i ben ymhen rhai blynyddoedd. Ond yr hyn yr ydym ni yn edrych arno yw ble mae cyfleoedd mewn deddfwriaeth a allai ddod i'r amlwg. Rwy'n credu y gwnes i sôn am un ohonyn nhw pan oeddwn i'n rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, sy'n gwneud gwaith mor bwysig yn y maes hwn, oedd bod meysydd lle bydd gwahaniaeth yn y gyfraith bron yn sicr o ganlyniad i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU. Mae'n ddigon posibl y byddwn ni'n dymuno dod â'n deddfwriaeth diwygio etholiadol ein hunain, ac mae hynny wedyn yn darparu cyfleoedd ar gyfer diwygio ac i gydgrynhoi yn effeithiol mewn un lle, ac yn Gymraeg ac yn Saesneg. Felly, gallwn ni gyflawni rhai o'r gofynion hynny mewn ffyrdd penodol eraill. Felly, mae'n bwysig iawn cael pwyslais ar hynny yn rhan o'r broses sydd ar y gweill.

Wrth gwrs, rydych chi wedi nodi materion dargyfeirio. Maen nhw'n faterion yr ydym ni wedi eu trafod yn y Siambr hon droeon, sef bod Senedd y DU, wrth gwrs, yn pasio cyfreithiau ar gyfer Cymru a Lloegr sy'n aml yn berthnasol i Loegr yn unig, ac yng Nghymru rydym ni'n pasio cyfreithiau ar gyfer Cymru sy'n berthnasol i Gymru yn unig. Nid ydym yn pasio cyfreithiau ar gyfer Cymru a Lloegr yn gyfartal yn y fformat penodol hwnnw. Felly, rydych chi'n iawn bod yr anghysonderau hynny yn y broses, yn fy marn i. Maen nhw'n rhannol yn wleidyddol yn y canfyddiad o swyddogaeth Senedd y DU wrth ddeddfu a sut y mae'n deddfu. Mae'r materion hynny yn parhau ac maen nhw'n dod i'r amlwg yn rheolaidd, rwy'n credu, ym mhob un o'r gwahanol eitemau o ddeddfwriaeth sy'n dod gan Lywodraeth y DU y mae'n rhaid i ni eu hystyried a phan fo'n rhaid i ni ystyried memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Ymdrinnir â nhw yn aml ar sail portffolio gweinidogol unigol, ond mae'r materion hynny yn codi'n rheolaidd. Os byddwn yn gwneud cynnydd ar y rhaglen ddiwygio rynglywodraethol sydd ar y gweill, efallai y bydd cyfleoedd i osod egwyddorion pellach yn y dyfodol o ran y ffordd y caiff deddfwriaeth ei datblygu a'i gweithredu a'r ffordd y caiff gwrthdaro ac anghytundebau eu datrys mewn gwirionedd.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at bwysigrwydd hygyrchedd, ac rwy'n cytuno yn llwyr â chi, yn gyntaf, fod y camau yr ydym yn eu cymryd yn sylfaenol bwysig o ran hygyrchedd. Os nad ydych chi'n gwybod beth yw'r gyfraith, ble mae hi, pa un a ydych chi'n ddinesydd, pa un a ydych chi'n ymarferydd neu beth bynnag, nid yw'r hygyrchedd hwnnw yn bodoli. Ac mae'n deg dweud, wrth i chi edrych ar lawer o ddeddfwriaeth, neu gyfreithiau Llywodraeth y DU—. Os cymerwch chi addysg er enghraifft ac edrych yno i ddarganfod ble mae'r gyfraith, byddech yn treulio cryn amser yn ceisio darganfod ble mae hi, beth sy'n dal i fod mewn grym, beth sy'n dal i fod yn berthnasol, ac yn y blaen. Yr atyniad i ni o ran cydgrynhoi a chodio yw hyn: pan fyddwn ni wedi cydgrynhoi cyfraith mewn maes pwysig, mae gennym ni'r cyfle wedyn pan fyddwn yn gwneud gwelliannau i beidio â chyflwyno cyfraith newydd, ail gyfraith a thrydedd gyfraith a'r holl ddarnau dilynol hyn o is-ddeddfwriaeth, ond yr hyn yr ydym yn ei wneud yw diwygio'r gyfraith sydd gennym ni. Felly, mae gennym ni un darn o ddeddfwriaeth mewn un lle o hyd, ond dyna yr hyn yr ydym ni'n ei newid, a dyna'r amcan mewn ystod eang o feysydd. Mae amgylchedd hanesyddol yn faes pwysig yn fy marn i. Mae llawer o ddiddordeb ynddo. Mae yn effeithio ar lawer o agweddau ar fywyd diwylliannol a hanesyddol Cymru. Felly, rwy'n credu bod hynny'n un pwysig sy'n datblygu. Ond fel y soniais yn fy ymateb i Mark Isherwood, wrth gwrs bod meysydd eraill yr ydym ni'n edrych arnyn nhw sy'n barod i'w gwneud ar yr adeg briodol.

