Y Cyfarfod Llawn

Plenary

08/06/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr a rhai eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi hefyd eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, a lawn mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag i'r rhai sydd yn ymuno drwy gyswllt fideo. 

13:30
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Felly, yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Heledd Fychan.

Atal Llifogydd

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglyn â’r camau sydd wedi eu cymryd i atal llifogydd yng Nghanol De Cymru yn dilyn llifogydd 2020? OQ56563

Llywydd, diolch yn fawr. Ers mis Chwefror 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £12 miliwn i reoli perygl llifogydd ar draws Canol De Cymru. Mae hyn yn cynnwys dros £3 miliwn i wneud gwaith atgyweirio brys. Mae creu swydd y Gweinidog hinsawdd yn dangos ein bod ni’n benderfynol bod Cymru yn chwarae ei rhan i fynd i’r afael â’r risgiau tymor hir sy’n gysylltiedig â llifogydd.

Diolch ichi, Brif Weinidog, am amlinellu'r cymorth. O ran y rhai yr effeithiwyd arnynt, boed hynny o ran eu cartrefi neu eu busnesau, er eu bod yn ddiolchgar am yr arian a'r cymorth, dydyn nhw'n dal ddim wedi derbyn yr atebion sydd eu hangen arnynt o ran beth ddigwydd a pham, ac os oedd yna unrhyw beth y gellid bod wedi'i wneud yn wahanol i atal y llifogydd dinistriol. Os ydym o ddifrif eisiau dysgu’r gwersi angenrheidiol o’r llifogydd hyn a rhoi’r gefnogaeth i’r bobl yr effeithiwyd arnynt, onid ydy hi’n amser i ni gomisiynu ymchwiliad annibynnol a brys i’r holl lifogydd diweddar ledled Cymru fel bod y buddsoddiad gan y Llywodraeth yn un cywir yn hytrach na’n adweithiol fel y mae ar y funud?

Wel, roedd y Senedd ddiwethaf wedi cael clywed yr achos dros ymchwiliad annibynnol, a doedd y Senedd ddiwethaf ddim yn cytuno â hynny a dwi ddim yn cytuno â hynny nawr hefyd. Mae'r awdurdodau lleol wedi bod yn canolbwyntio ar bethau ymarferol y maen nhw'n gallu eu gwneud i ymateb i bopeth sydd wedi digwydd ar ôl y llifogydd. Mae adroddiadau gan yr awdurdodau lleol yn dal i gael eu paratoi. Mae cyfarfod yfory gan Julie James gydag arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf i siarad am yr adroddiad ar Pentre.

Yfory, bydd y Law Commission yn cyhoeddi dogfen—ni sydd wedi gofyn iddyn nhw baratoi'r ddogfen—sy'n siarad am y gyfraith yn y dyfodol a sut y gallwn ni wneud mwy i warchod cymunedau sydd wedi dioddef llifogydd ac effaith llifogydd hefyd. So, fel Llywodraeth, rydym ni'n canolbwyntio ar fuddsoddiadau, pethau ymarferol i wella'r sefyllfa i bobl, a dŷn ni ddim yn cytuno â rhoi arian, rhoi amser, a thynnu pobl mas o'r gwaith yna er mwyn gwneud pethau i ymateb i adroddiad annibynnol dydyn ni ddim yn meddwl y bydd yn help mawr i bobl leol. 

Prif Weinidog, nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi cyrraedd ei dargedau ar gyfer cyd-astudiaethau tai a'r tir sydd ar gael am nifer o flynyddoedd, ac, o ganlyniad, mae hyn wedi arwain at gyflwyno llawer o geisiadau hap-fasnachol i'r cyngor eu hystyried, a llawer o'r rhain yn flaenorol yn cael eu gwrthod ar gyfer eu cynnwys yn ei gynllun datblygu lleol. Ymhlith y ceisiadau hyn bu sawl un ar gyfer datblygiadau preswyl naill ai orlifdiroedd neu'n agos atyn nhw. Mae cynigion Fferm Ystrad Barwig yn Llanilltud Faerdre yn gais arbennig o nodedig, gan fod y cynnig i'w ddatblygu ar orlifdir C2, sef un o'r dosbarthiadau gwaethaf ar gyfer gorlifdir. Er ei fod yn groes i 'Polisi Cynllunio Cymru' a nodyn cyngor technegol 15, cymeradwyodd cyngor Rhondda Cynon Taf y cais hwn ddwywaith, dim ond i Lywodraeth Cymru ymyrryd a gwrthod caniatâd ar y ddau achlysur. Gyda hyn mewn golwg, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atgyfnerthu'r neges na ddylid adeiladu datblygiadau sy'n agored i lifogydd ar orlifdiroedd nac yn agos atyn nhw? Diolch.

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna, ac mae e'n iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cryfhau'r camau yr ydym wedi eu cymryd a'r cyngor yr ydym yn ei roi i atal datblygiadau ar dir sy'n agored i lifogydd a thir a allai fod yn agored i lifogydd yn y dyfodol. Rydym yn gwybod bod natur y newid yn yr hinsawdd yn golygu bod achosion o dywydd eithafol ar dopograffeg y de yn ein gwneud yn fwy agored i lifogydd heddiw nag yr oeddem ni yn y gorffennol. Ac mae'n iawn, felly, fod y safonau yr ydym yn eu disgwyl wrth roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau preswyl yn ystyried hynny'n llawn. Wrth gwrs, rydym yn cyfleu hynny'n uniongyrchol yn y cyfarfodydd niferus yr ydym yn eu cael â'n hawdurdodau lleol, ac nid wyf i'n credu bod ffordd fwy pwerus o gyfleu'r neges honno na phan fydd Gweinidogion Cymru yn galw ceisiadau cynllunio i mewn ac yn barnu'n wahanol i'r penderfyniad yr oedd yr awdurdod lleol wedi dod iddo'n wreiddiol.

13:35

Brif Weinidog, rydym ni'n gweld llifogydd yn amlach nawr ledled Cymoedd de Cymru, lle mae dwyster glawiad a stormydd ar gymoedd cul yn trechu afonydd a charthffosydd ac yn erydu glannau wrth ochr ffyrdd a phontydd a chartrefi hefyd. Er hynny, gallwn wneud mwy trwy blannu mwy o goed ar lethrau a chopaon y dyffrynnoedd, trwy adeiladu attenuation ponds i arafu disgyniad y dŵr, a sicrhau bod gan bob ardal water catchment management plans effeithiol. Brif Weinidog, sut ydym ni'n dod â thrigolion a pherchnogion tir ynghyd i baratoi water catchment management plans, a pha gyfran o Gymoedd de Cymru sy'n dod o dan gynlluniau o'r fath ar hyn o bryd?

Llywydd, diolch yn fawr i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna. Dwi'n cytuno â beth ddywedodd e ar y dechrau a beth a ddywedais i hefyd—pan fydd y Law Commission yn cyhoeddi eu hadroddiad nhw yfory, bydd pobl yn gallu gweld y ffigurau yn yr adroddiad yna, sy'n tynnu sylw at yr effaith y mae llifogydd wedi ei chael yn y Cymoedd yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Ac mae'r adroddiad yn tynnu ar wybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf, i'n helpu ni gyda chynllunio yn y dyfodol. Llywydd, dwi wedi gweld y cynlluniau sydd ar gael yn ardal Aberhonddu i blannu mwy o bethau i helpu, ac, fel yr oedd Huw Irranca-Davies yn dweud, attenuation ponds.

Nid oes gen i'r ffigur gwirioneddol ar gyfer y cwestiwn olaf y gofynnodd yr Aelod i mi amdano—cyfran Cymoedd y de a gwmpesir gan gynllun rheoli dalgylchoedd dŵr, Llywydd. Rwyf i yn gwybod bod y strategaethau rheoli perygl llifogydd lleol, sy'n un o ofynion Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, yn golygu bod gan bob cymuned leol gyfle i fod yn rhan o'r gwaith o ddrafftio'r strategaethau hynny a mwy o lais mewn penderfyniadau rheoli risg lleol. Dyna sut yr ydym ni o'r farn y gallwn ni gael dull effeithiol o reoli dalgylchoedd dŵr, gan alluogi cymunedau, busnesau a'r sector cyhoeddus i gydweithio, yn y ffordd, i raddau helaeth, yr oedd Huw Irranca-Davies yn ei awgrymu.

Arferion Diswyddo ac Ailgyflogi

2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r defnydd o arferion diswyddo ac ailgyflogi gan gyflogwyr yng Nghymru? OQ56530

Diolchaf i Mike Hedges am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae rhai cyflogwyr yng Nghymru wedi defnyddio arferion diswyddo ac ailgyflogi. Ni waeth pa mor brin y gallai'r achosion hyn fod, rwy'n rhannu barn y Prif Weinidog eu bod yn annerbyniol. Mae angen i Lywodraeth y DU weithredu yn awr i roi yr arferion hyn y tu hwnt i'r gyfraith.

A gaf i gytuno â'r hyn y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud a diolch iddo am ei ymateb? Ond y cwestiwn yw: beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i annog pobl i beidio â diswyddo ac ailgyflogi? A yw'n gallu defnyddio ei pholisi caffael, a yw'n gallu defnyddio ei chymorth ariannol i fusnesau, i annog pobl i beidio ag arfer y broses hon, sydd yn anffodus wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf?

Wel, Llywydd, mae Mike Hedges yn iawn bod yr arfer wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dangosodd tystiolaeth a gyhoeddwyd gan y TUC ym mis Ionawr eleni fod bron i un o bob 10 o weithwyr wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw ailymgeisio am eu swyddi ar delerau salach neu gael eu diswyddo. A chanfu ymchwil pellach, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill eleni, fod 70 y cant o gwmnïau a oedd yn defnyddio'r tactegau hyn yn gwmnïau sy'n gwneud elw. Nid oedden nhw'n gwmnïau a oedd wedi eu gorfodi i wneud hynny oherwydd y pandemig ar ôl i bopeth arall fethu; roedden nhw'n gwneud elw, ac elw iach hefyd—yr archfarchnad Tesco, i sôn am un cwmni yn unig, sydd wedi gwneud yn dda iawn yn ystod y 12 mis diwethaf ac sy'n dal i ddefnyddio'r tactegau hyn. Roedd 50 y cant o'r cwmnïau hynny wedi hawlio cymorth gan Lywodraeth y DU yn ystod y pandemig. Nawr, gallwn ddefnyddio ein contract economaidd, fel yr awgrymodd Mike Hedges, gallwn ddefnyddio ein trefniadau partneriaeth gymdeithasol, gallwn weithio drwy'r undebau llafur a'r rhai sydd yn y Senedd i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gymryd y camau deddfwriaethol y mae wedi eu haddo.

Yn 2019, Llywydd, yn Araith y Frenhines, addawodd Llywodraeth y DU Fil cyflogaeth. Cafodd ei ddisgrifio gan y Prif Weinidog fel yr uwchraddio mwyaf i hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth, ac eto nid yw'r Bil hwnnw erioed wedi ei gyhoeddi. Nawr, os yw'r Prif Weinidog o ddifrif bod arferion diswyddo ac ailgyflogi yn annerbyniol, ac os y dylai cwmnïau wybod yn well, fel y dywed Jacob Rees-Mogg, ac os, fel y dywed yr Ysgrifennydd Gwladol Kwasi Kwarteng,

'rydym ni wedi bod yn glir iawn bod yr arfer hwn yn annerbyniol'

ac mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol

'wedi condemnio'r arfer yn y termau cryfaf ar sawl achlysur yn y Tŷ hwn',

yna mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar y sail honno. Nawr, dywedir wrthyf y bydd y Gweinidog, y prynhawn yma yn Nhŷ'r Cyffredin, yn gwneud datganiad ac y bydd yn cyhoeddi adolygiad y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu o arferion diswyddo ac ailgyflogi a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU. Mae'n newyddion da y byddwn yn gallu gweld ffrwyth y gwaith hwnnw. Rwy'n gobeithio y bydd wedyn yn arwain at weithredu deddfwriaethol, a dim ond Llywodraeth y DU all ddwyn hynny ymlaen, i sicrhau bod yr arfer hwn, fel y dywedais, yn cael ei roi y tu hwnt i'r gyfraith. 

13:40

Prif Weinidog, mae'r arferion diswyddo ac ailgyflogi gan rai cyflogwyr, fel rydych chi wedi dweud, wedi eu comdenio gan Lywodraethau ar draws y Deyrnas Unedig, a dwi'n deall bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau y bydd yna Fesur cyflogaeth yn cael ei osod maes o law i fynd i'r afael â'r mater hwn. Dwi'n gobeithio y bydd y ddeddfwriaeth yma yn cael ei chyflwyno yn y dyfodol agos, oherwydd gallai'r ddeddfwriaeth yma gael effaith sylweddol ar weithwyr ledled Cymru, yn ogystal â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac, felly, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar unrhyw gynigion deddfwriaethol. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau rhynglywodraethol sydd wedi digwydd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y mater hwn? Pa waith mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i asesu graddfa'r broblem yma yng Nghymru, ac a wnewch chi gyhoeddi unrhyw wybodaeth a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn? 

Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Paul Davies. Rydyn ni wedi cael cyfleon i drafod y pwnc yma gyda'r Gweinidogion yn San Steffan, ac, fel dywedais i pan oeddwn i'n ateb Mike Hedges, mae Gweinidogion y Deyrnas Unedig ar y record yn dweud dydyn nhw ddim yn meddwl bod hwnna'n rhywbeth derbyniol. Y peth yw, dydyn ni ddim wedi gweld dim byd eto i roi hyder i ni y bydd y geiriau yn troi mas i fod yn bethau rydyn ni'n gallu eu gwneud. Wrth gwrs, rydyn ni'n hollol fodlon i gydweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig os oes pethau gyda nhw i roi o'n blaen ni, a'n bod ni wedi siarad yn ein social partnership council ni. Does dim lot o enghreifftiau dwi'n ymwybodol ohonynt yng Nghymru, ond mae rhai—Centrica, er enghraifft. A dwi wedi cael nifer o lythyron yn ôl ac ymlaen gyda Centrica ar ran pobl sy'n gweithio iddyn nhw yma yng Nghymru. A dwi'n fodlon hefyd, os oes rhywbeth yn dod mas o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, os oes Bil i ni ei ystyried, wrth gwrs, dwi'n fodlon rhannu gwybodaeth gyda'r Aelodau yma yn y Senedd. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r 14, 15 mis diwethaf wedi bod yn drawmatig i lawer o bobl ym mhob rhan o Gymru. Un o'r pethau y mae Llywodraethau mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn ei wneud ar hyn o bryd yw comisiynu ymchwiliadau cyhoeddus, er mwyn i ni allu deall pa benderfyniadau a gafodd eu gwneud, a pha benderfyniadau oedd yn dda a pha benderfyniadau oedd yn wael, a sut y mae angen i ni baratoi ar gyfer pandemigau yn y dyfodol. Gan fod gennych chi fandad newydd erbyn hyn, Prif Weinidog, a fyddwch chi'n comisiynu ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru i edrych yn ôl ar y pandemig ac edrych ymlaen at yr hyn y mae angen i ni ei baratoi ar gyfer pandemig yn y dyfodol?

13:45

Na, Llywydd, ni fyddaf yn gwneud hynny, gan fy mod i wedi cytuno â'i Lywodraeth ef yn San Steffan y byddwn ni'n rhan o'r ymchwiliad cyhoeddus y mae'r Prif Weinidog wedi ei gyhoeddi. Hyd y gwn i, dyna'r unig ymchwiliad cyhoeddus sydd wedi ei gynnig yn y Deyrnas Unedig. Rwyf i wedi cael y cyfle i drafod hynny gydag uwch aelodau o'r Llywodraeth yn San Steffan. Rwyf i wedi dweud wrthyn nhw fy mod i'n credu bod yn rhaid cael penodau penodol yn yr ymchwiliad hwnnw sy'n ymdrin â'r profiad yma yng Nghymru, ac yn ymdrin ag ef ar wahân, ond rwyf i wedi cytuno â'r Prif Weinidog a Michael Gove, y Gweinidog sy'n gyfrifol am Swyddfa'r Cabinet, mai un ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan, gyda'r grym y bydd ganddo, gyda'r gallu y bydd ganddo i weld natur gydgysylltiedig llawer o'r penderfyniadau sydd wedi eu gwneud ledled y Deyrnas Unedig, yw'r ffordd orau o daflu goleuni ar y ffordd y gellir deall yn iawn y profiadau gofidus niferus hynny y mae pobl wedi eu cael yng Nghymru yn y cyfnod eithriadol hwn a rhoi cyfrif ohonyn nhw.

Rwy'n credu bod hynny yn anffodus, Prif Weinidog, oherwydd, fel yr ydych chi wedi ei ddweud yn aml iawn—ac wedi dweud yn gywir—mae'r penderfyniadau a wneir yng Nghymru yn effeithio ar bobl yng Nghymru ac rydych chi wedi galw am fwy o bwerau mewn gwahanol feysydd, yn amlwg i gryfhau gallu'r Llywodraeth yma yng Nghymru o ran llawer o faterion. Yn anffodus, rydym yn gwybod bod 7,860 o bobl wedi marw yma yng Nghymru oherwydd y pandemig. Mae llawer o bobl, yn amlwg, yn ymdrin â COVID hir, ac ar hyn o bryd mae pobl yn cael eu derbyn, er bod y niferoedd yn llawer llai, diolch byth, oherwydd llwyddiant y rhaglen frechu, i ysbytai oherwydd COVID a'i amrywiolion parhaus ar hyd a lled Cymru. Ond mae'n ffaith bod penderfyniadau unigryw wedi eu gwneud yn benodol ar gyfer Cymru, boed hynny'n ymwneud ag ysbytai, cartrefi gofal neu'r cyfyngiadau, a'r gwahaniaethau y mae'r cyfyngiadau hynny wedi eu hachosi i fasnach a busnes Cymru, oherwydd, yn amlwg, eich Llywodraeth chi sy'n gyfrifol yn y meysydd hynny. Felly, byddwn i'n eich annog, Prif Weinidog, i ailystyried y posibilrwydd o ymchwiliad penodol i Gymru gyfan, oherwydd yn y pen draw gwnaed y penderfyniadau hynny yma yng Nghymru, ac mae angen i'r penderfyniadau hynny gael eu profi yma yng Nghymru drwy ymchwiliad cyhoeddus annibynnol. Rwy'n siŵr y byddai llawer o'r bobl y mae COVID wedi effeithio arnyn nhw yn disgwyl i ymchwiliad annibynnol gael ei gynnal yma yng Nghymru.

Wel, Llywydd, gadewch i mi ymdrin â rhan gyntaf cwestiwn yr Aelod yn gyntaf, gan fy mod i'n credu bod rhai pethau pwysig dim ond i sicrhau eu bod wedi eu deall a'u bod yn gyhoeddus, oherwydd efallai nad yw pob Aelod wedi gweld y ffigurau a gafodd eu cyhoeddi awr neu ddwy yn ôl gan Iechyd Cyhoeddus Cymru—y ffigurau diweddaraf sy'n nodi nifer yr achosion o amrywiolion delta yng Nghymru heddiw. Mae'r nifer wedi cynyddu ers dydd Gwener yn sgil 81 o achosion newydd eraill, ac mae'n sefyll nawr ar 178. 51 oedd y nifer pan wnaethom ni gyfarfod yma—. Wel, wnaethom ni ddim cyfarfod yma, naddo? Wythnos yn ôl i heddiw, pan gyhoeddwyd y ffigurau, roedd yn 51, a chynyddodd i 97 ddydd Gwener, ac mae'n 178 heddiw. Pan fydd arweinydd yr wrthblaid yn cyfeirio at arwyddocâd y pandemig yng Nghymru a'r ffaith fod pethau sy'n dal i fod yn peri gofid ac y mae angen eu gwylio'n ofalus iawn, rwy'n credu bod y ffigurau hynny yn peri i bob un ohonom gymryd saib i feddwl.

Nid wyf i'n anghytuno â'r hyn a ddywedodd am benderfyniadau unigryw yn cael eu gwneud yma yng Nghymru. Nid wyf i'n anghytuno â'r hyn a ddywedodd am yr angen i gynnal ymchwiliad priodol, ymchwiliad annibynnol, i'r modd y dylid cyflawni'r cyfrifoldebau a gynhelir yma. Ond fel y dywedais, rwyf i wedi cytuno nid yn unig â'r Prif Weinidog, ond â Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, mai ymchwiliad annibynnol ar gyfer y DU gyfan, sy'n cwmpasu'r profiadau a'r penderfyniadau unigryw a wnaed mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, ond sy'n gallu edrych hefyd, felly, ar y cyd-destun ehangach y gwnaed y penderfyniadau hynny oddi mewn iddo, natur gydgysylltiedig llawer ohonyn nhw—. Lawer gwaith, mae ef wedi gwneud pwyntiau yma yn y Siambr, ac eto, maen nhw wedi bod yn bwyntiau teg pan fydd wedi eu gwneud, fod y ffyrdd yr ydym yn gwneud penderfyniadau yng Nghymru yn anochel yn gydgysylltiedig â phenderfyniadau a wneir dros ein ffin. Yr ymchwiliad y mae'r Prif Weinidog wedi ei gynnig, a'r ymrwymiadau y mae ei Lywodraeth wedi eu rhoi y byddwn yn rhan o'r broses o osod cylch gorchwyl yr ymchwiliad hwnnw, a'r pwyntiau y byddaf yn parhau i'w gwneud ynghylch yr angen i'r ymchwiliad gynnwys adrannau sy'n benodol i Gymru a sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael yr atebion i'r cwestiynau sydd ganddyn nhw, yn fy marn i o hyd, yw'r ffordd orau o roi'r cofnod mwyaf trylwyr i bobl o'r ffordd y mae digwyddiadau'r 15 mis diwethaf wedi gweithio eu hunain allan yng Nghymru a'r ffordd y mae penderfyniadau wedi eu gwneud yn y fan yma.

13:50

Fel y dywedais i yn fy ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, mae'n peri gofid i mi na fydd—yn eich barn chi, beth bynnag—ymchwiliad cyhoeddus annibynnol penodol yma yng Nghymru, wedi ei gomisiynu gennych chi fel Prif Weinidog. Efallai byddai rhai pobl yn dweud mai rhedeg i ffwrdd oddi wrth graffu ac atebolrwydd yw hynny am y penderfyniadau yr oeddech chi'n eu gwneud fel Llywodraeth, gan mai dyna sydd ei angen yma yw golau haul ymchwiliad cyhoeddus i'r penderfyniadau hynny, ac yn anad dim, i roi'r paratoadau ar waith ar gyfer unrhyw bandemig y gallem ni ei wynebu yn y dyfodol, Prif Weinidog. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi, cyn gynted ag y gallwch, sicrhau bod datganiad ar gael i egluro sut yn union y bydd yr ymchwiliad ledled y DU yn ystyried y penderfyniadau sy'n benodol i Gymru. Rwy'n sylweddoli eich chi bod wedi rhoi rhywfaint o wybodaeth am hyn yn eich ymateb i mi y prynhawn yma, ond mae'n hanfodol bwysig bod Aelodau'r Senedd yn deall yn union sut y bydd profiad Cymru yn cael ei adlewyrchu yn yr ymchwiliad hwnnw.

A hoffwn i, unwaith eto, gofnodi safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig ein bod ni'n credu y dylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus Cymru gyfan i ymchwilio i'r materion penodol iawn y bu'n rhaid i Gymru ymdrin â nhw ac, yn bwysig, y penderfyniadau a wnaeth Gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Wel, Llywydd, wrth gwrs, wrth i fwy o fanylion am sut y bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal fod ar gael—a byddwn ni yn rhan o'r trafodaethau ynghylch hynny—byddaf i'n sicr yn sicrhau bod datganiadau'n cael eu darparu i'r Aelodau yn y fan yma hefyd, fel bod ganddyn nhw yr wybodaeth ddiweddaraf posibl am hynny i gyd. Nid oes dim y mae'r Aelod wedi ei ddweud am yr angen am ymchwiliad, natur na phwrpas yr ymchwiliad yr wyf i'n anghytuno ag ef.

Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrtho, nid fy marn i yn unig yw y dylid cynnal ymchwiliad y DU gyfan; dyna yw barn Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig. Felly, rwyf i'n credu, felly, os yw ef yn teimlo'n gryf y dylid gwneud penderfyniad gwahanol, yna rwyf i'n credu y dylai fod yn codi hynny gyda'r Prif Weinidog hefyd. Mae e'n aelod o'r blaid honno, fe yw arweinydd y blaid honno yn y Senedd, a phan fydd yn dweud wrthyf i mai fy marn i ydyw, fel pe byddai'n rhyw farn idiosyncratig gan y Prif Weinidog yng Nghymru, gadewch i mi ddweud wrtho eto: rwyf i wedi cytuno â'r Prif Weinidog; rwyf i wedi cytuno â Phrif Weinidogion rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig mai'r ffordd orau o ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl Cymru yw trwy fod yn rhan o'r ymchwiliad y DU gyfan hwnnw.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Bythefnos yn ôl, roeddwn i'n dymuno'n dda wrth i'r Prif Weinidog gael ei ailethol a heddiw dwi'n dymuno'n dda i arweinydd Plaid Cymru wrth iddo fo ddechrau ar gyfnod tadolaeth, a dwi'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran pawb drwy anfon ein dymuniadau gorau at Adam a'r teulu.

