Y Cyfarfod Llawn

Plenary

09/06/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Hoffwn atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Heledd Fychan.

What Next? Cymru

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i’r addunedau amlinellwyd yn y maniffesto diwylliannol ar gyfer adferiad gan What Next? Cymru? OQ56564

A gaf fi ddiolch i Heledd Fychan am fy nghwestiwn cyntaf fel Gweinidog? Diolch yn fawr iawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu strategaeth ddiwylliannol sy'n nodi ein blaenoriaethau a'n huchelgeisiau ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon. Bydd hyn yn cyd-fynd â'r datganiadau o flaenoriaethau a grëwyd eisoes ar gyfer Cymru Greadigol, Croeso Cymru a'r amgylchedd hanesyddol.

Diolch o galon i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb, a hoffwn gymryd y cyfle i'ch llongyfarch ar eich rôl newydd, a dwi'n edrych ymlaen i gydweithio'n adeiladol efo chi fel llefarydd y blaid ar ddiwylliant.

Yn ganolog i ymgyrch What Next? Cymru oedd yr angen i gryfhau y dimensiwn diwylliannol ar draws Llywodraeth Cymru, a dwi'n croesawu'n fawr y bydd yna strategaeth ddiwylliannol. Ond roedden nhw eisiau gweld cyfrifoldeb am ddiwylliant a chreadigrwydd i aelod llawn o’r Cabinet a sicrhau bod holl adrannau’r Llywodraeth yn cefnogi, yn ariannu ac yn galw am elfen ddiwylliannol gref yn eu gwaith. A chithau, yn anffodus, yn Ddirprwy Weinidog yn hytrach na Gweinidog, sut ydych yn bwriadu sicrhau lle mwy canolog i’r celfyddydau a diwylliant yn Llywodraeth y chweched Senedd, o’i chymharu â'r bumed a'r bedwaredd Senedd, a thaclo’r tanfuddsoddi sydd wedi bod ers dros ddegawd? Fyddwch chi a’r Gweinidog dros yr Economi yn cydweithio’n agos i sicrhau hynny?

Diolch unwaith eto am eich cwestiwn atodol. Byddwn yn dweud o ran swydd y Gweinidog sy’n gyfrifol am ddiwylliant fy mod yn credu ei bod yn bwysicach fod y Gweinidog yn cyflawni'r hyn sy'n ofynnol yn hytrach na'r rôl o fewn hierarchaeth y Llywodraeth. Ac rwy'n deall yn glir beth yw fy rôl yn hynny a fy rôl gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod y sector diwylliannol yn chwarae rhan allweddol yn yr adferiad economaidd. Ac fel rhan o’r gwaith o ddatblygu'r strategaeth ddiwylliannol, bydd Llywodraeth Cymru’n ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys Beth Nesaf? Cymru. Mae gennym gyfarfod wedi'i drefnu gyda hwy cyn bo hir. Mewn gwirionedd, cyfarfûm â chynrychiolydd o Beth Nesaf? Cymru yn fy etholaeth ychydig cyn yr etholiad, ac aeth drwy'r maniffesto diwylliannol gyda mi. Mae gennych chi a minnau gyfarfod wedi'i drefnu ar ddiwedd y mis, ac rwyf hefyd yn cyfarfod â llefarydd y Ceidwadwyr ar ddiwylliant a chwaraeon, a gobeithiaf y bydd pawb yn cyfrannu at y gwaith y byddwn yn ei wneud o gwmpas hynny.

A chredaf ei bod yn bwysig nodi bod y sector diwylliannol, drwy gydol y pandemig, wedi gweithio'n galed i gynhyrchu cyfleoedd i bobl ymgysylltu â diwylliant a threftadaeth, yn enwedig drwy wasanaethau digidol, a hoffwn sicrhau bod hynny'n parhau a bod gennym ddatblygiad cynaliadwy ar gyfer y sector. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn prosiectau i ddarparu sefydliadau diwylliannol newydd a gwell, gan gynyddu mynediad at ein casgliadau a'n hasedau diwylliannol o bob rhan o Gymru, gan gynnwys digideiddio casgliadau celf gyfoes Amgueddfa Genedlaethol Cymru a chreu amgueddfa bêl-droed newydd a datblygu Theatr Clwyd. Rydym hefyd yn awyddus i greu memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, i sicrhau bod y sectorau creadigol a’r sector celfyddydau wedi’u halinio. Drwy’r addunedau gweithwyr llawrydd a sector cyhoeddus, rydym yn gweithio gyda'r sector i sicrhau dull mwy cydgysylltiedig wrth symud ymlaen. Mae digwyddiadau hefyd yn rhan hanfodol o'r economi ymwelwyr, ac rydym yn llwyr gydnabod eu pwysigrwydd i'r sector.

Felly, i ateb eich cwestiwn yn uniongyrchol, rhan allweddol o fy ngwaith yw gweithio gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod y sector diwylliannol yn cael ei ariannu'n ddigonol a'i fod yn rhan o elfennau allweddol yr adferiad economaidd yng Nghymru, a byddant yn chwarae rhan allweddol yn hynny o beth.

13:35

Weinidog, ni ellir gwadu bod y mesurau i atal lledaeniad COVID-19 wedi amharu'n fawr ar sector diwylliannol Cymru. Caeodd y llen mewn nifer o theatrau am y tro olaf 15 mis yn ôl, ac yn anffodus, mae'r goleuadau wedi diffodd am byth mewn gormod lawer ohonynt. Mae lleoliadau cerddoriaeth a chlybiau comedi hefyd yn wynebu dyfodol ansicr. Rwy’n croesawu llacio’r cyfyngiadau, ond i lawer o leoliadau, efallai fod y niwed a wnaed yn ormod.

Weinidog, mae angen adfywiad celfyddydol arnom i gryfhau'r sector. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Theatr Fach y Rhyl yn fy etholaeth i, Dyffryn Clwyd, a gododd arian drwy gynllun cyllido torfol i wella eu cyfleusterau fel y gallant barhau i ddarparu lleoliad o'r radd flaenaf i artistiaid newydd? A ydych hefyd yn cytuno bod lleoliadau fel Theatr Fach y Rhyl yn hanfodol nid yn unig i sicrhau llwyddiant perfformwyr yn y dyfodol, ond hefyd i adfywio economi celfyddydau diwylliannol Cymru?

Ydw, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn hefyd, a chytuno ag ef? Ac rwy’n sicr yn llongyfarch y cyfleuster yn ei etholaeth a'i ranbarth yn Nyffryn Clwyd. Mae'r sefydliadau bach hyn yn elfen allweddol o'r sector diwylliannol ac mae angen inni eu cefnogi ac rydym am iddynt ffynnu yn y byd ôl-bandemig hefyd. Mae'r gronfa adferiad diwylliannol, wrth gwrs, wedi bod o gymorth sylweddol i nifer o'r sefydliadau yn y sector hwnnw, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n parhau. Ac fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn Heledd Fychan, bydd y sefydliadau hyn yn rhan annatod o'r broses o adfer ar ôl COVID.

Heb os, mae'r sectorau creadigol ledled Cymru a'r DU wedi cael eu llesteirio a'u trawmateiddio gan bandemig parhaus COVID, fel y nodwyd eisoes. Dylid canmol Llywodraeth Lafur Cymru am ei haddewid etholiadol i sefydlu gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol i sicrhau nad yw diffyg arian yn rhwystr i bobl ifanc yng Nghymru rhag dysgu chwarae offeryn neu gael gwersi llais. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fy mod wedi ymgyrchu drwy gydol y bumed Senedd am ymrwymiad o’r fath. Felly, ni fu erioed yn fwy hanfodol i Gymru a’n bobl greadigol, ac er parhad Cymru greadigol, fod hyn yn digwydd ochr yn ochr â strategaeth ddiwylliannol fywiog. Ddirprwy Weinidog, a allwch egluro pwysigrwydd gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yn strategaeth ddiwylliannol Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, a sut y byddwch yn symud hynny yn ei flaen?

Wel, a gaf fi ddiolch i Rhianon Passmore am ei chwestiwn atodol? Ac ar y pwynt hwn, credaf ei bod yn werth sôn ychydig am y gwaith a wnaeth y Llywodraeth ddiwethaf ar y strategaeth ddiwylliannol. Comisiynodd fy rhagflaenydd, Dafydd Elis-Thomas, strategaethau ar draws ei bortffolio, ac roedd hynny’n cynnwys y strategaeth blaenoriaethau diwylliannol, a gwnaed cryn dipyn o gynnydd ar y gwaith hwnnw gyda grŵp llywio o randdeiliaid allweddol, a chredaf fod Heledd Fychan yn aelod o'r grŵp hwnnw o randdeiliaid allweddol. Ond mae'r addewid penodol yn y maniffesto ynglŷn â sefydlu'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yn ymrwymiad allweddol sy'n cael ei brosesu drwy waith ar y cyd rhyngof fi a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar ddatblygu ystod o opsiynau i greu llwybr cynaliadwy ar gyfer addysg cerddoriaeth yng Nghymru, gan weithio gydag ystod o randdeiliaid.

Y ffocws yw datblygu ffordd ymlaen sy'n adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes yn cael ei wneud ar draws sefydliadau addysg cerddoriaeth, a sicrhau bod llesiant plant a phobl ifanc yn gwella drwy fynediad at gerddoriaeth. Mae cyfarwyddiaeth addysg Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid o £1.5 miliwn ar gael ar gyfer 2021-22 i gefnogi addysg cerddoriaeth a gwasanaethau cerddoriaeth, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelod yn arbennig am ei gwaith yn y maes hwn? Mae hi wedi bod yn hyrwyddwr gwych ar ran y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, ac mae ei chefnogaeth i'r fenter hon wedi cael cryn dipyn o groeso, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda hi, ac Aelodau eraill ar draws y Siambr, a rhanddeiliaid, i sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn cael ei ddatblygu a'i ddarparu.

Dyfodol Economi Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol economi Cymru? OQ56533

Ie, diolch. Bydd rhaglen lywodraethu newydd yn cael ei gosod gerbron y Senedd yn yr wythnosau nesaf. Bydd yn amlinellu sut rydym yn bwriadu bwrw ymlaen â'n cenhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu’r economi yng Nghymru ac yn ailadrodd ein hymrwymiad i ddatblygu gwarant newydd i bobl ifanc, gan roi'r cynnig o waith, addysg neu hyfforddiant i bawb o dan 25 oed.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Un o'r pethau sydd wedi bod yn ddinistriol yng Nghymru dros y misoedd diwethaf o ganlyniad i'r pandemig yw'r effaith ar gymunedau arfordirol, yn enwedig ein trefi glan môr. Rydym wedi gweld astudiaethau prifysgol sydd wedi dangos bod cymunedau fel Bae Colwyn, Tywyn a Bae Cinmel, a rhannau eraill o arfordir gogledd Cymru, o ran y trefi yno, ymhlith y rheini sydd wedi cael eu heffeithio waethaf gan COVID. Tybed pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i sefydlu cronfa trefi glan môr, yn benodol i liniaru effeithiau COVID ar y cymunedau hynny ac i’w helpu i wella’n economaidd ar ôl y pandemig.

13:40

Wel, rwy'n dal i fod yn agored i syniadau ynglŷn â sut rydym yn sicrhau bod economi Cymru a'i holl rannau’n gwella. Cefais y pleser o fod ym Mhen Llŷn yn ymweld ag amryw o drefi glan môr gyda fy nheulu yn ystod y gwyliau hanner tymor, a gallaf weld bod llawer o bobl yn dychwelyd i'r ardaloedd hynny, ac ar y cyfan, yn parchu’r angen i ymddwyn yn synhwyrol. Mae angen inni ddeall beth sy'n dychwelyd, faint o gymorth y mae'n rhaid inni ei roi o hyd, ac rydym yn dal i fod mewn sefyllfa o argyfwng, felly nid yw'r hen ddarpariaethau masnachu arferol yn ôl ar waith, a bydd angen inni weithio drwy hynny gydag ystod o randdeiliaid yn y dyfodol. Ond wrth gwrs, bydd ein dull 'canol y dref yn gyntaf', rwy’n credu, yn bwysig i drefi glan môr hefyd, wrth inni geisio denu mwy o ymwelwyr i'n trefi i sicrhau bod ganddynt ddyfodol mor ddisglair a llewyrchus â phosibl, a bydd hynny, wrth gwrs, yn ei gwneud yn ofynnol inni weithio nid yn unig gyda phartneriaid lleol, awdurdodau lleol, ond gweld hefyd sut y gallwn weithio, os oes modd, mewn ffordd ychydig yn fwy adeiladol gyda Llywodraeth y DU.

Weinidog, mae economi gogledd-ddwyrain Cymru yn cael ei gyrru gan weithgynhyrchu. Ddydd Gwener, cefais y pleser a’r cyfle i gyfarfod ag eXcent UK a chlywed am eu cynlluniau ar gyfer twf sy’n seiliedig ar gyflogi peirianwyr lleol hyfedr ar gyflogau da. Roedd eu neges yn glir: gyda’r cymorth cywir, gall y sector gweithgynhyrchu uwch yng ngogledd Cymru gystadlu am waith yn fyd-eang a darparu swyddi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Nawr, credaf y gall cyflogwyr fel hyn—

Ymddengys ein bod wedi colli'r cysylltiad â Jack Sargeant. Galwaf ar John Griffiths, a deuaf yn ôl at Jack Sargeant os bydd y dechnoleg yn caniatáu inni wneud hynny. John Griffiths i ofyn ei gwestiwn atodol.

Diolch, Lywydd. Mae'r diwydiant dur yn parhau i fod yn gryfder gwirioneddol i Gymru, ac wrth gwrs, mae'n ddiwydiant strategol, felly mae’n bwysig i weithgynhyrchu ac adeiladu, er enghraifft. Hoffwn gael sicrwydd gan y Gweinidog, ac rwy’n siŵr y bydd yn barod i’w roi, y bydd cefnogi’r diwydiant dur yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, yn ogystal â sicrhau bod gennym ddiwydiant dur cynaliadwy ac uwch-dechnoleg sy'n ychwanegu gwerth, a fydd yn cefnogi ein heconomi'n dda yn y dyfodol, a hefyd, y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal trafodaethau agos â Llywodraeth y DU a Liberty Steel, gan eu bod yn gyflogwr pwysig yn fy etholaeth ac mae angen inni sicrhau bod ganddynt hwythau ddyfodol cryf hefyd.

Diolch am eich cwestiwn. Gallaf ailddatgan bod y Llywodraeth hon yn gosod gwerth uchel ar ddyfodol y diwydiant dur wrth iddo newid i fod yn ddiwydiant dur wedi'i ddatgarboneiddio. Un o fy ymrwymiadau gweinidogol allanol cyntaf oedd Cyngor Dur y DU, gan ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig, ynghyd â'r diwydiant, a gynrychiolwyd gan UK Steel, ac ochr yr undebau llafur hefyd, a chafwyd cydnabyddiaeth o’r gwerth uchel y mae dur yn ei gynnig, ac rwy'n croesawu'r newid yng nghywair Llywodraeth y DU. Pe baem wedi cael y sgwrs hon ychydig flynyddoedd yn ôl, byddem wedi siarad mewn termau ychydig yn fwy beirniadol am safbwynt Llywodraeth y DU. Safbwynt cyfredol Llywodraeth y DU yw ei bod yn gweld gwerth gwirioneddol mewn cynnal y diwydiant dur ledled y Deyrnas Unedig, ac rwy’n cydnabod diddordeb yr Aelod yn Liberty, a darparwyr a gweithgynhyrchwyr eraill hefyd yma yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at barhau i gyfarfod â’r cyflogwyr unigol hynny, yn ogystal â'u cyfarfod gyda’i gilydd. Ac mae gennyf gyfarfod yn fy nyddiadur gydag ochr yr undebau llafur i ddeall sut rydym yn datblygu’r diwydiant dur, nid os ydym yn gwneud hynny yma yng Nghymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.  

Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf fi achub ar y cyfle hwn i'ch llongyfarch ar eich penodiad newydd, a dweud o'r cychwyn fy mod yn edrych ymlaen at weithio'n adeiladol gyda chi lle gallaf wneud hynny, i amddiffyn, cefnogi a thrawsnewid ein heconomi wrth inni gefnu ar y pandemig hwn?

Nawr, Weinidog, honnodd Llywodraeth Cymru ei bod hi wedi cynnig y pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr yn y DU i fusnesau drwy gydol pandemig COVID, ac er bod llawer o fusnesau wedi cael cymorth i oroesi, mae rhai busnesau, ac yn wir, rhai unigolion wedi bod ar eu colled yn gyfan gwbl. Mae rhai wedi teimlo eu bod wedi llithro drwy'r bylchau mewn pecynnau cymorth i fusnesau ac eraill yn teimlo bod awdurdodau lleol wedi defnyddio eu disgresiwn i beidio â darparu cymorth ariannol. Felly, o ystyried peth o'r dystiolaeth, ar ba sail y credwch fod Llywodraeth Cymru wedi darparu’r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr yn y DU i fusnesau yng Nghymru? Yng ngoleuni effaith barhaus COVID-19 ar fusnesau a swyddi, beth fydd eich gweithred gyntaf yn eich swydd newydd i sicrhau adferiad cryf yn y farchnad lafur?

13:45

Mae'n ffaith, nid mater o farn, ein bod wedi darparu £2.3 biliwn o gymorth i fusnesau a'r economi yma yng Nghymru, yn dilyn cyllid canlyniadol o £1.9 biliwn gan Lywodraeth y DU. Mae'r £400 miliwn ychwanegol yn ddewis rydym wedi'i wneud i roi rhagor o gymorth i fusnesau yma yng Nghymru. Bydd yr Aelod yn gwybod, er enghraifft, fod rhyddhad ardrethi busnesau bach yn parhau am flwyddyn lawn yma yng Nghymru; un chwarter o ryddhad llawn a geir yn Lloegr, ac mae’n lleihau yn raddol ar ôl hynny.

Bydd yr Aelod hefyd wedi clywed y Prif Weinidog yn y Siambr hon yn tynnu sylw at enghraifft y gwahanol fusnesau lletygarwch a'r hyn y byddent yn ei dderbyn dros y ffin. Ar gyfer busnes â 10 gweithiwr ers mis Rhagfyr yng Nghymru, gallech fod wedi derbyn £52,500; byddai'r busnes cyfatebol yn Lloegr wedi derbyn £26,000. Mae'n amlwg a heb amheuaeth yn gynllun mwy hael yma yng Nghymru.

Edrychaf ymlaen at adeiladu ar y sgyrsiau rwyf eisoes wedi'u cael gyda sefydliadau busnes ynglŷn â sut rydym yn darparu mwy o sicrwydd yn ein hamgylchedd masnachu yn y dyfodol. Nid yw pob un o’r materion hynny yn nwylo Llywodraeth Cymru. Mynychais y cyngor partneriaeth heddiw rhwng Llywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd ac mae'r ansicrwydd yn ffactor allweddol yn y berthynas rhyngom. Ond edrychaf ymlaen at gam nesaf y cymorth i fusnesau i edrych ar yr hyn y mae angen i ni ei wneud i gefnogi busnesau na allant fasnachu fel arfer, yn ogystal â buddsoddi yn y dyfodol ac yn enwedig y gallu i fuddsoddi mewn gwella sgiliau yn y gweithlu, ac yn wir, mewn rolau arwain a rheoli.

Weinidog, awgrymaf wrthych mai'r unig ffordd y gallwn farnu a ydych yn darparu'r pecyn cymorth mwyaf hael yw os gwelwn ffigurau gwirioneddol ar gyfer y busnesau rydych wedi'u cefnogi. Yn ddiweddar, cafodd yr Aelod dros Flaenau Gwent gadarnhad gan y Prif Weinidog rai wythnosau yn ôl fod Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyhoeddi dadansoddiad o lefel y cymorth a ddarparwyd i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19 yn ôl sector, yn ôl daearyddiaeth ac yn ôl elfen yn rhaglen yr adferiad economaidd. Mae'r data hwn yn gwbl hanfodol er mwyn deall lle mae cymorth wedi'i roi ac efallai lle na chafodd ei roi. Mewn ysbryd o ddidwylledd a thryloywder, mae’n rhaid sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael cyn gynted â phosibl. Weinidog, a allwch gadarnhau'n bendant pa bryd y bydd y data hwnnw'n cael ei gyhoeddi? O ystyried sylwadau diweddar y Prif Weinidog ynglŷn ag ailraddnodi cymorth i fusnesau wrth symud ymlaen, a allwch ddweud wrthym, ac yn wir wrth fusnesau ledled Cymru, beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau wrth symud ymlaen?

Mae dwy ran benodol i'r cwestiwn hwnnw. Y cyntaf yw cyhoeddi pa gymorth i fusnesau a ddarparwyd eisoes. Rydym eisoes wedi cyhoeddi peth o'r wybodaeth honno ynglŷn â chymorth blaenorol a ddarparwyd gennym yn gynharach yn y pandemig. Nid wyf am ddweud unrhyw beth ar hyn o bryd, gan fod angen imi wirio, ond rwy'n fwy na pharod i sicrhau bod yr holl Aelodau'n ymwybodol o ba bryd y byddwn, nid os byddwn, yn cyhoeddi’r wybodaeth honno. Felly, mae'n gwbl agored a thryloyw, oherwydd yn sicr, nid oes unrhyw ymdrech i guddio'r symiau a ddarparwyd. Roedd hynny’n rhan o'r amodau ar gyfer darparu’r cymorth. Mae pob busnes sy'n derbyn cymorth yn gwybod y byddwn yn cyhoeddi'r symiau a ddarparwyd.

Ar eich pwynt olaf ynglŷn â sut y byddwn yn cefnogi busnesau wrth symud ymlaen, rwy'n disgwyl dychwelyd i'r lle hwn i amlinellu camau nesaf y cymorth i fusnesau. Ac wrth ailraddnodi'r hyn a wnawn, mae'n rhaid i hynny roi ystyriaeth i'r sefyllfa rydym ynddi, gyda’r llwybr i lacio’r cyfyngiadau—ac rydym mewn sefyllfa dda, ar ôl cyhoeddi'r newid graddol i lefel rhybudd 1 yn llawn dros yr wythnosau nesaf. Mae hynny'n dal i olygu y bydd rhai cyfyngiadau ar waith. Yna, mae angen inni feddwl am gam nesaf y cymorth i fusnesau, fel y nodais yn fy ateb cyntaf, gan ein bod mewn sefyllfa o argyfwng o hyd—nid ydym yn ôl i’r hen normal. Mae cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo, gwisgo masgiau a'r mesurau sylfaenol hynny gyda ni o hyd, yn ogystal â chyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n gallu mynychu amrywiaeth o fusnesau. Ochr yn ochr â hynny, rwyf am edrych ar fuddsoddi yn y dyfodol—buddsoddi yn yr adferiad pellach—a chredaf y byddwn yn gallu gwneud hynny dros yr ychydig fisoedd nesaf, ond yn hollbwysig, pan fydd Llywodraeth y DU yn darparu adolygiad cynhwysfawr o wariant yn y dyfodol gan roi mwy o sicrwydd i ni ynghylch ein gallu i fuddsoddi ar sail amlflwydd.

Weinidog, pa newidiadau bynnag a wnewch yn y dyfodol i gymorth i fusnesau, mae’n rhaid eu gwneud mewn modd clir, ac mae’n rhaid ymgysylltu â busnesau a sicrhau eu bod yn deall cyfeiriad teithio Llywodraeth Cymru, felly edrychaf ymlaen at ddatganiadau pellach gennych maes o law. Credaf fod cyhoeddi data hefyd yn hanfodol er mwyn gallu deall dull Llywodraeth Cymru o weithredu a dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Felly, gobeithio'n wir y byddwch yn gwrando ar y Prif Weinidog. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn gwbl glir ei fod am i'r wybodaeth honno gael ei chyhoeddi, felly edrychaf ymlaen at weld y wybodaeth honno wedi'i chyhoeddi maes o law.

Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol o adroddiad diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru a ddangosodd fod gweithwyr ifanc rhwng 16 a 24 oed yn llawer mwy tebygol o fod wedi'u cyflogi mewn sectorau sydd ar gau, o gymharu â grwpiau oedran eraill. Dangosodd yr un adroddiad hefyd fod gweithwyr iau yn teimlo’n fwy ansicr am y dyfodol, yn enwedig pan ddaw cynlluniau’r Llywodraeth i ben, a’r hyn y gallai hynny ei olygu o ran rhagolygon swyddi. Addawodd maniffesto Senedd eich plaid warant i bobl ifanc sy’n gwarantu cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed. Weinidog, beth yw eich neges i weithwyr ifanc yng Nghymru heddiw ynglŷn â’u hofnau ynghylch rhagolygon swyddi yn y dyfodol? Ac a allwch nodi pryd yn union y bydd y warant i bobl ifanc yn cael ei chyflwyno fel y gall Cymru symud ymlaen o'r pandemig gydag economi sy'n gweithio ac sy’n cefnogi pobl ifanc? Oherwydd dyna mae'n ei ddweud yn eich maniffesto.

13:50

Dyna'n union y byddwn yn ei wneud. Edrychaf ymlaen at roi datganiad i'r Aelodau a'r cyhoedd ynglŷn â sut rydym yn bwrw ymlaen â'r warant i bobl ifanc. Nodaf yr hyn a ddywedodd yr Aelod ynglŷn â diddymu cymorth i ddiwydiant. Wrth i'r cynllun ffyrlo ddechrau dod i ben yn raddol, bydd busnesau'n gwneud dewisiadau cyn hynny ac wrth i gymorth Llywodraeth y DU ddirwyn i ben yn raddol, mae perygl y bydd rhai busnesau’n dewis peidio â pharhau gyda'r un nifer o weithwyr ag sydd ganddynt ar hyn o bryd. Mae honno'n her, ac mae'n her benodol i weithwyr iau. Gwyddom eu bod wedi cael eu heffeithio'n arbennig mewn sectorau o'r economi lle maent yn fwy tebygol o fod wedi eu cyflogi. Byddwn yn dweud wrth unrhyw weithwyr ifanc neu bobl ifanc sy'n awyddus i fynd i fyd gwaith ein bod yn deall bod hwn yn gyfnod ansicr a dyna'n union pam ein bod yn mynd i ddarparu gwarant i bobl ifanc i sicrhau nad oes cenhedlaeth goll o ganlyniad i'r pandemig. Edrychaf ymlaen at roi datganiad ac ateb cwestiynau yma yn y Siambr hon wrth inni geisio gwneud hynny—nid yn unig y cyhoeddiad cychwynnol, ond sut rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw, gan gynnwys, yn hanfodol, gweithio gyda busnesau, ein gwasanaethau cynghori a'r bobl ifanc eu hunain er mwyn deall sut y bydd gennym y cynnig mwyaf llwyddiannus ac ymarferol ar gael yng Nghymru.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy longyfarch y Gweinidog ar ei swydd newydd. Nid wyf wedi cael cyfle i ddweud hynny wrtho wyneb yn wyneb eto, ond rwy'n siŵr ei fod mor gyffrous â minnau i gael perthynas adeiladol wrth symud ymlaen.

Ers cychwyn datganoli ym 1999 a phwerau deddfu llawn yn 2011, nid oes unrhyw Lywodraeth yng Nghymru wedi llunio deddfwriaeth wedi'i hanelu'n benodol at fynd i'r afael ag economi a busnesau Cymru. Gyda'r sefydliadau democrataidd yng Nghymru wedi hen ennill eu plwyf bellach, credwn mai nawr yw'r amser iawn. Mae angen cynigion clir a hirdymor ar fentrau bach a chanolig i'w helpu i ddarparu sylfaen gref ar gyfer datblygiad economaidd yng Nghymru. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog: pa opsiynau deddfwriaethol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried dros dymor nesaf y Senedd a fyddai'n helpu i gynnal y mesurau a'r bensaernïaeth sydd eu hangen i gefnogi datblygiad economaidd yng Nghymru a all sicrhau hirhoedledd a sefydlogrwydd ein gwasanaethau cymorth a chyngor i fusnesau, ac ymateb i gefnogi busnesau pan fydd argyfyngau'n digwydd, fel y gwelwyd gyda COVID-19?

Diolch am eich cyflwyniad caredig. Edrychaf ymlaen at weithio gydag ef ar draws y Siambr, yn y Siambr a thu allan iddi hefyd.

O ran eich pwynt ynglŷn â deddfwriaeth, credaf mai'r her yw a fydd deddfwriaeth yn gwneud gwahaniaeth. Dyna'r prawf gwirioneddol, does bosibl; nid yn unig fod gennym y pwerau, ond y gellir defnyddio'r pwerau i ddeddfu mewn ffordd ystyrlon. Os edrychwch ar y ffordd y mae'r lle hwn wedi ymateb i ddigwyddiadau yn y gorffennol, er enghraifft, pan oedd y Dirprwy Brif Weinidog blaenorol o'ch plaid eich hun yn ei swydd, mewn ymateb i argyfwng 2007-08 ar y pryd, yr ymateb arwyddocaol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru dan arweiniad Rhodri Morgan oedd drwy gynlluniau ReAct a ProAct, nad oedd yn galw am newid i'r ddeddfwriaeth. Roedd yn ymwneud mewn gwirionedd â sut roedd y pwerau a oedd yma eisoes a’r cyllidebau'n cael eu defnyddio mewn ffordd greadigol a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid o fyd busnes—Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yn benodol, a Chyngres Undebau Llafur Cymru hefyd. Daethom at ein gilydd mewn ffordd y cytunwyd arni i ddiogelu cymaint o waith â phosibl. Drwy gydol y pandemig COVID, rydym wedi gallu gwneud rhywbeth tebyg, a defnyddio ein pwerau, gan weithio gyda rhanddeiliaid a chyda'n dull partneriaeth gymdeithasol. Rydym yn mynd i ddeddfu’r bartneriaeth gymdeithasol ar gyfer y dyfodol. Credaf hefyd ei bod yn bwysig cydnabod y ddeddfwriaeth gaffael a phartneriaeth gymdeithasol, gan y bydd gwella faint o wariant caffael a gedwir yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Nid yw hynny yr un peth â deddfu, i bob pwrpas, i geisio deddfu ar gyfer swyddi; dyna sut y cawn yr enillion ariannol mwyaf a gwella cysylltiadau.

Fe sonioch chi am gymorth i fusnesau; dyna un o fy mhryderon allweddol a dyna pam y soniais fy mod yn dymuno cael perthynas fwy adeiladol â Llywodraeth y DU yn fy ateb i Paul Davies. Mae Busnes Cymru yn un brand ar gyfer cymorth i fusnesau, un drws i fynd drwyddo ar hyn o bryd. Cafodd ei ariannu i raddau helaeth o gronfeydd blaenorol yr Undeb Ewropeaidd sy'n dod i ben. Gallai'r cronfeydd newydd i gymryd eu lle, os cânt eu gweinyddu yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ei nodi ar hyn o bryd, danseilio ein gallu i barhau i ariannu'r gwasanaeth hwnnw mor effeithiol ag y buom yn ei wneud, ac ystod o feysydd eraill. Felly, mae gwaith i'w wneud yma, gyda'r cyfrifoldebau sydd gennym, ac os oes gan yr Aelod gynigion allweddol a fyddai'n golygu y gall deddfwriaeth fod yn effeithiol, rwy’n fwy na pharod i’w trafod gydag ef. Ond mae ein perthynas, ein pwerau a bodolaeth y lle hwn, a'r cyfrifoldebau y mae pobl Cymru wedi dewis eu rhoi i ni, yn ffactor allweddol yn y ffordd y gweithiwn gyda Llywodraeth y DU, rwy'n gobeithio, yn hytrach na dull mwy gwrthdrawiadol, sef y llwybr rydym arno ar hyn o bryd.

13:55

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy’n falch o glywed am y Ddeddf partneriaeth gymdeithasol. Fel y gŵyr, mae Plaid Cymru wedi bod yn gefnogol iawn i hynny drwy gydol y broses, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef ar y pwynt hwnnw, a hefyd, at edrych, o bosibl, ar rai opsiynau deddfwriaethol wrth symud ymlaen.

Os caf droi at broblem hyder rydym yn ei gweld gyda busnesau bach a chanolig ar hyn o bryd, roedd yn dda cael cyfle i gyfarfod â Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yr wythnos diwethaf a thrafod sut y gall y Senedd a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd dros y pum mlynedd nesaf i gefnogi busnesau bach. Mae eu cymorth diweddar, ‘Yr Hyn Ydym Yn Rhoi Gwerth Arno’, yn amlinellu sut y gall busnesau bach a chanolig fod yn allweddol i’r gwaith o ailadeiladu economi a chymunedau Cymru. Yn ogystal â chyfrannu at gadernid cymunedau a darparu gwasanaethau hanfodol, mae busnesau bach yn gyflogwyr hanfodol. Mae 99.4 y cant o fusnesau yng Nghymru yn fusnesau bach a chanolig, ac yn cyfrannu 62.4 y cant o gyflogaeth y sector preifat a 37.9 y cant o'r trosiant. Fel cymaint o sectorau eraill, mae’r pandemig wedi effeithio’n andwyol ar fusnesau bach a chanolig ac roedd arnynt angen cymorth sylweddol gan y Llywodraeth.

Wrth edrych ymlaen, ceir safbwyntiau gwahanol iawn am y rhagolygon ar gyfer busnes a'r economi ehangach yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf. Er bod 63 y cant o berchnogion busnesau bach yn obeithiol iawn neu'n weddol obeithiol am eu menter eu hunain, mae optimistiaeth yn lleihau wrth ystyried yr economi ehangach. Mae optimistiaeth, mewn gwirionedd, yn cwympo i 57 y cant wrth ystyried y sector neu'r diwydiant perthnasol, tra bo hyd yn oed llai o berchnogion busnesau bach yn obeithiol am y sector busnesau bach yng Nghymru neu economi Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Sut y mae'r Gweinidog, felly, yn bwriadu ymgysylltu â busnesau bach a chanolig i leihau'r diffyg hyder hwn a darparu'r eglurder angenrheidiol ar amcanion hirdymor ymarferol i helpu busnesau bach a chanolig i gyfrannu at yr adferiad economaidd yng Nghymru?

Mae'r Aelod yn tynnu sylw at un o'r problemau: pan ofynnir i bobl am eu busnes, maent yn hyderus, ond pan ofynnir iddynt yn fwy cyffredinol, mae ganddynt lai o hyder. Mae'r un peth yn wir mewn nifer o feysydd eraill: lle mae gan bobl brofiad personol, maent yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth, a llai o hyder wrth feddwl am bersbectif ehangach. Felly, mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â chydweddu’r hyn y mae pobl yn ei weld ar lawr gwlad. Wrth gyfarfod ag ystod o sefydliadau busnes, gan gynnwys y Ffederasiwn Busnesau Bach, cefais sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r hyn y gallwn ei wneud ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda hwy, gan y credaf mai'r unig ffordd i greu'r hyder hwnnw yw drwy’r sgyrsiau a gawn, ond hefyd yn y penderfyniadau a wnawn, ac a all y busnesau hynny ddarparu dyfodol iddynt eu hunain sy'n ymwneud â chynnal busnesau sy'n bodoli yn ogystal â helpu rhai busnesau i dyfu. Bydd rhai busnesau bob amser yn fusnesau bach; gall eraill dyfu i fod yn fusnesau canolig a busnesau mwy o faint. Mae angen inni fod yn fwy llwyddiannus yng Nghymru a gweld mwy o fusnesau canolig a mwy o faint yn datblygu yma yng Nghymru, ynghyd â'r pwynt am fusnesau newydd. Rydym yn cydnabod bod angen inni gael cyfradd uwch o fusnesau newydd hefyd, felly edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy ar agenda sy’n gadarnhaol yn fy marn i, lle rydym yn cydnabod ein bod fwy neu lai yn yr un lle o ran deall yr heriau sy’n ein hwynebu, ac yna'r angen i ddeall sut rydym yn cydweithio'n llwyddiannus, gyda phŵer cynnull y Llywodraeth a'r ysgogiadau sydd ar gael inni ar hyn o bryd.

Diolch, Weinidog. Y gwir amdani yng Nghymru, wrth gwrs, yw mai'r un sefydliad a all roi hyder i fusnesau bach a chanolig yw'r Llywodraeth. Gwyddom fod gan y busnesau bach a chanolig eu hunain ysfa ac entrepreneuriaeth; maent yn adnodd hanfodol oherwydd eu hysfa, eu hangerdd a'u harbenigedd yn eu priod feysydd. Fodd bynnag, er mwyn diogelu’r ysfa a'r buddsoddiad hwn, mae angen sicrwydd ar fusnesau bach a chanolig. Mae'n debygol fod cynlluniau busnes hirdymor a grëwyd cyn y pandemig wedi'u diddymu, neu o leiaf fod angen eu hadolygu ar frys, ac mae'n ddealladwy pam. A yw Llywodraeth Cymru yn barod i fynd ymhellach na’u cymorth cyfredol a bod yn barod i fuddsoddi ym musnesau bach a chanolig Cymru er mwyn darparu sicrwydd, ennyn hyder yn y sector a chreu’r amodau sy’n angenrheidiol ar gyfer twf a fydd yn hybu economi Cymru?

Ceir ystod o ffactorau, fel y dywedais wrth Paul Davies, lle mae gan Lywodraeth Cymru rôl, yn sicr, yn y broses o greu'r amodau hynny, ac eraill lle mae angen inni weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU. Mae'r cysylltiadau masnachu parhaus gyda'r Undeb Ewropeaidd yn ffactor allweddol i ni. Pe baem yn siarad am borthladdoedd, byddem yn wynebu her benodol gyda’r porthladdoedd yn sir Benfro ac yng Nghaergybi, a'r berthynas newydd, gyda'r ffordd y mae masnach yn cael ei dargyfeirio. Mae gennym rai o'r heriau hynny i weithio drwyddynt, lle ceir cymysgedd o gyfrifoldebau a gedwir yn ôl a chyfrifoldebau sydd gennym yma.

Felly, mae hynny'n rhan o'r gymysgedd. Mae a wnelo hefyd â’r dewisiadau y gallwn eu gwneud yma. Dyna pam nad ydym yn sôn yn unig am y warant i bobl ifanc, ond rydym yn awyddus i sôn am sgiliau ac am gymorth i fusnesau. Bydd cael eglurder ynglŷn â’n gallu i ddarparu hynny yn hynod bwysig, er mwyn helpu busnesau llai i fuddsoddi yn sgiliau eu gweithluoedd, eu harweinwyr a'u rheolwyr. Mae'n un o'r ffactorau allweddol wrth helpu busnesau i dyfu, ac yn amlwg, mae gennym sylfaen lwyddiannus i adeiladu arni, gyda rhaglen brentisiaethau lwyddiannus, ymrwymiad allweddol i wneud mwy ar hynny, a sut rydym yn gweithio ochr yn ochr â busnesau bach i ddeall y ffordd orau o ddiwallu eu hanghenion.

Y ffactor allweddol arall, serch hynny, o ran hyder i fusnesau bach, yw ymddygiad cwsmeriaid. Ac fe fyddwch yn cofio’r consortiwm manwerthu yn sôn am y ffaith bod ymddygiad cwsmeriaid yn dal i fod yn fater sy'n newid, lle rydym yn dal i ddeall sut y bydd cwsmeriaid yn ymddwyn. Mae'n ymwneud â'r bobl sy’n awyddus i ddychwelyd i amgylchedd swyddfa ac am ba hyd, beth y mae hynny'n ei olygu i fusnesau lle mae eu model yn golygu eu bod yn dibynnu ar y bobl hynny, yn ogystal ag ar y manwerthwr ar y stryd fawr, ac a ydym yn mynd i weld niferoedd digonol i sicrhau bod gan y busnesau hynny ragolygon mwy hyderus ar gyfer eu dyfodol eu hunain. A rhan o'r her a'r gonestrwydd yw ein bod am ddarparu sicrwydd mewn byd sydd ychydig yn ansicr o hyd. Rwy'n dweud 'ychydig yn ansicr', ac rwy'n gobeithio, dros yr wythnosau nesaf, y byddwn yn datblygu mwy o sicrwydd ynglŷn â hynny wrth inni barhau â'r mesurau y bydd fy nghyd-Aelod Eluned Morgan yn siŵr o sôn amdanynt yn y man, ynglŷn â chyflwyno ein rhaglen frechu a'r diogelwch y dylai hynny ei roi. Felly, mae'r llwybr parhaus allan o'r pandemig yn ffactor allweddol o ran darparu'r amodau ar gyfer sicrwydd i fusnesau a'r cyhoedd yn ehangach wneud eu dewisiadau eu hunain.

