Y Cyfarfod Llawn

Plenary

13/07/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda. A dwi eisiau atgoffa Aelodau hefyd fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag ydyn nhw i'r rheini sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Felly, yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George. 

Canlyniadau Iechyd ym Mhowys

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau iechyd ym Mhowys? OQ56773

Llywydd, diolchaf i Russell George am y cwestiwn yna. Ymhlith y camau eraill a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, rydym ni'n parhau i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf i wella cyfleusterau ysbyty presennol ym Mhowys, yn ogystal â chefnogi achos busnes i adeiladu campws llesiant amlddisgyblaeth newydd yn y Drenewydd.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna, ac, yn wir, mae bwrdd iechyd Powys, gan weithio gyda'r awdurdod lleol, wedi cyflwyno'r cynigion ar gyfer y cynllun—y cynnig yr ydych chi wedi ei amlinellu. Rwyf i wedi codi'r mater hwn gyda chi sawl gwaith o'r blaen, Prif Weinidog. Byddai'r cynllun yn arwain at gyfleuster newydd arloesol, ysbyty cymunedol newydd, â gwasanaethau ychwanegol hefyd yn cael eu lleoli yn y Drenewydd i wasanaethu pobl gogledd Powys. Byddai'r cyfleuster hefyd yn gwella canlyniadau iechyd a llesiant hefyd, ac yn golygu y gall pobl dderbyn apwyntiadau yn fwy lleol yn y Drenewydd, neu yng ngogledd Powys, yn hytrach na gorfod teithio y allan i'r sir. Felly, mae'r rhain yn sicr yn gynnig ac yn brosiect sy'n cael fy nghefnogaeth i.

Rwy'n deall bod y cynlluniau yn gweithio drwy broses graffu gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, rhwng Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd, a byddwn yn ddiolchgar iawn, Prif Weinidog, pe gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf heddiw. Rwy'n awyddus i'r cynlluniau hyn gael eu cymeradwyo, ond byddwn yn awyddus i gael dealltwriaeth o pryd yr ydych chi'n meddwl y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r golau gwyrdd i'r prosiect pwysig iawn hwn i'r canolbarth.

Llywydd, diolchaf i Russell George am y cwestiwn ychwanegol yna, a diolchaf iddo yn wir am ei gefnogaeth gyson iawn i'r prosiect hwn, ac rwyf i'n cytuno ag ef y bydd yn cynnig yr holl fanteision hynny i'r boblogaeth leol yn y Drenewydd ac yn y cyffiniau. Ac fel y dywedodd Russell George, mae'n brosiect ar y cyd, yn brosiect enghreifftiol yn y modd hwnnw o sut y gall awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol ddod at ei gilydd i ddarparu cyfleuster iechyd newydd nad yw'n gyfleuster iechyd yn unig yn yr ystyr gul, ond sydd â'r holl agenda llesiant ac ehangach honno yr ydym ni'n gwybod sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth ym mywydau pobl sy'n ei defnyddio.

Mae Russell George yn iawn, Llywydd: mae'r achos busnes wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Ceir y broses ailadroddol honno nawr lle mae'r cynlluniau yn cael eu hymchwilio, mae cwestiynau yn cael eu gofyn, mae atebion yn cael eu derbyn. A'r newyddion da yw bod y broses honno wedi hen gychwyn erbyn hyn. Felly, edrychaf ymlaen, fel y mae yntau, at gwblhau'r prosiect hwnnw. Mae'n brosiect y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w gefnogi. Mae'n iawn bod proses graffu i sicrhau bod buddsoddiad o'r math hwn, sy'n fuddsoddiad unwaith mewn cenhedlaeth, sy'n gallu cyflawni'r holl bethau y byddai pobl yn lleol yn dymuno eu gweld, a bod yr arian y byddwn ni'n ei fuddsoddi ynddo yn sicrhau'r effaith gadarnhaol fwyaf posibl i'r gymuned leol honno.

Rwy'n siŵr y byddai Russell George hefyd yn cytuno â mi bod yr uwchraddiad gwerth £15 miliwn i ysbyty Machynlleth, sydd ar y gweill ar hyn o bryd diolch i Weinidogion Cymru ac arian Llywodraeth Cymru, i'w groesawu, fel y mae'r prosiect gwerth miliynau o bunnoedd parhaus yn Llandrindod. Ond yn fwy na daearyddiaeth—ac mae'r pandemig wedi amlygu hyn yn arbennig—mae'r anghydraddoldeb mwyaf o ran canlyniadau iechyd rhwng ein cymunedau mwyaf cefnog a lleiaf cefnog. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai'r ffordd orau o wella canlyniadau iechyd ym Mhowys, ac mewn mannau eraill, yw adeiladu Cymru decach?

Diolchaf i Joyce Watson am hynna, Llywydd, a diolchaf iddi am dynnu sylw at ysbyty Bro Ddyfi ym Machynlleth. Dyna enghraifft dda o gynnig a gyflwynwyd gan fwrdd iechyd Powys, a gwblhaodd y broses achos busnes lawn ac a ganiataodd i Weinidogion Cymru gymeradwyo'r £15 miliwn a fydd yn cael ei fuddsoddi yno ym mis Mawrth cyn yr etholiad.

Siawns mai'r pwynt cyffredinol y mae Joyce Watson yn ei wneud, Llywydd, yw'r un iawn—mai dim ond un enghraifft yw anghydraddoldebau iechyd o'r anghydraddoldebau ehangach yr ydym ni'n eu gweld yn ein cymdeithas. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ymrwymo'r Senedd hon i weithio dros Gymru fwy cyfartal. A byddai Cymru fwy cyfartal, lle byddai'r bwlch rhwng y brig a'r gwaelod yn gulach nag y mae heddiw, yn cael effeithiau cadarnhaol i bobl mewn llawer o agweddau ar eu bywydau, ac yn sicr yn arwain at well canlyniadau iechyd. Rydym ni'n gwybod bod cymdeithasau mwy cyfartal ledled y byd yn mwynhau gwell canlyniadau iechyd na chymdeithasau mwy anghyfartal. Dyna pam mae agenda'r Llywodraeth hon yng Nghymru—yn ei hagenda gwaith teg, yn ei gwaith ar gyfer Cymru decach—wedi ymrwymo i'r union fath o ganlyniad y mae Joyce Watson wedi ei awgrymu.

13:35

Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru yn dweud y gall unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol fod cynddrwg i gleifion â chyflyrau hirdymor cronig. Mae unigrwydd yn rhoi pobl mewn 50 y cant yn fwy o berygl o farwolaeth gynnar. Roedd 41 y cant o bobl mewn amddifadedd materol yn unig, o'u cymharu â'r rhai o tua 12 y cant nad ydyn nhw mewn amddifadedd materol, ac mae hynny yn dilyn ymlaen o'r mater a gododd Joyce yn gynharach. Felly, a gaf i ofyn pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol i sicrhau bod cymaint a phosibl o gyfleoedd a gwasanaethau i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd wrth i ni ddod allan o'r cyfyngiadau symud? Diolch.

Diolch i Jane Dodds am y cwestiwn, Llywydd.

Ac mae hi'n iawn, wrth gwrs, ein bod ni'n llawer mwy ymwybodol heddiw nag y byddem ni wedi bod hyd yn oed 18 mis yn ôl o'r effaith y mae unigrwydd ac ynysigrwydd yn ei chael ar synnwyr pobl o lesiant ac, yn wir, ar eu hiechyd corfforol hefyd. Ac mae llawer iawn i ni ei ddysgu o brofiad y pandemig wrth fynd i'r afael ag effaith unigrwydd ac ynysigrwydd ym mywydau dinasyddion Cymru. Fe wnaethom ni wynebu hyn yn rheolaidd, Llywydd, mae'n ymddangos i mi, yn ystod argyfwng y pandemig. Yn gynnar iawn, byddwch yn cofio ein bod ni wedi newid y rheolau yng Nghymru, i ganiatáu i bobl fynd allan i gynnal ymarfer corff—a byddwch yn cofio ar un adeg mai dim ond unwaith y dydd yr oeddem ni'n cael mynd allan i ymarfer corff. Yna fe wnaethom ni newid y rheolau i ganiatáu i rywun fynd gyda chi ar gyfer yr ymarfer corff hwnnw, oherwydd adroddiadau a gawsom, yn enwedig gan fenywod, am deimlad o ynysigrwydd pe byddai'n rhaid iddyn nhw ymarfer corff ar eu pennau eu hunain. Fe wnaethom ni newid y rheolau yng Nghymru fel y gallai aelwyd un person ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd arall cyn i ni allu rhyddfrydoli'r rheolau ar aelwydydd estynedig yn fwy cyffredinol. A hefyd roedd hynny oherwydd y dystiolaeth o'r ffordd yr oedd angen cefnogaeth aelwyd arall ar aelwydydd sengl—yn enwedig aelwydydd lle'r oedd un oedolyn yn gofalu am blant yn ogystal â'i hunan—am y rhesymau y mae Jane Dodds wedi eu hawgrymu.

Mae ein gweithredoedd ar lefel gymunedol gydag awdurdodau lleol ond hefyd gyda'r trydydd sector, sydd â rhan bwysig iawn i'w chwarae yn hyn i gyd. A Llywydd, dim ond i roi un enghraifft, sefydlwyd y cynllun Ffrind Mewn Angen a oedd yn rhan o'r ymateb i COVID, ym mis Mehefin y llynedd ac mae'n cael ei redeg gan Age Cymru, ac mae'n golygu y gall person hŷn sy'n byw ar ei ben ei hun gael galwad ffôn wythnosol gan rywun sydd wedi cael ei hyfforddi fel cyfaill gwirfoddol. Mae'n gyngor, mae'n gefnogaeth, mae'n gyfle anffurfiol dim ond i glywed llais dynol arall. Ac rydym ni'n gwybod bod llawer o bobl, yn enwedig pobl oedrannus, yn byw ar eu pennau eu hunain sy'n gallu mynd ddyddiau ar y tro heb gael cyfarfod person arall o gwbl, gyda'r holl effeithiau niweidiol y cyfeiriodd Jane Dodds atyn nhw. Ac mae'r cynllun rhagorol hwnnw—y cynllun Ffrind Mewn Angen—wedi ei gynllunio yma yng Nghymru i wneud gwahaniaeth i'r unigrwydd a'r ynysigrwydd y mae pobl yn eu dioddef yn y ffordd honno.

Cymru ac Affrica

2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o sut y mae rhaglen Cymru-Affrica wedi cryfhau masnach ag Affrica? OQ56759

13:40

Wel, Llywydd, rhaglen datblygu ac undod yw rhaglen Cymru ac Affrica, sy'n cyd-fynd â chyflawni nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Effaith ddinistriol COVID yw blaenoriaeth bresennol y rhaglen.

Diolch, Gweinidog. Fel y byddwch yn gwybod, Cymru oedd y Genedl Masnach Deg gyntaf erioed yn 2008, ac, ers 2015, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid drwy raglen Cymru ac Affrica i Masnach Deg Cymru hyrwyddo sefydliadau i ddod yn bartneriaid masnach deg a darparu allgymorth addysgol ar fanteision masnach deg. Mae Masnach Deg Cymru yn adrodd ar hyn o bryd eu bod yn gweithio gyda dim ond 30 o grwpiau masnach deg lleol, 200 o ysgolion a 18 o'r 22 awdurdod lleol. Maen nhw hefyd yn cyflogi dau aelod o staff rhan-amser yn unig. Yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn 2018, adroddodd cynrychiolydd Masnach Deg Cymru ar sut yr oedd toriadau i gyllidebau wedi golygu nad oedden nhw yn darparu gwasanaethau dwyieithog addas mwyach, ac roedd toriadau i staffio wedi golygu bod eu cyswllt addysg ag ysgolion wedi gostwng yn sylweddol. Yn rhyfeddol, ar ôl 13 mlynedd o fod yn Genedl Masnach Deg, mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod heb argyhoeddi pob awdurdod lleol i gefnogi masnach deg, ac mae Masnach Deg Cymru wedi adrodd nad ydyn nhw hyd yn oed yn monitro gwerth nwyddau masnach deg a werthir yng Nghymru. O gofio eu bod nhw mewn cysylltiad â chyn lleied o sefydliadau ac nad oes ganddyn nhw syniad o nifer na gwerth nwyddau masnach deg a werthir yng Nghymru, a all y Prif Weinidog gynnig sylwadau ar sut y mae Masnach Deg Cymru o fudd yn y pen draw i hyrwyddo masnach deg gydag Affrica ac yn cynnig gwerth am arian i drethdalwyr Cymru? Diolch.

Wel, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, ac ni allaf osgoi tynnu ei sylw yn fonheddig bod eironi yn ei gwestiwn, ar ddiwrnod pan fydd Tŷ'r Cyffredin yn trafod y toriad o £4 biliwn i gymorth tramor y mae ei blaid ef wedi penderfynu ei orfodi ar rai o'r bobl dlotaf yn unman yn y byd. Ond gadewch i mi dderbyn ei gwestiwn fel ag y mae, oherwydd rwy'n credu bod y cwestiwn yn un pwysig. Mae mwy i'w wneud i hyrwyddo gwerthoedd masnach deg yma yng Nghymru. Byddai'n dda gen i pe byddai pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i'r agenda honno, ac mae rhaglen Cymru ac Affrica yn sicr yn cefnogi masnach deg. Nid rhaglen fasnach ydyw; fel y dywedais, mae'n rhaglen sydd â'r bwriad o bwysleisio datblygiad ac undod rhwng Cymru a rhannau eraill o'r byd.

Ond bydd rhai ohonom ni yma wedi cyfarfod yn yr adeilad hwn Jenipher Sambazi, is-gadeirydd cwmni coffi cydweithredol o Uganda, lle ceir partneriaeth rhwng Jenipher's Coffi a sefydliadau masnach deg yma yng Nghymru, lle mae'r coed yn cael eu plannu yn y rhan honno o Uganda gan ddefnyddio rhaglen Maint Cymru, yr ydym ninnau'n buddsoddi ynddi hefyd, fel bod ffyrdd cynaliadwy o ddefnyddio cynhyrchion y plannu hwnnw, a'i wneud mewn ffordd sy'n deg i'r bobl sy'n gweithio yn y diwydiant hwnnw—y ffermwyr hynny o Uganda—a hefyd yn cynnig cyfleoedd i bobl yng Nghymru allu mwynhau cynnyrch gwych yr holl ymdrech honno.

Prif Weinidog, fel y cyfeiriasoch ato yn ein hymateb cyntaf, mae Cymru ac Affrica yn ymwneud â llawer mwy na masnach. Mae Oxfam Cymru, drwy eu partneriaid yn Uganda, wedi cael gwybod bod achosion COVID-19 wedi cynyddu gan dros 1,000 y cant fis diwethaf, ac mai dim ond 4,000 o bobl sydd wedi cael eu brechu yn llawn mewn poblogaeth o 45 miliwn. Sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei llais i wthio Llywodraeth y DU i rannu gwybodaeth am frechlynnau a thechnoleg sy'n achub bywydau gyda gwledydd incwm isel fel Uganda?

Wel, Llywydd, yn y swydd yr wyf i'n ei gwneud, ac yn wir yn y swyddi, rwy'n siŵr, y mae Aelodau o amgylch y Siambr yn eu gwneud, rydym ni'n cael rhai sgyrsiau anodd weithiau gydag aelodau o'r cyhoedd, weithiau gyda sefydliadau eraill. Anaml yr wyf i wedi cael sgwrs anoddach na'r un a ges i yn ddiweddar gydag is-ganghellor Prifysgol Namibia—cyfaill da i Gymru, cyfaill da i Brifysgol Caerdydd—a'r rheswm yr oedd yr alwad honno yn anodd oedd oherwydd bod yr anobaith llwyr yn apêl yr is-ganghellor i Gymru ei helpu ef a'i gyd-ddinasyddion yn Namibia yn mynd yn syth at eich calon. Roedd wedi colli 10 aelod o'i staff yr wythnos honno, a bu farw mwy cyn i'r wythnos ddod i ben. Mae saith y cant o boblogaeth Namibia yn debygol o gael eu brechu, a'r effaith syml ar eu gwasanaethau cyhoeddus yw nad oes unman i unrhyw un fynd i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Ac mae hynny'n wir nid yn unig am Namibia ond mae'n wir am Uganda a phartneriaid eraill rhaglen Cymru-Affrica hefyd.

Roedd yr is-ganghellor eisiau i mi lobïo Llywodraeth y DU i gyflymu cyflenwad y brechlyn i Namibia, ac fe wnes i hynny ar unwaith. Ysgrifennais ar unwaith at yr Ysgrifennydd Tramor a chyfleu'r sgwrs yr oeddwn i wedi ei chael a'r achos—yr achos brys—sy'n bodoli yno. Ond mae'n fwy na chyflenwi brechlyn yn unig; mae'n fater o allu ar lawr gwlad i ddarparu'r brechlyn pan fydd wedi dod i law, ac rydym ni'n ffodus iawn ym Mhrosiect Phoenix—a arweinir, fel y bydd llawer ohonom ni'n ymwybodol, gan fenyw ryfeddol, yr Athro Judith Hall o Brifysgol Caerdydd—lle mae gennym ni bartneriaid ar lawr gwlad yn Uganda ac yn Namibia hefyd. Ers hynny, rydym ni wedi bod yn gweithio i ddod o hyd i beth arall y gallwn ni ei wneud i ddarparu offer a mathau eraill o gymorth i'r partneriaid hynny sydd gennym ni y mae eu hanghenion mor daer. A gwn fod fy nghyd-Weinidog Jane Hutt yn gobeithio gallu gwneud cyhoeddiad cyn diwedd yr wythnos hon, cyn diwedd y tymor, ar y cymorth ychwanegol y byddwn ni'n gallu ei ddarparu.

13:45

Edrychwn ymlaen at y cyhoeddiad hwnnw, Prif Weinidog, gan fy mod i'n credu ei bod hi'n iawn y dylai ein pwyslais ar hyn o bryd fod ar helpu ein cyfeillion o ran sut i ymdrin â'r argyfwng COVID sy'n eu taro nhw mor ddramatig o galed. Ond roeddwn i eisiau, a diolchaf i Joel am godi'r cwestiwn hwn, codi, a dweud y gwir, y bartneriaeth rhwng gweithgynhyrchydd coffi Ferrari ym Mhont-y-clun, yn fy etholaeth i, ac yn wir Jenipher's Coffi, yr wyf i'n ei yfed fy hun yn rheolaidd yn fy mheiriant coffi bach yn y tŷ, ac mae'n enghraifft wych o sut mae rhagoriaeth gweithgynhyrchu yma yng Nghymru, gyda busnesau sy'n eiddo i Gymry, yn partneru gyda ffrindiau yn Affrica er mwyn creu sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill, a hoffwn wybod beth arall y gallwn ni ei wneud i efelychu'r model hwnnw ar draws rhannau o Gymru. Ac a wnaiff ef ymuno â mi heddiw wrth i ni siarad yma yn y Senedd hon heddiw, i anfon ein dymuniadau gorau at y rhai yn Senedd y DU sy'n ceisio gwrthdroi'r toriadau arfaethedig i gyllideb datblygu rhyngwladol y DU? Mae'n berthnasol i'r drafodaeth yr ydym ni'n ei chael yma nawr.

Wel, Llywydd, unrhyw neges a allai fynd gan Aelodau'r Senedd hon i'r rhai sy'n cymryd rhan yn y ddadl honno wrth i ni siarad yn y fan yma ac i gryfhau dadleuon y nifer fawr o Aelodau hynny o'r Blaid Geidwadol sydd wedi siarad yn erbyn y toriadau i gymorth, unrhyw beth y gallem ni ei wneud i gryfhau eu dadleuon, byddai llawer ohonom ni yn y fan yma yn dymuno gwneud yn union hynny. Cefais gyfle i gyfarfod â Jenipher o Jenipher's Coffi yma yn y Senedd ym mis Chwefror 2020—un o'r ymweliadau olaf un a wnaed yma cyn i ymweliadau ddod yn llawer anoddach. Roedd yn fenyw ifanc ryfeddol, roeddwn i'n meddwl—a bydd eraill, mi wn, wedi cyfarfod â hi hefyd—yn ei hymrwymiad i'w hachos, ond hefyd yn ei gallu i fynegi'r gwahaniaeth y mae'r buddsoddiad—. Y buddsoddiad bach yr ydym ni'n ei wneud o Gymru; rydym ni'n rhoi symiau bach o arian ar gael, ond rydym ni'n ffodus o fod â phartneriaid yng Nghymru a thu hwnt y mae eu brwdfrydedd a'u hymroddiad yn gwneud i'r arian hwnnw weithio gymaint yn galetach nag y byddai fel arall. Ac mae'r ffermwyr coffi yn ardal Mynydd Elgon yn Uganda, drwy brosiect Coffee 2020, yn esiampl ymarferol iawn o'r gwahaniaeth y gallwn ni ei wneud, ac rwy'n credu bod y trefniant masnach deg yma yng Nghymru, sy'n cynnwys etholaeth fy nghyd-Aelod, sy'n cynnwys siop masnach deg Fair Do's yn etholaeth Gorllewin Caerdydd hefyd, yn enghraifft drawiadol ac ymarferol iawn o'r ffordd y mae arian sy'n cael ei fuddsoddi o wlad gyfoethog, yn ôl unrhyw safonau byd-eang, mewn man lle mae pobl yn ei chael hi'n anodd cael hanfodion bywyd bob dydd, yn gwneud cymaint o wahaniaeth. Ac mae'r ddadl yn Senedd y DU y prynhawn yma, Llywydd, yn cynrychioli'r peth prin iawn hwnnw mewn unrhyw Senedd—mae'n ddadl sy'n wirioneddol yn ymwneud â'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth i lawer iawn o bobl eraill.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

13:50

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r pwynt a wnaethoch chi ynglŷn â siarad ag is-ganghellor y brifysgol yn Namibia yn un da—sef, oni bai ein bod ni i gyd yn cael ein brechu, ni fydd yr un ohonom ni yn ddiogel ar ddiwedd hyn, ac mae'n broblem fyd-eang y mae angen i ni i gyd ganolbwyntio arni. Ond rydym ni'n symud i sefyllfa well; rydym ni'n symud i sefyllfa nawr lle gellir dad-wneud rhai o'r cyfyngiadau. A thynnodd yr Athro John Watkins sylw ddoe at hynny gyda llwyddiant cyflwyno'r brechiad a'r lefelau imiwnedd—. Gallaf glywed grwgnach o feinciau'r cenedlaetholwyr, ond rwy'n siŵr yr hoffen nhw wrando ar yr arbenigwyr, gan fy mod i'n hoffi gwrando ar yr arbenigwyr hefyd ar y pwnc penodol hwn. Rydym ni wedi clywed llawer o gyfeiriadau at Brifysgol Caerdydd hefyd, ac mae'r Athro John Watkins yn aelod o'r staff academaidd yno. A ydych chi'n credu bod ei haeriad bod dod â'r cyfyngiadau symud i ben yn gywir ac a fyddwch chi'n cefnogi hynny, Prif Weinidog?

Llywydd, darllenais yn ofalus iawn yr hyn oedd gan yr Athro Watkins i'w ddweud ac nid wyf i'n credu ei fod yn dadlau o gwbl dros gefnu ar yr holl fesurau diogelu sy'n gwneud gwahaniaeth i'n hamddiffynfeydd rhag coronafeirws. Roedd yn dweud bod adeg yn dod pan fo'n rhaid i ni allu symud y tu hwnt i'r mesurau diogelu hynny ac rwy'n cytuno â hynny, ac rwy'n gobeithio, pan fyddaf i yma eto, yfory, yn gwneud datganiad ar ganlyniad yr adolygiad tair wythnos presennol, y bydd camau y gallwn ni eu cymryd i'r cyfeiriad hwnnw. Yr hyn na fydd yn digwydd fydd cefnu llwyr ar y camau cyfunol yr ydym ni wedi eu cymryd yn ystod y pandemig ac sy'n parhau i gadw Cymru yn ddiogel yn wyneb trydedd don o coronafeirws, sydd eisoes yn profi ein gwasanaeth iechyd—roedd 760 o bobl yn sâl gyda coronafeirws yng Nghymru ddoe yn unig; y nifer fwyaf ar un diwrnod ers wythnosau lawer iawn, iawn. Ac mae'r syniad bod hwnnw yn gyd-destun addawol i symud yn gyflym oddi wrth y mesurau diogelu sy'n dal yno i'n cadw yn ddiogel—nid wyf wedi fy narbwyllo mai dyma'r adeg ar gyfer dull gweithredu o'r fath.

Deallais o'ch sylwadau, Prif Weinidog, y bydd gennym ni ddull llawer mwy pwyllog gennych chi yfory ac na fydd gennym y symud oddi wrth cyfyngiadau a welwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac mae hwnnw yn benderfyniad i'r Llywodraethau ei wneud. Ond mae un o'r sgyrsiau sy'n cael ei chynnal ledled y DU yn ymwneud â phasbortau brechu a'r defnydd o basbortau brechu. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n gwrthwynebu defnydd gorfodol o'r fath o basbortau brechu; rwy'n credu eu bod nhw'n segmentu ein cymdeithas ac maen nhw'n gwahaniaethu yn erbyn pobl a allai fod â rhesymau dilys dros beidio â chael eu brechu. A wnewch chi gadarnhau mai safbwynt parhaus Llywodraeth Cymru yw peidio â chefnogi'r defnydd gorfodol o basbortau brechu, ac os ydyn nhw'n mynd i gael eu defnyddio o gwbl, y byddai hynny ar sail canllawiau yn unig?

Ie, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud. Rwyf innau hefyd yn gwrthwynebu gwneud pasbortau brechu yn orfodol. Rydym ni'n sicrhau bod tystysgrifau brechu ar gael i ddinasyddion Cymru oherwydd weithiau mae pobl sy'n dymuno teithio dramor neu weithiau fynd i ddigwyddiadau mewn mannau eraill eu hangen nhw, ond materion o ddewis yw'r rheini—does neb yn gorfod mynd ar wyliau, nid oes yn rhaid i neb fynd i gyngerdd—ac mae gwneud ardystiad brechu yn orfodol yn fater cwbl wahanol yn fy marn i. Rwyf i wedi cael nifer o sgyrsiau gyda Gweinidogion yn Llywodraeth y DU ac maen nhw wedi fy sicrhau bob amser nad oes ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i wneud ardystiad brechu yn orfodol ychwaith. Ac er bod Prif Weinidog y DU, rwy'n gweld erbyn hyn yn annog y defnydd o ardystiad brechu mewn rhai lleoliadau gwirfoddol, rwy'n credu bod hynny yn dal i fod ymhell o sefyllfa orfodi.

Rwy'n falch o glywed hynna, Prif Weinidog, a byddaf innau hefyd yn ymuno â chi i gefnogi'r achos hwnnw, oherwydd, fel y dywedais, rwy'n credu y byddai'n creu rhaniadau diangen yn ein cymdeithas. Ac rwy'n sylweddoli ein bod ni'n mynd i gael y datganiad yfory, ac nid yw'n edrych fel pe byddai—. Yn amlwg, bydd gwahaniaethau ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Nawr, mae Senedd yr Alban, er enghraifft, mewn sesiwn adalw ar hyn o bryd, rwy'n credu, am 2 o'r gloch y prynhawn yma—nid yw'n 2 o'r gloch eto, ond yn cyfarfod am 2 o'r gloch y prynhawn yma—fe wnaeth Prif Weinidog y DU ei gyhoeddiadau ddoe; byddwch chi yn gwneud eich cyhoeddiadau yfory. Gyda thraean o boblogaeth Cymru yn byw o fewn 20 milltir i ffin Cymru, mae'n rhaid cael dealltwriaeth o'r rhwymedigaethau a'r rheolau sydd ar waith mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig er mwyn cydymffurfio â'r rheolau hynny, ac mae'n bwysig iawn, pan fo'n bosibl, y gellir cyrraedd tir cyffredin. Gan ein bod ni'n disgwyl y bydd gwahaniaethau rhwng yr hyn y byddwch chi'n ei gyhoeddi yfory a'r hyn a gyhoeddwyd yn Lloegr, sut byddwch chi'n ceisio creu'r tir cyffredin hwnnw fel y gall dinasyddion y gwledydd sy'n cael eu heffeithio gan y rheolau a'r rheoliadau hyn wybod yn union beth a ddisgwylir ganddyn nhw? Gan nad wyf i'n credu bod neb eisiau gweld trydedd, pedwaredd, pumed don, ac rydym ni eisiau dathlu llwyddiant y rhaglen frechu a'r imiwnedd sydd wedi datblygu mewn cymdeithas yn ei chyfanrwydd. Ond rydym ni ar adeg dyngedfennol nawr, pan ellir dychwelyd hawliau, a dylid dychwelyd cynifer o'r hawliau hynny â phosibl, Prif Weinidog.

13:55

Wel, Llywydd, cefais gyfarfod ddoe gyda Phrif Weinidog yr Alban, uwch Aelodau o Ogledd Iwerddon a Michael Gove o Swyddfa'r Cabinet. Rwy'n credu ein bod ni—. Dywedais yn y cyfarfod hwnnw ei bod hi'n dal yn ymddangos i mi fod pob rhan o'r Deyrnas Unedig yn symud i'r un cyfeiriad yn fras. Efallai ein bod ni'n gwneud hynny ar gyflymder ychydig yn wahanol ac mewn gwahanol ffyrdd, ond mae'r cyfeiriad teithio sylfaenol yr un fath rhyngom ni i gyd. Rydym ni i gyd eisiau parhau i lacio cyfyngiadau; rydym ni i gyd eisiau ei wneud mewn ffordd sy'n cadw pobl yn ddiogel.

Gwnaeth bob un ohonom ni apêl drwy Mr Gove y dylai Prif Weinidog y DU, yn ei gynhadledd i'r wasg, ei gwneud hi'n eglur ei fod yn gwneud cyhoeddiadau ar gyfer Lloegr yn unig. Roedd yn siomedig, eto, canfod bod Prif Weinidog y DU yn gweld hynny yn beth mor anodd i'w wneud, oherwydd byddai wedi helpu—byddai wedi helpu gyda'r eglurder. Ac rwy'n cytuno â'r hyn y mae Andrew R.T. Davies wedi ei ddweud yn y fan yna, Llywydd: mae ceisio bod yn eglur gyda'n gwahanol boblogaethau beth yw'r sefyllfa mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig yn her, ac mae'n un y mae'n rhaid i bob un ohonom ni fynd i'r afael â hi. Byddai wedi helpu pe byddai Prif Weinidog y DU wedi bod yn fwy eglur gyda phobl nad oedd yn gwneud cyhoeddiad ar gyfer Gogledd Iwerddon na'r Alban na Chymru.

Rwy'n credu bod pobl ar ein ffiniau wedi dod yn fwy cyfarwydd â hyn. Maen nhw wedi byw drwy 18 mis o wahaniaethau dros y ffin, ac mae pobl yn fwy effro iddo ac yn cadw llygad amdano yn fwy. Byddwn yn sicr yn gwneud popeth o fewn ein gallu, pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud—a bydd y Cabinet yn cyfarfod eto bore yfory; nid ydym ni wedi cwblhau'r holl gyhoeddiadau a fydd yn cael eu gwneud yfory eto—byddwn yn gwneud ein gorau i wneud yn siŵr bod y rheini yn cael eu cyfleu mor eglur i ddinasyddion Cymru ag y gallwn.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ie, lai nag wythnos sydd yna, rŵan, tan y codir y cyfyngiadau COVID yn llwyr yn Lloegr. Mae cadeirydd cyngor y BMA, Dr Chaand Nagpaul, wedi disgrifio'r amseru, wrth i nifer yr achosion gynyddu'n gyflym, fel bod yn anghyfrifol, a hynny ar ben sylwadau diweddar gan Sefydliad Iechyd y Byd yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o

'wacter moesol a ffolineb epidemiolegol'.

Rŵan, ydych chi yn cytuno, o ystyried mai gwarchod pobl o'ch cwmpas ydych chi drwy wisgo masg, efo rhywfaint o warchodaeth i chi'ch hun, fod cael gwared ar yr angen i wisgo gorchudd wyneb rŵan yn anghyfrifol?

Wel, Llywydd, wrth gwrs mae'r pethau sy'n digwydd yn Lloegr yn codi pryderon gyda ni, fel Llywodraeth, ond dwi ddim yn dod yma i fod yn feirniadol am beth y mae pobl eraill yn ei wneud; lan iddyn nhw yw hi i wneud pethau o fewn maes eu cyfrifoldebau nhw. Beth rŷn ni'n ei weld fan hyn yng Nghymru, Llywydd, yw: mae'r berthynas rhwng y feirws a'r brechlyn wedi newid, ond ddim wedi diflannu.

Ddoe, roedd 69 o bobl yn ein hysbytai yma yng Nghymru yn confirmed COVID patients—69. Lai na mis yn ôl, roedden ni'n siarad am llai nag 20 o bobl, so mae'r nifer o bobl sy'n cwympo mor dost o'r amrywiolyn delta yn tyfu bron bob dydd yma yng Nghymru hefyd. Dyna pam, pan fydd y Cabinet yn ystyried y posibiliadau sydd gyda ni yng Nghymru, dŷn ni'n mynd ati yn y ffordd rŷn ni wedi gwneud pethau dros y pandemig i gyd—yn ofalus, yn ystyried y dystiolaeth sydd gyda ni, ac yn mynd at bethau cam wrth gam.

Diolch. Gofyn i chi roi'ch barn ar beth ydych chi'n meddwl sy'n gyfrifol neu'n anghyfrifol yng Nghymru ydw i, wrth gwrs, a dwi yn eich annog chi i gadw'r angen i orfod gwisgo gorchudd wyneb ym mhob lleoliad lle mae pobl yn dod i gyswllt agos â'i gilydd, yn cynnwys mewn siopau. Mi ddarllenais i un senario dros y Sul: y byddai'n od iawn, meddai'r Cynghorydd Gwynfor Owen o Wynedd, pe bai gweithiwr siop yn gorfod gwisgo masg i fynd i syrjeri y doctor ond y doctor ddim yn gorfod gwisgo masg i fynd i'r siop.

Mi ydych chi wedi dweud na fydd disgyblion yn gorfod gwisgo masg mewn dosbarthiadau ysgol o fis Medi. Mae gen i gonsýrn am hyn, o ystyried mor agos at ei gilydd mae disgyblion, ac rydw i'n annog y Llywodraeth i fod yn ddigyfaddawd wrth wthio am warchodaeth i blant a phobl ifanc drwy bethau fel strategaethau ar sicrhau digon o awyr iach mewn dosbarthiadau a hefyd drwy wthio brechu i blant a phobl ifanc. Ac un gyrrwr yn hyn o beth i fi ydy pryder cynyddol am effaith COVID hir ac effaith COVID hir ar blant a phobl ifanc. Mae degau o filoedd o blant a phobl ifanc ar draws Prydain yn dioddef. Gaf i ofyn, ydy’r Prif Weinidog yn cytuno efo’r consýrn yna sydd gen? A gaf i ofyn am gamau pendant i ddatblygu arbenigedd yn y maes yma er mwyn gwarchod plant a phobl ifanc yn benodol o COVID hir?

14:00

Wel, Llywydd, dwi yn rhannu y consýrn, ac mae mwy o dystiolaeth gyda ni nawr am effaith COVID hir ar bobl ifanc, ac mae'n bwysig i ni fwrw ymlaen i gasglu mwy o wybodaeth a chael mwy o gyngor gan bobl sy'n gweithio yn y maes. Yn y llythyr anfonodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at yr ysgolion yng Nghymru, beth roedd e'n ei ddweud oedd doedd dim rhaid defnyddio mygydau mewn dosbarth 'as a matter of routine'.

Felly, nid oedd yn gyngor na ddylid byth gwisgo masgiau mewn ystafell ddosbarth; mae'n fwy o fater o'r risgiau hynny yn cael eu pwyso a'u mesur mewn gwahanol ddosbarthiadau. Rydym ni'n gwybod bod ystafelloedd dosbarth yn amrywio yn enfawr; o ysgol fodern yr unfed ganrif ar hugain i ysgol a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae'r amodau ffisegol yn wahanol iawn. Fel y digwyddodd, Llywydd, cefais sgwrs gyda phennaeth ysgol fawr yng Nghaerdydd brynhawn dydd Gwener, a oedd newydd dderbyn y llythyr, ac roedd ef, rwy'n credu, yn gadarnhaol iawn yn ei gylch. Roedd yn ymwybodol iawn o gyngor Comisiynydd Plant Cymru ar yr effaith niweidiol y mae'n ei chael ar blant pan fyddan nhw'n gwisgo masgiau awr ar ôl awr yn yr ysgol, ac roedd yn teimlo yn ffyddiog iawn y byddai ef a'i staff yn gallu gwneud y dyfarniadau hynny yn y lleoliadau penodol yr oedden nhw'n eu hwynebu o ran pryd y byddai gwisgo masg yn ddoeth a phryd y gallech chi ganiatáu yn ddiogel i blant ddysgu heb gael eu cyfyngu iddyn nhw.

Y pwynt olaf, Llywydd, a wnaeth Rhun ap Iorwerth oedd gwneud yn siŵr bod gwasanaethau ar gael i bobl ifanc ac eraill sy'n mynd yn sâl drwy COVID hir, a gwnaeth fy nghyd-Weinidog y Gweinidog iechyd ddatganiad diweddar ar y mater hwnnw. Mae'n un o'n rhesymau am betruso o dan yr amgylchiadau presennol oherwydd er ei bod yn sicr bod y cysylltiad rhwng mynd yn sâl a mynd i'r ysbyty wedi cael ei ddiwygio drwy frechu, ni ddylid diystyru nifer fawr o bobl yn mynd yn sâl yn y gymuned fel pe na byddai hwnnw yn destun pryder parhaus, oherwydd y mwyaf o bobl sy'n mynd yn sâl yn y gymuned, y mwyaf o risg fydd yna y bydd rhai o'r bobl hynny hefyd yn dioddef nid yn unig salwch dros dro neu fân salwch, ond salwch a fydd yn byw gyda nhw am wythnosau a misoedd y tu hwnt i hynny.

Diolch am y geiriau yna. Rydych chi'n bendant yn iawn ei fod yn fater o bwyso a mesur risgiau, ac o ystyried natur y ddadl mewn rhai mannau nawr, bydd rhai pobl yn gwrando arnaf i heddiw ac arnoch chithau ac yn meddwl fy mod i'n bod yn or-ofalus, fy mod i'n bod yn rhy amharod i fentro, ac nid dyna'r gwirionedd. Rwy'n edrych ar dystiolaeth o ran masgiau, er enghraifft, ac os gall tystiolaeth dynnu sylw at ffyrdd y gallwn ni lacio cyfyngiadau, gadewch i ni ddilyn y dystiolaeth honno hefyd. Mae'n gweithio y ddwy ffordd.

Felly, wrth i ni gyrraedd gwyliau'r ysgol, naill ai rydych chi'n credu bod teithio dramor yn ddiogel, gyda'r mesurau diogelu perthnasol ar waith, neu rydych chi'n credu nad yw'n ddiogel. Ac os nad ydych chi, rhowch y dystiolaeth i ni a chyflwynwch reoliadau y gallwn ni bleidleisio arnyn nhw. Yr hyn nad wyf i'n credu y gallwch chi ei wneud yw gofyn i bobl ddefnyddio eu crebwyll, ac rydych chi wedi dweud dro ar ôl tro nad ydych chi'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud, i rywun fynd dramor. Rwyf i'n llwyr o blaid pobl yn cymryd cyfrifoldeb personol, ond, yn y cyd-destun hwn, rwy'n credu na ellir disgwyl i grebwyll personol ddisodli tystiolaeth wyddonol gadarn. Felly, a wnewch chi roi'r eglurder sydd ei angen ar bobl o ran y mater hwnnw?

Wel, dyma'r unig eglurder y gallaf i ei roi, Llywydd. Nid yw cyngor Llywodraeth Cymru wedi newid ers wythnosau lawer iawn. Ein cyngor i bobl yng Nghymru yw mai dyma'r flwyddyn i aros yng Nghymru ac i fynd ar eich gwyliau gyda phopeth sydd gan Gymru i'w gynnig. Bydd y penderfyniad i deithio dramor yn dod â risgiau ychwanegol gydag ef—risgiau i chi fel unigolyn, a risgiau i eraill ar ôl i chi ddychwelyd. Gellir osgoi'r risgiau hynny; dydyn nhw ddim yn risgiau y mae'n rhaid i chi eu cymryd. Felly, yng nghyd-destun pandemig byd-eang a thrydedd don o coronafeirws, cymaint gwell fyddai osgoi'r risgiau hynny a mynd ar wyliau yma yng Nghymru?

Y rheswm na allwn ni wneud hynny yn gyfraith yng Nghymru yw y byddai'n amhosibl ei gorfodi. Nid oes unrhyw ffordd yn syml y gallech chi wneud ffon gyfreithiol o'r fath, oherwydd mae tri chwarter y bobl sy'n teithio dramor o Gymru yn gwneud hynny o feysydd awyr dros ein ffin, lle na fydd ataliad o'r fath. Ac nid wyf i'n dychmygu—nid wyf i erioed wedi gweld cynnig gan Blaid Cymru—y byddem ni'n atal pobl o Gymru rhag teithio dros y ffin i Loegr, a chyn gynted ag y byddwch chi'n caniatáu i hynny ddigwydd, yna byddai pobl yn gallu teithio a byddai pobl yn gwneud hynny. Felly, nid wyf i'n canfod—. Byddai'n dda gen i pe byddem ni mewn gwahanol sefyllfa i'r un yr ydym ni ynddi, ond, o ystyried mai dyna'r sefyllfa yr ydym ni ynddi, mae'r cyngor y gallwn ni ei roi mor glir ag y gallwn ni ei wneud: mae risgiau yn bodoli, nid oes angen eu cymryd, mae dewisiadau eraill, a dewisiadau eraill gwych ar gael i chi.

14:05
Arddangos Baner yr Undeb

3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael yn dilyn penderfyniad pwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd i ganiatáu i Lywodraeth y DU arddangos baner yr undeb yn ei safle newydd yn y brifddinas? OQ56781

Llywydd, diolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn. Cyngor Caerdydd sy'n gyfrifol am benderfynu ar ganiatâd hysbysebu yn y ddinas. Mae'r penderfyniad yn agored i adolygiad barnwrol ar hyn o bryd. Oherwydd rôl bosib Gweinidogion Cymru mewn penderfyniadau cynllunio, y cyngor dwi wedi ei gael yw: nid yw'n briodol trafod yr achos hwn nac achosion eraill.

Diolch yn fawr am hynny, Brif Weinidog, ac mae Heledd Fychan a fi wedi ysgrifennu llythyr at y Gweinidog yn gofyn am yr opsiynau posib i ddelio â hyn.

Nid wyf i'n mynd i ailadrodd y ddadl am faner yr undeb. Mae'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn ddigywilydd, mae'n amlwg, ac rwy'n credu, fel yr ydych chi wedi ei ddweud o'r blaen, Prif Weinidog, nad yw'n mynd i weithio. Y pwynt technegol yr oeddwn ni'n fwy awyddus i'w wneud fwy. Fel yr ydych chi wedi sôn, mae'r faner wedi ei dosbarthu fel hysbyseb, ac fe wnaeth y swyddog cynllunio, wrth iddo ei chaniatáu, roi enghraifft ohoni ar sgrin LED yng nghanol y ddinas, sydd 44 y cant yn llai na baner yr undeb. Nid yw'r faner wedi ei chodi eto, ond nid oes gennym ni'r hawl i'w galw yn ôl i mewn ac ni chawn apelio yn ei herbyn. Yr unig bobl sy'n cael apelio yn ei herbyn yw'r ymgeiswyr eu hunain, ac, wrth gwrs, ni fydd Llywodraeth y DU yn apelio.

Rwy'n falch o glywed eich bod chi'n edrych ar ddewisiadau eraill, oherwydd fy mhryder i yw'r cynsail y mae hyn yn ei osod, Prif Weinidog. Pwy a ŵyr, efallai y bydd gennym ni fwy o faneri'r undeb yn ymddangos; efallai y cawn ni hysbysebion ar gyfer bwytai bwyd cyflym; gallem ni gael hysbysebion ar gyfer cwmnïau betio yn ymddangos ar ein nendyrau yng nghanol y ddinas. Felly, y pryder sydd gen i, Prif Weinidog, yw'r cynsail y mae hyn yn ei osod. Diolch yn fawr.

Llywydd, wel, mae'n rhaid i mi fod yn ofalus beth yr wyf yn ei ddweud, fel y clywsoch chi yn fy ateb gwreiddiol. Nid wyf i'n gwrthwynebu i faner yr undeb fel y cyfryw; y cwestiwn yw a yw baner undeb 32m o uchder, 8m o led, yn ffordd gymesur o fwrw ymlaen. Rwy'n credu na allaf i wneud fawr yn well, Llywydd, na dyfynnu'r llythyr a ysgrifennwyd gan arweinydd y cyngor. Mae'n bwysig, efallai, dim ond i gofnodi nad penderfyniad a wnaed gan aelodau etholedig o'r cyngor oedd hwn. Yn unol â rheolau sefydlog y cyngor, mater i swyddogion oedd y penderfyniad hwn, ac, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r rheolau cynllunio yn golygu mai'r dybiaeth yw bod caniatâd cynllunio yn cael ei roi a bod yn rhaid perswadio'r swyddogion i fynd yn groes i'r dybiaeth honno. Penderfynwyd ganddyn nhw na ddylai'r cais gael ei wrthod ar sail amwynder nac ar sail diogelwch.

Ond dyma'r llythyr a ysgrifennodd arweinydd y cyngor at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a dywedodd na fyddai ymarfer camsyniol o gyflwyno delwedd nawr yn cyflawni fawr ddim ac eithrio creu anghytundeb. Ac rwy'n credu bod hwnnw yn bwynt y dylai Llywodraeth y DU feddwl yn ofalus iawn amdano. Os mai diben eu gweithredoedd yw cryfhau'r undeb, yna mae angen iddyn nhw ofyn iddyn nhw eu hunain pa un a yw jac yr undeb ar y raddfa a'r maint y maen nhw'n ei gynnig yn debygol o gyflawni'r uchelgais hwnnw ai peidio, neu a fydd yn gwneud dim heblaw gyrru mwy o lofnodwyr i ddeiseb Yes Cymru yn gofyn iddo gael ei ailystyried.

14:10

Prif Weinidog, rydym ni i gyd yn gwybod na fyddai Rhys ab Owen a'i gyd-Aelodau ar feinciau Plaid Cymru yn codi gwrthwynebiadau o'r fath os mai'r ddraig goch a oedd yn mynd i gael ei chodi yn yr adeilad hwn sy'n perthyn i Lywodraeth y DU. Ond mae'n digwydd bod yn faner yr undeb, sydd, wrth gwrs, yn faner y Deyrnas Unedig, rhywbeth yr wyf i'n falch o fod yn ddinesydd ohoni. A gaf i ofyn i chi pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, os ydym ni eisiau siarad am hysbysebu cyfreithiol, i fynd i'r afael â'r llu o sticeri Yes Cymru ar hyd a lled Cymru, y mae'n ymddangos nad oes unrhyw bryder o gwbl yn cael ei fynegi yn eu cylch gan Aelodau'r blaid sy'n codi'r pryder hwn yn y Senedd heddiw? Mae hyn yn sarhad ar gymunedau lleol; mae hyn yn daflu sbwriel a graffiti o'r radd uchaf ac mae angen mynd i'r afael ag ef.