O ran yr agwedd arall ar hygyrchedd, ac rwy'n credu ein bod ni'n cytuno'n llwyr arni, hynny yw hyn: os na all pobl gael gafael ar y gyfraith eu hunain a chael eu cynrychioli yn y gyfraith, yna mae hynny'n gyfyngiad sylweddol ar hygyrchedd cyfraith y dinasyddion. Rwyf i wedi dweud yn y gorffennol yr hoffwn i ein gweld ni yn meddu ar ein system cymorth cyfreithiol Cymru ein hunain. Un o argymhellion comisiwn Thomas oedd i hynny ddigwydd, neu i'r broses ddechrau yn hynny o beth. Rwyf i'n teimlo, os na all pobl gael cynrychiolaeth, nad oes ganddyn nhw fynediad gwirioneddol a'u bod wedi eu datrymuso o fewn y system gyfreithiol. Pan es i ar ymweliad â llysoedd cyfiawnder sifil Caerdydd rhai wythnos yn ôl a chwrdd â'r barnwyr a rhai o'r staff yno, pan fyddwch chi'n clywed bod yna rai yn y llysoedd teulu y mae eu hygyrchedd ar faterion o bwys mawr i'w teulu, i'w plant ac yn y blaen, yn dibynnu ar gael mynediad i'r llysoedd drwy ffôn symudol, yna mae'n amlwg nad yw hynny yn rhywbeth sy'n foddhaol. Ac, wrth gwrs, mae nifer o'r rhain yn faterion yr oeddwn i wedi bwriadu eu trafod gyda'r Arglwydd Ganghellor a'r Gweinidog Cyfiawnder, Robert Buckland, yr wythnos diwethaf. Bu ad-drefnu. Mae newid yno. Felly, gobeithio y bydd y sgwrs honno a'r trafodaethau hynny yn parhau, ond yn amlwg gydag Arglwydd Ganghellor newydd. Rwyf i yn gobeithio fy mod i wedi ateb yr holl bwyntiau a godwyd gennych.