14:00
Arferion Diswyddo ac Ailgyflogi

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o arferion diswyddo ac ailgyflogi gan gwmnïau sy'n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru? OQ56538

Hoffwn ddweud yn glir, fel y gwnaeth y Prif Weinidog ddoe, fod Llywodraeth Cymru yn condemnio’r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi fel tacteg negodi ac arfer cyflogaeth. Nid yw'r bygythiad o ddileu swydd i orfodi tâl, telerau ac amodau israddol ar weithwyr yn cyd-fynd â'n gwerthoedd gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol, ac mae'n anghyson ag ethos y contract economaidd.

Credaf y bydd llawer ohonom yn y Siambr yn croesawu'r eglurder hwnnw. Weinidog, yn anffodus, mae'r defnydd gwrthun o ddiswyddo ac ailgyflogi ar gynnydd. Fis yn ôl yn unig, ymunodd 140 o ASau ac Arglwyddi ag ymgyrch dan arweiniad Cyngres yr Undebau Llafur ac oddeutu 20 o undebau mawr yn y wlad hon, gan gynnwys undebau Unite, GMB, Community, y Ffederasiwn Busnesau Bach—y rhan fwyaf o'r prif undebau—i atal cyflogwyr rhag ysbeilio cyflogau, torri telerau ac amodau tâl salwch a thanseilio hawliau gweithwyr yn y gwaith. Fe wnaethant alw ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio Araith y Frenhines ym mis Mai i atal arferion diswyddo ac ailgyflogi, ond anwybyddwyd y galwadau hynny.

Nawr, nid yw cyfraith cyflogaeth, wrth gwrs, wedi'i datganoli i Gymru, ond mae gennym rai arfau pwerus wrth law, gan gynnwys y dull partneriaeth gymdeithasol a chaffael moesegol, sydd wedi tynnu sylw yn y gorffennol at gwmnïau a oedd yn defnyddio cosbrestrau adeiladu i wneud bywydau gweithwyr yn y diwydiant adeiladu yn dlotach. Felly, Weinidog, beth arall y gallwn ei wneud i gael gwared ar arferion diswyddo ac ailgyflogi yng Nghymru, lle mae cwmnïau'n derbyn arian cyhoeddus, ac a oes unrhyw beth y gallem edrych arno yn y ddeddfwriaeth partneriaeth gymdeithasol wrth symud ymlaen hefyd?

Ie, ac rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud. Pan oeddwn ar y meinciau cefn, rwy'n cofio codi materion yn ymwneud â chosbrestr gweithwyr adeiladu a’r effaith uniongyrchol roedd hynny’n ei chael ar fywydau gweithwyr yng Nghymru a thu hwnt. Felly, byddwn yn ceisio defnyddio'r ysgogiadau ymarferol a dylanwadol sydd gennym i geisio sicrhau bod cyflogwyr yng Nghymru yn deall safbwynt Llywodraeth Cymru a beth y mae hynny'n ei olygu i'w hymgysylltiad â ni. Felly, y contract economaidd, mae'n glir iawn mewn perthynas ag ymrwymo i egwyddorion gwaith teg, ac os yw pobl yn dymuno cael cymorth parhaus, bydd angen iddynt gadw hynny mewn cof. Ac er nad oes gennym bwerau deddfwriaethol, mae hyn yn mynd yn ôl at y pwynt fod gennym ysgogiadau ymarferol a ddylai ein helpu i wneud cynnydd. Ac edrychaf ymlaen at wneud cynnydd ar gaffael a phartneriaeth gymdeithasol, gan y bydd hynny'n golygu ein bod yn bwrw ymlaen â'r agenda gwaith teg, a bydd yr Aelodau'n cael cyfle i graffu ar y dull o weithredu mewn deddfwriaeth ar yr egwyddorion gwaith teg hynny a'r hyn y bydd yn ei olygu. Felly, edrychaf ymlaen at weld yr Aelodau’n cymryd rhan ac yn ymgysylltu â hynny i sicrhau bod gennym y ddeddfwriaeth orau a ddylai wneud gwahaniaeth ymarferol o ran sut y mae Llywodraeth Cymru yn trefnu cymorth ariannol, cymorth benthyciad a chymorth ymarferol i gwmnïau a busnesau, a chredaf y bydd hynny'n gwella’r byd gwaith yma yng Nghymru yn fawr.

Yn gyntaf oll, hoffwn eich llongyfarch ar eich penodiad, Weinidog. Ni chredaf fy mod wedi cael cyfle i wneud hynny eto, felly llongyfarchiadau i chi.

Wrth gwrs, codwyd y mater hwn ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'n fater pwysig. Cawsom gyfraniadau cadarnhaol gan Mr Hedges a Mr Davies, fy nghyd-Aelodau yma, ac yn amlwg, fe ymatebodd y Prif Weinidog ddoe, ond roedd hyn cyn i Lywodraeth y DU wneud ymrwymiadau a chynigion pellach yn y Senedd brynhawn ddoe. Ac rwy'n siŵr eich bod yn falch o glywed ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU i gael gwared ar yr arferion diegwyddor hyn. Ac yn wir, ddoe, cyfeiriodd Prif Weinidog Cymru at y gobaith y byddai Llywodraeth y DU yn ystyried adolygiad y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu gan arwain at gamau deddfwriaethol, a chadarnhaodd Llywodraeth y DU eu hymrwymiad i’r Bil cyflogaeth ddoe, ac i un corff gorfodi hefyd. Rwy'n siŵr y byddech yn croesawu'r camau hynny gan Lywodraeth y DU. Felly, yng ngoleuni hynny, ac yng ngoleuni'r datganiadau ddoe gan Lywodraeth y DU, pa drafodaethau pellach y byddwch yn eu cael gyda Llywodraeth y DU i barhau â'r gwaith da hwn er mwyn sicrhau y daw y ddeddfwriaeth hon i rym?

14:05

Credaf fod—. Yn aml, rhoddir arwyddion cadarnhaol, fel yn yr achos hwn—a chroesawaf yr Aelod i'r Siambr ac i’r cwestiynau; edrychaf ymlaen at weithio gydag ef yn y rôl hon, yn dilyn ei gyfnod fel arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Edrychwch, rwy'n croesawu'r ffaith, os daw’r un corff gorfodi yn weithredol, y bydd hynny'n beth da. Byddai hynny'n helpu nid yn unig yn y maes hwn, ond mewn ystod o rai eraill hefyd. Bil cyflogaeth sy'n helpu i symud pethau ymlaen—byddai hynny, unwaith eto, yn beth da, ac yn dibynnu ar y mesurau, gallai fod cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i'r mesurau hynny. Yr her, serch hynny, yw bod adroddiad y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu wedi nodi bod opsiynau deddfwriaethol ar gael, a heddiw, mae Prif Weinidog y DU wedi cadarnhau unwaith eto, er ei fod yn credu y gall diswyddo ac ailgyflogi fod yn arfer diegwyddor, nad oes ymrwymiad ar hyn o bryd i gynigion deddfwriaethol penodol. A'r perygl yw, wrth ofyn i’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu adolygu'r canllawiau, na fydd hynny o reidrwydd yn newid yr hyn sy'n digwydd yn ymarferol. Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, gan nad yw cyfraith cyflogaeth wedi'i datganoli, os nad yw'n anghyfreithlon, nid yw hyd yn oed materion sy'n gysylltiedig ag arferion da o reidrwydd yn mynd i atal cyflogwyr sydd hyd yn oed yn awr wedi bwrw ymlaen a gwneud dewisiadau anodd iawn sy'n amlwg yn ymwneud â gwanhau telerau ac amodau. Felly, mae rhai pwyntiau y gallwn eu croesawu ac rwy'n fwy na pharod i wneud hynny, mae pwyntiau eraill lle rydym yn dal i feddwl bod angen i Lywodraeth y DU fynd ymhellach, gan gynnwys deddfu i wahardd arferion diegwyddor diswyddo ac ailgyflogi.

Busnesau Canol Trefi

Weinidog, a gaf innau hefyd eich llongyfarch ar eich penodiad? Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi yn ein rolau newydd.

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau canol trefi yn etholaeth Mynwy? OQ56566

Rwy'n croesawu Peter Fox i’w rôl newydd, ac unwaith eto, rwyf wedi ei weld yn ei rôl flaenorol; bellach, mae'n ddyn ifanc disglair yma yn y Senedd.

Ers mis Ebrill 2020, mae busnesau sir Fynwy wedi derbyn dros £50 miliwn mewn cymorth grant, gan ddiogelu dros 1,300 o swyddi. Mae hyn yn ychwanegol at y seibiant blwyddyn o hyd mewn ardrethi busnesau annomestig ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch, a bydd yr Aelod wrth gwrs yn ymwybodol na fydd busnesau cyffelyb yn Lloegr yn mwynhau'r un rhyddhad ardrethi dros yr un cyfnod o amser.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Weinidog, mae’r data’n dangos mai canol trefi Cymru sydd wedi wynebu’r gostyngiad mwyaf o holl wledydd y DU yn nifer yr ymwelwyr, ac mae’r effaith hon i'w theimlo yn fy etholaeth, fel llawer o etholaethau eraill a gynrychiolir yma heddiw. Mae angen ystyried cymhellion tymor byr i helpu ein trefi sy'n ei chael hi'n anodd ar yr adeg pan fo fwyaf o angen cymorth arnynt—pethau y byddai'n hawdd eu cyflawni i gefnogi gwariant cwsmeriaid a nifer ymwelwyr. Byddai cymhellion syml ond effeithiol fel parcio am ddim a ariennir gan Lywodraeth Cymru yng nghanol trefi, gyda chynllun talebau stryd tebyg i'r un sydd ar waith yng Ngogledd Iwerddon o bosibl, yn ddechrau da iawn, a chredaf fod hynny’n rhywbeth a gafodd ei gynnwys ym maniffesto Plaid Lafur yr Alban, felly rhywbeth a ddylai fod yn dderbyniol. Byddai'r cymhellion hyn yn cael effaith hynod fuddiol ar y stryd fawr a chanol ein trefi ar adeg lle mae taer angen ein cymorth arnynt. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn i chi a'r Llywodraeth ystyried y pethau hyn o ddifrif? Diolch.

Rwy’n fwy na pharod i ystyried pob syniad, yn ogystal â'r dull rydym eisoes yn ei weithredu. A bydd yr Aelod yn ymwybodol, o’i gyfnod pan oedd yn dal i fod yn arweinydd sir Fynwy, o’r mwy na £0.5 miliwn a roddwyd i Gyngor Sir Fynwy ar gyfer y flwyddyn hon ar ffurf grant creu lleoedd Trawsnewid Trefi. Felly, mae camau ymarferol yn cael eu cymryd i helpu i gefnogi busnesau ar hyn o bryd, yn ogystal, wrth gwrs, â’r dull rydym wedi nodi y byddwn yn ei ddilyn o roi canol y dref yn gyntaf, a’r ffordd rydym yn edrych ar ddatblygiadau yn y dyfodol a'r dewisiadau sy'n mynd ar draws y Llywodraeth. Felly, yn fy rôl flaenorol, roeddwn yn awyddus iawn i barhau i fuddsoddi mewn fferylliaeth gymunedol am amryw resymau, ond yn sicr, roeddwn yn ymwybodol fod cynnal fferyllfa gymunedol ar stryd fawr yn bwysig o safbwynt nifer yr ymwelwyr ar gyfer ystod o fusnesau eraill hefyd, a sut rydym yn sicrhau mwy o—. Felly, mae eu gwneud yn fwy hygyrch o safbwynt gofal iechyd hefyd yn effeithio ar ddyfodol economaidd canol trefi hefyd. Felly, edrychaf ymlaen at weithio gydag ef, ac rwy’n fwy na pharod, os yw eisiau ysgrifennu ataf gydag ystod o fentrau y gallem eu rhoi ar waith, i ymgysylltu'n agored ag ef, nid yn unig er lles sir Fynwy, ond wrth gwrs, er lles pob dinesydd ledled y wlad.

Twristiaeth Hygyrch

A gaf fi groesawu'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog i'w rolau newydd? Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda hwy. Yn ddiweddar, cyfarfûm ag etholwyr ym Mae Caswell i weld Surfs Up, cyfleuster lleoedd newid sydd newydd gael ei adeiladu. Mae’r lleoedd newid yn fwy, toiledau hygyrch gydag offer fel teclynnau codi, llenni a—[Torri ar draws.] O, mae'n ddrwg gennyf am wneud hynny. [Chwerthin.] Mae'n ddrwg gennyf.

14:10

—mae angen ichi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn. Peidiwch â phoeni, nid eich camgymeriad chi yn unig ydoedd, methais innau sylwi arno hefyd. [Chwerthin.]

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dwristiaeth hygyrch yng Nghymru? OQ56552

Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny—[Chwerthin.]—a chroesawu'r Aelod i'r Siambr. Mae ein strategaeth, 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i'r Economi Ymwelwyr 2020-2025’, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, yn pwysleisio hygyrchedd a chynwysoldeb yn ein holl weithgareddau. Byddwn yn parhau i ymgysylltu'n agos ag Anabledd Cymru i gefnogi’r broses o gyflawni ein gwaith, ac edrychaf ymlaen at gwestiwn atodol yr Aelod. [Chwerthin.]

Credaf fod ganddo syniad bach o'r hyn y gallai fod. Yn ddiweddar, cyfarfûm ag etholwyr ym Mae Caswell i weld Surfs Up, cyfleuster lleoedd newid sydd newydd gael ei adeiladu. Mae’r lleoedd newid yn fwy, toiledau hygyrch gydag offer fel teclynnau codi, llenni a meinciau newid digon mawr i oedolion a lle i ofalwyr. Mae'r rhain yn helpu i wneud twristiaeth yng Nghymru yn gynhwysol i bawb, gan nad yw toiledau i’r anabl ar eu pennau eu hunain wedi bod yn ddigon. Er bod hwn wedi bod yn newid i'w groesawu, cefais syndod wrth ddarganfod mai hwn yw un o'r lleoedd cyntaf yn y Gŵyr, cyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid, i gael cyfleuster o'r fath. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y ddarpariaeth honno’n orfodol mewn rhai adeiladau newydd yn Lloegr; beth, felly, fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod twristiaeth yn hygyrch i bawb?

Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n gyfarwydd â’r prosiect y cyfeiria’r Aelod ato ym Mae Caswell, gan fod Llywodraeth Cymru wedi darparu £68,000 o gyfanswm cost y prosiect o £85,000 i alluogi'r newid y cyfeiria ato. Ac mae mwy, wrth gwrs, ym Mae Caswell yn benodol, ond rydym yn edrych ar sut rydym yn ei gwneud yn haws i bobl ddeall sut y gallant gael gwyliau gwirioneddol hygyrch, ac mae gwefan Croeso Cymru’n caniatáu i ymwelwyr hidlo am lety gyda darpariaeth ar gyfer ymwelwyr anabl, ac mae nifer o fannau lle gallwch edrych ar hygyrchedd. Unwaith eto, rwy'n fwy na pharod i edrych ar sut y gallwn ystyried sut rydym yn darparu nid yn unig dyletswyddau, oherwydd, unwaith eto, gwn fod yr Aelod, gan ei fod yn gynghorydd cyfredol o hyd, ond yn eich rôl flaenorol, ac yn wir, y ddau arweinydd cyngor blaenorol sydd wedi siarad—os ydym yn gosod dyletswyddau heb adnoddau ar eu cyfer, ceir pryder cyson fod hynny'n creu pwysau ychwanegol sy'n golygu ei bod yn anoddach cyflawni'r rheini. Felly, rwy'n fwy na pharod i ystyried dyletswyddau, yr hyn y gallai hynny ei olygu, gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a deall sut y gallwn wneud gwahaniaeth ymarferol wedyn i sicrhau bod mwy o leoliadau hygyrch ar gael ar gyfer teuluoedd ag unigolyn sydd angen mynediad o'r fath i sicrhau eu bod yn mwynhau gwyliau, fel yn wir y gall y gweddill ohonom ei wneud.

Busnesau yn Sir Benfro

6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yn Sir Benfro dros y 12 mis nesaf? OQ56544

Gwnaf. Mae ein cenhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu’r economi yn nodi ein cynllun ar gyfer yr economi a bydd yn hanfodol er mwyn cynorthwyo unigolion, busnesau a chymunedau i lwyddo, ffynnu ac adfer. Rydym yn parhau i gefnogi busnesau newydd a busnesau sy’n bodoli eisoes yn sir Benfro drwy Busnes Cymru a'n tîm rhanbarthol. Rydym wedi darparu cymorth helaeth drwy gydol y pandemig a'r realiti ôl-Brexit sydd eisoes wedi effeithio ar fusnesau sir Benfro, mae arnaf ofn. Er hynny, rydym wedi darparu dros £109 miliwn mewn cymorth drwy'r gronfa cadernid economaidd i fusnesau sir Benfro.

Wrth gwrs, mae'r 12 mis nesaf yn allweddol i ddatblygu cyfleoedd busnes newydd, ac rydych wedi ymrwymo heddiw i greu swyddi diogel a pharhaol ledled Cymru, a chreu'r amodau i fusnesau dyfu. Nawr, yn fy etholaeth i, mae'n wych gweld porthladd Aberdaugleddau’n bwrw ymlaen gyda’i gynlluniau i gryfhau ei gynnig ar gyfer glannau Aberdaugleddau, gyda’r gwaith adeiladu’n dechrau ar westy 100 gwely Tŷ, a fydd yn effeithio'n gadarnhaol ar y gymuned leol ac yn darparu swyddi lleol. Weinidog, rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu’r cynnydd a wnaed ar y prosiect, ac a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi a sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd yn sgil datblygiadau fel hyn yn sir Benfro?

Mae gennym berthynas adeiladol nid yn unig â'r cyngor, ond gydag ystod o randdeiliaid yn sir Benfro, ac mewn gwirionedd, mae'r datblygiad y soniwch amdano’n rhywbeth y gwn fod Joyce Watson, yr Aelod rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, wedi sôn wrthyf amdano yn y gorffennol hefyd. Felly, rwy'n awyddus iawn i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i weithio ochr yn ochr â busnesau yn sir Benfro a thu hwnt i sicrhau dyfodol realistig a chadarnhaol, a deuaf yn ôl at y pwynt fod yr her sy'n ei hwynebu yn ein perthynas fasnachu o fewn y Deyrnas Unedig, ond yn hollbwysig gydag ynys Iwerddon, yn ffactor allweddol mewn ardal fel Aberdaugleddau a'r cynnydd rydym am iddi ei wneud yn y dyfodol. Felly, rwy'n fwy na pharod i weithio'n adeiladol, fel y dywedais, ar bob ochr i sicrhau y caiff y weledigaeth honno ei gwireddu.

Busnesau Cynhyrchu Bwyd Bob Dydd

7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ysgogi twf busnesau cynhyrchu bwyd bob dydd yng Nghymru? OQ56543

14:15

Diolch am eich cwestiwn. Mae gennym raglen gynhwysfawr i gefnogi busnesau drwy gydol y tarfu a achoswyd gan Brexit a COVID. Mae hynny'n cynnwys cyngor technegol, cymorth ariannol a gwaith hyrwyddo. Bydd y gefnogaeth a'r arweinyddiaeth hon yn helpu i gynnal y sector drwy gyfnod heriol i aros ar y llwybr hirdymor o lwyddiant a thwf y mae wedi'i gyflawni mewn blynyddoedd diweddar.

Diolch. Yr wythnos hon, rydym wedi cael ein hatgoffa o freuder ein perthynas fasnachu ôl-Brexit a'r goblygiadau posibl i ddiogelwch ein cyflenwad bwyd. Mae hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i ffrae ynghylch selsig a nygets cyw iâr, ac eto mae'r DU yn parhau i fewnforio'r rhan fwyaf o'i llysiau a'i ffrwythau, yn enwedig dros fisoedd y gaeaf, o dir mawr Ewrop. Ddwy flynedd yn ôl, buddsoddodd Llywodraeth Cymru dros £400,000 mewn tri phrosiect amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig drwy gronfa her yr economi sylfaenol. Beth oedd canlyniad y buddsoddiad hwnnw yn Wrecsam, Treherbert a Chwmbrân? Ac o gofio na fydd y rhan fwyaf ohonom yn dymuno bwyta saladau sy'n dod o Awstralia, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth bellach i brif ffrydio amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig ledled Cymru fel y gallwn fwynhau cynhyrchion mwy lleol, wedi'u cynhyrchu a'u tyfu’n lleol, a bod yn llai agored i'r berthynas fregus rydym yn ei hwynebu yn awr gyda'n partneriaid ar dir mawr Ewrop?

Mae'r Aelod yn llygad ei lle yn tynnu sylw at heriau allweddol y realiti tollau sy'n wynebu ystod o nwyddau a ddaw i mewn ac allan o Brydain ac ynys Iwerddon. Rwyf eisoes wedi sôn sawl tro am yr effaith y mae hynny'n ei chael ar ein porthladdoedd, ond bydd yn cael effaith sylweddol a pharhaus ar y cynhyrchwyr eu hunain. Ac mae hwn yn faes lle mae Cymru wedi gwneud yn arbennig o dda. Roedd gennym darged i gynyddu gwerth ein sector bwyd a diod i £7 biliwn yn nhermau gwerthiant erbyn 2020; cyraeddasom bron i £7.5 biliwn. Felly, sector llwyddiannus sydd bellach yn wynebu realiti’r trefniadau newydd sydd ar waith.

Ar y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud am gynlluniau peilot amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig, rydym newydd dderbyn canlyniadau'r cynlluniau peilot hynny ac rydym yn dal i'w gwerthuso ar hyn o bryd. Mae'r canlyniadau cychwynnol yn galonogol, ond mae'n rhy gynnar i ddweud a fyddwn yn cyflwyno'r fenter honno yn ehangach, ond byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael gwybod. Ac wrth gwrs, bydd fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, yn cadw llygad agos ar ganlyniad y cynlluniau peilot a'r dewisiadau a wnawn yma yn y Llywodraeth.

Economi Cymoedd y De

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cryfhau economi Cymoedd y de yn ystod tymor y Senedd hon? OQ56537

Diolch am eich cwestiwn. Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried y ffordd orau o ddatblygu gweithgarwch economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ymhellach yn yr ardal hon, yn enwedig yn ardal Blaenau’r Cymoedd. Mae dros £19 miliwn eisoes wedi'i gymeradwyo ar gyfer prosiectau sydd o fudd i'n trefi yng Nghymoedd de Cymru drwy'r rhaglen Trawsnewid Trefi, sy'n cynnwys dyraniad o dros £1.5 miliwn ar gyfer pob awdurdod lleol.

Diolch, Weinidog, a chroeso i'ch rôl newydd.

Roedd tasglu'r Cymoedd yn ymyrraeth galonogol iawn gan Lywodraeth Cymru yn ystod pumed tymor y Senedd, ac arweiniodd at lawer o fanteision gwirioneddol i fy etholaeth yng Nghwm Cynon, gan gynnwys £1.5 miliwn i Barc Gwledig Cwm Dâr, creu hyb gweithio o bell yn Aberpennar, a phrosiect bwyd dim gwastraff cyffrous iawn yn Aberdâr. Pa gynlluniau sydd gennych, Weinidog, i adeiladu ar waith tasglu'r Cymoedd ar draws yr ardal? Ac a wnewch chi ymrwymo i weithio'n agos gyda'r Aelodau o'r Senedd sy'n cynrychioli cymunedau'r Cymoedd fel y gallwch lunio eich ymateb yn y ffordd orau?

Ie, rwy'n falch o ddweud ein bod yn obeithiol iawn am ystod o feysydd yng ngwaith tasglu'r Cymoedd. Yn ddiweddar, siaradais ag arweinydd Rhondda Cynon Taf ynglŷn â pharhau â'n gwaith ar y cynllun cartrefi gwag, lle mae dod â'r cartrefi hynny yn ôl i ddefnydd buddiol wedi bod yn fwy effeithiol ac yn rhatach nag adeiladu eiddo newydd. Felly, rydym yn edrych i weld beth sydd wedi gweithio eisoes yn yr adroddiad etifeddiaeth a'r rhaglen weithredu wrth i dasglu'r Cymoedd gael ei ddirwyn i ben, ac rwy'n falch o gadarnhau a chytuno i'r ymrwymiad i gyfarfod â chynrychiolwyr o’r Cymoedd i gael sgwrs ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â hynny er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fuddsoddi yn nyfodol y Cymoedd.

Diolch i'r Gweinidog. Fe fyddwn ni nawr yn cymryd toriad byr wrth inni wneud ychydig o newidiadau yn y Siambr. Felly, y toriad nesaf.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:19.

14:25

Ailymgynullodd y Senedd am 14:28, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nawr yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.

Cymorth Seibiant i Ofalwyr Di-dâl

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth seibiant i ofalwyr di-dâl yn Nwyrain De Cymru? OQ56572

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol seibiant a hoe i gynnal iechyd meddwl a lles gofalwyr di-dâl. Ddydd Llun, ar ddechrau'r Wythnos Gofalwyr genedlaethol, cyhoeddais £3 miliwn o gyllid newydd yn 2021-22 i gefnogi darpariaeth seibiant brys a datblygu cronfa er mwyn galluogi pobl i gael seibiant byr.

Diolch, Weinidog. Fel y dywedoch, mae'n Wythnos Gofalwyr, ac rwy'n croesawu eich pecyn cymorth seibiant ar gyfer gofalwyr di-dâl, ond mae arnaf ofn nad yw hynny'n cyd-fynd â'r oedi cyn ailagor gwasanaethau gofal dydd. Y gwasanaethau hyn yw un o'r prif ffyrdd i ofalwyr di-dâl gael seibiant, ac mae rhai cynghorau eto i'w hailagor yn llawn. Deallaf fod Caerffili wedi dweud y byddant yn agor cyfleusterau fesul cam yn unig, ac maent wedi gofyn am gyngor gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â pha broses i'w dilyn i ganiatáu iddynt wneud hyn yn ddiogel. Nawr, mae cynghorau cyfagos fel Casnewydd eisoes wedi darparu gwasanaethau dydd, felly yn gyntaf, hoffwn wybod pam nad yw'r un canllawiau'n cael eu rhoi i bob cyngor. Ond yn ychwanegol at hynny, Weinidog, hoffwn bwysleisio—a gwn y byddwch yn deall hyn—yr effaith sylweddol y mae hyn oll yn ei chael ar gannoedd o deuluoedd, teuluoedd pobl ag anableddau dysgu neu anghenion cymhleth, gyda llawer ohonynt eisoes wedi cael y brechlyn ac yn dibynnu ar y gwasanaethau hyn i ymdopi ac i weld eu ffrindiau. Ac mae angen y seibiant hwn ar eu teuluoedd—mae eu rôl yn anodd iawn, yn gorfforol ac yn emosiynol. Os gall rhai cynghorau gynnig y seibiant hwn, pam fod cynghorau eraill yn aros am ganllawiau gan Lywodraeth Cymru? Rwy'n poeni bod anghenion gofalwyr a'r niwed sy'n cael ei wneud i'r teuluoedd hyn yn mynd ar goll yn rhywle.

14:30

Diolch i Delyth Jewell am y cwestiwn pwysig hwnnw, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r straen y mae gofalwyr wedi ei deimlo yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Ac rwy'n sicr yn ymwybodol o'r bobl sy'n gofalu am bobl ag anabledd dysgu neu bobl â chlefyd Alzheimer, fod straen mawr arnynt hwy. Ac felly rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â'r pwynt y mae'n ceisio ei wneud.

Rydym wedi bod yn annog awdurdodau lleol i ailagor canolfannau dydd, ac mewn gwirionedd rwy'n ymwybodol o'r sefyllfa yng Nghaerffili, ac rydym wedi bod yn trafod—mae'r swyddogion wedi bod yn trafod gyda chyngor Caerffili—er mwyn ceisio cyflymu'r broses. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod y ddarpariaeth o wasanaethau dydd sydd wedi agor yn ddarniog—wedi'i gwasgaru ledled Cymru. Ac felly rydym yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa hon, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hyn, ac rydym yn gweithio'n galed i geisio cael gwasanaethau dydd yn weithredol, fel y dylent fod bellach.

Weinidog, mae dros 22,000 o ofalwyr ifanc rhwng 14 a 25 oed yng Nghymru. Gall y pwysau a wynebir gan y bobl ifanc hyn oherwydd eu dyletswyddau gofalu gael effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol, eu hiechyd meddwl, eu haddysg a'u cyfleoedd cyflogaeth eu hunain. Mae'r pwysau ar y bobl ifanc hyn wedi gwaethygu yn sgil y pandemig—nid oes amheuaeth ynglŷn â hynny. Mae gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind yn waith gwerth chweil, ond mae hefyd yn anhygoel o anodd. Mae gwybod eich bod yn gallu dianc am seibiant yn gymhelliant mawr, yn enwedig lle rydych yn hyderus y bydd y person rydych yn gofalu amdano yn derbyn gofal yn eich absenoldeb. Fe sonioch chi am y £3 miliwn a ddarparwyd gennych i awdurdodau lleol yn gynharach yng Nghymru, ond hoffwn wybod sut y byddwch yn monitro hyn a'r cynnydd go iawn fod y £3 miliwn hwnnw'n mynd i gael ei wario at ddibenion priodol.

Diolch ichi am y cwestiwn pwysig hwnnw, unwaith eto, oherwydd yn bendant, mae anghenion gofalwyr ifanc yn flaenoriaeth uchel yng nghynlluniau'r Llywodraeth, a gwyddom cymaint y maent yn ei wneud wrth ofalu am eu hanwyliaid. Ar y £3 miliwn, mae £1.75 miliwn eisoes wedi'i roi i'r awdurdodau lleol i gefnogi'r cynlluniau seibiant presennol y maent yn eu darparu eisoes. Y £1.25 miliwn arall, ceir prosiect ymchwil sy'n edrych ar y ffordd orau o ddarparu seibiant byr, ac edrych ar yr hyn y mae'n rhaid ichi ei wneud er mwyn bod yn gymwys ar gyfer seibiant byr. Er enghraifft, a oes angen i chi fod wedi cael asesiad gofalwr? Rwy'n credu efallai nad oes angen bod wedi cael asesiad gofalwr. Felly, rydym yn ceisio gwneud gofal seibiant yn fwy hyblyg ac yn haws i ofalwyr ei gael, gan gynnwys gofalwyr ifanc. Felly, bydd y prosiectau seibiant hyn rydym yn eu cyflwyno ar gael i ofalwyr ifanc a gofalwyr o bob oed, ac rydym yn arbennig o awyddus i ofalwyr ifanc elwa arnynt. Felly, diolch eto am y cwestiwn pwysig hwnnw.

Cyfleusterau Meddygol Cymunedol

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y rôl y mae cyfleusterau meddygol cymunedol wedi'i chwarae yn ystod pandemig y coronafeirws? OQ56565

Diolch, Joel, am y cwestiwn.

Mae cyfleusterau meddygol cymunedol wedi chwarae ac yn parhau i chwarae rhan hanfodol drwy gydol y pandemig. Mae swyddogion yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i lywio'r gwaith o gynllunio ar gyfer brechlynnau atgyfnerthu ac i sicrhau bod mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol ehangach yn gytbwys er mwyn sicrhau bod y boblogaeth yn cael ei hamddiffyn rhag COVID.

Diolch i chi, Weinidog. A hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch a fy ngwerthfawrogiad i bawb sy'n gweithio yn y maes hwn ac sydd wedi mynd y tu hwnt i'r galw i helpu i ddiogelu a gwasanaethu eu cymunedau yn ystod y pandemig ofnadwy hwn.

Fel yr amlygwyd ddoe yn y Siambr, ac mewn sesiwn friffio ddiweddar gan Gymdeithas Feddygol Prydain, roedd rhai meddygfeydd yng Nghymru mewn sefyllfa i addasu yn ystod y pandemig a sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau diogel ac effeithiol i gleifion. Mae'r rhain nid yn unig wedi cynnwys parhau ag apwyntiadau wyneb yn wyneb, ond hefyd elfen o ymgynghori ar-lein a chyfunol. Fodd bynnag, nid yw pob meddygfa wedi gallu addasu, ac mae'r practis Cwm Taf yng Nghilfynydd wedi'i gau ers dechrau'r pandemig, gan adael llawer o drigolion y pentref heb ddarpariaeth ddigonol a'r angen i wneud trefniadau amgen mewn mannau eraill. Yn anffodus, nid yw ymyrraeth y bwrdd iechyd a'r cyngor iechyd cymuned wedi gallu newid y sefyllfa, a hoffwn ofyn i'r Gweinidog ymyrryd ar ran y trigolion, cysylltu â rheolwyr y practis, a cheisio sicrhau bod y feddygfa hon yn weithredol cyn gynted â phosibl.

14:35

Diolch yn fawr iawn, Joel, ac rwy'n ategu eich diolch am ymdrechion aruthrol ein gweithwyr GIG yn ystod y pandemig. Credaf fod cleifion yn deall bod angen i bopeth newid ac addasu yng ngoleuni'r pandemig, ac wrth gwrs, roedd nifer y cleifion a gâi eu caniatáu y tu mewn i safleoedd yn bwysig er mwyn lleihau'r risg i bawb. Credaf fod cyflwyno technoleg newydd wedi bod yn fuddiol mewn rhai amgylchiadau, ac yn sicr roedd rhai cleifion yn teimlo bod y defnydd o eConsult a brysbennu ar y ffôn yn eithaf defnyddiol. Ond rydych chi'n llygad eich lle: pan fydd pobl angen ymgynghori wyneb yn wyneb, mae'n bwysig ein bod yn hwyluso hynny hefyd.

Rydym yn clywed am wahanol achosion ledled Cymru, ac rydym yn cadw llygad ar y sefyllfa honno. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni ystyried y dysgu, y gwersi cadarnhaol rydym wedi'u dysgu o'r pandemig, ond byddaf yn edrych yn benodol ar y practis Cwm Taf. Os nad oes cyfle o gwbl i weld meddyg teulu,  credaf fod hynny'n amlwg yn codi rhai cwestiynau. Felly, fe ofynnaf i fy swyddogion edrych ar yr achos hwnnw yn benodol.

Yn dilyn y cwestiwn a ofynnwyd yn awr, tybed a all roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn ag a wnaeth nifer fawr fanteisio ar y £9.2 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer gwella ymateb dros y ffôn a fideo. Nawr, deallwn fod y pwysau ar ein cyfleusterau meddygol cymunedol yn enfawr yn ystod y pandemig, ond rydym am eu gweld yn dod allan o hyn a bod cleifion yn gallu cael ymgynghoriad dros y ffôn, e-ymgynghoriad neu e-ymgynghoriad fideo, neu'n syml i gael eu galwad wedi'i hateb hefyd.

Felly, byddai'n dda gwybod yn fy ardal fy hun beth sydd wedi bod yn digwydd gyda hynny, ac a wnaeth nifer fawr fanteisio ar hyn, ond credaf y byddai pob Aelod yma yn hoffi gwybod hefyd a yw eu practisau meddygon teulu a'u cyfleusterau meddygol cymunedol eu hunain wedi gwneud defnydd ohono wrth ddychwelyd at ryw normalrwydd newydd, lle mae pobl yn gwybod y gallant gael ymateb, y gallant gael apwyntiad, hyd yn oed os mai defnyddio'r negeseuon eConsult newydd yw'r apwyntiad hwnnw, ac y gallant wneud hynny'n gyflym. Felly, faint sydd wedi manteisio ar y £9.2 miliwn?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le wrth siarad am y normal newydd, oherwydd nid wyf yn credu ei bod yn iawn inni ddychwelyd at yr hen ffyrdd o weithio. Mae angen inni fanteisio ar dechnoleg newydd, ac rwy'n falch o ddweud bod llawer iawn wedi manteisio ar y cyllid o £9.2 miliwn a oedd ar gael hyd at fis Mawrth eleni. Rwy'n croesawu diddordeb yr Aelod yn y pwnc hwn. Fe fydd yn ymwybodol fod gennym rai safonau mynediad hefyd a gyhoeddwyd gan y Gweinidog iechyd blaenorol, ac roeddent yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn gwybod beth oedd y disgwyliad. Felly, pan fyddent yn cysylltu â'r meddyg teulu, roeddent yn gwybod am y safonau darparu gwasanaeth a ddisgwylid, ac roedd cymhelliad yno i feddygon teulu, ac os ydynt yn cyrraedd y safonau, rhoddir taliadau ychwanegol iddynt. Nawr, rydym yn aros i glywed canlyniadau hynny, ac felly, bydd y canlyniadau hynny'n cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin, ac os ydynt wedi cyrraedd y safonau, byddant yn cael y cymorth ariannol ychwanegol hwnnw. Felly, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau gyda'r wybodaeth am safonau mynediad, a chyflawni'r gwasanaethau hynny ledled Cymru, pan fydd y data hwnnw ar gael ddiwedd mis Mehefin.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn fy rôl newydd, yn gyntaf hoffwn ddweud llongyfarchiadau ar eich penodiad, ac rwy'n gobeithio gweithio'n adeiladol gyda chi, yn enwedig mewn perthynas â'r heriau sydd o'n blaenau, heriau y mae'n rhaid inni eu hwynebu gyda'n gilydd fel gwlad.

Mae fy nghyd-Aelodau a minnau wedi croesawu'r cyhoeddiad o £1 biliwn i helpu'r GIG i adfer o'r pandemig, a'r gyfran gyntaf o £100 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer technoleg a staff newydd. Mae sawl mis wedi mynd heibio bellach ers cyhoeddi fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad y GIG ac rydym yn dal i aros i weld ble y caiff y £900 miliwn arall ei wario. A allwch ddweud wrthym heddiw sut a ble y caiff yr arian hwn ei dargedu o fewn gofal sylfaenol ac eilaidd yng Nghymru?

Wel, diolch yn fawr iawn, ac a gaf innau hefyd longyfarch Russell George unwaith eto? Rwy'n credu fy mod wedi llongyfarch yn gynamserol y tro diwethaf. Yn gyntaf oll, rwy'n siŵr eich bod chi, fel fi, yn croesawu'r £1 biliwn ychwanegol y byddwn yn ei ddarparu yn benodol ar gyfer ceisio mynd i'r afael â'r materion sydd wedi codi o ganlyniad i'r pandemig. Fel y gŵyr yr Aelod, mae ôl-groniad sylweddol o waith y bydd angen mynd i'r afael ag ef, a gadewch i ni ei wynebu, nid ydym wedi cefnu ar y pandemig COVID ar hyn o bryd. Felly, mae cyfyngiadau difrifol o hyd ar ein gallu i ddychwelyd at wasanaeth arferol.

Rydym eisoes wedi cyhoeddi'r £100 miliwn. Mae hwnnw wedi'i ddosbarthu i bob un o'r byrddau iechyd yng Nghymru. Rwyf wedi gofyn yn awr i'r awdurdodau iechyd gyflwyno eu cynigion ar gyfer sut y credant y dylem fynd i'r afael â'r ôl-groniad. Felly, mae'r cynigion hynny'n cael eu dadansoddi gan fy swyddogion ar hyn o bryd. Byddwn yn llunio cynlluniau blynyddol gyda hwy, ac yn sgil hynny, byddwn yn gwneud cais i'r Gweinidog cyllid i ryddhau'r cyllid ychwanegol. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau cydbwysedd cywir rhwng bod yn benodol iawn ynglŷn â'r hyn y byddwn yn ei wneud, sut rydym yn mynd i sicrhau darpariaeth yn ddaearyddol, ond hefyd ein bod yn cyrraedd yr achosion anoddaf a'r achosion clinigol blaenoriaethol cyn gynted ag y gallwn hefyd. Felly, y cyllid ychwanegol hwnnw, rwy'n awyddus iawn i ddechrau gwario, fel y gallwch ddychmygu, ond mae'n rhaid inni weithio mewn partneriaeth â'r byrddau iechyd a sicrhau ein bod yn deall beth yw eu blaenoriaethau hwy hefyd.

