Y Cyfarfod Llawn

Plenary

12/05/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 15:04 gyda Phrif Weithredwr a Chlerc y Senedd (Manon Antoniazzi) yn y Gadair. 

Rwy'n galw i drefn gyfarfod cyntaf y chweched Senedd. Fel clerc, fy nyletswydd i, o dan Reol Sefydlog 6.4, yw cadeirio'r trafodion ar gyfer ethol Llywydd. Cyn i ni ddechrau, hoffwn nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw. Nodir y rhain ar yr agenda. Hoffwn atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod hwn, ac yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr â'r rhai sydd yn ymuno drwy gyswllt fideo.

15:05
1. Ethol Llywydd o dan Reol Sefydlog 6

Eitem 1, felly: ethol y Llywydd, o dan Reol Sefydlog 6.

Eitem 1, ethol y Llywydd, o dan Reol Sefydlog 6. Felly, gwahoddaf enwebiadau, o dan Reol Sefydlog 6.6.

Diolch. Mae Lynne Neagle wedi enwebu Elin Jones. A oes gennym Aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol i eilio'r enwebiad?

Diolch yn fawr.

A oes unrhyw enwebiadau eraill?

Hoffwn enwebu Russell George ar gyfer swydd y Llywydd. Fel cyn Gadeirydd pwyllgor, mae Russ wedi profi ei fod yn deg ac yn ddiduedd. Mae Russ wedi bod yn rhan annatod o'r Senedd hon ers 10 mlynedd bellach, ac mae'r holl Aelodau'n gwybod y byddai'n gofalu am eu buddiannau yn gyfartal ac yn deg. Gobeithio y gall yr Aelodau gefnogi Russell George fel Llywydd.

Diolch. A oes gennym Aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol i eilio'r enwebiad?

Diolch, Alun Davies.

A oes unrhyw enwebiadau eraill? Mae gennym fwy nag un enwebiad. Hoffwn ofyn i bob ymgeisydd wneud cyfraniad byr, yn y drefn y cawsant eu henwebu. Elin Jones.

Diolch, gadeirydd, clerc. Dwi'n ddiolchgar am yr enwebiad ac am yr eilio, a dwi'n derbyn yr enwebiad hynny. Dwi eisiau llongyfarch pob un Aelod sydd wedi cael ei ethol yma i'r Senedd, i'r chweched Senedd. Mae nifer fawr ohonoch chi'n wynebau newydd, a dwi'n eich llongyfarch chi'n enwedig, a rhai ohonom ni wedi cael ein hethol am y chweched tro; pedwar ohonom ni, ond mae'r class of 1999 yn shrinco'n gyflym. Felly, ychydig iawn ohonom ni sydd ar ôl.

Dwi'n edrych o fy nghwmpas i a dwi'n gweld Senedd sydd wedi ei hethol sy'n teimlo'n gadarn, gyda phob un wedi ei ethol i gefnogi bodolaeth ein Senedd genedlaethol ni, a'r mwyafrif yma eisiau gweld grymuso'r Senedd hefyd.

Yr wythnos diwethaf, gosododd pobl Cymru eu hawdurdod ar eu Senedd. Bydd y chweched Senedd hon yn rhydd i ganolbwyntio ar y gwaith sydd i'w wneud, heb ddim i dynnu ei sylw'n ddiangen. Fel eich Llywydd, hoffwn alluogi craffu cadarnach ar y Llywodraeth, hoffwn sicrhau gwell cyfleoedd ar gyfer cyfraniad y meinciau cefn o bob plaid, a hefyd archwilio pob math o ffyrdd y gallwn weithio mewn ffyrdd newydd, arloesol.

Etholiad rhwng cymdogion yw'r etholiad hwn ar gyfer swydd y Llywydd—Aelod Sir Drefaldwyn ac Aelod Ceredigion. Rwy'n tybio y byddem, mewn dyddiau a fu, wedi datrys hynny drwy ornest ar doriad gwawr ar fynyddoedd Pumlumon, ond mae hyn yn teimlo'n llawer mwy diogel a bydd y ddau ohonom byw i adrodd yr hanes, Russell.

Felly, byddai'n fraint cael gwasanaethu fel eich Llywydd yn y Senedd hon. Ac fe ddywedaf hyn am y tro olaf un y mis Mai hwn: pleidleisiwch drosof fi os gwelwch yn dda.

Diolch, Gadeirydd. A gaf fi ddiolch i'm cymydog am y sylwadau caredig hynny? A gaf fi ddiolch i Laura Anne Jones am yr enwebiad, ac i Alun Davies am eilio'r enwebiad? Rwy'n falch iawn o dderbyn yr enwebiad hwnnw y prynhawn yma.

Os caf fy ethol yn Llywydd, gall yr Aelodau fod yn sicr y bydd yr holl benderfyniadau wedi'u gwreiddio yn y Rheolau Sefydlog. Gallaf ddweud yn sicr yr hoffwn feddwl y gallai holl Aelodau Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau dystio i'r ffordd annibynnol a diduedd y gweithredais fel Cadeirydd. Fel Llywydd, buaswn yn arfer annibyniaeth drwyadl wrth ymdrin â materion yn y Senedd hon; ni fyddaf yn mynychu cyfarfodydd grŵp y Ceidwadwyr os caf fy ethol yn Llywydd.

