Y Cyfarfod Llawn
Plenary
06/07/2021Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. A hoffwn i atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r rhai sydd yn ymuno drwy gyswllt fideo ag ydyn nhw i'r Aelodau sydd yn y Siambr.
Cyn i ni gychwyn ar yr eitem gyntaf, hoffwn hysbysu'r Senedd y bydd y balot cyntaf ar gyfer Biliau Aelodau'r Senedd yn cael ei gynnal ar 22 Medi, ac felly fe fydd yna wybodaeth am y broses yma yn cael ei rhannu gydag Aelodau cyn diwedd y dydd heddiw.
Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mi rydw i wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Trefnydd, Lesley Griffiths, yn ateb y cwestiynau heddiw ar ran y Prif Weinidog. Dwi'n siŵr, yr wythnos yma, fod y Prif Weinidog yn ein meddyliau ni i gyd, fe a'i deulu, ar gyfnod anodd iddyn nhw. Felly, y cwestiwn cyntaf heddiw, Joyce Watson.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r prinder sgiliau yn y diwydiant cludo nwyddau? OQ56736
Rydym yn hynod bryderus o glywed yr adroddiadau am brinder sgiliau eang ar draws y sector logisteg, yn enwedig gyrwyr, a'r effeithiau canlyniadol y gallai hyn eu cael ar gadwyni cyflenwi hanfodol, gan gynnwys bwyd. Rydym ni'n gweithio yn agos gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i sicrhau bod cadwyni cyflenwi bwyd Cymru yn cael eu diogelu.
Wel, mae prinder gyrwyr lorïau yn ganlyniad uniongyrchol i gynllunio gwael gan Lywodraeth Brexit Dorïaidd y DU. Mae cwmni cludo nwyddau mawr o Gymru yn fy rhanbarth i wedi colli 50 o yrwyr a oedd yn ddinasyddion yr UE gan nad oedden nhw'n bodloni meini prawf newydd y DU ar gyfer fisâu gweithwyr medrus. Er ein bod ni'n gwybod bod gyrwyr lorïau fwy nag erioed yn weithwyr allweddol, gan stocio ein harchfarchnadoedd, danfon ein pecynnau a chadw'r economi i symud, mae'r prinder gyrwyr eisoes yn achosi problemau gwirioneddol yn y sector amaethyddol, ac oni fydd Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â'r broblem hon ar frys, byddwn yn gweld silffoedd gwag mewn archfarchnadoedd yn fuan, yn enwedig yn y cymunedau gwledig ac anghysbell yn fy rhanbarth i. Felly, pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Gweinidogion y DU ynglŷn â'r angen i ddatrys yr argyfwng sydd ar y gorwel, a beth allwn ni ei wneud yma yng Nghymru i liniaru effaith methiant polisi Brexit y Torïaid?
Mae Joyce Watson yn codi pwynt pwysig iawn, ac, yn sicr yn fy mhortffolio i, cyflwynais lawer o sylwadau i Lywodraeth y DU yn nhymor blaenorol y Llywodraeth—cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn DEFRA. Yn amlwg, mae nifer o resymau cymhleth, rwy'n credu, am y prinder, gan gynnwys tâl ac amodau gwaith. Ond rwy'n credu, yn sicr, bod y sefyllfa wedi ei gwaethygu i raddau helaeth gan ymadawiad torfol gweithwyr yr UE o'r DU o ganlyniad i'r fargen fasnach denau iawn a roddwyd i ni gan Lywodraeth y DU. Mae'n ymddangos bod llawer iawn o yrwyr cerbydau nwyddau trwm yng nghanol eu 50au, er enghraifft, ac, wrth gwrs, wrth iddyn nhw nesáu at ymddeol, a phan ddaw'r ffyrlo i ben hefyd, efallai y byddan nhw'n dewis ymddeol bryd hynny.
Rwy'n cyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol DEFRA eto yr wythnos nesaf, ac rwyf i wedi gofyn i'r eitem hon fod ar yr agenda, ond mae swyddogion yn gweithio yn agos iawn gyda'u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU i geisio deall y sefyllfa. Rwyf i hefyd yn cyfarfod unwaith eto gyda'r sector manwerthu bwyd yn arbennig, oherwydd mae hyn yn rhywbeth y mae'r archfarchnadoedd yn dod yn fwyfwy pryderus yn ei gylch.
Gweinidog, arweiniodd y pandemig a'r cyfyngiadau symud dilynol ledled y Deyrnas Unedig at golli misoedd o hyfforddiant i yrwyr a chanslo 28,000 o brofion gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. Mae hyn wedi tanseilio ymdrechion i dyfu'r gronfa o 300,000 o yrwyr lorïau cymwysedig yn y DU, y mae eu hangen ar frys gan fod traean o'r gyrwyr hynny dros 55 oed ac, fel y soniasoch, yn nesáu at ymddeoliad. Mae'r Gymdeithas Cludo Nwyddau ar y Ffyrdd yn honni ei bod yn ymddangos y bu agwedd rwystrol ac elyniaethus gan y sefydliad addysgol dros nifer o flynyddoedd at brentisiaethau cerbydau nwyddau trwm ac mae wedi galw am fwy o arian ar gyfer prentisiaethau i'r gyrwyr hynny. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda chyd-Weinidogion, ac eraill, i sicrhau bod prentisiaethau gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn cael y cyllid a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw mewn gwirionedd? Diolch.
Felly, unwaith eto, mae hwnnw yn fater pwysig iawn, ac yn sicr, fel Llywodraeth Cymru—ac fe fyddwch yn ymwybodol bod llawer o'r materion a godwyd gennych chi yn eich cwestiwn wedi eu cadw i Lywodraeth y DU—gyda'r ysgogiadau sydd gennym ni, er enghraifft, rydym ni wedi sicrhau bod ein rhaglen ReAct wedi ariannu cannoedd o yrwyr cerbydau nwyddau trwm. Felly, mae'r trafodaethau hynny yn parhau. Rydym ni hefyd wedi cymeradwyo cais gan Goleg Castell-nedd Port Talbot i gynnig cyrsiau mewn gyrru cerbydau nwyddau a cherbydau sy'n cario teithwyr. Ond gwn fod cyd-Weinidogion wedi bod yn annog Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr ôl-groniad o brofion y cyfeiriasoch ato yn cael sylw yn y dyfodol agos iawn.
Mae cwmni cludo nwyddau yn y gogledd wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r mater hwn, gan dynnu sylw at ddau ffactor allweddol. Y cyntaf, fel y soniodd Joyce, yw Brexit a'r ffaith bod angen dybryd i Lywodraeth y DU ailystyried ei safbwynt ar fisâu gweithwyr medrus. Ond yr ail, yr hoffwn ofyn amdano, yw sut y gallwn ni annog mwy o bobl i fynd i ymuno â'r maes cyflogaeth hwn, trwy ei gydnabod fel y maes hynod fedrus a hanfodol o waith yr ydyw. Ac mae gennym ni broblem wirioneddol o ran mannau diogel i yrwyr stopio a gorffwyso. Sut gallwn ni wella amodau i yrwyr, fel parcio cerbydau nwyddau trwm am ddim neu fforddiadwy, a a bod gwasanaethau sylfaenol ar gael, fel cawodydd, cyfleusterau toiled a bwyd am bris rhesymol, i sicrhau bod gyrwyr yn ddiogel ar ein ffyrdd? Diolch.
Diolch. Clywsoch fy ateb i Natasha Asghar ynghylch cyllid rhaglen ReAct ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol. Mae hwnnw wedi rhoi'r sgiliau i unigolion di-waith y mae cyflogwyr sy'n recriwtio yn chwilio amdanynt. Mae'n swydd fedrus iawn, fel y dywedwch, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i annog pobl i ddewis yr yrfa hon. Rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud ynghylch sicrhau bod digon o leoedd parcio, lleoedd parcio dros nos, lleoedd i gael cawodydd, yn bwysig iawn. Ac yn sicr, yn fy etholaeth i, gwn fod galw am i hynny ddigwydd ar ystâd ddiwydiannol Wrecsam, oherwydd yn anffodus rydym ni'n gweld pobl yn parcio heb fod y yfleusterau ar gael iddynt i orffwyso yn iawn, i fwyta yn iawn, ac yn sicr i gael cawod. Byddwn yn parhau i hyrwyddo ReAct i gyflogwyr ac unigolion sy'n ddi-waith neu sydd wedi colli eu swyddi. Byddwn hefyd yn annog recriwtio drwy Gyrfa Cymru, oherwydd mae'n faes gwaith hanfodol. Ac ar y cyd â chronfa ddysgu undebau Cymru, byddwn yn parhau i weithio gyda'n hundebau llafur o ran telerau ac amodau'r gweithlu, a phan fo hynny'n briodol, yn rhoi cymorth ychwanegol ar gyfer y materion yr ydych chi wedi eu codi.
2. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno gofal plant rhan-amser am ddim i blant o naw mis i'w pen-blwydd yn dair oed i bob rhiant waeth beth fo'u statws gwaith? OQ56753
Cynorthwyo teuluoedd gyda chostau gofal plant yw un o'n prif flaenoriaethau, yn unol â'n gweledigaeth ar gyfer un system o addysg a gofal yn ystod plentyndod cynnar. Rydym ni wedi ymrwymo i ariannu gofal plant i fwy o rieni mewn addysg a hyfforddiant, ac i gefnogi Dechrau'n Deg yn rhan o'r uchelgais hwnnw.
Diolch yn fawr iawn. Gweinidog, mae gwaith ymchwil gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith a Gingerbread yn awgrymu bod y pandemig wedi taro rhieni sengl yn galed iawn—colli gwaith ac incwm, addysg yn y cartref, a cholli gofal plant a chymorth gofalu. Fel arfer, gweithwyr yw'r rhain sydd mewn gwaith cyflog isel a rhan-amser yn bennaf ac yn y diwydiannau hynny sydd wedi cael eu taro galetaf gan y pandemig—144,000 o deuluoedd unig riant yng Nghymru, gydag 118,000 ohonynt yn deuluoedd unig fam. A gaf i ofyn i'r Llywodraeth pa gymorth sy'n cael ei ddarparu i deuluoedd unig riant ledled Cymru yn rhan o raglen adfer yn sgil COVID y Llywodraeth? Diolch.
Diolch. Rydym ni'n cydnabod efallai y bydd rhieni—ac mae hynny yn cynnwys unig rieni, wrth gwrs—a'u plant angen cymorth ychwanegol yn dilyn pandemig y coronafeirws. Gall y math o gymorth sydd ei angen amrywio, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd angen cymorth i gysylltu â'i wasanaeth gwybodaeth i deuluoedd lleol fel y gellir ei gyfeirio at y cymorth a'r cyngor cywir yn ardal ei awdurdod lleol. Mae gwefan ein hymgyrch 'Magu Plant. Rhowch Amser Iddo' hefyd yn rhoi cyngor a chymorth, ac mae'n gallu dweud wrth bobl ble y gallan nhw fynd i gael rhagor o wybodaeth. Mae hynny yn cynnwys cymorth sydd ar gael yn genedlaethol drwy linellau cymorth a chymorth ar-lein, fel Parent Talk Cymru a Family Lives.
Hoffwn achub ar y cyfle i gyfleu fy nghydymdeimlad â'r Prif Weinidog a'i deulu yn ystod y cyfnod hwn.
Gweinidog, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae bron i 27 y cant o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew, ac mae hon yn gyfradd sydd 4 y cant yn uwch nag yn Lloegr a'r Alban. Mae'r pryder iechyd hwn yn waeth mewn ardaloedd o amddifadedd uwch, lle mae plant yn llawer mwy tebygol o fod yn ordew na chyfartaledd Cymru. Mae gordewdra yn argyfwng i bobl iau a gall effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol mewn blynyddoedd diweddarach. Mae rhieni yn aml yn ei chael hi'n anodd cefnogi gweithgareddau chwaraeon i blant oherwydd y gost a'r amser, ac mae hyn yn creu anghydraddoldeb ymhlith plant, lle mae gan y plant hynny sydd â mynediad at chwaraeon fwy o hyder, gwydnwch a gwell hunan-barch. O gofio'r angen i gynorthwyo rhieni i ddarparu gofal plant ar ôl ysgol, a chan feddwl am iechyd a llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ddarparu adnoddau ychwanegol fel y gall pob ysgol ddarparu gweithgareddau chwaraeon am ddim ar ôl y diwrnod ysgol?
Wel, yn amlwg, ni allaf i wneud yr ymrwymiad hwnnw heddiw, ond bydd y Gweinidog perthnasol yn y Siambr, naill ai yn gorfforol neu'n rhithwir, ac yn clywed eich cais. Mae gordewdra a mynd i'r afael â gordewdra yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymryd o ddifrif ac mae wedi bod yn flaenoriaeth, ac mae gennym ni gynlluniau i annog bwyta'n iach yn arbennig. Rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud am chwaraeon yn bwysig iawn. Dyna pam mae chwaraeon yn ein hysgolion mor bwysig, ac, eto, rwy'n ymwybodol dros dymor diwethaf y Llywodraeth bod pwyslais ar sicrhau bod plant yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Ac rydym ni'n gwybod, wrth i blant fynd ymlaen i fod yn bobl ifanc a mynd drwy'r ysgol, bod gostyngiad yn nifer y rhai sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Felly, mae hynny yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn canolbwyntio arno.
Mae'n fy synnu i cyn lleied o flaenoriaeth ydy addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant i'r Llywodraeth hon. Mae astudiaethau yn dangos pa mor allweddol ydy creu darpariaeth lawn mewn cymunedau difreintiedig er lles addysg y plant ac er mwyn codi teuluoedd o dlodi. Ac eto, mae model y Llywodraeth hon a'r cynllun gofal plant gwallus wedi cael ei gynllunio ar sail galw yn hytrach nag angen. Ydych chi'n cytuno bod angen ailfeddwl yr holl strategaeth ar gyfer ein plant ieuengaf, a hynny ar frys?
Nid wyf i'n cytuno â Siân Gwenllian. Rydym ni wedi ymrwymo yn llwyr i gefnogi ein holl bobl ifanc, ac mae ein cynnig gofal plant yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant i blant tair a phedair oed y mae eu rhieni yn gweithio, er enghraifft, am 48 wythnos o'r flwyddyn. Yn ein rhaglen lywodraethu, rydym ni eisoes wedi ymrwymo i ariannu gofal plant i fwy o rieni mewn addysg a hyfforddiant, ac, wrth gwrs, i barhau i ariannu a chefnogi ein rhaglen Dechrau'n Deg, sydd, yn fy marn i, yn un o'r cynlluniau gorau sydd gennym ni yma yng Nghymru.
Yn 2019, lansiwyd ein gweledigaeth ar gyfer addysg a gofal plentyndod cynnar. Bydd hynny yn diwygio'r ddarpariaeth o addysg gynnar a gofal yng Nghymru i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Wrth gwrs, mae'r sector gofal plant wedi wynebu sawl her, fel pob sector, yn ystod y pandemig, ac rydym ni'n gwybod bod llawer o leoliadau wedi cau dros dro. Ond, ar hyn o bryd, mae 90 y cant o'r holl leoliadau ar agor ac rydym ni'n parhau i'w cefnogi.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, fe wnaeth bron i chwarter y bobl sydd wedi dal COVID-19 yn ystod y 12, 15 mis diwethaf ddal y feirws COVID hwnnw mewn ysbyty. Fe wnaeth 21 y cant hefyd ddal COVID mewn cartref gofal. Dywedwyd wrthym ni dro ar ôl tro fod ysbytai yn fannau diogel. Beth sydd wedi mynd o'i le?
Wel, rwy'n credu mai'r peth cyntaf i'w ddweud, yn amlwg, yw bod llawer gormod o bobl wedi marw o bandemig COVID-19, a bod llawer gormod o deuluoedd a ffrindiau yn galaru ar hyn o bryd. Rydym ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu, yn amlwg, fel y mae'r ysbytai a'r cartrefi gofal eu hunain, i gadw'r feirws allan, ond, wrth gwrs, nid yw'n stopio wrth ddrysau ysbytai, nid yw'n stopio wrth ddrysau cartrefi gofal. Nid oes rhwystr i allu gwneud hynny. Ac, os meddyliwch chi am ysbyty, mae fel tref fach, ac mae gennych chi bobl yn croesi honno—y staff, y staff arlwyo, ymwelwyr. Ac, er ein bod ni'n amlwg wedi cael canllawiau ynghylch ymwelwyr, ni allwch chi atal y feirws rhag dod i mewn, yn anffodus.
Roeddwn i'n ofalus iawn gyda fy ngeiriau i ddweud bod y feirws, mewn gwirionedd, wedi cael ei ddal mewn lleoliad ysbyty. Rwy'n derbyn y pwynt y ceir croesi llwybrau mewn ysbytai, ond dywedwyd wrthym ni dro ar ôl tro bod mesurau yn cael eu cymryd. Yn wir, dywedodd y Gweinidog iechyd wrthyf fy mod i'n codi bwganod pan ddywedais ei fod allan o reolaeth mewn rhai ysbytai. Mewn rhai byrddau iechyd, roedd un o bob tri chlaf yn dal feirws COVID yn yr ysbyty. Nawr, penderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru gan Weinidogion Llywodraeth Cymru oedd y rhain. Siawns nad oes angen i'r penderfyniadau hynny gael eu profi erbyn hyn mewn ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru ac nid cael eu eu colli mewn ymchwiliad cyhoeddus ar gyfer y DU gyfan. A wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio eich egni o fewn y Llywodraeth i ymgyrchu dros ymchwiliad cyhoeddus ar gyfer Cymru gyfan fel y gellir edrych ar yr union faterion hyn a'u hunioni yma yng Nghymru?
Na, wnaf i ddim. Fe fyddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud droeon—ac rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog yn ei atebion i chi yn y Siambr wedi dweud hyn—ei fod wedi cytuno i ymchwiliad pedair gwlad y DU. Mae wedi cael trafodaethau gydag uwch Weinidogion—Prif Weinidog y DU ei hun rwy'n credu—yn Llywodraeth y DU. Pe byddem ni'n cael ein hymchwiliad ein hunain, ni fyddem ni'n gallu edrych ar gynifer o'r rhyngddibyniaethau sy'n bodoli ar draws y pedair gwlad o ran COVID—felly, os meddyliwch chi am brofion, os meddyliwch chi am frechlynnau, os meddyliwch chi am gyfarpar diogelu personol, os meddyliwch chi am y cyffuriau sydd wedi cael eu defnyddio ar gyfer COVID. Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn gwbl eglur ei fod eisiau cymryd rhan yn yr ymchwiliad pedair gwlad hwnnw.
Mae'n rhaid i mi ddweud mai dyna'r penderfyniad anghywir, Gweinidog. Dro ar ôl tro—a byddwn ni'n ei glywed yn y datganiad deddfwriaethol y prynhawn yma—mae'r Llywodraeth eisiau i benderfyniadau gael eu gwneud yma yng Nghaerdydd, cael eu lleoli yma yn y Senedd hon, ac ym Mharc Cathays, lle mae'r Llywodraeth wedi'i lleoli. Yn y fan yma, lle mae penderfyniadau allweddol wedi arwain, yn drasig, at bobl yn colli eu bywydau mewn ysbytai oherwydd heintiau a ddaliwyd mewn ysbytai—roedd 1 o bob 3 o bobl mewn rhai byrddau iechyd yn dal feirws COVID mewn ysbyty, oherwydd y penderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru. Bydd pobl yn rhyfeddu nad ydych chi'n barod i wneud eich hun yn destun craffu. Rwy'n annog y Llywodraeth, ac rwy'n eich annog chithau yn gryf iawn, i wneud yn siŵr bod elfen Gymreig gref yn yr ymchwiliad y DU gyfan, ond yn bwysicach na hynny, ein bod ni'n cael ymchwiliad Cymru gyfan i brofi'r penderfyniadau gweinidogol hyn, ac i dynnu sylw hefyd at y llwyddiannau hefyd, fel y cynllun brechu. Mae'n destun gofid mawr nad ydych chi'n fodlon torchi eich llewys gweinidogol i wneud i'r ymchwiliad cyhoeddus hwnnw yng Nghymru ddigwydd. Fe'i gadawaf i chi unwaith eto i ddweud ein bod ni angen ymchwiliad cyhoeddus Cymru gyfan i ymchwilio i'r digwyddiadau trasig hyn sydd wedi arwain at gymaint o achosion o heintiau a ddaliwyd mewn ysbytai ar hyd a lled Cymru.
Wel, rwy'n anghytuno yn llwyr â chi. Mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn eglur iawn y byddai'n disgwyl i rai penodau o'r ymchwiliad hwnnw, yn amlwg, ganolbwyntio yn benodol ar Gymru. Ond rwy'n mynd yn ôl at yr hyn yr oeddwn i'n ei ddweud—ni allwch chi ei wneud ar wahân. Mae gormod o gyd-ddibyniaethau i wneud hynny. Mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo i gael ymchwiliad y DU gyfan, ac rwy'n credu yn llwyr y bydd y craffu hwnnw yn cyrraedd y lefel sydd ei hangen arnoch chi.
Ar ran Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gadewch i mi barhau â'r thema honno, a chloddio ychydig yn ddyfnach os caf i. Ers dros flwyddyn bellach, mae Plaid Cymru wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus ar gyfer Cymru yn unig. Mae eich Llywodraeth—ac rydych chi wedi ei gadarnhau nawr—wedi dewis cael pennod neu benodau yn trafod Cymru mewn ymchwiliad y DU gyfan. Rwy'n credu yn gwbl onest bod hynny yn eich gadael yn agored i'r cyhuddiad o osgoi craffu. Os ydych chi'n cymryd cyfrifoldeb, mae'n rhaid i chi fod yn barod i gael eich barnu ar sail eich gweithredoedd, da a drwg. Nawr, wrth gwrs, ceir y mater hefyd bod Boris Johnson ei hun yn San Steffan yn osgoi craffu wrth betruso ynghylch pryd i ddechrau ymchwiliad y DU gyfan. Mae'n amlwg nad yw ar frys i sefydlu'r ymchwiliad hwnnw ar gyfer y DU gyfan. Mynnodd Syr Robert Owen, y barnwr a gadeiriodd yr ymchwiliad cyhoeddus i farwolaeth Alexander Litvinenko, yn ddiweddar bod angen i'r gwaith ddechrau ar unwaith, a bod adroddiad sy'n cael ei oedi am amser maith yn golygu nad yw'n cyflawni swyddogaeth ddefnyddiol. A ydych chi'n cytuno â hynny?
Rwy'n credu bod angen cynnal yr ymchwiliad yn weddol fuan. Nid wyf i'n credu bod hynny yn osgoi craffu; rwy'n siŵr y bydd y sylw yn gadarn iawn ar bob un o'r pedair gwlad. Nid wyf i'n meddwl y gallaf i ychwanegu unrhyw beth o ran barn y Prif Weinidog at yr hyn a ddywedais yn fy atebion i Andrew R.T. Davies. Yn amlwg, yng Nghymru, rydym ni wedi cynnal adolygiad. Mae'r Gweinidog iechyd wedi arwain, o fewn ei hadran hi—neu mae swyddogion wedi arwain o fewn ei hadran hi—pan edrychwn ni ar yr hyn a ddigwyddodd yn y don gyntaf, ac yna yn amlwg yn yr ail don ar hyn o bryd. Ond nid wyf i'n credu, am y rhesymau yr wyf i wedi eu datgan eisoes, bod ymchwiliad penodol i Gymru—. Ond yn sicr nid wyf i'n credu bod hynny yn osgoi craffu.
Rydych chi ei eisiau yn weddol fuan, ond gadewch i mi fod yn eglur: trwy wrthod ymchwiliad penodol i Gymru, rydych chi'n cytuno i bob pwrpas â'r oedi hwnnw, ac mae'n anochel y bydd y sylw ar yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru yn gwanhau o geisio cyfeirio'r sylw hwnnw, gyda'r un manylder fforensig, ledled y DU gyfan. Mae angen i ni ateb cwestiynau am yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Ddeuddydd yn ôl, ymunodd y Coleg Nyrsio Brenhinol â'r GMB ac eraill i alw ar Lywodraeth yr Alban i lansio ymchwiliad ar wahân ar gyfer yr Alban—yr un egwyddorion yn y fan yna. Pe byddai galwadau am ymchwiliad ar wahân ar gyfer Cymru yn cael eu gwneud gan gyrff blaenllaw sydd â'r genhadaeth o gynrychioli buddiannau gweithwyr iechyd a gofal a chleifion yma, beth fyddai eich neges iddyn nhw?
Fel y dywedais, nid wyf i'n credu y gallaf i ddweud unrhyw beth arall. Fe'i gwnaed yn eglur iawn gan y Prif Weinidog ei fod yn credu mai ymchwiliad y DU gyfan sydd orau, ar gyfer y rhyngddibyniaethau yr wyf i newydd eu hesbonio. Nid wyf i'n credu y gallwch chi byth gyhuddo'r Prif Weinidog, nac unrhyw un arall o'm cyd-Weinidogion, o beidio â bod yn agored i graffu. Eisteddasom drwy'r llynedd. Pan nad oedd Llywodraeth y DU yn eistedd, roeddem ni'n eistedd; roeddech chi'n gallu craffu ar bob un Gweinidog. Rwy'n tybio, pan fydd yr ymchwiliad hwn yn cael ei gynnal—a gwn fod y Prif Weinidog yn credu na ddylai fod yn rhywbeth sy'n cael ei roi o'r neilltu; yn amlwg, mae angen atebion ar bobl. Ond ar hyn o bryd mae pwyslais pob Llywodraeth ar ymdrin â'r pandemig. Rydym ni'n gwybod beth sy'n dod i lawr y ffordd, onid ydym ni? Rydym ni'n gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o'r feirws ar hyn o bryd. Felly, mae arnaf i ofn nad oes gen i unrhyw beth arall i'w ychwanegu ynghylch ymchwiliad pedair gwlad y DU y mae'r Prif Weinidog wedi cytuno iddo.
Nid oes dim byd o'i le ar gael ymchwiliad yn edrych ar sut yr oedd y rhyngddibyniaeth yn gweithio. Rydych chi'n dweud na allaf i gyhuddo Llywodraeth Cymru o osgoi craffu ar hyn. Gadewch i mi ei gwneud hi'n gwbl eglur: rwy'n cyhuddo Llywodraeth Cymru o osgoi'r craffu mwyaf trwyadl posibl ar hyn drwy wrthod ymchwiliad Cymru yn unig. Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yr ydym ni wedi clywed cyfeiriadau atyn nhw eisoes, am y ffaith fod chwarter y marwolaethau COVID yng Nghymru o ganlyniad i heintiau a ddaliwyd yn bendant neu fwy na thebyg yn yr ysbyty—siawns bod hynny ar ei ben ei hun yn deilwng o ymchwiliad sy'n benodol i Gymru.
Yn gynnar yn y pandemig, gofynnais i Lywodraeth Cymru wrando ar bledion gan feddygon a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yng Nghymru i gyflwyno trefn gwisgo masgiau eang mewn ysbytai—galwadau a wrthwynebwyd, yn rhyfeddol, ar y pryd. Wel, heddiw, bydd rhai o'r un meddygon a gweithwyr iechyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru mewn llythyr agored sefydlu ymchwiliad ymdrin â COVID penodol i Gymru ar unwaith, er mwyn craffu yn briodol ar benderfyniadau a wnaed fel y gellir dysgu gwersi nawr. Mae eich Llywodraeth wedi dweud, a hynny'n briodol, y byddwch chi'n dilyn yr wyddoniaeth wrth wneud penderfyniadau. A wnewch chi nawr ddilyn cyngor y meddygon hyn?
Nid wyf yn ymwybodol o'r llythyr yr ydych chi'n cyfeirio ato. Rwy'n tybio ei fod wedi ei gyfeirio at y Prif Weinidog a bydd y Prif Weinidog yn amlwg yn ymateb i hynny. Ond gadewch i mi ddweud bod y GIG yng Nghymru wedi gweithio yn eithriadol o galed drwy gydol y pandemig hwn, ac rydym ni fel Llywodraeth wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i'w gynorthwyo—os meddyliwch chi am y miliynau ar filiynau ar filiynau o ddarnau o gyfarpar diogelu personol y gwnaethom ni sicrhau eu bod nhw yn ein hysbytai ac yn ein cartrefi gofal. O ran 'A wnawn ni ddilyn cyngor meddygon Cymru?', dydw i ddim yn gwybod pwy yw'r meddygon hyn, nid wyf i'n gwybod dim am y llythyr hwnnw, ond rwy'n gwybod, fel bob amser, y bydd y Prif Weinidog yn ymateb i unrhyw lythyr y mae'n ei dderbyn.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynaliadwyedd y sector twristiaeth yng ngogledd Cymru? OQ56750
Diolch. Cyhoeddwyd ein cynllun adfer twristiaeth, 'Dewch i Lunio'r Dyfodol', yn gynharach eleni. Mae'r cynllun yn amlinellu dull o weithio mewn partneriaeth i ailadeiladu dyfodol cadarn i'n heconomi ymwelwyr. Bydd pecynnau cymorth ariannol a dychwelyd at farchnata rhagweithiol Croeso Cymru yn cynorthwyo'r sector drwy'r misoedd nesaf.
Dwi'n falch eich bod chi'n sôn am sicrhau dyfodol cydnerth i'r sector, oherwydd wrth gwrs mae twristiaeth yn sector gwbl allweddol i ni yng ngogledd Cymru, fel mae e mewn rhannau eraill, wrth gwrs. Ond mae cael y cydbwysedd cywir yna rhwng twristiaid sy'n dod â budd i'n cymunedau ni, a gordwristiaeth, sy'n dod ag effeithiau negyddol, lle mae'r isadeiledd lleol yn methu dygymod â'r galw, yn rhywbeth gwbl allweddol. Ar ôl gweld effaith tipyn o ordwristiaeth mewn rhai ardaloedd o ogledd Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cael y drafodaeth ehangach yna ynglŷn â beth rŷm ni eisiau ei gael allan o dwristiaeth yn bwysig—y sgwrs genedlaethol ynglŷn ag at fudd pwy ac at ba bwrpas ŷn ni eisiau tyfu'r sector. Felly, a fyddech chi'n cytuno â fi ei bod hi'n bwysig cynnal y drafodaeth honno cyn mynd ati i greu parc cenedlaethol newydd arall yng ngogledd Cymru a allai, wrth gwrs, arwain at ailadrodd rhai o'r problemau o safbwynt gordwristiaeth rŷm ni eisoes yn eu gweld yn y gogledd?
Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn am gydbwysedd. Dylwn i ddweud bod y parc cenedlaethol newydd ym maniffesto'r Blaid Lafur y cawsom ni ein hethol ar ei sail ym mis Mai. Mae'n rhaid i mi ddweud, ac rwy'n siŵr y bydd Llyr yn cytuno â hyn, yn sicr ar garreg y drws, roedd yn rhywbeth yr oedd pobl eisiau sôn amdano, felly rwy'n credu bod pobl yn teimlo cyffro ynglŷn ag ef. Ond rydych chi yn llygad eich lle; mae angen i ni sicrhau'r cydbwysedd hwnnw. Yn sicr, rwy'n credu, yr haf diwethaf, ac efallai ar ddechrau'r pandemig hefyd, fe wnaethom ni weld—. Yn Eryri, er enghraifft, gwn fod problemau yn ymwneud â phobl a oedd eisiau cerdded. Roedd yn bwysig iawn i ni gael yr ymgyrch ymddygiadol honno, Addo. Mae'r sector wedi ei chroesawu yn fawr i annog ymddygiad cyhoeddus cadarnhaol, fel y gallwn ni ailagor ein sector twristiaeth mewn ffordd ddiogel. Rwy'n credu y bydd hynny hefyd yn cefnogi twristiaeth gyfrifol wrth i ni ddod i gyfnod yr haf nawr. Ac, fel y dywedais, mae gennym ni ymgyrchoedd marchnata rhagweithiol Croeso Cymru. Mae hwythau wrth law i gefnogi'r sector dros y misoedd nesaf hefyd.
Gweinidog, un o'r pryderon a godwyd gyda mi gan fusnesau twristiaeth a lletygarwch fu'r diffyg cymorth ariannol i'r busnesau hynny y mae'n ofynnol i'w staff hunanynysu—busnesau bach dros ben yn aml. Er enghraifft, roedd gen i dafarn yn fy etholaeth fy hun yn ddiweddar lle y profodd un aelod o staff yn bositif ar gyfer y coronafeirws ac, o ganlyniad, cafodd bob aelod o'r staff neges gyswllt wedyn i ddweud bod angen iddyn nhw hunanynysu. Roedd hynny'n golygu bod yn rhaid i'r busnes hwnnw gau wedyn drwy gydol y cyfnod hunanynysu ac nad oedd ganddo incwm. Roedd yn rhaid iddo ganslo ei holl archebion. Ac eto, nid oes cymorth ariannol ar gael i fusnesau o dan yr amgylchiadau hynny. Pa ystyriaeth y gwnaiff Llywodraeth Cymru ei rhoi i greu rhyw fath o rwyd diogelwch i fusnesau sydd yn y sefyllfa benodol honno, yn enwedig y busnesau bach hynny fel gweithredwyr twristiaeth a busnesau lletygarwch yn fy etholaeth i yr effeithiwyd arnyn nhw fel hyn?
Rwy'n credu bod hwnnw yn bwynt pwysig iawn, oherwydd rydym ni eisiau i bobl hunanynysu, onid ydym ni, felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gallu eu cynorthwyo cystal ag y gallwn. Yn amlwg, mae busnesau'r gogledd wedi cael swm sylweddol o gyllid, yn enwedig o'r gronfa cadernid economaidd unigryw i Gymru. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw drafodaethau y mae Gweinidog yr Economi yn eu cael ynglŷn â hynny, ond rwy'n siŵr ei fod yn y Siambr i glywed eich sylwadau.
Gweinidog, byddwch yn ymwybodol o bwysigrwydd y sector twristiaeth treftadaeth i'r gogledd. Mae'n hanfodol bwysig mewn nifer o ardaloedd yn Ne Clwyd, gan gynnwys yn Llangollen ac ym Mrymbo. Gweinidog, a allech chi ymrwymo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i fuddsoddi yn y sector twristiaeth treftadaeth fel y gellir cynnal swyddi yn y dyfodol ac y gellir creu mwy o swyddi?
Diolch. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn o'r dreftadaeth ddiwydiannol eithriadol sydd gennym ni yn ein rhan ni o'r gogledd-ddwyrain ac ar draws y gogledd i gyd. Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol bod swyddogion Cadw wedi bod yn rhan allweddol o'r grŵp sydd wedi bod yn edrych ar yr enwebiad ar gyfer tirwedd lechi'r gogledd-orllewin. Mae wedi cael ei enwebu fel safle treftadaeth y byd ac rwy'n deall y bydd penderfyniad naill ai yn ddiweddarach y mis hwn neu'n sicr y mis nesaf. Os bydd UNESCO o'r farn ei fod, bydd yn llwyddiannus iawn gan ymuno â thraphont ddŵr a chamlas Pontcysyllte yn eich etholaeth eich hun fel ail safle diwydiannol treftadaeth y byd, ac rydym ni'n sicr yn dymuno'n dda iddyn nhw gyda hynny.
O ran Brymbo, rwyf i wedi ymweld â safle treftadaeth y gwaith haearn—unwaith eto, mae hwnnw yn eich etholaeth chi—ac rydym ni wedi bod yn rhan o drafodaethau clos ynghylch caniatáu rhyddhau cyllid i'w cefnogi. Rydym ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol ar adnoddau addysgol i hyrwyddo'r dreftadaeth ddiwydiannol yn Nyffryn Maes Glas, ychydig dros y ffin oddi wrthym ni yn sir y Fflint.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r seilwaith trafnidiaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ56740
Rydym ni'n gwella'r A40 rhwng Llanddewi Felffre a Chroes Redstone. Mae'r contractwr wedi dechrau ar y safle, gan wneud gwaith arolygu ecolegol ac ymchwilio tir paratoadol. Ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, rydym ni hefyd wedi darparu dros £5.5 miliwn i Gyngor Sir Gaerfyrddin a £3.7 miliwn i Gyngor Sir Penfro drwy ein cronfa drafnidiaeth leol.
Diolch, Trefnydd. Roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n sôn am ffordd osgoi'r A40 yn Llanddewi Felffre, ac roeddwn i'n falch o gael sicrwydd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y bydd y prosiect hwn yn mynd rhagddo, er gwaethaf cyhoeddiad y Llywodraeth fis diwethaf am yr oedi i adeiladu ffyrdd. Fodd bynnag, er bod y Dirprwy Weinidog wedi fy sicrhau ynghylch cloddwyr ar lawr gwlad, nid wyf i na'r bobl leol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro sydd yn ymyl y prosiect yn gallu gweld lle mae'r cloddwyr hyn yn gweithredu. A fyddai'n bosibl i chi roi gwybod i ni ym mhle y mae'r gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd fel y gallaf i roi sicrwydd i'm hetholwyr y bydd y prosiect hwn yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl?
Yn sicr, mae fy mhapurau briffio yn dweud bod cloddwyr ar lawr gwlad—ymrwymodd Alun Griffiths (Contractors) Ltd i'r contract ganol fis diwethaf—ond byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch gyda'r lleoliad penodol.
Yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, mae'r ffordd A40 rhwng Caerfyrddin a Sanclêr yn un o'r hewlydd mwyaf peryglus yng Nghymru. Rhwng Ionawr 2010 ac Awst 2019, bu 359 o ddamweiniau ar y ffordd yma, gyda rhyw chwarter ohonyn nhw yn arwain at anafiadau, gan gynnwys marwolaeth merch pedair oed. Mae'r un darn o'r heol wedi gweld dau ddigwyddiad arall dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda marwolaethau dyn 20 oed ym mis Medi 2020 a phlismones 37 oed ym mis Chwefror eleni.
Nawr, mae'n amlwg bod angen gwneud rhywbeth ar frys i wella'r sefyllfa ac i drio atal digwyddiadau tebyg i hyn rhag digwydd eto yn y dyfodol. Rwy'n deall bod astudiaeth arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru, neu WelTAG, cam 1 wedi'i chwblhau, ac mae hyn i'w groesawu, wrth gwrs, ond mae yna ohirio wedi bod ar yr astudiaeth. Yn dilyn y profiadau diweddar, mae pobl, wrth gwrs, yn awyddus iawn i weld gwelliannau'n digwydd, a hynny ar frys. Felly, Weinidog, faint o sicrwydd allwch chi roi i bobl yr ardal y bydd yna ddim oedi pellach wrth fynd i'r afael â'r problemau hyn? Pryd allwn ni ddisgwyl gweld gwaith yn dechrau i wella'r sefyllfa?
Mae'r Aelod yn sicr yn codi rhai ystadegau trist iawn yn ei gyfraniad. Nid wyf yn hollol siŵr a yw'r ffordd yr ydych chi'n cyfeirio ati yn rhan o'r cynllun A40 hwnnw, ond, yn amlwg, mae hwnnw ar y gweill. Byddwch yn ymwybodol o'r adolygiad y mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ei gynnal o ran ffyrdd. Rwy'n ymwybodol y bydd cadeirydd y panel yn cael ei gyhoeddi cyn toriad yr haf—cyn diwedd yr wythnos nesaf—ac mae'n disgwyl adroddiad. Rwy'n credu y bydd yr adroddiad interim ymhen tua thri mis ac yna'r adroddiad llawn naw mis yn ddiweddarach. Felly, os yw'n rhan o'r adolygiad hwnnw, dyna'r amserlen ar gyfer hynny.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad cleifion at ymgynghoriadau wyneb yn wyneb â chlinigwyr? OQ56755
Mae adrannau gofal sylfaenol a chleifion allanol ledled Cymru wedi mabwysiadu mesurau newydd i ddiogelu staff a chleifion. Maen nhw'n cynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau i gleifion gael defnyddio gwasanaethau drwy ddefnyddio technoleg ddigidol a thrwy ymgynghoriadau wyneb yn wyneb pan fo hynny'n briodol.
Diolch yn fawr am hynna, Gweinidog, er nad dyna brofiad llawer o'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent. Mae llawer o bobl yn ei chael hi'n fwyfwy anodd cael gafael ar ofal sylfaenol ar hyn o bryd. Nawr, rydym ni i gyd yn cydnabod y problemau a grëwyd gan y pandemig, ond ni all fod yn dderbyniol nad yw pobl yn gallu cael gafael ar y gofal a'r cymorth meddygol sydd eu hangen arnyn nhw. Yn syml iawn, Gweinidog, mae llawer gormod o bobl wedi eu cloi allan o ofal sylfaenol.
A wnaiff Llywodraeth Cymru adolygu nifer y staff sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol ledled Cymru ac adrodd yn ôl i'r Senedd? A wnaiff Llywodraeth Cymru fynnu ar safonau gofynnol ar gyfer gallu defnyddio ofal sylfaenol, fel bod pawb, lle bynnag y maen nhw'n byw, yn gallu gweld naill ai meddyg neu'r clinigydd sydd ei angen arnyn nhw i gael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw?
Diolch. Mae Alun Davies yn codi pwynt pwysig iawn yr wyf i'n siŵr ein bod ni i gyd yn ei adnabod o'n bagiau post fel Aelod o'r Senedd. Disgwylir i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghyd â'r pwyllgor ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru a'r byrddau iechyd, ysgrifennu, yr wythnos hon fwy na thebyg, i ail-bwysleisio i feddygon teulu beth yn union a ddisgwylir ganddyn nhw o ran cael gafael ar wasanaeth a sut y dylen nhw gyfleu unrhyw newidiadau i'r cyhoedd yn eglur, oherwydd, wrth gwrs, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall pa wasanaethau y mae eu meddygon teulu yn eu darparu.
Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn iawn i ddweud nad yw meddygon teulu wedi cau eu drysau; maen nhw wedi gweithio'r holl ffordd drwy'r pandemig ac maen nhw'n dal i fod ar agor ar gyfer busnes. Ond, wrth gwrs, i ddechrau, mae'r ymgynghoriadau dros y ffôn neu drwy fideo. Os ydyn nhw wedyn o'r farn ei fod yn briodol yn glinigol, bydd apwyntiad wyneb yn wyneb yn cael ei drefnu. Ond, rwy'n falch bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ysgrifennu’r llythyr ar y cyd hwnnw at feddygon teulu.
Gweinidog, mae llawer o bobl yn aros nid yn unig am driniaeth ond am apwyntiad gyda chlinigydd i asesu difrifoldeb eu cyflwr. Wrth gyflwyno rhaglen frechu COVID, daethpwyd a llawer o glinigwyr a oedd wedi ymddeol i mewn i ychwanegu capasiti pellach yr oedd wir ei angen i helpu i frechu pobl. A yw'r Llywodraeth wedi ystyried pa un a ellid dod â chlinigwyr sydd wedi ymddeol i mewn dros dro mewn rhai arbenigeddau i helpu i gael drwy'r asesiadau niferus sydd eu hangen nawr? Diolch.
Diolch. Rydym ni'n sicr wedi gweld clinigwyr sydd wedi ymddeol, a gwirfoddolwyr a nyrsys hefyd, yn ein helpu ni gyda'r rhaglen anhygoel i gyflwyno brechlynnau yma yng Nghymru, ac rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth y gall byrddau iechyd ei ystyried wrth i ni ddod allan o'r pandemig ac edrych ar yr ôl-groniad hwnnw, ac mae'n amlwg bod ôl-groniad. Ceir llawer o niwed o COVID, nid dim ond y brechlyn ei hun, ac un ohonyn nhw, yn anffodus, yw'r ôl-groniad o apwyntiadau a fydd gennym ni yn ein GIG.
Diolch, Drefnydd. Fel dŷch chi wedi sôn yn barod, fferyllwyr oedd yr unig broffesiwn gofal sylfaenol a gadwodd eu drysau’n agored yn ystod y pandemig yma. Roedd hyn, felly, yn golygu asesiad wyneb-yn-wyneb yn ystod y pandemig. Bellach, mae ymgynghori wyneb-yn-wyneb gan fferyllwyr cymunedol wedi cael ei normaleiddio yng ngwaith y gwasanaeth iechyd. Oni ddylai’r cytundeb fferyllwyr newydd sy’n cael ei negodi gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd adlewyrchu’r sefyllfa newydd yma yn llawn?
Rwy'n credu bod ein fferyllfa gymunedol a'n fferyllwyr yn eithriadol o bwysig yn GIG Cymru ac yn sicr pan oeddwn i'n Weinidog iechyd 10 mlynedd yn ôl, fe wnes i wir annog ein fferyllwyr. Rwy'n cofio iddyn nhw gynnal cynlluniau arbrofol i ni o ran dosbarthu'r brechlyn ffliw, er enghraifft, ac, rwy'n credu, ar y pryd, eu bod nhw wedi cael eu tanddefnyddio yn y modd yn sicr nad ydyn nhw ar hyn o bryd. Byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr bod y Gweinidog iechyd yn ymwybodol o'r materion yr ydych chi'n eu codi wrth iddi edrych ar y contract ar hyn o bryd.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y broses ar gyfer derbyniadau i ysgolion yng Ngorllewin De Cymru? OQ56746
Awdurdodau lleol yw'r awdurdodau derbyn ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion. Awdurdodau derbyn sy'n gyfrifol am bennu trefniadau derbyn ac unrhyw feini prawf ar gyfer gor-alw, a sicrhau eu bod nhw'n cael eu gweithredu yn briodol a'u defnyddio yn deg. Wrth ymgymryd â'u swyddogaethau o ran derbyniadau i ysgolion, mae'n rhaid i awdurdodau derbyn weithredu yn unol â'r cod derbyniadau i ysgolion.
Diolch, Gweinidog, am yr ateb yna. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod COVID-19 wedi dod â nifer sylweddol o heriau ychwanegol i ysgolion uwchradd, ac mae ysgolion uwchradd a'u staff a'u disgyblion wir wedi ymateb i'r her. Ond mae gor-alw wedi bod yn broblem barhaus ers cyn y pandemig, ac ar adeg pan fo ysgolion a disgyblion o dan bwysau sylweddol mae hyn yn bwysau ychwanegol annymunol. Felly, eleni mae llawer o ysgolion yn Abertawe yn gorfod ymdrin â mwy o geisiadau nag y gallant ymdopi â nhw, gan orfodi rhieni a disgyblion yn aml i wneud y tro ag ysgol ail neu drydydd dewis. Felly, yn Abertawe, er enghraifft, cafodd 10 o'r 14 ysgol uwchradd fwy o geisiadau nag sydd ganddyn nhw o leoedd. Cafodd ysgol Olchfa 439 o geisiadau i gofrestru ym mis Medi, â dim ond 289 o leoedd ar gael. Yn y cyfamser, bu'n rhaid i ddwy ran o dair o ysgolion dderbyn mwy o ddisgyblion na'u niferoedd derbyn gwreiddiol. Felly, a gaf i ofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i sicrhau bod mwy o rieni a disgyblion yn Abertawe a ledled Cymru yn cael eu dewis cyntaf o le mewn ysgol?
Wel, mater i'r awdurdod lleol yw sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o leoedd, ac mae amrywiaeth o ysgolion—ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg, ysgolion ffydd ac ysgolion nad ydyn nhw'n rhai ffydd—ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd. Wrth gwrs, bydd gennych chi rai ysgolion sy'n fwy poblogaidd nag eraill bob amser, felly bydd lleoedd gwag mewn rhai ac nid mewn eraill. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru nad oes ganddo ddigon o leoedd ar hyn o bryd.
7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd ar drywydd datganoli gweinyddu lles? OQ56748
Croesawodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well', a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ym mis Hydref 2019. Yn dilyn argymhellion y pwyllgor, rydym ni'n gwella'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau lles a byddwn yn parhau i archwilio sut y byddai datganoli'r system fudd-daliadau ymhellach yn gwella canlyniadau i bobl yng Nghymru.
Diolch am yr ateb yna, Trefnydd. Mae nifer fawr o randdeiliaid wedi awgrymu y gallai datganoli'r broses o weinyddu lles gynnig cyfle i greu system fwy tosturiol. Dywedodd y comisiynydd pobl hŷn, er enghraifft, bod dull yr Alban wedi helpu i symud tybiaethau oddi wrth rhai o stigma a baich yn gysylltiedig â'r system. Gallai datganoli i Gymru ganiatáu i ni wneud yr un peth.
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru, fel y mae'r Trefnydd yn gwybod, rwy'n siŵr, wedi archwilio'r goblygiadau ariannol i Gymru o ddatganoli'r un pecyn o fudd-daliadau sydd wedi cael eu datganoli i'r Alban, ac ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth ganddyn nhw i awgrymu y byddai datganoli'r pwerau hyn yn anghynaladwy yn gyllidol. Yn wir, dywedasant, yn dibynnu ar y dull Barnett a ddefnyddiwyd a natur y cytundeb rhynglywodraethol, y gallai Trysorlys Cymru elwa'n sylweddol ar ddatganoli pwerau lles.
Os yw Llywodraeth Cymru yn awyddus i gynorthwyo ac amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, yna byddwn yn erfyn ar y Llywodraeth i geisio pwyso am ddatganoli'r broses o weinyddu lles yn ystod hanner cyntaf y tymor hwn. Ni allwn fforddio i aros i Lywodraeth fwy blaengar fod ar gael ar ben arall yr M4—gallwn newid bywydau pobl a gallwn amddiffyn pobl yn y fan yma, nawr, o'r lle hwn, a byddwn yn gobeithio y byddai Llywodraeth Lafur Cymru yn rhannu'r uchelgais hwnnw hefyd.
Wel, rwy'n sylweddoli y gallai datganoli pwerau penodol yn ymwneud ag elfennau o nawdd cymdeithasol roi amrywiaeth ehangach o ddulliau i ni fynd i'r afael â thlodi; rwy'n sicr yn credu y byddem ni'n Llywodraeth lawer mwy tosturiol na Llywodraeth y DU. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n asesu yn ofalus sut y bydd unrhyw newidiadau hirdymor i nawdd cymdeithasol, gan gynnwys datganoli budd-daliadau lles, yn cael eu hariannu. Nid oes unrhyw ddiben mewn cael y pwerau heb y cyllid. Rydym ni wedi cael ein dal ormod o weithiau, fel Llywodraeth, o ran pwerau yn dod atom ni. Rwy'n cofio cynllun lleihau'r dreth gyngor—ac mae'r Gweinidog cyllid yn gwenu arnaf i—wyddoch chi, mae'r grym wedi dod draw ond nid y cyllid. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod hynny.
Ac, wrth gwrs, rydym ni mewn cyfnod anodd dros ben. Nawr, rydym ni wedi cael cyfnodau anodd o'r blaen, ar ôl degawd o gyni cyllidol gan Lywodraeth y DU, ond mae pandemig COVID-19 wedi cynyddu'r heriau hynny. Felly, rwy'n credu y byddem ni'n wyliadwrus iawn o ran cytuno ar unrhyw newidiadau i'r system nawdd cymdeithasol, ac mae hynny yn cynnwys datganoli budd-daliadau lles ar hyn o bryd. Rwy'n credu mai'r peth iawn nawr yw canolbwyntio ar wneud yn siŵr—oherwydd mae'r ysgogiadau gennym ni i wneud hyn—ein bod ni'n canolbwyntio ar wneud yn siŵr ein bod ni'n gwella canlyniadau i'r rhai sydd wedi cael eu taro galetaf gan y pandemig a bod pobl yn ymwybodol o'r cymorth ariannol sydd ar gael iddyn nhw, a dyna oedd un o'r argymhellion a ddaeth allan o adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Wel, fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a luniodd yr adroddiad 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well' y llynedd, clywsom, yn yr Alban, fod datganoli'r broses weinyddu, yn enwedig asesiadau o rai budd-daliadau, wedi sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol lwyr yn yr Alban. Ond nododd ein hadroddiad hefyd bod yn rhaid cydbwyso
'gwobr bosibl darparu gwasanaethau sy’n gweddu’n well i anghenion penodol Cymru'
yn erbyn y
'posibilrwydd o dorri’r undeb cymdeithasol'
ledled y DU, sy'n sail i'r
'egwyddor bod gan holl ddinasyddion y DU hawl gyfartal i’r wladwriaeth les,a bod budd-daliadau a beichiau’n dibynnu ar angen ac nid daearyddiaeth.'
Pan drafodwyd yr adroddiad hwn gennym ni fis Medi diwethaf, croesawais y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion, y dylai sefydlu
'“system fudd-daliadau Gymreig” gydlynol ac integredig ar gyfer yr holl fudd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd y mae’n gyfrifol amdanynt...[wedi] eu cyd-gynhyrchu gyda phobl sy’n hawlio’r budd-daliadau hyn a’r cyhoedd ehangach yng Nghymru'
a'i fod yn defnyddio pecyn cymorth dull bywoliaethau cynaliadwy Oxfam, gan gydnabod bod
'gan bawb alluoedd ac asedau y gellir eu defnyddio i wella eu bywydau',
ac ychwanegu,
'Mae angen i ni droi geiriau yn weithredu go iawn yn awr fel bod pethau'n cael eu gwneud gyda phobl o'r diwedd yn hytrach nag iddyn nhw.'
Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd ers hynny i droi ei geiriau yn weithredu go iawn—[Anghlywadwy.]
Wel, fel y soniais, fe wnaethom groesawu yn fawr argymhellion yr adroddiad hwnnw, ynglŷn â sicrhau ein bod ni'n defnyddio'r ysgogiadau a oedd gennym ni, i wneud yn siŵr bod pobl ledled Cymru yn deall yr holl gymorth ariannol sydd ar gael iddyn nhw. Rwy'n falch iawn bod gweithredu'r cynllun gweithredu pwyslais ar incwm tlodi plant Llywodraeth Cymru wedi helpu i gynyddu incwm pobl ledled Cymru i'r eithaf.
Cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yr adroddiad ar gynnydd y cynllun gweithredu hwnnw—yr wythnos diwethaf oedd hi rwy'n credu—ac un canlyniad oedd bod y rhaglen o gyngor a chymorth pwyslais ar incwm wedi'u targedu yn golygu y cynorthwywyd pobl i hawlio incwm ychwanegol o bron £2.5 miliwn. Mae mynd i'r afael â thlodi a darparu ar gyfer y rhai mwyaf anghenus yn sicr yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon yng Nghymru, ac mae diwygiadau blaenorol i'r system nawdd cymdeithasol wedi codi problemau yma yng Nghymru, ac rydym ni'n parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU. Gwn fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol dim ond yr wythnos diwethaf, ynghylch y swm atodol i'r £20, ac i geisio cadw hwnnw, fel y gwnaeth chwe Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol blaenorol.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Rhianon Passmore.
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraddau brechu COVID-19 yn Islwyn? OQ56757
Diolch. Mae ein rhaglen frechu ledled Cymru gyfan yn parhau i wneud cynnydd rhagorol. Mae cyflwyniad brechiadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan hefyd yn parhau i fod yn llwyddiannus ar gyfer dos cyntaf ac ail ddos y brechiad ar draws ei ddalgylch.
Diolch. Agorodd canolfan frechu dorfol Trecelyn ei drysau ddydd Sadwrn diwethaf ar gyfer clinig galw i mewn i'r holl oedolion hynny yn Islwyn nad ydyn nhw wedi cael dos cyntaf hyd yma. Mae Gweinidog iechyd Cymru, Eluned Morgan, wedi dweud yn gywir y bydd yn rhaid i ni fyw gyda'r feirws. Er hynny, mae llwyddiant ysgubol cyflymder cyflwyno brechiadau yng Nghymru, diolch i'n GIG yng Nghymru, wedi rhoi amddiffyniad anhygoel i ni, ac eto, fel y mae Syr Patrick Vallance, prif gynghorydd gwyddonol y DU, wedi rhybuddio, mae'r data yn awgrymu bod y cysylltiad rhwng achosion coronafeirws a derbyniadau i'r ysbyty wedi cael ei wanhau, ond nid ei dorri yn llwyr. Hyd yma, mae 2,264,974 o bobl yng Nghymru wedi cael o leiaf un brechlyn coronafeirws, ac mae 1,730,632 wedi cael y ddau ddos. Gweinidog, beth allwn ni ei wneud i godi'r cyfraddau brechu ymhellach yn Islwyn a Chymru, a sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y byddwn ni'n symud ymlaen yn ofalus i gadw Cymru yn ddiogel?
Diolch. Mae ein rhaglen frechu wedi bod yn bleser ei weld, onid yw? Ac rwy'n siŵr bod llawer ohonom ni wedi ymweld â'n canolfannau brechu lleol ac wedi gweld y gwaith anhygoel sydd wedi'i wneud i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl wedi cael eu dos cyntaf a'u hail ddos. Rwy'n credu bod gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae o ran annog ein hetholwyr i fanteisio ar y brechlyn, ac yn sicr rwy'n gwybod fod Betsi Cadwaladr wedi ysgrifennu atom ni fel ASau i weld beth y gallwn ni ei wneud i annog pobl, ac rwy'n credu y gall pawb ledled Cymru wneud hynny. Rwy'n ymwybodol bod bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi cael clinigau galw i mewn ar gyfer y dosau cyntaf, ac fel sonioch chi am yr un yng nghanolfan hamdden Trecelyn, lle cafodd cannoedd o frechlynnau eu gweinyddu dros y penwythnos. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod pob bwrdd iechyd yn gweithio gydag arweinwyr cymunedol i sicrhau ein bod ni'n rhaeadru'r negeseuon hynny i lawr, boed hynny ar lafar, neu gan ein cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n credu, unwaith eto, fod cael canolfannau brechu y gallwch chi gerdded i mewn iddynt yn bwysig iawn, ac yn sicr rydym ni'n gweld mwy o'r rheini ledled Cymru. Darllenais i rywbeth neithiwr hefyd am ragor o wirfoddolwyr yn dod i mewn, oherwydd, i'r rheini ohonom sydd, yn amlwg, wedi bod i ganolfannau brechu ein hunain, rydym wedi gweld y gwirfoddolwyr niferus sydd wedi helpu i gynnal y clinigau brechu mor hwylus.
Diolch i'r Trefnydd ar ran y Prif Weinidog. Cyn inni symud ymlaen i'r eitem nesaf, os caf i jest atgoffa Aelodau nad yw baneri yn gefndir ar Zoom yn dderbyniol. Dwi'n gweld bod yr Aelod a wnaeth hynny ddim bellach yn y cyfarfod Zoom, ond os caf ofyn i gynrychiolydd o Blaid Cymru siarad gyda'r Aelod hwnnw, ac i sicrhau nad yw'r faner yna ar gyfer y tro nesaf y mae'r Aelod yna'n disgwyl i siarad yn y ddadl.
Felly, y datganiad a chyhoeddiad busnes. Fe wnaf i gyflwyno'r eitem yn araf iawn fel bod y Trefnydd yn cael cyfle i gymryd llwnc o ddŵr. Felly, y datganiad yna sydd nesaf; y Trefnydd i gyflwyno, felly, nawr, y datganiad busnes.
Diolch, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes heddiw: bydd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn cyflwyno'r datganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol; bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ar fforddiadwyedd, ail gartrefi a'r iaith Gymraeg, ac yn olaf, bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gwneud datganiad ar ddiwygio'r cwricwlwm—y camau nesaf. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Gweinidog, a gaf i alw am ddatganiad ynghylch bioamrywiaeth a'i ddiogelwch yng nghyd-destun torri coed mewn coedwigoedd sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru? Cysylltwyd â mi, fel pencampwr y wiwer goch, ynglŷn â thorri coed mewn 17 erw yng Nghoedwig Pentraeth ar Ynys Môn. Mae hyn yn cythruddo cefnogwyr y wiwer goch yn fawr—Ymddiriedolaeth Goroesi'r Wiwer Goch ac arbenigwyr gwiwerod coch fel Dr Craig Shuttleworth—sy'n credu y bydd hyn yn bwrw ymdrechion cadwraeth ar yr ynys yn ôl o leiaf ddegawd. Nawr, dyma un o ychydig gadarnleoedd y gwiwerod coch, gan gynnwys rhannau eraill o Gymru, wrth gwrs, ond dyma'r ardal gryfaf ar gyfer y wiwerod coch yn y wlad, a byddwn i wedi tybio bod angen sicrhau bod unrhyw goed a gaiff eu torri ar dir Llywodraeth Cymru mewn ardaloedd fel hyn yn cael ei wneud mewn ffordd nad yw'n peryglu'r ymdrechion cadwraeth a wnaed. Mae'r ymddiriedolaeth gwiwerod wedi bod yn galw am ymyrraeth y Gweinidog i atal hyn—[Torri ar draws.] —i atal y torri coed hwn rhag digwydd. Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n ei chael hi'n anodd canolbwyntio oherwydd clebran o feinciau'r Blaid. Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn canolbwyntio.
Fe wnaf i eich atgoffa chi o hynny, y tro nesaf y byddwch chi'n clebran yn y Siambr, Darren Millar. [Chwerthin.]
Touché, touché. Touché, touché.
Ond ewch ymlaen.
Ond pwynt y mater yw bod angen ymyrraeth weinidogol arnom i atal y torri coed hwn rhag digwydd, a chyfnewid yr ardal hon am gynllun nad yw'n bygwth y rhywogaeth arbennig bwysig ac eiconig hon o Gymru.
Diolch, Llywydd. Roeddwn i'n mynd i ddweud bod y badell ffrio’n gweld y sosban yn fudr ar ddechrau fy nghyfraniad. Roedd gennyf i deimlad efallai y byddai gwiwerod coch yn codi heddiw, ac yn sicr, rwy'n ymwybodol bod y cynllun gweithredu adfer natur yn nodi blaenoriaethau ac mae hyn yn rhan o hynny. Mae'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur ar hyn o bryd ar gam cyntaf casglu data cychwynnol ei adolygiad o ddiogelu rhywogaethau, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn aros am argymhellion yr adolygiad hwnnw ac, yn amlwg, bydd y grŵp rhyngasiantaethol, sy'n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, yn destun ymgynghoriad. Felly, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog wedi clywed eich cyfraniad ac y bydd yn ystyried hynny—y safbwyntiau hynny—pan fydd yn ystyried yr argymhellion.
Trefnydd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi cael gwybod am brofiadau pobl ar deithiau trên, lle nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel am nad oedd pobl yn cadw pellter cymdeithasol ac nad oedd pobl yn cael eu hatgoffa i wisgo masgiau wyneb. Mae fy nghyd-Aelod yn San Steffan Hywel Williams wedi gweld sesiwn friffio fewnol yn cael ei rhoi i staff Trafnidiaeth Cymru sy'n dweud wrthyn nhw am beidio â gorfodi cadw pellter cymdeithasol. Mae hyn yn anniogel i deithwyr; mae hefyd yn anniogel i bobl sy'n gweithio ar y trenau. Mae llawer o bobl yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y gwaith; nid oes ganddyn nhw unrhyw ddewis ond mynd ar y trenau gorlawn hyn. Fel y gwyddom, mae'r masgiau yn cadw'r sawl sy'n eu gwisgo'n ddiogel, ond hefyd yn bennaf maen nhw i fod cadw pawb arall yn ddiogel, ac os nad yw pobl yn cael eu hatgoffa i wisgo masgiau mewn mannau dan do, pobl eraill sy'n cael eu rhoi mewn perygl. Felly, hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, gan Lywodraeth Cymru yn ymdrin â'r pryderon hyn ac yn dweud wrthym sut y byddant yn sicrhau bod gweithredwyr trenau'n ystyried cymryd pellter cymdeithasol a gwisgo masgiau yn fater mwy difrifol.
Diolch. Mae hyn, yn amlwg, yn dod yn fwy o broblem, ac fel rhywun sy'n defnyddio'r gwasanaethau rheilffordd—teithiais i Gaerdydd ddoe, ac, er nad oedd y trên yn sicr yn orlawn, roedd ychydig o bobl nad oedden nhw'n gwisgo masgiau. Fel y dywedwch, mae'n fater o ddiogelu pobl eraill, ac rwy'n credu bod angen i bob un ohonom ni fod yn llawer mwy ystyriol o bobl eraill. Rydym ni'n dal i ddweud bod masgiau wyneb yn orfodol ac y dylem ni gadw pellter cymdeithasol bob amser os oes modd. Mae'n amlwg y bydd hyn yn rhan o'n hadolygiad 21 diwrnod, a byddwn ni'n parhau i edrych ar hyn, ac rwy'n gwybod fod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ymwybodol o'r pryderon a'i fod yn cael trafodaethau â Thrafnidiaeth Cymru, yn benodol, ac rwy'n gobeithio y daw mwy o wybodaeth gan Drafnidiaeth Cymru.
Alun Davies. Alun Davies.
Nid yw'n ymddangos bod y dechnoleg yn gweithio y prynhawn yma, Llywydd, o ran tawelu a dad-tawelu aelodau . A gaf i—
Na, mae'n ymddangos bod—. Ymddiheuraf; mae'n ymddangos bod gennych chi broblem benodol, Alun Davies. [Chwerthin.] Nid yw hynny'n sylw personol, gyda llaw; dim ond mater o eglurhad i'r Aelodau eraill.
Yn amlwg, mae'n cael ei reoli gan y Llywodraeth. [Chwerthin.] A gawn ni ddatganiad o ran strategaeth y Llywodraeth ar gyfer ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty, os gwelwch yn dda? Rwy'n sylwi bod y Llywodraeth y bore yma wedi sicrhau bod mwy o arian ar gael i gefnogi lleoli diffibrilwyr, ond, wrth gwrs, un elfen yw honno o'r strategaeth gyffredinol, a hoffwn i glywed sut y mae'r cynnydd yn cael ei wneud. Roedd gan Gymru, pan gafodd y strategaeth ei lansio yn ôl yn 2017, un o'r lefelau goroesi isaf i'r rhai sy'n cael ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty, felly, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i'r Llywodraeth wneud datganiad ar hynny.
A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad ynghylch strwythur pwyllgorau'r Senedd hon? Mae'n ymddangos bod y cytundeb yr ydym ni wedi'i weld gan y Pwyllgor Busnes yn ystod yr wythnosau diwethaf yn lleihau yn sylweddol allu pwyllgorau i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, ac mae hyn yn ddifrifol ac, yn fy marn i, yn gwanhau gallu'r Senedd hon i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae'r Pwyllgor Cyllid eisoes wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes ar y mater hwn, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylai pob aelod o'r meinciau cefn gael y cyfle i'w ystyried ac i wneud sylwadau arno.
Mae'r datganiad terfynol yr hoffwn i ei gael ar y polisi TGCh sy'n cael ei orfodi arnom gan y Comisiwn. Gofynnais i gwestiwn yr wythnos diwethaf i'r Llywydd ac, wrth ateb y cwestiwn hwnnw, dywedodd hi y byddai adolygiad o'r polisi hwn yn digwydd. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i bob Aelod ddeall cylch gorchwyl arfaethedig yr adolygiad hwn, ei amserlen a'i natur, a phwy fydd yn ei gynnal a sut y bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud. Hyd nes y bydd yr adolygiad yn cyflwyno adroddiad, rwy'n credu y dylai'r polisi hwn gael ei atal nawr.
Diolch. Byddaf i'n cymryd y rheini gan ddechrau gyda'r olaf. O ran polisi TGCh y Comisiwn, ni chlywais i'r cwestiwn y gwnaethoch chi ei ofyn i'r Llywydd. Ond, yn amlwg, mae'r Llywydd yn y Siambr ac wedi eich clywed chi ac rwy'n siŵr y bydd yn ysgrifennu atoch ynghylch y cwestiynau penodol a godwyd gennych.
O ran strwythur y pwyllgorau, ar ôl treulio wythnosau lawer fel rhan o'r Pwyllgor Busnes yn edrych ar gyfansoddiad a strwythur y pwyllgorau, nid wyf i'n credu ei fod wedi lleihau gallu cyd-Aelodau yn sylweddol i graffu ar waith y Llywodraeth. Ond, unwaith eto, bydd y Llywydd wedi clywed eich sylwadau.
O ran strategaeth ataliad ar y galon, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a fyddai'n haeddu datganiad llafar, efallai yn nhymor yr hydref. Rwy'n ymwybodol o'r arian ychwanegol sydd wedi'i gyhoeddi, ac rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth sy'n agos iawn at eich calon, os maddeuwch y chwarae ar eiriau.
Gweinidog Busnes, roedd yn siom enfawr bod Llywodraeth Cymru yn aflwyddiannus o ran sicrhau bod tegwch wrth wraidd unrhyw gorff y maen nhw'n ei ariannu. Cafodd siom ei deimlo ledled y Siambr hon gan bob plaid na lwyddodd y Gweinidog chwaraeon, er ei bod hi'n cydnabod yr annhegwch amlwg wrth ad-drefnu pêl-droed menywod yma yng Nghymru ac, er clod iddi, wedi cael Cymdeithas Bêl-droed Cymru i gyfaddef eu methiannau yn hyn o beth, i berswadio'r corff hwn sydd wedi'i ariannu'n gyhoeddus i ailystyried ac addasu'r ad-drefnu ar bêl-droed menywod yn y flwyddyn bontio hon er mwyn ystyried llwyddiant ar y cae. Fe ddylai hyn fod wedi bod wrth wraidd yr holl benderfyniadau a gafodd eu gwneud yn hyn o beth, fel yr ydym ni i gyd yn cytuno. Gweinidog, rydym ni'n aml yn clywed Gweinidogion yn sefyll yn y Siambr hon yn sôn am adeiladu Cymru decach, ond mae'n ymddangos, pan ddaw'n fater o ddilyn y geiriau teg hyn gan gyrff sy'n cael eu hariannu neu eu hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, nad oes rheswm iddyn nhw eu dilyn. Felly, Gweinidog, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog perthnasol ynghylch sut y byddai modd atodi sicrhau tegwch a chydnabod perfformiad yn y gorffennol fel amod i gymorth ariannol gan y Llywodraeth hon yn y dyfodol?
Diolch. Rwy'n credu bod Laura Anne Jones yn codi pwynt pwysig iawn, ac, yn sicr, pan fydda i'n penodi byrddau neu pan fyddwch chi'n edrych ar y ffordd y mae cyllid Lywodraeth Cymru yn cael ei roi, rwy'n credu bod y pethau sy'n bwysig iawn i ni—cyfiawnder cymdeithasol, gwneud yn siŵr bod cynaliadwyedd yn amlwg—maen nhw'n faterion yr ydym ni'n eu hystyried yn ofalus iawn. Yn amlwg, mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip wedi gwneud datganiad ysgrifenedig ynghylch Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ond byddwn ni'n sicr yn ystyried a oes unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud.
Trefnydd, rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Mike Hedges wedi codi'r mater hwn, mater cladin, yr wythnos diwethaf, ond ar ôl hynny rwyf i wedi cyfarfod â thrigolion eraill ym Mae Caerdydd, ac rwy'n gwybod bod protest ddydd Sadwrn yma ynglŷn â'r materion cladin yng Nghaerdydd; maen nhw'n mynd o'r BBC i'r Senedd. Trefnydd, mae angen i Lywodraeth Cymru roi atebion i'r trigolion hyn. Mae angen iddyn nhw wybod faint sydd ar gael, sut y bydd modd ei ddefnyddio, cwestiynau o ran pwy sy'n gymwys i wneud cais a pha ddiffygion a gaiff eu cynnwys. A gawn ni ddatganiad cynhwysfawr gan y Gweinidog, os gwelwch yn dda, i ateb eu cwestiynau a thawelu eu pryderon cyn y toriad? Trefnydd, bydd Aelodau o bob lliw gwleidyddol, gan gynnwys eich plaid chi eich hun, yn parhau i ofyn y cwestiynau hyn nes y byddwn ni, ac yn bwysicach, y trigolion, yn cael yr atebion y maen nhw'n eu haeddu. Diolch yn fawr.
Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd a'i swyddogion wir yn gweithio'n gyflym ar y mater hwn, sy'n amlwg yn bwysig iawn i gynifer o bobl. Mae'n bwysig iawn bod ganddyn nhw le diogel i fyw ynddo, ac mae cladin, fel y gwyddom, wedi achosi risgiau ac yn gallu achosi risgiau os bydd tân, ond mae'n amlwg nad hwnnw yw'r unig bryder. Nid wyf i'n credu y bydd y Gweinidog yn gallu gwneud datganiad yr wythnos nesaf, sef yr unig wythnos sydd ar ôl cyn diwedd y tymor, yn anffodus, ond rwy'n siŵr y bydd yn hysbysu'r Aelodau pan fydd y darn hwnnw o waith wedi'i gwblhau.
A gaf i ofyn am un datganiad gan y Llywodraeth ar y broblem felltith o drais yn erbyn gweithwyr siopau? Mae trais yn erbyn gweithwyr siopau wedi dyblu yn ddiweddar, gan gynnwys yn ystod y pandemig, a dyna pam y dywedodd y Pwyllgor Materion Cartref yn San Steffan fod y clytwaith o gyfraith bresennol yn annigonol a pham, yn wir, y cyflwynwyd gwelliannau newydd neithiwr i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd a gafodd ei drafod yn San Steffan i gryfhau diogelwch gweithwyr siopau, ac a gefnogwyd gan undeb y gweithwyr siop Usdaw a'r Blaid Gydweithredol, ymhlith llawer o rai eraill. Yn anffodus, cafodd hyn ei wrthod gan Lywodraeth y DU ar chwip tair llinell y Ceidwadwyr.
Nawr, wrth inni wynebu llif cynyddol o gam-drin a thrais yn erbyn gweithwyr siopau, a gawn ni datganiad gan Lywodraeth Cymru ar eu gwaith gydag undebau a chyflogwyr yng Nghymru i fynd i'r afael â hyn a all roi datganiad clir am yr angen i gwsmeriaid drin gweithwyr siopau â pharch, cwrteisi ac urddas—yr un gweithwyr siop, mewn siopau manwerthu mawr a bach ledled Cymru, sydd wedi cadw'r silffoedd yn llawn a'r mannau talu'n gweithio'n ddi-dor drwy gydol y pandemig, fel nad oedd rhaid inni fynd heb ddim? Ac a yw'n rhannu fy ngobaith y bydd Tŷ'r Arglwyddi, pan ddaw Mesur y Swyddfa Gartref ger ei fron, yn cydymdeimlo'n fwy â diogelwch gweithwyr siopau nag a ddangosodd Llywodraeth y DU neithiwr?
Yn sicr, rwy'n rhannu'r farn honno. Ac onid yw'n drist bod yn rhaid inni atgoffa pobl bod ein holl weithwyr siop yn haeddu cwrteisi a pharch? Ac yn sicr fe welsom y llynedd, dros yr haf yn arbennig, pan oeddwn i'n cyfarfod â'r archfarchnadoedd yn rheolaidd o fewn fy mhortffolio, roedd hynny bob amser ar frig yr agenda, yn anffodus, y ffordd yr oedd llawer o'u staff yn cael eu trin. Gweithiais i'n agos gyda'r heddlu a chyd-Weinidogion eraill i sicrhau bod unrhyw gwynion neu unrhyw ymosodiadau, ymosodiadau geiriol, yn cael eu cofnodi i sicrhau bod yr heddlu'n ymwybodol o'r broblem sylweddol a ddatblygodd, yn anffodus.
Fe wnes i sôn mewn ateb yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog fy mod i'n cyfarfod â'r archfarchnadoedd eto yr wythnos nesaf a'r sector manwerthu. Byddaf i'n sicr yn gofyn iddyn nhw a yw'n parhau i fod yn broblem fel yr oedd yr haf diwethaf. Rwy'n sylweddoli ei fod wedi bod yn broblem erioed, ond rwy'n credu bod y pandemig, yn anffodus, wedi cynyddu'r achosion hynny o drais yn erbyn ein gweithwyr manwerthu, fel y dywedwch.
Gweinidog, mae gennyf i ddau awgrym. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y brechlyn atgyfnerthu COVID—dyna'r trydydd dos—yn dechrau ym mis Medi, ac y bydd gweinyddu hyn yn digwydd mewn dau gam. Fodd bynnag, nid yw athrawon yn y cam cyntaf ac, yn fy marn i, fe ddylen nhw fod. Rwy'n derbyn bod hon yn her, ond mae arnom ddyled fawr i'r staff yn ein hysgolion ni sydd wedi gwneud cymaint i gefnogi plant yn ystod y pandemig hwn, ac yn awr i sicrhau bod eu haddysg yn cael ei adfer. Dylem gael datganiad yn y Siambr yn amlinellu dull gweithredu'r Llywodraeth, oherwydd dyma lle dylai'r cyhoeddiadau gael eu gwneud.
Awgrym Rhif 2 yw hyn: mae'r rhaglen lywodraethu yn sôn llawer am bwysigrwydd yr economi werdd. Fodd bynnag, wrth gyflawni mesurau syml i gefnogi'r twf y mae mawr ei angen mewn ceir trydan, mae Cymru y tu ôl i weddill y DU. Nid oes yr un awdurdod lleol yng Nghymru ymhlith yr 20 awdurdod gorau ledled y DU ar gyfer mannau gwefru cyflym, a dim ond Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Chasnewydd sy'n cyrraedd y ffigurau dwbl ar gyfer nifer y dyfeisiau sydd wedi'u gosod. A wnaiff y Llywodraeth amlinellu sut y mae'n bwriadu cyflymu'r broses o osod mannau gwefru ledled Cymru er mwyn sicrhau nad yw'r rhaglen hon y mae mawr ei hangen yn dod i ben? Diolch.
Yn sicr, yn nhymor blaenorol y Llywodraeth, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid sylweddol i'n hawdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn gallu gosod y mannau gwefru y byddai eu hangen wrth i bobl brynu mwy o geir. Mae'n bwysig iawn, pan fydd rhywun yn ystyried prynu car trydan, fod ganddyn nhw'r hyder i wybod y gallan nhw deithio'n ddiogel.
O ran eich pwynt cyntaf, rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â gwaith caled ac ymrwymiad ac ymroddiad sylweddol ein hathrawon. Rwy'n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol mai cyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio o ran y brechlyn cyntaf, a'r ail frechlyn yn amlwg, oedd na ddylid ei wneud ar sail gyrfa neu swydd. Cafodd ei wneud ar sail y grwpiau, fel yr ydych chi'n ymwybodol, y naw prif grŵp blaenoriaeth, ac nid wyf i'n ymwybodol bod y JCVI wedi newid eu cyngor. Ac, fel y gwyddoch, rydym yn dilyn y JCVI. Felly, o ran y brechiadau atgyfnerthu, fe fyddwn ni'n cynnig y brechlyn atgyfnerthu a'r brechlyn ffliw blynyddol cyn gynted â phosibl o fis Medi, ac yn gyntaf, rwy'n credu, i'r pedwar neu bum grŵp blaenoriaeth uchaf.
Ddydd Iau diwethaf fe gyhoeddwyd y cyntaf o'r adroddiadau adran 19 wedi'u paratoi gan gyngor Rhondda Cynon Taf i lifogydd 2020, ac roedd yn ymwneud â Pentre. Yn sgil ei gyhoeddi, rydym ni wedi gweld ffrae gyhoeddus rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor RhCT ynghylch y casgliadau, a galw gan rai gwleidyddion lleol am iawndal a gweithredu cyfreithiol posibl. At hynny, fel yr adroddwyd ar Sharp End neithiwr, mae arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y swyddogaethau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cyflawni, pa mor dda y maen nhw'n perfformio, ac a allai fod dewis arall. I'r rhai a ddioddefodd lifogydd yn Pentre, nid yw'r canlyniad cyhoeddus hwn wedi rhoi dim o'r sicrwydd a addawyd iddynt.
Yng ngoleuni hyn, ac yng ngoleuni'r llythyr gan CLlLC, hoffwn i ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymdrin â'r pryderon a gafodd eu codi o ran Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwyf i hefyd yn gobeithio y gall datganiad o'r fath ystyried a fydd Llywodraeth Cymru yn awr yn comisiynu ymchwiliad annibynnol brys i lifogydd 2020, gan edrych ar yr holl adroddiadau a gafodd eu paratoi gan bob sefydliad, fel bod gwersi'n cael eu dysgu'n briodol a bod camau'n cael eu cymryd i liniaru'r perygl o lifogydd cyn belled ag y bo modd yn y dyfodol. Rhaid craffu'n briodol ar bob sefydliad sy'n gyfrifol am liniaru llifogydd, sy'n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Nid yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd ac mae angen ymdrin ag ef ar frys.
Diolch. Rwy'n cytuno â chi y dylid cael craffu priodol, a dyna pam roedd croeso mawr i adroddiad adran 19 Rhondda Cynon Taf; yn amlwg, roedd CNC eisoes wedi cynhyrchu ei adroddiad yntau. Rwy'n credu bod rhai canfyddiadau sy'n peri pryder yn adroddiad adran 19 Rhondda Cynon Taf. Mae'n amlwg fod yna wersi sydd angen eu dysgu yn dilyn llifogydd dinistriol y llynedd, ac rwy'n credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru a Rhondda Cynon Taf wedi cydnabod hynny yn eu hadroddiadau penodol nhw. Rwy'n ymwybodol y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cyfarfod â Chyfoeth Naturiol Cymru a Rhondda Cynon Taf, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n rhoi gwybod i'r Aelodau am ganlyniad y trafodaethau hynny ar yr adeg fwyaf priodol.
Arweinydd y tŷ, roeddwn i'n gwrando ar eich ymateb i'm cyd-Aelod o Ganol De Cymru ar feinciau Plaid Cymru ynglŷn â sgandal y cladin. Ac mae hwn yn fater a godais i droeon gyda chi ac yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog hefyd, ac rwy'n ddiolchgar am ryngweithio'r Gweinidog am gryn amser erbyn hyn. Ond mae yna ddau beth yr hoffwn i geisio sicrwydd yn eu cylch, neu wybodaeth, yn sicr, yn eu cylch. Mae'n amlwg mai un yw sylwadau Robert Jenrick dros y penwythnos y bydd y cyfnod atebolrwydd, yn Lloegr yn sicr, drwy'r Mesur Diogelwch Adeiladu a osodwyd gerbron Tŷ'r Cyffredin ddoe, yn cael ei ymestyn i 15 mlynedd, ac fe fydd hwnnw'n ôl-weithredol. A wnewch chi ddweud wrthym ni a fydd Llywodraeth Cymru yn cymryd y pwerau hynny ei hunan, fel y byddai hynny'n berthnasol i berchnogion cartrefi yma yng Nghymru?
Ac yn ail, o ran iawndal a gallu Llywodraeth Cymru i nodi arian ar gyfer iawndal, rwy'n credu ei bod yn fater o frys i Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ynglŷn â hyn, ac ni ddylai toriad yr haf fod yn rhwystr i hynny. Rwy’n cyfrif fy hun yn rhywun sy'n awyddus iawn i gael datganiadau llafar, ond rwy'n credu, yn yr achos hwn, fod angen datganiad ysgrifenedig i roi gwybod i'r Aelodau am y cynnydd ar y mater pwysig iawn hwn, ac ni ddylem ganiatáu i'r toriad olygu bwlch o wyth i naw wythnos tan fis Medi. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i gyflwyno datganiad ysgrifenedig fel mater o frys, fel y gall yr Aelodau roi gwybod i'w hetholwyr am y cynnydd ar y mater pwysig hwn?