14:40

Diolch i chi, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich ateb. Rwy'n tybio nad yw'n fater o'r awdurdodau iechyd yn unig, ond gweithwyr iechyd proffesiynol eraill y mae angen i chi weithio gyda hwy yn ogystal, ac mae llawer o'r rhai y siaradais â hwy dros yr wythnosau diwethaf yn teimlo'n siomedig nad ydynt eto wedi cael y cyllid hwnnw wedi'i ddyrannu a'i gyhoeddi. Rwy'n derbyn y broses rydych wedi'i chrybwyll a'i hamlinellu, ond rwy'n credu mai eu pryder yw bod rhestrau aros yn parhau i dyfu wrth i amser fynd yn ei flaen. Fel y soniais wrthych ddoe, mae Cymru bellach yn edrych ar restr aros o un o bob tri yn aros dros flwyddyn, o'i gymharu ag un o bob 11 yn Lloegr, ac nid COVID-19 yn unig sydd ar fai yma: cyn y pandemig, roedd nifer y rhai a oedd yn aros dros flwyddyn am driniaeth yn deirgwaith y nifer ar gyfer Lloegr gyfan.

Felly, er fy mod yn gwerthfawrogi yr hyn a ddywedoch chi, Weinidog—rwy'n deall i raddau yr hyn a ddywedoch chi—fe fyddwch yn amlwg yn ymwybodol o ymrwymiadau eich rhagflaenydd hefyd y byddai'n cymryd tymor seneddol llawn i glirio'r ôl-groniad o gleifion. Fe sonioch chi yn eich ateb cyntaf i mi ei bod yn mynd i gymryd amser i wneud hyn, a chredaf ein bod i gyd yn cydnabod ac yn deall hynny. Felly, a allwch roi unrhyw amserlenni i ddarparwyr y GIG allu gwybod pryd y byddant yn cael y cymorth ariannol hwn, fel y gallant gynllunio ble i'w dargedu? Rwy'n gwerthfawrogi'r broses rydych wedi'i hamlinellu, ond a allwn gael dyddiadau ynghlwm wrth hynny o bosibl?

Diolch yn fawr. Wel, dyma'r broses: mae'r byrddau iechyd yn cyflwyno eu cynlluniau blynyddol, nid ydym yn disgwyl derbyn y cynlluniau blynyddol hynny tan ddiwedd yr wythnos hon, a chyn gynted ag y bydd hynny wedi'i wneud, yn amlwg byddwn yn dadansoddi'r rheini. Byddwn yn edrych ar ble y credwn y dylai'r blaenoriaethau fod ac yna byddwn yn gwneud cyflwyniad i'r Gweinidog cyllid i weld a allai fod yn bosibl, efallai, ei gael mewn cyllideb atodol yn ddiweddarach eleni hyd yn oed, fel y gallwn ddechrau'r broses o wario arian. Rydym yn ymwybodol iawn os ydym am glirio'r ôl-groniad fod angen inni roi pethau ar waith, a'r ffordd orau o wneud hynny yw gwario'r arian ymlaen llaw ar ddechrau'r flwyddyn. Hefyd, wrth gwrs, un o'r pethau y maent yn awyddus i'w wybod yw a fydd hwn yn gyllid untro neu'n gyllid amlflwydd, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr o ran eu parodrwydd i ymrwymo ac i ba raddau. Felly, mae'r holl sgyrsiau hynny'n parhau.

Diolch, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi rhoi ychydig mwy o fanylion am yr amserlen. Fe gyfeirioch chi at gael y wybodaeth yn ôl gan y byrddau iechyd erbyn wythnos nesaf, rwy'n credu ichi ddweud. Ac mae'n debyg mai'r cwestiwn wedyn yw amserlenni ynghylch y broses o pryd y byddwch yn gwneud yr ymrwymiadau hynny, a chyflwyno'r cynigion hynny i'r Gweinidog cyllid, a phryd y credwch y bydd y Gweinidog cyllid mewn sefyllfa i ddweud wrth y Siambr sut y bydd y £900 miliwn hwnnw'n cael ei ddyrannu.

Nodais bryderon ddoe hefyd am y gweithlu, a sut y mae'n hanfodol cael strategaeth y gweithlu i wrthsefyll y prinder difrifol yn ein gweithlu GIG, fel nad ydym yn wynebu problem staff wedi ymlâdd wrth geisio mynd i'r afael â'r ôl-groniad cynyddol o driniaethau, a gwn eich bod yn deall ac yn cytuno â'r pryder hwnnw. Nawr, rwy'n gwybod ym maniffesto'r Blaid Lafur eich bod wedi cyfeirio at 12,000 o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol, ond yr hyn na ddywedai'r maniffesto, felly rwy'n gobeithio y gallwch ddweud wrthym heddiw, ni roddai lawer o fanylion inni ynglŷn â'r dadansoddiad o bwy y bwriadech ei recriwtio i fynd i'r afael â'r ôl-groniad. Felly, rwy'n credu ei bod yn hanfodol o ran diogelwch cleifion ac o ran y gofynion cyfreithiol hefyd o dan Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 fod gennym ddigon o staff ar ein wardiau hefyd wrth gwrs. Rwy'n gwybod y byddwch yn cytuno â hynny.

Felly, a allwch amlinellu heddiw, Weinidog, faint o feddygon a nyrsys y byddwch yn eu recriwtio, faint o amser y credwch y bydd yn ei gymryd i'w gyflawni, a faint o'r £900 miliwn y byddwch yn ei wario'n benodol ar recriwtio? Nawr, rwy'n sylweddoli y gallai rhywfaint o'r ateb hwn ymwneud â'r wybodaeth rydych yn aros i'w chael, ond byddem yn ddiolchgar os gallwch roi unrhyw oleuni ar hynny i ni, Weinidog.

14:45

Wel, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cynhyrchu strategaeth y gweithlu iechyd, gan weithio'n agos gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i nodi lle mae'r bylchau mewn perthynas â lle mae gwir angen inni ganolbwyntio ein hymdrechion, a gwnaed llawer iawn o waith gyda'r sefydliad hwnnw dros y misoedd diwethaf. Ar y 12,000 o bobl y byddwn yn eu recriwtio ar gyfer hyfforddiant, mae rhywfaint o'r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill ac rwy'n hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda dadansoddiad pellach o ble yn union y credwn y bydd y rheini.FootnoteLink Mae gwahaniaeth mawr—. Nid oes unrhyw bwynt dweud ein bod yn mynd i benodi x o feddygon newydd os nad ydynt yn y broses o hyfforddi, mae'r cyfan yn wastraff amser. Felly, y peth cyntaf i ddigwydd yw bod yn rhaid i chi eu hyfforddi ac yna gwneud yr ymrwymiad ariannol i sicrhau y gellir rhoi swydd iddynt ar ddiwedd y broses honno.

Yn amlwg, rydym yn pryderu'n fawr ynglŷn â sicrhau ein bod yn cadw at y lefelau staffio rydym wedi'u pennu yn y gyfraith wrth gwrs, ac fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi gwneud llawer yn y Llywodraeth hon i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gynhyrchu ein pobl leol ein hunain. Felly, mae'r fwrsariaeth i nyrsys, er enghraifft, yn rhywbeth y gwnaethom ei gadw yn y Blaid Lafur yng Nghymru, ac mae arnaf ofn fod Senedd San Steffan, eich Llywodraeth chi, y Blaid Geidwadol, wedi penderfynu tynnu'r gefnogaeth honno yn ôl.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Weinidog, mi wnes i ofyn i chi ddoe wrth ymateb i’r datganiad ar y diweddaraf ar y coronafeirws ba gynlluniau oedd yna ar y gweill ar gyfer cyflymu brechu neu surge vaccination mewn ardaloedd haint uchel, ac yn enwedig ardaloedd, wrth gwrs, lle mae'r amrywiolyn delta yn achosi pryder. Dwi ddim yn teimlo fy mod wedi cael ateb fel yr oeddwn i eisiau i'r cwestiwn hwnnw, felly gadewch i mi ofyn yn y ffordd yma: os ydy bwrdd iechyd mewn ardal lle mae yna bryder—ac rydym yn sôn am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd—yn gallu dangos bod ganddyn nhw'r capasiti i wneud mwy o frechu, a fyddwch chi fel Llywodraeth yn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu cael cynnydd mewn cyflenwad o'r brechiad er mwyn gallu cyflymu'r broses?

Wel, diolch yn fawr. Wrth gwrs, beth rŷn ni wedi'i wneud yw rhoi lot fwy o ryddid i'r byrddau iechyd gael yr hyblygrwydd sydd ei angen arnyn nhw i wneud rhai o'r penderfyniadau yna os oes angen. Felly, rŷn ni eisoes wedi rhoi caniatâd iddyn nhw os ydyn nhw'n gweld bod angen iddyn nhw gynyddu faint maen nhw'n brechu a ble maen nhw'n brechu. Wedyn, mae'r hyblygrwydd gyda nhw i ymateb yn y ffordd yna. Ar hyn o bryd, does dim problem o ran cyflenwad. Dwi newydd ddod o gyfarfod gyda'r Gweinidog yn Llundain sy'n gyfrifol am gyflenwad y brechlyn a does yna ddim problem ar hyn o bryd rŷn ni'n ei rhagweld. Felly, rŷn ni'n hyderus ein bod ni mewn sefyllfa lle, os oes angen i'r bwrdd iechyd gyflymu'r broses—. Ac, wrth gwrs, rŷn ni mewn sefyllfa anhygoel yma yng Nghymru lle mae bron bob un dros 18 oed wedi cael cynnig y brechlyn cyntaf. Wrth gwrs, mae hynny'n golygu y gallwn ni nawr ganolbwyntio ar yr ail frechlyn yna, sydd mor bwysig i ddiogelu pobl rhag yr amrywiolyn newydd delta yma.

Diolch am yr ateb. Dwi'n meddwl eich bod chi'n dal i fethu'r pwynt rhywfaint. Gofyn ydw i nid sut rydym yn cyflymu'r ail frechiad yn gyffredinol—mae pethau'n mynd yn grêt o ran y brechiad—ond sut mae canolbwyntio mwy o gyflenwad yn yr ardaloedd lle mae angen surge vaccination. Ac os daw'r cais yna gan fwrdd iechyd, dwi'n gobeithio y gallwch chi, fel Llywodraeth, sicrhau cyflenwad pellach iddyn nhw. Mae'r twf yr amrywiolyn delta yn ein hatgoffa ni wrth gwrs fod hwn yn bandemig sydd yn dal efo ni. Mae'n rhaid cario mlaen i chwilio am ffyrdd i ymateb iddo fo a diogelu bywyd.

Rŵan, mi wnes i grybwyll efo chi bythefnos yn ôl y potensial o fuddsoddi mewn mesurau diheintio yn defnyddio golau uwchfioled—UVC—fel rhan o'r frwydr yn erbyn COVID. Dwi'n deall bod Llywodraeth Iwerddon bellach wedi cytuno i ddarparu a sicrhau awyr glân mewn ysgolion yn Iwerddon trwy UVC a hidlo awyr. Yma yng Nghymru, dwi'n deall fod sir Gaerfyrddin yn barod i beilota hyn mewn ysgolion. Mae Cyngor Sir Ynys Môn hefyd, dwi'n gwybod, yn eiddgar iawn i dreialu hyn—llawer o waith wedi bod yn cael ei wneud yno—ond mi fydd angen cefnogaeth Llywodraeth. A wnewch chi edrych, felly, ar gymeradwyo cynlluniau peilot fel hyn i ddechrau ar frys, ac wedyn sicrhau, wrth gwrs, fod yr arian yn cael ei glustnodi fel y gallwn ni edrych tuag at ddefnyddio UVC, sydd ddim yn dechnoleg newydd o gwbl ond sydd â defnydd newydd pwysig iddo fo yn sgil y pandemig?  

14:50

Diolch. Rŷm ni eisoes wedi rhoi arian tuag at ysbytai sydd angen mwy o help o ran ventilation. Felly, er enghraifft, yn ysbyty Llandochau, rŷm ni wedi buddsoddi £830,000 yn ychwanegol i'w helpu nhw gyda'u systemau nhw, ac, wrth gwrs, mae'n bwysig bod ni'n deall y pwysigrwydd yna o ventilation. Nawr, o ran y syniadau yma am UVC, dwi ddim yn ymwybodol ein bod ni wedi edrych mewn iddyn nhw mewn unrhyw fanylder eto, ond dwi'n hapus i fynd i ffwrdd ac i edrych ar hynny.

Mae hefyd yn bwysig, dwi'n meddwl, ein bod ni'n ystyried ysgolion. Nawr yw'r amser i ni sicrhau bod yr ysgolion yn agor eu ffenestri ac yn defnyddio'r cyfle yna. Bydd pethau'n wahanol iawn erbyn y gaeaf, a phwy â wŷr ba sefyllfa fyddwn ni ynddi ar yr adeg yna. Felly, mae'n rhywbeth, dwi'n meddwl, sy'n werth edrych mewn iddo o ran sut rŷm ni'n mynd i helpu'r sefyllfa, achos mae'n rhaid i ni ddysgu byw gyda'r feirws yma, fel rŷch chi'n dweud.  

Dwi'n ddiolchgar am yr ymrwymiad positif yna, ac, er gwybodaeth i chi, edrych mae Ynys Môn ar gyflwyno UVC mewn ystafelloedd lle mae hi'n anodd sicrhau llif da o awyr drwy agor ffenestri.

Yn olaf, mae'r wythnos yma yn Wythnos Gofalwyr, a dwi am gymryd y cyfle yma i dalu teyrnged a diolch i ofalwyr ar hyd a lled Cymru sy'n gweithio'n ddygn yn dawel i ofalu am anwyliaid a theulu, a, drwy eu gwaith, sicrhau bod yr NHS yn gallu gweithredu o gwbl ac arbed biliynau o bunnau. Rhywbeth mae gofalwyr wedi sôn wrthyf i maen nhw eisiau ei gael ydy un pwynt cyswllt. Mae gofalwyr yn gorfod siarad efo'r bwrdd iechyd, gwahanol adrannau o'r bwrdd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector hyd yn oed, ac mae hynny'n rhoi straen ychwanegol arnyn nhw. Allaf i ofyn i chi ba gamau y gallwch chi, mewn cydweithrediad efo'r Dirprwy Weinidog dros ofal, eu cymryd i drio cydlynu gwasanaethau a datblygu un pwynt cyswllt er mwyn rhoi cymorth i bobl sydd wir, wir yn ei haeddu fo? 

Diolch yn fawr, a dwi eisiau diolch hefyd am y gwaith anhygoel mae gofalwyr yn ei wneud ar draws ein gwlad ni yn diogelu ein henoed, ond hefyd pobl ifanc sydd â phroblemau difrifol. Dwi'n deall mai beth mae'n rhaid i ni ei wneud yw gwneud popeth rŷm ni'n gallu i helpu i wneud bywydau'r gofalwyr yma yn haws. A dwi'n deall y pwynt, os oes rhaid iddyn nhw gysylltu gyda llu o fudiadau gwahanol, fod hynny'n cymhlethu pethau. Dwi'n hapus i siarad ac i gael gair gyda'r Dirprwy Weinidog i weld a oes yna unrhyw gamau y gallwn ni eu gwneud yn y maes yna. Dwi'n siŵr ei bod hi lot yn fwy ymwybodol o'r hyn sydd ar gael eisoes, ond hefyd i weld a oes yna ffordd o symlhau'r system. 

Cefnogi Menywod sy'n Profi'r Menopos

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi menywod yng Nghymru sy'n profi'r menopos? OQ56536

Diolch yn fawr, Vikki. Mae Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn ag iechyd menywod, gan gynnwys materion yn ymwneud â'r menopos, ac yn disgwyl i bob bwrdd iechyd ddarparu ystod lawn o wasanaethau i fenywod sy'n profi'r menopos yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.

Diolch, Weinidog, a chroeso i'ch rôl newydd. Mae'r menopos, wrth gwrs, yn gyflwr a fydd yn effeithio ar hanner poblogaeth Cymru ar ryw adeg yn eu bywydau, gyda symptomau'n cynnwys problemau cysgu, problemau gyda chanolbwyntio, problemau treulio a chymalau stiff a phoenus. Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod saith o bob 10 menyw yn dweud bod y menopos yn effeithio'n sylweddol ar eu lles meddyliol, ac mae wyth o bob 10 menyw yn dweud bod sgil-effeithiau'r menopos wedi cael effaith negyddol sylweddol ar eu gallu i gyflawni eu swyddi'n effeithiol. Mae bron i 100 o glinigau menopos ledled y DU, ond dim ond tri o'r rhain sydd yng Nghymru. Weinidog, gyda'r menopos yn cael effaith mor sylweddol ar iechyd, llesiant, ac yn wir ar economi Cymru, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella'r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd a sicrhau bod yr holl fenywod y mae'r menopos yn effeithio arnynt yn cael eu cefnogi'n ddigonol?

Diolch yn fawr iawn, Vikki, ac rwy'n gwybod fy mod i yn yr oedran hwnnw yn awr lle mae'n rhaid i mi wynebu rhai o'r problemau hyn ac yn sicr, rwy'n gwybod bod gan bob unigolyn symptomau gwahanol ac yn gorfod ymdrin â hyn yn ei ffordd ei hun. Yng Nghymru rydym yn sicrhau bod pob unigolyn—. Mae angen teilwra'r cyngor i'r unigolyn penodol. Mae gennym bedwar clinig cydnabyddedig yng Nghymru sy'n cael eu cydnabod gan Gymdeithas Menopos Prydain: un yn Llantrisant, un yng Nghaerllion, un yn Wrecsam, ac un yng Nglannau Dyfrdwy. A'r hyn rydym yn ceisio'i wneud yw sicrhau bod gennym bwynt mynediad drwy'r meddyg teulu, a dyna'r system sy'n gwneud llawer o synnwyr yn fy marn i. Wedyn y syniad yw y gall y meddygon teulu, a ddylai fod wedi cael rhywfaint o hyfforddiant a osodwyd gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr, ddilyn y cyngor a roddwyd gan NICE, ac os oes angen, byddant yn atgyfeirio at y clinigau hynny y sonioch chi amdanynt. Felly, dyna'r system sydd gennym yng Nghymru, ond rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gynnal adolygiad o'r ddarpariaeth bresennol mewn perthynas â'r menopos i asesu'r ddarpariaeth yn unol â chanllawiau NICE, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn rydym yn disgwyl i bobl fod yn ei ddarparu.

14:55

Yn gyntaf, a gaf fi longyfarch y Gweinidog ar ei rôl newydd, y Dirprwy Weinidog iechyd meddwl ar ei rôl hithau, a chithau am barhad eich rôl chi, Julie?

Fel rhywun sydd â phleserau'r menopos y mae Vikki newydd eu hamlinellu i ddod, yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, yn anffodus, rwyf innau hefyd o'r farn fod hwn yn fater hanfodol bwysig i siarad amdano a mynd i'r afael ag ef, ac nid i fenywod yn unig, ond i ddynion ddeall a siarad amdano hefyd. Fel yr ymgyrchodd fy nghyn gyd-Aelod, Suzy Davies, a hynny'n gwbl briodol a llwyddiannus, mae'n rhywbeth y dylem i gyd siarad amdano yn awr. Nid yw'n bwnc tabŵ mwyach a bydd yn cael ei gynnwys yn awr wrth gyflwyno'r cwricwlwm newydd. Mae Triniaeth Deg i Fenywod Cymru a'u hymgyrch Not Just Hot Flushes yn amcangyfrif bod un o bob 10 menyw sy'n profi'r menopos yn y DU yn gadael eu swyddi, fel yr amlinellodd Vikki, o ganlyniad i symptomau na ellir eu rheoli, diffyg triniaeth briodol, diffyg dealltwriaeth cyflogwyr, a mynediad gwael at wasanaethau. Gall yr effaith y gall y menopos ei chael ar y gweithlu fod yn wanychol fel y gwyddoch, a dylai fod mwy o driniaeth ar gael a gwell dealltwriaeth o'r problemau a wynebir. Ar hyn o bryd, fel y dywedoch chi, mae pedwar clinig ar gael. Un ohonynt yw clinig rhagorol dan arweiniad nyrsys yng nghyfleuster bwrdd iechyd Aneurin Bevan, ond mae rhestr aros o bedwar mis a hanner i'w ddefnyddio. Mae'n llwyddiannus iawn, felly efallai fod hwnnw hefyd yn syniad am glinig dan arweiniad nyrsys y dylech ymchwilio iddo ac efallai ei gyflwyno am ei fod yn llwyddiannus. Yr amser aros yw'r broblem gyda hwnnw.

A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i sicrhau bod clinigau arbenigol fel y rhain ar gael yn rhwydd ledled Cymru, a'ch bod yn gweithio gydag elusennau a sefydliadau cyflogwyr perthnasol i sicrhau bod menywod sy'n mynd drwy'r trafferthion hyn sy'n gysylltiedig â'r menopos yn cael y ddealltwriaeth a'r cymorth sydd ei angen arnynt? Diolch.

Diolch yn fawr. Hoffwn innau hefyd dalu teyrnged i Suzy Davies am y gwaith gwych a wnaeth i roi hyn ar yr agenda. Roeddwn yn falch iawn mai un o'r pethau olaf a wnaeth y Gweinidog addysg oedd ymrwymo y byddai materion iechyd menywod yn y cwricwlwm yn rhan o'r hyn y mae pawb yn dysgu amdano yn yr ysgol, oherwydd rydych yn llygad eich lle: nid mater i fenywod yn unig yw hwn; mae'n rhaid i ddynion ei ddeall hefyd. Ac rwy'n falch iawn fod llawer o undebau yng Nghymru hefyd wedi hyrwyddo'r achos hwn ac wedi sicrhau bod mwy o ymwybyddiaeth o'r mater ledled Cymru.

Roeddwn yn gwrando ar Woman's Hour heddiw ar y ffordd i mewn, ac roedd yn ddiddorol iawn, yn sôn am holl fater iechyd menywod a'r angen i ganolbwyntio'n wirioneddol arno a sicrhau ein bod o ddifrif yn ei gylch. Yn sicr, yn Llywodraeth Cymru, rydym o ddifrif yn ei gylch. Mae gennym grŵp cyfeirio iechyd menywod sy'n edrych yn fanwl iawn ar y pethau hyn, er mwyn sicrhau ei fod yn cael y sylw y mae'r materion hyn yn ei haeddu, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am hynny wrth i mi barhau yn y rôl hon. Ond yn sicr, rydym yn amlwg yn pryderu am hygyrchedd ar hyn o bryd. Mae'r pandemig wedi gwthio popeth yn ôl. Ond rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle: gall rhai arbenigwyr nyrsio helpu llawer iawn yn y pethau hyn, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni geisio cyflyru pobl i gael pobl i ddeall mewn gwirionedd y gall arbenigwr fod yn rhywun sydd wedi bod yn gwneud y gwaith ac sydd â gwybodaeth arbenigol absoliwt amdano, rhywun nad yw o reidrwydd yn feddyg ymgynghorol neu'n feddyg teulu, a gallant fod yn ddefnyddiol tu hwnt ar adegau.

15:00
Rhagnodi Cymdeithasol

4. Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo defnyddio mwy o ragnodi cymdeithasol mewn practisau meddygon teulu? OQ56570

Diolch, Huw. Mae egwyddorion presgripsiynu cymdeithasol yn gyson â pholisi ehangach Llywodraeth Cymru, megis y model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru a 'Cymru Iachach'. Mae ein grŵp gorchwyl a gorffen ar bresgripsiynu cymdeithasol a sefydlwyd yn ddiweddar yn ceisio deall sut y gallai presgripsiynu cymdeithasol helpu Cymru i adfer yn sgil COVID-19, ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ymhlith eraill.

Rwy'n croesawu'r ymateb hwnnw'n fawr, Weinidog, oherwydd pan oeddwn yn llawer iau, ddegawdau'n ôl, pan oeddwn yn gynorthwyydd a rheolwr canolfan chwaraeon—gwn ei bod yn anodd credu hynny—fi oedd un o'r rhai cyntaf i gyflwyno ymarfer corff ar bresgripsiwn a chynlluniau atgyfeirio gan feddygon teulu yn ein canolfannau ledled Cymru a Lloegr ar y pryd. Ond wrth gwrs, mae pethau wedi symud ymlaen, rydym wedi arloesi. Bydd presgripsiynu cymdeithasol a chael pobl allan i'r awyr agored, a cherdded a beicio a bod yn rhan o grwpiau cyswllt cymdeithasol yn trechu unigrwydd ac arwahanrwydd hefyd. Gwyddom fod hyn yn talu ar ei ganfed mewn cynifer o ffyrdd, ond mae rhwystrau i feddygon teulu—yr amser, yr esbonio ac yn y blaen. Felly, Weinidog, beth yn eich barn chi y bydd y tasglu'n ei ddangos yw'r prif rwystrau i bresgripsiynu cymdeithasol. Sut y gallwn gael presgripsiynu cymdeithasol ym mhob rhan o Gymru, ym mhob meddygfa, ym mhob cyfleuster gofal sylfaenol, fel y gallwn roi'r dewis i bobl wneud rhywbeth hollol wahanol er mwyn eu hiechyd meddwl a'u lles corfforol hefyd?

Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw, Huw. Un o rolau allweddol y grŵp gorchwyl a gorffen yw datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol a fydd yn cynnwys ymarfer cyffredinol. Bydd hefyd yn archwilio'r rhwystrau i ddatblygu presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru. Fodd bynnag, gwyddom eisoes mai un o'r rhwystrau mwyaf y mae meddygon teulu yn eu hwynebu yw gwybod pa weithgareddau sydd ar gael iddynt yn lleol. Ac mae ymrwymiad yn ein strategaeth 'Cysylltu Cymunedau' i ymgorffori'r defnydd o Dewis, ein cyfeiriadur llesiant cenedlaethol o wasanaethau a gweithgareddau, gyda darparwyr gwasanaethau a'r cymunedau.

Rwy'n siŵr y byddwch yn falch o wybod fod pob bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn bwrw ymlaen â gwaith yn y maes hwn, gan gynnwys Cwm Taf Morgannwg, sy'n cefnogi nifer o brosiectau presgripsiynu cymdeithasol, yn enwedig y prosiect Cysylltu Cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nod y prosiect hwn yw cefnogi oedolion hŷn, pobl ag anableddau dysgu a gofalwyr pobl sy'n agored i niwed i ddatblygu rhwydweithiau cymorth yn eu cymunedau a chryfhau gallu'r trydydd sector i ddiwallu anghenion. Ar ddiwedd mis Mawrth 2021, roedd 4,444 o bobl wedi elwa o'r prosiect. Mae hybiau datblygu cymunedol hefyd yn cael eu datblygu ar draws Rhondda Cynon Taf, sy'n cynnwys datblygu hybiau ar draws y fwrdeistref i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus gwell, effeithlon, cydgysylltiedig ac wedi'u lleoli'n agos at ble mae eu hangen. Ar 21 Mawrth, roedd cydgysylltwyr cymunedol wedi ymateb i bron i 4,000 o geisiadau am gymorth, gan ddargyfeirio'r angen oddi wrth ymyriadau gwasanaeth statudol i oedolion neu ymyriadau eraill a darparu cymorth cynnar i bobl yn y gymuned.

Weinidog, mae gan bresgripsiynu cymdeithasol rôl unigryw i'w chwarae yn atal yn gyffredinol, yn enwedig mewn perthynas â gofal cymdeithasol. Gall cadw'r corff yn egnïol atal cwympiadau, a gall cadw'r meddwl yn egnïol ymladd camau cyntaf dementia. Rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd gan Betsi Cadwaladr a'r awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru i ddatblygu Gwnaed yng Ngogledd Cymru, sy'n helpu i gydlynu presgripsiynu cymdeithasol ar draws y gogledd. Sut y bydd eich Llywodraeth yn gweithio gyda Gwnaed yng Ngogledd Cymru a'r trydydd sector ar draws y rhanbarth er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd presgripsiynu cymdeithasol? Diolch.

Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, un o rolau allweddol y grŵp gorchwyl a gorffen fydd defnyddio'r arferion da sy'n digwydd mewn rhai rhannau o Gymru a sicrhau bod yr arferion da hynny'n cael eu cyflwyno ledled Cymru. Mae mewnbwn gan y byrddau iechyd i'r grŵp gorchwyl a gorffen, ac rwy'n awyddus iawn ein bod yn bwrw ymlaen â'r angen am fframwaith cenedlaethol fel y gellir sicrhau cysondeb yn y cynnig presgripsiynu cymdeithasol i bobl yng Nghymru. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod hefyd, serch hynny, mai dim ond un rhan o'r hyn y mae angen inni ei wneud yw presgripsiynu cymdeithasol er mwyn sicrhau ymyrraeth gynnar i bobl sydd naill ai mewn trallod neu sydd ag anghenion cymorth ychwanegol. Ond mae'n amlwg fod ganddo ran bwysig iawn i'w chwarae.

15:05
Iechyd Meddwl Menywod

5. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl menywod yn dilyn pandemig COVID-19? OQ56569

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Jane. Ym mis Hydref 2020, gwnaethom ailgyhoeddi cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' 2019-22, sydd wedi'i gryfhau mewn meysydd allweddol o ganlyniad i effaith y pandemig. Rydym yn deall bod COVID wedi effeithio ar fenywod a'i effaith economaidd-gymdeithasol. Yn bwysig, er bod y cynllun yn parhau i ganolbwyntio'n allweddol ar feysydd fel gwella cymorth iechyd meddwl amenedigol, mae'n gwneud hynny yng nghyd-destun gwelliannau parhaus i wasanaethau cymorth iechyd meddwl ehangach.

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi eich llongyfarch ar eich rôl hefyd? Llongyfarchiadau. Mae adroddiad 'Cyflwr y Sector' Cymorth i Fenywod Cymru yn canolbwyntio ar y sefyllfa i fenywod yr effeithiwyd arnynt gan drais domestig. Maent yn catalogio amrywiaeth o wasanaethau cymorth yn y sector hwn, ar gyfer menywod sy'n gwneud penderfyniadau am adael perthynas a'r rhai yr effeithiwyd arnynt ac sy'n oroeswyr. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog roi sicrwydd y bydd ffocws parhaus ar iechyd meddwl menywod yr effeithiwyd arnynt gan drais domestig, gan gynnwys menywod o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, yn enwedig o ystyried bod hwn yn ymrwymiad hirdymor i wasanaethau i helpu adferiad dioddefwyr, staff a gwirfoddolwyr? Diolch yn fawr iawn.

A gaf fi ddiolch i Jane Dodds am y cwestiwn pwysig hwnnw ac am ei chyfarchion?

Wrth gwrs, mae pawb ohonom wedi bod yn treulio mwy o amser gartref yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac rwy'n ymwybodol iawn nad lloches yw cartref i ormod o bobl. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi arian sylweddol yn y maes hwn. Mae'r sector wedi derbyn dros £4 miliwn o gyllid ychwanegol i ymdrin ag effaith COVID-19; dyna 67 y cant ychwanegol o'i gymharu â'r llynedd. Rydym hefyd wedi canolbwyntio ein hymgyrchoedd cyfathrebu ar helpu pobl i gadw'n ddiogel. Mae ein llinell gymorth Byw Heb Ofn yn wasanaeth 24/7 am ddim i bob dioddefwr a goroeswr cam-drin domestig a thrais rhywiol, a'r rhai sy'n agos atynt, ac mae wedi aros ar agor gan gynnig gwasanaeth llawn drwy gydol y pandemig.

Yn ogystal â hynny, rydym wedi darparu mynediad agored i'r modiwl e-ddysgu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i aelodau'r gymuned, ac mae dros 50,000 o bobl wedi dilyn y cwrs hwnnw, sy'n galluogi pobl i gael gwell dealltwriaeth er mwyn helpu i sicrhau bod cymorth ar gael. Yn ein cyllideb eleni, rydym wedi ymrwymo £42 miliwn ar gyfer darpariaeth iechyd meddwl, lefel ychwanegol a rheolaidd sylweddol o gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a fydd yn cynyddu cyllid sylfaenol byrddau iechyd er mwyn cefnogi anghenion iechyd meddwl sy'n newid o ganlyniad i COVID. 

Hoffwn sicrhau'r Aelod ein bod wedi ymrwymo i wneud gwasanaethau'n hygyrch ac yn ymatebol i anghenion unigolion, ac mae hynny'n cynnwys anghenion menywod a'r rhai o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Yr hyn rwy'n ei gydnabod, serch hynny, yw bod ymateb i'r ystod eang o broblemau cymdeithasol sy'n aml yn achosi iechyd meddwl gwael yn galw am ddull amlasiantaethol a thrawslywodraethol, ac rwy'n ymrwymedig i yrru'r dull hwnnw yn ei flaen gyda phartneriaid a gweddill Llywodraeth Cymru.

Disgwylir y bydd mwy na hanner y boblogaeth yn byw gyda salwch hirdymor erbyn 2023. Mae hynny'n ddifrifol, yn enwedig gan y canfuwyd bod dros ddwy ran o dair o'r bobl sy'n dioddef o gyflwr iechyd corfforol hirdymor hefyd yn dioddef o iechyd meddwl gwael. Mae'r Athro Adrian Edwards, cyfarwyddwr canolfan dystiolaeth COVID-19 Cymru, wedi rhybuddio y bydd sgil-effeithiau byw gyda chyflyrau cronig ar iechyd meddwl yn broblem enfawr wrth i Gymru gefnu ar y pandemig, felly mae angen gweithredu cadarnhaol ar draws y wlad.

Mae gennym gyfle allweddol i weld GIG Cymru yn estyn allan at drigolion drwy bractisau meddygon teulu, a gwn fod gan lawer o etholwyr bryderon sy'n dod i'r amlwg ar hyn o bryd am ddiffyg ymgynghoriadau wyneb yn wyneb, yn enwedig wrth godi problemau iechyd meddwl am y tro cyntaf. Yn wir, mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru wedi galw am weithiwr iechyd meddwl penodedig ym mhob practis meddyg teulu ledled Cymru. A wnewch chi weithio gyda'r Gweinidog a'n meddygon teulu ledled Cymru i wireddu hyn? Diolch.

Diolch am y cwestiwn, Janet. Hoffwn eich sicrhau bod meddygon teulu'n parhau i ddarparu eu gwasanaethau, fel y gwnaethant drwy gydol y pandemig, gan gynnwys eu gwasanaethau dan y mesur iechyd meddwl. Fel y byddwch yn deall, bu'n rhaid newid dulliau o ddarparu gwasanaethau oherwydd y pandemig, ond mae pobl sydd angen cael eu gweld wyneb yn wyneb yn cael apwyntiadau wyneb yn wyneb. Wedi dweud hynny, gwn fod hyn yn rhywbeth rwyf fi a'r Gweinidog iechyd yn canolbwyntio'n fawr iawn arno. Byddwn yn cyfarfod â Chymdeithas Feddygol Prydain cyn bo hir a byddwn yn trafod hyn, oherwydd mae'n rhaid inni sicrhau nad oes neb yn syrthio drwy'r craciau oherwydd newidiadau i fodelau darparu gwasanaethau.

15:10
Rhoi'r Brechlyn COVID-19 i Blant

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion i roi'r brechlyn COVID-19 i blant? OQ56562

Ar 4 Mehefin, yn dilyn adolygiad trylwyr, cymeradwyodd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd y defnydd o'r brechlyn Pfizer-BioNTech yn ddiogel ac yn effeithlon mewn plant rhwng 12 a 15 oed. Cam cyntaf yn y broses yn unig yw hwn, ac fel gwledydd eraill y DU, rydym yn aros yn awr am gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

Diolch ichi am eich ateb. Rydym bellach wedi brechu cyfran fwy o'n poblogaeth nag unrhyw wlad arall sydd â mwy nag 1 filiwn o bobl, ac mae'r llwyddiant eithriadol hwn yn golygu y gallai Cymru ddechrau brechu plant, tra'n aros am y dystiolaeth a'r cyngor rydych newydd eu crybwyll. Ond mae arwain y byd yn golygu na allwn ddilyn drwy esiampl, a bydd cynnig y brechlyn i blant yn her newydd. Un o'r heriau hynny yw y bydd pobl eraill yn gwneud y penderfyniadau ar ran y plant hynny, ac mae hynny'n iawn wrth gwrs. Bydd rhieni a gwarcheidwaid yn penderfynu a ydynt yn ei gael ai peidio. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi ar gyfer yr her newydd hon wrth inni ddechrau ar y cam hollbwysig nesaf o gyflwyno'r brechlyn?

Diolch yn fawr iawn, Joyce. Fel y dywedwch, mae'n rhaid inni aros am gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu cyn symud ymlaen ac mae llawer o faterion moesegol a moesol y mae angen inni weithio drwyddynt. Efallai ein bod am ystyried plant sy'n agored iawn i niwed yn glinigol neu blant sy'n byw gyda phobl sy'n agored iawn i niwed yn gyntaf; mae angen inni feddwl sut ac os ydym am wneud hyn. Oherwydd yr hyn a wyddom yw nad yw plant yn gyffredinol yn dioddef cymaint â hynny os ydynt yn dal COVID, ond fe allant ei drosglwyddo. Felly, byddwn yn aros am y cyngor hwnnw, ond yn y cyfamser rydym yn paratoi rhag ofn, i raddau. Yn sicr, credaf mai'r hyn y byddem am ei wneud, pe baem yn dewis y llwybr hwnnw, fyddai sicrhau ein bod yn mireinio ein cyfathrebiadau, i sicrhau ein bod yn rhoi'r cyngor a'r wybodaeth i rieni, cymaint ag y gallwn, fel y gallant wneud dewis gwybodus ar ran eu plant. Ac yn ôl pob tebyg, os ydym yn sôn am y garfan hŷn o blant—pobl ifanc 16 i 18 oed—mae hwnnw'n grŵp ychydig yn wahanol eto, ac rwy'n meddwl, mae'n debyg, y byddem am iddynt ystyried gwneud eu penderfyniadau eu hunain yn hyn o beth, a byddai'n rhaid inni gyfathrebu â hwy mewn ffordd wahanol iawn, gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn uniongyrchol efallai. Felly, mae llawer i ni ei ystyried o hyd yn y maes hwn. Rydym eisoes wedi dechrau trafod y materion hyn ymysg ein gilydd wrth gwrs, ond ni allwn wneud dim hyd nes ein bod wedi cael cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

Rwy'n falch iawn o glywed eich bod wedi cyfeirio at yr angen am gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar hyn, oherwydd, wrth gwrs, mae rhai rhieni'n pryderu y gallai ysgolion unigol ledled Cymru fynnu bod y defnydd o'r brechlyn yn ofynnol neu'n orfodol. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i rieni na fydd plant yn cael eu brechu heb eu caniatâd? A pha drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelod yn y Cabinet dros addysg ynglŷn â'r rôl y bydd brechu'n ei chwarae o ran gallu codi cyfyngiadau yn ein hysgolion, sydd wrth gwrs yn dal i fynnu bod llawer o blant—er eu bod yn annhebygol tu hwnt o fynd yn sâl, ac mae gennym ganran gynyddol o'r boblogaeth oedolion wedi'u brechu—i wisgo mygydau bob dydd yn yr ysgol?

Diolch yn fawr iawn, Darren. Fe fyddwch yn ymwybodol nad ydym wedi gorfodi neb yn y wlad i gael y brechlyn, ac er hynny, rydym wedi gweld niferoedd anhygoel o bobl yn manteisio arno. Os gallwn, rydym yn sicr am gadw at y llwybr hwnnw drwy berswâd. Rwy'n credu bod hynny wedi bod yn hynod lwyddiannus, a hoffem barhau yn yr un modd, ac yn sicr, mewn perthynas â phlant, rwy'n credu y bydd hynny'n bwysig iawn.