Ym mis Mawrth, mi ddywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol fod tri chwarter eu haelodau nhw wedi adrodd cynnydd mewn pwysau gwaith, dros hanner yn dweud bod moral staff wedi dirywio, ac mi ddywedodd un o bob tri eu bod nhw'n meddwl gadael y proffesiwn, efo dros hanner yn dweud bod lefelau cyflog yn rheswm am hynny. Rydyn ni'n disgwyl i gorff adolygu cyflogau'r NHS wneud eu hargymhelliad yn ddiweddarach y mis yma, a dwi'n llawn disgwyl y byddwch chi'n dweud eich bod chi am aros am eu hargymhelliad nhw, ond rhowch syniad i ni o beth ydych chi'n meddwl sydd yn deg, ac mi allwch chi gyfeirio, os liciwch chi, at yr 1 y cant o gynnydd a awgrymwyd yn San Steffan a'r 4 y cant sydd wedi cael ei gytuno yn yr Alban.

Llywydd, wrth gwrs dwi'n cytuno â Rhun ap Iorwerth yn ei ddymuniadau gorau i Adam a'i deulu hefyd.

Rŷn ni wedi rhoi ein gwybodaeth i'r pwyllgor sy'n gwneud yr argymhellion ar gyflogaeth yn y maes iechyd ac mae lan iddyn nhw i ddod at gasgliadau. Dyna pam y mae panel annibynnol i wneud y gwaith yna. Mae un peth yn glir, a bydd yn rhaid imi ei ddweud nawr wrth yr Aelodau fan hyn: o ran y posibiliadau i ni i dalu mwy na'r arian sy'n dod atom ni drwy'r fformiwla Barnett, wel, does dim lle i wneud hynny. Mae'r arian sy'n dod atom ni yng Nghymru yn dibynnu ar y penderfyniadau ym maes cyflogaeth y mae Gweinidogion yn San Steffan yn eu gwneud, ac mae hwnna'n rhoi'r arian i ni, drwy Barnett.

Dwi wedi bod yn y sefyllfa yma fel y Gweinidog dros iechyd, lle'r unig beth yr oeddem ni'n gallu siarad amdano â'r undebau a'r coleg brenhinol oedd sut i ddefnyddio'r arian. Does dim lle i ni godi mwy o arian, ond rŷn ni yn gallu gwneud pethau gwahanol gyda'r arian pan rŷn ni'n gwybod faint sy'n mynd i ddod atom ni.

13:55

Eich braint chi, wrth gwrs, ydy cael blaenoriaethu gwariant. Dwi'n digwydd meddwl bod staff iechyd a gofal yn flaenoriaeth. Dwi'n meddwl bod y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos hynny. Fel mae'r RCN yn dweud ei hun, beth mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi gwneud ydy tanlinellu'r problemau a oedd yno yn barod: pwysau gwaith, morâl isel a phrinder staff hefyd.

Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn cyhoeddi ffigurau ar swyddi gwag nyrsio. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai fo fod yn rhyw 1,600. Buasai codiad cyflog yn sicr yn helpu i recriwtio a chadw staff. Doedd y Gweinidog iechyd, mewn cyfweliad ddydd Sul, ddim yn fodlon cadarnhau a fyddai'r Llywodraeth yn gweithredu argymhellion y grŵp annibynnol. Mi ofynnwyd iddi hi a fyddai fo'n cael ei weithredu os byddai'r argymhelliad yn sylweddol uwch nag 1 y cant, er enghraifft. Ei hymateb hi oedd:

'Rwy'n dyfalu y byddwn yn mynd y tu hwnt i 1 y cant.' Ni ddylai hon fod yn gêm ddyfalu wrth sôn am nyrsys cofrestredig band 5 sydd ar lai na £25,000 y flwyddyn. Ond, os byddwn yn defnyddio unwaith eto y cynnydd o 4 y cant y cytunodd yr Alban arno fel pwynt cyfeirio, a ydych chi'n fodlon dweud yn y fan hon yn awr na fydd nyrsys yma yn cael setliad is na hynny?

Wel, yr hyn y byddaf yn ei ddweud, Llywydd, yw'r hyn yr wyf i wedi ei ddweud eisoes. Rydym ni wedi darparu ein tystiolaeth i'r corff adolygu annibynnol. Byddwn yn aros i weld beth y bydd ganddo i'w ddweud. Nid oes unrhyw bwynt sefydlu cyrff a mynd drwy'r broses os ydych chi eisiau i mi ddyfalu, cyn iddyn nhw adrodd, beth allai Llywodraeth Cymru ei wneud. Byddwn yn aros a byddwn yn gweld pa gasgliadau mae'n dod iddynt.

Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn dymuno sicrhau bod gweithwyr rheng flaen yn cael eu talu'n briodol am y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae llawer wedi ei ddweud, nad oedd y cynnig o 1 y cant yr oedd yn ymddangos bod Llywodraeth y DU yn ei gynnig i staff gofal iechyd, ar ôl popeth y maen nhw wedi ei wneud i ni yn ystod y 12 mis diwethaf, yn ddigonol i adlewyrchu'r cyfraniad hwnnw. Ond, mae proses ar waith a bydd yn rhaid i'r Aelod aros, yn union fel y mae'n rhaid i ninnau, i weld i ble bydd y broses yna yn ein harwain, faint o arian a fydd yn dod i ni yma yng Nghymru, a'r hyn y gallwn ei wneud ag ef wedyn. Byddwn yn gwneud hynny yn yr un modd ag yr ydym ni wedi ei wneud erioed, mewn partneriaeth â'r mudiad undebau llafur—y rhai sy'n cynrychioli'r aelodau staff hynny—gan geisio bob amser gwneud y gorau un y gallwn ei wneud drostyn nhw.

Byddwch chi'n gwybod fy mod i, yn yr etholiad diweddar, wedi amlinellu cynlluniau Plaid Cymru i sicrhau y byddai gweithwyr gofal yn cael eu cydnabod hefyd gyda setliad cyflog teg. I ni, roedd hynny yn rhan o greu gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol, gan symud gweithwyr gofal i raddfeydd cyflog y GIG. Fe wnaethoch chi addo talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal. Felly, o leiaf, gadewch i ni weld hynny'n cael ei weithredu'n ddi-oed.

Yn yr un cyfweliad, mewn gwirionedd, ddydd Sul, dywedodd y Gweinidog iechyd a gofal y bydd eich Llywodraeth yn gwneud hynny cyn gynted ag y gallwch chi. Ond, rwy'n credu bod angen i ni wneud yn well na hynny o ran rhoi amserlen. Felly, gadewch i mi roi'r cyfle hwn i chi yn ystod Wythnos y Gofalwyr i roi'r addewid hwnnw na fydd unrhyw oedi. Yn fy marn i, nid yw 'Cyn gynted ag y gallwn ni' yn gysur i staff rheng flaen sydd wedi peryglu eu diogelwch eu hunain yn ystod y flwyddyn eithriadol ddiwethaf.

Wel, Llywydd, diolch i Rhun ap Iorwerth am dynnu sylw at Wythnos y Gofalwyr, sy'n wythnos bwysig iawn yma yng Nghymru. Mae gennym ni gyfran uwch o'n poblogaeth sy'n darparu gofal anffurfiol nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, ac roeddwn i'n falch iawn ddydd Llun fod fy nghyd-Aelod Julie Morgan wedi gallu gwneud cyhoeddiadau penodol, gan ddefnyddio arian yr ydym ni wedi ei neilltuo. Yr oedd ym maniffesto fy mhlaid i fy hun i sicrhau y gellir gwella gofal seibiant i ofalwyr yma yng Nghymru.

Yn y trefniadau partneriaeth gymdeithasol yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym ni wedi sefydlu fforwm gofal cymdeithasol newydd. Mae'n rhan o'r fforwm partneriaeth gymdeithasol, ac mae'n tynnu ynghyd y cyflogwyr, yr awdurdodau lleol a'r undebau llafur. Maen nhw'n rhoi cyngor i ni ar sut y gallwn ni sicrhau bod yr arian y byddwn yn ei fuddsoddi fel Llywodraeth, i sicrhau bod pobl yn y sector yn cael y cyflog byw gwirioneddol, yn cyrraedd y gweithwyr hynny yn hytrach na chyfrannu at elw cwmnïau preifat. Dyna'r unig oedi a fydd yn y system.

Mae'n ymwneud â sicrhau, gyda dros 1,000 o gyflogwyr gwahanol yn y sector—. Nid yw'r un fath ag yn y gwasanaeth iechyd. Pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, roeddem ni'n gallu cytuno ar y cyflog byw gwirioneddol i gyflogwyr y gwasanaeth iechyd, ac mae'n syml iawn. Mae nifer y cyflogwyr yn fach, mae system genedlaethol, mae'r arian yn mynd i mewn ar un pen ac rydych chi'n gwybod i ble mae'n mynd ar y pen arall. Nid yw'n debyg iawn i hynny o gwbl yn y sector gofal cymdeithasol, o ystyried nifer y cyflogwyr sydd yn bodoli, y raddfa wahanol a'r ffordd wahanol y maen nhw'n gweithredu. Bydd y fforwm gofal cymdeithasol yn ein helpu i sicrhau bod gennym ni'r dulliau ar waith i sicrhau bod yr arian y bydd Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi at y dibenion yr ydym ni'n eu rhannu â'r Aelod ac yn eu rhannu â Phlaid Cymru, wrth i'r ddau ohonom fod wedi gwneud hyn yn flaenoriaeth yn ein maniffestos—mae angen i ni sicrhau, mewn ffordd ymarferol, fod yr arian hwnnw yn cyrraedd ble yr ydym ni'n awyddus iddo ei gyrraedd. Cyn gynted ag y byddwn yn ffyddiog bod y dulliau yno, byddwn yn gallu bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw.

14:00
Tandalu Pensiynau i Fenywod

3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr Adran Gwaith a Phensiynau yn tandalu pensiynau i fenywod? OQ56575

A gaf i ddiolch i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig iawn yna? Rydym ni wedi cyfleu ein pryderon dro ar ôl tro ac yn glir i Lywodraeth y DU ynghylch materion pensiwn y wladwriaeth yn ymwneud â menywod. Unwaith eto, rwyf i'n annog yr Adran Gwaith a Phensiynau i ddatrys tandaliad hanesyddol pensiwn y wladwriaeth i fenywod cyn gynted â phosibl.

Rydym ni'n gwybod bod tandaliadau o ran pensiwn y wladwriaeth i ryw 200,000 o fenywod priod wedi mynd ymlaen am dros 20 mlynedd, ac mae wedi effeithio yn arbennig ar fenywod a oedd â phensiwn y wladwriaeth gwael yn eu hawl eu hunain. Roedd ganddyn nhw hawl i hawlio 60 y cant o bensiwn y wladwriaeth yn seiliedig ar gyfraniadau pensiwn eu gŵr. Yr hyn sy'n arbennig o warthus am y camgymeriad hwn yw efallai na fydd llawer o'r menywod hynny yn gallu hawlio'r swm llawn a gafodd ei dandalu iddyn nhw. Dim ond 12 mis o ôl-daliadau y bydd gan fenywod hawl iddyn nhw os oedd eu gwŷr wedi ymddeol cyn 2008 ac nad oedden nhw wedi gwneud cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau am gynnydd i'w pensiwn. Mae Llywodraeth y DU, wrth gwrs, yn dweud ei bod wedi ysgrifennu at y menywod hynny yn rhoi gwybod iddyn nhw am y newid hwnnw i'r rheol. Fodd bynnag, fel yn sgandal Anghydraddoldeb Pensiwn Menywod yn Erbyn y Wladwriaeth, mae llawer o fenywod wedi dweud na wnaethon nhw dderbyn y llythyr hwnnw. A gan fy mod innau yn fenyw WASPI fy hun, gallaf ddweud wrthych na chefais i y llythyrau hawlio hynny ychwaith. Prif Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ynghylch effaith y tandaliad sylweddol hwn ar y menywod hynny yng Nghymru ac, wrth gwrs, yr incwm a gollwyd i Gymru?

Diolch yn fawr iawn i Joyce Watson. Fe wnaeth hi ddisgrifio'r sefyllfa, yn fy marn i, yn glir iawn yn wir. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn honni yr ysgrifennwyd at fenywod y trodd eu gwŷr yn 65 oed cyn 17 Mawrth 2008, ac mai eu cyfrifoldeb nhw oedd gwneud cais am y cynnydd. Ac eto, wrth i ni ddysgu mwy am hyn i gyd, daw'n gliriach o hyd nad oedd hynny'n wir mewn nifer fawr o achosion. Mae tystiolaeth bod yr Adran Gwaith a Phensiynau, er enghraifft, wedi ysgrifennu at wŷr pobl yn hytrach nag at fenywod eu hunain, ac efallai na fydd y llythyrau hynny erioed wedi cyrraedd y bobl yr oedd yn ofynnol iddyn nhw wneud yr hawliad. Byddai, yn fy marn i, yn arwydd o ewyllys da ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau pe bydden nhw yn fodlon ôl-ddyddio'r hawliadau hynny ymhellach na'r 12 mis safonol. Wrth gwrs, pan mai'r Adran Gwaith a Phensiynau ei hun oedd ar fai—ac yr oedd ar fai, rydym ni'n gwybod erbyn hyn, mewn miloedd lawer o achosion—bydd y taliadau yn cael eu hôl-ddyddio i'r adeg y byddai'r hawliad wedi bod yn ddyledus am y tro cyntaf.

Yma yng Nghymru, nid oes gennym wybodaeth fanwl hyd yma, drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau, am nifer y menywod yr effeithiwyd arnyn nhw yn uniongyrchol. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod, Llywydd, yw mai'r grŵp yn ein poblogaeth sydd leiaf tebygol o fanteisio ar y budd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw yw menywod sengl dros 75 oed, ac mae hynny wedi bod yn wir am flynyddoedd lawer, ac ar draws llawer o wahanol fathau o fudd-daliadau. Rydym yn gwybod yn sicr mai'r bobl sydd fwyaf tebygol o fod wedi eu heffeithio'n andwyol gan hyn i gyd yw'r bobl yr oedd hi'n lleiaf tebygol iddyn nhw fod mewn sefyllfa i unioni hynny. Felly, rydym ni'n cychwyn o fan anodd iawn. Mae gennym ni, fel y dywedodd y Farwnes Altmann, cyn Weinidog pensiynau'r Ceidwadwyr, is-ddosbarth o bensiynwyr sy'n aml yn fenywod oedrannus yn dod i'r amlwg gan eu bod yn byw ar lawer llai nag y dylen nhw fod yn ei wneud. Ysgrifennodd Jane Hutt, yn y Senedd flaenorol, at yr Ombwdsmon Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd yn annog y swyddfa honno i flaenoriaethu'r cwynion a gafwyd gan fenywod yn y sefyllfa hon, i geisio hwyluso penderfyniad ar y mater hwn, a bydd Gweinidogion Cymru yn parhau i ymgymryd ag achosion unigolion o Gymry sy'n eu canfod eu hunain yn y sefyllfa ofnadwy hon.

14:05

Prif Weinidog, rwyf i ar ddeall bod Llywodraeth y DU yn llwyr ymrwymedig a'i bod wedi buddsoddi llawer o arian yn ddiweddar i sicrhau bod menywod ledled y wlad y mae'r meysydd hyn wedi effeithio arnyn nhw yn cael yr arian sy'n ddyledus iddyn nhw, a hynny'n briodol. A all y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod menywod ledled Cymru yn ymwybodol, yn enwedig y grŵp agored i niwed yna o bobl dros 75 oed yr ydych chi newydd eu crybwyll? Sut ydych chi'n estyn allan iddyn nhw i sicrhau eu bod yn gwybod bod y broses hon yn parhau ac nad sgam ydyw? A ydych chi fel Llywodraeth yn gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i unioni'r sefyllfa, gan ddefnyddio rhai o'r pethau yr ydych chi newydd eu hawgrymu?

Wel, Llywydd, wrth gwrs bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i sicrhau bod menywod yng Nghymru yn ymwybodol o'r hawliau sydd ganddyn nhw. Aeth ei phlaid hi, wrth gwrs, i'r etholiad diwethaf gan ddweud y byddai'n tynnu yn ôl yr holl arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar gyfrifoldebau nad ydynt wedi eu datganoli. Ac yn sicr, nid yw'r hyn y mae hi newydd ofyn i mi ei wneud yn gyfrifoldeb i'r Senedd hon na Llywodraeth Cymru. Yn ffodus, ni wnaethom wrando ar gyngor ei phlaid. Felly, mae'r gronfa gynghori sengl yr ydym ni wedi ei llunio y llynedd wedi helpu 127,000 o bobl i ymdrin â bron i 300,000 o faterion budd-daliadau lles, ac o ganlyniad i'r buddsoddiad a wnaethom, mae £43 miliwn ychwanegol wedi dod i Gymru mewn budd-daliadau heb eu hawlio. Ym mis Mawrth eleni, Llywydd, cawsom yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i fanteisio ar hyn, gan ganolbwyntio'n fwyaf uniongyrchol ar y rhai yr effeithiodd y pandemig arnyn nhw. O'r wybodaeth sydd gennym ni eisoes, hawliwyd £650,000 ychwanegol yng Nghymru o ganlyniad i'r un mis yna o ymgyrchu. Felly, rwyf i wrth gwrs yn hapus i roi sicrwydd i'r Aelod y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i chwarae ein rhan i sicrhau bod yr hawliau sydd gan fenywod yn y sefyllfa hon yn cael cyhoeddusrwydd a'u bod yn gwybod amdanyn nhw, ac rydym yn falch iawn o weithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn hefyd. Yr hyn y mae angen i ni ei weld yw brys ynglŷn â sicrhau bod menywod, y mae llawer ohonyn nhw yn oedrannus iawn erbyn hyn ac na fyddan nhw efallai yn gallu manteisio ar yr arian a fydd yn ddyledus iddyn nhw—mae angen brys o ran sicrhau bod y menywod hynny yn cael eu digolledu yn y modd y mae ganddyn nhw hawl iddo.

Rhoi Terfyn ar Drais yn erbyn Menywod a Merched

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac a gaf i yn gyntaf jest ymestyn llongyfarchiadau ichi eto, Brif Weinidog, am gael eich ethol, a hefyd i bawb yn y Senedd? Fel yr unig Aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol, dwi'n edrych ymlaen at weithio efo chi i gyd, wrth gwrs. Gwnaf ofyn y cwestiwn yn Saesneg. 

4. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, yn enwedig mewn cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig? OQ56568

Diolch yn fawr i Jane Dodds am beth ddywedodd hi i ddechrau, a llongyfarchiadau mawr, wrth gwrs, i chi hefyd ac am roi y cwestiwn cyntaf yma ar lawr y Senedd y prynhawn yma.

Llywydd, eleni, mae'r gyllideb refeniw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi cael cynnydd o fwy nag 8 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn cyn y pandemig. Mae dros £0.5 miliwn o'r arian hwn wedi ei gyfeirio at gynllunio strategol a darparu gweithgareddau yn uniongyrchol i ddioddefwyr a goroeswyr du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna.

A gaf i ddilyn hynna drwy ganolbwyntio ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ystod y cyfnod COVID hwn? Rydym ni i gyd yn gwybod y bu cynnydd sylweddol i'r angen am leoedd lloches, yr angen am wasanaethau, ac ymatebion gwell a mwy penodol i'r menywod a'r plant hynny sy'n dod ymlaen ar ôl y cyfnodau cyfyngiadau symud hyn. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn clywed pa faterion a gwasanaethau fydd yn cael eu targedu i ardaloedd gwledig, lle yr ydym yn gwybod bod prinder penodol o'r ymatebion a'r gwasanaethau effeithiol hynny. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr. O ran y materion penodol sydd wedi dod i'r wyneb yn ystod cyfnod y pandemig ac sy'n effeithio ar gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y modd y mae Jane Dodds wedi ei ofyn, nhw yw'r rhai a fydd, gwaetha'r modd, yn gyfarwydd ar lawr y Senedd ac mae fy nghyd-Aelod Joyce Watson wedi arwain yn aml ar dynnu ein sylw at hyn: priodas dan orfod, anffurfio organau cenhedlu benywod, trais a cham-drin ar sail anrhydedd. Mae'r holl faterion hynny yn rhai sydd wedi eu trafod yng ngrŵp arweinyddiaeth Cymru gyfan y mae Llywodraeth Cymru yn ei gadeirio ar y cyd, a sefydlwyd i ymateb i'r tri math o gam-drin, a fforwm a rennir gan BAWSO a Gwasanaeth Erlyn y Goron, ymhlith eraill. Yr hyn yr ydym ni wedi canolbwyntio arno yn ddiweddar yw hyfforddi staff rheng flaen, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu adnabod ac ymateb i'r mathau hyn o amgylchiadau. Hyfforddwyd dros 650 o bobl yn ystod chwarter cyntaf eleni, Llywydd, yn y sectorau gwirfoddol a statudol—hyfforddiant arbenigol i ddeall, nodi ac ymateb i achosion o drais er anrhydedd. Ac yna oherwydd—ac mae hyn yn arbennig o wir fel y dywedodd Jane Dodds mewn ardaloedd gwledig—bod yn rhaid i ni ddibynnu ar amrywiaeth ehangach o unigolion a allai ddod i gysylltiad â phobl sy'n dioddef o'r mathau hyn o gam-drin, mae rhaglen hyfforddi genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi bod yn canolbwyntio ar yr amrywiaeth ehangach honno o weithwyr: gyrwyr danfon nwyddau, gweithwyr post, fferyllwyr cymunedol, swyddogion olrhain cysylltiadau—pobl sydd yno mewn cymunedau ledled Cymru ac sy'n cael gwybod am y risgiau sydd i rai o'n cyd-ddinasyddion. Maen nhw'n gallu adnabod hynny wedyn, rhoi gwybod amdano a sicrhau bod camau yn cael eu cymryd. Mae'r amrywiaeth ehangach honno o weithwyr a gwirfoddolwyr yn arbennig o bwysig o ran sicrhau bod rhwyd ddiogelwch briodol o wasanaethau ym mhob rhan o Gymru.

14:10

Prif Weinidog, fel yr ydych chi newydd sôn yn fyr, mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn drosedd ac mae'n sicr yn gam-drin. Gall yr arfer hwn achosi dioddefaint corfforol a seicolegol eithafol a chydol oes i fenywod a merched, ac yn syml, ni ellir ei oddef. Mae astudiaethau wedi dangos dau o'r rhwystrau i adrodd am achosion newydd o anffurfio organau cenhedlu benywod. Yn gyntaf, mae ofnau ynghylch dial gan y gymuned ehangach a phryderon ynghylch ymyrraeth ym mywyd preifat y teulu. Yn ail, mae'r cyfrinachedd sy'n ymwneud â'r arfer yn golygu nad yw dathliadau traddodiadol o anffurfio organau cenhedlu benywod fel defod bywyd i ferched yn cael eu cynnal yn y DU mwyach, ac felly efallai nad yw aelodau o'r teulu ehangach a'r gymuned yn ymwybodol bod anffurfio organau cenhedlu benywod wedi digwydd, neu fod diffyg tystiolaeth bendant. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gynyddu ymwybyddiaeth bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn anghyfreithlon, trwy weithio gyda'r arweinyddion a'r grwpiau cymunedol hynny y mae hyn yn effeithio arnynt fwyaf, i ddileu'r arfer hwn unwaith ac am byth yma yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar amrywiaeth o wahanol lefelau i geisio sicrhau bod ymwybyddiaeth o anffurfio organau cenhedlu benywod, ac y gellir cyfleu gwybodaeth amdano mewn modd y gall pobl ei ddeall, sydd â rhywfaint o sensitifrwydd diwylliannol yn ei gylch, ond sydd serch hynny yn gwbl glir ynghylch pa mor annerbyniol yw'r arfer yma yng Nghymru. Ar un pen y sbectrwm, mae hynny'n golygu bod meddygon o dan rwymedigaeth i adrodd am achosion o anffurfio organau cenhedlu benywod os ydyn nhw'n credu eu bod yn dod ar ei draws, ac ar ben arall y sbectrwm mae gennym ni weithwyr iechyd cymunedol, yn gweithio'n uniongyrchol mewn cymunedau, gan sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn ieithoedd, mewn ffyrdd sydd ar gael o ddifrif i'r cymunedau hynny a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Rwy'n rhannu pryder yr Aelod ynghylch y mater a hoffwn i roi sicrwydd bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws y sbectrwm i geisio mynd ar drywydd y materion yn y ffordd yr awgrymwyd ganddi hi.