Llywydd, gadewch i mi roi sylw i ran gyntaf cwestiwn Darren Millar, oherwydd rwy'n credu ei fod wedi gwneud pwynt pwysig yn y fan yna. Yn Nhŷ Gwydyr yn Llundain, mae baner Cymru—y ddraig goch—a jac yr undeb ill dau wedi eu codi, baneri o'r un maint, yn yr adeilad hwnnw, a tybed a yw Llywodraeth y DU wedi meddwl am ddyblygu'r ffordd y maen nhw'n gweithredu yn Llundain yn y ffordd y byddan nhw'n gweithredu nawr yng nghanol Caerdydd. Pe bydden nhw'n cyflwyno cais am faner Cymru o'r un maint a graddfa ag sydd ar yr adeilad, wel, dim ond ailadrodd yr hyn y maen nhw eisoes wedi penderfynu ei wneud yn achos Tŷ Gwydyr yn Whitehall fyddai hynny.

O ran bathodynnau Yes Cymru, nid yw'n fater i Lywodraeth Cymru, ac nid wyf i'n credu ei fod wir o fewn cwmpas y cwestiwn fel y'i gofynnwyd yn wreiddiol.

Amrywiolion COVID-19 sy'n Peri Pryder

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith amrywiolion COVID-19 sy'n peri pryder ar gymunedau yng Nghaerffili? OQ56785

Mae amrywiolion alffa a delta COVID-19 wedi arwain at effeithiau niweidiol sylweddol ar gymunedau yng Nghaerffili, gan gyflymu trosglwyddiad, cynyddu lefelau canlyniadau positif ac arwain at fwy o drigolion Caerffili yn mynd yn sâl o'r clefyd ofnadwy hwn.

Fel y gallwch chi ddychmygu, mae llawer o drigolion Caerffili wedi cysylltu â mi ynglŷn â theithio rhyngwladol, ac mae'n ymddangos, o'r ateb i Rhun ap Iorwerth, bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r un cyfeiriad â Llywodraeth y DU, am resymau ymarferol iawn. Mae hynny'n golygu y bydd pobl yn teithio ar lefel oren, hyd yn oed os byddan nhw'n cael eu cynghori i beidio. Yn Lloegr, mae TUI yn cynnig prawf PCR gwerth £20 i deithwyr sy'n cael ei redeg gan Chronomics, ac yng Nghymru, mae'n rhaid i chi fynd drwy borth gwe Corporate Travel Management i gymryd prawf GIG, sy'n costio £170. Felly, mae gwahaniaeth eithaf mawr yn y gost rhwng y ddau brawf. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried derbyn y prawf Chronomics gan drigolion, ac os na wnaiff, sut mae'r Llywodraeth yn cyfiawnhau'r gwahaniaeth hwnnw mewn cost?

Wel, Llywydd, mae cyngor Llywodraeth Cymru yn eglur i bobl: peidiwch â theithio dramor. Nid wyf i'n bwriadu dargyfeirio gweithgareddau fy swyddogion i'w gwneud yn haws i bobl wneud rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru mor amlwg yn credu nad yw'n ddoeth.

Mae'n rhaid i bobl sy'n cymryd profion cyn iddyn nhw adael gymryd profion sy'n bodloni meini prawf mynediad y wlad y mae'r unigolyn yn teithio iddi. Pan fydd pobl yn dychwelyd i Gymru, yna mae angen prawf PCR; i bobl sy'n dychwelyd o wledydd oren, yna mae'r Aelod yn iawn mai profion y GIG yw'r rheini. Mae rhesymau da pam mae hynny yn well, oherwydd mae hynny yn sicrhau bod canlyniadau'r profion hynny yn cael eu cynnwys ar gofnod y claf; mae'n sicrhau y gallwn ni ddefnyddio gallu dilyniannu genomeg Cymru—rhywfaint o'r gallu dilyniannu gorau yn unman yn y byd—i wneud yn siŵr bod unrhyw un sy'n dychwelyd o dramor gydag amrywiolyn newydd o'r feirws, bod y gwasanaeth cyhoeddus yn sylwi ar hynny yn gyflym ac yn effeithiol. Rwy'n credu bod y rheini yn rhesymau pendant pam mae prawf y GIG yn well, ac nid oes gennym ni unrhyw gynlluniau i newid y safbwynt hwnnw.

14:15

Prif Weinidog, er mai Caerffili sydd â'r gyfradd uchaf ond un o achosion newydd o'r amrywiolyn, fel yr ydych chi newydd ei amlinellu, o ganlyniad i'r brechlyn, nid yw hyn yn arwain at gynnydd sydyn yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan ar hyn o bryd, wrth i saith derbyniad yn unig brofi'n bositif am COVID-19. Rydych chi newydd ddweud wrthym ni fod 760 o achosion yng Nghymru gyfan, allan o boblogaeth o 3 miliwn. Prif Weinidog, pa lefelau o achosion fyddai'n dderbyniol ar gyfer rhyddhau'r holl gyfyngiadau?

Yn gyntaf, i fod yn glir, mae hynny'n 760 o achosion newydd mewn un diwrnod, a heddiw bydd cannoedd yn fwy. Ar y gyfradd bresennol o gynnydd, bydd llawer iawn mwy o gannoedd yn dilyn hynny. Rwy'n llongyfarch Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a'r awdurdod lleol yng Nghaerffili am gyflawni rhai o'r cyfraddau brechu gorau yn unman yng Nghymru, ac mae'n wych bod y brechlyn yn newid y berthynas rhwng mynd yn sâl a bod angen mynd i'r ysbyty. Dyna pam yr ydym yn dal i allu ystyried llacio'r cyfyngiadau presennol yn fwy. Ond, fel y dywedais i mewn ateb cynharach i Rhun ap Iorwerth, ni ddylai yr un ohonom ni anwybyddu'r risgiau sy'n cael eu creu pan fydd gennych chi niferoedd mawr o bobl yn mynd yn sâl bob dydd yn y gymuned. Mae'n cynyddu'r risg y bydd amrywiolion newydd yn dod i'r amlwg, mae'n cynyddu'r risg y bydd imiwnedd pobl yn gwanhau, mae'n cynyddu'r risg y bydd pobl yn mynd yn sâl gyda COVID hir, mae'n cynyddu'r risg nad yw pobl ar gael i fod yn y gweithle oherwydd eu bod wedi mynd yn sâl neu eu bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi mynd yn sâl. Felly, er fy mod i'n cytuno â'r pwynt a wnaeth Laura Anne Jones, Llywydd, ynglŷn â phwysigrwydd y cysylltiad hwnnw rhwng mynd i'r ysbyty a'r feirws, dim ond rhan o'r stori yw hynny, ac mae angen i ni barhau i bryderu ynghylch y raddfa y mae'r amrywiolyn delta yn cael gafael yng Nghymru a'r cannoedd ar gannoedd o bobl sy'n mynd yn sâl o ganlyniad i hynny.

Prif Weinidog, gwyddom fod cyfraddau COVID yn cynyddu unwaith eto yn ein cymunedau, ac ar ôl 16 mis hir o gyfyngiadau symud, mae'n ddealladwy bod aelodau o'r cyhoedd wedi blino ar y cyfyngiadau, ond mae'r amrywiolion newydd yn anhygoel o drosglwyddadwy, felly sut y mae cyfleu'r neges honno i'r cyhoedd sy'n clywed negeseuon anghyfrifol a dryslyd yn dod o Lywodraeth yn Lloegr sy'n methu â phenderfynu ar ei safbwynt ynglŷn â masgiau?

Rwy'n credu mai'r newyddion da ynglŷn â'r cyhoedd yng Nghymru yw bod pobl yng Nghymru yn parhau i gefnogi'r ffordd ofalus a phwyllog yr ydym ni wedi ymateb gyda'n gilydd i'r feirws yng Nghymru. Rwy'n credu bod ymdeimlad gwirioneddol yng Nghymru nad mater o gyfrifoldeb personol yn unig yw hyn. Nid yw'n bosibl na all yr ateb i ymdrin â coronafeirws fod, 'Rydych chi ar eich pen eich hun, penderfynwch chi drosoch eich hun, gwnewch bethau yn y ffordd y byddai'n well gennych chi'. Mae pobl yng Nghymru wedi deall trwy'r cyfan fod hwn yn fater nid yn unig o sut yr wyf i'n ymddwyn, mae'n fater o sut yr ydym ni yn ymddwyn. Mae hwn yn ymateb ar y cyd i'r feirws, ac mae pobl yng Nghymru wedi bod yn barod i chwarae eu rhan trwy'r holl beth.

Allaf i ddim siarad am flychau post Aelodau eraill y Senedd, ond mae fy mlwch post i dros yr wythnos ddiwethaf wedi bod yn llawn o bobl yn ysgrifennu ataf yn gofyn i Lywodraeth Cymru beidio â chamu o'r neilltu o'r rhagofalon synhwyrol yr ydym ni i gyd wedi bod yn eu dilyn gyda'n gilydd. Yn aml, daw hynny gan bobl sydd eu hunain yn agored i niwed ac sy'n bryderus iawn ynghylch sut bydd pethau iddyn nhw pe byddai gofyn iddyn nhw fynd i leoedd ac i sefyllfaoedd lle nad oes galw ar bobl eraill erbyn hyn i gymryd y camau syml a synhwyrol hynny. Felly, rwyf i'n credu fod gennym ni hyn o'n plaid o leiaf, i ateb cwestiwn Delyth Jewell—nad yw pobl Cymru yn teimlo syched am ryw ddiwrnod rhyddid ffugiol; mae'n parhau i fod yn ddull pwyllog lle mae pobl yn dymuno i bob un ohonom ni barhau i chwarae ein rhan.

Tlodi

5. Pa bolisïau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu dilyn i fynd i'r afael â lefelau tlodi hirsefydlog yng Nghymru? OQ56775

14:20

Mae lefelau tlodi yng Nghymru wedi eu gwaethygu gan weithredoedd Llywodraethau Ceidwadol olynol ers 2010. Bydd y penderfyniad i beidio ag ymestyn yr ychwanegiad wythnosol o £20 at gredyd cynhwysol o fis Medi ymlaen yn amddifadu miloedd o deuluoedd yng Nghymru pan fydd angen cymorth arnyn nhw fwyaf. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i liniaru'r datblygiadau hyn i'r graddau llwyraf posibl.

Prif Weinidog, rwy'n cytuno yn llwyr â chi o ran effaith y polisïau hynny gan Lywodraeth y DU. Mae llawer o dlodi sefydledig wedi ei wreiddio mewn dosbarth cymdeithasol, ac mae cymunedau dosbarth gweithiol mewn ardaloedd lle mae dirywiad diwydiannol yn y Cymoedd ac ar ein hystadau tai cymdeithasol yn dioddef anfantais rhwng y cenedlaethau, sydd wedi bodoli, yn anffodus, ers blynyddoedd lawer. Mae hyn yn effeithio ar bob cam o addysg, cyflogaeth ac, wrth gwrs, safonau byw. Weithiau mae'n arwain at iechyd a lles gwael, ac weithiau at ddieithrwch ac anobaith. Mae wedi bod ac mae yn anodd iawn i unrhyw Lywodraeth ac i'n holl wasanaethau cyhoeddus fynd i'r afael â'r materion hyn. Prif Weinidog, pa bolisïau y bydd y Llywodraeth Cymru hon yn eu dilyn i fynd i'r afael â materion blynyddoedd cynnar, materion addysg, datblygu economaidd, datblygu cymunedol a gwasanaethau ieuenctid?

Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd John Griffiths ynghylch pwysigrwydd parhaus dosbarth cymdeithasol wrth bennu cyfleoedd pobl mewn bywyd yng Nghymru. Nid mater o ddosbarth yn unig ydyw, fel y gwyddom; mae'n aml yn fater o ryw ac ethnigrwydd hefyd. Mae John Griffiths yn iawn, wrth gwrs, Llywydd, fod tystiolaeth gronnol o'r heriau y mae dynion gwyn ifanc dosbarth gweithiol yn eu hwynebu wrth sicrhau dyfodol economaidd i'w hunain, ac yn sicr mae angen ymdrechion ychwanegol ar fenywod ifanc i sicrhau eu bod yn gwybod bod yr ystod ehangaf o bosibiliadau ar gael iddyn nhw yma yng Nghymru.

Mae'n debyg na allaf i ymdrin â'r holl feysydd polisi y tynnodd yr Aelod sylw atyn nhw, Llywydd, ond i ddynion ifanc, rwyf i wedi meddwl erioed bod y cyfnod sylfaen a'r rhaglen Dechrau'n Deg yn enghraifft wirioneddol o'r hyn yr ydym ni'n cyfeirio ato fel cyffredinoliaeth flaengar yng Nghymru. Ceir y cyfnod sylfaen, gwasanaeth cyffredinol sydd wedi ei gynllunio i wneud i bobl ifanc o'r oedran cynharaf posibl fod wrth eu boddau â'r syniad o fynd i'r ysgol a dysgu—bod dysgu i'w fwynhau ac i fod yn werth chweil. I'r bechgyn hynny sy'n dod o'r cefndiroedd y mae'r Aelod wedi cyfeirio atyn nhw, mae'r cyfnod sylfaen, yn fy marn i, mor bwysig i wneud iddyn nhw deimlo o ddechrau cyntaf eu bywydau y bydd yr ysgol yn rhywbeth y byddan nhw'n cael llawer o fudd ohoni ac a fydd yn rhoi'r cyfleoedd hynny iddyn nhw.

I fenywod ifanc, fel y dywedais i, mae'n rhaid i ni wneud mwy i sicrhau nad ydyn nhw'n wynebu cyfres o ddewisiadau y gallan nhw eu gwneud sy'n ystrydebol o ran rhyw. Yn gynharach eleni, ym mis Ebrill, fe es i gyda'r Aelod dros Flaenau Gwent i Thales yn ei etholaeth ef a chlywais stori wych am y ffordd y mae'r cwmni hwnnw yn sicrhau bod menywod ifanc yn yr ardal honno yn gwybod bod gyrfaoedd ar eu cyfer nhw yn y diwydiannau newydd hynny. Cafodd y rhaglen ei harwain gan ddwy fenyw ifanc wych, a eglurodd wrthym ni bopeth yr oedden nhw'n ei wneud i sicrhau bod y cyfleoedd hynny yn hysbys i fenywod ifanc yn etholaeth Blaenau Gwent.

I ddynion ifanc a menywod ifanc, bydd y warant cyflogaeth ieuenctid y mae'r Llywodraeth hon yn ei chynnig yn floc adeiladu sylfaenol o ran sicrhau, wrth i'r economi adfer ar ôl canlyniadau economaidd y coronafeirws, nad yw'r bobl ifanc hynny y mae John Griffiths yn cyfeirio atyn nhw yn cael eu gadael ar ôl, bod ganddyn nhw gyfleoedd gwirioneddol, ein bod ni'n gweithio gyda nhw i sicrhau y gallan nhw weld cadwyn—cadwyn o ble y mae eu bywydau heddiw i ble yr hoffen nhw i'w bywydau fod yn y dyfodol. 

Prif Weinidog, diolch yn fawr iawn am sôn am fenywod a phobl ifanc yn eich ateb blaenorol, ond hoffwn i ganolbwyntio ar bobl hŷn. Nododd comisiynydd pobl hŷn Cymru, yn 2018, yr amcangyfrifir bod tua 112,500 o bobl hŷn mewn gwirionedd yn byw mewn tlodi yma yng Nghymru, a bod 50,000 o bobl yn byw mewn tlodi difrifol. Y llynedd, lluniodd yr elusen Independent Age adroddiad yn dweud y gallai cannoedd ar filoedd o bobl oedrannus gael eu codi allan o dlodi wrth i'r nifer llawn fanteisio ar gredyd pensiwn. Dywedodd Independent Age fod 61 y cant o'r rhai hynny sy'n gymwys yn cael y budd-dal ac y gallai tua 450,000 o bensiynwyr symud allan o dlodi yn y Deyrnas Unedig pe byddai'r niferoedd sy'n manteisio arno yn cynyddu i 100 y cant, gan leihau tlodi pensiynwyr i'w lefel isaf erioed. Cyfeiriodd strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl hŷn at y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf fel dull o fynd i'r afael â chynhwysiant ariannol pobl hŷn a gwella eu gallu i gael gafael ar gyngor a gwasanaethau ariannol priodol. Mae'r nifer isel parhaus sy'n manteisio ar hawliau ariannol yn awgrymu bod y rhaglen wedi methu â chyflawni ei tharged. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl hŷn yn ymwybodol o'u hawliau, yn gwybod sut i wneud cais gyda chymorth a chefnogaeth wedi'u targedu, a bod ganddyn nhw yr hyder i hawlio eu hawliadau? Diolch.

14:25

Yn sicr, mae Natasha Asghar yn nodi mater pwysig. Y person yng Nghymru sydd leiaf tebygol o fanteisio ar ei hawl i fudd-daliadau lles yw menyw sengl sy'n byw ar ei phen ei hun ac sydd dros 75 oed. Mae llawer iawn o resymau dros hynny, ac mae llawer ohonyn nhw wedi eu gwreiddio yn y profiad o rywedd y cyfeiriais ato yn fy ateb cynharach. Maen nhw'n fenywod y mae eu gwŷr wedi marw, ac a oedd yn dibynnu ar rywun arall yn y gorffennol i ofalu am faterion ariannol yn y cartref. Felly, mae llawer o waith y mae'n rhaid ei wneud i geisio rhoi hyder i'r bobl hynny i ddod ymlaen i hawlio'r pethau y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw. Dyna pam yr ydym ni'n buddsoddi symiau mor fawr o arian yn ein gwasanaeth cynghori sengl; cododd £42 miliwn mewn buddion heb eu hawlio yng Nghymru yn y cyfnod diweddar, sy'n dangos y gellir ei wneud, er bod angen llawer o ymdrech i'w wneud. Gyda rhai pobl hŷn yn arbennig, rydych chi'n ymdrin â materion balchder hefyd, a gall materion yn ymwneud â pheidio ag eisiau mynd i'r afael â system y maen nhw'n ofni y bydd yn eu gadael yn waeth eu byd yn hytrach na gwell eu byd. Wrth gwrs, un ffordd y gall pobl hŷn yng Nghymru fod yn well eu byd yw i Lywodraeth Geidwadol y DU beidio â thorri addewid etholiad arall a pheidio â bwrw ymlaen â'r clo triphlyg ar godi hawliau pensiwn, addewid y gwnaethon nhw siarad llawer amdano yn ystod ymgyrch etholiadol 2019—gwarant y byddai pensiynau yn codi yn unol a pha un bynnag o'r tri mesur hynny fyddai'r uchaf. Erbyn hyn, mae'n ymddangos nad yw'n gyfleus i'r Canghellor. Nid oedd yn gyfleus iddo dalu cymorth rhyngwladol, nid yw'n gyfleus iddo dalu credyd cynhwysol, ac erbyn hyn mae'n anghyfleus iddo dalu pensiynwyr hefyd. Bydd pobl yn ffurfio eu casgliadau eu hunain, Llywydd, ynghylch ble y mae gwerthoedd Llywodraeth o'r fath.

Brechlynnau COVID-19

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y nifer sy'n dewis cael yr ail ddos o frechlynnau COVID-19 yng Nghymru? OQ56794

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae ein rhaglen frechu yn parhau i wneud cynnydd rhagorol ledled Cymru. Heddiw, mae 73 y cant o bobl 18 oed a hŷn yng Nghymru wedi cael dau ddos o frechlyn COVID-19, a dyna'r gyfradd uchaf yn unrhyw fan yn y Deyrnas Unedig.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Cysylltodd etholwr sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe â mi yn ddiweddar a gafodd ddos cyntaf o'r brechlyn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ond mae wedi cael problemau sylweddol wrth geisio trefnu'r ail frechiad yn rhywle eraill. Os gwnewch chi ganiatáu i mi wneud, fe ddarllenaf ddarn o'i ohebiaeth, sy'n dweud, 'Roeddwn i'n byw yn Abertawe fel myfyriwr a ches i fy nos cyntaf o'r brechlyn yn y fan yno. Fodd bynnag, wrth symud yn ôl i fy nghyfeiriad cartref, yr oedd yn anodd iawn i mi gysylltu â bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro ynglŷn â'r ail frechiad. Cefais i fy ngwthio o un i'r llall a chymerodd ryw tri neu bedwar diwrnod i mi gysylltu â gwahanol bobl pan ddywedwyd wrthyf i dro ar ôl tro na chaf eu ffonio ar gyfer fy ail frechiad, ac na chawn i ychwaith drefnu i gael fy ail frechiad mewn bwrdd iechyd arall. Dim ond trwy lawer iawn o ddyfalbarhad a threulio oriau ar y ffôn y llwyddais i gael yr apwyntiad hwn, ond yn wir nid yw'r system yn ddigon da, ac rwy'n gwybod na fydd eraill yn fy sefyllfa i yn trafferthu i gael yr ail ddos os oes cymaint o drafferth â hyn'. Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog, pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod y broses o drefnu ail frechiad mewn bwrdd iechyd gwahanol i'r cyntaf yn un mor rhwydd â phosibl i'r rhai hynny, fel myfyrwyr, sy'n byw mewn gwahanol leoedd ar wahanol adegau o'r flwyddyn?

Rwy'n sicr yn cytuno y dylai'r system fod mor rhwydd â phosibl. Fe wnaethom ni benderfyniad ymwybodol i ganiatáu i fyfyrwyr gael eu brechlynnau mewn gwahanol leoedd. Ni fyddai'n rhaid i chi fynd yr holl ffordd yn ôl i'r brifysgol lle yr oeddech chi wedi eich lleoli er mwyn cael ail frechlyn. Y newyddion da i etholwr yr Aelod yw hyn: ym mhob rhan o Gymru, mae canolfannau brechu galw i mewn erbyn hyn, lle nad oes angen apwyntiad arnoch, nid oes angen i chi fynd drwy unrhyw weithdrefn gymhleth, rydych yn cyrraedd ac yn cael eich brechiad. Byddwn i'n annog pob person ifanc yng Nghymru sydd wedi cael cynnig dos cyntaf neu ail ddos o'r brechlyn i fanteisio ar y cynnig hwnnw. Mae'n wirioneddol mor rhwydd ag y gallwn ni ei wneud, ac rwy'n credu mai'r cyngor gorau i unrhyw berson ifanc yw: 'Manteisiwch arno oherwydd bydd yn eich amddiffyn a bydd yn amddiffyn y bobl sy'n bwysig i chi.'

14:30
Y Dreth Gyngor

7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lefelau'r dreth gyngor yng Ngorllewin De Cymru? OQ56766

Diolch i'r Aelod am hynna. Mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru yr hyblygrwydd i bennu eu cyllidebau blynyddol a lefelau'r dreth gyngor i adlewyrchu blaenoriaethau lleol ac i gynnal y gwasanaethau hynny y mae cynifer o'n cyd-ddinasyddion yn dibynnu arnyn nhw. Mae cynghorau yn atebol yn annibynnol ac yn ddemocrataidd i'w trigolion am y penderfyniadau hyn.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gyson yn pennu un o'r lefelau uchaf o'r dreth gyngor yng Nghymru. Ni all preswylwyr ddeall pam mae'n costio cymaint yn fwy i gyngor Castell-nedd Port Talbot ddarparu gwasanaethau o'i gymharu â siroedd cyfagos. Mater o degwch sydd wrth wraidd hyn. Ac er fy mod i'n derbyn hawl ddemocrataidd pob awdurdod lleol i bennu ei lefelau treth gyngor ei hun, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod cynghorau ledled Cymru yn adolygu eu lefelau gwariant yn systematig, ac a ydych chi wedi ystyried cynnal ymchwiliad yn benodol i awdurdodau sy'n trethu yn uwch, fel Castell-nedd Port Talbot, gyda'r nod o sicrhau lefelau treth gyngor fwy cyson yng Nghymru? Diolch.

Bydd etholwyr yr Aelod yng Nghastell-nedd Port Talbot yn falch o wybod mai 3.1 y cant yw'r cynnydd yn eu treth gyngor eleni yn yr ardal honno, gydag awdurdod Llafur; mae hynny yn is nag yn Ynys Môn, yn is na Gwynedd, yn is na Cheredigion, yn is na sir Gaerfyrddin, lle mae plaid yr Aelod ei hun wrth y llyw. Felly, rwy'n credu y byddan nhw fwy na thebyg yn gwerthfawrogi hynny ychydig yn fwy nag yr awgrymwyd yn y cwestiwn. Efallai fod yr Aelod yn ymwybodol heddiw bod ffigurau a gyhoeddwyd hefyd yn dangos bod Castell-nedd Port Talbot, yn anarferol iawn i unrhyw awdurdod lleol arall yn ystod y flwyddyn anodd iawn hon, wedi perfformio'n well na'i ddisgwyliadau o ran casglu'r dreth gyngor, ac mae hynny'n newyddion da i drigolion Castell-nedd Port Talbot, gan ei fod yn golygu y bydd gan yr awdurdod lleol fwy o adnoddau nag yr oedd wedi ei ragweld er mwyn darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar drigolion Castell-nedd Port Talbot ac y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw bob dydd.

Ceir rhesymau pam y mae gan rai awdurdodau lleol gyfraddau treth gyngor uwch nag eraill, ac yn y bôn maen nhw'n rhan o gyfansoddiad y poblogaethau lleol hynny. Mae'r ffactorau hynny yn hysbys i awdurdodau lleol ac fe'u trafodir bob blwyddyn yn y grŵp annibynnol a sefydlwyd gennym er mwyn adolygu cynlluniau ar gyfer y dreth gyngor. Ac rwy'n siŵr eu bod yn cael eu hysbysu yn drwyadl am y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud.

Gwasanaethau Iechyd yn y Gogledd

8. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru? OQ56795

Llywydd, ymhlith y camau sydd wedi eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd yn y gogledd, bydd agor ysgol feddygol gogledd Cymru newydd ym Mangor. Mae'r Gweinidog iechyd yn bwriadu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y datblygiad hwn yn gynnar yn yr hydref.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rwy'n sicr yn croesawu'r buddsoddiad hwnnw yn yr ysgol feddygol ym Mangor. Rwy'n siŵr y byddech chithau hefyd yn cytuno bod cael y cyfleusterau iawn ledled y rhanbarth a'r wlad yn ffactor pwysig o ran sicrhau bod gofal iechyd o ansawdd da yn cael ei ddarparu. Ac wrth edrych ar y buddsoddiad mewn cyfleusterau dros y pum mlynedd diwethaf, mae bwlch sylweddol rhwng yr hyn sy'n cael ei wario yn y gogledd a'r hyn sy'n cael ei wario yn y de. Ar sail fesul pen, mae gwariant yn y gogledd, yn fy rhanbarth i, tua hanner hynny ar gyfer rhai rhannau o'r de. Ac mae hyn wedi bod yn ystod cyfnod pan fo'r bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig hefyd. Felly, pam ydych chi'n meddwl bod cymaint o fwlch a beth fyddwch chi'n ei wneud i gau'r bwlch hwn?

Wel, yn ffodus, Llywydd, mae gen i'r ffigurau ar gyfer y pum mlynedd diwethaf o fy mlaen i yn y fan yma. Yn y gyntaf o'r blynyddoedd hynny, digwyddodd mwy o wariant cyfalaf yn Betsi Cadwaladr nag unrhyw fwrdd iechyd arall yng Nghymru gyfan. Ac yn yr ail o'r pum mlynedd hynny, yr un oedd y patrwm unwaith eto: £73 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf yn Betsi Cadwaladr, ac yn yr ail safle mae Aneurin Bevan, a gafodd £50 miliwn—£23 miliwn yn fwy yn Betsi Cadwaladr nag mewn unrhyw ran arall o Gymru. Ac mae'r ateb yn amlwg, onid yw—mae oherwydd bod gwariant cyfalaf yn gylchol. Yn ystod y blynyddoedd hynny, cafwyd buddsoddiad mawr yn Ysbyty Glan Clwyd yn etholaeth yr Aelod—[Torri ar draws.]—yr Aelod sy'n cynnig ei gyngor i mi. Yn ei etholaeth ef, cafwyd buddsoddiad mawr yn yr ysbyty hwnnw; yr oedd yn gwbl briodol, yn y ddwy flynedd hynny, fod mwy o arian yn cael ei wario yn y gogledd nag yn unman arall. Mewn rhannau eraill o'r cylch, bydd buddsoddiadau mawr mewn rhannau eraill o Gymru. Felly, yn y tair blynedd diwethaf, bu buddsoddiadau yn y de-ddwyrain—dim ond natur gwariant cyfalaf yw hynny.

Gadewch i mi gyflwyno pwynt arall i'r Aelod—ac i Aelodau eraill y gogledd sydd hefyd yn ei blaid. Felly, yn y flwyddyn hon, mae gan y gogledd 22 y cant o'r boblogaeth, ac, mewn termau refeniw, bydd yn cael 23 y cant o wariant y gwasanaeth iechyd gwladol. Canlyniad rhesymegol ei gwestiwn yw y dylem ni leihau'r gwariant refeniw hwnnw er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r gyfran o'r boblogaeth. Nid wyf i'n tybio mai dyna y byddai'n ei awgrymu, ac nid dyna yr ydym ninnau yn ei awgrymu ychwaith. Ond yn union fel yr ydym ni'n gwario mwy y pen yn y gogledd mewn termau refeniw, mewn rhai blynyddoedd rydym yn gwario mwy mewn cyfalaf, ac mewn rhannau eraill o Gymru bydd adegau pan fydd buddsoddiadau eu hangen yn y fan honno, a fydd yn eu rhoi mewn lle gwahanol dros dro yn y tabl hwnnw.

14:35
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i agenda'r wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw gan Lywodraeth Cymru—y cyntaf gan y Gweinidog iechyd? Ac mae hynny'n ymwneud â'r pwysau sy'n wynebu ysbytai yn y gogledd ar hyn o bryd. Cefais sesiwn friffio ddoe gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a chefais wybod, oherwydd bod y farchnad ar gyfer gwyliau gartref mor sylweddol, a bod y gogledd yn gyrchfan mor boblogaidd, fod ganddyn nhw—ac mae hyn y tu allan i wyliau haf yr ysgol—ddwy ward yn llawn pobl o'r tu allan i Gymru yn defnyddio gwelyau yn y rhanbarth. Mae hynny'n amlwg yn disodli'r gofal iechyd sydd ar gael i drigolion lleol, ac mae'n bryder i'r bwrdd iechyd. Ac rwy'n credu bod angen ffrwd refeniw ychwanegol er mwyn helpu'r bwrdd iechyd ymdopi â'r pwysau sylweddol hynny yn y dyfodol.

A gaf i ofyn hefyd, yn natganiad Llywodraeth Cymru yfory gan y Prif Weinidog, ynghylch y cyfyngiadau coronafeirws, a fydd sôn am eglwysi a mannau addoli? Oherwydd rwy'n credu bod galw mawr nawr am dynnu'r gofyn i wisgo mygydau oddi ar ein heglwysi, er mwyn i bobl allu canu'n uchel. Rydym wedi gweld golygfeydd ledled Cymru, gyda phobl mewn tafarndai yn gwylio'r sgriniau mawr, i weld gemau'r Ewros yn cael eu chwarae. Yn amlwg, mae'r cyffro, yr angerdd a'r brwdfrydedd hwn yn digwydd hefyd mewn eglwysi, ond nid yw'r cymeradwyo brwd hwnnw'n ymwneud â phêl-droed, mae'n ymwneud â'r Iesu, a chanu clod i'r Iesu. Ac mae pobl eisiau cael gwared ar y masgiau hyn—maen nhw wedi cael digon arnynt bellach. Mae digon o le yn y rhan fwyaf o adeiladau i gadw digon o bellter cymdeithasol, ac mae awyru da yn ogystal mewn llawer o'n heglwysi a'n capeli ledled Cymru. Ac rwy'n credu bod pobl nawr eisiau gweld rhywfaint o newid. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe byddai modd cael cyfeiriad penodol at addoldai yn y datganiad yfory, felly os gallwch roi rhywfaint o sicrwydd imi, byddaf i'n edrych ymlaen at weld y datganiad hwnnw pan gaiff ei gyflwyno.

Wel, o ran eich ail bwynt, byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud sawl gwaith fod y Cabinet yn dal i gael trafodaethau ynghylch adolygu'r rheoliadau yr wythnos hon, a bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad yma yn y Siambr brynhawn yfory.

Rwy'n credu ichi wneud pwynt perthnasol iawn am y byrddau iechyd, ac, fel y dywedwch, yn sicr rydym yn gweld mwy o bobl yn mynd ar wyliau yng Nghymru eleni, fel y gwnaethom ni y llynedd. Ac yn amlwg, mae hyn yn cael effaith ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Un rheswm dros archwilio cynigion ar gyfer dadl ynghylch treth dwristiaeth yw ystyried sut y gallwn ni barhau i ariannu—[Torri ar draws.] Gall yr Aelod ysgwyd ei ben, ond mae'n rhywbeth y byddai modd ei godi ar bobl sy'n dewis mynd i'r ardaloedd hynny, mewn modd ffordd fach iawn, ond yna gallai fod yn gyfle pwysig iawn inni fuddsoddi yn yr amodau hynny sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant, ac mae hynny'n amlwg yn un ohonyn nhw.

Hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, ar amddiffyn pobl rhag llygredd aer. Mae trigolion Cwmfelinfach yn pryderu am gyfleuster trin gwastraff ar ystâd ddiwydiannol Nine Mile Point sydd wedi cael caniatâd cynllunio. Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru wrthod trwydded amgylcheddol yn wreiddiol, oherwydd y modd y gallai allyriadau effeithio ar iechyd preswylwyr, ond cefnodd CNC ar ei benderfyniad, ar ôl i'r cwmni gyflwyno apêl. Ac, er gwaethaf y ffaith y gallai'r ffatri ryddhau degau o filoedd o dunelli o garbon deuocsid bob blwyddyn, mae'r gwaith adeiladu ar y gweill o dan gwmni newydd. Nawr, Trefnydd, rwy'n gwybod na all y Llywodraeth wneud sylwadau ar y manylion, yn enwedig oherwydd yr adolygiad barnwrol posibl, ond mae'n ymddangos bod yr achos hwn yn brawf o'r argyfyngau hinsawdd a natur a ddatganwyd gennym. Rwyf eisoes wedi sôn am lygredd aer a fydd yn effeithio ar breswylwyr o'r safle hwn yn unig. Bydd cannoedd o lorïau hefyd yn gyrru drwy'r pentref a bydd coedwigoedd ac ecosystemau lleol yn debygol o gael eu dinistrio. Mae awdur lleol, Patrick Jones, wedi ysgrifennu ataf gan ddweud, 'Yn drasig iawn, mae'n eironig, mewn man lle bu farw glowyr ar ôl blynyddoedd o anadlu llwch glo, ein bod ni nawr yn cyfreithloni gwenwyn arall a fydd yn cyfyngu ar fywydau ein cenhedlaeth nesaf.' Felly, Trefnydd, a all datganiad nodi beth mae'r argyfyngau hinsawdd a natur yn ei olygu, os caiff cynlluniau fel hyn ganiatâd i fynd rhagddynt?

14:40

Diolch. Byddwn i'n cynghori'r Aelod i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd. Er, yn amlwg, ni all wneud sylw ynghylch cyfleuster penodol, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato, ond rwy'n credu y gall roi ateb i'ch cwestiwn, yn hytrach nag aros hyd nes bydd y tymor newydd yn dechrau.

Rwy'n gofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Mae'r cyntaf yn ymwneud â sut y caiff iechyd ei wella a sut y bydd disgwyliad oes yn cynyddu drwy wella iechyd cyffredinol pobl yng Nghymru, yn hytrach nag ymyrryd pan fydd pobl yn ddifrifol wael ac angen mynd i'r ysbyty. Ystyriwch ddiabetes math 2—mae modd lleihau nifer yr achosion drwy ddeiet ac ymarfer corff. Mae angen gwneud mwy o ran atal, yn hytrach na gwario miliynau a miliynau o bunnoedd, neu gannoedd o filiynau o bunnoedd, ar ymyrryd pan fydd pobl yn mynd yn sâl.

Yr ail ddatganiad rwy'n gofyn amdano yw strategaeth gwrthdlodi. Rwy'n un o'r rhai a oedd yn anhapus iawn bod Cymunedau yn Gyntaf wedi dod i ben. Roeddwn i'n credu ei fod yn gamgymeriad enfawr gan y Llywodraeth flaenorol. Ond mae wedi'i wneud, felly does dim mynd yn ôl. Ond rwy'n gofyn am strategaeth gan y Llywodraeth i leihau tlodi, yn enwedig mewn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig, oherwydd mae gennym ni lawer iawn o bobl hynod dlawd yng Nghymru, ac mae angen inni wneud rhywbeth i geisio eu cefnogi.

Diolch, Mike Hedges, am y ddau gais hynny. O ran yr eitem gyntaf, rwy'n cytuno'n llwyr: mae atal yn amlwg yn well na gwellhad, ac yn sicr mae gennym ni ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Mae hynny'n nodi ein huchelgeisiau hirdymor i leihau gordewdra ledled Cymru. Mae gennym ni ein cynllun cyflawni ar gyfer 2021-22, ac mae hynny wedi canolbwyntio hefyd ar bandemig COVID-19 a lleihau anghydraddoldebau iechyd, ac mae hynny wedi cael cefnogaeth cronfa gwerth £6.5 miliwn.

O ran tlodi, yn amlwg—Llywodraeth Cymru—roedd Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen flaenllaw inni ers blynyddoedd lawer, a daeth hynny i ben, fel y dywedwch, yn nhymor blaenorol y Llywodraeth. Fodd bynnag, mae gennym amrywiaeth o gynlluniau lle'r ydym yn ceisio gweithio gyda'r rheini yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, a byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog cydraddoldeb cymdeithasol, ar yr adeg fwyaf priodol, yn cyflwyno datganiad ynghylch strategaeth newydd.

Rwy'n galw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru. Yn gyntaf, ar gymorth Llywodraeth Cymru i bobl ag anableddau dysgu. Dair wythnos yn ôl, lansiodd y Coleg Nyrsio Brenhinol ei adroddiad ar nyrsio anabledd dysgu, 'Connecting for Change'. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ddirywiad sylweddol yn nifer y nyrsys anabledd dysgu ledled y DU. Mae'r Pwyllgor Nyrsio Brenhinol yn nodi bod rhywfaint o'r gostyngiad hwn yn deillio o'r newid cadarnhaol yn y cymorth i bobl ag anableddau dysgu o fodel meddygol i fodel gofal cymdeithasol. Er eu bod yn credu bod llawer o nyrsys anabledd dysgu wedi symud ymlaen gyda phobl ag anableddau dysgu, a'u bod nawr yn darparu cymorth medrus mewn lleoliadau gofal cymdeithasol, nid oes data ynghylch y gweithlu hwn, ac nid oes strategaeth gan y Llywodraeth ar gyfer cynllunio neu ddatblygu gwaith nyrsys mewn gofal cymdeithasol. Gwnaeth yr adroddiad hefyd ddarganfod gwahaniaethau sylweddol ledled pedair gwlad y DU. Er enghraifft, mae gan lawer o siroedd yn Lloegr dimau anabledd dysgu cymunedol plant gyda nyrsys anabledd dysgu. Fodd bynnag, mae diffyg gwasanaethau anabledd dysgu i blant yng Nghymru. Yn benodol i Gymru, mae'r adroddiad wedi tynnu sylw at y ffaith bod niferoedd myfyrwyr nyrsio anabledd dysgu wedi aros yn sefydlog ar gyfer y tair blynedd diwethaf, a dim ond un nyrs anabledd dysgu sydd ar lefel nyrs ymgynghorol ledled Cymru. Rwyf i felly yn galw am ddatganiad sy'n rhoi manylion am ymateb Llywodraeth Cymru i alwad yr RCN am gynllun gweithlu i gyd-fynd â datblygiad strategol gwasanaethau anabledd dysgu ledled Cymru yn ystod y degawd nesaf.

Rwy'n galw hefyd am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar brofion PCR COVID-19 ar gyfer gwledydd rhestr werdd. Clywais ymateb y Prif Weinidog yn gynharach, ond ni fydd yn bodloni'r etholwr a anfonodd e-bost ddydd Sadwrn fel a ganlyn:

'Prynais i wyliau pecyn drwy Tui, ond yn wahanol i drigolion Lloegr, ni allaf fanteisio ar eu pecyn profi ar gost o £20 am bob prawf. Yn hytrach, mae'n rhaid i mi dalu £88 y person ar gyfer y prawf PCR dychwelyd yn unig, ynghyd â thâl ychwanegol ar gyfer prawf antigen dychwelyd i'r DU. I'r pedwar oedolyn a'r ddau blentyn sy'n teithio, mae hyn yn ychwanegu cost arall o fwy na £400.'

Roeddwn i hefyd yn trafod heddiw gyda menyw sydd i fod mynd ar ei gwyliau olaf gyda'i gŵr sydd â salwch terfynol ac efallai y bydd yn rhaid iddi ailystyried yn awr oherwydd y gost ddiangen hon. Mae'r math hwn o driniaeth ar gyfer pobl sydd wedi dilyn yr holl reolau—

14:45

Rwy'n credu bod eich amser chi wedi dod i ben nawr, Mark Isherwood, felly gofynnaf i'r Gweinidog ymateb.

Diolch. O ran ei ail bwynt, nid wyf yn credu y gallaf i ychwanegu dim byd arall at sylwadau'r Prif Weinidog yn gynharach.

Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wrthi'n dadansoddi'r adroddiad yr ydych chi'n cyfeirio ato—cynllun y gweithlu gan y Pwyllgor Gofal Cymdeithasol. Rwy'n gwybod bod nifer o'r byrddau iechyd yng Nghymru wedi dilyn hyfforddiant penodol o ran anabledd dysgu gyda'u nyrsys. Rwy'n gwybod fod rhywfaint o waith sylweddol wedi'i wneud yn ysbyty Maelor, er enghraifft. Felly, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw bod y cymorth hwnnw ar gael ledled Cymru, ac nid gan un neu ddau fwrdd iechyd yn unig.

Drefnydd, dwi wedi bod yn ffodus iawn yn ddiweddar i gyfarfod â nifer o ysgolion yng Nghaerdydd—ysgol Gwaelod y Garth, ysgol Plasmawr ac ysgol uwchradd gorllewin Caerdydd—i siarad am waith arbennig y Senedd Ieuenctid. Bob tro fydd yna sesiwn cwestiwn-ac-ateb ar y diwedd, mae'r amgylchedd yn dod i fyny bob tro yn eu cwestiynau nhw. Roeddem ni i gyd, yn drawsbleidiol, dwi'n credu, yn siomedig nad oedd y Ddeddf aer glân yn y datganiad deddfwriaethol yr wythnos diwethaf. A gawn ni, plîs, amserlen i weld pryd gawn ni'r Ddeddf aer glân, a hefyd i ddiddymu defnyddio plastig untro? A gawn ni ddatganiad am hynny, os gwelwch yn dda?

Diolch. Fe fyddwch chi'n—. Rwy'n credu mai Gweinidog y Cyfansoddiad a roddodd ddatganiad y rhaglen ddeddfwriaethol yma yn y Siambr ddydd Mawrth diwethaf, ac fe fyddwch chi'n sylweddoli bod y rhaglen honno newydd nodi'r ddeddfwriaeth ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Nid yw'n golygu nad yw Biliau eraill y gobeithiwn eu cyflwyno yn ystod y tymor Llywodraeth hwn yn cael eu paratoi ar hyn o bryd. Mae'n debyg y bydd llawer iawn o waith paratoi yn cael ei wneud ar y Ddeddf aer glân yn awr, oherwydd mae'r Biliau hyn yn cymryd nifer o fisoedd i'w drafftio a sicrhau eu bod yn barod i gael eu rhoi gerbron y Senedd. Felly, cyn gynted ag y gallwn ni—ac fe fyddwn ni'n edrych, yn amlwg, tuag at yr ail flwyddyn—byddwn yn gallu cyflwyno datganiad.

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad ar ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i'r rhai sy'n byw gyda diabetes. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n falch o gadeirio cyfarfod cyntaf y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes yn y chweched Senedd. Yn y cyfarfod hwn, fe glywsom gan Dr Rose Stewart, seicolegydd clinigol ymgynghorol mewn diabetes sy'n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rhoddodd Dr Stewart gyflwyniad ardderchog o ran yr angen dybryd am well cymorth iechyd meddwl arbenigol i bron 200,000 o bobl sy'n byw gyda diabetes ledled Cymru. Mae'r achos dros wella'r ddarpariaeth iechyd meddwl arbenigol ar gyfer diabetes yn glir. Fe wnaeth adroddiad 'Too often missing' gan Diabetes UK ddarganfod bod saith o bob 10 o bobl â diabetes yn teimlo eu bod wedi'u llethu gan reoli eu cyflwr. Mae anhwylderau bwyta deirgwaith mor gyffredin ymysg pobl ifanc â diabetes math 1 na'r rhai sydd heb ddiabetes, ac mae pobl sydd â diabetes ddwywaith yn fwy tebygol o brofi iselder na'r rhai sydd heb y cyflwr. Os nad oes modd ymdrin â'r materion hyn, gall iechyd seicolegol sy'n gwaethygu arwain at reoli diabetes yn gwaethygu, lle gall cymhlethdodau fynd yn ddifrifol yn gyflym. Felly, rwy'n gofyn am ddatganiad neu ddadl gynnar ar ôl y toriad ar fuddsoddi mewn cymorth iechyd meddwl arbenigol i'r rhai sy'n byw gyda diabetes.

Rydym ni'n amlwg yn cydnabod effaith seicolegol byw gyda chyflwr hirdymor fel diabetes, a soniodd Jayne Bryant fod miloedd lawer o bobl yn byw gyda'r cyflwr hwnnw ledled Cymru. Yn amlwg, rydym yn disgwyl i'r byrddau iechyd roi cymorth priodol ar waith i bobl sydd â chyflwr mor hirdymor. Mae hynny'n cynnwys gofal cefnogol gan glinigwyr cyffredinol ac arbenigol fel bod pobl yn cael cymorth i reoli eu cyflwr, yn ogystal â chyfle, lle bo angen, i fanteisio ar seicoleg glinigol fwy arbenigol. Mae gwella'r cyfle i fanteisio ar therapïau seicolegol, ac ansawdd ac ystod y therapïau seicolegol, yn faes blaenoriaeth sydd wedi'i nodi yn ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'—rwy'n credu mai nôl yn 2019 oedd hynny.

14:50

Drefnydd, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, y cyntaf o ran ymateb y Lywodraeth hon i'r ffaith bod Llywodraeth Prydain wedi gwrthod yr wythnos diwethaf alwadau i roddi £1.2 biliwn o gronfeydd pensiwn i gyn-lowyr, gan fynnu dal gafael ar yr arian. A sut fydd Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r glowyr a'r teuluoedd i gael cyfiawnder a'r hyn maent yn haeddu ei dderbyn? 