16:30

Diolch, Llywydd. Rwyf i'n croesawu'r datganiad hwn y prynhawn yma yn fawr, a hefyd y ddadl sydd wedi ei ddilyn a'r sylwadau, oherwydd ei fod yn dangos, ymhell o fod yn ddarn sych a chyfrin o fusnes prynhawn dydd Mawrth yma, ei fod yn mynd yn wirioneddol at wraidd ceisio gwneud y gyfraith yn hygyrch ac yn ddealladwy, nid yn unig i weithwyr proffesiynol, fel y soniwyd, ond i'r cyhoedd hefyd, ac mae hynny'n mynd at graidd ein system gyfreithiol, a'n helfennau traddodadwy o'n system gyfreithiol hefyd. Felly, mae'n hanfodol bwysig. Mae wedi bod yn eithaf eang. Rwyf i mewn parchedig ofn braidd hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, nid yn unig â'r arbenigedd cyfreithiol o'n blaenau yma yn y Siambr hon, ond hefyd y cyfeiriadau hanesyddol, at Hywel Dda, at Lyfr Iorwerth, cyfraith Rufeinig, cyfraith cerfluniau ac yn y blaen. Ond, gwrandewch, byddaf i'n gwneud fy ngorau, yn fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, i ymateb gydag ychydig o sylwadau, ac wrth wneud hynny, edrychaf yn annwyl ar fy nghyd-Aelod ar y fainc flaen o'm blaen, nid yn unig fel y Cwnsler Cyffredinol ond fel yr wyf i'n hoffi ei gofio, fel cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Bydd y Cwnsler Cyffredinol, yn ei swydd newydd, yn gwybod bod ein pwyllgor blaenorol wedi dechrau ystyried cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cydgrynhoi cyfraith Cymru yn ôl yn 2017, ac mewn gwirionedd, bu'r pwyllgor hwnnw wedyn yn craffu ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) cyn iddo gael ei basio gan y Senedd ym mis Gorffennaf 2019. O gofio bod ei bwyllgor wedi croesawu'r ddyletswydd newydd ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru bryd hynny i baratoi o leiaf un rhaglen ar gyfer pob Senedd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru, bydd y Cwnsler Cyffredinol, yn ei swydd newydd, yn gwybod pa mor gryf yw'r teimlad sydd yn y Senedd o hyd i weld y gwaith hwn yn dechrau. Ac mae'r dull o ymdrin â hyn yn bwysig. Mae'n bwysig peidio â cheisio gwneud gormod ar unwaith, ond yn hytrach ei wneud mewn darnau tameidiog. Ni fyddwn yn cyrraedd y nod dros nos ac nid yw'n briodol, yn fy marn i, i redeg tuag at hyn o ran adnoddau ac yn y blaen. Ond dyna'r hen ddywediad: gwneud hyn mewn darnau tameidiog, sut ydych chi'n bwyta eliffant? Rydych chi'n ei wneud gyda darnau tameidiog, yn gyson ac yn araf a gan chwilio am y cyfleoedd cywir i ddod i'r amlwg.

Rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol dystiolaeth i'n pwyllgor brynhawn ddoe ac fe wnaethom ni drafod yn fyr ei flaenoriaethau o ran hygyrchedd cyfraith Cymru, ac un ohonyn nhw yw cydgrynhoi llyfr statud Cymru. Fel y gwnaethoch chi sôn, ym mis Mawrth eleni, cytunodd y Senedd flaenorol i weithdrefnau newydd y Rheol Sefydlog a fydd yn hwyluso'r broses cyflwyno a chraffu ar Filiau cydgrynhoi, a fydd yn chwarae rhan arwyddocaol o ran gwella hygyrchedd cyfraith Cymru. Nododd datganiad rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf eleni y bydd deddfwriaeth sy'n ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol yn destun y Bil cydgrynhoi cyntaf, ac rwy'n sylwi bod y Cwnsler Cyffredinol wedi cadarnhau hynny y prynhawn yma. Edrychwn ymlaen, yn ein pwyllgor, at ymgymryd â'r swyddogaeth graffu newydd hon.

Os gallaf i hefyd droi at rai agweddau eraill ar y datganiad y prynhawn yma, rydym ni'n cymeradwyo yn fawr y dull y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei ddweud: y bydd defnyddwyr yn y dyfodol yn gallu troi at un darn o ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer y gyfraith ar reoli ac amddiffyn yr amgylchedd hanesyddol, a bydd y gyfraith honno yn cael ei gwneud i Gymru yn unig a bydd yn gwbl ddwyieithog, pwynt y cyfeiriodd cyd-Aelodau ato yn y Siambr eiliad yn ôl—yr egwyddor ein bod ni'n dal gafael ar hynny. Ond hefyd bod y rhaglen yn nodi meysydd eraill o'r gyfraith, lle byddwch chi'n asesu gwerth a photensial i atgyfnerthu gyda'r bwriad o gyflwyno dau Fil arall cyn diwedd tymor y Senedd hwn. Rydym yn croesawu hynny hefyd.