Buddsoddi yn y Rhwydwaith Rheilffyrdd

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd yn ne-orllewin Cymru? OQ56557

Diolchaf i'r Aelod. Rydym yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol yn y rhwydwaith rheilffyrdd yn y de-orllewin, gan gynnwys gorsaf newydd yn San Clêr, cerbydau newydd sbon a gwelliannau i orsafoedd ledled y rhanbarth. Mae ein hymgynghoriad ar wella gwasanaethau rheilffyrdd yn y de-orllewin yn cau heddiw.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb ysgrifenedig i fy nghwestiwn yn ymwneud â chroesfan reilffordd Pencoed ar 26 Mai. Mae'n galonogol clywed y bydd dyluniadau a chostau terfynol y prosiect yn cael eu cwblhau eleni. Rwyf i'n llwyr sylweddoli y gall prosiectau o'r cymhlethdod a'r raddfa hon gymryd cryn dipyn o amser, ond byddwn i'n dweud bod sibrydion ynghylch y prosiect hwn yn bodoli ers cyn i mi wneud fy arholiadau TGAU, a chefais fy synnu o sylweddoli bod hynny ddegawd yn ôl mewn gwirionedd. Ond dyna faint o amser yr ydym ni'n sôn amdano yn fan yma—[Torri ar draws.] Dyna faint o amser yr ydym ni'n sôn amdano, Prif Weinidog. Nid ydym ni'n sôn am ddegawd rhwng dechrau a chwblhau'r prosiect; nid yw'r prosiect wedi hyd yn oed dechrau eto. Disgwylir i drydydd cam yr hyn a elwir yn arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru ddigwydd yn ystod y flwyddyn ariannol hon, a'r trydydd cam o bump yw hwnnw. O gofio am faint o amser yr ydym ni wedi bod yn ystyried y prosiect hwn, byddwn i'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog pe gallai nodi rhagamcan o amserlen ar gyfer cwblhau'r prosiect hwn. Rwy'n gwerthfawrogi efallai na fydd yn gallu rhoi ateb nawr, ond byddwn i'n sicr yn croesawu ymateb ysgrifenedig manylach os yw ef o'r farn bod hynny yn fwy priodol. Rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol y bydd y prosiect hwn yn tarfu'n sylweddol ar y gymuned leol, ac rwy'n siŵr y bydden nhw yn croesawu rhagamcan o amserlen er mwyn iddyn nhw allu paratoi ar ei gyfer.

14:15

Wel, Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Fel mae'n digwydd, rwy'n gyfarwydd iawn â phroblemau'r groesfan reilffordd ym Mhencoed, gan eu bod wedi eu codi gyda mi yn rheolaidd iawn gan yr Aelod lleol Huw Irranca-Davies, ac rwyf hyd yn oed wedi bod i ymweld â'r groesfan fy hun i sicrhau fy mod i'n deall cynllun yr ardal yn llawn a'r materion sydd dan sylw yno.

Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd y cynllun yn lleddfu tagfeydd ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd, yn gwella amseroedd teithio, yn lliniaru llifogydd—gan feddwl am gwestiwn cynharach—ac yn gwella diogelwch. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £0.5 miliwn i gwblhau trydydd cam proses WelTAG, sef y cam dylunio a chostio terfynol. Mae'n cael ei oruchwylio gan grŵp llywio sy'n cyfarfod bob chwarter. Mae'n cynnwys Aelod Senedd yr etholaeth leol, Aelod Seneddol yr etholaeth, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Tref Pencoed, Trafnidiaeth Cymru ac, yn hollbwysig, Network Rail, oherwydd, yn y pen draw, Llywydd, er y gallwn ni gyfrannu ein harian a gwneud ein gorau glas i gael y dyluniad gorau posibl a'r costau mwyaf effeithiol ar gyfer y cynllun, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd, a Network Rail fydd yn gorfod bwrw ymlaen â'r pethau hyn. Mae'r ffaith eu bod nhw wrth y bwrdd yn y grŵp llywio yn galonogol, a byddwn yn sicr yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod y cynllun pwysig iawn hwn ar gyfer yr ardal honno yn dwyn ffrwyth. Clywais yr hyn a ddywedodd yr Aelod am y ffaith fod 10 mlynedd wedi mynd heibio—[Chwerthin.]—ers iddo sefyll ei arholiadau TGAU. Pan ddarllenais y nodiadau briffio ar gyfer y cwestiwn hwn, Llywydd, dysgais y bydd gorsaf newydd San Clêr yn disodli'r un a gaewyd ym 1964, ac rwyf i'n gallu cofio defnyddio honno. [Chwerthin.]

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n eich llongyfarch ar eich ailethol, ac yn dymuno'r gorau i chi. Prif Weinidog, rwy'n dymuno'r gorau i chithau hefyd ar eich ailethol yn Brif Weinidog. Prif Weinidog, ym mis Mawrth, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y cynigion ar gyfer metro bae Abertawe a gorllewin Cymru. Un o fanteision arfaethedig metro bae Abertawe yw manteisio i'r eithaf ar y potensial i orsafoedd gyflymu'r broses o adfywio trefol a darparu safleoedd datblygu mawr. Mae gwerth economaidd buddsoddi yn ein rhwydwaith trafnidiaeth yn hollbwysig. Pa asesiad o'r effaith economaidd sydd wedi ei gynnal i sicrhau y gwireddir y buddion hynny i'r eithaf? Diolch.

Llywydd, diolchaf i Altaf Hussain am y cwestiwn. Mae'n dda clywed ganddo eto ar lawr y Senedd. Dywedais wrth ateb Mr Fletcher fod yr ymgynghoriad y tynnodd Mr Hussain sylw ato wedi cau heddiw. Hyd yn hyn, mae gennym ni oddeutu 250 o ymatebion iddo, ac mae llawer ohonyn nhw yn canolbwyntio ar syniad metro bae Abertawe. Felly, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal yr asesiadau economaidd angenrheidiol ar gynigion i wella'r ddarpariaeth metro yn ardal bae Abertawe, ac mae'r cynigion sy'n sail i'r ymgynghoriad yn chwilio am system drafnidiaeth integredig o ansawdd uchel sy'n ei gwneud yn haws i ddinasyddion yn y rhan honno o Gymru deithio, boed hynny ar y trên, ar fws, ar feic, neu, yn wir, ar droed. Byddwn yn dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn awr, a bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol yn dychwelyd i lawr y Senedd i wneud datganiad yn nodi ble bydd yr ymgynghoriad yn ein harwain nesaf.

Dyfodol Economi Gogledd Cymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol economi gogledd Cymru? OQ56535

Mae'r Llywodraeth yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan y gogledd ddyfodol cryfach, gwyrddach a thecach. Byddwn yn parhau â'n perthynas waith ragorol â'n partneriaid ar draws y rhanbarth, gan seilio dyfodol yr economi ym margen twf y gogledd.

14:20

Diolch i chi am yr ymateb yna, Prif Weinidog. Un o'r pethau a allai danseilio dyfodol economi'r gogledd yn ddifrifol yw'r cynigion y mae eich plaid chi wedi eu cyflwyno mewn cysylltiad â threthiant. Rydych chi eisoes wedi cyfeirio yn eich Papur Gwyn ar y Ddeddf aer glân at y posibilrwydd o gynllun codi tâl penodol ar gefnffyrdd Cymru. Byddai hyn, wrth gwrs, yn ychwanegu cost sylweddol, nid yn unig i drigolion lleol ond hefyd i ymwelwyr â'r gogledd. Ac, fel y gwyddoch chi, mae twristiaeth yn rhan eithriadol o bwysig o'r economi yn y rhanbarth.

Yn ogystal â hynny, rydych chi wedi codi'r posibilrwydd yn y gorffennol y gallai trethi twristiaeth gael eu codi ar bobl sy'n aros dros nos yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth a allai hefyd, wrth gwrs, danseilio a niweidio'r diwydiant twristiaeth a'r economi ehangach yn y gogledd yn ddifrifol, oherwydd byddai gwariant ymwelwyr, wrth gwrs, yn gostwng mewn siopau wrth iddo gael ei dynnu allan o bocedi pobl. Byddai hefyd, wrth gwrs, yn ein gwneud yn llai cystadleuol o gymharu â rhannau eraill o'r DU lle nad oes ganddyn nhw drethi o'r fath. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i bobl yn y gogledd na fyddwch chi'n cyflwyno mwy o drethi ar ffyrdd ac ar dwristiaeth yn y dyfodol, ac y byddwch chi'n gwneud popeth o fewn eich gallu i gefnogi'r economi er mwyn iddi ffynnu, yn hytrach na'i thanseilio?

Llywydd, edrychaf ymlaen at weithio gyda phlaid yr Aelod ar yr agenda aer glân. Ydy, mae'r Papur Gwyn wrth gwrs yn cynnwys syniadau am sut y gallwn ni annog pobl i beidio â defnyddio mathau o drafnidiaeth sy'n achosi llygredd aer. Dim ond posibilrwydd ychwanegol synhwyrol iawn i rym y polisi yw hynny. Rydym yn ei weld yn cael ei ddefnyddio mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac nid oes unrhyw reswm pam y dylem ni beidio â'i gynnwys yn y ddadl yma yng Nghymru.

Byddwn yn gweithio gyda'r holl fuddiannau hynny yn y gogledd, yn enwedig drwy fargen twf y gogledd—y £120 miliwn y byddwn ni, Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi ynddi. Roeddwn i'n falch iawn fy hun o ymweld â lleoliadau twristiaeth yn y gogledd gyda Gweinidog y gogledd wythnos yn ôl. Roeddem ni yn Llandudno gyda'n gilydd; ac roeddwn i yn Llangollen gyda'r Aelod lleol, Ken Skates. Byddwn yn gweithio gyda'r partneriaid hynny i sicrhau bod y cynlluniau y mae pobl leol a sefydliadau lleol yn eu datblygu i greu dyfodol llwyddiannus i'r economi honno yn cael eu datblygu mewn partneriaeth.

Y Cynllun Peilot Awyr Agored ar gyfer Cynulliadau Torfol

Dyma'r tro cyntaf dwi wedi siarad, felly dwi'n eich llongyfarch chi ar eich apwyntiad i rôl y Llywydd, a dwi'n llongyfarch y Prif Weinidog hefyd ar ei etholiad.

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun peilot awyr agored ar gyfer cynulliadau torfol yng Nghymru? OQ56554

Llywydd, llongyfarchiadau i Mr Giffard ar ei gwestiwn cyntaf yma ar lawr y Senedd y prynhawn yma. 

Llywydd, buom yn gweithio yn agos gyda threfnwyr digwyddiadau i sefydlu rhaglen o ddigwyddiadau prawf, sy'n cynnwys amrywiaeth o wahanol leoliadau a mathau o ddigwyddiadau. Mae'r adborth cychwynnol o'r digwyddiadau hynny wedi helpu i lywio'r gwaith o ailgyflwyno gweithgareddau awyr agored mawr yng Nghymru, ac roeddwn i'n gallu cadarnhau hynny ddydd Gwener.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Hoffwn i groesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ailddechrau digwyddiadau chwaraeon yn yr awyr agored. Fel y bydd yn gwybod, mae'n ffynhonnell incwm hanfodol i lawer o glybiau chwaraeon yn fy rhanbarth i a ledled Cymru, sydd wedi ei chael hi'n anodd iawn drwy gydol y pandemig. A wnaiff ef roi sylwadau ar ba gamau pellach y bydd yn eu cymryd i sicrhau y bydd mwy o gefnogwyr yn cael bod yn bresennol yn y digwyddiadau hyn yn y dyfodol a pha gymorth pellach y bydd yn ei roi i'r clybiau hyn?

Diolch yn fawr iawn i Mr Giffard am y cwestiwn yna. Wel, fel y gŵyr, o ganlyniad i'r cyhoeddiad ddydd Gwener, bydd digwyddiadau awyr agored i hyd at 4,000 o bobl yn sefyll, 10,000 o bobl yn eistedd, yn bosibl yng Nghymru bellach, yn amodol bob amser ar asesiad risg mewn unrhyw leoliad unigol. Yr hyn y byddwn yn ei wneud y tu hwnt i hynny yw cael cyfres dreialu arall o ddigwyddiadau lle y gall lleoliadau lle byddai asesiad risg yn mynnu uchafrif islaw'r ffigurau hynny yn cael mynd y tu hwnt i'r uchafrif hwnnw pan fyddan nhw'n gallu dangos bod camau lliniaru ychwanegol yn bosibl a'u bod yn cael eu treialu yn y lleoliad hwnnw.

Felly, mae llawer o waith yn dal i'w wneud gyda'r sector i sicrhau y gallwn barhau i ganiatáu iddo ailagor, y cânt groesawu mwy o bobl yn ôl i'r lleoliadau hynny, ond bob amser ei fod yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n diogelu iechyd a lles y bobl sy'n mynd i wylio'r digwyddiadau hynny neu i gymryd rhan ynddyn nhw. Mae hynny yn golygu y bydd angen rhagor o gymorth ar y sector y tu hwnt i'r cymorth sydd eisoes wedi ei gyhoeddi, a bydd yr Aelod yn ymwybodol bod y gronfa adfer diwylliannol yn gronfa o dros £63 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Aeth deg miliwn o bunnoedd o hynny yn uniongyrchol i'r sector digwyddiadau. Ar 22 Mawrth, fe wnaethom gyhoeddi ail gam y gronfa adfer diwylliannol; £20 miliwn cychwynnol wedi'i neilltuo, a £10 miliwn arall a allai fod ar gael yn ôl yr angen. Derbyniwyd chwe chant o geisiadau hyd yma ar gyfer y cam nesaf hwnnw, ac mae 50 y cant ohonyn nhw yn dod o'r sector digwyddiadau. Felly, gallaf ei sicrhau ef y byddwn yn gweithio gyda'r sector hwnnw gan ddefnyddio'r arian hwnnw, oherwydd er bod cyhoeddiad dydd Gwener yn newyddion da gan y sector, ac rwy'n gobeithio y bydd rhagor o newyddion da os bydd amgylchiadau yn caniatáu hynny ymhen 10 diwrnod arall, y bydd cyfnod o hyd lle nad yw'r sector yn gallu gweithredu'n llawn a byddwn ni yn awyddus i barhau i'w gefnogi ar y daith honno.

14:25
Yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rôl y mae'r Gymraeg wedi'i chwarae yn natblygiad Caerdydd fel prifddinas Cymru? OQ56567

Llywydd, diolch yn fawr. Heddiw, mae Caerdydd yn gartref i gymuned Gymraeg ei hiaith amlddiwylliant sydd yn ffynnu. Mae hyn yn nodwedd arbennig o’r ddinas ac mae’n sail i’w statws fel prifddinas.  

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Ym 1936, gadawyd Tŷ'r Cymry gan Lewis Williams, ffermwr o Fro Morgannwg, i siaradwyr Cymraeg Caerdydd. Yn ystod y blynyddoedd mae wedi datblygu i fod yn esiampl ddisglair o gefnogaeth i'r iaith, ond hefyd yn ganolfan ddiwylliannol. Yn anffodus, fel y dangosodd adroddiadau newyddion diweddar, mae dyfodol yr adeilad hwn yn ansicr ac nid yw bellach yn rhan o gynlluniau'r ymddiriedolwyr, sydd wedi ceisio gwerthu'r eiddo yn ddiweddar. Gyda hyn mewn golwg, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod Tŷ'r Cymry yn parhau er budd y gymuned Gymraeg yng Nghaerdydd?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, Llywydd. Nid wyf i'n ddigon cyfarwydd â'r manylion i allu rhoi iddo'r math o ateb y mae'r cwestiwn yn ei haeddu y prynhawn yma, ond rwy'n hapus iawn i ddweud y gallwn roi ystyriaeth iddo ac y byddaf yn ysgrifennu ato gydag ateb i ddilyn.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Rwyf wedi ychwanegu tri datganiad at yr agenda heddiw. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch coronafeirws, bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cyflwyno datganiad ar statws preswylwyr sefydlog yr UE ac yn olaf, bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno datganiad ar y gronfa seibiant a seibiannau byr ar gyfer gofalwyr di-dâl. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog chwaraeon. Nid wyf i'n siŵr a ydych yn ymwybodol o'r newid enfawr sy'n digwydd ym maes pêl-droed menywod yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae'n amlwg o drafodaethau trawsbleidiol yr wyf i wedi'u cael gydag Aelodau eraill ledled y Senedd bod gan bawb yma'r brif nod o wella pêl-droed menywod yng Nghymru a sicrhau ei bod yn gystadleuol a'i bod yn llwyddo. Rwy'n canmol Cymdeithas Bêl-droed Cymru am gydnabod yr angen i ddiwygio a buddsoddi yn y gêm hon i fenywod yma yng Nghymru gan fod taer angen buddsoddi yn ein clybiau, ac mae angen inni fod yn fwy cystadleuol yn y DU ac ar lwyfan byd-eang. Fodd bynnag, mae'r ganmoliaeth yn dod i ben yno, Gweinidog busnes, gan fod y broses ad-drefnu weinyddol a ddefnyddiwyd i geisio cyflawni'r nod hwn yn amheus ac yn annheg.

Mae timau ledled fy rhanbarth i wedi cael eu digalonni a'u drysu gan gyhoeddiadau diweddar Cymdeithas Bêl-droed Cymru ynghylch pa glybiau yng Nghymru fydd yn symud i lawr i haen 2. Mae'n ymddangos bod diffyg tryloywder yn y broses ei hun o ran sut y daeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru i gasgliadau ynghylch pwy fydd yn cael eu symud i lawr i haen 2, sy'n codi llawer o gwestiynau ynddo'i hun, ond hefyd y diffyg pwyslais sydd yr un mor ddryslyd a roddir i'r haeddiant o ran chwaraeon, y perfformiad ar y cae. Menywod y Fenni yw'r enghraifft orau o hyn. Maen nhw, sydd yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, wedi cyrraedd y pedwerydd safle yn y gynghrair, maen nhw’n gystadleuol iawn, ac yn gwneud yn dda iawn yn erbyn clybiau mwy yn yr ardal. Eto i gyd, maen nhw wedi'u symud i lawr i haen 2, nid oherwydd eu galluoedd ar y cae, oherwydd maent wedi llwyddo i ddod yn bedwerydd yn y gynghrair, ond efallai oherwydd dim ond diffyg cefnogaeth gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i lenwi ffurflenni. Mae angen ailstrwythuro a buddsoddi yng ngêm y menywod yma yng Nghymru, ond nid fel hyn. Gan fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru, drwy gyngor chwaraeon Cymru, yn cael arian sylweddol gan Lywodraeth Cymru, mae'n briodol felly bod y Dirprwy Weinidog bellach yn ymyrryd, a byddaf i, ochr yn ochr â llawer o bobl ledled y Siambr hon, yn gofyn yn awr iddi ofyn am eglurder gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'u bod yn ailystyried y broses hon, yn enwedig yn y flwyddyn drosiannol hon.  

Pob clod i Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog chwaraeon newydd, mae hi eisoes wedi gofyn am friff ar hyn. Ond mae'n iawn nawr, Gweinidog, ei bod yn gwneud datganiad ar broses a dyfodol y newid enfawr hwn mewn chwaraeon menywod yma yng Nghymru, a sut mae'r broses, y cytunwyd arni ledled y pleidiau, wedi methu ac yn bell o gyrraedd y safonau sy'n ofynnol gan gorff y Llywodraeth. Diolch.

14:30

Bydd fy ateb i'n llawer byrrach na'r cwestiwn, gallaf eich sicrhau chi, Llywydd.

Rwy'n deall bod ailstrwythuro gêm ddomestig y menywod gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru wedi arwain at nifer o newidiadau, gan gynnwys cynghrair lai ar gyfer y tymor nesaf. Mae'n fater i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, fel y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer pêl-droed yma yng Nghymru, ond rydych chi'n hollol gywir—mae Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, wedi gofyn i'w swyddogion gyfarfod â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a rhoi rhagor o wybodaeth iddi, a byddaf i'n gofyn iddi wneud datganiad i'r Siambr yn dilyn yr wybodaeth bellach honno.

Prynhawn da. Os teithiwch chi drwy Ddwyfor Meirionnydd, fe welwch chi'n anffodus amryw o adeiladau cyhoeddus sydd wedi'u cau ac yn eistedd yn wag, boed yn dafarndai neu'n gapeli neu'n eglwysi ac yn y blaen. A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch pa gymorth ychwanegol medrwch chi ei roi i sicrhau bod cymunedau yn medru cymryd perchnogaeth ar yr adnoddau hynny er mwyn medru datblygu cynlluniau cymunedol a fydd yn cryfhau'r economi gylchol a sicrhau na fydd digwyddiadau fel y gwelwyd ym Mhistyll, wrth i'r gymuned honno golli Bethania, yn digwydd eto yn y dyfodol?

Diolch, Mabon ap Gwynfor, am y cwestiwn hwnnw. Byddwch chi'n ymwybodol bod yna raglen cyfleusterau cymunedol ar gael. Dyna ein prif gynllun ers blynyddoedd nawr, ac mae wedi bod yn dda iawn gweld nifer yr adeiladau cyhoeddus sy'n dod yn ôl i berchnogaeth, a chymunedau'n cymryd drosodd y gwaith o gynnal yr adeiladau hynny. Rwy'n deall y bydd y cylch ariannu nesaf ar gael yn y dyfodol agos iawn.

Gweinidog, wrth inni aros am y broses hirddisgwyliedig o ddatganoli plismona i Gymru, a gaf i ofyn am un datganiad? Ac mae'n ymwneud â'r dull presennol sydd gennym ni yng Nghymru o ymgysylltu â'r cyhoedd, sefydliadau cymdogaeth a chynrychiolwyr etholedig ar fater yr heddlu a diogelwch cymunedol. Rwy'n pryderu rywfaint bod fframwaith gwreiddiol cyfarfodydd PACT—yr Heddlu a Chymunedau Gyda'n Gilydd—a oedd, er nad oedd yn berffaith ac yn amrywio'n fawr o le i le, yn caniatáu ymgysylltu rheolaidd a systematig â'r cyhoedd sy'n wynebu tuag allan ac yn gosod blaenoriaethau plismona a diogelwch cymunedol—. Rwy'n poeni ei fod wedi cael ei erydu'n raddol dros amser. Efallai y bydd angen dechrau o'r dechrau, mewn gwirionedd, ac rwyf wedi ysgrifennu heddiw at gomisiynydd yr heddlu a'r prif gwnstabl yn fy ardal i, a'r ddau arweinydd awdurdod lleol, i gael eu hymateb nhw ar y mater hwn hefyd.

Felly, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar hyn, a allai gynnwys asesiad o gyflwr ymgysylltu â'r cyhoedd ar blismona a diogelwch cymunedol, a'r blaenoriaethau cymunedol pwysig iawn hynny yng Nghymru ar ddiogelwch cymdogaethau a chymunedau? Gallai hefyd ymdrin â'r materion sy'n ymwneud â diffyg cofnodi troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar hyn o bryd, yn ogystal â'r defnydd effeithiol o swyddogion cymorth yr heddlu a'r gymuned, ac adrodd ar ystadegau troseddu a niwsans lleol hefyd. Felly, dyna yw fy nghais i, ac rwy'n credu ei fod yn un rhesymol, oherwydd mae ein pwerau datganoledig yn bendant yn ymestyn i'r maes hwn er nad oes gennym ni blismona wedi'i ddatganoli eto.

Diolch. Ac, fel y dywedwch chi, nid yw ymdrin â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn faterion sydd wedi'u datganoli'n uniongyrchol. Ond, wrth gwrs, mae llawer o'r ffactorau sy'n effeithio ar ddiogelwch cymunedol wedi'u datganoli, ac rydym ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud i bobl Cymru deimlo'n ddiogel. Rydym wedi diogelu buddsoddiad mewn swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ychwanegol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22; mae gennym gyllideb o £18.5 miliwn. Ac wrth gwrs, fel mae Huw yn gwybod, ymrwymwyd yn ein maniffesto i ariannu 100 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ychwanegol yn ystod tymor nesaf y Llywodraeth. Mae gennym berthynas gref iawn â phedwar heddlu Cymru, ac rydym wedi ymgysylltu'n rheolaidd â'r comisiynydd heddlu a throseddu arweiniol ynghylch materion sy'n effeithio ar blismona a diogelwch cymunedol. Byddwch hefyd yn ymwybodol bod gennym ni'r bwrdd plismona a phartneriaethau yng Nghymru. Mae hwnnw'n cael ei gadeirio naill ai gan y Prif Weinidog neu'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae hynny'n gyfle i ddatblygu blaenoriaethau strategol ar y cyd i sicrhau bod cymunedau Cymru yn ddiogel, yn gryf ac yn gadarn.