Yn ail, yr wythnos diwethaf bûm yn lwcus i gael y cyfle i ymweld â thwnnel y Rhondda, ynghyd ag Aelodau eraill o'r Senedd hon. Gwn fod nifer o eiriolwyr ar ran y prosiect yn y Siambr, a gwn hefyd fod y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd yn gweld potensial aruthrol i'r prosiect hwn. Ond mae yna broblem: mae'r twnnel yn berchen i Lywodraeth Prydain. Ond, gyda phwyslais y Llywodraeth hon ar daclo'r argyfwng hinsawdd, hyrwyddo teithio actif a hybu twristiaeth yng Nghymru mewn ffordd gynaliadwy, a llai o wario ar adeiladu ffyrdd, mae angen troi brwdfrydedd y Llywodraeth hon i mewn i gamau pendant. A gawn ni, felly, ddatganiad yn y tymor newydd gan y Gweinidog neu'r Dirprwy Weinidog ynglŷn â'r camau nesaf i fynd â'r prosiect yma rhagddo, ynghyd ag amserlen? 

Diolch. O ran y mater sy'n ymwneud â phensiynau glowyr, byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog perthnasol yn cyflwyno sylwadau i Weinidog Llywodraeth y DU, oherwydd nid wyf yn credu y gall hynny aros tan y tymor nesaf.

Ac o ran twnnel y Rhondda, mae'n amser maith ers imi glywed twnnel y Rhondda yn cael ei grybwyll yn y Siambr. Rwy'n cofio mai Leighton Andrews oedd y person cyntaf i—. Nid oeddwn i'n ymwybodol iawn o dwnnel y Rhondda, ond rwy'n cofio dysgu popeth am y twnnel wrtho ef. A byddaf i, yn sicr, yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod drwy lythyr, ac efallai roi hynny yn y llyfrgell fel y bydd pob Aelod yn ymwybodol ohono, oherwydd nid wyf i'n hollol siŵr beth yw'r camau nesaf, ond rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt da iawn.

Trefnydd, rwy'n eithaf trist ac yn rhwystredig iawn wrth sylweddoli, yn Aberconwy, yn aml, fod rhai o'n tafarndai, ein gwestai a'n bwytai yn gorfod troi darpar gwsmeriaid ac ymwelwyr i ffwrdd. Mae yma un caffi sydd ond yn gallu gweithredu dri diwrnod yr wythnos, ac mae trwyddedai arall sydd â dau fusnes ond yn gallu cadw un o'i fusnesau ar agor. Ac mae yma westywyr eraill sy'n ei chael hi'n anodd iawn ddod o hyd i staff hyfforddedig. Yn wir, y sectorau lletygarwch a manwerthu yw'r mannau perffaith i ddysgu sgiliau bywyd newydd a hanfodol, gan gynnwys gwaith tîm, gwasanaeth cwsmeriaid a rheoli amser. Ar ôl dod drwy gyfnod hynod anodd oherwydd cyfyngiadau symud mynych, dyma'r peth olaf sydd ei angen ar ein busnesau ni. Rwy'n chwarae fy rhan i wrth wynebu'r broblem hon drwy gynnal bord gron rithwir yr haf hwn gyda pherchnogion busnes, colegau lleol a'r rheini a all helpu i wynebu rhai o'r heriau hyn.

Mae llawer o wahanol faterion sydd wedi cyfrannu at y prinder staff presennol—llwybrau aneglur o addysg ffurfiol, her sefydledig o ran enw da, yn ogystal â mater lefelau cyflog. Mae hyfforddiant yn broblem fawr iawn i'r busnesau hyn. Felly, Trefnydd, mewn gwirionedd, yr hyn yr wyf i'n chwilio amdano yw datganiad ar yr hyn yr ydych chi fel Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r busnesau hyn. A ydych chi'n debygol neu'n bwriadu darparu grant hyfforddi, oherwydd, yn amlwg, pan fydd pobl yn dod oddi ar hunanynysu, a staff eraill sy'n cyflenwi drostynt, nid oes ganddynt y capasiti na'r cyfleuster i hyfforddi staff? Holwyd imi droeon nawr, 'Beth fyddwch chi'n ei wneud fel Llywodraeth Cymru?' Diolch. 

Yn sicr, rwy'n cytuno â'r Aelod fod y sector lletygarwch, a'r sector bwyd a diod yn ei gyfanrwydd, yn cynnig gyrfa ddeniadol iawn i lawer o bobl. Un o'r rhesymau mwyaf yr ydym ni'n gweld prinder yn y sector hwn—oherwydd, yn amlwg, mae hyn yn dod o fewn fy mhortffolio fy hun ac mae wedi'i godi gyda mi droeon—yw'r ffaith nad ydym wedi gweld gweithwyr o'r UE yn gallu teithio mor rhydd i'r DU ag yr oedden nhw, a hefyd rydym ni wedi gweld llawer o weithwyr nad ydyn nhw eisiau dychwelyd i'r DU. Rydym yn gweld prinder gweithwyr yn y sector prosesu bwyd a gweithgynhyrchu hefyd. Felly, mae hwn yn fater yr wyf i'n ei godi gyda'r sectorau. Yn wir, mae gennyf gyfarfod yfory, gyda'r sector manwerthu bwyd, er enghraifft. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU. Roedd yn rhywbeth yr oeddwn i'n mynd i'w godi mewn cyfarfod dwyochrog gydag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ddoe, y bu'n rhaid ei ganslo yn anffodus, ond byddaf i'n parhau i'w godi gydag ef y tro nesaf.

14:55

Drefnydd, a gaf i ofyn am un datganiad ar fater hwyl a chwarae?

Bydd dydd Mercher cyntaf mis Awst yn Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol, ac, wrth gwrs, bydd ein sefydliadau yng Nghymru yn cymryd rhan yn hynny, ledled y wlad, gan gynnwys, wrth gwrs, Ganolfan Galw Heibio Llanharan, sydd ym Mryncae a Brynna a Llanharan, yn darparu'r Cylch Chwarae Playtots, a meithrinfa ddydd, a chlybiau gwyliau, a grŵp lles a chymorth Happy Dayz, a chlybiau ar ôl ysgol a chlybiau ieuenctid hefyd. Fe fyddan nhw ar y diwrnod hwnnw yn dathlu eu pumed pen-blwydd ar hugain—25 mlynedd o ddarparu gwasanaeth mor wych i blant a theuluoedd a phobl ifanc yng nghymunedau'r ardal honno. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad ar sut y bydd Llywodraeth Cymru a'i sefydliadau hyd braich yn cefnogi'r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol—byddai datganiad ysgrifenedig yn ddigonol—ond hefyd pe gallai ymuno â mi i groesawu'r gwaith anhygoel sydd wedi ei wneud gan sefydliadau fel Canolfan Galw Heibio Llanharan yn ystod 25 mlynedd.

Diolch. Wel, rwy'n sicr yn llongyfarch Prosiect Datblygu Cymunedol Llanharan ar eu pumed pen-blwydd ar hugain. Nid ar chwarae bach y mae cyflawni hynny, ac mae prosiectau fel hyn yn darparu cymaint o gyfleoedd yn ein cymunedau ni i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd. Fe fyddwch chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn parhau i roi gwerth mawr ar chwarae a'i bwysigrwydd ym mywydau pob plentyn yn ein cymdeithas. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi sôn am y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ar 4 Awst, a'i thema yw 'haf o chwarae', ac fe fyddwch yn ymwybodol o ddatganiad y Dirprwy Weinidog am yr haf o hwyl sydd, yn fy marn i, yn cynnwys chwarae hefyd. Rydym ni'n gweithio'n agos iawn â Chwarae Cymru i sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i hawl plant i chwarae, ac mae gennym ni gyfoeth o gyfleoedd chwarae i blant ledled Cymru. Ac rydym wedi rhoi cymorth o £5 miliwn i'r haf hwnnw o hwyl y soniais i amdano.

Diolch, Llywydd, a diolch i'r Trefnydd hefyd.

Cyn COVID, roedd un o bob tair menyw yn wynebu rhyw fath o drais, cam-drin domestig neu drais rhywiol. Nid yw effaith lawn y pandemig ar fenywod sy'n wynebu trais wedi'i bennu eto, ond yn anffodus, o dystiolaeth anecdotaidd, mae'n debygol bod y niferoedd wedi cynyddu. Cyflwynwyd adroddiad gan Gymorth i Fenywod Cymru yn 2020, a dywedwyd ganddynt nad yw'r ddarpariaeth o gyllid cynaliadwy ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf 2015, wedi'i chyflawni eto. Rwy'n talu teyrnged i ymrwymiad y Llywodraeth hon i atal trais rhywiol drwy Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Ond a gaf i ofyn i'r Gweinidog gyflwyno datganiad ynghylch darparu cyllid parhaus i gefnogi'r gwasanaethau hynny sy'n helpu menywod sy'n wynebu trais domestig, ac i ystyried mesurau ataliol yn erbyn cam-drin domestig a thrais rhywiol? Diolch. 

Diolch i Jane Dodds am y pwynt hwnnw. Mae'r gyllideb refeniw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol hon yn £6.825 miliwn. Mae hynny'n cynnwys cyllid byrhoedlog ychwanegol o £1.575 miliwn, ac mae hynny mewn gwirionedd yn gynnydd ar y gyllideb flaenorol. Yn sicr, rwy'n credu ei bod yn drist dweud ein bod ni wedi gweld cynnydd yn nefnydd ein gwasanaethau yn ystod yr 16 mis diwethaf. Ond mae'r arian ychwanegol hwnnw wedi golygu y gall pob sefydliad—fe wnaethoch chi sôn am un yn benodol—ddarparu cymorth ychwanegol i ddarparwyr gwasanaethau fel y gallan nhw barhau i fanteisio ar y gwasanaethau hanfodol hynny a, fel y dywedais i, ymdrin â'r galw cynyddol yr ydym ni wedi'i weld yn ystod y pandemig.

Trefnydd, a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wneud datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynghylch darpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru? Rwy'n ei chael hi'n hynod siomedig nad yw'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cael y cyfle eto i ddarparu datganiad ar iechyd meddwl yn ystod y tymor hwn, o ystyried y data sy'n peri pryder. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos rhai tueddiadau pryderus iawn mewn un neu ddau o'r byrddau iechyd. Er enghraifft, ym mis Mawrth, dim ond 25 y cant o asesiadau gwasanaeth iechyd meddwl sylfaenol CAMHS a gynhaliwyd o fewn 28 diwrnod ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gan ostwng i 13 y cant o'r holl asesiadau ar gyfer yr holl wasanaethau o fewn y targed hwn. Rwy'n pryderu, o ran y gwasanaethau i bobl dan 18 oed ledled Cymru, y bydd un o bob tri yn aros am fwy na mis i gael asesiad yng Nghymru. O ystyried canlyniadau arolwg Mind Cymru a gafodd ei gyhoeddi ddoe, a ddangosodd fod yr effaith fwyaf wedi bod ar y bobl ifanc hŷn, rwy'n credu y byddai ymateb manylach gan y Llywodraeth yn ddefnyddiol nawr. Diolch, Llywydd.

15:00

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid sylweddol ledled Cymru ar gyfer ein gwasanaethau iechyd meddwl, ac, yn benodol, iechyd meddwl plant. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn i ddiogelu iechyd meddwl pobl ifanc, er gwaethaf y pandemig. Fe fyddwch chi'n ymwybodol ein bod wedi datblygu'r pecyn cymorth iechyd meddwl, rydym wedi buddsoddi mwy yn ein gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion ac rydym wedi cynnwys cymorth lle nad yw dysgwyr yn yr ysgol. Felly, rwy'n credu, ar draws nid yn unig ein hysgolion, ond ein byrddau iechyd hefyd, fod cyllid sylweddol i sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd meddwl—. Ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod ôl-groniad o ran gallu manteisio ar y gwasanaethau hynny, ond rydym wedi gwneud gwaith sylweddol i fynd i'r afael â hynny.

Trefnydd, hoffwn i godi hawliau pobl anabl sy'n byw yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, roedd yr adroddiad 'Drws ar glo', a gafodd ei gomisiynu gan eich Llywodraeth chi, yn ysgytwad i lawer mewn awdurdod, gan ei fod yn manylu ar sut yr oedd y pandemig wedi arwain at wahaniaethu meddygol a chyfleoedd cyfyngedig i fanteisio ar wasanaethau cyhoeddus a chymorth cymdeithasol, ynghyd â gwanhau hawliau dynol sylfaenol i bobl anabl yn gyffredinol.

Gwn fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ymateb i'r adroddiad hwn gyda datganiad gan y Cabinet, a oedd yn ymdrin â rhai o'r pwyntiau a godwyd. Rwy'n awyddus i weld a yw argymhellion eraill yr adroddiad yn cael eu hystyried. Mae hyn yn dilyn achos y mae etholwyr wedi tynnu fy sylw i ato, a oedd yn ymwneud â theulu anabl yn ceisio teithio i Lundain ar y trên, ond heb allu gwneud hynny oherwydd bod cyfyngiad ar nifer y cadeiriau olwyn ar gerbydau. Er gwaethaf archebu eu tocynnau ymhell ymlaen llaw, bu'n rhaid i'r teulu gael eu gwahanu a theithio ar drenau ar wahân, sy'n annerbyniol. Mae'r achos hwn yn cyd-fynd â chanfyddiadau'r adroddiad bod angen i'ch Llywodraeth, ac rwy'n dyfynnu:

'ymdrin â'r cyfyngiadau ar symudedd pobl anabl fel mater o frys drwy gynyddu arian i alluogi pobl anabl i ddefnyddio teithio "mwy diogel" a hygyrch.'

A all y Llywodraeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran sut y mae modd gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy teg i bobl anabl yn ein gwlad ni fel rhan o'ch ymateb chi i'r adroddiad 'Drws ar glo'? Diolch.

Diolch. Mae'n debyg ei bod braidd yn rhy gynnar i gyflwyno datganiad arall; fel y dywedwch, cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddatganiad ac, ar hyn o bryd, rwy'n gwybod ei bod hi'n ystyried yr holl argymhellion a'r canfyddiadau yn yr adroddiad. Rwy'n credu bod gwaith sylweddol i'w wneud a gwn ei bod hi'n sefydlu tasglu, tasglu dan arweiniad y Gweinidog, a fydd yn cynnwys cynrychiolaeth sylweddol o bobl anabl a grwpiau anabledd i'w galluogi i ymdrin â'r mathau hynny o anghydraddoldebau ystyfnig a dwfn y tynnodd yr adroddiad sylw atynt.

Trefnydd, a gawn ni ddatganiad ynghylch credyd cynhwysol, os gwelwch yn dda, yn benodol ar asesiad Llywodraeth y DU o'r bwriad i dynnu'r swm £20 atodol yn ôl ddiwedd mis Medi? Mae'n debyg bod y Torïaid yn benderfynol o dynnu arian allan o bocedi'r rhai sy'n gallu ei fforddio leiaf. Yng Nghymru, roedd dros 237,000 o aelwydydd ar gredyd cynhwysol ym mis Chwefror, ac roedd dros 30,000 o'r rheini'n deuluoedd yn fy rhanbarth i.

Ledled y DU, yr amcangyfrif yw bod y cynnydd wedi helpu dros 700,000 o bobl i aros yn uwch na'r llinell dlodi, ac mae rywsut yn anghredadwy y byddai Llywodraeth y DU, unwaith eto, yn benderfynol o ddewis gwneud aelwydydd incwm isel yn dlotach, o gofio holl ansicrwydd yr hydref a'r gaeaf o'n blaenau ni. Felly, fe fyddwn i'n gwerthfawrogi cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Llywodraeth o ran hynny ar ran yr unigolion a'r teuluoedd hynny.

Diolch. Rydym ni'n hynod siomedig bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu dod â'r taliad wythnosol credyd cynhwysol ychwanegol o £20 i ben o ddiwedd mis Medi. Does dim dwywaith y bydd yn effeithio ar rai o'n cartrefi tlotaf yng Nghymru, sydd eisoes yn cael trafferth o ganlyniad i bandemig COVID-19. Roeddwn i'n credu ei bod yn ddiddorol iawn bod chwe chyn-Ysgrifennydd Gwladol wedi llofnodi llythyr—Ysgrifenyddion Gwladol Torïaidd—at yr Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau pan gadarnhaodd ef y byddai'r £20 credyd cynhwysol wythnosol yn dod i ben ddiwedd mis Medi. Yr hyn y gallwn ni ei wneud fel Llywodraeth yw parhau, ynghyd â sefydliadau eraill, i gefnogi'r sefydliadau sy'n helpu pobl yr effeithir arnyn nhw'n sylweddol gan benderfyniad di-deimlad Llywodraeth y DU.

15:05

A gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig ar frys ynglŷn ag isadeiledd ffiniau ym mhorthladd Caergybi? Mae yna rannau o'r isadeiledd sy'n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru a rhannau ohono fo i Lywodraeth Prydain drwy HMRC. Dwi wedi cael llond bol ar ddiffyg tryloywder a chyfathrebu gan HMRC. Rydyn ni'n clywed rŵan eu bod nhw wedi prynu truck stop Roadking, lle mae pobl yn mynd i fod yn colli eu swyddi. Mae o'n adnodd pwysig i'r dref ar hyn o bryd.

Dwi'n aros am eglurhad gan HMRC, ond mae angen clywed beth yn union ydy safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn hefyd. Pa drafodaethau y mae Gweinidogion wedi'u cael efo Llywodraeth Prydain ynglŷn â swyddi—sicrwydd i bobl sy'n gweithio yn Roadking rŵan o ran cael swyddi yn y datblygiad tollau newydd? A fyddan nhw'n cael symud yn syth yno heb doriad yn eu cyflogaeth nhw? Beth fydd yn digwydd i'r lorïau sydd wedi bod yn parcio yn Roadking? Mae o'n adnodd mor bwysig, fel rhan o isadeiledd y porthladd.

Ond hefyd, rŵan, dwi'n clywed o bosib fod Llywodraeth Cymru yn symud y datblygiad yr oeddech chi yn ei baratoi—wedi'i baratoi—ym Mharc Cybi i mewn i ddatblygiad Roadking. Mae cymuned Caergybi a phobl Ynys Môn angen gwybod beth sydd yn digwydd, felly a gawn ni'r datganiad yna ar frys, os gwelwch yn dda?

Rwy'n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi cael ei ddwyn i mewn yn hwyr iawn i'r parti gan Lywodraeth y DU o ran y seilwaith ffiniau y bydd ei angen, yng Nghaergybi ac, yn amlwg, yn y De-orllewin. Mae Gweinidog yr Economi'n arwain ar y maes hwn, ac rwy'n gwybod ei fod yn edrych ar rywfaint o gyngor ar hyn ar hyn o bryd. Fe fyddaf i'n gofyn iddo gyflwyno datganiad ysgrifenedig pan fydd ganddo fwy o wybodaeth i'w rhannu â'r Aelodau.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Heddiw, es i gasglu'r bocsys o ffrwythau a llysiau i'w dosbarthu i'r banc bwyd lleol yr wyf i wedi bod yn dosbarthu iddo yn ystod y 18 mis diwethaf. Nid oedd modd imi gael unrhyw beth oherwydd yr argyfwng cyflenwadau y mae'r cyfanwerthwyr yng Nghaerdydd yn ei wynebu. Yn syml, nid oes digon o ffrwythau a llysiau'n cyrraedd, sy'n wirioneddol drychinebus i mi, gan fy mod i'n deall pa mor bwysig ydyw i bawb gael ffrwythau a llysiau ffres.

Mae hyn yn digwydd ar adeg anterth y tymor tyfu, pan fo digonedd o ffrwythau a llysiau ar gael. Mae'n ymddangos mai'r broblem yw (a) prinder gweithwyr i gasglu'r cynnyrch y mae pobl yn ei dyfu—mae'n cael ei adael yn y caeau—a (b) prinder gyrwyr lorïau i ddosbarthu'r cynnyrch i'r marchnadoedd cyfanwerthu.

Nawr, mae'n amlwg mai'r archfarchnadoedd sy'n cael y dewis cyntaf o'r holl gynnyrch oherwydd eu bod yn holl-bwerus. Ond hyd yn oed yn yr archfarchnadoedd rwyf wedi sylwi ar silffoedd gwag mewn mannau lle mae cyflenwad helaeth o ffrwythau a llysiau fel arfer. Felly, mae hyn, i mi, yn agoriad llygad gwirioneddol o ran ein diogelwch bwyd, ar adeg pan fo'r—amhariad i'n cyflenwadau yn digwydd o ganlyniad i ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw hyn erioed wedi digwydd imi ar anterth y pandemig, felly tybed, Gweinidog—ac rwy'n sylweddoli bod hyn yn eich portffolio chi—a gawn ni ddatganiad ar sut yr ydym ni'n mynd i reoli'r sefyllfa hon yn ystod y misoedd llawer mwy anodd pan fydd angen inni fewnforio ein holl gyflenwadau.

Diolch. Byddwch chi wedi fy nghlywed i'n dweud mewn ateb cynharach i Janet Finch-Saunders ein bod ni'n gwybod—rydym ni'n ymwybodol iawn o brinder gweithwyr yn y maes hwn. Rwy'n credu bod y sefyllfa ar ei mwyaf difrifol o ran logisteg; fe wyddom fod gennym brinder mawr o yrwyr cerbydau nwyddau trwm, er enghraifft. Mae hynny wedi gwaethygu oherwydd gyrwyr yn methu cymryd eu profion yn ystod y pandemig, er enghraifft; rydym wedi cael gweithwyr ar ffyrlo ac, yn amlwg, soniais yn gynharach am y broblem o weithwyr mudol o'r UE yn methu teithio'n rhydd bellach a rhai ohonynt yn dewis peidio â dychwelyd.

Fe fyddwch chi wedi fy nghlywed i'n dweud fy mod yn cael cyfarfod gyda'r archfarchnadoedd yfory, oherwydd mae hwnnw'n faes y maen nhw eisiau ei godi gyda mi. Felly, wrth—. Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud o ran yr archfarchnadoedd, ond maen nhw'n pryderu hefyd ynghylch diffyg gyrwyr HGV. Ac yn union ar ôl imi gael rhagor o wybodaeth ganddyn nhw, ac ar ôl imi gael y cyfle i gael fy nghyfarfod dwyochrog gydag Ysgrifennydd Gwladol DEFRA—oherwydd, yn amlwg, mae'r rhan fwyaf o hyn yn eu dwylo nhw, o ran hynny—byddaf i'n hapus iawn i wneud datganiad ysgrifenedig.

15:10
3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Confensiwn ar ein Dyfodol Cyfansoddiadol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar gonfensiwn ar ein dyfodol cyfansoddiadol, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Mick Antoniw.

Diolch, Llywydd. Ym mis Mai, fe wnaethom ni ennill mandad gan bobl Cymru i gyflawni ein maniffesto ni, a oedd wedi ymrwymo i greu Cymru gryfach, wyrddach a thecach. Yn ein rhaglen lywodraethu, rydym wedi amlinellu ein cynlluniau i fynd i'r afael â heriau parhaus y pandemig, ein hymadawiad ni â'r Undeb Ewropeaidd, ac argyfwng newid hinsawdd. Ein blaenoriaeth gyntaf ni yw adferiad a chefnogi ein gwasanaeth iechyd, ein hysgolion a'n heconomi i wneud hynny—y cyfan mor hanfodol i lesiant ein pobl ni.

Yr hyn sy'n amlwg hefyd, o ganlyniad yr etholiad, yw'r gefnogaeth i'n maniffesto ni ar gyfer newid a chydnabyddiaeth o'r angen i ddiwygio a gwella ein perthynas gyfansoddiadol ni â Llywodraeth y DU a chenhedloedd eraill y DU. Felly, gadewch inni ddweud yn eglur o'r cychwyn cyntaf: mae angen diwygio er mwyn ein galluogi ni i gyflawni ein hymrwymiadau i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, datblygu economi ffyniannus, a mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb hyd eithaf ein gallu. I gyflawni polisïau sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru, mae'n rhaid cael cyfres gynhwysfawr o ddulliau i wneud y gwaith.

Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi amlygu diffygion ein setliad presennol, yn ogystal â thensiynau cynyddol o ran gwedd gyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Unedig. Rydym wedi edrych ar ein cefnogaeth ni i Deyrnas Unedig a Theyrnas Unedig y mae'n rhaid iddi newid. Rydym yn parhau i arwain y ddadl yng Nghymru ac yn gwneud hynny gyda chynigion ymarferol ar gyfer newid cadarnhaol, yn fwyaf diweddar yn yr ail argraffiad o 'Diwygio ein Hundeb: Cyd-lywodraethu yn y DU'.

Llywydd, yn ein maniffesto, fe wnaethom ni addo sefydlu comisiwn i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru, ac fe fyddaf i'n nodi heddiw sut yr ydym ni'n bwriadu cyflawni'r addewid honno. O ystyried effaith uniongyrchol ein trefniadau llywodraethu ni ar fywydau pobl, rydym yn awyddus i weld y comisiwn yn arwain ymgysylltiad â'r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth a helpu i greu cytundeb cyhoeddus ehangach. Rydym yn awyddus i'r comisiwn ganfod barn pobl ar y materion hynny sydd fwyaf pwysig yn eu golwg nhw o ran y ffordd y mae'r cyfansoddiad yn gweithio a goblygiadau hynny i'r gwasanaethau y maen nhw'n eu gwerthfawrogi. Ac rydym yn dymuno i'r comisiwn lunio cytundeb gyda chymdeithas ddinesig ynglŷn â sut rydym ni am ddiwygio cyfansoddiad y Deyrnas Unedig i adeiladu Cymru sy'n gryfach a phartneriaeth sy'n gryfach ond yn fwy teg a chyfartal.

Fe fydd y comisiwn yn gynhwysol ac fe fydd yn ymestyn y tu hwnt i Gymru hyd at wledydd, rhanbarthau a chymunedau eraill y Deyrnas Unedig i ystyried sut y gallwn ni adeiladu partneriaeth gyfansoddiadol sy'n well. Rydym yn disgwyl i'r comisiwn fod yn wynebu tuag allan ac yn ymgysylltu â chymdeithas ddinesig a'r cyhoedd mor eang â phosibl, ar gyfer cynnal sgwrs wirioneddol genedlaethol am ddyfodol Cymru. Yn benodol, rydym yn dymuno i'r comisiwn estyn allan at y rhai na fydden nhw fel arall yn barod i gymryd rhan mewn dadl o'r fath, at y bobl a'r cymunedau hynny sydd wedi ymddieithrio oddi wrth wleidyddiaeth i raddau helaeth iawn, neu sydd wedi mynd yn amheus, yn hytrach, ynglŷn â'i pherthnasedd i'w bywydau nhw a bywydau eu teuluoedd nhw a'i gallu i wneud gwahaniaeth.

Byddwn yn sefydlu comisiwn o ddinasyddion. Byddai'r rhain yn bobl i gynrychioli'r amrywiaeth yn ein cymdeithas a'n cymunedau ni, ac yn cynnwys rhai sydd â'r sgiliau a'r galluoedd sy'n deillio o brofiadau gwirioneddol bywyd a fydd yn eu galluogi nhw i estyn allan ac ymgysylltu ag eraill. Eu tasg fydd ceisio nodi a meithrin cytundeb ynglŷn â'n gwerthoedd ni a'r Gymru yr hoffem ei gweld.

Fe fyddwn ni'n annog y comisiwn i ystyried sut y gall ei waith gefnogi'r saith nod llesiant, a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a gweithredu mewn ffordd sy'n gyson â'r pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf.

Fe fyddwn ni'n annog y comisiwn i nodi a dysgu o'r enghreifftiau gorau o ymgysylltu â dinasyddion a bod yn arloesol yn y ffordd y mae'n ymdrin â'i dasg. Mae'n rhaid iddo fod yn gomisiwn i'r bobl, gan gymryd rhan mewn sgwrs gyda phobl, gydag ymgysylltiad gwirioneddol ar lawr gwlad, a'r ffordd y byddwn ni'n cyflawni hynny fydd ein her fwyaf ni. Fe fydd angen inni ddatblygu ieithwedd newydd o ran ymgysylltu, un sy'n osgoi iaith gwleidyddiaeth a chyfansoddiadau yr ydym ni mor gyfarwydd â hi, ieithwedd sy'n ymdrin â'r pethau sy'n berthnasol i fywydau pobl yn uniongyrchol. Ond i wneud hyn, fe wyddom fod yn rhaid i waith y comisiwn gael ei lywio gan dystiolaeth a dadansoddiad cadarn.

Yn ogystal â'n galwad ni am dystiolaeth ac ymgysylltiad ag academyddion yn ôl ein harfer, rydym ni'n bwriadu sefydlu panel o arbenigwyr yn gyfochrog â'r comisiwn. Fe fydd y panel hwn yn ymgymryd ag ymchwil a dadansoddiadau y gall y comisiwn ddatblygu syniadau ac argymhellion ohonynt. Rydym yn rhagweld y bydd y panel yn cynnwys arbenigedd sefydledig o Gymru a thu hwnt. Fe fydd yn cynnig arbenigedd a data cadarn a gwybodaeth a fydd, rwy'n gobeithio, yn rhyddhau mwy o amser i'r comisiynwyr ar gyfer canolbwyntio ar y sgwrs fawr yr ydym ni'n awyddus i'w chychwyn.

Yr allwedd i sicrhau llwyddiant y comisiwn fydd ei gyfansoddiad. Fe fydd yn rhaid iddo fod yn fedrus ac yn annibynnol. Fe fydd yn rhaid iddo gynrychioli'r gymdeithas y bydd yn ymgysylltu â hi i'r graddau mwyaf posibl. Fe fydd hyn yn cynnwys cynrychiolaeth o amrywiaeth o gefndiroedd gwleidyddol a dinesig. Fe fydd yn rhaid iddo allu dangos ei arbenigedd hefyd, a bydd yn rhaid i'w aelodau gynrychioli pob oedran a'u tynnu o'r ystod ehangaf bosibl o sectorau mewn cymdeithas ddinesig: sefydliadau cyhoeddus, preifat, trydydd sector, dinesig a llawr gwlad yn ogystal â phartneriaid cymdeithasol.

Fe fydd swyddogaeth y cadeirydd neu'r cyd-gadeiryddion yn allweddol ac fe fydd angen iddi roi arweiniad wrth weithio tuag allan yn ogystal â meithrin cytundeb o fewn y comisiwn. Dros yr haf, fe fyddwn ni'n ystyried y materion yn fanylach ac yn cael trafodaeth bellach am y comisiwn gyda'r holl bleidiau a gynrychiolir yn y Senedd, ac rwy'n bwriadu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi yn ystod tymor yr hydref, a hynny cyn gynted â phosibl. Diolch, Llywydd.

15:15

A gaf i ddweud fy mod i'n croesawu'r ffaith eich bod chi wedi gwneud y datganiad hwn i'r Siambr heddiw yn hytrach nag i'r cyfryngau yn gyntaf? Rwyf i o'r farn y gallai rhai o'ch cyd-Aelodau ddysgu llawer oddi wrthych, Gweinidog.

Fel rydym wedi dweud yn y gorffennol, nid ydym o'r farn fod yna unrhyw awydd ymhlith y cyhoedd i hon fod yn flaenoriaeth ar hyn o bryd, ond rydym ni'n derbyn bod gan Lywodraeth Cymru wahanol safbwyntiau, a dyna pam rydych chi wedi cyflwyno'r datganiad arbennig hwn. Rydym ni'n credu y dylai holl egni Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar flaenoriaethau eraill, fel mynd i'r afael ag adferiad economaidd, a sicrhau bod ein GIG yn gallu ymdopi â'r gwaith sydd wedi pentyrru ar hyn o bryd o ganlyniad i'r pandemig ac, yn wir, ar helpu ein hysgolion ni a'n system addysg ni i gael adferiad o COVID hefyd. Ond, o ystyried eich bod chi wedi gwneud y datganiad hwn, rwyf am ofyn nifer o gwestiynau heddiw. Yn gyntaf oll, roeddech chi'n dweud,

'O'r cychwyn cyntaf: mae angen diwygio er mwyn ein galluogi ni i gyflawni ein hymrwymiadau i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, datblygu economi ffyniannus, a mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb'.

Ac eto, y gwir amdani yw nad ydym wedi mynd i'r afael â thlodi, nad yw ein heconomi ni'n ffynnu mwy, nad yw ein gwasanaethau cyhoeddus ni gystal ag y dylen nhw fod, ond nid oes a wnelo hynny ddim â'r ffaith nad oes gan y Senedd hon y pwerau sydd eu hangen; ond oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Lafur yng Nghymru sydd wedi methu â mynd i'r afael â'r materion penodol hyn dros y degawdau.

Nawr, rydych chi wedi sôn am bwysigrwydd y comisiwn hwn wrth symud ymlaen. A wnewch chi roi amserlen inni ar gyfer cwblhau ei waith? Fe gawsom restr faith gennych chi o sefydliadau unigol a rhanddeiliaid eraill yr ydych chi'n dymuno iddyn nhw fod â rhan yn y comisiwn. Beth fydd maint hwn? Faint fydd yn ei gostio? A fydd y swyddi hyn yn swyddi â thâl? Pa mor hir yw darn o linyn? Rwyf i o'r farn pe byddai'r comisiwn o faint sylweddol, fe fydd yn llawer rhy fawr ac yn llawer rhy anhylaw i allu cyflawni unrhyw ganlyniadau rhesymol.

Rydych chi wedi sôn am gael cadeirydd neu gyd-gadeiryddion o bosibl. Nid wyf i'n gwybod dim am y trefniadau y gallech chi eu rhagweld ynglŷn â gallu'r cadeiryddion i edrych ar y gwaith a chydlynu gwaith y comisiwn arbennig hwn, ond a yw hynny'n golygu cadeirydd a chyd-gadeirydd i'r panel arbenigol ac i'r comisiwn? Roeddech chi'n dweud eich bod chi'n dymuno cael comisiwn ag arbenigedd ganddo, ac eto rydych chi'n sefydlu panel arbenigol yn gyfochrog. A fydd hwnnw'n cystadlu ag ef o ran yr arbenigedd yr ydych chi'n disgwyl i'r comisiwn hwn ei gael? Yn eich barn chi, beth fydd allbwn y comisiwn hwn? Rwy'n cymryd yn ganiataol eich bod chi'n chwilio am restr o argymhellion i'r Llywodraeth eu hystyried, neu ai gwaith i'r Senedd hon fydd eu hystyried nhw yn eu cyfanrwydd?

Yn bwysig iawn, a fydd y comisiwn hwn yn edrych nid yn unig ar y trefniadau cyfansoddiadol ledled y DU gyfan, ond a fydd yn edrych ar y trefniadau datganoli a chyfansoddiadol yng Nghymru hefyd? A fydd yn rhoi ystyriaeth i'r galw yn ein hawdurdodau lleol ni a'n rhanbarthau ni yng Nghymru i weld datganoli mwy o gyfrifoldebau iddyn nhw—i'r gogledd, i'r gorllewin, i Abertawe ac ardal dinas Abertawe, fel mae Mike Hedges yn ein hatgoffa ni'n rheolaidd? Rwy'n credu bod y pethau hyn yn rhai na ddylid rhwystro'r comisiwn rhag eu hystyried, ac rwy'n credu fod yna awydd i ystyried y pethau hynny, ac, yn wir, os gwneir hynny, credaf y byddai honno'n sgwrs ddefnyddiol iawn i ni ei chael.

Pa fath o gwestiynau y byddwch chi'n gofyn i'r comisiwn eu hystyried? Mae'n rhaid bod gennych chi ryw syniad eisoes sut rai fyddan nhw. Mae'n amlwg eich bod chi wedi gosod stondin Llywodraeth Cymru eisoes yn eich papur, 'Diwygio ein Hundeb'. A fydd y comisiwn hwn yn edrych ar eich papur ac yn penderfynu a yw'r pethau hynny'n synhwyrol neu beidio, neu a fydd ganddo'r rhyddid yr wyf i'n credu y bydd ei angen ar unrhyw gomisiwn i allu gwneud rhywbeth defnyddiol na ellir ei wneud mewn ffyrdd eraill?

Rwyf am dawelu nawr am fy mod i wedi gofyn llawer o gwestiynau, Llywydd. Ond rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi wedi ymrwymo i ymgysylltu â phob plaid wleidyddol ynglŷn â hyn hefyd, ac rydym ni'n edrych ymlaen at allu cyfrannu mewn ffordd ystyrlon at ddatblygiad y comisiwn a'r gwaith pwysig yr ydych chi'n awyddus iddo ei wneud wrth symud ymlaen.

15:20

Wel, a gaf i ddiolch i Darren Millar am y datganiad cadarnhaol iawn ac adeiladol iawn a wnaeth ef, a'r llawer iawn o gwestiynau dilys iawn a ofynnwyd ganddo? Mae diwygio a darparu gwasanaethau, sy'n fater a gaiff ei godi yn y Siambr hon yn aml, yn un yr wyf i o'r farn fod yna gydnabyddiaeth eang nad yw'r ysgogiadau gennym i gyflawni rhai o'r polisïau y cawsom ein hethol i'w cyflawni mewn gwirionedd. Rydym wedi dadlau ers tro byd, er enghraifft, ym meysydd cyfiawnder—ystod eang o feysydd sydd o fewn ein cyfrifoldeb ni lle, er enghraifft, nad yw'r ysgogiadau allweddol gennym ni. Rydym ni'n ystyried meysydd cyfiawnder ieuenctid, y gwasanaeth prawf a'r teulu. Fe fyddai mor naturiol gweld y pethau hynny'n dod o dan yr un ymbarél lle mae rhai o'r ysgogiadau gyda ni, ond nid rhai o'r rhai allweddol. Ac mae cynnydd pellach yn y meysydd hynny'n ddigon rhesymol.

Rydym ni wedi edrych droeon hefyd ar faes yr heddlu. Ac, wrth gwrs, nid yn unig yr ydym yn gwneud cyfraniad ariannol sylweddol tuag at gost yr heddlu, a hefyd tuag at gost swyddogion cymorth cymunedol—a ddaeth i mewn, peidiwch ag anghofio, oherwydd y gostyngiadau yn niferoedd yr heddlu, felly bu'n rhaid inni gymryd y cam hwnnw—ond pan fyddwch chi'n trafod pethau fel diogelwch cymunedol a'ch bod chi'n sylweddoli nad yw rhai o'r ysgogiadau allweddol gennych chi i ymgysylltu â'r heddlu ac o ran cynllunio a chyfeiriad plismona cymunedol, yna mae'n amlwg fod yna broblemau gwirioneddol o ran yr ysgogiadau penodol hynny.

Fe geir ysgogiadau allweddol hefyd o ran cyllid sy'n cael effaith. Rydym wedi colli symiau sylweddol o arian o ran cyllid yn sgil ein hymadawiad ni â'r Undeb Ewropeaidd, ac ni ddaeth arian yn ei le yn ôl i'r fan hon, lle byddai'n ariannu rhaglen weithredu gynhwysfawr o ran ein hamcanion polisi cyhoeddus ni. Felly, mae'n amlwg fod yna faterion sy'n bwysig iawn, ac sydd ymhlith y materion niferus a fyddai'n llunio sylwedd yr hyn y byddem ni'n awyddus i'r comisiwn ei drafod.

O ran yr amserlen, rwyf wedi cyflwyno nifer o ddarlithoedd hyd yma i sôn am gysyniad cyffredinol y comisiwn, ac mae'n ymddangos i mi mai un o amcanion y comisiwn fyddai ceisio cwblhau'r gwaith o fewn tua 18 i 24 mis, ond i wneud argymhelliad hefyd o ran sefydlu comisiwn cyfansoddiadol hir sefydlog. Oherwydd, mewn gwirionedd, os ydyn nhw am gyflwyno cyfres o argymhellion a chynigion pwysig, os ydyn nhw am greu consensws ynghylch meysydd allweddol a allai sicrhau llywodraethu gwell yng Nghymru, yna mae angen dwyn y pethau hynny ymlaen y tu hwnt i'r cyfnod hwnnw. Ond nid y math o gomisiwn dinasyddion yr ydym ni'n sôn amdano ar hyn o bryd fyddai'r corff penodol hwnnw.

Ac, o ran cyd-gadeiryddion, wel, boed hynny'n gadeirydd ac is-gadeirydd i gefnogi, neu'n gyd-gadeiryddion, mae'r rhain yn ddewisiadau sydd ar gael i ystyried sut y gellid rhannu'r cyfrifoldeb o arwain comisiwn o'r fath, a sut y gellid rhannu cyfrifoldebau gyda gwell cydbwysedd rhwng y rhywiau ac yn y blaen.

O ran llywodraethu a datganoli yng Nghymru ei hun, credaf mai un o'r pethau y byddai am edrych arno fyddai llywodraethu, yn sicr, nid yn unig o ran gwaith y fan hon, ond o ran llywodraeth leol, datganoli polisi, a sut y gallai llywodraethu fod yn well, gan fod yn agosach at y bobl, a bod yn fwy effeithiol ac yn y blaen. Felly, rwy'n credu bod yr holl faterion hynny'n faterion a godais i ychydig yn ôl mewn cwestiynau pan ofynnwyd imi am hyn hefyd.

Ac, o ran panel o arbenigwyr, wel, wrth gwrs, wrth ystyried dewisiadau, mae angen edrych ar y data caled hefyd i lunio gwerthusiad priodol i brofi ac ymchwilio i rai o'r syniadau a all gael eu cyflwyno, rhai o'r pethau y gallai pobl eu hawgrymu. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig.

O ran y cylch gorchwyl gwirioneddol, yn fy marn i, pan fyddwn ni'n gallu canfod cadeirydd ac is-gadeirydd neu gyd-gadeiryddion, ac yn dechrau ar y gwaith o lunio rhestr o bobl a allai fod yn addas i'r comisiwn, yna fe fyddwn ni'n awyddus i ymgysylltu â'r bobl hynny i nodi a datblygu beth fyddai'r math o gylch gorchwyl a beth fyddai'r mecanweithiau i ganiatáu i'r comisiwn wneud ei waith. Felly, fel y dywedais, yr her fwyaf mewn gwirionedd fydd sut y byddwn ni'n datblygu rhaglen ymgysylltu a sut y byddwn ni'n ffurfio comisiwn sydd mor amrywiol a chynrychioliadol â phosibl.

Fe ofynnodd yr Aelod am ei faint; nid yw ei faint wedi ei bennu'n gyfan gwbl. Rwy'n amau y bydd hwn yn gomisiwn o tua naw i 11 o bobl, felly fe fydd yna ddewisiadau anodd, yn amlwg. Nid yw hwnnw'n rhif absoliwt, ond mae'n ymddangos i mi mai dyna'r math o strwythur gweithredol y byddem ni'n dymuno ei weld yn cael ei sefydlu.

O ran y sgwrs ei hunan, wel, ni allwch fynd at bobl Cymru a dweud, 'Rydym yn mynd i gael trafodaeth am ddyfodol Cymru, llywodraethu Cymru, gwerthoedd Cymru' a cheisio pennu'r paramedrau ar gyfer cyflawni hynny—hynny yw, o ran eithrio safbwyntiau y byddai pobl yn awyddus i'w mynegi. Oherwydd os ydych yn mynd i ymgysylltu â phobl, fe fyddan nhw'n cynnig amrywiaeth eang o safbwyntiau, a phethau nad ydym ni erioed wedi meddwl amdanynt efallai, ond mae'n bwysig ei bod yn gynhwysol a'i bod yn sgwrs agored, ac yn sgwrs ddilys hefyd.

15:25

Diolch yn fawr ichi, Cwnsler Cyffredinol, am eich datganiad, a diolch yn fawr hefyd i Mr Millar am ei gydnabyddiaeth y bydd ei blaid e'n fodlon cydweithio â'r confensiwn yma. Cwnsler Cyffredinol, fel cyd-gyfreithiwr, dwi'n croesawu'r confensiwn yma, dwi'n croesawu'r cyfle i drafod materion cyfansoddiadol, ond dim rhywbeth i'r nerds cyfreithiol ddylai hyn fod. Mae eisiau iddo fe gynnwys, fel rydych chi'n dweud, holl bobl Cymru, o wahanol gefndiroedd a gwahanol ddiwylliannau. Dwi'n cytuno â chi, honna sy'n mynd i fod y broblem fwyaf ichi. Nid gwaith un plaid, nid gwaith un carfan yw creu y Gymru newydd a'r Gymru radical rydym ni ei hangen.

Yn hytrach, dylai hyn fod yn waith y genedl gyfan, gan gynnwys y Torïaid, ei holl bobl, ei safbwyntiau i gyd, yn gweithio gyda'i gilydd. Fe all confensiwn ddechrau'r gwaith o greu democratiaeth wirioneddol newydd i Gymru, rhywbeth y mae ei angen arnom yn fawr. Ni all hon fod yn siop siarad arall i'r henuriaid gynnal y status quo.

Felly, mae'n rhaid i annibyniaeth fod yn rhan o'r gymysgedd o ddewisiadau a gaiff eu hystyried. Ni ellir ysgubo o'r neilltu y cynnydd yn y gefnogaeth i annibyniaeth fel rhywbeth a wrthodwyd yn ôl y sylwadau syml bod hynny wedi cael ei wrthod yn y blwch pleidleisio. Ni chafodd annibyniaeth ei gwrthod, a beth bynnag, fel y soniwch, Cwnsler Cyffredinol, roedd yna gefnogaeth sylweddol i drosglwyddo rhagor o bwerau o San Steffan i Gymru yn yr etholiad, beth bynnag a honnir gan rai ar feinciau'r Ceidwadwyr.

Mae Plaid Cymru, yn y gorffennol, wedi galw am sefydlu cynulliad dinasyddion, i drafod materion cyfansoddiadol a'r argyfwng hinsawdd hefyd. Rwy'n falch bod eich datganiad chi'n crybwyll eich bod yn bwriadu edrych ar hynny ac edrych ar brofiadau blaenorol eraill. Fe gafwyd rhai enghreifftiau ardderchog o gynulliadau dinasyddion effeithiol. Mae'r profiadau yn Iwerddon wedi dangos eu bod nhw wedi gallu trafod materion hanesyddol a chymhleth mewn ffordd sy'n creu cyd-ddealltwriaeth a thir cyffredin. Ac fe fydd yr Aelod dros Flaenau Gwent yn falch fy mod i'n sôn am enghraifft y cynulliad hinsawdd yno ym Mlaenau Gwent: cynulliad llwyddiannus o ddinasyddion a drefnwyd gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol fel ffordd o greu cytundeb ar sut y gallwn wella cymdeithas Cymru gyda ffordd ymlaen o ran yr argyfwng hinsawdd. Mae dysgu o enghreifftiau o'r fath, enghreifftiau tramor ac enghreifftiau yma yng Nghymru hefyd, yn hollbwysig wrth inni ddechrau ar ein cam nesaf ni ar daith datganoli: trafodaeth ystyrlon a gobeithiol gyda phobl Cymru ynglŷn â dyfodol ein cenedl ni.

Oherwydd dyw'r setliad datganoledig presennol ddim yn gynaliadwy. Mae e'n ddarostyngedig i fympwy Llywodraeth San Steffan. Dim ni sy'n sofran; Llywodraeth San Steffan sydd o hyd yn dweud eu bod nhw'n sofran. Dylai'r sofraniaeth fod fan hyn gyda phobl Cymru. Mae power grab Llywodraeth Boris Johnson yn gonsýrn i nifer ohonom ar draws y pleidiau. Roedd y TUC yn ddiweddar wedi dweud eu bod nhw'n cael comisiwn i edrych i gael rhagor o bwerau i Gymru, oherwydd bod consýrn mawr gyda nhw am y power grab o Lywodraeth San Steffan, a hynny yn tanseilio hawliau gweithwyr fan hyn yng Nghymru.