Rydym yn awyddus iawn, wrth gwrs, i weithio gyda'r awdurdodau addysg, gyda'r undebau addysg ynglŷn â'r sgwrs honno sy'n mynd rhagddi ar fasgiau mewn ysgolion, fel bod—. Gwn fod y Gweinidog addysg wedi bod mewn trafodaethau dwys ar hynny. Ein huchelgais drwy gydol yr argyfwng hwn fu ceisio cadw ysgolion ar agor, a rhaid inni gydbwyso'r cwestiwn o roi'r brechlyn i blant gyda'r angen i gadw ysgolion ar agor hefyd. Felly, dyna ffactor arall sydd angen inni ei ystyried pan fyddwn yn gwneud y penderfyniad eithriadol o anodd hwn. Ac wrth gwrs, dyna fydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ei ystyried hefyd.

15:15
Buddsoddi Mewn Cyfleusterau Iechyd

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn cyfleusterau iechyd yn Ne Clwyd? OQ56550

Byddai angen i unrhyw fuddsoddiad posibl i wella cyfleusterau iechyd yn Ne Clwyd gael ei ystyried gan y bwrdd iechyd a'i alinio â'i strategaethau ar gyfer gwasanaethau ac ystadau. Y prif gynllun sy'n agos at Dde Clwyd yw'r gwaith ailddatblygu ar Ysbyty Maelor Wrecsam, ac mae hwnnw'n cael ei ddatblygu gyda Llywodraeth Cymru.

Wel, diolch, Weinidog; mae hynny'n wych i'w glywed. Mae Llywodraethau Llafur Cymru blaenorol wedi buddsoddi'n helaeth iawn mewn cyfleusterau iechyd yn Ne Clwyd, gyda chyfleusterau newydd yn enwedig yn y Waun a Llangollen, a bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r gweithlu rhagorol yn y sector iechyd yn Ne Clwyd a ledled Cymru. Ond yn anffodus, mae rhai cyfleusterau o hyd yn Ne Clwyd nad ydynt yn cyrraedd safon uchel y gweithlu sy'n gweithredu ynddynt, yn enwedig yng Nghefn Mawr ac yn Hanmer, a byddwn yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth y Gweinidog i ddatblygu cyfleusterau iechyd newydd ar gyfer y cymunedau hyn.

Diolch yn fawr, Ken. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Llafur wedi cynnig yn ein maniffesto y byddwn yn bwrw ymlaen gyda'n hymrwymiad i ddatblygu meddygfeydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a fydd, gobeithio, yn mynd y tu hwnt i gynnig meddyg teulu, fe fydd yn cyrraedd—gan sicrhau ein bod yn estyn allan at gyfleusterau gofal ac iechyd meddwl a llawer o gyfleusterau eraill, gan weithio gydag awdurdodau lleol hefyd gobeithio. Dyna'r math o fodel rydym yn gobeithio ei hyrwyddo, ac yn sicr gwn fod y bwrdd iechyd yn ymwybodol o hynny. Felly, mater i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fydd pennu'r flaenoriaeth ar gyfer ei raglen o ddatblygiadau ystadau gofal sylfaenol a chymunedol. Felly, yn amlwg, mae penderfyniad mawr i'w wneud yno. Gwyddom fod angen gwella tua thraean o'n hadeiladau meddygon teulu ledled Cymru, felly bydd dewisiadau anodd iawn i'w gwneud mewn blynyddoedd i ddod. Siaradais â'r prif swyddog gweithredu a chadeirydd Betsi Cadwaladr ddoe, a byddaf yn ymweld ag ysbytai yn eich ardal yr wythnos nesaf, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at hynny.

Y Niferoedd sydd wedi Manteisio ar y Brechlyn COVID-19

Diolch, Lywydd. Hoffwn innau hefyd longyfarch y Gweinidog ar ei swydd newydd.

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y niferoedd sydd wedi manteisio ar y brechlyn COVID-19? OQ56542

Wel, diolch yn fawr. Llongyfarchiadau mawr i Buffy hefyd, a chroeso mawr ichi i'r Senedd.

Mae'r nifer sydd wedi manteisio ar y cynllun hyd yma wedi bod yn anhygoel o uchel, gyda dros 85 y cant o'r boblogaeth oedolion wedi manteisio ar y cynnig o ddos cyntaf. Ond mae'n hanfodol bwysig fod cymaint ag sy'n bosibl o bobl yn manteisio ar y brechlyn, ac rydym yn monitro'r niferoedd yn ofalus i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau.

Diolch, Weinidog. Yn fy etholaeth i, Rhondda, mae'r rhan fwyaf o drigolion yn mynychu eu hapwyntiadau brechu, sy'n newyddion anhygoel, ond mae gennym nifer uwch na'r cyfartaledd o bobl nad ydynt yn mynychu, a hynny am amryw o resymau. Rwy'n gwybod bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gweithio gyda thrigolion ar draws ein cymunedau i ymchwilio i'r rhesymau hyn, gan geisio dod o hyd i atebion. Felly, gan weithio gyda byrddau iechyd ledled Cymru, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu cyfraddau brechu mewn ardaloedd heriol?

Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n gwybod, Buffy, y byddwch chi'n hyrwyddo'r brechlyn yn eich ardal, ac fe fyddwch yn gwybod ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn eich ardal yn manteisio ar y cyfle hwnnw. Y peth olaf rydym am ei weld yw'r gwahaniaethau hynny, yn enwedig yn y lleoedd mwy heriol yn economaidd efallai. Nid ydym am weld y rheini'n cael eu gwaethygu am nad oes niferoedd digonol yn cael y brechlyn. Felly, rydych chi'n llygad eich lle, bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg—maent yn mabwysiadu dull cydgynhyrchu wedi'i arwain gan y gymuned o wella mynediad, a gwn fod grŵp gorchwyl a gorffen wedi'i sefydlu i fynd i'r afael â'r bwlch ymysg pobl rhwng 40 a 49 oed yn benodol. Mae'n ymddangos bod problem yn y fan honno. Ac rwy'n falch iawn fod 'vaxi taxi' wedi'i ddatblygu yn yr ardal i wella mynediad hefyd i grwpiau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae cyfle hefyd i bobl ddefnyddio ffurflen ar-lein fel y gallant newid dyddiad ac amser eu hapwyntiadau os oes angen. Felly, mae gwaith gwych yn cael ei wneud, ond byddai'n help enfawr os gallwch ein helpu i hyrwyddo'r brechlyn yn yr ardal honno a chael pobl i ddod i gael eu brechlyn.

15:20
3. Cwestiynau Amserol

Ac felly'r eitem nesaf yw'r cwestiwn amserol. Mae'r cwestiwn yna i'w ofyn i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ac i'w ofyn gan Laura Jones.

Cartref Plant Tŷ Coryton

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am honiadau gan chwythwyr chwiban bod plant ag awtistiaeth wedi cael eu cam-drin yng nghartref Tŷ Coryton yng Nghaerdydd? TQ553

Rhoddwyd gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru am bryderon yn ymwneud â'r gwasanaeth a chynhaliodd arolygiad yn sgil hynny. Tynnwyd sylw'r darparwyr at feysydd i'w gwella, ond nid mewn perthynas ag arferion cyfyngol. Mae ymchwiliadau gan wasanaethau cymdeithasol Caerdydd i bryderon yn ymwneud â diogelu yn parhau.

Diolch am y datganiad hwnnw, Weinidog. Dylid diogelu a gofalu am rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, plant ag awtistiaeth, nid eu gwneud i ddioddef mewn amgylchiadau erchyll fel y rhai a honnir yn yr achos hwn. Mae cwestiynau difrifol i'w hateb, a rhaid i awdurdodau perthnasol ymchwilio'n llawn i hyn yn awr. Mae cyfres o honiadau brawychus a thrallodus wedi'u gwneud yn erbyn staff Tŷ Coryton, a rhai ohonynt yn bethau na allaf mo'u hailadrodd, ond ar un achlysur ac yn fwyaf difrifol, cafodd arferion cyfyngol ar blentyn eu rheoli mor wael fel eu bod wedi ysgogi pryderon difrifol iawn y gallai'r plentyn hwnnw farw. Dywed chwythwyr chwiban fod yr holl honiadau hyn yn deillio'n uniongyrchol o ymyriadau staff ac yn dynodi diwylliant o gamreoli'n ysgogi ymddygiad heriol sy'n brin iawn o'r safonau uchel a ddisgwyliwn ar gyfer staff sy'n gwneud swydd mor bwysig. A yw'r honiadau hyn yn adlewyrchu problem systematig yng Nghymru? A allai plant ifanc eraill fod yn dioddef mewn ffyrdd tebyg? Mae angen rhoi camau ar waith yn awr i ddatrys hyn, Weinidog.

Rwy'n falch o glywed y bydd y Gweinidog yn cyhoeddi'r fframwaith hirddisgwyliedig ar leihau arferion cyfyngol, ond mae'n llawer rhy hwyr i'r plant hyn, ac i blant eraill hefyd, mae arnaf ofn. A gaf fi bwysleisio wrthi fod angen cyhoeddi'r fframwaith yn awr i atal mwy o blant ifanc rhag dioddef fel hyn? Ac a all ddweud wrthym hefyd pa gamau y mae'n eu cymryd i roi cyngor ac arweiniad i ganolfannau fel Tŷ Coryton, i sicrhau eu bod yn darparu amgylchedd therapiwtig fel yr argymhellwyd gan Sefydliad Anableddau Dysgu Prydain? A wnaiff y Gweinidog hefyd sicrhau bod gan ganolfannau fel hyn yr adnoddau angenrheidiol sydd eu hangen arnynt i sicrhau y gellir cynnal parch dynol sylfaenol a hawliau dynol, megis darparu eitemau misglwyf, un o'r honiadau mwyaf annymunol yn fy marn i?

Deallaf fod yr arolygiaeth gofal ar fin cyhoeddi adolygiad o arferion yn Nhŷ Coryton, ond mae'r honiadau hyn bellach yn sicr yn codi cwestiynau ynglŷn â dilysrwydd yr adroddiad hwnnw. A yw'r Gweinidog yn hyderus fod yr adroddiadau hyn yn cael eu cyflawni'n ddigon trylwyr i dynnu sylw at faterion fel y rhain, er mwyn sicrhau yr eir i'r afael â hwy'n gyflym? A fydd y ganolfan ac eraill sy'n eiddo i Orbis bellach yn cael eu hail-arolygu i sicrhau bod plant yn eu gofal yn cael eu diogelu'n briodol?

Yn olaf, os oes problem systematig yma, pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod y diwylliant o adrodd am bryderon yn bodoli yn y sector gofal yng Nghymru ac i sicrhau bod gan staff rwydwaith cymorth ar waith a'u bod yn ddigon cyfforddus gyda hynny i godi pryderon a bod yr adroddiadau hyn yn cael eu hystyried yn ddifrifol a chamau gweithredu'n cael eu rhoi ar waith, yn hytrach na gorfod troi at y cyfryngau fel yn yr achos hwn? Diolch.

Diolch am y sylwadau hynny, Laura Anne Jones, ac rwy'n cytuno'n llwyr fod y plant rydym yn sôn amdanynt yn rhai o'r plant mwyaf agored i niwed sydd angen gofal a chymorth, ac na ddylent ddioddef. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y plant agored i niwed hyn yn cael gofal o'r safon uchaf un.

Fel y dywedais yn fy natganiad, mae'r honiadau hyn yn destun ymchwiliad, felly nid ydym mewn sefyllfa i wneud unrhyw sylw eto, oherwydd mae ymchwiliad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Ond gallaf ailadrodd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r fframwaith ar leihau arferion cyfyngol, a bydd hynny'n digwydd ym mis Gorffennaf—mis nesaf—2021. Felly, mae hynny'n dod yn fuan iawn, a bydd hwnnw'n hyrwyddo mesurau i leihau arferion cyfyngol yn briodol mewn lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol. A byddwn yn cefnogi gwaith i hyrwyddo'i weithrediad ar draws yr holl sectorau hynny. A bwriad y canllawiau yw sicrhau bod y rhai sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion ar draws y gwasanaethau'n rhannu fframwaith cyffredin o egwyddorion a disgwyliadau, wedi'u llywio gan ddull o weithredu sy'n mynd ati i hyrwyddo hawliau dynol a chymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Cafwyd ymgynghoriad ynglŷn â'r arferion cyfyngol, ac rwy'n edrych ymlaen at weld hwnnw'n cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2021. 

Felly, yn amlwg, mae AGC yn adrodd yn rheolaidd ar y lleoliadau hyn, gan gynnwys Tŷ Coryton. Mae gennym ddiwylliant o annog chwythwyr chwiban, a chredaf ei bod yn bwysig iawn ailadrodd hynny a bod honiadau a wneir yn cael sylw difrifol iawn. Gallaf ei sicrhau'n llwyr fod yr honiadau hyn yn cael eu hystyried o ddifrif. Maent yn cael eu hystyried gan gynllun diogelu Caerdydd, ac mae AGC yn gweithio'n agos iawn gyda'r awdurdod lleol, gyda'r timau comisiynu a diogelu, ac mae'r gwasanaeth bellach yn rhan o broses uwchgyfeirio pryderon Consortiwm Comisiynu Plant Cymru. Felly dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd, ac nid yw Orbis yn derbyn unrhyw blant pellach i'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Ond nid wyf yn meddwl y gallaf fynd lawer ymhellach gan fod hyn i gyd yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd. 

15:25

Yn ôl yr adroddiadau, mae chwythwyr chwiban yn dweud bod plant yn cael eu cosbi am ymddwyn yn awtistig a bod iechyd a diogelwch staff a phlant yn gwbl frawychus, a bod pobl ifanc yn cael eu camreoli, ac felly'n ymddwyn mewn ffyrdd heriol, gan arwain at eu cadw dan glo. Ond mae hyn yn nodweddiadol o gymaint o'r gwaith achos sydd gennyf ar ran etholwyr awtistig a/neu eu teuluoedd, lle mae pobl ar gyflogau uchel mewn grym, arbenigwyr honedig, yn methu deall eu hawtistiaeth, yn methu nodi eu hanghenion cyfathrebu, synhwyraidd a phrosesu er mwyn gallu cyfathrebu â hwy mewn ffordd effeithiol, barchus ac yn eu gwthio i argyfwng ac yna'n eu cosbi am beidio ag ymateb mewn ffordd niwroarferol neu niwroarferol yn bennaf, gan effeithio ar eu gofal, eu gofal cymdeithasol, eu gwasanaethau iechyd, mynediad at dai, a llawer o bethau eraill. Sut ar y ddaear y gallwn fynd i'r afael yn derfynol â'r broblem endemig a dwfn hon a godwyd mor fynych drwy'r grŵp awtistiaeth trawsbleidiol yn nhymhorau blaenorol y Senedd heb roi dyletswyddau statudol ar waith ar gyfer awdurdodau lleol a byrddau iechyd a rhoi hunaniaeth statudol i awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol yng Nghymru o'r diwedd?

Diolch am y sylwadau hynny, Mark, ac yn sicr nid yw'r ymddygiad a ddisgrifiodd ar ddechrau ei gyfraniad, am blant yn cael eu cosbi am ymddygiad sy'n deillio o'u hawtistiaeth, yn dderbyniol o gwbl. A chredaf ein bod i gyd, fel Aelodau etholaethol o'r Senedd, wedi profi'r anawsterau y mae teuluoedd yn eu hwynebu wrth geisio cael y gwasanaethau gorau i'w plant sydd ar y sbectrwm awtistig. Felly, credaf ein bod i gyd yn deall yr anawsterau hynny. Ond fel y dywedais mewn ymateb i Laura, mae ymchwiliadau'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd i'r sefyllfa benodol hon, a byddwn yn gallu gweld beth sy'n digwydd o ganlyniad i'r ymchwiliadau hynny.

4. Datganiadau 90 eiliad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf y prynhawn yma gan Vikki Howells. 

Diolch, Lywydd. Ewch yn ôl ychydig wythnosau'n unig a byddai trenau dosbarth 143, y Pacers, wedi bod yn rhan o'r rhestr hir honno o weithredoedd dros dro sydd wedi aros gyda ni. Cyflwynwyd y Pacers, enw a ddaeth i gyfleu anghysur cymudo a gwasanaethau hwyr cronig, fel ateb dros dro yn lle trenau diesel hŷn. Nid oedd y corff bws Leyland—mae'n wir mai o hen fysiau y cawsant eu llunio—seddau mainc a'r siasis wagen lwytho a adeiladwyd gan British Rail yn y 1980au, yn awgrymu erioed mai cysur teithwyr oedd y prif amcan. Yn wir, roedd yr asynnod siglog, fel y'u gelwid, yn rhan anfad o brofiad cymudwyr y rheilffyrdd yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y DU ers hynny. Fodd bynnag, ddydd Sadwrn 29 Mai, gwnaeth y Pacers eu teithiau terfynol ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo, wrth gwrs, i ddarparu trenau newydd sbon sy'n darparu mwy o gapasiti a theithiau cyflymach a gwyrddach. Mae profiad cwsmeriaid ar y trên modern sy'n darparu gwell cyfleusterau, gwell hygyrchedd, a theithio mwy cyfforddus yn allweddol hefyd.

Bydd rhai o'r trenau Pacer yn cael ail fywyd drwy gael eu rhoi i reilffyrdd treftadaeth a phrosiectau cymunedol eraill. Ond wrth i'w taith ar wasanaethau teithwyr cymudo ddod i ben, mae'n bwysig cofio'r blynyddoedd o wasanaeth a welodd drenau dosbarth 143 yn gwneud yr hyn sy'n cyfateb i dros bum taith i'r lleuad ac yn ôl. Ac phe bai'r Pacer yn gallu dweud ffarwel wrthym, byddai'n gwneud hynny gyda'r wich brêc fyddarol ac unigryw honno sydd mor gyfarwydd i gymudwyr ledled Cymru.

15:30

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae etholaeth Islwyn, a gynrychiolir gennyf, yn cynnwys cymunedau cryf iawn o ddynion a menywod dosbarth gweithiol yn bennaf, sy'n parhau i freuddwydio am well yfory, er nad yw ein heddiw erioed wedi bod yn fwy heriol. Felly, mae'r ffaith bod cewri ffilmiau Hollywood, Warner Brothers Pictures, wedi portreadu Islwyn a Chymru yn ddiweddar ar y sgrin fawr gyda'r ffilm wych ac eiconig Dream Horse, a agorodd yn y Coed-duon—ac sydd bellach i'w gweld ar draws y DU mewn sinemâu sydd ar agor—yn foment o lawenydd a chyffro. Ac mae'r portread cadarnhaol hwnnw o Gymru mewn ffilm, a stori Jan a Brian Vokes a'r syndicet a fagodd geffyl Cymreig ar randir yng Nghefn Fforest a aeth ymlaen i ennill y Grand National, wedi ennill adolygiadau gwych. Ac mae hefyd yn ychwanegu at ein dadeni ein hunain ym maes ffilm a theledu yng Nghymru. Felly, os nad ydych wedi'i gweld eto, mae'n stori gadarnhaol am ysbryd cymunedol cryf yn Islwyn, gyda chast o'r radd flaenaf, yn cynnwys Toni Collette, a enwebwyd ar gyfer Oscar, yng Nghymru, a'n Owen Teale ein hunain. Gwnaeth gwaith ar gynhyrchu'r ffilm ddefnydd o leoliadau ledled de Cymru, gan gynnwys Blaenafon.

Cymru—wel, rydym yn genedl hunanhyderus, ac rydym yn tyfu'n fyd-eang pan adroddwn mewn ffilm a theledu a chelfyddyd a llenyddiaeth, cerddoriaeth a theatr y straeon cadarnhaol hynny am ein pobl a'n cymunedau y mae Dream Horse yn eu portreadu mor effeithiol. Ac mae'r gallu hwnnw i ddefnyddio doniau creadigol o Gymru o flaen a thu ôl i'n camerâu mor hollbwysig, ac yn hanfodol i'n dyfodol diwylliannol ac economaidd. Mae Cymru, ein pobl, a'n hwyl i'w gweld yn glir yn Dream Horse, ac mae'n enghraifft o'n hysbryd a'n dyfodol rhyngwladol. Felly, mae Llywodraeth Cymru a'n hasiantaethau diwylliannol yn iawn i roi cefnogaeth hael ac i hyrwyddo cynyrchiadau a wneir yng Nghymru sy'n adrodd hanes Cymru i'r byd a hefyd yn hyrwyddo sectorau creadigol Cymru ar ôl COVID. Mae Dream Horse yn dangos yn rymus fod Cefn Fforest yn Islwyn yn fan lle mae breuddwydion yn dal i ddod yn wir, ac rwy'n annog pob Aelod i wylio'r ffilm gyffrous ac arloesol hon. Diolch.

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddiadau i bwyllgor priodol mewn perthynas â pharth perygl nitradau Cymru gyfan

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths. 

Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig—cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddiadau i bwyllgor priodol mewn perthynas â pharth perygl nitradau Cymru gyfan.

A chyn i mi alw ar James Evans, rwy'n credu mai dyma'r ddadl lawn gyntaf a gawsom yn y chweched Senedd, felly os caf eich atgoffa am yr amseru os gwelwch yn dda—mae gennych 15 munud i agor a chau, ac mae gan bob siaradwr arall bum munud, ac mae gan y Gweinidog wyth munud. Gadewch i ni gadw at yr amseru, oherwydd mae pawb yn cael cyfle i siarad felly.

Galwaf ar James Evans i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7703 Darren Millar, Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi effaith andwyol parth perygl nitradau Cymru gyfan ar amaethyddiaeth Cymru.

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn galw ar bwyllgor perthnasol y Senedd i adolygu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar frys a chyflwyno ei argymhellion i'r Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Ac rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol yn enw Darren Millar.

Ar draws y cymunedau ffermio yng Nghymru, o ardaloedd yr ucheldir i'r rhanbarthau arfordirol ac i fy ardal fy hun yng nghanol Cymru ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, mae ein cymunedau amaethyddol a'n ffermwyr yn gweithio'n ddiflino i fwydo'r genedl a sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu a bod ein tirweddau'n cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy. I ddyfynnu Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, caiff ffermwyr eu hystyried yn rhy aml o lawer fel y broblem, a hwy mewn gwirionedd yw'r ateb i'n heriau amgylcheddol. Nid rhywbeth i ffermwyr yn unig yw'r dirwedd wledig ond rhywbeth i bob un ohonom, i genedlaethau'r dyfodol, i annog amrywiaeth, ecosystemau ffyniannus a bywyd gwyllt. Mae hefyd yn hanfodol i'n heconomi drwy ddenu twristiaid, sy'n dod â refeniw mawr ei angen i fusnesau lleol ac i'n cymunedau.

Mae ein ffermwyr yn chwarae rhan enfawr yn cynhyrchu bwyd i fwydo'r genedl. Mae ffermwyr yn angerddol am eu tir, yn ymrwymedig i weithio tuag at yr arferion gorau, gan gynhyrchu cynnyrch o'r radd flaenaf gyda'r safonau uchaf mewn perthynas â lles anifeiliaid a diogelu'r amgylchedd. Fodd bynnag, mae polisïau amaethyddol Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd wedi dangos dirmyg tuag at ffermwyr a'n cymunedau gwledig, gan addo un peth cyn cyflawni rhywbeth arall. Mae'r tro pedol diweddar i gyflwyno parth perygl nitradau Cymru gyfan yn enghraifft o hynny. Mae'r data o fannau eraill yn y byd yn dangos bod y polisi hwn yn aneffeithiol ac mae'n enghraifft o ddefnyddio gordd i dorri cneuen. Nid yw rhai ardaloedd yng Nghymru wedi cofnodi unrhyw achosion o lygredd amaethyddol mewn 10 mlynedd, ac eto caiff pob ffermwr ei gosbi.

15:35

Er bod un digwyddiad llygredd yn un yn ormod, mae polisi cyffredinol yn brifo'r diwydiant ar adeg pan fo angen cymorth arnynt. Mae'r pecyn cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn druenus o annigonol, gan roi beichiau cost mawr ar ein ffermwyr er mwyn iddynt ymaddasu i'r newidiadau hyn. Er gwaethaf sicrwydd—. Ar ddim llai na rhwng saith a 10 achlysur, sicrhawyd y ffermwyr gan y Gweinidog na fyddai'r dull cyffredinol hwn yn cael ei fabwysiadu yn ystod y pandemig. Ac o fewn dim, heb ymgynghori â'r diwydiant, penderfynodd y Gweinidog fwrw ymlaen a thorri addewidion unwaith eto.

Yn rhy aml o lawer, mae amaethyddiaeth yn cael y bai am gynnydd yn y nitradau yn ein hafonydd, ac eto honnodd ymchwiliad gan Panorama fod Dŵr Cymru wedi bod yn gwaredu carthion yn anghyfreithlon i Afon Wysg yn fy etholaeth. Mae'n ymddangos bod hyn yn cael ei anwybyddu. Mae data diweddar gan Dŵr Cymru ei hun hefyd yn awgrymu bod carthion amrwd wedi'u gollwng i afonydd Cymru dros 100,000 o weithiau yn 2020, am bron i 900,000 o oriau, ar draws mwy na 2,000 o weithfeydd trin dŵr ac all-lifoedd carthion. A ydym yn gweld unrhyw weithredu go iawn gan Lywodraeth Cymru ar hyn? Nac ydym. At hynny, mae data Llywodraeth Cymru ei hun yn awgrymu mai'r diwydiant dŵr, rhwng mis Ionawr a mis Tachwedd 2020, oedd yn gyfrifol am y digwyddiadau llygredd mwyaf yn ymwneud â dŵr wyneb yng Nghymru, gyda 180 wedi'u cofnodi yn ystod y cyfnod hwn. Ond pwy sy'n dal i gael y bai am lygru ein hafonydd? Rydych chi'n gywir—y ffermwyr.

Mae'r Llywodraeth hon yn honni bod newid hinsawdd yn broblem enfawr, ac nid wyf yn anghytuno. Pwy fyddai'n anghytuno? Ond mae arnaf ofn fod eich hanes o fynd i'r afael â newid hinsawdd yn amheus ar y gorau. Fe brynoch chi faes awyr, ar gost enfawr i'r trethdalwr, gan gymeradwyo gollwng mygdarth gwenwynig i'r atmosffer, ac yna fe warioch chi filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr ar ffordd i unman a gwrthod adeiladu ffordd liniaru'r M4, gan sicrhau, bob dydd, fod miloedd o geir yn ciwio mewn tagfeydd traffig ar hyd yr M4, gan bwmpio tocsinau gwenwynig a charbon deuocsid i'r atmosffer. Unwaith eto, rydych chi'n dweud un peth ac yn gwneud rhywbeth arall. 

Drwy gydol y pandemig mae ein ffermwyr wedi bwydo'r genedl, gan sicrhau bod cyflenwadau hanfodol ar gael. Ac yn gwbl briodol, gwnaethom guro ein dwylo i ddiolch i'r GIG a'n gofalwyr. Ac yn hytrach na mynd allan a churo dwylo i ddiolch i'n ffermwyr, roedd hi'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn meddwl bod slap i'r wyneb yn llawer mwy priodol. Mae ein ffermwyr yn haeddu gwell na hyn gan Lywodraeth Cymru, a chan Weinidog yr oeddwn yn ymddiried ynddi ar un adeg i gefnogi'r diwydiant.

Mae deddfwriaeth parth perygl nitradau Cymru gyfan yn annerbyniol. Fe'i disgrifiwyd fel ymgais ddiog i dorri a gludo o gyfarwyddeb 30 mlwydd oed yr UE sy'n rhoi mwy o bwysau ar ffermwyr sydd eisoes dan bwysau ac sy'n ymdopi â COVID-19. Mae'n niweidio busnesau amaethyddol, bywoliaeth pobl, ac yn rhoi straen meddyliol enfawr ar ffermwyr unwaith eto, a hynny er mwyn sicrhau manteision amheus iawn. Cawsoch eich rhybuddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru, rheoleiddiwr Llywodraeth Cymru ei hun, ac mae wedi'i gynnig yn y rheolau dŵr newydd, ac rwy'n dyfynnu, y bydd yn arwain at 'ganlyniad gwrthnysig' o wneud ansawdd dŵr yn waeth, ac efallai nad oes ganddynt ddigon o adnoddau i allu cyflawni'r cyfundrefnau arolygu rheoleiddiol sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau mewn modd effeithiol.

Er gwaethaf y rhybuddion, a'r straen enfawr ar iechyd meddwl a busnesau pobl a'u llesiant, fe wnaethoch fwrw ymlaen â'r parth perygl nitradau beth bynnag. Rydym wedi clywed yr adolygiadau deifiol gan holl undebau'r ffermwyr yng Nghymru, a gofynnaf i Lywodraeth Cymru: pam nad ydych yn ymddiried yn y mwyafrif llethol o ffermwyr sy'n gyfrifol, ac nad ydynt yn llygru? Yr hyn sydd ei angen arnom yw polisi mwy hyblyg sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n ennyn cefnogaeth y diwydiant i fynd i'r afael â llygredd. Ar adeg pan ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gweithio mewn partneriaeth â'n ffermwyr, maent yn cau'r drws ar gydweithredu ac yn hytrach, yn bwrw ymlaen â chynlluniau costus sydd wedi eu tangyllido'n druenus ac a allai yrru nifer o ffermwyr allan o'r diwydiant.

Rydym ni ar feinciau'r Ceidwadwyr yn annog y Llywodraeth ac Aelodau eraill yn y Siambr hon ac ar-lein i gefnogi ein cynnig i gael adolygiad o'r ddeddfwriaeth ddidostur hon. Gadewch inni wrando ar yr arbenigwyr a'r diwydiant, a gadael i'r pwyllgor perthnasol wneud ei waith i sicrhau bod y ddeddfwriaeth orau sy'n bosibl yn mynd drwy'r Senedd hon. Felly, gadewch i bawb ohonom symud ymlaen gyda'n gilydd a sicrhau bod ein gwlad brydferth nid yn unig yn cynnal ond yn gwella ein safonau bwyd ac amgylcheddol uchel, gan weithio gyda'n ffermwyr ac nid yn eu herbyn. Diolch.  

15:40

Cyn inni symud ymlaen at y siaradwr nesaf, a gaf fi—? Cefais fy atgoffa gan Huw Irranca-Davies nad yw ymyriadau mewn dadleuon yn rhan o'r broses ar hyn o bryd, fel y byddem fel arfer wedi ymyrryd, oherwydd bod cynifer o Aelodau nad ydynt yn gallu gwneud hynny yn y system hybrid. Ond gall Aelodau gysylltu â'r ddesg yma i roi gwybod i ni os ydynt yn dymuno gwneud ymyriad a gallwn eu galw ar y diwedd, cyn y siaradwr olaf. Dim ond i egluro hynny. Rwy'n deall awydd yr Aelod i ymyrryd—rwyf wedi bod yno droeon. [Torri ar draws.] O'r gorau.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd i gynnig yn ffurfiol y gwelliant a gyflwynwyd yn ei henw. 

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi pwysigrwydd hanfodol lleihau allyriadau amaethyddol er mwyn:

a) cryfhau enw da ffermio yng Nghymru;

b) gwarchod pobl a natur yng Nghymru rhag llygredd aer;

c) diogelu afonydd a moroedd Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol;

d) cyflawni uchelgais sero net Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gan ystyried bod y rheoliadau ar yr NVZs wedi cael eu rhuthro drwy'r Senedd ychydig cyn yr etholiad diwethaf, yn groes i'r addewid gwnaeth y Gweinidog, fel rydym ni wedi clywed yn barod, na fyddai hi yn cyflwyno rheoliadau yn ystod y pandemig, rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i ailgydio yn y drafodaeth bwysig hon yn gynnar yn y Senedd newydd. Nawr, pan oeddwn i'n ymgyrchu mewn ardaloedd gwledig, yn arbennig ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, un o'r pynciau oedd yn codi ei ben amlaf, yn arbennig gan ffermwyr, oedd y pwnc arbennig yma, achos roedden nhw'n poeni am effaith y rheoliadau arnyn nhw, fel ffermwyr, ar ddyfodol ffermydd teuluol, ac, o ganlyniad, efallai'n peryglu dyfodol cefn gwlad Cymru.

Nawr, rydym ni wedi clywed dro ar ôl tro gan yr undebau amaeth a phobl eraill dros y misoedd diwethaf pam nad yw'r rheoliadau, fel y maen nhw, yn dderbyniol. Er enghraifft, mae'r rheoliadau yn mynd yn groes i argymhellion arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru, gan mai'r bwriad yw eu gweithredu dros Gymru gyfan, yn hytrach na phwysleisio ar yr 8 y cant o ardaloedd sy'n wynebu'r risg mwyaf. Yn ail, bydd y dull o ffermio drwy galendr yn debygol o greu canlyniadau anuniongyrchol niweidiol. Gallwch chi ddychmygu y byddai ffermwyr yn arllwys tunelli o'r slyri yma ychydig cyn y dyddiad cau ac yn syth ar ôl i'r ffenest agor. Yn drydydd, gyda thywydd anwadal Cymru, dyw ffermio drwy galendr ddim yn gwneud synnwyr. Gadewch i fi roi enghraifft ichi. Rwy'n byw lled cae wrth Afon Tywi a rhyw dair wythnos yn ôl, lle'r oedd hi'n bosibl i ffermwyr, yn ôl calendr y Llywodraeth, wasgaru slyri, roedd y caeau dan ddŵr oherwydd lifogydd. Felly, dyw gweithredu ar galendr jest ddim yn gweithio gyda'r tywydd sydd gyda ni yng Nghymru. Ac, yn olaf, mae yna ddiffyg cefnogaeth ariannol gan y Llywodraeth i helpu ffermwyr i ymdopi â'r rheoliadau newydd. Mae'r £11 miliwn sy'n cael ei gynnig yn gwbl, gwbl annigonol, a beth sy'n mynd i ddigwydd o ganlyniad yw bod llawer iawn o ffermwyr teuluol yn mynd i benderfynu gadael y diwydiant, a byddai effaith hynny ar gefn gwlad Cymru yn gwbl, gwbl drychinebus.

Ac fe glywon ni, yn ystod y ddadl cyn yr etholiad, y Gweinidog yn dadlau bod angen iddi dynnu sylw at bwysigrwydd alinio Cymru gyda gwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol, ond y gwir amdani yw nad oes un o wledydd Prydain wedi penderfynu cyflwyno rheoliadau dros 100 y cant o'u tir. Yn Lloegr, maen nhw'n gweithredu ar ryw lefel o 55 y cant. Ond yn eironig erbyn hyn, mae'n debyg, mae Lloegr yn bwriadu symud i ffwrdd o'r cynllun. Felly ar yr union adeg y mae gwledydd eraill yn newid cyfeiriad, mae Llywodraeth Cymru yn mynd full pelt i'r cyfeiriad arall.

Weinidog, ni ddylem edrych yn ôl ar syniadau a oedd yn cael eu trafod tua 30 mlynedd yn ôl am ateb i lygredd dŵr. Rhaid inni edrych tua'r dyfodol drwy groesawu technoleg i wneud dewisiadau llawer mwy cywir mewn perthynas â rheoli tir. Fel y gwyddoch, mae enghreifftiau o brosiectau arloesol yn cael eu cynnal wrth inni siarad, lle mae ffermwyr ac ymchwilwyr yn cydweithio i ddyfeisio ffordd lawer mwy soffistigedig o roi cynlluniau rheoli maetholion ar waith.

Fe wyddoch fod fferm coleg Gelli Aur wedi cwblhau prosiect peilot llwyddiannus iawn yn ddiweddar o'r enw Taclo'r Tywi mewn rhan o Gymru sydd wedi bod yn fan gwan o ran llygredd afonydd, gan ddefnyddio gorsafoedd tywydd ar ffermydd i fesur tymheredd y pridd, lleithder dail, cyfeiriad y gwynt a glawiad. Nawr, mae hyn yn darparu data amser real ar ap ffôn o fewn eiliadau, gan ddefnyddio system coch, oren, gwyrdd a fydd yn caniatáu i ffermwyr wneud penderfyniadau ar y cae ynghylch taenu slyri, chwistrellu plaladdwyr neu gynaeafu. Mae hyn yn llawer mwy gwyddonol na ffermio yn ôl y calendr, sy'n anymarferol ac yn hen ffasiwn.

Weinidog, mae eich Llywodraeth ar y cyfan wedi cael ei chanmol gan bobl Cymru am y ffordd rŷch chi wedi taclo'r pandemig gan eich bod chi wedi defnyddio'r wyddoniaeth fel sail eich penderfyniadau. Felly, rwy'n ymbil arnoch chi i ddefnyddio'r wyddoniaeth a'r dechnoleg sydd ar gael ar hyn o bryd i sicrhau'r cydbwysedd allweddol hwnnw rhwng ffermio cynaliadwy a gwarchod yr amgylchedd. Wrth inni gefnogi'r cynnig hwn, mae'n bwysig nodi nad galwad am ddiffyg gweithredu yw hyn. Mae pawb ohonom ni am weld yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu—finnau'n arbennig, sydd wedi pysgota ar yr afon Tywi ers blynyddoedd—

15:45

—rwy'n dod i ben, Dirprwy Lywydd—ac yn gwybod gymaint o effaith mae llygredd yn ei gael ar ansawdd y dŵr. Na, galwad yw hon am weithredu cymesur gan y Llywodraeth wedi'i dargedu gyda chefnogaeth ariannol ddigonnol.

Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, rwy'n gofyn i'r Llywodraeth i fynd yn ôl i edrych ar argymhelliad Cyfoeth Naturiol Cymru i gynyddu ardal y cynllun NVZ o 2 y cant i 8 y cant. Ac i gloi, dyma'r paragraff olaf: gan weithio gyda'n gilydd i ddod i gonsensws, gallwn ddod i ddatrysiad a fydd yn gwarchod ein hamgylchedd a sicrhau dyfodol mwy diogel i'n ffermydd teuluol, sydd yn asgwrn cefn i'r economi wledig, am y blynyddoedd i ddod. Diolch yn fawr iawn ichi.

A gaf fi atgoffa'r Aelodau, fel y dywedais, pum munud? Gan mai'r cyfan rydych chi'n ei wneud yw mynd ag amser oddi ar rywun arall—gallai fod yn rhywun o'ch plaid eich hun—nad yw'n cael siarad efallai am fod yr amser ar ben. Felly, gadewch inni geisio cadw at yr amser os gallwn, os gwelwch yn dda.

Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r cynnig hwn. Mae'n rhoi cyfle cynnar i'r Senedd hon drafod pwnc hollbwysig, sef iechyd a dyfodol dyfrffyrdd ein gwlad. Mae'r cynnig yn gofyn inni nodi effaith andwyol polisi'r Llywodraeth ar amaethyddiaeth yng Nghymru. Rwy'n credu rywsut fod hynny'n chwerthinllyd gan blaid a fyddai'n troi cefn ar ffermwyr Cymru am gytundeb masnach rydd gydag Awstralia, a phlaid sydd wedi gwneud toriad o £137 miliwn yng nghyllideb y DU ar gyfer cymunedau gwledig Cymru.

Ond rwyf am osod y rhagrith hwnnw o'r neilltu, oherwydd y pwynt amlwg i'w ddadlau heddiw yw na fydd parth perygl nitradau Cymru gyfan yn cael effaith andwyol o'r fath, ac nid yw'r safonau yn y rheoliadau yn ormodol o gwbl yn fy marn i. Yn hytrach, maent yn pennu safonau sylfaenol ar gyfer cynhyrchu yng Nghymru sy'n debyg i weddill y DU ac Ewrop hefyd. A bydd yr aliniad hwnnw'n hanfodol i fasnach yn y dyfodol, yn enwedig os yw Cymru am farchnata cynnyrch brand Cymru yn seiliedig ar gynaliadwyedd.