Nid oes gennyf agenda wleidyddol, ar wahân i wasanaethu'r Aelodau'n gyfartal ac yn deg, a byddaf yn parchu barn yr Aelodau ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd nesaf gyda diwygiadau etholiadol posibl. Nid wyf am rwystro newid, ond ni fyddaf ychwaith yn sbardun i'r newid hwnnw. Gwnaf fwy i sicrhau rôl i lais Aelodau'r meinciau cefn. Ceisiaf gynyddu nifer y cynigion ar gyfer deddfwriaeth gan Aelodau preifat, a ddisgynnodd yn sylweddol yn ystod y pedwerydd a'r pumed Senedd, a bwriadaf gynyddu nifer y slotiau siarad i Aelodau meinciau cefn y Llywodraeth yn enwedig mewn dadleuon.

Nid yw'r grŵp Ceidwadol erioed wedi cael neb yn rôl y Llywydd a dim ond unwaith y cafwyd Dirprwy Lywydd o'u plith. Rhaid i'r Senedd hon fod yn fwy cynhwysol, yn enwedig gan mai ni, yn amlwg, yw'r ail blaid yn y Siambr hon. Rwy'n credu bod pob Senedd yn wahanol ac mae angen adlewyrchu hyn ym mhob Senedd hefyd. Felly, os caf fy ethol yn Llywydd, rwy'n addo na fyddaf yn sefyll am ail dymor. Gobeithio y gwnaiff yr Aelodau roi ystyriaeth ddifrifol i fy nghefnogi yn y bleidlais y prynhawn yma.

15:10

Diolch. Rwyf am atal y cyfarfod yn awr i gynnal y bleidlais gyfrinachol. Bydd y pleidleisio'n digwydd yn y Neuadd. Ni fydd y bleidlais yn cau hyd nes y bydd yr holl Aelodau sy'n bwriadu pleidleisio wedi gwneud hynny. Bydd yr Aelodau yn y Siambr yn mynd i bleidleisio yn gyntaf, ac yna'r Aelodau o swyddfeydd ar yr ail lawr, ac yn olaf, y trydydd llawr yn Nhŷ Hywel. Arhoswch wrth eich desgiau nes i chi gael eich galw i bleidleisio. Bydd tywyswyr yn helpu i gyfeirio'r Aelodau i'r Neuadd. Mae canllawiau pellach ar gyfer y broses hon wedi'u hamlinellu yn y ddogfen a ddosbarthwyd i'r Aelodau, a gofynnaf i'r Aelodau atgoffa eu hunain o'r canllawiau hynny.

Fel clerc, fi sy'n gyfrifol am oruchwylio'r pleidleisio a'r cyfrif. Ar ôl gorffen cyfrif y bleidlais gyfrinachol, cenir y gloch fel y gallwn ailymgynnull yn y Siambr ac ar Zoom ar gyfer cyhoeddi'r canlyniad. Rwy'n atal y cyfarfod yn awr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:11.

Ailymgynullodd y Senedd am 15:50, gyda Manon Antoniazzi yn y Gadair.

15:50

Trefn. Dyma ganlyniad y bleidlais gyfrinachol: Elin Jones 35 pleidlais, Russell George 25 pleidlais, neb yn ymatal, cyfanswm 60. Rwyf felly'n datgan, yn unol â Rheol Sefydlog 6.9, fod Elin Jones wedi cael ei hethol yn Llywydd y Senedd. Byddaf yn atal y cyfarfod am gyfnod byr cyn i'r Llywydd ddod i'r Gadair. [Cymeradwyaeth.]

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:51.

Ailymgynullodd y Senedd am 15:53, gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

Dyma ni'n ailddechrau'r cyfarfod, felly. Diolch ichi i gyd am y gefnogaeth ac am gael fy ethol yn Llywydd unwaith eto. Diolch yn fawr iawn. 

2. Ethol Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog 6

Rŷn ni nawr, felly, yn symud at ethol y Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau atgoffa'r Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 6.12, mai dim ond os yw'r enwebiadau o grŵp gwleidyddol gwahanol i fi ac o grŵp sydd â rôl Weithredol y bydd yr enwebiadau yn ddilys ar gyfer Dirprwy Lywydd. Felly, rwy'n gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 6.6 ar gyfer swydd y Dirprwy Lywydd. A oes enwebiad? Joyce Watson.

Mae David Rees wedi ei enwebu. A oes gennym ni Aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol i eilio'r enwebiad yna?

Rwy'n eilio David Rees, fel Aelod sydd â phrofiad helaeth iawn o fod yn cadeirio pwyllgorau yn y Senedd yma a hefyd sydd â rhinweddau personol i gyflawni'r swydd yn hynod effeithiol, dwi'n siŵr. Diolch.

15:55

[Anghlywadwy.]—rwy'n ceisio dod i mewn. Hefin David. Hoffwn enwebu Hefin David.

Rydych chi i mewn, Dawn Bowden; peidiwch â phoeni. Mae'r enwebiad wedi'i glywed.

A oes gennym ni Aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol i eilio enwebiad Hefin David?

Diolch yn fawr. A oes unrhyw enwebiadau eraill ar gyfer y Dirprwy Lywydd? Unrhyw un ar Zoom? Na. Dwi ddim yn meddwl bod yna fwy na'r ddau enwebiad yna. Gan fod gyda ni ddau enwebiad, dwi eisiau cymryd y cyfle i ofyn i'r ddau ymgeisydd i wneud cyfraniad byr yn y drefn y cawsant eu henwebu. David Rees yn gyntaf.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i'r rhai a enwebodd ac a eiliodd fy enwebiad i'r swydd? Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr ac yn derbyn yr enwebiad.