14:35

Prif Weinidog—. Rwy'n ymddiheuro. Mae trigolion Cas-gwent yn parhau i bryderu am lefelau annerbyniol o dagfeydd traffig a llygredd. Mae'r broblem hon wedi'i gwaethygu gan bobl yn preswylio yng Nghoedwig Deon gyfagos, sydd wedi gwaethygu traffig oriau brig. Mae adroddiad peirianyddol cychwynnol ar adeiladu ffordd osgoi wedi'i gynnal, ac er mwyn i hyn fynd rhagddo mae angen ail adroddiad, gan fanylu ar yr holl opsiynau, amcangyfrif costau, ac ymgynghori â'r cyhoedd. Bydd angen rhannu cost y gwaith adeiladu rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, cynghorau sir Sir Fynwy a Swydd Gaerloyw. A wnewch chi ymrwymo i weithio gyda'r rhanddeiliaid eraill i ddarparu'r ffordd osgoi y mae ei hangen yn fawr ar Gas-gwent?

Diolch. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, a fydd yn gyfrifol am y maes polisi hwn, yn parhau i gael trafodaethau â Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol ac unrhyw bartneriaid eraill.

Ar gychwyn haf o bêl-droed, rwy'n gofyn am ddatganiad ar bwysigrwydd y gêm ar lawr gwlad. A hoffwn ofyn hefyd am safbwynt y Llywodraeth ar yr ailstrwythuro a gafwyd i bêl-droed menywod yng Nghymru yn ddiweddar. Mae dau dîm yn fy rhanbarth i—Clwb Pêl-droed Menywod y Fenni a Cascade Ladies—wedi'u symud i lawr o brif gynghrair menywod Cymru. Bydd effaith ganlyniadol yr ailstrwythuro hefyd yn gweld Menywod y Coed Duon yn gostwng i'r drydedd haen. Nawr, mae'r rhain yn dimau balch a llwyddiannus—maen nhw'n rhan o'r gymuned—ac mae'r penderfyniad wedi bod yn dorcalonnus i chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr. Rwy'n sylweddoli mai'r rheswm dros yr ailstrwythuro yw cryfhau'r gêm ddomestig yng Nghymru, ond rwyf wedi cael etholwyr yn cysylltu â mi i gwestiynu'r broses, i ofyn pam y chwaraeodd haeddiant o ran chwaraeon, fel sydd y codwyd eisoes, ran mor fach yn y system sgorio, oherwydd siawns na ddylai'r ffordd y mae timau'n perfformio ar y cae fod yn hanfodol i benderfyniad fel hwn. A chodwyd cwestiynau hefyd ynghylch a yw cyllid y clybiau a'r ffaith fod ganddyn nhw fantais seilwaith da yn cyfrif am fwy na'r hyn y maen nhw wedi'i gyflawni. At hynny, ni chyhoeddwyd sgoriau pob clwb, sy'n codi cwestiynau o ran tryloywder. Nawr, Trefnydd, rwy'n sylweddoli mai cwestiynau i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yw'r rhain, ond bydd y penderfyniad hwn yn cael effaith sylweddol ar gyfranogiad menywod mewn pêl-droed yn yr ardaloedd hyn. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r Llywodraeth gymryd safiad arno. Felly, a gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn cydnabod rhan bwysig pêl-droed menywod a chwaraeon ar lawr gwlad? Ac a all y Llywodraeth ddweud hefyd a fydden nhw'n cefnogi adolygiad annibynnol o'r broses ailstrwythuro?

Diolch. Gobeithio i chi glywed fy ateb i Laura Jones ar ddechrau fy nghwestiwn heddiw. Ac rwyf i wedi ymrwymo Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i gyflwyno datganiad ar ôl iddi gael rhagor o wybodaeth gan ei swyddogion. Rydych chi'n hollol gywir—mae dim ond angen edrych ar y cyfryngau cymdeithasol i weld faint o ofid a chynnwrf y mae hyn wedi'i achosi.

A allwch chi ddyfalu am beth yr wyf i'n mynd i ofyn? [Chwerthin.] Rwy'n credu bod anfedrusrwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyflawni'r gamp yn y Siambr hon o ddod â'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Blaid Lafur at ei gilydd, oherwydd rydym yn gwbl unedig ar hyn. Ac mae Delyth Jewell, Laura Jones, Peter Fox a minnau ac eraill—a Dave Rees hefyd, i Lansawel—wedi cael y sgyrsiau hyn. Rydym ni'n bryderus iawn. Cascade Ladies YC—fy nhref enedigol i, lle cefais fy ngeni, lle cefais fy magu. Mae gennym bryderon dybryd ynghylch yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar bêl-droed ar lawr gwlad yn Nwyrain De Cymru, na fydd ganddyn nhw unrhyw gynrychiolaeth yn uwch gynghrair y menywod. O ystyried y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i chwaraeon ar lawr gwlad, rydym o leiaf yn haeddu tryloywder, a dyna'r hyn yr ydym ni'n galw amdano ar y cyd—mae Delyth, Laura, fi fy hun ac eraill yn galw am y tryloywder hwnnw. Ac rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru yr hawl yn bendant i ofyn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru egluro ei meddylfryd ac ailystyried.

Diolch. Nid wyf yn credu y gallaf i ychwanegu unrhyw beth arall, ond rwy'n deall yn iawn pam mae cynifer o Aelodau wedi bod yn awyddus i godi hyn ac i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru. Rwyf fi hefyd—. Efallai y gallaf ychwanegu y byddwn i'n annog y clybiau eu hunain i sicrhau eu bod yn codi eu pryderon gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn deall y ffordd y mae pobl yn teimlo ynghylch hyn, ac, fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae wedi dod â chonsensws ledled y Siambr.

14:40

Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i leoliadau priodas yng Nghymru. Pan holais i'r Prif Weinidog ynghylch derbyniadau priodas bythefnos yn ôl, gan gyferbynnu darpariaeth Llywodraeth y DU yn Lloegr â chyfyngiadau parhaus Llywodraeth Cymru, atebodd y Prif Weinidog,

'mae gennyf gydymdeimlad enfawr â'r teuluoedd niferus sydd wedi trefnu ac aildrefnu derbyniadau priodas.... Ond nid wyf yn ymddiheuro o gwbl'.

Fodd bynnag, mae un perchennog lleoliad priodas yn Sir y Fflint, sydd dan bwysau, wedi e-bostio i ddweud bod 'grantiau newydd mor isel fel eu bod wedi cael cynnig uchafswm o tua £7,000 ar gyfer y cyfnod o ddiwedd mis Mawrth hyd at nawr. Rwy'n deall y risgiau gyda COVID, ond mae angen inni naill ai gael cynnig grant realistig neu agor yn gyfan gwbl oherwydd, fel y mae pethau, dim ond mater o amser yw hi nes y bydd yn rhaid inni gau.' A chafwyd e-bost gan reolwr cyffredinol lleoliad priodas ger Llangollen ddoe, 'Yr wythnos diwethaf, cafodd sylwadau Mr Drakeford yn ystod yr adolygiad diweddaraf ganlyniad trychinebus ar briodasau sydd i fod cael eu cynnal yr haf hwn. Maen nhw—Llywodraeth Cymru—wedi dweud wrthym ni na fyddwn y clywed rhagor o newyddion tan yr adolygiad nesaf ar 21 Mehefin. Ni all lleoliadau priodas, cyflenwyr a chyplau aros mor hir â hynny. Bydd busnesau Cymru yn dioddef. Rydym ni i gyd wedi cael profiad o archebion yn cael eu canslo ac yn cael eu symud i Loegr ar gyfer priodasau ddiwedd Gorffennaf ac Awst. Mae'n ergyd ddinistriol arall. A oes unrhyw beth y gallech chi ei wneud, neu unrhyw un y gallwch chi siarad ag ef i'n helpu ni?' Wel, dyna'r hyn yr wyf i'n ei wneud, ac rwy'n galw am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny.

Diolch. Yn amlwg, gwnaeth y Prif Weinidog gyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf ar yr adolygiad diweddaraf o reoliadau COVID, a bydd yr adolygiad nesaf ar 25 Mehefin, fel y cyfeiriodd Mark Isherwood ato. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud, gan ein bod yn amlwg yn agor mwy o sectorau a mwy o rannau o gymdeithas, y bydd angen inni ystyried rhannau eraill o'r sectorau sydd ar gau ac a oes angen inni weithredu cyllid penodol ar eu cyfer. Oherwydd mae gennym ni rywfaint o arian ar gael o hyd, ac mae'n amlwg bod lleoliadau priodas yn faes y gallwn ni yn sicr eu hystyried. Yn amlwg, roedd cyhoeddiad ddydd Gwener o ran nifer y bobl sy'n gallu mynd i briodas y tu mewn a'r tu allan, ac mae'n rhaid asesu hynny o ran risg. Felly, os oes gennych chi sefydliad sy'n trefnu'r briodas ichi yna mae'n amlwg y gallan nhw gynnal yr asesiad risg hwnnw. Ond mae hyn yn rhywbeth y mae'r Cabinet yn ei adolygu'n barhaus.

Trefnydd, byddwch chi'n ymwybodol, fel yr ydym ni wedi'i glywed heddiw, fod y cynlluniau ar gyfer bae Abertawe a metro gorllewin Cymru wedi bod yn destun ymgynghoriad yn ddiweddar, a heddiw yw'r dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro dros fetro yng Ngorllewin De Cymru, wrth gwrs, ond rydym ni'n credu bod yn rhaid i'r metro gynnwys gwasanaethau rheilffordd a rheilffyrdd ysgafn i gymunedau'r Cymoedd ac ni ddylid eu canolbwyntio ar Abertawe a threfi mawr eraill yn unig. Rwy'n credu bod yn rhaid inni roi ystyriaeth ddifrifol i'r posibilrwydd o ailgyflwyno gwasanaethau rheilffordd neu reilffyrdd ysgafn i gwm Tawe a dyffryn Aman i gyd. Mae bylchau hefyd o ran dewisiadau trafnidiaeth i gymoedd eraill, megis cymoedd Dulais, Nedd ac Afan. A allwch chi sicrhau bod y Gweinidog perthnasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd o ran polisi a chynlluniau i sicrhau bod cymunedau'r Cymoedd hyn yn cael eu cysylltu â threfi a dinasoedd yn y de-orllewin? A pha ymrwymiad y gallwch chi ei roi y bydd hyn yn rhan o agenda Llywodraeth Cymru yn ystod y pum mlynedd nesaf? Diolch.

Diolch. Efallai eich bod wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, sef y Gweinidog fydd â chyfrifoldeb dros y maes hwn, yn amlwg yn gwneud datganiad yn dilyn yr ymgynghoriad. Fel arfer, y broses gyntaf, ar ôl ymgynghoriad o'r math hwn, yw cyhoeddi'r ymatebion, ac rwyf yn siŵr y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud hynny.

A gaf i alw ar Weinidog yr economi i wneud datganiad o ran y cymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i drefnwyr gwyliau cerddoriaeth, sioeau amaethyddol a digwyddiadau awyr agored eraill oherwydd yr effaith y mae'r rheol ymbellhau cymdeithasol 2m yn ei chael ar gapasiti? Mae llawer o ddigwyddiadau'n wynebu ail haf o darfu, ac mae rhai eisoes wedi gwneud y penderfyniad anodd, unwaith eto, o ganslo eleni. Mae Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro, sy'n cynnal y sioe amaethyddol ail fwyaf yng Nghymru, wedi gwneud y penderfyniad anodd y llynedd i ddiswyddo eu staff i ddiogelu dyfodol eu sioe, ac ar hyn o bryd maen nhw'n cynnal eu gweithrediadau drwy wirfoddolwyr. Mae digwyddiadau fel hyn yn allweddol i'r economïau gwledig lleol a rhaid sicrhau bod ganddyn nhw'r gefnogaeth sydd ei hangen i ailgychwyn pan fydd y pandemig yn caniatáu hynny.

14:45

Diolch. Unwaith eto, byddwch chi wedi clywed y cyhoeddiad a wnaeth y Prif Weinidog ddydd Gwener diwethaf ynglŷn â digwyddiadau awyr agored, ac mae hwn yn sicr yn un o'r sectorau yr ydym ni wedi'i gefnogi yn ystod y 15 mis diwethaf. O ran sioeau amaethyddol, mae'n amlwg bod hynny'n rhan o fy mhortffolio i, ac felly rwy'n ymwybodol iawn o'r penderfyniadau sydd wedi'u gwneud gan gymdeithas sir Benfro. Unwaith eto, rwyf wedi comisiynu darn o waith i ystyried sut yr ydym ni'n ariannu'r sioeau amaethyddol—roedd hyn cyn y pandemig, ond mae'n amlwg bod hynny wedi cael effaith. Ond rydym yn gobeithio, yn sicr y flwyddyn nesaf, y bydd y sioeau hynny'n gallu cael eu cynnal.

Diolch i'r Trefnydd. 

Fe fyddwn ni nawr yn cymryd toriad byr er mwyn caniatáu ychychig o newidiadau yn y Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:45.

14:55

Ailymgynullodd y Senedd am 14:56, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Coronafeirws

Croeso, bawb. Y datganiad nesaf yw'r un gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ddiweddariad ar goronafeirws. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad hynny—Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n siŵr bydd Aelodau'n falch o nodi mai yng Nghymru mae'r gyfradd isaf o achosion o'r coronafeirws yn y Deyrnas Unedig o hyd. Mae nifer yr achosion sydd wedi cael eu cadarnhau yma yng Nghymru yn 10.4 fesul 100,000 o bobl ar hyn o bryd. Mae nifer y bobl sydd yn yr ysbyty gyda'r coronafeirws ar ei lefel isaf ers i'r pandemig ddechrau. Rŷm ni wedi gweld cyfnod o 10 diwrnod yn ddiweddar pan na chafodd yr un farwolaeth newydd o'r feirws ei chofnodi, ond yn anffodus fe adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru am un farwolaeth ddoe. Mae'r llwyddiannau hyn yn adlewyrchu gwaith caled pobl ym mhob cwr o Gymru i'w cadw nhw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel.

Dros yr wythnosau diwethaf, rŷm ni wedi gweld datblygiadau sy'n ymwneud â'r amrywiolyn newydd sy'n peri pryder, a nodwyd gyntaf yn India, neu amrywiolyn delta, fel mae Sefydliad Iechyd y Byd yn ei alw erbyn hyn. Mae'r datblygiadau hyn wir yn achosi gofid. Maen nhw'n brawf pellach nad yw'r coronafeirws wedi diflannu. Rŷm ni wedi bod yn monitro'r amrywiolyn newydd hwn yn ofalus. Mae'n ymddangos ei fod e'n lledaenu mewn sawl rhan o Loegr. Yma yng Nghymru, rŷm ni wedi sylwi ar gynnydd yn nifer yr achosion. Heddiw, mae'n cyrraedd 178 o bobl, gan gynnwys clwstwr o achosion yng Nghonwy—clwstwr sy'n destun ymchwiliad manwl ar hyn o bryd.

Mae potensial gan amrywiolyn delta i ddatblygu i fod y straen amlycaf o'r feirws yn y Deyrnas Unedig, ond rŷm ni'n gobeithio y gallwn ni reoli'r achosion ac atal yr amrywiolyn hwn rhag lledaenu ymhellach. Ond dwi'n meddwl bod rhaid inni fod yn realistig, ac mae disgwyl gweld mwy o gynnydd eto yn nifer yr achosion yng Nghymru.

Felly, er bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn dda yng Nghymru, mae'r amrywiolyn delta yn dod â lefel newydd o ansicrwydd yn ei sgil. Yn y cyd-destun hwn y digwyddodd yr adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau coronafeirws, ar 3 Mehefin. Ac er bod Cymru yn newid i lefel rhybudd 1, fel y nodwyd eisoes, erbyn hyn, fe fyddwn ni'n gwneud hynny fesul cam. Felly, fe fydd y newidiadau i'r rheoliadau o 7 Mehefin yn canolbwyntio ar lacio'r cyfyngiad ar ddigwyddiadau a gweithgareddau awyr agored. Mae'r perygl o drosglwyddiad yn llawer llai yn yr awyr agored, ac fe fydd y newidiadau hyn yn caniatáu i bobl fanteisio ar dywydd braf yr haf, gyda gobaith.

Fe all hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored erbyn hyn, gan gynnwys mewn gerddi preifat, lletygarwch awyr agored a mannau cyhoeddus. Mae modd cynnal cynulliadau a digwyddiadau mwy a drefnir yn yr awyr agored i hyd at 4,000 o bobl ar eu traed a 10,000 o bobl mewn eisteddleoedd hefyd. Mae hyn yn cynnwys cyngherddau, gemau pêl-droed, a gweithgareddau chwaraeon fel grwpiau rhedeg a drefnir. Mae'n rhaid i bob un sy'n trefnu'r rhain gynnal asesiad risg llawn a rhoi mesurau ar waith i atal ymlediad coronafeirws, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol.

Yn olaf, mae'r ddarpariaeth erbyn hyn yn caniatáu i aelwydydd estynedig gynnwys tair aelwyd sy'n gallu cyfarfod a chael cysylltiad dan do. Mae hynny'n un yn fwy na'r ddwy aelwyd a ganiatawyd yn flaenorol. Fe fyddwn ni'n ystyried newidiadau pellach i'r rheoliadau o ran gweithgareddau dan do yn ddiweddarach yn ystod y mis pe byddai'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny. Yn unol â'r cynllun rheoli coronafeirws yn ôl lefel rhybudd 1, fe fyddai hynny'n golygu y byddai'r rheol o chwech yn gymwys ar gyfer cyfarfod dan do mewn cartrefi preifat ac mewn llety gwyliau. Fe fyddwn ni'n ystyried niferoedd cynyddol hefyd ar gyfer cynulliadau dan do ac ailgychwyn digwyddiadau dan do. Fe fydd y dull graddol hwn yn rhoi amser i fwy o ddata fod ar gael am effaith yr amrywiolyn delta. Fe fydd yn rhoi mwy o amser i ragor o bobl gael eu brechu hefyd, sy'n parhau i fod y llwybr gorau allan o'r pandemig.

Rwy'n ddiolchgar dros ben i dimau brechu'r byrddau iechyd, partneriaid lleol a'r llu o wirfoddolwyr ledled y wlad am y cynnydd anhygoel yn ein rhaglen frechu. Mae mwy nag 85 y cant o'r boblogaeth oedolion wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn erbyn hyn ac mae bron hanner wedi cael eu cwrs llawn o ddau ddos.

Ddoe, fe gyhoeddais i'r wybodaeth ddiweddaraf am ein strategaeth frechu COVID-19. Mae'n nodi ein disgwyliad ni o fod wedi cyrraedd erbyn diwedd mis Mehefin—felly, fis yn gynharach na'r disgwyl—garreg filltir 3, sef cynnig y dos cyntaf i bob oedolyn gydag o leiaf 75 y cant yn manteisio ar y cynnig hwnnw. Mae'r strategaeth a gafodd ei diweddaru yn nodi paratoadau ar gyfer yr hyn a allai ddod nesaf, gan gynnwys pigiad atgyfnerthu i'r bobl sydd fwyaf agored i niwed a brechlyn i blant o bosibl, ac wrth gwrs mae hynny'n ddibynnol ar gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a phenderfyniad gan y Cabinet. Rydym yn bwriadu cynnig y brechlyn unwaith eto hefyd i'r rhai na fanteisiodd ar y cynnig gwreiddiol. Fe fydd gweinyddu'r ail ddosau yn parhau hefyd. I atgyfnerthu'r ddarpariaeth hon, fe fydd system ar-lein yn cael ei sefydlu yn yr hydref i ganiatáu i bobl drefnu apwyntiadau ar amser sy'n gyfleus iddyn nhw.

Cafodd gwasanaeth profi, olrhain a diogelu llwyddiannus ei sefydlu yng Nghymru flwyddyn yn ôl. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £32 miliwn ychwanegol i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i ymestyn y gwaith o olrhain cysylltiadau hyd ddiwedd mis Mawrth 2022. Mae hyn yn cynyddu cyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn olrhain cysylltiadau yn ystod y flwyddyn ariannol hon hyd at £92 miliwn. Ar 2 Mehefin, cyhoeddwyd strategaeth profi, olrhain a diogelu wedi'i hadnewyddu yn nodi sut y bydd y gwasanaeth yn addasu ac yn ymateb i'r pandemig yn y misoedd i ddod. Mae hyn yn cynnwys olrhain amrywiolion sy'n peri pryder yn fwy gofalus a chadarn, yn ogystal â rheoli a gosod dan gwarantîn y bobl sy'n dychwelyd i Gymru o wledydd yn y rhestr goch ac ambr.

Ar 20 Mai, fe nodais gynlluniau ar gyfer £100 miliwn o fuddsoddiad i roi hwb cychwynnol i adferiad y system iechyd a gofal o bandemig COVID-19. Fe fydd yr arian hwn yn darparu ar gyfer offer, staff a thechnoleg newydd ac yn ymgorffori'r ffyrdd newydd o weithio i helpu byrddau iechyd i gynyddu capasiti a lleihau amseroedd aros. Wrth inni ailgychwyn gofal nad yw'n ofal brys yn dilyn y pandemig, mae gennym y cyfle i greu system iechyd a gofal sy'n addas i'r dyfodol. Heddiw, rwyf i wedi disgrifio rhai o'r datblygiadau diweddaraf yn ein hymdrechion parhaus i fynd i'r afael â phandemig y coronafeirws. Ac mae'n hanfodol ein bod ni'n parhau i weithio gyda'n gilydd i gadw ein gilydd yn ddiogel a chadw Cymru yn ddiogel. Diolch, Llywydd.

15:00

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma, a dweud bod nifer y bobl yn yr ysbyty sydd â'r coronafeirws ar ei lefel isaf ers dechrau'r pandemig? Ac fel y nododd y Gweinidog hefyd, rydym wedi gweld y cyfnod hwnnw o 10 diwrnod pan na chafwyd unrhyw farwolaethau o gwbl yn cael eu cofnodi oherwydd y feirws ar wahân i'r un farwolaeth yr adroddwyd amdani ddoe gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwaetha'r modd. Rwy'n credu bod y rhain yn gyflawniadau aruthrol. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog mai gwaith caled pobl ledled Cymru yn ogystal â'r gweithwyr iechyd proffesiynol rhagorol sydd wedi cyflawni hyn. A newyddion cadarnhaol eto, yn fy marn i hefyd, yw y byddwn ni o bosibl yn gweld 100 y cant o'r boblogaeth oedolion yng Nghymru wedi cael cynnig apwyntiad ar gyfer eu brechu erbyn dydd Llun.

Fe nododd datganiad Ysgrifennydd Iechyd Gwladol Llywodraeth y DU ddoe mai dim ond 2 y cant o gleifion COVID mewn ysbytai yn Lloegr oedd wedi cael dau ddos o'r brechlyn. Tri o unigolion yn unig yw hynny. Felly, rwyf i am dorri hynny i lawr, y data hynny, i helpu gyda chyd-destun fy nghwestiwn nesaf i. Roedd data hyd at 3 Mehefin yn dangos, o'r 12,383 o achosion yn Lloegr o'r amrywiolyn delta, fod yna 126 o bobl wedi gorfod cael triniaeth ysbyty, ac o'r 126 o bobl hyn, dim ond tri oedd wedi cael dau ddos o'r brechlyn. Felly, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno mai data cadarnhaol iawn yw'r rhain ac mae hynny'n rhoi optimistiaeth inni, rwy'n credu, yn hyn o beth. Yn y cyd-destun hwn, Gweinidog, a ydych chi wedi ymchwilio i'r un data ar gyfer Cymru, neu a yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymchwilio i hynny? Faint o bobl sydd wedi bod mewn ysbyty o ganlyniad i gael amrywiolyn delta? O'r bobl hynny, faint o bobl sydd wedi cael dau ddos? Mae hwn yn ddarn pwysig o wybodaeth yng nghyd-destun naill ai lacio cyfyngiadau neu gryfhau cyfyngiadau, fel bo hynny'n addas. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar am unrhyw wybodaeth ynglŷn â hynny, Gweinidog.

Efallai y gwnewch chi ymhelaethu ychydig mwy ar eich asesiad chi o ran a fydd angen cyfyngiadau pellach arnom dros fisoedd yr haf neu, yn wir, a fyddwch chi'n llacio cyfyngiadau ymhellach. Fe fyddai cael unrhyw amlinelliad pellach o hynny yn fuddiol iawn heddiw. Rwy'n sylwi hefyd o'ch sylwadau chi ddoe, Gweinidog, y byddai'r cwestiynau am yr amrywiolyn delta yn ymwneud â pha mor fawr fydd y drydedd don. Fe fyddwn i'n awgrymu, efallai, mai'r cwestiwn yw pa mor ddifrifol fydd y don nesaf. Felly, fe fyddwn i'n gwerthfawrogi eich barn chi am hynny.

Yng Nghymru, rydym wedi gweld 123 o bobl mewn ysbytai ar 3 a 4 Mehefin. Dyma'r gyfradd isaf, wrth gwrs, a welsom ni ers dechrau'r pandemig. A ydych chi'n fwy hyderus nawr na fydd y drydedd don, er yn fwy, mor ddifrifol â'r don gyntaf? Roeddech chi'n sôn ddoe yn eich sylwadau am yr amrywiolyn yn ymledu o Loegr i Gymru. Yn y cyd-destun hwn, efallai y gallech ddweud hefyd a ydych chi'n ystyried unrhyw waharddiadau pellach o ran teithio o rai ardaloedd awdurdodau lleol mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.