Rŷn ni'n gwybod, onid ydym, beth yw cynlluniau y Torïaid yn Llundain, a dwi'n gobeithio bod y Torïaid fan hyn yng Nghaerdydd yn mynd i sefyll lan a mentro i fod yn wahanol i'r Torïaid yn Llundain. Mae Mr Millar yn dweud y dylem ni ganolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol, ond hynny o blaid yn Llundain sy'n gosod baner yr undeb dros wyth llawr yng nghanol Caerdydd, a hynny o blaid hefyd sydd yn beirniadu Llywodraeth Cymru am annog ei gweithwyr i ddysgu 'Bore da' a sut i ddweud 'Llanelli' yn iawn. Rŷn ni'n gwybod beth mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn ceisio ei wneud; dyna pam fod rhaid inni gael confensiwn cryf fan hyn yn Nghymru i gryfhau ein setliad datganoli.

Ychydig o gwestiynau yn gyflym. Sut ydych chi'n mynd i sicrhau eich bod chi'n cael yr ystod eang iawn o bobl, sy'n cynnwys busnesau, undebau llafur ac aelodau o'r gymdeithas ffydd? I fod yn onest, dyna oedd methiant mawr comisiynau y gorffennol; doedden nhw ddim yn gynrychioladol o bobl Cymru. 

O ystyried comisiynau'r gorffennol unwaith eto, gwahaniaeth enfawr gyda'r confensiwn hwn yw'r cylch gwaith eang. Roedd comisiwn Thomas yn eang iawn, ond roedd hwnnw ar gyfer ystyried y system gyfiawnder. Roedd comisiwn Richard ar gyfer diwygio yn y fan hon. Mae'r dasg mor enfawr, ac fe all hynny fod yn broblem. Beth ydych chi'n dymuno ei gael o'r confensiwn hwn?

Sut ydych chi'n mynd i allu sicrhau, pan fydd pethau'n symud yn gyflym, bod y confensiwn yn aros yn berthnasol? 

Ac yn olaf, dwi wedi codi'r pwynt am bwysigrwydd annibyniaeth yn rhan o'r cwestiwn. Faint o gefnogaeth ydych chi wedi'i chael oddi wrth eich plaid yn Llundain ac oddi wrth Lywodraeth San Steffan tuag at y confensiwn yma?

Mae sawl cwestiwn i'w ateb. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi dros fisoedd yr haf, a chyda phleidiau eraill, i lunio confensiwn a all adeiladu Cymru well, Cymru wyrddach, Cymru decach a Chymru fwy ffyniannus. Diolch yn fawr.

15:30

Rwy'n diolch i'r Aelod am ei sylwadau ef. Mae'n iawn i ddweud bod rhai ohonom ni sydd â chefndiroedd cyfreithiol yn hoffi ymroi i fanylion cyfansoddiadau a hollti blew cyfreithiol. Er mor bwysig ydyn nhw o fewn gweithrediad senedd, a deddfwrfa yn arbennig felly, mae'n rhaid i hanfod newid, a hanfod penderfynu ar y math o newid y gallem ni ei ragweld i Gymru, sut y gallem lywodraethu yn well ac mewn ffordd amgen, fod yn rhywbeth sy'n eiddo i bobl Cymru. Mae'n rhaid iddo fod yn eiddo i bobl Cymru, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r iaith fod yn iaith sy'n ymwneud â bywydau pobl, neu fel arall nid wyf yn credu y byddan nhw'n ymgysylltu.

Rwyf wedi dweud o'r blaen fy mod i o'r farn, pan edrychwn ni ar lywodraethu, fod gennym ddemocratiaeth mewn argyfwng, lle mae cymaint o bobl wedi ymddieithrio oddi wrth brosesau gwleidyddol neu fod ganddyn nhw gyn lleied o hyder ynddyn nhw, fel rydym ni'n ei weld o niferoedd y rhai sy'n pleidleisio mewn etholiadau. Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnewch chi'n hollol gywir o ran sut y byddwn ni'n llunio fframwaith, cylch gorchwyl, sy'n ddigon eang i ehangu cwmpas y dadleuon er mwyn i bobl ymgysylltu, a bod â rhan, i ystyried pob dewis, ond eto, serch hynny, fe fydd yn canolbwyntio ar nifer o bwyntiau allweddol. Sut Gymru yr hoffech chi ei gweld? Beth ddylai dyfodol Cymru fod? Beth yw ein gwerthoedd ni? Beth ddylai ein perthynas ni ag eraill fod yn y dyfodol? Efallai fod hynny o ran amrywiaeth eang o ganlyniadau. Beth ddylai ein perthynas ni â Llywodraeth y DU fod, ac â gwledydd eraill o'n hamgylch ni? Rwy'n credu bod y rhain i gyd yn faterion cymhleth iawn y mae angen eu rhoi at ei gilydd. Ac mae hwnnw'n orchwyl anodd iawn. Fel y dywedais i, dyma un o'r heriau mawr, oherwydd mae'n rhaid i'r confensiwn hwn, y comisiwn hwn, fod yn rhywbeth sy'n wahanol iawn. Dyma gam tuag at ddyfodol Cymru.

Rydych chi'n codi, a hynny'n gwbl briodol, enghreifftiau mewn mannau eraill, oherwydd nid ni yw'r unig rai. Mae llawer o wledydd eraill yn wynebu heriau o'r fath yn eu cymdeithas nhw, eu democratiaeth nhw, eu llywodraethu nhw. Roeddech chi'n sôn am yr Alban; mae gan yr Alban ddiddordeb mawr yng nghyhoeddiad buan yr adroddiad hir sefydlog yno o waith cynulliad dinasyddion yn yr Alban, a ariannwyd ac a gefnogwyd gan Lywodraeth yr Alban dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwy'n credu y daw gwersi i ni o'r fan honno, yn ddigon posibl. Yn sicr, fe ddaw gwersi o rai o'r prosesau yn Iwerddon a'r Ffindir, ac o sawl rhan arall o'r byd, mae'n siŵr. Mae'n ddiddorol iawn gweld datblygiadau yng Nghatalonia, yn Sbaen, lle maen nhw'n symud tuag at system lle maen nhw'n sôn am wneud hynny erbyn hyn, gyda'r bwriad o ymgysylltu â phobl ynglŷn â'r hyn y mae'r bobl yng Nghatalonia yn ei ddymuno mewn gwirionedd, gyda golwg ar refferendwm yn y fan honno, yn ddiamau. Ond y gwir amdani yw bod pobl yn dechrau dweud bod yn rhaid cael cydsyniad y bobl, mae'n rhaid cael cefnogaeth y bobl i weld newid sy'n wirioneddol radical a hir sefydlog.

Roeddech chi'n cyfeirio at gomisiwn TUC Cymru; rwy'n credu bod hwnnw'n gam cadarnhaol iawn, ac rwy'n credu ei fod yn dangos arweiniad effeithiol a deinamig iawn yn edrych ar yr holl faterion hynny, y mae cymaint ohonyn nhw wedi codi yn ystod COVID. Onid yw'n beth rhyfedd, mewn llawer o ffyrdd, mai un o'r amheuon ynglŷn â'n setliad datganoli yw cyfle cyfartal, pan fo cymaint o'n gwaith ni'n ymwneud â chydraddoldeb a chyfle cyfartal? Ar fater y cyfyng gyngor o ran y canfyddiad ledled y DU, roeddech chi'n sôn am enghraifft y baneri, ac nid wyf yn awyddus i gael y ddadl honno eto. Ond mae'n ymddangos i mi mai dyma'r neges: mae gennych adeiladau—dyweder, adeiladau treth, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi—a nodir fel 'Llywodraeth y DU yng Nghymru' neu 'Lywodraeth y DU yn yr Alban', ond yn Lloegr dim ond 'Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi' ydynt. Pam nad ydyn nhw'n cael eu nodi fel 'Llywodraeth y DU yn Lloegr'? Rwy'n credu bod hynny'n rhoi neges benodol, sy'n nodi rhan o'r broblem benodol honno.

Sut i adeiladu'r comisiwn a'i wneud yn gynrychioliadol? Nid wyf i'n hollol siŵr a ddylwn i ddefnyddio cyfatebiaeth o'r byd pêl-droed, ond rwy'n credu mewn gwirionedd ei fod yn fater o geisio gweithio allan sut mae adeiladu'r garfan y byddech chi'n ei dymuno, a beth yw maint y tîm yr ydych chi'n awyddus i'w gael i wneud hynny, a'r dulliau o ddewis. Rwy'n credu y bydd amrywiaeth y garfan yn debygol o fod yn briodol, ac mae'n amlwg y byddwn ni'n chwilio am sêr, fel Gareth Bale, yn ystod y broses ymgysylltu dinesig.

O ran parhau i fod yn berthnasol a'r dibenion i'r dyfodol, rwy'n credu fy mod yn eglur iawn yn fy meddwl i nawr fod yn rhaid cael cam pellach, sef, pan fydd yr argymhellion wedi eu gwneud, pan gaiff yr adroddiad ei lunio, pan allwn weld casgliadau'r gwaith pwysig sydd wedi ei wneud, fe ddylid ystyried hefyd yr argymhellion ynghylch sut y gellir bwrw ymlaen â'r rhain—sut y gallech sefydlu, efallai, gomisiwn sefydlog a fyddai'n cyflawni'r argymhellion hyn mewn gwirionedd. Felly nid yw'n fater o gael proses o 18 i 24 mis ac anghofio amdani wedyn a cheisio, ymhen ychydig flynyddoedd, gwneud yr un peth eto. Mae'n rhaid i hon fod yn broses sy'n arwain at gasgliad yn y pen draw. Fel y dywedais, rwyf i o'r farn fod newid yn anochel, ac rwyf i o'r farn mai'r rhain yw'r mecanweithiau y gallwn eu defnyddio i greu consensws ar gyfer y newid hwnnw, a gwneud i newid ddigwydd.

15:35

Rwy'n croesawu sefydlu comisiwn cyfansoddiadol. Hyd yn hyn, dim ond Plaid Cymru, gydag annibyniaeth, a chefnogwyr diddymu sydd wedi bod yn gyson ac wedi cynnig man terfyn. Er gwaethaf hynny, mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru, ym mhob pôl piniwn a welsom, yn awyddus i barhau â datganoli fel ag y mae nawr, neu ymestyn rhywfaint arno. Rwy'n croesawu awgrym y cyd-gadeirydd. A gaf i atgoffa'r Gweinidog bod rhywun sydd wedi cael ei addysg yn Rhydychen, sydd wedi cael ei addysg mewn ysgol gyhoeddus ac sy'n fargyfreithiwr—boed yn wryw neu'n fenyw, neu os oes un o bob un, nid yw hynny'n rhoi amrywiaeth ichi; mae'n rhoi'r un cefndir yn union ichi.

Mae angen inni drafod man terfyn datganoli. Tri chwestiwn sydd gennyf i. Pa drafodaeth sydd wedi digwydd gyda meiri rhanbarthol Lloegr? Oherwydd ni allaf i weld datganoli'n gweithio pan yw Lloegr rhwng pump a chwe gwaith maint y tri arall gyda'i gilydd. Yn dilyn pwynt Darren Millar, mae datganoli bob amser wedi ymwneud â mynd â phethau i Gaerdydd, naill ai o'r awdurdodau lleol neu o San Steffan; a gawn ni rywfaint o drafodaeth ynglŷn â'r hyn y dylid ei ddatganoli i ranbarthau Cymru ac awdurdodau lleol Cymru, fel y gallwn weld rhywfaint o symudiad i'r cyfeiriad arall? Ac rwy'n gofyn cwestiwn eto yr wyf eisoes wedi ei ofyn i'r Prif Weinidog: a wnewch chi lunio rhestr o eitemau, fel arian cyfred, amddiffyn, diogelwch gwladol, na ddylid eu datganoli—y man terfyn? Fel arall, dim ond dau fan terfyn sy'n bosibl i ni: annibyniaeth neu ddiddymu.

Diolch i Mike am y sylwadau yna. Maen nhw'n sylwadau perthnasol iawn. Mae'n hollol gywir; mae'n amlwg bod pobl, pan ofynnwch iddyn nhw am ddatganoli, yn awyddus i weld y prosesau sy'n gwneud penderfyniadau mor agos atynt â phosibl a chael gwybod y gallan nhw fod â chyfle i ddylanwadu ar y pethau hyn.

A gaf i ddweud hefyd fy mod i'n cytuno bod y ffordd yr ydym ni'n estyn allan ac yn meithrin ymgysylltiad ag eraill mewn gwahanol fathau o lywodraeth ddatganoledig, boed yn feiri rhanbarthol, boed yn genhedloedd eraill y DU, lawn cyn bwysiced? Mae hyn yn meithrin cynghreirio—yn adeiladu ac yn cydnabod buddiannau cyffredin. Rwy'n credu mai un o'r gwendidau o ran diwygio cyfansoddiadol yn y DU yw na fu yna unrhyw oruchafiaeth ddinesig ynglŷn â'r ffaith fod yna angen am newid, a bod gan bawb ddiddordeb cyffredin ynddo. Nid ymwneud yn unig â Chymru y mae hyn. Yn amlwg, rydym ni yma i ystyried dyfodol Cymru, a chael comisiwn i edrych ar hyn, ond mae hynny lawn cyn bwysiced, o ran democratiaeth ac ymgysylltu dinesig, yn Lloegr hefyd. Mae ein cytgord ni, ein hymgysylltiad ni â Lloegr a chenhedloedd eraill y DU yr un mor bwysig i ni â llawer o faterion eraill.

O ran llywodraethu, a'r mater y mae ef yn ei godi o ran datganoli pŵer ymhellach, dyna rywbeth yr wyf i wedi bod yn gefnogol iddo erioed. Ond pan ddywedais y byddai'n edrych ar lywodraethu yng Nghymru, mae'n rhaid i hynny gynnwys sut y gall llywodraethu fod yn well, a sut y gallai fod angen i lywodraethu fod yn agosach at y bobl. Rydym yn defnyddio'r dyfyniad hwn o eiddo Aneurin Bevan yn aml:

'Diben ennill grym yw gallu ei roi i eraill.'

Fe soniodd rhai am grebachu'r wladwriaeth dros lawer o flynyddoedd, ond mae'r pethau hyn i gyd yn mynd yn ôl at yr un peth: sut rydych chi'n mynd i roi mwy o rym i bobl a hynny mor agos at y bobl â phosibl?

Fe ddaw hynny â ni at y pwynt arall a gododd Mike, sy'n berthnasol yn uniongyrchol, ac mae hynny'n cydnabod ein rhyngddibyniaethau hefyd. Rwy'n credu, ni waeth beth fo'ch safbwynt chi, boed yn gadw'r undeb, yn ffederaliaeth, yn gydffederaliaeth, yn annibyniaeth neu ba fersiwn bynnag, gyda'r rhain i gyd fe ddowch chi'n ôl yn y pen draw i'r ffordd yr ydych chi'n ymgysylltu â'ch cymdogion, a pha fesur o gyd-ddibyniaeth sydd gennych chi ar faterion penodol, boed hynny'n gyllid, yn arian cyfred neu beth bynnag, ond beth ddylai'r mecanwaith fod i alluogi hynny i ddigwydd gyda chyfiawnder ymhlith yr holl gyfranogwyr. A dyna, mae'n ymddangos i mi, yw craidd y mater hwn, felly rwy'n cytuno â chi i raddau helaeth yn hynny o beth. 

15:40

Rwy'n cefnogi dull y Cwnsler Cyffredinol o ymdrin â hyn yn llwyr. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth beiddgar, a Chymru sy'n arwain y ffordd. Ni allem fod wedi gofyn am unrhyw beth mwy na hynny. Ond rwy'n teimlo rhywfaint o siom hefyd gan mai cynllun tymor hwy yw hwn, sy'n dibynnu ar gytundeb gan bobl eraill, tra bod cyfle i raddau helaeth o fewn cyrraedd Llywodraeth Cymru i gynhyrchu 'Senedd sy'n Gweithio i Gymru'. Fe wnaed y gwaith hwnnw eisoes, ac nid yw'r Gweinidog wedi gwneud unrhyw ddatganiad ynglŷn â hynny yn yr hyn a ddywedodd ef. Felly, a gawn ni weld rhywfaint o symudiad gyda hynny, os gwelwch chi'n dda? Fe fydd yn rhaid i blaid wleidyddol arwain y ffordd. Pam na all Llafur Cymru wneud hynny?

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae'n rhaid imi ddweud, nid wyf yn hollol siŵr beth oedd y cwestiwn oddi mewn i hynny. Roeddwn i'n ddiolchgar am y sylwadau a wnaethoch chi ynglŷn â Chymru yn arwain y ffordd, ac rwy'n credu eich bod chi'n sôn am ddiwygio'r Senedd hefyd, sy'n fater, yn amlwg, a fydd yn ystyried sut y bydd Senedd i Gymru yn gweithio mewn gwirionedd, sut y gall weithio'n well, a'r holl faterion sy'n ymwneud â hynny. Yr hyn yr wyf i am ei ddweud yw hyn: yn ystod yr haf, fe fyddaf i'n ceisio ymgysylltu ag Aelodau, ac â phleidiau gwleidyddol, a llawer o rai eraill y tu allan, i geisio safbwyntiau wrth inni ddechrau llunio cylch gorchwyl ynghylch yr hyn a ddylai fod yn llunio'r fframwaith yr ydym ni'n dymuno arwain arno. Mae yna wrthdaro; ar y naill law rydych chi'n awyddus i greu comisiwn annibynnol, ond ar yr un pryd rydych chi'n awyddus iddo allu gweithio'n effeithiol o fewn fframwaith, a bod yr arbenigwyr yr ydych chi'n eu dwyn ynghyd yn gallu cynnig y math o gymorth a chefnogaeth sydd ei angen yn y meysydd penodol hynny. Rwy'n gobeithio bod hynny'n ateb—. Nid wyf yn gwybod a wnes i golli rhan o'r cwestiwn. Os na wnes i, fe fyddaf i'n sicr yn ymdrin yn ysgrifenedig ag unrhyw faterion eraill sydd gennych chi.

Cyn dod at y cwestiwn, gyda'ch caniatâd, Llywydd, liciwn i ddweud gair amboutu Elystan Morgan. Mi gollon ni Elystan yn ystod yr wythnos diwethaf, ac mi oedd e, wrth gwrs, yn un o gewri'r Blaid Lafur, y mudiad Llafur, ond hefyd gwleidyddiaeth Cymru. Un peth oedd yn gyson gan Elystan drwy gydol ei fywyd oedd ei gred yn ein democratiaeth ni a hawl i Gymru i lywodraethu ei hun. Rwy'n ei gofio fe yn sôn, mewn cynhadledd Llafur, rai blynyddoedd yn ôl, amboutu sut mae hynny yn symud ymlaen, sut dŷn ni'n symud ymlaen o ddatganoli. Dwi'n ei gofio fe'n sôn amboutu rhoi statws dominiwn i Gymru, ac roedd e'n sôn am y Statute of Westminster. Mae rhai pobl wedi fy nghlywed i'n dweud hynny yn y Siambr yma. Dwi'n credu ei fod e'n bwysig ein bod ni yn dod â phobl at ei gilydd, ac un o'r pethau roedd Elystan yn gallu ei wneud, wrth gwrs, oedd dod â phobl at ei gilydd. Dwi'n mawr obeithio y buasai fe wedi croesawu'r datganiad yma gan y Gweinidog.

Liciwn i ofyn ichi, Gweinidog, fel rydych yn symud ymlaen gyda'r gwaith yma—a dwi'n croesawu hyn, a dwi'n croesawu sylwadau Darren Millar hefyd, achos os rydyn ni'n creu Cymru newydd, Cymru wahanol, Cymru'r dyfodol, mae'n rhaid iddi fod yn Gymru i bawb, pob un ohonom ni, lle bynnag rydyn ni'n byw ac ym mha bynnag ran o'r Siambr rydym ni'n eistedd. A dwi'n mawr obeithio, Gweinidog, y gallwch chi greu strwythur fan hyn fydd yn creu y fath o Gymru rydyn ni i gyd eisiau ei gweld, fydd yn creu lle i bob un ohonom ni i fynegi'r fath o Gymru rydyn ni eisiau ei gweld yn y dyfodol, ond hefyd Cymru sy'n rhan ohonom ni gyd. 

Dwi'n tueddu i feddwl—a dwi'n dod at y cwestiwn nawr, Llywydd. Dwi'n tueddu i feddwl bod datganoli wedi marw. Mae cyfnod datganoli drosodd. Mi oedd hi drosodd llynedd pan wnaeth Llywodraeth San Steffan benderfynu anwybyddu barn y Senedd yma. So, mae'n rhaid inni symud ymlaen ac mae'n rhaid inni greu democratiaeth newydd. A dwi'n gobeithio y gallwn ni sicrhau, pan ydyn ni'n gwneud hynny, ein bod ni'n trafod rôl ein rhanbarthau yng Nghymru, rôl Cymru a rôl ein cymdogion ar draws Clawdd Offa, achos os ydyn ni'n mynd i lwyddo, trwy eich gwaith chi, Gweinidog, mae'n rhaid i bob un ohonom ni deimlo'n gyfforddus gyda'r cyfeiriad rydyn ni'n mynd iddo fe. 

15:45

Wel, diolch am y sylwadau yna. Ac, wrth gwrs, nid drwy fy ngwaith i ond trwy ein gwaith ni a gwaith llawer o bobl eraill y daw llwyddiant i'n rhan. Os caf i grybwyll Elystan Morgan, fe gefais i'r fraint fawr o weithio gydag Elystan Morgan am sawl mis yn ystod y cyfnod cyn refferendwm datganoli 1979, ynghyd ag eraill. Ac roedd ef yn un o blith cenhedlaeth ddisglair o wleidyddion yng Nghymru: Cledwyn Hughes, Jim Griffiths, John Morris—mae Elystan Morgan yn y grŵp hwnnw, ac mae llawer o rai eraill hefyd. Ond fe ddangosodd Elystan, yn sicr yn ystod yr ymgyrch honno, nid yn unig ei sgiliau areithio anhygoel, ond ei ddawn i ennill calonnau a meddyliau pobl i dderbyn syniad. Yn anffodus, fel y gwyddom, gyda'r refferendwm, nid oedd refferendwm 1979 yn ymwneud â datganoli i Gymru mewn gwirionedd, ond yn hytrach roedd yn ymwneud â diwedd y Llywodraeth Lafur yn y cyfnod arbennig hwnnw. Dyna'r adeg waethaf a fu erioed o bosibl i gynnal refferendwm. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gydnabod a chofio'r etifeddiaeth honno. Ac fe gefais gyfle i siarad gydag ef pan ddaeth i gynhadledd y Blaid Lafur ychydig flynyddoedd yn ôl, ac roedd ei feddwl yn dal i fod mor chwim a threiddgar ag erioed wrth ganolbwyntio ar y materion hyn ac am ddyfodol Cymru. Roedd yn bendant yn wladgarwr Cymreig mawr, yn sicr yn sosialydd ymroddedig iawn, ac yn ddyn nobl iawn i fod yn ei gwmni. Felly, gorffwys mewn hedd, Elystan.

O ran y sylwadau eraill a wnaethoch, Cymru i bawb, dyna yw diben hyn yn y pen draw. Cymru i bawb, Cymru lle'r ydym yn meithrin cytundeb ar gyfer bawb. Ac rwy'n dweud 'cytundeb' oherwydd, pan fyddwn ni'n codi terminoleg benodol allan o'n sgyrsiau, mae gennym faes mor enfawr o gydsyniad cyffredin, ac mae'n troi'r farn gyffredin honno'n broses o newid. Ac fe fydd hynny'n rhan o'r her wirioneddol wrth hanfod y gwaith hwn. Nid wyf i'n bychanu'r anawsterau a'r peryglon sy'n bodoli, oherwydd rwy'n credu ein bod ni'n gwneud rhywbeth gwahanol iawn, ac wrth gwrs mae'r heriau yno. Nid oes canllawiau ar gael ar gyfer proses ymgysylltu fel hon. Rydym yn edrych ar wledydd eraill, enghreifftiau eraill, ond ar ddiwedd y dydd mae cyflawni hyn yn ein dwylo ni.

Fe wnaethoch chi—. Y pwynt olaf, mewn gwirionedd, pan wnaethoch ddweud bod datganoli wedi marw, credaf mai'r hyn sydd wedi digwydd yw mai proses o ddatganoli pwerau a chyfrifoldebau gweinyddol o San Steffan oedd datganoli yn wreiddiol. Yr eiliad y daeth yr Alban a Chymru yn ddeddfwrfeydd a'r eiliad y daeth hon yn senedd ddeddfwriaethol, fe symudodd sofraniaeth i'r bobl. Yn anffodus, y broblem ar hyn o bryd yw nad yw ein cyfansoddiad ni fel y mae'n bodoli yn ymarferol wedi dal i fyny eto â'r hyn a olygir gan sofraniaeth mewn gwirionedd, a hynny yw pŵer y bobl yn cael ei ymarfer drwy gyfrwng eu cynrychiolwyr etholedig. 

15:50

Diolch, Llywydd. Mae materion cyfansoddiadol yn cyfrif. Yn ôl yn 2015 yn San Steffan, nodwyd wyth can mlynedd ers y Magna Carta gyda chyfres o ddigwyddiadau. Ystyrir y Magna Carta gan lawer o bobl yn eiliad ddiffiniol o ran y cyfansoddiad a'r gyfraith ym Mhrydain Fawr, y Deyrnas Unedig ac mewn llawer o wledydd eraill. Mewn gwirionedd, mae llawer un arall wedi dweud mai man cychwyn yn unig oedd hyn. Wrth gwrs, fe dorrodd y brenin ei addewid o fewn wythnosau os nad dyddiau wedi'r cytundeb ac fe'i dilynwyd gan ddigwyddiadau fel merthyron Tolpuddle; ganrifoedd lawer yn ddiweddarach fe gafwyd mudiad y Siartwyr, gweithredoedd etholfreintwragedd ac yn y blaen.

Y pwynt yw, mae materion cyfansoddiadol yn cyfrif, ac maen nhw'n symud ymlaen hefyd wrth ymateb i addasu'r cyfansoddiad yn ôl anghenion y bobl y mae'n eu gwasanaethu yn ôl y dydd, ac mewn gwirionedd mae'r datganiad hwn y gwnaethoch chi ei gyflwyno yn dangos hynny'n eglur iawn. Ond mae'n eithriadol o uchelgeisiol, oherwydd mae'n ceisio annog sgwrs gan ddinasyddion, comisiwn i'r bobl sy'n ymgysylltu â sgwrs pobl. Mae'n dipyn o ymrwymiad; mae'n wahanol i'r hyn sydd wedi digwydd o'r blaen. Felly, y cyfan yr wyf i am ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog ei wneud erbyn diwedd yr haf hwn yw—fel y dywedodd, mae wedi codi'r cwestiynau heddiw, sut, pryd, pam—ond mewn gwirionedd, erbyn diwedd yr haf, fe fyddwn yn gofyn iddo ddod yn ôl a thrafod y posibiliadau; sut rydym ni am wneud hyn, ble mae'r gefnogaeth arbenigol a fydd yn cyflawni'r fenter anarferol hon, sy'n fenter ddewr a radical, a chanolbwyntio ar y dinasyddion—ac nid ar yr elît na'r gwleidyddion—a nodi'r cerrig milltir hefyd ar gyfer cyfnod cyflawni'r gwaith hwn a'r hyn y bydd yn rhagweld y bydd yn ei gynhyrchu. Ond mae'n dilyn traddodiad da. Fe fyddem yn wleidyddion rhyfedd iawn, a dweud y gwir, pe byddem yn dod yma heb ymboeni am gyfansoddiad Cymru a'r DU heddiw o ran ei fod yn ateb anghenion y dinasyddion sydd wedi ein hanfon ni yma i'w gwasanaethu. Mae hon yn daith dda i fod arni.

Rwy'n diolch am y sylwadau a'r safbwyntiau hynny, ac mae bob amser yn bleser clywed rhywun yn dyfynnu am y Magna Carta ac am sofraniaeth a gwreiddiau sofraniaeth. Rwy'n sylwi ar eisteddle'r Llywydd, a dyna ble mae'r byrllysg, symbol o sofraniaeth. Wrth gwrs, arf oedd y byrllysg, sy'n dangos, mae'n debyg, o ble y daeth sofraniaeth yn wreiddiol: y sawl oedd â'r arf mwyaf. Ond nid awn ar ôl hynny. Y pwynt yr ydych chi'n ei wneud o ran sut, pryd a pham: dyna'r heriau gwirioneddol. A gwrandewch, fe fyddwn i'n ffŵl i ddweud, 'Mae gennyf yr holl atebion nawr, a'r darlun cyflawn o sut yn union y bydd hyn yn gweithio.' Mae ystyriaeth ddofn yn digwydd yma; fe fydd yna lawer o ymgysylltu â chi yn y fan hon unwaith eto, ac rwy'n sicr yn cytuno, erbyn diwedd yr haf neu erbyn inni ddychwelyd i'r fan hon, y byddwch chi'n disgwyl imi allu cyflwyno darlun sy'n gwneud cyfiawnder â'r holl egwyddorion a'r ymrwymiadau a nodais i heddiw, a hynny'n gwbl briodol.

Diolch i'r Gweinidog. 

Ac fe fydd yn rhaid i mi gofio hynny—mai arf yw'r byrllysg. Fe allai fod o ddefnydd ryw dro. [Chwerthin.] Fe gymerwn ni seibiant nawr ar gyfer gwneud newidiadau yn y Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:53.

16:00

Ailymgynullodd y Senedd am 16:02, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050

Eitem nesaf ar yr agenda—datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle heddiw i roi diweddariad i’r Senedd ar y camau nesaf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wireddu strategaeth Cymraeg 2050. Mae'r daith i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050 wedi cydio yn nychymyg pobl ar hyd a lled Cymru ers i’r Llywodraeth ddiwethaf wneud ei chyhoeddiad nôl yn 2017. Rwy'n falch iawn o fod wedi cael fy mhenodi'n Weinidog y Gymraeg a chael y cyfle i arwain camau nesaf y strategaeth.

Mae'r strategaeth ei hun, a'n rhaglen waith pum mlynedd rwy'n ei chyhoeddi heddiw, yn allweddol i'n gwaith i gwrdd â'r nod llesiant o weld y Gymraeg yn ffynnu. Rŷm ni'n byw mewn cyfnod heriol ac rwy'n ymwybodol bod angen inni drosi ewyllys da tuag at y Gymraeg yn weithredau cadarn a chyflym. Mae'r ymrwymiad i wneud hyn yn rhedeg drwy'r rhaglen. Mae'n gweledigaeth ni yn un eangfrydig a chynhwysol. Rŷm ni eisiau creu dinasyddion dwyieithog sy'n hyderus i ddefnyddio'r Gymraeg sydd gyda nhw bob dydd. Yn syml, rŷm ni am i bawb yng Nghymru deimlo bod yr iaith yn perthyn i bob un ohonom ni.

Wrth reswm, mae'n hymateb ni i'r pandemig a'i effaith ar y defnydd o’r Gymraeg yn ganolog i'r rhaglen waith, ac mae prif elfennau strategaeth Cymraeg 2050 yn glir ac yn parhau. Gyda strategaeth sy'n ymestyn dros gyfnod hir, roeddem ni'n gwybod y gallai newidiadau mewn cymdeithas olygu bod yn rhaid addasu ein blaenoriaethau dros amser. Wrth gwrs, bu’n rhaid inni wneud hynny yn gynt na'r disgwyl, ac mae'r rhaglen waith yn adlewyrchu hyn.

Heddiw, rydym ni hefyd yn cyhoeddi ein hymateb i adroddiad diweddar am effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg. Rydym ni'n cynyddu'n ffocws ni ar ddatblygu cymunedol ac yn sicrhau bod ein gwaith ni yn helpu pobl i helpu'u hunain a'u cymunedau i ddefnyddio'r Gymraeg.

Mae cynllunio'n dda ac yn strategol yn ganolog i'r weledigaeth. Dyma beth fyddwn ni'n ei wneud: cynllunio'n ofalus er mwyn gallu cynyddu nifer y plant ac oedolion sy'n dysgu Cymraeg; cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i ni i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'n gilydd, a hynny mewn cymunedau daearyddol neu rithiol, gweithleoedd a mannau cymdeithasol.

Mae'r 58 maes gweithredu yn y rhaglen yn dangos pa mor eang mae'r gwaith a chynifer o gyfleoedd sydd gyda ni i wneud gwahaniaeth. Rwy'n ddiolchgar i'n partneriaid am yr ymroddiad maen nhw wedi'i ddangos. Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd yn ystod y pandemig, ond rwy'n edrych ymlaen at ailadeiladu a chydweithio ymhellach.

Bydd canlyniadau cyfrifiad 2021 ac arolwg defnydd iaith 2019-20 yn cael eu cyhoeddi yn ystod y Senedd yma. Mae'n bwysig nodi, felly, fod hon yn rhaglen waith hyblyg, a byddaf i'n ddigon parod i'w hadolygu a'i datblygu yn sgil y cyfrifiad, ynghyd â'r dystiolaeth rŷm ni'n ei chasglu'n barhaus.

Mae'r rhaglen waith yn adeiladu ar ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu ni, ac wedi gwau ethos o Gymru gryfach, wyrddach a thecach i'r ymrwymiadau cyffredinol: cryfach fel gwlad ddwyieithog hyderus gyda hunaniaeth unigryw; gwyrddach, wrth dyfu'r economi werdd a chreu swyddi da, agos at adref, mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn brif iaith; tecach, drwy'r gwaith rŷm ni'n ei wneud wrth gynllunio, deddfu a buddsoddi i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, fel bod gan bob plentyn, o ba gefndir bynnag, fynediad i'r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru.

Felly, mae'n bleser mawr imi gyflwyno'r rhaglen waith uchelgeisiol yma ar gyfer cyfnod y Senedd newydd. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'm cyd-Weinidogion ac ar draws llywodraeth yng Nghymru i roi hyn oll ar waith. Mae'r degawd nesaf yn mynd i fod yn dyngedfennol o ran polisi iaith, ac mae'n rhaid inni i gyd dynnu gyda'n gilydd—gwleidyddion, awdurdodau lleol, y gymdeithas gyfan. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb; felly hefyd y cyfrifoldeb i weithredu polisïau o'i phlaid hi.

16:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gwnaf i ddechrau gan ddiolch i'r Gweinidog am gopi ymlaen llaw o'r datganiad heddiw.

Rwy'r croesawu'r gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddiogelu a datblygu'r Gymraeg ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Fel rhywun a gafodd ei fagu yng nghefn gwlad sir Benfro, gydag addysg drwy ysgol ddwyieithog, ac sy'n ystyried fy hun yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf sydd bach yn rusty, rwy'n benderfynol bod cyfathrebu a defnyddio'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd yn bleser y gall bawb ei fwynhau. Ond, am rhy hir, mae yna wedi bod meddylfryd o 'ni a nhw' o ran yr iaith Gymraeg: y 'nhw' sydd yn rhugl, a'r 'nhw' sydd yn ddysgwyr. Mae angen i bobl deimlo'n gyffyrddus i siarad Cymraeg, beth bynnag eu safon nhw, heb ofni am gamgymeriad bach fan hyn a fan co. Weinidog, rwy'n gwybod eich bod yn rhannu fy marn na ddylem fod yn feirniadol ar faint neu lefel y Gymraeg y mae pobl yn ei ddefnyddio, ond, gyda hynny, mae'n bwysig bod y boblogaeth yn ymuno ar y siwrnai i ddeall y budd mae'r iaith yn ei roi i'n bywydau.

Rydw i'n croesawu targed uchelgeisiol y Llywodraeth ar gyfer 2050. Mae yna gydnabyddiaeth nid y Llywodraeth bresennol yn unig, ond Llywodraethau Cymru yn y dyfodol, fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y targed hwn yn cael ei gyflawni. Gyda hyn, pa ddangosyddion perfformiad allweddol sydd yn bodoli i sicrhau nad yw Llywodraeth Cymru yn tynnu eu llygaid oddi ar y bêl, a sut mae Gweinidogion y dyfodol yn mynd i sicrhau bod y polisi yn effeithiol?

Hefyd, o ystyried y newyddion yn y datganiad bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod holl swyddi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn cael eu dyfarnu i ymgeiswyr a all, a dyfynnaf, ddeall y Gymraeg—understand the Welsh language—a all y Gweinidog egluro'r hyn y mae'n ei olygu o ran gallu i ddeall y Gymraeg? A oes disgwyl i holl weithwyr Llywodraeth Cymru yn y dyfodol fod yn ddwyieithog? Ac os yw hyn yn wir, pa sicrwydd gall y Gweinidog ei roi inni na fydd y cyhoeddiad hwn yn rhwystr i gyflogaeth i rai pobl?

Ac yn olaf, Weinidog, hoffwn dynnu eich sylw at eich cynnig i gymell siaradwyr Cymraeg ifanc i ddychweled o brifysgolion i helpu i ddysgu'r Gymraeg mewn ein hysgolion. Tra bydd y ffocws ar gyflogi athrawon sy'n siarad Cymraeg, bydd y drws yn cau i athrawon o'r tu allan i Gymru. Byddwn yn colli mynediad at nifer o athrawon o wahanol gefndiroedd sydd â phrofiadau gwahanol. Sut mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu sicrhau bod unrhyw un sy'n dymuno dysgu yng Nghymru heb yr iaith yn gallu dod o hyd i gyflogaeth fel athro yng Nghymru? Diolch.

16:10

Diolch i'r llefarydd am ei gwestiynau. Rwy'n cytuno'n llwyr gyda fe dŷn ni ddim yn moyn i ddiwylliant ddatblygu sydd yn nhermau 'ni a nhw'. Mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb. Mae llawer iawn o bobl yng Nghymru yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg ac mae llawer mwy yn barod i ddysgu ychydig mwy o Gymraeg bob dydd ac i ddefnyddio hynny fesul dydd, cam wrth gam, a dyna sut y gwnawn ni lwyddo. Dwi'n dymuno'n dda i bawb sydd ar y siwrne honno—rŷn ni i gyd wedi bod arni ar ryw gyfnod yn ein bywydau.

O ran y dangosyddion, mae amryw o ddangosyddion yn eu lle eisoes o ran, er enghraifft, nifer y bobl sydd mewn addysg Gymraeg. Un o'r dangosyddion newydd yn y rhaglen hon yw ein bod ni'n sicrhau bod cerrig milltir newydd yn nhermau'r nifer o blant blwyddyn 1 sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg, er enghraifft. Felly, y targed presennol yw 30 y cant erbyn 2031 ac, yn y rhaglen waith hon, rŷn ni'n cynnig carreg filltir newydd o 26 y cant erbyn diwedd y Senedd hon er mwyn sicrhau bod gennym ni dargedau yn y tymor byr ynghyd â'r tymor hir. Felly, mae amryw o ymyraethau yn y rhaglen waith lle bydd mwy o waith polisi ac mae rhaglenni eisoes yn eu lle ar gyfer rhai ohonyn nhw, ac mae dangosyddion ynghlwm yn y rheini, felly bydd cyfle i bawb gadw'r Llywodraeth yn atebol am yr hyn rŷm ni'n sôn amdano yn y ddogfen hon.

O ran y cwestiwn o ran recriwtio, y cwestiwn o ran swyddogion sifil yn Lywodraeth Cymru, cwestiwn i'r Ysgrifennydd Parhaol, wrth gwrs, yw hynny. Ond beth byddwn i'n ei ddweud yw bod hynny'n enghraifft loyw iawn o'r syniad bod y Gymraeg yn perthyn i bawb. Hynny yw, y cynnig yw bod pobl yn gallu dysgu sgiliau newydd wrth iddyn nhw ymuno â Llywodraeth Cymru a dysgu siarad ychydig o Gymraeg dros gyfnod, ac rwy'n credu bod hynny'n gynhwysol—dyw e ddim yn creu syniad o 'ni a nhw', mae'n tynnu pobl at ei gilydd ac yn cydnabod bod y Gymraeg yn ased ac yn beth o werth cyffredin i ni i gyd yng Nghymru. Rwy'n credu y byddai unrhyw un yn croesawu'r cyfle i ddysgu sgiliau newydd wrth ymgymryd â gwaith newydd, a dyna sydd wrth wraidd y polisi.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n ddiolchgar i chi am ddod â datganiad yn fuan yn nhymor y Llywodraeth newydd ar y targed o greu miliwn o siaradwyr. Rydych chi'n gwybod bod gennych chi fy nghefnogaeth i yn yr uchelgais yma, a dwi'n gwybod eich bod chi'n hollol ddiffuant, ond dwi angen fy argyhoeddi bod y newid gêr angenrheidiol yn digwydd. Mi ddywedodd eich rhagflaenydd wrthyf i yn y Senedd ddiwethaf y bydd yn rhaid i'r Llywodraeth newydd—a dwi'n dyfynnu'r union eiriau; dyma a ddywedodd hi—fynd lot ymhellach nag yr ydym ni wedi mynd hyd yn hyn. Fedrwch chi felly roi enghreifftiau ymarferol a phenodol ynghylch i ba raddau mae'r cynllun gweithredu yma'n cynrychioli'r newid gêr yr oedd eich plaid chi'n cydnabod oedd ei angen er mwyn cyrraedd y miliwn?

O ran cynnwys y rhaglen ei hun yn gyffredinol, dwi yn bryderus bod peth o'r ieithwedd yn awgrymu parhad yn hytrach na newid a bod o'n rhy benagored—'diweddaru' targedau athrawon; 'ystyried' effaith safonau; 'datblygu' canllawiau; 'parhau' i ychwanegu at ein sail tystiolaeth am y Gymraeg a chynlluniau ieithyddol; 'gweithio' i amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg. 

Gan droi at y manylder, dwi yn croesawu'r ymrwymiad gan eich Llywodraeth chi i gyflwyno Bil addysg cyfrwng Cymraeg. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro bod angen mecanwaith statudol i yrru'r ymdrechion i dyfu'n sylweddol addysg cyfrwng Cymraeg, gan gydnabod rôl allweddol y sector addysg wrth wireddu'r filiwn. Hoffwn i achub ar y cyfle yn y cyswllt yma i dalu teyrnged i Gareth Pierce, cyn brif weithredwr Cyd Bwyllgor Addysg Cymru, fu farw yn ddisymwth iawn yn ddiweddar yma, un a wnaeth gymaint dros addysg Gymraeg, ac, yn wir, Gareth oedd awdur y papur trafod yma y gwnes i gyhoeddi nôl yn yr haf 2019, oedd yn symud y drafodaeth ymlaen i edrych ar gnewyllyn Deddf addysg Gymraeg, ac mi fyddai pasio Deddf uchelgeisiol o'r fath yna yn y Senedd yma yn deyrnged arbennig i Gareth Pierce a'i waith dros nifer o flynyddoedd. Felly, a fedrwch chi roi syniad i ni o'r amserlen ar gyfer cyhoeddi'r Bil a'r amserlen ar gyfer tywys Bil o'r fath drwy'r Senedd?

Rydych chi'n nodi y byddwch chi yn ystyried effaith safonau'r Gymraeg ar ddefnydd iaith wrth wneud penderfyniadau ynghylch paratoi rheoliadau pellach. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod y safonau wedi cael effaith gadarnhaol ar unigolion a chyrff yn y meysydd y maen nhw wedi'u cyflwyno. Mae'n bryd rŵan gweld amserlen yn cael ei chyhoeddi ar gyfer ymestyn y safonau i feysydd eraill, felly dwi'n siomedig efo'r agwedd yma.

A fedrwch chi gadarnhau'r amserlen a'r cylch gorchwyl ar gyfer ystyried effaith y safonau? A beth ydy effaith yr oedi yma ar y rheoliadau sydd eisoes wedi cael eu hymgynghori arnyn nhw, sef y rheoleiddwyr iechyd a'r cwmnïau dŵr? Mae angen cydnabod cyfraniad pwysig y safonau at y strategaeth a chael eglurder am symud ymlaen efo gweithredu mewn meysydd newydd.

Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio at sefydlu comisiwn i gryfhau sefyllfa'r Gymraeg fel iaith gymunedol. A fedrwch chi ddweud mwy am y comisiwn sydd dan sylw? Ai ryw fath o grŵp gorchwyl a gorffen fyddai o, achos dwi'n sicr nad ydyn ni ddim eisiau siop siarad arall? Neu, os nad yw'n gorff neu'n grŵp gorchwyl a gorffen, ai ryw fath o gorff datblygu pwrpasol sydd gennych chi o dan sylw, efo pwerau i adfywio cymunedau Cymraeg a denu swyddi i'r gorllewin ac yn y blaen?

Fel cam tuag at sefydlu corff pwrpasol o'r math hwnnw, sef yr hyn y mae Plaid Cymru'n meddwl sydd ei angen, a wnewch chi roi diweddariad i ni ar gynllun Arfor, ac yn benodol ar arian ar gyfer parhau efo'r cynllun pwysig yma, os gwelwch yn dda? Diolch yn fawr.

16:15

Diolch i Siân Gwenllian am ei chroeso am y rhaglen waith. Mae yma newid gêr. Mae pob Senedd yn gyfle newydd i edrych o'r newydd ar yr hyn rŷn ni wedi'i gyflawni a, hefyd, ar yr hyn sydd o'n blaenau ni, ac yn gyfle i ni osod targedau newydd a blaenoriaethau newydd yn sgil ein profiad ni. Mae hynny'n beth da; mae'n beth anorfod. Felly, mae gennyn ni dargedau pellach yn y ddogfen hon o ran mudiadau meithrin, er enghraifft, ond wnaethon ni guro'r targedau yn y Senedd ddiwethaf, gyda llaw, ynglŷn â rhifau mudiadau meithrin, felly mae sail dda gennym ni yn fanna. 

Mae gennyn ni faterion newydd sy'n delio yma â'r sialens ddaearyddol, o ran cymunedau yn y gorllewin a'r gogledd yn benodol; ymestyn rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol; gwaith pellach i'r ganolfan ddysgu genedlaethol; gwarantu addysg mynediad at ddysgu iaith rhwng 16 a 25 am ddim. Felly, mae camau breision newydd yn y strategaeth hon, yn adeiladu ar y gwaith a wnaethpwyd gan fy rhagflaenydd, Eluned Morgan, ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf.

Hefyd, rŷch chi'n gofyn cwestiwn am y Bil addysg Gymraeg. Mae hynny'n ymrwymiad; mae hynny'n glir yn y ddogfen hon eto. Mae gwaith yn digwydd eisoes ynglŷn â sgôp a chynnwys y Bil hwnnw. Byddai'n hapus i ddiweddaru'r Senedd ymhellach ynglŷn â hynny yn y tymor nesaf.

