Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

10/03/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa Aelodau hefyd o'r Rheolau Sefydlog sydd yn ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn, ac mae'r rheini'n berthnasol ar gyfer ein cyfarfod ni heddiw.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Felly, yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant.

Tipio Anghyfreithlon

1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yng Ngorllewin Casnewydd? OQ56410

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu rhaglen Taclo Tipio Cymru, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r rhaglen yn parhau i gynorthwyo Cyngor Dinas Casnewydd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys eu cefnogi i ymchwilio i dipwyr anghyfreithlon a’u herlyn. Mae gwaith yn mynd rhagddo i nodi atebion i atal tipio anghyfreithlon mewn lleoliadau penodol yn ardal Casnewydd.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Gwn y byddwch yn ymwybodol fy mod wedi codi'r sefyllfa ddifrifol mewn perthynas â thipio anghyfreithlon yn ardaloedd Maerun a Dyffryn yn fy etholaeth ar sawl achlysur. Mae'r 'ffordd i unman' enwog yn fan problemus o ran tipio anghyfreithlon ar raddfa ddiwydiannol—mae cannoedd o dunelli o sbwriel yn ymestyn mor bell ag y gallwch weld, ac yn ddiweddar, cafodd sylw ar raglen Panorama y BBC, 'Rubbish Dump Britain'. Mae'r golygfeydd hyn yn destun cywilydd cenedlaethol, ac mae'r agosrwydd at yr M4 yn golygu bod y safle hwn yn cael ei ddefnyddio gan y cwmnïau hynny sy'n honni eu bod yn cael gwared ar sbwriel yn gyfreithlon, ond sydd yn hytrach yn ei ddympio'n anghyfreithlon. Mae'r troseddoldeb yn syfrdanol. Mae grwpiau lleol sy’n benderfynol o lanhau’r ardal wedi dod o hyd i dystiolaeth o wastraff o ardaloedd fel Bryste, canolbarth Lloegr, rhannau eraill o Gymru, a llawer pellach. Mae trigolion lleol ymroddedig wedi ffurfio grŵp i geisio mynd i'r afael â'r broblem, ac mae'n cynnwys partïon sydd â diddordeb. Fodd bynnag, mae'r cynnydd yn boenus o araf, ac mae graddfa'r hyn sy'n digwydd yn golygu bod llywodraeth leol yn ei chael hi’n anodd ymdopi. Mae'r llygredd a achosir a faint o sbwriel sy’n cael ei ddympio’n golygu y bydd costau clirio'n uchel, ac mae angen cymorth Llywodraeth Cymru arnynt. Byddwn yn annog y Gweinidog, os gwêl yn dda, i ailystyried pa gamau ymyrraeth y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith ar y 'ffordd i unman', i lanhau'r ardal, a byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd a thrigolion i ddod o hyd i ddefnydd ar gyfer y tir, sef y ffordd orau o ddiogelu'r amgylchedd ac atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol.

Diolch, Jayne Bryant, am eich sylwadau ynghylch Cyngor Dinas Casnewydd a'r lefel anffodus o dipio anghyfreithlon. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi cyfarfod y llynedd mewn perthynas â hyn. Mae fy swyddogion wedi siarad eto â Chyngor Dinas Casnewydd ynglŷn â safle’r 'ffordd i unman’. Credaf i gyfarfod diwethaf partneriaeth y safle gael ei gynnal ym mis Ionawr. Ac roedd yn amlwg iawn o'r cyfarfod hwnnw fod Cyngor Dinas Casnewydd wedi gwneud cynnydd da o ran nodi rhai o'r troseddwyr sy'n tipio gwastraff ar y safle, ac roeddent yn rhoi camau gorfodi amrywiol ar waith, megis atafael cerbydau, ac yn cyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig hefyd ar gyfer tipio ar raddfa fach. Roeddent hefyd yn paratoi achosion erlyn ar gyfer y llys. Ond rwy'n derbyn bod y safle’n parhau i fod yn agored i dipio pellach. Y cyngor sy’n berchen ar y tir, felly byddwn yn eu hannog i gymryd camau pellach i sicrhau na cheir rhagor o dipio yno.

Fel y soniais yn fy ateb agoriadol i chi, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Taclo Tipio Cymru, a gwn eu bod wedi cynnig offer gwyliadwriaeth i gyngor Casnewydd ei ddefnyddio, a hefyd i gael rhywfaint o hyfforddiant ar ddeddfwriaeth a thechnegau ymchwilio, heb unrhyw gost, i geisio helpu i atal achosion pellach o dipio anghyfreithlon ar y safle hwn, ac eraill yng Nghasnewydd. Felly, byddwn yn annog cyngor Casnewydd, a phob awdurdod lleol arall, i fanteisio’n llawn ar yr offer a'r cymorth sydd ar gael iddynt. Roeddech chi'n dweud bod grŵp lleol hefyd yn gweithio gyda’r awdurdod lleol, a chredaf ei bod yn gwbl hanfodol fod pawb ohonom yn gweithio gyda’n gilydd, fel y gallwn ddiogelu ein hamgylchedd a’n cymunedau rhag y troseddau ofnadwy hyn.

Diolch. Byddwn yn cytuno 100 y cant â’r hyn a ddywedodd Jayne Bryant. Mae'r ymgyrchydd lleol, Michael Enea, hefyd wedi codi'r mater yn ddiweddar, ynglŷn â'r safle penodol hwn—y 'ffordd i unman' ger y llynnoedd Celtaidd. Mae'r 100 tunnell o sbwriel yn hyll ofnadwy—mae'n sefyllfa warthus, ac mae gwir angen—. Tybed pryd y bydd yn cael ei glirio, a sut rydych yn gweithio gyda'r cyngor lleol i sicrhau bod hynny'n digwydd cyn bo hir, oherwydd, ar hyn o bryd, nid yw'n ddiogel?

Mae mannau problemus i'w gweld ledled Dwyrain De Cymru ar hyn o bryd o ran tipio anghyfreithlon, sydd wedi gwaethygu yn ystod y pandemig. Felly, tybed hefyd sut y mae'r Llywodraeth hon yn mynd i sicrhau eu bod yn gweithio gyda chynghorau, a Llywodraeth yn y dyfodol efallai, i sicrhau bod mesurau cadarn ar waith a bod fframwaith yn ei le i sicrhau nad yw'r math hwn o beth yn digwydd eto, a hefyd i'w glirio cyn gynted â phosibl os bydd yn digwydd? Diolch.

13:35

Diolch. Soniais am yr amryw o ffyrdd y buom yn gweithio gyda’r cyngor yn fy ateb cynharach i Jayne Bryant, ond fel y dywedaf, byddwn o ddifrif yn annog pob awdurdod lleol i fanteisio’n llawn ar yr offer a’r cymorth sydd ar gael iddynt drwy Taclo Tipio Cymru, neu sicrhau eu bod yn gwneud defnydd llawn o'r offerynnau deddfwriaethol rydym wedi eu darparu'n ddiweddar, fel yr hysbysiadau cosb benodedig y soniais fod cyngor Casnewydd wedi eu cyflwyno—sawl un ohonynt—ar gyfer tipio anghyfreithlon ar raddfa fach.

Credaf ei bod yn siomedig fod yr ystadegau cenedlaethol ar gyfer tipio anghyfreithlon a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar yn dal i ddangos bod nifer sylweddol o awdurdodau lleol yng Nghymru, ac mae hynny'n cynnwys Casnewydd, heb erlyn unrhyw dipiwr anghyfreithlon yn eu hardaloedd. Roeddech yn cyfeirio at y cynnydd mewn tipio anghyfreithlon yn ystod y pandemig COVID-19, ac yn amlwg, roedd y ffigurau diwethaf a gyhoeddwyd gennym ar gyfer 2019-20, felly nid oeddent yn cynnwys, yn amlwg, neu nid oeddent yn adlewyrchu unrhyw effaith bosibl yn sgil y pandemig COVID-19. Mae'r ffigurau tipio anghyfreithlon o fis Ebrill 2020, pan gawsom y cyfyngiadau symud cyntaf, yn dal i gael eu casglu gan awdurdodau lleol, ond bydd yn ddiddorol iawn gweld a fu cynnydd. Ond fel y dywedaf, byddwn yn annog pob awdurdod lleol yn y lle cyntaf i ddefnyddio popeth rydym wedi'i ddarparu o ran offerynnau deddfwriaethol a chymorth.

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i ffermwyr y mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn debygol o effeithio arnynt? OQ56386

Diolch. Bydd ystod o gymorth yn cael ei roi, gan gynnwys arweiniad, cynlluniau rheoli maethynnau a thempledi cadw cofnodion, gwasanaethau Cyswllt Ffermio a llinell gymorth bwrpasol, a weithredir gan y Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol (ADAS). Mae hyn yn ychwanegol at y £44.5 miliwn o gyllid cyfalaf sydd wedi'i ymrwymo hyd yma drwy'r rhaglen datblygu gwledig i gefnogi ffermwyr yng Nghymru.

Fel y gwyddoch, ac fel y dywedais yn y ddadl yr wythnos diwethaf, Weinidog, rwyf wedi cael sgyrsiau gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, gydag Undeb Amaethwyr Cymru, a chyda ffermwyr yn fy etholaeth, a heb os, ni waeth beth fo rhinweddau'r rheoliadau, mae ganddynt bryderon—pryderon dwys iawn—ynglŷn â’r effaith, ac yn enwedig yn y ffermydd bach hynny. Ac yn fy araith yr wythnos diwethaf, soniais am fferm, er enghraifft, a chanddi 75 o fuchod godro, a fyddai wedyn yn gorfod adeiladu technoleg i storio slyri na fyddai wedi cael ei defnyddio fel arall o bosibl. Cefais beth sicrwydd gan Lywodraeth Cymru, ac roeddwn yn gobeithio y byddech wedi’i nodi yn eich araith yr wythnos diwethaf, ond efallai mai nawr yw'r cyfle. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r ffermwyr hynny mewn perthynas â chynlluniau rheoli maethynnau? Pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r ffermwyr sy'n poeni am orfod dibynnu ar ymgynghorwyr i ymdrin â ffurflenni cymhleth? A chyda hynny oll mewn golwg, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dymuno—ac yn amlwg, mae yna etholiad ar y ffordd—adolygu'r rheoliadau yn ystod y cyfnod y cânt eu cyflwyno'n raddol? Sut y bwriadwch gyflwyno'r adolygiad hwnnw a sicrhau nad yw ffermwyr fel y rhai bach yn fy etholaeth i yn cael eu heffeithio'n ormodol?

Diolch. Fel y dywedaf, yn ogystal â gwasanaethau Cyswllt Ffermio, mae gennym linell gymorth bwrpasol sydd bellach yn cael ei gweithredu gan ADAS, a chyllid cyfalaf sylweddol. Felly, mae hyn oll wedi’i wneud ac yn ei le i gefnogi ffermwyr. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau'n fuan, a byddant yn arwain ffermwyr gam wrth gam drwy ofynion y rheoliadau. A  phan fydd gan bobl y canllawiau hynny, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n tawelu eu meddyliau ac yn sicr yn lleddfu llawer o'r pryderon y cyfeirioch chi atynt.

Bydd yna dempledi syml y gellir eu defnyddio ar gyfer cynlluniau rheoli maethynnau. Credaf y bydd y gwahaniaeth rhwng y gofynion storio slyri presennol a'r gofynion newydd yn fach iawn i'r rhan fwyaf o bobl. Felly, mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd i leihau'r glawiad sy'n mynd i mewn i'r storfeydd. Efallai y bydd hynny, unwaith eto, yn helpu i fynd i'r afael â diffygion o ran storio. Ac mae llawer o'r cynlluniau hyn eisoes wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, drwy gynlluniau grant, fel y grant cynhyrchu cynaliadwy, ac yn amlwg, ein cynlluniau grant busnes i ffermydd hefyd.

Nid yw'r cyfnodau gwaharddedig yn berthnasol i dail sydd â chyfran isel o nitrogen ar gael yn rhwydd, ac mae hynny'n cynnwys tail buarth, sydd, unwaith eto, yn llawer mwy cyffredin ar ffermydd llai, fel yr un y cyfeirioch chi ati, ac mae'r rheoliadau hefyd yn caniatáu storio tail buarth mewn tasau mewn caeau.

Rwyf wedi crybwyll yn yr ychydig ddadleuon rydym wedi’u cael yn y Siambr y bydd cyfnod pontio, yn amlwg, a bydd cymorth ariannol yn cynyddu. O ganlyniad i gyflwyno'r rheoliadau newydd hyn gyda'r cyfnodau pontio hynny, byddaf yn gallu cynorthwyo ffermwyr i gydymffurfio â'r safonau newydd, lle na allwn wneud mwy na chefnogi buddsoddiad uwchlaw'r gofyniad rheoliadol yn flaenorol, a bydd y gallu i wneud hynny yn parhau hyd at fis Gorffennaf 2025. Bydd y rheoliadau’n cael eu hadolygu mewn pedair blynedd. Roedd yn bwysig iawn, yn fy marn i, ein bod yn cynnwys hynny. Ond yn amlwg, wrth inni fynd drwy'r pedair blynedd nesaf hyd at 2025, bydd y gwaith monitro'n mynd rhagddo.

13:40

Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod ffermwyr, undebau’r ffermwyr a'r diwydiant ffermio yn gyffredinol wedi galw'r swm a neilltuwyd gan Lywodraeth Cymru i roi’r mesurau hyn ar waith yn un cwbl annigonol. Nawr, er bod gennyf gryn dipyn o barch tuag at yr AC dros Gaerffili, nid yw ei reswm dros beidio â phleidleisio yn erbyn y Llywodraeth ddydd Mercher diwethaf yn gwneud unrhyw synnwyr pan ddywed fod dau lygrwr mawr yn ei etholaeth—mae'n datgelu dadleuon y Gweinidog dros gosbi'r diwydiant cyfan. Dylai ymyrraeth fod yn un sydd wedi'i thargedu. Felly, Weinidog, pam yr aethoch yn erbyn holl gyngor y sector amaethyddol a rhoi strategaeth a allai fod mor drychinebus ar waith yn gyffredinol?

Wel, y gwir amdani, David Rowlands, fel y dywedaf, yw bod £44.5 miliwn o gyfalaf wedi'i neilltuo i hyn eisoes, ynghyd â chyllid pellach ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac yn amlwg, dim ond ar sail un flwyddyn y gallwn wneud hynny gan mai dim ond cyllideb blwyddyn y mae Llywodraeth Cymru’n ei chael gan Lywodraeth y DU. Ond rwyf bob amser wedi dweud yn glir iawn y byddai cymorth ar gael i'r sector ffermio mewn perthynas â'r rhain.

Yr hyn nad ydych yn ei ddeall yn ôl pob golwg yw bod y rheoliadau wedi'u targedu. Ni allwn wneud hyn mewn ardaloedd penodol oherwydd nifer y digwyddiadau llygredd amaethyddol rydym yn eu gweld ledled Cymru. Ond bydd y rheoliadau wedi’u targedu, ac mae’r rhan fwyaf o ffermydd eisoes yn bodloni’r gofyniad sylfaenol hwnnw. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod gennym y gofyniad sylfaenol i wella a lleihau nifer yr achosion sydd, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, yn destun cywilydd i’r sector amaethyddol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, a ydych yn difaru’r ffaith bod cyfraddau gosod capasiti ynni adnewyddadwy newydd wedi gostwng bob blwyddyn o dan Lafur yng Nghymru ers 2015?

Credaf ein bod wedi gwneud llawer iawn i gefnogi’r gwaith o osod cynlluniau ynni adnewyddadwy. Rwyf wedi gweithio'n agos iawn gydag unrhyw un sy'n fodlon cyflwyno'r cynlluniau. Yfory, byddaf yn cyfarfod â datblygwyr ac yn edrych ar gynlluniau newydd. Mae’n rhaid ichi ddeall ein bod wedi darparu cryn dipyn o gyllid hefyd, ond mae gwir angen datblygwyr arnom ac mae angen inni weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr holl ysgogiadau'n cael eu defnyddio mewn perthynas â gosod cynlluniau newydd.

Ond nid yw hynny'n newid y ffaith bod y gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn arafu o dan wyliadwriaeth Llafur. Dylai datgan argyfwng hinsawdd olygu cynyddu gwaith datblygu a'i gyflymu, ond nid ydych wedi cyflawni hynny. Nawr, efallai na ddylem synnu, o ystyried eich bod yn torri cymorth i’r sector ynni dŵr, er enghraifft, yng Nghymru, gan adael llawer o'r cynlluniau hynny'n wynebu trafferthion ariannol, ac mae'n debyg fod eich penderfyniad wedi lleihau hyder eraill hefyd a oedd yn ystyried datblygu cynlluniau ynni newydd tebyg.

Ac nid yr arafu o ran datblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru o dan eich gwyliadwriaeth yw'r unig beth y dylech ei fod yn edifar yn ei gylch wrth gwrs. Mae gwastraff plastig yn un arall. Mae'n bla y mae pob un ohonom am ei gweld yn cael ei threchu gyda chynnydd enfawr mewn ymyriadau i fynd i'r afael â'r broblem. Cefais fy ethol i'r Senedd hon yn 2011, a bryd hynny, roedd sôn am weithredu ar gynllun dychwelyd ernes. Ddeng mlynedd a dwy Lywodraeth Lafur yn ddiweddarach, rydym yn dal i aros am yr ymyriadau hynny. Onid oes cywilydd arnoch nad oes gennym gynllun dychwelyd ernes yng Nghymru o hyd?

Mae hyn yn rhywbeth, fel y gwyddoch, sydd wedi dod yn ôl i fy mhortffolio yn ddiweddar, ac rwyf wedi cael sawl trafodaeth ynghylch cynllun dychwelyd ernes. Credaf mai'r peth pwysicaf i mi yw sicrhau nad yw cynllun dychwelyd ernes yn arwain at unrhyw ganlyniadau gwrthnysig, oherwydd fel y gwyddoch, rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd mewn perthynas â'n hailgylchu. Rydym wedi cyrraedd y targed ailgylchu o 65 y cant. Credaf ein bod flwyddyn o flaen y targed a oedd gennym, ac mae hynny oherwydd tri pheth: arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru, arweinyddiaeth awdurdodau lleol, a phobl Cymru sydd wedi croesawu ailgylchu. Nawr, mae angen inni symud i'r cam nesaf, a dyna pam y lansiais strategaeth yr economi gylchol yn ddiweddar.

Os mai cael 'sawl trafodaeth’ yn unig yw arweinyddiaeth, i ddyfynnu'r hyn rydych newydd ei ddweud wrthyf yn eich ateb, nefoedd, rydych wedi cael gwerth 10 mlynedd o sawl trafodaeth, Weinidog, fel Llywodraeth, ac rydych wedi mynd o arwain y DU ar yr agenda hon i geisio dal i fyny. Nid dyma weithredoedd Llywodraeth sydd o ddifrif ynglŷn ag argyfwng plastigau. A gallwch ofyn i'ch etholwyr eich hun, oherwydd gwn am grŵp—y Wrexham Litter Pickers—a gasglodd dros 1,000 o fagiau o sbwriel a gwastraff plastig yn ddiweddar, gan bwysleisio unwaith eto yr angen am fwy o frys ar y mater hwn.

Nawr, gallwn dynnu sylw at feysydd eraill rydych yn gyfrifol amdanynt lle nad ydych wedi gwneud yn ddigon da. Gwyddom am y Ddeddf aer glân. Mae hynny'n rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn dadlau o’i phlaid ers blynyddoedd lawer—rhywbeth y gwnaethoch gytuno â ni yn y pen draw ei bod yn angenrheidiol, ond serch hynny, mae’r ymateb poenus o araf gan y Llywodraeth yn golygu, unwaith eto, nad ydych wedi ei chyflwyno, a bydd angen i Lywodraeth a Senedd newydd roi’r ddeddfwriaeth hon, a fydd yn achub bywydau, ar waith o'r diwedd.

Ond mae'n rhaid imi ddweud, efallai mai'r siom fwyaf i mi yw eich methiant i sicrhau'r safonau effeithlonrwydd ynni uchaf mewn cartrefi newydd. Chwech neu saith mlynedd yn ôl, rwy'n cofio Llafur yn cyflwyno safonau newydd i'w hymgorffori yn rheoliadau adeiladu Rhan L. Nawr, galwodd Plaid Cymru ar y pryd am safonau effeithlonrwydd ynni uwch. Gwnaethoch bleidleisio yn erbyn hynny, gan fynnu cael safonau mwy cymedrol, ond fe wnaethoch hynny—gwnaeth Llafur hynny—gan ddweud y byddech yn mynd i’r afael â hynny yn y Senedd hon. A bellach, wrth gwrs, chwe blynedd yn ddiweddarach, gwyddom eich bod wedi methu gwneud hynny, a chyda'r methiant hwnnw, wrth gwrs, rydych wedi sicrhau lefel uwch o aneffeithlonrwydd ynni mewn cartrefi newydd yng Nghymru y bydd yn rhaid i Lywodraeth yn y dyfodol fynd i'r afael â hwy drwy ôl-osod a gwneud ymyriadau costus eraill mewn blynyddoedd i ddod. Felly, pam fod y Llywodraeth Lafur hon wedi torri ei haddewidion ar gynifer o'r materion hyn? Ac a dweud y gwir, pam y dylai pobl Cymru gredu unrhyw beth a ddywedwch yn y dyfodol, o gofio eich methiant i gyflawni eich addewidion?

13:45

Dylwn ddatgan fy mod yn aelod o'r Wrexham Litter Pickers y cyfeiriodd Llyr Gruffydd atynt—mae'n rhaid inni gofio nid y Llywodraeth sy'n taflu sbwriel; pobl sy'n taflu sbwriel—a hoffwn ganmol y gwaith y maent wedi'i wneud. Ac fe fyddwch yn ymwybodol o'r cynllun atal sbwriel a thipio anghyfreithlon y soniais amdano mewn ateb cynharach i Jayne Bryant.

Mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud llawer iawn mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni ac wedi gwario miliynau o bunnoedd ar gartrefi. Mae gennym stoc dai hen iawn yma yng Nghymru a chredaf fod fy nghyd-Weinidog Julie James wedi gwneud gwaith gwych yn sicrhau nad ydym yn adeiladu cartrefi yn awr y bydd angen eu hôl-osod ymhellach ymhen blynyddoedd i ddod. A chredaf mai’r hyn rydym yn ei weld yma yw nid chi’n dangos methiannau'r Llywodraeth hon, gan nad wyf yn cydnabod y rhai y soniwch amdanynt, ond maniffesto Plaid Cymru.

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, Weinidog, gan mai rhain yw cwestiynau olaf y llefarwyr ar gyfer y tymor hwn, roeddwn am ddiolch i chi. Rydym wedi cael craffu a herio bywiog a chadarn, a hoffwn ddiolch i chi am eich atebion ar hyd y daith. Diolch, Lesley.

Nawr, yn ôl y Papur Gwyn ar Fil aer glân (Cymru), efallai na fydd rheoliadau’n cael eu gosod tan wanwyn 2024—byddai hynny chwarter canrif i mewn i fywyd Senedd Cymru, er i'r Prif Weinidog ddweud wrth y Siambr hon ym mis Mai 2019 fod y ddadl wedi bod yn mynd rhagddi ers degawd, ei fod eisoes wedi cael trafodaethau gyda chi, ac ar yr adeg honno, fod y gwaith paratoi mewnol yn Llywodraeth Cymru wedi dechrau ynghylch sut y gallai Deddf aer glân gael ei datblygu. Bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae Llywodraeth Cymru wedi methu cyflawni’r addewid yng nghais arweinyddiaeth y Prif Weinidog—ac rwy'n dyfynnu—i

'ddatblygu Deddf Aer Glân newydd i sicrhau y gall ein plant fynd i'r ysgol, bod yn egnïol a chwarae y tu allan yn ddiogel heb ofn problemau anadlu, megis asthma, oherwydd y lefelau llygredd yn rhai o'n trefi a'n dinasoedd.'

Ym mis Medi 2019, fe ddywedoch chi wrth y Siambr hon eich bod yn parhau i wneud cynnydd tuag at gyflwyno Deddf aer glân i Gymru. A ydych bellach yn difaru methiant Llywodraeth Cymru yn ystod tymor y Senedd hon i gyflwyno’r Ddeddf hon neu hyd yn oed i gyflwyno Bil drafft ac asesiad effaith reoleiddiol llawn? Diolch.

Diolch. Byddwn wedi bod wrth fy modd yn cyflwyno Deddf aer glân drwy'r Llywodraeth hon. Fel y dywedwch, roedd yn rhan o gais arweinyddiaeth y Prif Weinidog yn ôl ym mis Rhagfyr 2018, felly ychydig dros ddwy flynedd yn ôl. A beth sydd wedi digwydd yn ystod y ddwy flynedd honno? Credaf y gallwch gydnabod pam fod cymaint o bwysau wedi bod ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru ac, yn anffodus, nid oedd gennym y capasiti i gyflwyno Bil aer glân a Deddf wedyn yn ystod tymor y Llywodraeth hon, ac rwy’n gresynu at hynny a gwn fod y Prif Weinidog yn gresynu at hynny. Fodd bynnag, ni chredaf fod unrhyw Aelod yn y Senedd hon nad ydynt yn gallu deall bod ein rhaglen ddeddfwriaethol wedi ymwneud yn gyfan gwbl â phandemig COVID-19, ac, wrth gwrs, gadael yr Undeb Ewropeaidd a'r pwysau y mae hynny wedi’i roi ar ein capasiti cyfreithiol, ac fel y dywedaf, ar ein rhaglen ddeddfwriaethol.

Fodd bynnag, yr hyn rydym wedi'i wneud yw lansio'r cynllun aer glân ar gyfer Cymru, a gyhoeddais yn ôl ym mis Awst y llynedd. Mae hwnnw’n nodi ystod o gamau i gyflawni'r gwelliannau y mae pob un ohonom yn dymuno’u gweld yn ansawdd yr aer ledled Cymru.

Nid oes angen deddfwriaeth arnoch ar gyfer popeth o reidrwydd, felly credaf fod y cynllun aer glân hwnnw wedi sicrhau rhai o'r gwelliannau rydym am eu gweld. Cyhoeddais hefyd yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar Fil aer glân (Cymru) ar 13 Ionawr. Fel y gwyddoch, bydd hwnnw’n cau ar 7 Ebrill, fel y gall y Llywodraeth, yn nhymor y Llywodraeth nesaf, fod mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â'r Ddeddf, fel y dymuna.

13:50

Diolch. Er ichi yr oeddech chi'n iawn wrth gyfaddef i’r Senedd ym mis Ionawr y byddech wedi dymuno cyflwyno’r Papur Gwyn ar y Bil aer glân yn gynt, ni ellir gwadu’r ffaith y byddai camau deddfwriaethol cyflym wedi bod o fudd i iechyd y cyhoedd. Mae'r baich marwolaethau hirdymor y gellir ei briodoli i gysylltiad â llygredd aer rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. Mae mwy na 57 o ganolfannau iechyd, 54 o bractisau meddygon teulu a thri ysbyty ar lefelau uwch na therfyn diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer PM2.5.

Fe wnaethoch chi hyd yn oed nodi bod llygredd aer, fel COVID, yn effeithio'n anghymesur ar y rhai mwyaf difreintiedig ac agored i niwed yn ein cymdeithas. Er bod llygredd aer yn cael ei gydnabod fel perygl mwyaf y byd o ran iechyd yr amgylchedd, a’r ffaith bod eich asesiad effaith rheoleiddiol presennol yn amcangyfrif bod yr effaith iechyd ariannol yn £950 miliwn y flwyddyn, rydych wedi dewis blaenoriaethu deddfwriaeth ar lygredd amaethyddol, a fydd, yn ôl eich memorandwm esboniadol eich hun, yn effeithio'n negyddol ar iechyd meddwl a llesiant.

Mewn argyfwng iechyd ac argyfwng hinsawdd, a ydych yn cydnabod y dylech fod wedi canolbwyntio mecaneg y Llywodraeth ar gynorthwyo iechyd pobl drwy ddeddfu ar lygredd aer, yn hytrach nag effeithio'n negyddol ar iechyd y cyhoedd drwy ddynodi Cymru gyfan yn barth perygl nitradau? Fe wnaethoch dynnu sylw, yn gwbl gywir, at y pwysau sydd wedi bod ar y Llywodraeth gyda chyngor cyfreithiol a chyngor arall i gyflwyno deddfwriaeth. Fe wnaethoch fethu gyda'r Ddeddf aer glân, ond serch hynny, roeddech yn barod i fradychu'r ffermwyr gyda'r parth perygl nitradau. Beth yw'r rhesymeg wrth wraidd hynny, Weinidog?

Wel, nid wyf yn bradychu’r ffermwyr. Yr hyn rwy’n ceisio’i wneud yw lleihau nifer yr achosion o lygredd amaethyddol sy'n cael effaith negyddol enfawr ar ansawdd ein haer, yn ogystal ag ansawdd ein dŵr. Felly, mae arnaf ofn nad yw'r ddadl a wnaed gennych yn gwneud unrhyw synnwyr. A gadewch imi ddweud yn glir: nid oes a wnelo hyn â’r parthau perygl nitradau yn unig. Nid oes a wnelo â nitradau yn unig. Mae hyn yn ymwneud â ffosffadau. Mae hyn yn ymwneud ag achosion o lygredd amonia hefyd. Felly, mae'n fwy na’r parth perygl nitradau y clywaf amdano o hyd.

Mewn perthynas ag iechyd meddwl wrth gwrs, nid oes arnoch eisiau unrhyw beth a fyddai'n niweidiol i iechyd meddwl unrhyw un. Rwyf wedi rhoi cryn dipyn o arian i wasanaethau cymorth iechyd meddwl ar gyfer ein sector amaethyddol, gan fy mod yn deall ei fod yn gyfnod anodd. Ond yr un peth sydd wedi achosi’r trallod mwyaf i ffermwyr yn nhymor y Llywodraeth hon ac yn ystod fy nghyfnod yn y portffolio hwn yw gadael yr Undeb Ewropeaidd, a'r ansicrwydd ynghylch hynny.

Nawr, mae’r gyllideb ar gyfer 2021-22 yn dystiolaeth bellach o’ch diffyg blaenoriaeth i lygredd aer. Fe wnaethoch chi gyfaddef i’n Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig nad oes amcangyfrif cost manwl i’w gael o hyd ar gyfer y cynllun aer glân a gyhoeddwyd saith mis yn ôl. Mae'r £3.4 miliwn o gyllid refeniw a'r £17 miliwn o gyllid cyfalaf a ddyrannwyd ar gyfer gweithredu ar ansawdd aer yr un fath â'r flwyddyn flaenorol, ac felly mae'n cynrychioli toriad mewn termau real.

Mewn gwirionedd, gwn nad dyma’r tro cyntaf i hyn gael ei godi gyda chi, gan y gwnaed gwaith craffu arnoch mewn perthynas â’r mater yn ystod y pwyllgor ym mis Ionawr, pan wthioch chi'r pryderon ynghylch cyllid i un ochr drwy ddweud wrthym unwaith eto fod gennych flaenoriaethau sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd yn y gyllideb, ac wrth gwrs, effaith COVID-19. Fel y gwyddoch, rwy'n cydnabod yr her honno, ond mae'n dal i fod angen i chi egluro pam nad oes amcangyfrif cost manwl i’w gael ar gyfer y cynllun hwn, a pham y gwnaethoch benderfyniad gwleidyddol i ddadflaenoriaethu'r argyfwng iechyd a achoswyd gan lygredd aer drwy wneud toriad mewn termau real i’r cyllid.

Wel, fel y gwyddoch, mae'n rhaid ichi wneud penderfyniadau ynglŷn â’ch cyllideb. Pot cyfyngedig o arian yn unig sydd ar gael, ac wrth gwrs, rydych yn gwneud hynny. Mae llawer o alw am y gyllideb honno, ac mae'n ymwneud â sicrhau bod digon o arian ar gyfer popeth. Ond yn amlwg, nid yw bob amser yn wir eich bod yn gallu cynyddu cyllid yn y meysydd y dymunwch. Mae'n ymwneud â sicrhau eich bod yn darparu ar gyfer cymaint ag y gallwch. Yr hyn a wnaeth y cynllun aer glân, fel y dywedaf, oedd nodi'r ystod o gamau gweithredu i gyflawni gwelliannau er budd iechyd y cyhoedd, fel y nodoch chi, a bioamrywiaeth, ac wrth gwrs, ein helpu gyda'r argyfwng hinsawdd. Ac rwy'n ceisio sicrhau bod digon o gyllid. Rydym yn agosáu at ddiwedd cyllideb eleni, a chredwch fi, mae ceisio rheoli'r tanwariant a'r gorwariant yn gamp eithaf anodd y mae swyddogion, diolch byth, yno i fy nghynghori arni. Felly, ni chredaf ein bod wedi dadflaenoriaethu hyn. Ac yn amlwg, wrth inni fwrw ymlaen â’r Bil ar gyfer Deddf aer glân, bydd cryn dipyn o dystiolaeth y gellir craffu arni mewn perthynas â'r gyllideb. Ond rwy'n gobeithio y ceir cydnabyddiaeth fod gennym benderfyniadau anodd iawn i'w gwneud—mae gan bob llywodraeth—a’n bod yn gwneud ein gorau i sicrhau, ac yn sicr pan edrychaf yn ôl ar eleni, credaf fod pawb mewn gwahanol rannau o fy mhortffolio wedi cael y cyllid oedd ei angen.

13:55
Y Diwydiant Ffermio

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant ffermio yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ56390

Mae ffermwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro wedi derbyn taliadau drwy gynllun y taliad sylfaenol yn 2020, gwerth cyfanswm o dros £27 miliwn. Mae ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio wedi parhau i gefnogi ffermwyr, gan ddarparu cyngor a hyfforddiant ar-lein, ynghyd â'r gallu i gael cymorth dros y ffôn yn ystod argyfwng COVID-19.

Weinidog, gŵyr pob un ohonom fod angen inni fynd i’r afael â’r llygredd yn ein cefn gwlad sy'n deillio o arferion ffermio sydd wedi dyddio, a’r ffordd orau o wneud hyn yw sicrhau bod y diwydiant ffermio yn cefnogi unrhyw reoliadau a newidiadau a gyflwynwch. Ac yn fy marn i, mae rheoliadau’r parth perygl nitradau a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf wedi llwyddo i gyflawni'r gwrthwyneb, ac maent wedi cael eu condemnio'n llwyr gan undebau’r ffermwyr, ffermwyr a nifer o bobl mewn cymunedau gwledig. Honnodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf y byddem, wrth bleidleisio yn erbyn y rheoliadau, yn pleidleisio o blaid parhau'r llygredd, sydd, a dweud y gwir, yn dangos ei fod wedi colli cysylltiad, yn fy marn i, â’r gymuned ffermio.

Ffermwyr yw asgwrn cefn ein gwlad, mae llawer yn ffermio'n anhygoel o gyfrifol, ac rydych chithau a minnau wedi derbyn llawer o ohebiaeth dros y blynyddoedd ynghylch un fferm fawr wael iawn yn fy ardal sy'n llygru'n gyson, yn talu'r ddirwy, ac yna'n parhau i wneud yn union yr un peth. Felly, mae pawb yn cael eu cosbi am bechodau ambell un. Felly, beth y gallwch ei ddweud wrth glybiau ffermwyr ifanc Cymru sydd wedi tynnu sylw at y mater hwn dros y blynyddoedd diwethaf? Oherwydd mae'n hanfodol sicrhau bod pobl ifanc fy ardal yn teimlo eu bod yn mynd i weithio mewn proffesiwn sy'n cael ei werthfawrogi a'i barchu. Beth y gallwch ei wneud i dawelu meddyliau pobl ifanc sy'n ystyried mynd i weithio yn y byd amaeth y byddant yn cael eu gwerthfawrogi gan y Llywodraeth ac nid yn cael eu defnyddio i ddyfnhau'r gagendor gwleidyddol rhwng y Gymru wledig a’r Gymru drefol?

Wel, byddwn yn dweud wrth y clybiau ffermwyr ifanc, fel y byddwn yn dweud wrth unrhyw un yn y sector ffermio neu unrhyw un a chanddynt ddiddordeb yn ein sector ffermio, fod y rheoliadau llygredd amaethyddol ar waith er eu budd hwy. Maent yno i atal nifer yr achosion o lygredd amaethyddol rydym wedi’u gweld flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Ni chredaf fod y Prif Weinidog wedi colli cysylltiad â'r sector. Ni chredaf fy mod innau wedi colli cysylltiad â'r sector. Ac er fy mod yn derbyn bod undebau’r ffermwyr wedi gwneud cryn dipyn o sŵn ac wedi cael cryn dipyn o sylw gan y cyfryngau, hoffwn allu rhannu'r ohebiaeth helaeth rwyf wedi’i chael gan ffermwyr sy'n cytuno'n llwyr â'r rheoliadau hyn, gan mai un ochr yn unig a glywn, a dweud y gwir. Nid ydym yn gweld nac yn clywed yr ochr arall. Nid ydynt yn gwneud cymaint o sŵn, efallai, ag y mae eraill yn ei wneud.

Ond yr hyn sy'n bwysig iawn yn fy marn i yw bod y Llywodraeth hon yn gwbl gytûn â'r sector. Rwyf wedi cael perthynas dda iawn gydag undebau’r ffermwyr. Rydym wedi anghytuno ar hyn, ac rydym wedi anghytuno ar bethau eraill, ond mae bob amser wedi bod yn gadarn iawn. Ond yr un peth y gwn eu bod yn ei gydnabod, gan eu bod yn dweud hyn wrthyf, yw bod Llywodraeth Cymru ar eu hochr yn gyfan gwbl, a'n bod wedi gwneud popeth a allwn i'w cefnogi drwy'r cyfnod anodd ac ansicr iawn a gawsom wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, sydd yn ôl eu cyfaddefiad eu hunain—. Rwy'n cofio fy Sioe Frenhinol Cymru gyntaf lle roedd pawb yn dymuno dweud wrthyf eu bod wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd a pha mor dda fyddai pethau pan fyddem yn gadael. Mae arnaf ofn i'r farn honno newid dros y blynyddoedd canlynol, gan inni weld y llanast a wnaeth Llywodraeth y DU ohoni.

Llunio Polisïau ar Sail Tystiolaeth

4. Sut mae'r Gweinidog yn defnyddio tystiolaeth i lywio penderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â'r amgylchedd? OQ56392

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bolisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Er mwyn galluogi hyn, rwyf wedi comisiynu ystod o raglenni tystiolaeth, gan gynnwys rhaglen monitro a modelu’r amgylchedd a materion gwledig, ac mae fy swyddogion yn ymgysylltu â phartneriaid ymchwil ledled y DU, gan gynnwys mynd ati’n weithredol i ddylanwadu ar ein cyllideb ymchwil a datblygu a rennir gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

14:00

Diolch. Weinidog, rwy'n synnu'n fawr o glywed yr ateb hwnnw, a chyfeiriaf yn benodol—ar wahân i'r ffaith fy mod yn ailadrodd cynifer o bobl eraill—at eich penderfyniad annealladwy ar barthau perygl nitradau. Cefais gyfarfodydd, fel y cafodd llawer o rai eraill, gydag undebau'r ffermwyr ychydig wythnosau'n ôl, a nodwyd ganddynt fod tystiolaeth ac argymhellion wedi'u darparu mewn adroddiad i chi gan is-grŵp rheoli tir CNC Cymru ym mis Ebrill 2018, a bod cymaint â 102 tudalen o dystiolaeth wedi'u cyflwyno i chi ar ddiwedd 2019. Nid wyf yn cytuno â CNC yn aml, gan eu bod wedi gwneud rhai penderfyniadau gwael yn y gorffennol, ers iddynt gael eu ffurfio, ond y tro hwn, dylid bod wedi gwrando ar eu hadroddiad. Felly, os yw eich penderfyniadau, fel y dywedwch, yn seiliedig ar dystiolaeth, beth oedd y dystiolaeth a oedd mor argyhoeddiadol i chi, a pham y cafodd tystiolaeth CNC ei thaflu i'r bin i bob pwrpas? Diolch.

Wel, yn sicr, ni chafodd y dystiolaeth ei thaflu i'r bin, fel y dywedwch. Rydym yn edrych ar unrhyw dystiolaeth a gymerwn ac mae'n ffurfio rhan o'r penderfyniad. Os cofiaf yn iawn, credaf fod gan yr adroddiad y cyfeirioch chi ato tua 45 o argymhellion. Ac unwaith eto, os cofiaf yn iawn, roedd pob un argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru; nid oedd yr un ohonynt ar gyfer y sector amaethyddol. Felly, credaf y gallwch weld pam ein bod angen cefnogaeth y sector amaethyddol a pham y gwneuthum ymdrech fawr i geisio gweithio gyda hwy, pan ddywedasant y byddai dulliau gwirfoddol yn helpu. Ac yn anffodus, ni welsom ostyngiad yn nifer y digwyddiadau.