Bydd y Cwnsler Cyffredinol hefyd yn ymwybodol bod rhanddeiliaid wedi dweud y bydd y dasg uchelgeisiol o wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch yn gofyn am ddigon o adnoddau gan Lywodraeth Cymru ac na fydd mesurau deddfwriaethol yn unig, megis cydgrynhoi deddfwriaeth, yn ddigon i wneud cyfraith Cymru yn wirioneddol hygyrch. Yn hyn o beth, rwy'n croesawu yn y datganiad y cyfeiriadau yno at geisio ehangu a datblygu gwefan Cyfraith Cymru, gan ddarparu'r deunydd esboniadol a'r canllawiau am gyfraith Cymru. Rydym yn croesawu hefyd, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato ar y dechrau, y dasg hir-hwyr o sicrhau bod testun Cymraeg y ddeddfwriaeth ar gael ar ffurf gyfoes, a hefyd eich cyfeiriad at weithio i wella ymarferoldeb legislation.gov.uk i alluogi defnyddwyr Cymru i chwilio cyfraith Cymru yn ôl unrhyw bwnc. Ac yn olaf, dim ond i wneud sylw, rydym ni hefyd yn croesawu eich uchelgeisiau i gwblhau'r prosiect hirdymor i safoni'r cannoedd o dermau a'u cyhoeddi ar borth BydTermCymru hefyd.

Hoffwn i gloi fy nghyfraniad i heddiw, Llywydd, drwy groesawu'r rhaglen hon a'r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil i wneud y gyfraith yn fwy hygyrch i'n dinasyddion. Dyna hanfod y cyfan yn y bôn. Mae ein pwyllgor yn bwriadu monitro, yn awr, weithrediad y rhaglen hon ac edrychwn ymlaen at drafod y materion hyn gyda'r Cwnsler Cyffredinol yn rheolaidd. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

16:35

A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am y sylwadau hynny? Wrth gwrs, mae swyddogaeth y pwyllgor yn y gwaith craffu gwirioneddol, nid yn unig ar uniondeb deddfwriaeth, ond yr holl egwyddorion sylfaenol a materion hygyrchedd hefyd, yn hanfodol iawn yn fy marn i. Wrth i'r ddeddfwrfa hon, y Senedd hon ddechrau aeddfedu, i bob pwrpas, mae'r pwyllgor hwnnw wedi dod yn bwyllgor deddfwriaeth a'r cyfansoddiad yn yr ystyr draddodiadol, ac mae ganddo rôl bwysig iawn, iawn, yn enwedig mewn Senedd nad oes ganddi ail siambr.

O ran cydgrynhoi, wrth gwrs, yr oedd wedi bod yn rhywbeth a drafodwyd ers cryn amser. Rwy'n credu y byddem ni i gyd yn rhoi clod i gyn-Aelod o'r Senedd hon, David Melding, a wnaeth lawer iawn o ran hyrwyddo'n barhaus yr angen am gydgrynhoi. Yn amlwg, nid yw yma heddiw i weld y cynnydd sy'n cael ei wneud ar yr adroddiad cyntaf hwn sydd wedi ei gyflwyno mewn gwirionedd.

Wrth gwrs, mae nifer o feysydd a heriau, nid yn unig o ran yr hygyrchedd, ond yr hygyrchedd a'r ffordd y mae'n cyd-fynd ag ansawdd y gyfraith, a chyfreitheg—hynny yw, y materion sy'n ymwneud â chyfiawnder cyfraith. Ac, wrth gwrs, bydd materion a fydd yn dod i'r amlwg nad ydyn nhw'n benodol o fewn yr hygyrchedd hwn ond sydd yn berthnasol yn fy marn i, a bydd hynny fydd yr heriau a fydd o ran yr hawliau dynol, rheol y gyfraith, materion yn ymwneud ag adolygiad barnwrol, a mater safonau efallai y byddwn ni'n dymuno eu cynnal, a'r materion sy'n ymwneud â sut y maen nhw'n cyd-fynd â'r pwysau a allai ddod o seneddau mewn mannau eraill. Mae'r mater o adnoddau yn un sydd, yn amlwg, yn parhau, ac yn sylweddol o ran yr holl ofynion sydd.

Cefais i argraff dda iawn o rai o'r wybodaeth a roddwyd i mi am y ffordd y mae hyfforddiant barnwrol yn newid, a gan edrych yn benodol erbyn hyn ar feysydd cyfraith Cymru, yn arbennig, er enghraifft, meysydd tai ac yn y blaen, ac, wrth gwrs, y mater y bydd gwrandawiadau llys gweinyddol, wrth gwrs, yn digwydd yng Nghymru bellach, sy'n gwbl gywir. Wrth gwrs, yr un maes na soniais i amdano yw maes diwygio tribiwnlysoedd Cymru, a'r gwaith y mae Comisiwn y Gyfraith yn ei wneud yno. Rwy'n credu bod hynny'n rhan annatod o jig-so y ddeddfwrfa sy'n datblygu yng Nghymru. Diolch, Llywydd.