Rydym wedi clywed eto heddiw pam y mae angen y rheoliadau ar frys. Ar ôl cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru ers 2007, rwyf wedi colli golwg ar nifer yr achosion o lygredd difrifol mewn afonydd o amaethyddiaeth yn y cyfnod hwnnw. Ond roeddwn yn dal i synnu wrth ddarllen y ffigurau mewn du a gwyn: bron i 3,000 o achosion o lygredd sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth wedi'u profi yng Nghymru ers 2001; cyfartaledd o 148 y flwyddyn am yr 20 mlynedd diwethaf; a mwy na thri achos yr wythnos yn y tair blynedd diwethaf yn unig. Yn sicr, nid yw hynny'n dderbyniol, nid yw'n gynaliadwy, ond mae'n gwbl ataliadwy, a'n dyletswydd foesol ni yma yw gwneud rhywbeth amdano.

Mae'r dystiolaeth hefyd yn dangos yn glir fod hon yn broblem i Gymru gyfan ac mae'n galw am ateb cenedlaethol beiddgar, clir. Mae 'Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol' 2020 yn nodi bod dwy ran o dair o'n cyrff dŵr afonydd wedi methu cyflawni statws ecolegol da o dan ddosbarthiad cyfarwyddeb y fframwaith dŵr. Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd gan CNC ym mis Ionawr ar ein naw ardal cadwraeth arbennig afonol yn nodi bod amaethyddiaeth yn cyfrannu'n helaeth at lefelau llygryddion yn y dyfroedd cenedlaethol pwysig hyn sy'n uwch na'r terfynau cyfreithiol. Mae mwy na 60 y cant o afonydd gwarchodedig yng Nghymru yn cynnwys llygredd ffosffad sy'n uwch na'r terfynau, felly rwy'n credu ei bod braidd yn ffuantus i Aelodau Plaid Cymru awgrymu y gallwn gyflawni'r manteision amgylcheddol hanfodol y maent yn dweud eu bod am eu gweld drwy chwarae gydag ymylon y broblem gyda rheoliadau gwirfoddol a lleol.

Y gwir amdani yw, oni bai ein bod yn cymryd camau brys i reoli llygredd yn y tarddiad, bydd yn rhy hwyr i adfer ecosystemau ein hafonydd. Mae rheoleiddio parthau perygl nitradau Cymru gyfan yn arf cwbl gymesur a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a hinsawdd ac felly'n cefnogi ffermio cynaliadwy yn awr ac yn y dyfodol.

15:50

Diolch, James Evans, Aelod o'r Senedd hon, am arwain ar ddadl mor bwysig ac am sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol y gwrthbleidiau i reoliadau dinistriol parth perygl nitradau Llafur Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Siaradaf eto i gofnodi fy ngwrthwynebiad llwyr, a'r effaith andwyol y bydd parth perygl nitradau Cymru gyfan yn ei chael ar amaethyddiaeth yng Nghymru. Hoffwn hefyd alw ar bwyllgor newydd y Senedd sy'n gyfrifol am amaethyddiaeth ac am ddŵr i adolygu'r rheoliadau hyn ar frys.

Fel y dywedais droeon o'r blaen, mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn amcangyfrif y gallai cost cyfalaf ymlaen llaw y cynllun hwn fod cymaint â £360 miliwn. Mae hynny £347 miliwn yn fwy na'r cymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru a £99 miliwn yn fwy na chyfanswm yr incwm diweddaraf o ffermio yng Nghymru. Eisoes, rydym yn ymwybodol o rai ffermwyr tenant sy'n wynebu argyfwng yn awr gyda'u landlordiaid, a gwyddom am fanciau sy'n amharod i dalu'r bil, ac mae undebau ffermio'r DU bellach yn rhybuddio bod y diwydiant llaeth yn wynebu blwyddyn heriol iawn yn sgil costau cynhyrchu cynyddol a phrisiau llaeth amrywiadwy.

Felly, ni fydd yn syndod i chi glywed bod costau ychwanegol bodloni rheoliadau dŵr yn gwneud y sefyllfa'n waeth o lawer. Yn wir, rhybuddiodd elusen flaenllaw ym maes iechyd meddwl yn y byd amaeth fod y rheoliadau hyn yn debygol o achosi straen aruthrol i ffermwyr. Nododd eich memorandwm esboniadol eich hun, a dyfynnaf:

'Cydnabyddir hefyd effaith negyddol bosibl gofynion rheoleiddiol ychwanegol ar les meddyliol, yn arbennig pan fo heriau economaidd neu iechyd eraill eisoes yn bodoli.'

Felly, rydych chi'n cydnabod y ffaith bod hyn yn mynd i achosi salwch meddwl, ac rydym newydd gael cwestiynau am iechyd meddwl. Nid yw'n gwneud synnwyr. Gwn eisoes am nifer o deuluoedd ffermio yng Nghymru sy'n buddsoddi pob ceiniog yn ôl yn eu busnes, ac yn awr mae rhai o'r rheini hyd yn oed yn ystyried cau. Maent wedi anobeithio.

Byddai hyn hefyd yn ddinistriol i'r iaith Gymraeg. Mae 43 y cant o weithwyr amaethyddol yn siarad Cymraeg, o'i gymharu â 19 y cant o'r boblogaeth yn gyffredinol. Argymhellodd adroddiad 'Iaith y Pridd' y dylai Llywodraeth Cymru weithredu drwy sicrhau bod polisïau'n cefnogi diwydiannau ar ein ffermydd teuluol. Rhaid gofyn o hyd a yw'r rheoliadau'n cyd-fynd ag adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn enwedig y nod o gael diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

Rhaid inni ofyn ichi hefyd, Weinidog: pam nad ydych chi hyd yn oed yn gweithredu er lles gorau ein hamgylchedd? Mae llawer o'n buchesi sugno, sy'n gwneud cyfraniad hanfodol i fioamrywiaeth drwy reoli rhai o'n cynefinoedd pwysicaf, bellach yn mynd i gael eu colli, ac mae CNC wedi rhybuddio y bydd y rheolau newydd yn arwain at y canlyniad gwrthnysig o wneud ansawdd dŵr yn waeth, gan chwalu llawer o'r pwyntiau a wnaeth Joyce Watson. Cyflwynir y parth perygl nitradau ar adeg pan fo hyd yn oed cyfarwyddwr gweithredol CNC ar gyfer tystiolaeth, polisi a thrwyddedu wedi sôn am ostyngiad cyson yn nifer yr achosion o lygredd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae honno'n duedd amlwg ar i lawr a welwyd dros y tair blynedd diwethaf, ac mewn gwirionedd, ni fu unrhyw ddigwyddiadau mewn rhannau enfawr o Gymru dros y degawd diwethaf.

Fel y dywedais o'r blaen, mae'n rhaid rhoi cyfle go iawn i'r dull gwirfoddol. Ni chafodd dull ffermio'r 'faner las' ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru pan wnaeth ffermwyr gais am gyllid drwy gynllun rheoli cynaliadwy'r cynllun datblygu gwledig. Er bod canlyniadau prosiectau a safonau dŵr wedi'u rhannu mewn llythyrau gyda'r Gweinidog a'r Prif Weinidog ym mis Mawrth 2020, gan gynnwys argymhellion ar gyfer y camau nesaf, ac ymateb wedi'i gyhoeddi gan swyddogion yn nodi y byddai ystyriaeth fanwl yn cael ei rhoi i'r safon dŵr, yn anffodus nid yw NFU Cymru wedi cael unrhyw ateb. A chyn cefnogi'r rheoliadau, nid oedd y Gweinidog wedi ymateb i'r adroddiad cynnydd a'r 45 o argymhellion gwahanol a anfonwyd gan is-grŵp fforwm rheoli tir Cymru ar lygredd amaethyddol ym mis Ebrill 2018.

Mae'n ymddangos i mi, ac yn amlwg i rai o'n Haelodau newydd, fod Llywodraeth Cymru yn diystyru arbenigwyr amaethyddol ac yn peryglu dyfodol yr amgylchedd, yr iaith Gymraeg, iechyd meddwl a ffermio yng Nghymru. Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi ein gwahaniaethau gwleidyddol o'r neilltu i wneud y peth iawn a chefnogi'r cynnig hwn. Rwy'n gofyn: a fydd Llafur Cymru ac Aelod etholedig newydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gwneud yr un peth, neu a ydych chi'n mynd i fradychu'r Gymru wledig unwaith eto? Diolch.

15:55

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am y cyfle i roi'r araith yma.

Mae pawb am gael dull fforddiadwy, cymesur ac amgylcheddol gynaliadwy wedi'i dargedu o weithredu ar lygredd dŵr. Mae ffermwyr yn awyddus iawn i gael hyn, ond nid yw'r ddeddfwriaeth hon yn gwneud hynny. Nid yw wedi'i thargedu, gan nad yw'r rhan fwyaf o ffermydd ledled Cymru wedi cofnodi llygredd amaethyddol. Yn ôl rhai arbenigwyr, nid yw hyn yn addas ar gyfer 90 y cant o dir ffermio Cymru. Nid yw'n gymesur ac yn fforddiadwy, oherwydd ni all ffermwyr, unwaith eto, fforddio galwad arall am fwy o gost i adeiladu storfeydd, gan eu rhoi mewn dyled, yn ogystal â'r pwysau biwrocrataidd ychwanegol. Yn olaf, nid dyma'r adeg iawn i wneud hyn. Gobeithio ein bod yn cefnu ar COVID ac mae ffermwyr bellach yn wynebu Llywodraeth Geidwadol yn y DU sydd newydd droi eu cefnau arnynt ar gytundeb masnach ag Awstralia. A gaf fi ychwanegu fy mod yn cymeradwyo'r Prif Weinidog am siarad yn erbyn hyn? Gobeithio y bydd y Ceidwadwyr Cymreig sy'n gwrando y prynhawn yma yn defnyddio eu lleisiau i berswadio eu cymheiriaid yn San Steffan i gefnogi ffermwyr Prydain, nid eu siomi.

Rwyf wedi clywed llawer o ffermwyr yn dweud y bydd yn rhaid i'w gwartheg fynd os caiff y rheoliadau hyn eu gweithredu'n llawn. Bydd y canlyniadau i fioamrywiaeth yng Nghymru yn drychinebus os bydd hynny'n digwydd. Mae gwartheg yn llawer gwell na defaid am annog bywyd gwyllt ar laswelltir. Gall gwartheg ymdopi â glaswellt hir; ni all defaid wneud hynny. Ac mae'n caniatáu i loÿnnod byw gwblhau eu cylch bywyd a blodau i wasgaru hadau. Ar gyfer bywyd gwyllt, mae gwair neu wair wedi'i dorri'n hwyr yn ddelfrydol. Mae'r gylfinir eisiau glaswellt hir, nid tir sy'n cael ei bori'n drwm gan ddefaid.

Yn ddiau, caiff slyri a thail dofednod eu gwasgaru'n anghyfrifol ger cyrsiau dŵr, gan achosi digwyddiadau o lygredd afonydd. Mae trwytholchi nitradau a ffosffad yn raddol i ddŵr daear yn broblem hirdymor, ond mae yna atebion eraill. Un ohonynt, er enghraifft, yw rhoi mwy o arian a phwerau i Cyfoeth Naturiol Cymru allu plismona achosion o lygredd ac erlyn troseddwyr. Ac ar bob cyfrif, dylid cynnal trafodaethau gyda'r ffermydd llaeth mwy o faint am arferion gorau wrth ledaenu slyri, a helpu'n ariannol gydag unrhyw welliannau na fydd yn eu gwthio ymhellach i ddyled.

I ddefnyddio ymadrodd sydd wedi'i ddefnyddio y prynhawn yma, mae'r ddeddfwriaeth hon yn defnyddio morthwyl i dorri cneuen, ac nid yw'n rhywbeth y gallaf ei gefnogi. Arwydd o lywodraeth dda yw myfyrio, adolygu ac ailfeddwl. Edrychwch ar y dystiolaeth eto a gadewch inni gael y dull effeithiol a chymesur wedi'i dargedu rydym i gyd am ei weld ar gyfer ymdrin â llygredd dŵr. Gobeithio y bydd y Llywodraeth yn manteisio ar y cyfle hwn i wneud hynny. Diolch yn fawr iawn.

16:00

A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod James am gyflwyno'r cynnig fel y gwnaeth a diolch i fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr am y gefnogaeth heddiw? Fel y soniodd eraill, anghrediniaeth a dicter fu'r ymateb i'r parth perygl nitradau cyffredinol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddiwedd Ionawr 2021. Yn anffodus, mae ystyried ei bod yn system reoleiddio effeithiol sy'n cyflawni ar gyfer ein hamgylchedd ac economi Cymru yn gyfeiliornus, ac yn safbwynt sy'n dangos diffyg cysylltiad ar ran y Llywodraeth. Mae'n amlwg fod undebau'r ffermwyr, a miloedd o ffermwyr ledled Cymru yn wir, yn gweld y dull hwn yn yr un ffordd. Eu barn hwy a fy marn i yw y bydd y manteision a honnwyd i ansawdd dŵr o'r dull hwn o weithredu yn gymharol ddibwys ac yn sicr yn cael eu bwrw i'r cysgod gan yr effeithiau economaidd negyddol a fydd yn deillio o hynny. 

Bob dydd, clywn am fusnesau ffermio'n ystyried rhoi'r ffidil yn y to oherwydd y buddsoddiadau ychwanegol sydd eu hangen i gydymffurfio a baich ychwanegol rheoliadau llawdrwm sydd i ddod. Mae'r pethau hyn yn cael eu hystyried yn gam yn rhy bell ac yn y rhan fwyaf o feddyliau busnes, yn gwbl ddiangen. Ac nid rhethreg yn unig yw hynny; mae'n ffaith. Rwy'n siarad â ffermwyr yn rheolaidd ac mae hon yn ystyriaeth wirioneddol. Dyma'r adeg lle dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i geisio sicrhau diogelwch y cyflenwad bwyd a pheidio â tharo busnesau ffermio gyda'r ffon fawr drosiadol hon. Rhaid inni beidio ag anghofio mai ffermwyr yw gwarcheidwaid ein cefn gwlad bendigedig, a phrif gynheiliad ein heconomi leol. Hwy sy'n gwneud Cymru yr hyn ydyw. Dylai'r Llywodraeth weithio gyda hwy ac nid yn eu herbyn.

Roedd creu cyfraith o un o'r darnau mwyaf aneffeithiol o ddeddfwriaeth yr UE yn gamgymeriad enfawr. Gwyddom fod y grŵp arbenigol a gadeiriwyd gan CNC yn 2018 wedi cyflwyno 45 o argymhellion yn seiliedig ar gyngor ac arweiniad cadarn, gan ganolbwyntio ar ddulliau gwirfoddol, buddsoddiad, cymorth a rheoleiddio deallus, a'r cyfan gyda'r nod o wella ansawdd dŵr. Ond cafodd hyn ei ddiystyru gan Lywodraeth Cymru, er i CNC, rheoleiddiwr y Llywodraeth ei hun, ei gefnogi. Nid oes unrhyw un yn anghytuno â'r angen i reoleiddio, ond rhaid iddo fod yn gymesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r diwydiant yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â materion pan gânt eu nodi a bydd yn gweithredu'n wirfoddol i ymdrin â'r pethau hyn, ond nid parth perygl nitradau Cymru gyfan yw'r ffordd ymlaen gan nad yw'r canlyniadau ehangach yn ymwneud â'r economi a bwyd wedi'u hystyried yn briodol. 

Aelodau, mae cyfle gwirioneddol gan y Senedd newydd hon i ailfeddwl, i ystyried. Nid oes raid iddi barhau â'r hyn a ddigwyddodd o'r blaen; Senedd newydd yw hi gyda phobl newydd, meddyliau newydd a dyheadau newydd. Rwyf innau hefyd yn cefnogi'r cynnig i alw am bwyllgor perthnasol i adolygu'r sefyllfa hon ar frys. Rwy'n gwybod y byddai cefnogaeth aruthrol gan y diwydiant, a phleidiau gwleidyddol eraill, fel y gwelsom yma heddiw, i ddod o hyd i ffordd well a mwy cynhyrchiol ymlaen sy'n canolbwyntio ar ddiogelu busnesau teuluol wrth fynd i'r afael ag ansawdd dŵr ac ymdrechu i gael economi wledig gynaliadwy, wedi'i chadarnhau gan awydd i gynnal diogelwch cyflenwad bwyd a dŵr o ansawdd uchel. Rwy'n annog pawb ohonoch i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr.

16:05

Dwi'n falch iawn bod Plaid Cymru wedi cydgyflwyno'r ddadl yma y prynhawn yma, ac mai cynnig ar y cyd gan y gwrthbleidiau yw hyn, sy'n dangos, wrth gwrs, pa mor gryf yw teimladau ar y mater yma. Ond o'm safbwynt i, wrth gwrs, mae hwn yn gynnig sy'n cael ei osod mewn ysbryd positif, mai cychwyn proses o gyfaddawdu yw'r cynnig yma. Mae Llywodraeth Cymru, os caf i ddweud, wedi ymateb yn adeiladol gyda'u gwelliant nhw, a dwi yn synnu at natur ymosodol a chwbl negyddol rhai o'r cyfraniadau rŷm ni wedi'u clywed hyd yn hyn. Mae cyfeirio at Faes Awyr Caerdydd a trade deals gydag Awstralia yn methu'r pwynt. Nid pigo ffeit sydd angen ei wneud fan hyn heddiw, ond cychwyn y broses o ffeindio ateb gwell i broblem yr NVZs. 

Cyn yr etholiad, pan gyflwynais i a Phlaid Cymru y cynnig i ddiddymu'r rheoliadau NVZ newydd, mi ddywedais i'n glir y byddwn i a fy mhlaid yn barod i weithio gyda'r Llywodraeth i edrych ar ddatrysiadau amgen i'r broblem o lygredd yn ein hafonydd ni, petai'r Llywodraeth yn barod i gymryd cam yn ôl. Fe wnaeth y Llywodraeth wrthod yr opsiwn bryd hynny, ac er ei bod hi bellach yn ymddangos bod y Llywodraeth yn barod i gyfeirio'r mater i bwyllgor perthnasol o'r Senedd, mae'n rhaid i bawb ddeall na fyddai cefnogi'r cynnig na'r gwelliant yma heddiw yn atal y rheoliadau. Wrth gwrs, mi fyddem ni i gyd yn croesawu'r cyfle i bwyllgor trawsbleidiol bwyso a mesur y rheoliadau mewn ffordd sydd ddim wedi digwydd hyd yma ac i ddod ag argymhellion ger bron er mwyn i'r Llywodraeth eu hystyried nhw, ond wrth gwrs byddai dim rheidrwydd wedyn ar y Llywodraeth i weithredu ar yr argymhellion hynny. Ond gan fod gwelliant y Llywodraeth yn caniatáu cyfeirio'r mater i bwyllgor, dwi'n cymryd o hynny y byddai'r Llywodraeth yn agored ei meddwl i newid y rheoliadau, neu hyd yn oed i ddiddymu'r rheoliadau, os yw'r achos dros hynny yn dod yn glir yng ngwaith y pwyllgor.

Felly, dwi eisiau clywed tri pheth gan y Gweinidog yn ei hymateb hi i'r ddadl y prynhawn yma. Dwi eisiau i'r Gweinidog gadarnhau y byddai hi a'i swyddogion yn y lle cyntaf yn edrych yn gwbl o ddifri ar unrhyw argymhellion fydd yn dod o waith y pwyllgor; yn ail, y bydd hi'n ymrwymo i wneud popeth y gall hi i ddiwygio'r rheoliadau yng ngoleuni’r argymhellion hynny; ac yn drydydd, iddi gadarnhau bod diddymu'r rheoliadau yn opsiwn posib, yn dilyn gwaith y pwyllgor. Yn amlwg, byddai angen gwneud achos cryf dros hynny, ac mi fuaswn i'n tybio bod angen adnabod llwybr amgen i gwrdd â'r nod o ran taclo llygredd dŵr, ond dwi eisiau clywed gan y Gweinidog y prynhawn yma fod yr opsiwn o ddiddymu ar y bwrdd, oherwydd dyna'r unig beth all brofi i fi fod y Llywodraeth yn wirioneddol barod i ystyried y mater yma, ac felly ei bod hi'n werth cyfeirio'r mater at bwyllgor o'r Senedd.

Fe fyddwch chi i gyd yn cofio na wnaeth Plaid Cymru erioed ddadlau dros beidio gweithredu i warchod ansawdd dŵr, ac mi fuasem ni wedi cefnogi rheoliadau'r Llywodraeth petaen ni'n credu eu bod nhw am weithio. Ond mae yna gymaint o wendidau a chwestiynau sydd dal heb eu hateb fel mai cymryd cam yn ôl sydd ei angen nawr. Does ond rhaid edrych, fel rŷn ni wedi clywed gan eraill, ar ganlyniadau'r approach NVZ ar draws Prydain a thu hwnt i weld nad yw e'n ryw fath o fwled arian sydd yn mynd i ddatrys y broblem dros nos. Rŷn ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, fod goblygiadau amgylcheddol negyddol yn mynd i godi drwy golli llawer o'r pori gwartheg, ac yn y blaen, sydd wedi cyfrannu'n allweddol at gadwraeth, a chyflwyno mwy o ddefaid, mae'n debyg, i'n hucheldiroedd ni, sydd yn mynd i olygu dirywiad amgylcheddol posib pellach. Mae proseswyr llaeth allweddol yng Nghymru wedi bod mewn cysylltiad â fi i fynegi pryderon am yr effaith ar hyfywedd y sector. Mae un wedi awgrymu bod ganddyn nhw ddadansoddiad yn dangos y bydd efallai hyd at draean o'r holl ffermydd llaeth yn rhoi'r gorau i gynhyrchu, ac un cwmni eisoes yn cynllunio i symud ei weithrediadau a dod o hyd i laeth o rywle arall, am eu bod nhw'n rhagweld yr effaith niweidiol bydd y rheoliadau hyn yn cael ar hyfywedd y sector llaeth.

Mae'r gost cyfalaf yn rywbeth rŷn ni wedi clywed amdani hi yn barod: hyd at £360 miliwn, ac mae hynny'n fwy na'r incwm cyfan o amaeth yng Nghymru mewn blwyddyn. Dyna pa mor anghymesur yw'r gofyniadau. Ac mae'r Llywodraeth, drwy gyflwyno'r rheoliadau yma, wrth gwrs, wedi slapio bil o ddegau o filiynau o bunnoedd ar ein hawdurdodau lleol ni, a fydd angen buddsoddi tua £36 miliwn ar y 1,000 o ffermydd cyngor sydd gennym ni yng Nghymru.

Felly, ie, cyflwynwch reoliadau, ond targedwch nhw lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod angen nhw. Adeiladwch ar y cynlluniau gwirfoddol, fel y faner las ac, fel y clywom ni gan Cefin Campbell yn gynharach, Taclo'r Tywi yng Ngelli Aur, a datblygu risk matrix fel sy'n digwydd yn Lloegr, lle bydd cyfathrebu dyddiol gyda ffermwyr ar ba mor addas yw eu chwalu slyri, a'n galluogi ni i ddefnyddio technoleg newydd a chyfathrebu amser real, neu real time, sy'n approach llawer mwy deinamig a llawer mwy soffistigedig na rheoliadau cyntefig fel hyn sydd jest yn dilyn dyddiadau'r calendr ac a fydd, yn y diwedd, yn creu mwy o broblemau nag y byddan nhw'n eu datrys.

16:10

Rwyf wedi cymryd rhan mewn dadleuon yn y gorffennol ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno parth perygl nitradau, felly rwy'n mynd i ddefnyddio fy amser heddiw i raddau helaeth i dynnu sylw at drafferthion ac enghraifft un teulu ffermio penodol a sut y bydd y rheoliadau hyn yn effeithio arnynt hwy. Ond er eglurder, rwy'n ailadrodd fy marn hirsefydlog na ddylai'r rheoliadau hyn erioed fod wedi'u cyflwyno; maent yn ddiangen, yn anghymesur ac yn ddinistriol i'r diwydiant ffermio.

Mae cynnig y Ceidwadwyr wedi'i gyflwyno gan fy nghyd-Aelod James Evans, ac fel y nododd Llyr, ni fydd y cynnig hwn heddiw yn dileu'r rheoliadau hynny, ond rwy'n gobeithio'n fawr y bydd cefnogaeth yn y Siambr hon y prynhawn yma i ddechrau proses a allai arwain yn y pen draw at ddileu a diddymu'r rheoliadau gwarthus hyn.

Hoffwn dynnu sylw at drafferthion un teulu o denantiaid fferm yn fy etholaeth fy hun: Brian Jones, ei wraig, Susan, a'i fab, Andrew. Fel ffermwyr Coed y Parc yng Nghaersŵs, fferm laswelltir 105 erw, sy'n gartref i fuches odro gaeedig o 85 o wartheg, maent wedi bod yn ffermio yno ers 1973 ar gytundeb tenantiaeth gydol oes. Mae Brian Jones wedi rhoi rhai sylwadau at ei gilydd ac rwy'n mynd i ddarllen yr hyn y mae wedi'i ddweud.

Dyma ei eiriau: 'Rwyf wedi bod yn godro gwartheg ar hyd fy oes, gan ddechrau o'r adeg pan oeddwn ond yn 12 oed, ac eleni byddaf wedi bod yn ffermio llaeth ers 66 o flynyddoedd. Dyma a wnawn fel teulu. Dyma yw ein bywyd. Nid ydym erioed wedi cael digwyddiad llygredd yma.' Dywedaf hynny eto. Gan rywun sydd wedi bod yn ffermio ar y fferm honno ers 66 mlynedd—gobeithio bod Joyce Watson yn gwrando hefyd—'nid ydym erioed wedi cael digwyddiad llygredd yma.' Aiff ymlaen i ddweud: 'Mae CNC, drwy eu hasesiad eu hunain, wedi cadarnhau nad oes llygredd yma, ond mae'n dal i fod angen i ni gydymffurfio â'r rheoliadau newydd hyn a gwneud gwaith am gost enfawr o tua £70,000.' 'Pwy sy'n mynd i dalu am hynny?', gofynna Mr Jones. Efallai y gallai Joyce Watson, sydd hefyd yn ei gynrychioli, ysgrifennu ato a rhoi gwybod iddo, o ystyried sylwadau Joyce y prynhawn yma.

Aeth ymlaen i ddweud: 'Mae'r landlordiaid wedi gwrthod ac nid yw'r banc am roi benthyg yr arian i ni i wneud y gwaith ar eiddo nad ydym yn berchen arno. Rwyf ar ben fy nhennyn ac yn ofni, ymhen tair blynedd, y gallem yn hawdd weld diwedd ar ein bywyd fel fferm deuluol yma. Nid oes gennyf wrthwynebiad i bolisi sy'n gwneud i'r llygrwr dalu, ond mae hyn yn mynd i andwyo'r diwydiant os nad oes dim yn newid. Rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried goblygiadau ariannol y rheoliadau hyn ar fusnesau fferm bach a chanolig a ffermwyr tenant fel mater o frys.'

Rwyf wedi clywed safbwyntiau y prynhawn yma, a chlywais sylwadau Joyce Watson am ragrith, ac rwy'n cytuno gyda Joyce: mae digon o ragrith yma gan Lywodraeth Cymru. Roeddwn yn falch iawn o glywed safbwyntiau Jane Dodds y prynhawn yma—y rhan fwyaf ohonynt, nid pob un ohonynt. Mae'n swnio fel pe bai Jane yn mynd i gefnogi'r cynnig hwn heddiw hefyd, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Roedd llawer o'r hyn a ddywedodd Jane wedi'i roi at ei gilydd yn dda iawn yn fy marn i. Ond yr hyn a ddywedodd Jane, wrth sôn amdanom ni fel Ceidwadwyr Cymreig, yw bod yn rhaid inni ddefnyddio ein lleisiau i berswadio ein cymheiriaid yn San Steffan ar X, Y a Z. Wel, rwy'n dweud hyn yn garedig wrth Jane: mae'n drueni mawr na allai Jane ddefnyddio ei llais i berswadio'r unig Aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol yma i bleidleisio yn erbyn diddymu'r rheoliadau ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf.

Nid cymhelliad gwleidyddol syml sydd wrth wraidd y safbwyntiau hyn; nid dadl wleidyddol syml yw hon y prynhawn yma, fel y mae rhai Aelodau'n awgrymu. Bywyd go iawn yw hyn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth a'r Aelodau'n cefnogi ein cynnig, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hyn yn mynd â ni ar y llwybr tuag at broses i ddiddymu'r rheoliadau ofnadwy hyn. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae gan ffermio yng Nghymru enw da gyda defnyddwyr am safonau cynhyrchu uchel mewn perthynas â lles anifeiliaid a diogelu'r amgylchedd. Gan mai'r sector amaethyddol sy'n rheoli'r rhan helaethaf o dir Cymru, mae ffermwyr Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn diogelu'r dreftadaeth naturiol a rannwn.

Fel Llywodraeth, rydym yn cefnogi uchelgais ffermwyr Cymru i fod y mwyaf ystyriol o hinsawdd a natur yn y byd, uchelgais a fydd yn cael mwy o ysgogiad drwy fynd i'r afael â'r niwed sy'n cael ei achosi gan lygredd amaethyddol eang flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rwy'n llwyr gydnabod bod nifer yn ffermio yn ôl safonau amgylcheddol uchel, ond rhaid inni wneud cynnydd cyflymach ar leihau llygredd o amaethyddiaeth ar draws y diwydiant cyfan ac ar draws Cymru gyfan.

Er gwaethaf y cyhoeddusrwydd sylweddol y mae'r rheoliadau newydd hyn wedi'i ddenu, a'r cyfyngiadau ar allu CNC i ymchwilio i achosion lle ceir amheuaeth o lygredd oherwydd COVID-19, mae 76 achos o lygredd amaethyddol wedi'u profi hyd yma eleni, sydd, ar gyfartaledd, yn parhau i fod yn fwy na thri achos yr wythnos. Mae'r diffyg ystyriaeth parhaus i'r effaith negyddol ar ein hamgylchedd a'n cymdeithas yn annerbyniol.

Mae lefelau llygredd a achosir gan nitradau, ffosfforws ac amonia yn uwch na throthwyon critigol ledled Cymru, ac mae angen lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o amaethyddiaeth er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd. Mae'r llygryddion hyn yn niweidiol i ansawdd ein hamgylchedd, iechyd y cyhoedd a datblygu economaidd. 

Mae'r rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol, sy'n debyg i'r rhai yng ngweddill y DU ac Ewrop, yn galw am ddefnyddio arferion ffermio y profwyd eu bod yn sicrhau manteision i'r amgylchedd a chynhyrchiant ffermydd. Mae llawer o ffermwyr yn deall yr angen i weithredu ac maent eisoes yn cymryd camau i gynnal safonau amgylcheddol uchel ar eu ffermydd. Mae ffermwyr Cymru yn gwbl abl i weithio yn ôl y safonau sylfaenol hyn ac mae llawer eisoes yn rhagori arnynt.

Cyn y gall y diwydiant honni ei fod y mwyaf ystyriol o hinsawdd a natur yn y byd, yn gyntaf rhaid i bob un o'n ffermydd fabwysiadu safonau cynhyrchu sy'n seiliedig ar arferion da cydnabyddedig. Mae'r rheoliadau'n dilyn dull o weithredu fesul cam dros gyfnod o dair blynedd, gan roi amser i ffermwyr addasu a gwella, a byddwn yn parhau i'w cefnogi i wneud hynny.

Mae ystod eang o adnoddau cymorth yn parhau i gael eu darparu drwy wasanaeth cynghori Cyswllt Ffermio i helpu busnesau fferm i fynd i'r afael â phroblemau llygredd a chefnogi'r rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol. Gyda chefnogaeth Cyswllt Ffermio, mae dros 5,000 o fusnesau fferm wedi datblygu cynlluniau rheoli maetholion, seilwaith a busnes, ac mae dros 2,500 o fusnesau fferm wedi mynychu digwyddiadau Cyswllt Ffermio sy'n canolbwyntio ar y camau y gallant eu cymryd i leihau allyriadau amaethyddol. 

Rydym wedi gweld diddordeb mawr yn y cyfnodau ymgeisio diweddar am y grantiau cynhyrchu cynaliadwy a'r cynlluniau gorchuddio iardiau. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer atebion syml, costeffeithiol i reoli tail yn well, megis gwahanu dŵr glân a dŵr budr. Mae'r cynlluniau hyn yn rhan o'r £44.5 miliwn y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i ddarparu i gefnogi arferion ffermio cynaliadwy. Penderfynir ar gymorth ariannol yn y dyfodol pan fydd cyllidebau wedi'u cytuno yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o wariant Llywodraeth y DU.

Mae'r rheoliadau'n cyd-fynd â'r egwyddorion amgylcheddol a hyrwyddir gan yr Aelodau o'r Senedd drwy fabwysiadu dull rhagofalus lle mae'r llygrwr yn talu. Mae'r dull rydym wedi'i ddefnyddio yn ymwneud â mwy na llygredd nitradau yn unig, yn wahanol i'r hyn y mae James Evans i'w weld yn ei gredu. Mae'n cydnabod ac yn integreiddio cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ac uchelgais yr NFU i gyrraedd allyriadau sero net yng Nghymru a ledled y DU. Mae rheoli allyriadau amaethyddol yn rhan annatod o gyrraedd y targed hwn.

Mae'r dull hefyd yn cydnabod effaith allyriadau amonia ar gynefinoedd sensitif ac iechyd y cyhoedd. Mae'n cydnabod effaith ffosfforws ar ein hardaloedd cadwraeth arbennig afonol, gan gynnwys ar ddatblygu economaidd yn yr ardaloedd hynny. Ni allwn fynd i'r afael â'n hargyfwng natur heb fynd i'r afael â'r holl lygryddion hyn.

Rydym yn gwneud cynnydd yn y pethau hyn, a bydd un set o safonau sylfaenol clir yn ein galluogi i sicrhau'r cynnydd hwnnw a gwneud y datblygiadau pellach y mae dirfawr angen inni eu gwneud. Hoffwn atgoffa Russell George ac Aelodau eraill fod CNC wedi croesawu'r holl reoliadau Cymru gyfan yn gyhoeddus.

Heb amheuaeth, bydd addasu i'r safonau sylfaenol hyn yn heriol i rai yn y diwydiant, ac rwy'n cydnabod bod pob busnes fferm yn wahanol ac efallai y bydd ffyrdd eraill o gyflawni ein hamcan o leihau allyriadau a diogelu pobl a natur yng Nghymru. Dyma pam y rhoddais gyfle i'r diwydiant ddatblygu mesurau amgen, a gwnaed darpariaeth ar gyfer hyn yn y rheoliadau. Rwyf am barhau i weithio gyda'n holl randdeiliaid i sicrhau y bydd unrhyw fesurau amgen yn gweithio'n effeithiol i fusnesau fferm a'r amgylchedd y mae pawb ohonom yn dibynnu arno. Felly, galwaf ar yr holl randdeiliaid eto, gan gynnwys undebau'r ffermwyr, sydd wedi cefnogi dull amgen ers amser maith, i gyflwyno cynigion dichonadwy ar gyfer mesurau amgen a fydd yn sicrhau yr un faint neu fwy o ostyngiadau yn y lefelau llygredd. Rhaid sefydlu unrhyw ddull gweithredu mewn cyfraith. Mae dulliau gwirfoddol yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu ein hamgylchedd, ond mae safonau sylfaenol statudol yn elfen hanfodol.

Mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod yn llawn nad amaethyddiaeth yn unig sy'n achosi llygredd. Mae rheoleiddio i ddiogelu'r amgylchedd rhag llygredd amaethyddol yn sicrhau bod y sector yn cyd-fynd yn agosach â diwydiannau eraill lle mae lefel uchel o reoleiddio'n digwydd. Rhaid i ffermio yng Nghymru wynebu'r dyfodol â breichiau agored a manteisio ar gyfleoedd masnach, ac er mwyn gwneud hynny, mae angen iddo fabwysiadu dull cynaliadwy gyda safonau cynhyrchu priodol, ac mae'r sylfaen reoleiddiol newydd yn helpu i ddiogelu ein sefyllfa fasnachu ar gyfer ffyniant y diwydiant amaethyddol yn y dyfodol. Craffwyd yn drylwyr ar y rheoliadau cyn iddynt ddod i rym, ond rwy'n cefnogi'r alwad gan y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru i bwyllgor perthnasol roi ystyriaeth bellach i weithredu rheoliadau'n effeithiol er mwyn cryfhau gwytnwch ein cymunedau ffermio a chryfhau gwytnwch yr amgylchedd naturiol. Felly, am y rhesymau hyn rwy'n cynnig disodli pwynt cyntaf y cynnig a byddaf yn pleidleisio i gadw'r ail os mabwysiadir y gwelliannau. Diolch.

16:20

Nid oes unrhyw Aelod yn ychwanegol wedi dweud eu bod yn dymuno siarad, felly galwaf ar Samuel Kurtz i ymateb i'r ddadl.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r holl siaradwyr am gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma a chyflwyno cyfraniadau ystyrlon a chraff. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Gweinidog am ei hymateb a'i thrafodaethau cadarnhaol ar yr angen i'r pwyllgor edrych ar hyn, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi ar faterion amaethyddol, ac ar faterion gwledig yn fwy cyffredinol, i helpu i sicrhau dyfodol tecach, cynaliadwy a mwy llewyrchus i ffermwyr Cymru.

Er fy mod yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi ymatal rhag dileu popeth yn eu gwelliant, mae'n siomedig, pan fo'r cynnig hwn yn denu cymaint o gefnogaeth drawsbleidiol, eu bod yn dal i deimlo bod angen cyflwyno gwelliant. Er hynny, byddwn yn ymatal ar eu gwelliant yn y cyfnod pleidleisio.

Gan fod hwn yn dymor newydd yn y Senedd gyda nifer o wynebau newydd yma yn y Siambr ac ar Zoom, nid yw ond yn iawn inni edrych ar y rheoliadau parth perygl nitradau hyn unwaith eto, gan y bydd yr effaith andwyol a gaiff y polisi hwn ar ddiwydiant amaethyddol Cymru yn effeithio arnom i gyd, nid Aelodau sy'n cynrychioli ardaloedd gwledig yn unig. Mae'r ddadl heddiw wedi tynnu sylw at gryfder y teimladau ar y pwnc hwn, nid bod y diwydiant a'r rhai sy'n siarad yn erbyn y parthau perygl nitradau yn gwrthwynebu gwella safonau amgylcheddol, ond i'r gwrthwyneb. Credwn fod ffordd well, fwy ystyrlon ac adeiladol ymlaen sy'n arwain at y gwelliannau angenrheidiol, ond sy'n gwneud hynny mewn modd sy'n osgoi cosbi'r rhai sydd eisoes yn gwneud y peth iawn. Credwn hefyd fod yna ffordd ymlaen nad yw'n peryglu dyfodol ffermydd ledled Cymru. Cyfeiriaf at y stori gan Russell George am y ffermwr yn ei ardal ef: mae'n stori a fydd yn taro tant gyda phob un ohonom sydd wedi siarad â ffermwyr yn ein hardaloedd sy'n deall y trafferthion y bydd hyn yn eu hachosi, yr anawsterau y bydd polisi parth perygl nitradau yn eu creu iddynt yn ariannol ac yn feddyliol. Ac mae Joyce Watson yn siarad am ragrith, byddwn yn ei herio mai rhagrith yw bod y Llywodraeth yn cyhoeddi cyllid ar gyfer elusen amaethyddol wych sy'n ymdrin ag iechyd meddwl, ond eto, ei bod yn cyflwyno deddfwriaeth fel hon, deddfwriaeth y mae eu hadroddiad eu hunain yn dweud ei bod yn creu'r fath—[Torri ar draws.]—yn creu effaith mor negyddol ar iechyd meddwl ffermwyr ifanc ledled Cymru.