O ran safonau—mae'r Dirprwy Lywydd wedi gofyn i mi fod yn fyr fan hyn, felly rwyf jest yn cyffwrdd ar y cwestiynau rŷch chi wedi'u gofyn. O ran safonau, mae'n bwysig sicrhau bod yr hyn rŷn ni'n ei wneud fel Llywodraeth yn cael effaith gadarnhaol ar ddefnydd y Gymraeg. Dyna'r prif nod: sicrhau bod pob peth rŷn ni'n ei wneud—pob ymyrraeth rŷn ni'n ei wneud—yn sicrhau cefnogaeth i ddefnydd y Gymraeg fel iaith fyw yn ein cymunedau ni. Dyna fy mlaenoriaeth i, ac mae gan y safonau, fel pob ymyrraeth arall, rôl i'w chwarae yn hynny. Ond, y llinyn mesur ym mhob achos, ar draws pob peth rŷn ni'n ei wneud, yw defnydd, ac rwyf wedi cael trafodaethau cadarnhaol iawn â'r comisiynydd ynglŷn ag edrych ar y ddau beth hynny ar y cyd—safonau a'u cyfraniad tuag at ddefnydd.

Ar y cwestiwn olaf, mi oeddech chi'n sôn am gomisiwn. Dwi ddim yn sôn yma am greu corff ac isadeiledd newydd. Dyma grŵp o bobl a fydd yn gallu'n cynghori ni ar y sialensiau penodol, fel y disgrifiodd Dr Simon Brooks, er enghraifft, yn ei adroddiad e. Un o'i argymhellion e oedd sefydlu'r math yma o gomisiwn, ac rŷn ni'n falch iawn o hynny ac yn frwdfrydig dros sefydlu hynny a mynd ag ef yn ei flaen.

16:20

Nid oeddwn i'n gallu clywed eich llais, Dirprwy Lywydd. Mae etholwr wedi cysylltu â mi sydd â mab yn dod i ddiwedd blwyddyn wyth, ac mae'n pryderu bod cyfyngiadau symud olynol wedi golygu bod ei fab ar ei hôl hi'n sylweddol o ran ei Gymraeg llafar ac ysgrifenedig mewn ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae wedi cysylltu â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i holi am hyfforddiant ychwanegol i'w fab dros wyliau haf yr ysgol, dim ond i gael gwybod na fydd yn bosibl gan fod cylch gwaith y Ganolfan, a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ei gwneud yn ofynnol iddi addysgu oedolion, 18 oed neu hŷn yn unig.

A fydd y Gweinidog yn ystyried ehangu cylch gwaith NCLW, efallai ar gyfer yr haf hwn yn unig, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol, er mwyn caniatáu iddynt ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant ychwanegol i blant o dan 18 oed, er enghraifft i ddisgyblion ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg o gartrefi Saesneg eu hiaith?

Diolch i Hefin David am y cwestiwn hwnnw; mae'n gwestiwn pwysig. Mae disgyblion o aelwydydd sydd ddim yn siarad Cymraeg wedi cael sialensiau penodol yn ystod y cyfnod diwethaf a dwi eisiau talu teyrnged i waith y ganolfan ddysgu am ei harloesi dros y flwyddyn ddiwethaf yn ymestyn yr hyn y maen nhw wedi gallu ei wneud ar-lein a datblygu cynnig diddorol iawn i fwy a fwy o bobl mewn cyfnod anodd iawn.

Fel efallai y bydd yr Aelod yn gwybod, mae adolygiad wedi bod yn digwydd o waith y ganolfan ddysgu, a byddaf i'n bwriadu bod mewn sefyllfa i ddweud mwy am hynny dros yr wythnosau nesaf, ac felly efallai bydd y cwestiwn mae e wedi'i godi heddiw yn berthnasol yn y cyd-destun hwnnw.

Prif amcan strategaeth 'Cymraeg 2050', wrth gwrs, yw sicrhau mwy o ddefnydd o’r Gymraeg, a ffordd arwyddocaol o wneud hynny yw drwy addysg. Serch hynny, mae sawl teulu ym Mhencoed yn dal yn aros am apêl i glywed a fydd eu plant nhw yn cael mynd i Ysgol Bro Ogwr ym mis Medi. Os yw’r apêl yn methu, wedyn bydd angen i’r teuluoedd yma ddewis rhwng anfon eu plant ymhellach i ffwrdd i dderbyn addysg Gymraeg neu ddewis addysg Saesneg. Bydd y Gweinidog yn gwybod, o dan y cod mynediad i ysgolion, mae pwynt 3.5 yn sôn bod gan awdurdodau lleol yr hawl i newid y nifer derbyn disgyblion os oes cynlluniau ar y gweill i ehangu darpariaeth addysg, fel sydd yn digwydd yn achos Ysgol Bro Ogwr. Mae’n hollol amlwg i fi y dylai cyngor Pen-y-bont warantu lle i’r plant sydd wedi cael gwrthod lle yn Ysgol Bro Ogwr, a dwi’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cyfleu hynny i’w gydweithwyr yn sir Pen-y-bont.

Ond mae yna gwestiwn sylfaenol yn fan hyn hefyd: ble mae’r tegwch? Pam ddylai plant Pencoed deithio tu fas i Bencoed er mwyn derbyn addysg Gymraeg? Yn reit syml, bydd ardaloedd fel Pen-y-bont yn parhau i fethu cyrraedd eu targedau os nad oes rhywbeth yn newid yn fuan.

Dwi eisiau adlewyrchu’r pwynt mae’r Aelod wedi’i ddweud am bwysigrwydd mynediad teg ymhob cwr o Gymru i ddisgyblion sydd eisiau addysg Gymraeg. Dyna’n sicr yw nod Llywodraeth Cymru. Dyna’n sicr yw’r galw oddi wrthym ni i lywodraeth leol dros y cyfnod nesaf o ran cynlluniau strategol uchelgeisiol i sicrhau ein bod ni’n symud yn gyflymach tuag at wireddu’r nod hwnnw.

O ran y sefyllfa benodol mae wedi’i chodi heddiw, mae fy swyddogion i wedi bod mewn trafodaethau gyda swyddogion y cyngor, a byddaf i’n hapus i ysgrifennu ymhellach at yr Aelod ynglŷn â hynny.

Liciwn i groesawu’r Gweinidog newydd i’r swydd a hefyd ddiolch iddo fe am y cyfle i gael y drafodaeth yma’n fuan iawn yn ystod y Senedd yma. Dwi’n croesawu’r dôn y mae’r Gweinidog wedi’i gosod yn ystod ei sylwadau cychwynnol.

Mae yna gwpl o bethau dwi eisiau eu dweud yn ystod fy nghyfraniad y prynhawn yma. Yn gyntaf, pwysigrwydd cymunedau Cymraeg, cymunedau lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio bob dydd, ac mae hynny’n hynod o bwysig ac mae’n rhaid bod hynny yn rhan o strategaeth y Llywodraeth.

Ac yn ail, yr hawl i bob un ohonom ni ddysgu Cymraeg. Mi fydd y Gweinidog yn gwybod bod yna ysgol Gymraeg newydd yn cael ei hagor yn Nhredegar. Pan oeddwn i yn yr ysgol yn Nhredegar, wrth gwrs, doedd gyda ni ddim hawl hyd yn oed i ddysgu'r Gymraeg, ac felly dŷn ni wedi gweld trawsnewid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod gan bobl y gallu a'r hyder i ddefnyddio'r Gymraeg.

Ac yn olaf, liciwn i ddweud hyn: mae'n bwysig, pan wnaethom ni osod yr amcan o 1 miliwn o siaradwyr, roedd e amboutu defnyddio'r Gymraeg a defnyddio'r Gymraeg bob dydd. Dwi erioed wedi becso gormod amboutu'r safonau. Dŷn ni ddim eisiau gweld iaith fiwrocrataidd sy'n bodoli mewn llyfrau a pholisïau; dŷn ni eisiau gweld y Gymraeg fel iaith sy’n cael ei defnyddio gan deuluoedd gartref ac mewn tafarn, pan dŷch chi’n gwylio pêl-droed neu rygbi. Dyna lle rŷn ni eisiau gweld y Gymraeg. Ac a fuasech chi—

16:25

—yn cydweithio â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac eraill, i sicrhau ein bod ni’n normaleiddio’r Gymraeg lle dŷn ni’n cymdeithasu, lle dŷn ni’n byw a lle dŷn ni’n gweithio?

Diolch, Alun Davies, am y cwestiwn hwnnw, a diolch iddo fe hefyd am ei waith e yn y Senedd ddiwethaf ar yr agenda hon, sydd mor bwysig i'r gwaith rŷn ni'n cario ymlaen ar ddiwedd y tymor diwethaf ac ar ddechrau'r tymor hwn. Felly, diolch yn fawr iddo fe am ei waith arloesol yn y maes hwn.

A dwi eisiau ategu beth mae e'n ei ddweud am bwysigrwydd defnydd yn ein cymunedau ni hefyd. Rwy'n cyhoeddi hefyd ein hymateb ni i'r adroddiad ar impact COVID ar ddefnydd y Gymraeg mewn mudiadau cymunedol, ac mae'r impact wedi bod yn sylweddol iawn. Felly, mae angen eu cefnogi nhw i weithio mewn ffyrdd sydd yn eu cefnogi nhw ar gyfer y dyfodol. Ond y pwynt gwnaeth e orffen arno, sef pwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle, mae hynny'n rili creiddiol i'r hyn rŷn ni'n ceisio ei sicrhau, a dyna un o'r mannau pwyslais yn y ddogfen hon o ran cefnogi defnydd y Gymraeg.

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod cwm Tawe yn ei etholaeth ei hun yn ardal ieithyddol arwyddocaol, am ei bod yn cynnwys y nifer a'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac ymysg yr uchaf yng Nghymru gyfan. Mewn perthynas â'r amcanion sydd wedi eu hamlinellu ganddo heddiw o ran datblygu addysg Gymraeg, gwarchod a thyfu'r Gymraeg fel iaith gymunedol, a sicrhau a darparu cyfleon ar gyfer defnydd y Gymraeg y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, hoffwn holi sut mae'r Gweinidog am sicrhau nad yw awdurdodau lleol yn cymryd camau a fyddai'n bygwth hynny, fel y cynllun, er enghraifft, gan Gastell-nedd Port Talbot, sydd am agor ysgol cyfrwng Saesneg newydd enfawr ym Mhontardawe, yn groes i ddymuniadau cymunedau'r ysgolion fydd yn gorfod cau i wneud hynny, a hefyd barn arbenigwyr fel Heini Gruffudd, Dyfodol i'r Iaith, a Rhieni dros Addysg Gymraeg, sy'n dweud ei fod e'n mynd i fod yn ergyd andwyol i hyfywedd yr iaith ac addysg Gymraeg yn y cwm. Fe fydd y Gweinidog wrth gwrs yn ymwybodol nad yw Castell-nedd Port Talbot wedi agor yr un ysgol gynradd Gymraeg newydd ers ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996. Felly, mae yna waith i'w wneud.

Does dim sôn chwaith, yn y rhaglen waith, am adeiladu ar fuddsoddiad sylweddol y Llywodraeth o ran sefydlu canolfannau cymunedol Cymraeg, er bod rhai fel Tŷ'r Gwrhyd ym Mhontardawe—ac fe fydd Alun Davies efallai'n cofio dod draw i agor y ganolfan honno—wedi profi'n llwyddiant ysgubol wrth ehangu defnydd a chaffael y Gymraeg—

—y tu hwnt i'r byd addysg. Beth yw'r cynlluniau, felly, o ran cefnogi'r rhain fel rhan o'r rhaglen waith? Diolch.

Wel, wrth gwrs, rwy'n ateb yn sgil fy rôl fel Gweinidog addysg yn hytrach nag Aelod lleol yng Nghastell-nedd. Gallaf ddweud bod achos busnes llawn Castell-nedd Port Talbot dros gynnig yr ysgol yng nghwm Tawe wedi'i ohirio ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru, a bydd swyddogion yn cyfarfod â'r awdurdod yr wythnos nesaf i drafod eu hasesiad o'r effaith ar y Gymraeg yn fanylach cyn bwrw ymlaen ymhellach. Mae'n bwysig pan fydd awdurdodau lleol yn ystyried cynigion cynllunio ysgolion, ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg neu Saesneg ai peidio, eu bod nhw'n parhau i edrych ar y darlun ehangach. Mae cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi nodi ardal Pontardawe fel ardal ieithyddol sensitif, felly mae'n rhaid i'r awdurdod gymryd pob cam posib i liniaru unrhyw effaith andwyol y gallai cynigion newydd eu cael ar yr iaith.

O ran impact ar sefydliadau a chanolfannau cymunedol, mae'r adroddiad rwy'n ei gyhoeddi heddiw, mae ffocws hwnna ar impact COVID yn benodol ar grwpiau cymunedol ac isadeiledd cymunedol Cymraeg. Felly, byddwn i'n cyfeirio sylw'r Aelod at gynnwys y ddogfen honno.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o glywed bod y Gweinidog o ddifrif ynghylch cyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae cymryd camau bach yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Fel miloedd o bobl ledled Cymru, rwy'n defnyddio Duolingo bob bore i ddysgu mwy o eiriau. Ond yn bwysicach na hyn, mae plant ledled Cymru yn siarad Cymraeg yn eu hystafelloedd dosbarth bob dydd, fel y plant yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda. Mae'r Gweinidog yn gwybod y gwnes i ymweld ag Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn ddiweddar i gyfarfod â'r pennaeth newydd, i drafod dyfodol yr ysgol, ac edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r Gweinidog i drafod y cynlluniau ymhellach. Pa gamau bydd y Gweinidog yn eu cymryd i annog mwy o bobl i ddechrau dysgu Cymraeg ac annog mwy o rieni i anfon eu plant i ysgolion Cymraeg?

Wel, diolch i Buffy Williams am ei chwestiwn, ac mae'r ffaith ei bod hi wedi dweud rhan ohono fe yn Gymraeg yn ffantastig, rwy'n credu, hefyd.

O ran beth rŷn ni'n ei wneud i annog pobl i addysg Gymraeg, mae lot o'r gwaith mae'r Mudiad Meithrin yn ei wneud yn cael llawer iawn o effaith bositif ar y rhifau sy'n mynd i ysgolion Cymraeg. Felly, mae buddsoddi pellach yn y sector honno yn bwysig iawn. Mae'r uchelgais rŷn ni'n ei gosod i'n hawdurdodau lleol ar gyfer y ddarpariaeth dros y cyfnod nesaf yn mynd i gyfrannu at hynny, ond mae hefyd rôl i sicrhau, mewn addysg bellach ac uwch, ac addysg gydol oes, fod cyfleoedd gyda phobl ym mhob cyfnod yn eu bywydau i gael mynediad at addysg Gymraeg a dysgu'r Gymraeg. Mae'n hollbwysig, ac rŷn ni'n mynd i barhau, fel mae'r rhaglen waith hon yn disgrifio, i fuddsoddi a chefnogi'r gwaith hwnnw dros y cyfnod nesaf.

16:30
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Coed a Phren

Eitem 5, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar goed a phren. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.

Diolch yn fawr. Gadewch i mi ddechrau trwy ddweud bod coed yn bethau da. Mae'n rhaid i ni ddiogelu'r coed sydd gennym ni, a phlannu 86 miliwn yn fwy ohonyn nhw yng Nghymru erbyn diwedd y degawd hwn, os ydym am fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae angen newid sylweddol arnom o ran creu coetiroedd, a thrawsnewid yn y ffordd y defnyddir coed Cymru ar draws ein heconomi.

Dros y mis diwethaf, rwyf wedi arwain ymarfer i fynd i wraidd mater i nodi ar frys y rhwystrau sy'n atal cynnydd a'r camau gweithredu i'w goresgyn. Rwyf wedi cael fy nghefnogi gan dasglu bach sy'n cynnwys arbenigwyr yn y meysydd hyn, a hoffwn i ddiolch i bob un ohonyn nhw am yr amser y maen nhw wedi ei roi, a'u hawydd i ysgogi newid. Rwyf i hefyd wedi siarad â chynrychiolwyr llawer o grwpiau sydd â diddordeb, gan gynnwys ffermwyr, coedwigwyr, sefydliadau anllywodraethol, proseswyr ac adeiladwyr tai.

Rydym yn derbyn y targedau plannu coed a bennwyd gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU. Er mwyn cyrraedd sero net, mae angen i ni blannu 43,000 hectar o goed newydd erbyn 2030, gan godi i 180,000 hectar erbyn 2050. I fod yn glir, Dirprwy Lywydd, bydd hyn yn gofyn am blannu 15 gwaith yn fwy o goed nag yr ydym wedi eu plannu yng Nghymru eleni. Dim ond trwy gynghrair ar gyfer newid y bydd hyn yn bosibl, gan gynnwys llawer o bartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd. Felly, heddiw, hoffwn i alw ar bobl i ymuno â ni i gyflawni'r newid hanfodol hwn, ac mae'n dechrau gydag unigolion a chymunedau ledled Cymru. Am bob baban newydd-anedig yng Nghymru, rydym yn plannu coeden newydd yng Nghymru ac yn Uganda. Rydym ni wedi dysgu gwersi gwerthfawr o'n partneriaeth â phobl Mbale ac mae angen i ni eu gweithredu yn fwy eang yma erbyn hyn.

Gadewch i ni ddechrau gyda'r neges yr ydym ni'n ei chyflwyno gyda'r elusen Maint Cymru yn Affrica: mae coed yn anhygoel. Maen nhw'n achub bywydau drwy gadw ein haer yn lân. Mae coed yn gwella iechyd pobl; mae tystiolaeth glir o fanteision lluosog i'n llesiant, o ganlyniad i straen a phwysedd gwaed is pan fyddwn yn ymyl coed. Byddai'n dda gen i pe bawn i'n agos atyn nhw yn amlach. Lefelau uwch o weithgarwch corfforol, gwell iechyd meddwl, cynnydd mewn natur gymdogol, lefelau troseddu is hefyd; mae coed yn hanfodol ar gyfer mynd i'r afael â'n hargyfwng natur, ar gyfer helpu i wella bioamrywiaeth, ac, wrth gwrs, ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd, trwy amsugno carbon, lliniaru llifogydd a disodli cynhyrchion carbon-ddwys fel concrit wrth adeiladu tai. A gallan nhw ein helpu i greu mwy o swyddi hefyd. Mae gwaith wedi dechrau ar weithredu ymrwymiad ein maniffesto i ddatblygu strategaeth ddiwydiannol coed a chreu economi goed gryfach i Gymru.

Rydym ni eisiau i bob teulu sydd â gardd blannu mwy o goed, a phob ysgol a grŵp cymunedol i ymuno â chynllun coed am ddim Coed Cadw. Mae angen i ni ei gwneud yn haws i gymunedau blannu coed, ac yn haws iddyn nhw ryngweithio ag awdurdodau. O ganlyniad i'r ymarfer i fynd at wraidd y mater, rydym ni wedi cytuno bod angen i gyrff cyhoeddus fapio'r tir y maen nhw'n berchen arno a nodi'n rhagweithiol ble y gellir plannu mwy o goed.

Mae'n hanfodol ein bod ni'n gweithio gyda'r ffermwyr a thirfeddianwyr eraill yng Nghymru, ac yn dysgu oddi wrthyn nhw, a bydd angen iddyn nhw blannu llawer o'r coed hyn. Roedd yn amlwg o'n hymarfer nad dim ond mwy o gyngor sydd ei angen arnom; mwy o ymgysylltu sydd ei angen arnom—ymgysylltu gwirioneddol; miloedd o sgyrsiau â phob ffermwr i weld beth sy'n addas i'w fferm, i'w cael nhw yn rhan o'r ateb y mae angen i ni ei weld. A dangos iddyn nhw y gall plannu coed ddigwydd ochr yn ochr â gweithgareddau ffermio eraill, o safbwynt ariannol a chymdeithasol. Mae'r drefn grantiau bresennol yn gweithredu yn erbyn hynny, ac mae angen i hynny newid. Yn ogystal â phlannu coetiroedd newydd, mae angen i ni hefyd blannu'r hyn a ddisgrifir fel 'gwrychoedd ac ymylon', fel coed ar hyd ffiniau caeau, coed gwasgaredig, gwrychoedd a lleiniau cysgodi—rwyf i wedi dysgu rhai geiriau newydd, Dirprwy Lywydd, yn rhan o'r ymarfer hwn. Y mae wedi bod yn brofiad diddorol iawn.

Mae rhai enghreifftiau gwych i ddysgu ohonyn nhw, gan gynnwys y prosiect Cefnogi'r Coed ger y Fenni, yr ymwelais ag ef ddoe, prosiect dan arweiniad ffermwyr mewn consensws â chymunedau i blannu coed ar dir anghynhyrchiol a chreu ffynonellau incwm newydd gan ddiogelu eu cymunedau ar gyfer y tymor hwy. Mae angen mwy o enghreifftiau fel y rhain arnom, felly rwy'n sefydlu gweithgor newydd i ystyried modelau ar frys i ddenu buddsoddiad i faes creu coetiroedd, ac yn hollbwysig, heb amharu ar gymunedau presennol a phatrymau tirfeddiannaeth. Rwy'n poeni, Dirprwy Lywydd, am y duedd i rannau helaeth o dir fferm gael eu prynu gan fuddiannau allanol, trwy ymarfer gwyrddgalchu. Nid oes angen i hyn ddigwydd, fel yr ydym wedi ei weld gyda Cefnogi'r Coed, ac rwyf i'n awyddus i gymryd camau i sicrhau nad yw hynny'n mynd yn rhemp.

Mae llawer o'r coed sydd wedi eu plannu yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael eu hariannu drwy ein cynllun creu coetir Glastir. Yn y gorffennol, mae cyllid trwy'r cynllun hwn wedi bod yn rhy anghyson a'r broses ar gyfer cael cyllid yn rhy gymhleth ac araf. Rwyf i wedi meddwl ar adegau, tybed sut yn y byd y gwnaethom ni lwyddo i blannu cynifer o goed ag sydd gennym ni, a bod yn onest. Mae'r tasglu wedi nodi nifer o gamau gweithredu i newid hyn. Byddwn yn agor ffenestr newydd yn y cynllun presennol i sicrhau bod y cyfan o'r £17 miliwn yr ydym wedi ei ddyrannu i blannu coed yn cael ei wario eleni, ac rwyf i wedi gofyn i CNC gyflwyno newidiadau ar unwaith i gyflymu'r broses gyflenwi, i arwain y gwaith o ailwampio'r canllawiau yr ydym yn eu darparu ar blannu coed, a chanolbwyntio yn hytrach ar allgymorth i helpu pobl i gyflawni pethau a sicrhau bod pethau'n iawn ar ddechrau prosiect.

O'r flwyddyn nesaf ymlaen, byddwn yn cyflwyno cynllun gwell i gefnogi'r gwaith o greu coetiroedd, gyda chyllid annibynnol i alluogi pobl i gynllunio coetir newydd fel ein bod yn creu llif o brosiectau sy'n barod i'w plannu pan fydd yr arian ar gael. Rwyf i'n awyddus i lawer o'r ardaloedd a gefnogir gan y cynlluniau hyn fod yn rhan o'r goedwig genedlaethol, i greu rhwydwaith o ardaloedd coetir o ansawdd uchel ledled Cymru. Mae angen i ni wneud mwy hefyd i gefnogi pobl i greu coetiroedd newydd neu wneud gwelliannau i goetiroedd presennol i fodloni safonau'r goedwig genedlaethol. Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddwn yn agor y grant buddsoddi mewn coetiroedd i ganiatáu i bobl wneud cais am y cymorth hwn.

Mae wythdeg y cant o'r pren sy'n cael ei ddefnyddio yn y DU yn cael ei fewnforio, a dim ond 4 y cant o'r 1.5 miliwn tunnell o bren wedi ei gynaeafu sy'n cael ei brosesu i'w ddefnyddio fel pren gradd adeiladu yng Nghymru. Felly mae cyfle gwirioneddol i broseswyr a gweithgynhyrchwyr coed yng Nghymru gyfrannu at yr economi goed hon, gan greu swyddi newydd yn y Gymru wledig yn ogystal â datblygu cadwyn gyflenwi arloesol ar gyfer defnydd bywyd hirach sydd â gwerth ychwanegol uchel. Dylem ni fod yn rhoi llai o sylw i gynhyrchu paletau, a rhoi mwy o'n sylw i ddefnyddio'r pren hwnnw i adeiladu cartrefi Cymru sy'n dal ac yn cadw carbon. Bydd hynny'n gofyn am gydgysylltu ar draws y gadwyn gyflenwi. Felly, mae gen i weithgor newydd arall i ystyried cynnwys strategaeth ddiwydiannol pren newydd i Gymru ar frys. Mae angen i ni greu gwerth ychwanegol trwy'r gadwyn gyfan, ac mae llawer y gallwn ei ddysgu oddi wrth Weriniaeth Iwerddon yn hyn o beth.

Rydym ni wedi cyhoeddi y prynhawn yma, Dirprwy Lywydd, restr o'r 39 o gamau y mae'r tasglu wedi cytuno arnyn nhw, ochr yn ochr â'r datganiad ysgrifenedig. Nawr, mae angen i ni barhau â'r momentwm. Byddaf yn cloi, os caf i, gyda sylw a wnaed yn ystod un o'n cyfarfodydd gan Mark McKenna o'r prosiect 'Down to Earth'. Dywedodd, wrth fyfyrio ar un o'n sgyrsiau, 'Mae'r atebion yna. Mae angen i ni fuddsoddi ac mae angen i ni gynllunio'. Ac rydym yn bwriadu gwneud hynny. Diolch. 

16:35

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2020, plannwyd 200 hectar o goetir newydd yng Ngogledd Iwerddon, 2,330 yn Lloegr, a 10,860 yn yr Alban, ond dim ond 80 hectar y llwyddodd Cymru i'w plannu. Mor ddifrifol yw'r methiant hwn y mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud yr hyn y mae wedi ei wneud mewn meysydd eraill—mewn gwirionedd mae wedi gostwng y targed plannu o 5,000 i 2,000 hectar y flwyddyn. Gallai targed wedi ei leihau fel hyn arwain at gymharu ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at blannu coed yn hawdd â'r datgoedwigo yr ydym yn darllen amdano yn y clasur llenyddol The Lord of the Rings—The Two Towers. Yn wir, gellid cymharu Llafur Cymru ag Ents, yn trafod problemau am amser maith cyn gweithredu. I fod yn wirioneddol uchelgeisiol, Dirprwy Weinidog, byddech chi'n ceisio adfer y nod o 5,000 hectar y flwyddyn.

Mae coedwigaeth yn cael ei dosbarthu yn ein hadroddiad CCRA3 ein hunain fel rhywbeth y mae 'angen mwy o weithredu' arni. Felly, a wnewch chi weithredu ar yr argymhelliad i asesu dewisiadau rheoli ar gyfer plâu a chlefydau sydd erbyn hyn yn gallu gwrthsefyll plaladdwyr presennol ac archwilio ymhellach fentrau rheoli a all wella cydnerthedd, fel arallgyfeirio? Mae'r adroddiad yn nodi cyfleoedd hefyd i ehangu rhywogaethau sefydledig sy'n bodoli eisoes, fel y ffynidwydden Douglas a'r fasarnen, ac i rywogaethau sy'n tyfu'n gyflym sy'n cael eu dethol ar gyfer ffynonellau bio-ynni. Felly, a wnewch chi nodi ble mae'r cyfleoedd hynny drwy'r ymarfer mapio y bydd ein cyrff cyhoeddus yn ei gynnal yn awr?

Mae traean o'r rhyw 309,000 hectar o goetir yng Nghymru ar dir amaethyddol, ond eto ddoe fe wnaethoch chi ddweud na fydd y mwyafrif helaeth o goetiroedd newydd yn cael eu plannu gan Lywodraeth Cymru ond gan y cymunedau—y ffermwyr a thirfeddianwyr eraill ledled Cymru. Mae braidd yn haerllug i chi hawlio clod pan ydych chi mewn gwirionedd yn lleihau'r targedau. Rwyf i hefyd yn pendroni ynghylch pam nad oedd eich tasglu yn cynnwys NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a'r Gynghrair Cefn Gwlad. A wnewch chi egluro a ydych chi'n mynd i weithio gyda nhw a'u cynnwys nhw yn y gweithgor newydd sy'n ystyried modelau i ddenu buddsoddiad i greu coetiroedd?

Dirprwy Lywydd, mae cynllun creu coetiroedd Glastir wedi bod yn rhy gymhleth ac anodd i ffermwyr ymgysylltu ag ef. Felly, pa mor ffyddiog ydych chi, Dirprwy Weinidog, y bydd y newidiadau yr ydych yn eu cyflwyno yn symleiddio'r cynllun, ac a wnewch chi sicrhau bod ffermwyr yn cael eu gwobrwyo'n briodol am sefydlu a rheoli coed a'u ffermydd? Mae nifer o adroddiadau am fuddsoddwyr preifat yn prynu rhannau helaeth o dir fferm i blannu coed, fel arfer o'r tu allan i'r ardal, a dyna'r rhan o'ch datganiad yr ydym ni yn cytuno â hi. Mae'n rhaid i ni ystyried hyn mewn gwirionedd. Felly, a wnewch chi egluro pa gamau a fydd yn cael eu cynnwys ym mhroses gymeradwyo garlam newydd Cyfoeth Naturiol Cymru i ddiogelu'r cynefinoedd agored gwerthfawr hyn rhag plannu amhriodol a sicrhau mai dim ond i'n ffermwyr gweithredol gwirioneddol yma yng Nghymru y rhoddir cymorth?

Mae rhagolygon yn rhagweld bydd cyfanswm y pren meddal fydd ar gael yng Nghymru yn gostwng o swm sefydlog o 2 miliwn metr ciwbig yn 2016 i 1.5 miliwn yn unig erbyn 2041. Felly, a wnewch chi roi mwy o eglurder i'r Siambr ynghylch sut y byddwch chi'n mynd i'r afael â'r pryderon sylweddol a godwyd gan y sector coedwigaeth fasnachol y bydd y cyfraddau plannu ac ailstocio isel yn lleihau'r cyflenwad o bren masnachol yn y dyfodol? Mae yna brinder staff a phrinder adnoddau difrifol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y gwyddom ni i gyd, felly a ydych chi wedi asesu effaith gwerthu hyd at 30 y cant o'u pren drwy ffyrdd eraill yn lle'r model presennol sy'n canolbwyntio ar werthu am y gwerth ariannol uchaf? Yn dibynnu ar y nifer sy'n cael eu recriwtio, gallai'r swyddogion coetir fod yn gyfrifol am hyd penodol o dir, oherwydd y gallen nhw fod â swyddogaeth allweddol mewn cadw'r seilwaith draenio yn glir hefyd.

Yn olaf, rwy'n pryderu'n fawr ynghylch y ffaith mai dim ond 1 y cant o orchudd coed trefol Cymru sydd mewn ardaloedd tai dwysedd uchel. Yn ôl 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel', mae gennych chi uchelgais i gynyddu gorchudd canopi coed a chreu coetiroedd ger trefi a dinasoedd—dim llawer o sôn am hynny yma heddiw. Felly, pa gynnydd sydd wedi bod ers cyhoeddi'r adroddiad hwnnw ym mis Mawrth 2019?

Dirprwy Weinidog, rydym ni i gyd yn awyddus i weld mwy o goed, ond rydym ni'n dymuno gweld mwy o weithredu a llai o eiriau. Diolch.

16:40

Diolch yn fawr iawn. Mae bob amser yn anodd, rwy'n gwybod, i lefarwyr y gwrthbleidiau orfod ysgrifennu cyfraniad cyn i Weinidog nodi'r hyn sy'n digwydd, ac mae'n drueni bod llawer o'r hyn y gwnaeth hi fy nghyhuddo i ohono wedi cael sylw yn fy natganiad. Mae hi yn fy atgoffa i ychydig o'r hen ddywediad bod rhai pobl yn gwrthod derbyn 'ie' yn ateb.

Fe wnaethoch chi fy meirniadu am beidio â gosod targed o 5,000 pan oeddwn i wedi dweud ein bod ni'n derbyn targed y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd ar gyfer plannu coed, sef 5,000. Felly, mae hynny'n bryder y gallaf i ei roi o'r neilltu. Yn wir, rwy'n hapus i fynd trwy—. Nid oes gen i amser heddiw i fynd trwy bopeth a ddywedodd hi, ond nid wyf i'n credu bod llawer—[Torri ar draws.] Pe bai hi'n peidio â fy heclo, byddwn i'n gwneud fy ngorau i ateb ei chwestiynau; mae hi'n tynnu fy sylw. Nid wyf yn credu y bydd unrhyw beth a ddywedodd hi yn y datganiad yna yn broblem i ni. Rwy'n credu bod y tasglu wedi mynd i'r afael â'r holl faterion hynny, ac rydym ni'n sicr wedi ceisio gwneud hynny.

O ran symud cyfrifoldeb oddi wrth Lywodraeth Cymru trwy ddweud bod angen i hyn fod yn gynghrair ar gyfer newid—rwy'n credu bod hynny yn camddeall ac yn camliwio yn llwyr yr hyn yr ydym yn ei ddweud a'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni. Mae'n rhaid i hyn fod yn ddull gweithredu system gyfan. Yn sicr, mae gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae, a dyna pam yr ydym ni wedi nodi'r newidiadau i feini prawf y grant, y parodrwydd sydd gennym i dderbyn mwy o risg—[Torri ar draws.]

Rwy'n ateb eich cwestiynau mor amyneddgar ag y gallaf ac yn mynd trwyddyn nhw un ar y tro. Gallwn i fod wedi bod yn llawer mwy llym yn fy ymateb, a dweud y gwir, Janet Finch-Saunders. Rwy'n ceisio bod yn garedig i chi, ond rydych chi'n ei gwneud hi'n anodd.

Yn hytrach nag eithrio'r undebau, nid ydym wedi eithrio'r undebau. Roedd hwn yn dasglu â phwyslais manwl iawn. Nid oedd hwn yn gorff cynrychioliadol gyda'r holl randdeiliaid. Mae'r NFU a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyfrannau at adroddiad rheoli tir y mentrau coedwigaeth sy'n sail i'n dadansoddiad. Fe wnes i gyfarfod â'r NFU a'r FUW a Choed Cymru ar wahân yn rhan o fwrdd crwn, a buon nhw'n gweithio'n agos iawn gyda'r tasglu ac yn chwarae rhan annatod ynddo. Felly, rwy'n gwybod ei bod yn hawdd ticio blychau i gadw pawb yn hapus; nid dyna oedd diben yr ymarfer hwn: ei ddiben oedd holi'r ffeithiau yn fanwl a chanolbwyntio ar weithredu i'w symud ac rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud hynny ac rwy'n credu ein bod ni—ar ôl i chi gael amser i fyfyrio a bod ychydig yn fwy hael, efallai y byddwch chi'n derbyn ein bod ni wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yma.

O ran diffyg staff Cyfoeth Naturiol Cymru, nid oes sefydliad yng Nghymru na all gyflwyno achos dros fod â mwy o staff. Rydym ni i gyd yn cael trafferth o ran capasiti. Dyna un o ganlyniadau cyni, ac mae angen iddi ddeall canlyniadau gweithredoedd ei phlaid ei hun ynghylch hynny. Ond un peth sydd wedi dod i'r amlwg yn hyn o beth: mae 81 o aelodau staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn treulio eu hamser yn prosesu ac yn cymeradwyo cynlluniau coetir ar hyn o bryd. Byddwn yn eu rhyddhau, felly yn hytrach nag ymarfer biwrocrataidd sy'n arafu pethau, rydym yn eu rhyddhau i chwarae rhan mewn helpu i blannu mwy o goed ac mae hynny'n rhywbeth y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei groesawu.

O ran gorchudd coed trefol, mae hynny yn rhan bwysig o'n cynlluniau. Dywedais ein bod ni'n awyddus i bob teulu blannu coeden; dywedais i hefyd ein bod ni'n awyddus i bob corff cyhoeddus nodi tir sydd ar gael a gweithio'n rhagweithiol gyda chymunedau i blannu coed ym mhob man y gallwn ni. Felly, rwyf i yn credu os wnewch chi roi'r gorau i'r tinc gwrthbleidiol a chanolbwyntio ar y cynnwys, ein bod ni mewn gwirionedd yn cytuno ar bopeth bron.

16:45

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi hefyd, Weinidog, am y datganiad. Rwy’n croesawu uchelgais y Llywodraeth yn y maes hwn, ac rwy'n cytuno fod coed yn rhyfeddol. Mae mor bwysig bod Cymru yn cael economi coedwigoedd sydd yn gwarchod coed, sy'n ehangu'r niferoedd o goed yn y wlad ac sy'n creu swyddi a deunyddiau adeiladu fydd yn rhan o'n hadferiad economaidd. Mae'n amlwg y bydd angen buddsoddiad sylweddol mewn sgiliau yn y gweithlu a hefyd mewn technoleg plannu coed. Gall miloedd o swyddi gael eu creu, a bydd buddiannau mawr i'n cymunedau yn dod fel canlyniad. A allaf i ofyn, felly, am fwy o fanylder ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y sgiliau hyn y bydd eu hangen ar gyfer cyrraedd y targedau, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn annog mwy o bobl newydd mewn i'r diwydiant yma trwy brentisiaethau? Byddai'n dda cael manylder ar hynny ac amserlen fras, os yn bosib. Ac a fyddech chi'n gallu manylu rhywfaint ar sut y byddech chi'n buddsoddi yn y dechnoleg angenrheidiol ar gyfer y cynlluniau uchelgeisiol hyn?

Gan droi at ffermydd, y pwnc sydd wedi codi yn barod yn ein trafodaethau heddiw: dŷn ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i blannu coed mewn ffordd sydd wedi cael ei thargedu'n effeithiol; bod angen y goeden gywir yn y lle cywir am y rhesymau cywir. Ac mae angen i'r cynlluniau hyn wneud yn siŵr eu bod yn cynnwys y bobl sydd yn gwybod y tir, gan gynnwys ffermwyr. Rydych chi wedi cyfeirio, Weinidog, yn barod at dystiolaeth sydd yn peri pryder am ffermydd cyfan yn cael eu prynu gan gwmnïau mawr rhyngwladol er mwyn plannu coed, ac mae wedi dod i'n sylw ni y gallai arian Glastir gael ei ddefnyddio i helpu cynlluniau fel hyn. Dwi'n gwybod fod hyn wedi cael ei drafod yn barod yn beth oedd Janet Finch-Saunders yn codi, ond buaswn i hefyd yn awyddus i roi ar y record pa mor bwysig fydd hi i gefnogi cymunedau gwledig i wneud yr hyn sy'n angenrheidiol eu hunain, er mwyn helpu i gyrraedd y targedau. Felly, beth fyddwch chi'n ei wneud er mwyn gweithio gyda'r cymunedau, gweithio gyda'r ffermwyr yn y man yna?

Ac i droi, yn olaf, at blannu coed trefol, neu yn ein trefi a phentrefi, mae buddiannau amlwg yn dod o blannu coed mewn ardaloedd o'r fath, gan gynnwys ansawdd aer, lleihau sŵn a rheoli tymheredd. Mae nifer o'r ffactorau hyn yn cael effeithiau da ar iechyd meddwl a seicoleg trigolion y trefi hefyd.

Nawr, a allwch chi—? A dyma fy nghwestiwn olaf, felly, yn mynd mewn i a fydd Llywodraeth Cymru yn gallu manylu yn fwy ar sut fyddwch chi'n manteisio ar y buddion mwyaf posibl o blannu coed yn ein trefi, gan gynnwys yr amrywiaeth angenrheidiol o fathau gwahanol o goed, a beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r bygythiadau a'r pwysau sydd yn wynebu coed trefol? Diolch.

16:50

Diolch yn fawr am y gyfres yna o sylwadau a chwestiynau. O ran eich pwynt olaf, ynghylch y bygythiad i goed trefol, roeddwn i wedi dweud yn glir iawn ar y dechrau cyntaf fod angen i ni ddiogelu'r coed sydd gennym ni. Nawr, nid yw hynny'n golygu y gellir cadw pob coeden o dan bob amgylchiad. Un o'r pwyntiau a wnaeth fy nharo i yn ystod yr ymarfer hwn yw ein bod ni wedi colli ein perthynas â'n coetiroedd, ac rwy'n credu bod perthynas a dealltwriaeth iach o goetiroedd yn peri i ni ddeall bod angen torri coed weithiau. Dyna pam, yn aml, yr ydym ni'n eu tyfu, os byddwn yn eu hailblannu, ac mae'n amlwg bod angen ei wneud fesul achos, ond ni ddylem ni osgoi'r ffaith bod angen torri coed weithiau. Nid wyf i'n credu y byddai dealltwriaeth iach o economi coetiroedd yn atal hynny. Mae gweledigaethau croes ar adegau rhwng y coetiroedd brith hyn â phelydrau o olau yn taro llawr y goedwig a'r gwrthgyferbyniad weithiau â darlun diwydiannol o goetiroedd, ac mae lle i'r ddau, ac mae angen dulliau gweithredu gwahanol ar y ddau.

Yn sicr mae potensial i greu swyddi, fel y dywedais i, drwy'r gadwyn werth. Ar hyn o bryd mae gennym ni gasgliad o felinau llifio sydd â model busnes sy'n eu gwasanaethu yn weddol dda, ac nid oes ganddyn nhw gymhelliant mawr i darfu ar hynny. Rwy'n credu bod angen i ni chwarae rhan fwy gweithredol wrth darfu ar hynny fel Llywodraeth, a sicrhau bod y galw yno a bod y cyflenwad yno i'r busnesau hynny allu mentro a buddsoddi yn eu hoffer cyfalaf eu hunain a buddsoddi yn eu gweithlu eu hunain. A bod yn deg, pan wnes i gyfarfod â nhw, roedden nhw'n cefnogi hynny yn fawr, ac maen nhw'n sicr yn rhan o'r ateb. Rwy'n credu bod llawer mwy o luosogrwydd y gallwn ei gyflwyno i'r system wrth i ni ddechrau creu amgylchedd gwahanol. Rhoddwyd enghraifft gan Woodknowledge Wales—ar hyn o bryd rydym ni'n anfon tua 70,000 o ffenestri UPVC i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn gyda chyllid gan gyrff cyhoeddus ar gyfer ffenestri newydd. Mae yna alw am ffenestri ffrâm bren os byddwn ni'n defnyddio dull gweithredu cydgysylltiedig, ac yn y pen draw bydd hynny'n creu hyder busnes ac, wrth gwrs, yr angen am fwy o goed. Felly, mae hyn i gyd yn gysylltiedig.

Rydych chi'n gofyn am fwy o fanylion am y ffordd yr ydym ni'n buddsoddi mewn sgiliau a thechnoleg ac mae arnaf ofn na allaf i roi hynny i chi ar hyn o bryd, ond mae bwriad yn sicr i ddechrau datblygu cynlluniau i wneud hynny, a gobeithio, i gynnal y tasglu a'i ehangu i sicrhau bod gennym ni'r bobl iawn gyda'i gilydd. Dyna a ddysgais yn fawr o hyn: roedd gennym ni'r bobl a oedd yn ymwneud â gweithredu hyn o amgylch y bwrdd gyda'r bobl ag arbenigedd, sydd â'r grym penodol i herio, a thrwy broses ddwys o gydweithio, nodi rhwystrau mewn modd systematig a chynnig atebion. Rydym ni wedi cynnig 49 o argymhellion a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rwy'n credu bod honno yn broses iach iawn y mae angen iddi barhau.

O ran defnyddio cyllid Glastir i ganiatáu i fewnfuddsoddwyr, os hoffech chi, ddod i mewn a phrynu ffermydd, yr hyn a ddysgais yn fawr o'r model Cefnogi'r Coed oedd bod gennym ni yma grŵp o bobl o Gymru sy'n cael eu harwain gan ffermio sydd â rheolaeth a pherchnogaeth yn lleol ond sy'n denu arian drwy gredydau carbon o gyrff allanol. Felly, mae gennym ni a bydd gennym ni fwy o alw am wrthbwyso carbon, ac yn hytrach na dim ond sefyll yn ôl a gadael i'r farchnad lenwi'r bwlch hwnnw, a gweld mwy o ffermydd Cymru yn cael eu prynu gan gyrff o'r tu allan i Gymru, rwy'n credu bod angen i ni gamu i mewn yma a hwyluso'r berthynas hon lle gellir defnyddio'r arian hwnnw drwy gredydau carbon, ond eich bod chi'n denu'r arian hwnnw i gymunedau fel bod y berchnogaeth a'r rheolaeth yn aros yn lleol.

Rwy'n gobeithio bod hynny yn ymdrin â chynifer o'r pwyntiau ag y gallaf yn yr amser sydd ar gael. Byddaf i'n hapus i wneud gwaith dilynol.

Rwy'n croesawu datganiad Llywodraeth Cymru. Gofynnais am ddatganiad ar goed ychydig wythnosau yn ôl, a diolch byth bod gennym ni un erbyn hyn. A gaf i ddweud hefyd gymaint yr wyf i'n croesawu naws datganiad y Gweinidog? Mae angen llawer mwy o goed arnom i ddiwallu ein hanghenion newid hinsawdd, i leihau'r perygl o lifogydd ac i ddiogelu bioamrywiaeth. Ond mae angen i ni gynnwys y cyhoedd. Pe bai pawb â gardd yn plannu un goeden, byddai hynny dros filiwn o goed. Mae angen i ni weld cynghorau yn plannu coed mewn parciau ac ar ochr y ffordd—rydym ni wedi colli llawer gormod o goed o ochr y ffordd—ac mae angen eu plannu mewn niferoedd mawr. Os gallwn ni ennyn brwdfrydedd cymunedau i blannu coed ar dir sy'n dal i ddangos creithiau diwydiannol, fel y gwelsom yng Nghwm Tawe isaf yn y 1970au, gall drawsnewid ardal yn gyfan gwbl.

Mae gen i ddau gwestiwn. Roedd cynlluniau yn y 1970au sef 'Plant a Tree in '73' a 'Plant One More in '74'. Roedden nhw'n llwyddiannus iawn. A ellir ailadrodd hyn yn 2023 a 2024? Ac a yw'r Gweinidog wedi dod i'r un casgliad a mi fod angen comisiwn coedwigaeth arnom, ac er y gall rannu swyddogaethau swyddfa gefn â Cyfoeth Naturiol Cymru, bydd angen iddo sefyll ar ei ben ei hun, i hybu, monitro a rheoli coedwigaeth?

16:55

Diolch yn fawr iawn, ac mae hwnna'n syniad ysbrydoledig, 'Plant a tree in 2023 and another in 2024'. Fe gymeraf hwnna oddi arnoch chi heb gywilydd, rwy'n credu, Mike Hedges—rwy'n credu bod hynny yn wych. Af i ffwrdd a chreu rhywbeth gyda hwnna. Diolch yn fawr iawn, iawn; mae'n awgrym ardderchog.

O ran corff yn debyg i'r comisiwn coedwigaeth, efallai fy mod i wedi siarad mewn gormod o god yn fy ymateb, ond fe wnes i ddweud wrth edrych ar enghraifft Iwerddon y bydd angen i ni ddysgu gan gorff sy'n ychwanegu gwerth ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan. Yn ogystal â bod â chyfraddau plannu coed llawer uwch na ni, mae ganddyn nhw system well o lawer ar gyfer moniteiddo hynny hefyd, a'i ddefnyddio er budd economaidd a chreu cyfoeth lleol ohono. Ac rwy'n credu bod angen i ni edrych ar hynny hefyd.