Roedd eich datganiad heddiw yn cyfeirio at eich cynlluniau chi ar gyfer £100 miliwn o fuddsoddiad i roi hwb i'r system gofal iechyd. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu yn fawr hefyd. Rydym mewn sefyllfa lle mae GIG Cymru yn dechrau ailgychwyn ei wasanaethau i fynd i'r afael â'r ôl-groniadau enfawr sydd wedi bod o ran aros am driniaethau, er ei bod yn syfrdanol meddwl o hyd bod un o bob tri llwybr i gleifion yn aros dros flwyddyn am driniaeth yng Nghymru. Mae hynny'n cymharu ag un o bob 11 yn Lloegr. Felly, mae ein man cychwyn ni'n un heriol.

Ond, rwyf i yn croesawu'r cyhoeddiad hwn o £100 miliwn ar gyfer datblygiadau technolegol i helpu i leihau'r ôl-groniad sydd wedi digwydd. Rwy'n pryderu am ofid cynyddol ymysg gweithwyr proffesiynol. Maen nhw'n dweud nad oes yna ddigon o staff i ymdopi â'r gwaith. Er enghraifft, yng Nghymru, roeddem ni'n wynebu prinder difrifol eisoes o arbenigwyr canser cyn COVID-19, gyda bylchau mewn radioleg glinigol o fwy na 40 y cant yn y gorllewin a'r gogledd. Roedd gennym lai o radiolegwyr clinigol eisoes yn y DU fesul 100,000. Y pwynt rwy'n ei wneud yma yw mai newyddion da yw bod gennym y buddsoddiad hwn ond mae'n siŵr fod yna ofid ynglŷn â diffyg staff a gweithwyr iechyd proffesiynol i ddefnyddio'r dechnoleg newydd hon.

Felly, yn rhan o'ch blaenoriaethau newydd chi, pa ymdrechion a wnewch i sicrhau y bydd gan y GIG weithlu digonol i ymdopi â'r ôl-groniadau? Pa fframweithiau y byddwch chi'n eu defnyddio fel rhan o strategaeth y gweithlu i recriwtio a chadw gweithwyr meddygol proffesiynol? Hefyd, pa fesurau yr ydych chi'n eu trosglwyddo ymlaen ar unwaith o'r fframwaith ar gyfer adferiad o'r COVID i gefnogi gweithluoedd y GIG a gofal sylfaenol i sicrhau nad ydyn nhw'n wynebu lludded—sy'n fater pwysig arall hefyd? Sut ydych chi am gryfhau'r cymorth llesiant presennol sydd ar gael i'r gweithlu, fel yr amlinellir yn y fframwaith, ac a yw'r cymorth yn cael ei anelu yn y tymor byr eisoes? Diolch yn fawr.

15:05

Diolch yn fawr iawn, Russell, a diolch i chi yn gyntaf oll am gydnabod ymdrechion anhygoel pob un sydd wedi bod â rhan yn y broses o gyflwyno'r brechlyn. Rwy'n credu bod angen inni roi teyrnged i'r bobl hynny sydd wedi cyfarwyddo'r digwyddiadau yn briodol drwy gydol y broses honno. Fe wn iddi hi fod yn ddigon i godi gwallt pen fy rhagflaenydd i yn yr wythnosau cyntaf, ond credaf mai'r ffaith inni allu cyfarwyddo'n briodol ar y dechrau sydd wedi ein harwain ni i'r sefyllfa gyfredol, ac fe hoffwn i roi teyrnged i'r cyhoedd yng Nghymru hefyd am ei ymateb parod. Mae'r ffaith bod pobl mor awyddus i ddod ymlaen a chael eu brechu yn rhywbeth y dylem ni fod yn falch iawn ohono, yn fy marn i.

Rydych chi yn llygad eich lle: un o'r pethau y mae angen inni ei ddadansoddi nawr yw a yw'r rhaglen frechu hon wedi llwyddo i dorri'r cysylltiad rhwng amlder achosion y feirws a nifer y cleifion mewn ysbytai. Nawr, mae yna ddadansoddiad cynnar ac mae'r dadansoddiad cynnar hwnnw o'r data yn edrych yn gadarnhaol iawn, ond rydym ni'n parhau i fod mewn cyfnod cynnar iawn o ran dadansoddi niferoedd y bobl. Ar hyn o bryd, ychydig iawn o achosion o'r amrywiolyn delta hwn sydd yna, mewn gwirionedd, ond mae'n cynyddu'n gynt ac yn gynt, ac felly rwyf i o'r farn mai'r peth priodol i'r Cabinet ei wneud wrth gyflwyno'r cyfyngiadau hyn oedd rhoi pythefnos ychwanegol i ni gael dadansoddi'r data, a dyna a wnaethom ni yr wythnos diwethaf.

Yn sicr, ar hyn o bryd, rwy'n credu mai dim ond un achos o'r amrywiolyn delta sydd mewn ysbyty yng Nghymru. Mae dau wedi bod yn yr ysbyty cyn hyn ac wedi cael mynd adref. Rydym yn disgwyl trydedd don ac, rydych chi'n hollol iawn, os yw'r amrywiolyn delta hwn mor heintus ag a gredir—o bosibl 40 y cant i 50 y cant yn fwy felly na'r amrywiolyn alpha, sy'n gynnydd sylweddol—yna rydym ni'n debygol o weld llawer mwy o achosion. Felly, mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni gadw llygad barcud arno. Y cwestiwn, fel y dywedwch chi, yw hwn: a fydd hynny'n arwain at gleifion mewn ysbytai? Felly, mae'n rhaid inni fod yn ofalus tu hwnt ac nid ydym wedi cyrraedd y lan eto yn hyn o beth, a dyna pam y byddwn ni'n bwyllog a gofalus gan geisio dadansoddi'r data mewn amser real.

Roeddech chi'n holi am ymlediad yr amrywiolyn o Loegr i Gymru, ac rydych chi'n ymwybodol o natur fandyllog ein ffin ni â Lloegr. Rydym ni wedi gwneud hynny yn y gorffennol, ond yr hyn a welsom mewn gwirionedd oedd bod cymaint o bobl yn byw ar y ffin sydd â rhesymau dilys iawn dros groesi'r ffin fel bod ceisio cau'r ffin, mewn gwirionedd, yn anodd tu hwnt, mewn unrhyw ffordd ystyrlon. Felly rydym ni o'r farn y byddai materion ymarferol anodd iawn o ran cau'r ffin honno.

Mae yna her aruthrol—heb os nac oni bai—o ran rhestrau aros yng Nghymru. Rydych chi wedi gweld fy mod i nid yn unig wedi cyhoeddi £100 miliwn o gyllid ychwanegol, ond wedi cyhoeddi cyllid o £25 miliwn ar gyfer sganwyr tomograffeg cyfrifiadurol hefyd, ar gyfer gwell offer delweddu. Pan ymwelais i â'r ysbyty yn Abertawe wythnos diwethaf, dyna un o'r cwestiynau a oedd yn bwysig iawn i mi: a oes yna unrhyw bwrpas gwario ar gyfalaf os nad yw'r bobl gennym i allu dadansoddi'r wybodaeth? Rwy'n credu bod angen inni fod yn greadigol. Rwy'n credu bod ffyrdd o allu defnyddio pobl o bell, hyd yn oed, i ddadansoddi'r data, dadansoddi'r delweddu, ac felly rwy'n gobeithio y bydd hynny'n helpu pethau. Ond hefyd, efallai eich bod chi'n ymwybodol bod gennym ni system hyfforddi benodol iawn ar gyfer delweddu yng Nghymru, ar gyfer hyfforddi'r bobl hynny yng Nghymru, i geisio adfer sefyllfa anodd o ran niferoedd y rhai sy'n alluog i weithio ym maes radioleg fel hyn. Nid mater sy'n unigryw i Gymru mohono; mae hyn yn wir yn sicr ledled gweddill y Deyrnas Unedig o ran dod o hyd i'r arbenigwyr hyn.

Ac o ran gofal sylfaenol, rydym ni'n ymwybodol iawn fod yna bobl ar y rheng flaen ym maes gofal sylfaenol sydd wedi bod yn gweithio'n ddibaid drwy gydol y pandemig. Mae'n ymddangos bod dwyster y gwaith yn cynyddu nawr i bob golwg, er eu bod nhw wedi bod yn gweithio drwy gydol y pandemig. Rydym wedi rhoi llawer o gefnogaeth i bobl o fewn y GIG, yn enwedig i'w cefnogi nhw gyda chymorth iechyd meddwl a lles, yn arbennig felly. Rydym wedi cyfrannu £1 miliwn yn benodol ar gyfer cymorth i weithwyr iechyd proffesiynol. Felly, mae hynny'n gweithio'n dda iawn, ac mae'r adborth a gawsom gan y sector yn rhagorol.

15:10

Diolch, Weinidog, am y datganiad. Yn amlwg, mae'r twf yn yr amrywiolyn delta’n fater o bryder, felly rhyw dri, efallai bedwar o gwestiynau yn benodol yn ymateb i hynny. Mae yna dystiolaeth bod un dos o’r brechlyn yn llai effeithiol wrth amddiffyn yn erbyn yr amrywiolyn yna. Felly, er mor wych mae’r broses yn mynd, efo llai na hanner y boblogaeth dros 16 wedi derbyn dwy ddos, a gawn ni nid yn unig cadarnhad y bydd yna gyflymu y broses o frechu mewn ardaloedd lle mae’r haint delta yn tyfu, ond hefyd, a gawn ni fesuryddion clir fel ein bod ni’n gwybod faint yn rhagor o frechu rydym ni’n ei ddisgwyl i ddigwydd, ac o fewn pa fath o amserlen?

I wthio ymhellach ar rai o'r pwyntiau sydd wedi cael eu codi yn barod o ran symudedd pobl o fewn yr ynysoedd yma, yn ei gynhadledd i’r wasg ddydd Gwener diwethaf, mi ddywedodd y Prif Weinidog nad oedd yna dystiolaeth fod yr amrywiolyn delta yn dod i mewn i Gymru o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n gwybod bellach ei fod o. All y Gweinidog gadarnhau hynny yn gyntaf, ac, yn allweddol, ddweud beth fydd yn cael ei wneud a pha bryd? Beth fydd y triggers i geisio atal lledaeniad o un ardal i’r llall? Ac nid rhywbeth Cymru-Lloegr ydy hyn, wrth gwrs; mi allai fod yn atal lledaeniad o un rhan o Gymru i ran arall neu rhwng gwahanol wledydd y Deyrnas Unedig.

Rydyn ni’n gwybod bod yna gyfyngiadau newydd, o heddiw ymlaen, ar deithio o Bortiwgal i’r gwledydd yma oherwydd pryder am yr amrywiolyn. Ond nid dim ond teithio rhyngwladol ydy’r broblem. Mae Llywodraeth Prydain heddiw wedi annog pobl i beidio â theithio i mewn ac allan o ardaloedd fel Greater Manchester a Lancashire. Felly, onid ydy profiad Conwy yn dweud wrthym ni fod angen gweithredu a rhoi camau mewn lle? Mi ddywedoch chi fod y porous border yn ei gwneud hi’n anodd iawn i gau y ffin. Mae yna lawer o bethau y gallech chi fod yn eu gwneud sy’n brin iawn o gau ffin: gofyn am ganlyniadau profion cyn bod rhywun yn gallu mynd i lefydd gwyliau a’r math yna o beth. Os ydym ni am allu gwarchod iechyd a chyfyngu ar impact ar yr economi a thwristiaeth ac ati, rydyn ni angen gwybod bod y Llywodraeth yn barod i weithredu yn gyflym ac mewn ffordd sydd mor focused â phosib er mwyn inni allu, gobeithio, dod â phethau nôl i drefn mor fuan â phosib wedyn.

15:15

Diolch yn fawr. Rŷch chi’n iawn bod un dos i’w gweld yn lot llai effeithiol na dwy ddos o ran ein diogelu ni rhag amrywiolyn delta. Rŷn ni yn ymwybodol iawn, felly, yn arbennig mewn rhai ardaloedd lle mae’r amrywiolyn yna’n dod i’r amlwg, fod angen inni gyflymu’r broses. Dwi wedi bod yn siarad â phrif weithredwr Betsi Cadwaladr ychydig o oriau yn ôl, jest i ofyn, yn yr ardal yna, os bydd hi’n bosib gwneud hynny. Wrth gwrs, rŷn ni’n dod tuag at ddiwedd y pwynt nawr lle ŷn ni wedi cynnig y dos gyntaf beth bynnag. Mae yna ddisgwyl i’r dos gyntaf gael ei chynnig i bob un yn y gogledd erbyn diwedd yr wythnos yma, ac felly, wrth gwrs, wedyn bydd hi’n bosibl canolbwyntio ar yr ail ddos wedyn. Mae hefyd yn dibynnu, wrth gwrs, ar y cyflenwad ŷn ni’n ei gael o Loegr. Rŷn ni wedi dweud yn glir nawr ein bod ni’n gobeithio brechu pawb dros 18 gyda’r ddwy ddos erbyn diwedd mis Medi. Felly, mae yna darged newydd gyda ni, a dwi’n obeithiol iawn y byddwn ni yn gallu cyrraedd hynna.

O ran gofyn i bobl i beidio â symud, roeddwn i’n falch iawn o weld bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gofyn i bobl, yn yr ardaloedd yna lle oedd yr haint a’r amrywiolyn delta yn fwy amlwg—eu bod nhw wedi gofyn iddyn nhw i beidio â symud. Roedden ni wedi bod yn galw ar y Prif Weinidog i wneud hynny ers sbel. Ac rŷn ni hefyd wedi gofyn i bobl, os byddan nhw’n dod mewn i Gymru, i gymryd prawf cyn iddyn nhw ddod. Felly, ŷn ni wedi, eisoes, gwneud y datganiad yna. Nawr, sut ŷn ni’n profi hwnna? Mae’n eithaf job i ofyn i bobl blismona hynny cyn eu bod nhw’n dod, ond ŷn ni wedi gofyn i bobl wneud hynny fel ein bod ni’n gallu diogelu pobl, yn arbennig yn yr ardaloedd yna lle mae yna lot o dwristiaeth.

A gaf i roi croeso cynnes i'ch penodiad chi yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gyntaf oll, ar ran pobl Islwyn? Mae eich datganiad chi heddiw yn llawn gwybodaeth am sefyllfa Cymru yn y pandemig hwn, a chydnabyddir mai Cymru yw'r wlad â thros 1 filiwn o drigolion sydd fwyaf blaenllaw drwy'r byd o ran ei rhaglen frechu. Un addewid a wneuthum i bobl Islwyn yn yr etholiad oedd y byddai pob oedolyn yn Islwyn yn cael cynnig dos o'r brechlyn erbyn 31 Gorffennaf. Gweinidog, mae eich datganiad chi'n cadarnhau y bydd Cymru wedi cyrraedd y nod hwnnw yn gynnar wythnos nesaf, chwe wythnos cyn y dyddiad arfaethedig, ac roeddech chi'n iawn i ailddatgan bod yn rhaid inni fonitro'r data i weld yr effaith a gaiff yr amrywiolyn delta, sydd 40 y cant yn fwy trosglwyddadwy, o ran angen mynediad i ysbytai a marwolaethau. Mae pobl Islwyn yn gwerthfawrogi dull Llywodraeth Lafur Cymru a'n Prif Weinidog ni o gadw Cymru yn ddiogel yn fawr iawn. Felly, Gweinidog, pa sicrwydd a rowch chi i ddinasyddion Islwyn y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau â'i dull strategol a gofalus o ymateb i'r feirws angheuol hwn?

15:20

Diolch yn fawr, Rhianon. Nid yn unig y byddwn yn cyrraedd y targed, fe fyddwn ni'n dryllio'r targed yn chwilfriw, ac felly mae'r sefyllfa honno'n achos balchder mawr i ni. Erbyn yr wythnos nesaf, fe fyddwn ni wedi cynnig y dos cyntaf o'r brechlyn i bob oedolyn dros 18 oed. Fe fyddwn ni'n parhau i weithredu yn yr un modd ag y gwnaethom ni drwy gydol y pandemig, sef gweithredu ar sail tystiolaeth a data, gan gymryd cyngor gan wyddonwyr ac arbenigwyr ac ymateb i hynny, wrth gydbwyso ac ystyried y gwahanol niweidiau i gyd. Rydym yn sylweddoli bod niwed yn sgil y feirws ei hun, ond mae llawer o niweidiau eraill y mae angen inni eu hystyried hefyd, gan gynnwys niwed economaidd, niwed llesiant, a niwed i iechyd meddwl. Mae'r holl bethau hynny'n faterion yr ydym ni'n eu hystyried ar bob achlysur pan fyddwn yn penderfynu a ddylid llacio'r cyfyngiadau neu beidio. Fe fyddwn ni'n dal ati yn yr un modd. Diolch.

Diolch, Gweinidog, am roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni. Rydym wedi clywed yn y Siambr heddiw ac wedi darllen straeon torcalonnus yn y cyfryngau lleol a chenedlaethol am bobl o bob oed yn aros am atgyfeiriadau, diagnosteg a thriniaeth oherwydd yr oedi a fu yn sgil COVID-19. Mewn llawer o achosion, mae'r anhwylderau hyn yn hawdd eu trin pan wneir hynny'n ddigon cynnar, ond wrth i amser fynd heibio, mae'n mynd yn fwy ac yn fwy anodd eu trin yn effeithiol. Oherwydd COVID-19, mae'r rhestrau aros am driniaethau yn hwy nag erioed o'r blaen, ac mae unigolion mewn llawer man yn dioddef poen ac yn llyncu poenladdwyr cryf byth a beunydd. Mae ansawdd bywyd sylfaenol pobl yn dirywio wrth iddyn nhw aros am eu triniaethau, gyda rhai afiechydon yn gwaethygu cyflyrau fel nad oes modd eu trin. Gweinidog, ni ellir parhau fel hyn. Ni allwn adael i'r bobl hyn, yn enwedig yr ifanc, â'u bywydau o'u blaen, farw oherwydd clefydau a chanserau y byddai modd eu trin pe byddent wedi cael diagnosis cynnar. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ddweud wrthyf i, wrth inni gyflwyno'r rhaglen frechu, pryd fydd modd mynd i'r afael â'r ôl-groniad hwn cyn iddo fynd yn argyfwng cenedlaethol arall eto ac y gall pobl ddechrau cael eu trin yn ein hysbytai ni? Diolch, Llywydd.

Diolch yn fawr, James, a chroeso i'r Senedd.

Yn sicr, rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith ddiymwad fod gennym gannoedd ar filoedd o bobl yng Nghymru sy'n aros am driniaeth ar y GIG. Rydym ni, yn anffodus, yn y sefyllfa anodd iawn hon lle mae pobl, rwy'n credu, yn gyffredinol yn barod i ddeall ein bod wedi bod mewn argyfwng, a'n bod wedi gorfod ymateb i'r argyfwng hwnnw, ac mae'r argyfwng hwnnw'n parhau. Nid ydym mewn sefyllfa eto i fynd yn ôl i'r drefn arferol. Mae'n rhaid inni ddeall pe byddem yn gweld achos o'r amrywiolyn delta yn ymsefydlu mewn ysbyty, y gallai hynny fod â chanlyniadau trasig iawn. Felly, ni allwn fynd yn ôl at sefyllfa normal eto, ond rydym yn ceisio gweld beth allwn ni ei wneud i gyflymu'r broses o geisio dychwelyd i sefyllfa o allu dechrau clirio'r triniaethau sydd wedi ôl-gronni. Rydym wedi ymrwymo eisoes i'r ffaith y byddwn ni'n gwario £1 biliwn o gyllid ychwanegol yn ystod y blynyddoedd nesaf i geisio gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r gwaith hwn sydd eto i'w wneud. Rydym wedi cyhoeddi £100 miliwn ychwanegol eisoes fel y gallwn ni ddechrau ar y broses hon; ac mae'r £25 miliwn hwnnw ar gyfer offer, ar gyfer diagnosis, ac yn rhywbeth y gobeithiwn fydd hefyd yn ceisio cyflymu'r broses. Ond fe fydd hyn yn cymryd amser maith, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n rheoli disgwyliadau'r cyhoedd yng Nghymru o ran triniaethau. Ond mae'r boen a'r anghysur y mae pobl yn eu dioddef ledled Cymru yn achos gofid mawr i mi.

Dwi'n falch clywed eich bod chi wedi dweud eich bod chi'n awgrymu ac yn argymell i bobl sy'n teithio i Gymru y dylen nhw gael eu testio, ond dwi ddim yn gwybod am lawer o bobl ym Manceinion sydd yn edrych ar newyddion BBC Cymru, felly dwi ddim yn gwybod sut maen nhw fod i gael yr argymhellion yna. Ond y ffaith ydy, yn wahanol i'r hyn oedd y Prif Weinidog wedi dweud ddydd Gwener diwethaf, sef bod yr amrywiolyn delta wedi hedfan i mewn i Gymru, neu i Landudno yn benodol, mi ydyn ni'n gwybod fel ffaith bellach nad ydy hynny yn sicr yn wir cyn belled ag y mae fy etholaeth i yn y cwestiwn. Mae yna achosion wedi cael eu darganfod ym Mhorthmadog, a dyma'r ateb ces i gan warchod y cyhoedd Gwynedd wythnos diwethaf: 'Medraf gadarnhau nad yw gwasanaeth gwarchod y cyhoedd wedi adnabod unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng y clwstwr o achosion COVID yn ardal Porthmadog a theithio tramor.' Hynny ydy, mae e wedi teithio yn fewnol yn yr ynysoedd yma.

Mi ddaru chi sôn am gau'r ffiniau. Does neb arall wedi sôn am gau ffiniau, ond mae angen inni weld mesurau o reoli hyn. Pa gamau ydych chi'n mynd i'w cymryd i sicrhau nad ydy'r amrywiolyn yn teithio ymhellach? Rydyn ni'n gwybod bod Llywodraeth yr Alban yn argymell i bobl beidio â theithio i'r ardaloedd yma sy'n cael eu henwi'n hotspots. Mae teithio'n fewnol yn y gwledydd yma—dyw e ddim yn unffordd i ogledd Cymru; mae yna nifer o bobl o ogledd Cymru yn teithio i weithio yn Stockport, yn Bolton a'r ardaloedd hynny. Felly mae angen inni gael rheolaeth. Rydych chi wedi rheoli Portiwgal, lle mae'r achosion yn ychydig o dan 40 i bob 100,000 o'r boblogaeth. Yn Bolton, mae'n 355 ym mhob 100,000 o'r boblogaeth, ac yn Blackburn, mae'n 487. Mae'n rhaid cael rheolaeth ar hynny. Mae'n rhaid sicrhau bod pobl sy'n gweithio yno yn cael eu digolledu achos eu bod nhw ddim yn mynd i weithio yno, gobeithio, a thrio rheoli'r llif o bobl yno er mwyn sicrhau nad ydy'r amrywiolyn yma yn teithio ymhellach.

15:25

Diolch yn fawr, a chroeso i'r Senedd i ti hefyd, Mabon. Yn sicr, dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni'n deall pa mor anymarferol yw hi i gau ein ffiniau ni, ond wedi dweud hynny, dwi eisoes wedi ceisio dangos beth rŷn ni'n ei wneud yn ymarferol i ofyn i bobl i gymryd y camau rŷn ni eisiau iddyn nhw eu gwneud cyn eu bod nhw'n dod i'n gwlad ni: i gymryd prawf cyn dod, ond hefyd i gydymffurfio â'r rheolau sydd gyda ni yma. Mae lot o waith wedi cael ei wneud gan ein gwestai ni a phobl sy'n gweithio yn ein tafarndai ni ac ati i ofyn i bobl i—mae peth gyda ni o'r enw Addo, a'r syniad yw ein bod ni yn rhoi gwybod i bobl beth yw'r disgwyl ganddyn nhw os maen nhw'n dod i Gymru, beth ŷn ni'n disgwyl iddyn nhw gydymffurfio ag ef unwaith y maen nhw'n cyrraedd Cymru. Felly mae yna lot o waith wedi mynd i mewn i hynny. Mae'r marchnata yna wedi digwydd, dim jest yng Nghymru ond tu hwnt i'n ffiniau ni hefyd. Wrth gwrs, mae’n anodd inni gyrraedd pob un, ond dyna beth ŷn ni'n ceisio ei wneud.

Yn sicr, o ran Portiwgal, roedd Llywodraeth Cymru yn gefnogol o roi Portiwgal ar y rhestr melyn, ac un o'r rhesymau am hynny oedd achos bod yna amrywiolyn newydd ym Mhortiwgal sy'n dod o Nepal a dŷn ni ddim yn siŵr os bydd yr amrywiolyn yna yn ymateb i'r vaccine. Felly nid jest cwestiwn o'r niferoedd oedd e, ond roedden ni'n poeni ym yr amrywiolyn newydd yma hefyd.