Mae hefyd yn braf clywed Cefin Campbell yn sôn ac yn siarad mor gadarnhaol am hyn. Mae Cefin a minnau'n adnabod ei gilydd drwy hustyngau dros gyfnod yr etholiad, a dyma'r unig bwnc y byddwch yn synnu clywed bod Cefin a minnau wedi cytuno arno, ond mae'n wych clywed bod gennym gefnogaeth drawsbleidiol ar hyn, ac mae hynny'n dangos pa mor bwysig yw creu consensws ar bolisi a fydd yn effeithio ar Gymru gyfan.

A byddai'n hawdd iawn sefyll yma a beirniadu'r polisi a'r penderfyniad i'w weithredu heb gynnig ateb arall. A byddwn yn anghytuno â sylwadau blaenorol y Gweinidog nad oes ateb gwirfoddol wedi'i arwain gan ffermwyr wedi'i gynnig neu na allai fod yn llwyddiannus. Mae gan First Milk, sy'n rhedeg hufenfa yn sir Benfro, nifer o ffermydd llaeth yn fy etholaeth i ac mae nifer o ffermwyr llaeth yn fy etholaeth yn cyflenwi llaeth iddynt. Maent wedi gweld llwyddiannau gyda'u prosiect gwrthbwyso maetholion, sydd eisoes yn sicrhau manteision amgylcheddol yng ngorllewin Cymru. Mae'r prosiect gwrthbwyso'n sail i ateb posibl, y soniwyd amdano eisoes yma y prynhawn yma: cynllun ffermio'r faner las, y gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol ohono. Byddai'r cynllun gwirfoddol hwn a arweinir gan ffermwyr, pe bai'n cael ei gyflwyno a'i archwilio'n allanol, yn sicrhau'r manteision amgylcheddol na fyddai'r polisi parth perygl nitradau presennol yn eu cynnig, a byddai hefyd yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru ei hun i weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. Yn hytrach na gosod ateb rheoleiddiol llawdrwm, byddai'n helpu i ddod â'r gymuned ffermio ynghyd ac ailsefydlu ymddiriedaeth. A hefyd, fel y soniodd Cefin Campbell yn gywir, mae'r dechnoleg yno, mae'n datblygu, lle gallwn gael dull gwirfoddol sy'n creu'r newidiadau angenrheidiol ac yn gwella'r safonau amgylcheddol hynny. 

Mae anawsterau'r flwyddyn ddiwethaf wedi golygu ein bod i gyd wedi clywed yr ymadrodd 'dilyn y wyddoniaeth' yn llawer amlach nag o'r blaen. Ac er y dylid cymhwyso'r ymadrodd hwn yn briodol i benderfyniadau sy'n ymwneud â'r pandemig, rhaid ei gymhwyso hefyd i benderfyniadau polisi fel hwn. Ac mae tystiolaeth wyddonol glir i'w gweld ar draws y dŵr yng Ngweriniaeth Iwerddon. Yn 2003, sefydlwyd parth perygl nitradau tiriogaeth gyfan, ac yn 2019, dangosodd canfyddiadau allweddol gan Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd Iwerddon fod gan bron i hanner y safleoedd afonydd grynodiadau anfoddhaol o nitradau; roedd 44 y cant o'r safleoedd yn dangos cynnydd mewn nitradau ar gyfer y cyfnod rhwng 2013 a 2019. Mae llwythi o gyfanswm nitrogen a chyfanswm ffosfforws i'r amgylchedd morol o afonydd Iwerddon wedi cynyddu 24 y cant a 31 y cant, yn y drefn honno, ers 2012-14. Ac yn olaf, roedd bron i hanner—49 y cant—o'r holl safleoedd dŵr daear yn dangos crynodiadau nitradau cynyddol ar gyfer y cyfnod rhwng 2013 a 2019. Os ydym am ddilyn y wyddoniaeth o ddifrif, rhaid inni ystyried tystiolaeth gwledydd eraill sydd wedi gweithredu parthau perygl nitradau, a'r casgliadau brawychus y daethant iddynt. 

Cyn imi ddod â'r ddadl hon i ben, hoffwn rannu dyfyniad gyda'r Aelodau o astudiaeth ar effeithiolrwydd parthau perygl nitradau a gynhaliwyd gan yr Athro Worrall, yr Athro Spencer a'r Athro Burt o Brifysgol Durham, a ddywedodd, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae'r diffyg llwyddiant gwrthrychol mewn perthynas â dynodiad parth perygl nitradau yn awgrymu bod angen ailystyried strategaethau rheoli llygredd nitradau sy'n seiliedig ar reoli mewnbwn.'

Gadewch i ni beidio ag aros nes ei bod yn rhy hwyr i ailystyried y strategaeth hon. 

Wrth gloi, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio gyda'r cynnig fel bod y rheoliadau parth perygl nitradau hyn yn cael eu dwyn gerbron pwyllgor i ganiatáu craffu pellach ac i ystyried eu heffaith andwyol ar amaethyddiaeth yng Nghymru. Diolch.

16:25

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn.

Felly, pob Aelod sy'n gadael y Siambr, sicrhewch eich bod yn gwneud hynny'n dawel, a sicrhewch eich bod yn gadael er mwyn gallu glanhau ar gyfer newid staff.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:28.

16:40

Ailymgynullodd y Senedd am 16:41, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

6. Dadl Plaid Cymru: Pwerau'r Senedd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM7701 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cytuno bod gan y chweched Senedd hon fandad i ddatganoli pwerau sylweddol pellach o San Steffan i Gymru.

2. Yn credu bod yn rhaid i'r Senedd gael yr ysgogiadau i wella bywydau ein dinasyddion ac ailadeiladu Cymru wyrddach, decach a mwy llewyrchus ar ôl y pandemig COVID-19.

3. Yn cydnabod y bygythiad i bwerau'r Senedd sy'n deillio o agwedd Llywodraeth y DU at ddatganoli, yn enwedig ers Brexit.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau i'r Senedd dros faterion a gedwir yn San Steffan ar hyn o bryd, gan gynnwys plismona a chyfiawnder, rheilffyrdd, lles, darlledu, prosiectau ynni, Ystâd y Goron, Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 a'r pŵer i'r Senedd alw refferendwm rhwymol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn i chi, Ddirprwy Lywydd. Fe wnaeth etholiadau'r Senedd fis yn ôl roi mandad cryf a chlir ar gyfer datganoli pwerau sylweddol i fan hyn, i Gaerdydd.

Mae'n deg dweud bod Cymru ar groesffordd yn ein datblygiad fel cenedl wleidyddol. Ychydig a feddyliais yn fachgen ysgol wrth wylio trafodion cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 y byddwn yn sefyll yma fel Aelod o'r Senedd, pwerdy o Senedd gyda phwerau deddfu sylfaenol a chodi trethi. Mae wedi bod yn daith ryfeddol—neu'n broses, fel y mae rhai wedi'i galw. Er i Boris Johnson alw datganoli yn gamgymeriad, er bod rhai pobl draw yno ar feinciau'r Ceidwadwyr wedi bod yn fflyrtio gyda'r criw Abolish, cafodd hyn ei wrthod yn llwyr gan bobl Cymru yn y blychau pleidleisio. Maent wedi rhoi cefnogaeth gref i bwerau pellach. Fodd bynnag, gan fod pobl Cymru wedi rhoi'r gefnogaeth ddiamwys honno inni, nid yw hynny'n ddigon da i'r Ceidwadwyr, nid yw'n ddigon da i Lywodraeth San Steffan: maent yn parhau i danseilio ein bodolaeth. Dros y penwythnos diwethaf, clywsom Boris Johnson yn cyfarwyddo gweision sifil yn Whitehall i beidio â chyfeirio at Gymru fel cenedl. Wel, gadewch imi ddweud wrthych: rydym yn genedl, ac rydym yma i aros. Ni fydd eich ymdrechion gwan i gryfhau'r undeb yn gweithio.

Fe gafodd Llywodraeth Cymru ei hethol gyda'r addewid yn ei maniffesto am newid radical i'r cyfansoddiad. Wel, a gaf i gynnig bod dim byd radical yn eich gwelliannau chi heddiw, Llywodraeth? Gallai rhywun feddwl ein bod ni wedi mynd yn ôl i ddechrau'r pumed Senedd, wrth inni edrych ar eich gwelliannau chi.

Yn ystod ymgyrch yr etholiad, dywedodd y Prif Weinidog:

'Rydym angen ymreolaeth i Gymru, mwy o bwerau, sefyllfa lle na ellir tynnu datganoli yn ôl ar fympwy un o brif weinidogion y DU.'

Wel, Brif Weinidog, wel, Gwnsler Cyffredinol, heddiw mae gennych gyfle i ategu'r geiriau hynny â chynllun priodol wedi'i osod mewn statud. Dyma'r amser i weithredu, i gyflawni mandad pobl Cymru, i sbarduno'r ddarpariaeth yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau pellach. Dyma'r amser i wireddu rhethreg ymreolaeth a sicrhau'r Gymru gryfach a'r Senedd gryfach y mae pobl Cymru'n galw amdanynt.

Wrth inni'n araf ymlwybro i gyfnod ôl-COVID, mae'n bwysig ein bod ni'n defnyddio'r cyfle yma i greu Cymru well. Fedrwn ni ddim mynd nôl i sut oedd pethau. Allan o ddinistr yr ail ryfel byd, fe wnaeth Llywodraeth Lafur ddangos y ffordd—gwnaethon nhw weddnewid Prydain er gwell. Rhaid i ni heddiw yng Nghymru meddwl yn radical unwaith eto, ond y tro yma, yng Nghymru gwnaiff hynny ddigwydd, nid ym Mhrydain.

Mae pandemig y coronafeirws wedi dangos, pan fydd Cymru'n arwain mewn materion iechyd cyhoeddus, ei bod fel arfer yn llawer mwy effeithiol na dilyn arweiniad San Steffan. Lywodraeth Cymru, rydych yn falch iawn o'ch rhaglen frechu, a hynny'n briodol, ond yn awr mae angen inni greu system gyfiawnder y gallwn fod yr un mor falch ohoni. Mae angen inni greu system les sy'n diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae angen inni greu gofal cymdeithasol sy'n gofalu am ein henoed ac sy'n rhoi iddynt y parch y maent yn ei haeddu.

Mae'n rhaid i ni greu Deddfau sydd wedi cael eu hasio'n agos at iechyd ac addysg, at y gwasanaeth lles.

A ddylem adael yr holl faterion pwysig hyn i blaid sy'n dymuno torri'r gyllideb cymorth rhyngwladol? O ddifrif? Ai dyna y gofynnwn i bobl Cymru ei dderbyn?

Wedi dros 20 mlynedd o ddatganoli, dyw e ddim yn gwneud dim synnwyr, yw e, fod cyfiawnder heb gael ei ddatganoli yma i'r Senedd? Os yw'n ddigon da i'r Alban, os yw'n ddigon da i Ogledd Iwerddon, pam nad yw'n ddigon da i ni yn fan hyn yng Nghymru? Pam nad ydyn ni yn y Senedd yn gallu cael gofal am gyfiawnder? Ond hyd yn oed os ŷn ni'n rhoi o'r neilltu yr anomali rhyfedd hwnnw, fod gennym ni ddeddfwrfa, ond ein bod ni'n methu gweithredu ein cyfreithiau, jest ddychmygwch y system gyfiawnder gymaint yn well y byddem ni'n gallu ei gwneud yn fan hyn yng Nghymru: cyfiawnder a fyddai'n well i ddioddefwyr, i droseddwyr a'n cymunedau ni. Mae system well yn bosib, ond yn fwy na hynny, mae system well yn angenrheidiol i bobl Cymru.

Adsefydlu priodol, siarter dioddefwyr effeithiol a thosturiol a gwaith ataliol i gael gwared ar achosion sylfaenol troseddu. Dyna sydd ei angen ar ein cymunedau. Yn anffodus, bydd yr holl ddyheadau egwyddorol hyn yn parhau i fod y tu hwnt i'n rheolaeth hyd nes bod gennym fodd o greu cyfiawnder Cymreig yma yng Nghymru. Mae Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, sy'n mynd ar ei daith ddeddfwriaethol drwy San Steffan ar hyn o bryd, yn enghraifft berffaith o'r rheswm pam y mae angen inni ddatganoli cyfiawnder yma yng Nghymru. Mae'r llu o newidiadau sylweddol yn y Bil, gan gynnwys pwerau newydd i gyfyngu ar brotest ac ehangu stopio a chwilio, yn sicr o waethygu anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli yn ein system cyfiawnder troseddol. Gwyddom i gyd y bydd mesurau stopio a chwilio'r Bil yn effeithio'n anghymesur ar bobl dduon.

Mae cymaint o newidiadau positif wedi digwydd yn ein gwlad ni oherwydd protestio, o ferched Beca i'r Siartwyr, i Gymdeithas yr Iaith ac i heddiw, gyda Black Lives Matter ac Extinction Rebellion. Mae yna uwchfwyafrif yn fan hyn yn ein Senedd ni dros ragor o bwerau. Dyma'r cyfle perffaith i ni gefnogi hynny, i ni gefnogi'r cynnig, i'r Senedd a'r genedl fod yn un, a dangos yn glir i Lywodraeth San Steffan beth yw ewyllys pobl ein gwlad.

A dwi'n gobeithio, fel gwnes i wylio'r Senedd dros 20 mlynedd yn ôl, fod yna berson ifanc yn ein gwylio ni heddiw, a bydd y person ifanc hwnnw'n dod yn Aelod rhyw ddydd, ond yn Aelod o Senedd sy'n gweinyddu cyfiawnder; Aelod o Senedd sydd â'r gallu i frwydro dros holl bobl Cymru; Aelod o Senedd sydd ddim yn ddibynnol ar fympwy Llywodraeth San Steffan, ac i mi, ac i'm mhlaid, Senedd annibynnol ein gwlad.

Mae ein cynnig heddiw yn canolbwyntio ar y pwerau y dylem ni fod yn eu ceisio, a'u ceisio ar unwaith; pwerau mae yna gefnogaeth eang iddyn nhw a chonsensws eisoes ar gael yn y Siambr yma. Does dim angen comisiwn arall i'w trafod, mae'r gefnogaeth yma yn barod. Ond yn fwy na hynny, mae'n rhaid inni hefyd geisio pŵer i bobl Cymru i hunanbenderfynu drostyn nhw eu hunain. Nid y sgwrs mae'r Blaid Lafur yn cyfeirio ati yn eu gwelliant nhw, ond trafodaeth go iawn. Mae angen i ni ymbweru pobl Cymru i benderfynu eu dyfodol nhw eu hunain; ddylai e ddim bod yn ddibynnol ar San Steffan beth yw'n dyfodol ni yng Nghymru. Mae'n rhaid i ni gael y pwerau, yn enwedig os yw San Steffan yn gwrthod ein galwad clir am hunanlywodraeth. Diolch yn fawr.

16:50

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Darren Millar i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei enw.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod canlyniad etholiad diweddar y Senedd yn dangos nad oes mandad ar gyfer newid cyfansoddiadol sylweddol na refferendwm pellach ar bwerau datganoledig.

2. Yn nodi'r cydweithrediad rhwng Llywodraeth Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru ar fframweithiau cyffredin yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.

3. Yn croesawu'r cydweithredu rhwng Llywodraeth Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig coronafeirws, sy'n cynnwys:

a) darparu cyllid i ddiogelu busnesau, incwm, swyddi, gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector, y celfyddydau a mwy;

b) defnyddio'r fyddin;

c) caffael a darparu brechlynnau.

4. Yn credu mai'r ffordd orau o wasanaethu dyfodol Cymru yw fel rhan o Deyrnas Unedig gref.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig ac am siarad yn erbyn y cynnig a gwelliant 2 y Llywodraeth.

A gaf fi yn gyntaf groesawu llefarydd newydd Plaid Cymru i'w swydd a'i longyfarch ar ei benodiad? Mae'n rhaid imi ddweud y gall arwain dadl am y tro cyntaf yn y Siambr fod yn brofiad nerfus iawn, ond os oedd ganddo unrhyw nerfau, yn sicr ni wnaeth eu dangos heddiw. Gallaf gofio'r ddadl gyntaf un a arweiniais yn y lle hwn: canodd y larwm tân a chafodd y lle cyfan ei wagio hanner ffordd drwodd. Nid wyf yn gwybod a ddigwyddodd hynny o ganlyniad i'r gwres roeddwn yn ei gynhyrchu yn y Siambr, neu a oedd rhywun yn gwneud drygioni y tu allan, ond fe'i gwnaeth yn fwy cofiadwy. Edrychaf ymlaen at ddadlau gyda chi ar draws y Siambr am flynyddoedd lawer i ddod.

Ddirprwy Lywydd, cafodd Plaid Cymru gyfle i ddefnyddio eu dadl gyntaf fel gwrthblaid yn y Senedd i edrych ar ystod eang o faterion sydd o bwys tyngedfennol i bobl Cymru, ond yn hytrach na dewis canolbwyntio ar y materion pwysig eraill hynny fel ein gwasanaeth iechyd, ein hysgolion, ein heconomi, yn lle hynny maent wedi penderfynu dechrau'r tymor seneddol newydd gyda chynnig a wrthodwyd yn llwyr yn etholiadau diweddar y Senedd, etholiad lle cyflwynodd Plaid Cymru achos i bobl Cymru dros fwy o bwerau a refferendwm arall gyda mwy o anhrefn cyfansoddiadol, ac eto refferendwm lle'r aeth eu cyfran hwy o'r bleidlais i lawr, yn wahanol i'n cyfran ni o'r bleidlais. Aethant tuag yn ôl. Fe wnaethant golli tir. Ni wnaethant ennill unrhyw dir o ganlyniad i'r neges benodol honno a gyflwynwyd ganddynt i bobl Cymru, a hynny oherwydd bod pobl Cymru wedi gwrthod bogailsyllu cyfansoddiadol ac anhrefn cyfansoddiadol ar 6 Mai. Ac oherwydd hynny hefyd, rhaid inni fanteisio ar y cyfle hwn y prynhawn yma yn y Siambr i wrthod chwarae pŵer o'r fath hefyd.

Dyna pam rydym yn ei gwneud yn gwbl glir yn ein gwelliant ein bod yn credu nad oes mandad o gwbl i ddatganoli pwerau sylweddol pellach i'r Senedd hon. Yn wahanol i lefarydd Plaid Cymru, credwn fod y pandemig a Brexit yn dangos yn glir iawn pam nad oes angen y pwerau ychwanegol hynny arnom oherwydd, Ddirprwy Lywydd, yr arf mwyaf sydd gennym i ailadeiladu Cymru well yw'r ffaith bod Cymru yn rhan annatod o'r Deyrnas Unedig. Nid oes ond angen inni edrych ar y 18 mis diwethaf dros y pandemig i weld sut y mae Cymru'n elwa o'r setliad datganoli presennol. Rydym wedi cael personél o luoedd arfog y DU yn darparu brechlynnau, yn gyrru ambiwlansys ar hyd a lled Cymru, pan oedd angen cymorth ychwanegol ar y GIG wrth iddo wynebu'r pwysau hwnnw. Maent hefyd wedi dod â chyfarpar diogelu personol i mewn ar awyrennau o leoedd fel y dwyrain pell i'r Deyrnas Unedig, pan oedd ein GIG ar ei gliniau ac angen y gefnogaeth honno fwyaf.

Prosesau caffael Llywodraeth y DU a buddsoddiad mewn gwaith ymchwil ar y brechlyn COVID sy'n gyfrifol am un o'r rhaglenni brechu gorau yn y byd. Heb y gefnogaeth honno, ni fyddai Cymru yn arwain yn fyd-eang ar gyflwyno'r brechlyn fel y mae heddiw. Byddai ein rhaglen ar ei hôl hi mewn gwirionedd, gan beryglu bywydau a pheryglu ein hadferiad economaidd. Drwy fod yn rhan o'r DU, gallodd Cymru ddiogelu bywydau a bywoliaeth pobl drwy gydol y pandemig gyda'r cynllun ffyrlo, y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig, benthyciadau adfer, arian i ddarparu'r gronfa cadernid economaidd yma yng Nghymru, a chyllid i gefnogi'r trydydd sector, y celfyddydau a'n sector diwylliannol. Ac ar ben hyn, mae Llywodraeth y DU hefyd wrth gwrs wedi buddsoddi arian ychwanegol yn ein system les i gynyddu taliadau i'r bobl sydd ei hangen.

Mae cynnig Plaid Cymru hefyd yn honni bod Llywodraeth y DU yn fygythiad i ddatganoli, ond ni allai dim fod ymhellach o'r gwirionedd. Hoffwn atgoffa'r Aelodau yn y Senedd heddiw mai Llywodraeth Geidwadol y DU a gyflwynodd y refferendwm yn ôl yn 2016 a arweiniodd at drosglwyddo pwerau pellach i'r Senedd, oherwydd yn wahanol i bleidiau eraill yn y Siambr hon a geisiodd rwystro Brexit, rydym yn parchu canlyniadau refferenda. Gwyddom mai ewyllys sefydlog pobl Cymru yw cael Senedd yma sydd â'r set o bwerau sydd gennym ar hyn o bryd. Ni wnaeth Llywodraeth y DU gipio pwerau ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ychwaith. Yn wir, mae Cymru wedi cael dwsinau o bwerau a chyfrifoldebau newydd o ganlyniad i adael yr UE. Roedd Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yn cadarnhau pwerau mewn gwirionedd ac yn rhoi cyfrifoldebau i'r Senedd mewn tua 70 o feysydd polisi a ddaeth yma yn uniongyrchol o Frwsel. Hynny yw, ni fyddaf byth bythoedd yn gwybod sut y gallwch ddweud bod hynny'n gipio pwerau.

Felly, yn hytrach na chwyno am y pwerau nad ydym yn meddu arnynt, gadewch inni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym i wella bywydau pobl Cymru, i ddatrys y problemau yn ein gwasanaeth iechyd, yn ein hysgolion, ac yn ein heconomi, fel y gall Cymru fod yn genedl lewyrchus fel y mae pawb ohonom angen iddi fod.

16:55

Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i gynnig yn ffurfiol welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 2—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei gwaith parhaus i sicrhau bod plismona a chyfiawnder yn cael eu datganoli yn unol ag argymhelliad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.

2. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn a sgwrs gyda phobl Cymru i ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol.

3. Yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i gyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o ‘Diwygio ein Hundeb’, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 2019.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Rwy'n mynd i ostwng y tymheredd ychydig. Mae tair o'r pedair plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd hon bellach yn derbyn yn fras nad yw'r Deyrnas Unedig yn addas at y diben ar hyn o bryd o ran y modd y mae'n llywodraethu'r DU gyfan a'i threfniadau cyfansoddiadol, a'r berthynas rhyngddi a sefydliadau democrataidd. Ac yn y Senedd flaenorol, roedd o leiaf un Aelod blaenllaw ac amlwg ar feinciau'r Ceidwadwyr hefyd yn derbyn hyn ac yn dadlau'r achos dros ddiwygio er mwyn cadw'r undeb. Arhoswn i weld a oes unrhyw Geidwadwyr Cymreig yn fodlon dilyn ôl troed David Melding yn y ffordd ddigyffro ac ystyrlon a chraff y dadansoddai fethiannau'r undeb a'r peryglon i'r undeb o fwrw ymlaen fel y gwnawn, oherwydd nid yw'r status quo yn opsiwn. Mae fel gyrru hen gar nes ei fod yn syrthio'n ddarnau, heb unrhyw waith cynnal a chadw, heb sôn am uwchraddio. Yn y pen draw, mae'n rhydu, mae'n dod i stop ac mae'n syrthio'n ddarnau. Mae angen i chi naill ai ofalu'n iawn am yr hen siandri neu gael gwared arni a chael rhywbeth newydd.

Nawr, lle mae tair o'r pedair plaid a gynrychiolir yma yn cytuno yn eu pryderon, fel y mae'r cynigion a'r gwelliannau'n dangos, mae eu rhagolygon yn wahanol iawn, o broffwydo diwedd yr undeb i ddadlau dros ddiwygio radical, ac felly'r ystod o welliannau i'r prif gynnig. Byddwn yn dweud bod yr achos dros ddiwygio radical ar frys yn ddiamheuaeth bellach. Nid pwynt gwleidyddol yw hwn; mae'n bwynt pragmataidd. Mae cyfansoddiad presennol y DU, sy'n seiliedig ar fodel traddodiadol sofraniaeth seneddol San Steffan, yn hen ac yn anaddas ar gyfer heddiw. Nid yw'n adlewyrchu hunaniaeth fodern a dyheadau'r pedair gwlad, heb sôn am ail-ymddangosiad y maeryddiaethau metropolitan a rhanbarthol cryf yn Lloegr, sy'n ddatblygiad i'w groesawu.

Felly, sut olwg ddylai fod ar undeb diwygiedig? Wel, rhaid iddo adlewyrchu'r realiti mai undeb gwirfoddol o genhedloedd a rhanbarthau yw hwn sy'n cydweithio er budd pawb, nid system wedi'i gorganoli gydag anghydbwysedd pŵer clir. Fel cymdeithas wirfoddol o genhedloedd, rhaid iddi hefyd fod yn agored yn y pen draw i ddewis democrataidd unrhyw un o'i rhannau cyfansoddol i dynnu'n ôl a throi cefn ar yr undeb, yn hytrach na bod yn rhwym wrthi am byth, doed a ddelo. Ac fel undeb gwirfoddol, dylai fod parch rhwng y rhannau cyfansoddol, ond dylai'r parch hwnnw gael ei adlewyrchu yn y ffordd y mae rhannau'r undeb yn cydweithio ac yn herio syniadau a pholisïau a gweledigaeth ar gyfer yr undeb cyfan; lle mae gan y rhannau cyfansoddol lais cydradd yn yr hyn y mae'r canol yn ei wneud a'r hyn nad yw'n ei wneud; lle nad yw'r canol yn gorfodi, ond yn hytrach yn gwrando ac yn ymateb, a lle mae'r cyfanswm yn fwy na'r rhannau oherwydd bod y cenhedloedd a'r rhanbarthau'n teimlo bod ganddynt, a bod ganddynt yn wir, rôl ystyrlon yn yr undeb hwnnw.

Nawr, ymgyrchodd Llafur Cymru, fy mhlaid i, dros ddiwygio, ac mae'r Llywodraeth hon wedi cael mandad i ddatblygu syniadau ar hyn, a chyda'r cyhoedd yng Nghymru yn ehangach, ar rywbeth sy'n edrych fel, beth bynnag y byddem yn ei alw, math o ffederaliaeth bellgyrhaeddol o fewn undeb newydd a llwyddiannus—credaf mai David Melding oedd y person olaf i ddefnyddio'r ymadrodd hwnnw yma—i gael sgwrs gyhoeddus genedlaethol yng Nghymru am ein dyfodol; i sefydlu comisiwn annibynnol sefydlog i edrych ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru ac o fewn y DU; i gefnogi gwaith y comisiwn cyfansoddiadol ledled y DU sy'n cael ei sefydlu ar hyn o bryd gan Blaid Lafur y DU i weithio ar draws y pedair gwlad, ond i weithio gyda phleidiau eraill y DU ar hyn hefyd, a chyda Thŷ'r Arglwyddi, i bwyso ar Lywodraeth y DU am ddiwygio ffederal mwy trylwyr i'n cyfansoddiad a'n cysylltiadau rhynglywodraethol; i fynd ar drywydd datganoli plismona a chyfiawnder, fel yr argymhellwyd gan gomisiwn Thomas, ac i herio Deddf marchnad fewnol y DU, nid am resymau gwleidyddol, ond er mwyn osgoi treth ar ddatganoli ac i hyrwyddo hawliau'r Senedd hon i ddeddfu heb ymyrraeth mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru ar hyn o bryd.

Nawr, edrychwch, weithiau, mae'r berthynas rhwng pobl yn dod o dan straen—rhwng brodyr, rhwng partneriaid, rhwng plant yn eu harddegau a rhieni hen ffasiwn—a dylwn ddweud nad oes dim o hyn yn hunangofiannol. [Chwerthin.] Nid yw'r berthynas rhwng pobl bob amser yn llyfn iawn; maent yn taro darnau garw yn y ffordd, rhai mawr weithiau, ac os yw'n ddrwg iawn, rydych chi weithiau'n cwestiynu, 'A yw mor ddrwg fel ei fod ar ben, a ydym wedi syrthio allan o gariad â'n gilydd, a ddylem wahanu?'

Yn senario Plaid Cymru—ac mae'n bwynt egwyddorol—mae ar ben, roedd bob amser ar ben ac ni ddylai byth fod wedi dechrau: 'Roedd yr undeb rhwng Cymru a Lloegr yn berthynas drychinebus o'r cychwyn, dylem wahanu yn awr a diwedd arni'. Ond mae'n rhaid inni gydnabod bod y senario 'diwedd arni' wedi'i phrofi'n gadarn yn yr etholiad diweddar ac na wnaeth ennyn cefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru.

I'r Ceidwadwyr, mae'r undeb yn berthynas gariadus a hardd lle mae'r Llywodraeth bresennol yn San Steffan yn cadw buddiannau gorau Cymru yn ei chalon ac weithiau mae'n rhaid iddi ddangos ychydig o gariad caled i Gymru i ddangos cymaint y maent yn malio. Nid amarch yw hynny, nid bychanu'r plant, dim ond gosod rheolau'r tŷ ar gyfer y teulu a'r gwesteion, mae'n dangos pwy yw'r bos, ac mae hyn yn rhoi straen ar y berthynas.

Mae Llafur Cymru yn glir: nid yw'r undeb yn gweithio ar ei ffurf a'i gwedd bresennol, ond gallai weithio drwy ddiwygio radical ar frys. Gallai gwledydd fel Cymru a'r Alban a rhannau pwerus o Loegr lle mae'r pwerau a'r cyllid wedi'u datganoli fwyfwy fod hyd yn oed yn gryfach a dal i gydweithio—

17:00

Fe wnaf yn wir—a dal i gydweithio o hyd er budd cyffredin ehangach gwledydd a rhanbarthau'r DU a'r DU gyfan.

Ddirprwy Lywydd, efallai fod gan yr hen siandri fwy o fywyd ynddi eto, ond rhaid inni osgoi sefyllfa lle rydym yn dal i fynd nes dod i stop, neu daro'r clawdd. A dyna fy mhryder gydag ymagwedd bresennol Llywodraeth y DU.

Ein rôl ni i gyd sy'n cynrychioli pobl Cymru yw sicrhau'r bywyd gorau posibl i drigolion ein cenedl; i wneud popeth posib i greu Cymru lewyrchus, deg a chyfiawn, sy'n gofalu am bob un sy'n galw Cymru'n gartref. Os na wnawn ni hyn, yna nid ydym yn haeddu eistedd yn y Siambr hon, na chwaith yn deilwng o gynrychioli'r cymunedau sydd wedi rhoi eu ffydd ynom i'w gwasanaethu.

Ers 2010, mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Gyfunol wedi mynd ati i ailstrwythuro'n system les mewn modd llym ac anghyfiawn. Er bod ganddi'r adnoddau i sicrhau nad yw ein teuluoedd a'n plant tlotaf yn llwglyd ac yn cwympo drwy rwyd y wladwriaeth les, mae'n methu â gwneud hynny. Ochr yn ochr â hyn, rhaid gosod effaith methiant Llywodraeth Lafur Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020. Erbyn hyn, mae gan Gymru'r gyfradd uchaf o dlodi plant o unrhyw genedl yn y Deyrnas Gyfunol, gydag un o bob tri phlentyn yn byw mewn tlodi. Mae'n sgandal cenedlaethol; yn adlewyrchiad damniol o effaith llymder y Ceidwadwyr ac 20 mlynedd o ddiffyg Llafur yng Nghymru i wneud fawr mwy na rheoli tlodi.

Ers 2016, mae gan yr Alban reolaeth dros 11 o fudd-daliadau lles a'r gallu i greu budd-daliadau nawdd cymdeithasol newydd o fewn meysydd polisi datganoledig. Felly y cwestiwn yw: pam nad oes gennym y grymoedd yma yng Nghymru? Hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru yn erbyn datganoli lles yn ei chyfanrwydd i Gymru, y lleiaf y gallant ei wneud heddiw yw dechrau'r broses i sicrhau cydraddoldeb i Gymru ar yr un lefel â'r Alban. Mae'r farn gyhoeddus o blaid hynny. Mae arolygon barn wedi dangos bod mwyafrif o blaid datganoli pwerau lles i'n Senedd. Mae pwyllgor trawsbleidiol o'r Senedd ddiwethaf, o dan gadeiryddiaeth Aelod o'r Blaid Lafur, o blaid hynny. Mae'r arbenigwyr cyllid o blaid hynny hefyd. Yn ôl tîm Dadansoddi Cyllid Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, gall datganoli lles yn yr un modd â'r Alban roi hwb o £200 miliwn i gyllideb Cymru. Ac fe fyddai'n cael effaith gadarnhaol, fesuradwy ar fywydau'r rhai mwyaf anghenus yn ein gwlad.

Felly, pam y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i lusgo ei thraed ar ddatganoli pwerau a fydd yn gwneud Cymru'n well ei byd? Pam amddifadu Cymru o ysgogiad pwerus pellach a fyddai'n helpu i fynd i'r afael â thlodi? Beth am weithredu i helpu i godi ein pobl? Yn ystod ymgyrch yr etholiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod yn credu bod pwerau dros fudd-daliadau lles a'r rhan fwyaf o drethi

'yn well o'u cyflawni ar lefel y DU.'

Hyd yn oed os mai'r canlyniad yw'r lefel uchaf o dlodi plant yn y Deyrnas Unedig? Mae'n ymddangos bod cred y Prif Weinidog yn yr undeb yn gryfach na'i gred mewn cydraddoldeb cymdeithasol. I bob pwrpas, mae'r Prif Weinidog yn dweud bod yn rhaid i blant Cymru sy'n byw mewn tlodi aros—rhaid iddynt aros i Lywodraeth San Steffan newid, hyd yn oed os yw hynny'n cymryd 10 neu 15 mlynedd neu fwy. Ni all teuluoedd mewn angen yng Nghymru fforddio aros mor hir â hynny. Os yw'r Llywodraeth hon o ddifrif yn awyddus i sicrhau urddas, tegwch a bywyd gweddus i'n holl bobl, ni all fod dadl yn erbyn sicrhau'r modd i wneud hynny.

Os yw sicrhau urddas i'n trigolion yn waelodol i'r Gymru deg y dylem oll fod yn ceisio ei chreu, yna mae'r hawl i fyw bywyd yn rhydd o ragfarn, gwahaniaethu ac erledigaeth hefyd yn waelodol i fi. Y llynedd, ar ôl bron i ddwy flynedd o oedi, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ei hymateb i'r ymgynghoriad ar ddiwygio Deddf Cydnabod Rhywedd 2004—y Ddeddf ddiffygiol honno. Roedd y Ddeddf fod i ganiatáu i bobl draws dderbyn cydnabyddiaeth gyfreithiol o'u rhywedd, ond roedd y broses gymhleth, fiwrocrataidd, feddygol a drud yn atal nifer rhag gwneud hynny. Er gwaethaf barn y mwyafrif llethol a ymatebodd i'r ymgynghoriad, methodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol â sicrhau proses a fyddai'n helpu pobl draws i fedru byw eu bywydau bob dydd ag urddas.  

Rydym ar hyn o bryd yn dathlu mis Pride, ac wrth inni wneud hynny, rhaid inni ailddatgan ein hymrwymiad i bobl LHDT+ Cymru ein bod yn parchu eu hawliau ac y byddwn yn ymladd dros eu hawliau. Os ydym yn datganoli pwerau sy'n ymwneud â'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd i Gymru, gallem helpu i sicrhau hawl pobl draws i fyw eu bywydau fel y dymunant, gydag urddas. Mae'n siomedig, felly, fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi penderfynu tynnu'r alwad hon yn ein cynnig ni gyda'u gwelliant, a hynny er bod Llafur Cymru wedi datgan yn eu maniffesto—

17:05

Rwy'n gorffen.

Rwy'n dyfynnu:

'Byddwn hefyd yn gweithio i ddatganoli'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd a chefnogi ein cymuned Draws.'

Mae angen y pwerau hyn arnom—mae eu hangen arnom yn awr. Mae'n bryd gweithredu ar y mandad a roddwyd i ni gan bobl Cymru, a hoffwn annog pob Aelod i bleidleisio dros y cynnig heddiw. Diolch yn fawr.

Roedd y ganran a bleidleisiodd yn etholiad diweddar y Senedd yn isel, 47 y cant ledled Cymru. Ceir dryswch cyffredinol o hyd ynglŷn â pha bwerau y mae gan y Senedd reolaeth drostynt ar hyn o bryd, ac mae angen gwneud gwaith helaeth i gael pobl i ymgysylltu â'r broses sydd gennym yma a'r gwaith a wnawn i wella bywydau pobl Cymru. Mae hon yn her nid yn unig i ni yma, ond i Lywodraethau datganoledig ledled y Deyrnas Unedig: ceisio cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd a'u cynnwys yn y broses etholiadol.

Dylai hyn fod yn brif flaenoriaeth i'r Senedd hon, ond yn hytrach, mae Plaid Cymru, Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn benderfynol o chwarae gemau cyfansoddiadol yma yng Nghymru, gan weithio'n gyson yn erbyn Llywodraeth y DU ac nid gyda hwy, a chyhuddo Llywodraeth y DU a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig gyfan o fygwth datganoli. Y cyfan a wnewch yw galw am bwerau pellach a diwygio ein hundeb gwych. Nid oes eisiau hynny yma yng Nghymru. Rydym yn gryfach gyda'n gilydd—rhan o'r Deyrnas Unedig.

Pam y byddai pobl Cymru am inni gael unrhyw reolaeth dros ragor o bwerau pan nad yw Llywodraeth Lafur Cymru yn rhedeg Cymru'n effeithiol gyda'r pwerau sydd ganddynt ar hyn o bryd? Nid yw addysg yng Nghymru yn cyflawni fel y dylai, mae amryw o fyrddau iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig, mae gennych bobl yn aros am driniaeth canser, mae rhestrau amseroedd aros yn cynyddu, mae prosiectau seilwaith mawr wedi'u canslo neu eu gohirio ac mae ein sector busnes yn teimlo ei fod wedi'i esgeuluso, a'r cyfan rydych chi am sôn amdano yw pwerau pellach a chreu anhrefn cyfansoddiadol pan ddylem fod yn canolbwyntio'n unig ar adferiad ac ar wella bywydau pobl Cymru.

Felly, beth yw'r nod yma? Beth yw eich obsesiwn â mwy o bwerau? I lawer y tu allan i'r swigen hon ym Mae Caerdydd, mae'n edrych fel adeiladu gwladwriaethol tuag at Gymru annibynnol, ac o'r canlyniadau diwethaf ychydig dros fis yn ôl, nid oes awydd yn fy etholaeth i, Brycheiniog a Sir Faesyfed, na Chonwy nac unrhyw un o'r meinciau Ceidwadol hyn, ac yn ehangach, am annibyniaeth neu refferenda nac unrhyw bwerau pellach i'r Senedd hon. Mae pobl fy etholaeth i a Chymru gyfan am inni fwrw ymlaen â'n gwaith. Felly, dylid pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn heddiw, a gadewch inni fwrw ymlaen â'n gwaith o gynrychioli pobl Cymru a pheidio â chreu mwy o ddryswch na'r hyn sy'n bodoli'n barod. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

17:10

Hoffwn ganolbwyntio, fel rhan o fy nghyfraniad i’r ddadl, dros yr angen i ddatganoli darlledu. Mae’n faes sydd wedi ei ddatganoli mewn gwledydd datganoledig eraill, megis Gwlad y Basg a Chatalwnia, ac mae’r pwerau wedi cael eu defnyddio er lles eu hieithoedd nhw.