Felly, o ble y cefais fy nhystiolaeth? Wel, fel y dywedais, roeddem yn amlwg yn defnyddio'r dystiolaeth honno, ond cawsom dystiolaeth gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd hefyd, ac rwy'n credu, unwaith eto, y byddai pob Aelod yn y Senedd hon—ar wahân i un neu ddau o amheuwyr efallai—yn deall ein bod o ddifrif ynghylch y cyngor annibynnol a gawn ganddynt a'i fod yn ein helpu gyda'n polisi.

Weinidog, a gaf fi ehangu'r cwestiwn hwn ynghylch y ffordd rydych yn defnyddio tystiolaeth wrth wneud penderfyniadau polisi? Fe fyddwch yn gwybod bod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy tryloyw wrth ddangos effaith carbon holl bolisïau a phenderfyniadau gwariant y Llywodraeth. Sut rydych wedi ymateb i hynny? A ydych yn cadw ffigurau cywir ynglŷn ag ôl troed carbon penderfyniadau polisi a chyllidebu, er enghraifft? Ac a ydych yn credu bod yna ffordd y gallech fod hyd yn oed yn fwy tryloyw drwy gyhoeddi'r rheini a chaniatáu i'r cyhoedd weld beth yn union yw ôl troed carbon Llywodraeth Cymru?

Wel, yn amlwg, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n sicr wedi mynychu cyfarfodydd gyda hi a'i staff, a chyda'r Prif Weinidog—gallaf feddwl am un penodol—yn ymwneud yn arbennig ag alinio ein cyllideb garbon â'n cyllideb ariannol, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gallu dangos hynny. Rwy'n credu'n bersonol ein bod yn dryloyw iawn, ond bydd unrhyw beth y gallwn ei wneud i wella'r tryloywder hwnnw'n cael ei ystyried, rwy'n siŵr.

Tanwyddau Gwyrddach

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o danwyddau gwyrddach yng Nghymru? OQ56391

Diolch. Rydym wedi ymrwymo Cymru i dargedau allyriadau sero-net uchelgeisiol. Mae hyn yn golygu bod angen inni drawsnewid y modd rydym yn rhedeg ein ceir, yn cynhesu ein cartrefi ac yn cynhyrchu ein trydan. Mae gan hydrogen botensial mawr i fod yn rhan bwysig o'r gymysgedd ynni wedi'i ddatgarboneiddio, ac rydym yn gweithio i ddeall a dangos ei botensial.

Diolch. Wel, yng nghyllideb y DU yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y Canghellor fuddsoddiad o dros £93 miliwn i sbarduno adferiad gwyrdd yng Nghymru a chyflymu'r broses o greu bron i 13,000 o swyddi yma. Mae hyn yn cynnwys cyllid cyflym ar gyfer bargen twf gogledd Cymru, sy'n cynnwys parth arddangos llanw Morlais oddi ar arfordir Ynys Môn, a chyllid ychwanegol ar gyfer hyb hydrogen newydd ym mhorthladd Caergybi, sy'n cael ei reoli a'i ddatblygu gan Fenter Môn, y fenter gymdeithasol y tu ôl i'r prosiect arddangos llanw, a dywedodd ei rheolwr gyfarwyddwr:

Mae hyn yn newyddion gwych ac yn hwb enfawr i'r prosiect yng Nghaergybi... Gyda'r ffocws cynyddol ar ddatgarboneiddio, y nod fydd creu hydrogen gwyrdd o ynni adnewyddadwy gan gynnwys o Morlais, ein prosiect ynni ffrwd lanw ein hunain oddi ar arfordir Ynys Cybi.

Roedd cyllideb y DU hefyd yn cynnwys miliynau ar gyfer datblygu technolegau storio ynni a thechnolegau a chynhyrchion newydd a fydd yn bwydo i mewn i'r gwaith o sefydlu a chyflwyno'r diwydiant gwynt ar y môr arnofiol. Sut, neu a fydd, Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r prosiectau hyn i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle y maent yn ei gynrychioli i Gymru?

Diolch. Wel, roeddem yn sicr yn falch iawn o weld cyllid yn cael ei roi i brosiect hydrogen Caergybi a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru yng nghyllideb Llywodraeth y DU ar 3 Mawrth, ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Menter Môn i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd ar gyfer hydrogen yng Nghaergybi, ac adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes wedi'i wneud yno.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru lwybr hydrogen i Gymru ar 18 Ionawr ar gyfer ymgynghori, ac unwaith eto rydym yn ceisio ymatebion i gwestiynau strategol sy'n ymwneud ag unrhyw gynigion ar gyfer datblygu hydrogen yng Nghymru yn y dyfodol, a byddwn yn annog yr Aelodau i anfon ymatebion erbyn 9 Ebrill ac i annog unrhyw un y credant y byddai ganddynt ddiddordeb yn hyn i wneud yr un peth. Yn amlwg, felly, gall y Llywodraeth newydd gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion. Bydd hwnnw wedyn yn llywio'r llwybr hydrogen arfaethedig, ynghyd ag asesiad effaith integredig. Mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n credu bod gwynt ar y môr yn gyffrous iawn, a dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld llawer iawn o ddiddordeb gan ddatblygwyr, yn enwedig yng ngogledd-orllewin Cymru. Ac yfory rwyf—. Yfory, gyda fy nghyd-Weinidog Ken Skates, unwaith eto, byddaf yn cyfarfod â phobl sydd â diddordeb mawr mewn dod â'r dechnoleg hon i Gymru yn dilyn cyhoeddiad diweddar Ystâd y Goron.

14:05

Weinidog, er ei bod yn hanfodol ein bod yn datgarboneiddio ein seilwaith ynni a thrafnidiaeth cyn gynted â phosibl, mae hefyd yr un mor bwysig nad ydym yn creu problemau eraill yn ein hymdrech i leihau allyriadau carbon. Er bod biomas yn garbon niwtral, gall hefyd greu problemau gydag ansawdd aer oherwydd bod mwy o ronynnau'n cael eu rhyddhau. Bydd symud i drafnidiaeth drydan yn mynd i'r afael ag ansawdd aer a charbon deuocsid cynyddol, ond bydd yn arwain at gynnydd mewn e-wastraff a'r galw am fetelau sy'n cael eu cloddio ar gost enfawr i'n hecoleg fregus. Weinidog, pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau nad yw datgarboneiddio'n arwain at niwed ecolegol mewn mannau eraill? Diolch.

Diolch. Mae Caroline Jones yn gwneud pwynt pwysig iawn. Mae bob amser yn bwysig iawn, pan edrychwch ar sut rydym yn datgarboneiddio, nid yn unig ein hynni a'n cartrefi—. Mae'n fater cwbl draws-Lywodraethol, ac rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â fy nghyd-Weinidogion i sicrhau mai'r ffordd iawn i fynd yw gwneud popeth a allant o fewn eu portffolio a all ein helpu i gyrraedd ein targedau carbon sero-net. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi cael cyngor yn ddiweddar gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd ar sut y gallwn gyrraedd sero net erbyn 2050, a'r mis diwethaf gosodais reoliadau yn y Senedd i ymrwymo Cymru'n ffurfiol, am y tro cyntaf, i dargedau sy'n rhwymo mewn cyfraith ac sy'n cyflawni nod ein hallyriadau sero-net. Felly, mae'n rhaid inni leihau ein hallyriadau ar draws pob sector, ac unwaith eto, yn ei gyngor imi, tynnodd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd sylw at bwysigrwydd gwelliannau i effeithlonrwydd tanwydd, er enghraifft, yn eu senarios, drwy dechnolegau costeffeithiol a gwelliannau dylunio.

Lles Anifeiliaid

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles anifeiliaid? OQ56379

Mae lles anifeiliaid a pherchnogaeth gyfrifol anifeiliaid yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod safonau lles uchel yn cael eu cynnal. Rydym yn cymryd rhan ragweithiol mewn nifer o wahanol fentrau i gefnogi ac atgyfnerthu'r safonau hyn ymhellach yn y tymor byr a'r dyfodol hirdymor.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw? Mae'r ffordd rydym yn trin anifeiliaid yn arwydd o'r math o gymdeithas ydym ni. Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol yn sicrhau bod fersiwn well o gyfraith Lucy yn cael ei chyflwyno y mis hwn, pa gynigion sydd gan Lywodraeth Cymru i wahardd pobl rhag bod yn berchen ar brimatiaid, cyflwyno teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai, a gwella lles cwningod a cheffylau?

Rwy'n falch bod Mike Hedges wedi cyfeirio at gyfraith Lucy, er rwy'n dal i ddweud ein bod yn mynd y tu hwnt i gyfraith Lucy; mae'n ymwneud â gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti, a byddwn yn trafod hynny yn y Senedd yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn anffodus, mae llawer o'r ffrydiau gwaith datblygu polisi yn fy mhortffolio mewn perthynas ag iechyd a lles anifeiliaid wedi gorfod cael blaenoriaeth is dros y 12 mis diwethaf, am resymau amlwg, gyda phandemig COVID-19 a gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar nifer o feysydd lle gallai fod yn fuddiol cael dull gweithredu ar draws y DU. Felly, fe sonioch chi am deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai, er enghraifft. Mae fy safbwynt ar hynny yr un peth: rwy'n cydnabod y manteision posibl, ac nid yw wedi'i ddiystyru. Rwy'n hyderus y byddwn yn gallu cyflwyno rheoliadau newydd ar drwyddedu gweithgareddau anifeiliaid yng Nghymru, a dyna fu'r ffocws blaenoriaeth cywir ar y pryd. Mae gennym godau ymarfer statudol ar gyfer llawer o rywogaethau anifeiliaid yng Nghymru, anifeiliaid fferm ac anifeiliaid domestig, ac maent yn cael eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd.

14:10

Weinidog, yn eich ymateb i Mike Hedges, ni sonioch chi am les anifeiliaid mewn sŵau ac atyniadau anifeiliaid ledled Cymru. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi bod yn galw ers peth amser bellach am gronfa gymorth i sŵau yng Nghymru. Maent yn bodoli mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac yn wir, mewn mannau eraill yn Ewrop, ond nid yw Cymru eto wedi sefydlu cronfa gymorth i sŵau er mwyn sicrhau y gall anifeiliaid yn ein sŵau, yn ystod y cyfyngiadau symud hyn, gael y lles o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu heb i'r sefydliadau hynny orfod defnyddio eu cronfeydd wrth gefn neu eu cynilion a roddwyd o'r neilltu ganddynt ar gyfer buddsoddi yn eu busnesau. A allwch chi ddweud wrthym beth yw eich barn ddiweddaraf ynglŷn ag a ddylid sefydlu cronfa gymorth i sŵau yng Nghymru, yn enwedig o gofio y byddai'r gronfa hefyd yn sicrhau'r gwaith pwysig y mae sŵau ac atyniadau anifeiliaid yn ei wneud o ran cadwraeth a bridio, sydd hefyd yn cael ei effeithio'n awr o ganlyniad i ddiffyg cronfa yma yng Nghymru?

Wel, nid oes arnom angen cynllun cymorth penodol ar gyfer sŵau yng Nghymru, oherwydd roedd ein sŵau'n gallu cael cyllid o'r gronfa cadernid economaidd, a oedd, yn amlwg, yn unigryw i Gymru. Felly, yn ystod y pandemig COVID-19, gwnaeth llawer o'r sŵau gais am gyllid o'r gronfa cadernid economaidd ac roeddent yn amlwg yn llwyddiannus. Felly, er fy mod yn deall bod gan wledydd eraill yn y DU gynllun cymorth penodol ar gyfer sŵau, rwy'n credu, os edrychwch, fod gan ein sŵau, mae'n debyg—rai ohonynt, yn sicr—fwy o arian nag y byddent wedi'i gael gan gynllun cymorth mewn gwlad arall.

Cyfraith Lucy

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoliadau Llywodraeth Cymru i wahardd gwerthu cŵn bach trydydd parti, a elwir fel arall yn gyfraith Lucy? OQ56407

Trafodir Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 ar 23 Mawrth. Ni fyddaf yn gwneud datganiad cyn y ddadl.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am hynny, a chredaf y bydd llawer ohonom yn y Siambr hon yn croesawu gweld hyn ar y papur trefn, er mai yn ystod wythnos olaf y Senedd hon y bydd hynny. O ran bwrw ymlaen â'r agenda y mae cyfraith Lucy yn ei symboleiddio, mae angen dull cyfannol o ymdrin â pholisi, ac yn sicr mae angen inni roi'r rheoliadau sydd ar y papur trefn ar waith, ond mae angen inni hefyd sicrhau ein bod yn mabwysiadu dull mwy cynhwysfawr nid yn unig o wahardd gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti, ond hefyd ein bod yn sicrhau bod safonau lles llawer gwell a llawer uwch ar gyfer yr anifeiliaid hynny. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu sut y mae'n gweld dull gweithredu cynhwysfawr yn adeiladu ar sail cyfraith Lucy, a fyddai'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i wybodaeth gyhoeddus, rheoliadau newydd mewn cyfraith gynllunio i sicrhau bod bridwyr yn cael eu trwyddedu, gan gynnwys canolfannau achub ac ailgartrefu, ac i sicrhau bod llochesau'n cael eu rheoleiddio hefyd, lle ceir cryn dipyn o bryder cyhoeddus ynghylch rhai o'r amodau y cedwir anifeiliaid ynddynt.

Soniais yn fy ateb cynharach i Mike Hedges fod y rheoliadau y byddwn yn eu cyflwyno ymhen pythefnos yn mynd y tu hwnt i gyfraith Lucy. Rwy'n ymdrechu'n daer i ddianc rhag yr ymadrodd hwnnw, oherwydd rydym wedi gwneud llawer iawn o waith gyda'r awdurdodau lleol. Rydym wedi cael y prosiect gorfodaeth cŵn i awdurdodau lleol, sef prosiect tair blynedd a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru a ddechreuodd y llynedd, a dyna fydd ein cyfrwng ar gyfer bwrw ymlaen â'r rheoliadau hyn, oherwydd roeddwn yn credu ei bod yn bwysig iawn—. Oherwydd pan ddechreuasom edrych—. Pan grybwyllwyd cyfraith Lucy wrthyf am y tro cyntaf, tua thair blynedd yn ôl mae'n debyg, roedd yn bwysig iawn defnyddio'r pwerau a oedd gennym eisoes, oherwydd pan aethom i edrych, nid wyf yn credu yr oedd awdurdodau lleol yn defnyddio'r pwerau a oedd ganddynt eisoes. Felly, yn hytrach na rhuthro i gyflwyno rheoliadau, roedd yn bwysig iawn edrych ar ba rwystrau oedd yno a oedd wedi bod yn rhwystrau i orfodaeth, os hoffech, nad oedd awdurdodau lleol yn ei defnyddio. Roedd angen hyfforddiant gwell ar eu cyfer, ac fe wnaethom ddarparu hynny. Roedd arnynt angen gwell arweiniad, ac fe wnaethom ddarparu hynny, ac roedd angen inni wella'r defnydd o adnoddau o fewn awdurdodau lleol. Yn anffodus, gyda chyllidebau llai i awdurdodau lleol, y rhan hon o'u portffolio a gâi lai o sylw weithiau, felly rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Dros y tair blynedd nesaf, rwy'n rhagweld y byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod ganddynt yr arfau sydd eu hangen arnynt.

Credaf fod y pwynt a godwch ynglŷn â llochesau'n bwysig iawn, a byddwn wedi hoffi gwneud rhagor o waith mewn perthynas â llochesau yn nhymor y Llywodraeth hon. Ond fel y dywedais, nid yw'r capasiti wedi bod yno i wneud popeth, yn anffodus, a'r holl waith y byddwn wedi hoffi'i wneud, ond rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth y byddai Llywodraeth yn y dyfodol eisiau edrych arno, yn sicr pe bawn i neu'r Blaid Lafur yn rhan ohoni.

14:15
Cynllun Arbed yn Arfon

10. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am y cynllun Arbed yn Arfon? OQ56387

Diolch. Mae cyfarfod gyda Fortem Energy Services wedi'i drefnu ar gyfer 15 Mawrth i gwblhau'r manylion ar gyfer cysylltu â 393 o aelwydydd sydd ag inswleiddiad waliau allanol wedi'i osod o dan gynllun Arbed yn Arfon. Nodais y broses ddatrys hawliadau i ddeiliaid tai yn fy llythyr atoch ar 8 Mawrth.

Diolch am hynna. Mi fyddwn i'n ddiolchgar petaech chi'n medru cadarnhau heddiw mai cyfrifoldeb y cwmni Fortem ydy gweithio i unioni'r broblem, neu'r problemau, a dweud y gwir. Dylai perchnogion tai ddim ond defnyddio'r warant fel y cam olaf yn unig, petai Fortem a Llywodraeth Cymru yn methu â datrys y problemau mewn ffordd foddhaol ac o fewn amserlen resymol. Fedrwch chi jest gadarnhau hynny, er tawelwch meddwl, os gwelwch yn dda?

Dwi'n falch eich bod chi wedi sôn a rhoi dyddiad penodol i ni yn fynna. Mae yna bryder ymysg etholwyr y gallai oedi pellach ac effaith yr etholiadau ym mis Mai weld y mater yma yn parhau i fod heb ei ddatrys, a dydy hynny ddim yn deg o gwbl arnyn nhw.

Mae'r broblem yn un llawer mwy na'r paent ar y waliau allanol, ac mae fy etholwyr i yn Neiniolen, Dinorwig, Carmel a'r Fron yn gresynu bod ffocws eich llythyrau diweddar chi i mi yn canolbwyntio ar hynny. Mae yna lu o broblemau yn codi o safon ddiffygiol o waith drwyddi draw, ac mae'r rheini i gyd angen cael sylw.  

Diolch ichi, a chytunaf yn llwyr â chi fod angen mynd i'r afael â phopeth. Bydd Fortem Energy Services Ltd yn gweithio gyda fy swyddogion i gysylltu â phob cartref a elwodd o inswleiddiad waliau allanol o dan gynllun Arbed yn y lleoedd rydych newydd gyfeirio atynt. Bydd taflen wybodaeth cynnal a chadw cartrefi yn cael ei hailgyhoeddi a lle bo angen, bydd y cwmni'n darparu copïau o'r warant ar gyfer y system inswleiddio waliau allanol a'r haenau rendro heb unrhyw gost i'r aelwyd. Mae'n bwysig iawn fod y gwaith hwn yn parhau, er gwaethaf yr etholiad, ac mae'n amlwg y gall wneud hynny oherwydd bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda'r cwmni ynni. Rwy'n sylweddoli ei fod yn cymryd llawer o amser, ond mae'n bwysig iawn, rwy'n credu, fod camau priodol yn cael eu cymryd i bennu achos sylfaenol y problemau y mae eich etholwyr yn eu profi i sicrhau y gallwn wneud y gwaith unioni a chyrraedd y safonau dymunol hynny y mae pawb ohonom eisiau eu gweld.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth. 

Addasiadau i'r Cartref i Bobl Hŷn

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd addasiadau i'r cartref fel ffordd i alluogi pobl hŷn i fyw yn iachach ac yn fwy annibynnol? OQ56408

Diolch, Lywydd. Maddeuwch imi, methais y cwestiwn. Tybed a fyddai Rhun yn gallu ei ailadrodd. Collais y rhyngrwyd.

Iawn. Ymddiheuriadau, collais y rhyngrwyd yn llwyr wrth i chi alw fy enw, felly ni chlywais y cwestiwn.

Yn sicr, os na fethais unrhyw beth arall, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny.

Na, ni chrwydrodd oddi ar y papur trefn. Ni fyddwn wedi caniatáu iddo wneud hynny.

Diolch, Lywydd. Yn wir, felly, mae'r pandemig wedi amlygu'r rôl hanfodol y mae addasiadau i'r cartref, yn fawr a bach, yn ei chwarae yn helpu pobl i gadw eu hurddas a'u hannibyniaeth a byw'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Er gwaethaf yr heriau, mae'r gwasanaethau hyn wedi parhau drwy gydol y pandemig.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Fe wnaf i wneud y pwynt a dweud y gwir nad dim ond pobl hŷn sy'n gallu elwa o addasiadau i'r catref. Dwi'n cymeradwyo'r Motor Neurone Disease Association am yr ymgyrch maen nhw'n ei rhedeg ar hyn o bryd yn gwthio am fwy o addasiadau i'r cartref i bobl sy'n byw efo'r afiechyd hwnnw. Ond at bobl hŷn yn benodol, rydyn ni'n gwybod bod pobl hŷn yn syrthio yn costio yn ddrud iawn i'r NHS—dros £2 biliwn i'r NHS drwy Brydain. Rydyn ni'n gwybod y gall addasiadau i'r cartref leihau anafiadau o gymaint â 26 y cant. Rŵan, o ystyried bod pobl wedi bod yn treulio mwy o amser yn eu cartrefi yn ystod y pandemig yma, a all y Gweinidog ddweud wrthym ni beth ydy'r sefyllfa o ran backlog o addasiadau tai sydd wedi cael ei greu gan y pandemig, a beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â hyn, oherwydd yr help mae addasiadau yn gallu eu darparu o ran byw'n iach ac yn annibynnol?

14:20

Ie, diolch yn fawr iawn, Rhun. Rydych yn llygad eich lle, mae addasiadau'n hwyluso pethau i atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf ac maent hefyd yn hwyluso ac yn cefnogi'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty i wella a chael mynediad at lwybrau gofal, gan ryddhau gwelyau ysbyty ac osgoi'r angen am leoliadau cam-i-lawr mewn gofal preswyl. Maent yn amlwg yn helpu pobl i gael bywyd hapusach ac iachach yn eu cartrefi eu hunain, felly rydym yn awyddus iawn i barhau â'r gwaith da sydd wedi bod yn mynd rhagddo. Mae'r addasiadau ymateb cyflym yn cymryd tua naw diwrnod ar gyfartaledd i'w cyflawni.

Rydych chi'n gywir, serch hynny, ein bod wedi cael gostyngiad yng nghyfradd yr addasiadau yn rhan gyntaf y pandemig. Er ein bod yn glir y gallai addasiadau barhau drwy gydol y pandemig fel gwaith hanfodol sydd wedi cael ei ganiatáu drwy'r amser hwnnw, roedd pobl, yn ddealladwy, yn fwy amharod i adael pobl i mewn i'w cartrefi ac yn y blaen, yn enwedig yn ystod camau cyntaf y pandemig. Ond rwy'n falch iawn o allu dweud bod y gwaith wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod ail hanner y flwyddyn, ac mae'r lefelau gweithgarwch presennol yn debyg i flynyddoedd blaenorol, felly nid oes llawer o ôl-groniad ac mae'r amseroedd ymateb cyfartalog yn ôl i'r arfer fwy neu lai erbyn hyn. Ac fel y dywedais, ar gyfer y rhai ymateb cyflym, maent yn cymryd naw diwrnod ar gyfartaledd i'w cyflawni; mae addasiadau canolig fel lifftiau grisiau ac yn y blaen yn cymryd pedwar mis ar gyfartaledd; ac mae'r addasiadau mwyaf fel estyniadau ac yn y blaen yn cymryd naw mis ar gyfartaledd.

Weinidog, diolch ichi am yr ymateb hwnnw. Yn nadl fer fy nghyd-Aelod Nick Ramsay ar glefyd niwronau motor yr wythnos diwethaf, roeddech yn sôn am y 40 wythnos ar gyfer addasiadau mawr i'r cartref, ac wrth gwrs, nid mater i bobl â chlefyd niwronau motor yn unig yw hwn. Gyda COVID, ar ôl gwrando ar dystiolaeth Covid Hir Cymru y bore yma yn y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n eithaf amlwg y bydd rhai achosion yno; pobl sydd wedi cael damweiniau traffig ar y ffyrdd, pobl sydd wedi goroesi sepsis, pobl sydd wedi bod mewn gofal dwys; yn aml iawn, mae yna bethau difrifol sy'n galw am addasiadau i'r cartref. Mae 40 wythnos yn amser eithriadol o hir. Roedd gennyf un ffermwr penodol a dorrodd ei gefn ar y fferm ac oherwydd ei fod yn byw mewn tŷ rhestredig, nid oeddent yn cael gosod ffon ddur hyd yn oed i allu cael teclyn codi a fyddai wedi caniatáu iddo fyw gartref. Ac fe sonioch chi nawr am ganiatáu i bobl fyw bywydau iachach a hapusach gartref; wel, mewn gwirionedd, i rai pobl, dyna lle maent eisiau bod ac rydym ni eisiau gallu rhoi'r dewis iddynt.

Felly, a wnewch chi ystyried sut y gallem gysylltu â'r adran gynllunio yn yr achosion prin iawn hyn lle mae pobl angen yr addasiadau hynny i allu dod o hyd i ffordd drwy'r system gynllunio gyfan? Oherwydd os na allwch gael y cynlluniau hynny drwodd, os na allwch adeiladu'r estyniad hwnnw, os na allwch osod y teclyn codi hwnnw a'r strwythur sydd ei angen ar ei gyfer, bydd yn rhaid i'r bobl hynny adael eu cartref a mynd i ofal y wladwriaeth neu bydd yn rhaid i'r teulu cyfan werthu a cheisio dod o hyd i rywle arall i fyw. Mae hwnnw'n amhariad brawychus, a byddwn wedi meddwl, yn ein cymdeithas ni, y gallem fod wedi dweud, 'Mewn gwirionedd, weithiau, mae modd eithrio rhai pobl rhag y rheolau a'r rheoliadau arferol.' Rwy'n credu y dylem allu rhoi cynllun ar waith a hoffwn gael eich barn ar hynny.

Ie, diolch, Angela Burns. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r enghraifft benodol honno, ond rwy'n fwy na pharod i edrych ar y gweithdrefnau, yn enwedig ar gyfer tai rhestredig; mae'n amlwg bod cymhlethdod ychwanegol yno. O ran yr addasiadau mwy a chynllunio yn gyffredinol, mae gennym lwybr ar gyfer hynny, ac mae asiantaethau gofal a thrwsio yn gyfarwydd iawn â gweithio gydag adrannau cynllunio. Ond rwy'n hapus iawn i edrych ar unrhyw achosion unigol sydd gennych lle nad yw hynny'n gweithio. Efallai fod adran gynllunio benodol, neu fod achosion penodol. Rwy'n hapus i edrych ar hynny os ydych eisiau rhannu'r manylion â mi.

Ond yn gyffredinol, rydym yn gweithio gydag adrannau cynllunio i sicrhau bod yr amseroedd cyfartalog oddeutu naw mis. Ac mae 40 wythnos yn amser hir iawn, rydych yn hollol gywir, ond yn amlwg, weithiau maent yn adeiladu estyniad cyfan ac yn y blaen, felly maent yn addasiadau mawr iawn. Mae'r addasiadau llai—fel y dywedais, lifftiau grisiau ac yn y blaen—yn cymryd tua pedwar mis ac mae'r rhai ymateb cyflym yn cymryd tua naw diwrnod. Rwy'n hapus i ddweud ar y pwynt hwn fy mod i heddiw wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig oherwydd rydym wedi gallu cytuno i ddileu'r prawf modd, y soniais amdano yn fy ymateb i Nick Ramsay ar glefyd niwronau motor. Felly, rwy'n hapus i ddweud ein bod wedi gwneud hynny hefyd, a bydd hynny'n cyflymu rhai o'r amseroedd ymateb i wneud addasiadau hefyd.

14:25

Weinidog, tybed a fyddech yn ymuno â mi i dalu teyrnged i'r gwaith sydd wedi'i wneud drwy'r pandemig gyda sefydliadau lleol gwych fel Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Er gwaethaf cyfyngiadau'r pandemig, fe wnaethant barhau i geisio gwneud yr addasiadau hynny ledled fy ardal. Ond, hefyd, a fyddai'n cytuno â mi fod hyn yn ymwneud â mwy na hynny hefyd? Mae'n ymwneud â phethau fel gwasanaeth Cadw'n Iach Gartref Cwm Taf a ariannwyd gennym sawl blwyddyn yn ôl drwy'r gronfa gofal integredig, gan gysylltu Rhondda Cynon Taf, Merthyr a bwrdd iechyd Cwm Taf â gwasanaeth sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, therapyddion, ffisiotherapyddion, technegwyr therapi, fel bod modd rhyddhau pobl yn gyflym i fyw gartref a gwella gartref lle maent eisiau bod, yn hytrach na'u bod yn mynd i'r ysbyty ac yn aros yn yr ysbyty. Felly, rwy'n gofyn, Weinidog, a wnewch chi gydnabod y gwaith anhygoel sydd wedi mynd rhagddo yn ystod y pandemig hwn, hyd yn oed gyda'r cyfyngiadau ychwanegol y maent wedi'u hwynebu, ac ategu fy niolch iddynt am yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud?

Yn sicr, Huw Irranca-Davies, hoffwn ategu eich diolch i bawb sydd, er gwaethaf yr holl heriau rydych wedi'u hamlinellu, wedi gweithio i sicrhau bod y bobl sydd eu hangen yn parhau i gael yr addasiadau y maent eu hangen i fyw'n ddiogel, osgoi gorfod mynd i'r ysbyty a dychwelyd adref mewn da bryd. Fe wyddoch gystal â mi fod Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Siarl i gyd yn rhan o'r cynllun Ysbyty i Gartref Iachach, mewn partneriaeth ag asiantaethau gofal a thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Taf. Hoffwn ddweud wrthych fod 739 o gleifion, yn y 10 mis hyd at ddiwedd mis Ionawr, wedi cael addasiad a'u cynorthwyodd i adael yr ysbyty'n ddiogel, gan arbed dros 4,500 o ddiwrnodau gwely. Cafodd 86 o'r cleifion hynny gymorth i gael budd-daliadau ychwanegol hefyd, gyda gwerth blynyddol o tua £420,000, felly rydych yn llygad eich lle, mae cydweithrediad y gwahanol asiantaethau wedi arwain nid yn unig at ryddhau pobl yn fwy diogel ac yn gyflymach o'r ysbyty, ond at incwm a chymorth ychwanegol i bobl sydd angen y cymorth hwnnw i allu byw bywyd hapus ac iach gartref.

Addasiadau i'r Cartref i Bobl ag Anableddau

2. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran darparu addasiadau i'r cartref i bobl ag anableddau? OQ56399

Diolch, Nick. Hyd yn oed yn wyneb y pandemig rydym wedi parhau i flaenoriaethu addasiadau i'r cartref lle'r oedd yn ddiogel gwneud hynny. Rydym yn symud ymlaen gyda gwaith i fynd i'r afael â gwelliannau a argymhellir i'r broses. Heddiw, cyhoeddais y byddai profion modd yn cael eu dileu ar gyfer addasiadau bach a chanolig.

Diolch, Weinidog. Nid wyf yn credu bod llawer y gallaf ei ychwanegu, mewn gwirionedd, at y cwestiynau blaenorol gan Rhun ap Iorwerth ac Angela Burns, ond rwy'n falch bod y ddadl a gyflwynais i'r Siambr yr wythnos diwethaf wedi rhoi cychwyn ar beth, neu wedi codi proffil y mater hwn. Fel y gwyddoch, yr wythnos diwethaf arweiniais y ddadl honno yn Siambr y Senedd, ac fe ateboch chi'n gynhwysfawr iawn. Rhywbeth na soniais amdano yn ystod y ddadl oedd astudiaeth achos y deuthum yn ymwybodol ohoni, gŵr bonheddig ym Mro Morgannwg nad oedd, oherwydd nam MND, wedi gallu cloi ei ddrws ffrynt ers mis Ionawr. Gohiriwyd y gwaith a daeth y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor yn rhan o bethau a datrys y broblem. Yn anffodus, bu farw'n ddiweddar, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi fod hyn yn dangos yn achos y cyflwr creulon hwn, a all arwain at farwolaeth yn gyflym iawn weithiau, fod gwir angen gwneud yn siŵr bod yr addasiadau tai hyn yn cael eu darparu cyn gynted â phosibl. Clywaf yr hyn a ddywedwch am rai o'r rhai mwy yn anos eu cyflawni, ond a wnewch chi addo y byddwch yn edrych ar ffyrdd y gellir cyflwyno rhai o'r gwelliannau llai a chanolig eu maint yn sicr ac addasiadau yn y cartref cyn gynted â phosibl, fel y gall pobl gael y cymorth diwedd oes y maent ei angen yn fawr?

Yn hollol, Nick Ramsay. Roeddwn yn falch iawn o ymateb yn gadarnhaol i'ch dadl fer, a oedd yn ddadl bwysig iawn am yr union resymau rydych newydd eu nodi. Felly, rydym wedi parhau i gyhoeddi canllawiau COVID i bob darparwr addasiadau, gan ddweud y gall gwaith barhau ac y dylid blaenoriaethu achosion brys er mwyn sicrhau nad oes amheuaeth o gwbl fod y gwaith hwn yn parhau ni waeth beth fo'r cyfyngiadau symud yng Nghymru. Mae gennym hefyd gyllid gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac asiantaethau gofal a thrwsio sydd wedi eu galluogi i wneud dros 30,000 o addasiadau bob blwyddyn. Fel rwyf newydd ei grybwyll, heddiw rwyf wedi rhoi camau ar waith i sicrhau na ddefnyddir prawf modd ar gyfer grantiau cyfleusterau bach a chanolig i'r anabl. Bydd hyn o fudd i bobl anabl ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys, wrth gwrs, y bobl roeddech yn dadlau drostynt yn eich dadl fer sydd â chlefyd niwronau motor, ac mae'n cynnwys pawb, perchnogion cartrefi, pobl yn y sector rhentu preifat—nid yw deiliadaeth yn rhwystr iddo. Ac rydym yn darparu cynnydd o £400,000 ar gyfer y grant Enable i awdurdodau lleol i ariannu'r newid, a byddwn yn monitro'r effaith ar alw yn agos dros y blynyddoedd nesaf wrth i ni ei gyflwyno. Mae hynny er mwyn ceisio cyflawni'r union beth rydych wedi tynnu sylw ato fwyaf, ac rydych newydd wneud hynny eto, Nick, sef sicrhau bod pobl sydd â chlefyd sy'n cyfyngu ar fywyd, megis clefyd niwronau motor, yn gallu cael addasiadau'n gyflymach o lawer, a hynny am ddim, fel y gallant fyw bywydau mor hapus â phosibl.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

[Anghlywadwy.]—mae rhywun arall yn gyfrifol am y mudydd, yn amlwg, ac wedi fy mudo.

Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Jones.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau'n gyntaf drwy ddweud 'diolch'? Er mai am gyfnod byr y gwneuthum hynny, mae wedi bod yn bleser bod yn llefarydd yr wrthblaid gyferbyn â chi, Weinidog, ac rwy'n gwerthfawrogi—ac rwy'n siŵr bod Mark yn gwerthfawrogi—eich holl ymatebion adeiladol.

Weinidog, a allwch ddweud wrthyf sut y mae'r Llywodraeth hon yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau, wrth ystyried safleoedd ar gyfer cynlluniau datblygu lleol, nad ydynt yn dewis safleoedd sy'n sgorio'n negyddol ym mhob maes ar ôl i asesiadau effaith a chynaliadwyedd gael eu gwneud mewn meysydd fel bioamrywiaeth, iechyd, lles, trafnidiaeth, datblygiad hanesyddol, ansawdd aer, perygl llifogydd, ac yn y blaen, a lle nad oes ysgolion neu feddygfeydd penodol a fyddai'n gallu ymdopi â datblygiadau ar raddfa fawr, yn enwedig pan fydd y datblygiadau hynny ar safleoedd tir glas? Nid yw'n gwneud synnwyr, ac mae'n mynd yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ni ddylai fod effaith amgylcheddol yn sgil adeiladu ar safleoedd o'r fath. Pam y bu'n rhaid i'r ymgyrchydd lleol Gruffudd Parry, a grŵp lleol cryf iawn, dynnu fy sylw at yr hyn y mae cyngor Torfaen yn ceisio ei basio yn eu CDLl diweddaraf? Does bosibl na ddylai eich Llywodraeth gael archwiliadau ar waith. Pa archwiliadau sydd ar waith, Weinidog, i sicrhau nad yw awdurdodau lleol yn mynd yn groes i bopeth y ceisiwch ei gyflawni yma yn y Senedd hon?

Rwy'n hapus iawn i dawelu meddwl Laura Jones ar y sefyllfa mewn perthynas â'r CDLl. Fel y gŵyr, rydym newydd gyhoeddi 'Cymru'r Dyfodol', y fframwaith datblygu cenedlaethol, a 'Polisi Cynllunio Cymru' sydd wedi'i ailgyhoeddi i gyd-fynd ag ef. Mae hynny'n golygu, mewn gwirionedd, fod angen i bob awdurdod lleol adolygu ei CDLl yng ngoleuni'r dogfennau hynny—yr awdurdodau sy'n mynd drwy'r broses o lunio eu CDLl, a'r rhai sydd â CDLl ar waith ar hyn o bryd. Rwyf wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol i dynnu sylw at yr angen i wneud hyn, ac mae angen iddynt gynnwys hynny yn eu proses gynllunio yn awr. Mae'r dogfennau hynny, wrth gwrs, yn cyfeirio at yr holl bethau y mae newydd eu crybwyll. Mae'n ganolog iawn i'n dull creu lleoedd o gynllunio fod y pethau hynny'n cael eu hystyried.

Wrth gwrs, mae'r broses gynllunio ei hun, fel y mae newydd ddweud, yn mynd â chi drwy archwiliad yn gyhoeddus, ac mae yno am yr union rheswm a amlinellodd—er mwyn galluogi'r cyhoedd i allu holi neu gwestiynu neu sicrhau bod y dystiolaeth ar gael, i sicrhau bod y cynllun mor gadarn ag y gall fod. Dyna holl bwynt proses a arweinir gan gynllun—democrateiddio'r broses, i ganiatáu i bobl leol ddweud eu barn amdano, ac i eraill sicrhau bod y cyngor yn gwneud yr hyn y dylai ei wneud, sef ystyried yr holl bethau amrywiol sy'n creu'r gymuned yr ydym am iddi fod. Felly, mae'r union ffaith eich bod yn gwybod amdani, a bod pobl yn gallu ei herio, yn dangos imi fod y sefyllfa'n gweithio. Wrth gwrs, dyna holl bwrpas holl broses y cynllun, a all fod yn rhwystredig, wrth gwrs, oherwydd mae'n cymryd cryn dipyn o amser i fynd drwodd, ac mae pobl yn teimlo'n rhwystredig y ffordd arall. Ond rwy'n credu ei bod yn werth chweil yn y pen draw, oherwydd bydd gennych gynllun y mae'r gymuned leol yn berchen arno, ac nid dull gweithredu un maint i bawb ym mhobman yng Nghymru.

A gaf fi ddweud hefyd, Laura, ei bod wedi bod yn bleser gweithio gyda chi, a chyda Mark hefyd? Rwy'n gwybod ein bod yn anghydweld weithiau yn gyhoeddus, ond rydym wedi cael llawer o gyfleoedd i weithio'n adeiladol hefyd, y tu ôl i'r llenni, ac rwy'n ddiolchgar amdanynt.

Diolch, Weinidog. Rwy'n hapus iawn gyda'ch ymateb yn awr, ac rwy'n siŵr y bydd y grŵp ymgyrchu lleol yn falch hefyd. Oherwydd ni ddylai'r mathau hyn o safleoedd ddod i fodolaeth yn y lle cyntaf yn fy marn i. Ni ddylem orfod mynd drwy'r holl gost o orfod gwneud archwiliadau o bethau y mae pawb yn gwybod nad ydynt yn addas.

Fodd bynnag, mae'r coronafeirws wedi cael effaith fawr ar unigolion a theuluoedd ledled y DU, fel y gwyddom. Ond o ran plant a phobl ifanc mewn gofal, fel y trafodwyd gennym yn y gorffennol, neu blant sydd wedi bod yn derbyn gofal o'r blaen, mae'r materion hyn yn amlwg yn llawer iawn pwysicach. Pa drafodaethau a gawsoch, a pha ystyriaeth a roddwyd gennych, i gymorth hirdymor i'r union bobl rwyf newydd eu disgrifio, i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi'n ddigonol wrth symud ymlaen? Diolch.

14:35

Yn amlwg, nid yw plant sy'n gadael gofal yn fy mhortffolio i, ond rwy'n gweithio'n agos iawn gyda Julie Morgan, gyda Vaughan Gething a chyda fy nghyd-Weinidog Kirsty Williams i sicrhau bod gennym gynllun traws-Lywodraethol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal, plant sy'n derbyn gofal ac yn y blaen. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod gennym ddull gweithredu cydgysylltiedig. Felly, mae'n dibynnu ar ba agwedd benodol rydych chi'n edrych arni.