Un o'r pethau rwy'n credu y mae angen i ni feddwl amdano—ac nid oeddwn i'n dymuno gwneud hyn yn yr ymarfer byr, cryno hwn, oherwydd ni allwn fod yn wamal yn ei gylch—ond i edrych i weld ble mae'r casgliad gorau o swyddogaethau yn hyn o beth, ac ai CNC yw'r corff iawn. Rwy'n credu ein bod ni wedi eu sefydlu i faglu a methu weithiau trwy ofyn iddyn nhw fod yn rheoleiddiwr ac yn hyrwyddwr, ac rwy'n credu bod hynny yn anodd iawn i unrhyw gorff ei wneud. Fel y dywedais i, maen nhw'n cael eu beirniadu yn aml am fod mor araf a biwrocrataidd, ond maen nhw'n gwneud pethau yr ydym ni wedi gofyn iddyn nhw eu gwneud, a rhan o'r hyn y mae'r swyddogaeth hon drwy'r ymarfer hwn yn bwriadu ei wneud yw tynnu rhywfaint o hynny oddi arnyn nhw, i'w gwneud yn haws iddyn nhw fel nad ydyn nhw bob amser dan y lach, ond i ymdrechu i wneud pethau sy'n mynd i helpu, sef yr hyn y maen nhw'n dymuno ei wneud, i fod yn deg. Ond rwy'n credu bod cwestiwn agored ynghylch beth yw'r corff iawn i wneud y swyddogaeth gydgysylltu honno. Efallai nad Cyfoeth Naturiol Cymru yw hwnnw, ond rwyf i'n awyddus i ddod i'r casgliad hwnnw mewn modd meddylgar ac amyneddgar.

Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r cynlluniau uchelgeisiol. Mae angen i ni blannu mwy o goed i fynd i'r afael â newid hinsawdd a lleihau'r siawns o amodau tywydd mwy eithafol, fel y glaw a arweiniodd at y llifogydd ym mis Chwefror 2020. Ym mis Hydref 2020, cwblhaodd CNC ei adolygiad rheoli ystadau tir a lluniodd 10 argymhelliad allweddol i newid eu dull gweithredu presennol, yn ogystal ag argymhellion mwy penodol yn dilyn y llifogydd ym Mhentre. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithredu ar bob un o'r 10 argymhelliad yn dilyn yr adolygiad, yn ogystal â'r argymhellion yn dilyn y llifogydd ym Mhentre? Rwy'n hapus i dderbyn ateb ysgrifenedig gan y Gweinidog yn ddiweddarach.

Efallai y gallaf i roi pwyntiau i Buffy Williams am geisio troi hon yn drafodaeth ynghylch sefyllfa llifogydd ym Mhentre. Rwy'n ofni nad yw hynny'n rhywbeth yr edrychwyd arno yn benodol. Byddwn i'n hapus i ysgrifennu diweddariad ar sut y mae CNC yn bwrw ymlaen â'r adolygiad hwnnw. Ond byddwn i yn dweud mai yr hyn y mae'r ymarfer hwn wedi ei amlygu yw swyddogaeth bwysig plannu coed o ran lliniaru ac atal llifogydd, ac mae hynny'n rhan bwysig iawn o'r cynlluniau y mae angen i ni eu datblygu. Felly, mae hynny'n helpu o ran yr hyn yr ydym yn ei wybod eisoes sy'n rhan annatod o system o dywydd cythryblus amlach.

A gaf i groesawu'r datganiad heddiw? Rwy'n frwdfrydig iawn ynghylch coed fel yr ydych chi, ac rwy'n credu ei bod yn gwbl wych bod y targed uchelgeisiol cenedlaethol hwn yn cael ei osod yn awr. A gaf i ddiolch i Lywodraeth Cymru hefyd am y grantiau a ddarparodd drwy Cadwch Gymru'n Daclus a Coed Cadw ar gyfer plannu coedwig fechan ym Mae Cinmel yn fy etholaeth i, sydd wedi sbarduno'r gymuned leol i blannu perllannau cymunedol a choed ar ymylon glaswellt? Dyma'r math o adwaith cadwynol, rwy'n credu, y gallai Llywodraeth Cymru fod yn chwilio amdano.

Fodd bynnag, mae gen i un pryder, ac mae hynny'n ymwneud â thorri coed. Rwy'n gwybod bod rhywun arall eisoes wedi codi hyn—Delyth Jewell—yn gynharach, ond nid yw Deddf Coedwigaeth 1967 yng Nghymru a Lloegr yn caniatáu i awdurdodau lleol wrthod trwyddedau torri coed ar hyn o bryd i ddiogelu poblogaethau bywyd gwyllt lleol fel y wiwer goch, ac rwyf i'n hyrwyddwr mawr o'r rhywogaeth honno. Mae Llywodraeth yr Alban wedi newid y gyfraith mewn gwirionedd er mwyn gallu gwrthod trwyddedau at y diben hwnnw. A gaf i annog Llywodraeth Cymru i ystyried a allai newid tebyg yn y gyfraith fod yn bosibl yma yng Nghymru er mwyn amddiffyn nid yn unig gwiwerod coch, ond unrhyw fywyd gwyllt pwysig arall ledled Cymru a allai fod dan fygythiad o ganlyniad i weithrediadau torri coed?

Diolch am yr ymyriad adeiladol yna, ac rwyf i wedi galw Darren Millar yn llawer o bethau dros y blynyddoedd, ond byth yn un brwdfrydig dros goed. Felly, dyna un i'w ychwanegu at y rhestr. Rwy'n credu ei fod yn llygad ei le wrth ddweud bod tensiynau polisi a chanlyniadau hurt ac anfwriadol weithiau, ac mae'n rhoi enghraifft dda iawn yna. Felly, byddwn i'n hapus iawn i edrych ar hynny, gan fy mod i'n credu ei bod yn broblem.

17:00

Rwy'n croesawu ymrwymiad llwyr y Gweinidog i'r achos hwn ac mae'r uchelgais a'r penderfyniad i'w gweld yn glir. Byddwn i'n annog y Gweinidog i symud mor gyflym ag y gall i gynyddu gorchudd coed yn ein trefi a'n dinasoedd. Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cael mannau gwyrdd ger eich cartrefi. Mae coed yn rhoi cysgod, yn lleihau tymheredd y stryd, yn amsugno carbon deuocsid, yn hidlo llygredd aer, yn gwella draeniad ac yn lliniaru llifogydd, ac yn darparu cynefin ar gyfer bywyd gwyllt a phlanhigion. Ni ddylai strydoedd â choed ar eu hyd fod yn rhywbeth a welir yn y maestrefi yn unig, mae'n rhaid eu hannog nhw yn ardaloedd mwyaf poblog ein trefi a'n dinasoedd hefyd. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi ychydig mwy o fanylion am ei gynlluniau i sicrhau bod hyn yn digwydd? Ac mae annog plannu gwrychoedd yn ein hardaloedd trefol yn bwysig hefyd, boed hynny o amgylch ein cartrefi neu ein hysgolion, felly a wnaiff y Gweinidog ddweud sut y bydd hyn yn cyd-fynd â'r strategaeth hefyd?

Mae galwad genedlaethol yn annog pawb i gymryd rhan, yn syniad ardderchog ac yn rhywbeth sydd wedi bod yn llwyddiannus o'r blaen, fel y soniodd Mike Hedges eisoes. Cafodd llawer o'r coed a blannwyd yng Nghaerllion yn fy etholaeth i yn ystod y 1970au eu plannu yn ystod yr ymgyrch 'Plant a Tree in '73' a 'Plant Some More in '74'—

Gwnaf. Byddwn i'n rhybuddio bod yn rhaid iddi fod y goeden iawn yn y lle iawn, ynghyd â'r gwrychoedd—efallai 'Plant a Yew yn '22'. Beth bynnag fo'r teitl neu'r rhywogaethau brodorol, byddwn i'n annog y Gweinidog i gadw'r momentwm o ran hyn. Mae'n rhaid i ni weld y cynllun hwn yn cael ei wireddu.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r holl bwyntiau a wnaeth. Rwy'n credu bod y pandemig wedi dangos i ni y cysylltiad â natur y gall ymddiddori yn eich gardd a phlannu coed ei feithrin, ac rwy'n sicr wedi ei weld yn achos fy ngardd fy hun.

Os ydym am ymateb i her newid hinsawdd, fel yr ydym ni wedi ei drafod yn y Siambr hon yn yr wythnosau diwethaf, mae angen i ni newid pethau'n sylweddol. Ac rwy'n credu, o'i wneud yn iawn, y gall annog pobl i blannu mwy o goed eu hunain ddechrau'r daith honno o ddeall perthynas â natur a'r camau y mae angen i bob un ohonom ni eu cymryd yn ein gardd flaen a'n gardd gefn ein hunain yn rhan o gyfres ehangach o symudiadau newid ymddygiad, a dyna fy mwriad i.

Rydym ni wedi cyhoeddi rhai pethau heddiw, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu cyhoeddi mwy wrth i'r misoedd fynd heibio.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn eich bod wedi cyflwyno'r datganiad hwn heddiw, ac mae'n amlwg iawn eich bod chi'n benderfynol o yrru hyn yn ei flaen. Ac rwy'n credu eich bod chi wedi nodi gyda'i gilydd y problemau sydd yn peri rhwystr, ac mae hynny'n gwneud bywyd yn haws i gyflawni hyn, ac rwy'n credu bod hynny'n wych.

Gan ein bod ni'n brin o amser, hoffwn i siarad am y rhan gwrychoedd ac ymylon yn eich datganiad, oherwydd eu bod nhw'n hanfodol ar gyfer cynefin. Yr hyn yr ydym ni i gyd yn ei weld, yn aml iawn, pan fydd datblygiad tai, yw'r holl wrychoedd ac ymylon wedi eu rhwygo allan a'r holl dir wedi ei glirio, ac yna rhywbeth yn cael ei roi yn ôl yn eu lle. Felly, a gaf i ofyn i chi siarad â'r Gweinidog arall sy'n gyfrifol am gynllunio ar gyfer datblygu, er mwyn gallu efallai ymgorffori rhai o'r gwrychoedd hynafol hynny yn y datblygiad trefol heb orfod dinistrio'r hyn sydd yno yn peri rhwystr? Diolch.

Diolch. Fel y dywedais i wrth drafod trafnidiaeth, mae angen i ni wneud y peth iawn i'w wneud y peth hawdd i'w wneud, ac rwy'n credu bod hynny'n berthnasol i'r holl heriau newid ymddygiad o ran mynd i'r afael â newid hinsawdd. Rwy'n credu bod y cysyniad o wrychoedd ac ymylon, y tynnwyd fy sylw ato gan Coed Cadw, sydd wedi gwneud gwaith da iawn ar hyn, yn un pwysig iawn, oherwydd bod taith anodd o'n blaenau wrth i rai ffermwyr ystyried yr agenda hon yn fygythiad i'w ffordd o ffermio, a dyna pam y mae angen i ni gael sgyrsiau gyda phob un ohonyn nhw i weld beth sy'n addas i'w tir. A gall pob un ohonyn nhw nodi darnau o dir lle bydden nhw'n gwbl gyfforddus â chael gwrychoedd ac ymylon wedi eu gorchuddio gan goed, ac rwy'n credu bod hynny'n ddechrau pwysig iawn iddyn nhw ar y daith newid ymddygiad o ran y ffordd y maen nhw'n ffermio hefyd.

O ran pwynt penodol gwrychoedd hynafol, nid wyf i'n gwybod digon am hynny i roi ateb deallus i chi, felly, os nad oes ots gennych chi, fe af i ffwrdd, meddwl amdano, siarad â phobl fwy clyfar, a rhoi ateb i chi yn ddiweddarach.

Diolch, Dirprwy Weinidog.

Ac a gaf i ddiolch i'r ddau Weinidog am eu hatebion byr a chryno a ganiataodd i mi alw ar lawer o Aelodau i ofyn eu cwestiynau? Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn mynd i ffwrdd dros yr haf ac yn ymarfer eu hamseru ar rai ohonyn nhw hefyd.

6. Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2021

Eitem 6, Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2021. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig—Jeremy Miles.

17:05

Cynnig NDM7751 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mehefin 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r rheoliadau hyn ychydig yn fwy cymhleth na'r rhai fydd yn dilyn, felly gwnaf i gymryd munud i egluro eu diben a'u heffaith. Diwygiodd Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy'n ymwneud â chynlluniau gofal a chymorth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Roedd hyn er mwyn darparu ar gyfer gofyniad i gynllun datblygu unigol cael ei ymgorffori mewn cynllun addysg personol.

Roedd y diwygiadau i adran 83 o Ddeddf 2014 hefyd yn darparu ar gyfer pŵer i wneud rheoliadau er mwyn cadw'r posibilrwydd o eithriadau i'r gofyniad i gael cynllun addysg personol. O dan y pŵer hwnnw, adran 83(2)(b), ynghyd ag adrannau 83(5), 84(b) ac 196(2), mae'r rheoliadau hyn yn cael eu gwneud i Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015.

Bydd y rheoliadau sydd ger eich bron heddiw, os cânt eu cymeradwyo, yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 i ddarparu ar gyfer yr eithriadau i'r gofyniad i fod â chynllun addysg personol, a fydd, yn ei dro, yn parhau â'r sefyllfa bresennol o ran yr amgylchiadau lle mae plentyn i gael ei drin fel plentyn sy'n derbyn gofal at ddibenion Deddf 2018. Gan fod y diffiniad o 'blentyn sy'n derbyn gofal' yn gulach yn Neddf 2018 nag yn Neddf 2014, bydd y diwygiadau a ddarperir yn y rheoliadau hyn yn sicrhau bod y ddwy Ddeddf a'r cod anghenion dysgu ychwanegol yn cydweddu â'i gilydd mewn cysylltiad â'r dyletswyddau o ran plant sy'n derbyn gofal ag ADY. Fodd bynnag, dylwn ei gwneud yn glir y bydd plant sy'n derbyn gofal nad ydyn nhw'n cael eu hystyried felly yn ôl Deddf 2018 yn parhau i fod â hawliau o dan y system ADY, fel unrhyw blentyn neu unigolyn ifanc arall; ond ni fydd y darpariaethau penodol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn berthnasol iddyn nhw ac, o'r herwydd, efallai mai corff gwahanol fydd yn gyfrifol am baratoi a chynnal unrhyw CDU y gallai fod ei angen arnyn nhw.

Mae angen y diwygiadau technegol hyn er mwyn parhau â'r sefyllfa bresennol o ran plant sy'n derbyn gofal y mae'n ofynnol iddyn nhw fod â chynllun addysg personol a'r rhestr o wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys mewn cynllun addysg personol. Mae mân ddiwygiadau technegol eraill yn cael eu gwneud hefyd i reoliadau 2015 drwy'r rheoliadau diwygio hyn sy'n ganlyniad i osod y gofyniad i fod â chynllun addysg personol yn adran 83 o Ddeddf 2014 trwy Ddeddf 2018. Unwaith eto, nid oes unrhyw gostau'n gysylltiedig â'r rheoliadau a gwahoddaf yr Aelodau i gefnogi'r mân welliannau hyn. Diolch.

Nid oes unrhyw Aelod wedi dweud eu bod yn dymuno siarad, felly, Weinidog, ydych chi am ddweud unrhyw beth arall? Ocê. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021

Eitem 7, Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig—Jeremy Miles.

Cynnig NDM7750 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mehefin 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn dynnu sylw Aelodau at y pwynt craffu technegol 1, a godwyd gan y pwyllgor yn ei adroddiad. Fel yr esboniwyd mewn ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad, mae hyn yn gamgymeriad teipograffyddol, gan nad yw adran 13(7) yn bodoli yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Dylai'r cyfeiriad fod at adran 13(1) yn lle.

Cynigiodd y Llywodraeth ymdrin â hyn yn wreiddiol drwy'r dull slip cywiro sydd ar gael o dan rai amgylchiadau. Fodd bynnag, yn lle hynny, rwyf i'n cynnig rhoi 'adran 13(1)' yn lle 'adran 13(7)' wrth wneud y rheoliadau, pe bai'r rhain yn cael eu cymeradwyo gan y Senedd heddiw. Rwy'n fodlon ei gwneud yn glir nad oes unrhyw newid sylweddol mewn grym i'r rheoliadau ac nad yw'n newid ystyr y ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, rwyf i yn credu y dylid ei gywiro er mwyn osgoi camarwain darllenwyr, ac mae yn well gwneud y gyfraith yn gywir yn y lle cyntaf, yn amlwg, yn hytrach na dibynnu ar ddulliau unioni sydd ar gael yn ddiweddarach. Bydd yr Aelodau hefyd yn dymuno nodi bod y memorandwm esboniadol wedi ei ddiwygio i adlewyrchu cyfeiriadau anghywir y sylwyd arnyn nhw ar ôl eu gosod, gan gynnwys yr un yn adroddiad y pwyllgor. Mae'r rhain wedi eu cywiro erbyn hyn.

O ran y rheoliadau eu hunain, mae'r darpariaethau yn y rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i nifer o ddeddfiadau eraill. Mae'r rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth sylfaenol yr ydym yn ceisio'i diwygio yn ymwneud yn uniongyrchol ag addysg, fel Deddfau Addysg 1997, 2002 a 2005. Fodd bynnag, rydym ni hefyd yn ceisio diwygio deddfwriaeth sy'n ymwneud â meysydd ehangach, gan gynnwys Deddf Llywodraeth Leol 1974 a Deddf Cymru 2017, oherwydd gymaint fydd effaith y diwygiadau ar y system anghenion addysgol arbennig.

Mae'n bwysig nodi na fydd y rheoliadau hyn, os cânt eu pasio, ond yn gwneud mân newidiadau neu newidiadau technegol i'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n angenrheidiol er mwyn galluogi'r system ADY i weithredu fel y bwriadwyd. Nid yw'r diwygiadau hyn yn cael unrhyw effaith ar fwriad polisi Deddf ALNET, y cod ADY na rheoliadau eraill sy'n gysylltiedig ag ADY, ac ni fydd unrhyw gostau yn gysylltiedig â gweithredu'r rheoliadau hyn.

Bydd y rhan fwyaf o'r diwygiadau hyn yn diweddaru terminoleg a fydd yn hen ffasiwn cyn bo hir a geir mewn Deddfau eraill, fel newid 'anghenion addysgol arbennig' i 'anghenion dysgu ychwanegol'. Bydd enw'r tribiwnlys sy'n ymdrin ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau penodol am blentyn neu berson ifanc a'i addysg yn newid hefyd o Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, TAAAC, i Dribiwnlys Addysg Cymru.

Bu taith y diwygiadau i'r system AAA, wrth gwrs, yn un hir. Rwy'n ddiolchgar i fy rhagflaenwyr am ymgymryd â'r darnau pwysig hyn o ddeddfwriaeth, ac rwyf bellach yn gwahodd yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau canlyniadol hyn cyn dechrau ein gweithredu fesul cam. Diolch.

17:10

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau hyn fore ddoe, a bydd y Gweinidog yn falch o wybod, a bydd y Siambr hon yn falch o wybod, y bydd fy nghyfraniad i y prynhawn yma yn fyr iawn yn wir, ar un mater bach.

Fel y soniodd y Gweinidog, nododd ein gwaith craffu ar y rheoliadau drafft yr hyn a oedd yn gamgymeriad teipograffyddol yn rheoliad 11(2), gan olygu y cyfeiriwyd at y ddarpariaeth anghywir yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Croesawaf ymrwymiad y Gweinidog i gywiro'r camgymeriad, fel bod y rheoliadau'n cyfeirio at adran 13(1) o'r Ddeddf honno, cyn i'r rheoliadau fod yn rhan o'r gyfraith a'u cyhoeddi. Croesawaf hefyd gamau amserol y Gweinidog i gywiro'r memorandwm esboniadol cysylltiedig. Dyna ni, Dirprwy Lywydd.

Diolch, Gweinidog, am roi'r cyfle i ni ymdrin â'r gwelliannau i'r Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol a'r tribiwnlys addysg, deddfwriaeth sy'n addo cael effaith sylweddol ar addysg yng Nghymru.

Er bod y trafodaethau cychwynnol ar y Ddeddf hon yn rhagflaenu fy etholiad i, rwyf i ar ddeall, yn dilyn—[Anghlywadwy.]

Iawn. Yr unig beth yw, oni bai ei fod trwy'r meicroffon, ni fyddaf yn gallu clywed yr hyn y byddwch chi'n ei ddweud. Beth bynnag, a ddylwn i ddechrau o'r dechrau?

Gallaf, gallaf eich clywed chi nawr—perffaith. Iawn, diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am roi cyfle i ni roi sylw i'r gwelliannau i'r Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol a'r tribiwnlys addysg, deddfwriaeth sy'n addo cael effaith sylweddol ar addysg yng Nghymru.

Er bod trafodaethau cychwynnol ar y Ddeddf hon yn rhagflaenu fy etholiad, rwyf i ar ddeall, yn dilyn ymgynghoriad cynnar ar y Ddeddf ADY yn 2017, y cytunwyd y byddai cefnogi disgyblion ag anghenion gofal iechyd yn rhan o'i fframwaith, ond erbyn hyn mae'n ymddangos nad yw hyn yn wir. Ni fydd ysgolion yng Nghymru yn gallu ceisio cyllid ychwanegol trwy'r ffrwd cyllid ADY, ac eto bydd disgwyl iddyn nhw gefnogi disgyblion ag anghenion meddygol cymhleth, fel diabetes math 1, ac roedd hyn yn rhywbeth a gafodd ei godi hefyd yr wythnos diwethaf yn y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes.

Rwy'n deall bod y Ddeddf ADY wedi ei chynllunio i ddileu'r rhwystrau sydd gan blant o ran dysgu, ac nad yw bod ag anabledd o reidrwydd yn peri rhwystr i ddysgu. Ond y realiti yw bod cyflyrau fel diabetes math 1 yn gymhleth dros ben, a gall lefelau uchel neu isel o siwgr yn y gwaed, rhywbeth sydd bron yn sicr o ddigwydd yn ystod y dydd, arwain at ddryswch, diffyg canolbwyntio a golwg aneglur i'r rhai sy'n dioddef. Fel yr amlygwyd yn gynharach yn y cyfarfod, gall plant hefyd ddioddef problemau seicolegol oherwydd chwistrelliadau inswlin a chyfyngiadau ar fwyd, a gall hyn achosi problemau iechyd meddwl yn eu harddegau ac yn ddiweddarach mewn bywyd. Gallai ysgolion, o ganlyniad i'r ADY presennol, gael eu gorfodi i wneud penderfyniadau ynghylch adnoddau staff a allai atal ysgol rhag cynnig ymyriadau addysgol, fel sesiynau dal i fyny o ran llythrennedd, wrth i aelodau'r staff gael eu nodi yn lle hynny i sicrhau bod anghenion diogelwch y disgyblion hynny sy'n dod o dan yr ADY yn cael eu monitro a'u cefnogi. Bydd cymorth i ysgolion ddarparu'r gofal a'r ddarpariaeth ar gyfer dysgu ychwanegol yn hanfodol i helpu i ddarparu'r gofal gorau i blant anabl.

Rwy'n siŵr y bydd pob plaid yn dymuno gweld llwyddiant y ddeddfwriaeth hon, ond mae gan grwpiau fel Diabetes UK gryn bryder o hyd ynghylch canlyniadau anfwriadol y gallai'r Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol a'r tribiwnlys addysg eu cael pan gaiff y ddarpariaeth ar gyfer gofal ei dileu. Yng ngoleuni'r pryderon hyn, a wnaiff y Gweinidog gytuno i ailedrych ar y sefyllfa eto? Diolch.

17:15

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei sylwadau ynglŷn â sut rŷn ni’n bwriadu delio â’r cwestiwn sydd wedi’i godi o ran y newid teipograffegol, ac am ei gefnogaeth e i'r hyn rŷn ni’n bwriadu ei wneud er mewn delio â’r camgymeriad hwnnw.

O ran pwynt yr Aelod ynghylch cwmpas cynhwysiant o fewn y darpariaethau ADY, fel y mae'n ei ddweud, mae cyllid sylweddol wedi ei ymrwymo i gefnogi'r gwaith o weithredu'r Ddeddf ADY a chyflawni'r rhaglen drawsnewid ADY ehangach. Ond mae'r pwyntiau a gododd yn y ddadl heddiw, yn enwedig ynghylch cynnwys neu eithrio diabetes, yn rhywbeth y byddaf yn ysgrifennu ato yn ei gylch os yw'n fodlon â hynny. Ond fe fyddaf yn rhoi'r sicrwydd iddo fod y trefniadau yr wyf yn ceisio cydsyniad y Siambr arnyn nhw heddiw yn rhai sy'n gwneud i ddeddfwriaeth arall weithio mewn ffordd sy'n gyson â'r ddeddfwriaeth ADY, i bob pwrpas. Felly, maen nhw'n ddiwygiadau technegol i ddeddfwriaeth arall, sy'n ganlyniad i hynt bresennol y Bil ADY ei hun. Felly, maen nhw'n dechnegol yn yr ystyr hwnnw. Ond os yw'n fodlon, byddaf i'n hapus iawn i ysgrifennu ato ynghylch y pwyntiau penodol y mae wedi eu codi heddiw.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:17.

17:25

Ailymgynullodd y Senedd am 17:28, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

8. Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021

Eitem 8 yw'r eitem yma nawr i'w drafod, ar y Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021. Dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig. Julie Morgan.

Cynnig NDM7752 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mehefin 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol.

Bydd Rheoliadau Drafft Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 sydd ger eich bron chi heddiw yn darparu ar gyfer dod â gweithrediad y darpariaethau gofal cymdeithasol a gynhwysir yn y Ddeddf 2020 honno i ben yn gynnar. Mae'r rheoliadau drafft hyn yn ymwneud yn benodol â Rhan 2 o Atodlen 12 i Ddeddf 2020, ac adran 15 o Ddeddf 2020, i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 o Atodlen 12.

Mae darpariaethau gofal cymdeithasol Deddf 2020 yn addasu dyletswyddau penodol awdurdodau lleol mewn cysylltiad â gofal cymdeithasol i oedolion, o dan Rannau 3 a 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd yr Aelodau yn cofio i mi ysgrifennu atyn nhw ar 19 Chwefror, yn rhoi rhybudd o fy mwriad i atal gweithredu'r darpariaethau a'r rheoliadau hynny, ac i roi'r atal hynny ar waith, daeth hyn i rym ar 22 Mawrth eleni.

Mae llywodraeth leol wedi bod yn gwbl glir nad oes yr un awdurdod lleol yng Nghymru wedi gweithredu darpariaethau Deddf 2020. Mae'n adlewyrchiad o ymrwymiadau ac ymroddiad yr arweinwyr a'r gweithlu i archwilio ffyrdd o gynnal gofal a chymorth o dan amgylchiadau anodd iawn. Mae'n dystiolaeth bellach o'r ymateb anhygoel a wnaed gan bawb yn y sector gofal cymdeithasol a ledled Cymru.

Nid yw hynny'n golygu nad yw pobl wedi cael profiad na gwneud dewis gweithredol i wneud addasiadau i'w gofal a'u cymorth oherwydd yr effaith y mae'r pandemig wedi ei chael ar staffio ac adnoddau hanfodol eraill, yn enwedig yn ein cymunedau lleol. Mae effaith COVID ar bobl hŷn, plant sy'n derbyn gofal, oedolion ag anableddau dysgu a gofalwyr di-dâl wedi bod yn glir. Dyna pam y gwnaethom ni sicrhau bod Deddf 2020 yn cynnal amddiffyniadau allweddol, heb eu haddasu drwy gydol y pandemig.

Er enghraifft, fe wnaethom ni sicrhau bod y dyletswyddau sy'n ddyledus i bobl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn aros yn ddigyfnewid, yn ogystal â dyletswyddau i ystyried y confensiynau a'r egwyddorion perthnasol sy'n ymwneud â hawliau dynol, pobl hŷn a phobl anabl. Yn yr un modd, fe wnaethom ni sicrhau bod trafodaethau a phenderfyniadau yn ymwneud â gofal a chymorth yn cael eu cefnogi a'u llywio gan y fframwaith moesegol penodol ar gyfer gofal cymdeithasol, ac fe wnaethom ni weithio gyda'r Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl i gyhoeddi canllawiau statudol clir a chynhwysfawr.

Mae Deddf y Coronafeirws 2020 wedi ei hamserlennu i ddod i ben yn awtomatig ar 25 Mawrth 2022 oni bai bod y darpariaethau yn cael eu hymestyn neu, fel yn yr achos sydd ger eich bron heddiw, yn cael ei dwyn i ben yn gynnar. Rwy'n eich gwahodd i gefnogi'r cynnig i ddod â'r darpariaethau hyn i ben yn gynnar a chymeradwyo Rheoliadau drafft Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru). Diolch.

17:30

Does gyda fi ddim siaradwyr ar yr eitem yma, ac felly dwi'n cymryd nad yw'r Dirprwy Weinidog yn moyn y cyfle i ymateb. Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2021-22

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar y gyllideb atodol gyntaf 2021-22. Rwy'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7726 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 22 Mehefin 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae'r gyllideb atodol gyntaf hon yn 2021-22 unwaith eto yn canolbwyntio yn llwyr ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig. Mae'n rheoleiddio'r dyraniadau pwysig a wnaeth y Llywodraeth Cymru flaenorol i'n helpu ni a'n partneriaid i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i effaith y coronafeirws. Mae hefyd yn darparu cyfle i wneud newidiadau technegol sy'n ailddatgan cyllidebau Llywodraeth Cymru yn unol â'r portffolios gweinidogol newydd sy'n deillio o'r weinyddiaeth newydd, yn ogystal ag adlewyrchu addasiadau o ddigwyddiadau cyllidol diweddar y DU.

Mae'r gyllideb hon yn gwneud cynnydd o dros £1.1 biliwn i adnoddau cyllidol cyffredinol Cymru, gyda chynnydd o 5 y cant ar sefyllfa y gyllideb derfynol. Mae cyfanswm o £793 miliwn o gynnydd yn ein cynlluniau gwariant cyllidol, cynnydd o 4.1 y cant ers y gyllideb derfynol. Mae'r gyllideb hon yn cynnwys dros £700 miliwn o ddyraniadau i gyllidebau adrannol, ac mae £627 miliwn yn ddyraniadau o gronfa ymateb COVID-19. Un o'r blaenoriaethau allweddol fu cefnogi ein GIG a'i weithlu wrth iddo barhau i fod dan straen na welwyd ei debyg o'r blaen wedi ei achosi gan y pandemig. Ar gyfer hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £100 miliwn o gyllid ychwanegol i'w ddefnyddio ar draws gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd. I gefnogi economi Cymru, rydym wedi dyrannu £352.2 miliwn i ymestyn gwyliau ardrethi busnes y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, cymorth a fydd yn ymestyn hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, rhyw chwe mis yn hirach na'r rhyddhad cyfatebol a ddarperir yn Lloegr. Rydym ni wedi darparu £55 miliwn i helpu busnesau wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer amodau masnachu mwy arferol.

Rydym wedi darparu dros £39 miliwn ar gyfer parhau â'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau i gefnogi dysgu ac addysgu, gan ganolbwyntio'n benodol ar gymorth i'r dysgwyr mwyaf agored i niwed a difreintiedig. Dyrannwyd £19 miliwn arall i sicrhau bod plant yn parhau â'u cynnydd dysgu yn dilyn aflonyddwch yn ystod y pandemig, gan ganolbwyntio ar les plant a staff. Gwnaed dyraniad o £33 miliwn i addysg bellach ac awdurdodau lleol i gefnogi dysgwyr coleg a chweched dosbarth i ariannu amser addysgu ychwanegol, ac mae £6 miliwn wedi ei ddyrannu i gefnogi 1,400 o athrawon dan hyfforddiant sydd mewn hyfforddiant cychwynnol athrawon ar hyn o bryd i gwblhau eu cymwysterau a symud i addysgu amser llawn.

Mae mynediad at ddigwyddiadau hamdden, adloniant, chwaraeon a diwylliannol i blant a phobl ifanc yn hanfodol wrth adfer o effeithiau COVID-19. Dyna pam yr ydym yn darparu £4.5 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol i gynnal gweithgareddau yn rhan o'r Haf o Hwyl. Ac rydym yn dyrannu £2 miliwn i'r sector addysg awyr agored preswyl yn gymorth i dalu am gostau gweithredu hanfodol. Mae'r gronfa adfer diwylliannol wedi rhoi cymorth hanfodol i unigolion ac i sector a fyddai'n wynebu cael ei ddinistrio pe na bai Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn i ddarparu cymorth hanfodol. Dyna pam yr ydym yn dyrannu £30 miliwn i ymestyn y gronfa a chefnogi diwylliant amrywiol Cymru trwy'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu.

Er mwyn cefnogi Trafnidiaeth Cymru i dalu costau gweithredu'r rhwydwaith rheilffyrdd o fis Medi tan ddiwedd mis Tachwedd, rydym wedi dyrannu £70 miliwn. Ac mae £100 miliwn arall wedi ei ddyrannu ar gyfer mesurau nad ydyn nhw'n gysylltiedig â COVID, fel y rhaglen gyfnewid ryngwladol i Gymru ar gyfer dysgu sy'n newydd a chyffrous, cymorth hanfodol i Faes Awyr Caerdydd a dyraniadau sy'n ymwneud â throsglwyddiadau o Lywodraeth y DU.

Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyllid o'r anawsterau parhaus a achoswyd gan ddiffyg eglurder Llywodraeth y DU o ran penderfyniadau polisi sydd â goblygiadau cyllid i Gymru. Mae'r ansicrwydd hwn yn cael effaith andwyol ar ein setliad cyllid, gan ein rhoi o dan anfantais barhaus wrth gynllunio a rheoli ein cyllideb. Rwy'n dal i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidol o ran benthyca a chronfa wrth gefn Cymru.

Yn erbyn cefndir y pandemig, mae'n hanfodol bod ein galwadau yn cael eu cydnabod i gefnogi cynllunio ariannol effeithiol i alluogi twf ac adferiad. Diolch i'r pwyllgor am ystyried y gyllideb hon a chyhoeddi ei adroddiad. Byddaf yn darparu ymateb manwl maes o law, ond rwy'n bwriadu derbyn yr argymhellion. Rwy'n parhau i weithio gyda chyd-Aelodau i nodi'r pwysau sy'n gysylltiedig ag ymateb i'r pandemig a chyfleoedd i ariannu mesurau adfer COVID, a byddaf yn gwneud rhagor o gyhoeddiadau maes o law. Bydd yr holl ddyraniadau pellach yn cael eu rheoleiddio yn yr ail gyllideb atodol yn ddiweddarach eleni. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig 

17:35

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Cynhaliodd y pwyllgor waith craffu ar y gyllideb atodol gyntaf ar 2 Gorffennaf. Diolch i’r Gweinidog am fod yn bresennol, a hefyd i'r Aelodau am gyfarfod yn weddol fyr rybudd i wneud y gwaith. 

Mae'r gyllideb atodol hon yn dangos cynnydd o £1.2 biliwn i'r dyraniadau i adrannau Llywodraeth Cymru. Mae hynny'n gynnydd o £19.7 biliwn i £20.9 biliwn. Mae'r dyraniadau wedi eu seilio yn bennaf ar ymateb parhaus Llywodraeth Cymru i'r pandemig. Dywedodd y Gweinidog wrthym mai cyllideb atodol dechnegol yw hon sy'n symud i gyd-fynd â ffyrdd blaenorol o gyllidebu. Fodd bynnag, darparodd y tair cyllideb atodol yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf wybodaeth fanwl. Rydym yn argymell y dylai cyllidebau atodol yn y dyfodol roi mwy o fanylion am sut y mae dyraniadau newydd wedi eu blaenoriaethu i sicrhau bod tryloywder yn cael ei gynnal.

Roeddem yn falch o glywed bod y Gweinidog wedi parhau i gyfarfod yn aml â Gweinidogion eraill i drafod gofynion cyllid, gan ddefnyddio dull mwy canolog o gyllidebu. Mae gan Lywodraeth Cymru lefel sylweddol o adnoddau cyllidol heb eu dyrannu wrth gefn. Rydym yn deall yr angen am hyblygrwydd i ymdrin â'r ymateb i'r pandemig a nodwn fod y Gweinidog yn bwriadu gwneud rhai dyraniadau sylweddol cyn bo hir. Edrychwn ymlaen at eu hystyried yn rhan o'r ail gyllideb atodol.

Dywedodd y Gweinidog fod gwarant cyllid Llywodraeth y DU y llynedd yn ddefnyddiol iawn o ran rhoi rhywfaint o sicrwydd i weinyddiaethau datganoledig. Fodd bynnag, clywsom fod materion arwyddocaol yn parhau o ran sut y mae Llywodraeth y DU yn cyfleu polisïau sy'n arwain at symiau canlyniadol i Gymru. Roedd cyfathrebu rhwng San Steffan a Chymru yn fater o bryder i'r Pwyllgor Cyllid blaenorol. Rydym yn bwriadu mynd ati i weithio'n agosach gyda chymheiriaid eraill i roi pwysau ar y cyd ar Lywodraeth y DU i egluro penderfyniadau cyllid. Rydym hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wella tryloywder wrth gyfrifo cyllid ac am ddulliau rhynglywodraethol a strwythurau llywodraethu mwy effeithiol na'r rhai sydd ar waith ar hyn o bryd.

Fel sydd wedi digwydd drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid sylweddol i gymorth economaidd. Y dyraniad mwyaf yn y gyllideb atodol yw £352.2 miliwn i ymestyn y rhyddhad ardrethi busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ffaith y bydd y rhyddhad ardrethi llawn i fusnesau yng Nghymru yn parhau am weddill y flwyddyn, yn wahanol i Loegr.

Gan symud ymlaen at drafnidiaeth, dileodd Llywodraeth Cymru £42.6 miliwn o'r benthyciad yr oedd wedi ei roi i Faes Awyr Caerdydd. Clywsom fod y Gweinidog blaenorol dros yr economi a thrafnidiaeth wedi dangos mai dileu oedd y ffordd fwyaf cost-effeithiol o gefnogi'r maes awyr bryd hynny. Fodd bynnag, defnyddiodd Llywodraeth Cymru gyllid cyfalaf trafodiad ariannol ar gyfer rhywfaint o'r benthyciad a roddodd i'r maes awyr, ac mae'n ofynnol iddi ad-dalu 80 y cant o gyfanswm y cyfalaf trafodiad ariannol a ddyrannwyd gan Drysorlys EM. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu gwybodaeth am effaith ariannol ei phenderfyniad i ddileu rhan o'r benthyciad.

Mae £100 miliwn ychwanegol wedi ei ddyrannu i gefnogi adferiad y GIG. Mae'r Gweinidog yn awgrymu y byddai'r cyllid hwn yn cefnogi sefydliadau'r GIG hefyd i ymateb i drydedd don bosibl. Rydym yn argymell y dylai'r Gweinidog egluro diben y £100 miliwn, gan gynnwys sut y caiff y cyllid ei ddefnyddio, ei ganlyniadau arfaethedig a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn adrodd ar yr effaith y mae'n ei chael yn y pen draw ar restrau aros y GIG.

Yn olaf, mae'r pwyllgor yn croesawu'r cymorth ariannol a roddwyd i awdurdodau lleol drwy'r gronfa caledi llywodraeth leol, sy'n cefnogi mentrau gan gynnwys prydau ysgol am ddim, taliadau hunanynysu ac ychwanegiad at dâl salwch gweithwyr gofal cymdeithasol. Bydd y Gweinidog yn ymrwymo £26 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol drwy'r gronfa galedi. Gofynnwn am yr wybodaeth ddiweddaraf am fonitro ac effeithiolrwydd y gronfa a rhagor o fanylion am y £26 miliwn ychwanegol.

Rwy’n falch o fod yn cael siarad yma yn y ddadl heddiw, y gyntaf i mi fel Cadeirydd newydd y Pwyllgor Cyllid. Deallaf fod y Pwyllgorau Cyllid blaenorol wedi cael perthynas adeiladol gyda'r Gweinidogion cyllid ac edrychaf ymlaen at barhau hynny yn fy rôl newydd. Diolch yn fawr.

17:40

Mae'n bleser gen i fod yn rhan o'r ddadl hon heddiw ac rwy'n diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad agoriadol. Nid oes dim amheuaeth nad yw'r pandemig wedi gwthio Cymru i ochr y dibyn ac mae'n dangos pa mor bwysig yw hi fod Cymru yn parhau i fod yn rhan annatod o Deyrnas Unedig gref. Wedi'r cyfan, fe wnaeth y mesurau cadarn a weithredwyd yn gyflym gan Lywodraeth Geidwadol y DU o £8.6 biliwn o gyllid ers dechrau'r pandemig ddiogelu cannoedd ar filoedd o swyddi, gan amddiffyn bywoliaethau ar hyd a lled Cymru rhag rhai o effeithiau mwyaf difrifol y pandemig. Mae'r cymorth hwn yn ychwanegol, wrth gwrs, at gynlluniau'r DU gyfan fel cynllun cadw swyddi y coronafeirws a'r cynllun incwm hunangyflogaeth.

Ond, Llywydd, ar ôl darllen y gyllideb atodol am y tro cyntaf, cefais fy synnu wrth nodi bod gwerth tua £2 biliwn o arian nad yw wedi ei ddyrannu o hyd yn eistedd yng nghoffrau Llywodraeth Cymru; £1.2 biliwn cyllidol a'r gweddill yn gyfalaf. Mae hwn yn swm sylweddol iawn o arian, ac rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr hon yn cytuno. Dro ar ôl tro, rydym ni wedi clywed Gweinidogion Llywodraeth Cymru—a hynny'n gwbl briodol—yn galw am gyllid i ymdrin â'r pandemig. Ond wedyn i beidio â defnyddio'r cyfan ar adeg o argyfwng cenedlaethol, nid yw hynny'n gwneud synnwyr. Llywydd, mae'n debyg iawn i gael arian ar gyfer llogi adeiladwr i atal eich nenfwd sydd wedi ei ddifrodi rhag cwympo i mewn, ac wedyn penderfynu peidio â defnyddio'r holl arian a roddir i chi gan olygu bod y risg yn parhau. Mae angen y buddsoddiad hwnnw ar bobl Cymru yn awr fel y gallan nhw ddechrau ailgodi'n gryfach. Yn fwy nag erioed o'r blaen, mae angen cynllun adfer hirdymor cynaliadwy ar gyfer ein GIG, ein hysgolion, busnesau ac awdurdodau lleol hollbwysig arnom yn daer. Felly, Gweinidog, ble mae eich cynllun i fuddsoddi yr £1.2 biliwn hwn nad yw wedi ei ddyrannu? Pryd y bydd gwasanaethau yn gweld y cyllid sydd ei angen arnyn nhw yn daer?

Gweinidog, er fy mod i'n croesawu unrhyw gam credadwy i roi hwb i'n hadferiad economaidd, byddaf yn dal i dynnu sylw at feysydd o wendid. Nid yw'r rheswm dros hyn yn wleidyddol, ond dyna'r hyn y dylai gwrthblaid resymol ei wneud. Dyna pam yr wyf wedi fy siomi braidd na fydd rhannau o'r gyllideb atodol yn gwneud dim mwy na chrafu wyneb yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd i helpu Cymru i adfer ar ôl y pandemig. Ystyriwch, er enghraifft, gronfa galedi llywodraeth leol, a ddaeth i ben ym mis Mehefin, sy'n golygu bod cynghorau yn wynebu ymyl dibyn yn ariannol erbyn hyn. Neu y ffaith mai dim mwy na diferyn yn y môr yw'r arian ychwanegol a gafodd ei gyhoeddi ar gyfer ein GIG annwyl, neu'r ffaith frawychus nad yw'n ymddangos bod unrhyw gefnogaeth ychwanegol i'n cymunedau gwledig, er gwaethaf yr effaith andwyol y mae'r pandemig wedi ei chael ar yr ardaloedd gwledig hyn. Mewn geiriau eraill, mae llawer o'r mesurau a amlinellir yn y gyllideb atodol naill ai yn gyllid tymor byr neu'n fentrau sydd wedi cau, ond mae angen y mentrau hyn i ddarparu cymorth hirdymor.

Yn olaf, Gweinidog, gwn fod y pandemig wedi cael effaith andwyol ar y sector trafnidiaeth, ac rwy'n cydnabod bod y Llywodraeth wedi darparu cymorth ychwanegol, fel yr £16 miliwn i Faes Awyr Caerdydd a £70 miliwn i Trafnidiaeth Cymru. Fodd bynnag, mae'n werth nodi, fel y crybwyllwyd yn adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, fod hyn ar ben y ffaith bod y Llywodraeth wedi dileu gwerth £40 miliwn o ddyledion Maes Awyr Caerdydd a £167 miliwn ychwanegol a roddwyd i Trafnidiaeth Cymru y llynedd. Yn amlwg, nid yw hon yn ffordd gynaliadwy o redeg gwasanaethau. A wnewch chi ddweud wrthyf a yw Llywodraeth Cymru yn wynebu twll du ariannol yn y dyfodol oherwydd hyn? Beth yw eich cynlluniau ar gyfer rhoi'r gwasanaethau hyn yn ôl ar ddyfodol ariannol cynaliadwy? Mae amser yn hanfodol yma. Mae angen cynllun beiddgar, uchelgeisiol arnom i sicrhau bod Cymru yn adfer ar ôl COVID. Mae angen i bob un ohonom ni nawr weithredu er budd cenedlaethol Cymru, a dyna pam yr wyf i'n mawr obeithio, Gweinidog, y byddwch yn rhoi sylw i fy ngalwadau i heddiw. Diolch, Llywydd.

17:45

A gaf i ddechrau drwy, efallai, gydnabod yr amgylchiadau heriol mae'r Llywodraeth wedi'u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf yma, gyda diffyg adolygiadau gwariant, diffyg sicrwydd o safbwynt y cyllid sy'n dod, a'r ariannu ad hoc yn dod o gyfeiriad San Steffan? Mae'n dda deall ein bod ni'n gobeithio nawr symud i gylchdro bach mwy sefydlog, gyda dwy gyllideb atodol yn lle tair, ac yn y blaen. Mae pawb, dwi'n siŵr, yn croesawu hynny. Fel plaid, wrth gwrs, rŷn ni'n hapus i fod yn bragmatig a chydnabod yr amgylchiadau anodd hynny, cyhyd â bod y Llywodraeth a'r Gweinidog yn dryloyw ac yn agored gyda ni wrth i ni fynd ati i graffu'r prosesau yna.

Mi fyddem ni'n cefnogi'r galwadau am well trafodiadau rynglywodraethol. Dwi wedi bod ar y Pwyllgor Cyllid yn y Senedd ddiwethaf, wrth gwrs, yn gwrando ar yr Ysgrifennydd Gwladol mewn un sesiwn yn dweud bod yna gannoedd o filiynau o arian ychwanegol yn dod i gyfeiriad Cymru yn sgil un cyhoeddiad, ac wedyn, dwy funud wedyn, yn clywed Gweinidog Cymru yn dweud mai degau o filiynau o arian ychwanegol a oedd yn dod lawr y ffordd. Dyw hynny ddim, yn fy marn i, yn adlewyrchu yn dda iawn ar y sefyllfa sydd ohoni. Mae pawb yn crafu pen ynglŷn â ble mae'r gwir, a dwi yn meddwl bod angen i'r ddwy Lywodraeth godi uwchlaw hynny yn y cyfnod nesaf yma. Dyw hi ddim yn gwneud lles i unrhyw un, a dyw hi ddim, yn sicr, yn help o safbwynt craffu i ni fel Aelodau, na chwaith i sicrhau bod yr arian ychwanegol yna, faint bynnag sy'n dod yn y pen draw, yn gweithio mor galed ag sy'n bosib o safbwynt darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl yng Nghymru. Ond dyna ddiwedd y bregeth ar hwnna.