Roeddwn i'n awyddus i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad a gofyn cwestiwn iddi ynglŷn ag apwyntiadau meddygon teulu. Ar hyn o bryd, mae apwyntiadau meddygon teulu yn digwydd dros y ffôn neu drwy gyfarpar fideo oni bai bod angen clinigol am ymgynghoriad wyneb yn wyneb, ac mae ffigurau diweddar gan BMA Cymru wedi dangos bod meddygon teulu yn wynebu cyfraddau apwyntiadau sydd 18 y cant yn uwch na'r cyfraddau cyn COVID. Fe fydd rhai o'r ymgynghoriadau o bell yn cymryd llawer mwy o amser nag ymgynghoriad wyneb yn wyneb. Efallai y bydd angen i feddygon ofyn llawer mwy o gwestiynau i gleifion na phe bydden nhw yn yr un ystafell, ac yn aml mae'n anodd iawn i rai pobl allu trefnu ymgynghoriadau o bell hefyd—pobl heb fand eang na signal ffôn, er enghraifft. Eto i gyd, mae hynny yn gweithio i rai pobl. Felly, a gaf i ofyn beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu'r ddau ddull hyn o gynnal apwyntiadau a chynyddu argaeledd y ddau, wrth symud ymlaen?

Diolch yn fawr, Tom, a chroeso i ti i'r Senedd hefyd.

Yn sicr, rwy'n ymwybodol iawn fod yna lawer o bobl sy'n ei chael hi'n anodd cael apwyntiadau i weld eu meddygon teulu ar hyn o bryd, o leiaf yn y ffordd draddodiadol, a chredaf mai rhan o'r hyn sydd angen ei wneud, wrth ymateb i'r pandemig, yw cymryd y pethau gorau a ddysgwyd o'r pandemig. A dweud y gwir, rwyf i o'r farn fod yna lawer i'w ddweud o blaid ymgynghori o bell. Yn sicr, cynrychioli'r canolbarth a'r gorllewin ydw i; ac rwyf wrth fy modd y gallaf gysylltu â'm hetholwyr mewn ffordd wahanol iawn, ac mewn gwirionedd, eu gweld nhw'n amlach na phe byddwn i mewn sefyllfa o orfod gweld pobl wyneb yn wyneb a dim ond hynny. Felly, rwy'n credu ein bod ni ar ein hennill mewn rhai ffyrdd o ganlyniad i'r pandemig ac mae angen inni ymgorffori hynny, ac yn sicr, mae defnyddio technoleg yn rhywbeth y dylem ei groesawu. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, fe fydd yna amseroedd pan fydd angen i bobl weld eu meddyg teulu wyneb yn wyneb. Rhan o'r hyn y mae angen ei wneud, wrth gwrs, yw sicrhau bod y brysbennu a wneir y tu mewn i'r feddygfa yn cael ei wneud yn effeithiol, a bod pobl yn cael eu tywys i'r lle priodol er mwyn cael rhyw gymaint o gymorth.

Rwy'n credu bod yn rhaid inni geisio rhoi ar ddeall i bobl y gallan nhw, mewn gwirionedd, gael llawer o gefnogaeth a hynny nid o reidrwydd gan y meddyg teulu. Ac rwy'n credu, os ydych chi'n sâl, siawns mai'r peth pwysig yw eich bod chi'n cael y gefnogaeth a'ch bod chi'n cael triniaeth, nid at bwy yr ydych chi'n mynd i gael eich trin. Rwy'n credu bod angen inni geisio cael trafodaeth am hyn a gweld newid yn y diwylliant a'r ffordd y caiff disgwyliadau eu rheoli wrth symud ymlaen, o ran defnyddio ein gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.

Rwy'n hoff iawn, er enghraifft, o system eConsult, a'r ffaith y gallwch fynd trwy restr gyfan o gwestiynau a chael ateb a chael presgripsiwn yn eithaf cyflym heb dreulio llawer o amser yn cael ymgynghoriad wyneb yn wyneb. Felly, rwyf i o'r farn fod yna bethau cadarnhaol wedi digwydd, ond mae angen sicrhau bod yna ryw fath o warant gwasanaeth gofynnol, sef yr hyn y bûm yn ei ystyried a'i drafod y bore yma gyda'r cyfarwyddwr cyffredinol, ynghylch y peth lleiaf y gall y cyhoedd ei ddisgwyl yma, oherwydd, yn amlwg, mae yna achosion lle mae angen gwella'r gwasanaeth sy'n cael ei roi a'i gynnig.  

15:30

Fe hoffwn i longyfarch y Gweinidog yn ei swydd newydd, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi yn gadarnhaol dros y blynyddoedd nesaf. Nawr, mae llawer wedi cael ei ddweud heddiw am ein sefyllfa ni sy'n llawer gwell erbyn hyn nag yr oedd 12 mis yn ôl, dyweder, ac rydyn ni wedi priodoli hynny i waith Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, ein staff iechyd rhagorol, ac yn wir, y cyhoedd yng Nghymru; wel, y rhan fwyaf ohonyn nhw. Mae rhai pobl yn fy etholaeth i fy hun yn dal i anfon e-byst ataf i'n rheolaidd iawn yn mynegi nad ydyn nhw'n gweld yr angen am frechiadau, nac o'r farn fod y pandemig hwn yn un dilys, ac mae hynny'n peri pryder mawr.

Rwy'n poeni llawer iawn hefyd am niferoedd cynyddol yr amrywiolyn delta yn fy etholaeth i. Felly, rwyf i wedi ymuno gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i annog pobl i fynd am brofion, yn arbennig yn yr ardaloedd hynny fel Cyffordd Llandudno, Llandudno a Bae Penrhyn, a bod yn wyliadwrus o symptomau coronafeirws a chael prawf cyn gynted â phosibl hyd yn oed os nad ydyn nhw'n arddangos symptomau.

Ond fe fyddwn i'n falch o glywed gennych chi heddiw, Gweinidog, yr wybodaeth ddiweddaraf am y niferoedd sydd wedi cael eu cadarnhau. Fe siaradais i gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru wythnos yn ôl, ac rwy'n bryderus iawn o ran cael darlun gwirioneddol o'r hyn sy'n digwydd yn fy etholaeth i. Rwyf wedi bod yn ceisio darganfod a yw'r amrywiolyn yn ymledu mewn lleoliadau arbennig. Fe fyddai'r wybodaeth honno'n fanteisiol iawn, oherwydd, yn ôl y bwrdd iechyd, parhau mae'r ymchwiliadau ac mae nifer o wahanol leoliadau yn cael eu hystyried. Rwy'n ofni mai diffygiol iawn yw'r strategaeth o brofi sydd wedi'i thargedu at ardal tref Llandudno yn unig. Mae tua 22 mil o bobl yn byw yn Llandudno; er hynny, fe all hynny chwyddo i tua 60,000 yr adeg hon o'r flwyddyn. Felly, yn barod, rydym yn gweld yr ardal yn ehangu i gynnwys Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn, Hen Golwyn, a Deganwy. Serch hynny, mae Llandudno yn gyrchfan glan môr boblogaidd iawn ac mae'n brif ganolfan siopa sy'n denu pobl o bob cwr o'r gogledd.

Felly, a wnewch chi ystyried cysylltu â'r bwrdd iechyd i geisio annog holl drigolion Aberconwy i gael y prawf nawr, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n arddangos symptomau? Byddwn yn gobeithio'n wir y byddai gweithredu pendant fel hyn yn ein helpu ni i ffrwyno'r ymlediad, yn enwedig, fel y dywedwyd yn y fan hon, gan fod yr amrywiolyn delta 40 y cant yn fwy trosglwyddadwy nag amrywiolyn swydd Caint.

Ac, yn olaf, neithiwr, fel yr oeddwn yn cyrraedd Caerdydd, cysylltodd gwestywr lleol â mi a oedd wedi cael gwybod gan westai a aethai adref ei fod wedi cael prawf cadarnhaol 24 awr ar ôl dychwelyd adref. Felly, roedden nhw mewn panig go iawn; roedd ganddyn nhw westeion yn aros yn eu gwesty. Felly, fe roddais iddo gymaint ag y gallwn o rifau ac asiantaethau posibl ar gyfer cysylltu â nhw, dim ond iddo ddod yn ôl ataf i ddweud 'Y cyfan a ddywedwyd wrthym ni nawr yw y bydd rhywun yn cysylltu â ni am 8 o'r gloch y bore.' Tybed a allech chi ystyried cyngor gwell i'r rheini yn y diwydiant lletygarwch yn benodol? Fe fu cynnydd o 84 y cant yn yr achosion o'r delta. Felly, tybed a fyddai modd ichi ystyried gweithio gyda Betsi Cadwaladr i sicrhau'r wybodaeth sy'n ofynnol, weithiau yn hwyr iawn yn y dydd,—tua 9 o'r gloch oedd hi neithiwr, rwy'n credu, ac fe wn fy mod i'n dal yn siarad gyda'm hetholwr i, sy'n westywr, am 10.45 neithiwr, ac roedd mewn panig llwyr oherwydd y gwesteion a oedd yn aros yno ac yn wir oherwydd ei deulu ef ei hunan. Diolch.

15:35

Diolch, Janet. Ac yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i chi am bopeth yr ydych chi'n ei wneud, oherwydd yn wir rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod Aelodau'r Senedd yn cymryd rhan arweiniol wrth ofyn i bobl gamu ymlaen yn yr achosion hyn? Felly, diolch yn fawr am hynny, ac os gallech chi barhau i annog pobl yn yr ardal honno, p'un a ydyn nhw'n dangos symptomau ai peidio, i gamu ymlaen, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn. Rydym yn ymwybodol nad yw tua 30 y cant o achosion yn dangos unrhyw symptomau o gwbl, felly mae'n bwysig bod pobl yn cael eu profi, ac fe fyddwch chi'n gwybod lle y gallan nhw fynd i gael y prawf. Felly, os gallech ein helpu ni gyda hynny, byddai hynny'n ddefnyddiol.

Erbyn hyn mae tua 178 o achosion wedi'u cadarnhau ledled Cymru. Yn sicr, ar y penwythnos, roedd tua 58 o achosion yn ardal Llandudno, ac roeddem yn aros i gael eglurhad ynghylch faint o'r rheini oedd yn 'bendant', oherwydd roedd angen inni wneud y dilyniannu genomig. Felly, bydd hynny'n cael ei wneud yn fuan iawn, ac roedd llawer yn 'bosibl' a llawer yn 'debygol', a bydd hynny'n cael ei gadarnhau yn yr oriau nesaf, fwy na thebyg.

Yn sicr, rwy'n gwybod bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio bob awr o'r dydd a'r nos ar hyn, felly hefyd y tîm profi, olrhain, amddiffyn. Os gwelwch nad yw hynny'n wir, yna byddwn i'n hapus iawn pe gallech ysgrifennu ataf, gadael imi wybod y manylion, ac yna gallwn weld. Rydych yn hollol gywir—ni allaf ddychmygu'r trawma y mae'n rhaid bod perchennog y gwesty hwnnw wedi bod yn mynd trwyddo, ac mae angen inni sicrhau o leiaf fod system glir iawn i fynd trwyddi, fel eu bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl a beth i'w wneud.

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Statws Preswylydd Sefydlog yr UE

Felly, rŷn ni'n symud ymlaen i eitem 4. Yr eitem yna yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar statws preswylydd sefydlog yr Undeb Ewropeaidd. A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad, Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rydym yn agosáu at 30 Mehefin, sef dyddiad cau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer ceisiadau y cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE. Dwi'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt Llywodraeth Cymru a'r gefnogaeth rydym ni'n ei darparu o hyd i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yma yng Nghymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mae Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn ofynnol i holl ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir a oedd yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 wneud cais i gynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE erbyn dydd Mercher 30 Mehefin 2021, er mwyn sicrhau eu statws i barhau i fyw a gweithio yma. Nid yw hon yn sefyllfa yr oeddwn i eisiau gweld dinasyddion yr UE ynddi. Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau ers tro byd ac wedi galw ar Lywodraeth y DU i ymestyn y dyddiad cau ac o leiaf i ystyried effaith barhaus y pandemig, ac rwyf wedi ysgrifennu'n ddiweddar at Kevin Foster AS ar y mater hwn.

Fodd bynnag, rwy'n ddiolchgar bod Llywodraeth y DU, yn dilyn galwadau niferus gan Weinidogion Cymru, ar 1 Ebrill wedi newid ei chanllawiau gweithiwr achos y cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE i wneud darpariaethau ar gyfer ceisiadau mwy cymhleth ac i roi disgresiwn i weithwyr achos dderbyn ceisiadau hwyr am resymau rhesymol. Fodd bynnag, er mod i'n croesawu'r arwydd hwn o hyblygrwydd, nid wyf yn teimlo bod yr ystyriaeth yn mynd yn ddigon pell a byddaf yn parhau i annog Llywodraeth y DU i ddangos yr hyblygrwydd mwyaf posibl ar ôl Mehefin 2021. Ochr yn ochr â hyn, mae'n bwysig ein bod ni gyda'n gilydd yn canolbwyntio ein hegni ar sicrhau bod dinasyddion yr UE yn ymwybodol o'r cynllun, yn ymwybodol o'r dyddiad cau, ac yn cael y gefnogaeth orau bosibl i wneud cais.

Dirprwy Lywydd, rwyf yn falch o adrodd ein bod ni'n gwneud cynnydd. Cyhoeddwyd yr ystadegau chwarterol diweddaraf gan y Swyddfa Gartref ar 27 Mai 2021 yn dangos bod y cynnydd yn parhau yn nifer y ceisiadau o Gymru sy'n cael eu gwneud i'r cynllun a nifer yr unigolion sy'n sicrhau statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog. Hyd yma, gwnaed cyfanswm o 87,960 o geisiadau gan ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru ac, o'r ceisiadau hynny, mae 58 y cant o unigolion wedi sicrhau statws preswylydd sefydlog ac mae 40 y cant wedi sicrhau statws preswylydd cyn-sefydlog. Ond mae pryderon yn parhau o ran y 40 y cant hynny o ymgeiswyr sydd wedi sicrhau statws cyn-sefydlog ac y bydd angen iddyn nhw wneud cais eto am statws preswylydd sefydlog pan fyddan nhw'n gymwys.

Rydym ni'n ymwybodol bod pobl nad ydyn nhw wedi gwneud cais i'r cynllun eto, ac rydym ni'n credu bod nifer o resymau yn cyfrannu at hyn: efallai bod rhai o ddinasyddion yr UE wedi dod i fyw yn y DU flynyddoedd lawer yn ôl ac nad ydyn nhw'n sylweddoli bod angen iddyn nhw wneud cais; efallai bod rhai wedi cael plant tra oedden nhw'n byw yma ac nid ydyn nhw'n ymwybodol bod yn rhaid gwneud ceisiadau ar gyfer pob aelod o'r teulu. Mae eraill yn wynebu rhwystrau a materion digidol wrth gael y dogfennau cywir ac rydym ni'n ymwybodol bod rhai yn cael eu llethu gan y broses. Yn ogystal â hyn, rwyf i hefyd yn dal i bryderu'n fawr ynghylch nifer y dinasyddion sy'n agored i niwed yng Nghymru nad ydyn nhw efallai wedi gwneud cais eto.

Yn anffodus, nid ydym ni'n gwybod maint yr her sy'n parhau, gan nad yw'n bosibl cyfrifo'n gywir nifer dinasyddion yr UE yng Nghymru nad ydyn nhw wedi gwneud cais. Y rheswm dros hyn yw nid yw Llywodraeth y DU yn gwybod faint yn union o ddinasyddion yr UE sy'n gymwys i wneud cais. Rhagwelwyd i ddechrau bod tua 70,000 o ddinasyddion cymwys o'r UE/AEE yn byw yng Nghymru, ond mae amcangyfrifon mwy diweddar gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn awgrymu y gallai fod tua 95,000 o ddinasyddion cymwys yr UE. Er gwaethaf yr ansicrwydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu amrywiaeth helaeth o gymorth yn y gobaith y gall cynifer o ddinasyddion yr UE â phosibl ennill statws sefydlog. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i ddinasyddion yr UE ers 2019, ac rydym ni wedi ymrwymo cyllid i'r flwyddyn ariannol hon i gydnabod maint yr her sy'n parhau. Mae'r gefnogaeth barhaus wedi galluogi ymestyn gwasanaethau cyngor mewnfudo dinasyddion yr UE y tu hwnt i ddyddiad cau cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE, yn ogystal ag ymestyn y gwasanaethau cynghori arbenigol sy'n cael eu darparu gan gwmni cyfraith Newfields, Cyngor ar Bopeth Cymru a sefydliad y trydydd sector Settled. Yn ogystal â'r cymorth uniongyrchol hwn, mae gan Lywodraeth Cymru gynllun cyfathrebu manwl wedi'i dargedu ar gyfer statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE a byddwn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid yn ystod yr wythnosau nesaf i gyfleu negeseuon a chodi ymwybyddiaeth drwy'r cyfryngau cymdeithasol, grŵp cydgysylltu statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE Cymru, radio lleol, erthyglau newyddion a hysbysiadau i'r wasg gan Lywodraeth Cymru. Ac rydym ni'n parhau i ymgysylltu â byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol, swyddfeydd conswliaid, cartrefi gofal preifat, y comisiynydd pobl hŷn, y comisiynydd plant a nifer o sefydliadau trydydd sector arbenigol i dargedu grwpiau agored i niwed a sicrhau, lle nad yw unigolyn o bosibl yn gallu cyflwyno cais, bod gan ei gynrychiolydd neu warcheidwad y gefnogaeth i wneud hynny ar ei ran.

Ond, rydym ni'n canolbwyntio nid yn unig ar ddyddiad cau cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE, ond hefyd ar sut yr ydym ni'n cefnogi ein dinasyddion yn yr UE ar ôl 30 Mehefin. Rydym ni'n rhagweld y bydd angen cefnogaeth barhaus, o ganlyniad i geisiadau hwyr wedi'u gwneud yn unol â chanllawiau gweithwyr achos diweddaraf Llywodraeth y DU, ac rydym ni'n rhagweld y bydd apeliadau, a bydd angen ein cefnogaeth barhaus ar bob un ohonyn nhw. Ond gan edrych y tu hwnt i gymorth y broses, mae gan Lywodraeth Cymru a sector cyhoeddus Cymru rwymedigaeth statudol barhaus yn ogystal â rhwymedigaeth foesol i sicrhau bod hawliau dinasyddion yr UE yn cael eu diogelu ac yn parhau i gael eu cynnal. Rhwymedigaethau y mae'n rhaid i bob un ohonom ni chwarae ein rhan ynddyn nhw, a lle mae rheolau mewnfudo'r DU yn atal rhoi cymorth i'r rhai nad ydyn nhw eto wedi sicrhau statws sefydlog, rydym ni'n gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau ein bod ni i gyd yn gweithredu gyda thosturi a gwybodaeth ynghylch pa gymorth y mae modd ei roi ar waith. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu canllawiau cymorth arian cyhoeddus heb atebolrwydd, ar gyfer awdurdodau lleol, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Rhaid i bob un ohonom ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod dinasyddion yr UE yn cael eu trin yn deg ac yn mwynhau'r un hawliau ag yr oedd ganddyn nhw o'r blaen. Yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i godi ymwybyddiaeth o hawliau dinasyddion yr UE, ac mae eisoes wedi hyfforddi 350 o staff awdurdodau lleol rheng flaen ar hawliau mudwyr a hawliau i wasanaethau. Maes o law, bydd gwybodaeth ychwanegol i ddinasyddion yr UE ynghylch eu hawliau a'u hawliau i wasanaethau yng Nghymru ar gael drwy wefan Noddfa Llywodraeth Cymru.

Rwy'n gobeithio y bydd holl Aelodau'r Senedd yn cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod holl ddinasyddion cymwys yr UE y mae angen iddyn nhw wneud cais am statws preswylydd sefydlog yn cael digon o gyfle i wneud hynny, eu bod yn parhau i gael eu trin yn deg a bod ganddyn nhw'r un cyfle i fanteisio ar yr un hawliau yr oedden nhw'n eu mwynhau pan oeddem ni dal yn yr Undeb Ewropeaidd.

15:45

Tair blynedd—. Diolch am eich datganiad chi. Dair blynedd yn ôl, ym mis Mehefin 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chanllawiau cam wrth gam ar wneud cais i gynllun preswylydd sefydlog yr UE, statws preswylydd cyn-sefydlog a sefydlog, i ddinasyddion yr UE, yr AEE a'r Swistir a'u teuluoedd i wneud cais i barhau i fyw yn y DU ar ôl y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, sef 30 Mehefin 2021—drwy gyd-ddigwyddiad, pen-blwydd fy mam. Gwnaethoch chi gyfeirio at gyfanswm y 87,960 o geisiadau sydd wedi'u gwneud gan ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru, y mae 58 y cant ohonyn nhw wedi sicrhau statws preswylydd sefydlog a 40 y cant wedi sicrhau statws preswylydd cyn-sefydlog. Ledled ein DU, mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth y DU yn dangos bod 5,423,300 o geisiadau ac, o'r rhain, bod 5,118,300 wedi'u prosesu hyd yma. 

Gwnaethoch chi gyfeirio at bryderon, ynghylch ymgeiswyr sydd wedi sicrhau statws preswylydd cyn-sefydlog ac y bydd dal angen iddyn nhw wneud cais ar gyfer statws preswylydd sefydlog pan fyddan nhw'n gymwys a phobl nad ydyn nhw wedi gwneud cais i'r cynllun eto, ac yr ydych chi'n dweud eich bod chi wedi ysgrifennu at Weinidog y DU, Kevin Foster AS, yn galw am ymestyn y dyddiad cau. Fodd bynnag, sut mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, er enghraifft pan ddywedodd Kevin Foster, dim ond y penwythnos diwethaf,

'Bob dydd, mae miloedd o bobl yn cael statws o dan Gynllun Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE hynod lwyddiannus, a byddwn i'n annog pobl sy'n gymwys i wneud cais cyn gynted â phosibl i sicrhau'r statws y maen nhw'n ei haeddu o dan gyfraith y DU'?

Rydym ni eisoes wedi cadarnhau y bydd hawliau unigolyn sydd wedi gwneud cais i'r cynllun erbyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin ond nad yw wedi cael y penderfyniad erbyn hynny yn cael eu diogelu hyd nes y bydd penderfyniad ar ei gais.

Gwnaethoch chi gyfeirio at gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddinasyddion yr UE ers 2019, y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn falch o'u cefnogi o'r cychwyn cyntaf. Roedd hyn yn cynnwys y gwasanaeth wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo gwladolion yr UE yng Nghymru i gofrestru ar gyfer cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE, wedi'i ddarparu drwy gyngor ar bopeth sir y Fflint, Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro a chyngor ar bopeth Casnewydd. Ac roeddwn i'n falch, er enghraifft, o gynnal gweminar ar y cyd â chyngor ar bopeth sir y Fflint fis Gorffennaf diwethaf i ddinasyddion yr UE, yr AEE neu'r Swistir gael gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael ar gyfer cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE a chyflogaeth a gwahaniaethu. 

Mae Gweinidog Llywodraeth y DU, Kevin Foster, wedi dweud bod Llywodraeth y DU hefyd wedi rhoi £22 miliwn i 72 o sefydliadau i helpu grwpiau sy'n agored i niwed ac yn anoddach eu cyrraedd i wneud cais, ac mae gan y Swyddfa Gartref dros 1,500 o bobl yn gweithio ar y cynllun. Sut ydych chi wedi sicrhau bod y cynlluniau sydd wedi'u cefnogi gan Lywodraeth Cymru wedi ategu'r cynlluniau hyn gan Lywodraeth y DU yn hytrach na'u hailadrodd, a pha ffigurau y gallwch chi eu rhannu neu a fyddwch chi'n gallu eu rhannu â ni yn dangos tystiolaeth o ganlyniadau penodol cymorth Llywodraeth Cymru wedi'u dadgyfuno o'r cynlluniau cymorth sydd wedi'u hariannu gan Lywodraeth y DU?

Yn olaf, mae pryder penodol ynghylch nifer y bobl hŷn nad ydyn nhw wedi gwneud cais am statws preswylydd sefydlog ac am rieni nad ydyn nhw'n ymwybodol bod angen iddyn nhw sicrhau bod plant, a hyd yn oed babanod, yn gwneud cais am statws preswylydd sefydlog y mis hwn. Wrth wrando ar un o fy hoff sianelau radio yn teithio i lawr ddoe, Absolute Classic Rock, clywais i hysbysebion Llywodraeth y DU wedi'u targedu at y grwpiau penodol hyn yn unol â hynny. Felly, pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, naill ai gyda Llywodraeth y DU neu'n annibynnol, i gyrraedd y grwpiau hyn o bobl?