O ran tai, er enghraifft, rydym wedi bod yn sicrhau bod gennym gynllun i wneud yn siŵr bod gennym lwybr i bobl sy'n gadael gofal, fod gennym y math iawn o dai ac yn bwysicach, y math cywir o gymorth o amgylch y tai hynny i sicrhau, lle mae pobl ifanc yn dechrau ar denantiaeth ar eu pen eu hunain, neu gyda nifer o rai eraill, fod ganddynt drefniadau cymorth cywir ar waith i sicrhau y gallant gynnal y denantiaeth honno. Ac wrth gwrs, fe fyddwch yn gwybod bod fy nghyd-Weinidog Ken Skates, ar ddechrau ei yrfa fel Aelod o'r Senedd, wedi cyflwyno deddfwriaeth a oedd yn caniatáu i bobl aros gyda rhieni maeth ac yn y blaen yn llawer hirach nag y byddent wedi gallu ei wneud o'r blaen fel y gallant barhau i gael y math o gymorth y mae pobl sy'n tyfu i fyny yn eu teulu biolegol yn aml yn ei gael yn hwyrach yn eu bywydau, ac mewn gwirionedd, yn achos fy mhlant i, ymhell i mewn i'w 30au.

Diolch i chi, Weinidog. Yn ddiweddar, cymeradwyodd Cyngor Dinas Casnewydd gynnig yn galw'n ffurfiol ar Lywodraeth Cymru i ystyried galwadau am refferendwm rhanbarthol ar ffordd liniaru'r M4. Canfu arolwg barn a gynhaliwyd gan WalesOnline fod dwbl y nifer o bobl wedi cefnogi'r ffordd na'r rhai a bleidleisiodd yn ei herbyn. Ar ôl i gyfyngiadau gael eu llacio wedi'r cyfyngiadau symud cyntaf, yn ystod haf y llynedd, roedd yn frawychus gweld pa mor gyflym y dychwelodd lefelau traffig i draffordd yr M4 o amgylch Casnewydd. Weinidog, beth yw eich barn ar yr awgrym fod angen am refferendwm lleol gan y cyngor? A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi na ellir anwybyddu cryfder y teimladau yng nghyngor Casnewydd ymysg cynghorwyr, ac yn y ddinas, a bod angen i'r Llywodraeth nesaf ailedrych o ddifrif ar yr angen am ffordd liniaru'r M4 a/neu ymrwymo, fel y Ceidwadwyr Cymreig, i adeiladu'r ffordd, a fydd o fudd nid yn unig i'r ddinas ond i Gymru gyfan?

Diolch, Laura Jones. Unwaith eto, mae ffordd liniaru'r M4 ym mhortffolio fy nghyd-Aelod Ken Skates yn bennaf, ond unwaith eto, rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth ar nifer o faterion. Os oes galw am refferendwm lleol, rydym yn sicr yn hapus i weithio gyda chyngor Casnewydd i weld sut y gellid cyflawni hynny. Rwy'n llwyr o blaid gweld pobl leol yn cael llais mawr yn yr hyn sy'n digwydd yn eu rhanbarth neu eu hardal.

Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi rhoi trefniant rhanbarthol ar waith ar gyfer proses gynllunio strategol drwy ein Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ac mae hwnnw'n sefydlu'r cydbwyllgorau corfforaethol. Mae cydbwyllgor corfforaethol y de-ddwyrain yn llawer mwy datblygedig nag yn unman arall mewn gwirionedd. Maent wedi datblygu'n dda iawn i edrych ar eu cynllun datblygu strategol. Bydd y cynllun datblygu strategol hwnnw, wrth gwrs, yn ystyried prif lwybrau ar gyfer traffig yn ogystal â phopeth arall, ochr yn ochr â'r comisiwn a roddwyd ar waith gan y Prif Weinidog a fy nghyd-Weinidog Ken Skates er mwyn edrych ar ddewisiadau eraill yn lle adeiladu llain goncrit niweidiol iawn yn ecolegol ar draws gwastadeddau Gwent, sydd wedi'u gwarchod. Nid yw'r pethau hyn byth yn syml, ac mae amrywiaeth o opsiynau ar bob ochr. Rwy'n ymwybodol iawn fod rhai pobl yng Nghasnewydd eisiau adeiladu'r M4, ond rwyf hefyd yn ymwybodol iawn fod llawer o bobl nad ydynt eisiau adeiladu'r M4 ac eisiau diogelu'r amgylchedd naturiol. Dyna pam y sefydlwyd y comisiwn.

Beth bynnag, mae mecanwaith yn ei le yn awr i'r cynllun strategol gael ei gyflwyno ar gyfer rhanbarth y de-ddwyrain, a phan fydd y broses honno wedi cychwyn, rwy'n siŵr y bydd digon o gyfle i bobl fynegi eu teimladau am y trefniadau trafnidiaeth strategol. Y cyd-bwyllgor corfforedig hefyd fydd y corff sydd â'r pŵer i roi'r cynllun strategol ar waith. Y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol fydd hwnnw, ac wrth gwrs, bydd yn rhaid iddo ryngweithio'n dda â'r trefniadau cynllunio strategol ar gyfer seilwaith. Wrth gwrs, dyna yw'r rheswm pam y gwnaethom gynnwys hynny yn y Ddeddf llywodraeth leol ac etholiadau, er mwyn rhoi'r blas rhanbarthol hwnnw. Oherwydd nid dim ond y bobl sy'n byw yn sir Casnewydd sy'n cael eu heffeithio gan hynny, ond yr holl bobl sy'n byw o'i hamgylch, ac yn wir, ymhellach na hynny yng Nghymru, a dyna pam fod angen ymagwedd strategol tuag ato. 

Diolch, Lywydd. Wrth agor, Weinidog, hoffwn adleisio'r hyn y mae Laura wedi'i ddweud. Mae wedi bod yn bleser eich cysgodi yn y swydd hon a dod o hyd i lawer o fannau lle ceir cydsyniad, rwy'n credu. Yn amlwg, ni fyddwn wedi cytuno ar bopeth, ond rwyf eisiau diolch i chi hefyd.

Gan droi at y cwestiynau sydd gennyf, mae'r amddiffyniadau ychwanegol i denantiaid yn ystod COVID—y gwaharddiad ar droi allan a beilïaid yn mynd i gartrefi pobl—i fod i ddod i ben ddiwedd y mis hwn, ac yfory yw'r pwynt adolygu nesaf pan allech ymestyn yr amddiffyniadau hynny ymhellach. Mae cymaint o agweddau ar fywyd nad ydynt wedi agor eto, ac mae tenantiaid yn dal i wynebu bygythiad o ddigartrefedd. Mae pob un o'r gohiriadau cyfnodol rhag troi allan wedi ymestyn y pryder i lawer o denantiaid mewn gwirionedd, oherwydd nid ydynt wedi cael cyfnod estynedig i allu teimlo'n ddiogel. Rwy'n gwybod eich bod wedi dweud mewn llythyr at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau nad oeddech yn bwriadu adolygu hyn tan yn nes at ddiwedd y mis, ond hoffwn ofyn i chi ystyried ymrwymo yfory i ymestyn yr amddiffyniadau hynny i denantiaid, fel na welwn droi allan torfol yn digwydd pan ydym yn dal i fod yng nghanol pandemig, ond yn bennaf er mwyn tawelu eu meddyliau.

14:40

Diolch, Delyth. Unwaith eto, ailadroddaf yr hyn a ddywedais wrth Laura ac wrth Mark. Mae wedi bod yn dda gweithio gyda chi. Rydym wedi canfod llawer o bethau sy'n gyffredin rhyngom yn ogystal â phethau lle gallwn anghytuno, a lle rydym wedi anghytuno rydym wedi gallu trafod yr anghytundeb hwnnw mewn ffordd wâr a chyda'r dystiolaeth ar y ddwy ochr. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i chi. Mae wedi bod yn bleser mawr gweithio ochr yn ochr â chi hefyd drwy gydol y Cynulliad hwn, a thymor y Senedd erbyn hyn, sydd i'w weld wedi mynd yn eithriadol o gyflym yn ystod y misoedd diwethaf hefyd. Prin y gallaf gredu ein bod yma ar ei ddiwedd. 

Ar droi allan, yn hollol, rwy'n cytuno'n llwyr na allwn gael pobl yn cael eu troi allan, yn enwedig i ddigartrefedd posibl ynghanol pandemig. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod eisoes wedi cartrefu dros 6,000 o bobl yn ystod y pandemig, sy'n dangos i chi wir faint yr anhawster. Mae'r pandemig yn gwneud i'r system wegian ar ei hymylon, ac yn sicr nid ydym am ychwanegu nifer enfawr o bobl o'r sector rhentu preifat at hynny mewn amgylchiadau lle byddent yn annhebygol o ddod o hyd i unrhyw le i fynd, ac yn enwedig, mewn gwirionedd, lle maent mewn sefyllfa lle na allent fynd i aros gyda ffrind ar hyn o bryd yn sgil y rheolau COVID ac yn y blaen—nid bod hynny'n ddelfrydol o ran cartrefu pobl.  

Wrth gwrs, rydym yn parhau i adolygu'r gwaharddiad ar droi allan ym mhob cylch tair wythnos fel bob amser. Nid wyf mewn sefyllfa eto i ddweud beth fydd y Prif Weinidog yn ei gyhoeddi ddydd Gwener, ond wrth gwrs, mae'n un o'r pethau a ystyriwn ym mhob cylch tair wythnos. Rydym yn dal i wneud hynny. Rydym yn ymwybodol iawn fod y diwedd presennol ar ddiwedd mis Mawrth, ac mae hynny'n cael ei adolygu. Rwy'n cael cyfarfodydd cyson gyda fy swyddogion ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud i sicrhau bod tenantiaid yn cael eu hamddiffyn a'u cadw'n ddiogel yn ystod y pandemig, a hefyd, a dweud y gwir, pa gynlluniau sydd gennym ar waith ar gyfer yr adeg pan fydd y gwaharddiad yn cael ei godi yn y pen draw, a'r hyn a wnawn gyda'r niferoedd posibl o bobl na fydd yn gallu parhau yn eu llety presennol bryd hynny. Felly, gallaf eich sicrhau ein bod o ddifrif ynglŷn â hyn. Rwy'n deall yn iawn y rheidrwydd i'w wneud ac mae'n rhan bwysig o'r broses adolygu. 

O'r gorau. Diolch ichi am hynny, Weinidog. Byddaf yn aros yn eiddgar i weld beth fydd y cyhoeddiad ddydd Gwener.

Gan droi at faes arall, rwy'n credu bod y pandemig wedi dangos i bawb ohonom pa mor hanfodol yw teimlo'n ddiogel yn ein cartrefi. Mae gormod o bobl yng Nghymru yn teimlo'n anniogel yn yr adeiladau lle maent yn byw, yn aml oherwydd bod cladin y mae'r datblygwr wedi gwrthod cael gwared arno'n peri pryder aruthrol iddynt. Mae'r bobl hyn mewn sawl ffordd wedi'u caethiwo yn eu cartrefi, oherwydd ni allant eu gwerthu, ond nid ydynt ychwaith yn teimlo'n ddiogel ac maent yn wynebu costau enfawr mewn taliadau gwasanaeth, mewn biliau, na ddylai fod yn rhaid iddynt eu talu a bod yn onest.

Ers blynyddoedd, mae Plaid Cymru—gwn y byddwch yn gwybod hyn—wedi datgan yr angen am dreth ffawdelw ar elw datblygwyr mawr i dalu am unioni'r problemau a achoswyd ganddynt, a gwn o'n trafodaethau blaenorol fod gennych ddiddordeb yn y syniad hwn hefyd. Ond ar hyn o bryd, mae'n debyg ei fod y tu hwnt i bwerau'r Senedd i gyflwyno hynny. Felly, hyd nes y cawn y pŵer hwnnw, Weinidog, a ydych yn credu y dylai Llywodraeth nesaf Cymru ariannu'r gwaith atgyweirio gyda golwg ar gael yr arian yn ôl, efallai, o dreth ffawdelw neu o ddulliau eraill? Wedi'r cyfan, ni ellir troi cefn ar y tenantiaid hyn a'u gadael i wynebu eu trafferthion.

Yn wir, Delyth. Gan ein bod wedi bod yn gweithio ar hyn ers peth amser, fe fyddwch yn gwybod ei fod yn gymhleth iawn. Rwy'n gwybod ei bod yn demtasiwn ofnadwy i bobl feddwl ei fod yn hawdd, ac rwy'n aml yn cael gwybod ar y cyfryngau cymdeithasol—[Anghlywadwy.]

Rwy'n credu efallai ein bod yn colli'r cysylltiad â'r Gweinidog. Fe wnawn oedi eiliad i weld a ellir ei adfer.

[Anghlywadwy.]—ni fyddai eraill o reidrwydd yn rhoi'r swm o arian sydd ei angen arnoch i drwsio'r adeilad cyfan. Yn aml mae patrymau perchnogaeth cymhleth yn yr adeilad. Ceir materion cymhleth rhwng rhydd-ddeiliad a lesddeiliaid ac yn y blaen.

Rwyf wedi bod yn cyfarfod â chyfres o ddatblygwyr. Cyfarfûm ag un arall o'r datblygwyr mawr y bore yma i ddeall ganddynt beth a ystyriant yn gyfrifoldeb iddynt hwy. Mae llawer o'r adeiladwyr bellach yn dweud y byddant yn trwsio diffygion etifeddol yr adeilad. Mae problem ynghylch perchnogion adeiladau'n ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb yn hytrach na'r lesddeiliaid eu hunain. Ni allwn godi treth ffawdelw yma yng Nghymru. Rwyf wedi galw ar Lywodraeth y DU i wneud hynny. Rwy'n hapus i wneud hynny eto ar lawr y Senedd. Rydym yn edrych i weld a allem wneud i unrhyw fath o ardoll weithio yng Nghymru. Yr anhawster yw nad oes llawer iawn o bobl yn adeiladu adeiladau uchel yng Nghymru eisoes, a phe baech yn rhoi ardoll arnynt, mae'n debyg mai'r cyfan y byddech yn ei gyflawni fyddai eu hatal rhag eu hadeiladu yn hytrach na chynhyrchu unrhyw arian ganddynt. Felly, mae angen inni ddod o hyd i ffordd sy'n gweithio'n ymarferol i bobl.

Mae gennyf gyfres o gynghorwyr cyfreithiol yn gweithio'n galed ar amrywiaeth o opsiynau rydym wedi'u cyflwyno—fe wnaethoch chi ac Aelodau eraill o'r Senedd awgrymu rhai ohonynt. Cafodd eraill eu hawgrymu wrthyf gan y grwpiau o breswylwyr y cyfarfûm â hwy. Rwy'n trafod yn gyson gyda'r trigolion yn ogystal â chyda'r adeiladwyr. Felly, rydym yn ymdrechu'n galed iawn i ddod o hyd i ffordd drwy hyn, a dywedaf unwaith eto: nid oes gennym fonopoli ar syniadau da yma. Os gall unrhyw un ddod o hyd i ffordd drwy hyn, byddem wrth ein bodd yn clywed ganddynt. Ac rwy'n falch iawn o'r sgyrsiau a gefais gyda'r adeiladwyr, y diwydiant adeiladu, y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi ac eraill, am y ffordd ymlaen a beth y gellid ei wneud i allu gwneud hyn. Ac rydym wedi rhoi arian yn y gyllideb i edrych ar y gwaith rhagarweiniol ar ei gyfer, ac rwy'n siŵr y bydd pa Lywodraeth bynnag sydd mewn grym ar ôl yr etholiad am wneud rhywbeth i helpu'r lesddeiliaid sy'n wynebu'r trafferthion mwyaf ofnadwy ar hyn o bryd.

14:45

Iawn, diolch ichi am hynny, Weinidog. Fy nghwestiwn olaf: hoffwn eich holi am rai o'r newidiadau mwy pellgyrhaeddol i'r system gynllunio sy'n sicr o fod eu hangen ar ein cymdeithas. Rwy'n sylweddoli bod cynllunio'n rhychwantu gwahanol bortffolios, ond mae'n amlwg fod cysylltiad â lles trigolion, ac ansawdd tai a'r cymunedau y mae'r tai hynny'n eu cynnal. Oherwydd ar hyn o bryd, yn nwylo'r datblygwyr mawr y mae llawer iawn o'r pŵer, os nad i gyd ac felly gallant osgoi cyfrifoldebau adran 106. Nid oes digon o breswylwyr a phobl sy'n byw mewn cymunedau yn deall sut y mae'r system gynllunio'n gweithio. Felly, a ydych yn cytuno y dylai perfformiad datblygwr yn y gorffennol fod yn ystyriaeth berthnasol wrth farnu a ddylent gael gwaith newydd? Oni ddylai cyfreithiau cynllunio nodi mai dim ond pan fydd camau cychwynnol y datblygiad wedi'u cwblhau mewn gwirionedd y gall datblygiad fynd yn ei flaen—er enghraifft, y rhannau hynny y mae datblygwyr yn aml yn eu gweld fel pethau sy'n braf eu cael, ond yn hawdd dod allan ohonynt, fel parciau chwarae i blant? Ac a ydych yn cytuno â mi y dylai pob datblygiad newydd—pob cartref newydd, hynny yw—gael mynediad hawdd at fannau gwyrdd ac os yn bosibl, at fannau glas hefyd, fel y gall pawb gael y budd, a'r manteision lles, sy'n digwydd o ganlyniad i allu byw'n agos at fyd natur?

Ydw, yn sicr rwy'n cytuno â rhai o'r cynigion hynny a chytunaf â'u byrdwn yn sicr. Felly, mae rhai problemau gwirioneddol gyda'r pwyntiau ynglŷn â pherfformiad yn y gorffennol. Rwy'n deall yn iawn beth rydych chi'n ceisio'i gyflawni gyda hynny, ond wrth gwrs, nid oes unrhyw beth o gwbl i atal pobl rhag sefydlu cwmnïau un cerbyd i adeiladu adeiladau penodol ac yn y blaen. Rydych yn wynebu problem wirioneddol o ran pwy'n union rydych chi'n credu sydd â'r problemau perfformiad yn y gorffennol. Rhoddwyd cynnig ar y pethau hyn mewn gwahanol fannau ac mae anawsterau'n codi gyda hwy, ond rwy'n deall y pwynt rydych chi'n ei wneud ac mae'n rhywbeth rydym eisiau gallu ei archwilio.

Y ffordd well o'i wneud, wrth gwrs, yw gwneud i'r system gynllunio weithio'n iawn ac annog pobl i ddod ymlaen yn y ffordd ddemocrataidd gywir a'u galluogi i wneud hynny—felly, cynorthwyo sefydliadau fel Cymorth Cynllunio i sicrhau bod poblogaethau lleol yn gallu cymryd rhan yn y broses gynllunio yn gynnar ac nid dim ond pan fyddant yn sylweddoli bod datblygiad nad ydynt yn ei hoffi ar fin cael ei godi, wyddoch chi, pan fydd yr arwyddion wedi'u codi a'r hysbysiadau ar byst telegraff ym mhobman, ond eu cael i gymryd rhan yn y broses gynllunio mewn gwirionedd. Rwy'n awyddus iawn i wneud hynny ac mae ffyrdd o wneud hynny drwy sefydliadau, megis Cymorth Cynllunio ac eraill, sy'n helpu gwahanol gymunedau i gyflwyno pethau penodol yr hoffent eu gweld yn eu hardaloedd. Felly, rwy'n falch iawn o wneud hynny.

Ceir ystod eang o bethau roeddem am eu gwneud ac nad oeddem yn gallu eu gwneud oherwydd y pandemig, yn ymwneud â rheoliadau adeiladu, sy'n gorfodi pethau fel safonau gofod, seilwaith gwyrdd, parciau, gofod awyr agored ac yn y blaen, ac rwy'n siŵr y bydd unrhyw Lywodraeth sydd mewn grym ar ôl yr etholiadau sydd ar y ffordd eisiau eu datblygu. Mae'r rhan helaethaf o'r gwaith wedi'i wneud eisoes gan swyddogion, ond oherwydd y pandemig, ni allem ei orffen cyn yr etholiadau. Felly, rwy'n awyddus iawn i bwy bynnag sydd mewn grym wedyn allu manteisio ar hynny. A byddai hynny'n datrys rhai o'r materion rydych yn sôn amdanynt—ynglŷn â sicrhau bod y tai yn dai o ansawdd da am oes, gyda gofod awyr agored, neu falconïau addas ac yn y blaen os mai fflatiau ydynt. Felly, rwy'n awyddus iawn i wneud hynny.

Y darn olaf o'r jig-so hwnnw, sy'n llawer mwy cymhleth, yw'r hyn a wnewch am ganiatâd cynllunio sydd eisoes wedi'i roi ond nad yw wedi'i ddatblygu eto, ac sy'n ddarostyngedig i hen reolau erbyn hyn. Felly, yr enghraifft yr hoffwn ei rhoi i chi yw un y systemau chwistrellu mewn adeiladau. Sicrhaodd fy nghyd-Aelod Ann Jones fod y ddeddfwriaeth arloesol honno'n mynd drwodd. Cafodd ei gwawdio ar y pryd; profwyd wrth edrych yn ôl ei bod yn hollol gywir, ond mae gennym dai newydd yn dal i gael eu hadeiladu yng Nghymru heb systemau chwistrellu ynddynt oherwydd bod gan bobl ganiatâd cynllunio a oedd wedi'i ddechrau ac roedd ganddynt hawl i orffen y gwaith adeiladu. Felly, hoffwn gael lle ac amser i edrych eto ar y ddeddfwriaeth gynllunio i weld a allwn wneud rhywbeth ynglŷn â sicrhau bod pobl yn adeiladu yn ôl y rheoliadau adeiladu presennol ac nid y rhai a oedd yn bodoli ar yr adeg y dechreuodd y caniatâd cynllunio. Felly, yn sicr, hoffem weithio ar hynny ar ôl yr etholiad. Mae gan nifer fawr o bobl ledled Cymru ddiddordeb mewn edrych i weld beth y gellir ei wneud ynglŷn â hynny. Os ydym i gyd yn ôl ar ôl yr etholiad, rwy'n siŵr y gallwn lunio gweithgor cyflym i allu gwneud hynny.  

14:50
Cymorth Ariannol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent? OQ56406

Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ariannol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent drwy gyllid craidd heb ei neilltuo, yn ogystal â thrwy grantiau penodol i'r awdurdod ar gyfer amrywiaeth o flaenoriaethau a rennir.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am hynny. Rydym yn ymwybodol fod y setliad llywodraeth leol presennol yn setliad hael iawn, ac mae'n un sy'n adeiladu ar wariant ychwanegol sylweddol drwy'r pandemig i gefnogi awdurdodau lleol nad ydynt wedi gallu defnyddio eu ffynonellau ariannu arferol yn y ffordd arferol, ac maent wedi gorfod ymdopi â phwysau ychwanegol sylweddol. Felly, mae hyn yn adeiladu ar bolisi a ddilynwyd gan Lywodraethau olynol yng Nghymru sy'n diogelu llywodraeth leol, yn diogelu gwasanaethau lleol ac yn diogelu swyddi lleol, a gwneir hyn mewn ffordd sy'n dangos ymrwymiad gwirioneddol i ddemocratiaeth leol yng Nghymru o'i chymharu â'r sefyllfa ar draws ein ffin.

Mae'r £6.3 biliwn mewn gwariant cyfalaf a refeniw sy'n cael ei ddarparu i lywodraeth leol yn y gyllideb y cytunwyd arni ddoe yn rhywbeth a fydd yn galluogi cynghorau nid yn unig ym Mlaenau Gwent, ond ledled Cymru i fuddsoddi yn eu pobl, yn eu gwasanaethau ac yn eu cymunedau. Weinidog, rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno mai dyma'r ffordd y mynegwn ein gwerthoedd fel Llafur Cymru—buddsoddi mewn pobl leol, cynghorau lleol a democratiaeth leol—ac mae cymhariaeth real iawn â'r ffordd y mae llywodraeth leol yn cael ei thynnu'n ddarnau dros y ffin yn Lloegr.

Rwy'n sicr yn cytuno ag Alun Davies ar y pwynt hwnnw. Roeddwn yn falch iawn yn y setliad ddoe fy mod wedi blaenoriaethu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Roedd y gyllideb gyffredinol a gyflwynodd fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans ychydig cyn imi gyflwyno'r setliad llywodraeth leol yn blaenoriaethu cyllid ar gyfer iechyd a llywodraeth leol yn y gyllideb honno i raddau mawr iawn, ac yn wir mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi cael setliad da iawn. 

O safbwynt Blaenau Gwent, cynyddodd y cyllid craidd heb ei neilltuo ar gyfer cyngor Blaenau Gwent i dros £120 miliwn ar gyfer 2021-22, sy'n gynnydd o 3.7 y cant i gyd, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau amrywiol. Daw hyn, wrth gwrs, ar ôl y setliad rhagorol yn y flwyddyn ariannol gyfredol hon i Flaenau Gwent, a gynyddodd £4.3 miliwn, cynnydd o 3.9 y cant ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau. O fewn y gronfa caledi yn wir, rydym wedi darparu £4.57 miliwn ychwanegol i Flaenau Gwent ar gyfer costau ychwanegol, ac £1.7 miliwn arall ar gyfer incwm a gollwyd hyd at ddiwedd mis Chwefror, sef cyfanswm o £6.27 miliwn yn ychwanegol at ei gyllid arferol, er mwyn ystyried y caledi y mae'r cyngor hwnnw, fel llawer o rai eraill, wedi'i brofi oherwydd y pandemig. 

Rydym ni yn Llywodraeth Cymru—unwaith eto, yn wahanol i gymheiriaid dros y ffin—o'r farn fod democratiaeth leol yn beth da ac y dylid caniatáu i bobl leol ethol eu cyngor a dylid caniatáu i'w cyngor osod y dreth gyngor y mae ei hangen. Rwy'n deall bod Blaenau Gwent yn cynyddu ei dreth gyngor 3.3 y cant, sydd ar yr ochr uchel i Gymru o gofio haelioni'r setliad, ond unwaith eto, fe wnaethom ddewis peidio â chapio'r cyngor ar y sail ein bod yn credu bod pobl leol yn ethol y cyngor y maent am ei gael a hwy sy'n gwneud y gwaith da o benderfynu beth ddylai'r dreth gyngor fod. Fodd bynnag, rydym wedi gofyn i gynghorau edrych yn ofalus iawn ar yr hyn sy'n fforddiadwy yn eu hardal ac wrth gwrs, mae'n bleser gennyf ddweud ein bod wedi cynnal hawl lawn o dan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor ar gyfer 2021-22, ac rydym yn darparu £244 miliwn o dan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn y setliad i gydnabod hynny. Felly, lle ceir caledi a lle mae'r dreth gyngor yn codi, bydd gan bobl hawl i wneud cais o dan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Unwaith eto, nid oes cynllun o'r fath yn bodoli dros y ffin, gan iddo gael ei ddiddymu, fel y gwyddoch. Credaf efallai mai chi oedd y Gweinidog ar adeg y diddymu, mewn gwirionedd, Alun. Penderfynwyd cadw'r cynllun hwnnw, er nad oedd wedi ei ariannu'n llawn pan ddigwyddodd hynny. Felly, rwy'n falch iawn o allu dweud hynny, ond rwy'n credu mewn democratiaeth leol ac felly rydym wedi caniatáu i bob cyngor gael rhyddid i bennu ei dreth gyngor ei hun. Maent wedi cymeradwyo'r setliad da iawn a gawsant am yr ail flwyddyn yn olynol gan Lywodraeth Cymru.

14:55
Tai Cymdeithasol

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon? OQ56395

Diolch, Vikki. Rydym wedi buddsoddi mwy nag erioed mewn tai fforddiadwy yn ystod tymor y Senedd hon. Mae ystadegau 2019-20 wedi cadarnhau y byddwn, o ganlyniad uniongyrchol i'n buddsoddiad, yn rhagori ar ein targed uchelgeisiol o 20,000 o dai fforddiadwy yn nhymor y Llywodraeth hon.

Diolch, Weinidog. Yn ogystal â rhoi cartrefi addas i'r diben i bobl sy'n agored i niwed, mae'r grant tai cymdeithasol hefyd wedi helpu i adfywio safleoedd allweddol sy'n ddiffaith a segur, sydd i'w gweld yn aml mewn mannau amlwg iawn yn ein cymunedau. Un enghraifft yn fy etholaeth i yw'r adeilad segur ar Stryd Rhydychen yng nghanol y dref yn Aberpennar, safle y mae Tai Cynon Taf yn ei droi'n fflatiau un ystafell wely mawr eu hangen drwy'r grant. Weinidog, gwn eich bod wedi cofnodi cyn hyn eich ymrwymiad i barhau i ddarparu cartrefi cymdeithasol i'w rhentu yn nhymor nesaf y Senedd, ond a ydych yn cytuno â mi y gall cynlluniau o'r fath hefyd fod yn ysgogiad allweddol i drawsnewid a gwella ein cymunedau i'r holl drigolion?

Diolch, Vikki. Ydym, rydym yn falch iawn o'r modd y caiff gwahanol bolisïau'r Llywodraeth eu cyfosod. Felly, mae ein hagenda Trawsnewid Trefi yn cyd-fynd, wrth gwrs, â'n hagenda polisi tai cymdeithasol, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod gennym dai cymdeithasol da, tai fforddiadwy da, wedi'u hadeiladu'n agos at ganol ein trefi, ac yn ddelfrydol, fel y dywedwch, mewn adeiladau diffaith neu ar dir diffaith sydd wedi bod yn ddolur llygad hyd yma ac yn niweidiol i'r gymdeithas. Yr hyn y mae'n ei wneud, wrth gwrs, yw dod â bywiogrwydd, gobaith newydd ac optimistiaeth ac ymwelwyr i ganol y ddinas, felly mae'n gyfuniad hyfryd o'r gallu i roi cartrefi hyfryd iawn i bobl, a fydd yn hawdd eu fforddio, cartrefi y byddant yn falch o fyw ynddynt, ac a fydd hefyd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas ac yn cael gwared ar adeilad a fyddai wedi bod yn niweidiol fel arall. Felly, rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae'r agenda Trawsnewid Trefi a'r agenda adeiladu tai cymdeithasol wedi cyfuno i allu cael yr effaith honno mewn lleoedd fel Aberpennar. Rwy'n gwybod eich bod wedi bod yn dadlau'n gryf dros yr angen i adfywio trefi lleol yn eich ardal. Cofiaf yn dda y cyflwyniad fideo a wnaethoch, pan oeddem i gyd yn y Siambr, o'r gwahanol leoedd yn eich etholaeth a oedd angen y math hwnnw o adfywio, ac rwy'n falch iawn fod un ohonynt yn dwyn ffrwyth, ac yn falch iawn o weld mai fflatiau un ystafell wely ydynt, sef un o'r pethau y mae fwyaf o'u hangen yn y sector tai cymdeithasol. O ganlyniad i'r pandemig, fe fyddwch yn gwybod ein bod eisoes wedi cartrefu dros 6,000 o bobl. Rydym yn amlwg iawn yn gwthio yn awr i adeiladu'r cartrefi parhaol y mae ar bobl eu hangen er mwyn eu hatal rhag profi digartrefedd o'r fath eto.

Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod angen inni weld aileni tai cymdeithasol yn y 2020au, gan adeiladu yn ôl tueddiadau hanesyddol, neu'n uwch na hynny os oes modd? Ac a ydych chi, fel fi, yn pryderu'n benodol am y grŵp newydd hwnnw: pobl yn eu 30au a'u 40au ar incwm da ond heb gyfoeth teuluol na allant gael mynediad at y farchnad i brynu cartrefi teuluol, er anfantais fawr i'w plant?

Ydw. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, David Melding. Rydym wedi bod yn awyddus iawn i ymestyn, er enghraifft, y cynlluniau Cymorth i Brynu. Rydym yn awyddus iawn nid yn unig i helpu pobl iau, o'm safbwynt i, sydd yn eu 30au ac yn y blaen, gyda'u teuluoedd, i gael mynediad at gartrefi o ansawdd da, ond rydym yn awyddus iawn i helpu ein diwydiant adeiladu i'w hadeiladu mewn amgylchiadau lle mae angen help gan y Llywodraeth arnynt weithiau i wneud hynny. Rwyf hefyd yn awyddus iawn, serch hynny, i ddefnyddio'r ysgogiad a ddaw yn sgil cyllid y Llywodraeth i adeiladu'r math cywir o gartrefi yn y math cywir o leoedd ac i'r math cywir o safon. Rwyf wedi dweud yn bendant iawn wrth y diwydiant adeiladu tai yma yng Nghymru ein bod am weld tai'n cael eu hadeiladu ar gyfer y dyfodol y mae pobl yn parhau i fod yn falch o fyw ynddynt, nad ydynt yn wynebu tlodi tanwydd, eu bod yn oddefol o ran eu defnydd o garbon neu'n garbon niwtral lle bo'n bosibl, fod ganddynt y safonau gofod sy'n angenrheidiol er mwyn i bobl allu addasu i amodau newidiol eu bywydau yn y tai hynny. Gwn eich bod yn cytuno â'r agenda honno hefyd. Rwy'n gweithio'n galed iawn i sicrhau y bydd gennym system Cymorth i Brynu barhaus yng Nghymru, ein bod yn parhau i fod â chynllun rhentu i brynu yng Nghymru, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn rhannau helaeth iawn o Gymru ac sy'n caniatáu i bobl nad oes ganddynt flaendal i gael troed ar yr ysgol dai er hynny, ac i gael amrywiaeth o gynlluniau rhannu ecwiti, rhanberchnogaeth, perchnogaeth mentrau cydweithredol a chynlluniau tebyg i ymddiriedolaethau tir cymunedol ledled Cymru, yn ogystal ag adeiladu'r nifer angenrheidiol o dai cymdeithasol wrth gwrs fel y gall pobl gael gafael ar dai cymdeithasol os bydd angen a pheidio â chael eu gwthio i gartrefi sector rhentu preifat o safon isel.

15:00

Weinidog, er bod eich Llywodraeth ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged tai fforddiadwy ar gyfer tymor y Senedd hon, a ydych yn derbyn bod y targed hwn yn druenus o annigonol? Rwy’n eich llongyfarch am wneud mwy na Llywodraethau Cymru yn y gorffennol, ond rwy’n siomedig eich bod wedi methu mynd i’r afael â’r gwir angen sy’n bodoli am dai cymdeithasol. Cafodd y cartrefi newydd a adeiladwyd eu bachu cyn i'r fricsen gyntaf gael ei gosod hyd yn oed. Mae teuluoedd yn dal i aros blynyddoedd i gael cartref; mae gormod o lawer o blant yn byw mewn llety gwely a brecwast; ac mae gormod o lawer o bobl yn dal i gysgu ar y stryd neu ar soffas. A ydych yn derbyn nad oedd eich targed yn ddigon uchelgeisiol, ac os byddwch yn dychwelyd i'r Senedd hon ac yn rhan o Lywodraeth nesaf Cymru, a wnewch chi addo gwneud mwy os gwelwch yn dda? Oherwydd yn yr unfed ganrif ar hugain, mae'n resynus yn foesol fod pobl yn dal yn ddigartref a'u bod yn dal i fyw mewn llety sy'n anaddas i'w hanghenion. Diolch yn fawr.

Wel, Caroline, rwyf wedi synnu braidd eich bod yn gallu wfftio rhywbeth rydym yn wirioneddol falch ohono yma yng Nghymru i’r fath raddau, ac mae'n rhaid imi ddweud nad wyf yn cytuno ag unrhyw beth a ddywedasoch, bron â bod, ar wahân i’r ddwy frawddeg olaf honno.

Rydym yn hynod falch o'n cyflawniad o fod wedi cyrraedd ein 20,000 o dai fforddiadwy. Wrth gwrs, dim ond yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf y bu modd inni gynyddu faint o dai cyngor a oedd yn cael eu hadeiladu, ar ôl i'r Llywodraeth Geidwadol wneud y peth iawn o'r diwedd a chael gwared ar y capiau ar y cyfrifon refeniw tai fel ein bod, ddwy flynedd yn ôl, wedi gallu dechrau cynyddu faint o dai cyngor yr oeddem yn eu hadeiladu. Rydym wedi gwneud yn anhygoel o dda yn hynny o beth. Mae ein hystadegau dros dro diweddaraf yn dangos, yn 2019-20, fod cyfanswm o 2,940 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol wedi’u cyflenwi ledled Cymru, ac rwy'n falch iawn fod hynny nid yn unig yn adeiladu ar ein llwyddiant blaenorol, ond yn gosod record newydd. Mae’n gynnydd o 13 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a dyma’r cyfanswm blynyddol uchaf ers dechrau cadw cofnodion.

Wrth gwrs, oherwydd effeithiau COVID-19, nid ydym wedi rhagori ar y targed ar y lefelau y byddem wedi hoffi. Mae’n rhaid imi ddweud nad ydym yn gweithio tuag at yr 20,000 o dai fforddiadwy; mae'r ystadegau swyddogol yn dangos ein bod wedi cyrraedd y targed hwnnw bellach. Rwy'n siomedig, oherwydd y pandemig, fod y gwaith wedi arafu ac nad oeddem yn gallu mynd mor gyflym ag y byddem wedi’i hoffi, ond rydym yn hynod o falch hefyd o'n cyflawniad yn rheoli digartrefedd ledled Cymru. Rwy'n hynod falch o'r bobl yn yr awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector, gwasanaethau cymorth tai ledled Cymru sydd wedi gwneud mwy na’r disgwyl—llawer mwy na’r disgwyl—i gartrefu pobl drwy gydol y pandemig, mewn cyferbyniad llwyr â'r Ceidwadwyr dros y ffin. Nid ydym wedi cael pandemig o bobl yn cysgu allan ar ein strydoedd yn ystod yr argyfwng, ac rydym yn falch dros ben o'r ffaith ein bod wedi cartrefu dros 6,000 o bobl. Rydym wedi buddsoddi dros £137 miliwn mewn grantiau tai cymdeithasol yn 2019-20, a dros £25 miliwn mewn grantiau cyllid tai i gefnogi’r gwaith o ddarparu tai cymdeithasol yng Nghymru. Ac rydym yn buddsoddi £71.5 miliwn mewn cyllid refeniw o dan raglen y grant tai fforddiadwy i gynorthwyo awdurdodau tai lleol i adeiladu tai cyngor newydd. Felly, nid wyf yn derbyn y rhagosodiad a oedd yn sail i’w chwestiwn o gwbl. Lywydd, rydym yn falch iawn wir o gyflawniadau'r Llywodraeth hon yn y sector tai cymdeithasol, ac rwy'n mawr obeithio y byddwn yn gallu parhau â hynny am y pum mlynedd nesaf.

Y Broses Gynllunio

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y broses gynllunio yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn fwy ymatebol i breswylwyr? OQ56389

Diolch, Jack. Gyda'i gilydd, mae polisi cynllunio cenedlaethol, ‘Cymru’r Dyfodol' a chynlluniau datblygu lleol yn creu fframwaith i sicrhau y gall cymunedau ymwneud â chynigion sy'n effeithio ar eu hardaloedd mewn modd effeithiol ac ystyrlon. Mae gan y cynlluniau datblygu lleol sawl cam statudol ac anffurfiol lle gall cymunedau lunio a dylanwadu ar ddyfodol eu hardal yn uniongyrchol.

Weinidog, diolch am eich ateb. A gaf fi ddiolch i chi a'ch Dirprwy Weinidog am gyfarfod â Chyngor Cymuned Pen-y-ffordd a minnau ar ddechrau'r flwyddyn? Credaf mai'r hyn sy'n amlwg yw bod y cyngor a'r gymuned—trigolion cymuned Pen-y-ffordd—ac yn ddigon teg, dylwn ddweud, yn teimlo bod Arolygiaeth Gynllunio Cymru wedi gwneud tro gwael â hwy. Er i brosiectau sylweddol gael eu derbyn gan yr arolygiaeth, nid yw gwleidyddion lleol a thrigolion y gymuned wedi cael ateb hyd yn oed. Felly, gyda hynny mewn golwg, Weinidog, pa ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i ddiwygio'r ffordd y mae'r Arolygiaeth Gynllunio’n gweithredu, er mwyn sicrhau bod pobl yn gwrando ar leisiau cymunedau fel Pen-y-ffordd?

15:05

Diolch yn fawr, Jack. Roedd yn bleser cyfarfod â chi a'r cyngor cymuned gyda Hannah Blythyn. Roedd yn sgwrs ddefnyddiol a bywiog iawn, rwy'n siŵr eich bod yn cofio, ynglŷn â sut y gall pobl leol—a chynghorau cymuned yn benodol—sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn effeithiol yn y broses gynllunio. Felly, roeddwn yn falch iawn o ystyried llawer o'r hyn a ddywedwyd ganddynt, ac rwy'n falch iawn hefyd o ddweud bod cynllun datblygu lleol sir y Fflint, y buom yn ei drafod ar yr achlysur hwnnw, bellach wedi penderfynu cyflwyno eu cynllun i'w archwilio. Disgwylir i'r sesiynau gwrandawiad ddechrau ym mis Ebrill. Gwn y bydd y cyngor cymuned yn bachu ar y cyfle i leisio eu barn unwaith eto yn y broses honno, gan mai dyna'r holl bwynt, wrth gwrs.