Mae'n debyg bod yr Aelodau yma—mae dwy ran o dair ohonoch yn gwybod pwy ydw i ac yn gwybod am fy mhrofiad. I'r traean arall, nid wyf yn eich adnabod, ond byddaf yn dod i'ch adnabod, ym mha ffordd bynnag, yn ystod y pum mlynedd nesaf, ac rwy'n siŵr y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd yn dda. Bydd y rhai sy'n fy adnabod yn deall fy mod wedi bod yn ffodus i fod yn Gadeirydd yn ystod y ddau dymor y bûm yn y Senedd, ac rwy'n gobeithio fy mod wedi dangos, yn ystod y cyfnod hwnnw, pa mor deg wyf fi a fy ngallu i sicrhau bod pob Aelod yn cael cyfle i graffu ar bwy bynnag sydd ger ein bron a sicrhau bod Llywodraethau'n cael eu dwyn i gyfrif a bod y bobl sy'n cyflawni dros Lywodraethau yn cael eu dwyn i gyfrif—oherwydd dyna yw ein rôl ni fel Senedd.

Ein rôl yw sicrhau bod y Llywodraeth yn dweud wrthym ac yn cael ei dwyn i gyfrif gennym am yr hyn a wnânt a'r polisïau y maent yn eu gweithredu. Yn y Senedd ddiwethaf, pan oeddwn yn cadeirio'r pwyllgor materon allanol, bydd y rhai a oedd yno'n deall inni wneud yn glir ein bod yn sicrhau bod y lle hwn, y Senedd, yn ganolog i bopeth y dylem fod yn ei wneud. Mae hynny'n gweithio gyda Seneddau eraill hefyd, ac mae hynny'n hollbwysig wrth inni symud ymlaen.

Pan oeddwn yn gofyn am gefnogaeth ar gyfer y swydd hon, gofynnwyd i mi, 'Pam ydych chi am wneud hyn?', 'Pam nad ydych chi eisiau bod yn Gadeirydd, fel rydych chi wedi bod, a bwrw ymlaen â pholisïau?' Ystyriais hynny'n ofalus a meddwl, 'Mewn gwirionedd, rydych chi'n llygad eich lle; mae'n dda iawn bod yn Gadeirydd a chraffu ar waith y Llywodraeth.' Ond wedyn, fe gofiais mewn gwirionedd fod y rôl hon yn caniatáu i mi sicrhau bod gan bob Cadeirydd, pob Aelod, allu i graffu'n effeithiol ar y Llywodraeth ac i ddatblygu'r gwaith craffu hwnnw. Rwyf am sicrhau y gallwn wneud hynny. Wrth inni symud ymlaen ac wrth inni fwrw ymlaen â'r diwygiadau a ddechreuwyd gennym yn y Senedd ddiwethaf a pharhau â hwy, rwyf am sicrhau ein bod yn gwella'r Senedd hon i wneud yn siŵr y gall graffu'n effeithiol ar y Llywodraeth, y gall sicrhau ein bod yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif pan fyddant yn gwneud pethau'n anghywir, ac yn canmol y Llywodraeth pan fyddant yn gwneud pethau'n iawn. Dyna yw rôl y Senedd. Rydym yn cynrychioli pobl a wnaeth ymddiried ynom ddydd Iau diwethaf i wneud yn union hynny, a dyna beth rwyf am sicrhau ein bod yn ei wneud.

Fel Dirprwy Lywydd, byddaf yn gweithio'n agos gyda'r Llywydd, gobeithio, ond hefyd yn bwrw ymlaen â'r agenda o ran sut y gallwn ymestyn yr amrywiaeth sydd gennym yma. Rwy'n falch iawn o weld bod gennym y wraig groenliw gyntaf yma, a'i thad oedd y dyn croenliw cyntaf yma, ond dylem ymestyn hynny. Ni ddylech fyth fod yr un olaf. Rydym eisiau rhagor. Ein gwaith ni yw creu mwy o amrywiaeth yn yr hyn sydd yma nawr, a'i ymestyn.

Ac edrych hefyd ar yr agenda ieuenctid. Daeth y Llywydd â'r Senedd Ieuenctid i mewn yn y Senedd ddiwethaf. Roeddem i gyd yn ei chymeradwyo, ond dim ond 40 y cant yn fy etholaeth i a gofrestrodd i bleidleisio, o blith pobl ifanc 16 ac 17 oed. Mae angen inni ymgysylltu, a chredaf mai rhan o rôl y Dirprwy Lywydd fydd gweithio gyda'r Llywydd i gael yr ymgysylltiad hwnnw, er mwyn datblygu'r lle hwn fel ein bod yn adeiladu Senedd am genedlaethau i ddod.

Bûm yn darllen y dogfennau gan Laura McAllister a 'Senedd sy'n Gweithio i Gymru'. Dyna'r rôl sydd gennym. Rhaid inni adeiladu Senedd sy'n gweithio i Gymru. A thynnodd pwyllgor Dawn Bowden ar ddiwygio'r Senedd sylw at yr un peth. Os nad oes ots gennych, rwyf am ddyfynnu o'i hadroddiad. Ei rhagair hi ydyw—felly, Dawn, eich geiriau chi yw'r rhain:

'Mae’r pwerau a ddatganolwyd gan Ddeddf Cymru 2017 dros drefniadau etholiadol a sefydliadol y Senedd yn cynnig cyfleoedd i ni adfywio cyfranogiad yn ein prosesau democrataidd, a sicrhau bod gan ein Senedd y capasiti y mae arni ei angen i wasanaethu pobl a chymunedau Cymru.'

Y bobl a'r cymunedau a'n hetholodd ddydd Iau diwethaf i'w cynrychioli. Dyna'r hyn rwyf am ei weld yn digwydd, ac fel Dirprwy Lywydd rwyf am weithio gyda'r Llywydd i wneud yn siŵr y gallwn gyflawni'r nod hwnnw, er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn falch o'r sefydliad hwn a'i fod yn cyflawni dros bawb yng Nghymru. Diolch.

16:00

Diolch, Llywydd, a llongyfarchiadau ar eich etholiad fel Llywydd.