Wel, diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, ac rwyf i wir yn eich croesawu'n yn ôl i'r Senedd, ochr yn ochr â mi, ac yn amlwg yn ymdrin â'r materion allweddol hyn sy'n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol. Ac rwy'n diolch i chi nid yn unig am eich cwestiynau a'ch pwyntiau ond hefyd o ran annog pobl i wneud cais, yn amlwg ledled eich rhanbarth a ledled Cymru. A gwn i y bydd holl Aelodau'r Senedd heddiw yn adleisio hynny, rwy'n siŵr.

Yn wir, rydym ni hefyd yn croesawu'r cynnydd sydd wedi'i wneud yng Nghymru, a byddwn i'n dweud bod hynny'n gynnydd sydd wedi'i wneud o ganlyniad i bartneriaeth—nid dim ond partneriaeth â Llywodraeth y DU ond hefyd gyda'n grŵp cydgysylltu cymorth dinasyddion yr UE. Rwy'n credu bod hwnnw'n grŵp pwysig iawn i wneud sylwadau arno, oherwydd mae'n ymwneud â chydgysylltu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyngor a chymorth statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE yng Nghymru. Mae grŵp cydgysylltu statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE yng Nghymru yn dwyn ynghyd y rhai sydd wedi llwyddo i gael grant gan y Swyddfa Gartref, ac yn cyflawni yng Nghymru gyda phartneriaid ac asiantaethau cyflawni allweddol eraill, ac mae'n cydlynu darpariaeth lwyddiannus, sef y cwestiwn yr ydych chi'n ei ofyn i mi, wrth gwrs, o ran y canlyniadau. Mae'n cydgysylltu'r gwaith o ddarparu cyngor a chymorth statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE, gan rannu adroddiadau ar waith cefnogi sefydliadau. Ac rydych chi wedi sôn am Mind, Mind sir y Fflint, ac rydym yn amlwg yn croesawu—. Mae'n ddrwg gennyf, Cyngor ar Bopeth sir y Fflint. Mae Mind hefyd yn sefydliad arall sydd wedi bod yn ymgysylltu'n helaeth hefyd, ac efallai bod sefydliadau Mind yn eich rhanbarth chi'n chwarae rhan, ond yn sicr mae Cyngor ar Bopeth wedi bod yn hollbwysig. Rydym ni wedi ariannu Cyngor ar Bopeth ers 2019; maen nhw'n darparu cyngor cyffredinol ac arbenigol sy'n ymdrin ag amrywiaeth o faterion, ac mae hynny'n cynnwys ceisiadau statws preswylydd sefydlog, lles cymdeithasol, budd-daliadau, a hefyd materion cyflogaeth a gweithle. Nawr, y pwynt hollbwysig i ni yw ein bod ni wedi ymestyn y cyllid hwnnw i'r sefydliadau hyn, nid Cyngor ar Bopeth yn unig, ond hefyd i Mind, TGP Cymru, Settled, Mind Casnewydd—sydd mewn gwirionedd yn cynnwys llawer o sefydliadau Mind, fel y dywedais—Newfields Law, yn ogystal â Chymdeithas Frenhinol Pobl Fyddar, sy'n bwysig o ran cydnabod bod pobl sy'n agored i niwed , fel yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw, pobl hŷn, yn enwedig o ran sicrhau ein bod yn estyn atyn nhw, ond hefyd y comisiynydd pobl hŷn a'r comisiynydd plant yn ymgysylltu'n helaeth yn ogystal â'n strategaeth gyfathrebu. Felly, gweithio i gyflawni, ond mae'r rhain yn ddyddiau tyngedfennol, on'd ydyn nhw, amseroedd tyngedfennol, dyddiau ac wythnosau tyngedfennol wrth i ni symud ymlaen ac mae angen i ni gael y sicrwydd hwnnw gan Lywodraeth y DU y byddan nhw'n hyblyg, byddan nhw'n cydnabod yr anghenion a'r materion sy'n ymwneud â phobl sy'n agored i niwed.

Nawr, rwyf i wedi sôn am fy llythyr at Kevin Foster AS, Gweinidog Ffiniau'r Dyfodol a Mewnfudo, ac rwy'n hapus iawn i rannu'r llythyr hwnnw â'r Aelodau yn dilyn fy natganiad heddiw. Ac rwyf i wedi gofyn am sicrwydd y dylai canllawiau gweithiwr achos y Swyddfa Gartref gynnig y lefel honno o hyblygrwydd a sicrwydd i'r rheini sydd ag achosion cymhleth—am ba reswm bynnag, na allan nhw gyflwyno cais erbyn y dyddiad cau—ac rwyf i wedi annog Llywodraeth y DU i fonitro'r modd y caiff y canllawiau hyn eu cymhwyso a sicrhau ei fod yn parhau'n addas at y diben. A dywedais i hefyd—. Unwaith eto, rwyf i'n ailddatgan fy safbwynt ein bod ni'n teimlo y dylai'r dyddiad cau gael ei ymestyn, dyddiad cau cais statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE ei hun, er mwyn sicrhau, ar 30 Mehefin, nad ydym ni'n cael ein gadael gyda dinasyddion yr UE nad ydyn nhw wedi gallu gwneud y cais hwnnw, ac i gydnabod eu bod nhw mewn cyfnod heriol iawn. Felly, gobeithio, Mark Isherwood, y byddwch chi a'ch cyd-Aelodau hefyd yn trosglwyddo'r neges honno i Lywodraeth y DU.

15:50

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i'r Gweinidog am ei datganiad.

Mae'n bwysig bod pobl sy'n dymuno gwneud cais ar gyfer y cynllun hwn yn cael cynnig cymaint o gymorth â phosibl, ac, fel sydd wedi'i grybwyll eisoes, mae'r dyddiad cau'n prysur agosáu ddiwedd y mis hwn. Yn y Senedd ddiwethaf, ysgrifennodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Lywodraeth Cymru gyda'u hargymhellion. Eu hargymhellion oedd i Lywodraeth Cymru ailadrodd ei chefnogaeth i'r dinasyddion hyn, eu bod yn sicrhau bod y cymorth yn ymestyn y tu hwnt i'r dyddiad cau, eu bod yn darparu cymorth hygyrchedd digidol, a'u bod yn rhoi cymorth i gyflogwyr Cymru i'w helpu i lywio'r system fewnfudo newydd.

Byddai'n ddefnyddiol clywed gan y Gweinidog a yw'r argymhellion hyn wedi'u derbyn a'u gweithredu, ac, os nad ydyn nhw, pam. Roedd problemau eisoes gyda'r cynllun; mae'r pandemig nid yn unig wedi gwneud y materion hyn yn waeth, ond mae wedi cyflwyno heriau newydd i ddinasyddion yr UE sy'n gwneud cais i'r cynllun. Mae'n bosibl gweld hyn yn y nifer sy'n manteisio ar y cais a'r gyfradd ymgeisio. Er gwaethaf y niferoedd uchel o geisiadau cychwynnol i'r cynllun, arafodd y gyfradd ymgeisio yng Nghymru yn ystod y pandemig cyntaf. A wnaiff y Gweinidog ddweud a fu arafu yn y gyfradd ymgeisio yn ystod yr ail don, fel y gwelwyd yn y gyntaf, ac a fydd hyn yn golygu y bydd rhai pobl ar eu colled?

Hefyd, yn ôl llysgennad yr UE i'r DU, mae rhai o ddinasyddion yr UE wedi adrodd bod cyfyngiadau teithio yn golygu na allen nhw gael gafael ar eu dogfennau. Mae angen y ddogfennaeth hon fel prawf eu bod yn preswylio yn y DU. A yw'r Gweinidog yn ymwybodol bod hwn yn fater eang, ac, os felly, a yw'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw wedi cael cynnig neu wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru?

Un maes sy'n peri pryder arbennig i mi yw natur ddigidol yn unig y cais. Mae'r pandemig wedi dwysáu rhaniad digidol y DU, a gan fod y cynllun yn broses ymgeisio ddigidol yn unig, mae'n cynnig heriau penodol i grwpiau agored i niwed y mae'r bwlch digidol eisoes yn effeithio arnyn nhw, fel pobl hŷn a phobl ddigartref. Mae angen i ni gydnabod anghenion y dinasyddion mwyaf agored i niwed, yn enwedig y rheini a allai fod mewn perygl o gael eu hallgáu'n ddigidol. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i geisio goresgyn a phontio'r rhaniad hwn er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl?

Mae adroddiadau pellach wedi amlinellu sut y gallai dinasyddion yr UE yng Nghymru ei chael hi'n anodd bod yn gymwys i gael statws preswylydd sefydlog llawn o ganlyniad i'r pandemig. Rhybuddiodd cyfarwyddwr yr Arsyllfa Ymfudo nad yw pobl sydd â statws cyn-sefydlog yn gwybod bod angen iddyn nhw drosi eu statws drwy ail gais, ac y gallen nhw anghofio'r dyddiad cau heb gael eu hatgoffa. A yw'r Llywodraeth yn ffyddiog ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y rhai y mae angen iddyn nhw wneud ail gais yn cael eu hatgoffa i wneud hynny? Yn ogystal, eglurodd llysgennad yr UE i'r DU hefyd fod rhai dinasyddion o'r UE sydd â statws preswylydd cyn-sefydlog wedi gorfod gadael y DU yn ystod y pandemig. Mae'n bosibl bod y dinasyddion hyn wedi cael eu gadael mewn gwahanol wledydd oherwydd cyfyngiadau teithio. Efallai y bydd y dinasyddion hyn yn ei chael hi'n anodd darparu'r dystiolaeth o bum mlynedd o breswylio parhaus sydd ei hangen i gael statws sefydlog. Felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried strategaethau eraill i gefnogi dinasyddion a fethodd y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, neu a fethodd feini prawf ymgeisio, oherwydd yr amgylchiadau a achoswyd gan COVID-19?

Wrth gwrs, mater i'r Swyddfa Gartref a San Steffan yw hwn yn y pen draw, ac rwy'n siŵr y byddwn i'n iawn wrth ddweud efallai nad y system hon a'r system fewnfudo newydd o San Steffan yw'r system yr hoffem ni na Llywodraeth Cymru ei gweld. Fodd bynnag, San Steffan sy'n rheoli'r mater hwn am y tro. O gofio y bydd rhai pobl yn colli'r cynllun hwn oherwydd y rhesymau hyn, pa gymorth arall y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi? Yn olaf, a wnaiff y Gweinidog annog ei chymheiriaid yn San Steffan i sefydlu proses apelio gadarn ar gyfer y bobl nad yw eu ceisiadau wedi'u cwblhau eto oherwydd effaith y pandemig, er mwyn sicrhau, yng ngeiriau'r Prif Weinidog yn ei lythyr agored at ddinasyddion yr UE,

'y bydd croeso ichi bob amser yma yng Nghymru'?

Diolch yn fawr.

15:55

Diolch yn fawr, Peredur, a diolch yn fawr am y pwyntiau allweddol, pwysig yna. Rwy'n falch iawn eich bod chi hefyd wedi tynnu sylw at adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig. Mae wedi bod yn destun pryder mawr o ganlyniad i'r pandemig. Dyna pam y mae'r dyddiad cau, yr ydym ni eisiau ei gael—. Rydym ni wedi gofyn i Lywodraeth y DU, wedi pwyso ar Lywodraeth y DU, dro ar ôl tro, i ymestyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin 2021, yn enwedig yng ngoleuni'r pandemig, ond yn anffodus roedd hynny'n ofer. Ond rwyf i wedi sôn am hynny, o ganlyniad i lawer o sylwadau—. Yn fy natganiad, gwnes i dynnu sylw at y ffaith bod adolygu a diweddaru canllawiau gweithwyr achos wedi golygu bod gennym ni fwy o hyblygrwydd. Ond mae'n amlwg y bydd yn rhaid i ni fonitro hynny'n ofalus iawn gyda'r sefydliadau hynny yr ydym ni'n eu hariannu, ac ymestyn y cyllid, wrth gwrs, i sicrhau y gallan nhw gefnogi pobl.

Ond er mwyn rhoi rhyw syniad i chi o'r hyn y mae'r hyblygrwydd hwnnw'n ei olygu, mae'n rhoi disgresiwn i weithwyr achos dderbyn ceisiadau hwyr pryd y maen nhw'n credu bod sail resymol, ac rwyf i wedi annog Llywodraeth y DU, ac rwy'n parhau i'w hannog, i fonitro'r canllawiau a sicrhau eu bod yn parhau'n addas i'r diben ar ôl diwedd y mis. Ond wrth gwrs, fel yr ydych chi wedi dweud, nid dyma ddiwedd y broses i lawer. Bydd yn rhaid i'r rhai sy'n cael statws cyn-sefydlog ailymgeisio ar gyfer statws sefydlog pan fydd digon o amser wedi mynd heibio iddyn nhw wneud hynny, ac efallai y bydd angen i'r cymorth y bydd ei angen arnyn nhw barhau. Mae angen i ni sicrhau—er ein bod ni'n amlwg yn gweithio mewn partneriaeth nid yn unig â Llywodraeth y DU, ond gyda'n hawdurdodau lleol a'r holl sefydliadau arbenigol yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw eisoes ein bod ni'n eu hariannu i sicrhau y gallwn ni gyrraedd dinasyddion yr UE mwyaf agored i niwed. Rydym ni'n pryderu ynghylch y nifer na fyddan nhw efallai'n sicrhau'r statws sefydlog, ac efallai bod hynny oherwydd gwahanol resymau. Rhaid i ni, a rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod ac ymdrin â'r sefyllfa honno ar ôl mis Mehefin 2021, oherwydd gallem ni gael miloedd o ddinasyddion yr UE ar ôl heb statws clir yn y DU heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Rwyf i wedi sôn am grŵp cydlynu statws sefydlog yr UE yng Nghymru, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod sut y maen nhw wedi bod yn gweithio ers 2019 i hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd a chyfranogiad yn y cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE yng Nghymru, i wneud y gorau posibl o gyfle dinasyddion i fanteisio arno drwy gyhoeddusrwydd wedi'i ganolbwyntio'n benodol iawn—rwyf i wedi sôn am yr ymgyrch gyfathrebu—ond hefyd nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth bresennol sydd wedi'i chefnogi i gynorthwyo Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gartref i ddod o hyd i atebion i oresgyn unrhyw faterion. I roi rhyw syniad i chi pwy sy'n eistedd ar y grŵp hwnnw: Llywodraeth Cymru, Newfields Law, Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit—sydd, wrth gwrs, yn estyn at bob cymuned ledled Cymru—Cyngor ar Bopeth Cymru, Cymorth Mudwyr, Mind Casnewydd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, TGP Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Settled, TUC Cymru, a nifer fawr o sefydliadau arbenigol eraill. 

Hoffwn i ddiolch i chi hefyd am sôn am y llythyr a ysgrifennodd y Prif Weinidog ar 6 Mawrth eleni. Ysgrifennodd lythyr agored at holl wladolion yr UE sy'n byw yng Nghymru, gan eu hannog i wneud cais ac i wneud hynny cyn y dyddiad cau ym mis Mehefin, wedi'i gyhoeddi mewn 11 iaith. Ac eto, rydych chi wedi rhoi'r cyfle i mi ddweud mai diben y neges gan y Prif Weinidog oedd dweud y bydd croeso i chi, eich teuluoedd, bob amser yng Nghymru. Ac rydym ni eisiau sicrhau bod eich cyfraniad, yr ydych chi'n ei wneud i'n cymunedau, ein gwasanaethau cyhoeddus a'n busnesau, yn cael ei gydnabod fel cyfraniad amhrisiadwy a

'Rwy’n deall pa mor anodd y mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod i chi, gydag ansicrwydd Brexit'.

Dyna'r hyn a ddywedodd yn ei lythyr. Mae'n parhau:

'ac yn awr gyda phandemig parhaus sydd wedi gwneud ymdopi gyda sefyllfa anodd yn anoddach fyth.'

Yn ystod y dyddiau nesaf, byddwch chi'n clywed rhagor o negeseuon o'r fath gan Lywodraeth Cymru.

16:00

Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddrwg gennyf i, nid oeddwn i'n sylweddoli fy mod i wedi dy nad-dawelu. Diolch yn fawr iawn am y datganiad, Jane Hutt. Rwy'n credu ei bod yn dda iawn gwybod faint o sylw sy'n cael ei roi i'r mater pwysig hwn, yn sicr i lawer o fy etholwyr. Diolch am yr arian yr ydych chi wedi'i fuddsoddi yn Newfields Law, Cyngor ar Bopeth a'r mudiad gwirfoddol, Settled. Roedd gennyf i ddiddordeb mawr yn eich amcangyfrif diweddaraf o'r niferoedd yr effeithir arnyn nhw gan y mesur hwn. Felly, gallwn ni weld, o'r bron i 88,000 o bobl sydd wedi gwneud cais, mai dim ond statws cyn-sefydlog a gafodd 40 y cant o hyd ac mae'n codi'r cwestiwn tybed pam y mae pobl yn cael y statws cyn-sefydlog hwn pan yr ydym ni'n sôn am bobl sydd wedi bod yma ers blynyddoedd maith, ar y cyfan.

Ac, yn ogystal â hynny, mae'n ein galluogi ni i weld bod tua 7,000 o bobl nad ydyn nhw wedi gwneud cais eto, ac efallai nad ydyn nhw hyd yn oed yn ymwybodol ei bod yn ofynnol iddyn nhw wneud hynny. Fel y nododd llefarydd y Blaid yn gynharach, mae llawer o bobl wedi'u hallgáu'n ddigidol ac rwy'n poeni'n benodol am y rheini ar incwm cyfyngedig, naill ai'n byw ar gynilion neu bensiwn bach neu'r rhai ar gyflogau cymedrol, nad ydyn nhw efallai'n sylweddoli nad oes rhaid i chi dalu i wneud cais am statws preswylydd sefydlog, er bod—

—llawer o daliadau cudd i gasglu'r dystiolaeth ofynnol. Felly, hoffwn i chi ddweud ychydig mwy am sut y mae awdurdodau lleol a'r Llywodraeth yn mynd i ymdrin â phobl nad oes ganddyn nhw efallai hawl i gael arian cyhoeddus. Wyddoch chi, mae llefarydd y Ceidwadwyr yn dweud na fyddan nhw'n cael eu trin fel pobl nad ydyn nhw bellach yn gallu cael gwasanaethau cyhoeddus, ond mae hynny wedi cael ei ddweud o'r blaen o ran pobl eraill. Felly, tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am beth yn union y mae awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i bobl y caiff eu ceisiadau'n eu gwrthod, hyd yn oed os ydyn nhw wedi byw yma ers blynyddoedd.

Diolch yn fawr iawn i Jenny Rathbone am gydnabod pwysigrwydd y datganiad hwn, a hefyd i gydnabod anghenion ac amgylchiadau eich etholwyr, yn enwedig y rheini sydd wedi'u hallgáu fwyaf ac ar incwm is ac nad ydyn nhw wedi cael gweld yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i sicrhau eu bod yn cyflwyno eu ceisiadau.

Hefyd, nid yw llawer o bobl yn ymwybodol, ac efallai am eiliad yn unig y gallaf i egluro'r gwahaniaeth rhwng statws sefydlog a statws cyn-sefydlog. Fel arfer byddwch chi'n cael statws preswylydd sefydlog os ydych chi wedi byw yn y DU am gyfnod parhaus o bum mlynedd, yr enw ar hyn yw 'preswylfa barhaus'. Yn amlwg, er mwyn bodloni'r meini prawf hynny, rhaid sicrhau eich bod chi wedi cael o leiaf chwe mis mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, ac mae eithriadau. Ar ôl cael y statws preswylydd sefydlog hwnnw gallwch chi aros yn y DU cyhyd ag y mynnoch chi, a byddwch chi hefyd yn gallu gwneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig os ydych chi'n gymwys. Ond mae statws cyn-sefydlog yn ymwneud â phan nad ydych chi wedi preswylio am bum mlynedd yn barhaus pan fyddwch chi'n gwneud cais; byddwch chi fel arfer yn cael statws cyn-sefydlog. Mae'n rhaid eich bod chi wedi dechrau byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020, oni bai eich bod chi'n gwneud cais fel aelod agos presennol o deulu dinesydd yr UE a oedd wedi dechrau byw yma erbyn hynny. Felly, mae cymhlethdodau, onid oes, Jenny, ac Aelodau yma, ynglŷn â sut y gallwn ni sicrhau ein bod ni'n dosbarthu'r wybodaeth hon. Rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn, oherwydd mae'n dangos faint yn fwy y mae angen i ni ei wneud yn y dyddiau i ddod i estyn at bobl.

I orffen, hoffwn i ddweud o'r diwedd fod awdurdodau lleol yn ymwneud â hyn yn llawn iawn. Cafwyd rhaglen hyfforddi awdurdodau lleol. Bydd mwy na 400 o unigolion yn cael eu hyfforddi drwy gynllun ar gyfer staff tai a gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau eu bod nhw'n deall hawliau a hawliau mudwyr i wasanaethau ar ôl Brexit. Yn wir, rydym ni wedi rhoi cyllid i barhau â chymorth pontio'r UE i awdurdodau lleol ledled Cymru, felly mae ganddyn nhw gydgysylltydd ym mhob awdurdod a rhaglen gymorth ganolog, wedi'i darparu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

16:05

Weinidog, dim ond yr wythnos diwethaf dywedodd Kate Smart, prif swyddog gweithredol Settled:

'mae llawer sydd wedi byw yn y DU ers degawdau...dim ond nawr yn sylweddoli bod yn rhaid iddyn nhw wneud cais i'r cynllun.'

Wel, mae fy nheulu Welsh-Italian yn iawn nawr, diolch byth. Maen nhw wedi bod trwy'r broses. Roedd y cyngor a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddefnyddiol, ond roedd aelodau'r teulu yn helpu aelodau eraill o'r teulu hefyd. Ond mae fy nghwestiwn yn syml iawn. Yn yr wythnosau olaf hyn, beth allwn ni ei wneud, fel Aelodau o'r Senedd, i annog pobl i gymryd rhan yn ein hardaloedd lleol?

Diolch yn fawr, Huw Irranca-Davies, a diolch am roi'r enghraifft real a phersonol iawn yna o'ch teulu Cymreig-Eidalaidd a sut y maen nhw wedi cael a chyflawni'r statws preswylydd sefydlog hwnnw, sef yr hyn sydd ei angen i sicrhau bod ein holl ddinasyddion sy'n gymwys, yn gallu gwneud hynny.

Fe wnaethoch chi ofyn cwestiwn penodol am Aelodau'r Senedd. Rwy'n credu, mae'n debyg, fod pob un ohonoch chi eisoes yn meddwl, 'Beth allaf i ei wneud?' Gallan nhw annog etholwyr i wneud cais drwy rannu gwybodaeth. Byddwn i'n dweud bod colofnau yn y papur newydd lleol, a'r cyfryngau cymdeithasol yn hollbwysig. Trowch at eich gwasanaeth Cyngor ar Bopeth lleol. Gofynnwch i gydlynydd UE eich awdurdod lleol beth y mae'n ei wneud. Estynnwch allan yn gyhoeddus, gan eich bod yn Aelod y gellir ymddiried ynddo, yn Aelod o'r Senedd, ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn cysylltu â gorsafoedd radio lleol, papurau newydd lleol, y cyfryngau cymdeithasol, ac yn rhoi'r wybodaeth yr wyf i wedi ei nodi yn fy natganiad.

Diolch, Weinidog. Cyn yr eitem nesaf—.

A gaf i atgoffa'r Aelodau—y rhai nad oedden nhw yma y tro diwethaf—mae gan lefarwyr bum munud yr un ac mae gan Aelodau unigol funud yr un? Byddaf i'n sicrhau eich bod yn cadw i'r amser, gan ei bod yn bwysig ein bod yn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael siarad yn y datganiadau hyn. Gofynnaf hefyd i'r Gweinidogion fod yn gryno yn eu hatebion hefyd, er mwyn i ni allu parhau i ganiatáu'r amser hwnnw.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cronfa i roi seibiant neu egwyl fer i ofalwyr di-dâl

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar gronfa i roi seibiant neu egwyl fer i ofalwyr di-dâl. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.

Diolch. Wrth i ni nodi Wythnos y Gofalwyr, hoffwn dalu teyrnged i ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Dylai pob un ohonom barchu a gwerthfawrogi eu hymdrechion bob dydd i ofalu am anwyliaid, ffrindiau a pherthnasau, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID-19 hwn.

Yr wythnos hon, rydym yn dathlu'r degau o filoedd lawer o ofalwyr di-dâl sy'n rhy aml yn arwyr di-glod. Maen nhw'n rhan annatod o system iechyd a gofal Cymru ac mae angen i ni eu cefnogi a'u helpu i ofalu am eu hiechyd a'u lles eu hunain. Mae ein harolygon diweddar yn dangos bod traean o oedolion yng Nghymru yn darparu gofal di-dâl am awr neu fwy yr wythnos. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru hefyd yn amcangyfrif bod gan Gymru dros 21,000 o oedolion ifanc rhwng 16 a 24 oed sy'n ofalwyr, a dros 7,000 o ofalwyr ifanc o dan 16 oed. Cymru hefyd sydd â'r gyfran uchaf o ofalwyr hŷn a gofalwyr sy'n darparu mwy na 50 awr o ofal yr wythnos.