O ran yr arolygiaeth, fe fyddwch yn gwybod ein bod am ddatgysylltu elfen Gymreig yr arolygiaeth oddi wrth arolygiaeth gyffredinol Cymru a Lloegr, am amryw resymau—yn anad dim am yr hoffem iddynt allu edrych yn fwy gofalus ar y polisïau yr hoffem eu gweld yn cael eu gweithredu yng Nghymru. Yn anffodus, mae'r pandemig wedi ein rhwystro rhag gallu gwneud hynny, ond rwy'n edrych ymlaen yn fawr at sicrhau bod y cynllun hwnnw yn ôl ar y trywydd iawn pan fydd gennym Lywodraeth Cymru yn syth ar ôl yr etholiad. Gwn eich bod chithau’n gweithio tuag at y nod hwnnw hefyd.

Blaenoriaethau ar gyfer y Sector Tai

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector tai ym Mhreseli Sir Benfro? OQ56383

Gwnaf. Diolch yn fawr iawn, Paul. Mae tai fforddiadwy—ac yn fwy penodol, tai cymdeithasol—yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i mi a’r Llywodraeth hon ar gyfer Cymru gyfan. Ein nod yw eu hadeiladu'n well, adeiladu mwy ohonynt, a'u hadeiladu'n gyflymach. Cydnabyddir hyn gan ein buddsoddiad mwy nag erioed o £2 biliwn mewn tai fforddiadwy yn nhymor y Senedd hon.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwyf wedi derbyn sylwadau gan drigolion lleol sydd wedi sefydlu ymddiriedolaeth tir cymunedol, ac sy’n dymuno creu tai dymunol, fforddiadwy i bobl leol yn y Garn yn fy etholaeth. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi ei bod yn bwysig fod ymddiriedolaethau tir cymunedol yn cael y cymorth cywir i ddarparu tai fforddiadwy yn eu cymunedau, a'i bod felly'n hanfodol eu bod yn cael y cyllid grant cywir, a'u bod yn gallu gweithio mewn partneriaeth â chymdeithasau tai ac awdurdodau lleol. Fel arall, mae weithiau’n anodd i'r ymddiriedolaethau tir cymunedol hyn ddarparu cartrefi mawr eu hangen yn eu cymunedau.

Gall ymddiriedolaethau tir cymunedol chwarae rôl allweddol yn darparu tai fforddiadwy newydd wrth iddynt gael eu sefydlu ar ran cymunedau i ddarparu ar gyfer cymunedau lleol. Felly, a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ymddiriedolaethau tir cymunedol yng Nghymru? Ac a allwch ddweud wrthym hefyd pa drafodaethau rydych chi a'ch swyddogion yn eu cael gydag awdurdodau lleol ac awdurdodau tai am y rôl y gall ymddiriedolaethau tir cymunedol ei chwarae wrth ddatblygu tai fforddiadwy ledled Cymru?

Gallaf. Diolch, Paul. Rwy’n cytuno’n llwyr â hynny. Credaf fod ymddiriedolaethau tir cymunedol yn rhan bwysig iawn o’r dirwedd wrth ddatblygu atebion tai a arweinir gan y gymuned yng Nghymru. Mae tai cydweithredol ac ymddiriedolaethau tir cymunedol yn hanfodol yn hynny o beth. Rwy'n croesawu'r defnydd creadigol gan rai awdurdodau lleol o bwerau i ysgogi gwell defnydd o’r stoc dai mewn ardaloedd ac i ddefnyddio cyllid ychwanegol i ategu cynlluniau tai a’r gwaith o ddatblygu tai fforddiadwy.

Rwy'n falch iawn fod Cyngor Sir Penfro yn defnyddio enillion o'r dreth ar ail gartrefi i gefnogi ei ymddiriedolaethau tir cymunedol. Byddwn o ddifrif yn annog pob awdurdod lleol i feddwl yn greadigol am eu cymorth i bob math o dai fforddiadwy yn y ffordd y mae sir Benfro wedi’i wneud. Hoffem weld mwy o dai a arweinir gan y gymuned yn sir Benfro a thu hwnt, a byddwn yn croesawu mwy o gynigion gan awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a grwpiau cymunedol.

Rydym yn fwy na pharod i gefnogi datblygiad pellach tai a arweinir gan y gymuned neu dai cydweithredol lle ceir partner sy’n landlord cymdeithasol cofrestredig, drwy ein grant tai cymdeithasol. Mae'n rhywbeth rydym wedi'i wneud yn y gorffennol, ac rydym yn wirioneddol awyddus i'w wneud eto yn y dyfodol. Rwy’n cytuno’n llwyr â chi fod tai cydweithredol a arweinir gan y gymuned yn grymuso dinasyddion Cymru ac yn darparu atebion tai wedi eu hysgogi’n lleol ar gyfer cymunedau lleol.

Rwyf wedi cyfarfod yn bersonol â nifer o grwpiau ymddiriedolaethau tir cymunedol yn sir Benfro, a gwn fod y swyddogion mewn cysylltiad cyson â sawl un ohonynt. Mae gan sir Benfro hanes da iawn, fel y buom yn ei drafod yn fy nghwestiynau llafar diwethaf—cyflawniad da arall yn sir Benfro, yn Solfach, yno, y gwnaethoch dynnu ein sylw ato. Felly, mae gan sir Benfro hanes da iawn yn hyn o beth, ac rwy'n falch iawn eu bod yn edrych unwaith eto ar ymddiriedolaethau tir cymunedol.

Paul, os oes unrhyw faterion penodol yr hoffech dynnu ein sylw atynt, ac y credwch y gallem eu datrys er mwyn helpu i fwrw ymlaen â hynny, rwy'n fwy na pharod i edrych arnynt. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’r swyddogion yn ymgysylltu â'r cynghorau ac yn edrych yn rhagweithiol iawn ar gynorthwyo ymddiriedolaethau tir cymunedol i geisio cymorth, gan ein bod yn cefnogi'r rheini a nifer fawr o opsiynau tai cydweithredol eraill a arweinir gan bobl.

Polisi Cynllunio

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio polisi cynllunio yng Nghymru? OQ56384

Gwnaf. Diolch, Russell George. Ar 24 Chwefror, cyhoeddais fersiwn newydd o 'Polisi Cynllunio Cymru' a'n fframwaith datblygu cenedlaethol cyntaf, 'Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040'. Gyda'i gilydd, maent yn darparu cyfres gynhwysfawr o bolisïau cynllunio cenedlaethol wedi’u diweddaru ar ddefnydd tir yng Nghymru.

15:10

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Gweinidog yr amgylchedd strategaeth 'Mwy nag ailgylchu' Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr economi gylchol yng Nghymru yn cael ei gwireddu. Nawr, yn y strategaeth honno, dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn rhoi moratoriwm ar unrhyw ddatblygiadau troi gwastraff yn ynni ar raddfa fawr yn y dyfodol. Nawr, rwy'n croesawu hyn yn fawr. Fel y gwyddoch, mae hyn yn rhywbeth rwyf fi a fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw amdano ers amser maith, yn y Siambr ac yn ysgrifenedig. A allwch gadarnhau, Weinidog, y bydd y moratoriwm hwn yn dod i rym ar unwaith ac y bydd y polisi cynllunio yn cael ei adolygu yn unol â hynny? Mae datblygiadau ar raddfa fawr o ddatblygiadau llosgi gwastraff ar y gweill, fel yr un yn fy etholaeth i yn Nhal-y-bont. Cyflwynwyd cais ar ei gyfer i'r Arolygiaeth Gynllunio ar 26 Chwefror. Felly, a allwch gadarnhau, Weinidog, y bydd y moratoriwm hwn yn golygu na fydd y cais cynllunio hwn yn mynd ymhellach?

Diolch, Russell. Rwy'n ymwybodol fod fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr amgylchedd, wedi cyhoeddi moratoriwm yn y dyfodol ar safleoedd troi gwastraff yn ynni, neu losgyddion fel y'u gelwir. Gan nad yw hyn yn fy mhortffolio, mae arnaf ofn nad wyf yn ymwybodol a fydd yn weithredol ar unwaith ai peidio. Os hoffech ysgrifennu ataf i ofyn beth yw statws y cais cynllunio yn sgil y moratoriwm hwnnw, fe wnaf yn siŵr bod fy swyddogion yn ei drin fel mater brys. Mae arnaf ofn nad yw’r wybodaeth honno gennyf wrth law.

Ac yn olaf, cwestiwn 8, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac i'w ofyn gan Janet Finch-Saunders.

Cefnogi Economïau Lleol

8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch ymdrechion i annog awdurdodau lleol i gefnogi economïau lleol yng ngogledd Cymru? OQ56412

Rwy’n rheolaidd yn trafod rôl a gwaith awdurdodau lleol yn yn cefnogi economïau lleol a’u cymunedau gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a chyd-Weinidogion ar draws y Llywodraeth.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae twristiaeth, wrth gwrs, fel y gwyddoch, fel arfer yn werth oddeutu £900 miliwn y flwyddyn i economi sir Conwy. Mae'r adnodd hwnnw wedi'i ddileu bron yn llwyr, ac mae gan sir Conwy un o'r cyfraddau uchaf o weithwyr ar ffyrlo yng Nghymru. Ar lawr gwlad, mae'r sefyllfa economaidd hyd yn oed yn waeth, gyda busnesau lletygarwch bellach mewn dyled sylweddol, ac yn bryderus iawn ynghylch faint o amser y bydd yn ei gymryd i ad-dalu’r arian i’r banc. Fy mhwynt yw, hyd yn oed pan fydd sir Conwy yn agor ei sector twristiaeth i'r DU a'r byd unwaith eto, gallai fod angen blynyddoedd o gymhellion ariannol a rhyddhad ardrethi ar y busnesau lletygarwch hynny, sy'n hanfodol i'r economi leol. O gofio'r realiti economaidd yn sir Conwy, a'r effaith ganlyniadol y bydd hyn yn ei chael ar refeniw awdurdodau lleol, a allwch egluro pam nad ydych ond wedi rhoi cynnydd o 3.6 y cant yn y setliad i'r awdurdod lleol sirol sy’n cael ei arwain gan y Ceidwadwyr, yn wahanol i’r enghreifftiau eraill o 5.6 y cant, fel awdurdod Casnewydd, sy’n cael ei arwain gan Lafur? Diolch.

Diolch. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod y pandemig a'r cyfyngiadau angenrheidiol sy'n dal i fod ar waith i gadw pob un ohonom yn ddiogel yn parhau i effeithio'n sylweddol ar y sector twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau. Credaf fod pob un ohonom yn cydnabod pa mor anodd yw hi ar y sectorau hyn a pha mor anodd y mae'n mynd i barhau i fod. Bydd yr amryw becynnau cymorth ariannol wedi helpu, ond gwn ei bod yn parhau i fod yn sefyllfa bryderus, felly rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu ymestyn pethau fel y seibiant ardrethi busnes am 12 mis arall, a hefyd fod gennym yr ystod o gymorth y gronfa cadernid economaidd ar agor yn benodol ar gyfer y sectorau hamdden, twristiaeth a lletygarwch.

Gwn fod hwn yn faes y mae'r Aelod yn teimlo'n hynod o angerddol yn ei gylch, yn enwedig cefnogi'r sector twristiaeth, ac mae hi wedi sôn cryn dipyn am yr angen i gefnogi a chynnal cymunedau’r arfordir. Rwy'n siŵr y bydd yn falch o wybod y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi cronfa cymunedau’r arfordir, ac rwy'n siŵr y bydd hi lawn mor siomedig â ninnau o ddarganfod bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â pharhau cronfa cymunedau’r arfordir yn Lloegr. Golyga hynny, o ganlyniad, na fyddai'r cyllid y byddem wedi'i gael gan Lywodraeth y DU am y rhan fwyaf o’r degawd i gefnogi rownd flaenorol ein rhaglen cymunedau’r arfordir—ni fyddwn yn ei gael. Ond rwy'n falch iawn, er hynny, ein bod yn gallu camu i’r adwy a rhoi cyllid ychwanegol i gefnogi a chynnal trefi a chymunedau ein harfordir yng ngogledd Cymru a ledled Cymru, ac edrychaf ymlaen at fod mewn sefyllfa yr wythnos nesaf i gyhoeddi manylion yr arian ychwanegol hwn i helpu'r trefi a'r cymunedau hynny nid yn unig i ddod yn ôl yn well, ond i adeiladu'n ôl yn well ar ôl y pandemig.

3. Cwestiynau Amserol
15:15
4. Datganiadau 90 eiliad

Felly, y datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Huw Irranca-Davies.

Diolch, Lywydd. Eleni mae’n ddwy ganrif a hanner ers geni'r arloeswr a’r diwygiwr cymdeithasol Robert Owen. O dras werinol yn y Drenewydd yng Nghymru, daeth yn hyrwyddwr hawliau'r dosbarthiadau gweithiol, deddfau llafur plant, a hyrwyddodd safonau byw gwâr i bawb. Hyd heddiw, mae'r gwaith sylfaenol a wnaeth yn ein helpu i adeiladu cymdeithas decach y mae pob un ohonom yn rhanddeiliaid ynddi.

Ac yntau’n un o sefydlwyr y mudiad cydweithredol, darparodd weledigaeth amgen yn lle realiti llwm y Brydain ddiwydiannol, ac arweiniodd ei waith diflino mewn sawl maes at ddatblygu golwg newydd ar gymdeithas, un lle caiff cenedl gydweithredol hunangynhaliol ei dal at ei gilydd gan bileri addysg i bawb, gofal iechyd am ddim ac ymgorffori hawliau gweithwyr. Arweiniodd ei weithredoedd at gadwyn o ddigwyddiadau y gellir olrhain llawer o newidiadau deddfwriaethol blaengar a sefydliadau blaengar yn ôl atynt.

Yma yng Nghymru, nodweddir ein gwaith yn adeiladu’r genedl gan egwyddorion cydweithredu a chyfunoliaeth, gyda nodau a gwerthoedd a rennir, partneriaethau cymdeithasol rhwng busnesau a gweithwyr, hyrwyddo mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol gweithwyr a chymaint mwy eto. Felly, wrth inni nodi a dathlu dwy ganrif a hanner ers geni Robert Owen, brodor o'r Drenewydd a Chymru a'r byd, rydym yn nodi bod ei waddol yn parhau, yn dal i fyw yn ein plith ac yn ein helpu i lunio'r Gymru a'r byd a welwn heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr. Hoffwn longyfarch Ambiwlans Awyr Cymru ar eu hugeinfed pen-blwydd ar 1 Mawrth. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwasanaeth achub bywyd hwn dros y blynyddoedd am eu hymrwymiad, eu brwdfrydedd a'u hymroddiad i bobl Cymru.

Sylfaenydd yr elusen a chadeirydd cyntaf yr ymddiriedolwyr oedd y diweddar Robert Palmer, ac o'i weledigaeth ef, mae Ambiwlans Awyr Cymru bellach wedi tyfu o un hofrennydd wedi’i leoli yn Abertawe i fod yn weithgarwch ambiwlans mwyaf y DU, gyda phedwar hofrennydd, gan gynnwys un yn y Trallwng, yn fy etholaeth i. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae wedi esblygu o fod yn wasanaeth a arweinir gan barafeddygon i wasanaeth a arweinir gan feddygon ymgynghorol, sy'n mynd â'r adran achosion brys at y claf. Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cyflawni dros 38,000 o deithiau, ac mae angen £8 miliwn arnynt bob blwyddyn. Felly, diolch i bobl Cymru, erbyn hyn mae gan ein gwlad y gweithgarwch ambiwlans awyr mwyaf yn y DU ac un o'r rhai mwyaf datblygedig yn feddygol yn Ewrop, ac yn gweithredu bob awr o bob dydd.

Felly, i nodi eu pen-blwydd, mae'r elusen ar hyn o bryd yn cynnal digwyddiad codi arian o'r enw My20, a fydd, rwy'n gobeithio, yn cael cefnogaeth dda gan drigolion ledled Cymru. Felly, ymunwch â mi i ddymuno'r gorau i’r ambiwlans awyr ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi ymwneud â'r elusen, ddoe a heddiw.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diabetes Math 2

[Anghlywadwy.]—sef y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, ac mae ar ddiabetes math 2, a galwaf ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7552 Jenny Rathbone, Dai Lloyd, Jack Sargeant

Cefnogwyd gan Andrew R.T. Davies, Darren Millar, Helen Mary Jones, Jayne Bryant

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) mai Cymru yw'r lle gyda'r cyfraddau uchaf o ddiabetes math 2 o unrhyw le yng ngorllewin Ewrop, lle mae dros 200,000 wedi cael diagnosis, lle yr amgangyfrifir bod 65,000 gyda math 2 heb ddiagnosis, a lle mae 500,000 arall mewn perygl o gael diabetes;

b) bod gofalu am bobl â diabetes eisoes yn defnyddio 10 y cant o gyllideb y GIG;

c) y risgiau cynyddol o ddal COVID-19 ar gyfer dinasyddion sydd â diabetes fel cyflwr sy'n bodoli eisoes; a

d) llwyddiant a chost-effeithiolrwydd y rhaglen Sgiliau Maeth am Oes, sydd wedi ennill sawl gwobr, a dreialwyd yng Nghwm Afan.

2. Yn annog Llywodraeth Cymru i brif ffrydio'r rhaglen Sgiliau Maeth am Oes ledled Cymru fel elfen ganolog o gynllun atal diabetes i Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y mae'r cynnig yn ei nodi, Cymru sydd â'r nifer uchaf o bobl yn dioddef o ddiabetes yng ngorllewin Ewrop. Ar hyn o bryd, mae'n llowcio 10 y cant o gyllideb ein GIG—mae hynny’n £950 miliwn o gyllideb iechyd y flwyddyn nesaf.

Nid yw'r ddadl hon yn ymwneud â diabetes math 1, cyflwr meddygol cymhleth sydd fel arfer yn taro pobl ifanc yn eu glasoed, ac mae’r hyn sy’n ei achosi’n gymhleth a heb fod yn gysylltiedig â deiet. Mae cyfraddau diabetes math 1 yn aros yr un fath i raddau helaeth o flwyddyn i flwyddyn. Mae diabetes math 2 yn fater gwahanol. Mae'r ddadl hon yn ymwneud â'r epidemig go iawn o ddiabetes math 2: mae dros 200,000 o bobl eisoes wedi cael diagnosis ohono, a llawer mwy heb gael diagnosis, a rhagwelir y bydd hyd yn oed nifer y rheini sydd wedi cael diagnosis yn codi i dros 300,000 o bobl erbyn 2030, oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch.

Mae gan Gymru dros 0.5 miliwn o bobl sydd dros bwysau neu'n ordew, ac sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2. A gadewch inni wynebu’r peth, ni all y broblem honno fod ond wedi gwaethygu o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud, gan fod pob un ohonom wedi bod yn bwyta mwy nag y dylem. Ond y ffaith fwyaf sobreiddiol yw bod traean o'r holl bobl sydd wedi marw o COVID hefyd yn dioddef o ddiabetes. Felly, beth y gallwn ei wneud ynglŷn â hyn, a beth y gallwn ei wneud i atal pobl rhag cael diabetes yn y lle cyntaf?

Cymru yw'r unig wlad ym Mhrydain heb raglen atal diabetes genedlaethol. Mae gan Loegr un, mae gan yr Alban un, ond nid Cymru. Ac fel y wlad fwyaf gordew yn Ewrop, ymddengys i mi fod hynny’n ddiofal, yn annoeth, ac mae angen i hynny newid ar frys, yn enwedig gan fod gennym ateb costeffeithiol, sydd wedi ennill sawl gwobr, a wnaed yng Nghymru ar garreg ein drws. Mae ymyrraeth fer a dreialwyd yng nghwm Afan gan glwstwr o naw practis meddyg teulu, mewn cydweithrediad â maethegwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, wedi bod ar waith ers mwy na thair blynedd ac wedi cael ei dadansoddi’n drylwyr gan Ganolfan Economeg Iechyd Abertawe ym Mhrifysgol Abertawe i sicrhau bod y ffigurau’n gwneud synnwyr.

Mae'n gosteffeithiol am fod y practisau meddygon teulu yn nodi pa gleifion sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2, ac nid oes angen iddynt fynd yn agos at ysbyty er mwyn cael yr ymyrraeth hon, ac yng nghyd-destun yr holl broblemau y byddwn yn eu cael gyda rhestrau aros i bobl sydd angen triniaeth mewn ysbyty, mae honno'n ffaith bwysig iawn. Mae hefyd yn effeithiol iawn, gan ei bod yn cael ei darparu gan staff anfeddygol practisau sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig gan ddeietegwyr mewn sgiliau maetheg, ac mae hynny'n ei gwneud yn hawdd i’w chyflwyno ledled y wlad. Mae'n gosteffeithiol am fod yr ymyrraeth fer yn cynnwys ymarfer corff, cyngor deietegol a thaflenni gwybodaeth, ac yn costio £44 y claf yn unig. Os cymharwch hynny ag ymyrraeth yn Lloegr, sy'n cael ei gyflawni gan arbenigwyr, mae honno'n costio rhwng £240 a £290 y claf. Mae hefyd yn gwbl gosteffeithiol am nad aeth bron i ddwy ran o dair o'r bobl a gymerodd ran yn y rhaglen hon ymlaen i gael diabetes yn ddiweddarach. Felly, mae Prifysgol Abertawe wedi cyfrifo y byddai cyflwyno'r rhaglen yn genedlaethol yn arbed dros £6 miliwn y flwyddyn i bob bwrdd iechyd, ac nid yw hynny'n cynnwys y buddion personol i'r claf yn sgil peidio â chael diabetes a pheidio â bod mewn perygl o golli eu golwg, colli eu coesau a marw'n gynamserol

Nid oes fawr o ryfedd, felly, fod rhaglen ymyrraeth fer cwm Afan wedi ennill gwobr Ansawdd mewn Gofal diabetes y DU gyfan y llynedd. Mae hon yn enghraifft wirioneddol o ofal iechyd darbodus ar waith. Beth sy'n ein rhwystro rhag ei ​​chyflwyno'n ehangach? Mae’n defnyddio'r dull amlddisgyblaethol o ymdrin â chlefyd cronig lle rydym ar frig y tablau cynghrair yn Ewrop gyfan yn anffodus. Sut y gallwn fforddio peidio â gwneud hyn? Rwy'n gobeithio clywed felly fod hon yn flaenoriaeth bwysig iawn i'r Gweinidog, o gofio’r niferoedd uchel iawn o bobl sydd mewn perygl o gael diabetes math 2, a'r goblygiadau difrifol sy'n deillio o'r clefyd.

15:20

A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone am ddod â'r mater hwn i'r Senedd heddiw? Credaf ei fod yn dangos pwysigrwydd y mater yn glir ac yn ailddatgan bod diabetes math 2 yn broblem ddifrifol iawn ledled Cymru. Gwyddom fod diabetes math 2 yn effeithio ar nifer syfrdanol o deuluoedd yma yng Nghymru. Yn ôl data a gyhoeddwyd yn 2019 gan Diabetes UK, mae dros 8 y cant o bobl 17 oed a hŷn yn byw gyda diabetes ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy'n gwasanaethu fy etholaeth. Mae’r rhan helaethaf o’r achosion hyn yn ddiabetes math 2. Mewn termau real, golyga hyn fod bron i 40,000 o deuluoedd yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol, ac mae'r nifer wirioneddol yn debygol o fod hyd yn oed yn uwch.

Mae diabetes yn cael effaith sy'n newid bywydau pobl, ac fel y mae Jenny Rathbone wedi’i nodi'n glir, gwyddom fod trin diabetes math 2 yn rhoi straen aruthrol ar y GIG yng Nghymru, yn enwedig ar hyn o bryd. Nid yn unig fod y rheini sy'n dioddef o ddiabetes math 2 mewn mwy o berygl o salwch difrifol os ydynt yn cael eu heintio â COVID, maent hefyd mewn perygl o ddioddef yn sgil problemau iechyd difrifol eraill, gan gynnwys clefyd y galon, strôc, clefyd yr arennau a cholli eu golwg. Ni ellir gorbwysleisio pa mor anodd yw ymdrin â'r problemau cymhleth hyn i gleifion ac ymarferwyr fel ei gilydd.

Ond gwyddom hefyd fod pethau y gallwn eu gwneud i leddfu'r baich. Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir atal diabetes math 2. Annog pobl i wneud dewisiadau iachach yw'r cam cyntaf amlwg, ond gellir gwneud mwy ac mae'n rhaid gwneud mwy. Rwy'n falch o fod yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes a'r gwaith y mae'r grŵp trawsbleidiol wedi'i gyflawni drwy gydol tymor y Senedd hon. Byddwn yn cynnal ein cyfarfod olaf ar sut y mae diabetes yn effeithio ar iechyd meddwl yr wythnos nesaf. Yn y rôl hon, rwyf wedi bod yn falch o glywed am lwyddiant cynllun peilot cwm Afan, ac rwy’n awyddus i weld sut y gellir ailadrodd y llwyddiannau hyn ledled Cymru. Mae unrhyw beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod llai o bobl yn dioddef o'r salwch hwn am weddill eu hoes yn allweddol. Mae annog pobl i ddeall eu risg bersonol yn un cam y gall pob un ohonom ei gymryd yn awr. Yn 2018, roeddwn yn falch o gynnal digwyddiad yn y Senedd i bobl ddeall eu risg o ddal diabetes math 2. Yn anffodus, ni fu modd cynnal digwyddiad tebyg yn y flwyddyn ddiwethaf, ond byddwn yn annog unrhyw un sy’n dymuno gwybod mwy am eu lefel risg i ymweld â gwefan Diabetes UK, lle mae amryw o adnoddau ar gael.

Hoffwn orffen drwy ddyfynnu un o fy etholwyr, Sarah Gibbs, sy'n byw gyda diabetes math 2. Mae wedi disgrifio'r afiechyd fel un ‘didrugaredd. Gall effeithio ar bob agwedd ar eich bywyd. Hoffwn pe bawn wedi cael cyfle a chymorth i'w atal.’ Ddirprwy Lywydd, mae angen inni wneud mwy i gynnig y cyfle hwn i bobl yng Nghymru. Diolch.

15:25

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i Jenny Rathbone, Dai Lloyd a Jack Sargeant hefyd am ddod â'r ddadl bwysig yma ar atal diabetes gerbron y Senedd heddiw. Diolch hefyd i Jayne Bryant am y gwaith mae hi wedi bod yn ei wneud gyda'r grŵp trawsbleidiol.

Mae hwn yn gynnig pwysig, a dwi'n gwybod bod diabetes yn broblem sylweddol sy'n tyfu drwy'r byd, ac mae'n tyfu yng Nghymru hefyd. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r sefyllfa ddifrifol yma, sydd yn effeithio ar gymaint o fywydau ac ar unigolion yn ein gwlad ni. Yn 2019-20, roedd tua 192,000 o bobl yng Nghymru gyda diabetes, fel gwnaeth Jenny gyfeirio ato, sef tua 7 y cant o'n poblogaeth sy'n oedolion. Mae'n bwysig hefyd, fel mae Jenny wedi'i ddweud, i wahaniaethu rhwng y ddau fath gwahanol o diabetes: math 1, sy'n rhywbeth na ellir ei atal, a diabetes math 2, lle mae lot allwn ni ei wneud i atal y cyflwr rhag datblygu.

Nawr, yn y ffigurau diweddaraf sydd gyda ni, mae'r gost o drin diabetes i'r gwasanaeth iechyd yn cyrraedd tua £126 miliwn neu 1.9 y cant o gyllideb yr NHS. Os ydyn ni'n ystyried hefyd y cleifion sy'n cael eu trin ar gyfer clefyd cardiofasgiwlar a chymhlethdodau eraill sy'n deilio o diabetes, wedyn rydym ni yn cyrraedd y ffigur yna o 10 y cant oedd Jenny wedi cyfeirio ati. Felly, rydych chi'n iawn i nodi'r ffigur yna yn eich cynnig chi. Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd atal eilaidd, sef atal cymhlethdodau diabetes rhag datblygu trwy reoli'r clefyd yn dda. Nid dim ond atal diabetes yn y lle cyntaf sy'n bwysig, ond hefyd buddsoddi yn y gwasanaethau sy'n rhwystro'r cymhlethdodau rhag digwydd.

Nawr, mae maint yr her sy'n ein wynebu ni wedi cael ei danlinellu gan y pandemig. Rydym ni wedi gweld sut mae pobl sy'n dioddef o diabetes wedi eu gorgynrychioli ymhlith y marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID. Er nad yw pobl sydd â diabetes o reidrwydd mewn mwy o berygl o ddal COVID, mae'n ymddangos fel bod ffactorau risg diabetes a'i gymhlethdodau yn golygu bod canlyniadau yn debygol o fod yn waeth os ydyn nhw'n dal y feirws. Rŷn ni'n gwybod bod gordewdra neu bwysau gwaed uwch, ethnigrwydd neu fod yn ddifreintiedig yn rhai o'r ffactorau lluosog sy'n cyfrannu at ddatblygiad salwch COVID yn fwy difrifol.

Mae ein dull cenedlaethol o ymdrin â diabetes wedi ei amlinellu yn y cynllun cyflawni ar gyfer diabetes yng Nghymru, ac mae hwn wedi ei ymestyn am flwyddyn arall er mwyn cael cyfle i ddatblygu'r rhaglen olynol. Nawr, beth rŷn ni'n gwybod yw bod yna gysylltiad clir ac arwyddocaol rhwng diabetes 2 a gordewdra. Ac mae astudiaethau'n awgrymu bod tua 90 y cant o oedolion sydd â diabetes math 2 yn pwyso mwy nag y dylen nhw i fod yn iach, neu'n ordew. Dŷn ni'n gwybod hefyd fod gordewdra'n gysylltiedig ag amrywiaeth o gyflyrau iechyd difrifol eraill, fel canser, clefyd y galon a strôc.

Nawr, yn ogystal ag effeithio'n sylweddol ar ansawdd bywyd, mae'n cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl hefyd. A dyna pam mae'n hanfodol i ddal ati i ganolbwyntio ar atal a lleihau cyfraddau gordewdra. Mae dros 60 y cant o oedolion, ac un o bob pedwar o blant ysgol gynradd, dros eu pwysau neu'n ordew yma yng Nghymru. Felly, dyna pam heddiw dwi'n cyhoeddi buddsoddiad o fwy na £6.5 miliwn i helpu i daclo gordewdra a diabetes yng Nghymru. A bydd yr arian yn cael ei dargedu at blant a phobl hŷn, i'w helpu i gyrraedd a chynnal pwysau iach. A bydd hwn yn helpu i ddelifro'r hyn a fydd yn cael ei gyhoeddi ar 18 Mawrth, sef ein cynllun cyflawni, 'Pwysau Iach, Cymru Iach', ar gyfer 2021-22.

Nawr, bydd £5.5 miliwn o'r cyllid yn mynd tuag at raglenni penodol, o dan 'Pwysau Iach, Cymru Iach'. Bydd yr arian yn helpu i hyrwyddo datblygiadau allweddol ar draws gwasanaethau atal gordewdra a rheoli pwysau. Ac mae'n cynnwys bron i £3 miliwn o gyllid pellach ar gyfer gwasanaethau gordewdra ar draws ein byrddau iechyd. Ac mae'r cyllid hwn hefyd—ac mae hwn yn bwysig i'w danlinellu—yn cynnwys £1 miliwn o arian ychwanegol y flwyddyn dros y ddwy flynedd nesaf. A bydd hyn yn ein galluogi ni i gymryd camau cynnar i atal salwch a lleihau effaith iechyd gwael ac anghydraddoldeb, drwy gefnogi'r gwaith o ddatblygu treialon llwybr atal cyn-diabetes, sy'n seiliedig ar y model yna roeddech chi'n siarad amdano yn nyffryn Afan. Mae'n cynnwys llwybr addysg cyn-diabetes, sy'n cael ei ddarparu gan weithwyr cymorth gofal iechyd wedi eu hyfforddi, ar gyfer pobl sydd wedi cael darlleniadau glwcos gwaed uwch yn y gorffennol, neu sydd â risg o ddatblygu cyn-diabetes yn y dyfodol.

So, mae rhaglen dyffryn Afan yn cael ei gwerthuso gan uned ymchwil Diabetes Cymru. Rŷn ni'n gwybod bod rhai o'r canlyniadau'n addawol dros ben—fel roeddech chi wedi cyfeirio atyn nhw. A dwi'n siŵr y bydd gan y rheini sydd wedi cynnig y ddadl ddiddordeb mewn gwybod bod gwerthusiad o effeithlonrwydd a chost economaidd wedi ei gynnal gan Brifysgol Abertawe. A beth rŷn ni'n ei wybod yw ei fod e'n gweithio, a dyna pam rŷn ni'n rhoi'r arian ychwanegol yma, i sicrhau ein bod ni'n gallu gweld y peilot yna yn cael ei ddatblygu ar draws Cymru. Felly, mae'r peilot wedi rhoi tystiolaeth i ni; gallwn ni weld yr ymyrryd ataliol ledled Cymru. Bydd hyn yn ein helpu ni i ymateb i'r her, y cynnydd mewn diabetes math 2, i wella iechyd y rhai sydd wedi eu heffeithio, ac i ddarparu gofal iechyd sydd wedi ei seilio ar werth, fel roeddech chi wedi ei nodi, Jenny.

Y disgwyl yw y bydd o leiaf un clwstwr gofal iechyd—

15:30

—ym mhob bwrdd iechyd lleol. Felly, dwi'n falch ein bod ni yn gallu ymateb yn adeiladol dros ben i'r cynnig sydd wedi dod wrthych chi, Jenny. Diolch am ddod â'r ddadl ger ein bron ni heddiw.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ac mae'n hyfrydwch i ymateb i'r ddadl, gan fod y Gweinidog newydd wneud y cyhoeddiad yna—bendigedig. Mae pobl weithiau'n amau dilysrwydd cynnal dadleuon o'r math yma—rydyn ni Aelodau cyffredin meinciau cefn weithiau yn cael ein dilorni braidd—ond dyma wireddu breuddwydion, fel y mae Jenny Rathbone wedi ei gael, ac i fod yn deg â Jenny, mae wedi bod wrthi am flynyddoedd ar yr agenda ataliol yma. Dwi'n falch cydnabod cyhoeddiad Eluned Morgan heddiw, achos mae hyn yn ffordd adeiladol ymlaen yn wir ac yn ddefnydd da iawn o'r math yma o ddadl yn y Senedd. Felly dwi'n barod iawn i dalu teyrnged i Jenny Rathbone am ei dycnwch dros y blynyddoedd, yn arwain ar yr agenda yma, a hefyd i Jayne Bryant, fel cadeirydd y grŵp aml-bleidiol ar glefyd siwgr, sydd hefyd yn gwneud gwaith arbennig, ac wrth gwrs yn cyfarch cyhoeddiad y Gweinidog jest nawr. Mae £6 miliwn yn ateb bendigedig i'r ddadl yma, achos dyma'r agenda ataliol hollbwysig. 'Prevention is better than cure,' rydym ni wastad yn ei ddweud e, ond dydyn ni ddim yn ei weithredu fe yn aml iawn, yr agenda ataliol. A dwi hefyd yn mynd i dalu teyrnged i nifer fawr o fudiadau sydd yn gwneud y gwaith ataliol yma yn y maes, pobl fel Diabetes UK Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon, y Gymdeithas Strôc, ac ati, ac ati. Does gen i ddim mo'r amser i'w rhestru nhw i gyd.

A'r pwysigrwydd allweddol yn yr agenda ataliol: atal clefydau rhag digwydd yn y lle cyntaf. Mae yna nifer o ffactorau ymddygiadol, fel roedd Jenny yn ei ddweud, nifer o wahanol ffactorau ymddygiadol a chymdeithasol sy'n gweu efo'i gilydd. Ac yng nghyd-destun clefyd siwgr, sydd, wrth gwrs, yn un o'r clefydau hynny sydd yn cyd-ddigwydd efo COVID, fel rydym ni wedi clywed, ac, o fod efo clefyd siwgr, rydych chi'n fwy tebygol o gael COVID yn ddrwg. Dyna beth yw perthnasedd y ddadl yma. Rydych chi'n mynd i gael COVID yn waeth efo clefyd y siwgr, yn ystadegol felly.

Mae sgiliau, felly, hyrwyddo yr agenda ataliol yma yn hollbwysig, fel sydd i'w darganfod yn y prosiect yma yn nyffryn Afan—sgiliau coginio, sgiliau byw, deiet. Ie, dylen ni gyd fod yn gwybod bod siwgr yn ddrwg i ni erbyn rŵan, er ein bod ni'n dal i fwyta peth, ond mae carbs—'startsh' fydden ni'n arfer galw'r stwff pan oeddwn i yn ysgol Llanbedr ers llawer dydd—mae'r rheini cynddrwg, achos mae carbs yn cael eu trosi i mewn i siwgr yn ein cyrff. Dyna beth mae'r afu yn ei wneud. Un o nifer o bethau mae'r afu yn ei wneud ydy troi carbs yn siwgr. Felly, gall carbs hefyd fod cynddrwg o fwyta gormod ohonyn nhw.

A braster. Ie, mae braster yn ddrwg i ni mewn gormodedd, ond mae angen lefel o fraster arnom ni hefyd. Felly, mae'r cyngor yn subtle iawn, a dyma'r math o gyngor sydd ar gael yn y cynllun yna yn nyffryn Afan—cyngor ar beth i'w fwyta, sut i gadw'n heini. Prosiect llwyddiannus sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r ateb gyda ni felly yn nyffryn Afan, ac mewn sawl lle arall. Angen ei rolio fo allan a gweithredu'n genedlaethol, fel mae'r Gweinidog newydd amlinellu. So, dwi'n disgwyl gweld gwireddu y dyhead yma rŵan o'r cychwyn bendigedig yma yn nyffryn Afan.

Felly, wrth gloi, a allaf i ddiolch i bawb am eu cyfraniadau? Diolch yn arbennig i'r Gweinidog am wneud y cyhoeddiad yna o'r arian, a'i gwneud hi'n orfodol i ni feddwl yn fwy adeiladol ynglŷn â'r dadleuon Aelodau unigol yma; mae nhw'n gallu cyflawni gwyrthiau. Felly, dwi'n llongyfarch y Gweinidog, dwi'n llongyfarch y Llywodraeth, ac yn bennaf oll, dwi'n llongyfarch Jenny Rathbone am redeg efo'r agenda yma cyhyd. Cefnogwch y cynnig felly. Diolch yn fawr iawn i chi.
 

15:35

Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar adferiad hirdymor o COVID-19

Eitem 6 ar ein hagenda yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar adferiad hirdymor o COVID, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Russell George.

Cynnig NDM7623 Russell George

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, 'Adferiad tymor hir o COVID-19', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Credaf ei bod yn amserol iawn ein bod yn trafod yr adroddiad hwn heddiw, oherwydd flwyddyn yn ôl y cawsom yr wythnos 'normal' ddiwethaf—dywedaf 'normal' mewn dyfynodau—i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru. Dri chant a chwe deg pum diwrnod yn ôl, disgrifiodd Sefydliad Iechyd y Byd COVID-19 fel pandemig yn swyddogol, ac yn y pythefnos canlynol, gorfodwyd rhai busnesau fel tafarndai a bwytai i gau, caewyd ysgolion, gofynnwyd i bobl weithio gartref os gallent, ac yna, wrth gwrs, dywedwyd wrth bawb am aros gartref oni bai bod ganddynt reswm hanfodol. Ac ers hynny, rydym wedi gweld ymdrech arwrol gan staff y GIG a gweithwyr allweddol i gadw'r wlad yn ddiogel, ac i gadw siopau hanfodol i fynd ac i'n gwasanaethu.

Felly, wrth inni wylio'r gwaith arwrol hwnnw'n parhau drwy gydol y broses o gyflwyno'r brechlyn, gallwn weld y llanw'n troi, a'r argyfwng iechyd, er ei fod yn dal i fod yn fygythiad mawr, yn lleihau, ac mae'n rhaid i ni droi ein sylw o ddifrif, rwy'n credu, at ailadeiladu ein heconomi.

Felly, mae'r adroddiad hwn yn archwilio'n gynhwysfawr sut y dylai adferiad edrych ar draws portffolio'r pwyllgor ac yn y tymor byr, hoffem dynnu sylw'r Aelodau at dri maes allweddol, sef: un, cymorth parhaus i sectorau sydd wedi'u taro'n galed; dau, defnyddio cyllid ailadeiladu i ailfywiogi ac ailarfogi ein heconomi; a thri, osgoi cenhedlaeth o bobl ifanc wedi'u creithio. 