Hoffwn fwrw ymlaen o ble y gorffennodd Dave Rees. Os edrychwn o gwmpas y Siambr hon, rwy'n credu bod y bobl yn y Siambr hon yn cynrychioli pobl Cymru'n well na'r hyn a welsom mewn etholiadau blaenorol o bosibl. Credaf mai'r etholiad cyffredinol hwn oedd yr etholiad gwirioneddol Gymreig cyntaf; dyma oedd yr etholiad cyntaf yng Nghymru lle gwelsom bleidlais i Brif Weinidog Cymru ac nid llygad ar yr hyn a oedd yn digwydd yn Llundain. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni gydnabod hynny a'n bod yn cydnabod ein mandad. Ond os ydych chi'n mynd i gael mandad, os oes gennych fandad, mae angen llais arnoch hefyd, ac mae'n rhaid clywed pob un o'r lleisiau yn y Siambr hon.

Fel y mae Dave Rees newydd ei ddweud, rwy'n credu'n gryf fod arnom angen Senedd sy'n gweithio i Gymru ac sy'n gweithio i'n pobl. Mae llawer yn adroddiad Laura McAllister sy'n haeddu trafodaeth, ond yr unig ffordd y cawn yr adroddiad hwnnw yn ôl ar yr agenda yw os cynhaliwn y drafodaeth honno ar draws y Siambr hon a'i fod yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n cynnwys pob grŵp ac yn ceisio dod o hyd i gonsensws lle bo'n bosibl. Credaf mai fi sydd yn y sefyllfa orau i ddod o hyd i'r consensws hwnnw a chredaf mai fi sydd yn y sefyllfa orau i ddod â phobl at ei gilydd ar draws y Siambr hon mewn ffordd na ddigwyddodd yn y pumed Senedd flaenorol.

Roedd gwendidau yn y pumed Senedd sydd wedi cael eu dileu'n rhannol gan yr etholwyr yn fy marn i, ond rwy'n dal i gredu bod angen newid rhai pethau. Rwyf am sefyll dros atebolrwydd, diwygio a thegwch. Atebolrwydd y Llywodraeth i weld bod Aelodau'r meinciau cefn—. Bûm yn Aelod o'r meinciau cefn am bum mlynedd, a credwch fi, rwy'n gwybod am y rhwystredigaethau y gallwch eu teimlo ar y meinciau cefn wrth geisio dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Rwyf am alluogi Aelodau'r meinciau cefn a'r gwrthbleidiau i gymryd rhan mewn ffordd nad ydynt erioed wedi gallu ei wneud o'r blaen yn y Siambr hon. Drwy weithio gyda'r Llywydd, credaf y gallwn gyflawni hynny. A buaswn yn dweud bod gennyf berthynas dda iawn gyda'r Llywydd. Cawsom sgwrs cyn yr etholiad hwn, fel y cafodd Dave Rees rwy'n siŵr, ac a bod yn deg, ni ddywedodd wrthym i bwy roedd hi'n bwriadu pleidleisio, sy'n beth da mae'n debyg, ond yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n gilydd yw sicrhau bod diwygio'n digwydd. Rwy'n sefyll dros y diwygio hwnnw.

Rwyf am i Aelodau'r meinciau cefn gael llais, ac un o'r ffyrdd o wneud hynny yn fy marn i yw atebion byrrach gan Weinidogion, a'r ffordd orau o gael atebion byrrach gan Weinidogion yw cwestiynau byrrach gan Aelodau. Credaf y gallwn fynd ymhellach i lawr y papur trefn er mwyn i'r bobl ar y meinciau hyn—y meinciau hyn fan yma—gael eu clywed.

Ond y peth pwysicaf oll yw tegwch, ac er mwyn sicrhau tegwch, credaf fod yn rhaid inni wneud yn siŵr fod pob Aelod yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn dda, fod rhagor o'r Aelodau'n teimlo eu bod yn cael eu trin yn deg. Mae angen deialog i allu gwneud hynny. Un o'r pethau y byddwn yn ei wneud ar unwaith yw cael deialog gyda'r Aelodau hynny i drafod sut rydym am symud ymlaen. Rwyf fi wedi dod â llyfr gyda mi hefyd, 'Rheolau Sefydlog Senedd Cymru'. Credaf mai dyma'r rheolau y mae'n rhaid inni lynu atynt er mwyn llywodraethu'r Siambr hon yn effeithiol. Ond peidio â glynu at y rheolau os teimlwn nad ydynt yn gweithio. Dywed llawer yn y Siambr hon fod yna Reolau Sefydlog yn y llyfr hwn sy'n galw am eu newid, a chredaf mai dyna'r cam nesaf yn ein deialog.

Nid wyf yn chwilio am unrhyw swydd arall; dim ond am swydd y Dirprwy Lywydd rwy'n ymgeisio. Os caf fy ethol yn Ddirprwy Lywydd, byddaf yn camu'n ôl o'm gallu i siarad ar y meinciau cefn hyn. Credaf y bydd hynny'n lleihau fy llais yn y Siambr hon—rhywbeth y byddaf yn gweld ei golli'n fawr—ond dyna'r lleiaf y gallwch ei ddisgwyl gennyf er mwyn sicrhau fy mod yn ddiduedd.