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â'r toriad. Ac rwy'n credu mai'r hyn yr oeddwn i'n ei ddweud yn fy ateb blaenorol oedd nad oedd amser—. Rwy'n credu ichi ofyn yn benodol a allem gael datganiad brys yr wythnos nesaf, ac nid wyf i'n credu y bydd y darn hwnnw o waith y cyfeiriais i ato, gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a'i swyddogion, wedi cael ei orffen erbyn hynny. Ond yn amlwg, maen nhw'n ystyried sut rydym ni am ddatblygu rhaglen ariannu, i sicrhau ein bod ni'n targedu'r gefnogaeth briodol mewn mater cymhleth iawn. Ond yn sicr, pe gallai'r Gweinidog gyflwyno datganiad ysgrifenedig dros y toriad, rwy'n siŵr y caiff hwnnw ei groesawu gan yr Aelodau.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n falch o wneud datganiad am ein rhaglen ddeddfwriaethol ni, sy'n rhan annatod o'n rhaglen lywodraethu uchelgeisiol a radical, i helpu i greu Cymru sy'n gryfach, yn wyrddach ac yn decach. Llywydd, yn aml ein cynigion ni ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol sy'n cipio'r penawdau, ond mae'r datganiad hwn yn amlinellu gwe fwy cymhleth o faterion deddfwriaethol a ddaw gerbron y Senedd eleni.
Mae cyd-destun y rhaglen hon yn heriol. Mae effaith enfawr Brexit yn parhau. Mae hyn wedi golygu bod Gweinidogion Cymru eisoes wedi llunio dros 70 o offerynnau statudol ac wedi cydsynio ar dros 200 o offerynnau statudol Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig. Er ein bod ni'n nesáu at ddiwedd cam cyntaf y gwaith, sy'n ymgorffori hen gyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd mewn deddfwriaeth ddomestig fel eu bod yn weithredol yn dilyn ein tynnu yn ôl, mae llawer mwy i'w wneud eto o ran diwygio ac integreiddio'r cyfreithiau hyn â'n polisïau ni ar gyfer ein bywyd ôl-UE.
Mae'r argyfwng o ran iechyd y cyhoedd yn parhau ac fe fydd y rheoliadau sy'n cael effaith ar ein bywydau ni yn fwy nag erioed o'r blaen yn parhau, ar hyn o bryd o leiaf, i roi gofynion cymesur ar y Llywodraeth o ran polisi a chapasiti cyfreithiol ac amser y Senedd. Er gwaethaf y dulliau cwbl newydd y bu'n rhaid i'r Senedd gynnal ei chyfarfodydd ynddyn nhw a phasio deddfwriaeth, ar ddiwedd y tymor diwethaf, fe basiwyd Deddfau grymus i wneud newidiadau aruthrol mewn addysg a llywodraeth leol yn benodol. Y tymor hwn, mae'n rhaid inni fwrw ymlaen nawr â'r is-ddeddfwriaeth ar gyfer eu gweithredu, na all y Deddfau gael yr effaith a fwriedir hebddyn nhw.
Llywydd, mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi lansio cyfres o ymosodiadau na welwyd eu tebyg erioed ar bwerau a chyfrifoldebau'r ddeddfwrfa hon. Nid yw'r sylw y mae'n rhaid inni ei roi ar y cyd i'r rhaglen ddeddfwriaethol yn San Steffan wedi cael ei gyfyngu erbyn hyn i nodi ffyrdd y gellid sicrhau gwelliannau yng nghyfraith Cymru drwy gyfrwng Mesurau'r DU. Yn hytrach, mae'n rhaid inni archwilio pob Bil a gyflwynir am ffyrdd o'u defnyddio i danseilio cyfanrwydd y setliad datganoli, neu sy'n tynnu'n groes i bolisi Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn rhoi mwy o bwysau ar allu'r Llywodraeth hon a galwadau newydd ar swyddogaethau'r ddeddfwrfa hon o ran craffu.
Ac yna fe gawn ni'r rhaglen ddeddfwriaethol sylfaenol ei hunan. Llywydd, fe fyddaf i'n troi at gyflwyno rhagor o fanylion ynglŷn â'r gyfres gymhleth hon o ofynion deddfwriaethol, sy'n cyd-gloi, ymhen munud. Ond, yn gyntaf, fe hoffwn i fod yn glir mai dim ond dechrau taith ddeddfwriaethol y Senedd hon yw'r hyn yr wyf i'n ei nodi heddiw. Oherwydd yr ansicrwydd a'r cymhlethdodau a grybwyllwyd, rwy'n canolbwyntio heddiw ar y ddeddfwriaeth sydd i ddod ger eich bron yn y flwyddyn nesaf—ym mlwyddyn 1 y Senedd. Cyn belled â bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn gwella fel yr ydym ni'n gobeithio, yna yn natganiad deddfwriaethol y flwyddyn nesaf fe ddylem ni fod mewn sefyllfa i ddweud mwy am yr hyn y bwriedir ei wneud yn ddiweddarach yn y tymor Seneddol hwn.
Llywydd, fe wnaeth y Llywodraeth y penderfyniad anodd y llynedd i beidio â chyflwyno dau Fil a oedd yn yr arfaeth, a chael ymgynghoriad arnyn nhw ar ffurf ddrafft, yn hytrach, ac rwy'n diolch i'r holl randdeiliaid hynny a roddodd o'u hamser nhw i gyflwyno sylwadau, y gwnaethom ni eu hystyried nhw'n ofalus, ac nid oes amheuaeth gennyf i y byddan nhw'n cryfhau ac yn gwella'r Biliau y byddwn ni'n eu cyflwyno nhw nawr.
Rydym ni wedi defnyddio'r profiad o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol yn ystod y pandemig wrth inni fireinio'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus, ac mae'n bleser gennyf i gadarnhau y bydd hyn yn cael ei gyflwyno ym mlwyddyn gyntaf y tymor Senedd hwn. Fe fydd yn creu cyngor partneriaeth gymdeithasol statudol a fydd yn gofyn i Weinidogion Cymru, ac i gyrff eraill, weithredu i ddilyn egwyddorion gwaith teg, a sicrhau caffael cyhoeddus sy'n fwy cyfrifol yn gymdeithasol.
Ar ôl cydweithio'n â rhanddeiliaid, fe fyddwn ni'n cyflwyno'r Bil addysg drydyddol ac ymchwil hefyd, a fydd yn sefydlu comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil. Mae hyn yn hanfodol i wireddu ein gweledigaeth ni ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru. Fe fydd pwerau ariannu, cynllunio a rheoleiddio helaeth ganddo i wella ansawdd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ar draws y PCET a'r sector ymchwil. Fe fydd buddiannau dysgwyr wrth wraidd hyn, ac fe fydd yn cydweithio â rhanddeiliaid a darparwyr addysg i wella canlyniadau unigol a chenedlaethol. Fe fydd ein rhaglen hirdymor ni o ddiwygio addysg yn sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn cael ei adael ar ôl wedi'r pandemig, ac fe fydd y ddeddfwriaeth hon yn dangos eto ein hymrwymiad ni i ddysgu gydol oes.
Fe fydd yna Fil i alluogi newidiadau i Ddeddfau treth Cymru. Ar hyn o bryd, nid yw ein pwerau datganoledig ni i ddiwygio treth yn ddigonol i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau annisgwyl, megis dyfarniadau llys, bylchau neu newidiadau mewn trethi cyfatebol yn Lloegr, ac fe allai hynny gael effaith sylweddol ar rwymedigaethau unigolion ac ar ein refeniw ni. Fe fydd y Bil yn cynnig ffordd hyblyg ac ystwyth o ymateb, a chyfle i'r Senedd graffu ar newidiadau a'u cymeradwyo.
Yn dilyn ein Papur Gwyn y llynedd, fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil amaethyddiaeth i greu system newydd o gymorth fferm a fydd yn sicrhau pŵer diogelu mwyaf natur drwy gyfrwng ffermio. Fe fydd hyn yn gwobrwyo ffermwyr sy'n cymryd camau i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, gan eu cefnogi nhw i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy. Fe fyddwn ni'n disodli'r pwerau amser cyfyngedig yn Neddf Amaethyddiaeth y DU 2020, a dderbyniwyd gennym ni i ddarparu parhad a sefydlogrwydd y mae eu hangen yn fawr ar ein ffermwyr wrth inni ymadael â'r UE. Mae'r Bil yn darlunio cam cyntaf ein rhaglen diwygio amaethyddol ni, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid a ffermwyr o ran ein cynigion hirdymor.
Llywydd, gyda'r Llywodraeth newydd hon fe ddaw dyletswyddau newydd ac, o dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, mae'n rhaid inni baratoi rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Fe fyddaf yn gosod y rhaglen lawn gerbron yn yr hydref, ond mae'n bleser gennyf i gyhoeddi y byddwn ni'n cyflwyno ein Bil cydgrynhoi cyntaf eleni, gan ddwyn ynghyd ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol. Mae'r ddeddfwriaeth hon, y mae llawer ohoni'n hen iawn, wedi mynd yn fwyfwy cymhleth ac fe all gyflwyno her ddryslyd i berchnogion adeiladau rhestredig neu henebion cofrestredig sy'n gallu drysu gweithwyr cyfreithiol proffesiynol hyd yn oed o bryd i'w gilydd. Fe fydd y Bil yn creu deddfwriaeth benodol, gwbl ddwyieithog i Gymru sydd mor hygyrch â phosibl, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Senedd i fynd â'r Bil hwn drwy'r broses graffu newydd a gyflwynwyd o dan Reol Sefydlog 26C.
Llywydd, yn y flwyddyn i ddod, fe fyddwn ni hefyd yn cyflawni nifer o nodau sydd ar ein rhaglen lywodraethu drwy is-ddeddfwriaeth. Fe fydd hyn yn cynnwys gwneud terfyn cyflymder safonol o 20 mya mewn ardaloedd preswyl a gwahardd parcio palmant lle bynnag y bo modd gwneud hynny.
Fel y dywedais i, fe fyddwn yn cyflwyno pecyn sylweddol o weithredu deddfwriaeth ar gyfer Deddfau pwysig a basiwyd yn y Senedd ddiwethaf. Felly fe fyddwn ni'n llunio deddfwriaeth i gefnogi ysgolion ac athrawon i gyflawni ein newidiadau radical i'r cwricwlwm i Gymru a system decach sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i gefnogi dysgwyr hyd at 25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Fe fyddwn ni'n rhoi'r Ddeddf rhentu cartrefi ar waith, sy'n golygu newid ar raddfa eang i'r gyfraith sy'n llywodraethu tenantiaethau preswyl yng Nghymru. Fe fydd hyn yn gwella hawl a diogelwch pobl sy'n byw yn y sector tai rhent, yn atal pobl yn cael eu troi allan yn ddialgar, yn sicrhau bod anheddau yn addas i bobl fyw ynddynt, ac yn ei gwneud hi'n ofynnol i denantiaid fod â chontractau ysgrifenedig. Ac fe fyddwn ni hefyd yn rhoi darpariaethau'r Ddeddf llywodraeth leol ac etholiadau ar waith cyn etholiadau lleol y flwyddyn nesaf, sy'n cynnwys rhoi cydbwyllgorau corfforaethol ar waith. Fe fydd hyn yn sicrhau y gall aelodau lleol wneud penderfyniadau gyda'i gilydd ynghylch gwasanaethau llywodraeth leol pwysig er mwyn dinasyddion a chymunedau eu rhanbarthau nhw. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i ddiwygio etholiadau llywodraeth leol, i leihau'r diffyg democrataidd, ac rydym ni'n awyddus i weld mwy o bobl yn cael eu cofrestru a mwy o bobl yn pleidleisio. I gyflawni hyn, fe fyddwn ni'n cyhoeddi cyfres o egwyddorion ar gyfer diwygio etholiadol ac yn dechrau rhaglen uchelgeisiol o ddatblygiadau arloesol ar gyfer etholiadau 2022 a 2026. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol i gyflawni cyfres o newidiadau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol a fydd yn dangos y gwerth a roddwn ni ar ddemocratiaeth a llywodraeth leol yng Nghymru.
Felly, dyma ein rhaglen ni ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond mae ein rhaglen lywodraethu ni'n nodi uchelgeisiau tymor hwy sy'n gofyn am ddeddfwriaeth. Mae'r rhain yn cynnwys diddymu'r defnydd o blastig untro mwyaf cyffredin, cyflwyno ein Deddf aer glân ni, a mynd i'r afael â diogelwch adeiladau i sicrhau na fydd Grenfell arall byth yn digwydd. Fe fyddwn ni'n ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion adolygiad diweddar Comisiwn y Gyfraith o'r fframwaith henffasiwn ar gyfer rheoli tipiau glo ac yn mynd i'r afael â nhw. Serch hynny, wrth inni weithio gyda'n rhanddeiliaid mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol a chydgynhyrchu i lunio'r ddeddfwriaeth gywir, nid wyf i'n awyddus i bennu amserlenni penodol ar hyn o bryd. Ac, fel y gwelsom ni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ni wyddom byth beth allai ddigwydd a fyddai'n gofyn inni ail-lunio ein cynlluniau.
Llywydd, nid yw ein rhaglen ddeddfwriaethol yn bodoli mewn gwagle. Roedd mwy nag 20 o gynigion am Fesurau'r DU yn Araith y Frenhines ym mis Mai yn debygol o gynnwys darpariaethau yn ymwneud â meysydd datganoledig, ac fe fydd yn ofynnol i'r Llywodraeth hon a'r Senedd eu hystyried nhw. Mae rhai, fel y Mesur Sgiliau ac Addysg Ôl-16, a'r Bil caffael, yn amlwg yn gorgyffwrdd â chynigion yr wyf i wedi eu cyhoeddi heddiw. Mae'n rhaid inni negodi ein ffordd erbyn hyn drwy gyfyngiadau ac ansicrwydd newydd ynglŷn â'n pwerau ni sy'n deillio o Ddeddf fewnol y farchnad ac sy'n ymdrin â Llywodraeth nad yw'n rhoi fawr o sylw i swyddogaeth y Senedd hon a chonfensiwn Sewel—rhywbeth a welsom ni'n ddiweddar wrth iddo gyflwyno Bil i Gydsyniad Brenhinol heb aros am gydsyniad y ddeddfwrfa hon gan nad oedd hynny'n cyd-fynd â'u hamserlen nhw. Ond, Llywydd, ni fydd hyn yn tynnu ein sylw oddi ar gyflawni ein rhaglen unigryw i Gymru, sy'n seiliedig ar ein gwerthoedd unigryw yng Nghymru, ac rwy'n ei chymeradwyo i'r Aelodau heddiw.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol, am eich datganiad y prynhawn yma, yn absenoldeb y Prif Weinidog. Fel rhywun sy'n gallu dwyn hynny i gof, pan ddeuthum i mewn i'r Siambr hon am y tro cyntaf yn 2007, pan fyddai pobl yn sôn am ddeddfwriaeth, roeddem ni'n sôn am gynigion cydsyniad deddfwriaethol a Gorchmynion cydsynio, ac nid oedd yna sicrwydd beth yn union a allai ddigwydd—hyd nawr, deddfwrfa gwbl newydd, lle mae gan y Llywodraeth allu i gyflwyno deddfwriaeth—mae hwn yn ddatganiad pwysig, oherwydd ei fod yn rhoi hawliau i ddinasyddion. Dyna pam rydym ni'n pasio deddfwriaeth—mae'n rhoi hawliau mewn termau cyfreithiol i ddinasyddion allu disgwyl hynny yn narpariaeth gwasanaethau, neu'r amgylchedd, neu unrhyw agwedd arall ar fywyd yma yng Nghymru. Felly, fe ddylid darllen y datganiad hwn yn ofalus ac yn gryno, i ddeall yn union beth yw nodau'r Llywodraeth dros y flwyddyn nesaf, o leiaf, a amlinellwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, ond hefyd am y pedair blynedd sydd ar ôl o'r tymor Cynulliad hwn o bum mlynedd.
Fe fyddwn i'n gofyn, yn y gobaith y gall y Cwnsler Cyffredinol roi mwy o eglurder inni ar ddechrau ein trafodion y prynhawn yma—. Fe gyfeiriodd y Llywydd at y bleidlais ar y meinciau cefn a fydd yn digwydd ym mis Medi ynghylch cynigion deddfwriaethol, ac nid oes gan y Llywodraeth yn y sefydliad hwn draddodiad o wyntyllu rhyw lawer ar ddeddfwriaeth o'r meinciau cefn, gan ladd y ddeddfwriaeth honno'n aml iawn ar y cyfle cyntaf. Felly, fe fyddwn i'n gobeithio y gallai'r Cwnsler Cyffredinol fod yn fwy haelfrydig heddiw a rhoi arwydd y bydd y Llywodraeth yn cefnogi cynigion deddfwriaethol i gyrraedd Cyfnod 1 o leiaf yn ystod eu cwrs nhw yma yn y Cynulliad, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig i'r Aelodau gael cyfle, yn ogystal â'r Llywodraeth, i gyflwyno deddfwriaeth ar faterion pwysig fel hyn y mae pobl Cymru wedi eu hethol i'r fan hon i'w deall a'u datblygu ar eu rhan.
Mae'n ofid nad yw'r datganiad deddfwriaethol yn cynnwys unrhyw ddarpariaethau ar gyfer Bil awtistiaeth, deddfwriaeth iechyd meddwl, hawliau pobl hŷn, ac nad oes dim yma ar gynllunio, dim byd ar les anifeiliaid, dim hyd yn oed ar Fil Iaith Arwyddion Prydain yr oedd llawer ohonom ni'n ymgyrchu o'i blaid drwy gydol tymor yr etholiad i'r Senedd sydd newydd ddigwydd. Ac eto, rydym wedi gweld oedi o ran y Bil aer glân—'eto', rwy'n defnyddio'r gair hwnnw. Roedd hynny'n rhan o strategaeth etholiadol y Prif Weinidog, ei ymgais ef—galwch hynny fel y mynnoch—i fod yn Brif Weinidog ac yn arweinydd Llafur Cymru yn ôl yn 2018, rwy'n credu mai dyna pryd oedd hi, a dyma ni yn 2021. Fe wnaeth llawer o wleidyddion ymrwymiad yn y flwyddyn gyntaf i gyflwyno darn o ddeddfwriaeth o'r fath, oherwydd rydym yn cydnabod bod bron 2,000 o bobl yn marw cyn eu hamser yma yng Nghymru oherwydd diffyg deddfwriaeth yn y maes pwysig hwn, ac nid yw'r datganiad yn rhoi unrhyw hyder inni o ran pryd y byddwn ni'n cael gweld y Bil hwnnw, efallai. Mae hwnnw'n bryder gwirioneddol, yn wir, oherwydd mae cefnogaeth drawsbleidiol i ganiatáu i'r ddeddfwriaeth honno weld golau dydd. Felly, rwy'n synnu pam, yn dilyn ewfforia'r fuddugoliaeth yn yr etholiad, nad yw'r Llywodraeth yn teimlo'n ddigon egnïol a grymus i gyflwyno darn o ddeddfwriaeth y gallai'r Cynulliad hwn, y Senedd hon, fe ddylwn i ddweud, ymaflyd ynddi. Rwy'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymateb i hynny, oherwydd ble mae'r Mesur aer glân a gafodd ei addo yng nghais arweinyddiaeth y Prif Weinidog presennol, ond mewn maniffestos a roddwyd gerbron pobl Cymru hefyd, gan gynnwys, gallaf ychwanegu, faniffesto Llafur Cymru?
Rydych chi'n sôn unwaith eto am bwerau a gafodd eu dwyn oddi ar y sefydliad hwn, Senedd Cymru. Pa bwerau yw'r rhain a gafodd eu dwyn, Cwnsler Cyffredinol? Pan ofynnais i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf fe gynigiodd ef amrywiaeth braidd yn wan sef, porthladdoedd rhydd, confensiwn Sewel a physgotwyr. Dyna'r goreuon y gallai feddwl amdanynt. Mewn gwirionedd, mae yna welliant wedi bod o ran pwerau yn y maes deddfwriaethol oherwydd ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd—mae dros 70 o bwerau ychwanegol wedi dychwelyd i'r Senedd hon yng Nghymru a thrwy gysylltiad i Lywodraeth Cymru. Felly, dewch ymlaen—dewch â rhywbeth ychydig yn gryfach, neu stopio'r stori bod pwerau wedi cael eu dwyn oddi ar Lywodraeth Cymru.
Rydych chi'n sôn am ddatblygiadau arloesol cyn yr etholiadau llywodraeth leol yn 2022. Dim ond rhyw naw mis sydd i fynd, Cwnsler Cyffredinol. Fe fyddwn i'n falch iawn o allu deall beth allai'r datblygiadau arloesol hyn ei olygu, oherwydd nid wyf i'n ymwybodol o'r datblygiadau arloesol sydd gan y Llywodraeth mewn golwg, ac rwy'n credu ein bod ni'n haeddu esboniad llawnach na dim ond yr ymadrodd 'datblygiadau arloesol' sydd yn y datganiad.
O ran y Bil amaethyddol y tynnwyd sylw ato yn y datganiad y prynhawn yma, a wnewch chi gadarnhau y bydd diogelwch bwyd wrth galon y Bil hwnnw, oherwydd mae hynny'n gafeat pwysig mewn unrhyw gymorth a newid deddfwriaethol y mae eu hangen ar y sector amaethyddol. Rwy'n gobeithio y byddwch chi mewn sefyllfa i gadarnhau momentwm o'r fath ym meddylfryd y Llywodraeth o ran ei chynigion deddfwriaethol ynghylch y Bil amaethyddol.
Yn olaf, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau—ac nid beirniadaeth ar y Llywodraeth yw hyn, oherwydd mae'n bryder gwirioneddol yn fy marn i, oherwydd fe gyfeiriodd y Prif Weinidog at hyn ym misoedd olaf y Senedd ddiwethaf—fod yna broblemau o ran capasiti oherwydd, yn amlwg, y rheoliadau y mae'n rhaid eu cyflwyno oherwydd argyfwng COVID, ynghylch gallu deddfwriaethol y Llywodraeth? Ac fe fyddwn i'n falch o ddeall pa fesurau y mae'r Llywodraeth wedi eu gweithredu i ganiatáu cyflwyno rhaglen ddeddfwriaethol. Fe allem ni anghytuno ar sylwedd y rhaglen honno, ond mae'n bwysig ein bod yn gallu deall a bod yn hyderus fod gan y Llywodraeth y gallu i gyflwyno cynigion deddfwriaethol yr ymrwymwyd iddynt yn ei maniffesto, yn hytrach nag edrych yn ôl, ar ddiwedd y tymor pum mlynedd, a sylweddoli yn sydyn nad yw dau, tri, pedwar, pump neu chwech o'r cynigion hynny wedi gweld golau dydd oherwydd y materion capasiti yn Llywodraeth Cymru. Ac rwy'n mynegi hynny, gobeithio, mewn ffordd ddefnyddiol, ac nid mewn ffordd feirniadol. Diolch, Cwnsler Cyffredinol.
Wel, rwy'n diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei sylwadau. Fe geisiaf innau ymdrin â nhw fel yr aethoch chi drwyddyn nhw, yn fy marn i, mewn ffordd adeiladol.
O ran pleidleisiau o'r meinciau cefn, mae'r rhain yn amlwg yn rhan bwysig o weithrediad y Senedd hon, ac mae'n amlwg mai mater i'r Senedd yn hytrach na'r Llywodraeth ei hun yw dewis a bwrw ymlaen â deddfwriaeth o'r fath.
O ran cynllunio, rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol o waith Comisiwn y Gyfraith sydd wedi mynd rhagddo gyda golwg ar y posibilrwydd o gyflwyno Bil cydgrynhoi cynllunio, ac mae hwnnw'n amlwg yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried, a phan fyddaf i'n cyflwyno fy adroddiad i ar hygyrchedd cyfraith Cymru a'r materion sy'n ymwneud â chodio, rwy'n gobeithio gallu cyfeirio at hynny'n benodol.
O ran Bil aer glân, mae hwn yn ymrwymiad llwyr gan y Llywodraeth hon i gyflwyno Bil aer glân. Mae yna broblem o ran blaenoriaethu mewn cysylltiad â'r gwaith sy'n digwydd yn y flwyddyn gyntaf hon. Fe wnes i sylwadau yn fy nghyflwyniad i o'r rhaglen ddeddfwriaethol, i'r gofynion penodol mewn gwirionedd o ran y fframwaith ehangach o ddeddfwriaeth sy'n mynd rhagddo o ganlyniad i Filiau'r DU, o ganlyniad i Brexit, o ganlyniad i COVID. Ond rwy'n bendant iawn mai un o'r pethau y mae'n rhaid ei sicrhau yw, pan fyddwn ni'n pasio deddfwriaeth, fod gennym amserlen a strategaeth weithredu glir o ran y ddeddfwriaeth honno, oherwydd hyd nes y byddwch chi wedi ei gweithredu, nid yw'r ddeddfwriaeth sylfaenol yn cael yr effaith gyflawn y bwriadwn iddi ei chael. Felly, er enghraifft, mewn meysydd sy'n ymwneud â rhentu cartrefi, fe wyddom fod yna dros 20 o ddarnau mawr o is-ddeddfwriaeth y bydd angen gweithio arnynt a'u cyflwyno, ac mae'r un peth yn wir mewn llawer o feysydd eraill. Felly, un o'r rhesymau am fabwysiadu'r dull arbennig hwn o ran nodi ein blwyddyn gyntaf ond, yna, baratoi gwaith a datganiadau pellach maes o law ar flynyddoedd 2 a 3 a'r rhaglen ddeddfwriaeth yn y dyfodol, yw sicrhau ein bod ni wedi blaenoriaethu'r hyn y mae gwir angen inni ei wneud nawr, yr hyn y mae gwir angen inni ei wneud o ran gweithredu ac o ran rhai o'r prif ddarnau o ddeddfwriaeth y mae angen dechrau arnynt nawr. Ond nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, nad yw'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo mewn meysydd eraill, oherwydd mae cyflwyno darn o ddeddfwriaeth yn ddiweddglo, mewn gwirionedd, i lawer iawn o waith sy'n mynd rhagddo. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ystyried hynny.
O ran arloesi mewn llywodraeth leol ac o ran etholiadau, wel, wrth gwrs, rydych chi'n iawn mai cyfnod byr iawn o amser sydd gennym cyn yr etholiadau llywodraeth leol, ac wrth gwrs mae confensiwn Gould yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth gael eu gweithredu chwe mis cyn yr etholiad ei hun. Felly, mae hyn yn cyfyngu ar rai o'r pethau y gellir eu gwneud. Ond, wrth gwrs, mae yna bethau o fewn y pwerau presennol y gellir eu gweithredu. Fe allan nhw fod yn ymwneud â dyluniad a gweithrediad y ffurflenni pleidleisio eu hunain. Fe wyddom ni fod tua 7,000 o bleidleisiau wedi cael eu bwrw'n wallus ar y papur, ac, wrth gwrs, nid yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu i'r pleidleisiau hynny gael eu dychwelyd. Felly, mae materion yn codi ynghylch sut rydym ni am sicrhau y bydd llai o gamgymeriadau yn digwydd o fewn y system bleidleisio. Rwyf i o'r farn fod yna gamau y gellir eu cymryd i wella a grymuso cofrestru ar gyfer etholiadau, ac rwy'n credu y gall fod yma gyfle hyd yn oed o ran pwerau i weithredu cynlluniau peilot—cynlluniau peilot sydd eu hunain, serch hynny, yn golygu cryn dipyn o waith deddfwriaethol, ond fe allai hynny gynnwys pethau fel, er enghraifft, cynllun peilot ar bleidleisio mewn ysgolion a chael blychau pleidleisio yn y mannau hynny. Mae hwnnw'n rhywbeth sydd wedi cael ei drafod. Mae rhai o'r rhain yn eitemau a drafodwyd cyn etholiadau'r Senedd, ond nid oedd amser i'w gweithredu. Felly, y meysydd hynny i gyd.
O ran diogelwch bwyd, rwy'n credu bod y Gweinidog a'r Llywodraeth wedi egluro droeon pa mor bwysig yw hynny, ac, wrth gwrs, fe fydd yna ragor o fanylion am y Bil amaethyddiaeth—cynnwys a chyflwyniad hwnnw.
Ac yna, efallai, ynglŷn â'r pwynt olaf a godwyd gennych chi ynglŷn â chapasiti, wel, fe wnes i ymdrin i â hwnnw, i ryw raddau, yn fy nghyflwyniad ac mewn ymateb i'ch sylwadau chi. Rwy'n ymwybodol iawn o'r galwadau penodol hynny. Efallai y bydd yna alwadau o ran deddfwriaeth, o ran diwygio'r Senedd. Mae'n siŵr y bydd yna alwadau o ran deddfwriaeth a ddaw o lawr y Siambr, o'r Senedd hon, o ran Biliau Aelodau unigol. Felly, mae hwnnw'n rhywbeth yr wyf i'n ymwybodol iawn ohono, ond yn ymwybodol iawn nid yn unig o'r gofynion ar gyfer gweithredu ond o'r gofynion sylweddol iawn a'r newid cwrs a'r blaenoriaethu y mae'n rhaid inni eu hystyried nhw nawr wrth edrych yn fanwl iawn ar Filiau Llywodraeth y DU a'r pryderon sydd gennym am y meysydd hynny lle maen nhw'n dechrau tresmasu o ran ein cyfrifoldebau datganoledig ni.
Diolch ichi am eich datganiad, Cwnsler Cyffredinol. Mae yna nifer o bethau yn eich datganiad chi heddiw y mae modd i ni ym Mhlaid Cymru gytuno â nhw.
Mae'r mwyafrif ohonom ni yn y lle hwn yn pryderu am undeboliaeth gyhyrol honedig y Blaid Geidwadol yn San Steffan, neu beth am ei alw fel y mae—tueddiad at genedlaetholdeb Saesnig yn Llywodraeth Boris Johnson yn San Steffan? Fe fydd Plaid Cymru yn sefyll yn gadarn gyda Llywodraeth Cymru yn erbyn ymgais y rhai sydd draw yn y fan honno i wrthdroi'r ddemocratiaeth sydd gennym ni yma yng Nghymru—ceffyl pren Troea Deddf marchnad fewnol y DU. Rwy'n falch o weld ymdrechion pellach i wneud cyfraith Cymru yn hygyrch—problem y mae gweithwyr cyfreithiol proffesiynol yn ei hwynebu, heb sôn am leygwyr. Rwy'n falch hefyd, o'r diwedd, o weld gweithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi, darn o ddeddfwriaeth a basiwyd yn ôl yn 2016. Pam ar y ddaear y cymerodd gymaint o amser i weithredu'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth? Roeddech chi'n sôn y bydd hyn yn rhoi terfyn ar droi allan dialgar—newyddion da—ond mae'n siomedig eich bod chi, yr wythnos diwethaf, wedi terfynu'r amddiffyniad cyfreithiol yn erbyn troi allan heb fai. Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn tynnu sylw at y pwysau sy'n wynebu'r Llywodraeth, a hynny'n briodol, oherwydd Brexit a phandemig COVID. Er hynny, mae un darn ar goll o'ch jig-so deddfwriaethol chi, a deddfwriaeth sy'n ymdrin â'r argyfwng hinsawdd yw hwnnw.
Llywydd, mae nifer ohonom ni fan hyn yn y Senedd a thu hwnt yn hynod siomedig bod y Ddeddf aer glân ddim yn eich datganiad heddiw.
Cyflwynodd fy nghyd-Aelod Delyth Jewell a minnau ddatganiad barn ar Ddiwrnod Aer Glân ar 17 Mehefin, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â Deddf aer glân i rym eleni. Roedd yna gefnogaeth drawsbleidiol i hynny. Pam nad ydych chi'n bwrw ymlaen yn hyn o beth? Mae'r Torïaid yn fwy blaengar na Llywodraeth Cymru ar y pwynt hwn. Mae'n rhaid inni weithredu. Roeddech chi'n sôn am flaenoriaethu; wel, mae angen gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd nawr. Fe ddylai honno fod yn flaenoriaeth ac fe ddylai Llywodraeth Cymru fod â chywilydd bod y Ceidwadwyr yn fwy blaengar na chi ar y mater hwn.
Fe fyddai'r Ddeddf yn annog defnyddio cerbydau allyriadau isel gyda mannau gwefru cyflym i gymryd lle cerbydau sy'n llygru mwy; creu parthau awyr glân mewn trefi a dinasoedd; caniatáu offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai; a galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd. Beth allai fod yn bwysicach na hynny, Cwnsler Cyffredinol? Ni ellir amddifadu cenedlaethau'r dyfodol o aer glân, felly mae angen inni weld brys nawr gan Lywodraeth Cymru; mae angen gweithredu.
Nid oes dim, ychwaith, yn y datganiad am ddeddfwriaeth llywodraethu amgylcheddol, er ei bod yn rhan o gynnig Plaid Cymru'r wythnos diwethaf—cynnig a gafodd eich cefnogaeth chi. Nid yw geiriau teg yn ddigon i fynd i'r afael â chynhesu byd-eang. Mae angen inni feddwl yn fyd-eang ond gweithredu'n lleol yma drwy ddeddfu yn y Senedd hon. Nid yw ymdrechion symbolaidd yn ddigonol.
Mae angen Deddf aer glân arnom i amddiffyn yn gyfreithiol pobl a dinasyddion ein gwlad ni. Roedd yr ymgyrchwyr am i'r Ddeddf gael ei chyflwyno yn y 100 diwrnod cyntaf o'r Senedd hon. Wel, byddwn ni'n lwcus i'w chael hi yn y 100 wythnos gyntaf, y ffordd rŷch chi yn llusgo eich traed.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Mater arall yr wyf i'n gwybod bod etholwyr yng Nghaerdydd ac mewn mannau eraill yn teimlo'n gryf iawn yn ei gylch yw diogelwch adeiladau. Mae yna bobl, dafliad carreg o'r Senedd hon, nad ydyn nhw'n cysgu'r nos. Mae pobl yn cael eu parlysu gan bryder—pobl yn ofni am eu diogelwch eu hunain a diogelwch eu hanwyliaid. Pam nad oes yna unrhyw beth yn y datganiad deddfwriaethol hwn am ddiogelwch adeiladau? Pam rydym yn caniatáu i fywydau pobl aros yn yr unfan?
Nid oes deddfwriaeth yma i ddiwygio ein system drafnidiaeth ni, sy'n hanfodol wrth inni adeiladu yn ôl yn well ar ôl COVID ac yn bwysig yn ein brwydr ni yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.
Mae llawer o sôn am is-ddeddfwriaeth yn eich datganiad, ond does dim hawliau iaith wedi cael eu creu ers 2018. A wnewch chi addo y bydd yna fwy o hawliau iaith yn cael eu cyflwyno? Does dim sôn am Ddeddf addysg Gymraeg, ffordd hollol allweddol inni gyrraedd y filiwn o siaradwyr Cymraeg.
Y gwir yw, Gwnsler Cyffredinol, mae'ch cynllun chi yn ysgafn ac mae'ch cynllun chi yn wan. Dyw e ddim yn syndod; yn y Senedd ddiwethaf, yn Senedd yr Alban, mi wnaethon nhw basio 63 darn o ddeddfwriaeth, ac mi wnaethon ni dim ond pasio 17. Mae gennych chi'r mandad nawr—mae gennych chi'r mandad i wneud pethau radical, fel ymyrraeth yn y farchnad dai, gwasanaeth gofal cymdeithasol a chamau pendant i daclo tlodi plant, sy'n embaras cenedlaethol i ni, a dylai fod yn embaras i chi yn y Llywodraeth. Mae yna fandad clir gennych chi i gael newidiadau radical. Peidiwch â gwastraffu'ch cyfle. Mi wnawn ni eich sgrwtineiddio chi ac mi wnawn ni graffu arnoch chi bob cam o'r ffordd er mwyn ichi greu'r Gymru radical newydd rŷn ni ei hangen. Diolch yn fawr.
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cyfraniad manwl iawn yna, ac rwy'n croesawu llawer o'r sylwadau hyn mewn gwirionedd. Yn y 10 neu'r 11 mlynedd bellach ers imi fod yn Aelod o'r Senedd, nid wyf i'n credu fy mod wedi clywed yr un ddadl ar y rhaglen ddeddfwriaethol lle nad yw'r ddadl yn dechrau gyda pha mor anfodlon y mae'r wrthblaid gyda maint y ddeddfwriaeth, gydag ansawdd y ddeddfwriaeth, a pham ei bod yn cymryd cyhyd. Rwy'n deall y pwyntiau penodol hynny'n aml. Mae'n rhaid imi ddweud, fel Cwnsler Cyffredinol, mai un o'm pryderon i yw ansawdd deddfwriaeth, yn hytrach na'i maint; hefyd, edrych ar bethau y gellir eu gwneud heb ddeddfwriaeth. Fel y gŵyr yr Aelod, rwy'n siŵr, 'deddfwch ar frys, cewch amser i edifarhau'. Rydym wedi gweld llawer o ddeddfwriaeth, yn sicr ar lefel Llywodraeth y DU, sydd wedi cwympo o fewn y categori hwnnw.
A gaf i ddweud, ynglŷn â mater yr undeboliaeth gyhyrol a gododd ef, fod hwnnw'n ymadrodd a ddefnyddir i gynrychioli'r hyn sydd, yn fy marn i, yn bryder gwirioneddol am Lywodraeth nad yw n gwrando neu sy'n gwadu'r ffaith fod yna broblem gyfansoddiadol fawr; mae hynny'n gwadu Deddf y farchnad fewnol, mewn gwirionedd? Efallai y dylwn i ddweud nad yw'r Llywodraeth yn gwadu hynny, oherwydd fe gredaf i fod Llywodraeth y DU yn gwybod yn union beth yr oedd yn ei wneud pan gyflwynodd y ddeddfwriaeth benodol honno. Fel yr wyf wedi mynegi mewn datganiad ysgrifenedig eisoes, ac, rwy'n credu, mewn atebion i gwestiynau, rydym wedi cael caniatâd i apelio ar gyfer herio agweddau ar honno, ac rydym yn aros am ddyddiad i wneud hynny. Fe fyddaf i'n adrodd i'r Aelodau ynglŷn â hynny maes o law.
Rwy'n croesawu'n fawr sylwadau'r Aelod am hygyrchedd, oherwydd mae hygyrchedd cyfraith Cymru—yr wyf i'n ei ystyried o ran y gallu i ddod o hyd iddi, ei chodio'n briodol, ei bod yn eglur ac ar gael—yn bwysig iawn o ran twf a chynhyrchu system farnwrol Cymru a sefydlu strwythur barnwrol i Gymru. Mae'n bwysig hefyd, serch hynny, o ran y meysydd, fel y gŵyr ef o adroddiad comisiwn Thomas, y dylem ni fod wedi eu datganoli i ni ein hunain a'r meysydd hynny y dylem ni fod yn gyfrifol amdanyn nhw, sydd, mewn gwirionedd, yn ymwneud â dinasyddion Cymru a pha mor hygyrch yw'r gyfraith iddynt. Nid oes diben cael y cyfreithiau gorau yn y byd os nad yw pobl naill ai'n gwybod ble maen nhw neu beth a fynegir ynddynt, neu, yr un mor bwysig, nad yw'r cyfreithiau penodol hynny ar gael iddyn nhw.
Fe gododd fater y Ddeddf rhentu cartrefi, ac rwy'n cytuno ag ef. Yn 2016 fe blannwyd yr hyn sydd, yn fy marn i, yn enghraifft dda o ddeddfwriaeth, sy'n rhoi hawliau i denantiaid ac mewn llawer o feysydd eraill sy'n ymwneud â thai. Rydym wedi gweld mater Brexit ac rydym wedi gweld mater COVID, ac rwy'n credu y byddai'n gamgymeriad inni danbrisio maint gwirioneddol y galw a'r ddeddfwriaeth sydd wedi gwthio i'r neilltu y gallu i wneud rhai o'r pethau yr oeddem ni'n awyddus i'w gwneud yn ystod y Senedd ddiwethaf. Ond dyna un o'r rhesymau pam y cyfeiriais i'n benodol yn fy natganiad heddiw at weithredu a sut mae'r gweithredu yr un mor bwysig â deddfwriaeth sylfaenol a deddfwriaeth sylfaenol newydd. Ac fel y dywedais i, heb y gweithredu hwnnw, nid oes fawr o werth i'r holl hawliau a gafodd eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth sylfaenol. Felly, mae'r pwynt a wnewch chi yn gwbl deg a chywir. Mae honno'n flaenoriaeth, ac rwyf i eisoes wedi nodi graddfa'r gwaith y bydd ei angen i weithredu'r ddeddfwriaeth.
O ran mater yr amgylchedd a newid hinsawdd, mae'r Ddeddf aer glân yn ymrwymiad clir. Roedd yn ymrwymiad maniffesto. Mae wrthi'n cael ei ystyried. Pe gallwn i fod wedi ei gynnwys yn y rhaglen bum mlynedd gyntaf hon, fe fyddwn i wedi gwneud hynny. Ond nid yw'n golygu nad yw'r gwaith yn mynd rhagddo. Mae'r ymrwymiad i hyn a'r ymrwymiad i'r dreth blastig, fel y soniais, yn bresennol eisoes. Rwy'n credu y caiff ei adlewyrchu hefyd, pan fydd rhywun yn sôn am ymrwymiad i faterion amgylcheddol, yn y ffaith ein bod ni wedi gweld diwygiad strwythurol mawr yng ngweithrediad Llywodraeth Cymru yn sgil penodi Gweinidog Newid Hinsawdd. Rwyf i o'r farn fod hynny'n arwyddocaol iawn. Rwy'n credu y dylem ni ddweud hefyd, o ran yr amgylchedd, fod gwaith yn mynd rhagddo o ran ymgorffori neu weithredu egwyddorion amgylcheddol mewn deddfwriaeth, ac mae hwnnw'n faes a fydd yn cael ei ystyried hefyd.