Rwy'n credu ei bod yn debygol iawn bod gan lawer ohonom ni yma brofiad uniongyrchol o ofalu am ffrind neu aelod o'r teulu ac sy'n gwybod pa mor anodd y gall fod yn jyglo ymrwymiadau gofalu ochr yn ochr â gwaith neu amser hamdden. Rwy'n credu bod y pandemig wedi codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o werth y gweithlu gofal cyflogedig, ond mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw gofalwyr di-dâl yn cael eu hanwybyddu.

Dros y 12 mis diwethaf, rwyf wedi clywed gan lawer o ofalwyr di-dâl sydd wedi ei chael yn anodd ymdopi heb eu rhwydweithiau cymorth arferol ac rwy'n ymwybodol bod gofalwyr di-dâl o bob oed wedi wynebu heriau, pwysau ac, mewn rhai achosion, wedi colli anwyliaid. Mae gofalwyr di-dâl wedi sôn am anawsterau o ran cael hoe a seibiannau amserol a phriodol i'w helpu i reoli eu hiechyd a'u lles eu hunain. Nid dim ond arhosiad dros nos mewn cartref gofal neu wasanaeth eistedd dros nos i'r person ag anghenion gofal yw seibiant mwyach; gall fod ar sawl ffurf, fel cael amser i ymlacio a mwynhau bod gyda theulu a ffrindiau neu seibiant byr gyda neu heb y person sy'n cael gofal. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r anghenion seibiant hyn, rydym yn darparu £3 miliwn yn 2021-22 i gefnogi gofal seibiant brys a datblygu cronfa seibiannau byr.

Yn y cam cyntaf, darparwyd £1.75 miliwn i 22 awdurdod lleol Cymru i fynd i'r afael â'r angen dybryd am seibiant ymhlith gofalwyr o bob oed wrth i'r cyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio. Yng ngham 2, bydd £1.25 miliwn yn datblygu mathau mwy hyblyg ac arloesol o seibiant sydd wedi'u teilwra i angen unigol. Er mwyn llywio'r gwaith hwn, rydym wedi comisiynu Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i weithio gydag academyddion blaenllaw i ddrafftio map ffordd tuag at fodel cenedlaethol o seibiant yng Nghymru. Byddwn hefyd yn archwilio sut y gallwn weithio gyda'r sector lletygarwch i ddarparu amrywiaeth o seibiannau byr. Mae'r model hwn, a elwir yn 'respitality', yn gweithredu'n llwyddiannus yn yr Alban ar hyn o bryd.

Mae sicrhau bod yr holl ofalwyr yn weladwy ac yn cael eu gwerthfawrogi yn hanfodol i'w galluogi i gael mynediad at eu hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Fe wnaethom lansio strategaeth newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl ym mis Mawrth, gan ailddatgan ein hymrwymiad i weithio gyda rhanddeiliaid a gofalwyr di-dâl i sicrhau bod ganddyn nhw fynediad at yr wybodaeth, y cyngor a'r gefnogaeth iawn. Mae'r strategaeth yn nodi ein blaenoriaethau cenedlaethol diwygiedig ar gyfer gofalwyr di-dâl, gan gynnwys ychwanegu blaenoriaeth newydd ar addysg a chyflogaeth. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag aelodau o grŵp cynghori'r Gweinidog ar gyfer gofalwyr di-dâl, i ddrafftio cynllun cyflawni ategol a fydd yn nodi amserlenni a metrigau ar gyfer monitro cynnydd. Cyhoeddir y cynllun yn hydref 2021. Bydd y strategaeth yn ychwanegu at ein llwyddiannau diweddar o ran cefnogi gofalwyr, fel datblygu cerdyn adnabod cenedlaethol ar gyfer gofalwyr ifanc; rhannu cronfa galedi gwerth £1.25 miliwn yn gyflym i gefnogi gofalwyr mewn anawsterau ariannol yn ystod y pandemig; a chyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth seicolegol ar-lein.

Mae pedwar prosiect gofalwyr, wedi eu hariannu trwy gynllun grant i'r trydydd sector ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, wedi cwblhau eu blwyddyn gyntaf o weithredu yn ddiweddar ac maen nhw'n llwyddo i godi ymwybyddiaeth a thrawsnewid gwasanaethau i ofalwyr ledled Cymru. Mae'r prosiect dan arweiniad Women Connect First i gefnogi menywod a gofalwyr du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig hŷn yn ystod y pandemig wedi creu argraff fawr arnaf i. Fel llawer o sefydliadau'r trydydd sector, addasodd Women Connect First eu model yn gyflym i estyn allan at ofalwyr di-dâl, yr oedd llawer ohonyn nhw erioed wedi cael gofal na chymorth o'r blaen.

Trwy gydol y pandemig, fe wnaethom ni barhau i weithio'n agos gyda gofalwyr di-dâl a'u cynrychiolwyr i ddeall effaith COVID-19 ar eu bywydau ac i gymryd camau priodol. Hoffwn ddiolch hefyd i Aelodau'r Senedd sydd wedi hyrwyddo gofalwyr di-dâl yn eu hardaloedd lleol. Bwriad y strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, a'r cynllun cyflawni ategol, yw llywio gwaith partneriaeth tuag at gymdeithas sy'n cydnabod, yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi gofalwyr di-dâl o bob oedran a chefndir i fyw yn dda a chyflawni eu canlyniadau llesiant eu hunain. Mae'n debygol y bydd pob unigolyn yng Nghymru yn ymgymryd â swyddogaeth gofalu rywbryd yn ystod ei oes. Felly, gall y camau a gymerwn heddiw i gefnogi gofalwyr di-dâl fod â manteision parhaol i ofalwyr a'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, a byddan nhw hefyd yn cefnogi llwyddiant ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol.

16:15

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr ichi am eich datganiad. Hoffwn i hefyd ategu fy niolch i'r arwyr sydd gennym ni yn ddi-glod, sef yr arwyr di-dâl ledled Cymru sy'n gofalu am ein hanwyliaid bob dydd.

Mae ymchwil gan Ofalwyr Cymru yn dangos bod gofalwyr di-dâl sy'n gofalu am aelodau o'r teulu neu ffrindiau anabl, sâl neu oedrannus wedi arbed £33 miliwn i Lywodraeth Cymru bob dydd ers dechrau pandemig COVID-19. Yn y cyd-destun hwnnw, nid yw'r ddarpariaeth o £3 miliwn yn ystod 2021-22 i gyd—wedi ei rhannu'n ddau gam, gyda cham cyntaf o £1.75 miliwn wedi ei rannu ymhellach rhwng 22 awdurdod lleol yng Nghymru—yn ein twyllo ni rhag sylweddoli bod hyn yn fwy o ateb dros dro yn hytrach nag ymgais i gael ateb hirdymor.

Mae ymchwil Gofalwyr Cymru yn dangos hefyd fod y pandemig wedi effeithio'n ddifrifol ar allu gofalwyr i gymryd seibiant, sy'n effeithio ar eu hiechyd a'u lles. Mae bron i saith o bob 10 o ofalwr yng Nghymru yn dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu oherwydd diffyg seibiant wrth ofalu yn ystod pandemig COVID-19. Dywedodd 68 y cant o ofalwyr fod eu hiechyd corfforol wedi dirywio yn ystod y pandemig. Eglurodd y Dirprwy Weinidog fod y cyllid hwn ar gyfer gofal seibiant brys, yn bennaf i'r rhai hynny sydd mewn argyfwng, ac nid yw'n rhoi fawr o hyder i ni fod y Llywodraeth yn deall yn wirioneddol y pwynt canolog—y dylai gofalwyr gael seibiant fel mater o drefn, ac y dylid eu cydnabod yn briodol ym mhob cyd-destun, gan gynnwys yn ariannol.

Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro byd dros greu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol cenedlaethol di-dor, ac ailystyried ein dull o ddarparu iechyd a gofal, a chanolbwyntio ar atal. Un pwynt mynediad canolog i wasanaeth o'r fath fyddai dileu biwrocratiaeth a chaniatáu i ni ganolbwyntio ar anghenion dinasyddion. Mae'n rhaid i ni sicrhau hefyd fod gennym ni'r gallu yng Nghymru i wobrwyo gofalwyr yn briodol ac i ganiatáu gweithredu trawsnewidiol, fel y byddem yn gallu ei wneud trwy geisio'r pwerau i roi incwm gofalwr cyffredinol yn lle'r lwfans gofalwr—heb brawf modd ac sydd o leiaf yn cyfateb i lefel y lwfans ceisio gwaith—i bob gofalwr sy'n darparu mwy na 35 awr o ofal. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn? A yw'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn ei ystyried?

Rydych yn cyfeirio yn eich datganiad at y gronfa yn darparu hyblygrwydd ychwanegol, ac y bydd yn datblygu mathau mwy hyblyg ac arloesol o seibiant sydd wedi eu teilwra i angen unigol. A wnewch chi ymhelaethu ar y pwynt hwn? Rwyf i wedi clywed gan nifer o ofalwyr di-dâl am eu profiadau a'r angen i fynd trwy'r felin a llenwi pentyrrau o waith papur er mwyn cael gofal seibiant. A wnewch chi ddweud mwy wrthym am y broses a sut y gall gofalwyr di-dâl gael gafael ar wasanaethau seibiant o'r gronfa hon? Hefyd, faint o ofalwyr ydych chi'n gobeithio eu cyrraedd gyda'r gronfa hon?

Mae ffigurau'n dangos nad yw tri chwarter y gofalwyr wedi cael seibiant o gwbl. Un peth yw canmol gwaith gofalwyr di-dâl, ond faint o bobl fydd yn elwa ar y swm cymharol fach hwn o arian? A fy nghwestiwn olaf: sut y bydd cysondeb yn cael ei sicrhau wrth gyflawni'r cynllun, ac wrth ddosbarthu cyllid, yn enwedig yn absenoldeb model iechyd a gofal cymdeithasol cenedlaethol cyson, unedig, y mae Plaid Cymru wedi ei argymell ers tro byd? Diolch yn fawr.

16:20

Diolch. Diolch yn fawr am y cwestiynau yna. Croeso i'ch swydd, ac roeddwn i'n falch iawn o'ch clywed chi'n siarad am yr arwyr di-glod sy'n ofalwyr di-dâl. Rwy'n credu ein bod ni'n sicr yn rhannu'r safbwyntiau hynny.

Yn sicr, nid yw £3 miliwn yn swm enfawr o arian, ond mae hyn yn ychwanegol at bopeth arall yr ydym yn ei wneud. Nid ydym yn dechrau o'r newydd gyda £3 miliwn. Wrth gwrs, y prif wasanaethau y dylai gofalwyr di-dâl eu cael fyddai drwy wasanaethau statudol yr awdurdod lleol, ac o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mae gan ofalwyr di-dâl yr hawl i gael asesiad yn eu rhinwedd eu hunain, ac i'r awdurdod lleol ddiwallu eu hanghenion wedyn. Felly, dyna sail y gwasanaeth yr ydym yn ei roi, ac mae'r grantiau nad ydyn nhw wedi eu neilltuo sy'n dod gan Lywodraeth Cymru i fod yn benodol i fynd i'r afael â materion arbennig. Ni fyddwn i eisiau i'r Aelod feddwl mai dyma'r cyfan yr oeddem yn ei wneud ar gyfer gofal seibiant; mae hyn yn ychwanegol at bopeth arall yr ydym yn ei wneud ar gyfer gofal seibiant.

Ond rwy'n derbyn yn llwyr nad ydym ni wedi gallu cyrraedd pawb a bod angen ymdrech enfawr arnom, yn enwedig i ofalwyr di-dâl i gydnabod y gwaith y maen nhw'n ei wneud eu hunain, gan nad yw llawer o bobl yn ystyried eu hunain yn ofalwyr di-dâl. Maen nhw'n credu mai dyma'r peth naturiol i'w wneud, mai dyma eu hanwyliaid, ac felly dyma'r hyn y maen nhw'n ei wneud fel mater o gariad, mewn gwirionedd. Mae'n beth mawr, ac rwy'n credu mai un o themâu Wythnos y Gofalwyr eleni yw cydnabod gwelededd gofalwyr, ceisio gwneud gofalwyr yn fwy gweladwy fel eu bod wedyn yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael—ond yn sicr nid digon, ac rwy'n derbyn yn llwyr nad ydym yn cyrraedd pawb.

O ran y cwestiynau eraill a ofynnodd yr Aelod, rwy'n gwybod bod Plaid Cymru wedi ymrwymo i wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym ni yn ystyried fframwaith gofal cymdeithasol cenedlaethol, a byddwn yn edrych ar hyn y tymor hwn. Yn amlwg, nid yw lwfans gofalwyr wedi ei ddatganoli, felly mae hynny'n golygu nad oes gennym ni unrhyw ddulliau o ddylanwadu ar lwfans gofalwyr ar hyn o bryd.

Rydym ni yn awyddus i fod â mathau mwy hyblyg o seibiant, ac rwy'n credu bod hynny'n golygu y gallem ni helpu gofalwyr a oedd yn dymuno mynd i ddosbarthiadau celf neu rywbeth gwahanol, er enghraifft—rhywbeth nad yw'n dilyn y math traddodiadol o seibiant lle mae rhywun, efallai y person sy'n cael gofal, yn mynd i ffwrdd i aros mewn cartref am ychydig o ddyddiau. Rwyf i yn credu bod lle o hyd i'r math hwnnw o seibiant, ond i edrych ar ffyrdd eraill o gael seibiant. Er mwyn sicrhau cysondeb, rydym yn edrych, gyda Phrifysgol Bangor ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, ar system decach er mwyn i ni allu mesur y mathau o brosiectau yr ydym yn eu datblygu a gweld pa mor effeithiol ydyn nhw. Felly, rydym yn sicr yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw.

Rwy'n credu bod yr ymchwil yn bwysig iawn yn rhan o hyn. Soniais hefyd yn fy natganiad am y gwaith y mae'r Alban wedi ei wneud. Es i i'r Alban i edrych ar eu darpariaeth gofal seibiant, ac maen nhw'n gwneud llawer gyda 'respitality', gan weithio gyda'r diwydiant lletygarwch, ac fe wnaethom ni weithio gyda nhw. Maen nhw mewn gwirionedd yn rhoi £3 miliwn y flwyddyn hefyd i ymdrin â'r mathau hyn o faterion ychwanegol, felly rwy'n obeithiol y gallwn ni ddysgu ychydig mwy ganddyn nhw wrth i ni symud i mewn i hyn.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad y prynhawn yma. Alla i ddim meddwl am ffordd well o dynnu sylw at Wythnos y Gofalwyr na thrafod y gefnogaeth yr ydym ni'n ei rhoi i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Fel rhywun sydd wedi treulio ei 11 mlynedd diwethaf yn gweithio yn y GIG ac mewn partneriaeth agos â'r gwasanaethau cymdeithasol, rwy'n gwybod yn uniongyrchol y byddai ein system iechyd a gofal yn chwalu heb ofalwyr di-dâl.

Er fy mod i'n croesawu'r arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru sy'n cael ei ddyrannu i ariannu gofal seibiant yng Nghymru, mae arnaf i ofn mai dim ond diferyn yn y môr ydyw. Mae gan Gymru fwy na byddin fach o ofalwyr di-dâl, ac maen nhw 3:1 yn fwy niferus na byddin Prydain. Amcangyfrifir bod dros draean o filiwn o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn arbed tua £8 biliwn y flwyddyn i'r GIG. Yn ôl ymchwil newydd gan Carers UK, nid yw bron i dri chwarter gofalwyr Cymru wedi cael seibiant ers dechrau'r pandemig.

Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cefnogi addewid fy mhlaid y bydd pob gofalwr di-dâl yn cael seibiant? A yw Llywodraeth Cymru yn credu y bydd yr £1.75 miliwn sydd wedi ei ddyrannu i'r cam cyntaf yn ddigonol i ddiwallu anghenion gofalwyr di-dâl Cymru? A wnewch chi roi dadansoddiad o sut y caiff yr arian ei ddyrannu i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru? Nid wyf i'n disgwyl i chi ddarparu hynny heddiw, yn amlwg, ond efallai y gallech chi roi rhagor o fanylion i'r Senedd mewn datganiad ysgrifenedig yn y dyfodol.

Mae gen i ddiddordeb yn eich sylwadau ar seibiant—'respitality'. Mae'n rhaid i mi roi fy nannedd yn ôl i mewn. Pa drafodaethau y mae eich swyddogion wedi eu cael gyda'r sector lletygarwch yng Nghymru? O ystyried y colledion y mae busnesau lletygarwch Cymru wedi eu gweld dros y 15 mis diwethaf, a ydych chi'n credu y bydd hyn yn cael unrhyw effaith ar eich gallu i roi'r cynllun ar waith ledled y wlad? A ydych chi wedi trafod gweithredu cynllun yr Alban gyda'ch cyd-weinidog yn Senedd yr Alban, ac a ydych chi wedi trafod gyda Llywodraeth y DU y potensial ar gyfer cynllun ledled y DU?

Gan symud ymlaen at gefnogaeth ehangach eich Llywodraeth i ofalwyr di-dâl, er fy mod i'n croesawu'r strategaeth newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl, mae'n siomedig na fydd y cynllun cyflawni'n barod tan ddiwedd eleni. Mae angen cymorth a chefnogaeth ar ofalwyr di-dâl nawr, nid cyfres o adroddiadau a strategaethau newydd. Mae fy mhlaid i yn dymuno gweld gofalwyr di-dâl yn cael hyfforddiant am ddim a sicrhau bod pob un gofalwr yng Nghymru yn cael yr asesiad gofalwr y mae ganddyn nhw yr hawl iddo. Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod yn rhaid gwneud mwy i gefnogi ein gofalwyr di-dâl? Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynnig cyrsiau hyfforddi i ofalwyr di-dâl yng Nghymru? A ydych chi wedi trafod gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru am y ffyrdd y gall gofalwyr di-dâl hyfforddi ochr yn ochr â gofalwyr cyflogedig?

Ac yn olaf, Dirprwy Weinidog, sut ydych chi'n gweithio gydag awdurdodau lleol Cymru i sicrhau eu bod yn darparu asesiadau gofalwyr i bob gofalwr yng Nghymru? Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi dros y tymor nesaf i sicrhau y gallwn ni gefnogi ein byddin enfawr o ofalwyr di-dâl. Diolch yn fawr iawn.

16:25

Diolch. Edrychaf ymlaen hefyd at weithio gyda chi ar y brîff a rennir, a diolch yn fawr i chi am y cwestiynau y gwnaethoch eu cyflwyno.

Yn sicr, rwy'n croesawu adroddiad Gofalwyr Cymru a'r materion y mae'n eu codi, a'r ffigurau a roddwyd am nifer y bobl—gofalwyr di-dâl—na chafodd unrhyw seibiant yn ystod y pandemig. Rwy'n credu, yn amlwg, fod hynny'n destun pryder mawr. Fe wnes i, yn ystod y pandemig, gwrdd â llawer o ofalwyr di-dâl a chyfathrebu â nhw, ac yn sicr fe wnaethon nhw ddweud wrthyf am y pwysau a oedd arnyn nhw yn ystod y pandemig. Ond, yn amlwg, mae'n rhaid i ni dderbyn, fel y gwnaethon nhw, mai eu dewis nhw eu hunain ydoedd mewn llawer o achosion; eu bod yn nerfus ynglŷn â chael gofalwyr i mewn i'r cartref, er enghraifft, i'w helpu, oherwydd eu bod mor bryderus ynglŷn â'u hanwyliaid yr oedden nhw'n gofalu amdanyn nhw, nid oedden nhw eisiau creu risg o haint. Rwy'n ymwybodol iawn bod hyn wedi bod yn straen enfawr ar ofalwyr di-dâl, ac mae'n un o'r pethau ofnadwy hynny sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r pandemig. A fydd hyn yn ddigonol? Rwy'n credu i mi ateb hynny yn fy nghwestiwn cynharach—fod hwn yn ychwanegol at yr hyn yr ydym ni eisoes yn ei wneud i ofalwyr di-dâl. Mae'n debyg na fyddai byth yn ddigon, ond rydym yn sicr wedi dweud, yn ein maniffesto, ein bod yn mynd i gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, ac mae hyn yn rhan o'r hyn yr ydym yn ei wneud i gyflawni hynny.

Rwyf i wedi bod i'r Alban; rwyf i wedi trafod hyn gyda'r unigolyn yn yr Alban a oedd yn gyfrifol am y cynllun, ac rwy'n credu ei fod yn gwneud pwynt pwysig ynghylch y cynllun 'respitality'—yn sicr, gan fod y diwydiant lletygarwch wedi bod trwy gyfnod mor anodd, efallai nad dyma'r adeg orau i ganolbwyntio ar hynny. Ond dyna un o'r pethau yr ydym yn awyddus i edrych arno pan ddaw'r adeg iawn i wneud hynny. Yn sicr, o ran yr asesiadau gofalwyr, o dan y Ddeddf, mae gan bob gofalwr hawl i gael asesiad. Nid yw llawer ohonyn nhw yn manteisio ar y cyfle i gael asesiad mewn gwirionedd gan nad ydyn nhw'n credu ei fod yn angenrheidiol mewn gwirionedd, ond mae angen i ni geisio sicrhau bod ymwybyddiaeth o'r asesiadau hyn yn cael llawer mwy o gyhoeddusrwydd.

16:30

Rwy'n cymeradwyo'n fawr y gwaith yr ydych chi wedi ei wneud i gwmpasu nifer y gofalwyr ifanc, yn enwedig y rhai o dan 16 oed, sy'n amlwg yn fwyaf tebygol o gael eu methu oni bai bod ysgolion yn talu sylw. Rwy'n credu bod eich syniad o 'respitality' yn un sy'n bendant yn werth canolbwyntio arno, yn enwedig y tu allan i'r tymor gwyliau arferol. Ar hyn o bryd, yn amlwg, mae'r holl westai a lletyau gwely a brecwast yn llawn, ond yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan fydd eraill yn gweithio ac yn ôl yn yr ysgol, gallai hynny fod yn rhywbeth a fyddai'n ddiddorol iawn i'w ddilyn.

Rwyf i eisiau codi'r pwynt ynghylch gofalwyr hŷn, yn enwedig y rhai hynny a oedd yn gwneud dros 50 awr yr wythnos yn ystod y pandemig. Mae dau grŵp o etholwyr sy'n peri pryder mawr: sef y rhieni hŷn sy'n gofalu am oedolyn ag anhawster dysgu, a rhiant neu briod rhywun â dementia. Nawr, mae'r ddau grŵp hyn newydd ddioddef baich mor enfawr oherwydd y pandemig pan fo'r holl wasanaethau wedi cau, ac nid yw'r bobl hyn yn mynd i adael eu hanwyliaid oni bai bod y gwasanaethau yno i'w galluogi i adael y sawl y mae angen gofal gyda nhw—rhywun y mae'r unigolyn yna yn mynd i fod yn gyfforddus ag ef. Felly, tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy ynghylch sut y gallwn ni gyflymu'r broses o agor y gwasanaethau seibiant a gofal dydd arferol a oedd yn bodoli o'r blaen, sydd wedi bod yn eithaf araf yn dychwelyd.

Diolch yn fawr iawn i Jenny Rathbone am y cwestiynau yna, ac rwy'n gwybod ei bod wedi codi'r anawsterau y mae ei hetholwyr wedi cael profiad ohonyn nhw gyda mi droeon, yn enwedig rhieni hŷn neu rieni neu briod rhywun sy'n dioddef o ddementia, ac rwy'n ymwybodol iawn o ba mor anodd yw'r sefyllfa hon.

Yn amlwg, pan ddechreuodd y pandemig, bu'n rhaid i'r gwasanaethau gau am resymau iechyd a diogelwch, ac roedd hyn yn ergyd enfawr, mi wn, i lawer o bobl a oedd wedi llwyddo i gael trefn arferol, a gan fod eu hanwyliaid yn gallu mynd allan yn rheolaidd a dod yn ôl, roedden nhw wedi llwyddo i ymdopi, yn y bôn, a chafodd hyn i gyd ei chwalu pan darodd y pandemig. Felly, yn amlwg, yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw ceisio annog y gwasanaethau dydd yn arbennig i ailagor. Felly, er mwyn gwneud hynny, rwyf i wedi cyfarfod â chyfarwyddwyr y gwasanaethau cymdeithasol i'w hannog i ailagor y gwasanaethau dydd. Maen nhw'n dechrau agor ledled Cymru, ond mae'n dameidiog, felly rwy'n eu hannog ac yn wir yn dweud bod yn rhaid i ni agor y gwasanaethau hyn yn llwyr fel y gall pobl gael seibiant. Rwyf i hefyd wedi ei drafod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn ymwybodol iawn bod hyn yn gwbl hanfodol, sef ein bod yn cynnig y ddarpariaeth hon, fel y gall y rhieni sydd wedi ei chael yn anodd gyhyd, gael seibiant.

Daeth y cyfarfod i ben am 16:33.