Felly, byddaf yn siarad am bob un o'r pwyntiau hynny yn eu tro. Felly, nid yw effeithiau'r pandemig wedi cael eu teimlo'n gyfartal ar draws yr economi. Clywsom dystiolaeth gan fusnesau sy'n dibynnu ar bobl yn dod at ei gilydd, fel twristiaeth a lletygarwch neu'r rhai sy'n darparu gwasanaethau cysylltiadau agos, fel gwallt a harddwch, ac effeithiwyd yn arbennig arnynt hwy. Caeodd llawer o leoliadau, fel theatrau, clybiau nos ac arddangosfeydd, eu drysau flwyddyn yn ôl ac nid ydynt wedi gallu masnachu ers hynny. Felly, gobeithiwn am haf o aduniadau gyda ffrindiau a theulu, y bydd llawer ohonynt yn digwydd mewn busnesau twristiaeth a lletygarwch. Fodd bynnag, ni fydd un haf da yn gwneud iawn am y fasnach a gollwyd y llynedd. Mae darparwyr twristiaeth wedi disgrifio'r amser sydd wedi mynd heibio fel tri gaeaf olynol. 

Yn yr un modd, rwyf wedi torri fy ngwallt fy hun. Nid wyf wedi cael fy ngwallt wedi'i dorri ers canol mis Rhagfyr. Gallaf weld Aelodau'n edrych ar eu sgriniau yn awr i weld pa mor hir yw fy ngwallt. Ond y pwynt yw hyn: ni fyddaf yn cael fy ngwallt wedi'i dorri eto pan fydd siopau trin gwallt yn ailagor. Felly, mae'n debygol y bydd yr economi'n cael ei heffeithio'n wahanol mewn gwahanol sectorau.

Mae'n debygol y bydd sefyllfa diwydiannau gweithgynhyrchu Cymru hefyd yn cymryd peth amser i ymadfer. Er enghraifft, clywsom dystiolaeth y byddai'r diwydiant awyrofod yn cymryd tair neu bedair blynedd i adfer i lefelau 2019. Nawr, mae'r pwyllgor yn credu ei bod yn glir fod busnesau a gafodd eu taro waethaf gan y pandemig angen strategaeth adfer gryfach a hwy na gweddill yr economi. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth nesaf Cymru yn nodi'r strategaeth hon yn gynnar iawn ac fel rhan ohoni, mae'n rhaid iddi hefyd nodi unrhyw gyllid ychwanegol y mae'n credu ei bod ei angen gan Lywodraeth y DU. 

Nawr, mae gostyngiad dramatig yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus wedi golygu bod cwmnïau sy'n ymwneud â gwasanaethau trafnidiaeth hefyd wedi cael eu heffeithio'n drwm. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru nodi cynllun hirdymor ar gyfer adfer trafnidiaeth gyhoeddus hefyd. 

Mae fy mhwynt nesaf yn ymwneud â defnyddio cyllid ailadeiladu i ailfywiogi ac ailarfogi ein heconomi, ac ar flaen yr adroddiad—rwy'n ei godi yma—mae llun o gennin Pedr. Nawr, ni wnaethom hynny oherwydd ein bod wedi lansio ein hadroddiad ar Ddydd Gŵyl Dewi, ddim o gwbl, y rheswm pam y gwnaethom hynny yw oherwydd ein bod yn chwilio am optimistiaeth a chyfle o'r adferiad. Yn union fel blodau sy'n ymddangos ar ôl y gaeaf, neu gyda'r maeth cywir, gall ein heconomi dyfu o'r newydd. Felly, clywodd y pwyllgor fod ymchwydd go iawn wedi bod yn y teimlad o ryddhad ac ysbryd entrepreneuraidd ar ddiwedd y cyfyngiadau symud cyntaf, a chynnydd yn nifer y busnesau newydd. Nawr, os gall Llywodraeth Cymru ddal yr egni hwnnw, gellir ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r cyfraddau cymharol isel o fusnesau newydd sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd.

Clywsom hefyd sut y gallai adferiad a arweinir gan sgiliau hybu gwell cynhyrchiant a mynd i'r afael â thrapiau sgiliau isel, problem allweddol y gwn fod y pwyllgor wedi sôn amdani yn y gorffennol. Ochr yn ochr â hyn, clywsom dystiolaeth y byddai buddsoddiad mewn ymchwil ac arloesedd hefyd yn gwella cynhyrchiant Cymru a'i chydnerthedd. Felly, mae cynrychiolwyr busnes, undebau, melinau trafod, academyddion a sefydliadau amgylcheddol i gyd wedi dweud wrthym, fel Aelodau, am yr enillion amgylcheddol ac economaidd y gellid eu gwneud drwy fuddsoddi mewn economi fwy gwyrdd. Felly, dylai Llywodraeth nesaf Cymru—rydym ninnau fel pwyllgor yn sicr yn credu—roi blaenoriaeth i gyflymu prosiectau seilwaith gwyrdd parod i'w hadeiladu er mwyn hybu creu swyddi, ac mae'n rhaid i sgiliau fod wrth wraidd y rhaglen lywodraethu nesaf, ym marn y pwyllgor. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fachu ar y cyfleoedd a nodir yn yr adroddiad hwn a defnyddio ailadeiladu i greu economi fwy arloesol a gwydn sy'n ddiogel at y dyfodol i Gymru gyda gweithlu medrus iawn yn gwneud swyddi cynhyrchiant uchel, gwydn ac ecogyfeillgar.

Yr adran olaf, y soniais amdani ar ddechrau fy nghyfraniad, oedd diweithdra ymhlith pobl ifanc. Roedd y pwyllgor yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl gan yr adferiad. Nawr, gwyddom mai pobl a oedd eisoes dan anfantais yn y farchnad swyddi sy'n teimlo'r effeithiau gwaethaf pan fydd y farchnad yn crebachu. Mae'r adroddiad yn cynnwys adran ar adferiad i bawb, sy'n amlinellu'r camau y mae'n rhaid i'r Llywodraeth eu cymryd i gefnogi adferiad cyfartal er mwyn cyflawni ei haddewid. Mae pobl ifanc yn grŵp sydd wedi'u gadael ar ôl mewn argyfyngau economaidd yn y gorffennol a chlywsom gan nifer o arbenigwyr a oedd yn bryderus iawn y bydd y cynnydd mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc yn creu cenhedlaeth sydd wedi'i chreithio.

Mae gan Gymru eisoes ddwy garfan o bobl ifanc y mae COVID-19 wedi effeithio'n fawr arnynt ac nid oes amheuaeth y bydd y pandemig a'r argyfwng economaidd a grëwyd ganddo'n effeithio ar fyfyrwyr sy'n gadael addysg a hyfforddiant am beth amser i ddod. Dywedodd yr Athro Keep fod diweithdra ymhlith pobl ifanc yn debyg i lenwi bath—bob blwyddyn mae mwy o bobl ifanc a graddedigion yn gadael y brifysgol ac mae'r bath yn dal i lenwi os na all y bobl hynny ddod o hyd i ffordd i mewn i'r farchnad lafur a sicrhau cyflogaeth foddhaus o ansawdd uchel. Os na all ein pobl ifanc ddod o hyd i ffordd i mewn i'r farchnad lafur, os ydynt yn treulio amser hir yn ddi-waith neu os na allant ddod o hyd i'r llwybr cywir yn y cylchdroi rhwng cyflogaeth, hyfforddiant a diweithdra, gallai eu bywydau gael eu creithio a'u huchelgais wedi'i gyfyngu am weddill eu gyrfaoedd. Gwyddom y bydd y creithiau hyn yn eu dilyn, o bosibl, drwy gydol eu hoes, gan leihau eu potensial ennill cyflog a'u ffyniant.

Felly, mae'n rhaid sicrhau bod mynd i'r afael â'r bygythiad o genhedlaeth o bobl ifanc sydd wedi'u creithio yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru. Bydd ei llwyddiant neu ei methiant gyda'r amcan hwn yn cael effaith y tu hwnt i hanner cyntaf yr unfed ganrif ar hugain. Edrychaf ymlaen yn fawr at gyfraniadau'r Aelodau i'r ddadl hon y prynhawn yma.

15:45

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad pwysig a phellgyrhaeddol hwn a manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gefnogodd fy ngwaith fel aelod o'r pwyllgor hwn dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cadeirydd ac i fy nghyd-Aelodau, ond yn bennaf oll, i staff y pwyllgor. Roedd hwn yn faes newydd iawn i mi. Fe wnaethant fy ngalluogi i ddysgu'n gyflym ac rwy'n hynod ddiolchgar am hynny.

Fel y dywedwyd, rydym yn wynebu sioc economaidd ddigynsail wrth i gymorth y Llywodraeth ddod i ben ac wrth inni gefnu ar yr argyfwng iechyd. A dyna'r rheswm, wrth gwrs, am ein hadroddiad eang iawn. Nid ydym yn aml yn gweld adroddiad gyda 53 o argymhellion gan bwyllgor y Senedd. Mae'r holl argymhellion hyn yn eithriadol o bwysig a chredaf yn bersonol y dylai Llywodraeth Cymru eu trin fel pecyn—maent yn gweithio gyda'i gilydd. Ond hoffwn wneud sylwadau ar dri grŵp penodol o argymhellion yn fy nghyfraniad byr i'r ddadl hon. 

Hoffwn gyfeirio'n gyntaf at argymhelliad 5, sy'n nodi'r angen dybryd i Lywodraeth Cymru osod targedau mesuradwy, monitro cynnydd a gwerthuso effeithiolrwydd yr holl waith adfer a buddsoddiad. Mae'n ymddangos yn amlwg, ond mae tystiolaeth dros y flwyddyn ddiwethaf ar amrywiaeth o faterion yn y portffolio hwn yn dangos nad yw hyn bob amser yn digwydd o bell ffordd. Gyda maint y dasg mor enfawr a'r adnoddau, yn anochel, yn gyfyngedig, ni fyddwn yn gallu fforddio gwastraffu ceiniog. Ac os byddwn, mewn gwirionedd, yn mabwysiadu dull arloesol, byddwn yn rhoi cynnig ar rai pethau na fyddant yn gweithio, a bydd angen i ni roi'r gorau i'w gwneud. Mae monitro a gwerthuso yn allweddol ac mae'n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru sicrhau bod systemau cadarn ar waith. Mae'n rhaid i'r systemau hyn fonitro effeithiau fesul rhanbarth, fesul sector a nodweddion cydraddoldeb. Mae'n rhaid i'r broses o ailadeiladu'n ôl o COVID weithio i bawb, ym mhobman yng Nghymru.

Daw hynny â mi at argymhellion 30 i 41. Mae'r rhain yn amlygu ystod eang o gamau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau ein bod, wrth ailadeiladu ein heconomi, yn mynd i'r afael â'r anghyfiawnderau a'r anghydraddoldebau strwythurol a oedd yn rhan o'n heconomi cyn yr argyfwng COVID. Clywsom dystiolaeth mor glir fod pobl dduon a phobl groenliw wedi cael eu taro'n galetach gan COVID, o ran niwed i iechyd a niwed economaidd. Clywsom sut roedd menywod wedi cael eu effeithio'n fwy difrifol na dynion, ac er bod rhai effeithiau cadarnhaol i bobl anabl, gyda chyfleoedd yn agor yn sgil gweithio gartref, roedd pryderon i'r grŵp hwn hefyd. Mae'n hanfodol, wrth i Lywodraeth nesaf Cymru arwain ymdrechion i ailadeiladu ein heconomi, y manteisir ar y cyfle i weithredu i ddileu'r anghydraddoldebau strwythurol hanesyddol hyn sydd wedi gwneud cymaint o niwed. Ni chyflawnir newid dros nos, a daw hynny â mi'n ôl, wrth gwrs, at y pwynt am dargedau mesuradwy. Ond yr hyn sy'n rhaid ei osgoi ar bob cyfrif yw ailadeiladu'n ôl i ble roeddem o'r blaen. Byddai hynny'n wastraff cyfle anfaddeuol. 

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gyfeirio at argymhellion 42 i 48, gan ganolbwyntio ar y camau sydd eu hangen i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu gadael ar ôl. Fel y dywedodd y Cadeirydd eisoes, gwyddom fod pobl ifanc, yn yr argyfwng economaidd hwn, fel mewn rhai eraill, wedi cael eu taro'n galed iawn. Maent yn tueddu i weithio mewn sectorau sydd wedi cael eu taro'n wael, fel lletygarwch, amharwyd ar eu haddysg, a chyda gweithwyr mwy profiadol yn colli eu swyddi ac yn ailymuno â'r farchnad swyddi, cyfyngir ar eu cyfleoedd. Mae argyfyngau economaidd blaenorol wedi gweld cenedlaethau cyfan yn cael eu gadael ar ôl. Roeddwn yn berson ifanc yn yr 1980au, ac mae gennyf ffrindiau fy oedran i, sydd bron â chyrraedd oed ymddeol bellach, yr effeithiwyd ar eu ffyniant economaidd ar hyd eu hoes am eu bod wedi bod yn ddi-waith am ddwy neu dair blynedd ar ddechrau eu gyrfaoedd. Wrth iddynt gyrraedd oed pensiwn, maent yn dlotach nag y byddent wedi bod. Mae ein hargymhellion yn gwneud awgrymiadau ymarferol i osgoi hyn rhag digwydd y tro hwn, ac mae'n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru weithredu ar yr holl argymhellion hyn.

Ar yr agenda hon, bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn mynd gam ymhellach hyd yn oed na'r hyn a argymhellir gan y pwyllgor. Mae argymhelliad 43 y pwyllgor yn gofyn i Lywodraeth nesaf Cymru asesu'r posibilrwydd o gyflwyno gwarant cyfle ieuenctid i bobl ifanc 16 i 24 oed. Byddwn yn ymrwymo i'r warant honno mewn Llywodraeth—swydd o ansawdd da sy'n talu'n dda i bob unigolyn 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth. Ni fydd Plaid Cymru yn gadael ein pobl ifanc ar ôl; mae'n rhaid i'n Llywodraeth nesaf beidio â gadael ein pobl ifanc ar ôl. Fel y mae ein hargymhellion yn dweud yn glir, tra bod canlyniadau economaidd COVID yn cyflwyno heriau difrifol, maent hefyd yn cynnig rhai cyfleoedd go iawn. Dyma ein cyfle nid yn unig i adeiladu'n ôl yn well, ond i adeiladu'n ôl yn dda. Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Senedd ac i Lywodraethau Cymru yn awr ac yn y dyfodol. 

15:50

Mae gennyf olwg cadarnhaol iawn ar hyn. Credaf ein bod yn dechrau'r pedwerydd chwyldro diwydiannol—nid yn ôl y disgwyl, fel roedd pobl yn sôn amdano, gyda deallusrwydd artiffisial, ond gyda gweithio a siopa gartref. Mae'n cau'r cylch o fod pobl yn symud i ddinasoedd i weithio mewn ffatrïoedd, i fod pobl yn gadael swyddfeydd i weithio gartref. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn gweithio ac yn siopa. Roedd y symud tuag at weithio gartref, cyfarfodydd ar-lein a siopa ar-lein yn digwydd cyn COVID, ond yr hyn y mae COVID wedi'i wneud yw ei chwyddo. Mae rhai pobl yn dweud bod pethau wedi symud ymlaen bum mlynedd, a phobl eraill wedi dweud bod pethau wedi symud ymlaen 10 mlynedd. Nid wyf yn gwybod, ond gallaf ddweud un peth wrthych, mae pethau wedi symud ymlaen yn aruthrol dros y 12 mis diwethaf. Pan fyddwn yn cefnu ar hyn, ni fyddwn yn dychwelyd i fis Mawrth 2020. Rwyf wedi clywed trafodaethau brawychus am y ffyrdd sydd eu hangen arnom i gael pobl i deithio'n union fel roeddent yn gwneud o'r blaen. Nid dyna'r byd rydym yn symud i mewn iddo. 

Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, roeddwn yn dweud wrth fy myfyrwyr mai fideo-gynadledda oedd y ffordd ymlaen, ac yna 15 mlynedd yn ôl, roeddwn yn dal i ddweud wrth fy myfyrwyr mai fideo-gynadledda oedd y ffordd ymlaen ac nad oedd angen teithio. Rwyf bellach wedi gweld, gan fy mod wedi treulio'r rhan fwyaf o'r 12 mis diwethaf ar Zoom a Teams, yn enwedig lle mae band eang cyflym ar gael, ei fod yn sicr yn arbed llawer o deithio. Rwy'n dymuno pob lwc i unrhyw un sydd eisiau i gyfarwyddwyr cyllid eu hariannu i deithio'n bell i gyfarfodydd, yn enwedig cyfarfodydd byr. Rwy'n gwybod mai polisi Llywodraeth Cymru yw gweithio gartref 30 y cant o'r amser, ond ychydig iawn o reolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru dros hynny. Rwyf bob amser yn meddwl beth pe bai'r Llywodraeth yn 1900 wedi penderfynu faint o geffylau roeddent am eu torri. Wel, nid oedd ganddynt unrhyw reolaeth dros y peth; fe'i rheolwyd gan ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Gall Llywodraeth Cymru reoli'r bobl y maent yn eu cyflogi, ac rwy'n gobeithio y byddant yn defnyddio hyn i reoli'r bobl y maent yn eu cyflogi a chael mwy o bobl i weithio gartref. Bydd y sector preifat yn gwneud yr hyn sy'n gweithio i gwmnïau unigol, a chyda'i gilydd, bydd hynny'n effeithio ar y cyfeiriad teithio. A gaf fi ddweud nad wyf yn mwynhau treulio dwy awr y dydd yn teithio ar hyd yr M4 o Abertawe i fy swyddfa ac yn ôl? Nid wyf yn siŵr a oes llawer o bobl eraill sy'n mwynhau hynny. Ond nid yw fy nhaith yn anarferol yn ne Cymru, y lefel honno o deithio. Mae'n sicr wedi rhoi chwe awr ychwanegol yr wythnos i mi. Oherwydd bod costau swyddfa mor ddrud yng Nghaerdydd, rwy'n credu mai'r hyn a welwch yw ei bod hi'n ddigon posibl y bydd cwmnïau'n dweud faint y gallant ei arbed drwy ofyn i bobl weithio gartref. Ond hefyd, bydd gennych recriwtio cystadleuol; bydd pobl eisiau gweithio gartref am ei fod yn rhoi manteision enfawr iddynt, ac ni fyddant yn gorfod cymudo am ddwy awr y dydd. Ond yn bwysicach na hynny, nid oes rhaid iddynt fyw ger yr M4 neu brif ffordd neu draffordd neu orsaf reilffordd; gallant fyw lle mynnant mewn gwirionedd. Rwy'n credu y byddwn yn gweld llawer o bobl yn symud oherwydd hyn. 

Bydd y penderfyniad i weithio gartref yn digwydd drwy lawer o benderfyniadau unigol. Rydym wedi'i weld dros y 12 mis diwethaf yn yr hyn na ellir ond ei ddisgrifio fel amodau anfoddhaol, lle rydym wedi gweld pobl yn gorfod gweithio gartref yn ogystal â gofalu am blant, ond os na fyddai'n rhaid iddynt wneud hynny, byddai eu cynhyrchiant yn cynyddu. Ond yr hyn a welsom mewn gwirionedd oedd na chafwyd gostyngiad sylweddol mewn cynhyrchiant; nid oes neb wedi gweld hynny. Rydym wedi gweld gwell cynhyrchiant gyda rhai. Rwy'n credu mai i'r cyfeiriad hwn rydym wedi bod yn mynd, ac rydym bellach wedi cyrraedd yno. Hefyd, rydym wedi'i weld gyda siopa. Faint o bobl sydd bellach yn hapus i brynu dillad, teganau, addurniadau ar gyfer y cartref ac eitemau eraill tra'n eistedd ar eu soffa ar unrhyw adeg o'r dydd a'r nos o iPad, ffôn neu gyfrifiadur? Rwy'n poeni am ddyfodol siopau ffisegol. A chofiwch, nid Amazon yn unig sydd ar-lein, er ein bod yn defnyddio'r ddau derm yn gyfnewidiol. Mae gan bob manwerthwr mawr bresenoldeb ar-lein ac mae pob un yn gweithio tuag at wella eu presenoldeb ar-lein.

Rydym hefyd wedi gweld peiriannau argraffu 3D. Ni wnaethant chwarae rhan fawr yn ystod y 12 mis diwethaf, oherwydd maent yn ddrud, ac maent yn dal i fod ar y cam datblygu. Bydd hyn yn newid; byddant yn dod yn rhatach, byddant yn gwella. Mae pobl yn cofio, pan ddaeth y cyfrifiaduron cyntaf, pa mor araf oeddent, ac mae gennych chi bellach fwy o gapasiti cyfrifiadurol na'r hyn a aeth â phobl i'r lleuad yn y 1960au yn eich poced. Rwy'n rhoi hynny yn ei gyd-destun, dyna i gyd. Bydd yr argraffwyr hyn yn gwella. Bydd pobl yn gwneud mwy. Mae gennyf gwmni yn fy etholaeth sy'n gwneud cynhyrchion prosthetig ar beiriannau argraffu 3D fel y gallwch eu cynhyrchu pan fydd pobl eu hangen. Rwy'n credu y byddwn yn gweld datblygiad enfawr ym maes cynhyrchu 3D, a bydd hyn yn effeithio ar wledydd eraill hefyd. Os ydym yn creu'r dyluniadau yn y wlad hon, os ydym am wneud y pethau, nid oes rhaid i ni eu hanfon i rannau eraill o'r byd i'w cynhyrchu. Gallwn ni fod yn eu cynhyrchu—nid yn ein hystafelloedd byw ein hunain, efallai, ond yn sicr yn ein cartrefi neu'n agos atynt. Mae'r rhain yn newidiadau sy'n digwydd.

Mae gan brifysgolion ran enfawr i'w chwarae, gyda phrifysgolion heb eu defnyddio'n llawn yng Nghymru. Edrychwch ar yr hyn sy'n digwydd nid yn unig gyda Chaergrawnt ond prifysgolion ledled Prydain sydd wedi datblygu parciau gwyddoniaeth, sydd wedi datblygu diwydiannau ochr yn ochr â hwy. Mae angen inni wneud yr un peth. Ac un pwynt olaf—

15:55

Un pwynt olaf ar hyn. A gawn ni roi'r gorau i geisio iro dwylo cwmnïau i ddod â ffatrïoedd cangen i Gymru, lle maent yn addo cannoedd o swyddi na fyddant byth yn cael eu gwireddu ac yna'r toriadau i ddilyn hynny? Nid dyma'r cyfeiriad cywir. Nid yw'n gweithio, nid yw wedi gweithio ers Awdurdod Datblygu Cymru, ac nid yw'n gweithio yn awr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oeddwn yn disgwyl cael fy ngalw mor sydyn, ond rwyf wedi casglu fy mhapurau at ei gilydd.

A gaf fi ddiolch i bwyllgor yr economi am gyflwyno'r adroddiad rhagorol hwn, gyda'r cennin Pedr ar y blaen, fel y dywedodd Russ George? Mae'n dda iawn. Yn amlwg, nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond fel cyn Gadeirydd yr hyn a alwyd bryd hynny'n Bwyllgor Menter a Busnes yn ôl yn 2014, pan wneuthum y swydd honno ddiwethaf, nid wyf yn credu y byddwn byth wedi rhagweld y byddem yn cael dadl fel hon heddiw neu y byddai'r adroddiad hwn wedi'i gynhyrchu. Roedd y mathau o faterion y bu'n rhaid imi ymdrin â hwy fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw, ac y bu'n rhaid i'r Aelodau ymdrin â hwy, yn ymddangos yn eithaf sylweddol a mawr ar y pryd, ond o'u cymharu â'r hyn rydym yn ymdrin ag ef heddiw, yn wyneb yr ergydion economaidd sy'n wynebu Cymru a'r byd, mae'r rheini'n ymddangos yn eithaf bach mewn cymhariaeth. Felly, mae hwn, fel y dywedodd y Cadeirydd, yn adroddiad amserol. Mae hwn yn gyfnod heriol dros ben, ac fel y dywed y Cadeirydd yn ei ragair, mae angen inni ddysgu gwersi o ddirwasgiadau blaenorol wrth inni adeiladu'n ôl yn well, yn decach ac yn fwy gwyrdd. Mae dirwasgiadau blaenorol wedi ymddangos yn ddigon drwg ac yn ddigon caled wrth i ni fyw drwyddynt, ond wrth gwrs mae maint yr hyn a wynebwn yma'n fwy o bosibl na dim arall a welsom yn ein hoes ni, felly mae'n bwysig ein bod yn dysgu'r gwersi o'r dirwasgiadau hynny.

A gaf fi wneud ychydig o bwyntiau? Rwyf newydd fod yn darllen drwy'r argymhellion, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag argymhelliad 1, fod angen i ni harneisio gweithgarwch entrepreneuraidd a busnesau newydd fel ffordd o ysgogi'r adferiad economaidd. Rydym wedi gweld llawer iawn o gefnogaeth gan y Llywodraeth, cymorth a chyllid Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i'r sector preifat dros y flwyddyn ddiwethaf ers labelu'r pandemig am y tro cyntaf, fel y dywedodd Russ rwy'n credu, a dechrau'r cyfyngiadau symud, a dyna oedd y peth hollol iawn i'w wneud, ac roedd yn dderbyniol, ond wrth gwrs, ni all hynny barhau am byth, felly mae angen inni ddechrau ceisio gosod y sector preifat yn ôl ar ei draed, cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl—rhai sectorau, beth bynnag—a sicrhau bod y busnesau bach a chanolig hynny'n gallu gyrru'r economi yn ei blaen.

Mae argymhelliad 3 yn annog hyblygrwydd yn wyneb siociau allweddol yn y dyfodol fel y newid yn yr hinsawdd. Rwy'n credu mai dyna oedd un o'r agweddau mwyaf pryderus ar y pandemig—mae'r pandemig hwn wedi bod yn ddigon heriol fel y mae, ac mae'r economi wedi bod yn gwegian yn ei sgil, ond, wrth gwrs, pan ychwanegwch wedyn effeithiau posibl eraill fel newid yn yr hinsawdd, a siociau annisgwyl eraill y mae'n rhaid i ni ddiogelu rhagddynt, am y pum mlynedd, 10 mlynedd nesaf, bydd economi'r byd mewn cyflwr eithaf sensitif, felly rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle, Gadeirydd, i ddweud yn eich adroddiad fod angen i ni sicrhau ein bod yn rhoi hwb mor fawr â phosibl i gydnerthedd.

Rydym yn sôn yn aml am adeiladu'n ôl yn well, ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd yn ymarferol. Rwyf wedi codi hyn gyda Gweinidog yr economi, ac yn wir gyda'r Prif Weinidog, ar sawl achlysur rwy'n credu, ac rydym i gyd yn cytuno bod angen i ni adeiladu'n ôl yn well, adeiladu’n ôl yn decach, tyfu'n ôl yn wyrddach, a fi yw'r person cyntaf i ddweud bod angen y pethau hynny, ond gadewch inni wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd yn ymarferol, ac nad ydym yn dychwelyd at yr hen ffyrdd o wneud pethau. Rydym wedi gweld newidiadau enfawr, o ran traffig ffyrdd er enghraifft, dros y misoedd diwethaf. Gwn fod y traffig ffyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd 60 y cant yn uwch ar hyn o bryd o'i gymharu â'r hyn ydoedd yn ystod y cyfyngiadau symud blaenorol, ond mae'n dal i fod yn llawer is na'r hyn a arferai fod, ac o ran y mannau problemus arferol hynny, megis yr M4, a grybwyllwyd mewn cwestiynau yn gynharach—wel, gallwch deithio ar honno yn ystod oriau brig yn awr, ac nid yw'n ymddangos ei fod yn achosi hanner y problemau yr arferai eu hachosi.

Felly, mae ffyrdd o adeiladu'n ôl mewn ffordd lle nad oes gwir angen inni fuddsoddi yn y seilwaith ffisegol i'r graddau yr arferem ei wneud mewn gwirionedd. Felly, bydd band eang yn allweddol i hyn—gadewch inni sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu gweithio gartref. Gadewch inni roi'r seilwaith band eang hwnnw ar waith. O ran y rhwydwaith ffyrdd, datblygu cerbydau trydan, gwych i'r amgylchedd, gwych ar gyfer datrys problemau newid hinsawdd—gadewch inni roi'r seilwaith gwefru ar waith a gadewch inni i gyd fwrw ymlaen gyda'r cynllun. Oes, mae gan bob un ohonom safbwyntiau gwahanol yma, o'n gwahanol bleidiau a'n gwahanol gredoau ideolegol, ond credaf fod pob un ohonom yn rhannu'r un nod, sef ein bod eisiau dod allan o hyn gyda Chymru mewn sefyllfa gryfach a gwell nag o'r blaen. Nid heriau'n unig sydd yma, mae yna gyfleoedd hefyd, a diolch yn fawr iawn i'r Cadeirydd, Russ George, am gyflwyno'r adroddiad rhagorol hwn. Byddwn yn annog pawb i'w ddarllen oherwydd rwy'n credu ei fod yn cynnwys yr hadau o ran sut rydym am dyfu'n ôl a gwneud Cymru'n lle gwell yn y dyfodol. Diolch.

16:00

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn? Mae'n waith cynhwysfawr, o ran ei gwmpas a'i argymhellion. Yn wir, mae mor gynhwysfawr bydd yn rhaid i mi gyfyngu fy sylwadau i'r hyn a welaf fel yr elfennau allweddol. Ond mae'n rhaid i mi ddweud cyn dechrau fy nghyfraniad fy mod yn teimlo bod Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf wedi gwneud llawer i fynd i'r afael â nifer o'r materion a godwyd yn yr argymhellion. Byddwn yn cytuno ag argymhellion 1 i 3, gan ychwanegu mai'r rhagolwg cyffredinol, pan fydd cyfyngiadau COVID wedi'u llacio'n llwyr, yw y ceir hwb enfawr i'r economi, o fentrau gwaith a gafodd eu hatal dros dro ac arian a arbedwyd yn ystod yr argyfwng. Rhaid cefnogi busnesau annibynnol a busnesau bach a chanolig i wneud y gorau o'r cynnydd hwn.

Mae argymhelliad 4 yn ymwneud ag ariannu banc masnachol Cymru a Busnes Cymru. Credaf fod y ddau sefydliad wedi bod yn un o'r llwyddiannau mawr yn ystod y tymor seneddol hwn, yn enwedig dros gyfnod yr argyfwng COVID, a hoffwn ddiolch i'r ddau sefydliad ar ran yr holl fusnesau yng Nghymru am y ffordd ryfeddol y maent wedi rheoli'r ymyriadau ariannol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Rwy'n siŵr bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn ac y bydd yn sicrhau bod unrhyw arian angenrheidiol ar gael. Bydd y ddau sefydliad yn hanfodol i'n hadferiad economaidd.

Mae argymhellion 7, 8 a 9 yn ymdrin ag uwchsgilio'r gweithlu. Rwy'n cytuno ei bod yn hanfodol i addysg bellach, addysg uwch a phrifysgolion ymwneud yn llawn ag unrhyw gynlluniau gan y Llywodraeth yn y chweched Senedd, a hefyd â'r gymuned fusnes yn gyffredinol. Rhaid cyflawni cynlluniau sy'n ymwneud ag astudiaethau galwedigaethol yn gyflym. Mae'n sicr bod dechrau da yn cael ei wneud ond ni ddylid caniatáu iddo aros yn ei unfan.

Mae argymhelliad 11 yn ymdrin â'r sectorau sydd wedi eu taro galetaf gan COVID—lletygarwch, gan gynnwys twristiaeth, y sector gwallt a harddwch a'r sector celfyddydau a diwylliant. Rwy'n annog y Llywodraeth i ganolbwyntio ymyriadau cynnar ar y sectorau hyn gan mai hwy sydd fwyaf tebygol o gael effaith gadarnhaol ar yr economi yn y tymor byr. O ran y sector twristiaeth, rhaid i unrhyw ymgyrchoedd yn y dyfodol ailbwysleisio ymrwymiad llwyr Cymru i groesawu ymwelwyr, rhywbeth a allai fod wedi'i niweidio gan y cyfyngiadau symud. 

Mae argymhellion 36 i 38 yn ymdrin ag anabledd. Credaf fod hwn yn faes lle mae'n rhaid cael gwelliant sylweddol. Mae gan bobl anabl gymaint mwy i'w gyfrannu i gymdeithas a busnes yn gyffredinol nag y gallant ei wneud ar hyn o bryd. Gadewch i hwn fod yn faes wedi'i dargedu i Lywodraeth Cymru yn y chweched Senedd. 

Rwy'n cytuno â'r argymhellion sy'n ymwneud â chyflogaeth ieuenctid. Ni allwn ganiatáu i'r argyfwng COVID greu cenhedlaeth goll o'n pobl ifanc. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i roi ystyriaeth go iawn i'r argymhellion hyn.

Er yr ymdrinnir â thrafnidiaeth yn nes ymlaen yn yr adroddiad hwn, mae'n sicr yn elfen hollbwysig arall yn adferiad economaidd Cymru. Rhaid derbyn bod llawer eisoes wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn, gan gynnwys caffael rheilffyrdd craidd y Cymoedd, sy'n hynod bwysig, a chyflwyno cerbydau llawer gwell. Mae llawer o fentrau eraill a gwaith uwchraddio arall yn yr arfaeth, felly a gaf fi annog y Llywodraeth i barhau â'u buddsoddiadau sylweddol? Rwy'n gwbl argyhoeddedig y bydd yn sicrhau manteision enfawr yn y dyfodol. 

I grynhoi, Ddirprwy Lywydd, er ein bod yn croesawu mewnfuddsoddiad i Gymru, rhaid inni dyfu sylfaen fusnes gynhenid, gyda phencadlysoedd yng Nghymru ac wedi'u hymrwymo'n llwyr i Gymru. Dyna'r unig ffordd y gallwn adeiladu cydnerthedd hirdymor yn economi Cymru. Diolch, Ddirprwy Lywydd. 

16:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau fel y gwneuthum yn y pwyllgor y bore yma drwy ddiolch i aelodau presennol a blaenorol y pwyllgor am y ffordd anhygoel o adeiladol y maent wedi gweithio gyda mi a fy swyddogion dros y pum mlynedd diwethaf i gael y syniadau a'r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru? Ac i'r perwyl hwnnw, rwy'n croesawu'r adroddiad yn fawr iawn a diolch i'r pwyllgor am eu cydnabyddiaeth i ymdrechion y timau sydd wedi ymateb yn gyflym drwy herio amodau gweithredol i gefnogi busnesau a gweithredwyr trafnidiaeth.

Ac fel y byddwch yn deall, ni fyddaf yn gallu rhoi sylwadau ar bob un o'r 53 argymhelliad heddiw, ond yr hyn y mae nifer yr argymhellion yn bendant yn ei ddangos yw diwydrwydd y pwyllgor wrth ymgymryd â'r hyn y gallai fod ei angen ar yr economi yn y blynyddoedd i ddod. Fel y dywed y Cadeirydd yn ei ragair, bydd ailadeiladu yn broses hir, a mater i Lywodraethau'r dyfodol, nid y weinyddiaeth nesaf yn unig o bosibl ond sawl un wedyn, fydd ymdrin â'r argymhellion a gweithredu'r newid angenrheidiol. Ond rydym wedi rhoi camau breision ar waith i gyflwyno brechlynnau ac mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn gwella, felly, yn sicr mae optimistiaeth yn tyfu ynghylch adferiad economaidd.

Ac wrth gwrs, gwnaethom ddechrau ar y gwaith pan gyhoeddasom ein cenhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu'r economi y mis diwethaf, ac mae'r genhadaeth yn nodi'r hyn a ddywedodd llawer o bobl wrthyf yn uniongyrchol—fod gennym dalent yng Nghymru, fod gennym egni a syniadau i ailadeiladu ein heconomi mewn ffordd well a llawer tecach. Rwy'n credu ei fod yn cynnig optimistiaeth sylfaenol yn erbyn cefndir yr amgylchiadau mwyaf heriol y credaf inni eu hwynebu yn ein hoes ni, heriau sydd wedi cynnwys Brexit a'r argyfwng hinsawdd. 

Nawr, er eu bod yn dal i fod yn heriol iawn, mae'r rhagolygon ar gyfer yr economi yn edrych yn well nag y gwnaethant ar adeg rhagolwg diwethaf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ym mis Tachwedd. Er hynny, erbyn 2026 disgwylir i lefel cynnyrch domestig gros fod tua 3 y cant yn is na'r lefel a ddisgwylid cyn y pandemig, gan adlewyrchu effeithiau creithiau hirdymor coronafeirws ar yr economi. Bydd hyn yn arbennig o wael i grwpiau a phobl ifanc ddifreintiedig wrth iddynt geisio cael troedle yn y farchnad lafur.

Mae fy uchelgais ers dechrau'r pandemig hwn wedi bod yn ddeublyg: yn gyntaf, cefnogi busnesau fel eu bod yn goroesi ac yn cadw gweithwyr, er gwaethaf y sefyllfa ddifrifol y maent yn ei hwynebu; ac yna'n ail, cefnogi'r rhai sydd, yn anffodus, yn colli eu gwaith neu sy'n ymuno â'r farchnad lafur am y tro cyntaf. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud ar sawl achlysur, os oedd gennych fusnes da yn 2019, y bydd gennych fusnes da yn 2021, a dyna'n union yw fy uchelgais o hyd, a dyna pam y mae'n rhaid inni gryfhau'r economi sylfaenol, fel y mae llawer o Aelodau wedi nodi y prynhawn yma, a chydnabod pwysigrwydd hanfodol gweithwyr allweddol a'r rôl hollbwysig y maent yn ei chwarae yn ein llesiant ac ym mhob sector o'n heconomi.

Nawr, ym mis Ionawr cyhoeddwyd £3 miliwn pellach gennym ar gyfer cronfa her yr economi sylfaenol a'r prosiectau y mae'n eu cynnal. Mae'n gwella'r modd y darperir nwyddau a gwasanaethau bob dydd rydym i gyd yn eu defnyddio a'u hangen—gwella rhagolygon cyflogaeth o fewn yr economi sylfaenol a sicrhau arferion gorau y gallwn i gyd ddysgu oddi wrthynt. Yn gyffredinol, mae ein pecyn cymorth i fusnesau yn ystod y pandemig hwn wedi bod yn fwy na £2 biliwn. Dyma'r pecyn cymorth mwyaf hael o hyd yn y Deyrnas Unedig. Erbyn y mis diwethaf, roedd y gronfa cadernid economaidd wedi diogelu bron i 150,000 o swyddi. Mae hynny'n fwy na 10 y cant o gyfanswm cyflogaeth yng Nghymru. Credaf fod adroddiad y pwyllgor yn cydnabod yn briodol yr angen i fanteisio ar y cynnydd mewn gweithgarwch entrepreneuraidd ac annog busnesau newydd. Y nod yw i economi ôl-bandemig Cymru ysgogi ffyniant yn gyfartal a helpu pawb i wireddu eu potensial; felly mae harneisio diwylliant entrepreneuraidd bywiog yn hanfodol bwysig.

Rydym wedi helpu busnesau newydd yn ystod y pandemig. Rydym wedi darparu mwy na £4 miliwn i fusnesau newydd sy'n wynebu methiant, ac mae hynny wedi diogelu tua 1,600 o fusnesau. Bwriadwn helpu i ailadeiladu, tyfu a chryfhau'r sector mentrau cymdeithasol fel ei fod yn fodel busnes naturiol o ddewis i entrepreneuriaid sy'n darparu atebion i'r heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy'n ein hwynebu, ac ymhellach, mae ein cronfa rwystrau, ar gyfer unigolion sy'n ystyried hunangyflogaeth, yn targedu pobl ifanc a adawodd y coleg a'r brifysgol yn 2019 a 2020 yn benodol. Cafwyd mwy na 330 o geisiadau erbyn diwedd mis Ionawr, a phob un yn cael hyd at £2,000 i gael y cyfle gorau posibl i wneud i'w menter newydd lwyddo, ac mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad COVID gwerth £40 miliwn ar gyfer sgiliau a swyddi. Rydym wedi ymrwymo i gynnig cyngor a chymorth i bobl dros 16 oed i ddod o hyd i waith, i fynd ar drywydd hunangyflogaeth, i ddod o hyd i le mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, ac mae hyn yn cynnwys cymhellion cyflogi i gyflogwyr: pobl ifanc 16 i 24 oed, pobl anabl; pobl o gymunedau du, lleiafrifoedd ethnig ac Asiaidd; menywod. Bydd y rhai y mae COVID-19 wedi effeithio fwyaf arnynt yn cael blaenoriaeth o fewn y cynllun hwnnw. Ar ôl cyrraedd ein targed o greu 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel yn ystod tymor y Senedd hon, byddwn yn defnyddio £16.4 miliwn i ysgogi busnesau i gyflogi dechreuwyr newydd a pharhau i gyflogi 5,000 o brentisiaid. Bydd £3 miliwn hefyd i gefnogi prentisiaid lefel gradd mewn TGCh ddigidol a gweithgynhyrchu uwch, er mwyn darparu llwybr amgen i unigolion gaffael sgiliau lefel uwch.