O ran safonau'r Gymraeg a'r pwynt a godwyd gennych ar hynny—. Fe ddylwn i ddweud, mewn cyfran o'r ddeddfwriaeth, un o'r manteision sydd gennym ni, wrth gwrs, yw sicrhau bod rhywfaint o'n deddfwriaeth ni'n ddwyieithog, ac un o effeithiau cydgrynhoi mewn gwirionedd yw ein bod ni'n gwneud hynny mewn gwirionedd—ein bod yn wir yn sicrhau ein bod yn gweithredu ein hymrwymiad ni i ddwyieithrwydd yn y fframwaith deddfwriaethol. O ran safonau'r Gymraeg, rydym ni'n awyddus iawn i edrych yn fanwl ar yr effaith y mae'r safonau yn ei chael ar y defnydd o'r Gymraeg. Ac at hynny, yn fy marn i, rydym yn awyddus i sicrhau ein bod ni'n defnyddio ein hadnoddau cyfreithiol yn y ffordd fwyaf effeithiol. Felly, os oes adnoddau cyfreithiol ar gael, rydym yn dymuno ystyried faint o waith sydd i'w wneud i gyflwyno unrhyw reoliadau ochr yn ochr â'r blaenoriaethau polisi hefyd, ac mae hynny'n anochel yn destun cryn ddadlau eto ac, rwy'n siŵr, o ran datganiadau deddfwriaethol yn y dyfodol.
Dim ond un pwynt arall, o ran diogelwch adeiladau. Mae hynny'n amlwg iawn ar waith; mae yna fwriad i gyflwyno deddfwriaeth o ran diogelwch adeiladau. Mae'n fater nawr o roi ystyriaeth i raglenni'r ail a'r drydedd flwyddyn, ac edrych ymlaen i'r dyfodol hefyd. Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn deall pam rwyf i wedi mabwysiadu'r dull o sicrhau ein bod ni, yn ystod ein blwyddyn gyntaf yn y Senedd, yn blaenoriaethu'r pethau hynny y mae'n rhaid eu gwneud ac y mae angen eu gwneud.
Rwyf am wneud un sylw pellach, mae'n debyg, am na chafodd hynny ei godi'n arbennig, ond rwy'n gwybod ei fod yn rhan o fframwaith y drafodaeth yn gyffredinol—sef pwysigrwydd y Bil partneriaeth gymdeithasol y byddwn ni'n ei gyflwyno. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Rwy'n awyddus i bwyso ychydig arnoch chi o ran sut y gallem wella a grymuso cofrestru etholiadol. Mae'n ymddangos i mi mai un o'r pethau pwysicaf yw bod gan bawb yr hawl i gymryd rhan mewn etholiadau, oherwydd os gwelwn fod nifer fawr o bobl ddim yn cymryd rhan, mae hynny'n tanseilio mandad democrataidd pwy bynnag sy'n cael ei ethol. Felly, mae'n ymddangos i mi ei bod yn gwbl hanfodol sicrhau bod hynny'n hawdd ei wneud. Pe gallem ond croesgyfeirio'r sawl sydd ar y gofrestr etholiadol â thrafodion biwrocrataidd eraill sy'n gysylltiedig â dinasyddion, er enghraifft adnewyddu trwydded gyrru a phethau o'r fath. Fe fyddai hynny'n sicr yn gwella ein gallu ni i gael cofrestru etholiadol sy'n gywir, oherwydd yn fy etholaeth i, gwn nad yw o leiaf 20 y cant o'r rheini ar y gofrestr erbyn hyn yn byw yn y lleoliad y'u cofrestrwyd ynddo. Felly, mae honno'n broblem enfawr, ond yn un y mae gwir angen mynd i'r afael â hi.
O ran y busnes ynglŷn ag aer glân, rwyf innau'n siomedig hefyd, yn bendant, oherwydd rwy'n awyddus iawn i brofi brwdfrydedd y gwrthbleidiau o ran bod yn eiddgar i fwrw ymlaen â mater aer glân. Mae yma ddau fater, dau beth sy'n cyfrannu: mae diwydiant yn un—
A wnaiff yr Aelod atgoffa—[Anglywadwy.]?
—a'u gweithgarwch nhw, ac fe allaf ddeall amharodrwydd y Llywodraeth i ychwanegu at yr heriau y mae diwydiant yn eu hwynebu o ganlyniad i Brexit a'r tswnami, a COVID. Ond un o'r pethau sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd—yn ogystal â'r terfyn cyflymder safonol o 20 mya mewn ardaloedd preswyl, sy'n cyfrannu llawer iawn at aer glân, mae angen inni reoleiddio ein bysiau ni o'r newydd hefyd, os ydym eisiau darparu cyfleoedd clir a fforddiadwy i bobl adael eu car gartref ar gyfer teithiau rheolaidd.
Fe hoffwn i ddiolch i'r Aelod am y sylwadau yna, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r sylwadau a wnaeth hi ynglŷn â gwella cofrestru etholiadol. Craidd y broblem, mewn gwirionedd, yw mai pethau hynafol yw ein cofrestru etholiadol a'n deddfwriaeth a'n rheoliadau ni. Maen nhw'n cynnwys, mewn llawer man, nifer o welliannau a neilltuolion, dros nifer o flynyddoedd, ac mae taer angen eu diwygio—a diwygio gweinyddiaeth etholiadol, ond moderneiddio etholiadau hefyd. Rwyf i o'r farn mai un o'r meysydd y byddwn ni'n awyddus i'w ystyried, mewn gwirionedd, yw egwyddorion diwygio etholiadol, y mae'n rhaid iddyn nhw ymwneud â chynnig y cyfle, y tryloywder, yn ogystal â'r gwytnwch mwyaf posibl o ran ein hetholiadau.
Mae rhai o'r pethau y gallem ni fod yn eu gwneud, dros y misoedd nesaf, yn ymwneud â chofrestru o bosibl. Yn sicr roedd yn siomedig iawn, onid oedd, o ran nifer y cofrestriadau o bleidleiswyr 16+—wyddoch chi, tua 50 y cant oedd wedi cofrestru. Ni phleidleisiodd pob un ohonyn nhw, ond pleidlais am y tro cyntaf yw hon; ac fe wyddom fod hynny'n effeithio ar bleidleisio yn yr hirdymor weithiau. Ond mae'n amlwg ein bod ni'n dymuno gweld sut y gellir gwella hynny mewn gwirionedd, ac efallai ei fod yn fater o adnoddau. Felly, mae hwnnw'n faes yr ydym am edrych arno. Gan edrych ar gywiro, neu ddiwygio'r ffurflenni eu hunain, fel eu bod nhw'n haws eu deall; pleidleisio mewn mwy nag un lleoliad. Ac rydym yn ystyried, yn sicr, y posibilrwydd o gynllun peilot yn hyn o beth a fyddai'n gofyn am Orchymyn deddfwriaethol, ond fe allai hwnnw fod yn bosibilrwydd. Yn y tymor hwy, calon y mater, onid e, yw digideiddio'r gofrestr etholiadol, sy'n agor cymaint o ddrysau o ran cyfleoedd.
O ran y sylwadau ar aer glân: mae'r rhain yn gwbl ddilys, ac, fel y dywedais, pe byddai wedi bod yn bosibl dod â'r Ddeddf aer glân i mewn ym mlwyddyn gyntaf y Senedd hon, fe fyddem ni wedi gwneud hynny, ond mae gennych chi ymrwymiad llwyr y bydd yna Fil aer glân, yn union fel y bydd yna Fil plastigau untro. A chan y bydd yna ragor o ddeddfwriaeth bellach, rwy'n siŵr y bydd honno'n cael ei hystyried gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
A'r pwynt a wnaethoch chi ynglŷn â bysiau, rwy'n siŵr fod hynny'n eglur iawn: roedd yna obaith y gellid cyflwyno deddfwriaeth yn ystod y Senedd ddiwethaf, ond, yn amlwg, mae hynny'n dod o fewn portffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae trafnidiaeth yn un o'r rhesymau dros ddod â'r rhain ynghyd, rwy'n siŵr.
Jane Dodds. Nid ydych wedi diffodd eich mudydd, Jane. A wnewch chi aros am eiliad? Diolch. Fe allwch chi ddechrau nawr.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yn dilyn rhai o'r pwyntiau a gododd Jenny Rathbone: rwy'n cael fy nghalonogi o weld eich ymrwymiad chi i ddiwygio etholiadol, i leihau'r diffyg democrataidd. Ac rwy'n siŵr eich bod chi mor bryderus â minnau ynghylch cynnig Llywodraeth Geidwadol y DU i ddifreinio pleidleiswyr, dan gynlluniau a ddadorchuddiwyd ddim ond ddydd Llun diwethaf, a fydd yn gorfodi pobl i gario dogfen adnabod ar gyfer bwrw pleidlais. Fe allai llethu'r pleidleiswyr yn y modd hwn ledled y DU arwain at fwy na 2 filiwn o bleidleiswyr heb ddogfennau adnabod priodol yn peidio â chymryd rhan mewn etholiadau. Fe fydd y cynlluniau hyn yn ei gwneud yn fwy anodd i'r grwpiau dosbarth gweithiol, pobl hŷn, yn ogystal â phobl ddu ac o leiafrifoedd Asiaidd, fwrw eu pleidleisiau nhw.
Rwy'n croesawu eich sylwadau chi am y cynnig hwn gan Lywodraeth Geidwadol y DU, ac rwy'n gobeithio y bydd eich rhaglen chi'n ymrwymo i sicrhau pleidlais sy'n deg ac yn hygyrch i bawb, o ba gefndir bynnag, ac na fydd yn rhoi ystyriaeth i allu unrhyw un i gael gafael ar ddogfennau adnabod. Diolch i chi. Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y sylwadau yna? Rwy'n cytuno bron yn llwyr â'i sylwadau. Dim ond i ddweud wrthi, o ran materion diwygio etholiadol, fel Cwnsler Cyffredinol, rwyf wedi cyfarfod â'r Comisiwn Etholiadol, ac rwyf wedi cyfarfod â'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol. Mae diwygio yn fater pwysig iawn y mae angen ei ystyried. Un o'r materion, nid yn unig o ran diwygio a moderneiddio'r system i weinyddu etholiadau, yw'r cyfle i'w chodio a'i chael mewn un lleoliad. Mae'n rhaid imi ddweud, fel Cwnsler Cyffredinol, mai hwn yw'r tro cyntaf imi orfod bwrw golwg ar y system hon, ac rwyf wedi fy syfrdanu gan ei chymhlethdod a'i natur hynafol.
O ran y pwyntiau yr ydych chi'n eu gwneud ynglŷn â deddfwriaeth diwygio etholiadol gan Lywodraeth y DU, nid yw mater cardiau adnabod yn rhywbeth y byddwn ni'n gwneud dim ag ef; nid yw'n fater y byddwn ni'n ei gefnogi o gwbl. Fel y dywedais mewn cwestiynau yr wythnos diwethaf, nid oes unrhyw dystiolaeth sy'n cyfiawnhau'r newid hwn na rhoi'r rhwystrau hyn yn eu lle. Yn y DU gyfan, rwy'n credu mai chwe achos o gwynion a gyflwynwyd gan arwain at euogfarnau neu gymryd camau o unrhyw fath—a rhybuddion oedd dau o'r rhain, rwy'n credu. Felly, nid oes yna sail dystiolaethol ar gyfer y newid hwn, ac mae hyn yn codi'r cwestiwn pam mae'r mesur yn cael ei gyflwyno mewn gwirionedd. Roeddech chi'n codi'r mater o lethu pleidleiswyr; fe fydd gan bobl eu safbwyntiau eu hunain yn hynny o beth. Y cyfan a ddywedaf i yw mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw nad yw cardiau adnabod yn fater y mae gennym ni unrhyw gydymdeimlad ag ef, na diddordeb ynddo.
Rwy'n croesawu rhaglen Llywodraeth Cymru; mae'n hen bryd i ni gael hawliau gwaith teg. Gobeithio y bydd y Bil partneriaeth gymdeithasol yn sicrhau na fydd cwmnïau sy'n ymgymryd â diswyddo ac ailgyflogi, ac sydd â chontractau camfanteisiol sy'n talu llai na'r cyflog byw gwirioneddol, yn cael contractau sector cyhoeddus. Rwy'n croesawu'r Bil trethiant i sicrhau tranc cyflym y bylchau ar gyfer osgoi talu trethi —rwyf wedi gofyn am hynny o'r blaen. Rwy'n tybio y bydd y rheol 'dim niwed' ar drethiant a newidiadau eraill a achosir gan San Steffan yn parhau. Parthau ugain milltir yr awr—rwy'n eu croesawu nhw'n fawr iawn. Mewn rhannau helaeth o'm hetholaeth, byddwch yn gyrru'n beryglus os byddwch yn teithio dros 20mya, ac yn debygol o gael gwrthdrawiad penben. Mae galluogi llywodraeth leol i gael partneriaethau economaidd rhanbarthol yn ffurfiol yn ddefnyddiol iawn. Rydym ni bellach wedi sefydlu'r pedwar rhanbarth yng Nghymru; mae cael partneriaeth economaidd ranbarthol yn rhywbeth na all ond helpu i yrru Cymru yn ei blaen. Ac yn olaf, yn 2021, rydym yn sicrhau bod cartrefi rhent yn addas i bobl fyw ynddyn nhw—rhywbeth y mae rhai ohonom ni wedi gofyn amdano ers i ni gyrraedd y fan yma.
Diolch i Mike Hedges am y sylwadau y mae wedi eu codi, ac, wrth gwrs, mae wedi eu codi nhw droeon yn ystod y dadleuon yn y Senedd yn y tymor diwethaf, ond hefyd hyd yn oed eleni. Gan gyfeirio at y Bil partneriaethau cymdeithasol a chaffael, mae hwn yn ymrwymiad hirsefydlog a wnaed. Rwy'n credu ei fod, o bosibl, yn un o'r darnau mwyaf radical a rhagweledol o ddeddfwriaeth, yn enwedig yn y maes ôl-COVID pan ydym yn sôn am wneud pethau'n wahanol a gwneud pethau'n well, ac mae'n rhaid i hynny olygu, rwy'n credu, defnyddio caffael fel ffordd o hybu'r amcanion economaidd-gymdeithasol hynny, sydd wedi eu datganoli i ni, ein cyfrifoldeb ni ydyn nhw, ac rwy'n credu y byddem yn anghyfrifol i beidio â manteisio ar y cyfleoedd hynny er mwyn gwneud hynny.
Mae diswyddo ac ailgyflogi wedi bod yn un o'r arferion gwarthus sydd wedi dod i'r amlwg yn sgil pandemig COVID, sef y ffordd y mae rhai cyflogwyr—ac rwy'n dweud 'rhai' oherwydd bod llawer o gyflogwyr wedi gweithredu mewn modd cwbl onest o ran eu gweithlu a'u busnesau. Ond mae diswyddo ac ailgyflogi, yn anffodus, yn faes cyfraith cyflogaeth a gadwyd yn ôl, ac mae'n faes lle bu galwadau, gan yr wrthblaid Lafur ac eraill, am newid mewn deddfwriaeth i ailalinio'r cydbwysedd o ran hawliau gweithwyr yn erbyn buddiannau a chyfleoedd busnesau i fanteisio ar y pandemig. Ond, yn sicr, o ran y Bil partneriaeth gymdeithasol, un o'r amcanion yw nodi amcanion economaidd-gymdeithasol, ac, yn amlwg, ymddygiad cyflogwyr o ran yr amgylchedd, o ran iechyd, o ran cydraddoldeb ac o ran llawer o feysydd sydd wedi eu datganoli, o ran gweithredu adran 1 Deddf Cydraddoldeb 2010 a weithredwyd gennym ni; mae'r rhain yn ffactorau a fydd yn cael eu hystyried o ran cyflawni'r amcanion economaidd-gymdeithasol hynny. Yn amlwg, mae llawer o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd mewn cysylltiad â'r ymgynghoriad sydd wedi dod i ben ynglŷn â'r Bil partneriaeth gymdeithasol y byddem yn gobeithio ei gyflwyno cyn diwedd blwyddyn y Senedd.
O ran y rheol dim niwed, wel, mae'n rhaid i ni amddiffyn honno'n llwyr—os oes newidiadau i drefniadau trethu ar lefel y DU sy'n effeithio ar gyllid y Senedd hon, yna mae'n rhaid gwneud iawn am y rheini. Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnewch mewn cysylltiad â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 sy'n amddiffyn tenantiaid a'u hawliau, ac rwy'n credu fy mod i eisoes wedi gwneud y sylwadau hynny am bwysigrwydd llwyr blaenoriaethu'r broses o weithredu'r ddeddfwriaeth honno.
Diolch Cwnsler Cyffredinol am eich datganiad y prynhawn yma. Ond mae'n siomedig i beidio â gweld deddfwriaeth ar hawliau pobl hŷn yn eich rhaglen. Efallai y cofiwch, yn ystod fy nadl Aelodau ar ddeddfwriaeth yr wythnos diwethaf, fod eich Llywodraeth wedi nodi, er eich bod yn cefnogi fy nghynigion ar gyfer dull o ymdrin â gwasanaethau i bobl hŷn yn seiliedig ar hawliau, y byddech chi'n cyflwyno eich deddfwriaeth eich hun. Felly, Cwnsler Cyffredinol, pam nad oes cynigion ar gyfer eich Deddf hawliau dynol, ac a ydych chi'n credu ei bod yn deg i bobl hŷn orfod aros er mwyn i'w hawliau gael eu diogelu? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi am y cwestiwn yna. Nid wyf i am ymateb ynghylch materion Biliau'r Senedd, oherwydd rwy'n credu bod hynny, yn briodol, yn fater i'r Senedd hon benderfynu yn ei gylch. Ond rydych chi'n codi materion sy'n ymwneud â hawliau dynol. Byddwn, wrth gwrs, yn atgoffa'r Aelod mai ei Lywodraeth ef sydd wedi bod yn gwneud pob math o ymdrechion a synau yn dweud eu bod eisiau diddymu Deddf Hawliau Dynol 1998 ac sydd wedi ein tynnu'n ôl o bob math o gytundebau a chonfensiynau rhyngwladol sy'n hybu ac yn cefnogi hawliau dynol mewn gwirionedd. Bu galwadau yn ystod y blynyddoedd diweddar i Lywodraeth Cymru ymgymryd â gweithgarwch deddfwriaethol i gryfhau a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, yn enwedig yng nghyd-destun y DU yn ymadael â'r UE a phandemig COVID.
Ond mae angen i ni fod yn glir ynglŷn â rhai o'r pethau yr ydym wedi eu gwneud ynghylch yr hawliau hynny o ran cydraddoldeb: gweithredu adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, y mae Llywodraeth y DU yn San Steffan yn dal i wrthod ei gweithredu; adolygu dyletswyddau penodol o dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus i sicrhau eu bod yn gyfoes, yn amddiffynnol ac yn effeithiol; y gwaith yr ydym yn ei wneud ar y cyd â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru i adolygu trefniadau monitro ac adrodd o ran Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus; gwaith sy'n mynd rhagddo o ran hybu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb rhywiol, y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, adroddiad a chynllun gweithredu LHDT+; cyfyngiadau symud—rhyddhau bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru y tu hwnt i hynny. Hefyd, efallai rhywbeth a fydd yn cyffwrdd mwy â rhai o'r pwyntiau a gododd yr Aelod, comisiynwyd ymchwil er mwyn archwilio'r dewisiadau sydd ar gael wrth fwrw ymlaen â'r gwaith o gryfhau a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Y nod yw datblygu dealltwriaeth glir o'r ddeddfwriaeth bresennol a'r fframweithiau canllaw statudol, mater confensiynau amrywiol y Cenhedloedd Unedig a sut y gellid eu hymgorffori nhw neu ymgysylltu â nhw mewn cysylltiad â chyfraith Cymru gyda'r bwriad o ystyried y posibilrwydd o gyflwyno deddfwriaeth newydd. Ac, unwaith eto, wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol o'r gwaith a wnaed o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a hefyd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Felly, rydym ni'n gweithio i ddatblygu'r maes hwnnw. Mae'r adroddiad ymchwil bron wedi ei gwblhau, a chaiff ei ddosbarthu i Weinidogion cyn bo hir. Mae'n ymchwil sydd wedi ei wneud gan gonsortia, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, ers mis Ionawr 2020, a phan fydd yr adroddiad hwnnw ar gael, rwy'n siŵr y bydd cyfle i drafod yr holl gyfleoedd hynny o ran sut y gallwn ni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym ni er mwyn gwella materion fel yr un a godwyd gan yr Aelod, ond hefyd y llu o faterion cydraddoldeb eraill sy'n bodoli yr ydym yn awyddus i fynd i'r afael â nhw.
Ac yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, rydych chi wedi achosi cyffro mawr, rwy'n credu, ymhlith darpar aelodau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gan ein hatgoffa o raddfa'r ddeddfwriaeth ac offerynnau statudol sy'n llifo o ganlyniad i ymadael â'r UE, a'r pandemig hefyd. Bydd yn sicr yn ein cadw yn eithaf prysur, yn ogystal â'ch cynigion ynghylch cydgrynhoi agweddau ar gyfraith Cymru hefyd.
Ond a gaf i droi at rai o'r agweddau hynny yn y fan yma y byddwn yn bendant yn eu croesawu—pethau fel y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus, y Bil addysg drydyddol ac ymchwil, a'r Ddeddf rhentu cartrefi? Rwy'n credu y byddai pob un ohonom ni yn croesawu'r rheini'n fawr, ond—ac mae 'ond' bob amser yn dod—a minnau'n Gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y Ddeddf aer glân, a gaf i ei annog, yn gyntaf oll, cyflwyno datganiad cynnar gan gyd-Aelodau'r Llywodraeth ar ba gamau y gellir eu cymryd nawr heb orfod aros i ddeddfwriaeth gyflawni cynnydd gwirioneddol, cynnydd pendant, ar aer glân ac ansawdd bywyd ac achub bywydau?
Yn ail, nodwn ei ymrwymiad—ymrwymiad llwyr, meddai—i gyflawni hyn. A dywedodd, 'Pe gallwn i ei gynnwys yn y rhaglen ddeddfwriaethol hon, byddwn wedi gwneud hynny.' Wel, os felly, rhowch yr ymrwymiad, felly, i weithio gydag ymgyrchwyr, a chyda'r grŵp trawsbleidiol hefyd, i sicrhau y bydd yn barod i'w gyflwyno yn y cyhoeddiadau deddfwriaethol nesaf y byddwch yn eu gwneud ym mlwyddyn 2, ac, yn y flwyddyn 2 honno, gwnewch y cyhoeddiad bryd hynny a gadewch i ni fwrw ymlaen ag ef—ynghyd â, gyda llaw, adleisio Jenny, y Bil bysiau. Weithiau rydych chi'n disgwyl am ddau ddarn da o ddeddfwriaeth ac maen nhw'n dod yr un pryd. Beth am i ni gael y ddau ohonyn nhw yn y cyhoeddiad nesaf.
Diolch i Huw Irranca am y sylwadau yna, ac rwyf innau hefyd yn eich llongyfarch ac yn croesawu eich penodiad fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—rwy'n ymddiheuro, newidiodd yr enw ychydig, oni wnaeth, ac ati, ond mae hwnnw yn bwyllgor mor hanfodol i weithredu gwaith deddfwriaethol y Senedd hon, ac mae'n cael ei danbrisio'n aml, a chyfeirir ato weithiau fel pwyllgor ar gyfer 'geeks' deddfwriaethol, ond, fel yr ydym wedi dweud droeon, heb y 'geeks' deddfwriaethol hynny, ni fyddai'r rhaglen ddeddfwriaeth yn rhedeg yn y ffordd y dylai, ac yn sicr nid heb y craffu a geir, yn ogystal â'r gwaith ychwanegol y byddwch yn ddi-au yn ei wneud o ran y fforwm rhyngseneddol, sydd, yn fy marn i, yn wirioneddol bwysig o ran rhai o'r materion cyfansoddiadol sy'n dod i'r amlwg ac y bydd angen ymgysylltu â nhw.
Rwy'n ei chael hi'n anodd rhoi llawer mwy o ymrwymiad nag sydd gennyf eisoes mewn cysylltiad â'r deddfau amgylcheddol. Maen nhw yno, ym maniffesto Llafur Cymru. Dyna'r ymrwymiadau pendant y byddwn yn gweithredu ein haddewidion maniffesto, y byddwn yn edrych yn fwy cyffredinol ar faterion amgylcheddol mewn ystod eang o feysydd. Byddwn hefyd, fel yr oedd yn glir iawn o'r maniffesto hwnnw, yn edrych ar amrywiaeth eang o feysydd nad oes angen deddfwriaeth arnyn nhw mewn gwirionedd er mwyn gwneud newidiadau, ac rwy'n credu bod hwnnw yn bwynt yr oeddech chi'n ei wneud ychydig yn gynharach. Ac o ran cyhoeddi datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, rwy'n siŵr ei bod hi'n gwrando â brwdfrydedd am y cyfle i wneud y datganiad hwnnw ar yr adeg briodol.
Diolch, Weinidog. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych chi'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd mewn i'r Siambr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:33.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:43 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar fforddiadwyedd, ail gartrefi a'r Gymraeg, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad. Julie James.
Diolch, Llywydd. Bu cryn sylw a thrafodaeth dros y misoedd diwethaf am ail gartrefi ac, y tu hwnt i hynny, tai fforddiadwy i bobl ifanc yng Nghymru. Rydym ni'n ymwybodol iawn o'r heriau a wynebwn ac rydym eisoes wedi cymryd camau clir tuag at fynd i'r afael â'r rhain. Fodd bynnag, gallwn wneud mwy a byddwn yn gwneud mwy. Wrth ymgymryd â'r gwaith hwn, rydym wedi gwrando ar alwadau gan gymunedau ledled Cymru ac wedi gweithredu arnyn nhw. Rydym ni wedi cynnal trafodaethau trawsbleidiol, ac adlewyrchir ein penderfyniad clir i fynd i'r afael â'r heriau a wynebwn yn ein rhaglen lywodraethu ac mewn ymrwymiadau gweinidogol.
Rydym wedi croesawu gwaith rhagorol ac argymhellion clir Dr Simon Brooks yn ei adroddiad, 'Ail gartrefi: datblygu polisïau newydd yng Nghymru'. Yn wir, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a minnau wedi ysgrifennu at Dr Brooks, yn nodi ein hymateb ac yn amlinellu ein camau nesaf. Llywydd, mae hon yn llywodraeth sy'n benderfynol o gymryd camau gwirioneddol ac uchelgeisiol, a heddiw rwy'n nodi ein dull tair elfen o fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau.
Mae llawer o'r ddadl ail gartrefi wedi canolbwyntio ar nifer o'n cymunedau Cymraeg eu hiaith, yn bennaf mewn rhannau gwledig ac arfordirol o'r wlad. Gwyddom fod dimensiwn ieithyddol gwirioneddol a difrifol i'r her hon. Mae'n un sy'n torri ar draws ein hymrwymiad i 'Cymraeg 2050' a phwysigrwydd hanfodol sicrhau bywiogrwydd y Gymraeg fel iaith gymunedol. Yn ogystal ag ystyriaethau ieithyddol sylweddol, rhan greiddiol o'r mater sy'n cael ei wynebu yw tai fforddiadwy yn gyffredinol, ac nid yng Nghymru yn unig, ond mewn sawl rhan o'r DU ac yn wir y tu hwnt.
Gan adeiladu ar ein llwyddiant ysgubol yn y tymor diwethaf, pryd y gwnaethom ragori ar ein targed cartrefi fforddiadwy, mae ein rhaglen lywodraethu yn adlewyrchu'r ymrwymiad parhaus hwn i ddarparu 20,000 o gartrefi newydd ledled Cymru. Yn hollbwysig, eiddo carbon isel fydd y rhain i'w rhentu yn y sector cymdeithasol. I gefnogi'r ymrwymiad hwn, rydym bron wedi dyblu ein buddsoddiad ariannol eleni—buddsoddiad uchelgeisiol a sylweddol iawn ar unrhyw gyfrif, ac un a fydd yn cynnig manteision clir, gwirioneddol i bobl leol ac i'w cymunedau.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu mesurau treth, cynllunio a thai effeithiol i sicrhau bod buddiannau pobl leol yn cael eu diogelu. Ac nid ydym yn troi oddi wrth ein safbwynt clir ar dreth trafodiadau tir ar gyfer prynu ail gartrefi. Yn hyn i gyd, byddwn yn diogelu buddiannau penodol ein cymunedau Cymraeg drwy gynllun tai cymunedau Cymraeg, gan gadw gafael ar fforddiadwyedd ar draws pob cymuned yng Nghymru.
Mae'r dull tair elfen yn cychwyn gweithredu gwirioneddol ar y cyd i reoli ail gartrefi yn deg dros dymor y Senedd hon, gan sicrhau hefyd bod tai fforddiadwy o ansawdd da ar gael i bawb. Yn gyntaf, cymorth: i ymdrin â materion fforddiadwyedd, byddwn yn targedu ac yn teilwra ein rhaglenni tai presennol ar draws deiliadaethau. Wrth wneud hyn, byddwn yn defnyddio profiadau o gyflwyno rhaglenni llwyddiannus fel cymorth i brynu, a hybu'r mathau o atebion creadigol yr ydym wedi eu gweld mewn sawl rhan o Gymru. Dros yr haf nesaf, bydd fy swyddogion yn llunio pecyn y gallwn ddechrau ei dreialu. Byddwn yn ei werthuso'n drylwyr fel y gallwn fod yn sicr ei fod yn gwneud gwahaniaeth clir a mesuradwy.
Yn ail, ein fframwaith rheoleiddio a'r system. Er mwyn ymdrin â mater ail gartrefi, byddwn yn darparu ar gyfer gwell rheolaeth dros ail gartrefi ychwanegol ac eiddo a gaiff ei osod ar gyfer gwyliau tymor byr, drwy newidiadau i'r fframwaith rheoleiddio a'r system. Mae angen i rannau o'r system newid, a byddwn yn eu newid. Byddwn yn sefydlu cynllun cofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau, gan gynnwys eiddo a osodir am dymor byr. Byddwn yn ystyried cymhlethdodau cyfreithiol o ran sut y gallwn brofi newidiadau i'r system gynllunio, ac rwyf hefyd yn benderfynol y bydd yr holl systemau sydd naill ai ar waith neu sy'n cael eu harchwilio, yn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.
Ac yn drydydd, cyfraniad tecach, fel bod systemau trethu cenedlaethol a lleol yn sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad teg ac effeithiol i'r cymunedau y maen nhw'n prynu ynddyn nhw. Yn rhan o'r gwaith hwn, rydym yn edrych yn fanwl iawn ar amgylchiadau lle gellir trosglwyddo rhywfaint o eiddo i'r rhestr ardrethi annomestig ac, o ganlyniad, weithiau byddan nhw'n osgoi talu'r dreth gyngor a'r ardrethi annomestig. Ni all hynny fod yn iawn yn sicr a byddwn yn cyflwyno cynigion i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Gwyddom y gall perchnogion ail gartref gefnogi economïau lleol ac yn aml maen nhw'n gwneud hynny, ac rydym ni'n coleddu ein henw da fel cymdeithas groesawgar. Er hynny, mae'n bwysig bod pawb yng Nghymru yn gwneud cyfraniad teg. Dyna pam yr ydym ni'n adolygu trefniadau treth leol ac yn ystod yr haf, byddwn yn cyflwyno dewisiadau ar gyfer ymgynghori.
Nid oes dim o hyn yn syml wrth gwrs, sy'n rhywbeth y mae Dr Brooks yn ei gydnabod hefyd. Fodd bynnag, ni fydd hynny'n ein rhwystro. Byddwn yn treialu ein dulliau gweithredu, gan weithio gyda phartneriaid, yn ystod yr haf. Rydym eisoes wedi cael un cynnig i gymryd rhan mewn cynllun treialu ac rwyf wedi ysgrifennu i wahodd trafodaethau cwmpasu pellach. Mae ein gweithredoedd yn y maes hwn yn cynrychioli gweithio beiddgar, trawslywodraethol. Mae Gweinidogion ar draws Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan ac yn parhau i gymryd rhan. Rydym wedi sefydlu grŵp gorchwyl trawsbortffolio, a byddwn yn parhau â'n deialog ar draws y pleidiau. Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, nid oes gan yr un blaid fonopoli ar syniadau da.
Dros yr haf byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gytuno ar y sail a'r lleoliad neu'r lleoliadau ar gyfer cynllun treialu wedi'i werthuso; datblygu pecyn cymorth cydlynol ac effeithiol i'w dreialu o fewn y cynllun treialu; dechrau datblygu cynllun cofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau a pharhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch ffurf y model y byddwn yn ei weithredu, gan gynnwys y trefniadau cofrestru ac arolygu. Byddwn yn ymgynghori ar newidiadau posibl i drethi lleol i helpu awdurdodau lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanarlwyo, a byddwn yn sefydlu cynllun tai cymunedau Cymraeg drafft ar gyfer ymgynghori yn yr hydref. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn ein cefnogi wrth i ni ddechrau gweithio ar y mater heriol ond pwysig iawn hwn. Diolch, Llywydd.
Rwyf am ddechrau fy nghyfraniad drwy ddweud pa mor siomedig, unwaith eto, yr wyf i fel Aelod a ddychwelwyd i'r Senedd hon. Rwy'n rhan o'ch grŵp gorchwyl. Mae Mabon a finnau wedi cwrdd â chi, ar ran Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig, ar gyfer dwy sesiwn erbyn hyn, ac eto dyma ni, rydym ni'n gweld bod y cyhoeddiad wedi ei roi i'r wasg ddoe. A Llywydd, hoffwn ofyn—. Mae hwn yn dod yn fater eithaf pwysig. Mae Aelodau—Aelodau newydd yn arbennig—yn dweud wrthyf i, 'Ai dyma sut y mae pethau'n gweithio yn y Senedd?', a dywedaf innau, 'Nage, nid fel hyn.' Felly, byddwn yn gofyn i bob Gweinidog weithio gyda'u swyddogion a sicrhau, pan ddychwelwn ni ym mis Medi, y cynhelir busnes mor bwysig â hwn yn y fan yma, o barch i'n Haelodau etholedig, ac na chaiff ei wneud drwy'r cyfryngau. Diolch.
Nawr, yn amlwg, mae hwn yn fater rhy bwysig i ni gael unrhyw gecru gwleidyddol dibwys yn ei gylch, felly rwyf eisiau ein gweld ni'n gweithio'n gyffredinol o ddifrif. Ac mae'n deg dweud bod yr adroddiad gan Dr Simon Brooks yn ddiddorol iawn i'w ddarllen, ac mae'n codi rhai pwyntiau pwysig, gan gynnwys mai prin
'yw’r dystiolaeth mai ail gartrefi sy’n bennaf gyfrifol am brisiau tai uchel yn hytrach na phrynwyr sy’n symud i’r ardaloedd hyn er mwyn byw yno’n barhaol';
ni fyddai bod â llai o ail gartrefi yn newid y ffaith bod yn rhaid i brynwyr lleol gystadlu â phrynwyr o'r tu allan i ardal; byddai ehangu stoc tai heb ddiwydrwydd dyladwy yn sicr o annog symudiad sylweddol yn y boblogaeth o rannau eraill o'r DU i ardaloedd sensitif o ran iaith; ac ni all pobl leol gystadlu yn y farchnad dai yn erbyn prynwyr o'r tu allan i'r gymuned.
Felly, os yw'r Senedd hon wedi ymrwymo'n wirioneddol i gydweithredu trawsbleidiol ar yr argyfwng tai, gofynnaf i chi, Gweinidog, unwaith eto i gytuno i adfer yr hawl i brynu yng Nghymru ac ailfuddsoddi'r enillion gwerthu hynny. Ar gyfer pob un tŷ a werthir, gellir adeiladu tair uned newydd. A ydych chi'n cytuno â mi, drwy weithredu ar ganfyddiad Dr Brooks fod ail gartrefi mewn gwirionedd yn broblem ranbarthol a lleol—nid ydyn nhw o reidrwydd yn broblem genedlaethol—y gallem ni fynd ar drywydd yr hawl i brynu ac ailfuddsoddi enillion gwerthu yn y wardiau y mae ail gartrefi yn effeithio fwyaf arnyn nhw ac, wrth wneud hynny, creu mwy o gartrefi i'n pobl leol? Byddai ein datrysiad hawl i brynu o fudd mor enfawr i ardaloedd fel Abersoch ac Aberdaron, sydd â chymhareb fforddiadwyedd incwm o gymharu â phrisiau tai o 10.7:1.
Yn dilyn Deddf Tai (Cymru) 2014, mae gan awdurdodau lleol yr hawl i godi premiwm treth leol o hyd at 100 y cant ar ail gartrefi. Mae awdurdodau lleol wedi bod yn gyndyn iawn i gynyddu premiymau, ac mae rhesymau, y gellir eu cyfiawnhau, dros hyn. Mae yna ddiffyg cydnabod llwyr y manteision y mae rhai o'n cartrefi gwyliau, ein hail gartrefi, yn eu cynnig i'r economïau lleol. Yn sicr yn Aberconwy, maen nhw'n darparu swyddi, maen nhw'n rhoi cymorth i'n heconomi, ac rwy'n gwbl yn erbyn y premiymau uchel hyn. Felly, a wnewch chi egluro pam yr ydych chi'n credu y bydd defnyddio systemau trethu cenedlaethol a lleol ychwanegol yn effeithiol o ran mynd i'r afael ag effaith ail gartrefi? Rydym i gyd eisiau cael mwy o fanylion ynghylch pa fesurau trethiant sydd gennych chi mewn golwg, ond nid wyf i'n credu bod hwn yn fater y gallwch drethu eich ffordd allan ohono.
Rydych yn gwybod beth a ddywedais i y tu ôl i'r llenni yn ein cyfarfodydd: credaf ei bod yn bryd erbyn hyn i ni weithio ar draws y diwydiant a'r sector cyfan. Mae angen i ni weithio gyda'n landlordiaid a'n tenantiaid; mae angen i ni weithio gyda'n darparwyr tai, y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, landlordiaid y sector preifat, ac mae angen i ni weithio gyda'r rhai yn y diwydiant gosod eiddo ar gyfer gwyliau. Mae pobl wedi cael eu difrïo bron, erbyn hyn am fod ag ail gartref, a gwn yn fy etholaeth fy hun, y nifer—. Cefais gynhadledd fach ar dai ddydd Gwener, pryd y dywedwyd wrthyf yn bendant gan y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant fod llai o gartrefi ar gael erbyn hyn, oherwydd bod pobl yn tynnu'n ôl o'r sector ac yn ffafrio Airbnb, yn ffafrio gosod eiddo ar gyfer gwyliau. Rwy'n credu bod angen i ni edrych ar hyn gydag ymagwedd amlweddog iawn. Ac rwy'n credu hefyd fod yn rhaid i ni ysgafnu rhywfaint ar yr iaith elyniaethus rwy'n ei chlywed yn y ddadl hon—nid gennych chi, hoffwn ychwanegu, y Llywodraeth.
Rwy'n hapus i weithio gyda chi, yn awyddus iawn i weithio gyda chi; rwyf eisiau sicrhau bod gan ein pobl leol y lletyau hynny y mae arnyn nhw eu hangen gymaint, ond fel y dywedais, ni fydd hyn yn cael ei ddatrys dros nos. Rwy'n credu bod Dr Simon Brooks wedi gwneud y pwynt hwnnw: mae'n mynd i gymryd amser i newid cwrs y llong fawr honno. Mae angen i ni ddechrau, ond mae angen i'r sgyrsiau hynny ddechrau yn drawsbleidiol ar draws y Senedd hon. Diolch, Llywydd.
Diolch yn fawr iawn, Janet. O ran y pwyntiau am y cyfryngau, rwy'n derbyn eich pwynt; rwyf eisiau gwneud yn siŵr bod aelodau'r Senedd yn cael yr wybodaeth yn gyntaf, felly rydym wedi ymdrafferthu i sicrhau bod aelodau'r Senedd yn cael copi o'r llythyr sy'n mynd yn ôl at Dr Simon Brooks heddiw a bod y llefarwyr wedi cael y datganiad llafar yn gynharach. Rwy'n derbyn y pwynt yn gyfan gwbl, felly byddwn yn sicr yn gweithio gyda'r grŵp trawsbleidiol ar hynny.
Mae rhai cymhlethdodau gwirioneddol yn y fan yma, onid oes? Felly, un o'r pethau mawr yr ydym ni eisiau ei wneud yw gweithio gyda phawb i ddeall beth yw'r diffiniadau o'r termau amrywiol hyn. Ail gartref, cartref a feddiannir gan rywun nad yw'n dod o'r gymuned, cartref a feddiannir gan rywun sy'n gweithio yn y gymuned ond sy'n dychwelyd i rywle arall dros y penwythnos, cartref a feddiannir yn rhannol gan rywun ac sy'n cael ei osod i rywun arall yn rhannol; mae nifer fawr o wahanol ffyrdd o wneud hyn. Felly, mae rhai o'r materion yn dibynnu ar ddiffiniad, ac yn sicr nid wyf eisiau difrïo neb. Mae pawb yn gwneud cyfraniad, ond mae angen i ni sicrhau ei fod yn gyfraniad teg.
Nid wyf yn cytuno â chi ar yr hawl i brynu. Mae llu o broblemau ynghylch yr hawl i brynu, yn rhannol am nad oes gennym ddigon o dai cymdeithasol, felly nid yw gwerthu rhywfaint ohonynt yn gwneud unrhyw synnwyr. Ond hefyd, wrth gwrs, yr unig ffordd y gall pobl fforddio prynu'r cartrefi cymdeithasol y maen nhw'n byw ynddyn nhw yw eu prynu gyda disgownt sylweddol, ac nid yw'r pris disgownt yn cynhyrchu digon o arian i adeiladu'r gyfres nesaf o gartrefi cymdeithasol. Rwy'n credu eich bod wedi tanamcangyfrif yn sylweddol, yn anffodus, faint o arian y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd. Felly, mae problemau gwirioneddol ynghylch hynny.
Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau ein bod yn adeiladu digon o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu fel y gall pobl sydd eu eisiau nhw eu cael nhw, ac felly credaf ein bod ni'n gytûn ar hynny. Rwyf i, wrth gwrs, yn benderfynol iawn o wneud hynny, ac i sicrhau ein bod yn eu hadeiladu yn y lle iawn, ar gyfer y mynediad cymunedol iawn i'r cartrefi cymdeithasol hynny hefyd. Mae gennym yr argyfwng tai yr ydym wedi'i drafod yn y Senedd hon nifer o weithiau bellach, Llywydd, a fyddai'n cymryd—. Mae pob un yn ddadl ynddi hi ei hun. Ond rwy'n hapus iawn i ymgysylltu ar draws y pleidiau ar nifer o atebion i hynny.
Y peth olaf yr wyf i eisiau ei ddweud yw ynghylch y mater o weithio gyda'r landlordiaid. Rydym yn benderfynol o roi cynllun cofrestru ar waith ar gyfer gosod eiddo ar gyfer gwyliau. Mae rhai o'r problemau yn deillio o'r ffaith ei bod yn anos bod yn landlord parhaol nag yw hi i fod yn un dros dro, felly mae angen ymdrin â hynny, ac mae angen i ni fod yn siŵr bod pobl yn glynu wrth y safonau cywir a'r cyfundrefnau treth cywir a phopeth arall. Felly, byddwn yn gwneud hynny, ac rwy'n hapus iawn, Janet, i weithio gyda chi i sicrhau bod hynny'n gymesur ac yn cynhyrchu'r canlyniadau y mae'r ddwy ohonom yn dymuno eu gweld.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am y datganiad yma. Dwi innau eisiau rhoi ar y record hefyd pa mor siomedig oeddwn i i ffeindio fod y datganiad yma wedi cael ei wneud yn gyhoeddus i'r cyfryngau neithiwr, ac eich bod chi wedi bod yn Nhyddewi yn ffilmio ddoe, ac ein bod ni ddim wedi clywed dim byd amdano fo tan heddiw. Ond hyderaf na fydd hynny yn digwydd eto.
Os caf i yn gyntaf edrych, felly, ar y datganiad yn gyffredinol, fel rydych chi wedi sôn, mae'r Senedd yma eisoes wedi pasio cynnig yn datgan bod yna argyfwng tai. Fe gofiwch inni wneud hynny ryw dair wythnos yn ôl, a chwarae teg, gwnaethoch chi fel Llywodraeth ddim gwrthwynebu'r cynnig—a'i gefnogi e, mewn gwirionedd. Mae'r argyfwng ail dai yn un symptom yn unig o argyfwng llawer dyfnach a llawer iawn mwy sydd yn wynebu cymunedau ar hyd a lled Cymru. Mae'n golygu nad ydy pobl o Fôn i Fynwy yn medru fforddio prynu tai yn eu cymunedau. Fel y soniais i yn y ddadl honno rhai wythnosau yn ôl, mae hyn yn ganlyniad i farchnad sydd yn rhemp, a Llywodraeth ar ôl Llywodraeth sydd yn ofn ymyrryd yn y farchnad a sicrhau bod tai yn gartrefi, ac nid yn fuddsoddiad ariannol neu'n statws moethus i'w fwynhau yn achlysurol.
Ond rŵan at fanylion eich datganiad. Dwi'n falch gweld y datganiad yn cynnig ychydig yn fwy o fanylion mewn gwirionedd na'r hyn a gyflwynwyd yn y wasg. Dwi'n croesawu'r ffaith bod yna gydnabyddiaeth o'r diwedd fod yna broblem yn wynebu ein cymunedau—yn yr achos yma, cymunedau Cymraeg eu hiaith. Ond mae'r addewidion, yr ymrwymiad i ragor o ymgynghori, hanner addewidion ac oedi yn arwain rhywun i feddwl nad ydy'r Llywodraeth mewn gwirionedd yn gwerthfawrogi llawn difrifoldeb y sefyllfa. Nid problem ydy o, ond argyfwng.
Mae'r cynllun cofrestru statudol, er enghraifft, ar gyfer pob tŷ llety gwyliau i'w groesawu. O'r diwedd, bydd gennym ni well data a gwybodaeth fanwl ar bwy sy'n cadw busnesau dilys a chyfreithlon, a phwy sy'n ceisio chwarae'r system. Gall hyn gynorthwyo wrth geisio cau'r loophole sy'n galluogi pobl i drosi tai i dreth fusnes. A dwi'n croesawu eich bod chi wedi ymrwymo i edrych ar gau'r loophole. Ond er mwyn eich arbed chi rhag gwastraffu unrhyw ragor o'ch amser yn ymgynghori eto fyth, mi wnaf eich hysbysu chi rŵan fod yr Association of Accounting Technicians eisoes wedi edrych i mewn i hyn, ac wedi gwneud argymhellion i Lywodraeth San Steffan, ac mae Llywodraeth San Steffan, o dan y Ceidwadwyr yn Lloegr, yn edrych i gau'r loophole yma yn barod. Pam na wnewch chi weithredu ar hyn yn syth?
Rydych chi'n sôn am dreialu newid defnydd o fewn cynllunio i greu adran newydd ar gyfer lletyau tymor byr. Pam y treialu? Does dim angen cyfnod prawf fel hyn. Mae yna gynsail eisoes yn bodoli ar gyfer hyn efo tai amlfeddiannaeth. A does dim angen deddfwriaeth newydd, does dim rhaid gwastraffu amser rhagor yn edrych ar dreialu mwy o bethau. Rhaid ichi fod yn ddewr a gweithredu. A wnewch chi, felly, ymrwymo i weithredu ar hyn mor fuan â phosib?
Yn fwy pryderus fyth ydy'r amwysedd yn eich geiriau chi wrth sôn am dreialu adran newydd ar gyfer ail dai, gan eich bod chi'n sôn am edrych ar y potensial o dreialu adran newydd o'r fath yma o fewn y rheolau cynllunio. Peidiwch â gwastraffu rhagor o amser. Dwi'n gwybod bod yna bryderon ac amheuon am y polisi yma, ond dysgwch o wledydd eraill. Mae llywodraethau yn y Swistir yn gweithredu ar hyn yn barod, a hynny yn llwyddiannus. A wnewch chi estyn allan i wledydd fel y Swistir i ddysgu'r gwersi ganddyn nhw? Mae'r amser wedi dod i gymryd camau ystyrlon o blaid ein cymunedau ac o blaid pobl sydd wedi ein hethol ni. Fe gewch chi ein cefnogaeth ni i weithredu. Mae rhai o'n cymunedau ni bellach wedi mynd ar goll, ac eraill ar eu gliniau. Da chi, gweithredwch. Does dim angen ystyried potensial a threialu rhagor. Mae cyngor tref Nefyn eisoes wedi agor y drws ichi. Cymerwch y cyfle i gydweithio â nhw a chymunedau eraill sy'n galw allan am gymorth.
Yn olaf, dwi'n falch gweld eich bod chi yn sôn am edrych ar dreth trafodion tir, ond eto, does yna ddim ymrwymiad clir. Mae profiad gwledydd eraill yn dangos yn glir fod cynyddu treth gyffelyb ar bryniant ail dai, trydydd tai, ac yn y blaen, yn gymorth, ac yn sicrhau rheoli ar y farchnad. Gwnewch rywbeth yn ei gylch o. Gallwch chi wneud hyn heb hyd yn oed addasu ar unrhyw ddeddfwriaeth. Does dim angen oedi pellach. Mae prisiau tai yn saethu i fyny o flaen ein llygaid ni, a phobl ifanc yn gorfod gadael eu cymunedau neu fyw mewn tai israddol. Os nad ydych chi'n cymryd camau i weithredu rŵan hyn, yna byddwn ni'n gweld mwy o gymunedau yn mynd ar goll a mwy o bobl yn symud o'u cymunedau. Does dim amser gennym ni i'w golli. Gweithredwch rŵan hyn. Diolch.
Diolch, Mabon. Rwy'n deall eich angerdd chi a rhwystredigaeth pobl nad ydyn mewn Llywodraeth ynghylch y rheswm bod yn rhaid i ni dreialu ac ymgynghori ar bethau, ond y rheswm yw bod yn rhaid i ni ymgynghori ar newidiadau i'r rheolau; fel arall byddwn yn cael ein hadolygu'n farnwrol, a bydd y broses yn arafu y dra helaeth. Felly, rwy'n rhannu eich rhwystredigaeth, ond mae'n rhaid i ni ymgynghori yn ei gylch. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni amrywiaeth o safbwyntiau ar waith a'i fod yn ymgynghoriad dilys. Byddwn yn sicr yn ymgynghori ar y newidiadau i'r rheolau cynllunio.
Un o'r pethau yr wyf i eisiau edrych arno yn arbennig, serch hynny, yw pa un a oes rhaid i ni gael un ateb sy'n addas i bawb. Mae'n rhan arbennig o gymhleth o gyfraith cynllunio, ond hoffwn i'n fawr—. Wel, rydym ni'n cymryd cyngor ynghylch pa un a allwn ni fod â rheolau cynllunio penodol mewn cymunedau penodol, nad ydyn nhw yn angenrheidiol mewn mannau eraill yng Nghymru, ac felly nid oes rhaid i ni orfodi trefniadau newid defnydd penodol mewn ardaloedd lle nad oes angen iddyn nhw gael y math hwnnw o reolaeth, yn enwedig, er enghraifft, yng nghanol dinasoedd ac yn y blaen, lle ceir problem hollol wahanol, er yn gyfartal, o ran y math o faterion yr ydym yn edrych arnyn nhw.
O ran fforddiadwyedd, mae amrywiaeth o broblemau o ran fforddiadwyedd a'r nifer cynyddol o gartrefi sydd y tu allan i ddosbarth fforddiadwyedd pobl leol. Nid ydyn nhw i gyd yn ymwneud ag ail gartrefi. Mae rhai ohonyn nhw yn ymwneud â'r gyfundrefn fenthyca, er enghraifft. Nid yw'n anghyffredin o gwbl yn fy etholaeth i, i bobl ddod ataf sydd wedi talu rhent sy'n fwy o lawer nag y byddai'n rhaid iddyn nhw ei dalu am forgais dros gyfnod hir o amser, dim ond i ganfod nad yw hynny'n cyfrif dim o gwbl o ran eu statws ariannol, a'u hanallu i fforddio blaendal, oni bai fod ganddyn nhw fanc mam a dad i'w helpu, mae'n afresymol. Felly, ni allan nhw byth fynd ar y gris cyntaf hwnnw, er eu bod yn amlwg wedi gallu fforddio talu rhent llawer mwy na'r taliad morgais ers amser maith. Felly, mae angen i ni weithio gyda chynlluniau fel Cymorth i Brynu a chyda'n benthycwyr i sicrhau bod gennym feysydd lle gallwn helpu pobl leol i gael gafael ar yr adnoddau ariannol i brynu'r cartrefi y maen nhw eisiau eu prynu. Felly, nid yw'n ymwneud â dim ond cost y cartrefi drutaf.
Un o'r ffyrdd yr ydym yn ceisio gwneud hynny yw gyda'r ymddiriedolaeth tir cymunedol y siaradais â hi ddoe yn Solfach, lle mae gennym ni gynllun rhannu ecwiti, i bob pwrpas, fel y gall pobl gael troed ar yr ysgol, gallan nhw gael ychydig o werth datblygol y tŷ y maen nhw'n byw ynddo, ond nid oes ganddyn nhw'r hawl i'w werthu i unrhyw un o'u dewis eu hunain am elw enfawr; gallan nhw dynnu eu hecwiti allan a symud ymlaen os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. Rwy'n awyddus iawn i edrych ar gynlluniau o'r math hwnnw ledled Cymru. Un o'r problemau mawr gyda chynllunio yw y gallwch, yn aml iawn, reoli'r gwerthiant cyntaf ond nid y rhai dilynol. Felly, gallwn reoli gwerthiant y tŷ fel prif dŷ y tro cyntaf iddo gael ei werthu; mae'n anodd iawn gwneud hynny ar gyfer y pedwerydd gwerthiant. Ac felly, un o'r pethau yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yw sicrhau ein bod yn cadw'r tŷ hwnnw yn dŷ lleol ymlaen i'r dyfodol, ac mae hynny wedi profi'n llawer anos ei wneud ar draws y byd. A gallaf eich sicrhau, Mabon, fy mod yn sicr yn edrych ar enghreifftiau rhyngwladol o hyn, ond yn anffodus, hyd yn hyn, maen nhw i gyd yn dangos yr un problemau—mae'r un cyntaf yn iawn ac mae'r rhai dilynol yn llawer mwy problemus. Felly, byddwn yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i sicrhau hynny. Rwy'n awyddus iawn i gael rhyw fath o gyfran euraid, cyfran gyhoeddus, gan fod hynny'n atal y gwerthiant ymlaen i unrhyw un o'ch dewis am unrhyw bris o'ch dewis chi, ac yn cadw'r tŷ hwnnw mewn perchnogaeth leol. Ond mae hynny, wrth gwrs, yn gyfaddawd o ran y trefniant perchen-feddiannydd yr ydym yn gyfarwydd ag ef ledled Prydain. Felly, byddwn yn edrych i weld beth allwn ni ei wneud i dreialu rhywfaint o hynny.
Nid ni yw storfa'r holl wybodaeth dda; rwy'n hapus iawn i weithio'n drawsbleidiol gyda chi, yn gyhoeddus ac mewn gweithgorau y tu ôl i'r llenni i sicrhau ein bod yn archwilio'r holl syniadau da. Mae nifer o syniadau da wedi'u cyflwyno eisoes ynghylch partneriaethau cymdeithasol, mentrau cymdeithasol, cymryd rheolaeth dros drefniadau gosod eiddo ar gyfer gwyliau penodol ac ati, yr wyf i'n awyddus iawn i'w harchwilio hefyd. Yr hyn rwy'n ceisio ei ddangos yn y fan yma, Llywydd, yw ein bod ni'n barod iawn i edrych ar amrywiaeth o atebion a fydd yn wahanol i bob cymuned yng Nghymru, oherwydd y mae gan bob cymuned broblem wahanol; nid ydyn nhw i gyd yr un fath. Mae gennym ni un gymuned sydd wedi cynnig ei hun fel cynllun treialu, ond dim ond yr un sydd gennym ni ar hyn o bryd. Felly, os yw Aelodau'r Senedd eisiau annog cymunedau yn eu hardaloedd hwy i ddod ymlaen a threialu rhai o'r trefniadau hyn, byddwn yn fwy na pharod i siarad â nhw yn fuan iawn i roi hynny ar waith.
Llywydd, byddaf, rywbryd yn y dyfodol, yn dod i lawr y Senedd ac yn nodi'r mater o ba mor hir y mae hi'n ei gymryd i ni gael gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth. Rwy'n credu bod angen i bobl yn y gymdeithas yng Nghymru ddeall rhai o'r cyfyngiadau, oherwydd mae'n rhwystredig iawn cael yr alwad i weithredu, gan wybod ei bod yn wirioneddol amhosibl cyflawni yn y cyfnod byr hwnnw, yr hyn y mae pobl wir yn dymuno ei weld.
Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cael y datganiad hwn heddiw. Rydym yn brin o dai, rydym yn brin o dai fforddiadwy. Mae prisiau tai wedi cynyddu oherwydd prinder adeiladau, ond hefyd mae polisïau'r Llywodraeth fel Cymorth i Brynu a gwyliau treth trafodiadau tir wedi codi prisiau. Mae'r prinder tai mwyaf yng Nghaerdydd ac Abertawe a chyfeiriaf y Gweinidog at restrau aros tai cyngor y ddwy ddinas hynny. Mae'n amlwg i mi fod angen mwy o dai cyngor arnom. Yr unig adeg, ar ôl y rhyfel, pan oedd y cyflenwad tai yn cyfateb i'r galw am dai oedd pan godwyd tai cyngor ar raddfa fawr a bod gennym dai cyngor ar gael, ac yr oedd llety a bod tai a oedd yn cael eu rhentu yn breifat o'r blaen ar gael ar gyfer perchen-feddiannaeth. Roedd yn sefyllfa lle'r oedd pawb ar eu hennill. Rydym wedi mynd i sefyllfa o ddim tai cyngor—neu ychydig iawn o dai cyngor—yn cael eu hadeiladu, a llawer o lety rhent preifat. Sefyllfa lle mae pawb ar eu colled. Er mai'r ateb tymor hwy yw adeiladu mwy o dai cyngor, ceir atebion tymor byr. A fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi terfyn ar ryddhad ardrethi busnes ar dai ac yn trin pob tŷ fel un sy'n ddarostyngedig i'r dreth gyngor? Yn olaf, pam y mae Llywodraeth Cymru yn credu na fydd prosiect treialu ddim ond yn arwain at ddadleoli, yn hytrach na newid yng ngweithredoedd pobl?
Diolch yn fawr iawn, Mike. Mae eich ymrwymiad hir i wthio Llywodraethau i adeiladu mwy o dai cyngor a thai cymdeithasol yn hysbys iawn ac yn cael ei gydnabod. Ac rydych chi yn llygad eich lle: un o'r problemau mwyaf sydd gennym ni yn yr argyfwng tai ledled Cymru yw nifer y bobl mewn llety dros dro neu lety is-safonol; mae angen i ni adeiladu, ar raddfa fwy ac yn gyflym, y tai cymdeithasol y mae arnom eu hangen yn wirioneddol ledled Cymru. Mae angen i ni hefyd sicrhau eu bod wedi eu hadeiladu yn y mannau cywir. Mae angen dybryd nifer fawr iawn mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, ond mae angen llawer iawn o dai cyngor ledled Cymru, weithiau mewn amlenni anheddau bychain mewn pentrefi bychain lle mae pobl angen aros, weithiau mewn amlenni mwy mewn dinasoedd lle mae angen mawr ar bobl i gael cartref gweddus.
Mae angen i ni hefyd weithio gyda'n landlordiaid yn y sector rhentu preifat, ac mae llawer ohonyn nhw yn gweithio'n hapus iawn ochr yn ochr â ni, i sicrhau bod eu tai nhw yn cael eu defnyddio hefyd. Rwy'n cymeradwyo i Aelodau ar draws y Siambr—fel y gwnaf bob amser—y cynllun lle y caniatawn i landlordiaid yn y sector rhentu preifat drosglwyddo eu tai i ni fel y gallwn eu gwneud yn fforddiadwy ar gyfer tenantiaid cymdeithasol tra byddwn yn dod â'r tŷ yn ôl i'r safon y mae gan bobl hawl ei disgwyl yn y sector rhentu preifat—sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill Mike, fel y dywedwch yn wir.
Mae gennym nifer o faterion yr ydym eisiau bwrw ymlaen â nhw. O ran ardrethi busnes, rwyf eisoes wedi dweud wrth ateb siaradwr blaenorol y byddwn yn cynnal ymgynghoriad ynghylch beth yn union yw lefel trothwy ardrethi busnes y dylid ei ganiatáu, pa un a ddylai'r rhyddhad ardrethi i fusnesau bach fod yn berthnasol ac a ddylid caniatáu hynny o gwbl, wrth gwrs. Mae problemau ynghylch eiddo a osodir ar gyfer gwyliau dilys, wedi'u hadeiladu fel adeiladau gwyliau, pa un a ydyn nhw yn cael eu rhedeg gan fusnesau neu'n cael eu rhedeg gan gwmnïau; os ydyn nhw'n gorfod talu treth gyngor ddomestig, efallai y bydd ganddyn nhw broblemau. Felly, mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n cael hyn yn iawn yn gyffredinol. Ac, wrth gwrs, bydd y cynllun cofrestru ar gyfer eiddo a osodir yn dod i rym gan fod gennym ni bobl yn cofrestru naill ai fel landlordiaid sector preifat neu fel gweithredwyr gwyliau cofrestredig, a chawn weld beth a ddaw allan o hynny. Felly, rwy'n awyddus iawn i wneud hynny.
Rydym ni wedi bod mewn sefyllfa dda iawn yng Nghymru, oherwydd mae gennym ni Rhentu Doeth Cymru yn gweithio gyda'n landlordiaid yn y sector preifat. Rydym wedi cael cyfoeth o wybodaeth a pherthynas dda gyda'n landlordiaid o ganlyniad i hynny, sy'n destun cenfigen i Lywodraethau mewn mannau eraill yn y DU. Byddwn i'n gobeithio cael rhywbeth tebyg iawn yn y sector gosod gwyliau. Rydym eisoes wedi cael ychydig o gyfarfodydd da iawn gydag Airbnb, sy'n un o'r gweithredwyr mwyaf yn y sector hwnnw. Maen nhw yn gwthio cynllun cofrestru mewn nifer o wledydd ar hyn o bryd, felly rydym ni'n awyddus i adeiladu ar eu harbenigedd nhw hefyd.
Ond, yn fras, Mike, rwy'n cytuno â chi: y ffordd wirioneddol allan o'r argyfwng tai yw adeiladu y nifer o gartrefi cymdeithasol y mae arnom eu hangen fwyfwy ledled Cymru, a sicrhau nad system ddogni ydyw ond system sy'n hygyrch i bawb sydd eisiau cael y math hwnnw o gartref.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. A minnau'n rhywun sy'n cynrychioli ardal hynod ddeniadol yn y gorllewin, lle mae tai i brynwyr tro cyntaf yn brin, rwy'n croesawu'r ffaith bod hwn yn ddull tair elfen. Er nad wyf yn cytuno â phob un yn ddiamod, rwy'n falch nad yw'n bolisi gordd unigol, a allai achosi llawer mwy o niwed na lles yn y pen draw. Ni allwn ni ychwaith danbrisio'r manteision economaidd enfawr a ddaw yn sgil y diwydiant gwyliau domestig, gyda sir Benfro ar frig rhestr ddiweddar o'r cyrchfannau mwyaf poblogaidd i bobl o Brydain, gyda phobl yn mwynhau croeso cynnes i fythynnod gwyliau ledled y sir.
Mae gennyf i ddiddordeb yn y cynllun tai cymunedau Cymraeg y soniasoch amdano yn eich datganiad, ac rwy'n gofyn a oes rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn. Fel gyda phob ymgynghoriad, mae angen i hyn fod mor bellgyrhaeddol â phosibl, ac rwy'n gobeithio y rhoddir ystyriaeth ddifrifol i farn pawb sy'n cyfrannu, yng nghasgliad yr ymgynghoriad, ac nad ymarfer ticio blychau yn unig yw hwn. Yn ail, soniasoch am ddatblygu cynllun cofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau, gan gynnwys eiddo ar osod am dymor byr. A gaf i ofyn pwy fydd yn rheoli'r cofrestriadau hyn, Gweinidog? A fydd yn disgyn ar ysgwyddau'r awdurdodau lleol, ac, os felly, a fyddan nhw'n cael eu hariannu yn unol â hynny, neu a fydd y gost yn disgyn ar ysgwyddau perchnogion y lletyau gwyliau, gyda'r tâl yn adlewyrchu'r nifer o ran yr eiddo? Diolch.
Diolch yn fawr am y gyfres yna o gwestiynau ac am y gefnogaeth a nodwyd gennych ar y dechrau. O ran cynllun tai cymunedau Cymraeg, mae hynny ym mhortffolio fy nghyfaill a'm cydweithiwr Jeremy Miles, sy'n eistedd gyferbyn â mi heddiw. Mae e'n bwriadu cyflwyno cynllun ymgynghori drafft yn fuan iawn, felly ni wnaf i ddwyn ei glodydd wrth roi amser i hynny nawr.
O ran y cynllun cofrestru, rydym yn gweithio, fel y dywedais, gydag Airbnb, fel y darparwr mwyaf o'r mathau hyn o gynlluniau. Un o'r pethau y byddwn yn ymgynghori arno yw pa ffurf a ddylai fod ar y cynllun—mae hynny'n anodd ei ddweud, 'pa siâp ddylai fod gan y cynllun'—a phwy ddylai fod yn gyfrifol am ei weinyddu. Un o'r posibiliadau yw gwneud hynny yn yr un ffordd a wnawn ni yn achos Rhentu Doeth Cymru, drwy awdurdod lleol arweiniol yr ydym yn ei ariannu, yn amlwg, i wneud hynny. Ond, mae dewisiadau eraill ar gael a byddwn yn ymgynghori ar hynny, yn ogystal ag union natur y cynllun cofrestru, sut yr ydych yn cofrestru a phopeth arall cysylltiedig, pan fyddwn yn gwneud yr ymgynghoriad hwnnw. Rwy'n hapus iawn i gymryd barn Aelodau'r Senedd hefyd drwy'r trefniadau gweithio trawsbleidiol.
O ran gwerth y bunt dwristiaeth, ni allwn gytuno mwy. Mae fy nheulu i wedi bod yn mynd i sir Benfro ar ein gwyliau ers 30 mlynedd. Rydym ni'n mynd ac rydym ni'n rhentu bwthyn i lawr yno gan wraig yr wyf yn ei hadnabod ers blynyddoedd lawer. Rydym yn awyddus iawn i wneud hynny. Rydym yn ceisio bod yn gyfeillgar ac yn groesawgar pan fyddwn yno yn ystod ein tro ni, ac i wario ein punt Abertawe yn sir Benfro, fel y dylem ni pan fyddwn yn mwynhau cefn gwlad.
Nid yw hwn yn ymarfer i wneud Cymru yn lle annymunol neu digroeso—dim o gwbl. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod gennym ni gymunedau cynaliadwy sy'n gallu ffynnu gyda'n diwydiant twristiaeth, oherwydd mae ar y diwydiant twristiaeth ei hun angen i'r bobl fod yn byw yno'n lleol er mwyn gallu cymryd y swyddi a gwasanaethu'r diwydiant twristiaeth ei hun. Nid yw'r rhain yn bethau sy'n gwrthdaro â'i gilydd; mae'r rhain yn bethau sy'n gytûn â'i gilydd. Y cyfan y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau, fel Llywodraeth, ein bod yn rhoi'r llwyfannau ar waith i sicrhau bod hynny'n rhywbeth cyfan sy'n gytûn, ac nid yn rhywbeth cyfan sy'n wasgarog, sef yr hyn yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd rwy'n credu.
Mae Plaid Cymru wedi chwarae rhan adeiladol wrth bwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn cefnogi cymunedau sy'n dioddef o ganlyniad i effeithiau ail gartrefi. Yn anffodus, mae'r cyhoeddiad hwn heddiw yn hynod siomedig a gwan. Nid cynllun sydd yma, ond tri phennawd byr a niwlog, a dim manylion. Ni fydd ymgynghori a chynlluniau peilot ddim yn cynorthwyo pobl ifanc sydd angen cartref ac sy'n cael eu prisio o'u cymunedau y funud hon.
Wnewch chi, plis, roi heibio’r syniad o gomisiwn i drafod ail gartrefi? Does dim angen comisiwn; mae yna faterion ymarferol y gellir eu rhoi ar waith ar unwaith. Er enghraifft, i sôn am y cynllun cofrestru ar gyfer llety gwyliau, dydy ei gwneud hi'n statudol i gofrestru eiddo gwyliau ddim yn mynd i fynd at wraidd y broblem, felly pam nad ydych chi'n rhoi cyfundrefn drwyddedu ar waith ar unwaith, fel sydd mewn gwledydd eraill, ac wedyn mi fyddai modd rhoi cap ar niferoedd mewn cymunedau sydd dan bwysau sylweddol? Efo chofrestru yn unig, onid creu biwrocratiaeth ddiangen mae hyn mewn gwirionedd, heb gael gwir effaith ar y sefyllfa? A gaf i ofyn am y gwaith fydd yn digwydd dros yr haf? Wnewch chi ymrwymo i ddod yn ôl i'r Senedd cyn diwedd Medi efo chynllun clir, yn cynnwys camau penodol ac amserlen frys ar gyfer gweithredu o'r hydref ymlaen?
Felly, gan ymdrin â'r rheina gan ddechrau gyda'r olaf, Siân, yn hollol, byddwn yn dod yn ôl i'r Senedd yn nhymor yr hydref i roi adborth am yr hyn a wnaethom ni dros yr haf—yr ymgynghoriad ac ati—ac i gynnwys Aelodau'r Senedd. Byddwn hefyd yn cynnal cyfarfod â'r grŵp trawsbleidiol y tu ôl i'r llenni drwy gydol yr haf ac i mewn i'r hydref yn ogystal â sicrhau ein bod yn codi'r holl faterion yn y fan honno.
Rwy'n credu bod y cynllun cofrestru a'r cynllun trwyddedu wedi cyfuno braidd, ond maen nhw mewn gwirionedd yn eithaf ar wahân. Rwy'n credu bod rhinwedd mewn cynllun cofrestru. Yn gyntaf oll, mae'n ein galluogi i ddeall beth yn union yw'r broblem, ac yn ail mae'n gwneud i bobl sydd eisiau gwneud Airbnb feddwl o ddifrif am yr hyn y maen nhw'n ei wneud, ac mewn gwirionedd ceir materion sy'n ymwneud â safonau ac ati. Byddwch yn gwybod am y problemau mawr a geir pan fo llety gwely a brecwast teuluol lleol yn gorfod cydymffurfio â'r holl safonau ac ati o'i gymharu ag Airbnb lleol nad oes rhaid iddo gydymffurfio â'r safonau, a'r holl faterion sy'n cyd-fynd â hynny. Felly, mae rhai materion difrifol gwirioneddol yn ymwneud â hyn, a dyna pam y mae Airbnb yn awyddus iawn i gael y mathau hyn o gynlluniau cofrestru.
O ran cynllun trwyddedu, rydym yn archwilio hynny hefyd. Mae hynny'n debyg iawn i'r cynlluniau y bydd y rhai hynny ohonom sydd â phrifysgolion mawr yn ein hardaloedd yn ymwybodol ohonyn nhw yng nghyd-destun tai myfyrwyr amlfeddiannaeth. Nid yw hynny'n ateb syml, addas i bob diben, mae'n rhaid i mi ddweud wrthych fel un sydd â chyfran fawr iawn o'm hetholaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer tai myfyrwyr amlfeddiannaeth, er bod gennym ni gynllun trwyddedu ar waith. Daw hynny â rhai problemau yn ei sgil. Felly, yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw dysgu o'r problemau hynny a sicrhau nad ydym yn eu dyblygu yn y sector hwn. Ond rwy'n benderfynol iawn y bydd gennym gynllun sy'n caniatáu i awdurdodau lleol gyfyngu ar nifer y tai gwag, os hoffech chi. Mae rhai problemau o ran diffiniad, y trafodais mewn ymateb cynharach, Llywydd, yn berthnasol yn y fan yma, ond rydym ni'n awyddus iawn i gael y cynllun hwnnw ar waith fel y gallwn gael capiau ar nifer y tai nad ydyn nhw yn cael eu meddiannu yn barhaol. Mae wedi bod yn anodd iawn o ran tai myfyrwyr amlfeddiannaeth i leihau os yw eisoes wedi mynd yn uwch na'r cap. Felly, byddwn yn archwilio dewisiadau i'w lleihau mewn rhai ardaloedd, oherwydd, er enghraifft, yn un o'r wardiau yn fy etholaeth i, mae gennyf i un stryd lle nad oes neb yn byw ynddi—tai myfyrwyr amlfeddiannaeth yw'r cyfan—ac, wrth gwrs, gwelwn hynny mewn rhai cyrchfannau gwyliau, gydag eiddo a osodir ar gyfer gwyliau hefyd. Felly, mae'n broblem debyg gydag achos gwahanol iddi. Felly, rwy'n awyddus iawn i ddysgu o brofiadau pobl ledled Cymru, ledled y DU, ac o amgylch Ewrop ynghylch sut i ymdrin â rhai o'r materion anodd iawn hyn. Yn union yr un fath â'r twristiaid—mae'r myfyrwyr yn dod â bwrlwm, cyfoeth ac amrywiaeth i'r ddinas, ond maen nhw hefyd yn diflannu am gyfnodau hir iawn, gan adael busnesau sy'n ei chael hi'n anodd goroesi drwy'r cyfnod gwag hwnnw. Nid yw'n sefyllfa annhebyg, felly mae'r gyfatebiaeth yn ddilys.
Felly, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi, Siân, cyn gynted ag y gallwn i sicrhau ein bod yn cael y cynllun cywir yn y lle cywir ledled Cymru. Ac fel y dywedais, po fwyaf y byddwch yn siarad â gwahanol gymunedau, y mwyaf y sylweddolwch fod cyfres wahanol o broblemau ym mhob cymuned, ac nid wyf yn credu y bydd dull gweithredu sy'n addas i bawb ledled Cymru yn gweithio ychwaith, felly dyna pam yr ydym eisiau treialu rhai o'r cynigion sydd gennym mewn cymunedau sy'n hapus i'n helpu gyda'r cynlluniau treialu hynny.
Gweinidog, gwn y bydd trigolion y Rhondda, yn enwedig ein pobl ifanc a'n teuluoedd ifanc, yn ddiolchgar o glywed bod y Llywodraeth yn adeiladu ar waith y Senedd flaenorol, gan gymryd camau i fynd i'r afael â'r argyfwng tai difrifol. Mae graddedigion wedi cysylltu â mi a adawodd y Rhondda i fynd i'r brifysgol ac sydd bellach eisiau dychwelyd i'w trefi genedigol i brynu eu cartrefi eu hunain, ond sy'n wynebu problem fforddiadwyedd wirioneddol oherwydd cynnydd sydyn yn y galw yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud gan brynwyr o'r tu allan i'n cymunedau. Rwyf i, wrth gwrs, yn croesawu â breichiau agored unigolion a theuluoedd sy'n dymuno byw yn ein cymunedau yn y Rhondda, ond mae mor bwysig ein bod yn dod o hyd i gydbwysedd teg. A wnaiff y Gweinidog sicrhau bod cartrefi fforddiadwy ar gael i bobl ifanc sy'n dychwelyd i'w trefi genedigol yn y Cymoedd a sicrhau nad ydynt yn cael eu prisio allan o'r farchnad?
Gwnaf. Diolch yn fawr iawn Buffy, ac mae hynna'n dangos yn glir, onid yw, fod y mater yn broblem ledled Cymru am gyfres wahanol o resymau. Felly, mae gennym ni broblemau mewn ardaloedd sydd o amgylch dinasoedd mawrion sy'n dod yn drefi cymudo, fel petai; mae gennym ni broblemau gyda gwyliau; mae gennym ni broblemau gyda myfyrwyr; mae gennym ni ystod eang o broblemau ledled Cymru. Nid oes unrhyw un ateb syml ar gyfer hyn—dyna'r gwir bwynt yr ydym yn ei weld yn y fan yma. Os darllenwch chi adroddiad Dr Simon Brooks, ac, yn wir, ein hymateb ni, a bydd hwnnw gan bob Aelod erbyn hyn, fe welwch ei fod yn cydnabod nad oes un ateb syml, addas at bob diben. Yr hyn y bydd ei angen arnom yw amrywiaeth o fesurau ledled Cymru sy'n gweithio'n wahanol mewn gwahanol gymunedau, i sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael i'n pobl ifanc ac, yn wir, i'n teuluoedd a'n holl gymunedau. A dyna fydd y cymysgedd hwnnw o dai cymdeithasol da sydd ar gael i bawb, oherwydd nid yw hyn wedi ei ddogni mwyach—cynlluniau rhannu ecwiti, tai cydweithredol, tai tir cymunedol—ac yna, y mathau o gynlluniau yr ydym wedi eu gweld o ran Cymorth i Brynu ac ati sy'n caniatáu i bobl gael y droed honno ar yr ysgol dai. A dywedais eisoes, wrth ateb siaradwr blaenorol, mai un o'r pethau yr ydym ni eisiau ei wneud yw gweithio gyda benthycwyr i sicrhau bod pobl sy'n gallu dangos cofnodion rhentu da yn dal i gael eu hystyried ar gyfer cynigion morgais. Felly, y ffordd y mae'r farchnad honno yn gweithio sydd y tu ôl i rai o'r problemau a welwn ni ar hyn o bryd hefyd. Ac, wrth gwrs, rwyf hefyd wedi sôn am y gwahanol faterion trethiant ac ati y byddwn yn rhoi sylw iddyn nhw hefyd. Ond rwy'n hapus iawn, Buffy, i weithio gyda chi, ac unrhyw un o'r cymunedau sydd gennych, i weld beth allwn ni ei dreialu yn rhai o'r cymunedau hynny hefyd.
Yr haf diwethaf, adroddwyd bod bron i 40 y cant o'r eiddo a werthwyd yng Ngwynedd yn y flwyddyn hyd at fis Ebrill 2020 wedi'u prynu fel ail gartrefi, ond mae tystiolaeth anecdotaidd gref yn dangos bod hyn yn deillio o nifer anghymesur o fawr o ail gartrefi presennol ar y farchnad. Pan ofynnais o'r blaen i Lywodraeth Cymru pa ddadansoddiad yr oedd wedi'i wneud felly i weld a oedd hon yn sampl gynrychioliadol, atebodd 'dim'. Nid yw'r angen i bobl leol allu cael gafael ar dai fforddiadwy o safon dda mewn mannau poblogaidd o ran cartrefi gwyliau yn fater newydd; roedd yr un peth yn wir pan werthodd fy nheulu ein cartref gwyliau ni yn Abersoch hanner can mlynedd yn ôl, ac adeiladwyd nifer fawr o gartrefi gwyliau sy'n dal i gael eu defnyddio fel cartrefi gwyliau heddiw yn gynyddol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae llawer o berchnogion nid yn unig yn gysylltiedig â phobl leol yn economaidd ond hefyd drwy gyfeillgarwch personol a hyd yn oed priodas—ac rwy'n siarad o brofiad personol yn y fan yma—mae trethu perchnogion ail gartref mewn lleoliadau gwyliau poblogaidd yn trosglwyddo perchnogaeth i berchnogion ail gartref cyfoethocach neu'n peri i dai gael eu cofrestru o dan amodau beichus gydag asiantaethau swyddfeydd prisio fel eiddo ar osod cyfreithlon.
Yn dilyn toriadau enfawr Llywodraeth Cymru yn y grant tai cymdeithasol, cyfarfu pwyllgor rhanbarth gogledd Cymru y Cynulliad ym Mhwllheli ym mis Hydref 2003—18 mlynedd yn ôl—i gymryd tystiolaeth gan bobl leol am yr argyfwng tai fforddiadwy mewn cymunedau yno—
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
A wnaiff yr Aelod ofyn y cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda?
—pan gynigiwyd atebion y gellir eu cyflawni i ni. Felly, yn hytrach na drysu'r mater hwn gydag ail gartrefi wedi'u hadeiladu at y diben hwnnw, fel yr oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw, pa gamau uniongyrchol y byddwch chi yn eu cymryd nawr felly i nodi'r angen lleol penodol yn y mannau poblogaidd hyn ar gyfer cartrefi i'w rhentu'n gymdeithasol ac, ar wahân, tai fforddiadwy ar gyfer rhent canolradd, neu berchentyaeth cost isel, ac yna i sicrhau mwy o gyflenwad o'r ddau fath yn y mannau poblogaidd i ddiwallu'r angen hwn?
Ie. Diolch, Mark. Rwy'n deall y pwynt yr ydych yn ei wneud am gartrefi a adeiladwyd fel cartrefi gwyliau. Fodd bynnag, mae problem wirioneddol ynghylch tai sy'n wag mewn cymunedau ledled Cymru sy'n cael effaith uniongyrchol ar hyfywedd gwasanaethau lleol eraill. Ac, fel yr ydych chi wedi fy nghlywed yn dweud droeon yn y datganiad hwn heddiw, mae'r mater hwn yn ymwneud â bod gennym gymunedau cynaliadwy ledled Cymru, gyda lefel o bob math o berchentyaeth ynddyn nhw sy'n gynaliadwy. Pan fyddwch chi wedi gogwyddo lefelau o unrhyw fath o berchentyaeth neu feddiannaeth yn anghymesur, yna fe gewch broblemau. Cymunedau cynaliadwy deiliadaeth gymysg ar draws y byd, yw'r rhai y gwyddom eu bod yn gweithio mewn gwirionedd, ac felly nid wyf i'n credu ein bod yn anghytuno â hynny; y broblem yw sut ydym ni'n cyflawni cymuned gynaliadwy pan fydd gennym eisoes gymunedau nad ydyn nhw bellach yn gynaliadwy am amryw o resymau, fel yr ydym wedi ailadrodd o amgylch y Siambr heddiw. Ac mae amrywiaeth o resymau sy'n achosi anghynaladwyedd un ddeiliadaeth: mae rhai ohonyn nhw yn ymwneud â threfniadau gwyliau; mae rhai ohonyn nhw yn ymwneud â threfniadau myfyrwyr; mae rhai ohonyn nhw yn ymwneud â threfniadau cymudo; mae rhai ohonyn nhw—ceir amrywiaeth o faterion fforddiadwyedd.
Ac, mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf i am dderbyn unrhyw bregeth gan unrhyw Dorïaid ynghylch y rheswm na wnaethom ni adeiladu unrhyw dai hyd at ychydig o flynyddoedd yn ôl, oherwydd gwyddoch chi cystal â minnau fod Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 wedi ein gwahardd rhag gwneud hynny, ac mai dim ond ychydig o flynyddoedd yn ôl y tynnwyd y cap hwnnw, oherwydd fe gymerodd y Torïaid 40 mlynedd i ddod i'w coed ynghylch pam y dylem ni adeiladu tai cymdeithasol. [Torri ar draws.]—Wel, fe wnaethoch chi ofyn i mi ac rwy'n rhoi'r ateb i chi. Felly, y pwynt ynghylch hynny yw y gallwn ni nawr adeiladu tai cymdeithasol ar raddfa fawr ledled Cymru, a byddwn yn gwneud hynny. Dylem fod wedi gwneud hynny amser maith yn ôl, ond cawsom ein hatal rhag gwneud hynny gan bolisïau'r Llywodraeth Geidwadol. Rwy'n falch iawn o ddweud nad yw'r polisïau hynny—wel, rydych wedi callio rhywfaint—yn berthnasol yng Nghymru mwyach, ac felly gallwn erbyn hyn adeiladu ar raddfa fawr yn gyflym, oherwydd dyna'r ateb mewn gwirionedd: adeiladu'r tai cywir yn y lle cywir ar gyfer y mynediad cywir i bobl. Felly, os nad ydych chi'n hoffi'r ateb, ni ddylech fod wedi gofyn y cwestiwn.