Wrth gwrs, dwy elfen sydd, i bob pwrpas, yn y gyllideb atodol yma, fel oedd y Gweinidog yn esbonio. Mae ymarferiad technegol o ailddatgan cyllidebau i adlewyrchu portffolios newydd, a dwi wastad, fel Aelod o wrthblaid, eisiau mwy o wybodaeth. Mae wastad yn anodd dilyn lle mae'r arian yna yn mynd, o un portffolio i'r llall, a byddwn i eto yn ategu'r ple sydd wedi cael ei wneud yn y gorffennol i gynnig mwy o fanylder i ni pan fo'n dod i rai o'r ffigyrau hynny.

Yr ail beth, efallai—ie, cyllideb atodol yw hi, ond mae yna deimlad retrospective iawn, onid oes, yn y gyllideb atodol yma? Mae'r rhain i gyd yn gyhoeddiadau y mae'r Llywodraeth eisoes wedi ymrwymo iddyn nhw. Rŷn ni'n cadarnhau, i bob pwrpas, yr ymrwymiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod, lle efallai y byddwn i'n awyddus i ni gael mwy o gyfle i drafod dyraniadau posib yn edrych ymlaen, yn symud ymlaen o safbwynt y gyllideb o fewn y flwyddyn yma. Y peryg yw y bydd yr ail gyllideb atodol nawr, wrth gwrs, yn edrych yn ôl ar rai o'r dyraniadau y bydd wedi digwydd o heddiw ymlaen, hefyd, sydd jest yn elfen o rwystredigaeth, efallai, o'm rhan i.

Rŷn ni wedi clywed, wrth gwrs, bod yna £2 biliwn o arian wrth gefn sydd heb ei glustnodi, ac mae rhywun yn deall y risg o bethau fel trydedd don a'r angen i sicrhau bod modd gan Lywodraeth Cymru ymateb i hynny, ond mae yna risg, dwi'n meddwl, ein bod ni'n colli cyfle yn y flwyddyn ariannol yma. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi bod yn glir ynglŷn â'r angen i greu mwy o stimiwlws economaidd drwy fuddsoddi mewn seilwaith i gael yr economi i symud unwaith eto. Mae'r her newid hinsawdd, wrth gwrs, yn cynnig ei hun fel canfas eang eithriadol o safbwynt interventions posib mewn projectau seilwaith mawr y byddwn ni i gyd, dwi'n siŵr, yn cytuno sydd angen eu gwireddu. Rŷn ni hefyd wedi bod yn glir ynglŷn â'r angen i'r Llywodraeth roi ei phwerau benthyg ar waith yn fwy effeithiol. Roedd y Gweinidog, wrth agor y ddadl, yn dweud ei bod hi'n awyddus i gael mwy o hyblygrwydd pan fo'n dod i bwerau benthyg—wel, defnyddiwch y pwerau sydd gyda chi yn y lle cyntaf, gyda chi. Os nad ydych chi'n credu bod angen defnyddio'r pwerau hynny ar hyn o bryd, wrth i ni geisio adeiladu'n ôl yn well, yn decach, yn wyrddach, yna pryd fydd hynny, dywedwch? 

Nawr, o safbwynt rhai o'r dyraniadau—dwi'n ymwybodol o'r amser—penodol yn y gyllideb atodol yma, o safbwynt iechyd, wrth gwrs, rŷm ni'n croesawu ac yn cydnabod y buddsoddiad o £128 miliwn ychwanegol at adfer a lleihau rhestrau aros—sy'n frawychus o hir, byddem ni gyd yn cytuno—o fewn y gwasanaeth iechyd. Ond mae angen mynd tu hwnt i hynny a rhoi strategaethau clir mewn lle gyda chyllid digonol i'w gweithredu nhw, sydd nid yn unig yn adfer gwasanaethau ac yn delio efo'r backlog ar ôl COVID, ond sydd hefyd yn galluogi'r gwaith o adeiladu NHS sy'n fwy gwydn a chynaliadwy nag o'r blaen; hynny yw, sy'n caniatáu ail-ddylunio gwasanaethau ar gyfer y tymor hir. Mae gan fyrddau iechyd gynlluniau, dwi'n gwybod, sydd angen eu gweithredu, a nawr yw'r amser i fynd ati o ddifrif i greu'r isadeiledd newydd yna sy'n creu gwasanaeth iechyd gwladol mwy cydnerth, a mwy ffit ar gyfer y dyfodol hirdymor.

Ac, yn olaf, mae'r £206 miliwn sydd wedi cael ei roi i awdurdodau lleol drwy'r gronfa caledi llywodraeth leol, wrth gwrs, yn chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol yma yn rhywbeth, dwi'n gwybod, mae awdurdodau lleol yn ei groesawu, ond mae arweinwyr cyngor yn dweud wrthyf i eu bod nhw dal ddim yn glir ynglŷn â'r bwriad ar gyfer ail hanner y flwyddyn ariannol yma. Rŷch chi wedi awgrymu eich bod chi yn ymrwymo i barhau i ariannu hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol, ond ydy hwnna yn £206 miliwn arall? Ydy e'n swm amgen, neu ydy'r £206 miliwn yna i fod para hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol? Mae arweinwyr cynghorau yn dweud wrthyf i eu bod nhw dal ddim yn glir, ac mi fyddai eglurder ar hynny yn rhywbeth dwi'n credu fyddai'n cael ei groesawu. Diolch.

17:50

Rwy'n croesawu'r gyllideb atodol gyntaf hon ar gyfer 2021-22 yn fawr iawn. Mae'n gyfnod eithriadol i'r ddeddfwrfa hon ac i bobl Cymru na welwyd erioed o'r blaen mewn cyfnod o heddwch. Wrth i ni fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd a thrawsnewid, mae Cymru yn parhau i gael cyllid bloc 3 y cant yn is y pen nag yn 2010. Rydym yn wynebu ansicrwydd gwirioneddol o ran pontio ar ôl ymadael â'r UE, amwysedd ariannol o golli cronfeydd pontio y DU, wrth i hen ardaloedd Amcan 1 gael eu hepgor yn llwyr o gyllid codi'r gwastad y DU, a'r hyn y gellir ei alw ar y gorau yn ail-grynhoi cyfansoddiadol, yn groes i ddatganoli a'n mandad deddfwriaethol, a diffyg gwirioneddol a chronig mewn hyblygrwydd ariannol a'r adolygiad cynhwysfawr o wariant sydd ar goll. A thrwy hyn i gyd, Llywydd, rydym yn brwydro'r pandemig byd-eang ei hun, y cyfan y mae wedi ei olygu i'n pobl, ein heconomi a'n hymwrthedd cenedlaethol.

Rwy'n croesawu cael fy ailbenodi i Bwyllgor Cyllid Cymru, ac yn cwtogi fy sylwadau i ganolbwyntio ar argymhelliad 10 o waith craffu'r Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb atodol gyntaf. Felly, nid wyf i'n petruso rhag pwysleisio pwysigrwydd llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl, yn aml y rhai mwyaf agored i niwed ar adegau o normalrwydd. Mae'r pandemig wedi dangos ac yn dystiolaeth o ba mor hanfodol fu llywodraeth leol yn ein hadferiad o ran logisteg pandemig, o ran gwaith cydgysylltu, gweinyddu a chefnogi brys. Yn fyr, mae llywodraeth leol wedi bod yn hanfodol i frwydr Cymru yn erbyn COVID-19.

Mae paragraffau 68 i 73 o adroddiad y Pwyllgor Cyllid, tudalennau 24 a 25, yn canolbwyntio ar lywodraeth leol yn y gyllideb atodol gyntaf, ac roedd y gyllideb derfynol yn cynnwys £206.6 miliwn i gefnogi llywodraeth leol ar gyfer y chwe mis cyntaf hynny drwy'r gronfa galedi llywodraeth leol. Ac mae hynny'n ychwanegu at dros £660 miliwn o ddyraniad ychwanegol i lywodraeth leol yn 2021. Felly, roeddwn i wedi fy nghalonogi yn fawr o weld bod y Gweinidog wedi cadarnhau, yn ogystal â'r cyllid ar gyfer y gronfa galedi llywodraeth leol am y chwe mis cyntaf a gyhoeddwyd yn y gyllideb derfynol, fod y Gweinidog wedi cytuno ar £76 miliwn ychwanegol drwy'r gronfa galedi, yn arbennig ar gyfer pwysau gofal cymdeithasol.

Mae'r gronfa galedi wedi darparu cyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim, taliadau hunanynysu ac ychwanegiadau at dâl salwch gweithwyr gofal cymdeithasol, ac wedi ariannu profion hollbwysig a phodiau ymwelwyr yn ein cartrefi gofal, ymysg llawer o ymyriadau eraill. Ac rydym yn gwybod nad yw'r pandemig hwn ar ben, er bod Cymru wedi ei chadw'n ddiogel gan ddull pwyllog Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi'i ysgogi gan epidemioleg, a'r rhaglen frechu hynod lwyddiannus sy'n arwain y ffordd yn y byd, gan sicrhau ein bod yn un o'r gwledydd sydd wedi'i brechu fwyaf ar y ddaear. Ac, o'r herwydd, rwy'n croesawu yn fawr sylwadau'r Gweinidog i'r lle hwn ar 23 Mehefin y gellid dyrannu rhagor o arian drwy'r gronfa galedi, pe bai ei angen, ac mae ei angen yn wir. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gadw Cymru'n ddiogel wrth sicrhau hefyd fod ein harian yng Nghymru, o dan yr amgylchiadau anoddaf a brofwyd erioed gan y ddeddfwrfa hon a'n gwlad, mewn cyflwr da, ac rwy'n cefnogi cymeradwyaeth y gyllideb atodol gyntaf hon ar gyfer 2021-22. Anogaf bob Aelod i wneud yr un peth. Diolch. 

17:55

Diolch. Hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau heddiw am eu cyfraniadau meddylgar. Mae'r gyllideb atodol gyntaf hon yn rhan bwysig o broses y gyllideb, sy'n caniatáu i'r Senedd adrodd am newidiadau a chraffu arnyn nhw, ac rwy'n croesawu'r ddadl adeiladol yr ydym wedi ei chael y prynhawn yma. Fel yr amlinellais yn fy sylwadau agoriadol, er ein bod wedi rheoleiddio nifer o ddyraniadau a gyhoeddwyd yn flaenorol o'r cronfeydd wrth gefn i barhau â'n hymateb i'r pandemig, mae'r gyllideb hon yn ein dychwelyd at yr arfer mwy arferol a ddatblygwyd gennym o ran cyllidebau atodol sy'n fwy technegol eu natur.

Rydym ni wedi mabwysiadu dull gweithredu cyfrifol wedi ei dargedu sy'n canolbwyntio ar y cymorth uniongyrchol sydd ei angen yng nghyd-destun pandemig sy'n symud yn gyflym, ac rydym wedi ymateb yn bendant i gefnogi economi Cymru a sicrhau bod gan ein gwasanaethau cyhoeddus y gallu i ymdrin ag amgylchiadau sy'n datblygu.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod Gweinidogion cyllid ledled y byd wedi dewis rhoi hyblygrwydd i'w hunain drwy gynnal lefel briodol o gronfeydd wrth gefn, ac, wrth gwrs, mae hynny yr un mor berthnasol i'r Canghellor sy'n cadw cronfeydd sylweddol wrth gefn er mwyn parhau i ymateb i'r argyfwng. Ac yng Nghymru, wrth gwrs, nid ydym wedi bod yn wahanol. Rydym yn cadw cronfeydd COVID wrth gefn i gadw'r hyblygrwydd hwnnw er mwyn ein galluogi ni i ymateb.

Serch hynny, fel yr wyf wedi ei amlinellu i'r Pwyllgor Cyllid, rydym wedi cytuno ar £26 miliwn ychwanegol i ymestyn y cyllid sydd ar gael yn y gronfa galedi llywodraeth leol ar gyfer gofal cymdeithasol, ac, yn ogystal, rwyf wedi dyrannu £10 miliwn ychwanegol i gronfa galedi awdurdodau lleol ar gyfer yr ymateb brys i ddigartrefedd; £4 miliwn ychwanegol i helpu pobl i hunanynysu, gan ymestyn y cymorth hwnnw tan ddiwedd mis Mawrth 2022; ac £1.5 miliwn i ddarparu grantiau argyfwng COVID Cymru ac Affrica. A byddaf yn bwriadu gwneud rhagor o gyhoeddiadau yn ystod yr wythnosau nesaf.

Rwy'n credu hefyd ei bod yn bwysig cydnabod ar y pwynt hwn mai natur cronfa COVID yw ei bod yn anghylchol, felly ni allwn ddibynnu ar y ffaith y bydd unrhyw ran o'r arian hwn ar gael y flwyddyn nesaf, ac mae hynny yn ychwanegu at yr heriau i ni o ran y math o ymyriadau yr hoffem eu rhoi ar waith.

Fe wnes i sôn am y gronfa galedi llywodraeth leol, ac rwyf i yn awyddus i gofnodi'r ffaith fy mod i wedi rhoi'r cadarnhad hwnnw i arweinwyr awdurdodau lleol mai fy mwriad i yw y bydd y gronfa honno yn parhau i fod ar waith drwy gydol y flwyddyn ariannol hon, ac mae swyddogion yn gweithio gyda swyddogion yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar hyn o bryd, ac mewn awdurdodau lleol, i ddeall yr angen sy'n gysylltiedig â'r gronfa benodol honno ar gyfer eleni, gan fy mod i yn cydnabod, fel y mae eraill wedi ei wneud, pa mor hanfodol y bu i gefnogi ymateb llywodraeth leol i'r pandemig.

Rwyf i yn croesawu sylwadau'r Pwyllgor Cyllid ynglŷn â'u diddordeb ym mherthynas Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU, ac, wrth gwrs, rwyf i mor awyddus ag unrhyw un y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gynnal ymgysylltiad a chydweithrediad cryf, yn enwedig yn dilyn yr uwchgynhadledd adfer ar ôl COVID. Ond, nawr, mae angen i ni weld hynny'n cael ei gadarnhau drwy weithredu a newid sylweddol gwirioneddol yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn rhyngweithio â Llywodraeth Cymru, ac yn arbennig felly, yn fy marn i, o ran cyllid.

Roedd y warant COVID a gawsom y llynedd yn ddatblygiad defnyddiol iawn, ac mae hynny'n rhywbeth yr oeddwn i yn rhan o'i dylunio, er mwyn sicrhau ei bod yn diwallu ein hanghenion ni yma yng Nghymru. Ond, eleni, mae wedi bod yn llawer anoddach gan fod Llywodraeth y DU wedi gwneud cyhoeddiadau ers i ni gael ein cyllid COVID yn gynharach eleni ac nid ydym yn gwybod a ydyn nhw wedi eu cynnwys yn y warant honno ai peidio. Fe wnaethon nhw gyhoeddiadau mawr am gyllid ar gyfer addysg, er enghraifft, ac nid ydym yn gwybod eto ai cyllid ychwanegol yw hwnnw, a yw'n gyllid a oedd wedi ei gyhoeddi'n flaenorol, neu a yw'r cyllid wedi ei symud o rannau eraill o gyllideb Llywodraeth y DU. Felly, mae wedi bod gryn amser erbyn hyn ers iddyn nhw wneud y cyhoeddiad hwnnw, felly nid yw'n dderbyniol o gwbl i ni beidio â gallu cael yr eglurder hwnnw sydd ei angen arnom o ran y cyllid hwnnw.

Hoffwn i sôn yn fyr hefyd am y cyllid ychwanegol ar gyfer iechyd. Rwy'n gweithio gyda'r Gweinidog iechyd ar hyn o bryd i benderfynu pa gyllid ychwanegol y gallai fod ei angen ar iechyd yn ychwanegol at y £100 miliwn hwnnw er mwyn ei gefnogi drwy weddill y flwyddyn ariannol hon, gyda'r pwyslais gwirioneddol hwnnw ar adferiad. Ond mae'r £100 miliwn sydd eisoes wedi ei gyhoeddi ar gael i helpu i ddechrau mynd i'r afael â'r ôl-groniad, a chyhoeddwyd y cyllid hwnnw pan wnaethom gyhoeddi'r ddogfen 'Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru—COVID-19: Edrych tua'r dyfodol', a bydd yn cael ei ddefnyddio ar draws gofal sylfaenol, eilaidd a chymunedol, i leihau anghydraddoldeb a gwella'r capasiti ar gyfer gofal wedi ei gynllunio. Ond, fel y dywedais i, bydd rhagor o gyhoeddiadau yn cael eu gwneud ynghylch hynny ac amrywiaeth o faterion eraill yn ddiweddarach.

Ac i ymdrin â'r materion a godwyd ynghylch Maes Awyr Caerdydd, mae'r cyllid hwnnw yno i raddau helaeth yn erbyn cynllun pum mlynedd i achub ac ailstrwythuro'r maes awyr. Ac rydym wedi cytuno ar y buddsoddiad hwnnw drwy grant o hyd at £42.6 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd, er mwyn galluogi'r maes awyr i ailstrwythuro ei weithrediadau a sicrhau ei hyfywedd hirdymor. Ac, unwaith eto, byddwn i'n dweud nad yw hyn yn anarferol—nid yw'n anarferol i Lywodraethau fod yn cefnogi meysydd awyr yn y cyfnod arbennig o heriol hwn i'r sector hwnnw.

Felly, byddaf yn dechrau cloi trwy nodi'r sylwadau ynghylch pwysigrwydd tryloywder a phwysigrwydd craffu. A rhoddaf fy ymrwymiad i'r Senedd hon y byddaf yn parhau i fod mor gwbl dryloyw ag y gallaf fod, ac i groesawu gwaith craffu, a chroesawu her, wrth gwrs, ar bob cam yn ystod proses y gyllideb. Ac yn olaf, mae'r gyllideb atodol hon yn parhau i ariannu'r ystod o fesurau yr ydym wedi eu rhoi ar waith i ymateb i'r pandemig. Rwyf i wedi sôn y bydd dyraniadau eraill, ond bydd y dyraniadau hynny yn cael sylw yn yr ail gyllideb atodol, y bwriadaf ei chyflwyno i'r Senedd maes o law. Cynigiaf y cynnig.

18:00

Diolch, Weinidog. Y cwestiwn yw felly: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Dadl: Paratoi’r Gyllideb: Blaenoriaethau ar gyfer 2022-23

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar baratoi’r gyllideb—blaenoriaethau ar gyfer 2022-23. Dwi'n galw unwaith eto ar y Gweinidog cyllid i gyflwyno'r cynnig yma—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7749 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn trafod y blaenoriaethau gwariant ar gyfer Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Gan barhau â thraddodiad y weinyddiaeth flaenorol, mae'n bleser gennyf i amlinellu'r paratoadau ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23. Mae'r ddadl flynyddol hon wedi dod yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr y Senedd, gan roi cyfle cynnar i edrych ymlaen at flaenoriaethau gwario'r flwyddyn nesaf, ac, yn bwysig, rhoi cyfle i Aelodau lunio'r paratoadau hynny. Fel Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi cael mandad clir gan bobl Cymru yn dilyn yr etholiad, mandad i gyflawni'r ymrwymiadau a gafodd eu hamlinellu yn ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol. Ond rydym ni'r un mor glir nad oes gennym ni fonopoli ar syniadau da. Fel y dywedodd y Prif Weinidog eisoes, byddwn ni'n ystyried syniadau newydd a chynigion newydd o ble bynnag y byddan nhw'n dod yn y Siambr hon, pryd bynnag y maen nhw o fudd i Gymru a'n cymunedau ni. Ac yn yr ysbryd hwnnw yr wyf i'n agor y ddadl heddiw.

Cyn amlinellu ein dull gweithredu, mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod y cyd-destun ehangach yr ydym ni'n ymgymryd â'r paratoadau hyn ynddo. Mae'n anffodus bod yr hyn y byddem ni wedi'i ystyried yn rhyfeddol wedi dod yn gyffredin. Mae'r heriau sy'n ein hwynebu ni'n sylweddol. Maen nhw'n cynnwys effeithiau parhaus y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yr angen dybryd i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, yn ogystal ag effeithiau dinistriol y pandemig ei hun.

Bydd effeithiau'r heriau hynny'n sylweddol. Yn ystod y pandemig, bydd o leiaf ddwy flynedd o dwf cynnyrch domestig gros yn cael ei golli, ac efallai na fydd llawer ohono byth yn cael ei adennill. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn credu y bydd y pandemig yn lleihau cynnyrch domestig gros 3 y cant yn barhaol. Mae busnesau Cymru nawr yn dechrau gweld llawer o'r gwir gostau yn sgil y DU yn ymadael â'r UE. Bydd colli'r £375 miliwn o gyllid yr UE y flwyddyn i Lywodraeth Cymru yn arwain at oblygiadau difrifol i fusnesau, unigolion a'n gwasanaethau cyhoeddus craidd yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod bod effaith y pandemig wedi disgyn yn anghymesur ar y rhai mwyaf agored i niwed, ac rydym ni'n gwybod bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi amcangyfrif y gallai'r buddsoddiad ychwanegol sy'n ofynnol yng Nghymru gyfan godi i dros £2 biliwn erbyn 2030 i ymdrin â'n hanghenion datgarboneiddio, heb gynnwys costau ymaddasu na'r bygythiad i fioamrywiaeth.

Mae'n amlwg bod cyd-destun cyllidol y pandemig wedi gwanhau cyllid cyhoeddus. Mae'r Resolution Foundation yn amcangyfrif y bydd gwariant adnoddau adrannol nad ydyn nhw wedi'i gwarchod 24 y cant y pen yn is mewn termau real yn 2024-25 nag yn 2009-10. Y tu hwnt i'r adolygiad nesaf o wariant, mae dadansoddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn tynnu sylw at bwysau hirdymor difrifol, wedi'u hysgogi gan newid demograffig a chostau cynyddol gofal iechyd. Heb ymdrin â hyn, byddai'r pwysau yn gwthio dyled Llywodraeth y DU yn anghynaliadwy i fwy na 400 y cant o'r cynnyrch domestig gros 50 mlynedd o hyn ymlaen.

Rydym ni hefyd yn wynebu ansicrwydd parhaus ynghylch amseriad adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ac a fydd y Canghellor yn wir yn cadw at ei addewid o ddarparu setliad amlflwydd. Tan fod hyn yn dod i ben yn yr hydref, rydym ni'n gorfod ymgymryd â'n paratoadau heb wybodaeth benodol o ran ein setliad. Yn y cyd-destun hwnnw, byddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gadarnhau ei bwriadau ar frys cyn gynted â phosibl.

Rwy'n ddiolchgar am gydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyllid o'r cyd-destun heriol hwn. Rwy'n bwriadu dilyn arfer diweddar a chyhoeddi cyllideb ddrafft amlinellol ac adrannol gyfunol ar 20 Rhagfyr a'r gyllideb derfynol ar 1 Mawrth. Rwyf i'n llwyr gydnabod yr effaith a gaiff yr amserlen hon, yn enwedig ar awdurdodau lleol a'r trydydd sector, yn ogystal â'r effaith a gaiff hyn o ran craffu ar ein cynlluniau yn y Senedd. Wrth nodi'r cynllun hwn, rwyf i eisiau cadw cydbwysedd gofalus o sicrhau y gallwn ni wneud ein paratoadau'n effeithiol gan roi cymaint o sicrwydd ag y gallwn ni i bartneriaid a sicrhau gymaint o amser â phosibl i graffu arno yn y Senedd. 

Wrth baratoi ar gyfer yr heriau sydd i ddod, rhaid i ni barhau i sicrhau bod ein cyllid sydd ar gael yn cael yr effaith fwyaf posibl ar flaenoriaethu'r gwaith o gyflawni ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol, ac yn yr ysbryd hwnnw, rwyf i eisiau cydnabod gwaith diflino ein partneriaid yn ystod y pandemig. I gydnabod y gwaith hwnnw, rwyf i eisiau cadarnhau heddiw y bydd cyllid ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol a llywodraeth leol yn parhau i fod yn flaenoriaeth graidd i'n paratoadau ar gyfer y gyllideb.

Rydym ni eisoes wedi datgan ein huchelgais i ddarparu setliadau amlflwydd os ydym ni mewn sefyllfa i wneud hynny gan Lywodraeth y DU. Ar y sail bod Llywodraeth y DU yn cadw at ei haddewid, yr ydym ni'n ymgymryd â'n paratoadau ein hunain i'n galluogi ni i ymateb. Yng nghyd-destun adolygiad effeithlonrwydd y DU yn arwain at ganlyniad llai ffafriol, ni allwn ni anwybyddu'r cyd-destun hynod heriol yr ydym ni'n ei wynebu a'r dewisiadau anodd sy'n deillio ohono. Ond ni fyddwn ni'n gadael i'r heriau hyn ddanto ein huchelgais. Mae cyfnodau anodd yn galw am ddewisiadau anodd a dyna pam y byddwn ni'n defnyddio'r gwaith o ddatblygu strategaeth buddsoddi seilwaith 10 mlynedd newydd Cymru, yr wyf i'n bwriadu ei chyhoeddi ochr yn ochr â'n cyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23, i lunio'r gwaith pwysig y mae angen i ni ei wneud yn y blynyddoedd i ddod i gryfhau'r cysylltiad rhwng seilwaith a'r angen i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth. Byddwn ni'n ystyried pob dull sydd ar gael i ni, ond yr ydym ni hefyd yn parhau'n ymrwymedig i addewidion ein maniffesto. Rwyf i wedi ymrwymo i barchu'r addewid maniffesto y gwnaethom ni i beidio â chodi cyfraddau treth incwm Cymru wrth i effaith economaidd y pandemig barhau i gael ei theimlo.

Gwn fod llawer iawn o ddiddordeb yn y gyllideb hon. Yn debyg i flynyddoedd blaenorol, rwy'n bwriadu ymgysylltu â grwpiau o bob rhan o fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n manteisio ar y cyfle i siarad â'u rhwydweithiau eu hunain i ystyried a chyflwyno syniadau arloesol a newydd i ateb yr heriau y mae'n rhaid i ni eu hwynebu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael mandad clir a beiddgar: creu Cymru decach, wyrddach a mwy ffyniannus. Bydd ein cyllideb y flwyddyn nesaf yn ein cefnogi ni ar hyd y llwybr hwnnw i gyflawni ein rhaglen lywodraethu, ac, yn y gwaith hwnnw, rwyf i eisiau gwrando ar gyd-Aelodau a gweithio gyda nhw o bob rhan o'r Siambr hon, ac rwy'n edrych ymlaen at y ddadl heddiw. Diolch.

18:05

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch o gael cyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw yn fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Fel bysys, dŷn nhw ddim yn dod am hydoedd ac wedyn mae yna ddau yn dod efo'i gilydd, ac rwy'n falch iawn o gael cymryd rhan.

Mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Pwyllgor Cyllid wedi arwain ar y math hwn o ddadl ac, yn arferol, byddai'r pwyllgor yn cynnal digwyddiad mawr i randdeiliaid neu ymgyrch ar-lein i glywed barn rhanddeiliaid ynghylch lle y dylai Llywodraeth Cymru fod yn blaenoriaethu ei gwariant. Byddai'r wybodaeth hon wedyn yn cyfrannu at ddadl o'r math hwn fel bod aelodau'n cael cyfle i drafod penderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru a dylanwadu arnyn nhw cyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft. Fel pwyllgor, rydym ni'n credu y dylai'r ddadl hon gael ei harwain gan y Pwyllgor Cyllid yn y dyfodol. Rydym ni wedi ysgrifennu at y Gweinidog ac at y Pwyllgor Busnes i ofyn am eu cytundeb ar gyfer y ddadl flynyddol hon dan arweiniad y Pwyllgor Cyllid. 

Y llynedd, dim ond setliad un flwyddyn a ddarparodd Llywodraeth y DU, felly rydym ni unwaith eto mewn sefyllfa lle bydd cyhoeddi'r gyllideb ddrafft yn cael ei ohirio nes bod gan Lywodraeth Cymru sicrwydd ynghylch ei setliad cyllid. Mae Canghellor y Trysorlys wedi nodi ei fwriad i gynnal adolygiad cynhwysfawr o wariant amlflwydd, sy'n debygol o ddod i ben yn yr hydref.

Mae'n siomedig y bydd cyllideb ddrafft gyntaf Llywodraeth Cymru hon yn cael ei chyhoeddi yn ystod toriad y Nadolig. Er ein bod ni'n gwerthfawrogi'r ansicrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wynebu, mae'r amserlen arfaethedig hon ar gyfer ystyried y gyllideb ddrafft yn cwtogi ar waith craffu gan y Senedd hon. Byddem ni'n annog y Gweinidog i ystyried unrhyw gyfle i gyflwyno'r dyddiad cyhoeddi yn gynt. Serch hynny, rydym ni'n falch y bydd adolygiad cynhwysfawr o wariant yn cael ei gynnal eleni fel bod gan Gymru rywfaint o sicrwydd o gyllid ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gynllunio'n effeithiol a darparu cyllid dangosol hirdymor ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'n anochel y bydd y gyllideb ddrafft sydd ar y gweill yn adlewyrchu adferiad parhaus Llywodraeth Cymru o COVID-19. Yng nghyllideb ddrafft y llynedd, roedd Llywodraeth Cymru yn dal cronfeydd sylweddol heb eu dyrannu oherwydd yr angen ar gyfer rhywfaint o hyblygrwydd i ymdrin â'r ymateb i'r pandemig. Rydym ni'n gobeithio eleni y byddwn ni'n gweld cyllideb ddrafft fanylach yn canolbwyntio ar adferiad y GIG, ar gyfer llywodraeth leol ac economi Cymru.

Y gyllideb ddrafft hon fydd y gyntaf yn y chweched Senedd, ac rwy’n gobeithio y gall y Pwyllgor Cyllid gydweithio â’r pwyllgorau polisi eraill. Gan ei bod yn debygol y caiff y gyllideb ddrafft ei chyhoeddi cyn y Nadolig, rydym yn bwriadu ymgynghori ar y blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb ddrafft nesaf yn nhymor yr hydref. Mi fuaswn i'n annog Cadeiryddion ac aelodau pwyllgorau i ymgysylltu â’r Pwyllgor Cyllid ynghylch sut y gall yr ymgynghoriad hwn gefnogi pwyllgorau unigol—

18:10

A gaf i oedi yma? Rwy'n deall nad yw'r cyfieithu'n gweithio, o edrych ar y Gweinidog.

Mae'n ymddangos ei fod yn gweithio'n rhannol ac yn methu'n rhannol. [Torri ar draws.] Felly, mae'n ymddangos ei fod yn fater i'r meinciau cefn Llafur ar hyn o bryd. A gaf i oedi am eiliad wrth i ni weld a oes modd ymyrryd i ailddechrau'r cyfieithiad?

Felly, os gwnaf i siarad yn y Gymraeg i weld a ydy'r cyfieithu'n gweithio nawr—. Ydy, mae'n gweithio i rai Aelodau yn sicr. Dyw e ddim yn gweithio i bawb o hyd. 

Mae'n iawn. Os yw Joyce yn dweud ei bod yn iawn—[Torri ar draws.] Iawn, rydym ni'n anfon Jack Sargeant i gefn y Siambr nawr i geisio gweld a all ddatrys hyn.

Felly, fe wnawn ni gario ymlaen. Dwi ddim yn siŵr iawn beth ddigwyddodd fanna. Ymddiheuriadau i Gadeirydd y pwyllgor, ond gallwch chi gario ymlaen gyda'ch gwaith.

Dim ond mymryn sydd i fynd, so does dim rhaid ichi boeni'n ormodol, felly. Dwi'n gobeithio y bydd y Pwyllgor Cyllid yn gallu cydweithio efo pwyllgorau polisi eraill gan ei bod, fel roeddwn i'n dweud, yn debygol y bydd y gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi cyn y Nadolig. Rydym yn bwriadu ymgynghori ar y blaenoriaethau yma ar gyfer y gyllideb ddrafft nesaf yn nhymor yr hydref. Mi fuaswn i hefyd yn annog Cadeiryddion ac aelodau pwyllgorau i gysylltu â’r Pwyllgor Cyllid ynglŷn â sut y gall yr ymgynghoriad hwn gefnogi pwyllgorau unigol yn eu prosesau craffu a sut y gallwn gydweithio ar draws y meysydd polisi i graffu ar waith y Llywodraeth. Diolch yn fawr.

Byddai'n dda gennyf pe bawn i'n gallu siarad Cymraeg a defnyddio'r cyfieithiad hefyd, ond efallai y byddaf i'n cyflawni hynny rhyw ddiwrnod. Gweinidog, diolch i chi am nodi blaenoriaethau'r Llywodraeth wrth symud ymlaen, ac rwy'n croesawu hefyd eich awydd chi ar gyfer syniadau newydd, felly ni fyddaf i'n eich siomi chi a byddaf i'n eich arwain chi drwy rywfaint o fy syniadau.

Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl Cymru wedi bod yn gwrando ar eich araith gyda diddordeb arbennig oherwydd mae'n bosibl dadlau mai blaenoriaethau'r gyllideb eleni fydd y rhai pwysicaf mewn cenhedlaeth. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir mai'r flaenoriaeth gyffredinol i unrhyw Lywodraeth yw sicrhau bod ein cymunedau a'n gwasanaethau ni'n ailgodi ar ôl COVID-19. O'r cychwyn cyntaf, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi bod yn sbarduno ei mentrau cadarn yn gryf i ddiogelu swyddi, busnesau a bywoliaethau rhag effaith ddinistriol y pandemig. 

O dipyn i beth, rydym ni'n dod i'r golwg eto o gamau gwaethaf y pandemig, a dyna pam na all Llywodraeth Cymru wastraffu unrhyw amser wrth baratoi'r ffordd i ni ailgodi'n gryfach, yn decach ac yn wyrddach. Mae'r pandemig wedi amlygu y bu Cymru'n dirywio hyd yn oed cyn i COVID-19 daro. Mae gennym ni un o bob pump o bobl yn sownd ar restr aros, yr economi sy'n tyfu arafaf yn y DU a'r cyflogau isaf ym Mhrydain. Mae dau ddegawd o Lywodraeth Lafur Cymru wedi dal gwir botensial Cymru yn ôl—dau ddegawd pan gafodd dyhead ei fygu, dau ddegawd pan gafodd gormod o bobl ifanc eu gadael ar ôl, a dau ddegawd pan gafodd gobeithion a breuddwydion eu chwalu. Roedd gennych chi gyfle gyda blaenoriaethau ariannol eleni i unioni llawer o gamweddau hanesyddol, a gobeithio efallai y gwelwn ni rai o'r camweddau hynny'n cael eu hunioni rywbryd. Ond, yn anffodus, Gweinidog, unwaith eto, rwy'n credu bod y Llywodraeth wedi methu'r nod a'r cyfle heddiw i rannu mwy. Roedd angen i bobl Cymru weld glasbrint hirdymor ar gyfer adferiad wedi'i arwain gan swyddi i roi hwb mawr i economi Cymru a gwella'r wlad gyfan. Mae Cymru'n wlad o dalent aruthrol, ac rydym ni eisiau helpu i'w wireddu.

Fel plaid dyhead a chyfle i bawb, mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun buddsoddi uchelgeisiol i sicrhau dyfodol Cymru. Byddai ein cynllun beiddgar ar gyfer yr economi yn cynnwys adeiladu 100,000 o dai newydd yn ystod y degawd nesaf i helpu i roi hwb cychwynnol i economi Cymru, yn ogystal â chreu 65,000 o swyddi newydd. Byddem ni'n buddsoddi mewn seilwaith modern i Gymru, nid yn ei dynnu ymaith. Byddem ni'n sicrhau bod dim trethi drwy gydol tymor y Senedd, ac yn diddymu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach yn gyfan gwbl. Byddai codi trethi ar yr union adeg hon yn drychinebus, a gobeithio, Gweinidog, y byddwch chi heddiw yn diystyru cyflwyno trethi newydd.

Yn ystod yr 16 mis diwethaf, rydym ni hefyd wedi gweld sut mae ein gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol rheng flaen wedi dioddef cymaint wrth ein cadw'n ddiogel; mae'n ddyletswydd arnom ni nawr i sicrhau bod ganddyn nhw'r cyfleusterau gorau a digon o adnoddau i wneud eu gwaith. Dyna pam y mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth allweddol i ddatblygu cynllun clir i alluogi GIG Cymru i glirio'r ôl-groniad o restrau aros sydd wedi dirywio yn ystod y pandemig, yn ogystal â gweld mwy o arian i ymdrin â'r meysydd penodol niferus, megis iechyd meddwl, a'r galw cynyddol am ofal cymdeithasol.

Fel cyn arweinydd cyngor hirsefydlog, rwyf i wedi crybwyll yn y Siambr hon sut yr wyf i wedi gweld y gwahaniaeth cynyddol rhwng cyllid a chronfeydd wrth gefn gwahanol gynghorau, ac wedi dadlau bod y system bresennol yn hen ac mae angen ei hadolygu, a bod angen setliad amlflwydd ar gynghorau—ac yr oeddwn i'n falch o glywed yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud ynghylch hynny—i sicrhau y gallan nhw barhau i ddarparu gwasanaethau o'r radd flaenaf. Er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i awdurdodau lleol, byddai'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn diwygio'r fformiwla ariannu llywodraeth leol i sicrhau cyllid teg ledled Cymru, yn enwedig i'n cynghorau gwledig, ac yn helpu i atal cynnydd gormodol yn y dreth gyngor.

Ac un o'r ffeithiau tristaf hyd yma yw bod cenhedlaeth o bobl ifanc wedi cael eu siomi. Ni allwn ni fforddio i hyn gael ei ailadrodd. Dyna pam y byddai ein cynllun ar gyfer newid hefyd yn sicrhau bod pob ysgol yr ysgol orau y gallai fod drwy roi terfyn ar danariannu addysg pobl ifanc—rhywbeth sydd wedi mynd ymlaen yn rhy hir o lawer. Mae hyn yn ychwanegol at recriwtio 5,000 yn fwy o athrawon i helpu pobl ifanc i ddal i fyny â dysgu a gollwyd ac i roi hwb i berfformiadau ysgolion.

Dylai'r hyn yr wyf i newydd ei nodi fod yn flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer symud Cymru yn ei blaen. Nid oes angen rhagor o esgusodion arnom ni neu unrhyw alwadau pellach o ran mwy o bwerau, ni fyddan nhw'n gwneud dim i ddatrys y problemau cynhenid sy'n wynebu pobl Cymru. Mae'r hyn yr ydym ni'n galw amdano heddiw yn gwbl bosibl, ond mae'n fater i Weinidogion Llafur Cymru, sy'n rheoli'r arian, a ydyn nhw'n dymuno unioni'r camweddau hanesyddol niferus hynny. Mae'n ffaith bod gennych chi swm syfrdanol o arian heb ei ddyrannu o hyd, fel y gwnes i sôn amdano yn y ddadl gynharach. Dyma'r amser, os ydych chi'n mynd i ddefnyddio'r arian hwnnw, i wneud hynny. Felly, Gweinidog, er mwyn dyfodol Cymru, a wnewch chi ystyried ein galwadau a defnyddio'r arian sydd heb ei ddyrannu, yn ogystal â chyflwyno ein syniadau blaengar, yr ydych chi wedi'u croesawu, i'n galluogi ni i ailgodi Cymru'n gryfach, yn decach ac yn wyrddach?

18:15

Gaf i groesawu'r ddadl yma, a diolch i'r Gweinidog, wrth gwrs, am gynnig y ddadl yma yn absenoldeb y ffaith bod y Pwyllgor Cyllid heb ei sefydlu mewn pryd i allu gwneud hynny?

Y peth cyntaf dwi eisiau dweud a'r hyn dwi eisiau gwneud yw jest ategu'r hyn a wnes i ddweud yn y ddadl flaenorol: nawr yw'r amser i Lywodraeth Cymru fod yn fwy creadigol ac yn fwy uchelgeisiol o safbwynt ei chyllideb am y flwyddyn nesaf. Mae'r amgylchiadau o safbwynt ymateb i'r argyfwng hinsawdd, o safbwynt dod allan o'r pandemig ac o safbwynt parhau ymateb i Brexit yn golygu bod angen i'r Llywodraeth wneud popeth sy'n bosib i arloesi gyda'i chynlluniau gwariant.

Nawr, mi wnaethom ni fel plaid amlinellu opsiynau yn ein maniffesto, wrth gwrs, ar gyfer yr etholiad diweddar, ond rhan fawr o hyn i gyd, wrth gwrs, yw gwneud popeth y gallwn ni i osgoi jest gweithredu mwy o lymder ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru, a defnyddio'r pwerau sydd gennym ni, ond hefyd mynnu pwerau ychwanegol i fedru buddsoddi yn yr adferiad rŷn ni i gyd eisiau ei weld.

Nawr, mi gyfeiriais at fenthyca gynnau, a dwi'n mynd i ategu'r pwynt eto: mae benthyca wedi'i gyfyngu i £150 miliwn y flwyddyn—dwi'n gwybod hynny—ond, dros y pum mlynedd diwethaf, dim ond £59 miliwn allan o'r £0.75 biliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fenthyca. Dwi'n credu bod amgylchiadau nawr yn mynnu ein bod ni'n symud o'r fan yna, achos nawr, yn fwy nag erioed, mae angen cyllideb i drawsnewid bywydau pobl Cymru sy'n canolbwyntio ar y tymor hir, sy'n canolbwyntio ar agenda ataliol ac nid busnes fel arfer.

Nawr, dyna oedd y newid diwylliannol radical roedd nifer ohonom ni'n gobeithio byddai'n cael ei sbarduno gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ond, yn ei hanfod, wrth gwrs, dyw'r newid sylweddol hwnnw ddim wedi digwydd. Ar y cyfan, mae dosraniad neu ddosraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru i bob pwrpas yr un peth heddiw ac roedden nhw efallai 10 mlynedd yn ôl. Dwi eisiau gweld sifft fwy pendant a ffocws cryfach flwyddyn nesaf ar ddelifro yn erbyn nodau llesiant Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Dwi hefyd eisiau gweld ffocws mwy didrugaredd ar drosglwyddo i economi werdd—transition i economi werdd—fydd yn helpu, wrth gwrs, i liniau'r risg o sioc economaidd yn y dyfodol, ac a fydd, hefyd, yn creu Cymru fwy gwydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Nawr, mae'r oedi ac adolygu ar brosiectau ffyrdd y mae'r Llywodraeth wedi'i gyhoeddi yn arwydd i mi, neu'n signal, fod y Llywodraeth eisiau symud fwyfwy i'r cyfeiriad yna, ond y litmus test i mi bob tro yw'r gyllideb. Os nad ydw i'n gweld y neges yna yn cael ei hategu a'i thanlinellu'n glir yng nghyllideb flwyddyn nesaf—nid dim ond yng nghyd-destun ffyrdd, ond ar draws cyllideb gyfan y Llywodraeth—yna fydd hynny ddim yn arwain at y newid go iawn dwi eisiau ei weld, ac mae'r amgylchiadau erbyn hyn yn mynnu dyw busnes fel arfer ddim yn opsiwn rhagor.

Nawr, mi fydd rhai o'm cyd-Aelodau i ar y meinciau yma yn amlinellu rhai materion penodol yn y ddadl; dwi eisiau jest cyffwrdd ar un neu ddau yn yr amser sydd ar ôl. Rŷn ni oll, wrth gwrs, eisiau gweld sicrhau gwell tâl ac amodau i staff y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, ac mae Plaid Cymru'n cefnogi'r alwad am godiad cyflog ystyrlon i staff nyrsio sy'n cydnabod gwerth eu gwaith nhw. Dwi'n mawr obeithio y gwelwn ni ymateb Llywodraeth Cymru yn debycach i'r ymateb sydd wedi'i gytuno yn yr Alban—y 4 y cant—yn hytrach na'r awgrym o 1 y cant gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, oherwydd, heb roi cynnydd haeddiannol yng nghyflog ein nyrsys ni, mi fydd problem cadw a recriwtio nyrsys o fewn y gwasanaeth iechyd, wrth gwrs, yn dwysáu. Felly, buddsoddi nawr er mwyn sicrhau gweithlu digonol a'r sylfaen i wasanaeth mwy cydnerth a chynaliadwy yn y dyfodol. Byddai unrhyw beth llai na hynny yn wrth-gynhyrchiol.

Mae'r un peth yn wir o safbwynt cyflogau gofalwyr hefyd, wrth gwrs. Fel cymdeithas, rŷn ni wedi dirprwyo gofal i'r rhai sydd ar y lefel isaf o dâl a chyda'r gefnogaeth isaf, ac yn wyneb y toriadau parhaus i gyllidebau awdurdodau lleol dros y blynyddoedd—lawr bron chwarter mewn termau real ers 2010—mae'n rhaid i'r Llywodraeth weithredu ar yr agenda yna. 

Mae tai, wrth gwrs, yn faes pwysig. Rŷn ni wedi clywed cyfeiriad at hynny eisoes—nid dim ond yr argyfwng tai a'r angen i weithredu yn y cyd-destun cyllidebol pan fo'n dod i daclo rhai o'r materion sy'n ymwneud â'r farchnad dai, ond hefyd, wrth gwrs, yr angen i gynyddu'r uchelgais o ran adeiladu tai. Mae'r pandemig wedi dangos bod modd dod â digartrefedd i ben os ydy'r ewyllys gwleidyddol yna; mae angen cynnal y momentwm penodol yna nawr. Ac, wrth gwrs, mae ymchwil wedi dangos y byddai buddsoddiad ataliol i atal digartrefedd yn creu arbedion yn ei sgîl, ac mae hynny'n rhywbeth byddwn i'n awyddus iawn i weld y Llywodraeth yn dwysáu o safbwynt eu ffocws gyllidol.

Mae'r argyfwng hinsawdd, wrth gwrs, yn treiddio i bob rhan, gobeithio, o gyllideb y Llywodraeth ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn gyrru elfen bwysig iawn, neu elfennau pwysig iawn, o'r gwaith yna, ac rŷn ni'n gwybod am y trajectory anghynaliadwy o safbwynt ariannu sydd yn crebachu o flwyddyn i flwyddyn, tra bod dyletswyddau a disgwyliadau yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Mae angen datrys hynny unwaith ac am byth. 

Felly, fy mhle i yw'r Llywodraeth yw: os fydd eich cyllideb nesaf chi yn gyllideb busnes fel arfer, yna does dim awydd ar y meinciau yma i hwyluso hynny; ond, os byddwch chi'n ddewr, os byddwch chi'n radical, os byddwch chi'n uchelgeisiol, yna fe gerddwn ni'r llwybr yna gyda chi.

18:20

Rwyf i newydd ddeall polisi economaidd y Ceidwadwyr: rydych chi'n gwario mwy, ac rydych chi'n trethu llai. Nid wyf i'n hollol siŵr sut mae hynny'n gweithio, ac rwy'n siŵr na wnaeth Peter Fox hynny pan oedd yn arwain Cyngor Sir Fynwy, felly pam y mae eisiau i Lywodraeth Cymru wneud hynny, nid wyf i'n hollol siŵr.