Darganfu pwyllgor trawsbleidiol comisiwn Silk, a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain ei hunan, ynghyd ag arolwg barn YouGov yn 2017, bod dros 60 y cant o bobl Cymru o blaid datganoli darlledu i Gymru. Felly, mae cefnogaeth y cyhoedd yn ddiamheuol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Prydain wedi gwrthod gweithredu argymhelliad y comisiwn i ddatganoli i Lywodraeth Cymru yr ychydig filiynau o bunnau’n unig sydd yn cael eu casglu gan drethdalwyr i ariannu S4C. A oes unrhyw wlad arall yn y byd lle mae’r pŵer dros ei phrif sianel a’i darlledwr cyhoeddus yn perthyn i wlad arall? Dywedodd pwyllgor cyfathrebu'r pumed Senedd ei bod yn 'sefyllfa anarferol' bod y pwerau dros S4C yn gorwedd yn Llundain yn hytrach na’r wlad ble mae’r iaith sydd i’w chlywed yng nghynnwys y sianel yn cael ei siarad. Rhaid i hynny newid.

Mae nifer cynyddol o gyrff a sefydliadau eraill hefyd wedi galw ar Lywodraeth Prydain i fynd ymhellach ac yn gweld rhinwedd y ddadl dros ddatganoli darlledu yn ei gyfanrwydd. Byddai datganoli darlledu yn helpu’r bobl sy’n byw yma yng Nghymru i ddeall yn well yr hyn sy’n digwydd yn eu gwlad eu hunain, nid derbyn camwybodaeth gan y cyfryngau Llundeinig sy’n methu’n deg â deall datganoli. Mae’n bwysig nid yn unig er lles ein democratiaeth ond, fel mae’r pandemig wedi dangos, er lles ein hiechyd cyhoeddus bod pobl Cymru yn derbyn gwybodaeth sy'n berthnasol i'w bywydau hwy yma yng Nghymru. Byddai datganoli darlledu hefyd yn rhoi’r cyfle i ddatblygu’r cyfryngau Cymreig amrywiol sy’n adlewyrchu anghenion a buddiannau’r Gymru fodern. Mae papurau newydd Cymreig lleol yn crebachu, fel y mae papurau newydd ym mhobman, ac er mai BBC Radio 2 yw’r orsaf radio gyda’r mwyaf o wrandawyr yma yng Nghymru, prin ac anaml iawn yw’r sôn am Gymru arni.

Bu sefydlu S4C yn hwb aruthrol nôl yn 1982—hwb aruthrol i'n cenedl, i'n hunaniaeth ac i'n diwylliant—ond mae angen llawer mwy. Rydym ni eisiau adeiladu ar lwyddiant bodolaeth S4C mewn hinsawdd wleidyddol hynod o fregus, lle mae goroesiad ein cenedl ein hunain o dan fygythiad. Mae Cymru yma i bawb, p'un ai ydyn nhw'n siarad Cymraeg ai peidio. Mae S4C yn wych, ac fel mam i fachgen ifanc, mae Cyw wedi bod yn fendith, ond mae angen mwy na dim ond S4C i hyrwyddo hunan-barch 3 miliwn o bobl a hyrwyddo datblygiad cenedl gyfan. Mae'n bryd i Gymru gael llais, ac i ni, fel pobl, allu cael y sgyrsiau cenedlaethol i wella'r ffordd y mae'r wlad yn cael ei llywodraethu. Bydd datganoli darlledu yn hanfodol i hyn.

Dylid datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu a chyfathrebu yn eu cyfanrwydd i’r Senedd hon. Byddai hyn yn rhoi grym rheoleiddio’r holl sbectrwm darlledu i ni yma yng Nghymru, gan gynnwys cyfrifoldeb dros y ffi drwydded. Gellir wedyn hefyd sefydlu fformiwla ariannol statudol ar gyfer ein sianeli a llwyfannau a fydd yn cynyddu yn unol â chwyddiant, gan gynnig sicrwydd ariannol hirdymor i’r darlledwyr a’r maes darlledu yma yng Nghymru. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro mai yn nwylo’r Senedd hon y dylai grym dros ddarlledu yng Nghymru fod ac nid yn nwylo San Steffan sy’n gwybod braidd dim ac yn poeni hyd yn oed yn llai am ein cymunedau. A rŵan, am y tro cyntaf yn hanes gwleidyddiaeth Cymru, mae gennym gonsensws trawsbleidiol o blaid datganoli darlledu.

Ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf, cyhoeddodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, a oedd yn cynnwys Aelodau nid yn unig o Blaid Cymru, ond o'r Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol, adroddiad ar y mater hwn. A'u casgliad: y dylid datganoli darlledu, gyda rhai yn cytuno y dylid gwneud yn ei gyfanrwydd, ac eraill eisiau ei weld yn rhannol. Mae datganoli darlledu yn allweddol i'n democratiaeth. Mae gennym ni gonsensws trawsbleidiol. Rŵan yw'r amser i weithredu.

17:15

Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i drafod y setliad datganoli. Mae hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei wneud. A gaf fi wneud tri sylw cyffredinol i ddechrau? Nid yw datganoli anghymesur yn gweithio; ymddengys bod gan Blaid Cymru bolisi tameidiog ar ymwahanu, ac mae arnom angen safbwynt terfynol, diffiniedig ar ddatganoli i Gymru, ac yn bwysicach, o fewn Cymru. 

Rwyf wedi cefnogi 'devo max' ers tro byd, a datganoli o fewn Cymru hefyd i bedwar rhanbarth Cymru ac i awdurdodau lleol. Hanner can mlynedd yn ôl, roedd llywodraeth leol yn rheoli dŵr a charthffosiaeth, addysg bellach, addysg uwch y tu allan i'r brifysgol ac ysgolion a reolir yn uniongyrchol. Cyn 1950, rheolid plismona gan awdurdodau lleol. Mae rheolaeth ar y pethau hynny a mwy wedi'i thynnu o ddwylo awdurdodau lleol. Rwy'n cefnogi 'devo max', y symud tuag at ddatganoli cymesur, ond rhaid i hynny gynnwys rhanbarthau Lloegr. Ni all model o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon weithio; mae Lloegr yn rhy fawr o'i chymharu â'r gweddill. Rhaid i unrhyw fodel gynnwys rhanbarthau Lloegr, nid Lloegr yn unig.

Ceir y meysydd amlwg y mae angen eu cynnal yn ganolog oni bai bod gennych annibyniaeth. Maent yn cynnwys pethau fel amddiffyn, materion tramor, diogelwch cenedlaethol, arian cyfred, cyfraddau llog, cymorth tramor, mewnfudo, trwyddedu gyrwyr a cheir, banc canolog a rhifau yswiriant gwladol. Dylai fod modd datganoli popeth ar wahân i'r uchod, er nad oes angen eu datganoli o reidrwydd. Nid oes raid i ddatganoli yng Nghymru ddod i ben yng Nghaerdydd. Mae datganoli o fewn Cymru yn bosibl i'r pedwar rhanbarth yng Nghymru, a hefyd i awdurdodau lleol. Rydym wedi cael llawer gormod o ganoli yng Nghaerdydd. Yr heddlu, diogelwch yn San Steffan, troseddau difrifol—. Plismona—. Diogelwch yn San Steffan, rwy'n credu, ymdrin â throseddau difrifol yng Nghaerdydd, ond bod plismona lleol yn dychwelyd i awdurdodau lleol sy'n gwybod beth sydd ei angen i gadw eu hardaloedd yn ddiogel. Mae yna feysydd roeddem yn trafod a ddylid eu datganoli neu eu canoli. Oedran a swm pensiwn y wladwriaeth—a ddylem gael un ar gyfer y Deyrnas Unedig, neu a ddylai pob awdurdodaeth bennu drosti ei hun? Sut y byddai hynny'n gweithio gyda symud rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys pobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n gweithio yn Lloegr, a'r ffordd arall? Ac mae llawer o bobl, ac rwy'n cynnwys fy hun yn hynny, wedi gweithio yn Lloegr am gyfnod byr. A ddylem gael un system nawdd cymdeithasol unedig, neu a ddylai pob un o'r ardaloedd bennu'r lefelau? A ddylid cael trethi'r DU i dalu am yr eitemau a ariennir yn ganolog, gyda'r holl drethi eraill wedi'u datganoli a'u casglu'n lleol? Sut y bydd cymorth ariannol gan y rhanbarthau mwy cyfoethog i'r rhanbarthau tlotach yn cael ei drefnu a'i gynnal?

Er y feirniadaeth ddilys o fformiwla Barnett, ac rwyf wedi bod yn un o'r rhai sydd wedi ei beirniadu, mae wedi darparu cyllid ychwanegol i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o'i gymharu â Lloegr, ac mae'n ystyried angen—nid cymaint ag y byddem am iddi wneud, ond rydym yn cael mwy nag a roddwn i mewn, ac rydym yn cael mwy na 100 y cant o'r hyn sydd wedi'i wario yn Lloegr. Ac nid wyf yn credu bod unrhyw fudd i geisio cael gwared ar y fformiwla heb fod unrhyw beth arall yn ei le. Nid oes raid datganoli popeth i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon na dinas-ranbarthau Lloegr ar yr un pryd. Yr hyn sydd ei angen arnom yw rhestr o eitemau sydd ar gael i'w datganoli, a bod pob Senedd angen o leiaf ddwy ran o dair o'r Aelodau i bleidleisio o blaid cyn iddynt gael eu datganoli.

Pam y dywedaf hynny? Wel, dyma a ddigwyddodd yng Ngogledd Iwerddon pan ddatganolwyd plismona i Ogledd Iwerddon. Mae'n osgoi datganoli sydyn lle trosglwyddir rheolaeth ar bopeth mewn un diwrnod, ond mae'n caniatáu i faterion gael eu datganoli wrth i'r Seneddau ddod yn barod ar eu cyfer, ac yn bwysicach, wrth gytuno ar gyllid. A chredaf y bydd llawer o'r Aelodau'n cofio Aelod blaenorol o Blaid Cymru'n dweud, 'Wel, os cawn blismona wedi'i ddatganoli i ni, byddwn yn cael 1.05 y cant o'r hyn a—cawn 5 y cant yn fwy nag a wnawn ar hyn o bryd ar gyfer plismona oherwydd y ffordd y mae'r fformiwla ddatganoli'n gweithio.' Mae hynny'n newyddion da, ac roedd Steffan Lewis yn dadlau o blaid datganoli plismona, ond os ydym am wneud y pethau hyn, rwy'n credu y bydd yn rhaid inni geisio dod yn hyfyw yn economaidd hefyd o ran yr hyn y gallwn ac na allwn fforddio ei wneud. Mae'n gosod pwynt terfyn ar y daith ddatganoli y tu hwnt i greu gwledydd newydd. Mae'n caniatáu i bob un symud ar gyflymder y mae'n gyfforddus ag ef, ond pwynt terfyn cyffredin. 

Yn olaf, nid oes raid i ddatganoli yng Nghymru—unwaith eto, dychwelaf at hyn—ddod i ben yng Nghaerdydd. Nid yw'n dod i lawr yr M4 ac yna'n stopio. Mae datganoli o fewn Cymru'n bosibl, nid yn unig i'r pedwar rhanbarth, ond hefyd i'r awdurdodau lleol. Beth fyddai'n well i awdurdodau lleol ymdrin ag ef? Gwelodd yr ugeinfed ganrif symudiad un ffordd o awdurdodau lleol i'r canol. Mae angen inni ddechrau symud mwy o bethau yn ôl i awdurdodau lleol. Dylai'r cwestiwn ofyn, 'Ble y gellir ymdrin ag ef yn y ffordd orau?', nid, 'Faint y gallwn ei hawlio a faint y gallwn ei gymryd oddi wrth awdurdodau lleol ar un pen a San Steffan ar y pen arall?' Mae datganoli yng Nghymru yn daith, ond ni ddylai ddod i ben yng Nghaerdydd. I ddatganoli go iawn, mae angen datganoli pwerau hefyd i ranbarthau a chynghorau Cymru. Mae angen inni feddwl am ddatganoli yng Nghymru, nid, 'Os oes amheuaeth, rhowch ef yng Nghaerdydd.'

17:20

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw, yr un gyntaf imi gael cyfle i siarad ynddi, ac mae wedi bod yn ddadl ddiddorol ac angerddol hyd yma heno. Roeddwn yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol rhannu rhai o fy syniadau fy hun ar yr hyn a glywais hyd yma a'r eitem sydd ger ein bron, wrth gwrs.

Mae rhan agoriadol cynnig Plaid Cymru yn honiad eithaf beiddgar, fod

'gan y chweched Senedd hon fandad i ddatganoli pwerau sylweddol pellach o San Steffan i Gymru.'

A'r hyn y mae Plaid Cymru wedi methu ei grybwyll, wrth gwrs, yw'r modd y gwrthodwyd annibyniaeth yn helaeth unwaith eto yn y set ddiweddaraf o etholiadau. Mae'n amlwg fod pobl Cymru'n gwybod pa mor gryf yw'r Deyrnas Unedig a'r ffordd rydym yn cydweithio ar draws y Deyrnas Unedig honno.

Mae'n ymddangos bod ail bwynt Plaid Cymru unwaith eto yn diystyru'n llwyr y pwerau sydd gan ein Senedd eisoes mewn amrywiaeth eang o feysydd, ac mae'n amlwg, yn fwy nag erioed, fod pobl Cymru eisiau Senedd gref sy'n gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, gan gydweithio i sicrhau'r canlyniad gorau i bobl Cymru, ac unwaith eto, dangoswyd hyn yn y refferendwm, fel petai, fis diwethaf yn yr etholiadau, lle daeth trigolion allan a phleidleisio dros bleidiau sy'n cefnogi adeiladu undeb cryfach ledled y Deyrnas Unedig.

Ar drydedd ran y cynnig heddiw, fe'i disgrifiwyd yn huawdl gan fy nghyd-Aelod Mr Millar fel rhethreg cipio pwerau sy'n amlwg yn fyth ac nad yw'n bodoli, oherwydd, fel y disgrifiwyd yn gynharach, diwedd y cyfnod pontio ar gyfer trefniadau Brexit a Bil y farchnad fewnol yn dod yn weithredol—bydd pwerau mewn o leiaf 70 o feysydd polisi a weithredwyd yn flaenorol ar lefel yr UE yn dod yn uniongyrchol yma i'r Senedd. At hynny, ni fydd yr un o'r pwerau sydd gan weinyddiaethau datganoledig ar hyn o bryd yn cael ei ddileu.

Mae rhan olaf y cynnig gan Blaid Cymru wrth gwrs yn dod i ben drwy amlinellu y byddent yn ceisio pwerau pellach yma i'r Senedd. Ond mae'n amlwg i mi fod pobl Cymru—yr hyn y maent am ei gael yw adferiad cryf ar ôl y pandemig y mae pawb ohonom wedi gorfod ymrafael ag ef, gyda swyddi a'r economi yn flaenllaw yn hynny.

Gan symud ymlaen at welliant y Llywodraeth, roeddwn yn eithaf cefnogol i ddechrau pan welais y geiriau 'Dileu popeth'—[Chwerthin.]—ar ddechrau'r gwelliant hwnnw. Ond yn anffodus, ni allwn barhau i gefnogi gweddill yr hyn a ddisgrifiwyd. Yn fwyaf arbennig, roeddwn yn siomedig fod Llywodraeth Cymru yn parhau i alw am ddatganoli plismona a chyfiawnder. Yn wir, mae comisiwn Silk wedi amcangyfrif y byddai'n costio tua £100 miliwn y flwyddyn i greu awdurdodaeth ar wahân i Gymru, ac rwy'n siŵr y byddai pobl Cymru yn cwestiynu pam fod gwerth £100 miliwn o'u harian yn cael ei wario ar awdurdodaeth ar wahân, a'r hyn y byddent am ei gael, mewn gwirionedd, yw mwy o heddweision, gwell gwasanaeth prawf, mwy o swyddogion prawf, yn ogystal â chynyddu capasiti yn ein systemau llysoedd a charchardai. Felly, rhaid cwestiynu hynny'n helaeth.

Gan symud ymlaen at welliant y Ceidwadwyr a gyflwynwyd gan Darren Millar ar ddechrau'r ddadl hon, rydym yn glir nad oes mandad ar gyfer newid cyfansoddiadol na refferendwm pellach ar bwerau datganoledig. Fel y dywedais yn gynharach, cafodd hyn ei roi i'r pleidleiswyr yn y blwch pleidleisio, ac fe wnaethant ei wrthod yn llu. Fel y nodwyd eisoes, mae pobl Cymru yn parhau i gefnogi Cymru gref mewn Teyrnas Unedig gref, gyda Llywodraethau Cymru a'r DU yn cydweithio er lles pobl Cymru. Ac fel y mynegwyd eisoes, ni allwn anghofio'r gwaith da a ddangoswyd ledled y Deyrnas Unedig drwy'r pandemig hwn gyda gwerth £6 biliwn o arian ychwanegol yn cael ei roi i bobl Cymru i'n diogelu yma yn ein swyddi, ein hincwm a'n bywoliaeth. Drwy weithio gyda Llywodraeth y DU, nid yn ei herbyn, gallwn fanteisio i'r eithaf ar y Deyrnas Unedig wych hon.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, y ffordd orau o wasanaethu dyfodol Cymru yw fel rhan o Deyrnas Unedig gref. Y peth olaf sydd ei angen ar bobl Cymru yw cynigion pellach gan Blaid Cymru ar anhrefn gyfansoddiadol. Ac onid yw'n eironig fod Plaid Cymru yn parhau i wthio'r cyhuddiadau ffug fod Llywodraeth y DU yn rhwygo'r setliad datganoli, ac mewn gwirionedd, Plaid Cymru yw'r unig blaid wleidyddol yng Nghymru sydd am rwygo'r setliad datganoli, er iddo gael ei gefnogi mewn sawl refferendwm? Rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio dros ein gwelliant Ceidwadol a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Diolch yn fawr iawn. 

17:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Beth yw diben pŵer? Pam ein bod ni ym Mhlaid Cymru wedi defnyddio ein dadl gyntaf yn y chweched Senedd i siarad am gylch gwaith ein deddfwrfa? Wel, mae pŵer yn gyfrwng. Mae'n cynnig gallu i wneud rhywbeth. Mae'n cynnig gallu i newid. Yn ein cynnig, rydym yn nodi meysydd eang eu cwmpas lle byddwn yn llithro'n ôl os na chawn y pwerau hyn gan San Steffan oherwydd rhaid i'r pwerau fodoli yn rhywle ac os nad ydynt yma, byddant yn bodoli yn San Steffan. San Steffan, a fydd ond yn cynnwys 32 o ASau o Gymru cyn bo hir, gostyngiad o 20 y cant—ffigur rwy'n amau y gwelir ei debyg yn unman arall yn y byd yng nghyd-destun colli cynrychiolaeth. Ddirprwy Lywydd, pan oeddwn yn paratoi ar gyfer y ddadl hon, cefais wybod mai'r tro diwethaf i nifer yr ASau o Gymru gael eu newid i 32 oedd yn 1832, blwyddyn y Ddeddf Ddiwygio Fawr, pan gynyddodd nifer ein seddi i'r ffigur hwnnw. Nawr, yn 1831, roedd poblogaeth Cymru yn 904,312. Ers hynny, mae ein poblogaeth wedi cynyddu dros 248 y cant. Ac eto, bydd gennym yr un lefel o gynrychiolaeth ag ar y dechrau. Yn 1832, roedd yn rhaid iddynt ymdrin â bwrdeistrefi pwdr; heddiw, rhaid inni ymdrin â Boris pwdr.

Os nad yw'r Senedd hon yn dal y pwerau y mae ein cynnig yn eu nodi, ni fydd y pwerau hynny'n diflannu. Nid oes gwactod. Byddant yn bodoli yn San Steffan, lle bydd llai o ASau i graffu arnynt. Ni fydd gennym bŵer na llais—cyfnod newydd, nid o ddiwygio mawr, ond o lithro'n ôl.

Un o'r meysydd lle yr hoffem ni weld symudiad fyddai trwy ddatganoli Ystâd y Goron. Buasai hynny nid yn unig yn rhoi hwb i'n heconomi, buasai'n rhoi mwy o reolaeth dros yr adnoddau fydd mor bwysig inni fuddsoddi ynddynt fel rhan o'n hadferiad gwyrdd ac yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Yn dilyn y refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn 2014, wrth gwrs, datganolwyd Ystâd y Goron i'r Alban, ond yng Nghymru, mae'r refeniw yn dal i ddiflannu i'r Trysorlys ac i Buckingham Palace. Ac mae'r refeniw yna yn sylweddol. Amcangyfrifir y gallai Lywodraeth San Steffan godi lan at £9 biliwn dros y ddegawd nesaf trwy arwerthu tir ar waelod y mor i bobl fydd yn datblygu ffynonellau ynni cynaliadwy. Mae Cymru ar fin colli rhent economaidd werdd o'n hadnoddau ni ein hunain. 

A phan drown at brosiectau ynni, mae gennym ni ganiatâd ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy lan at 350 MW, ond mae'n rheolaeth dros isadeiledd y grid, sy'n dosbarthu'r trydan i'n tai yn aros gyda San Steffan. Mae hyn yn amlwg yn cwtogi ar allu Cymru i fuddsoddi mewn prosiectau mawr. Er enghraifft, y mwyaf amlwg o'r rhain oedd y tidal lagoon yn Abertawe. Doedd San Steffan ddim yn fodlon cefnogi'r prosiect, felly ni ddigwyddodd y prosiect.

Ac wrth sôn am gwtogi ar ein hisadeiledd, beth am y rheilffyrdd? Mae gan Gymru 11 y cant o'r trac rheilffyrdd yn yr ynysoedd hyn, ond mae ond yn derbyn 1 y cant o'r buddsoddiad. Ac er bod trafnidiaeth yn faes sydd wedi ei ddatganoli, dydy isadeiledd y rheilffyrdd ddim. Am lanast, Dirprwy Lywydd, ac mae'r llanast yn golygu bod buddsoddiad unwaith yn rhagor ddim yn dod i drigolion Cymru. Mae'n golygu hefyd ein bod ni'n colli mas ar filiynau o bunnoedd y bydden ni wedi gallu eu cael oherwydd high speed 2 line—arian y bydden ni wedi gallu buddsoddi yn ein gwlad. 

Dirprwy Lywydd, gwnaf i gloi trwy ddweud bod y ddadl yma i fod am greu cyfleoedd, am agor gwagle i fyny, dim cau pethau i lawr, fel y mae'r Torïaid yn amlwg eisiau ei wneud. Ond am siom, hefyd, bod y Llywodraeth wedi dechrau tymor newydd trwy ddefnyddio'r un hen dric o 'delete all' ar ein cynnig. Bydd angen mwy o uchelgais na hynny. 

17:30

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Dyma ein cyfle cyntaf ers etholiadau'r Senedd i ystyried rhai o'r heriau cyfansoddiadol difrifol sy'n wynebu Cymru a gweddill y DU, ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar i Blaid Cymru am ddewis cyflwyno'r cynnig hwn fel un o'u dadleuon cyntaf yn y chweched Senedd hon. Mae'n debygol mai dyma'r gyntaf o lawer o ddadleuon o'r fath. Yn y Senedd ddiwethaf, fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, cofiaf gyflwyno adroddiad ar ddiwygio cyfansoddiadol, a dechreuais fy nghyflwyniad drwy ddweud ei fod, mae'n debyg, yn un o'r adroddiadau mwyaf diflas y byddai'n rhaid i'r Aelodau ei ddarllen, ond i'r un graddau, byddai'n un o'r pwysicaf, ac nid wyf wedi newid fy marn. Felly, mae'r rhai sy'n dweud nad yw'r materion cyfansoddiadol hyn yn bwysig yn sylfaenol anghywir, gan eu bod yn mynd at wraidd ein democratiaeth—maent yn diffinio'r hyn y gallwn ac na allwn ei wneud, i ba raddau y gallwn wneud penderfyniadau ar y materion sy'n bwysig i bobl Cymru, ein gallu i wella ffyniant a gwneud penderfyniadau a fydd yn gwella ansawdd bywyd pobl Cymru, a dyna pam ein bod ni yma a dyna pam y mae'r Senedd hon yng Nghymru yn bodoli ac mor bwysig i'n dyfodol ac yn wir i ddyfodol y Deyrnas Unedig.

Nawr, er na fyddaf yn cefnogi cynnig Plaid Cymru ar y ffurf y'i cyflwynwyd, mae'n amlwg fod llawer o dir cyffredin ar y mandad ar gyfer diwygio ac ar y meysydd y cytunwn ers tro byd fod angen eu datganoli os ydym am allu cyflawni ein haddewidion i bobl Cymru. Rhaid imi ddweud bod gwelliant y Ceidwadwyr yn siomedig tu hwnt; yn anffodus, mae'n arwydd o blaid sy'n methu wynebu'r gwir. Yn fy marn i, ceir mandad clir a diymwad i ddiwygio. Ni allai'r mandad ar gyfer y Llywodraeth hon fod yn gliriach: fel y nododd ein maniffesto, byddwn yn gweithio dros Deyrnas Unedig newydd a llwyddiannus yn seiliedig ar ffederaliaeth bellgyrhaeddol. Rydym am feithrin sgwrs gyhoeddus genedlaethol yng Nghymru am ein dyfodol. Byddwn yn sefydlu comisiwn annibynnol sefydlog i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Nawr, i ddychwelyd at welliant y Ceidwadwyr, ar bwynt 2, mae'n iawn dweud bod gwaith rhynglywodraethol adeiladol wedi digwydd ac yn parhau i ddigwydd ar gyflawni'r rhaglen fframweithiau cyffredin ar sail gydweithredol. Fodd bynnag, ni allwn sôn am fframweithiau heb dynnu sylw at yr ymosodiad ar ddatganoli sydd wedi'i gynnwys yn rhai o ddarpariaethau Deddf marchnad fewnol y DU.

Ar bwynt 3 yng ngwelliant y Ceidwadwyr, rydym yn cytuno, er enghraifft, fod gwaith ar y rhaglen frechu wedi dangos effeithiolrwydd cydweithio ar draws y pedair gwlad. Yn anffodus, yn rhy aml, cyflawnwyd hyn er gwaethaf Llywodraeth y DU yn hytrach nag o'i herwydd. Y mis diwethaf, traddododd Syr David Lidington, un o Weinidogion Swyddfa'r Cabinet yn Llywodraeth Theresa May, ddarlith ar yr undeb, lle dywedodd ei bod 

'mewn mwy o berygl nag ar unrhyw adeg yn ystod fy oes'.

Credaf y byddai'r wrthblaid yn gwneud yn dda hefyd i wrando ar gyngor eu cyn-Aelod David Melding, a ysgrifennodd yn ddiweddar y bydd y Ceidwadwyr yn ennill etholiad yng Nghymru pan fyddant yn hyderus ynglŷn â sut y gallant ddefnyddio'r sefydliadau datganoledig yn greadigol, a bod gan y rhan fwyaf o wladwriaethau rhyngwladol democrataidd strwythur datganoledig neu ffederal. Ac eto, mae gennym Lywodraeth y DU yn awr sydd wedi penderfynu yn wyneb y posibilrwydd o chwalu'r DU, yn hytrach na dewis croesawu newid a cheisio consensws gyda chenhedloedd y DU a rhanbarthau Lloegr, mai'r ffordd ymlaen yw canoli grym a thanseilio datganoli drwy fynd ati'n fwriadol i geisio cyflawni drwy gamdrafod ariannol yr hyn na allant ei gyflawni drwy'r blwch pleidleisio. Mae gennym arweinwyr yn Llywodraeth Geidwadol y DU na all hyd yn oed gyfeirio at 'Lywodraeth Cymru', gan ddewis cyfeirio bob amser yn lle hynny at 'weinyddiaeth ddatganoledig'. Ac rydym yn clywed yn awr nad yw Gweinidogion bellach i fod i gyfeirio at wledydd y Deyrnas Unedig, ond yn hytrach i gyfeirio at y DU fel gwlad. Ddirprwy Lywydd, bydd y strategaeth hon yn methu. Os yw'r Llywodraeth Geidwadol yn credu y gall rwbio Cymru a datganoli allan o fodolaeth fel hyn, byddant yn methu, oherwydd ni all y DU ond goroesi os yw'n gymdeithas go iawn o genhedloedd sofran yn cydweithio gyda phwrpas cyffredin. Nid yn San Steffan y mae sofraniaeth, nac ychwaith yn Holyrood nac yma yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Mae sofraniaeth yng Nghymru yn bodoli lle mae bob amser wedi bod, gyda phobl Cymru, a mater iddynt hwy bob amser yw sut y maent yn dewis arfer y sofraniaeth honno.

Nawr, bydd yr Aelodau'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo'r ddadl ar ddiwygio cyfansoddiadol. Mae bron i ddegawd ers inni alw gyntaf am gonfensiwn cyfansoddiadol ar ddyfodol y DU, ond mae'r angen i drafod a dadlau am y materion hyn bellach yn fwy nag erioed. Yn fwyaf arbennig, rydym am gynnal sgwrs, ymgysylltiad, â phobl Cymru, i ddod o hyd i gonsensws ymysg dinasyddion a chymdeithas ddinesig ynglŷn â'r ffordd ymlaen ar gyfer datganoli a'r cyfansoddiad. Felly, ar y sail hon byddwn yn bwrw ymlaen â'n hymrwymiad maniffesto i sefydlu comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Byddwn hefyd yn cefnogi gwaith comisiwn cyfansoddiadol y DU gyfan a sefydlir gan Blaid Lafur y DU. Ein nod yw gweithio ar draws y gwledydd a'r pleidiau gwleidyddol i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddiwygio ein cyfansoddiad yn fwy trylwyr. Rydym wrthi'n llunio ein cynlluniau ar gyfer ein comisiwn, a gobeithiaf wneud cyhoeddiadau pellach am hyn yn ystod yr wythnosau nesaf, ond rwy'n glir iawn y bydd ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru a'r gymdeithas ddinesig yn rhan ganolog o'n dull o weithredu, ac yn y cyfamser, byddwn yn cyhoeddi fersiwn newydd ac wedi'i diweddaru o 'Diwygio ein Hundeb' yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd yr Aelodau'n cofio i ni gyhoeddi hwn yn 2019, yn seiliedig ar tua 20 o gynigion ar gyfer llywodraethu'r DU yn y dyfodol. Bydd ein fersiwn newydd yn ystyried datblygiadau ers 2019, gan ystyried goblygiadau ymagwedd Llywodraeth y DU ers mis Rhagfyr 2019 yn ogystal â safbwyntiau pellach ar draws y sbectrwm gwleidyddol ac academaidd am yr angen i ddiwygio.

Mae'r achos dros ddatganoli plismona a chyfiawnder wedi'i wneud yn gryf gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, ond credaf nad yw'n ddefnyddiol cyflwyno rhestr siopa o bwerau pellach rydym am eu cael heb egwyddor arweiniol a heb fynd i'r afael â'r newidiadau strwythurol sydd eu hangen i'w gweithredu a'u hariannu. Dyna oedd 'Diwygio ein Hundeb' yn ei gynnig—gweledigaeth o sut y gallai gwir bartneriaeth weithio rhwng y pedair gwlad yn cymryd rhan yn wirfoddol, gweledigaeth sy'n seiliedig ar barch cydradd, sgwrs reolaidd, ariannu teg a setiau cydlynol o bwerau, gan ddefnyddio egwyddor sybsidiaredd. Nawr, pan fyddwn yn diweddaru'r ddogfen honno, rwy'n gobeithio y bydd yn helpu i hybu sgwrs genedlaethol am ddyfodol y wlad hon. Yn anad dim, mae arnom angen ymgysylltiad gwirioneddol â phobl Cymru i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed yn yr hyn a fydd yn sgwrs feirniadol a radical am ddyfodol Cymru a'r DU.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rydym yn gwrthod ymgais y Ceidwadwyr i awgrymu nad oes dim o'i le ar y status quo cyfansoddiadol, ac er ein bod yn cytuno â rhai o'r teimladau sy'n sail i gynnig Plaid Cymru, rydym am roi ein bys ar y sgyrsiau mwy sydd eu hangen yn awr am ddyfodol datganoli a'r cyfansoddiad, a gwneud yn siŵr bod barn pobl Cymru yn ganolog yn y sgyrsiau hyn. Dyna fyrdwn sylfaenol ein gwelliant. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

17:35

Nid oes unrhyw Aelod ychwanegol wedi dweud eu bod yn dymuno siarad. Felly, galwaf ar Rhys ab Owen i ymateb i'r ddadl.

Diolch yn fawr i chi, Dirprwy Lywydd. Gaf i ddiolch i ddechrau am eiriau caredig Darren Millar?

Mae'n drueni na ddaeth i ben ar ôl y geiriau caredig. Soniodd Darren Millar fod y larymau tân wedi canu yn ystod ei araith gyntaf yn 2007—wel, Darren, rwy'n siŵr bod y larwm yn canu yn uned yr undeb yn Stryd Downing, oherwydd mae Cymru ar gerdded a bydd newid cyfansoddiadol yn digwydd, pa un a ydych yn hoffi hynny neu beidio.

A brysied y dydd y cawn ni ar feinciau'r Ceidwadwyr unwaith eto pobl sy'n fodlon meddwl am faterion cyfansoddiadol mawr fel David Melding—wedi cael ei sôn—fel Nick Bourne ac fel Lisa Francis.

Huw Irranca-Davies—dwi'n falch iawn o'ch clywed chi'n sôn am radical reform.

Roeddwn yn falch o'ch clywed yn dweud am y berthynas rhwng elfennau cydradd. Os felly, pam na allwn ddatgan yn awr pa bwerau rydym eu heisiau? Rydym wedi cael consensws. Pam na allwn ni ddechrau'r broses yn awr? Rydych chi'n dweud, gyda llaw, fod annibyniaeth wedi'i gwrthod yn y blwch pleidleisio. Dylech gael gair gyda chriw Llafur Cymru dros annibyniaeth am hynny, a Chanolfan Llywodraethiant Cymru, a ganfu fod dros 40 y cant o gefnogwyr annibyniaeth wedi pleidleisio dros y Blaid Lafur yn yr etholiad diwethaf.

Sioned Williams yn dweud wrthym ni dydyn ni ddim yn moyn pwerau jest er mwyn pŵer. Nid rhyw ego boost yw hwn i'r Senedd. Rŷn ni'n moyn pwerau er mwyn gwella bywydau pobl Cymru. Pam na ddylem ni ddatganoli lles i'r un lefel â'r Alban? Pam nad oes modd i ni gael consensws am hyn nawr? Pam nad oes modd i ni ofyn am hyn nawr? Ddylai plant Cymru, fel dywedodd Sioned Williams, ddim gorfod aros ymhellach am hyn. 

Ni ddylai fod disgwyl iddynt aros i gamu allan o dlodi. 

James Evans—dryswch ynglŷn â datganoli. Wel, nid yw'n helpu nad yw plismona a chyfiawnder wedi'u datganoli yng Nghymru, ond mae wedi'i ddatganoli ym mhobman arall yn y Deyrnas Unedig—mae plismona wedi'i ddatganoli ym Manceinion, mae plismona wedi'i ddatganoli yn Llundain. Rydych chi'n creu—chi sy'n creu—y dryswch. Ac roedd Heledd Fychan, fy nghyd-Aelod, yn llygad ei lle pan ddywedodd y byddai datganoli darlledu yn helpu i ymdrin â'r dryswch y soniwch amdano. Pe baech yn gofyn i'r rhan fwyaf o bobl allan ar y strydoedd, 'Pwy sy'n ariannu S4C?', byddai'r mwyafrif yn dweud wrthych ei fod yn cael ei ariannu yma ym Mae Caerdydd, ond nid yw hynny'n wir. Mae'n cael ei ariannu o San Steffan. Chi sy'n creu'r dryswch hwnnw, ac nid wyf am dderbyn unrhyw bregethau gan y Blaid Geidwadol am anhrefn cyfansoddiadol fel y sonioch chi, James Evans. Gofynnwch i bobl Gogledd Iwerddon am anhrefn cyfansoddiadol heddiw, am yr hyn rydych wedi'i wneud gyda Brexit.

Mike Hedges, rwy'n falch eich bod yn cefnogi—[Torri ar draws.] Rwy'n falch eich bod yn cefnogi 'devo'—'[Torri ar draws.] Ac fe wnaeth Gogledd Iwerddon, ac rydych chi'n achosi anhrefn yno. Rwy'n falch fod Mike Hedges yn cefnogi 'devo max', ac rwy'n falch fod cefnogaeth drawsbleidiol amlwg, hyd yn oed gan y Ceidwadwyr, i ddatganoli grym. Rwy'n falch o glywed y gallwn barhau i weithio gyda hynny i ddatganoli pŵer o Lundain, ac o Gaerdydd.

Datganoli cyfiawnder—soniodd Sam Rowlands am ddatganoli cyfiawnder, ac na fydd yn helpu neb. Wel, rydych chi'n anwybyddu arbenigwr ar ôl arbenigwr. Rydych chi'n anwybyddu'r cyn Arglwydd Brif Ustus, adolygiad annibynnol a ddywedodd y byddai cyfiawnder yn well o'i arfer o'r fan hon ym Mae Caerdydd, y byddai pobl Cymru yn cael eu gwasanaethu'n well gyda chyfiawnder yma. Rwy'n gwybod bod y Blaid Geidwadol yn mwynhau anwybyddu arbenigwyr, ond ni allwch barhau i anwybyddu comisiwn Silk, comisiwn Thomas, a defnyddio'r un hen ddadl ddiflas drosodd a throsodd.

Fe sonioch chi am ffyrlo, am gymorth Llywodraeth y DU. Wel, ni wnaethoch gefnogi gweithwyr Cymru yn ystod y cyfnod atal byr cyntaf pan wnaeth Llywodraeth Cymru hynny. Ni wnaethoch roi ffyrlo i ni hyd nes y cafodd de-ddwyrain Lloegr eu gosod dan gyfyngiadau symud.

Delyth Jewell—mae pŵer yn gyfrwng i wneud rhywbeth. Unwaith eto, fy mhwynt i: nid ydym yn gofyn am ddatganoli er mwyn datganoli—rydym yn gofyn am ddatganoli er mwyn gwella bywydau pobl Cymru. Cyn bo hir, 32 ASau o Gymru, fel y cawsom ein hatgoffa gan Delyth Jewell. Bydd ein llais yn mynd ar goll. Rydym yn ôl-ystyriaeth ar y gorau yn San Steffan; byddwn yn mynd ar goll yn gyfan gwbl yn awr. Nid oedd Boris Johnson yn gwybod heddiw fod Cymru'n mynd i chwarae yn yr Ewros ddydd Sadwrn hyd yn oed. Dyna lefel y ddealltwriaeth sydd gennym yn San Steffan.

Ac ar Ystâd y Goron—fel yr oedd Delyth yn sôn, enghraifft arall o arian yn cael ei fethu, Cymru yn cael ei methu, dro ar ôl tro. A'r tidal lagoon roedd y Ceidwadwyr yn ei gefnogi am sbel, ac yna ddiflannu i'r difancoll. 

Cwnsler Cyffredinol, a gaf i eich llongyfarch chi ar eich apwyntiad? Dwi'n gwybod am y gwaith rŷch chi wedi'i wneud yn hyrwyddo datganoli ers y 1970au, a dwi'n gwybod am eich dyhead i gael Prydain fwy radical a mwy ffederal. 

Mae'n drueni mawr—fe  sonioch chi fod tir cyffredin—mae'n drueni mawr pan gawsom ein cyfle cyntaf i gydweithio fod Llafur wedi llithro'n ôl eto a dweud 'dileu popeth'. Mae gennym gyfle yma i gael y ffederaliaeth bellgyrhaeddol honno. Pam na allwn ni ddweud yn awr beth rydym ei eisiau? Nid yw'n newydd. Roedd Keir Hardie yn sôn amdano'n ôl ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf ac iddo ef—iddo ef, i Keir Hardie—roedd ymreolaeth yn golygu yr un lefel â Chanada, Seland Newydd, ac felly nid oes dim yn newydd. Pam na allwn ddatgan yn glir yn awr, 'Dyma'r pwerau sydd eu hangen arnom ar gyfer pobl Cymru'? Pam ein bod yn gohirio pethau unwaith eto? Nid oes arnom angen comisiwn arall i ymdrin â materion lle ceir consensws.