16:40

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.

Felly, rydym ni'n dod i'r tair eitem nesaf, 6, 7 ac 8. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelodau yn gwrthwynebu, bydd y tri chynnig o dan eitemau 6, 7 ac 8—sef Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020—yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Does dim gwrthwynebiad i hynny.

6., 7. & 8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2021, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2021, a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2021

Mi wnaf i ofyn felly i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno y rheoliadau i gyd. Eluned Morgan.

Cynnig NDM7776 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2021.

Cynnig NDM7775 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Awst 2021.

Cynnig NDM7777 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Awst 2021.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n cynnig y cynigion sydd ger ein bron.

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn rhoi fframwaith deddfwriaethol yn ei le ar gyfer pedair lefel rhybudd sy'n cael eu disgrifio yn y cynllun rheoli coronafeirws. Fel y nodir yn y rheoliadau, rhaid cynnal adolygiad o'r cyfyngiadau bob tair wythnos. Yn yr adolygiad ar 14 Gorffennaf, nodwyd bod achosion o'r coronafeirws yn codi yn y gymuned, yn bennaf o ganlyniad i'r amrywiolyn delta, ond roedd ein cyfraddau brechu uchel yn golygu bod nifer y derbyniadau i'r ysbyty yn parhau i fod yn isel a'n bod yn gallu bwrw ymlaen i gwblhau'r newidiadau i lefel rhybudd 1 ar 17 Gorffennaf.

Ym mis Gorffennaf fe wnaethon ni hefyd gyhoeddi fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r cynllun rheoli coronafeirws yn nodi ein cynllun i symud i lefel rhybudd 0 newydd. Ar lefel rhybudd 0 does dim cyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n gallu cwrdd â'i gilydd, gan gynnwys mewn cartrefi preifat, mewn mannau cyhoeddus, ac mewn digwyddiadau. Mae'r ychydig fusnesau oedd yn dal i fod ar gau, gan gynnwys clybiau nos, yn gallu cael eu hagor. Fel rhan o'r adolygiad ar 5 Awst, nodwyd bod cyfraddau cyffredinol COVID-19 wedi gostwng ledled Cymru, ac roedd canran y bobl oedd yn cael prawf positif wedi dechrau gostwng yn gyson. Roedd y pwysau ar y gwasanaeth iechyd o ganlyniad i COVID-19 yn parhau i fod yn isel. Roedd hyn yn golygu bod modd i Gymru symud i lefel rybudd 0 o hanner nos ar 7 Awst. Fe gafodd y gofyniad i bobl ynysu os byddant yn dod i gysylltiad agos â'r feirws ei ddileu i'r rheini oedd wedi cael eu brechu'n llawn, a hefyd i blant dan 18, fel rhan o'r adolygiad hwn. Hefyd, cafodd y gofyniad i bobl wisgo gorchuddion wyneb ei ddileu mewn lleoliadau lletygarwch.

Yn yr adolygiad ar 26 Awst, nodwyd bod lefelau trosglwyddo COVID-19 wedi cynyddu ledled Cymru yn ystod y cyfnod hwn, a bod canran y bobl oedd yn cael prawf positif hefyd wedi cynyddu. Ond, mae'r dystiolaeth yn dal i awgrymu bod y cysylltiad rhwng achosion derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau wedi'i wanhau gan y rhaglen frechu. Daeth rhai mân newidiadau i'r rheoliadau i rym ddydd Sadwrn 28 Awst, gan gynnwys eithrio pobl sy'n mynychu seremonïau priodas neu bartneriaeth sifil o ofynion cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb, gan sicrhau cysondeb â derbyniadau priodasau a oedd eisoes wedi'u heithrio ers cyfnod adolygu 5 Awst. Diolch.

16:45

Diolch i'r Gweinidog am eich datganiad y prynhawn yma. Byddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau hyn heddiw, gan fod y rheoliadau hyn yn ymwneud â llacio'r cyfyngiadau.