Diolch i'r ddau ymgeisydd. Bydd y cyfarfod nawr yn cael ei atal dros dro i gynnal pleidlais gyfrinachol unwaith eto. Bydd y pleidleisio'n digwydd yn y Neuadd ac ni fydd y bleidlais yn cau tan fod pob Aelod sy'n bwriadu pleidleisio wedi gwneud hynny. Bydd yr Aelodau yn y Siambr unwaith eto'n pleidleisio'n gyntaf, ac yna Aelodau o swyddfeydd yr ail lawr, ac yn olaf, y trydydd llawr yn Nhŷ Hywel. Mae canllawiau pellach ar gyfer y broses hon wedi'u hamlinellu yn y ddogfen a ddosbarthwyd i Aelodau, a dwi eisiau atgoffa'r Aelodau i atgoffa eu hunain am y canllawiau hynny. Y clerc, eto, sy'n gyfrifol am oruchwylio'r pleidleisio a'r cyfrif. Ar ôl i gyfrif y bleidlais gyfrinachol orffen, bydd y gloch yn cael ei chanu am y tro olaf fel y gallwn ailymgynull yn y Siambr ac ar Zoom ar gyfer cyhoeddi'r canlyniad hynny. Rwyf i nawr, felly, yn atal y cyfarfod dros dro.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:04.

16:45

Ailymgynullodd y Senedd am 16:46, gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

Croeso nôl, a dyma ganlyniad y bleidlais ar gyfer y Dirprwy Lywydd: David Rees 35 o bleidleisiau, a Hefin David 24 o bleidleisiau. Ac felly, dwi'n datgan, yn unol â Rheol Sefydlog 6.9, bod David Rees wedi cael ei ethol yn Ddirprwy Lywydd y Senedd yma am y cyfnod nesaf. [Cymeradwyaeth.] Llongyfarchiadau, David.

3. Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8

Felly, y darn nesaf o fusnes yw i wahodd enwebiadau ar gyfer y Prif Weinidog. Ond, yn gyntaf, yn unol â Rheol Sefydlog 12.11, y cynnig yw i wahodd enwebiadau ar gyfer y Prif Weinidog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r eitem yma o fusnes? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad, ac felly, gwnaf i ofyn: a oes unrhyw enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog? Rebecca Evans.

Diolch yn fawr. Mark Drakeford wedi ei enwebu. A oes unrhyw enwebiad arall? Nac oes, does yna ddim. Ac felly, yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, dwi'n datgan bod Mark Drakeford wedi ei enwebu yn Brif Weinidog Cymru. Yn unol ag adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, byddaf i'n argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi Mark Drakeford yn Brif Weinidog Cymru. Ac rwy'n gwahodd Mark Drakeford i annerch ein Senedd. Mark Drakeford. [Cymeradwyaeth.]

Wel, Llywydd, diolch yn fawr, a diolch yn fawr i bob Aelod o'r Cynulliad. Llywydd, a gaf i ddechrau drwy eich llongyfarch chi a'r Dirprwy Lywydd newydd ar gael eich ethol? A diolch yn fawr hefyd, wrth gwrs, i Russell George a Hefin David am sefyll am y swyddi pwysig o flaen y Senedd. Hoffwn hefyd longyfarch holl Aelodau'r Senedd, yn enwedig yr Aelodau newydd; edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyd dros y pum mlynedd nesaf.

Mae hwn wedi bod yn etholiad eithriadol. Rwy'n falch iawn bod pobl ifanc 16 ac 17 oed wedi gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn yr etholiad hwn, diolch i gyfraith a phasiwyd yn y Siambr hon. Yn awr, mae'n bryd i bob un ohonom ddefnyddio'r mandad sydd gennym i roi ar waith y syniadau y bu inni ymgyrchu arnynt—to 'Move Wales Forward'—i 'Symud Cymru Ymlaen'. A dyna yw'r man cychwyn ar gyfer fy sylwadau heddiw.

Rydym yn dal i fod mewn pandemig sydd wedi bwrw cysgod mor fawr ar ein bywydau. Mae wedi ymestyn ein gwasanaeth iechyd a'r bobl sy'n gweithio ynddo. Mae wedi niweidio bywydau ac effeithio ar fywoliaeth pobl. Bydd y Llywodraeth Lafur Cymru hon yn parhau i fynd i'r afael â'r coronafeirws yn y ffordd ofalus rydym wedi ei wneud hyd yma: trwy ddilyn y wyddoniaeth a diogelu'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau. A byddwn yn arwain Cymru i adferiad fydd yn adeiladu dyfodol cryfach, gwyrddach a thecach i bawb. Ni fydd neb yn cael ei ddal yn ôl, ac ni fydd neb yn cael ei adael ar ôl. Rwy'n gwneud yr addewid hwn i'r Senedd heddiw yn sesiwn gyntaf y tymor newydd hwn: byddaf yn arwain Llywodraeth Lafur Cymru, ond byddwn yn llywodraethu mewn ffordd sy'n ceisio consensws ac a fydd yn ystyried syniadau newydd a blaengar, o ble bynnag y daw y rheini. Syniadau a all wella dyfodol pobl Cymru—o air glân i incwm sylfaenol cyffredinol, ac i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu prisio allan o gymunedau sy'n siarad Cymraeg. 

Lywydd, ar yr holl faterion hyn, ac eraill hefyd, Llywodraeth fydd hon sy'n gwrando ac yn cydweithio ag eraill lle mae tir cyffredin i'w ganfod rhyngom. Ac mae'r penderfyniad hwnnw i weithio gydag eraill yn ymestyn y tu hwnt i'r Siambr hon, wrth gwrs—i'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ledled Cymru, i gymunedau ac i bobl ledled ein cenedl. Byddwn yn dyfnhau'r bartneriaeth gymdeithasol a ddatblygwyd gennym dros y ddau ddegawd diwethaf drwy ei rhoi mewn cyfraith, a'i defnyddio i ganolbwyntio ar adferiad a'r gwaith y mae angen inni ei gyflawni i wneud Cymru'n lle sy'n wirioneddol addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. A byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraethau eraill hefyd, ledled y Deyrnas Unedig, lle bynnag y cynhelir y berthynas honno gyda pharch cydradd.