A gaf fi annog yr Aelodau felly i gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw—cefnogwch gynnig Plaid Cymru—dros Senedd gryfach a Chymru gryfach, fel y gellir grymuso ein Senedd i gyflawni dros holl bobl Cymru? Diolch yn fawr.

17:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, rwy'n mynd i atal y cyfarfod cyn symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:44.

17:50

Ailymgynullodd y Senedd am 17:53, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

7. Cyfnod Pleidleisio

Rydym bellach wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac felly rydym am fwrw ein pleidleisiau yn awr. Bydd y set gyntaf o bleidleisiau ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma, sef cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddiadau i bwyllgor priodol mewn perthynas â pharth perygl nitradau Cymru gyfan. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Y canlyniad yw: o blaid 29, neb yn ymatal, yn erbyn 29. Ac felly, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw.

Fel bod yr Aelodau newydd yn deall pob dim, rwyf am ddarllen hwn i chi i egluro popeth, iawn? Os oes nifer gyfartal o bleidleisiau, rhaid bwrw'r bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn yn arwain at ddefnyddio'r bleidlais fwrw i drechu cynnig ac i drechu gwelliant bob amser. Defnyddir y bleidlais fwrw o blaid cynnig os byddai ei dderbyn yn arwain at ystyriaeth bellach o'r mater gan y Senedd. Yr unig enghreifftiau ohono'n cael ei ddefnyddio fel hyn yw mewn pleidleisiau ar Filiau lle mae trafodaeth bellach gerbron y Senedd yn bosibl yn ystod camau dilynol y Bil.

Mae dwy ran i'r cynnig heddiw: y rhan gyntaf yw nodi safbwynt ar bolisi a'r ail, cyfarwyddyd i bwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.2. Byddai rhan gyntaf y cynnig yn ddi-os yn arwain at bleidlais fwrw yn erbyn y cynnig, gan nad oes mwyafrif dros benderfyniad ac nad yw mater trafodaeth bellach yn codi. Yn ail ran y cynnig, mae'r mater sydd gerbron y Senedd yn benodol iawn: a yw'r Senedd yn dymuno rhoi cyfarwyddyd i bwyllgor ai peidio? Mae hyn hefyd yn arwain at bleidlais fwrw yn erbyn y cynnig, gan nad oes trafodaeth bellach yn bosibl ar y cwestiwn hwnnw. Mae hyn hefyd yn cadw'r egwyddor na ddylai'r Senedd wneud penderfyniadau heb gefnogaeth y mwyafrif. Nid yw pleidlais fwrw yn erbyn y cynnig yn atal y pwyllgor perthnasol, pan fydd wedi'i sefydlu, rhag cynnal unrhyw drafodaethau y dymuna eu cael. Nid yw ychwaith yn atal y Senedd rhag trafod parthau perygl nitradau eto yn y Cyfarfod Llawn. Ac felly, byddaf yn bwrw fy mhleidlais yn erbyn y cynnig ar yr achlysur hwn.

Y bleidlais yn awr felly yw: o blaid 29, neb yn ymatal, ac yn erbyn 30. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

17:55

Eitem 5 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 29, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Ac felly, galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, roedd 29 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 1.

Eitem 5 - Gwelliant 1 - cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 29, Yn erbyn: 0, Ymatal: 29

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7703 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi pwysigrwydd hanfodol lleihau allyriadau amaethyddol er mwyn:

a) cryfhau enw da ffermio yng Nghymru;

b) gwarchod pobl a natur yng Nghymru rhag llygredd aer;

c) diogelu afonydd a moroedd Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol;

d) cyflawni uchelgais sero net Cymru.

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn galw ar bwyllgor perthnasol y Senedd i adolygu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar frys a chyflwyno ei argymhellion i'r Senedd.

Agor y bleidlais. O blaid 58, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.

Eitem 5 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 58, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn ymlaen yn awr at y bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar bwerau'r Senedd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian, ac os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Y canlyniad yw: o blaid 12, neb yn ymatal, 46 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Eitem 6 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 46, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen at bleidlais ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Y canlyniad: o blaid 16, neb yn ymatal, 42 yn erbyn, felly gwrthodwyd gwelliant 1.

18:00

Eitem 6 - Gwelliant 1 - Cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 16, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, neb yn ymatal, yn erbyn 28, felly derbynnir gwelliant 2.

Eitem 6 - Gwelliant 2 - cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 30, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7701 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei gwaith parhaus i sicrhau bod plismona a chyfiawnder yn cael eu datganoli yn unol ag argymhelliad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.

2. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn a sgwrs gyda phobl Cymru i ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol.   

3. Yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i gyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o 'Diwygio ein Hundeb', a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 2019.

Agor y bleidlais. Y canlyniad yw 30 o blaid, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.

Eitem 6 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig fel y'i diwygiwyd : O blaid: 30, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

8. Dadl Fer: Effaith y newid yn yr hinsawdd ar iechyd meddwl

Symudwn ymlaen yn awr.

Y ddadl fer.

Symudaf ymlaen at y ddadl fer heddiw, a galwaf ar Delyth Jewell i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. Delyth Jewell.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Newid hinsawdd yw'r argyfwng unigol mwyaf dybryd sy'n wynebu ein gwareiddiad a'n planed. Mae honno'n ffaith anochel, fel y mae effeithiau newid hinsawdd sydd eisoes yn effeithio'n niweidiol ar iechyd meddwl pobl ym mhobman, o donnau gwres sy'n cynyddu cyfraddau hunanladdiad i lifogydd a thanau gwyllt sy'n creu trawma i'r bobl yr effeithir arnynt, gan adael straen, pryder ac iselder yn eu sgil. Ond mater yr hoffwn ganolbwyntio arno yn y ddadl fer hon yw canlyniad y ffordd rydym yn fframio newid hinsawdd a'r argyfwng ecolegol, sut rydym yn siarad amdano, yn enwedig gyda phlant a phobl ifanc, a'r ffyrdd y gall canolbwyntio ar ddinistr arwain at anobaith ynddo'i hun.

Yn 2019, ymwelais â chlwb ar ôl ysgol i bobl ifanc yn sir Fynwy, ac wrth inni sôn am wahanol faterion gwleidyddol, dywedodd un plentyn ifanc iawn ei fod yn teimlo ofn bob tro y gwelai adroddiadau am newid hinsawdd ar y newyddion. Ac roedd y lleill yn nodio'u pennau i gytuno—roedd llawer ohonynt wedi teimlo'r un ofn. Felly, buom yn siarad am y pethau y gallwn eu gwneud i ymdopi â phryder, i rannu ein teimladau, a buom hefyd yn siarad am rai o'r pethau ymarferol y gallwn eu gwneud i fynd i'r afael â newid hinsawdd—roeddent eisoes wedi bod yn gweithio ar brosiect yn ymwneud ag ailgylchu.

Ond fe gafodd y sgwrs honno effaith fawr arnaf, oherwydd rwy'n credu ein bod i gyd wedi dod mor gyfarwydd â'r math o luniau brawychus sy'n tueddu i fynd gyda'r adroddiadau hyn: y graffiau, y ffeithiau a'r ffigurau cynyddol sy'n fflachio ar y sgrin, lluniau o bentrefi wedi'u boddi, cnydau wedi'u dinistrio, anifeiliaid yn marw. Nawr, ni fyddwn am eiliad yn dymuno inni fychanu difrifoldeb yr argyfwng sy'n ein hwynebu, ond yn hytrach, byddwn yn dadlau y dylem ail-fframio'r ffordd rydym yn siarad am newid hinsawdd i ganolbwyntio ar roi ymdeimlad o allu i bobl wrth iddynt ymateb i'r argyfwng. Oherwydd os ydym yn grymuso pobl, os rhoddwn arfau iddynt fod yn weithgar yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol, i gyfrannu at weithgareddau ar lefel leol, i alluogi cyfranogiad democrataidd mewn penderfyniadau amgylcheddol, ac ie, os gallwn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael addysg gynhwysfawr ar newid hinsawdd, gallwn liniaru'r risgiau rwy'n eu nodi.

Pam? Wel, dyma graidd fy nadl, y paradocs sy'n ganolog i'r ddadl hon: os na roddwn y camau hyn ar waith, gall pobl boeni cymaint nes eu bod yn llai tebygol o wneud rhywbeth yn ei gylch. Hynny yw, os meddyliwn am newid hinsawdd mewn ffyrdd sy'n llethol, byddwn yn caniatáu iddo ein llethu. Bydd pobl naill ai'n cael eu dadsensiteiddio i'r dinistr fel eu bod yn ei gau allan o'u meddyliau, neu byddant yn cael eu parlysu i'r fath raddau gan bryder nes eu bod yn credu na ellir gwneud dim i'w atal. Gall anobaith arwain at betruso, ac felly gallai teimlad o ddadrymuso arwain at wireddu ein hunllefau gwaethaf.

Nawr, nid yw pryder am yr hinsawdd neu eco-bryder yn ddiagnosis clinigol eto, ond mae'n derm cydnabyddedig sy'n cael ei ddefnyddio i siarad am emosiynau negyddol sy'n gysylltiedig â'r canfyddiad o newid hinsawdd. Gall hyn amlygu ei hun drwy byliau o banig, methu cysgu a meddwl obsesiynol. Gall waethygu anhwylderau gorbryder ac iselder eraill. Ond mae ymchwil yn brin ac mae ei hangen yn fawr yn y maes hwn, oherwydd mae'n effeithio'n fwyaf difrifol ar bobl ifanc—y genhedlaeth a fydd yn ysgwyddo baich yr argyfwng hwn. Ac i lawer, mae fel rhyw fath o alar.

Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn awr i fynd i'r afael â hyn? Hoffwn weld gweithredu mewn rhai meysydd. Yn gyntaf, hoffwn weld cyllid a chefnogaeth ar gyfer rhaglenni sy'n canolbwyntio ar weithredu uniongyrchol a chyfunol yn erbyn newid hinsawdd, oherwydd mae gweithredu'n rhagweithiol yn caniatáu i bobl ddod yn gyfryngau newid a lleihau'r dreth emosiynol a'r ymdeimlad o fod yn ddi-rym. Gall helpu pobl i gyflawni newidiadau pendant yn eu cymunedau eu hunain, o blannu coed i gasglu sbwriel, ac o lanhau afonydd i ddarparu asedau cymunedol fel mannau gwyrdd y gellir eu rheoli a'u defnyddio ar gyfer rhandiroedd a chynlluniau rhannu bwyd. Mae'r mathau hyn o brosiectau yn creu manteision i'r gymuned ac i'r amgylchedd. Ond mae astudiaethau hefyd yn dangos bod gweithredu ar y cyd ar newid hinsawdd yn lleihau teimladau o unigrwydd; mae'n caniatáu i bobl rannu'r baich, mae'n cyfeirio pobl tuag at ymdeimlad o gydsafiad, undod a gobaith.

Dylem gynnwys pobl yn y broses o wneud penderfyniadau am yr amgylchedd drwy gyllidebu cyfranogol a chynulliadau dinasyddion sy'n rhoi rhan i bobl ei chwarae a syniad o'r hyn sy'n cael ei wneud, ond hoffwn hefyd weld newidiadau yn y cwricwlwm. Yn y Senedd ddiwethaf, cyflwynodd fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd welliannau i Fil y cwricwlwm y bu'n gweithio arnynt gydag ymgyrch Dysgu'r Dyfodol. Roeddent yn ymgais i sicrhau bod addysg gadarn ar newid hinsawdd yn y cwricwlwm newydd, ac nid mewn gwyddoniaeth a mathemateg yn unig, ond yn y gwyddorau cymdeithasol, dinasyddiaeth, y celfyddydau perfformio, llenyddiaeth, ieithoedd, iechyd a lles. 

Nawr, rwyf am barhau i bwyso am y newidiadau hyn, ac mae prosiectau cyffrous iawn eisoes ar y gweill i geisio mynd i'r afael â'r ail-fframio a grybwyllais—prosiectau fel Cynnal Cymru, sydd wedi ffurfio partneriaeth â'r Prosiect Llythrennedd Carbon, ac maent yn ceisio mynd i'r afael â heriau'r pwnc, sy'n ymddangos yn llethol. Mae eu hyfforddwr, Rhodri Thomas, wedi ysgrifennu am hyn fel methodoleg ddysgu sy'n caniatáu i bobl ymgysylltu â realiti enfawr, cymhleth a brawychus newid hinsawdd, a rhannu'r her yn ymatebion personol a sefydliadol y gellir eu rheoli. Mae'n dweud bod hyn yn dysgu ymwybyddiaeth o gostau ac effeithiau carbon deuocsid gweithgareddau bob dydd, ac yn hollbwysig, y gallu i leihau allyriadau fel unigolion, cymunedau a sefydliadau.

At hynny, gwn fod Comisiynydd Plant Cymru yn rhannu fy angerdd ynglŷn â'r maes hwn, a chyflwynodd ei maniffesto ym mis Mai syniadau ar gyfer cynnwys pobl ifanc ym mhroses y Llywodraeth ar gyfer gwneud penderfyniadau amgylcheddol drwy baneli dinasyddion a chynllun eco-ysgolion sy'n cael busnesau lleol i gydweithio â dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Mae ei swyddfa hefyd wedi cyhoeddi adnoddau ymgyrchu sy'n caniatáu i blant ysgol drefnu eu hymgyrchoedd eu hunain ar gyfer newid.

Ddirprwy Lywydd, mae angen cyffredinol inni rymuso plant a phobl ifanc, yn ogystal â'r boblogaeth yn gyffredinol i ddeall maint y broblem, ond i ddysgu amdani a'i chysyniadu mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud—i gysylltu siarad am effeithiau newid hinsawdd gyda'r camau pendant y gallant hwy ac eraill eu defnyddio i fynd i'r afael â newid hinsawdd a dirywiad byd natur. Os ydym o ddifrif ynghylch sicrhau adferiad gwyrdd yng Nghymru, rhaid inni ddechrau gweithredu ar y cyd ac yn gadarnhaol i sicrhau y gall pawb chwarae eu rhan, fod gan bawb gyfran yn yr hyn a wnawn sy'n ddiriaethol, ac yn lle pryder, fod yna allu i weithredu.

Weinidog, rwyf am ddefnyddio'r llwyfan sydd gennyf fel llefarydd fy mhlaid ar newid hinsawdd i bwyso am y newidiadau hyn, i ddod o hyd i ffyrdd o rymuso pobl ifanc a phobl o bob oed yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ac i ddadlau dros fwy o gymorth i athrawon a myfyrwyr ar sut i gydnabod ac i ymdrin â phryder ynglŷn â'r hinsawdd, oherwydd yr her hon yw'r her fwyaf y byddwn yn ei hwynebu byth.

Ddirprwy Lywydd, dechreuais yr araith hon drwy sôn am yr anochel. Yr hyn sy'n hanfodol inni ei wneud yw sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn credu bod y sefyllfa'n anorchfygol. Gobeithio y gall y ddadl hon ddechrau sgyrsiau, y gallwn helpu'r weinyddiaeth newydd hon i ganolbwyntio ar gynnwys dinasyddion yn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â newid hinsawdd, oherwydd gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau pobl eraill i'r ddadl hon. Diolch yn fawr iawn.

18:10

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Delyth, am godi'r pwnc hynod o bwysig yma.

Yn 2020, gwelais yn uniongyrchol effaith ddinistriol newid hinsawdd a llifogydd ar fy nghymuned fy hun ym Mhontypridd. Un rheswm yr ymgyrchais mor angerddol dros ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yw na cheir adroddiad statudol yn edrych ar yr effaith ar iechyd a llesiant. Hoffwn ddefnyddio'r amser sy'n weddill i rannu geiriau un o ddioddefwyr y llifogydd gyda chi, geiriau sy'n crynhoi pam y mae hwn yn fater y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef, a sicrhau mwy o gefnogaeth i gymunedau sydd mewn perygl:

'Rwy'n teimlo'n onest fod y profiad hwn wedi fy ngwthio at yr erchwyn. Mae wedi bod yn un o'r pethau gwaethaf i mi eu profi erioed ac mae'n dal i effeithio arnaf bob dydd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd...rwyf wedi crio wrth feddwl yn ôl am y cyfan. Cefais 6 wythnos i ffwrdd o'r gwaith oherwydd straen, ni allaf gysgu nac ymlacio pan fydd hi'n bwrw glaw yn drwm. Nid wyf yn gwybod a fyddaf byth yr un fath eto, rwyf wedi siarad â llawer o gymdogion sydd i gyd yn cytuno ei fod fel pe baem yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma. Mae straen meddyliol ac emosiynol yr holl sefyllfa wedi fy synnu'n fawr, rwyf bob amser wedi ystyried fy hun yn berson cryf iawn ond fe ddaeth hyn yn agos at fy nhorri.... Mae angen iddynt ein diogelu cyn iddynt gymryd mwy ohonom a mwy oddi wrthym nag y maent wedi'i wneud eisoes, ni allwn oroesi digwyddiad arall fel hwn.'

Rwy'n credu mai un peth pwysig i'w grybwyll pan soniwn am iechyd meddwl a'r argyfwng hinsawdd—ac wrth gwrs, rwy'n ddiolchgar iawn i Delyth am gyflwyno'r ddadl fer hon—yw diogelwch swyddi, wrth gwrs. Rhaid i fynd i'r afael â newid hinsawdd fod yn flaenoriaeth, ac i mi, dyna ble y daw'r syniad o bontio teg i mewn. Mae'n golygu symud ein heconomi i un fwy cynaliadwy mewn ffordd sy'n deg i bob gweithiwr, ni waeth ym mha ddiwydiant y maent yn gweithio. Mae bywoliaeth llawer o bobl a chymunedau ehangach wedi'u clymu wrth ddiwydiannau sy'n llygru fel dur, olew a ffatrïoedd yn fwy cyffredinol, a bydd yn rhaid i rai o'r diwydiannau hyn newid yn sylweddol—gyda rhai'n crebachu ac eraill o bosibl yn diflannu'n llwyr—gan newid bywydau gweithwyr a'u cymunedau yn y pen draw am genedlaethau i ddod. A gadewch inni gofio wrth gwrs ein bod wedi gweld effaith pontio annheg gyda chau'r pyllau glo gan Thatcher, er enghraifft, gweithredoedd rydym yn dal i ymrafael â'u heffeithiau hyd heddiw. Felly, un peth y credaf y bydd yn gwneud llawer yw sefydlu comisiwn pontio teg, yn debyg i'r Alban, i oruchwylio'r newidiadau y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud mewn perthynas â newid i sero net er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, ni waeth ym mha ddiwydiant y maent yn gweithio. Byddwn yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn cytuno â mi ar hyn.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Delyth Jewell am dynnu sylw at fater mor bwysig mor gynnar yn nhymor y Senedd. Rwy'n amlwg wrth fy modd; dyma'r tro cyntaf i mi siarad yn y Senedd hon, ac yn sicr y tro cyntaf i mi siarad fel y Gweinidog Newid Hinsawdd newydd, a hoffwn ddiolch iddi am roi'r cyfle cynnar hwn inni gael trafodaeth gyntaf deilwng ar thema a fydd, rwy'n siŵr, yn un sy'n codi dro ar ôl tro drwy gydol y Senedd hon.

Cefais y fraint wirioneddol o siarad mewn uwchgynhadledd ieuenctid ar y cefnfor a hinsawdd ddoe. Roedd yn braf iawn gwrando ar y bobl ifanc yno. Gwnaethant adrodd am yr holl bethau y mae pobl wedi tynnu sylw atynt yn eu cyfraniadau heddiw: teimlad o anobaith bron, a difrifoldeb y dasg ac yn y blaen. Ond yr hyn a oedd yn wirioneddol braf yn y grŵp o bobl ifanc—roeddent i gyd rhwng 16 a 30 oed; roedd y rhan fwyaf ohonynt yn agosach at 16 oed, a rhai ychydig yn hŷn—oedd eu gwir ymdeimlad o obaith a gallu cyn belled â'u bod yn cael yr offer i wneud y gwaith a bod y Llywodraethau sy'n dal liferi pŵer yn gwrando arnynt. Roedd yn fraint wirioneddol siarad â hwy a deall y ddeuoliaeth, mae'n debyg, rhwng y ddau deimlad o, 'Mae'n llethol, mae'n rhy fawr i mi', ond hefyd, 'Gallaf wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn fy ffordd fach yn fy nghymuned ac mewn ffordd fwy yn fy ngwlad', ac yn y blaen. Felly, roedd hynny'n wych.

Y peth mwyaf roeddent yn ei ddweud wrthym oedd eu bod am i wneuthurwyr penderfyniadau wrando arnynt, ac felly rwy'n falch iawn o ddweud mai un o'r pethau cyntaf rydym yn ei wneud yma yng Nghymru yw gwrando, gyda phenderfyniad i weithredu. Felly, mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn glir iawn fod yn rhaid inni ganolbwyntio yn awr ar adferiad o'r pandemig, ond hefyd adferiad o ddinistr newid hinsawdd, ac adeiladu Cymru fwy cryf, gwyrdd a theg—Cymru lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl a lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r weledigaeth honno ac yn enwedig wrth fynd i'r afael â'r sefyllfa gyda newid hinsawdd ac iechyd meddwl yng Nghymru.

Felly, mae iechyd meddwl, yn y Llywodraeth newydd, bellach yn cael ei hyrwyddo gan fy nghyd-Aelod a'm cyfaill Lynne Neagle, y gallaf ei gweld yn gwrando'n astud ar y ddadl. Mae ei chyfrifoldebau yn gyfannol hefyd, felly maent yn uno'r ddarpariaeth o wasanaethau ar draws materion iechyd meddwl, ochr yn ochr ag edrych ar ffactorau cyfrannol megis problemau gamblo, camddefnyddio sylweddau, profiadau cyn-filwyr y lluoedd arfog a digartrefedd ac yn y blaen. Ac mae'r dull cyfannol hwnnw'n dangos y pwyslais a roddwn ar les meddyliol pobl yng Nghymru. Eisoes mae Lynne a fi wedi cael cyfle i gydweithio ar rai o'r materion hynny ac fe fyddwch i gyd yn gwybod bod Lynne wedi hyrwyddo'r materion hynny yn y pumed Senedd, lle cadeiriodd y pwyllgor a fu'n edrych ar hyn. Felly, rwy'n falch iawn o'r cyfle i weithio gyda hi ar amrywiaeth o'r materion hyn hefyd. Rydym wedi buddsoddi £42 miliwn pellach mewn gwasanaethau iechyd meddwl eleni, gan ehangu'r gefnogaeth ar gyfer gorbryder ac iselder drwy fwy o gymorth ar-lein a dros y ffôn.

Felly, mae llawer o ffactorau sy'n effeithio ar iechyd meddwl yn fy mhortffolio newydd. Mae llawer o ffactorau hefyd a fydd yn ein galluogi i leddfu rhai o'r pryderon sydd gan bobl. Nid wyf am allu ymdrin â phob un ohonynt yn fy nghyfraniad heddiw, ond edrychaf ymlaen at eu harchwilio gyda phob un ohonoch yn fanylach wrth inni symud hyn yn ei flaen. Bydd llawer ohonoch y gallaf eu gweld yn cymryd rhan yn y ddadl yn gyfarwydd â'r sgyrsiau a gawsom yn y maes tai ynghylch digartrefedd, yr angen am gartref digonol, yr angen i adeiladu lle a chymuned er mwyn gwella llesiant pobl a'u hymdeimlad o gysylltedd gweithredol ledled Cymru. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth rydym eisiau ei wneud. Rydym hefyd, wrth gwrs, am alluogi pobl i gyfrannu at y broblem fwyaf rydym wedi'i hwynebu—hyd yn oed yn y pandemig dyma'r broblem fwyaf rydym wedi'i hwynebu—sef gwrthdroi dinistr yr hinsawdd ar ein planed a gwella ei bioamrywiaeth.

Felly, rwyf am sicrhau pawb yng Nghymru ein bod yn deall yr holl bethau hynny; rydym yn deall eu pryderon. Dyma yw ein pryderon ni, a dyna pam rwy'n gwneud y gwaith hwn mewn gwirionedd, a'r swyddi roeddwn yn eu gwneud cyn i mi gael y fraint o gael fy ethol. Felly, rydym yn awyddus iawn i gefnogi'r gweithgareddau niferus sy'n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc yn enwedig gyfrannu at fynd i'r afael â newid hinsawdd a gofod i leisio'u barn. Rydym yn darparu grantiau ar gyfer rhaglenni addysg yr amgylchedd—Eco-Ysgolion, Maint Cymru, i roi ambell enghraifft—i barhau i weithio gyda phlant a phobl ifanc i annog trafodaeth a dilysu teimladau a phryderon sy'n gysylltiedig â'r pryderon amgylcheddol, yn ogystal â'r camau angenrheidiol y gallant eu rhoi ar waith i gymryd rhan a theimlo eu bod yn gwneud rhywbeth i gyfrannu at faint y broblem sy'n ein hwynebu. Gadewch inni fod yn glir: mae gennym dasg fawr o'n blaenau—tasg gyraeddadwy os ydym i gyd yn cyd-dynnu i'w chyflawni, ond tasg fawr. Felly, fel arwydd bach o faint y dasg, ar gyfer datgarboneiddio'n unig—heb sôn am fioamrywiaeth a'r holl broblemau eraill—rhaid inni wneud yn y 10 mlynedd nesaf yr hyn a wnaethom yn y 30 mlynedd diwethaf i gyrraedd ein targed nesaf. Felly, mae'n dasg fawr. Gallwn ei gwneud, ond mae'n dasg fawr. A rhaid inni fynd â phobl Cymru gyda ni wrth inni ei gwneud. Felly, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi a gwrando ar ofnau a phryderon pawb, ond hefyd eu cyfraniadau ar gyfer sut i'w wneud—sut y gallant wneud y newidiadau bach, newidiadau mawr yn eu bywydau a fydd yn gwella eu bywydau ac sy'n edrych, efallai, fel anfanteision i ddechrau, ond mewn gwirionedd byddant yn gwella eu bywydau yn y pen draw?

Felly, un o'r pethau rwy'n awyddus iawn i dynnu sylw pobl ato yw'r newid ymddygiad a brofodd pob un ohonom yn ystod y pandemig. Roedd rhywfaint ohono'n ofnadwy a chafodd effeithiau ofnadwy ar bobl, ond yn bendant roedd pethau da hefyd. Mae'r ffordd yr aethom i'r afael â digartrefedd yng Nghymru yn ystod y pandemig yn destun balchder mawr i bawb yn y sector a phob un ohonom yma yn y Senedd a helpodd. Ond er enghraifft, gwelsom blant yn chwarae'n ôl ar ein strydoedd—wyddoch chi, aeth yr aer yn lanach, nid oedd pobl allan yn eu ceir, a chawsant ymdeimlad o gymuned a lle. Gwelsom hefyd rai o'r anghyfiawnderau cymdeithasol lle nad oedd gan bobl rai o'r amwynderau hynny, ac mae'n cynyddu ein penderfyniad i sicrhau eu bod yn eu cael. 

Ond mae wedi'i ddangos i ni fod teithio llesol, y gallu i ddefnyddio ein strydoedd fel mwy na dim ond lle i roi eich car, yn gwella iechyd corfforol a meddyliol mewn gwirionedd. Mae cynyddu coetiroedd, bioamrywiaeth a mynediad at yr amgylchedd naturiol yn cael effaith fuddiol ar iechyd meddwl, ac os teimlwch eich bod yn gallu gwella eich amgylchedd naturiol, mae'n cael mwy fyth o effaith ar wella iechyd meddwl.

Un o'r pethau rwy'n mynd i'w sleifio i mewn fel profiad personol yma yw: bydd rhai ohonoch yn gwybod fy mod wedi cael canser y fron yn gynnar yn fy ngyrfa wleidyddol, a byddwn yn mynd i ganolfan Maggie yn Abertawe gryn dipyn; bu o gymorth mawr i mi. Yr hyn sydd ganddynt wrth gwrs yw gardd goetir y tu allan, a gallwch weithio yn yr ardd a'r coetir a'i wella, ac mae o ddifrif yn gwneud i chi deimlo'n well; nid oes dwywaith amdani. Gall wneud i chi deimlo'n well hyd yn oed pan fyddwch yn wynebu heriau personol mawr. Mae hefyd yn helpu dynion i siarad â'i gilydd pan fyddant yn garddio, rhywbeth a oedd yn fantais ychwanegol yn fy marn i; roedd y mudiad Siediau Dynion yn rhan o hynny. Felly, mae'r holl bethau hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Bydd gennym fanteision lluosog o'r pethau hynny. Mae'n gwella iechyd meddwl a llesiant pobl, ond hefyd, mae cael pobl allan o'u ceir ar gyfer teithiau byr, a theithio mewn ffordd sy'n gwella eu hiechyd, yn uchelgeisiol. Rydym i gyd wedi disgyn mewn cariad gyda'r car dros ugeinfed ganrif a dechrau'r unfed ganrif ar hugain, ond gwyddom i gyd ei fod yn creu manteision lluosog—aer glanach, ffyrdd llai prysur, gwell lles meddyliol, siopau lleol prysurach. Felly, bydd ein hagenda uchelgeisiol i sicrhau bod gennym 30 y cant o bobl yn gweithio o bell—ac nid yw hynny'n golygu gartref yn unig; mae'n golygu yn eu cymunedau lleol, mewn hybiau ac yn y blaen—yn helpu cyfres gyfan o agendâu.

Rydym wedi gweld prosiectau'n darparu modelau cynaliadwy ar gyfer iechyd a llesiant. Ceir grwpiau cerdded, er enghraifft ym menter Dewch i Gerdded gorllewin Cymru Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Gwn fod rhai ohonoch wedi bod yn gysylltiedig â hynny ac yn cymryd rhan yn y ddadl. Ceir gwaith gyda phractisau meddygon teulu a lleoliadau cymunedol eraill ledled Cymru, gan sicrhau bod gan y practis meddygol—rwy'n amharod i ddefnyddio'r term 'presgripsiynu cymdeithasol', ond mae'n ymwneud â chysylltu pobl â'u cymunedau lleol a mynediad at gefn gwlad fel rhan o'r fenter llesiant. Mae prosiect Agor Drysau i'r Awyr Agored y Bartneriaeth Awyr Agored, er enghraifft, yn dod â gweithwyr iechyd proffesiynol ac arbenigwyr gweithgareddau awyr agored at ei gilydd i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol, gwella iechyd meddwl ac iechyd corfforol, cysylltu clybiau cymunedol lleol â thimau iechyd meddwl, gan alluogi cleifion i fyw bywydau annibynnol yn hirdymor oherwydd eu cysylltiad cynyddol â'u cymuned a'r byd naturiol o'u cwmpas.  

Rhaid inni gael adferiad gwirioneddol wyrdd a glas. Rhaid inni wella ein bioamrywiaeth, cynnal ein heconomi, gwella ein hamgylchedd a helpu ein hiechyd a'n llesiant. Soniodd Heledd yn bennaf, rwy'n credu, am y llifogydd. Rydym yn ymwybodol iawn o'r mathau hynny o broblemau hinsawdd sydd gennym i ddod. Rhaid inni wneud ein hunain yn fwy gwydn i wrthsefyll hynny. Rhaid inni wneud ein ffyrdd o fyw yn fwy gwydn. Rhaid inni sicrhau nad yw ein hinsawdd yn gwaethygu, a rhaid inni sicrhau bod gennym yr holl strategaethau ar waith i sicrhau bod pobl yn ddiogel ac yn iach yn eu cartrefi eu hunain ac yn gallu manteisio ar hynny. Nid wyf yn credu y byddai'n beth da i mi esgus, wrth siarad â chi yn awr, ein bod yn annhebygol o gael llifogydd dramatig dros y gaeaf nesaf yma yng Nghymru. Yn anffodus, rwy'n credu ei bod hi'n debygol iawn y byddwn yn eu cael. Rydym wedi dod allan o'r 14 mis diwethaf gyda'r mis Chwefror gwlypaf y llynedd, a'r mis Mai poethaf; eleni, y mis Chwefror oeraf a'r mis Mai gwlypaf. Mae'r hinsawdd wedi cael effaith ddofn ar y ffordd rydym ni'n byw ein bywydau dros y 14 mis diwethaf, heb sôn am weddill y byd. 

Yn ystod yr uwchgynhadledd ieuenctid ar yr hinsawdd ddoe, galwodd un o'r cyfranwyr y gwledydd bach sy'n ynysoedd yr effeithir arnynt fwyaf gan newid hinsawdd yn fyd-eang—nid ydynt yn hoffi cael eu galw'n hynny, mae'n debyg, dywedwyd wrthym neithiwr; maent yn hoffi cael eu galw'n 'wledydd y cefnfor mawr' nid 'gwledydd bach sy'n ynysoedd'. Roeddwn yn meddwl bod honno'n ffordd hyfryd o feddwl amdano, oherwydd mae'n gwneud ichi sylweddoli pa mor eithriadol o bwysig yw'r cefnfor i gymunedau ym mhob rhan o'r byd, ac nid yw Cymru yn eithriad wrth gwrs. Felly, mae edrych eto ar ein parthau cadwraeth morol, y ffordd rydym yn helpu ein pysgodfeydd bach cynaliadwy, ein pysgodfeydd ar y glannau ac yn y blaen, yn ffordd wych o annog pobl i gymryd rhan yn y gwaith o wella ein bioamrywiaeth a'n nodau datgarboneiddio. 

Rwy'n credu fy mod wedi rhuthro braidd drwy'r holl faterion sy'n codi. Yn fyr, rydym eisiau diogelu ein hamgylchedd, adeiladu economi werdd, darparu cartrefi cynaliadwy, a chreu'r cymunedau creu lleoedd llesiant cenedlaethau'r dyfodol sy'n gwella ein hiechyd meddwl a'n llesiant, ond hefyd ein cydlyniant cymunedol—ein hymdeimlad ohonom ein hunain a'n gwlad a'n cenedl. Ac yn bendant, gallwn wneud hynny.

Wrth sefydlu'r portffolio newydd hwn, mae'r Prif Weinidog wedi gofyn imi roi'r amgylchedd, colli bioamrywiaeth a newid hinsawdd wrth wraidd popeth a wnawn fel Llywodraeth—nid fy mhortffolio fy hun yn unig. Drwy ddod â chyfrifoldebau tai, trafnidiaeth, cynllunio, ynni a'r amgylchedd at ei gilydd, gallwn fynd i'r afael â pheryglon newid hinsawdd a gwella ein hasedau naturiol i'r eithaf, gallwn adeiladu'r dyfodol gwyrdd a chynaliadwy y mae pawb ohonom yn gobeithio ei weld ar gyfer Cymru. Ond ni allwn wneud hynny ar ein pen ein hunain fel Llywodraeth; rhaid inni fynd â phobl Cymru gyda ni, rhaid inni fynd â phob un ohonoch chi gyda ni, rhaid inni fynd â chymaint o bobl â phosibl gyda ni, a bod o ddifrif ynglŷn â'n busnesau, ein corfforaethau a'n cyfrifoldeb byd-eang.

Rwy'n mynd i fynd yn ôl a neilltuo dwy funud olaf fy nghyfraniad i ddweud y byddwch i gyd yn gwybod hefyd fy mod wedi sôn ers tro am wella, diogelu a chreu coetiroedd fel un o fy ymgyrchoedd mawr—creu cartrefi cynaliadwy o bren Cymru, gan sicrhau bod y cadwyni cyflenwi'n gynaliadwy, y gall ein ffermwyr a'n diwydiannau amaethyddol gyfrannu atynt, ac wrth wneud hynny, gwella bioamrywiaeth a harddwch naturiol Cymru. Felly, bydd gennym raglen y goedwig genedlaethol i greu'r rhwydwaith o goetiroedd ar hyd y wlad o un pen i'r llall, ond byddwn hefyd yn creu diwydiant pren cynaliadwy i gyd-fynd â hynny.

Mae fy nghyd-Aelod Lee Waters yn gwrando ar y ddadl hon hefyd. Fe fydd yn arwain y ffordd i edrych ar unwaith ar yr hyn y mae angen inni ei wneud i ddileu'r rhwystrau i allu gwireddu rhai o'r uchelgeisiau hynny, a dod â'r hyn y byddwn am ofyn i bob un ohonoch gymryd rhan ynddo yn ôl i lawr y Senedd er mwyn gwireddu'r pethau hynny. Bydd rhai ohonoch yn gwybod am rai o'r rhwystrau ar lawr gwlad eisoes. Felly, byddwn yn ceisio gweithio ar draws y pleidiau, gyda phob un ohonoch, i sicrhau ein bod yn gallu dileu'r rhwystrau hynny ac adeiladu'r coetiroedd rydym eu heisiau yng Nghymru, a gwn eich bod chi i gyd eu heisiau hefyd.

Byddwn yn gallu diogelu ein rhwydwaith o ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, safleoedd natur gwarchodedig, ardaloedd cadwraeth arbennig afonol, a'r holl fathau hynny o bethau. Ond rwyf am fynd ymhellach na hynny. Rydym am roi rhaglenni adfer ar waith. Rydym am adfer ein dyffrynnoedd afon. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod prosiectau fel prosiect Pumlumon, i fyny uwchben Machynlleth, y bydd rhai ohonoch yn gyfarwydd â hwy, rwy'n siŵr—adfer y migwyn ar ben uchaf Afon Hafren i'n helpu i atal y llifogydd ofnadwy a welsom yn ein hafonydd, fel ein bod yn adfer dalgylchoedd afonydd yn dda yr holl ffordd drwy Gymru.

Mae llawer iawn i'w wneud i wella ein hamgylchedd, diogelu ein rhywogaethau sydd mewn perygl, a darparu mannau ar gyfer cyfoethogi emosiynol wrth inni wneud hynny. Nid oes dim yn well i'ch iechyd meddwl na gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol yn bersonol ac yn eich cymuned i'r amgylchedd sydd gennych, a'ch bod wedi gallu cymryd rhan a chyfranogi yn y ffordd honno. Felly, gallaf eich sicrhau, Delyth, ein bod yn ddiolchgar iawn i chi am ddwyn hyn i'n sylw, wedi rhoi cyfle inni ei drafod, a dechrau'r sgwrs, am mai dyna'r cyfan y gallwn ei wneud heno. Gobeithio y gallwch weld ein bod yn ymrwymedig i hyn eisoes, y bydd Lynne a minnau yn arbennig yn edrych ymlaen at weithio gyda chi, ac ar draws y pleidiau, i sicrhau bod yr agendâu hyn yn gweithio i bob un ohonom. Rydym yn genedl fach, mae gennym ymrwymiad hirsefydlog a balch i arwain yn y maes hwn, gartref ac ar lwyfan rhyngwladol. Felly, rydym yn falch iawn o ddatblygu hynny.

Un peth olaf yr hoffwn ei grybwyll yw ein prosiect coed Uganda. Un o'r pethau rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ei wneud yw plannu mwy nag 1 filiwn o goed allan yn Uganda. Mae wedi bod yn brosiect arbennig o lwyddiannus. Un o'r ffyrdd y gwnaethom hynny'n syml iawn oedd gofyn i bawb blannu coeden, ac yna gwnaethom yn siŵr y gallent gael gafael ar y coed brodorol cywir i wneud hynny. Felly, syniadau diddorol fel hynny, sydd wedi gweithio mewn mannau eraill—a fyddent yn gweithio i ni? Y mathau hynny o bethau—dyna rydym am edrych arno, camau bach iawn: yr hyn y mae angen inni ei wneud i wella ein meithrinfeydd coed; yr hyn y mae angen inni ei wneud i wneud ein swyddi'n gynaliadwy o ganlyniad i hynny; yr hyn y mae angen inni ei wneud i sicrhau bod Cymru fel rydym eisiau iddi fod.

Rwy'n falch iawn o allu dechrau'r sgwrs honno o leiaf, Delyth, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am ei chyflwyno mor gynnar yn y chweched Senedd. Diolch yn fawr.

18:25

Daeth y cyfarfod i ben am 18:29.