Yn anffodus, mae'r adolygiad tair wythnos diweddaraf wedi methu ag ymdrin â'r sector gofal cymdeithasol unwaith eto. I ddyfynnu perchennog cartref gofal yn sir Ddinbych, 'Mae pobl hŷn yn aml yn cael eu hanghofio a'u gwthio i waelod y rhestr flaenoriaethau'. Nid yw datganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog ar yr adolygiad o reoliadau COVID Cymru ond yn sôn am y sector gofal wrth fynd heibio, gan ddweud y byddai preswylwyr a staff cartrefi gofal yn dechrau cael brechiadau atgyfnerthu yr wythnos hon. Mae'r sector gofal yn gyfrifol am ofalu am y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Fe wnaethom ni gau rhannau cyfan o'n heconomi i ddiogelu'r union bobl hynny, y rhai sydd fwyaf agored i COVID. Nawr bod gennym ni frechlynnau effeithiol a'n bod yn gallu agor unwaith eto a dychwelyd at ryw fath o fywyd normal, nid yw'n esgus i anghofio am y rhai sydd mewn gofal unwaith eto.

Rydym ni'n brechu pobl ifanc yn eu harddegau ac yn cyflwyno trydydd dos, ac eto mae gennym ni fwy na 9 y cant o staff mewn cartrefi gofal o hyd sydd eto i gael eu hail ddos, ac ni all hyn fod oherwydd petruster ynghylch y brechlyn neu gamwybodaeth gwrth-frechu. Mae mil dau gant a chwe deg tri o aelodau staff sy'n gweithio yn ein cartrefi gofal wedi cael dos cyntaf ond nid ail ddos, er y gall un dos amddiffyn rhag dal a lledaenu'r feirws, ond nid cymaint â dau ddos neu dri hyd yn oed. Nid yw'n syndod bod darparwyr cartrefi gofal yn pryderu'n fawr am eu hatebolrwydd a pham maen nhw'n galw'n daer ar Lywodraeth Cymru i ymestyn yr indemniad sydd gan y GIG i'r sector gofal. Yn ystod y Senedd ddiwethaf, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth i ddiogelu'r GIG rhag hawliadau atebolrwydd. Mae angen iddyn nhw sicrhau bod gan y sector gofal amddiffyniadau tebyg, yn enwedig yng ngoleuni'r pandemig a phrinder cronig ymhlith staff. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn mynd i'r afael â'r pwyntiau hyn yn ystod y tair wythnos nesaf. Diolch yn fawr iawn.

Dydyn ni ym Mhlaid Cymru ddim yn gwrthwynebu'r rheoliadau yma chwaith. Maen nhw wedi symud Cymru tuag at lefel rybudd 0, gan ddod â mwy o normalrwydd i fywydau pobl ar draws y wlad, sydd i'w groesawu, wrth gwrs. Ond, fel rydyn ni'n gwybod, dydyn ni ddim yn gallu cymryd dim byd yn ganiataol wrth i achosion gynyddu unwaith eto, ac mae yna gwestiynau sydd angen eu hateb gan y Llywodraeth ynglŷn â'r sefyllfa bresennol a sut y gall y sefyllfa ddatblygu i'r dyfodol. Ac mae'n fater o bryder i bawb glywed am y pwysau cynyddol ar unedau gofal dwys yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, er enghraifft. Felly, maddeuwch imi, dwi am fachu ar y cyfle hefyd i holi ychydig am y sefyllfa gyfredol.

Mae'r ymdrech i frechu cynifer o bobl â phosib yn parhau i fod yn hollbwysig. Gaf i ofyn ichi am y pasys COVID er mwyn ceisio deall ychydig am y rhesymeg tu ôl i'ch penderfyniad i symud tuag at gyflwyno'r pasys hyn mewn rhai sefyllfaoedd? Fedrwch chi egluro wrth y Senedd ai'r prif fwriad efo cyflwyno'r pasys ydy gwthio lefelau brechu yn uwch, ac ydych chi'n credu y bydd eich cynllun chi yn cyrraedd y nod yna?