Nawr, mewn ymateb i argymhelliad y pwyllgor ar gyllid ymchwil a datblygu, mae cynyddu cyllid ymchwil a datblygu a sylfaen arloesi Cymru yn parhau i ddibynnu, wrth gwrs, ar weld Llywodraeth y DU yn cyflawni'r agenda codi'r gwastad, a byddwn yn parhau â'n cymorth ariannol drwy SMART Cymru i ddatblygu, gweithredu a masnacheiddio cynnyrch, prosesau a gwasanaethau.

At hynny, yn unol â'n huchelgais i greu economi fwy gwyrdd, byddwn yn buddsoddi mewn prosiectau carbon isel a phrosiectau seilwaith i wrthsefyll newid hinsawdd ac ynni adnewyddadwy, ac mae hyn yn cynnwys moderneiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth a pharhau â'n cynlluniau presennol ar gyfer metros yng ngogledd Cymru, de Cymru a gorllewin Cymru. Mae ein gwasanaeth rheilffyrdd yn ased hollbwysig, fel y nodwyd heddiw, ac yn un y mae'n rhaid inni ei ddiogelu. Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi darparu cymorth ariannol sylweddol i gadw trenau i redeg. Rwy'n credu bod yr angen am fwy o reolaeth gyhoeddus yn adlewyrchiad o bwysau parhaus coronafeirws a'r heriau sy'n cael eu hwynebu ar draws y diwydiant rheilffyrdd wrth i'r galw gan deithwyr barhau'n eithriadol o isel. A hefyd, drwy gydol y pandemig COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ariannu gwasanaethau bysiau hynod bwysig ledled Cymru, gan gadw rhwydwaith sgerbwd i gefnogi teithiau hanfodol, a chynyddu gwasanaethau wedyn i gefnogi ailagor ysgolion a'r economi ehangach. Yn ogystal â mynd i'r afael ag anghenion brys tymor byr, bwriad ein cytundeb newydd gyda gweithredwyr gwasanaethau bysiau yw nodi dechrau partneriaeth barhaol gyda gweithredwyr a chyrff cyhoeddus er mwyn gallu ail-lunio rhwydwaith bysiau Cymru, cefnogi'r gwaith o reoli a rhyngweithio dulliau teithio ledled Cymru, a chynnwys datblygu tocynnau clyfar, llwybro unedig ac amserlennu integredig wrth gwrs. 

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais becyn ariannu ar gyfer Maes Awyr Caerdydd i sicrhau ei hyfywedd yn y tymor canolig i'r tymor hir ac i ddiogelu miloedd o swyddi yn yr economi ranbarthol. Rwy'n benderfynol o'n gweld yn dod allan o'r pandemig hwn drwy adeiladu ar y sylfeini yr oeddem wedi'u dechrau cyn iddo daro a thrwy leihau anghydraddoldeb a lledaenu cyfoeth yn decach, a llesiant yn wir, ar draws Cymru gyfan.

16:15

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi yn gyntaf adleisio sylwadau Helen Mary Jones drwy ddiolch i'r nifer fawr o bobl a gyfrannodd at ein hadroddiad drwy dystiolaeth lafar a thystiolaeth ysgrifenedig? Mae'n adroddiad enfawr, ac rwyf bob amser, mewn unrhyw ddadl, yn diolch i'n tîm clercio ac ymchwil, ond y tro hwn yn enwedig, oherwydd bu'n rhaid gwneud yr adroddiad yn gyflym oherwydd fel arall mae ein hadroddiad yn dyddio'n gyflym. Felly, ymdrech enfawr gan ein tîm clercio ac ymchwil i ddrafftio'r adroddiad er mwyn i ni, fel Aelodau, edrych arno. Felly, roeddwn yn gwerthfawrogi hynny, yn fawr iawn.

O ran sylwadau Helen Mary Jones, fe ddechreuais drwy sôn am y graith ar gyflogaeth ieuenctid a gorfod ymdrin â hynny yn awr er mwyn osgoi'r hyn y gwyddom y bydd yn digwydd os gwelwn ailadrodd y gorffennol. Ac roedd Helen Mary Jones yn sôn llawer am ei phrofiad ei hun o ffrindiau roedd hi'n eu hadnabod yn y 1980au sy'n dal i gael eu heffeithio heddiw. Mike Hedges, roeddech yn wych; fe wnaethoch waith gwych o fod yn rhagflas o'n dadl yr wythnos nesaf ar weithio o bell. Felly, diolch—diolch am hynny, Mike. Byddwn yn dweud, yn y pwyllgor y bore yma, ei fod yn fy atgoffa o sut y dywedodd Hefin David y byddai wedi hoffi cyfrannu y prynhawn yma, ond na allai oherwydd problemau cysylltedd, a rhywun sy'n agos iawn ato'n arddel y safbwynt croes i hynny. Felly, mae trafodaeth fawr yma am weithio o bell a'r heriau a ddaw yn ei sgil a hefyd y cyfleoedd y mae'n eu cynnig. Ond mae'n siŵr yr edrychwn arnynt yn fanylach yr wythnos nesaf. Ond rwy'n cytuno â chi, Mike. Fel y dywedodd Helen Mary Jones hefyd, ni allwn ddychwelyd at yr hyn a fodolai cyn mis Mawrth 2020.

Rwy'n credu hefyd fod Nick Ramsay—diolch ichi am eich cyfraniad, a soniai lawer am ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol, neu gamgymeriadau a wnaed mewn dirwasgiadau blaenorol, a dyna hanfod ein hadroddiad i raddau helaeth; rydym yn ceisio tynnu sylw at gamgymeriadau a wnaed yn y gorffennol y gallwn geisio eu hosgoi y tro hwn. Fe sonioch chi hefyd am y tagfeydd ac adeiladu'n ôl yn well—sy'n thema gyson inni i gyd, rwy'n credu, ynglŷn â sicrhau ein bod yn adeiladu ein heconomi'n ôl mewn ffordd well.

David Rowlands, rwy'n cytuno â chi—mae'r pwyllgor yn cytuno â chi—ein bod yn credu bod Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru wedi bod yn llwyddiant yn y pandemig hwn. Maent wedi gwneud gwaith gwych ac mae'n debyg ei bod yn iawn hefyd, fel pwyllgor, ein bod wedi cofnodi ein diolch i'r staff sy'n gweithio yn y ddau sefydliad—felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ac rwy'n cytuno â chi hefyd, David Rowlands, ynglŷn ag addysg uwch ac addysg bellach ac ymgysylltu ar uwchsgilio hefyd.

I ddod at rai o sylwadau'r Gweinidog, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am groesawu ein hadroddiad a'n hargymhellion at ei gilydd. Rwy'n sicr yn cytuno â'r Gweinidog y bydd ailadeiladu'n broses hir yn anffodus, a diolch i'r Gweinidog am ei eiriau caredig am waith y pwyllgor a diwydrwydd.

Rhywfaint o optimistiaeth gan y Gweinidog o ran adeiladu'n ôl yn well. Rhybudd hefyd wrth gwrs, wrth iddo nodi y bydd cynnyrch domestig gros 3 y cant yn is yn 2026, a'r effaith a gaiff hynny ar rai grwpiau difreintiedig. Felly, unwaith eto, mae neges yno, onid oes, optimistiaeth ar gyfer y dyfodol, ond pryder hefyd. Ond unwaith eto, dyna y mae ein hadroddiad yn ceisio ei wneud—ceisio lleihau'r effeithiau ac adeiladu'n ôl yn well, a gwneud argymhellion i'r perwyl hwnnw hefyd.

Felly, a gaf fi ddiolch i'r holl gyfranwyr i'r ddadl y prynhawn yma? Diolch yn fawr iawn ac wrth gwrs, yr wythnos nesaf byddwn yn trafod yr adroddiad gweithio o bell sydd â chysylltiadau â'r adroddiad hwn hefyd. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

16:20

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar ddeiseb P-05-1078, 'Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng'

Ein heitem nesaf ar yr agenda yw'r ddadl ar ddeiseb P-05-1078, 'Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng'. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig hwnnw—Janet Finch-Saunders.

Cynnig NDM7624 Janet Finch-Saunders

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r ddeiseb P-05-1078, 'Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng' a gasglodd 5,159 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Felly, diolch am y cyfle i gynnal dadl ar y ddeiseb hon heddiw. Cyflwynwyd y ddeiseb gan Laura Williams, ar ôl casglu 5,159 o lofnodion. Mae'n galw am fwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwelliannau i ofal mewn argyfwng, ac mae'n dilyn deiseb flaenorol a gyflwynodd Laura i'n pwyllgor, a oedd hefyd yn ceisio gwella mynediad at gymorth iechyd meddwl. Cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau adroddiad ar y ddeiseb flaenorol honno yn 2019. Ynddo, gwnaethom nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gyda'r nod yn arbennig o wella llwybrau atgyfeirio a mynediad amserol at gymorth mewn argyfwng.

Wrth gyflwyno'r ddeiseb sydd ger ein bron heddiw, mae Laura wedi mynegi ei barn nad oes digon o gynnydd go iawn wedi'i wneud ar wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ers yr adeg honno. Mae'n pryderu'n arbennig am yr effaith y mae'r pandemig a'r cyfyngiadau symud wedi'i chael ar iechyd meddwl a llesiant pobl a gallu gwasanaethau i ymateb i anghenion pobl mewn modd amserol.

Nawr, nid yw'r pryderon hyn yn fater newydd i'r Senedd hon ac fel y clywsom yn ystod dadl yr wythnos diwethaf, mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi cyhoeddi ei adroddiad ei hun yn ddiweddar ar effaith yr argyfwng COVID-19 ar iechyd meddwl a llesiant. Felly, credaf y byddai Laura, a'r miloedd o bobl a gefnogodd ei deiseb, yn cymeradwyo'r argymhellion y mae'r pwyllgor iechyd wedi'u gwneud yng ngoleuni'r dystiolaeth fanwl y maent wedi'i chael yn ystod eu hymchwiliadau.

Fodd bynnag, yng ngweddill fy nghyfraniad y prynhawn yma, byddaf yn canolbwyntio ar nifer o faterion penodol y mae'r ddeiseb yn gofyn inni eu hystyried. Cyn imi wneud hynny, hoffwn nodi'n fyr nad yw'r Pwyllgor Deisebau wedi cael ymateb i'r ddeiseb hon gan y Llywodraeth hyd yma, er inni ofyn am un ddiwedd mis Tachwedd. Nid dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd mewn perthynas â deiseb am wasanaethau iechyd meddwl. Gallwch ddychmygu'r siom rydym ni fel pwyllgor yn ei deimlo. Mae'n siŵr y bydd y deisebwyr yn teimlo'r un fath.

Mae'r pwyllgor yn cydnabod yr heriau sydd wedi wynebu Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf wrth gwrs, a'r angen i flaenoriaethu adnoddau. Fodd bynnag, credaf ei bod yn bwysig fy mod yn nodi'r her wrth inni geisio craffu'n briodol ar y Llywodraeth a darparu ymateb digonol i aelodau o'r cyhoedd sy'n cyflwyno deisebau os na ddaw ymatebion i law mewn cyfnod rhesymol o amser.

Gan symud ymlaen at alwadau penodol y ddeiseb hon, mae Laura wedi tynnu sylw at ei phryder am yr effaith y mae COVID-19 wedi ei chael ar iechyd meddwl pobl, yn enwedig drwy effaith cyfyngiadau symud ac arwahanrwydd cymdeithasol. Mae'n dal i bryderu ynghylch argaeledd gwasanaethau priodol i bobl sydd eu hangen, yn enwedig y graddau y darperir y rhain mewn modd amserol i bobl ar adegau o argyfwng.

Roedd profiad diweddar a nododd Laura drwy ei sylwadau i'r Pwyllgor Deisebau yn codi pryderon ynghylch diffyg gwasanaethau, atgyfeirio neu ddilyniant pan gafodd pryderon iechyd meddwl eu crybwyll yn ystod ymweliad ag adran damweiniau ac achosion brys. Mae'r ddeiseb hefyd yn cyfeirio at amseroedd aros am driniaeth a therapi, a'r hyn y mae Laura yn ei weld fel angen i wella gallu gwasanaethau i ymateb i'r galw sy'n bodoli yn ein cymunedau.

Fel y gwyddom i gyd, mae'r rhain yn bryderon hirsefydlog ynglŷn â'r cyfyngiadau ar gapasiti o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yma yng Nghymru, ond efallai bod mwy byth o ffocws arnynt yn sgil amgylchiadau'r 12 mis diwethaf. Mae gwasanaethau lle'r oedd mwy o alw amdanynt na'r gallu i'w ddiwallu mewn llawer o achosion o'r blaen wedi gweld nifer y cleifion yn cynyddu, yn union fel y mae eu gallu i ddarparu gwasanaethau, yn enwedig rhai wyneb yn wyneb, wedi dod yn fwy cyfyngedig nag erioed.

Mae Mind Cymru wedi nodi eu pryderon eu hunain ynghylch mynediad at gymorth iechyd meddwl, gan ddweud bod bron i chwarter y bobl yr haf diwethaf wedi dweud nad oeddent yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. A'r wythnos diwethaf, wrth gyflwyno dadl y pwyllgor iechyd ar y pwnc hwn, nododd ein cyd-Aelod Dai Lloyd AS fod mwy na hanner yr oedolion a thri chwarter y bobl ifanc yn teimlo bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud.

Credaf fod hwn yn fater y mae'n rhaid i bob un ohonom geisio mynd i'r afael ag ef fel blaenoriaeth. Yng Nghymru, gobeithiwn y gallwn barhau i gefnu ar y pandemig hwn, ond rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i osgoi pandemig iechyd meddwl pellach yn y dyfodol.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae iechyd meddwl wedi bod yn destun llawer iawn o waith a thrafodaeth drwy gydol y Senedd hon. Mae'n sicr wedi bod yn thema reolaidd mewn deisebau a gyfeiriwyd at ein pwyllgor dros y cyfnod hwnnw. Mae hynny'n amlygu'r ffaith bod llawer o'r cyhoedd o'r farn y gellid ac y dylid gwneud mwy, yn ogystal â phwysigrwydd cael gwasanaethau'n iawn, pwynt y credaf y gallwn i gyd gytuno ei fod yn arbennig o bwysig yn awr. Diolch yn fawr iawn. 

16:25

Gaf innau ddiolch i Laura Williams am gyflwyno y ddeiseb yma a llwyddo i gasglu cymaint o enwau arno fo, sef pam ein bod ni yn trafod hwn heddiw? Mae'n brawf bod hwn yn faes lle mae pobl eisiau gweld mwy o weithredu arno fo gan Lywodraeth. Mi ydym ni, dwi'n meddwl, mewn lle llawer gwell y dyddiau yma o ran ein parodrwydd ni i siarad am iechyd meddwl. Mae yna lot o'r hen stigma yn cael ei daclo yn araf bach, ond mae yna lot o ffordd i fynd hefyd, a dydyn ni yn dal ddim yn gallu dweud efo'n llaw ar ein calonnau bod iechyd meddwl yn cael ei drin yn hollol gyfartal efo iechyd corfforol go iawn, a beth sydd gennym ni yn fan hyn ydy galwad am ddau beth fyddai yn ein helpu ni i symud tuag at y cyfartaledd yna, sef rhagor o gyllid i wasanaethau iechyd meddwl a sicrhau llai o amser aros i bobl sydd yn wynebu argyfwng iechyd meddwl. Ond tra dwi'n cefnogi hynny, yn sicr, ac eisiau delifro hynny o dan Lywodraeth Plaid Cymru, dwi hefyd eisiau pwysleisio pwysigrwydd yr ataliol hefyd. Fel efo iechyd corfforol, mae ymateb yn fuan, neu hyd yn oed trio atal y problemau bach rhag troi yn rhai mwy difrifol, yr un mor berthnasol efo iechyd meddwl. Dyna pam dwi wedi amlinellu cynlluniau i sefydlu rhwydwaith o ganolfannau llesiant i bobl ifanc ar draws Cymru—canolfannau wrth galon ein cymunedau ni ar y stryd fawr lle mae pobl ifanc yn gallu galw i mewn iddyn nhw os ydyn nhw'n wynebu problemau emosiynol neu broblemau iechyd meddwl, pobl ifanc sydd ddim â phroblem sydd wedi cael ei hadnabod fel un digon difrifol i fod eisiau cyfeiriad at ofal iechyd neu gefnogaeth seiciatrig arbenigol, ond sydd angen cefnogaeth yn syth. Mae eisiau bod yn rhagweithiol yn y ffordd rydym ni'n ymateb i broblemau iechyd meddwl.

Rydym ni'n cofio'n ôl i ddechrau y pandemig, pan wnaeth bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ddweud wrth bron i 1,700 o gleifion eu bod nhw'n cael eu tynnu oddi ar y rhestr aros am apwyntiad efo timau iechyd meddwl a bod yn rhaid iddyn nhw wneud cais eto i gael gweld rhywun, a hynny am fod y pandemig wedi dod ag amharu ar wasanaethau. Wrth gwrs, mi gafwyd ymddiheuriad. Doedd hynny ddim i fod wedi digwydd—rhywun yn rhywle oedd wedi camddeall cyfarwyddyd gan y Llywodraeth. Ond mae'r ffaith bod rhywun yn rhywle wedi meddwl am eiliad y byddai hi'n dderbyniol gwneud hynny yn dweud lot am y gwaith sydd ar ôl i'w wneud, dwi'n meddwl. Mi oedd beth welsom ni yn fanna yn gwbl groes, os oes yna ffasiwn beth, i fod yn rhagweithiol a trio cynnig cefnogaeth gynnar.

Enghraifft arall: dwi'n cofio'r Prif Weinidog Llafur diwethaf yn dweud mai'r rheswm bod rhestrau aros am wasanaethau CAMHS mor hir oedd bod lot o blant a phobl ifanc ar y rhestrau aros oedd ddim angen bod yno mewn difrif. Wel, beth sy'n digwydd mewn sefyllfa fel yna ydy bod y criteria wedyn ar gyfer pwy ddylai gael cefnogaeth yn cael eu tynhau er mwyn trio gwneud y rhestrau aros yn llai, yn hytrach na meddwl am ffyrdd o roi gwell triniaeth i fwy o blant a phobl ifanc.

Felly, diolch eto am ddod â'r ddeiseb yma o'n blaenau ni. Dwi'n gobeithio cael cyfle mewn Llywodraeth, fel Gweinidog Plaid Cymru, i gryfhau'r ddarpariaeth sydd ar gael mewn blynyddoedd i ddod.

16:30

Byddaf yn osgoi unrhyw agenda wleidyddol yma, oherwydd rwy'n credu bod Laura wedi codi'r cwestiwn hwn o bwysigrwydd yr agenda iechyd meddwl. Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar iechyd meddwl. Yn aml, clywsom ddweud, 'Bydd un o bob pedwar ohonom yn y DU yn dioddef o gyflwr iechyd meddwl.' Eleni, yn fwy nag unrhyw flwyddyn arall, mae angen adolygu'r geiriau hyn, gan y bydd llawer mwy o bobl yn dioddef salwch meddwl o ganlyniad i'r camau a gymerwyd i reoli lledaeniad coronafeirws. Felly, does bosibl na ddylem gydnabod yn awr yr angen hanfodol i flaenoriaethu a sicrhau bod digon o arian ar gael i ddiwallu anghenion gwella iechyd meddwl a llesiant.

Edrychodd adroddiad Mind Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, 'Rhy hir i aros', ar ffigurau amseroedd aros cyn ac yn ystod y pandemig ar gyfer mynediad at therapïau seicolegol. Ac fe wnaethant siarad â llawer o bobl sydd naill ai'n aros am gymorth mawr ei angen neu'n ei gael. Gall therapïau seicolegol ddarparu lle diogel i siarad yn agored heb farnu. Gallant ein helpu i wneud synnwyr o bethau, i ddeall ein hunain yn well, neu ein helpu i ddatrys teimladau cymhleth. Maent yn llythrennol yn cynnig achubiaeth i bobl. Dangosodd yr adroddiad fod problemau a oedd eisoes yn bodoli o ran mynediad at therapi seicolegol wedi gwaethygu, gyda llai o bobl yn cael eu derbyn ar y rhestrau aros, er bod mwy o bobl yn aros yn hwy am gymorth. Ac am 17 mis hyd at fis Awst y llynedd, roedd 80 y cant o'r rhai a oedd yn aros am therapïau seicolegol wedi bod yn aros yn hwy na'r targed 26 wythnos, ac mae'n sicr nad yw hyn wedi gwella, gan fod y pandemig wedi effeithio ar fwy o bobl.

Dros y 12 mis diwethaf, gofynnwyd inni gadw draw o'n systemau cymorth arferol. Rydym wedi gweld colli ein hanwyliaid a'n ffrindiau er mwyn eu diogelu. Mae gwella mynediad at therapïau seicolegol arbenigol yn un o ymrwymiadau allweddol strategaeth 10 mlynedd 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' Llywodraeth Cymru. Mae'n nod sy'n rhaid ei ailddatgan ym mhob un o'r strategaethau yn dilyn y cynllun cyflawni a chyda chamau gweithredu wedi'u hanelu at wireddu'r uchelgais hwn. Ac eto, mae gennym nifer fawr o bobl o hyd ar restrau aros heb y cymorth hwnnw ac sy'n aml yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael ar ôl. Byddwn yn gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno bod angen blaenoriaethu'r uchelgais hwn cyn diwedd tymor y Senedd hon ac y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn parhau i roi blaenoriaeth iddo.

Dros dymor nesaf y Senedd, rhaid inni ostwng y ffigur targed presennol o 26 wythnos. Rhaid inni weithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau bod rhaglen recriwtio a hyfforddi gref yn bodoli i gynyddu nifer y therapyddion sydd ar gael, a rhaid inni sicrhau bod iechyd meddwl yn cael ei ystyried lawn cyn bwysiced ag iechyd corfforol. Weinidog, edrychaf ymlaen at eich ymateb ar fwrw ymlaen â'r agenda i helpu'r bobl sydd angen y cymorth hwnnw'n ddybryd.

Wel, diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i, yn gyntaf, ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am eu hamser wrth ystyried y pwnc pwysig yma? Gaf i ymddiheuro nad yw'r pwyllgor na Laura wedi cael ymateb ffurfiol? Gwnaf i'n siŵr y bydd ymateb ffurfiol yn dod o fewn yr wythnos nesaf.

Mae gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth, ac rŷn ni wedi bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth ers inni gyflwyno'n strategaeth, 'Gyda'n Gilydd dros Iechyd Meddwl', yn 2012. Ac, wrth gwrs, mae effaith COVID-19, fel mae David Rees wedi amlinellu, a'r cyfyngiadau wedi rhoi mwy o sylw i'r mater yma, ac rŷn ni'n benderfynol o wella'n gwasanaethau ni i ymateb i'r gofyn. Ac, wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog wedi dangos ei ymrwymiad ef i'r mater yma drwy benodi Gweinidog i arwain, o'r Cabinet, yn y maes yma.

Nawr, mae'n bwysig i nodi bod deiseb Laura Williams ac eraill wedi cael ei harwain gan ddefnyddwyr o'n gwasanaethau, a gadewch imi ddechrau trwy ddweud fy mod i wedi sicrhau fy mod i wedi gwneud ymdrech i rili deall profiad pobl sy'n defnyddio'n gwasanaethau iechyd meddwl. Dwi wedi bod yn cyfarfod yn gyson â theuluoedd plant a phobl ifanc sydd yn defnyddio'n gwasanaethau. Fy nod i yw cael darlun cyflawn o brofiad ein defnyddwyr, ac nid jest cadw'r ffocws ar berfformiad amseroedd aros, achos dwi'n meddwl bod gwella ansawdd profiad y defnyddwyr hefyd yn allweddol. Felly, nid jest y mater o gyrraedd targedau amserol sy'n bwysig i ni—er fy mod i'n deall bod yn rhaid inni gyrraedd y targedau hynny—ond hefyd rhaid inni ganolbwyntio ar y math o driniaeth maen nhw'n ei derbyn pan fyddan nhw'n cyrraedd brig y rhestr aros.

Er bod ansicrwydd o hyd ynghylch gwir effaith y pandemig ar iechyd meddwl, yr hyn sy'n amlwg yw bod angen delio â'r sefyllfa mewn dull sydd yn aml-asiantaethol, ac mewn dull sy'n deall bod angen ymateb yn sensitif sy'n wahanol i bob unigolyn.

Nawr, mae'r ddeiseb yn sôn am yr angen i gynyddu'r cyllid ar gyfer materion iechyd meddwl, ac rwy'n falch iawn o adrodd, mewn perthynas â chyllid yn y flwyddyn ariannol nesaf, ein bod wedi sicrhau £42 miliwn arall i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl. Fodd bynnag, dylid ystyried hyn yng nghyd-destun y £780 miliwn a wariwn yn flynyddol ar wasanaethau iechyd meddwl, ac rwyf wedi dechrau gwaith ymchwil manwl i sicrhau ein bod yn gwario'r swm mwy hwnnw ar y pethau priodol.

Mae angen i ni hefyd sicrhau bod y cyllid a roddwn i mewn yn gwneud gwahaniaeth i gleifion, felly mae'n rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym yn canolbwyntio'n unig ar faint rydym yn ei roi i gefnogi iechyd meddwl, ond yn hytrach, dylem sicrhau ein bod yn cadw llygad ar y canlyniadau rydym yn eu gweld o ganlyniad i'r buddsoddiad hwnnw. Rwyf wedi bod yn glir yr hoffwn weld yr adnoddau'n symud mwy tuag at atal a chymorth iechyd meddwl cynharach, yn aml cymorth nad yw'n feddygol, ac ailffocysu hynny tuag at anghenion plant a phobl ifanc, lle mae 80 y cant o broblemau iechyd meddwl yn dechrau.

Nawr, mae'r deisebydd hefyd yn sôn am bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl mewn argyfwng, ac rwy'n siŵr bod y Pwyllgor Deisebau yn ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan y grŵp concordat gofal mewn argyfwng cenedlaethol, a ddadansoddodd y galw am ofal iechyd meddwl mewn argyfwng. Canfuwyd bod 950 o bobl y dydd yng Nghymru yn gofyn am gymorth gan y sector cyhoeddus ar gyfer pryderon iechyd meddwl neu lesiant, ac mae tua 300 o'r rheini ar gyfer argyfyngau. Y broblem yw bod y strwythur presennol sy'n cefnogi'r rhain yn aml yn wasanaethau brys, nad oes ganddynt bob amser wybodaeth ac arbenigedd i ymateb i'r sefyllfa iechyd meddwl benodol, er gwaethaf menter hyfforddi enfawr a gynhaliwyd gan yr heddlu a'r gwasanaethau ambiwlans. A dyna pam ein bod wedi clustnodi £6 miliwn ychwanegol i fynd i'r afael â'r mater hwn sy'n galw am sylw ar frys, yn enwedig mewn perthynas â chymorth y tu allan i oriau.

Ond os yw pobl yn wynebu argyfwng, mae'n golygu bod methiant wedi bod yn y system yn gynharach. O ran iechyd meddwl, mae ymyrraeth gynnar yn gwbl allweddol, ac rwy'n berffaith glir nad yw hyn yn golygu bod yn rhaid iddi fod yn ymyrraeth feddygol bob amser. Y bore yma, siaradais â Chynghrair Iechyd Meddwl Cymru, gan gynnwys Mind, i ddeall a chytuno bod angen ymateb i'r problemau cymdeithasol ac economaidd a all achosi problemau iechyd meddwl, ac sy'n debygol o ddod yn fwy gweladwy wrth inni ddod allan o'r cyfyngiadau symud. A dyna pam rwyf wedi clustnodi £4 miliwn ychwanegol i gynyddu ein gallu i ddarparu ymyrraeth gynnar fwy amserol, gwasanaeth nad oes angen cyfeirio pobl ato drwy feddyg teulu, a gwasanaeth y gellir ei ddarparu y tu allan i'r gwasanaeth iechyd gan grwpiau trydydd sector arbenigol. Felly, y nod yw sicrhau bod amrywiaeth o gymorth ar gael yn hawdd ar gyfer problemau iechyd meddwl lefel isel ledled Cymru, ac adeiladu ar y cymorth rydym eisoes wedi'i roi ar waith yn ystod y pandemig, gan gynnwys therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein.

Nawr, os cawn yr ymyrraeth gynnar yn iawn, byddwn yn osgoi'r gofal mewn argyfwng a fyddai'n angenrheidiol yn ddiweddarach. Ac mae'n bwysig iawn er mwyn ymateb i anghenion newidiol y boblogaeth mewn cyfnod lle cafwyd digwyddiad sydd wedi achosi trawma cymdeithasol, a lle mae'n amlwg fod lefelau uwch o orbryder yn ein poblogaeth.

Mae ysgrifennu rhaglen a sicrhau cefnogaeth yn anodd, a dyna beth rydym wedi ceisio'i wneud gyda 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ond mae sicrhau bod y partneriaid yn ein helpu i gyflawni hynny a bod gennym gyfrifoldeb yn fwy o her mewn gwirionedd. Ac er mwyn cyrraedd y targedau rydym wedi eu gosod yn ein strategaeth, rwyf wedi sefydlu bwrdd cyflawni a goruchwylio gweinidogol newydd ar iechyd meddwl yng Nghymru, a chyfarfu'r bwrdd am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf. Ac er fy mod yn deall y pwysau ar y system, rwy'n gwbl glir ynglŷn â fy ymrwymiad i hybu cynnydd gwaith sy'n ymwneud ag iechyd meddwl. Felly, rwy'n gobeithio bod yr hyn rwyf wedi'i ddweud heddiw yn rhoi sicrwydd am ein hymrwymiad i anghenion iechyd meddwl sy'n newid, wedi'i ategu gan gyllid ychwanegol sylweddol.

Hoffwn ddiolch i'r bobl a gyflwynodd hyn ger bron y Senedd ac am dynnu sylw at y mater pwysig hwn. Gobeithio y byddwch yn cytuno ein bod wedi ymateb i'r cais am fwy o gyllid a'n bod yn rhoi mesurau clir iawn ar waith i wella amseroedd aros i bobl mewn argyfwng. Diolch.

16:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon, gan gynnwys y Gweinidog am ymateb. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn hefyd i Laura Williams am barhau i ymgyrchu ar y mater hollbwysig hwn. Mae arnom angen i bobl fel Laura barhau i godi llais a dweud wrthym pan gredant fod angen i bethau newid. Hoffwn gofnodi ein diolch i Laura hefyd am ei dewrder yn dweud ei stori bersonol ei hun wrthym.

Felly, o ystyried yr amser byr sydd ar ôl yn nhymor y Senedd hon, Pwyllgor Deisebau yn y dyfodol a'r Senedd nesaf fydd yn mynd ar drywydd y ddeiseb hon yn dilyn y ddadl heddiw. Yn y cyfamser, gwn y bydd staff sy'n gweithio ym maes gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru yn parhau i wneud eu gorau glas dros bobl sydd angen cymorth, ac rwyf am gloi drwy ddiolch yn fawr iddynt hwythau hefyd am y gwaith a wnânt. Rhaid inni eu cynorthwyo i gyflawni ein nodau gorau. Diolch yn fawr.

Diolch. Y cynnig yw nodi'r ddeiseb. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly, derbynnir y ddeiseb yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Amseroedd Aros y GIG

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, gwelliant 2 yn enwau Mark Reckless a Gareth Bennett, gwelliant 3 yn enw Caroline Jones, a gwelliant 4 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Symudwn ymlaen yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar amseroedd aros y GIG, a galwaf ar Angela Burns i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7626 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod 1 o bob 5 claf ar restr aros a bod dros 2,000 o bobl wedi aros mwy na dwy flynedd am driniaeth.

2. Yn cydnabod bod 5 o bob 7 bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig neu wedi bod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu dros y pum mlynedd diwethaf.

3. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi dal GIG Cymru yn ôl.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun adfer ar frys ar gyfer GIG Cymru a fydd yn:

a) clirio'r ôl-groniad o driniaethau a sicrhau nad oes rhaid i neb aros mwy na blwyddyn am driniaeth;

b) recriwtio o leiaf 1,200 o feddygon a 2,000 o nyrsys i leihau amseroedd aros; ac

c) trawsnewid iechyd meddwl drwy ei drin â'r un brys ag iechyd corfforol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wrth wneud y cynnig hwn heddiw, hoffwn ddechrau drwy fynegi ein diolch i staff y GIG. O feddygon rheng flaen i reolwyr ystafell gefn, maent wedi dal ati ac wedi darparu gofal a chymorth i lawer o unigolion a theuluoedd yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn. Yn ddi-os, mae'r GIG wedi bod o dan bwysau aruthrol yn sgil COVID, ond y gwir amdani yw bod y GIG o dan bwysau aruthrol cyn y pandemig. Mae angen llwybr allan o'r sefyllfa bresennol, yn ogystal ag edrych a sicrhau bod gan GIG Cymru adnoddau da a'i fod wedi'i alluogi o ddifrif, oherwydd mae'r GIG angen mwy o weithwyr proffesiynol hyfforddedig a rhyddid i arloesi, mae angen buddsoddiad mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd cryfach, gwell TG a chynllun ar gyfer gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl, ac mae angen inni allu lleihau'r amseroedd aros erchyll.

Nid wyf yn diystyru maint y frwydr. Gadewch inni gofio bod GIG Cymru mewn sefyllfa wan a bregus cyn COVID-19, o ganlyniad i benderfyniadau gwael dros yr 20 mlynedd diwethaf gan gyfres o Lywodraethau Llafur a Llafur-Rhyddfrydwyr a Llafur-Plaid Cymru marwaidd. Un maes o'r fath yr effeithiwyd arno'n wael yw recriwtio. Y gweithlu yw asgwrn cefn y GIG, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dibynnu ar ewyllys da, goramser ac asiantaethau i wneud iawn am brinder staff, yn hytrach na gweithredu strategaeth briodol ar gyfer y gweithlu. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, amcangyfrifir bod o leiaf 1,612 o swyddi nyrsio'n wag, heb sôn am feddygon, ffisiotherapyddion, therapyddion lleferydd ac iaith, therapyddion galwedigaethol ac arbenigwyr iechyd meddwl. Yn 2019, comisiynodd Llywodraeth Cymru strategaeth ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a ddwy flynedd yn ddiweddarach, ble mae'r strategaeth honno? Nid yw'n unman. Er mwyn ariannu cynnydd yn y gweithlu, rhaid i'r GIG gael ei gyllido'n briodol. Ac eto, Llywodraeth Lafur Cymru sydd â'r anrhydedd amheus o fod yr unig Lywodraeth yn y DU i dorri cyllideb y GIG yn yr oes fodern a hynny o oddeutu £800 miliwn. Maent hefyd wedi tanariannu'r system gofal cymdeithasol ac wedi caniatáu i freuder anfaddeuol ddatblygu yn y sector. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bobl hŷn dalu ddwy waith am ofal drwy geisio cyflwyno treth gofal cymdeithasol sy'n gysylltiedig ag oedran, a hynny'n annheg ac yn oedraniaethol.

A gadewch inni droi at amseroedd aros, a oedd yn ofnadwy cyn y pandemig, ac sy'n ddychrynllyd yn awr. Cyn y pandemig, roedd amseroedd aros wedi treblu i'r rhai a oedd yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth. Cyn y pandemig, methodd Llywodraeth Cymru gyrraedd ei hamseroedd targed ei hun ar gyfer triniaeth. Cyn y pandemig, nid oedd y targed o 95 y cant ar gyfer cleifion sy'n treulio llai na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys erioed wedi'i gyrraedd. Cyn y pandemig, nid oedd amseroedd aros canser wedi'u cyrraedd ers degawd. Cyn y pandemig, nid oedd y targed i sicrhau bod cleifion yn aros llai na 26 wythnos am driniaeth wedi'i gyrraedd ers 10 mlynedd. Cyn y pandemig, roedd y targed i gleifion aros llai na—.

Mae'n ddrwg gennyf, rydych wedi diflannu, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi fy ngholli i. Ymddiheuriadau, diflannodd y Dirprwy Lywydd, felly roeddwn yn credu efallai fy mod i wedi diflannu. Efallai y byddai'n dda gennych pe bawn i wedi diflannu, ond yn anffodus, Weinidog, rwy'n dal yma.

16:45

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Cyn y pandemig, roedd gwasanaethau iechyd meddwl yn cael trafferth gydag ôl-groniad o ymholiadau. Cymru oedd â'r drydedd gyfradd uchaf yn rhanbarthau Cymru a Lloegr o hunanladdiad ymhlith menywod a'r bedwaredd gyfradd uchaf o hunanladdiad ymhlith dynion. A dyma'r broblem, Weinidog; mae gennym wasanaeth iechyd yng Nghymru a oedd eisoes yn cael ei danariannu ac yn ei chael hi'n anodd cyn i COVID daro. 

Yn ystod tymor y Senedd hon yng Nghymru, mae pump o'r saith bwrdd iechyd wedi bod o dan ryw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth, ac mae Betsi Cadwaladr, er gwaethaf eich cyhoeddiad diweddar, yn dal i'w chael yn anodd dangos arwyddion o welliant hirdymor real a chynaliadwy. Ac roedd yna feysydd eraill dros y pum mlynedd diwethaf lle rydych wedi addo llawer ond wedi methu cyflawni, fel uned mamau a babanod ar gyfer de Cymru a chlinig hunaniaeth rhywedd i Gymru. Felly, rydym yn galw ar eich Llywodraeth i gyhoeddi cynllun adfer ar gyfer GIG Cymru ar frys. Rhaid iddo gynnwys tri ymrwymiad allweddol: clirio'r ôl-groniad o driniaethau a sicrhau nad oes rhaid i neb aros mwy na blwyddyn am driniaeth yn y dyfodol; recriwtio o leiaf 1,200 o feddygon a 2,000 o nyrsys i leihau amseroedd aros; a thrawsnewid iechyd meddwl drwy ei drin â'r un brys ag iechyd corfforol.

Nid wyf wedi fy argyhoeddi y gallwch gyflawni hyn. Mae angen arweinyddiaeth newydd ar wasanaeth iechyd Cymru erbyn hyn, ac rwyf wrth fy modd gyda'r cynlluniau sydd gan fy mhlaid i, y Ceidwadwyr Cymreig, i symud pethau yn eu blaen. Byddai gan Lywodraeth Geidwadol yng Nghymru gynllun rheoli COVID-19, a fyddai'n penodi Gweinidog adfer COVID-19 penodol yn Llywodraeth Cymru i oruchwylio pob maes adfer wedi'r coronafeirws, gan gynnwys cyflwyno'r brechlyn. Byddem yn cefnogi pobl sy'n profi effeithiau hirdymor COVID-19 drwy sefydlu clinigau penodol ar gyfer trin COVID hir. Byddem yn sefydlu llwybrau cymorth ar frys i bobl sy'n dioddef problemau iechyd meddwl yn sgil y pandemig, yn enwedig staff y GIG a gweithwyr gofal, am eu bod wedi bod yn darparu gofal lliniarol, a'r rhai a ddioddefodd brofedigaeth na allodd ffarwelio ag anwyliaid. Byddwn yn mynd i'r afael â'r dirywiad cronig mewn amseroedd aros dros y 12 mis diwethaf ac yn dechrau lleddfu'r argyfwng recriwtio yng ngwasanaeth iechyd Cymru gyda'n polisi 'recriwtio, cadw, ailhyfforddi'. Ers gormod o amser, mae gwasanaethau iechyd meddwl wedi cael eu gadael ar ôl, ac mae'n bryd rhoi'r un amlygrwydd i lesiant meddyliol ag a roddir i iechyd corfforol.

Weinidog, rydym am adeiladu'n ôl yn well, rydym am roi'r cymorth sydd ei angen arno i GIG Cymru ac nid ydym eisiau mwy o'r un peth. Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau i'r ddadl hon heddiw. Hoffwn annog yr Aelodau o'r Senedd i gefnogi'r cynnig. Diolch. 

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. 

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2. Yn cydnabod:

a) er gwaethaf y cyfnod heriol hwn, fod statws uwchgyfeirio pedwar bwrdd iechyd, drwy gymorth ychwanegol, a staff ymroddedig y GIG, wedi’i ostwng, a bod gennym erbyn hyn un bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig ac un yn destun ymyriad wedi’i dargedu;

b) yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac ar draws y byd;

c) ac yn cydnabod cyfraniad eithriadol yr holl staff iechyd a gofal yn ystod y pandemig; a

d) yr angen am gynllun adfer clir i gynnwys pob maes o’r gwasanaethau iechyd, megis iechyd meddwl, er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Rwy'n galw nawr ar Mark Reckless i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn ei enw e. 