Lywydd, fy ngwaith i yw sefyll dros Gymru, ac ni fyddaf byth yn camu'n ôl rhag gwneud hynny pan fydd yr angen yn codi, ond fy man cychwyn fydd arwain Llywodraeth sy'n adeiladol, yn weithredol ac yn bartner cadarnhaol i ymateb i'r heriau nad ydynt, ac nad ydynt erioed wedi dod i ben ar ein ffiniau. A bob amser, wrth gwrs, byddaf yn atebol i'r Senedd hon, a thrwy bob un ohonoch chi, i bobl Cymru. 

Lywydd, rwy'n credu ein bod yn ffodus iawn yn y chweched Senedd hon fod pobl yng Nghymru, fel y dywedoch chi'n gynharach, wedi dewis dychwelyd Aelodau yma sydd y tro hwn yn rhannu o leiaf un peth sylfaenol yn gyffredin, yn fwy na dim byd arall, ac ar draws y gwahanol bleidiau. Credaf fod gan bawb yma ymrwymiad cyffredin i newid bywydau pobl er gwell, i wireddu potensial y genedl wych ac unigryw hon, ac i ddefnyddio'r sefydliad hwn fel ffordd o sicrhau mai dim ond pobl sy'n byw yng Nghymru sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio'n unig ar bobl yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyd dros y pum mlynedd sydd o'n blaenau. Diolch yn fawr.

16:50

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy eich llongyfarch ar fod yn Llywydd y chweched tymor seneddol, a hefyd David Rees ar fod yn Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r ddau Aelod arall o'r Senedd a sicrhaodd fod pleidlais yn digwydd, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig fod gweithredu democrataidd yn gosod y cywair o ran sut rydym am i'r trafodion hyn fynd rhagddynt yr holl ffordd drwy'r chweched Cynulliad hwn? A gaf fi hefyd ddiolch i bawb a ganiataodd i'r etholiad ddigwydd neu a helpodd i ganiatáu i'r etholiad ddigwydd? Gwta ddau neu dri mis yn ôl roeddem yn trafod deddfwriaeth a oedd, gydag argyfwng COVID, yn codi amheuon ynglŷn ag a fyddem wedi cael etholiad, ac mae angen i ddemocratiaeth ailfywiogi ei hun a dod yn realiti. Ac efallai ei bod yn ymddangos braidd yn rhyfedd i ddweud 'diolch', ond fe ddigwyddodd, ac fe ddigwyddodd mewn ffordd gadarnhaol sydd wedi dychwelyd Cynulliad/Senedd yma heddiw gydag Aelodau newydd, yn fy ngrŵp fy hun ac ar draws y Siambr, yn enwedig y bron i draean o Aelodau o'r Senedd sy'n Aelodau newydd yn y sefydliad hwn, ac mae'n rhaid bod hynny'n beth da.

Hoffwn longyfarch Natasha Asghar hefyd, y ddynes groenliw gyntaf i ddod i'r Siambr hon, ac rwy'n siŵr y bydd llawer yn dilyn ôl ei throed, yn union fel ei thad hefyd. A gallwn fod yn falch o'r gynrychiolaeth sydd yma, yn estyn allan ar draws y Siambr, ar draws pob plaid, a gweld y gwaed newydd a ddaeth i mewn ynghyd â'r gwaed sy'n dychwelyd sydd, yn gyffredinol, â buddiannau gorau Cymru yn eu calonnau.

Rydym yn wlad entrepreneuraidd a dynamig, ac ni ddylem byth fychanu ein hunain, dylem bob amser ganmol ein hunain. A chredaf y gall gwleidyddion o bob lliw ddod at ei gilydd a chydweithio, a chlywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am adeiladu consensws. Bydd gwahaniaethau rhyngom, ond ceir meysydd lle gallwn weithio—y Ddeddf aer glân, er enghraifft, y goedwig genedlaethol newydd y soniwch amdani yn eich maniffesto, Brif Weinidog, a hefyd y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol y siaradwch amdano hefyd. Ar y ddeddfwriaeth, y Ddeddf amaethyddol rydych wedi siarad amdani yn ogystal, sy'n bwysig i lawer o gymunedau gwledig. Felly, mae yna feysydd y gallwn gydweithio arnynt. Bydd yna feysydd lle byddwn yn gwrthdaro, ond fe fyddwn yn wrthblaid adeiladol, oherwydd mae'n hanfodol bwysig, wrth inni ddod allan o COVID—ac rwy'n defnyddio'r geiriau 'dod allan o COVID', oherwydd rydym yn dal i ddod allan ohono, yn hytrach nag edrych yn ôl ac anghofio amdano.

Mae gwaith mawr i'w wneud ym maes addysg, yn yr economi ac yn y gwasanaeth iechyd yn enwedig, sydd wedi cael ei daro i'r fath raddau dros y 12, 14 mis diwethaf, ac mae llawer o'r gweithwyr rheng flaen wedi gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd wedi gweithio a wynebu'r her, ac mae taer angen cefnogaeth y Llywodraeth ar y staff ar y rheng flaen, ond gwleidyddion hefyd, fel y gallwn wneud cynnydd a lleihau'r amseroedd aros ac adfywio ein cynnig addysg yma yng Nghymru, y bu cymaint o darfu arno a chymaint o niwed wedi'i wneud iddo, yn anffodus, dros y 12, 14 mis diwethaf, ac mae hynny'n parhau i ddigwydd, oherwydd, yn amlwg, mae'r addysg honno wedi'i cholli, ac mae'n bwysig fod y Llywodraeth yn cyflwyno eu cynigion mewn modd amserol—ar yr economi yn ogystal, oherwydd gwyddom am yr heriau sy'n gysylltiedig â'r economi yn enwedig gyda'r cynllun ffyrlo yn dod i ben yn yr hydref, a bod pob ysgogiad gan y Llywodraeth yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod economi Cymru'n codi allan o'r hyn a fu'n brofiad erchyll iawn.