[Anghlywadwy.]
Hist. Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Diolch. Wel, gallaf i gadarnhau bod Cyngor Sir y Fflint yn adeiladu 500 o dai fforddiadwy i'w rhentu, diolch i bolisïau Llywodraeth Cymru a chyllid hefyd i helpu gyda hynny. Felly, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn ymdrin o ddifrif â'r mater hwn o berchnogaeth ar ail gartrefi gyda'r dull gweithredu tair elfen sydd wedi'i hamlinellu. Dim ond yr wythnos hon, cysylltodd etholwr â mi. Mae hi wedi gweld cynnydd o 40 y cant o ran cartrefi yn ei hardal yn Llandudno sy'n cael eu prynu i'w gosod ar gyfer gwyliau, ac yn ddiweddar cafodd lythyr drwy ei drws, sy'n darllen fel hyn:
'Rwy'n awyddus i brynu ail gartref yn ardal Llandudno, Conwy yn y 18 mis nesaf. Pan ddaw ffyrlo i ben, os bydd prisiau tai'n gostwng, yna mae'n debyg y byddwn i'n aros i weld pryd ac at ba bris y byddant yn cyrraedd eu man isaf. Felly, rwy'n awyddus i ymrwymo cyn gynted ag y bo modd er mwyn peidio â chaniatáu i benderfyniadau yn sgil cynnwrf yn y farchnad fy rhwystro. Felly, i mi, mae'n strategaeth hirdymor.'
Ffoniodd y preswylydd i egluro beth oedd yr awdur yn ei olygu wrth hyn, ac roedd yn glir iawn mai ei nod yw sicrhau'r elw mwyaf posibl. Rwy’n credu bod hyn yn dystiolaeth o'r pwysau clir sydd ar bobl leol i werthu gan y rhai sy'n ceisio budrelwa, a maint y problemau yr ydym ni'n eu hwynebu yn y gogledd. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr fod fy rhanbarth yn y gogledd yn cael ei ystyried ar gyfer y cynllun treialu a gafodd ei grybwyll yn gynharach. Felly, hoffwn i wneud y cais hwnnw i chi, os gwelwch yn dda.
Felly, rwy'n croesawu'r cynigion sydd wedi'u nodi—
A wnewch chi ofyn y cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda?
Rwy'n croesawu'r cynigion a gyflwynwyd, a hoffwn i gynnig y rhanbarth hwnnw, os yw hynny'n bosibl. Mae'n ddrwg gennyf i, nid wyf i'n gorffen gyda chwestiwn. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Carolyn, a byddwn, wrth gwrs, byddwn ni'n ymchwilio i'r posibilrwydd o wneud cynllun treialu yn eich rhanbarth chi—rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Ond rydych chi newydd grynhoi'r broblem, onid ydych chi? Oherwydd, i'r rhan fwyaf o bobl gyffredin, yr unig fuddsoddiad mawr y maen nhw'n eu gwneud yn eu bywyd yw'r tŷ y maen nhw'n byw ynddo, ac felly, pan fyddan nhw'n ei werthu, maen nhw eisiau sicrhau'r elw mwyaf posibl, ac mae hynny'n gwbl ddealladwy. A dyna un o'r rhesymau pam yr ydym ni eisiau treialu'r mesurau hyn, oherwydd rydym ni eisiau bod yn siŵr bod yr holl bobl yn y gymuned yn hapus ag effaith rhai o'r mesurau y byddwn ni'n eu cael. Nid oes amheuaeth na fydd rhai o'r mesurau wedi'u crybwyll heddiw yn gostwng prisiau tai mewn rhai ardaloedd, felly mae angen i ni sicrhau bod y gymuned yn hapus â hynny, oherwydd mae'n rhoi iddyn nhw y gymuned gynaliadwy a chynhwysol y maen nhw eisiau bod yn rhan ohoni. Nid wyf i'n dweud y bydd gennym ni 100 y cant o bobl yn hapus â hynny, ond mae angen i ni fod yn siŵr bod pobl yn deall effaith yr hyn sy'n cael ei awgrymu. Mae gennym ni nifer fawr o gynlluniau ledled y byd, ledled y DU, a oedd yn llawn bwriad da pan gawsant eu sefydlu, a gafodd ganlyniadau anfwriadol sylweddol ar farchnadoedd eiddo anwadal, felly mae angen i ni fod yn siŵr ein bod ni'n gwneud y peth iawn i'r bobl iawn. Ac fe orffennaf i drwy ddweud fy mod i'n gwbl falch o weithio gyda chi i gyflwyno cynllun treialu yn eich rhanbarth chi, ond un o'r pethau y gwnaethoch chi ei nodi, yn gwbl briodol, yw mai'r ffordd go iawn allan o'r argyfwng hwn yw adeiladu'r nifer iawn o dai y mae arnom ni eu hangen yn y mannau cywir ledled Cymru i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gartref fforddiadwy y gallan nhw ei alw yn eiddo iddyn nhw eu hunain.
Diolch, Gweinidog.
Eitem 5, datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: diwygio'r cwricwlwm—y camau nesaf. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ers imi ddod yn Weinidog y Gymraeg ac Addysg, rwyf wedi nodi ein blaenoriaeth i roi lles a chynnydd dysgwyr wrth galon popeth rydyn ni'n gwneud. Rwyf i wedi bod yn siarad gydag ymarferwyr mewn ysgolion, colegau a darparwyr addysg, ac rwyf wedi clywed yn uniongyrchol sut maen nhw wedi addasu i amgylchiadau cyfnewidiol yn y flwyddyn ddiwethaf, a beth arall y gallaf ei wneud i'w cefnogi nhw wrth inni adnewyddu a diwygio addysg yng Nghymru.
Mae ymrwymiad a chymhelliant athrawon o ran y cwricwlwm newydd wedi creu cryn argraff arnaf. Rwyf i wedi clywed y brwdfrydedd dros adnewyddu ac ail-lunio maes addysg, yn ogystal â dyhead i gynnal momentwm y diwygiadau a'r manteision i'w dysgwyr. Mae ymarferwyr hefyd wedi bod yn onest ynghylch yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu, ac mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un wahanol iawn i'r arfer.
Wrth inni fynd ati i ddiwygio, mae'n amlwg ein bod ni mewn sefyllfa wahanol i'r un a ddychmygwyd wrth gyhoeddi canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru 18 mis yn ôl. Ar un llaw, rwy'n cydnabod bod yr amser paratoi ar gyfer y cwricwlwm wedi'i dreulio yn rheoli effaith y pandemig dros y flwyddyn ddiwethaf. Ar y llaw arall, gyda ffocws cryfach byth ar les, a buddsoddiad sylweddol mewn addysgu a dysgu, mae'r gwerthoedd sy'n sail i’r cwricwlwm wedi bod wrth galon y ffordd mae ysgolion wedi bod yn gweithio. Rwyf i wedi ymrwymo i gefnogi ysgolion a lleoliadau i gynnal eu momentwm. Ar yr un pryd, rwy'n cydnabod yr angen am ddisgwyliadau clir, a rhagor o le a chymorth i weithredu cwricwlwm o'r radd flaenaf i bob dysgwr.
Yng ngoleuni'r pandemig, rwyf i wedi penderfynu adnewyddu'r ddogfen 'Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022', sy’n nodi'r disgwyliadau ar ysgolion i ddiwygio'r cwricwlwm. Rwyf am sicrhau ei fod yn glir, yn syml, ac yn canolbwyntio ar sut y diwygir y cwricwlwm, gan gynnwys pwysigrwydd addysgu o'r radd flaenaf. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein disgwyliadau yn ystyried y cyd-destun ar hyn o bryd, gan gydnabod y bydd llawer yn dechrau o wahanol fannau. Bydd yn ddogfen gynhwysfawr i ysgolion a lleoliadau. Rŷn ni'n cydweithio â phartneriaid i ddatblygu hyn a bydd y ddogfen yn cael ei chyhoeddi erbyn dechrau tymor yr hydref.
Fis diwethaf, cyhoeddais i gyfres o fesurau i ysgafnhau'r pwysau ar ymarferwyr, gan greu rhagor o le i gefnogi dysgwyr. Roedd hynny’n cynnwys gohirio mesurau perfformiad, prosesau categoreiddio ysgolion a rhaglen arolygu graidd Estyn i mewn i dymor yr hydref.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi fy mod i'n bwriadu dileu'r gofyniad i ymarferwyr gynnal asesiadau ar ddiwedd y cyfnod sylfaen ac ar ddiwedd cyfnodau allweddol, ym mlwyddyn academaidd 2021-22, ar gyfer y grwpiau blwyddyn a fydd yn trosglwyddo i'r cwricwlwm newydd ym mis Medi flwyddyn nesaf. Dim ond mewn ysgolion cynradd bydd hyn yn berthnasol. Rwy'n credu, trwy ddileu’r gofynion hyn flwyddyn yn gynnar, gellir creu rhagor o le i ymarferwyr sy’n paratoi eu cwricwlwm i'w ddysgu y flwyddyn nesaf. Bydd hefyd yn rhoi gwell ffocws ar gynnydd dysgwyr unigol ac ar wella'r addysgu ar gyfer y cwricwlwm newydd. Bydd asesiadau sylfaenol ac asesiadau personol yn parhau, i roi hyder yng nghynnydd y dysgwyr i ymarferwyr, dysgwyr a rhieni.
Byddwn yn lansio rhwydwaith genedlaethol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm yn yr hydref. Bydd hwn yn gorff a arweinir gan ymarferwyr. Bydd yn agored i bob ysgol, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac yn gyfrwng allweddol i gefnogi'r gwaith o weithredu'r cwricwlwm newydd. Bydd ymarferwyr, arbenigwyr a rhanddeiliaid ehangach yn gweithio gyda'i gilydd i gynnal ac ehangu'r gwaith datblygu ar bob lefel, gan fynd i'r afael â rhwystrau rhag gweithredu. Bydd yn fforwm allweddol lle gall ymarferwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd ar faterion pwysig sy'n ymwneud â datblygu'r cwricwlwm, gan ddatblygu dulliau o ddylunio'r cwricwlwm ar y cyd.
Rwyf hefyd yn cyhoeddi £7.24 miliwn o gyllid y flwyddyn ariannol hon yn uniongyrchol i ysgolion, i'w cefnogi wrth iddyn nhw ddiwygio'r cwricwlwm. Bydd hyn yn helpu i ymgysylltu â'r prif faterion o ran gweithredu'r cwricwlwm, gan gynnwys drwy'r rhwydwaith genedlaethol. I ategu hyn, bydd canllawiau clir ar sut y gall ysgolion wario'r cyllid.
Drwy fy nhrafodaethau â'r sector, mae'n amlwg bod dyhead cryf am ddiwygio o hyd. Rwy'n benderfynol o adeiladu ar y ffocws sydd wedi'i roi ar les a'r hyblygrwydd sydd wedi'i ddangos dros y flwyddyn ddiwethaf. Bydd hynny'n cyd-fynd yn agos â'r gwaith o gyflwyno'n cwricwlwm newydd. Felly, rwy'n cadarnhau heddiw y bydd y Cwricwlwm i Gymru yn parhau i gael ei weithredu mewn ysgolion cynradd, ysgolion meithrin a gynhelir, a lleoliadau meithrin nas cynhelir o fis Medi 2022 ymlaen. Hoffwn gadarnhau ein bod yn gweld taith ddysgu barhaus o 2022 ymlaen, a byddwn yn parhau i gefnogi ysgolion i ddatblygu a gwella eu cwricwla.
Rwy'n cydnabod bod ysgolion uwchradd wedi wynebu heriau penodol fel rheoli cymwysterau, sydd, mewn rhai achosion, wedi effeithio ar eu parodrwydd i gyflwyno'r cwricwlwm. Rwy'n deall y pryderon hyn, ac wedi penderfynu darparu rhagor o hyblygrwydd i ysgolion sy'n teimlo bod angen hynny arnynt. Yn 2022, bydd ysgolion sy'n barod i gyflwyno diwygiadau'r cwricwlwm i flwyddyn 7 yn gallu bwrw ymlaen. Fodd bynnag, ni fydd gweithredu'r cwricwlwm newydd yn ffurfiol yn orfodol tan 2023, gan ei gyflwyno yn y flwyddyn honno i flynyddoedd 7 ac 8 gyda'i gilydd. Mewn addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion, bydd y cwricwlwm newydd yn orfodol i ddysgwyr oedran ysgol gynradd ym mis medi 2022. Bydd yn orfodol i ddysgwyr blynyddoedd 7 ac 8 o fis Medi 2023 ymlaen. Bydd hyn yn wir hefyd mewn ysgolion arbennig ac ysgolion i blant tri i 16 oed.
Byddwn yn annog ysgolion uwchradd sydd yn gallu i ddilyn eu cynlluniau presennol yn 2022 i fwrw ymlaen gyda'r cynlluniau hynny, gyda chefnogaeth consortia rhanbarthol. Bydd fframwaith 'Beth rydym yn ei arolygu' Estyn yn cefnogi'r hyblygrwydd hwn. Bydd Estyn yn annog cynnydd ar hyd y daith o ddiwygio'r cwricwlwm ar gyfer ysgolion uwchradd.
Bydd rhai ysgolion uwchradd yn dewis parhau â'u llwybr tuag at ddiwygio'r cwricwlwm o 2022 ymlaen, er mai yn 2023 fydd yn dod yn orfodol i flynyddoedd 7 ac 8 gyda'i gilydd. Rwy'n falch o allu cynnig yr hyblygrwydd hwn ac yn rhagweld y bydd y gwaith o ddiwygio'r cwricwlwm yn mynd rhagddo yn fuan, yn enwedig gwaith ymgysylltu uniongyrchol rhwng ysgolion uwchradd a chynradd o hyn ymlaen ac i mewn i 2022 i helpu â throsglwyddo'r dysgwyr.
Ar ôl 2023, bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno fesul blwyddyn, a bydd y cymwysterau cyntaf sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru yn cael eu dyfarnu gyntaf ym mlwyddyn academaidd 2026-27, yn unol â'r bwriad.
Bydd diwygio cymwysterau yn chwarae rhan sylfaenol yn llwyddiant ein cwricwlwm. Rhaid i'r uchelgais gyffrous sy'n sail i'n cwricwlwm gyd-fynd â'n system gymwysterau. Bydd yr hyblygrwydd i ysgolion uwchradd yn 2022 yn rhoi lle i'r sector weithio gyda Cymwysterau Cymru dros y flwyddyn nesaf i helpu llunio cyfres o gymwysterau o’r radd flaenaf i gyd-fynd ag athroniaethau'r cwricwlwm newydd, ac i fanteisio ar gyfleoedd newydd a ddaw yn sgil dulliau asesu.
Wrth wrando ar y proffesiwn, rwy'n dal yn ffyddiog ein bod ni'n gwneud y peth iawn drwy fwrw ymlaen â'n diwygiadau. Mae gennym ni gyfle prin i chwyldroi ansawdd cyfleoedd i'n plant a'n pobl ifanc. Mae'n hanfodol ein bod yn canolbwyntio ar ddiwygio’r cwricwlwm, a'n bod yn gwneud pethau'n iawn.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch. Gweinidog, a gaf i ddechrau drwy groesawu eich datganiad? Rwyf i wir yn ei groesawu, er ei fod yn brin o rai manylion. Mae'r sector, rhieni a'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am wythnosau am hyblygrwydd wrth weithredu, felly rwy'n falch fod y Llywodraeth hon wedi gwrando ar y galwadau hyn a nawr mae gan y cwricwlwm newydd y cyfle gorau posibl i gyflawni ei nodau.
Yn dilyn yr ymweliadau yr wyf i wedi'u gwneud yn rhinwedd fy swydd newydd yn Weinidog addysg yr wrthblaid yn ystod y mis diwethaf, mae'n amlwg bod ysgolion yn rhannu awydd, fel yr ydych chi wedi dweud yn eich datganiad, i gyflwyno'r cwricwlwm newydd fel y mae wedi'i gynnig, ond, oherwydd y pwysau ychwanegol gormodol a'r gwaith ychwanegol sydd wedi'i roi ar yr ysgolion a'r staff addysgu drwy gydol y pandemig, ni fydd rhai ysgolion mewn gwirionedd yn barod, fel yr ydych chi wedi'i amlinellu, i gyflwyno'r cwricwlwm newydd hwn mewn da bryd. Rwy'n croesawu eich bod chi wedi cydnabod hyn ac erbyn hyn mae ganddyn nhw y lefel ychwanegol o hyblygrwydd yr ydym ni wedi bod yn galw amdano. Nid yw'n fethiant; mae'n gwneud synnwyr, Gweinidog, os ydym ni i gyd o ddifrif ynghylch sicrhau llwyddiant y newid mwyaf yn ein cwricwlwm ers degawdau.
Gweinidog, a allwch chi ymhelaethu ar ba feini prawf y bydd eu hangen i benderfynu ar oedi? Ac a fydd hwn wir yn benderfyniad wedi'i arwain gan ysgolion, ac a fydd dyddiad cau erbyn pryd y gall ysgolion benderfynu, yn realistig, na fyddan nhw'n barod i'w gweithredu?
O ran y rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm, gwnaethoch chi sôn amdano ym mis Ionawr, o'r hyn rwy'n ei gofio, a nawr, a dim ond nawr yr ydym ni'n clywed y bydd yn cael ei weithredu yn yr hydref. Gan fod hyn i'w weld mor hanfodol o ran helpu ysgolion i baratoi ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm, rwy'n tybio pam, Gweinidog, y mae wedi cymryd cyhyd a pham y caiff ei gyflwyno yn yr hydref. Mae'n ymddangos bod—. Gan y bydd y fforwm allweddol hwn yno fel adnodd da i athrawon, mae'n drueni ein bod ni ar ein colled o ran cael ar yr adborth a'r cyfle hwnnw dros fisoedd yr haf i'w drafod a pharatoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Ac mae'n ymddangos yn drueni na fyddai wedi bod modd gwneud yr adnodd hwn yn gynharach.
Hefyd, Gweinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gwaith y fforwm hwn pan fydd yn mynd rhagddo? A hefyd, a wnaiff y Gweinidog ddarparu data treigl i'r Siambr hon ar faint o ysgolion sy'n barod i weithredu'r cwricwlwm, faint o ysgolion fydd yn defnyddio'r cyfle i ohirio am flwyddyn—dim ond ar sail dreigl, fel y gallwn ni gael y ffydd sydd gennych chi y bydd yn symud ymlaen?
Hefyd, Gweinidog, mae arnom ni eisiau—. A gawn ni sicrwydd ynghylch sut y bydd popeth yn iawn, gan symud ymlaen yn dda, ond—? O, mae'n ddrwg gennyf i am hynny. Yr arian—ia hwnnw. Mae'r arian, y £7.24 miliwn yr ydych chi wedi'i amlinellu yn eich datganiad, yr ydych chi wedi'i gyhoeddi, yn dod â chafeat ynghylch canllawiau clir y byddwch chi'n eu rhoi i ysgolion ar sut y maen nhw i fod i wario'r cyllid hwn. Tybed, Gweinidog—onid ydych chi'n cytuno â mi mai ysgolion, mae'n debyg, sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar gyfer beth y maen nhw'n defnyddio'r arian hwn, yr arian hwn sydd wedi'i neilltuo, a pha mor barod y byddan nhw ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm a'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud i addasu er mwyn iddi fod felly?
Hefyd, yn olaf, Dirprwy Lywydd, ni welaf sôn chwaith ynghylch y sector addysg bellach yn eich datganiad, ac mae angen i ni ystyried y daith yn ei chyfanrwydd, fel yr wyf i'n siŵr y byddwch chi'n cytuno, wrth baratoi, ond sut ydych chi'n gweithio gydag addysg bellach i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer yr addysgu, y ddarpariaeth, ac yn enwedig o ran pynciau galwedigaethol? Diolch.
Diolch i lefarydd y Ceidwadwyr am ei chwestiynau, ac rwy'n falch ei bod yn croesawu'r hyblygrwydd y mae fy natganiad i'n ei ddisgrifio, sydd, yn fy marn i, yn ymateb cymesur i'r amrywioldeb mewn rhannau o'r sector o ran bod yn barod. Mae'r penderfyniadau wedi'u gwneud, yn amlwg, ar ôl gwrando ar ymarferwyr am wythnosau lawer ers i mi ddod yn Weinidog addysg, a gwnes i synhwyro ymrwymiad clir iawn i egwyddorion a realiti'r cwricwlwm, brwdfrydedd dros symud ymlaen gyda'r cwricwlwm, ond hefyd ymdeimlad mewn rhai mannau bod ychydig mwy o amser efallai i ganolbwyntio ac ychydig mwy o hyblygrwydd i wneud hynny i'w groesawu, ac rwyf i wedi gwrando ar hynny. Rwyf i eisiau bod yn glir iawn, serch hynny: nad oedi sylweddol i'r cwricwlwm yw hwn. Bydd y cwricwlwm yn dechrau cael ei gyflwyno yn 2022 a bydd yn dod i ben yn unol â'r amserlen wreiddiol. Yr hyn y mae'n ei ddarparu yw elfen o hyblygrwydd o ran cyflwyno blwyddyn 7 y flwyddyn nesaf, a daw hynny'n orfodol yn 2023. Mae ysgolion yn gallu penderfynu drostyn nhw eu hunain a ydyn nhw'n barod i symud ymlaen gyda chyflwyno diwygiadau i'r cwricwlwm yn 2022 neu'r flwyddyn ganlynol, ac felly byddwn ni'n ymddiried ym marn ysgolion o ran hynny, fel y mae ei chwestiwn yn gofyn.
O ran y rhwydwaith cenedlaethol, rwy'n credu bod hwn yn fforwm pwysig iawn, a fydd yn dwyn ynghyd gweithwyr addysgu proffesiynol, arbenigwyr, rhanddeiliaid a llunwyr polisi, a'r nod, mewn gwirionedd, yw nodi ac ymdrin â rhwystrau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â gweithredu'r cwricwlwm, a bydd yn agored i bob ysgol a lleoliad, ac rwyf i wir eisiau i'r fforwm gael ymdeimlad o gyd-adeiladu cenedlaethol os hoffech chi. Bydd yn helpu i ddatblygu, rwy'n credu, ar lefel genedlaethol, amrywiaeth o ddulliau a syniadau y gall ymarferwyr eu dwyn yn ôl i lywio'r gwaith o gynllunio a gweithredu'r cwricwlwm yn eu hysgolion a'u lleoliadau, ac argymhellion ar sut i gomisiynu a datblygu adnoddau a chymorth penodol ynghylch dysgu proffesiynol hefyd.
Mae hi'n sôn am weithio ar hyn drwy gydol misoedd yr haf; rydw i eisiau i athrawon fod, cyn belled ag y bo modd, mewn sefyllfa i fanteisio ar gyfle i orffwys ac i fyfyrio, os hoffech chi, ar brofiad y flwyddyn diwethaf yn ystod misoedd yr haf. Rwy'n gwybod ei bod hi yn teimlo hynny hefyd.
O ran pa mor barod y mae ysgolion, rwy'n awyddus i beidio â bod mewn sefyllfa lle rwy'n chwilio am rwymedigaethau adrodd newydd i'w gosod ar ysgolion eu hunain, ond rwy'n credu y gall hi gymryd fy ngair i, y byddwn ni'n cymryd ein harweiniad o ysgolion ynghylch a ydyn nhw'n teimlo eu bod nhw'n barod i ddechrau diwygiadau yn 2022 neu i ddilyn y ddarpariaeth orfodol yn 2023.
O ran gweithredu'r cwricwlwm yn fwy cyffredinol, byddaf i'n darparu adroddiad blynyddol ar y sefyllfa, os hoffech chi, o ran hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ddefnyddiol iddi hi, fel y bydd i Aelodau eraill gobeithio.
O ran y swm o arian o £7.24 miliwn y gwnes i sôn amdano, y canllawiau, mewn gwirionedd, yw cefnogi ysgolion i wneud y defnydd gorau o hwnnw. Y bwriad yw caniatáu i ysgolion wneud penderfyniadau ynghylch sut y maen nhw'n cydweithio ag eraill i neilltuo amser a lle i ddylunio a chynllunio dulliau o ymdrin â'r cwricwlwm, a gobeithio y bydd hynny o gymorth i ysgolion.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am eich datganiad, Weinidog, yn trafod y cwricwlwm a chymwysterau. Dwi'n falch eich bod chi'n cydnabod yr angen am ddisgwyliadau clir a rhagor o le a chymorth i weithredu'r cwricwlwm newydd. Rydych chi hefyd yn sôn am lansio rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm yn yr hydref, ond beth yn union fydd pwrpas hwn a phwy fydd yn cynnull y rhwydwaith yma? Pwy fydd yn cael pobl at ei gilydd? Fydd o'n gweithredu ar lefel genedlaethol ynteu trefniadau lleol fydd ar waith? Oni fydd hyn yn ofyniad ychwanegol ar amser prin athrawon, ac yn eu tynnu nhw oddi ar eu gwaith dysgu, o gofio bod ysgolion eisoes yn gweithio mewn clystyrau ar gyfer rhannu arfer da o gwmpas y cwricwlwm newydd, a bod y consortia hefyd yn trefnu fforymau o gwmpas y cwricwlwm? Felly, fy nghwestiwn i ydy: oes gwir angen y rhwydwaith yma, ac oni fydd o'n dyblygu gwaith sydd yn digwydd mewn mannau eraill?
Rydych chi'n cyhoeddi arian i gefnogi diwygio'r cwricwlwm ac, mewn gwirionedd, sôn yn y fan yma ydyn ni, mae'n debyg, am gyflogi staff cyflenwi er mwyn rhyddhau amser staff sydd yn dysgu a rhoi'r gofod yna iddyn nhw ar gyfer trafod materion y cwricwlwm. Fedrwch chi jest gadarnhau hynny? Mae'n siŵr y bydd nifer o ysgolion yn falch o glywed eich bod chi am roi rhagor o hyblygrwydd i ysgolion sy'n teimlo bod angen mwy o amser arnyn nhw er mwyn gweithredu'r cwricwlwm. Ond, oni fydd hyn yn arwain at anghysondeb yn y sector uwchradd ar draws Cymru, efo plant blynyddoedd 7 ac 8 yn cael profiadau reit wahanol yn dibynnu ar le maen nhw'n byw? Ydych chi'n gweld bod hyn yn mynd i greu anawsterau, yn y tymor byr yn sicr? Ai, mewn gwirionedd, dyma'r peth gorau ar gyfer y plant penodol yma sydd dan sylw, sydd wrth gwrs yn wynebu newid mawr yn eu bywydau wrth iddyn nhw drosglwyddo o'r cynradd i'r uwchradd?
Dwi'n croesawu'r cymal yn eich datganiad sydd yn trafod cymwysterau. A dweud y gwir, roeddwn i wedi disgwyl clywed mwy am yr agwedd yma yn eich datganiad chi brynhawn yma, ond mi ydych chi'n dweud hyn, a dwi'n meddwl bod hyn yn bwysig:
'Bydd diwygio cymwysterau yn chwarae rhan sylfaenol yn llwyddiant ein cwricwlwm.'
Dwi'n cytuno'n llwyr efo'r datganiad yna, ond beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol? Dyna ydy'r cwestiwn sydd angen ei ofyn. Mae angen alinio cymwysterau i'r cwricwlwm ar fyrder os ydy'r cwricwlwm i fod yn llwyddiannus. Rydych chi'n gwybod ein bod ni ym Mhlaid Cymru o'r farn ei bod hi'n bryd i roi mwy o bwyslais ar asesu parhaus yn hytrach nag arholiadau. Rydyn ni o'r farn bod angen dod â chymwysterau TGAU, Safon Uwch a BTEC i ben, yn raddol—dwi'n pwysleisio hynny; yn raddol—a'r nod gennym ni fyddai symud oddi wrth y strategaeth o wthio nifer cynyddol o ddisgyblion drwy lwybr academaidd cul a rhoi statws cyfwerth i addysg alwedigaethol a thechnegol. Felly, hoffwn i wybod beth ydy eich gweledigaeth chi o gwmpas yr holl faes pwysig yma sydd angen mynd i'r afael â hi. Ydych chi'n barod i wneud y newidiadau radical sydd eu hangen er mwyn i'r cwricwlwm fod yn llwyddiannus? Diolch yn fawr.
Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau hynny. O ran disgwyliadau clir, nawr rwy'n cytuno'n llwyr â hi fod angen hynny. Rwy'n bwriadu, cyn tymor yr hydref, ailgyflwyno'r ddogfen sydd yn dangos y llwybr i 2022, ac edrych ar y cyd ar y broses o symud tuag at y cwricwlwm ar un llaw, gyda'r broses o ddelio ag impact y pandemig ar y llall, a sicrhau bod y ddau beth yn dilyn llwybr cyson yn hytrach na thynnu yn erbyn ei gilydd. Rwy'n credu y bydd ysgolion yn gwerthfawrogi hynny.
O ran y rhwydwaith cenedlaethol, gwnaf jest gyfeirio llefarydd Plaid Cymru at yr hyn y gwnes i ei ddweud wrth lefarydd y Ceidwadwyr: bwriad y rhwydwaith yw sicrhau bod adnoddau ar gael i ysgolion i allu cydweithio a chreu adnoddau sydd yn ddefnyddiol iddyn nhw yn eu hysgolion a helpu dylunio hynny ar gyfer ysgolion eraill hefyd. Felly, mae'n gyfle cenedlaethol i bobl allu cydweithio gyda'i gilydd er mwyn creu adnoddau a chyflwyno ffyrdd newydd o ddysgu o fewn y cwricwlwm.
O ran yr arian, mae e yno i greu capasiti newydd, i ryddhau amser, i greu gofod i ddylunio approaches ar gyfer y cwricwlwm. Felly, bydd y canllawiau yn cefnogi ysgolion i wneud y defnydd gorau o hynny. Mae Siân Gwenllian yn gofyn cwestiwn pwysig ynglŷn â'r cwestiwn a ydy hyn yn creu anghydraddoldeb, os gwnaf i ei ddodi fe yn y ffordd wnaeth hi ei ofyn. Beth fyddwn i'n dweud yw hyn: yr egwyddor wreiddiol wrth sail hyn oll yw bod pob dysgwr yn cael mynediad at y cwricwlwm pan fydd hynny yn digwydd yn y ffordd orau i'w cefnogi nhw. Hynny yw, mae ysgolion a dysgwyr yn cael eu trin yn hafal ar sail parodrwydd i ddysgu o fewn dulliau'r cwricwlwm newydd, ac felly mae'r elfen o hyblygrwydd honno yn cefnogi bod hynny yn digwydd. Ac a gaf i sicrhau Siân Gwenllian fod y trosglwyddo o ysgol gynradd i ysgol eilradd yn mynd i ddigwydd mewn ffordd esmwyth? Hynny yw, hyd yn oed i ysgolion sydd yn dewis aros tan 2023 cyn cyflwyno dulliau cwricwlwm newydd i flwyddyn 7, hyd yn oed yn y sefyllfa honno, flwyddyn nesaf bydd y cwricwlwm cynradd yn cael ei gyflwyno, a'r flwyddyn ar ôl hynny fe fydd yr un uwchradd yn cael ei gyflwyno. Felly, bydd y llwybr o'r cynradd i'r uwchradd yn un sydd yn ddi-dor, os gallaf i ei ddisgrifio felly.
O ran cymwysterau, rwy'n moyn gweld ein cymwysterau ni yn uchelgeisiol, yn adlewyrchu egwyddorion y cwricwlwm. Bydd cyfle dros y flwyddyn nesaf i brofi hynny gyda'r sector, bod athrawon yn gallu helpu siapio hynny mewn ffordd sydd yn adlewyrchu eu huchelgais nhw dros y cwricwlwm hefyd. Felly, mae cyfle, rwy'n gobeithio, yn sgil yr hyblygrwydd ychwanegol hynny, i gyfrannu at hynny hefyd. Ac a gaf i hefyd sicrhau Siân Gwenllian fod gen i ymrwymiad personol ac ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau bod addysg alwedigaethol ac academaidd yn hafal? Dyna'r egwyddor sydd y tu ôl i'r Bil rŷm ni'n bwriadu ei gyflwyno yn y flwyddyn gyntaf ar gyfer addysg ôl-ofynnol.
Diolch, Weinidog. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny yn brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i drafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:53.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:03, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni nawr, felly, yn cyrraedd datganiad gan Weinidog yr Economi ar ddyfodol y diwydiant dur. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Mae gan y diwydiant dur hanes hir a balch yma yng Nghymru. Rwyf i wedi ymrwymo i weithio i sicrhau dyfodol hir, balch a chynaliadwy i'n diwydiant dur. Yn ogystal â chefnogi miloedd lawer o swyddi yng Nghymru, mae'r sector dur hefyd yn galluogi popeth gan gynnwys ein hadeiladau, trafnidiaeth, cyfleustodau a systemau cyfathrebu, a llawer o'n cynnyrch defnyddwyr. Mae datblygu sector dur cynaliadwy a charbon isel yn sylfaen hynod bwysig i'n diwydiannau gweithgynhyrchu ac adeiladu. Mae pwysigrwydd ein sector dur yn fwy pwysig, nid llai, ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ers dod yn Weinidog yr Economi, rwyf i wedi ymgysylltu â'r sector sawl gwaith. Yn wir, un o'r digwyddiadau cyntaf i mi oedd bod yn bresennol yng Nghyngor Dur y DU ar 19 Mai. Mae'n amlwg iawn i mi fod y sector yn parhau i wynebu heriau uniongyrchol a thymor hwy. Fodd bynnag, mae gennym ni gyfle i weithio gyda'n gilydd tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Mae'r holl bartïon yr wyf i wedi cwrdd â nhw yn gosod pwysigrwydd hollbwysig ar drosglwyddo i gynhyrchu dur carbon isel. Mae arweinyddion busnes ac undebau llafur yn cydnabod bod angen i ni leihau allyriadau carbon er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau ar y cyd o ran newid yn yr hinsawdd. Yng Nghymru rydym ni wedi ymrwymo i drosglwyddo i allyriadau sero net erbyn 2050. Roedd y diwydiant yn cyfrif am 36 y cant o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru yn 2018, ac o hyn, roedd y sectorau haearn a dur yn cynrychioli 43 y cant o gyfanswm allyriadau'r diwydiant yn y flwyddyn honno.
Mae'r newid i garbon isel yn gymhleth ac yn bellgyrhaeddol. Mae'n gofyn am gydweithio ar draws llywodraethau, diwydiant a'r gweithlu dros y degawd nesaf a thu hwnt. Yn y tymor byr, gellir gwneud rhai gwelliannau—er enghraifft gwella effeithlonrwydd ynni ac effeithlonrwydd adnoddau. Fodd bynnag, dim ond wrth wneud newidiadau mawr mewn prosesau cynhyrchu ac ystyried y potensial ar gyfer technolegau newydd fel dal a storio carbon, newid tanwydd i drydan ac i hydrogen yn y tymor hwy y gellir cyflawni'r gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau sydd eu hangen. Mae'r llwybr carbon isel priodol a chymysgedd o dechnolegau ar gyfer ein cwmnïau cynhyrchu dur yn cael eu hystyried gan gyflogwyr, undebau llafur a llywodraethau. Bydd angen buddsoddiad mawr ar ba bynnag lwybr a gymerir o fewn gweithfeydd cynhyrchu unigol ac mewn cynhyrchu a seilwaith ynni ehangach.
Un o'r heriau mwyaf i gyrraedd sero net ar draws yr economi yw'r newid sydd ei angen i gyflenwad trydan. Mae'r Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi dweud wrthym fod angen i ni gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr bron i sero o ran trydan erbyn 2035. Ar yr un pryd, mae amcanestyniadau amrywiol yn awgrymu y bydd trydaneiddio trafnidiaeth, adeiladau a diwydiant yn golygu y bydd y galw am drydan yng Nghymru yn fwy na dyblu erbyn 2050. Bydd y penderfyniadau y bydd y diwydiant dur yn eu gwneud ar ei lwybr datgarboneiddio yn cael effaith enfawr ar ein hanghenion trydan.
Bydd ein llwybr tuag at Gymru sero net yn anodd, ond bydd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer twf cynaliadwy a busnesau mwy cydnerth. Rydym yn byw mewn byd lle mae economïau eisoes yn blaenoriaethu datgarboneiddio. Trwy ddefnyddio dull mwy effeithlon o ddefnyddio adnoddau, gallwn gwtogi cadwyni cyflenwi a hybu cydnerthedd economaidd. Mae cynhyrchu'r cynhyrchion carbon is sydd eu hangen arnom yn golygu y gellir cadw mwy o werth economaidd yma yn economi Cymru. Er enghraifft, rydym ni wedi buddsoddi £1 biliwn mewn seilwaith ailgylchu sy'n casglu deunyddiau, gan gynnwys dur, o bob cartref yng Nghymru. Rydym ni hefyd yn cyflwyno gofynion ar fusnesau i wahanu eu hailgylchu, a bydd hynny hefyd yn cefnogi'r cyflenwad o ddur wedi'i ailgylchu i'w ailddefnyddio.
Serch hynny, mae hon yn her na all y sector dur ei bodloni ar ei ben ei hun. Mae diwydiant yn ei gyfanrwydd wedi dod at ei gilydd drwy Glwstwr Diwydiannol De Cymru ac mae wedi cael cyllid drwy her datgarboneiddio diwydiannol y DU. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r diwydiannau hynny ar eu dull cyfannol o drawsnewid diwydiant ar gyfer dyfodol sero net. Mae datblygiadau hefyd yn cyflymu'r potensial i ddefnyddio seilwaith hydrogen ledled Cymru, ac yn arbennig y gogledd, ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu trawsffiniol â HyNet yn Ellesmere Port, sy'n datblygu rhwydwaith integredig dal a storio hydrogen a charbon yng ngogledd-orllewin Lloegr a gogledd-ddwyrain Cymru.
Er mwyn darparu'r ynni carbon isel sydd ei angen arnom, rydym ni hefyd wedi ymrwymo i ystyried cyfleoedd i ddatblygu ynni adnewyddadwy morol ac i gefnogi arloesedd mewn heriau ynni adnewyddadwy newydd, gan gynnwys yr her o ran morlynnoedd llanw. Rydym ni'n gweithio'n agos ar draws y sector ynni adnewyddadwy ar y môr, yn enwedig ynni gwynt ar y môr a morol. Mae 4 GW o wynt alltraeth sefydlog eisoes yn cael eu cynllunio neu eu datblygu oddi ar arfordir gogledd Cymru, ac mae'r prosiectau hyn yn debygol o gael eu datblygu erbyn dechrau'r 2030au. Er bod hyn yn sylweddol, nid yw'n ddigon yn y tymor byr i ddatgloi'r buddsoddiad seilwaith gofynnol. Mae hyn yn gofyn am gefnogaeth Llywodraeth y DU i ddatblygu marchnad arfaethedig ochr yn ochr ag offer ariannol cysylltiedig a gorfodi rheol cynnwys y DU o 60 y cant i ategu'r gwaith o ddarparu nwyddau a gwasanaethau gwerth ychwanegol yn lleol.
Roeddwn i'n falch o glywed ymrwymiad cadarn gan adran Llywodraeth y DU, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn y Cyngor Dur ar 19 Mai i gefnogi'r sector gyda'i heriau allweddol, gan gynnwys prisiau ynni a datgarboneiddio. Mae'n ffaith syml bod gan Lywodraeth y DU lawer o'r pwerau sy'n gysylltiedig â datgarboneiddio diwydiant, gan gynnwys y modelau busnes ar gyfer datblygu hydrogen, dal a storio carbon, cost trydan, ac ysgogwyr allweddol y farchnad fel dull addasu posibl ar y ffin garbon. Byddwn yn parhau i wneud y cyfan o fewn ein gallu i weithio gyda nhw, a'r undebau llafur, i sicrhau bod ein cwmnïau dur yng Nghymru yn parhau i fod mor gystadleuol â phosibl.
Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, busnesau ac undebau llafur i sicrhau bod ein diwydiant dur yn fodern, yn gystadleuol ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae'r gweithlu dawnus sydd gennym ni yma yng Nghymru yn sbarduno llwyddiant diwydiant dur y DU, a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i baratoi'r ffordd ar gyfer trosglwyddiad teg. Llywydd, gan fod llawer o gynnydd i'w wneud a chymaint yn y fantol, mae angen i ni weld Llywodraeth y DU yn cymryd camau cynnar. Mae cyfarfod nesaf Cyngor Dur y DU, yr adolygiad cynhwysfawr o wariant eleni, a COP26 yn darparu profion allweddol bellach i Lywodraeth y DU a'u hymrwymiad ymarferol i'r sector a'i ddyfodol.
Serch hynny, roeddwn i hefyd yn falch o benderfyniad Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf i wneud rheoliadau newydd i amddiffyn diwydiant dur y DU gan ymestyn mesurau diogelu dur dros dro. Roedd yn ymddangos i mi fod penderfyniad cychwynnol yr Adran Masnach Ryngwladol yn groes i'r cyfeiriad a'r gefnogaeth a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn BEIS. Rwy'n croesawu'r newid meddwl a gwrthdroi safbwynt yr Adran Masnach Ryngwladol i sicrhau bod mesurau diogelu yn parhau i fod ar waith, fel y mae'n ei wneud o fewn gwledydd yr Undeb Ewropeaidd. Dylai hynny helpu i osgoi gwaredu dur i'r DU.