Gwelliant 2—Mark Reckless, Gareth Bennett

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn credu bod datganoli wedi dal y ddarpariaeth o ofal iechyd a'i chanlyniadau yn ôl yng Nghymru.

Yn galw am ddull integredig DU-gyfan o ymdrin â gofal iechyd gydag un Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Rwy'n cynnig ein gwelliant yn ffurfiol. Diolch, Lywydd, am ddewis ein gwelliant, ac rydym yn ddiolchgar am hynny. Ailadroddaf yr hyn a ddywedodd Angela Burns ynglŷn â diolch i'r staff. Ar ein gwelliant, credwn mai datganoli sydd wedi dal darpariaeth a chanlyniadau gofal iechyd yn ôl yng Nghymru. Mae cynnig y Ceidwadwyr yn dweud mai Llywodraeth Cymru sydd wedi gwneud hynny, ond wrth gwrs ni fyddai gennym Lywodraeth Cymru heb ddatganoli. 

Ar y rhestrau aros, roeddent yn cymharu'n wael o'r blaen, ac mae'n amlwg y bu cynnydd enfawr yn y rhestrau aros oherwydd COVID, ac rwy'n credu y bydd yn cymryd amser cyn i'r data a'r ddealltwriaeth briodol ohono ddangos effaith gymharol hynny yng Nghymru a Lloegr. Rwy'n credu mai un o'r anawsterau sydd gennym yw ei bod wedi mynd yn anoddach yn ystod datganoli i wneud cymariaethau teg rhwng canlyniadau yng Nghymru a Lloegr, ond nid wyf yn credu bod y rhai rydym wedi'u gweld wedi bod yn rhai da i ni. Er bod lefel y gwariant yn gyffredinol yn dal i fod rywfaint yn uwch, mae'n llai felly o'i gymharu â faint o wariant sydd gennym gyda'r cyllid gwaelodol a'r gyfradd fwy o wariant o fewn hynny. Mae llai o bwyslais at ei gilydd wedi bod ar y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys y toriad termau real hwnnw yn y gwariant. Hoffem weld dull gofal iechyd integredig ledled y DU gydag un gwasanaeth iechyd gwladol. Gweledigaeth Aneurin Bevan yn wreiddiol pan greodd y gwasanaeth hwnnw; mae bellach wedi'i chwalu a'i hollti.

Hoffem gael systemau TG sydd wedi'u hintegreiddio'n briodol, hoffem i feddygon allu cyfeirio cleifion at ysbytai neu ofal yn Lloegr ar sail deg a chyfartal o gymharu â'r ffordd y gallant wneud hynny yng Nghymru, gan edrych ar angen meddygol yn unig. Fodd bynnag, nid wyf yn esgus y bydd yn ateb i bopeth sydd gennym gyda'r gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd. Byddwn yn dweud bod y gwelliannau a'r cynnig sydd gennym heddiw—hyd yn oed ein gwelliant ein hunain—yn ymylol o'u cymharu â'r argyfwng sydd gennym yn ein system iechyd oherwydd COVID ac oherwydd yr ôl-groniad enfawr o waith sydd wedi datblygu, ac mae arnaf ofn ei fod yn dal i ddatblygu tra buom yn canolbwyntio ar COVID. Yn y cynnig, dywed y Ceidwadwyr wrthym y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun adfer ar frys ar gyfer GIG Cymru a fydd yn clirio'r ôl-groniad o driniaethau. Mae arnaf ofn ei fod yn fwlch llydan iawn rhwng Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi cynllun a'u bod yn clirio'r ôl-groniad o driniaethau. Rwy'n credu bod hynny'n wir p'un a ydym yn sôn am y GIG yng Nghymru neu yn Lloegr neu'r Alban, er gwaethaf eu strwythurau ychydig yn wahanol. 

Rydym yn croesawu'r newid yn GIG Lloegr gyda'r rhaniad prynwr-darparwr yn erydu, yn rhannol am ein bod yn credu ei bod yn ei gwneud yn haws ailintegreiddio'r GIG ar sail y DU—neu Gymru a Lloegr o leiaf. Ond faint o bobl sydd bellach yn aros a pha mor hir y maent yn aros a sut y mae hynny'n dal i waethygu—mae'r newid hwnnw mor fawr o'i gymharu â ble roeddem o'r blaen. Mae arnaf ofn nad yw'n realistig meddwl ein bod yn mynd i ddileu'r ôl-groniad o driniaethau cyn bo hir iawn, neu y byddai mynd ati'n syml i gyhoeddi cynllun ar gyfer Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny. Rwy'n credu mai un her wirioneddol bwysig i Lywodraeth Cymru, fel yn rhannau eraill y DU, yw cysylltu'r strategaeth honno o'r hyn sy'n digwydd â'r lefel uchaf er mwyn ceisio clirio'r ôl-groniadau a gwneud hynny gyda chanlyniadau gweddus ar y rheng flaen. Beth bynnag fo'r strwythurau sydd gennym yn ein GIG, mae arnaf ofn na fydd y ffordd y maent yn gweithio ac yn cysylltu â'i gilydd o anghenraid fel roedd pethau o'r blaen, o ystyried maint enfawr yr her a wynebwn, her a fydd, rwy'n ofni, yn parhau am sawl blwyddyn o leiaf. Credaf y bydd hynny'n wir beth bynnag fo'r newidiadau a argymhellwn, ni waeth i ba raddau y credwn y gallai ein newidiadau ymylol ein hunain wella pethau, ac rwy'n argymell ein gwelliant i'r perwyl hwnnw. Mae'r raddfa'n wirioneddol enfawr.

16:50

Rwy'n galw nawr ar Caroline Jones i gynnig gwelliant 3 a gyflwynwyd yn ei henw hi. Caroline Jones.

Gwelliant 3—Caroline Jones

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at y ffaith bod mwy na 23,000 o ymgeiswyr sy'n hanu o'r DU wedi methu â chael lleoedd hyfforddi nyrsys y llynedd ac y gwrthodwyd lle i fwy na 54 y cant o ymgeiswyr sy'n hanu o'r DU i gyrsiau nyrsio ers 2010.

Yn credu bod GIG Cymru wedi cael ei ddal yn ôl gan lywodraethau'r DU a Chymru oherwydd diffyg llwyr o gynllunio gweithlu dros sawl degawd.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda darparwyr addysg uwch y DU i ddarparu mwy o leoedd hyfforddiant meddygol i fyfyrwyr sy'n hanu o'r DU;

b) gweithio gyda'r colegau brenhinol a chyrff proffesiynol i asesu gwir anghenion staffio GIG Cymru;

c) recriwtio digon o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i fynd i'r afael â'r ôl-groniadau enfawr o ran amseroedd aros am driniaeth yn ogystal ag amseroedd aros am ddiagnosis;

d) sicrhau na fydd unrhyw un yn aros mwy na 12 mis am driniaeth;

e) trawsnewid iechyd meddwl drwy sicrhau ei fod yn cael ei drin yn gyfartal ag iechyd corfforol.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Cyn y Nadolig ac am bum wythnos ar ôl hynny, roedd fy ngŵr yn ddifrifol wael yn yr ysbyty gyda'r coronafeirws a gwelodd drosto'i hun y straen ar holl staff y GIG. Mae arnom ddyled enfawr iddynt. Rydym wedi trafod droeon yr angen i recriwtio a hyfforddi meddygon a nyrsys o'r boblogaeth leol, ac yma yng Nghymru, mae hyn yn bwysicach fyth, oherwydd yr angen i gynyddu nifer y staff yn y GIG sy'n gallu siarad Cymraeg. Felly, roeddwn yn siomedig o ddarllen yr adroddiad gan Migration Watch UK, a ddefnyddiodd ffigurau UCAS i ddatgelu'r ffaith bod 23,300 o fyfyrwyr sy'n hanu o'r DU wedi'u gwrthod ar gyfer cyrsiau nyrsio ar anterth y pandemig. Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at y ffaith bod dros hanner yr holl ymgeiswyr yn y DU ar gyfer cyrsiau nyrsio wedi'u gwrthod yn ystod y degawd diwethaf. Yn y cyd-destun hwn, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi bod yn rhybuddio am brinder nyrsys a bygythiad gweithlu sy'n heneiddio.

Mae pob un o'r colegau brenhinol a chyrff proffesiynol meddygol wedi rhybuddio Llywodraethau ynglŷn â phrinder staff, ond yn hytrach na mynd i'r afael â'r mater drwy hyfforddi a recriwtio pobl ifanc o'r DU, mae Llywodraethau olynol yma ac ar ben arall yr M4 wedi dibynnu ar hyfforddi a recriwtio o dramor. Mae'r diffyg cynllunio gweithlu hwn yn annoeth, ac mae hefyd yn annheg â gwledydd sy'n datblygu, gan ein bod yn dwyn eu talent a'u meddygon a nyrsys y maent eu hangen yn fawr. Rydym yn hynod ffodus fod y feirws ar y droed ôl gennym, ac y dylai ein poblogaeth gyfan fod wedi ei brechu erbyn yr haf. Nid yw gweddill y byd mor ffodus. Bydd mwy o angen eu meddygon ar is-gyfandir India a de-ddwyrain Asia nag arnom ni wrth iddynt barhau i ymladd COVID. A yw'n deg ein bod yn dwyn y staff hyn? Rhaid inni ddod yn fwy hunanddibynnol o ran ein meddygon a'n nyrsys. Rhaid inni ganfod gwir lefel y staffio sy'n angenrheidiol drwy weithio gyda'r colegau brenhinol a chyrff proffesiynol, ac yna hyfforddi digon o staff yn y wlad hon i fodloni gofynion ein poblogaeth sy'n heneiddio. Fel arall, byddwn am byth ar drugaredd pwysau'r gaeaf a heb fod yn barod o gwbl ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol. Diolch yn fawr. 

16:55

Gwelliant 4—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu mai'r unig ffordd o drawsnewid iechyd a gofal yw drwy:

a) ffocws newydd ar fesurau ataliol; a

b) integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn ddi-dor drwy wasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol integredig newydd.

Cynigiwyd gwelliant 4.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wnaf i ddim cyfrannu yn hir iawn i'r ddadl yma. Yn sicr, dwi eisiau cymryd y cyfle unwaith eto i ddiolch i bawb sy'n gweithio mor galed ar ein rhan ni ar draws gwasanaethau iechyd a gofal ym mhob rhan o Gymru. Mae parodrwydd staff i fynd y filltir ychwanegol dro ar ôl tro dros y flwyddyn diwethaf yn rhywbeth mae pob un ohonon ni wedi'i werthfawrogi, a dwi'n gobeithio ei fod o wedi rhoi ffocws o'r newydd, i ni hefyd, ar yr her sydd o'n blaenau ni.

Felly, at y cynnig yma. Er fy mod i'n reit siŵr y byddai'r Blaid Geidwadol, sydd wedi cyflwyno'r cynnig, yn dod â chyfres newydd o broblemau dyfnion iawn i'r NHS petaen nhw'n cael eu dwylo arno fo, beth sydd gennym ni yn y cynnig yma ydy disgrifiad o wasanaeth iechyd anghynaliadwy—gwasanaeth iechyd sydd wedi cael ei wneud yn anghynaliadwy, dwi'n ofni, gan fethiant y gyfres o Weinidogion Llafur i roi i'r tirwedd iechyd a gofal yng Nghymru y math o sefydlogrwydd a chefnogaeth y mae o ei eisiau. Mae'r staff ymroddedig yna y gwnes i gyfeirio atyn nhw wedi gorfod cario mwy na'r baich y dylen nhw orfod ei gario oherwydd yr anghynaliadwyedd yna.

Dydy diffyg cefnogaeth ddim bob amser wedi golygu diffyg cefnogaeth ariannol. Does yna ddim amheuaeth bod blynyddoedd lawer o doriadau gan Lywodraeth Prydain wedi gwneud cyllidebau i wasanaethau cyhoeddus drwyddyn nhw draw yn fwy bregus, ond rydyn ni'n dal yn gweld cymaint o gyfran o'r holl wariant cyhoeddus yng Nghymru sydd yn mynd ar y gwasanaeth iechyd. Mae yna fwy iddi na'r ariannol. Beth sydd yma, dwi'n credu, ydy methiant i fod wedi trawsnewid iechyd a gofal, ac mae'r amser, dwi'n credu, wedi dod i wneud hynny. Dwi'n edrych ymlaen at weld Llywodraeth Plaid Cymru yn trio mynd i'r afael â hyn.

Felly, beth ydy'r trawsnewid yr ydyn ni'n chwilio amdano fo? Dwi'n cyfeirio at y gwelliant sydd wedi cael ei gyflwyno yn enw Siân Gwenllian, a dwi'n cynnig hwnnw yn ffurfiol. Mae'n rhaid inni gael dim byd llai na chwyldro rŵan yn yr ataliol. Mae'n rhaid inni greu cymdeithas sydd yn fwy iach, creu cyfundrefn sydd yn adnabod afiechydon yn llawer iawn cynt, ac atal yr afiechydon hynny rhag gallu datblygu. Dwi eisiau bod ar bwynt lle mae'r arian iechyd yn gallu cael ei ddefnyddio i adeiladu adnoddau chwaraeon. Dyna'r math o gynaliadwyedd dwi'n chwilio amdano fo yn y pen draw, ac mae'n rhaid inni roi'r nod hwn i ni ein hunain. Dwi'n gweld y Gweinidog, Dafydd Elis-Thomas, yn ysgwyd ei ben—dydy o ddim eisiau gweld arian yn cael ei wario ar adnoddau chwaraeon a'u budd ataliol nhw. Croeso i chithau wneud ymyriad i'r ddadl yma, Ddirprwy Weinidog.

Rydyn ni hefyd wedi cyrraedd at yr amser lle mae'n rhaid inni weld uno go iawn yn yr iechyd a'r gofal, a'n bwriad ni ydy creu gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol. Deliferi yn lleol, ie—dydy o ddim yn golygu newid strwythurol mawr ar lefel leol—ond mae yn golygu cyflwyno fframweithiau clir ar gyfer iechyd a gofal, ac yn benodol ar sut maen nhw'n gweithio efo'i gilydd. Dwi'n gwerthfawrogi'r uchelgais sydd gan y Ceidwadwyr yma o gyflogi 3,200 o staff ychwanegol. Rydyn ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn sôn ers blynyddoedd am yr angen am 6,000 o feddygon a nyrsys a staff ategol eraill, a gweithwyr proffesiynol eraill, o fewn iechyd a gofal. Dyna sy'n rhaid inni gyflwyno dros y blynyddoedd nesaf er mwyn creu'r cynaliadwyedd yna.

Wrth gwrs, mae hynny'n dod ar gyfnod o her digynsail yn dilyn blwyddyn o bandemig, ac ydy, mae hynny'n gwneud yr her yn fwy, ond mae'r dal i fyny yn gorfod rŵan mynd law yn llaw â thrawsnewid, a gallwn ni ddim ar unrhyw gyfrif benderfynu y gallwn ni oedi'r trawsnewid sydd angen ei weld yn digwydd mewn iechyd a gofal oherwydd y pandemig. Mae'n golygu gweithio'n fwy clyfar am flynyddoedd i ddod, achos mae'r pwynt wedi dod, fel dwi'n dweud, lle mae angen chwyldro go iawn fan hyn. 

17:00

Ar draws Aberconwy, mae neges glir mewn sawl cornel: daw eto haul ar fryn. Diolch i waith staff y GIG, mae golau a gobaith wedi bod trwy'r pandemig. Diolch o galon i chi gyd. 

Diolch. O'r 0.5 miliwn o lwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth ym mis Rhagfyr, mae 21 y cant yma yng ngogledd Cymru. O'r tua 0.25 miliwn o lwybrau sy'n aros dros 36 wythnos, mae dros 51,000 yma yng ngogledd Cymru. Mae hynny wedi cynyddu 347 y cant ers dechrau'r pandemig. Yn amlwg, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr angen cynllun adfer yn ddybryd. Yn wir, datgelais yn ddiweddar fod gan un meddyg ymgynghorol dros 450 o gleifion yn aros am driniaeth orthopedig.

Fodd bynnag, mae sefyllfa gogledd Cymru'n unigryw. Rydym angen cynllun adfer oherwydd y pwysau dinistriol a achoswyd gan y pandemig, ond yn fwy na hynny rydym angen un sy'n mynd â ni i sefyllfa well nag erioed o'r blaen, gan ei bod yn wir fod y bwrdd wedi parhau i fod o dan ymyrraeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru ers 2015. Ym mis Mehefin 2015, gosododd Mark Drakeford, y Prif Weinidog—nid oedd yn Brif Weinidog ar y pryd, ond mae bellach—y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, gan adlewyrchu pryderon difrifol am yr arweinyddiaeth, y llywodraethu, gwasanaethau iechyd meddwl, ailgysylltu â'r cyhoedd a meysydd eraill. Yr wythnos diwethaf, nododd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bedwar maes allweddol sydd angen eu gwella: iechyd meddwl, cynllunio strategaeth a pherfformiad, arweinyddiaeth ac ymgysylltu. Felly, bum mlynedd a naw mis ar ôl dechrau mesurau arbennig, rydym yn ôl lle roeddem ar y dechrau i bob pwrpas. 

Nawr, er fy mod yn sylweddoli bod y cynllun ymyrraeth wedi'i dargedu'n cael ei gefnogi gan £297 miliwn hyd at ddiwedd 2023-24, sut y gallwn fod yn hyderus y bydd y gwelliannau hynny y nodwyd eu bod yn angenrheidiol yn digwydd mewn gwirionedd? Yn 2019, datgelais fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £83 miliwn ar gynnal y bwrdd iechyd hwn, ond beth a gyflawnwyd? Mae'r ymyriadau wedi methu cyflawni ar gyfer ein staff ac ar gyfer ein cleifion. Er mwyn adfer a gwella ein bwrdd iechyd, rwy'n gofyn am gyflawni cynllun sy'n rhannu'r baich triniaeth hirdymor enfawr gyda byrddau eraill ledled y DU, cynlluniau pencampwyr fel yr uned gofal ôl-anesthesia newydd yn Ysbyty Gwynedd, cynllun sy'n plannu'r hadau ar gyfer twf enfawr gwell mewn recriwtio drwy fanteisio i'r eithaf ar y potensial ar gyfer ysgol feddygol yng ngogledd Cymru, ac sy'n gweld gweithiwr iechyd meddwl dynodedig yn addysgu practisau meddygon teulu ledled Cymru. 

Lywydd, mae prif weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bellach yn ei swydd, ac mae gennyf obeithion mawr wrth symud ymlaen y bydd yn gallu newid trywydd y bwrdd hwn. Rydym wedi cael sawl un cyn iddi hi ddod ac rydym wedi cael sawl addewid, ond un o'r rhesymau a ddaeth â hi i'r bwrdd—ac nid yw'n cuddio'r ffaith hon—oedd iddi hi ei hun gael ei siomi pan wynebodd ddigwyddiad yn ei theulu ei hun. Felly, mae'n gwybod yn uniongyrchol sut y mae'n rhaid inni gael y pethau hyn yn iawn. Byddwn yn annog unrhyw un yma wrth symud ymlaen ar ôl mis Mai, yn enwedig yng ngogledd Cymru, i sicrhau'r newid hwnnw a'i gyflwyno'n gyflym. Byddai hynny o leiaf yn dod â rhywfaint o oleuni pellach i fywydau staff a'n cleifion yma yng ngogledd Cymru. Diolch. 

Ceisiaf gadw fy nghyfraniad yn fyr, ond rhaid imi fynegi fy siom enfawr yng nghyfraniad Mark Reckless, sydd unwaith eto'n ceisio rhoi'r GIG yn ôl yn nwylo San Steffan a thuag at Lywodraeth sydd am breifateiddio yn hytrach na gwasanaethu pobl Cymru. Rwyf hefyd yn siomedig iawn ynglŷn â'r modd y mae ymdrechion Caroline Jones i wneud sylwadau ar gyfraniadau gweithwyr tramor a gweithwyr iechyd proffesiynol tramor i'w gweld yn canolbwyntio mwy ar eu gyrru'n ôl adref na'u helpu i helpu ein pobl, ac rwy'n credu bod hynny'n hollbwysig. Rwyf hefyd am gofnodi fy niolch mawr i staff y GIG sydd wedi bod yn ddiflino yn eu hymrwymiad a'u hymroddiad a'u tosturi i'n pobl sydd wedi bod angen y gwasanaeth hwnnw, yn enwedig y rhai sydd wedi bod yn yr ysbyty gyda chyflyrau difrifol yn sgil COVID. Ni allwn byth ddiolch digon iddynt. Ni soniaf am y codiad cyflog ar y cam hwn, ond maent yn haeddu llawer mwy nag y nodwyd eu bod yn ei gael ar hyn o bryd.

Lywydd, rwyf wedi siarad droeon am y pwnc, ac rwy'n cydnabod bod pryder mawr am yr ystadegau a welwn ac mae angen inni weithredu i gefnogi ein gwasanaeth iechyd i gynyddu gwasanaethau er mwyn lleihau'r rhestrau aros ond ar yr un pryd, mae angen ymdrin ag anghenion uniongyrchol cleifion yn y dyfodol, oherwydd rydym yn symud allan o'r pandemig ac i gyfnod lle mae'n rhaid inni ddal i fyny, ond rhaid inni hefyd barhau i gyflawni ar gyfer y rheini sy'n gofyn am gymorth ar y pryd. Yn ogystal â'r rhestrau aros rydym yn ymwybodol ohonynt—sef y bobl sydd eisoes wedi'u rhoi ar restrau aros—nid oes amheuaeth y bydd llawer mwy sydd heb ofyn am gymorth, boed hynny oherwydd bod y pandemig wedi gwneud iddynt boeni ynglŷn â mynychu eu meddygfa neu am eu bod wedi camgymryd symptomau fel rhai'r coronafeirws. Pan oeddwn yn brin o anadl cyn y Nadolig, dywedwyd wrthyf am fynd i gael prawf coronafeirws—negyddol—ac yn y pen draw bu'n rhaid imi fynd i'r ysbyty gyda chlotiau gwaed ar yr ysgyfaint: cyflwr roedd angen ei drin. Mae llawer o bobl allan yno sydd efallai'n petruso mwy rhag gofyn am gymorth, a byddant yn gwneud hynny, ac felly bydd ein rhestrau aros yn cynyddu. Mae'n rhaid mynd i'r afael â'r don honno o bobl a'r nifer fawr—rwy'n credu mai tswnami ydyw—o bobl ar restrau aros.

Cyn y pandemig, roeddem yn gwneud cynnydd cadarnhaol tuag at leihau amseroedd aros yn y rhan fwyaf o feysydd. Yn 2019, gwelsom lai na 1,000 o bobl yn aros dros 24 wythnos am naw allan o 12 mis ym mhob gwasanaeth diagnostig. Nawr, mae'r mwyafrif yn aros llai nag wyth wythnos. Nid oedd y cyfanswm yn 2020, ym mis Rhagfyr, ond wedi cynyddu 14.5 y cant o'i gymharu â'r mis Rhagfyr blaenorol, ond yr hyn a welsom oedd mwy o symud o'r rhai a oedd yn aros llai na 26 wythnos i'r rheini sydd bellach yn aros dros 36 wythnos. Felly, newid mawr a newid yn hyd yr amser y mae pobl yn aros. Yn wir, gwelsom gynnydd o 748 y cant yn y newid hwnnw. Felly, yn bendant gwelir newid amlwg o restrau aros byrrach i restrau aros hirach. Mae angen triniaeth ar bawb ar y rhestrau aros a'n nod yw herio'r Llywodraeth i nodi ei chynllun i fynd i'r afael â'r ffigurau hyn. Yn anffodus, mae COVID-19 wedi gwneud hynny hyd yn oed yn fwy anodd o ran sut rydym yn rheoli'r cleifion ar y rhestrau yn ôl y gofyn, oherwydd mae hyn ledled y DU, ac felly rydym yn cael ein hamddifadu o rai o'r opsiynau a'r mentrau rhestrau aros amgen sydd ar gael oherwydd bydd ysbytai yn Lloegr, gwasanaethau ledled y DU, yn wynebu'r un heriau'n union â ni, ac felly mae'n rhaid newid y gwaith o fodelu'r modd yr awn i'r afael â'r rhestrau aros. Rhaid inni edrych ar fodelau newydd. Nawr, gadewch inni gofio hefyd, os gwelwn yn dda, fod ein staff GIG wedi ymlâdd, a rhaid inni sicrhau eu bod hwy'n gwella hefyd, ochr yn ochr â'r amseroedd aros, fel y byddwn mewn sefyllfa i ailddechrau darparu gwasanaethau iechyd yn llawn, ynghyd â'r paratoadau ar gyfer tonnau ychwanegol y mae'r firysau a—[Anghlywadwy.]—yn eu cyflwyno yn y blynyddoedd i ddod.

Nawr, mae yna newyddion cadarnhaol. Gwelsom gynnydd yn nifer y lleoedd hyfforddi dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r nifer sy'n manteisio arnynt wedi bod yn dda, ac mae arnom angen i Addysg a Gwella Iechyd Cymru adlewyrchu anghenion y gweithlu er mwyn sefydlu lleoedd hyfforddi ychwanegol a gweithio gyda byrddau iechyd a meddygon teulu er mwyn inni gael y lleoedd y gallant fynd iddynt i gael eu profiadau. Mae hynny'n bwysig iawn, oherwydd yn aml iawn rydym yn sôn am niferoedd mawr, ond rydym yn anghofio: sut y gellir eu rheoli pan fyddant yn mynd i'r lleoliadau gwaith hynny? Yn enwedig i nyrsys, rhaid inni sicrhau bod digon o gefnogaeth yno hefyd, a bod digon o amser gan staff i roi'r cymorth hwnnw. Mae llawer o bethau i'w hystyried, ac rwy'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu ychwanegu cyllid ychwanegol at elfen hyfforddiant meddygol gogledd Cymru. Felly, mae yna broses, ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd ar hynny. Gofynnaf i Lywodraeth Cymru: sicrhewch eich bod yn cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu, eich bod yn cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi meddygon, yn cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi nyrsys, a'r holl broffesiynau perthynol. Rwy'n gwybod ei fod yn anodd. Rwy'n gwybod bod problem o ran ariannu. Ond mae'n rhaid i ni gael y bobl hyn yn eu lle. Rydym—

17:05

Diolch, Lywydd. Yn ôl ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru, ym mis Rhagfyr 2020, roedd 25,182 o bobl yn aros dros 36 wythnos am driniaeth, o gymharu â 726 o bobl yn aros am yr un hyd o amser yn 2019 yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Dyna gipolwg ar un ardal yn unig yng Nghymru, sy'n dangos cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n aros yn daer am driniaeth y GIG. Ac fel y mae Aelodau eisoes wedi dweud, y tu ôl i'r ffigurau hynny mae pobl go iawn yn byw'n bryderus ac mewn rhai achosion, mewn anghysur a phoen difrifol. 

Nawr, yn ystod y cyfnod hwnnw, mae pandemig COVID wedi golygu mai ffocws y GIG oedd mynd i'r afael â'r feirws a'i effaith ar ein pobl a'n cymunedau, ac mae'n rhaid i bob un ohonom dderbyn bod y pandemig wedi cael effaith go iawn ar ein gwasanaethau iechyd a'u gallu i gyflawni llawdriniaethau dewisol a thriniaethau rheolaidd. Dyna pam y cafwyd galwadau y llynedd am sefydlu ysbytai di-COVID fel y gellid gwneud rhywfaint o gynnydd, o leiaf, ar fynd i'r afael â'r ôl-groniad cynyddol o driniaethau ledled y wlad. Fodd bynnag, rydym bellach ar bwynt lle mae'r rhaglen frechu yn gwneud cynnydd sylweddol yng Nghymru, gyda mwy a mwy o bobl yn cael eu brechu bob dydd, a dyna pam y mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru bellach yn cyhoeddi cynllun adfer penodol ar gyfer mynd i'r afael ag amseroedd aros GIG Cymru ac yn rhoi rhywfaint o obaith i bobl sy'n aros am driniaeth y bydd yr ôl-groniad yn cael sylw ac y byddant o'r diwedd yn cael y driniaeth y maent ei hangen.

Yn sicr, nid fi yw'r unig un sy'n cael gohebiaeth gan bobl sy'n daer eisiau clywed pryd y maent yn debygol o gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt, ac mae'r diffyg gwybodaeth a gawsant wrth aros am driniaeth wedi gadael pobl yn rhwystredig ac yn bryderus. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried hynny ac o leiaf yn dweud wrth y byrddau iechyd lleol fod angen iddynt gyfathrebu'n well â phobl sy'n aros am driniaeth i egluro eu sefyllfa a'r amgylchiadau lleol.

Mae pryderon difrifol iawn hefyd gan elusennau a sefydliadau megis Rhwydwaith Canser Cymru ynghylch gallu'r GIG i ymdrin ag ôl-groniadau. Er enghraifft, mae'r Athro Tom Crosby o Rwydwaith Canser Cymru wedi rhybuddio bod tswnami digynsail o alw am wasanaethau canser ar y ffordd. Yn wir, gwyddom fod mwy na thraean o gleifion lle ceir amheuaeth o ganser yn aros yn rhy hir i ddechrau eu triniaeth benodol gyntaf, yn ôl set gyntaf Llywodraeth Cymru o ffigurau llwybrau lle'r amheuir canser a gyhoeddwyd yn ddiweddar. A'r achosion y gwyddom amdanynt yn unig yw'r rheini. Mae'r pandemig wedi golygu nad yw llawer o gleifion yr amheuir bod ganddynt ganser wedi cysylltu â'u meddygon teulu, ac felly gallai fod pwysau pellach ar wasanaethau wrth inni ddod allan o'r pandemig, wrth i fwy o bobl adrodd am symptomau posibl wrth eu meddygon teulu. Felly, er mwyn i wasanaethau gael eu datblygu ar gyfer y dyfodol i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o driniaethau, rhaid inni hefyd ystyried yr heriau na ellir eu gweld fel y rhain, a fydd yn effeithio ar y galwadau ar ein gwasanaethau GIG yn y dyfodol.

Wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu ei chynllun adfer ar gyfer y GIG, mae sawl mater y mae angen iddi eu hystyried wrth gynllunio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol. Yn gyntaf, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod seilwaith diagnostig y GIG yn ddigonol i ateb y galw yn y dyfodol yn ogystal â mynd i'r afael â rhestrau aros presennol y GIG, a rhaid i'r Gweinidog a'i swyddogion ystyried modelau darparu cyfredol, yn enwedig wrth i bethau fel ymarfer clinigol a thechnoleg barhau i newid.

Ac yn ail, yng ngoleuni'r pandemig COVID-19, rwy'n gobeithio bod y Gweinidog a'i swyddogion yn archwilio ffyrdd y gallwn ddatblygu cydnerthedd o fewn y GIG yn well fel nad ydym ond yn syrthio'n ôl i'r hen ffyrdd o ddarparu gwasanaethau iechyd. Credaf y gall fod lle i edrych ar sut y gallwn ddefnyddio'r capasiti ychwanegol a ddatblygwyd yn ystod y pandemig, megis capasiti ysbytai maes, i helpu i ddarparu gwasanaethau, yn enwedig yn y tymor byr a'r tymor canolig. Ac felly, wrth ymateb i'r ddadl hon efallai y gall y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym am y trafodaethau strategol y mae'n eu cael ynglŷn â sut y darparwn wasanaethau iechyd ar ôl pandemig.

Felly, wrth gloi, Lywydd, mae'n hanfodol fod y materion hyn yn cael eu hystyried o ddifrif wrth ddatblygu cynllun adfer ar gyfer GIG Cymru, ac wrth ddatblygu strategaeth sy'n cydbwyso'r angen i fynd i'r afael â'r ôl-groniad a hefyd yn darparu digon o gydnerthedd yn y system i ateb heriau'r dyfodol. Ac o'r herwydd, hoffwn annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn gan y Ceidwadwyr Cymreig. Diolch yn fawr.

17:10

Diolch, Lywydd. Cyn y pandemig, gwnaethom gyflawni ein hymrwymiad i wella mynediad a chawsom bedair blynedd o welliant parhaus yn yr amseroedd aros ledled Cymru. Dros yr un cyfnod, rydym wedi gweithio gyda'n GIG i sicrhau bod byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'n gallu gweithio fel sefydliadau sy'n perfformio'n dda. Bedair blynedd yn ôl, roedd gennym bum sefydliad ar y ddwy lefel uwchgyfeirio uchaf; yn awr, mae gennym ddau sefydliad sy'n destun ymyrraeth wedi'i thargedu.

Fel ym mhob gwlad, mae'r pandemig wedi gwneud y flwyddyn ddiwethaf yn hynod o heriol ac wedi atal gwelliannau pellach mewn amseroedd aros. Fodd bynnag, rydym wedi parhau i wneud gwelliannau mewn amrywiaeth o feysydd, megis darparu rhwng 30 y cant a 50 y cant o apwyntiadau cleifion allanol yn rhithwir.

Mae COVID-19 wedi effeithio, ac yn dal i effeithio ar ein gallu i drin pob claf mewn modd mor amserol ag yr hoffem. Mae llawer o gleifion yn aros yn hir—yn rhy hir—ac ailadroddir y darlun hwn mewn gwasanaethau iechyd ym mhob cwr o'r byd, nid yma yn y DU yn unig. Yn anffodus, rwy'n cydnabod y bydd rhai cleifion yn gwaethygu yn eu cyflwr wrth aros. Rydym yn gweithio'n ddiwyd gyda chleifion i liniaru effaith yr amseroedd aros hyn lle bo'n bosibl. Mae mesurau i leihau'r risg o niwed, dan arweiniad arweinwyr clinigol dynodedig, yn weithredol.

Rwyf wedi nodi'n flaenorol pam y mae'n rhaid inni roi blaenoriaeth i ymateb i'r pandemig mewn ffordd strwythuredig a phwyllog. Mae hyn yn golygu datblygu dulliau o gefnogi cleifion sydd â'r angen mwyaf am driniaeth wedi'i chynllunio, gan gydbwyso adnoddau i ateb anghenion gwasanaethau eraill, fel iechyd meddwl. Yn wir, bu'r Aelodau'n trafod iechyd meddwl yn gynharach heddiw. Er bod gennym ffordd gytûn ymlaen ar lefel bwrdd iechyd i drin COVID-19 a chynnal gwasanaethau hanfodol fel canser, mae ein cynlluniau ar gyfer adfer yn cael eu datblygu. Mewn partneriaeth â'n GIG, fel y gŵyr yr Aelodau eisoes, rydym yn cynhyrchu cynllun adfer y byddaf yn ei gyhoeddi cyn diwedd tymor y Senedd hon.

Yr her wirioneddol fydd cyflawni'r cynllun, proses a fydd yn cymryd blynyddoedd wrth gwrs. Mae ein GIG a'n gofal cymdeithasol yn ymdopi â sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen. Nid oes ateb gweithredol syml—nac ateb moesegol syml yn wir—i'r her enfawr sy'n ein hwynebu. Credaf fod y ddau wasanaeth yn ymateb yn wych i'r argyfwng iechyd cyhoeddus unwaith mewn canrif hwn. Rwy'n parhau'n hynod ddiolchgar i'n staff GIG a gofal cymdeithasol ymroddedig. Maent yn parhau i ddangos eu hymrwymiad proffesiynol a'u tosturi.

Rwyf am ymdrin yn awr â'r rhan fwyaf o gyfraniadau'r Ceidwadwyr i'r ddadl hon. Roeddwn yn credu bod Paul Davies yn feddylgar, er nad wyf yn cytuno â phob dim a oedd ganddo i'w ddweud. Mae arnaf ofn fod y gweddill o'r Torïaid yn diferu o ragrith ac anghywirdeb. Mae'n ymddangos i mi—a chredaf fod ein staff yn gwybod hyn—ar fater ein GIG, fod y Ceidwadwyr yn fleiddiaid mewn dillad bleiddiaid. Os ydych o ddifrif yn gwerthfawrogi ein staff, pam y mae Prif Weinidog y DU yn dweud celwydd am Lafur yn pleidleisio yn erbyn codiad cyflog i'r GIG—codiad cyflog i'r GIG y mae'r Torïaid yn bwriadu ei ddiddymu? Mae cynlluniau'r Torïaid i dorri cyflogau'r GIG i bob pwrpas a'n hamddifadu yma yng Nghymru o'r arian i wneud rhagor yn gic yn y dannedd i'n harwyr GIG. Mae eich gweithredoedd yn dweud wrth ein staff faint rydych yn eu gwerthfawrogi mewn gwirionedd, a gallaf ddweud wrthych eu bod yn ddig, ac mae ganddynt reswm da dros fod felly.

Yma yng Nghymru, byddwn yn parhau i gydbwyso ein hymdrechion adfer a chydnabod bod angen amser ar ein staff i wella. Er ein bod yn cydnabod y bydd angen staff ychwanegol ar draws pob disgyblaeth, bydd hyn hefyd yn cymryd amser. Ond fel Llywodraeth, mae gennym uchelgais clir i dyfu a hyfforddi ein staff, ac mae gennym hanes rhagorol o gefnogi staff iechyd a gofal. Mae gennym eisoes strategaeth gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd. Rydym wedi buddsoddi bron i £230 miliwn eleni i gefnogi addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol—y seithfed flwyddyn yn olynol lle'r ydym wedi cynyddu cyllid, ac mae hynny'n cynnwys cynnydd yn nifer y lleoedd hyfforddiant meddygol. Yn ystod y saith mlynedd diwethaf, mae lleoedd hyfforddi nyrsys wedi cynyddu 109 y cant, lleoedd bydwreigiaeth 97 y cant, ymwelwyr iechyd 88 y cant, ffisiotherapyddion 81 y cant, a radiograffwyr 24 y cant. Mae gan y Llywodraeth hon dan arweiniad Llafur Cymru hanes i fod yn falch ohono o werthfawrogi ein staff a buddsoddi yn y dyfodol.

Byddwn yn mynd i'r afael â'r ôl-groniad ar y rhestrau aros. Fe fydd yn cymryd amser, ond fe fyddwn yn ei wneud. Byddwn yn arwain adferiad ein system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan. Byddwn yn ailgydbwyso gofal cymdeithasol, yn darparu setliad newydd ar gyfer ein staff, gan sicrhau mwy o integreiddio â gofal iechyd wrth drawsnewid y ffordd y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd, a byddwn yn sicrhau adferiad iechyd mewn perthynas ag iechyd corfforol a meddyliol. Gwerthoedd Llafur Cymru a greodd y gwasanaeth iechyd gwladol, a gwerthoedd Llafur Cymru fydd yn diogelu ein GIG wrth inni weld pen draw'r pandemig o'r diwedd ac ailadeiladu ein gwasanaeth iechyd gwladol.

17:15

Mae yna ddau Aelod sydd wedi dangos eu bod nhw eisiau cyfrannu yn fyr ac ymyrryd yn y ddadl, a gwnaf i alw Caroline Jones yn gyntaf.

17:20

Diolch, Lywydd. Gofynnaf i'r cyhoedd wrando ar fy nghyfraniad yn ei gyfanrwydd, gan fod David Rees wedi ceisio camddehongli fy nghyfraniad yn fwriadol er ei fudd gwleidyddol ei hun.

Hoffwn innau hefyd wrthwynebu'r modd hurt y disgrifiodd David Rees y GIG yn Lloegr ar hyn o bryd fel un sy'n cyflymu preifateiddio. Yn amlwg, ar ddiwedd y 1990au, ni wnaeth y marchnadoli a welsom yn Lloegr ddatblygu yng Nghymru gyda datganoli, ac yn amlwg, o dan Blair a Brown, gwelwyd cryn dipyn o farchnadoli o fewn y GIG yn Lloegr. Ond, yn niwygiadau Lansley yn 2010, cafwyd newidiadau strwythurol o fewn y GIG a fframwaith cyfreithiol a allai fod wedi arwain at fwy o breifateiddio, ond y realiti yw bod y diwygiadau hynny, ar lawr gwlad, wedi'u dadwneud i raddau helaeth. Cafodd Lansley ei wthio allan; gweithiodd y GIG gyda'i gilydd. Mae llawer mwy o gydweithredu, llawer llai o'r farchnad sengl nag a welwyd o'r blaen, ac yn awr cynigir newid y gyfraith yn Lloegr yn bennaf er mwyn dileu'r rhaniad prynwr/darparwr a gwneud eu GIG yn llawer tebycach i'n GIG ni yng Nghymru ar hyn o bryd, a fyddai'n ei gwneud yn haws integreiddio.