Ers cyflwyno'r pàs cyn cychwyn yr haf ar gyfer teithio rhyngwladol, mae Plaid Cymru ac eraill wedi codi'r mater o'r gallu i gael mynediad at y system drwy gyfwng y Gymraeg. Felly, gaf i ofyn i chi pa bryd fydd y gwasanaeth cyfrwng Cymraeg ar gael i dderbyn pàs COVID? Rydyn ni hefyd yn clywed am achosion gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru am rai myfyrwyr yn methu â chael pàs COVID oherwydd nad yw'r system yn gallu delio efo'r ffaith bod myfyriwr wedi derbyn un brechiad yn Lloegr ac un arall yng Nghymru. Felly, pryd bydd y broblem yna'n cael ei datrys mewn modd boddhaol, os gwelwch yn dda?

Ac yn olaf, gaf i ofyn ichi am beiriannau osôn a'r defnydd o'r rhain mewn ysgolion? Pan wnes i holi'r Prif Weinidog am y defnydd o'r rhain wythnos diwethaf, fe ges i ar ddeall bod adolygiad cyflym yn cael ei gynnal gan y gell cynghori technegol i edrych ar y pryderon oedd wedi cael eu codi am ddiogelwch y peiriannau yma. A fedraf ofyn ichi roi diweddariad i ni? Ydy'r adolygiad wedi'i orffen, beth oedd yr argymhelliad, a beth fyddwch chi'n ei wneud yn sgil yr adroddiad hwnnw? Mae llawer o arbenigwyr yn credu y byddai'n llawer gwell rhoi ffocws ac adnoddau i ddulliau eraill o atal lledaeniad y feirws, ac y byddai'n well cael mwy o adnoddau ar gyfer monitro aer a dulliau o symud aer o gwmpas adeiladau. Diolch yn fawr.

16:50

Diolch yn fawr—diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa. Wrth gwrs, heddiw yr ydym ni'n canolbwyntio ar y rheoliadau, ond rwyf i'n fodlon dweud ychydig o eiriau ynghylch y sefyllfa gofal cymdeithasol. Gallaf i ddweud wrthych chi ein bod ni'n ymwybodol iawn o'r pwysau a'r straen y mae'r sector gofal cymdeithasol yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Dyna pam yr ydym ni'n benderfynol o sicrhau ein bod ni'n rhoi llawer o sylw i hyn. Rydym ni eisoes wedi ymrwymo £48 miliwn yn ystod y pythefnos diwethaf i sicrhau bod ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol yn gallu atgyfnerthu'r systemau o fewn eu pwerau. Rwy'n cael cyfarfodydd wythnosol, ynghyd â'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ofal yn Llywodraeth Cymru, Julie Morgan, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—cynrychiolwyr o'r fan honno—y GIG, a'n swyddogion ni ein hunain, i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i atgyfnerthu'r sefyllfa yn ystod y gaeaf hwn. Rydym ni wedi bod yn aros ers misoedd—na, ers blynyddoedd—i'r Llywodraeth Dorïaidd lunio cynigion ar sut yr ydym ni'n mynd i ddatrys gofal yn y wlad hon. Fe wnaethon nhw feddwl am rai awgrymiadau yn ystod yr wythnosau diwethaf o ran sut y maen nhw'n awgrymu y dylem ni godi arian. Nid ydym ni'n cytuno â hynny, ond o leiaf ein bod ni'n gwybod yn awr sut y gallai'r dyfodol edrych. Nid ydym ni'n sicr, ond mae hynny yn rhoi cyfle i ni feddwl yn fwy hirdymor ynghylch sut yr ydym ni'n mynd i ddatrys y sefyllfa o ran gofal cymdeithasol. Gallem ni fod wedi gwneud llawer mwy o waith ac yn llawer cyflymach pe bai gennym ni'r wybodaeth cyn hyn. Felly, rwy'n gallu eich sicrhau, wrth sôn am ofal cymdeithasol, ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i atgyfnerthu'r sefyllfa yr ydym ni'n deall ei bod yn anodd iawn, iawn ar hyn o bryd.

O ran atebolrwydd am gartrefi gofal, mae hynny'n rhywbeth rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU yn edrych arno, ac y byddwn ni'n parhau i'w ystyried. O ran y brechiadau, y dosau atgyfnerthu—mae hynny eisoes wedi dechrau mewn cartrefi gofal ledled Cymru, ac wrth gwrs mae nifer uchel iawn o bobl yn gweithio yn y cartrefi gofal hynny sydd eisoes wedi eu brechu.