Ers dod yn Weinidog economi Cymru, rwyf i wedi ei gwneud yn glir i Lywodraeth y DU fod ymestyn y mesurau diogelu dur presennol yn gwbl hanfodol er mwyn diogelu diwydiant dur y DU. Mae'r atebion i lawer o'r heriau y mae'r sector dur yn eu hwynebu yn gymhleth a bydd angen iddyn nhw fod yn drawsnewidiol. Byddaf i'n parhau i hyrwyddo'r sector ac edrychaf ymlaen at weithio ar y cyd â'r diwydiant, y gweithlu, a Llywodraeth y DU ar y technolegau trawsnewidiol, y seilwaith ac ysgogiadau'r farchnad a fydd yn sail i weithrediad y sector a'n holl fusnesau i gyflawni ein dyheadau sero net yn y tymor hwy.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Mae'r datganiad hwn, wrth gwrs, yn amserol, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf i gefnogi diwydiant dur y DU drwy ymestyn mesurau diogelu. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cadarnhau ei bod yn adolygu'r fframwaith camau adferol masnach fel mater o flaenoriaeth frys, a'i bod hefyd yn datblygu system fonitro a gwyliadwriaeth, a fydd yn galluogi'r DU i ymateb yn gyflym ac yn bendant i ymchwydd mewnforio, dympio a chystadleuaeth annheg. Rwy'n falch bod y Gweinidog wedi croesawu'r datblygiad hwn yn y datganiad heddiw, ac, wrth i ni symud ymlaen, mae'n hanfodol bod trafodaethau yn parhau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, o ystyried yr heriau cymhleth y mae'r sector yn eu hwynebu. Felly, Gweinidog, efallai y gallwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau diweddaraf sy'n digwydd gyda San Steffan a Llywodraeth y DU ynglŷn â mesurau diogelu dur a datgarboneiddio diwydiant yn ehangach.
Gweinidog, rydym ni i gyd yn awyddus i weld diwydiant dur Cymru yn ffynnu ar gyfer y dyfodol, ac felly mae'n bwysig bod y ddwy Lywodraeth yn cydweithio i gefnogi'r sector rhag arferion masnachu annheg, ymchwydd sydyn o fewnforion, ac i sicrhau y gall ein diwydiant gystadlu ar delerau teg. Rwy'n gwerthfawrogi'r swyddogaeth sydd gan Lywodraeth y DU o ran ategu'r sector hefyd o ran sicrhau buddsoddiad strategol uwch ac o ran prisio ynni, a dyna pam mae cydweithredu mor bwysig, er mwyn sicrhau bod y sector yn gynaliadwy ac yn gystadleuol ar gyfer y dyfodol.
Mae eich datganiad yn ailgadarnhau bod Llywodraeth Cymru, yng Nghymru, wedi ymrwymo i drosglwyddo i allyriadau sero net erbyn 2050, a gwyddom fod rhai ffyrdd posibl ymlaen o ran dal a storio carbon, toddi dur sgrap a defnyddio hydrogen yn hytrach na glo. Gweinidog, rydych chi'n iawn wrth ddweud mai un o'r heriau mwyaf i gyrraedd sero net ar draws yr economi yw'r newid sydd ei angen i gyflenwad trydan, ac felly, a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i ddechrau gwneud cynnydd yn hyn o beth?
Mae eich datganiad yn sôn am gyfleoedd i ddatblygu ynni adnewyddadwy morol a chefnogi arloesedd mewn technolegau ynni adnewyddadwy newydd, y mae angen eu datblygu ymhellach. Wrth gwrs, mae'r dewisiadau hyn yn galw am lawer iawn o fuddsoddi a chydweithredu rhwng llywodraethau, diwydiant ac, yn wir, y byd academaidd, ac mae'n rhaid cael digon o fuddsoddiad nid yn unig i'r sector yn uniongyrchol ond hefyd mewn meysydd fel ymchwil ac arloesi, er mwyn sicrhau bod pob cyfle yn cael ei archwilio. Felly, Gweinidog, efallai y gallwch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am lefelau'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, nid yn unig i'r sector yn uniongyrchol, ond hefyd o ran ymchwil ac arloesi, fel bod Cymru ar flaen y gad o ran unrhyw ddatblygiadau byd-eang a thechnolegol.
Mae datganiad heddiw yn sôn am gadernid economaidd Cymru, ac mae pandemig COVID wedi dangos i ni bwysigrwydd datblygu ein sector gweithgynhyrchu domestig a chreu cadwyni cyflenwi cryf. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei ysgogiadau i fanteisio i'r eithaf ar unrhyw gyfleoedd caffael. A gyda'r newyddion bod Nissan yn ehangu ei waith cynhyrchu cerbydau trydan yn ei ffatri geir yn Sunderland, mae'n hanfodol bod trafodaethau'n cael eu cynnal i sicrhau bod cynhyrchiant dur Cymru yn elwa ar y cyhoeddiad hwnnw. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am strategaeth gaffael Llywodraeth Cymru a'r camau sy'n cael eu cymryd i fanteisio i'r eithaf ar unrhyw gyfleoedd caffael, yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r DU?
Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau bod gwneuthurwyr dur yn cael pob cyfle i fod yn rhan o gadwyni cyflenwi ar gyfer prosiectau a ariennir yn gyhoeddus sydd â gofyniad dur, ac eto mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau yn ddiweddar ei bod yn bwriadu symud gwariant tuag at gynnal a chadw ein ffyrdd presennol yn well, yn hytrach nag adeiladu rhai newydd. Byddai'r cyhoeddiad hwnnw yn sicr yn cael effaith ar y sector, a fyddai wedi chwarae rhan sylweddol mewn cefnogi'r datblygiadau seilwaith mawr newydd hynny. Ac felly efallai, Gweinidog, y gallwch chi ddweud wrthym ni pa asesiad a wnaed o effaith rhewi prosiectau ffyrdd newydd ar y sector dur, ac yng ngoleuni hynny, pa gyfleoedd eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu harchwilio i wneud y defnydd gorau posibl o ddur Cymru?
Nawr, mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn datblygu'r gweithlu ac nad yw'n anwybyddu'r cyfleoedd yn y sector dur o ran prentisiaethau a sgiliau. Mae Tata Steel, er enghraifft, wedi chwarae rhan enfawr yn y maes penodol hwn, gan gynnig prentisiaethau i'w weithwyr am y tro cyntaf yn ôl yn y 1950au. Felly, byddwn i'n ddiolchgar o gael gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau o fewn y sector dur, a pha raglenni a datblygiadau eraill sy'n cael eu hystyried.
Llywydd, rydym ni i gyd yn cydnabod bod amodau economaidd byd-eang yn parhau i fod yn heriol i'r sector dur, a dyna pam y mae hi mor bwysig bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i'w gefnogi i fod yn ddiwydiant cynaliadwy a modern. Er mwyn sicrhau bod ein diwydiant dur yn llwyddiant, mae cydweithredu yn hanfodol—cydweithredu rhwng Llywodraethau, y sector ei hun, y gymuned fusnes ehangach a gyda phartneriaid ymchwil. Diolch.
Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Rwy'n falch bod yr Aelod yn croesawu ac yn cydnabod y newid y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i'w hymagwedd o ran mesurau diogelu dur. Rwy'n credu bod hwnnw yn gam cymesur a gymerwyd, ac rwyf i yn croesawu'r camau sydd wedi eu cymryd, fel y gwyddoch chi, rydym ninnau wedi galw amdanyn nhw hefyd.
O ran y gwaith rhwng y Llywodraethau yn y dyfodol, mae ein prif ymgysylltiad gydag adran Kwasi Kwarteng yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Yn anffodus, nid oedd Kwasi Kwarteng yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod yr oeddwn i fod i'w gael gyda fe ddoe, felly rydym yn aildrefnu hynny i ddigwydd yn y dyddiau nesaf. Mae hynny'n ymgysylltiad pwysig, ac mae'r ohebiaeth gychwynnol rhwng ein swyddogion yn wirioneddol adeiladol. Mae llawer o feysydd yr ydym yn anghytuno â Llywodraeth y DU yn eu cylch, ond rydym yn cydnabod bod hwn yn faes lle y byddem ni i gyd yn elwa ar ddull adeiladol, oherwydd ein bod yn cydnabod bod gan bob un ohonom rywbeth i'w ychwanegu ac i'w ennill, ac mae'n newid mewn gonestrwydd sydd i'w groesawu o'i gymharu â barn Llywodraeth y DU ychydig flynyddoedd yn ôl ar y sector dur. Erbyn hyn, rwy'n credu bod barn fwy cadarnhaol ar gyfer dyfodol y sector, ac mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle y mae hynny'n ei gynnig.
Bydd hynny hefyd yn arwain ymlaen at y gwaith sy'n cael ei wneud gan fusnesau ac undebau llafur—felly, grŵp cyflogwyr y Cyngor Dur. Felly mae UK Steel, y grŵp o gyflogwyr, wedi cyflwyno cynigion i'w hystyried o ran symud tuag at ddatgarboneiddio'r sector, ac maen nhw bellach yn gweithio trwy hynny gydag undebau llafur. Felly, efallai y cawn ni gynnig mwy unedig gan y sector ei hun, o'r ddwy ochr, i ddeall sut y gellid cyflawni'r trawsnewid hwnnw, a sut i fuddsoddi mewn ffordd nad yw'n aberthu llawer o swyddi. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod y Cyngor Dur a fydd yn cael ei gynnal yn ystod yr haf, lle gallwn gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion yno a'r gwaith y mae ein swyddogion yn ei wneud i geisio cefnogi hynny, ac rydych yn sôn am nifer o feysydd y byddaf i'n dod iddyn nhw pan all hynny fod o gymorth. Rwyf i, yn ogystal â chyfarfod â UK Steel yn gyffredinol yn y Cyngor Dur, eisoes wedi cwrdd â chynhyrchwyr Cymru hefyd, yn ogystal â'r undebau llafur.
Fe wnaethoch chi sôn am y pwynt pwysig am y cyflenwad trydan yr ymdriniais ag ef yn fy natganiad. Os gallwn ni sicrhau'r cyflenwad mwyaf posibl a'i wella, mae gennym ni gyfleoedd gwirioneddol arwyddocaol yng Nghymru gydag ynni adnewyddadwy, ond hefyd sgwrs heb ei gorffen am y rhan y gallai'r diwydiant niwclear ei chwarae yn y ffordd y gallwn ni gynhyrchu trydan ei hun. Yna mae gennym ni ddewisiadau buddsoddi sylweddol i'w gwneud, neu yn hytrach ar y cyd â phobl sy'n gyfrifol am fuddsoddi yn y grid, i sicrhau y gallwn ni ddarparu'r capasiti cynyddol hwnnw i'r lle y mae ei angen, i'r sector dur a sectorau eraill hefyd. Ac mae hynny wedi bod yn nodwedd o'r sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael gydag amrywiaeth o bobl, pa un a ydyn nhw'n ymwneud â'r diwydiant ynni adnewyddadwy, neu yn wir mewn cyflenwi batris hefyd. Felly, rydym ni eisoes yn gweithio gydag Ofgem a pherchnogion rhwydweithiau i gael dealltwriaeth gyffredin o sut bydd y grid yn edrych erbyn 2050, ac i sicrhau y gellir cysoni penderfyniadau cynllunio a gwario er mwyn sicrhau bod capasiti yno ac yn cael ei wireddu.
Ac wrth sôn am ymchwil dur, rydym ni eisoes yn cefnogi amrywiaeth o fentrau ymchwil yma yng Nghymru: yr ymchwil yr ydym ni wedi ei wneud i Brifysgol Abertawe, ond sydd hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o bobl eraill, felly mae'r Sefydliad Dur a Metelau yn Abertawe yn cael ei gydnabod ar draws y sector am y gwerth y mae'n ei ychwanegu, ond hefyd y gwaith y mae Abertawe'n ei wneud mewn cydweithrediad â phrifysgolion Sheffield a Warwick, ac mae hynny ar sail cyllid y DU—cymorth gan y cyngor ymchwil. Felly, mae gwaith eisoes yn edrych ar sut yr ydym yn gwneud hynny, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod hynny'n cael ei gefnogi gan ein prif weithgynhyrchwyr yma yng Nghymru, yn Tata, Celsa a mannau eraill.
Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â chaffael, gan ei fod yn un o'r materion a godir yn rheolaidd gan gynhyrchwyr dur. Rhan o'u pryder, er enghraifft, oedd mai dim ond tua 25 y cant o'r dur sy'n cael ei ddefnyddio mewn rheilffyrdd cyflymder uchel dwy linell oedd yn tarddu o'r DU ac wedi'i gynhyrchu yn y DU. Mae her o ran yr hyn y mae ein rheolau'n ei ddweud ynghylch pa un a yw'n tarddu o ffynonellau'r DU, lle gall ddod i mewn o ran arall o'r byd ond ei fod yn wedi ei ffynnonellu gan brynwr yn y DU, neu wedi ei gynhyrchu yn y DU, sydd, wrth gwrs, yn wahanol. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym yn gweithio trwyddo wrth weithredu'r siarter dur, felly mae gwaith yn cael ei wneud ac mae cynnydd yn cael ei wneud. Mae mwy i ni ei wneud, ond yma yng Nghymru mae gennym ni gynllun 10 pwynt eisoes ar gyfer gwella caffael cyhoeddus, ac mae hwnnw'n sicr yn ystyried o ble y daw'r dur mewn prosiectau datblygu newydd, ac rwy'n falch o ddweud bod Trafnidiaeth Cymru, er enghraifft, wedi ymrwymo'n llawn. Felly, wrth iddyn nhw ehangu eu gweithrediadau a'r cyfleoedd i ehangu cledrau, fel y maen nhw'n ei ystyried yn rhan o'u strategaeth gaffael, rwy'n credu mai her allweddol i ddatblygu'r weledigaeth fydd sut y byddan nhw'n chwilio am ddur a gynhyrchir ym Mhrydain yn rhan o hyn, oherwydd gall caffael fod yn ysgogydd mawr iawn i sector gwirioneddol gynaliadwy ac un sy'n ystyried sut y cynhyrchir dur yn y lle cyntaf, sut y mae'n cyrraedd y pwynt mynediad yn y DU, neu, mewn gwirionedd, os caiff ei gynhyrchu yn y DU, sut y caiff ei gynhyrchu hefyd. Fel arall, gallem ni yn y pen draw alw pethau yn ddur gwyrdd heb ystyried y carbon ychwanegol o ran ei fewnforio o bosibl o rannau eraill o'r byd.
Mae dealltwriaeth dda o'ch pwynt ynglŷn â phrentisiaethau. Mae her onest yn y fan yma, a byddaf i'n ceisio mynegi hyn mor dyner, ond mor onest, â phosibl. Mae'r ffordd yr ydym ni'n darparu prentisiaethau yng Nghymru yn dibynnu ar yr hyn a oedd yn gronfeydd strwythurol Ewropeaidd, ac mae cyfran sylweddol o'r cyllid ar gyfer hynny wedi dod trwy'r llwybr hwnnw. Felly, mae'r dewisiadau a wneir ynglŷn â sut y defnyddir y cronfeydd olynol hynny yn berthnasol iawn i gefnogi sgiliau ar draws yr economi gyfan, gan gynnwys darparu prentisiaethau, ac os bydd gennym ni ddull gweithredu yn y pen draw nad yw'n caniatáu prosiectau strategol rhanbarthol neu genedlaethol sylweddol, yna mae hynny'n risg wirioneddol gan gynnwys yn y maes hwn. Fodd bynnag, dylwn i ddweud bod y sicrwydd ynglŷn â'r llwybr i'r diwydiant dur yn rhan o gyflawni'r sicrwydd hwnnw, er mwyn sicrhau y gellir buddsoddi mewn prentisiaethau. Serch hynny, byddwn i'n dweud bod gan y cyflogwyr yma yng Nghymru, yn fy marn i, hanes da, ac yn y sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael â nhw, maen nhw yn sicr wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn parhau i ailfuddsoddi yn eu gweithlu, i chwilio am weithwyr newydd i ddod i mewn i'r diwydiant, a hefyd i ddeall o ble maen nhw'n dod, i sicrhau ei fod yn ddiwydiant dur mwy amrywiol o ran ei gyfansoddiad a'i weithlu.
Wrth gwrs, diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a'r copi o'i ddatganiad ymlaen llaw. Mae rhywfaint o newyddion da yn y diwydiant dur ar hyn o bryd. Rwy'n clywed bod y farchnad ar ei lefel uchaf ers 15 mlynedd, felly nawr yw'r amser perffaith i edrych ar ddatblygu'r sector ar gyfer y dyfodol, a dyna pam rwy'n credu bod y datganiad hwn i'w groesawu'n fawr.
Ychydig o gwestiynau a phwyntiau. Yn gyntaf, a fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi strategaeth hirdymor ar gyfer datblygu gwaith ymchwil a datblygu ar gyfer y sector dur yng Nghymru? Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol bod Tata Steel yn ystyried gwahanu ochrau'r DU a'r Iseldiroedd y busnes ar hyn o bryd. Yn wir, rwy'n credu bod hynny'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, felly, hyd y gwn i, yn rhan o unrhyw strategaeth bosibl, byddai'n bwysig gweld sut y byddai hyn yn effeithio ar ddiwydiant y DU pe bai'n mynd rhagddo. O gofio ein bod ni wedi datgan argyfwng hinsawdd, bydd ymchwil a datblygu yn arbennig yn hanfodol i'r sector, yn enwedig o ystyried, fel y mae pethau ar hyn o bryd, nad yw'r llwybr at ddatgarboneiddio ar gyfer y maes dur mor eglur â sectorau eraill, er bod ynni adnewyddadwy, wrth gwrs, yn dibynnu'n fawr ar ddur yn y lle cyntaf. I'r perwyl hwnnw, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch pa gyllid fyddai ar gael, boed hynny drwy gyd-fuddsoddi neu drwy Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU yn unig?
Mae ystyriaeth bwysig arall, wrth gwrs, yn ymwneud ag ynni a phrisio, fel y nododd y Gweinidog. Byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud prisiau yn fwy cystadleuol i'r diwydiant dur, yn debyg i'r hyn a wnaed eisoes yn yr Almaen. Mae i'w groesawu, wrth gwrs, clywed bod y Gweinidog wedi codi ynni adnewyddadwy morol, ac rwy'n edrych ymlaen at weld uchelgais y Llywodraeth yma a'r gobaith yw y bydd hynny yn arwain at forlyn llanw bae Abertawe yn y tymor hir. Byddai gen i ddiddordeb hefyd mewn gwybod pa ran y mae'r Gweinidog yn meddwl fydd gan brosiectau ynni a arweinir gan y gymuned, nid yn unig o ran creu prisiau mwy cystadleuol, ond hefyd o ran cynyddu capasiti ar y grid lleol ar gyfer y sector yng Nghymru.
Yn ychwanegol at hyn, pa gymorth fydd Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi o ran dur wedi'i ailgylchu? Cyfeiriodd y Gweinidog ato yn ei ddatganiad, ond mae'n ymddangos bod problem ar hyn o bryd o ran ansawdd y sgrap sy'n cael ei dderbyn, yn benodol materion yn ymwneud â halogi o fudreddi, plastigau a metelau eraill. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol hefyd, wrth gwrs—ac rwy'n eithaf sicr ei fod wedi cyfeirio ato, eto, yn ei ddatganiad—o brosiect SUSTAIN, trwy Brifysgol Abertawe, sydd wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol iawn yn ymwneud â gwahanu metelau mewn sgrap. Mae gan y prosiect, wrth gwrs, ran bwysig i'w chwarae o ran dur wedi'i ailgylchu, felly byddai gen i ddiddordeb mewn clywed a yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw sgyrsiau eraill gyda'r sector a'r tîm y tu ôl i SUSTAIN i weld sut y gellir bwrw ymlaen â'u gwaith.
Ac yn olaf, rwyf i wedi sôn amdano sawl gwaith yn y Siambr o'r blaen, ond pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd ar drywydd sefydlu trefn debyg i Lywodraeth yr Alban trwy sefydlu comisiwn pontio cyfiawn? Fel y soniais ar ddechrau fy nghyfraniad, nid oes gan ddiwydiannau fel dur lwybr eglur at ddatgarboneiddio, ac felly mae gweithwyr yn y diwydiannau hynny mewn mwy o berygl o ansicrwydd swyddi, yn y dyfodol, wrth i ni geisio datgarboneiddio. Rwy'n siŵr y byddai strategaeth i ddiogelu gweithwyr yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr. Diolch yn fawr.
Diolch am y cwestiynau. Fe wnaf i ymdrin ag ymchwil a datblygu nid yn unig yn y sector dur ond yn fwy cyffredinol, a dyma un o'r heriau yn gyffredinol ar gyfer ein dyfodol economaidd, oherwydd pan ddaw'n fater o ddosbarthu cyllid arloesi ac ymchwil a datblygu, nid yw Cymru mewn gwirionedd, yn fy marn i, yn sicrhau cyfran deg o gronfeydd y DU gyfan ar hyn o bryd. A dweud y gwir, mae'r Alban yn gwneud yn well na'i chyfran ar hyn o bryd, o ran poblogaeth. Dyna un o fy mlaenoriaethau, i newid y ffordd y mae hynny yn gweithio. Ac eto, os yw'r agenda codi'r gwastad i gael ei gwireddu, mae hwn yn faes lle gallai Llywodraeth y DU wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Nid yw fel pe baem ni'n gofyn i Lywodraeth y DU fuddsoddi mewn rhan o'r DU lle nad yw'r gallu i wneud defnydd da o'r cyllid arloesi ac ymchwil a datblygu hwnnw yn bodoli.
Ond mae Abertawe yn enghraifft dda o ble mae hynny eisoes yn gweithio. Fel y soniais yn fy natganiad, y gwaith y maen nhw'n ei wneud, ochr yn ochr â Warwick ac eraill, yw'r prosiect SUSTAIN. Dyna'r hyn yr oeddwn i'n cyfeirio ato. Ac felly mae yn dangos bod mwy y gellir ei wneud gyda'r arbenigedd gwirioneddol sy'n bodoli o amgylch y diwydiant yma yng Nghymru. Felly, rwyf i eisiau gweld mwy o wariant ymchwil a datblygu yn digwydd yng Nghymru, a cheir mentrau cydweithredol lle mae hynny eisoes yn gweithio ac y gellid buddsoddi ynddyn nhw ymhellach. A bydd hynny yn bwysig iawn nid yn unig i'r pwyntiau yr ydych chi'n eu gwneud ynglŷn ag ailgylchu.
Mae'n un o'r pethau yr wyf i'n sicr wedi eu trafod gyda'r sector yn barod. Fe'i codwyd ganddyn nhw yn y cyfarfodydd unigol yr wyf i wedi eu cael gydag amrywiaeth o weithredwyr yn ogystal â chyda'n gilydd o amgylch y Cyngor Dur, ac mae gennym ni her—her wirioneddol—ledled y DU ein bod ni'n dal i allforio sgrap ar hyn o bryd. Rydym ni'n allforiwr net. Ac mae hynny ynddo'i hun, os ydym ni'n bwriadu gwneud mwy o ddefnydd o ffwrneisi trydan—mae'n rhaid i ni feddwl o ble y mae'r sgrap yn dod, i'w ystyried yn ddeunydd crai, ei ansawdd. Nawr, ar hyn o bryd, nid wyf i'n credu y gallech chi ddweud wrth fusnes allforio, 'O haelioni calon, dylech chi roi'r gorau i weithredu.' Mae'n rhaid meddwl rhywfaint am sut i gymell y llwybr sy'n arwain at allforio ar hyn o bryd, gan arwain at gadw'r nwyddau hynny yma i'w defnyddio yn y DU yn ogystal â gwneud yn siŵr wedyn bod gennym ni ddeunyddiau o ansawdd uchel i'w defnyddio o fewn y sector ei hun hefyd.
Mae hynny yn rhan o'r hyn yr ydym ni'n bwriadu mynd i'r afael ag ef, ac mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â'r arbenigedd sy'n bodoli o fewn y sector, am sut y gallwn ni wneud hynny. Ac mae'n dod yn ôl at y pwynt yr wyf i eisiau ei wneud ynglŷn â'ch pwynt ynghylch a oes cynllun, a ydym ni'n dymuno llunio strategaeth. Mewn gwirionedd, o ran datgarboneiddio a phontio cyfiawn, mae'r ddau yn mynd law yn llaw, oherwydd gallech chi ddatgarboneiddio'r broses cynhyrchu dur mewn ffordd a fyddai'n costio llawer o swyddi yn gyflym iawn, nid yn unig yn uniongyrchol o fewn y sector, ond swyddi sy'n dibynnu arno. Ac mae hon yn broblem benodol i etholaeth David Rees, ym Mhort Talbot. A'r her mewn gwirionedd yno yw y gallwch chi gael proses bontio gyfiawn sy'n rhoi'r amser i feddwl am sut y mae'r dechnoleg yn cael ei datblygu, ac mae hynny wedyn yn golygu y gallwch chi gadw llawer o swyddi o ansawdd uchel ond hefyd y gwerth ehangach y mae cynhyrchu dur o'r cychwyn yn ei roi i chi mewn gwirionedd. Nawr, mae hynny yn golygu bod angen i ni feddwl sut y bydd proses pontio cyfiawn yn edrych, i weithwyr ac i'r wlad ehangach hefyd. Bydd angen i ni ddeall beth yw'r cynllun eang ar gyfer y diwydiant fel bod cynllun i fuddsoddi ynddo ac o'i amgylch, a bydd hynny yn arwain at drafodaethau ymarferol rhyngom ni a'r DU ynglŷn â'r gwahanol ysgogiadau a chyllidebau sydd gennym ni i wneud yn union hynny.
O ran eich pwynt ynglŷn ag ynni cymunedol, rwy'n siŵr y bydd gan Julie James lawer i'w ddweud am y rhan y gall ynni cymunedol ei chwarae a'r enillion y gellir eu creu i'r cymunedau unigol hynny, yn ogystal â darparu symiau ychwanegol sylweddol i'r grid. Ac fe wnaf i, rwy'n credu, roi sylw i'ch pwynt olaf o bopeth yr ydych chi wedi ei drafod, ac mae hwnnw yn ymwneud â phrisiau ynni. Mae hwn wedi bod yn destun pryder rheolaidd, a bydd Aelodau sydd wedi bod yma ers cryn amser wedi clywed Prif Weinidogion blaenorol yn siarad yn faith am yr her sy'n wynebu'r sector dur yn y DU pan fo gan gynhyrchwyr dur y DU brisiau llawer uwch i'w talu am ynni, o'u cymharu â'r prif gystadleuwyr yn yr Almaen a Ffrainc, lle mae 86 y cant yn fwy nag yn yr Almaen ar gyfartaledd a 62 y cant yn fwy nag yn Ffrainc. Felly, mae'r prisiau presennol hynny yn rhwystr gwirioneddol i fuddsoddiad, a dim ond Llywodraeth y DU a all ddatgloi hynny ac mae honno yn her uniongyrchol sydd wedi cael ei chyflwyno i Lywodraeth y DU, nid yn unig gan y Llywodraeth hon ond gan bobl ar bob ochr i'r sector, ac mae'n fater y bydd yn rhaid i ni ddychwelyd ato dro ar ôl tro ym mhob cyfarfod y Cyngor Dur, oherwydd gallai hynny anghymell buddsoddiad yn y sector a'r ymrwymiad sylweddol sydd ei angen i symud i ddyfodol gwirioneddol ddi-garbon i'r diwydiant dur.
Diolch yn fawr, Llywydd, ac mae'n anrhydedd i mi fod yn is-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddur. Mae'n sector eithriadol o bwysig i Gymru a ledled y Deyrnas Unedig ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod gennym ni draddodiad balch o gynhyrchu dur yn fy etholaeth i, sef Alun a Glannau Dyfrdwy, ac rydym ni'n dathlu 125 mlynedd o gynhyrchu dur yn Shotton Steel eleni. Mae cynhyrchu dur lleol yn Alun a Glannau Dyfrdwy yn anghenraid os ydym ni am fynd i'r afael â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd a chynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion gwyrdd. I mi, mae dwy ffordd y gallwn ni helpu i gyflawni hyn: un yw bod y safle carbon-niwtral cyntaf yn y Deyrnas Unedig, a'r ail yw lleoli canolfan logisteg ar safle Shotton i adeiladu'r genhedlaeth nesaf o gartrefi modiwlaidd carbon isel.
Gyda'r ddau bwynt hynny mewn golwg, Gweinidog, a wnewch chi ddod gyda mi ar ymweliad â Shotton Steel i weld y safle, i gyfarfod â'r gweithlu ymroddedig a hynod fedrus a'u cynrychiolwyr undebau llafur, i drafod sut yn union y gall Llywodraeth Cymru gefnogi ymhellach cynlluniau cynaliadwy Shotton Steel ar gyfer y dyfodol?
Rwy'n credu bod dau gwestiwn yn y fan yna, Llywydd, yn ogystal â'r gwahoddiad. Y cwestiwn ynghylch y gwahoddiad: mewn egwyddor, gwnaf, a byddaf yn hapus i weithio gyda chi i geisio dod o hyd i gyfle priodol i ddod i Shotton. Rwy'n credu bod y cwestiwn arall yn ymwneud â sut yr ydym ni'n edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i fuddsoddi o amgylch hynny, yr hyn y mae cwmnïau yn fodlon ei wneud eu hunain, a pha sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi, a byddwch chi wedi clywed Julie James yn siarad am ddulliau adeiladu modern ar sawl achlysur yn y gorffennol, cyn yr etholiad blaenorol ac ers yr etholiad hefyd. Rwy'n credu bod cyfleoedd gwirioneddol yn y ffordd yr ydym ni'n ystyried gwahanol rannau o weithgareddau'r Llywodraeth a sut y gallan nhw fod o fudd i'r diwydiannau yma yng Nghymru, felly byddaf yn hapus i roi sylw i elfennau ffurfiol digwyddiadau dyddiadur a gweithio gyda chi i ymweld â Shotton a'r ymgysylltu ehangach yr edrychaf ymlaen at barhau ag ef yn y gogledd.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, ac a gaf i hefyd groesawu'r naws adeiladol yr wyf i o'r farn eich bod chi wedi ei roi yn eich datganiad a'ch atebion hyd yn hyn? Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod sector dur bywiog yng Nghymru yn y dyfodol yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio pan fo hynny'n bosibl, felly hoffwn groesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud yr hyn a all ei wneud i sicrhau sector dur mwy gwyrdd. Ac i'r sector dur yng Nghymru, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, bydd hynny yn golygu gwneud pethau yn wahanol a chroesawu gwahanol arferion. Felly, mae gen i ddiddordeb mawr yn eich ateb i gwestiwn Luke Fletcher, pan wnaethoch chi sôn am drosglwyddo i'r math mwy gwyrdd hwnnw o gynhyrchu dur a sut y byddai hynny yn edrych mewn gwirionedd. Felly, fel y gwnaethoch chi ei ddweud i ryw raddau, rwy'n siŵr mai'r peth olaf y byddech chi ei eisiau yw i unrhyw newidiadau fygwth swyddi mewn lleoedd fel Port Talbot yn fy rhanbarth i neu danseilio gallu'r diwydiant dur i gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol. Felly, a gaf i ofyn: sut ydych chi'n rhagweld y bydd y newid hwnnw yn digwydd a pha gamau wnewch chi eu cymryd i sicrhau bod amddiffyn y gweithlu a'r swyddi mewn lleoedd fel Port Talbot, yn ogystal â datgarboneiddio a swyddi gwyrdd, yn ganolog i unrhyw newidiadau sy'n digwydd yn y sector?
Wel, dyma'r union faterion yr wyf i wedi cael sgyrsiau rheolaidd yn eu cylch, nid yn unig â David Rees yn nhymhorau blaenorol y Senedd, ond ar ddechrau'r un yma ac yn wir yn fy sgyrsiau â Community, sef y prif undeb dur ar y Cyngor Dur. Mae amrywiaeth o swyddi o ansawdd uchel yn y fantol yn y diwydiant a dyna pam mae angen i chi feddwl yn wirioneddol o ddifrif am yr hyn sy'n digwydd yn y dyfodol ar gyfer dal a storio carbon neu dechnoleg hydrogen hefyd. Ac yma, mae gan Lywodraeth y DU gyfle gwirioneddol i fuddsoddi i wneud yn siŵr bod dyfodol gwirioneddol i'r swyddi hynny, a dyna'r her wirioneddol.
Felly, ychydig flynyddoedd yn ôl, nid oedd yn edrych fel y byddai'r gweithredu angenrheidiol gan Lywodraeth y DU er mwyn i hyn ddigwydd; mae'n ymddangos erbyn hyn y bu newid i flaenoriaeth a pholisi, sydd i'w groesawu. Ond mae'n rhaid cyflawni'r broses. Felly, mae angen i'r sgyrsiau sy'n cael eu cynnal nawr arwain at fuddsoddiad uniongyrchol. Ac mae'r gwaith ar y dechnoleg hydrogen bosibl yng ngogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr i'w groesawu yn fawr, ond mewn gwirionedd, o ystyried ble mae'r ffwrnais chwyth yng Nghymru, pan fyddwch chi'n gweld beth mae hynny yn ei olygu i sut y gellir defnyddio technoleg yn rhan ddeheuol Cymru ac i gael dealltwriaeth o ba mor agos yw'r dechnoleg honno at gael ei darparu, boed yn hydrogen neu'n ddal carbon, i wneud yn siŵr eich bod chi'n datgarboneiddio'r ffordd y mae dur yn cael ei gynhyrchu wedyn.
Felly, dyna'r sgwrs rydym ni'n ei chael, ac yn gyffredinol, does dim byd cyfrinachol am hynny. Fodd bynnag, yr her yw sut gallwn ni gyrraedd yno, ac yna'r dewisiadau y mae Llywodraeth y DU yn barod i'w gwneud i wneud yn siŵr bod buddsoddiad yn digwydd, gan fod hwn yn faes lle dim ond nhw all ddewis buddsoddi ar y raddfa sydd ei hangen i wneud yn siŵr ei fod yn digwydd. Ac o wneud hynny, rwy'n credu y byddan nhw'n darganfod diwydiant dur sy'n barod ac yn fodlon ymateb, ac mewn ffordd sy'n bodloni'r ffordd y mae'r undebau llafur yn ddealladwy yn awyddus i wneud yn siŵr nad yw swyddi o ansawdd uchel yn cael eu colli wrth drosglwyddo. A dyna lle yr hoffwn i fod, a dyna safbwynt Llywodraeth Cymru yn sicr, ac mae pobl ar bob ochr i'r ddadl yn ei ddeall yn iawn.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma ac am yr atebion y mae wedi eu rhoi? Oherwydd mae wedi ei gwneud yn gwbl eglur ei fod yn deall yn iawn yr heriau y mae'r diwydiant dur yn eu hwynebu heddiw, wrth symud tuag at ddatgarboneiddio, a'ch cydnabyddiaeth y bydd yn costio swyddi os na fyddwn ni'n ofalus, os na fyddwn ni'n ei wneud yn gywir ac yn briodol, a'r amser a gymerir i roi'r technolegau newydd ar waith a sut rydym ni'n prosesu hynny.
Felly, a gaf i ofyn un neu ddau o gwestiynau i chi yn gyflym? Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda chwmnïau dur Cymru ynglŷn â'u strategaethau ar gyfer y dyfodol, a sut mae cynllun Llywodraeth Cymru yn cydblethu â'u strategaethau i sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd? A pha drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r cyllid, gan ein bod ni'n sôn am y buddsoddiad, ac ni fydd y cyllid hwn yn fach? Bydd angen cyllid mawr i gyflawni'r gwahanol lwybrau ar gyfer datgarboneiddio i sicrhau bod y busnesau hyn yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol—rydych chi wedi sôn am drydan—oherwydd, cofiwch, bydd ffwrneisi arc yn defnyddio llawer o drydan, ac mae angen i ni ystyried sut y byddwn ni'n llwyddo i gyflawni hynny mewn gwirionedd, gan gadw'n wyrdd ar yr un pryd.
Rwy'n credu bod yr heriau hynny yn hollol deg, ac roeddwn i'n edrych ar y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol wrth sôn am y gofynion ynni gan y cwmnïau hyn—oherwydd, wrth gwrs, fel y bydd Aelodau Caerdydd yn gwybod, mae llawer iawn o'r galw sy'n mynd i drydan yma yng Nghaerdydd yn dod o Celsa—a'r hyn y mae hynny yn ei olygu yn ymarferol i allu'r grid i barhau i wneud hynny. Felly, ceir heriau ymarferol gwirioneddol iawn i'r diwydiant, ond, mewn gwirionedd, i bob gweithgaredd arall hefyd. A dyna pam roeddwn i'n cyfeirio yn gynharach at yr angen i fod â chynllun gydag Ofgem ac eraill i ddeall sut y bydd angen i'r grid edrych yn 2050. Ac rydych chi'n iawn, mae'r rhain yn symiau sylweddol o fuddsoddiad y mae angen eu gwneud, ond ceir cyfle gwirioneddol wrth wneud hynny hefyd—nid y cyfle i wneud yn siŵr bod y diwydiant dur yn fwy cynaliadwy yn unig, ond yr hyn y mae hynny yn ei olygu o ran galluogi datblygu economaidd arall i ddigwydd hefyd, a'r cyfleoedd gwirioneddol sydd gennym ni yng Nghymru o ran sut rydym ni'n cynhyrchu trydan gyda'n holl adnoddau naturiol hefyd. Mae hynny wedi bod yn rhan o'r sgwrs yr wyf i wedi ei chael eisoes gyda Llywodraeth y DU, ac mae fy swyddogion wedi ei chael. Mae'n rhan o'r sgwrs yr wyf i eisiau ei chael gydag Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol pan fyddaf i'n cael cyfarfod ag ef yn uniongyrchol, a'r sgyrsiau rheolaidd yr ydym ni wedi eu cael eisoes gyda Gweinidogion BEIS.
Nawr, yr her wedyn yw a ydym ni'n gweld, yn y cyfnod cyn a thu hwnt i COP26, dewisiadau yn cael eu gwneud i ganiatáu i'r buddsoddiad hwnnw ddigwydd er mwyn caniatáu i sector dur mwy di-garbon ddod i'r amlwg. Mae hefyd yn real iawn i'r heriau sy'n gysylltiedig â'r adolygiad cynhwysfawr o wariant ddiwedd eleni, oherwydd os nad ydym ni'n barod i weld buddsoddiad ledled y DU yn hyn trwy gyfnod hwnnw yr adolygiad nesaf o wariant, bydd yr amserlen i allu gwneud hynny yn llwyddiannus yn fwy tynn byth, ac yna bydd mwy o risg i'r swyddi yr oedd Tom Giffard yn sôn amdanyn nhw. Ac, mewn gwirionedd, gallem ni weld rhai o'r swyddi hynny yn diflannu os na fydd dewisiadau buddsoddi yn cael eu gwneud, oherwydd bydd angen sicrwydd i'r diwydiant fuddsoddi ei hun, er mwyn deall yr hyn y mae'r Llywodraethau yn ei wneud hefyd. Ac mae hynny wedi bod yn rhan fawr o'r sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael gyda chwmnïau cynhyrchu dur Cymru yn barod. Yn y sgyrsiau uniongyrchol hynny, mae cwmnïau dur Cymru yn ei gwneud yn eglur eu bod nhw'n mwynhau, ac yn dymuno parhau i fwynhau, perthynas adeiladol gyda'u hundebau llafur ar y safle, oherwydd mae'r aelodau a'u hundebau yn deall yr angen i'r sector newid, ond i newid mewn ffordd nad yw'n aberthu eu swyddi yn y cyfnod pontio, i weld mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol—y pwynt a wnaed am brentisiaethau, y posibilrwydd o greu swyddi yn y dyfodol a'r ffordd y gall y sector dur edrych i'r dyfodol gyda rhywfaint o hyder a dyfodol gwirioneddol gynaliadwy, a'i arwyddocâd economaidd ehangach.
Felly, rwy'n gadarnhaol bod gan y cwmnïau dur eu hunain strategaeth ar gyfer y dyfodol a fydd yn cynnwys eu gweithlu eu hunain, ac yna mae'n fater o'r Llywodraeth yn gallu cyd-fynd â hynny er mwyn gwneud y buddsoddiadau sylweddol sydd eu hangen. Ac, ar hyn o bryd, rwy'n credu y gallwn ni fod â rhywfaint o optimistiaeth ofalus am hynny.
Gweinidog, ar draws fy rhanbarth i, sef Dwyrain De Cymru, mae cymunedau wedi cael eu llunio gan orffennol a phresennol diwydiannol Cymru. Rwy'n falch felly o weld y datganiad yn ail-bwysleisio eich cefnogaeth i sector dur Cymru, ac yn cydnabod y rhan hanfodol y bydd yn ei chwarae wrth sicrhau ein dyfodol carbon isel.
Ond, Gweinidog, o safbwynt addysgol—ac rydych chi wedi cyffwrdd ar y pwynt eisoes wrth ymateb i gwestiwn fy nghyd-Aelod Tom, a Luke—pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod gweithlu presennol y sector dur a gweithlu'r dyfodol wedi ei ddiogelu at y dyfodol a bod ganddyn nhw'r sgiliau trosglwyddadwy ac y byddan nhw'n cael eu hail-addysgu yn y rhai y bydd eu hangen arnyn nhw i barhau i addasu a rheoli'r newid hwn i gynhyrchu carbon isel a'r ffyrdd newydd o weithio? Diolch.