Mae nod pob cyllideb yr un fath: gwella iechyd, gwella'r amgylchedd, lleihau allyriadau carbon, gwella cyrhaeddiad addysgol, gwella'r economi a gwella ansawdd bywyd pobl Cymru. Yr hyn a fydd yn digwydd yw y bydd cynnydd sylweddol yn y cyllid ar gyfer y gyllideb iechyd, a fydd, drwy fyrddau iechyd, yn anfon yr arian i ysbytai i gynnal triniaeth.

Rwyf i eisiau sôn am rywbeth gwahanol: hybu iechyd, yn hytrach nag ymdrin â salwch yn unig. Mae modd hybu iechyd drwy annog gweithgareddau iach, ymarfer corff rheolaidd, lleihau neu osgoi gweithgarwch neu sefyllfaoedd afiach, fel ysmygu neu ormod o straen. Rydym ni'n gwybod bod y canlynol yn gwella iechyd: golchi'ch dwylo. Rydym ni wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn problemau stumog a phroblemau gastrig yn ystod y 18 mis diwethaf, pan fu pobl yn diheintio ac yn golchi eu dwylo'n barhaus. Rwyf i wedi clywed gan o leiaf un bwrdd iechyd ei fod wedi gostwng tua 90 y cant. Mae angen i ni gysgu'n rheolaidd—gwella ein hylendid cysgu—cynnal ystum da, yfed digon o hylifau, bod yn fwy egnïol, cael 150 munud o ymarfer aerobig yr wythnos, lleihau lefelau straen a lleihau llygredd. Po leiaf o draffig sydd gennym ni ar y ffordd, y mwyaf yr ydym ni'n lleihau llygredd, ac mae llawer gormod o fy etholwyr yn byw yn agos at ffyrdd lle maen nhw dim ond 1m i ffwrdd ohonyn nhw, pan fyddan nhw'n mynd allan drwy'r drws ffrynt, mae'r ocsid nitrogen yn dod i mewn ac yn niweidio eu hiechyd.

Ac, wrth gwrs, a gaf i fynd â chi ymlaen at y prif un: gordewdra? Gordewdra yw ein problem fwyaf. Hwn fydd ein lladdwr mwyaf cyn bo hir. Mae'n achosi pwysedd gwaed uchel oherwydd bod angen ocsigen a maetholion ar feinwe braster ychwanegol yn y corff er mwyn byw. Gordewdra yw prif achos diabetes math 2. Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, bydd gennym ni 300,000 o bobl yng Nghymru sydd â diabetes, a bydd hynny'n costio dros £500 miliwn y flwyddyn i'r GIG. Ac rwy'n sôn am ddiabetes math 2, nid diabetes math 1, sy'n hollol wahanol. Mae tua 80 y cant yn cael ei wario ar reoli cymhlethdodau, y byddai modd atal y rhan fwyaf ohonyn nhw. Mae clefyd y galon gyda chaledu'r rhydwelïau yn bresennol 10 gwaith yn amlach mewn pobl ordew nag ydyw mewn pobl nad ydyn nhw'n ordew.

Er ein bod ni wedi gweld gostyngiad parhaus mewn ysmygu, sy'n un o'r llwyddiannau mawr a dweud y gwir—ac rwy'n siŵr y bydd pob Llywodraeth yn hawlio clod amdano, ond rwy'n credu ei fod yn un o'r llwyddiannau mawr yr ydym ni wedi'i weld; mae pobl yn ysmygu'n llai o lawer, ac mae wedi dod yn rhywbeth nad yw'n dderbyniol yn gymdeithasol erbyn hyn—yr hyn sydd gennym ni yw pobl yn bwyta eu hunain i ordewdra. Mae angen i Lywodraeth Cymru hyrwyddo ffordd iach o fyw, ac felly lleihau nifer y bobl â chyflyrau afiechyd.

A yw'n syndod bod pobl sydd â diet gwael, sy'n byw mewn amodau oer, llaith, yn fwy tebygol o fod ag iechyd gwael? Sylweddolodd Llywodraeth Attlee o 1945-51 y cysylltiad rhwng tai ac iechyd. Yn anffodus, nid yw hynny wedi'i ddilyn gan unrhyw Lywodraeth ers hynny. Mae angen i ni adeiladu tai cyngor o safon ledled Cymru i wella bywydau ac iechyd pobl. Mae gwella'r amgylchedd a darparu mannau gwyrdd a gwell ansawdd aer yn gwella iechyd.

Gan droi at rai meysydd eraill, fel y gwyddom ni, rydym ni'n colli bioamrywiaeth yn gyflym yng Nghymru. Mae'r 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' diweddaraf yn nodi bod y duedd gyffredinol yn un o ddirywiad difrifol, sy'n adlewyrchu'r argyfwng natur byd-eang, sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. O ran yr economi, mae gan ardaloedd llwyddiannus yn y byd, gan gynnwys y DU, brifysgolion o ansawdd uchel, cyflenwad parod o raddedigion newydd a màs critigol o gwmnïau technoleg, gydag ymchwil a datblygu'n digwydd, a nifer fawr o gwmnïau newydd. A all polisi economaidd Llywodraeth Cymru dargedu gwyddorau bywyd, TGCh a gwasanaethau ariannol? Dydw i ddim yn credu mai fi yw'r unig un sy'n credu bod angen mwy o 'Admirals' a llai o lywodraethau lleol arnom ni. Mae buddsoddi yn ein hysgolion a'n pobl ifanc yn fuddsoddiad ar gyfer y dyfodol. Mae'r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw llywodraeth leol a sut, pan fydd ei hangen arnom, y mae'n darparu nid yn unig y gwasanaethau sylfaenol, ond y gall fynd allan a darparu'r holl gymorth sydd ei angen.

Yn olaf, yn 2022, bydd yn gwbl wahanol i 2019. Mae gweithio gartref a siopa ar-lein yma i aros. Dyna gyfeiriad teithio'r economi hyd at 2019; roedden nhw'n symud yn araf. Yr hyn y gwnaethom ni ei weld oedd y pandemig yn rhoi hwb enfawr i'r hynny, ond nid yw pobl yn mynd yn ôl—i nifer o'r bobl yr wyf i'n siarad â nhw mewn gwahanol fannau, gweithio gartref rywfaint neu yn gyfan gwbl yw'r drefn newydd. Ac nid oedd unrhyw reswm dros fynd i rai gweithleoedd. Os mai'r cyfan yr ydych chi'n ei wneud yw mynd at gronfa ddata nad yw hyd yn oed yn y swyddfa yr ydych chi'n mynd iddi, yna pam mae angen i chi fynd i mewn i'r swyddfa honno i wneud hynny? Gallwch chi ei wneud o unrhyw le. Efallai fod y gronfa ddata yn Nulyn neu efallai ei bod y tu allan i Gasnewydd—pam y mae angen i chi fynd i swyddfa ym Mae Caerdydd neu yn Abertawe i wneud hynny?

Ac a gaf i ddweud pa mor siomedig ydw i fod Llywodraeth Cymru yn dal i adeiladu ail ffordd osgoi Llandeilo? Yr A40 yw'r un gyntaf.

18:25

Rwy'n croesawu'r cyfle i godi, yn ystod y ddadl heddiw, bwysigrwydd y cynllun taliadau sylfaenol wrth gefnogi ffermwyr yng Nghymru sy'n gweithio'n galed a'r angen iddo gael ei ddiogelu yng nghyllideb 2022-23. Mae'r cynllun talu sylfaenol, y BPS, yn rhan annatod o ddiwydiant ffermio Cymru, gan gefnogi ffermwyr i gynhyrchu cynnyrch o safon mewn modd cynaliadwy. Rwy'n croesawu sylwadau cadarnhaol y Gweinidog materion gwledig fis diwethaf, lle dywedodd hi mai bwriad Llywodraeth Cymru oedd cynnal y cynllun taliadau sylfaenol drwy gydol 2022. Mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i sicrhau bod hyn yn digwydd, a byddwn i'n dadlau nad yw'n dibynnu ar ymrwymiad ariannu Llywodraeth y DU yn y dyfodol, yn wahanol i'r hyn a ddywedodd y Gweinidog. Mae'n ddigon hysbys nad yw cynllun datblygu gwledig Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei rwymedigaethau a'i fwriad, a byddwn i'n dadlau'n gryf yn y dyfodol, y dylai blaenoriaethu cyllid amaethyddol gael eu cyfeirio at gynllun y taliad sylfaenol yn hytrach na'r cynllun datblygu gwledig.

Pan gaiff yr ymadrodd 'arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus' ei wyntyllu, ni allaf weld gwell nwydd cyhoeddus na'r bwyd a gaiff ei gynhyrchu gan ffermwyr ymroddedig Cymru. Ac er mai dim ond ar gyllideb 2022-23 y mae'r ddadl hon yn canolbwyntio, hoffwn i ychwanegu bod angen ymrwymiad ariannu hirdymor ar y diwydiant amaethyddol. Yn wir, dywedodd llywydd NFU Cymru, John Davies, fod angen ymrwymiad arall arnom ni nawr gan Lywodraeth Cymru i gynnal y cyllid hwn. Felly, rwy'n pwyso arnoch chi, Gweinidog, i weithio gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet, yn enwedig y Gweinidog materion gwledig, i sicrhau bod ein ffermwyr ni'n parhau i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw drwy flaenoriaethu cyllid tuag at gynllun y taliad sylfaenol. Diolch.

18:30

Dwi'n siŵr ein bod yn gytûn yn y gobaith mai cyllideb adferol yn hytrach nag adweithiol fydd hon, a hoffwn ategu pwyntiau Llyr Gruffydd: mae angen i hon fod yn gyllideb radical os ydym am fynd i'r afael â'r heriau y mae ein cymunedau yn eu hwynebu. Bydd yn hanfodol felly fod rôl ganolog ein sectorau diwylliannol, celfyddydol, creadigol a threftadaeth yn cael ei chydnabod ynddi. Wedi'r cyfan mae'r sectorau hyn mor ganolog i'n heconomi a'n hunaniaeth fel cenedl, yn ogystal â lles personol pawb ohonom.

Maent hefyd yn rhan annatod o'n bywydau, fel sydd wedi dod hyd yn oed yn fwy amlwg dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth i nifer ohonom ganfod cysur drwy fod yn greadigol, â nifer o hobïau newydd, ac ati. Ond er bod y sectorau hyn wedi bod yn flaengar ac yn arbrofol o ran eu hymateb i'r pandemig, maen nhw hefyd wedi cael eu heffeithio'n ddybryd, gydag ansicrwydd mawr yn wynebu nifer o bobl sydd yn gweithio yn y meysydd hyn, yn llawrydd neu fel aelodau o staff. Nid gor-ddweud yw nodi er gwaetha'r gronfa adfer ddiwylliannol fod dyfodol Theatr Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, Llenyddiaeth Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Ffilm Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Urdd Gobaith Cymru o dan fygythiad. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddiogelu eu cyfraniad gwerthfawr, eu hannibyniaeth a'u hyfywedd ariannol.

Ond peidied neb â meddwl mai bai y pandemig yn unig yw pa mor fregus ydy cyrff a sefydliadau diwylliannol Cymru. Y gwir amdani yw eu bod wedi dioddef diffyg buddsoddiad a chyfeiriad strategol ers dros ddegawd—yn wir, ers dyddiau Llywodraeth Cymru'n Un gydag Alun Ffred Jones fel Gweinidog diwylliant a chwaraeon. Ychydig fisoedd yn unig sydd ers i'r Senedd hon drafod yr angen am gyllideb gyllid teg a chyson i'n sefydliadau cenedlaethol, megis Amgueddfa Cymru a'r llyfrgell genedlaethol. Diolch byth, wedi ffrae gyhoeddus am fisoedd rhwng y llyfrgell a'r Llywodraeth, daeth cyllid brys i'r sefydliadau hyn ychydig fisoedd yn ôl, ond dim ond llenwi bwlch oedd hyn, yn hytrach na darparu cymorth a sicrwydd hirdymor. Mae'n sgandal nad oes gennym strategaeth ddiwylliannol gyda'r cyllid i'w chefnogi, a dwi'n croesawu ymrwymiad y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden, i fynd â'r gwaith yma rhagddo. Mae ei angen ar fyrder, ac mae angen i'r cynnwys fod yn radical ac uchelgeisiol, ond gyda'r cyllid i'w wireddu. Un enghraifft bosib y dylid ei hystyried ydy'r syniad o incwm sylfaenol i bobl greadigol, rhywbeth y siaradodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru o'i blaid, gan nodi hefyd fod Llywodraeth Cymru yn colli cyfleoedd o ran diwylliant mewn cynllunio ôl-bandemig.

Nid rhywbeth ymylol yw diwylliant Cymru, ac ni ddylai gael ei drin felly gan ein Llywodraeth. Fel y nododd What Next? Cymru yn eu maniffesto cyn yr etholiad, rhaid cryfhau'r

'dimensiwn diwylliannol ar draws Llywodraeth Cymru gan y bydd hyn yn cyflawni uchelgais gymdeithasol ac economaidd y llywodraeth ei hun yn fwy effeithiol ac effeithlon'.

Fe wnaethant hefyd ofyn i'r Llywodraeth

'sicrhau fod holl adrannau’r llywodraeth yn cefnogi, yn ariannu ac yn galw am elfen ddiwylliannol gref yn eu gwaith'.

'Culture is ordinary', sef geiriau enwog Raymond Williams. Ond os ydym o ddifrif am sicrhau mynediad a chynrychiolaeth i bawb yng Nghymru o ran diwylliant, mae'n rhaid i ni gyllido hynny. Mawr obeithiaf y gwelwn y gyllideb hon yn gwneud yn union hynny drwy unioni’r tangyllido hanesyddol a chefnogi’r sectorau hyn i wireddu eu potensial er budd pobl Cymru, economi Cymru a hefyd statws Cymru fel gwlad hyderus, ryngwladol, amlddiwylliannol.

18:35

Liciwn i ddechrau trwy ddweud gair o ddiolch i'r Llywodraeth am gynnal y drafodaeth yma yn absenoldeb y Pwyllgor Cyllid yn ystod y cyfnod yma. Dwi'n credu ei bod yn beth pwysig bod y Senedd yn cael cyfle i drafod y gyllideb cyn i'r Llywodraeth sefydlu'r gyllideb, so mae gennym ni gyfle i ddweud, fel cynrychiolwyr pobl Cymru, beth yw ein blaenoriaethau ni fel cenedl. A dwi eisiau dechrau trwy ofyn i'r Gweinidog os gallech chi yn eich ymateb i'r drafodaeth yma esbonio lle mae'r Llywodraeth yn sefyll ar hyn o bryd ar yr holl bwnc o gyllideb ddeddfwriaethol. Mi fydd y Gweinidog yn gwybod fy mod i wedi trafod hyn ar sawl achlysur yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a dwi yn meddwl bod hyn yn rhywbeth sy'n bwysig, yn arbennig yn y Senedd yma.

Ond fel eraill, mae yna ambell le ble dwi'n meddwl y dylai'r Llywodraeth bennu ei blaenoriaethau. Fel eraill hefyd, mi fuaswn i'n awgrymu hinsawdd, mynd i’r afael â thlodi—dwi'n credu bod hynny’n hynod o bwysig—a diogelu dyfodol gwasanaethau cyhoeddus. Fuasai dim un ohonoch chi yn cael eich synnu gan y fath flaenoriaethau, ac mi fyddai'r peth rhwyddaf yn y byd i ddweud hynny, ond dwi hefyd eisiau dweud ei bod yn bwysig yn ystod y blynyddoedd nesaf fod y Llywodraeth yn gwneud pethau sydd efallai ddim yr un mor boblogaidd.

Dwi wedi dadlau dros y blynyddoedd—a dwi'n credu ei bod hi'n hen bryd nawr i'r Llywodraeth fynd i'r afael â hyn—fod Llywodraeth Cymru yn rhy fach i actually cyrraedd y nod dŷn ni'n ei osod iddi hi. Dwi'n credu bod angen i ni fuddsoddi yn rhwydwaith y Llywodraeth ei hun. Y peth rhwyddaf yn y byd—ac mae pob un ohonom ni'n ei wneud e, pob un blaid, y gwrthbleidiau ac Aelodau meinciau cefn Llafur—yw beirniadu'r Llywodraeth am beidio cyflwyno beth mae eisiau gwneud. Ond am yn rhy hir hefyd, dŷn ni i gyd, pob un ohonom ni, wedi bod yn dadlau dros doriadau i'r gwasanaeth sifil a thoriadau i weinyddiaeth y Llywodraeth. Ac os ydyn ni o ddifrif amboutu y polisïau gwahanol sydd gyda ni—dwi wedi sôn amboutu'r hinsawdd, dwi'n sôn amboutu tlodi—mae'n rhaid inni hefyd gael Llywodraeth sy'n gallu gwneud hynny, ac mae hynny'n meddwl ein bod ni'n buddsoddi yn y Llywodraeth, a dwi'n credu ei bod yn bwysig gwneud hynny.

A dwi'n falch iawn bod y Prif Weinidog yn ei sêt y prynhawn yma ar gyfer y drafodaeth yma, ac mae’r Prif Weinidog wedi dweud wrth ymateb i gwestiynau fod datganiad yn mynd i fod gan y Llywodraeth ar sut mae’r Llywodraeth bresennol, newydd yn mynd i gyflwyno gwaith yn y Cymoedd. Mi wnes i ac eraill arwain gwaith ar dasglu'r Cymoedd yn ystod y Senedd sydd newydd ddod i ben, a dwi'n awyddus i ddeall sut mae'r gyllideb yn mynd i ystyried buddsoddi yn ein cymunedau mwyaf tlawd yn y wlad. Dwi yn clywed beth mae pobl yn ei ddweud amboutu pob man yn y wlad, ac mae'n bosibl gwneud dadl gref iawn dros fuddsoddi ym mhob un cymuned—dwi'n cydnabod hynny—ond dŷn ni i gyd yn gwybod hefyd fod y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn Ewrop yn dal i fod yn y Cymoedd, a dwi'n credu bod angen i'r Llywodraeth yma wneud datganiad clir fod buddsoddiadau'n mynd i fod yn y rhanbarth yma.

Y peth olaf dwi eisiau dweud yw amboutu sut dŷn ni'n fforddio hyn i gyd, achos dŷn ni i gyd yn dal yn meddwl amboutu cyllideb fel cynllun gwario, a does dim un cyfraniad wedi bod eto yn ystod y drafodaeth yma amboutu o ble mae'r incwm yn dod. Mae gyda ni gyfle yn fan hyn i godi trethi, os dyna beth ydy nod y Llywodraeth; dwi wedi dadlau yn y gorffennol bod angen gwneud hynny er mwyn diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus. Ond beth dwi eisiau clywed gan y Gweinidog ydy hyn: mae hi wedi dweud beth ydy blaenoriaethau'r Llywodraeth, a dwi'n cyd-fynd â phob un ohonyn nhw, ond gaf i ofyn i'r Gweinidog oes yna ddigon o cash yn y banc i wneud hynny? Ac os nad oes, o ble mae'r arian yn dod? Pa fath o impact mae'r pandemig wedi'i gael ar yr incwm o drethi Cymreig? Ydyn ni'n gwybod hynny eto? Oes yna ddadansoddiad wedi bod o ble mae'r incwm yn dod? Achos dwi'n credu, fel rhan o aeddfedu fel Senedd, fod yn rhaid inni symud i gyllideb ddeddfwriaethol, ond mae'n rhaid iddi fod yn gyllideb, a dim jest cynllun gwario. Dwi'n credu mai dyna'r gwendid rydyn ni wedi'i gael yn ein trafodaethau yn y gorffennol. Mae pob un eisiau gwario arian, a does neb yn cynnig o ble mae'r arian yn dod. Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni ddechrau ystyried hynny yn ystod y misoedd nesaf. Diolch yn fawr.

18:40

Diolch am y cyfle i drafod paratoadau o ran y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf fwy neu lai. Mae hon yn ddadl amserol, ac mae'n amlwg yn un eithriadol o bwysig wrth i ni ddod allan o bandemig COVID-19, a hoffwn i droi fy nghyfraniad at lywodraeth leol, a'r swyddogaeth a'r chyfle i gefnogi cynghorau yn briodol. Ond ar yr adeg hon, rwy'n atgoffa'r Aelodau o'm diddordeb fel aelod etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd.

Drwy gydol y pandemig hwn, mae cynghorau wedi gweithio yn anhygoel o galed, ac mae eu hymdrechion wedi bod yn eithriadol. Mae'r flwyddyn a hanner diwethaf wedi dangos mai cynghorau sydd yn y sefyllfa orau yn aml i benderfynu yr hyn sydd orau i'w hardal. Mae pobl yn gwybod pwy yw eu cynghorwyr lleol, ac mae ganddyn nhw gysylltiad personol â'r ddemocratiaeth leol honno hefyd. Fel y cyfryw, mae'n hanfodol bwysig bod ganddyn nhw'r arian i gyflawni blaenoriaethau lleol. Mae cynghorau yng Nghymru, fel y gwyddom ni, wedi wynebu pwysau sylweddol yn ystod y pandemig, ac mae rhywfaint o'r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos bod cynghorau Cymru hyd yma, wedi adrodd am golledion ariannol o gannoedd o filiynau o bunnoedd drwy golli incwm a gwariant ychwanegol. Rwyf i'n sicr yn cydnabod y gefnogaeth sylweddol y mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi i gynghorau drwy gydol y cyfnod hwn, ond bydd y colledion hyn yn cael effaith sylweddol ar gyllidebau cynghorau yn y dyfodol, gan arwain at bwysau cyllidebol cynyddol, nid yn unig nawr, ond yn y dyfodol hefyd. Dangosodd yr adroddiad diweddaraf gan Ddadansoddi Cyllid Cymru y gallai pwysau pethau heb eu cyllido mewn cynghorau y flwyddyn nesaf fod dros £400 miliwn, ac mae angen cydnabod a chefnogi hyn yn briodol drwy benderfyniadau cyllidebol fel y gall cynghorau gyflawni y blaenoriaethau lleol hynny.

Felly, o ddarparu gwasanaethau lleol i gefnogi pobl sy'n agored i niwed a darparu cymorth busnes, mae cynghorau wedi dangos yr hyn y gallan nhw ei wneud pan gânt eu hariannu a'u cefnogi yn briodol, ac yn aml mae modd gwneud hyn gan darparu gwerth am arian ac atebolrwydd lleol clir. O ran gwerth am arian, rydym ni'n gwybod bod gwariant lleol gan awdurdodau lleol yn darparu'r gwerth hwnnw am arian. Yn aml, gall llywodraeth leol weithio'n agosach ac yn well gyda chyflenwyr lleol, ac mae adroddiadau hyd yn oed wedi dangos, ar gyfer pob £1 sy'n cael ei gwario gyda chyflenwr lleol, bod hynny werth tua £1.76 i'r economi leol, ond dim ond 36c os caiff ei wario y tu allan i'r ardal leol. Mae hynny'n gwneud pob £1 werth tua 400 y cant yn fwy yn lleol i'r economi leol, felly mae'n rhoi gwerth da iawn am arian yn yr ardaloedd lleol.

Yn olaf, mae modd cryfhau mwy ar brosesau gwaith a chynllunio cynghorau drwy ddarparu setliadau realistig, amlflwydd i'r cynghorau hynny, a byddai hyn yn rhoi sicrwydd ariannol tymor hir i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau hanfodol. Hefyd, fel y dywedais i eisoes yn y Siambr droeon, dyma'r amser i ddatganoli mwy o bwerau i gynghorau a dod â'r pŵer hwnnw yn nes at bobl, a fyddai'n cael ei groesawu ynghyd â'r cymorth ariannol priodol hwnnw. Felly, i gloi, Llywydd, o'm hochr i, dyma'r amser i'r gyllideb hon gan Lywodraeth Cymru wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf ganiatáu i gynghorau ffynnu drwy fwy o sicrwydd o ran cyllid, ac i rymuso penderfyniadau lleol drwy'r lefelau ariannu hynny sy'n adlewyrchu'r gwerth sydd gan gynghorau yn ein gwlad. Diolch yn fawr iawn.

Gan mai bwriad y drafodaeth yma ydy ceisio barn y Senedd am flaenoriaethau cyllidebol y Llywodraeth, dwi am gymryd y cyfle i bwysleisio unwaith eto yr angen i symud tuag at gyllidebau sydd ag atal problemau ac atebion tymor hir wrth eu gwraidd.

Mae buddsoddi mewn addysg ein plant a'n pobl ifanc yn rhan gwbl greiddiol o'r agenda ataliol, ac mae'n hollol amlwg fod angen blaenoriaethu buddsoddi yn ein hysgolion ni, a chyflogi mwy o staff a all gefnogi ein pobl ifanc efo'u dysgu. Dros ddegawd, rydym ni wedi colli bron i 1,700 o staff o'n hysgolion ni, ac mae angen cychwyn gwyrdroi hyn ar frys, a gwneud hynny drwy gynllunio i gynyddu'r gweithlu drwy fuddsoddi yn ein hysgolion ni, yn hytrach na'r hyn sydd wedi bod yn digwydd, sef eu gorfodi nhw i wneud toriadau i'w cyllidebau nhw ac i ddiswyddo staff.

A gaf i erfyn arnoch chi i gynnwys ymestyn darpariaeth prydau ysgol am ddim fel blaenoriaeth yng nghyllideb 2022-23? Peidiwch ag anwybyddu adolygiad eich Llywodraeth chi'ch hun, sydd wedi dod i'r casgliad y dylai pob teulu sydd ar gredyd cynhwysol fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Os ydych chi'n gwneud un peth yn y gyllideb yma, gwnewch hyn er mwyn y teuluoedd tlotaf yng Nghymru.

Yn olaf, a gaf i jest gymryd y cyfle i holi am dâl ac amodau athrawon? Mae'r corff adolygu cyflogau annibynnol wedi argymell y dylid cynyddu pob pwynt graddfa statudol—ar bob graddfa a phob lwfans—1.75 y cant. Mae'r Gweinidog addysg wedi derbyn yr argymhelliad yma. Wrth gwrs, dwi'n deall nad oes yna ddim cyllid ychwanegol yn dod ar gyfer dyraniadau cyflogau athrawon gan y Torïaid a'u Llywodraeth nhw yn Lloegr. A fedrwch chi felly gynnig eglurder am hyn? Sut ydych chi'n mynd i weithredu'r argymhelliad sydd wedi cael ei dderbyn gan eich Gweinidog addysg chi? A wnewch chi roi diweddariad am eich trafodaethau chi efo'r gymdeithas llywodraeth leol ynglŷn â beth fydd y sefyllfa efo tâl ac amodau athrawon? Mae angen gwybod ar frys, achos mae eu cyllidebau nhw yn yr ysgolion yn cychwyn o fis Medi, wrth gwrs, onid ydyn, sydd yn broblem arall, wrth gwrs. Ond mi fyddai cael eglurder am y sefyllfa yna pnawn yma yn ddefnyddiol. Diolch yn fawr.

18:45

Mae angen i mi ddatgan buddiant gan fy mod i'n dal i fod yn gynghorydd yn sir y Fflint o hyd hefyd. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf o gyni, oherwydd i gyllidebau Llywodraeth Cymru gael eu torri, mae gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau, wedi eu torri at yr asgwrn. Maen nhw wedi ad-drefnu ac ailstrwythuro tan eu bod nhw wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol. Roedd y dreth gyngor yn arfer cyfateb i 24 y cant o'r gyllideb; daw'r gweddill o'r Llywodraeth. Nawr, mae'n cyfateb i 30 y cant o'r gyllideb, ac ni all barhau i gynyddu. Ni all preswylwyr ei fforddio, a bydd cyfraddau treth heb ei chasglu yn parhau i dyfu. Mae cynghorau hefyd yn un o'r cyflogwyr mwyaf, sydd hefyd wedyn yn cyfrannu at yr economi. Mae angen cynnwys dyfarniadau cyflog, pwysau cynyddol ar y gyllideb, yn bennaf ar ofal cymdeithasol ac addysg, a chyflwyno deddfwriaeth newydd, gan fod cynghorau bellach ar y pwynt tyngedfennol. Mae toriadau i wasanaethau'r cyngor yn golygu toriadau i dimau draenio, cynnal a chadw priffyrdd, cyllid ar gyfer addysg, gofal cymdeithasol, casgliadau gwastraff, trwsio tyllau ar y ffordd a glanhau strydoedd—yr holl bethau hyn sy'n bwysig i bobl. Beth bynnag yw maint a demograffeg cyngor, mae costau sefydlog nad oes posibl eu newid, yn parhau mewn sawl ardal. Mae angen sefydlu cyllid gwaelodol fel bod gan y rhai sy'n cael y cyllid lleiaf ddigon o hyd i allu darparu'r gwasanaethau sylfaenol. A gaf i ofyn i'r Gweinidog pa waith sydd wedi ei wneud i ymchwilio i gyflwyno cyllid gwaelodol llywodraeth leol i ddiogelu gwasanaethau a'r rhai sy'n dibynnu arnyn nhw, ac a oes modd ystyried hynny ar gyfer y dyfodol hefyd? Diolch. 

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl heno. A gaf i ddatgan buddiant gan fy mod i'n gynghorydd yn sir Ddinbych? Rwy'n mynd i sôn am lywodraeth leol.

Mae'r pandemig coronafeirws a'r effaith y mae COVID-19 wedi ei chael ar y glannau hyn yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf wedi amlygu'r problemau strwythurol o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru. Wrth i'r genedl gyfan frwydro i ymdopi â'r feirws, y rhai a oedd yn dibynnu ar ein sector gofal cymdeithasol a ddioddefodd fwyaf. Y rhai a oedd yn gweithio yn ein sector gofal oedd yn gorfod ysgwyddo'r baich mwyaf. Bu'n rhaid i rai o'n gweithwyr a oedd ar y cyflogau isaf weithio bob dydd, drwy'r dydd, heb fawr ddim amddiffyniad, gan orfod ymdrin â'r tor calon cyson o'u cleifion yn marw o glefyd ofnadwy a aeth â bywydau cynifer o bobl. Bu farw dros 1,600 o bobl a oedd yn byw mewn cartrefi gofal o ganlyniad i'r pandemig, ond yn fwy na hynny, fe wnaethon nhw farw oherwydd bod ein sector gofal cymdeithasol yn cael ei danariannu a'i orymestyn. Mae'r ddadl hon gan Lywodraeth Cymru yn gofyn i ni ystyried y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'r blaenoriaethau yn syml yn fy marn i: mae angen i ni fynd i'r afael â thanariannu cronig ein system ofal. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gwblhau'r broses o gyfuno iechyd a gofal cymdeithasol. Maen nhw'n ehangu swyddogaethau byrddau partneriaeth rhanbarthol, ond nid ydyn nhw'n darparu mwy o arian ar gyfer hynny. Felly, mwy o'r un peth yw hyn. Maen nhw'n disgwyl i adrannau gwasanaethau cymdeithasol llywodraeth leol wneud mwy, ond maen nhw'n rhoi llai a llai iddyn nhw bob blwyddyn. Cyn i unrhyw un ohonom ni hyd yn oed glywed am COVID, roedd cydweithwyr mewn llywodraeth leol yn rhybuddio y byddai diffyg o gannoedd o filiynau o bunnoedd mewn gofal cymdeithasol. Mae'r sefyllfa wedi mynd o ddrwg i waeth. 

Mewn tystiolaeth i Bwyllgor Cyllid y Senedd flaenorol, nododd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gwerth dros £279 miliwn o bwysau cyllidebol sylfaenol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol yn unig. Yn ei thystiolaeth i'r pwyllgor iechyd, tynnodd CLlLC sylw at y ffaith bod y problemau ariannu wedi creu materion penodol o ran yr effaith ar wasanaethau gofal cymdeithasol yn seiliedig ar alw, a breuder posibl darparwyr gofal preifat llai wedi'u comisiynu gan y cyngor. Mae'r pwysau hyn yn cynyddu a byddan nhw’n parhau i gynyddu. Bydd angen tua 20,000 o staff gofal cymdeithasol ychwanegol arnom ni erbyn diwedd y degawd, ac mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n cael cyflog teg. Mae gennym ni ddiffyg truenus o dai y mae modd eu haddasu ar gyfer anabledd. Rydym ni wedi gweld cynnydd o dros chwarter yn nifer y plant sy'n derbyn gofal yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Er hynny, methodd Llywodraeth Cymru â rhoi'r flaenoriaeth y mae'n ei haeddu i ofal cymdeithasol. Methodd y gyllideb atodol â neilltuo unrhyw arian sylweddol ar gyfer gofal cymdeithasol. Cafodd mwy o arian ei ddyrannu i raglenni cyfnewid rhyngwladol na'r hyn a gafodd ei ddyrannu ar gyfer cymorth ychwanegol i ddysgwyr y blynyddoedd cynnar. Mae'n bryd rhoi'r gorau i ariannu prosiectau anifeiliaid anwes a sicrhau ein sector gofal cymdeithasol, ac o ganlyniad, llywodraeth leol, yn cael eu hariannu'n ddigonol. Diolch yn fawr iawn.

18:50

Ail-etholwyd Llywodraeth Lafur Cymru ym mis Mai eleni am dymor arall o bum mlynedd gan bobl Cymru. I mi, y man cychwyn yw'r trafodaethau hynny ar baratoadau cyllideb 2022-23. Mae modd eu gweld ar dudalennau'r contract hwnnw rhwng y Llywodraeth Lafur a phobl Cymru. Rydym ni'n gwybod—pob un ohonom ni yn y lle hwn—bod yn rhaid i ni ddod â'r pandemig hwn i ben ac ailgodi'n gryfach yn decach ac yn wyrddach, ond y daith honno sy'n hollbwysig. Ni fyddaf i'n ailadrodd y pwysau allanol anochel a'r diffyg ysgogiadau, a gafodd ei anwybyddu'n yn llwyr gan y Blaid Geidwadol gyferbyn a'u dull 'gwario mwy, trethu llai', mae'n siŵr y caiff ei werthfawrogi'n fawr gan Alice yng nghynhyrchiad diweddar Opera Cenedlaethol Cymru.

Fodd bynnag, yn y pumed Senedd—fy nghyntaf o fod yn Aelod o'r Senedd dros Islwyn—roeddwn i'n dadlau'n gryf am i ni sicrhau bod Cymru yn datblygu strategaeth gerddoriaeth genedlaethol a chynllun addysg, yn eistedd o fewn strategaeth ddiwylliannol wedi'i hariannu, fel y gall ein plant ledled Cymru gael y cyfle i fanteisio ar addysg gerddorol heb rwystrau ariannol na rhwystrau o ran cael cymryd rhan. Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn sydd wedi ei ddweud yn y maes hwn. Mae Cymru yn adnabyddus ledled y byd fel gwlad y gân. Ein dyletswydd ni yw sicrhau yn y lle hwn ein bod ni'n meithrin yr etifeddiaeth honno ac yn ei gwella ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Felly, roeddwn i'n arbennig o falch o weld, ym maniffesto Llafur Cymru, yr ymrwymiad i sefydlu gwasanaeth cerdd cenedlaethol i sicrhau nad yw diffyg arian yn rhwystr i bobl ifanc sy'n dysgu canu offeryn. Ni fydd hynny'n hawdd yn y cyd-destun hwn. A bydd, bydd her bob amser, fel sydd wedi ei fynegi, o ran dyrannu cyllid. Ond mae'n rhaid i ni ariannu plant Cymru er mwyn sicrhau bod ein bywyd diwylliannol gwych yn cael ei gadw, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n rhaid i gyllidebau ganolbwyntio' ar bunnoedd a cheiniogau ac mae hynny'n briodol, ond ni allwn ni, ac ni ddylem ni werthfawrogi bywyd ein cenedl ar sail elw a cholled yn unig. Mae'n rhaid i'n holl genhadaeth a'n gweledigaeth gyfunol ganolbwyntio ar feithrin bywyd cerddorol a chreadigol Cymru. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gerddoriaeth, rwy'n croesawu'r llu o Aelodau ledled y Siambr a ledled yr holl bleidiau sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod plant Cymru yn parhau i gael y cyfle i fanteisio ar eu hawl gerddorol a chreadigol. Rwy'n croesawu hefyd y cynigion cyffrous a gafodd eu crybwyll ar gyfer incwm sylfaenol cyffredinol.

Llywydd, Llywodraeth Dorïaidd y DU sy'n cynnal y system fudd-daliadau yng Nghymru, a bydd angen mawr i Lywodraeth Lafur Cymru barhau i sefyll yn gadarn iawn dros y rhai mewn angen, boed hynny'n rhai a gafodd eu gadael ar ôl oherwydd toriadau lles cronig, canlyniadau tlodi tanwydd, diweithdra neu realiti'r diffyg tosturi a ddangoswyd iddyn nhw gan San Steffan. Fel y dywedodd Llywodraeth Cymru, drwy benderfynu dod â'r taliad credyd cynhwysol ychwanegol o £20 i ben o fis Medi ymlaen, mae Llywodraeth y DU wedi tro ei chefn ar lawer iawn o bobl pan fo angen y cymorth arnyn nhw fwyaf. Bydd yn hanfodol ein bod ni'n asesu blaenoriaethau'r gyllideb yn y dyfodol er mwyn parhau i leddfu'r dinistr y mae tlodi'n ei achosi ym mywydau teuluoedd a chymunedau. Gweinidog, un peth yr wyf i'n ei wybod yn sicr yw y bydd pobl dda Islwyn yn cael eu gwasanaethu'n dda gan Lywodraeth Lafur Cymru wrth bennu blaenoriaethau'r gyllideb ar gyfer 2022-23, ac yn ymladd dros ddyfodol mwy disglair, gwyrddach, tecach a mwy llewyrchus i bawb.

18:55

Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddiolch i'r holl gydweithwyr am yr hyn sydd wedi bod yn ddadl eang iawn a diolch am y sylwadau yr ydych chi wedi bod yn eu cyflwyno heddiw. Rwyf i'n cytuno y byddai'n wych, yn y dyfodol, i'r ddadl hon gael ei chynnal gan y Pwyllgor Cyllid. Yn amlwg, oherwydd rhesymau ymarferol, nid oedd yn bosibl eleni, ond mae'n galonogol iawn clywed y bydd y pwyllgor yn cynnal ymchwiliad drwy'r hydref. Bydd hynny'n ddefnyddiol iawn o ran ein helpu ni i benderfynu ar y penderfyniadau y mae angen eu gwneud o ran dyraniadau. Unwaith eto, mae'n gadarnhaol iawn y bydd y pwyllgor yn ymgysylltu â phwyllgorau polisi eraill i archwilio meysydd sydd o ddiddordeb ar y cyd a blaenoriaethau ar y cyd. Felly, unwaith eto, arloesedd rhagorol arall, rwy'n credu.

Er ein bod ni'n parhau i wynebu amgylchiadau ansicr a heriol iawn, rydym ni'n croesawu'r syniadau newydd hynny a'r cynigion newydd pa bryd bynnag y maen nhw o fudd i Gymru a'n cymunedau ni. Rydym ni'n Llywodraeth sy'n barod i ymgymryd â chysyniadau arloesol waeth pa blaid wleidyddol sy'n eu cyflwyno. Ni allwn ni ddianc rhag, ac ni allwn ni ychwaith anwybyddu'r penderfyniadau anodd y bydd angen i ni eu gwneud. Ar yr un pryd, ni fyddwn i'n gadael i hyn ddigalonni ein hymgyrch a'n penderfyniad i gyflawni ein hymrwymiadau a gafodd eu hamlinellu yn ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol, a gafodd fandad gan bobl Cymru. Rwy'n ffyddiog bod gennym ni yr offer a'r syniadau i gyflawni'r agenda uchelgeisiol hon yr ydym ni wedi ei gosod ar gyfer ein hunain. Byddaf i'n defnyddio ein paratoadau i archwilio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni i sicrhau bod y cyllid sydd ar gael yn cael yr effaith fwyaf bosibl, boed hynny drwy roi mwy o werth ar effeithiau cymdeithasol a chontractau caffael, neu fodelau cyllid ad-daladwy sy'n canolbwyntio yn fwy ar fusnes i'r rhaglenni a'r prosiectau yr ydym ni'n eu cefnogi.

Rwy'n ddiolchgar i'm cyd-Aelodau am yr holl sylwadau. Ni fyddaf i'n ymateb yn fanwl, oherwydd nad dyna bwrpas y ddadl heddiw; mae'r ddadl heddiw yn ymwneud mewn gwirionedd â gwrando a chithau'n cael cyfle i nodi eich blaenoriaethau chi. Ond rwyf i eisiau rhannu rhai o'r pethau gyda chi yr wyf yn credu fy mod i wedi eu clywed o'r drafodaeth heddiw. Un ohonyn nhw yw y dylem ni ganolbwyntio yn ddi-baid ar adferiad, o ran unigolion a threchu tlodi, ond hefyd o ran diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus gwych, gan gynnwys y GIG ac, wrth gwrs, llywodraeth leol, a gweithio i sicrhau nad yw'r bobl hynny sydd wedi cael eu taro galetaf gan y pandemig yn cael eu gadael ar ôl yn yr adferiad. Mae'r pwyntiau a gafodd eu gwneud am ran addysg a chefnogi teuluoedd sy'n cael trafferthion wedi eu clywed yn dda yn y fan yna

O ran iechyd a gofal cymdeithasol, rwyf i wedi clywed bod awydd i gefnogi'r gweithlu, cymorth i ofalwyr a hybu iechyd a lles, a hefyd pwyslais gwirioneddol ar wasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. O ran tai, mae awydd i ymdrin â'r materion hynny sy'n ymwneud â'r farchnad ei hun, i ymdrin â'r angen i adeiladu mwy o dai ac ymdrin â digartrefedd, gyda'r canolbwyntio dwysach hwnnw ar atal hynny rhag digwydd. O ran ymdrin â newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth, roedd angerdd gwirioneddol dros hynny, rwy'n credu, ledled y Siambr y prynhawn yma. A llawer o sylwadau o ran sut y gallwn ni gefnogi'r economi, pa un ai yw honno'n tyfu mewn meysydd lle yr ydym ni'n datblygu arbenigedd gwirioneddol yma yng Nghymru, fel y sector gwasanaethau ariannol, neu gefnogi ein heconomi wledig, neu nodi a datblygu'r rhan bwysig sydd gan ein sector cerddoriaeth, diwylliant a threftadaeth yn yr economi, ond hefyd o ran ein diwylliant a'n bywyd cymdeithasol. Mae'r holl bwyntiau hynny, yn fy marn i, wedi cael eu gwneud yn dda iawn y prynhawn yma.

Rwyf hefyd eisiau dweud rhywbeth yn fyr iawn ynghylch yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, oherwydd, wrth gwrs, mae angen y cyllid arnom ni i droi'r dyheadau hyn yn bethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl yma yng Nghymru. Ond rwyf i eisiau sôn am yr effaith y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU ynglŷn â'r gronfa codi'r gwastad yn ei gael arnom ni yma yng Nghymru a'n cyllideb ni a'r hyn y gallwn ni ei wneud. Mae'r cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd werth £375 miliwn bob blwyddyn i Gymru dros saith mlynedd. Pe byddem ni wedi aros yn yr UE, byddai Cymru wedi cael dyraniad ariannol blwyddyn lawn yn dechrau o fis Ionawr 2021 ar gyfer rhaglenni newydd, waeth beth fo'r taliadau parhaus o gyllideb yr UE ar gyfer ymrwymiadau presennol a gafodd eu gwneud yn ystod y cylch presennol o raglenni'r UE. Yn 2021-22, rydym ni'n amcangyfrif y bydd Cymru'n cael £30 miliwn i £50 miliwn o'r gronfa codi'r gwastad a'r gronfa adnewyddu cymunedol, gan nodi bod y ddwy hyn, wrth gwrs, yn gystadleuol, ac mae hyn yn creu toriad enfawr i gyllideb Llywodraeth Cymru, gan wneud i gynghorau lleol gystadlu am rywfaint o'r arian hwnnw. Ac mae wedi cael ei werthu i bobl yng Nghymru fel buddsoddiad mewn codi'r gwastad, ond a dweud y gwir, os nad yw'r bwlch yn cael ei lenwi, bydd Cymru o dan anfantais arall o ran ymdrin â'n heriau economaidd.

Mae cynlluniau Llywodraeth y DU yn peryglu rhaglenni hanfodol i Gymru gyfan a fydd yn ganolog i adferiad, er enghraifft, Busnes Cymru a'r banc datblygu, yn ogystal â chynlluniau cyflogadwyedd allweddol fel y prentisiaethau a'r hyfforddiaethau sydd wedi'u hintegreiddio i'r sefyllfa economaidd yng Nghymru dros nifer fawr o flynyddoedd. Felly, dyna sydd mewn perygl yn y fan yma hefyd. 

Ac rwyf i eisiau dweud rhywbeth ynghylch yr adnoddau sydd ar gael o ran cyllid ffermydd a physgodfeydd hefyd. Dim ond £400 miliwn y byddwn ni'n ei gael—. Mae'n ddrwg gennyf i, esgusodwch fi, byddwn ni ond yn cael £242 miliwn o gyllid newydd ar gyfer y polisi amaethyddol cyffredin o'r DU, gan adael Cymru £137 miliwn yn brin o'r cyllid yr oeddem ni'n disgwyl ei gael eleni. Ac rydym ni'n anghytuno'n llwyr ag awgrym Llywodraeth y DU eu bod wedi cyflawni eu rhwymedigaethau i ddarparu cyllid newydd i ffermwyr a datblygu gwledig drwy gyfuniad o gyllid newydd o'r adolygiad o wariant, a gweddill cyllid yr UE yng Nghymru o £95 miliwn a throsglwyddiad o £42 miliwn o golofn i golofn. Pe byddai Llywodraeth y DU wedi darparu setliad ariannol rhesymol ac amlflwydd y llynedd, yna byddem ni wedi bod mewn gwell lle i ystyried y gefnogaeth i'r trefniadau hyn.

Felly, dyma rai o'r heriau gwirioneddol yr ydym ni'n ymdrin â nhw ar hyn o bryd, ac a fydd yn anochel yn cael effaith barhaus ar ein cyllideb yn y dyfodol hefyd.

Felly, hoffwn i ddweud wrth gloi, fy mod i yn croesawu'r ddadl. Rwy'n credu ei bod yn dangos bod gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae o ran sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd i godi'r Gymru decach, wyrddach a mwy ffyniannus honno. Diolch i bob cyd-Aelod am eu cyfraniadau. 

19:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad i'r cynnig yma. Felly, mae'r cynnig yn cael ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Sy'n dod â ni nawr at y cyfnod pleidleisio, ac felly, fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr cyn cynnal y bleidlais.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:02.

19:05

Ailymgynullodd y Senedd am 19:05, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

11. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio felly. A dim ond un bleidlais y prynhawn yma, ac mae'r bleidlais hynny ar gyllideb atodol gyntaf 2021-22. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais.

O ddarllen gwefusau, rwy'n credu bod y Gweinidog iechyd newydd ddweud 'wps'.

Felly, cau'r bleidlais. O blaid 29, 25 yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 9 - Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2021-22: O blaid: 29, Yn erbyn: 0, Ymatal: 25

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 19:06.