Ond rydym yn rhoi ein hymrwymiad fel gwrthblaid i weithio'n adeiladol lle gallwn, ond byddwn yn cyflawni ein dyletswydd fel gwrthblaid i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif am ei gweithredoedd ac yn ceisio gwella'r ddeddfwriaeth lle gallwn wneud hynny. Ond mae dau faes y credaf fod taer angen eu mapio gan y Prif Weinidog, wrth iddo gyhoeddi ei Gabinet yfory. Mae'r Prif Weinidog wedi nodi mai dim ond am gyfnod cyfyngedig y bydd yn ei swydd, dwy i ddwy flynedd a hanner, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod ni fel gwleidyddion, yn ogystal â dinasyddion Cymru, yn deall sut y bydd hynny'n effeithio ar weithredu'r maniffesto a'r gwaith ar ymrwymiadau'r maniffesto. Ac yn ail, gyda'r cyhoeddiad yn San Steffan fod yr ymchwiliad COVID i ddechrau yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf, bydd llawer o bobl yng Nghymru am ddeall beth fydd rôl Cymru yn yr ymchwiliad hwnnw, ond yn bwysig, ynglŷn â datblygu ymchwiliad yma yng Nghymru. Edrychaf ymlaen yn yr wythnosau nesaf at glywed y cyngor, yr arweiniad y mae'r Llywodraeth yn ei gyhoeddi ynghylch y camau y byddant yn eu cymryd ar yr economi, ar addysg ac iechyd, ac yn anad dim ar sicrhau bod Cymru, ar ddiwedd y tymor pum mlynedd hwn, gyda'i gilydd, drwy gydweithio, yn lle gwell na'r hyn rydym wedi dechrau ag ef, a'n bod yn manteisio ar yr ysbryd entrepreneuraidd, y ddynameg sy'n bodoli ym mhob cymuned ledled Cymru i ryddhau'r potensial y gwyddom amdano—dyma'r rhan fwyaf gwych o'r Deyrnas Unedig. Diolch, Lywydd.

16:55

Diolch, Llywydd, a gaf i ddechrau trwy eich llongyfarch chi ar gael eich ethol fel Llywydd? Mae'n dda i weld aelod o Blaid Cymru yn ennill o leiaf un etholiad y prynhawn yma, ond gaf i hefyd estyn yr un llongyfarchiadau i David Rees, ac, wrth gwrs, estyn fy llongyfarchiadau gwresog i Mark Drakeford ar gael ei gadarnhau fel Prif Weinidog y prynhawn yma? Fel y dywedais i ar ôl canlyniad yr etholiad, gwnaeth Mark Drakeford sicrhau mandad i arwain Llywodraeth Cymru dros y cyfnod sy'n dod, a hoffwn i yn ddiffuant ddymuno yn dda iddo fe wrth ddelio â heriau a chyfleoedd y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

O safbwynt Plaid Cymru, dwi'n hynod falch o'r tîm egnïol ac ymroddedig sydd gennym ar ein meinciau ac yn ymuno â ni'n rhithiol heddiw, wrth gwrs, a'r syniadau newydd a blaengar fyddan nhw'n dod â nhw i'r chweched Senedd ac i wleidyddiaeth Cymru yn fwy cyffredinol. Dwi am gymryd y cyfle hefyd i dalu teyrnged ac i ddiolch i Leanne Wood, Helen Mary Jones, Dai Lloyd a Bethan Sayed am eu gwaith a'u gwasanaeth cyhoeddus dros nifer o flynyddoedd i wasanaethu eu cymunedau a democratiaeth Cymru. Bydd y chweched Senedd yn dlotach lle hebddyn nhw. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio gyda fy nghyd-Aelodau wrth inni barhau i adeiladu'r achos dros annibyniaeth ac, wrth gwrs, i barhau i graffu, yn adeiladol ond yn gadarn, ar ymateb COVID Llywodraeth Cymru wrth inni symud i gyfnod adfer o'r pandemig. Byddwn ni'n edrych am bob cyfle i weithio yn y Siambr yma a thu allan iddi i weithredu ein rhaglen drawsnewidiol ac i fod yn llais i obeithion a dyheadau'r cymunedau sydd wedi ein hethol ni yma i'w cynrychioli nhw. 

Mae'n teimlo fel petawn ni'n dychwelyd i Senedd sydd yn fwy hyderus yn ei chroen ei hun, ac mae'r Senedd sydd wedi ei hethol yn dangos bod pobl Cymru wedi pleidleisio o fwyafrif llethol o blaid hunanlywodraeth, ac wedi rhoi ei ffydd mewn Llywodraeth Gymreig a Senedd Gymreig i wneud y penderfyniadau pwysicaf am eu bywydau, gan gynnwys eu cadw nhw'n ddiogel a gwarchod eu hiechyd. Safodd y Prif Weinidog ar blatfform oedd yn dweud bod y Deyrnas Unedig ar ben a bod angen ailstrwythuro a diwygio cyfansoddiadol pellgyrhaeddol, gyda mwy o bwerau i Gymru. Dyna ei fandad, a byddwn ni'n ei ddal i'r ymrwymiad yna. Dim ond ddoe gwelson ni Michael Gove yn gwrthod yr alwad am home rule, ymreolaeth, er gwaethaf y bleidlais o hyder gan bobl Cymru yn y lle yma. Megis dechrau mae ymosodiad San Steffan ar ddatganoli. Wrth i'r Deyrnas Unedig ddatgymalu dros y blynyddoedd sy'n dod, rydyn ni ym Mhlaid Cymru mor grediniol ag erioed bod angen Cymru newydd, Cymru unedig, Cymru rydd, Cymru gydradd, lle bydd dyfodol Cymru yn nwylo Cymru, a dyma'r gwir lw rydyn ni fel Aelodau o Blaid Cymru wedi tyngu wrth gymryd ein seddi yn ein Senedd genedlaethol fan hyn.  