Wel, mae hwn yn bwynt mewn gwirionedd ynglŷn â sut yr ydym yn parhau i fuddsoddi yn y gweithlu. Ac mae hwn yn faes lle nad yw'r gwaith y byddech chi wedi ei wneud yn y diwydiant dur 20 mlynedd yn ôl y gwaith yr ydych chi'n ei wneud heddiw o reidrwydd ac ni fydd y gwaith y byddwch chi'n ei wneud ymhen 20 mlynedd, ac mae cyflogwyr yn cydnabod hynny eu hunain. Ac, unwaith eto, caiff ei gydnabod nid yn unig gan gyflogwyr ond gan yr undeb llafur hefyd—yr angen i edrych eto'n gyson ar sut y mae'r gwaith yn cael ei wneud a'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl. A dyna pam rwyf i'n credu bod optimistiaeth ynglŷn â'r ffaith bod y cwmnïau hynny yn dymuno buddsoddi nid yn unig yn eu gweithlu presennol ond yn eu dyfodol. Felly, mae'n ymwneud yn rhannol â'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ymuno â'r gweithlu hwnnw, i fod yn brentis, i gael eich cyflogi, ond wedyn beth fydd angen i chi barhau i'w wneud.
Felly, rwy'n credu ein bod ni'n ymdrin â chyflogwyr sy'n cydnabod bod ganddyn nhw gyfrifoldebau i allu buddsoddi, a dyna pam rwy'n gwneud y pwynt ynglŷn â sut y caiff cyllid olynol Ewropeaidd ei ddefnyddio. Os na allwn ni ddefnyddio hynny mewn ffordd sy'n ein galluogi i gael buddsoddiad strategol priodol mewn sgiliau mewn gwahanol sectorau o'r economi, gallem ni wario arian yn wael yn y pen draw a pheidio â rhoi mantais i'r busnesau a'r gweithwyr hynny gael y math o ddyfodol y byddem ni i gyd, o'r datganiad heddiw, yn dymuno iddyn nhw ei gael. Felly, mae dewisiadau gwirioneddol i'w gwneud nad ydyn nhw'n ymwneud dim ond â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn anghytuno—mae effaith ymarferol, wirioneddol yn y dewisiadau yr ydym yn eu gwneud o ran buddsoddi mewn sgiliau.
Yn olaf, John Griffiths.
Gweinidog, ymysg ardaloedd Cymru sydd â thraddodiadau dur cryf, wrth gwrs, mae Casnewydd, a fy etholaeth i yn Nwyrain Casnewydd, gyda safle Llanwern, er enghraifft, ac, yn fwy diweddar, Liberty Steel. Mae gan Liberty Steel, wrth gwrs, anawsterau mawr ar hyn o bryd, a hoffwn i gael eich sicrwydd, Gweinidog, eich bod chi'n rhan o'r sefyllfa honno yn Liberty, o ran cadw golwg ar ddatblygiadau, ac wrth gwrs gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r undebau llafur yn ogystal â Liberty a phrynwyr posibl. Ac un pwynt allweddol, rwy'n credu, Gweinidog, yw bod Liberty yn gweithredu fel gwerthwr cyfrifol a bod proses dryloyw sy'n ymgysylltu'n llawn â'n hundebau llafur, a bod craffu ar gynlluniau unrhyw brynwr posibl, gan gynnwys eu hymrwymiad i'r gweithlu ac, yn wir, y diwydiant. Mae'r rhain yn faterion hollbwysig i fy etholaeth i, sef Dwyrain Casnewydd, a hoffwn i gael sicrwydd gennych chi ar y materion hyn.
Rwy'n hapus i roi sicrwydd i'r Aelod ein bod ni'n parhau i ymgysylltu cymaint ag y gallem ni ac y dylem ni fod yn ei wneud â'r cwmni mewn trafodaethau ynghylch eu dyfodol. Mae tua 180 o swyddi rhwng y ddau safle. Mae'r swyddi hynny'n werthfawr, ac rydym ni eisiau gallu eu diogelu a'u gweld yn cael dyfodol gwirioneddol, wrth symud ymlaen. Gwn fy mod i wedi cael sgyrsiau â'ch cymydog etholaethol, Jayne Bryant, i'r un perwyl, ac, os yw'n ddefnyddiol, byddaf i'n hapus i gael sgwrs arall â chi o ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i geisio cefnogi'r gweithlu yn Liberty Steel, wrth iddyn nhw geisio symud ymlaen yn y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Papur Gwyn ar ail-gydbwyso gofal a chymorth. Galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad, Julie Morgan.
Diolch. Fe wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd o ran ein hymgynghoriad ar Bapur Gwyn 'Ailgydbwyso Gofal a Chymorth' ar 9 Chwefror. Roedd y Papur Gwyn yn nodi cynigion ar gyfer gwella trefniadau gofal cymdeithasol er mwyn galluogi'r sector yn well i gyflawni'r weledigaeth sydd wedi'i nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Daeth yr ymgynghoriad 12 wythnos i ben ar 6 Ebrill. Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru erbyn hyn.
Felly, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch personol i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad. Mae'r crynodeb hwn o'r adroddiad ymatebion yn rhoi trosolwg o'r amrywiaeth gyfoethog a sylweddol o farn a safbwyntiau a gafodd eu cynnig mewn dros 150 o ymatebion. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cydnabod yr heriau a oedd wedi eu nodi yn yr achos dros newid. Roedden nhw'n cytuno ar y cynigion ar gyfer system symlach sy'n seiliedig ar ganlyniadau, yn canolbwyntio ar ansawdd a gwerth cymdeithasol, wedi ei harwain yn strategol ac nid yn adweithiol, ac wedi ei gwreiddio mewn gwaith partneriaeth ac integredig.
Roedd y mwyafrif llethol yn credu bod cymhlethdod y sector yn rhwystr i wella gwasanaethau. Roedd cyfran sylweddol o'r ymatebion yn cytuno bod arferion comisiynu yn canolbwyntio'n anghymesur ar gaffael. Am y rhesymau hyn, roedd cefnogaeth eang i fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth a mwy o bwyslais ar gomisiynu yn ôl ansawdd, canlyniadau, hawliau a lles. Teimlai ymatebwyr y gallai fframwaith cenedlaethol leihau cymhlethdod a dyblygu. Roedd llawer o'r farn y gallai'r fframwaith hefyd annog a hwyluso integreiddio a chomisiynu ar y cyd rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Yn ogystal, disgrifiodd yr ymatebion gyfle pwysig i gryfhau partneriaethau rhwng comisiynwyr, cymunedau a darparwyr i gyd-gynllunio atebion lleol â dychymyg er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i unigolion wrth sicrhau gwerth am arian.
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr o'r farn y dylai'r swyddfa genedlaethol gyfuno grwpiau cenedlaethol presennol lle mae gwerth ychwanegol, er mwyn lleihau dyblygu, cyfuno adnoddau a galluogi gwell effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd. Roedd y safbwyntiau ar leoliad y swyddfa genedlaethol yn amrywio. Nid oedd y rhan fwyaf o ymatebion llywodraeth leol yn cefnogi newid strwythurol, ond roedd eraill o'r farn bod angen i swyddfa genedlaethol fod yn annibynnol ar y Llywodraeth er mwyn dwyn partneriaid i gyfrif a meithrin perthynas â'r farchnad.
O ran byrddau partneriaeth rhanbarthol, roedd dros hanner yr ymatebwyr yn credu eu bod wedi eu cyfyngu gan eu dyluniad a'u strwythur. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr hyn yn dod o'r trydydd sector, y sector annibynnol a gan ddinasyddion. Roedd galwadau am adolygiad ffurfiol o strwythurau ac aelodaeth byrddau partneriaeth rhanbarthol i fod yn rhan o unrhyw ddiwygiad yn y dyfodol. Roedd y rhan fwyaf o gyrff statudol o'r farn bod pwerau deddfwriaethol yn ddigonol i alluogi byrddau partneriaeth rhanbarthol i ymgymryd â'u cyfrifoldebau presennol. Roedd yr ymatebion hyn yn pwysleisio bod partneriaethau yn ymwneud ag ymddiriedaeth a pherthynas, a bod angen i bartneriaid gydweithio i gyflawni'r newid angenrheidiol. Cafodd llawer o enghreifftiau eu darparu gan bob sector ynglŷn â sut y byddai modd cryfhau byrddau partneriaeth rhanbarthol, naill ai yn eu fformat presennol neu fel endidau cyfreithiol.
Rydym yn gwybod bod angen i bartneriaid weithio gyda'i gilydd ar nifer o lefelau i ddiwallu anghenion pobl. Roedd y trydydd sector yn glir bod systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn anodd eu llywio ar gyfer unigolion. Gan ychwanegu at y gwaith partneriaeth cryf a welwyd yn ystod pandemig COVID, rwyf i'n awyddus i weld partneriaethau effeithiol yn ffynnu ar lefel clwstwr, awdurdod lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
O ran y Gymraeg, nododd nifer o ymatebion anawsterau o ran darparu gwasanaethau Cymraeg ar lefel leol, a'r heriau y mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn eu hwynebu ar hyn o bryd o ran dyletswyddau presennol y Gymraeg. Roedd consensws bod yn rhaid i'r Gymraeg fod wrth wraidd datblygu polisi yn y dyfodol, ac os caiff corff newydd ei sefydlu, y dylai fod yn ofynnol iddo gydymffurfio â safonau'r Gymraeg.
Mynegodd ymatebwyr ymrwymiad clir a llethol i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r cynigion polisi hyn ymhellach. Yn unol â'n rhaglen lywodraethu, rwyf i wedi ymrwymo i gyflwyno fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth ac i gryfhau partneriaethau i gyflawni dros bobl Cymru. Bydd y ffordd yr ydym yn gwneud hynny yn cael ei llywio gan adborth yr ymgynghoriad a thrwy ymgysylltu eto â'r sector.
Mae'n bwysig edrych i'r dyfodol a sut yr ydym yn datblygu system decach yn ôl. Glasbrint yw ein cynigion Papur Gwyn ar gyfer sector gofal a chymorth cryfach, mwy cytbwys. Maen nhw'n ymwneud ag atebion hirdymor i wella ein system a sicrhau gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Rwy'n gobeithio y bydd holl Aelodau'r Senedd yn parhau i annog pawb sydd â diddordeb i gydweithio i gyflawni ein gweledigaeth o sicrhau lles i bobl y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw a gofalwyr y mae angen cymorth arnyn nhw. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am eich datganiad heno. Mae ailgydbwyso gofal a chymorth yn rhywbeth y gall pob un ohonom ni yn y Siambr hon ei gefnogi. Fe wnaethom ni ddechrau ar y daith gyda Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a'r ymrwymiad i integreiddio iechyd a gofal. Mae'n hen bryd i ni gyflymu'r daith tuag at ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chyd-gynllunio iechyd a gofal.
Er bod llawer ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru i'w gefnogi, mae gen i bryderon ynghylch a fydd eich cynigion ar gyfer deddfwriaeth yn cyflawni'r nodau yr ydym ni i gyd yn eu rhannu. Rwyf i hefyd wedi fy siomi nad oes unrhyw sylwedd i'r datganiad heddiw; nid oes unrhyw gyfeiriad i'r daith. Dirprwy Weinidog, pa neges ydy hyn yn ei hanfon at ddefnyddwyr gwasanaethau mewn gwirionedd? A pha neges ydy e'n ei hanfon at ddarparwyr gwasanaethau? Mae gennym ni ddatganiad arall eto gan y Llywodraeth sy'n datgan bod pethau'n mynd i newid, ond dim manylion ynghylch beth neu pryd y bydd y newidiadau yn digwydd. Pryd bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cyflwyno'r Bil ailgydbwyso gofal a chymorth? Ydym ni'n sôn am ychydig fisoedd neu ychydig flynyddoedd?
Rwy'n sylwi nad oedd dim yn y datganiad ynglŷn â chreu'r prif swyddog gofal cymdeithasol. Cafodd hyn ei gyhoeddi mewn datganiad ysgrifenedig fis diwethaf, ac eto mae hynny'n elfen allweddol o'ch cynigion, ynghyd â chreu swyddfa genedlaethol. Fel llawer o'r ymatebwyr i'ch Papur Gwyn, rwyf i'n credu y dylai'r swyddfa genedlaethol fod yn annibynnol ar y Llywodraeth ac felly hefyd y prif swyddog gofal cymdeithasol. Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno y dylai'r swydd gael ei llenwi drwy broses penodiadau cyhoeddus gadarn a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn penodi rhywun oddi mewn Llywodraeth Cymru i fod yn llais cryf i'r sector ac yn rhywun a all sefyll dros y defnyddwyr gwasanaeth a herio'r Llywodraeth?
Ar wahân i'r mater ynglŷn â diffyg annibyniaeth y swyddfa genedlaethol a'r prif swyddog, mae'r prif fater ynglŷn â'r Papur Gwyn yn ymwneud â gallu byrddau partneriaeth rhanbarthol. Dirprwy Weinidog, rydych chi'n ystyried bod y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn ganolog i'ch cynigion ar gyfer cryfhau gofal, ydych chi o'r farn, ar eu ffurf bresennol, fod ganddyn nhw y gallu i sicrhau gwelliannau i ofal a chwblhau'r broses o integreiddio iechyd a gofal?
Tynnodd adroddiad Archwilio Cymru yn 2019 sylw at y materion o ran y gronfa gofal integredig a chodwyd pryderon hefyd fod y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn methu â rhannu arferion gorau. A ydych chi wedi mynd i'r afael â phryderon Archwilydd Cyffredinol Cymru a sut y gallwch chi atal byrddau rhanbarthol rhag gweithredu yn unigol? A wnewch chi hefyd amlinellu sut y bydd y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gweithio ochr yn ochr â'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus a sut y byddwch chi'n osgoi dyblygu'r gwaith?
Yn olaf, pa ran ydych chi'n disgwyl y bydd darparwyr yn y sectorau annibynnol a phreifat yn ei chwarae wrth ddatblygu gwasanaethau a sut y byddan nhw'n rhyngweithio â'r byrddau rhanbarthol? Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i ddarparu gofal wedi ei gyd-gynllunio sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn gobeithio y byddan nhw'n cwblhau'r daith a ddechreuodd bron i ddegawd yn ôl yn fuan. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr i chi am y cwestiynau hynny ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y ffaith eich bod chi'n credu y gallwn ni i gyd gefnogi newidiadau i'r system. Mae egwyddorion Deddf 2014 wedi eu hailadrodd ym mhob dim yr ydym yn bwriadu ei wneud, gyda gofal cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gweithio i ddod â gofal cymdeithasol ac iechyd at ei gilydd. Mae'r hyn y mae'r datganiad yn ei wneud heddiw o ganlyniad i gyhoeddi'r ymgynghoriad yr ydym ni newydd ei gyhoeddi ac i dynnu sylw'r Aelodau at y dewisiadau sydd o'n blaenau bellach, gan ystyried yr hyn sydd wedi ei ddweud yn yr ymgynghoriad ac yn y cynigion eraill y byddwn yn gweithio arnyn nhw, gan ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau a gweithio gyda gwahanol rannau o'r sector.
Roedd Deddf 2014 wedi ymrwymo'n llwyr i weithio mewn ffordd gydgynhyrchiol, i weithio'n agos gyda'r gwahanol randdeiliaid, ac rydym yn bwriadu gwneud hynny. Rwyf i eisoes wedi siarad â'r Siambr ynghylch y fforwm gwaith teg yr ydym ni wedi ei greu a gyda phwy y byddwn yn gweithio'n agos iawn yn ystod yr holl ddatblygiadau hyn. Felly, hoffwn i sicrhau'r Aelod y byddwn ni yn gweithio gyda'r sector i gynnig atebion, a diben y datganiad heddiw yw tynnu sylw at y ffaith bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben a'n bod ni wedi cyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw.
Cyfeiriodd at y prif swyddog gofal cymdeithasol newydd. Mae hyn yn rhoi gofal cymdeithasol ar lefel gydradd â'r prif swyddog meddygol, er enghraifft. Ac mae'n bwysig iawn, yn fy marn i, fod gennym ni brif swyddog gofal cymdeithasol er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd y proffesiwn. Rwy'n sylwi ei fod hefyd o'r farn y dylai unrhyw uned genedlaethol fod yn annibynnol. Dyna'r farn a gafodd ei hadlewyrchu yn rhai o'r ymatebion i'r ddogfen ymgynghori, ac mae'n amlwg bod hynny yn rhywbeth y byddwn ni'n ei ystyried.
Rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r sector annibynnol. Rwy'n cyfarfod â chadeirydd Fforwm Gofal Cymru yn rheolaidd ac maen nhw wedi gweithio yn agos iawn gyda ni drwy'r pandemig cyfan. Felly, yn sicr bydd y sector annibynnol yn rhan allweddol o'r ffordd yr ydym ni'n bwrw ymlaen â phethau, oherwydd, wrth gwrs, o ran gofal preswyl, mae tua 80 y cant o'r ddarpariaeth yn y sector annibynnol.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad heddiw yma. Dwi ddim yn gwbl argyhoeddedig a oedd angen y datganiad yma heddiw yma. Dydy o ddim yn arwydd da iawn bod Gweinidog yn gorfod egluro, ar ôl delifro’r datganiad, beth oedd pwrpas y datganiad hwnnw. Ydy, mae o’n fath o ddiweddariad, ond beth rydym ni eisiau ei wybod, wrth gwrs, ydy beth ydy’r cig sydd yn mynd i dyfu ar esgyrn y Papur Gwyn a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach eleni, a dydw i ddim yn argyhoeddedig ein bod ni wedi cael rhagor o wybodaeth heddiw, mewn difri, ynglŷn â lle rydyn ni’n mynd. Mae’r geiriau yn cael eu hatseinio eto heddiw, fel clywsom ni yn y Papur Gwyn: yr heriau, yr achos dros newid, partneriaeth, gweithio efo’n gilydd. Rydym ni’n gwybod hynny. Rydym ni’n gwybod beth ydy’r heriau. Rydym ninnau ym Mhlaid Cymru wedi gallu adnabod llawer o’r heriau drwy'r gwaith a wnaethom ni yn y Senedd ddiwethaf, drwy ein comisiwn gofal ni.
Y cwestiwn ydy: beth ydy’r camau sydd yn mynd i fod yn digwydd rŵan er mwyn gallu canfod atebion go iawn i’r heriau yna? Mae’r Papur Gwyn yn rhoi rhyw fath o syniad inni o’r cyfeiriad mae’r Llywodraeth eisiau mynd iddo fo, ond hyd yma, rydym ni’n dal, dwi’n meddwl, yn aros i weld sut y bydd y siwrnai honno yn mynd arni hi. A dwi innau’n cytuno efo’r llefarydd o’m blaen i: wrth gwrs y gallwn ni i gyd uno tu ôl i’r egwyddorion creiddiol—maen nhw’n egwyddorion digon syml, onid ydyn nhw, i godi safon y gofal rydym ni’n ei roi i bobl—ond gadewch inni wybod beth yn union rydym ni yn ei farnu yn fan hyn.
Cwestiwn syml sydd gen i, mewn difri. Rydym ni’n dal, wrth gwrs, yn aros am waith i ddigwydd yn San Steffan, yn Whitehall. Mae'r gwaith rhyng-weinidogol wedi bod yn mynd ymlaen, yn edrych ar sut i dalu am ofal cymdeithasol yn y dyfodol. Dwi’n gobeithio na fydd yn rhaid inni aros yn rhy hir am gasgliadau'r gwaith hwnnw, achos mae o’n faes mor, mor allweddol i fynd i’r afael ag o. Ydych chi yn gallu rhoi math o syniad inni o sut y byddai’r argymhellion sydd gennych chi, sydd braidd yn amwys ar hyn o bryd, yn cael eu heffeithio arnyn nhw o ganlyniad i ba bynnag ddatganiadau neu benderfyniadau fyddai’n cael eu gwneud yn Whitehall ynglŷn â’r darlun ehangach yna o dalu am ofal cymdeithasol yn y dyfodol?
Diolch i Rhun ap Iorwerth am y sylwadau hynny, ac rwy'n ailadrodd, mewn gwirionedd, fod y geiriau cyd-gynhyrchu a phartneriaeth yn eiriau cwbl allweddol yn y rhan fwyaf o'r datganiadau yr ydym ni'n eu gwneud, ac nid yw gweithio'n gydgynhyrchiol a gweithio mewn partneriaeth yn hawdd ei wneud, mae'n cymryd peth amser, ac rydym ni wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â hyn mewn ffordd gydgynhyrchiol. Felly, byddwn yn parhau i ddatblygu ar sail yr ymatebion hyn, byddwn yn parhau i ymgynghori â'r sector, a byddwn yn cyflwyno cynigion o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwnnw.
Soniodd am San Steffan a beth sy'n mynd i ddigwydd o ran San Steffan. Wel, rydym ni wedi cael sicrwydd y bydd datganiad gan Lywodraeth y DU cyn diwedd y flwyddyn galendr hon, gan nodi beth fydd eu cyfeiriad nhw ar gyfer gofal cymdeithasol. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi bod yn aros am hyn ers amser maith, ac os na fyddwn yn cael rhywbeth o fewn yr amserlen sydd wedi ei rhoi i ni, byddai'n rhaid i ni ystyried o ddifrif a ydym yn cyflwyno'r cynigion ehangach ar ôl y cyfnod hwnnw. Rydym ni o'r farn ei bod yn bwysig iawn, os yw'n bosibl o gwbl, cael ateb i Gymru a Lloegr oherwydd y rhyngweithio rhwng trethiant a budd-daliadau, ac ni fyddem ni eisiau bod mewn sefyllfa, fel y cododd yn yr Alban, pan wnaethon nhw gyflwyno'r lwfans gofal personol am ddim a chollodd pobl eu lwfans gweini, a chymhlethdodau hynny. Felly, rydym ni o'r farn y byddai'n ddymunol iawn os byddai modd cael ateb i Gymru a Lloegr, ond ni allwn aros am byth, ac, yn amlwg, bydd yn rhaid i ni ystyried ein ffordd ni ein hunain o godi arian os na fyddwn yn mynd i unman yn fuan gyda San Steffan.
Yn amlwg, os ydym ni eisiau sefydlu ffordd wahanol o dalu am ofal cymdeithasol, bydd yn rhaid i ni ddeddfu. Ond, gobeithio, bydd Llywodraeth y DU yn meddwl am rywbeth. Felly, yn y cyfamser, rwyf i'n cefnogi yn llwyr eich pwyslais ar gomisiynu canlyniadau, hawliau a lles o safon. Hoffwn i dynnu sylw at y ffaith bod y trydydd sector yn glir bod systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn anodd i unigolion eu llywio, a gallwch chi ddychmygu sut beth yw hi i rywun y mae angen cymorth y gymdeithas arnyn nhw yn sydyn i gefnogi eu hanghenion. Felly, yn wirioneddol rwyf i eisiau deall ychydig yn well sut yr ydym ni'n mynd i symleiddio pethau i'r dinesydd y gallai fod angen gofal cymdeithasol arno. Mae'n ymddangos ein bod ni'n treulio llawer iawn o amser ar greu rhagor o strwythurau, a hoffwn i atgoffa'r Aelodau, yn enwedig y rhai sy'n newydd i'r Senedd, fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yn ei adroddiad ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol, wedi cynnig argymhelliad clir iawn bod
'Ni chaiff Llywodraeth Cymru greu unrhyw bartneriaethau na strwythurau cydweithredol newydd i gyflawni unrhyw swyddogaethau oni bai ei bod wedi archwilio... a allai strwythurau partneriaeth presennol, yn hytrach, gyflawni’r
swyddogaethau hynny',
neu,
'a allai’r strwythur newydd ddisodli’r rhai presennol'.
Mae angen i ni ddifa strwythurau, a dweud y gwir, gan fod y dinesydd yn gwbl ar goll mewn cawl o strwythurau.
Mae gennym ni ymrwymiad clir iawn gan y Gweinidog iechyd eisoes i ddod â gwasanaethau iechyd yn nes at ble mae pobl yn byw, ac mae gennym ni'r cynlluniau nyrsio cymdogaeth sydd wedi eu treialu'n llwyddiannus. Felly, byddwn i yn dwlu ar wybod pa gynnydd sydd wedi ei wneud o ran prif ffrydio'r timau hunanreoledig hyn, a'u mantra yw gweithio mewn partneriaeth â'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw a gyda'r rhanddeiliaid eraill sy'n gysylltiedig â'r unigolyn hwnnw. Ac rwy'n credu bod hynny wedi ei adleisio mewn adroddiad y gwnes i ddigwydd dod ar ei draws o sir y Fflint, sy'n canolbwyntio yn wirioneddol ar yr union faterion hyn, sy'n ymwneud â sicrhau bod gennym ni atebion lleol sydd yn diwallu anghenion unigolion ac amgylchiadau lleol yn wirioneddol. Felly, nid wyf i'n hollol siŵr beth fyddai swyddogaeth y swyddfa genedlaethol hon—mae'n ymddangos bod hynny yn gam i'r cyfeiriad anghywir. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a wnewch chi egluro hynny i gyd.
Diolch i Jenny Rathbone am y pwyntiau pwysig iawn hynny. Mae bwrw ymlaen â swyddfa genedlaethol yn rhywbeth y mae ymateb cymysg iddo yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ond mae'n debyg bod mwy o gefnogaeth na pheidio. A diben swyddfa genedlaethol mewn gwirionedd yw symleiddio'r system gyfan, oherwydd, ar hyn o bryd, mae gennym ni gannoedd o ddarparwyr sy'n cyflogi miloedd o bobl, ac mae'n rhaid cynnal pob trafodaeth sy'n digwydd o ran beth yw'r ffioedd ar gyfer cartrefi gofal, er enghraifft, ar y sail unigol honno gyda'r cartref gofal unigol hwnnw, ac mae 22 o awdurdodau lleol yn comisiynu, felly mae'n anhygoel o anodd. Ac rwy'n meddwl, i unigolion sy'n ceisio defnyddio'r system ofal, ei bod yn gymhleth iawn ac yn anodd iawn. Felly, rydym ni'n credu y byddai corff cenedlaethol yn ffordd o symleiddio pethau, ac yn sicr mae ceisio gweithio yn ystod y pandemig gyda'r llu o ddarparwyr wedi bod yn anodd iawn o ran cyfleu negeseuon allweddol i'r darparwyr unigol hynny. Felly, rwyf i'n sicr yn ystyried bod swyddfa genedlaethol yn rhywbeth a fydd yn symleiddio pethau.
Rwy'n ymwybodol o waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac rwy'n sicr yn credu bod eu cynnig y dylid ystyried strwythurau presennol yn gyntaf yn hollol gywir. Ac un o'r pethau yr ydym ni yn ei ystyried yw cryfhau'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, sydd, wrth gwrs, yn strwythurau presennol a oedd yn bodoli i gryfhau'r gwaith rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a lle mae'r Llywodraeth wedi rhoi swm sylweddol o arian er mwyn iddyn nhw gydweithio. Mae'r £129 miliwn o gyllid Y Gronfa Gofal Integredig a'r cyllid trawsnewid o £50 miliwn y flwyddyn yno i ysgogi'r cydweithio. Rydym ni yn credu bod angen cryfhau'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ond, wrth gwrs, maen nhw'n gyrff sy'n bodoli eisoes.
Ac yn olaf, rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi cyfeirio at y trydydd sector—wel, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod ni'n cynnwys y trydydd sector gymaint ag y gallwn ni, ac rwy'n credu ei bod yn ddangosol iawn mewn gwirionedd, yn yr ymatebion i'r Papur Gwyn, fod y trydydd sector, ar y cyfan, yn gefnogol yn gyson i gryfhau'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, oherwydd dyna le mae ganddyn nhw lais. Nid ydyn nhw o'r farn bod ganddyn nhw lais digon cryf, ond maen nhw yn cael eu cynrychioli yno ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol, ynghyd â chynrychiolydd dinasyddion, cynrychiolydd gofalwyr, a dyna'r math amlochrog o fwrdd y maen nhw'n ei gefnogi.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heno, yn awr. Rwy'n credu bod rhai o fy sylwadau, mae'n debyg, yn dilyn o'r hyn, ac yn debyg i'r hyn yr oedd yr Aelod dros Gaerdydd Canolog yn cyfeirio ato yn y fan yna, o ran y dull cenedlaethol o ymdrin â rhai o hyn. Wrth gwrs, mae eich datganiad yn dilyn o'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, ac yn y crynodeb o'r ymatebion a gafodd ei gyhoeddi, hoffwn i gyfeirio at un neu ddwy o frawddegau a wnaeth fy nharo i. Yn gyntaf, mae hwn sy'n dweud,
'Ar y cyfan, y farn oedd y byddai fframwaith cenedlaethol yn fuddiol'
—ac mae yna rybudd, wedyn—
'petai’n cael ei ddiffinio’n glir, yn lleihau cymhlethdod ac yn galluogi i benderfyniadau gael eu gwneud yn lleol.'
Ac yn ddiweddarach yn y paragraff, mae'n mynd ymlaen i ddweud,
'Tynnwyd sylw at bwysigrwydd amgylchiadau lleol a gallu sefydliadau i ddiffinio a sicrhau darpariaeth mewn ffordd sy’n cwrdd â’u blaenoriaethau eu hunain.'
Felly, mae pwyslais mawr yn yr ymateb i'r ymgynghoriad ar allu cynnal a gwneud penderfyniadau lleol, ac, fel y gwyddom ni, mae gennym ni'r pethau hyn sydd â democratiaeth leol, lefel agos iawn, o'r enw awdurdodau lleol, sydd yn aml yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniadau hynny ar lefel leol iawn. Rydym ni, wrth gwrs, wedi gweld trwy'r pandemig ble mae gan awdurdodau lleol yr wybodaeth leol honno o ran gwybodaeth a chefnogaeth i'w trigolion a'r gwahaniaeth y gallan nhw ei wneud. Felly, mae'n amlwg bod rhai pryderon yn y cynigion hyn ynglŷn â symud pethau i ffwrdd o'r lefel leol i'r rhanbarthol ac yna i'r lefel genedlaethol, a'r gwrthwyneb i'r datganoli yr hoffai llawer ohonom ni ei weld. Felly, rwyf i'n gofyn beth yr ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol sydd â'r wybodaeth a'r arbenigedd hynny—? Beth ydych chi'n mynd i'w wneud i ymgysylltu â nhw a pharhau â'u darpariaeth i gwrdd â'u trigolion ar lefel leol iawn? Diolch.
Diolch, Sam, yn fawr iawn, am y cwestiwn yna—cwestiwn pwysig iawn. Rydym ni yn bwriadu bod awdurdodau lleol yn parhau i ddarparu a chomisiynu gwasanaethau gofal cymdeithasol, oherwydd ei bod yn gwbl hanfodol bod y gwasanaethau hyn mor agos at y cyhoedd ac mor agos at yr ardal leol â phosibl. Felly, yn sicr nid ydym ni'n disgwyl unrhyw leihad yn swyddogaeth awdurdodau lleol yn y maes hwn.
Rydym ni o'r farn bod angen gwasanaeth lleol, rhanbarthol a chenedlaethol arnom, a bod angen darpariaeth ranbarthol fwy effeithiol arnom a bod angen fframwaith cenedlaethol nad yw'n lleihau'r ddarpariaeth ar lefel leol arnom. Rwyf i'n teimlo'n gryf iawn y dylai darpariaeth gofal cymdeithasol fod wedi ei chysylltu'n gryf iawn â gwasanaethau lleol, gan mai nhw yw'r bobl sy'n gwybod orau, ac rwyf i o'r farn ei bod yn bosibl datblygu'r gymuned trwy'r gwasanaethau sydd gennych yn lleol, ac mae gwybodaeth y gymuned leol yn gwbl hanfodol. Felly, rydym ni yn benderfynol na fydd y cynigion hyn yn lleihau'r ddarpariaeth gwasanaethau lleol a'r wybodaeth leol, ond rydym ni yn cynllunio ar gyfer dull cenedlaethol a fydd yn ei gwneud yn symlach ac a fydd yn gallu darparu paramedrau a fydd yn atal rhywfaint o'r dryswch sy'n bodoli ar hyn o bryd. Mae'n sector bregus iawn ac rydym ni'n awyddus i'w gryfhau, ond rydym ni'n awyddus i gryfhau atebolrwydd lleol hefyd.
Hoffwn i gofnodi'r diolch sydd arnom ni i gyd i'r sector gofal cymdeithasol, sydd wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol y pandemig. Maen nhw wedi rhoi o'u gorau o ran ymrwymiad ac, yn aml iawn, aberth i helpu pobl drwy gyfnod yn eu bywyd pan fo angen y gofal a'r cymorth hwnnw arnyn nhw, ac rwy'n siŵr nad oes neb yma a fyddai'n anghytuno â'r datganiad hwnnw.
Gweinidog, mae'r Papur Gwyn 'Ailgydbwyso gofal a chymorth' wedi rhagweld y bydd y galwadau ar y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y sector gofal cymdeithasol yn codi'n sylweddol erbyn 2040, ac rydym ni i gyd yn gwybod y rhesymau, a'r rhesymau yw ein bod ni'n byw yn hirach, ac wrth i ni fyw yn hirach, pan fydd angen gofal arnom, mae'r anghenion hynny, yn wir, yn fwy cymhleth. A cheir cydnabyddiaeth hefyd fod y gweithlu gofal cymdeithasol yn wynebu llawer o heriau. Dyna beth y mae'r papur yn ymwneud ag ef. Ac un o'r meysydd yr wyf i'n dymuno canolbwyntio arno yw staff, a recriwtio staff, oherwydd yn amlwg, ni fydd gennych chi wasanaeth os nad oes gennych chi unrhyw staff i'w ddarparu. Ac mae un ffigur sy'n neidio allan, ac nid yw hynny'n ffigur annisgwyl: bod y rhan fwyaf o'r staff sy'n gweithio yno yn fenywod dros 40 oed. Mae'n amlwg, pan fyddwn ni'n sôn am ofal, ein bod ni'n sôn am bobl. Rydym ni'n sôn am bobl sy'n cael gofal gan bobl nad ydyn nhw'n eu hadnabod yn aml iawn, gan eu gwahodd i'w cartrefi. A bod amrywiaeth yn hollbwysig o ran bwrw ymlaen â hynny. Felly, beth bynnag sy'n digwydd wrth fwrw ymlaen â hyn, mae'n rhaid i ni wella amrywiaeth y gweithlu a'r telerau ac amodau y mae'r gweithlu yn gweithio oddi tanyn nhw. Ac un o'r rhesymau dros y prinder, yn wir, yw'r telerau ac amodau gwael, ac mae sôn eto am hynny yn yr adroddiad hwn.
Rwy'n mynd i ofyn i'r bobl yma heddiw fyfyrio ar rywbeth sydd yn yr adroddiad hwnnw, ac mae hynny'n ymwneud â'r gorbryder y byddai unigolion sy'n cael gofal yn ei deimlo os nad ydyn nhw'n gwybod pwy sy'n mynd i ddod i ofalu amdanyn nhw, neu pryd byddan nhw'n cyrraedd, gan fod y llifiant yn y farchnad yn golygu nad oes modd rhoi sicrwydd iddyn nhw. Ac eto, rydym ni'n gofyn i'r unigolion hynny ymddiried mewn pobl eraill â'r gofal mwyaf personol ar adeg yn eu bywyd pan fyddan nhw'n teimlo'r mwyaf agored i niwed. Felly, rwyf i'n credu, os oes un peth yr hoffwn i ei weld yn deillio o hyn, ystyriaeth o ddarparu'r gweithlu hwnnw mewn ffordd y gall pobl deimlo rhyw fath o bŵer eu hunain yn ei chylch yw hynny, fel nad ydyn nhw bob amser yn destun gweithredu iddyn nhw yn unig.
Diolch yn fawr iawn i Joyce Watson am y pwynt pwysig yna ac am bwysleisio natur hollbwysig y gweithlu yn y maes hwn, oherwydd, fel y dywedodd hi, mae'r gweithlu'n darparu'r gwasanaethau mwyaf personol i bobl sy'n agored iawn i niwed. Ni allai fod yn waith pwysicach, ac rwy'n credu mai ein swyddogaeth ni yn y Llywodraeth yw gwneud popeth o fewn ein gallu i hybu'r gweithlu hwnnw, i roi hyder iddo a dangos ein bod ni'n cydnabod gwerth y gwaith sy'n cael ei wneud.
Un o'r pethau yr ydym ni eisoes wedi ei drafod yn y Siambr hon ein bod ni'n ei wneud yw codi'r cyflogau i'r cyflog byw gwirioneddol, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol. Rwy'n credu bod y telerau ac amodau yn bwysig iawn hefyd, a dyna lle rydym ni'n cael cyngor gan y fforwm gofal cymdeithasol yr ydym ni'n gweithio gydag ef, sy'n cynnwys yr undebau, y cyflogwyr, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill. Rydym ni wedi cyflwyno system gofrestru, fel y bydd hi'n gwybod, ar gyfer gweithwyr gofal cartref, ac rydym ni wrthi'n ei chyflwyno i weithwyr gofal preswyl, sydd unwaith eto yn cydnabod yr arbenigedd sydd gan y gweithlu hwn—menywod yn bennaf, fel y dywedodd hi—a'r gofal a'r cariad y maen nhw'n ei ddarparu ynghyd â hynny. Mae trosiant uchel, ac mae hynny'n rhywbeth sydd yn creu llawer o ansicrwydd. Felly, rydym ni eisiau i'r swydd fod yn un y bydd pobl eisiau aros ynddi.
Mae ein diffiniad o waith teg yn cynnwys cydraddoldeb a chynhwysiant, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'r fforwm yn ei ystyried mewn gwirionedd. Ac rydym ni wedi bod yn gweithio i godi proffil gofal cymdeithasol trwy ymgyrch Gofalwn.Cymru, sy'n cael ei rheoli gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hyn yn dangos yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael ym maes gofal cymdeithasol, ac mae hefyd yn defnyddio astudiaethau achos yn seiliedig ar weithwyr gwirioneddol, gan sicrhau bod grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu cynrychioli fel esiampl dda. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd yn gweithio'n uniongyrchol gydag ysgolion a chyflogwyr, gan ddefnyddio'r deunyddiau hyn i geisio recriwtio pobl i'r sector. Ond y gweithlu yw cryfder y sector, ac mae hi'n llygad ei lle bod yn rhaid i ni ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud i wella telerau ac amodau, cyflog, a gwneud i bobl fod eisiau aros.
Ac yn olaf, Jane Dodds.
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cynigion, gan gynnwys gosod fframwaith cenedlaethol clir i gefnogi proses o gynllunio gwasanaethau yn rhanbarthol a'u darparu'n lleol, a chryfhau trefniadau partneriaeth. Hoffwn i ganolbwyntio yn fyr ar wasanaethau i bobl ifanc ac oedolion ifanc o fewn y fframwaith hwn, yn enwedig y rhai hynny ag anableddau dysgu, a'r rhwystrau sydd ar waith i'r gwasanaethau cymdeithasol sicrhau bod y bobl ifanc a'r oedolion ifanc hyn a'u teuluoedd yn gallu cael gafael ar yr amrywiaeth lawn o wasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw. Gwnaeth astudiaeth gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn 2018 ganfod bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd cyflawni eu dyletswyddau digonolrwydd a dod o hyd i leoliadau addas i ddiwallu anghenion pobl ifanc ac oedolion ifanc. O ran dewis a'r hyn sydd ar gael ar gyfer adnoddau preswyl i'r rhai hynny ag anghenion ychwanegol, nid oes gen i broblem os mai prif nod yr adnoddau hynny yw darparu gofal o ansawdd uchel a bodloni'r safonau gofynnol, ond rwy'n pryderu'n fawr ynghylch adnoddau preswyl lle mai gwneud elw yw eu prif nod. Mae'r comisiynydd plant hefyd wedi galw eto i symud i ffwrdd o wneud elw mewn gwasanaethau gofal, a rhoi terfyn ar hynny yn y pen draw. Felly, a gaf i ofyn pa ystyriaeth y byddwch chi'n ei rhoi i'r sylwadau hynny a wnaeth Comisiynydd Plant Cymru a chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol o ran swyddogaeth darparwyr gofal er elw i oedolion ifanc a'r rhai ag anableddau dysgu yn rhan o'r cynlluniau hyn i ailgydbwyso gofal a chymorth? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Jane Dodds am y cwestiwn pwysig iawn hwnnw. Ydw, rwyf i wedi cael llawer o drafodaethau gyda'r comisiynydd plant ynghylch y mater penodol hwn ac rwy'n gwybod ei bod yn teimlo'n angerddol iawn amdano. Rwyf i wedi siarad â phobl ifanc a phlant ynghylch y mater hwn, ac mae pa mor ddwfn y maen nhw'n teimlo bod amgylchiadau eu bywydau nhw wedi galluogi rhai pobl i wneud elw ohono wedi fy nharo i'n fawr, maen nhw'n teimlo hynny yn ddwfn iawn. Wrth siarad â'r bobl ifanc yr wyf i wedi siarad â nhw, roeddwn i o'r farn ei bod yn gwbl anghywir eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw yn y sefyllfa hon, ac mae llawer ohonyn nhw yn teimlo yn gryf iawn ynghylch hynny. Felly, mae o ganlyniad i drafodaethau gyda phobl ifanc a gyda'r comisiynydd plant yr ydym ni wedi cynnwys ymrwymiad yn ein maniffesto y byddwn ni'n symud tuag at roi terfyn ar wasanaethau er elw i blant a phobl ifanc. Dyna'r ymrwymiad yn ein maniffesto. Byddwn yn ceisio gwneud hyn dros bum mlynedd y tymor hwn. Nid wyf i'n rhagweld y bydd hyn yn hawdd ei wneud, gan fod llawer o'r gwaith yn y sector er elw, ac yn sicr, byddem ni eisiau gwneud hynny mewn ffordd nad oedd yn tarfu ar leoliadau neb os oedden nhw'n hapus ac yn fodlon, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni symud tuag at fwy o ddarpariaeth nad yw er elw, mwy o ddarpariaeth awdurdodau lleol. Dyna'r ymrwymiad yn ein maniffesto, ac rydym ni'n dechrau cwmpasu'r ffordd ymlaen o ran sut y byddwn ni'n cyflawni hynny.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog, a diolch i chi i gyd am eich cyfraniadau y prynhawn yma. Dyna ni ar ddiwedd ein gwaith am y dydd heddiw. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:18.