Gaf i ddiolch i Siân a Phlaid Cymru am dderbyn y rheoliadau? Rŷn ni'n gwybod bod yna bwysau aruthrol ar ein hysbytai ar hyn o bryd, ac, wrth gwrs, mae yna ymdrech ychwanegol nawr inni fynd iddi i sicrhau bod y brechlyn yn cael ei estyn o ran y booster, a hefyd i blant o 12 i 16. O ran y pasys COVID, wrth gwrs rŷn ni'n awyddus iawn, os gallwn ni, i gadw'r sefyllfa ar agor dros y gaeaf. Rŷn ni'n gwybod y bydd yna bwysau ychwanegol, bod COVID yn fwy hapus tu fewn, ac rŷn ni'n gwybod, yn ystod y gaeaf, fod pobl yn debygol o wario amser tu fewn. Mae hwnna'n sicr o ymledu'r feirws ac felly dyna pam beth ŷn ni'n meddwl sydd orau i'w wneud yw i roi mesurau mewn lle cyn bod problem yn codi. Dyna beth mae ein harbenigwyr wedi dweud wrthym ni byth a hefyd, yw bod yn rhaid mynd yn gynnar o ran treial atal sefyllfa rhag datblygu a dyna pam rŷn ni wedi dod i mewn â'r cynllun yma i sicrhau bod yna basys yn cael eu defnyddio os aiff pobl i sefyllfaoedd fel clybiau nos ac ati. Felly, wrth gwrs, rŷn ni'n gobeithio hefyd bydd hwnna yn helpu i gynyddu'r nifer o bobl ifanc hefyd fydd yn mynd ati i gael y brechlyn.

O ran y system trwy gyfrwng y Gymraeg, wrth gwrs, rŷn ni yn ddibynnol i raddau helaeth ar y sefyllfa yn Lloegr. Nhw sydd gyda lot o'r technegau o ran sut mae'r apps ac ati yn gweithio. Rŷn ni'n gwybod, er enghraifft, fod y system ar hyn o bryd os ŷch chi'n lawr lwytho app sydd yn dweud os ydych chi yn gallu cael COVID pass, ar hyn o bryd yn dweud Lloegr. Erbyn diwedd y mis, mi fydd e'n dweud Cymru hefyd. Felly, rŷn ni'n aros byth a hefyd iddyn nhw symud yn Lloegr. Nhw sy'n gorfod gwneud y newidiadau yma ar ein rhan ni.

O ran y peiriannau osôn, rŷn ni wedi gofyn am yr adolygiad yna gan y cell cynghori technegol. Dŷn ni ddim wedi derbyn eu argymhellion nhw eto, ac mi fyddwn ni'n rhoi gwybod wrthych chi unwaith rŷn ni yn derbyn hynny, ond rwy'n siŵr eich bod chi'n falch o glywed bod yna beiriannau carbon deuocsid nawr yn cael eu rhoi yn ein hysgolion ni, ledled Cymru, ac rŷn ni'n gobeithio y bydd y rheini yn helpu i fonitro'r aer a sicrhau ein bod ni'n cael lot mwy o awyr yn ein dosbarthiadau ni yn ystod y gaeaf.

16:55

Diolch i'r Gweinidog. Ac felly y cwestiwn cyntaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn meddwl ei fod e, felly derbynnir y cynnig yna yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does neb yn gwrthwynebu eto, felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

A'r cwestiwn olaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, neb. Felly, mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2021

Yr eitem olaf o fusnes y prynhawn yma yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2021, a dwi'n galw ar y Gweinidog materion gwledig i wneud y cynnig hwnnw.

Cynnig NDM7778 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Does gyda fi ddim cyfranwyr i'r ddadl ymhellach at hynny. Felly, fe wnaf i ofyn y cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig yma? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynnig yma? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Mae hynny'n golygu nad oes yna angen am unrhyw bleidleisiau eraill y prynhawn yma, ac felly rydych chi i gyd yn rhydd i fynd. Prynhawn da i chi i gyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 16:58.