Mae Senedd sy'n gwbl gytbwys rhwng y Llywodraeth a'r wrthblaid yn gwneud cydweithrediad gwleidyddol ar draws ffiniau pleidiau nid yn unig yn ddymunol ond yn angenrheidiol, ac rydym yn barod, ym Mhlaid Cymru, i ddod o hyd i dir cyffredin er budd y bobl sydd wedi ethol pob un ohonom i'r Senedd hon. Byddwn yn gweithio gyda'r Llywodraeth lle bo'n bosibl, a chyda'r gwrthbleidiau lle bo angen, mewn ysbryd o Gymru unedig, lle mae'r pethau sy'n ein huno yn aml yn llawer pwysicach, yn llawer mwy parhaus, na'r pethau sy'n ein rhannu.

Mae'r Prif Weinidog wedi ennill mandad i barhau ei Lywodraeth, ond nid oes mandad, ac yn sicr ni ddylai fod mandad, i barhau â newyn plant, i barhau â digartrefedd, tlodi bwyd a thanwydd, cyflogau tlodi, yr argyfwng ym maes tai, ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl. Canlyniad yr etholiad oedd status quo gwleidyddol, ond ni all fod—rhaid iddo beidio â bod—yn status quo cymdeithasol, yn status quo economaidd. A does bosibl nad yw hynny, yn fwy na dim, yn wir. Cyfeiriodd y Prif Weinidog at genedlaethau'r dyfodol; rydym ni, yn unigryw ymhlith gwledydd y byd, wedi rhoi buddiannau cenedlaethau'r dyfodol ynghanol ein gwleidyddiaeth a'n cyfansoddiad. Dyma'r egwyddor sy'n tanio ein Llywodraeth. A does bosibl nad un maes lle na allwn dderbyn y status quo yw tlodi plant—staen foesol, staen foesol ar unrhyw genedl, ac yn sicr ar economi ddatblygedig fel ein hun ni yng Nghymru, lle mae bron i un o bob tri o'n plant yn byw mewn tlodi. Fel y dywedodd cyn-arweinydd y Blaid Lafur yn ddiweddar, mae tlodi i unrhyw un yn sgandal, ond mae tlodi plant yn drosedd. Felly, a gawn ni i gyd wneud datganiad, ar draws ffiniau pleidiau, y byddwn yn cydweithio i gael gwared ar y drosedd hon a'i diddymu yng Nghymru?

Ac rwy'n annog y Prif Weinidog—. Ac, yn anghonfensiynol, talais deyrnged iddo droeon drwy gydol yr etholiad, oherwydd rwy'n credu'n onest ei fod yn ddiffuant. Pan fydd yn sôn am fod yn radical ac yn uchelgeisiol, rwyf eisiau iddo lwyddo. Rwyf o ddifrif am iddo lwyddo. Ac a gaf fi ei annog—a gaf fi ei annog i edrych ar draws yr Iwerydd ar hyn o bryd, i edrych ar Lywodraeth Biden, sy'n drydanol yn fy marn i yn ei hymrwymiad i ddangos sut y gall gwleidyddiaeth fod yn gyfrwng ar gyfer newid trawsnewidiol? Mae wedi gosod nod, mawredd mawr, i dorri lefelau tlodi plant yn eu hanner o fewn blwyddyn yn Unol Daleithiau America. Ac mae wedi—. Ceir atseiniau o Gymdeithas Fawrfrydig LBJ a Bargen Newydd FDR. Dyna wleidyddiaeth uchelgais radical y mae Cymru'n galw amdani, a dyna'r arweiniad sydd ei angen arnom gan Lywodraeth newydd Cymru—nid petruso, nid hanner camau. Mae newid yn mynd i ddigwydd beth bynnag, boed ar ffurf awtomeiddio neu newid hinsawdd. Rhaid inni osod ein newid cadarnhaol ein hunain yn yr agenda a welwn wrth wraidd ein gwleidyddiaeth yma yng Nghymru. Mae yna uwchfwyafrif dros hunanlywodraeth yn y Senedd hon, ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Gadewch inni adeiladu uwchfwyafrif hefyd dros gyfiawnder cymdeithasol a chynnydd economaidd. Os bydd y Prif Weinidog a'r Llywodraeth newydd yn rhoi hynny wrth wraidd eu gwleidyddiaeth, yna fe welant blaid ar y meinciau hyn sy'n barod i gefnogi nid yn unig y nod, ond y modd o'i gyrraedd hefyd.

17:05

Daw hynny â'n busnes am heddiw i ben. Mae gwerth pum mlynedd o fusnes i barhau o heddiw ymlaen, ac mae wedi bod yn dda eich gweld i gyd yn y Siambr hon a'r rheini ohonoch sydd ar Zoom hefyd, ac os caf ddweud wrthych, y rheini ohonoch sydd ar Zoom, mae'n wych gweld sgrin yn llawn o gyfranogwyr Zoom heb unrhyw silff lyfrau yn y golwg.

Felly, prynhawn da i chi i gyd. 

Mae'r gwaith yn cychwyn yma.

Diolch yn fawr i chi.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:06.