Diolch, Lywydd, ac a gaf fi, yn gyntaf oll, ddechrau drwy ddiolch i arwyr y GIG ledled Cymru sy'n gweithio mor galed ar hyn o bryd yn ystod y pandemig hwn, ac sydd wedi bod yn gofalu am gleifion mor dda, ac yn wir sydd wedi bod yn gwneud cystal wrth gyflwyno'r rhaglen frechu rhag y coronafeirws? Mae wedi bod yn bleser gweld y GIG ar waith, gyda'n staff yn camu i'r adwy ac yn gwneud yr hyn y gwyddom y byddant bob amser yn ei wneud ar adegau o argyfwng.

Rhaid imi ddweud bod Angela Burns wedi taro'r hoelen ar ei phen pan agorodd y ddadl hon drwy ei gwneud yn gwbl glir nad yw'r problemau yn y GIG yma yng Nghymru sydd gennym ar hyn o bryd yn ffenomenon newydd. Mae'r rhain yn broblemau sydd wedi hen wreiddio ac sydd wedi bod gyda ni ers peth amser gyda phobl yn aros yn rhy hir o lawer am brofion a thriniaeth, a thargedau amseroedd aros heb eu cyrraedd ers dros ddegawd ar bron bob mesur. Ac a dweud y gwir, rwy'n credu bod y Gweinidog braidd yn haerllug yn beirniadu'r Ceidwadwyr am dynnu sylw at y ffaith mai chi, fel Llywodraeth, sydd wedi methu mynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio a welsom yn ein GIG. Rydych wedi bod yn gyfrifol amdano ers 20 mlynedd, ac mae gennym brinder nyrsys o hyd, prinder meddygon, prinder pob math o weithwyr iechyd proffesiynol eraill.

Fe gyfeirioch chi at rôl Llywodraeth y DU. Wel, hoffwn dynnu sylw at y ffaith, Mr Gething, fod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod biliynau ar gael i'n GIG, gydag ymrwymiadau gwario enfawr dros y blynyddoedd nesaf, yn fwy na digon i allu mynd i'r afael â rhai o'r heriau rydych wedi'u hamlinellu. Ac fe wnaf eich atgoffa chi ac Aelodau o'r Senedd hon a'r cyhoedd unwaith eto: nid oes yr un Prif Weinidog Ceidwadol erioed wedi torri cyllideb gwasanaeth iechyd gwladol. Dim ond y Blaid Lafur, y Llywodraeth Lafur yng Nghymru, sydd wedi bod yn gyfrifol am dorri cyllideb y GIG yn y gorffennol. Ac nid Aelodau Llafur y Senedd yn unig a gefnogodd hynny, ond wrth gwrs fe'i cefnogwyd hefyd gan eu cynorthwywyr bach ym Mhlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar yr adeg y cafodd ei wneud. A hoffwn ofyn i bobl ystyried y ffeithiau hyn yn ofalus iawn pan fyddant yn pleidleisio ym mis Mai, oherwydd mae arnaf ofn, oni bai bod newid i'r drefn yn y wlad hon er budd ein gwasanaeth iechyd gwladol, fe fydd yn parhau i fynd tuag yn ôl.

Am resymau gwleidyddol, fe wnaethoch dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig. Ond fel y nododd Janet Finch-Saunders yn gwbl briodol, ni chaiff y cyhoedd yng ngogledd Cymru mo'u twyllo. Yn y bôn, mae'r un problemau o sylwedd yn dal i fodoli yn y bwrdd iechyd hwnnw ag a oedd yno chwe blynedd yn ôl, fel y nodwyd yn eich datganiad ymyrraeth wedi'i dargedu yn ddiweddar. Felly, ychydig iawn o gynnydd a wnaed, ac mewn gwirionedd digwyddodd yr unig gynnydd bach a wnaed oherwydd bod degau o filoedd o bobl wedi gorymdeithio ar y strydoedd yng ngogledd Cymru ac wedi llofnodi deisebau er mwyn gwrthdroi rhai o'r penderfyniadau a wnaed gan y bwrdd iechyd, penderfyniadau a gafodd effaith andwyol, neu a fyddai wedi cael effaith andwyol, ar ofal cleifion yma yng ngogledd Cymru.

Nawr, rydym mewn sefyllfa ddifrifol iawn. Mae gennym dros 0.5 miliwn o bobl yng Nghymru—dyna un o bob pump o'r boblogaeth oedolion—ar restr aros y GIG ar hyn o bryd. Rhaid inni gael cynllun i unioni hynny. Ychydig wythnosau'n ôl yn unig, Mr Gething, fe ddywedoch chi ei bod yn ffôl gosod cynllun adfer. 'Ffôl' oedd y gair a ddefnyddioch chi. Wel, mae'n ddrwg gennyf, nid yw'n ffôl cael strategaeth er mwyn adfer y sefyllfa hon i bobl ledled y wlad sy'n byw mewn poen, a rhai ohonynt yn cael eu niweidio, a niwed na ellir ei wrthdroi yn cael ei wneud i'w hiechyd o ganlyniad i aros ar y rhestrau aros hyn. Ac yng ngogledd Cymru, cyn y pandemig hyd yn oed, hoffwn eich atgoffa mai dwy flynedd oedd yr amser aros arferol i rywun a gyfeiriwyd ym mis Chwefror y llynedd am lawdriniaeth orthopedig nes y byddent yn cael eu trin. Nawr, oni bai bod gennych gynllun i unioni'r sefyllfa honno, oherwydd mae bellach yn agosáu at dair blynedd i lawer ohonynt, mae'n ddrwg gennyf, ond a bod yn onest nid ydych yn haeddu cael unrhyw gefnogaeth yn yr etholiadau sydd i ddod.

Felly, byddwn yn annog Aelodau'r Siambr hon heddiw i gefnogi ein cynnig ni, ac mae arnaf ofn, i wrthod gwelliant Mark Reckless sy'n beio methiannau GIG Cymru ar ddatganoli. Nid methiannau datganoli ydynt, ond methiannau Plaid Lafur Cymru i reoli ein gwasanaeth iechyd gwladol a'u stiwardiaeth yn y blynyddoedd diwethaf, Mark Reckless.

Rwy'n cydnabod yn sicr y pwyntiau a wnaeth Caroline Jones am recriwtio, ond mae arnaf ofn na fyddwn yn cefnogi eich gwelliant heddiw, oherwydd, yn anffodus, mae'n dileu rhannau pwysig eraill o'n cynnig ni.

Ac ni fyddwn ychwaith yn cefnogi'r pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth ar yr angen i uno'r GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Y peth olaf un sydd ei angen ar ein gwasanaeth iechyd gwladol ar hyn o bryd yw ad-drefnu eto, a dyna y mae Plaid Cymru yn ei gynnig. Byddai hynny'n tynnu sylw oddi ar geisio ymdrin â rhai o'r problemau systemig hyn. Ac mae arnaf ofn, yn yr unig ran o'r DU lle mae gennym y byrddau cyfunol hyn, sef yng Ngogledd Iwerddon wrth gwrs, mae'r perfformiad ar lawer ystyr wedi bod hyd yn oed yn waeth nag y bu yng Nghymru. Felly, nid dyna'r ateb, ac yn sicr nid yr ateb yw dargyfeirio arian y dylid ei wario ar ysbytai a gofal iechyd i neuaddau chwaraeon.

Felly, mae arnaf ofn ein bod wedi gosod ein stondin: credwn fod angen i chi nodi cynllun adfer clir i glirio'r ôl-groniad, recriwtio mwy o weithwyr iechyd proffesiynol a thrawsnewid gofal iechyd meddwl yma yng Nghymru. Rwy'n annog pobl i gefnogi ein cynnig.

17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Ac rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac felly fe gymerwn ni doriad byr nawr i baratoi ar gyfer y bleidlais. Toriad byr, felly.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:27.

17:30

Ailymgynullodd y Senedd am 17:30, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, felly, ac mae'r pleidleisiau yma ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn gyntaf, a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, tri yn ymatal, 35 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 8 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio : O blaid: 11, Yn erbyn: 35, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais felly ar welliant 1, yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, dau yn ymatal, 20 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn. Mae gwelliant 2 a gwelliant 3, felly, yn cael eu dad-ddethol.

Eitem 8 - Gwelliant 1 - cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 27, Yn erbyn: 20, Ymatal: 2

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Gwelliant 4 yw'r gwelliant nesaf, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. A dwi'n galw i'r bleidlais gael ei hagor. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Felly, canlyniad y bleidlais ar welliant 4: 10 o blaid, neb yn ymatal, a 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 yn cwympo.

Eitem 8 - Gwelliant 4 - Cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian: O blaid: 10, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM7626 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod 1 o bob 5 claf ar restr aros a bod dros 2,000 o bobl wedi aros mwy na dwy flynedd am driniaeth.

2. Yn cydnabod:

a) er gwaethaf y cyfnod heriol hwn, fod statws uwchgyfeirio pedwar bwrdd iechyd, drwy gymorth ychwanegol, a staff ymroddedig y GIG, wedi’i ostwng, a bod gennym erbyn hyn un bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig ac un yn destun ymyriad wedi’i dargedu;

b) yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac ar draws y byd;

c) ac yn cydnabod cyfraniad eithriadol yr holl staff iechyd a gofal yn ystod y pandemig; a

d) yr angen am gynllun adfer clir i gynnwys pob maes o’r gwasanaethau iechyd, megis iechyd meddwl, er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais, felly. O blaid 28, wyth yn ymatal, 14 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn. A dyna ni'n cyrraedd diwedd y cyfnod pleidleisio.

Eitem 8 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 28, Yn erbyn: 14, Ymatal: 8

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Gweithio i wella? Diffygion yn achos Kelly Wilson ac archwilio i ba raddau y mae'r diwylliant a'r prosesau o fewn y GIG wedi newid

Ond mae un eitem o fusnes yn dal i'w gorffen, a'r eitem yna yw'r ddadl fer. Ac mae'r ddadl fer heddiw'n cael ei chyflwyno gan Huw Irranca-Davies.

Diolch, Lywydd. Ac wrth agor y ddadl hon, a gaf fi ddiolch i bawb yn ein GIG sydd wedi gwneud gwaith mor rhagorol ac sy'n parhau i wneud hynny? Ond rwy'n edrych ar achos hanesyddol, anodd iawn gyda hanes hir yma heddiw, a bydd rhai o'r manylion yn peri gofid i'r teulu ac i'r rhai sy'n eu clywed am y tro cyntaf.

17:35

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Nod y ddadl hon yw ceisio archwilio materion hollbwysig gyda'r Gweinidog yn ymwneud â hawl unigolyn i gael triniaeth feddygol ddiogel a hawl y claf a'r teulu i gael gwybodaeth feddygol mewn modd amserol er mwyn gwneud cwynion a lle bo angen, i gynnal ymchwiliadau gan yr heddlu ac ymchwiliadau eraill, a'r graddau y mae diwylliant a phrosesau'r GIG yng Nghymru wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf i sicrhau tryloywder, rhoi camau amserol ar waith, datrys problemau, hyrwyddo camau unioni camweddau, ac iawndal lle bo angen, ac i ysgwyddo cyfrifoldeb ac ymddiheuro pan aiff pethau o chwith.

Fel y soniais, mae hwn yn achos ag iddo hanes hir iawn. Dechreuais ymdrin ag ef 15 mlynedd yn ôl, pan oeddwn yn Aelod Seneddol dros Ogwr. Ond er ei fod yn achos hanesyddol a ddechreuodd ar adeg pan oedd y cyd-destun deddfwriaethol yn wahanol, mae iddo ganlyniadau parhaus i'r rhai sy'n byw bob dydd gyda'r canlyniadau, sef Kelly Wilson yr aeth ei thriniaeth o chwith i'r fath raddau nes ei bod hi bellach angen meddyginiaeth a chwistrelliadau dyddiol na fyddai'n gallu goroesi hebddynt, ynghyd â'r posibilrwydd gwirioneddol o arwain at glefyd cardiofasgwlaidd a chanser, a marwolaeth gynamserol yn y pen draw.

Derbyniwyd Kelly i Ysbyty Tywysoges Cymru yn 2005, lle cafodd ddiagnosis o ffeocromosytoma posibl, neu PCC. Tiwmorau prin yw'r rhain, rhai adrenal yn bennaf, a hefyd gyda symptomau acromegali, y mae'r rhan fwyaf o symptomau ohono fel arfer yn deillio o anhwylder hormonau'n gysylltiedig â'r chwarren bitwidol yn cynhyrchu gormod o hormon twf. Fodd bynnag, yn bwysig, gall rhai achosion ddeillio o diwmor yn pwyso ar feinwe, megis gwthio yn erbyn nerfau cyfagos, gan arwain at gur pen a phroblemau gyda'r golwg, ac roedd Kelly'n dioddef o'r ddau beth.

Cafodd Kelly a'r teulu eu harwain i gredu am flynyddoedd lawer fod sgan MRI wedi'i wneud pan gafodd ei throsglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru, ar ôl i Kelly gael ei derbyn yno ar 28 Medi. Ac fel y dywed y nodiadau ar 30 Medi yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ar ôl cael ei throsglwyddo ar 29 Medi, mae'n nodi, mewn dyfyniadau, 'chase MRI results from Bridgend, acromegalic features and pituitary working.' Nawr, nid yw'n glir a oedd hyn yn awgrymu bod y chwarren bitwidol yn gweithio neu fod angen iddynt wirio ei bod yn gweithio, ond y naill ffordd neu'r llall ni ddylid tanseilio arwyddocâd y sylwadau hyn, gan eu bod yn pwysleisio ar yr adeg gynnar iawn hon yn Ysbyty Tywysoges Cymru, a chyn llawdriniaeth, pa mor bwysig oedd sgan MRI a gweithrediad y chwarren bitwidol.

Yn dilyn ei llawdriniaeth i dynnu tiwmor PCC ar 9 Tachwedd 2005, cadarnhaodd biopsi o'r tiwmor a oedd wedi'i dynnu ar yr un diwrnod mai tiwmor PCC ydoedd ac yn hollbwysig, nad oedd tystiolaeth o hormonau twf, a olygai nad y PCC oedd y rheswm dros bresenoldeb hormonau twf gormodol. Roedd cyfiawnhad meddygol clir ar y pwynt hwn dros gynnal MRI o ystyried hanes meddygol Kelly a'r symptomau acromegali, ac eto, ar y pwynt tyngedfennol hwn, ni chynhaliwyd MRI. Mae'n destun pryder, ac yn arwyddocaol, wrth i Kelly adael y ward ar droli i gael llawdriniaeth, fod troli arall wedi cyrraedd i fynd â hi am sgan MRI, yr MRI tyngedfennol na ddigwyddodd mewn gwirionedd.

Nawr, ar ryw bwynt, yn anffodus, dioddefodd Kelly apoplecsi pitwidol, a achosir naill ai gan farwolaeth ardal o feinwe, a adwaenir fel cnawdnychiant, neu waedlif yn y chwarren bitwidol, ac fel arfer mae'n gysylltiedig â phresenoldeb tiwmor pitwidol, gan arwain at brognosis sydd wedi newid ei bywyd. Mae'n werth nodi bod sgan MRI wedi'i gynnal yn y pen draw, ar 22 Tachwedd 2005, ond ni ddangosodd yr adroddiad unrhyw annormaleddau gyda'r chwarren bitwidol. Dangosodd sgan MRI diweddarach ar 2 Mehefin 2006 dystiolaeth o diwmor blaenorol, a oedd bellach wedi marw, a arweiniodd at ailarchwilio'r adroddiad ar y sgan cynharach ym mis Tachwedd 2005, pan sefydlwyd bod yr adroddiad yn anghywir a bod tystiolaeth mewn gwirionedd o diwmor diweddar a chnawdnychiant.

Ond nid yw hyn yn dod i ben yn y fan honno. Mewn gwrandawiad llys sifil dilynol, flynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd tystion arbenigol adroddiad gwreiddiol y sgan a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2005, yn hytrach na chanfyddiadau'r fersiwn gywir wedi'i diweddaru ar y sgan ar 2 Mehefin 2006. Arweiniodd hyn at arbenigwyr meddygol yn penderfynu'n anghywir ar sail adroddiad blaenorol nad oedd esboniad am y cnawdnychiant.

Ar gais y teulu, trosglwyddwyd gofal Kelly o Gymru i Fryste ym mis Tachwedd 2006, a dywedodd y llythyr atgyfeirio at y meddyg ymgynghorol ym Mryste fod Kelly wedi dioddef apoplecsi pitwidol. Yn anhygoel, nid oedd y wybodaeth hon, gyda llaw, erioed wedi cael ei rhoi i'r teulu.

Nawr dyna grynodeb byr o beth o'r gyfres drasig o ddigwyddiadau meddygol a chlinigol a newidiodd fywyd Kelly a bywydau'r rhai o'i cwmpas am byth. Rhaid cofnodi, wrth gwrs, y byddai'r bwrdd iechyd yn anghytuno â sawl rhan o'r naratif clinigol a meddygol hwn, ond yr hyn na ellir anghytuno yn ei gylch yw hyn: mae'r achos hwn wedi'i nodweddu'n gyson o'r cychwyn cyntaf gan oedi ar ran y bwrdd iechyd i ymateb i geisiadau, gwrthod gwybodaeth neu fodolaeth gwybodaeth hyd yn oed, ac arweiniodd y celu hwn at gyfres o ymchwiliadau iechyd ac ymchwiliadau dilynol gan yr heddlu ac achosion cyfreithiol yn cael eu rhwystro oherwydd anallu i ddarparu cofnodion iechyd sylfaenol a hanfodol mewn modd amserol, a fyddai wedi hwyluso'r ymchwiliadau hynny.

Rwyf wedi gweld yn bersonol y trallod y mae hyn wedi'i achosi i'r teulu dros flynyddoedd maith. Maent yn dal i chwilio am atebion i'r draul gorfforol ac emosiynol ar Kelly a'i theulu, y bydd yn rhaid iddynt fyw gyda hi ar hyd eu hoes. Yn ogystal â'r effeithiau iechyd a newidiodd fywyd Kelly ar yr adeg pan gafodd driniaeth, mae eu profiad o'r celu gwybodaeth a gwadu mynediad dro ar ôl tro at wybodaeth, yn ddi-os wedi gwaethygu dioddefaint a thrawma'r teulu hwn. A hyd heddiw, er bod y bwrdd iechyd—. Rwy'n diolch yn ddiffuant i'r cyn-gadeirydd am gyfarfod â mi a chyda Mr Wilson yn ddiweddarach. Ers hynny, mae'r cadeirydd wedi cydnabod y straen y mae hyn wedi'i achosi i'r teulu a'r anhawster i'r teulu ac i fy swyddfa gael gwybodaeth, ond nid yw hyn yn agos at fod yn ymddiheuriad nac yn unrhyw gyfaddefiad o fai, ac felly mae'n codi'r pryder ychwanegol i'r teulu ynglŷn ag a ddysgwyd gwersi go iawn ar y pryd ac a gymerwyd camau unioni i atal hyn rhag digwydd i rywun arall.

Ac mae'r achos hwn wedi bod yn frith o gamgymeriadau manwl ond allweddol drwyddo draw. Fe wnaf ymhelaethu gan ddefnyddio rhai enghreifftiau. Ar ôl tynnu sylw meddyg at y ffaith bod copïau o gofnodion meddygol roedd y teulu wedi'u derbyn yn brin o eitemau hanfodol, megis canlyniadau prawf gwaed ar yr adeg roedd Kelly ar ward gyswllt A3, dywedodd meddyg wrth y teulu na allent gael y canlyniadau hyn am mai dim ond pum diwrnod o gof oedd gan y cyfrifiadur. Flynyddoedd yn ddiweddarach, tynnwyd y datganiad hwn yn ôl gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel sylw difyfyr, 'off-the-cuff remark' mewn dyfyniadau, ond defnyddiwyd y sylw difyfyr hwn yn helaeth wedyn fel cyfiawnhad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wrth gyfathrebu â chyrff allanol yn ystod y cyfnod hwnnw.

Nawr, mae Garry a Kelly wedi parhau i fynd ar drywydd y canlyniadau gwaed coll. Mae eu pryderon yn canolbwyntio ar chwalfa gweinydd yn 2007, y gofynnwyd cwestiynau yn ei gylch i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac wedyn hefyd i'r prif gwnstabl mewn ymchwiliadau heddlu ym mis Mai 2015. Gofynnwyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro faint o gofnodion cleifion a gollwyd yn y chwalfa, pam nad oedd archif wrth gefn o gynnwys y gweinydd, ac a oes copi wrth gefn yn cael ei wneud yn rheolaidd bellach o gynnwys yr holl weinyddion gweithredol. Roedd eu hymateb yn dangos nad oedd cofnod o chwalfa gweinydd yn 2007 a arweiniodd at golli cofnodion cleifion, ac y byddai prosesau wrth gefn ac archifo bryd hynny wedi cael eu cadw wrth gefn yn unol â phrotocolau safonol cryfder diwydiannol, gan ddefnyddio'r seilwaith a'r dechnoleg briodol. 

Yn yr ymchwiliad dilynol gan yr heddlu, hysbyswyd y tad, Garry, fod prif gwnstabl Heddlu De Cymru wedi cytuno i gynnal profion ar y gweinydd a oedd wedi chwalu, ac eto daeth yr ymchwiliadau hynny i ben yn sydyn gyda'r heddlu'n derbyn honiad gwreiddiol y bwrdd iechyd nad oes cofnodion papur yn bodoli ac nad oedd hi'n bosibl adfer cofnodion digidol oherwydd methiant y gweinydd a bod cofnodion eraill yn ymwneud â Kelly hefyd wedi'u colli. A cheir materion eraill yn ymwneud ag ymateb yr heddlu a'r bwrdd iechyd i'r ymchwiliadau hyn a'u hymchwiliadau a ddaeth i ben sydd y tu allan i gylch gwaith y Senedd hon, ac mae Mr Wilson yn mynd ar eu trywydd yn benderfynol drwy ei Aelod Seneddol ac o bosibl drwy drafodaethau gyda'r Swyddfa Gartref a dadl yn Senedd y DU yn y dyfodol.

Ond mae'r cwestiynau i'r ddadl hon fel a ganlyn: os nad oedd methiant gweinydd, pam nad oes cofnod o weithredoedd y meddyg a fynychodd ward gyswllt A3 o'r uned dibyniaeth uchel pan aeth Kelly mor sâl, y meddyg a achubodd fywyd Kelly yn y pen draw? Dim cofnod. Pam nad oes siartiau cyffuriau ar gael rhwng 10 a 22 Tachwedd? Ble mae canlyniadau'r profion gwaed, y rhai roedd y nyrs—hefyd o'r uned dibyniaeth uchel, a oedd yno gyda'r meddyg—wedi mynd yn ôl i'r uned dibyniaeth uchel i'w profi ac i gael y canlyniad cyflym nad oedd gan Kelly ocsigen yn ei gwaed? Pam y cymerodd 10 mlynedd i Garry a Kelly cyn iddo gael ei gadarnhau, fel roeddent bob amser wedi credu, fod mewnosodiad ffug yn y nodiadau ysgrifenedig? Pam y bu'n rhaid i Garry a Kelly frwydro i gael hyn a phob sgrap o wybodaeth hanfodol?

Cafodd y cwestiynau hyn a chwestiynau manwl eraill a oedd heb eu hateb eu trosglwyddo i gadeirydd y bwrdd iechyd ar y pryd ar 26 Gorffennaf 2019 gan Garry pan gyfarfu â hi, ac eto mae'r teulu'n dal i aros am ymatebion manwl. Gwahoddwyd Garry a Kelly ar un pwynt i fynychu'r ysbyty i archwilio'r cofnodion meddygol gwreiddiol, a gwnaethant hynny. Fodd bynnag—ac mae hyn yn bwysig—mewn achos llys, dywedodd bargyfreithiwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wrth y barnwr nid unwaith ond ddwy waith fod Kelly a'i theulu wedi cael cynnig cyfle i fynychu'r ysbyty ac archwilio'r cofnodion ond eu bod wedi gwrthod. Ac eto, mae'r teulu wedi cael negeseuon e-bost mewnol, dim ond ar ôl cais rhyddid gwybodaeth, yn cadarnhau eu presenoldeb i archwilio'r cofnodion—camgymeriad ar ben camgymeriad a chelu'r gwir. Roedd y teulu wedi gwneud eu cais yn wreiddiol i'r llysoedd ar y sail bod Kelly wedi cymryd gorddos ei hun, dywedwyd wrthynt, o forffin wrth ddefnyddio'r peiriant analgesia a reolir gan gleifion, yr IVPCA, ar ôl cael eu harwain i gredu mai dyma'r rheswm dros ddirywiad Kelly tra oedd ar ward gyswllt A3. Fodd bynnag, mae'r peiriannau hyn wedi'u gosod i gloi, i sicrhau na all cleifion gael gorddos, a chadarnhawyd yn ddiweddarach nad oedd gorddos morffin wedi digwydd.

Gadewch imi droi yn awr at fater cydsynio i driniaeth. Byddai Kelly, yn 16 oed, wedi cael ei hystyried yn gymwys i lofnodi'r ffurflen gydsyniad a ddefnyddiwyd ar adeg ei llawdriniaeth yn 2005, fel yr amlinellwyd yn y canllaw ar gael cydsyniad i gynnal archwiliad neu ddarparu triniaeth yn 2002. Fe'i cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n darparu polisi cydsyniad enghreifftiol. Mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:

Mae 'cydsyniad' yn golygu cytundeb claf i weithiwr iechyd proffesiynol ddarparu gofal. Gall cleifion nodi caniatâd yn ddi-eiriau (er enghraifft drwy gyflwyno eu braich i'w pwls gael ei fesur), ar lafar, neu'n ysgrifenedig. Er mwyn i'r cydsyniad fod yn ddilys, rhaid i'r claf'—

ymhlith meini prawf eraill, mewn print trwm—

fod wedi cael digon o wybodaeth i allu ei roi.

Ar ôl rhoi ei chaniatâd i'r llawdriniaeth i dynnu'r PCC, tynnwyd sylw at fater cydsyniad gwybodus dilys ac arwyddocâd sgan MRI yn ystod yr achos sifil dilynol pan wnaeth Ysbyty Athrofaol Cymru honiad fod y cnawdnychiant i chwarren bitwidol Kelly yn cael ei ystyried yn 'anosgoadwy'. Felly, os na ellid ei osgoi, pam na chafodd Kelly a'i theulu erioed wybod y gallai'r cymhlethdod posibl hwn godi o'r driniaeth a drefnwyd ar ei chyfer, yn enwedig o ystyried ei symptomau acromegali wrth iddi gael ei derbyn i'r ysbyty? Ar ôl gwneud cwyn wedyn i'r adran safonau proffesiynol ynglŷn ag annigonolrwydd ymchwiliad yr heddlu—a oedd wedi cymryd dwy flynedd a naw mis—cafodd Garry a Kelly afael ar gyfweliad nas datgelwyd, a'u galluogodd i weld adroddiad yr ymchwiliad. Roedd yn cynnwys ymateb gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol i gŵyn Garry am ddau feddyg. Dyma un o'r dogfennau y buont yn gofyn amdanynt ond y gwrthodwyd mynediad ati deirgwaith gan Ysbyty Athrofaol Cymru. Roedd y ddogfen hon yn atgyfnerthu eu honiad nad oedd Kelly a'i rhieni wedi rhoi cydsyniad gwybodus cyn llawdriniaeth; nid oeddent wedi cael y ffeithiau llawn. Roedd y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn feirniadol iawn o'r ddau feddyg ynglŷn â'r diffyg cyfathrebu gyda'r claf a'r rhieni a chynghorodd un i drafod y methiant hwn gyda'r ymddiriedolaeth.

Weinidog, mae Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi ceisio newid diwylliant atebolrwydd yn y byrddau iechyd a'r modd y maent yn ymateb i gwynion, a'r modd y maent yn ymdrin ag unioni camweddau ac iawndal. Felly, rwy'n gofyn a yw newidiadau diweddar mewn deddfwriaeth, gan gynnwys deddfwriaeth sy'n effeithio ar gylch gwaith a phwerau'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus, wedi bod yn llwyddiannus. A all Llywodraeth Cymru ddangos hyn yn glir, neu a oes newid diwylliannol i'w wneud o hyd? Yn wir, mae profiad fy etholwyr wedi bod yn gwbl groes i'r hyn a fwriedir yn awr. Mae eu profiad wedi ymddangos iddynt hwy fel system o sefydliadau'n cau'r rhengoedd i amddiffyn eu hunain yn hytrach na sicrhau cyfiawnder a chamau unioni i achwynwyr. Mae ymatebion sy'n gwrthdaro ac anghysondebau gormodol drwy gydol y 15 mlynedd diwethaf, gyda llawer ohonynt wedi'u profi o blaid Kelly wedyn, yn tanio ac yn dwysáu diffyg ymddiriedaeth y teulu yn y systemau a'r sefydliadau hyn, ac mae'n anochel eu bod wedi cyfrannu at eu hymgais barhaus i geisio atebion a chamau unioni.

Weinidog, i gloi, 15 mlynedd ers i Garry Wilson ddod ataf gyda'i bryderon gwreiddiol am ei ferch Kelly, mae llawer o gwestiynau heb eu hateb o hyd: gwybodaeth a gafodd ei chadw rhagddynt neu ei dal yn ôl neu sydd wedi diflannu; atebion mewn perthynas â'r wybodaeth, a oedd yn aneglur, neu'n wir wedi ei newid dros amser; ymchwiliad posibl gan yr heddlu, wedi ei atal rhag mynd rhagddo yn ôl pob tebyg oherwydd absenoldeb y wybodaeth hanfodol hon. Ond yn fwyaf oll, Weinidog, bywyd menyw ifanc wedi cael ei newid am byth; teulu sydd wedi bod drwy gythrwfl emosiynol ac aflonyddwch domestig ers blynyddoedd; chwilio parhaus am atebion i gwestiynau y dylid bod wedi'u hateb flynyddoedd yn ôl; ac ar yr union adeg pan ddylai sefydliadau cyhoeddus fod wedi bod ar eu hochr yn eu helpu drwy'r argyfwng hwn, yn unioni pethau, yn dysgu gwersi a fyddai'n atal hyn rhag digwydd i deuluoedd eraill, cred barhaol y teulu fod y sefydliadau hynny wedi gwneud y gwrthwyneb. Fe wnaethant gau'r rhengoedd ac amddiffyn eu hunain rhag beirniadaeth a bai. Felly, Weinidog, pa obaith y gallwn ei roi i Kelly a'i theulu y cânt yr atebion y maent yn eu ceisio? Yn olaf, pa obaith y gallwn ei roi fod y diwylliant hwn o gau'r rhengoedd yn bendant wedi newid fel na fydd achosion trasig fel hyn byth yn digwydd yn y dyfodol?

17:50

Diolch i'r Aelod dros Ogwr am ddod â'r ddadl hon gerbron y Senedd ac am lefel y manylder, y manylion anodd, y mae wedi'u darparu wrth nodi sut y mae teulu ei etholwyr yn teimlo. Ni allai neb fod wedi gwrando ar yr hyn sydd newydd gael ei ddweud heb gael eu cyffwrdd a'u brawychu. Mae'n ein hatgoffa, os bu angen erioed, fod prosesau cwyno yn eithriadol o bwysig. Mae'r ffordd y caiff pobl eu trin yn ystod gofal iechyd, ac ar ôl hynny, os oes cwyn, sut y rheolir y broses honno, yn effeithio'n sylweddol a pharhaol ar gleifion a'u teuluoedd. Mae'n nodi pam y mae angen inni eu cael yn iawn—er mwyn sicrhau, os oes cwyn, ein bod yn gwneud pethau'n iawn.

Mae'n amlwg fod y teulu hwn wedi cael profiad gwael o ofal y GIG a phroses gwyno'r GIG wedyn, ac mae'r anawsterau a'r rhwystredigaethau a brofwyd ganddynt mewn sawl ffordd yn tanlinellu ac efallai'n enghraifft o'r rheswm pam ein bod wedi ceisio newid yn sylfaenol y ffordd yr ymdrinnir â phryderon a chwynion y GIG yng Nghymru. Gwnaed y gŵyn wreiddiol yn 2006. Ar y pryd, roedd gweithdrefn y GIG ar gyfer cwynion yn gwbl wahanol i'r un sydd gennym ar waith yn awr, gyda nifer o wahanol gamau a heb yr hyn rydym yn awr yn disgwyl iddo fod yn ffocws sy'n canolbwyntio ar y claf.

Yn 2011, pan gefais fy ethol gyntaf, felly ni allaf dderbyn y clod amdano, roedd y broses 'Gweithio i Wella' yn ailwampio'n llwyr y ffordd yr ymdrinnir â chwynion a phryderon GIG Cymru, a sut y mae'n rhaid cynnwys teuluoedd a chleifion yn y broses. Pe bai hynny wedi digwydd yma, o 2006 ymlaen, credaf y byddai'r Aelod wedi cael sgwrs wahanol gyda'i etholwyr. Mae hyn wedi bod yn newid sylweddol yn y broses, yn amlwg, ond mae'n newid diwylliannol sylweddol i GIG Cymru yn y ffordd y maent yn ymateb i bryderon, cwynion a digwyddiadau difrifol. Yn benodol, rydym wedi mynd ati'n fwriadol i geisio cyflwyno ffocws cryf ar fod yn agored ac yn onest. Mae bod yn agored yn thema ganolog yn 'Gweithio i Wella', ac mae'n gweithredu ar sail ymchwilio unwaith ac ymchwilio'n dda. Mae 'Gweithio i Wella' hefyd yn galw am gynnwys y claf neu ei gynrychiolydd yn y broses ar gyfer lleisio pryderon er mwyn ceisio sicrhau bod sail y pryderon hynny wedi ei deall yn iawn a bod canlyniad yr ymchwiliad i bryderon yn cael ei gyfleu a'i esbonio'n glir yn sgil hynny. Hefyd, rhaid i ddarparwyr y GIG roi gwybod i achwynwyr fod gwasanaethau eirioli ar gael a all eu harwain a'u cefnogi drwy'r broses gwyno. 

Mae'n arwyddocaol fod y trefniadau newydd wedi cyflwyno un dull cyson o raddio ac ymchwilio i bryderon. Unwaith eto, mae'n rhoi pwyslais cryf ar ddiogelwch a phrofiad cleifion. Gwella diogelwch a phrofiadau yw amcanion y broses gwyno yn awr. Er enghraifft, mae'n ofynnol i holl ddarparwyr y GIG adrodd ar y nifer a'r mathau o bryderon a gaiff eu mynegi bob blwyddyn, er mwyn crynhoi'r camau a gymerir i wella gwasanaethau o ganlyniad, a faint o achwynwyr a gafodd eu hysbysu. 

Credaf ein bod yn briodol falch fod gennym ni yng Nghymru drefniadau unioni camweddau GIG yn awr a gyflwynwyd fel rhan o 'Gweithio i Wella' yn 2011. Ni yw'r unig wlad yn y DU i weithredu cynllun o'r fath. Mae'n darparu cyngor cyfreithiol annibynnol am ddim, a chyfarwyddyd arbenigwyr clinigol annibynnol i gleifion pan ddaw'n amlwg, wrth ymchwilio i gŵyn, fod corff GIG neu'r driniaeth a ddarparodd wedi bod yn esgeulus neu y gallai fod wedi bod yn esgeulus a bod hawliad yn werth hyd at £25,000. Mae ein proses unioni camweddau wedi llwyddo i wella mynediad at gyfiawnder i gleifion sydd â hawliadau esgeulustod clinigol. Mae hefyd yn arwain at ddatrys hawliadau posibl yn llawer cyflymach o gymharu â'r broses ymgyfreitha draddodiadol. Ac mae'n golygu bod costau datrys hawliadau ariannol gwerth isel yn gymesur â'r iawndal a ddyfernir. 

Er bod 'Gweithio i Wella' wedi ailwampio'n llwyr yr hyn a oedd yn system hen ffasiwn ar gyfer ymdrin â chwynion y GIG, nid ydym wedi sefyll yn ein hunfan. Adolygwyd y broses 'Gweithio i Wella' gan Keith Evans yn ei adroddiad, 'Defnyddio Cwynion yn Rhodd', a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2014. Daeth yr adolygiad hwnnw i'r casgliad bod 'Gweithio i Wella' yn broses gadarn, ond gwnaeth argymhellion ar gyfer gwelliannau. Roedd un o'r materion yn ymwneud â llwyfan cenedlaethol i gasglu data cwynion mewn ffordd gyson, ac mae'r GIG, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, wrthi'n gweithio ar system rheoli pryderon 'unwaith i Gymru' a ddylai helpu i safoni ymhellach y ffordd y mae cyrff y GIG yng Nghymru yn cofnodi eu data cwynion a phryderon.

Bydd hynny'n sicrhau mwy o gysondeb eto i'r ffordd y caiff data ei gofnodi a'i adrodd ledled Cymru. Fodd bynnag, bydd y cam mawr nesaf ymlaen i'w weld pan fyddwn yn gweithredu Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn llawn ac yn rhoi dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd mewn grym. Fel y gŵyr yr Aelodau, bydd y ddyletswydd ansawdd newydd yn berthnasol i holl gyrff y GIG yng Nghymru. Mae'n ei gwneud yn ofynnol iddynt arfer eu swyddogaethau gyda'r nod o sicrhau gwelliant yn ansawdd gwasanaethau iechyd. Diffinnir 'ansawdd' yn y Ddeddf i gynnwys profiad cleifion yn benodol, a fyddai'n cwmpasu profiad o ddefnyddio prosesau a gweithdrefnau cwyno.

Ceir tystiolaeth ryngwladol fod cysylltiad rhwng mwy o onestrwydd a thryloywder a darparu gofal o ansawdd uwch. Mae sefydliadau sydd â diwylliannau agored a thryloyw yn fwy tebygol o dreulio amser yn dysgu o ddigwyddiadau, ac maent yn fwy tebygol o fod â phrosesau ar waith i gefnogi staff a defnyddwyr gwasanaethau pan aiff pethau o chwith, fel y byddant yn ei wneud o bryd i'w gilydd, oherwydd mae'n anochel wrth ddarparu gwasanaethau cymhleth fod pethau weithiau'n mynd o chwith. Ond pan fyddant yn gwneud hynny, mae'r ffordd y mae sefydliadau'n ymdrin â'r sefyllfaoedd hynny'n dod yn bwysig iawn, a gall wneud gwahaniaeth enfawr i brofiad pobl a'u perthynas barhaus â'r darparwr gofal. Mae hynny'n hollbwysig mewn lleoliadau gofal iechyd, lle mae cleifion yn aml angen cael y cysylltiadau parhaus hynny. 

Yn gyffredinol, mae cleifion a defnyddwyr gwasanaethau am gael gwybod yn onest beth ddigwyddodd, a chael sicrwydd fod popeth yn cael ei wneud i ddysgu o'r hyn sydd wedi mynd o chwith a dyna pam ein bod yn cyflwyno dyletswydd gonestrwydd yng Nghymru. O dan amodau'r Ddeddf a basiwyd yn nhymor y Senedd hon, bydd yn berthnasol i holl gyrff y GIG ac i ddarparwyr gofal sylfaenol yng Nghymru, a darparwyr gofal iechyd annibynnol yng Nghymru, drwy reoliadau a wneir o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000. Bydd y ddyletswydd yn adeiladu ar yr egwyddorion 'bod yn agored' ym mhroses bresennol 'Gweithio i Wella' ac yn eu cadarnhau. 

Hoffwn ddweud bod yr Aelod wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol am ei etholwr na allaf eu hateb yn y ddadl hon. Bydd fy swyddogion yn adolygu'r Cofnod, ond efallai y bydd o gymorth os gwnaiff yr Aelod roi'r rheini ar ffurf llythyr hefyd, fel y gallaf ymateb yn iawn iddo, er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu colli yn y Cofnod, neu'r potensial i'r cyfnod cyn yr etholiad dorri ar draws y gwaith hwnnw, oherwydd rwyf am sicrhau nad ydym yn colli golwg ar yr unigolyn a'i theulu y mae'r Aelod wedi codi materion ar eu rhan heddiw.

Ond rwyf am ailadrodd pwysigrwydd gweithdrefnau cwyno cadarn, agored a gonest, ochr yn ochr â dyletswydd gonestrwydd, a gallaf ddweud yn glir iawn ei bod yn wir ddrwg gennyf fod etholwyr yr Aelod—y teulu hwn—wedi cael profiad mor wael o ofal y GIG a'r broses gwyno. Ers hynny, mae ein prosesau cwyno yma yng Nghymru wedi newid yn fawr, ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd i sicrhau ein bod yn parhau i wella, mwy i'w wneud gyda chyflwyno'r ddyletswydd gonestrwydd yn ymarferol, a'n nod cyffredinol yw gwrando, dysgu a gwella. Yn y dyfodol, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod, teuluoedd eraill ac etholwyr eraill ledled Cymru yn gweld proses well ar gyfer gofal a'r profiad wedyn os aiff pethau o chwith. Diolch am eich amser heddiw. Diolch, Ddirprwy Lywydd. 

18:00

Daeth y cyfarfod i ben am 18:01.